DECHREVAD A RHYFEDHVS ESMVDIAD EGLVVYS YR ARGLVVYDHES FAIR O LORETO.
EGLVVYS Loreto oedh gynt yn stafelh o duy 'r fendigedig Fair forvvyn Yn ninas Nazareth, yn agos at Gaerselem, Yn Yr hon i ganvvyd, i magvvyd, ag ai cyfarchvvyd gan Yr Angel; Yn hon hefyd i càd drvvy ràd yr Ysbryd glàn i mab IESV, ag ai dygvvyd i fyny hyd Yn dheudhegmlvvydh oed. Yr stafelh hon Ynol derchafeiad Yn Harglvvydh an achubvvr, a gasegrodh yr Apostolion Yn Eglvvys, i anrhydedh Yr Arglvvydhes Fair forvvyn; a S. LVK a liniodh i lhún. sydh Yr ayvr hon yn bresenol ag Yn vveledigavvl vno. Yr oedh cyrchfa mavvr a duvviol berindota ati or gvvledydh o amgylch, tra r oedhynt Yn Gatholig, ond gvvedi Ydhynt vvneithyr Ysgar a phydh Grist a dilin athravvieth Mahomet, Yr Angylion ai 'smudasont i Slafonia ag ai gosodasont vvrth Dref a elvvyr Flvvmen lhe ni chafodh barch dhyledys: O hervvydh hyny 'r Angylion eilvvaith ai cariasont dros y mór i lvvyn o goed Yn svvydh Recanati, o heidho gvvraig fonhedhig a elvvyd Loreta; ond o achos amryvv ledrad ar Y phordh favvr, ai dugasont odhiuno hefyd, i funydh Y dhau frodyr, Yn Yr vnrhyvv svvydh Recanati. Ag Yn dhivvaitha o ran Ymrafaelion Y brodyr Ynghylch Y rhodhion ar ophrvvmion, ai cariasont or mynydh heb i silfaeneu, i Yslys y phordh gyphredyn, yn agos ir fan lhe i mae hi 'r avvr hon yn sefylh: yn envvog, o ran lhavver o arvvidhion, rhadeu, a gvvrthieu gorchestavvl.
O hervvydh hynny Dynasvvyr Recanati, yn mavvr ryfedhu i rhinvvedh ai amgylchasont a chaireu cadarn; etto ni vvydheu neb o ble gynta i 's mudvvyd, hyd y flvvydhyn M.CC.XC.VI. pan amrithiodh yr Arglvvydhes Fair i vvr duvviol drvvy i gvvsc, ir hvvn yr anirgelodh y gvvirionedh: ag ynteu ai manegodh i vvyr o audurdod o fevvn y profins yma. Ag er mvvyn cael profedigaeth or vveledigaeth yma depholvvyd XVI. o vvyr o gredit i fynd i Dhinas Nazareth: yr 'hain a dhugasont genthynt fesur yr eglvvys, ag ai cavvsont i fod yn cytuno ai sylfeineu oedh yno; yn yr 'hain ir oedh Yn scrifenedig i bod hi yno ag ymadel ar lhe; Gvvedi hyn, y gvvyr yma a dhymchvvelasont ivv cartref, gan hai Y gvvirionedh dros y gvvledydh, ag o hynny alhan fo gaed gvvybod mae 'r eglvvys yma oedh stafelh yr Arglvvydhes Fair forvvyn, a Christnogion a dheghreuasont fod Yn dhefosionavvl ir lhe, ag a fuont felhy'n vvastadol hyd Y dydh hedhivv, o ran Y mavvr vvyrthieu i mae hi beunydh Yn i vvneythyd Yno. Vn Pavvl de Sylfa crefydhvvr ag ermit o favvr santeidhrvvydh, hvvn oedh Yn trigo mevvn bvvth, Yn agos at Yr eglvvys, ir hon 'r oedh Yn m'ynd bob dydh i blygen, a dhvvedodh, vveled o hono, dros Ysbàd deg-mlvvynedh, ar yr VIII dydh o fis Medi, dvvy avvr cyn dydh, oleini mavvr Yn descyn arni or nefoedh: Sef, Y fendigedig Fair forvvyn, hon (medheu ef) syn ymdhangos yno ar gyfan y dydh y ganvvyd. Ag i gydarnhau y cvvbl, dau vvr rinvvedhol o Dhinas Recanati a dhovvedasont, lavver gvvaith imi Brefect a Rheolvvr Terreman a Phresvvylvvr yr eglvvys hon, fal i mae yn callyn. Y nailh a elvvyd Pavvl Renalduci o dhovvedodh vveled o dàd i hendaid, pan i cariodh yr angylion hi dros y mór ir lhvvyn Coed a sonvvyd or blaen, lhe 'r aeth yn fynych ivv gvveled. y lhalh a elvvyd Phrancis Prior hefyd a dhovvedodh darfod ivv dàd a oedh CXX. mlvvydh oed fynych gyrchu yno. Ag i brofi 'mhelhach i bod yno, fo fanegodh, fod gan dad i hendaid duy'n agos ati, lhe 'r oedh yn trigo, a darfod ir Angylion yn i amser ef i 'symud odhiuno i funydh yd hau frodyr fal i dovve [...]bvvyd or blaen.
I favvl tragvvydhol ag anrhydedh y fendigedig Fair Forvvyn.