Allwydd neu Agoriad PARADWYS i'r CYMRV

Hynny yw: Gweddiau, Devotionau, Cynghorion, ac Athrawiaethau tra duwiol ac an­genrheidiol i bôb Christion yn mynnu agoryd y Porth a myned i mewn i'r Nef.

[...]edi eu cynnull o amryw lyfrau duwiol, a'i cyfeithu yn Gymraeg: neu wedi eu cyfansoddi, gan I. H.

IHS

Yn LVYCK.

Imprintiwyd yn y Flwyddyn MDCLXX.

At fy anwyl Frodyr a'm Chwiorydd a'm Ceraint eraill ffydd [...]on yn-Gwent a Brecheinoc.

BYdded gwiw gennych chwi, dder­byn yn howddgar yr Anrheg ym­ma o Allwydd fechan, yr hon er nad yw hi ond o ychyd [...]c faint a gwael oddiallan: etto mae hi yn rhagoral iawn ac yn brisfawr. Oblegid os ar­ferwch chwi hon yn dda, fe y fydd hawdd i chwi, trwy gydweithiad Gras Duw, agoryd y PARADWYS Nefol, ac felly meddiannu y Tryssor, y Didd­anwch, a'r Gogoniant a bery byth. Mae llawer o flynyddoedd ynawr, er pan y clywais fagad o honoch chwi yn dy­muno yn fawr cael y cyfryw Ddevoti. [...] yn eich iaith eichun. Ac hyd yn [...] ni a ddisgwylais gan eraill eu osod hwynt allan: ond yrwon oblegid [Page]fy mod yn gweled pawb yn esgeu­luso'r gwaith er lleied fyngwybodaeth, nis gallwn amgen, na dangos fy ew­yllys da o'ch bodloni chwi yn y modd goreu y medrwn. Mi a gesglais y Devotionau hyn, nid yn vnic o'r All­wydd Paradwys Seisnic, ond hefyd o amryw lyfrau da eraill, megis yr oedd­wn yn coelio y byddai agenrheitiaf a buddiolaf i chwi: ac a gyfieithais y cwbl mewn geiriau ac adroddion plaen, syml, hawdd i'w ddyall: fel nad oes i neb ddisgwyl cael ymma na Gwen­niaith Gwynedd, nac Adroddion per­ar eithus, na Brythoneg anianol: oblegid nid fy mryd i yw dysgu yr iaith yr hon nis medraf fy hun yn iawn: on [...] fy amcan yn vnic yw, ennynnu o'r Devotionau hyn Dduwioldeb yn eich calonnau chwi. Ac amhynny cyn nesse [...] ac yr oedd Cymraeg gywir yn caniadu mi ddodais ymmhob man y geiriau cyn­nefinaf a mwyaf arferedic: ac ysgatfydd weithiau (er mwyn gwneuthur y [...] ymadrodd yn rhwyddach, ac yn haws [...] chwi i'w ddyall,) fe a ddiengodd odd [...] [Page]wrth fy mhin i beth llediaith, ac a­drodd anaddas, lle y gallaswn arfer geiriau priodol a Chymraeg gywir. Ond nid oes ymma fawr achos o gwyno i bobl Wynedd, gan nad oes nemmor air yn yr holl draethawd hwn, yn ddieithr iddynt hwy. Wrth gyfieithu geiriau'r Scrythur Lan, mi a ddilynais (ness af fyth y medrwn) y Copi Lladin Vol­gatæ Editionis; ac o [...] methais ddim yn hynny, bid yspys i chwi, na wneu­ [...]hum hynny o'm bodd, ond o'm llwyr anfodd, yn anwybodol ac yn erbyn fy [...]wyllys. Amhynny yr wyf yn dymu­ [...]o a'r y ffyddlon dyscedic wella y cy­ [...]ryw fe au: gan ddarostwng y cwbl [...]ll i ewyllys a barnedigaeth yr Eglwys Lan a'm Pennaethion i emendio, newid, [...]eu ddiddymmu rhan ohono neu'r cwbl, [...]egis y bo mwy ar eich-lles chwi, a go­oniant i Dduw. Ond os gwelir yn dda chwi wneuthur dim ymarfer o hono, [...] wyf fi yn deisyf arnoch yn ostyngei­ [...]dlon ymbell weithiau weddio ar Dduw [...] drugaredd i enaid

Eich Brawd a'ch Car ffyddlon. I. H.

Yr Heretic neu'r Sectarian, am yr hwn y mae S. Augustin yn son yn ei adroddion isod, ac am yr hwn y mae Duw trwy enau S. Pawl 5 Gal. 20. (gan gyfrif Heresiau ymmysc y pechodau marwol gorth ymmaf oll) yn dywedyd, na chaiff ef byth feddi­annu neu etifeddu Teyrnas Dduw, ac yn ganlynol y caiff ef fod mewn caethi­wed gyda'r Diawl a'i angelion mewn poenau tragywyddol, yw'r neb y fo'n gynd [...]n yn gwithod credu rhyw vn o'r Gwirioneddau (pa vn bynnac y fo ai mawr ai bychan) y mae Duw yn eu dyscu i ni trwy ei Eglwys Lan Catholic, yrhon sydd ac y fu bob amser wedi ei lledu ymhob man tros wyneb y' Byd, a'r hon sydd ac y fu bob amser yn Weledic i bawb. A'r Schismatic yw'r neb, er ei fod yn credu pob peth yn iawn, etto y fo'n gwrthod proffessu hynny: megis yn gwrthod gweddio ympryddio, derbyn y Sacramentau, &c. fel y mae Duw trwy ei Eglwys Lan Gatholic yn gorchymmyn.

MAe yn y Calendr ymma yn can­lyn, heb law y Gwyliau a'r Seinctiau oll o'r Calendr Rhufeinaidd, mewn Print neiltuol amryw Sainct e­raill tra hynod bucheddau y rhai sydd hyles iawn i'w darllain a'i gwybod: (ac os rhydd Duw amser mae yn y mryd i trwy ei gymmorthef, eu dangos hwynt i'r Byd yn Gymraeg er lles fyn-Gwlad) gydag ymbell rai o Seinctiau Cymry, y rhai y adnabyddir wrth Se­ren fel hyn * o'i blaen. Heb law hyn­ny, mae'r holl Wyliru Gorchymmynedic ansymmudol wedi eu printio igyd a llythyrenneu Pennodol cochion. Yn ddiweddaf, mae'r lythyren P. yn ar­wyddoccau Pap, E. Escop Ab. Abad, Off. Offeiriad, M. Merthyr, C. Con­ffessor, V. Gwyryf, M.M. Merthyri, C. C. Conffessoriaid, &c. A'r nod hwn (i) sy'n arwyddo hynny yw.

Mea' ym mis Ianawr xxxj o ddyddiau.
1 DY' CALAN, sef. Enwaediad E. H. Je. Ch
2 S. Isodor E. & [...]. (* S. Taf [...]edaw [...]ws Des [...]yd [...]g
3 S. Genoveva V. * S. Theodoricws Tewdric fre­nin.
4 S. Titws, Priscws, &c. M. M.
5 S. Telesphor P. & M. S. Edward s [...].
6 DY'GWYL YSTWILL (i.) di s stell a Gallico Esto l.
7 S. Ced E.
8 S. Lawrens Justinian E.
9 S. Julian & S. Bisilissa.
10 S. Nicanor M.
11 S. Higin P. & M.
12 S. Bened Abod.
13 * S. Kentig [...]rn Cynd irn E.
14 S. Hilar E. & Ffel [...]x Off.
15 S. Pawl y Meudwy cyntaf. & S. Mawr Ab.
16 S. Marçel P. & M.
17 S. Antwn Abad.
18 Cadair S. Petr yn Rhufain.
19 S. Mariws Martha &c. M. M. S. Wolstan E.
[...]0 S. Ffabian & S. Sebastian M. M.
21 S. Agnes V. & M.
22 S. Uinçent & S. Anastasiws M. M.
23 S. Em V. & M. * S. Elli. S. Joan Elecmos. E.
24 S. Timoth E. & M. * S. Cadocws Cattwc E. M.
[...]5 Convers. S. Pawl Apost. * S. Dwynwen V.
[...]6 S. Polycarp E. & M.
27 S. Joan Chrysostom E.
[...]8 S. Agnes eilwaith.
29 S. Françis Sales E.
30 S. Martina V. & M.
31 S. Petr o Nolasco C.
Mae ym mis Chwefror xxviij o ddyddiau
d 1 SIgnatiw E & M. S Brigid V. Ymp
e 2 PVREDIGAETH Mair fendigedic
f 3 S Blasiws E & [...]. S Werebwrg V.
g 4 S Gilbert C. * S Dilwar.
A 5 S Agatha V & M.
b 6 S Dorothea V & M.
c 7 S. Romwald Co [...]f.
d 8 S Elffled V. (* S Einion
e 9 S Apolonia V & M. * S Th lianas T [...]il [...]
f 10 S Scholastica V. S William Meudwy.
g 11 S William E.
A 12 S Miletiws E.
b 13 S Stephan Abad.
c 14 S Val [...]n in M.
d 15 S Ffaw in, a Jovita M. M.
e 16 S Jwliana V & M.
f 17 S Finan E.
g 18 S S [...]meon, E & M.
A 19 S Acca E.
b 20 S Mildred V.
c 21 S Cymbert C.
d 22 Cadair S Petr yn A [...]tioch.
e 23 S Milbwrg V. Ymp
f 24 S MATTHIAS Apostol.
g 25 S Fswrsews Ab.
A [...]6 S Victor Conf. * S Tafaelog
b 27 S Leander E. * S Elfiws E.
c 28 S Oswald E. * S [...]libio E.

Yn y flwyddyn naid, sef y bissex [...] 29. o ddyddiau i Chwefror.

Mae ym Mawrth xxxj o ddyddiau.
  [...] S David E.
  [...] Chad E.
  S Marinus M.
  s Casimirws C. s Lwciws P. & M.
  [...] Phocas M.
  S Coletta V.
  S Thomas o Aq i n C. S Perpetwa, & S Ffelcitas M. M.
  S Ffelix E. * S Deifer Dier.
  S Ffrancesca Romana
0 Y Deugain Merthyri
1 S Oswiu Fr.
2 S Gregor y Mawr P. & Doct.
3 S Isodor o Fadrid C. (bu ddoe)
4 S Matildes French. * S Canocws Cynoc
5 S Longinws M.
6 S H ribe [...]t E. S Colwmba V.
7 * S Patric E. S Gertrud V.
[...] S Edward Fr. & M.
9 S JOSEPH T [...]d [...]naeth ein Hargl. Jesu
[...]0 S Joachim Tad Mair fen.
[...]1 s Bened Abad
[...]2 S Pawl E. s Catrin V.
[...]3 s Egb [...]rt Fr.
[...]4 s Lanffranc E.
[...]5 SANNUNTIATIWN Mair fen.
[...] s A [...]fwold E.
[...]7 s Rwpert E.
[...]8 [...] Ff [...]emwnd Fr.
[...]9 * Gwadelews Fr.
[...]0 [...] Joan Climac. Abad
[...]1 s Balbina V.
Mae yn Ebrill xxx o ddyddiau.
g 1 s Huw E. Grenobl
A 2 s Efrançis o Paw a C. s Mari o'r Aipht
b 3 s Richard E.
c 4 s Gwier C. * s Tyrnoc
d 5 s Vincent Fferrer C. * s Derf l Gadarn
e 6 s Elstan E. * s Bernacws Ab [...]d
f 7 s Epiphaniws M. * s Llywelyn
g 8 S Dwfianws C.
A 9 s H [...]w E Rho [...]n
b 10 s Gwt [...]lac C.
c 11 S Leo P.
d 12 s Mectild V.
e 13 s Hermenegild M.
f 14 s Tiburtiws &c. M M. s Lidwina V.
g 15 * s Paternws E.
A 16 s Stephan Abad
b 17 s Anicçetws P. & M.
c 18 s Oswin C. s Maidwlf C.
d 19 s Elpheg E. & M.
e 20 s Agnes de Monte Policiano V.
f 21 * s Beuno Abad
g 22 S So er & Caiws PP. & MM. * S Dyfnan
A 23 S Georg M.
b 24 S Melitws
c 25 s Marc Evangelwr
d 26 s Cletws & Marçellin PP. MM.
e 2 s Anthimws E. & M.
f 28 s Vitalis M.
g 29 s Petr M. s Hww Abad * s Sannan.
A 30 s Caterin o Siena V.
Mae ym Mai xxxj o ddyddiau
b 1 S PHIL. & JACOB Ap. * s Asaph E. Ab.
c 2 S A [...]hanasiws E.
d 3 INVENTION y Gr [...]es sanct. s Walter
e 4 S Monica. s Melangel Mon [...]cella V.
f 5 s Silvanws M.
g 6 S Joan o flaen Po [...]a Latina. S Ioan Da­mascen E.
A 7 S Stanislaws E. & M.
b 8 Apparition s Michael Archsngel
c 9 S Grego [...]i Nazianz [...]n E.
d 10 S Go dian & Epimach MM.
e 11 S Mamert E.
f 12 S Nerews, Achilews, & Domitilla MM.
g 13 S Gliceria M. * s Mahael, & Sulian.
A 14 S Boniffaçiws M. s Edith V.
b 15 S Ioan Sil [...]ntiariws. * s Carantocws Cranoc
c 16 S Vbald E. s Simon Stock C.
d 17 S Sewal E.
e 18 S Clawdia V. M. ( s Dwnstan E.
f 19 S Celestin P. & C. Pwdentiana V.
g 20 S Bernardin C. s Ethelbert Fr.
A 21 S Ifo C. * s Constantin Emrodr
[...] 22 S Ffwlco C.
c 23 s Desideriws E. & M.
[...] 24 s Ffwgatiws, & Damian E. E.
[...] 25 s Urban P. & M. (s Awstin E.
[...] 26 s Philip Neriws C. s Elwtheriws P. & M.
[...] 27 s Ioan P. & M. s Beda Off.
[...] 28 s German E. * s Theocws C.
[...] 29 * s Dwbritiws E.
[...] 30 s Ffelix P. & M.
[...] 31 s Petronilla V.
Mae ym Mehefin xxx o ddyddiau.
e 1 s Ffortwnatws C.
f 2 s Marçelin, Petr & Erasm MM.
g 3 s Oliva V. * s Gwyfen
A 4 * s Petroc Abad
b 5 s Boniffas E & M.
c 6 s Norbert E.
d 7 s Rhobert Abad
e 8 s William E.
f 9 s Primws, & Ffeliçian MM.
g 10 s Magaret Frenh.
A 11 s Barnah Apost.
b 12 s Basi [...]ides &c. MM. s Onwphri Wmphre C.
c 13 s Antwn de Padwa
d 14 s Basil y Mawr E. & Doct.
e 15 s Vitws, Modestws, &c. M M. * s Trillo
f 16 s Quiric a Julitta (i) Curic ac Elidan MM.
g 17 s Botwlph Abad * s Molling
A 18 s Marc, & Marçelin MM.
b 19 s Gervas & Protas M.M. s Michelina
c 20 s silveriws P. & M.
d 21 s Alban M.
e 22 * Decol. s Gwenfrewi V. s Pawlin E.
f 23 s Awdri. s Mari de Oegnies Ympryd
g 24 GENEDIG [...]ETH S JOAN Fedyddiwr
A 25 s Amphibal E, & M. (s Jvan C.
b 26 s Joan & s Pawl MM.
c 27 s Crescens M.
d 28 s Leo P. Ympryd
e 29 S PETR & S PAWL Apost.
f 30 Coffa s Pawl. s Lwcina M.
Mae yn Gorphenhaf xxxj o ddyddiau.
g 1 * s Iuliws & s Aaron MM.
A 2 Gofwy Mair fen. * s Owdoccws E.
b 3 s Anselm E.
c 4 s Elizabeth Frenh. Portugal. * s Peblic
d 5 s Marinws M. s Modwen V.
e 6 s Sexbwrg Frenh.
f 7 s Clawdiws. s Peregrinws MM.
g 8 s Aquila & s Priscilla
A 9 s Edilbwrg Frenh.
b 10 Y 7 Brodyr, & s Ruffina & Secwnda MM.
c 11 s Pins P. & M.
d 12 s Nabor & Felix MM. s Ioan Gwalbert A.
e 13 s Anaclet P & M * s Do [...]wan
f 14 s Bonaventwra E & Doct. s Henri Emr.
g 15 s Swithyn E.
A 16 s Osmwnd E.
b 17 s Alexiws C. * s Gynllo
c 18 s Symphorosa a' [...] saith meibion MM.
d 19 s Epaphras, s Aurea MM.
e 20 s Mergaret V. & M.
f 21 s Praxedes V.
g 22 s [...]ari Magdalen
A 23 s Apollinar [...]s E & M.
b 24 s Christina V & M. Ymprvd
c 25 S JACOB Apost. s Christoffer M.
d 26 S ANN Mam Fair fen.
e 27 s Pantaleon M. (nocent P. & C. s In.
f 28 s Nazar, Celsws, Victor, MM.
g 29 s Mar [...]ha V.
A 30 s Abdon & s Sennen MM.
b 31 s Ignatiws C.
Mae yn Awst xxxj o ddyddiau
c 1 S Petr ad Vincwla (i) wrth y Cadwynau * s Kined
d 2 S Stephan P. & M.
e 3 Inventiwn sef Caffael, s Stephan ferthyr cyntaf
f 4 S Dominic C.
g 5 S Maria ad Nives * s Oswald Fr.
A 6 Transffigwratiwn ein Hargl. J. C.
b 7 s Donat E. & M. s Clawdia
c 8 s Syriac, Larg & Smaragd M M.
d 9 s Roman M. s Huw E Eli Ympryd
e 10 S LAWRENS Merthyr
f 11 s T bwrtiws, Swsanna MM s Gilbert E.
g 12 S Clara V.
A 13 S Hyppolyt & s Cassian MM.
b 14 S Eusebius C. Ympryd
c 15 ASSWMPTION Ma [...]r fen.
d 16 S Hyaçinth C. s Rock C.
e 17 S Thomas C.
f 18 S Agapitws M. s Helen Emcrodres
g 19 S Ruffin C. * s Clintacws Clynoc Fr. M.
A 20 S Bernard Ab. s Stephan Fr.
b 2 [...] S Richard E
c 22 S Timoth & H [...]ppol't MM.
d 23 SIustinian M. s Al s V.
e 24 S BARTHOLOMEW Ap. s Owen E.
f 25 s Lewis Fr.
g 26 s Zepherin P. & M
A 27 s Margaret * s Decwman M.
b 28 s Awstin E. & Doct s Hermes M.
c 29 Decols Ioan Fedy [...]diwr
d 30 [...] Felix & s Adauctws MM. s Gauden­tia V.
e 31 s Raymwnd Nonnatws C.
Mae ym Medi xxx o ddyddiau.
f 1 Ægidiws (i) silin Ab.
g 2 s Elpheg E & M.
A 3 s simeon stylita C.
b 4 Rosa V. s Rosalia V. * s Rhuddlad
c 5 s Bertin Abad. * s Marchell
d 6 s Petroniws E. * s Idlos
e 7 s Ioan M. Ympryd
f 8 GENEDIGAETH Mair fen.
g 9 s Gorgon M. s Omer E.
A 10 s Nicolas de Tolentino C.
b 11 s Protws & Hyacinth MM. * s Daniel.
c 12 s Gwido C.
d 13 s Ewgenia V. & M. s Amatws Ab.
e 14 Exaltatiwn y Groes sanctaidd
f 15 s Nicomedes M.
g 16 s Corneliws & Cyprian EE. & MM.
A 17 * s Socrates, & Stephon M. Stigmata s Ffraocis
b 18 s Thomas o Villanoua E.
c 1 [...] s Ianwariws &c. M.
d [...]o s Ewstachiws &c. M. Ympryd
e [...]1 S MATTHEW Apost.
f 2 [...] s Mawris, &c. M.
g 23 s Linws P. & M.
A 24 s Gerrard E.
b 25 s Awrelia V. * s Beugan
c 26 s Cyprian & Justina M.
d 27 s Cosmas & s Damian M.
e 28 s Lioba V.
f 29 DEDICATIWN S Michael Archangel
g 3 [...] s Herom Off. & Doct.
Mae yn Hydref xxxj o ddyddiau.
A 1 s Remig E.
b 2 * s Thomas o Henffordd E.
c 3 s Candidws M. s Gerard Ab.
d 4 s Ffrançis o Assisi C.
e 5 s Plaçidws &c. M.
f 6 s Brwno C.
g 7 s Brigit. * s K [...]ina V.
A 8 s Marc P. & C. s Sergiws &c. M.
b 9 s Denis, &c. M.
c 10 s Pawlin E.
d 11 s Edilbwg Abades
e 12 s Wilffrid E
f 13 s Daniel, Hwgolin, &c. M.
g 14 s Calixtws P. & M.
A 15 s Teresia V.
b 16 s Dominic Loricat C.
c 17 s Marianws M
d 18 S Luc Efangelwr
e 19 s Ffrideswid V.
f 20 s Maximws M.
g 21 s Hilarion Ab. s Ursula a'r 10. mil G. M.
A 22 s Marc E. & M. s Cordwla V. & M.
b 23 s Ignatiws E.
c 4 s Maglor E, * s Calofarch
d 25 s Chrisanth, & Daria M.
e 26 s Evarist P. & M.
f 27 s Eadsin E. Ympryd
g 29 S SIMON & JUDAS Apost.
A 29 s Egelnoth E.
b 30 s Marcellws M.
c 31 s Foilan E. & M. * s Dagfael Ympryd
Mae ym mis Tachwedd xxx o ddyddiau.
d 1 DY'GWYL HOLLIAINCT
e 2 Dy'gwyl y Meirw
f 3 * S Gwenfrewi V. & M.
g 4 S Carolws E. s Vitalis ac Agricola M.
A 5 * S Kebiws Cybi E.
b 6 S Winoc, & * s Illtud Ebyd.
c 7 S Willobrord E.
d 8 Y 4 Merthyri Coronedic. * s Tisilio Fr.
[...] 9 Dedication Eglwys ein Jachawd * s Pabo
[...] 10 S Triphon, Respiçiws, & Nympha M.
g 1 [...] S Martin E. * s Cadwaladr
A 12 S Martin P. & M. s Mennas M.
b 13 S Homobon C. * s Gradfael
c 14 S Lawrens E.
d 15 * S Machut Machudd E.
[...] 16 S Edmwnd E.
[...] 17 S Gregor, & s Huw EE.
g 18 Dedicatiwn Eglwysi s Petr & s Pawl Ap.
A 19 S Pontian P. & M.
[...] 20 S Edmwnd Fr.
[...] 21 Presentatiwn Mair fen * s Digain
[...] 22 S C [...]ç lia V. & M. * s Dinlolen.
[...] 23 S Cl [...]ment P. & M
[...] 24 S Chrysogon M.
[...] 25 S Catharin V. & M.
[...] 26 S Petr E. & M
[...] 27 S Barlaam & Iosaphat * s Gallgo
[...] 28 S Edwald C.
[...] 29 S Satwrnin M. * s Barwc C. Ympryd
[...] 30 S ANDREAS Apost.
[...]
f 1 s Eligiu's * s Daniel EE. * s Grwst
g 2 s B [...]biana V. & M.
[...] 3 s Ffrançis Xaveriws C.
b 4 s Barbara V. & M
c 5 s Sabbas Ab. * s Gwrda
d 6 s Nicolas E. s Dionisia M.
e 7 s Ambros E. & Doct.
f 8 CONCEPTION sef Ymddwyn Mair fen.
g 9 s Ethelgin Abades
A 10 s Melchiades P. & M.
b 11 s Damasws P. & C. * s Beris
c 12 s Elffred V. * s Flavinws Fflewyn
d 13 s Lwçia V. & M.
e 14 s Iuddocws C.
f 15 s Ewsebiws E. s Hilda Abades
g 16 s Bean E s Albina V. & M.
A 17 s Viuina V. s Tetta V. * s Tydecho
b 18 s Winibald Ab.
c 19 s Macariws Ab.
d [...]0 s Liberatws M. Ympry [...]
e 21 S THOMAS Apost.
f 22 s Hildelid V. & M.
g 23 * s Inthwar V. & M.
A 24 s Grata V. & M. Ympry [...]
b 25 DY'NATALIC ein H.J.C. s Anastas. M
c 26 S STEPHAN ferthyr Cyntaf. * s Tathews C
d 27 S JOAN Evangelwr
e [...]8 DY'GWYL y Gwirioniaid.
f 29 s THOMAS E. Cantwari & M.
g 30 s Egwyn E.
A 31 S SILVEST [...]R P. & C.
Y Prif neu'r Euraid Nifer Taflan i gael y Pasc bob blwyddyn tr [...]s sy [...]h, ynol y Cyfrif Hen neu'r Iulian.
A B C D E F G
i. Ebr. 9. 10. 11. 12. 6. 7. 8.
ij. Ma. 26. 27. 28. 29. 30. 31. E [...]. 1.
iij. Ebr. 16. 17. [...]8. 19. 20. 14. 15.
iv. Ebr. 9 3. 4. 5 6. 7. 8.
v. [...]. 26 27. 2 [...]. 29 [...]. 24. 25.
vj. Ebr. 16. 7. 8. 1 [...]. [...]3. 14. 15.
vij. Ebr. 2. 3. 4. 5 6. M. 31. Eb. 1.
viij. Ebr. 23. 24. 2 [...]. 19 20. 21. 2 [...].
xix. Ebr. 9. 0. [...]. 1. 13. 14. 8.
x. Ebr. 2. [...]. M. 28 29. 30. 31. Eb. 1.
xj. Ebr. 16. 7. 18. 19. 20. 21. 22.
xij. Ebr. 9. 10. [...]. 5. 6. 7. 8.
xiij. Ma. 26. [...]. 28. [...]9. 30. 31. 25.
xiv. Ebr. [...]. 17. 18. 19. 3. 14. 15.
xv. Ebr. [...]. 3. 4. 5. 6. 7. 8.
xvj. Ma. 26. 27. [...]8. [...]2. 23. 24. 25.
xvij. Ebr. 16 0. 11. 1 [...]. 1 [...]. 14 15.
xviij Ebr. 2. 3. 4 [...] 5. M. 30 31. Eb. [...]
xix. Ebr. 2 [...]. 24. 18. 19. 20. 21. [...]

Wedi cael Llythyren y Sul yn y lin vchaf [...] d [...]ych tuac i waered [...]n vnion oddiwrth y lythyre [...] honno, hyd oni dd [...]ych gyferbyn a'r Prif neu'r Ni­fer Auraid y fyddo yn cerdded yn y flwyddyn hon­no, ac yno y c [...]i di y mis a'r dydd o'r mis ar yr hwn y bydd y Pasc yn y flwyddyn honno.

Y Prif eleni [...] 70 yw xviii. 1671 y Prif yw xix. 1672 y Prif yw i 1673 y Prif yw ii. 1674. y Prif yw iii. [...]c f [...]lly o'r pen hyd ddiben y Nifer hwn x [...]x tros syth.

Taflan i gael gwybod y Gwyliau Symmudol oll tros 19 mlynedd yn ol Cyfri Lloegr.
Blwyddyn in Hargl. Y Lythyren Ddominic. Dydd Pasc Dydd Sul­gwyn.
1670. B 3 Ebr. 22 Mai
1671. A 23 Ebr. 11 Me.
1672. G F 7 Ebr. 26 Mai
1673. E 30 Maw 18 Mai
1674. D 19 Ebr. 7 Me.
1675. C 4 Ebr. 23 Mai
[...]676. B A 26 Maw 14 Mai
[...]677. G 15 Ebr. 3 Me.
[...]678. F 31 Maw 19 Mai
[...]679. E 20 Ebr. 8 Me.
[...]680. D C 11 Ebr. 30 Mai
[...]681. B 3 Ebr. 22 Mai
[...]82. A 16 Ebr. 4 Me.
[...]83. G 8 Ebr. 27 Mai
[...]684. F E 30 Maw 18 Mai
[...]685. D 19 Ebr. 7 Me.
[...]686. C 4 Ebr. 23 Mai
[...]687. B 27 Maw 15 Mai
[...]688. A G 15 Ebr. 3 Me.
[...]689. F 31 Maw 19 Mai

Mewn geiriau yn tarddu o'r Lla­din mae'r ç hon trwy'r Traethawd ymma a chan mwyaf y t oflaen i pan fo bogail arall yn canlyn i honno i'w llafaru megis s: Ac yn yr yma­drodd Lladin, er mwyn arferu'r Cym­ry annyscedic i lafaru'r fogail Ladin u yn iawt, mi a'i nodais hi ganmwyaf a'r character bogeilaidd Cymraeg w, &c.

Y Dyddiau Gwyl gorchymmynedic trwy'r flwyddyn, yn ol Declara­tiwn P. Urban VIII. 1642.

Dydd-Calan, Dydd-gwyl Ystwyll, Puredigaeth, Cy­farchiad Asswmpriwn, a Genedigaeth ein Har­glwyddes fendigedig Mair forwyn bob amser. Pob dydd gwyl pennaf y deuddeg Apostolion. Dydd-gwyl Sanct Joseph. Inventiwn y Groes Sanctaidd. Dydd-gwyl Sanct Joan Fedyddiwr. Dyddiau gwyl. S. Ann mam ein Harglw. fendigedig. S. Law­rens, S. Michael Archangel. Dy-gwyl Holl-Sainct. Dy-Natalic, dy-gwyl S. Stephan, dy-gwyl y Gwirioniaid, dy-gwyl. S. Sylvester. Ac un Wyl y Pa­tron pennaf Dinas, Gwlad, neu Deyr­nas.

Dyddiau gwyl eraill a arferir eu cadw yn vchel gan bob Christianogion duwiol er nad-ydyw'r Eglwys lan yn eu gorchymmyn hwynt.

Dydd-gwyl S. Mark, S. Mair Mag­dalen, a S. Luc. ond yn bennaf oll Conçeptiwn neu Ymddwyn difry­cheulyd ein Harglwyddes fendigedig Mair forwyn, &c.

Y Dyddiau gwyl Symmudol.

YR holl Suliau trwy'r flwyddyn Dydd-llûn a dydd-mawrth Pasc Dydd-Joy Dyrchafael. Dy-llûn a dy-mawrth Sulgwyn. A dy-gwyl Corpw [...] Christi.

Y Dyddiau Ympryd.

POb dydd o'r Garawys. Y Catgoriau. Noswyl-Natalic. Noswyl Sulgwyn. Noswyliau Puredigaeth Cyfarchiad (oddieithr pan ddelo y [...] wythnos y Pasc) Asswmptiwn, Genedigaeth [Page 3]ac Ymdddwyn ein Hargl. fend. Mair forwyn. Noswyl Holl-Sainct. Noswyliau y deuddeg Aposto­lion (onid S. Joan Evangylwr a S. Phi­lip & S. Jacob) Noswyl S. Joan Fedy­ddiwr. & S. Lawrens. Yr holl ddyddiau gwener trwy'r flwyddyn, ond oddy Natolic hyd yr Ystwyll ac yn wythnos y Pasc. Y dydd-Llûn a'r dydd-Mer­cher oflaen dydd Joy Dyrchafael.

Nid ydyw arfer ymprydio yn rhai o leodd rhwng Dydd-Pasc a'r Dyrcha­fael, hynny yw tra fo'r Priodfab gyda ni. Mat. 9.15.

Yr ydym yn rhwymedig i ymwr­thod a chig ar yr holl ddyddiau Satwrn trwy'r flwyddyn, ar yr holl Suliau yn-y Garawys, ar ddydd-gwyl S. Marc (ond pan ddelo yn wythnos y Pasc) ac ar ddy-Mawrth o flaen dydd-Joy Dyr­chafael.

Dymma'r Gwyliau a'r Ympryd­ddyddiau gorchymmyn edig a chyn­nefinaf i'w cadw: ond oblegid fôd amryw arferau yn amryw Wledydd, dilyned pob vn gyngor y rhai d [...]sce­dig a'r rhai duwiol lle bo yn byw.

Y Catgoriau.

Y dydd-Mercher, y dydd-Gwener a'r dydd-Satwrn nessaf ar ôl y Sul cyn­taf o'r Garawys, ar ôl Dydd-Sulgwyn ar ôl Exaltatiwn y Grôg Sanctaidd, ac ar ôl dydd-gwyl Sanct Luçi ydynt y Catgoriau.

Yr Advent.

Y Sûl cyntaf o Advent bôb amser ydyw hwnnw a ddêl ar ddydd­gwyl S. Andreas Apostol: neu y nes­saf iddo o'r blaen, neu ar ôl, hynny yw, y Sûl a ddigwyddo ar y 27 o fis Tachwedd, neu ar y trydydd o fis Rhagfyr, neu ar un o'r 6 diwrnodau sy rhyngthynt.

Pa amser y mae'n rhydd priodi'.

MAe'n waharddedig Solemnizo Priodas, neu gynnal Neithior o'r Sûl cyntaf o Advent hyd Ddydd­gwyl Ystwyll, ac o ddydd Mercher [Page 5]y lludw hyd Ddydd-Pasc bychan: at bôb amser arall y gallir ei chynnal hi yn gyfreithlon.

Yr Athrawiaeth Gristianogol. Gweddi ein Harglwydd a elwir. Y Pater noster.

Ein Tad ni, yr hwn wyt yn y nefoedd, Sancteiddier dy enw di: delid dy deyrnas di: gwneler dy ewyllys di, megis yn y nef, hefyd ar y ddaear: Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol: a maddeu i ni ein dyledion megis yr ydym ninnau yn maddeu i'n dyledwyr: Ac na ddwg ni i brofedigaeth: ond gwared ni rhag drwg Amen.

Yr vn weddi yn iaith yr Eglwys: sef yr iaith sy gyffredin ymmysc yr holl ffyd­dloniaid tros wyneb y Ddaear.

PAter noster, qui es in çœlis: san­ctifiçetwt nomen twwm: adveni­at regnum twwm: fiat folwntas twa, sicwt in çœlo & in terra. Panem no­strwm quotidianwm da nobis hodie: & dimitte nobis debita nostra, sicut & nos dimittimws debitoribws nostris: Et ne nos indwcas in tentationem, sed libera nos a malo. Amen.

Cyfarchiad yr Angel a elwir Yr Ave Maria.

HAnffych well Fair, gyflawn o râs, mae, 'n Harglwydd gyda thi: bendigedig wyti ymmysc mer­ched, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di Jesu. Sancteiddiol Fair, mam Dduw gweddia trosom ni bechaduri­aid yrwôn, ac yn awr angeu. Amen.

Yr vn weddi yn iaith yr Eglwys.

AFe Maria, gratia plena, Domi­nws tecum: benedicta tw in mwlieribws, & benedictws frwctws fentris twi Jesws. (Sancta Maria, ma­ter Dei, ora pro nobis peccatoribws nunc & in hora mortis nostræ. A­men.

Pyngciau'r ffydd a elwir Credo'r Apostolion.

CRedaf yn Nuw'r Tâd hollalluog, Creawdwr nêf a daear. Ac yn Jesu Ghrist, ei vnic fâb ef, ein Har­glwydd ni; yr hwn a ymddwynwyd o'r Yspryd Glan, a aned o Fair forwyn, a ddioddefodd tan Pontiws Pilatws, a groeshoeliwyd, y fu farw, ac a gladd­wydd: a ddiscynnodd i vffern: y try­dydddydd cododd o feirw: a ddyr­chafodd i'r nefoedd, sydd yn eistedd ar ddeheu-law Duw'r Tâd hollalluog: oddiyno y daw i farnu'r byw a'r meirw. Credaf yn yr Yspryd Glân, [Page 8]yr Eglwys lân Gatholic, cyffredinrw­ydd y Sainct, maddeuant pechodau, adgyfodiad y cnawd, bywyd tragywy­ddol. Amen.

Yr vn yn iaith yr Eglwys.

CRedo in Dewn patrem omnipo­tentem; creatorem çæli & terrae. Et in Jeswm Christwm, filiwm eiws wnicwm, Dominwm nostrwm: qui conçeptws est de Spiritw Sancto, na­tws ex Maria Firgine, passws sub Pon­tio Pilato, cruciffixws, mortwws, & Sepwltws: desçendit ad inferos: ter­tia die reswrrexit a mortwis: asçendit ad çælos, sedet ad dexteram Dei Pa­tris omnipotentis: iude fentwrws est iwdicare fifos & mortwos. C [...]edo in Spiritwm Sanctwm, Sanctam Eccle­siam Catholicam, Sanctorwm com­mwnionem, remissionem peccato­twm, carnis reswrectionem, fitam æ­ternam. Amen.

Y Deg Gorchymmynion.

1. NA fydded i ti Dduwiau eraill ger fy mron-i, na wna it beth cerfedig▪ na chyffelybiaeth oll yr hon sydd yn y nef uchod, neu'r hon yn dd [...]ear isod, nac o'r pethau sydd yn y dyfroedd tan y ddaear. Na addola, ac na anrhydedda hwynt, &c.

2. Na chymmer Enw dy Arglwydd Dduw yn ofer &c.

3. Cofia Sancteiddio'r dydd Sab­bath, &c.

4. Anrhydedda dy Dad a'th Fam &c.

5. Na ladd.

6. Na wna odineb.

7. Na ladratta.

8. Na Ddwg gam destiolaeth yn erbyn dy gymydog.

9. Na chwennych wraig dy gymy­dog.

10. Na thrachwanta ddim a'r sydd eiddo dy gymydog.

Y Saith Sacramentau.

  • 1. Bedydd. Matth. 28.29
  • 2. Conffirmatiwn 2 Cor. 1.22
  • 3, Ewcharist. Matth. 28.
  • 4. Penyd. Jo. 20.23.
  • 5. Olew olaf. Jac. 5.
  • 6. Vrddeu. Matth. 26.
  • 7 Priodas. Matth. 19.

Y Tair rhinwedd Theologawl.

1 Ffydd. 2. Gobaith. 3. Cariad perffaith.

Y Pedair rhinwedd Cardinawl.

1. Pwylledd. 2. Cyfionedd. 3. Gry­myssedd▪ 4. Tymeredd.

Deuddeg Ffrwyth yr Yspryd Glan.

  • 1. Cariad perffaith.
  • 2. Llawenydd.
  • 3. Heddwch.
  • 4. Dioddefgarwch.
  • 5. Tiriondeb.
  • 6. Daioni.
  • 7. Hiroddef.
  • 8. Mwyneidd-dra.
  • [Page 11]9. Ffydd.
  • 10. Moddustra.
  • 11. Ymattal.
  • 12. Diweirdeb.

Dau Orchymmyn Cariad perffaith.

Câr ein Harglwydd-dy Dduw a'th holl galon, a'th holl enaid, a'th holl nerth, a'th holl feddwl: a châ dy gymydog fel dyhunan.

Gorchymynion yr Eglwys, yw

  • 1. Gwrando'r Offeren bôb Sûl a Gwyl gorchymmynedig.
  • 2. Ymprydio y Garawys, y Catgori­au, a'r dyddiau eraill gorchymmyne­dig: ac ymwrthod a chîg ar bôb Satwrn ac ar y dyddiau eraill arfere­dig.
  • 3. Cyffessu o'r hyn lleiaf vnwaith bô [...] blwyddyn.
  • 4. Cymmuno o'r hyn lleiaf vnwaith yn y flwyddyn, a hynny ar y Pasc.
  • 5. Talu degwm i'r Eglwys lân.
  • 6. Na wneler Neithior, sef peidi [...] [Page 12]cynnal Solemniadau Priodas ar amseroedd gwaharddedig, y rhai a ddywedwyd o'r blaen.

Saith Rhodd yr Yspryd Glan.

1. Doethineb. 2. Dyall. 3. Cyngor. 4. Grymyssedd. 5. Gwybodaeth. 6. Duwioldeb. 7. ac Ofn Duw.

Saith Weithradoedd corphorol y Drugaredd.

  • 1. Cynghori'r ammheus, neu'r sawl y fo'n dowtio.
  • 2. Dyscu'r anwybodol.
  • 3. Ceryddu, neu rybyddio'r Pecha­dur.
  • 4. Cyssuro'r saul a fo mewn blinder
  • 5. Maddeu y cammau a wnaed i ni.
  • 6. Diodef yn hawddgar y sawl a fo yn ein gofidio ni.
  • 7. Gweddio ar Dduw tros y byw a'r meirw.

Yr wyth Dedwyddwch.

  • 1. Dedwydd yw'r tlodion o ys­pryd: canys hwy piau teyr­nas y nefoedd.
  • 2. Dedwydd yw 'rhai addfwyn: canys hwy a feddiannant y tîr.
  • 3. Dedwydd yw 'rhai galarus: canys hwy a gyssurir.
  • 4. Dedwydd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddigonir.
  • 5. Dedwydd y rhai trugarog: canys hwy a gaant drugaredd.
  • 6. Dedwydd y rhai glan eu calon: canys hwy a welant dduw.
  • 7. Dedwydd y rhai heddychawl: ca­nys hwy a elwir, Plant Duw.
  • 8. Dedwydd yw'rhai sy'n dioddef erlid am gyfiownder: canys hwy piau teyrnas y nefoedd.

Am Bechod.

Mae dau fath neu ryw o bechod, sef Pechod Gwreiddiol neu Ddechreuol

Gweithredol.

  • Marwol
  • Maddeuol.

Y saith Prif-bechod a elwir yn gyffredin y Pechodau Marwol,

  • 1 Balchder.
  • 2 Cybydd-dra.
  • 3 Anlladrwydd.
  • 4 Cenfigen.
  • 5 Glothineb.
  • 6 Llid neu Ddigofaint.
  • 7 Diogi.

Y Rhinweddau gwrthwyneb.

  • 1 Gostyngeiddrwydd.
  • 2 Haelioni.
  • 3 Diweirdeb.
  • 4 Dioddefgarwch.
  • 5 Dirwest, neu Ymattal.
  • [Page 15]6 Mwyneidd-dra, neu Hynawsedd.
  • 7 Dyfalwch duwiol, neu Ddefosiwn.

Y chwech Pechod sy'n erbyn yr Yspryd Glan.

  • 1 Rhyfyg, sef Presymptiwn ar dru­garedd Duw.
  • 2 Anobaith.
  • 3 Gwrthddywedyd, neu wadu'r gwirionedd diammeu.
  • 4 Cenfigennu daioni ysprydol vn arall.
  • 5 Cyndynrwydd mewn pechod.
  • 6 Anedifeirwch gorphennawl.

Pethau anguenrheidiol i'r Pechadur edifeiriol.

  • 1 Cystudd calon.
  • 2 Cyffes holl-gyfan i Offeiriad a approfwyd.
  • 3 Satisffactiwn, neu Jawn-waith. Gwir gystudd calon, sef Contri­tiwn y fydd, pan fo yn ddrwg gan ddyn ddarfod iddo bechu, a hynny (nid rhag ofn vffern, ond) o wîr ga­riad [Page 16]ar Dduw, gyda llawn fryd na phe­cho ef fyth mwy.

Y Pedwar Pechod sy'n gweiddi hyd y Nef am ddial.

  • 1 Lladd celain, neu ladd dyn yn wy­bodol ac o wî [...] fodd.
  • 2 Pechod Sodom, neu bechod cnawdol yn erbyn natur.
  • 3 Gorthrechu'r tlodion.
  • 4 Twyllo gweinidogion o'i cyflog.

Naw modd o fod yn euog o bechod vn arall

  • 1 Trwy gynghori.
  • 2 Trwy beri, nen orchymyn.
  • 3 Trwy fod yn fodlon.
  • 4 Trwy gymmell.
  • 5 Trwy ganmol.
  • 6 Trwy gelu.
  • 7 Trwy fod yn gyfrannog.
  • 8 Trwy dewi a sôn.
  • 2 Trwy daeru, a maentumio y drwg a wnelo vn arall.

Y tair Gwithredeedd da goruchaf.

  • 1 Elusen.
  • 2 Gweddi.
  • 3 Ympryd.

Y tri Cynghorion Evangelawl.

  • 1 Tlodi ewyllysgar.
  • 2 Diweirdeb tragywyddol.
  • 3 Vfydd-dod gwastadol.

Y Pedwar peth diweddaf.

  • 1 Marwolaeth.
  • 2 Y Farnedigaeth.
  • 3 Vffern.
  • 4 Teyrnas y Nef.

Cyngor wrth godi y boreu.

YN gyntaf dim, wedi deffro, gwna arwydd y Groes arnat, a gweddia ar Dduw iddo dy oleuo di a goleuni ei Yspryd Sanctaidd, fel na themptier di i gonsontu i bechod, ac felly i gwympo i farwolaeth ysprydol.

Yn ail, wedi i ti wisgo amdanat, na ddyro dyhunan i siarad ffol, neu wag­feddyliau, [Page 18]ond cod dy galon at Dduw yn ddistaw, a darpara dyhun i weddio fel y mae yn canlyn ymma.

Yn drydedd, ar ol gweddi gwna bwr­pas llawn diogel o ymwrthod y diwrnod hwnnw a phob peth a all ddigio Duw, neu'th gymydog.

Yn ddiweddaf, mae'n agenrheidiol iawn i ti, ddwyn ar gof dy holl orchwy­lion y fo i'w gwneuthur y dydd hwnnw, a dosparthu'r cwbl yn drefnus, i'w-cyflawni yn dda.

Gweddiau i'w dywedyd pan ddihunod yn o'i gwsg.

DUw'r Tâd yr hwn a ddywedaist yn y dechreuad, bydded goleu­ni, a gwnaed ef: goleua fy llygaid i fel na chysgaf-fyth ummhechod, rhag i ddichellion y Cythraul, neu fy llygre­digaeth fyhûn fynghotthrechu i ryw amser.

Duw'r Mâb, y gwîr oleuni teccaf oll, sy'n goleuo'r tywyllwch, ac yn disgleirio ar bawb, yn dyfod i'r byd hwn, gyrr ymaith oddiwrthyf holl gymylau anwybodaeth, a dyro i mi ddyall i allu ynoti, a thrwoti weled a gwybod y Tâd gwybod yr hwn yw byw, a gwasnaethu'r hwn yw teyrnaslu'n dragywydd.

Duw'r Yspryd Glân yr hwn wyt a chwantau nefol yn ennynnu ewyllys y sawl yny rhai a teilyngi di breswylio, tywallt i'mhenaid dy gari­ad di, fel trwy ddibrisio holl bethau ofer a darfodedig, y bo hiraeth arnaf am wir a thragywydd lawenydd tey­rnas y nefoedd.

Y Drindod Sanctaidd, vn Duw, ym­ddiffyn fi y dydd hwn rhag holl ddichellion a themptasiwnen y Cy­thraul, cadw fi rhag pob pechod mar­wol, ac angeu disymmwth ammha­rod. O dduw cod fynghorph o stâd cysgadur, a'm enaid o bechod i foli­annu, [Page 20]a gogoneddu dy Enw sanctaidd di▪ i'r hwn y mae'n perthynu bendi­thion oll, a gogoniant, a doethineb, a diolch ynawr ac yn dragywydd. A­men.

Wrth godi.

YN enw ein Harglwydd Jesu Christ a groeshoeliwyd, mi a godaf. O Arglwydd cyfarwydda fi, cadw, a cha­darnhâ, fi ymmhob gweithred dda heddyw, ac yn dragywydd, ac wedi'r pererindod byrr gofidus hwn, dwg fi i'r Gwynfyd a bery byth. Amen.

O Arglwydd daionus, Christ Iesu, agor fynghalon, a'm gwefussau-i foliannu, ac i ogoneddu dy Enw sanc­taidd di, yr hwn sy fendigedic goru­wch pob enw. Pura fy enaid o bob meddyliau drwg a diffaith, fel y ben­dithient di fyngwefussau i, fel y my­fyria fy meddwl arnat, ac fal y gogo­nedda di fy mywyd i yn barhaus. Ac oblegid trwy dy ddaioni di yn vnic fy mod i wedi'm creu i foliannu ac i [Page 21]ogoneddu dy Enw Sanctaidd di: ca­niada, attolygaf arnat, i mi yngolwg dy dduwfawl Fawredd, dy wasanae­thu di yn ffyddlon ymma, a llaweny­chu gyda thi yn dragywyddol ar ol hyn, yr hwn gyda'r Tâd, a'r Yspryd Glân wyt yn byw ac yn teyrnassu, vn Duw tros oesoedd oesoedd. Amen.

Wedi i ti fynd allan o'r gwely.

IEsu daionus. gorphwys tragywydd ol dy Etholedigion, pa bryd y daw'r awr y caiff fy enaid gofidus i fynd i mewn i ardalau dedwyddlawn yr heddwch, a'r gorphwys a ddarparwyd i ni yn y Gogoniant nefawl?

Wrth wisgo amdanat.

O Jesu Sancteiddiol, fel na weler cywilydd fy enaid pechadurus, amwisga hi a gwiscadau dy gyfiawn­der, a chuddia hi a phob math o rin­weddau, a graslawn ddoniau. Amen.

Wedi gwiseo amdanat.

O Jesu daionus, cywir Briodfab f'enaid i, dyro i mi briod-wisg dy dduwfawl Gariad, trwy berffeith­lawn serch arnati. Amen.

Wrth olchi dy lygaid.

O ddisglair Oleuni dibaid, yr hwn wyt yn goleuo pob vn yn dyfod i'r byd hwn, goleua lygaid fy enaid i, fal y gallwyf weled yn berffaith, a chyflawni dy ewyllys bendigedig, a'th fodd di. Amen.

Wrth olchi dy ddwylo.

O Arglwydd Dduw, yr hwn a'n ceraist ni yn gymmaint a golchi ein henaidiau ni yn dy waed gwerthfawr glanha, attolygaf arnat, fyng-ha­lon a'm dwylo i-o holl frychau a bu­dreddi pechod. Amen.

Wrth olchi'r geneu.

O ddoethineb dduwfawl, yr hwn wyt yn deilliaw o eneu dy dâd Nefawl; attolygaf arnat yn ostyn­geiddlawn, glanha fy-ngwefusau i o holl eiriau diffaith anfuddiol, fel nas agoro fy-ngeneu fyth, ond i'th foliant di ac er llês i rai eraill. Amen.

Y Bendith.

Duw'r Tâd a'm bendithio: Jesu Grist a'm ymddiffynno: rhir­wedd yr Yspryd Glân a'm goleuo, ac a'm cyfarwvddo-i yrwôn ac yn dra­gywydd. Amen.

Gweddiau beunyddol. Y Boreuau.

Yn-enw'r Tad a'r Mab, a'r Yspryd Glan: Amen.

Bendigedjg y fo'r Drindod ddiran­nadwy ynawr ac yn dragywydd. A­men.

Pater noster, &c. Afe Maria, &c. Credo, &c.

neu.

Ein Tad ni, &c. Hanffych well, &c. Credaf, &c.

Y Gyffes Gyffredin.

Cyffesaf i Dduw hollalluog, i fen­digedig Fair forwyn bob amser, i fendigedig Fihangel Archangel, i fendigedig Ioan Fedyddiwr, i'r sanc­taidd Apostolion Petr a Phawl, ac i'r holl Sainct: ddarfod i mi bechu yn thy fawr ar feddwl, gair, a gweithred trwy fy mai, trwy fy mai; trwy fy▪ nirfawr fai. Amhynny attolygaf ar fendigedig Fair forwyn-bob amser, ar fendigedig Fihangel Archangel, ar fendigedic Ioan Fedyddiwr, ar y sanctaidd Apostolion Petr a Phawl, ac [Page 25]ar yt holl Sainct weddio trosaf at ein Harglwydd Dduw.

Duw hollalluog a druga [...]hao wr­thym ni a chan faddeu i ni ein pecho­dau, a'n dycco ni i fywyd tragywy­ddol.

Yr hollalluog Arglwydd trugarog a roddo i ni faddeuant, absolutiwn a rhuddhaad o'n pechodau. Amen.

Vers. Teilynga, O Arglwydd, y dydd hwn.

Resp. Ein cadw ni yn ddibechod.

Vers. Trugarha wrthym, O Ar­glwydd.

Resp. Trugarha wrthym ni.

Vers. Bydded dy drugaredd di ar­ [...]om ni,

Resp. Megis a gobeithiasom ynoti.

Vers. Gwrando fy-ngweddi, O Ar­glwydd.

Resp. A deued fy llef hyd atto ti.

Gweddiwn.

O Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn a wnaethost i ni ddyfod i [Page 26]ddechreuad y dydd hwn, cadw ni heddyw a'th nerth: fel na syrthiom i bechod y diwrnod hwn, eithr gwna i'n hymadroddion ddeilliaw bôb am­ser, a chyfarwydda ein meddyliau a'n gweithredoedd ni i gyflawni dy gyf­iawnder di. Trwy'n Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu gyda thi yn vndod yr Yspryd Glan Duw tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Vers. Bendithiwn ein Harglwydd.

Resp. Bid diolch i Dduw.

Vers. Gwerthfawr yn-gwydd ein Harglwydd.

Resp. Ydyw marwolaeth ei Seinct.

Mair Sanctaidd a'r holl Sainct a weddient trosom, i ni fod yn deilwng o gael cymmorth a iachawdwriaeth gantho ef, yr hwn sy'n byw ac yn teyr­nasu tros oesoedd eosoedd. Resp. A­men.

Vers. O Dduw disgwyl arnaf i'm cymmorth.

Resp. Arglwydd bryssia i'm cym­morthwyo.

A dywedir hynny deirgwaith, ac yna

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd Glân:

Megis yr oedd yn y dechreuad, ac yrwôn, a phob amser, a thros oesoedd oesoedd. Amen.

Arglwydd trugarha wrthym. Christ trugatha wrthym.

Arglwydd trugarha wrthym. Ein Tad ni, &c.

Vers. Ac na ddwg ni i brofedigaeth.

Resp. Ond gwared ni rhag drwg.

Vers. Edrych ar dy weision, O Ar­glwydd, ac ar dy weithredoedd dy­hun, a chyfarwydda eu plant hwy.

Resll. A bydded disgleirdeb ein Har­glwydd Dduw arnom ni, a chyfar­wydda weithredoedd ein dwylo ar­nom, a chyfarwydda waith ein dwylo ni.

Vers. Gogoniant ir Tad, &c.

Resp. Megis yr oedd, &c.

Gweddiwn.

TEilynga, O Arglwydd Dduw Frenin nef a daear, y dydd hwn gyfarwyddo Sancteiddio, rheoli a llywodraethu ein calonnau a'n cyrph ni, ein synwyrau, ein geiriau, a'n gweithredoedd ni yn dy gyfraith di, ac yn gweithredoedd dy orchmmy­nion di, fel y gallom ymma, ac yn dra­gywydd fod yn ddigaeth ac yn gad­wedig trwy dy gymmorth di, Ceid­wad y byd: Yr hwn wyt yn byw, ac yn tey [...]nasu tros oesoedd oesoedd. Amen.

Vers. Ein cymmorth ni sydd yn enw ein Harglwydd.

Resp. Yr hwn a wnaeth nef a daear.

Y Bendith.

BEndithied ein Harglwydd ni, ac amddiffyned ni rhag pob drwg, a dyged ni i'r bywyd tragywyddol. A gorphwysent eneidiau y Ffyddloni­aid [Page 29]yn heddwch trwy drugaredd Duw. Amen.

Gweddi y boreu.

HOllalluog Dduw, yr hwn wyt yn preswylio yn y nefoeddgoru­chaf, ac etto mae'n wiw gennyt ddi­sgwyl ar y Creadur gwaelaf ar y dda­ear, yr wyfi yn ostyngaidd yn addoli dy Fawredd Sancteiddiol di, ac a holl nerth fy enaid yn clodfori, ac yn mo­liannu dy Enw bendigedic di, am yr aneirif fendithion a dywalltaist yn llawn hael arnaf, trwy fy etholi yn dy gariad di, a'm creu yn ol dy lûn di dyhun, ac am i ti fy rhybrynnu i trwy dy Fab, a'm sancteiddio a'th Yspryd Glan, am i ti fy achub i ym­hob peryglon y bywyd hwn, a chodi fy meddyliau i obeithio am vn sydd well, ac yn enwedig am dy ddaionus ymddiffyn rhag enbydrwydd y nos hon, a'm dwyn i yn iach-ddiasgen i ddechreuad y dydd hwn. Parha O Arglwydd dy drugaredd arnaf, ac [Page 30]megis a dyhunaist fy nghorph o gwsg felly hefyd cod fy enaid o bechod, fal y gallwyf rodio yn hollawl vfydd­dod yn dy wydd di.

Gwared fi, O Arglwydd rhag dry­gioni y dydd hwn, a chyfarwydda fy­nrhaed yn llwybrau heddwch, nertha fy mryd yn holl lawen i gofleidio pob arfod o wneuther daioni, ac i o­chelyd yn ddyfal pob math o achosion pechod, yn enwedig N. a'rhai eraill, y rhai a wn trwy hir-ymarfer eu bod yn beryglus i'm enaid; a phan, trwy wendid naturiol, a gollyngaf di yn angof, cofia di fyfi yn dy drugaredd, fel os trwy ddrwg duedd fy naturiaeth y syrthiaf yn fynych, y gallwyf godi eilwaith trwy gymmorth dy ras di. Gwna fi yn ddyfal yn rhwymedigae­thau fy-ngalwadigaeth, heb fod yn rhy-ofalus am lwyddiant fy negesau, ond ym mhob anhap a chroesineb y byd hwn yn llawn fodlon i'th ewyl­lys Duwfol di: ac i ymddiried yn hollawl yn dy Ragddarbod di. By­dded dy fendithion di ar fy­ngweithredoedd [Page 31]i: cyfarwydded dy Ras dy fy mwriadau i, fel y bo holl dreigl fy mywyd, ac amcan pennaf fy-nghalon yn tynnu bob amser i fawrhau dy Ogoniant di: i wneuthur llês i rai eraill, a iachadwriaeth tragy­wyddol i'm henaid innau. Trwy Jesu Grist ein Harglwydd, a'n Ceidwad vnic: yr hwn gyda thi a'r Yspryd Glan sy n bwy fyth, ac yn teyrnasu vn Duw tros oesoedd oesoedd. A­men

Dyro i mi, O Arglwydd, wneuthur y peth a ochymynnych: a gorchy­mynna y peth a fynnych.

Dyro i mi ddioddef y peth a gania­ttych ddigwyddo i mi: a chaniatta y peth a fynnych.

Bendith Dduw hollalluog y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan a ddisgynno arnaf, ac a drigo fyth yn fy-nghalon. Amen.

Ymannerch tra-ddefosionawl i'w dywedyd y boreu.

YR wyfi yn dy addoli dy, ac yn dy foliannu di, y Drindod fendige­dic, Duw hollalluog, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan; yr wyfi yn offrymmu fyhun i'th Dduwfawl Fawredd, gan ddymuno arnat yn ostyngedic gym­meryd o ddiwrthyfi, ac oddiwrth dy holl Ffyddloniaid bethbynnag sydd yn dy anfodloni di: a rhoi i ni yr hyn oll sydd gymmeradwy ger dy fron di: caniada i ni wneuthur ymma y peth a orchymynnaist: ac yn ôl hyn dderbyn y peth a addewaist. i ti, O Arglwydd yr wyf yn gorchymyn fy enaid a'm corph: (fy-ngwaig a'm plant) (fy­nhad a'm man) (fy-mrodyr a'm chwiorydd) fy-ngheraint a'm bene­ffactoriaid f'anwylion a'm cyfeillion, a phawb oll, tros y rhai yr wyf yn rhwymedig i weddio. Gorchmyn­ynnaf i ti hefyd, yr Eglwys l [...]n Ga­tholic. Caniada, O Arglwydd i bawb [Page 33]dy adnabod di, dy foliannu di, dy anrhydeddu di, dy garu di: a bod yn gare dic gennyti. Arwain eilwaith i'r ffotdd y sawl sy'n cyfeiliorni. Di­strywia bob Heresi. Ymchwel a thro bawb i'r fforth iawn, sy etto heb dy wybod di. Dyro i ni dy râs, O Ar­glwydd, a chadw ni yn dy heddwch. Bid dy ewyllys sanctaidd di, ac nid ein hewyllys ni. Cyssura y sawl sy'n dwyn eu bywyd mewn tristwch, ad­fyd, a themprasiwnau: ac yn druga­rog yscafnha en blinder hwy pabyn­nag ai ysprydol ai corphorol. Yn ddiweddaf yr wyf yn gorchymyn pawb yn hollawl i'th ymddiffyn a'th Nodded Sanctaidd di, fel y bo teil­wng gennyt roi maddevant en pe [...]ho­dau i'r byw, a gorphwys tragywyddol i'r meirw. Amen.

Un arall.

O Arglwydd trugarog anfeidrol, i'th ddwylo di yr wyf yn gor­chymyn fy enaid a'm corph, fy syn­wyrau [Page 34]a'm geiriau, fy meddyliau a'm gwithredoedd, gyd a holl angenrhei­dau fy-nghorph a'm enaid▪ fy my­nediadau i mewn ac allan, fy fyrdd a'm hymarweddiad, treigl a diwedd fy mywyd▪ dydd ac awr fy marwo­aeth, fy-ngorphwys a'm hadgyfo­diad gyda'th Sainct, a'th Etholedigi­on di. Amen.

Gweddi i barhau mewn daioni.

CAniada i mi, O Arglwydd Jesu Grist, barhau mewn bwriadau da, ac yn dy wasanaeth Sanctaidd di, hyd fy marwolaeth: a dechreu o honof yn berffeithlawn y dydd pre­sennol hwn, canys nid ydyw ddim yr hyn a wneuthym hyd ynawr. A­men,

Gweddi at dy Angel Ceidwad.

O Angel Duw, i Sanctaidd ymge­ledd yr hwn a gorchymynwyd fi trwy ddaioni y Goruchaf, goleua, [Page 35]amddiffyn, a rheola fi heddyw ym­hob meddwl, gair a gweithred. A­men.

BEndithia ni, O Arglwydd, a chadw ni rhag pob drwg, a dwg ni ifywyd tragywyddol, a gorphwy­sent yn heddwch eneidiau y Fyddlo­niaid, trwy drugaredd Dduw. A­men.

Y Bendith.

TAngnefedd ein Aarglwydd Jesu Grist, rhinwedd ei Ddiodde­faint Sanctaidd ef, Arwydd y Grog lân, anlygredigaeth a gostyngei­ddrwydd Mair forwyn fendigedic, amddiffyn yr Angelion, a gweddi yr holl Sainct ac Etholedigion Duw a fo gyda mi, ac a'm cattwo fi yrwôn, ac yn awr angeu, Jesu daionus. A­men.

Y boreuau; canol dydd, ac ar y cyde­chwydd pan ganir Cloch Cyfarchiad Mair dywedwch fel hyn.

1. Angel ein Harglwydd a fyne­godd i Fair, a hi a ymddwynodd o'r Yspryd Glan.

Hanffych well Fair, &c.

2. Wele wasanaethyddes ein Har­glwydd, bydded imi yn ol dy air di.

Hanffych wcll Fair, &c.

3. A'r Gair a wnaed yn Gnawd ac a drigodd ynomi.

Hanffych well Fair, &c.

Gweddiwn.

TYwallt, O Arglwydd attolygwn arnat, dy ras i'u heneidiau ni, fal a gallom ni, y rhai a gowsom wrth Gy­farchiad yr Angel wybod ymgnaw­doliaeth, dy fâb di, trwy ei Ddiodde­faint a'i Groes ef gael ein hebrwng i ogoniant y [...] Adgyfodiad. Trwy'r vn Christ ein Harglwydd. Amen.

A go phwysent yn heddwch enei­diau y Flyddloniaid trwy drugaredd Duw. Amen.

Wrth fynd allan o'r ty.

DAngos i mi, O Arglwydd dy ffyrdd, a dysg i mi dy lwybrau, cyfarwydda fy-nghamrau yn ol dy air di, fel na arglwyddiaetha dim anghyfiawnder arnaf: perffeithia fy­ngherdd▪ diadau yn dy lwybrau di fel na chyffroir fy-nghamrau.

Wrth fyned i mewn i'r Eglwys.

O Arglwydd, yn amlder dy dru­gareddau yr af i mewn i'th dy di, addolaf tua'th Deml Sanctaidd▪ a chyffessaf i'th Enw di.

Wrth gymmeryd dwfr bendiged.

Ti a'm ysgeini, O Arglwydd, ag hysop, a glanheir fi, ti a'm golchi, a byddaf wynnach na'r eira.

Bendith o flaen bwyd.

BEndithia ni, O Arglwydd, a'r rhoddion hyn hefyd, y rhai a gymmerwn ni o'th haelioni di. Trwy Grist ein Harglwydd. Resp. Amen.

Gras ar ol bwyd.

YR ydym yn diolch i ti, O Dduw hollalluog, am dy holl ddaioni. yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu yn dragywyddol. Resp. Amen.

Teilynga, O Arglwydd, roddi i'n Benefactoriaid ni oll, er dy Enw di, fywyd tragywyddol. Resp. Amen.

Vers. A gorphwysent trwy druga­redd Dduw, eneidiau y Ffyddloniaid yn heddwch. Resp. Amen.

Gweddiau i'w dywedyd y Nos cyn mynd i gysgu.

YN enw'r Tâd, a'r Mab, a'r Y­spryd Glan. Amen.

Bendigedig y fo'r Drindod ddiran­nadwy ynawr ac yn dragywydd. A­men.

Pater noster, &c. Afe Maria, &c. Credo, &c.

neu.

Ein Tad ni, &c. [Page 40]Hanffych well, &c. Credaf, &c.

O Dduw Tragywyddol, Hollallu­og, Anfeidrol gogoniant yr hwn nid ydyw Nêf y Nefoed yn abl i gynnwys edrych i waered ar dy wa­sanaethydd anheilwng, yn penlino ger bron dy Drugaredd di, ac yn o­styngedig yn cyffesu yngwydd dy holl Angelion bendigedig, a'th ogo­neddus Sainct dd [...]ygioni a gwagedd fy muchedd, ac yn bendifaddeu beiau y dydd hwn, yn enwedig N. a N. trwy'rhai a digias gynneu dy Faw­redd di, ac y clwyfais fy enaid yn ddirfawr. Ac o herwydd hynny.

Cyffesaf i Dduw hollalluog, i fen­digedig Fair forwyn bob amser, i fendigedig Fihangel Archangel, i fendigedig Joan Fedyddiwr, i'r san­ctaidd Apostolion Petr a Phawl, ac i'r holl Sainct: ddarfod i mi bechu yn rhy fawr ar feddwl, gair a gweithred, trwy fy mai, trwy fy mai, trwy fy nirfawr fai.

Ymma holwch eich cydwybod yn fanwl, a chyffesswch cich pechodau igyd o feddwl, gair a gweithred neu o esgeu­lusder ac o omissiwn, ac yna dywedwch.

MAe'n edifar iawn gennyf y pe­chodau hyn, a'm holl becho­dau eraill, ac mae'n ddrwg gennyf o waelod fy-nghalon am bôb meddwl, gair, a gweithred, trwy'rhai yr anfod­lonais dy Ogoniant di, ac y cym­mhellais dy lid a'th ddigofaint yn fy erbyn: yn enwedig am fy anufydd­dod i gyfraith mor Sanctaidd; a'm hanniolchgarwch i Dduw mor ddaionus a thirion. Yr wyf yn cydnabod fyhûn, O Arglwydd yn annheilwng o'r trugaredd lleiaf, ac yn euog o'th farnedigaeth drymmaf oll: ond tydi a ddangosaist dyhûn yn Dduw o drugaredd a daioni, gan fa­ddeu camweddau y rhai sy'n wîr-edi­feiriol, ac yn rhyddhâu y sawl oll sy'n ewyllysgar yn barnu euhunain yn e­uog. Amhynny o galon gystuddlawn [Page 42]a gwîr-edifeiriol yr wyf yn cyffesu i ti euogrwydd fy-nghydwybod, ac yn ostyngaidd yn offrwm i ti y gweddiau hyn N N yn benyd arnaf.

Ymma dywedwch ryw weddiau, neu wnewch ryw benyd arall defosionol. yna dywedwch.

Ond oblegid fôd fy annheilyng­dod, a'm hamryw feiau i yn fy attal rhag ymddiried yn yr hyn a wnelwyf fi 'fy hûn, a bôd dy Druga­redd cyfoethog di wedi trefnu i ni nifer mawr o Gyfryngyddion eraill cwmmeradwyach gennyti. Amhynny yr wyf yn dymuno ar fendigedig Fair forwyn bobamser, ar fendigedig Fih­angel Archangel, ar fendigedig Joan Fedyddiwr, ar y Sanctaidd Apostoli­on Petr a Phawl, a'r holl Sainct weddio trosaf at ein Harglwydd Dduw.

Duw hollalluog a drugarhao wr­thym ni, a chan faddeu i ni ein pe­chodeu, [Page 43]a'n dycco ni i fywyd tragy­wyddol.

Yr hollalluog a thrugarog Ar­glwydd a roddo i ni faddeuant, abso­lutiwn a rhuddhaad o'n pechodau. Amen.

Ac ynawr, O dra-daionus a'm hael Benefactor yr wyf a holl nerth, ac a chyflawn allu fy enaid a'm corph yn moliannu, ac yn mawrhau dy Enw di, am dy roddion mawr ac âneirif, sy'n deilliaw o'th vnic ddaioni di. er llês anfeidrol i mi. Ac yn enwedig am fy-nghadw heddyw ynghanol cyn­nifer o beryglon damweiniol i'm con­ditiwn i, ac am achub rhag cym­maint o drallodau a blinderoedd ac sy'n ddyledus i'm pechodau i.

Tydi wyt fyn-Greawdwr, O fy Nuw, a'm Protector daionus i: tydi ydwyt pen eithaf fy-modedigaeth i, a goruchaf perffeithrwydd fy Natur. Tan gysgod dy adeunydd di y mae [Page 44]gorphwys tragywydd: ac o lewyrch dy wyneb di y mae llawenydd dibaid yn deillio: bid moliant a gogoniant i ti: bid addoliant ac vfudd-dod i ti o­ddiwrth y Creaduriaid oll yn dragy­wyddol. Amen.

Ac o herwydd i ti drefnu y dydd i ni i weithio, a'r nos i ni i orphwys: megis yr wyf yn dy foliannu am dy Fendithion y dydd hwn a aeth heibio felly yr wyf yn attolwg dy amddiffyn y nos hon sydd i ddyfod. Gwilied golwg dy Ragddarbod di arnaf fi, a gwersyllent yr Angelion Sanctaidd o'm hamgylch, fel y gallwyf, wedi gorphwys o gysgu cymmhesurol, gyflawni yn well angenrheidiau fy s [...]âd, a'm conditiwn, a pharhau yn ffyddlon yn rhwymedigaethau dy wasanaeth di, ac felly llwyddo beu­nydd, a gorchfygu gwyniau fy natur, a chyflawni yn well dy Orchymyni­on bendigedig, hyd y gallwyf, wedi treulio fy nyddiau yn dy ofn di, eu gorphen hwy wrth dy fodloni di, [Page 45]a llawenychu byth gyda thi yn dy deyrnas nefawl. Trwy Jesu Grist ein Harglwydd, a'n Ceidwad vnic, vr hwn sy'n byw, ac yn teyrnassu gyda thi a'r Yspryd Glân vn Duw tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ymma dywedwch y Weddi: Yr wyf yu dy addoli di, &c. megis y mae yn y pag.32.

Act o Contritiwn neu o Gystudd calon.

O Arglwydd ofnadwy, a Thâd trugaroccaf, fyfi b [...]yfedyn gwae­ [...]af a bechais yn erbyn Nêf, ac yn dy wydd di, ac nid ydwyf bellach dei­ [...]wng i'm galw dy wasanaethydd di, a llai teilwng o lawer i'm cyfrif yn [...]lentyn i ti, wedi talu o honaf fawr ddirmyg am gymmaint o ddaioni, ac [...]nniolchgarwch am gynnifer o fen­dithion. Pa le y câf ddigon o gosbe­digaeth i ddial fy mhechodau? ym'le [...] câf ddigon o ddagrau i olchi ymaith [Page 46]fynghamweddau? Och fi, nid ydyw yn ddrwg gennyf er dim poen ar a allwyf ddiodef am fy Rhebeliwn, a'm hafreolaeth: hyn yn vnic sy'n rhwygo fy-nghalon, ddarfod i mi yn angha­redig ddigio'r Duw, yr hwn a ddylid ei anrhydeddu, a'i garu uwchben pob peth. Pa beth a ddywedaf, O Ar­glwydd daionus, i ddangos fy mod yn cashau fy-mhechodau? Beth a wnaf i'm hattall rhag ail lithro i­ddynt? O Nefawl Dâd, fe a gaiff golwg pechod o hyn allan fod yn gassach ger fy mron nac Uffern ddu, a'r temptatiwn lleiaf yn fwy dychry­nnedig nag Angeu. Maddeu i mi, O Hollalluog Gariad, maddeu i mi, ac na chofia bechodau fy muchedd a aeth heibio. Paham y digllona yr Arglwydd yn erbyn Object mor wael a diffrwyth? O Dduw, edrych arnaf o ymysgaroedd dy Drugaredd: canys tydi wyt ein Tâd, a nyni ydym dy blant di: tydi wyt ein Gwneuthurwr▪ a nyni ydym y Clai yn dy ddwylo: Tydi a elli a'r dyfroedd a dynnir [Page 47]allan o Ffynnonnau ein Iachawdwr lanhau fy mudreddi i, ie hefyd ag vn defnyn o'i waed ef ein hailmoldio ni oll yn lestri o anrhydedd. Gennyti yn vnic, O Dâd trugaroc, yr wyf yn atolwg, ac yn gobeithio am faddeu­ant, attati yn unic yr wyf yn gweiddi ac yn disgwyl am help, fel y gallwyf o hyn allan yn wastad dy wasanaethu di trwy vfudd-dod cywir a ffyddlon, ac a chariad pûr perffaith lynu wrthy­ti yn ddiwahanedig fyth tros oes oesoedd. Amed.

Gweddi at yr Angel Ceidwad.

O Angel Duw, i Sanctaidd ymge­ledd yr hwn a'm gorchymyn­nwyd fi trwy ddaioni y Goruchaf, goleua, amddiffyn, a rheola fi y no­swaith hon rhag pob pechod a phe­rygl. Amen.

Pan elo dyn i'w weluy dywededed.

YN enw ein Harglwydd Jesu Grist agroeshoeliwyd gorfeddaf ymma i orphwys. Bendithia fi, O Arglwydd amddiffyn, a rheola fi; ac wedi'r pe­rerindod gofidus hwn dwg fi i'r Gwyn fyd tragywyddol. Amen.

Gweddi wrth ymroi i gysgu

O Jesu Grist, llygad anniffygiol yr hwn ni chysga ac ni heppian vn amser, eithr a wilia yn ddibaid i war­chad ar dy wasanaeth-ddynion, cym­mer fi, attolygaf arnat, i'th amddiffyn, a chaniada tra fo'r corph yn cysgu, i'm henaid rodio gyda thi: ac yn ol hyn weled y bywyd nefawl gwynfy­degig hwnnw, lle yr wyt Ti gida'r Tâd a'r Yspryd Glan yn Lywodra­ethwr tragywyddol, a lle mae'r An­gelion gyda'r Eneidiau Bendigedig yn dinasu tros fyth Amen.

Cadw ni, O Arglwydd, yn effro, ac amddiffyn ni yn cysgu, fal y gwiliom gyda Christ, [...]c ac gorphwysom yn heddwch, Amen.

Cadw ni megis cannwyll dy lygad, ac ymddiffyn ni tan gyscod dy adeu­dydd.

Trugarha wrthym, O Arglwydd, trugarha wrthym.

Bydded dy drugaredd arnom, O Arglwydd, megis yr ydym yn ym­ddiried ynoti.

O Arglwydd, gwrando fy-ngweddi, a deued fy llef hyd atto ti.

Gweddiwn.

Ymwel, attolygwn arnat O Ar­glwydd, y drigfa hon, a gyrr ymaith ymhell oddiwrthi holl ddi­chellion y Gelyn: preswylient dy [Page 50]Angelion ynddi, y rhai a'n cadwent ni yn heddwch, a bydded dy fendith di arnom ni bôb amser. Trwy'n Harglwydd Jesu Grist, Amen.

Y Bendith.

Duw'r Tâd a'm bendithio, Jesu Grist a'm hymddiffynno, ac a'm cadwo fi, a rhinwedd yr Yspryd Glân a'm goleuo, ac a'm sancteiddio fi y nos hon, ac fyth tros oes oesoedd. Amen.

I'th ddwylo di, O Arglwydd, yr wyf yn gorchymmyn fy yspryd. O Arglwydd Jesu cymmer di fy e­naidi.

Rhybydd pan nas galli gysgu.

OS byddi di yn dy wely heb fedru cysgu, ymarfer, ryw fyfyriad defotionol, megis wrth ddywedyd dy baderau, neu rym Weddiau eraill.

Gwr o Grefydd rhinweddol, sy'n cyn­ghori i ddyn pan nas gallo gysgu; er mwyn gyrru ymaith eiluniau neu phan­tasiau drwg. fedwl fal pe bai yn gossod ei eneu wrth yr Archoll yn ystlys ein Ia­chawdwr bendigedic, ac yno wrth ana­dln yn fynyh i mewn ac allan, ddywedyd IESU yn ei feddwl yn vnic, heb lafaru dim. Er esampl: wrth dynnu ei anadl. atto dyweded IE-ac eilwaith wrth ollwng ei anadl oddiwrtho, dywedd- SV, ac felly anadlu yn fynych yr enw melw­ber hwnnw, hyd oni ddelo cysgu arno.

Os happia i ti ddihuno liw nos, meddwl fal pe bait ynghanol Corau yr Angelion a'r Sainct, ac a chydgerdd disymmwth cydgana gyda hwynt yr Hymn hwnnw (yn dy feddwl o'r hyn lleiaf) a ganant hwy ddydd a nos yn ddibaid, gan ddy­wedyd.

Sanct, Sanct, Sanct Arglwydd Dduw Sabaoth.

Mae'r Nêf a'r Ddaear yn llawn o'th Fawredd, a'th Ogoniant di.

Neu ddywed.

Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd Glan:

Megis yr oedd yn y dechreuad ac yrwön a phôb amser, a thros oesoedd oesoedd. Amen.

Traethawd byrr at wedd Dia­log rhwng Athro a discybl am Sacrament Penyd.

Discybl.

BEth yw Sacrament Pe­nyd.

Athro

Sacrament yr hwn a ordeiniodd Christ er mwyn rhyddhau'r pechodau a wnaed ar ol Bedydd.

D.

O ba le o'r Scrythur Lan y profir, fod Christ wedi gadael awdurdod yn ei Eglwys i ryddhau pechodau?

A.

O'r 20 Pennod o Evangel S. Ioan lle y dywedodd yr Iesu wrth ei Apo­stolion,

Megis y danfonodd fy Nhad fi, yr wyf innau yn eich danfon' chwi. Wedi iddo ddywedyd hyn, ef a anadlodd ar­nynt [Page 54]ac a ddywedodd wrthynt: Der­bynniwch yr Yspryd Glan: i bwybynnac y maddenoch eu pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwybynnac a atttalioch, hwy a attaliwyd.

D.

Pa Sawl peth sydd angenrheidiol i'r dyn Penydiol i dderbyn y Rhyddhaad, y Maddeuant, neu'r Absolutiwn hwn?

A.

Tripheth: y cyntaf yw Contri­tiwn, Cystudd calon neu Edifeirwch: yr ail yw Cyffes: a'r trydydd yw Sa­tisffactiwn neu Iawn-waith.

D.

Beth ydys yn ei feddwl wrth Con­tritiwn, cystuddcalon neu edifeir­wch?

A.

Bôd yn llwyr ddrwg ac yn edifei­riol gan y Penyd-ddyn ddarfod iddo bechu yn erbyn Duw, a'i ddigio ef: gyda llawn bwrpas na's gwnelo hynny byth drachefn, a hollawl ftyd i ochelyd pob achos, achlysur neu ar­fodau pechod.

D.

Beth ydys yn ei feddwl wrth Gyffes?

A.

Bôd yn rhaid i'r Penyd-ddyn gy­huddo, dywedyd, ac esponi yn ys­pyslawn [Page 55]i Offeiriad awduredic cyffre­ithlon, ei holl bechodau marwol, gy­da nifer a holl amgylcheddion pwys­fawr pôb pechod, cyn ddyfaled fyth ac y gallo.

D,

Pam y dywedir fod Duw yn mynnu gennym ni gyfessu felly ein pcchodau i ddyn daearol?

A.

Oblegid fôd Duw wedi rhoi aw­durdod i ddynion daearol, sef i'w A­postolion ac i'w Sucçessyriyid hwynt (hynny yw, i'r Escobron ac i'r Offei­riaid, sydd yrwön yndal eu lle hwy) i rydhau pechodau, neu i'w hattal: ac amhynny fe a'i gosododd hwynt yn Swyddogion neu'n Iustufiaid Yspry­dol i farnu'r pechadur, neu iw absol­vio ef, fel y bo'r achos a rheswn yn gofyn. Ac oblegid nas gellir cyflaw­ni'r farnedigaeth hon, heb hollawl wybodaeth o'r pechodau; amhyuny mae'n rhaid eu cyhuddo hwynt. Dra­chefn mae Duw wedi gosod yr Offeiriaid yn Feddygon Ysprydol yr enaid. Megis yntau y mae'n angen­rheidiol i'r Meddyg corphorol wy­bod, [Page 56]gweled a chwilio clwyfau, briwau ac archollion y corph iw iachau hwynt, yn gymmaint ac os bydd clwyf neu friw marwol yn rhyw le dirgel o'r corph, fel y bo cywilydd mawr arnat i noethi ef, er hynny naill ai rhaid i ti ei ddangos ef, neu golli dy fywyd: felly y mae'n rhaid i'r Me­ddyg ysprydol wybod a dyall clwyfau ac archollion yr enaid, onid ē (os ma­twol y fyddant) rhaid i ti fôd heb ras Duw, (yr hwn yw bywyd yr enaid) ac felly parhau mewn stad colledi­gaeth dragywyddol.

D.

Mi dybygwn mae peth creulon ac anghyfaddas i ddaioni Duw, yw gor­chymmyn i bobl ddiargelu yngwydd dyn eu pechodau cuddiedic. Fe all ai i mi wneuthur rhyw bechod, na ddywedwn fyth wrth y brawd neu'r chwaer anwylaf i mi, nag wrth fyngwraig fyhun chwaith a rhaid i mi gyhuddo hwnnw yn yspys­lawn i ryw ddyn arall daearol?

A.

Gwaeth o lawer a chreulonach y fydd i ti, fôd dy holl bechodau gor­thrwm cywilyddus yn scrifennedic [Page 57]ar dy dalcen, yngwydd yr holl Ange­lion a'r Cythreuliaid, ar ddydd dy angeu, ac ar Ddydd y Farn yngwydd holl ddynion y byd, gyda'r holl Y­sprydion da a drwg, yn y modd ac y tybygi di, na fyddir yn edrych ar, nac yn edliw neu yn dannod pechodau nêb arall, yn fwy na'th bechodau di: ac wedi hynny igyd, cael dy fwrw bendramwnwgl i'r tân Vffernol, yno i ddioddef poenau anfeidrol tra fo Duw yn Dduw. Os buost mor anni­olchgar a digywilyddus (wedi cael dy olchi yn lân vnwaith a gwaed Christ trwy Fedydd,) a digio Duw eilwaith trwy bechu yn orthrwn, yn ei wydd ef a'i Angelion: pa ryfedd yw, ei fod ef yn mynnu gennyt, (er cael maddeuant o'th bechodau, ddwyn cymmaint o gywilydd, a'i cyffessu hwynt yn ostyngeiddlon, a'i cydnabod o flaen vn o Swyddogion Duw, a drefnodd ef yn Iustus arnat ar y ddaear?

D.

Oni all yr vn hwnuw, yspssu'r cwbl i'r holl fyd?

A.

Na all ddim: er bod y Sectariaid neu'r sawl sydd allan o'r Eglwys Ga­tholic (o ran eu hanwybodâeth) yn tybied felly.

D.

Paham hynny?

A.

Oblegid mae Sacrilegedd dirfawr, a phechod damnedic yw, i Offeiriad ddatcuddio neu annirgelu Cyffes Sa­crafennol, neu ryw ran o honi. Ob­legid fel y mae Duw yn rhwymo'r Penyd-ddyn i gyffessu ei bechodau wrth Offeiriad, yt hwn nid yw ond dyn trangcedic, felly y mae ef yn rhwymo'r Offeiriad i fod yn garedic, ac yn Dâd Ysprydol i'r Penyd-ddyn, cyn belled ac na sonio fyth, am ei bechodau ef, nac am ddim ohonynt, nac wrth nêb arall, nac wrth y Pe­chadur eihunan chwaith (wedi gor­phen y Gyffes) nac ar air, nac ar weithred nac mewn modd arall pa­bynnac. Ac mae y rwymedigaeth hon o i natur eihûn mor gaeth ar yr Offeiriad, a bod yn bechod mwy dam­nedic iddo ei thorri hi, na lladd a mw [...]drio ei dâd a'i fam eihunan. Ob­legid [Page 59]mai Brâd anfeidrol y fyddai hynny yn erbyn yr Yspryd Glân, o wneuthur y Sacrafen hon, (sy mor leffawr ac angenrheidiol i'r enaid) yn gâs ac yn ffiaidd i ddyn.

D.

Oni all yr Offeiriad o'r hyn lleiaf, gyhoeddi Cyffes ei Benyd-ddyn: pan fo hynny yn anguenrheidiol i safio ei fywyd eihunan?

A.

Na all ddim, nac i safio ei fywyd eihûn, na bywyd ei holl gymmydo­gion, nac i ystoppio neu i gae safn Vffern (pettai hynny yn gallu bod) fel nad elai byth mwy eneidiau iddi. Oblegid nad yw cyfreithlon, gwneu­thur drwg, i dda ddyfod o hono.

D.

Ond mae rhai o'r Offeiriaid a chym­maint merwingos ar eu tafodan, ac nas medrant eu hattal rhag llithro weithi­au. Pa le y bydd fy enw da a'm cyfrifi yr amser hwnnw?

A.

Mae Duw wedi gofalu yn helaeth am gadw dy enw da di, ar y cyfryw ymgyfarfod, trwy roddi gras patticu­lar i bob Offeiriad cywir, i gadw cy­frinach Cyffes Sacrafennawl, yn gym­maint [Page 60]ac er bod rhai, o yscafndra na­turiol, yn rhy dafod-rhydd ar bob achos arall: etto yn y pethau sy'n perthyn i gyfrinach Cyffes, nid yw ddim anhawdd ganthynt dewi a son, o ran y Gras Duwfawl particular a dywalltwyd arnynt gyda'r Vrdden Sacraidd. A'r Gras hwn a fynnai Duw fod yn amlygol mor nodedic, ac y gellid yn hawdd adnabod trwyddo, yr Offeiriaid cywir Catholic oddiwrth y rhai ffeilsion, a Ministri'r Sectâriaid, yn cymmeryd arnynt fod yn Offeiri­aid, lle nid ydynt ond gwyr llwyr llyg fel rhai eraill: y rhai er eu bod mewn pethau eraill yn ddigon cyfri­nachgar ac yn honest; etto os di­gwydd iddynt, wrth drawsymafer y Swydd Offeiriadol o wrando Cyffes, wybod rhyw bechod dirgel particu­lar, (canys nid oes nemmor o'r Sec­tariaid yn gwneuthur Cyffes, ond o'r peth sydd eisoes yn gyhoedd tros wyneb y Wlad, neu mewn geiriau cyffredinol gan ddywedyd, ei fod ef yn bechadur, neu'r cyffelyb, fel y gall [Page 61]pob ffuantwr hypocritic gyffessu yng­hanol y Farchnad heb ddim cywilydd yn y byd,) ni fedrant fyth gelu'r matter, ond yn gynt neu yn hwyrach, hwy a'i cyhoeddant ef. O'r hyn beth y cawsom amryw of Esamplau trist­lawn yn ddiweddar; digon i mi ym­ma grybwyll, yr hyn fydd yn brin­tiedic eisoes, sef y brad a wnaethant y Ministri Sectaraidd yn Ninas Caer­frangon, lle wedi dwyn Capten Hinde, Politic. Cate­chism. c. 15. num. 5. a ar­weinasid o amgylch y Siroedd eraill, heb gael dim prawf cyfreithlon o'r drygwaith a'r achwyn a wnaethid yn ei erbyn: fe a ddaeth Ministr atto yno, ac a'i gyrrodd ef i goelio fod y Pen-Iustus wedi cael profiad digonol yno o'r cwbl, ac nad oedd yrwôn fodd i safio ei hoedl ef, ond ei fod ef megis Swy­ddog Duw, yn cynghori iddo ddar­paru eihûn i farwolaeth Christianogol trwy gyffessu iddo ef ei bechodau, et mwyn cael maddeuant o honynt, ac absolutiwn: ac wedi i'r Capten gy­ffessu [Page 62]yn edifeiriol yr anhapa ddig­wyddasai iddo o ladd vn o'i Gydym­meithion eihún, fe aeth y Ministr i ffordd yr amser hwnnw, gan addo y doi ef dronnoeth, (pan fai'r Capten wedi edifarhau yn fwy) i orphen y gwaith da hwnnw. Ond yn lle dyfod eihûn fe a ddarfonodd Genau arall o'r vn▪ bais, gan beri iddo ddywedyd ei fod ef eihûn wedi syrthio yn glaf, fal na allai ef ddyfod: ond os cyffes­sai y Capten yr vn pechod i'r brawd du hwnnw hefyd, fe gyflawnai ef y gwaith yn llwyr, yr hyn wedi i'r Cap­ten wnenthur hefyd yn llwyr wirion: Hwy a aethant eill dau yn ddioed yn vnion i'r Cwrt iw gyhuddo ac i a­chwyn yn ei erbyn ef, ac nid oedd vn prawf arall digonol i'w gondemnio ef, ond yn vnic depositiwn y Ministri hynny. Ond fe a wnaeth eu drygi­oni hwynt i'r Capten, feddwl am ffalsedd eu Crefydd hwynt, y oedd heb ddyscu iddynt na mwy Cyfiawn­der, na daioni: ac wrth hynny yma­dael a'r Heresi, yn yr hwn y genafid [Page 63]ef, a marw o fewn caerau yr Eglwys Lan, yn ddyn Catholic llwyr edi­feiriol am ei bechodau. Mi a allwn goffa ymma hefyd yr hyn a ddigwy­ddodd i'r vn pwrpas yn Sîr Fynwai ac yn Sîr Faesyfed yn ddiweddar, ond mae'r matterion yn llawn gwy­bodedic, ac nid yw byrder fy amcan yn hyn o le, yn caniadu imi hwyhau ymmhellach. Ond yn siccr rhaid i mi ddywedyd, na fûm i yn gydna­byddus erioed a nêb a wnaeth Gyffes i ryw vn o'r Ministri Sectaraidd, nad achwynodd drachefn, gyhoeddi o hono ei Gyffes ef. Cyn noethlymmed a gwag ydynt Vsurpyrwyr y Swydd sacraidd honno, nid yn vnic o'r Gras Duwfawl priodol iddi, ond hefyd o ddyall cyffredin, ac o honestrwydd moesawl yn y cyfrwng hwnnw.

D.

Oni ddiargelodd Offeiriad Catholic Gyffes erioed?

A.

Mi a glywais sôn am rai Offeir­iaid drwg, meddwon, celwyddog, beilchion, cybyddus, anllad, Swyn­wy yn masnach a'r Cythraul, &c. [Page 64](ac nid rhyfedd fod rhai drygionus ymlith cynnifer miliwn ac sydd o honynt ar vnwaith yn Eglwys Dduw ar y ddaear, lle nid oedd Coleds y deuddeg. Apostolion, a ddewisasai Christ eihunan, heb vn Diawl ynddo) etto ni fedraisi erioed ddyall yn y­spyslawn, ddarfod i vn Offeiriad cy­wir, (er cynddrwg y fai, neu wedi troi yn Hæretic neu yn Apostata) gyhoeddi vn pwnc o vn pechod, o'r hwn y cawsai ef wybodaeth yn vnic trwy Gyffes Sacrafennol. Ac yn siccr in fyddai hynny i ddim pwrpas yn y byd. Oblegid na chai ef ei goelio am hynny gan vn Catholic, na chan nêb arall a dim synwyr▪iddo: oherwydd mai gwaeth a mwy pechod yw, i'r Offeiriad gyhoeddi'r Gyffes, nac i'r Penyd-ddyn wneuthur y drygwaith. Ac am hynny cynt y coelia pob dyn Synhwyrol, fod yr Offeiriad hwnnw yn gelwyddog, na bôd y Penyd-ddyn wedi gwneuthur y drwg. Mae pôb dyn yn rhwymedic i dybied y goreu am ei gymydog: a llai drwg o [Page 65]lawer yw bod yn gelwyddog, na bod yn ddatcuddiwr Sacrilegaidd ysceler.

D.

Mi welaf weithiau nas gall yr Of­feiriad ddiargelu Cyffes: ond mi wn trwy hir ymarfer, na allaf aros y sawl sydd yngwybod fy meiau i: pa fodd yn­tau y gallaf edrych yn wyneb yr hwnnw y fo yn yspyslawn wybolol o'm holl becho­dau gorthrymmaf, a'r cywilyddusaf a wneuthym erioed?

A.

Na flina dyhûn am hynny, ond cofia yn ddiammeu fod yr Offeiriad yn Lieutenant i Dduw, ac yn dala ei le ef yn y weithred honno: neu me­gis y mae'r Apostol yn gorchymmyn i ni, am bob Offeiriad cywir awdure­dig, ystyria ei fod ef yn Weinidog Duw. ac yn Ddosparhwr Dirgeleddion Christ, 1 Cor. 4. a choelia fi, wedi i ti wneuthur Cyffes gywir, ostyngaidd, eidifeiriol, ti a geri yr Offeiriad hwnnw yn fawr, a bydd gwell gennyt gydymddiddan, a bod yn gartrefol a hwnnw, nac a nêb arall: oblegid y tybygi di fod yn rhaid iddo yntau dy garu dithau.

D.

Pa fodd e dichon hwnnw fyngharu i, a wyr fy holl ddrygioni?

A.

Oblegid wrth weled ynoti wîr e­difeirwch, gostyngeiddrwydd, a di­bris amdanat dyhûn, &c. (yr hyn a wyr ef wrth ddifrifwch dy Gyffes di, a thrwy Yspryd Duw yn ei ddysgu ef ar y cyfrwng-hwnnw,) nid yw ef yrwôn yn edrychar yr hyn a fuost ti, sef pechadur gorthrwm: ond ar yr hyn yr wyti ynewr, trwy rimwedd dy ostyngeiddrwydd, dy edifeirwch, &c. a thrwy nerth yr Absolutiwn sacra­fennawl; sef enaid cyfionedic, wedi ei olchi yngwaed Christ, trwy'r Sa­crafen hon, yn wirion fel dyn-bach wedi ei newydd fedyddio, yn Gyfaill i'r Angelion, ac yn Etifedd Teyrnas y Nefoedd. Ac os trigi di yn y stâd hwnnw hyd angeu, mae ef yn coelio yn ddiammeu y caiff ef dy weled di yn Sanct yn y Nêf. Pa fodd ganhyn­ny y dichon ef amgen na'th garu di? Mae ruedd naturiol ymmhob dyn i garu eugilydd: a hynny a wnant [...]ob amser, hyd oni welant ryw amm­herffeiddrwydd [Page 67]yn eu cymmydog, yr hwn a bair yn y man ryw wrth­wynebrwydd neu ddisaffectiwn yn­ddynt, mwy neu lai yn ol mesur y bai. Ond pan welo dyn ei frawd wedi dychwelyd eilwaith i gyflwr Ange­lawl: pa fodd y gall ef amgen na'i garu ef? Ni welwn trwy gynnefin­dra, ein bod ni yn caru y rhai, i'r sawl a safiasom eu bywyd, neu i'r sawl yr ynnillasom fil o bunnau yn y flwy­ddyn, neu i'r sawl a gwnaethom ryw ddaioni mawr arall. Pa ryfedd yntau, fod yr Offeiriad yn caru hwnnw, yr hwn a helpodd ef i fod mewn stâd Gras, aci gael iawn o Deyrnas y Ne­foedd ac o'r bywyd tragywyddol? Mae'n Iachawdwr bendigedic yn dy­wedyd yn yr Evangel: Y bydd mwy o lawenydd yngwydd Angelion Duw yn y Nef, am vn pechadur yn gweuthur pe­nyd, nac am bedwar ar bymtheg a phedwar vgain o rai cyfion, y rhai nid rhaid iddynt wrth benydio. Pa fodd gan hynny y dichon yr Offeiriad, (yr hwn sydd yn gydwybodol ac yn gyf­rannog [Page 68]o'r llawenydd hwnnw) am­gen na charn yr hwnnw a wnaeth gymmaint o lawenydd i'r Ange­lion?

D.

Gan fod yn rhaid i ni gredu'r Evan­gel. sy'n dywedyd ddarfod i Grist roi awdurdod iw Apostolion i ryddhau neu i attal pechodau: a chan fod Cyffes yn angenrheidiol er cael y rhyddhaad neu'r Absolutiwn Sacrafennol hwnnw: ac nad oes dim perygl yn yr Eglwys Gatholic o gyhoeddi cyfrinach Cyffes, neu o golli ei barch i'r Penyd-ddyn; Pam nad y­dynt yr holl Sectariaid yn troi yn Ga­tholigion, pe ni bai vn motif arall i'w denu a'i gyrru hwynt i hynny, ond yn vnic er mwyn cael y daioni anfeidrol hwn o ryddhaad a madduant o'i pecho­dau?

A.

Diammeu yw, pettynt hwy yn gwybod hyn oll, yn ei ystyrio yn llwyr, ac yn barod i ymwrthod a phob perthynas neu ewyllys bydol, a doi, (ar yr ystyriaeth hwn yn vnic) y rhan fwyaf o honynt yn Gatholigion. Canys pa gonffordd neu wynfyd mwy [Page 69]a ddichon dyn ei ewyllyssu, na bod mewn ffafor a gras Duw? A pha anni­olchgarwch neu ammharch mwy i Dduw, nac esgeuluso derbyn y dru­garedd, y mae ef yn ei chynnyg mor ddaionus, ac sy mor hawdd ac mor esmwyth i'w chael?

D.

Po sawl gwaith y gall dyn gael ma­ddeaunt o'i bechodau a ddichon ef gael absolutiwn o honynt seithwaith?

A.

Nid yn vnic seithwaith ond saith­ddengwaith: hynny yw, cynnifer gwaith ac y bo'r pechadur edifeiriol, trwy fod yn ddrwg gantho a waelod ei galon ddarfod iddo bechu, gyda bod yn ei fryd, na phecho ef mwy, yn gofyn rhyddhaad a maddeuant o'i bechodau, Os yw Christ yn mynnu cymmaint perffeiddrwydd ynom ni, a maddeu felly i'n cymydog: digon siccr, nad yw ef eihun, yn llai parod i drugarhau: daioni yr hwn sydd an­feidrol a dibaid.

D.

Oni wna'r ddysceidiaeth hon bobl yn ddiofal am ochelyd pechod, o ran eu bod yn gallu cael maddeuant mor hawdd?

A.

Na wna; mwy na'r hyn y mae Duw eihun yn ei ddysgu trwy'r Pro­phwyd Ezechiel c. 18. v. 21. Os gwna'r dyn drwg benyd am ei holl bechodau a wnaeth &c. gan fyw ef y fydd fyw, ac ni fydd ef marw. Ni chofiaf yr anghy­fiawnderau a wnaeth ef, &c. A thra­chefn c. 33. v. 11. Yr wyfi yn byw, medd ein Harglwydd Dduw, Nid wyf fi yn mynnu marwolaeth y drygionus, ond dy­chwelyd o'r dyn drygionus oddiwrth ei ffordd a byw. Ac yn y v. 12. Drygioni y drygddyn ni wna niweid iddo yn y dydd pabynnac a'r ymchwelo oddiwruh ei ddrygioni, &c. Oblegid rhaid i ti gofio fyth, nad yw yn ddigon i'r pechadur gyffessu ei ddrygioni, oni bydd hefyd yn llawn edifeiriol gantho, ddarfod iddo wneuthur y drwg, gyda gwîr fryd na phecho ef fyth mwy. Ac oni bydd gantho yr edifeirwch a'r bryd hwn, er cymmaint y dywedo wrth yr Offeiriad eu bod, ac er cystaled y llafaro'r Offeiriad (gan ei goelio ef) eiriau'r Absolutiwn, etto ni chaiff ef ddim rhyddhaad o'i bechodau, ac ni [Page 71]wna'r gyfryw Gyffes ddim llês iddo ond chwanegu ei ddrygioni ef yn an|'feidrol, a haeddu mwy o lîd a digo­faint Duw.

D.

Oni chafodd rhai faddeuant, y oe­ddent wedi presumo, neu wedi rhyfygu cyn iddynt bechu, y gallent hwy gael gras a maddeuant ar ol eu pe­chod?

A.

Nid hwyrach na chafodd rhai: ond miliwn o rai eraill, sef yr holl e­neidiau sydd yrwön yn Vffern a bre­sumasant yn yr vn modd, ac etto ni chawsant ac ni chant hwy fyth faddeu­ant. Dawn Duw yw gwir edifeirwch. A phwy (pan fo ef yn mynd i bechu yn ddirfawr) a ddichon addaw iddo eihun, a caiff ef râs Duw ar ol y pe­chod? Yrhyfyg neu'r presumptiwn cyffelyb a dwyllodd yr holl eneidiau colledig sydd ynawr ynghanol V­ffern. A pha ddyn a dim synwyr iddo, a dybia y gall ynrau ddiange yn well?

D.

A fydd llawer o'r Catholigion yn arfer cyffessu?

A.

Nid llawer yn vnic, ond mae pob gwir Christion yn rhwymedig i gyffe­llu ei bechodau vnwaith bob blwy­ddyn. Ac mae'r rhan fwyaf o'r rhai rhinweddol, yn arfer cyffessu vnwaith bob mis, rhai eraill vnwaith bob py­thefnos, a llawer o'r rhai duwlolaf vnwaith (neu'n fynychach) bob wyth­nos. Chwi a ellwch weled yn yr E­glwysi Catholic ar amryw Wyliau uchel, vgain neu ddeugain o Offeiri­aid o'r vnwaith yn eistedd o'r neilltu mewn gorseddi wenscoed, igyd oll yn yr vn Eglwys, i wrando Cyffes o'r boreu glas ddydd hyd oni bo hi awr o'r prynhawn, a niferoedd o'r bobl ffyddlon o bob gradd, o bob conditi­wn, o bob oed oc o bob ystlen yn gwascu o'i hamgylch, ac yn ymegnio pwy gyntaf a gaffo ddyfod attynt i gyffessu ei bechodau mwyaf. Ac er bod cywilydd mawr arnynt, (megis y dylai fod) etto o ran eu bod hwy yn gwybod rhwymedigaeth yr Of­feiriad i gelu cyfrinach Cyffes, ac yn ystyrio eu hangenrhaid ysprydol eu­hunain, [Page 73]hwy a gyffessant y cwbl yn rhwydd ac yn wiriongar, megis pettai nêb ond Duw eihûn yn eu gwrando. Lle y mae'n hofflawn, weled nifero­edd o bobl-ieuangc yn dychwelyd o'i Cyffes a'r dagrau yn distyllio hyd eu gruddian, nid o edifeirwch yn vnic, ond hefyd o dra llawenydd en bôd hwynt wedi glanhau en cydwy­bod.

D.

Ond pechaduriaid gorthrwm yw y rheini, y rhai s'yn arfer cyffessu bob wythnos, neu yn fynyahach?

A.

Nag e ddim. Canys mae'n dyby­gol eu bod hwy yn dduwiolaf oll. Er dyall hynny yn well, rhaid i chwi wy­bod, fod dau ryw o bechod, sef Mar­wol a Maddeuol. Pechod matwol yw hwnnw, yr hwn o ran ei drymder sydd yn difeddu'r enaid o râs Duw, yn ei wneuthur ef yn elyn i Dduw, ac yn haeddu cospedigaeth dragywy­ddol yn Vffern. Pechod maddeuol yw hwnnw, yr hwn o ran ei yscafn­der, nid yw yn tynnu grâs Duw oddi­ar yr enaid ond mae ef yn lleibâu ca­riad [Page 74]Duw tuag at y pechadur, ac am­hynny nid haedda ond cospedigaeth amserol, mwy neu lai yn ol maint y pechod. Mae llaweroedd ganhynny yn yr Eglwys Gatholic heb fod yn euog o bechod marwol erioed ar ol eu Bedydd: eraill ni phechasant yn farwol byth ar ol iddynt vnwaith ym­roi i wasanaethu Duw o ddifrif: etto maent hwy beunydd yn cwympo i amryw bechodau maddeuol yn ol fel y mae'n scrifennedic. Mae'r dyn cy­fion yn cwympo seithwaith yn y dydd. Proverb 24.16. Hynny yw, i ryw bechod maddeuol er lleied y fo. Ac o'r tu arall, er bod y dyn cyfion ben­nydd yn gwneuthur cymmaint o wei­thredoedd da trwy weddi, elusen, ympryd, ymarfer dioddefgarwch, ca­riad perffaith, diweirdeb, gostyngei­ddrwydd, &c, ac y bo'r drydedd ran ohonynt yn blaenori ymmhell mewn nifer a maint ei holl bechodau ma­ddeuol ef bob dydd, ac yn fwy na di­gon i ddileu, (trwy drugaredd Dduw) euogrwydd y rheini: etto o ran nad [Page 75]yw hynny yn yspysol iddo ef: Canys mae'n scri [...]ennedic: Ni wyr dyn pa vn ai cariad ai cas y mae ef yn ei haeddu. Eccl. 9.1. A [...] ni âd gostyngeiddrwydd y dyn cyfion iddo brisio neu wneuthur dim cyfrif o'i weithredoedd da eihûn, gan ei fod ef yn cydnabod, nad oes na delot mor gaeth, na chlefyd mor ddirfawr, na phoen mor greulon, nad ydyw'r pechod maddeuol lleiaf yn ei haeddu igyd, fel y mae y Theologi­aeth oll yn dyscu i ni. Heblaw hyn, mae'r dyn cyfion yn caru, ac yn par­chu Duw yn gymmaint, ac y bydd blinach a gwaeth gantho ef am ryw vn pechod maddeuol er lleied y fo, megis tippyn o drawsfeddwl syrn an­ewyllysgar ar ei Weddi, rhyw atteb lled-anhawddgar a roddo ef ar fyr­bwyll, gollwng yn angof dibrisio eihun yn ei feddwl pan fo eraill yn ei ganmol ef, &c. Y cyfryw feiau neu ammherffeithiadau (meddaf) y fydd gwaeth o lawer gan y dyn cyfion, a'r neb sydd yn sanctaidd-eiddigus o an­rhydedd [Page 76]Iladratta, meddwi, celwyddu, &c. gan lawer o'r Christianogion drwg, er eu bod o'r Cred Catholic. O herwydd y rhesymmau hyn, pa gyfiownaf a sancteiddiaf y fo pobl Dduw, myny­chach y dymunant hwy gael rhydd­haad o'i pechodau trwy'r Absolutiwn Sacrafennawl. Oblegid er eu bod hwy yn gwybod y gall gweithredoedd da ddileu pob pechod maddeuol: etto o ran nad ydynt (fel y dywedais) yn prisio dim am eu gweithredoedd da euhun (o'rhai erhynny y gwnant hwy wmbredd beunydd,) hwy a ddymu­nant gyffessu yn fynych.

D.

Pam a dywedwch i fod rhai pecho­dau yn farwol a rhai eraill yn faddeuol? ond yw pob pechod yn farwol i'r Repro­bat, ac nad oes dim ar y wnelo, yn be­chod i'r Etholedig?

A.

Mae'r Carn-Sectairiad yn siccr yn dyscu hynny: ac mae dau brif reswm yn eu gyrru hwynt i ddysgu'r athra­wiaeth Gythreulic honno.

D.

Beth ywy Rhesymmau hynny?

A.

Y cyntaf yw, fel y gallo'r werin [Page 77]anwybodol, a dwyllasant hwy, wrth en gweled hwynt yn gwneuthur llawer o weithredoedd drwg, (oble­gid na fedrasant bod amser ddala eu masg ar eu hwynebau,) trwy gofio y ddysceidiāeth ddamnedig honno, ddeffinio a barnu fod eu Doctorion hwynt o nifer yr Etholedigion, ac fe­lly eu bob hwy byth yn parhau yn gy­fion er cymmaint o bechodau gor­thrwm a wnelant: ac na ddylai neb eu dannod neu'i hedliw hwynt am­hynny, oblegid eu bod hwy byth yn parhau yn Sainct dawnlawn goru­chel.

D.

Beth yw y rheswm arall?

A.

Oblegid with y ddysceidiaeth honno, hwy a allant dynnu lliaws mwy o bobl i'w dilyn. Canys wedi dysgu'r bobl rydd-didgar cnawd­chwantus, fod Duw wedi predestino rhai, ers oes oesoedd i gadwedigaeth dragywyddol, ac wedi repryfio neu adael y llaill i golledigaeth bythol: (heb ddyscu iddynt mai trwy eu gweithredoedd euhun y mae hynny [Page 76] [...] [Page 77] [...] [Page 78]yn bod:) ac ymmhellach na ddanno­dir i'r Predestinad, neu na ddodir ar­no ddim pechod pabynnag ar y wnelo ef: a bod pob peth a wnelo'r Repro­bad yn bechod marwol ac yn digio Duw yn anfeidrol: gan berswadio eu hunain eu bod hwy o nifer y rhai Pre­destinad, hwy a gredant ac a ddily­nant y ddysceidiaeth hon yn ewyllys­gar, o ran ei bod hi yn hoff iawn, ac yn gydnaturiol i'w tuedd drythyll hwynt.

D.

Wrth ba le o'r Scrythur Lan y pro­flr fod rhai yn bechodau maddeuol?

A.

Wrth y lle a çitwydd eisoes allan o'r Proverbiau c. 24. v. 16. Mae'r dyn cyfion yn cwympo seithwaith yn y dydd, &c. Hynny yw, i ryw bechod maddeuol: canys os syrthia ef i bechod marwol, pa fodd a dichon ef barhau yn gyfion? A S. Iacob yn ei Epistol c. 3. v. 2. Mewn llawer o bethau yr ydym bawb yn tramgwyddo. Diammeu yw, fôd yr Apostolion wedi eu ca­darnhâu mewn grâs, pan dderbynnia­sant yr Yspryd Glâ [...], ac oherwydd [Page 79]hynny mewn materion man a ma­ddeuol yn vnic. y tramgwyddasant hwy.

D.

Dywedwch i mi yrwon, beth yw Iawnwaith neu satisfactiwn, yr hwn yw'r drydedd ran o Sacrafen Penyd?

A.

Penyd Sacrafennawl ydyw, o Weddiau, o Ympryd, o Elusenneu o ryw weithredoedd da eraill, a roddo yr Offeiriad ar y pechadur i'w chy­flawni.

D.

Oni ryddhawyd ei holl bechodau iddo trwy'r Sacrafen? pam ganhynny y mae'n rhaid iddo benydio hefyd?

A.

Oblegid, er darfod iddo gael maddeuant o'i bechodau, etto oni bydd contritiwn gantho, hynny yw, llwyr edifeirwch o dra cariad ar Dduw, a chystudd calon am ei ddigio ef, (o'r hyn beth nid yw'r pechadur eihûn, na'r Offeiriad yn yspyslawn, oddieithr yn anfynych iawn) mae'n rhaid iddo ddioddef cospedigaeth amserol: ac i ddilêu honno, y mae'r Offeiriad, trwy el awdurdod o rydd­hau neu o attal, fel y gwelo ef fod [Page 80]yn, gyfaddas mewn pwylled a chyfi­awnder yn gosod arno benyd iachus­lawn a llesfawr.

D.

Pa fodd y profir o'r Scrythur Lan, fod y gospedigaeth y ddylasai fod yn dragywyddol, pan ryddheir y pechod, wedi ei newid i gospedigaeth amserol yn vnic? neu fod rhan o honi hi yn ol, wedi rhyddhau'r pechod?

A.

Yr ydym yn darllain yn y Pen. 12. v. 13, 14. o ail Lyfr y Bren. Ddar­fod i Dduw, wedi maddeu y pecho­dau o Odineb a M [...]rdwrn i Ddafydd, ei gospi ef erhynny a cholledigaeth o'i ddynbach, perhon a darfod iddo weddio yn daer am fywyd y plentyn Ein Harglwydd (ebyr y Prophwyd Nathan wrtho) a dynnodd ymmaith dy bechod, ond dy fab y fydd farw. A­dam hefyd a yrrwyd allan o'r Para­dwys daearol tros fyth, wedi maddeu ei bechod iddo: ac a'i gwnaed ef a' [...] holl eppil yn gaeth i lawer o flinderau a gofidiau tra fyddont yn byw ar y ddaer.

Directiwn a Modd i'r sawl s'yn euogo bechodau marwol a gorthrwm i holi eu Cyd­wydod a gwneuthur Cyffes dda. Auct. P. C. B. S. I.

MAe Cyffes General sef Hollawl neu o ran fawr, neu o'r rhan waethaf o fuchedd dyn, yn diogelu ei iachawdwriaeth ef yn fawr, yn llonyddu ei feddwl, ac yn calonni dyn o ddifrif i geisio byw yn well.

Rhybyddion o flaen Cyffes.

1. TRos ennyd o amser, megis o amgylch Mîs, offrwm dy We­ddiau oll, a'th Elusennau, a'th weith­redoedd da eraill i gael goleuni a gras gan Dduw i gyflawni'r cwbl yn dda, a thros yr amser hwnnw gweddia yn daer am gyfrwng Mair forwyn fendigedig, a S. Mari Magdalen.

2. Rhanna dy fuchedd yn ddwy, tair, neu bedair rhan, megis yr amser y buost yn sengl, a'r amser yn briod: neu'r amser a dreuliaist gyda'th Dad a'th Fam, a'r amser y buost oddiwr­thynt: amser priodas, ac amser gwe­ddwdod, a'r cyffelyb; yna hola bob tro o'th fywyd wrth bob pwnc o'r Daflan isod: gan ymaros yn hwy ar y pynciau yn yr rhai yr wyt yn ofni i [...]i ddigio Duw fwyaf.

Ar bob pwnc meddwl pa sawl gwai [...]h by pechaist ynddo: ac oni fedri [Page 83]gofio nifer yr amseroedd, meddwl pa sawl gwaith yn fwy neu lai: onis galli hynny: hola pa hyd y parheaist yn y pechod hwnnw: ac os cwym­paist iddo ar bob arfod neu occasiwn, meddwl pa sawl gwaith y byddai'r arfodau hynny yn digwydd, wrth fesur y dydd, yr wythnos, neu'r mîs.

Rhybyddion wrth gyffesu.

VVEdi dewis Confessariws dvwiol cyfarwydd, cyffesa dy bechodau a'i nifer, Ar fyrr eiriau heb fwy nac y fo rhaid; Yn eglur, ag adrodd sympl gweddaidd, yspyslawn: Yn hollawl, heb gelu dim yn wybodol, na lleihau vn pechod ar wyt yn am­meu ei fod yn farwol.

Taflan o bechodau marwol a gorthrwm.

PEchod Marwol yw meddwl, gair, neu weithred o wîr fodd yn erbyn Cyfraith Dduw neu ei Lan-Eglwys [Page 84]ef, neu yn erbyn rhyw rinwedd neill­tuol mewn rhyw fatter mawr.

Meddwl, dywedyd, neu wneu­thur rhyw ddrwg o wîr fôdd, yn wy­bodol, yn yspyslawn, neu yn ewyll­ysgar (yr rhai igyd ydynt yr un peth) yw meddwl, dywedyd, neu yn wneu­thur rhyw ddrwg pan y bo dyn yn gweled ac yn gwybod ar y tro hwnnw, ei fôd ef yn gwneuthur drwg.

Yn erbyn y Gorchymmyn cyntaf.

BYw allan o'r Eglwys Gatholic yn gyndyn o gariad ar ryw beth bydol darfodedig.

Cablu, erlid, neu ddirmygu y bobl, yr Eglwys, y Doctorion, neu'r A­ddysc Catholic, neu beth bynnac arall Sacraidd, megis y Creirian, y Relic­ciau, y Lluniau Sanctaidd a'r cy­ffelyb

Gwadu ei fod yn Gatholic, neu wneuthur arwydd ar air neu weithred i ddangos nad ydyw felly.

Ammeu yn ewyllysgar rhyw bwnc o'r Ffydd Gatholic.

Ewyllysu, cynghori, neu fod yn foddlon i ryw vn o'r sawl sy'n per­thynu iddo ef, fyw allan o'r Eglwys Gatholic.

Bôd heb wneuthur ei oreu o droi i'r Ffydd Gatholic y sawl a allassai ef yn hawdd, pettassai ef yn ewyllysu hynny,

Dibrisio dyscu y Gweddiau cyffre­din a Dirgeleddion pennaf y Ffydd Gristianogol.

Mynd at Swyn-wragedd, Witsys, neu ddewinion i gael cyngor: neu be­ri, neu gyfarwyddo eraill i fynd: neu ymarfer eihûn ryw Witsgreft neu Of­ergoel.

Credu mewn breuddwydiau, gan drefnu ei weithredoedd yn ol y gre­duniaeth honno.

Pechu rrwy hyder neu bresympti­on ar drugarebd Duw.

Annobeithio bod yn abl o wellhau ei fuchedd, neu o gael maddeuant am ei bechodau.

Murmuro yn erbyn Duw neu ei Ragluniaeth ef.

Ymddifyrru yn, bostio neu ymglod­fori am ryw bechod a wnaeth ef ryw amser.

Anghynghori nêb vn rhag entrio i fuchedd Grefyddol.

Yn erbyn yr ail Orchymyn.

CAblu Duw neu'r Seinctiau Ne­fawl ar air, neu lafar.

Tyngu eihun, neu beri i eraill dyn­gu yn gyhoedd, neu yn ddirgel rhyw anudon nen gelwydd, neu'r peth a wyddai ef, neu'r hyn yr oedd yn am­meu ei fod yn anwir.

Bod arfer gantho o dyngu llwau anghynefin mowrion yn ymryfysg, ar fyrbwyll, neu drwy ddigter, neu o wîr fodd, a pha hyd y parhaodd yn yr arfer hwnnw.

Bod arfer o dyngu llwau mawr neu fân heb geisio ymwrthod a hynny: neu o wag-falchder

Addaw peth da tan lw heb ewyllys o'i gyflawni: neu dorri'r addewid a wnaed.

Tyngu a gwnai ef ryw bechod, neu na wnai ryw beth da, a chyflawni'r llw hwnnw.

Tyngu a gwnai ryw beth da, ac wedi hynny peidio a'i wneuthur, neu ei oedi yn hîr.

Gwneuthur adduned heb bwrpas o'i gyflawni.

Tyngu a gwnai dda neu ddrwg i ryw bwryas drwg, neu nas gwnai dda i ryw bwrpas da.

Yn erbyn y trydydd Gorchymyn.

GWneuthur ar ddiwrnod-gwyl gorchymmynedig, neu ar yr hwn yr oedd ef yn tybied ei fod yn orchymynedig rhyw waith y mae'r E­glwys yn ei wahardd: nen beri hynny i eraill.

Esgeuluso eihun wrando'r Offeren ar y cyfryw ddydd, neu beri hynny i eraill: neu fod yn anofalus am beri [Page 88]i'r sawl y fo tan ei lywodraeth ef wrando'r Offeren.

Diofalu am beri i'rheini fynd i'w Cyffes vnwaith bob blwyddyn o'r hyn lleiaf.

Cyffessu ar ol ennyd hir o amser heb holi ei gydwybod yn ddyfal: neu heb bwrpas o ymgadw rhag rhyw be­chod marwol, neu'i achosion.

Celu yn ei gyffes, o ofn neu o gy­wilydd, rhyw bechod marwol, a pha hyd o amser y celodd hynny: Bydded siwr o ddywedyd hynny yn nechreu ei gyffes.

Esgeuluso cyflawni y penydiau a ddodwyd oruo mewn cyffes o'r blaen, neu esgeuluso'r Restitwtiw­nau, &c.

Esgeuluso cymmuno amser Pasch.

Cymmuno yn euog-wybodol o bechod marwol.

Torri ei ympryd ar ddiwrnod caeth, neu beri hynny i eraill.

Esgeuluso dywedyd yr Offis Dduwfawl ac yntau yn rhwymedig i hynny.

Meddwi, neu fwytta gormod, neu beri hynny i eraill.

Yr erbyn y pedwerydd Gorchymyn.

Bod cywilydd arno gydnabod ei dâd, neu'i fam o dra balchder.

Eu gwatwor hwynt, neu ddywedyd geiriau dibris wrthynt.

Bod yn anufydd iddynt mewn rhyw fatter pwysfawr nodedig: neu wneuthur peth o bwrpas i'w di­gio hwynt: eu rhegi, neu'i taro hwynt.

Peidio a'i helpu hwynt yn eu an­genrheidiau corphorol neu ysprydol yn ol ei allu.

Dymuno eu marwolaeth i gael eu meddiant hwynt.

Esgeuluso yn fawr, neu beidio yn hollawl cyflawni eu Llythyr-Cym­mun hwynt.

Amharchu, dibrisio, neu fod o was neu forwyn yn anufydd neu yn an­ffyddlon i'w meistr, neu i'w meistres mewn peth nodedig.

Bod o dad, neu fam yn anofalus am ddwyn en plant i fynnu, a'i magu yn y Ffydd Catholic: neu o'i cospi hwynt pan font ar fai: neu o beri dys­cu iddynt eu Gweddiau, a Dirgel­eddion pennaf y Ffydd Gristiano­gawl.

Rhegi eu plant neu'i gweinido­gion.

Bod yn rhy ffyrnig wrthynt, neu heb roi cynhaliaeth ac ymgeledd gweddaidd iddynt yn ol eu stât, nes felly peri iddynt ddilyn drwg fu­chedd.

Gwneuthur yr vn peth o bennaeth­ty i'w weinidogion.

Cospi ei blant neu'i weinidogion yn rhy ffyrnig neu yn anrhesym­mol.

Bod yn greulon, neu yn annhruga­rog wrth y tlodion.

Yn erbyn y pummed Gorchymyn.

BOd mewn configen a malais at eraill.

Dymuno marwolaeth i eraill, neu ryw ddrwg mawr o enaid, corph, parch, cyfrif, anrhydedd neu dda by­dol.

Digio yn ffyrnig, neu fod ewyllys gantho i ddial trwy ddrwg mawr.

Taro eraill ag ewyllys o wneuthur drwg nodedig iddynt.

Briwo nen glwyfo yn fawr, neu ladd yn anghyfreithlon, neu beri, neu fod yn fodlon i eraill wneuthur hyn­ny.

Llestair neu rwystro ymddwys, colli'r baich neu ddistrywio'r ffrwyth o wîr fodd: neu amcanu hynny.

Pallu gofyn maddeuant gan y nêb a ddigiodd ef.

Pallu maddeu, neu gymmodloni a'r nêb a ddigiodd ef.

Neccaû siarad neu chweddlua ag eraill o dra digter a llid,

Amcanu colli eihunan o wîr fodd, neu ddymuno o dra digofaint ei far­wolaeth eihún.

Rhegi eihun, neu eraill bid byw, bid meirw.

Gwneuthur amryson neu anghy­tundeb rhwng eraill.

Tristhâu am y da, neu lawenychu am y drwg a ddigwydd i eraill.

Canmol eraill am eu pechod, neu'i drygioni.

Bod yn achos trwy Sampl neu gyngor drwg i eraill o adael rhyw waith da: neu wrth eu twyso hwynt i bechod, neu wneuthur iddynt bar­hau ynddo.

Peidio cynghori rhyw vn rhag pechu, pan yr oedd yn dybygol, y gallasai lestair ei bechod ef trwy'r cy­fryw gyngor.

Yn erbyn y chweched a'r naw­fed Gorchymyn.

YMaros o wîr fodd, neu yn ewyl­lysgar, ac ymddifyrru eihûn me­wn weddyliau anllad, cnawdol neu aniwair.

Dymuno o wîr fodd cyflawni'r pe­chod cnawdol: a rhaid yspysu yn ei gyffes rhyw a chonditiwn y neb gyda'r hwn, neu'r hon a dym­nodd bechu, a'r modd o bechu.

Dywedyd geiriau o bwrpas i gym­mel eraill i bechu: neu wrando yn ewyllysgar ymadroddion anniwair, drythyll.

Gosod eihûn, neu ymaros mewn perygl o bechu.

Darllain, canu neu scrifennu adro­ddion anllad drythyll.

Cussanu, neu ymgofleidio aniwair anonest.

Dangos rhyw fan o'r corph yn noeth, paentio, ymdrwsio, danfon rhoddion, neu wneuthur dim arall [Page 94]o bwrpas i gymmell eraill i be­chu.

Teimlo, cyff [...]oi, neu edrych ar ei go [...]ph eihûn, neu gorph vn erall yn anniwair.

Peri polwtiwn, neu fudreddi anni­wair trwy'r cyfryw foddion o hono eihûn neu o vn arall neu wneuthur a­chos i'r cyfriw aflendid ddigwydd trwy gwsg: neu ymddifyrru ei­hunan trwy feddwl am hynny wedi deffro.

Gwrthod talu dyled priodas san­ctaidd pan fo'r priod-gyfaill yn gofyn yn weddaidd-gyfreithlon, neu yn mynnu.

Colli'r ffrwyth yn yr achos cnawdol, o wir fodd i geisio rhwystro ymddwyn a beichiogi.

Pob math neu ryw o'r pechod cnawdol, a rhaid yspysu yn y gyffes ai trwy fodd annaturiol y bu hynny gyda dyn o'r vn sex neu ystlen, neu gydag vn o'r ystlen arall: neu gyda hyw greadur arall: ac os yn y modd naturiol y bu, rhaid dywedyd ai gy­dag [Page 95]vn yn briod ag vn arall. neu gydag vn sengl: ai trwy d [...]ais, neu wrth fodd: ai gydag vn mewn graddau Cy­ssegredig, neu vn o Grefydd: neu gydag vn a wnaethai adduned i Dduw o'i ddiweirdeb. Ac os oedd carenydd neu gyfathrach rhyngthynt, rhaid yspysu'r Gradd, sef, ai yn y Gradd cyntaf, neu yn yr ail, neu yn y trydydd, neu yn y pedwe­rydd.

Yr wyf fi yn cofio, a chyn fyny­ched ac yr wyf yn cofio, yr wyf yn dychrynnu o dra ofn ac arswyd, am yr hyn a glywais gan fy Athro gynt: Bwriwn fod cant o ddynion ieuengc (yn credu yn iawn, neu o'r wir ffydd) wedi eu condemnio i'r tan Vffernol, e mae'n brofadwy fod pedwar vgain a phedwar ar bymtheg o'r Cant hynny wedi eu colli oblegid y pechod Cnawdol, a'r Canfed ysgatfydd wedi ei golli am ryw bechod mawr arall. Hier. Drexellius in suo Niceta. l. 1. c. 11.

Yr Achos o'r Drwg melltigedic hwn a eill fod, oblegid nad ydynt hwy yn cyffessu megis y dylent, ond trwy fod yn ddiofal am ddechreuadau y pechod hwn, ac am beth o'r hyn a wnelo dyn wrtho eihun ar feddwl­neu weithred, gan farnu ynddynt eu­hun nas gall y rheini fod ond beiau bychain, diffrwyth a maddeuol (er eu bod yn orthrwm ac yn ffi [...]idd ger bron Duw) trwy gywilydd a balch­der celu y rheini mewn Cyffes, yna bod heb Râs Duw a'r cynghorion lles­fawr ac angenrheidiol a gowsid trwy'r Sacrafen iw gochelyd hwynt: hyd gan hirbarâu a gwrthwynebu beunydd yr ymgymmell Duwfawl oddimewn i­ddynt, ymgaledu a dallu yn y pechod ac felly o r [...]llwedd suddo yn hollawl i'r Melltithion a'r Golledigaeth a be­ry byth.

Taflan o'r Graddau Carennydd a Chy­fathrach sy'n chwanegu pob pechod cnawdol yn ol fal y bo'r gradd yn nes yn rhwystro priodi: ac yn diddym­mu, sef yn dimhau yn hollawl y briodas a ammodwyd sef a wnaed­oddieithr cael Dispensatiwn gan y Prelad Eglwysig cyfreithlon.

gradd 1 Yn y Gradd cyntaf y mae,

1. Tad a mam, brodyr a chwio­rydd.

gradd 2 Yn yr ail y mae.

2. Wyrion, a phlant brodyr a chwiorydd.

gradd 3 Yn y trydydd y mae.

3. Gorwyrion, ac wyrion brodyr a chwiorydd.

gradd 4 Yn y pedwerydd y mae.

4. Plant y gorwyrion, a gorwyri­on brodyr a chwiorydd.

Yn yr vn gradd o Gyfathrach y mae yob vn a briododd vn o'rhain.

Nota, nad â dyn fyth allan o ga­rennydd y sawl o gorph yr hwn neu'r hon yr aeth ef ymmaes.

Nota ailwaith, wrth ddywedyd, fod plant Brodyr a Chywiorydd yn geraint yn yr ail râdd, mae'r ystyr yw, fod Ewythredd a Modrabedd yn yr vn Gradd o Garennydd iw Neient a'i Nithoedd sef Plant eu Brodyr a'i Chwiorydd ac y mae Cefnderoed a Chefnitheroedd iw gilydd: ac felly hefyd yn y Graddau eraill.

Yn erbyn y seithfed a'r degfed Gorchymyn.

CYmmeryd y peth oedd o eiddo nen yn perthyn i vn arall bid trwy ladrad dirgel, bid trwy drais cyho­edd

Lladratta rhyw beth cysegredic, [...]eu o le cysegredig.

Cadw'r hyn sydd eiddo vnarall, yn erbyn ewyllys y perchennog.

Bod heb dalu ei ddyled, a'r per­then-dled yn dioddef colled, ac yn­au yn abl i dalu.

Treulio mwy nag sydd anghenrhaid, [...]c yntau mewn dyled: neu heb o­ [...]wng ei ystad-ymgynnal i allu talu [...]i ddlêd.

Twyllo wrth brynnu neu wrth wer­ [...]hu yn y war, yn y pris, y pwys neu'r [...]esur.

Prynnu gan y sawl na allant wer­ [...]hu, fel plant tan oedran.

Prynnu'r peth a wyddai ef, neu'r yn yr oedd yn ammeu ei fôd wedi ei [...]adratta: neu fwytta'r peth cyffelyb [...]n wybodol.

[...]adw neu gelu y peth a gollwyd [...]c yntau yn gwybod y perchen.

Gwerthu yn ddruttach, neu brynnu [...]n rhattach na'r pris cyfreithlon ar ddewid, neu grêd.

Bod gantho feddwl ystyr-lawn o gymmeryd, neu o gadw'r peth sydd eiddo vn arall pe gallai: neu'r cyfryw ewyllys o chwanegu ei gyfoeth trwy gam neu iawn.

Bôd yn occrwr trwy gymmeryd llôg anghyfreithlon, neu entriö i gyfeillach o farsiandwriaeth anghy­fion.

Bôd yn anffyddlon yn ei waith neu yn ei swydd, ac yntau y [...] cael cyflog, neu'n cael ei gynhali­aeth.

Twyllo gweinidogion o'i cyflog neu oedi ei thalu.

Codi, neu ddilyn cwyn anghyfrei­thlon, nen wneuthur twyll yn yr ho [...] sy gyfiawn.

Ynnill wrth chwareu trwy dwyl [...] neu ddichell; neu ynnill peth node­dig gan y sawl na allant arallu, megis gan blant tan oedran.

Gwneuthur Simoniaeth, sef cym­meryd neu roi gwobr neu werth am ryw beth cysegredig.

Cael trwy foddion anghyfreithlon, neu gam infformatiwn rhyw beth nad oedd yn ddyledus iddo: neu rwystro eraill yn anghyfiawn rhag cael rhyw lês neu gymmwynas.

Cydweithio a neb, trwy fodd pa­bynnac i ddwyn cyfiawnder vnarall: neu (pan oedd yn gallu ac yn rhwy­medig i hynny) peidio a llestair, neu gyhoeddi rhyw ladrad neu anghyfi­awnder.

Bôd mewn gormod cost o'i ddillad o'i gynheliaeth, o'i draul, neu o'i wa­geddau eraill anaddas iw stâd, a'i fu­chedd.

erbyn yr wythfed Gorchymmyn.

DWyn cam destiolaeth yn ethyn ei gymydog, neu dwyso a denu eraill i'r cyfryw beth.

Dywedyd celwydd ar gam, neu golled nodedig i eraill.

Goganu, enllibio, slandrio, neu roi drwg absen ar vnarall, gan ddodi [Page 102]beiau ffeilsion arro: neu wrth ddiar­geln, neu gyhoeddi rhyw becho [...] mawr dirgel, neu ryw gyfri­nach.

Murmûro, ma [...]son, a gryngian mewn matterion gorthrwm yn erbyn buchedd, neu ymddygiad vnarall, yn enwedig os vn yw mewn Qwaliti, megis Prelad, Pennaeth, Crefyddwr, Iustus, neu'r cyffelyb.

Diargelu neu gyhoeddi trwy gam neu golled fawr i vnarall rhyw gyfri­nach a ymddiriedwyd ynddo am e­chelu, neu a welodd, neu a glywodd pa fodd bynnag.

Helaethu neu chwanegu beiau rhai eraill, yn rhyw fatter pwys­fawr.

Gwrando yn ewyllysgar ar vnarall yn murmuro, yn grwgnach; neu yn goganu eraill.

Agoryd llythyrau rhai eraill i gael gwybod eu cyfrinach neu i wneuthur drwg arall iddynt.

Tybied yn ddrwg am eraill o ran eu geiriau, neu'i gwithredo [...]dd, gan [Page 103]farnu yn ei galon eu bod hwynt yn e­uog o ryw bechod marwol, hebddim lliw am hynny.

Gadael rhyw addewid nodedig h [...] ei gyflawni, ar gam neu golled mawr i vnarall.

Gwadu'r gwir a fo vn yspyslawn iddo.

Heb law hyn oll, y neb sydd gan­tho ryw swydd, Gradd, Crefr, neu Cynhaliaeth, megis Meddig, Cyfrei­thiwr, Marsiandwr, Porthmon, &c. holed ei gydwybod ar y pechodau a'r camweddau digwyddol iw alwedi­gaeth.

Rhaid i ti ddywedyd yn dy Gyffes pa sawl gwaith a cwympaist i bob pe­chod o'rhwn yr wyt yn euog; ac o­nid wyt yn medru cofio hynny, dy­waid fwy neu lai, nessaf y galli ar amcan: neu pa hyd a pa [...]heaist yn y cyflwr neu'r stâd pechadurus hwnnw, trwy fod yn barod i bechu felly, pan, fyddai'r lle a'r amser yn gwasanaethua [Page 104]a hynny yn ol mesur yr wythnos, y mis, y flwyddyn.

Yn bendifaddeu na ollwng tros gôl, na thâl y Gyffes honno ddim yn yr hon y gadewi allan yn wybodol rhyw bechod marwol, neu'r hwn y wyt yn ammeu neu'n dowtio ei fod yn farwol, ac yn yspys gennyt na chy­ffesaist ef erioed; canys ni chei trwy'r Gyffes honno na grâs, na maddeuant er cymmaint a weddio'r Offeiriad trosot, ac er cystaled y dywedo ef yr Absolwtiwn arnat. Ond yn lle grâs di haeddi ddau cymmaint o ddigo­faint y Goruchaf a'i ddial, trwy dy be­chod gorthrwm o falchder, ac o ddy­wedyd celwydd Sacrilegaidd wrth Dduw yn bennaf.

Am Faint a Gorthrymder an­feidrol Pechod Marwol, yn enwedic Sectariaeth.

Discybl.

PA vn o'r Pechodau Mar­wol hyn yw'r lleiaf?

Athro.

Nid oes vn Pechod Mar­wol yn fychan.

D.

Paham hynny?

A.

Oblegid fod pob Pechod Mar­wol yn dorriad ystyrlawn ac o wîr fod rhyw vn o Orchymmynion Duw Hollalluog: yn droad oddiwrtho ef, ac yn ymlyniad wrth ryw Greadur, megis anrhydedd, cyfoeth, difyrrwch cnawdol, &c: yn wneuthur mwy am ryw Wagedd bydol nac am garu a bod yn vfudd iddo ef. Ac amhunny Dirmyg ydyw, a Diystyrwch anfei­drol o'r Mawredd Duwfawl, y Brâd pennaf neu'r Treson goruchaf yn er­byn Duw, ac yn ei anfodloni ef yn [Page 106]gymmaint a phe bai'r pechadur yn poeri ar ei Wyneb Duwfawl ef. Ca­nys mae S. Paul yn dywedyd yn e­glur: Fod y pechadur yn sathru Mab Duw tan ei draed, ac nad yw ef yn gwneuthur dim cyfrif o'r gwaed ben­digedic a'r hwn y sancteiddiwyd ef. Heb. 10. v. 29. A bod yr vn pechadur yn croeshoelio iddo eihun Mab Duw drachefn ibid c. 6. v. 6. Wrth yr hyn y gwelir fod Pechod Marwol (hynny yw pechod yn lladd yr enaid) yn Ddrwg anfeidrol, ac yn haeddu cos­pedigaeth dost annhraethadwy tros fyth.

D.

Ond ydyw yn erbyn Daioni Duw, Cospi a phoenau erchyll anfeidrol ei greadur truan eihun?

A.

Nac ydyw ddim. Oblegid fod Duw wedi dangos ei Ddaioni anfei­drol i ddyn gan; Ddarfod iddo ef greu dyn o Ddim, a'i wneuthur ef yn abl i fod yn gydymmaith i'r Angeli­on bendigedic, yn Etifedd [...]eyrnas y Nef, [...] Mâb dewis i Dduw, i feddian­ [...] G [...]y [...]yd tragywyddol ac [...]n­rhaethadwy [Page 107]gydag ef yn y Paradwys Nefol: am hyn igyd heb fynnu dim gan ddyn▪ ond yn vnic tra barhao pe­rerindod byrr y Byd hwn, wasanae­thu o hono ei Greawdwr a bod yn u­fydd iddo ef, gan ei garu ef yn fwy na'r Byd, y Cnawd a'r Cythraul. Nid ydyw Duw yn gorchymmyn dim ca­led, anhawdd, neu ammhosibl i ddyn megis hedeg yn yr awyr, cerdded ar hyd y mor, &c, nac ydyw ddim: ond yn vnic yr hyn a eill dyn ei wneu­thur yn hawdd; sef ei garn a'i wasana­ethu ef. Mae Duw yn canniadu i ddyn gymmeryd yn y byd hwn, gym­maint o anrhydedd, o gyfoeth, ac o ddifyriwch ac a fynno, tra nas cym­mero hynny, wrth fod yn anufydd iddo ef. Ac onis gwna dyn beth mor hawdd a bychan: ond yn y gwr [...]h­wyneb trwy ddirmyg annthaethadwy dibrisio, a diys [...]yru Duw mor ddaio­nus, pa [...]yfedd y cysp ef y dyn hwnnw yn dragywyddol?

D.

Ond peth creulon ac anghyfion, yw cosp [...] r pechod yn dragywydd, yr hwn [Page 108](ysgatfydd) ni pharhaodd hwy nac vn awr?

A.

Nac e ddim: Oblegid fod Mawredd Duw, yr hwn a ddigir trwy'r pedhod, o Ardderchogrwydd a Braint anfeidrol: a bod malais neu yscelerder y pechod yn Ddrwg tragy­wyddol. Canys mae'r pechadur yn gwybod ymmlaen llaw, trwy oleuni naill ai Natur ai Gras, fod Duw wedi gwahardd iddo ef y peth a'r peth: ac os gwna ef hynny, y caiff ef ei gospi yn Dragywyddol: ac etto er hynny, fe a wna y peth hwnnw o'i wir fodd ac yn ystyrlawn yngwydd a gwybodaeth y Duw Mawr: gan geisio perswadio eihûn, nad yw Duw wedi gwahardd y peth mor ddirfawr; neu os yw hyn­ny yn bod, o'r hyn lleiaf a caiff ef ddigon o amser wedi hynny i edifar­hau am y pechod. Yr hyn bwnc o e­difarhau, byth nis bwriadai ef ei wneuthur, pettai ef yn gwybod nas gallai Duw ei gospi ef. Ac amhynny mae Malais ei ewyllys ef, yn Ddry­gedd a Malais tragywyddol, ac yn [Page 109]ganlynol yn haeddu cospedigaeth a dial Tragywyddol.

D.

Er bod Pechod Marwol yn hae­ddu cospedigaeth dragywyddol, oni eill fod, na chysp Duw y pechod mor greulon a hynny?

A.

Na eill ddim. Oblegid lle y mae cymmaint Daioni wedi ei gyn­nyg, ac heb fod yn wiw gan y pecha­dur ei dderbyn ef: ond yn y gwrth­wyneb dirmygu a diystyru morddir­fawr cymmaint Cymmwynaswr: mae'n rhaid i Gyfiawnder gymmeryd ei le; mae'n rhaid i Ordinhadau cy­fion tragywyddol y Mowredd goru­chaf gael eu cyflawni, Yn y dydd pa­bynnac y bwyteych o'r ffrwyth gwahar­ddedic, gan farw ti y fyddi farw. Gen. 2, 17. Pwybynnac a bechodd i'm her­byn, hwnnw a ddileuaf o'm llyfr. Ex. 32.33. Ni chaiff yr anghyfion etifeddu teyrnas Dduw. 1 Cor. 6.9. Mae'n rhaid yntau iddo ef farw yn Dragy­wyddol, yr hwn a wnelo bechod Marwol. Hawdd i ni feddwl, nad oedd y difyrrwch a gymmerodd Adam [Page 110]wrth fwytta'r Afal gwaharddedic, yn fawr iawn, a darfod iddo fflat [...]u ei­hunan gan ddywedyd; Os bwy [...]taf yr Afal hwn, yn ddiau ni chysp Duw fi mor greulon ac y mae ef wedi byg­wth: pa gam mawr a wnaf iddo ef wrth hynny? Ond oes cant mwy o'r vnthyw Afalau ar y pren hwn? Oni all ef greu mil o'r vnrhyw brenniau? A llawer mwy o resymmau tegaidd fel y rhain (yngwrthwyneb i Orchym­myn eglur Duw) ary rhai gan hyderu a rhoi ei oglud, fe a bechodd gan dorri'r Gorchymmyn. Ac yn ddioed fe a ganfu eihûn yn Greadur damnedic yn Euog o lid a digofaint Duw yn dragywyddol. Ac er cael o hono ef y drugaredd, o gael amser i edifarhau, eito fe a orfu arno wneuthur penyd ymma ar y ddaear, mewn poenau am­ryw, dirfawr ofnau a doluriau, tros yspaid mwy na naw cant o flynydd­oedd, ac wedi hynny igyd trwy ddio­def gwahanu ei enaid oddiwrth y corph marw, a chaei troi ei gorph yn lludw brwnt: a'i holl eppil ddamne­dig [Page 111]a d [...]ochwyd igyd yn yr vn trallo­dau, y [...] gymmaint ac nad yw'r holl lafuriau, yr holl ddialedd, yr holl boenau, a'r clefefydon, a'r o [...]nau, a'r haint y nodau, a'r cywynnau, a'r bra­dau, a'r rebeliwnau, a'r rhyfeloedd, a'r colled gwaed, a'r marwolaethau, a'r Sectau, a'r Heresiau, a'r pechodau, a'r damnedigaethau, a'r tormentau Vffernol, &c. y rhai a ddigwydda­sant ar ol hynny i'r Genhedlaeth ddynol, ond cospedigaeth gyfion am yr vn pechod hwnnw: ac oni buasai i Dduw eihunan ddyfod o'r Nef i wa­red ymma, a chymmeryd arno ein trueni ni oll, (onid pechod) i wneu­thur cyflawn iawn am y pechod hwnnw, ni chawsai nac Adam eihûn nac vn o'i Hiliogaeth Ddamnedic ef byth weled wyneb D [...]w yn y Gwyn fyd Nefol: ond hwy a gowsent ol (wedi myned trwy amryw gyfeiliornau a doluriau yn y bywvd hwn,) e [...] trochi yngnanol poenau annraethadwy y Tan Vffernol, gyda'r Angelio Repryfedic dros holl Dragywyddoldeb, [Page 112]hynny yw, tra y bo Duw yn Dduw. Er nad oedd y pechod hwnnw yntau, ond bwytta vn tammaid o A­fal gwaharddedic, etto ni ellir dywe­dyd ei fod ef yn fychan, gan weled y Gospedigaeth amdano mor ddirfawr drom, Ac etto os ystyriwn ni y cwbl yn llwyr, hawdd yw, i ddyn fe­ddwl, fod pechod Adam yn llai nac vn pechod marwol ar a wnaed arôl hynny. Oblegid beth a welir yn llai, na bwytta vn tammaid o Afal? Am­hynny gan ddarfod cospi pechod a welir mor fychan a chospedigaethau mor anfeidrol. Beth sy raid i'r pechadur ei ddisgwyl, yr hwn a wnaeth amryw o anwireddau gor­thrwm, ac a'i hadnewyddodd hwynt eilwaith ac eilwaith?

D.

Yr wyfi igyd yn dychrynnu wrth y styried Cyfiawnder Duw, gyda'm hae­ddedigaethau fyhun: ond ni fedraf ber­swadio fyhun fod Sectariaeth yn bechod mawr, beth meddwch chwi?

A.

Yn siccr, mae Duw eihun trwy enau'r Apostol yn dywedyd: Fod y [Page 113]sawl sy'n Hereticiaid, neu'n Sectariaid wedi eu subvertu neu'i gwyrdroi, ac yn pechu ac yn da [...]nio euhunain Tit. 3.11, Ac na chant y sawl sy'n pechu felly feddianeu teyrnas Dduw. Gal. 5.21. Ac mae rheswn eihûn yn dangos fod Se­ctariaeth yn vn o'r pechodau gor­thrymmaf ac a wneir yn erbyn y Mawredd Duwfawl. Canys o her­wydd fod y Sectarian wedi neilituo eihûn oddiwrth wir Eglwys Dduw, ar yr hon y mae Christ yn Ben: ac o herwydd ei fod ef yn anufydd i'r vn Eglwys, am yr hon y dywedodd Christ: Y neb ni wrendy yr Eglwys, bydded i ti megis yr Ethnie a'r Publi­can. Math. 18.17. (Ethnic yw'r hwn sy'n addoli ac yn credu yn y Duwiau ffeilsion, Publican yw'r hwn ni wna ddim pris nac o Dduw nac o Ddiawl, ond byw megis anifail, fel pe ni bai vn Duw i gospi'r drwg nac i obrwyo'r da;) ac o herwydd fod yr vn Sectari­an yn credu yn gyndyn rhyw Athra­wiaethau yn y gwrthwyneb i'r hyn a ddysc yr Eglwys Lân (yr hon yn ol [Page 114]addewid Christ sydd a'r Yspryd Glan ganthi i'w chyfarwydde hi i bob gwirio­nedd. Jo. 16.13. ac i arhos gyda hi yn dragywyddol 10.13.16.) Oherwydd y pethau hyn (meddaf) mae'n rhaid i'r sectarian fôd mewn Anffyddlon­deb, mewn Anufydd-dod, ac mewn Rebeliwn yn erbyn Duw. Ac felly mewn modd gorthrwm anfeidrol, mae ef yn torri y Cyntaf a'r. Pennaf o'r Deg. Gorchymmynion, yr hwn sydd am anrhydeddu Duw. Heb law hynny, oherwydd fod Christ wrth son am anffyddlondeb yn gyffredinol, yn dywedyd: Y bydd mwy goddefa­dwy, ses y bydd yn esmwythach yn Nydd y Paou i dir y Sodomitiaid a'r Gomor­rhaeaid, nac i'r sawl ni dderbynniant ei Apostolion neu'i Ddiscyblion es. Mat. 10, 15. Hynny y'n, ni chaiff y sawl y syddant yn euog o'r pechod cnaw­dol yn erbyn natur, (Gwyd mor ffiaidd ac atgas i'r Genhedlaeth ddy­nol, a bod y rhai a ddifernir yn euog o hono yn ôl Cyfreithiau pôb Natiwn Crêd, i'w dodi i farwolaeth heb ddim [Page 115]trugaredd, megis dynion annheilwng i fyw ar y ddaear,) gymmaint cyfran yn y Ddamnedigaeth Dragywyddol, a'r sawl ni dderbynniant Ddiscyblion a Dysceidiaeth Christ, sef yr Anffy­ddloniad yn gyffredinol. Pa faint mwy anesmwyth y fydd eu Damne­digaeth hwynt y rhai wedi derbyn Discyblion ac Athrawiaeth Christ vn­waith, ar ol hynny a'i dirmygasant hwynt yn anfeidrol, ac a'i gyrrasant ymmaith gan eu herlid hwynt hyd at angeu, a gwadu ei Athrawiaeth ef, perhon nad yw hynny ond mewn rhai o bynciau?

D.

A wnaethom ni hynny? ond ein Tadau ni ers amgylch cant o flynyddo­edd a neilltuasant euhun yn gyntaf oddi­wrth yr Eglwys, a gredasant ac a ddys­casant y Sectiau newydd hyn y rhai yr­won yr ydym ni yn eu professu yn vnic wrth eu dilyn hwynt?

A.

Os chwychwi a'i dilynwch hwynt yn eu cyfeilorn a'i didro dam­nedic ac yn eu Rhebeliwn yn erbyn Duw gan barhâu yn hynny hyd y [Page 116]diwedd, digon sicr y cewch chwi fod yn gyfrannog o'i Trueni tragywyddol a'i Damnedigaeth hwynt.

D.

Nid wyfi yn medru coelio fod pawb ac sydd o'n Sectiau newydd ni, allan o ras Duw, ac mewn stad Dam­nediggaeth. Ond ydym ni yn cadw yn buraidd y Dydd Sabbath? ond ydym ui yn gochel tyngu a rhegi? ond ydym ni yn gyfion yn ein gweithredoedd tuag at ein cymmydogion? ond ydym ni yn gochel gwagedd dillad gwychion? ond ydym ni yn dda wrth y tlodion? ond y­dym ni ar bob dydd yr Arglwydd yn ein dillad glan a goreu yn myned yn sanct­aidd i'r Congregatiwnau cyhoedd yn gy­stal a'rhai dirgel i glywed yr hyn y­mae'n Dyscawdwyr ni yn ei ddy­wedyd?

A.

Nid yw'r holl ddaioni morawl hyn yn ddim arwydd o'r Crefydd Christianogol, neu o'r vnic wir ffordd i Gadwedigaeth. Oblegid fod llawer o'r Anffyddloniaid yn ymarfer cym­maint, ie a mwy hefyd o rinweddau morawl na hyn igyd. Felly y gwnant [Page 117]llaweroedd yn nheirnasoedd China, Tunquin, Chili a'r gwledydd maith e­raill yn Indiaau y, Dwyrain a'r Gor­llewyn. Ond pa raid i ni hercyd e­samplau cyn belled? Mae llawer o'r Turciaid sy'n trigo yngwydd y byd Christianogol, yn byw yn fwy mo­rawl na'n Christianogion Refforme­dic ni. Gofynnwch i'r sawl y fuont yn Argier. Tunis a'r Glwledydd Maho­metanaidd nessaf, a hwy a ddywe­dant i chwi, fod llaweroedd o'r Tur­ciaid hynny heb nac arfer tyngu na rhegi: a'r bod hwy yn cashâu anwir yn gymmaint ac os digwydd i ryw weinidoc vnwaith ddywedyd cel­wydd, hwy a yrrant ymmaith y dyn hwnnw a mwy ffieiddra, nac yr ar­ferir cashau lladron a ffeloniaid erail yn y Wlad ymma: a'i bod hwy yr cyrchu i'w Moschoedd neu i'w Tem­lau, nid yn vnic vnwaith vn yr wyth nos, ond teirgwaith bod dydd, ll [...] wedi bwrw enhunain ar eu hydgyhy [...] ar y llawr, tros hir amser y bloeddian ac yr vdant eu gweddian yn ddifri [Page 118]iawn: a'i bod hwy yn parchu eu Mos­chaidd Eglwysi hynny yn gymmaint, ac y cuslanant yn anrhydeddus eu dwylo euhun wedi iddynt ond yn v­nic cyfwrdd a'r tu allan o'i gwelydd hwynt: ac os digwydd i neb o honynt sia [...]ad neu ddywedyd vn gair prophan [...]ef annuwiol yn yr Eglwysi neu yn eu monwentau, rhaid i hwnnw ddioddef marwolaeth heb ddim trugaredd: os rhyw vn o'r Puritanaidd Maho­metanod hyn a genfydd ddyn dieithr mewn siopp marsiandwr (o Iuddew, Mawr, neu Gristion drwg) yn barod [...]w dwyllo, ef a ddaw yn araf deg o'r [...]u cefn iddo, ac a ddywed; y cyfaill [...]r ydys yn dy sommi di ymma, dyre [...]r siop nessaf, ac yno ti a gei yr vn [...]hyw neges y fo cystal am hanner y pris yr wyti yn ei gynnyg ymma. [...]wy o'r Christianogion Refformedic i fydd mor fwynaidd i mi yn prynnu [...]sgidiau neu hossanau, mewn rhyw [...]opp yn Abergefenni neu yn Gwrec­ [...]m? Mae laweroedd hefyd o'r An­yddloniaiad hyn o naturiaeth, tuedd, [Page 119]a dispositiwn caredic, tirion, mwyn, llawenaidd, difyr, hael, ffyddlon, ho­nest, boneddigaidd &c, ac etto ni wna hyn oll hwynt yn eneidiau cad­wedic.

D.

Ni wna? Ai rhaid i gystal dyni­on gail eu colli yn dragywyddol? pa­ham nas gall pobl mor dda gael eu sa­fio yn gystal a'r Christianogion?

A.

Oblegid pettai hynny yn bod, ni chae Anffyddloniaid cyndyn a gwrthnysig waeth than yn y Golledi­gaeth dragywyddol, na Sodam a Go­morrha y rhai yn ol eich barnedi­gaerh chwi eihûn, sydd yn haeddu Damnedigaeth drom. Canys mae gan y Turciaid hyn wybodaeth di­gonol o Iesu Christ, ac o'r angen­rhaid sydd o gredu ynddo ef: maent hwy beunydd yn gweled ymarfer y Crefydd Christianogol yngwydd eu llygaid, vn gystal yn eu Gwledydd a'i Trefydd p [...]nnaf, euhûn, ac ynghanol y parthau blodeuoccaf o Ardalau Cred. Ond mae perthynassau bydol, rhydd­did o gael mwy difyrrwch cnawdol: [Page 120]gyda chyndynrwydd cythreulic eu hewyllys euhun wedi eu dallu hwynt yn hollawl: Hynny yw, maint hwy yn gwrando mwy ar y Byd, ar y Cnawd, ac ar y Cythraul, nac ar Y­spryd Duw yn eu galw hwynt i gredu yn Iesu Grist, fel y byddant yn gad­wedic. Heblaw hyn, pe gallai y cy­fryw Anffyddloniaid gael eu safio: wrthynny ni fyddai rhaid i ni ein geni drachefn trwy Ddwfr a'r Yspryd Glan, sef ein bedyddio: wrthfiynny nid oedd Ymgnawdoliaeth a Diodd­efaint Christ yn angenrheidiol: wrthynny nid oedd Pregethiad yr Apostolion a'r Discyblion eraill ond yn ofer ac yn ddiffrwyth; a'r holl Wirioneddau eraill y mae'r Testa­ment Newydd yn eu cynwys nid oeddent ddim arall ond celwyddau a gwagedd Yr hyn sy gymmaint Ca­bledd ac. Enllib Blasphemaidd ac a all tafod dyn ei lafaru.

D.

Er bod Anffyddlondeb yn gym­maint pechod ac mor anfeidrol, beth yw hynny i nyni? er bod rhagoriaeth [Page 121]rhyngom ni a'r Eglwys mewn rhai o bethau, ai Anffyddloniaid ydym ni, y rhai ydym yn credu yn-Christ, ae yn dywedyd bennydd y Gredo a Gweddi'r Arglwydd?

A.

Mae Christ ein Harglwydd (megis y dywedais o'r blaen) yn er­chi i ni gyfrif y Sawl ni wrandawant yr Eglwys, (hynny yw, ni fyddant v­fydd iddi hi,) megis yr Ethniciaid a'r Publicanod: ac mae S. Pawl (fel y crybwyllais hefyd) yn datcan yn e­glur, na chaiff y rhai sy'n arhos yn gyn­dyn mewn Sectiau neu Heresiau fyth feddiannu teyrnas Dduw: mai S, Iacob yntau yn ein siccrhâu ni, fod y sawl sy'n pechu mewn vn pwnc, yn euog o'r cwbl: Iac. 2.10. Mae rheswm hefyd yn dangos yr vn peth; Yn ddiau, yr hwn y fai yn credu y Dêng Gorchym­mynion igyd ond vn, er esampl y Chweched nen'r Seithfed, ac a ddy­wedai, Na fai ef nac yn credu, nac yn meddwl cadw y Gorchymmyn hwn­nw, gan haeru a maentumio yn ddi­gywilydd, nad yw'r lleoedd hynny o'r [Page 122]Scrythur Lân, sy'n dal allan y Gor­chymmyn hwn, i'w dyall a'i deongl, megis y mae'r Escobion a'r Doctori­on eraill (y rhai a gowsont eu Missiwn yn gyfreithlon oddiwrth Suc secedil;essori­aid yr Apostolion yn olynol trwy Ddyfodiad liniawl,) yn eu datcan a'i hesponi hwynt: ond (megis y mae'r yspryd Priuat trwy ymweithiadau oddimewn yn ei addysgu ef) mewn ystyr a sens Dirgeleddus, ac nid am y cydiad naturiol rhwng mâb a merch, yr hwn sy gyfreithlon i ddynion yn gyffredin ymysc eu gilydd yn gystal ac i'r creaduriaid byw eraill: ac felly hefyd am gyfoeth a da bydol, &c. Yr hwn (meddaf) y fai yn dywedyd ac yn maentumio hyn oll yn oll yn daerllyd ac yn gyndyn, y fyddai yn ddyn cwbl Anffyddlon ac mewn stad Damnedi­gaeth tragywyddol, megis hefyd y rhai oll a'i dilynent, neu a safent o'i blaid ef, er cadw ohonynt yn ffyddlon y Gorchymmynion eraill igyd. Ob­legid eu bod hwy, wrth anufuddhâu ac anghredu i Dduw yn y pwnc hwn, [Page 123]yn ei ammharchu a'i ddirmygu ef yn gymmaint a phe baent hwy heb gre­du ac vfuddhâu iddo yn y llaill oll. Canys yr vn Duw daionus yw ef wrth lafaru y pwnc hwn, ac wrth lafaru y Gwirioneddau eraill oll. Er nad ydynt hwy yn gweled Godineb a lladrad ond pethau bychain, etto nid felly y maent hwy yngwydd Duw. Nid oedd Adam yn gweled ond mat­ter bychan, bwytta vn tammaid o'r Afal gwaharddedic: ond mae'r dia­ledd ofnadwy a ddaeth arno ef a'i holl Eppil am hynny, yn dangos yn llwyr, maint a gorthrymder anfeidrol y pe­chod hwnnw Yn yr vn modd y mae'r Sectarian, yr hwn trwy gyndyn­rwydd, ni fyn gredu thyw vn gwirio­nedd a lafarodd neu a orchymmy­nodd Christ, yn dibrisio ac yn am­mharchu Duw, ac yn gynddrwg Ang­hredadyn, a phe bai ef heb gredu ac heb ufuddhâu iddo yn y llaill igyd. Ie mae ef yn llawer gwaeth: canys o ba faint mwy gwybodaeth, goleuni a gras a gafodd ef i gredu y Gwirione­ddau [Page 124]eraill oll, mwy diescus o hynny ydyw ef, a gorth [...]ymmach pecha­dur, am nad ydyw yn credu hwn hefyd.

D.

Pa beth? Os cadwn ni y Gor­chymmynion yn y modd goreu y gallom, a bod yn edifeiriol pan ddigwyddo i ni trwy wendid eu torri hwynt a dywedyd weithiau Ein tâd ni &c. a'r Credo; ai tybied yr ydych na dderbyn Duw ein Gweddiau, a'n safioni?

A.

Nid trwy wendid yr ydych yn torri'r Gorchymmynion, pan y by­ddoch trwy'r dydd, trwy'r wythnos, trwy'r flwyddyn &c. o'ch gwir fodd yn arhos ac yn parhâu yn gyndyn mewn Sectariaeth, yr hwn (megis y dangosais) sy bechod gorthrwm an­feidrol yn erbyn y Cyntaf a'r Pennaf Gorchymmyn, sef am anrhydeddu Duw yn iawn neu fel y parodd ef: ac ni chaiff yn unic cyfryw ddynion, ddim gwobr gan Dduw, am yr Elu­sennau ac am y Gwei [...]hredoedd go­reu a wnelont, eithr hefyd mae eu Gweddiau hwynt, nid yn vnic yn [Page 125]anghymmeradwy, ond hefyd yn ffiei­ddgas (megis y mae'r Prophwyd yn dywedyd Pro [...]erb 28.9.) ac yn alb [...] ­natiwn yngwydd y Mawredd Duw­fawl.

D.

Pa ddrwg ganhynny yw dywedyd, y geill pob vn fod yn safiedic yn ei Ffydd eihun?

A.

Yr vn drwg a dywedyd: mae Twyllwr, Crâf celwyddog, nen Im­postor siomgar yw Duw. Canys gan fod Duw yn dywedyd yn eglur, y neb ni chredo a go [...]demnir. Mar. 16.16. A bod y neb ni wrandawo ar yr Eglwys, i'w gyfrif megis yr Eth [...]ic a'r Publi­can. Mat. 18.27. Ac nad yw'r E­glwys hon ond vn: Vn ydyw fyngh­lommen. Cantic. 6.8. Ac nad oes ond vn ffydd; Vn Fydd, vn Bedydd, vn Duw. Ephes. 4.15. Ac nas gall nêb heb honno fod vn gymmeradwy gan Dduw: Heb ffydd nid yw possibl rhyngu bodd i Dduw. Heb. 11.6. Ac na chaiff y Sectarianod feddiannu Teyrnas Dduw. Gal. 5.21. Os er hyn oll, y geill y neb nid yw yn cre­du [Page 126]rhyw rai o'r pethau a ddywedodd neu a orchymmynodd Christ: nen'r hwn ni fyn wrando ar (hynny yw vfuddhâu i'r, a gadel ei reoli yn y pethau syn perthynu i'w enaid gan) yr Eglwys, yr hon sydd Vn, Catholic, a Sanctaidd: neu'r hwn sydd o ffydd amgenach na'r Vn honno, heb yr hon nid yw possibl rhyngu bodd i Dduw: neu yr hwn sydd yn Sectarian (hynny yw, wedi ei neilltuo oddiwrth yr E­glwys a'r Ffydd honno, trwy anu­fuddhau a thrwy gredu yn amgenach nac y mae hi;) os er hyn oll (meddaf) y geill y cyfryw ddyn fod yn safiedic: mae'n rhaid wrthynny i'r holl Adro­ddion hyn ac i aneirif yn chwaneg yn y Scrythur Lan, fod yn hollawl ffeil­sion, yn yn anwir, ac yn dwyllodrus, ac yn ganlynol, fod Duw (yr hwn yw Awdur y rheini oll) yn Gelwyddog, ac yn Dwyllwr. Dywedyd yr hyn, yw Cabledd dychrynnedic anfei­drol.

D.

Pa ddrwg yntau, yw perswadio a gyrru y sawl sy'n byw, megis pettent heb [Page 127]vn Ffydd, i wneuthur prosessiwn cy­hoedd o ryw Ffydd, ac nid marw megis anifeiliaid?

A.

Yr vn drwg a dywedyd: Oni fyddwch chwi o'r vnic wir Ffydd, heb yr hon nid yw possibl bodloni Duw, a'r hon ni ellwch chwi amgen na'i gwybod, (oddieithr fod cyndynrwydd Cythreulic o ewyllys yn eich rhwy­stro chwi,) oblegid fod Duw yn dywedyd: Mae Ffordd mor hawdd i'w gwybod ydyw: ac nas cyfeilior­nant ffoliaid oddiarni, Esai. 35.8. O'r hyn lleiaf byddwch o ryw ffydd yn y gwrthwyneb i honno: hynny yw, poerwch ar wyneb Duw, sathrwch Fab Duw tan eich traed, gan gyfrif Gwaed y Testament Newydd megis peth llygredic, prophan, neu gyffre­din, a thrwy hynny croeshoeliwch Christ drachefn; ond yn y cyfamser perswadiwch eichûn (oblegid gan nad oes ond vn wîr Ffydd, nid yw'r llaill a elwir felly, ond perswasiwnau,) eich bod chwi trwy hynny yn anrhy­deddu Duw, ac yn rhyngu bodd iddo [Page 128]ef: ac felly byddwch o'i Ffydd ac o'i Crefydd hwynt Gweddiau ac Elusen­nau y rhai sydd yn execrabl yn ffiei­ddgas, ac yn abo [...]i [...]atiwn i'r Mawredd Duwfawl.

D.

Ai possibl, fod ein Dyscandwyr ni, (y rhai mewn Cerwynau ac mewn P [...]lp [...]dr [...] hefyd, ag wynebau sanctaidd sy'n llafaru cymmaint a'm rinwedd, gan fynych enwi Duw a Christ mor ddifrif,) yn y cyfamser yn digio Duw yn ddirfaw [...] arth [...]w [...], a bod yr holl Weddiau a ddywedant hwy yno, yn ff [...]eiddgas ac yn execrabl gerbron Duw?

A.

Digon siccr ydyw, mae gwell yw mynd i ryw Dy Tafarn lle bo gweision drwg, dihir a meddwon yn tyngu, yn rhegu, ac yn cablu Duw tuhwnt i bôb mesur, na myned i'r Congregatiwn Sectaraidd, lle y bo'r Dyscawdr Heretic yn cynghori rhi­nweddau moesawl i'r Gwrandawyr. Oblegid yn y cyfryw Dy Tafarn (me­gis y mae Sr. Thomas More yn dywe­dyd yn llwyr wir) nid oes neb yn [Page 129]cael mwy niweid, na'r sawl y fo a meddwl dirras ac yn barod i ddrygi­oni: oblegid y rhai d [...] eu tuedd gan ymgroesi enhunain a ochelant y lle, trwy ofni y syrthia y Ty ar eu pennau: ond yn y Gongregatiwnau cyffelyb, nid oes neb yn barod i gael mwy niweid, na'r sawl sy a meddwl ac ewyllys da ganthynt, y rhai wrth glywed y Blaidd Sectaraidd mewn croen dafad o Don ac o Wynebpryd sanctaidd yn brefu addroddion mo­rawl, gan fynych enwi yr Arglwydd a Christ, o'r diwedd hwy a berswadir (wedi eu b [...]iasu gan y Byd, a'r Cnawd, a'r Cythraul) fod yr Athrawiaeth a'r Proffession sectaraidd yn ddigon da: ac felly bob ychydic y diogelit hwynt yn eu cyfeiliorn damnedic a'i Rhe­beliwn yn erbyn Duw. Ac am We­ddiau y Sectariaid, os S. Ioan Chryso­stom wrth son am ddyn yn euog o'r pechod marwol lleiaf, a ddywedodd yn hollawl wir, mai megis y cai y Bradwr erchyll, yr hwn y fai wedi murndrio Mab vnic y Brenin, yng­wydd [Page 130]ei Dad llawn Ardderchawg, ac yn y man gan godi ei ddwylo wedi eu trochi igyd a'i lliwio yn-gwaed calon y Tywysog gwirion, i ddeisyf rhyw ffasot ar Fawredd y Brenin, me­gis (medd ef) y cai hwnnw ei wrando a'i ystyr gan y Brenin, sef a Digofaint ac a Llid creulon annrhaethadwy: fel­ly yn yr vn modd y derbyn Duw ac yr ystyria yntau Weddiau y pechadur anedifeiriol: pa faint mwy y gellir dywedyd, fod Gweddiau y Sectari­aid (y rhai o'i gwir fodd sy trwy'r dydd yn torri y Gorchymmyn pennaf oll, sef o anrhydeddu Duw,) yn ffiaidd ac yn gas anfeidrol i'r Maw­redd Nefawl? Ac amhynny y mae pob Christion Catholic yn gochelyd ac yn ffieiddio cymmuno neu fod yn gyfrannog mewn Gweddiau a'r Sect­ariaid; yn gymmaint ac nad ant i'w Congregationau hwynt vn amser, ac mewn modd yn byd ni adawant i'r Sectariaid fod yn bresennol ar eu Gweddiau a'i sacraidd Offrymmau hwynt; nid ydynt chwaith yn cyfrif [Page 131]vn lle yn fwy prophân, nac yn llai sanctaidd na'r Eglwysi a'r Capelau sy wedi eu halogi a'i gwasanaeth Secta­raidd hwynt. Ond nid yw'r Secta­rianod o amryw Sectau, (er eu bôd hwynt yn cyfrif y nail y llall yn eu­og o amryfuseddau damnedic,) yn gwneuthur dim Scrupul o gyd­weddio, nac o fôd yn gyfrannog y naill o Rithiau Sacraidd y llall. Yr hyn sy ddigon o arwydd nad ydynt hwy o'r wîr Ffydd, yr hon bôb amser oedd yn dyscu i'w Phlant, o­chelyd cymmuno a Sectaraiaid. Deu. 13.1. Rom. 16.17. Tit. 3.10. Jo. 2.10. &c. Heb law hyn, mae ma­lis neu ddrygedd Sectariaeth, o her­wydd ei hirbarhâu, yn waeth o law­er ac yn orthrymmach na malais pechodau marwol eraill: Canys y rhai sy'n torri'r Sabbath, yn tyngu anudon, yn murndrio, yn godinebu, yn lladratta, &c. nid ydynt hwy bôb amser yn gwneuthur y Trose­ddau hyn: ond yn fynych cyn pen wythnos neu ddiwrnod, iê weithiau [Page 132]cyn pen awr hwy y fyddant yn llwyr edifeiriol; a'r pryd hynny gan fvwiadu o ddifrif, mewn amser cy­faddas wneuthur y Satisfactiwn y mae Duw yn ei fynnu ar eu dwylo hwynt hwy a allant ddychwelyd yn y man i stad Gras, yn y modd ac y bo eu gweithredoedd rhinweddol hwynt yn canlyn, trwy ryglyddian­nau Christ, yn gymmeradwy i Dduw, ac yn obrwyol yn y Nêf. Ond mae'r Sectariad neu'r Heretic yn wastad yn parhau yn ei bechod: hynny yw, trwy'r dydd igyd, trwy'r wythnos igyd, trwy'r mâs igyd, trwy'r flwyddyn igyd, &c. oblegid pe bai yn amgenach, fe a ddangosai ei edifeirwch, gan geisio cymmodi a'i ymgysylltu drachefn a'r wîr Eg­ [...]wys: yr hyn beth o ran nad ydyw yn ei wneuthur, mae ef byth ym­mhob gweithred a munud o'i fywyd megys yn poeri ar wyneb Duw, yn [...]athru ar waed Christ, ac yn croeshoe­ [...]io ein lachawdwr Jesu yn ddibaidd.

D.

Wrth hyn fe dybygid, fod Secta­riaeth [Page 133]yn gymmaint pechod ac Idolia­eth. Pa beth ai rhaid i mi gredu, fod y sawl sy'n proffessu rhyw Sect o'r Crefydd Christianogol, cyn belled mewn stad Damnadigaeth, a'rhai sydd yn addoli'r gau Dduwiau?

A.

Os credwch chwi i Ghrist, mae'n rhaid i chwi gredu hefyd, y dylai pôb vn ac sydd yn gyndyd yn anufydd i'w Eglwys ef, fod i chychwi megis y Pagan a'r Publican, Math. 18.17. Oni chredwch chwi i'n Ja­chawdr bendigedig yn dywedyd hynny pa fodd y mynnwch chwi i mi eich cyfrif chwi yn Gristion? Ond os ydyw hwnnw, yr hwn yn vnic sydd yn anufydd i wîc Eglwys Dduw, (er ei fôd ef yn credu yn llywr, ac yn proffessu yn ddifrifol holl bynciau neu articlau eraill y Crefydd Christianogol, etto o ran eisiau cariad perffaith tuac at Dduw, wrth fôd yn ufydd i'w Eglwys ef) yw gyfrif yn yr vn stad o ddamnedigaeth a'r Jdolwyr, megis y gwelwch Christ ei­hunan yn dywedyd ymma yn eglur: [Page 134]pa beth a ddywedwn ni am y nêb, nid yn unic ni synn wrando ar yr Eglwys, gan föd yn ufydd iddi yn ei fuchedd, ond hefyd sy'n byw mewn Secta­rism neu Heresi, ac yn proffessu hyn­ny yn gyhoedd yr hwn bechod yw'r gorthrymmaf math o ANFFYDD­LONRWYDD, yn cynnwys yn­ddo Vid chari­ty mistaken, pag. 107. ex Lessio de Ca­pesc. Relig. eihûn gynnifer o bechodau e­raill tra ffieiddgas megis, Dibris, a Dirmyg am y Sacramentau, Gwatwor a Gwawdio y gwîr Gre­fydd. Halogi pethau cys­segredic, Cas a Erlid y wîr Ffydd, Anufydd-dod i'r Eglwys a'i Phreladiaid cyfreithlon, Sacrile­gau, Balchder, Cyndynrwydd mewn pechod, Rebeliwn yn erbyn pennaf Swyddogion Duw, Gwrthddywe­dyd y gwirionedd gwybodedic &c. Ni a ddarllennwn yn llawer man o'r Scrythur Lan, mor ddirfawr yr oedd Duw yn digio wrth Blant Israel, am eu bôd hwynt (gan adael a gwrthod y modd yr oedd Duw, a'i was ef [Page 135] Moses wedi ei appwyntu iddynt hwy o'i wasauaethu ef) yn addoli y gau Dduwiau a'r Idolau. Ac etto nid oedd pechodau hynny yr Judde­won ond Cynlluniau a gwîr Ffigu­rau o bechodau y cyfryw Gristiano­gion, ac wrth adael a gwrthod y wîr Ffydd, sy'n credu ac yn proffessu dysceidiaethau ffeilsion: megis yr oedd yr Jdolau a anrhydeddid gan yr Juddewon hynny yn wîr Ffigu­rau a Rhag-arwyddion o'r amryw Sectau, a'r Schismau, a't Heresiau sydd ynawr ymmysc y Chrigiano­gion. Meddyliwch chwithau ynoch eich hûn, mor ddirfawr a gorthrwm oedd pechod hwnnw yr Juddewon, y rhai (gan adael gwasanaeth y gwîr Dduw, a'r sacraidd Rithiau, a'r ffyrdd, a'r moddion yr oedd Moses (gan ei gyforwydde gan Dduw) wedi eu happwyntu iddynt hwy yn ei Addoliant ef, trwy gredu a dilyn. Prophwydi ffeilsion) oeddent yn myned i addoli yr Idolau Baal, ac Astaroth, a Belzebwb, a Chamos, [Page 136]a Dagon a Baalim, a Moloch &c. A byddwch yn llawn siccer, nad pe­chod llai gorthrwm yw i'r Christia­nogion, gan adael y wîr Ffydd (yr hon nid yw ond Vn yn vnic) a'r Dysceidiaethau, a'r Sacramentau, a'r Rhithiau, a'r moddion a'r ffy [...]dd a appwyntwyd iddynt gan Jesu Christ, a chan ei Eglwys ef (yr hon y mae'r Yspryd Glân bôb amser yn ei chyfarwyddo) yn ei wasanaeth ef, wrth gredu a dilyn gau Ddocto­rion (y rhai a llygredigaerhau cab­lus, ac a ffeilsion esponiadau o'r Scry­thur Lân, gan eu cynnal hwynt ag awdurdod ac a nerth poenol a gwaed­lye Gyfreithiau Tywysogion a Sta­dau bydol yn seffyll allan, ac yn er­byn y wir Eglwys oherwydd achosi­on y cnawd a'r byd, sydd yn en bla­enu ac yn eu tywyso hwynt,) fôd yn proffessu Arianism, Pelagianism, Calvinism, Jansenism, neu ryw Sect arall, neu'r Heresi pabynnac ym­myscy Christianogion, megis Sect yr Anabaptistiaid, y Wiclefiaid, y [Page 137] Quackeriaid, &c. Er bod y Secta­riaid hyn gyda'i dysceidiaethau ffeis­sion yn credu llawer byd o'r Ffydd Ghristianogol, megis yr oed yr Juddewon Idolatraidd hynny, yn credu ac yn proffessu lawer o Gy­fraith Moses, ynghanol en gwaith o addoli y Duwian ffeilsion a'r Ido­lan hynny. Ac megis yr oedd yn annuywioldeb creulon, ac yn Sce­lerder ffieiddgas yn yr Juddewon hymy, beri lladd ac aberthu trwy dan, eu plant bychain i'r Idol Me­loch (3 Reg. 23.10.) yn y dyffryn Ennon, a elwir wrth enw arall Tophet (yr hyn sy'n arwyddoccau Drwmm) oblegid eu bod hwynt yno yn arfer curo tabyrddau, tympanau a drym­mau, rhag i'r tadau a'r mammau glywed llefain a leisiau galarus eu plant gwirion yn dioddef eu mur­d [...]io, ac felly trugarhau arnynt yn meirw yn y Tan: Felly nid gro­nyn llai na hynny, yw pechod y Christianogion y rhai sy'n peri, neu'n gadael i'w plant, i'w ceraint, i'w [Page 138]caredigion, i'w gweinidogion neu i rai eraill pa fodd bynnac yn perthyn iddynt hwy (a hwythau yn gallu trwy addysc, trwy gyngor, trwy berswasiwn neu trwy'r moddion eraill pabynnac, eu cadw yn, neu'i tynnu hwynt i'r gwirionedd) fod yn credu, neu'n proffessu rhyw Sect, neu He­resi pabynnag, gwrthwyneb i'r Vn vnic iawn, a'r wir Ffydd Gristiano­gol: ië mae pechod hwn y Christi­anogion Heretic hyn, tuhwnt i bod mesur, yn swy gorthrwn na phechod yr Juddewon Idolatraidd hynny: yn gystal oblegid nad oedd yr Judde­won hynny, ond yn difeddu eu plant (y rhai oeddent eisoes trwy'r Ceremoniau Mosaic, wedi cael eu harwyddo i dragywyddol Jachawd­wriaeth) o fywyd amserol a darfo­dedig yn y byd ymma; lle y mae'r Christianogion hyn yn cydweithio i ddifeddu eu rhai hwynt o'r dedwy­ddwch ac o'r bywyd a bery byth: ac hefyd oblegid fod y Christiano­gion hyn wedi cael anfeidrol mwy o [Page 139]Wybodaeth, a Goleuni, a Ffafor, a Help, a Gras, ac Anrhydedd, a Dai­oni, a Bendithion eraill gan Dduw, nac oedd yr Juddewon.

D.

Wele, os pechod mor anfeidrol ddirfawr yw Sect arieth, myfi a obei­thiaf nad wyfi ddim yn Sectarian, ac a berswadiaf fyhun fy mod i o'r wir Ffydd. Oni fydd hynny yn ddigon?

A.

Na fydd: Oblegid ddarfod i Adam hefyd, cyn iddo fwytta'r Afal gwaharddedic, berswadio ei­hunan (er bod hynny yngwrthwy­neb i eglur adrodiad Duw) na fyddai fawr niweid, bwytta peth ohono: a' [...]heini igyd y rhai sydd ynawr yn ddamnedic ynghanol poenau Vffern, cyn iddynt wnethur y pechodau am y rhai y collwyd hywnt, a berswa­diasant ehunain yn yr vn modd neu a obeithiasant cael digon o amser i ediferhau amdanynt cyn marw: ond eu Rhyfyg a'i Presumptiwn hwynt ar hynny a'i bwriodd hwynt bendra­mwngwgl i'r Damnedigaeth tragy­wyddol. Yn y neges hwn o gredu [Page 140]yn Nuw, nid digon yw gobethio neu berswadio o ddyn ejnunan, ond mae'n rhaid iddo fod yn llawn siccr a certain ei fod ef o'r wir Ffydd ac yn credu yn iawn, ie cyn siccred ac y mae ef o liwr'r dydd. Canys yn ol Dywediad y Tadau o'r Brif [...]g­lwys. Dubiws in Fide, Infideli pe­jor est. hynny yw, yr Ammheus yn ei Ffydd, fy waeth na'r Anghre­dadyn. Ac amdanoch chwi, mae'ch Cydwybod eichun yn dywedydi chwi, uwy'r hyn o glywsoch chwi am y gwir Grefydd Christianogol, trwy'r ymgyffroadau oddimewn i chwi wrth gydymarwedd a'r sawl sy'n proffessu y Crefydd hwnw; trwy'r hyn a ddywedodd ac a ddi­oddefodd aneirif o honynt hwy o herwydd eu Cydwybod: trwy O­goniant disglair rhyfeddol yr vn­rhyw Grefydd wedi ei danu ar led tros bod Natiwn ar wyneb yr holl Ddaear, megis Dinas wedi ei gosod ar ben mynydd, neu megis Canwyll nid wedi ei dodi tan lestr, ond mewn [Page 141]man amlwg, lle y gallo pob vn (yr hwn ni chauo eu lygaid o waith goddan neu o wir bwrpas) ei gwe­led hi: trwy Sancteiddrwydd ei Athrawiaeth, os edrychir arno a glowg ammhleidiol: trwy y modd godidog o fuchedd Sancteiddlawn amryw o-Broffessoriaid yr vn Cre­fydd, ymmhob Oes er y dechreuad, ac yn hon hefyd ymmhob cornel o'r Byd: tiwy▪ Vndeb rhyfeddol Trefn llywodraethus a Dysceidiaeth yr vnrhyw Grefydd, ymmysc cyn­nifer o Natiwnau o duedd a dispo­sitiwn llwyr gwrthwynebol i'w gi­lydd: trwy ffalsedd y Celwydau a'r Calumniac a fwriasant yn ddi­gywilydd y gwyr o'ch Sectiau Newydd chwi ar y Crefydd hwnnw a'i broffessoriad (rhan o'rhai a dar­fu i chwi eichun eu cael yn llwyr anwir, a hawdd y fyddai i chwi wybod malais a slander y llaill, pe bai perthynasau bydol, a chyndyn­rwydd ewyllys yn gadel i chwi, wrth ymddiddan a rhyw ddyn gwy­bodus [Page 142]o'r Crefydd hwnnw, eu holi hwynt a meddwl difrifol o wasanae­thu Duw yn iawn ac felly bod yn gadwedic:) trwy y modd y de­chreuasent eich Sectiau Newydd chwi: twy'r Motifau a wnaeth i'r Carn-Sectariaid ar y cyntaf neill­tuo euhunain oddiwrth y wir Eg­lwys: trwy y rhain, a thrwy a­neirif mwy o Resymmau, Goleua­dau ac Argumentau eraill, y rhai y mae Yspryd Duw o amser i am­ser yn eu coffa a'i dangos i chwi, (er bod pethau bydol yn peri i chwi wrthsefyll y cyfryw Ymy­sprydoliaethau) mae eich Cydwy­bod chwi eichûn (meddat) yn dywedyd i chwi, fod digon o achos gennych i Ammeu Gwirionedd eich Sect: ac yn ganlynol yr ydych chwi yn rhwymedic tan Boen Dam­nedigaeth Dragywyddol i geisio gwy­bod y Gwirionedd; heb fod byth yn foddlon na gorphwys, nes cael gwybod yn siccr ac yn lwyr çertain heb dim suglo na boncian meddwl, [Page 143]eich bod chwi yn y wir Ffydd a'r fford i Gadwedigaeth.

D.

Paham y mae'n rhaid i mi gymmeryd arnaf gymmaint trwbl a hynny? neu geisio bod yn gallach na'm Tad, a'r llaill oll o'm Cre­fydd.

A.

Oblegid [...]od eich Damnedi­gaeth neu'ch Cadwediaeth chwi, yn deiryd yn fwy i chwi nac i neb arall: a bod y matter o bwys a maint anfeidrol ac anniben. Pa les a wna i ddyn ynnill yr holl fyd a cholli ei enaid eihun? Medd ein Ja­chawdwr bendigedic. Math. 16.26. Mae'r byd hwn yn myned heibio megys cysgod. Nid yw ynawr yr vgain neu'r deigain mlynedd a ddar­fu i chwi eisoes, ond megis y breu­ddwyd y fu neithiwyr, a'r hyn oll sy etto i ddyfod a ymddengys i chwi yn yr vn modd, pan ddolo awr angeu, yr hon sydd yn nes i chwi, nac yr ydych chwi yn meddwl. Ple mae yrwon y rheini oll, y rhai oeddent yn byw ers [Page 144]deucant neu drichant o flynyddoedd, le yr ydych chwi ynawr? Nid oes neb ysgatfydd a wyr eu henwau hwynt yrwon: etto yr oeddent hwy y pryd hynny yn enwog ac yn heinif, yn lan ac yn weddaidd, yn gyfoethog ac yn synhwy [...]ol, yn llawn o lawenydd a difyrrwch, ac yn meistroli yn eu Plwy: ac ynawr nid oes neb ar y ddaear yn meddwl amdanynt hwy: ond eu heneidiau truain hwy (oddieithr iddynt gymmeryd peth gofal am wasanaethu Duw yn jawn) yn oll eu gweithredoedd, ydynt yngha­nol poenau dibaid y Tan Vffernol. Pettwn i yn dywedyd i chwi, fod rhyw ffordd siccr a certain trwy'r hon y gallech chwi ddyfod i gael deng mil o bunnau bob blwyddyn, a Modd çertain trwy'r hwn y gallech c [...]wi eu meddiannu hwynt tros gant o flynyddoedd a mwy, heb ddim ofn angen, na dim perygl o glefyd, na dim gofyd arall daearol, onifyddech chvvi fodlon i gymme­ryd [Page 145]peth poen i ddyscu a gvvybod y Ffordd nen'r Modd hvvnnvv?

D.

Byddwn yn siccr: pam na fy­ddwn i yn fodlon i fyned cyn belled a Llundain Paris, neu Rufain eihunan, ie yn droednoeth hefyd, er mwyn cael cymmaint dedwyddwch?

A.

Ac er gwybod siccreiddrwydd y ffordd i'r Gwynfyd tragywyddol, ni fynnwch chwi fyned ychydic o ffordd, i ymgynghori a gwir Gristi­on a allai eich cyfarwyddo chwi: nac yn eich ystafell darllain ynddy­fal vn llyfran, a ddichon hyfforddi eich Cydwybod ammheus, o'r Gwi­rionedd; na gweddio chwaith yn daer ar Dduw eich goleuo chwi &c. Ond arwydd eglur yw hyn, eich bôd chwi yn caru'r Byd hwn yn fwy na Dduw. Gan na fynnwch chwi gymmeryd tippyn o boen i wybod yr vnic wir ffordd o fodloni a gwasa­naethu Duw yn iawn?

D.

Pa fodd y gallwn i▪ yr hwn wyf yn annyscedic ac yn anlythyrennoc, chwilio a holi y Controversiau a'r Ym­rafaelion [Page 146]oll ynghylch Ffydd, i gael gwybod y Gwirionedd?

A.

Nid ydys vn mynny dim o'r tasg hwnnw ar eich dwylo chwi. Mae'r ffordd sydd i chwi i'w chei­sio yn rhwydd ac yn amlwg. Ni chyfeiliornant y rhai ffol ar hyd-ddi, Isai. 35.8. Hynny yw, y rhai sym­laf a lleiaf eu dysc, os byddant yn ostyngedic gan geisio Duw o ddifrif, a allant yn hawdd ei gweled hi a'i gwybod.

D.

Pa gyngor neu gyfarwyddiad a roddwch chwi i mi, oherwydd fy mod i o ddifrif, yn ewyllysio gwybod y wir Ffordd i iachawdwriaeth?

A.

Yn gyntaf, mae'n rhaid i chwi gymmeryd ymbell awr oddiwrth eich difyr chwareuon a'ch traffer-thau bydol eraill, i feddwl am y Neges er mwyn yr hwn y creodd Duw chwi, hynny yw, am ei wasa­naethu ef, a thrwy hynny bod yn gadwedic yn dragywyddol. Yn ail, gan neilltuo eichunan oddiwrth bawb eraill a bod wrthoch eichun [Page 147]yn vnic tros hynny o amser, gwe­ddiwch ar Dduw a gostyngeiddrydd holl [...]wl calon ac enaid, gan ddymu­no arno roddi Grâs a Goleuni i chwi i weled y wir Ffo [...]dd. Gwnewch hyn o ddifrif, ran ollwng dagrau hefyd os bydd possibl; ac er gwnen­thur hyn yn well, ni fydd anfuddi­ol ympryddio diwrnod neu ddau, ie ar fara a dwfr yn unic, (o her­wydd fod Teyrnas y Nêf yn haeddu mwy na hynny) a thros ymbell o­riau beunydd gwisgo crys neu wre­gys llydan o rawn yn nessaf at eich corph: oherwydd ddarfod i'r Pro­phwyd Daniel, ac i laweroedd e­raill o weision Duw, er cael gwy­bod ei ewyllys nefawl ef, farwolae­thu a gofidio eu cyrph yn fwy na hynny, Dan. 9.3. Psalm. 34.13. & Psalm. 68.12. Paral. 21.16. Gen. 37.34. &c. Ac mae miloedd o wir bobl Dduw ymmhob cornel o'r byd, oherwydd hyn a'r cyfryw achosion, ar y dythwn heddyw, yn arfer mwy sarrugrwydd a gerwinder [Page 148]corpho [...]o [...], mewn dillad, lluniaeth, a gorphwys nac yw hyn igyd: er darfod eu maethu a'i magu hwynt yn eu hieuengdid ynghanol pob mwythau, ac esmwythdra sidanol, gan en geni hwynt yn blant i Ar­glwyddi ardderchoccaf, Ierill, Twy­sogion a Monarchiaid Cred. difyr­rwch a gogoniant yr hyn stadau, wedi eu goreuro ag Addurnadau tra rhagorol perffeithlawn o synwyr, dysceidiaeth, pryd a gwedd &c. a wrthodasant hwy yn hollawl o'i gwir fodd er cariâd ar Dduw, ac er mwyn dilyn yn hynny a dynwared ein Jachawdwr bendigedic, yr hwn pan oedd yn fform a gwedd Duw, yn Gydradd a'i Dad Tragywyddol, a gymmerodd arno fform neu dull gwas, Phil. 2.7. i roi esamplau i ni o O­styngeiddrwydd, o Llaryeidd-dra, o Dlodi ewyllysgar, Ddioddef cam a dirmyg, o Sarrugrwydd corphorol, &c. fel y gwnelem ninnuu megis y gwnaeth yntau i ni, Jo. 13.15.

A thoi peth elusen er mwyn Duw, [Page 149](oherwydd trwy elusen y glanheir y cwbl, ac y ceir maddeuant am becho­dau, Luc. 11.41. Eccles. 3.33.) ond hyn oll a ddylid ei wneuthur yn y modd ac na bo neb yn gwybod, ond Duw a'ch Cydwybod eichun, rhag ofn balchder ysprydol, yr hwn sy waeth na dim. Yn drydydd, gwnewch Resolutiwn a bryd cadarn a diogel, na chaffo dim perthynas bydol o gyfoeth, o anrhydedd, o ddifyrrwch, o serch tuag at wraig neu wr, tuag blant neu rieni, o gari­ad tuag at gyfaill neu o gas i elyn, o ryddddid neu gaethiwed, o ie­chyd neu glefyd, o fyw neu farw, na dim achos arall daearol eich rhwy­stro chwi i amgofleidio y wir Ffordd o wasanathu Duw wedi cael ohonoch unwaith ei gwybod hi. Yn bed­werydd, gan gofio fod terfyn eich bywyd, ac awr eich angan yn an­certain iawn o ran yr amser, y man a'r modd ohono ac y geill hynny happio i chwi yn gynt o lawr nac yr ydych chwi yn meddwl, ysty­riwch [Page 150]wrthoch eichun yr amryw Resymmau, y Golenadau, a'r Mo­tivau, y rhai trwy'r moddion a grybwyllwyd vchod, a ddarfu i Dduw eu coffa a'i dangos i chwi o amgofleidio y gwir Grefydd Christi­anogol, ac o ymwrthod a'ch Sect Newydd eichun. Yn bummed, gan feddwl megis pe bai eich enaid ynawr hyn wedi ei diosg o'r corph a'i dippio i fynn, a'i osod o flaen Tribunal Duw i dderbyn barnedi­gaeth ynol eich gweithtedoedd yn ei wasanaethu ac yn ufuddhau iddo ef ymma ar y ddaear; ystyriwch ei­chun, pa Ffordd neu Grefydd yn ei wasanaethu ef, a ddymunech chwi y pryd hynny, gymmeryd ohonoch yrwôn: A dibennwch yn llawn siccr, mai honno yw'r vnic wir ffordd i Jachawdwriarh ac i'r Gwynfyd tra­gywyddol.

D.

Pa beth! ai ni ddywedwck chwi i mi yn fwy neilltuol y Ffordd honno a'r Ffydd, yn yr hon yn unic y gellir cael Iachawdwriaeth?

A.

Na wna: oherwydd fy mod yn meddwl, y bydd mwy buddiol i chwi, wrando ar leferydd Duw eihunan oddimewn i chwi, a bod yn ufydd iddo ef yn dangos i chwi yn llwyr eglur y Gwirionedd hwn. Ond os mynnwch chwi hefyd gly­wed dyn a ysprydoliaethwyd gan Dduw, megis gwr yn byw yn y Prif amseroedd yn y mann arol yr A­postolion, Gwrandewch yr hyn a ddywedodd yr Hen a'r Hynod Vin­centius Lirinensis yn y Traethawd Eu­raid a scrifennodd ef yn erbyn Newyddiadau mewn Ffydd ac yn erbyn Sectariaid, (yr hwn lyfr a brisiwyd ac a anrhydeddwyd yn fawr iawn gan yr holl wir Gristianogion ers blwyddyn ein Harglwydd 440. yn yr hon yr oedd ef yn byw) lle y mae ef wrth ddatcan y dyn gwir Gatholic, (yr hwn sy'n cadw ei­hunan oddifewn ufydd-dod yr Eg­lwys Gyffredionol, yr hon a ddi­scynnodd trwy Sucçessiwn Escobi­on yn olynol oddiwrth Christ a'i [Page 152]Apostolion) yn dywedyd, mai hwn­nw yw ef; Yr hwn sy'n caru yr Eglwys sef Corph dirgeleddus Iesu Christ yn gymmaint, ac nad yw ef yn gosod dim o flaen ei ha­thrawiaeth Catholic Cyffredinol hi: yr hwn nid yw yn prisio nac awdurdod, na chariad, na synwyr, na chymmendod, na gweniaith vn dyn neilltnol yn fwy, nac yn dal wrth ddim rhesymmau naturiol, nac unrhyw o ragtith Scrythurau yu erbyn yr hyn yr oedd pob dyn yn ei gredu o'r blaen: yr hwn sy'n dilyn Cyffredinoldeb, Heneiddr­wydd, a Chyssondeb yn ei gre­duniaeth: ac yn sefyll yn ddiogel ddiysgog ar y Ffydd honno, yr hon a ddaliwyd o amser i amser, ymmhob mann, ymmhob tym­mer, gan bawb neu gan y rhan fwyaf o Escobion, o Offeiriaid, ac o Ddiaconiaid Christianoldeb. Vi­cent. Lirin. Lib. centra Haeres. c. 3. Neu chwi ellwch wrando ar y Do­ctor Mawr S. Augustin (yr hwn oedd [Page 153]yn byw yn y flwyddyn 420. arol geni Christ) yn dywedyd, mai efe fydd yn yr Vnion a'r Vnic wir Ffydd a'r Ffordd i Jachawdriaeth: Yr hwn sydd oddifrif yn dilyn yr Eglwys Gyffredinol, yr hon a ga­fodd ei dechrenad trwy ddyfod y Cenhedloedd iddi, a gafodd aw­durdod trwy Ryfeddodau a Gwyr­thiau, a chwanegwyd twy gariad perffaith, a gadarnhawyd trwy hirbarhau; yr hon sy ganthi Suc­çessiwn o Escobion yn olynol o­ddiw th Gadair Petr hyd ein ham­ser ni: yr hon y adweinir yn y Byd wrth yr enw CATHOLIC, nid yn unic gan ei chyfeillion ei­hun, ond hefyd gan ei gelynion: oblegid fod yr Hereticiaid euhu­nain yn en hadrodd cyffredin, yn ei galw hi felly, gan nad oes gan­thynt hwy ddim enwau eraill i wahanu euhunain a'i Canlyniaid oddiwrthi hi, ond trwy alw euhu­nain yn Refformwyr, Llewyrchion, Brodyr-pur, a'r cyfryw enwau eraill [Page 154]sy wahanol oddiwrth y Catholi­gion. August. Epist, contr. Man­ach. c. 4. & lib. de vera Relig. c. 7.

D.

Wrth ba arwydd y cafi wybod, ddarfod i mi wneuthur dewis iawn a gwir?

A.

Os ar ol hynny, y digwydd i chwi etto fod yn ançertain, yn ammheus, ac mewn cyfyngder blin a dyrysni meddwl (oddieithr i hynny fod trwy gymmell y Cy­thraul, o'r hyn beth y mae'n rhaid i chwi gymmeryd cyngor gan ryw ddyn gwir Catholic a dyscedic) mae hynny yn arwydd, na ddarfu i chwi ddilyn y Cynghorion ymma, ond bod perthynasau bydol o darfodedic wedi eich gogwyddo chwi, yn tre­chu ac yn meistroli arnoch, ac felly eich bod chwi fyth yn perhau yn eich cyfeiliorn.

D.

Beth os cymmeraf y cyngor hwn, gan ddewis a ddilyn y wir Ffordd?

A.

Os gwnewch-i hynny, trwy gadw hefydd y Gorchymmynion e­raill [Page 155](oblegid nad yw Creduniaeth ond peth gwag ac ofer heb Gariad­perffaith, 1 Cor. 13.2.) chwi a gewch gyssur a diddanwch mawr yn y bywyd hwn (nid wyf yn dywe­dyd y bydd i chwi lwyddiant bydol bob amser, o ran na bu hynny, i'r Apostolion enhunain, nac i anwyli­on pennaf Duw) ac wedi hynny, chwi a gewch Ddedwyddwch dider­fyn yn y Paradwys Nefawl.

D.

Beth os myfi ni ddilynaf y cyn­gor hwn?

A.

Os chwychwi ni fynnwch gym­meryd poen cyn leied oblegid Ne­ges o gyfryw pwys a maint, ac yw TRAGWYDDOLDEB: Ond we­di darllain yr Ymadrodd hwn ei da­flu ef ymmaith, gan lunio i chwi eichun Gydwybod ysgafala, difraw a dibryder, a dywedyd: Mae'r cwbl yn dda, mae'r cwbl yn digon da. Ac felly perhau yn orphennol yn anedifeiriol yn eich Sectariaeth a'ch Rhebeliwn damnedic yn erbyn Duw, heb nac ofn na dychryn, gan [Page 156]wag ryfygu yn nhrugareddau a daioni Daw, megis y mae'r Sectariaid a'r Anffyddloniaid eraill: Yna Duw tra barhao eich pererindod traffer­thus yn y dyffryn hwn o ddagrau, a galeda eich calon chwi, megis y ca­ledodd ef galon Pharao, fel na byddo gennych ddim cnofa cydwy­bod am eich drwg fuchedd, nac yn iach nac-yn glaf, nac hefyd chwaith pan fo'r Meddygon wedi colli en gobaith oll o'ch hoedl chwi; (oddi­ethr i Gyfiawnder Duw eich cippio chwi yn ddisy mmwth, trwy farwo­laeth mwy amharod) chwychwi, yr hwn oeddech bob amser yn parhau yn Rebel yn erbyn Nef a Duw eu­hunain, gan ddisemblu'r gwaith a chwarae'r Hypocrit ffuantus yngwydd y Byd, a barhewch fyth yn eich rh [...]grith Hypocritic, gan ymddangos eichun yn sanctaidd-fodlod ac yn ewyllysgar i ymadael a'r byd hwn, a gwneuthur eich Llythyr-Cymmyn, a chanu Ffarwel i'ch Cyfeillion, &c. etto er hynny igyd, er hen Sarph [Page 157](i sugiestiwnau yr hon yr oeddech yn wastad mor ufudd;) a'ch per­swadia chwi yn gyfrwys y gellwch chwi etto wellhau, mynd yn iach, a byw yn hir; hyd o'r diwedd, wedi colli ohonoch eich parabl a phob modd arall o adroddiad, y disgynna megis ffrwd gynddei [...]iog, neu megis corwynt tymmhes [...]log ac y rhuthra llaw drom Digofaint D [...]w ar eich traws chwi, ac a'ch bwria chwi i lawr i wag a diles ymgnofa cydwy­bod, i anobaith gorphennol, ac i gas dirfawr parhaus o ddaioni Duw: ac felly y cippir eich enaid anned­wydd allan o'i dy clai, ac y gosodir ef gerbron Tribunal Cyfiawnder y Goruchaf; lle yn gystal ar awr eich angau, ac yn nydd y Farn Gyffredin, y dengys ac yr eglura Christ ein Cei­dwad i'r holl Ysprydion Bendigedic a Damnedic, y Trugareddau mow­rion oll a wnaeth ef i chwi, trwy amryw ymysprydoliaethau o ddydd i ddydd, o fis i fis, o flwyddyn i flwddyn yn eich disgwyl, yn galw [Page 158]arnoch, ac yn eich annog i ddyfod i mewn i wir Ffordd Jachawdwria­eth, ac yn enwedic trwy'r Ymadrodd hwn: a'r modd y darfu i chwi fyth yn gyndyn ddirmygu a gwrthod u­fuddhau iddo, a diystyru ei sugiesti­wna [...] ef, a phathau byth yn wrthny­sic yn eich Sectatiaeth, hynny yw, mewn Rebeliwn yn ei erbyn ef, gan sathru Gwaed y Testament Newydd tan eich traed, a chroes­hoelio Mab Duw drachefn. Ar yr hyn y rhoddant yr holl Seinctiau a'r Angelion Ddiolch anfeidrol, a Go­goniant, a Bendithion i Dduw am y Trugareddau mowrion annrhaetha­dwy a ddarfu iddo eu cynnyg cyn fynyched i chwi: Ac a'ch difer­nant chwi yn euog o'r Digofaint ei­thaf, ac o'r Poenan tragywyddol; ie a'r Ysprydion Repryfedic a gan­molant y Farn, gan eich dannod chwi yn fwy na neb. Ac wedi hynny y cewch-i glywed yr Oen Digllon yn llafaru y Farnedigaeth honno ddy­chrynnedic. Discedite a me ma­ledicti [Page 159]in ignem aeternum. Ewch oddiwrthyf chwychwi y rhai mell­tigedic i'r Tan Tragywyddol, &c.

Directiwn i'rhai cyfion yn ymwr­thod a phechod marwol ac yn ceisio byw yn ddefotionol, i wneu­thur Cyffes Particwlar, arfere­dig iw gwneuthur bob wythnos, bob pythefnos, neu bob deg neu bum niwrnod.

GWneuthur Cyffes Barticwlar yn dda, sy bwnc lesfawr an­feidrol. Oblegid onis cymmerir gofal mawr, fe fydd hawdd ei gnew­thur hi heb wir edlfeiwch, a chy­flawn [Page 160]fryd i wellhau, ac wrth hyn­ny pechu yn orthwm ac yn Sac [...]ile­gaidd: Ile pe gwneid hi yn dda, di­ammeu yw, a gellid byw yn burach, cwympo yn anamlach, codi yn gynt, rhodio yn fwy gochelgar: ni gaem weled ein beiau yn amlyccach▪ ni gaem ein comfforddi yn fynychach. ni gaem ein puro yn gynt, ac yn y Nef ein gobrwyo yn helaethach.

Rhybyddion o flaen Cyffes.

1. O ewyllys llwyr-difrif o ddan­gos stat dy enaid i'th Dad Ysprydol Gweddia yn daer ar ryw Sanct hynod o achos ei benyd, i gael goleuni trwy ei gyfrwng ef i wybod dy be­chodau yn hollawl, ac iw cyffesu hwynt yn iawn.

2. Hola dy feddyliau, dy eiriau, a'th weithredodd oll ar ol dy Gyffes ddiweddaf yn rhesymmol ofalus, tros hanner awr, nen o amgylch hynny, yn fwy neu lai yn ol yr amser wedi dy Gyffes ddiweddaf.

3. Bid gennyt gymmaint edifer­wch ac a alli gyda bryd cyflawn i [Page 161]welhau, gan lwyr-gredu fod Duw, yr hwn sy ddaioni anfeid [...]ol, ac i'r hwn yr wyt yn rhwymedig anianol, yn ddian yn digio yn gyfion am y pechod lleiaf a wnei yn ei erbyn ef, ie er na bo ond maddeuol.

Rhybyddion wrth gyffesu.

1. Cyffessa dy bechodau yn O­styngedig, gan Iwyr-gydnabod dy drueni dyhun, ac a chyflawn anrhy­dedd tuag at Fawredd Dduw, yr hwn sy bennaf President neu Raglaw yn y Sacrafen hon. Ac amhynny go­chel y Modd hwnnw o Gyffes-coeg­wag awneit trwy arfer allan o ly [...].

2. Cyffessa dy feiau ar fyrr eiri­au, heb fwy nac y fo rhaid, na chewddlua [...] coeg, nac adroddion ofer fel y rhain: Ni cherais Dduw fal y dylwn: Ni weddais yn gystal ac y dylwn: a'r cyffelyb a alla [...] An­gel o'r Nef eu cyrfessu. Ond bydd di (yr hwn a arferi gyffessu yn fy­nych) yn fyrr, gan gyffessu (pan fo'r cwbl ond matterion man) saith [Page 162]neu wyth yn unic o'r pethan mwyaf nodedig a ddigwyddasant i ti ar ol dy Gyffes ddiweddaf, gyda'r pethau y mae dy natur fwyaf yn gwrthwy­nebu eu cyhoeddi.

3. Cyffessa'r cwbl yn eglur ymhob pwnc, ac mewn adrodd plaen, sympl, a gweddaidd, heb enwi neb ar gam, trwy esponi y weithred neill­tuol eihun, y motif, yr achos, a nifer pob vn, neu hyd yr amser y parhaodd. Na fydded ddigon gen­nyt ryw gyhudded gyffredin, pan fo rhyw beth particular tan y gyffre­din honno yn aflonyddu dy gydwy­bod: er esampl: Ni ddywedais yn gystal am eraill, ac y mynnwn gan­thynt hwy ddywedyd amdanafi: Ile a dywedaist, ysgatfydd, [...]hyw ddrwg amdanynt: megis eu bod yn gelwy­ddog, yn faleh yn ddiog, &c. Ac amhynny yn y digwydd hwnnw, bydd ofalus i ddywedyd y drwg hwnnw yn neilltuol, ac wrth pa sawl y dywedaist bob tro▪ ac o ba achos a motif, ai ar fyrbwyll trwy [Page 163]ddigter, neu o wir falais, ac felly y dilwythi di dy Gydwybod yn holl­awl o hynny.

Ar ol Cyffes.

Gwna yn y man dy benyd yn lyr-ddyfal, gan newyddu dy fryd o wellhau dy fuchedd, a gochelyd pob bai, gyda'i achosion oll, yn enwedig y pechodau a gyffessaist y pryd hwnnw, ond yn bendifa­ddeu y rheini yr rhai wyt yn ty­bied eu bod yn yn wraidd, ac yn achos o'r llaill.

Fform nau Ddull o Gy­ffes i ddangos i'r rhai sy'n byw yn lanaidd, ac yn cyffessu yn fy­nych y modd y dylent wneuthur eu Cyffes.

VVEdi penlino wrth Sedd neu neu Gadair yr Offeiriad, nid o'i flaen ef, ond o'r naill ystlys iddo, a'th wyneb tuag at ei glust ef, neu tuag at lun y Grog fendigedig y fo oth flaen, yn gyntaf dim gwna arwydd y Grog, gan ddywedyd,

In Nomine Patris, & Filii, & Spiritws S. Amen. Neu Yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Gl. Amen.

Yno dywaid Benediçite. Ystyr y gair hwn yw cymmaint a phe dywedi: Gweddiwch drosaf fy Nhad Yspry­dol i Dduw roddi cyflawn edifeir­wch a gostyngeiddrwydd yn fy nghalon, fel y gallwyf gyffessu fy mhechodau iw Ogoniant ef, a thru­garedd i'm henaid inneu, &c. Yna y dywaid yr Offeiriad (megis y mae ef yn swyddog i Dduw, a'i lan Eglwys) y Weddi arferol. Yn ol hynny dywed dithau y Gyffes gyffredin: Conffiteor Deo Omnipotenti, &c. neu yn Gymraeg os gwell genyt; ac wedi curo dy ddwyfron y drydedd waith, aros yno, a dechreu dy Gyffes fel hyn.

Yr wyf fi yn cyffessu fy modd yn fynych, ar ol fy-nghyffes ddiwe­ddaf (y fu wythnos i heddyw, neu ers deg neu bum niwrnod) ar wall wrth ddywedvd fy-ngweddiau, nid o'm llawn fodd, ond o esgeulusdra, trwy ymollwng fy-nghof i redeg ar drawsfeddyliau: unwaith yn enwe­dig yr arosais yn y cyfryw wag-fe­ddwl cyd ac y dywedid un Miserere [Page 166]neu o amgylch hynny ar amser yr E­levation yn yr Offeren sancta­idd.

2. Yr wyf fi yn cyffessu fy mod y [...] fynych yn anghall ac yn fyrbwyll y [...] fy ngeiriau: dwywaith yn enwedig y bum i yn rhy dafod-rhydd wrth siarad am fatterion ofer, ac unwaith o'rheini a cyhoeddais y peth a ddywedasid i mi mewn cyfrinach, ni [...] oedd hynny na matter mawr, na cham i neb.

3. Yr wyf fi yn cyffessu ddywedy [...] o honof gelwydd unwaith ar fyr­bwyll, nid yn wybodol, a chwedi gwybod hynny, mi beidiais yn ystyr­lawn a galw'r gair yn ol o flaen y rhai y dywedaswn ef, a hynny o wir falchedd, rhag dangos fy mod wedi gwneuthur ar fai.

4. Yr wyf fi yn cyffessu ddar­fod i mi ymollwng fyhun i ddig­lloni loerig a ffromder, trwy esgeu­lusdra tros ddau ddiwrnod, ac nid ymegniais nemor trwy'r amser hwn­nw i orchfygu fy natur ddrwg: yn [Page 167]y cyfamser hwnnw mi rois chwech neu saith o attebion digllon i'r sawl a'm holasant: un o'rheini oedd ddi­wrnod. Cymmun.

6. Yr wyf yn cyffessu ddarfod i am­ryw feddylieu aniwair ddigwydd i mi beunydd, ond ni chymmerais (i Dduw y bo'r diolch) blesser ystyr­lawn yn un o honynt: etto mi a ymarosais yn ddiofal ynddynt bob tro ennyd un Afe Maria neu o am­gylch hynny: unwaith yn sicr y bum i yn ddiogswrth iawn o droi ymmaith rhyw ystyriad aflan y fu'n molestu ac yn blino fy meddwl y rhan fwyaf o hanner diwrnod: et­to nis gwn i ddim drwg ystyrlavvn o'm rhan fyhun yn yr holl ymdrech cnavvd-ysprydol hvvnnvv.

7. Yr vvyf fi yn cyffesu ddarfod i mi ddyvvedyd llavver o gelvvy­ddau a geiriau ofer yn fy myvvyd a aeth heibio, am y rhai, ac am bob peth arall, trvvy'r hyn y digiais Dduvv Hollalluog, mae'n edifar gennyf o ddyfnder fynghalon: ac yr [Page 168]wyf. yn bwriadu o ddifrif (gyda Gras Duw) wella o hyn allan.

I deo precor, &c. neu:

Amhynny yr wyf, &c.

Nota na ddylit ti un amser wneu­thur dy Gyffes yn yr un ymadrodd di­rannedig, neu yn yr un geiriau hyn a osodwyd ar lawr ymma: oblegid nid oes un ymysc miloedd yn euog o'rhain igyd ar unwaith, heb fod yn euog o ddim arall. Ond mi a osodais y rhain ymma, i ddangos i ti y modd y dylit ti ddywedyd yn neilltuol y beiau o'r rhai y bo'th Cydwybod yn euog bob tro yr ei i dderbyn Sacrafen Penyd.

Nota hefyd nad ydyw yn dda, dechreu Cyffes bob amser a'r un­rhyw bechod ond ei dechreu hi wei­thiau ag un math o bechod, weithiau ag un arall: a newid hefyd yr yma­drodd gymmaint ac y gallo dyn: oblegid fod y Trawsosod hwn neu'r symmyd-matter, a'r newid ymadrodd yn helpu yn fawr iawn i ochelyd y claiaredd lled [...]wym drwg [Page 169]hwnnw o gyffessu bob amser yn yr un ton.

Taflan o'r Pecodau digwyddawl i'r rhai Cyfion.

GAdael ei Weddiau arferol heb eu dywedyd trwy esgeulus­dra.

Bôd yn anewyllysgar i ymroi ei­hûn ar ddefosiwn pabynnac.

Traws-feddyliau o wîr fodd ar ei Weddiau.

Pôb ammharch neu annefosiwn ar Weddiau, bid trwy ormod brys, bid trwy edrych ymma ac accw, neu ymdorriadau dirhaid, neu ym­ddygiad anweddaidd, neu heb gym­meryd [Page 170]lle neu amser cyfaddas, &c.

Temptatiwnau mewn matterion y Ffydd a'r cyffelyb.

Swgiestiwnau neu ymgyffroadau cablus am Dduw, ei Ragluniaeth, neu'i Gyfiawnder ef, &c.

Meddyliau cenfigenus am glôd rhai eraill, eu hanrhydedd, neu'i da pabynnac hwynt.

Gwrthwynebedd tuag at y sawl a'th croeso.

Drwg-dybied byrbwyll.

Anfodlonrwydd meddwl.

Murmur a gryngian meddwl.

Llyfrdra meddwl.

Gwâgddiddanwch.

Geiriau, neu ymddygiad digllon anfoddog, neu ffromm.

Dibrisio, barnu, neu ddiystyru e­raill yn gyhoedd neu'n gelcus.

Celwyddau byrbwyll, diystyr.

Pôb gwall synwyr, neu anghy­mendod wrth chwedlua.

Gwag-ymglodfori neu ymffrostio ar air, meddwl neu withred.

Meddyliau, neu ewyllys go-ani­wair ar fyrbwyll.

Breuddiwydau aflan, twylledd budr neu hûd trwy gwsg.

Golwg anweddaidd o'th gorph dy­hun, neu o gorph unarall yn ym­ryfysc, neu ar fyrbwyll.

Geiriau cellweirus go-anniwair.

Meddyliau trahaus, balch, neu aflonydd, cybyddus, &c.

Mawr awydd tuag at, a phôb gormodd o fwyd neu ddiod.

Dywedyd ie a nagê trwy wen­iaith yn erbyn cydwybod i gynffon­lonni rhai eraill.

Gadael heb wneuthur bethbyn­nac y fo Cyfiawnder a chariad per­ffaith yn gofyn.

Pôb beiau eraill digwyddawl i alwedigaeth, Conditiwn, dyled­swydd, neu anghenwaith pôb un.

Pob awr a edy ddigon o ddeunydd Cyffes i enaid a lewyrchwyd oddi­uchod.

Laus Deo Deiparae (que) Virgini Mariae.

VVEdi holi dy Gydwybod wrth vn o'r ddwy Daflan uchod (yn ol fel y byddi yn clywed dyhun yn euog) a dosparthu'r pynciau ynot dyhun iw dywedyd i'r Tad Ysprydol yn drefnus, cyn cyffessu, dywed yn dde­fotionol y Gweddiau ymma yn canlyn.

Gweddi rhag-ddarpar o flaen Cyffes Sacrafennol.

CReawdwr nêf a daear, Brenin y Brenhinoedd, ac Arglwydd yr Arglwyddi, yr hwn a'm gwnae­thost fi o ddim yn ol dy lûn a'th gyffelybiaeth dyhûun, ac a'm rhy­brynnaist a'th waed gwerthfawr, yr hwn nid wyfi bechadur annhei­lwng yn wiw i'th enwi, nac i alw [Page 173]arnat, nac hefyd i feddwl amdanat yn fy ynghalon, edrych arnaf trwy dy addfwyn hynawsedd, attolygaf arnat yn ostyngeiddlawn, a thrugar­hâ wrthyf dy wasanaethydd drygi­onus, yr hwn a gymmeraist druga­redd ar y wraig o Canaan a Mair Magdalen, yr hwn y arbedaist y Pwblican, a'r lleidr ar y Groes: Cyffesaf i ti, O Dâd tra daionus, fy mhechodau, y rhai nis gallwn eu celu, O Arglwydd, pe mynnwn. Arbed fi, O Iesu Christ, yr hwn a'th ddigiais yn ddirfawr yn ddiweddar, ar feddwl, gair, a gweithred ymhob modd ar y gallwn bechadur breuol dy anfodloni, trwy fy mai, trwy fy mai, trwy fy nirfawr fai. Amhyn­ny: O Arglwydd, attolygaf ar dy ddaionus Hynawsedd, yr hwn a dda­ethost o'r Nêf i'm gwared fi, yr hwn a godaist Ddafydd o dramgwydd pechod, maddeu i mi, O Arglwydd, maddeu i mi, O Iesu Christ, yr hwn a faddeuaist i Petr wedi iddo [Page 174]dy wadu di. Tydi wyt fy'n Ghre­awdwr, a'm Rhybrynnwr, a'm Harglwydd, a'm Ceidwad, a'm Bre­nin, a'm Duw: tydi wyt fyngo­baith, a'm hymddiried, a'm cynnal, a'm help, a'm comffordd, a'm ca­dernid, a'm hymddiffyn, a'm gwa­red, a'm bywyd, a'm cadwedigaeth, a'm Hadgyfodiad, a'm goleuni, a'm dymuned, a'm cymmhorthwy, a'm Noddfa. Cymmorth fi, attolygaf arnat, a byddaf ddiogel: rheola ac amdiffyn fi; comffordda a chysura fi; cadernhâ a llewyrcha fi; ymwel a llawenhâ fi: côd fi i fynu yn fyw yr hwn wyf wedi marw, canys dy waith, a'th greadur di ydwyf. O Arglwydd, na ddiystyra fi ddim, oblegid dy wasanaethydd a'th gaeth ddyn ydwyf. Ac er fy môd yn ddrwg, yn annheilwng, ac yn be­chadur, etto pa fath bynnac yd­wyf, bid da, bid drwg o'th eiddo di ydwyf. At bwy y ciliaf, oni ddiengaf atta ti? Os gyrri di fi i [Page 175]ffordd, pwy a'm cymmer fi? Os diystyri di fi, pwy a edrych arnaf? Bid gwiw yntau gennyt fynghyd­nabod i, er fy mod yn dychwelyd attati yn annheilwng, yn wael, ac yn aflan. Canys os gwael ac aflan ydwyf, tydi a elli fynglanhâu i: os dall ydwyf, tydi a elli fyngoleuo i: os gwan a llesg ydwyf, tydi a elli fy iachâu, a'm nerthu i; os we­di marw a'm claddu wyf, tydi a elli fy ailfywio i. Oblegid fod dy drugaredd di yn fwy na'm hanghy­fiawnder i, dy ddaioni di yn fwy na'm drygioni i: Ti a elli bardy­nu mwy nag a allafi bechu. Ti a alli faddeu mwy nag a allafi wneu­thur ar fai. Amhynny O Argl­wydd, na edrych ar amlder fy an­wireddau, ond yn ol maint dy do­sturi trugarhâ wrthyf bechadur go­fidus. Dywaid wrth fy enaid: Fyfi ydwyf dy Ymwared di, yr hwn a ddywedaist: Ni fynnaf i farwolaeth y pechadur, ond ymchwe­lyd [Page 176]o hono ef, a byw. Ymchwel fi, O Arglwydd, attati, ac na ddigia wrthyf. Yr wyf yn attolwg arnat, O Dâd trugaroccaf, dwg fi i ddi­wedd da, ac i gyflawn benyd, i Gyffes lân, ac i hollawl Jawnwaith am fy holl bechodau. Amen.

Gweddi arall o flaen Cyffes Sacrafennol.

DErbyn fyn Ghyffes i, O Iesn Grist, Arglwydd tirion a thra daionus, unic obaith ymwared fy enaid i, a dyro edifeirwch yn fyn­ghalon, attolygaf arnat, a dagrau i'm llygeid. fel y gallwyf ddydd a nos wylo a galaru am fy aml feiau trwy lawn ostyngeiddrwydd a phur­deb calon. Deued fy ngweddi, O Arglwydd, ger dy fron di. Os di­gi di wrthyf, pa helpwr a geisiaf? Pwy a gymmer drugaredd, ar fy an­wireddau? Meddwl amdanaf, O Ar­glwydd, yrhwn a alwaist ar y wraig [Page 177]o Canaan, ac ar y Pwblican i edi­farhau, ac a dderbyniaist Petr yn wylofain. O fy Arglwydd a'm Duw derbyn fy ngweddiau. O Iesu daio­nus, Ceidwad y Byd yr hwn a ro­ddaist dyhun i farwolaeth ar y Groes er mwyn ymwared pechaduriaid, disgwyl arnaf bechadur truan yn galw ar dy Enw, ac na ed [...]ych ar fy nrygioni i yn gymmaint a gollwng ynangof dy ddaioni dyhûn. Ac os gwnenthm yn dy erbyn yr hyn a ddichon fwrw fy enaid i gollediga­eth, etto ni chollaist di yr hyn trwy'r hyn yr arferi safio. Atbed fi gan hvnny, O Arglwydd, yr hwn ydwyt fy Iachawdwr, a thrugathâ wrth fy enaid pechadurus. Dattod ei rwymau ef ac iacha ei archollion ef, O Arglwydd Iesu, yr ydwyf yn attolwg, yn deisyf, ac yn dymuno arnat; dangos i mi di wyneb, a byddaf safiedig. Llewyrcha gan hynny fy enaid i a'th oleuni ac a'th wirionedd di, O Arglwydd trwy ry­glyddiannau [Page 178]y bureiddaf a'r ddifry­cheulyd Forwyn bob amser Mair fen­digedig dy fam di, a thrwy haeddi­ant dy holl Sainct, y rhai a allant ddangos i mi y camweddau, a'r beiau a ddylwn eu cyffessu, ac a all­ant helpu, e dyscu i mi eu cyhoe­ddi a'i hyspyssu igyd a chalon edi­feiriol. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu tros oes oesoed. Amen.

Gweddi ar ol Cyffes.

ATtolygaf arnat, O Arglwydd, bydded y Gyffes hon a wneu­thyrn yrwôn, yn hoff ac yn gym­meradwy ger dy fron di, trwy ry­glyddiannau dy fendigedig fam Mair forwyn bob amser, a'r holl Sainct: a pha ddiffyg bynnag y fu arnaf yn­awr neu bryd arall o edifeirwch di­gonawl, neu o gyfanrwydd a phur­deb Cyffes, cyflawned hynny oll dy ddaioni a'th drugaredd di: ac felly teilynga fynghyfrif i wedi fy [Page 179]absolfio yn helaethach, ac yn ber­ffeithiach yn y Nêf. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu tros oes oe­soedd. Amen.

Cynghorion am recefio Sacrafen fendigedig yr Allor yn deilwng.

CYnrifer gwaith bynnac y bwy­ttaoch y Bara hwn, ac yr yfoch y Caregl hwn, chwi a ddangoswch farwolaeth ein Harglwydd hyd oni ddelo. 1 Cor. 11.26.

Amhynny pwybynnac a fwyttao y Bara hwn, neu a yfo Caregl ein Harglwydd yn annheilwng, y fydd euog o gorph a gwaed ein Harglwydd. v. 27.

Eithr profed dyn eihun, ac felly bwyttaed o'r Bara hwn, ac yfed o'r Caregl. Canys yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedi­gaeth iddo eihûn.

Y Profedigaeth hwn yn ol geiriau'r Apostl, profed dyn eihûn, sy'n sefyll ar bedwar pwnc yn bennaf.

1. Ffydd o flaen pob peth sy'n an­genrheidiol i'r sawl a recefio'r Cym­mun sanctaidd, hynny yw, rhaid iddo gredu yn hollawl fod gwir gorph a gwaed ein Iachawdr Jesu yn bresen­nol yn y Sacrafen hon, gan i fod ef eihun a'i air didwylladwy yn siccrhau hynny i ni. Hwn yw fy-nghorph, hwn yw fy-ngwaed.

2. Penyd neu edifeirwch, fel y gallo dyn gydnabod ei bechodau i waelod ei [Page 181]galon, a bod yn llwyr ddrwg gantho o'i plegyd, a'i cyffessu'n gywir i'r Offei­riad ei Dad Ysprydol gyda llawn fryd na wnelo byth mwy un pechod marwol, a chan ymwrthod a phob cenfigen, a malais, gan ymgymodi a chyttuno a'r rhai a ddigiodd ef, neu a'r rhai a'i di­giasant yntau.

3. Ymddygiad moddus a gweddaidd. ag wynebpryd hardd cyfaddas i Gri­stion da: ac y mae'n rhaid nad elo neb at y Dirgeledd mawr hwn, ond yn ymprydiol, ac a moddustra ac a go­styngesddrwydd, ac a newyn ysbry­dol.

4. Defotiwn, a chalon wag o dra­fferthau bydol, fel y gallo dyn ymroi ei hun i weddiau, a myfyriadau duwiol i dderbyn Sacrafen mor rha­gorol, trwy feddwl a rhyfeddu ar ddaioni anfeidrol Duw Hollalluog, yr hwn er ei fod o Fawredd annrhae­thadwy, y fu ufydd iw Dad Nefawl hyd at farwolaeth, i roddi bywyd i ni: a gyda hynny, fel y gallo trwy'r [Page 182]eyfryw weddiau a myfyrdodau defosi­onol gyffroi eihun i garu Duw goruch pob peth, ac i ddiolch yn llwyr iddo ef am ei holl fendithion, gan ddy­muno yn ostyngeiddlawn gael bod yn gyfranrog o'i farwolaeth, a'i ddio­ddefaint dolurus ef, er comffordd a ia­chawdwriaeth iw enaid eihun.

Gwedd y corph wrth reçefio'r Sacrafen fendigedig.

1. BYdded y dwylo tan y tywel (yr hwn a ledir ar y Cymmun­fordd o'i flaen) cyn vched a'i ddwy­fron: coded ei ben yn weddaidd i fynu, fel y galler yn hawdd cyrrhae­ddyd y geneu. Bydded y llegaid yn lled gaed, neu'r golwg yn ddefotionol tuag i waered. Bydded y gwefussau heb ddim cyffro, yn rhesymmol ago­red, ond nid yn safn-rwth.

2. Cyrrhaedded y dafod hyd at yr ymmyl oddimewn y wefus isaf i dder­byn yr Hostien sacredig fel y gallo [Page 183]ei dwyn hi i mewn: ac wedi ei dal hi yno ennyd yn ddefotionol i leithio, goll­ynged hi i waered i'r cylla, heb na'i chnoi na'i chodi at daflod y geneu: yna cymmered yr Ablwtiwn neu'r gol­chiad, yr hwn nid yw ddim arall ond gwin, neu ddwfr i olchi'r geneu.

3. Bydded y corph igyd yn gym­mwys, heb ddim cyffro, vchneidio, curo'r fron, neu Weddi lafarol rhag i'r Hostien fendigedig dwtsio'r dan­nedd, neu'r gwefyssau.

4. Wedi recefio dychweled yn dde­fotionol at ei Weddi lafarol: ac na phoered (os dichon ymattal) hyd ddiwedd yr Offeren, neu o amgylch hynny.

Gweddi o flaen recefio'r Sacrafen fendigedig.

O Jesu Christ Arglwydd daio­nus, yr ydwyfi bechadur truan heb hyderu dim ar sy haedde­digaethau fyhûn, ond trwy ymddi­ried [Page 184]yn dy drugaredd a'th daioni di, yn ofni, ac yn dychrynnu neshau at fordd dy felusber Wledd di. Ob­legid fod i mi galon a chorph wedi eu brychu igyd a pechodau: me­ddwl a thafod heb eu gwarchad yn ofalus. Amhynny, O Dduwdod duaionus! O Fawredd ofnadwy [...] yr wyfi druan ynglyn yn y cyfyng­derau hyn yn troi attati Ffynnon y Drugaredd; bryssiaf attati i'm ia­chau: rhedaf tan dy amdyffyn di; a'r hwn nis gallaf ei oddef yn Farnwr arnaf, yr wyf yn gobeinhio ei gael yn Geidwad i mi. I ti, O Argl­wydd, yr wyf yn dangos fy archo­llion: i ti yr wyf yn datcuddio fynghywilydd. Mi wn fod fy mhe­chodau yn aml, ac yn ddirfawr, am y rhai yr ydwyf yn ofni. Ond yr wyf yn gobeithio yn dy drugareddau di, y rhai sy'n aneirif. Edrych i waered arnaf a golygon dy druga­redd. O Arglwydd Iesu Grist, y Bre­nin tragywyddol, y Duw a'r dyn [Page 185]a groeshoeliwyd tros ddyn, gwran­do fi, yn ddaionus yn ymddiried ynoti. Trugarhâ arnaf yr hwn wyf yn llawn o drueni ac o bechod, tydi yr hwn nid wyt fyth yn attal dy ffynnon o ddaioni i redeg. Hanffych well, O Aberth iachuslawn yr hon a offrymmwyd ar bren y Groes tro­sofi, a thros yr holl Genedlaeth ddynol: Hanffych well, O hynod a gwerthfawr Waed yn ffrydu allan o archollion f' Arglwydd Iesu Christ a groeshoeliwyd, ac yn golchi ymaith bechodau yr holl fyd. Co­fia, O Arglwydd, dy greadur a rybrynnaist a'th waed: mae'n ddrwg gennyf o waelod fy-nghalon ddarfod i mi bechu yn dy erbyn di. Yr wyf yn chwennych gwella yr hyn a wneuthum ar fai. Amhynny tynn ymaith, O Dad trugarog fy holl an­wireddau a'm beiau, fel y gallwyf wedi puro fy enaid a'm corph, dder­byn yn deilwng Sanctaidd y Sanctei­ddion: a chaniada i'r profiad bendi­gedig [Page 186]hwn o'th gosph a'th waed di, yr hwn yr wyfi ddyn annheilwng yn chwennych ei gael, fod yn rhyddhaad o'm pechodau, yn bure­digaeth hollawl o'm camweddau, yn yrriad ymaith o feddyliau drwg ac aflan, yn gynnydd o ystyriadau da, yn gyflawniad nerthol o weithred­oedd cymmeradwy iti, ac yn am­ddiffyn diogel i'm henaid a'm corph yn erbyn holl ddichellion fyngelyni­on. Amen.

Gweddi Sanct Thomas o Aquin.

HOllalluog tragywyddol Dduw, wele yr ydwyfi yn dyfod at Sacrafen dy unanedig Fâb di, ein Harglwydd lesu Christ: yr wyf yn dyfod fel dyn gwan at Feddyg fy mywyd, fel dyn brwnt at Ffynnon y drugaredd, fel dyn dall at y Go­leuni a'r Disgleirdeb dibaid; fel dyn tlawd ac anghennus at Frenin Nef [Page 187]a Daear: Amhynny yr wyf yn dy­muno ar amlder dy Haelioni di, dei­lyngu o honot iachâu fy ngwendid i, golchi fy mrynti, goleuo fy nalli­neb, cyfoethi fy nlodi, dilladu fy noethni: fel y gallwyf dderbyn ba­ra'r Angelion, Brenin y Brenhinoedd, Arglwydd yr Arglwyddi a chym­maiut o annrhydedd a gostyngeiddr­wydd, a chymmaint o edifeirwch a defotiwn, a chymmaint o burdeb a ffydd, a chyffelyb fryd a bwriad ac y fo buddiol i iachawdwriaeth fy enaid i. Dyro i mi, attolygaf arnat, nid yn unic dderbyn Sacrafen Corph a Gwaed ein Harglwydd, ond hefyd y peth eihû [...], a rhinwedd y Sacra­fen. O Dduw gwynn, dyro i mi dderbyn Corph dy Fâb di unanedig Iesu Christ ein Harglwydd ni, yr hwn a dynnodd ef o Fair forwyn, fel y gallwyf ymgorphoti yn ei Gorph Dirgeleddus ef, a'm cyfrifo ymysg ei aelodau ef. O Dad daionus, can­niada i mi yn dragywydd gael gweled [Page 188]wyneb dy anwyl Fab di yn ddiar­gel, yr hwn yn guddiedig yr ydwyf ynawr yn chwennych ei dderbyn. Yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu, &c. Amen.

Ar ol recefio'r Sacrafen fendigedig.

Gweddi S. Thomas o Aquin.

DIolchaf i ti, O Arglwydd San­cteiddiol, Tad hollalluog tra­gywyddol Dduw, yr hwn nid er dim haeddedigaeth o'm rhan i, ond o unic deilyngdod dy drugaredd dyhun y fu gwiw gennyt fy mhorthi i dy wasanaethydd annheilwng a gwerth­fawr Gorph a Gwaed dy Fab di Iesu [Page 189]Grist ein Harglwydd ni. Ac attoly­gaf arnat, na bo'r Cymmun sancta­idd hwn yn euogrwydd o gospediga­eth i mi, ond yn gyfrwng iachuslawn o faddeuant. Bydded i mi yn arfo­gaeth o Ffydd, ac yn darian o ew­yllis da. Bydded i mi yn waghaad o'm camweddau, ac yn yrriad ym­maith o drachwantau cnawdol ac an­lladrwydd: yn helaethiad o gariad perffaith a dioddefgarwch, o ymo­styngeiddrwydd ac ufudd-dod, ac o böd rhinweddau: yn ymddiffynfa gadarn yn erbyn fy holl elynion gwe­ledigawl ac anweledigawl: yn ber­ffeithlawn lonyddwch o'm holl ym­gyffroadau cnawdol ac ysprydol: yn ymlyniad diogel wrthoti y gwir a'r unic Dduw, ac yn orphen dedwydd o'm diwedd i. Ac mi a attolygaf arnat deilyngu o honot fy nwyn i bechadur i'r Wledd honno annhrae­thadwy, lle yr wyti gyda'th Fab a'r Yspryd Glan i'th Sainct yn wîr ole­uni, yn ddigonedd cyflawn, yn [Page 190]lawenydd tragywyddol, vn hyfryd­wch gorphenawl, ac yn ddedwydd­wch perffeithlawn. Trwy'r un Christ ein Harglwydd ni. Amen.

Gweddi Sanct Bonafentwr.

GWana trwyddynt O Iesu Ar­glwydd daionus ymysgaroedd a me [...]ion fy enaid i ag archoll iachu­slawn hyfryd o'th serch di, ac a gwîr, serenol, ac Apostoleiddlawn gariad sacredig: fal y metho ac y toddo bôb amser f'enaid i o'th ga­riad di yn unic, ac o hiraeth amda­nati; trachwanted di, a diffygied yn dy Neuaddau di, chwennyched gael ei ddatrod a bod gyda thi. Dyro föd newyn ar fy enaid amdanati, ba­ra'r Angelion, ymborth yr Eneidiau Sanctaidd, ein bara beunyddol sw­perswbstantiawl, yn yr hwn y mae pôb melusder a blas da, a phöb hy­frydwch pereidd-dra. Bydded newyn böb amser ar fynghalon amdanati, a [Page 191]bwyttaed ti, ar yr hwn y mae'r An­gelion yn chwennychu edrych, a bydded fy ymmyscaroedd yn llawn o felusrwydd dy flâs di, bydded sy­ched ar fynghalon amdanati ffyn­non y Bywyd, ffynnon y Doethineb a'r Gwybodaeth, ffynnon y Goleu­ni tragywyddol, ffrwd oddifyrrwch: llawnder ty Duw: ymgeisied ti, chwilied amdana ti, caed ti, cyrched attati, myfyried amdanati, ymddi­ddaned amdanati, a gwnaed böb peth er moliant a gogoniant dy Enw di, trwy ostyngeiddrwydd a phwylledd, trwy gariad a diddanwch, trwy ba­rodrwydd ac ewyllysgarwch, a thrwy hibara hyd y diwedd: a bydd di yn unic bob amser fyn-gobaith i, fy holl ymddiried a'm golud, a'm ple­sser, a'm hyfrydwch, a'm llawenydd, a'm gorphwys, a'm llonyddwch, a'm heddwch, a'm melusder, a'm perarogl, a'm pereidd-dra, a'm bwyd, a'm hymborth, a'm hymddiffyn a'm cymmorth, a'm doethineb, a'm [Page 192]rhan, a'm meddiant, a'm tryssor, yn yr hwn bydded fy meddwl a'm calon ynglyn, yn ddiogel ac weddi gwreiddio yn ddiysgog bob amser. Amen.

Rhybudd am yr Offeren sanctaidd.

NId Pregeth, nid Exhortatiwn, nid Athrawiaeth, &c. Yw'r Offeren sanctaidd: ond Aberth Fawr y Crefydd Christianogl, a'r hon y mae'r bobl ffyddlon yn anrhydeddu ac yn addoli Duw. Hynny yw, san­cteiddlawn Action Fawr a Solemn ydyw, yn cynnwys ynddi eihun ni­fer mawr o ddirgeleddus Rithiau; Arwyddion, Defodau a Gweithre­doedd neu Ceremoniau sacraidd yn gy­stal a geiriau. Yr hyn ni ddylai neb ei dybied yn rhyfedd, oblegid y gellir anrhydeddu Duw, ac adeiladu y bobl ffyddlon yn gymmaint a Gweithre­doedd ac a Geiriau. Mae'r Offeiri­ad yn yr Offeren, er esampl, yn gw­neuthur arwydd y Croes arno eihu­nan weithiau o'r talcen hyd tan y ddwyfron ac o'r ysgwydd asswy i'r ysgwydd ddeheu; weithiau ar y tal­cen yn vnic, weithiau ar y gwefusau yn vnic, weithiau ar y ddwyfron [Page 194]yn vnic; weithiau ar yr Offrymmau; weithiau ar y Llyfr neu'r allor; weithi­au ar y bobl ffyddlon, &c. yn gym­maint a'i fod ef yn yr holl Action san­cteiddlawnhon, yn gwneuthur arwydd y Groes fendigedic 50 gwaith: yr hyn igyd sydd i'n cofio ni, y gwneir yr holl Aberth hon, er COFFA am ein Jachawdr Christ, megis y gorchym­mynodd ef Luc. 22.19. 1 Cor. 11.24. (pan y gwnaeth ef yr Apostoli­on yn Offeiriaid) ac wrth hynny i Adeiladu'r ffyddloniaid. Yn ail, mae'r Offeiriad yn penlino 12. waith ganmwyaf yn holl amser yr Aberth ddirgeleddus hon wrth hynny i addoli Duw, ac i arwyddoc­câu fod y ffyddloniaid o bedwar Parth y Byd yn rhoddi goruchaf anrhydedd iddo ef, yn Nhrindod y tri Person­nau Duwfawl; megis hefyd i ddangos, ei fod ef yn offrwm i'r Mawredd Duwfawl holl Addoliannau y 12. A­postolion, a deuddeg Lwyth Israel. Yn drydydd, mae ef yn curo ei ddwyfron 10, o weithiau yn yr holl [Page 195]Offeren, i arwyddoccâu trwy'r wei­thred benydiol honno, y gwir edi­feirwch sy gantho ef, a chan yr holl ffyddloniaid am ddarfod iddynt dorri 10. Gorchymmynion Duw. Yn bedwerydd mae'r Offeriad yn cussa­nu'r Allor 8. o weithiau (yr hwn yw'r nifer perffeithlawn) i awyddc­cau wrth hynny fod Christ trwy ei Ddioddefaint, wedi cymmodi yn berffeithlon y Genhedlaeth ddynol a Duw. Yn bummed, mae ef 8. waith hefyd yn cyfarch y ffyddloni­aid presennol, gan ddywedyd: Do­minws vobiscwm, Bydded ein Har­glwdd gyda chwi, i ddymuno a gofyn yn daer trwy eu cyfrwng hwynt bresennoldeb a chymmorth Duw i gyflawni yr Aberth honno yn dei­lwng. Yn chweched, mae ef yn cyssylltu ei ddwylo ynghyd, ynghylch 50. o weithiau ymmhob Offeren, i arwyddoccau y recolectiwn meddwl ac enaid a ddylai fod gan bawb ar yr amser hwnnw, megis hefyd yr vn­deb chariad perffaith tuac at Dduw a [Page 196]dyn a ddylai fod ymmhob vn y fo yn offrwm yr Aberth Sancteiddlawn honno. Yn seithfed, mae ef yn go­gwyddo neu'n gostwng ei benn 40. waith ganmwyaf, ymmhob Offeren, ac yn rhyw rai yn fynychach, i ar­wyddoccau yr Vfydd-dod y mae ef a'r holl ffyddloniaid yn ei addaw i Dduw, megis hefyd yr Vfydd-dod a gyflawnodd Christ i'w Dad tragy­wyddol, wrth wneuthur eihun yn Aberth tros y Genhedlaeth ddy­nol, yn ei Ddioddefaint bendigedic. Ac er dibennu, mae ef yn gogwy­ddo neu'n crymmu ei holl gorph 12. waith, ac o hynny beder gwaith mewn modd gostyngeiddach na'r llaill, wrth hynny i arwyddoccau gostyngiad Christ yn yr Ardd, fel y mae'r pedwar Evangelwyr yn ei a­drodd, a'i ddiystyrwch a'i waeledd anfeidrol ef yn ei holl ddioddefia­dau dolurus: a hefyd i awyddoc­cau, y gellir trwy ryglyddiannau Dioddefaint Christ (yr hyn yr ydys y pryd hynny yn ei GOFFA) cael [Page 197]iachwdwriaeth, os ceisir hynny a chalon gystuddiedig ostyngeiddlon. Ac fel hyn y gellid rhifo mwy na 300. o Rithiau, Avwyddion, a Ce­remoniau Sacraidd a wneir ymmhob Offeren (yr hon erhynny a gyflawnir yn arferedic o fewn yspaid hanner awr) a phob vn ohonynt yn repre­sentu ac yn cynnwys amryw Ddir­geleddion ac Ystyriaethau Sacraidd hablaw y rhai a soniwyd ymma, y fai rhy hir i'w dargan yn hyn o fan, a'r cwbl wedi ei ordeinio i Adeila­du'r ffyddloniaid.

Jë, mae'r Offeren sanctaidd yn sefyll yn gymmaint ar y Ceremoniau Sacraidd hyn, ac nas cyfrifid hi gan y ffyddloniaid cyffredin yn Offeren, pettid yn llafaru y cwbl igyd o'r geiriau, oddieithr cyflawni hefyd y Ceremoniau hynny. Ac o'r tu gwr­thwyneb, os gwelant hwy gyflawni yr holl Ceremoniau hynny yn y trefn a'r modd y dylid, er na chlywont yn iawn yr vn o'r geiriau ni bydd ammeu ganthynt, ar ddiwedd y cwbl [Page 198]na byddant wedi gwrando gwir Offe­ren. Ac felly y gwelir, mor anang­enrheidiol ydyw, er mwyn dyall yr Offeren, clywed a dyall y geiriau a laferir ynddi. Oblegid mae'r ffydd­loniaid yn gwybod, nad yw gwran­do'r Offeren yn ddim arall, ond bod a defotiwn dyledus yn bresennol ar y Ceremoniau Sacraidd hyn, pan y cyflawnir hwynt yn ddifrifol, megis y mae Duw trwy'r Eglwys Lan we­di appwyntu. Amhynny ynol ystyr a meddwl cyffredin y gair Offeren, mae'r Ceremoniau yn gystal a'r Gei­riau yn perthyn i'w sylwedd hi: oddieithr yn vnic geiriau y Cysse­griad, y rhai yn vnic sy'n perthyn i sylwedd neu Hanfod yr Offeren. Ac nid oes dim rheswm (megis v dy­wedais) paham y gellir anhydeddu Duw, nen adeiladu'r ffyddloniaid yn fwy a Geiriau nac a Gweithred­oedd, neu a dirgeleddus Ceremoniau yr Offeren Sanctaidd: y rhai ynol ymysprydoliaeth D [...]w, a ordeini­wyd (ers cynfyd Christianogaeth) [Page 199]gan yr Eglwys Lan (gyda'r hon y mae Christ wedi addaw bod hyd ddi­wedd y byd. Math. 28.20. a danfon yr Yspryd Glan i'w chyfarwyddo hi ymhob gwirionedd, Joh. 16.13.) A Christ eihunan a ordeiniodd Syl­wedd yr Offeren. Math. 26.28. 1 Cor. 11.24.

Pwy ganhynny yw y rheini, y rhai sy'n rhyfygu dywedyd, mai dy­chymmygion dynion, neu gyffroadau i annuwioldeb yw y sacraidd Rithiau hyn? ond y Plant dihir anwireddus hynny, y rhai o eisiau lliw i wrthry­fela yn erbyn eu Mam yr Eglwys Gatholic, sy heb ddim cywilydd yn galw'r Gwirionedd yn gelwydd, y Goleuni yn dywyllwch, yr hyn sy dda, duwiol, hawdd, esmwyth ac yn briodol i adeiladu; wrth yr enwau cwbl gwrthwyneb o fod yn ddrwg, yn ofer-goel, yn anhawdd, yn flin yn boenus, ac yn llawn Scandal: ac at hynny heb nac vrddau, na galwedi­gaeth gan Ddaw, y mae'n hwy wedi cymmeryd awdurdod arnynt ehun­ain, [Page 200]tan liw o emendio'r beiau y ma­ent hwy trwy gelwydd wedi eu bw­rw ar eu Mam, i gippio ei holl Jaw­nau hi ac i'w hanrheithio hi o'i me­ddiant a'i daoedd, gan wrthod bod yn vfydd i Dduw, a gwadu llawer o dra ffwndamental neu sylfeiniol byn­ciau y Crefydd Christianogol, ac a llygredigaethau aneirif, ac a deon­gliadau cablus o'r Scrythur Lan, yn maentumio eu Rhebeliwn dywede­dic: fel nad oes dim rhyfedd eu bod hwy yn beio ac yn gwrthod y Ceremoniau Sacraidd hyn, er eu bod wedi eu hordeinio (megis y dywe­dais) gan yr Eglwys Lan yn cael ei chyfarwyddo gan Yspryd Duw, ynol y Traditiwn a'r Dysceidiaeth a dderbyniwyd oddiwrth yr Apostoli­on, ac a arferwydd yn yr vn Eglwys. erioed er yr amseroedd cyntaf hyn­ny o Gristianogaeth, megis y mae'n eglur wrth yr holl Liturgiau, yn enwedic yr vn sydd o eiddo yr Apo­stol S, Iacob.

Amhynny pan fo'r flyddloniaid yn [Page 201]myned i wrando'r Offeren, nid ydynt hwy yn mynd i chwanegu eu gwy­bodaeth, wrth ddyall ystyr a meddwl y geiriau a laferir ynddi, ac felly i wellhau eu dyall, megis wrth Bre­geth, neu wrth ryw Wers ysprydol: nac ydynt ddim: ond maent hwy yn myned i ymarfer actau o'i Hewyllys gan anrhydeddu Duw: maent hwy yn myned i weddio, i attolwg, i erfyn yn ostyngeiddlon, i eiriol, i addoli, i off [...]wm yr Aberth Dduw­fawl honno gyda'r Offeiriad yr hwn sydd y pryd hynny yn gwneuthur COFFA am Jesu Christ yn dioddef trostynt hwy: er dibennu, maent hwy yn mynd i roi diolch i Dduw, am ei ddonian annhraethadwy, a'i drugareddau tuac at y Genhedlaeth ddynol yn ei Ddioddefaint sanct­aidd, yr hyn y mae'r sacraidd Rithi­au a'r Ceremoniau hynny yn ei re­presentu a'i arwyddoccau iddynt hwy.

Nid yw'r geiriau chwaith y mae'r Offeiriad yn eu llafaru wrth y bobl [Page 202]yn yr Offeren, ond y saith hyn yn bennaf: Dominus vebiscwm, By­dded ein Harglwydd gyda chwi: Oremus, Gweddawn: Orate fratres, Gweddiwch frodyr: Swrswm corda, Codwn i fynu ein calonnau: Gratias agamws Domino Deo: nostro, Rhoddwn ddiolch i'n Harglwydd Dduw: Pax Domini sit semper vobiscwm, Tang­nefedd ein Harglwydd y fo bob am­ser gyda chwi: Ite, Missa est, Ewch, Gollynger ymmaith y Gynnulleidfa. Yr hyn oll sydd ganwaith yn haws i'w dyall, na'r hyn y mae'n Cy­fraith-adroddion ni o Nisi prius Quo minus, Habeas corpus, &c. yn ei ar­wyddoccau: oblegid y llaferir hwynt ganwaith yn fynychach wrth y bobl, sef yn fynych beunydd; ac am eu bod yn perthyn i bob vn ohonynt; lle nid yw'r Cyfraith-adroddion hynny yn perthyn i neb, ond i'r sawl sydd ag achosion Cyfraith gan­thynt.

Nid yw'r Offeiriad hefyd yn Ilafa­ru yr vn o'r holl eiriau eraill, y mae [Page 203]ef yn eu dywedyd a lleferydd vchel yn yr Offeren sanctaidd (er bod rhan ohonynt ynddynt euhun yn a­ddysc, megis yr Epistol a't Evangel: y rhai oherwydd hynny ar amseroedd cyfadd as a esponir yn ddigonol i'r ffyddlonaid; pawb o'r rhai hefyd a eill eu cael hwynt yn en llyfrau-de­fotiwn yn eu neilltuol iaith euhun, neu trwy gennad a chyfarwyddiad eu Pennaethion ysprydol, hwy a allant ddarllain y rheini, pan fyn­nont, yn y Testament eihunan) etto nid yw ef ddim (meddaf) y pryd hynny yn llafaru y rheini chwaith mewn rhyw ffordd o Ddysc neu o Athrawiaeth, ond mewn ffordd o Ceremoni, i arwyddoccau dysceidia­eth Christ a'i Apostolion, a'r Pro­phwydi. Ac nid yw'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedir beunydd ar leferydd vchel, ond y Conffiteor, y Credo, y Pater noster, y Gloria in excelsis, a'r Preffas. Y rhai y mae'r plant by­chain (cyn bod yn seithmlwydd oed) yn eu dyscu ohonynt euhun­ain, [Page 204]ac yn medru eu dywedyd mor barod a'r rhai dyscedig oblegid eu bod hwynt yn clywed mor fynych beunydd eu llafaru, a'i canu, a'i deongl hwynt yn yr Eglwysydd. Yn siccr, mae'n rhaid i'r Offeiriad ddy­wedyd y rhan fwyaf o'r Offeren a lleferydd mor ddistaw, ac na bo'r Ministr y fo yn gwasanaethu yn ei glywed ef: fel y gallo ef fod yn fwy attentif, ac a mwy dyfalwch ystyried y Dirgeleddion sanctaidd y mae ef y pryd hynny yn en trin: oblegid nad ei orchwyl ef yr amser hwnnw, yw dyscu'r ffyddloniaid (yr hyn sy raid i mi ei ddywedyd eilwaith ac eilwaith ac eilwaith, o ran cyndynrwydd rhyfeddol rhyw bobl wrthnysig, y rhai ni fynnant fod dim modd o Addoli a Gwasanaethu Duw, ond wrth ddysgu) eithr ei waith ef y pryd hynny yw parablu, traethu a delio a Duw, o'i herwydd eihun ac o herwydd yr Eglwys, a'r holl ffyddloniaid yn gyffredinol, ac yn fwy neilltuol oherwydd y rhai y fo yno yn bresennol; ac erfyn, ac ei­rioli, [Page 205]a gweddio o ran ei angenrhei­diau corphorol ac ysprydol eihun, a'i rhai hwythau hefyd. Jë, yn y rhan bennaf a Sacreiddaf o'r Offeren, s [...]f, o ddechreu'r Canon hyd ddiwedd y Cymmun, y rhan fwyaf ac a ddy­wedit ar lafar vchel, yw'r Pater no­ster yn vnic. A thros yspaid o am­ser cymmedrol o'r Offeren, hyn [...]y yw, yn amser y ddau Memento, y naill o flaen a'r llall arol y Cysse­griad, ac arol y Cymmun hefyd mae i'r Offeiriad fod heb lafaru dim nac yn vchel nac yn ddistaw, ond gwe­ddio ar feddwl yn vnic, sef myfy­rio trwy'r holl amfer hwnnw. Wrth yr hyn igyd y mae'n eglur, nad y­dyw yn angenrheidiol i'r Ffyddlo­niaid Llaic ddyall y cwbl o'r Geiri­au a ddywedir yn yr Offeren; wrth yr hwn Air y mae'n hwy ganmwyaf yn meddwl, y sacraidd Rithiau a'r Ce­remoniau a arferir yn yr Aberth ddir­geleddus honno, yn gystal (megis y dywedwyd) a'r geiriau a laferir ynddi.

Gwir ydyw, mai da y geill sefyll [Page 206]gyda rheswm Phanaticciaid, Secta­riaid a phob math o Hereticciaid, arfer amledd o eiriau yn eu Cynnu­lleidfa-wasanaeth: oblegid fod Gei­riau yn fwy addas, ac yn fwy g [...]ym­mus neu'n fwy affeithiol, i osod a­llan eu Rhagrith a'i ffuann hwy, ac i hudo'r lliosydd anwybodol (yr hyn yw eu hunic amcan hwynt) a hefyd oblegid mai eu neges hwy, ydyw, bod byth yn discu ac yn cael eu dyscu, yt hyn beth y maent hwy bob amser yn ei alw Adeilad­aeth: ac etto byth nid ydynt yn dyfod o hyd i'r gwirionedd eihunan: nac wrth hynny yn codi amgenach math o Adail, na'r hon sydd a'i sail ar y tywod, neu'r cyfryw adei­lad ac a wneit o ddeunydd pwdr a braenllyd, ac a chwanega'r tan V­ffernol. Ond Duw a fynnai i'w wir weision ef ei addoli ef, nid wrth ddywedyd Arglwydd, Arglwydd, nac a geiriau yn vnic, ond gan wneu­thur ei ewyllys ef yn wir ddifrif, Mat. 7.21. a chan ei addoli a'i garu ef [Page 207]mewn gweithred a gwirionedd. 1 Joh. 3. v. 18. Pettasem ni yn sylwe­ddau cwbl ysprydol fe allasai bod yn ddigon i ni addoli Duw yn ys­prydol yn vnic: ond oblegid ein bod ni yn gymmysgedic o gorph ac yspryd, fe a ryngodd bodd i'w dduw­fawl Ddoethineb ef, ordeinio i ni ddangos ein bod ni oddimewn yn rhoi addoliant iddo ef, a rhyw Rithi­au neu ag Arwyddion o Addoliant oddiallan: a'r rhai megis ag Attegi­on ac a Chymmhorthwyau duwiol, yr ydys yn codi ac yn cynnal gwen­did ein natur ddynol ni, i ystyried ac i ddyall Dirgeleddion nefol tra goruchel: ac a Mawredd y Sacraidd Ceremoniau hyn yr ydys yn repre­sentu i'n dyall egwan musgrell ni Sancteiddrwydd a Gogoniant mawr y Dirgeleddion hynny.

Ond oblegid nad oes neb ohono­chwi yn gallu bod yn bresennol ar y Dirgeleddion bendigedig hyn ond yn rhy anfynych (ysywaeth) mi a ddodaf yma yn eich iaith neilltuol [Page 208]eichun (os par hynny fwy o ddefo­tiwn) ac hefyd yn yr iaith Sacraidd gyffredin, yr hyn oll a ddywedit beunydd ar lafar vchel yn yr Offe­ren Santaidd. O [...]d yngyntaf dim dilyned pob vn y Cynghorion yma yn canlyn.

1. Pan glywo ef y gloch yn rhy­buddio, neu pan fo yn ei fryd ef fynd i wrando'r Offeren, bwriaded ei gwrando hi er coffaad am farwo­laeth a dioddefaint ein Jachadwr Iesu. Ac yn y man gossoded o flaen llygaid ei feddwl y Forwyn fendi­gedig a Mari Magdalen a'r Mariau eraill yn mynd i fynu i fynydd Cal­vari i weled Christ wedi ei groe­shoelio: ac wrth feddwl am y pe­rerindod hwnnw aed yntau i'r E­glwys neu i'r Cappel i gael gweled cyflawni'r vn peth yn Ddirgeleddus trwy ddwylo'r Offeiriad.

2. Meddylied wrtho eihun, pet­tid yn offrwm yr Aberth sanctei­ddiol hon ond yn vn man o'r byd yn vnic, a thrwy wasanaeth vn Offei­riad [Page 209]yn vnic, mor ewyllysgar a rhe­dai'r holl bobl i'r fan honno, a chym­maint y fyddai eu chwant hwy o weled yr Offeiriad hwnnw, ac i wrando a gweled y Dirgeleddion sanctaidd hynny, a dymuned yntau ras gan ein Harglwydd i ddyfod a chyffelyb ddefotiwu ac attentiwn, ac a chyffelyb ofn ac anrhydedd i'w Wydd ef, fel y mae'n gyfaddas i. Bresennoldeb mor Sancteidd­lawn.

3. Galwed ar gof am ba beth yn enwedig y mae'n rhaid iddo weddio, a bwriaded ynddo eihun alaru yn ddirfawr am ei bechodau mwyaf. Offrymmed hefyd y Dirgeleddion Sanctaidd hyn tros yr Eglwys Gy­ffredinawl, tros Sancteiddrwydd y Pap, a'r holl werin Eglwysic, tros vndeb rhwng y Brenhinoedd a'r Twy­sogion Christianogol, tros ymchwe­liad yr Anffyddloniaid, a'r Hereti­ciaid oll i'r Ffydd Gatholic▪ a thros anghenrheiddiau oll y byw a'r mei­rw.

Gweddiau o flaen yr Offeren.

TRa daionus Dâd y trugare­ddau, a Duw'r holl gyssur: yr hwn a roddaist i ni dy Fab anwyl, nid vnwaith yn vnic, i farw ar y Groes i'n gwared ni; ond mynnaist hefyd adnewyddu beunydd yn yr E­glwys yr Offrwm hwn, i adnew­yddu beunydd ynomi ymgoffa o'th gariad di: dyro i ni, attolygwn arnat, fod mor ddefotionol a gostyngeiddlawn ar y Dirgeleddion addoladwy hyn: ac y gallom yn llwyr-weithiol gael bod yn vn gyda thi yn dy Gariad tragywyddol di. Trwy'r vn Christ ein Hargl. yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu, &c.

Tra gadarn a charedig Arglwydd: dy fawr ewyllys di o'n Cadwedig­aeth ni a wnaeth i ti adael i ni y Dduwfawl Aberth hon o'r Offeren: fel y byddai hi Aberth i'th Eglwys yn Milw [...]io ymma i waered, megis [Page 211]y mae hi i'th Eglwys yn Gorfoleddu vchod. Oblegid fel y mae dy Fab yn off [...]ymmu eihunan i ti bob amser yn y Nef gan ymdangos eihun o'th flaen di mewn modd gweledig gogoneddus i gyfryngu trosom ni: felly y teilyngaist ei offrymmu ef ar y ddaear trwy wasanaeth yr Offei­riad, tros ein pechodau ni mewn modd anweledig a chyfaddas i'n gwendid ni. Etto yr vn peth ydyw; a'r vn Jesu Christ dy Fab di: o wyneb bendigedic yr hwn y mae'n ddilliaw holl Wynfyd y Nef, a'n holl obaith ninnau bechaduriaid ar y ddaear. Mae'r Dirgeledd hwn, O Arglwydd Hollalluog, yn vwch na'r holl ddyalledd dynol, ac etto yn hawdd i'w gredu i thai a sugnasant laeth melusber dy Ddysceidiaeth Nefawl di.

O'm rhan fyhun, O Arglwydd, yr wyf fi yn credu (trwy dy ras daionus di) yn symlig bethbynnag y mae'r Eglwys Gatholic Apostolic Rufeinaidd yn ei ddysgu i mi, yng­hylch [Page 212]hwn, neu pa yn bynnyg arall o'th Ddirgeleddion Duwfawl, a'th Ddysceidiaethau di: ac fel y dy we­dodd dy Fab Hollalluog fod y Sa­crafen fendigedic hon yn cynnwys ei Gorph a'i Waed ef▪ a bod yr vn Corph hefyd ar dy ddeheu-law di yn y Nef: felly yr wyf fi yn cre­du'r ddau yn ddiammeu, a'r naill mor ddiogel a'r llall, oblegid mae Ewyllys a Gwaith y Gair Goruchaf Duw a Dyn ydynt eill dau yn yr vn modd.

Yn hyn, yr wyf fi yn ymwrthod yn hollawl a'm holl synhwyr, ac a'm dyalledd dynawl; ac yn glynu yn vnic wrth dy Dduwfawl Hollallu­ogrwydd ann [...]haethadwy di yr hwn fel y gwnaethost bob peth o ddim, a elli newid a dosparthu pob peth yn ol dy ewyllys a'th fodd dyhun.

Amhynny, attolygaf arnat O Dduw Hollalluog, gyrr ymmaith o'm cof holl drawsfeddyliau ac ysty­riadau d ygionus, fel y gallwyf fod yn bresennol, a gwrando'r Dirge­leddion [Page 213]Nefawl hyn a gostyngeiddr­wydd ac a hybarchus ofn.

Sancteiddia, attolygaf arnat, ys­pryd yr hwn sydd ymma o'th flaen di i gyflawni'r Aberth dduwfawl hon, fel y gallo ef ei gwneuthur hi i'th foliant, a'th ogonniant di, er budd a lles iddo eihun ac i eraill oll. Dyro i minnau ras, trwy'r anrhyde­ddus Ceremoniau a arferir ymma, i gofio dy Ddioddefaint di, yr hwn yr ydynt yn ei arwyddoccau, a gras hefyd i'th addoli di yn y Sacrafen fendigedig hon a'r Vrddiant goruchaf ac a gostyngeiddrwydd iselfryd. Hyn trwy dy ras di sydd yn fy mryd i, hyn trwy dy ras di, yr wyf fi yn gobeithio ei wneuthur. Derbyn, amhynny, O Arglwydd, Gorph a Gwaed ein Ceidwad Iesu Grist dy Fab di a offrymmir yn y Sacrafen hon er ein iachawdwriaeth ni, a'r holl Ffyddloniaid tros y byd ym­mhob man. Gostwng dy glustiau, O Arglwydd, at weddiau dy bobl ofidus, a gosod eilwaith yn druga­rog [Page 214]y wir Ffydd lle yr ydys wedi ei bwrw hi ymmaith. Agor lygaid y deillion, a gwna iddynt wybod eu cam-dyb a'i sommiant. Gwared y rhai trallodus, y caeth ddynion, a'r cleifion trwy rinwedd y Sacrafen hon. Dyro [...]as i'r byw, a gorphwys gyda llawenwydd tragywyddol i'r sawl y fuont feirw yn dy Ffydd di, trwy ryglyddiannau ein Ceidwad vnic dy Fab di Iesu Grist, i'r hwn gyda thi a'r Yspryd Glan, vn Duw. bid moliant a gogoniant, a gorucha­fiaeth oll yn dragywyddol. Amen.

Gan fod deg rhan nodedic o'r Offeren, sef
  • 1. Yr Introit a'r Kyriau.
  • 2. Y Gweddiau a'r Epistol.
  • 3. Yr Evangel a'r Credo.
  • 4. Yr Offrym­miad.
  • 5. Y Preffas.
  • 6. Y Canon hyd yr Elevatiwn.
  • 7. Oddiyno hyd y Pater noster.
  • 8. Oddiyno hyd yr Agnws Dei.
  • 9. Oddiyno hyd ddiwedd Cymmun.
  • 10. Oddiyno hyd y diwedd.

Mi a osadaf ymma rai gweddiau gyferbyn a phob vn ohonynt. Ond er dy fod di yn medru darllain a dyall Cymraeg yn rhagorol▪ nid oes i ti gredu y galli di ddyall y cwbl yma; oblegid pettit ti y Cymreigwr goreu yn y wlad, ac hefyd yn gwybod yr holl ieithydd Sacredic yn yspyslawn: etto oni byddai gennyt hollawl Wybodaeth Theologawl, ni ellit byth dyall y Dir­geleddion [Page 216]Sacraidd a gynhwysodd Duw yngeiriau'r Scrythur Lan, ie nid ydyw'r Difinydd muyaf ei ddysg yn-Ghred yn dyall y ddegfed ran oho­nynt.

Amhynny os digwynd i ti wrth ddarllain geiriau y Scrythur Lan, neu Drefnid yr Eglwys Gatholic, gan­fod dim a'th Scandalizo, neu a wne­lo i ti dybied fod yr Eglwys yn dys­gu, neu yn gwneuthur rhyw beth yn erbyn y gwirionedd, neu'n erbyn y Scrythur Lan, na ddyro ddim ffordd i'r tyb neu i'r meddwl hwnnw ond cred yn ddiammeu nad wyti yn dyall y geiriau, neu'r matter hwnnw; a chais dy disgu yn well am hynny gan Offeiriad Catholic, yr hwn oni rydd lawn fodlonrwydd i ti, er hynny cred etto byth nad wyti yn dyall y peth yn iawn. Ac os gwnei di amgen, bydded sicr i ti, dy fod mewn balchder an­feidrol, a phechod damnedig o An­ffyddlonrwydd.

Or diwedd, na ddarllain y gwe­ddiau hyn yn canlyn ar lafar vchel [Page 217]yn amser yr Offeren sanctaidd, ond yn ddistaw ddidrwst, fel na bo neb yn dy glywed ond dy di dihunan, rhag rhwy­stro a distractu yr Offeiriad, ac eraill ar en gweddiau o'th amgylch.

Rhaid penlino trwy'r amser, wrth wrando'r Offeren, ond tra y darllenir yr Evangel yn vnic yr ydym yn sefyll i ddangos ein bod ni yn barod i fynd i'r lle, ac i wneuthur y peth y mae Christ yn ei orchymmyn.

Yr Introit a ddywedant bob eilwers yr Offeiriad a'r Minister neu'r Clerc, fel hyn.

I.
Offeiriad. IN nomine Pa­tris, & Filij, & Spiritws Sancti. In­troibo ad Altare Dei. YN enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân. Mi af i mewn at Allor Dduw.
Minister. Ad Dewm qui laetificat jwventw­tem me am. At Dduw yr hwn sy'n llaweny­chu fy ieueng­tid i.
Off. Iwdica me Dews, & discerne cawsam me am, de gente non sancta, ab homine iniquo & doloso erwe me. Barna fi O Dduw, a neilltua fy achos i oddi­wrth genhedlaeth ansanctaidd: gwa­red fi rhag y dyn anghyfion a'r twyllodrus.
Min. Qwia tw es Dews ffortitwdo mea: qware me re­pwlisti? & qware Canys tydi wyt Dduw fy nerth i: paham a gyrraist
tristis ineedo, dwm affligit me inimi­cws? fi yn ol? a phaham yr wyf yn myned yn drist: tra y mae'r gelyn yn fyngofidio.
Off. Emitte lu­cem twam & ve­ritatem twam: ip­sa me dedwxerwnt, & addwxerwnt in montem Sanctwm twwm, & in taber­nacwla twa. Anfon dy ole­uni a'th wirio­nedd di: hwynt hwy a'm tywysa­sant fi i waered, ac a'm tywysa­sant fi i fynu i'th fynydd Sanctaidd di, ac i'th bebyll di.
Min. Et introibo ad Altare Dei, ad Dewm, qwi laetifi­cat jwfentwtem meam. Ac mi af i mewn at Allor Dduw; at Dduw, yr hwn sy'n lla­wenychu fy ieun­gtid i.
Off. Conffitebor ibi in cithara Dews, Dews mews: ware tristis es a­ima mea? & Cyffessaf i ti ar y delyn O Dduw fy Nuw i: paham yr wyt yn drist fy enaid? a
qware contwrbas me? phaham yr wyt yn fynghynnhyrfu i?
Min. Spera in Deo, qwoniam ad­hwc conffitebor il­li: salwtare fwl­tws mei, & De­ws mews. Gobeithia yn Nuw, canys etto cyffessaf iddo ef: iachawdwriaeth fy wyneb i, a'm Duw i.
Off. Gloria Pa­tri, & Ffilio, & Spiritui Sancto. Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab, ac i'r Yspryd Glan.
Min. Sicwt erat in principio, & nwnc, & semper: & in saecwla sae­cwlorwm, Amen. Megis yr oedd yn y dechreuad, ac yrwön, a phob amser, a thros o­esoedd oesoedd, Amen.
Off. Introibo ad Altare Dei. Mi af i mewn at Allor Dduw.
Min. Ad De­wm qwi lætifficat jwfentwtem meam. At Dduw yr hwn sy'n llawe­nychu fy ieueng­tid i.
Off. Adiwtori­wm nostrwm in no­mine Ein cymmorth ni fydd yn enw
Domini. ein Harglwydd.
Min.Qwi fecit cælwm & terram. Yr hwn a wna­eth y nef a'r dda­ear.
Off. Conffiteor Deo omnipotenti &c. Cyffessaf i Dduw hollalluog, &c.
Min. Miserea­twr twi omnipotens Dews, & dimissis peccatis twis per­dwcat te ad fitam æternam. Duw hollallu­og a drugarhao wrthot, ac wedi maddeu dy be­chodau it, a'th ddycco di i'r by­wyd tragywy­ddol.
Off. Amen. Amen.
Min. Conffiteor Deo omnipotenti, beatae Mariæ sem­per Virgini, beato Michaeli Arch­angelo, beato Io­anni Baptistæ, Sanctis Apostolis Petro & Pawlo, omnibws sanctis, Cyffessaf i Dduw hollalluog, i fendigedig Fair forwyn bob am­ser, i fendigedig Fihangel Archan­gel, i fendigedig Ioan Fedyddiwr, i'r sanctaidd A­postolîon Petr a
& tibi Pater: qwia peccavi ni­mis cogitatione, ferbo & opere: mea cwlpa, mea cwlpa, mea maxima. cwl­pa. Ideo precor beatam Mariam semper firginem, beatwm Michae­lem Archangelum, beatwm Ioannem Baptistam, Sanctos Apostolos Petrwm & Pawlwm, omnes Sanctos, & te Pa­ter, orare pro me ad Dominwm De­wm nostrwm. Phawl, i'r holl Sainct, ac i tithau fy Nhad: ddar­fod i mi bechu yn rhy fawr ar feddwl, gair, a gweithred: trwy fy mai, trwy fy mai, trwy fy nir­fawr fai. Am­hynny attolyaf ar fendigedig Fair forwyn bob am­ser, ar fendi­gedig Fihangel Archangel, ar fendigedig Ioan Fedyddiwr, ar y Sanctaidd Apo­stolion Petr a Phawl, ar yr holl Sainct, ac arnat tithau fy Nhad, weddio trosafi at ein Harglwydd Dduw.
Off. Misereatwr festri &c. Duw hollalluog a drugarhao, &c.
Min. Amen. Amen.
Off. Indwlgen­tiam, absolwtio­nem & remissio­nem peccatorwm festrorwm triwat fobis omnipotens & misericors Domi­nws. Yr hollalluog a thrugarog Arg­lwydd a roddo i chwi faddeuant, absolwtiwn a rhuddhaad o'ch pechodau.
Min.Amen. Amen.
Off. Dews tw confersws fissicabis nos. O Dduw tydi wedi troi a'n bywi ni.
Min. Et plebs twa lætabitwr in te. A'th bobl a lawenycha ynoti.
Off. Ostende no­bis Domine mise­ricordiam twam. Dangos i ni O Arglwydd dy drugaredd.
Min. Et salw­ta [...]e twwm da no­bis. A dyro i ni dy iachawdwriaeth.
Off. Domine exawdi orationem me­am O Arglwyedd gwrando fyng­weddi.
Min.Et clamor mews ad te feniat. A deued fy llef i attoti.
Off. Dominws fobiscwm. Bydded ein Harglwydd gyda chwi.
Min. Et cwm Spiritw two. A chyda'th ys­pryd dithau.

Ond (os par hynny fwy defotiwn i ti) yn amser y Psalm a'r attebion hyn, di elli ddywedyd wrthot dyhun y Weddi hon yn canlyn.

O Arglwydd Dduw hollalluog, cyffessaf i ti yngwydd dy Angelion a'th Seinctiau bendigedig, ddarfod i mi dy ddigio di wrth wneuthur drygioni ger dy fron di trwy esgeulusdra, ac o'm bodd. Pe­chais, O Arglwydd, pechais: yr wyf fi ynawr yn gostwng gliniau fynghalon, a chan ffieiddio fy mhe­chaduri fyhun yr wyf yn dymuno dy drugaredd di gan ddywedyd Duw trugarha (dywed hyn deirg­waith [Page 225]gan guro dy ddwyfron) wrthyf bechadur: na ddistry­wia fi ddim gyda'm camweddau, ac na chadw fynghospedigaeth, i fod yn dragywyddol; ond gwared dy wasanaethydd annheilwng yn ol amlder dy drugareddau, ac mi a'th foliannaf di bob dydd o'm by­wyd, ac attolygaf ar holl Ner­thoedd y Nef dy foliannu di: canys i ti y mae'n perthynu moliant, a gogoniant, ac addoliant tragywy­ddol.

II.

Y Kyrieu.
Off. KYrie elei­son. ARglwydd trugarha wr­thym.
Min. Kyrie elei­son. Arglwydd trugar­ha wrthym.
Off. Kyrie elei­son. Arglwydd trugar­ha wrthym.
Min. Christe elei­son. Christ trugarha wrthym.
Off.Christe elei­son. Christ trugarha wrthym.
Min. Christe elei­son. Christ trugar­ha wrthym.
Off. Kyrie elei­son. Arglwydd trugar­ha wrthym.
Min. Kyrie elei­son. Arglwydd trugar­ha wrthym.
Off. Kyrie elei­son. Arglwydd trugar­ha wrthym.
GLoria in ex­celsis Deo, & in terra pax ho­minibws bonæ fo­lwntatis. Law­damws te. Bene­dicimws te. Ado­ramws te. Glori­ficamws te. Gra­tias agimws tibi propter magnam gloriam twam. Do­mine Dews. Rex cae­lestis. Dews Pater omnipotens. Domi­ne Filii, wnigenite Iesw Christe. Do­mine Dews. Agnws Dei Filiws Patris. Qwi tollis peccata niwndi miserere nobis. Qui tollis peccata mwndi sw­scipe deprecatio­nem nostram. Qwi GOgoniant i Dduw yn yr vchelderoedd, ac ar y ddaear heddwch i ddyni­on o ewyllys da. Ni a'th foliannwn di. Ni a'th fen­dithiwn di. Ni a'th addolwn di. Ni a'th ogone­ddwn di. Diol­chwn i ri am dy fawr drugar­edd. O Arglwydd Dduw, y Brenin nefol. Duw'r Tad hollalluog. O Arglwydd Fâb vnic-gened ledig Jesu Christ. Argl­wydd Dduw. Oen Duw, Mab y Tad. Ti yr hwn wyt yn dwyn ymaith
sedes ad dexteram Patris miserere no­bis. Qwia tw solws Sanctws. Tw solws Dominws. Tw solws altissi­mws Iesw Christe, cwm Sancto Spiri­tw in gloria Dei Patris. Amen. bechodau'r byd derbyn ein gwe­ddi ni. Ti yr hwn wyt yn eistedd ar ddeheulaw'r Tad Trugarha wrthym. Canys tydi yn vnic wyt Sanctaidd. Tydi yn vnic wyt Argl­wydd. Tydi yn vnic wyt Oruchaf Iesu Grist gyda'r Yspryd Glan yn­gogoniant Duw'r Tad. Amen.

Ar amser y Colectau, sef y Gweddiau.

HAllalluog tragywyddol Dduw, teilynga attolygwn arnat, e­drych ar y Gynnulleidfa hon, a derbyn yn drugarog weddiau dy E­glwys a wneir i ti trwy weinidoga­eth [Page 229]yr Offeiriad hwn: caniada i ni er mwyn dy drugareddau di fa­ddeuant o'n pechodau, a phob peth angenrheidiol i gynnal ein heneidiau a'n cyrph yn dy wasanaeth di: tro yr holl Hereticiaid i'r wîr Ffydd: distrywia y Cwnseli drwg: amlha'r wir Ffydd, a phlanna yn ein calon­nau ni roddion o gariad-perffaith anffugiol, a defotiwn purlan mewn gweddiau, dioddegarwch mewn trallodau, llawenydd mewn gobaith, a phob peth a wnelo iachawdwria­eth i ni, a gogoniant i tithau. Trwy Iesu Christ ein Harglwydd. A­men.

Ar yr Epistol.

O Dduw yr hwn a gyflawnaist yn hollawl yr hyn yr oedd yr Hen Gyfraith yn rhagddywedyd, a than Sacrafen ryfeddol a adawaist i ni goffadwriaeth o'th Ddioddefaint: caniada i ni attolygwn arnat, anrhy­deddu Dirgeleddion bendigedig dy [Page 230]Gorph a'th Waed di, fel y gallom bob amser yn ein heneidiau ymgly­wed ffrwyth dy Rybrynniaeth. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu gyda Duw'r Tad yn vn [...]od yr Yspryd Glan Duw tros holl oesoedd oesoedd. A­men.

Ar ol yr Epistol.

O Drindod ogoneddus! tydi a'n creaist ni: tydi a'n sanctei­ddiaist ni. O Vndod addoladwy! gwared, cadw, ac amddiffyn dy bobl. O Dduw hollalluog! Addolwn di O Dduw'r Tad: Moliannwn di, O Dduw'r Mab: Bendithwn di O Dduw'r Yspryd Glan, i'r hwn, tri yn bersonnau, ac vn Duw bid Moli­ant oll a Gogoniant yn dragywydd­ol. Amen.

Ar y Gradwal.

O Arglwydd na wna i ni yn ol ein pechodau, ac na obrwya [Page 231]ni yn ol ein camweddau. O Argl­wydd na chofia ein pechodau gynt: ond dy drugareddau di a elont o'n blaen; oblegid fod arnom ni eisieu mawr o honynt. Cymmor­thwya ni O Dduw ein Ceidwad, ac er gogoniant dy Enw Sanctaidd gwared ni. O Arglwydd trugarha wrthym er mwyn dy Enw di.

III.

O flaen yr Evangel y dywed yr.
Off. DOminws fobiscum. BYdded ein Harglwydd gyda chwi.
Min. Et cwm Spi­ritw two. A chyda'th yspryd dithau.
Off. Seqwentia sancti Evangelii secwndwm. N. Canlyniad yr E­vangel Sancta­idd yn ol S. N.
Min.Gloria tibi Domine. Bid gogoniant i ti O Arglwydd.

Ar yr Evangel.

O Arglwydd Dduw, caniada i ni barhau hyd ddiwedd ein bywyd yngwit a phurlan broffession o'r Ffydd Gatholic: a thrwy ymar­fer Sancteiddrwydd a duwioldeb ymma, gael o honom at ol hyn. [Page 233]O Arglwydd, dderbyn Coron Cyfi­awnder, yr hon a ddarparaist ti i'th Etholedigion. Amen.

Y Credo. Yr hwn a wnaed yn Goncil cyntaf Nicea.

CRedo inwnwm Dewm, Pa­trem omnipotentem ffactorem cæli & terræ, fisibiliwm omniwm, & infi­sibiliwm. Et in wnwm Dominwm Ieswm Christwm, Ffiliwm Dei wni­genitwm. Et ex Patre natwm ante omnia saecwla. De­wm de Deo, lw­men de lwmine, Dewm ferwm de Deo fero. Geni­twm, CRedaf yn vn Duw, Tad hollalluog, gw­neuthurwr nef a daear, pethau gweledig oll, ac anveledig. Ac yn ein hvnic Arg­lwydd Iesu Christ. Mâb Duw vnic­genedledic. Ac wedi ei eni o'r Tad cyn yr holl oe­soedd. Duw o Dduw, llewyrch o llewyrch, gwir Dduw o wir Duw.
non factwm, conswbstantialem Patri: per qwem omnia facta swnt. Qwi propter nos homines, & pro­pter nostram sa­lwtem descendit de Caelis Et In­carnatws est de Spiritw Sancto ex Maria Fir­gine: Et ho­mo ffactws est. Crwciffixws etiam pro nobis: Sub Pontio Pilato pas­sws, & sepwltws est. Et reswr­rexit tertia die secwndwm Scri­ptwras. Et ascen­dit A genedlwyd, nid a wnaed, conswbstantial a'r Tad: trwy'r hwn a gwnaed yr holl bethau. Yr hwn erom ni ddynion, ac er ein iachawd wriaeth ni a ddi­scynnodd o'r ne­foedd Ac a ymgnawdi­wyd trwy'r Yspryd Glan o Fair for­wyn: Ac a wnaed yn ddyn. A Groe­shoeliwyd hefyd trosom ni: a ddioddefodd tan Pontiws Pilatws, ac a gladdwyd.
in Cœlwm: se­det ad dexteram Patris. Et ite­rwm fentwrws est cwm gloria, ju­dicare fifos & mortwos: cwjws regni non erit finis. Et in Spiritwm Sanctwm, Domi­nwm & fififfican­tem. Qwi ex Patre Ffilioqwe procedit. Qwi cwm Patre & Ffilio simwl adoratwr, & con­glorifficatwr: qwi locwtws est per Pro­phetas. Et wnam Sanctam Catholi­c [...]m & Apostolicam Ecclesiam. Con­ffiteor wnwm Bap­tisma in remissio­nem peccatorwm. Et expecto reswr­tisma Ac a adgyfododd y trydydd dydd yn ol y Scrythu­rau. Ac a ddyr­chafodd i'r nef: e mae'n eistedd ar ddeheulaw'r Tad. A thrachefn ef a ddaw trwy ogoniant, i far­nu'r byw a'r meirw: o deyr­nas yr hwn ni bydd diwedd. Ac yn yr Yspryd Glan, ein Hargl­wydd a'n bywi­awdur. Yr hwn sy'n deilliaw o'r Tad ac o'r Mab. Yr hwn gyda'r Tad a'r Mab a gydaddolir, ac a gyd-ogoneddir: yr hwn a lafarodd trwy'r Prophwy­di.
rectionem mortw­orwm. Et fitam fentwri sæcwli. Amen. Ac vn san­ctaidd, Catholic, ac Apostolic E­glwys. Cyff­esaf vn bedydd er maddeuant pe­chodau. Ac yr wvf yn disgwyl adgyfodiad y meirw. A bywyd y byd sydd i ddy­fod. Amen.

IV.

Ar yr Offrymmiad.

O Arglwydd Dduw, Dâd tra­gywyddol, yr hwn trwy Iesu Grist dy vnic Fab, a ordeiniaist Off­rwm newydd a rhyfeddol, yr hwn wedi es dderbyn trwy'r Apostolion, y mae's Eglwys trwy'r holl fyd yn ei aberthu i ti, O Dduw Creawdwr pethau oll, gan offrymmu tan Ddir­geledd guddiedig flaenffrwythau dy. Greaduriaid a'th roddion, sef, ba [...]a a gwin wedi ei gymysgu a dwfr iw cyssegru yn ddioed yn Gorph a Gwaed dy anwyl Fâb di, fal y gallom ni trwy'r vn Offrwm ei ar­wyddoccau ef, yr hwn yw'r bara byw yn discyn o'r Nef, ac yn rhoi bywyd i'r holl fyd. Teilynga he­fyd, O Dduw daionus, dderbyn yn [Page 238]drugarog yr Offrwm hwn y mae'r Eglwys Gatholic yn ei offrymmu i ti trwy'r Offeiriad tros yr holl bobl a rybrynnaist a gwerthfawr Waed dy Fab anwyl ein Harglwydd Iesu Grist.

Pan ddyvvedo yr Offeiriad.
Off. ORate fra­tres. GWeddiwch frodyr.
Min. Svvscipiat Dominvvs Sacri­fficivvm de mani­bvs tvvis ad lavv­dem & gloriam nominis svvi, ad vvtilitatem qvvo­qvve nostram, totiwsqvve Eccle­siae svvae sanctæ. Derbynied ein Harglwydd yr A­berth hon o'th ddwylo di er mo­liant a gogoniant i'w enw ef, ac er ein lles ninnau hefyd, a'i holl Eglwys Sanctaidd. ef.

O Arglwydd, yr hwn wyt yn cyfiawnhau y drygionus, ac yn rhoddi bywyd i'r meirw, bywia [Page 239]a chyfod fi i fynu: dyro i mi, O Arglwydd edi [...]eirwch calon, a da­grau i'm llygaid, fel a gallwyf bob amser yn ostyngeiddlon alaru dry­gioni fynghalon. Deued fyngwe­ddi ger dy fron di, O Dduw, os digi di, pa gymmorthwywr a gei­siaf, neu pwy a gymmer drugaredd ar fy anwiredd? Cofia O Arglwydd alw o honot y wraig o Canaan a'r Pwblican i edifeirwch, a derbyn Petr ar ol ei ddagrau. Derbyn hefyd fyngweddiau innau, O Ar­glwydd fy Iachawdwr, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnassu yn dragywyddol. Amen.

V.

O flaen y Preffas.
Off. PEr omnia saecwla sæcwlorm. TRos boll oe­soedd oeso­edd.
Min. Amen. Amen.
Off. Dominws fobiscwm. Bydded ein Harglwydd gyda chwi.
Min. Et cwm spiritw two. A chyda'th ys­pryd dithau.
Off. Swrswm corda. Codwn ein ca­lonnau i fynu.
Min. Habemws ad Dominwm. E mae'n hwy at ein Harglwydd.
Off. Gratias a­gamus Domino Deo nostro. Rhoddwn ddi­olch i'n Hargl­wydd Dduw.
Min. Dignum & jwstwm est. Teilwng a chy­fion yw hynny.

Y Preffas.

YN wir teilwng a chyfion ydyw, cyfreithlon ac iachusawl roddi o honom bob amser ac ymmhob mann ddiolch i ti, O Arglwydd Sanctaidd. Tad hollalluog, tragy­wyddol Dduw, trwy Iesu Christ ein Harglwydd. Trwy'r hwn y mae'r Angelion yn moliannu dy Fawredd, yr Arglwyddiaethau yn dy addoli, y Nerthoedd yn dychryn­nu gan dy ofn. Y Nefoedd a Rhin­weddau y nefoedd, a'r bendigedig Seraphim a gorfoledd cymdeithgar yn dy anrhydeddu. Gyda' rhai at­tolygwn arnat, erchi o honot gym­meryd attot hefyd ein lleferoedd ninnau, a gostyngeiddlawn gyffes yn dywedyd.

Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Sabaoth.

Llawn ydynt y nefoedd a'r dda­ear o'r ogoniant di, Hosanna yn yr uchelderoedd.

Bendigedic yw'r hwn sy'n dyfod yn enw ein Harglwydd.

Hosanna yn yr vchelderoedd.

VI.

Ar y Canon.

O Iesu ein Hoffeiriad pennaf, ac Escop ein heneididiau ni, yr hwn a offrymmaist dyhun i Dduw'r Tad ar Allor y Groes yn Aberth bur ddifrycheulyd trosom ni bechaduri­aid truain, ac a adawaist i ni dy wir Gorph a'th Waed yn y Dirgeledd addoladwy hwn, a wneir felly trwy dy Hollalluogrwydd duwfawl di, gan orchymmyn ei offrymmu er coffaad o'n iachawdwriaeth ni er yr vn Gallu hollalluog, attolygaf arnat, canniada i mi gofio yn dei­lwng dy Ddioddefaint bendigedig, [Page 243]ac ymroi fyhun yn hollawl i ti fy Arglwydd a'm Rhybrynnwr. Cani­ada i mi fod yn bresennol ar yr A­berth nefawl hon ag anrhydedd dy­ledus, ac a phurdeb calon gyda di­ddanwch ysprydol a llawenydd ne­fol. Profed fy enaid i felusder dy bresennoldeb bendigedig di, a gweled y lluoedd o Seinctiau, ac o Angeli­on sydd yn dy amgylchu, ac yn dy addoli di. Amen.

CYfrynga trosaf, O forwyn fen­digedig Mair wen, fel y bo fyngweddiau i yn gymmeradwy ger bron dy Fab di, ein Harglwydd Iesu. Gweddiwch trosaf chwychwi O Apostolion bendigedig, y Mer­thyri, y Conffessoriaid a'r Gwyryfon gyda holl Sainct y Nef. Gweddiau y cyfryw, O Arglwydd ni ddiysty­ [...]i di: ymgyffro hwynt gan hynny i weddio trosaf. Yr hwn wyt yn [...]wy ac yn teyrnassu yn dragywydd­ol. Amen.

YMma myfyria ennyd, gan feddwl mor anheilung yr wyt i fod yn bresennol yngwydd cynnyfer miloedd o Angelion bendigedig ac o Seinctiau ac sydd yno (er eu bob yn anweledig i ni) yn waetian yn ostyngeiddlawn ar­no ef, i'r hwn a gwneuthom (trwy'n pechodau) ddioddef marwolaeth o'r greulonaf: a'r hwn trwy'n drwg fu­chedd yr ydym yn fynych (yn gym­maint ac sydd ynom ni) yn ei groe­shoelio drachefn. Cofia pa faint yw ei gariad ef attom ni yr hwn trwy'r A­berth feunyddol hon a fynnai ein cadw ni yn y stat, i'r hwn a'n dygodd ni un­waith yna gyda'r Pwblican dywed O Dduw trugarha wr­thyf bechadur.

Trugaroccaf Arglwydd Iesu Grist, er coffaad o'th Ymgnawdoliaeth bendigedig, o'th Farwolaeth a'th Ddioddefaint, er coffhaad o'th Ar­chollion, o'th Dristwch, o'th Dda­grau, a'r Diferion gwerthfawr o'th [Page 245]Waed di, er coffhaad o'th Gariad anfeidrol tuag at y Genhedlaeth ddynol, yr wyf fi yn offrwm yn o­styngeiddlawn i ti yr Aberth hon sanctaidd, ac yn vn a hi, ac a'r holl­waredawl Offrwm a wneuthost ti ar y Groes, yr wyf yn offrymmn fy­hun i ti, gyda'r hyn oll yr ydwyf, ac sydd i mi, er moliant a gogoniant i ti: gan ddymuno arnat roddi gras i'r hai sydd yn lyw, ac i'r meirw ffyddlon tangnefedd, a gorphwys, a thrugaredd, a bywyd tragywyddol. Yr wyf fi yn gorchymmyn i ti, O Arglwydd, fy Enaid a'm Corph, fy Meddyliau oll, a'm Geiriau, a'm Gweithredoedd: gan attolwg arnat yn ostyngeiddlon drugarhau arnaf, ac ar y sawl igyd, tros y rhai yr wyf yn rhwymedig i weddio, ac yn en­wedig tros N. ac N. ac N. &c.

VII.

Ar Elevatiwn yr Hostien.

HAnffych well y Gwir Gorph a aned o'r fendigedig forwyn Mair wenn, a ddioddefodd, ac a offrymwyd ar y Groes tros y Gen­hedlaeth ddynol, o ystlys yr hwn wedi ei gwanu a ffon wayw y llifodd Gwaed a Duwfr: Telynga gael o honom dy dderbyn di yn awr ein hangeu, O Iesu daionus? O Iesu trugarog: Mab y forwyn fendigedic trugatha wrthyf.

Yr wyf yn dy addoli, ac yn dy anhrydeddu di, O Arglwydd Christ a moliant ac a bendithion oll: Canys trwy dy ddolurus Farwolaeth a'th Ddioddefaint, di a'm gwaredaist fi [Page 247]rhag gofid annherfynol. Trugarha wrthyf O Iesu daionus, fel na bo dy Farwolaeth byth yn ofer ynofi, at­tolygaf arnat yn ostyngeiddlon. A­men.

Ar Elevatiwm y Caregl.

HAnffy [...]h well, O Waed gwerth­fawr a bendigedig, yn llifo allan o ystlys fy Arglwydd a'm Ceid­wad Iesu Grist, ac yn gol hi ymaith frychau'r beiau hen a'r newyd atto­lygaf arhat, golcha, sancteiddia a chadw fy enaid i fywyd tragywy­ddol.

Yr ydym yn diolch i ti, O Arg­lwydd Dduw ein Tad trugarog, deilynguo honot ddanfon dy vnic ge­nedledig Fab Iesu Grist trosom ni be­chaduriaid i farw marwolaeth lwyr­gywilyddus ar y Groes, gan Offrwm eihun i ti yn Aberth bureiddlan, sanctaidd, gymmeradwy, tros ein pechodau ni, i lanhau trwyddi ein cydwybodau drwg ni o holl frychau [Page 248]ammhurdeb. Er dy gariad anfei­drol hwn, ac er poenau dolurus hyn­ny dy Fab a'n Ceidwad, dyro i ni, attolygwn arnat, ffrwythau ei Ry­brynnaeth ef, a gwna i ni beunydd farw i'r byd, a croeshoelio ein gwyn­niau, a'n trachwantau cnawdol, a byw i ti yn vnic, tra barhao ein hoedl: fel y gallom o'r diwedd lawenychu tros fyth yn dy deyrnas di. Lle gyda'th Fab tragywyddol, a'r Yspryd Glan yr wyt yn byw ac yn teyrnasu tros oes oesoedd. A­men.

ENaid Christ sancteiddia fi, Corph Christ gwared fi, Gwaed Christ meddwa fi, y Dwfr o ystlys Christ golcha fi, Dioddefaint Christ con­ffordda fi. O Iesu daionus gwrando fi, yn dy Archollion cuddia fi. Na âd i mi fyngwahanu oddiwrthoti. Rhag y Gelyn maleisus amddiffyn fi. Yn awr fy angen galw arnaf, a phar i mi ddyfod attoti, i'th folian­nu di gyda'th Seinctiau tros oes oe­soedd. Amen.

YR wyf fi yn dy addoli di, O la­chawdwr fy enaid, Gair tragy­wyddol y Tad, y wir Aberth a offrymmwyd tros bechodau yr holl fyd! O y Tryssor gwerthfawr sy'n llawn o bob diddanwch, a gorphwys y calonnau pur a glan! O ymborth Angelawl! O y bara nefol! O Air tragywyddol y Tad, a wnaed yn gnawd trosom ni, ac etto yn parhau yn Dduw yn yr vn Person! Yr wyf fi yn ddiammeu yn dy gydnabod di yn wir Dduw, ac yn wir Ddyn yn y Sacrafen hon a gyssegrwyd ar yr Allor trwy fodd Gwyrthiedic rhy­feddol. Tydi wyt obaith diogel, ac vnic ymwared pechaduriaid. Tydi wyt oruchaf meddyginiaeth y nych­lyd, y methiant, a'r egwan: a Thryssor anniyspyddol y pellenigion tlawd trallodus. Sancteiddier dy Enw di, ein tra-daionus Iachawdwr Iesu Grist. Canent dy holl Grea­duriaid ddiolch a moliannau i ti, am dy gariad i wneuthur lles i ni, gan [Page 250]ddisgyn o'r Nef, i off ymmu dy Gorph pur a gwirion ar y Groes i'n rhybrynnu ni. Sancteiddier dy E­nw di, O Iesu bendigedig yr hwn ar ol dy Adgyfodiad, a'th Ddyr­chafael a deilyngaist adael i ni yr vn Corph anfarwol (a gynhwysir yn y Sacrafen fendigedic hon) er coffa­dwriaeth o'th Farwolaeth, ac yn ar­wydd o'th Gariad anfeidrol tuag at­tom ni.

Gweddi tros y Meirw ffyddlon.

COfia hefyd attolygwn arnat O Dad trugarog eneidiau y Meirw Ffyddlon, gan wneuthur i'r Aberth hon fod yn ymwared tragywyddol iddynt, yn orphwys bythol, ac yn ddedwyddwch dibaid: yn enwedig i enaid N. ac i enaid N. ac i enaid N. &c. O fy Arglwydd Iesu, bydded y Dirgeledd rhyfeddol godidog hwn heddyw yn lawenydd perffeithlawn iddynt. Dyro iddynt eu llenwi o honoti, y gwir fara byw a ddiscyn­naist [Page 251]o'r Nef, ac a roddaist fywio­laeth i'r Byd. Gwna iddynt yfed o'r ffynnon sy'n tarddu i fywyd tra­gywyddol: fel wedi eu confforddi felly y gallant lawenychu byth yn dy foliant sanctaidd, a'th ogoniant di. Amen.

Pan ddywedo'r Offeiriad.

Nobisqwoqwe Pecta­toribws.

Ac i ninnau he­fyd Bechadu­riaid.

AC i ninnau hefyd Bechaduriaid dy wasanaeth-ddynion yn go­beithio yn amlder dy drugareddau, teilynga roddi rhyw barthed, a chym­deithas gyda'th Sanctaidd Apostoli­on, a'r Merthyri, a'r Conffessoriaid, a'r Gwyryfon a'th holl Sainct gwyn­fydedig, a chymmer ninnau i'w cy­feillach hwynt, attolygwn arnat, nid fel Prisiwr ein haeddiant, ond fel Rhoddwr maddeuant.

VIII.

Pan ddywedo'r Off. Per omniae sæcwla sæcwlorwm.

VVEdi ein rhybyddio a gor­chymmynion buddiol, a'n haddyscu trwy Ordinhaad Duwfawl: hyderwn ddywedyd.

Ein Tad ni, yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.

Gwared ni, O Arglwydd, attoly­gwn arnat, rhag yr holl ddrygau y y fuont, y rhai sy'n bresennol, a'rhai y fyddant, a thrwy gyfrwng y fen­digedic a'r ogoneddus forwyn bob amser Mair wen Mam Dduw, a'r bendigedic Apostolion Petr a Phawl a'r holl Sainct, dyro yn ddaionus, heddwch yn ein dyddiau ni, fel y byddom (drwy gymmorth dy ras [Page 253]di) yn ddigaeth oddiwrth bechod, ac yn ddibryder o bob trallod ac af­lonyddwch corph ac eniaid. Trwy'r vnrhyw Iesu Christ ein Harglwydd dy Eab di, yr hwn sy'n byw, ac yn teyrnasu gyda thi yn vndod yr Ys­pryd Glan Duw tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

IX.

Ar yr Agnws Dei.
Off. AGnws Dei, qwi tollis peccata mwn­di, Oen Duw, yr hwn wyt yn dwyn
miserere nobis. ymmaith becho­dau'r byd, tru­garha wrthym.
Agnws Dei, qwi tollis peccata mwn­di, dona nobis pacem. Oen Duw yr hwn wyt yn dwyn ymmaith becho­dau'r byd, dyro i ni heddwch.

Dyro heddwch, O Arglwydd yn ein dyddiau ni, canys nid oes neb arall i ymladd trosom ni ond tydi yn vnic.

O oen Duw, yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd tru­garha wrthym ni bechaduriaid truain gofidus. Adnewydda ein heneidiau ni a'r ymborth nefawl hwn conffordd­a ni yn wastad a'th ras, fel nad ym­adawom a thi n [...]c yn fyw, nac yn farw, ac fel na ddifeddir ni byth o'th fendithion nefawl di. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu tros oesoedd oesoedd. Amen

O Arglwydd Iesu Christ Mab Duw, yr hwn yn ol ewyllys dy Dad, a chyd-weithiad yr Yspryd Glan a fywiolaethaist y Byd trwy dy Farwolaeth: er dy Sacrosanctaidd Gorph a'th Waed gwared ni oddi­wrth ein holl bechodau, a phob rhyw ddrygau: a gwna i ni ymlynu bob amser wrth dy orchymmynion di, ac na âd i ni byth ein gwahanu o­ddiwrthoti. Yr hwn gyda'r vn Duw'r Tad a'r Yspryd Glan wyt yn byw ac yn teyrnasu tros oesoedd oesoedd. Amen.

Off. DOmine non swm dignws wt intres swb tectwm mewm, sed tantwm dic fer­bo & sanabitwr anima mea. O Arglwyd nid wyf fi yn deilwng ddy­fod o honot tan fy nenn i: ond yn vnic dywed di ar air, ac iacheir f'e­anid i.

Yr hyn a ddywedir deirgwaith.

O Wledd fendigedic, yn yr hon y cymmerir Christ eih [...]n yr adnewyddir Coffadwriaeth o'i Ddi­oddefaint ef, y llenwir yr enaid a gras, ac y rhoddir i ni wystl arwydd o'r gogoniant a ddaw.

Cymmun ysprydol.

O Arglwydd Dduw, a'm Ceid­wad daionus Iesu Christ yr hwn wyt wedi dyfod ymma o ga­riad attaf fi: a'r hwn wyt yn rhoi i mi dyhun yn ymborth bennyddol: ië hefyd hyd ymmhob rhaid, a gwa­sanaeth a ddichon fynghalon ei ddy­muno! Mae fy ammharodrwydd i, O Arglwydd yn gwahardd i mi dy gymmeryd yn sacrafennawl: etto oblegid nas gallaf fyw hebo ti, yr hwn wyt wir ymborth fy enaid: attolygaf arnat yn ostyngeiddlon, fy'm hadnewyddu fi yn ysprydol, a [Page 257]gwna fi yn gyfrannog o'r gras y mae'r sawl yn ei ymglywed, a'th dder­bynniant di yn deilwng ac yn dde­fotionol. O Iesu daionus na ddi­brisia fi ddim, ond teilynga ymwe­led a'm fi dy wasanaethydd: a thrwy dy ras cyflawna, a pherffeiddia ynofi ymweithiadau a rhinweddau y Sacrafen hon fendigedic, er moli­ant i ti, O fy Arglwydd Dduw, ac er iachawdwriaeth tragywyddol i'm henaid innau. Amen.

X.

Ar y Gvveddiau divveddaf.

O Dduw tra daionus, Tad y tru­gareddau, caniada i mi, atto­lygaf arnat, trwy'r Aberth hon o Gorph a Gwaed dy Fab di, ein Har­glwydd Iesu Christ, yr hon a offrym­mir ymma, ac ymmhob man trwy dy Eglwys Sanctaidd, fel diolch gwa­stadol, ac ymgoffa beunyddol o'i farwolaeth fendigedic ef, gael tru­garedd o'th ddwylo di, a maddeu­ant o'm holl bechodau. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu tros oe­soedd oesoedd. Amen.

Ar y Bendith.

GRas ein Harglwydd Iesu Christ, rhinwedd ei Ddioddefaint tra­gogoneddus ef, arwydd y Groes san­ctaidd, [Page 259]cyfanrwydd Mair fendigedic forwyn, bendithion yr holl Sainct, a Gweddiau holl Etholedigion Duw, a fo rhyngof fi a'm holl elynion gwe­ledic ac anweledic yrwön, ac yn awr fy angeu. Amen.

Dechreuad Evangel Sanct Ioan.

YN y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gyda Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreu­ad gyda Duw. Holl bethau a wnaed trwyddo ef: ac hebbdo ef ni wnaed dim ar y wnaed. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dy­nion: a'r goleuni sy'n disgleirio yn y tywyllwch, a'r tywyllwch nid amgyffredodd ef. Yr oedd gwr wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw, enw yr hwn oedd Ioan. Hwn a ddaeth yn destiolaeth, fel y thoddai destiolaeth am y goleuni, fel y cre­dent oll trwyddo ef. Nid oedd ef y goleuni, ond fel y rhoddai desti­olaeth am y goleuni. Y gwir oleu­ni [Page 260]ydoedd, yr hwn sy'n goleuo pob dyn yn dyfod i'r byd hwn. Yn y byd yr oedd, a'r byd a wnaed trwyddo ef, a'r byd nid adnabu ef: ar ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo eihun ni dderbynniasant ef. Ond y sawl bynnag a'i derbynniasant ef, rhoddodd iddynt allu i fod yn fei­bion i Dduw, i'rhai hyn, y rhai sy'n credu yn ei Enw ef: y rhai nid o waedoedd nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gwr, ond a aned o Dduw. A'r Gair a wnaed yn gnawd, ac a drigodd ynom ni. Ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr vnic anedig o'r Tad yn llawn o ras a gwirionedd.

Rhybydd.

PAn nas gallant y bobl ffyddlon ar y Dyddiau Sul a'r Dyddiau Gwyl eraill fod yn bresennol ar Ddirge­leddion sacredic yr Aberth Dduwfawl, da iawn ac angenrheidiol y fyddai i'r Penteulu, ar yr amser cynnefin y bo­reuau, alw y tylwyth ffyddlon oll yng­hyd i'r lle-gweddi arferol, ac yno darllain iddynt yn eistedd o bob parth (neu beri i ryw vn arall a fedro yn rhwydd ac yn gywraint ddarllain) Pennod neu Wers o'r Directori Chri­stianogol, o'r Introduction i fuchedd ddefotionol, o'r Memorial; neu o ryw lyfr da eyffelyb, ynol cyfarwyddi­ad eu Pennaeth Ysprydol, tros yspaid hanner awr, neu o amgylch hynny: yno gan syrthio ar eu gliniau, dar­llenned pob vn yn ddistaw wrtho eihu­nan [Page 262]y Gweddiau vchod sydd i'w dy­wedyd yn amser yr Offeren sanctaidd. Gwedi hynny, ef a all rhyw vn ohonynt ddywedyd y Litanian, a'r lleill ei at­teb ef. Neu ddywedyd Rosari ein Harglwyddes Mair fendigedic bob yn eilwers, neu'r drydedd ran o honi. Ac yn y cyfamser goleu cannhwyllau ben­diged (os gwel y Penteulu fod yn dda) er mwyn coffa presennoldeb yr Yspryd Glan.

Yn yr vn modd y Prynhawnoedd gan ddyfod ynghyd y gellir darllain rhyw rai o Fucheddau y Sainct o'r dydd neu'r wythnos honno (ynol cyngor y Tad Ysprydol) tros amgylch hanner awr: ac wedi hynny penlino i ddywedyd eu Gwosper, y Litaniau, neu'r Rosari, megis o'r blaen.

Ond mae yn well tuhwnt i bob me­sur, ie yn anfeidrol gwell, mwy bu­ddiol a llesfawr bod yn bresennol ar Ddirgeleddion sacraidd yr Offeren Lan, nac ar Weddian eraill pabynnac. Ac amhynny nid oes dim na wna y rhai ffyddlon defotionol er cael bod yn [Page 263]gyfrannoc ohonynt. Pan fo'r Offei [...]iad (medd y duwiol Thomas a Kempis) yn aberthu yr Offeren, e mae ef yn gogoneddu Duw, yn llawenychu yr Angelion yn adeiladu yr Eglwys, yn cymmhorthu y byw yn esmwythau neu'n rhoi gorphwys i'r meirw ffydd­lon, ac yn gwneuthur eihunan yn gy­frannoc o bob daioni neu ddoniau nefawl, Yr vn mewn mesur cymmeidrol a ellir ei ddywedyd am wrando yr Offeren sanctaidd yn defotionol.

Cynghorion i'r Cleifion.
A Gweddiau ivv dyvvedyd.

PAn welo Duw yn dda dy ymweled di à chlefyd, paratoa dyhun i fa­rw yn sanctaidd, bwrw holl draffer­thau a gofalon bydol allan o'th feddwl: danfon yn y man am Offeiriad i wran­do dy Gyffes, a glanha dy gydwybod o bob peth ac y fo yn ei molestu; a rhaid i ti dderbyn y sacrafennau eraill mewn pryd ac amser cyfaddas. A gor­chymmyn dyhun i Dduw er cael nerth ysprydol i fynd trwy holl beryglon dy siwrnai.

Cofia yn fynych Ddioddefaint ein Hargl. daionus Iesu Christ, yn dy feddwl cofleidia ei Groes ef, cussana ei draed, ac ymguddia dyhun yn ei [Page 265]archollion ef, i fod yn ddibryder, ac i ochelyd dichellion y Cythraul yn yr amser enbyd hwnnw.

Gorchymmyn dyhun i weddiau Mair forwyn ogoneddus Mam Dduw, ac i'r Sainct eraill, yn enwedig, i' rhai yr arferaist fod yn fvvy defotionol.

Yna gvvna y Protestatiwn hwn.

FYfi bechadur drygionus anhei­lwng, wedi'm rhybrynnu a gwerthfawr Waed fy Arglwydd Iesu Christ, ydwyf yn proffessu yn gy­hoedd fy mod i yn maddeu o wae­lod fynghalon i bob vn ac a wnaeth gam i mi, neu a wnaeth ddim yn fy erbyn mewn modd pabynnac: gan ddymuno yn ostyngeiddlawn ar bawb ac a ddigiais innau (yn gystal y rhai sydd ymma yn bresennol a'r rhai nid ydynt) deilyngu o honynt hwythau faddeu i minnau.

Ymma, cofied y dyn claf ei holl be­chodau gorthrvvm, a gofynned fa­ddeuant gan Dduvv, gan fvvriadu [Page 266]yn hollawl trwy ras Duw, na phech [...] ef byth drachefn: ac er bod ei becho­dau ef yn aml aneirif, a'r moddion o'i gwneuthur yn erchyll anfad, ett [...] gobeithied yn naioni Duw Hollalluoc trugaredd yr hwn sydd vwchben ei hol [...] weithredoedd ef, ac ymddirieded y [...] Nioddefaint ein Harglwydd a'n Ceid­wad Iesu Christ, gan ddywedyd, Cre­daf yn Nuw'r Tad, &c.

Oni all y dyn claf ddarllain y Cyn­ghorion hyn, darllenned hwynt rhyw v [...] arall iddo ef drachefn a thrachefn, [...] llafared y Protestatiwn vchod o' [...] flaen ef, cynnifer gwaith ac y b [...] defosiwn gantho iw ddywedyd ef.

Gweddiau tros y Cleifion.

HOllalluog tragywyddol Dduw, yr hwn wyt iechawdwriaeth gwastadawl y Ffyddloniaid, gwrando ni, yn attollwg cymmorth dy druga­redd tros N. dy was ( neu dy for­wyn) claf, fel wedi rhoddi o honot iechyd iddo drachefn, a rhoddo yn­tau ddiolch i tithau yn dy Eglwys. Trwy ein Harglwydd Iesu Christ. Amen.

HOllalluog tragywyddol Dduw, yn nwylo'r hwn y mae Allwy­ddau bywyd ac angeu, a dothineb anfeidrol yr hwn sy'n dosparthu pob peth yn y modd goreu i'r sawl a'i caro: edrych, attolygwn arnat, ar [Page 268]dy was ( neu forwyn) yr hwn a fw [...]iaist ar ei glaf-wely, ac a'th ras cynnal ei yspryd gofidus ef, nertha ei ffydd, chwanega ei obaith, cy­flawna ei gariad-perffaith, a sanctei­ddia ef ymmhob arfod o'i ddioddefi­adau: fel os dy drugaredd a rydd iechyd iddo drachefn, y gallo yntau yn ddyfalach emendio ei fuchedd: Ond os gweli di yn well ei alw ef attat y tro hwn, y gallo ef fyned trwy ddyffryn cysgod angeu yn ddi­bryder ddianaf, a chael ei hebrwng gan dy Angelion sanctaidd di i'r Trig­faoedd gwynfydedig, lle ni bo nac ofn yn ei flino, na phoen yn ei be­nydio, na thristwch yn molestu ta­welwch ei feddwl ef: ond lle bo diofalwch perffaith, difyrrwch pur­lan, a llawenydd annhraethadwy yn ei ymgofleidio ef yn ddiogel tros fyth. Trwy ein Harglwydd Iesu Christ, dy Fab di, yr hwn gyda thi a'r Yspryd Glan sy'n byw ac yr teyrnasu tros holl oesoedd oesoedd Amen.

O Dduw yr hwn wyt yn amddi­ffyn godidog i wendid dynol: dangos rinwedd dy gymmorth ar dy was claf N. fel, wedi cael o hono ei ymwared trwy help dy druga­redd di, y gallo ef yn iach ac yn lla­wen gyrchu drachefn i'th Eglwys sanctaidd di. Trwy Christ ein Hargl­wydd. Amen.

Litaniau tros y Cleifion.

ARglwydd trugarha wrtho ef ( neu wrthi hi.)
Christ trugarha wrtho ef.
Arglwydd trugarha wrtho ef.
Mair Sanctaidd gweddia trosto.
Chwychwi yr holl Angelion ac Archangelion sanctaidd gwediwch trosto.
Sanct Abel gweddia trosto.
Y Corau oll o'r rhai Cyfion gwyn­fydedig gweddiwch trosto.
Sanct Abraham gweddia trosto.
Sanct Ioan Fedyddiwr gweddia trosto.
Chwychwi yr holl Patriarchiaid a'r Prophwydi sanctaidd gweddiw.
S. Petr gweddia trosto.
S. Pawl
S. Andreas
S. Ioan
Chwychwi yr holl Apostolion a'r E­vangelwyr sanctaidd gweddiwch.
Chwychwi holl Ddiscyblion sancta­idd ein Hargl. gweddiwch.
Chwychwi y Gwirioniaid sanctaidd oll gweddiwch.
S. Stephan gweddia.
S. Lawrens
Chwychwi y Merthyri sanctaidd oll gweddiwch.
S. Silvester gweddia trosto.
S. Gregor
S. Awstin
Chwychwi yr holl Escopion a'r Con­ffessoriaid sanctaidd gwedd.
S. Bened gweddia.
S. Françis
Chwychwi y Menych a'r Mendwön sanctaidd oll gwedd.
S. Mari Magdalen gwedd.
S. Lwçîa
Chwychwi y Gwyryfon a'r Gwedd­wōn sanctaidd oll gweddiwch.
Chwychwi holl Seinctiau a Sanct­essau Duw. gweddiwch trosto.
Bydd drugarog Maddeu iddo, O Arglwydd.
Bydd drugarog Gwared ef O Arglwydd.
Rhag dy ddigofaint di Gwared ef O Arglwydd.
Rhag perygl angeu Gwared.
Rhag marwolaeth ddrwg Gwared.
Rhag poenau Vffern Gwared.
Rhag pob drwg Gwared.
Rhag nerth y Cythraul Gwared.
Trwy dy Enedigaeth di Gwared.
Trwy dy Groes a'th Ddioddefaint Gwared.
Trwy dy Farwolaeth a'th Gladdedi­gaeth Gwared.
Trwy dy Adgyfodiad gogoneddus Gwared.
Trwy dy Ddyrchafael rhyfeddol Gwared.
Trwy ras yr Yspryd Glan y Cyssurwr Gwared.
Yn nydd y Farn Gwared.
Nyni becbaduriaid Attolygwn arnat gwrando ni.
Arbed o honot ef Attolygwn arnat gwrando ni.
Argl. trugarha wrtho.
Christ trugarha wrtho.
Argl. trugarha wrtho.

Wedi hyn pan fo'r enaid yn ing a gloes angeu, neu yn barod i ymado a'r corph dyweded rhyw vn o'r Ffyddloniaid y Gweddi­au hyn yn canlyn.

DOs allan o'r byd trafferthus hwn O enaid Christianogawl, i'th Cartref tragywyddol, dos, trwy [Page 273]lawn obaith a hyder yn Enw Duw'r Tad hollalluog yr hwn a'th creodd di, yn Enw Iesu Christ, Mab y Duw byw, yr hwn a ddioddefodd ar y Groes fendigedig trosoti, yn Enw'r Ysp [...]yd Glan gras a rhoddion yr hwn a dywalltwyd yno ti, yn enw'r An­gelion a'r Archangelion, yn enw'r Thronau a'r Arglwyddiaethau, yn enw'r Cerwbim a'r Seraphim, a'r holl Ysprydion gwyn-fydedig: yn enw'r Patriarchiaid a'r Prophwydi, yn enw'r Apostolion a'r Evangelwyr, yn enw'r Merthyri a'r Conffessoriaid, yn enw'r Menych a'r Meudwön, yn enw'r Gwyryfon sanctaidd, a holl Seinctiau a Sanctessau Duw: bydd­ed dy le di heddyw yn heddwch, a'th ymogor yn Siön sanctaidd. Trwy'r vn Christ ein Harglwydd. Amen.

O Dduw trugarog, O Dduw daiouus, O Dduw yr hwn yn ol lliaws dy drugareddau wyt yn di­leu pechodan y rhai penitent, ac a [Page 274]maddeuant rhyddhaad yn golchi ymmaith y beiau a'r camweddau y fuont gynt: edrych yn drugarog ar dy was ymma, a gwrando arno a hollawl Gyffes calon yn gofyn maddeuant o'i holl bechodau. Ad­newydda ynddo, O Dad daionus beth bynnac sy medi llygru trwy wendid daearol beth bynnac sy we­di ei halogi trwy dwyll y Cythraul, ac adgyssyllta yn vndod corph yr E­glwys yr aelod a rybrynnaist. Tru­garha O Arglwydd ar ei vcheneidiau, trugarha ar ei ddagrau ef, ac heb ymddiried gantho ond yn dy dru­garedd di, derbyn ef i Sacrafen yr ymgymmod a thi. Trwy Christ ein Harglwydd. Amen.

YR wyf fi yn dy orchymmyn di, fy Mrawd anwyl, i Dduw Holl­allnog, ac atto ef, Creadur yr hwn wyt, yr wyf yn dy ddanfon di: fel wedi talu dyledwaith Dynoldeb trwy gyfrwng marwolaeth, y dy­chweli at dy Awdur yr hwn a'th li­niodd [Page 275]di o bridd y ddaear. Ym­gyfarfoded ganhynny a'th enaid di yn myned allan o'r corph, Cynnu­lleidfa ysplenydd yr Angelion: deu­ed attoti Senedd brawdol yr Apo­stolion: dynessed i ti ogoneddus Lu y Merthri cannaid: amgylched di Tyrfa liliaidd y Conffessoriaid gloyw: derbynnied di Cor llawen y Gwyryfon gorfoleddus: Ymwas­ged di ym mynwes gorphwys de­dwyddlawn Amgofleidiad y Patri­archaiaid. Bydded golwg Christ yn diri­on ac yn llawenaidd arnat, yr hwn a'th trefno di i fod bob amser ymmhlith y rhai sy'n bresennol gydag ef. Na wybydd ddim o'r hyn sy'n hyllu mewn tywyllwch, yn grillian mewn fflammau, yn cospi mewn poenau. Cilied oddiwrthoti Satan melltigedig a'i holl osgordd erchyll: ar dy ddy­fod di a'r Angelion yn dy amgylchu dychrynned, a ffoed i Bwll didrefn ofnadwy y Nos dragywyddol. Cy­foded Duw, a gwascarer ei elynion [Page 276]ei wyneb ef. Megis y mae'r mwg yn difan-golli difan-gollent hwy thau. Megis y mae'r cwyr yn toddi o flaen wyneb y tan, felly difethent pechaduriaid o flaen wyneb Duw: a gwleddent y Cyfion a gorfoleddent yngwydd Duw. Amhynny gwara­dwydder a chywilyddier yr holl Lengau Vffernol: ac na feiddient gweinidogion Satan rwystro dy ffordd di. Gwareded di rhag poen, Christ yr hwn a groeshoeliwyd trosot. Gwareded di rhag marwolaeth dra­gywyddol, Christ yr hwn a deilyn­godd farw trosot. Gosoded Christ Mab y Duw byw di oddimewn hy­fryd lannerchau blodeuog ei Bara­dwys ef, ac ymmysc ei ddefaid cyd­nabydded di y gwir Fugail hwnnw. Rhyddhaed ef di o'th holl becho­dau: a gosoded di ar ei ddeheulaw ynghyfran ei Etholedigion. Canfy­ddit dy Rybrynnwr wyneb yn wy­neb, a bydd bresennol iddo ef bob amser, gan weled a'th olygon de­dwydd y Gwirionedd yspyslawn. [Page 277]Ac felly wedi dy osod ymmysc y Cynnulleidfaoedd gwyn-fydedig meddianna felysrwydd y myfyrdod Duwfawl tros oesoedd oesoedd. A­men.

CYmmer dy was, O Arglwydd, i'r man lle bo gobaith o Gad­wedigaeth iddo trwy dy drugaredd di. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was rhag y maglau Vffernol oll, a thag peryglon poenau, a phob trallo­dau. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was, megis y gwaredaist Enoch ac Elias rhag cyffredin farwolaeth y byd. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Noe o'r Di­luw. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Abraham allan o Wr y Caldeaid. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Iob allan o'i [Page 278]ddioddefiadau. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Isaac o A­berth a llaw ei Dad Abraham. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Lot o Sodom ac o'r fflam dan. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Moysen o law Pharao brenin yr Aiphtiaid. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Ddaniel o ffau y llewod. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist y tri llanci­au o'r ffwrn dan lloscedig, ac o law y brenin annuiwol. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Susanna o'r caredd ffals. Resp. Amen.

Gwared, O Arglwydd, enaid dy was megis y gwaredaist Ddafyddd o law brenin Sawl, ac o law Golias. Resp. Amen.

Gwared, O Arclwydd, enaid dy was megis gwaredaist Petr a Phawl o'r carcharau. Resp. Amen.

Ac megis y gwaredaist S. Thecla drafendigedig forwyn a Merthyr o'i thri phoenau echryslawn, felly hefyd teilynga waredu enaid dy was, a gwna iddo gyd-lawenychu gyda thi yn y dedwyddwch Nefawl.

Y Weddi.

YR ydym yn gorchymmyn i ti, O Arglwydd, enaid dy was N. ac yn attolwg arnat O Arglwydd Iesn Christ Ceidwad y byd, na wrthod rhoddi ymmynwes dy Ba­triachiaid yr enaid, tros yr hwn y discynnaist o'r nef i'r ddaear. Cyd­nabod, O Arglwydd, dy greadur a wnaed nid trwy Dduwiau eraill, ond trwoti y gwir a'r vnic Dduw. Canys nid oes Duw arall ond [...]ydi: ac nid oes dim tebyg i'th weithre­doedd di. Lhawenha, O Arglwydd ei enaid ef yn dy wydd di: ac na [Page 280]chofia ei hen anwireddau, a'i feddw­dodau gynt, y rhai a gyffrowyd yn­ddo trwy gynddaredd neu wres ew­yllys drwg. Canys er pechu o hono, etto ni wadodd ef y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd Glan: eithr credodd yn­ddynt, ac yr oedd Cariad Duw ynddo yntau, ac fe a addolodd yn ffyddlon y Duw a wnaeth holl bethau.

Na chofia, O Arglwydd, attoly­gwn arnat feiau ei ieuengtid ef a'i anwybodau: ond yn ol dy fawr drugaredd, meddwl amdano yn-Gogoniant dy Ddiscleirdeb di. By­ddent y Nefoedd yn agored iddo: cyd-lawenychent yr Angelion ag ef. Derbynnied ef S. Michael Archangel Duw, yr hwn a haeddodd Dwyso­gaeth y Milwriaeth nefawl. Deuent Angelion Sanctaidd Duw iw gyfar­fod, a hebryngent ef i Ddinas y ne­fawl Ierusalem. Derbynnied ef S. Petr Apostol i'r hwn y rhoddwyd Agoriadau teyrnas y Nef. Cym­morthed ef S. Pawl Apostol yr hwn y fu deilwng i fod yn Lestr o Etho­liad. [Page 281]Cyfrynged trosto S. Ioan e­tholedic Apostol Duw, i'r hwn y datcuddiwyd cyfrinachau nefawl. Gweddient trosto yr Apostolion san­ctaidd, i'r rhai y rhoddwyd awdur­dod i rwymo a rhyddhau. Cyfryn­gent trosto holl Sainct ac Etholedi­gion Duw, y rhai a ddioddefassart bo­enau er mwyn Enw Christ yn y Byd hwn: fel wedi ei ddiosg o gad­wynau'r cnawd y gallo ef fod yn deilwng i ddyfod i Ogoniant Teyr­nas y Nef. Trwy ein Harglwydd Iesu Christ, yr hwn gyda'r Tad a'r Yspryd Glan sy'n byw ac yn teyrna­su tros oesoedd oesoedd. Amen.

Os parha'r enaid etto yn ei ing a'i loes, dyweder y Psalm 50. a Gweddiau eraill, a'r rhain hefyd drachefn, hyd oni bo ef wedi cwbl ddiffoddi.

Wedi i'r enaid ymadael a'r corph dyweder y Responsori hwn.

Resp. CYmmorthwch ef, O Sein­ctiau Duw, deuwch iw gyfarfod ef O Angelion ein Hargl­wydd. * gan dderbyn ei enaid ef. * gan ei offrwm ef yngwydd y Go­ruchaf. Vers. Cymmered di Christ yr hwn a'th alwodd, a dygent yr Angelion di, i fynwes Abraham. Gan dderbyn ei enaid ef. Gan ei offrwm ef yngwydd y Goruchaf. Vers. Dyro orphwys, tragywyddol iddo, O Arglwydd, a discleiried ar­no y goleuni dibaid. * Gan offrwm ei enaid ef yngwydd y Goruchaf. Arglwydd trugarha wrtho. Christ trugarha wrtho. Arglwydd tru­garha wrtho. Ein Tad ni &c. yn ddistaw. Ac na ddwg ni i brofedi­gaeth. Resp. Ond gwared ni rhag drwg. Vers. Dyro orphwys tragy­wyddol iddo O Arglwydd. Resp. A disgleiried arno y goleuni dibaid. [Page 283] Vers. Rhag porth Vffern. Resp. Gwared ei enaid ef O Arglwydd. Vers. Gorphwysed yn heddwch. Resp. Amen. Vers. O Arglwydd gwrando fyngweddi. Resp. A deued fy llef attoti.

Gwddiwn.

YR ydym yn gorchymmyu i ti, O Arglwydd enaid dy was N. fal wedi marw i'r byd y byddo fyw gyda thi: a'r pecodau y rhai a wna­eth ef trwy wendid ymarweddiad dynol, dilea di a maddeuant dy Ddaioni trugaroccaf. Trwy Christ ein Harglwydd. Amen.

Gweddiau tros y Ffyddlo­niaid wedi Meirw.

Tros fab wedi marw.

GOgwydda dy glust, O Arglw­ydd, at ein Gweddiau ni, a'r rhai [Page 282] [...] [Page 283] [...] [Page 284]yr ydym yn ostyngeiddlawn yn at­tolwg ar dy drugaredd osod yn-go­ror heddwch a goleuni, enaid dy was N. yr hwn yr archaist fyned o hono allan o'r byd hwn: a gwna iddo fod yn gyfrannoc gyd a'th Seinctiau di. Trwy'n Harglwydd Iesu Christ, dy Fab di, yr hwn gyda thi sy'n byw ac yn teyrnassu yn vndod yr Ys­pryd Glan Duw tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Tros ferch wedi marw.

ATtolygwn arnat O Arglwydd, yn ol dy ddaioni, trugarha ar enaid dy forwyn N. ac wedi ei diosg­o heintiau dynoldeb, gosod hi oddi­fewn parth y Gadwedigaeth dragy­wyddol. Trwy ein Harglwydd, &c.

Tros dad a man, neu vn o'r ddau.

O Dduw, yr hwn a orchym­mynaist i ni anrhydeddu Tad a Mam, trugarha yn ddaionus ar e­neidiau [Page 285]( neu enaid) fy Nhad a'm Mam i, a rhyddha eu pechodau idd­ynt hwy, a gwna i minnau eu gwe­led hwynt yn gwynfyd y discleirdeb tragywyddol. Trwy ein Harglwydd &c.

Tros ein Brodyr a'n Ceraint a'n Beneffactoriaid.

O Dduw yr hwn wyt yn roddwr maddeuant, ac yn ewyllysu iachawdwriaeth dynion, attolygwn ar dy drugaredd, trwy gyfrwng Mair fendigedig forwyn bob amser gyda'r holl Sainct canniada i'n Brodyr o'n Cynnulleidfa, ac i'n Ceraint, ac i'n Beneffactoriaid, y rhai sy wedi myned allan o'r byd hwn, ddyfod i gyfei­llach y Gwynfyd tragywyddol. Trwy ein Hargl. &c.

Tros eneidiau y Ffyddloniaid yn gyffre­din, ac ar Ddy'gwyl y Meirw.

O Dduw Creawdwr a Rhybryn­nwr yr holl Ffyddloniaid, [Page 286]dyro i eneidiau dy wasanaethwyr a'th wasanaeth-ferched ryddhaad o'i holl bechodau: fel trwy ostyngeidd­lawn weddiau duwiol y caffant y maddeuant yr hwn a ddymunasant bob amser. Trwy ein Harglwydd, &c.

Y Miserere.
Neu'r Psalm 50.

TRugarha wrthyf O Dduw, yn ol dy drugaredd mawr:

Ac yn ol lliaws dy drugareddau, dilea fy anwiredd.

Golch fi, yn fwy o'm hanwiredd, ac o'm pechod glanha fi.

Canys yr wyf fi yn cydnabod fy anwiredd: a'm pechod sydd yn fy erbyn bob amser.

Yn dy erbyn di yn vnic y pechais, ac yn dy wydd di y gwneuthum ddrwg: fal y cyfiawner di yn dy ei­riau, ac y gorchfygi pan farner di.

Canys wele mewn anwireddau yr ymddwynwyd fi: ac mewn pe­chodau yr ymddwynodd fi fy mam.

Canys wele, ti a geraist y gwiri­onedd: y pethau annilys a'r cuddi­edig o'th ddoethineb a ddatcuddiaist i mi.

Ysgeinia fi ag hyssop, a glanheir fi: ti a'm golchi a byddaf wynnach na'r eira.

Ti a roddi lawenydd a hyfrydwch i'm clywed: a gorfoleddant escyrn gostyngeiddiedig.

Tro dy wyneb oddiwrth fy mhe­chodau: a dilea fy holl anwire­ddau.

Crea galon lan ynof O Dduw: [Page 288]ac adnewydda yspryd vnion yn fy ymmyscaroedd.

Na fwrw fi ymmaith oddiwrth dy wyneb: ac na chymmer dy ys­pryd sanctaidd oddiwrthyf.

Dyro i mi drachefn lawenydd dy iachawdwriaeth: ac a'th yspryd ar­bennig cadarnha fi.

Dyscaf i'r anghyfion dy ffyrdd: a'r annuwiol a droir attat.

Gwared fi oddiwrth waedoedd O Dduw, Duw fy iachawdwriaeth: a'm tafod a ymfawryga dy gyfiown­der.

Arglwydd, ti a agori fyn gwesu­sau: a'm geneu a fynega dy foli­ant.

Canys pettasit ti yn mynnu a­berth, yn ddiau mi a'i rhoddaswn: ni fodlonir di a holocawstau.

Aberth i Dduw yw yspryd cyst­uddlawn calon gystuddiedig, a go­styngeiddlon, O Dduw ni ddiystyri di.

Gwna yn ddaionus, O Arglwydd yn dy ewyllys da at Siôn: fal yr adeilader caerau Ierwsalem.

Yna a cymmeri di aberth cyfi­awnder, offrymmau a holocawstau: yna a gosodant loiau ar dy allor.

Gogoniant i'r Tad &c. Megis yr oedd yn y dechreuad &c.

Antiphon. Na chofia O Argl­wydd ein hanwireddau ni, na thro­seddau ein rhieni ni: ac na wna ddial arnom am ein pechodau.

Litaniau y Sainct.

  • AYglwydd trugarha wrthym.
  • Christ trugarha wrthym.
  • Arglwydd trugatha wrthym.
  • Christ gwrando ni,
  • Christ gwrando ni yn ddaionus.
  • Duw'r Tad o'r nefoedd Trugatha wrthym.
  • Duw'r Mab Rhybrynnwr y byd Trugarha wrthym.
  • [Page 290]Duw'r Yspryd Glan Trugarha wrthym.
  • Trindod Sanctaidd vn Duw Tru­garha wrthym.
  • Sanctaidd Fair Gweddia trosom ni.
  • Sanctaidd Fam Dduw Gweddia
  • Sanctaidd Wyryf y Gwyryfon Gweddia
  • Sanct Michaël Gweddia
  • Sanct Gabriël Gweddia
  • Sanct Raphaël Gweddia
  • Chwychwi yr holl Sanctaidd Angeli­on ac Archangelion Gweddiwch trosom ni.
  • Chwychwi y Graddau Sanctaidd oll o Ysprydion bendigedig Gwe­ddiwch trosom ni.
  • Sanct Ioan Fedyddiwr Gweddia trosom ni.
  • Chwychwi y Patriarchiaid a'r Pro­phwydi Sanctaidd oll Gweddiwch trosom ni.
    • S. Petr Gweddia
    • S. Pawl Gweddia
    • S. Andreas Gweddia
    • S. Iacob Gweddia
    • [Page 291]S. Ioan Gweddia trosom ni.
    • S. Thomas Gweddia trosom ni.
    • S. Iacob Gweddia trosom ni.
    • S. Philip Gweddia trosom ni.
    • S. Bartholmew Gweddia trosom ni.
    • S. Matthew Gweddia trosom ni.
    • S. Simon Gweddia trosom ni.
    • S. Thadew Gweddia trosom ni.
    • S. Mathias Gweddia trosom ni.
    • S. Barnab Gweddia trosom ni.
    • S. Lwcas Gweddia trosom ni.
    • S. Marc Gweddia trosom ni.
  • Chwychwi yr holl Apostolion a'r E­vangelwyr sanctaidd Gweddiwch trosom ni.
  • Chwychwi holl Ddiscyblion sancta­idd ein Harglwdd Gweddiwch trosom ni.
  • Chwychi y Gwirioniaid sanctaidd oll Gweddiwch tosom ni.
    • S. Stephan Gweddia
    • S. Lawrens Gweddia
    • S. Vinçent Gweddia
    • S. Ffabian a S. Sebastian Gweddiwch
    • S. Ioan a S. Pawl Gweddiwch
    • S. Cosmas a S. Damian Gweddiwch
  • [Page 292]S. Gervasiws a S. Prot asiws Gweddiw Chwychwi y Merthyri sanctaidd oll Gweddiwch
    • S. Silvester Gweddia
    • S. Gregor Gweddia
    • S. Ambros Gweddia
    • S. Awstin Gweddia
    • S. Hierom Gweddia
    • S. Martin Gweddia
    • S. Nicôlas Gweddia
  • Chwychwi yr holl Escopion Con­ffessoriad sanctaidd Gweddiwch
  • Chwychwi y Doctorion sanctaidd oll Gweddiwch
    • S. Antwn Gweddia
    • S. Bened Gweddia
    • S. Bernard Gweddia
    • S. Domnic Gweddia
    • S. Ffrançis Gweddia
  • Chwychwi yr holl Offeiriaid a'r Levi­aid sanctaidd Gweddiwch
  • Chwychwi y Menych a'r Meudwrön sanctaidd oll Gweddiwch
    • S. Mari Magdalen Gweddia
    • S. Agatha Gweddia
    • S. Lwçia Gweddia
    • [Page 293]S. Agnes Gweddia
    • S. Ceçilia Gweddia
    • S. Catrin Gweddia
    • S. Anastasia Gweddia
  • Chwychwi y Gwyryfon a'r Gwedd­wôn sanctaidd oll Gweddiwch
  • Chwychwi holl Seinctiau a Sanct­essau Duw Cyfryngwch trosom ni.
  • Bydd drugarog wrthym Arbed ni O Arglwydd.
  • Bydd drugarog wrthym Gwrando ni yn ddaionus O Arglwydd.
  • Rhag pob drwg Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag pob pechod Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag dy ddigofaint di Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag marwolaeth ddisymmwth ammharod Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag dichellion y Cythraul Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag llid, casineb a phob drwg ewyllys Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag y pryd godineb Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag melt-luched a themmhestl Gwared ni O Arglwydd.
  • Rhag marwolaeth dragywyddol. Gwared ni O Arglwydd.
  • Trwy Ddirgeledd by Ymgnaw­doliaeth sanctaidd di Gwared ni O Arglwydd.
  • [Page 294]Trwy dy Ddyfodiad di Gwared ni O Arglwydd.
  • Trwy dy Enedigaeth di Gwared ni O Arglwydd.
  • Trwy dy Fedydd a'th Ympryd san­ctaid Gwared ni O Argl.
  • Trwy dy Groes a'th Ddioddefaint Gwared ni O Argl.
  • Trwy dy Farwolaeth a'th Gladde­digaeth Gwared ni O Argl.
  • Trwy dy sanctaidd Adgyfodiad Gwared ni O Argl.
  • Trwy dy Ddyrchafael rhyfeddol Gwared ni O Argl.
  • Trwy Ddyfodiad yr Yspryd Glan y Cyssurwr Gwared
  • Yn nydd y Farn Gwared
  • Nyni bechaduriaid Attoly­gwn arnat, gwrando ni.
  • Arbed o honot nyni Attoly.
  • Faddeu o honot i ni Attolygwn arnat, gwrando ni.
  • Teilyngn o honot ein dwyn ni i wir benyd Attoly.
  • Teilyngu o honot reoli a chadw dy Eglwys sanctaidd Attoly
  • [Page 295]Teilyngu o honot gadw ein Prelad Apostolic, a'r Graddan I glwy­sig oll yn y Ffydd sanctaidd Attoly.
  • Teilyngu o honot ymostwng golyni­on yr Eglwys sanctaidd Attoly.
  • Teilyngu o honot roddi heddwch ac gwir gyttundeb i'r Brenhinoedd a'r Twysogion Christianogol Attoly.
  • Teilyngu o honot roddi heddwch ac vndeb i'r bobl Ghristianogol Attoly.
  • Teilyngu o honot ein conffoddi a'n cynnal ni nyhunain yn dy wa­sanaeth sanctaidd di Attoly.
  • Cyfodi o honot ein meddyliau ni at ewyllysiau nefol Attoly.
  • Rhoddi o honot dda tragywyddol i'n Beneffactoriaid ni oll Attoly.
  • Gwaredu o honot ein heneidiau ni, ac eneidiau ein Brodyr a'n Ce­taint, a'n Beneffactoriaid rhag colledigaeth dragy wyddol Attoly.
  • Teilyngu o honot roddi a chadw [Page 296]ffrwythau y ddae [...]r Attoly.
  • Teilyngu o honot roddi gorphwys tragywyddol i'r meirw Ffydd­lon oll Attoly.
  • Teilyngu o honot ein gwrando ni yn ddaionus. Attoly.
  • Mab Duw Attolygwn arnat, gwrando ni.
  • Oen Duw, yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd A­bed ni O Arglwydd.
  • Oen Duw yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd Gw­rando ni yn ddaionus O Argl­wydd.
  • Oen Duw yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd Tru­garha wrthym,
  • Christ gwrando ni.
  • Christ gwrando ni yn ddaionus.
  • Arglwydd trugarha wrthym.
  • Christ trugarha wrthym.
  • Arglwydd trugarha wrthym.

Ein Tad ni, &c. yn ddistaw.

Vers. Ac na ddwg ni i brofedigaeth.

Resp. Ond gwared ni rhag drwg.

Y Psalm 69.

O Dduw disgwyl arnaf i'm cym­morth: Arglwydd bryssia i'm cymmorthwyo.

Gwaradywdder a chywilyddier y rhai sy'n ceisio fy enaid.

Dattroer yn eu hol, a gwrident, y rhai sy'n ewyllysio drygau i mi.

Dattroer yn ddioed gan wrido, y rhai sy'n dywedyd wrthyf: da iawn, da iawn.

Gorfoleddent a llawenychent yno­ti y rhai oll a'th geisiant di, a dy­wedent yn wastad: Mawryger ein Harglwydd, y rhai sy'n caru dy ia­chawdwriaeth di.

Eithr fyfi ydwyf anghenus a thlawd: O Dduw cymmortha fi.

Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab ac i'r Yspryd Glan.

Megis yr oedd yn y dechreuad, ac yrwôn, a phob amser, a thros oe­soedd oesoed. Amen.

Vers. Cadw dy weision.

Resp. O fy Nuw yn gobeithio ynoti.

Vers. Bydd di, O Arglwydd yn dwr cadernid i ni.

Resp. Rhag wyneb y gelyn.

Vers. Na thyccied y gelyn yn ein herbyn.

Resp. Ac na fydded gallu gan fab yr anwiredd i wneuthur niweid i ni.

Vers. O Arglwydd na wna i ni yn ol ein pechodau.

Resp. Ac na thal i ni chwaith yn ol ein hanwireddau.

Vers. Gweddiwn tros ein Escop pennaf N.

Resp. Ein Harglwydd a'i cattwo, ac a roddo iach hoedl iddo, ac a'i gwnelo yn ddedwydd ar y ddaear, ac na'i traddodo i ewyllys ei elyni­on.

Vers. Gweddiwn tros ein bene­ffactoriaid.

Resp. Teilynga, O Arglwydd, roddi bywyd tragywyddol i'r rhai [Page 299]oll a wneuthant ddaioni i ni er dy Enw di. Amen.

Vers. Gweddiwn tros y meirw ffyddlon.

Resp. Dyro orphwys tragywyddol iddynt, O Arglwydd, a discleiried arnynt y goleuni dibaid.

Vers. Gorphwysent yn heddwch.

Resp. Amen.

Vers. Tros ein brodyr sy'n absen­nol.

Resp. Cadw dy wasanaethwyr, O fy Nuw, yn gobeithio ynoti.

Vers. Danfon gymmorth iddynt o'th le sanctaidd.

Resp. Ac o Siôn amddiffyn hwynt.

Vers. O Arglwydd gwrando fyn­gweddi.

Resp. A deued fy llef i attati.

Gweddiwn.

O Dduw i'r hwn y mae'n bri­odol trugarhau yn wastad a maddeu: dderbyn ein gweddi o­styngeiddlawn, [Page 300]styngeiddlawn, fel y gollyngo yn hynaws trugaredd dy Ddaioni ny­ni, a'th holl weision di yn rhydd, y rhai y mae cadwyn ein pechodau yn ein rhwymo yn gaeth.

Gwrando attolygwn arnat, O Aglwydd, ein gweddiau gostyngei­ddlawn, a maddeu ein pechodeu i ni yn cyffessu i ti: fel y rhoddych yn yr vn modd faddeuant i ninnau yn drugarog a heddwch.

Dangos i ni yn ddaionus, O Ar­glwydd, dy drugaredd annhraetha­dwy: fel tan vn a'n rhyddheych ni o'n holl bechodau, ac a'n gware­dych ni oddiwrth y cospedigaethau a haeddasom amdanynt.

Duw yr hwn a ddigir trwy be­chod, ac a fodlonit trwy benyd: edrych yn drugarog ar weddiau dy bobl ostyngeiddlawn: a thro oddi­wrthym fflangellau dy ddigofaint, y rhai yr ydym yn eu haeddu am ein pechodau.

Hollalluog tragywyddol Ddaw. trugarha wrth dy wasanaethwr ein [Page 301]Escop pennaf N. ac yn ol dy ddai­oni cyfarwydda ef i ffordd iachaw­dwriaeth dragywyddol: fel trwy dy ras di y chwenycho ef yr hyn sy gemmeradwy ger dy fron di, ac a'i cyflawno a'i holl nerth.

Duw o'r hwn y daw ewyllysiau sanctaidd, cynghorion iawn▪ a gwei­thredoedd cyfion: dyro i'th weisi­on heddwch yr hwn ni ddichon y byd ei roddi: fal gan fod ein calon­nau yn barod i gadw dy orchym, mynnion di, ac ofn y gelynion wedi ei dynnu ymmaith oddiarnom y byddant yr amseroedd trwy dy am­ddiffyn di yn heddychol.

Llosga a than yr Yspryd Glan ein harennau ni a'n calonnau, O Ar­glwydd: fel a gwasanaethom di a chorph diwair, ac a chalon bur­lan.

Duw Creawdwr a Rhybrynnwr yr holl ffyddloniaid, dyro i eneidi­au dy wasanae [...]hwyr a'th wasanaeth­serched ryddhaad o'i holl bechodau: fal trwy ostyngeiddlawn weddiau [Page 302]duwiol y caffont y maddeuant, yr hwn a ddymunasant bob amser.

Blaena ein gweithred [...]e [...]d ni a'th sanctaidd yspr [...]doliaeth, a chanlyn hwynt a'th ddaionus ymgymmorth. attolygwn arnat O Arglwydd, fel y dechreuo o honot ti pob Gw [...]ddi a Gwei [...]hred a wnelom, ac wedi de­chreu gorphennent trwo ti.

Hollalluog tragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn arglwyddiaethu ar y byw a'r meirw hefyd, ac yn tru­garhau ar bawb o'r sawl yr wyt yn rhagwybod trwy eu ffydd a'i gwei­thred y byddant o'th eiddo di: at­tolygwn arnat yn ostyngeiddlawn, tros y rhai y bwriadasom dywallt ein gweddiau, yn gystal y rhai y mae'r byd hwn yn eu dal etto yn y cnawd, a'r rhai wedi eu diosg eisoes o'i cyrph y ma'r byd y ddaw yn eu cynnwys, gael o honynt trwy gyfrwng yr holl Seinctiau o drugaredd dy ddaioni, faddeuant gennyt ti o'i holl becho­dau. Trwy ein Hargl. Iesu Christ, dy Fab di, yr hwn sy'n byw. &c. Amen.

Amryw Weddiau am gyfrwng ein Harglwyddes fendige­dig Mair forwyn Mam Dduw.

Yr Antiphonau ymma yn canlyn a ddyweddir bob boreu, a phob pyrn­hawn trwy'r flwyddyn ond ar y tri­diau nessaf o flaen dy' Pasch.

O ddechreu Advent hyd ddy' gwyl Fair y Canhwyllau y dywedir hon ymma.

MAm wen ein Prynnwr, 'rhon wyt Borth i'r Nef,

A Seren y mor, cymmortha'r me­thiant

Bobl a'i gofal am godi: tydi

'Rhon a genhedlaist dy Genhdlawr Sanct,

A natur oll yn llwyr ryfeddu'r gwaith.

Morwyn o'r blaen a morwyn wyt ar ol,

Trugarha wrthym bechaduriaid ffol.

Vers. Angel ein Harglwydd a fynegodd i Fair.

Resp. A hi a ymddwynodd o'r Yspryd Glan.

Gweddiwn.

TYwallt, O Arglwyd, attolygwn arnat, dy ras i'n heneidiau ni: fel y gallom ni y rhai wrth Gyfar­chiad yr Angel a gowsom wybod Ymgnawdoliaeth dy Fab di, trwy ei Ddioddefaint a'i Groes ef, gael ein hebrwng i ogoniant ei Adgyfodiad. Trwy'r vn Christ ein Harglwydd. Amen.

Ond ar ol y Gosper Noswyl Natalic hyd ar ol y Complin ddy' gwyl Fair y Canhwyllau y dywedir

Vers. Parheuaist yn Forwyn anhalog.

Resp. Mam Dduw gweddia trosom ni.

Gweddiwn.

DUw yr hwn trwy Forwyndod ffrwythlon Mair fendigedig a roddaist wobr o iachawdwriaeth dra­gywyddol i'r Genhedlaeth ddynol: caniada i ni attolygwn arnat, ei chlywed hi yn gweddio trosom ni trwy'r hon yr haeddasom dderbyn Awdur ein bywyd, Ein Harglwydd Iesu Grist dy Fab di. Amen.

Ar ol gwyl Fair y Canhwyllau hyd dd'joy Cably

HAnffych well Frenhines Ne­foedd
Hanffych Arglwyddes'r Angelion.
Mawl' fo i'r gwreiddin, mawl i'r porth
Trwy'r hwn' daeth goleuni' ddyni­on
Llawenha Ogoneddus ferch
Vwch ben oll y Forwyn lana
By dd wych 'r hon wyt dêg anfeidrol
A throsom at Grist gweddia.

Vers. Teilynga foliannu o honof di, O Forwyn sacredic.

Resp. Dyro i mi nerth yn erbyn dy elynnion.

Gweddiwn.

DYro amddiffyn, O Dduw truga­roccaf, i'n gwendid ni: fel y gallom ni y rhai ydym yn ymgoffa Mam sancteiddiol Dduw, trwy gym­morth ei chwyfrwng hi gyfodi i fy­nu allan o'n hanghyfiawnderau. Trwy'r vn Christ ein Hargl. Amen.

O Noswyl ddy' Pasch hyd Noswyl y Drindod.

BRenhines y Nef llawenha, Alelwia.
Canys yr hwn a haeddaist ddwyn, Alelwia.
Cyfododd fel y dywedodd, Alelwia.
Gweddia trosom at Dduw mwyn, Alelwia.

Vers. Llawenycha a gorfoledda Mair Forwyn Alelwia.

Resp. Canys cyfododd ein Har­glwydd yn wir Alelwia.

Gweddiwn.

DUw, yr hwn trwy Adgyfodiad dy Fab ein Harglwydd Iesu Grist a deilyngaist lawenychu'r Byd: ca­niada i ni, attolygwn arnat, trwy ei fam ef Mair forwyn gael derbyn lla­wenydd y bywyd tragwyddol. Trwy'r vn Ch ist ein Harglwydd. Amen.

O Noswyl y Drindod hyd yr Ad­vent y dywedir Y Salfe Regina, sef.

HAnffych well Frenhines, Mam y drugaredd, ein bywyd, ein melysder, a'n gobaith ni hanffych well. Attati a gweiddwn ddeol blant Efa. Attati ti yr vcheneidiwn gan gwynofain ac wylofain yn y dyffryn hwn o ddagrau. Ow gan hynny ein Canllaw ni, tro attom dy olygon yna trugarog. Ac ar ol y deoliad hwn dangos i ni yr Iesu ffrwyth ben­digedic dy groth di. O addfwyn, O ddaionus, O bereiddlawn forwyn Mair wenn.

Vers. Gweddia trosom ni san­cteiddiol Fam Dduw.

Resp. I'ni fod yn deilwng o a­ddewidion Christ.

Gweddiwn.

HOllalluog tragywyddol Dduw, yr hwn trwy gyd-weithiad [Page 309]yr Ysp [...]yd Glan a ddarparaist gorph ac enaid yr ogoneddus forwyn Mair, i fod yn drigfa deilwng i'th Fab di: dyro i ni, trwy ei daionus gyfrwng hi, wrth ymgoffa yr hon yr ydym yn llawenychu, gael ein gwared oddiwrth y drygau presennol, a'r farwolaeth a bery byth. Trwy'r vn Christ ein Harglwydd. Amen.

CIliwn tan dy amdiffyn di San­cteiddiol Fam Dduw, na ddiy­styra ein gofyniadau ni yn ein han­genrhaid, ond gwared ni rhag pery­glon oll bod amser, O Forwyn ogo­neddus a bendigedic.

Litaniau Ein Harglwyddes fendigedic MAIR.

a arferir eu dywedyd yn LORETTO.

ARglwydd trugarha wrthym.
Christ trugarha wrthym.
Arglwydd trugarha wrthym.
Christ gwrando ni.
Christ gwrando ni yn ddaionus.
Duw' Tad o'r Nefoedd trugarha.
Duw'r Mab Rhybrynnwr y byd trug.
Duw'r Yspryd Glan trugarha.
Trindod sanctaid vn Duw trugarha.
Sanctaidd Fair Gweddia trosom ni.
Sanctaidd Fam Dduw Gweddia.
Sanctaidd Wyryf y Gwyryfon Gweddia.
Mam Christ Gweddia.
Mam y Duwfawl Ras Gweddia.
Mam bureiddaf Gweddia trosom ni.
Mam ddiweiraf
Mam anhalog
Mam anlygredic
Mam hawddgar
Mam ryfeddol
Mam ein Creawdwr
Mam ein Iachawdwr
Morwyn synhwyrolaf
Morwyn anhrydeddus
Morwyn ganmoladwy
Morwyn alluog
Morwyn hynaws
Morwyn ffyddlon
Drych Cyfiander
Gorseddfa Doethineb
Achos ein llawenydd ni
Llestr ysprydol
Llestr gogoneddus
Llestr duwioldeb rhagorol
Rhosyn dirgeleddus
Twr Dafydd
Twr o Ifori
Ty euraid
Arch y Cyfammod
Porth y Nef
Seren foreuol Gweddia trosom ni.
Iechyd y Cleifion
Noddfa Pechaduriaid
Cyssures blin-ddynion
Cymmhorthwy Christianogion
Brenhines yr Angelion
Brenhines y Patriarchiaid
Brenhines y Prophwydi
Brenhines yr Apossolion
Brenhines y Merthy [...]i
Brenhines y Conffesso [...]iaid
Brenhines y Morwynion
Brenhines yr Holl-Sainct
Oen Duw yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd Arbed ni O Arglwyd.
Oen Duw yr hwn wyt yn dwyn ym­maith bechodau'r byd Gwrando ni yn ddaions O Arglwydd.
Oen Duw yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd Tru­garha wrthym.
Christ gwrando ni.
Christ gwranddo ni yn ddaionus.
Arglwydd trugarha wrthym.
Christ trugarha wrthym.
Arglwydd trugarha wrthym.

Ein Tad ni &c. yn ddistaw. Vers. Ac na ddwg ni i brofe­digaeth.

Resp. On gwared ni rhag drwg.

MAir Sancteiddiol cymmortha'r gofidus, nertha'r gwangalon, ymgeledda'r wylofus, gweddia tros y bobl, eiriola tros yr Eglwyswyr, cyfrynga tros y dduwiol ystlen fe­nyw; gwybyddent oll dy gymmorth di pwybynac a ddatgan dy sanctaidd ymgoffadwriaeth.

Vers. Gweddia trosom ni sanctei­ddiol Fam Dduw.

Resp. I ni fod yn deilwng o adde­widion Christ.

Gweddiwn.

TY wallt, O Arglwydd attolygwn arnat, dy ras i'n heneidiau ni: fel y gallom ni y rhai wrth Gyfarchi­ad [Page 314]yr Angel a gawsom wybod Ym­gnawdoliaeth dy Fab di trwy ei Ddi­oddefaint, a'i Groes ef, gael ein he­brwng i Ogoniant yr Adgyfodiad. Trwy'r vn Christ ein Harglwydd. Amen.

AMddiffyn, attolygwn arnat O Arglwydd., trwy gyfrwng Mair fendigedig forwyn bob amser y Teulu hwn rhag pob aflwyddiant: a chan fod o ddyfnder eu calon yn ostyngeiddlawn i ti, cadw hwynt yn ddaionus oddiwrth ddichellion y gelynion. Trwy ein Harglwyd [...] Iesu Grist dy Fab di, yr hwn sy'n byw ac yn teirnassu gyda thi yn [...] ­dod yr Yspryd Glan Duw tros [...] oesoedd oesoedd. Amen.

Gweddi a'r hon y dewisir Mair forwyn fendigedig yn Patrones.

MAir Sancteiddiol, Mam Dduw a morwyn lan, yr ydwyfi N [...] heddyw yn dy ddewis di yn Argl­wyddes, [Page 315]yn Batrones ac yn Ganllaw i mi, ac yr wyf yn bwriadu yn ddio­gel, ac yn pwrpassu na ymwrthodaf byth a thi, ac na ddywedaf, ac na wnaf byth ddim yn dy erbyn di, ac na oddefaf i neb o'm perchen wneuthur dim byth yn erbyn dy anrhydedd di. Amhynny attoly­gaf arnat, cymmer fi yn wasanae­thydd i ti: a bydd di yn bresennol i mi yn fy holl weithredoedd, ac na ymadaw a'm fi yn awr fy angeu. Amen.

Modd hawdd i gael marwo­laeth ddedwydd trwy gyfrwng a help y Forwyn-Fam Mair fendigedic, wrth fel y dysgwyd gan S. Thomas Archescop Cantwari a Merthyr.

YY oedd S. Thomas beunydd yn arfer cyfarch ein Harglwyddes fendigedic gan ddywedyd saith Afe Maria et anrhydedd am y saith prif­lawenydd a gawsai hi ar y ddaear. Y rhai oeddent.

1. Pan y cyfarchodd yr Angel hi gan fynegi Ymgnawdoliaeth Mab Duw ynddi hi.

2. Pan, wrth ymweled S. Eliza­beth, y sicrhawyd yr vn Dirgeledd iddi hi.

3. Pan y ganwyd Duw ei Mab hi ar ddydd Natalic.

4. Pan yr addolasant ef y tri Bre­nin ar ddydd Ystwyll.

5. Pan, wedi ei golli yn 12 mlwydd oed, y cafodd hi ef yn y Deml ymmysc y Doctorion ar ol tri­die galarus.

6. Pan y cyfododd ef o feirw ar ddydd Pasch.

7. Pan y dyrchafodd ef i'r Nef­oedd ar ddydd loy Dyrchafael.

Wedi i S. Thomas ymarfer y De­fotiwn hwn ennyd o amser, y For­wyn DDIFRYCHEVLYD (ar vcha pryd) a ymddangosodd iddo, gan ddywedyd: Mae dy wasanaeth di hwn ( O Thomas) yn hoff iawn ac yn gymmeradwy i mi: ond paham yr wyt yn cofio yn vnic y saith llawenydd y fu i mi ar y ddaear? Coffa hefyd o hyn allan y saith llawenydd eraill sydd i mi yrwon yn y Nef. Oblegid mi a lawenhaf, mi a gomfforddaf, ie ac a bresentiaf hefyd i Dduw fy Mab ar awr eu hangeu y sawl oll a'm hanrhy­deddant [Page 318]i beunydd a phob vn o'r ddau Ddefotiwn hyn. Yn y Nef yr wyf yn llawenychu.

1. Am fy mod i wedi fy nyrchafu uwch ben yr holl bur-greaduriaid.

2. Am y Gogoniant sydd i mi o'm bod yn Fam i Dduw.

3. Am fy mod i y rhagori mewn gogoniant y Sainct eraill megis y mae'r Haul yn rhagori mewn dis­discleirdeb y Planedau eraill.

4. Am fod y Sainct eraill yn lla­wenhau yn fawr am fyn-Gogoniant i, heb ddim cenfigen er lleied.

5. Am fod Duw fy Mab yn barod i roi i mi y gras a'r ffafor bynnac a ofynnaf gantho.

6. Am y Gogoniant priodol sydd i mi o ran fy Ymddwyn Difry­cheulyd.

7. Am fod i'm llawenyddau i hyn chwanegu a mwyhau hyd ddiwedd y byd.

Hymnau i'w dywedyd bob dyddgwyl Fair fend. ac ar y dyddiau Satwrn, a gellir eu dywedyd beunydd os bydd defotiwn i hynny.

Ar amser y Pylgain.

RHwn y mae'r Tir, y Mor, a'r Ser
Yn moli, addoli, a'i bregethu
'Rhwn sy'n rheoli'r driblyg Blaid
Yn-ghroth sacraidd Mair sy'n gweddu.
'Rhwn y mae'r Lleuad, Haul, ac oll
Yn ei wasnaethu ddydd a nos.
Pur ymyscaroedd Morwyn lawn
O'r Nef a'i dal: cyssegr Glos.
Mam fendigedic trwy ddawn Duw,
Yn Arch sancteiddiol groth yr hon
'Caed y Celfyddwr vcha'i glod,
Dwrn'r hwn sy'n dal 'r holl ddaear gron.
Mam ddedwydd iawn wrth gennad
O ffrwythlawn ras yr Yspryd sant
Dy burlan groth' escarodd ar (Nef
Wynfyd Cenhedloedd oll a'i plant.
Gogoniant i ti'r Iesu gwyn
'Rhwn 'aned i ni o'r Forwynlan
Gyd a Duw'r Tad a'r Yspryd Sant
Ti os oesoedd oll o hyn allan.

Ar amser y Lawdau.

O Ogoneddus Forwyn lan,
Fawr fraint ymmhell vwchben y ser,
Yr hwn a'th creodd faban bach
Magaist a bron-laeth nefol per.
'Rhyn a ddyg ymmaith Efa drist
Rhoddaist i ni a'th flaendardd goref
Ir wylofus fynd draw i'r Wybr
Ago [...]yd wyt borth-Clorion Nef.
Tydi ddrws wyt y Brenin Ior,
A'r Llys goleuni mawr ar led,
I chwi gael byw trwy'r Forwyn-Fam
Llawenwch oll Genhedloedd Cred.
Gogoniant i ti'r Iesu gwyn,
'Rhwn aned i ni o'r Forwyn Ian
Gyd a Duw'r Tad, a'r Yspryd Sant
Tros oesoedd oll o hyn allan. Amen.

Ar amser Gosper.

HAnffych well Seren y mor,
Mam ein Harglywdd Dduw
Morwyn Ian bob amser
Porth nef ddedwydd loyw.
Cymraist yr Afe hwn
O eneu Gabriel dda
Seilia ni mewn heddwch.
Gan newid enw Efa.
Dattod rwym yr enog,
Rho i'r dall oleuni,
Gyrr ymmaith ein holl ddrwg,
Cais in bob daioni.
Dangos dy fod yn Fam,
Cymred ein gweddi ni
Trwot, 'rhwn y fu gwiw
Gantho fod Fabi ti.
O Forwyn ragorol
Uwch ben oll fwyn euraidd
Yn rhydd o'n pechodau
Gwna ni'n ddiwair lanaidd.
Dyro i n' suchedd bur
A diberyglus daith
Fel wrth weled Iesu
Y llawenychom byth.
Bid moliant i Dduw'r Tad,
I Grist ei Fab rhinwedd,
Llawn barch i'r Yspryd Glan,
I'r tri 'r vn anrhydedd. Amen.

Y Colectau neu'r Gweddiau a ddywedir yn Gwasanaeth yr Offeren sanctaidd, ar y Suliau ac ar y Gwyliau Symmudol trwy'r flwyddyn.

Ar y Sul cyntaf o Advent.

CYfod i fynn, attolygwn arnat O Arglwydd, dy alluedd, a dyre: fel yr haeddom ni a thydi yn ein hamddiffyn gael ein gwared, o beryglon cyfagos ein pechodau, ac a thydi yn ein rhyddhau, gael bod yn gadwedig. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnassu gyda Duw'r Tad yn vndod yr Yspryd Glan Duw, tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ar yr ail Sul o Advent.

CYfod i fynu, O Arglwydd, ein calonnau ni i baratoi ffyrdd dy Fab di vnigenedledic: fel y gallom trwy ei ddyfodiad ef, haeddu dy wasanaethu di ag eneiadiau puredic. Yr hwn sy'n byw ac yn teyrnassu gyda thi yn vndod yr Yrspryd Glan Duw, tros holl oeseodd oesoedd. Amen.

Ar y trydydd Sul o Advent.

GOstwng dy glust, attolygwn ar­nat O Arglwydd, i'n gweddi­au ni: ac a gras dy ymweld goleua dywyllwch ein medwl ni. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnassu gyda Duw'r Tad &c. megis o'r blaen.

Ar y pedwerydd Sul o Advent.

CYfod i fynu, attolygwn arnat O Argwlydd, dy alluedd, a dyre, ac a mawr rinwedd cymmorthwya [Page 325]ni: fel trwy help dy ras, y brysia maddeuant dy drugaredd di, yr hyn y mae'n pechodau ni yn ei attal. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnassu, &c.

Ar y Sul yn Octav Dy' Natacic.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, cyfarwydda ein gweithredd­oedd ni, ynol dy fodd a'th ewyllys di: fel y gallom ni yn enw dy Fab anwyl-garedic haeddu amlhau mewn gweithredoedd da. Yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu gyda thi, &c. megis o'r blaen.

Ar y Sul yn Octav Dy'gwyl Ystwyll.

CYflawna a'th ddaioni nefol, at­tolygwn arnat O Arglwydd, ddymuniadau dy bobl yn gweddio yn ostyngeiddlon: fel y gallant hwy weled y pethau sydd i'w gwneuthur, a bod yn abl i gyflawni y pethau a welant y dylid eu gweuthur. Trwy [Page 326]ein Harglwydd Jesu Christ dy Fab di, yr hwn sy'n byw ac yn teyrnassu, gyda thi yn vndod yr Yspryd Glan Duw, tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ar yr ail Sul arol yr Ystwyll.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn llywodraethu y pethau nefawl a'r rhai daearol he­fyd: gwrando yn ddaionus weddi­au gostyngeiddlon dy bobl, a cha­niada dy dangnefedd yn ein ham­seroedd ni. Trwy ein Harglwydd Jesu Christ, &c.

Ar y 3 Sul arol yr Ystwyll.

HOllalluoc tragywyddol Dduw. edrych yn ddaionus ar ein gwendid ni: ac i'n hamddiffyn estyn ddeheulaw dy Fawredd. Trwy'n ein Harglwydd, &c.

Ar y 4 Sul arol yr Ystwyll.

DUw, yr hwn a wyddost nas ga­llwn ni, mewn cymmaint pe­ryglon, o ran gwendid dynol sefyll yn iawn: dyro i ni iechyd corph ac enaid, fel y gallom orchfygu, a thydi yn ein cymmorth, y pethau yr ydym yn eu dioddef oherwydd ein pechodau. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar y 5 Sul ar ol yr Ystwyll.

CAdw, attolygwn arnat O Ar­glwydd, dy deulu a'th ddai­oni gwastadol: fel y gallo y rhai sydd a'i gobaith yn vnic ar ras o'r Nef, trwy dy nawdd a'th ymgeledd di, gael bob amse [...] eu hamddiffyn. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 6 Sul arol yr Ystwyll.

CAniada i ni, attolygwn arnat Hollalluoc Dduw; gan fyfyrio [Page 328]bob amser ar bethau rhesymmol, gyflawni yr hyn sy gymmeradwy i ti mewn geiriau a gweithredoedd. Trwy ein Ha glwydd, &c.

Ar ddy' Sul Septwagesima.

GWrando weddiau dy bobl yn ddaionus, attolygwn arnat O Arglwydd: fel y caffom ni y rhai oherwydd ein pechodau, ydym yn cael ein gofidio yn gyfion, er mwyn gogoniant dy Enw di, yn drugarog ein gwaredu. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar ddy' Sul Scxagesima.

O Dduw, yr hwn wyt yn gweled, nad ydym ni yn ymddiried yn yr vn o'n gweithredoedd ein­hun: caniada i ni yn ddaionus; trwy amddiffyn Athro y Cenhed­loedd gael ein cadw rhag pob gwrth­wyneb. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar ddy'Sul Qwinqwagesima.

GWrando yn ddaionus ein gwe­ddiau ni, attolygwn arnat O Arglwydd: a chwedi cael ein rhydd­hau o'n pechodau, gwared ni rhag pob gwrthwyneb. Trwy ein Har­glwydd, &c.

Ar ddy' Mercher y Lludw.

CAniada O Arglwydd, i'th ffydd­loniaid: a duwioldeb cyng­weddol ddechreu cynnal anrhyde­ddus Solemniadau yr Ympryd mawr hwn, a myned trwyddo a devoriwn dibryder. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y Sul cyntaf o'r Garawys.

O Dduw, yr hwn wyt yn puro dy Eglwys ag ymgynnal y Garawys bob blwyddyn: caniad a i'th deulu, allael cyflawni mewn gweithredoedd da yr hyn y maent [Page 340]hwy yn ei geisio trwy ddirwestu. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar yr 2 Sul o'r Garawys.

DUw, yr hwn wyt yn gweled, ein bod ni yn fethiant o bob nerth: cadw ni oddimewn ac oddi­allan: fel y caffom ein hamddiffyn rhag pob gwrthwynebau yn ein corph, a'n glanhau o bob meddyliau drwg yn ein henaid. Trwy ein Har­glwydd, &c.

Ar y 3 Sul o'r Garawys.

ATtolygwn arnat Hollalluog Dduw, edrych ar weddiau dy wasanaethyddion gostyngeiddlawn: ac i'n hamddiffyn ni estyn ddeheu­law dy Fawredd. Trwy ein, &c.

Ar y 4 Sul o'r Garawys.

CAniada, attolygwn arnat Holla­lluoc Dduw: i nyni y rhai [Page 341]ydym yn cael ein gofidio o ran hae­ddiant ein gwaith einhun, gael ein comfforddi trwy gyssur dy ras di. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar ddy' Sul y Ddioddefaint.

NI a attolygwn arnat Hollalluoc Dduw, edrych o honot yn dru­garoc ar dy Deulu: fel y caffont hwy a thydi yn eu cynnal, eu rhe­oli yn y corph, ac a thydi yn eu ca­dw eu hamddiffyn yn yr enaid. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar ddy' Sul y Blodau.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, yr hwn er mwyn rhoi esampl o ostyngeiddrwydd i'r Genhedlaeth ddynol i'w ddilyn, a wnaethost i'n Jachawdwr gymmeryd cnawd arno, a dioddef marwolaeth ar y Groes: caniada i ni yn drugaroc gymmeryd addysc o'i ddioddefga­rwch ef, a bod yn gyfrannogion o'i [Page 332]Adgyfodiad. Trwy yr vn Jesu Christ ein Harglwydd, &c.

Ar y tridiau o flaen y Pasch.

EDrych, attolygwn arnat O Ar­glwydd, ar dy Deulu ymma, tros yr hwn nid ammheuodd ein Harglwydd Jesu Christ fod yn fod­lon i'w fradychu i dwylo dynion an­wireddus, a dioddef poen y Groes. Yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu, &c.

Ar ddy' Sul y Pasch.

DUw, yr hwn ar y dydd heddyw, trwy dy Vniganedic Fab ac ef yn gorchfygu angeu, a agoraist ffordd i nyni i fyned i Dragwyddoldeb: cyflawna ein gweddiau ni a'th dru­garedd, y rhai a'th ras a ddarfu i ti eu hagflaenu. Trwy'r vn Jesu Christ ein Harglwydd dy Fab di. &c.

Ar ddy' Llun y Pasch.

O Dduw, yr hwn trwy'r Solem­niad Paschawl wyt yn rhoddi rhwymediau iachusol i'r byd: at­tolygwn arnat, dyro ras nefol i'th bobl: fel yr haeddant gael rhydd­did perffeithlawn, a ffynnu i fywyd tragywyddol. Trwy ein Hargl. &c.

Ar ddy' Mawrth y Pasch.

O Dduw, yr hwn ag eppil new­ydd, wyt bob amser yn aml­hau yr Eglwys: caniada i'th wasa­naeth-ddynion, tra fyddont fyw ga­dw y Sacrament, yr hwn trwy ffydd a dderbynniasant. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar ddy' Pasch bychan.

CAniada, attolygwn arnat Holla­lluoc Dduw, i nyni y rhai a orphennasom gynnal y Gwyliau Pa­chawl [Page 344]eu cadw hwynt trwy dy gymmorth di bob amser yn ein hy­marweddiad a'n buchedd. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar yr 2 Sul arol y Pasch.

DUw, yr hwn trwy ostyngeidd­rwydd dy Fab a gyfodaist i i fynu y byd y oedd wedi ei ddym­chwelyd: caniada lawenydd tra­gywyddol i'th ffyddloniaid: fel y gwneli i'r sawl a waredaist o bery­glon marwolaeth dragywyddol, fwynhau y dedwyddwch a bery byth. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 3 Sul arol y Pasch.

DUw, yr hwn wyt yn dangos go­leuni dy wirionedd i'r sawl sy'r cyfeiliorni, er mwyn eu dwyn hwynt i ffordd cyfiawnder: caniada i bawb a gyfrifir yn y proffessiwn Christiano­gol ochelyd y pethau sy wrthwyneb i'r Enw hwnnw, a chanlyn y pethau [Page 345]sy gyfaddas iddo. Trwy ein Har­glwydd, &c.

Ar y 4 Sul arol y Pasch.

DUw yr hwn wyt yn gwneuthur eneiadiau y ffyddloniaid i fod o vn ewyllys: caniada i'th bobl garu y peth yr wyt ti yn ei orchym­myn, a dymuno y peth yr wyt ti yn ei addo: fel ymmysc yr amryw ddamweinion bydol, y bo ein calon­nau ni yno yn ddiysgog, lle y mae'r gwir lawenydd. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar y 5 Sul arol y Pasch.

DUw, oddiwrth yr hwn y mae pob daioni yn dyfod: caniada i'th wasanaethyddion gostyngedic: trwy dy ymysprydoliaeth di allu me­ddwl am y pethau sy gyfion, a thrwy dy lywodraeth allu gwneuthur yr vnrhyw. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar ddy'Joy Dychafael.

CAniada, attolygwn arnat Holla­lluoc Dduw, i nyni y rhai y­dym yn credu, ddarfod i'th Vniga­nedic Fab di, ein Rhybrynnwr ni, ar y dydd heddyw ddyrchafael i'r Nefoedd: allu o honom ninnau dri­go yn y nefolion bethau. Trwy'r vn Jesu Christ ein Harglwydd, &c.

Ar y Sul yn Octav y Dyrchafael.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, gwna i ni bob amser fod ag ewyllys duwiol tuac attat ti: a gwasanaethu dy Fawredd a gwir bur­lan galon. Trwy ein Hargl. &c.

Ar ddy' Sulgwyn neu'r Pentacosten.

O Dduw, yr hwn ar y dydd hedd­yw a ddyscaist galonnau y ffyddloniaid a llewyrch yr Yspry [...] Glan: dyro i ni yn yr vn Yspry [...] [Page 337]ddyall y pethau sy gyfion, a llaweny­chu bob amser yn ei ddiddanwch ef. Trwy ein Harglwydd Jesu Christ, dy Fab di, yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu gyda thi yn vndod yr Ys­pryd Glan Duw, tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ar ddy' Llnn Sulgwyn.

O Dduw, yr hwn a roddaist yr Yspryd Glan i'th Apostolion: caniada i'th bobl gael derbyn effect eu duwiol ddeisyfiad; fel y rho­ddych heddwch i'r sawl y rhoddaist ffydd. Trwy ein Hargl. &c. yn vndod yr vn Yspryd Glan Duw, tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ar ddy' Mawrth Sulgwyn.

BYdded rhinwedd yr Yspryd. Glan gyda ni, attolygwn arnat O Arglwydd: yr hwn a'i ddaioni a wnelo ein calonnau ni yn lan, ac a'n cattwo ni rhag pob gwrthwyne­bau. [Page 338]Trwy ein Hargl. &c. yn vn­dod yr vn Yspryd Glan Duw, &c.

Ar Ddydd Sul y Drindod.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, yr hwn a roddaist i nyni dy wei­sion, gan gyffessu y wir ffydd, gyd­nabod gogoniant y. Drindod dragy­wyddol, ac yngallu y Mawredd-a­ddoli yr Vndod: attolygwn arnat, trwy ddiogelwch yr vnrhyw ffydd, ein hamddiffyn ni yn wastadol rhag pob gwrthwynebau. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar yr vn dydd y gwneir coffa am y Sul cyntaf arol y Sulgwyn a'r Weddi ymma yn canlyn.

O Dduw, yr hwn wyt yn gader­nid y sawl sy'n gobeithio yn­ [...] ti, gwrando ein gweddiau ni yn [...]garoc: ac oblegid nas gall gwen­ [...] [...]ynol wneurthur dim hebot. ti: dy [...] i ni gymmorth dy ras: fel [Page 339]trwy gyflawni dy Orchymmynion, y rhyngom fodd i ti mewn ewyllys a gweithred. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Corpws Christi.

DUw, yr hwn yn y Sacrament rhyfeddol ymma, a adawaist i ni goffadwriaeth o'th Ddioddefaint di: caniada i ni, attolygwn arnat, anrhydeddu dirgeleddion sacraidd dy Gorph a'th Waed yn y modd ac y clywom yn wastadol ynom einhun ffrwyth dy Rybrynniad. Yr hwn wyt yn byw, &c.

Ar y Sul yn Octav Corpws Chisti.

GWna fod gennym ni, O Argl­wydd, ofn gwastadol a chari­ad hefyd ar dy Enw sanctaidd di: canys byth ni wrthodi lywo­draethu y sawl yr wyt yn eu dyscu yn niogelwch dy gariad. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 3 Sul arol y Sulgwyn.

O Dduw, amddiffynnwr y sawl sy'n ymddiried ynot ti, heb y [...] hwn nid oes dim yn nerthol, nid oes dim yn sanctaidd: amlha ar­nom dy drugaredd: megis y gallom a thydi yn ein theoli, ac a thydi y [...] ein tywyso, fyned trwy y daoedd amserol, yn y modd ac nas collom y daoedd tragywyddol. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 4 Sul arol y Sulgwyn.

DYro i ni, attolygwn arnat O Ar­glwydd, trwy dy ordinhaad di allu cyfarwyddo cwrs ein buched [...] yn y byd hwn yn dangnefeddol: a [...] i'th Eglwys gael llawenychu mew [...] devotiwn heddychol. Trwy ein Hargl &c.

Ar y 5 Sul arol y Sulgwyn.

DUw, yr hwn a ddarparaist dd [...] oedd anweledic i' [...] sawl a'th ga­rant [Page 341]di, tywallt chwant dy gariad i'n calonnau ni: megis y gallom ni gan dy garu di ymmhob peth, ac uwchlaw pob peth, ddyfod o hyd i'th addewidion di, y rhai sy'n rha­gori pob rhyw chwant. Trwy ein Harglwyd, &c.

Ar y 6 Sul arol y Sulgwyn.

O Dduw pob nerth a rhinwedd, yr hwn y piau'r cwbl o'r pe­thau goreu, planna gariad dy Enw di yn ein calonnau ni, a chwanega ddevotiwn crefyddol ynom: fel y megi ynom y pethau y fo da, ac a serch duwioldeb y cedwi ynom y pe­thau da y fo wedi eu magu. Trwy ein Hargl. &c.

Ar y 7 Sul arol y Sulgwyn.

O Dduw, rhagluniaeth yr hwn wrth ddosparthu pob peth, nid yw ddim yn ffaelu: attolygwn arnat yn ostyngeiddlon: bwrw oddi­wrthym bob peth a wnelo niweid i [Page 342]ni, a dyro i ni yr hyn oll ac fydd yn broffittiol. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 8 Sul arol y Sulgwyn.

DYro i ni, attolygwu arnat O Arglwydd, yspryd i feddwl bob amser am y pethau sy gyfion, a chalon i'w gwneuthur hwynt: me­gis y gallom ni y rhai nid ydym yn dichon bod hebot ti, fyw ynol dy ewyllys di. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 9 Sul arol y Sulgwyn.

BYdded clustiau dy drugaredd di, O Arglwydd, yn agored i We­ddiau dy weision gostyngedic: ac fel y byddo i ti ganiadu iddynt eu gofynnion, gwna iddynt ofyn y pe­thau y fo cymmeradwy i ti. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 10 Sul arol y Sulgwyn.

O Dduw, yr hwn wyt yn dangos dy hollalluogrwydd yn bennaf oll wrth drugarhau a maddeu: aml­ha dy drugaredd arnom ni: fel y gallom ninnau, gan redeg at dy adde­widion di, fod yn gyfrannogion o ddaoedd nefawl. Trwy ein Hargl. &c.

Ar y 11 Sul arol y Sulgwyn.

HOllalluoc tragywyddol Dduw yr hwn o amledd dy ddaioni wyt yn gwneuthur yn well i ni, nac y mae rhyglyddiannau a gweddiau dy weision gostyngedic yn haeddu: ty­wallt dy drugaredd arnom: gan faddeu i ni y pethau y mae'n cyd­wybod yn eu hofni: a chan roddi i ni y pethau nid yw ein gweddi ni yn beiddio eu gofyn. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ay 12 Sul arol y Sulgwyn.

HOllalluoc a thrugareddus Dduw, o ddaioni yr hwn y mae'n dei­llio, fod dy ffyddloniaid yn dy wa­sanaethu di yn deilwng ac yn gan­moledic: caniada i ni attolygwn ar­nat, allu rhedeg at dy addewidion di heb na bai na rhwystr. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 13 Sul arol y Sulgwyn.

HOllalluoc tragywddol Dduw, dyro i ni angwaneg o ffydd, o o­baith, ac o gariad perffaith: ac fel yr haeddom gael yr hyn yr wyt yn ei addo, gwna i ni garu yr hyn yr wyt yn ei orchymmyn. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 14 Sul arol y Sulgwyn.

CAdw, O Arglwydd attolygwn arnat, dy Eglwys a'th drugaredd [Page 345]gwastadol: ac oblegid fod marwol­deb dynawl hebot ti yn llithro tua'r llawr: gwared ni bob amser a'th gymmorth di rhag pob peth niwei­diol, ac at bethau iachusol cyfar­wydda ni. Trwy ein Hargl. &c.

Ar y 15 Sul arol y Sulgwyn.

DY drugaredd gwastadol, O Ar­glwydd, a lanhao ac a gatwo dy Eglwys: ac oblegid nas gall hi hebot ti Sefyll yn ddiogel ddianaf, rheola hi bob amser a'th ddaioni. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar yr 16 Sul arol y Sulgwyn.

DY ras di, attolygwn arnat O Ar­glwydd, a'n rhagflaeno ni bob amser, ac a'n canlyno: ac a'n gwne­lo ni i ymroi yn wastadol ar wei­thredoedd da. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar y 17 Sul arol y Sulgwyn.

CAniada, attolygwn arnat O Ar­glwydd, i'th bobl allu goche­lyd llygredigaethau Cythrenlic: ac a meddwl purlan dichon dy ddilyn di, yr vnic Dduw. Trwy ein Har­glwydd, &c.

Ar y 18 Sul arol y Sulgwyn.

GWeithrediad dy drugaredd di, attolygwn arnat O Arglwydd, a gyfarwyddo ein calonnau ni: ca­nys i ti, hebot ti, nid ydym ni yn gallu rhyngu bodd. Trwy ein Har­glwydd, &c.

Ar y 19 Sul arol y Sulgwyn.

HOllalluoc a thrugareddus Dduw, cadw oddiwrthym yn ddaionus bob pethau gwrthwynebus i ni: fel gan fod yn barod mewn enaid yn gystal a chorph, y gallom a rhyddi­on [Page 347]galonnau, gyflawni yr hyn sy'n perthyn i ti. Trwy ein Hargl. &c.

Ar yr 20 Sul arol y Sulgwyn.

DYro yn foddlawn, attolygwn arnat O Arglwydd, heddwch a maddeuant i'th ffyddloniaid: fel y glanheir hwynt hwy o bob cam­weddau, ac y gwasanaethant hwy­thau dydi a meddwl dibryder. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 21 Sul arol y Sulgwyn.

CAdw dy deulu, attolygwn arnat O Arglwydd, a'th ddaioni gwa­stadol: fel y byddo trwy dy amddi­ffyn di yn rhydd o bob gwrthwy­neb, ac yn ddevotionol i'th Enw di mewn gweithredoedd da. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar y 22 Sul arol y Sulgwyn.

DUw yr hwn wyt ein nodded ni a'n nerth, ac yn wir Awdu [...] [Page 348]duwioldeb: gwrando weddiau devo­tionol dy Eglwys, a chaniada i ni gael derbyn yn gyflawn, yr hyn yr ydym yn ei ofyn yn ffyddlon. Trwy ein Harglwydd Jesu Christ, &c.

NOta na bydd o Suliau arol y Sul­gwyn ond 23 o'r hyn lleiaf, ac 28 o'r hyn mwyaf: i'r rhai nid app­wyntwyd ond 24 o Weddiau yn vnic. Amhynny, pan ni bo ond 23 o Suliau, yr ydys yn dywedyd y 23 Weddi ar y diwrnod gwaith ness af o flaen y 23 Sul, a'r 24 Weddi ar y 23 Sul hwn­nnw arol y Sulgwyn. Ond os bydd 25 o Suliau arol y Sulgwyn, ar y 24 Sul y dywedir Gweddi y 6 Sul arol y Yst­wyll; ac ar y 25 Sul, Gweddi y 24 Sul. Os bydd 26 o Suliau arol y Sul­gwyn, ar y 24 Sul y dywedir Gweddi y 5 Sul arol yr Ystwyll; ac ar y 25 Sul, Gweddi y 6 Sul; ac ar y 26 Sul Gweddi y 24 Sul. Os bydd 27 o Su­liau arol y Sulgwyn, yna ar y 24 Sul y dywedir Gweddi y 4 Sul arol yr Yst­wyll; ac ar y 25 Sul, Gweddi y 5 Sul [Page 349]arol yr Ystwyll; ac ar y 26 Sul, Gwe­ddi y 6 Sul arol yr Ystwyll; ac ar y 27 Sul, Gweddi y 24 Sul. Ac o'r diwedd os bydd 28 o Suliau arol y Sul­gwyn, yna ar y 24 Sul y dywedir Gweddi y 3 Sul arol yr Ystwyll; ac ar y 25 Sul, Gweddi y 4 Sul; ac ar y 26 Sul, Gweddi y 5 Sul; ac ar 27 Sul, Gweddi y 6 Sul arol yr Ystwyll; ac ar yr 28 Sul, Gweddi 24 Sul arol y Sulgwyn.

Ar y 23 Sul arol y Sulgwyn.

ABsolvia, attolygwn arnat O Ar­glwydd, gamweddau dy bobl: fel y gallom ni o rwymau'r pecho­dau, y rhai trwy ein gwendid a wnae­thom, trwy dy ddaioni di gael ein rhyddhau. Trwy ein Harglwydd,

Ar y 24 Sul arol y Sulgwyn.

CYffro, attolygwn arnat O Argl­wydd, ewyllysiau dy ffyddlo­niaid: fel y gallant hwy gan gyflaw­ni [Page 350]yn ddyfalach ffrwyth dy waith duwfawl di, dderbyn rhwymediau helaethach o'th drugaredd. Trwy ein Harglwydd, &c. Amen.

Y Colectau nen'r Gweddiau a ddywedir yn-Gwasanaeth yr Offeren sanctaidd ar Ddy­ddiau Gwyl gorchymmyn­nedic y Sainct trwy'r flwy­ddyn megis hefyd,

Ar Ddyddiau Gwyl rhai eraill o'r Sainct, a arferir eu cadw yn vchel-Solemn yn llawer o leoedd, er nad yd­yw'r Eglwys yn eu gorchymmyn hwynt ymmhob man.

Ar Ddydd'gwyl S. Andreas Apostol. Tachwedd 29.

YR ydym yn gweddio yn ostyn­geiddlon, O Arglwydd, ar dy [Page 351]Fawredd di: megis y bu'r bendige­dic Sanct Andreas Apostol yn bre­gethwr ac yn reolwr yn dy Eglwys di: felly fod ohono attat ti yn gy­frwngwr gwastadol trosom ni. Trwy ein Harglwydd Jesu Christ dy Fab di, yr hwn sy'n byw ac yn teyrna­su gyda thi yn vndod yr Yspryd Glan Duw, tros holl oesoed oesoedd, Amen.

Ar Ddy'gwyl S. Ffrancis Xaveriws Rhagfyr 3.

DUw, yr hwn a fynnaist gynnull i'th Eglwys Genhedloedd yr Indiaau trwy bregethu a Gwyrthiau y bendigedic Sanct Ffrancis: cani­ada yn drugaroc i nyni y rhai y­dym yn anrhydeddu ei ryglyddian­nau gogoneddus ef, allael hefyd di­lyn ei examplau. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

[...]
[...]

Ar Ddy'gwyl Conceptiwn neu Ymddwyn Mair fendigedic. Rhag. 8.

DYro ddawn o'th nefawl ras, at­tolygwn arnat O Arglwydd, i'th weision: fel y bo i'r sawl y bu esgor Mair fendigedic yn ddechreu­ad o iachawdwriaeth, addunedic So­lemniad ei Hymddwyn hi yn an­gwaneg o heddwch. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Thomas Ap. Rhag. 21.

DYro i ni, attolygwn arnat O Ar­glwydd, ymogoneddu yn U­chelwyl dy Apostol bendigedic S. Thomas: fel y caffom trwy ei am­ddiffyn ef ein cymmorthwyo bob amser, ac y gallom ddilyn ei ffydd ef a devotiwn cyngweddol. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy' Natalic Iesu Christ. Rhag. 25.

CAniada, attolygwn arnat Holl­alluoc Dduw, i enedigaeth rhy­feddol dy Vnicanedic Fab trwy'r cnawd, ein gwared ni: y rhai tan iau pechod y mae hen gaethiwed yn eu dal. Trwy'r vn Jesu Christ ein Harglwydd, dy Fab di, yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu gyda thi yn vn­dod yr Yspryd Glan Duw, tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ar Ddy'gwyl S. Stephan y Merthyr Cyntaf. Rhag. 26.

DYro i ni, attolygwn arnat O Arglwydd, allu dynwared yr hyn yr ydym yn ei anrhydeddu: fel y galom ddyscu caru ein gelyn­nion hefyd: oblegid ein bod ni yn cynnal Genedigaeth-Wyl yr hwn a wybu tros ei Erlidwyr, weddio ar ein Harglwydd Jesu Christ dy Fab di, yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Ioan Ap. & Evang. Rhag. 27.

GOleua, O Arglwydd, dy E­glwys yn ddaionus: fel wedi cael ei goleuo a dysceidiaethau dy Apostol a'th Evangelwr y bendige­dic S. Ioan, y gallo hi ddyfod i fe­ddiannu dy ddoniau tragywyddol di. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl y Gwirioniaid sanctaidd. Rhag. 28.

ODduw, moliant yr hwn ar y dydd heddyw, nid gan lafaru, ond gan farw, a gyffessasant y Mer­thyri gwirion: marwolaetha ynom ni bob eniwed pechodau: fel y gallo ein buchedd ni mewn ymarweddiad hefyd, gyfadef dy ffydd di yr hon y mae'n tafod ni yn ei llafaru. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Thomas o Cantwari Archescop a Merthyr. Rhag. 29.

ODduw, oherwydd Eglwys yr hwn a chleddyfau yr annuwi­ol, y lladdwyd y gogoneddus Escop S. Thomas: caniada attolygwn ar­nat, i bawb ac sydd yn ymbil am ei gymmorth ef, gael derbyn yn ia­chuslawn y cwbl o'i gofyniad. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Silvester Pap & Conf. Rhag. 31.

DYro attolygwn arnat Hollalluoc Dduw, i Vchelwyl dy Gon­ffessor a'th Escop y bendigedic S. Sil­vester, chwanegu devotiwn ynom ni a iachawdwriaeth hefyd. Trwy ein ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy' Calan, Circwmcitiwn neu En­waediad ein Hargl. Iesu Christ. Ian. 1.

DUw, yr hwn trwy ffrwythlawn forwyndod Mair fendigedic a [Page 356]roddaist obrwyon o iachawdwriaeth dragywyddol i'r Genhedlaeth ddy­nol: caniada attolygwn arnat, i nyni ei chlywed hi yn cyfryngu tro­som, trwy'r hon yr haeddasom dder­byn Awdur ein bywyd, ein Hargl­wydd Jesu Christ dy Fab di. Yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu, &c.

Ar Ddy'gwyl Ystwyll. Ian. 6.

DUw, yr hwn ar y dydd heddyw, trwy dwysogaeth Seren a ddan­gosaist i'r Cenhedloedd dy Vnicane­dic Fab: caniada yn drugarog i ny­ni y rhai ydym ynawt yn dy gyd­nabod di, ddyfod i gael gweled te­gwch gwedd dy Vchelder. Trwy'r vn Jesu Christ ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Troad S. Pawl Apost. Ian. 25.

DUw, yr hwn a ddyscaist yr holl Fyd trwy bregethiad y bendig­edic Apostol S. Pawl: attolygwn [Page 357]arnat, dyro i nyni y rhai ydym he­ddyw yn cynnal Gwyl ei Droad ef, allael cerdded attat ti ar hyd ei e­samplau ef. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Puredigaeth Mair fen­digedic, sef Gwyl Fair y Canhwy­llau. Chwefror 2.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, ni a attolygwn yn ostyngeidd­lon ar dy Fawredd di: megis ar y dydd heddyw y presentwyd dy Vnic anedic Fab yn sylwedd ein cnawd ni yn y Deml; felly beri ohonot ein presentu ninnau ag eneidiau purlan ger dy fron di. Trwy'r vn Jesu Christ, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Matthias Apostol. Chwefr. 24.

DUw, yr hwn a wnaethost y ben­digedic S. Matthias yn gyfaill­cydradd i'r Apostolion: dyro i ni, attolygwn arnat allael clywed bob [Page 358]amser ymysgaroedd dy drugaredd di yn ein cylch, ac o'n plegyd ni. Trwy ein Hagl. &c.

Ar Ddy'gwyl S. David Escop Conf. Mawrth 1.

GWrando, attolygwn arnat O Arglwydd ein gweddiau ni, yr rhai yr ydym yn eu llafaru attat ti ar Vchelwyl dy Gonffessor a'th Escop y benigedic S. David: a thrwy gyfrwng ei ryglyddiannau ef, yr hwn a haeddodd dy wasanae­thu di yn deilwng, rhyddha nyni o'n holl bechodau. Trwy ein Har­glwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Joseph Con. Maw. 19.

CYmmorthwyer ni, attolygwn arnat O Arglwydd, trwy ry­glyddiannau Priodfab dy Fam san­cteiddlawn di: fel y rodder i ni trwy ei gyfrwng ef, yr hyn nid yw ein haeddiant ni yn abl i'w gael. [Page 359]Yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrna­su gyda Duw'r Tad yn vndod &c.

Ar Ddy'gwl S. Bened Abad. Maw. 21.

GOrchymmynned nyni i ti, at­tolygwn arnat O Arglwydd, cyfrwng y bendigedic Abad S. Bened: fel y gallom gael trwy ei gymmorth ef, yr hyn nid ydym ni yn dichon ei gael trwy ein haeddiant einhun. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Annwntiatiwn sef Cyfar­chiad Mair forwyn fendigedic. Mawrth 25.

DUw, yr hwn a fynnaist i'th Air gymmeryd cnawd o groth Mair forwyn fendigedic, a'r Angel yn ei chyfarch hi: caniada i'th weision go­styngedic; y rhai ydym yn credu ei bod hi yn wîr Fam Dduw, gael ger dy fron di ein cymmorthwo trwy ei chyfrwng hi. Trwy yr vn Jesu Christ, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Marc Evang. Ebrill 25

DUw, yr hwn a gras pregethu yr Evangel sanctaidd, a ddyrcha­faist dy Evangelwr y bendigedic S. Marc: dyro i ni, attolygwn arnat, bob amser gael lles o'i ddysceidiaeth ef, a'n hamddiffyn a'i Weddi. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl S. Philip & S. Iacob Apost. Mai 1.

O Dduw, yr hwn wyt bob blwy­ddyn yn ein llawenychu ni ag Vchelwyl dy Apostolion S. Philip a S. Iacob: dyro i ni attolygwn arnat, gael ein dyscu a'i duwiol esamplau hwynt, oherwydd rhyglyddiannau y rhai yr ydym yn llawenhau. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Inventiwn sef Caffael y Groes sanctaidd. Mai 3.

O Dduw, yr hwn yn rhyfeddol Gaffael y Groes iachuslawn, a [Page 361]adnewyddaist Wrthiau dy Ddiodde­faint: caniada i ni, trwy bris y Pren bywiol hwnnw, gael derbyn didda­nion dedwyddlawn y bywyd tragy­wyddol. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Barnab Apost. Mi­hefin 11.

DUw, yr hwn wyt a rhyglyddi­annau ac a chyfrwng dy Apo­stol bendigedic S. Barnab yn ein lla­wenychu ni: caniada yn drugaroc i nyni, y rhai trwyddo ef ydym yn gofyn dy ddoniau di, gael trwy ddai­oni dy ras di eu derbyn hwynt. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Decolatiwn S. Gwenfre­wi Wyryf a Merthyr. Mih. 22.

HOllalluoc tragywddol Dduw, yr hwn a addurnaist y fendig­edic S. Gwenfrewi a gwobr Morwyn­dod: par i ni, trwy ei duwiol gy­frwng [Page 362]hi, ddiystyru truth a gwen­iaith y byd hwn, a mwynhau gyda bi Sedd y gogoniant▪tragywyddol. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Joan Fedyddiwr. Mih. 24.

DUw, yr hwn a Genedigaeth y bendigedic S. Ioan a wnaethost y diwrnod presennol yn anrhydedd­us: caniada ras o lawenydd yspry­dol i'th bobl; a chyfarwydda enei­diau yr holl ffyddloniaid ar hyd y ffordd i iachawdwriaeth dragywy­ddol. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl yr Apostolion S. Petr & S. Pawl. Mihefin 29.

O Dduw, yr hwn a gyssegraist y diwrnod hwn a merthyrdod yr Apostolion S. Petr & S. Pawl: ca­niada i'th Eglwys ymmhob peth ddi­lyn eu gorchymmyn hwynt, gan y rhai y darfu iddi gymmeryd dechre­uad [Page 363]y Ffydd. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Visitatiwn sef Gofwy Mair fendigedic. Gorphenhaf. 2.

DYro ddawn o'th nefol ras, atto­lygwn arnat O Arglwydd, i'th weision: fel y bo i'r fawl y bu esgor Mair fendigedic y ddechreuad o ia­chawdwriaeth, addunedic Solemni­ad ei Gofwy hi yn angwaneg o he­ddwch. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Mair Magdalen. Gorph. 22.

GAd i ni gael ein cymmhorth, attolygwn arnat O Arglwydd, a gweddiau y fendigedic S. Mair Mag­dalen: ar erich yr hon y cyfodaist o feirw i fyw ei brawd hi Lazarws, yr hwn oedd wedi marw ers pedwar diwrnod. Yr hwn wyt byw yn teyr­su, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Jacob Ap. Gorph. 25.

BId ti, O Arglwydd, yn sanctei­ddiwr ac yn geidwad i'th bobl: fel gan gael eu cadarnhau ag am­ddiffyn dy Apostol S. Iacob, y rhyn­ganc fodd i ti yn eu hymarweddiad, ac y gwasanaethant di a meddwl di­bryder. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Ann Mam Mair for­wyn fendigedic. Gorph. 26.

O Dduw, yr hwn a deilyngaist roddi'r gras i'r fendigedic S. Ann o haeddu bod yn fam i Fam dy Vnicanedic Fab: caniada i ni gael ger dy fron di ein cymmhorthwyo a'i hamddiffyn hi, Vchelwyl yr hon vr ydym yn ei chynnal. Trwy'r vn Jesu Christ, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Ignatius Con. Gor. 31.

DUw yr hwn er mwyn mwy ym­led u gogoniant dy Enw, a ne­wydd [Page 365]gymmorth trwy'r bendigedic S. Ignatiws a gadarnheaist yr Eglwys yn milwrio ymma: caniada i ni trwy ei help, ac wrth ddynwared ei e­sampl ef, wedi ymdrechu ar y ddae­ar gael ein coroni gydag ef yn y Nefoedd. Yr hwn wyt yn byw ac yn teyrnasu, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Dominic Con. Awst. 4.

DUw, yr hwn a deilyngaist lewy­chu yr Eglwys a rhyglyddian­nau ac a dysceidiaethau dy Gonffes­sor y bendigedic S. Dominic: cani­ada trw ei gyfrwng ef, na bo byth eisiau cymmorth daearol arni, a chwanegu ohoni bob amser mewn proffit ysprydol. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Maria ad Nives. Awst. 5.

CAniada i nyni dy weision, atto­lygwn arnat O Arglwydd [Page 366]Dduw, fwynhau iechyd corph ac enaid: a thrwy ogoneddus gyfrwng Mair fendigedic forwyn bob amser, gael ein rhyddhau o'r tristwch pre­sennol, a meddiannu y llawenydd a bery byth. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Transffiguratiwn neu Ymrithiad yr Iesu. Awst. 6.

O Dduw, yr hwn yn Ymrithiad dy Vnicanedic Fab a thestio­laeth y Tadau a gadarnheaist sacra­mentau ein Ffydd ni: ac a lleferydd yn dyfod o'r cwmmwl gloyw, a rag­arwyddaist yn rhyfeddol fabwysiad perffeithlawn y plant: caniada yn drugaroc i ni allu cael bod yn gyd­etifeddion a Brenin y gogoniant ei­hun, ac yn gyfrannogion o'r vnrhyw agoniant. Trwy'r vn Jesu Christ, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Lawrens Ferthyr. Awst. 10.

DYro i ni, attolygwn arnat O Ar­glwydd, allu diffoddi fflammau ein pechodau: yr hwn a roddaist i'r bendsgedic S. Lawrens, allael gorch­fygu poethni llosgedic ei arreithiau. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Clara Wyryf. Awst. 12.

GWna, attolygwn arnat O Ar­glwydd, dy wasanaethyddion yn datgan Genedigaeth addunedic dy fendigedic Wyryf S. Clara; trwy ei chyfrwng hi, yn gyfrannogion o lawenydd nefol, ac yn gyd etifeddi­on a'th Vnicanedic Fab. Yr hwn sy'n byw ac yn teyrnasu, &c.

Ar Ddy'gwyl Asswmptiwn Mair for­wyn fendigedic. Awst. 15.

MAddeua, attolygwn arnat O Arglwydd, eu pechodau i'th [Page 368]weision: fel y gallom ni y rhai nid ydym yn gallael rhyngu bodd i ti a'n gweithredoedd einhun, fod yn gad­wedic trwy gyfrwng Mam dy Fab di ein Harglwydd ni. Trwy'r vn Jesu Christ ein Harglwydd, yr h vn, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Bartholomew Apost. Awst. 24.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, yr hwn a roddaist i ni anrhy­deddus a sanctaidd lawenydd y di­wrnod hwn, wrth gadw Vchelwyl dy. Apostol bendigedic S. Bartholo­mew: dyro i'th Eglwys, attolygwn arnat, garu yr hyn a gredodd ef, a phregethu yr hyn a ddyscodd. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Genedigaeth Mair for­wyn fendigedic. Medi 8.

DYro ddawn, o'th nefol ras at to­lygwn arnat O Arglwydd, i'th weision: fel y bo, i'r sawl y bu es­gor [Page 369]Mair fendigedic yn dechrenad o iachawdwriaeth, addunedic Solem­niad ei Genedigaeth hi, yn angwaneg o heddwch. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Dyrchafiad y Grog san­ctaidd. Med. 14.

DUw, yr hwn ar y diwrnod ym­ma, wyt yn ein llawenychu ni a blynyddol Vchelwyl Dyrchafi­ad y Groes sanctaidd. dyro i ni at­tolygwn arnat, haeddu cael gobrwy­on ei Rybrynniaeth ef yn y Nef, dirgeledd yr hwn yr ydym yn ei gyd­nabod ar y ddaear. Trwy'r vn Jesu Christ, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Matthew Ap. Med. 21.

CYmmhorthwyer ni, O Argl­wydd, a gweddiau y bendige­dic Apostol ac Evangelwr S. Mat­thew: fel y rodder i ni trwy ei gy­frwng ef, yr hyn nid ydym ni yn abl i'w gael. Trwy ein Hargl, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Michael Archangel. Med. 29.

O Dduw, yr hwn mewn trefn rhy­feddol, ydwyt yn dosparthu gweinidogaethau yr Angelion a Dy­nion hefyd: caniada yn ddaionus i nyni, gan y rhai sy'n bresennol bob amser i'th wasanaethu di yn y Nef, gael amddiffyn ein bywyd ar y ddaear. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Thomas o Henffordd Escop & Conf. Hydref 2.

DYro, attolygwn arnat hollallu­oc Dduw; i Vchelwwl dy Gonffessor a'th Escop y bendigedic S. Thomas chwanegu devotiwn ynom ni, a iachawdwriaeth hefyd. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl S. Ffrançis o Assisiwm. Hyd. 4.

DUw, yr hwn trwy haeddedigae­thau y bendigedic S. Ffrancis, [Page 371]ydwyt yn mawrhau dy Eglwys ag eppil newydd: dyro i ni trwy ei ddynwared ef, ddibrisio pethau dae­arol, a llawenhau gan fod bob amser yn gyfrannogion o ddoniau nefol. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Teresia Wyryf. Hyd. 15.

GWrando ni, O Dduw ein Ja­chawdwr, ac megis yr ydym yn llàwenychu oherwydd Vchelwyl dy fendigedic Wyryf S. Teresia: felly gwna i ni gael ein maethu ag ymborth ei dysceidiaeth nefol hi, a'n dyscu hefyd a serch ei devotiwn duwiol hi. Trwy ein Harlwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Wrswla a'i chyfeilless­au Gwyryfon a Merthyri. Hyd. 21.

DYroi ni, attolygwn arnat ein Harglwydd Dduw, a devotiwn dibaid anrhyddeddu buddugoliae­thau dy Wyryfon a'th Ferthyri san­ctaidd [Page 372] Wrswla a'i chyseillessau: fel, y rhai nid ydym yn dichon eu can­mol ag ewyllysfryd teilwng, y gallom o'r hyn lleiaf gyrchu attynt a gwasanaethgarwch gastyngeiddlon. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Simon & S. Judas Apost. Hyd. 28.

DUw, yr hwn a roddaist i ni ddy­fod i gydnabod dy Enw di trwy'r Apostolion bendigedic S. Si­mon & S. Judas: caniada i ni bar­chu yn broffittiol eu gogoniant tra­gywyddol hwynt, a chael lles wrth eu prchu. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddyddgwyl yr Holl Sainct. Tacbwedd 1.

HOllalluoc tragywuddol Dduw, yr hwn a roddaist i ni at vn Vchelwyl barchedic anrhydeddu rhyglyddiannau dy Holl Sainct: dy­ro i ni trwy-amledd y cyfryngon [Page 373]amlder dymunol o drugaredd. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl y Meirw ffyddlon. Tach. 2.

DUw Creawdr a Rhybrynnwr yr holl ffyddloaiaid, dyro i enei­diau dy wasanaethwyr a'th wasan­aethferched ryddhaad o'i holl becho­dau: fel trwy ostyngeiddlawn we­ddiau duwiol y caffant y maddeuant, a ddymunasant bob amser. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl S. Gwenfrewi Wyryf a Merthyr. Tach. 3.

HOllalluoc tragywyddol Dduw, yr hwn a addurnaist y fendige­dic S. Gwenfrewi a gwobr morwyn­dod: par i ni, attolygwn arnat, trwy ei duwiol gyfrwng hi, ddiysty­ru truth a gweniaith y byd hwn, a mwynhau gyda hi Sedd y gogoniant tragywyddol. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Presennatiwn Mair for­wyn fendigedic. Tach. 21.

DUw, yr hwn ar y dydd heddyw, a fynnaist bresentu Mair fen­digedic forwyn bob amser yn y Deml, yn drigfa i'r Yspryd Glan: caniada i ni, attolygwn arnat, trwy ei chy­frwng hi, haeddu cael ein presentu yn Nheml dy Ogoniant di. Trwy ein Hargl. Jesu Christ, dy Fab di, yr hwn gyda thi sy'n byw ac yn teyrnasu yn vndod yr vn Yspryd Glan Duw, tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Ar Ddyddiau Gwyl y Sainct yn gyff­redinol.
Ar Ddy'gwyl Merthyr ac Escop.

EDrych ar ein gwendid ni, O Dduw Hollalluoc: ac am fod pwys ein gwaith ni einhun yn blino arnon yn drwm, gad i gyfrwng go­goneddus y bendigedic Sanct N. dy Escop a'th Ferthyrdi ein hamddiffyn ni. Trwy ein Hargl. &c.

Gweddi arall am gyfrwng y cyfryw Sanct.

DUw, yr hwn wyt bob blwyddyn yn ein llawenhau ni a Solem­niad dy Escop a'th Ferthyr y bendi­gedic sanct N: caniada yn ddaio­nus i ni gael mwynhau ei amddiffyn ef, Genedigaeth-Wyl yr hwn yr y­dym yn cynnal. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Merthyr yn vnie.

CAniada, attolygwn arnat Holl­alluoc Dduw: i nyni y rhai y­dym yn cadw Genedigaeth-Wyl y bendigedic Sanct N. dy Ferthyr di, trwy ei gyfrwng ef allu cael ein dio­gelu mewn cariad ar dy Enw di. Trwy ein Harglwydd, &c.

Gweddi arall am gyfrwng y cyfryw Sanct.

CAniada, attolygwn arnat Holla­lluoc Dduw, i ni trwy gyfrwng [Page 376]y bendigedic Sanct N. gael ein gwa­red o bob gwrthwyneb yn ein co [...]ph, ac o bob meddwl drwg yn ein he­naid. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl amryw Merthyri ac E­scopion.

AMddiffynned ni, attolygwn ar­nat O Arglvydd, Gwyl y Mer­thyri ac Escopion hefyd y bendige­dic Sanct N. & Sanct N. a gorchym­mynned ni i ti eu gweddi anrhyde­ddus hwynt. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl amryw Merthyri yn vnic.

DUw, yr hwn wyt yn caniadu i ni gadw Genedigaeth-wyl dy Ferthyri bendigedic S. N. a Sanct N. dyro i ni yn y gwynfyd tragywyddol lawenychu oherwydd eu cyffeillach hwynt. Trwy ein Harglwydd, &c.

Gweddi ar all am gyfrwng y cyfryw Sainct.

DUw, yr hwn wyt bob blwy­ddyn yn ein Ilawenhau ni ag Vchelwyl dy Ferthyri ben­digedic Sanct N. & Sanct N. caniada i ni yn ddaionus, gael ein hennynnu a'i hexamplau hwynt, o­herwydd y thai yr ydym yn llaweny­chu. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Escop Confessor.

DYro, attolygwn arnat Holla­lluoc Dduw; i Vchelwyl dy Gonffessor a'th Escop y ben­digedig Sanct N. chwanegu devo­tiwn ynom ni, a iachawdwriaeth hefyd. Trwy ein Hargl. &c.

Gweddi arall am gyfrwng y cyfryw Sanct.

GWrando, attolygwn arnat O Arglwydd, ein gweddiau ni, [Page 378]y rhai yr ydym yn eu llafaru attat ti ar Vchelwyl dy Gonffessor a'th Es­copy bendigedic sanct N. a thrwy gyfrwng ei ryglyddiannau ef, yr hwn a haeddodd dy wasanaethu di yn dei­lwng, rhyddha nyni o'n holl becho­dau. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Conffessor na bo yn Escop.

DUw, yr hwn wyt bob blwyddyn, yn ein llawenhau ni ag Vchel­wyl dy fendigedic Gonffessor Sanct N. cauiada yn ddaionus i ni allael dynwared ei weithred oedd ef, Gene­digaeth wyl yr hwn yr ydym yn ei hanrhydeddu. Trwy ein Hargl. &c.

Gweddi arall am gyfrwng y cyfryw Sanct.

BYdd bresennol, O Arglwydd, ar ein gweddiau gostyngeiddlon ni, y rhai yr ydym yn eu hoffrwn i ti ar Vchelwyl y bendigedic Sanct N. dy Gonffessor di; fel y gallom ni y sawl nid ydym yn ymddiried yn ein [Page 379]cyfiawnder einhun, gael ein cym­morth trwy ei erfyn ef, yr hwn a ryngodd fodd i ti. Trwy ein Hargl­wydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Abad & Conffessor.

GOrchymmynned nyni i ti, at­tolygwn arnat O Arglwydd, cyfrwng y bendigedic Abad Sanct N. fel y gallom gael trwy ei gym­morth ef, yr hyn nid ydym ni yn dichon ei gael trwy ein haeddiant einhun. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Gwyryf a Merthyr.

DUw, yr hwn ymmysc Gwyr­thiau eraill dy alluogrwydd, wyt wedi rhoi buddugoli­aeth merthyrdod i'r ystlen freuol: caniada yn ddaionus i nyni, y rhai ydym yn cynnal Genedigaeth-wyl dy fendigedic Forwyn a Merthyr Sanct N. allael cerdded attat ti arhyd ei hexamplau hi. Trwy ein Hargl. &c.

Gweddi arall am gyfrwng y cyfryw Sanctes.

GOfynned faddeuant i ni, atto­lygwn arnat O Arglwydd, y fendigedic Forwyn a Merthyr sanct N. yr hon y fu bod amser. yn gym­meradwy i ti o herwydd haeddiant ei diweirdeb, a hehyd oherwydd cy­hoedd broffess o'th rinwedd di. Trwy ein ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl amryw Gweryfon a Merthyri.

DYro i ni, attolygwn arnat ein Harglwydd Dduw, a devo­tiwn dibaid anthydeddu bu­ddugoliaethau dy Wyryfon a'th Ferthyri sanctaidd N. & N. sel y rhai nid ydym yn dichon eu canmol ag ewyllysfryd teilwng, y gallom o'r hyn lleiaf gyrchu attynt a gwasan­aethgarwch gostyneiddlon. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Gwyryf na bo yn Ferthyr.

GWrando ni, O Dduw ein Ja­chawdwr: ac megis yr ydym yn llawenychu oherwydd Vchelwyl dy fendigedic Wyryf Sanct N. felly gwna i ni gael ein dyscu hefyd a serch ei devotiwn duwiol hi. Trwy ein Hargl. &c.

Ar Ddy'gwyl Merch y fo Merthyr yn vnic.

DUw, yr hwn ymmysc Gwyr­thiau eraill dy alluogrwydd, wyt wedi rhoi buddugoli­aeth Merthyrdod i'r ystlen freuol: caniada yn ddaionus i nyni y rhai ydym yn cynnal Genedig­aeth-wyl dy fendigedic Ferthyr Sanct N. allael cerdded attat ti ar hyd ei hexamplau hi. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl amryw Merched Mer­thyri yn vnic.

DYro i ni, attolygwn arnat ein Hollalluoc Dduw, a devo­tiwn dibaid anrhydeddu bu­ddugoliaethau dy Ferthyri sanctaidd N. & N. fel y rhai nid y­dym yn dichon eu canmol ag ew­yllysfryd teilwng, y gallom o'r hyn lleiaf gyrchu attynt a gwasanaeth­gatwch gostyngeiddlon. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ar Ddy'gwyl Merch na bod na Mor­wyn na Merthyr.

GWrando ni, O Dduw ein Ja­chawdwr: ac megis yr ydym yn llawenychu oherwydd Vchel­wyl y fendigedic Sanct N. felly gwna i ni gael ein dyscu hefyd a serch ei devotiwn dawiol hi. Trwy ein Harglwydd, &c.

Gweddi i'w dywedyd beunydd er mwyn cael cyfrwng y bendigedig Sainct S. Ignatiws o Loyla & S. Franç is Xaveriws.

O Dduw, yr hwn wyt yn gogo­neddu y sawl a'th ogoneddant di, ac yn cael dy an [...]hydeddu yn an­rhydedd dy Sainct: caniada yn ddaionus i nyni, y rhai ydym yn parchu rhyglyddiannau gogoneddus y Sainct Ignatiws a Francis, gael 'ymglywed o'n plegyd en cym­morth a'i hamddiffyn hwynt. Trwy ein Harglwydd, &c.

Ymannerch tra ddevotionol iw dywedyd beunydd at yr Angel Ceidwad.

O Angel sanctaidd, anwyl i Dduw, yr hwn wedi fyngo [...]chymmyn i'th warchad bendigedic trwy ddaio­ni [Page 384]ni y Goruchaf, er fyn-genedigaeth wyt yn fy amddiffyn, a'm goleuo, a'm rheoli: yr wyfi yn dy anrhyde­ddu di fal Patron i mi, yn dy garu fal Gwarcheidwad, yn darostwng fyhun i'th devotiwn di, acyn ymroi yn hollawl tan dy lywodraeth di. Amhynny yr wyf fi yn dymuno ar­nat yn ostyngeiddlon, er mwyn Iesu Christ ein Harglwydd, na ymadaw am fi ddyn anniolchgar, ac yn gwneu­thur mor fynych yn erbyn dy gynghorion: Ond yn ddaionus, a­ddysga fi yn anwybodol, cyfarwydda fi yn cyfeiliorni, attal fi yn cwympo, cyfod fi yn gorwedd, cyssura fi yn fyngofid, gwared fi yn peryglu, hyd oni arweinych fi i'r dedwyddwch tra­gywyddol yn y Nef. Ac oblegid nas gallaf roddi diolch teilwng i ti am gynnifer a chymmaint cym­mwynasau: cymmer di obrwy tei­lwng a thaledigaeth yn ein Hargl­wydd Dduw Jesu Christ, er cariad ar yr hwn, yr wyt yn gwneuthur i mi beunydd gymmaint o ddaioni, Amen.

Y Lles a'r daioni a ellir ei gael wrth fyfyrio ar Ddioddefaint Christ ein Iachawdwr.

MYfyrio yn ddevotionol ar Ddio­ddefaint Christ Iesu ein Iach­awdwr, yw vn o'r moddion goreu.

1. I'n cadw ni rhag pechod.

2. I'n heddychu ni eilwaith a Christ wedi i ni gwympo, a thrwyddo ef a'i Dad nefawl.

3. I'n nerthu ni, ac i'n diogelu mewn gras, ac i wneuthur i ni gynny­ddu ymmhob rhinwedd a duwioldeb.

4. Mae Myfyrdod ar Ddioddefaint [Page 386]ein Iachawdwr yn gymmeradwy iddo ef, megis pettid yn dioddef Merthyr­dod er ei fwyn ef.

5. Myfyrio ar ei Ddioddefaint ef yw Yscol fawr dioddefgarwch: ac os me­dyliwn ni yn fynych am ei ddioddefiae­dau ef trosom ni, pob croesineb a gofid y fydd yn esmwyth ac yn ysgafn i ni, o dra cariad arno ef a'i Dioddefaint ben­digedic.

6. Trwy y cyfryw fyfyrdod, yr y­dym megis yn scrifennu ac yn printio pum Archoll ein Iachawdwr Iesu yn aelodau ein cyrph einhun: yn ein dwy­lo, i offrwm ein holl weithredoedd iddo ef; yn ein traed rhag cyfeiliorni byth oddiar ffyrdd ei Orchymmynion ef; yn ein calonnau i'w garu ef bob amser heb ollwng ynangof ei fawr gariad ef attom ni.

7. Os rhoddwn ni einhun i fyfyrio yn fynych ar Ddioddefaint ein Hargl­wydd Iesu Christ, ef a'n comffordda ni ar awr ein hangeu, ac wedi marwo­laeth ef a rydd i ni ddedwyddwch tra­gywyddol.

8. Nid oes dim yn lleihau poenau'r Purdan yn fwy na meddwl yn fynych am yr hyn a ddioddefodd ein Iachaw­dw trosom ni, ac ymgyffroi einhun o ddifrif i'w garu ef.

9. Nid oes dim yn diddyfnu ein hewyllys ni oddiwrth y Byd, ac yn peri newyn arnom a hiraeth am y bywyd Nefawl yn fwy, na myfyrio beunydd yn ddevotion ol ar Ddioddefaint ein Harg­wydd Iesu Christ ac felly megis cy­frifo yn fynych y Pris gwerthfawr a dalodd ein Prynnwr trosom ni.

10. Fe wna ein Harglwydd y pecha­dur a fyfyria yn fynych ar ei Ddio­ddefaint ef, yn ddyn da a rhinweddol ac a ddengys iddo ewyllys y Tad nefol, gy­da'r hyn oll y fo angenrheidiol i iach­awdwriaeth ei eniaid ef.

11. Mae rhai o'r Doctorion sanct­aidd yn dywedyd hyn: os haedda dyn aros yn y Purdan fil o flynyddoedd, fe a ddichon trwy rinwedd myfyrio ar Ddio­ddefaint ein Hargl▪ Iesu, gael ei buro mewn vn dinrnod a'i ryddhau o'i holl boenau.

12. Myfyrio yn fynych ar Ddio­ddefaint Christ a wna ddyn pechadu­rus yn debyg i'r Angelion nefawl.

Amhynny os mynnwn ni gael lles a chynnyddu mewn cariad ar Dduw, mae'n rhaid i ni yn fynych. ac yn ofa­lus feddwl am, a gwneuthur megis llun yn ein cof, o'n Harglwydd a'n Iach­awdwr wedi ei groeshoelio trosom ni. Ac i'r pwrpas hwn, da iawn y fydd ac addas, dwyn ar gof beunydd trwy ystyriaeth dyfal-gofalus vn neu fwy o'r Myfyrdodau byrrion hyn: ac ar ddiwedd pob Myfyrdod dywedyd y We­ddi.

O Oen Duw addfwyn a gwi­rion, &c.

EXERCIS i'w arfer wrth fyfyrio ar Ddioddefaint ein Iachawdwr Iesu Christ.

Y Myfyrdod cyntaf.

O Jesu gwynn daionus! yr hwn er dy fod yn oruchaf yn-go­goniant y Tad, ac yn gydradd yn ei Hanfod ef, o'th gariad anfeidrol a deilyngaist wneuthur dyhun yn ddyn, a'th eni mewn stabl, a'th o­sod i lawr yn y Preseb, a'th enwae­du, a ffo i'r Aipht: wedi hynny dy fedyddio, dy demptio, ymprydio, gwilio, dysgu'r anwybodus, a iacha­u'r [Page 390]cleifion: Dioddef hefyd trallo­dau ac erlid parhaus trwy dy holl fywyd, ac o'r diwedd o'th wir fodd dioddef marwolaeth ar y Groes, a hyn igyd trosaf fi, a rhai truain eraill fell fyfi.

Y ail Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! yr hwn wedi bwytta'r oen Pascawl gy­da'th Ddiscyblion anwyl, a godaist oddiar y Swpper, ac a ymwregysaist dyhun a thywel, ac a dywalltaist ddwfr i'r cawg, ac a benlinaist ar dy liniau, ac felly yn ostyngaidd a ol­chaist draed dy Ddiscyblion; ac a'i sychaist hwynt a'th ddwylo dyhun.

Y trydedd Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! yr hwn ychydic o flaen dy farwolaeth, a adawaist rodd odidog megis trwy Lythyr Cymmun i'th blant, gan a­dael i ni dy Gorph sancteiddlawn [Page 391]yn ymborth, a'th Waed gwerthfawr yn ddiod. Nid oes dyall a ddichon drywanu, na synwyr a all gyrhae­ddyd dyfnder eigion dy Gariad di hwn.

Y pedwerydd Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! tydi we­di myned i mewn i Ardd Oli­ver, a ddechreuaist ofni, tristhau ac ymofidio: ac ar hynny, di a ddy­wedaist wrth dy Ddiscyblion: mae fy enaid yn drist hyd angeu: yno we­di eu gadael hwynt, di a benlinaist ar y ddaear, a chan syrthio ar dy wyneb ti a weddiaist ar dy Dad: Os yw possibl aed y caregl hwn heibio oddiwrthyf: ac etto trwy ddarostyn­giad cyflawn ti a ymroddaist dyhun iddo ef gan ddywedyd: Fy Nhad, gwneler, nid fy ewyllys i, eithr dy ew­yllys di ac o'r diwedd mewn ing a gloes boenlawn, dy gorph llwyr blin a methiant a chwysodd ddafnau gwaed yn rhedeg i waered hyd ar y ddaear.

Y pummed Myfyrdod.

O Jesu gwyn daionus! tydi yn Ilosgi gan chwant annrhaetha­dwy i'm rhybrynnu i, a aethost i gyfarfod dy elynnion, ac a ddiodde­faist i Judas y bradwr dy gussanu di, a chael dy ddal a'th rwymo a chordynau, ac megis Pen-lleidr ysce­ler, trwy ddibris mawr a dirmyg gan y gwaelaf o'r bobl ddrygionus dy arwain at Annas, lle trwy add­fwynder rhyfedd anfeidrol a derbyn­niaist fonclust creulon ar dy wyneb yn ddirfawr anghyfreithlon gan y dihiryn bryntaf o gaeth-was.

Y chweched Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! yr hwn wedi dy rwymo fyth yn gaeth, megis gwas dihir euog o'r mowr­ddrwg gwaethaf y arweinwyd oddi­wrth Annas i dy Caiphas yr Arch-Offeiriad, lle y cyhuddasant di yr [Page 393]Juddewon yn ddirfawr anghyfreith­lon, ac a gorhydri barbaraidd a boe­rasant ar dy wyneb addfwyn a gwe­ddeiddlawn, gan ffusto dy ruddiau, a chuddio dy lygaid bendigedic, a thrwy ddirmyg mawr a malais yn gwneuthur sarhaad a chamweddau anfeidrol i ti trwy'r noswaith honno.

Y seithfed Myfyrdod.

O Jesu gwyn daionus! tydi y boreu a ddygwyd i wydd Pi­lat: ac yno ag wynebp [...]yd grasawl gweddaidd gan edrych yn ostyng­eiddlawn tu ac i waered, y safaist o'i flaen ef yn y Neuadd Farnawl. A phan oeddent yr Juddewon yn dy slandrio a'th gyhuddo ar gam anfei­drol, ac wedi rhoi llawer cerydd, ac annog insolent i ti, ti a dewaist a son yn howddgar, ac a ddioddefaist yn fodlon eu drygioni a'i camweddau hwynt oll llwyr-anghyfion.

Yr wythed Myfyrdod.

O Jesu gwyn daionus! tydi a ddanfonwyd oddiwrth Pilat at Herod, yr hwn o wagedd d [...]ygi­onus o gael dy weled yn gwneuthur rhyw Wyrthiau, a ofynnodd gen­nyt lawer o bethau ofer, a'r Judde­won fyth vn parhau yn eu gwith­wynebrwydd attat: ond dy add­fwynder di nid attebodd vn gair i hynny oll. Ac amhynny Herod a'i holl Lys a'th ddiystyrodd, a chan ddodi gwisg wen amdanat, a'th ddan­fonodd di vn ol at Pilat drachefn. O wfydd dod a gostyngeiddrwydd annhraethadwy! Wrth ewyllys dy elynnion ti a aethost ymlaen, ac a ddaethost yn ol, ti a arweinwyd i fynu ac i waered, o le i le, heb wrthddywedyd vn gair, ond gadael iddynt wneuthur i ti yr hyn a fyn­nent.

Y nawfed Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! tydi yn y Neuadd Farnawl y diosgwyd [Page 395]o'th holl ddillad, hyd onid oedd dy gorph morwynol igyd yn noeth-lum­mun yn gwydd cynnifer o drwg-wei­sion diriaid a dirras, y rhai heb to­nyn o drugaredd a'th fflangllasant di yn greulon anfeidrol. Yna y rhywgyd dy gnawd bendigedic ty­ner a frewyllau, yr anrheithiwyd ac y gwnaed ef igyd yn ddu ac yn las, ac a briwau neu archollion erchyll y drylliwyd ef ymmhob man, hyd onid oedd dy waed gwerthfawr yn diferu, ac yn ffrydio o bob lle o am­gylch dy gorph sanctaidd hyd ar y ddaear.

Y degfed Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! wedi'r fflangelliad hwnnw tost a gwaed­lyd, er gwneuthwr mwy cywilydd a gwarad wydd i ti, hwy a'th wisga­sant di a rhyw wael ddilledyn por­phor, a chan blethu coron o ddrain, hwy a'i gwasgasant hi yn dost ar dy ben bendigedic, hyd onid oedd y [Page 396]pigau llymmion yn gwanu ymmhell yn dy arleisiau sanctaidd, a'r gwaed gwerthfawr yn rhedeg i waered yn rhull, ac yn cuddio dy wyneb a'th wddwg bendigedic. Ac wedi rhoi Corsen yn dy ddwylo trwy ddibris a dirmyg yn lle Sçeptr sef Teirnwi­alen, gan benlino ar lawr o'th flaen mewn gwatwor, hwy a'th gyfar­chasant gan ddywedyd: henffych well Brenin yr Iuddewon: yna y cip­piasant hwy y Gorsen yn fforddrych o'th ddwylo. ac y curasant a hi dy ben sanctaiddlawn, ac a boerasant drachefn ar dy wyneb bendigedic.

Yr vnfedarddeg Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! ar ol hyn­ny Pilat a'th arweinodd di yn dwyn y Goron ddrain a'r Wisg-bor­phor allan at yr Iuddewon i syllu a llygadrythu arnat: eithr hwy a bon­lefain cynddeiriog, ac a malais di­wala a weiddasant gan ddywedyd Croeshoelia ef, Croeshoelia ef.

Y deuddegfed Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! tydi a draddodwyd i ewyllys a dymu­ned yr J [...]ddewon: y rhai yn y man a'th arweinasant di i'th groeshoelio, gan ddodi dy Groes drom ar dy ys­gwyddau dolurus gwaedlyd. Fel hyn yn ostyngeiddlawn a dygaist di dy Groes dyhun, pwys yr hon, oedd yn dy boeni di yn ddirfawr. Ac wedi dyfod i'r lle yn flin-ddiffy­giol, ac yn holl fethiant, ni wrtho­daist brofi y gwîn wedi ei gymmysg a bustl ac a myrth, yr hyn oedd yr vnic esmwythaad a roddwyd i ti yno.

Y trydydd ar ddec Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! pan ddi­osgwyd di yn noeth lummun drachefn, yna yr adnewyddwyd dy archollion yn ddirfawr, trwy'r modd garw traislym hwnnw o dynnu dy [Page 398]ddillad di. Pa boen anfeidrol a ddi­oddefaist, pan y gyrrwyd yr hoeli­on trawst trwy dy ddwylo a'th draed bendigedic, gan eu cethru hwynt wrth y Groes, wedi ystyn yn ddir­fawr y cymmalau a'r aelodau sanct­aidd, megis ar y Rack? A pha faint cariad, a pha faint daioni y diodde­faist di dyllu a thrywanu dy ddwy­lo a'th draed sacraidd, a't gwaed gwerthfawr yn ffrydio allan ohonynt megis o gynnifer o Ffynnonnau?

Y pedwerydd ar ddeg Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! tydi yn crogi rhwng dau ladron ar y Croes, a gablwyd ac a regwyd, a thrwy hirbarhau mewn poenau er­chyll, ti a weddiaist ar dy Dad faddeu iddynt: a phan oedd eu cynddaredd hwynt lymmaf, ti a ddangosaist dy ddaioni yn fwyaf, gan addaw y Para­dwys i'r Lleidr edifeiriol: a thrwy orchymmyn dy Fam fendigedic (yr hon wrth y Groes oedd wedi ei gwa­nu [Page 399]trwyddi a dolur anfeidrol, a'i gorthrwmmu yn hollawl a thristwch) i fod yn Fam i'th Ddiscybl anwyl Sanct Ioan, ac yn ei enw ef i ninneu oll. Ac ar ol tair awr hirion yndio­ddef poenau annrhaethadwy, a'r sy­ched cruelonaf. hwy a roesant i ti finegr i' w yfed, yr hwn wedi i ti ei brofi, gan ostwng tuag i waered dy ben anrhydeddus, ti a roddaist i fynu dy Yspryd.

Y pymthegfed Myfyrdod.

O Jesu gwynn daionus! O y Bu­gail goreu! Dymma fel y rhoddaist di dy fywyd tros dy dde­faid: ie ac ar ol angeu ti a fynnaist fyth ddioddef trosom ni; oblegid fe agorwyd a ffon wayw dy ystlys sacraidd, o'r hon y rhedodd dwfr a gwaed. Dymma fel y gorphenna­sant hwy dy Ddioddefiadau di oll: ac wedi i'th elynion dorri eu syched a'th waed, a myned i ffordd, dy Ddiscyblion a ddaethant, ac a gym­merasant [Page 400]dy Gorph difrycheulyd oddiat y Groes, ac a'i dodasant ef ar linniau dy Fam fendigedic, ac ar ol pob arddangos dychymmygol o ddaioni, o gariad ac o anrhydedd hwy a'i plygasant ef yn y Sindon sef yr amwisg, ac a'i gosodasant ef yn y Bedd.

Y Weddi.

O Oen Duw addfwyn a gwirion! Dymma fel y ceraist di fyfi o­ddifrif: dymma y pethau a wnae­thost er fy mwyn i: dymma y poe­nau a ddioddefaist trosaf fi. Beth a ailroddaf i ti? Yr wyf yn dy addoli, yn dy foliannu, yn dy gammol, ac yn rhoi diolch i ti a holl nerthoedd fy enaid. O Jesu, Mab y Duw byw! Brenin y Brenhinoedd, Ar­glwydd yr Arglwyddi. Hanffych well Rhybrynnwr gogoneddus ein heneidiau ni, marwolaeth yr hwn sydd yn adnewyddu ac yn bywiol­aethu y Byd.

O fy Iachawdwr bendigedic, tru­garha wrthyf fi er mwyn dy ddaio­ni di. Maddeu fy holl bechodau, a distrywia ynofi beth bynnac sydd yn dy anfoddloni di. Gwna fi yn ddyn yn ol dy galon di. a chaniada i mi ddilyn yn ddyfal dy fuchedd sanct­aidd di hyd eithaf fyngallu. O Dad nefol bendigedic! Wele, yr wyfi yn offrwm i ti Ymgnawdoliaeth san­cteiddlawn, Buchedd a Dioddefaint dy anwyl garedic Fab JESU CHRIST, yn llawn satisfactiwn a iawnwaith am fy holl bechodau, ac yn wellhaad perffaith o'm holl fu­chedd. Caniada, O Dad tra-daio­nus, er [...]hyglyddiannau dy vnice­nedledic Fab drugaredd a gras i'r byw, a gorphwys a bywyd tragywy­ddol i'r meirw ffyddlon. Amen.

Yr Evangel Sanctaidd yn ol S. Matthew.

PAn oedd yr Jesu wedi ei eni ym-Methlehem Iuda yn nyddiau Herod frenin, wele Doethion a ddaethant o'r Dwyrain i Ierwsa­lem, gan ddywedyd: Ple mac'r hwn a anwyd yn frenin yr Indde­won? Canys ni a welsom ei seren ef yn y Dwyrain, ac a ddaethorn i'w addoli. A Herod y brenin yn cly­wed, a gythryblwyd, a holl Jerw­salem gyd ag ef. A chan gynnull ynghyd yr holl Arch-Offeiriaid a Scrifennyddion y bobl, ef a ymofyn­nodd ganthynt hwy ple y genid Christ. Eithr hwy a ddywedasant wrtho: Ym-Methlehem Iuda: Canys felly y scrifennwyd trwy'r Prophwyd: A thithau Bethlehem tir Iuda, nid lleiaf wyt ymlith twy­sogion [Page 403]Iuda: canys o honoti y daw twysog allan, yr hwn a reola fym­hobl Israel. Yna Herod, gan alw yn ddirgel y Doethion, yn fanwl a ddys­godd ganthynt amser y seren, a ym­ddangosasai iddynt: a chan eu dan­fon hwynt i Bethlehem, ef a ddy­wedodd: Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y bachgen: a phan gaff­och ef, mynegwch i mi, fal gan ddyfod y gallwyf innau hefyd ei a­ddoli ef. Hwythau wedi clywed y brenin, a aethant. Ac wele y seren, yr hon a welsant yn y Dwyrain, oedd yn myned o'i blaen hwynt, hyd gan ddyfod y safodd uwchben y lle yr oedd y bachgen. A hwy yn gweled y seren, a lawenasant a llawenydd mawr dros ben. A chan fyned i mewn i'r ty, hwy a gawsant y bachgen gy­da Mair ei fam ef, a chan syrthio i lawr, hwy a'i addolasant ef. Ac wedi agoryd eu trysorau a offrym­masant iddo anrhegion, aur, thus, a myrrh. Ac wedi cael atteb yn eu cwsg na ddychwelent at Herod, hwy [Page 404]a aethant yn ol i'w gwlad trwy ffordd arall.

Yr Evangel sanctaidd yn ol S. Marc.

YN yr amser hwnnw: A'r vn ar ddeg discyblion yn eistedd wrth y bwrdd, yr Iesu a ymddangosodd iddynt: ac y ddannododd eu han­ghredyniaeth, a'i caledwch calon: am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi adygyfodi. A dywedodd wrthynt: gan fyned i'r holl fyd, pregethwch yr Evangel i bob crea­dur. Y neb a gredo, ac a fedyddi­er, y fydd gadwedic: eithr y [Page 405]neb ni chredo, a gondemnir. A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant: Yn fy enw i bwriant gythreuliaid allan: llafa­rant a thafodau newyddion: codant seirph ymmaith: ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt niweid: rhoddant ddwylo ar y cleifion a hwy a iachaant. Ac felly ein Harglwydd Jesu. wedi iddo lafaru wrthynt, a gymmerwyd i'r nef, ac e mae ef yn eistedd ar ddeheulaw Duw. Eeithr hwy gan fyned allan, a bregethasant ymmhob man, a'n Harglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau y gair ag arwyddion yn canlyn.

Yr Evangel sanctaidd yn ol S. Luc.

YN yr amser hwnnw: Danfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth [Page 406]Dduw i ddinas yn-Galilea; a'i henw Nazareth, at forwyn wedi ei dywe­ddio i wr, a'i enw Joseph o dy Da­fydd, ac enw y forwyn oedd Mair. A'r Angel wedi myned i mewn a ddywedodd wrthi: Hanffych well gyflawn o ras: mae'n Harglwydd gyda thi: Bendigedic wyti ymmysg merched. Yr hon pan glybu, a gy­thryblwyd yn ei y madrodd ef, a me­ddyliodd pa fath gyfarch oedd hwn. A dywedoedd yr Angel wrthi: Nac ofna, Mair, canys ti a gefaist ras gy­da Duw: wela ti a ymddwyni yn dy groth, ac a escori at fab, ac a elwi ei enw ef JESV. Hwn y fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, a'n Harglwydd Dduw a rydd iddo or­seddfa ei Dad Dafydd: ac ef a deyr­nasa yn nhy Iacob yn dragywyddol, ac o'i deyrnas ef ni bydd diwedd. A Mair a ddywedodd wrth yr An­gel: Pa fodd y bydd hyn, canys nid adwaen i wr? A'r Angel gan atteb, a ddywedodd wrthi: Yr Yspryd Glan a ddaw arnat ti, a nerth [Page 407]y Goruchaf a'th gysgoda di. Ac amhynny hefyd yr hyn Sanctaidd a aner ohono ti, a elwir yn Fab i Dduw. Ac wele Elisabeth dy gares, e mae hi hefyd wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a'r mis hwn yw'r chweched iddi yr hon a elwir yn am­mhlantadwy, canys ni fydd ammho­sibl pob gair gyda Duw. A dywe­dodd Mair: wele wasanaethyddes ein Harglwydd, bydded i mi yn ol dy air di.

Dioddefaint Ein Hargl­wydd Iesu Christ.
Yn ol y pedwar Evangelwyr.

YR hwn yn ol vn o'r pedar, a ellir ei ddarllain, ryw amser cyfaddas bob dydd Sul trwy'r flwyddyn, er mwyn mynych ymgoffa y pethau annhraethad­wy a ddioddefodd Duw Hollalluog er­om ni bechaduriad.

Da iawn hefyd, a llesfawr anfeidrol y fydd mynych ddarllain yn arafus ac yn ddevotionol y Dioddefaint Sanctaidd i'r Cleifion ffyddlon, (tra fo eu clywed a'i dyall hwynt yn parhau) yn enwe­dic, pan font hwy yn tynnu nes nes at endiwedd, er cyssur a diddanwch yspry­dol iddynt, yn eu cyfyngderau eithaf: ac er mwyn cynnyddu ynddynt ymddi­ried sanctaidd a bywiol o gael Truga­redd gan yr Iesu, a ddioddefodd hyn oll o dra Cariad arnynt hwy.

Dioddefaint Ein Hargl. Iesu Christ yn ol S. Matthew.

YN yr amser hwnnw: Dywedodd yr Jesu wrth ei Ddiscyblion: Chwi a wyddoch mai gwedi deu­ddydd y bydd y Pasch, a Mab y dyn a draddodir i'w groeshoelio. Yna yr ymgasglodd yr Arch-Offeiriaid a Henuriaid y bobl, i gyntedd lys yr Arch-Offeriad, yr hwn a elwid Cai­phas: a hwy a ymgynghorasant fel y dalient yr Jesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddyweda­sant: Nid ar y dydd gwyl, rhag bod ysgatfydd cynnwrf ymmhlith y bobl. A phan oedd yr Jesu yn Bethania yn nhy Simon y gwahan­glwyfus, daeth merch atto a chan­ddi flwch o ennaint gwerthfawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef yn eistedd wrth y fordd. A'r Discyblion yn gweled, a sorrasant gan ddywedyd: I ba beth y mae'r golled hon? canys [Page 410]fe a allasid gwerthu hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion. A'r Jesu gan wybod, a ddywedodd wrthynt: Pam yr ydych yn molestu y ferch hon? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. Oblegid mae gennych y tlodion bob amser gyda chwi: eithr mi nid ydych yn ei gael bob amser. Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fynghorph, a wnaeth hynny i'm claddu i. Amen meddaf i chwi, pa le bynnac y pregether yr Evangel hon yn yr holl fyd, mynegir hefyd yr hyn a wnaeth hi er coffadwriaeth amdani hi. Yna yr aeth vn o'r deu­ddeg, yr hwn a elwid Judas Iscario­tes, at yr Arch-Offeiriaid: ac a ddywedodd wrthynt: Pa beth a roddwch i mi, ac mi a'i traddodaf ef i chwi? Eithr hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. Ac o hynny allan fe a geisiodd amser cyfaddas i'w fradychu ef. Ac ar y dydd cyntaf o'r Azymau y Discyblion a ddaethant at yr Jesu, ga [...] ddywedyd: Pa le y mynni i ni baratoi [Page 411]i ti fwytta'r Pasch? Eithr yr Jesu a ddywedodd: Ewch i'r ddinas at ryw vn, a dywedwch wrtho: Mae'r Meistr yn dywedyd. Fy am­ser i sydd yn agos, gyda thi y cyn­haliaf y Pasch gyda'm Discyblion. A'r Discyblion a wnaethant megis y gorchymmynnasai yr Jesu iddynt. Ac a baratoasant y Pasch. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, ef a eistedd­odd gyda'i ddeuddeg Ddiscyblion. A hwy yn bwytta, ef a ddywedodd: Amen yr wyf yn dywedyd i chwi, mai vn ohonochwi a'm bradycha i. A hwythau yn drist iawn, a ddechreu­asant bob vn o honynt ddywedyd: Ai myfi yw Arglwydd? Eithr ef gan atteb, a ddywedodd. Yr hwn sy'n gwlychu ei law gyda mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i. Mab y dyn yn ddiau sydd yn myned, megis y mae yn scrifennedic amdano: eithr gwae i'r dyn hwnnw, trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn: da y fuassai iddo, pettasai'r dyn hwnnw heb ei eni. A Judas, yr hwn a'i brady­chodd [Page 412]ef, gan atteb a ddywedodd: Ai myfi yw ef, Rabbi? Fe a ddy­wedodd wrtho: Ti a ddywedaist. A thra yr oeddent yn swpperu, yr Iesu a gymmerodd fara, ac a fendi­thiodd, ac a dorrodd, ac a roddodd i'w Ddiscyblion, ac a ddywedodd: Cymmerwch, a bwyttewch: HWN YW FYNGHORPH I. A chan gymmeryd y carregl, ef a ddiolchodd: ac a roddodd iddynt, gan ddywe­dyd: yfwch o hwn oll. CANYS HWN YW FYNGWAED I O'R TESTAMENT NEWYDD, YR HWN A DYWALLTIR TROS LAWER ER MADDEUANT PE­CHODAU. Ac yr wyf yn dywe­dyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y win-wydden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef gyda chwi yn newydd yn nheyrnas fy Nhad. Ac wedi iddynt ddywedyd Hymn, hwy a aethant allan i Fynydd Olivet. Yna y dywedodd yr Jesu wrthynt: Chwychwi oll a scanda­leizir ynofi y nos hon. Canys mae [Page 413]yn scrifennedic: Tarawaf y Bugail, a gwasgerir defaid y Gre (yn dyfod allan o'r gair Lladin Grex) yw diadell o ddefaid, neu o anifeiliaid pabynnac, ac nid o ryw fath'o ho­nynt yn neilltuoll. Pri add yw Ysglyf, Yspail, Plyn­driad. gre. Eithr wedi yr adgy­fodwyf, mi a af o'ch blaen chwi i Galilæa. A Phedr gan atteb, a ddy­wedodd wrtho Pe scandalei­zid pawb yno ti, ni'm scandaleizir i fyth, Dywedodd yr Jesu wrtho: Amen yr wyf yn dywedyd i ti, ca­nys yn y nos hon cyn canu o'r cei­liog, ti a'm gwedi deirgwaith. Dy­wedodd Petr wrtho: Pe gorf­yddai i mi farw gyda thi, ni'th wa­daf ddim. Yn yr vn modd hefyd y dywedasant yr holl Ddiscyblion. Yna y daeth yr Jesu gyda hwynt i bentref, yr hwn a elwir Gethsemani, ac a ddywedodd wrth ei Ddiscybli­on: Eisteddwch ymma, tra yr el­wyf accw, ac y gweddiwyf. Ac wedi cymmeryd Petr, a dau fab Zebedaeus, ef a ddechreuodd drist­hau [Page 414]a bod yn brudd. Yna y dywe­dodd wrthynt: Trist yw fy enaid hyd at angeu: arhoswch ymma, a gwiliwch gyda mi. Ac wedi iddo fyned ychydic ymmlaen, ef a syr­thiodd ar ei wyneb, gan weddio, a dywedyd: Fy Nhad, os yw possibl, aed y carregl hwn heibio oddi­wrthyf er hynny nid megis yr wyf i yn mynnu, ond megis yr wyti. Ac ef a ddaeth at ei Ddiscyblion, ac a'i cafodd hwynt yn cysgu, ac a ddywedodd wrth Petr: Felly oni ellych chwi wilio vn awr gyda mi? Gwiliwch, a gweddiwch fel nad e­loch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd yn wann. Drachefn yr ail waith fe a aeth, ac a weddiodd, gan ddywe­dyd. Fy Nhad, onis gall y carregl hwn fyned heibio onid yfaf ef, gwne­ler dy ewyllys di. Ac fe a ddaeth drachefn ac a'i cafodd hwynt yn cys­gu: canys yr oedd en llygaid hwynt wedi trymhau. Ac wedi eu ga­dael hwynt, fe a aeth ymmaith [Page 415]drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr vn gair. Yna y daeth ef at ei Discyblion, ac a ddywedodd wrthynt. Cysgwch bellach, a gorphwyswch: wele mae'r awr wedi neshau, a Mab y dyn a dra­ddodir i ddwylo pechaduriaid. Co­dwch, awn: wele nessaodd yr hwn a'm bradycha i. Ac efe etto yn lla­faru, wele Judas vn o'r deuddeg a ddaeth, a chydag ef tyrfa fawr a cleddyfau ac a ffynn, wedi eu dan­fon oddiwrth yr Arch-Offeiriaid a Henuriaid y bobl. A'r hwn a'i bra­dychodd ef, a roddodd a wydd iddynt, gan ddywedyd: Pa vn bynnac a gussanwyf, hwnnw yw ef, deliwch ef. Ac yn ebrwydd gan ddyfod at yr Jesu, fe a ddywedodd: Hanffych well, Rabbi. Ac a'i cus­sanodd ef. A'r Jesu a ddywedodd wrtho ef: Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna a daethant, ac y rhoe­sant ddwylo ar yr Jesu, ac a'i dali­asant ef. Ac wele vn o'r rhai oedd gyda'r Jesu, gan ystyn ei law, a dyn­nodd [Page 416]ei gleddyf, a chan daro gwas yr Arch-Offeiriad a dorrodd ei glust ef. Yna dywedodd yr Jesu wrtho: Dy­chwel dy gleddyf i 'w le, canys pawb ac y gymmerant gleddyf, a ddifethir a chleddyf. Ai tybied yr wyt, nas gallaf ofyn gan fy Nhad, ac efe a rydd i mi yn y fan fwy na deuddeg lleng o Angelion? Pa fodd yntau y cyflownir y Scrythurau, mai felly y gorfydd bod? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y tyrfeydd: Ai megis at leidr y dae­thoch allan a chleddyfau ac a ffynn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gy­da chwi yn eistedd yn dyscu yn y Deml, ac ni'm daliasoch fi ddim. A hyn oll a wnaed, fel y cyflawnid Scrythurau y Prophwydi. Yna yr holl Ddiscyblion, wedi ei adael ef, a ffoesant. Eithr hwy gan ddal yr Iesu, a'i arweinasant ef at Caiphas yr Arch Offeiriad, lle yr oedd v Scri­fennyddion a'r Henuriaid wedi ym­gasglu ynghyd. A Phetr a'i canlyn­odd o hirbell, hyd ynghynteddllys [Page 417]yr Arch-Offeiriad, a'r holl gyngor, a geisiasant gau destiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwo­laeth; ac nis cawsant, er dyfod i ac nis cawsant, er dyfod i mewn gau dystion lawer. Ac yn ddiweddaf fe a ddaeth dau gau dyst, ac a ddywedasant: Hwn a ddy­wedodd: Mi a allaf ddinistrio Teml Dduw, ac wedi tri diwrnod ei hail­adeiladu hi. A'r Arch-Offeiriad gan godi, a ddywedodd wrtho: Ai nid attebi di ddim i'r pethau, y rhai y mae'n hwy yn eu testiolaethu yn dy erbyn di? Eithr yr-Iesu a dawodd. A'r Arch-Offeiriad a ddywedodd wrtho: Yr ydwyf yn dy ardyngu di trwy'r Duw byw, ddywedyd ohonot i ni os tydi yw Christ mab Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho. Ti a ddywe­daist. Eithr er hynny yr wyf yn dywe­dyd wrthoch chwi, ar ol hyn y cewch chwi weled Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw, ac yn dyfod yn-ghymmylau'r nef. Yna y rhwy­godd yr Arch-Offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd: fe a gablodd: pa [Page 418]raid i ni mwy wrth dystion? wele yr­wön chwi a glywsoch y cabledd: beth a dybygwch chwi? Eithr hwy gan atteb a ddywedasant: Mae ef yn euog o farwolaeth. Yna y poera­sant yn ei wyneb ef, ac a'i curasant ef a chernodiau, ac eraill a'i taraw­sant ef a phalsau eu dwylo, gan ddywedyd: Prophwyda i ni O Christ, pwy yw yr hwn a'th tara­wodd? Eithr Petr oedd yn eistedd allan yn y cynteddlys: a daeth mor­wyn atto, gan ddywedyd. A thi­thau oeddir gyda'r Iesu y Galilæad. eithr ef a wadodd ger eu bron hwynt oll, gan ddywedyd: Nis gwn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac fel yr oedd ef yn myned allan o'r porth, morwyn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yno: A hwn hefyd oedd gyda'r Jesu o Nazareth. A thrachefn ef a wadodd trwy lw: Nid adwaen y dyn. Ac wedi ychydig, y rhai oedd yn sefyll gerllaw a ddaethant, ac a­ddywedasant wrth Petr: Yn wir [Page 419]yr wyt tithau o honynt hwy: ca­nys mae dy lefe [...]ydd yn dy amlygu di. Yna y dechreuodd ef regu a thyngu nad adwaenai ef y dyn. Ac yn y mann fe a ganodd y cei­liog. A Phedr a gofiodd air yr Je­su, yr hwn a ddywedasai ef: Cyn y cano'r ceiliog, ti am gwedi deir­gwaith. Ac wedi myned allan ef a wylodd yn chwerw dost. A phan ddaeth y boreu, cydymgynghorodd yr holl Arch-Offeiriaid a Henu [...]iaid y bobl yn erbyn yr Jesu, fel y rho­ddent ef i farwolaeth. Ac wedi ei rwymo hwy a'i dygasant ef, ac a'i traddodasant i'r Rhaglaw Pontius Pilat. Yna Judas▪ yr hwn a'i bra­dychodd gan weled ddarfod ei gon­demnio ef, gan edifarhau, a ddy­godd drachefn y deg ar hugain arian i'r Arch-Offeiriaid, a'r Henuriaid, gan ddywedyd: Pechais gan fra­dychu gwaed gwirion. Eithr hwy a ddywedasant: Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi taflu'r arian yn y Deml, fe a ymadawodd: [Page 420]a chan fyned ymaith fe a ymgrogodd eihunan a chebystr. A'r Arch-Off­eiriaid, wedi cymmeryd yr arian, a ddywedasant: Nid cyfreithlon yw eu bwrw hwynt yn y Corbana: ca­nys pris gwaed ydyw. Ac wedi cy­dy mgynghori, hwy a brynnasant a hwynt faes y crochenydd, yn gladd­fa dieithriaid. Amhynny y galwyd y maes hwnnw, Haçeldama, hyn­ny yw, maes y gwaed, hyd y dydd heddyw. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedwyd trwy Jeremias y Prophwyd, gan ddywedyd: A hwy a gymmerasant y deg ar hugain ari­an pris y prisiedig, yr hwn a brisia­sant hwy gan feibion Israel: ac a'i rhoesant hwy am faes y chrochen­ydd, megys yr ordeiniodd ein Har­glwydd i mi. A'r Jesu a safodd o flaen y Rhaglaw, a'r Rhaglaw a of­ynnodd iddo, gan ddywedyd: Ai ti yw Brenin yr Iuddewon? Yr Iesu a ddywedodd wrtho: Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gy­huddid ef gan yr Arch-Offeiriaid, [Page 421]a'r Henuriaid, nid attebodd ef ddim: Yna y dywedodd Pilat wr­tho: Oni chlywi di pa faint desti­olaethau y maen hwy yn dywe­dyd yn dy erbyn di? Ac nid atte­bodd ef iddo i vn gair, fel y rhy­feddodd y Rhaglaw yn fawr. Ac ar y dydd solemn yr arferai y Rhag­law ollwng yn rhydd i'r bobl vn car­charor, yr hwn a synnent. Ac y pryd hynny yr oedd gantho garcha­ror hynod, a elwid Barabbas Wedi iddynt ganhynny ymgasglu ynghyd, Pilat a ddywedodd: Pa vn a fyn­nwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi: Barabbas, ai yr Iesu, yr hwn a elwir Christ? Canys fe a wyddai mai o genfigen y traddodasant ef. Ac fel yr oedd ef yn eistedd ar vr Orseddfainc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd: Na fydded i ti a wnelych a'r cyfiawn hwnnw, ca­nys goddefais lawer heddyw trwy freuddwyd o'i blegyd ef. A'r Arch-Offeiriaid, a'r Henuriaid a berswa­diasant y bobl fel y gofynnent Ba­rabbas, [Page 422]ac y difethent yr Iesu. A'r Rhaglaw gan atteb a ddywedodd wrthynt: Pa vn o'r ddan a fyn­nwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Eithr hwy a ddywedasant: Barab­bas. Pilat a ddywedodd wrthynt: Pa beth gan hynny a wnaf a'r Iesu, yr hwn a elwir Christ? Hwythau oll a ddywedasant: Croeshoelier ef. Y Rhaglaw a ddywedodd wrth­ynt: Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Eithr hwy a lefasant yn fwy gan ddy­wedyd: Croeshoelier ef. A Philat gan weled nad oedd ef yn prefaelu dim, ond yn hyttrach bod cwnnwrf: wedi cymmeryd dwfr, a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd: Dieuog ydwyfi oddi­wrth waed y cyfiawn hwn: edry­chwch chwi. A'r holl bobl gan at­teb, a ddywedodd: Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant ni. Yna a gollyngodd ef Barabbas yn rydd iddynt: a'r Iesu wedi ei fflangellu a draddododd iddynt fel y croeshoelid ef. Yna milwyr y [Page 423]Rhaglaw gan gymmeryd yr Iesu i'r Palas, a gynnullasant atto yr holl fyddyn: a chan ei ddiosg ef, a roe­sant amdano fantell o Scarlad: a chan blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn ei law ddehau. Ac wrth blygu eu gliniau ger ei fron ef, yr oeddent yn ei watwor ef, gan ddywedyd: Hanffych well Brenin yr Iuddewon. A chan boeri arno, hwy a gymme­rasant y gorsen, ac a darawasant ei ben ef. Ac wedi iddynt ei watwor, hwy a'i diosgasant ef o'r fantell, ac a'i gwisgasant a'i ddillad eihun, ac a'i arweinasant ef i'w groeshoelio. Ac wrth fyned allan hwy a gowsant ddyn o Cyrene, a'i enw Simon: hwn a gymmellasant i ddwyn ei groes ef. A hwy a ddaethant i le a elwir Golgotha, yr hyn yw lle'r Calvaria. A hwy a roesant iddo win i 'w yfed yn gymmyscedic ac a bustl. Ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd ef yfed. Ac wedi iddynt ei groeshoe­lio ef, hwy a rannasant ei ddillad, [Page 424]gan fwrw coelbren: fel y cyflaw­nid yr hyn a ddywedwyd trwy'r Pro­phwyd, gan ddywedyd: Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fyngwisc y bwriasant goelbren. A chan eistedd hwy a'i gwiliasant ef. A gosodasant uwch ei ben ef ei ach­os ef yn scrisennedic. HWN YW IESU BRENIN YR IUDDEW­ON. Yna y croeshoeliwyd gydag ef ddau leidr, vn ar y llaw ddehau, ac vnar yr asswy. A' rhai oeddent yn myned heibio a'i cablasant ef gan ysgwyd eu pennau, a dywedyd: Vah ti yr hwn a ddinistri Teml Dduw, ac a'i hailadeiladu mewn tri­diau: gwared dyhunan: os Mab Duw wyt, disgyn oddiar y groes. Yn yr vn modd hefyd yr Arch-Off­eiriaid gan watwor gyda'r Scrifen­nyddion a'r Henuriaid a ddyweda­sant: Ef a waredodd eraill, eihu­nan nis gall ef ei waredu: os bre­nin Israel yw, disgynned yrwön oddiar y groes, ac ni a gredwn iddo: ymddiriedodd yn Nuw: gwareded [Page 425]yrwōn, os mynn, ef: canys fe a ddywedodd Mab Duw ydwyf. A'r vn peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gydag ef. Ac o'r chweched awr y bu ty­wyllwch ar yr holl ddaear, hyd y nawfed awr. Ac ynghylch y naw­fed awr y llefodd yr Iesu a llef mawr, gan ddywedyd: Eli, Eli lamma Sabacthani? hynny yw: Fy Nuw, fy Nuw, pa ham a'm gadawaist? A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, ac yn clywed, a ddywedasant: Mae hwn yn galw Elias. Ac yn y fan vn o honynt gan redeg wedi cymme­ryd yspwng a'i llanwodd o finegr, ac a'i gosododd ar gorsen, ac a'i rhoddodd iddo i yfed, A'r llaill a ddywedasant: Paid edrychwn a ddaw Elias i'w waredu ef. A'r Je­su gan lefain a llef mawr, a ollyng­odd allan yr yspryd. Ac wele, llen y Deml a rwygwyd yn ddwy ran o'r brig hyd i wared, a'r ddaear a gryn­nodd, a'r main a holltwyd, a'r beddau a agorwyd: a llawer o gyrph [Page 426]y Sainct a gysgasant, a gyfodasant. A chan fyned allan o'r beddau ar ol ei gyfodiad ef, a ddaethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddango­sasant i lawer. A'r Canwriad, a' rhai oedd gydag ef, yn gwilied yr Jesu, wedi gweled y ddaear-gryn, a'r pe­thau a wnaethid, a ofnasant yn fawr gan ddywedyd: Yn wir Mab Duw oedd hwn. Ac yr oedd yno lawer o wragedd o hirbell, y rhai a gan­lynasant yr Iesu o Galilæa, gan wei­ni iddo ef: Ymmysc y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Jacob a Joseph, a mam meibion Zebedaeus. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, ef a ddaeth gwr goludoc o Arimathaea, a'i enw Joseph, yr hwn yntau oedd hefyd yn ddiscybl i'r Jesu. Hwn a aeth at Pilat ac a ofynnodd gorph yr Jesu. Yna y gorchymmynnodd Pilat ioddi'r corph. Ac wedi cymmeryd y corph, Joseph a'i plygodd ef mewn Math o li [...]in main. Sinon glan, ac a'i gosododd ef yn ei fonument [Page 427]newydd eihun, yr hwn a dorrasai ef mewn craig. Ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y monument, ac a aeth ymmaith. Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a'r Fair arall, yn eistedd gyferbyn a'r Sepulchr. A thrannoeth, yr hwn sydd ar ol y Parasçeve, yr ymgynnullodd yr Arch-Offeiriaid a'r Pharisæaid at Pilat, gan ddywedyd: Arglwydd, mae yn gof gennym, ddarfod i'r twyllwr hwnnw ddywedyd ac ef et­to yn fyw: Wedi tridiau y eyfo­daf. Gorchymmyn gan hynny gad­w'r Sepulchr hyd y trydydd dydd: rhag dyfod ysgatfydd ei Ddiscybli­on, a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl: Ef a gyfododd o feirw, a bydd ar amryfusedd diweddaf yn waeth na'r cyntaf. Dywedodd Pi­lat wrthynt: Mae gennych wilia­dwriaeth, ewch, cedwch megis y gwyddoch. A hwythau gan fyned, a wnaethant y bedd yn ddiogel, gan selio y maen gyda'r gwiliadwyr.

Dioddefaint Ein Harglwydd Jesu Christ yn ol S. Marc.

YM yr amser hwnnw: Yr oedd y Pasch a'r Azymau ar ol deu­ddydd: a'r Arch-Offeiriaid, a'r Srifennyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef. Eithr dywedasant: Nid ar y dydd gwyl, rhag ysgatfydd bod cynnwrf ymmhlith y bobl. A phan oedd ef yn Bethania yn nhy Simon y gwahan-glwyfus, ac ef yn ei­stedd i fwytta: daeth merch a [Page 429]chanddi flwch-Alabastr o ennaint Spicnard gwerthfawr, ac wedi torri'r blwch-Alabastr, hi a'i tywalltodd ar ei ben ef. Eithr yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt euhunain, ac yn dywedyd: I ba beth y gwnaed y golled hon o'r ennaint? Oblegid fe allasid gwerthu yr ennaint hwn am fwy na thrychan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion. A hwy a ffrom­masant yn ei herbyn hi. Eithr yr Jesu a ddywedodd: Gedewch iddi, pam yr ydych yn ei molestu hi? Hi a wnaeth weithred dda arnaf. Canys bob amser y cewch y tlodi­on gyda chwi; a phan fynnoch, y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Yr hyn y oedd gan hon, hi a'i gwn­aeth: hi a ddaeth o'r blaen i ennei­nio fynghorph erbyn y claddedi­gaeth. Amen meddaf i chwi: Pa le bynnag y pregether yr Evangel hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd, a adroddir er coffa am­dani hi. A Judas Iscariotes vn o'r [Page 430]deuddeg, a aeth ymmaith at yr Arch-Offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt. Y rhai gan glywed a lawenasant: ac a addawsant iddo y roddent hwy arian. Ac efe a geisiodd pa fodd yn gymmwys y bradychai ef. Ac ar y dydd cyntaf o'r Azymau pan yr oeddent yn aberthu y Pasch, dy­wedodd y Discyblion wrtho: I ba le yr wyt yn mynnu i ni fyned, a pharatoi i ti fel y bwytei'r Pasch? Ac ef a ddanfonodd ddau o'i Ddis­cyblion, ac a ddywedodd wrthynt: Ewch i'r ddinas: a chyferfydd a chwi ddyn yn dwyn steneid o ddwfr, dilynwch ef: a pha le bynnac yr el i mewn, dywedwch wrth wr y ty, fod yr Athro yn dywedyd: Pa le y mae fy reffectori, lle y bwyta­wyf y Pasch gyda'm Discyblion? Ac ef a ddengys i chwi oruch-ysta­fell fawr wedi ei rhannu: ac yno pa­ratowch i ni. A'i Ddiscyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas: ac a gawsant megis y dywedasai ef iddynt, ac a baratoasant y Pasch. [Page 431]Ac wedi ei mynd hi yn hwyr, fe a ddaeth gyda'r deuddeg. A hwy­thau yn eistedd ac yn bwytta, dy­wedodd yr Jesu: Amen meddaf i chwi, mai [...] o honoch, a'm bra­dycha i, yr hwn sy'n bwytta gyda myfi. Eithr hwy a ddechreuasant dristhau, a dywedyd wrtho bob vn yn neilltuol: Ai myfi? Yr hwn a ddywedodd wrthynt: Vn o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwly­chu gyda myfi ei law yn y ddyscl. A Mab y dyn yn wir sydd yn my­ned, megis y mae yn scrifennedic am­dano ef: ond gwae i'r dyn hwnnw, trwy'r hwn y bradychir Mab y dyn: da y fuasai iddo, pe nas genesid y dyn hwnnw. A thra yr oeddent yn bwytta, cymmerodd yr Jesu fa­ra: a chan fendithio fe a dorrodd, ac a roddodd iddynt, ac a ddywe­dodd: Cymmerwch, HWN YW FYNGHORPH I. Ac wedi cymme­ryd y caregl, gan roi diolch ef a roddodd iddynt: a hwy oll a yfa­sant o hono. Ac ef a ddywedodd [Page 432]wrthynt: HWN YW FYNG­WYED I O'R TESTAMENT NEWYDD, YR HWN A DY­WALLTIR TROS LAWER. A­men yr wyf yn dywedyd wrthych, na yfaf bellach o ffrwyth hwn y win­wydden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw. Ac wedi dywedyd Hymn, hwy y aethant allan i fynydd Olivet. A dywedodd yr Jesu wrthynt: Chwi a scandalizir oll ynofi yn y nos hon: Canys mae yn scrifennedic: Tarawaf y bugail, a gwasgerir y de­faid. Eithr wedi yr adgyfodwyf, mi a af o'ch blaen chwi i Galilæa. A Phetr a dywedodd wrtho ef: Pe byddai pawb wedi eu scandalizo ynoti: etto ni byddaf fi. A dy­wedodd yr Jesu wrtho: Amen yr wyf yn dywedyd i ti, canys ty­di heddyw yn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy waith, a'm gwedi fi deirgwaith. Ond efe a ddyw­edodd yn helaethach: Pe gorfy­dai i mi farw gyda thi, ni'th wadaf [Page 433]ddim. Ac yn yr vn modd hefyd y dywedasant hwy oll. A hwy a ddaethant i dyddyn, a elwid Geth­semani. Ac ef a ddywedodd wrth ei ddiscyblion: Eisteddwch ymma tra y gweddiwyf. Ac ef a gymme­rodd Petr, a Iacob, a Ioan gydag ef: ac a ddechreuodd arswydo, a blinhau. A dywedodd wrthynt: Trist yw fy enaid i hyd angeu: ar­roswch ymma, a gwiliwch. Ac wedi iddo fyned ychydic ymmlaen, fe a svrthiodd ar y ddaear: ac a we­ddiodd, os bai possibl, ar fyned yr awr oddiwrtho: ac ef a ddywe­dodd: Abba Dad, pob pethau yd­ynt yn bossibl i ti, symmud y ca­regl hwn oddiwrthyf, eithr nid yr hyn yr ydwyfi yn ei ewyllysio, ond yr hyn yr ydwyt ti. Ac ef a ddaeth, ac a'i cafodd hwynt yn cysgu. Ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cysgu yr wyt ti? oni ellaist wilio vn awr? Gwiliwch, a gweddiwch [...]hag eich myned mewn temptatiwn. Yr Yspryd yn ddiau sydd barod, ond [Page 434]y cnawd yn wann. A chan fyned ymmaith drachefn fe a weddiodd, gan ddywedyd yr vn ymadrodd. Ac wedi dychwelyd, ef a'i cafodd hwynt drachefn yn cysgu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau) ac ni wyddent beth a at­tebent iddo. Ac ef a ddaeth y dry­dedd waith, ac a ddywedodd wrthynt: Cysgwch weithiau, a gorphwyswch. Digon yw: daeth yr awr: wele Mab y dyn a draddo­dir i ddwylo pechaduriaid. Cyfo­dwch, awn: wele yr hwn a'm bra­dycha, sydd yn agos. Ac, fel yr oedd ef etto yn llafaru, daeth Ju­das Iscariotes vn o'r deuddeg, a-chy­dag ef tyrfa fawr a chleddyfau ac a ffynn, oddiwrth yr Arch-Offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid. A'i fradychwr ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd: Pwy­bynnac a gusanwyf, hwnnw yw, deliwch ef, a dygwch ymmaith yn ochelgar. A phan ddaeth, yn e­brwydd gan fyned atto, fe a ddy­wedodd: [Page 435]Hanffych well Rabbi: ac a'i cusanodd ef. Eithr hwy a roesant ddwylo arno, ac a'i dalia­sant ef. A rhyw vn o'r sawl oedd yn sefyll gerllaw gan dynnu ei gle­ddyf a darawodd was yr Arch-Offei­riad: ac a dorrodd ymmaith ei glust ef. A'r Jesu gan atteb, a ddywe­dodd wrthynt: Ai megis at leidr y daethoch allan a chleddyfau ac a ffynn i'm dala i? yr oeddwn beun­ydd gyda chwi yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni'm daliasoch fi. Ond fel y cyflawnid y Scrythyrau. Yna ei Ddiscyblion gan ei adael ef, a ffoasant oll. A rhyw wr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef wedi ei wisgo a Sindon, ar y noeth: a hwy a'i dalia­sant ef. Eithr ef wedi taflu ymmaith y Sindon, yn noeth a ddiengodd o ddiwrthynt. A hwy a ddygasant yr Jesu at yr Arch-Offeiriad; a'r holl Offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid a ddaethant ynghyd. A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd i mewn ynghynteddlys yr [Page 436]Arch Offeiriad: ac yr oedd ef yn eistedd gyda'r gwasanaethwyr with y tan, yn ymdwymno eihun. A'r Arch-Offeiriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant destiolaeth yn erbyn yr Jesu, fel y roddent ef i farwolaeth, ac ni chawsant. Canys llawer a ddywedasant gau destiolaeth yn ei eibyn ef: ac nid cysson oedd y te­stiolaethau. A rhai gan gyfodi a ddy­gasant gau destiolaeth yn ei erbyn ef gan ddywedyd. Oblegid ni a'i clyw­som ef yn dywedyd: Mi a ddattodaf y Deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr ailadeiladaf vn arall heb fod o waith dwylo. Ac nid oedd eu testiolaeth hwynt yn gysson. A'r Arch Offeiriad gan gyfodi yn y ca­nol, a ofynnodd i'r Jesu, gan ddy­wedyd: Oni attebi di ddim i'r pethau, y rhai yr ydys yn eu bwrw yn dy erbyn gan y rhain? Eithr ef a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr Arch-Offeiriad a ofyn­nodd iddo, ac a ddywedodd wrtho: Ai tydi yw Christ Mab y Duw [Page 437]bendigedic? A'r Jesu a ddywedodd wrtho: Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dyn yn eistedd ar dde­heulaw gallu Duw, ac yn dyfod gy­da chymmylau y nef. A'r Arch-Offeiriad gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd: Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi a glywsoch gabledd: beth a dybygwch chwi? Y rhai oll a'i condemnasant ef ei fod yn euog o farwolaeth. A dechreu­odd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i guro ef a chernodiau, a dywedyd wrtho: Prophwyda: a'r gweinidogion a'i curasant ef a bon­clustiau. A phan yr oedd Petr yn y Cynteddlys i wared, daeth vn o forwynion yr Arch-Offeiriad. A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno eihun, gan edrych arno, hi a ddy­wedodd. A thithau oeddit gyda'r Jesu o Nazareth. Eithr ef a wa­dodd, gan ddywedyd: Nid ad­waeni, ac nis gwn i beth wyt yn ei ddywedyd. Ac ef a aeth allan o flaen y cynteddlys, a'r ceiliog a [Page 438]ganodd. A thrachefn pan welodd morwyn ef, hi a ddechreuodd ddy­wedyd wrth y rhai yn sefyll o am­gylch: Canys mae hwn o honynt hwy. Eithr ef a wadodd drachefn. Ac wedi ychydic drachefn y rhai oedd yn sefyll gerllaw, a ddyweda­sant wrth Petr: Yn wir yr wyt ti o honynt hwy: canys Galilæad wyt. Eithr ef a ddechreuodd regu, a thyngu: Canys nid adwaen i y dyn ymma, yr hwn yr ydych yn ei ddywedyd. Ac yn y man y ceiliog a ganodd drachefn. A Phetr a go­fiodd y gair, a ddywedasai'r Jesu wrtho: Cyn canu o'r ceiliog ddwy­waith, ti a'm gwedi deirgwaith. Ac ef a ddechrenodd wylo. Ac yn y man y boreu yr Arch-Offeiri­aid gan ymgynghori, gyda'r Henu­riaid, a'r Scrifennyddion, a'r holl gyngor, gan rwymo'r Jesu a'i dy­gasant ef ymmaith, ac a'i traddo­dasant at Pilat. A gofynnodd Pilat iddo: Ai ti yw Brenin yr Juddewon? Eithr ef gan atteb, a ddywedodd [Page 463]wrtho: Yr wyt ti yn dywedyd. A'r Arch-Offeiriaid a'i cyhuddasant ef mewn llawer o bethau. A Phi­lat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd: Oni attebi di ddim? e­drych ymmha faint bethau y mae'n hwy yn dy gyhuddo di. Ond yr Jesu nid attebodd ddim mwy. Ac ar y dydd gwyl yr oedd ef yn arfer gollwng yn rhydd iddynt vn o'r carcharorion, pa vn bynnag a ofyn­nent. Ac yr oedd vn a elwid Ba­rabbas, yr hwn gyda'r terfysg-wyr oedd yn rhwym, yr hwn mewn terfysg a wnaethai lofruddiaeth. A phan ddaeth y dyrfa i fynu, hwy a ddechreuasant ddeisyf, megis y gw­naethai bob amser iddynt. A Phi­lat a attebodd iddynt, ac a ddywe­dodd: A fynnwch chwi i mi oll­wng yn rhydd i chwi Frenin yr Ju­ddewon? Canys fe a wyddai mae trwy genfigen y traddodasent ef yr Arch-Offeiriaid. Eithr yr Arch-Offeiriaid a gynhyrfasant y bobl, fel y gollyngai ef yn hyttrach Barabbas [Page 440]yn rhydd iddynt. A Philat gan atteb drachefn, a ddywedodd wrth­ynt: Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i Frenin yr Judde­won? Eithr hwy drachefn a lefa­sant: Croeshoelia ef. A Philat a ddywedodd wrthynt: Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Eithr hwy a lefasant yn fwy: Croeshoelia ef. A Philat yn ewyllysio bodloni y bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas, ac a draddododd yr Jesu wedi ei▪fflangellu, i'w groeshoelio. A'r milwyr a'i dygasant ef i gyn­tedd ys y Palas, a hwy a alwasant ynghyd yr holl fyddin, ac a'i gwis­gasant ef a phorphor, a chan blethu coron o ddrain hwy a'i dodasant am ei ben ef. Ac a ddechreuasanr ei gyfarch ef: Hanffych well Brenin yr Iuddewon. A hwy a gurasant ei ben ef a chorsen: ac a boerasant ar­no, a chan benlino, hwy a'i addo­lasant ef. Ac wedi iddynt ei wat­wor ef, hwy a'i diosgasant ef o'r por­phor, ac a'i gwisgasant a'i ddillad ei­hun: [Page 441]ac a'i dygasant allan i'w groe­shoelio. A hwy a gymmellasant vn yn myned heibio, Simon o Cy­rene, yn dyfod o'r wlad, tad A­lexander a Rufus, i ddwyn ei groes ef. A hwy a'i arweinasant i'r lle Golgotha: yr hyn wedi ei gyfiei­thu yw Ile y Calvaria. A hwy a roesant iddo i'w yfed win myrhllyd: ac ni's cymmerodd ef. A chan ei groeshoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren ar­nynt, pwy pa beth a godai. Ac yr oedd hi y drydedd awr: a hwy a'i croeshoeliasant ef. Ac yr oedd titill ei achos ef wedi ei scrifennu uwch­ben: BRENIN YR IVDDE­WON. A hwy a groeshoeliasant ddau leidr gydag ef: vn ar ei law ddehau, a'r llall ar ei law asswy ef. A'r Scrythur a gyflawnwyd, yr hon sy'n dywedyd: Ac ef a gyfrifwyd gyda' rhai anwir. A'r rhai yn my­ned heibio a'i cablasant ef, gan ys­gwyd eu pennau, a dywedyd: Vab, yr hwn wyt yn dinistrio Teml [Page 442]Dduw, ac mewn tridiau yn ei hail­adeiladu: gwared dyhun gan ddis­gyn oddiar y Groes. Yn vr vn modd yr Arch-Offeiriaid hefyd gan watwar a ddywedasant wrth eu gil­ydd gyda'r Scrifennyddion: Eraill a waredodd, eihun ni's gall ei wa­red. Disgynned Christ Brenin Is­rael yrwön oddiar y Groes, fel y gwelom, ac y credom. A' rhai a groeshoeliasid gydag ef, a'i difen­wasant ef. Ac wedi dyfod y chwe­ched awr, twyllwch a wnaed ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Jesu a llef mawr, gan ddywedyd Eloi, Eloi, lamma Sabacthani? yr hyn wedi ei gyfieithu yw: Fy Nuw, fy Nuw, paham a'm gadewaist? A rhai o'r sawl yn fefyll o amgylch gan glywed a ddywedasant: Wele mae ef yn galw Elias. Ac vn gan redeg, ac yn llenwi yspwng a vinegr, ac yn ei ddodi amben corsen a'i diododd ef, gan ddywedyd: Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef [Page 443]i lawr. A'r Jesu gan lefain a llef mawr, a ymadawodd a'r yspryd. A llen y Deml a rwygodd yn ddwy, oddifynu hyd i waered. A'r Can­wriad yr hwn oedd yn sefyll gyfer­byn ac ef gan weled, ddarfod iddo yn llefain felly ymadaw a'r yspryd, a ddywedodd: Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn. Ac yr oedd gwragedd hefyd yn edrych o hirbell: ymmysc y rhai yr oedd Mair Mag­dalen, a Mair mam Iacob y llai a Joseph, a Salome, a phan oedd yn Galiaea, yr oeddent hwy yn ei ddilyn ef, ac yn gwasanaethu iddo a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gydag ef i fynu i Jerusa­lem. A phan oedd hi weithiau yr hwyr (oblegid mae'r Parasçceve oedd hi, yr hyn yw noswyl y Sab­bath) fe ddaeth Joseph o Arima thae a Seneddwr pendefigaidd, yr hw [...] yntau oedd yn disgwyl teyrna Dduw, ac a aeth yn hy i mewn a Pilat, ac a ddeisyfodd gorph yr Je­su. Eithr yr oedd Pilat yn rhyfedd [Page 444]o buasai ef farw eisoes. Ac wedi iddo alw y Canwriad atto, ef a ofynnodd iddo y oedd ef wedi marw eisoes. A phan wybu gan y Can­wriad, fe a roddodd y corph i Jo­seph. A Joseph wedi prynnu Sin­don, a'i dynnu ef i lawr, a'i do­dodd ef mewn Monument a nadda­sid o'r graig, ac a dreiglodd faen ar ddrws y Monument. A Mair Mag­dalen, a Mair Joseph oeddent yn edrych pa le y dodid ef.

Dioddefaint Ein Harglwydd Jesu Christ yn ol S. Luc.

YN yr amser hwnnw: Ness­aodd dydd gwyl yr Azymau, yr hwn a elwir y Pasch: a'r Arch-Offeiriaid, a'r Scrifennyddion a gei­siasant pa fodd y lladdent yr Jesu: eithr yr oeddent yn ofni y bobl. A Satan a aeth i mewn i Judas, yr hwn a gyfenwid Iscariotes, vn o'r deuddeg. Ac ef a aeth ymmaith, ac a siaradodd a'r Arch-Offeiriaid, a'r Penswyddogion pa fodd y brady­chai efe ef iddynt. Ac yr oedd yn llawen ganthynt a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo. Ac ef a adda­wodd. [Page 446]Ac yr oedd yn ceisio amser cyfaddas iw fradychu ef iddynt yn absen y tyrfau. A daeth dydd yr Azyman, ar yr hwn yr oedd yn rhaid lladd y Pasch. Ac ef a ddanfonodd Petr a Joan, gan ddywedyd: gan fyned paratowch i ni'r Paich, fel y bwyttaom. Eithr hwy a ddyweda­sant: Pa le y mynni baratoi o honom? Ac ef a ddywedodd wr­thynt: Wele a chwi yn myned i mewn i'r ddinas, cyferfydd o ddwfr: canlynwch ef i'r ty, i'r hwn yr â i mewn, a dywedwch with wr y ty: Mae'r Meistr yn dywedyd wrthyr: Pa le y mae'r lletty, lle y gallwyf fwytta'r Pasch gyda'm discyblion? Ac ef a ddengys i chwi Reffectori fawr wedi ei thanu, ac yno paratowch. A hwy gan fyned, a gawsant fel y dywedasai ef wrthynt, ac a bara­toasant y Pasch. A phan ddaeth yr awr, fe a eisteddodd i lawr, a'r deu­ddeg Apostolion gydag ef. Ac ef a ddywedodd wrthynt: Ag ewy­llyschwant [Page 447]a chwennychais fwy­tta'r Pasch hwn gyda chwi cyn di­oddef o honaf. Oblegid yr wyf yn dywedyd i chwi, canys o hyn allan na's bwyttaf ef, hyd oni chy­flawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymmeryd y caregl fe a roddodd ddiolch, ac a ddywedodd: Cymmerwch, a rhennwch yn eich plith, canys yr wyf yn dywedyd i chwi nad yfaf o genhedliad y win­wydden, hyd oni ddelo teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymmeryd bara fe a ddiolchodd, ac a dorrodd, ac a roddodd iddynt, gan ddywe­dyd: HWN YW FYNGORPH YR HWN YR YDYS YN EI RODDI TROSOCH CHWI: gw­newch hyn er coffa amdanafi. Yn yr vn modd y caregl, wedi iddo swpperu, gan ddywedyd: HWN YW'R CAREGL Y TESTA­MENT NEWYDD, YR HWN A DYWALLTIR TROSOCH CHWI. Eithr wele law yr hwn sydd yn fy mradychu i, sy gyda mi [Page 448]ar y bwrdd. Ac yn wir mae Mab y dyn yn myned, yn ol yr hyn sy wedi ei ordeinio: eithr gwae i'r dyn hwnnw, trwy'r hwn y brady­chir ef. Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith euhun, pwy oedd ohonynt, yr hwn a wnai hyn­ny. A bu ymnyson yn eu plith, pwy ohonynt a dybygid ei fod yn fwy. Ac ef a ddywedodd wrthynt: Mae brenhinoedd y Cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt, a' rhai sy mewn awdurdod arnynt, a el­wir yn gymwynas-wneuthur-wyr. Ond chwychwi nid felly: eithr yr hwn sy fwy yn eich plith, bydded megis yr ieuengach: a'r hwn sydd yn flaenor, megis y gwasanaethwr. Ca­nys pa vn sy fwy, ai yr hwn sydd yn eistedd wrth y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd? Eithr yr wyfi yn eich canol, megis yr hwn sydd yn gwa­sanaethu. A chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofe­digaethau: ac yr wyf fi yn dospar­thu [Page 449]i chwi, megis y dosparthodd fy Nhad i minnau deyrnas, fel y bwyt­taoch ac yr yfoch ar fy mw [...]dd i yn fy nheyrnas: ac yr eisteddoch ar thronau yn barnu deuddegllwyth Is­rael. A'n Harglwydd a ddywedodd: Simon, Simon, wele Satan a'ch cei­siodd chwi fel y gogrynnai megis gwenith: EITHR MI A WEDDI­AIS TROSOT TI fel na fetha dy Ffydd di: tithau weithiau wedi'th troi cadarnha dy frodyr. Yr hwn a ddywedodd wrtho: Arglwydd, yr wyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar ac i angeu. Yntau a ddywe­dodd: Yr wyf yn dywedyd i ti Petr, ni chan y ceiliog heddyw, nes gwadu o honot deirgwaith, fy ad­nabod i. Ac ef a ddywedodd wr­thynt. Pan y danfonais chwi heb bwrs, a chod, ac esgidiau, y fu dim yn eisiau i chwi? Eithr hwy a ddy­wedasant: Na ddo ddim. Ef a ddywedodd ganhynny wrthynt: Ond ynawr, yr hwn sydd a phwrs gantho, cymmered: a'r vn modd [Page 450]god: a'r neb nid oes gantho, gwer­thed ei bais, a phrynned gleddyf. Oblegid yr wyf yn dywedyd i chwi, canys etto vr hyn y sydd yn scrifen­nedic. sydd raid ei gyflawni ynofi: A chyda'r anwir y cyfrifwyd ef. Canys mae'r pethau, sydd amdanaf fi, a diben iddynt. Eithr hwy a ddywedasant: Arglwydd, wele ddau gleddyfau ymma. Yntan a ddywedodd wtthynt: Digon yw. Ac wedi iddo fyned allan fe a aeth yn ol ei arfer i Fynydd-Olivet. A'i ddiscyblion hefyd a'i canlynasant ef. A phan ddaerh ef i'r man; fe a ddywedodd wrthynt: Gweddi­wch nad eloch mewn profedigaeth. Ac efe a dynnwyd oddiwrthynt cymmaint ac yw ergid carreg: ac wedi iddo fyned ar ei liniau fe a we­ddiodd, gan ddywedyd: O Dad os mynni, symmud y caregl hwn oddiwrthyf: Er hynny nid fy ew­yllys i, ond gwneler dy vn di. Ac Angel o'r nef a ymddangosodd iddo yn ei nerthu ef, Ac ef wedi syrthio [Page 451]mewn gloes, a weddiodd yn hwy. A'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed yn rhedeg i waered ar y ddae­ar. A phan gododd ef o'i weddi, a dyfod at ei ddiscyblion, fe a'i cafodd hwynt yn cysgu gan dristwch. Ac a ddywedodd wrthynt: Pam yr ydych yn cysgu? codwch, gweddi­wch rhag myned o honoch mewn profedigaeth. Ac ef etto yn llafaru, wele dyrfa: a'r hwn a elwir Judas, vn o'r deuddeg, oedd yn myned o'i blaen hwynt: ac ef a neshaodd at yr Jesu i'w gussanu ef. A'r Je­su a ddywedodd wrtho: Judas, a'i a chussan yr wyt ti yn bradychu Mab y dyn? A' rhai oedd yn ei gylch ef, yn gweled yr hyn oedd i ddyfod; a ddywedasant wrtho: A [...]glwydd, a darawn ni a chleddyf? Ac vn o honynt a darawodd! wâs yr Arch-Offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef. A'r Jesu gan at­teb, a ddywedodd: Goddefwch hyd ymma. A phan gyfyrfodd a'i glust ef, fe a'i iachaodd ef. A'r Jesu [Page 452]a ddywedodd wrth y rhai a ddae­thent atto, yr Arch-Offeiriaid, a Phenswyddogion y Deml, a'r He­nuriaid: Ai megis at leidr y dae­thoch chwi allan a chleddyfau ac a ffyn? Pan oeddwn bennydd gyda chwi yn y Deml nid ystynnasoch ddwylo arnaf: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu'r tywyllwch. A hwy gan ei ddala ef, a'i dygasant i mewn i dy vr Arch-Offeiriad: eithr Petr a ganlynodd o hirbell. Ac we­di iddynt gynneu tan ynghanol y Cynteddlys, a hwythau yn eistedd o amgylch yr oedd Petr yn eistedd yn eu canol hwynt. Yr hwn pan welodd rhyw forwyn yn eistedd wrth y tan, ac edrych o honi arno, hi a ddywedodd. A hwn oedd gydag ef. Yntau a'i gwadodd ef, gan ddy­wedyd: O ferch, nid adwaen i ef. Ac ar ol ychydic vn arall gan ei we­led ef, a ddywedodd: Tithau wyt o honynt hwy. Eithr Petr a ddy­wedodd, O ddyn nid ydwyf. Ac ar ol megis yspaid vn awr, rhyw vn [Page 453]arall a daerodd, gan ddywedyd: Yn wir yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilæad yw ef hefyd. A Phetr a ddywedodd: O ddyn nis gwn beth yr wyt yn ei ddywe­dyd. Ac yn y man ac ef etto yn llafarn canodd y ceiliog. A'n Har­glwydd wedi troi a edrychodd ar Betr. A Phetr a gofiodd ymadrodd ein Harglwydd, megis y dywedasai: Canys cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deirgwaith. A Phetr wedi myned allan a wylodd yn chwerw­dost. A'r gwyr oedd yn ei ddal ef, a'i gwatwarasant ef gan ei daro. A hwy a guddiasant ei lygaid ef, ac a darawasant ei wyneb ef: ac a ofynnasant iddo, gan ddywedyd: Prophwyda, pwy yw, yr hwn a'th tarawodd di? A llawer o bethau eraill gan gablu a ddywedasant yn ei erbyn ef. A phan aeth hi yn ddydd, Henuriaid y bobl, a'r Arch-Offeiriaid, a'r Scrifennyddion a ddaethant yng­hyd, ac a'i dygasant ef i'w cyngor hwynt, gan ddywedyd: Os tydi [Page 454]yw Christ, dywed i ni. Ac ef a ddywedodd wrthynt: Os dywe­daf i chwi, ni chredwch chwi ddim i mi: Ac os gofynnaf hefyd, nid attebwch i mi, ac ni'm gollyngwch ymmaith: Eithr yn ol hyn fe fydd Mab y dyn yn eistedd ar ddeheulaw gallu Duw. A hwy oll a ddyweda­sant: Ai Mab Duw gan hynny wyt ti? Yr hwn a ddywedodd: Yr ydych chwi yn dywedyd, fy mod. Hwythau a ddywedasant: Pa raid i ni mwyach wrth destiolaeth? Ca­nys clywsom einhunain o'i eneu ef eihun. A'r holl liaws o honynt gan gyfodi, a'i dygasant ef at Pilat. Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd: Ni a gawsom hwn yn gwyrdroi ein natiwn ni, ac yn gwa­hardd rhoi teirnged i Caesar, ac yn dywedyd mai efe yw'r brenin Christ A Philat a ofynnodd iddo, gan ddy­wedyd: Ai ti yw Brenin yr Judde­won? Yntau gan atteb a ddywe­dodd: Yr wyti yn dywedyd. A dy­wedodd Pilat wrthyr Arch Offeiri­aid, [Page 455]a'r tyrfeydd: Nid wyfi yn ca­el dim achos yn y dyn hwn. Eithr hwy y fuant daerach, gan ddywe­dyd: Mae ef yn cyffroi'r bobl, gan ddysgu trwy holl Judaea, wedi de­chreu o Galilæa hyd ymma. A Philat gan glywed son am Galilæa, a ofynnodd ai dyn Galilæad oedd ef. A phan wybu ef ei fod ef o lywo­draeth Herod, fe a'i danfonodd ef yn ol at Herod, yr hwn oedd yntau yn Jerusalem y dyddiau hynny. A Herod wedi iddo weled yr Jesu, a lawenychodd yn fawr, canys yr oedd ef er ystalm o amser yn chwennych ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer amdano ef, ac yr oedd ef yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd gantho ef. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau: eithr efe nid attebodd ddim iddo. A'r Arch-Offeiriaid, a'r Scrifenyddi­on a safasant gan ei gyhuddo ef yn wastadol. A diystyrodd Herod ef gyda'i lu: ac a'i gwatwarodd ef we­di ei wisgo a gwisg wen, ac a'i dan­fonodd [Page 456]ef drachefn at Pilat. A gwnaed Pilat a Herod yn gyfeillion ar y dythwn hwnnw: canys o'r blaen yr oeddent yn elynnion i'w gilydd. A Philat wedi galw yng­hyd yr Arch-Offeiriaid, a'r Pen­swyddogion, a'r bobl, a ddywedodd wrthynt: Chwychwi a offrymma­soch i mi y dyn hwn, fel vn yn gwyr­droi'r bobl, ac wele myfi gan ei holi ef yn eich gwydd chwi, ni che­fais ddim achos yn y dyn hwn o'r pethau, am y rhai yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef. Na Herod chwaith: canys mi a'ch danfonais chwi atto ef, ac wele dim yn hae­ddu marwolaeth nis gwnaed iddo. Amhynny wedi ei gospi ef mi a'i gollyngaf yn rhydd. Ac yr oedd yn rhaid iddo ollwng ar y dydd gwyl, vn yn rhydd. Eithr yr holl liaws ynghyd a lefasant, gan ddywedyd: Bwrw hwn ymmaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd. Yr hwn am ryw derfysg a wnelsid yn y ddinas a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i [Page 457]garchar. A thrachefn Pilat a lafa­rodd wrthynt, gan ewellysio gollwng yr Jesu yn rhydd. Eithr hwy y atlefasant, gan ddywedyd: Croes-hoelia, croes-hoelia ef. Ac ef y drydedd waith a ddywedodd wrthynt: Canys pa ddrwg a wnaeth ef? nid ydwyfi yn cael dim achos marwolaeth ynddo ef: mi a'i cos­paf ef ganhynny, ac a'i gollyngaf yn rhydd. Eithr hwy y fuont daerion a llefau vchel gan ddeisyfu ei groe­shoelio ef: a'i llefau hwynt a orfuant. A Philat a farnodd wneuthur eu deisy­fiad hwynt. Ac ef a ollyngodd iddynt yn rhydd yr hwn, y oedd wedi ei fwrw i garchar am derfysg a llofru­ddiaeth, yr hwn yr oeddent yn ei o­fyn: eithr yr Jesu a draddododd ef i'w hewyllys hwynt. A phan yr oeddent yn ei arwain ef ymmaith, hwy a ddaliasant vn Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlad: ac a ddodasant y groes arno ef i'w dwyn ar ol yr Je­su. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef li­aws mawr o bobl, ac o wragedd: [Page 458]y rhai oeddent yn cwynfan ac yn ga­laru o'i blegyd ef. A'r Jesu wedi troi attynt, a ddywedodd: Merched Jerusalem, nac wylwch o'm plegyd i, eithr wylwch o'ch plegyd eich hun, ac oblegyd eich plant: Ca­nys wele y dyddiau a ddaw, yn y rhai y dywedant: Gwyn eu byd y rhai ammhlantadwy, a'r crothau ni eppiliasant a'r bronnau ni roesant sugn. Yna y dechreuant ddywe­dyd wrth y mynyddoedd: Syrthi­wch arnom: ac wrth y brynniau: Cuddiwch ni. Canys os yn y pren i'r y gwnant y pethau hyn, yn y crin beth a wneir? Ac arweinwyd hefyd ddau eraill o ddrwg-weithred wyr gydag ef, i'w rhoi i'w marwo­laeth. Ac wedi iddynt ddyfod î [...] lle a elwir Calvaria, yno hwy a'i croeshoeliasant ef: a'r lladron, vn ar y law ddehau, a'r llall ar yr asswy A'r Jesu a ddywedodd: O Dad maddeu iddynt: canys ni wyddan [...] yr hyn y maent yn ei wneuthur. Eithr gan rannu ei ddillad ef, hwy a [Page 459]fwriasant goelbrenni. A'r bobl a sa­fodd yn edrych, a'r Pennaethiaid a'i gwatwarasant ef gyda hwynt, gan ddywedyd: Eraill a waredodd ef, gwareded ef eihun, os hwn yw Christ etholedic Duw. A'r mil­wyr hefyd a'i gwatwarasant gan ddyfod atto, a chynnyg finegr iddo, a dywedyd: Os tydi yw Brenin yr Juddewon, gwared dyhun. Ac yr oedd hefyd arscrifen wedi ei scrifen­nu uwch ei ben ef a llytherennau Groeg, a Lladin, a Hebrew: HWN YW BRENIN YR IVDDE­WON. Ac vn o'r lladron, y rhai oedd yn crogi, a'i cablodd ef, gan ddywedyd: Os tydi yw Christ, gwared dyhun, a ninnau. Eithr y llall gan atteb a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd: Nid wyt ti chwaith yn ofni Duw, gan dy fod yn yr vn ddamnedigaeth. A nyni yn wir yn gyfiawn, canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai ein gweithred­oedd: eithr hwn ni wnaeth ddim drwg. Ac ef a ddywedodd wrth yr [Page 460]Jesu: Arglwydd, cofia fi, pan ddelych i'th deyrnas. A'r Jesu a ddywedodd w [...]tho: Amen meddaf i ti: Heddyw y byddi gyda mi ym mharadwys. Ac yr oedd hi yn agos y chweched awr, a thywyll­wch y fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr. A'r haul a dywyllodd: a llen y Deml a rwygwyd yn ei cha­nol. A'r Jesu gan lefain a llef vchel a ddywedodd: O Dad, i'th ddwy­lo di yr wyf yn gorchymmyn fy yspryd. A chan ddywedyd hyn, fe a ymadawodd a'r yspryd. A'r Can­wriad gan weled yr hyn a wnaed, a ogoneddodd Dduw gan ddywedyd Yn wir yr oedd y dyn hwn yn gyf­ion. A'r holl liaws o'rhai, y oe­ddent ynghyd yn bresennol ar y gol­wg hwn, ac a welsant y pethau a wnaed, a ddychwelasant gan guro eu dwyfronnau. A'i holl gydnabo [...] a safasant o hirbell, a'r merched, y rhai a'i canlynasant ef o Galilæa yn edrych at y pethau hyn. Ac we le gwr a'i enw Joseph, yr hwn oed [Page 461]Seneddwr, gwr da a chyfion: Hwn ni chyttunasai a'i cyngor ac a'i gwei­thredodd hwynt, o Arimathaea di­nas o Judaea, yr hwn oedd yntau yn disgwyl teyrnas Dduw. Hwn a aeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Jesu: Ac wedi ei dynnu i lawr fe a'i plygodd ef mewn Sindon, ac a'i dododd mewn monument wedi na­ddu mewn carreg, yn yr hwn ni ro­ddasid dyn erioed. A dydd y Pa­rasçeve oedd hi, a'r Sabbath oedd yn nessau. A'r merched yn canlyn ar ol, y rhai a ddaethent gydag ef o Galilæa, a welsant y Monument, a pha fodd y dodwyd ei go [...]ph ef. A hwy gan ddychwelyd a baratoasant ber-aroglau, ac ennaint: Ac a or­phwysasant ar y Sabbath yn ol y gor­chymmyn.

Dioddefaint Ein Harglwydd Jesu Christ yn ol S. Ioan.

YN yr amser hwnnw: Ef a aeth yr Jesu allan ef a'i Ddiscybli­on tros y Torrent Cedron, lle y [...] oedd gardd, i'r hon yr aeth ef a' [...] ddiscyblion. Ac fe a adwaenai Judas hefyd, yr hwn a'i bradychodd ef, y lle: oblegid mynych y cyrchasai y [...] Jesu gyda'i ddiscyblion yno. Inda [...] ganhynny wedi iddo gymmery [...] byddin, a ministri gan yr Arch-Off­eiriaid a'r Pharisæaid a ddaeth yno [...] lanternau, a ffaglan, ac arfan. Y [...] [Page 463]lesu ganhynny yn gwybod pob peth y oedd ar ddyfod arno, a aeth ym­laen, ac a ddywedodd wrthynt: Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy a attebasant iddo: Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt: Myfi yw. A Iudas hefyd, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd yn sefyll gyda hwynt. Cyn gynted gan hynny ac a dywedodd ef wrthynt: Myfi yw: hwy a aethant yn nwysc eu cefnau, ac a syrthiasant ar y llawr. Dra­chefn ganhynny ef a ofynnodd iddynt: Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant: Iesu o Naza­reth. Yr Iesu a attebodd: Mi a ddywedais i chwi, mai myfi yw: os myfi ganhynny yr ydych yn ei geisio, gedwch i' rhain fyned ym­maith, Fel y cyflawnid y gair, yr hwn a ddywedasai ef: O' rhai a roddai [...] i mi, ni chollais yr vn. Si­mon Petr ganhynny a chatho gle­edy a'i tynnodd ef: ac a darawodd was yr Arch-Offeiriad: ac a dor­rodd ymmaith ei glust ddehau ef [Page 464]Ac enw y gwas oedd Malchus. Yr Iesu gan hynny a ddywedodd wrth Petr: Dod dy gleddyf yn y wain. Y caregl yr hwn a roddes fy Nhad i mi, onid yfaf ef? Y fyddin ganhyn­ny, a'r Tribun, a ministri yr Iudde­won, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef. Ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf; canys yr oedd ef yn chwegrwn Caiphas, yr hwn oedd Arch-Offeiriad y flwyddyn honno. A Caiphas oedd yr hwn a roesai gyngor i'r Iuddewon: Mai buddiol yw, farw o vn dyn tros y bobl. Ac yr oedd yn canlyn yr Ie­su Simon Petr, a discybl arall. A'r discybl hwnnw oedd yn adnabyddus gan yr Arch-Offeiriad ac ef a aeth i mewn gyda'r Iesu i gynteddlys yr Arch-Offeiriad. A Phetr oedd yn sefyll wrth y drws allan. Y discybl arall ganhynny, yr hwn oedd yn adnabyddus gan yr Arch-Offeiriad a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddygodd Petr i mewn. Ef a ddywedodd g [...]nhynny [Page 465]wrth Peter y forwyn ddrysores Onid wyt tithau o ddiscyblion y dy [...] hwn? Dywedodd yntau: Nacyd­wyf. A'r gweision a'r ministri oe­ddent yn se [...]yll wrth dân glo, o her­wydd ei bod hi yn oer, ac yn ym­dwymno euhunain: ac yr oedd Petr gyda hwynt yn sefyll, ac yn ym­dwymno eihun. Yr Arch-Offeriad ganhynny a ofynnodd i'r Iesu am ei ddiscyblion, ac am ei athrawiaeth. Yr Iesu a attebodd iddo: Myfi a laferais yn gyhoedd wrth y byd: myfi a athrawiaethais bob amser yn y Synagog, ac yn y Deml, lle mae'r holl Iuddewon yn ymgynnull, ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. Pa ham yr wyt yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai, a glywsant yr hyn a ddywe­dais wrthynt: wele hwy a wydd­ant pa bethau a ddywedais i. Ac wedi iddo ddyweyd y pethau hyn, vn o'r ministri yn sefyll ger llaw a roddodd gernod i'r Jesu, gan ddy­wedyd: Ai felly yr wyt ti yn at­teb yr Arch-Offeiriad? Yr Jesu a [Page 466]attebodd iddo: Os yn ddrwg y dy­wedais, dyro destiolaeth o'r d [...]wg: eithr os yn dda, paham yr wyt yn fynharo i? Ac Annas a'i danfo­nodd ef yn rhwym at Caiphas yr Arch-Offeiriad. A Simon Petr oedd yn sefyll, yn ymdwymno eihun. Hwy a ddywedasant ganhynny wrtho ef: Onid wyt tithau hefyd o'i Ddiscyblion ef. Yntau a wadodd, ac a ddywedodd: Nac yd wyf. Dy­wedodd wrtho vn o weision yr Arch-Offeiriad, câr i'r hwn y torrasai Petr ei glu [...]t; oni welais i di yn yr ardd gydag ef? Petr ganhynny a wa­dodd drachefn: ac yn y man canodd y ceiliog. Hwy a ddygasant ganhyn­ny yr Jesu oddiwrth Caiphas i'r Pa­las. A'r bore ydoedd hi: ac nid aethant hwy i mewn i'r Palas fel na halogid hwynt, eithr fel y gallent fwytta'r Pasch. Pilat ganhynny a aeth allan attynt, ac a ddywedodd: Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dvn hwn? Hwy a attebasant, ac a ddywedasant wr­tho: [Page 467]Oni bai fod hwn yn ddrwg wei­thredwr, ni thraddodasant ni ef i ti. Pilat ganhynny a ddywedodd wrth­ynt: Cymmerwch chwi ef, ac yn ol eich cyfraith chwi bernwch ef. Yr Juddewon ganhynny a ddyweda­sant wrtho: Nid yw cyfreithlon i ni ladd vn dyn. Fel y cyflawnid gair yr Jesu, yr hwn a ddywedasai ef, gan arwyddoccau o ba angen y byddai ef farw. Pilat ganhynny a aeth drachefn i mewn i'r Palas ac a alwodd yr Jesu, ac a ddyw dodd wrtho: Ai ti yw Brenin y Judde­won? Yr Jesu a attebodd: Ai o honot dyhun yt wyt yn dywedyd hyn, Ai eraill, a ddywedasant i ti amdana fit? Pilat attebodd: Ai Juddew ydwyfi? Dy genedl dyhun, a'r Arch-Offeiriaid, a'th draddoda­sant di i mi: beth a wnaethost ti? Yr Jesu a attebodd: Fy mrenhi­niaeth i nid yw o'r byd hwn. Pe bai fy mrenhiniaeth i o'r byd hwn, fyngweision ynddiau a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Juddewon: [Page 468]eithr yrwôn nid yw fy mrenhiniaeth i oddiymma. Pilat ganhynny a ddy­wedodd wrtho: Ai Brenin wrthyn­ny wyt ti? Yr Jesu a attebodd: Yr ydwyt ti yn dywedyd mai Bre­nin wyf fi. Myfi a anywd er mwyn hyn, ac er mwyn hyn y daethym i'r byd, fel y rhoddwn destiolaeth i'r gwirionedd: pob vn a'r sydd o'r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. Pilat a ddywedodd wrtho: Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ef a aeth allan drachefn at yr Juddewon, ac a ddywedodd wrthynt: Nid wyf i yn cael dim achos ynddo ef. Eithr mae gennych chwi arfer, i mi ollwng i chwi vn yn rhydd ar y Pasch: a fynnwch chwi ganhynny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Juddewon? Hwy oll ganhynny a lefasant drachefn, gan ddywedyd: Nid hwnnw, ond Barabbas. A llei­dr oedd Barabbas. Yna ganhynny y cymmerodd Pilat yr Jesu, ac a'i fflangelodd ef. A'r mylwyr gan [Page 469]blethu coron oddrain a'i gosodasant ar ei ben ef: ac a roesant wisg o borphor amdano. Ac a ddaethant atto, ac a ddywedasant: Hanffych well Brenin yr Juddewon: ac a roe­sant iddo gernodiau. Pilat ganhyn­ny a aeth allan drachefn, ac a ddy­wedodd wrthynt: Wele yr wyfi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwyppoch nad wyfi yn cael dim a­chos ynddo. (Yr Jesu ganhynny a aeth allan yn dwyn y goron ddrain a'r wisg borphor.) A dywedodd wrthynt: Wele y dyn. Pan welsant ef gan ganhynny yr Arch-Offeiriaid, a'r ministri, hwy a lefas­ant, gan ddywedyd: Croeshoelia, Croeshoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt: Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch: canys nid wyfi yn cael dim achos ynddo. Yr Judde­won a attebasant iddo: Mae gen­nym ni gyfraith, ac yn ol y gyfraith fe a ddylai farw, am iddo wneuthur eihun yn Fab Duw. Pan glybu gan­hynny [Page 470]Pilat yr ymmadrodd hwn, fe a ofnodd yn fwy. Ac a aeth i mewn i'r Palas drachefn, ac a ddywedodd wrth yr Jesu: O ba le yr wyt ti? Ond yr Jesu ni roddodd ddim atteb iddo. Pilat ganhynny a ddywedodd wrtho: Oni ddywedi di withyf i? oni wyddost di fod gennyf i awdu [...] ­dod i'th groeshoelio di, a bod gen­nyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd? Yr Jesu a attebodd: Ni byddai i ti ddim awdurdod yn fy erbyn i, oni bai ei fod wedi ei roddi i ti oddiuchod. Amhynny yr hwn a'm traddododd i ti sydd fwy ei bechod. Ac o hynny allan y ceisiodd Pilat ei olwng ef yn rhydd. Eithr yr Juddewon a lefa­sant gan ddywedyd: Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyti yn ffrind i Cæsar. Canys pob vn a'r wnelo ei­hun yn frenin, sydd yn dywedyd yn erbyn Cæsar. Ond pan glybu Pilat y geiriau hyn, a fe ddygodd allan yr Jesu: ac a eisteddodd ar y Tribu­nal yn y lle a elwir Lithostrotos, ac yn Hebrew Gabbatha. A Para­sçeve [Page 471]y Pasc oedd hi, ynghylch y chweched awr, ac ef a ddywedodd wrth y. Juddewon: Wele eich Brenin. Eithr hwy a lefasant: Ym­maith ac ef, ymmaith ac ef, croes­hoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt: A groeshoeliaf i eich Bre­nin chwi? Yr Arch Offeiriaid a at­tebasant. Nid oes gennym ni frenin ond Caesar. Yna ganhynny fe a'i traddododd ef iddynt i'w groeshoe­lio. A hwy a gymmerasant yr Jesu ac a'i dygasant ef allan. Ac ef gan ddwyn ei groes a aeth allan i'r lle a elwit Calvaria, ac yn Hebrew Gol­gotha lle y croeshoeliasant ef, a dau eraill gydag ef, vn o bob tu. a'r Ie­su yn y canol. A Philat hefyd a scrifennodd ditul; ac a'i dododd ar y groes. Ac yr oedd yn scrifen­nedic: IESV O NAZARETH BRENIN YR IVDDEWON. Y titul hwn ganhynny a ddarllennodd llawer o'r Iuddewon: oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croe­shoeliwyd yr lesu. Ac yr oedd we­di [Page 472]ei scrifennu yn Hebrew, Groeg, a Lladin. Arch-Offeiriaid yr Iudde­won ganhynny a ddywedasant with Pilat: Na scrifenna, Brenin yr Iu­ddewon: eithr ddarfod iddo ef ddywedyd: Brenin yr Iuddewon ydwyfi. Pilat a attebodd, yr hyn a scrifennais, a scrifennais. Y milwyr ganhynny wedi iddynt ei groeshoe­lio ef, a gymmerasant ei ddillad ef, (ac a wnaethant bedair rhann: i bob milwr vn) a'i bais. Ac yr oedd ei bais ef yn ddiwnîad, wedi ei gwau o'r cwr uchaf trwyddi oll. Hwy a ddywedasant ganhynny wrth eu gilydd: Na thorrwn hi, ond bwrriwn goelbrenni amdani eiddo pwy y fydd hi. Fel y cyflawnid y Scrythur, yn dywedyd: Rhanna­sant fy nillad yn eu mysc; ac ar fyn­gwisg y bwriasant goelbren. A'r milwyr a wnaethant y pethau hyn. Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu ei Fam ef, a chwaer ei Fam ef Mair Cleophas, a Mair Magdalen. Pan welodd ganhynny yr Iesu ei [Page 473]Fam, a'r Discybl yn sefyll, yr hwn a garai ef, fe a ddywedodd wrth ei Fam: O wraig wele dy fab. Wedi hynny fe a ddywedodd wrth y Dis­cybl: Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan y cymmerodd y Discy­bl hi i 'w eiddo eihun. Ar ol hynny yr Iesu yn gwybod fod pob pethau wedi eu gorphen, fel y gorphennid y Scrythur, a ddywedodd: Mae syched arnaf. Llestr ganhynny oedd wedi ei osod yn llawn o finegr. A hwy gan osod yspwng yn llawno fi­negr o amgylch hyssop, a'i offrym­masant wrth ei enau ef. Pan gym­merodd ganhynny yr Iesu y finegr, ef a ddywedodd: Gorphennwyd. A chan ogwyddo ei ben, fe a rodd­odd i fynu yr yspryd. Yr Judde­won ganhynny, (oblegid mae'r Parasçeve oedd hi) fel nad arhosai y cyrph ar y groes ar y Sabbath, (canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw) a ddymunasant ar Pilat ga­el torri eu hesceiriau hwynt, a'i tynnu i lawr. Y milwyr ganhynny [Page 474]a ddaethant; ac a dorrasant esceiriau y cyntaf, a'r llall, yr hwn a groe­shoeliafid gydag ef. Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Jesu, pan wel­sant ef wedi marw eisoes, ni thorra­sant ei esceiriau ef: ond vn o'r mil­wyr a agorodd ei ystlys ef a gwayw­ffon, ac yn y man y daeth allan waed a dwfr. A'r hwn a'i gwelodd, a destiolaethodd: a gwir yw ei de­stiolaeth ef. Ac mae ef yn gwybod, ei fod yn dywedyd gwir: fel y cre­doch chwithau. Canys y pethau hyn a wnaed, fel y cyflawnid y Scrythur: Ni chewch-i dorri as­gwrn o hono. A thrachefn mae Scrythur arall yn dywedyd: Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant. Ac ar ol hynny a deisyfodd ar Pilat Joseph o Arimathaea (o ran ei fod ef yn Ddiscybl i'r Jesn, eithr yn guddiedic rhag ofn yr J [...]ddewon) gael dwyn ymmaith gorph yr Jesu. A Philat a ganiadodd iddo. Ef a ddaeth ganhynny, ac a dd [...]godd ymmaith gorph yr Jesu. A dae [...]h [Page 475]Nicodemus hefyd, yr hwn ar y cyn­taf a ddaethai at yr Jesu o hyd nos, gan ddwyn cymmysgiad o aloes a myrrh. o amgylch canpwys. Hwy a gymmerasant ganhynny gorph yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn lliei­niau gydag aroglau, fel y mae arfer i'r Iuddewon ar gladdu. Ac yn y fangre lle y croeshoeliwyd ef, yr oedd gardd: a Monument newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddod asid dyn erioed. Yno ganhynny o her­wydd Parasçeve yr Iuddewon, am fod y Monument yn agos, hwy a ddodasant yr IESU.

Testament neu Lythyr-Cym­myn yr Enaid i'w wneuthur beunydd gan bob Christion devo­tionol.

‘In nomine Domini Amen.’

YR wyf fi yn gorchymmyn fy e­naid i Dduw, a'm co [...]ph i'r Ddaear, i Bydrni ac i'r Pryfed.

Yr wyf fi yn gwrthod o'm gwir fodd ac yn gadael pob daoedd am­serol, y rhai nid ydynt ddim arall ond pur wagedd.

Mae'n edifar gennyf o waelod fynghalon am fy mhechodau, a hyn­ny, o dra cariad at Dduw.

Ya wyf fi yn maddeu o waelod fynghalon i'm holl Elynnion.

Yr wyf fi yn credu yn Nuw, Vn mewn Hanfod: a thri mewn Per­sonnau, [Page 477]y Tad, y Mab a'r Yspryd Glan: ein Creawdwr, ein Ceidwad, ein Rhybrynnwr: Hollalluog, Holl­ddaionus, Holl-hael, Holl ddoeth: a darfod i'r ail Berson, yr hwn yw Mab Duw, wneuthur eihun yn ddyn, a marw ar y Groes i'm gwared fi, a phob pethau eraill y mae'r Eglwys Lan, Gatholic, Apostolic, Rufei­naidd yn eu gosod o'm blaen i i'w credu.

Yr wyf fi yn gobeithio o druga­redd Dduw, trwy ryglyddiannau fy Iachawdwr daionus Iesu Christ, cael maddeuant o'm holl bechodau, a bywyd tragywyddol.

Yr wyf fi yn caru Duw, er ei fwyn ef eihun yn vnic a'm holl galon, a'm holl enaid, ac a'm holl nerth.

Yr wyf fi yn cwbl-ymroi fyhun yn lan, yn hollawl ac yn gyflawn i drefnid ei Ewyllys addoladwy ef; gan fod yn barod i Wneuthur a Di­oddef, i fod mewn clefyd a iechyd, i fyw a marw, ar yr amser, ac yn y modd y mynno ef. Bid ei ewyllys [Page 478]bendigedic ef. Amen, Amen.

Yr wyf fi yn gorchymmyn fy e­naid, a'r cwbl ac sydd ohonof i gyfrwng Mair forwyn ogoneddus, sy Mam ddaionus i a'm Canllaw: ac i gyfrwng Sanct Joseph, ac i gyfrwng fy Angel Ceidwad, a holl Sainct y Nef, gan ddymuno arnynt yn o­styngeiddlon sy helpu i ar awr fy angeu.

Yn eiriau diweddaf i mi, a go­styngeiddrwydd cyflawn gyd'ag edi­feirwch calon, yr wyf fi yn llafaru Iesus, Maria, gan ddymuno marw yn eu breichiau bendigedic hwynt. A phan nas gallo fy nhafod lafaru yr Enwau sancteiddlawn hyn, yr wyf fi yn dymuno gwneuthur hynny a'm calon.

Os fy synwyr a'm calon a fethant y pryd hynny, yr wyf fi yn eu lla­faru hwynt ynawr tros y pryd hynny, a holl serch possibl a gostyng­eiddrwydd calon. IESUS, MARIA.

FINIS.

Cynnhwysiad y Llyfr.

  • Y Calender. Page.
  • Yr Athrawiaeth Gristianogol Page 1
  • Gweddiau Boreuol Page 18
  • Gweddiau y Nos Page 39
  • Am Sacrament Penyd Page 53
  • Taflan o Bechodau marwol Page 81
  • Maint Pechod Marwol Page 105
  • Dull o Gyffes Page 164
  • Pechodau digwyddol i'r rhai Cyfion Page 169
  • Gweddiau o flaen ac arol Cyffes Page 172
  • Cynghorion am Recefio Page 179
  • Gweddiau o flaen ac arol Cymmuno Page 183
  • Rhybydd am yr Offeren Page 193
  • Gweddiau o flaen yr Offeren Page 210
  • Gweddiau ar yr Offeren Page 218
  • Gweddiau tros y Cleifion Page 267
  • Gweddiau tros y Meirw ffyddlon Page 283
  • [Page]Y Miserere Pag. 286
  • Litaniau y Sainct Pag. 288
  • Gweddiau am gyfrwng Mair fend. Pag. 303
  • Gweddiau ar y Suliau trwy'r flwyddyn Pag. 323
  • Gweddiau ar Ddyddiau-gwyl y Sainct trwy'r flwyddyn Pag. 350
  • Gweddiau Cyffredinol am gyfrwng y Sainct Pag. 374
  • Myfyrdodau ar Ddioddefaint Iesu Christ Pag. 398
  • Evangelau Pag. 404
  • Y. Dioddefaint ynol S. Matthew Pag. 409
  • Y Dioddefains ynol S. Marc Pag. 428
  • Y Dioddefaint ynol S. Luc Pag. 445
  • Y Dioddefaint ynol S. Joan Pag. 462
  • Testament yr Enaid Pag. 475
FINIS.

ER maint y fu gofal a dyfalwch y Golygwr astud yn ceisio diwy­gio y beiau aneirif yr oedd y Printiwr dieithr yn eu gwneuthur (o [...]an ei anwybodaeth o'r Jaith) ym­mhob dalen o'r gwaith ymma; etto [...]e a ddiengodd llawer ohonynt ei [...]lwg ef. Amhynny yr wyf yn dy­ [...]uno arnat, y Cymto Mwynlan, [...]yn arfer y Llyfr gan gymmeryd pin [...]c inc emendio, o'r hyn lleiaf, y [...]hai ymma yn canlyn.

ERRATA.

PAgin 3. Lîn 1. Ymdddwyn darllain. Ymddwyn. p. 4. l. 3. cyntaf darll. cyn­af. p. 8. l. 16. iude darll. inde. p. 9.6. yn ddaear darll. yn y ddaear. p. 12.15. saul darll. sawl. Ibid. 17. Diodef [...]arll. Dioddef. p. 15. l. 14. anguenrhei­diol. [Page]p. 17. l. [...]. G [...]eithredeedd darllai [...] gweithredoedd. p. 19. l. [...]3. enaid darl [...] henaid. p. 21. l. 9. hi darll. ef. ide [...] l. 20 p. 22. l. 1. gwiseo darll. gwisco. p 23. l. 11. rh [...]rwedd darll. rh [...]nwedd. [...] 10. ymddi darll. hymdd ffynno. p. 25. [...] 9. [...]huddhau darll. rhyddhau. p. 28. l. [...] o [...]chm darll. orchymmynion. p. 30. l [...] 13. enaid darll. henaid. p. 31. l. 2. d darll. di. ibid. 17. ngwaig darll. ngwraig p. 34. l. 6. marwoaeth darll. marwolaeth p. 38. l. 3. ysgeini darll. hysgeini. p 47. l. 13. amed darll. amen. p. 48. l. 1 weluy darll. wely. p. 49. l. 3. uc ac darll ac y. ib. 7. adeudydd darll. adeunydd. ib 14. attoti darll. attat ti. p. 51. l. 11. dy wedd darll. dyweded. p 57. l. 25. yspss d [...]yspyssu. p. 59. l. anguen [...]h d. angenrh p. 6. l. 18. drawsymafer d. drawsymarfer p. 61. l. 8. ddarfonod d. ddanfonodd. p 63. l. 25 s [...]ynwy d. swynwyr. p. 65. l. 9 wybo ol d wybodol. p. 66. l. 11. ynew [...] d. ynawr. ib. r. mwedd d. rinwedd. p. 68. l. 18. madduant d. maddeuant. p. 69. l. 14. a wael d. o wael. p. 70. l. 14. oddiwruth d. oddiwrth p. 72. l. 2. gyffellu d. gyffessu. ib. 18. oc d. ac. p 77. l. 4. bod d bob. p. 83. l. 12. dwwiol d. duwiol. p. 86. l. 8. Orchym d. Gorchymmyn. p. 87. l. 13. bwryas d. bwrpas. p. 93. l. 5. weddylia [...]. d. meddyliau. ib. 10. dymnodd d. dymunodd ib. 12. gymmel d. gymell. p. 98. l. 2. y ob [Page] [...]. pob. p. 103 l. 5, mawr d. fawr. p. 105 [...] 10. wir fod d. wir fodd. p. 108. l, 5. ped­ [...]od d. pechod. p. 110. l. 23. diodef d dio­ [...]def. p. 111 l. 4. clefefydon d. clefydon. p. 13 l. 6 rheswn d. rheswm. p. 114 l. 17 [...]aon d Farn. p. 115 l. 21 professu d. pro­f [...]ssa. p. 11. l. 25 Anffyddloniaiaid d. An­fyddloniaid. p. 119 l. 15 eihan d. e [...]chun, b. 2. fiynny d. hynny. p. 1. 6 l. 19 dilea [...]n. p. 1 [...]9 l. 12 addroddion d. adroddi­on. p. 130 l. 23 yn d. yn y. p. 134 l. 15 [...] d. ac. p. 135 l. 14 d. Christianogion. ib. 21 gyforwydde d. gyfarwyddo. p. 137 l. [...] annuywiold d. annuw [...]old. p. 138 l 12 [...]od d. bob. p. 139 l. 14 adrodiad d. adro­ddiad. p. 140 l. 1 gobethio d. gobeithio. [...]b. 23 bod d bob. p. 141 l. 6 glowg d. golwg. ib. 6 Celwydau d. Celwyddau. ib. [...]o da [...]fu d, ddarfu. p. 143 l. 9 Cad. d. Cadwedigaeth p 145 l. 20 Dduw d. Duw. p. 4 [...] l, 9 ymp [...]yddio d. ymp ydio. p. 149 l. [...]3 tuag blant d tuag at blant. ib. 5 rydd-ddid d. rydd. did. ib. [...]9 wasana [...]hu d. wasanaethu. ib. 25 lawr d. lawer. p. [...]50 l. 11 dippio d. gippio. ib. 23 dywed­wick d. dywedwch. p. 152 l. 26 Agusstin d Augustin. p. 156 l. 22 fodlod d, fodlod. ib. 26 er hen d. yr hen. p. 157 l. 26 flwddyn d. flwyddyn. p. 160 l. 25 edife.— [...]wch d. edifeirwch p. 163 l. 6 llyr d. llwyr. ib. 12 dele yn p. 164 l, 8 dele neu. p. 165 l. 17 mod d. n [...]odd. p. 169 l. 4 Peco­dau [Page] d, Pechodau. p. 172 l. 14 dyhuun d. dyhrn. p. 184 l. 14 gobeinthio d. g [...]bei­thio. p. 189 l. 13 bod d. bob. p. 9. l. 17 hibara d. hirbara. p. 192 l. 3 weddi d. wedi. p 195 l. 8 awyddccau d. arwy­ddoccau. ib. 26 chariad d cariad. p. 199 l. 26 ehunain d. euhunain. p. 209 l. 25 anghen d. angenrh. p. 216 l. 3 muyaf d. mwyaf. lb. 6 digwynd d. d gwydd. p. 219 l 20 ieungtid d. ieuengtid. p. 223 l. 14 fi­fficabis d. fififficabis. p. 227 l. 16 Filij. d. Ffili.

Pagin. 228. scrifenna yn ymyl y pagin neu'r tu dalen ymma y geiriau hyn i'w dar­llain a [...]ol y gair diweddaf o'r lin gyntaf: trugarha wrthym. Ti yr hwn wyt yn dwyn ymmaith bechodau'r byd gan ddodi nod i'w bod hwynt i'w darllain arol y gait byd yn y lin honno.

Pag. 2 [...]9 l. 1 dioddegarwch, d. dicddef­garwch. p. 230 l. 15 Bend [...]rhwn d. Ben­dithiwn. p. [...]33 l. 220 llewyrch d. o lew­yrch. p. 237 l. 6 es dderbyn d. ei dderbyn. p. 24 [...] l. 17 attor d. attat. p. 248 l. 5 brynnaeth d. brynniaeth. ib. 24 attot d. attat. p. 253 l. 12 dele y. p. 267 l. 3 ie­chawd d. iachawd. p. 275 l. 5 attot d. attat. p. 283 l. 6 attot d. attat. p. 289 l. 11 AYglwydd d. Arglwydd. p. 305 l. 19 Cab­ly d. Cablyd. p. 309 l. 1 ddarparist d. ddar-Peraist. p. 318 l. 8 y rhagori d. yn rhag. ib. 11 dele dis- p. 335 l. 5 eneiadiau d. en [...]di [...] p, 337 l, 5 yr Ys- d, yr vn Ys- [Page]p. 340 l. 2. ddarparaist d. ddarperaist. p. 37 l. 15 pachu d. parchu. p. 3 o [...]. [...] dywaltaist d. dyweltaist. ib. 20 adawaist d. adewaist. p. 4 il. 17 vnicenedledic d. vnigened. p. 413 l. 8 yn yr ymyl. Priadd d. Praidd. p. 423 l. 3 fyddyn d, fyddin. p. 325 l. 11 gadawaist d, gadewaist. p. 485 l. 15 i'r d. îr. ib. 19 îr d. i'r. p. 468 l. 26 mylwyr n, milwyr. p. 476 Ya d. Yr.

Heblaw y rhain, mae llawer o lythy­rennau wedi eu gosod yn amryw fannau y naill yn lle y llall, megis f ac s. n ac u, t ac r, &c. y [...]hai a eill y Darllennydd hawddgar wrth ddarllain eu diwygio.

Y Colect sydd i'w ddywedyd ar Ddy­gwyl S. Luc Evangelwr a ollyng [...] wyd allan yn y lle priodol, sef 18. [...] fis Hydref.

CYf [...]y [...]ged trosom ni attolygwn arnat O Arglwydd, dy Evan­gelwr S. Luc: yr hwn er mwyn an­rhydeddu dy Enw di, oedd yn dwvn marwolae [...]hiad y Groes yn wastadol yn ei gorph. Trwy ein Harglwydd Jesu Christ dy Fab di: yr hwn sy'n byw ac yn teynasu yn vndod yr Ys­pryd Glan Duw: tros holl oesoedd oesoedd. Amen.

Taflan o ymbell eiriau a arferwyd ymma, y rhai nid ydynt nemmor sathredic yn rhyw fannau o Gymru, gyda'i hystyr mewn geiriau mwy cyffredin.

  • A Chlysur Adeg. yw arfod neu occasiwn.
  • Ammeu. Dowtu, petrusso.
  • Ammharu. Methu, mynd yn waeth.
  • Amnaid. Bec a'r llygad neu'r pen.
  • Anllad. Cnawdol, godinebus.
  • Annylys. Ancerten, heb fod yn siccr.
  • Anturio. Hyderu, fentrio.
  • Ardal. Gwlad Provius.
  • Asgen. Briw, clwyf, niweid, areholl.
  • Braw. Ofn, dychryn, &c,
  • Bôd yn gnawd. Bod yn arferedig ac yn naturiol.
  • Brwydr. Ymladd, cad, trin, trafod.
  • Budd. Lles, ced, proffit.
  • Buddugoliaeth. Victori, gorfodaeth.
  • [Page] Canllaw. Adoveat.
  • Caredd. Creim, bai mawr.
  • Cethru. Hoelio.
  • Coelio. Credu.
  • Crybwyll. Gwneuthur son.
  • Cyfanneddu. Trigo, preswylio.
  • Cyfansoddi. Composio.
  • Cyfeddach. Gwledd, Sir dda. Gwleddu.
  • Cyfeirio. Mynd yn vnion tuac at, &c.
  • Cyflafan. Creim, bai mawr, caredd.
  • Cyffredin-Rwysg. Republic.
  • Cymmodloni. Cyttuno, mynd yn ffrinds
  • Cynhyrfu. Cythryblu, cythruddo.
  • Cynllwyn. Twyll. Sieis neu sieg.
  • Cynnyddu. Chwanegu, mynd well well.
  • Cyweirio. Ail wneuthur, repairio.
  • Damwain. Happio, digwydd, ffortuno.
  • Deilliaw. Llifo allan, mynd ymaes o.
  • Doel. Vn a fwriwyd ymaes o'i wlad, Alltud, Allwlad, Dieithrydd.
  • Deongl. Esponi, datgan.
  • Dichell. Twyll cynllwyn, cyfragod.
  • Diddymmu. Gwneuthur yn ddim.
  • Difangolli. Colli o'r fan, difannu.
  • Digwydd. Happio damwain, ffortuno.
  • Dihenyddu. Lladd, gwneuthur i vn farw.
  • [Page] Dihir. Dihiryn. Dyn drwg cas.
  • Diosg. Diwisgo, tynnu dillad.
  • Dirmyg. Ammharch, contempt.
  • Dirwest. Ympryd, ymgadw heb fwyd.
  • Dir yw. Mae 'n rhaid.
  • Diwyd. Gofalus ac yn cymmeryd poen.
  • Dull. Fform, gwedd modd.
  • Dwys. Pwyllog, grav a synhwyrol.
  • Dynwared. Dilyn, imitatu.
  • Eigion. Annwfn, anoddyn, abyss.
  • Egnîo. Ymorchestu, streivio.
  • Edfryd. Ail-wneuthur, restorio.
  • Eiriol. Gweddio, ymbil, dymuno.
  • Enllibio. Sarhau, ammharchu, calwm­nio.
  • Erlyn. Persecutiwn.
  • Ffau. Pwll, neu dwll, dyfn yn y ddae ar neu glawdd, ogof.
  • Ffo. Rhedeg ymmaith rhag vn.
  • Ffuant. Ffug, rhagrith.
  • Goresgyn. Gorchfygu.
  • Gorfod, Gorfodaeth. Buddugoliaeth neu Victori.
  • Goror. Y wlad vchaf, y blaenau.
  • Gorhydri. Rhyfyg, insolensi.
  • Gormes. Oppressiwn.
  • [Page] Grillian, Lleisio fel coed glas yn llosgi.
  • Grîs. Stair, vn gradd o'r staerau.
  • Grygnach. Gryngian. Mwttrio.
  • Gwahanu. Neilltuo, separatu.
  • Gwaith godden. Gwneuthur peth o waith goddeu, yw gwneuthur peth o bwrpas, o wir fodd, &c.
  • Gwaradwyd. Conffusiwn cywilydd.
  • Gwyro. Troi peth ymaes o'i le, por­vertu.
  • Gwyrth. Rhyfedd, miracl.
  • Gwrthnysig. Cyndyn, pervers.
  • Gwthddywedyd, gwrthsefyll, gwrth­wyneb &c. yw dywedyd yn er­byn, sefyll yn erbyn, wynebu yn erbyn, &c.
  • Gwynnian. Y pethau y fo'n dda, yn hoff, yn ddifyr, &c. gan vn.
  • Gwyd. Bai, veis pechod.
  • Haeru. Affirmo.
  • Haint. Clefyd, infectiwn.
  • Hoedl. Bywyd, enioes.
  • Honni. Cyhoeddi.
  • Hudo. Twyllo.
  • Hyder. Eondra, conffidens, rhyfyg.
  • H [...]lio. Tanu m [...]gis lliain ar ffordd, lien ar wely, &c.
  • [Page] Llabyddio. Lladd a cherrig llaw.
  • Llasasu. Beiddio ventrio.
  • Llaryaidd. Mwyn, tirion, clement.
  • Lleithio. Gwlybhau mynd yn wlyb.
  • Llengau. Lluoedd o amglylch 6 mil eu rhifedi, Legionau.
  • Llê [...]g. Gwan iawn, methiant.
  • Llestair. Rhwystro, lluddias, rhagod.
  • Llithio. Enteisio, denu.
  • Llonder, llonni. Llawenydd, llawenhau.
  • Lludded. Diogi, blinedd.
  • Lluddias. Rhwystro, llestair, rhagod.
  • Lluniaeth. Bwyd, cynheiliaeth, ymborth.
  • Llyfrdra. Gwangalondra, cowardiaeth.
  • Llysu. Gwrthod.
  • Mabwysiad. Adoptiwn.
  • Manson. Murmuro.
  • Math. Tebyg.
  • Mewyd. Diogi.
  • Musgrell. Gwan, llesg, dinerth.
  • Mynegi. Adrodd, dywedyd.
  • Nawdel, Nodded, Noddle, Noddfa. Amddiffyn, protectiwn, maddeu­ant.
  • Pan. Ffwrr, blew man.
  • Perwyl. Gwaith, effect.
  • [Page] Petrus, Petrusso. Dowt, dowtio.
  • Rhagddarbod, Rhagluniaeth. Rhag­weled, providens, rhagddarpar, &c.
  • Rhaglaw. Rheolwr, president.
  • Rhagod. Rhwystr, rhwystro, llestair.
  • Rhuso. Cilio ynol, ymaros.
  • Rhieni. Tad a Mam.
  • Rhuthro. Rhedeg at, neu gwympo ar rym beth yn fforddrych neu yn vio­llent.
  • Rhodres. Pomp.
  • Rhwysg. Gallu ac awdurdod, rheo­laeth, pomp.
  • Sarhaad. Contumeli, ammharch.
  • Siommi. Twyllo.
  • Syrthio. Cwympo.
  • Syllu. Edrych yn daer, gazu.
  • Talaith. Provins, gwlad, ardal.
  • Tangnefedd. Heddwch.
  • Trabludd. Ymladd, cynnwrf, trallod.
  • Truth. Gweniaith, fflatriaith.
  • Tyccio. Ffynnu, llwyddo, rhwyddhau.
  • Ymbil. Dymuno yn ostyngeiddlon, gweddio, deisyf, gofyn yn daer.
  • Ymddiried. Gobeithio yn, confeido.
  • Ymddibynnu. Crogi wrth rym beth, dependu.
  • [Page] Ymgeleddu. Cynnal, rhoi, a gwnen­thur pob peth angenrheidiol i vn megis y gwna tad a mam.
  • Ymmunedd. Dioddefgarwch.
  • Ymogor. Trigfa, preswylfod.
  • Ynni. Vigor, calondid.
  • Ystlen. Sex, y rhyw gwryw neu'r fenyw.
  • Yscrubl. Anifail-gwaith.
  • Ysglwyf, Ysglyfaeth. Yspail, praidd plyndriad.

Y Cymro Mwynlan.

YR oedd yn y mrydi, mewnrhai o'r dalennan hepcor hyn, dan­gos i ri y rhesymman a wnaeth i mi scrifennu peth o'r Lladin sydd ym­ma, a thai o'r characterau priodol i'r Jaith Gymraec: eithr oblegid y geill y llyfr hwn (ond antur) syr­thio hefyd i dwylo rhai o'r Saeson, mi a dybias yn well, eu dangos hwynt yn Saesnec, er mwyn peri cywilydd ar y Saeson, a thrwy hyn­ny, eu gyrrn hwynt i ddyscu llafaru Lladin yn iawn gan y Cymro. Dym­ma ganhynny y rhai pennaf.

The Welsh would pronounce Latin very true, if they would alwayes pronounce the first four Latin Vow­els as they do the same in their own Language, and the Latin vowel u as they do the vowel w in Welsh with the Consonant j (in the pronun­ciation [Page]of the other Consonants nei­ther they nor the English do much err) as they do it in their own Lan­guage. This if the Welsh would do, without doubt they would pronounce Latin as true, or more true than any other Nation. Whereas now they pronounce it very ill, because they imitate the English, who pronounce Latine extreme falsly: by reason that they commnly give the same pronunciation to the Vowels in La­tine, as they give to them in English, which is so various and confused, that it is impossible to give a Stranger a Regular Direction to pronoauce English Vowels aright. Because, for example, the English pronounce the Vowel.

The Welsh Vowels are put over the English to shew the distinction of their pronunciation.

A. three wayes, as in these words:

  • o Call,
  • a Can,
  • ỿ Sugar.

E. four way, as in

  • e The,
  • i Be,
  • ỿ Her,
  • uw Blew.

I. four way, as in

  • ỿi Bind,
  • u This,
  • ỿ Birds,
  • i Wing.
  • o
  • w
  • ỿ
  • ow

O. four ways, as in

  • For,
  • To,
  • Prove,
  • Old.
  • uw
  • u
  • ỿ

V. five ways, as in

  • Pure,
  • Business,
  • Must,
  • e Burie,
  • w Chuse.

Au. two ways as in

  • aw Author,
  • o Cause.

Oo. two ways as in

  • w Good,
  • ỿ Blood.

Ou. four wayes, as in

  • o Though,
  • ow Soul,
  • ỿ Touch,
  • w Court.

And 'tis ridiculous to hear Chil­dren and others taught to read, when the Teacher sayth B, e, bi. T, o, tu. &c.

Neither can there be any Rule given to know, how every Vowel and Dipthongue ought to be pro­nounced in each English word, but by ranging every word in the Dicti­onary [Page]into several Catalogues.

The reason of this strange Misce­lanie and Confusion is, because there be as many Simple Vocal Sounds in the English as there be in the Welsh Language, viz. seven. That is, be­sides the five ordinary Latine vocal and simple sounds, there be two more: which the Welsh for distin­ction sake expresse with these Char­acters u, and y. But the English assigning no distinct Character for so distinct sounds (which neverthless are most frequent in their Language) express the former sometimes with an i, as in the words Bid, Fill, His, &c. sometimes with a y, as Sylla­ble, Symptome, Mysterie, &c. And the other sound (which the Welsh call their seventh Vowel, and the French their e feminine) the English express with every one of the five usual Vocal Characters, moreover with the Dipthongues oo, ou: as is apparent by the former examples, and hundreds more.

Now, you shall scarce find an Eng­lishman, who (though well learned and vertuous) will be persuaded, that there is so distinct a Variety of Vocal sounds in the English Toungue, as is here described. And this is, because he never took notice there­of: so that like one who never learn­ed to read until he be far in years, he hath great difficulty to appre­hend these distinctions of Vocal sounds. And therefore he will stiff­ly maintain, that all the difference proceeds from the various conjun­ction of Consonants. Whereas there is no Welshman that can read Welsh knowingly, though his hearing be neuer so dull, who doth not clearly perceive the Distinction of these seven Vocal simple sounds, even abstracted from all Conso­nants.

The English then pronauncing in Latine the Vowel a like an e, the e like an i, the i like the Dipthongue ei, or rather the Welsh ỿi; the o [Page]sometimes and the u alwayes before a position or a double Consonant like the Welsh ỿ, or the French e feminine, make such strange Gibbridg to the ears of Externes, that it often puts them to their wits end to imagin what an English man means, when he speaks Latin. Insomuch, that some have taken me aside, seriously to ask me what Language the young English Traveller (my Companion) spoke to them, when he had spoken true Latine after the English Mode.

Others more acquainted with the English manner, will contentiously maintain, that the English do gene­rally speak through their teeth: this is because of all the Vowells some­times, and the u so often pronoun­ced by them like the French e fe­minine or the Welsh Vowel ỿ: as cỿr, cỿm cỿruo, cỿltro, bỿxỿs, bỿstỿm, sỿnt, apỿd, bỿgỿm, &c. instead of Cur, cum curuo, cultro, buxus, bustum, sunt, apud, burgum, dum, &c. Nei­ther [Page] Italians, Germans, Graecians, Asians, Africans Spaniards, nor any other Nation, no nor the French, (though they have their peculiar way) pronounce u in Latine after this manner. And because I endea­voured to avoid this Error, and to utter the other Latine Vowels, as I do the same in Welsh, a certain Cler­gyman of eminent quality in a City where many Learned English have continually sojourned above eighty years, told me that he had not heard an English man pronounce Latine more distinctly than I did.

Yn siccr pettalai'r sawl a brintia­sant Gymraef gyntaf, heb droi rhai o'r Characterau Llandin allan o'i lla­far priodol (megis y gwneuthant yn ddigon diraid) i yspysu'r llafer Brithoneg: ond wedi gadael yr (e) i arwyddoccau y llafar [...]ywyll, yr hwn yw ein seithfed Fogail ni, me­gis yr oedd ein Henafiaid ni gynt yn aifer, ac y mae'r Francod fyth yn [Page]gwneuthur; gan yspysu'r llall neu'r (e) wiyw a nod ar ei phen, megis mae arfer yr vn Francod: a chan yspyssu ein pummed Fogail ni a'r (ij) neu mewn geiriau yn tarddu o'r Lladin a'r (ü) hon: fel y gallesid gadael yr (u) arferedig i arwyddo ein (w) fogail ni (magis y mae holl Natiwnau y Byd wrth lafaru Lladin ganmwyaf yn gwteuthur; a ninnau fyth yn dilyn yr Hen Saeson, y rhai a'n tywysasant ni i arwyddoccau lla­far yr (u) a'r lythyren (w) fel y gwelwn wrth eu modd hwynt yn scrifennu gynt wlstan, wlfer, &c.) ac er dibennu, fel y gallesid gadael yr (v) hon i yspyssu ein (f) ni, gan fod y Saeson y rhai yr ydym ni yn ei dynwared yn hyn, wedi pedio, (oddieithr eu Clowoniaid hwynt, y rhai sy byth yn cadw'r arfer) a lla­faru'r (f) megis (v) gonsonant: Pertasid (meddaf) wedi gwneuthur hyn, fe a fuassai'r scrifen Gymraeg yn harddach ac yn deccach nac y mae hi yrwön o ran cynnifer (f) [Page]ac (y) hirgynffonnig, ac ni fuassai Rheolau'r Grammadeg yn dim an­howsach: ond y Jaith yn llai rhy­feddol i Ddieithriaid, a'r Cymru euhunain with hynny a wnaethid nid yn vnic yn aplach nac vn Natiwn arall, i wybod ac i ddyscu llafaru Lladin yn gywir; ond hefyd i wy­bod yn well a dyscu i eraill iawn lafar amryw Jeithydd eraill. Yr hyn Ragoriaeth oll a ddarfu i ni ei golli trwy ddynwared. y Saeson. Yn ddiau, mae i ni achos da am ddynwared y Saeson ffyddlon yn eu rhinweddau duwiol o garu Duw yn fwy na'r Byd; yn eu gwastadrw­ydd anysgog yn proffessu y wir ffydd Christianogol, ynghanol pob cam, colledion ac ammharch: yn eu haelioni difesur er mwyn Duw: yn eu gostyngeiddrwydd yn maddeu i'w gelynion, a'i mwyneidd dra yn eu caru hwynt, &c. yn y rhai y maent hwy yn rhagori ar holl Natiw­nau y Byd: ond am eu dynwared hwynt yn mingammu Lladin, ac [Page]wrth hynnny yn anrheithio llafar Jaith dda, nid oes i ni na rheswm nac achos.

FINIS.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.