SAIL CREFYDD GHRISTNOGOL.
Gof. BETH a ddylei bob dyn beunydd ofalu am dano yn y byd yma?
At. Am ogoneddu Duw ac achub ei enaid ei hun, 1 Cor. 10.31. Acts 16.30. Matth. 16.26.
Gof. O ba le y dylem ni geisio cyfarwyddyd i hyn?
At. Allan o air Duw sef yr sgruthur lân yn unig, yr hon a ddylei pawb i chwilio, trwy wrando, darllein, a myfyrio, John 5.39. Datc. 1.3. Acts 8.30.
Gof. Beth y mae yr sgruthur lâu yn i ddysgu i ddyn yn benna?
At. Dau beth: sef adnabod Duw trwy Ghrist, ai adnabod ei hun, Job. 17.3. Rom. 7.9.
Go. Beth yr wyt ti yn i gredu am Dduw?
At. Yspryd y w Duw, ai hanfod o honaw ei hun, yn dri pherson gwahanol, y [Page 2]tad, ar mab, ar Yspryd glân. Joan. 4.24. Ex. 3.14. Matth. 3.16, 17.1 Joan. 5.7.
Go. A oes mwy nag vn Duw?
At. I ni nid oes ond un Duw: 1 Cor. 8.6.
Go. Y mae Duw yn anherfynol, ac yn anfesuredig, pa fodd gan hynny y gallwn ni ei ddirnad (neu ei ddeall?
At. Nis gallwn fel y mae yntho ei hun. ond mewn peth mesur wrth ei briodoliaethau ai weithredoedd, Ex. 34.6. Ps. 19.1. Ps. 8.1.
Go. Pa fath yw ei briodoliaethau ef?
At. Y mae ef yn bresennol ymhob man, yn gweled pob peth, yn anfeidrol, yn vnig-ddoeth, yn wir sanctaidd, yn gyfiawn, yn drugarog, yn ddaionus, yn berffaith, Psa. 139.7, 8, 9. Rhuf. 16.27. Is. 6.3. Exod. 34.6. Matth. 5.48.
Go. Beth yw gweithredoedd cyffredin Duw?
At. Maent o dri math, arfaeth, creadwriacth, a rhagluniaeth.
Go. Beth yw ei arfaeth ef?
At. Y cyfryw beth drwy yr hwn y bwriadodd Duw yntho ei hun, er tragwyddoldeb, bob peth ar a ddigwiddei, Eph. 1.11.
Go. Beth yw creadwriaeth?
At. Y peth drwy yr hwn, y creawdd [Page 3]Duw bob peth o ddim, Yn dra daionus yn eu rhith, Heb. 11.3. Exod. 20.11. Genes. 1.31.
Go. Beth yw rhagluniaeth?
At. Y peth drwy yr hwn y mae Duw yn cynnal pob peth, ac yn eu llywodraethu hwynt ai holl weithrediadau, Ps. 36.6.1 Tim. 4.10. Matt. 10.29.
Go. Pa fodd y creawdd Duw ddyn?
At. Mewn cyflwr dedwyddol, yn ôl ei ddelw ei hun, mewn gwybodaeth, gwir sancteiddrwydd, a chyfiawnder, Col. 3.10. Eph. 4.24.
Go. A arhosodd dyn yn y cyflwr yma?
At. Na ddo, eithr cwympiodd oddiwrth Dduw, drwy fwytta y ffrwyth gwaharddedig, Gen. 3.12. Preg. 7.29.
Go. A bechodd pob rhyw ddyn yn Adda?
At. Do, canys yr oeddem bawb oll yn ei lwynau ef, Rhuf. 5.12. Heb. 7.9, 10.
Go. Beth yn awr yw cyflwr pob dyn naturiol?
At. Tosturus jawn, marw yw mewn pechod megis celain ffiaidd, ac y mae yntho hâd pob anwiredd, Eph. 2.1.2.5.
Go. Beth sydd yn gwneuthur cyflwr dyn mor dosturus?
At. Dau beth: sef pechod, ar dialedd [Page 4]sydd yn ei ganlyn, Rhuf. 7.24. Rhuf. 6.23.
Go. Beth yw pechod?
At. Pob trosseddiad cyfraith Duw, Joan 3.4.
Go. Pa sawl math sydd o bechod?
At. Dau: pechod gwreiddiol, a phechod gweithredol, Ps. 51.4, 5.
Go. Beth yw pechod gwreiddiol?
At. Llygredigaeth naturiaeth, fef parodrwydd i bob drygioni, a gwrthwyneb i bob daioni, Col. 1.21. Rhuf. 7.18.
Go, A ydyw naturiaeth pob dyn gwedi llygru?
At. Ydyw, nid oes dim rhagoriaeth, Rhuf. 3.10.
Go. Ym mha ran o ddyn y mae y llygredigaeth yma?
At. Ymhob rhan or enaid ar corph megis gwahanglwyf rhedegog, o goryn y pen hyd gwadan y troed, Gen. 6.5.1 Thes. 5.23.
Go. Beth yw pechod gweithredol?
At. Torriad cyfraeth Dduw mewn meddyliau, geiriau a gweithredoedd, a hynny trwy wneuthur pethau gwaharddedig, a gadael heb wneuthur pethau gorchmynedig, Gen. 6.5. Dan. 9.5. Ezek. 33.31. Matt. 5.25.42.
Go. Pa fodd y mae i ddyn andabod ei bechod?
At. Trwy jawn ddeallt cyfraeth Dduw, Khuf. 3.20.
Go. Ym mha le y cynhwysir ystyr y gyfraeth yma?
At. Yn y deg gorchymyn, Deut. 10.4.
Go. Pa fodd y rhennir y rheini?
At. Yn ddwy dablen.
Go. Pa sawl a gynhwysir yn y dablen gynta?
At. Pedwar, y rhain a ddysg i ni ein dyled tu ag at Dduw.
Go. Pa sawl yn yr ail?
At. Chwech, y rhai a ddysg i ni ein dyled tu ag at ein cymydog.
Go. Pa vn yw y gorchymyn cyntaf?
At. Na fydded i ti dduwiau eraill, &c.
Go. Beth a orchymyn Duw yn y gorchymyn yma?
At. Bod i ni, gymeryd y gwir Dduw, yn Dduw i ni yn Ghrist, a hynny trwy roddi iddo ef anrhydedd ac addoliad dledus or galon.
Go. Pa fodd y mae i ni wneuthur hyn?
At. Trwy jawn adnabod a chydnabod y gwir Dduw, fel y mae yn ymddangos yn ei air ai weithredoedd, Joan 17.3.
2 Trwy ei garu ef an holl galon, Mat. 22.37.
3 I ofni ef yn vnig, Preg. 12.13.
4 Ymhyfrydu yntho, Phil. 4.4.
5 Ac ymddiried iddo, Jer. 17.7.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn yma?
At. Trwy esgeuluso y pethau or blaen: anghofio Duw, ymadel ag ef, a rhoi serch ar bethau daiarol, &c.
Go. Rhai sy yn meddwl mai hawdd yw cadw y gorchymyn yma?
At. Oh, maent yn eu llwyr dwyllo eu hunain, yr ydys yn torri hwn yn fynychach nag yr vn or lleill, ie ni thorir yr vn heb dorri hwn.
Go. Beth yw yr ail gorchymyn?
At. Na wna it dy hun, &c.
Go. Beth a orchmynir yma?
At. Bod i ni addoli y gwir Dduw, yn vnig, yn ôl ei ewyllys yn ei air, ac nid yn ol dychymyg dyn.
Go. Pa fodd yw hynny?
At. Yn bennaf ac yn gy ffredin ar gyhoedd, gwrando pregethu gair Duw, Rhuf. 10.4. Luc. 4.16. ai ddarllein, Dat. 1.3. cydweddio, arferu y Sacramentau, Exod. 29.38.1 Cor. 11.23.
Or neulldu mewn teuluodd ac yn y dirgel, gwrando y gair, darllen, gweddio beunydd, Deut. 17.19. Dan. 6.10.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn yma?
At. 1. Trwy esgeuluso yr vn or mod [...] n yma.
2 Trwy addoli Duw yn ol dychymygion a thraddodiadau dynion, ie yn y pethau lleiaf, Col. 2 22, 23. Num. 15.39, 40. Deut. 12.32.
Go. Beth yw y trydydd?
At. Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, &c.
Go. Beth yw ystyr y gair yma, Enw yr Arglwydd?
At. Wrth enw Duw, y deallir yr holl bethau trwy ba rai, y mae Duw yn ei wneuthur ei hun yn gydnabyddus i ddyn.
Go. Beth yw y rheini?
At. Yn gyntaf ei ordinhadau, sef, ei air, y Sacramentau, a gweddi, Acts 9.15.
2 Ei weithredoedd, Ps. 19.1.
3 Ei enwau bendigedig, sef Duw, Arglwydd, Jesu, Christ, ar fath, Deut. 28.58.
Go. Beth a ofynnir yn y gorchymyn hwn?
At. Jawn ymarfer trwy ofn, a pharch mewn meddyliau, a geiriau, bob rhan o enw Duw.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn yma?
At. Trwy gamarfer gair Duw, gweddi, y Sacramentau, heb barch, heb fudd, Psa. 50.16, 17.
2 Trwy ysgeuluso barn [...]digaethau, a thrugareddau Duw.
Go. Pa fodd yr esgeulusir y rhain?
At. Pryd na bytho ei farnedigaethau ef yn ein hannog i edifeirwch, nai drugareddau i ddiolchgarwch, ac vsudd-dod, Dst. 2.20. Esa. 5.1.5.
Go. Pa fodd befyd y torrir y gorchymyn yma?
At. Trwy dyngu yn erbyn y gwirionedd, Jer. 5.2.
2 Hefyd yn ddiystyr, yn ddiachos, yn ofer, mewn ymadrodd cyffredin, Jer. 4.2. Matt. 5.34.
3 Trwy arfer gair Duw i ymswyno, &c. Deut. 18.10.
4. Hefyd pan fo pobl mewn enw, yn gristnogion, ac yn ei buchedd yn annuwiol, 2 Sam. 12.14.
Go. Beth yw y pedwerydd gorchymyn?
At. Cofia gadw yn sanctaidd, &c.
Go. Beth y mae Duw yn ei orchymyn yma?
At. Bod i ni neillduo holl ddydd yr Arglwydd, iw wasanaeth ef, ar gyhoedd, ac or nailldu, trwy ymattal oddiwrth bob meddyliau, geiriau a gorchwylion bydol, er mwyn budd i ni, a phob difyrrwch cnawdol. Esa. 58.13, 14.
Go. Beth a ddylem ni i wneuthur ar y dydd yma?
At. Ni a ddylem yn paratoi ein [Page 9]hunain or blaen, Psal. 26.6.
2 Ar gyhoedd ein dyled yw, gwrando gair Duw wrth ei bregethu, ai ddarllen, cyd-weddio, canu psalmau, arferu y Sacramentau, Esa. 2.3. Acts 20.7.
2 Ar nailldu ac mewn teuluoedd, ymarfer a gair Duw, Acts 8.28. ail gofio, a threuthu i eraill y pethau a glowsom, Mal. 3.16. Dysgu gwyddorion y ffydd, canu psalmau, a gweddio Jac. 5.13.
Go. Beth hefyd?
3. Myfyrio ar y gair, a gweithredoedd Duw, Rhuf. 1.20.
4 Ymweled ar claf, ar anghenus iw cynghori, iw cyssuro, 1 Cor. 16.1, 2.
5 Je trugarhau wrth anifeiliaid.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn hwn?
At. Trwy wneuthur dim gwaith, ond pethau sanctaidd, a gwir angenrheidiol, Esa. 58.13, 14.
2 Trwy dreilio dim amser mewn chwaryddiaeth a difyrwch cnawdol, Es. 58.13, 14. Rhuf. 12.11.
3 Trwy ymborthi yn rhy helaeth ar y creaduriaid.
4 Twry ofer gwmpniaeth, arferu ymadroddion bydol ac ofer, Esa. 58.13, 14.
Go. Beth yw y pummed gorchymyn?
At. Anrhydedda dy dâd a'th fam, &c.
Go. Pwy a ddeallir yma, wrth dâd a mam?
At. Nid yn vnig ein rhieni naturiol, ond hefyd pob rhai goruchaf i ni, mewn swydd, oedran, a doniau, sef swyddogion, gwenidogion Duw, gwyr oedranus, a phen teuluoedd.
Go. Beth yw anrhydeddu?
At. Cydnabod y rhagoriaeth yn y rhain, o ran eu swydd, oedran, ai doniau, ac ymddwyn tuag attyn mewn gostyngeiddrwydd, parch, a chariad.
Go. Pa fodd y mae y rhai issel radd yn torri y gorchymyn yma?
At. Trwy ddirmygu, cassau ac anvfuddhau, mewn meddwl, gair, neu weithred, y rhai sydd vwch na hwy mewn swyddau, neu ddoniau, fegis, plant eu rhieni, gwasnaethwyr eu meistred; pobl gwenidogion gair Duw, ai swyddogion: ie esgeuluso gweddio trostyn.
Go. Pa fodd y mae goruchafon yn torri y gorchymyn yma?
At. Trwy ddrwg Siampl, ymddygiad ysgafn, esgeuluso dangos eu cariad mewn cyngor, cerydd a gweddi tros y rhai sydd o issel rädd tanynt, a chyfrannu pethau argenrheidiol iddynt.
Go. Beth yw y chweched gorchymyn?
At. Na lâdd.
Go. Beth a orchymyn Duw yma?
At. Bod i ni garu ein cymydogion, ymddwyn yn heddychol ac yn garedig, tu ag attyn, a dangos ein cariad trwy arferu pob modd i wneuthur daioni, nid yn vnig iw cyrph, ond iw heneidiau hefyd, ac felly i ni yn hunain, Rhuf. 12.18. Matt. 5.44.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn yma?
At. Nid yn vnig trwy daro a lladd, ond trwy ddigter di-ystriol, llid a châs yn y galon, Epb. 4.26, 27.
2 Trwy ymadrodd neu ymddygiad digllon dirmygus, a gyffrô i ddigofaint, Epb. 4.31.
3 Trwy daro a briwo, Lev. 24.19.
4 Trwy attal oddiwrthynt ddim a'r a wnelo leshaad nac iw heneidiau nai cyrph, Luc. 10.31, &c.
Go. Beth yw y saithfed gorchymyn?
At. Na wna odineb.
Go. Beth a orchymyn Duw yma?
At. Nid yn vnig bod i ni ymgadw rhag godineb yn y weithred, ond hefyd ymgadw o honom yn ddihalogedig mewn purdeb, yn yr enaid, a'r corph, yn ein holl ymddygiad, yn gystal on rhan ein hunain, ac eraill, 1 Thes. 4.4.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn hwn?
At. Trwy halogi yr enaid neu yr corph trwy aflendid cnawdol, Eph. 5.3.
2 Trwy chwantau aflan, geiriau anllad, ymddygiad anweddus, Matt. 5.28. Eph. 5.4.
3 Trwy seguryd, anghymedroldeb mewn bwyd neu ddiod, anweddeidd-dra mewn dillad, Matt. 24.38.
Go. Beth yw yr wythfed gorchymyn?
At. Na ledratta.
Go. Beth a orchymyn Duw ini yma?
At. Bod i ni gymryd dyfal boen, yn yr enaid ar corph, ac arferu pob moddion da, i wellhâu ar ein cyflwr ein hunain, an cymydog, yn enwedig y tlodion, Eph. 4.28. Act. 20.34, 35.
Go. Pa fodd y torrir y gorchymyn yma?
At. Trwy awydd i gyfoeth, 1 Tim. 6.9.
2 Anfodlonthwydd i'n cyflwr, Preg. 5.10.
3 Seguryd, 1 Thes. 3.10.
4 Twyll mewn marchnad, neu vn môdd arall, Levit. 19.11.
2 Gorthrymmu trwy farchnad galed, megis gwerthu ar oed neu ddydd o herwydd angen y tlawd, a chwant y cybydd i ynill felly, Lev. 25.14.
Trwy occreth neu lôg anghyfiawn, Deut. 15.7, 8. Psa. 15.5.
6 Trwy gasglu neu gadw y pethau lleiaf yn anghyfiawn, Ex. 22.15.
Go. Beth yw y nawfed gorchymyn?
At. Na ddwg gam dystiolaeth.
Go. Beth a orchmynir yn benna yma?
At. Bod i ni ymhob modd geisio a maentimio ein enw da ein hunain, an cymydogion yn ol gwirionedd a chydwybod.
Go. Beth a waherddir?.
At. Nid yn vnig, na ddygom gam dystiolaeth, ond hefyd esgeuluso cynnal, a chadw ein henw da ein hunain, ac eraill.
2 Dwedyd celwydd, Eph. 4.25.
3 Cablu or tu cefn, Gal. 5.15.
4 Torri addewid, 2 Tim. 4.16.
5 Ein gwag ganmol ein hunain, 2 Cor. 10.12, &c.
6 Barnu eraill yn ddiachos, Dihar, 17.15.
7 Drwg dyb heb achos, 1 Cor. 13.5.
8 Doedyd gweniaeth, Ezek. 13.18.
9 Rhoi clust ir gwenheuthus, Dihar. 25.23.
10 Ymlawenychu mewn drygair rhai eraill.
Go. Beth yw y degfed gorchymyn?
At. Na chwenych, &c.
Go. Beth a orchmynir yma?
At. Bod i ni wir ymfodloni yn ein [Page 14]cyflwr bydol ein hunain, ac on calon wyllysio llwyddiant ein cymydog ym mhob peth, ar a berthyn iddo, mawr a bychan.
Go. Beth a waherddir?
At. Y drwg feddyliau ar dymuniadau cyntaf a lleiaf yn erbyn ein cymydog.
2 Anfodlonrwydd yn eu llwyddiant.
Go. A all dyn gadw y gorchmynion hyn?
At. Na all neb, nid yw dyn yn ei gyflwr naturiol yn gwneuthur dim ond pechu yn oestadol, Rhuf. 8.7. ie mae y Duwiolaf yn pechu beunydd, Rhuf. 7.19.
Go. Pa niwed sydd yn digwydd i ddyn o herwydd iddo dorri y gorchmynion?
At. Mae yn heuddu llid, digofaint, a melldith Duw, yn ei holi fywyd, yn ni wedd ei oes, ac gwedi iddo farw, ped fae yn torri ond vnwaith y gorchymyn lleiaf, Gal. 3.10.
Go. Beth yw melldith Dduw yn y byd yma?
At. Yn y corph clefydau, gofidiau, a doluriau o bob math, yn yr enaid dallineb, yn y galon caledrwyd, yn y gydwybod dychryn, mewn cyfoeth rhwystrau a cholledion, yn lle enw da cywilydd a gwarth, yn yr holl ddyn caethiwed tan Satan brenin y tywyllwch, Deut. 28, 21, 22, 23, 65, 66, 67.2 Tim. 2.26.
Go. Pa fodd y gall dyn wybod ei fod ef [...]an gaethiwed Satan?
At. Os yw ef yn cymryd difyrrwch yn y drwg wyniau y mae Satan yn eu hyrddu iw galon, ac os ydyw yn cyflawni ewyllys Satan a chwantau y cnawd, Joan 8.44.
Go, Beth yw melldith Dduw yn niwedd yr oes?
At. Marwolaeth, sef gwahaniad y corph ar enaid, Rhuf. 5.12.
Go. Beth gwedi marwolaeth?
At. Damnedigaeth tragwyddol ymhoenau vffern, o ba vn, y mae pob dyn naturiol mewn cimint perigl, ac ydyw ybradychwr pan ddalier oi gregi ai chwa [...] torio, Gal. 3.10. Rhuf. 3.19.
Go. A ydyw pob pechod mor beryglus?
At. Ydyw: nid oes dim yn yr holl fyd mor ffiaidd yngolwg Duw, ac mor beryglus i ddyn, Dihar. 15.9, &c. 21.27. Es. 1.13.14.
Go. Pa ham y mae llawer yn gwneuthur cyn lleied cyfri o bechod?
Ot. Yn vnig o eisiau adnabod y perigl ar gwenwyn sydd yntho.
Go. Beth sydd i ddyn iw wneuthur yn y cyflwr gofidus yma?
At. Ceisio cydnabod âi drueni, gofidio oi herwydd, a brysio i ddyfod allan o honaw. Eph. 5.14.
Go. A all dyn o honaw ei hun wneuthur hyn?
At. Nid oes mewn dyn nac ewyllys, na dymuniad, na gallu i ymadel ai gyflwr, ac hefyd y mae iddo ef dri gelyn nerthol, y cnawd, y byd, ar cythrael yn ei rwystro, Epbe. 2.1. Phil. 2.13. Gal. 5.17.1 Joan 5.4. Ephe. 6.12.
YR AIL RHAN.
Gof. PA fodd y mae i ddyn gael ymwared?
At. Yn vnig drwy Ghrist Jesu, vnig anedig fab Duw, yr hwn a wnaethpwyd yn ddyn, ac yw iachawdwr ei bobl, Heb. 2.16. Joan 1.14. Heb. 5.7.
Go. Pa ham yr oedd yn rhaid ir iachawdwr yma fod yn Dduw ac yn ddyn?
At. Rhaid oedd iddo fod yn ddyn, o herwydd i ddyn bechu, ac am hynny rhaid i ddyn ddioddef; rhaid oedd iddo fod yn Dduw i gynnal y naturiaeth ddynol, ac i orchfygu marwolaeth, 1 Tim. 2.5, 6.
Go. Beth yw swydd Christ?
At. Bod yn Gyfryngwr, i gymodi Duw a dyn, 1 Tim. 2.5.
Go. Pa sawl rhan sydd or swydd fendigedig hon?
At. Y mae ef yn Offeiriad. yn Brophwyd, ac yn Frenin, Psal. 45.7. [Page 18] Luc. 4.18. Luc. 1.33.
Go. Pa ham y mae ef yn offeiriad?
At. I wneuthur jawn i Dduw ei dâd am bechod dyn: ac i fod yn eiriol tros ei bobl, Matt. 20.28. Heb. 7.25, 26.
Go. Pa fodd y gwnaeth ef yr jawn yma?
At. Trwy ddioddef yr holl ddialedd yr oedd y gyfraeth yn ei fygwth yn erbyn dyn, a chyflawni yr holl gyfiawnder, yr oedd y gyfraeth yn ei ofyn ar law dyn, Gal. 3.13. Rhuf. 4.25.
Go. Pa fodd y dioddefodd Christ y dialedd y mae cyfraeth Dduw yn ei fygwth?
At. Trwy ddioddef amryw ofidiau yn amser ei fywyd, yn niwedd ei oes digofaint Duw, a marwolaeth felldigedig ar y groes, Matt. 2.14. Luc. 9.58. Phil. 2.8. Luc. 23.46.
Go. Pa fodd y cyflawnodd ef y cyfiawnder yr oedd y gyfraeth yn ei ofyn?
At. Trwy vfuddhau mewn perffeithrwydd, holl ewyllys Duw, mewn meddwl, gair, a gweithred yn ei holl fuchedd, Matt. 3.15.1 Pet. 2.22.
Go. Pa ddaioni sydd i ddyn iw gael trwy ddwddefaint Christ Jesu?
At. Rhyddhâd oddiwrth bechod a'r dialedd am bechod yma, ac yn dragywydd, Joan 8.36. Rhuf. 8.1.
Go. Pa ddaioni trwy ei gyfiawnder ai vfudd-dod?
At. Ffafor Duw, a gwynfyd tragwyddawl, Rhuf. 5.1. Rhuf. 6.23.
Go. Dangosaist pa fodd y mae Christ yn gwneuthur jawn tros ddyn, pa fodd y mae ef yn eiriol trossom?
At. Y mae ef yn ymddangos yn oestadol ger bron Duw ei dâd, i wneuthur y ffyddloniaid ai holl wasanaeth yn gymeradwy yn ei wydd ef, Rhuf. 8.34.1 Pet. 2.5.
Go. Pa ham y mae ef yn Brophwyd?
At. I eglurhau ac i ddangos iw bobl y ffordd ar modd i jechydwriaeth, a hynny trwy ei air oddi allan, ai yspryd oddifewn, Joan 6.45. Act. 3.22, 23.
Go. Pa ham y mae ef yn Frenin?
At. Fel y gallei yn ddigonol gyfrannu a dwyn i galonnau ei etholedigion, yr holl ddaioni hyn, Es. 9.7.
2 Yn ail fel y gallei ef orchfygu ein holl elynion ysprydol, Matt. 16.18. Luc. 1.74.
3 Yn drydydd fel y gallei ef rheoli ynghalonnau a buchedd ei bobl fegis Arglwydd, Es. 55.4.
Go. A gaiff pawb fod yn gyfrannog or pethau yma trwy Ghrist?
At. Na chaiff neb, ond yn vnig y dyn [Page 20]a dderbynio Ghrist trwy wir ffydd iw galon, Joan 1, 12.
Go. Beth yw gwir ffydd?
At. Gras rhyfeddawl Duw trwy ba vn, y mae dyn yn ymaflyd yn-Ghrist, ac yn mwynhau Christ ai holl ddoniau iddo ei hun, Joan 1.12. Eph. 2.8. Gal. 3.26.27. Col. 2.12.
Neu ymddiried yn-Ghrist yn vnig am jechydwriaeth, Act. 16.31.
Go. Pa fodd y mae Duw yn dowad a dynion i wir gredu yngrist?
At. Y mae ef yn paratoi y galon i dderbyn Christ, ac yno yn gweithio y ffydd yma.
Go. Pa fodd y mae Duw yn paratoi y galon?
At. Yn gyntaf, trwy ddangos i ddyn ei bechod naill-duol, ai berigl oi herwydd, trwy ei air, ai yspryd, Joan 16.8. Rhuf. 3.23. Act. 2.37. ac hefyd fod rhwymedi (neu help) iw gael trwy Ghrist.
2 Yn ail y mae ef yn gweithio gofid a galar yn y galon am bechod, trwy beri i ddyn ystyried ei fod yn heuddu digofaint a melldith Dduw yma, ac yn dragywydd, Act. 2.37. Ezek. 11.19. Hos. 6.1. Gal. 3.10.
Go. Gwedi paratoi y galon fel hyn, pa [Page 21]fodd y mae Duw yn gweithio ffydd?
At. Trwy weithio dymuniadau yn y galon, y rhai yw hâd ffydd.
Go. Pa vn yw y cyntaf or rheini?
At. Y mae Duw yn peri i ddyn ddwfn ystyried fod arno fawr eisiau Christ, Es. 55.1. Joan 7.37. Luc. 1.53.
Go. Pa vn yw yr ail?
At. Newyn a syched am fod yn gyfrannog o Ghrist, ai holl ddoniau, Mat. 5.6. Dat. 21.6.
Go. Beth yw y trydydd?
At. Y mae Duw yn annog dyn i daer weddio am ffafor Duw yn-grist, a maddeuant oi bechodau, ymha wasanaeth y mae ef yn parhau beunydd, hyd oni chyflawno Duw ei ddymuniad, Luc. 15.18, 19. Mat. 15.22, 23. Act. 8.22. Luc. 18.13.
Go. Beth sydd yn Canlyn?
At. Y mae Duw yn anson ei yspryd glân i galon y dyn yma, i weithio yntho ef beth siccrwydd o faddeuant, ac oi gariad tu ag atto ef yn-ghrist, ac dyma ffydd, Mat. 7.7. Es. 65.24. Job 33.25.26. Rhuf. 8.16.
Go. Beth yw y mesur lleiaf o wir ffydd?
At. Pan fo dyn o yspryd gostyngedig, yn cydnabod ai eisiau o ffyd, yn hiraethu [Page 22]am siccrwydd o drugaredd, ac yn taer weddio am faddeuant, Es. 42.3. Matt. 17.20. Mar. 9.24.
Go. Beth yw y mesur mwyaf o ffydd?
At. Pan fyddo dyn yn cynyddu mewn ffydd, ac felly gwedi cael siccrwydd o faddeuant oi bechodau ei hun ac o gariad Duw yn-ghrist tu ag atto ef ei hun, Rhuf. 8.38.
Y drydydd Rhan.
Gof. PA fodd yr adweinir gwir ffydd?
At. Wrth ei ffrwyth, yn enwedig edifeirwch, Jac. 2.18.1 Joan 3.3. Luc. 3.8, 9.
Go. Pa ham hynny?
At. O herwydd ymha galon bynnag y mae yspryd Duw yn gweithio gwir ffydd, yno y mae yn gweithio edifeirwch hefyd, Acts 15.9. Mar. 1.15.
Go. Beth yw edifeirwch?
At. Y fath newidiad calon ac sydd yn ymddangos trwy newydd-deb buchedd, Matt. 3.8. Rhuf. 12.2. Es. 1.16.
Go. Beth fydd yn peri y newidiad yma?
At. Yn enwedig jawn wybodaeth, trwy wir brofedigaeth neu brawf o drugareddau Duw tu ag attom ni ynghrist Jesu, Luc. 7.47.1 Joan 4.19.
Go. Oddiwrth ba beth y mae calon y christion ffyddlawn edifarhaws gwedi newid.
At. Oddiwrth serch y byd a phethau bydol at gariad tuag at Dduw, a pethau ysprydol, oddiwrth ddiofalwch, i wneuthur cydwybod, a dymuniad i fodloni Duw, Joan 21.15. Tit. 2.12.1 Joan 2: 15.
Go. Pa fodd yr henwir y newidiad yma?
At. Fe ai gelwir yn yr sgruthur, Creadur newydd, 2 Cor. 5.17. Gal. 6.15.
Gof. Pa fodd y mae yn ymddangos?
At. Pan ymegnio dyn mewn gair a gweithred i ymadel â phob drygioni, a phobl ddrygionus yn eu pechod, ac ymarfer ymhob peth i fodloni Duw, Ps. 34.14. Rhuf. 12.9.
Gof. Beth sydd yn canlyn yr edifeirwch a'r ffydd yma?
At. Heddwch yn y gydwybod, llawenydd yn y goruchaf Dduw, gwael brifio pethau y byd, cariad a diolchgarwch tu ag at Dduw, yr hwn a ddangosodd y fath gariad tu ag attom ni, Rhuf. 15.13. Ps. [Page 24]37.4. Gal. 6.14. Gal. 5.6. Ephe. 1.3.
Go. A ydyw y newidiad yma yn berffaith yn vn dyn yma?
At. Nag ydyw, mae gwendid yn y goreu o blant Duw, etto rhaid yw ymdrechu tu ag at berffeiddrwydd, 1 Cor. 15.9. Heb. 6.1.1 Pet. 2.2.
Go. Pa fodd y dylem ni ymdrechu?
At. Trwy ddyfal ymarfer o ddifri ar holl foddion a ordeiniodd Duw i chwanegu ffydd ac edifeirwch, ac ein nerthu i bob gweithred dda.
Y pedweryd Rhan.
Go. 'PA rai yw y moddion cyffredin a ordeiniodd Duw i gynnyddu grâs?
At. Yn benna y tri yma: ymarfer a gair Duw, gwenidogaeth y Sacramentau, a gweddi.
Go. Pa fodd y dylem ni wrando y gair i gael lleshad oddiwrtho?
At. Ymbaratoi cyn gwrando, 1 Pet. 2.1, 2.
2. Gwrando yn ostyngedig, yn barchedig, yn chwannog i ddysgu, a chredu y gwirionedd, Jac. 1.21. Mat. 13.44. Heb. 4.2.
Go. Pa fodd hefyd?
At. Rhaid yw myfyrio ar y peth a wrandawom ac a glowom, ai gymhwyso attom ein hunain, ac yn ddyfal ymarfer ar peth a ddysgom, Psa. 1.2. Joan 4.53. Es. 2.3. Luc. 2.51.
Go. Oni ddylem ni ddarllein a gwrando gair Duw gartref?
At. Ein dyled ni ydyw chwilio yr sgruthur lân beunydd, trwy ddarllein, gwrando, [Page 26]a myfyrio, Deut. 17.18, 19. Psa. 1.2. Acts 17.11.
Go. Onid yw gweddi yn fodd i chwanegu ffydd?
At. Ydyw, yn fodd rhagorol, Mat. 26.41. Rhuf. 10.13. Luc. 17.5.
Go. Beth yw gweddi?
At. Galw ar Dduw yn enw Christ or galon, yn ol ei ewyllys ef, Psal. 50.15. Joan 16.23.
Go. Pa fodd y mae i ni weddio?
At. Fel y mae Duw gwedi dangos yn ei air, yn enwedig fel y mae Christ yn ein dysgu yngweddi yr Arglwydd, 1 Joan 5.14. Matt. 6. Luc. 11.
Go. Adrodd i mi weddi yr Arglwydd?
At. Ein tâd yr hwn wyt yn y nefoedd.
Go. Pa sawl peth sydd iw ystyried yn y weddi yma?
At. Tri pheth: y rhag-ymadrodd, y weddi, ar dibendod.
Go. Beth yw y rhag-ymadrodd:
At. Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd.
Go. Beth a ddysgwch chwi allan or rhagymadrodd hwn?
Bt. Yn gynta, ni a ddysgwn yma fod Duw yn dad i ni drwy Ghrist, ac am hynny y dylem ni ymddwyn tu ag atto [Page 27]ef, megis plant vfudd, os edrychwn am ein g wrando, 1 Joan 3.22.
2 Yn ail ei fod ef yn y nefoedd, sef, yn anfeidrol yn ei ogoniant ai allu, yr hwn a ddichon ac a addawodd ein cymorth ni, am hynny y dylem ymddwyn oi flaen trwy ofn a pharch, a gweddio arno trwy ffydd, Preg. 5.1. Esa. 63.16. Psa. 47.2. Psa. 115.3. Psa. 50.15.
3. Yn drydydd, ni a ddylem weddio tros ein brod yr, 1 Tim. 2.1.
Go. Pa sawl arch, a gynhwysir yn y weddi yma?
At. Chwech, yn y tri cyntaf, y gofynnwn y pethau sydd yn perthyn i ogoniant Duw:
2 Yn y tri diweddaf y pethau sydd yn perthyn i'n angenrhaid ein hunain.
Go. Beth yw yr erfyn neu'r Arch gyntaf?
At. Sancteiddier dy enw.
Go. Beth yr wyt ti yn ei ofyn gan Dduw yn yr arch yma?
At. Bod i ni yma ar y ddaiar fawrygu anherfynnol odidawgrwydd Duw ar feddwl, gair, a gweithred, Psa. 40.16. A'r. 115.1.
Go. Pa vn yw yr ail erfyn neu Arch?
At. Deued dy deyrnas.
Go. Beth yr wyt ti yn ei ddeisyfu yn yr erfyn hwn?
At. Ar i Ghrist droi ir iawn y sawl sy tan feddiant y cythrael, ymha stâd yr ym i gyd o'n naturiaeth, ac ar iddo lywodraethu ynghalonnau ei etholedigion drwy ei yspryd yn y byd hwn, a gorphen eu hiechyd wriaeth hwynt yn ol hyn, Can. 8.8. Ephe. 3.16, 17. Phil. 1.8, 9, 12. Acts 7.60.
Go. Beth yw r trydydd erfyn?
At. Bydded dy ewyllys ar y ddaiar, megis y mae yn y nefoedd.
Go. Beth yr ydych chwi yn ei ofyn gan Dduw yn yr erfyn hwn?
At. Yr ydym yn gofyn hyn, sef, beth bynnag a ewyllysia Duw yn ei air i ni i wneuthur, bod i ni vfyddhau iddo yn llawen, yn ddioed, yn ffyddlawn, ac yn ddywyd yma ar y ddaiar, Exod. 19.8. Rbuf. 12.2. Psal. 27.8.
2 Hefyd beth bynnag, a ewyllysia Duw ddigwydd i ni, bod i ni ei ddioddef trwy amynedd, Phil. 4.11.
Go. Pa vn yw y pedwerydd erfyn?
At. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.
Go. Beth yr wyt ti yn ei erfyn neu yn ei geisio yn yr arch hwn?
At. Ar i Dduw roddi i ni bob peth angenrheidiol ir bywyd yma, megis [Page 29]llyniaeth, cynhaliaeth trwy foddion cyfraithlawn, ai bendithio nhw i ni, Mat. 6.34. Dihar. 30.8. Acts 2.46.2 Thes. 3.12.
Go. Beth yw y pummed erfyn?
At. A maddeu i ni ein dyledion, megis y maddewn ninnau in dyledwyr.
Go. Beth yr ydych yn ei ddeisyfu yn yr erfyn hwn?
At. Ar i Dduw oi râd ai drugaredd yn Jesu Ghrist, faddeu i mi fy holl bechodau, fel yr wyf finnau yn maddeu pob cam a syr-hâd a gefais gan eraill, Esa. 43.25. Psa. 51.2, Luc. 11.4.
Go. Oni ddylem ni gyffessu ein pechodau yn neilldduol, pan weddion am faddeuant?
At. Dylem cyn belled ac y medrom eu cofio, a hyn a ddylem yn athrist, gan yn condemnio ein hunain â chalon ddrylliog, Pfal. 51.17.
Go. Beth yw y chweched arch?
At. Ac nac arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg.
Go. Beth a erchwch yn yr erfyn hwn?
At. Cael fy rhyddhâu oddiwrth brofiadau, cyn belled ac y byddo yn sefyll gyd ag ewyllys Duw, a chael bôb amser fy ngwaredu oddiwrth eu drwg hwynt, [Page 30]na lescawyf tanynt, ac nam gorchfyger ganddynt, Matt. 26.39. Rhuf. 8.28.1 Cor. 10.13.
Go. Beth yw y tâl diolch yngweddi yr Arglwydd?
At. Canys eiddot ti yw y deyrnas, y gallu. ar gogoniant yn oes oesoedd.
Go. Onid yw y geiriau hyn hefyd yn cynwys rh [...]sswm, pa ham yr ydym yn gofyn ar law Dduw y hendithion yma?
At. Ydynt, canys gan fod y deyrnas, y gallu a'r gogoniant yn eiddo yr Arglwydd, arno ef y dylem ni alw yn ein holl anghenion, Psa. 5.15.
Go. Beth yw y dibendod yngweddi yr Arglwydd?
At. Amen, yr hyn yw, tystiolaeth ein ffydd an dymuniad am y pethau y gweddiwn am danynt, Jer. 11.5.
Go. Beth yw arwyddocâd y gair. Amen?
At. Poed felly y bo, neu bydded felly, 1 Bren. 1.36. Jer. 28.6.
Go. Pa bryd y mae pobl yn iawn weddio?
At. Pan weddiont yn vnig ar Dduw, yn enw Christ, trwy ei yspryd, gan ofyn pethau cyfreithlawn, er gogoniant Duw a budd iddynt eu hunain trwy ffydd, Psal. 50.15. Joan 16.23.1 Joan 5.14. Mar. 11.24.
Go. Beth sydd raid ir rhai a weddio yn deilwng?
At. Ymadel â phob drygioni, Ps. 66.18.
Go. Beth a ddylem ni wueuthur wedi gweddio?
At. Ystyried a ydyw Duw yn ein gwrando, a ninneu yn derbyn y pethau y gweddiwn am danynt, Psal. 3.4. Psal. 85.8.
Go. Beth os derbyniwn y petbau y gweddiom am danynt?
At. Hyn an hannog i ddiolchgarwch, i garu Duw, ac i ymddiried yntho, Psal. 31.21, 22. Psal. 116.1. Psal. 4.3.
Go. Beth oni wrendy Duw ni gwedi i ni fynych ofyn?
At. Rhaid i ni holi pa fodd yr ydym yn gweddio, rhaid i ni barhau yn gweddio, a disgwyl hyd oni dderbyniom, Jae. 4.3. Luc. 18.1. Hab. 2.3.
Go. Beth yw Sacrament?
At. Arwydd i arwyddocâu, sêl i siccrhâu, ac offeryn i ddwyn Christ Jesu, ai holl ddoniau yn hytrach nag or blaen, i galon y gwir Gristion.
Go. Pa sawl Sacrament sydd?
At. Dau: bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Go. Beth yw bedydd?
At. Y Sacrament gyntaf or Testament [Page 32]newydd, yr hwn sydd yn arwyddocau ein cyssylltiad ni â Christ, ein cymun ag ef, an dyfodiad cyntaf ir eglwys, Mat. 28.19. Acts 8.38.
Go. Beth yw yr arwydd gweledig oddiallan?
At. Dwfr, &c.
Go. Beth yw yr grâs oddi mewn, neu yr peth a arwyddoceir.
At. Maddeuant pechodau a sancteiddrwydd, Marc. 1.4, Acts 2.38. Tit. 3.5.
Go. I ba ammod y mae yr hwn a fedyddier yn ymrwymo?
At. I gredu yn-Ghrist, ac i ymwrthod a pechod, Acts 8.37. Mat. 3.
Go. Beth onis gwnaiff hyn?
At. Fe a fydd ei ddamnedigaeth yn fwy, Joan 3.18. Mar. 16.16.
Go. Pwy a ddyleid ei fedyddio?
At. Y di-gred a drôer ir ffydd, a phlant bychain, o bydd eu rhieni, neu y naill o honynt yn gristion, Act. 8.12. Acts 2.39.1 Cor. 7.14.
Go. Beth yw Swpper yr Arglwydd?
At. Yr ail Sacrament o'r Testament newydd.
Go. Beth yw yr arwyddion gweledig?
At. Bara a gwin, Mat. 26.26, 29.
Go. Beth y maent yn ei arwyddocau?
At. Corph a gwaed Christ, Mat. 26.26, 28.
Go. Pa fudd sydd iw gael yn y Sacrament yma?
At. Yn gyntaf, fel yr ydwyfi yn gweled y bara gwedi dorri, ar gwin gwedi dowallt, felly yr wyf yn gweled â llygaid fy enaid gorph Christ wedigroeshoelio, ai waed wedi ei dowallt, ac felly yn cofio fy mhrynedigaeth, Eph. 1.7, 18. Gal. 3.1.1 Cor. 11.26.
Go. Beth hefyd?
At. Yn ail fel yr ydwyf i yn derbyn y bara ar gwin im corph, fel y maent yn hollawl yn fy eiddo i, felly yr ydwyfi yn credu, fy mod i yn derbyn Christ Jesu gyda rhinwedd ei farwolaeth ai gyfiawnder yn hytrach nag or blaen, i selio im henaid siccrwydd o gariad Duw yma, ac iechydwriaeth dragwyddol yn ôl hyn.
Go. Onid oes llawer yn dowad yn anheilwng i fwrdd yr Arglwydd?
At. Oes llawer iawn.
Go. Pwy yw y rheini?
At. Y rhai sydd heb jawn wybodaeth o wyddorion y ffydd:
2 Heb ffydd ac edifeirwch:
3 Neu heb eû jawn baratoi eu hunain.
Go. Beth yw y perigl o gymmuno yn anheilwng?
At. Mae y rhain yn euog o gorph a gwaed Christ, ac yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddynt eu hunain, 1 Cor. 11.27.29.
Go. Gan hynny pa fodd y mae i ti dy baratoi dy hun?
At. Fy nyled i yw fy holi fy hunan ar nailldu yn y dirgel.
1 Yn gyntaf a ydwy fi yn jawn wybod gwyddorion y ffydd gydag athrawiaeth y Sacramentau, Matt. 26.26, 28: Exod. 12.26, 27.
2 Yn ail a ydwy fi yn jawn gredu ynghrist Jesu, Heb. 4.2.
3 A ydwy fi yn gwir edifarhau am fy mhechodau, gan ymroi ac ymegnio, trwy nerth Duw i ymadel â nhw, Luc. 3.12, 13. Dihar. 28.13.
4 A ydwy fi mewn cariad â phôb dyn, yn barod i faddeu i bawb a wnaeth im herbyn, fel yr ydwy fi yn edrych am i Ghrist faddeu i minnau, Mat. 5.23, 24, 25.
5 A ydwy fi yn hiraethu am fara y bywyd, ac yn credu fod pob dawn ysprydol, a phob daioni iw gael yn-ghrist, ac yn ei gynnig yn y Sacrament.
Go. Pa fodd y dylei dyn ymgymhwyso [Page 35]ei galon wrth dderbyn y Sacrament?
At. Yn barchedig, yn llawen, gan fyfyrio ar yr arwyddion gweledig, a pha beth y maent yn ei arwyddocau, y doniau a ddarparwyd, cariad Christ ai paratôdd, Exod. 3.5. Deut. 16.14.
Go. Beth hefyd?
At. Ystyried ein cymdeithas ni â Christ ai radau ef, ac ai bobl ffyddlon trwy yr hyn beth y paratoir y galon i fod yn ddiolchgar, 1 Cor. 10.16.1 Bren. 8.66.
Go. Beth a ddylem ni wneuthur wedi cymmuno?
At. Gofalu am chwanegu ein ffydd, ein cariad, a phob dawn jachusawl, ac amlhau fwy fwy yn gwneuthur daioni, Dihar. 4.18.
Go. Pa ragoriaeth a fydd rhwng y duwiol ar annuwiol, yn ôl diweddu y bywyd yma?
At. Rhagoriaeth mawr: y mae cyrph y duwiol yn gorwedd yn y bêdd, megis mewn gwely per-lysiau, au heneidiau gwedi eu cwbwl rydd-hau oddiwrth bechod, a dderbynnir ir nefoedd, lle y cant weled Duw, a Christ wyneb yn wyneb, Dat. 14.13. Acts 7.59, 60.1 Cor. 13.12. Phil. 1.23. Heb. 12.23.
Go. Beth a ddygwydd ir annuwiol?
At. Eu cyrph a fraena yn y bêdd, au heneidiau a fernir i ddialedd tragwyddol, Gen. 3.19. Luc. 16.23.
Go. Pa bryd y cwbl gyflawnir dedwyddwch yr etholedigion?
At. Yn nydd farn ofnadwy, ac ar yr adgyfodiad cyffredin, Psal. 17.15.
Go. Pwy a fydd y Barnwr?
At. Christ, Arglwydd a Brenin yr eglwys, Acts 10.42.
Gof. Pa fodd y daw Christ ir farn?
At. Mewn modd gogoneddus, gyda lliaws aneirif o angylion nerthol, 1 Thes. 4.16.2 Thes. 1.7.
Go. Pa fodd yr hola ac y barna y Barnwr yma bob dyn?
At. Wrth ei gweithredoedd, y rhai ydynt arwyddion eglur, naill ai oi ffydd, ai anghrediniaeth. Dat. 20.12. Joan 3.18.
Gof. Beth a ddigwydd ir annuwiol yn ol y farn yma?
At. Distryw tragwyddol ymhoenau vffern i bawb a ddirmygant yr efengyl, pa vn bynnag ai yn anwybod, ai yn rhyfygus, 1 Thes. 1.7, 8 9.
Go. Beth a ddigwydd ir duwiol yn ol y farn hon?
At. Hwy a gant weled Duw a Christ yn eglur wyneb yn wyneb, a mwynhau [Page 37]cymdeithas byth-barhaus â hwynt, mewn gogoniant tragwyddol, yn yr enaid ar corph, mewn amgenach mesur, nag y dichon calon dyn yr awrhon ei amgyffred nai ddeallt, 1 Joan 3:2. Joan 17.24. Phil. 1.23. Mat. 25.34.1 Cor. 13.12.1 Cor. 2.9.
Ymadraddion hen Mr. Dod.
1 NID all dim wneuthur niwed i ni ond Pechod; ac ni chaiff hwnnw wneuthur mor niwed i ni, os medrwn ni edifarhau am dano ef, Ac ni all dim wneuthur i ni dda, ond Cariad a ffafor Duw yn Ghrist, a hynny a gawn ni, os nyni a'i cesiwn mewn gwirionedd.
2 Nid oes nêb mewn cyflwr tosturus, ond yr hwn sydd ganddo galon galed, ac ni fedro weddio.
3 Cymmaint ag a fyddo o Bechod, cymmaint a hynny a fydd o Drymder; cymmaint ag a fyddo o Sancteiddrwydd, cymmaint a hynny a fydd o Happusrwydd.
4 Gwna dy Bechod i ti yn Dristwch mwyaf, felly ni chaiff dy Dristwch bŷ h wneuthur i ti niwed; Gwna Jesu Ghrist [Page 2]yn llawenvdd mwyaf i ti, felly ni bydd arnat ti bŷth mor diffyg llawenydd.
5 Y gŵr y mae ganddo Yspryd Gweddi, sydd ganddo fwy nâ phe bai yr holl fŷd ar ei helw.
6 Dau beth a orchymynnodd ef i Gwpl o rai Priod, Gofalon ac Ymrysonau: Am y cyntaf, Bydded eich Gofalon, Pa un a rynga fodd i Dduw yn fwyaf: Am eich Ymrysonau, bydded iddynt fôd, pa ûn a garo eu gilydd oreu: felly y bydd eich Gofalon ach Ynrysonau i ryw ddefnydd; ac felly pob Gofalon ac Ymrysonau afreidiol a ddiflannant.
7 Os ydych chwi mewn Ystâd Briodol, Gwybyddwch a choeliwch, er y gallasech gael Gwraig neu Wr gwell neu gyfoethoccach, etto byddwch siccr na allasech chwi fyth gael un cymmhwysach, Oblegid ei fôd wedi ei ordeinio felly gan Dduw yn y Nefoedd, cyn y gellid ei gyflawni ymma ar y ddaiar; Ac am hynny, er nad ydys yn cyflawni cariad i ti yn ôl, etto gwna di dy ddyledswydd tuag ac dy Briod o ran vsydd-dod i Dduw, a thi a fyddi Siccr o gael cyssar yn y diwedd, er i Dduw [Page 1] [...] [Page 3]dy drîn di â Cheryddon dros amser:
8 Ni ddichon dim Cystuddiau neu Drueni ddigwydd i ni, ond trwy Ordinhâd Duw; ac ni allant wneuthur niwed i ni, eithr rhaid yw iddynt wneuthur da i ni, os ydym ni Blant i Dduw. Eithr yn gyntaf Byddwch siccr na chymmysgoch ddim pechod â hwynt, canys hynny yn vnic sy'n eu chwerwi hwynt; Yn ail, Nac edrychwch ar y Wialen, ond ar yr hwn sy yn taro, canys hynny a bair ymddigio a deffygio hefyd.
9 Os wyt ti yn chwennych bod yn siccr fôd dy bechodau wedi eu maddeu iti, Cais faddeu y Cammau a'r Niweidion a wneler i titheu, yn ôl hynny yn Mat. 6.14, 15. Ystyria bedwar peth ir diben ymma:
1. Siampl Crist, yr hwn a faddeuodd iw elynion ac a weddiodd drostynt.
2. Gorchymmyn Crist, Pan weddioch maddeuwch, os bydd gennych ddim yn erbyn neb.
3. Addewid Crist, Os maddeuwch, maddeuir i chwithau.
4. Bygythiad Crist, Oni faddeuwch, ni faddeuir i chwithau.
10 Ym mhob Trueni a Chyfyngderau, goreu doethineb yw myned at y Cyfaill hwnnw ar sydd nessaf, ewyllysgaraf, ac applaf i gynnothwyo; Y cyfryw Gyfaill yw Duw.
11 Mynych, y dywedai ef, Nad oedd iddo achos yn y byd i gwyno rhag, ei Groesau, gan nad oeddynt ond chwerw ffrwyth ei bechodau ef.
12 Lle mae Pechod yn drwm, mae Croesau yn ysgafn; ac yn y gwrthwyneb, lle mae Croesau yn drymion, Pechodau ydynt ysgafn.
13 Naill ai Gweddi a bair i ddyn beidio â phechu, neu y Pechod a bair i ddŷn beidio â gweddio.
14 Pedwar peth a allwn ni ei ddysgu oddiwrth Blant:
1. Ni ofalant am ddim yn afreidiol.
2. Hwy a gysgant yn ddifalis.
3. Maent yn fodlon iw cyflwr;
4. Maent yn ostyngedig; Plentyn [Page 5]i frenin â chwery â Phlentyn i Gerdottyn.
15 Nid oes vn Cystudd cyn lleied, na suddem ni dano, oni bai fôd Duw i'n cynnal; ac nid oes vn Pechod mor fawr, na wnaem ni ef, oni bai fod Duw yn attal.
16 Os rhoddir anfri i ni, neu ein difenwi, neu os gwneir a ni gam gan gyfaill neu elyn, fe ddylei fod yn flinach gennym ni o ran y pechod a wneir yn erbyn Duw, nag o ran y sarháad neu'r ammarch a wneir i ni ein hunain.
17. Mae Gwr Duwiol yn debyg i Ddafad, pob man fydd well o'i blegid lle y delo. Gŵr annuwiol sydd debyg i Afr, pob man sydd yn waeth o'i blegid; gado y mae ef sawyr drewllyd â'r ei ôl.
18 Cystuddiau wedi eu sancteiddo ydynt ysprydol oruchafiaethau, neu ddyrchafiadau, ac y maent yn llawer gwell i Gristion, nâ 'r holl Arian a'r Aur yn y bŷd gan fod profiad ein ffydd yn werthfaw [...]occach nâ 'r Aur, 1 Pet. 1.7.
19 Hyfforddiadau am Ddydd yr Arglwydd. [Page 6]Gwna 'r Sabbath yn ddydd marchnad i'th Enaid. Na ollwng unawr i golli, ond bydd naill ai yn Gweddio, ai yn ymddiddan, ai yn Myfyrio; Na feddwl dy feddyliau dy hun; Caffed pob diwrnod ei ddyledswyddau; tro y Bregeth a glywech yn ddefnydd o Weddi: Addysc yn Erfyniad, Argyoeddiad yn Gyffes; Cyssur yn ddiolchgarwch. Meddwl lawer am y Bregeth a glywaist, a gwna ryw ddefnydd o honi yr holl wythnos o hŷd.
20 Hyfforddiadau am bob dŷdd. Yn gyntaf, Am y Boreu. Bob boreu rhagfwrw;
1. Rhaid i mi farw.
2. Mi a allaf farw cyn y nôs.
3. I ba le yr â fy enaid, ai ir Nêf ai i vffern? Yn ail, Am y Nôs. Bob nôs gofyn ith enaid y Cwestiwnau hyn.
1. A ddarfu i mi ddwywaith heddyw ymddarostwng ger bron Duw or neill-tu?
2. Pa fodd y gweddiais? Ai mewn ffydd a Chariad?
3. Beth a fu fy Meddyliau arno y dydd heddyw?
4. Beth y bûm i yn ei wneuthur yn fy lle a'm galwedigaeth?
5. Beth a fum i mewn Cwmpeini? A leferais i am bethau da? neu a wrandewaisi, a rhoddi i gadw gyda Mair y pethau da a gly wais?
6. Os adnewyddodd Duw Drugareddau gyda'r boreu, a fûm i ddiolchgar?
7. Os cyfrannodd y diwrnod i mi achos o drymder, a ymddigiais i? Ynteu a orweddais i yn y llwch ger bron Duw? Darfyddo i chwi wneuthur fal hyn, lle y buoch chwi yn ddeffygiol, cyfaddefwch hynny yn athrist; llai a fydd y gwaith i chwi iw wneuthur pan ddelo marwolaeth. Gwna fel hyn uniawn gyfrif â'th Dduw bob nôs. Hyn a fu fy helynt feunyddiol i, ac a gaiff fod yn arfer i mi nes fy marw.
21 Yr hyn a ennillom ni drwy Weddi, ni a gawn ei fwynhau mewn diddanwch.
22 Mae Siccrwydd dauddy-blyg.
1. Siecrwydd Haul-gan.
2. A Lloergan. Y cyntaf yw y llawn siccrwydd hwnnw yn Hebr. 10.22. Y Lloergan yw hwnnw or Gair, yr hwn da y gwnawn fod yn dal arno, 1 Thes. 1:5.2 Pet. 1.19. Y cyntaf ni roddir ond [Page 8]i ychydig, na hynny ond yn anfynych; a hynny naill ai ar ryw ddyledswydd fawr iw chyflowni, neu ryw gyflwr newydd o fywyd i fyned iddo, neu ar ryw sowrion ddioddefiadau i fyned danynt; am yr hwn y dywaid un, Yr oriau (neu r'awrau) y daw, nid yddynt ond anfynych, a byrr y mae yn aros. Yr ail yw yr hwn y rhaid i ni ymddiried iddo, Rhoi goglud ar siccr Air Duw, drwy ffydd o Ymlyniad, pan ydym ni heb y llall, sef Yspryd o lawn Siccrwydd.
23 Am gyffur pobl Dduw, efe a ddaliodd sulw allan or 129 Psalm, Er bod yr annuwiol yn Arddwŷr ar y Cyfiawn, ac aredig o honynt yn ddwfn, a gwneuthur cwysau hirion, a hefyd aredig eu calonnau hwynt allan, pes gallent; etto yr Ayglwydd cyfiawn yr hwn sy yn eistedd yn y Nefoedd, sy yn chwerthin am eu pennau, ac yn torri eu Tidau, au rhaffau ac yna nid allant aredig dim ychwaneg.
24. Yn achos Erlidiadau a Dioddefiadau eraill, fe ddylei bobl Dduw ystyried yn ddifrifol y pedwar peth hyn:
1. Duw sydd yn mynnu iddynt fod, ac yn eu hanfon: Weithian Ewyllys [Page 9]Duw sydd berffaith Reol Cyfiawnder; a'r hyn y mae Duw yn ei wneuthur, a wnaethpwyd cystal, nas gallai mor bod wedi ei wneuthur yn well.
2. Mae yn rhaid wrthynt, oni bai hynny ni chaem ni mhonynt.
3. Eu rhifedi, eu mesur, a'u parhâd a benderfynnwyd gan Dduw; nid ydynt ond tros ennyd fechan, nac yn parhau ond ychydig ddyddian, Dat. 2.10. nid ydynt rŷ drymion, rŷ-aml, neu rŷ-hir, fel y mynnei 'r Cythrel iddynt fôd; na rhŷ-anaml, rŷ-fyrrion, neu rŷ-ysgafn, fel y mynnei ein naturiaeth lygredig iddynt fôd.
4. Ei diwedd sydd bwys o ogoniant, a'r Goron a'u canlyn sydd dragywyddol, 2 Cor. 4.17.
25 Tri pheth a bair i ddŷn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd ymma ar y Ddaiar.
1. Cael ystâd dda:
2. Ei chael hi mcwn lle da.
3. Wrth gymmydogion da. Yn awr y tri hyn y mae y rhai sydd yn meirw yn yr Arglwydd, yn eu mwynhau mewn modd rhagorol..
1. Eu Nefol Etifeddiaeth sydd fawr, Ni [Page 10]welodd llygad, ni chlywodd clust y cyffelyb, 1 Cor. 2.9.
2. Mae hi mewn lle da, 2 Cor. 5.1. Y Nefoedd, yr hwn sydd Dŷ a wnaethpwyd iddynt hwy, ac a wnaethpwyd gan Dduw, ac am hynny mae'n rhaid iddo fod yn dda.
3. Yn agos at Gymmydogion da; Duw, Crist, yr Yspryd, Angelion a Seintiau. Yr oedd gan Adda Etifeddiaeth dda, ac mewn lle da; ond yr oedd ganddo Gymmydog drwg ar y Cythrael, yr hwn ai blinodd ef, ac a anafodd y cwbl. Ond nid oes dim Cymmydogion drwg yn y Nefoedd.
26 Nid yw Dioddefiadau pobl Dduw yn rhwystro eu Gweddiau hwynt. Elias oedd ddyn yn rhaid iddo ddiodef fel ninnau, ac efe a weddiodd ac a wrandawyd. Jac. 5.17.
27 Tri pheth sydd yn cyd-ymganlyn [...] wneuthur i fynu y pechod yn erbyn yr Yspryd glân.
1. Goleuni yn y meddwl.
2. Malis yn y galon.
3. Yr anheimlad o'r pechod. Y nêb sy yn ofni ddarfodd iddo ei bechu ef, ni phechodd ef mo hono ef.
28 Y rheswm pa ham na weithir ar lawer sydd tan nerthol foddion Grâs, lle y mae llaweroedd ar sy yn byw o bell, ac yn dywad yn anfynych ran Bregethwr nerthol, yn cael gweithio arnynt drwy hynny, efe a arferei oi roddi drwy'r gyffelybiaeth yma: Megis mewn Tref farthnad, nid oes cymmaint matter gan bobl y Dref am bethau sy yn y farchnad, a chan y rhai sydd yn byw yn y wlâd; maent hwy yn dyfod i brynnu, a rhaid yw iddynt, a hwy a fynnant gael y peth sydd arnynt ei eisiau, beth bynnag a dalont am dano; lle mae y rhai sy yn byw yn y Dref, yn tybied y gallant brynnu, pa amser bynnag y gwelont yn dda, ac felly yr escelusant brynnu am yr amser presennol; ac o'r diwedd, maent yn fynych jawn yn cael eu siommi, au twyllo.
29 In perswadio ni i beidio a rhoi sen am sen, efe a ddywedai, Os Ci a gyfarth ddafad, ni chyfarth y ddafad mor Ci.
30 Pedwar O Resymmau yn erbyn Gofalon anghymhedrol am bethau daiarol, f [...]l na ddianrhydeddem Dduw, na'i wadu, efe a nôdodd allan o Mat. 6.
1. Maent yn a freidiol.
2. Maent yn anifeiliaidd.
3. Maent yn anfuddiol.
4. Maent yn arfer o ddilyn y Cenhedloedd.
1. Yn afreidiol: pam y rhaid i ni ofalu, a Duw hefyd? adnod. 30, 31, 32. Gŵyr ein Tad nefol fod arnom eisieu y pethau hyn, a pheri y mae ef i ni, na ofalom am ddim, ond bwrw ein gofal arno ef yr hwn sy yn gofalu drosom ni.
2. Yn anifeiliaidd, ie a gwaeth nag anifeiliaidd: adnod. 26. Edrychwch ar adar y nefoedd, a'r cygfrain y mae ef yn eu porthi, nid ydynt yn llafurio.
3. Mae'n Anfuddiol, ac yn ddilês. adn. 27. Pwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufudd at ei faintioli, neu vn geiniog at ei olud.
4. Arfer y Cenhedloedd yw, Yr holl bethau hyn y mae y Cenhedloedd yn eu ceisie adnod. 32.
31 Mae bagad yn y bŷd yn cymmeryd yr enw o fod yn Sainct ar Ymddiried, ar dŷb da eraill am danynt, ac yn marchnatta yn nyledswyddau Crefydd, ar y goel a ennillasant oddiwrth Opinionau da rhai eraill am danynt hwy, a'u proffess: Credu [Page 13]y maent eu bod eu hunain yn Gristianogion, oblegid bod eraill yn gobeithio eu bod hwy felly; ac a negeseuant mor wresog eu zêl mewn dyledswyddau sy yn sefyll oddiallan, i gynnal eu Henw da; eithr ni edrychant vn amser am ystocc o gadarn Râs oddifewn; a hyn sydd yn anafu llawer.
32 Fel yr ydym ni yn darllen am fara beunyddiol, felly hefyd am Groes feunyddiol, Luc. 9.23. yr hon y perir i ni ei chodi, nid ei gwneuthur. Nid rhaid i ni mor gwneuthur Croesau i ni ein hunain, fal yr ydym ni yn rhŷ barod i wneuthur; ond gadwn i Dduw eu gwneuthur hwynt i ni: Croesau a wneir yn y Nefoedd, sydd fwyaf cymmwys i gefnau'r Sainct; ac ni wafanaetha i ni moi rhoddi hwy i lawr, nes iddynt hwy a ninnau orwedd i lawr ynghŷd.
33 Ymadrodd hynodol oedd hwnnw o'r eiddo Gwr sanctaidd, Diffoddwch vffern, a llosgwch y Nefoedd, etto myfi a garaf ec a ofnaf fy Nuw.
34 Nid crochlefain yn erbyn y Cythrel, nac ymadroddi yn erbyn Pechod mewn [Page 14]Gweddi neu Ymddiddaniad, ond ymlâdd âr Cythrel, a marweiddio ein Trachwantau, yw 'r hyn y mae Duw yn bennaf yn edrych arno.
35 Y Proffesswr gwâg sy yn siommi neu'n twyllo dau ar vnwaith;
1. Y byd, yr hwn wrth weled dail, sy yn disgwil ffrwythau, ond nid yw yn cael dim.
2. Ei hunan, yr hwn sy yn tybied cyrraedd y Nefoedd, ond sy yn dyfod yn fyrx o honi.
36 Yr vnig ffordd i Enaid cystuddiol ni fedro ymafaelio neu ymaflyd mewn Cyssurau o'r blaen, oblegid Gwrthdroeadau neu bechodau ar ol, ac felly sy yn ammeu ei holl ficcrwydd o'r blaen, yw, Adnewyddu ei Edifeirwch, fel pe buasei ef heb gredu erioed.
37 Hawdd gan rai feddwl pe baent yn y cyfryw Deulu, dan y cyfryw Wenidog, allan o'r cyfryw Demptasiwnau, nad ymmyrrau 'r Cythrel a hwynt, fel y mae. Eithr y cyfryw rai a ddylaent wybod, Mai cyhyd ag y byddo ei hên Gyfaill ef, sef y cnawd yn fyw oddi fewn, [Page 15]y bydd ynteu yn curo wrth y drws oddiallan.
38 Yr hadau a hauwyd yn Naturiaeth Diafol a'r Saint cyn ddyfned, na ddiwreiddir hwy bŷth, hyd oni pheidio y Cythrel a bod yn Gythrel, a Phechod a bod yn Bechod, a Sant a bod yn Sant.
39 Melinydd Diafol yw'r Pechadur, yn malu yn wastadol; a Diafol sydd yn wastad yn llenwi yr Hoppran, neu 'r pin fel na safo 'r felin.
40 Mae rhai pechodau na fedr dyn anwybodus moi Gwneuthur; eithr y mae llawer ychwaneg na fedr dŷn anwybodus ond eu gwneuthur.
41 Y mae pump o rwymau â phâ rai y rhwymodd Duw 'r Nefoedd ef ei hun i fod yn Gard neu'n Geidwad i gadw einioes y Saint yn erbyn Gallu y Tywyllwch.
1. Ei berthynas iddynt megis Tâd.
2. Ei Gariad ef iddynt o ran ei bod hwynt yn Esgoredigaeth ei Gyngor Tragwyddol ef, megis cyfrannogion o'i Lûn ef ei hun.
3. Pridwerth Gwaed ei fàb, a'i Gyfammod â hwynt.
4. Eu Goglud arno ef, a'u Disgwiliad oddiwrtho, yn eu holl gyfyngderau: Yn awr Disgwiliad a gobaith y trueiniaid ni chollir bŷth, Psalm 9.18.
5. Gwaith presennol Crist yn y Nefoedd, yw edrych am fod pob peth yn cael ei ddwyn rhagddo yn dêg rhwng Duwâ nhwythau.
42 Bara haidd gyd âr Efengyl sydd ymborth dâ.
Y deg gorchymmyn, Exod. 20.
Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn gan ddywedyd, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw; yr hwn ath ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
1 Na fydded it dduwiau eraill ger fy mron i.
2 Na wna it ddelw gerfiedig, na llûn [Page 17]dim ar y sydd yn y nefoedd vchod, nac ar y sydd yn y ddaiar isod; nac ar y sydd yn y dwfr tan y ddaiar: Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth o'r rhai am casânt: ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, or rhai am carant, ac a gadwant fyngorchymynion.
3 Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
5 Cofia y dydd fabboth iw sancteidio ef. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith, ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, ty di na'th fâb, na'th ferch, nath wasanaethwr nath wasanaetlh-ferch, nath anifail, nath ddiethr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: o herwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaiar, y mor a'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd [Page 18]yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac ai sancteiddiodd ef.
5 Anrhydedda dy dad ath fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi iti.
6 Na lâdd.
7 Na wna odineb.
8 Na ledratta.
9 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
10 Na chwennych dŷ dy gymmydog; na chwenych wraig dy gymmydog na'i wasanaethwr na'i wasanaeth ferch, na'i ych na'i assyn, na dim ar sydd eiddo dy gymmydog.
Gweddi yr Arglwydd, Mat. 6.
FIN Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw. deled dy deyrnas: gwneler dy ewyllis, megis yn y nef, [Page 19]felly ar y ddaiar hefyd: dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; a maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn nineu i'n dyledwyr. ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg: canys eiddot ti yw'r deirnas, ar nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd. AMEN.
Y Credo.
CRedaf yn New Dâd oll-gyfoethawg, creawdwr nef a daiar. Ac yn Jesu Grist ei vn mab ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glân, a aned o fair forwyn: a ddioddefodd dan Pontius Pilatus; a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd, a ddescynnod i vffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a escynnod ir nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad, oll gyfoethawg, oddiyno y daw i farnu by w a meirw. Credaf yn yr Yspryd Glan, yr Eglwys lan gatholig, cymmun y Sainct, maddeuant pechodau, cyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragwydol. Amen.