EGWYDDOR I RAI JEVAINGC I'w cymmhwyso i dderbyn y Cymmun Sanctaidd YN FUDDIOL

Gwaith y Parchedig a'r Dwyfol Athro Simon Patrick Deon Llanbedr yn lloegr.

A Gyfieithwyd o'r Saesonaeg, gan Edward Llwyd, Athro yn y Celfyddydau.

Ag a Brintiwyd yn Llundain, 1682.

Yr Awdur at y DARLLENYDD

Nld oes gyngor iachus­sach na mwy angen­reidiol na hwnw y mae Solomon yn ei roddi, yn niwedd ei fyfyrdodau ar wagedd pob peth tan haul: Nid amgen na hyn, Cofia yn awr dy greawdr yn nyddiau dy jevengtyd, Cyn dyfod y Dy­ddiau blin a nesau or blynyddo­edd yn y rhai y dywedi nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt; A hyn all wasansaethu yn lle [Page]rhag ymaddrodd ir Llyfr hwn; yn enwedig os newidir un gair, gan ddywedyd fel hyn; Cofia dy jachawdwr yn nyddiau dy jengctyd bydd Synniol, hyn yw, pa faint o ddyled Sydd arnat iddo, ag na Anghofia mo hyn­ny. Ond Cofia hyn bob amser mal megis y derbyniaist dy fod­oliaeth oddiwrtho ef; a'th fod hefyd gwedi dy brynu a phris neu elw mawr ag am hynny ti ddy­lid foliannu Duw mewn corph ag enaid, y rhai Sydd eiddo Duw, 1 Cor. 6.20. Gwna y Cynghor hwn mewn amser; ag yn dy ddyddiau gorau (yn dy Lygru a'th ddiwyno trwy ddry­gioni a throssedd. I'r Cyfryw ffyrdd peryglus; os wyt neu os buost mor annedwydd, ag an­happus ai Cychwyn. Cymmer [Page]gyngor iachus yn awr pa wedd y mae iti ymadel a hwynt yn Yngwrth ac ymroa yn hollawl dy hunan i wasanaeth Duw: A nad i achosion yn y byd Llai o Lawer ofer ddiddawch dy rwy­stro di i wneuthur dy ddyledswy­dd iddo; ai chyflawni yn ffydd­lawn, yn enwedig y ddyled a or­chymynodd efe iti ei gwneuthur i'w goffadwriaeth; Nattur ange­nolrwyad, a diben y cwbl yn­ghyd ar modd iw gwneuthur 'r w [...]fi yn eu gossod yn olau o'th fla­en i'w calyn yn y llyfr hwn yn hawdd ei ddeallt gan bob dyn tan obeithio trwy gynhorthwy Duw y gwnant leshad ir 'cyfryw ag a ymroant i'w hymmarfer ai deallt.

Y Cyfieithydd at ei anwyl Blwy­folion, yn llangowair yn swydd feirion, Rhad, a thangneddyf, oddiwrth Dduw Tad ein Harglwydd Jesu Grist a aml­haer i chwi.

FEl na ymddangoswyf fy mod yn ddeffygiol ar ol fyngallu, ich addysgu, hyfforddio, hywe­ddu ach (yfarwyddo yn addysg Crist: Mi a anturiais, (ag fel yr wyf yn gobeithio, er budd a lle­shad i chwi oll) gyfieithu y lly­fran bychau hwn, i hyn som han­nogwyd, trwy'r un fath ystyri­aeth ag y mae 'r Apostol St. Petr yn Crybwyll yn ei 2. Epistol 1. [Page]12, 13, 14, 15. fel hyn y mae yn dywedyd.

Nid Esceulusaf eich Coffau bob amser am y Pethau hyn er eich bod yn eu gwybod, ag wedi eich siccrhau yn y Gwirionedd presen­nol.

Eithr yr ydwyf yn tybied, fod yn jawn trafyddwyf yn y Tabernacl hwn, ych Coffroi chwi, trwy dd­wyn ar gof i chwi.

Gan wybod y bydd imi ar frys roddi fy Nhabernacl hwn heibio: megis ag yr yspysodd ein Harglwydd Jesu Grist imi.

Ag mi a wnaf fy ngorau hefyd ar allu ohonoch bob amser, ar ol fy ymadawiad i, wneuthur Coffa am y pethau hyn.

Y mae yn rhan om llawen­ychiad, yn fy henaint, yn gy­meint ag imi breswylio yn eich mysc onid tair blynedd deugain) fy mod mor ddedwydd am ych bod yn fy ynghfrif, am Cymerud,

[Page]yn eich plith megis un yn Ewyl­lysio, eich Daioni, ach llwyddi­ant; yn neillduawl, ag hefyd yn gyffredin: a thrwy gynnorthwy Duw, myfi a barhaf felly yn wasdadol, y rhan arall or ychy­digyn amser a osodwyd i mi, Cyn ym fyned ymaith, ag nam gweler mwyach. Yn y Cyfamser Cym­merwch gennyf y rhodd fechan hon, megis fy llythyr cymmyn, yn [...]ich tafodiaith eich hun yn ar­wydd om Cariad diragrith tuag­attoch yn y'r hwn chwi a gewch a [...]hrawiaethau siccr a safadwy pa wedd y mae ichwi eich ymddwyn eich hunain, ach paratoi i dder­byn y Sacrament bendigedig o gorph a gwaed ein Harglwydd, an jachawdwr Jesu Grist gan gei­sio y fendith ddifinyddiawl arnoch eich hunain, ag hefyd ar ych teu­luoedd.

[Page]Megys rhai yn byw mewn Cyd­gariad, gan gynnorthwyo eu gi­lidd; megis rhai yn yn gwybod fod gras Duw yn safadwy, gwedi ym­dd [...]ngos i bob Dyn, i'n haddysgu i ymwadu ag anuwiolder, a thrach­wantau bydol.

Ag y dylem fyw'n Sobr, yn Ddu­wiol ag yn gyfiawn yn y byd presennol hwn; gan ddisgwil am y gobaith bendigedig hwnw, ag anrhydeddus ymddangosiad y Duw mawr a'n ja­chawdwr Jesu Grist; Y'r hwn ai offrymmodd eu hun trosom ni, bechaduriad truain, fel y gallai ein rhyddhau ni, oddiwrth bob math o anwireddau ag annwioldib gan ein puro ni iddo ei hunan, yn bobl etholedig, yn ymlawennychu mewn gweithredoedd da.

I'r Cyfryw berwyl od yw y Cyfieithiad hwn, neu boen neu lafur arall yn y byd a wnelwyf, yn eich boddhau chwi, dyna fi yn Cael fy Ewyllys, ag felly gan ych [Page]gorchymmyn chwi oll, am gw­aith hefyd, tan fendith y goru­chaf Dduw, y gorphowys.

Ych gwir gariadus, a'ch ffydd­lon wenidog ynghrist, Edward Llwyd.

Ar y Gorthrymder gynt, y bu y Cyfieithydd dano, ei Warediad, ohono, ac ar y Cyfieithiad.

ER Gorthwm llawdrwm lladron a Thrafod
Y Gwrthryfel creulon,
Ni chollaist, ni wedaist Jôn,
Nath air Gwr, na Thu'r Goron.
Er erlid a llid a cholledydd oedd,
Heb un awr ddigerydd
O flaen y byd aflonydd,
Ys da ffawd, cedwaist y ffydd.
Yn y dryccin, [Hin yr An-hunedd dygn]
A digon o ddialedd
Mynnai Duw roi 'mynedd
Oi ras it i aros hedd.
Duw o'i farn cadarn fel codiad o feirw
I'th fowrwych Gymeriad,
A'th ddug, eilwaith y gwelad
O'r nos du, i'r hen ystad.
E [...] dued lludded, daeth llwyddiant ago [...]
[Mega [...]st a'th ddirprwyant,]
A Gwir ddawn ag urdduniant,
Hir-fendith i Blith dy blant.
Ag yn awr Lên mawr mewn maith, O henaint
Dihunaist yr heniaith,
Gan Droi'r Anrheg Saesneg-waith,
Gymro gwyn i'r Gymraeg Jaith.
Cyfieithiad eiliad hoywlan Egwyddor
A llyfr Gweddi, diddan
A wnaethost, inni weithian
Dyna Rodd! bo'duw 'n dy ran.
Gwaith Padrig a drig, yn dragowydd dâl
I dylwyth Meirionydd
Ai Ragor iw Gymreigydd
Hynny sy' deg nos a dydd.
Dy lafur gwaith pûr, darparwyd o rann.
Y Gymraeg a urddwyd;
Degle, Lên parchediglwyd,
Dawn i'r Jaith a'i doniwr wyd.
Di gei Nawdd yn hawdd, Gair hydda yngod,
Angel Cadair Assa';
A phellach it, ni phalla,
Gan Gymru deulu, ddydd da.
Ei gowir a'i ffyddlon gâr, Meredydd Llwyd a'i Cant. Er dal Cof am ei Anwyl Ewythr, a'i anrhydeddus henaint.

Y Tirion ddarllenydd er maint fu'r Gofal fo lithrodd ym­bell fai tan Law'r Printiwr, megis camgymeryd, camosod, neu adael allan y Gorphowysfeuydd neu rai ohonynt, rhoi yr naill lythyr­en yn lle 'r llall, Neu ei chamosod neu golli llythyren neu roi unfach, yn lle un fawr, nid oes Gymaint nas gelli yn hawdd a'th law dy hun e'u diwygio, rhai or beiau amlyccaf sy'y'n Canllyn.

Pagina 66. llin y bedwaredd rhwng eich ag yn scrifenwch hun. pag, 80. llin 24. yn lle amwyadu rhowch anwydau. pag. 128. llin 23. y'n lle fyna rhowch fuan. pag. 132. llin 5. yn lle ddimau rhowch ddiamau.

O Gweli ddim ychwaneg a'r gam, uniona whynt yn howddgar.

Hyn a ddamweiniodd, yn ddiar­wybod i'r Awdur, ag o anfodd y Golygwr, gan frys yr Argraffwasc Bydd wych.

PEN. I. Am y ddled-swydd.

PAN hyspyso gwenidog Duw, megis y mae yn rhwymedig iw wneu­thur, ei fod ar y cyfryw ddydd neu ddiwrnod yn bwriadu gweinyddu neu i gyfrannu y Cysu­raf sacrafen neu gymmun o gorph a gwaed Crist ein iachawdwr gan eich gwahawdd chwi i ddyfod iw dderbyn ag iw gymmerud, gan attolygu i chwi eich paratoi eich hunain, yn dduwiol ag hefyd yn ddefosionol; mae yn angenrhaid i chwithau ddeall mai eich iawn ddyled chwi yw, eich paratoi eich hunain; i ddyfod yn deilwng gyfranogion or fath fawr fendith, Ag nid meddwl mai digonol [...]w [Page 2]eich bod yn gwrando 'r Gwasanaeth ar bregeth, ag ar hynny troi eich cefnau at fwrdd yr Arglwydd, yr hwn beth sydd yn amarch mawr iddo ef, ag nis gellir yn hawdd moi escusodi, megis y mae calonnau dy­nion drygionus yn peri vddynt goe­lio ei fod, ag er bod y fath ddaioni yn nuw, yn gymmeint ai fod yn cyfri yn well, weithredoedd tri­garedd in cymmdogion o flaen of­frwm nag aberth iddo ei hunan, pan esceulusser un ohonynt er hyn, nid yw yn gwneuthur mor un cynnig am achosion daiarol, (y, rhain a ellyd yn hawdd eu hepcor ai gadel heibio hyd amser arall;) Llai o lawer eich diddanwch ofer, ach difyrwch, y rhain ni ddylent luddias, rhwstro, na rhoi heibio y ddyledswydd hon, nag un ddyled aral dduwiol; yn yr amser cy­faddas iw gwneuthur, dewch bawb gan hynny, cynnifer gwaith ag ich gwahodder. A phan weloch [Page 3]wenidog Duw ar ddarfod [...] bre­geth, neu 'r gwasanaeth; yn my­ned at y fort Sancteiddiol i baratoi y lluniaeth nefol hwn i chwi; hynny yw, i gyssegru 'r bara gwe­di ei dorri ar gwin gwedi dowallt allan, fal y gallo arwyddoccau i chwi farwolaeth Crist; ai roddi i chwi gan Ddywedyd Cymmerwch a bwytewch ag yfwch hwn er cof amdanaf; Hynny yw coffadwriaeth am Grist; Sefwch yn nhy Dduw; a neshewch at ei fwrdd, ag yn ddiolchgar derbynniwch hwynt gantho; am y diben y mae yn eu rhoddi; nid amgen coffadwriaeth am farwolaeth Crist ai ddioddefai­nt ar y groes er dy fwyn di, dled­swydd gwenidog Duw yw gossod y Bara ar gwin or naill du; eu darparu nhwy i Dduw. Torri y naill a thowallt allan y llall; eu bendithio, ai rhoddi nhwy ichwi: yno eich dyledswydd chwithau yw edrych ar y, Bara ar gwin (fel [Page 4]hynny gwedi eu cyssegru a'u ben­dithio, megis yn arwyddoccau i chwi Grist) ag felly eu derbyn; nid megis Bara a gwin, ond y peth sydd yn arwyddoccau ei gorph ai waed ef, i'w gyfrannu i'r teilwng dderbynwyr.

PEN. II. Angenolrwydd y ddyled­swydd hon.

FAI y galloch gyflowni y ddy­ledswydd hon; yr ych yn rhw­ymedig. Yn gynta peth, trwy hy­spyssol orchymyn ein harglwydd Grist; yr hwn a ellwch yn eglur gael ei weled; gwedi ossod yn olau i'r byd bedair gwaith yn y Testament newydd: hynny yw llythyr cymmun neu ewyllys di­weddaf Crist; a hynny gan dri or Efangylwyr nid amgen na rhain St. Matthew 26.26, 27. St Mark [Page 5]14 22, 23. St. Luke 22.19, 24 felly hefyd y mae St Pawl yntau yn dywedyd yn ei Epistol cyntaf at y Corinthiaid, Pen. 11.23, 24 25. Yr holl leoedd hyn, ond yn enwedig y diweddaf, chwi a wnaech yn dda eu darllen yn ofa­lus, ag yna, eu hystyried.

Yn a [...]l mae mwy gofal iw gym­merud, am y gorchymyn hwn, ( Gwnewch hyn er cof amdanaf) yr hwn y mae St. Pawl yn i ddywe­dyd; ei dderbyn gan yr arglwydd ai fod yn orchymyn diwe­ddaf Crist cyn ei farw, y nos honno, a bradychwyd ef cynn ei ddiodd­efaint, yr ydym ni yn arferol, mewn achossion eraill o fod yn barod i gofio ag hefyd, yn ofalus iawn am gyflowni, ewyllys diweddaf ein cy­faill wrth farw; Ag am hynny, pa gyfrif arall allwn ni roi am hyn os byw fyddwn ag Esceulusso y ddy­led hon, gwedi gorchymyn mor gyhoedd, ond ein bod fal dieithraid, [Page 6]neu a'r y gorau fod yn oer iawn ein cariad iddo ef, yr hwn gariad, mae yn angenrheidiol i chwi ei fy­whau.

Yn drydydd, eich gofal yn y ddyled hon, a bair i chwi ystyried yn well ar y gorthymmynion erail y rhai yn awr y soweth (fal y mae gwaetha bod) a ddibrissir; am nad oes fawr ystyriaeth am y gor­chymyn diweddaf hwn, yr hwn a ddarfu ir Arglwydd yn dybygol ei chwanegu, pan ymadawodd ar byd i ddiogelu yr holl rai erail a draddo­sai fe or blaen; mae gwneuthur hyn a gallu mawr yntho; i gynhyr­fu cariad Crist, yn ein calonnau ni; A chariad Crist sydd yn ein cymmell ninnau (megis yr addysga St. Pawl 2 Cor. 5.14, 15.) Canys y mae cariad Crist yn ein cymhell, gan farnu ohonom fal hyn, os bu un farw tros bawb, fal na byddei i'r rhai byw fyw, mywach iddynt eu hunain and i'r hwn a fu farw trostynt, [Page 7] ag a gyfodwyd. Am hynny gwnewch hyn er cof amdano ef; yr hwn yw'r modd galluoc­caf i chwi bob amser i wneuthyd yn dda.

Yn ddiweddaf efe a fydd yn fodd ich cynhyrfu chwi i ystyried eu or­chymmynion trwy gariad ag ew­yllys os bydd diffyg y rhain, nid yw, eich vfudddod chwi o ddim cyfrif neu ond ychydig, canys heb gari­ad, nid yw 'r cwbl ar a wneloch yn gymmeradwy gan Grist, 1 Cor. 13.1 ag oni ewyllyssiwch y peth ir ych yn ei wneuthur ni bydd yn gymmeradwy gennych eich hu­nain, ond ni bydd diffyg yr un or rhain, os yn ddefossionol yr ymmar­ferwch ddyfod ir cymmun Sancta­idd. Ll [...] mae Crist yn ymddangos (yn ei arwyddion gweledig oddial­lan yn ewyllysgar ich gwared er gorfod iddo farw trossoch chwi, gan ddywedyd, pan grybwyllwyd hyn gynta iddo;) Wele yr wyfi yn dyfod [Page 8] yn Ewyllysgar i wneuthur dy ewyllys o dduw.

A ellwch gan hynny ymattal, pan feddylioch am hynn heb ddangos yr un fath gariad, a llawe­nydd. Am fod yn hawsach i chwi gyflowni ewyllys Duw nag ir oedd iddo ef ddioddef y cyfrw bethau ag a wnaeth yn ei ufudddod idd [...].

PEN. III. Am y diben y darfu ei ordeinio.

FE fydd gennych fwy awydd a thuedd i hyn, pan ystyrioch y diben, ar diwedd am yr rhai ir or­deniwyd coffadwriaeth am ddiode­faint Crist ai farwolaeth y cy­fryw rai. A rhain sef

Yn gynta, gwneuthur prof­fess eich bod yn gristianogion, a chredu yn ffyddlon ir grefydd a seliodd Crist ai-waed, ag mai dyma [Page 9]'r union ffordd i hapussrwydd, a bod ych holl fryd ar barhau yn yr union ffordd honno, er pa beth bynnag a all ddigwyddo, ie pe gorfyddai, i chwi ei galyn ef at ei groes a dioddeu eich croeshoelio.

Yn ail, rhoi gostynegdig ddiolch i Dduw tad, am ddanfon eu unig anedig fab Jessu Grist ir byd i fod yn aberth tros ein pechodeu ni; A rhoi gostyngeiddiaf ddiolch i Dduw y mab, y bendigedig iach­awdwr; Jessu Grist (am fod yn wiw gantho) ymddarostwng cyn issed, ag iddo farw Marwolaeth gywilyddus y groes; Lle ir offrw­modd ei gorph ei hun i fwrw ymaith ein pechodau ni; Trwy ei aberthu ei hunan, a rhoi mawr ddiolch ei Duw yr yspryd glan, yr hwn a dda­eth i ni, a newyddion da or nefoedd ar ol in iachawdwr Escyn yno, A chwedi iddo ef buro 'n pechodau ni trwyddo i hun, efe a eisteddodd i lawr ar ddeheulaw y mawrhydi yn y goru­chelder. [Page 10]Lle y mae efe yn byw yn dragywyddol, Lle hefyd y mae yn goffadwrus amdanom ni, ag hefyd am yr addewidion, y rhai yn ddi­ammau, a gyflawna ef fal y mae ini weled yn eglur wrth y gwystlon a adawodd efe i ni, oi fawr gariad aniben a diddiwedd.

Yn drydydd, gan hynny yr ych chwi yn eich rhwymmo eich hunain, wrth goffadwriaeth y peth­au hyn i fod yn ffyddlawn iddo yn­tau; a chadw yn ddihalogedig, y cyfammod Sanctaidd hwnnw, trwy 'r hwn yr ych yn Arbennig, wedi ymrwymo, i fod yn hollawl yn eiddo ef, ag ar ei wassanaeth, ych dyfodiadiw fwrdd ef, (sydd yn na­turiol) yn arwyddoccau eich bod chwi oi deulu ef, ag hefyd oi ber­thynas: felly gwedi ych bod yno mor gariadus, gwedi eich croesawu gantho ef, yr ych chwithau yn rhwymedig am hynny ich hymddwyn ych hunain; megis ei wassa­naethwyr, [Page 11](ag mewn gwirionedd) yn dybyccach iw gyfeillion, ag am hynny addunedwch wneuthur felly yn awr yr ych yn gyfeillion iddo, os cyd-gytunwch wneuthur ei ewyllys ef ymhob peth, cystal a hyn, (nid amgen) coffadwriaeth am ei fawr gariad ef, yn marw trossoch, felly y mae efe ei hunan yn doedyd, ag yn tystiolaethu wrth ei Apostoli­on, yn y geiriau coffadwrus hyn; Joan 15. pen 13, 15. Cariad mwy na hwn nid oes gan neb, sef bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion, chwy­chwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchy­myn i chwi.

Yn ddiweddaf, am ein bod fal hyn yn rifedi y ffyddloniaid mae gennych yn y sacrafen Sanctaidd hwn, gymundeb a Christ yn ei ddioddefaint ai farwolaeth; Ag hefyd yn ei haeddedigaethau; ag er nad yw y pethau a dderbynnir ohonynt eu hunain ddim amgen na [Page 12]Bara a Gwin; etto trwy dduwi­ol ag ysprydol rad, i maent yn gorph ag hefyd yn waed Crist ir ffyddloniaid, y rhai trwy rhain, a wneir yn gyfranogion, or budd ar lleshad a bwrcassodd neu a brynodd Crist yn ddigon drud trwy ei aber­thu ei hunan tros ein pe­chodau ni, fal yn rhagorawl y mae i chwi iw weled ar ol y cymmun, yn addysg i chwi fal hyn, Holl alluog, a bythfywiol Dduw, yr ydym ni yn dirfawr ddiolch i ti, am fod yn wiw gennit ein porthi ni y rhai a gymmerasom yn ddyle­dus y dirgeledigaethau Sancteiddiol hyn, ag ysprydawl ymborth gwerth­fawroccaf gorph a Gwaed dy fab ein Iachawdwr Jesu Grist, ag wyt yn ein siccrhau ni drwy hynny oth am­geledd, ag oth ddaioni i ni, a'n bod yn wir ael [...]dau wedi ein Copholae­thu yn dy ddirgel gorph di, yr hwn yw gwynfydedig gynnulleidfa yr holl ffyddlon bobl, a'n bod hefyd [Page 13]trwy obaith yn etifeddion dy deyr­nas dragywyddol, gan haeddedigae­thau gwerthfawroccaf angau a di­oddefaint dy anwyl fab, ydd ym ni yr awrhon yn ostyngedig yn attoly­gu i ti nefawl dad, felly ein cynnor thwyaw ni a'th rad, fel y gallom yn wastad aros yn y Sanctaidd gymde­ithas honno, a gwneuthur pob rhyw weithredoedd da, ag a ordeiniaist i ni rodio ynddynt trwy Jesu Grist ein harglwydd, ir hwn gyda thi a'r yspryd glan, y bo holl anrhydedd, a gogoniant yn dragowyddol. Amen.

PEN IV. Am y paratoad i'r cymmun.

FE a dybygai un, fod hyn yn ddi­gon i gynhyrfu pob dyn ag a fydd a dim gofal arno am ei iechy­dwriaeth tragywyddol (neu ei fod­lonrhwydd presennol) i wneuthur eithaf, ei allu, i'w baratoi eu hun i fod yn deilwng dderbynwr or fath fawr fudd, a lleshad. Ag nid yw yn anhawdd moi wneuthur. Canys pan ddyscoch eich Catechism, fal i mae yn eglur gwedi ossod allan, yn llyfr gweddi gyffredin i'w ddy­scu gan bawb ag a fedyddiwyd; ac yn ddifrifol yno ysttyried yr addun­edau ar addewidion a wnaed tros­soch, ag yn y'ch henwau gan, eich tadau, ach mammau beddydd wrth y'ch bedyddio, yn y lle nes­sa [Page 15]chwi a ddylech gymmerud yr amser cyfaddas cynta, i gael budd cadarnhad conffirmiad, (sef yw hynny arddodiad dwylo Escob, yno yr ych yn adnewyddu y cyfammod arbenig, ar adduned a wnaed yn eich henwau chwi, trwy eich mei­chnafon) wrth y'ch bedyddio gan siccrhau a chadarnhau hynny yn eich cyrph y'ch hunain, gan gydna­bod, eich bod yn rhwym i gredu ag hefyd i wneuthur yr holl bethau hynny, a ddarfu i'ch tadau bedydd, a'ch mammau bedydd addo tros­soch chwi eu gwneuthur; Ag hefyd wrth arddodiad dwylo Escob; i mae mwy o rad difinyddiawl gwe­di gyfrannu i chwi i'ch cadarnhau, ach cryfhau yn eich amcannion Cristianogol, fal y galloch fod yn eiddo Duw yn dragowydd.

Ar ol hynny chwi a ellwch edrych arnoch eich hunain heb ddim am­mau, fod gennych gyfiawnder, i dderbyn; ag hefyd i gymmerud y [Page 16]Sacrafen (ne'r cymmun) bendige­dig o gorph a gwaed Crist, y'ch pa­ratoad goreu tuag at hynny a fydd.

Yn gynta amcanu yn ffyddlawn fyw ar ol yr' adduned a wnaethoch yn eich bedydd, ag am y diben hwn. nw, cofiwch yn ddyfal bob dydd, mor arbennig y darfu i chwi, ar yr amser hwnw yngwydd yr holl allu­og Dduw ar holl gennulleidfa oedd yno yn bressennol, gadarnhau, a chonffi [...]mio yr adduned a wnaeth­och; ag addaw yn ffyddlawn wne­uthur hynny trwy gynnorthwy a rhad Duw, ag i gwnaech y'ch goreu i'w chyflowni, yr hyn beth trwy y'ch cyfaddefiad eich hunain, a gytunnassochi ei wneuthur.

Y tri hyn ynt yn gynta, bod i chwi ymwrthod a diafol, ag ai holl wneithredoedd, coeg rodres, a gwag orfoledd y byd ai holl chwantau cybyddus, anysprydol Ewyllys y cnawd, fal na ddilynoch [Page 17]hwynt ag na'ch tywyser ganddynt, Yn ail fod i chwi gredu holl bwn­ciau ffydd Grist. Ag yn drydydd, bod i chwi gadw holl Ewyllys duw­iol Duw, ai orchymmynion 'a rho­dio yn y cyfryw holl ddyddiau eich Einioes. Yn ail y gorchymmynion hynny, y rhai a addowsoch eu ca­dw, y maent yn cynnwys ynddynt, eich dyled tuag at Dduw a'ch dyled tuag at eich cymmydog, eich dyled tuag at Dduw sydd yn eich haddys­cu fel hyn, credu iddo, ei ofni, ai garu, a'ch holl galon, a'ch holl Ena­id, ag a'ch holl nerth, ei addoli ef, diolch iddo rhoddi y'ch holl ymddi­ried ynddo, galw arno, anrhydeddu ei Sanctaidd Enw ef, ai air, ai wasa­naethu yn gowir holl ddyddiau y'ch Einioes.

Yna y mae 'n calyn eich dyled tuag at y'ch cymmydog, yn y gei­riau hyn: Ei garu fel fi fy hun, a gwneuthur i bob dyn megis y chw­ennychwn iddo yntau wneuthur i [Page 18]minnau, caru ohonof, anrhydeddu [...] a chymmorth fy nhad am mam an­rhydeddu, ag vfuddhau i'r Brenhin ai swyddogion, ymddarostwng i'm holl lywiawdwyr, a dyscawdwyr, Bugeiliaid ysprydol, ag athrawon, sy ymddwyn ohonof yn ostynge­dig, gan berchi pawb o'm gwell. Na wnelwyf, niwed i neb, ar air na gweithred, bod yn gowir ag yn union ymmhob peth a wnelwyf. Na bona chas na digassedd yn fy ngalon i neb, cadw ohonof fy nwylaw rhag chwilenna a lledratta cadw fy nhafod rhag dywedyd ce­lwydd cabl eiriau, na drwg absen, cadw fy nghorph mewn cymhedro­ldeb, sobrwydd, a diweirdeb, na chy­byddwyf, ag na ddeisyfwyf dda na g [...]lud neb arall. Eithr, llafurio yn gowir, i geisio ennill fy mywyd a gwneuthur a ddylwyf, ymmha ryw fuchedd bynnag y rhyngo bodd i Dduw fy ngalw, yr holl bethau hyn a ddarfu i chwi addo eu gwneu­thur, [Page 19]a'ch tafodau y'ch hunain, o flaen Duw ag hefyd y ngwydd y 'gynulleidfa oedd yn bressenol wrth ossodiad dwylo arnoch, y byddech ofalus, i'w hystyried a'i cadw a hyn a ddylai fod yn rheol wastadol yn eich holl fowyd; a galw ar Dduw trwy ddyfal weddi am ei rad ysprydol heb yr hwn, nid y'ch mewn gallu iw wasanaethu ef, yr hyn beth os gwnewch yn ddiragrith mi a rown gyngor (nid amgen na hyn) pob prydnawn, (cyn i chwi fyned i'ch Esmwythdra, i orwedd a chys­gu) i chwi gymmerud peth amser, i feddwl a chofio, mor dda i ca­dwassoch eich adduned; ystyriwch y rheol hon a lle ir y'ch yn eich gwe­led y'ch hunain yn fyr heb ei chy­flawni, neu i chwi wneuthur yn ngwrthwyneb i hynny, yna gwn­ewch adduned o newydd, i fod yn ofalus y dydd nessa, (Ag os gellwch) scrifenwch eich Esceulustra, am i [Page 20]chwi dorri y cyfammod a wnae­thoch rhyngoch a'ch Duw, pan ddaloch sulw arnynt felly; Ag wrth wneuthur hyn, llai o lawer a fydd eich trapherth pan ddigwyddo i chwi amser cyfaddas i gymuno, Canys yno

Yn bedwerydd, ag yn ddiweddaf y gellwch yn hawdd eich holi y'ch hunain cyn cymmuno, fal y bo ge­nych 'lawn gyfrif, och buchedd a'ch bowyd, a'ch ymmarweddiad yn ba­rod yn mlaen llaw, Ag onys gwne­wch hynny, chwi a fyddwch mewn ymdrech creulon, o eisiau i chwi ddal sulw, pa wedd a modd yr ydych yn treulio y'ch amser; ond yn y llwybreidrwydd hwn, chwi a Ellwch yn yngwrth, ag heb ddim cyfyng gynghor, ddeall yn siccr, ag yn eg­lur y cyflwr enbyd, a thosturus yr y'ch chwi yn byw yntho. Ag felly nid oes i chwi ddim ychwaneg i'w wneuthur ai gyflowni trwy ffordd [Page 21]paratoad, i dderbyn ag ei gymmerud y sacrafen bendigedig, ond yn vnig, yn gyntaf, trwy fawr dristwch ca­lonnau am eich pechodau, a chyfa­ddefiad hollawl ohonynt (heb ge­lu un) i'r goruchaf Dduw; a hynny (yn ail) a meddylfryd hollawl i wellhau eich buchedd a'ch bowyd, ag i fod yn fwy diwyd, a gwiliadw­rus ar ol hynny; yn enwedig yn y rhai neilltuawl hynny, trwy rhai y darfu i chwi eich anrheithio eich hunain; canys nid yw cyfaddefiad tristaidd, ag yspryd gorthrymedig (am eich pechodau) yn ddigonawl, ond mae yn angenrhaid iddo ddiw­eddu yn y llawnfryd diffuant hwn; ag yn drydydd, od ydych yn cydna­bod, nad yw eich pechod, a'ch tros­sedd, yn unig yn erbyn Duw, ond hefyd yn erbyn eich cymmydogion; yno fel yr ydys yn eich cyfarwy­dào, ag hefyd eich hannog, Ngwasa­naeth y cymmun bod i chwi gymodi a hwynt: gan fod yn barod i wneuthur [Page 22] iddynt iawn, a thal, hyd yr eithaf, o'ch gallu, am bob cam athraha ar a wna­ethoch inch ar all, ag yn yr un [...] bod ohonoch yn barod i faddeu i eraill a wnaethant ich erbyn chwithau me­gis ag y mynnech chwithau gael mad­deuant am eich camweddau ar law Dduw. Pan wneler hyn oll, yna ni ddylech chwi wanffyddio oherwyd eich anheilyngdod, i fod yn gyfrann­ogion o'r wledd Sanctaidd, i'r hon yr y'ch gwedi eich gwahodd. Ag felly os ar ol y llythyren yr edrychwch, chwi ach gwelwch eich hunain bob amser yn anheilwng ond ynghyfri Crist, yn barod, ag yn deilwng, ag ni ddylai y geiriau hynny (y mae St. Pawl yn [...]u dywedyd) moch dychrynu chwi megis ir wyfyn cyd­nabod, iddynt wneuthur i lawer, 1 Cor. 11.29. nid amgen na rhain. Canys, Yr hwn sydd yn bwyta ag yn yfed yn anheilwng sydd yn bwyta ag yn yfed barnedigaeth iddo eubun, am nad yw, yn iawn farnu corph yr [Page 23] Arglwydd. Canys yn gynta, y gol­ledigaeth a grybwyllir yn yr scry­thyr yma, nid ellir moi iawn ddeall i fod yn meddwl, am dragywyddawl golledigaeth, ond am wendid, a chlefydon, (ag or eitha) am farwo­laeth amserol, megis y mae yn eglur i'w ddeall, wrth synhwyr y geiriau sydd yno yn calyn yn 30. adnod mi a ddymunaf arnoch eu Darllain; fol hyn y maent oblygid hyn ei mae llawer yn weiniaid, ag yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. Ag, yn ail, fe allessid rhagflaenu y farn hon, pe gwnaethai golygwyr yr Eglwys eu dyledswydd, gan farnu cospedigaeth ar ddrwg weithredwyr; fel yn Eg­lur i mae iw weled yn y 31. adnod yn y geiriau hyn, canys pe iawn farnem ni yn hunain, ni'n bernid. Ag, yn drydydd, y farn ddifinyddiawl hon, pa fath bynnag ydoedd trwy'r hon ir oeddynt yn golledig; oedd gwe­di ei bwriadu yn drugaredd iddynt, fel i mae iw ddarllen, yn 32. adnod [Page 22] [...] [Page 23] [...] [Page 24]y geiriau hyn, eithr pan in bernir, in ceryddir gan yr arglwydd, fal nan damner gyda'r byd, ond yn bedwe­rydd, am y rhai y sydd gwedi [...] pa­ratoi eu hunain megis ag i maent gwedi ei cyfarwyddo, nid rhaid yddynt ofni cymmeint y Golledi­gaeth, ar farn ddychrynllyd i mae St. Pawl yn ei gyhoeddi Canys i maent yn eu holi eu hunain ag yn Cydnabod, ag hefyd yn dyfal ystyried corph yr Arglwydd, a pha wedd (neu fodd) i mae iddynt ei dderbyn, a'i gymmeryd, ag am hynny nid ynt yn haeddu mor fath farn erchyll o Golledigaeth, i mae yr Apostol Sanctaidd, mor galed, a chreulon yn ei bygwth, megis i rai heb paratoad yn y byd.

PEN V. Boreuawl weddi y dydd y bw­riadoch gymmuno.

HEb law y gweddiau arferedig, trwy rhai yr ych yn ddiys­cog, ag yn wastadol yn eich gor­chymmyn eich hunain, i fod tan nodded Duw, a rhoi iddo fawr ddi­olch, am eu beunyddiol leshad, mae yn weddus i chwi wneuthur cyfaddefiad neilltuawl iddo, am eu gynnorthwy grasusol, a'i fen­dith arnoch fal y galloch gyflow­ni y ddyledswydd Dduwiol honno yn y modd hyn.

O arglwydd yr wyfi yn ostyn­geiddias yn ymddarostwng fy hun o'th flaen di gan gyfaddeu fy mod yn anheilwng or vn lleiaf or tri­gareddau hynny, y rhai yr wyf [Page 26]yn gyffredin yn e'u meddiannu, gy­da rhan arall o'th greaduriaid, ca­nys rhy ormodd i'th anghofiais di fy Nuw, am creawdwr, a Jesu Grist fy nrud brynnwr; yr hwn lawer gwaith a ddigiais, y naill, ai trwy annwybodaeth, neu Esceu­lustra, neu trwy bechodau rhyfy­gus (yno cyfaddeu yn neilltuol yr holl bechodau yr wyt yn cyd­nabod, ag yn cofio i ti eu gwneu­thur.

Ag er hynn oll, mor fawr yw dy ddaioni di, yn gimmeint ath fod yn wiw genit roi i mi amser cyfaddas, i fod yn gyfrannog o'th gariad tra rhagorawl a'th diriondeb yn dy anwyl fab yr arglwydd Jesu. Ca­nys fe am gwahoddwyd, gan dy wenidog di, i ddyfod i wledda gi­dag ef, ar ei fwrdd, trwy wneu­thur diolchgar goffadwriaeth, am yr aberth a wnaeth efe, o'i gorph ai waed eu hun ar y groes trosso-fi, Ag yr wyf mewn awydd mawr [Page 27]i fyned, os yn rassusol i boddha iti, faddeu fy holl dramgwyddiadau ar a aeth heibio, y naill ai yn dy erbyn di fy Nuw, neu yn erbyn fy nghymydog; A derbyn fy ng­halonnaidd dristwch amdanynt a llawnfryd anffugiol i wneuthur fy ngorau i wellhau fy muchedd, O bydd drigarog wrthyf, bydd meddaf drigarog wrthyf, yn o­styngeiddiaf yr wyf yn attolygu ag yn ymbil yn dostur wrthyt, er mwyn Jesu Grist yr hwn a fu farw trossofi, ag er fy mod mor anhei­lwng, ag nad wyf yn meiddio rhy­fygu un amser ddinessau ith bres­sennoldeb; etto er hynny, na wrthod fi yr awrhon ond cannia­dha i mi ddyfod yn hyf i'th fwrdd Sancteiddiol, ag od wyf mewn rhyw fath ar fessur gwedi fy mharatoi, i'th rad ti y mae i'm ddiolch, yr hwn a weithiodd y drefniad dda­ionus ynofi, ag am hynny (fel yrwyf yn gobeithio) y pery i'm [Page 28]cannorthwyo, fel na byddwyf, yn lleteuwr heb groeso gyda thydi, ond yn hyttrach cael fy llenwi a bywiol goffadwriaeth o'th fawr gariad tuag attafi, Ag ar fath bur a gwressog gariad tuag attad tithau, Ag ar fath fodlonrwydd calon, am fy mod, yn cael bod yn un o'th weison, fel y gallwyf mwy nag erioed o'r blaen, am i mi (mewn modd; yn y byd) dy anfoddhau di, a llawnfryd gwell ufyddhau i ti O y grasiusas DDuw, yr wyf yn attolwg i ti, dyro i mi yr holl lawnfryd duwiol, hwnnw, fel y gallwyf fod gwedi fy nghadarnhau trwy y lluniaeth nefol a baratoaist i mi. Ac megis yr wyf yn barawd gwedi fy ymrwymo i gyflowni fy ad­dunedau o'r bla [...]n, y gallwyf yn Siriol, ag yn ffyddlawn vfuddhau, [...]y dduwiol Ewyllys ymhob peth, a thrwy gynuorthwy dy yspryd Sanctaidd di, y gallwyf bob dydd, [Page 29]gynnyddu fwyfwy, hyd oni ddel­wyf i'th deyrnas dragywyddawl. Gwrando fi, o Arglwydd, a Chy­nnorthwya, fi i gyflowni Felly fy nled ymhob rhan o'r weithred DDuwiol hono, yr wyfi yn am­canu ag yn bwriadu ei chyflowni am goffadwriaeth fy Jachaw­dwr Jesu Grist Ag fel y gallwyf (nid yn unig) yn bressenol. Lawenychu am eu fawr gariad tuag attafi, ond fel y gallo hyn­ny fy nghynhyrfu i gyflowni y rhan arall o'm dyledswydd yn well: ag a mwy ewyllys holl ddyddiau fy mowyd, A hyn yr wyf yn oftyngedig yn deisyf ei gael, ag yn dostur yn ymbil amdano, drwy rhyglyddiad a chyfryngdod Jesu Grist, ir hwn gida'r tad ar yspryd Sanctaidd, y bo anrhydedd, gallu a gogoniant yn awr ag yn dragowydd.

PEN. VI. Am y modd y mae Cymmuno.

FEl hyn mi a'ch tywysais, hyd at y Cymmun Sanctaidd; ag yn awr chwi a ddysgwiliwch i mi eich haddyscu, pa fodd y mae i chwi eich ymddwyn y'ch hu­nain yno, Nid adwen flordd Eg­lurach, na llwybreiddrwydd na­turiolach, na'ch Cyfarwyddo chwi, ymhob peth sydd raid i chwi ei wneuthur, ymhob rhan o'r Gwasaneth dwyfol hwnw, Am hynny Pan ddarfyddo'r, bre­geth, a chwithau yn weddus gwedi ych Cyfleu, yn eich eisted­dle, fel na Cholloch ddim amser (tra fo'r gwenidog yn ei wneu­thur ei hun yn barod) a bod y gynnulleidfa ni chymmunont gwedi ei rhybuddio i ymadael me­wn [Page 31]h [...]d [...]wch yr amser hwnnw, Ail coffa, ag ad [...]odd y weddi a ddywedaist or blaen, neu ryw ran ohoni.

Pan weloch y Gwenidog yn myned ei fyny at y bwrdd i wneu­thur i ddyledswydd, yna doedwch fel hyn; Bendigedig fyddo'r Ar­glwydd am eu wenidogion, gorch­wylwyr dirgelwch Duw; ond yn enwedig, y Gorchwylwyr hyn­ny sydd ffyddlon a doethion yr rhai a osododd eu harglwydd ar ei deulu i roddi bwyd iddynt mewn pryd Math. 24, 45. i Cor. i.

Pan ddechreuo'r Gwenidog offrwmmu, yna doedwch fel hyn.

Eled pob un o'n gweddiau ni, [...]nghyd a'r Elusenau a'n offrym­mau i fynu yn goffadwriaeth o flaen yr Arglwydd; Angylion yr hwn (fel ir wyfi 'n Credu) sy 'n bresennol yn y fath waith ar­bennig, fel hyn y gall dyn tylawd ddoedyd, boddhaed fy Arglwydd [Page 32]im ha [...]tling dylawd, am nad oes gennyf ond ychydig i'w offrwm, ond yr wyfi yn fy offrwm fy hu­nan, ar Cwbl ar a allwyf eu wne­uthur, mi ai Cyssegra i'w wasan­aeth ef. Yna, deffro a Chyffroa dy hun, i galyn ag ei gynnor­thwyo y Gwenidog, yn y weddi honno tros holl stat Eglwys Grist, ag yn ofalus dal sulw, ar y Cyn­gor yr hwn sydd yn dechreu fel hyn. Anwyl garedigion yn yr Ar­glwydd: fel i gellwch weled yngwasanaeth y Cymmun, yr hwn a ddylai y Gwenidog ei lefaru yn Eglur, ag a'r gyhoedd, a ch­withau a'ch holl serch eu wrando Ai ddyfal ystyried, Ag yna Cys­sylltwch yn galonnog, ag hefyd yn ofalus, hyd y galloch yn y gyf­fes gyffredni, holl alluog dduw &c. yna derbynniwch y rhyddhad ach gollyngdod o'ch holl bechodau trwy eiriau cyssuraidd Crist a'u Apostolion a bydded hynny i chwi yn [Page 33]llawenydd mwya' yn y byd; gan eich Cynhyrfu eich hunain, pan fo 'r gwenidog yn eich Cyn­ghori chwi, gan ddywedyd, der­chefwch eich Calonnau, i fendi­thio, a moli 'r Arglwydd ynghyd a'r holl lu nefol am y gobaith a'r Cussur trag wyddol, a roes efe ini, trwy rad Crist Jesu Yr addewi­dion Cyssuraidd gwerthfawr hyn­ny, a ddylai fod yn felysach ge­nnych (megis y mae y proph­wyd Dafydd yn doedyd, na 'r mel, ag na diferiad diliau mel Ps. 19.20. a mwy gwerthtawr a dymu­nol nag aur Coeth. Ag yn awr chwi a Ellwch eich siccrhau eich hunain, er eich bod yn anheil­wng, ie Cymmaint ag ei gasglu 'r briwsion tan ei fwrdd, etto wrth dderbyn, ei greaduriaid hyn o fa­ra a gwin, yn ol sanctaidd ordin­had ei fab Jesu Grist ein iachaw­dwr, er Cof am ei angan ai ddi­oddefaint, allu bod yn gyfrau­nogion, [Page 34]o'i fendigedig gorph ai waed: yn ol y geiriau hynny, yn y weddi wrth gyssegru, doedwch yn distaw wrthych eich hunain. Amen, Amen.

Pan fyddo y gwenidog ei hun yn Cymmuno, doedwch fel hyn.

Yr Arglwydd a'th wrandawo, Cofied yr Arglwydd dy holl of­frwmau, a debynied dy aberthau: Caniadhaed i ti Ewyllys dy Galon a'th holl ddymuniadau, a chyflo­wniad dy holl feddyliau; ie Cyflo­wned yr Arglwydd dy holl Erfy­niadau trossot dy hun, a thros­som innau, a thros yr holl bobl.

Pan fyddych yn nessau i fyned at fwrdd yr Arglwydd ystyria i ba le yr ydwyt yn myned, a hola dy hun yn ddyfal, fel i Gwa­hoddodd y Gwenidog di gan ymresymmu a thi dy hun, fel hyn. A ydwy fi yn wir ag yn ddif­rifol yn edifarhau am fy mhechodau ag wyf mewn Cariad perffaith a'm [Page 35]Cymmydogion? Ag yn meddwl di­lyn buchedd newydd, a chanlyn gor­chymynion Duw, A rhodio o hyn allan yn ei ffyrdd Sancteiddiol ef: Ag os ych yn eich clowed eich hun a'ch Cydwybod yn tystiolaethu, hynny, eich bod o allu i gyflo­wni pob pwngc, ymrowch fel y mae yno yn Calyn: Mi nessaf trwy ffydd i dderbyn, ag i gymerud y Sacrament Sancteiddiol, i'm did­danwch Pan foch gwedi y'ch Cyfleu yn eich eisteddle; yna doedwch, O Arglwydd, beth wyfi, i ti fod mor rassusol wrthyf? Pa anrhy­dedd ydyw, i ti fyngwahodd ym­ma i wledda ar dy fwrdd di, Ar gorph a gwaed fy mendigedig iachawdwr i dderbyn gwystlon o'i gariad ef, ag hefyd i ymr­wymo fod fy holl gariad innau iddo yntau; yr hwn gariad yr­wyf yn deisyf iddo gynnyddu: fwyfwy tuag atto ef, a thuag fy­mrodyr Cristnnogaidd, ag hfeyd [Page 36]tuag at bob dyn, Pan rotho 'r gwenidog i ti y bara, gan ddi­bennu yn y geiriau hyn ymborth arno yn dy galon trwy Ffydd gan roddi diolch, yno dowaid, yr wyfi yn Credu o Arglwydd, mae tydi yw bara'r bowyd, a ddaeth i lawr or nefoedd, trwy yr hwn yr ym yn Cael yn Cynnyddu, i fowyd tragywyddol, Ag yr wyfi yn di­olch i ti, am holl enaid, am i ti ddysgu i mi ffordd dduw mewn gwirionedd, Ag hefyd am iti farw tros ein pechodau ni, ag i ti gy­fodi drachgefn i roi i ni obaith o fowyd tragywyddol: bendigedig fyddo dy enw: fe a darfu i mi yn awr trwy dy ragrybuddiad ti, dderbyn y gwystlon Sanctaidd am hynny Ag am hynny fy Enaid a fawrha y'r Arglwidd, am hys­pryd, sydd ny llawenychu yn Nuw fy iachawdwr. Rhad yr hwn (fel y'r wyfi yn gobeithio) a fydd gida'm hyspryd; fel y gal­lwyf [Page 37]bob amser lawennychu yn, yr Arglwydd, am holl Ewyllys fyth i wneuthur daioni Amen.

Neu fel hyn.

O Jessu fendigedig, yr wyfi yn Credu, dy fod ti yn Argl­wydd ar y Cwbl; ag yr wyfi yn rhoi i ti galonnog a gostyngei­ddiaf ddiolch, am it fyngalw i wy­bodaeth dy ras, a ffydd ynot: gan attolygu i ti megis ag i dder­byniais yr awrhon yr arwydd newydd hwn oth fawr gariad, (bendigedig fyddo dy ddaioni) felly y byddi byth yn Dduw i mi: A chan barhau i wneuthur yn dda, di am dygi i fowyd tragy­wyddol, Amen.

Gweddi ferrach ar ol derbyn y bara.

O Arglwydd yr wyfi yn diolch i ti am fyngalw i'r cyflwr hwn o iechydwriaeth, gan rod­di i mi y gwystl newydd hwn, o'th gariad di-drangc Cynnorth­wya fi a'th ras i gyflowni fy ny­ledswydd i ti, ag hefyd i'm Cym­mydog yn ffyddlon fel y gal­lwyf aros yn dy gariad yn dragy­wyddol; trwy Jesu Grist, &c.

Gwedi iti dderbyn y Cwppan ar Gwenidog yn dibennu yn y geiriau hyn, yf hwn er Cof towallt gwaed Crist trosot a bydd ddiolchgar.

Yna dowaid fel hyn.

O Arglwydd nefoedd, a daiar, yr wyfi yn rhoi mawr ddi­olch i ti am fod yn wiw gennit, gymerud ein naturiaeth ni arnat, [Page 39]a thrwy hynny ddioddef am ein pechodau ni, ie towallt dy werth­fawr waed ar y groes i'n prynu ni. Gogonniant, anrhydedd, ben­dith, a moliant, a fyddo iti o Arglwydd: I'r hwn (o wir res­swm) y dylwn fyw, o hyn allan, Ag nid imi fy hunan. O Arglw­ydd yr wyfi yn ymroi yn hol­lawl i th wasanaethu yn ffydd­lon: Gida llownfryd (os gor­fydd) gyfodi fyngrhoes a'th ganllyn; Cynnorthwya fi Ar­glwydd daionus a gwna fi yn gyfrannog o haeddedigaethau dy ddioddefaint a'th farwolaeth, megis i m gwelych i mewn du­wiol burdeb yn ymroi i Ufyddhau i ti ymhob peth byth ag yn dragywyddol, Amen.

Neu fel hyn.

O Fy enaid bendithia yr Ar­glwydd, a Chwbl sydd ynof, ei enw sanctaidd ef: fy enaid ben­dithia yr Arglwydd, ag nag ang­hofia ei holl ddonniau ef, yr hwn fydd yn iachau dy holl lesgedd, Ag yr awrhon a lanwodd dy enau di a phethau daionus yr hwn sydd yn rhoi iti obaith gwell ym­mowyd tragwyddol. Bendithia fi yn hollawl, (o Arglwyd fel na byddwyf yn ansiccr o gael hyn­ny: ond bod fy holl yspryd, am henaid, am Corph, gwedi eu cadw yn ddilwgr hyd ddyfod­diad ein harglwydd Jesu Grist, Amen.

Gweddi ferrach ar ol derbyn y Cwppan.

O Arglwydd yr wyfi yn rhoi mawr ddiolch i ti drach­gefn, am dy ryfeddol gariad yn danfon dy anwyl a'th unig fab Jesu Grist i farw trossofi ac i'm gwneuthur yn gyfrannog or budd, am iddo dowallt ei werthfawr waed trossom: amddiffyn fi yn dragywyddol, ac ystyr dy gariad; ac trwy hynny Cadw fi yn san­ctaidd, ac yn ddiargyoedd hyd ail dyfodiad ein harglwydd Jesu Grist, Amen

Pan eloch o fwrdd yr Argl­wydd, i'th eistoddle, doed­wch fel hyn.

BEndigidig fyddo'r Arglwydd am el [...]ramawr rad a'i dri­garedd tuac attom yngrhist Jesu. Bendigedig fyddo'r Arglwydd, yr hwn a'n galwodd, ac an gwahod­dodd, i gael ei gyfeillach ef: Ac hefyd gida ei anwyl fab Jesu. Ben­digedig fyddo ei enw, am i mi ga­el yn awr dderbyn arwyddion oi fawr gariad anniben ef. Am yr rhain y dylwn lawennychu heb or­phwys, am eu bod yn fwy gwerth­fawr na holl dda'r byd.

O Arglwydd fy llawenydd yw, ar bodlondeb mwyaf y sydd gen­nyf yn y byd hwn, dy fod yn fyngharu; yr wyti, mewn gal­lu i'm gwneuthur yn happu [...]ach, ac yn ddedwyddach, nac a fedra'fi feddwl.

[Page 43]O Cadw fi yn dragywyddol yn dy gariad; Ac i'r diben hwnnw, cadw yno finnau yr unrhyw fed­dyliau, y llawnfryd, a dwyfawl dueddau meddwl, y rhai sydd yn awr yn Cynhyrfu fynghalon.

Cadw rhain yn fywiol trwy alluog gynnorthwyadau, ac adde­widion dy yspryd Sanctaidd; am y rhai y rhoest i'mi Siccrwydd o'th addewidion gwerthfawr, ac yn y gwystlon sanctaidd hyn o'th fawr gariad; am y rhain oll (yr­wyfi eilwaith) yn rhoddi i ti o­styngeiddiaf ddiolch, ac yr wyfi yn ewyllyssio nac anghofiwyf fyth, mewn pa-faint o ddyled y'r wyfi i ti; ac am hynny bob amser yn rhwym i'th foliannu gan ddoe­dyd.

Mi a'th dderchafa di fy'nuw, o frenin nef ac a fendithia dy enw yn oes-oesoedd: bob dydd i'th fendithi­af: ac a folianna dy enw yn oes-oes­oedd: tra fyddwyf hyw y moliannaf [Page 44]yr Arglwydd: mi a gana' fawl i'm Duw tra fyddwyf.

Fy ngenau a fynega foliant yr Arglwydd.

Bendithied pob cnawd ei enw sanctaidd ef yn oes-oesoedd,Amen.

Tra fytho eraill yn cymmuno, Chwi a ellwch ddoedyd, fel hyn.

CAdw ni oll o Arglwydd, yn bur, ac yn aberthau Cym­meradwy i ti dy hun; fel y byd­dom gwedi ein paratoi i ddyfod i'th bressennoldeb, yn ddiargyoedd, trwy dra-mawr lawenydd:

Neu os mynnwch fel hyn.

MEgis; a nyni yn llawer, ydym, un bara ac un corph (canys yr ydym ni oll yn gyfran­nogion or un bara. Ac a yfasom [Page 45]or un cwppan) felly cannorth­wya ni i gadw yn ddyfal undeb yr yspryd mewn cwlwm trangn­heddyf; a charu pawb eu gilydd a chalon bur a gwressog

Neu fel y mae St Paul yn eich addysgu Rhu, 15.5.6. Duw'r am­mynedd ar diddanwch a rodde i chwi synnied yr un peth tuag at ei gilydd yn ol Christ Jesu. Fel y gal­loch yn un fry'd, o un genau, ogon­neddu Duw a thad ein harglwydd Jesu Christ. Fe a ellir anchwan­negu hyn: Molianned y bobl di o Dduw, molianned yr holl bobl dydi, o godiad haul hyd, ei fachludiad moliannus fyddo enw'r Arglwydd or pryd hyn yn oes-oesoed,Amen.

Ar ddydd natalic Crist, a saith ddiwrnod ar ol, chwi a ellwch anchwannegu hyn at eich addunedau.

O Arglwydd yr wyfi yn awr, yn fwy neilltuol yn cofio, dy ryfeddol gariad ti, am i ti ddanfon o'th wirfodd dy unig, a'th Annwyl fab, (heb ein bod ni yn ei ddisgwyl) i ymweled a ny­ni, a hynny trwy fawr ostyngeid­drwydd, ie y pryd nad oedd y byd yn meddwl dim amdanat; Ond ir oeddynt yn ddieithraid, neu yn hyttrach, ac hefyd yn wirach, yn elynnion cyhoedd i ti.

O Bendigedig fyddo'r Arglw­ydd, yr hwn a roddodd gimmeint o anrhydedd in naturiaeth ni, ac iddo foddhau byw yn ein mysg, ac ymddangos mewn cyffelybiaeth Cnawd pechadurus.

[Page 47]O cadw ynofi y fath goffa­dwriaeth, fel fyth na ddianrhy­deddwyf ef, nac ychwaith fyfi fy hunan; trwy gytuno i wneu­thur dim aflendid, yn fy'nghawd nam hyspryd, ond fy ymddwyn fy hunan bob amser, yn gyfatte­bol i'r berthynas y sydd: mi tu­ag atto ef mewn Sancteiddrwydd, a chyfiawnder ger ei fron ef, holl ddyddiau fy mowyd.

Ar ddydd pasg a saith ddiwr­nod ar ol.

O Arglwydd, yr wyfi yn dy fendithio di, am iti gy­flowni dy addewid i'm iachawd­wr, Na adewit moi enaid ef yn uf­fern, nac i'th Sanct weled llygre­digaeth: Bendigedig fyddo Duw, yr hwn trwy wneuthur hynny a gadarnhaodd ein ffydd ni, yn yr addewidion a wnaeth efe i ni. Dyma'r dydd (neur amser) a wnaeth [Page 48]yr Arglwydd; mi a lawenychaf ac a orfoleddaf ynddo, dyma'r dydd yr ailgenhedlwyd fy mrhynwr od­diwrth y meirw, a thrwy hynny, of an hailgenhedlodd ninnau, i obaith bywiol o fowyd tragywyd­dol: Dymma waith yr Arglwydd, ac y mae'n rhyfedd yn ein golwg ni, fe ddangossodd yr Arglwydd i ni oleuni: ie goleunir bowyd. Ac am hynny mi a offrymma iddo ef yn dragywyddol aberthau cy­fiawnder ynghyd a'r aberthau hyn o foliant, a diolchgarwch, am eu fawr drigareddau tuag at­tafi; y rhai a barhant yn oes­oesedd.

Ar ddydd y Dyrchafel a saith ddiwrnod ar ol.

BEndigedig fyddo Duw, am fy'mod yn gweled Jesu (yr hwn tros amser a ddarostyngwyd, ac a wnaed yn is nar Angylion, [Page 49]gan ddioddef marwolaeth) yn awr gwedi ei goroni mewn gogo­nniant, ac anrhydedd: O fy'n­ghalon ymdderchafa (O Jesu fen­digedig) i'r uchedd-le Sanctaidd hwnw, lle ith dderchafwyd ti; a chadw hi yno heb syflud gan rod­di fy'holl duedd meddwl, ar be­thau oddiuchod (lle'r wyti yn eistedd ar ddeheulaw Duw) ac na wnelwyf ddim byth a fyddo'n an­heilwng i'r broffes Ghristnogaidd, or lle hwnnw yr wyfi yn dy ddisg­wil, o Jesu fendigedig, ti a ddy­wedaist wrthym, i ti yn unig fyned o'n blaen yno, i baratoi lle i nin­nau.

O Arglwydd Bendigedig, lle ir wyti caniata i mi fod yno hefyd: Ac or diwedd cyfnewidio y corph gwael hwn, fel y gwneler ef yn un ffurf ath gorph gogoneddus di, yn ol y nerthol weithrediad trwy'r, hwn yr wyti o allu i ddarostwng pob peth iti dy hun.

Ar y Sulywyn a chwech o ddi­wrnodiau ar ol.

YR wyfi yn llawenychu yn fawr, am y Cyssur a ddan­fonaist i mi, O Sanctaidd yspryd grassol: yr wyfi yn llawenychu fy'mod yn clowed (megis ac y tystiolaethaist trwy'r rhoddion rhy­feddol a roest ith Apostolion) fod fy anwyl iachawdwr yn fyw; Ac hefyd y bydd efe fyw yn dragy­wydd: Ac ni leiha moi gariad tuac attom, hyd oni ddelom ir lle gogoneddus y mae efe yn byw ynddo.

Ysprydoliaetha fi fwy-fwy a'th rad nefol, i fod yn sefydlog yn y ffydd hon, fel y gallwyf ddangos, a dwyn allan holl ffrwythau'r yspryd, ac nid yn unig gwrthwy­nebu, ond hefyd gorchfygu'r holl brofedigaethau a fo'ar fy ffordd, i'm llestair ir nefoedd; hyfforddia [Page 51]trwy dy gyngor, cryfha fi a'th allu a Chynnal fi i fyny a'th gyssurau ymhob angenolrwydd: peryglon, a chyfingderau; fel or diwedd y gallwyf fordwyo, a thirio yn ddi­angol i'th anrhydedd tragywyd­dol, Amen.

Ar sul y'Drindod yn unig.

ANrhydeddus fyddo'r mawr­hydi an-ymgyffred or ddi­wahannedig dragywyddol Drin­dod, yn enw'r hwn i'm bedydd­iwyd; ac yr wyf yn ostyngedig yn ei addoli, gan roddi iddo foliant, Bendidgedig fyddo dy enw o Dduw y Tad holl alluog, Cre­awdr nef a daiar; trwy'r hwn yr ym ni oll yn byw, yn symmud, ac yn bod.

A Bendigedig fyddo'r tragy­wyddol fab y tad ein achubwr, an gwaredwr, Tywysog tang­neddyf: yr hwn a brynodd yn [Page 52]ddrud iawn, dragwyddol ryd­dhad i ni.

A Bendigedig fyddo'r yspryd glan, y Cyssurwr, yr hwn sydd yn towallt yno'fi feddyliau dai­onus, chwantau a llawnfrydau duwiol, ac am towys, fel yr wyf yn gobeithio, i fowyd-tragywyd­dol.

PEN. VII. Myfyrdodau, a gweddiau sy'n Calyn.

OS bydd ychwaneg o amser gwedi i adel, Cyn Cym­muno pawb (fel y bydd gryffre­dinol ar wyliau mawrion, a lle y byddo llawer yn Cymmuno ar ddiwrnodiau eraill) treuliwch yr amser hwnw trwy fyfyrdod, Cym­maint ag a fydd eich gallu, fel y [Page 53]galloch gael Cydnabyddiaeth, am y ddiben i'r ordeiniwyd y Sacra­ment Sanctaidd hwn. Ag fel y Galloch gael Cydnabyddiaeth am hynny: trowch at y drydedd bennod or llyfr hwn, a darllen­wch y bennod honno yn bwyllus wrth reol.

Yn gynta dywedwch wrthych eich hunan, pan feddylioch yn ar­bennig, eich bod gwedi ymroi yn hollawl i fod yn wir gristion yna dywedwch fel hyn.

O Arglwydd dy was di ydwyfi, ie dy was di meddaf ydwyf: yr wyfi yn Cydnabod, nad wyfi yn eiddo i'm fy hun; Canys fe a'm prynwyd a phris mawr, ag am hynny m'i a ddylwn ogonueddu Duw yn fy nghorph am hyspryd, y rhai ynt eiddo Duw.

Ag O Arglwydd daionus Can­northwya fi (megis ag y dylai un sydd yn henwi enw Christ) i ymadel a phob rhyw anwiredd.

[Page 54]Ag yn ail pan feddylioch am y peth nessa) hynny yw mor ddiolchgar y dylech chwi fod i Ddu­w'r tad, i Dduw'r mab, ag hefyd i Dduw'r yspryd-Glan) mae yn hawdd i chwi droi y geiriau yr ych chwi yn ei darllen yno, i rod­di diolch megis fel hyn.

Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i'mi? yn enwedig am hyn, am nad arbedodd moi an­wyl ai unig fab ond efe ai trad­dododd i farw trossom ni oll?

Yn drydydd, chwi a ellwch roi atteb, pan feddylioch am y tryd­ydd peth (Nid amgen na'ch ffyd­dlondeb iddo) gan ddywedyd fel hyn:

Mi a dyngais ag mi ai Cyflow­naf y Cadwn farnedigaethau dy gyfiawnder.

Gostyngais fyngalon, i wneu­thur dy ddeddfau byth hyd y diwedd. Ps. 119.106.112.

[Page 55]Mae'n rhesswm, pa beth byn­ag a wnelwyf, ar air neu weithr­ed, i mi wneuthur pobpeth yn enw'r Arglwydd Jessu, gan ddi­olch i Dduw ar tad trwyddo ef. Col. 3.17.

Ag yn Bedwerydd ag yn ddi­weddaf pan feddylioch eich bod yn Cael Cymmundeb gidag ef; yna dywedwch fel hyn.

Pa happusrwydd, a dedwyd­dwch, mwy na hyn, a allafi i ddymuned, na bod gida Christ, a chael bod hefyd gidag ef, yn gy­franog o haeddedigaethau i far­wolaeih trwy rhain yr wyfi yn siccr i fod yn gyfrannog gidag ef, yn ei anrhydeddus adgyfo­diad.

Yr wyfi yn Cydnabod wrth hyn, fy mod y [...] aros ynddo ef, ag yntau yno finnau, am iddo roddi i'mi ei yspryd,

O gwna fi, Arglwydd bendige­dig, fwy-fwy i fod yn un gida [Page 56]thydi, gan fy ngwneuthrur yn berffeithiach, or un meddwl, yr un yspryd, ar un trefniad a'thi dy hyn.

Gweddi gartrefol y diwrnod hwnw.

Os byddwch wrth y Cyfryw fodd yn wir awyddus am gariad ein iachawdwr tuag attoch, ni lithra y Coffadwriaeth hyn, yn hawdd, nag yn fuan allan o'ch meddwl, ag ni byddwch yn Ew­yllysgar i ymadel ag ef; a thra yr arhosso Cariad eich prynwr gi­da chwi, efe a wnaf bob dyled Gristnogol yn esmwyth, ag he­fyd yn ddiddan; ag fo fydd hyn­ny yn achos y bydd anodd, gen­nych i anfoddhau ef. Am hynny na phellwch wneuthur eich go­rau, ar ei gadw gan, beri i'ch Ca­lon awyddu y Cyfryw feddyliau, a rhain; gan ailcofio ar ryw am­ser y dwthwn hwnw, y myfyrdo­dau or blaen gan roddi a chwan­negu [Page 57]attynt y weddi yma sy'n Calyn.

Ni alla fi fyth ystyried yn rhy dda Ohono'ti, O Dad y trigared­dau, a Duw y diddanwch oll, ar Cyssurau hefyd, am yr anfeidrol leshad a dderbyniais o'th fawr haelioni di: ag am hynny mi a ddylwn gymerud pob amser Cy­faddas i'th fendithio, gan ddoed­yd yn dda am dy enw; yn enwe­ding yn awr.

Am ym archwaethu o newydd, mor rassusol wyti, am it roddi dy anwyl a'th unig fab, ein iacha­wdwr Jesu Grist, nid yn unig i farw trossom ni, ond hefyd i fod yn ymborth ag yn gynheiliaeth i'ni, yn y Sacrament Sanctaidd a dderbyniais ag a gymerais hed­dyw.

Pan feddyliwyf (yn unig) pa fa'th garedigrwydd yw, i mi gael fy mara beunyddiol, ag heb fod diffyg pethau gweddus i'm Cyn­heiliaeth [Page 58]am Cyssur yn y fuchedd bressennol hon: yr wyfi yn gwe­led fy mod yn fawr yn dy ddyled ti, ar y Cyfri hwnw, ie yn fwy o lawer nag a fedrafi ei fanegi: am fod yn wiw gennyt fy nghyn­wys i ddyfod i'th fwrdd dy hun, ag yno fy ngrhoesa wu ar fa'th ob­aith bendigedig, i gael bod gida fy mrhynwr, yn y lle gogoneddus y mae efe ei hun ynddo, i gyd­lawenychu ag ef yn dragywyddol O Arglwydd, pa faint y mae hyn yn Cyrhaeddyd yn uchach nam meddyliau pennaf?

Ag a pha ddiddanwch a bodlon­rwydd y dylai hynny lenwi fyn­ghalon?

Meddianna fi, yr wyfi yn atto­lygu y ti, O Drugarog Dad ar fath ystyriaeth Duwiol or Cariad yma, fel fyth nag anghofiwyf mor happus wyfi am fy mod mor­agos i berthynas Jesu Grist; Ond ei gyfrif bob amser yn fawr anr­hydedd, [Page 59]am gael bod yn un oi weision ef, fel y Gallwyf yn ddi­baid, ag hefyd yn llawennychus ufuddha [...] iddo, a chymerud mawr ddiddanwch yn hynny, a phob Dyled arall, a berthyna i fowyd Cristion, y mae hyn yn ffa­for fawr, ag mi a ddylwn fod yn synniol, fel y Gallwyf bob amser gael y rhydd did i ddinessau atto, megis att fyngrasusaf Ar­glwydd, am meistr; gan gael ei feddiannu, nid yn unig yn y dy­ledswyddau hynny or gresydd gy­hoedd, ond ymma gartref yn fy erfyniadau, neilltuol atto ef. O na bae i mi trwy 'r moddau hynny gynnyddu fwyfwy i fod yn debyg iddo ef, a dwyn gidam fi bob amser y fa'th gyfflybrwydd o'i Ddu­wiolder, o'i Ddaioni, o'i ostyn­geiddrwydd, o'i fwvneidd-dra, ag oi ddioddefgarwch fel y Cydnabyddo pawb, fy mod gida Jessu?

[Page 60]O na bae i mi y fath ystyriaeth Dduwiol o'i gariad ef, ar fath awydd defosionol tuag atto ef, gwedi adel, a'i sefydlu, yn fyn­ghalon; fel na fodlonwyf mohono fy hun, am gweddiau beuny­ddiol yn hollawl, llai o lawer am fy nrhaethiad presennol o'm mawr gariad tuag atto ef; ond bod fyn­gwastadol ofal bob dydd i'm Cym­meradwyo fy hun, i fod yn ffyd­dlon iddo ef ymhob gweithred dda, fel na byddwyf ofnus yr eil-waith i ymddangos o'i flaen ef, trwy y gwahoddiad nessa a gaffwyf i ddyfod iw fwrdd ef.

A Bydded y Calonnau oll, or Cyfryw rai ag oedd yn ddefosi­onol yn dyfal-wrando dy wasa­naeth, yn llawen ymhyfrydu ynot. Cannorthwya ni oll i'n Cadw ein hunain yn bur, ag yn ddihalogedig, ag i rodio yn ofa­lus mewn ofn Duw, a thrwy gys­sur [Page 61]yr yspryd Glan; Fel y gallo eraill weled ein hymarweddiad daionus ni ynGhrist, fod mewn mwy Cariad a chrefydd, a'th ogoneddu di ein Tad nefol.

Hefyd trigarha (fel yn ostyn­gedig y gweddiasom y dydd hwn) tros gyflwr y gatholig Eglwys yn hollawl, ag hefyd fod i ti reoli Calon dy ddewi [...]sedig wasanae [...]hwr Charles ein Bren­hin an llywydd; fel y Gallo efe, yn ei holl feddy [...]iau, ge­iriau, a gweithredodd, yn wastad geisio dy anrhydedd di; a'th ogoniant, a myfyrio ar gadw dy bobl a rodded yn ei gadwraeth ef, mewn digonoldeb, tangned­dyf, a duwioldeb.

A chaniadha i bawb hefyd a dderbynier i Gymdeithas Crefydd Christ, iddynt ymwrthod a phob peth, a fyddo yngwrthwyneb iw proffess, a chanllyn pob Cyfryw beth ag a gytuno a'r unrhyw, [Page 62]er 'cariad a'r dy anwyl fab Jesu Grist ein harglwydd, Amen.

Os gwelir y weddi yma yn rhy hir y mae yn Canllyn yma un ferrach.

YR wyfi yma ailwaith yn ym­ddarostwng o'th flaen di, O Arglwydd nef, a daiar, i'th fen­dithlo, ag i'th foliannu, am dy holl drigareddau tuag attafi; yn enwedig am y rhai y dydd hwn a dowelltaist arnafi.

Nid Ewyllyssiwn fod mor aniol­chgar ag i mi yn yngwrth anghofio y fath rad rhyfeddol; y bu wiw gennyt ei roddi i mi: ond Ewyl­lyssio yn ddifrifol, Cael Coffadwri­aeth or Cwbl yn fyngalon i'm hannog i gariad a gweithredoedd daionus.

[Page 63]Ag i'r diben hwnw yr wyfi yr awrhon, yn adnewyddu fyngost­yng [...]d [...]g e [...]fyniadau attati, ar i ti yn ddi [...]aid, fynghynhyrfu, am Cynorthwyo a'th yspryd sanct­aidd i rodio yn addas, or uchel al­wedigaeth nefol honno ynghrist Jesu; trwy y fath fuchedd ag a fydd yn sobr, Cyfiawn, a Duwiol gan addoli ei a [...]dysg ef, ymhob­peth fel y gallo yntau fynghyme­rud innau yn was da ffyddlawn iddo, a [...] y dydd mawr hwnw, pan gaffom ei weled ef, nid mewn Cyscodau a gwrthrychau, ond wy­neb yn wyneb.

A thrigarha wrth dy Eglwys yn hollawl gweddiau 'r hon, yr wyfi yn attolygu i ti eu gwrando, ag am bob aelod ohoni hi: ond yn fwy Enwedigol tros fawrhydi ein Brenhin Charles a phawb ar y fydd mewn Awdurdod tanoef; fel trwy e'u Duwiol ofal, a'u gwiliad­ariaeth, y gallo dy Eglwys yn lla­wen [Page 64]dy wasanaethu di, ymhob Duwiol lonyddwch trwy Jesu Grist ein harglwydd, Amen.

PEN VIII. Cyfarwyddiadau am fuchedd Dduwiol i fod yn gyfu­nawl i'r Cymmun Sanctaid.

YN Gynta, Cymmer beth am­ser bob dydd i gofio pa faint yr wyti yn rhwymedig i'th ia­chawdwr Crist: Yn gvnta am yr adduned a wnaethost wrth dy fed­yddio: yn ail dy arbenn [...]g fod­londeb ir adduned honno wrth arddodiad dwylo; Ag vn dryd­ydd, wrth ei adnewyddu yn y Cymmun Sanctaidd, ag yn Cy­faddau pa faint: yr oeddych yn [Page 65]ei ddyled ef, yn gynta, am iddo i offrwm ei hun ar y groes tros­soch, ac yn ail yn y Cymmun.

Os cofiwch y tri rhesswm yma y boreu pan ddeffrooch, fe fydd hynny yn ddiogelwch mawr i chwi; i'ch gwneuthur yn fwy cy­dnabyddus a'ch ymrwymiad.

Chwi a ellwch ddechreu'r dydd ar cydnabyddiad hwn.

Nid wyfi yn eiddo i'm fy hun, ond yn eiddo'r Arglwydd. Efe am pry­nodd i a ffris mawr; ac fe a ddarfu i minnau adnewyddu, ail waith, ac ail-wai [...]h y gwasanaethwn ef: Ac am hynny mi ai gogonneddaf, am Corph, ac am Henaid: y rhain, sydd eiddo ef.

Ond fel y sercho eich calon yn fwy tuag atto ef, dywedwch fel hyn

O mor happus ydwyfi, am i mi ymrwymo i wasanaethu y fath fei­str, ag Arglwydd grassusol a Christ Jesu! Fyth ni chollafi mor fath [Page 66]ddedwddwch, trwy fod yn an-ffydd­lon iddo ef, nag anghoffadwrus am eu fawr gariad ef: Yn drydydd eich cadw eich yn sefydlog yn y llawn-fryd hwn yn ystyriol bob dydd, darllenwch eich dyled tuac Dduw, ach dyled tuac at eich cym­mydog, megis yn eglur eu maent gwedi ei gossod ar lawr yngh Catechism yr Eglwys.

Ac ar ol i chwi eu darllen dy­wedwch fel hyn. Hyn oll a adde­wais, ac a addunedais, yr amser hwnw pan i'm gwnaethbwyd yn Crution, Hyn adwaith a Siccrhe­ais; a hyn ll trwy rad a Cyn­northwy Duw yn ffyddlon a gy­flawnafi

Yn bedwerydd, llawnfryda yr amser hwnw, i fod yn wiliad­wrus: yn enwedig, yn y pethau hynny, trwy'r rhai y darfu i chwi ysty [...]ied, (wrth eich holiad di­weddaf) eich bod yn fwy d [...]ffy­giol, ac am hynny yn fwy addas [Page 67]i'ch Cyrhaed [...]yd. Yn hyn oll cys­surwch eich hunain i ym-arfer mwy diwydrwydd, i ossod gwil­wyr caethach ar eich Calon, gan fod yn ofalus i ymwrthod a'r lle­oedd, a'r cyfeillion, a'r achlyssur; a fu arferol o'ch denu i berygl.

A phob nos gelwch ych hun, i roi'ch cyfri am y dydd aeth hei­bio.

Yr Bummed, nid oes neb yn sic­cr, mewn cymmaint trafferth, ar nas gall gymmerud peth amser ir fath orchwylion byrion a rhain ac os ymarferir nhwy yn ddifrifol, a pheidio a rhedeg trostynt, yn rhy-fuan; nhwy (yn siccr) a al­lant eich archwaethu yn ddaionus, ac yn happus yn eu calonnau, trwy ei holl fowyd.

Ac er eu gwneuthur yn ffrwyth­lonach, anchwanega y weddi ferr hon, cyn fynyched ac y gellych bob dydd.

[Page 68] Holl alluog Duw, yr hwn a rod­daist dy un mab i ni yn aberth tros bechod, a hefyd yn esampl o fuchedd Dduwiol dyro i mi dy ras; fel y gal­lwyf byth yn ddiolchgar dderbyn ei anrhaethaul leshad ef: a hefyd beu­nydd ymroi, i ganlyn bendigedig lwybrau ei wir lanaf fuchedd ef, trwy'r unrhyw fesu Ghrist ein hargl­wydd, Amen.

Yn chweched; os bydd eich achossion y fath, fel nas galloch bob dydd ddarllen, fel y galloch gofio eich dyled tuag at Duw, ac hefyd tuag at eich cymmydog; gwiliwch na phalloch oi wneu­htur, unwaith neu ddwr or lleiaf yn yr wythnos: a myfyriwch tros ennyd, wrth ddiweddu pob rhan neillduol, gan ddywedyd, hyn yw fy iawn ddyled i a thrwy ras a chynnorthwy Duw mi al cyflawn­afi

Ac wrth ddiweddu'r cwbl (fel y byddo'ch darlleniad yn ffrwyth­lonach) [Page 69]dywedwch fel hyn. Ydd wyfi yn mawr ddiolch i'm Tad nefol, am iddo fy'ngalw i'r gyfryw iechyd­wriaeth hon, trwy Jesu Ghrist ein iachawdwr. Ac mi a attolygaf i. Duw roddi; I mi ei rad modd y gallwyf aros ynddo holl ddyddiau fy einioes,Amen

Ac vn saithfed trwy'r moddau hyn llawnfrydwch eich paratoi eich hunan cyn fynvched ac y galloch i dderbyn, ac i gymerud y Cymmun sanctaidd: gan gofio hyn (bob amser) megis ac trwy ych bedydd, ich gwnaed yn aelod o Ghrist, a Chychwnfa igyflw [...] iech­ydwriaeth; felly (yn gyffelyb fodd) trwy'r cyfundeb yma ac efe, yr ych yn parhau yn y cyflwr bendigedig hwnw yr hwn nis gall eraill moi arddel nai feddiannu, nid amgen na'r rhai y fydd yn esc­euluso gwneuthur hynny er cos am Ghrist.

[Page 70]Am nad ynt yn rhoi tystiola­eth yn'y byd o'u bod o gymeithas y Cristianogion; nac chwaith dim rhesswn i feddwl i bod yn aelodau bywiol i Ghrist, ac hefyd mewn cyflwr iechydwriaeth nid ynt ond hanner. Cristianogion, ai cymerud at v goreu: yn unig▪ gwedi ei bedyddio i Grist ac heb ddim cymmundeb ag ef, yn y Sacrament arall or cymmun a ordeiniodd efe ac wrth ei bed­ydd, a ymrwymasont a'r ei gy­merud.

Yn wythfed.

ONys gellwch gyflawni eich dyled tuag at Duw, ac he­fyd tuag at eich cymydog; na rwystred hynny monoch i fyned i gymmuno, pan gaffoch amser cyfaddas.

Ond yn unig ymddarostyngwch eich hun yn fwy o flaen Duw, trwy'ch diragrith edifeirwch; ac ewch i gryfhau eich llawnfryd Cristnogaidd: trwy dderbyn, a chymerud y lluniaeth ysprydol hwnw, a ddarfu i Grist, ei arlwyo i chwi; ac attolygwch iddo, gy­frannu ychwaneg i chwi o'i yspry­dol-gryfdwr.

Yn nawfed.

OS yn wastad y ciliwch yn eich ol, nedwch i hynny y Chwaith mo'ch llwfrhau chwi, na pheri i chwi anghoelio nas gell­wch byth ei gymryd ond yn hyttrach gobeithiwch yn nuw, a thrwy ddianwadalwch, a mynych ymarfer hynny, a phob modd Duwiol arall, chwi a ddowch or diwedd i fod yn fwy sefydlog, ac yn fwy diysgog i wneuthur yn dda.

Ni byddwch fyth felly, os gad­ewch heibio gymmuno; ond 'c­hwi a fyddwch mwy esceulus am bethau eraill; ac am hynny yn wastadol gwnewch hyn, fel y mae Crist yn erchi i chwi ei wneuthur; ac ir diben hwn gwnewch hyn, fel y galloch ei [...]h ymrwymo y'ch hun yn dynnach, ac yn ddwyasch iddo ef ac wrth wneuthur hynny, chwi [Page 73]a gynnyddwch fwy-fwy mewn gallu a Chryfder, i gael y fuddu­goliaeth, ac i orchfygu Diafol, y byd, ar cnawd.

Yn ddegfed ac yn ddiweddaf, na rwystrer chwi gan amau, a ffetrus­der, (trwy r rhai y mae llawer yn eu blino, ac yn eu digalonni eu hunain) rhag cael y budd ar lles­had y sydd i'w gael wrth fynych gymmuno, nid oes ddigon o le i'w hystyried yn y llyfr hwn.

Ac od oes un dyn heb allu bod­dhau moi gydwybod, yn y ffordd yma a ddarfu i'mi ei gyfarwyddo ef ynddi, gwilied hwnw yn ddyfal rhag iddo fethu calyn y cyngor yr ydwyf yn ei roddi iddo yngwas­anaeth y cymmun, yr hyn yw, i fyned at un doeth dyscedig, o we­nidogion gair Duw, ac agored ei ddolur, fel y gallo dderbyn cyfryw gyngor ysprydol, hyfforddiad, a Chonffordd, fel y gallo ei gyd­wybod ymysgafnhau; a thrwy we­nidogaeth [Page 74]gair Duw, allu ohonaw dderbyn cyssur, a daioni gollyngdod, er heddychu ei gydwybod, ac ymo­chelyd pob petruster ac anwybod­aeth.

Ac i'ch cynhyrfu i wneuthur hyn, ystyriwch wrthych eich hu­nain: pa faint o ressymmau 'ch­waneg y sydd i chwi i fod yn fwy eich ofn am i chwi beidio a my­ned; na bod yn ofnus am fyned i gymmuno. y rhesswm yw, am fod i chwi orchymmyn eglur i gymmuno, ac nad oes dim ond eich ofn, ach petruster yn eich lludias a'ch cadw oddiwrtho.

PEN IX. Am anghoelion, a phetruster.

FE a wna beth gwasanaeth (ond antur) i eneidiau gweddus, os dangos [...]af uddynt pa fodd y gal­lant yn hawdd gael i boddhau ynghylch llawer oi hanghoelion cyffredin (os cymerant gyngor gan wenidog Duw amdanynt;) er nas gallwyf sefyll ar yr holl achossion a'r anghoelion am hynny, mi a warria'r bennod y ma i Eglu­ro'r achos, yn gyntaf ni a glown yn gyffredinol liwied hyn i ni, pan ddywedom i ddynion eu esceulu­stra am gyflawni y ddyled hon, nid wyfi (medd un) yn ymhyfrydu yn hynny, nac mewn dyledion Du­wiol eraill; ac am hynny i ba beth y gwneir hwynt, yr union atteb yw hyn, od ydych chwi yn [Page 76]cyfrif yn well gyflawni eich dyled­swydd, o flaen eich ddiddanwch, ach budd, yna nis gellwch lai na chymerud bod-lonniad rhesymol, (os y'ch yn eich dirnad eich hun) yn y peth a wnaethoch.

Ie os ddeellwch hynny yn dda, fe a fydd i chwi yn fodlonniad mawr; yn cyfatteb mawrhydi eich diddanwch, ach budd fydd, yr hwn a naccaesoch er mwyn Duw

Yr hwn (mae'n rhaid i chwi ei gofio) a fodlonir am i chwi wne­uthur hvn a allech, (yn enwedig pan ich profer mewn ffordd ar­all;) Ac felly dylech chwithau fod hefyd yn fodlon. gan obeithio wrth hir ymarfer rhinwedd yn d­dianwadal, y dyry i chwi y fath owyllys mewn hyfrydwch ac a ddymunoch ei gael.

Yr wyfi yn siccr mai dyma'r ffordd i'w ennill, os yw efe i'w gael.

[Page 77]Yn ail y mae eraill yn cwyno fod hurtrwydd mawr yn ei gorch­fygu mewn dyledion sanctaidd; fel nad oes ganddynt awydd yn y byd iddynt.

Nid oes fawr ragoriaeth rhwng hwn ar cynta; ac am hynny mi chwanega hyn yn unig, fal pan gymeroch arnoch eich hun yr holl boen a ddarfu imi ych cyfarwyddo yn y bennod or blaen, ni ddylech mo'ch tristau eich hun am eich hurtrwydd: Ond ei gyfrif at eich cyflwr naturiol neu ryw an-ardy­mmer yn ei'ch corph.

Ac nid oes yr un or ddau yn eich gallu chwi i'w ddiwygio; ond yn unig ufuddhau iddynt a'i dioddef trwy ammynedd: i fod yn fyrr, nedwch i hyn mo'ch blino, llai o lawer eich rhwystro i gymmuno; os wrth dderbyn y cymmun sanctaidd, yr ych chwi yn deallt eich bod gwedi eich gwneuthur yn fwy gofalus yn eich [Page 78]dyledlon sefydlog. Yn III: yr an­ghyssur mwya or cwbl yw hwn. (Medd un) Nid wyfi yn cael budd yn y byd wrth gymmuno, ac nid wyfi yn cynnyddu yn well un gronyn am ei fynych gymmerud.

Ac nid yw'r ymmadrodd ym­ma yn fwy cyffredin, nac i mae gan mwya yn ddiachos: Megis ac y mae llawer o bobl (y soweth) yn meddwl ei bod yn cynnyddu yn well pryd na chymmunont na phan y gwnelont, ac eraill yn meddwl yn y gwrthwyneb: holwch gan hynny eich hunain wrth eich dyled tuagat Dduw, ac hefyd eich dyled tuagat eich Cymmydog.

A'c edrychwch a gwflawned nhwy yn well, er pan dderbynni­asoch y cymmun Sanctaidd; ga­dewch i'ch gwenidogion tylodion, eu holi eu hunain, pa un a wnant a'i bod yn ei trefnu eu hunain, yn fwy gostyngedig, gan ber­chi pawb oi gwell; a bod yn [Page 79]ofalus i fyw'n union ac yn ffydd­lon; ac hefyd i reoli e'u tafod­au, ac ymwrthod a drwg absen, cystadl a lledratta, & c. gan fod yn fodlon i'w cystwr, ymha ryw fuchedd bynnac y rhyngo bodd i Dduw eu galw.

Dyma'r arwyddion hynod, o gynnyddu yn well, trwy'r rhain chwi a ellwch yn iawn eich barnu eich hunain: ac y naill ai cael eich gwaredu yn hollawl och pe­truster, neu wybod pa fodd y mae i chwi gael hynny, trwy fwriadu yn ddifrif ossod ar y goreu y fath rinweddau.

Yr un fath y dylai plant eu holi eu hunain, ynghylch yr un anrhy­dedd, a gostyngeiddrwydd; a pha un a wnant ai bod yn anrhydeddu eu rhieni yn fwy nac or blaen; gan ymddarostwng i'w holl lywiaw­dwyr, dyscawdwyr, bugeiliaid ysprydol, ac athrawon.

[Page 80]Ar bobl Jeuanigc a ddylent eu holi eu hunain pa un a wnant ai bod yn cadw eu cyrph yn ofalus, mewn mwy Cymmedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb; am fod mwy profe­digaethau yn digwydd iddynt i weithredu y drygioni, ar beiau y sydd yngwrthwyneb ir dyledion Cristnogaidd hyn.

Ac ymma y mae'n addas ac hefyd yn perthyn, i mi ddwyn ar gof, un peth y mae llawer yn ac­hwyn, fod yn ei maeddu yn dra­mawr, (nid amgen, na chynhyr­fiadau y trachwantau cnawdol, ac at y'r rhain y mae y rhai ieuaingc wrth naturiacth yn hylithr; fe ellir atteb, nis gall fod amgen, os bydd­ant mewn iechyd: ac am hynny mae'n anghenrhaid fod mwy gofal a diwydrwydd, i'w cadw nhwy 'n bur ac yn ddihalogedig.

Yr hyn a allant eu wneuthur, er clowed y rhyw anwyadu yn­ddynt, trwy na chanllynant, mohonynt [Page 81] ac na adawant moi tywyso ganddynt, i weithredu dim a fyddo gwaharddedig gan Dduw.

Dyma r cwbl a addawsoch yn eich bedydd, ymwrthod ac anys­prydol ewyllys y cnawd, fel na ddily­nech hwynt, ac nath dywyser gan­ddynt.

Trachwantan, hyn yw, e­wyllysion eill fod i chwi megys yn deimladwy, ac nis gellir yn hawdd moi ddarostwng: ond ni ly­grant fyth mohonoch, trwy na cydsynio'ch a hwynt; ar cwbl y fydd i chwi iw wneuthur, yw, ymwrthod eu calyn, i'r ffordd ddi­ffaith y ceisiant eich denu, ach ty­wyso iddynt; a llawnfrydwch na foddhewch 'monynt mewn ffordd yn y byd, ond yn unig yn yr hon y mae Duw yn fodlon iddi.

Ac yr un modd mae'n rhaid i chwi eich holi eich hunain ynghy­lch eich dyled tuag at Dduw. A [Page 82]ydych chwi (yn fwy calonnog a sefydlog) yn credu yr hyn a ddy­scodd Crist i chwi yn ei efengyl, ydych chwi yn wir yn coelio hyn­ny, fel y mae n peri ofn arnoch, rhag i chwi mewn un modd ei anfodd-hau ef; gan gyfri, a ffr­issio, ei addewiddion ef, yn fwy na holl gyfoeth y byd; meddyliwch eich bod yn gyfoethogion trwy ffydd, a gobaith, er eich bod yn y gwrthwyneb yn dylawd, ac o issel radd yn y byd.

Dyma'r arwyddion goreu am wellhad dyn.

PEN. X. Cyfarwyddiadau rhag mynych ddychwelyd i bechu.

BWriedwch yn eich meddwl, fod dyn yn mynych ddych­welyd, i'r pechodau hynny, a ddarfu iddo lawnfrydu yn ddiys­cog eu gwrthnebu, ac yn arben­nig, a addawodd ymwrthod a hwynt; pa beth y sydd i'w wneu­thur yn yr achos ymma?

I hyn, yr wyfi yn rhoi atteb; yn gynta mai dyled dyn yw ei farnu ei hun, ie (hefyd yn dost) ei euog-farnu ei hun 'am hynny: fel yr wyfi'n meddwl y dylai hyn fod yn rhan or farn y mae'r dyn yn i faruu yn eu erbyn ei hun, ei farnu ei hun yn anheilwng o fod yn gyfranog or Cymmun Sanct­aidd. [Page 84]Felly (hefyd yn wirionedd) y barnai'r Englwys, pe bai iddi gydnabvddiaeth pa fath ddyn yd­oedd, gan gospi y cyfryw ddrwg weithredwr.

Ac am hynny (yn ail) edrych arno ei hun, a meddwl ei fod mor aflan ar ci a ddychwel at ei chwyd­fa ac am ei fod felly ymattalied rhag myned i fwrdd yr Arglwyd; hyd oni-byddo yn ddigonol gwedi ei ymddarostwng, gan gydnabod ei bechod, ac hefyd ei berygl, i fod yn fwy gofalus trwy lawnfryd gwell.

Yn drydydd.

A Hyn a ellir gobeithio a fydd, os efe (am y rhes­swm ymma ac nid un arall) a ar­bed ddinessau yno; gan edrych arno eu hun yn rhy wael i feddian­nu y fath uchelfraint, ac nid wrth sefyll allan trwy esceulustra, a [Page 85]diogi, i gymmerud poen gidac efe ei hun, llai o lawer gwan-ffyddio am drigaredd Daw; ond yn unig am y cydnabyddiaeth sydd gan­tho oi an-haeddedigaeth, a thrwy ymddarostyngiad dwfn, ei ger­yddu ei hun, am na wnaeth well ymmarfer o [...]awr gariad ei iach­awdwr tuag atto ef.

Yn bedwerydd.

Os hyn ni thyccia, mae'n rha­id iddo roi at hyn ryw fodd anghynnefin i gystuddio ei enaid, megis y dowaid yr yschrythyr, trwy ei farnu ei hun yn anheilwng i fwyta nac yfed nac i fwynhau dim o bethau daionus y byd hwn: Ac felly ei daflu ei hun i lawr ar y ddaiar o flaen Duw trwy wylo­fain, ympryd, a galar, trwy ym­ofidio, a griddfannu am ei gy­flwr tosturus, fel yr ym ni yn arfer oi wneuthur, am gyfaill, pan of­nom [Page 86]ei fod yn marw, neu mewn perygl mawr am hynny.

Yn bumed.

OS er hyn oll nis gwel y dyn ei fod yn safadwy, mae'n ang­henrhaid iddo fyned i ymgynghori a rhyw ddyscedig wenidog gair Duw, megis ac a physygwr yspry­dol, gan ddymuned cael gwybod gantho, pa Chwyl a gymmero fel y gallo feistroli ei drachwan­tau afreolus fydd yn rhy dost a chaled iddo.

Yn chweched.

PAn ddelo'r dyn i geisio y cyn­gor ar rhybudd ysprydol hwn, na fydded yn gywilyddus gantho gyfaddau yn eglur ei holl bechodau, ac agoryd holl gyflwr ei enaid, o flaen Duw, ac ir hwn y mae'n ymgynghori ac ef: gan [Page 87]adrodd, a dangos yn eglur, pa fodd, a thrwy pa wedd, y daeth fel hyn, i gael ei faglu yn rhwyd Diafol; fel nas gall fyned allan ohoni.

Yn seithfed.

BYdd siccr i orchfygu, y gofid, y sydd yn ymderfyscu ynot, yn lluddias i ti wneuthur y fath ddatcuddiad rhag ofn yn eich ty­bygoliaeth, eich bod yn eich gwrthuno eich hunain: a gorch­fygwch y meddylfryd hwnw, a meddyliwch y dylech yn hyttr­ach, yn synhwyrgall, gyfaddeu eich holl bechodau: fel y galloch gywilyddio, ach darostwng eich hun yn issel, o flaen Duw ai we­nidog. A gwnewch hyn megis rhan och gostyngeiddrwydd.

Yn wythfed.

AC os gwnewch hynny, yn­a y mae y gwenidog dys­cedig, mewn gallu i farnu rhwy­medi Cyfaddas i iachau'r dolur, pan adnabyddo'r gwreiddin, os dywedwch y gwir iddo, y mae efe mewn gallu, i adrodd i chwi o ba radd, a naturiaeth, y ma'ch pechod, ac o ba le y mae'n deil­liaw: pa un a'i oddiwrth seguryd, neu gyfeillion diffaith, neu esceu­lustra yn eich dwyfolder neu esc­eulustra yn eich meddyliau sefyd­log, i fywhau eich crediniaeth, i goffau eich rhwymedigaeth, ac i goffau eich mawr gyfrif sydd raid i chwi roddi; neu oddiwrth or­modd ymddiried yn eich gallu 'ch hun, diffyg ofn a siccrwydd, heb wilio yn iawn tros eich llygaid, neu ddrws eich gwefussau, a lla­weroedd or cyfryw bethau; y [Page 89]gellwch ddal sulw arnynt, ac yn gyffelyb fodd rhoi i chwi rybudd, a chyfarwyddiad.

Yn nawfed.

BYddwch siccr i ufuddhau i'w reolau ef, gan fod yn ofalus i'w Calyn nhwy dyma'r modd diweddaf; a ddylech ei ymar­fer, gan fod yn ddiolchgar i Dduw amdano a hynny trwy ofn a dy­chryndod, na [...]yddech well wrth hynny. Meddyliwch am ddyn a fai yn syrthio mewn llysmeiriau, neu ffeintiadau, pa beth nis rhoe hwnw, nen a wnai, neu a ddioddefai i gael ei waredu oddi­wrthynt, yn hyttrach na bod yn ddibaid mewn perygl i syrthio ir tan, neu ddwr neu ryw, ddihe­nydd arall: Bwrwich mai hyn y'w eich cyflwr eich hun; O her­wydd eich aml syrthiad mewn pechod, yngwrthwyneb i'ch llaw­nfrydwch, [Page 90]ach rhwymedigae­thau, mae hyn yn fwy peryglus ac ofnadwy; ac ni ddylid gwr­thod modd yn y byd, a fyddai mewn gallu i iachau y fath anfad ddrwg.

PEN XI. Am ddyled-swydd plant.

Y llyfr hwn a fwriadwyd i rai yn dechreu, a'r cyfryw a de­bygir nad oes ganddynt ddim gwybodaeth i gyflawni eu dyled­swydd, myfi a ddibenna hyn, gidag ychydig gynghorion, i blant, i wenidogion tylodion, ac hefyd i bob Math ar bobl jeuaingc.

Yn gynta, dyled-swydd plant a gynhwyssir mewn dau air, nid­amgen anrhyddeddu eich rhieni; [Page 91]yr hwn yw'r gorchymmyn cyntaf or holl orchymmynion Cynwysse­dig yn yr ail llech: ac yn gynta rhoi bri arnynt megis eich pen­naethiaid a'ch Cymwynasgarwyr mwya; canys tan Dduw yr o­eddynt yn achos och bod, ac he­fyd, eu bod, yn ofalus am eich magu, ach meithriniad, ach dy­giad i fyny, y pryd nas gallech edrych attoch eich hunain.

Yn ail, trwy ymddygiad anrhy­deddus tuag attynt, ie y pryd na Chyflawnont moi dyled-swydd; ond eich annog i ddigofaint, trwy eu croes drawstrummau.

Yn drydydd, Gan dalu pwyth eu cariad, trwy ddiwallu eu di­ffygion; os cwympant mewn ty­lodi, a chwithau yn gallu eu cyn­nal i fyny.

Darllennwch, 1 Tim. 5.4. Math. 15▪ 5 6.

Yn bedwerydd, gan gyd-ddwyn ai gwendid, y naill ai mewn Corph, [Page 92]neu feddwl, yn enwedig yn eu henaint.

Yn ail, Ufydd-hewch ich rhieni, Eph. 6.1. gan fod yn ostynge­dig iddynt: Luc 2.51.

Yn gyntaf, byddwch ostynge­dig i'w hathrawiaeth, ai Cyn­ghorion daionus; y rhai a ddylech chwi wrando arnynt, au hystyried yn ofalus, ac yn ddiesceulus.

Yn ail, i'w gorchymmynion; pan baront i chwi wneuthur pob cyfryw-beth ar na fyddo yn er­byn y gorchymmynion Difiny­ddiawl.

Yn drydydd, ymddarostwng i'w ceryddiad am eich beiau ach tros­seddiadau, Hebr. 12.9.

Yn bedwerydd, am y Cyfar­wyddiad yn dewis i chwi eich gal­wedigaeth; onis bydd gennych wrthwyneb iddo.

Yn bumed, ond yn enwedig yn achos priodas; yn hynny mae gan y'ch rhieni bob amser gyfiaw­nder i drefnu eu plant.

[Page 93]Ac mewn gwirionedd ni dylent moi Cymmell i briodi un ni chlo­want arnynt moi garu; ond gwn­euthur eu gorau ar ddymuned ar eu plant garu y rhai y maent yn eu ddewis iddynt: a phryd na chlo­woch arnoch gytuno ai ewllyssion yn y pungc hwnw; mae'n angen­rhaid i chwi trwy anrhydedd, ac iawn barch anghytuno a hwynt; ac yn ostyngedig ddymuned ar­nynt beidio ach Cymmell ddim pellach.

Ac onis gwrandawant ar eich aml ddeisyfiadau nid ych yn rhw­ym i galyn e'u Cyfarwyddiadau yn y fath achos.

Ond or tu arall, na phriodwch neb, heb eu Cydsynniad nhwy; onis byddant mor anrhyssymmol, fel na fynnont i chwi briodi neb; a'ch bod yn gweled, fod angen­nolrwydd yn eich Cymmell, i rag­flaenu eich tywyso ymmaith (yng­wrthwyneb ich adduned yn [Page 94]eich bedydd,) gan chwantau cna­wdol.

Yn yr achos hwnw, ewch at y llywiawdwr, neu ryw wenidog dyscedig, (y rhai ynt rieni cyf­fredin) a gadewch i'r rheini ym­ddiddan a hwynt, ac onis gallant, dyccio, nid-oes gennifi, ddim y­chwaneg i'w ddywedyd ynghylch eich ufudd-dod yn yr achos ym­ma; ond bod i chwi yn gall ym­marfer ach rhydd-did, a thrwy gynghorion da eich Cyfeillion, a dyledus ufudd-dod i'ch rhieni.

Ond fel y mae llyfr gweddi-gy­ffredin yn eich addyscu, yngwasa naeth priodas.

Na ddylei neb ei Chymmeryd arno mewn byrbwyll o ysgafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn digoni dei­syfiad a chwantau cnawdol, fel ani­feiliaid yscrublaidd, y rhai ni rod­dwyd rheswm iddynt: eithr yn bar­chedig, yn bwyllog, yn sobr, ac mewn ofn Duw; gan ddyledus syniaw er [Page 95] mwyn pa achosion yr ordeiniwyd priodas, &c.

Ac os canllynwch y rheolau hyn, nis gellwch wneuthur ar fai; byddwch ofalus i gyflawni y dyledion hyn; a Duw (o flaen yr hwn, i mae pob cyfryw beth daionus yn gymmeradwy) a ddyry i chwi ei fendith: Darllen­nwch Ecclesiasticus, pen 3. hyd adnod, 17.

PEN XII. Am ddyled-swydd Gwe­nidogion.

ER nad yw Gwenidogion y pryd hyn yn wir gaethwei­sion nac yn alltudion fel i'r oe­ddynt yn nyddiau'r Apostolion, er hynny, y maent mewn cyflwr ufudd-dod; ac yn rhwym i gy­flawni y cyfryw ufydd-dod ac y sydd gwedi e'i amlygu i ni yn yr Scrifenadau Apostolaidd; ie am y rheswn hwn, nid amgen, nai bod yn awr mewn gwell Cymmeriad; gwrandewch gan hynny eich dy­led-swydd, megys y mae'n eglur gwedi ei gosod allan yn yr ys­grythyr Sanctaidd, a Chofiwch. Yn gynta eich bod yn rhwym i ymegnio i foddhau eich meistr­ed, [Page 97]ach meistressau, gan wneu­thur y peth a archont, pan ro­ddont chwi ar ryw orchwyl. Tit. pen 2.9. darllenwch y lle: ac he­fyd, 1 Tim. 6.1. yn y lleoedd hynny y mae i chwi ddigon o gy­farwyddiad am eich dyledion.

Yn ail, cofiwch hefyd y dylech fod yn ffyddlon, am yr ym­ddiried sydd i chwi, ac na thwy­lloch hwynt, ie yn y peth lleiaf, ond byddwch siccr, iddangos ffy­ddlondeb da, fel y mae'r Apost­ol yn dangos yn eglur i chwi, Tit. pen 2.10.

Yn drydydd, rhan or cyfryw ffyddlondeb yw bod yn ddiwyd yn eich achossion, i'w dibennu cyn gynted ac y galloch: a bod hefyd yn ofalus iawn i wneuthur eich gorchwyl yn dda, ac yn dre­fnus; fel y mae'r Apostolion San­ctaidd yn eich addyscu. 1 Pet. 2.18. Eph. 6.5. Darllenwch, ac ystyriwch yn ofalus y lleoedd [Page 98]hyn; y rheol oreu or cwbl yw hyn; meddyliwch wrthych eich hunain, pa fodd y mynnech i er­aill eu hymddwyn tuag attoch pe baech feistred, a nhwythau yn wenidogion: a gwnewch felly, am eich bod ein wenidogion ich meistred.

Yn bedwerydd, y diwydrwydd, y gofal, ar ymddiried, sydd raid i gyflawni, nid yn unig pan y byddont yn edrych arno'ch; ond pan drothont eu cefnau, a bod ymhell oddiwrthych, Eph. 6.6. Col. 3.22. Os rhodiwch oddiam­gylch, a llaesu eich poen, a'ch gofal, pan elont oddicartref, neu y pryd na byddont yn eich gweled; nid ydych yn eu gwa­sanaethu fel Cristianogion, y rhai a astudiant i fodd-hau Duw. Ond fel Caethweision, i fodd-hau dy­nion, ac nid am ddim meddwl ar­all ond i fod yn ddiangol rhag eu digofaint.

[Page 99]Ac yma y mae'n addas i mi roi i chwi y cyngor hwn; na fe­ddyliwch mewn ffordd yn y byd ddywedyd dim celwydd, ich cadwch eich hunain rhag Cael Cerydd.

Yn bymed, bod yn fodlongar i'ch dognfwyd a'c i'r Cyfryw rwy­mau, a roddant arnoch, Tit. 2.10. y geiriau Caledion, ac hefyd Cernodiau, mae'n Angenrhaid eu dioddef trwy ammynedd.

Nis gallaf ddywedyd, nas gell­wch gael diwygiad oddiwrth eich llywiawdwyr chwi, a nhwythau, am eich Cammwri; am gernod, neu ddyrnod, ni wnant fawr ni­wed, neu Stwrdiad digllon, ni ddylai hynny mo'ch llidio, n'ach trwblio: ond gwell, a gweddei­ddiach yw ei dioddef, heb ddy­wedyd dim, ne'n issel attolygu iddynt eich pardynu, yn hyttrach nai hannogi i ddigofaint, wrth eich attebion creision, a digllon, [Page 100]am fod pob gair diffaith yn ang­hyfreithlon.

Darllenwch, 1 Pet. pen 2.18.

Yn chweched, yr Apostol a fynnai hefyd i chwi eu gwasana­ethu nhwy trwy eywllys da: Eph. 6.7. A pha beth bynac a wneloch, ei wneuthur yn galonnog: Col 3: 23. Un peth i ddal sulw arno yw hyn.

Pan eloch at eich gwaith, ewch yn llawen, gan beidio a grwgn­ach wrtho, nen rwgnach, am eich bod yn wenidogion, ac am nad ydych Gystadl ar rhai yr yd­ych yn eu gwasanaethu ond Cy­merwch fawr ofal, i fod mor o­styngedig ac y mae eich Cyflwr Y mae'n Anghyssyrus iawn i'ch mei­stred, Cystadl a'c i Chwithau, pan eloch ynghylch eich gwaith trw­y yspryd aflonydd, ie ac a Cha­lon surlled, wrth hyn y mae'n digwydd, eich bod yn anghofio, eich bod yn gwasanaethu'r Ar­glwydd [Page 101]Dduw, pan fyddoch yn ddiwyd yn eich gorchwylion; ac yn unig edrych arnoch eich hun­ain fel gwenidogion dynion.

Hyn y mae'r Apostolion yn ei geryddu, pan archont i chwi ufu­dd-hau i'ch meistred, megys ac i Grist, Y gweision ufyddhewch i'r rhai sydd Arglwyddi, i chwi yn ol y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist, nid a golwg-wasanaeth, fel bodlon­wyr dynion: ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r gal­on; trwy ewyllys da, yn gwneuthur gwasanaeth megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion. Eph. 6.5.6.7.

Yn y lle ymma y mae 'r Apostol bedair gwaith (mewn Cwmpas tair o wersi) yn dwyn ar gof i 'chwi eich bod yn gwneuthur ew­yllys Duw, a gwasanaethu yr Ar­glwydd Grist; pan fyddoch yn gwneuthur gorchwylion eich me­istred yn ffyddlon.

[Page 102]Os meddyliwch am hyn, nis gwnewch mohono ef yn drym­llyd, ac yn anfodlongar: yn en­wedig os iawn ystyriwch y cyn­hyrfiad trwy'r hwn y mae'r Apo­stol yn eich Cyssuro fel hyn.

Gan wybod mai pa ddaioni byn­nag a wnelo pob un, hynny a dder­byn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai Caeth ai rhydd fyddo. Eph. 6.8. Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbynniodd daledig­aeth yr etifeddiaeth: Canys yr. Arglwydd Grist yr ydych yn ei­wasanaethu: Col. 3.24.

PEN. XIII. Cynghorion i bob math o Ifi­engctid.

YN gyntaf, y Cyd-ddilynniad mwyaf yw dechreu yn dda wrth ymosod allan i'r byd, Cym­erwch ofal hyspyssol rhag i chwi ymlyn mewn drwg arfer, yn enwedig Seguryd, gwenwyn if­iengctyd a gochelwch feio ar ddim, (cyn eich bod o allu i iawn farnu; fel y Soweth yr ym yn gweled, fod gormod, yn gwneu­thur, yn erbyn llyfr gweddi-gy­ffredin yr eglwys yr hwn y ma­ent yn ei gassau, ag nis gwyddant am ba achos, ond iddynt ei ragfarnu cyn gwybod, ohonynt ddrwg tros dda.

[Page 104]Yn ail, gwrthywnebwch ewylly­sio eich diddanwch, yr hwn yn awr o flaen pob peth ach dena, ag ach huda chwi hefyd i newydd beth a gynhwyssir mewnt rachwantau ifiengctyd, megis i mae yn eg­lur iw weled yn: 2 Tim. 2.22. i'r rhain y mae dynol gnawd yn rhyfeddol yn ei ifiengctyd yn syr­thio, gan alaru ar yr hen ddulliau trwy ewyllyssio a dymuned Cael rhai newyddion.

Yn drydydd, Gochelwch butteiniaid, ie hefyd a phob dyn Aflan megis y nodau: gan gofio bob amser y mynych gynghorion, y mae'r gwr doeth Solomon yn eu rhoddi i'w fab am hyn; Dihar. 2.18, 19. Dihar. 5.3, 4, 5. Dihar. 7. Darllenwch yr holl bennod.

A Chanlynwch ei gynghorion, rhag ofn or diwedd iti ochain, gwedi ith gnawd a'th gorph gurio, a dywedyd, pa fodd y Caseis i A­ddysc [Page 105]pa fodd i dirmygodd fyngha­lon gerydd.

Yn bedwaredd, fel y galloch fod yn ddiwair byddwch Gyme­drol, mewn bwydydd a diodydd, na yfwch ddim gwin, am yr en­nyn dan, ar dan: ymognia yn galed, ith ymarfer dy hun i gy­merud poen, a gwiliadwriaethau i ymwrthod a phob p [...]th a'th annogo i dachwantau cnawdol.

Yn bummed, Cymmer fawr of­al, pa gyfeillach a ddygymod a thydi: Ganys mae'n gnawdol i ifienctyd Gynnefindra, ag am hynny mae'n hawdd eu tynnu ai denu i gwmpeini drwg a diffaith.

Yn Chweched, Anrhydeddwch ych henuriaid 1 Pet. 5 5.6. ond yn fwy enwedigol eich golygwyr, y rhai y sydd yn gofalu trossoch yn lle eich rhieni, y mae yn rhaid i chwi ddangos yr anrhydedd hwnw nid yn unig trwy eich ym­ddygiad oddiallan, a'ch ymad­rodd; [Page 106]ond hefyd gan ewyllysio, a dymuned cael eu Cynghorion ag yn ddyfn eu hystyried ac heb wneuthur dim heb eu cyfarwy­ddiad, gan ymddarostwng yn ho­llawl i'w ceryddiad.

Yn saithfed, y mae 'r Apostol St. Paul y Cynghori ifienctyd i fod yn sobr, Tit. 2.6. hynny yw astudio yn ofalus bwyll, gostyn­geiddrwydd, a lledneisrwydd, y rhain y'w 'r anrhydedd mwyaf i ifiengctyd, ag yn Arwyddion o feddyliau daionus, ag yn flo­deyn gobeithiol i ddwyn ffrwyth trarhagorol, megis y dywaid un or henuriaid ag nid y'w yn unig yn Sefyll yn eich golygon; ond yn y meddwl issel y sydd gennych amdanoch eich hun, gan gydna­bod eich Anghallineb, a'ch gw­endid, a thrwy eich gostynge­dig glustymwrandawiad ar opinionau a chynghorion eich hen­uriaid.

[Page 107]Yn wythfed, ac yn ddiweddaf, Cofia fod ifiengctid fel amser gwanwyn yr hwn yn fuan a li­thra ymaith, ag os chwarewch yr amser hwnw, ac heb gymerud gofal yn y byd i hau had da o gallineb, a duwioldeb, mae 'r amser Cyfaddas gwedi i chwi ei golli i wneuthur Arlwy am fowyd llwyddiannus. Am hynny yr ych mewn perigl mawr am fod yn rhyw i ifienctid afradloni ei hamser. Am hynny byddwch Syniol, a deallgar, rhag i chwi eich dadwneuthur eich hunain trwy ynfydrwyd ifiengctid: me­gis y dengys Solomon i bod, gwedi ymroi mor danbaid i borthi ei hawydd, ymhob peth ar a ewyllysiant, fel nas gallant ddioddef dim cerydd yn ei hyfrydwch ai llawenydd, y peth mwyaf ai trwblia y'w, meddwl am y peth a ddigwydd iddunt, (fel y den­gys Solomon) Eccles. 11.9. nid [Page 108]amgen na bod yn rhaid iddynt roi caeth gyfri am y cwbl. Ac am hynny mi a ddibenna gida Chyn­gor Solomon, Gwna yn llawen wr ieuangc yn dy ieuengctid, a llaw­enyched dy galon yn nyddian dy ieuengctid, a rhodia yn ffyrdd dy ga­lon, ag yngolwg dy lygaid; ond gwybydd y geilw duw di ir farn am hynny oll.

PEN XIV. Cyfarwyddiadau ir rhai ni fe­drant mor darllen.

YN gyntaf, am y sawl ni fe­drant mor darllen eu hunain, (a rheini yn y dyddiau hyn nid ynt ond ychydig rifedi (bendi­gedig fyddo Duw) wrth y dyddi­au gynt, yn yr amseroedd aeth heibio,) eu meistriaid ai meistr­essau neu ei Cydwasanaeth-ddyn­nion, neu ryw gymydog da, neu eu perthynas, a ddeisyfir i fod mor gared gol, a darllen iddynt y ddyledswydd ynghylch yr achos yma; gan ddangos iddynt yr angenolrwydd, ac i ba ddiben y mae; gan ddymuned arnynt yst­yried yn ddwfn, a dal sulw yn [Page 110]graff ar y peth yr ydys yn ei ddar­llen iddynt.

Yn ail, os bydd ei cof yn eg­wan, dywedwch wrthynt ar fyr eirieu, eu bod yn rhymedig (wrth yr eidduned a wnaethont yn ei bed­ydd] i gyflawni ewyllys Duw, a cha­dw ei orchmynnion; a bod yn rhaid iddunt atcoffa ei fawr gariad ef, wrth ddyfod i'r Cymmun Sanctaidd; a hyn ai Cynnorthwy a nhwy i gyflawni ei ewyllys ef yn well.

Yn drydedd, darllener iddunt yr holl eiddunedau a wnaethont yn ei bedydd; ynghyd ai dyledswydd i Dduw, ac hefyd ei dyledswydd i'w Cymmydog, megis ac y mae gwedi i drefnu ai osod allan yn eglur yn y Chatechism: A gofynner iddynt, oes ganddynt feddwl ac ewyllys trwy gynnorthwy Duw i gyflaw­ni hyn oll.

Yn bedwaredd, os Cydsynni­ant i wneuthur hynny dyweder wrthynt, (mai ei dyledswydd yw) [Page 111]myned a derbyn arddodiad dw­ylo, hyn yw Conffirmiad, megis y dywedwyd or blaen: a chwedi hynny elont yn hyf i gymeryd y Cymmun Sanctaidd, gan roddi mawr ddiolch i Dduw, am fod yn wiw gantho ei galw ir Cyffryw gyflwr o iechydwriaeth trwy Jesu Grist, ag am weithio y fath ewy­llys da ynddunt; i wneuthur y fath addewid iddo, y parhant yn ffyddlawn wasanaeth-ddyn­nion i Grist holl ddyddiau eu heinioes.

Yn bummed, Cydnabyddant onis gallont wneuthur dim ych­waneg, ar y Cymmun Sanctaidd, ond yn unig rhoi calonnog ddiolch i Dduw, am fod yn wiw gantho ddanfon i Anwyl fab i farw tro­stunt; ac i addunedu ei hunan yn hollawl iddo ef, a hynny trwy la­wnfryd o ufudddod diragrith; fe fydd hynny yn gymeradwy gantho ef; ad mewn amser [Page 112]nhwy a ddealltant ychwaneg, a nhwy a wnant y ddyledswydd yn well.

Yn chweched, Addyscer nhwy i gydnabod na ddylai y trawsfedd­yliau am eu amherffeithrwydd, ai hanwybodaeth i digalonni. Fy meddwl yw hyn pan gymero y gwenidog y bara ar gwin yn ei law, ai bendithio, torri 'r naill to­wallt allan y llall, eu Cyfrannu ir bobl a nhwythau yn ei gymerud am goffadwriaeth o farwolaeth Crist ai ddioddefaint y mae yn gy­meradwy udd [...]nt. Ac os cydna­byddant hyn, a chalonnau purion, gan roi gostyngedig ddiolch i Dd­uw, ag Addaw iddo fod yn ffydd­lon wasanaeth-ddynion; efe a gymer hynny yn garedigol ac a gynnydda ei radau yn eu [...]alo­nau

Yn seithfed, hyspysser uddunt yn gymmeint ag nas medrant mor darllen, mai ei dyledswydd yw, [Page 113]bod yn fwy diwyd i roi clust i wrando y peth a ddarllennir udd­ynt yn yr Eglwys neu yn neillduol; ac hefyd ir pregethau a glowant: gan wneuthur ei gorau ar ddal yn eu cof, ag ystyried yn ofalus ar hynny yn eu Calonnau, fel y gallont ei Gael yno pan fo achos iw ymarfer.

Yn wythfed, am y Cyfryw ddi­ben fo ddylai meistriaid, a meist­ressau, gymeryd mawr ofal; am roi amser cyfaddas iw gweni­dogion i fyned ir eglwys, neu yn hyttrach mynnu eu gweled yn myned gida nhwy gan ddywedud gida gwyr Sanctaidd Duw, nyni an Teulu a wasanaethwn yr Ar­glwydd

Yn nawfed, pe cannorthwyid nhwy i ddyscu rhyw weddi fer, ar ei tafod leferydd, heblaw gwe­ddi'r Arglwydd; fe fyddai hynny yn fodd da i'w cadw yn eu dy­ledswydd gan eu gweuthur yn fwy hyde­rus [Page 114]am rassussol gynnorthwy Duw iw gyflawni. Addyscer nhwy (or lleiaf ar ol darllen iddynt eu dyled­swydd tuag at Dduw, ai dyled­swydd tuag at eu Cymmydog) i ddywedyd Arglwydd trigarha wr­thyf, ac ysgrifenna yr holl ddedd­fau hyn yn fy nghalon,; ag hefyd y colect hwn, O Dduw dy fab a hy­spysswyd fel y dinistrai weithredoedd diafol, an gwneuthur ni ein blant i Dduw, ac yn etifeddion bowyd tra­gwyddol; canaidha i mi, 'r wyfi yn At olygu itti, gan im gael gennyt y fath obaith i fod mewn gallu im pu­ro fy hyn, megis ag y mae ynteu yn bur; fel pan ymddangosso ef eil­waith trwy allu ag Anrhydedd mawr y gallwyf gael fyngwneuthyr yn gyffelib iddo ef yn ei dragwyddol ai ogoneddus deyrnas: ymha le gida thi o dad, a thithau o yspryd Sanctaidd, y mae ef yn byw ag teyrnassu yn dra­gwyddol, yn un Duw heb drangc na gorphen, Amen.

[Page 115]Yn ddegfed, mae'n rheswm i feistriaid ag i feistressau gymerud poen gidai gwenidogion ni fedrant mor darllen, os dyfal ystyri­ant, pa faint gwell y fydd gwe­nidogion uddynt, pan ddelont yn wenidogion i Dduw: a bod gant­hynt hwythau feistr yn y nefo­edd, yr hwn a wyr nad yw ddi­gon uddynt, yn unig edrych yn dda at eu Cyrph ond hefyd at eu heneidiau; orlleiaf en Cynnorth­wyo, i gael y moddau o'r Athr­awieth Gristianogol, ac mewn gwirionedd, hyn a esceulussi'r yn fawr, ac y Soweth yn rhy aml, os gwelant ei gwaith gwedi i wneuthur yn dda; ni waeth gan lawer o feistriaid, a meistressau am ddim ychwaneg. Mae rheini yn eglur yn ymddan­gos ir byd eu bod yn eu Caru eu hunain yn fwy ac yn well nai Duw; ac oni bai fod hynny, ni foddheid mohonynt nis uddynt [Page 116]gyflawni gwaith Duw hefyd a'i yrru ir eithaf ymlaen gida 'r ei­ddynt eu hun.

PEN XV. Cyfarwyddiadau ir Sawl a fed­rant ddarllen.

AM y rhai Sydd mewn gallu i ddarllen, nid rhaid imi yn siccr moi cyngori i ymarfer ai gallu ond yn unig iw ymarfer yn dda: gan ymwrthod a darllen llyfrau ofer, a serthaidd, a bod yn gydnabyddus ar rhai sydd dda, a buddiol; y Cyfryw rai a gyn­nyddan eu meddyliau i gael gwy­bodaeth llessol, ag a gynhyrfa ynddynt awyddau dwyfawl tuag at Dduw ag ai cyfarwydda i ym­arfer Cyfiawnder, a thrugaredd, [Page 117]Cymedrolder a diweirdeb; a 'r holl rinweddau eraill Cristianno­gol.

Yn ail, ond yn uwch nar holl lyfrau eraill, gwnewch eich hunain yn gydnabyddus ar yscrythyrau Sanctaidd y rha [...]n (medd St. Paul) a ddyscodd, Tymotheus er yn [...]achgen ac oedd abl iw wneuthur yn ddoeth i iechadwrieth, trwyr ffy d y sydd yn Ghrist Jesus, 2 Tim. 3.15 Dymma ganmoliaeth ma­wr ir h [...] ysgrythyrau, ac yn Gys­sur mawr i Astudio, y llyfrau Sanctaidd hynny trwy rhai y mae ca [...]l mwy budd Yn awr i mae gennym gwedi i Cymhwyso Attynt yr yscrythyrau newydd, y rhain sydd yn Cynwys ynddynt yr iawn ffydd yn Ghrist Jesu megis y mae'r Apostol yn dywedyd. Nid ych ond lledrithio ych bod yn Ca­ru Duw; (yr hyn beth yr ych yn Cyfaddau fod yn rhan och dyleds­wydd y sydd yn ddyledus iddo.) [Page 118]oni ymmorolwch ar ol ei f [...]ddwl, ai ewyllys, y rhai yn unig sydd iw cael yn yr ysgrythyrau San­ctaidd.

Yn drydydd, or holl rannau er­aill or ysgrythyr, fe ddarfu i mi ddal sulw fod pobl ieuaingc yn Cymmeryd mwy d [...]d [...]anwch, (megis y maent yn naturiol iw wneuthur) yn darllen y llyfrau hystoriaidd or hen Destamen [...] y r­hai mewn gwirionedd sydd gwe­di ysgrifennu ar fath yspryd o dduwioldeb ar nas gellir moi cael mewn un Histori arall; trwy yspysu yn eglur y ddau beth hyn.

Yn gyntaf, i gynhyrfur bobl i gredu rhagddarbodaeth dif­inyddiawl, yr hwn sydd yn rhe­oli pob peth; ac nid yn unig yn perthyn tros genhedloedd ond pobl neillduol y rhai am hynny a ddylai fod ganddynt bob amser Dduw yn eu holl feddyliau, ir [Page 119]hwn yr ydys yn Cyfri pob dam­wein yn yr Histori Sanctaidd ac yn eu i meithrin nhwy i wybod y rhagoriaeth y Sydd rhwng da a drwg: y Cyntaf or ddau bob amser a dderbyniodd dystiolaeth dra-eglur o fawr ffafor Duw; yr ail oedd bob amser yn ystyriaeth ei ddigofaint Creulon ef.

Yn bedwerydd, am hynny na feddyliwch i chwi ddarllen yn fu­ddiol y llyfrau hyn, onis cydna­byddwch gwedi eu dallen yn fwy ystyriol y ddau beth hyn; a bod yn fwy awyddus iddunt. Gwedi ych meddiannu, hynny yw a mwy bywiol Gydnybyddiaeth am y go­ruwch-reolaeth gallu a rhag­ddarbodaeth Duw: Trwy rha [...] y mae pob peth yn cael eu tr [...]fniad: ac am hynny llawnfrydwch i ymroi y'ch hunain iddo wneuthur yn dda, a gwneuthur [...] fath ragoriaeth rhwng da a drwg [Page 120]ac y wna ynteu; gan orffwys gwedi ych boddhau a pha beth bynnag y rhanno bodd iddo ych trefnu, a phan gymmeroch ofal felly eich trefnu ych hunain, i ymwrthod ar peth y mae efe yn i Gassau, a chanllyn y peth y mae efe yn ei garu.

Yn bymed, ond ywchlaw yr holl lyfrau eraill or hen Destament y mae 'r Psalmau mewn mwy ymmarfer Cyffredin, ac am hyn­ny gwedi trefnu gan 'r eglwys iw darllen ar gyhoedd trostynt un­waith bob mis. Rhai ohonynt chwi a wnae'ch yn dda eu dyscu ar dafod leferydd, fel y galoch ei dy­dywedyd ar bob achos megis yn yr Amseroedd gynt yr oeddynt yn Arferol oi wneuthur. Cans nid oedd dim mwy Cynefinol, na chlowed y llafurwr yn eu canu wrth ddal ei Aradr, y mor­wr yn eistedd yn y llong; Ar dyfr­wr wrth rwyfo, y gwehydd ar i [Page 121]wydd, a'r wraig-dda wrth i thro­ell, y cloddiwr wrth i bal, ar plan­tos yn yr heolydd, i fod yn fyrr, hyn oll a Sugnassont gida llaeth eu mammau ac oi mebyd, er cynted y gallent ddyscu dim arall, ir oe­ddunt gwedi eu haddyscu eu hun, cyn braidd y medrent lefaru yn eglur: y fath gariad oedd gan­thynt ir gerdd, ar music melys, ar canniadau Sanctaidd hynny.

Yn chweched, mae'r cyntaf or rhain yn dwyn ar gof i chwi y'ch dyled-swydd i'r hapussrwydd ar dedwyddwch y maent yn eu dwyn i chwi os gwnewch hynny yn ffyddlon. Ac am hynny ga­dewch i hynn, a rhan arall Sydd mewn mwy arfer gyffredin, (ac nid ynt y rhai Sydd yn perthyn yn unig i gyflwr presennol Dauydd neu ryw drychineb cyhoedd) gael eu darllen yn fynych, ai hystyried yn Synniolaf oll ar rhain ynt. 8.15.19.33.34.103.104.119 139. [Page 122]145. A llaweroedd eraill, y rhain all pob dyn ddal Sulw arnynt ai hymarfer, ond yn fwy enwedigol y saith Psalm o edifeirwch; y rhain Sydd fwy Cyfaddas iw dar­llen pan ydych mewn Cyflwr tri­staidd ne'n griddfanu am ryw bechod a wnaethoch, ac yno ddar­llenwch y Psalmau hynn, 6.32.38.51.102.130.143.

Yn seithfed, ond Pan wne­loch hynn oll. Mae'n rhaid iwch yn bennaf ddarllen llyfrau y Te­stament Newydd, hyn yw y Cy­fammod a wnaed a ni yn Jesu Grist: at yr hwnn y mae lly­frau yr hen Tetament yn ei'ch trossi er dangos perffiethrwydd y gwybodaeth hwnw yr hwn yn dywyll iawn a draddodwyd gan­thynt. Ag yn gyntaf yr Efengy­lon Sanctaidd y rhain fwyaf Sydd yn Cynnwys ynddunt Histori neu hanes genedigaeth bowyd, mar­folaeth, Ailgyfodiad, aderchafi­ad, [Page 123]ein iachawdwr, yn y rhain oll ystyriwch yn benna, fawr Allu Duw yn rhoddi tystiolaeth iddo, gan gyhoeddi i fod ef yn fab Duw. Ac am hynny yr ych chwi yn rhymedig i ufuddhau iddo, ag am hynny astudio pa beth yw ei ewyllys ef; yr hwn yn eglur a amlygwyd i ni yn y bregeth a wnaeth Crist ar y mynydd ac a rygofi'r yn 5.6.7. Pennodau o St. Matthew darllenwch yr 'r hain or lleiaf unwaith yn yr wy­thnos.

Yn wythfed, yna canllynwch Actau 'r Apostolion lle y dangossir yn eglur eu hawdurdod, a thrwy weinidogaeth pa rai y derbynnia­som yr Efengyl; gan erchi i ni glust-ymwrando ai Cynghorion y rhai a draddodassont i ni yn eu Epistolau megis geiriau dynnion gwedi eu hysprydoliaethu yn ddw­yfawl ag yn y rhain boddhewch eich hunain, a rhannau ohonynt [Page 124]Sydd yn hawdd ag yn eglur, ac o fawr arfer a pherthynas ac nag ymmyrwch yn yngwrth ar lleodd hynny Sydd galed a thowyll ag yn perthyn i ryw achosion neilld­uol, y rhai nid ynt yn awr mor adnabyddus fel y gall pob dyn ddeallt eu meddyliau. Canys arfer ddrwg iawn yw pan foch yn y'ch Syfrdanu eich hunain, ynghylch rhyw leoedd towyll yn yr yscri­fennadau Apostolaidd; lle mae digonedd o rai dihocced, i chwi iw hymarfer yn eich meddyliau. Mi a ch Cyfarwyddaf at rai Sydd Addassaf ich myfyrdodau yn yr Epistol at y Rhufeiniaid darllenwch yn fynych 7.12.13. pennodau, ar 13. pen o Epistol Cyntaf St. Paul at y Corinthiaid; y 4.5.6. at yr Ephesiad, 3.4. at y Colos­siaid 4.5. or Epistol Cyntaf St. Paul at y Thessoloniaid, 1.2.10, 11, 12, 13. at yr Haebreaid a holl Epistolau St. Jago a St. Petr, a [Page 125]phan darllennoch nhwy bydded ych bwriad i gynnyddu yn well, yn hyttrach nac i gael mwy gwybo­daeth; ag yno meddyliwch eich bod yn Cynyddu yn well, pan i'ch gwneler yn fwy gostynge­dig; ac yn fwy ystyriol am fawr gariad Duw; ac hefyd ich llywi­awdwyr; pa un bynnag ai Egl­wysig a'i bydol, bonheddig neu gyffredin.

Yn nawfed, pan fyddoch fel hyn gwedi ych trefnu, trwy rhain ar Cyfryw rinweddau Cristnogaidd chwi ellwch Anturio darllen lleo­edd Calettach or ysgrythyr, ac heb fod mewn perigl iw gwyr-droi (megis yr rhai nid ynt gwedi eu se­fydlu ar gychwnfa dda yn y byd) i'ch distryw eich hunain canys ni byddwch awyddus, i wneuthyr y­styriaeth dda yn y byd or lleodd hynny, o'ch pen y'ch hun: ond yn hyttrach Cyfaddeu eich anwy­bodaeth; ac edrych arnynt eu [Page 126]bod yn cynwys ynddynt y pethau nid ynt angenrheidiol iw gwybod: Canys i mae pob peth Anghenr­heidiol gwedi ei amlygu ar lawr yn eglur: ac ond antur rhai or pe­thau hynny, am yr rhai yr ych yn eich pendafadu y'ch hunain, y maent mewn lleoedd eraill iw Cael yn eglurach, fel y gellwch gael y'ch boddhau os Cymmer­wch yr amser Cyfaddas nessaf i ymgynghori ar rheini y mae e'u gwefussau yn rhag-cadw gwybo­daeth. A hon yw'r ffordd orau iw llawnfrydu yn y fath achossion.

Yn ddegfed, am lyfrau daionus eraill, heblaw 'r ysgrythyau San­ctaidd; chwi a ellwch gael peth amser iw darllen Ar hyn lleiaf a ddarllennoch ar ddiwrnodiau gw­aith, byddwch ofalus i fod yn Sic­cr i dreulio dyddiau ar Arglwydd, a diwrnodiau gwylion yn fwy Syn­niol, ac ystyria [...]th ir gwaith yma, yr wyfi yn eich Cynghori i ddar­llen [Page 127]y 5 6. ar 7. pennodau o Efe­ngyl St. Matthew; a rhyw ran o holl ddyled-swydd dyn, a phan gynny­ddoch mewn gwybodaeth. Dar­llennwch Gatechism Dr. Hammond; lle mae i chwi gael pregeth Crist ar y mynydd wedi yn eglur i de­ongli.

Yn XI. Meddyliwch hyn pa lyfr duwiol a da, a ddarllennoch pa un bynnag, ai ysgrythyrau Sanctaidd, neu ryw rai eraill, byddwch Sic­cr i fuddio wrth eu darllen, canys onis Cewch leshad oddiwrthynt, hynny or diwedd a'ch gwyrdry chwi iw dibrisio, ac hefyd i'w Ca­sau: Megis yr ym yn gweled lla­weroedd yn gwneuthur, wrth wrando Pregethau da, am nad ynt yn deall nac yn Cydnabod, ei bod ddim gwell oi gwrando ac am hynny ar ol hir wrando, ychydig iawn a gyflawnant o ewyllys Duw a hyn y mae'r yscythyr yn ei ddywedyd, gan syllu ar y fath [Page 128]bobl yn eglur. Darllennwch; 2. Tim 3.5, 6, 7. A hyn a ddylai gyn­nyddu cynhyrfiad ymhob un ohonom ni, ac iawn ym-ocheliad, rhag ein bod o nifer rhifedi y rhai. Anfuddiol Am hynny mae'n rhaid i chwi yn ofalus eu rhagfla­enu; gan fod yn fwy ystyriol, yn wrandawgar, ac yn ddiwyd i ddarllen llyfrau Sanctaidd am y diben yr yscrifenwyd. A gwrando pregethau, nid o ran dull, ond fel y galloch gael y'ch addyscu, i go­fio yn well y'ch dyled-swydd ac hefyd i'ch Cyffroi a'ch Cyfar­wyddo i'w Cyflawni a mwy gofal a diwydrwydd.

Yn XII. Os cyfarfyddwch ar un peth yn fynych y naill ai wrth ddarllen neu wrando: na alerwch arno ac na flinwch wrth eu weled Cyn fynyched ai illwng heibio yn funa ac yn ddiofal: ond yn hyt­trach creffwch arno i fod yn wir anghenrheidiol, a'ch bod mewn [Page 129]diffyg mawr amdano, am ei fod yn dywad mor fynych ar y ffordd ich cyfarfod ac yn ddiolchgar cyd­nabyddwch fo [...] Duw yn gariadus, i chwi, am iddo ych rhoi mor fy­nych mewn Coffadwriaeth Ac am y cymerwch fwy gofal amdano, a fynniwch hyn yn fwy ystyriol megys ac ir haeddai peth or fath fawrhydi.

PEN. XVI. Cynneddfau angenrheidiol i gael budd o hyn oll.

PE bae gan bob dyn y fath ost­yngeiddrwydd, ar fath Serch calonnog i fod yn hollawl yn dda, a hynny mewn amser wedi eu wreiddio yn eu heneidiau, nhwy a ddarllennent ac a wrandawent air Duw i fwriad gwell.

Yn I. Am hynny rhieni o flaen dim arall a ddylent ymdowallt hyn yn foreu iawn yn eu plant (nid amgen) mor angenrheidiol ydyw, a pha faint y mae'n per­thyn iddynt fod yn ostyngedig: ag na ddylent mewn ffordd yn y byd falchio am eu parch a'i deall­garwch; ond bod bob amser yn awyddus i ddyscu gan bob dyn [Page 131]trwy Symlrwydd, a lledneisrw­ydd, ac heb ddim meddwl arall ond i gydnabod ei dyledswydd.

Yn II. Nyni a allwn fod yn Siccr mai hyn ai tuedda nhwy i dderbyn budd or yscrythyrau Sanctaidd: a thrwy bob athrawiaethau daion­us eraill: Canys dymma'r gyneddf y mae Crist yn ei geisio, i wneu­thur dyn yn addas i fod yn un oi ddiscyblion. Nid amgen na bod fel dyn-bach; Matthew 18.3. Nid oes ddaioni yn y byd i ddyn i'w gael yn ysgol Crist, oni ddysc ef yn gyntaf fod yn ddifalch ac yn ddarostyngedig i'w Athrawon ac a chalon Syml, heb ddim twyll, yn fodlon i ychydig, a bod mewn Cariad calonnog ar Cyfryw ac y fyddont yn gofalu trosto. A phan fyddo fel hyn yn ddiangol rhag balchder, Swydd-ymgais, a serch golud, neu ryw beth arall, ond gwybodaeth yn unig (megis yn naturiol i mae plant bychain nis [Page 132]cyffroi had eu llygredigaeth gan eraill,) yno y byddant yn dir a­ddas i dderbyn nefolaidd addysc Crist.

Yn III. Yn ddimmau y'r oedd gan hwnnw reswm da i ddywed­yd, yr hyn a ddywedodd, ir genhedlaeth hon, er ys llaweroedd o flynyddoedd aeth heibio, mai diffig rhoi cydnabyddiaeth i blant, ac i ieuengctyd or fath reolau eglur a rhain; y mae yr yscrythyr yn eu traddodi i ni trwy iawn ddeallgarwch, fod yr yscrythyr yn ymddangos iddunt y naill ai yn dowyll neu yn anhawdd ei deallt, neu eu bod yn ei chamgyme­rnd, lle y mae yn ymddangos yn eglur.

Canys yn IV. Pan gynnyddont i gyflawn oedran, neu gwedi ym­rwymo mewn achossion bydol neu ddyfod'i gael rhyw fath ar an­rhydedd, cyn iddunt fod yn gyd­nabyddus ar yscrythyr Sanctaidd, [Page 133]ac yn enwedig ar cyfarwyddiad­au eglur hynny, y rhai y mae hi yn eu rhoddi ini i fuddio trwydd­ynt. Un or tri pheth hyn yw ei Cyd-ddilynniad, anhawsder ty­bygol yr yscrythyr, y naill ai y maent yn peri iddynt ymofyn am reolau eraill y maent yn meddwl eu bod yn esmwythach; neu yn ail ni waeth ganddynt am reolau ffydd yn y byd, neu yn drydydd lledrithio hynny (y peth a roes Duw i adnewyddu eu ddelw yn­ddynt) i fewn nattur eu hanwy dau llygred g.

Yn V. Am hynny bydded y wers hon y mae Crist yn ei rhoi i ni ( i ddyfod fel plant-bychain) yn hollawl gwedi ei phlannu yngha­lonnau 'r plant: ag wedi hynny gwybodaeth mewn rhannau eraill or yscrythyr a gynydda ynddynt; ac fel hyn ffydd gwedi ei phlannu mewn gostyngeiddrwydd, tra by­ddo e'u calonnau yn dyner (ag [Page 134]yn hawdd gweithio arnynt trwy 'r gorchymmyn Cymdeithgar hwn ac eglur) i wreiddio yn ddwfn, a chynnyddu ynddynt fwyfwy fel y gwnant hwythau mewn cryfdwr, a maintioli ac er nad yw ei ffydd ar y cyntaf ond megis gronyn o had mwstard a chwedi cael yn eu hiueingctyd y maes, neu'r llaw yn ucha ar falch­der, a Serch ac awydd am gyfo­eth bydol, ac anrhydedd, ar ol hynny efe a flodeua yn ffrwyth­lawn ymhob gwybodaeth nefol, ac a ffrwytha ymhob gair a gwe­ithred dda.

Ac yn VI. Oddiar holl rannau gostyngoiddrwydd, y mae'n holl­awl yn angenrheidiol ddwyn plant i fyny i rhoi parch ac anrhy­dedd mawr ei wenidogion Duw; a'i bod yn meddwl yn dda am ei gal­wedigaeth, am i lleodd ac hefyd am ei Cyrff, pe dyscai rhieni, neu olygwyr, eu plant, i anrhydeddu [Page 135]gwenidogion Crist, megys eu ta­dau ysprydol, ag edrych arnynt megis dynion gwed [...] eu rhagor­deiniogan Dduw, i gymerud gofal tros ei rhan gorau (nid amgen) eul eneidiau anfarwol; ag i ddwyn iddu [...]t fendithion difinyddiol. A phe dywedent iddynt, chwi blant, dymma 'r dynion trwy 'rhai i'ch bedyddiwyd, ac i'ch gwnaed yn Gristi­anogion; a thrwy rham am hynny y maen rhaid y ch athrawiaet [...]u, a'ch conffyrmio mewn gwir grefydd, a'ch Siccrhau fwy fwy am fendithi­on Duw Fe weithiai hynny yn rhyfeddol arnynt, i'w trefnu a'i dwyn [...]r holl ddaioni ar a allant, ar ol hyn ei gael oddiwrthynt. Ac vn lle gwarthruddiad a di­brissiad, yr rhai yn awr beunydd a glowant gan rai drwg, a weithia yn hollawl y gwrthyneb i ddywed­yd yn dda amdanynt, a rhoi parch iddynt a hynny sydd yn digwydd, am ddiffig Cynghori­adau [Page 136]gan ei rhieni, ac yn fynych dwyn ar gof iddynt, y parch, yr anrhydedd, ar bri sydd ddyledus i wenidogion Duw; eisiau y fath gynghorion a wna iddynt feddwl cyn lleied, ac mor ddibris am y peth y maent yn ei ddy­wedyd, a phan ddelont i gyd­nabod ai trossedd, ni dderbyniant ddim budd o'i llafur hwynt.

Borevawl weddi fer.

HOll alluog Dduw a thrigaroccaf dad rwyfi yn ostyngeiddiaf, yn ymddarostwng fy hun oth flaen di, i addoli dy fawrhydi difinyddiawl; trwyr hwn y daethum ir byd, ac i'm hamddiffynnwyd, ac i'm porthwyd holl ddyddiau fy einioes, ag yn awr y nos diweddaf, (bendigedig fyddo dy ddaioni) am hamddiffynnodd rhag pob pergylon am Cyfodi i fyny mewn iechyd a diogelwch, i weled goleuni dydd arall, irwyfi yn diolch itti o Ar­glwydd, am y rhain ac am y rhan­nau eraill oll o'th drugareddau; yn enwediccaf, am dy ragorol gariad yngrist Jesu: Yrwyfi yn dymuned ar nat, ddeffroi, a rhag-cadw ynof y fath fywiol gydnabyddiaeth o hynny, fel fyth na ymddangoswyf yn anni­olchgar iddo; ond yn ddibaid, gw­neuthur [Page 138]iddo bob gwasanaeth ffydd­lon.

Yn naillduol y dydd hwn, yn wyfi yn erfyn yn dosturus gynnorthwy dy yspryd Sanctaidd, im coffau i gad­w'r addunedau hynny, a gymerais arnaf, rhag Calyn, na gadael fyn­hwyso gan chwantau bydol a'chnaw­dol; ond i ufuddhau dy Sanctaidd ewyllys a'th Orchymynion, a rhodio yr ddynt holl ddyddiau fy mowyd.

Cymorthwya fi Arglwydd daion­us, yn fy lle, am cyflwr, i gyflawni fy nyledswydd tu ag attati fy nuw, hefyd tuag at fynghymydog, ar fath ofal, a ffyddlondeb, a llaweny [...]h [...] ­wydd fel y gallwyf a pheth hyder ymddangos eilwaith o'th flaen di bryd­nhawn; ac yn gyssurus obeithi am dy ddaionus arferol rhagddar [...]oda­ [...]th tr [...]sso [...]. I'th nodded yr wyfi yn st­yngedig yn gor hymmyn dy eglwys ath deulu; gan [...]rfyn arnat e'u cadw mewn gwir grefydd, ag yn dragwy­ddol eu hamddiffyn a'th fawr allu [Page 139]trwy Jesu Grist ein Harglwydd, yn enw bendigediccaf pa un, ai eiriau, yr wyf bob amser yn Attolygu itti fod yn drigarog wrthyfi, ag wrth dy holl bobl, gan ddywedyd Ein tad ni, &c.

Prydnawnol weddi ferr.

YR wyfi yn diolch itti o Arglwydd nef a daiar, am dy drugarog ragddarbodaeth, am fy fod eilwaith yma yn ymddarostwng oth flaen di, nid yn unig mewn iechyd a diogelwch corph; ond mewn iniondeb calon fel yr wyfi yn gobeithio ac a bwriad dir­agrith, i barhau bob amser yn was ffyddlon iti pardyna o drigaroccaf dad, pa beth bynnag a wnaethymi neu a Esceuluss [...]is y dydd hwn yn­gwrthwyneb fy llawnfrydau, am rhwymedigaethau, trugaraha wrth [Page 136] [...] [Page 137] [...] [Page 138] [...] [Page 139] [...] [Page 140]fy mawr wendid; Cymmer a derbyn fy amcan am meddwl gonest, i gadw Cydwybod dda, ddiangol, rhag tros­seddu yn dy erbyn di fynuw, nae yn erbyn dyn.

Fel y gallwyf bob dydd gynnydda wellwell, caniadha imi gynnorthwy dyrad ysprdawl, i'm cryfhau i gyflaw­ni fy holl ddyledswydd.

Megis lle y bum fwyaf arferol o lithro, y gallwyf fod yn fwy gwiliad­wrus; a lle y, bum yn Esceulus y gallwyf ymarfer a mwy diwidrwydd, ac felly wrth hynny bod yn blentyn iti yn wastadol, yn aelod i Grist ac yn etifedd teyrnas nefoedd.

A gwrando weddiau dy holl Egl­wysi a wnaed heddyw tros bob aelod ohoni hi: yn enwediccaf, tros fawr­hydi ein Harglwydd frenhin, a phawb ar y sydd yn llywodraethu tano ef, pa un bynnag ai Eglwysic, ai bydol, a thros bawb ar y fydd yn gyfing Arnynt, mewn Corph meddwl, neu stad.

[Page 141]Gan Attolygu itti dowallt dy ra­dau, ath fendithion ar bob un ohon­ynt, yn gyfattebol i'w hangenolrw­ydd a bydd yn amddiffynwr imi y nos hon oll; ac ar ol esmwythol orphowys cyfod fi eilwaith y boreu a chalon ddiolchgar iti am dy fawr ofal trossofi gan lawnfrydu yn hollawl farfolaethu beunydd fy holl awyddau drwg a lly­gredig, a pheunydd myned rhagof mewn pob rhinwedd, dda a buchedd dduwiol, trwy gynnorthwy Jesu Grist fy iachawdwr.

Yn enw pa un ai eiriau bendigedig yrwyfi yn fy ngorchymmyn fy hun i'th drugaredd gan ddywedud ein [...] ni fel yr wyt yn y nefoedd, &c.

Gweddi tros un mewn Peth oedran cyn iddo Dderbyn ei fedydd.

O Arglwydd creawdwr y byd, a gwaredwr dynol ryw, yrwyf yn syrthio i lawr o'th flaen di, gan gydnabod mai dy eiddo di ydwyfi, as yn attolygu iti (er i mi dy anfodlo­ni di) fy nerbyn eilwaith ith wasa­naeth. Maddeu Arglwydd daio­nus, holl ynfydrwydd fy jeungctyd, am holl bechodau, [...] esceulustra ac Anwybod yn fynghyflawn oedran. Bodder nhwy oll yn y ffynnon honno, a agoraist imi i ymolchi ynddi, ac i fod yn lan. Yr wyfi yn Ewyllyssio cael fynghynwys yno; gan fwriadu yn hollawl yno fy ymroi iti gan ymwrth­od a Diafol, y byd, ar cnawd; a llwyrfrydu yn ufuddgar gadw dewy­llys Sanctaidd ath orchmynnion, a [Page 143]rhodio ynddynt holl ddyddiau fy mowyd.

Canniadha imi o Arglwydd, gyn­northwy dy yspryd Sanctaidd, fel y gallwyf yn ystyriol wneuthur, ac yn ffyddlon g [...]dw yr holl Addunedau Sanctaidd a'm haddewidion hynny.

Cadw di fi mewn tragywyddol go­ffadwriaeth amdanynt, fel nas ga­llwyf fyth, trwy fath yn y byd ar be­chod, golli y fath fawr rad, ar ir wyti yn ei fwriadu imi, ond parhau bob amser, yn aelod bywiol i Grist, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nef i'r hon deyrnas, yn wyfi yn Attolygu itti o'r diwedd fy nwyn am Cynwys er mwyn haeddedigae­thau Jesu Grist, Amen.

Gweddi tros un sydd yn bwria­du Cael ei Confirmio neu ar­ddodiad dwylaw.

OFendigediccaf Dduw trwy rad yr hwn im galwyd i fewn cyflwr iechydwriaeth pan i'm bedyddiwyd, ac or hwn y daw pob meddwl da, ewyllys, a darpariad, yr rhai yn awr Sydd yn deimladwy yn fyngha­lon; Cynnorthwya fi, yr wyfi yn attylygu itti, yn y cyflwy­niad, newyddd, yr hwn yr wyfi yn myned i'w wneuthur oho­nof fy hun itti, dy eiddo di ydwyfi, a'm llawnfryd i bar­hau felly hyd ddiwedd fy ein­ioes.

Llanw fi o Arglwydd, ar fath fywiol gydnabyddiaeth o'r [Page 145]anrhydedd yr wyt yn ei gwne­thur imi nid amgen n'am Cynwys i'th wasanaeth, fel y gallwyfi ymroi fy hunan, nid yn unig a llawn, ond hefyd a thirionaf gydseiniad calon, i gredu, ac i wneuthyr, ba be­thau bynnag a fynnych i mi ei gwneuthur.

Ac yno boddha im Coffirmio yn dy rad, am Cryfhau a gallu, trwy dy yspryd Sanctaidd yn y dyn oddifewn; fel y gallwyf fyth gael Cydnabyddiaeth, de­wis a Chanllyn y pethau hyn­ny y Sydd gymmeradwy yn dy lan olwg.

Arfoga fi Arglwydd daionus yn erbyn holl brofedigaethau y byd y cnawd, y cythraul; ac ewyllys Safadwy wedi llawnfr­ydu na ymroddwyf fyth ir un ohonynt, ond parhau yn ffydd­lawn ynghyflawniad fy addu­ned a wnaethbwyd yn fy enw i [Page 146]pan im bedyddiwyd, ac yn awr yr wyfi yn bwrriadu am genau fy hun ei siccrhau ar gyhoedd yngwydd dy eglwys.

Defosionol weddiau yr hon, yrwyfi yn attolygu i ti e'u gwr­ando trosof trwy Jesu Grist ein harglwydd,Amen.

Gweddi ar ol conffirmiad neu arddodiad dwylo.

HOll alluog a byth fywiol Dduw, yr hwn y bu wiw gennyt fy adgenhedlu trwy ddwfr ar yspryd Sanctaidd; ac hefyd ymhellach ti am gwnae­thost yn gydnabyddus (trwy ddwylo dy weinidog yn ddiwe­ddar a osododd arnafi) a'th ga­riad, a'th ddaioni grassussol tu­ag attafi: derbyn yr wyfi yn attylygu itti, fy niolchgarwch Calonnaidd am y fath fawr ac anhaeddedigol fawrlles, a pha­rha [Page 147]ynofi y meddyliau daionus hynny ar ewyllyssion, ar bwri­adau a gefais yr amser hwnnw yn fynghalon, i barhau mewn ffyddlawn ufudddod i [...]i yn dra­gowydd.

I'r cyfryw ddiben, rhynged bodd it gy [...]rannu, fwy-fwy be­unydd imi dy yspryd Sanctaidd, i'm cadw yn dy ofn ath gariad; ac im cryf [...]au i gyflawni yr rhan arall om dyledswydd, nid yn un­ig tuag attati fy nuw, ond hefyd tuag at fy nghymydog, yn en­wedig tuag at yrhai a osodaist yn Rhaglawiaid trosom, trwy yr rhai megis dy orchwylwyr, y mae dy nefawl ddirgeledigaethau gwedi ei trosglwyddo imi: fel y gallwyf yn anrhydeddus glust­ymwrando ai cynghorion, a chwedi derbyn, ac ystyried eu rhybuddion Sanctaidd, ac hefyd yn ufuddgar ganllyn eu hyffor­ddiad, ai cyfarwyddiad, y gall­wyf, [Page 148]yn y diwedd gael fynghy­meryd yn un o'th ddaionus a'th ffyddlawn wasanaethwyr, yn y dydd hwnw pan ymddangosso y bugail mawr, ac escob ein he­neidiau eilwaith in iechydwri­aeth i'r hwn gida [...]hydi o Dad, ar yspryd glan y byddo moli­annau tragywyddol. Amen.

Gweddi y'r Arglwydd.

FIn tad yr hwn wyt yn y nefo­edd, Sancte ddier dy enw. Dued dy deyrnas Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y ne­foedd. Dyro ini heddyw e [...] Bara beunyddiol, a maddeu ini e [...] dy­ledion, fel y maddeuwn [...] i'n dyledwyr. Ag nac arwai [...] ni i brofedigaeth; Eithr gwar [...] ni rhag drwg canys eiddot ti [...]w'r deyrnas a'r gallu a'r gogonia [...] yn oes oessoedd, Amen.

Pwnciau'r ffydd.

CRedaf yn nuw Dad oll gy­foethawg, Creawdwr nef a daiar. Ag yn Jesu Grist ei un mab ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gaed trwy yr yspryd glan, a aned o fair forwyn: a ddiodde fodd dan Bontius Pilatus, a groe­shoeliwyd, a fu farw ac a gladd­wyd, a ddiscynnod i uffern, y trydydd dydd y Cyfododd o fe­irw; a escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu law Dduw Dad oll gyfoethawg, oddl yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr yspryd glan, yr Eglwys lan gatholic, Cymmun y Saint, maddeuant pechodau, Cy­fodiad y Cnawd, a'r bywyd tra­gywyddol, Amen.

Y deg Gorchymyn.

DUw a lefarodd y geiriau hyn ac a ddywedodd, myfi yw'r Arglwydd dy Dduw.

I. Na fydded iti dduwiau eraill onid myfi.

II. Na wna it dy hun ddelw gerfeidig, na llun dim ag y sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddai­ar isod, nag yn y dwfr tan y ddai­ar. Na ostwng iddynt, ag na addola hwynt: oblegit myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled a' phechodau 'r radau ar y Plant, hyd y drydedd a'r bed­waredd genhedlaeth o'r rhai a'm Casant, ag yn gwneuthur truga­redd filoedd o'r rhai a'm Carant ag a gadwant fyngorchymynion.

III. Na chymmer Enw yr Ar­glwydd dy dduw yn ofer, Canys nid Gwirion gan yr Arglwydd yr [Page 151]hwn a gymero ei Enw ef yn ofer.

IV. Cofia gadw yn Sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ag a gwnei dy holl waith: eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr arglwydd dy Duw: a'r y dydd hwnw na wna ddim gwaith, ty-di, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn na'th anifail, na'r di­eithr a fyddo o fewn dy byrth, Can­ys mewn chwe diwrnod y Gwna­eth yr arglwydd nef a daiar, y môr, a'c oll y sydd ynddynt, ag a orphywysodd y seithfed dydd, Oherwydd paham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ag a'i Sancteiddiodd ef.

V. Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon a rydd yr Ar­glwydd dy Dduw iti.

VI. Na ladd.

VII. Na wna odineb:

VIII. Na ledratta.

[Page 152]IX. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy Gymmydog.

X. Na chwennych dy dy Gym­mydog, na chwennych wraig dy Gymmydog, na'i was, na'i for­wyn, na'i ych, na'i assyn, na dim ar a sydd eiddo.

Cynhwyssiad Y llyfr hwn.

  • PEN. I. AM y ddled-swydd. dolen 1.
  • PEN. II. Am angenol [...]ydd y ddyledd-swydd hon. dol. 4.
  • PEN. III. Am y [...] y darfu ei ordeinio. dol. 8.
  • PEN IV. Am y parato [...] i'r Cymmun. dol. 14.
  • PEN V. Boreuawl weddi y dydd y bwriadoch gymmuno, dol. 25.
  • [Page]PEN. VI. Am y modd y mae Cymmuno. dol. 30.
  • PEN. VII. Myfyrdodau a gweddiau Sy'n Calyn. dol. 52.
  • PEN. VIII. Cyfarwyddiadau am fuchedd Ddu­wiol i fod yn gyfunawl i'r Cymmun Sanctaidd. dol. 64.
  • PEN. IX. Am Anghoelion, a Phetruster. dol. 75.
  • PEN. X. Cyfarwyddiadau rhag mynych ddy­chwelyd i bechu. dol. 83.
  • PEN. XI Am ddyled-swydh plant. dol. 90
  • [Page]PEN. XII. Am ddyled swydd Gwenidogion. dol. 96.
  • PEN. XIII. Cynghorion i bob math o ifiengctid. dol. 103.
  • PEN XIV. Cyfarwyddiadau ir rhai ni fedrant mor darllen. dol. 109.
  • PEN. XV. Cyfarwyddiadau ir Sawl a fedrant ddarllen. dol. 116.
  • PEN. XVI. Cyneddfan angenrheidiol i gael budd o hyn oll. d l. 130.
    • Borevawl meddi fer. dol. 137.
    • Pryduawnol weddi fer, dol. 139.
    • [Page]Gweddi tros un mewn Peth oedran cyn iddo Dderbyn ei fedydd. dol. 142.
    • Gweddi tros un sydd yn bwriadu Cael ei Gonfirmio neu ard lodiad dwylaw. dol. 144.
    • Gweddi ar ol Confirmiad ne arddo­diad dwylo. dol. 146.
    • Gweddi yr Arglwydd. dol. 148.
    • Pwnciau'r ffydd. dol. 149.
    • Y deg Gorchymyn. dol. 150.
DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.