GUEDDI'R-ARGLWYDD Wedi ei HEGLURO.

Mewn amrŷw ymadroddion, neu Brege­theu Byrrion.

O waith y Gwir Barchedic Dâd GEOR. GRIFFITH, D. D. Diweddar Escob Llanelwy.

Printiedig yn y THEATER yn Rhydychen 1685.

AT Y DARLLENNYDD.

ANrhydeddwyd fi, flynyddoedd tun­tu, á gweini (mewn perthynasau crefydd) i Awdur tra-parche­dig y Gwaith sydd yn canlyn, ac ymmisc llaweroedd o bethau eraill' oi feddwl, a welodd Efe yn dda eu datcuddio i mi, bu hyn yn ûn; Na fynnai Efe i ddim Cyflaw­nad oi eiddo ei hun (neu i nêb arall) ddy­fod ir amlwg er mwyn cynnal coffadwri­aeth am dano. Ymddigonodd Efe a bôd Ei farn gydar Arglwydd, ai wobr gyda ei dduw. Nid ŵyf bellach lefasus (pe bawn deil­wng) i ymhelaethu ynghylch ei ddoniau rhagorawl Ef, ei gelfyddyd ai ddiwydr­wydd ym mhob rhan oi swydd sanctaidd, ei fyddlondeb i Eglwys Dduw, ai frenin (pan fu dostaf arnynt yn ein hoes ni) ei aml rinweddau da eraill ef, a chanmolad­wy, ai radau ysprydol, ei ymddygiad 'or addasaf ym mhôb lle, a chyflwr y tref­mwyd Ef ynddynt, 'au derchafasant i fôd yn Dâd cyffredinol ac anrhydeddus 'ir Esco­baeth hon (na allasai neb araill ei haeddu, 'ai hurddo yn well yn ei amser) ac 'au cymhwysasant Ef i fôd yn siampl odidog i eraill, ac i gael ei hun (nid oes ronyn [Page]o ammeu genni fi) Rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni. Gwybydd, gan hynnymai 'r inig ddiben o osod allan y llyfr (yn dy o­lwg di) ydoedd, i ymegnio er dyfod à go­goniant i Dduw, trwy dy lessaad di oddi­wrtho: ewllsyssiodd yr hwn, sydd, yn siccr, ganddo gwbl awdurdod 'im gorchymmyn ym mhob peth cyfreithlawn a gonest, imi wneuthur fy egni (er imi gyfaddef wrtho mai llêsc iawn fyddai) yw gymmell ef 'ith gymmeriad da di, yw ddarllain gennit yn fanwl, ac i ymarferu yn gydwybodus ar ei ôl; Wedi bwrw o honof, pa wêdd yr yspys­swn fy ymgais tuag at yr unrhyw, ni dda­ethum o hŷd i fodd well (yn fy nhŷb i) na rhoddi peth cyfrif i ti, o gyfarwyddyd yr Athraw yn ei alwedigaeth, 'ai ymddy­giad trwyddi. gŵyr llaweroedd o barthau eraill (heb law Gŵynedd trosti i gîd) mai Scrifennydd ydoedd wedi ei ddyscu i deyrnas nefoedd, abl Er dwyn allan oi dryssor bethau newydd a hen Os yn 'y rhani (oth flaen di) ni ddangho­sodd Efe eithaf ei ysgolheigtod, dirnad, mai ei iselu ei hûn a wnaeth at synniad yr anne­allus, a bôd (pe ceit gyfrannogi o honynt) laweroedd iawn oi Bregethau (mewn jaith arall) 'ath ddifyrrent, 'ath leshâent, (er maint a allo dy wybodaeth di fôd eu­sys) ac â ddeuent a'thi i gydnabod, iddo Ef lefaru yn ei ddyddiau (gyda' rhai 'or rhai pennaf) megis Oraclau duw. Dywaid [Page]wrthif ŵr tradyscedig, ag urddasol (etto yn fyw) a fuasai yn hîr yn Blwyfol iddo, Na chlywsai Efe erioed Bregeth ganddo, nad ydoedd gymmwys yw hadrodd yn yr ûn a fynnid 'or ddwy Fam yscol yn lloegr, Bu'r Athraw parchadwy hwn mor ddyfal yn ei weinidogaeth, a phe buasai gorchymyn­nion St. Paul at Timotheus, wedi eu tued­du atto Ef ei hûn yn unic Glŷn wrth ddar­llein, wrth gynghori, wrth athrawiaethu, Nac' es­ceulusa y dawn sydd ynot, myfyria ar y pethau hyn, aros (neu bydd) ynddynt. Os dydd, os rhan dda o hîr nôs, yr ymofynnid am dano (pan fyddai feistr ar ei amser) ymmysc ei Lyfrau, ag ynghylch ei orchwyl, yr oedd taro wrtho. Ni laccaodd Efe fymryn ar ei ofalboen, 'ai astudrwydd hyd ei ddiwa­ethaf, eithir parhâodd yn Was Fyddlon, fel un doeth, a osododd ei Arglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt mewn pryd, 'ai Arglwydd (yw wyn­fydwch anrhaethadwy) pan ddaeth, 'ai ca­fodd yn gwneuthur felly. Tra-mawr fyddai ei ofal am baratôad prydlon tuagat Ddydd yr Arglwydd, oddieithr i achosion pwys­fawr ddigwydd ei wrthwynebu (a llai nai bâth hwy nis gallent ei rwystro) gorphen­nai Efe ei arlwyad pennaf yw erbyn, ddau ddiwrnod 'oi flaen. Ac yn gwybod (or yspyssaf) na allai na dysceidiaeth, na di­wydrwydd, na gofal, dyccio ûn gronyn heb râd Duw arnynt, ni anturiai Efe ar [Page]ddim, cyn gostwng o honaw ar ei linian, a thaer ymbil ac Ef am ei gyfarŵyddo, ai gymmorth i gyflawni yr hyn a fyddai wiw ganddo ei ddilyn ai fendith gwedi, fel yr anrhydeddid Ef, y lleshêid eraill trwyddo, ac y gosodid ymlaen jechydwriaeth ei wasanaethwr 'or herwydd. Y mae ei Weddi orchestol Ef (ond antur) etto ym­mysc ei Bapurau, yw gweled, a arferai Efe 'ir dibennion hyn, yn feunyddiol Fel y bu Frwythau ei lafur Ef yn fuddiol i la­weroedd felly y lluniaethodd Duw hwy yn ddiddanol iddo ei hûn, Pan, yn agos jawn yw ymddattodiad, yn gweini iddo (er fyannheilynged) a dymuno arno at gasclu y pethau áu cyssurent yn y mawr wendid yr oedd Efe yn ofidus dano, ac er cadarnhâu ei Fydd a sefydlu ei obaith, o gael cyfnewid y bŷd truanllyd hwn, am ûn mwy dewisol a hyfrydlon (ymmysc amrywiaeth o ymadroddion eraill) der­bynnais hon oddiwrtho; Myfi a ddyscais Fyrdd duw i ddynion, ac a ymegniais er rhodio ynd­dynt fy hûn; â chlôdd Efe y cwbl i fynu, â dywedyd, Tyred Arglwydd Jesu, tyred ar frŷs. Y mae 'or howsaf, weithian, dyfalu wrth ddrŵs pwy y bydd raid ir bai sefyll, oni wellhêir di trwyr' Cyflawnad hwn (a phob ûn arall a eill ddyfod ith law di) 'or cy­fryw Athraw, ac 'ai hymddûg ei hûn fel hyn yn ei ddyddiau. Diammau gennif [Page](os ystyriol wyt) fôd hyn yn ddigon, er sylfaenu dy ddisgwiliad am ddaioni oddi­wrtho, ac er dy rybuddio i wilied arnat, rhag dyfod o honat yn fyrr 'or buddged a amcanwyd i ti trwyddo. Nid â myfi y mae ymofyn, pa ham y cadwed di cyhyd hebddo, ac ewyllysiwn (om calon) yn lle goddef i th fanylrwydd dy osod ar waith i chwilio hynny allan, i ti ymgynnef ac Eff oddifri, ai ddefnyddio 'ith fantais ys­prydol. Os mynnit ti wybod i bwy yr wyt yn rhwymedig am gyfrannu ynddo, deall fy môd i wedi fy sicrhâu, mai (yn nesaf at Dduw, 'ar hwn a ymboenodd wrtho) i Fâb anwyl yr Awdur, a ymada­wodd ag ef er dy fwyn ac ir gwîr barche­dig Dâd yn Nuw, y presennol Arglwydd Escob Llanelwy, 'ai trosglwyddodd ir go­leuni, gyda thŷb safadwy, y gwnaiff Efe fawrllês ir sawl oll trwy Gymru, ac ni fyddant yn ddiffygiol iddynt eu hunain A chan egluro cymmaint i ti, da iawn y gwnn i mi godi i fynu dy awyddfryd i fy­ned yw gylch, ac mai nid g [...]eddol i mi dy attal yn hwy. Yn unic cymmer hyn gennif yn ychwaneg na ddaeth (o ran cymmaint y rhagorodd yr Awdur arnaf) fy enw i dan yr ûn Caead 'ai ûn Ef 'om llawn fôdd; ni ddichon arall (pwy byn­nac) berchi ei Gwblhaâd Ef yn fwy; ni weddia nêb, yn wresoccach, ar Dduw i [Page]roddi ei fendith arno, er cynniddiad dy ŵybodaeth, 'ath hyfforddiad I rodio yn add­as 'ir Argwlydd, i bod rhyngu bodd, na myfi, yr wyf, 'or siccraf.

Diffuant ddeisyfiwr dy lwyddiant yn y Bŷd hwn, 'ath gyflawn ddedwyddwch yn y nesaf. William Foulkes.

Esponiad ar weddi 'r Arglewydd mewn nifer o bregetheu ar y 1, 2, 3, 4. Ad­nodau o'r 11. pen. o'r Efengil yn ôl St. Luke. Ac ar ran o'r 13. adnod o'r 6. pen. o'r Efengil yn ôl St. Matth.

v: 1.

A bu ac efc mewn rhyw fan yn gweddio pan beidiodd, ddywedyd o un o'i ddyscyblion, wrtho, Arglwydd, dysc ini weddio, megis ac y dyscodd Joan i'w ddiscyblion.

v. 2.

Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch dywedwch, ein Tâd yr hwn wyt yn y ynefoedd, San­cteiddier dy enw: deued dy Deyrnâs: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd.

v. 3.

Dyro ini o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.

v. 4.

A maddeu ini ein pechodau, Canys yr ydym nin­nau yn maddeu i bawb sy yn cin dyled; ac nag ar­wain ni i brofedigacth; either gwared ni rhag drwg.

Math. 6.13.

Y rhan ddiwaetha; Canys eiddoti­yw'r deyrnas, a'r nerth, ar gogoniant, yn oes oe­sodd. Amen.

PREG. I.

PEnnaf peth mewn gwir grefydd y'w Gweddio, Yscol y nefoedd A­berth y Crefyddol, noddfa y Cy­fiawn, ffrewyll y Cythrael, Dyfod­fa at Dduw, Offer iechydwriaeth. Am­hynny [Page 2]yr hwn o'i fawr drugaredd a fu wiw ganddo gymeryd gofal a dioddef tros ein heneidiau a gymerth arno fôd yn Athro i ni, a'n discu i weddio. Nid oes hayach un yn ein plith na fedr ddywedyd, Gweddi 'r Arglwydd, ac na wyr mai yr Arglwydd ei hun a'i dyscodd. Ond nid yw y rhan fwyaf sywaeth, ond yn ei dywedwyd, heb iawn-ddeall pa beth y maent yn ei ddywe­dyd. Y mae ganddynt y plisgyn heb gan­fod y cnewyllyn; y mae ganddynt y gist heb wybod pa fâth drysor sydd o'i mewn y mae ganddynt y geiriau hed ymgyffred y meddwl. Gwybyddwn gan hynny mai am bobloedd 'r oes hon hefyd y mae Duw yn achwyn drwy 'r Prophwyd, Nessaû y mae y bobl hyn attaf a'u genau, a'm anrhydeddu a'u gwefusau, a'u calon sydd bell oddiwrthif. Esa. 21, 13. Matth. 15.8.

Rheittiaf, peth i'r neb a fynnei fod yn grefyddol a fyddei dyscu, nid y geiriau, yn unig, ond deongliad y weddi sanctaidd hon; a'r rheswm a'r defnydd sydd ynddi. Gweddi Gynnhwysol yw, yn amgyffred cymmaint ôll ag a all dyn ddeisyf ar law ei Dduw; yn gystal er lles y corph, a 'r enaid, yr holl bethau a berthynant i 'r byd ymma; ag i'r byd a ddaw, pethau daia­rol a phethau nefol; y maent i gyd wedi eu cynwys yn grynnol yn y ferr weddi ymma.

Yr hon fel y gallom ei hesponio yn eglurach, [Page 3]a myned rhagom yn ddirwystr, y styriwn yn fy nhestun, (y pedair adnod ymma) dri pheth 1. Yr achlysur. A bû ac efe &c. ad: 1.

2. Y Gorchymmyn. Ac efe a ddywedodd. &c. ad. 2.

3. Y weddi ei hun. Ein Tâd yr hwn &c.

Yr un gorchymmyn a'r un weddi a roe­sei ac a ddyscasei ein jachawdwr o'r blaen iw ddiscyblion ac i'r holl bobloedd Matt. 6.9. Gweddiwch chwi fel hyn; Ond wrth achly­sur amgen mewn man ag amser arall; Yna yn ei bregeth enwog ar y mynydd; yma yn rhyw fan nailltuol, ar ol iddo beidio a gweddio; Yna gwedi iddo ddangos ac argyoeddi rhagrith y Pharisæaid y rhai a weddient ynghonglau 'r heolydd, fel yr ymddanghosent i ddynion; y rhai fy­ddent siaradus fel y cenhedloedd, gan dybied y caênt eu gwrando am eu haml eiriau. Y mae yn dyscu gochelyd eu cam­syniad a'u amryfusedd hwy: Na fyddwch chwi gan hynny debyg iddynt. hwy-v. 8. — Gwe­ddiwch chwi fel hyn. Yma wrth ddymuniad un o'i ddiscyblion 'r hwn oedd yn ceisio canlyn esampl ei feistr. Ar ôl iddo beidio, y mae' 'r discybl yn amcanu dechreu. Dysc i ninnau, medd efe, weddio fel y dy­scodd Joan i'w discyblion; Ac efe a ddy­wedodd wrthynt, Pan weddioch dywed­wch Ein Tâd &c. Ac nid oedd efe yn go­falu [Page 4]nac yn eiriol trosto ei hun, ond tros ei gymdeithion, a throsom ninneu ei gyd ei ddiscyblion ôll hyd ddiwedd y byd. Dysc i ni, nid i mi yn unig. Ac am hynny y ma Christ hefyd wrth atteb yn gorchym­yn nid iddo ef yn unig, ond iddynt hwy i gyd, ac i ninneu ar eu hôl Pan weddioch, dyw­edwch, nid dywed ti &c.

Hæc Cura omnium animos tangere de­bet, ut sciant quomodo Deus inter precan­dum sit alloquendus. Y gofal yma a ddylei fod ymmhob enaid dyn, gael gwybod pa fodd y gallei lefaru wrth ei Dduw unig ddoeth, Hollaluog. Pan, fyddo neb o honom yn ceisio cymwynas neu ga­redigrwydd ar law gwr arall, chwchwi a wyddoch mor ofalus y bydd efe, ar drefnu ei ymadrodd, a gofyn yn weddus; A pha mwya fo 'r gŵr, mwya fydd 'r ofn, arswyd achyfyngyngor yr eiriolwr, rhag iddo ddy­wedyd dim, a allei fod yn anfodlon gan y pendefig hwnnw. Tan weddio yr ydys yn cyd-ymddiddan a Duw ei hûn, Brenin y Brenhinoedd, a Phenllywiawdr y Cre­aduriaid ôll; yr hwn y mae'r Angylion yn ei foliannu, ac o flaen pa un y mae nertho­edd y byd yn brawychu, ac yn dychryn­nu Pa ddyn gwael a ryfygei agoryd ei enau yn ei wŷdd ef; Am na's gall neb creadur ddychymyg ymadroddion addas i'w fawrhydi ef. Ein tâd Abraham oedd yn [Page 5]annheilwng i lefaru wrth Dduw, am nad oedd ond llwch a lludw. Gen. 18.27. Mo­ses yn ei escusodi ei hun; sy'n dywedyd wrth Dduw, ei fod yn ddienwaededig o wefusau Exod. 6.12. A'r Prophwyd Esay yn dolefain. Gwae fi, canys darfu amdanaf, o herwydd gwr halogedic ei wefusau ydwy fi ac ym­mysc pobl halogedic o wefusau yr ydwyf yn trigo; Ca­nys fy llygaid y welsant y brenin, arglwydd y lluoedd Esai. 6.5.

Os fel hyn y dywedent y Sainctiau hynny am danynt eu hunain, y rhai a êlwyd yn gyfeillion i Dduw fac. 2.23. Pa beth y ddy­wedwn ni; gwaela pridd o'r byd a thrua­naf o bechaduriaid Pa hyfder a allei fod gennym i godi ein llygaid tu a r nef, i nes­sau at Dduw, i agor ein gwefusau haloge­dic wrtho, oni buasei i'n trugarog cyfryn­gwr beri i ni ddyfod atto, a dyscu i ni wed­dio, a phan weddiom ddywedyd fel hyn. Ein Tâd &c.

Y mae rhai yn wir yn ein mysc yn gweddio, fel y Pharisæaid gynt drwy ragrith yn sefyll yn y Synagógau, ac ynghonglau yr heo­lydd, fel yr ymddangosont i ddynion; Yn wir meddaf i chwi y maent yn derbyn eu gwobr: Hynny yw, y maent yn cael y peth y maent yn ei geisio, yn cael eu gweled gan ddynion, nid eu gwrando gan Dduw. Y mae rhai yn siaradus megis y Cenhed­loedd, yn gwneuthur hir weddiau, gan dy­bied [Page 6]y cânt eu gwrando am eu haml eiriau.

Eraill megis Prophwydi Baal yn gwaed­du a lléf uchel. 1. Bren. 18.28. A Duw yn ddiystyr gantho. Nid y lléf na'r gol­wg, ond y galon y mae efe yn ei cheisio, yn ei gweled ac yn ei chlywed.

Gweddio yn wir sydd raid; Ac hynny 'r oedd y discybl yma yn ei ystyried, wrth ei weled ef yn gweddio; yr hwn nid oedd raid iddo mor gweddio cymmaint er ei fwyn ei hun; ond erom ni, i eiriol trosom, ac i ddangos i ni esampl o ufydddod, a go­styngeiddrwydd, a'n dyledswydd tuag at ein Duw. A Gofyn sy 'rwydd i bawb; y neb a wypo fod dim eisieu arno, a gais yn ebr­wydd ei ddiwallu. Eithr am na's gall y dyn anianol wybod ei ddiffygion ysprydol a phes gwyddei, ni fedrei mo'i gofyn yn y modd y dylei; O herwydd hynny y mae'r discybl defosionol yma, yn ceisio gan y gwir Athro, Christ Jesu, ein dyscu pa bethau a fyddent anghenrheidiol iw gofyn, a pha fôdd y gofynnom, i fod yn gymmeradwy ger bron Duw. Dysc i ni weddio. Dyma 'r ddys­ceidiaeth oreu, ar anhawsaf yn y byd, yn yr hon yr amlygir rhagorfraint Gristianogi­on, nid amgen Medru gofyn y peth y fyn­nent yn dduwiol, a chael gan Dduw y peth a geisient.

Ac am y weddi a ddyscwyd ini ar yr ach­lysur yma, mae ini hyn o oglud ynddi, y [Page 7]gallwn trwy ei hiawn-ddeall ai harfer fy­ned yn hyderus at orseddfaingc y grâs fel ŷ derbyniom drugaredd, ac y caffom râs yn gym­morth cyfamserol. i Hebr. 4.16. Canys diam­meu gennym gael ein gwrando, pan wed­diom ar ôl yr addysc yma, gan fod y neb a ddyscodd i ni y weddi yn ei derbyn; Ein haddyscwr yw ein Dadléwr, yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. Rhuf. 8.34. A hyn nid yw anaddas i ddal sulw arno yn y matter yma, O blegid i'n hiachawdwr Christ, gwedi iddo ddyscu'r bobl a'i ddiscyblion yn ei bregeth y flwy­ddyn gyntaf o'i weinidogaeth, pa fodd y i gweddient, ac yrawrhon yn ein hyfforddi ni yn yr un peth, agos i dair blynedd gwe di, ar ddymuniad y Discibl; O blegid, med­daf, iddo, atgofio yr un geiriau, gan roi i ni yr un gorchymmyn, a'r un weddi eilwaith, heb osod, neu grybwyll am un ffurf ar­all; Wrth hynny y mae i ni ddysgu, na bô rhaid i ni bob dydd ar bob tro a phob amser ymegnio ar ddwyn gweddiau newydd gyda ni; ac na bydd ein gweddi ddim gwaeth, nac yn anghymmeradwy gan dduw er mynyched yr adroddir yr un ffurf ar eiriau, drwy na bo dim mewn ffordd arall yn ddiffygiol. Ac wrth hyn y gwyd­dom fôd y weddi sanctaidd hon wrth fodd yr Arglwdd, a pho mynychaf y dywedir hi trwy râs a ffydd yn ein calonnau, mwyaf [Page 8]fydd ein clod, a'n budd, a chyssur ein he­neidiau.

Megis ac y dyscodd Joan i'w ddiscyblion. Felly y bydd siamplau gwyr da yn cyffroi ein meddyliau Yn athrawiaeth Joan y mae r ddysceidiaeth Gristianogaidd hon yn dechreu; Tystiolaethasei Joan am yr Je­su, ac y mae r Jesu a'i ddiscyblion yn dwyn tystiolaeth iddo ynteu Yr oedd y discybl yma yn gweled yn dda, ddarfod i Joan ddyscu iw ddiscyblion weddio, A hynny y barodd iddo geisio gan yr Jefu yr un peth; Hynny a wnaeth i'r Jesu yr ail waith Dra­ddodi i ni hyn o ddysceidiaeth am weddio. Hwy y pery gweithred nag ymadrodd; Gwell y cofir y peth a wnelir, nac a ddy­wettir.

Am y gweddiau, y sut a'r modd, a ddy­scodd Joan f ai hanghofiwyd hwy er y­stalm; nid oes mo'i llûn na'i hanes mewn llyfr na lle yn y byd. Gwedi i'r Jesu ddys­cu i ni ei weddi gwbl-berffaith ei hun, nid oedd raid wrthi mwyach. Ni fydd mor ymorol am ganwyll ar ôl codi 'r haul o'r vchelder; Felly y mae Christ ei hun yn dywedyd am Joan, Efe oedd ganwyll vn llosci, ac yn goleuo. Joa. 5.35. A'r Propwhyd yn galw Christ yn Haul Cysiawnder. Haul Cy­fiawnder a gyfyd i chwi, y rhai ydych yn ofni fy enw, a meddeginiaeth yn ei escyll. Malac 4.2. A 'rhan nid anhynod o'r feddeginiaeth yma yw 'r [Page 9]ddysceidiaeth hon o weddio. Canys drwy hyn y mae ini gael gan Dduw y pothau y fyddont anghenrheidiol. A gweddi y cy­fiawn vn o escyll Haul cyfiawnder yw; A­den i'r enaid, ar yr hon y mae iddi escyn i'r nefoedd, ac ymddangos gar bron gorseddfamigc y goruchaf.

PREG. II.

Pan weddioch dywedwch, &c.’

Y Discybl yn ceisio dysgu gweddio, a'r Jesu yn peri i ni ddywedyd. Ai nid ydyw gweddio ond dywedyd. Yw yr ymarfer duwiol hyn ddim amgen na tha­fodd, leferydd na llafur genau? Na at­to Duw i ni dybied hynny. Lleiaf peth mewn gwir weddi ydyw 'r ymadrodd; fel y dywedais o'r blaen, y plisgyn yn vnig. Meddylfryd y galon ocheneidiau annrhae­thadwy 'r Yspryd, dyna 'r gweddiau y mae Duw yn eu derbyn;. Heb y rhain nid yw dywedyd ond gwaith ofer. Enaid gweddi ydyw ffydd, ar ymadrodd megis corff iddi. Yr vn ffunyd a chorph heb enaid, y bydd aberth y gwefusau heb ddeisyfiadau da y mae ffydd yn peri i'r galon. Y galon y mae [Page 10]Duw yn ei cheisio gennim, yn ei gweled ac yn ei chlywed. Ac fel y mae Duw yn edrych ar y galon yn bennaf; felly y neb a fynnei fod yn gymeradwy gan Dduw, a gweddio fel y dylai, a ddylai yn anad dim fod yn ofa­lus am y galon, a pha fath feddyliau, a pha fâth ddeisyfiadau y delo 'i ymddangos ger bron Duw. Ni waeth pa beth a ddyweto oni bydd y galon yn cydsynied. Y mae modd ini weddio heb ddywedyd gair o'n genau, nid amgen, trwy dderchafiad y me­ddwl hyd at Dduw: Yr hon y mae 'r Di­finyddion yn [...] ei galw, Oratio mentalis. Fel hyn yr oedd Hamah yn gweddio ac Eli yn dal sylw arni gan dybied ei bod hi gwedi meddwi. Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddiod ar yr Arglwydd, a chan wylo hi a wylodd. A bu fel yr oedd hi yn parhau yn gweddio, (neu aml­hau gweddio) ger bron yr arglwydd, i Eli ddal sulw ar ei genau hi, A Hannah oedd yn llefaru yn ei chalon, yn vnig ei gwefusau a symmudent, ai llais ni chlywid. 1. Sam. 1.10.12.13. Yr vn modd y gweddi­odd Nehemiah o flaen Artaxerxes. Efe a weddiodd ar Dduw pryd tra r oedd yn ymddiddan a'r brenin. A'r brenin a ddywedodd wrthif, Pa beth yr wyti yn ei ddymuno? Yna y gwe­ddiais ar Dduw y nefoedd. A mi a ddywedais wrth y brenin. Noh. 2.4.5. Ac ar hyn y mae y rhan fwyaf a'r oreu o'r gwasanaeth hyn yn sefyll. Ysbryd yw Duw, a rhaid ir rhai a'i haddolant ef, adde­li mewn yspryd a gwirionned. Joa. 4.24. A'r hwn, [Page 11]sydd yn chwilio y Calonnau a wyr beth yw meddwl yr yspryd. Rhuf. 8.27. A rheswm iddo wybod y meddyliau, y mae efe ei hun yn peri i'n calonnau. Yn yr yspryd a'r galon yn vnig y mae chwilio am weddiau ysprydol, yr aberth gymmeradwy gan Dduw.

Onnid ni wesneith hyn bob amser, Nid yw hyn, meddaf, ddigon, llefaru neu we­ddio yn y galon yn vnig. Oblegid rhaid i ni ogoneddu, addoli, a gwasanaethu Duw a'n cyrph a'n lleisiau, a'n tafodau. Y mae Duw yn disgwil moliant ac anrhydedd o­ddiwrth ein genau hefyd. Ac yn yr Eglyws, gydac eraill, rhaid ini weddio er adaila­daeth felly gallai 'r boble ddysgu a chyd­weddio; Yr hyn nid yw bossibl heb wran­do a deall ein gweddiau. Am hynny y mae 'r Apostol yn dywedyd, Mi a weddiaf a'r Yspryd, ac a weddiaf a'r Deall hefyd. 1. Cor. 14.15. Ac er na bo neb arall yn bresennol, buddiol ei ddyn glywed ei lais ei hun yn gweddio: Yn gymmanit a bod y llais yn cynhyrfu 'r yspryd, ac yn peri iddo ysty­ried a deallt, eu ddeisyfiadau eu hûn yn well, a bod yn wresoccach i'r gwasanaeth.

O herwydd hynny, ymwrandewch ar orchymyn yr Arglwydd, Pan weddioch, dywedwch. Gweddio sydd raid cyn dywe­dyd dim; Rhaid i'r galon fod of flaen y ge­nau: Ystyried a myfyrio pa beth a pha fodd y dywedwch yn emwedig a chwi yn [Page 12]dywedyd o flaen ac wrth yr Arglwydd eu hun. Na [...]ydd ry brysur a'th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim ger bron Duw: Canys Duw sydd yn y nefoedd, a thitheu sydd ar y ddaiar; Ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Preg. 5.2. Ac am hynny bydded pob gair yn ei le, ar ei olwyn. Dihareb. 25.11. gwedi ei bwyso, ei drefnu a'i osod yn ei le ei hun. Mor ofalus y dylai pob enaid dyn fod, pa beth, a pha fôdd y dywetto ger bron Duw, rhag iddo ddigio wrthym, a dywedyd mai aberth ffyliaid yr ydym yn ei roi iddo. Ac fel y gorchy­mynnodd yr Arglwydd i'r Offeiriadau mei­bion Aaron gynt, chwilio 'r aberthau, rhag bod dim anaf arnynt, ac i'r bobl oll, na aberthent ddim, na fyddei berphaith­gwbl, dim a fyddei anaf arno: Felly y dy­lem nynneu synied am ein haberthau ys­prydol, chwilied ein meddyliau, a phwyso ein geiriau cyn dechreu gweddio, rhag bod bai yn y byd arnynt. Paham y digiai Duw wrth dy leferydd? Pregeth. 5.6. Yn arwydd o'r hyn beth y cifrifid yn aflan wrth y gy­fraith honno Bob anifail in chnoe ei gil; Ac felly yn ddiammau y mae pob enaid ger bron Duw, yr hwn nid ystirio yn ei galon, ac ni chnóo ei gil, trwy fynych fyfyrio ar y peth y fyddai raid iddo ddeisyf ar law Duw, a pha a fodd y byddai raid iddo drefnu a thraethu ei ddeisyfiad. O herwydd o ddy­ffyg cyfryw ystyried y mae cymmaint o be­chodau [Page 13]ac o amryfuseddau, ie, yn ein gwe­ddiau, a chynnifer o aberthau ffyliaid yn ein Eglwysi O herwydd hyn y mae 'r scry­thur lân mor ofalus yn ein hannog ni i y­stig fyfyrio, ac i ddifal y styried beth a ddy­lem ni ei wueuthur yn y gorchwyl yma i geisio ein hachub ni oddiwrth y perygl y mae eisieu ystyried a myfyrio yn ein ty­wys ni iddo, hynny yw digosaint Duw, rhag iddo es ddigio wrth ein lleferydd. Ac fel hyn wrth y gorchymmyn yma chwchwi a welcwh beth yw gweddio; gwaith nid y genau ond y galon. Derchafiad y galon tuag at Dduw, Derchafiad y llais neu'r lle­ferydd ar ol y Galon. Nid yw gwaith y ta­fod ddim heb y galon, na gwaith y galon cystal heb ei ddatcan ar lleferydd.

Ond ymmellach y mae i ni ddyscu wrth yr vn gorchymyn.

(1.) Bod yn rhaid i bob Christion ymar­fer a rhyw ffurf iawn sanctaidd ar weddio, megis ac a gadawod ein hiachwdr i ni bat­trwn o hynny yn y weddi yma. Yn yr hon y mae i ni ganllyn y sut a'r defnyd a'r Ar­glwydd gwedi gosod o'n blaen ar fyrr ei­riau 'r oll bethau ddylem ni eu gofyn ar law Duw, a'r modd y gofynnem. Nid ellir gofyn dim y chwaneg nac a gynhwysir yn­ddi; Ond am y geiriau fo a ellir ychwanegu attynt hwy, fel y trefno 'r yspryd y deisyfi­adau, ac fel y rhotho 'r un yspryd yr yma­drodd: [Page 14]Ni a ŵyddom fod Christ ei hun yn gweddio mewn amrhyw foddion eraill, ag ir Apostolion ymarfer a gweddiau eraill: ac etto ni cheisiasant erioed ddim amgen nag y sydd wedi ei gynnwys yn y Pattrwn yma.

A hyn, sef ymarfer a ffurf osodedic a'r weddio sydd fuddiol ac anghenrheidiol i ni. Canys Duw ei hun a ordeiniodd hynny, yr hwn nid yw yn gorchymyn dim anfyddiol, nac yn ofer. Efe a ddyscôdd feibion Aaron a pha fâth eiriau y bendithient y bobl. Lle­fara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt. Bendithied yr Arglwydd di &c. Num. 6. 23.24. Efe a ddyscodd i'r Prophwyd scri­fennu psalm odidawg osodedic iw ganu neu iw arfer ar y dydd Sabbath: megis ac a'r arwyddocceir i ni wrth ditl y psal. 92. Psalm neu gân ar y dydd Sabbath Je'r psalmau, o' rhan fwyaf gweddiau gosodedic ydynt oll, gwedi eu gosod ir Eglwys tros byth iw hymarfer.

Buddiol (ie) anghenrheidiol i ni gael ein dyscu fel hyn, o ran ein hamryw ddiffygi­on yn gweddio, Dallnieb ac anwybodaeth ein deall, ysgafnder ac anwadalwch ein meddyliau, Angof am orchymynion Duw a'i Addawiadau, Anhyder, a gwawgred ein casonnan: Bloesgni ein tafodau Dynion dienwaededic o wefusau, llwch a lludw, anheilwng i lefaru wrth yr Arglwydd, oni buasei iddo ef ein dyscu ni yr hyn addyw­edem. [Page 15]A Moses yn ei escusodi ei hun am nad oedd efe ŵr ymadroddus i lefaru wrth y bobl, ond safn-drwm, a thafod-trwn. Exod. 4.10. Pa ddŷn a gymmerai arno le­faru wrth Dduw, oni bai iddo addaw, i bob discybl megis ac y'r addawodd i Foesen, Dos yn awr, a mi a fŷddaf gyda 'th enau, ac a ddys­caf i ti ŷr hyn a ddywedych. Exod. 4.12.

A hynny a barodd i Eglwys Dduw o'r de­chreuad hyn, yn hyn a'r ol siampl ei Harg­lwydd ddyscu i'r bobl ffurfau gosodedic, ac i Gwnslyau cyffredinol, ordeinio, na chym­merai neb arno arfaethu gweddion eraill ond yn unig y rhai profedic, lywfiedic gan yr Eglwys.

(2.) Y mae i ni gydnabod wrth y gorchy­myn, fod y weddi sanctaidd hon yn gwbl­berffaith, yn blaenori ar bob gwaith crea­dur yn y byd, ni fu erioed, ac ni budd fyth mo'i math, na'i thebyg: Gwaith doethin­eb Duw ei hun ydyw. Mab Duw, Doeth­ineb y Tâd a'i haddyscodd i ni.

Ac yn hyn yr amlygir ei rhagoriaeth. (1.) Yn ei byrder cynhwysol: yn cynnwys cymmaint o anfeidrol ddefnyd ar ychydig eiriau. Felly y bydd ein gweddiau ninneu yn fwy rhagorol ac yn gymeradwy gan Dduw, pan fo mwy yn y galon nac yn y genau; Y galon yn helaeth tuac atto, a'r geiriau yn anaml. Yn ôl cyngor y Pre­gethwr. — Duw sydd yn y nefoedd, a thitheu ar y [Page 16]ddaiar; Am hynny bydded dy eiriau yn anaml. Preg. 5.2.

(2.) Yn ei pherffeithrwydd, yn cynn­wys yr ôll bethau anghenrheidiol i ni we­ddio am danynt. O ba achos y mae Ter­tullian yn ei galw Breviarium Evangelij, Cyn­heysiad yr Efengyl.

(3.) Yn ei threfn a'i hyfforddrwydd, yn dangos i ni jawn rill ein deisyfiadau.

(4.) Am ei bod hi yn gymeradwy gan Dduw, sef, gweddi ei anwyl Fab, yn yr hwn y bodlonwyd efe.

Nedwch gan hynny fod y weddi san­ctaidd berffaith hon yn ddibris gennych, ond yn hytrach myfyriwch ynddi ddyd a nôs. Nac anghofiwch mor anghenrhaid ac mor bwys fawr yw ei hystyried yn ddwys ac yn fynych. (1.) Byddod hysbys i chwi yn gyntaf mai rhaid i ni weddio, yn gystal er gwasanaeth i Dduw, ac er ein llés ein hunain. Nac anghofiwch fel y mae 'r ys­pryd glân yn rhoi ar lawr megis yn brif nôd ar golledigion, Ni alwant ar yr Arglwydd: Psal. 144. Or tu arall fe addawodd Duw. Pwy bynnac a alwo ar enw'r Arglwydd cadwedic fydd. Rhuf. 10.13. Y mae'n ddiau, y neb ni wnêl gydwybod o'i ddyled i weddio nâd oes mo râd yr yspryd glan ynddo ef. Canys ys­pryd y Grâs a Gweddi ydyw yr un. Zech. 12.10. Ac am hynny y mae grâs a gweddi yn myned ynghyd. Ond yr hwn a fedro [Page 17]weddio ar Dduw a chalon edifeiriol, dio­gel ei fod yn cael ei fesur o râd yn y byd hwn, ac y caiff ei ran o'r gogoniant yn y byd sydd i ddyfod.

(2.) Ac yn ail, wrth weddio na ddirmy­ged neb ddysceidiaeth yr Arglwydd, nac esceulysed y geiriau bendigedic, y rhai a ddyscodd Duw ei hun i ni; drwy eiriau ei fab. Y neb a ddirmygai gyfraith Moses a fyddei farw heb drugaredd tan ddau, neu dri o dystion. Heb. 10.28. Pa faint mwy cospedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o'r rhain a gablant eiriau mâb Duw, ac a fo 'n ddiystyr ganddynt y gor­chymmyn yma, a hynny yngolwg y byd? O fy mrodyr! na fyddwn mor anniolch­gar i Grist Jefu, ŷmbaratown i ddyscu ly peth y mae efe yn ei orchymyn, a dyscwn nid y geiriau yn unic, ond y pwys a'r def­nydd sydd ymmhob un o'i eiriau bendige­dic, fel y gallem ni weddio nid fel y Pa­pisdiaid, neu Farbariaid heb wybod pa beth y maent yn ei ddywedyd, ond fel Chri­stianogion deallus, discyblion Jesu Grist, yn ystyried meddwl yr yspryd, a'r holl bethau a archymynwyd i ni weddio am­danynt yn hyn o eiriau: Ac fel y gallo pob un ddywedyd gyd a'r Apostol, Mi a we­ddiaf a'r yspryd mi a weddiaf a'r deal he­fyd.

PREG. III.

Ein Tad, &c.’

Y Trydyd peth yw'r weddi ei hun; Yn yr hon y mae i ni ystyried.

(1.) Y rhagymadrodd, yn yr hwn yr ysbysir i ni ar bwy y mae i ni weddio, Ein Tâd, &c.

(2.) Y Gofynniadau, yn dangos ac yn cynnwys pa bethau y mae i ni weddio am­danynt.

(3.) Y Diwedd, yn dangos ein dyled­swydd, nid amgen, rhoi moliant i'n Tâd nefawl am yr ôll bethau daionus yr ydym yn eu gofyn a'u cael ar ei law.

Hæc partitio nos admonet &c. Ac y mae'r do­sparthiad ymma yn ein hannog, na ddylem, pan dde­lom i weddio mewn yspryd a gwirionned, ruthro i mewn yngwydd yr hollalluog yn anghymmedrol, gan ddywdyd yn ddiatreg, Dyro i mi hyn a'r llall, ond dyfod atto gyda pharch a gostyngeiddrwydd, megis plant ufydd, at y Duw mawr ofnadwy, a'n Tâd ne­fawl anrhydeddus.

A meddyliwn ei fod yn Dad i ni mewn dwy ffordd. (1.) Wrth Greedigaeth. (2.) Wrth fabwys neu ail enedigaeth.

Yr Arglwydd ein gwneuthurwr Psal. 95.6. [Page 19] Dy ddwylo a'm gwndethant ac a'm lluniasant. Psal. 119.73.

Duw ein Creawdwr yw ein prif dâd ni ôll; A'n tadau cnawdol megis periannau iddo; Trwyddyn thwy y mae efe yn ein crêu ac yn ein porthi. Ni allant hwy ddim o honynt eu hunain, ond a wnêl Duw ei hun trwyddynt hwy.

(1.) A'r enwad ymma a gymmerir wei­thiau yn sylweddol am y tri pherson, y tâd, a'r mab, a'r yspryd glân. Yngheiriau Moses wrth bobl Israel. Ai hyn a dclwch i'r Arglwydd, bobl ynfyd ac anghall? Ond efe yw dy Dâd a'th bry­nnwr? Ond efe a'th wnaeth, ac a'th siccrhaodd? Deut. 32.6.

(2.) Weithiau yn bersonol, am bob vn o'r tri.

(1.) Am y cyntaf, yr hwn a elwir y Tâd yn briodol. Megis yn gweddi 'r Jesu. I ti yr ydwyf yn diolch o Dâd, Arglwydd, nef a Daiar. Matth. 11.25. Je o Dâd. v. 26. Fy nhad os yw bossibl aed y Cwppan hwn heibio oddiwrthif. Matth. 26.39.

(2.) Am yr ail; Crist a elwir Y Tád trag­wyddol; Esa. 9.6. O herwydd ei fod efe yn ein hadgednhedlu ni tan y Testament ne­wydd; a thrywyddo ef yn gwneid ni'yn blant i Dduw. Welefi a'r plant a roddes yr Ar­glwydd i ni yn arwyddion, ac yn rhyfeddodau yn Is­rael; Esa. 8.18. Y tâd yw, y'r hwn piau 'r Plant; a hwnnw yw Christ, megis ac y [Page 20]mae St. Paul yn ei esponio. Hebr. 2.13.

(3) Am y trydydd; Yr yspryd ynteu a elwir yn Dad; Canys yr vn Duw ydyw o'r hwn y mae pob Creadur; ac yn enwedig am fod y'r Scrythur lân yn tystiolaethu mai o'r yspryd y genir bob vn ar sydd yn my­ned i mewn i deyrnas Dduw- Joh. 3.5.

Ond y mae ein iachwdr yn ein dyscu i gyfeirio ein gweddiau at y person cyntaf yn y Drindod, ei Dâd ei hun a'n Tâd nin­neu Christ a elwir yn Fab Duw, megis ac y dywedodd yr archangell wrth Fair. Luc. 1.33. (1.) O ran naturiaeth; O herwydd ei genhedlu ef o sylwedd a naturiaeth ei Dâd, fel y mae yn Dduw. (2.) Drwy rad yr vndeb bersonol, fel y mae yn Ddyn. Felly y mae efe yn Dâd i ninneu, nid yn vnig am iddo ein gwneuthur a'n sicrhau; Ond drwy Fabwys a rhâd hefyd yn Ghrist Jesu. Pan ddaeth cyflawnder yr amser Danfonodd Duw ei Fab, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthnr tan y Ddedhf. Fel y prynei y rhai oedd tan y ddeddf, fel y derbyniem y Mabwysiad. Ac o herwydd eich bod yn Feibion, yr anfonodd Duw yspryd ei Fab yn eich Calonnau chwi yn llefain, Abba, Dâd: Felly nid wyt ti mwy yn was ond yn Fáb: Ac os máb, etifedd hefyd, i dduw trwy Ghrist. Gal. 4.5.6.7. A'r grás hyn sydd gwedi ei roi i chwi, a'i dderbyn genych, er pan gredasoch. Canys chwi ôll ydych blant i Dduw drwy ffydd yn Ghrist Jesu. Gal. 3.26.

Doethnieb mawr a pheth anrhaethol i [Page 21]gryfhaû ffydd Cristion yw myfyrio am Grist yw gwybod, wrth pa enw y mae galw ar Dduw. (1.) A hyn y mae Crist yn ei ddys­gu i ni yn y gair cyntaf; Mai at Dduw yn vnig y cyfeiriem ein Gweddiau, nid at Angylion, Sainct, nerthoedd, &c. Ond myfi, fyngweddi sydd attati, O arglwydd. Psal. 69.13. Y tri Pherson ynghyd, At y Tâd, y­mghyfryndod y Máb, drwy gynnorthwy 'r Yspryd glân.

(2.) Yn hyn y mae i ni ddysgu y rhagor sydd rhwng Gristianogion gwedi dyfodiad Christ i'r byd, a'r Iddewon o'r blaen. Judæus, ut sub lege servus, doctus erat Dominum ap­pellare; Christianus spiritu adoptionis donatus clamat Abba Pater. Gal. 4.6. Yr Iddew, megis caethwas tan y ddeddf, a ddyscwyd iw alw ef yn Arglwydd. Ond y Cristion, a dderbyniodd yspryd y mabwysiad wrth ddysceidiaeth yr un yspryd yn llefain Abba Dâd. Yr Iddew gynt yn gyfattebol iddo, megis; i Arglwydd taer wrth gyfammod gweithredoedd: Y Cristion drwy gyfryn­gwr cyfammod gwell, gwedi ei osod ar a­ddewidion gwell. Heb. 8.6. Yn gyfattebol iddo megis i Dâd grasusol.

(3) Yn hyn y mae Christ yn yspysu i ni ei râs a i ddaioni, ai gariad tuag attom, ei fod yn draewyllysgar ac yn barottaf i'n cymmorth a'n cymmorthwyo yn ein ing a'n adfyd. Ac wrth hynny, a pha fáth [Page 22]gariad ac ufydddod a diolchgarwch y dy­lem ddyfod atto ef: Megis plant anwyl at eu Tâd grasusol, yn enwedic mewn gwe­ddiau gan gymmedroli ein geiriau a'n y­marweddiad o'i flaen gyda pharch, a go­styngeiddrwydd, duwiol dristwch am be­chodau, llawnfryd edifeirwch, ac ad­newyddiad bychedd.

(4.) Oddiwrth ei gariad, fel y mae yn Dád, y mae i ni hyder ffydd a gorfoledd ein gobaith, a ddylei ymddangos yn ein gweddiau yn arbennig. Canys gwedi ein cyfiawnhau drwy ffydd (hynny yw, gwe­di ein gwneuthur yn blant wrth dderbyn yspryd y mabwysiad yn Ghrist) y mae gennym heddwch tuagat Dduw, a thrwy hynny ddyfodfa, fel y gallom nesaû a cha­lon gywir mewn llaŵn hyder ffydd. Heb. 10.22.

(5.) Meminisse itaque & scire debemus, quia quando Patrem Deum dicimus, quasi filij Dei agere debemus; Ut quomodo nobis placemus de Deo Patre sic sibi placeat & ille de nobis filijs. Cyprian. Gwy­byddwch gan hynny a meddyliwch y rhái ydych yn eich gweddiau yn galw Duw yn Dâd, y dylech ymddwyn megis plant i­ddo ef: Fel megis ac yr ydych chwi yn ymffrostio ac yn gorfoleddu yn Nuw, am ei fod yn Dâd i chwi, felly y gallai ynteu ymfodloni ynnoch chwithau megis plant ufydd, anwyl a diolchgar.

Nullum Elogium, quo Dei bonitas commendatur ita convenit craturis ut elogium Patris. Complectitur enim omnia Dei beneficia. L. Bru in Ma. Nid oes un gair o glod iw ddaioni gymmwysach i'r neb a fyddo ar fedr gweddio, na'r hwn yma o Dâd: Yn gymmaint ai fôd yn amgy­ffred oi holl ddoniau.

Yr enw hwn a'n dysc ni. teaching 1(1.) Fod yr holl ddoniou a dderbyniom gan Dduw yn dyfod yn unig oddiwrth ei Dadol gariad ef. teaching 2(2.) Y dylem ni ei garu ynteu eilwaith megis eu blant anwyl. teaching 3(3.) Y gallwn ni yn ein oll anghenion a'n trallod alw arno yn hyf, megis ar Dád am ei gymmorth a'i ymwared. Mal hyn ni ddylem ni grybwyll am y sanctaidd enw yma; ni byddei hy­nny yn dwyn ar gof i ni ei ddaioni ef tuag attom, a'n dyledion ninneu, tuag atto yn­teu.

Myfyrio ac jawn synnied o'r pethau hyn a faga ynghalon dyn gariad, ofn, ac ym­ddiried yn Nuw, a gofal iw wasanaethu. Canys medd Duw ei hun. Os ydwyfi Dad, pa­le y mae fy anrhydedd? Os ydwyfi feistr, pale y mae fy ofn? Mal. 1.6. Canys mab a anrhydedda ei Dad.

Hyn a faga ynom ewellys i fod yn debyg iddo. Máb a fyn fod yn debyg iw Dâd. Am hynny y mae 'r Apostol yn ein hannog. Byddwch ddilynwyr Duw, fel Plant anwyl. Ephes. 5.1. Ar hyd ei ffyrdd a'i weithredoedd y mae i ni ddilyn Duw. Cyn belled ac y bôm yn [Page 24]gwneuthur ar ôl Duw, mewn Daioni, ca­riad, cyfiawnder, trugaredd, &c. cyn be­lled a hynny yr ydym yn blant iddo.

Eisiau ystyried y pethau hyn sy'n peri i lawer wnevthur eulun o'r gwir dduw, a chymeryd arnynt weddio fel y cenhedlo­ed, ni wyddent amcan ar bwy, na pha fodd y cânt dderbyn y pethau y maent yn eu ceisio.

A hyn yw 'r achos, pa ham y mae cynni­fer yn proffessu pob rhan arall o grefydd Dduw mor mharchus ac mor rhagreithus. Lle pe adnbyddent yn union, ac ystyrient yn ddyfal ni feiddient amgen, na ddeuent iw wasanaeth ef. A chwedi dyfod ei wa­sanaethu mewn ofn ac anrhydedd. O ei­siau ystyried hyn y mae ein gweddiau yn anghymeradwy yn anffrwythlawn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn o herwydd eich bod yn gofyn ar gam. Jac. 4.3. Nid ydych yn me­ddwl, mai Tâd y goleuni yw efe, oddiwrth ba un y discyn pob rhodiad daionus a phob rhodd berffaith. Jac. 1.17. Nid ydych yn ystyried pa fath Dád haelionus ydyw efe.

Tâd y goleuni, O blegid ei fôd yn trigo yn y goleuni ni ellir mor dyfod atto 1 Tim. 6.16. Ac efe sydd Awdur nid yn unig o o­leuni rheswm naturiol, a grâs goruwch­naturiol, yr hwn sydd yn goleuo pob dyn, a'r sydd yn dyfod i'r byd. Joa. 1.9.

Yr ydym ni cŷhyd gyd a Christ heb ei [Page 25]adnabod fel y mae yn dywedyd wrth Phi­lipp. Joan. 14.9. Cyhyd yn proffessu ffydd Grist, yn gweddio a galw ar y Tâd heb ei adnabo. Canys nid edwyn neb y tâd, ond yr hwn sydd wir-blentyn iddo ac a'i caro. A pha fodd y geill dyn yn y byd dde­wis na charo ef, gan ei fôd yn Brif-ddaioni, pes adwaenai ef? Gan weled fôd natur Duw yn hudo dynion i garu ei ddaioni. A phwy bynnac a garo ddim yn fwy na'i Dâd nefawl, nid yw deilwng o honno ef, Nid yw deilwng, nid yw gymmwys iw alw ef yn Dâd.

Y neb gan hynny a chwennycho, fel yr oedd Philip, gael gwir-wybodaeth am y Tâd, rhaid iddo ddyscu ei adnabod ef drwy gariad, a chariad a adwaenir wrth gadw y gorchymynion. Yr hwn sydd a'm gorchymy­nion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sy'n fyngharu i a gerir gan fy nhad i: A minneu a'i caraf ef ac a egluraf fy hun iddo. Joan. 14.22.

Anwylyd, Carwn ei gilyd: O blegid cariad, o Dduw y mae; a phob un uc sydd yn cary o-dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. 1. Joan. 4.7.

Felly 'r yddŷm yn adnabod y Tâd, o her­wydd ein geni o honaw ef, a'n bod ni yn blant iddo: Nyni a wyddom ein bod yn blant iddo, a'n geni o honaw, am ein bod yn [Page 26]ei garu; Ac yn hyn y gwyddir ein bod ni yn ei garu, oblegid ein bod ni yn cadw ei or­chyminion.

Pob gwybodaeth, oddi eithr gwybod pa fodd y cerir y Tâd, ac y gwasaneithir iddo mewn yspryd a gwirionedd, nid yw ddim ond gwagedd o wagedd, a blinder y byd. Ond yn y wybodaeth hon o honaw ef, beth bynnac a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef; o blegid ein bod yn cadw ei orchyminion ef, ac yn gwneuthur y pethau sy'n rhyngu bodd yn ei olwg ef. 1. Joa. 3.22.

Ennyn gan hynny, O Dâd tragwyddol, dy gariad dy hun yn ein heneidiau, yn en­wedig gan ryngu bodd i 't yn ôl ein gwneu­thur yn blant i ti drwy Fabwys ynghrist Je­su, gael o honom ein cyfarwyddo trwy wy­bodaeth dy râs i gymmun, dy ogoniant, yn yr hwn y mae ein prif. — Ddaioni a'n de­dwydd fyd yn sefyll. Canniadha hyn er cariad dy Fâb &c.

PREG. IV.

Ein Tad ni yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.’

YN y rhagymadrodd yma y mae Christ yn ein dyscu ni. 1. Pan weddiom ar Dduw, ei alw ef yn Dad. Ac yn hynny, (fel y dangosais) fôd llawer o ddysceid­aeth i'n cyfarwyddo a'n cyssuro; nid am­gen. 1. Wrth hyn y mae Christ yn ein dys­cu ni Mai at Dduw yn unig, &c.

2. Wrth weddio, na ddylem ni bob un megis ar ei ben ei hun, neu trosto ei hun yn unig ddywedyd Fy nhad, ond yn hytrach Ein Tad ni, megis yn meddwl am ein brodyr, ac yn cydweddio a'r Sainct ôll.

Ac etto, nid yw hynny anghyfreithlawn sef i bob un o honom o'r nailltu, ac ar ei ben ei hun gleimio r hawl, a'r uchelfraint hwn yn nailltuol, a dywedyd Fy nhâd. Ca­nis felly y gweddiodd Crist ei hûn. Matth. 26.39. Fy nhâd, os yw bossibl, aed y Cwppan hwn heibio oddi wrthif.

Ac os dywed neb, ei fôd efe yn Dad iddo ef mewn modd amgen nac i ni, sef nid o ras, ond o naturiaeth yn cael ei hanfod o'r [Page 28]Tâd, trwy genedliad tragwyddol; Mi a attebaf, nad yw hynny ddim yn ein herbyn. Canys yr un modd mae efe yn Dduw iddo ef ac i ninneu, ac etto y mae yn llefain ar y groes. Fy Nuw, Fy Nuw, paham i'm gade­waist? Matth. 27.46. Yr un ffunyd y mae St. Paul yn professu: Yr ydwyf yn diolch, im Duw. 1. Cor. 14.18. A'r Prophwyd Da­vidd yn fynych. O fy Nuw, llefain yr ydwyf y dydd, ac ni wrandewi. Psal. 22.2. Cyfot Argl­wydd, achub fi fy Nuw. Psa. 3.7. Ac Ezra. O fy Nuw, y mae arnaf gywilydd, a gorchwyledd godi fy wyneb attati fy Nuw. Ezr. 9.6. A Nehe­mia, Cofia fi, O fy Nuw, er lles i mi. Nehem. 5.9. v. 6.14. &c.

Yr un modd y mae yn addas i ninneu trwy hyder ffydd Bob un o honom ei bri­odoli ef iddo ei hun, a dywedyd, Fy Nuw, Fy Nhad, fy Arglwydd, &c.

Ond yn y weddi gyffredinol hon y mae Christ yn peri i ni ddywedyd Ein Tad ni er ycwhaneg o ddysceidiaeth.

1. Megis ac wrth ei alw ef yn Dad, nid ydym yn anghofio, na'r Máb, na'r yspryd Glan, ond yn cydfeddwl am y tri Pherson y Drindod Fendigedic ynghyd; Felly wrth ddywedyd ein Tad ni; Na ddylem ni fôd yn ofalus feddylgar am ein anghenrheidiau ein hunain; Eithr cydymofidiaw tros ein bro­dyr yr holl Eglwys, yn milwrio ar y ddaiar, a chyd feddylied am eu cyfreidiau a'u diffy­gion [Page 29]hwythau, a gweddio trostynt. Ac nid yn unig eu cofio hwy yn ein gweddiau, gan ddwyn ewyllys da iddynt, ac erfyn tro­stynt, eithr ymegnio hefyd yn ein gwei­thredoedd, a bod yn barod bob amser i roi cais a'r wneuthur bob daioni iddynt. Yr hyn hefyd y mae St. Paul yn ein hannog iw wneuthur, fel na byddei anghydfod yn y [...]orph, sef Corph Christ, yr hwn ydych chwi, ac aelodau, o ran, Eithr bod i'r aelodau ofalu'r un peth tros ei gi­lydd. 1. Cor. 12.25.

2. Y mae 'r gair hwn yn dangos, pa fe­ddwl a ddylem ni fôd ynddo pan weddiom: sef, a chariad berffaith yn ein calonnau tuag at Ddùw a Dynion.

Y rhan gyntaf o'n cariad, tuag at Dduw a gynhwysir yn y gair cyntaf, Pater. Decla­rata Dei bonitate ad amandum Deum nos Christus provocat. Wrth ddatcan daioni Duw, fel y mae efe yn Dad, y mae Crist yn ein han­nog i garu Duw. Y neb ni charo Dduw, pa fodd y geill efe fôd yn blentyn iddo? Y rhan arall o n Cariad, sef, tuag at Ddy­nion sydd gwedi ei gynnwys yn yr ail gair, Noster. Ein Tad Ni.

Megis yr ydym yn cydnabod ei drugar­edd tuag attom, ag yn gorfoleddu ynddi, ein bod ni i gyd yn blant i'r un Tad: felly ni a ddylem ymddwyn fel brodyr tuag at ei gilydd.

Byddwch ddilynwyr Duw fel Plant anwyl, A [Page 30]rhod [...]wch mewn Cariad. Eph. 5.1. Am ben hyn, medd St. Peter, byddwch oll yn unfryd, yn cyd­oddef a'i gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd. 1. Pet. 3.8.

Charitas est quæ orationem Deo commendat. Ca­riad sydd yn gwneuthur ein gweddiau yn gymeradwy ger bron ein Tàd nefawl, Fel y dywaid yr Apostol am ffydd; felly y dy­wedwn ninneu am gariad, Hebddi hi amhos­sibl yw rhyngu bodd Duw. Heb. 11.6. Duw ei hun cariad yw. 1. Joan. 4.8. A'r hwn nid yw yn caru nid adnabu Dduw: ac ni edwyn Duw mon o yn­teu ac ni chlyw mo'i lais yn gweddio, ac yn­teu heb fôd cariad gantho.

Y mae ein jachawdwr yn dywedyd yn eg­lur, na bydd i ni fûdd yn y byd o'n gwe­ddiau, oni bydd cariad gennym. Matth. 6.15. Oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni fa­ddeu eich Tad eich camweddau chwithau. Ni faddeuir byth oni cherir; Ac oni faddeuir i ni ein camweddau, pa les a fydd i ni. Pe lle­farwn a thafodau dynion ac Angylion, ac heb fod gy­nnif gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tingcian: Nid wyfi ddim; Nid yw ddim lleshâd i mi. 1. Cor. 13.1.2.3.

Ac yn hyn y mae ein gostyngeiddrwydd yn ymddangos. Canys nid yw Cariad yn ymffrostio, nac yn ymchwyddo. In hac nulla arro­gantia, sed humilitas major, ac fructus uberior. Ambr.

Yn yr hon weddi a wneir trwy gariad, [Page 31]trwy feddwl am ein brodyr, ni fydd rhy­fyg; ond y chwaneg o ufydhdod, ac wrth hynny ychwaneg o ffûdd. Nam & pro men­dico orat Rex, pro paupere locuples, &c. Canys wrth ddywedyd hyn y mae 'r brenin yn gweddio tros ei weision, y Tywysog tros ei ddeiliaid: Ac yn cydnabod ei bod hwy i gyd yn gydradd wrth eu galw hwynt yn frodyr.

A llawer a ddichon hyn tuag at attal balchder, ac helaethu gostyngeiddrwydd ynom. A Christ yn peri ini i gyd, ddywedyd ein Tad, pa beth a adawyd i'r cyfoethog i orfo­leddu ynddo mwy nac i'r tlawd? Mae i'r cerdotynt gystal hawl yn yr etifeddiaeth dragwyddol, ac i'r cyfoethoccaf yn y byd, Beth bynnag mwy. Canys y rhai ni fy­ddant tlodion yn yr yspryd, ni chânt mor my­ned i mewn i deyrnas nefoedd. Canys yr ydych yn gweled eich galwedigaeth, fro­dyr, nad llawer o rai doethion yn ôl y enawd, nad llawer o rai boneddigion a alwyd. 1. Cor. 1.26. Gwrandewch, fy mrodyr anwyl, oni dd [...]wisodd Duw dlodion y byd hwn, yn gyfoethogion mewn ffydd; ac yn etifeddion y deyrnas, yr hen a addawod efe i'r rhai sydd yn ei garu ef? Jac 2.5.

3. Y trydydd peth yn y rhagymadrodd yw, y dylem ni ystyried mai yn y n [...]foedd y mae ein Tâd, yr hwn yr ydym yn galw arno. Nid fel pe bai ein Duw ni a'n Tâd nefawl yn gyn­hwysedigaidd yn un lle; O blegyd y mae ef o'i [Page 32]anherfynedig angyrhaedd yn llenwi y ne­foedd a'r Ddaiar ac yn cynnwys bob lleo­edd, heb ysbaid; lle', neu derfyn ni ddichon ei gynnwys ef; Ac heb fôd yn absennol yn un lle, y mae yn bresennol ymmhob lle.

Nid ydym yn dywedyd. Yr hwn wyt yn y nefoedd pe bai efe ymmhell oddiwr thym: Canys, meddaf mae Duw ymmhob lle, ac ymmhob un o honom. Nid yw efe yn ddiau medd yr Apostol, neppell oddiwrth bob un o hon­om. O blegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bod. Act. 17.27.28. Y mae pedair grâdd o Bresenoldeb Duw.

1. Y gyntaf sydd Enwedigol, drwy 'r hon y mae Dnw ym mhob lle, yn llanwedi­gaidd; eithr nid yn un lle yn Gynhwysedi­gaidd.

2. Yr ail sydd Enwedigol, drwy 'r hon y dywedir fôd Duw yn y nefoedd, megis yn y weddi hon, a llawer o fannau eraill, o herwydd bod yno ei allu, a'i ddoethnieb, a'i ddaioni mewn modd mwy rhagorliw gwe­led a'i mwynhau; Ac hefyd o blegid oddi yno yn arferol y mae efe yn tywallt ei fen­dithion a'i farnedigaethau.

3. Y drydydd mwy enwedigol, drwy 'r hon y mae Duw yn Preswylio yn ei Seintiau.

4. Y bedwerydd mwyaf enwedigol a digyffe­lyb, drwy 'r hon y mae cyflawnder y Duw­dod yn preswylio ynghrist yn gorphorol. Col. 2.9.

Am yr ail yn bennaf yr ydym ni yn me­ddwl [Page 33]wrth weddio. Ac wrth ddywedyd hyn yn cydnabod.

1. Ei dduwiol allu, drwy ba un y dichon efe yn ddiattal wneuthur pa beth bynnac a e­wyllysio, ac a wna i ninneu yn ddiammau, pa beth bynnag a ofynnom ar ol ei ewyll­ys, ac a fytho er ein lles. Ni ettyl dim mo'i ddaioni a'i garedigrwydd fel y mae yn Dàd i ni, na dim ei Allu fel y mae yn y ne­foedd.

2. Ei Ragddarbodaeth a'i ragluniaeth, ei fod efyn gofalu trosom, yn gwybod ac yn gwe­led ein anghenreidiau cyn y gofynnom, yn rheoli pob peth, ac yn arfaethu pob peth i bawb, yn enwedic iw Eglwys.

3. Ei dduwiol ddoethineb, yn gwybod yn hy­gall bob math a phob modd o ymwared ac achubiaeth a fo rhaid i ni wrthynt.

4. Ei Dduwiol Fawrhydi, drwy 'r hon y mae yn teyrnasu ac yn rheoli megis Arglwydd a Brenin ar yr holl greaduriaid: A Swydd neu frenhiniaeth, yr hwn sy yn preswy­lio yn y nef, ydyw, Gwrando gweddiau, gofalu tros ei eiddo, ei hachub, a'i gware­du, fel y gwêl efe yn dda, ac yn fnddiol iddynt.

Swm y rhagymadrodd yw, jawn synied pa fodd y mae Duw yn Dâd i ni, ac yn y nefoedd; Ei Fawrhydi, a'i Ddaioni, Ei ewyllys da tuag attom, a'i allu i wneuthur erom; Dau Golofu ffydd; ar y rhain y mae [Page 34]hi yn pwyso, ac wrth y ddauynghyd y mae i ni gyssur a hyder, a ninneu yn sefyll yn ddisigl. Ni fyddein ni ddim gwell er ei ddaioni oni bai ei dduwiol allu i roi ini be­thau da yn ddiattal: Ni fyddem ddim gwell chwaith er ei allu oni bai ei dadol ddaioni, a'i ymascaroedd yn tosturio wrth ein gwen­did a'n gwaeledd: Oddiwrth y ddau y mae i ni hyder a chyssur, y gwrendy ac y gwnâ y pethau a geisiom yn gweddio.

Ac o hyn y mae i ni ddyscu ymmhellach.

1. Jawn synnied o dduwiol Fawrhydi ein Tâd nefawl: Nid yn ôl y gwrthgas a'r cablaidd drawsfeddyliau, y rhai o naturiaeth y gyfo­daut ym mhennau dynion: Megis a dy­chymygant fôd Duw yn debyg i hên ŵr yn eistedd mewn cadair; A bod y Drindod fendigedic yn debyg i'r eulun tri rhannog a beintiai y pabyddion, yn ffenestri eu hegl­wysi.

Ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian neu faen o gerafidd celfyddyd a dychymmyg dyn. Act. 17.29. Na thybygwn ddim gwael daiarol (ar ôl dull y byd hwn) ond pethau nefawl yn unig a gogoneddus amdano.

Je, na dim arall yn y byd. Nid yw Duw debyg i ddim. I bwy i'm gwnewch yn debyg, ac i'm cystedlwch, ac i'm cyffelybwch, fel y byddom de­byg.. Esaj. 46.5.

2. I ddeall y rhagoriaeth sydd rhwng [Page 35] ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd a'n Tadau ar y ddaiar; Fel y mae Crist eu hun yn eu gosod yn erbyn eu gilydd Matth. 23.9. Na elwch neb yn Dad i chwi ar y ddaiar: Canys un Tâd sydd ichwi yr hwn sydd yn y nefoedd.

Duw yn unig ydyw ein Prif Dâd oll, ein hunig Dâd ar ôl perffeithrwydd tadogaeth. O'r hwn yr henwir yr holl deulu, (neu Dado­gaeth) yn y nefoedd, nc ar y ddaiar. Eph. 3.15. Ynddo ef yr ydŷm yn byw, ac yn symmud ac yn bod. Act. 17.28. Efe yw Awdr ein bywyd yn llunio 'r corph yn créu ac yn rhoi 'r enaid ynddo. Efe sy'n em porthi ein hymgele­ddu, ein trîn, ein cadw. A thadau ein cnawd nid ŷnt yn gwneuthur dim i ni: oddi­ethr trwyddo ef; Ac am hynny md ŷnt yn haeddu mo'i galw yn Dadau, na'i cystadlu iddo ef.

3. I'n rhybuddio wrth yr henwad yma, na ddylem ni geisio gan Dduw ond pethau nefawl yn arbennig, a phethau bydol Fel y bont yn gwasangethu, ac yn tueddu at ogoniant ein Tâd nefawl. Canys i hyn i'n hadgenhedlwyd, sef i Etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a di-ddiflannedig ac ynghadw yn y ne­foedd i ni. 1. Pet. 1.4.

4. I'n rhybuddio nad yw ein bywyd yn y byd hwn ond pererindod, a'n bod oddi­cartref oddiwrth yr Arglwydd, tra ydym yn gartrefol yn y corph; Ac am hynny y dylem ni ocheneidio yn oestadol, gan ddei­syfu [Page 36]gael ein harwisco an tŷ syddo'r nef. A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn yma yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr yspryd. 2. Cor. 5.

PREG. V.

Sancteiddier dy enw, &c.’

YN y weddi ei hun y mae chwech o Ddei­syfiadau; Tri yn berthynasol i Dduw, hy­nny yw am bethau a berthynant i Dduw; a thri i ninneu; Tri am bethau anghenreidiol i Ddynion.

1. Pethay Duw; Ei Ogoniant, a'i Deyr­nas, a'i Ewyllys.

2. Pethau Dynion, Ein Bywyd, a'n Pe­chodau, a'n Profedigaethau.

Yn y Deisyfiad cyntaf y mae ein jachaw­dwr yn ein dyscu i weddio, fel y gweddiodd efe ei hun, Joan. 12.28. O Dad Gogonedda dy Enw. Yr un peth yw Gogoneddu a San­cteiddio ei Enw.

Ac nid heb achos y ceisiem ni hyn yn gyn­taf dim o achos pa un y gwneler pob peth; Gogoniant Duw yw diwedd y Creaduriaid oll. Yr Arglwydda wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun; a'r annuwiol hefyd erbyn y dydd drwg. Dihar. 16.4.

Ond fel y gallem geisio neu ddeisyfu hyn yn y modd y dylem, rhaid i ni ystyried Pe­dwar Peth; megis ac yn y lleill hefyd.

1. Pa bethau da yr ydym yn eu dymuno wrth ddywedyd hyn, Sancteiddier dy Enw.

2. Pa bethau drwg, yr ydym yn gweddio rhagddynt.

3. Y dylem ni roddi diolch i Duw am ei ddoniau daionus yr ydym ni yn eu cael er mywn hyn, a'r drygau yr ydys yn ei go­chelyd.

4. Y dylei pob dyn ei holi ei hun ei ga­lon a'i gydywbod, a ydyw efe yn ddiau yn bwriadu, ag yn ceisio gwneuthur yn ol y dymuniad hwn; Holed ei hun, pa beth y mae efe, ai yn gogoneddu a sancteiddio Duw yn ei oll weithredoedd, ai nad ydyw. Y neb a ddyweto ei Bader yn jawn, ac yn fu­ddiol iddo ei hun, rhaid iddo ystyried y pethau hyn yn arbennig am bob un o'r dei­syfiadau.

Oddieithr i ddyn wybod pa beth yw Enw Duw, ni ddichon ac ni chais mo'i sancteiddio. Ni ddichon chwaith mor gweddio am y peth nis gwyr ddim oddi­wrtho. Rhaid i ni ddeall.

1. Pa beth yw Enw Duw. 2. Gwedi hy­nny beth yw Sancteiddio.

Enw Duw a Elwir yn Scrythur Lân.
  • 1. Duw ei hun. Psal. 5.11. Llawenhaed y rhai oll a ymddirie­dant ynot ti;A'r rhai a garant dy Enw, gorfoleddant ynct, je, Y rhai garant Dduw gor­foleddant ynddo. Gwrandawed yr Arglwydd arnat yn nydd cyfyngder; Enw Duw Jacob a'th ddeffynno. Psal. 20.1.
  • 2. Ei briodoliaethau a'i wei­thredoedd. Psal. 8.1. Mor ardderchog yw dy Enw ar yr holl ddaiar.
  • 3. Ei orchymmyn, a'i aw­durdod, a'i allu. — Dyscwch yr holl genhedloedd, gan eu bedy­ddio hwy yn Enw 'r Tad, &c. Matth. 28.19.
  • 4. Ei anrhydedd a'i ogoniant. Act. 21.13. Parod wyfi, nid im rhwymo yn unig, ond i farw hefyd er mwyn Enw 'r Arglwydd Jesu.
  • 5. Pob peth yr adwaenir Duw wrtho; megis ac yr adwaenir dynion wrth eu henwau. A'r un modd yr adwaenir Duw wrth ei Bri­odoliaethau ei Air, ei far­nedigaethau, ei weithre­doedd ai Greaduriaid.
Sanctei­ddio a ar­wyddocâ weithiau.
  • 1. Gwneuthur yn sanctaidd; felly Duw yn unig fy'n sancteiddio Sancteiddia hwynt yn dy wirionnedd. Joan. 17.17. Fel y sancteiddieu efe hi. Eph. 5.26.
  • 2. Cyssegru, neu naill tuo peth cyffredin o honno ei hun i ryw wasanaeth sanctaidd, Jeremi wedi ei sancteiddio i fod yn Prophwyd, Jer. 1.5. Paul yn Apostol. Rom. 1.1. Pob cyntaf­anedig, Exod. 13.2. Amsero­edd, lleoedd, a phethau er­aill.
  • 3. Cydnabod a chanmawl yr hun sy sanctaidd ynddo ei hyn; Sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau. 1. Pet. 3.15. Gan ddatcan ei haeddediccaf foliant o ran sancteiddr­wydd, &c.

Pa beth gan hynny ydys yn ei geisio wrth ddywedyd hyn. Sancteiddier dy Enw? Ceisio 'r ydym gan Dduw, deilyngu o honno drwy dywallt ei râs yn ein calonnau ni i gyd, ein sancteiddio ni iddo ei hun, fel y gallwn ni­nneu ei sancteiddio ynteu, hynny yw, ym­ddwyn gyda pharch a gostyngeiddrwydd tuag atto anrhydeddu ei Enw, ei Fawrhydi, [Page 40]ei Briodoliaethau, ei weithredoedd, ei air, ei Eglwys, a'i weinidogion; A'n cadw drwy ragluniaeth ei ddaioni oddiwrth bob peth ar feddwl, gair a gweithred a'i dianrhyde­dda ef.

Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth râs Duw, rhag bod un gwrei­ddyn chwerwedd yn tyfu i fynu, ac yn peri blinder, a trhwy hwnnw, llygru llawer. Heb. 12.15.

1. Y pethau Da a ofynnir wrth ddywe­dyd hyn ydynt y rhadau oll y gogoneddir Duw ynddynt.

I gwybodaeth am Dduw, ei briodo­liaethau a'i weithredoedd; Canys y neb ni ad­nabu Dduw, pa fodd y dichon ei anrhydeddu ef? Ac etto fe ddichon Duw ei ogoneddu ei hun yn yr anwybodus, ond heb ddiolch idd o, ac ynteu heb osod ei galon at ei ogoneddu ef.

2. Cariad, ofn, a pharch a gostyngei­ddrwydd. Sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calannau. 1. Pet. 3.15. Pa fodd? Byddwch barod bob amser i atteb i bob un a o fynno i chwi reswm am yr obaith sydd ynoch gyd ag addfwynder ac ofn; A chennych gydwybod dda.

Rhaid wrth hynny, fel y gallem ei san­cteiddio fod gobaith ynom, sef Gobaith yn Nuw, am yr etifeddiaeth dragwyddol. A Pharodrwydd i roi atteb i'r neb a ofynno reswm am yr obaith sydd ynom. Ac hynny ni ddichon neb heb wybodaeth am Dduw, a'r pethau [Page 41]dâ y mae efe yn eu gobeithio, ac yn eu dis­gwil ar ei Law ef.

3. Ac addfwynder ac ofn. Addfwynder o ran dynion a ofynnant y rheswm. Ofn o ran Duw, yr hwn yw sail ein gobaith, am yr hon yr attebir iddynt. O gariad y daw bôd yn add­fwyn, ag o ffydd yn Nuw, bôd yn ofnus tuag atto ef. A lle bo 'rhain, fe fydd cyd­wybod ddâ yn canlyn.

3. Diolchgarwch, moliant a chlôd i Dduw am ei holl ddoniau a'i Ddaioni, lloi ein Gwefusau, Hos 14.2. Yn hyn y mae Duw ei hun yn dywedyd ein bod yn ei sancteiddio ef. Yr hwn a abertho foliant, a'm gogonedda i. Psal. 50.23. Ac hyn y mae 'r Apostol yn ein hannog. Heb. 13.15. Trwyddo ef gan hynny c­fsrymmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth gwefusau yn cyffessu iw Enw ef.

4. Wrth ddywedyd hyn, yr ydym yn at­tolwg i Dduw, ar iddo droi a gosod ein ca­lonnau i ddal sulw ar ei holl weithredoedd a pherchi ei gyfiawnder, ei drugaredd, ei allu, ei ddoeithineb.

5. Yn gymmaint a bod Duw yn gweith­redu y pethau hyn ynom a ninneu yn eu dysgu trwy bregethiad ei air, a gweinhido­gaeth ei Eglwys, yr ydym yn attolwg iddo, fendithio ein Plwyfau a'n Eglwysi, gan roi i­ddynt Athrawon cyfiawnder, weithwyr profedic gan Dduw, difefl o flaen dynion, yn jawn gyfrannu gair y gwirionned. 2. Tim. 2.15. [Page 42]Ac iddynt hwythau ddiscyblion ffyddlawn i wrandaw yn ufydd y gair ac o bûr ewyllys, fel y gallwn ynghŷd ei osod allan yn ein holl fuchedd a'n ymarweddiad, ag yn hy­nny sancteiddio a gogoneddu Duw a'i Enw yn ein holl weithredoedd, a'n hymddygiad. Hyd yn hyn y pethau da.

2. Y Pethau drwg yr ydys yn gweddio rhagddynt, Pob peth, a phob gweithred ac yr amm­herchir Duw a'i Enw trwyddynt. Pob ffals ddysceidiaeth, pob opiniwn annuwiol, a­niweirdeb, pug-sancteiddrwydd, dirmyg ar air Duw a'i weinidogion, ar ordinhâdau, a'i orchymynion. Rhag y newyn y mâe A­mos yn sôn am dano, Am. 8.11. Nid newyn am fara, na syched am ddwfr, ond am wrando gei­riau 'r Arglwydd.

Rhag symmudiad y canhwyllbren y mae 'r yspryd yn bygwth i Eglws Ephesus. Datcu. 2.5. a'r tywyllwch a canlynant. (Hynny iw) rhag i Dduw gymmeryd oddiwrthych bôb Pregethwr, a Dyscawdwr da, a allai eich blaenori mewn buchedd dduwiol.

Rhag y bleiddiau rheibus mewn gwis­coedd Defaid, y rhai y mae Christ yn peri eu gochelyd. Matth. 7.15. Yn dyfod attoch mewn rhith sancteiddrwydd, ond trwy hynny i anrhei­thio eich eneidiau.

Rhag y baedd o'r coed a ddiwreiddia y winllan a'r winwydden, a bwystfll y maes a'i pawr. Psal. 80.13. a'r Llwynogod bychain a ddifwynant y gwinlla­nnoedd. [Page 43]Can. Sal. 2.15. Hynny iw, rhag y grymmus a'r rhai dichellgar a geisiant ddi­fetha Eglwys Dduw.

Rhag pob peth a gweithred a ddianrhyde­dda Dduw Pob rhwystr duwioldeb, a Phob dyn a gais ei anrhydedd ei hun, a orfole­dda yn y cnawd, ag na wna bob peth er gogoniant i Dduw. Rhag y gweision drwg, rhy aml yn yr amseroedd diweddaf hyn, yn cûro eu cyd-weision; Cyssegryspeilwyr yn anrheithio Tŷ eu Arglwydd, ag yn dwyn oddiarnynt gyflog y llafûrwyr.

3. Wrth ddywedyd hyn, Nyni a ddylem feddwl am yr holl ddaioni a wnaeth Duw i ni er mwyn hyn, fel y gallem anrhydeddu ein Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd Cofiwn y dyddiau gynt, a'r trugareddau a gawsom eu mwynhau ynddynt: Goleuni'r Efengyl yn ein mysc, Pûr bregethiad gair Duw, ag jawn ymarfer ai Sacramentau, a'i ordein­hadau tan llywodraethwyr Duwiol, agos er's cant o flynyddoedd: Fel Plant Israel yn Goshen yn gweled grâs a gogoniant Duw yn y goleuni, a'n cymydogion yr ûn agwedd a'r Aipht yn dywyllwch o'n cwmpas. Ni wnaeth efa felly ag un genedl; ac nid adnabuant ei farnedig aethau. Psalm. 147.20.

Och i na bai ynom galon i gydnabod hyn, a bod yn ddiolchgar iddo am ei holl ddaioni, fely gallai efe adnewyddu ei dru­garedd bob boreu tuag attom.

O eisieu ystyried a chydnabod hyn y mae Duw yn dechreu cuddio ei wyneb, ynbyg­wth symmud y canwyllbren, a dwyn goleuni ei air oddi arnôm. Canys lle bo dynion yn anniolchgar, heb gydnabod ei haelioni, jawn i Dduw ddwyn ymmaith ei râs oddi­wrthynt, a rhoi iddynt dywyllwch yn lle goleuni, wyr trawsion a chynhennûs, yn lle adeyladwyr ffyddlon, a newyn am air yr Arglwydd, lle y cawsant eu digoni, a'i diwallu o'r blaen Dirmyg, a ffieidd-dra yn lle gogoniant, &c.

4. Holed pob un ei galon ei hun, pan fo ar fedr gweddio, a ydyw yn wîr ac ar wei­thred yn ceisio sancteiddio Enw Duw. Yr wyt yn dywedyd Sancteiddier dy Enw, ac wrth hyny yn dymûno, ar iddo wneuthur lle­wyrch ei wyneb dywynnu arnat, ddanfon ei air, ei wirionedd, ei Efengyl yn ein plith.

Oni wnaeth efe hyn oll iti a'r ôl dy ddy­muniad; Hola dy hun wyt ti yn ddiolchgar iddo am hyn o ddaioni, a wyt ti yn dyfod i'r Eglwys i wrando ei air (i e,) a wyt ti yn ei wneuthur, ar ôl ei glywed?

Duw a wnêl nad ydwyt yn ei ddiustyru, yn ei gablu, a'i ddifenwi. Agor, o Dduw, ein llygaid, fel gwelom bethau rhyfedd am danat fel y gallom adnabod dy allu, dy ddoethnieb, dy gyfiawnder, dy drugaredd. Helaetha ein calonnau, ith osnu, ith garu, [Page 45]i ymddiried ac i orfoleddu ynot, Agor ein gwefusau ith foliannu, i offrwm iti aberth moliant am dy holl ddaioni: I weled a chydnabod dy weithredoedd, dy anrhydeddu di ynddynt, a th ogoneddu ymmwyniant dy greaduriaid.

PREG. VI.

Deuet dy Deyrnas, &c.’

YNy Deisyfiad cyntaf y gosodir o'n blaen O goniant Duw a Sancteiddiad ei enw, y peth cyntaf a ddylei bawb ei geisio. Yn yr ail, ar lleill sy'n canlyn. y mae i ni y mo­ddion in cyfarwyddo tuag at geisio ag eg­lurhau ei ogoniant.

Canys Enw Duw a ogoneddir, pan dder­chefir ei Deyrnas ynom Ei râs, a'i yspryd, a'i dangnefydd yn llywodraethau yn ein Ca­lonnau. Deisyf. 2. Pan fôm yn gwneuthur ei Ewyllys, yn ymostwng, ac yn ufyddhau iddo. Deisyf. 3. Yn bwrw ein baich ar ei Ragluniaeth ef am anghenrheidiau 'r byd presennol hwn. Deis 4. Yn ymddiried yn ei Drugaredd am Faddeuant o'n Pechodau. Deis. 5. Yn ymroi i'w râs, a'i allu am gael [Page 46]ein hamddiffyn, a'n gwared rhag pob rhiw ddrwg, pa un bynnag ai yn ei amcan, a'i arfaeth wrth brofedigaeth, a'i yn ei gwbl­hâd, pan fo chwant gwedi ymddwyn, ac escor ar bechod. Deis. 6.

I'r Drindod fendigedig y mae tri math o Deyrnasoedd. 1. Teyrnas ei Allu. 2. Ei Râs. 3. Ei Ogoniant.

1. Am y cyntaf y Dywed y Prophwyd. Psal. 103.19. Yr Arglwydd a baratôod ei orseddfa yn y nofoedd; a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bob peth. Ac etto. Psal. 145.13. Dy fren­hiniaeth dy sydd frenhiniaeth dragwyddoll; a'th Ly­wodraeth a bery yn oes oesoedd.

Am y frenhiniaeth yma, yd yw 'r weddi yn ei chyrhaeddyd yr ydys yn deisyfu gan Dduw, a'r iddo beru i'r holl fŷd ei chydna­bod, a gogoneddu ei Enw ynddi; a'r i bob dyn gyfaddef mor ddoeth ac mor alluog ydyw Duw yn ei reolaeth ar ei greaduriaid oll, ond yn enwedig yn ei Eglwys ei dŷ ei hun, sef, teulu y ffŷdd. A hyn a ddyscodd Christ ei hun i ni yn niwedd y weddi, wrth ddywedyd. Eiddo ti, &c.

2. Teyrnas Grâs Duw, ai Ogoniant nid ydynt deyrnasoedd nailltuol, ond dwy ran o'r ûn Frenhiniaeth: Yn ddechreuedig yn y gyntaf, yn gwbl-berffaith yn y llall. Un yn y bŷd yma, a'r llâll yn y byd sydd ar ddy­fod.

Brenhiniaeth neu Deyrnas Grâs Duw, [Page 47]ydyw ystâd ysprydol drwy 'r hon y mae Duw yn teyrnasu yn ei weision, a hwythau yn­ddo ynteu, gan ufyddhau iddo yn ewyllys­gar yn cael nerth a gallu i wrthynebu eu gelynion.

Am yr hon y dywed ein jachawdr. Os yd­wyfi yn bwrw allan gythreuliaid drwy yspryd Duw, yna y daeth Teyrnas Dduw attoch. Matth, 12.28. Chwchwi a welwch yma y gelynion, Cy­threuliaid, a'r môdd y mae eu gwrthwy­nebu a'u gorchfygu, trwy yspryd Duw: Yngrym a nerth yr yspryd y mae y deyrnas hon yn sefyll.

Am yr un y dywed yr Apostol. Nid yw teyr­nas Ddaw fwyd a diod, ond cyfiawnder, a thange­fydd, a llawenydd yn yr yspryd glân. Rhuf. 14.17. Yn hyn y mae hi yn sefyll.

1. Ynghyfiawnder ffydd, y ffydd y gyfri­frwyd i Abraham yn gyfiawnder, a gyfrifir i ninneu hefyd. Rom. 4.9.11. Ac ynghi­fiawnder ufydd-dod diragrith, er nad yw hi gwbl-berffaith, drwy sancteiddiad yr yspryd Glân.

2. Yn hanghneddyf Cydwybod tuagat Dduw, gweithrediad cyfiawnder.

3. A llawenydd yn yr yspryd yn deilliaw oddiwrth y ddau ynghŷd, pa beth bynnac a ddigwyddo yn y byd hwn: Hyfrydwch yn Nuw ymhôb cyflwr.

A'r deyrnas hon, er ei bod hi gwedi dy­fod eusys, fel y mae Christ yn tystiolaethu. [Page 48] Matth. 12.28. Etto y mae hi fyth yn dy­fod; a grâs yn amlhau, a doniau yr yspryd yn cael eu cryfhau a'u anchwanegu beu­nydd megis drwy 'r weddi yma.

Teyrnas y Gogoniant, ydyw ystâd fen­digedig neu gyflwr y Sainct yn y nefoedd. Pacatum, prorsusque tranquillum, quo in Sanctis abs­que ullius host is infestatione Deus æternum singulariter regnat. L. B., Ansawdd lonydd heddychlawn, ,Daw ei hun yn teyrnasu yn unigol yn ei Sainct heb ,wrthwyneb g [...]lyn yn y byd.

A'r rhan yma o'r deyrnas hon nid eiff neb i mewn iddi nes iddo farw. Yna y bydd i eneidiau y cyfiawn, wedi eu puro drwy ffydd ynghrist oddiwrth bechod, fel na throse­ddent mwyach, gael eu derbyn yngwydd a gogoniant y goruchaf, i fôd gyd a Duw yn dragywydd.

A'r unrhyw ddedwyddwch y mae 'r enei­diau yn ei fwynhau, ar ol ei marwolaeth gorphorol, y gaiff y corph hefyd fôd yn gy­frannog o hono yn yr adgyfodiad, wedi ei lwyr-lânhau odiwrth waeldodion llygre­digaeth, ŷn bûr, ogoneddûs, anfarwol.

Yno y bydd teyrnas Dduw gwedi dyfod yn gyflawn pan fo efe felly yn llywodrae­thu ymmhawb, ac ymmhôb un, fel na bo dim ond ufydd-dod, na sôn am wrthrin, na chymmaint a gogwydd i ddim drwg, neu anfodlon i Dduw.

Ac nid heb achos y gweddiwn ar ddyfod [Page 49]o'r frenhiniaeth hon arnom, Gogoniant yn y diwedd, a Grâs yn y cyfamser, a nyni wrth hyn yn deall fod Brenhiniaeth arall yn y byd hwn, o'r hon y mae i ni berigl nid bychan, oddiwrth yr hon yr ewyllysiwn gael ymwared, a'n symmud i un a fo well.

Yn y byd hwn y mae teyrnas Satan, Me­ddiant y tywyllwch, Grym a brenhiniaeth Pechod: Yn yr hyn y mae trais, a gorth­rech yn lle cyfiawnder: Rhyfeloedd, ac ymlladdau, ac aflonyddwch cydwybod yn lle Tangneddyf Yn lle diddanwch a lla­wenydd, Gofidiau amrhaethadwy, ofn, a dychryn a phoenau gwastadol.

A theyrnasoedd y bŷd hwn nid ŷnt ddi­drafferth, drygau a chyfyngderau, a ther­fyscau (fel y gwyddoch) yndigwydd iddynt beunydd. O blegid hynny y gweddiwn yn wresoccach▪ ac y byddwn daer ar yr Argl­wydd, ar iddo bryssuro ei deyrnas ddidrangc, safadwy, dianwadal.

Teyrnas Dduw i gyd oll a ddaw, ac a fydd hyspys i ni mewn pump o raddau.

1. Yn y moddion oddiallan, y mae Duw yn eglûro ei râs a'i ffafr ynghrist trwyddynt. O herwydd pa ham yr Efengyl sanctaidd a elwir Gair y deyrnas. Matth. 13 19 Pan glywo neb air y deyrnas, ('ie) Gair Duw, Efengyl Christ (i.e) y gair hwn a elwir y deyrnas. Di­ammau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi, medd [Page 50]Christ ei hun, am ei weinidogaeth. Lue. 11.20.

2. Yn y llewyrchiad oddifewn, a'r me­ddwl gwedi ei oleuo, i weled a deall, a chydnabod gwirionedd Duw, a dirgelion yr Efengyl.

3. Ad-enedigaeth ac ad-newyddiad yspry­dol, a'r enaid gwedi ei rhyddhau oddiwrth rhwymynau pechod, a'i gosod tan râs, a'i gwneuthur yn ddeiliad darostyngedic i Grist Jesu.

4. Pan fo'r Enaid yn rhydd drwy angeu i ddychwelyd at y Duw nefol ai hanadlodd, a'r llawenydd sydd wedi ei barattoi iddi yn y nêf.

5. Pan gaffo y dyn ei gwbl-ogoneddu, mewn Enaid a chorph; (hynny iw) Cwbl­háad ei Ddyfodiad a Pherffeithiad teyrnas Dduw ynddo.

Ac wrth hyn y gwyddoch amcan bellach Pa bethau Da yr ydym yn eu ceisio yn y Deisyfiad yma.

1. Yn gymmaint a bod y neb a fo yn gweddio tan llywodraeth Duw a Theyrnas ei Allu, y mae yn rhaid, ac yn addas iddo ddymuno gan Dduw, ar iddo ai raslawn amddiffynniad ei gadw, ai arwain yn ei­holl fywyd.

2. Er iddo osod ei frenhin arnom, fel y mae efe'n dywedyd trwy'r Prophwyd, Minneu a osodais fy Mrehin ar Sion fy mynydd sanctaidd. Psal. [Page 51]2.6. sef Christ: Etto am na ddichon neb ddyfod atto drwy ei nerth naturiol ei hun yr ydym yn attolwg iddo, ein hadgenedlu ai yspryd, ein dyscu ai air, ein porthi ai Sa­cramentau, a thrwy wir edifeirwch, ac adnewyddiad buchedd ein tywys a'n har­wain hyd at frenhiniaeth ei Râs, fel y ga­llom fwynhau 'r holl fendithion perthyna­sol: iw blant adgenhedledig.

3. Uwchlaw hyn nid ydym yn anghofio teyrnas ei ogoniant, ond yn hytrach, yn dymuno ar iddo o'i fawr drugaredd, ai allu ai nerth ein cadw i'r jechydwriaeth sydd barod iw datcuddio yn yr amser di­weddaf, i'r etifeddiaeth anllygredig, a dihaloge­dig, a di-ddiflannedig, ynghadw yn y nefoedd. 1. Pet. 1.4.

2. Gan fod Satan yn oestadol yn ein hû­do, a trwy waith y cnawd ar bŷd yn ceisio ein tynnu atto ei hun, a'n dwyn ymmaith oddi tan lywodraeth Christ ein brenin ne­fol yr ydys yn hyn yn gweddio rhagddo: Ar i Dduw daflu i lawr; a diflannu llywo­draeth Satan; attal, a darostwng y cnawd a'i chwantau pechadarus, fel pan ddelo tywysog y byd hwn attom, allu o hono gael dim ynom ni. Joh. 14.30.

Ac yn gymmaint bod ein harglwydd gra­susol bob amser yn cynnig in uchel-fraint ei deyrnas, a bob porth y bywyd bob amser yn agoryd, gweddiwn rhag dirmyg ar ei [Page 52]râd, rhag esceulûso 'r amse, gyd a'r mor­wynion angall Matth. 25. ac ar ol hynny yn y dydd diwaethaf, i ni alw a churo pan fo rhy­hwyr

3. Yn drydydd wrth ddywedyd hyn rhaid iti feddwl ac ystyried, pa ddiolch 'r wyt yn ei dalu i Dduw, am iddo oth ie­fengtid, (pan nad oeddit yn haeddu dim oddiwrtho) dy achub oddi tan law Sa­tan, a'th waredu allan o feddiant y tywyllwch a'th symmud i d yrnas ei anwyl Fâb; Yn yr hwn y mae iti brynedigaeth [...]rwy ei waed ef, sef maddeuant pe­chodau; ac wrth hynny yn cael dy wneuthur yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y Goleuni. Col. 1.12.13.14.

Ymofyn ath gydwy ubod dy hun pa­ddiolch a wyt ti yn i dalu iddo, am iddo dy alw felly atto ei hun a'th wneuthur yn ae­lod o'i gorph ei hun, a'th feithrin yn ei gynnu­lleidfa sanctaidd? Pa ddiolch y deli, am iddo beidio a'th adel fel Twrc neu Iddew, pan allasai yn gyfianhaf adel i ti grasu, a difla­nnu ar farwor dy anwybodaeth, ath an­grediniaeth naturiol.

4. Yn ddiweddaf, ystyria pa wedd yr wyt ti yn ymddwyn tuag at ei yspryd sanctei­ddiaf, rhag i ti dynnu yn ôl, ac ymadel ai lywodraeth ac ymwrthod a'i deyrnas. A wyt ti! yn gwrthwynebu yr yspryd glân megis yr Iddewon gynt. Act. 7.15. Yn ei dri­stau. Ephe. 4.30. Neu yn ei ddiffod. 1. Thes­sal. [Page 53]5.19. A wyt ti yn gwrando ei air, yn ufyddhau iw gynghorion fel y gallai ei deyrnas ddyfod attat ti ac iddo ynteu reoli ynot?

Ac wrth ymwrando fel hyn, dydi a gei­weled dy fôd yn fyr o lawer o bethau an­ghenrheidiol; Hynny fydd raid iti gyfa­ddef, a gweddio yn daerach o hynny y 'n geiriau 'r Propwyd. Creâ galon lân ynof o Dduw, ac adnewydda yspryd uniawn o'm mewn; Na fwrw fe ymmaith oddi ger dy fron; ac na chymmer dy ys­pryd sanctaidd oddiwrthif. Psal. 51.10.11.

Clyw nyni, O frenin Nefol, Tywallt dy râd a'th yspryd ynom, a thrwy raglu­niaeth dy ddaioni, gwna i deyrnas dy Fâb ddechreu codi yn ein calonnau. Diflanna nerth y gelyn a chenfigen y gwrthnebwyr; fêl y gall hi gynnyddu fwyfwy: Galw dy ddewisedig bobl yr Iddewon yn dy amser gosodedig. Cwbl-hâ bob peth yn y môdd a'r drefn a ordeiniais ti yn dy ddoethineb a'th ragddarbod, hyd oni pherffeithir dy deyrnas hon sy'yn y byd-hwn yn gymmysc a phechod, gwendid, a gwrthnesigrwydd, mewn llawn ogonïant, sancteiddrwydd ac anfarwoldeb. Caniadha hyn, drugarog dâd, er serth ar dy Anwyl Fab, &c.

PREG. VII.

‘A'r ail ar y geiriau: Deuet dy Deyrnas, &c.’

NAc anghofiwch, fy mrodyr, mai 'r peth cyntaf, a'r pennaf a ddylem ni eu gesio iw sancteiddiad Enw Duw, a'i wîr o­goniant Dymma 'r peth in crewyd erddo, ac at hyn yma y mae ein ymarweddiad i gid yn pwyso, at ogoneddu Duw. Beth bynnac a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 1. Cor. 10.31. O herwydd hyn, yn y weddi berffaith hon a drefnodd Duw ynghrist i ni, hwn iw 'r Deisyfiad cyntaf. Yn yr hwn, chwi a glywsoch pa bethau dâ yr ydych yn eu dymyno, a pha bethau drwg yr ydys yn gweddio rhagddynt.

1. Y Dâ. Yr holl râdau y gogoneddir Duw ynddynt. Gwybodaeth am Dduw, ei briodoliaethau, a'i weithredoedd, Ca­riad tuag atto ef, ag ofn a pharch, a go­stvngeiddrwydd, Diolchgarwch a moliant iddo am ei holl ddoniau. &c.

2. Y drwg. Pob peth, a gweithred, ag [Page 55]yr ammherchir Duw ai Enw trwyddynt. Pob rwystr Duwioideb. &c.

Gwybyddwch hyn, nad yw hyn bossibl i ni ond trwy ei Râs; Nad yw bossibl i ni ei sancteiddio ef, nes iddo ef ein Sanctei­ddio ni yn gyntaf.

Am hynny yr ail peth a ddys odd ein jachawdr i ni weddio am-dano, yw Dyfodiad ei Deyrnas, nid amgen. Ei Rás yn bennaf, i reoli yn ein calonnau. Canys er i Dduw o­sod ei frenin arnom. &c.

A chan fôd Satan yn oestadol yn ein hudo. &c.

Fel hyn y clywsoch y da ar drwg hefyd yn yr ail deisyfiad ynghyd a'r modd y dy­lem ni fôd yn ddiolchgar i Dduw am ei holl ddaioni yn ei lywodraeth arnom, a pha wedd yr ymddygem yn ddyledus tu­ag atto ynteu.

Etto y mae i chwi beth yn ôl i ystyried yn y deisyfiad yma.

  • 1. Y meddyliau a ddylent fyned ynghŷd a'r weddi.
  • 2. Y Gweithrediadau a canlynent.

1. Pan fôm ar fedr dywedyd hyn, rhaid i ni feddwl ac ystyried sylfaen a chynhali­aeth y deisyfiad, yr achos sy 'n peri i ni ddy­wedyd fel hyn yn ein gweddiau. Deued dy deyrnas.

Canys pob ryw ddeisyfiad o ran eisieu neu ddiffyg y mae. Ac wrth hyn y mae [Page 56]ni gydnabod ein heisieu, eisieu cael ein llywodraethu ar ôl ewyllys Duw, ai reol. O naturiaeth nid ŷm amgen na gweision pechod tan gaethiwed Satan. Am hynny nid heb achos y dymunwn newid a gwell­hau ein cyflwr, a bod tan lywodraeth bu­ddiolach i ni; Rheswm ini weddio ar Dduw ar iddo roddi i ni edifeirwch i gydnabod y gwirionedd, a'bod i ni ddifod i'r jawn, allan o­fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef. 2. Tim. 2.26.

Er nad ydym tan feddiant y tywyllwch, eithr tan râs; otto, tra bôm yn y corph nid ŷm na diofn na diogel; a'r llew rheipûs rhuadwy yn rhedeg oddi amgylch gan geisio y neb a a­llo ei lyngcu. 1. Pct. 5.8. Yr heliwr yma ymm­nob peth, ac ym mhob lle yn cuddio ei faglau, gan geisio dal y cyfiawn ynddynt. A'r cnawd hitheu yn ein hûdo, ac yn cei­sio ein dwyn oddi tan lywodraeth yspryd Duw, i wasanaethu pechod. Fel nád yw r' weddi yn ddiachos, Deued dy deyrnas. Lly­wodraethed dy râs yn ein calonnau, fel na chaffo 'r yspryd drwg ddim ynom; Felly nid iw 'r cyngor yn ddireswm chwaith, Na theyrnased pechod yn eich cyrph marwol i ufyddhau o honoch iddo yn ei chwantau. Rhuf. 6.12.

Pan fo'm yn cyhnabod gweddillion pe­chod ynom a dichellion y gelyn mawr ys­prydol, i'n herbyn, ni a fyddwn gymhwy­sach i weddio ar ein brenin nefawl ar iddo [Page 57]dderchafu a chadarnhau ei deyrnas ynom.

2. Megis ac yr ydym yn gweddio trosom ein hunain, felly yr ydym yn meddwl am orthrymder ein brodyr a'n cydwieision ac yn dwyn galar dros aml lygredigaeth y bŷd, trwy 'r hyn y dianrhydeddir Duw ac y rhwystrir ei frenhiniaeth. A hynny a wna 'r neb a ddycco zêl i Dduw, weddio yn wresoccach, gan attolwg iddo ddirymmu nerth pechod, orchfygu 'r byd, diflannu teyrnas Satan, a phryssuro ei ddyfodiad ei hûn, i'r hwn yn y dwedd y darostyngir pob peth, fel y byddo Duw oll yn oll.

2. Y gweithrediadau a canlynant ydynt.

1 Ymlawenhau yn nerchafiad teyrnas ei râs yn ein calonnau ag ymbarattoi i gy­farfod a'i ddyfodiad yn y cymylau.

Rhaid ir deisyfiad yma ddiscleirio, ac ym ddangos yn ein buchedd a'n gweithre­doedd, onid ê, nid iw ei ddywedyd ond peth ofer. Rhaid i ni ddwyn ffrwythau y deyrnas os mynnwn iddi barhau ynom, a'i mwynhau hi yn dragywydd O ran eisieu hyn, o ran eisieu dwyn, ffrwyth addas i edi­feirwch (hynny yw ffrwyth y deyrnas) y mae ein jachawdr yn bygwth yr Iddewon. Am hynny, meddaf i chwi y dygir teyrnas Dduw o­ddiarn ch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygco ei ffrwythau; Matth. 21, 43. Hynny yw, Am iddynt hwy ymwrthod a'i brenin, a dywe­dyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom. Lu. 19. [Page 58]14. Am iddynt wrthod y pen-congl faen, a llâdd tywosog y bywyd; Am hynny meddaf, y dy­gwyd y deyrnas oddi arnynt, ag a'i rhodd­wydd i genedl yn dwyn ffrwyth. Pe bua­sent hwythau yn ei groeshafu yn ei ddy­fodiad, yn mynnu ei gael i deyrnasu arnynt, hwy a fuasent yn dwyn ffrwythau hefyd, ai deyrnas ni ddygasei Duw ffyth oddi-ar­nynt.

Edrychwn ninneu arnom ein hunain rhac i ni fôd yn ddiffrwyth, a cholli o ho­nom yr uchel-fraint hon o'i deyrnas fendi­gedig. Er maint ein bôst a'n ymffrost yn ein proffes ein bod yn ddiscyblion i Grist, a phlant y deyrnas; etto oni ddygwn ffrwythau addas iddi, fe 'n ceuir allan yn y diwedd, me­gis ac y mae Christ yn rhagddywedyd i'r Iddewon. Plant y deyrnas, a deflir ir tywyllwch eithaf, &c. Llawer a ddaw o'r dwyrain a'r gor­llewin, ac a eisteddant gyd ag Abraham. Ond Plant, &c. Matth. 8.11.12.

2. Yn nisgwiliad y Deyrnas hon y mae i ni fodlonrwydd ym mhob grâdd a stâd, a chyslwr. Y neb a daerai, ar iddo ddyfod i deyrnasu, sydd yn disgwil am ei ddyfodi­ad; yn gwneuthur ei oreu ar ei gael gan­ddo mewn tangneddyf; ac yn dysgu gyd a St. Paul, i fod yn fodlon a phob cyflwr. O herwyd pa ham fy anwylyd, gan eich bod yn disgwil y pethau hyn gwnewch eich goreu ar eich cael ganddo mewn [Page 59]tangnhedddyf, yn ddifrycheulyd, ac yn ddiargyoedd. 2. Petr. 3.14.

Wrth hyn y mae ein jachawdr yn ein cy­nghori nas gofalem am bethau 'r byd; ond ceisiwch deyrnas Dduw yn hyttrach, a'r pethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg: Nac of na braidd bychan: Canys rhyngodd bodd i' ch tâd roddi i chwi y deyrnas. Luc. 12.31.32.

O blegid hyn dibris gennym flinder a gorthrymderau y byd presennol, a Christ ei hûn yn peri i ni ddisgwil cystudd, heb ddiddanwch yn y byd ond a gaffom yn y dŷn oddi mewn drwy lywodraeth ei râs a'i yspryd ynom. Gwir yw 'r gair. Canys os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef: Os ddioddefwn, ni a deyrnaswn gyd ag ef. 2. Tim. 2.11. & 12. Ac wrth hyn y cadarnhâe St. Paul eneidiau y discyblion, gan eu cyng­hori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orth­rymderau y mae yn rhaid i ni fyned i Deyrnas Dduw. Act. 14 22.

3. Yn y gobaith hwn yr ydym yn ymba­rattoi nid yn unig i ddioddef cystuddiau, ond i farw hefyd, gan wybod hyn, nad iw angeu, ond cychwynfa a mynediad i mewn i deyrnas, nefoedd: A'n brenin nefawl yn pryssûro ei ddyfodiad; a ninneu beunydd awr, ac ennyd yn gweddio, Tyred Arglwydd Jesu, Tyred ar frŷs, pwy ni fyddai barod iw dderbyn? A Christ ei hun yn peri i ni fod felly, Bydded eich lwynau wedi eu hamwregysû, [Page 60]a'ch canhwyllau wedi eu goleu, A chwitheu yn de­byg i ddynion yn disgwil eu harglwydd, pa brydy dy­chwel o'r neithior, fel pan ddelo a churo, yr agorant iddo yn ebrwydd. Gwyn ei byd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd pan ddêl yn neffro.

Llawer o honom sydd yn dywedyd y gei­riau, Deued dy Deyrnas heb feddwl am ei ddyfodiad attynt nac yn awr angeu, nac yn nydd y farn. Ei wahodd y maent a r da­fod leferydd, ond yn eu calonnau, (Duw a'i gwyr,) yn bwrw ei Ddyfodiad a'i ddydd ym mhell oddi-wrthynt.

Pa ddyn gwael a wahoddai ŵr mawr iw dŷ, ac heb fod ganddo ddim yn barod i­ddo, ie ac efe ei hun heb ganddo ewyllys iw groeshafu? Am hynny od ydych yn dy­muno ich brenin nefol, iddyfod a'i deyrnas a'i ogoniant hyd attoch, rhaid i chwi fod yn barod iw dderbyn a'i groeshafu ac i la­wenychu yn ei ddyfodiad.

Y neb a fo wir-ewyllysgar i ymadel a'r bŷd, a fo ganddo, gyda'r Apostol, chwant iw ddattod, ac i fod gyd a Christ. Phil. 1.23. a'i hyder ar Dduw a'i obaith yn ei air, a'i a­ddewid, nac yn blino tan gystûdd, nac yn ofni marwolaeth, hwnnw a fydd gymmwys ac addas i weddio a dywedyd fel hyn Deued dy Deyrnas.

Gwna i ni, nefawl Dâd, fod yn wir ddi­olchgar i ti am dy ddaionus ragluniaeth, a pharhâed teyrnas dy allu arnom, i'n cadw, [Page 61]a'n harwain, a'n hamddiffyn yn ein holl fywyd. Gwna i Deyrnas dy râs, godi ac ymddangos yn ein calonnau. Diflanna nerth y gelyn, a chenfigen ein gwrth­nebwyr. Gwna i ni 'nŷdd a goruchafiaeth dy râd fod yn fodlon bob un ai stâd ai gy­flwr, lawenychu yn nerchafiad a disgwiliad dy ogoniant, ymbaratoi imgyfarfod a dy­fodiad dy Fâb yn y cymwylau, ac yn y cy­famser i ddioddef cystudd, ac i farw, i fod gyd a Christ yn ei deyrnas a'i ogoniant, &c.

PREG. VIII.

Bid dy ewyllys ar y ddaiar, &c.’

HYD yn hyn y bu y ddau Ddeisyfiad cyntaf am bethau perthynasol i Dduw, sef; Sancteiddiad ei Enw, a Dyfodiad ei Deyrnas: Y trydydd hwn, sydd am wneu­thur ei ewyllys: Yn canlyn yn gymmedrol, megis, Modd i gyflawni 'r un, sef, San­cteiddio Enw Duw, a rhaglwybr neu fy­nediad i mewn i'r llall, fforddiad iw Deyr­nas.

Wrth wneuthur ewyllys Duw y Sanctei­ddir ei Enw, ac wrth ei gwneuthur ar y [Page 62]Ddaiar y mae i ni brofiad, a chais ar yr u­fydd-dod gwbl-berffaith honno, sydd ddy­ledûs i Grist yn ei Deyrnas gyffredinol yn y nefoedd, pan ddarostynger pob peth tan ei draed, ef fel y byddo Duw oll yn oll.

Y Deisyfiad hwn sydd wedi ei osod allan mewn cymmharia [...]th neu gyffelybiaeth, ar y Ddaiar, megis ac yn y nefoedd: Ac yn­ddo y mae dau beth addas i ddalsulw ar­nynt.

1. Y Gwaith, Gwneuthur ewyllys Duw. 2. Y Pattrwn, neu 'r Esampl iw ganlyn. Megis ac yn nefoedd.

Ewyllys Duw er nád yw ynddo ei hun ond un, megis yn ei hanfod etto fe a'i do­sperthir o herwydd amryw amlygynau, ac effeithiau, ac er ein cyfarwyddo ni, yn hyn y mae 'r Scrythur Lân yn dywedyd am ei ewyllŷs.

Ewyllus.

  • 1. Cuddiedig: Absoluta, Definita, Beneplaciti, Dispositionis, Decreti.
  • 2. Datcuddiedig. Signi, Revela­ta.

1. Cuddiedig ewyllys Duw yw, trwy 'r hwn yn ei derfynedic gyngor, a'i ragwy­bodaeth, yr ordeiniodd efe wneuthur pob rhyw beth nef beidio. De hâc voluntate nec opus est petere, nec rectè aut piè quicquam peteretur. Chemn: (he,) O ran yr ewyllys hwn nid rhaid gweddio, ac nid ellir chwaith yn [Page 63]jawn, ac vn dduwiol. Tan yr hwn yr y­dys yn ymddarostwng yn unig, nid yn gwe­ddio; am na's gall ein gweddiau ym chwa­negu dim tuag at ei gyflawniad ef.

E in Duw ni sydd yn y nefoedd, efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Psal. 115.3. Pwy a wrthwyne­bodd ei ewyllys ef. Rhuf. 9.19.

2. Datcuddiedig ewyllys Duw ydyw ei sanctaidd athrawiaeth yn ei air, yn yr hwn yr ysbysodd efe i ddynion, ynghylch ei dra­gwyddol ddedwyddwch a'u hiechydwria­eth pa bethau a ddylent eu gwneuthur, a pha bethau ni ddylent.

Yr hwn a elwir gan yr Apostol, Daionus, a chymmeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Rhuf. 12 2.

Yn hwn y cynhwysir y Gyfraith, a'r Prophwydi, a'r Efengyl, cymmaint oll ac a scrifennwyd er addysc i ni. Rhuf. 15.4. Y pethau oll y mae Duw yn eu gorchymmyn, neu eu gwarafun, ei haddaw, eu hannog, eu by­gwth, &c.

Non petimus ut Deus faciat quod vult, sed ut nos possimus facere, quod Deus vult. Cyprian. Nid ŷm yn gweddio ar i Dduw wneuthur y peth a fynno, ond ar i ni allu gwneuthur y peth y mae Duw, yn ewyllysio.

Y mae hefyd ewyllys a elwir gan rai E­wyllys Goddefiad Duw, neu Ewyllys ei Weithrediad. Voluntas Permissionis seu Opera­tionis. Canys ni wneir, ac ni ddigwydd dim [Page 64]i Greadur yn y bŷd heb ewyllys Duw, yn ei wneuthur, neu yn rhoi cennad iddo. Ond yr un ewyllys sydd Guddiedig o ran yr arfaeth tragwyddol mewn pethau la­wer, Datcuddiedig, o ran y diben, neu 'r hyn a ddêl o honno. Am yr hwn y dy­wedwn Fiat voluntas tua sicut in nobis, ita & de 'nobis: Gwneler dy ewyllys, megis ynom, 'felly amdanom hefyd: Ar ôl esampl y dis­cyblion yn gorchymyn Paul i Dduw yn ei fynediad i fynu i Jerusalem, gan ddywedyd, Ewyllys yr Arglwydd a wneler. Act. 21.14.

Ac yn ddiau Ewyllys yw, Beth bynnac a archo neb ar eiriau, ac a ddangoso fod yn dda ac yn gymmeradwy ganddo. Am hy­nny o herwydd i Dduw roddi ini ei fendi­gedig air, ac ysbysu a dangos yn amlwg ei ewyllys ynddo, cymmwys a chwbl-addas i bawb ymddaronstwng iddo.

Nid yw Ewyllys Duw, fel y dywedais ond ûn, di ymmod anghyfnewidiol; Er hynny, er addysc fe ai dosperthir. Docendi causa.

Distinguitur in voluntatem Vid. Chemn: Har. Evang. c. 107.

  • 1. Credendam
  • 2. Faciendam
  • 3. Patiendam.

Ewyllys a Gret­tir, a wneir, ac a Oddefir.

1. Yr ewyllys a Grettir ydyw, lle bo Duw yn dangos yn ei Air ei feddwl tuag attom [Page 65]2. Yr hwn a ddylid ei wneuthur, a gynhwy­sir yn y Gorchymmynion. 3. Yr hwn a ddy­lid ei oddef, pan fo Duw yn ôl ei fodlon­rwydd ei hûn yn bwrw 'r Groes arnom.

Llawer o bethau yn yr Scrythur Lân a el­wir Ewyllys Duw.

1. Troad neu ymchweliad Pechadur at Dduw a elwir Ewyllys Duw. Ezech. 33.11. Fel mai byw fi medd yr Arglwydd, Nid ymhoffaf ymmarwolaeth (nid ewyllyfiaf) yr annuwiol c­nid troi o'r annuwiol oddiwrth ei fforddd: Hynny yw ei ewyllys ef.

2. Sancteiddiad dyn. 1. Thess. 4.3. Hyn yw ewyllys Duw sef eich Sancteiddiad chwi, ar ym­gadw o honoch rhag godineb.

3. Ffydd yn Ghrist, a'r bywyd trwy­ddi. Joa. 6.40. Hyn yw ewyllys yr hwn am han­fonodd i, cael o bob ûn sydd yn gweled y Màb, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol.

4. Cadwedigaeth ei eiddo, a'i hadgy­fodiad. Joan, 6.39. Hyn yw ewyllys y Tâd am han­fonodd i, o'r cwbl a roddes efe imi, na chollwn ddim o honaw, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd di­weddaf. Matth. 18.14. Nid yw ewyllys eich Tâd gyfrgolli 'r un o'r rhai bychain hyn.

5. Ufydd-dod. Matth. 7.21. Nid pob un sydd yn dywedyd Argl. Argl. a ddaw i mewn i deyr­nas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhâd, &c. Mar. 3.85. Pwy bynnag a wnelo e­wyllys Duw, (a ufyddhao iddo) hwnnw iw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam i.

7. Y mae Christ yn galw ei Ddioddefaint ei hun Ewyllys Duw. Matth. 26.42. Fy Nhâd, Onis gall y Cwppan hwn fyned heibio oddwrthif, na byddo i mi yfed o honaw gwneler dy ewyllys di. A llawer o bethau nailltuol eraill.

Yn y gwaith hwn o wneuthur ewyllys Duw y mae graddau ar ôl dosparthiad gwir ufydd-dod.

Canys y mae un math o ufudd-dod i'r E­fengyl, ac un arall i'r Gyfraith. Gorchwyl yr Efengyl iw ymegnio o bûr ewyllys, di­ragrith ar wneuthur ewyllys Duw; yme­gnio meddat, yn ôl mesur Dawn Christ, a'r grás a roddwyd i ni. Eph. 4.7. Hyn y mae Christ yn ei gymmeryd yn ddilysiant ac yn ei gy­frif yn ufudd-dod, ac hyn a ddehellir yn y weddi.

Ond disgwiliad y gyfraith iw, ei chy­flawni hi ym mhob peth ac ym mhob modd ac y gorchymmynwyd; yr hyn nid iw bossibl yn y cyflwr ammherffaith pre­sennol. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Jac. 3.2. Nid oes neb yn gwbl-berffaith, ddibechod. Os dywedwn ein bod heb bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, &c. 1. Joan. 1.8.

Ond er na allodd neb erioed (ond Christ ei hun) gyflawni 'r holl gyfraith a gwneu­thur Ewyllys Duw yn berffaith; Etto y mae pob gwir Cristion, yn gosod eu galon, gyda Dafydd i gyflawni gorchymmynion Duw [Page 67]hyd y diwedd: Ac yn eu cadw hwynt mewn gwirionnedd er nâs geill, mewn perffeithrwydd cyflawn. Ac yno y mae yspryd y grâs (yr hwn yn ôl yr addewid a dywelltir allan yn amlach dan yr Efengyl) yn eu diddanu hwynt, ac yn eu cynnor­thwyo yn eu hamcanion i wneuthur yr hyn a orchymmyno efe iddynt ei wneuthur. Ac wrth wneuthur hynny y mae Duw yn derbyn eu hewyllys da a'u hamcan yn lle Cyflawniad y Gyfraith: Gan osod haeddi­gaethau Crist (yr hwn a gyflawnodd y gy­traith trosom ni) i atteb dros ba beth by­nnac a fo diffygiol yn ein hufudd-dod ni.

Ac o herwydd hyn y mae St. Joan yn dy­wedyd Nad iw gorchymmynion Duw yn drymmion. 1. Joan. 3.5. A St. Paul am dano ei hun. Yr wyf yn gallu pob peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i [...] Phil. 4.15. Yr un thyw nerth a chynnorthwy 'r yspryd yr ydym ninneu yn ei geisio yn y deisyfiad yma; fel y ga­llom wneuthur ei ewyllys mewn gwir u­fudd-dod; Allu o honom yn ôl mesur dawn Crist forwhaû ein haelodau, groshoelio y cnawd, ei wynniau, a'i drachwantau, adgyfodi i newydd-deb, buchedd, rodio yn yr yspryd, a gorchfygu y bŷd drwy ffŷdd.

Dymma 'r Gwaith, y gorchwyl y sonni­ais i amdano.

2. Yn y Pattrwn y mae i ni ystyried, Pwy ydynt, y rhai a osodant i ni yr efamol [Page 68]yma yn y nefoedd, Nid amgen, y Sainctiau a'r Angylion yn arbennig: Ar scrythur Lân yn dangos i ni megis mewn drŷch yn Eglur, y gwasanaeth y maent yn ei wneu­thur i Dduw, a'r modd a gwnânt iddo.

Ond chwchwi a ofynnwch, Ai possibl i Ddynion daiarol, llwythedig a chnawd, gwedi eu hamgylchu a gwendid gwynniau, a phrofedigaethau, wneuthur ewyllys Duw yn y modd a'r sutt y mae 'r Angylion yn y nefoedd yn ei wneithur?

Nác ydyw ddim. Nid ydym yn gweddio chwaith, nac yn disgwil (ac nid iw Duw chwaith yn disgwil ar ein llaw) gyflaw ni cystal ufudd-dod, ar y ddaiar, ac y ma­ent hwy yn y nefoedd mewn graddau a pherffeithrwydd: ond gwir ufydd-dod di­ragrith, a thebyg i'r eiddynt hwythau. Megis yn y nefoedd: hynny iw, nid cyfartal, ond cyffelyb

A Choppi o hyn y mae 'r Prophwyd yn ei roddi i ni yn ei adroddiadd am yr angy­lion. Psal. 103.20. Ei Angylion, cedyrn o nerth yn gwneuthur ei air ef, gan wrando ar leferydd ei air ef.

A'r Tebygoliaeth yma rhwng ein ufudd­dod ni ar y ddaiar ag ufydd-dod yr angy­lion sydd yn sefyll, yn y pethau hyn.

1. Ewyllysgarwch a llonder ŷ ngwaith yr Arglwydd, yn ei wneuthur gyd a phob parodrwydd fel y mae 'r Angylion. Job. 1.6. [Page 69]Am ba achos y dywedir eu bod hwy yn se­fyll ger bron Duw megis yn disgwil cennadwri ueu pa beth a fynnei 'r Arglwydd iddynt ei wneuthur.

Hyn y mae Duw yn ei ddisgwil gan bob dyn yn ei ufudd-dod, ac wrth hyn y mae ei wobr yn ymddibynnu Os gwnaf hyn o'm bodd, y mae i mi wobr. 1. Cor. 9.17. Os pregethaf. v 16. Rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. 2. Cor. 9.7. Nid yn elûsen yn unig, ond ym mhob gorchwyl arall, Nid gwiw gwneu­thur gorchwyl yn y bŷd, yn athrist nef trwy gymmell.

2. Bywiogrwydd a buander, yn dyfod o ewyllysgarwch, Nid y'nt hwy yn oedi gwneuthur y peth a orchymynnir iddynt. O herwydd pa ham y mae 'r scrythur yn eu llunio ac adenydd i arwyddocau eu brŷs a'u diwydrwydd ar gwblhaû, a dwyn i benn eu gorchwyl. Ac o ran hyn o gyffelybiaeth y dywed y Prophwydd Dafydd, Brissiais, ac nid oedais gadw dy orchymmynion. Psal. 119.60.

3. Ffyddlondeb perffeithrwydd calon ac uniondeb. Yr Angylion a ddychwelant gyd ac atteb y gwâs yn yr Efengyl, Luc. 14.22. Arglwydd, Gwnaethwyd fel y gorchymynnaist. Y cwbligyd, a phob peth yn y modd a'r drefn a orchymynnai efe: Ni wnant moi ewy­llys yn hannerog, ond yn ffyddlon, yn glau, ac yn gwbl oll.

Hyn yw ein dyledswydd ninnau, gadw o [Page 70]honom oll orchymmynion Duw, a gwneu­thur ei ewyllys yn glau ac yn ffyddlon; nid hyn a hyn a ddewisom ar ôl ein ewy­llys ein hunain. Canys pwy bynnac a gatwo'r Gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn un pwngc y mae efe yn euog o'r cwbl. Jac. 2.10.

Yn hyn yr oedd i'r Prophwyd, hyder i se­fyll ac ymddangos ger bron Duw megis un o'i Angylion, a dyweddyd. Yna nim gwara­dwyddid pan edrychaf ar dy holl orchymynion. Psal 119.6.

Canmoliaeth Brenin Josia ydoedd: Nibu o'i flaen frenin o'i fáth cf, yr hwn a drôdd at yr Ar­glwydd a'i holl galon, ac a'i holl enaid, ac a'i holl e­gni, yn ôl cwbl o gyfraith Moses. 2. Bren. 23.25.

4. Diysgogrwyd: Gorchwyl tragwyddol yw ufydd-dod; Bob amser yn ei wneuthur, ac ni dderfydd fyth mo'i wneuthur. Yr angylion nid ŷnt ûn amser yn pallu, nag yn deffygio: Felly ninnau yn gwneuthur daioni na ddiogwn, gwnawn ewyllys Duw yn barhaûs, ac yn ddiysgog: Canys yn ei jawn brydy medwn, oni ddeffygiwn. Gal. 6.9.

5. Yn ddiweddaf o ran rhoi ewyllys Duw o flaen pob peth arall, Ni ddylem ni wneu­thur dim o'n hewyllys ein hunain ond fel y mae yn gytrûn ac ewyllys Duw, megis ac yn yr angylion nid oes na gwrth-wyneb, na chwant, na gogwyddiad arall yn y byd, ond i ufyddhau, a gwneuthur ewyllys eu harglwydd.

Dyro i ni râs, O Arglwydd Dduw, (ac i'th holl bobl,) i wneuthur dy ewyllys di fel hyn, gyda phob parodrwydd calon, diwydrwydd, ffyddlondeb, a diysgogr­wydd, i ddilyn dy ddedd-fau, a chadw dy orchymynion. Cyd-ffurfia, O Dduw, dy Eglwys sydd yn milwrio ar y ddaiar a'r hon sydd yn ogoneddus yn y nefoedd. Pryssûra 'r amser a'r cyflwr i ni yn yr hyn y bydd­wn fel Angylion yn sefyll ger bron dy or­seddfaingc, i'th addoli a'th foliannu gan ddywedyd, Y fendith, a'r gogoniant, a'r doeth­nieb a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth­a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.

PREG. IX.

‘A'r ail ar y geiriau: Bid dy ewyllys ar y y ddaiar, &c.’

CHwchwi a glywsoch ddau beth node­dic allan o'r geiriau hyn. 1. Y gwaith. 2. A'r moddy gwnelir. Y gorchwyl, gwneu­thur ewyllys Duw: Y Pattrwm neu'r esampl iw wneuthur ar ei ôl. Megis yn y nefoedd: Fel y mae 'r Angylion yn cyflawni ewyllys Duw gyd a phob parodrwydd, ffyddlon­deb, buander, diysgorwydd, &c.

I'n cyfarwyddo ymmhellach, a chyffroi ein calonnau i ymarfer a'r weddi hon fel y dylem, y mae i ni ystyried tri peth yn y chwaneg.

1. Y rhag-feddyliau a ddylei fod gennym pan fom ar fedr hyn.

2. Y Petha da yddym yn ei ceisio, a'r drwg yr y­dys yn gweddio rhagddynt, yn yr un dymuniad.

3. Ein dyledswyd ar ôl hynny, gwedi i ni weddio fel hyn.

1. Cyn dechreu gweddio, rhaid i ni fe­ddwl ac ystyried, beth iw achos y deisyfiad hwn. Oni wyddys, mai 'n gwasanaeth iw ufydd-dod, a'n dyled-swydd i gyd oll, gwneuthur ei ewyllys? A fwriwn ni ein baich ar Dduw, gan ddymuno, ar iddo ef ein helpu, i wneuthur yr hyn y mae efe yn gorchymyn i ni ei wneuthur ei hunain? Ai cymmwys i ni hyn fel gweision anfoe­sawl, adel, i'n harglwydd adwneuthur ein gorchwyl trosom?

Ond yn wîr fel hyn y mae; a'n llygre­digaeth naturiol sy'n peri hyn o anghyn­ghordiad. Am hynny rhaid i ni yn gyntaf peth ystyried, a chrâff synniaw ar yr hyn a ddywed y gwirionedd amdadom: Bod Coll­fwriad meddylfryd calon dyn yn ddrigionus bob amser. Gen. 6.5. Nid oes ynom o naturiaeth nac a­wydd, nac ewyllys i wneuthur ewyllys Duw. Je, awyddus i ddrigioni: Gwar-galed, o dienwaededic o galon ac o glustian; yr ydym yn wastad yn [Page 73]gwrth-wynebu 'r Yspryd glân, megis ein Ta­dau, felly ninnau. Act. 7.51. Ac fel y mae Aaron yn achwyn ar yr Iddewon i Dduw, Ti adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent. Exod. 32.22. Ac ar ôl awydd-fryd ein calonnau y bydd ein gweithredoedd, oni ettyl Duw ei hun gan dywallt ei râs yn ein calonnau, a pheri meddyliau a desiyfiadau da iddynt.

Wrth gydnabod yr achos hyn, mor an­ghenrheidiol i ni y deisyfiad hwn o'r weddi, fe 'n gwneir, fel e gweddei i ymbilwyr, yn ostyngedig ger bron Duw: Ac wrth hynny yn gymmwys i dderbyn grâs i wneuthur ei ewyllys ef. Canys heb Râs ni wneir mor daioni: Ac ni cheir grâs chwaith heb o­styngeiddrwydd. Canys y mae Duw yn gwrth wynebu 'r beilchion, ond yn rhoddi grâs ir rhai gost­yngedid. Jac. 4.6. Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: Parattoi eu calon bwynt: Gwrendy dy glûst arnynt. Psal. 10.17.

2. Fel y mae 'r achos yn mhawb, felly y mae 'r weddiyn gyffredinol a thros bawb: Nid ŷm yn considrio 'r llygredigaeth ani anol yma ynom ein hunain yn unig, ond ym mhawb oll.

A'r ystyriaeth hwn a bâr ynom zêl i Dduw, a thosturi tuag at ein brodyr: yn y rhai y mae i ni fwy o hyder i weddio.

Pan edrychwn yn ddyfal ar ein anufudd­dod cyffredinol, modd yr ammherchir e­wyllys Duw yn hollawl, ac y dianrhyde­ddir [Page 74]ei enw yn ei ordeinhadau; pwy na ocheneidiei yn ei galon, pwy na ddygei (gyd ac Elias) fawr zêl dros Arglwydd y lluoedd? gan ymgais, megis ac wrth foddion eraill, drwy daer-weddi yn arbennig, at wîr u­fudddod?

A'r un modd y dylei 'r ystyriaeth hwn beri cyffro ynom drwy waith cariad per­ffaith tros ein brodyr, gan wylo o herwydd eu pechodau a'u drwg-feddyliau hwynt, megis ac yr eiddom ein hunain. Yn yr hyn y mae r Prophwyd Dafydd yn esampl i ni. Gwelais y troseddwyr, a gressynnais, am na chad­went dy air di. Psal. 119.158. Afonydd o ddy­froedd a redant o'm llygaid, am na chadwasnnt dy gy­fraith di.

Ym mysc nifer, o gynnerthwyon eraill nad esceuluswn hyn yn anad dim, sef gwe­ddio tros ein brodyr, ar i Dduw o'i fawr druga­edd orchfygu nerth pechod ynddynt hwythau, er gallu o honom i gyd ufudd­hau iddo, a chyflawni ei ewyllys ef yn un­wedd.

3. Y mae i ni rag-ystyried yr achos, pa ham y gosodir yr Angylion yn battrwm o ufudd-dod, iw meddwl a'i hadrodd yn ein gweddiau.

Canys er addysc ini y mae hyn hefyd, Pulchra est Commonefactio de eo quod Paulus dicit.

1. Rhybudd deg o hyn a ddywaid yr A­postol. Col. 1.19.20. O blegid rhyngodd bodd i'r [Page 75]Tâd, drigo o boh cyflawnder ynddo ef, (i. e) yn­ghrist. Ac (wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef) trwyddo ef gymmodi pob peth ag ef ei hun, trwyddo ef meddaf, pa un bynnac ai pe­thau ar y ddaiar, ai pethau yn y nefoedd: A chwi­thau y rhai oeddych ddiethriaid a gelynion mewn me­ddwl, trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymmododd efe. Yn gyntaf peth; pan weddioch, nac anghofiwch y cymmod, heb yr hwn nid oes na ffordd na dyfodfa at y Tâd.

2. Futurum uuum Coetum &c. Meddyliwn, na bydd yn y diwedd ond un gynnulleidfa o ddydion, a'r Angylion bendigedic, O her­wydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dád ein Har­glwydd Jesu Grist, O'r hwn yr henwir yr holl deu­lu yn y nefoedd ac ar y ddaiar. Ephesi. 3.14.15.

Yr un teulu ydym, a'r un gwasanaeth y mae Duw yn ei ddisgwil ar ein llaw: Gwe­ddiwn, allel o honom ei guplau.

3. Nos futuros [...]. Y byddwn yn gy­dradd, ac yn gwbl debyg i'r Angylion, fel y dywaid ein jachawdwr. Yn yr adgyfodiad, nid ydynt nac yn gwreicca, nac yn gwra: Eithr y maent fel Angylion Duw yn y nef. Matth. 22.30.

Yn gymmaint gan hynny a'n bod ni yn aelodau o'r un corph, gyda 'r Angylion, Pen yr hwn yw Christ, a'n bod i gyd yn gyd­weision o'r ûn tenlu, yn yr hwn y mae Christ yn Dâd ac yn Arglwydd, pa ryw fath ddynion a ddylem ni fod, mewn sanctaidd ymarweddiad a duwicldeb?

Oni ddylei hyn gyffroi ein calonnau iw dynwared, fel y byddem yn y fuchedd hon hefyd yn debyg i'n cydweision: fel, pe bai bossibl, na bom yn ôl mewn un ddawn, i ymorchestu ac ymegnio, ar wneuthur e­wyllys Duw gyd a phob parodrwydd, e­wyllys-garwch, a ffyddlondeb fel y maent hwythau.

Ond fe a ddywaid rhyw un: Nid iw hyn bossibl i ddynion llygredig ar y ddaiar fod fel Angylion Duw, yn ddifrecheulyd, ddibechod: Nid iw ewyllys Duw chwaith i'n gwneuthur felly tra bom yn ein daia­rôl dŷ o'r babell hon, wedi ein gwisco a Ilygredig gnawd am danom: I ba beth a dymunwn beth amhossibl i Ond ofer i ni weddio fel hyn, geisio gwneuthur ewyllys Duw yn erbyn ei Ewyllys? Canys nid iw ewyllys Duw i'n gwneuthur mor berffaith mewn ufudd-dod ar y ddaiar, fel y mae 'r Angylion yn y nefoedd.

Myfi a attebaf: Ofer yn ddiau a fyddei ceisio pethau ammhossibl, oni bai rhyngu bodd i Dduw ei rhoi i'r rhai a'u ceisiant. Ond fe a rydd Duw gyflawniad ei ewyllys i'r rhai a'i gofynnant, yn ddechreuedic yn y bŷd hwn, yn gyflawn orphennedig yn y bŷd a ddaw. Awn rhagom at berffeithrwydd, medd yr Apostol, Hebr. 6.1. Rhaid ymy­ftyn, fel y gwnaeth ynteu, at y pethau o'r tu blaen, er na's gallom etto eu cyrhae­ddyd. [Page 77]Oni ymystynwn attynt yr awrhon, ni chawn ni fyth ymaflyd ynddynt.

Nid oedd St. Paul yn bwrw ddarfod iddo gael gafael; Ond yn cyrchu at y nôd am gamp u­chel alwedigaeth Duw ynghrist Jesu. Phil. 3.13. Felly ninneu nid ŷm yn disgwil yma gael ein perffeithio, ond ceisio myned ymlaen tuag at berffeithrwydd.

Y mae rhai pethau a fyn Duw fod, ag etto ni ddylem ni mo'i dymuno. Ewyllys Duw ydyw marw o'n rhieni ac etto y mae yn cyfrif yn bechod, i'r neb a ewyllysi ei hynny. Ei ewyllys ef iw, fod ei eglwys tan y groes, a'i etholedigion mewn blinder a chystudd: Ac etto nid ydym ni yn gwe­ddio, ar iddo fwrw ei groes arnom ond yn hytrach ei thynnu hi oddiwrthŷm.

Yn y gwrthwyneb, ni fynn Duw, roddi i ni tra fôm yn y bŷd hwn gwbl ymwared oddiwrth bechod a phob drwg; ac etto yn peri i ni ddymuno, a cheisio a gweddio am ryddhâd i ni ein hunain, a llw yr dde­striw iw elynion.

Felly er na s gallwn wneuthur ewyllys Duw mor berffaith yn y modd a'r sûtt y mae 'r Angylion yn y nefoedd; etto rhaid i ni ymegnio ar wneuthur ein goreu, a thrwy gynnorthwy ei râs ymestyn, a myned rhagom at berffeithrwydd. Rhaid i ni dde­chreu yma, a chynhyddu fwy fwy nes i ni gyrhaeddyd ein perffeithiad yn y n êf.

Ym mhellach er bod ein Duw yn rhoddi i ni râs i ddarostwng y cnawd, a gorchfygu mewn rhyw fesur ein chŵantau pechadu­rûs, fel y gallom yn ôl mesur dawn Christ wneuthur ei ewyllys; Etto fe a fydd pe­chod, a llygredigaeth, fyth yn ymdrechu, ac wrth hynny ein ufudd-dod fydd am­mherffeith.

Er ein bod yn ymdrech, ymorchestu, y­megnio, ac yn gosod ein calonnau ar wneu­thur ei ewyllys etto'r ydym yn fyrr o lawer, yn enwedic, yn y modd y gwnelom: Mewn llawer o hethau yr ydym ni bawb yn llithro. Jac. 3.2. Seith-waith y syrth y cyfiawn. Dihar. 24.16.

Ie, wrth wrando 'r gair, Cymmuno, gweddio, y mae yrofedigaethau, diffygion. amryfuseddau yn ymlusco i mewn, yn le­feinio 'r aberth, yn suro 'r gwasanaeth, a'i wneuthur yn anghymmeradwy.

A hyn hefyd a ddylei ychwanegu ein gost­hyngeiddrwydd, fel na's gallom orfoleddu mewn un weithred dda a wnelom: Na thybied fod ein cyflwr ysprydol yma yn berffaith, ac yn safadwy. Am hynny pa mwyaf a chryfaf fo 'r grâs ynom, cymm­wysach fyddwn i'r gwasanaeth hwn, a rheitiach fyth i ni weddio, Gwneler dy e­wyllys an y ddaiar, &c. Parattoa, O arglwydd, ein calonnau, i weddio arnat, a pha'r i ni feddwl y pethau a fônt er ein llês, ag yn [Page 79]addas ith wasanaeth-wyr; a dyro i ni râs i wneuthur ar ôl dy ewyllys a'th orchym­myn, &c.

PREG. X.

‘A'r drydydd ary geiriau: Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y Nefoedd.

DYmma 'r drydydd waith yr wyf yn dy­fod attoch yn y geiriau hyn iw hyspysu i chwi: Er hynny na thybyged neb fy mod i yn sefyll yn rhyhir yn yr un man, yn rhy­helaeth ar un peth mor eglur, mor gyd­nabyddus i bawb; Pwy nis gwyr, mai ei ddyleds-wydd iw, Gwneuthur ewyllys Duw, a bod yn ufydd iddo? Swm y cwbl, medd y Pregethur, iw, Ofna Dduw a chadw, ei orchymmynion: Canys hyn iw holl Ddyled dyn. Preg. 12.13. Hyn iw ein dyled ŷn siccr, gwneu­thur ewyllys Duw, a chadw ei orchymmy­nion; Ond yn hyn yr ŷm ni fyth yn ddy­led-wyr: ac ni thalwn yn ein bywyd gym­maint, ac yn y modd, y mae 'n ddyledus arnom.

Och, na fyddei afraid i mi eich addyscu [Page 80]pa beth iw ewyllys Duw o'ch plegid, pa fodd a dylech eu wneuthur. Canys nid yw'r wybodaeth hon gan bawb. 1. Cor. 8.7. A Phe bai; etto fe a fyddei rhaid i mi gyffroi eich me­ddwl puraidd trwy ddwyn ar gôf i chwi, fel y byddo gôfus gennych y geiriau a dder­byniasom gan yr Arglwydd, a'r gorchym­myn a roddes efe ei hun i ni.

Ynghyd a'r Gwaith, a'r Pattrwm a oso­dwyd i ni yn y Deisyfiad yma, (y gorch­wyl, Gwneuthur Ewyllys Duw, a'r sutt a'r modd y mae ini eu wneuthur, Ar y ddaiar, megis ac yn y nefoedd: gid a phob ewyllysgar­wch, a pharodrwydd, yn llonn, gennym fod yn wiw gan Dduw dderbyn ein gwasa­naeth, a ninnen yn weision anfuddiol, an­heilwng iddo:) Ynghyd a hyn, meddaf, myfi, a ysbysais yn nailltuol y rhag-feddy­liau a ddylei fod ynom, pan fôm ar fedr Dywedyd hyn. Y mae etto yn ôl wrth y dosparthiad, a'r addewid cyntaf. 1. Dei­syfiadau da nailltuol a gynhwysir yn y gei­riau hyn. 2. A'r gweithredodd da, y mae Duw yn disgwil ar law 'r dyn a ddywedei hyn.

1. Yr ydym wrth hyn yn dymuno ar i Dduw trwy ei râs a chynhyrfiad ei Yspryd, ostwng ein calonnau at ei sancteiddiaf gy­freithiau, a'i gwneuthur yn awyddus i ddy­scu, a chydnabod a gwneuthur ei ddatcu­ddiedig ewyllys. Fal hyn y gweddiei y [Page 81] Prophwyd Dafydd. Gostwng fy nghalon at dy dystio­laethau. Psal. 119.36. Gwna i mi ddeall, a chad­waf dy gyfraith Gwna i mi gerdded yn llwybr dy or­chymmynion. v. 34.35.

Deisyfiadau da, gwreiddyn ŷnt neu dde­chreuad gweithredoedd da: a mam ufudd­dod iw tuedd meddwl, ac awydd-fryd cal­on tuag at dystiolaethau Duw. Nid iw bossibl ini wneuthur ewyllys Duw, oni bŷdd ynom wybodaeth o hono, oni bŷdd ynom ewyllys, a serch, ac ymgais, ar ei wneu­thur. Nid iw bossibl i ni chwaith fod felly, a'n calonnau wedi eu gostwng tuag at Dduw, ac yn awyddus i ufudd-dod, oni chawn i trwy, ddymuniad, a thaer weddi ganddo. Canys Duw ei hun yw'r hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef. Phil. 2.13.

2. Yn ail er mwyn hynny nyni a attoly­gwn i Dduw ar iddo ddarostwng a diflannu nerth ein llygredigaeth, trwy 'r hwn ein cildynnir oddiwrth ufudd dod ag ein rhwy­strir beunydd rhag gwneuthur ewyllys Duw fel y dylem: Ar iddo roddi i bobun o honom Râs i ymwadu ag ef ei hun; a'i ddilyn ef; i ymwrthod a'n trachwantau pechadurus, i fod yn ddilynwyr Duw, fel Plant anwyl: yn Ddiscyblion i Grist, ad­nabyddus wrth ufudd-dod. Wrth hyn y gwy­bydd pawb mai Discyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad iw gilydd. Joan. 13.35. (i. e,) os cedwch [Page 82]fy ngorchymmyn. Ond nid iw hynny bos­sibl i'r neb ni ymwedu ag ef ei hun fel y dywaid ein jachawdr ei hun. Canys efe a ddywedodd wrth bawb. Os ewyllysia neb ddy­fod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd; a dilyned fi. Luc. 9.23.

Nyni a ddymunwn hyn yn gyffredinol, gan weddio, nid trosom ein hunain yn u­nig, a'n Deiryd, ond tros bawb oll ar yr holl Ddaiar, ar i Dduw roddi ei râs i bob dyn fel y gallo efe fod yn gadwedic. Ewy­llys Duw iw, medd yr Apostol bôd pob dŷn yn gadwedig; (hynny iw) o'n rhan ni, Ei e­wyllys ef iw, ar i ni geisio, a gweddio am gadwedigaeth pob rhyw ddŷn. Yn hyn y mae ei reswm yn sefyll, yn ein hannog o flaen pob peth, i wneuthur ymbiliau, gweddiau, a dey­syfiadau, a thalu diolch dros bôb dŷn, Dros frenhi­noedd a phawb sydd mewn goruchafiaeth, fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychol mewn pob du­wioldeb ac gonestrwydd, Canys hyn sydd dda a chymeradwy ger bron Duw ein Ceidwad, Yr hwn sydd yn ewyllysio bod pob dyn yn gadwedig a dyfod i wybodaeth y gwirionnedd. 1. Tim. 2.1.2.3. At­tolygwn iddo droi ein calonnau ni i gyd, a chalon pob rhyw ddŷn oddiwrth bechod, fel y gallo fod yn ôl ei ewyllys yn ufudd wâs, dâ, a ffyddlon iddo, ac yn y diwedd yn gadwedig.

4. Monemur petere ut conformitas inter Eccle­siam Angelorum & hominem inchoetur in hac vitâ. [Page 83] Chemn. Yn hyn y mae i ni rybudd i weddio ar i Dduw yma ddechreu cydffurfiad ei Eglwysi; i'r hon sydd ar y ddaiar ddechreu, ac ymegnio fod yn debyg ir llall sydd yn y nefoedd; Ar iddo gadarnhau ein cy­flwr ynghrist Jesu, a'n gwneuthur beunydd yn debyccach i'r Angylion sanctaidd, tra fôm yma yn milwrio yn beryglus, a phrys­furo 'r amser ar cyflwr, pan gaffom ein perffeithio, i wneuthur ei ewyllys yn ddi­y mwâd, ddirwystr mewn gogoniant trag­wyddol.

5. Yn gymmaint a'n bod yn y filwriaeth hon o fywyd yn disgwil erlid a chystudd, a dwyn y groes os mynnwn fod yn ddiscy­blion i Grist Jesu (Canys, Je, medd yr A­postol, a phawh ar sy'u ewyllysio byw yn Dduwiol yn Ghrist Jesu a erlidir. 2. Tim. 3.12.) Petimus patientiam, &c. Yr ydym yn gweddio am ammynedd, allu o honom ddyweidyd gyd a'n jachawdr yn ei ddioddefaint. Fy Nhád, os iw bossibl aed y Cwppan hwn heibio oddiwrthif; Etto nid fel yr ydwyf fi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Matth. 26.39.

A thrachefn, Fy Nhâd, oni's gall y Cwppan hwn fyned heibio oddi-wrthif, na byddo i mi yfed O honaw, gwneler dy ewyllys di. v. 42. Gwna ni­nneu, Arglwydd, yn foddlon, ufydd, dda­ronstyngedic i'th ewyllys. Pa un bynnag a fynni i ni fod, ai tlawd, ai cyfoethog, hwylus, ai afiachus, rhydd, ai caeth, Dyro [Page 84]i ni mewn hawddfyd ddiolchgarwch a gwir-lawenydd, mewn adfyd ddioddef­garwch, a bodlonrwydd mewn pob cy­flwr, gan wybod a chyfaddef mai wrth e­wyllys Duw y Digwydd pob peth i ni.

Wele, dedwydd yr ydym yn gadel, [neu 'n cy­frif] y rhai sy ddioddefus. Chwi a glywsoch am am­mynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd; Oblegit tosturiol iawn yw 'r Arglwydd a thru­garog. Jac. 5.11. Gweddiwn ninneu ei do­sturi a'i drugaredd, am y dedwyddwch hwn, y mae adfyd ynteu yn gweithio drwy ewyllys Duw i bawb a'i carant. Fel hyn y mae St. Paul yn gweddio tros y Colos­siaid, ar i Dduw eu nerthu hwy a phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch, a hir ymaros gyd-a llawenydd. Col. 1.11.

6. Yn ddiweddaf chwi a wyddoch y modd y mae Satan, a'n llygredigaeth yn ein cynhyrfu i wneuthur pob peth yn erbyn ewyllys Duw, yn ein rhwystro: gyd a'r Apostol, i wneuthur y pethau yr ydym yn eu hewyllysio, yn ôl ewyllys Duw. Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur nid iw fodlon gennif, Canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hwnnw yr wyf yn eu wneuthur, eithr y peth sydd gâs gennif, hwnnw, &c. Rom. 7.13. Gweddiwn ar i Dduw geryddu Satan, dynny ymmaith oll rwystrau ufudd-dod a Duwioldeb, a thrwy Jesu Grist ein Harglwydd ein gwared yn hollawl oddi-wrth gorph y farwolaeth ho­nno. Rom. 7.24.

Chwchwi a wyddoch mor gil-dynnus iw naturiaeth dŷn, mor ammharod i wrando ac i dderbyn gair Duw, yn yr hwn y dat­cuddir ei ewyllys, yn ammheuus i'r gwi­rionedd, yn ymryson ynghylch, ac yn er­byn y pethau a ddylent eu credu: Gwe­ddiwn ar iddo dynny ymmaith, a throi oddiwrthim a'n Heglwysi y fâth gyndyn­rwydd ac anghrediniath. Ac yn y gwrth­wyneb, (megis ac yr ysbysodd efe ei ewy­llys yn ei air, ac a'i cadarnhaodd trwy lŵ) roddi i ni i gyd Y glust yn clywed, a'r llygad yn gweled, Yr Arglwydd a wnaeth bob un o'r ddau. Dihar. 20.12.

Chwi a wyddoch mor esgeulus, ac mor ddiog ydym yn gwaith yr Arglwýdd, yn barod i gymmerŷd escus o bob peth er ga­del ei ewyllys ef heb ei wneuthur. Gwe­ddiwn rhag y bai achryslawn hwn, gan feddylied, beth y ddywed Christ am y g wâs Diog. A'r gwâs hwnnw a wybu ewyllys ei Arglwydd, ac nid ymbaratodd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef a gurir a llawer ffonnod. Luc 12.47.

Chwi a wyddoch mor annioddefus ac mor ffrom iw llawer un tan y groes, yn gwingo yn erbyn y swmbylau, yn grwg­nach, ac heb ddarostwng i ewyllys Duw yn hyn hefyd. Gweddiwn gan hynny rhag annioddef-garwch, an-addas i Gristiano­gion, yn enwedig a ni yn gwybod, fod, ie, holl wallt ein pennau wedi cu cyfrif; Ac ni syrth un o [Page 86]honynt i'r ddaiar heb ewyllys ein Tâd nefaw; Pa faint mwy y gweryd efe ei blant sydd mewn ammynedd ac hir ymaros yn dis­gwil iechydwriaeth?

2. Yr ail peth iw 'r gweithredoedd, a'r ymarfer a ddylei ganlyn hyn o'r weddi. Ceisiwn wneuthur yn ddiau y peth yr yd­ym yn ei ddymuno.

1. Profwn beth iw Daionus a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Rom. 12.2. Dyscwn, a cheisiwn wybod, fel y gallom ei wneu­thur Bydded pob un yn siccr, ac yn ddi­ymwâd yn ei feddwl ei hun, fôd y peth y mae yn ei wneuthur yn gyttûn a chyfraith Dduw, ac yn ôl ei ewyllys. Anwybod o gyfraith teyrnas, neu ymerodraeth dai­arol ni wna neb yn escusodol, a wnelo yn erbyn y gyfraith: Am hynny mor ddyfal ac mor ofalus y chwiliwn y llyfrau, ac y ceisiwn gyngor y dyscedig rhag i ni un am­ser droseddu a gwneuthur yn erbyn y gy­fraith, rhag dyfod ffîn neu gosp arnom yn ddi-wybod. Pa faint mwy gofalus, y ddy­lem ni i gyd fod, yn y pethau a berthy­nent i'n heneidiau, yn yr hyn os trose­ddwn mewn modd yn y bŷd, ni fydd mor escus ond trwy edifeirwch; Am yr hyn y bŷdd y gosp yn dra-ffyrnig; taflu y trosedd­wyr i dân uffern, lle nid iw eu prŷf hwynt yn marw, na'r tân yn difodd. Marc. 9.48.

Nid iw hyn ond rhagrith, fel pe gwat­worid [Page 87]Duw, ddywedyd o honoch, Gwne­ler dy ewyllys, heb ymegnio ar ei wneuthur. Ymogelwch gan hynny farnedigaeth y Pharisæaid ragrithwyr. Yn ofer i mi anrhydeddant, Gwae chwi, os dywedyd hyn a wnewch yn unig, heb geisio gwneuthur ewyllys Duw.

2. Na rodiad neb yn afreolus. 2. Thess. 3.6. Ei­thr pob un yn ei alwedigaeth ar hyd ffordd yr Arglwydd, ar ôl rheol yr alwedigaeth a drefnodd Duw iddo: Gan ymddwyn nid yn unig yn ei alwedigaeth cyffredin, fel y gweddei i Gristion, mewn uniondeb a sancteidd-rwydd; ond pob un yn ei gy­flwr priodol, yn ceisio gogoneddu ei Ar­glwydd fel gwâs ffyddlon ym mhob gorch­wyl, fel y rhoddwyd iddo ràs yn òl mesur dawn Christ. Eph. 4.7.

3. Coded pob un ei groes heb rwgnach: bydded ddioddefgar mewn cystudd, a blin fyd pa fodd bynnag y gwascant arno. Am­ser gweddi yn arbennig iw, pan fo neb mewn adfyd: Ac ir amser nid oes un we­ddi gymmhwysach na hon, gwneler dy ewy­llys. Cymmered y Prophwyd Dafydd yn e­sampl, a dyweded, fel y gwnaeth ynteu, pan fo yn gyfyng arno, wele fi, gwnaed yr Arglwydd i mi fel y byddo Da yn ei olwg. 2. Sam. 14.26.

4. Holed ei gydwybod ei hun, pa zêl sydd ganddo yn ei holl ymarweddiad i ddyn wared yr Angylion.

1. Ar ddirgeledigaethau yr Efengyl y mae 'r Angylion yn chwennychu edrych. 1. Pet. 1.12. Gwnawn ninneu yr un môdd.

2. Yr Angylion a weiniasant i Grist, yn ei demptasiwn. Matth. 4.11.

Yn ei agoni, neu ymdrech meddwl. Luc. 22.42. Ei escynniad, Act. 1.10. Felly y dylem ninneu, ym mhôb peth, ar a allem erddo.

3. Yr angylion a lawenychent o achos eu cydweision. Y mae llawenydd yngwydd angy­lion Duw, am un pechadur a edifarhao. Luc. 15.10. Ac yn ddrwg tros ben ganddynt edrych ar anufudd-dod, a dianrhydeddu Duw, drwy ammherchu a trosseddu ei ewyllys. Felly y dylem ninneu fod yn hôff gennym, edrych ar y pethau yr anrhydeddir Duw ynddynt. Yn llawenychu gyda 'r Apostol, wrth weled yr Eglwys, a chadernid ei ffydd ynghrist. Col 2.5. Yn ddrwg gan ein calonnau, weled amlder ddrigioni yn y bŷd, a bod gormod (sywaeth,) yn rhodio yn afreolus, yn erbyn ewyllys Duw, ai sanctaidd gy­freithiau.

Dyro ini râs, O Arglwydd, i weddio fel y dyscaist, ac i fyw fel y mae dy weddi yn ein hannog, gan geisio beunydd, wneu­thur dy ewyllys di, ar air a gweithred megis yn y nefoedd, felly ar y ddaiar he­fyd. Gwrando Arglwydd ein gweddiau, er mwyn dy Fâb, yr hwn a ddyscodd i ni [Page 89]weddio, i'r hwn gyd a thi a'r yspryd glân y bo holl anrhydedd a'r gogoniant. Amen.

PREG. XI.

Luc. 11.3:

Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.

HYD yn hyn, yn ôl trefn y weddi, chwchwi a glywsoch y pethau ynddi sy berthynasol i Dduw, ac eglurhâd ei o­goniant. Megis ac y mae yn eglur ym mhob un o'r deifyfiadau, a Duw yn cyd­nabod ei eiddo ym mhôb un o honynt. Dy enw, Dy Deyrnas, Dy Ewyllys di. Yn y rhain 'r ydym yn dymuno allel o honom ni wneuthr y pethau perthynasol i Dduw.

Yn y fan yma yr ydym yn dechreu, ac o hyn allan, yn myned rhagom i weddio trosom ein hunain, am bethau anghen­rheidiol i ni tra fôm yn y corph a'r babell hon. Dyro i ni, maddeu i ni, Na arwain ni, Gwa­red ni. Petimus quae pro hujus vitae miseriâ nobis necessaria sunt. Yr ydym yn dymuno ar Dduw, ar iddo roddi i ni, y pethau a font anghenrheidiol i ni o ran trueni, a gresyndod y bŷd presennol hwn.

Quae quasi secunda tabula est orandi formula. Megis ac y rhoddod Duw ei orchymynion i [Page 90] Foesen gwedi eu argraphu ar Ddwy lêch: Yn y gyntaf, yr oedd wedi cynnwys ein dy­ledswydd tuag at Dduw, y pethau a berthy­nant iddo ef ei hun; Yn yr ail, gorchym­mynion o'n dyled i ddynion, am bethau perthynasol i ni ein hunain rhyngom ai gilydd: Felly y trefnodd Crist yn ei weddi, gan ddyscu i ni geisio o flaen dim arall yn y rhan gyntaf o i weddi, Deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef; Ac wedi hynny, Fara, a Ma­ddeuant, ac Amddeffynniad ar i Dduw em Tâd nefawl roddi i ni y pethau anghen­rheidiol hyn yn chwaneg.

Ond, megis, a ni yn gweddio am bethau perthynasol i ogoniant Duw y dymunwn fendithion i ni ein hunain, yn yr hyn y datcuddir ac eglurheir ei ogoniant ef: Fe­lly wrth weddio am y bendithion hyn i ni ein hunain, yr ydym hefyd yn edrych, a hynny yn ddirfawr, at ogoniant duw. Ca­nys i'r pwrpas hwnnw, er gogoniant i Dduw y dymunwn eu mwynhau.

Oni pherthyn i ninnau, fòd gennym y rhadau a'r bendithion yn yr hyn yr eglur­heir ei ogoniant ef, sef, Sancteiddiad ei Enw, Ufudd-dod iw Deyrnas, a'i ewyl­lys? Ag yn y gwrthwyneb oni pherthyn iddo yntef, a'i ogoniant, ein bod ninneu ein cael ac yn derbyn ar ei law ef, gynha­liaeth, faddeuant, warediad, ac amddeffy­niad? A'r Deisyfiadau hyn nid ynt amgen [Page 91]nag ymddibunnu wrth y lleill o'r blaen, me­gis amlygiad o'r moddion a'r sutt ar ein hufudd-dod, ni, a'n dyled-swydd yn sanctei­ddio Enw Duw.

Canys yn y rhai cyntaf y gweddiwn am Râs i wneuthur ewyllys Duw, i ymddaro­stwng i Deyrn-wialen ei frenhiniaeth ef, i Sancteiddio ei Enw: Yn y rhai diweddaf hyn, y gweddiwn am yr oll fendithion, yn yr hyn, a thrwy'r hyn ei cynhelir, ac ein nerthir i wneuthur hynny, i ddangos ac i gwblhau ein hufydd-dod. O herwydd yr ydym yn sancteiddio Enw Duw, yn ym­ddarostwng i'w frenhiniaeth. Yn gwneu­thur ei ewyllys, pan fwriom ein baich ar yr Arglwydd, gan ymddiried i ragluniaeth ei ddaioni ef am fwyd, a dillad, ar oll be­thau anghen-rheidiol i'r bŷd trangcedic hwn, gan ymddiried yn ei nerth ei râs, ai allu, i'n cryfhau yn erbyn profedigaeth, ac in gwaredu rhág y Drwg.

Yn y rhai cyntaf, y gweddiwn am râs i fôd yn barod ac yn ewyllys-gar bób amser i sancteiddio Duw yn ein calonnau ym mhôb cyflwr; Yn y rhai hyn y gweddiwn am gyn­haliaeth a chomffordd, fel y gallom fyw yn gyssurûs i wneuthur hynny.

Yn y Deisyfiad hwn y mae i ni y pethau hyn iw ystyried yn nailltuol.

  • 1. Quid. Pa beth yr ydym yn ei geisio. [...]
  • [Page 92]2. Quale. Pa fath, pa ryw fara a ddymu­nem: [...].
  • 3. Cujus. Eiddo pwy ydyw: [...]. Yr eiddo ein hunain.
  • 4. Quando. Pa bryd, a thros pa hyd, neu am­ser. [...].
  • 5. Quibus. I bwy yr ydys yn ei geisio. [...].
  • 6. A quo. Gan bwy yr ydys yn ei ddisgwil. [...].
  • 7. Quomodo. Pa fôdd y dymunem ei dder­byn. [...], Trwy rodd.

1. Am fara, nid rhaid i chwi ddywedyd o honof wrthych. Pa beth ydyw. Ond gwybyddwch hyn, fód yn arferol ywsio 'r gair, yn enwedig yn y scrythur Lân, i ar­wyddocâu llawer o bethau.

1. F' ai cymmerir Meton: yn lle r ŷd, o'r hwn y gwneir y Bara. Nid oedd bara yn yr holl wlâd. Gen. 47.13. (ie,) ŷd Psalm. 104.14.15. Fel y dycco fara allan o'r Ddaiar, a gwin, ac olew. Nid iw 'r ddaiar yn dwyn bara a gwin yn ebrwydd, ac yn ddigyfrwng, yn y dull a'r gosgedd y bwytteir ac yr yfir hwynt, ond yr ŷd a'r grawn o'r rhain drwy lafur a chelfyddyd dyn y gwneir y gwin a'r bara.

2. F' ai cymmerir Synecd: yn lle pôb math ar fwydydd Felly 2. Bren. 6.22. Yr arlwy fawr a roddwyd o flaen y Syriad wrth air y Prophwyd Elisha, a elwir Bara a dwfr. A'r un môdd yn yr Efengyl, holl ddefnydd, neu arlwy gwledd y Pharisaead, [Page 93]a wahaddodd yr Jesu a elwir bara 'n unig. A bû, pan ddaeth efe i dŷ un o bennaethiad y Phari­saeaid i fwytto bara. — Lu. 14.1. Ag v. 15. Gwyn ei fyd y neb fwyttao fara ŷn nheyrnas Dduw, (ie) fruetur Convivio. L. Br. Y neb a gaffo ran o'r wledd ysprydol, dragwyddol ho­nno.

Jerem. 11.19. Ffrwyth y pren a elwir Bara. Destrywiwn y pren ynghyd a'i fara. (ie,) ffrwyth. A llaeth geifr. Dihar. 27.27. A Phorthiant anifeiliaid. Psal. 147.9.

3. Fe ai cymmerir yn lle pob math a'r gynhaliaeth, pob peth yn cynnal bywyd, pob help i'n cadw ni yn fyw: Megis arfer o bob celfyddyd, neu alwedigaeth gyfraith­lawn, A maethâd, meddyginiaeth, &c. Y gwr doeth am hwswi dda Tebyg yw hi i long marsiandwr, portans Panem de longe. Dihar. 31.14. Yn dwyn ei bara, neu ei hym­borth o bell.

Yn y fan yma y mae 'r gair yn cynnwys hyn i gyd, cyn helaethed a'n cyfreidiau, pob peth anghen-rheidiol in cadw ni yn fuw, bwyd a diod, a dillad, heddwch ie­chyd, rhyddid, pob peth cymmhesur, a chyttûn a'n cyflwr, ynom ein hnnain, ein teulu, ein ymarweddiad, llês yr Eglwys neu 'r Cyffredin.

Yn hyn y mae ein jachawdr yn ein hyf­forddi ac yn ein cyfarwyddo i weddio am bethau bŷdol hefyd, pethau perthynas i'r [Page 94]bywyd marwol hwn. Ac am hynny nid oes ûn fendith, neu ddawn amserol yn y byd, a ellir ei ddymuno yn gyfiawn, ni's cynhwysir yn y deisyfiad a'r mynegiad hwn, o Fara.

Isaac yn gweddio ar yr Arglwydd dros ei wraïg Gen. 25.21. Y Canwriad dros ei wâs. Matth. 8.6. Yr Apostoi, Dros bob dyn, yn enwedig dros frenhinoedd a phawb mewn goruchafiaeth, fel y gallom fyw yn llonydd ac yn he­ddychol. 1. Tim. 2.2.

David a Salomon yn erbyn rhyfel, newyn, haint, lloscfa, malldod, locustiaid a'r lyn­dys. 1. Bren. 8.37. &c. Nid iw eu gweddiau hwynt i gyd ond darnau priodol o'r weddi gyffredinol yma, nid ŷnt ond rhai a ber­thynant i'r deisyfiad hwn. A than un gair Bara, y deellir pob peth a ellir ei ddymu­no er mwyn ein cynnal yn y fuchedd bre­sennol hon.

Yn arbennig yr ydym wrth ddywedyd hyn yn gweddio ar ein Tâd nefawl, ar iddo fendithio pob peth perthynascl i'n cyn­haliaeth, a'n bywyd. Pa peth iw ffon y ba­ra heb fendith arni? Ni ellir mor pwyso arni; hi a dyrr: nid oes na ffrwyth, nac ymborth, na chynnorthwy ynddi: Llawer un sydd, a chanddo fara, yn llawn, ond heb ei ddigoni: Llawer un yn gyfoethog, yn cael pob peth yn helaethus ac etto yn anfodlon: Llawer un câel heddwch gan [Page 95]bawb o'i gwmpas, ond yn aflonydd ynddo ei hûn: A hyn i gyd o eisien bendith a'r eu meddiant a'u perchen.

Helaeth iw'r weddi, a hael iw Duw ein iachawdr yn dyscu i ni weddio am bob peth: Ond ni thal y cwbl ddim heb fen­dith arno. Grâs a bendith Duw ar y rhan leiaf a wna hynny, y rhan, y tippyn, y crystyn lleiafyn ddigonol.

Y rheswm, neu 'r achos pa ham i'n dyscir i weddio am Fara yn hytrach na dim arall yn enwedig; Nid, am gyfoeth, iechyd, Dillad, iw. 1. Ut frœnum injiciat cupiditatibus, & frugalitate m commendet, (ie,) I ffrwyno ein trachwantau a'n cybydd-dod, a'n hannog i gymmedrolder bywyd.

Bara, nid melys-fwyd a ydys yn gwe­ddio am dano; Ac wrth hynny i'n dyscir gymmeryd, a'i fwynhau yn gymmhedrol pa beth bynnag a roddir i ni ar ôl hyn o ddeisyfiad. Rhaid i ni, nid yn unig fód yn fodlon a'r pethau sydd gennym, ond gwneuthur y goreu o honynt hefyd, er mantais i Dduw: ef y piau y ddawn lleiaf, ac i'n heneidiau ein hunain. Ni wasanaeth i ni fôd, nac yn anfodlon, nac yn afrad­lon Digon iw fód gennym fara: I'n mwy­niant ein hunain ac ir plant y rhoddwyd ef; nid i'w taflu i'r cenawon cŵn.

Dysced y grwgnachwr, anfodlon a'i stâd a'i rhan a'i gyflwr, dysced ac ofned, [Page 96]meddaf, wrth esampl yr Israeliaid, y rhai a welent yn wael y bara nefol a roesai Duw iddŷnt yn yr anialwch; ffiaidd iw me­ddant gan ein henaid y bara gwacl hwn. Num. 21.5. Cig a fynnent hwy nid bara. Am hynny cig a roddodd Duw iddŷnt yn ei ddigllonedd. A'r cig etto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi en­ynodd digofaint yr Arglwydd yn erbyn y bobl, ar Arglwydd a darawodd y bobl a phla mawr iawn. Num. 11.33.

A dysced y rhydraul ynteu, wrth ddam­meg yr Afradlon. Luo. 15. Dysced, me­ddaf, edifarhau, ac ymchwelyd at ei Dâd, rhag iddo farw o newyn, a'r ôl treulio 'r rhan a roesid iddo.

2. Ail rheswm o hon iw, i'n dyscu, (fel y dywaid y Prophwyd) Os cynny dda golud na roddwch eich calon arno. Psal. 62.10. Ar i bób un fwynhau y pethau presennol gyd a di­olchgarwch a sobrwydd, fel y gallo efe fyw yn ôl ei alwedigaeth, a bod yn gymmwys i wneuthur gwasanaeth i Dduw ynddi.

Rhaid i ni beunydd fôd yn feddylgar, am wîr arfer y Deisyfiad hwn, i geisio Ba­ra gan Dduw o ddydd i ddydd, a bendith arno yn ychwaneg.

Q. Ond fe a ddywaid rhyw un: A nyni wedi ein addyscu i geisio bara yn unig i bor­thi ein hangen, ai rhydd ac iawn i ni iwsio 'r Creaduriaid i hyfrydwch?

R. Attebed y gŵr doeth iddo. Wele, y [Page 97]peth a welais, Da iw a thêg i ddŷn fwytta ac yfed a chymmeryd byd dâ o'i holl lafur a lafuria tan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: Canys hynny iw ei rhan ef. Ie i bwy bynnag y rhoddes Duw gy foeth a golyd, ac y roddes iddo rydd-did i fwyt­ta o honynt, at i gymmeryd ei rhan, ac i laweny­chu yn ei lafur: Rhodd Duw iw hyn. Preg. 5.18.19.

Y mae Duw yn fynych yn rhoddi mwy nág y ddymunem, mwy nag a lefasei calon dŷn ei ofyn gan ystyried ei annheilyngdod ei hûn. Ac ymhyfrydu a llawenychu yn y rhan a roddes Duw iddo, nid iw am­gen nac arwydd neu sein ddâ o'i ddiolch­garwch. Ond ni wneir mo hyn yn iawn heb sobrwydd a gocheliad.

Y neb gan hynny a fynnei ymhyfrydu mewn helaethrwydd a llawenychu yn ei lafur, ym mwyniant y creaduriaid a roddes Duw tan ei law, Rhaid iddo.

1. Fôd yn siccr, yn yspys ganddo, fôd ganddo fwy nac a wasanaethei i borthi an­gen. Canys y neb a arlwya wledd iw gy­feillion, ac a ddywedo wrthynt hwy, ai enaid ei hûn, bwyttawn, ac yfwn ac ym­lawenychwn, tra fo 'r plant ar teulu yn ymprydio, eisieu a newyn arnynt, nid iw amgen, na thaflu bara 'r plaut, i'r Cena­won cŵn: Lleiddiad iw a lleidr. Yr un ffu­nyd y nêb a dreulia arian ar ei felys chwan­tau heb dalu ei ddyledion, nid iw ynteu [Page 98]ond yspeiliwr, yn gwarrio 'r eiddo arall. Cofied pa beth a ddywaid yr Apostol: Od ces neb heb ddarbod tros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth iw na'r dif­fydd. 1. Tim. 5.8.

2. Buro, a sancteiddio ei galon, i gym­medroli ei lawenydd, fel na osodai mo'i galon a'r y pethau bydol hyn, heb feddwl am y fan, lle mae gwir lawenydd ac hy frydwch yn cartrefu.

3. Ystyried, mai yn y bara ysprydol, trag­wyddol y dylei pob dŷn ymhyfrydu fwyaaf. Nid ŷm ni yn ceisio, ag yn gweddio am y bara bydol hwn, ie, pethau anghen-rheidiol i'r bywyd presennol, ond i'n cynnal yn u­nig tros ennyd, tra fôm yn cyrrhaeddyd at y llall, y trag-wyddol yn y nef; lle ni bydd mor newyn nac angen, nac eisieu mwyach.

PREG. XII.

‘A'r y geiriau — Bara beunyddiol.

[...] Beunyddiol. Llawer bŷd o ymryson sydd ynghylch cyfieithiad y gair hwn, ac o herwydd hynny amryw opiniwnau [Page 99]am y bara hwn, a dealltwriaeth y Deisy­fiad.

Yr amseroedd o flaen St. Hierom ai cym­merent, fel yr ydym ninneu heddiw, ac a ddywedent, Quotidianum, Beunyddiol. Ond nid oedd y Tâd dyscedig hwnnw yn gweled hynny yn iawn, ac yn gyttûn ar gair [...] yn groeg. Efe gan hynny a'i newidiodd, ac a roddes Supersubstantialem yn ei le. (ie,) Mwy na sylweddol: yr hwn hefyd a geir yn Cy­prian, Awstin, ac Ambrose: Ac Erasmus yn ddiweddar yn eu canlyn hwynt, gan dy­bied o ran tadogaeth y gair y dylei fôd y cy­fryw fara, qui universas suhstantias seu creatu­ras excellit. Chemn. Harm. c. 51. ag a fo yn nha-, gori ar bob sylwedd, neu creadur yn y bŷd.

Ac o herwydd i'n iachawdr ein gwa­hardd i fôd yn ofalus am ymborth cor­phorol, ie, yn yr un bregeth, pan ddys­codd weddio fel hyn yr amser cyntaf. Matth. 6.25. Am hynny, medd Erasmus, nid Bara y bywyd presennol hwn, ond y bara tragwyddol, a berthyn i'r bŷd a ddaw, a ddyscwyd i ni weddio am dano. Non iste panis est, qui vadit in corpus, sed panis vitæ æternæ. Ambr. de Sacram. lib. 5. Nid yr hwn a â i mewn i'r corph ond bara y bywyd tragwyddol.

Wrth hynny y mae Erasmus yn cymme­ryd arno i'n perswadio, nad oedd gymm­wys [Page 100]na chymmersnr i Ghrist Jesu yn y we­ddi ysprydol hon, ddyscu i ni geisio gan ein Tâd nefawl y bara gwael corphorol, yr hwn y mae 'r cenhedloedd yn ei gael ac yn ei dderbyn o ddwylo eu Tâdau cnawdol.

Eithr nid iw hynny felly, Nid anghym­mwys, nag anghvmmesur, i ni weddio am fwyd gan ein Tâd nefawl. Fy mwyd i yw, gwneuthur ewyllys fy Nhâd. Joan. 4.34. Dywedwn ninneu 'r un modd: A'i ewyl­lys ef iw, ar i ni ymddiried ynddo ef am y pethau bydol hyn hefyd. O blegit gwyr ein Tâd nefawl fôd arnom eisieu yr holl bethau hyn. Matth. 6.32. Ag ynteu ei hun yn peri i ni fwrw ein holl ofal arno ef, am ei fod efe yn gofalu trosom. 1. Pet. 5.7. A hynny nid yn unig ym mhethau nefawl, ond yn enwedic ym­mhethau daiarol hefyd.

Onid ydym ni yn cydnabod (fel y dylem yn siccr) mai oddiwrth ein Tâd nefawl yr ydym yn cael ac yn derbyn y pethau hyn i gyd? Onid iw yr Arglwydd yn anfodlon ganddo i rhai a ddisgwilient, ddim ar law neb arall, ond oddiwrth efe ei hun yn unig?

O achos hyn y mae Duw trwy 'r Pro­phwyd Amos yn argyhoeddi ac yn bygwth Israel. Ar ei phlant ni chymmeraf drugaredd, (medd efe am ferch Sion) am eu bôd yn blant go­dineb. Canys eu mam hwynt a butteiniodd; Gwrad­wyddus y gwnaeth yr hon a'i hymddug hwynt: Cany s [Page 101]dywedodd hi, áf ar ôl fy nghariadan, y rhai sydd yn rhoi fy mara, am dwfr, fy ngwlân, a'm llin fy olew, am diodydd. Am hynny, wele, mi a gaeaf i i fynu dy ffordd, &c. Am. 2.4.5. A thrachefn, v. 8. Ni wyddei hi mai myfi a roddais iddi yd, a gwin, ag olew, as a amlheais ei harian, a'i haûr, y rhai a ddarparasant hwy i Baal.

Ar law Duw yn unig y dylem ni geisio a disgwil y pethau bydol hyn i gyd, ein bwyd, a'n diod, a'n dillad, ac nid fel yr Israeliaid gŷnt, gan eu delwau. A chymmant a bod y weddi hon yn gwbl-berffaith yn cynn­wys ar fyrr eirian cymmaint ôll ag allom ni weddio am danynt, a bôd y bara cor­phorawl hwn yn beth anghen-rheidiol, yr hwn ni's gellir moi ddwyn addres ir un o'r deisyfiadau eraill: gwybyddwch yn ddiammeu mai yn y geiriau hyn y dyscodd Christ i ni weddio am dano.

Rhai eraill, yn enwedic y Remistiaid ar Fath. p. 6. a fwriant y ddau fara ynghyd i'r deisyfiad hwn, sef, yr ysprydol a'r corphorol he­fyd. Canys fel hyn y dywedant. Nid ydym ni, wrth ddywedyd hyn, Dyro i ni &c. Yn gwe­ddio yn unig am yr oll bethau anghen-rheidiol er cyn­haliaeth ir Corph, ond yn hyttrach; yn fwy o lawer am ysprydol ymborth yr enaid, ynenwedic, y sacra­ment bendigedic, yr hwn a ddywaid amdano ei hum

Myfi iw bara 'r bywyd. Joan. 6.35. Myfi iw 'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i wa­red [Page 102]o'r néf: Os bwytty neb o'r bara hwn; efe a fydd byw yn dragywydd; a'r bara a rodda fi iw fy nghnawd i, yr hwn a rodda fi tros fywyd y bŷd. Joan. 6.51.

Eithr nid rhaid mo hynny chwaith, sef, fwrw 'r ddau ynghyd i'r deisyfiad hwn, o herwydd i'n iachawdr ddyscu i ni geisio ein hymborth ysprydol a dderbiniasom ni (heddiw) ar law ein Tâd nefawl: gan ysty­ried yn ddiolchgar y diben pennaf o her­wydd yr hwn y trefnwyd efe i ni.

Megis ac yn y dechreuad cyn gynted ac y creuwyd y dyn, a'r ôll creaduriaid eraill, Duw a appoyntiodd iddo luniaeth wrth yr hyn y bydde iddo fyw: Felly hefyd yn y Creadur newydd: Ar ôl ei ail eni trwy Fedydd, rhoddwyd iddo fwyd, i gynnal by­wyd sef, Swpper yr Arglwydd, I borthi ei e­naid yn niogel obaith o fywyd tragwy­ddol.

Canys y Sacrament hwn sydd yn wystl ac yn ammod i gynnifer ac a'i derbynio yn ôl gosodiad Crist, y portha efe yn ôl ei addewid, trwy rinwedd ei gorph croesho­liedig a'i waed tywalldedig ein heneidiau i fywyd, tragwyddol, cyn gypled ac y mae­thir ein cyrph gan fara a gwin i fywyd am­serol.

I'r Diben a'r pwrpas hwn y mae Crist yngweithred y Sacrament Cymmun Corph a gwaed yr Arghwydd. A Chymmundeb ni ddi­chon [Page 103]fôd o bethau absennol, eithr o be­thau presennol: ac ni byddai yn Swpper yr Arglwydd, oni bai fôd corph a gwaed yr Arglwydd yno.

Y mae Crist yn bresennol i'n porthi yn y Sa­crament trwy undeb.

  • 1. Ysprydol, rhwng Crist a'r Derbyniwr teilwng.
  • 2. Sacramentaidd rhwng corph a gwaed Christ, a'r arwyddion oddi al­lan yn y Sacrament.

Y gyntaf a weithredir trwy waith yr ys­pryd glân yn cyfanneddu ynghrist, ac ynom ninneu, yn ein corpholaethu megis yn aelodau i Grist ein Pen, ac felly yn cael ein gwneuthur yn un a Christ, ac yn gy­frannogion o'r holl radau, sancteiddrwydd a'r gogoniant tragwyddol y rhai ydŷnt yn­ddo ef, mor ddiogl a siccr, ac yr ydym, yn clywed geiriau yr addewid, ac yn gy­frannogion o'r arwyddion oddi allan yn y Sacrament bendigedic.

Y llall, sef yr undeb Sacramentaidd nid iw angen na Chysylltiad ysprydol rhwng yr arwyddion daiarol, y rhai ydŷnt Gorph a gwaed Christ wrth ei derbyn.

O hyn y digwydd, pryd y bo 'r Derby­niwr teilwng yn bwytta a'i enau corpho­rol fara a Gwin yr Arglwydd, ei fôd ef hefyd ar yr un amser, yn bwytta a genau ei [Page 104] ffydd wîr gorph a gwaed Crist. Nid o ran sôd Christ yn dyfód i lawr or nefoedd ir fan hon attom, eithr o ran bód yr yspryd glân trwy y Sacrament yn derchafu ein me­ddyliau at Grist ar y deheulaw yn y ne­foedd, nid trwy gyfnewidiad lleawl, eithr trwy serch defosionawl. Megis yngolwg ein ffydd yr ydym y pryd hynny yn bresennol gyda Christ, & Christ gyda ninneu. Ac fel hyn gan fyfyrio a chredu, a croeshoe­lio corph Christ, a thywallt ei werthfawr­occaf waed er maddeuant o'n pechodau, ac er mwyn cymmodi ein heneidiau a Duw, y mae ein heneidiau wrth hyn yn cael eu maethu yn ffrwythlonach a diogelwch o fywyd tragwyddol, nac a eill y bara a'r gwin borthi ein cyrph i fywyd amserol.

Wrth hyn y deellir pa beth iw Porthi E­neidiau, nid amgen, cryfhau ein ffydd yn­ghrist: Porthi r corph iw ei gryfhau a llu­niaeth; Porthi 'r enaid chwanegu ffydd, ac amlhau pób rhâd ysprydol.

Dyma 'r modd i ni fyned yn gryfion mewn ffydd, trwy fynych gofio a myfyrio ar werthfawr brîs ein prynedigaeth. I hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ei Swpper ben­digedic, i ddwyn ar gôf i Gristianogion yn oe­stadol yr aberth fywiol yr hon a offrym­modd Crist unwaith am y cwbl, trwy ei farwolaeth ar y Groes i'n cymmodi ni a Duw. Gwnewoh hyn (medd Crist) er coffâ am­dama [Page 105]fi. Luc. 22.19. Ac y mae yr Apostol he­fyd yn dywedyd, Cynnifer gwaith bynnac y bwyt­taoch y bara hwn, ac yr yfoch y Cwppan hwn y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo, 1. Cor. 11.26. Ac y mae efe yn dywedyd ym mhellach, mai trwy y Sacrament hwn, a phregethiad y gair y darfuasei portreio Jesu Grist o flaen llygaid y Galatiaid. Gal. 3.1. Canys y mae 'r gwbl weithred yn dan­gos marwolaeth Crist; Torriad y bara, croeshoeliad ei gorph, bwrw allan y gwin, tywalltiad ei waed. Un waith yr aber­thodd Crist ei hun yn gorphorol: Eithr cyn fynyched ac y cyssegrir y Sacrament Bendigedig hwn, cynfynyched a hynny yr aberthir ef i'r ffyddloniaid yn ysprydol.

Nid oes fôdd fanylach yn y bŷd na'r cof­fa hwn i gadarnhau ffydd ynom. Canys y mae Duw wrth y Sacrament yn arwyddoc­cau, ac yn selio i ni o'r nef, mai yn ôl yr addewid a'r cyfammod newydd a wnaeth efe a nyni ynghrist, y derbyn efe iw râd a'i drugaredd yr hóll ddynion credadwy edifeiriol, ac a dderbynio ei Sacrament sanctaidd yn ddyledus: Ac er mwyn mar­wolaeth a dioddefaint Crist, efe a faddau iddŷnt eu hóll bechodau mor ddiammau, ac y maent yn gyfrannogion o'r arwyddion y bara a'r gwin a roddir iddŷnt.

A pharth nid bychan o'n cryfdwr yspry­dol ydyw ein gobaith a'r diogelrwydd o'r [Page 106]bywyd tragwyddol yr ydym yn ei gael trwy 'r bara Sacramentaidd. Oh! pa beth sydd fwy dymunol na bywyd? A pha beth y mae yr holl ddynion yn naturiol iw ofni, neu iw gasâu yn fwy na marwolaeth? Etto nid iw y farwolaeth gyntaf yma ddim i sôn amdani wrth ei chyffelybu i'r ail farwo­laeth; ac ni thâl y bywyd yma ddim chwaith o herwydd ei gystadlu a'r bywyd sydd a'r ddyfod. Os dymuni di gan hynny fôd yn ddiogel o'r bywyd tragwyddol, ym­barattô, dy hun i fôd yn dderbyniwr teil­wng, a ffyddlawn o'r bara Sacramentaidd. Canys y wae ein iachawdr yn ein siccrhau ni, Os bwytty neb o'r bara hwn, efe a ffydd buw yn dragywydd, &c. Ac mewn gwirionedd dymma bûr bren y bywyd, yr hwn a blannodd Duw yn­ghanol Paradwys yr Eglwys. Datc. 2.7. Ac o'r hwn y mae ef yn addaw rhoi i bôb gorch­fygwr iw fwytta.

A'r pren hwn o'r bywyd mewn aneirif raddau sydd yn rhagori ar bren y bywyd oedd yn tyfu ym mharadwys Eden. Canys yr oedd hwnnw a'i wreiddin o'r ddaiar, hwn o'r nefoedd: Hwnnw ni roddai ond bywyd i'r corph, hwn a rydd fywyd ir Enaid: Nid oedd hwnnw ond ymddiffyn, neu gynnal bywyd y rhai buw, y mae hwn yn adferu bywyd ir rhai meirwon.

Dymma 'r pren Datc. 22.2. bôb mâs yn rho­ddi ei ffrwrth: Dail yr hwn a iachâ y Cenhedloedd, [Page 107]ac a'i portha i fywyd tragwyddol. Oh, bendigedic ydŷnt y rhai sydd o ddydd i ddydd yn bwytta yn deilwng y bara bendi­gedic hwn; o amser i amser yn archwaethu o newydd, o'r ffrwyth adnewyddedig yr hwn a barattoôdd Christ ini ar ei fwrdd ei hun, yr hwn iw ei gorph ei hun, i iachau ein gwendid, ac i gryfhau ein crediniaeth i fywyd tragwyddol.

O Arglwydd trugarog, a daionus, mawr ddiolchwn i ti am dy fawr drugaredd yn ein porthi hyd yn hyn a'th sanctaidd Sacra­mentau; Na chymmer, (nyni a attolygwn iti) dy fendigedic ordinhadau oddi wrthym: Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol, yn ysprydol i'n cryfhau fwyfwy mewn ffydd a gobaith, a chariad perffaith, a dio­gelrwydd o'r bywyd tragwyddol yr hwn a addewaist, ac a ordeiniaist i ni yn dŷ Fâb Jesu Grist, &c.

PREG. XIII.

‘A'r ail ar y geiriau: — Bara beuny­ddiol.

ERaill a fynnent ddwyn [...], yr hwn a arwyddoccá. Dynessu, dyfôd at beth, fel pe bai fara damweiniol yn myned [Page 108]yn dyfôd beunydd. Quem non sufficit semel ac­cepisse, Yr hwn ni wesnyth i ni moi gael un waith: Am nád iw yn parhau. Ac wrth hynny rhaid i ni fôd beunydd, a phób amser yn ei ofyn ac yn ei dderbyn; Fyth yn dyfód oddiwrth Dduw in cynnal. Gwir iw hyn, Ac fe'n dyscir wrth hynny. 1. I fôd yn feddylgar, mai ein Tâd nefawl sydd yn gofalu trosom, yn rhoi i ddyn ei wala, a phób amser yn ei ddiwallu.

2. Na ddylem ni mor ymffrostio, na gorfoleddu yn ein nerth a'n llafur ein hu­nain, fel pe gallem haeddu, neu ynnill ein bara; ond bód yn ddiolchgar, i Dduw sydd beunydd yn tywallt ei fendithion ar­nom.

3. Nâd iw y bara hwn ddim or pethau goreu a weddiem amdanynt, ond [...], a ddelo att hynny yn y chwaneg; A'r ôl cyngor ein iachawdr. Nac o felwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch, &c. Eithr yn gyntaf ceisiwch Deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, a'r hôll bethau hyn a ro­ddir i chwi yn y chwaneg. Matth. 6.31.33.

Cywirach i rai eraill ddwyn y gair hwn [...], oddiwrth [...]; hynny iw, Hanfod, neu ddeffnydd, o'r hyn y gwneir peth. I'r hyn y mae ein bara yn anghen-rheidiol i gynnal ein sylwedd, ac i'n cadw yn fyw.

Ond weithiau y 'r scrythur Lân a gymer [...] yn lle golud, cyfoeth neu dda bydoll. Megis [Page 109]acy dywedodd y mâb afradlon wrth ei dâd. Luc. 15.12. [...]. Fy Nhâd, Dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r Dâ. Ac o hyn [...] a elwir Rhyw Dryssor gwerth fawr dewisedig: Ac yn y gwrth-wyneb [...], cymmaint o dda 'r bŷd ac a fo ar­ferol iw gael, cynnefinol, ddigonol.

Ac fel hyn y bydd y deisyfiad hwn yn gyttûn a gweddi Salomon. Dihar. 30.8. Na ddyro i mi na thlodi, na chyfoeth: Portha fi a'm di­gonedd o fara. Neu, Dôd cymmaint, ac a fo raid i mi wrtho.

3. H [...]. Ein bara ni, ein eiddo. Nid fel pe bai i ni fraint, neu hawl yn y bŷd ynddo. Ond. 1. Am fôd ei eisieu arnom. ni a­llwn ni mor byw, nac mor bòd hebddo.

2. Am ei fòd wedi ei gymmedroli, a'i gymhesuro i bòb un ar ól ei cyflwr, i bòb dŷn ei ddigon ei hun: Ei rhan o fara, cym­maint ac a wasanaethai yn òl ordeinhâd Duw i gadarnhau calon dŷn ar òl ei cryf­dwr naturiol priodol.

3. Ein eiddo trwy ynnilliad cyffreith­lawn: Canys trwy lafur ac helbul yr ydym yn ei ynnill, a'i haeddu megis cyflog yn y bŷd. Cyfiawnder Duw ydyw ar òl pechu o ddyn, farnu o honaw, na fwyttaei ddyn mo'i fara, ond trwy chwŷs ei wyneb: Gen. 3.19. Ond yn hyn y mae ei ddaioni yn ymddan­gos, gan ei fód yn addaw, ac yn parattoi [Page 110]b ara i bób un a gymero boen amdano, fel y gallei efe fwytta, gwedi iddo lafurio, a chwyssu er mwyn ei gael.

4. Ein heiddo wrth ei drin a'i feddiannu. Ein Tâd y piau 'r bara, ond i ni y mae efe yn ei roddi. Nyni y piau hefyd trwy ròdd ei law haelionus ef. Eithr yn hyn nid ŷm yn ceisio nac yn dymnno, ar i Dduw gym­meryd dim oddi-wrth néb arall, a'i roddi i ni. Canys y mae ganddo ddigon iddŷnt hwy, ac i ninneu hefyd. Ond y peth a ddarfu iddo yn ei ragluniaeth ddaionus, ai ragddarbod appointio i bòb un o honom, yn nailltuol yn ôl ei stâd a'i gyflwr.

Ac fel hyn y mae 'r bara yn myned ac yn bód yn eiddom ni nid yn unig, wrth y braint y mae Duw yn ei roddi i ni ynghrist yn y creaduriaid óll, yn yr hwn yn unig y sancteiddir bób rhyw creadur i'ni; Yr hyn yw Braint o Râs yngwydd yr Hollal­luog; Eithr y mae i ni fraint arall ynddo o flaen Dynion, pan fóm gwedi cael me­ddiant trwy foddion onest a chyfreith­lawn, ynnill, pwrcas, llafur, etifedda­eth, neu 'r cyffelyb.

A'r hyn, sef, yr eiddo ti, a'r eiddo fin­neu, gadel i bawb ei eiddo, y mae holl ly­wodraethau y bŷd yn sefyll: A'r llywo­draethau hyn i gyd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Rhuf. 13.1. Pe bai pób peth yn gyffredin, ni allai neb ddywedyd, fòd [Page 111]dim ar a feddei, yn eiddo ei hunan. Eithr y mae Duw trwy 'r Apostol yn peri i bób dŷn fwytta ei fara ei hun, a'i ynnill er mwyn hynny. 2. Thess. 3.12. Ond i'r cyfryw, (sef i'r afreo­lus, rhodresgar) gorchymmyn yr ydym, au han­nog trwy ein harglwydd Jesu Grist, ar iddynt wei­thio trwy lonyddwch, a bwytta eu bara eu hunain.

4. Nid ydym yn ceisio bara neu lunia­eth, tros fîs, neu flwyddyn, neu einioes ond [...], o ddydd i ddydd Pob dydd ei ran a'i ddogn.

5. Nid i ni ein hunain chwaith, ond i'n brodyr hefyd, [...] I bob dyn y faint a dref­no Duw o'i ddaioni iddo. Mor gariadus a dylem ni fòd, pan weddiom, heb na dig­ter na dadl, na chenfigen yn erbyn neb, heb falchder, heb anghariadoldeb, yn ddi­ystyr gennym néb o'n brodyr.

6. Dyro Di, sef, ein Tâd nefawl; Ni ddy­lem na gweddio, na ddisgwil ar law néb ar­all y lleiaf peth, a fo 'n rhaid wrtho. Fel y mae efe yn Dád i ni, o'i fawr dosturi, mae efe yn ewyllys-gar ac yn barod i'n porthi: Fel y mae efe yn y nefoedd, mae efe yn al­luog, yn gallu ein porthi yn òl ein han­ghen. Ni ddichon néb ar y ddaiar o hono ei hun roddi i ni ddim; ac ni ddichon néb yn y nefoedd chwaith na Seintiau, nac an­gelion; ond ein Tâd yn unig. Arno ef yn unig y mae i ni weddio; Ar ei law ef yn [Page 112]unig y mae i ni dderbyn bara a phòb peth cyfreidiol i ni.

7. Ac yn ddiwaethaf, O ródd y mae i ni ddisgwil beth bynnac a gaffom gantho. Nid ydym yn haeddu dim ar ei law: Nid iw Duw Ddyledwr i néb. Pe's gwnai efe a nyni yn ôl ein haeddiant, annedwydd, anobeithiol fyddei ein cyflwr, truanaf fy­ddem o'r creaduriaid, Os creffi, ar Anwi­redd, Arglwydd; O Arglwydd pwy a saif? Psal. 130.3.

Yr awr hon wrth iawn ddeall, ac ysty­ried y pethau hyn, i'n dyscir, pan fóm ar fedr dywedyd y weddi sanctaidd hon, fe­ddylied.

1. Fôd ein hanfod a'n bywyd yn dibynnu ar Fara, lluniaeth corphorol, a bendithion amserol. Gwir iw, megis ac y scrifenwyd, Nid trwy fara yn unig y bydd byw dyn. Matt 4.4. Deut. 8.3. Ac etto ni's gall efe mor byw, heb fara. Pa faint mwy ammhossibl i ni feddiannu, a mwynhau y bywyd tragwy­ddol heb râs ysbysawl, heb roddiad y gwir fara ysprydol a ddescynnodd o'r nefoedd: Wrth hyn gwelwn mo'r gyfreidiol iw y rhan hon o'r weddi. Ni chynhelir neb heb fara, ac ni cheir mor bara heb ei ofyn.

2. Fôd y pethau oddi allan perthynasol i'r bywyd a'r bŷd presennol, cyfoeth, a nerth, a llwyddiant teyrnasodd, teuluoedd gorchwylion, dynion yn dibynnu, nid ar [Page 113]ddoethnieb bydól, cynghorion y call, dy­falwch falwch y cywiraint, neu 'r cyffelyb, ond ar Dduw yn unig, yr hwn sydd yn trefnu teuluoedd, teyrnasoedd, dosparthu i bób grâdd, ac i bób dyn yn ôl ei ewyllys ei hun. A hyn hefyd a bair i ni weddio, ac i gyfarwyddo ein deisyfiadau, at wir ffyn­non pob daioni, beth bynnac a ddymu­nem. Canys pob rhoddiad ddaionus, a phôb rhodd berffaith oddi uchod y mae yn discyn oddi-wrth Dád y goleuni. Jac. 1.17.

13. Megis ac ni cheir dim o'r pethau hyn i gyd, ond trwy roddiad ar law Duw, felly ar ôl eu cael nid ydynt na da, na digonol i ni, oni rydd Duw ei fendith arnynt yn y chwa­neg. Gweddiwn gan hynny ar i'n Tâd ne­fol dywallt ei roddion arnom yn fendithi­on, nid er barnedigaeth. (Fel y rhoddes efe i'r Israeliaid gynt gig, a bara, a brenin yn ei ddigllonedd.) Yn ei nerth a'i rym ef yr ydym yn llafurio, Oi ddaioni yr ydym yn derbyn ffrwyth ein llafur; Yn ei râs ef, a thrw y ei fendith y cawn ni gwinffódd, a bodlonrwydd yn y ffrwythau a dderby­niom.

4. Dyscwn weddio, nid am olud, helae­thrwyd, a melysfwyd i osod allan ein balch­der, a'n chwantau cnawdol, ond y pethau a welo Duw yn ddâ er ein lles, am bethau anghen-rheidiol, a chymmedrol, cymmhe­sur i'n stâd a'n cyflwr. Gweddiwn, fel y [Page 114]gwnaeth y gŵr doeth, yn gystal rhag cy­foeth a thlodi. Na ddyro i mi na thlodi, na chy­foeth. Rhag i mi ymlenwi, ath wadu di, a dywedyd Pwy yw 'r Arghwydd? a rhag i mi fyned yn dlawd, a lledratta, a chymeryd enw sy Nuw yn ofer. Dihar. 30.9. Digon iw yr unig fendith: A hynny a fydd lle bo bodlonrwydd. Hyn a'n cyfarwy­dda beth, a pha fôdd y dylem ni weddio am­danynt o'r pethau perthynas i'r bŷd hwn.

5. Dyscwn wrth hyn fôd ein Tâd ne­fawl bób amser, ddydd a nos, awr ac en­nyd yn gofalu trosom; A llygad ei raglu­niaeth yn cadw y wiliad-wriaeth uwch ben pób un o honom: Och, na bai llygaid y creaduriaid mor wiliadwrys, i edrych i fynu yn ddiolchgar, ac yn ddefosionól ar ei law ef; ac y mae ei law a'i lygad bób amser yn agoryd, i edrych ar ein cyfreidiau, ac i dywallt i lawr, a'n diwallu a'i fendi­thion.

Duw ei hun fydd yn gofalu trosom: Nid rhaid i ni, ac ni ddylem chwaith fôd yn o­falus trosom ein hunain am y pethau byd­ol hyn, bwyd a diod a dillad; na thryssori mwy nac a fo ddigon i wasanaethu 'r tro, ac i fwrw 'r amser: Pa faint llai y dylem orfoleddu, ac ymddiried yn ein rhagddarpar ffôl ein hunain.

Os cynnydda golud na roddwch eich calon arno. Psal. 62.10. Pan fo Duw gwedi rhoi llwy­ddiant, ac i chwi gasclu tan ei law, yn am­lach [Page 115]na neb arall, mwy nac a wesnyth i'r dydd heddyw, na thybyga, na bydd rhaid iti mor gweddio y foru, am fôd gennit eu­sys, fara tros lawer o ddyddiau? Pa rhaid i mi geisio mwy, hyd oni ddarffo hynny? Ymogelwn ddywedyd hyn (fy mrodyr) yn ein calonnau, Amryfusedd y dŷn ffôl yn yr Efengyl, yr hwn a ddywedei yn ei lwy­ddiant wrth ei enaid. Fy enaid, y mae gennit dda lawer wedi eu rhoi i gadw tros lawer o flynydde­edd, Gorphywys, bwytta, ŷf, bŷdd lawen.

Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O Ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi-wrthit, ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist? Felly y mae r' hwn sydd yn tryssori iddo ei hun, ag nid iw gyfoethog tuag at Dduw. Luc. 12.19.20.21.

Ond confideriwn po mwyaf a dderbynia­som, mwyaf iw ein dyled, a mwyaf a ddy­lei ein eidduned a'n defosiwn fôd, i sancteiddio trwy weddi, a moliant y stôr a roddes ein grasusol Dâd i ni, i geisio bendith yn chwa­neg arno, fel y gallo fôd yn wîr fara i'n cynnal, yn gynhysgaeth i'n cyfoethogi, ac i lawenychu yn dduwiol ynddo. Heb y fen­dith hon yn discyn beunydd arnom fel y gwlith o'r nef, nid iw na chyfoeth, na syn­wyr, na chryfdwr, na dim o'r pethau y mae 'r bŷd yn gorfoled du yn ddynt ond oferedd. A hyn hefyd a ddylei ein chynhyrfu i we­ddio yn oestadol, ymddiried yn Nuw yn unig am ymborth a chynhaliaeth.

Arnat ti, o Dduw, yr ydym yn bwrw ein beichiau: Cymmer di, ni a attolygwn iti, ofal trostom Cynnal ein eneidiau a'n cyrph: Dyro i ni o ddyd i ddydd bob peth anghen-rheidiol i gymmaint ac sydd yn ól i ni o'n bywyd trangcedig hwn, fel y gal­lom dy wasanaethu a'th foliannu beunydd trwy nerth y bara nefol, a roddaist i ni, Jesu Ghrist &c.

PREG. XIV.

‘A'r ddiweddaf ar y deysyfiad: Doro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.

NID rhaid i mi mor atgofio y pethau a yspysais i chwi o'r blaen. Ond yn hyttrach myned rhagom i ddangos (fel y gwneuthum yn y deisyfiadau o'r blaen.)

1. Pa bethau da yr ydym yn eu ceisio yn y rhan hon o'r weddi.

2. Pa bethau drwg a weddiom rhag­ddynt.

3. Mor ddiolchgar a ddylem ni fòd i Dduw am yr holl ddaioni a dderbyniom wrth weddio fel hyn.

4. Dyled-swydd nailltuol pòb dŷn, nid am­gen, [Page 117]holi eu gydwybòd eu hun, od ydyw yn byw ar òl ei ddymuniad.

Gwedi i ni roi i Dduw ei eiddo yn ól ei Enw, ei Deyrnasiad a'i ewyllys, yr ydym yn troi bellach attom ein hunain, i geisio 'r pethau bydòl, a fo rhaid i ni wrthynt. Canys gan fód y bŷd y gyd yn eiddo Duw, pam na ddymunem, ac na ddisgwiliem ar ei law ef, pa bethau bynnac yn y bŷd a allent fòd yn fuddiol i ni? A hyn i gyd sydd wedi ei gynnwys yma tan un gair o Fara, O herwydd fôd bara yn arwyddoccâu pób peth cyfreidiol i'n cynhaliaeth, heb law y pethau y sonniasom amdanynt.

1. Wrth hyn gan hynny y gweddiwn. 1. Am iechyd corphorol fel y gallom lafu­rio a thrwy lafur, a chwys ein wynebau ynnill ein bara, a i fwynhau: Yr hyn beth, nid iw na'r gwan, na'r clwyfûs yn gallu mo'i wneuthur. Dyro i ni fara, hynny iw, Dyro i ni iechyd, a chryfdwr, a phob dawn anghen-rheidiol i bob dyn yn ei alwedi­gaeth, modd y gallo fyw ynddi yn ddigo­nol, a chael ei gynnal a'i borthi trwy ei waith a'i lafur ei hun.

2. Wrth hyn hefyd y gweddiwn am hi­roes i'n rhicni, a'r i Dduw (awdr y bywyd) hwyhâu ei heinioes iddŷnt. Canys y teulu­oedd y mae Duw yn fodlon iddŷnt, yn e­wyllys-gar ei bendithio, y mae efe yn ga­del eu tâdau i fyw yn hir, ac yn eu dwyn [Page 118]iw beddau mewn heddwch yn oedrannus. Canys i'r cyfryw rai y perthyn yr addewid. Psal. 128.6. A thi a gei weled plant dy blant, a thangneddyf ar Israel; Fel hyn y mae Duw yn bendithio y rhai a'i hofnant ef.

3. Yr ydym yn gweddio tros frenhi­noedd, a phenswyddogion y gwledydd, tros bawb sy mewn goruchafiaeth, fel y gal­lom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychol mewn pob duwioldeb a gonestrwydd. 1. Tim. 2.2. Fel y gallo bob un fwytta ei fara ei hun yn òl ei lefur yn ei alwedigaeth. Tra fo rhyfel ac ymlladdau yn ein mysc, ni bŷdd dim gennym yn ddiogel: Y da, y dillad, y ba­ra a ddygir oddi arnom; ie, oddi rhwng ein dannedd, pan fóm yn tybied ein bòd yn siwr o hono, a'r fedr ei fwynhau.

4. Yr ydym yn gweddio gyda Salomon. 1. Brenh. 8.36. am hinoedd a thymmho­rau, amserol, fel y derbyniom ffrwythau 'r ddaiar yn eu hamser; Ac am fendith hefyd ar y pethau hyn i gyd, fel y gallom yn ddyledus eu mwynhau.

2. Y Drygau a weddiom rhagddynt, y rhai yr ydym yn attolwg na's gwneler i ni, ydŷnt.

1. Gwendid, a chlefydad corphorol yn llestur i ni lafurio, ac i ynnill ein bara; An­ghydfód, amrafaelion, ymlâddau, rhy­fel, yn dwyn ein bara oddi arnom.

2. Cybydd-dod, a chinnilwch, yn cas­glu [Page 119]llawer o dda ynghyd, ac yn ei roi i gadw tros lawer o flynyddoedd, y bara i lwydo, yr airan, a'r aur, i rydu, a Christ yn dysgu i ni weddio, ond tros y dŷdd pre­sennol, Dyro i ni heddiw, nid y foru, a thren­nydd, a thra pharhao 'r bŷd; a Duw ei hun yn gwahardd i ni wneuthur hynny. Na ofelwch tros drannoeth. Canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun: Digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun. Matth. 6.34.

3. Gormodedd, anghymmedrolder, a fradlonrwydd, cam-arfer a'r Creaduriaid: yn gwarrio dogn yr holl ddydd mewn mu­nyd awr, ac wrth hynny yn ein gwneu­thur ein hunain yn ammharod, ac anghym­mwys i weithredodd y dydd.

4. Anghariadoldeb, cenfigen, grwgnach yn erbyn eraill, y rhai a welom yn well ei cyflwr. Nid ŷm yn gweddio trosom ein hunain yn unig, ond tros y brodyr, tros bawb òll. Dyro i Ni, nid i mi ar fy mhen fy hun, fy mara beunyddiol.

5. Gwan-gred, ac anhyder yn rhuga­redd Dduw. Canys y peth y mae Grist ei hun yn peri i ni ofyn, efe a dderpyr i ni, ac a'i rhŷdd yn ddiammau, ac yn ddiat­trec.

6. Pob ymarfer o foddion anghyfraith­lon i ynnill cyfoeth a golud, chwareyddia­eth, twyll, cloriannau anwir, a'r god o gerrig twyllodrus. Mic. 6.11. Dichellion, cynllwy­nion, [Page 120]cydfwriadau &c. Ni ddylem ni gei­sio, ond ein eiddom, a hynny trwy rôdd yn unig o law ein Tâd nefol, fel y gwêl efe yn dda ei roddi i ni.

7. A chan fôd llawer o rhan dilyn, a chwennychu y pethau bydól hyn, yn colli y bywyd tragwyddol, gweddiwn rhac i hyn hefyd ddigwydd i ninnau. Canys nid iw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo. Lu. 12.15.

3. Yn drydydd, Pan fo Duw gwedi rhoi y pethau yr ydym yn gweddio fel hyn am danynt, gwedi tywallt arnom ei fendi­thion, ar bób un ei wala, a'i ddigon o fa­ra; oni ddylem ni fôd yn ddiolchgar, a thalu moliant i Dduw amdano? Pa sawl un sydd yn ein mysc, yscatfeydd, nid fel y gŵr hwnw yn yr Efengyl, a fuasei glaf namyn dwy flynedd deugain. Joan. 5.5, etto mewn hir wendid, ac afiechyd? Pa sawl plentyn yn ymddifad, gwedi ei fwrw ar y bŷd iw faethu? Pa nifer o Gristianogion sydd tan lywodraeth-wyr anghyweithas; y rhai a gippiant oddi-wrthynt nid y pe­thau bydól hyn yn unig, ond y bara ys­prydol hefyd Gair Duw, a'i Sacramentau? Od ydwyt ti gan hynny yn cael dy iechyd yn safadwy; Dy rieni yn fyw i achub dy gy­freidiau: Od wyt ti yn byw tan ryw Jo­siah, tan ryw frenin duwiol, rhad-lawn cy­weithas: Dyro ddiolch i Dduw am ei dru­gareddau [Page 121]hyn, rhac iddo eu dwyn oddi­arnat yn ei gyfiawnder, ac iti wybod wrth eu heisieu, pa faint o ddaioni a oeddit yn ei gael, o'r blaen, heb ei gydnabod.

4. Holed pòb dyn ei gydwybod ei hun, ystyried ei weithredoedd a'i gyflwr, galwed ei fuchedd at y rheol hon, a ydyw efe yn byw yn ôl ei weddi. Ond iw yn hytrach yn ymosod yn erbyn ei gorph ei hun, yn cyr­chu afiechyd iddo trwy feddwdod, cyfe­ddach, godineb, putteindra? &c. Onid wyt ti, fel y máb gwarsyth hwnnw: Deu­ter. 21.20. yn gyndyn, ac yn anufydd, heb wran­do ar lais dy rieni, yn peri gofid a blinder id­dŷnt, ac yn byrrhau eu ddyddiau? Onid wyt yn ddiachos yn cythruddo ac yn digio y blaenoriaid, yn peri dig ir rhai sy'n gwilio trosot? Onid wyt yn tyrru bara i ti dy hun dros lawer o ddyddiau, tros fisoedd, a bly­nyddoedd, neu megis ac yn ei gippio o law yr Arglwydd trwy usuriaeth, trawsedd, attafaela, yn erbyn ei ewyllys? Od wyt yn gweled fôd y beiau hyn neu 'r cyfryw arnat, cyffessa dy gamweddau, dyro dy brŷd a'th amcan ar wellhau dy fuchedd, ac ar ganlyn yr hòll rinweddau da y mae def­nydd, a chynhwysiad y weddi yn dy gyfar­wyddo ynddŷnt.

1. Diolch-garwch, am yr hòll ddaioni a dderbyniaist trwy dy holl fywyd. Canys pa beth ydyw dy gynhaliaeth, a'th iechyd [Page 122]ond rhodd beunyddiol, gwedi ei hadne­wyddu i ti o ddydd i ddydd?

2. Bodlon-rwydd ith stâd, a'th gyflwr; A hynny.

1. O rân y peth a geisiem, Pob rhoddiad ddaionus yn descyn oddi-uchod megis Ba­ra ydyw, i'n nerthu, ac i'n cryfhau.

2. O rân bód i ninnau ryw fâth a'r fraint ynddo; Ein heiddo, Ein bara ni, Dyro i ni. Felly y mae Duw yn ei Ddaioni a'i raglu­niaeth yn cymmesuro i bòb un ei ddogn, i bòb dyn cymmaint ac a fo ddigonol iddo.

3. O rân yr amser, Nid ym yn ei geisio ond i'r dydd presennol, O ddydd i ddydd; a'r rhodd yn cyfatted a'n cyfreidiau, Ac wrth hyn y deellwch, fôd gwîr fodlon-rwydd, a thair o raddau arni. 1. Rhaid i bób un o honom fôd yn fodlon a'i gyflwr neu ei stâd ei hun, Ein bara; Pòb dyn a i fa­ra ei hun. 2. Rhaid iddo fôd yn fodlon ai gyflwr presennol, ei stâd y mae efe he­ddiw ynddi, Dyro i ni heddyw. 3. Rhaid iddo fôd yn fodlon a phob stâd, y cyflwr a drefno Duw o'i ddaioni a'i ragddarbod iddo. Canys o'i roddiad ef y mae pob cy­flwr.

3. Cymmedrolder, sobrwydd, a chym­mesurwydd ym mhób rhodd a gaffom, bwyd a diod a dillad, a phob peth perthy­nasol i'n bywyd: Fel y gallom, pa un bynnac, [Page 123]a'i yfed, a'i beth bynnag a wnelom, wneuthur pob peth er gogoniant i Dduw. 1. Cor. 10.31.

4. Cariad Perffaith. Canys nid ydym yn gweddio trosom ein hunain, ond tros em brodyr hefyd. Dyro i Ni, Nid i mi fy hûn, gan gydnabod mai ein dyled-swydd iw, eu cyn­northwyo hwynt, ddwyn cymmorth yd­dŷnt, a Duw gwedi rhoi i ni helaeth­rwydd, a bwrw eisieu a thlodi arnynt hwythau gan feddylied, mai er hyn, er cymmorth iddŷnt hwy y rhodd-wyd y llo­wnder hynny i ni. Fel pe bai ryw Dâd Daiarol i ddangos y rhagor rhwng eu fei­bion, ac iw profi hwynt i gyd, yn gadel yr ôll etifeddiaeth tan law 'r hynaf, a gor­chymmyn iddo ef gadw ei frodyr. Ond oes ir tlodion hawl, yn llownder y cyfoe­thogion?

5. Gostyngeiddrwydd, am nad oes gen­nym ddim yn y bŷd, nad ydym yn ei feg­gio, neu yn ei gerdotta: Yn gweddio am ein bara; Ni chawn ni mono heb ymbil. Ac er ei fôd yn eiddom er bòd i ni ryw fath ar fraint ynddo, etto nid ydym ni yn cael mono, ond drwy roddiad yn unig, wedi ei gymmesûro i bób un ar ôl ei stâd a'i eisieu.

6. Diwydrwydd, a Dyfalwch: Megis ac y gorchymmynodd yr Apostol. 1. Thess. 4.11. Roddi o honoch eich brŷd, ar fôd yn llonydd, a gwneuthur eich goruchwilion eich hunain a gweithio [Page 124]a'ch dwylo eich hunain, heb esceulusdra, heb oferedd. Canys ni ddylei neb fwytta, ond ei fara ei hun, yr hwn y mae yn ei ynnill: Nid ydyw na charferedig gerdotta, na'ch lledratta yn ddibechod. Gwrandewch gan hynny ar yr Apostol. 2. Thess. 3.10. Pan oeddym hefyd gida chwi hyn a orchymmynasom i chwi, os byddai neb ni fynnai weithio, na chai fwytta chwaith. v. 11: Canys yr ydym yn clywed fôd rhai yn rhodio yn eich plith chwi yn afreolus [allan o drefn] heb weithio dim, ond bod yn rhdresgar. v. 12: Ond i'r cyfryw gorchymmyn yr ydym, a'u han­nog trwy ein harglwydd Jesu Grist, ar iddŷnt wei­thio 'rwy lonyddwch, a bwŷtta eu bara eu hunain.

7. Hyfder ar Dduw, ei ragluniaeth, a'i ddaioni. Heb ffydd ac ymddiried yn Nuw, nid iw ein rhagddarbod ein hunain, tros y cnawd, neu trosom ein hunain ond pe­chod a ffolineb. Pob rhoddiad ddaionus, a phob rhodd berffaith oddi uchod y mae, yn discyn oddi­wrth Dâd y Goleuni. Jac. 1.17. Oddi-wrth bwy y disgwiliwn roddiad yn y bŷd ond oddi-wrtho ef yn unig? At bwy r edrych­wn, ond atto ef? I bwy 'r ymddiriedwn, ond i'r Arglwydd goruchel, yr hwn sydd yn peri ei fendithion ddiscyn arnom fel y gwlith o'r nefoedd?

8. Gofal cymhedrol am ein da, a'n hie­chyd, fel y gallom trwyddynt, wneuthur y cyfryw wasanaeth i Dduw, ac y mae efe yn ei ddisgwil. Canys yr rh ai hyn iw arfau [Page 125]ein milwriaeth yn y bŷd; Hebddŷnt hwy nis gallwn wneuthur na llês na daioni, na chymmwynas i'n brodyr, na'n cymodo­gion.

9. Ymarfer gwastadol o weddi a phob duwioldeb, gan weddio beunydd am y pe­thau bydól hyn: Pa faint mwy am fen­dithion ysprydol, i borthi ein heneidiau.

Gweddiwn ynteu ar ein Tâd nefol, ar iddo dywallt ei fendithion hyn arnom, gadw oddi-wrthym yr ôll ddrygau yr ydym yn gweddio rhagddynt; Ar iddo felly ein digoni a'i fara corphorol yn y bŷd, fel y ca­ffom rhag llaw fwynhau y bara nefol, yr hwn iw ein Harglwydd Jesu Grist, &c.

PREG. XV.

Luc. 11.4:

A maddeu i ni ein pecho­dau.

RHaid iw ystyried, gyntaf dim, yn y deisyfiad hwn. 1. Ei Drefn. 2. A'i Ddefnydd. Y módd, a'r peth yr ydys yn ei geisio.

1. Hyd yn hyn yn yr hôll ddeisyfiadau o'r blaen, fe 'n dyisgwyd i weddio am bethau da ym mhób ryw fôdd yn gystal er lles y [Page 126]corph a'r enaid. Yma, yr ydym yn dechreu, ac o hyn allan yn myned rhagom, i we­ddio rhag y drygau y rhai y mae eu hofn au harswyd arnom. A hynny nid yn ddi­reswm, ddiachos: Yn gymmaint, a thra byddom yn y cnawd, nid iw bossibl i ni gyrhaeddyd na mwynhau cyflwr perffaith na diogel yn y bŷd: Mor llawn ydym o am­mherffeith-rwydd a diffygion, ac wedi ein hamgylchn a pheryglon aneirif.

Y pethau mwyaf yn ein drygu, ein Pecho­dau, ein dyledion i Dduw ydŷnt. Dyna 'r gwraidd, a ffynnon yr holl ddrygau, sy 'n digwydd i'r Creaduriad. Oni bai pechod, ni fuasei ddrwg arall yn y bŷd: O hwn, y mae 'r drygau ôll yn deilliaw.

Ein pechodau, meddaf, sy 'n gwahanu rhyngom a'n Duw, yn ynnyn ei lid, yn cyffroi ei ddigo-faint i'n herbyn, ac yn pe­ri iddo ein cospi yn ei gyfiawnder, a'i am­ryw farnedigaethau.

O herwydd hynny y mae ein iachawdr Christ, yn ein dyscu ni yn gyntaf dim gei­sio tynny y rhain, a'u symmud oddi ar y ffordd, ac i Dduw, ein tâd nefol bellhau ein camweddau oddi-wrthym. Pe's gallem fôd yn rhydd oddi-wrth ein dyledion hyn, ni fyddei raid i ni mor ofni na chystudd, na thrueni, na drwg, na blinder yn y bŷd.

Cwest: Ond fe a ddywed rhyw un, Oni ddy­lasei hwn ynteu fôd yn gyntaf ûn o'r deisy­fiadau [Page 127]yn y weddi? Canys, fel y dywaid y Prophwyd, nid o rân Duw y mae 'r rhwystr, Wele ni fyrhâwyd llaw 'r Arglwydd fel na allo a­chub, ac ni thrymhâodd ei glust ef, fel na allo gly­wed, Eithr eich anwireddau chwi a yscarodd rhyn­goch chwi ach Duw a'ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddi-wrthych, fel na chlywo. Esai. 59.1.2.

O herwydd hynny o rân y gelyniaeth sydd rhyngom a'n Creawdr o achos ein pe­chodau nis gallwn na gofyn na derbyn dim daioni yn y bŷd ar ei law, oni chymmo­der ni a'n Duw. Dyma 'r peth y mae Duw ei hun yn ei ddeisyf arnom ni yn gyntaf; 2. Cor. 5.20. Oni ddylem ninneu o flaen dim geisio 'r un cynmod gantho ynteu?

Att: Gwir iw, nad iw 'r weddi hon, weddi gelynion Duw, ond erfynion ei blant, sydd tan gymmod ag ef, gwedi iddo adferu cys­sur a ffafor iddŷnt, ynghrist Jesu.

Ond y mae i ni ddyfódfa at ein Duw, ac yr ydŷm yn gweddio arno nid yn unig o rân Mabwysiad, fel yr ym yn blant iddo ond o rân ein gwendid naturiol hefyd, fel tros­seddwyr annheilwng, a pechaduriaid tru­ain, beunydd yn dyfód yn ôl, yn myned yn ôl llaw yn ein dyledion iddo, ac yn pa­rhâu mewn pechod, tra 'r estynner ein dyddiau a'n heinioes i ni.

Ac ar hyn y mae rhill, a trefn y deisyfia­dau hyn yu sefyll. Yn y pedwar cyntaf yr ydym [Page 128]yn dangos ein hyfder ar ein mabwysiad, ac vn deisyf megis plant i Dduw, ar iddo gyflawni ein holl eisiau yn gystal er lles y corph a'r Enaid. Yn y lleill, yn canlyn, yr ydym yn dangos (fel y dylem,) ein an­hyder arnom ein hunain o rân ein llygre­digaeth, gan ddeisyf amddiffynfa, a rhydd­did oddi-wrth y cyfryw ddrygau, ac y mae ein bywyd presennol hwn yn gynnefin i­ddŷnt.

Y Drygau hyn a ddigwydd i ni oddi­mewn, ac oddi-allan. Oddi-mewn, Gwy­niau, chwantau cnawdol, deisyfiadau lly­gredig. Oddi-allan, peryglon oddi-wrth y bŷd a'r cythraul, pob aflwydd, blinder, adfyd yn digwydd oddi-allan megis▪ heppil pechod a gwenidogion angeu.

Fel hyn megis yn y bendithion a ddys­godd ein iachwdr Christ i ni weddio am­danynt, yn cyntaf yr ysprydol, gwedi hynny y rhai corphorol; Felly hefyd yn y Drygau yr ydym wrth yr un ddysceidiaeth yn gwe­ddio rhagddŷnt, yr ydym yn ymosod yn gyntaf yn erbyn, y rhai a ryfelant, yn er­byn yr enaid yn bennaf; ein pechodau, ac wedi hynny yn gweddio rhag y lleill a ddigwyddont ir corph, neu ynghŷd ir corph a'r enaid.

Ond wrth weddio fel hyn rhag y Dry­gau, yr ydym yn cyd-ddeisyf y bendithion cyfattebol iddŷnt, yn gystal ysprydol a [Page 129]chorphorol. Canys Maddeuant Pechodau, Nerth a chadernid yn erbyn profedigaeth, rhydd-did oddiwrth beryglon, a maglau y cythral, y drwg hwnnw, ai weinidogion, prif-radau, bendithion arbennig nefol y­dŷnt.

Am hynny (medd. Mr. Perkin) nid iw 'r deisyfiad o'r blaen am fara beunyddiol, ddim angen, na gris, neu gam i godi ein meddyliau hŷd at y gofynniad hwn o fa­ddeuant ein pechodau. Canys y néb a ro­ddo ei bwys ar yr Arglwydd am gynhalia­eth corphorol, a fydd barottach i bwyso ar yr un Duw am feddeuant a thrugaredd er iechydwriaeth ei enaid Ond y néb ni fo ddiammeu ganddo, y rhydd Duw fara iddo, pa fódd y geill efe fôd yn ddiogel, neu berswadio eu hûn, y rhydd Duw fa­ddeuant iddo?

Ac wrth hyn y mae Crist megis yn dwyn ar góf i ni pa fódd y dylem ni ymarfer y bendithion bydól hynny, bwyd a, diod a dillad, iechyd, helaethrwydd, cyfoeth; nid amgen, megis cynnorthwyon i'n cyfiawn­hâd, i'n cyfarwyddo at ein Duw, ac i beri i ni bwyso ar ei drugareddâu ynghrist Je­su. Canys y bendithion amserol hyn a dderbynir gennym, megis gwystlon ydŷnt a thystiolaethau o bethau gwell a ordei­niodd efe i ni.

Ar hyn yma megis ar sail a adeiladaá [Page 130] Jacob ei wîr grefydd, a'i wafanaeth i Dduw. Yna yr addunodd Jacob adduned, gan ddywedyd, Os Duw fydd gyda myfi, ac am ceidw yn y ffordd ymma, yr hon yr ydwyf yn ei cherdedd, a rhoddi i mi fara iw fwytta, a dillad iw gwisco? a Dychwe­lyd o honof mewn heddwch i dy fy nhâd, Yna y bŷdd yr Arglwydd yn Dduw i mi. Gen. 28.20.21.

Fel pe bai efe yn ammodi a Duw ac yn cymmeryd y bendithion amserol hyn, bwyd a dillad, a dychweliad mewn heddwch, a chadwraeth ar hyd y ffordd megis yn wy­stlon o'i ffafor, yn ernes cyflog o'i wasa­naeth.

Wrth hyn yr oedd yn ddiammau, yn ddi­ogel gan y Prophwyd Dafydd fôd ei Dduw yn ei garu Wrth hyn y gwn, (medd efe) hoffi o honot fi, am na chaiff fy ngelyn orfoleddu i'm her­byn. Psal. 41.11. Y pethau da hyn oddi­allan pa beth ŷnt amgen, nag arwyddion o râs a ffafor Duw tuag at ei weision.

Yn y gei­riau y mae i ni ystyried.

  • 1. Y Gofynniad, Maddeu i ni ein pechodau.
  • 2. Yr Ammod, tan yr hwn yr ŷm yn gofyn, Canys yr ydym nin­nau yn maddeu, &c.

Yn y cyntaf, y gofynniad, y mae Cyffes yn gynhwysol, Canys yr ydym wrth ofyn ma­ddeuant yn cyfaddef ein bód ni i gyd yn bechaduriaid.

Yn yr ail, yr Ammod, y mae addewid, [Page 131]nen adduned, yn ymrwymo ein hunain i faddeu i'n brodyr.

Ni eill y cyntaf fôd yn wîr ac yn ddira­grith heb ffydd; Na'r llall mo'i gwbl-háu heb gariad perffaith.

Yn y Gofynniad mae i ni ystyried ym mhellach ac yn naill-tuol.

  • 1. Y Golygyn, yr hwn yr ydym yn edrych arno, a ni yn gwe­ddio fel hyn.
  • 2. Y weithred o druga­redd a ddymunem, Maddeu.
  • 3. Y Personau. 1. Gan bwy y ceisiem hyn, Ein Tád &c. 2. I bwy neu tros bwy y cei­siem I ni.

1. Y Golygyn, [...], pechodau, yn y fan hon; [...], dyledion, Matt. 6.12. [...], cwympau, camweddau, Matt. 6.14. Yr hon amrywiaeth yn nhadogaeth y geiriau, a wnaeth i rai dybied fôd anghyttundeb rhwng yr Efengyl-wyr, neu o'r lleiaf, fôd rhagor rhwng y pechodau yr ydys yn gwe­ddio rhagddynt. Fel pe bai

1. [...], ddim ond Peccatum Incogitan­tiae, Pechod o Anystyriaeth neu Anfeddylgarwch, y peth a wnae dyn yn ddiystyr, neu yn anfeddylgar.

2. [...], Peccatum malitiae: Pechod rhy­fygus, [Page 132]yr hwn a wnae dŷn o'i wîr fôdd, er ei fôd yn gwybod mai drwg ydyw.

Ond nid iw Crist ei hùn yn gwneuthur mor fath ragor rhyngthynt, ond yn uw­sio 'r geiriau yn gyffredin, pób ûn i ddat­can, neu arwydoccâu pòb math ar becho­dau.

Er hynny yr amryw henwau hyn ar be­chod a gymmerir o rân amryw edrychiad arno.

[...], Peched y gelwir, fel y mae yn gy­feilorn, yn myned ar ddidro oddi-wrth reol y gyfraith.

[...], Camwedd, O rân ein ymarwe­ddiad, neu gwrs y bŷd a'n bywyd, yn lli­thro, ac yn cwympo oddi ar lwybrau cy­siawnder.

[...], Dylêd, gan edrych at Dduw, i'r hwn yr ydym yn ddyledwyr, megis o ufudd­dod yn naturiol, felly o gospedigaeth, gwedi i ni ffaelio, a dyfôd yn fyrr o wneu­thur yr hyn a ddylem o rân ein creadi­gaeth.

Pechod a elwir yn ddylêd drwy gyffely­biaeth; ar ôl dull dynol yn bargeinio ac yn ammodi a'u gilydd: O rân fôd gwir Ammod rhyngom ni a'n Duw: Duw ei hûn yn gyffelyb ir coeliwr, neu i'r perchen Dlêd, A ninneu i'r Dyledwyr; Y gyfraith, i'r rhwymedigaeth, A Phechod i'r Ddlêd, [Page 133]am yr hwn yr ydym ni tan fforffeit o gos­pedigaeth a'r ôl y gyfraith.

Yr ydym yn ddyledwyr i Dduw trwv be­chod, nid fel pe bóm yn dylu pechod iddo, neu yn dlyledus i bechu: (Ie, yr ydym yn rwymedig drwy 'r gyfraith, yn y gwrth­wyneb i dalu ufudd-dod iddo.) Ond o herwydd yn niffyg ufudd-dod, neu dale­digaeth yn ôl y rhymedigaeth gyntaf, yr ni trwy bechu yn euog o gospedigaeth neu farn, megis ail ddlêd iddo.

Pwy nis gwyr arfer y bŷd yn bargeinio? Yn gweled dynion beunydd yn ymrwymo tan ffîn, neu swm o arian er cyflawni eu cyfammod. Os torrir y cyfammod, y mae y rhwymedigaeth yn myned yn fforffed, a'r swm ynddi yn ddlêd i'w pherchen. Ac yn gyfattebol i hyn.

Ein dlêd cyntaf i Dduw, yr hyn oeddym yn dylu iddo o'r dechreuad, ydyw ufadd-dod gwbl-berffaith i'r gyfraith: I'r hyn yr oeddym yn rhwymedig wrth gyfammod gweithre­doedd tan gosp o farwolaeth dragwyddol. Quo die comederis &c. Yn y dydd y bwyteych▪ honaw, gan farw y bŷddi farw. Gen. 2.17. Ei­thr yn niffyg cyflawni y cyfammod, yr yd­ym yn rhwym i'r fforffedd, hynny iw, cospedigaeth dragwyddol. Dyma ein dlêd ni yr awr hon. Ond pechod a elwir yn ddlêd, o herwydd ei fôd yn achos o'r gos­pedigaeth [Page 134]hon. Pechod a wnaeth hyn o ddlêd neu fforffed.

2. Maddeu. Y maddeuant yr ydys yn cei­sio, ydyw llawn rydd-did a gollyngdod oddi-wrth y rhymedigaeth a'r ddlêd hon, sef, Euogrwydd Pechod, a'r cospedigaeth y mae yn haeddu. A hyn y mae Duw yn ei wneu­thur erom trwy Grist Jesu, gan gymmeryd ei angeu ei ufudd-dod, ai ddioddefaint ef yn iawn trosom, heb gyfrif ein pechodau i ni, yn cyfrif ein drwg weithredoedd ni fel pe baent heb eu gwneuthur, yn anghofio ein euogrwydd ac yn maddeu y gospedigaeth, yn ein gollwng yn rhydd oddi-wrthi.

Tri pheth sydd ym mhòb pechod i ddâl sulw arnynt, neu i'w hystyried.

  • 1. Y weithred, yn yr hwn y gwneir y Pe­chod.
  • 2. Yr euogrwydd, brŷch, halogiad, a e­dy 'r weithred yn yr enaid ar ei hól.
  • 3. Y cosp a'r dialedd, y mae 'r halogiad, a'r drwg weithred yn eu haeddu.

Actus transit, macula manet, pœna debetur. Y weithred yn passio, y brŷchni yn tri­go, a'r gosp yn ddyledus.

Wrth ofyn maddeuant yr ydym yn gwe­ddio yn erbyn y tri hyn ynghyd, yn erbyn pòb ûn o'r tri ar unwaith. Y mae Duw yn maddeu Pechod.

1. Quando Actum habet eo loco, ac si non fuisset; Pan fo efe yn anghofio y weithred, yn ei [Page 135] chyfrif, fol pe bai heb ei gwneuthur. A't hyn y mae 'r ymadroddion hyn yn tueddu. Ti a deflaist fy holl hechodau o'r tu ol i'th gefn. Esa. 38.17. Hezekiah wrth alaru. Efe a ddych­wel, efe a drugarha wrthym, efe a ddarostwng ein hanwireddau, a thi a defli eu hôll bechodau i ddyfn­deroedd y mor. Micah. 7.12. Na chofia Argl­wydd ein hanwired &c.

2. Quando maculam, restituto suo nitori atque integritati animo, eluit. Pan fo efe yn golchi ym­maith y brych ar brwntni a adawyd yn ôl, ac yn dwyn yr enaid yn ôl i'w chyflwr a'i glendid cyntaf. At hyn y mae 'r Prophwyd Dafydd yn fynych yn edrych gan weddio, Golch fi yn llwyr-ddwys oddi-wrth fy anwiredd, a glanhâ fi ag hyssop, a mi a lanheir; Golch fi, a bydd­af wynnach na'r eira. v. 7. Crea galon lân ynof, o Dduw; ac adnewydda yspryd uniawn o' mmewn. v. 10.

3. Quando Pœnam debitam remittit. Pan fo efe yn maddeu y gosp, y mae 'r ddrwg­weithredd yn ei haeddu.

Ac o rân hyn, y mae 'r Prophwyd yn gweddio, Na cherydda fi yn dy lidiaw-grwydd, ac na chospa fi yn dy lid. Psal. 6.1. Illud omne hic o­ramus. Am hyn ôll y gweddiwn wrth ddywedyd hyn, Maddeu i ni &c. Gweddiwn a'r i Dduw. 1. Anghofio ein ddrwg-wei­thredoedd, eu taflu o'r tu ôl iw gefn, eu bwrw ymmaith, a'i cyfirf, fel pe na's bua­sent. 2. Ar iddo olchi ein eneidiau, yn [Page 136]gwaed Crist, a'u glânhau yn llwyr-ddwys, fel y gosodei efe bób aelod o'i Eglwys yn ogo­neddus iddo ei hûn, heb arno na brycheuyn, na chrychni, na dim o'r cyfryw, ond fely byddei yn san­ctaidd ac yn ddifeius. Eph. 5.27. 3. Ac yn ddi­waethaf ar iddo dynny ymmaith y gospedi­gaeth, fel na ddelo hi byth arnom.

3. A hyn ôll yr ydym yn eu ceisio gan Dduw. Canys pwy a ddichon faddeu pechodau, onid Duw y unig? Efe yn unig a ddichon gy­fiawn'háu 'r anghyfiawn, Lânhau y galon lygredig, fwrw ymmaith anwiredd, a throi heibio ei lidiawgrwydd.

Ac nid ydym yn gweddio trosom ein hu­nain yn unig ond tros ein brodyr hefyd. Yn yr hyn, megis ac nid ydyw yn ein cy­fiawnhâu ein hunain, felly nid ŷm yn eu con­demnto hwy chwaeth. Ond fel yr oedd Job yn arfer tros ei feibion, felly offrymmwm ninneu offrymmau tros ein brodyr, gan ddywedyd yn wîr ofalus ac yn garedigol, Fy meibion, fy mrodyr, ond odid a bechasant ac y felldithiasant Dduw yn eu calennau; Maddeu yddŷnt o Dduw, ac i ninnau, a dyro i ni rás i fôd yn wîr edifeiriol, ac i fwrw ein baich ar ein cyfryngwr, yr hwn a ddioddefódd trosom Jesu Grist ein Harglwydd, i'r Hwn &c.

PREG. XVI.

A'r ail ar y testyn: Luc. 11.4.

A maddeu i ni ein pechodau, Canys nyni hefyd yddim yn maddeu ei bob un sydd ddyledwr i ni.

CHwchi a glywsoch, fôd yn y geiriau Ddáu beth arbennig iw hystyried.

1. Y Gofynniad, O faddeuant gan Dduw.

2. Yr Ammod, tan yr hwn y Gofynna ein fôd yn y cyntaf, Gyffes yn gynnhwysol, Am ein bód wrth ofyn Maddeuant, yn cyfaddef ein bòd ni i gyd yn bechaduriaid: Yn yr ail Addewid, neu Adduned i'n hym­rwymo ein hunain i faddeu i'n brodyr.

Gwaith ffydd iw 'r un, a'r llall trwy Gariad perffaith y cwbl-heir.

Fel y dywedais o'r blaen am ddyledion, fôd y scrythur Lân yn galw ein pechodau felly drwy gyffelybiaeth: Felly yr awr hon am Ddyledwyr, nid amgen Pechaduriaid:

Y Dyledwyr y mae son amdanynt yn y weddi, ydŷnt, Nid y rhai wrth farchnatta a bargenio fy yn ól llaw a'u cymydogron, [Page 138]ac arnynt dalu iddŷnt arian, ŷd, anifei­liaid neu 'r cyffelyb: Ond y rhai a wnelont gam neu rwystr iddŷnt. Canys nid oes ûn dŷn yn y bŷd, cynddrwg ei stâd, cyn-wae­led ei gyflwr, yr hwn ni roddes Duw iddo ar ól ei radd, a'i fesur, lawer o bethau dâ, ni ddylid mo'i dwyn oddi-wrtho: Bywyd, Enw da &c.

A'r neb a ddifenwo, neu a rwystro ei gy­mydog mewn dim yn y bŷd a berthyn iddo, sydd ddyledwr iddo, am iddo bechu yn ei er­byn: A'r ddlêd a erys y 'ngwydd yr Holl­alluog, hyd oni wnelo 'r troseddwr hwnnw fodloniad i Dduw, ac i'w gymydog, i Dduw trwy edifeirwch, a thrwy daliad iawn iw gymydog.

Ie heb law y niweid, drwg, neu rwystr a wnelir i néb ar air neu weithred, Rhaid i ni feddylied, mai pwy bynnac a esceulu­sa ei ddyled-swydd tuag at ei frawd, dyle­dwr yw. Yn gymmaint ac iddo beidio a'i achub pan allasai, hynny a gyfrifir yn be­chod, yn ddlêd arno yngwydd yr Holla­lluog.

Yr ydym ninnau yn maddeu i bób un sydd yn ein Dlêd: hynny iw. yr ydym yn maeddeu i bób dŷn sy 'n gwneuthur cam a ni, yn pechu mewn módd yn y bŷd i'n herbyn; pa ùn bynnag ai wrth wneuthur y peth ni ddylei, i'n drygu, a'i gan esceulu­so ei ddyledus garedigrwydd, a gadel heb [Page 139]wneuthur y weithred ddâ a allasei, i'n cynnorthwyo.

Cwest: Ond fe a ddywed rhyw un, os fe­lly, o rân ein pechodau yr ydym fel hyn yr ddyledwyr i gilydd, pa fôdd y maddeuwn ni; Canys ni ddichon neb faddeu pechodau onid Duw ei hûn yn unig. Mar. 2.7.

Attebaf: Ym mhób pechod neu gam­weithred y mae dau beth iw ystyried. 1. Y rhwystr, niweid, colled, trwy 'r hyn y drygir néb yn ei gorph, neu ei ddâ. 2. Yr anfodlonedd, a'r sarhâad i Dduw wrth drosseddu ei orchymmyn.

Dyn a ddichon roi maddeuant o'r hyn a berthyn iddo ei hûn, y niweid, colled, rhwystr: Duw sy'n maddeu 'r peth a ber­thyn iddo ynteu, yr anufudd-dod iw ewyl­lys ef, a'r ammharch iddo oddi-wrth ei greadur ei hûn yn ddiystyr gantho gyfraith a gorchymmyn ei wneuthurwr.

Megis pan fô neb yn cael ei sclandrio, gan ddynion anwir yn ei ddifenwi, yn dywe­dyd yn ddrwg am dano yn gelwyddoc, yr hyn sy bechod yn golwg Duw a dŷn: Y Dyn a ddywedir yn ddrwg am dano a ddi­chon, ac a ddyleu faddeu, cyn belled ac y mae yn berthynasol iddo, hynny iw, yr enllib, y drygair a'r ammharch y mae efe yn i gael oddi-wrtho; Ond am drosseddiad y gyfraith, Na ddwg gam dystoliaeth, &c. I [Page 140]Dduw yn unig y perthyn rhoi maddeuant i'r goganwr.

Yn y cyfryw bechodau neu gamweddau y mae tri pheth mesgis ynglŷn, a fo rhaid iddŷnt wrth faddeuant. 1. Cerydd 2. Dial. 3. Cospedigaeth.

1. Cospi pechaduriaid a berthyn i'r néb a fo mewn goruchafiaeth, i'r Swyddogion, nid i'r rhai di-swydd, ac heb awdurdod gan­thynt. Ond nid iw rydd iddŷnt hwy chw­aith faddeu i'r néb a fynnent ar ôl eu hewyl­lys eu hunain, eithr taeru neu laccâu ar y gospedigaeth ar ôl rheoly gyfraith a chyd­wybod Ddâ. Ac yn hyn y mae 'n berthy­nas i'r wladwriaeth, neu i'r llês gyffredin.

2. Am gerydd, y mae ein iachawdr yn ein hyfforddi ni, ac yn dangos pa fôdd y dylem ymddwyn tuag at ein brodyr yn pe­chu yn ein herbyn. A hynny mewn tair o raddáu.

1. Yn naillduol, Os pecha dy frawd i'th erbyn, dôs ac argyoedda ef rhyngot ti ac ef ei hûn, os efe a wrendy arnat, ti a enillaist dy frawd. Matth. 18.15.

2. Yn gyhoedd, o flaen tystion, oni wes­nyth y râdd gyntaf, Ac os efe ni wrendy, cym­mer gyda thi etto ûn neu ddâu fel yngenau dâu neu dri o dystion y byddo pob gair yn safadwy. v. 16.

3. Yn gyffredinol, megis yn esampl i eraill. Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r Egl­wys, [Page 141]ac os efe ni wrendy ar yr Eglwys chwaith, bydded iti megis yr Ethnic a Rublican. v. 17. Hynny iw, yn yscymmyn beth, yn ddyn ffiaidd, annheilwng o'th gymydeithas, megis pechadur gwrthnyssig, anedifei­riol anghymmwys ì fyw ym mysc Cristia­nogion.

Am gerydd ynteu rhaid i ti ei maddeu, ei rhoi heibio; nid gwiw mo'i chynnig pan weli dy frawd yn edifeiriol. Canys i r pwrpas hwn yn unig yr argyoeddir y néb a becho, nid amgen, wrth ddangos iddo ei fai, i beri iddo ei weled ai gydnabod, ac wrth hynny edifarháu: A cherydd nid iw gymmwys i'r edifeiriol, ond yn hyttrach, Cyssur.

3. Am y Dial, Er ei fôd yn berthynas i Dduw yn unig, megis ac y mae efe ei hûn yn dywedyd, I mi y mae dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. Rhuf. 12.19. Deuter. 32.35. I mi y perthyn dial, a thalu y pwyth &c. Etto y mae i ninnau fódd i faddeu hwnnw; Nid amgen, Pan fo neb o gariad diragrith, a diniweidrwydd calon yn dymuno ar Dduw, na chymmerai ddial am y pechod a wnaeth i frawd iw erbyn.

Fel hyn y maddeuwch chwithau gyda Duw y dial y mae pechod yn ei haeddu: Gan fwrw heibio lid, a chenfigen a dig­ter: na thelwch ddrwg am ddrwg, ac na ddymunwch chwaith. Canys pechod iw [Page 142]i chwi ddymuno drwg neu niweid yn y bŷd i néb er iddo ef wneuthur cam. Na chasâ dy frawd yn dy galon, Na ddiala, ac na chadw lid i feibion dy bobl. Ond câr dy gymydog megis ti di hûn: Yr Arglwydd ydwyf i. Levit. 19.17.18. Gwna hyn, ac f'ai cyfrifir yn faddeuant, ac yn ufudd-dod.

Fel pe baim yn dywedyd fel hyn Ang­hofia, Arglwydd, ein anwireddau fel pe na's buaseut ac na chyfrif i ni ein drwg-wei­thredoedd, fel pe's buasem heb eu gwneu­thur, dileua 'r euogrwydd sydd yn ein pe­chodau, a thrô oddi-wrthym y gosp y maent yn ei haeddu, na ddyro ddial i ni amdanynt: Canŷs nid oes gennym na llid, na chenfigen, nac ewyllys drwg i neb a wnelo gam a ninnau: Yr ydym yn gwe­ddio trostynt hwythau sef ein gelynion, ar i ti, O Arglwydd Dduw, anghofia eu camweddau, a'u harbed, a maddeu iddŷnt, yr ûn módd, ac ydd ŷm yn erfyn trosom ein hunain.

Fel hyn y gwelwch fód yn y rhan gyn­taf, Gyffes; Yn y llall Broffes, neu adde­wid. O'r ddwy ynghŷd y mae i ni ddyscu.

1. I gydnabod ein cyflwr gwael y'n gwendid, a'n traeni. Canys wrth hyn hys­pys iw, ein bód ni beunydd yn troseddu am i'n aichawdr ein dyscu i weddio beu­nydd am faddeuant.

2. Pa beth a ddylem ei wneuthur o rân [Page 143]ein gogwyddiad at bechod, ein parodr­wydd i drosseddu, Nid amgen, Nád or­weddom yn ein brwnti, na thrigem yn wastad mewn pechod; Eithr adnewyddu o honom ein cyflwr trwy wîr ostyngeiddr­wydd ac edifeirwch. Canys yn y tri pheth hyn y mae gwîr edifeirwch yn sefyll.

1. Galw arnom ein hunain am gyfrif o'n dyled i Dduw drwy bechu yn ei erbyn.

2. Cyfaddef ein rhwymedigaeth iddo, gan yn hymroi ein hunain i'w drugaredd.

3. Darostwng ein eneidiau ger ei fron, a gofyn maddeuant er mwyn Crist Jesu.

3. I bwy, ac ar pa beth yr ymddiriedwn, ac ymsefydlwn ein calonnau ym mhób cy­ffwr, blinder, cystudd, &c. ar drugaredd ein Tâd nefol yn ei fab Jesu Grist er ma­ddeuant o'n pechodau.

4. Yn gymmaint a bód hón yn weddi i'r etholedigion, ar ffyddloniaid, ac yn an­ghen-rheidiol iddŷnt, nyni a ddyscwn nad iw 'r cyfiawnaf yn ein mysc yn cyflawni 'r gyfraith. Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Jac. 3.2.

A chan wybod fôd Crist yn gosod y we­ddi hon i bawb, a bód i'r gwaethaf, i'r dŷn mwyaf ei bechod hawl ynddi iw harfer mewn ffŷdd er llês iw enaid, yn hyn y mae i ni gyssur, a megis cyfaredd yn er­byn Anobaith, yr hwn sy yn fynych yn [Page 144]dyfôd yn erbyn llawer ûn yn pechu yn ddirfawr, neu yn fynych. Canys y mae ein iachawdr yn peri i ni ofyn maddeuant am ein pechodau, pa faint, neu nifer bynnac a fo arnynt. Ac yn ddiammau yr hwn a barodd i Petr ac i ninnau faddeu i eraill, nid hyd saith waith, onid hyd ddengwaith a thrugain seith waith, pa faint mwy y maddeu efe ei hûn i'r edifeiriol.

5. Y dylem ni ystyried, fôd Crist yn rhoi y rheswn on blaen, Canys &c. megis yn ymosod yn erbyn rhagrith ein calannau llygredig, y rhai ydŷm yn gofyn, ac a fyn­nem gael maddeuant gan Dduw, ac etto yn anewyllys-gar i faddeu i'n brodyr, neu ymadel a'n pechodau. Eithr yn yr ammod hwn y cynhwysir yr addewid a soniais i amdano o'r blaen: Nid amgen, Ein bód yn addaw, fel y dylem, fôd yn drugaro­gion i'n brodyr, os disgwiliwn drugaredd a maddeuant gan Dduw.

6. Lle y mae Duw yn rhoi maddeuant, y mae efe hefyd yn rhoi grâs i edifarháu: Nid iw efe ûn amser yn dangos ei druga­redd i nêb gan faddeu ei bechodáu, ond tan ammod o edifeirwch. Yn gymmaint gan hynny ac iddo beri i ni weddio o ddŷdd i ddŷdd am faddeuant in edifeirwch: O­nid ê, ni fydd i ni na budd, na llês o'n hòll weddiau.

7. Fôd i ni yn hyn dystiolaeth naillduol [Page 145]yn ein cydwybodáu, ein bód ni tan Râs, ac wedi ein cyfiawnháu, Os gwelwn fôd ynom y meddwl yma, yr hwn oedd hefyd ynghrist Jesu; Phil. 2.5. sef, ein bod yn ewyllys-gar i fa­ddeu in gelynion, ac i weddio trostynt, nyni a allwn fôd yn hyderus ac yn ddiammau gennym y maddeu Duw i ninnau er dio­ddefaint ei Fâb Jesu.

8. Ymogelwn wrth hyn, rhag i ni ddy­fôd un amser i weddio a chalonnau angha­riadus. Nid gweddio yn iawn y mae 'r lli­diog a'r cenfigennus wrth ddywedyd y gei­riau hyn, ond rhegu yn hytrach yn lle gwe­ddio. Canys wrth ddeisyf dial iw elynion, y mae efe yn cyrchu dial ar ei ben ei hûn: Fel pe bai efe yn dywedyd. O Dduw. Na faddeu i mi, ac nid wyf yn ceisio gennit fa­ddeuant o'm pechodau: Canys ni faddeuaf i bŷth i'r gŵr ar gŵr sy'n fy nylêd, nes gweled Dial arno.

O fy mrodyr, na themptiwn ein Tâd ne­fol, na ryfyged néb o honom ddyfòd o'i flaen, a dywedyd y geiriau hyn heb ga­riad yn ei galon rhag iddo bentyrru dial iddo ei hûn, wrth ei dymuno i arall, a dy­wedyd cabledd yn lle gweddi.

Yn ddiweddaf ôll, rhown y parthau hyn ynghŷd, ac wrth iawn arfer a'r deisyfiad hwn o'r weddi mae i ni fódd a ffordd i gyn­nal heddwch tuag at Dduw. 1. Trwy we­ddio arno beunydd am faddeuant. 2. Trwy [Page 146]ddilyn heddwch a phawb, gan faddeu i­ddŷnt hwy yn garedigol. Yn yr un deisyfiad ymma yr ydys yn ceisio maddeuant, ac yn ei addaw. Na fydded ein ymarfer yn an­ghysson a'n gweddiau, na'n gweddiau yn anghyttûn a'n ymarweddiad: Edrychwn felly ar ein brodyr, megis ac y dymunem ni i Dduw edrych arnom ninnau, &c.

PREG. XVII.

Luc. 11.4:

Ac nac arwain ni i profe­digaeth.

Y Deisyfiad diwaethaf òll, yn yr hwn y mae i ni ystyried. 1. Y Cy-frwym, neu 'r cyssylltiad, yn y gair cyntaf. Ac, yr hwn sy 'n cydglymmu 'r dymuniad hwn a'r lleill o'r blaen. 2. Y Deisyfiad ei hûn, a'i Ddef­nydd, y Peth yr ydys yn ei geisio.

1. Am y cyntaf, yn gymmaint a bód hwn yn ddiweddaf peth o'r hyn a geisiem gan Dduw yn y weddi hon, A r gair Ac, megis yn Ddiwedd-glo arno, ac yn cyd-rw­ymmo 'r cwbl, yr ydym ni wrth hynny yn cyfrif, mai trwy hyn y cyflawnid y weddi ac yn gweled mo'r anghen-rheidiol yw 'r [Page 147]ymwared hwn, i gynnal, ac i amddeffin 'r hóll radau eraill, a weddiasom amdanynt yn y deisyfiadau o'r blaen: Ac wrth hynny nyni a ddysgwn.

1. Fôd Duw yn disgwil parháu o honom yn ddiysgog yn yr ôll radau, a'r gweithre­doedd dâ, trwy yr hyn y sancteiddir ei Enw, yr helaethir ac y gogoneddir ei Deyrnas, y cwplheir ei ewyllys, y cyfadde­fir, ac yr ymddiriedir ar ei ragddarbod, a'i drugaredd. Canys pe bai i neb gael yr hóll fendithion hyn, y mae efe yn eu ceisio yn y deisyfiâdau o'r blaen, etto oni pharháo yn­ddŷnt hŷd y diwedd, os bŷdd iddo gael ei lwyr orchfygu a phrofedigaetháu, a myned ar ôl ei chwantau llygredig a throi heibio i wneuthur drwg, pa leshâd a wna 'r hóll fendithion hynny iddo? Nid y neb a ddywaid Arglwydd. Arglwydd, a â i mewn i deyrnas nefoedd. Eithr y neb a barhdo hyd y diwedd hwnnw a fydd cadwedig. Matt. 24.13.

Gwrandewch gan hynny beth y mae 'r yspryd yn ei ddywedyd wrth angel Eglwys Ephesus. Datc: 2.2, 3, 4. Mi a adwaen dy weithredoedd dá, a'th lafur a'th ammynedd, ac na elli oddef y rhai drwg, a phrofi o honot y rhai sy'n dywedyd eu bod yn Apostolion, ac nid ydŷnt, a chael o honot hwynt yn gelwyddog.

A thi a oddefaist, ac y mae ymmynedd gennit, ac a gymmeraist boen er mwyn fy enw i, ac ni ddiffy­giaist, Eithr y mae gennif beth yn dy erbyn, am i ti [Page 148]a'th gariad cyntaf. Cofia gan hynny o ba le y syrthiàst ac edifarhà. — Er maint ei ddoniau a'i gan­moliaeth, am iddo fód yn hyn yn ôl, nid oeddynt ddim lleshâd iddo heb parhâd ac edifeirwch.

Yr un peth y mae 'r Arglwydd yn ei ddy­wedyd trwy 'r Prophwyd, Ezech. 18.24. Pan ddychwelo y cyfiawn oddi-wrth ei gysiawnder, a gwneuthur anwiredd, a gwneuthur yn ôl yr hôll ffieidd-dra, a wnelo 'r annuwiol, a sydd efe byw? Ni chofir yr hôll gyfiawinderau a wnaeth efe; Yn ei gan wedd yr hwn a wnaeth, ac yn ci bechod, yn­ddŷnt y lŷdd efe marw.

2. Meddyliwch wrth hyn a bydded cof gennych, pa rai ydŷnt y mae profedigae­tháu fwyaf yn eu canlyn, ac yn eu herlid. Nid amgen, y rhai a ymosodent i geisio teyrnas Dduw, a i gyfiawnder, sancteiddio ei Enw, gwneuthur ei ewyllys, ymddiried yn ei raglu­niaeth, a gorfoleddu yn ei drugaredd &c. Y rhai goreu, sy'n gweddio fel hyn yn ddyledus, ac yn ymarfer a phób duwioldeb, a rhin­weddau dâ, y mae 'r cythrael yn eu cenfi­gennu, ac wrth hynny yn eu herlid, ac yn ymosod yn eu herbyn ag amryw brofedi­gaetháu.

O herwydd, hyn sy'n digio, ac yn cyn­neu llid y llow rhyadwy yn erbyn y cyfiawn, am cu bód gwedi diangc allan o'i fagl, a'i gaethiwed, trwy faddeuant o'u pechodáu, sancteiddiad yr yspryd, a'u hufudd-dod i [Page 149]ewyllys Duw: O herwydd hyn y mae efe yn ymosod a'i hóll egni iw dwyn hwynt eil-waith tan ei rwyd a'i balfáu.

Nid ellir mwynhau bendithion Duw, na chael grâs na ffafor gantho, heb genfigen, a llid, ac erlid gan ddiafol. Am hynny rheit­tiaf dim i ni weddio fel hyn, megis yn or­phen i'n holl ddeisyfiadau, Ac nag arwain &c.

3. Ystyriwch pa fódd y mae 'r dymuniad yma yn canlyn yn ebrwydd ar ól gofyn maddeuant, ac megis gwedi ei gydrwymo i ddangos, fód profedigaetháu cryfion megis ynglŷn wrth gyfiawnhâd, a madde­uant pechodáu. A'r achos yw, yr un ac a glywsoch o'r blaen, sef cenfigen a llidiaw­grwydd y gelyn.

Canys fel y mae llawenydd yngwydd An­gylion Duw; sef yn y nefoedd am bòb pe­chadur a edifarhao, megis y mae yn eglur wrth ddammhegion y ddafad, a'r darn a­rian a gollasid, a'r máb afradlon a ddych­welodd. Luc. 15. Felly yn y gwrth-wyneb y mae galar, ac wylofain, a chydfradwri­aeth ystrywus yn uffern am bòb pechadur a ddiango oddi tan gaethiwed y tywyll­wch, Diafol a'i angylion yn bwriadu, ac yn ymegnio ym mhób môdd i'w ddwyn eil­waith tan eu rhwydau, yn ei arwain i brofe­digaeth.

Oddi-wrth wybod, ac ystyried hyn yn [Page 150]ddyfal, y bŷdd cyssur nid bychan i gynnal y wan galon, yr hon sydd mewn perigl er ei bwrw i lawr hyd anobaith trwy brofedi­gaetháu. Canys profedigaeth sydd yn ddily­nol i râs Duw, a'n corphoraethiad ynghrist Jesu. A chyd ag a parhâo néb yn y cyflwr bendigedig hwnnw, rhaid iddo ddisgwil dioddefiadau. Je, a phawb a'r sy'n ewyllysio byw yn dduwiol ynghrist Jesu a erlidir. 2. Tim 3.12. Eithr Duw ei hûn a rydd y chwaneg o râs a nerth i ddioddef oni ddeffygiwn, ac ni âd ein temptio uwch law yr hyn a allom, eithr a wna ynghyd a'r temptasiwn ddiangfa hefyd fel y gallom ei ddwyn. 1. Cor. 10.13.

Pe byddem ni fodlon i ymadel a'n braint ynghrist a'n gwasanaeth i Dduw nyni a al­lem fôd yn llonydd heb fôd yr ûn o'r dry­gau hyn yn digwydd i ni.

A hyn a ddylent hwy ystyried hefyd; y rhai ydŷnt yn tybied ynddŷnt ei hunain ei bód yn ddiogel, heb ganfôd yn eu calon­nau, llithiadau pechod, drwg feddyliau, a'r dychymygion y mae Satan yn eu cyffroi ynddŷnt. Y rhai hyn yn ddiau ydŷnt bób amser yn yr annuwiol, ond megis wrth eu bodd, ac yn ddifyrrwch iddŷnt, yn ymar­fer o'u hanwiredd; nid profedigaetháu yn­ddŷnt hwy, lle nid oes na chais, nac e­wyllys iw gwrth-wynebu. Ond i'r ffydd­loniaid, i'r rhai duwiol, rhuthrau nerthol [Page 151]ydŷnt yn erbyn eu ffy dd, a'u hymddiried ynghrist Jesu.

Ymmhellach yr ydys yn cydglymmu ein dymuniad yn erbyn profedigaethâu, a'r weddi am faddeuant o n pechodau i ddan­gos, ac i yspysu i bawb ei ddyled-swydd, hynny iw. I fôd yn wiliadwrûs i ochelyd pòb achlysur pechod o hyn allan, fel yr y­dys yn o ofalus i ofyn maddeuant a thru­garedd am yr hyn aeth heibio, ac a sydd yn pwyso eusys ar ei gydwybod. Megis ac y dymunem i Dduw anghofio ein hên be­chodau, felly y dylem ninnau gofio ein gwendid a'n breuolder ein hunain, a bòd yn ofalus, i ymarfer a phòb módd i ddi­rynmu nerth pechod, fel na chotto eil waith ynom; A'r unig mòdd i gyflawni hyn iw, ceisio nerth, ag amddeflynfa ag ym­wared gan ein tâd nefol, gan ddywedyd, Nac arwain ni &c.

Yr ail rhan.

2. A My peth ei hûn, neu ddefnydd y rhan hon o'r weddi, nid gwaeth pa ûn a wnelom o'r geiriau a'i un, ai dâu o ddeisy­fidan. Os un ydyw, mae dwy rhan o ho­naw (a'r mawr llês yn ddau ddyblyg) yr y­dys yn gweddio amdano, sef, Nawdd, neu amddeffin ag ymwared: neu o'r lleiaf [Page 152]dim, dáu fath a'r ymwared, oddi-wrth bro­fedigaethau a phòb drwg arall.

Petimus ne tentemur; Si vero tentemur, ut libe­remur. Paræ: in Matth, Gweddio yddŷm, na ddelo profedigaeth neu ddrwg yn y bŷd yn agos attom; neu o's Duw a'i mynn, fôd iddo ddyfód, a phwyso arnom, ar iddo ef roddi i ni ymwared amserol oddi-wr­tho.

Yn y rân gyntaf o'r deisysiad yr ydym yn gweddio yn erbyn temtasiwnau pe­chod, yn ein cyffroi a'n hannog i bechu; y rhai ydŷnt Mala interna cum quibus filiis Dei est lucta continua; Drygau oddi fewn yn er­byn y rhain y gerfydd i blant y deyrnas ymdrechu yn oestadol.

Yn yr ail y gweddiwn rhag drygau oddi­allan, cystuddiau, anghenion, cyfyngde­rau, yn digwydd i bawb tra bont yn y ba­bell, neu 'r corph llygredig hwn.

Dáu fath sydd ar Brofedigaeth, ynghry­bwyll yn y'n scrythur Lân, Dâ, a Drwg, un oddi-wrth Dduw, ar llall oddi-wrth y Drwg hwnnw, sef, y Cythrael, Y Dâ er Profiad, y Drwg yn tueddu at farnedigaeth, i Ddestryw.

Y cyntaf o Dduw ei hûn y mae, i brofi dyn, a'i chwilio fel y gwnelo ef yn hyspys iddo ef ei hûn ag i eraill, pa beth sydd yn ei galon. Canys Duw ei hûn a wyr cyn chwilio, cyn iddo ei brofi. Profiad ein ffydd, [Page 153]a'n ammynedd tuag at Dduw. Tum ut ea quâ præditi sumus, manifesta evadat virtus, tum ut am­plior illa & ampliori digna praemio reddatur. L. B. I amlygu y rhâdau, a'r rhinweddau dâ sydd ynom, a'u gwneuthur i gynnyddu fwyfwy, a chael eu gobrwyo yn helaeth­ach.

Am y fath yma y dywaid St. Jaco. p. 1.2. Cyfrifwch yn bôb llawenydd, fy mrodyr, pan syr­thioch mewn amryw brofedigaetháu. Gan wybod fôd profiad eich ffydd yn gweithredu ammynedd. &c. Fel hyn y profodd Duw Abraham. Gen. 22.1. Gwedi y pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, i aberthu ei fâb: ut fides ejus & obedientia il­lustrior redderetur; iw gwneuthur yn eg­lur ac yn esampl i bawb ôll.

Fel hyn y profodd Duw yr Israeliaid yn Mas­sah gan gynnhennu a hwynt wrth dayfroedd Meri­bah. Deut. 33.8. I ddangos eu cyndyn­rwydd. A'r un módd y profodd efe hwynt trwy gau Prophwydi. Deut. 13.3. A'r rhai hyn i gŷd profedigaethau dâ ydŷnt, ca­nys oddi-wrth Awdr dâ, o Dduw y maent, ag i bwrpas Dâ. Er lleshâd iw weision, ag eglurhâd ei ogoniant ei hûn.

Y Drwg ydyw Cyffroad oddi-fewn, neu oddi-allan, i ryw weithred anghyfiawn, bechadurûs. Cynnyrfiad meddwl, hûd, neu annog, trwy'r hyn y tywysir dyn i bechu.

Am y fâth ymma hefyd y dywaid yr un [Page 154]Apostol; Jac. 1.13. Na ddyweded neb, pan demptier ef, Gan Dduw i'm temptir. Canys Duw nis gêllir ei demptio a drygau, ac nid iw efe yn tem­ptio neb. Canys yna y temptir pob un, pan y tynner ef ag y llithier gan ei chwant ei hûn. v. 14. [...], utrobique.

Yn y módd ymma y profódd, neu y temptiodd Satan ein iachawdwr, ad diffiden­tiam, contemptum Dei, & Idololatriam. Matth. 4. I anymddyried, dirmyg ar Dduw, ac ei­lun-addoliath. Fel hyn y mae efe yn ein temptio ninnau, cyn belled ac y mae Duw yn rhoi cennad iddo: Ei waith a'i orchwyl priodol yw, o achos pa un y gelwir efe. o [...], y temptiwr.

Y cyntaf, meddaf, sydd o Dduw, a'r ail oddi-wrth y gelyn. Ac etto yn yr un gweith fe ddichon Duw gael ei brofediga­eth, a'r Drwg hwnnw ei demtafiwn, Me­gis yngyflwr Job. Yn ei gystudd a'i aflwydd llawer módd, a llawer gwaith y cynhyrf­wyd ei yspryd i anoddaf, anymddiried, a grwgnach yn erbyn Duw: Ac o rân hynny y mae efe ei hûn yn dywedyd; Efe a edwyn fy ffordd, ac wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddenaf allan fel yr aûr. Job 23.10.

Duw a roesei gennad i Satan wneuthur hyn iddo er ei brofi, er nád oedd y cyffro oddiwrth Dduw, ond oddiwrth y gelyn. Y rhai hyn ydŷnt y profedigaethau yr ydys yn y geiriau hyn yn gweddio rhagddŷnt.

Fe 'n temptir ni mewn amryw foddion.

  • 1. Oddi-fewn.
  • 2. Oddi-allan.

Nunc rerum prosperarum dulcedine, nunc adversa­rum molestiâ. Weithiau trwy felyswedd hawdd-fyd, weithiau trwy flinder adfyd.

Oddi-allan i'n temptir gan y temptiwr ei hûn, 1. Thess. 3.5. a'i weinidogion, dy­nion anwir: Dynion anhywaidd a dry­gionus, am y rhai y mae sôn. 2. Thess. 3.2.

Oddi-fewn, Yna y temptir pob un (medd St. Iaco. 1.14.) pan y tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hûn. Ond y neb sydd a meddiant ganddo ar ei ewyllys ei hûn, ac yn gallu gorchfygu y gelyn o'i fewn, sef ei chwant, nid rhaid iddo mor ofni, y dichon na'r bŷd, na'i dywysog, ei ddrygu.

Canys oddi-eithr i'n chwantau ein hu­nain ein hûdo, yr ydym yn ddiogel; Ac hawdd a fydd ymgadw oddi-wrth y gely­nion eraill oddi-allan. A'r neb ni fagl­wyd', ac ni thywyswyd i bechu, ac angho­fio Duw yn ei hawddfyd, ac helaethrwydd, anhawdd y gorchfygir trwy adfyd, a chy­studdiau.

Non id oramus, ne tentemur; Nid hyn ydd­ŷm 'yn gweddio na 'n temptier fyth. (Gor­mod diofalwch fyddei: ac nid ŷm yn go­beithio mo hynny tra bôm yn y bŷd hwn. Ni chymmerth ein iachawdr gymmaint a hynny arno ef ei hûn, wedi ei demptio ŷm mhôb peth yr un ffunydd a ninneu etto heb bechod. [Page 156]Hebr. 4.15.) Sed ut non tradamur non inferamur, non superemur. Aug: 'Ond gweddiwn fel na 'n traddoder i Satan, na'n gorchfyger yn ein profedigaeth: Hynny yw, rhac i Dduw, ein rhoddi ni i fynu (fel y gwnaeth i'r cen­hedloedd gŷnt) yn nrhachwantau ein calonnau. Rhuf. 1.24. Ie fel y gwnaeth ef i'r Israe­liaid hefyd. Yna y gollyngais hwynt ynghyndyn­rw̄ydd eu calon, aethant wrth eu cyngor eu hunain, medd Duw eu hûn trwy 'r Prhohwyd. Psal. 81.12.

Gweddiwn ar Dduw; fel na adawei ein temptio uwchlaw yr hyn a allem, eithr ar iddo wneuthur ynghŷd a'r temptasiwn ddiangfa hefyd, fel y gallem ci ddwyn. 1. Cor. 10.13.

Fel hyn y mae 'n hiachawdr cyn ei ddi­oddefaint yn annog ei ddiscyblion, Gwiliwch a gweddiwch fel nad eloch i brofedigaeth. ie, Ne imminens scandali tentatio vos superet & dejiciat; Rhag i'r rhwystr a'r brofedigaeth oedd 'ar ddyfôd arnynt wrth ei ddal ef, a'i arwain ym­maith, 'eu gorchfygu hwynt, a'n digalonnu. Me­gis yn ddiau y rhwystrwyd hwynt ôll y no­son honno o'i blegyd, A Phedr a'i gwadodd yn llwyr deirgwaith.

Mewn dwy fôdd y gwna Duw, nad el­om i brofedigaeth.

1. Yn gyntaf, gan dosturio wrth ein gwendid, nid yw efe yn gadel i Satan ddy­fód yn agos attom, nac i'r brofedigaeth ein cyffwrdd.

2. Yn ail, pan fo 'r temptiwr gwedi ein hannog a n cyffroi i bechu, a Duw er aml­der ei drugaredd, yn ein hachub o'r fagl, ac yn rhoi grâs a nerth i orchfygu y tem­ptasiwn.

Fe a ddywaid y scrythur Lân fôd Duw yn ein harwain i brofedigaeth, nid fel pe bai hyn­ny waith neu ewyllys iddo. Nid yw Daw yn temptio neb, nid efe sy'n peri'r pechod, na 'r cyffroad, neu 'r llithiad iddo.) Ond o rân nád yw efe yn ei gyfiawn farnedigaeth yn rhoddi grâs a nerth i wrthwynebu, a sefyll yn erbyn y temptasiwn. A phan fo Duw yn gwneuthur hynny, yn attal ei law a'i râs i'n cynnal, nid yw bossibl ma syr­thiem yn ein gwendid, ac na'n gorchfyger gan y brofedigaeth leiaf. Canys nid ŷm ni ddim ynom ein hunain, heb na nerth, na grym, na chryfdwr ynom: Ond ein di­gonedd sydd a Dduw. A thrwy ei Râs ef yr ydym, yr hyn ydym.

Gwir yw, allu o ddyn naturiol o hono ei hûn, yscatfeydd, wrth-wynebu ryw fáth a'r brofedigaeth, nid amgen, pan fo efe yn hygwyddach, neu barottach i riw be­chod arall, ac yn dewis o'r ddâu ddrwg, hwnnw sy hôff, neu well ganddo, ac yn ymwrthod a'r llall. Megis y rhai a ymgad­want rhag dogineb, neu 'r cyffelyb, er cael clôd gan ddynion, a thŷb y bŷd eu bód yn ddiwair ac yn onest, hynny yw, yn go­chelyd [Page 158]un, i syrthio ar fai arall. Neu pan fo 'r gŵr ar ryw ddrwg-orchwyl arall, heb gael mor ennyd i ymwrando ar y brofedi­gaeth.

Ond yn ddiau ac yn hollawl orchfygu temptasiwn nid yw bossibl i néb heb brio­dol râs Duw, ei nerth a'i amddeffynfa.

Fel hyn y dywedir, fôd Duw yn ar­waim i brofedigaeth, pan fo efe yn ei gyfiawn farn yn tynnu yn ôl, ac yn attal ei law a'i râs, trwy 'r hyn yn unig i'n ced­wir rhag troseddu, ac i iechydwriaeth. Megis y neb adawa, ei gydymmaith mewn dyfn-ddwfr, ac ynteu heb fedru nofio, a ddywedir mewn môdd, ei fôd yn achos o'i farwolaeth, e'r iddo ddiangc rhac ei be­rigl ei hûn.

Peccare qui non impedit cum potest, facit. Y neb 'ni lestair bechu, pan fo efe yn gallu, sy'n peri. Duw, o rân ei allu a ddichon a­chub pób rhyw ddŷn, ym mhôb math ar brofedigaeth. Ond o rân ei gyfiawn farn, a doethnieb ei ragluniaeth nid yw efe yn gwneuthur hynny, ac ni wna chwaith, Ac am hynny, er nád yw efe yn llestair i ni bechu, nid yw, fel dyn yn euog, nac yn achos o'n pechodau.

Pendemus ex naturæ Corruptione, proni ad pecca­ta, ad assiduos casus, & ruinas proclives. Ymddi­bynnu yddŷm ar lygredigaeth anianol, megis cleddyf trwm ar fain edef yn hy­gwymp, [Page 159]a'n pwys, a'n gogwydd at anwi­redd, nôs a dydd, awr ac ennyd ar gwym­po. Nid yw bossibl na syrthiem, oddi-eithr i Dduw ein cynnal a'i law ei hûn. A'n gwen­did yma, y mae ein iachawdr yn coffau i ni yn y rhan hon o'i weddi.

Ond weithiau y mae Duw yn ein har­wain ymmhellach i brofedigaeth wrth go­spi pechod a phechod, a chyffroi dynion anhywaidd, a drygionus, neu angylion drwg i ddrygu drwgweithredwyr.

Pedair grâdd sydd mewn profedigaeth, trwy 'r hyn y mae yn myned ymlaen rhagddo, hyd onid ddycco 'r dŷn i ddest­ryw; (Oddi-eithr i Dduw ei luddias a'i dorri ymmaith cyn ei perffeithio)

1. Dychymyb, pan fo 'r galon yn ymdd­wyn, ac yn myfyrio rhyw feddwl drwg, naill a'i trwy waith Satan yn ein cynhyr­fu, a'i yn codi o hono ei hûn o achos lly­gredigaeth, a'n gogwyddiad i ddrygioni.

2. Boddhau, a'r ddrwg feddwl gwedi ei dderbyn yn y galon yn rhyngu bódd yr e­wyllys, ac yn ddigrifwch i'w wyniau.

3. Cydsynnio, pan fo'r galon yn ymroi i'r drwg-feddwl ac yn bwriadu oi gwblháu.

4. Perffeithio neu Cwbl-hau, pan fo'r ddrwg­weithred trwy fynych bechu yn myned yn arferedig, a'r pechadur wedi gwneuthur cyngrair neu gyfammod a marwolaeth, yr hwn hefyd a fydd yn gyflog iddo yn y di­wedd.

Yn y râdd gyntaf a'r ail, y dywedir i'r dyn gael ei demptio yn unig, heb fôd mor gor­mod bai arno. Canys er bód y meddyl­fryd hwnnw, a'r digrifwch ynddo yn ddrwg o honynt eu hunain; Etto lle bônt yn cael eu gwrth-wynebu; a'u gyrru yn ôl trwy gynnorrhwy grâs Duw, nid ŷnt yn gadael halogiad yn y bŷd yn eu hôl, mwy nag oedd o'r blaen yn y llygredigaeth naturiol. Ond yn y drydydd, sef, wrth gyd-synnio y mae 'r temptasiwn yn ymaelyd, ac yn cymmeryd meddiant ynddo; Ac yn y bedwerydd râdd, trwy ymarfer a'r ddrwg weithred f'ai dy­gir ef yn gaeth i berffeithiad pechod,

Fel hyn, gan hynny, y mae Duw yn ar­wain i brofedigaeth pan fô efe gwedi ga­dael dyn i'r drwg-feddwl a gódo, neu a fwrir yn ei galon, hyd iddo gŷdsynnied ag ef, a myned rhagddo i ymarfer ag anwi­redd.

Y mae 'r brofedigaeth ynom ni yn ficcr, er i ni ymosod yn ei herbyn, a'i gwrth-wy­nebu, a gyrru 'r cythrael yn ei ôl: Ond pan fôm gwedi cyd-synnio, a bwriadu ar ei wneuthur o hynny allan yr ydŷm ni yn y brofedigaeth, ta'n gaethiwed y tempta­siwn.

I'r hyn y mae geiriau'r Apostol yn gyt­tûn. 1. Tim. 6.9. Y rhai sydd yn ewyllysio ym­gyfoethogi sydd yn syrthio i brofedigaeth, a magl, a [Page 161]llawer o chwantau ynfyd a niweidiol, y rhai sy'n boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.

Y mae golud a chyfoeth yn dwyn pro­fedigaeth ynddŷnt yn wastadol; Satan, a thrachwant yn hustyng beundd cymmaint o ddaioni a geir ei feddiannu mewn hela­ethrwydd. Am hynny, meddant, brys­siwch, ceisiwch mewn pób rhyw fôdd ym­gyfoethogi, fel y gallwch ddywedyd gyda 'r gŵr goludog hwnnw yn yr Efengyl wrth ei Enaid, Fy enaid, y mae gennit ddâ la­wer wedi eu rhoi i gadw tros lawer o flynyddoedd, Gorphwys, bwytta, ŷf bŷdd lawen. Lu. 12.19. Pwy ni's gwŷr fôd hyn yn wîr, fôd pob un yn Cael ei demptio fel hyn, ac yn wŷch ac yn ddigrif gan ei galon feddwl am yr esmwythdra, a'r llawenydd sydd mewn amlder, a golud; Ond etto hŷd yn hyn, nid yw 'r temptasiwn ond yn y gŵr yn un­ig, tra fo efe heb gydsynnied iddo, heb fwriadu, a cheifio mewn pob ryw fôdd ŷm­gyfoethogi. Eithr gwedi iddo ymroi i hyn­ny, y mae efe bellach gwedi ei arwain i'r brofedigaeth, gwedi di ddal a'i faglau yn­ddo.

Yr oedd y rhwyd, y fagl gwedi ei osod yn y cyffroad cyntaf; a'i ddigrifwch yn y lleill; y mae 'r helfa gwedi dyfôd iddo; a'r gŵr a fo gyttun a phechod, ac yn ym­barattoi i'w wneuthur, sydd eusys yn holl­awl tan gaethiwed.

Potest quis resistere cuicunque tentationi Diaboli­cæ, si simpliciter & purè velit, absque ullâ admix­tione voluntatis. Gul. Paris. Fe a allei. dŷn wrthwynebu pób demptasiwn diaflig, pe's mynnei yn llwyr, mewn symlrwydd, ca­lon, heb fôd ynddo ddim o'r ewyllys drwg yn gymmysc. Canys ni ddichon neb ym­roi neu ufydd-hau i demptasiwn yn y bŷd yn erbyn ei owyllys ei hûn.

Eithr yr hyn yma, sof bód i ddŷn bûr ewyllys ac hyder i wrthwynebu profediga­eth, ni ddichon mo'i gael, o hono ei hûn: ond trwy ddawn, a chynnorthwy grâs Duw yn unig.

Præter Dona Gratiarum & Virtutum, ipsa Dei Protectio & Custodia est necessaria Sanctis, ut ten­tationibus resistant. Ie, heb law Doniau Grâs a rhinweddau dâ yn gweithio ynom, y mae 'n rhaid i'r ffyddloniaid wrth nawdd, ymgeledd, a chadwriaeth Duw, i wrth­wynebu profedigaeth. Nid yn ddiachos gan hynny y dylem ni ar ôl y ddysceidiaeth hon weddio amdanynt, a bod o'r deisy­fiad hwn yn fynych yn ein genau, yn oe­stadol yn ein calonnau, Bydded dy nawdd o Dduw, a'th Gadwraeth beunydd arnom, a'th râs a'th yspryd ynom fel nad elom i brefedigaeth

Llawer math ar Gynnnorthwyon sydd gan Dduw i achub ei eiddo rhag iddŷnt fyned i mewn i Brofedigaeth. Eithr yn [Page 163]gymmaint a'u bód hwynt yn aml nid ellwch yr awr hon mo'i dwyn: Disgwiliaf yn hytrach ryw amser cyfaddas i draethu amdanynt yn helaethach. I'r Duw mawr holltalluog, tragwyddol, y botho gogo­niant. &c.

PREG. XVIII.

‘A'r yr unrhiw destyn: Ac nac arwain &c.’

CLywsoch hŷd yn hyn, y fath Brofedi­gaethau yr ydys yn gweddio rhag­ddŷnt; Nid y rhai dâ sy' o Dduw, ond y rhai drwg oddiwrth y Cnawd, y bŷd, ar Cythraul; A'r rheini o bób tŷ, Oddi-fewn, ac oddi-allan; a thrwy bob môdd yn ein hudo, ac yn ein tynnu oddiwrth ein ga­fael ar Dduw, a pheri i ni bechu yn ei er­byn ef.

Clywsoch hefyd y graddâu trwy rhai y mae 'r brofedigaeth yn myned rhagddo, ac yn ein harwain bellach bellach at ber­ffeithiad pechod, hŷd oni ddycco 'r dŷn i ddestryw.

Gwrandewch bellach ar y Cynnorth­wyon, sy' gan Dduw i achub ei eiddo, (am y rhain hefyd yr ydym yn gweddio,) [Page 164]rhag i ni fyned i mewn i Brofedigaeth. Ca­nys amryw Gynnorthwyon sydd gan Dduw i waredu ei blant rhag ddichellion eu ge­lynion.

1. Weithiau y mae efe yn llestair y ge­lyn hwnnw, y temptìwr, na ddelo efe ŷn agos attom: Canys nid oes iddo na nerth, na gallu yn y bŷd (yn erbyn y ffyddloniaid yn Enwedig) ond trwy ganiattâad, Ac nid ydyw Duw bób amser yn rhoi cennad iddo i ddangos ei falais, a'i genfigen gan weithredu ei amcanion. Ac o herwydd hynny y bû Job cyhyd yn esmwyth arno, yn ddifriw, ac yn ddiogel, a Satan heb allu cymmaint a chyffwrdd a'i gorph, na'i eiddo. Yn hyn y dywedodd y Celwyddog ynteu ddim ond y gwir uniawn; Oni chae­aist o'i amgylch ef, ac o amgylch ei dŷ, ac ynghylch yr hyn ôll sydd ciddo oddi amgylch? Ti a fendithiaist waith qi ddwy law ef, a'i ddâ ef a gynnyddodd ar y ddaiar, Medd Satan wrth Dduw, Job. 1.10. Ac o'r un achos y dywaid y Prophwyd. Psal. 34.7. Angel yr Arglwydd a gastella o am­gylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt.

2. Weithiau, er i Dduw roi cennad i'r temptiwr i ddyfôd yn agos attom, a'n cy­ffroi a'i brofedigaeth, a'n cyffwrdd a'i ddry­gau, etto y mae efe yn ei attal, a'i fâch yn ei ffroenau, ai bawl wedi ei osod, a'i sicc­rhau, fel nad elo ddim uwchlaw hynny a ganniadtawyd iddo. Fel y gwelir yn eglur [Page 165]yn hanes a chyflwr Job, Ni chafodd Satan y tro cyntaf ond awdurdod a'r ei ddâ, ei blant, a'i gyfoeth; a'r ail cais ar ei gorph iw flino a chornwydydd; ond tan ammod na chyrhaeddai efe hŷd at ei hoedl. Wele ef yn dŷ law di, etto cadw ei hoedl ef, medd Duw. Job. 2.6.

3. Ymbell waith y bŷdd Duw yn rhoddi math a r gynnorthwy yn y rhith, a'r gos­gedd, yn yr hyn y bŷdd Satan yn ymrithio er ein temptio. Y ddelw ddybryd, wrthun y mae yn fynych yn ymddangos ynddi, a ddylei wneuthur i ni ffieiddio ei ymddidda­nion a'i wyniau. A mawr na buasai Efa yn dychrynnu wrth glywed y sarph yn llefaru wrthi hi, ac yn lled-tybiaid rhyw ddichell yn y bwystfil, ac nid a'i lais ei hûn, nag o i ben ei hën yr oedd efe yn llefaru. Pe's buasei yn ystyried hyn yn ei chalon, (me­gis ac a gallasei hi yn hawdd) fe fuasei hynny yn gynnorthwy iddi i droi heibio y temptasiwn.

4. Mynych y bŷdd Duw yn ein gwared rhag drwg brofedigaeth, trwy beri i ni e­drych yn ddyfal ar y profedigaeth ei hûn. 1. Naill a i pan fydd efe yn ymddangos yn ofnadwy (Megis ac yn ddiammau y dylei pob cyffrô i bechu, ddychrynnu ein he­neidiau, a pheri braw iddŷnt) Canys ceid­wad gwiliadwrus yw ofn, yn cadw gwiliad­wraeth tros yr enaid, ac yn ei ymgeleddu.

2. Neu wrth edrych ar y temptasiwn me­gis ymherriad y gelyn, yn galw arnom, neu yn ein sialenesio i'r ymdrech: hyn a wna i'r yspryd ymgryfhau ynom, ac a rydd ga­londid, a gŵrolder i wrthwynebu

5. Yn fynuchaf y mae Duw yn ein cyn­northwyo mewn profedigaeth wrth aml­háu ei râdau ynom, a'n cryfháu felly yn erbyn ein gelynion; Naill ai trwy roddi grâs o newydd i ymosod yn erbyn y tem­ptasiwn hwnnw yn nailltuol, a'i trwy ga­dernhau, a chwanegu at y rhai oedd yn­om or blaen: Fel na bo ir profedigaeth weithredu dim angen ynom, ond cader­nhau ein ffydd, a'n gwneuthur yn fwy hyderus, ac i barháu yn ddiysgog hŷd y diwedd.

Fel hyn y bŷdd Duw yn gadael i'r gelyn amlháu ei brofedigaethau, a'i ymgodiad yn ein herbyn, fel y caffo ynteu achlysur i amlháu ei râdan, ac adnewyddu ei ddo­niau ysprydol ynom, i ymosod yn eu her­byn.

Er mwyn hyn y rhoddwyd i'r Apostol Paul y swmbwl hwnnw yn y cnawd, Cennad Sa­tan i'm cernodio, (Medd efe,) fel na'm tradderchefid. 2. Cor. 12.7. A'i gernodio a wnaeth iddo weddio yn daer. Am y peth hyn mi a attolygais ir Arghwydd. Ac ar weddio efe a gafodd at­teb a chyssur, Ac efe a ddywedodd wrthif, Digon i ti fy ngrâs i: Canys fy nerth i a berffeithir mewn [Page 167]gwendid. Yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaf fi yn hyttrach yn fy ngwendid, fel y preswylio nerth Christ ynofi. Am hynny yr wyf fodlawn mewn gwen­did, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyng­derau er mwyn Christ: (Profedigaethau ydŷnt y rhai hyn y gyd) Canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn. v. 9, 10.

Ac mewn mann arall: yn y pethau hŷn ôll yr ydym ni yn fwy na chwncwerwyr trwy 'r hwn a'n carodd ni. Rhuf. 8.37.

Ac o rân hyn (sef y môdd hwn ar gyn­northwyo,) y dywaid yr un Apostol. 1. Cor. 10.13. ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich tem­ptio nwch law yr hyn a alloch; Eithr a wna ynghŷd a'r temptasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn. Weithiau y mae efe yn rhoi cysgod yngha­nol y gwrês, fel y gwnaeth efe i Jonah, a'r cicaion, y palm Crist hwnnw, yn tyfy uwch ei ben iw waredu o'i ofid. Jon. 4.6. Weithiau ar ôl hîr ymdrech, heddwch, neu amser i orphwys. Am yr hyn beth y gweddiai Da­fydd, pan ddywedai, Paid â mi; fel y cryfhàwyf cyn fy myned. Psal. 39.13.

Efe a gyssura, ac a gadarnhâ y galon dry­lliedig a gobaith, addewid o Râs, a buddu­goliaeth, megis yngyfyngder Paul, y dy­wedodd ac a cwbl-haodd. Digon iti fyn­grâs i. Efe a wna i ni orfoleddu, a llawe­nychu mewn cystuddiau, gan wybod eu bód yn cyd-weithio er ein llês. Efe a dden­fyn gystudd a blinder oddi-allan, i ddyscu [Page 168]i ni oddef, megis milwŷr dà i Jesu Grist. 2. Tim. 2.3. Efe a ddwg ar gôf i ni y pedwar peth diweddaf hynny, Marwolaeth, a Barn, uffern, a Dedwyddwch tragwyddol.

Aneirif foddion i'n hachub sydd gan Dduw, y rhai ni's gwyddom ddim oddiwr­thynt, nes iddŷnt ein gwaredu, i'n achub rhac aneirif ddrygau, heb wybod dim o­ddiwrthynt byth, neu eu bód ar ddyfôd ar­nom.

Difficile admodum vincere tentationes, &c. An­hawdd iawn i ddŷn orchfygu profedi­gaeth; O herwydd nad oes neb yn gwbl ôll yn ymdrechu yn erbyn un temptasiwn: y ddwy blaid ym mhôb un o honom, y Cnawd, a'r yspryd, ac ymdrech iddo ynddo ei hûn, o rân, yn erbyn, o rân, gyda 'r brofedigaeth.

Y gŵr ffyddlawn ei hûn ynteu mewn profedigaeth tebyg ydyw i deyrnas gwedi ymrannu yn ei herbyn ei hûn, ni allei efe sefyll, oni bai fôd Duw a'i râs, a'i gynnor­thwy yn ei gynnal: Tebyg i ŵr yn mar­chogaeth ar geffyl rhusiog, gwingog, ar bób tro mewn perigl o'i gwympo yn ddi­symmwth ddiarwybod: Tebyg i Dŷ teg wedi ei adeiladu yn gelfyddol, ond ar sail wan tywodlyd; yr hwn ni allei fyth oddef nerth y gwyntoedd, a'r llif-ddyfroedd, oni bai fôd Duw yn gysgod, ac yn rag-fûr ca­darn iddo: Tebyg i filwr dâ mawrfrydig [Page 169]yn sefyll i ymladd ar le llithrig &c. Llawer o ddichellion sy gan ddiafol yn ein tem­ptio; Am hynny nid afraid i ni lawer math o gynnorthwyon.

1. Hir barha yn y brofedigaeth, yn bli­no 'r wan galon drwy hir ymdrech; a thrwy hyn y mae efe yn peri i lawer un, nid yn unig adel y maes iddo ef, ond iw orchfygu hefyd ag anobaith; fel pe bai gwedi ei lwyr adel gan Dduw, heb ddis­gwil am gynnorthwy. Saeth erchyll ydyw hon gweddiwn rhagddi.

2. Extranietas tentationis. Pan fodŷn yn ed­rych ar y temptasiwn megis peth anghyn­nefinol, neu fel y dywaid St. Peter, am y profiad tanllyd, fel pe bai beth dieithr yn digwydd iddo. 1. Pet. 4.12. O hyn y daw i ddŷn dy­bied nad yw yn perthyn i etholedigaeth Grâs, am nad yw yn gweled eraill yn cael ei profi yr un môdd. Saeth danllyd, er­chyll yw hon hefyd, gweddiwn ar Dduw rhagddi, a meddyliwn eiriau 'r Apostol, Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, onid un Dynol. 1. Cor. 10.13. Nid yw yn digwydd i chwi mwy nac i rai eraill. Gweddiwn yn gyttûn rhag-ddynt ôll Nac arwain ni i Brofedigaeth.

3. O wîr ganfigen i r rhai a fo efe yn gweled yn esmwyth arnynt, mae efe yn eu hannog i anfodlonrwydd, ac i newid eu cyflwr, a'u stâd presennol yn ddâ ac yn ddiogel Fel y gwelwch chwi byscod, ac [Page 170]Adar yn cael ei codi o'u llochesau, au llechfannoedd, lle y gallasent fôd yn ddi­ofn er maint y trwst, a'r cynnwrf y mae 'r heliwr yn ei wneuthur, a'i gyrru felly i'r rhwydau. Yn erbyn hyn gweddiwn am wastadrydd, a bodlonrwydd.

4. Llawer un y mae efe yn ei annog i ymgais at bethau uchel uwch law eu ga­llu. Cofiwn yn erbyn hyn gyngor yr Apo­stol. Rhuf. 12.3. Yr wyf yn dywedyd trwy y grâs a roddwydd i mi wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel-synied, yn amgen nag y dylid synied eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.

5. Fel y mae Satan ei hun yn ymrithio yn Angel goleuni, felly y bydd efe yn gosod o'n blaen ninnau y drwg yn rhith y dâ, pe­rigl ynghosgedd diogelwch. Yn erbyn hyn hefyd gweddiwn, ar i Dduw roddi i ni iawn farn ym mhób peth.

6. A phan fo efe yn gweled dim arall yn tyccio, y mae efe yn maglu llawer un trwy heddwch, a pheidio a'u temptio hwynt tros amser, wrth hynny yn gwei­thredu ynddŷnt yn eu gwynfyd a llonydd wch, Esgeulusdra, diofalwch, balchder, dirmyg ar eraill, caledrwydd calon a'r cy­ffelyb.

Temptasiwn a wrth-wynebir mewn tri môdd.

1. Y néb ni fo yn cydsynnio sydd yn [Page 171]gwrth-wynebu; Gorchfygir y temptiwr, pan na fo yn gorchfygu: Heb fód ar y go­reu, bydd wrth hynny ar y gwaetha.

2. Y néb a ffô oddiwrth demtasiwn sydd yn ei wrth-wynebu.

3. Gwrth-wynebu y mae y néb a darawo y dyrnod yn ei ól, Nid amgen, pan fo'r temptiwr yn peri i mi wneuthur hyn a hyn am ei fôd wrth fy môdd, a minnau yn ei atteb. Am hynny na ddylwn mo'i wneu­thur, am fôd fy ewyllys a'm calon lygre­dig yn ei leicio. Ni ddylem ni foddhâu ein hunain, onid Duw.

Wrth ddywedydd hyn, Nac arwain, yr y­dym yn gweddio am yr ôll gynnorthwyon, a'r hôll râdau hyn, i'n amddiffyn a'n ym­geleddu, rhag i'r gelyn un amser gael y llaw uchaf arnom. Canniad taed yr Argl­wydd ein Tâd nefol i ni hyn, er mwyn ei fâb Jesu Ghrist &c.

PREG. XIX.

Luc. 11.4:

Eithr gwared ni rhag drwg.

Y Diwaethaf peth a ddymunem gan Dduw yn y weddi: Nid gwaeth pa [Page 172]un a wnelom, a'i gymmeryd yn ddeisyfiad naillduol a'r ei ben ei hun, ai yn ddarn neu rân o'r hwn a fu o'r blaen, megis ac o rân y clywsoch o'r blaen.

Ynddo y mae i ni ystyried. 1. Y Drwg.

2. Ar ymwared oddiwrtho.

Y drwg sydd ynom o bechod pan orphe­nner, gweddiasom rhagddo yn y bummed deisyfiad, Maddeu i ni ein pechodau, &c. Y drwg feddyliau a ddeuant i'n calonnau o­ddi-allan, neu oddi-fewn, oddiwrth y cnawd, neu'r bŷd, neu'r cythraul, cyn­nyrfiadau, neu annogion i bechu, pob math a'r demtasiwn, gweddiwn yn eu herbyn yn y geiriau nesau o'r blaen: Ag nag arwain ni &c. Y drwg yma, rhyw beth amgen yw, yr hwn ni chymmerir gan bawb chwaith i arwy­ddoccáu yr un peth.

Chrysostom a fynnei i ni ddeall, Y drwg hwnnw, awdwr a Thâd pob temtasiwn, a drwg Brofedigaeth, sef, y Cythraul. [...]. Hom. 19. in Matth. Felly y gelwir efe, o rân gormod dryga­niaeth ynddo: A nyni heb wneuthur na cham, nag anghymwynas yn y bŷd iddo, ac ynteu o'r dechreuad yn dal gelyniaeth digymmod yn ein herbyn. Yr henw hwn y mae St. Joan yn ei roddi iddo. 1. Joh. 2.13. Scrifennu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuainge, [Page 173]am orchfygu o honoch yr un Drwg. A'n iachawdr ei hûn yn yr un módd. Matth. 13.19. Pan glywo neb air y Deyrnas, ac heb ei ddeall, y mae y Drwg yn difôd, ac yn cippio 'r hyn a hauwyd yn ei galon ef.

Rheswm i ni weddio yn erbyn y Drwg, y gelyn hwnnw, ac erchi i Dduw, gael o honom ein gwaredu oddiwrtho; megis ac yr ydys o rân yn y rhan gyntaf o'r Deisy­fiad.

Cyprian a fynnei yn hytrach amgyffred yn y gair hwn bob math a'r ddrygau, Cun­cta adversa, Aflwydd, blinder cystudd, cle­fyd, trwbl, yr hyn y mae y gelyn yn cei­sio beunydd eu dwyn arnom, tan yr hyn nid yw bossibl i ni na ddeffygiem, oni bai i Dduw ei hûn a'i nerth ein cynnal, ac o'i fawr drugaredd ein gwaredu.

A rheswm i ni weddio yn erbyn yr anei­rif ddrygau hyn hefyd bob amser yn ein hamgylchu: Nunc ad peccatum sollicitantia, nunc boni impeditiva; Semper naturæ Institutioni, & ei quam expectat reparationi adversa. Weithiau yn ein cynhyrfu, ac yn ein hudo ei bechod, i wneuthur y Drwg ni fynnem, ac yn siccr ni ddylem: Weithiau yn lluddias y dâ a fyddem yn ei fwriadu; Pob amser yn er­byn ein anianol berffeithrwydd, a'r ad­newyddiad ogoneddus yr ydys yn ei ddis­gwil.

Ac o hyn yma, sef o weddio rhag yr hóll [Page 174]ddrygau hynny y mae i ni yn y scrythur Lân, Orchymmyn, a siampl.

Onid hyn y mae Duw yn ei orchymmyn? Psal. 60.15. Galw arnaf yn nŷdd trallod; mi a'th waredaf. Galw am ba beth? Am ymwared o'th drallod. Ac o hyn y mae i ni siampl yn yr Israeliaid. Llefasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder ac efe a'i gwaredodd o'i gorthrymderau. Psal. 107.6. A'r Prophwyd ei hûn, Yn fy­nghyfyngder y gelwais ar yr Arglwydd ac y gwaeddais ar fy Nuw &c. Psal. 18.6. A'n iachawdr he­fyd a weddiod yn daer rhag y Cwppan hwnnw o'i ddioddefaint ar y Groes.

Rhai eraill a ddeallent y Drwg hwn yn helaethach, gan amgyffred ynddo ein hóll elynion ysprydol. Canys yn gyntaf Nid yw 'r henw hwn yn briodol i'r Cythraul yn u­nig. Ond Drwg a elwir Pechod ynteu. [...], Casewch y Drwg. Rhuf. 12.9.

A'r Bŷd a elwir yn Ddrwg. Yrhwn a'i rho­ddes ei hûn tros ein pechodau, fel i'n gwaredei ni o­ddiwrth y Bŷd drwg presennol. Gal. 1.4. Y mae 'r hôll fŷd yn gorwedd, medd St. Joan. 1. Ep. 5.19. [...], yn y Drwg, neu mewn drygioni, Eithr fe a allei hwnnw fôd naill a'i pechod, a'i 'r Cythraul, yr hwn y mae efe yn sôn amdano yn yr adnod o'r blaen o' [...], A'r Drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.

A Drwg y gelwir y Cnawd hitheu, sef, [Page 175]Llygredigaeth naturiol, tryssor Drwg y galon. Matth. 12.35. Trachwant.

2. Yn ail, y fantes y mae Diafol y (Drwg hwnnw) yn ei gael yn erbyn dynion, sy'n dyfôd iddo trwy waith y cnawd, a'r bŷd, a Phechod: Ac am hyn gyda 'r Drwg hwnnw yn y weddi rheswm i ni amgyffred, a deall, a synnied ei weision, offerau, a pheirian­nau.

Fieri potest &c. L. B. Tebyg iawn; ie, pam na thebygem, mai meddwl ein iachawdr ydoedd, dyscu i ni yn y gair hwn weddio rhag yr hôll ddrygau hyn, a cheisio ym­wared cyfamserol oddiwrth bob rhai, a phób un o honynt. Neque [...]nim frustra. dubio aliquo sermone usus est; Canys ni ddaeth eri­oed o'i enau bendigedic ef air petrûs yn ddiachos, neu yn ofer.

Am hynny wrth ddywedyd hyn, gwe­ddiwn.

1. Inprimis liberari petimus à peccato; Am ym­wared oddiwrth Bechod, y gwaethaf dim o'r hóll bethau yn ein drygu: Ar i Dduw ein rhagflaenu, ein cynnal, amddeffyn, a'n cynnorthwyo a'i râs yspusol, rhag i ni syr­thio mewn un phechod, neu gydsynnied a'r brofedigaeth.

2. Am nodded, ac amddeffynfa oddiwrth y Cythraul: Nid yn unig rhag iddo ein gorchfygu, a'n caethiwo, eithr hefyd gael cennad in dygnflino a'n gormesu. Ei gymy­dogaeth [Page 176]dogaeth yn y bŷd hwn, nis gellir mo'r cilio oddiwrthi, ag efe yn dywysog yn y bŷd, ac yn traarglywyddiaethu yn ei eiddo: Ag yn ddiau ped ymddangosei efe yn ei rîth ei hûn, ni ddylei hynny, a Duw ei hûn o'n plaid, fôd mor ofnadwy. O herwydd hynny nid ydym yn gweddio ar i Dduw ei dynny ef allan o'r byd, ond yn unig ar iddo roddi i ni râs i ochelyd y dichellion, a'r maglau y mae y Drwg hwnnw yn ei gosod i bawb óll, ond yn enwedig i'r etholedigion, plant y Deyrnas.

3. Gweddiwn rhag ein trachwant ein hunain yn ein hudo, ac yn ein llithio, ag hynny, nid yn unig, nad elom ar ei hól, eithr hefyd ei marwhau, a'i thynny hi yn llwyr oddiwrthym. Er na's gallwn ddisgwil fód mor gwbl-berffaith a hynny, nes i Dduw ein cymmeryd atto ei hûn, i fód yn y nef yn oestadol gyda 'r Arglwydd.

4. Gweddiwn am ymwared oddiwrth drallod, adfyd, aflwydd, ing, Cyfyngder, a'r hóll ddrygau a allent ddigwydd i bob un o honom oddi-fewn, ac oddi-allan, yn gystal i'r corph a'r enaid; Pób peth yn ein blino oddi-allan, yn ein llithio i wneuthur drwg, yn ein lluddias ac yn ein rhwystro ymmhôb gorchwyl daionus

Ond yn ddiau nid ydym yn cael mo hyn, er i ni geisio, fód yn ddiogel, heb ddioddef dim o'r drygau hyu, tra fóm yn y Babell [Page 177]hon. (Canys ni a wyddom mai gwîr y mae 'r Apostol yn ei ddywedyd. 2. Tim. 3.12. Ie, a phawb ar sy'n ewyllysio byw yn Dduwiol ynghrist Jesu a erlidir.) Eithr yr ydym yn gweddio ar ein Tâd nefawl, ar iddo ein gwaredu o'r lleiaf dim o ran yn y bŷd hwn, tra fôm yn y cnawd, hynny yw, cyn belled ag y gwel efe yn dda er ein llês', ond gwedi hyn yn hollawl oddiwrth bób drwg, yn enwedig oddiwrth y Drwg diwaethaf hwnnw tân uffern, a phoenau tragwyddol. Ceifiŵn ddiangc rhac y prŷf, nid yw yn marw, ar tân nid yw yn diffôdd, ac er i ni farw yn y bŷd, diogel fyddwn.

5. Yn ddiwaethaf, yn gymmaint a bód bywyd dŷn, ie a'r hóll fŷd yn debyg i ffe­nestri gwyder, gwedi eu tacclu mewn un man, yn cael eu torri mewn man arall: Gweddiwn i'n Tâd nefol, ar iddo ein cadw, nid yn unig trwy ein hóll fywyd, ymmhób lle a phób amser, rhag i greadur yn y bŷd ddrygu gormod arnom, ond yn enwedig ar iddo ein gwaredu yn y diwedd a bod yn drugarog wrthym yn awr angeu. Marwo­laeth dduwiol yw diwedd yr hóll ddrygau hyn a oddefir yn y bŷd, a Dechreuad Ded­wyddfŷd tragwyddol.

Ond tan weddir fel hyn, meddyliwn fòd yn ddiolchgar i Dduw am ein hóll ymwa­red a'u diogelwch hŷd yn hyn, am nad a­dawodd efe i'r gelyn gael y llaw uchaf ar­nom, [Page 178]a'n gyrru i ddinistr, a'n dal yn ei fagl wrth ei ewyllys ei hûn; Am nad adawodd efe i angeu deisyfyd yn cippio yn ddisym­mwth, ac yn ammharod: Am iddo beidio a'n rhoi i fynu i drachwantau ein calonnau, i wneuthur y pethau sy anfodlon ganddo.

Meddyliwn ymmhellech fôd yn wiliad­wrus er ymgadw oddiwrth Ddrwg, rhag i ni ein bwrw ein hunain yn ddiystyr ben­dramwnwgl iddo, fel y rhai a dynnant anwi­redd a rheffynnau oferedd, a phechod megis a rhaffau menn. Esa. 5.18. Gwae i'r rhai hynny, medd y Prophwyd.

A hyn ôll a ellir ei wneuthur yn well wrth ystyried trefn a graddau 'r deisyfia­dau yn y weddi. Pan fo'r galon gwedi cyd­fynnio a'i chwant, a phechod gwedi ei or­phen. Yna y dywedwn fel i'n dyscir, Ma­ddeu i ni ein pechodau. Adhibentes remedium in opere misericordiæ cum addimus, Sicut &c. Gan addaw rhyw fath ar iawn am y drwg a wna­ethom wrth ddywedyd, Megis ac y maddeuwn ninnan &c.

Wedi gofyn a chael maddeuant am yr hyn a aeth heibio, ymosodwn yn erbyn y Drwg sydd o'n blaen, gweddiwn na chyd­synniem o hyn allan a'n chwantau pecha­durus, a'r i Dduw ein cynnorthwyo ai râs, nad elom fyth rhagllaw i Brofedigaeth.

Ac yn ddiwaethat ôll, megis yn yme­styn at berffeithiad, a'r cyflwr bendigedig [Page 179]hwnnw, pan fydd y llygredig hwn wedi gwisco anllygredigaeth, a'r marwol hwn wedi gwisco anfar­woldeb, Gweddiwn am ymwared oddiwrth bób rhyw Ddrwg, a thragwyddol ddiogel­wch. Yno ni bydd na diafol, i'n hudo, na thrachwant in llithio, na gwag ogoniant i beri i ni ymchwyddo; Onid Duw ei hûn a fydd ôll yn ôll.

Addas hefyd i ddal sulw ac ystyried, pa fôdd y mae 'r weddi sanctaidd hon yn de­chreu a Diwedd ein hôll Ddeisysiadau, ac yn diweddu a'r cyntaf peth a ddylem ni ddymuno

Canys rheittiaf dim tuag at berffeithiad yw ymwared oddiwrth Ddrwg; A diben ein ôll ddymuniadau, yw Gogoniant y go­ruchaf trwy sancteiddio ei Enw.

Ac i'n harwain, a'n dwyn hŷd at y per­ffeithrwydd hyn, y Cam cyntaf yw. Ceisio cael ein gwaredu rhag y Drygau a gildyn­nant ein meddyliau oddiwrth radau a gor­chwylion ysprydol; Yr ail cais, yw, cael grâs a chynnorthwy i ochelyd achlysur pe­chod, a phób math ar Brofedigaeth yn annog iddo. Y trydydd, bód yn gariadus ag yn gymmwynasgar, gan faddeu iw gi­lydd, fel y gallwn fôd yn addas i dderbyn maddeuant gan ein Tâd nefawl, a dywe­dyd wrtho yn hyderus, Maddeu i ni ein pecho­dau &c. 4. Gwedi cael maddeuant awn rhagom yn gyssurus, i ofyn Bara gan ein [Page 180]Tâd grasusol, yr hwn ni rydd garreg i un o'i feibion. 5. A nyni yn cael ein porthi a'n cynnal fel hyn a phethau da anghen-rhei­diol i ni, yr ydym yn rhwymedig i wneu­thur ei ewyllys ef, yr hwn sydd yn rhoi i ni beunydd, borthiant a chynnaliaeth. 6. Y rhai a wnânt ei ewyllys, ydŷnt eusys gwedi eu derbyn iw deyrnas, a rhan o'r eti­feddiaeth; Yn yr hon nid oes, ac ni bydd i ni na gwaith na gorchwyl, ond sancteiddio ei Enw, ei foliannu a'i ogoneddu yn dra­gywydd. Dyro i ni râs i ystyried hyn yn ddyfal, ag i weddio yn ddefosionol, fel y gallom fyw yn Dduwiol, ac yn y diwedd fwynhau y bywyd tragwyddol trwy Jesu Ghrist &c.

PREG. XX.

Matth. 6.13:

Canys eiddot ti yw 'r Deyrnas, &c.

ER ei St. Luc. adel y geiriau hyn heibio yn ddigrybwyll, ni ddylem ni mo'i es­ceuluso, na myned trostynt yn ddiystyr. Canys diammau gennym eu bód yn per­thyn i'r weddi, ac yn bart o ddysceidiaeth [Page 181]ein iachawdr yn ei bregeth enwog ar y my­nydd; i'r hon yr oedd St. Matthew yn wrand­awr Cofus. A'r hyn a glywodd, ac a ddys­codd gan yr Arglwydd, efe a scrifennodd er dysceidiaeth i ninnau.

Ac nid gwaith ofer iw hymarfer, (fel y mae rhai yn tybied) o'r hyn y mae i ni si­ampl yn St. Paul, Canys y mae ynteu yn bwrw y byrr ymadrodd gorphen hyn or weddi ynghŷd a'r deisyfiad diwaethaf. Mi a waredwyd (medd efe) o enau y llew; Ár Ar­glwydd a'm gwared i rhag pob gweithred ddrwg ac a'm ceidw i'w deyrnas nefol: I'r hwn y byddo gogo­niant yn oes oesoedd. Amen. 2. Tim. 4, 18. &c.

Fel hyn ar ôl tywallt ein calonnau a'u deisyfiadau o flaen Duw, y mae ein sach­awdr yn ein dyscu i ddiweddu 'r weddi, gan roddi clôd, a moliant i'n Tâd defol. Wrth yr hyn y bydd y diwedd yn gysson a'r De­chreuad.

Canys ni fynnei ein iachawdr i ni ddiangc yn ebrwydd ac yn ymgwrth ar ôl ymbilio, heb na diolch, na defosiwn: Eithr y mae efe yn gosod hwn o'n blaen megis yn sail neu brif-achos o'r hôll weddi. Canys oni bai i ni synnied fel hyn am Dduw, ma'i ei­ddo ef yw'r Deyrnas, y nerth, a'r gogoniant ni fy­ddei i ni na hyfder nac ewyllys i weddio, nac i un gorchwyl duwiol arall yn y bŷd.

Pulchrè hæc clausnla orationem ipsam concludit; Têg y mae y diwedd-glo hwn yn cau ar y [Page 182]deisyfiadau. O herwydd. 1. Y mae megis yn dwyn ar gôf i Dduw ei addewid, a'i ran ynteu i gyflawni y pethau yr ydym yn eu dymuno, gan fynegi'r achos sy'n peri i ni fód mor hŷf, a dyfód fel hyn i geisio dim ar ei law, a gobeithio y cawn ni dderbyn, Canys eiddot ti yw 'r &c. 2. Yn dwyn ar gôf i ninnau ein dyled-swydd, yn ein hannog ar ól i ni weddio, i edrych ar ein hól, pa fódd y gweddiasom, ai mor barchedig, ac mor ddefosionol ac y dylem, a nyni yn ym­ddiddan a'r Duw mawr, ofnadwy, yr hwn y piau 'r deyrnas, y nerth, ar gogoniant yn oes oe­soedd. Ac os gwelwn ddarfôd i ni ffaelio mewn un modd, i'r tafód redeg o flaen y meddwl, i'r genau lefaru megis yn ddiwy­bod i'r galon, ac heb ystyried beth a ddy­wedent, atgyweiriwn y gweddiau hynny, ymwrandawn yn well ar ein calonnau ein hunain, a dygwn yn eu hôl y dyfal ystyria­dau y mae ein Tâd nefawl yn eu disgwil oddiwrthym yn ei wîr wasanaeth &c.

Wrth ddywedyd hyn, a chofio Teyrnas Dduw, deallwn.

1. Ei Oll ddigonoldeb; Duw sy'n ddigonol o ho­no ei hûn i wneuthur pob peth, heb arno eisieu dim, ac heb raid iddo wrth yr un o'r Creaduriaid, nac offer, na pheiriant yn y bŷd ond ei ewyllys ei hûn. Myfi yw El Sadai. Gen. 7.14.

2. Ei Hawl, a'i Fraint yn yr ôll Creaduriaid; Yr un [Page 183]módd ac y mae i Frenin (ac yn gyfiawnach o lawer) yn yr ôll perthynaseu iw Lywo­draeth. Ie, efe a'i gwnaeth hwynt ôll a'i eiddo ydŷnt. — I bŷd a'i gyflawnder sydd eiddo fi. Psa. 50, 12.

3. Ei Awdurdod a'i Lywodraeth ar bob peth, yn trefnu, yn ordeinio, lluniaethu pob peth wrth ei ewyllys ei hûn.

Dywedasom o'r blaen fôd i'r Drindod fendigedig dri math o Deyrnasoedd. 1. Teyr­nas ei Allu. 2. Ei Râs. 3. Ei ogoniant.

1. Y gyntaf a elwir Brenhiniaeth ei Raglu­niaeth; trwy ba un y mae Duw yn Arglwydd­iaethu ar bethau yn y nef, a'r ddair, a than y Ddaiar. Am yr hon y dywaid y Pro­phwyd. Yr Arglwydd a barattôodd ei orseddfaingc yn y nefoedd, a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywo­draetbu ar bob peth. Psal. 103.19. Dy frenhinia­eth di sydd frenhiniaeth tragwyddol, a'th lywodraeth a bery yn oes oesoedd. Psal. 145, 13. Yr hyn yr ydym ninnau yn y fan yma yn cyfaddef yn arbennig.

2. Teyrnas Grâs Duw, ai Ogoniant nid 'ynt yn ddiau Deyrnasoedd nailltuol, gwe­di eu hymrannu yn erbyn eu gilydd, ond dwy rân yn hyttrach o'r un frenhiniaeth, yn ddechreuedig yn y gyntaf, yn gwbl­berffaith yn y llall, un yn y bŷd yma, ar llall yn y bŷd sydd ar ddyfôd. Eiddot ti. Cyfaddef yr ŷm mai Duw piau 'r Deyr­nas.

1. Oblegit Awdwr a ffynnon pob Lly­wodraeth, ac Awdyrdod yw efe. Nid oes awdurdod, onid oddiwrth Dduw: Ar awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi ei hordeinio. Rhuf. 13, 1. Ond Duw sydd yn llywodraethu o hono ei hûn.

2. O rân dangos y rhagor sy rhwng Teyrnas Dduw a Brenhiniaeth, Emerod­raethau bydol. Brenhininoedd, a Phen­naethiaid y bŷd sy a rhyw fath ar allu, mawrhydi, Gogoniant, Teyrnas: Eithr nid y Nerth a'r Gallu, y Deyrnas a'r Mawr­hydi, sydd hollawl ac o honynt eu hunain. Yr hyn sydd ganddynt, o Dduw y mae i gyd.

3. Nerth Duw ydyw wrth ba un y mae efe yn gallu ac yn gwneuthur yr hyn y mae yn ei ewyllysio. Nid yw efe yn unig yn ner­thol, ac yn gadernaf, eithr yn wîr nerth, yn wîr gadernid ei hûn, o'i sylwedd ei hu­nan: Efe hefyd yw r hwn sydd yn rhoddi nerth, a gallu i'r hôll Creaduriaid eraill. Am hynny y gelwir Christ. Es. 9.6. El gibbor. Y Duw Cadarn. Nag ofned Plant Duw gryfdereu gelynion, Canys eiddo Duw yw 'r nerth; Efe sydd cryfach na hwynt ôll.

Nerth ac ewyllys Duw, yr un peth ydŷnt: Nid oes na rhagor na gwahaniaeth rhyng­ddŷnt. Y peth a fynn Duw a fydd, efe a'i gwna? Pwy, neu pa beth a wrthwynebei ei ewyllys ef? Nid felly y cadernaf o ddy­nion, [Page 185]yr hwn a fydd a'i ewyllys ar lawer peth, heb allu byth mo'i ddwyn i ben. Ond yr hyn y mae Duw yn ei ewyllysio, y mae efe hefyd yn ei wneuthur; A'r hyn ni ddichon moi wneuthur, ni ddichon moi ewyllysio chwaith.

Ond chwi a ddywedwch yscatfyedd, A oes dim, na ddichon Duw wneuthur? Myfi a at­tâbaf, y mae'r scrythur lân yn crybwyll am rai Pethau, ni ddichon Duw moi gwneuthur, nid o ran gwendid neu ddiffyg yn y byd, on­d o ran rhagoriaeth nerth, a gallu, a Pher­ffeithiad: Ammhossibl i Dduw fod yn gelwyddog, ei wadu ei hun, ammhossibl iddo farw &c. O wendid y mae'r pethau hyn i gyd yn dèilliaw, ac yn dyfod, ac am hynny ni ddichon yr un ór pethau hyn gydsefyll a godidawgrwydd, nerth, a gallu'r Hoalluog Dduw.

Gogoniant o briodolder nid yw ddim am­gen, na'r discleirdéb a welir mewn dim. Glorificari idem ost quod clarificari Aug. Gogoneddu, yw gwneuthur yn gyhoedd y discleirdeb a'r rhagoriath sydd yn neb ryw beth

Defuydd Gogoniant ydyw rhyw berffei­thrwydd, neu ragoriaeth, yr hyn ni ddichon na bod yn gymeradwy, ac yn ganmoledig gan bawb wrth hyn y mae peth yn ogo­neddus ynddo ei hun; Ond trwy eglurhau y [Page 186]perffeithiad hynny i eraill, ei ganmol ai gy­faddef, y gwneir efe yn ogoneddus i eraill hefyd; Ac ó herwydd hyn. Gogoniant Duw ydyw bod ei hanfod ai briodoliaethau ben­digedig yn discleirio, yn hyspys ac yn gyd­nabyddus y ngweithredoedd y Creaduriaid

Yn Nuw yn vnig y mae Defnydd a sail yr oll Ogoniant, sef, gwir Berffeithrwydd, rhagoriaeth, godidawgrwydd; Ac iddo y mae yn dychwelyd yn ei ddull, ai osgedd wrth ei eglurhâd, gwedi gwneuthur yn hyspys nad oes na gogoniant, na pherffei­thrwydd, ond yn Nuw, ac o Dduw yn unig. Oherwydd paham y dylei pob dyn gyfadd­ef gida'r Prophwyd, I ti Arglwydd y perthyn cyfwander a nerth a gogoniant, ond i ni gywilydd wy­nebau megis heddyw. Argwlydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i'n brenhinoedd, in tywysogion, ac in Tadau, o herwydd i ni bechu it'h erbyn. Dan. 9.7.8.

Mor hyspus yw hyn i bawb nid rhaid moi draethu ddim ymmhellach; Oddieithr dwyn ar gôf i chwi yr amryw ddysceidiaeth sydd i ni i gael oddi wrtho.

1. O hyn yma y mae i ni sylfaen disigl dianwadal o hyder, a gwir obaîth yn Nuw Fiducia exauditionis, ficcrwydd o gael ein gwrando pan weddiem a dim blinder ar­non, Canys y mae ì ni Dâd yn y nefoedd, ac iddo ef yr ym yn attolwg, yr hwn y piau'r Deyrnas, a'r nerth. ar gogoniant. wrth ystyried [Page 187]ei allu, diammau gennym y dichon efe ein hachub; wrth ystyried ei Deyrnas, meddyli­wn mai ei ddeiliaid ydym, Ac am hynny ni ddi chon na bô yn ewyllysgar, ac yn ba­rod ì amddeffyn, a chynnorthwyo ei eidd o. Ei ogoniant sydd beunydd yn cael ei egluro, ac yn ymddangos yn ei drugare­ddau tuag at'ai bobl. Galwarnafi yn nyddtrallod, mi ath waredaf, a thi a'm gogoneddi. Psal. 50.15.

2. Dyscwn wrth hyn, y dylei canu mawl, a rhoddi Diolch i Dduw am ei holl Ddaioni gydgerdded, neu fyned ynghyd ân gweddi­au megis rhan on gwasanaeth iddo: Magis ac y mae'r Apostol yn eu cwplysu Phil: 4.6. Na ofelwch am Ddim: Either ymmhob peth mewn gweddi, ag ymbil gyda diolchg arwch gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspys ger bron Duw.

Fe'n dyscir yn y deisyfiadau or blaen ì ymbil ac ì weddio am bob peth anghenrheidiol yn gystal ar les y corph, a'r enaid: yma wrth ddiweddu ì dalu diolch, a pha fôdd y gwnawn, gan ddywedyd, canys eiddot ti yw'r D [...] ­yrnas, y nerth &c.

3. Dyscwn wrth hyn, pan fôm gwedi de rbyn y bendithion yddym yn gweddio amdany nt, ì ba ddiben y cyfeiriwn hwynt. Ceisio yr ydym gan weddio, sara beunydd iol Maddeuant o'n pechodau, ymwared oddiwrth bob drŵg a themptasiwn. Gwedi ì ni gael y pethau hyn: Pa fòdd yr arferwn hwynt. Nid ī drachwant y cnawd, ond er [Page 188]ymattal wrth ein ymarweddiad yn y nef, y ddinas fraint a bwrcasodd Christ ì ni yn nheyrnas ei Dâd, yn gystal ei Râs, ai ogoni­ant yn oes oesodd. Meddyliwn, pa be­thau bynnag, a gaffom, eu harfer er gogo­niant, ein Tâd nefol sy 'n eu rhoddi ini: A thalwn iddo ddiolch, a moliant, a gogoniant amdanynt. Meddyliwn hefyd am y pethau nid ym yn eu cael, er i ni eu gofyn, mai er ein lles y mae efe yn attal ei law, ac yn pei­dio aï rhoddi ini, ac er gogoniant iddo ei hun. Beth bynnag gan hynny a wnawn ai derbyn y rhôdd, a geisiem, ai bod heb ddi, rhaid i ni fawrhau enw gogoneddus ein Tàd nefol, a dibennu ein gweddiau oll fal hyn, Ty di piau'r Deyrnas, a'r nerth, &c.

Dymma'r modd î ni gael ein gwrando, pan weddiem, sef, drwy gydnabod ein ann­heilyngdod, gan gymmeryd gwarth a chy­wilydd ì ni ein hunain, a rhoddi mawl a go­goniant ì Dduw yn unig Ty di piau'r deyrnas &c.

PREG. XXI.

Matth: 6.13.

Amen.

Un o eiriau'r Arglwydd yw hwn hefyd, nid yn ofer yn dibennu y fendigedic weddi [Page 189]hon, na mwy na rhaid chwaith mewn un weddi arall. Nef a daiar a ant heibio, either fy ngeiriau i nid ànt heibio ddim. Matth: 24.35. Nid a' un jot, nac un tippyn ôr gyfraith heibio. Matth: 5.18. Nac o'r efengyl chwaith. Na atto Duw ì ninnau adel y tippyn yma, yr Amen heibio, a myned trosto yn ddiystyr fel pe na bai berthynasol i'n gweddiau.

Dau beth sydd ini ì ymgais yn ddo 1 Ei, gyfieithiad, neu pa beth y mae yn ardd­angos i ni, 2. Ei vws y lles, ar mwyniant, sydd o honaw.

Amen o Dadogaeth gair Hebracc ydyw, mo'r briodol ir iaith, honno, ac mor gynh­wysol ynddô ei hun, fel pe na's gallai mo'i gyfieithu, yr ydys yn ei arfer ym mhôb iaith arall. Ei wreiddyn ydyw Aman, yn arwyddo­ccau weithiau, Credu, coelio, ymddiried.

Confirmandi particular, quæ pro loco aut verê ex­ponitur, aut Fiat. Nôt Cadarnhâad, yr hwn 'yn ol y lle y bo ynddo, a gyfieithir, naill ai yn wir, ai fellu bô.

Amen a geir weithiau ynnhechreu'r yma­drodd, ond yn finychaf yn y diwedd, ac ma­gis yn cau yn y diwedd arno

Cum præponitur confirmatdicenda: cum post poni­tur confirmat præcedentia. Paræ: ar Math: yn 'y dechreu yn syccrhau y peth a ddelo 'ar ei ol; yn y diwedd yn cadarnhau, ac yn dwyn tystiolaeth i r hyn a aethai ór blaen. Weithiau y ceir Amen, yn honni, neu [Page 190]yn taeru yn unig ar hyn a ddywedir. Megis ac y mae ein jachawdr yn ei arfer Matth: 5.18. [...]. yn wir meddaf i chwi A'r Apostol. 2 Cor: 1.20 Adde­widion Duw ynddo ef ydynt iê, ac ynddo ef Amen, er gogoniant i Dduw trwom ni. (Hynny yw) Geir­wir, ffyddlawn, siccr, diogel, anghyfnewi­diol. Ni bu ei ymadrodd ef wrthich ie, a Nage v: 18 fel pe buasei Duw yn addaw y pe­thau'ni chwpplaê ddim. Geiriau heb na phwys, na gwirionedd ynddynt. Nid felly Ond ei ymadrodd iê ydoedd, v: 19 Olegit holl Addawidion Duw yngrist ie ydynt &c.

wrth gyd osod yr Efangylwyr ar gyfer ei gilydd, y bydd hawdd cael gwybod beth yw meddwl, neu arwyddocaad y gair. wrth yspysu pa beth a ddywede, ein ia­chawdr am y weddw dlawd yn bwrw ei dwy hatling ir drysorfa. Gwedi galw ei ddiscyblion. [...] medd S. Marc: 12.43. [...], medd St Luke: 21.3. Fwrw or wraig weddw dlawd hon fwy na hwynt oll. yr un peth ydyw, ac yr un modd y cyfieithwyd yn y ddau fan, yn wir meddaf i chwi, Amen, hynny yw. yn wir.

2. Weithiau y mae yn arddangos cyd­synniad ir peth a wneir, neu a fynegir. Magis a Dafydd yn erchi Eneinio Salomon ei fâb yn frenin'ar ei ôl. Danaiah mab Jehoiada a [Page 191]attebodd y brenin ac a ddywedodd. Amen. yr vn modd y dywedo Arglwydd Dduw fy Arglwydd frenin. 1 Brenh: 1.36.

Ac wrth dderbyn yr Addewidion nid yw yr Amen hwn yn ysbysu y Cydsynniad yma yn unig, either gyda hynnny, Llawn sicrwydd gobaith, Hebr. 6.11. a Llawn hyder ffydd. Hebr. 10.22. Felly a Duw yn dwyn ar gôf i Jeremi ei Addewid i'w Bobl, Jerem; 11.45. Gwnewch yn ol yr hyn oll a orchmynnais i chwi. Felly chwi a fyddwch yn bobl i mi, a minneu a fyddaf yn Dduw i chwithau: Fel y gallwyf gw­plau y llw a dyngais wrth eich Tadau, ar roddi iddynt Dir yn llifeirio o laeth a mel, megis y mae heddyw: yna yr attebais, (medd y Prophwyd,) ac y dy­wedais, O Arglwydd, Amen, Felly y byddo.

3. Weithiau, a hynny yn fynychaf, y bydd yr Amen yma yn cynnwysserch a deisy­fiad y Galon, megis ac yr arferir ef yn ein ymbiliau, bendithion, a thalu Diolch.

Ezra a fendithiodd yr Arglwydd, A'r holl bobl a atte basant, Amen, Amen, gan dderchafu eu dwylo. Nehem 8.6. Ar Angelion, a'r Henn­riad, a'r pedwar anifail a syrthiasant ger bron yr orseddfaingc ar eu hwynebau, ac addolasant D duw, Gan Ddywedyd, Amen, y fendith, a'r gogoniant, a'r Doethineb, a'r Diolch, a'r Anrhydedd, a'r gallu a'r nerth a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen. Date. 7.11.12.

Yn y fan hon (megis ac yn niwedd ein holl weddiau) y dodir ef yn ei gyfle, nid, [Page 192]yn unig i ddangos, a gosod allan wir ew­yllys ein calonnau, a'u serch ar y pethau yr ydym yn gweddio amdanynt either heb law hynny, i ddwyn tystiolaeth i'n ffydd, a'n llawn hyder i dderbyn ar ol ein deisyfia­dau.

Canys ein iachawdwr yn ein hannog, a'n dyscu, a'n cyfarwyddo fel y dylem, a ddy­waid. Mark: 11.24. Beth bynnag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwh ac fe fydd i chwi. Yn yr hyn y mae efe yn ysbysu dau beth priodol i bob gweddi ddefosionol.

1. Gwir ewyllys, a deisyf, ám gael y grâs neu'r fendith yr ydys yn ei ofyn: Gwir hanfod gweddi. Canys heb feddwl a dy­muno ar gael, nid yw hi weddi ddim.

2. Ffŷdd, a llawn hyder y derbyniwn, y rhydd Duw y pethau yr ydym yn ei deisyf. Heb pa un nid ŷm ni addas i dderbyn dim gan ein Tâd nefol: A'r pethau a gaffom heb ffŷdd, nid er ein lles, ond yn hytrach i farnedgaeth yr ydym yn ei derbyn.

Pa bethau a ddylem ni geiso tan weddio, a yspysir i ni yn naillduol yn y deisyfidau o'r blaen: Pa fodd y ceisem, y dengys y gair hwn, megis arwydd ffŷdd, heb pa un ni cheir, ac ni ddiscyn un rhôdd ddaionus oddiwrth Dâd y goleuni. O bydd ar neb eisieu gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haeli­onus i bawb; Either gofynned mewn ffŷdd heb am­meu dim. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd [Page 193]gyffelyb i donn y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dyn hwnnw y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd, Jac. 1, 5, 6, 7.

Amen yn niwedd y weddi nid yw brio­dol i'r bobl yn vnig, i ddangos eu cydsyn­niad i eiriau y gwenidog a bod eu meddy­liau yn cydgerdded: Eithr rhan o'r weddi hefyd ydyw, yn Perthynu i r gweinidog a'r bobl a weddiant mewn ffydd. Ac yn rhoddi yn y chwaneg at ein deisyfiadau cymmaint ac y mae hyder ein ffydd yn chwanegu ac yn gwellhau ein deissyfiadau. Signaculum Orationis Dominicæ. Hier. 'Ysêl ar weddi 'r Arglwydd: Insel ein calonnau nin­neu, a'r hwn yr ym yn Selio pob un o'r dei­syfiadau, ac yn eu siccrhau ynom ein hunain, ein bod ni yn eu gwir-ewyllysio, ac y cawn ni ei derbyn. Am hynny y dylid ei gyfadd­dasu a'i gyssylltu a phôb un o'r deisysiadau. Megis gwedi dywedyd. Sancteiddier dy Enw. rhoddaf atto yn ychwaneg, Amen, fel pe dywedwn Megis ac yr ydwyf yn attolwg ar Dduw roddi i mi, ac i eraill Ras i Sancteiddio ei Enw, felly yr yd wyf yn credu ac yn ddiam­mau gennif, y câf gynnorthwy gan fy Nhâd, a'm Duw i wneuthur hynny: A'r vnffunyd yn y deisyfiadau eraill Wrth hyn y deellwch pa beth y mae Amen yn Arwyddocaû

2. Am yr addysc a'r lles, a'r, mwyniant fydd i ni o honaw Commone factio est, Coffaad, [Page 194]neu rybudd yw, yn dwyn ar gôf ini, yn pe­ri in i at gôfio, ar ol traethu ein deisyfiadau o flaen duw, i holi ein calonnau, pa fôdd y gweddiasom, a pha ffŷdd, a pha ostyn­geiddrwydd, a defosiwn, a pha hyder ar Dduw, a pha ddirmyg arnom ein hunain o ran ein cyflwr trwy lygredigaeth.

Ar ol dangos ein anghenrheidiau, a thraethu ein deisyfiadau yn naillduol, pob un ar ei ben ei hun, gedewch i'r enaid yn y diwedd, gynnhwyso, a derchafu ei hu­nan, i ddanfon i fynu yn gryno un llawn erchiad yn lle'r cwbl gan ddeisyf a phob gwresogrwydd Calon, ar i Dduw ynteu ddywedyd Amen, Bid felly, wrth bob un o'n deisyfiadau Ar peth a ddywedo duw a fydd. Ei Fiat, ei Amen ef ydyw Cwplau.

2. Testimonium est, Tystiolaeth yw o hyder a diogelwch ein ffydd, trwy'r hon yn unig y mae jawn-weddio Nid. yw yn ammeu dim, ond yn bwrw'r cwbl ar Dduw a'i wir addewid: Fal hyn y dylei pob un, megis Abraham fod yn ddiegwan o ffŷdd, yn gwbl siccr ganddo, am yr hyn a addawsei Duw, ei fod yn abl ac yn ewyllysgar iw wneuthur hefyd. Rhuf: 4.21.

Dywedwn ninnau Amen; yn niwedd ein gweddiau, o herwydd i Dduw ddywedyd Amen yn nhechreu ei addewid. Amen dico vobis. Quodcunque petieritis &c.

Heb law hyn, y mae ein ffŷdd wrth hyn [Page 195]yn ei chadarnhau ei hun, yn erbyn pob petrusder ac ammheuaeth gan ddywedyd Amen, nid o ddymuniad yn unig (O na wnae Duw, mynnwn pettai,) ond o lawn hy­der▪ a sicrwydd, fel pabai gwedi ei gwplau. Felly bydd.

Ac o hyn, sef, cyssylltiad yr Amen, a'r deisyfiadau, ie a phob un o honynt yn y weddi, y mae rhai yn dyscu, y dylei pob plentyn i Dduw fod yn siccr, ac yn ddia­mmau ganddo gael maddeuant e'i becho­dau; a phob un, nid yw etto mor ddiogel a hynny, ymegnio ar geisio a chael yr hy­der yma.

3. y tystiolacrh hwn o'n ffŷdd, gwedi ei fwrw yn ychwaneg at ein deisyfiadau. a ddengys y dylei ein defosionau, a'n yn­ymbiliau, ein gweddiau i gyd fôd mewn i eithoedd a ddeallow, Onidé pa fodd y geill y galon gydsynnied a hwynt, neu daeru ac hyderu ar y pethau nis gwyr ddim oddi wrthynt yn naillduol?

Ar un ymarfer o'r Amen hwn yn eu gwe­ddiau oedd yn yr Eglwys gynt tan y Dde­ddf, a Duw ei hun yn peri i'r bobl ddy­wedyd Amen i weddiau'r offeiriad. Dywe ­ded yr holl bobl Amen. Deut: 27.15. &c. Nehem: 5.13, &c. 8.6. Ar Athrawon ym mysc yr Hebraeaid a gymmeront arnynt iawn ganfod ansawdd y weddi, a'r ymbi­iwr, [Page 196]wrth glywed yr Amen.

Canys dywedent fod tri math a'r Ddrwg Amen ym mysc y bobl.

1. Y cyntaf a alwent Jethoma Amen eg­wan. Amddifad (wrth feddwl y gair) y cyfryw Amen, nid oes iddo na'r yspryd glân yn Dâd, na gwirgrefydd, neu dduwi oldeb yn tam. Os Defosiwn a escorodd ar­no yn y dechreu hi a fu farw yn y man: Nid oes nac ysbryd na bywiowgrwydd yn­ddo i gynnal a'i dderchafu tu a'r nef.

2. Yr ail Chetupha. Amen a fo ar frŷs, ac yn brysur Surreptitium, medd y gair, A ddy wedir yn lladradaidd, agos heb wybod i'r dŷn: Pan fo'r tafod yn rhedeg o flaen y galon, yn meddwl am ddim yn y weddi ond ei diwede, ac yn ddâ ganddo ei bod hi gwedi darfod; Amen i'r diwedd, nid i'r de­isyfiadau.

3. Ketugna Amen Rhannedig musgrell: y dyn yn cysgu a'r hyd yr amser, ond yn de­chru ymystyn a dylyfu gên wrth ddarfod y cyfryw rai r'i wyddent pa beth y maent yn dywedyd Amen iddo, Peth bynnag am danynt hwy, eu duwiolder fy'n cyscu. Hawdd fyddei yn yr amseroedd diwaethaf pechadurus hyn, ddangos i chwi Lawer e­raill nid difeius, wrth ymwrando a dal sulw arnynt. Megis yr Anywybodus Amen sydd gan y Papistiad, i ba beth, nis gwyddent. [Page 197]Eithr y mae diwedd y weddi yn debyg ir rhagddarpar: A'r weddi i gyd yn debyg iw ffŷdd anwybodus. Crêd yn unig fel y mae'r Eglwys yn credu, a gweddia fel y mae'r offeiriad yn gweddio; Ond nid yw bossibl ir annyscedic wybod, pa beth y mae eu heglwys yn credu, na deall gwe­ddiau eu offeiriaid.

Y rhagrîthûs Amen a mwy o sain yn y genaw, na symlrhwydd, ac ystyr yn y galon, fel y Pharisæaid yn gweddio yn yr amlwg, ac yn dywedyd Amen a llêf vchel, fel yr ymddangosont i ddynion, ac y cant eu cy­ywed. yn wir meddaf i chwi y maent yn derbyn eu gwobr. Matth: 6.5. Ac od oes un rhyw a­rall; na bo ond ei grybwyll: Ni ddyscaf i chwi o'm bôdd gam arfer yny byd. Dy­scwn yn hyttrach ochelyd pob Cam arfer yn gystal ar yr Amen, a'r weddi: Ceisio wneuthr lles i'n eneidiau trwy iawn arfer, o honynt, megis ac yr amcanei ein iach­awdr ac y mae yn disgwil ar ein llaw. Dy­sgwn, i ystyried yn ofalus, a dodi ein ca­lonnau ar y bendithion ysprydol yr ydys yn gweddio amdanynt. 2. Dderchafu ein calonnau mewn llawn hyder ffŷdd yn ein Tâd nefawl A bydded yr Amen vn dŷst ini o hyn i gyd, yn fêl, ac yn arwydd ei fod ef ŷn gwrando arnom, ac y rhydd i ni bob peth anghenrheidiol in cyflwr, a'n stâd presennol. Canniadhâ hyn Arglwydd [Page 198]yn ddarbodus, fel y gallom dy wasanaethu yn ddyledus er gogoniant ith Enw, a dedwyddfy i'n heneidiau trwy Jesu Ghrist &c.

PREG. XXII.

Matth: 6.9.

Am hynny gweddiwch chwi fel hyn.

Am hynny. Gwedi ystyried a mynegi dwys ddefnydd yr holl weddi, trown etto ennyd yn ol i edrych ar yr achos, a barrodd in iachawdr ei gosod yn esampl, neu battrwn, a pha fóddy mae i ni ei chanlyn, a'i iawn arfer.

Yr achos a ddangosir yn y rhan gyntaf o'r bennod, sef Cam-arfer y Pharisæaid, a'r cenhedloedd wrth weddio, y'r rhain yn siaradus, a'r lleill yn ragrithus: Am hynny y mae ein iachawdwr yn peri i ni ochelyd arferon pob un o'r ddau: Na fyddwch de­byg iddynt hwy. v. 8. Ac yn dangos pa fôdd y gwnawn ni hynny, gan roddi ini, megis Coôf-reser o'r pethau a ddylem, ni weddio amdanynt, a Phattrwm neu esampl o'r sutt a'r môdd, y ceisiem hwynt gan ein Tâd nefol: Gweddiwch chwi fel hyn. Forma desideriorum: Non licet tibi aliud [Page 199]'petere. Aug: Rheol, a Dull i'n Deisfiadau, Nid yw rŷdd na chyfreithlawn i ni ddeisyf ond yr hyn sydd, gwedi gynnwys ynddi, ac yn y drefn y mae hi yn ysbysu.

Omnium Precationum fundamentum, Cyprian 'Sail ein holl weddiau defosionol: Ni saiff un erchiad, ond y rhai a sylfaenir arni hi.

Breviarium totius, Evangelii, et salutaris Doct|'rinae Compendium Tert. Byrr-draethawd o'r Efengyl, a chrynodeb o ddysceidiaeth ie­chydwriaeth Ond mawr ir prîfdadau ei chanmol hi fel hyn yn deilwng, ac yr a­wrhon yn yr amseroedd diwaethaf hyn, ei bod hi (ysywaeth) yn ddibrîs, ac yn ddirmyg gan bob crefltwr annyscedig, annuwiol?

Eithr pa leshâd a fydd ó'r rheol oni chanlynir? I ba bwrpas y gosodir y sylfaen gan y pen-saer celfydd, oni goruwch-ade­ledir arno? Ni wneir portreiad gwaith i edrvch arno yn unig ond i gyfarwyddo'r saeri yn yr adeiladaeth.

Ar ol ystyried defnydd y weddi, ei dos­parthu, a'i chymeryd pob yn ddarn, gy­da'r cymmalau, a'u dysceidiaethau naill­duol. Gadewch i ni bellach edrych arni yn ei chyflawnder, fel y gosodir hi yn bor­treiad perffaieth o Dduwioldeb, ac y gall­om lunio ein holl weddiau ar ei hol.

Gweddi'r Arglwydd. Prif-gyfeiriad iw wasaneth yw; yn anghenrheidiol ini ei [Page 200]harfer, nid yn unig, oblegid ei bod hi yn help, ac yn hyfforddiad i drefnu a thraethu ein dymuniadau eithr o ran ein dyledwydd, a'n iachawdwr gwedi gorchymmyn i ni weddio fel, hyn a dywedyd, Ein Tad yr hwn wyt etc. Pa fodd gan hynny'r escusodir y rhai a'i bwriant heibio yn hollawl, megis peth ofer i'r gwasanaeth, ac yn hawdd ei hebcor? Na atto Duw i ni wneuthur hynny; Na attow Duw i ni esceuluso'r geiriau bendigedig a ddyscodd efe ei hun i ni, er ein lles. Rhŷdd a chymmwys i ni uwsio gweddiau eraill wrth ein angenrhei­diau priodol, drwy na bônt yn anghyttûn a'r weddi yma.

1. Prif bwrpas y weddi, a'r mwyaf llès i ni oddiwrthi ydw, er cynnorthwy a chy­feiriad, i'n deisyfiadau tuag at Dduw bob amser, ac ar bob achlysur Eithr yn gy­mmaint nad oes hayach mor gyfarwydd, a medru hynny, nid amgen, dodi en cy­freidiau priodol wrth y rheol cyffre dinol, rhai a welant yn dda'ddangos i r annyscedig yn arbennig y môdd a r sûtt y gallont drefnu eu holl ddeisyfiadau ar ol y cyfarwyddiad hwn. Eu cyfaddasu i'r amseroedd, y boreu'r, hwyr, amser ie­chyd, clefyd, hawddfyd, adfyd, &c a phôb math ar Achosion, Nege­seion, blinder, llwyddiant a'r cyffelyb.

Y boreu, cyn dechreu pob un ei orch­wyl [Page 201]yn ei Alwedigaeth, attolyged i Dduw

1. Roddi iddo Râs i geisio ei anrhydedd ef a'i ogoniant ym mhob peth ar a gymero arno ei wneuthur: Meddylied am gyng­or yr Apostol, a gwnaed ei oreu drwy geisio grâs gan dduw iw gyflawni. Pa un bynnag ai'bwytta, a'i yfed. at beth bynnag a wneloch, gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. 1. Cor: 10.31. Hyn ydyw, Sancteiddier dy Enw.

2. Ar iddo reoli ei galon drwy Ras, a llywodraethu ynddi, a chyfeirio ei draed i ffordd tangneddyf, a'i feddyliau trwy ei yspryd glân a'i air bendigedig i bob gwirio­nedd. Hyn yw, Deued dy deyrnas.

3. Ar iddo ei nerthu i wneuthur ewyllys yr Arglwydd gyda phob parodrwydd, ffyddlondeb a llawenydd, ac nid ei ewyllys ei hun un amser, ymofynned am ei waith, ac ymosoded ar ei wneuthur: Ond meddy­lied nad oes na grym na gallu ynddo, i wneuthur dim, ond a roddo'r Arglwydd iddo: Ceisied ynteu, a dyweded, gyda'r gwr defosionol Domine, fiat voluntas tua in me, 'et de me. O Arglwydd gwneler dy ewyllys ynof, a thrwof, ac o honof beunydd.

4. Arched i Dduw, beri iddo ymddiried yn ei ragluniaeth ai ragddarbod ef yn unig, heb fôd yn rhy ofalus am bethau byd­ol, a berthynant ir bywyd presennol: Gan feddwl am gyngor a gorchymmyn yr Arglwydd, Nac ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph [Page 202]pa beth 3 a wiscoch. Onid yw'r bowyd yn swy na'r bwyd, a'r corph yn fwy na'r dillad. Matth: 6.23. Bwriwn ein baich ar yr Arglwydd; efe a wyr fod arnom eifieu yr oll bethau hyn, a chymmerwn yn ddiolchgar yr hyn a roddo efe i ni: A dywedwn yn ddiofal, drwy ffŷdd ac ymddiried yn ei ragluni aeth ai ragddarbod ef Dyro i ni heddyw &c.

5. Attolyged iddo, ei wneuthur yn wir ostyngedig i gydnabod ei gyflwr llygredig, a bod yn edifeiriol am ei holl bechodau; I fôd yn garedigol tuag bawb o'i frodyr; a gallu dywedyd yn ddifrifol ag o eigion ei galon: Maddeu i mi o Dduw trugarog fy mhechodau a dyro i mi râs i fod yn ewyllys gar ac ny barod bob amser i faddeu i'm cymodogion, gan fwrw ymaith chwer­wedd, a llid, a chenfigen, a dig, chabledd, gvda phob drygioni: fel y gallem fyw yn ol c yngor yr Apostol Byddwch gymmwynasgar a'i gilydd, yn dosturiol, yn maddeu iw gilydd, megis y maddenodd Duw er mwyn Christ i chwithau. Eph: 4.32.

6. Arched iddo, ei nerthu yn erbyn Pro­fedigaethau, fal na orchfyger ef gan un temtasiwn, y cnawd, na'r byd, na'r cy­thraul; gweddiad i Dduw, a'r iddo ledu ei adenydd trosto ai gadw rhag pob drwg, yn enwedig ar iddo gadw ei enaid Fal hyn y gwneir hi yn foreuol weddi.

Pan fyddo hi yn myned yn hwyr, gellir yr un môdd cyfaddasu'r weddi i'r amser, a [Page 203]thrwy yr unrhiw ddeisyfiadau orchymmyn eneidiau i Dduw tros y nôs ar ddyfod ar­nom, gan attolwg iddo.

1. Fendithio ein gorphwysdra a'n hun i'n cryfhau, i'n gwneuthur yn gymmwys, ac yn ablach i ogoneddu ei Enw.

2. Adel i ni orphwys yn ddiogel tan ei lywodraeth, a chyscod ei adenydd me­gis gwir a ffyddlawn ddeiliaid iw deyrnas.

3 Allu o honom gyflawni ei ewyllys sancteiddiol yn cysgu ac yn neffro, yn gystal wrth orphywys a llafurio, nôs a ddŷdd, yn ddirgel ac ynamlwg, rhyngom a'n hunam, ac yngolwg dynion.

4. Fendithio ein esmwythdra, a'n cŵfg er cadw ein einioes yn ddilwgr, yn gym­maint ac heb orphywysdra cyfamserol, a'i fendith ef ar hynny, ni wna mo 'n bara lês i ni, nid yw bossibl chwaith i ddim a fo gennym dyccio

5. Faddeu i ni gyfeiliorni y dŷdd, fel na'n brawychir a dychryniadau y nôs

6. Ein cadw tra fôm yn huno ac yn gor­phywyso rhag bob math a'r coeg feddy­liau, rhag gwyniau annuwiol, a thrarch­wantau pechadurus, rhag cynhyrfiadau ac amcanion drwg, yn breuddywdio, ac yn neffro, fel na bôm fyth megis yr annuwiol Anwiredd a ddychymyg ef ar ei wely; Efe a'i gesyd ei hun ar fford, nid yw dda. Psal: 36.4.

Ac yn amser Clefyd marwol, anghenol ac yn ddiau pa glefyd o hono ei hun nid [Page 204]yw ddinistriol, yn pwyso at farwolaeth) a'r un môdd yn awr angeu, (canys pwy ni's gwyr, mai cennad angau yw pob dolur, yn dwyn rhybudd o farwolaeth, yscat­feydd nid yw hi neppell yn ol?) gnuwd a chymmwys i bob, un orchymmyn ei enaid a'i gyflwr i Dduw gida phou diddanwd ar ol y deisŷfiadau hyn megis rheol ei weddiau. Ceisied gan Dduw.

1. Allu o hono fawrhau yn deilwng, a gogoneddu ei Enw sancteiddiol mewn cle­fyd, ac angau, yn gystal a bywyd, eini oes, iechyd.

2. Deilyngu o hono ddangos rhyfeddol nerth ei ras, yn ei wendid mwyaf: Ei fôd efe ei hun yn llywodraethu yn y galon oddi mewn, pan fo'r dŷn wannaf oddi allan, heb allel syflyd neu ymdroi ar ei wely.

3. Allu o hono ufyddhau i w ewyllys hyd y dywedd yn llonn yn yr awrddiwaethaf, pan fo efe yn trengy Gwneler dy ewyllys megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd. Dyro i ni ras i fod yn wir ostyngedig iddo yn y mynudyn hwn, fel y gallwyf gael fy nerbyn ir san­ctaidd gynulleidfa, fydd yn ei wneuthur byth heb drangc na gorphen yu y ne­foedd.

4. Deilyngu o hono fendithio'r moddi­on, y rhai a ddarparodd, ac a drefnodd ei hun iw harfer yn y cyfryw stâd a chyflwr, er esmwythdra, a diddanwch; a pheri [Page 205]iddo drwy ei rasusol ymweliad ymroi ei hun iw ewyllys bendigedig ef, yn enwedig yn yr awr ddiwaethaf gan ystyried, er bôd marwolaeth yn dychrynnu'r dyn naturiol, nad yw hi ond ymadawiad a bŷd gwaêl, a phorth neu fynediad i mewn i fywyd tra­rhagorol.

5. Ceisied Râs i fôd yn wir edifeiriol am ei bechodau, fel y gallo yn gyssurus ac yn ewyllysgar ymadel a'r bŷd mewn cariad, a gorchymmyn ei enaid i Dduw ynghrist Jesu, megis i greawdwr flyddlon, a phry­rnnwr haelionus.

6. Gan wybod hyn fód Satan yn bryssu­raf yn yr awr ddiwaethaf a'i lid yn fwy, po lleiaf fo ei amser, yn dal ar ei fantes wrth weled dyn mêwn gwendid, Ceisied yr am­ser hynny yn arbennig nerth a chy nnorth­wy yn erbyn profedigaeth, a'i wared rhag y drwg hwnnw yn y mynyd hwnnw, fel na ddelo efe fyth yn agos atto mwyach.

Yn amser Rhyfel neu ryw aflwydd arall Gweddied pob dyn.

1. Am Râs i ogoneddu Duw mewn amy­nedd, gan gydnabod barnedigaethau Duw a'i gyfiawnderau, nad yw efe yn cospi neb ond ar ol ei haeddiant: Dyweded trosto ei hyn a'i dylwyth, a'i gyfeillion, yngeiriau y Prophwyd Daniel. 9.7.8. I ti Arglwydd y per­thyn Cyfiawnder, ond i ni gywilidd wynebau megu heddyw, e herwydd i ni bechu i th erbyn.

2. Gweddied ar i Dduw ddangos ynddo [Page 206]nerth, a gallu ei Lywodraeth ysprydol, fel na ymroddo efe ei hun byth i wasan­aeth. Satan na phechod, paflinder bynnag a ddelo iddo yn y cyfamser oddiallan.

3. Ceisied wir bwrpas, ac ymgais a nerth dianwadal i ddangos ei vfydd-dod i Dduw ai ordainhadau yn ei gystydd a'i flinfyd, yn gystal a phan fo yn esmwyth arno, mewn heddwch, llwyddiant, a llony ddwch.

4. Ceisied brofiad o'i rasusol ragymwe­liad, a thrwy hynny ymddiried, a llawn obaith, o oruchafiaeth, ag ymwared amserol

5. Ar ol cyfaddef ei bechoda, a'r gyfi­awn farn y maent yn haeddu, ceisied faddeuant o honynt ynghrist fel na bo y gospedigaeth yn hollawl i ddestryw, ond er lleshâd yn hytrach, i beri iddo wellhau ei fuchedd gan ymddarostwng tan alluog law Duw, fel y derchafer ef mewn amser cyfaddas. 1 Pet: 5.6.

6. Amser cyfaddas iddo geisio ymwared rhag y Drwg, ac amddeffyn oddiwrth bob ymgodiad yn ei erbyn, yn gystal oddi fewn ac oddiallan. Gweddi priodol y cystudd­iedig pan fyddo mewn blinder, ac yn ty­wallt ei gŵyn ger bron yr Arglwydd. Pfal: 102.1. Na chudd dy wyneb yn nŷdd fy nghyfyng­der, gostwng dy glust. Gogwydda dy glust gwar­ed fi ar frŷs. Psal: 31.2. Achub fi rhag fy holl er­lidwyr, a gwared fi. Psal: 7.1.

2. Or weddi sanctaidd hon y gellir ty nny bortreiad gwr gwir-grefyddol defofio­nol, [Page 207]ei lun, neu ysbysiad o hono wrth ei briodoliaethau, yn dangos pa fath wr ydyw yn bennodol.

1. Gŵr a chanddo ddifrif, a gwir ewyllys ar ogoneddu Duw a sancteiddio ei enw ymmhôb gorchwyl, bob amser ac y mhôb peth. A'i oleuni yn discleirio ger bron dynion fel y gwelont ei weithredoedd da, ac yr anrhydeddont ei Dâd yr hwn sydd ŷn y nefoedd.

2. Gŵr, a fo bob amser yn barod ac yn ofalus i ymroi eu hun i wasanaeth Duw, a bod yn ostyngedig iddo, iwreoli, a'i lywo­draethu gan ei air, ei gyfraith, ei râs, ai yspryd, megis gwir Ddeiliad iw Deyrnas ef a gwas ffyddlon iddo.

3. Gŵr a ymgais, a ymegnia a'i holl nerth, a i galon i wneuthur ewyllys Duw, gyda pharodrwydd a llawenydd, yn gwneu­thur cydwybod o bob peth a dybygei fod yn ddrwg iw ochelyd.

4. Gŵr, a rodia yn berffaith, ac yn ddi esculus yn ei alwedigaeth, gan ei fwrw ei hun ardduw a'i ragddarbod daionus, yn fod­lon a'i gyflwr beth bynnag fyddo.

5. Gŵr, a'i enaid beunydd yn ymdda ronstwng ger bron Duw, yn cyfaddef ei­bechodau, ac yn gofyn maddeuant, ac hedd­wch tuag Dduw trwy Jesu Ghrist, yn adne­wyddu eì edifeirwch o ddŷdd i ddŷdd.

6. Gŵr, a wel ac a edwyn yn Dda am­ryw, ac aml y mgodiadau Satan, a phechod yn ei erbyn, gan ymofidio tros ei wendid, [Page 208]ac etto yn gyssurus trwy nerth grâs Duw ynddo; ac wrth hynny yn y dìwedd yn my­ned yn fwy na chwncwerwr.

3. Ond ni wesnyth i ni weddio, oni y­megniwn ar wneuthur yr hyn a fynnem trwy ymbil: Ac felly'r weddi Cyfeiriad yw i'n ymarweddiad Rhaid i ni gan hynny ymddwyn yn wastad, a byw yn rheol ein gweddiau, gan ystyried yn dduyfal, ac ym ystyn yn arbennig at chwech o betha.

  • 1. ddwyn rhyw anrhydedd a gogonianti Dduw beunydd.
  • 2. I ymroi ein hunain yn hollawl i Ly­wodraeth ein Tâd nefol,
  • 3. I wneuthur ei ewyllys ym mhôb gorch­wyl.

4. I calyn bôb un ei alwedigaeth ac i fôd yn ddiesceulus ynddi, gan ymddiried yn Nuw am fendith ar a wnelom

5. I ymddarostwng tan alluog law Duw, oblegid ein pechodau, yn ceifio cymmod gan Dduw wrth fôd yn garedigol.

6. I redeg at Dduw bód amser, a chys­god ei adenydd, in amddefynfa, nerth ag ymwarad ymmhôb profedigaeth, a drwg &c.

Pa fôdd y gallwn gwplau hyn ond trwy weddio? A pha fodd y gweddiwn, oni wnawn, fel in dysgwyd gan yr Arglwydd fal hyn Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.

TERFYN.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.