ATHRAVAETH GRISTNOGAVL, Le cair ụedi cynnụys yn grynno‘r hoḷ brifbynciau syḍ i gyfarụyḍo dyn ar y phorḍ i baradụys.

Meun carchar daear, od oes
anghariad, ynghụyryl y geingroes
I'r enaid mae guir einnioes,
Moḷ didrist gan Grist ai groes.
Natto duụ i mi ymogoneḍu ynnim; onid ynghroes yn harglụyḍ ni Iesu Grist. Gal. 6.

O flaen y traethiad e gair y pynciau hynott af meụn tafulan veḍi nodi pob vn ar i ben i hun.

Yn niueḍ y lyfr e ossodụyd y beiau a syrthioḍ y gụneuthur ụrth brintio.

A ḷauer o eiriau, a fu raid i harfer er nad oeḍynt arferedig trụy Gymru.

Byrfoḍau. s. moḍ i scrisenu geiriau yn fyrr heb i gụneuthur yn ḷaụnlythr.

  • .s. dros ysef yụ.
  • ā: dros am, ne, an.
  • ē: dros em, ne, en.
  • ō: dros om, ne, on.
  • ī: dros im, ne, in.
  • Arg. N. dros arglụyḍ ni
  • Arg. dros arglụyḍes
  • M. dros mastr
  • æ dros ae
  • œ dros oe
  • S. dros sant

Gruphyḍ fab Rhobert yn annerch yr hyparch brelad, ai ḍibal gynheiliad M. Morys Clynoc: ag yn erchi iḍo gan ḍuụ, gynnyḍ, ras a de­dụḍụch enaid, a chorph.

VEdi ymy ḍarlaī ych ḷyfr, o‘r athra­ụaeth Gristnogaụl, a chanfod ynḍo megis egin pob pụnc hyles i gristiō ụr­tho, i gadụ‘r enaid, a ḍarfu i ḍuụ i ụn euthur ar i lū, ai ḍelụ: ag a rybrynnoḍ Crist ai ụerthfaụr ụaed:e laụenychoḍ fynghalon ụrth ụeled tryssor mor ụrth faụr yn yr iaith gymraeg: a maint syḍ o eissie cyfrụiḍid ar phorḍ Grist, yn gyphredinol ymysc gụyr yn gụlad: a‘r plāt yn crio am fara (mal y mae‘r prophụ­yd yn ḷefain) heb fod neb, ai tyrr iḍynt ag ai rhyḍ heb i ụenụyno. Am hynny [Page] gen ḍarfod i chụi gasclu yn grynno, a dosparth yn drefnus, ag yn eglur cy­maīt o flodeuau, a phynciau iachusa­ụl, i hyphorḍi vn a chụennychai ụybod sụyḍ, a rhann Cristion perpheithgred, i ḍyscu beth a enniḷ nef, beth a dafl ḍyn i vphern, beth a rhynga boḍ i ḍuụ, a pheth a ụna iḍo sorri: brynti pechod, odidoụgrụyḍ rhinụeḍ: ni eḷais ar fyn­ghalon na pharụn i brintio: fal y gaḷo eraiḷ syḍ ag eissie y cyfryụ ymborth ys­prydol arnynt, fod yn gyfrānol o‘r ụleḍ a ḍarfu ichụi i harlụy. Gobeithio pan ḍelo i ḍụylaụ y crefyḍgar gymru, y gụ­na laụer o les iḍynt, trụy i hụylio i ba­radụys, ai troi o phorḍ uphernaụl. E fyḍ tostur fyng halō pāfeḍyliụyf faint syḍ o blant trụy dir cymru, odidaụg i athrylith, a darpar gụyr arḍerchaụg, [Page] yn methu, ag yn cymryd ḷụybr ānụyia­ụl eisiau cael oi mebyd i hyphoḍi meụn dysc, ai meithrī meụn moessaụl gāpau. Yr achos fụyaf o hynn yụ̄ diphig ḷyfrau a draethant o‘r cyphelib ystyr. ond yro­ụron e ḍarfu i chụi meụn ychydig o ḍolēnau roḍi cymorth, a help iḍynt rhag yr eissiau hynn Canys yn ych ḷyfr chụi yma nhụy a gaant oi ḍysgu yn haụd, meụn ychydig o amser, a thrụy ychydig help, a ḷai o gost, y pethau syḍ angērheidiol iụ gụybod, i hen ag ifanc. Canys pụy yụ hụnnụ a eiḷ ḍoedyd i fod yn gristion, oni ụyr pa foḍ y mae credu yngrhist, beth syḍ oi obeithio gentho, a pheth a orchmynoḍ ef i gadụ; beth a ụahar­ḍoḍ i ụneuthur, beth a ennil obrụy, a pheth a hauda gosp? fely pan ystyrio‘r cymru syḍ yn caru i heneidiau, mor anhepcor [Page] ydyụ‘r rhain, ag mor hauḍ i dyscu ụrth ḍarlaī y traethiad yma: nhụy a‘ madaụant ai diogsụrth eisteḍach, ai bustlaụl sertheḍ, ag ai smala gyfe­ḍach (onid ydynt ụedi boḍi meụn brynti pechod) ag a‘mro ḍāt i ḍyscu pethau sprydol, buḍfaur i‘r enaid. A hynn nis caant meụn mann araḷ yn y byd mor fyrr, mor drefnus, mor eglur oi deaḷt ag yn y ḷyfr yma i chụi. cāys am­hossibl oeḍ gynnụys meụn ḷai o erriau, a dosparth yn oleuach, a chyfleu yn ụeḍeiḍiach gynnifer bynciau, a chyn ḍyfned i‘styriaeth; fal y gaḷo y plant a‘r gụ­rageḍ i deaḷt, gụyn i byd trụy gymru, pe parēt ymhob eglụys ụrth aros y gụa­sanaeth, ne ar osteg ypheren, gartref ymysc tylụyth y ty i difyrru‘r amser ag ymhob cyniḷeidfa i ḍiḍanu‘r bobl, [Page] ḍarlain hụnn ne‘r cyfryụ ymadrodion a gadel i phorḍ henchụedlau coegion, a choụydau gụenheuthus, celụḍog. Ond ar hydr y rhyḍ yr yspryd glan ras iḍynt hụy i gymryd dysc, megis y roes i chụi oi scrifennu attyn; mi danfonaf yrhain yn i mysc, dan erfyn ar ḍuụ ymhob gụeḍi a ụnelụyf ar ụrtheithio ho­no i calonnau nhụy i ḍerbyn aḍysc, a rhoi nerth i chụithau i scrifennu chụaneg er ḷes i‘r Gristnogion, a gogoniant i duụ.

O dref, Fylen nosụyl S. Nicolas.

Y PYNCIAV HYNOTTAF.

  • Rhaglụybr i‘r athraụaeth Gristn. 1.
  • S. Chrysostomus, am arụyḍ y groc. 3
  • Nod Cristiō a henụ Crist, ai atrh. 5
  • Ynghylch arụyḍ y grog. 8.
  • Y pennod, y gụnaethbụyd dyn er i. 11.
  • Pedụar peth anghenrbaid 11.
  • Y Credo ai ysponiad. 12.
  • Dosparth ar o baith. 22.
  • Y pader ai ysponiad. 23.
  • Yr aue Maria ai ḍehengliad. 28.
  • Saue regina. 31. Gụeḍio ar saint. 32
  • Dosparth ar Gariad perphaith. 34.
  • Dosparth ar ụeithredoeḍ da. 36.
  • Y deg gorchymyn, ai dosparth. 37.
  • Pump gorchymyn yr eglụys. 46.
  • y saith sagrafen. 50. yr ụyth ḍedu. 55.
  • Gụethredoeḍ y drugareḍ. 57.
  • Pymtheg dirgeḷeḍ yr arglụyḍ. 57

RHAGLITH. S. ADROD i doụys vn ag megis oi lithio i‘r athraụaeth Gristnogaụl.

VEdi‘r plant dyfod i‘r vnḷe, yn gyntaf ymgroessed y meistr a phob vn o‘r ḷaiḷ hesyd: ag yna decreued dau o‘r bechgin ganu hynn yma syḍ yn canlyn.

MAe‘n rhụymedig iaụn,
bob Cristion phyḍlaụn,
berchi‘n grefyḍlaụn
y graulaụn grog.
Am i Crist Iesu,
arni yn prynnu,
a‘n gụared yn gu,
o gad euog.
A‘n tynnu trụy gred,
o faụr gaet hiụed,
Pechod oer dynged
du angau log.
A‘n hachụb bob dyn,
o lau‘r drụg elyn,
Syḍ i‘n cas erlyn,
oerlais lidiog.
Vrthynn pob nifer,
a ḍylai ‘marfer,
bob gụaith ag amser
ymsụyn ennụog.
Roi arụyḍ dirfaụl,
y grog fendig aụl,
tan ḍoedyd bob saụl
Sail gụaith pụyḷog:
yn enụ duụ y tad,
a‘r vnig fab mad,
a‘r yspryd glanrad
rod odidog.
amen.
Iesu, a mair

Chrysostomus Homel. 55. in Matth.

Dygụn le cerḍom megis is coron yn laụē yn calonnau groes Crist. Canys honno syḍ yn cyfloụni pob peth ar y syḍ gynhorthụyaụl i‘n cadụedigaeth ni: oblygid pan ail enir ni, mae croes yr arglụyḍ yn bressenol. Pan borthir ni a‘r santei­diaf fụyd pan fom meụn graḍ i gysse­gru ymhob ḷe ag amser e fyḍ hynn o arụyd buḍygoliæth gida ni. Am hynny ni a ḍylem yn ḍyfal, ag yn ystig ossod y groes yn y dirgel geḷyḍ o feụn y ty, ar y pa­rụydyḍ, ag yn y phenestri, ar yn talcen, ag yn yn calō. Canys hụn syḍ arụyd o‘n catụedig aeth ni, o‘n cyphredinol ryḍid o ụarderoụgrụyḍ yn arglụyḍ ni.

Ychydig ynol hynny.

Rhaid yụ guneuthur ḷun y groes nid [Page 4] yn vnig a‘r y corph, eithr trụy phyḍ gadarn hesyd yn y galon. Canys os printid di y groes yn y moḍ hụnnụ, ni lef [...]s yr un o‘r cythreulig ysprydion ymgyfarfod a thi, pan ụelo‘r gụaeụ a roes iḍo‘r archoḷ angheuaụl. s. y groes.

yr vn; Homel. de cruce dominica. Y groes syḍ obaith i‘r Cristnoniog; ad­gyfodiad i‘r meiru, toụyssyḍ i‘r dei‘i­on, phon i‘r cloph, cyssur i‘r tylaụd, genfa i‘r cyfoethog, dystroụiaeth i‘r tra­haus, penyd i‘r anfucheḍoḷ, gorfoleḍ yn erbyn diaụḷ, cynheiliaeth i‘r anghenus, tad i‘r ymḍiḍad, dyphynnyḍ i‘r ụedụ, cynghoryḍ ir cyfion, syluain i‘r eglụys, gụrthlaḍiad i‘r gauḍuụiau, nerth i‘r gụeiniaid, medig i‘r cleifion, bara i‘r neụynog, phynnon i‘r sythedig.

Athraụaeth Gristnogaụḷ.

Ynghylch henụ Cristion, a‘r nod syd i adnabod Cristion ụrtho, a henụ Crist, ai athraụaeth Gristnogaụl.

A.

A ydychụi yn Gristion?

D.

ụyf drụy rad yn hargluyḍ ni Iesu Grist.

A.

Pahā y doedụch trụy rad Iesu Ghrist?

D.

am na chefais fod yn Gristiō o herụyd heu ḍu onofi hynny o urḍas, nā tad chụa­ith, nam mam, na chreadur yn y byd: eithr trụy ḍaioni duụ a heuḍiant Crist

A.

beth ydyụ Cristiō?

D.

discibl i Grist. s. vn syd ụedi fedyụio, ag yn pryphessu i gyfraith ef pryphessu cyfraith Grist yu aḍe fod yn i gụybod, ag aḍaụ i cha­dụ

A.

Para oruchafiaeth, ne deilyng­daụd a caiph dyn ụrth i ụneuthur yn Gristion?

D.

ef ai gụnair yn fab y ben­dith, [Page 6] yn anssoḍfab duụ, ag yn etifeḍ i deyrnas nef.

A.

beth am hụnnụ nid ydyụ yn Gristion?

D

mae ef yn trigo yn fab y meḷdith yn gaethụas i ḍiaụl ụed' i‘ḍifeḍu o‘tifidiæth nef.

A.

beth ydyụ Crist?

D.

Gụir duụ, a gụir ḍyn.

A.

beth y mae‘r gair, Crist, yn i arụyḍhau yn y gymraeg?

D.

einniaụg.

A.

Paham?

D.

arfer oeḍ einniaụ brenhinoeḍ ụrth i co rōi, ag ennaint corphorol, ag feḷy yphe­iriaid, a phrophụydi ụrth i hurḍaụ ag am fod Crist yn frenin yụch bē pob brenin, yn ypheiriad yụch hen pob ypheiri­ad, yn brophụyd yuch ben hoḷ brophụydi, ef ai einniụyd ef, ag ennaint yụch bēn pob ennaint. s. a chyflloụnrụyḍ gras yr yspryd glan, am hyn y gelụir ef Christus, ne vnctụs. s. yr einniaụg: o herụyḍ darfod i einniaụ ef ag ennaint mor o­didog, [Page 7] ag meụn graḍ berpheithiach no neb araḷ.

A.

beth y mae y gair, Iesu, yn i arụydhau?

D.

Ceidụad am iḍo yn ca­du ni, trụy yn prynnu ai ụyrthf aụr ụa­ed, a dysgụ ynny lụybr y gadụedigaeth s y phorḍ i baradụys ụrth roḍi athraḍ­aeth Gristnogaụl in hyphorḍi ni

A.

Pa beth yu‘r athraụaeth Gristnogaụl.

D.

yr aḍysc a roes Crist yn harglụyd ni yn­ny ai ụeithredoeḍ yn gyntaf, ag vedi hynny ai eiriau: athraụaeth Gristnogaụl hefyd yụ honno a ḍarfu i‘r gatholig fam eglụys Rufain i dysgu ynny.

Anghoriad.

A. ụrthynny fy meibion ystyriụch mor rhụymedig ydych i ḍilyn yn harglụyḍ ni Iesụ Grist, ar ych gụeithredoeḍ, gan gymryd onoch ych henụ gātho, a rhoḍi onofo ychụi gymaint o ras.

Ynghlch aruyḍ y grog lan.

A.

Paryụ nod, ne arụyḍ syḍ i adnabod Cristion ụrtho?

D.

Arụyḍ y grog lā.

A.

Paham?

D.

am i Iesu Grist yn prynnu ni arni.

A

Pafoḍ y mae gụneuthur yr arụyḍ yma?

D.

yn gyntaf rhoḍer y ḷaụ ar y penn, ag ar y corph, ụedi hynny ar yr yscụyḍ assụ a‘r ḍehau, tan ḍoedyd: yn enu‘r tad, a‘r mab, a‘r yspryd glan. amen. Iesu.

A.

Paham y gụnair hi yn y moḍ yma?

D.

i arụydhau dau o faụr ḍirgeleḍiō duụ, vn o‘r santeiḍiaf drindaụd, ar aḷ ynghylch ymgnoụdoliaeth yn harglụyḍ ni Iesu Grist.

A.

Pafoḍ?

D.

ụrth henụi‘r tad ar y penn, yr arụydheir i fod el yn ḍechreuad i‘r personau e­raiḷ: ụrth hennụi‘r mab ar y corph yr yspyssir i ḍyfod ef o‘r tad; Pan gofbeir yr yspryd glan, o‘r naiḷ yscụyḍ i‘r ḷaḷ, y [Page 9] deueḷtir i fod ef yn dyfod o‘r tad a‘r mab

A.

Paham y gụnair hynn yn gro­es?

D.

i arụyḍhau y dirgeleḍ ar aḷ. s. ḍarfod i fab duụ ụedi ụneuthur yn ḍyn yn prinnu ni ar groes. Ag feḷy y geḷir doedyd fod aruyḍ y grog a ụnaụn ni ụrth ymgroessi, megis crynodeb o‘n phyḍ ni:

A.

Pabryd y dylem arfer yr arụyḍ y­ma?

D.

Pan dechreuom ụaith yn y byd, a phan fythom meụn cyfyngdid ag angen: yn anụedig ụrth godi o‘n gụely, ụrth fyned aḷan o‘r ty, ne ụrth fynd i‘r eglụys, ne i fụytta ne i gyscu.

A.

Pahā cyn fynyched?

D.

er mụyn cael gan ḍuụ ymhob ḷe ag amser yn cadụ rhag yn gelynion, hefyd i drefnu ag vnioni pob gụeithred a ụnelom, yn anrhydeḍ a gogoniant i duụ.

A drybeḍ o arfer, a henafiaeth arụyḍ y groc fendiged.

Yr ydys yn arfer arụyḍ y groc lan o ḍe­chreuad y gyssefiniaụl eglụys, ag o āser yr abostolion hyd yroụron: mal y mae‘n eglur ụrth lyfr Tertullianus, de co­rona militis. yr vn peth a dystlaetha, S. Aụgụs. Serm. de tēpore 181. in Euā gelium Ioan. tract. 118. in psal. 30. cō ­cione 2. in psal. 141. Et de Sanctis sermone 19. S. Chrysost. Homel. 13. in epistolā ad Philip. S. Basilius, yn i lyfr de spiritu Sancto cap. 27. hefyd ụrth fedyḍio, a rhoi‘r bedyḍ escob, annoger a chynghorer nhụy pan vnelont arụyḍ y grog, i ụneuthur ef, yn hybarchus, dā ystyriaụ yn dụsn y dirgelion a ḍoedas­som, a gụilio rhag gụneuthur hynn heb fedụl am ḍim mal y ma‘er arfer fynychaf ymysg ḷaụer.

Ynghylch y diụeḍ a‘r pennod syḍ i Gri­stion a‘r pethau angenrheidiaụl iḍo i gyrheuḍyd i bennod.

A.

Mae‘r diụeḍ y creaụḍ duụ ḍyn iḍo?

D.

i Garu, ag i ụasuaethu duụ yn y byd yma, achụedi oi ụeled, ag oi fụynhau yn, y byd syḍ yn doụad, a hynny a fyḍ yn gụnfyd pennaf ni

A.

Pessaụl peth syḍ raid i Gristion ụrthynt i aḷu cyrrheu­ḍyd y pennod a ossodes duụ iḍo, ag oi gadụ drụy i cynhorthụy.

D.

Pedụar, phyḍ, gobaith, perpheithserch a gụeith­redoeḍ da.

A.

beth yrydychụi yn i gre­du trụy nerth y phyḍ?

D.

Cubl o hynny mae‘r santaiḍ fam eglụys Rufain yn i ḍal, ai gredu: ag yn bennaf hynny syḍ yn y gredo.

A.

doụed y gredo

D.
[Page 12]
Credo in Deum patrem omnipo­tentem, creatorem cœli et terræ.
Et in Iesum Christum filiū eius vnicum, dominum nostrum.
Qui conceptus est de spiritu Sancto, Natus ex Maria virgine.
Passus sub Pontio Pilato, Crucifixus, mortuus, & sepultus.
Descendit ad inferos, Tertia die resurrexit a mortuis.
Ascendit ad cœlos, sedet ad dex­rā dei patris omnipotentis.
Inde venturus est Iudicare vi­uos & mortuos.
Credo in spiritum Sanctum.
Sanctam ecclesiam Catholicam: Sanctorum cōmunionem
Remissionem peceatorum
Carnis resurrectionem
[Page 13]
Vitam æternam. Amen.
A.

doụed hi yn Gymraeg.

D.
Ruy fi‘n credu yn Nuụ‘r tad, hoḷaḷḷuaụl, creaụdr nef a daear.
Ag yn Iesu Grist i vnig fab ef yn harglụyḍ ni.
Yr hụn a ennilụyd o‘r ysbryd glā, a anụyd o fair forụyn
A ḍioḍefoḍ dan Bontius Pilatus a groeshoeliụyd, a fu farụ ag a glaḍụyd
A ḍiscynoḍ i vphern, y trydyḍ dyḍ a godoḍ a farụ i fyụ
A‘scynoḍ i‘r nefoḍ, sy‘n eisteḍ ar ḍeheulaụ duụ‘r tad holaḍuaụl.
Oḍiyna a ḍaụ i farnu‘r byụ a‘r meirụ.
Rụy fi‘n credu yn yr ysbryd glan.
Yr eglụys lan Gatholig, cyphredi­nrụyd y Saint.
[Page 14]
Coḷyng dod pechodau.
Adgyfodiad y cnaụd
Y boụyd tragụḍol. Amen.
A.

Beth a ḍoedasommi ynaụr?

D.

y Gredo.

A.

Pụy a ụnaeth y Gredo?

D.

y deuḍeg Abostol, pan oeḍen ar fyned i bregethu‘r efengil trụyr hoḷfyd.

A

Paham y gụnaethont hụy hi?

D

I‘n dyscu a‘n hyphorḍi ni yn y phyd.

A.

Beth ydis yn i gynhụyso yn y Gredo?

D.

deuḍeg pụnc .s. deuḍeg rhan benaf o‘r phyḍ

A.

At bụy mae‘n ꝑthyn y pynciau yma?

D.

y cyntaf at y tad: a‘r chụech pụnc, sy‘n canlyn, at y mab; a‘r pum diuaet­haf at yr ysbryd glan.

Dosparth, ne ysponiad y Gredo.

A

ysponiad 1 1 ymhụy rụy ti yn credu?

D.

Rụy fi‘n credu yn Nuụ, yr hụn yụ‘r santei­ḍiaf [Page 15] drindod.

A.

beth Ʋy ti yn i ḍealt vrth ḍoedyd y santeiḍiaf drindod?

D.

y tad, a‘r mab, a‘r ysbryd glan, tri pher­son ag vn duụ yn vnig

A.

a ydiụ‘r tad yn ḍuụ?

D.

ydiụ.

A.

a ydiụ‘r mab yn ḍuụ?

D.

ydiụ A. a ydiụ‘r ysbryd glan yn ḍuụ?

D.

ydiụ A.a oes tri duụ?

D.

nag oes, er i bod yn ụahanedig berson­au, nid oes er hyny ond vn duụ

A.

Pa­ham y gelụir ef, duụ?

D.

am i fod yn gụeled, yn arlụy ag yn trefnu pob peth, megis arglụyd a ḷyụodraethụr o‘r cụbl

A.

Mae‘r gyphlybiæth a roụchụi ymy o‘r santeidiaf drindod?

D.

Mae oi ụeled ynomi a creaụd duụ ar i lun a ḍe­lụ i hunan, un enaid yn vnig, a thri gaḷu. s.deuaḷeḍ i ḍeualt, cofeḍ i ḍal meụn cof y pethau a ḍeuheḷir, eụylysseḍ, i chụennychu y pethau a ḍeuhaḷer ag a [Page 16] fedylier i bod yn ḍa. Ag megis y mae‘r enaid yn vn o sylụeḍ, yn dri o aḷu, feḷy y mae‘r santeiḍiaf drindod yn vn duụ, ag yn dri pherson.

A.

Pụy a greaụḍ y nef a‘r ḍaear o ḍim?

D.

duụ‘r tad, a‘r mab, a‘r yspryd glan.

A.

Paham y ge­lụir ef hoḷaḷuaụl.

D.

Am i fod ef yn a­bl, yn vnig ai eụyḷyssed ag ai aḷueḍ i hun, i ụneuthur ag i ḍadụneuthur pob peth.

A.

ysponiad 2 2a ụyti yn credu yn Iesu Grist?

D.

ydyụ

A.

Pụy yụ Iesu Grist.

D.

Mab duụ‘r tad yn gymaint ag yn gydraḍ ai dad o rym, doethineb, a da­ioni: ag ai gụnaeth i hun yn ḍyn, er yn mụyn ni, yngrhoth yr ogoneḍus fair foruyn.

A.

ysponiad 3 3Pa foḍ y gụnaethbuyd hynn?

D.

nid trụy ụaith dyn, eithr trụy nerth a rhad yr yspryd glan tan drigo oni hi yn forụyn cyn escor, ụrth escor, [Page 17] ag ynol escor. ag feḷy yn y nef nid oes gē tho mo‘r fam, ar y ḍaear nid oes gan­tho mo‘r tad.

A.

ysponiad 4 4 Paham y rhoessụ­yd ef ar y groes, a pham y bu ef farụ ag i claḍụyd ef?

D.

o gariad i ni, i‘n rhyḍhau aḷan o‘n pechodau, a dụylaụ‘n gelynion: a‘n hachub rhag angau tra­gụḍaụl, ag vphern, ag ermụyn hynn i prynnoḍ ef ni ai ụerthfaụr ụaed, ar y prenn croes.

A.

Ʋrthyny roeḍem yn aḷ­dudion, ag ef a ḍarfu iḍo yn prynu ni.

D.

oeḍem yn ụeision i‘n pechod nyhun, ag yn aḷdudiaid i ḍiaụl.

Rhybyḍ.

Yma geḷir dangos a datglurio pechod yn tad cynta ni, a‘r phrụythau, a‘r ma­ḍr drueni syḍ ụedi dyfod drụy‘r pec­hod hụnụ, ag mor faụr rụymedig ydy­m i Grist yn prynnụr.

A.

ysponiad 5 5 Pa beth a ụenaeth Crist yn arg. N. pan ḍiscynoḍ ef i uphern?

D.

ef a dynoḍ aḷan eneidiau‘r Patrieirch a‘r tadau bendigedig, a‘r eneidiau santaiḍ oeḍent yn i limbo, yn aros dan ydrych am i doụediad santaiḍ ef.

A.

Paḍe­lḍ y codoḍ ef y trydyḍ dyḍ?

D.

E godoḍ o farụ i fyụ meụn corph ag enaid go­neḍus mal na bytho mụy farụ.

A.

Pa­ḍelụ dyrchafoḍ ef i‘r nef, ag y mae‘n eisteḍ ar ḍeheulaụ ḍuụr tad?

D.

ysponiad 6 6 E ḍyrchafoḍ ụedi deugaī nhiurnod uchlaụ pob nef, a‘r hoḷ angyliō, drụy i rym, ai aḷu i hunan, yn ḷe mae‘n trigo yn i faụr ogoniant, megis mab duụ.

A.

ysponiad 7 7Paḍelụ daụ ef o diyna i farnu‘r byụ a‘r meirụ?

D.

Dyḍ y farn yr hụn a fyḍ yn niụed y byd, ef a ḍaụ o‘r nef meụn moụroliaeth, a gaḷu, a‘r yngylion a‘r saint [Page 19] yn ụaetio arno, i farnụ‘r hoḷ ḍyniō, ag i roi i bobun yn ol i gụeithredoeḍ.

A.

ysponiad 8 8 A ụyti yn credu yn yr yspryd glā.

D.

Ydụyf, i fod ef yn ụir ḍuụ y trydyḍ persō o‘r santiḍiaf drindod, yr hụn syḍ yn rhoi oi ras, ai roḍion i‘r santeiḍiol eglụys Gatholig.

A.

ysponiad 9 9Pa beth yụr santeiḍiol eglụys Gatholig?

D.

yr hoḷ gyniḷeidfa o‘r phydlon gristnogion, syḍ yn meḍu, ag yn cyphesu phyḍ Iesu Grist, a phen hon yụ Crist i hunan, a‘r pab i fi­car ar y ḍaear.

A

a‘r neb nid vfyḍha i‘r eglụys, pa niụed aḍaụ iḍo?

D.

y sa­ụl ni fyn mo‘r eglụys yn fam, ni chai­ph ef mo ḍuụ iḍo yn dad.

A.

Beth ụyti yn i ḍealt ụrth ḍoeḍyd cyphredinrụyd y saint?

D.

fod cụbl o‘rhain a‘r y syḍ yn yr eglụys yma, yn cael rhan ynghyd o‘r aberthau, a‘r sagrafenau, ag o‘r gụe­thredoed [Page 20] da yr ydis yn i ụneuthur yn­ḍi hi megis ag y mae meụn vn corph, vn aelod yn gyfranol o rhinụeḍ a ga­lụ‘r ḷaḷ.

A.

Paḍelụ y geḷir rhyḍhau pe­chodau?

D.

ysponiad 10 10 E ryḍheir pechodau drụy ryglyḍiad dioḍefaint yn harg. N. Iesu Grist a‘r sagrafennau bendige­dig syḍ gyfryngau i hynny, trụy ụneu­thur o honomi y pethau ydym rụyme­dig.

A.

A‘r neb ni aḷ gymeryd y sacra­fenau?

D.

Digon iḍo i eḍuned, ai eụlys oi cymeryd, dā ụneuthur cimaint ag a ḷo: a hynny mae ef yn rhụymedig oi ụn euthur.

A.

ysponiad 11 11 Paḍelụ y byḍ cyfodiad y cnaụd.

D.

Dyḍ y farn y cyfyd pob marụ yn i gorph ai enaid, y rhai da yn ogonedus, ag yn deg, a‘rhai drụg yn ụrth­ụyneb i rhain. s. yn hagar, ag yn druain Yma geḷir espysu a dangos gogoniant [Page 21] yr adgyfodiad, a‘r cyrph gogonedus, a chynysgeḍau‘r eneidiau. & cet.

A.

ysponiad 11 12 Pa beth yụ‘r boụyd tragụḍol?

D.

Gogoniant paradụys. s. gụeled a mụynhau duụ i gael yn dragụḍol bob daioni; a heb ḍim drụg, i‘r ḷe hūn yr aiph y rhai da, a‘rhai drụg ant i dan a phoenau tragụḍol yn uphern.

A.

a phụy sy‘n my­ned i boenau‘r purdan?

D.

Eneidiau‘r heini a fuont farụ yngras duụ, ag ni ḍarfu iḍynt ụneuthur cubliaụn am i pechodau: a chụedi iḍynt ụneuthụr i penyd deledus nhụy a ganfyned i bara dụys.

A.

beth yụ doedyd. Amen.

D.

fely i bo ụrth hyny fy feibion ymorolụch yn ḍyfal am ụasnaethu yn har. N. Iesu Grist, fal y byḍoch ymysc y da ai ḍetholion ef, ag nad eloch ḍim cida‘r drụg i uphern.

O‘r ail beth anghenrheidiaụl i Gristiō se‘f yụ hyny, o ohaith.

A.

beth ydychụy yn i ḍysscụyl gan duụ, drụy obaith, syḍ gennych arno?

D.

y boụyd, a‘r einioes dragụḍol. ag i enniḷ bonn, gras duụ syḍ bennaf, ynol hụn mae‘r rhyglydiannau, syḍ trụy nerth yr vnrhyụ ras o‘n rhan ni yn dyfod, yn help faụr

A.

beth syḍ raid ụrtho i yniḷ y pethau ydym yn i gobaith?

D.

ymysc eraiḷ Gụeḍi syḍ anhepcor.

A.

pa ụeḍi mæ‘r eglụys yn i ḍyscu i ni?

D.

y pader Aue Maria, Salue regina, ag eraiḷ

A.

dyụed y pader.

D.

Pater noster, qui es in cœlis, sanctificetur nomen tuum: Ad­ueniat regnum tuum, Fiat voluntas tua, sicut in coelo & in terra. Panē no­strum quotidianum da nobis hodie. Et dimitte nobis debita nostra sicut et nos [Page 23] dimittimus debitoribus nostris, Et ne nos inducas in tentationem sed libera nos a malo, Amen.

A.

pa un yụ‘r gofy­niad cyntaf?

D

hụn yụ ef, yn tad ni yr hụn ụyt yn y nefoeḍ: santeiḍier dy henụ di. yr ail arch yụ; delid dy deyrnas di, y 3 arch yụ, gụneler, ḍy‘ụḷys di, megis yn y nef, hefyd a‘r y ḍaear. y pedụareḍ, Dod i ni heḍiụ yn bara beunyḍol. y pumed dysyfiad yụ, a maḍe i ni yn dyle­dion, megis ag yr ydymine yn maḍe i‘n deledụyr, y chụeched erfynniad yụ, ag na ḍụg nyni i brofedigeth. y seithfed arch yụ, ōd gụared ni rhag ḍrug. Amē.

Ynghylch y ụeḍi o‘r pader.

A.

pabeth a ḍarfu i ni ḍoedyd y naụr?

D.

y pader.

A.

pụy a ụnaeth y pader?

D.

yn harg. N. Iesu Grist, yr hụn ai doe­doḍ ai enau i hunan.

A

Paham y gụ­naeth [Page 24] ef y pader.

D.

i ḍyscu i ni ụeḍio?

A.

ụrth bụy yr ydis yn doedyd yn y ụeḍi honn?

D.

ụrth yr arglụyḍ ḍuụ.

A.

A oes gụeḍi araḷ ụeḷ na hi?

D.

nag oes, hon syḍ odidaụg ag yn rhagori, yn gyntaf o achos gụneuthur o Grist. yn harg. N. y hi ai thraethu oi ḍiscihliō; a hefyd am yn bod ni yn gofyn yn hon y pethau penaf a ḍylem i gofyn.

Ysboniad y pader.

A.

beth ydis yn i ụneuthur yn y rhan gyntaf yma; pater noster qui es in cœ­lis?

D.

yrydis yn dyrchafu‘r medụl at ḍuụ, drụy ostyngeiḍrụyḍ a gobaith ar fod yn abl i ofyn.

A.

Paham y‘rydymi yn galụ duụ yn dad.

D.

am ụrth i alụ ef yn dad yrydymi yn galụ in cof i faụr ga­riad ef i ni, ag feḷy yrydymi yn dymuno arno drụy faụr goel, a mụy gobaith.

A.
[Page 25]

Paham y doedụn, yn tad nid, ag nid, fy nhad?

D.

am i fod ef yn dad i baụb, a ninau i gyd yn frodyr, ag feḷy ni a ḍy­lem garu i gilyḍ megis brodyr, a meibioni un tad syḍ mor daionus.

A.

ple mae duụ?

D.

y mae ef yn y nef, ag ar y ḍaear, ag y mhob ḷe.

A.

ụrth hyny pahā yr ydymi yn dœdyd, yr hụn ụyt yn y nefoed?

D.

o achos mae yna y gụelir ụyneb duụ, yn ḷe y mae yn gụlad ni, ag yna y mae ef yn dangos yn fụy i aḷụ ai faụ­roleth.

Yma geḷir doedyd ynghylch cariad y nef, a gogoniant nefaụl, a distyrieth pathau daear aụl.

A.

pa beth ydym yn in ofyn yn y saith syn canlyn?

D.

yn gyntaf yr ydym yn erchi urḍuniant, a gogoniant duụ ynol hynny y dedụḍụch y gụnaethbụyd ni er i [Page 26] fụyn, yn y trydyḍ ḷe; y pethau pēaf syḍ in cynhorthụy, oi gyrheuḍyd ef, ai fe­ḍianu.

A.

ymha un y‘r erchir gogoniāt duụ?

D.

yn y cyntaf, ụrth ḍoedyd santeiḍier dy henu di.

A.

ag am yn dedụḍụch ni?

D.

yn yr ail sy‘n doedyd: delid dy deyrnas di. s. iḍo ef deyrnasu arnomi yma drụy ras, a chụedi drụy ogoniant.

A.

Pryd na thernasa duụ arnom, pụy a deyrnasa?

D.

yn gelynion ni. s. y byd, ycna­ụd a‘r cythrel.

A.

ar pethau anghērhi­diol er aiḷ ymhle, yr ydis yn i gofyn?

D.

yn y pump arch eraiḷ.

A.

beth feḷy ydym yn i ofyn yn i drydeḍ arch sy‘n canlyn?

D.

ar ụneuthur honomi eụḷys duụ, yma ar y ḍae ar, megis ag y mae‘r angylion a‘r gụynfydedig yn gụneuthur yn y nef

A.

yn y be dụareḍ?

D.

ar roi i ni fara a chynnheiliaeth corphoraụl a‘r bara ysbrydaụl [Page 27] yr hụn yụ‘r santeiḍiaf sacra­fen, ai ras ef cid' ag eraiḷ oi roḍion.

A.

yn y bymed?

D.

ar faḍe hono ef i ni yn pechodau, an cā ụedau megis yr ydym minnau yn maḍe i eraiḷ; a gụneuthur feḷy o duụ i ni fal i gụnelominau iḍy­nhụy.

Yma y geḷir gụneuthur esòrtiad i fa­ḍe camau.

A.

yn y chụecheḍ?

D.

ar na oḍefo i ni syrthio meụn profedigaethau, ōd rhoi i ni gynhorthụy oi gorchfygu ag i gael y maes arnynt, ag i ochelyd phechu.

A.

yn y seithfed?

D.

ar yn rhyḍhau, a‘n a­chub ni rhag pob drụg. s. i‘r enaid, a‘r corph, a rhag y cythrel yn gelyn ni.

A.

pa un yụ‘r drụg mụyaf y mysc pob dr­ụg?

D.

pechod.

A.

pụy un syḍ ụaethaf a bryntaf, pechod yntau cythrel?

D.

gụae­thaf [Page 28] o laụer yụr pechod, o herụyd bod y cythrel ụedi i ụneuthur mor frụnt drụy‘r pochod yn unic.

Anghoriad.

Yma geḷir doedyd fal yr oeḍ y cythrel drụy i naturieth yn deg &c. Ag am hyny os nyni a‘mgadụn rhag pechod, ni a fyḍụn deg hefyd yn gyphelib i‘r yngylion &c ag ynghylch brynti a budreḍi pechod &c.

A.

Amen, fely bo. yr ydym yn gobaith yn nuụ ar ganhiadu honof i ni y cubl drụy gyfryngiad i fab ef, yr hụn a ḍyscoḍ i ni‘r ụedi yma.

O‘r aue Maria.

Aue Maria gratia plena dominus te cum, benedicta tu in mulieribus & benedictus fructus vētris tui Iesus. Sancta Maria mater dei ora pro nobis peccatoribus nunc & in hora mortis no­stræ. Amen.

[Page 29]

Henphych ụeḷ fair gyflaụn o ras, ma­e‘r arglụyḍ gidaethdi: bendigedig ụyti ymysc y merched, a bengidedig yụ phruyth dy grothdi Iesu. O Santeiḍiol fair, mam duụ gụeḍia drosom bechaduri­aid yroụron, ag yn aụr angau. Amen.

A.

beth yụ hynn a ḍoedasoni y naur?

D.

yr aue Maria.

A.

Pụy a ụnaeth yr aue Maria.

D.

yr angel Gabriel pan ḍoe­th i gyfarch yr arglụyḍes fair, ag e fụ­rụyd rhai o eiriau Elisabeth santes, at gyfarchiad yr angel; a‘r eglụys hefyd a ḍodes darn at hynny.

A.

ụrth bụy yr ydis yn doedyd yn yr aue Maria?

D.

ụrth yr arglụyḍes fair?

A.

Pụy yu‘r ar glụyḍes fair?

D.

y hi yụ mam duụ mo­rụyn gyflaụn o ras, ag o bob rhinụeḍ ḍa brenhines nef, a daear, a‘n canḷaụ ni.

A.

Ple mae‘r arg: fair?

D.

yn y nef y [Page 30] mae hi.

A.

a phụy yụ hono sy‘n yr eglụ­ys

D.

delụ i honno syḍ yn y nef, i beri i ni i chophau hi, ag obligyd i bod yn ḍe­lụ iḍi hi, yr ydymi yn gụneuthur parch ag anrhydeḍ iḍi, er moliant ag a‘rḍu­niant iḍi hi, syḍ yn y nef.

A.

Pāy mae cimaint o ḍelụe i‘r arg: fair, a oes aml arglụydes fair?

D.

nag oes ond un yn unic yr hon syḍ yn y nef.

A.

Paham y gelụir hi yn Rhụfain yn rhyụ eglụys, mair o‘r drugareḍ, meụn eglụys araḷ, mair o‘r gyfared, yn rhyụ le araḷ, yr arglụyḍes fair o‘r diḍanụch, ag fely meun amrhyụ leoeḍ amryu henụau.

D.

ef ai gelụir hi, a chimaint o henụau, am aml ag amrafel ḍaioni y mae hi yn i ụneuthur meụn amryụ leoeḍ, megis mam ḍuụ, a mam y drigareḍ, ag am i bod hi yn gaḷu cimaint cida duụ.

A.
[Page 31]

beth ydis yn i ḍoedyd yn yr aue Maria?

D.

yr ydymi yn i chyfarch hi, ag yn i moli hi, dan yn gorchymyn nyhunan iḍi hi.

Esortiad.

Y drychụch feibion, ar fod honoch yn faụr ych goglyd ar yr arglụyḍes fair forụyn o herụyḍ ḷaụer o achosion.

Salue regina.

Salue regina mater misericordiæ, vi­ta, dulcedo, & spes nostra, salue. Ad te clamamus exules filij Eue. Ad te suspi ramus gementes & flentes in hac la­chrimarum valle. Eya ergo aduocata nostra, illos tuos misericordes oculos, ad nos conuerte. Et Iesum benedictū fructum vētris tui, nobis post hoc exi­lium, ostende; o clemens, o pia, o dulcis virgo Maria. Ora pro nobis sancta [Page 32] dei genitrix, vt digni efficiamur pro­missionibus Christi. Amen.

A.

beth a ḍoedasomi?

D.

y Salue regi­na.

A.

Pụy a ḍysgoḍ y Salue regina?

D.

y santaiḍ fam eglụys.

A.

Ʋrth bụy, r y­dis yn doedyd?

D.

ụrth y forụyn fair i hunan.

A.

beth ydis yn i ḍoedyd yn hon

D.

molianau eraiḷ i‘r forụyn fair, dā erchi hefyd i chynhorthụy ai help.

Ynghylch gueḍiau eraiḷ, a galụ ar y Saint.

A.

heblaụ‘r forụyr fair, oes gennych oglyd a defosiụn i saint eraiḷ?

D.

oes i baụb, ar y syḍ, megis annuylion duụ, a chyfrungụyr i ninau meụn gogoniant ond yn anụedig i‘r angel fyngheidụad ag i‘r sant syḍ o‘m henu.

A.

ag oi crei­riau hụynt hefyd?

D.

rụyfi hefyd in i hurḍunio hụynt, am fod o honynt yn [Page 33] deml i‘r yspryd glan, a bod yn ḍeledus iḍynt gael i cydunio a‘r eneidiau gogoneḍus.

A.

Para ụeḍi ydych yn i ụneu­thur attynt.

D.

yr heini ma‘er eglụys yn i ḍyscu, a‘r pater noster, a‘r aue Ma­ria hefyd‘er anrhydeḍ euḍynt.

A.

Pa­ryụ ḍeḍfau, ne ụediau ych arferedig oi gụneuthur pan eloch i‘ch gụelu?

D.

yn gyntaf rhoi arụyḍ y grog, a chụilio, a samio fyngydụybod ụedi hyny, doedyd y gyphes gyphredin, y pader, a‘r aue Maria, y Gredo, a Salue regina, a‘m defosiụnau eraiḷ.

A.

Pa foḍ yr ụyt yn samio dy gydụybod?

D.

yn gyntaf y ḍụyfi yn diolch i ḍuụ am y daioni a gefais. Ʋedi hyny, y ḍu‘yn ystyriaụ fy mhechodau, yn anụedig o‘r dyḍ hụnụ, dan gy­meryd ydifeirụch, a dolur am danynt, tan roi fy ḷaụn fryd ar veḷhau, a‘m [Page 34] emendio fy hunan, ag a‘m cyphesu, y­nol hynny y ḍụyf yn gofyn genḍuụ fa­deuaint am danynt trụy roḍi gofryd cyfan ag aḍuned na phechuyf mụy.

A.

beth a ụyti yn i ụneuthur y bore?

D.

y ḍụyfi ‘n diolch hefyd i ḍuụ am fyngha­dụ y nos hono, ag am ḍaioni erail, ag yn ophrymu iḍo fynghorph a‘m henaid a phob peth a ụnelụyf yn i ụasaneth bendiged ef, a hefyd y ḍụy‘n doedyd fy myfyriaụl a‘m ḷefaụl dyfosiụnau era­iḷ .s. am calon ag am tafod.

A‘r trydyḍ peth anghenrhaid i Gri­stion?

D.

Cariad perphaith.

A.

Pa beth a ḍylemi‘garu a‘r cariad perphaith?

D.

duụ uụch bē pob peth, a‘n cymydog megis nyni nyhunan, er mụyn duụ.

A.

Pa ḍelụ uụch ben pob peth?

D.

am y dy lemi yn gynt oḍe marfoleth nai ophen­dio [Page 35] ef, a hefyd ni a ḍylem gadụ i hoḷ orchmnau bendigedig ef dan i farnu ai brisio ef yn fụy na dim araḷ.

A.

Pa ḍe­lụ cerụchi ych cymydog megis chụich hunan.

D.

dan ḍymuno a gụneuthur iḍo ef hyny a fynem i ni nyhun, yn ol rhessụm, a chyfraith ḍuụ?

A.

Paham yḍych yn doedyd, yn ol rhessụm a chyfraith ḍuụ?

D.

oblegid, os yn amgenach, ni fyḍe hyny eụḷysu iḍo ynḍa, ond eụlysu yn ḍrug iḍo megis i ni nyhunan.

Rhyhyd.

Yma geḷir damleụchu faint daioni a phrụyth ꝑpheithserch, a‘r graḍau syḍ iḍo .s. i bụy y dylem ḍangos serch, a cha­riad chụaneg nog i eraiḷ. O‘r pedụa­reḍ peth syḍ raid i Gristion ụrtho. s. o veithredoed da.

A.

beth yụ‘r pedueryḍ syḍ raid i Gri­stion [Page 36] ụrtho?

D.

Gụeithredoeḍ da, achos ụedi dyfod i oedran medru barnu, nid ydiụ‘r phyḍ ḍigon heb ụeithredoeḍ da.

A.

Pafath rai yụ‘r gụeithredoeḍ da?

D.

y rheini a yḍis yn i gụneuthur ụrth ressụm, ne o ḍoedyd yn ụel ụrth eụlys duụ, ag i fod onynt yn rhyglydus rhaid i gụneuthur meụn cariad perphaith.

A.

oni thal yrheini ḍim a ụneler aḷan o gariad perphaith?

D.

na thalan, i heudu gras a gogoniant, ond nhụy a helpā i beri‘r arglụyḍ drụyḍyn nhụ roi i ni iechyd, a daioni bydaụl ag in tyụsu ni i adnabod yn pechod, ag i gymeryd y di­feirụch amdano.

A.

Paryụ fath rai yụ‘r gụeithredoeḍ da.

D.

y rheini syḍ vedi gosod yngyrchmynau duụ, ag yn y ḷaiḷ o‘r eglụs, yngụeithredoeḍ y dru­gareth a rhinụeḍau eraiḷ.

A.

Doeduch [Page 37] y deg gorchumyn:

D.

1. Myfi yụ dy ar­glụyḍ ḍuụ di, na fid gennyt ḍuụ ar aḷ garfymron i. 2 Na chymer enụ duụ yn ofer. 3 Delid yn dy gof santeiḍio‘r gụiliau. 4 Anrhydeḍa dad a man. 5 Na laḍ. 6 Na ụna odineb. 7 Na lydratta 8 Na chamdystlaetha. 9.10 Na flysia duy, ne vraig dy cymydog nai vas, nai laụ forụyn, nai ych, nai assen, na dim o‘r eiḍo ef.

Dosparth ar y deg gorchymyn.

A.

ymhale yrhoesduụ ydeg gorchumyn yma?

D.

yn gyntaf, yn y gyfraith hen, a chụedi hyny, Crist yn harg. N. ai cada­rnhaḍn hụy yn y gyfraith neụyd.

A.

Pa ḍelụ y rhennir hụynt?

D.

y tri cyntaf sy‘n perthyn at vrḍuniad duụ, a‘r sa­ith eraiḷ at les y cymydog.

A.

Paḍelụ mae‘r tri yma yn perthynu at anrhy­deḍ [Page 38] duụ?

D.

am i fod ef yn eụlysu i ni ụasnaethu ef, yn gyntaf a‘n calon ụedi hyny a‘n dafod, yn trydyḍ a‘n gụeith­redoeḍ.

A.

Pa foḍ i cadụn ni y gorchu­myn cyntaf?

D.

ụrth foliannu vn duụ yn vnig, ai aḍoli, ai ụasneuthu, a‘n hoḷ galon, ag ụrth ydrach, ag ymaros cael honomi yn hoḷ gyfareḍ an gobrụy gan­tho ef megis gen aụdr pob daioni.

A.

Pụy syḍ yn pechu‘n erbyn y gorchumyn yma?

D.

yrheini yn anụedig sy‘n gụneuthur gauḍuụiaeth, ofergoelion a pholineb erail o‘r fath, ar y syḍ yn erbyn i orḍuniant ef.

A.

Pa foḍ y cadụn ni‘r ail?

D.

drụy folianu, a diolch i ḍuụ a‘n tafod, a gofyn gentho ef y pethau syḍ raid i ni ụrth [...]nt.

A.

Pụy sy‘n pechu yn erbyn y gorchumyn yma?

D

Yn gyn­taf, yrheini syḍ yn blasphemio. s yn dir­mugu [Page 39] enụ duụ, ai saint. yn ail, yrheini sy‘n tyngu hyny nid ydiụ vir, a chyfion ag angēheidiol; yn drydyḍ, yrheini nid ydynt yn cyfloụni mo‘r aḍuned a ḍar­fu iḍynt i gụneuthur; ag eraiḷ nid ydynt yn rhoi parch deledus i enụ ḍuụ.

A.

Paham y doedụch, gụir, cyfion, ag an­ghenraid?

D.

am y dylai‘r ḷụ fod meụn gụirioned, fal na byḍo phụg, ne beth petrus: meụn cyfioụnder fal na bytho anghyfreithlon; meụn anhepcarụch, fal y byḍo peth anofer: Onid ef yrydis yn pechu yn erbyn y gorchymyn hụn

A.

a ụydosti vn gyfareḍ rhag tyngu mo‘r ynudon?

D.

gụn yn sicr: bod heb dyngu­byth.

A.

Paḍelo doedụchụi ụrth fynu gụirhau rhyụ beth?

D.

ie‘ne nag e yn sicyr, ne, yn vir, am nad ydiụ hụn lụ, ne dyngiad: a hyny a fo dros ben i hyn mụy [Page 40] nid yụ ḍa. Yma geḷir esortio yn er­byn blasphemau ag anudanau, a lyfo­eḍ mynych arferedig ag i gadụ aḍūed

A.

Paḍelu y cadụn ni y trydyḍ gorchymyn, yr hụn yụ, santeidio‘r gụiliau?

D.

ụrth ḍangos a‘r gụeithredoeḍ o ḍiaḷā, y phyḍ, a‘r cariad yr ydymi yn i dụyn yn yn calon.

A.

ymha beth?

D.

nid ụrth la­furio yn y dyḍ hụnụ ond ụrth vrando ypheren gyfa, megis y mae‘r eglụys yn ordeinio trụy ḍyfosion a dyfaluch, dan beri i‘r eiḍo ụrādo ypheren hefyd.

A.

a pheth mụy?

D.

e ḍylyd hefyd treilio‘r dyḍ meụn pethau a fythont ụasa­neth i duụ, megis ag e mae, gụeḍio, a darḷain lyfrau da, a gụneuthur gụeithredoed y drugareḍ.

Esortiad i gadụ‘r gụiliau, ag yn erbyn yrheini sy‘n i torri, ag yn i treilio me­ụn gụethredoeḍ drụg, ag ofer.

A.

Paḍelụ i cadụn ni y pedụeryḍ gor­chumyn yr hụn syn erchi aḍoli tad, a mam.

D.

nyni a ḍylē, vfuḍhau iḍynt, i perchi, i gụasneuthu i cymhorth, ai he­lpu.

A.

beth os eirch yn tad ni, i ni ụneuthur rhyụ bechod ne ḍoedyd rhyụ gelụ­yd, a fynechụi vfyḍhau iḍo?

D.

na fyn­ụn, am nad yụ rụymeḍig i vfuḍhau yḍo, yn erbyn duụ, ond yn y pethau syḍ gyfreithlon ag onest.

A.

Pesaụl amryụ dad syḍ?

D.

Padụar, yn gyntaf, y tad naturiol yr hụn a‘n enniḷod ni, a hefyd yn teidiau ni a gyfrifir yn dadau yma: yr ail tad yụ‘r tad ysprydol, megis y mae‘r opheiriaid, prelatiaid, ag athraụō, yn drydyḍ, rheolụyr y ụlad; yn bedụe­ryd, [Page 42] y‘r henụyr er mụyn i hoedran, ag ni a ḍylem anrhyḍeḍu paụb yn ol i raḍ ai stad.

A

beth a ḍylai dadau da i ụneuthur i‘r plant

D.

i dyscu, ai rheoli hụ­ynt, ag na chosbant monynt yn anrhy­symol, na gụneuthur yn rhy amụyl o honynt, ond pob vn o‘r ḍau ụrth bụyḷeḍ a rhessụm.

A.

Padelụ maei‘r gụas ymḍụyn tu ag at i feistr; a‘r dei­liụr tu ag at i arglụyḍ

D.

mal mab tu ag at i dad dan ụneuthur iḍo omes megis i un yn le yn harglụyd ni

A.

a‘r meistraid tu ag at i guasnaethụyr?

D.

megis tadau ụrth i plant, megis ụr­th frodyr yngrist

A.

Paḍelụ y cadụn ni‘r pumed gorchumyn?

D.

ụrth beidio ag eụyḷysu drụg, nai ụneuthur, i‘r cymydog a challō, na thafod na gụeithred dan ḍụyn i‘n cof, i fod ef ved‘i ụneu­thur [Page 43] ar lun a delu ḍuụ.

A.

Paḍelụ ca­dụn y chụeched?

D.

yn yr vnphunyd ụr­th pho pob anonestrụyd, nid yn vnig ar ụeithroeḍ, ond hefyd, ar dafod, a challō megis y ḍydis yn gorchymyn yn y na­ụed.

A.

Para gyfareḍ a‘rferụn ni i aḷu cadụ‘r gorchumyn yma?

D.

ḷaụer, ond ymysc eraiḷ y pump yma, yn gyntaf, bod yn rheolus ụrth fuyta, ag yfed, yn ail, pho cyfeḍach a chymdeithas ḍrụg, y trydyḍ gochel doedyd geiriau, ne ga­niadau serth, nai gụrādo, yn gimaint ag y gaḷon ymochel: y pedụeryḍ, mynych arferu‘r sacrafenau santeiḍiaf y py­med, gofyn pureiḍrụyd diụair gen y santeidiaf forụyn fair, ar iḍi hi gael gen ḍuụ i ganhiadu i ni.

A.

Paḍelụ y cadụn ni y seithfed?

D.

ụrth na chymerom, ag na ḍaliom, ag na ụnelon niụed [Page 44] i ḍa vn araḷ drụy drais, ne drụy somi­ant, nag ụrth roi na help, na chyngor, nag achos yn y byd i vn araḷ oi ụneu­thur. Yma y geḷir anghori, na dalier, da o‘r eiḍo eraiḷ, ne gyflog, y cyflogḍyn: a gochel fod yn chụaryḍion ag na ụne­lir bargeinion anghyfreithlon e‘r mụ­yn yniḷ drụy lygru‘r gydụybod, ag feḷy dylid ymgynghori yn y pethau a fo pe­trus, ag nid mynd rhagḍo megis daḷ; a hefyd i gyfloụni eụḷys y marụ yn i ly­thyr cymyn, cās ụrth dy fod ti yn mynd a da rhai erail gụilia nad elo diaụl a‘ th enaid tithe: a bod yn amyneḍgar meụn tylodi a gobaithio yn nuụ, y rhyḍ ef i ti y peth a fo rhaid i ti vrtho.

A.

Paḍelụ y cadụn ni yr ụythfed?

D.

na ḍoedom mor anụir, yn erbyn yn cymy­dog na furfurom, nag annirgelom be­chodau [Page 45] dirgel. O dieithr ụrth y neb y pyrthynai atto gụeirio ag amendio‘r camụeḍau hynny ne‘r mụyn rhyụ da­ioni araḷ, ag achos cymhesur. heb far­nu drụg am yn cymydog, na doedyd celụyḍ amdano: Ond yn gynt ḍoedyd yn ḍa, megis y dymuniti i eraiḷ ḍoedyd amdanat tithau.

A.

Paḍelụ y cadụn ni‘r naụed?

D.

ụrth na ḍisyfon ụraig vn araḷ, nag anone­strụyd araḷ. ag am hyn y mae‘n da ca­dụ‘r lygat rhag gụeled ofereḍ‘a go­chel pob achosian eraiḷ; cadụ‘r galon rhag medụl drụg, rhedeg at i ụedi, i geisio help i ụrthlaḍ a gorchfygụ y profodigaethau.

A.

Paḍelụ y cadụn ni y ḍegfed?

D.

ụrth na disyfon ḍa, na dim araḷ eiḍo‘r cymydog, drụy phorḍ ang­hyfreithlon, tan fod heb cynfigen ụrtho [Page 46] am y da syḍ gentho.

A.

Ymhessaụl vn y geḷir cynnụys y deg gorchumyn ym a ynḍynt?

D.

yn nau orchumyn cariad perphaith .s. caru duụ vụch ben pob peth, a‘r cymydog megis ef i hunan, er cari­ad ar ḍuụ ag feḷy, mae‘r hoḷ gyfraith ụed'i chynhụyso yn y melysber orchy­myn yma o gariad, yr hụn a drefno yn harglụyḍ ḍuụ i ni trụy i anherfynedig ḍaioni Amen.

Ynhylch Gorchmynion yr eglụys.

A.

Doụaid orchmynion yr eglụys?

D.

y cyntaf gụrando ypheren y gụiliau gor­chmynedig. 2 Ʋmprydio‘r graụys, ar dyḍiau er aiḷ gorchmynedig heb fụytta cig na gụener na saḍurn. 3 Cyphesu, yrhynḷeia, vnụaith yn y flụyḍyn. 4. Cymuno, ar yr hynḷeia, y pasc. 5. Talu‘r degụm.

A.

ambar a‘chosion y mae‘r e­glụys [Page 47] yn cadụ gụiliau‘r saint?

D.

yn gyntaf, i ogoni duụ yn i saint. yn ail, dụyn ar ḍealt i ni y gogoniāt y mae nhụy yn i gael yn y nef, yn drydyḍ in denu ni oi canlyn hụynt ụrth vybod i bucheḍ ai rhinụeḍau, yn beḍueryḍ, er mụyn feḷy i cael nhụy yn gyfryngụyr troson; yn bu­med, e fyn yr egluys vrḍuno‘r saint i phlant hi, megis y darfu idynhụythau vrdunio duụ, ai mam .s. yr eglụys.

A.

Paham y mae‘n arfer deḍfau eraiḷ ag anrhydeḍ amlygaụl?

D.

er mụyn mụyo barch, a gụeḍeiḍra yngụasāeth duụ; drachefn i gyphro‘r bobl i dyfosi­on, ag oi disgu druy‘r pethau amlyg a­ụl hyny i gyfeirio i medụl yn ḍyfal i, st­yriaụ‘r pethau syḍ oḍifeụn yn āụeledi gaụl yn drydyḍ; am yn bod ni ụedi ca­el gen ḍuụ gorph ag enaid ni a ḍylem [Page 48] feḷy i ụasneuthu ef, a phob vn o‘r ḍau. Yma geḷir rhybuḍio, i bod yn rhụyme­dig oi cyphesu, pan ḍelon i flynyḍoeḍ dy scresion. s. i oedran gaḷu barnu rhụng drụg a da: A chụedi hyny bara amser y dylent gymuno, a hyny yn anụedig o‘r hyn ḷeia unụaith yn y flụyḍyn, er bod yn ụeḷ o laụer i ụneuthyr yn fynych. &c.

O‘r saith brif bechod a elụir y saith bechod marụol.

A.

E ḍarfu i ni ḍoe dyd o‘r gụeithredo­eḍ da, manegụch ynaụr y saith bechod a elụir marụol

D.

y cyntaf yụ Balcheḍ 2 Cybyḍdra. 3 godineb. 4 Irḷoneḍ. 5 Glothineb. 6 Cynfigen 7 Diogi yrhain syḍ achos, a phēnau‘r ḷeiḷ, ag am hyn y gelụir hụynt pēnaụl, er gaḷu honynt veithiæ fod yn feḍeuaụl.

A.

Pa beth yụ pechod?

D.

Pechod yụ‘r peth ydis yn i [Page 49] dysyfu, yn i ḍoedyd, ne yn i ụneuthur yn erbyn cyfraith, ag eụḷys duụ.

A.

Pa ḍrug a vna‘r pechod marụal?

D.

ef a ụna goḷi duụ, ai ras a‘r gogoniant, a oeḍid ụed' i aḍo, ag a‘n gụna ni yn ḍeledụyr i boenau tragụdolyn vphern.

A.

Pahā y gelụir ef marụol?

D.

am i fod yn ḷaḍ yr enaid, ụrth beri iḍo goḷi boụyd y gr­as.

A.

beth y mae‘r pechod meḍeuaụl yn i ụneuthur?

D.

ni phair ef goḷi mo‘r gras, na heudu vphern: ond ef a ụna oiri ynghariad a gụasaneth duụ ag a hauḍa boen tros amser, a hefyd, y mae ef yn trụysio, ag yn gogụyḍo dyn i ụeu­thur pechod marụol.

Yma geḷir traethu goerthrymbụys pe­chod, dan anghori paụb i pho rhagḍo.

Ynghylch y saith sacrafen o‘r lā eglụys

A.

Pa beth araḷ syḍ raid i ụneuthur?

D.

rhaid i ni ụybod y saith sacrafen, ai cymeryd yn i hamser, pan archo, a phā ḍang oso yr eglụys i ni, A. dyụaid sacrafenau i santaiḍ fam eglụys. D. 1. Be­dyd. 2. Crysma ne fedyd escob, 3. sag­rafen yr aḷaụr. 4. Penyd. 5. Oleụ. 6. Vrḍe. 7. Priodas.

Dehengliad byrr ar y sacrafenau.

A.

beth a ḍarfụ i ni ḍoedyd?

D.

y saith sacrafen.

A.

Pụy a ordinioḍ y sacrafe­nau yma?

D.

Iesu Grist yn arglụyḍ N.

A.

i ba beth?

D.

i bardynu i ni yn pechodau, i gyfranu i ras a heudiāau i ḍi­oḍefaint ef, ag ymhob vn yḍydis yn rhoi amryụ ras neuḷduol: Ond mae‘n rhaid i cymeryd hụynt yn deilụng.

A.

i ba beth y gụsnaetha sacrafen bedyḍ?

D.

i ụneuthur dyn yn Gristion ag. yn fab i ḍuụ.

A.

Paḍelụ y gụneir hyn?

D.

am yn bod [Page 51] ni yn geni meụn pechod dechreuaụl yr hụn ydym yn i etifeḍio gen yn tadau cyntaf. ag y ḍydis truy‘r bedyḍ yn i ol­chi ef, a phob pechod araḷ i phorḍ oḍi­ụrthymi, ag yn rhoi gras a rhinụeḍau eraiḷ: ag feḷy yḍydis yn yngụneuthur ni yn feibiō ag yn etifeḍion o‘r boụyd tra gụḍol

A.

i ba beth y gụsnaetha sacra­fen Crysma yr hụn a elụir bedyḍ escob?

D.

i gymeryd gras, a nerth a grymhu­stra, yn erbyn yn gelyniō ni i gyphessu'r phyḍ a ḍarfu i ni i chael trụy‘r bedyḍ.

A

i ba beth y gụasnaetha sacrafen y gyphes?

D.

i gael gē ḍuụ feḍeuaint am y pechodau a ụnaethon ụedi yn bedy­ḍio.

A.

Paḍelụ y mae i vn ymbarotoi ụrth fyned iụ gyphessu?

D.

gḍnaed dri pheth, y cyntaf, dụyn oi gof yn ḍyfal y pechodau a ụnaeth, yr ail, bod gyntho [Page 52] ḍolur, ag ydifeiruch a laụnfryd na ḍy mchuelo mụy at y pechod, y trydyḍ, i cyphesu nhụy i gyd yn gyfa, ag yna gụneuthur y penyd a roes i dad enaid arnof.

A.

i ba beth y gụasnaetha sacrafen y‘r allor?

D.

i roi maeth ag i borthi‘r ena­id einom a gras ḍuụ ag oi ụneuthur yn vn ag efo, yn ail, rhag syrthio yn haụḍ meụn pechodau yn drydyḍ, er mụyn caphel pob perpheiḍrụyḍ.

A.

beth syḍ yn y santaid sacrafen o‘r aḷḷor

D.

e mae Iesu Grist yn arg. N. gorph ag enaid, feḷy fal y mae yn y nef yn cystal yn yr af­erḷaden ag yn y caregl, vedi i‘r yphei­riad gyssegru.

A.

a ydiụ‘r bara yn aros yn yr aferḷaden a‘r gụin yn y caregl vedi darfod i‘r ypheiriad gyssegru?

D.

nag ydynt o achos drụy rinụeḍ a nerth y geiriau y mae‘r bara yn troi yn gor­ph, [Page 53] a‘r gụin yn ụaed yn harg. N. Iesu Grist, yr hyn a ydis yn i ụneuthur yn yr ypheren.

A.

pa beth yụ‘r ypheren?

D.

yr ypheren syḍ cophaant a gụir rypresen­niad, o foụyd, dioḍefaint, a morfoleth yn harg. N. Iesu Grist, a chida hyny a­berth ụrth ophrymu yr vn Crist dros y byụ a‘r marụ ag feḷy nyni a ḍylem se­fyḷ oi gụrando yn ḍyfal ḍiesceulus ag yn ḍeḍfol.

A.

para foḍ y dylai vn i bry­pario i hyn fal y gaḷe yn deilụng gymeryd y santeidiaf sacrafen?

D.

myned yn deḍfol heb fod i gydụybod iụ gyhuḍo o bechod marụol ai gyphesu o‘r blaen. Yma geḷir guneuthur esortiad i fynych arfer sacrafenau‘r gyphes a‘r cumyn.

A.

i ba beth y gụasnaetha sacrafen yr oleụ?

D.

i gael gras yr ys bryd glā ag i scubu ymaith ụediḷion y pechodau [Page 54] oeḍ yn aros, ag i roi cyssur i‘r enaid dā roi iḍo obaith a nerth i ụrthlaḍ blin­der sy‘n dyfod trụy i glefyd a‘r cythrel.

A.

ag i ba betb hefyd?

D.

i gael iechyd y corph, pan ụelo yn arglụyḍ ni i fod yn gymhesur.

A.

i ba beth y gụsasnaetha sacrafen yr vrḍe?

D.

i roi aụdurdod a gras i‘r ypheiriad i gysegru‘r san­teidiaf sacrafen o‘r aḷḷor, ag i ryḍ­hau oḍiụrth bechodau, yr hụn beth ni eiḷ neb ond ypheiriad i ụnenthur.

A.

i ba beth y gụsnatha‘r sacrafen brio­das?

D.

i gael o‘r gụr a‘r ụraig ras i fyụ ynghyd, ag i feithrin i plant yn ogoneḍus i ḍuụ ag i amlhau‘r bobl gristnogion fal y bo fyth rai i vasneuthu duụ

A.

Padelụ y dyl ai‘r gụr a‘r vraig ym­dụyn ynghyḍ?

D.

y gụr a ḍyle garu, ag ārhydeḍu i ụraig, megis chụaer yngh­rist, [Page 55] ar ụraig berchi ag vfuḍhau oi gụr megis i vn yn ḷe Crist: a phob vn o honynt iḷ dau ynghyd a ḍylent gaḍu heḍụch vnoldeb. phydloneḍ a chariad perphaith, megis y mae rhụng crist a‘r eglụys.

A.

Doeduch y pethau eraiḷ sy‘n perthynu at ụeithredoeḍ da ne athra­ụaeth gristionaiḍ?

D.

y tair rhinụeḍ theolygaụl, phyḍ, gobaith a chariad ꝑ­phaith; y pedair prif rīụed, pụyleḍ, grymhyseḍ, cyfioneḍ, thymhereḍ. Saith roḍ yr ysbryd glan, rhoḍ o doethineb; o ḍe­aḷt, o gyngor, o rymhyseḍ, o ụybodeth, o hygareḍ, a rhoḍ o ofn duụ.

Yr ụyth dedụḍụch.

Dedụyḍ yụ‘r tylo dion o ysbryd, cans hụyntụy pie teyrnas nefoeḍ.

Dedụyḍ yụ‘r gụaredigion, cans ynhụy a feḍianan y ḍaear.

[Page 56]

Dedụyḍ yụ rheini sy‘n aḷar cās ynhụy a gan i cysurio.

Dedụyḍ yụ‘r rhein sy arnynt neụyn a syched cyfionder, cās nhụy a ḍiụeḷir

Dedụyḍ yụr trugarogion, cans yntụy a gan ḍrụgareḍ.

Dedụyḍ yụ‘rheini syḍ lan i calon, cans ynhụy a gan ụeled duụ.

Dedụyḍ yu‘r hedychụyr, cans; cant i galụ yn feibion i ḍuụ.

Dedụyḍ yu‘rheini sy‘n cael i hyrlid ai blino er mụyn cyfionder, canys

Ynhuy pie teyrnas nef.

Deudeg phrụyth yr yspryd glan.

Cariad perphaith. Lyụenyḍ. Hedụch, Goḍefeḍ. Ymarosrụyḍ. Daioneḍ. Cymụ­ynasseḍ. Gụareḍ. Phyḍ. Moḍustra. Cy­mgadụriaeth. Diueirdeb.

Saith ụeithred y drugareḍ gorforaụl.

Rhoi bụyd i‘r tlaụd neụnog. Rhoi diod i‘r tylodion sychedig. Diḷadu‘r noethi­on. Rhoi letty i, r peḷḷennig. Ydrych cleifion. Gofụyaụ cyrchrorion. Claḍu‘r meiru.

Saith ụeithred y drugareḍ ysprydaụl.

Rhoi cyngor da i eraiḷ. Cyfrụydo‘r anghyfarụyḍ. Rhybuḍio‘r pechodụyr: cy­surio‘r neb syḍ meụn blinder, a ḷuḍed. Made‘r cam a‘r niued a goụsom: Dụyn yn ḍioḍefgar yr helbul y mae eraiḷ yn i vneuthur i ni: gụeḍio duụ dros y byụ a‘r meirụ.

Pumtheg dirgeleḍ yr arg. Iesu Grist oi mefyrio ag i ḍoedyd lasụyr fair.

Y pump laụenchus a eḷir i myfyrio ụr­th fyned dros y paderau y ụaith gyn­taf, 1. Cennadụriaeth yr angel, pan [Page 58] eniḷụyd mab duụ. 2. Gofụyad Elisa­beth santes 3. Genedigeth yn harg. N. Iesu Grist. 4 Presenniad yn harg. N. yn y deml. 5. Pan gaed ef yn y deml ymysc yr athraụon.

Y pump dolurus oi‘ styriaụ ụrth fynd eilụaith dros y paderau.

1 Gụeḍi‘r arglụyḍ yn yr arḍ. 2. i sc­yrsio ụrth y piler. 3. i goroniad a‘r goron ḍrain. 4. Dygiad y groes i fynyḍ calfario. 5. i groeshoelio ai angau ar y groes.

Y pump gogoneḍus oi medụly drydeḍ ụaith yr eler dros y paderau.

1 Cyfodiad yn harglụyḍ ni. 2. I ḍa­ruchafiad ef i‘r nef. 3. Dyfodiad yr ysbryd glan. 4. Dyrchafiad yr arglụy ḍes fair. 5. I choroniad vuch ben yr hoḷ angylion a‘r dedụdion o‘r nef.

Pan ganer y gloch afi, ef a eniḷir me­ḍiānau ụrth ḍoedyd, ar y cāiad cyntaf

Angelus domini nunciauit Mariæ, et concepit de spiritu sancto. Aue maria &c.

Ar yr ail caniad.

Ecce ancilla domini, fiat mihi secun­dum verbū tuū. Aue Maria &c.

Ar y trydyḍ caniad.

Et verbum caro factum est, & habita uit in nobis. Aue Maria &c.

Moliant i duụ, ag in hargluyḍ ni Iesu Grist: ag i‘r santeiḍiaf forụyn Mair i fam ef. Amen.

FINIS.

Os chụenychai vn ụybod, pa le yn yr atraụaeth gristnog aụl y mae ceisio ystr ne destyn i bregethu, a chyfleu pob pre­geth yn i dyledus fan; e caiph gyfarụyḍid ụrth hyn syn canlyn a‘r rhif a ḍen gys y ḍolen.

  • Le i annog dyn i ḍilyn gụeithredoeḍ Crist. 7.
  • ḷe i ḍosparth pechod Aḍa, ag i ḍangos daioni yn prynnụr. 17.
  • Ynghylch gogoniāt adgyfodiad y mei­rụ. 21.
  • ḷe i anghori dyn i ụasnaethu duụ. 21.
  • O ogonian nefol, a distyrieth pethau daearaụl, 25.
  • ḷe i gynghori maḍau caman a ga­pher. 27.
  • ḷe i ḍangos brynti pechod, 28.
  • ḷe i annog paụb i ụedio ar yr arglụḍes fair. 31.
  • [Page 61]ḷe i ḍangos prụyth a graḍau cariad perphaith. 35.
  • Yn erbyn blasphemau, anudon, ag ofer lyfau. 40.
  • ḷe i cynghori cadu‘r gụiliau. 41.
  • Yn erbyn camattal da eraiḷ. 44.
  • ḷe i ḍangos gorthrymi pechod, ag i annog paụb i pho rhagḍo. 49.
  • ḷe i annog, ag i cynghori paụb, i gyphessu ag i gymuno yn fynych. 53.

Beiau ụrth brintio: a‘r rhif cyntaf y­nol pob bai, a dengys nifer y dolennau, ḷe cair nhụy ynḍīt: yr ail: nifer y ḷinoeḍ.

  • Decreued tros dechreued. 1. 5.
  • Crist­noniog tros Cristnogion. 48.
  • Sythedig, tros Sychedig. 4. 18.
  • Nefoḍ tros nefoeḍ. 13. 14.
  • Goer­thrymbụys tros gorthrymbụys. 49. 16.

Mae yn aml o leoeḍ, ḍiphig title tan odref y tair ḷythyren yma: d, l, u, mal: arụydheir tros arụyḍheir. 8. 15. argluyd tros arglụyḍ. 13. 11. ụedi tros ụeḍi. 28. 13. meun, tros meụn. 30. 13. ānuylion, tros annụylion. 32. 14. erail, tros eraiḷ. Rhaid i‘r darḷeyḍ yn y cyfryụ le­oeḍ ụrth synụyr, ag ystyr yr ymadroḍ ḍeualt ag adnobod, pa amser y dylai ditl fod [...]an bob vn o‘rhain.

Geiriau a orfu i harfer yn y traethiad hụnn, nid ydynt chụaith sathredig im­isc y cyphredin o gymru.

Rhaglith, ne Raglụybr, introductio. Ansoḍfab, filius adoptiuus, ennaint vnguentum, einniaụ, vngo einniaụg vnctus; Mụynhau, frui: Galueḍ, potē tia, Canḷaụ, aduocata: Gụeḍi fyfyria­ụl, Oratio mentalis. ḷefaụl ne laferaụl [Page 63] veḍi, oratio vocalis Gauḍuụiæth, Ido­latria.

Ofergoel, superstitio, Cyfareḍ, remedium. Gụirhau, affirmare, aut verificare. Deḍfau, ceremoniæ. Cyfrụng, me­dium Cyfryngụr, mediator aut inter­cessor. Dirgeleḍ, mysterium. Annirge lu, reuelare. Murfuro murmurare. Pụyḷeḍ, prudētia. Hygareḍ, pietas, Crysma, confirmatio. Rhinụeḍ theolyga­ụl, virtus theologalis. Tymhereḍ, temperantia. Grymhysseḍ, fortitudo Gụa­redig, mitis. Goḍefeḍ, patientia. Yma­rossụyḍ, longanimitas. Cymụynasseḍ, benignitas Gụareḍ, mansuetudo. Cym gadụriaeth, ne ymattaliæth, continen­tia, aut abstinentia. sagrafen, sacra­mentum.

S. Nicolas.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.