Y G'wir anrhydeddus Dâd yn Nuw Joan Prideaux y diweddar Escob o Gaerfrangon. William Vaughan ai lliniodd
EVCHOLOGIA: NEV, Yr Athrawiaeth i arferol Weddio o Waith y Gwir anrhydeddus Dad JOAN PRIDEAWX, Y diweddar Escob o Gaerfrangon. Rhodd a adawodd ef ar ei ddydd diwedd iw ferched yn ddirgel, iw hyfforddi hwy ir cyfriw reidiol arferau, on Llyfr Gweddi gyffredin. Ac a ddichou roi bodlonrwydd ym mhob achos heb edrych ar ol y goleuadau newyddion ai parodbryd lewyrchoedd.
Cyfieithiad ROW. VAƲGHAN Esc Ar Ddeisyfiad WILLIAM SALESBƲRY Esc
Gofynnwch am yr hen lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi a chwi gewch orphywysdra ich eneidiau.
Argraphedig gan E. C. tros P. C.
Ar fy merched SARAH HODGES, Ac ELIZABETH SUTTON.
YN ol gorphen trigain a aeg mhlynedd (yr oes gyffredinol y mae Moses yn ei benodi i fywyd dyn) wedi gweled gwendyd a henaint yn llithro arnaf [Page]ac yn rhoi dyfun i mi beunydd im paratoi im cyfnewidiad: mi feddyais yn fynych rhyngof fi a mi fy hunan, parodd neu arwydd om cariad a allwn i orau adael i chwi, yr rhai ydych yn vnig yn fyw or naw o blant, ar rai y bendithiasai Duw fi, och mam chwi, yr hon aeth ar law Dduw er ys hir o amser. Arian ac aur nid oes gennyf (mal y gallaf yn dda broffesu gyd ar Apostol) a chwi ai gwyddoch yn rhy dda. Ond beth yw holl olud bydol wrth y Tresawr ar Gem hwnnw, cael ynnill yr hwn [Page]dedwydd fyddem ymadael ar cwbl, oll a feddem.
Fy nygiad i fynu (maly gwyddis yn dda) ac yrfa fy mywyd nid arweiniodd mo honof ich rhoi chwi mewn mawredd yn y byd hwn: os deuaf fi a chwi i fod yn dda, ac yn gymwys ir etifeddiaeth nefol, hynny yw r cwbl a fwriadaf, ar eithaf a ellwch ei ddisgwyl oddiwrthyf.
Eich Mam a wyddid ei bod yn wrageiddwraig foddol grefyddol yn holl gylch ei heinioes yn ymroi i weddio yn rhagorol. Addysc oddiwrth yr-hon [Page]ddymunwn i chwi gymeryd yn enwedig yn hynny o beth. Ir deunydd yma y lluniais y cynghorion a ganlynant, ich blaenori chwi. Nid wyf yn ameu na bydd eich gwyr cariadol yn ail i minnau; yr rhai y rhaid ir neb ai bedwyn gyfaddef eu bod yn ddysgedig yn Dduwiol ac yn boenfawr Wenidogion; ac yr wyf yn eich tybed chwi yn ddedwyddol gyfarfod ar cyfriw o flaen llawer ai tybiant eu hunain o alwedigaeth vwch yn y byd yma. Chwi a wyddoch pwy a destiolaetha fod yn well gadw drws yn [Page]nhy Dduw na lle gwell mewn preswylfa gwchach: ac a grybwyll am gyflwr y wennol ac ederyn y to, yr rhai a ddylai gael eu cynfigennu am gael nythu a dyfod a chywion cyn negosed i allor Duw, Heb law hynny eich enwau a ddylai ddwyn ar gof i chwi yr hen Sarah ddawnus yn yr hên Destament, ac Elizabeth yn y newydd. Pa athrawiaeth odidawg sy i chwi iw galyn, A Phan ddarllenoch mal y casas Timothi (discibl St. Paul, ac Escob cyntaf o Ephesus) y Sail gyntaf oi [Page]Gatecism oddiwrth ei nain Lois ai fam Eunice, chwi ddylech fwrw o amgylch i weled y modd y gallech gyflawni y ceffelyb ich rhai bychain, ar rhai y bendithiodd Duw chwi yn helaeth. Mal y cynyddo eich meibion mal planwydd, ach merched mal conglfain nadd wrth geffelybryydd palas, planwydd yn cynyddu yn brennau, ffrwyth tymerus a chonglfeini a ddaliant ynghyd, ac a osodant allan adeilad.
I ddiweddu, ni allaf adael heibio vn digwyddiad [Page]ir clodfawr Ferthyr hwnnw Dr. Rowland Taylour (yr hyn a ddylai ddal yn guach gyd a chwi, oblegid bod eich rhieni o dy eich mam yn vnion o hono) y gadwaen o emmau a adawodd ef yn vnig ich hên nain chwi, ei wraig anwyl (pryd yr ymadawodd ef a hi ar y diwaethaf i ddioddef merthyrdod) nid oedd ddim arall ond y llyfr Gweddi cyffredin; yn casglu yr hwn yr oedd iddo ef law, ar hwn a arferodd ef yn ving yn ei Garchar, gan gymeryd y llyfr hwnnw vwch la holl rai eraill, [Page]nesaf at y Bibl) yn Hyfforddiad perffeithiaf iw holl weddiau ffrwythlawn. Yr vnrhiw lyfr a orchmynnaf fi i chwi ach eiddo (fy merched anwyl) mal yn gymhwysaf ich ymarfer a thra chyflawn a gwarantedig am y seiliau y mae yn sefyll arnynt: gochelwch glustiau yn merwino, ac anrheithwyr damnedig tai y gweddwon wragedd, yr rhai wrth wneuthur llun o hir weddio a gamarweiniant wragedd truain, yn dyscu bob amser ac heb allael dyfod vn amser i wybodaeth [Page]y gwirionedd. Chwi a welwch y fath ddrygioni echryslon a a wnaeth y cyfriw Adgyweirwyr; yr hyn ni ddichon Duwiodeb a doethineb llawer o oesoedd mewn bir amser ond odid moi ddychwelyd, yr Arglwydd ach cadwo chwi ai holl eiddo oddiwrth faglau y cyfriw belwyr, a gorseddfaingc o anwiredd, yr hon a lunia anwiredd yn lle cyfraith. Mal gan ein gwaredu ni o ddwylaw ein gelynion ysprydol a bydol y gallom ei wasanaethu ef yn ddi-ofn mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder [Page]holl ddyddiau ein bywyd yr hyn yw r weddi ewyllyscar ar diben gan
Yr Awdwyr a gasglodd y Llyfr Gweddi Gyffredin yn Saesonaeg (mal y mae yr awrhon) oeddynt;
- Cranmer Archescob o Gaergaint. Mer.
- Goodrick Escob Ely.
- Skip Escob Henfford.
- Thirlby Escob Westminster,
- Day Escob Chichester.
- Holbeck Escob Lincoln.
- Ridley
Escob Rochester.
Mer. wedi hynny yn E.Ll
- Cox Elusenwr brenin Eds.
- Taylor
Deon O Lincoln.
Mert.
- Heynes Deon Exceter.
- Redman Deon Westminster.
- Mr. Rrbinson Archiagon Lester.
- M's Mai 1549. y flwyddyn o Edwart y 6.
At y Prydyddion.
Mawl i William Salbri Esc. a barai y llyfr hwn ym rint.
I Dr. Prideawgs eilwaith.
Ad avum suum dignisimum D. Gual. Salisbury Cambrobritannum Armigerum edentem libros ad religiosam vitam conducentes.
Cognatis Cambris (que) tuis coelestia mittis munera, quae spirant numinis obsequium;
Per te fit nobis Deus omnia, & omnia Christus,
Tu mundum monstras egregium esse nihil;
Terram alii cupiant, terrena (que) gaudia;nobis Sordent, nam coelum das ave chare tuis.
Y Drefn or pennodau cynhwysidig yn y Traethawd a ganlyn.
Yr rhai ydynt yn Gyffredinol,
- 1. Parotoad i Weddi.
- 2. Am weddiau yn neulltuol.
- 3. Am weddiau yn y gynylleidfa gyhoeddus.
- 1. Yr Amgenrheidrwydd o weddi.
- 2. At bwy y mae i ni hyfforddi ein gweddiau.
- 3. Pa beth sydd i ni iw ofyn mewn gweddi.
- 4. Am yr ymddygiad oddiallan gweddeiddiaf i Ddefosiwnau crefyddol.
- 5. Am rwystrau a wah [...]na neu a wna yn ofer ein g weddiau.
- [Page]6. Am gynnorthwy er mwyn cynhyrfu i fynu a gyrru ym mlaen ein erfynniau.
- 7. Am wilied am Atteb grasol oddiwrth Dduw: ar arwyddion siccraf iw adnabod ef.
- 1. Am bersonol nen weddiau yn ddirgel.
- 2. Am Deulu, ar gneddian ir Tylwyth.
- 2. Am fendithiau a chyfarhciadau achosawl.
- 4. Am ganeuau, Hymnau, a Psalmau ysprydol.
- 5. Am ergydiau achosawl.
- 6. Am alarnadau ac achwynion am ddigwyddiada u Trymion.
- 7. Am ein dadebru an cyssuro i bob math ar ddiwydrwydd ac hyfrydwch Cristnogawl.
- [Page]1. Cyffesoedd.
- 2. Gocheliadau.
- 3. Erfynniau.
- 4. Cyfryngdodau.
- 5. Diolchgarwch.
- 6. Moliannau.
- 7. Rhegfau neu Cominasion.
YR ATHRAWIAETH AM WEDDI.
Y DECHREUAD.
Arglwydd dysc i ni weddio megis y dyscodd joan iw ddyscyblion.
YR Athrawiaeth O Weddi a ellir ei alw yn hyfforddiad cymwys casgledig allan o air Duw in paratoi yn union i [Page 2]weddio, yn gystal trosom ein hunain ac eraill: a hefyd i foli ac i dalu diolch i Dduw yn neullduol ac ar gyhoedd am ei fendithion a ganniattaodd ef i ni.
Y mae rhagoriaeth rhyngddi a Myfyrdodau, neullduolymadrodd, galarnadau, gofyniadau, (er bod y rhain yn y cyffinyn agos atti, ac a ddichon wneuthur help fawr iddi) eithr y mae a ffordd bell [...]ch oddiwrth Ave Maria, neu gyfarchiad y fendigedig forwyn; hefyd oddiw [...]th Dynghediadau y cyfriw ac a arferai yr Archeffeiriad neu ddiafol wrth ein jachawdwr: ni eill y credo chwaith oi ddywedyd neu ei ganu gael ei gyfrif yn weddiau, Mar. 26.6 [...]. ond proffes on Ffydd ar yr hwn y seilir ein gweddiau.
[Page 3]Er mwyn deall yn well a dal ich cof, yr hyn sydd gymhwysaf ich ymarfer ach mynediad ym mlaen yn hyn o beth: [...]mi wnaf wahaniaeth or Traethawd sydd yn canlyn yn d [...]ir rhan: y cyntaf or rhain a fydd am ddyledus baratoad i weddio: yr ail ynghylch gweddi yn neullduol, ar drydedd am weddi yn y gynylleidfa gyhoeddus: yn yr hyn anffrwythlon fyddai bentyrru ynghyd y cwbl oll a ellid ei ddywedyd, (y dysgawdwr goreu a adawodd i ni batrwm i synnied dealldwri ein gwrandawyr) Mae genyf fi lawer o bethau iw ddywedyd wrthych ond ni ellwch en dwyn yr awron, llaeth gan hynny sydd raid iddo fod yn ymborth i blant, nes iw dwyfronnau fod yn gymhwysach [Page 4]i fwyd cryfach y paratoad a ddaw yma yn gyntaf i feddwl am dano.
- 1. Angenrheidrwvdd Gweddi.
- 2. At bwy y trosglwydwn ein gweddiau.
- 3. Beth sydd i ni ofyn.
- 4. Pa ymddygiad sydd weddeiddiaf wrth weddio.
- 5. Y Rhwystrau ydynt debygol i ddiddymu neu aflonyddu ein erfynniau.
- 6. Pa ymwared an cynhyrfa ni iw gyrru ym laen.
- 7. Gwilied am atteb grasusol oddiwrth [Page 5]Dduw, ar arwyddion diogelaf i ddirnad hynny.
Na ddisgwyliwch (fy merched) yn yr vn or rheini y pethan a allesid eu casglu o Amriw Awdwyr, gyd am chwanegiad fy hunan; ond y cyfriw Gyffwrdd yn vnig mal y galloch chwi gofio yn orau iw roi mewn ymarfer. Pryd yr oedd ein jachawdwr yn addyscu iw ddyscyblion weddio, ac yn dangos mor dyccianus ragorol yw gyd a Duw (os parhavir yn ddibaid) gan wneuthur gwrthiau yn y cyfamser, yn bwrw allan gythrael Mal (yr hyn a ddangosodd ef iw ddychanwyr nad oedd yn gwneuthur trwy ddewiniaeth, [Page 6]ond trwy fys Duw) yr ydis yn dywedyd i ryw wraig or gynylleidfa dderchafu ei llais iw glodfori ef, gan lefain Bendigedig yw r groth ath ddygodd, ar bronnau a sugnaist eithr beth oedd yr atteb a dderbynnioedd hi am ei llaferydd calonnawg? Yn hytrach (medd ein jachawdwr) bendigedig ydynt hwy a wrandawant air Duw ac ai cadwant. Nid clodforedd y Pregethwr ond yr adeiladiad ac ymarfer y gwrandawr y fydd cymeradwy o flaen gorseddfaingc y goruchaf, hyn gan hynny yn enwedig a ddylem dueddu atto, yr hyn a addysgir ac a wneir yn ff wythlon wrth fynych weddio. Angenrheidrwydd yr hyn yn y lle cyntaf a ddylech chwi yn ddyfal ei ystyrried.
PEN. I. Am Anghenrheidrwydd Gweddi.
O Holl ddyledion Cristnogawl nid wyf yn gweled yr vn a gymhellir gimaint arnom yn yr Scrythyr a gweddi. Luc. 21.36. 1 Thes. 5.17. Gweddiwch bob amser (medd ein jachawdwr) yn ddibaid medd yr Apostol yr hyn sydd reswm gorthrech i ddangos ei Angenrheidrwydd. Y mae gwybodaeth a chyfrwyddyd yn da [...]cuddio i ni, na bu errioed vn mor anifeilaidd ar a gyfaddefai fod Duw, na byddai hefyd yn cyfaddef, fod yn rhaid ei geisio ef trwy weddi. nyni gan hynny oddiwrth y gosodiad nefol sydd i ni a [Page 8]seiliau diogeluch allwn.
1. Oddiwrth orchymyn y Tad.
2. Oddiwrth bod y mab yn ail siccrhau.
3. Odd wrth neith yr yspryd glan.
4. Oddiwrth yr anrhydedd a roddir vddynt hwy yn yr Scrythyr, yr rhai a fuont ardderchawg ragorol mewn gweddiau a hesyd.
5. Oddiwrth ryfeddol effeithiau gweddi.
6. Oddiwrth ei rhyddyd, ni ellir moi rhrwystro mal y gellir dyledion eraill.
Ac yn olaf oll, O herwydd mae hi yw r vnig foddau, sydd (megis) yn trechu yr hollallnog, ar offeryn hynodol syn dychrynu ac yn gyrru Satan i ffo ai holl bleidiau: a eill yn dda (meddaf) yn fwy [Page 9]rheidiol annog yr anghenrhwydd o honi i fod yn gyfriw, megis na ellir cyflawni ein gweithredoedd on galwedigaeth addiallan heb oleuni, mae r nos yn dyfod (medd ein jachawdwr) pryd na allo neb weithio: felly ni eill vn weirhred on heiddaw fod yn gymeradwy gan dduw; neu yn fuddiol i ni ein hunain, oni thymerir a halen Gweddi.
1. Am yr ail, gofynnwch a rhoddir i chwi (geiriau y mab ydynt) ceisiwch ac chwi a gewch, curwch ac fe egorir i chwr.
Gofynnwch trwy weddi, ceisiwch trwy ddarllain a gwrando, curwch gan wneuthur gweithredoedd da. Mat. 7 7. Ac megis pe buasai hyn yn rhy fychan, oblegit ein syndra an ancallgarwch ni, ddywedyd [Page 10]y gair vnwaith, y mae yn ei ail nerthu ef drachefn ag addewid newydd: canys pwy bynnac a ofynno a dderbyn, ar hwn a geisio a gaiff, ac ir hwn a guro yr egorir. Ac ym mhellach, rhag ir cynnyg helaeth hwn, wneuthur yr addewid yn amheus, y mae yn ei roi yn gefnoccach gyd a dyfalwch, a dynnodd ef allan, on anwydau llygredig anianol; pa ddyn sy mor withnysig yn eich plith chwi (medd ef yr hwn os gofyn ei fab fara, rydd iddo garreg neu os gofyn ef bysgodyn a rydd ef iddo Sarph ac na wrthwynebem mor rheswm hwnnw, neu ei gam ynied trwy ein logic anystywall, y mae yn chwan [...]gi am yr vnion arfer. Os chwi gan hynny yr rhai ydych ddrwg, [Page 11]a fedrwch roi rhoddion da ich plant, pa faint mwy y rhydd eich tad yr hwn sydd yn y nefoedd bethau da ir rhai a ofynno iddo?
3. Yn drydydd, (a dybygech chwi) y gwneiff yr yspryd (pryd na wyddom ni y modd i weddio mal y dylem) gynnorthwy in gwendyd, a gwneuthur cyfryngdod trosom ac ocheneidiau anrhaethadwy (oni bai fod gweddiau yn angenrheidiol) ir Se nctiau yn ol ewyllys Duw.
4. Yn y pedwerydd lle: geiriau y Psalmydd, Moses ac Aaron ym mlith ei offeiriadau, a Samuel ym mhlith yr rhai a alwant ar ei enw ef; ar fan honno or Prophwyd, Ezc. 14.14. Pe byddai y trywyr hyn Noah, Daniel a Job yn gysryngwyr am droi [Page 12]heibio osodedig newya ac anrhaith anifeiliaid y cleddyf, neu haint, am ddrygioni y bobl, hwy a gaent eu gwared eu hunain yn vnig: beth a ddichon hyn ddangos i ni, ond nerth ffrwythlon gweddiau y cyfriw wyr lle byddo dim gobaith, ac nad yw creul [...]nder ffiie [...]dd dra parhaus yn cau allan faddeuant yn hollawl.
5. Yn bumed, ffrwythau rhyfeddol gweddi a oso ir allan yngwaith Josua, haul (medd ef) aros yn Gibeon a J [...]s. 10 22. thithau leuad yn nyffryu Aialon; yr hyn gynted ac y gofynodd, a gafas, [...]elly, ni bu vn dydd tebig oi flaen ef, nag ar ei ol ef; i dduw wrando mal hyn ar laferydd dyn Eithr os peth rhyfeddol oedd hyn: Elias (medd yr Apostol) oedd ddyn yn rhaid iddo ddioddef [Page 13]fel ninnau, ac mewn gweddi ef a weddiodd na byddai law ac ni bu law ar y Jac. 5.17. ddaiar dair blynedd a chwe mis; ad 18. ac efc a weddiodd drachefn ar nef a roddes law, ar ddaiar a ddyg ei ffrwyth. A hyn a ddengys angenrwydd gweddiau ai godidawgrwyd: yr hyn yn (chweched ellir meddwl ym mhellach am dano, megis ac y mae dyledion eraill o bregethu, cymuno, ymweled ar claf, rhoddi elusenau neu r cyffelyb; o waith cynhyrfiadau yn lluddies, eisiau gallu, cyfleusdra o amser neu le yn cael eu rhwystro ollawl, nid oes na lle nag amser na gorthrymder yn y byd a ddichon luddies ymarfer o weddio. Y mae Daniel yn ffau y llewod, Jonas ym mol y morfarch, Paul a Silas yn y cyffion, pa [Page 14]wedd bynnac yn garcharwyr, yn cael lle, pryd, ac amser, i ddyfod yn rhwydd at Orseddfaingc y Gias i weddio i ganu psalmau ac i fwynhau wrth hynny ymwared [...]hyfeddol. Canys yma y geill y galon draethu Psa. 44.1. pethau da, pryd y tynnir y tafod allan, ac na eill fod yn bin scrifenydd buan: yma y mae calon brenin Manasses yn cael gliniau i blygu, pryd yr cedd gliniau y corph mewn cadwynau felly, mal na allent gynhyrfu.
7. Yn olaf oll, fe ai cymeryd yn adroddion cablaidd, oni bai fod y scrythyr yn ei lefaru fod Jacob yn ymaflyd a Duw (ac megis) yn trechu bendith oddiwrtho trwy dacrder yn peri: a bod Moses, trwy [Page 15]weddi yn sefyll yn yr adwy ac yn dal llaw yr hollalluog, ac yn peri iddo lefain: gad im lonydd fel yr enynno fy llid iw herbyn, Ex. 32.10. ac i difethwyf hwyn. Ac yn erbyn Satan y llew rhuadwy hwnnw, na fyddyliwn y geill gwersi o gonsuriaeth fod a ffrwyth ynddynt, neu gryfder arfau, yr hwn ni wna bris o hauarn mwy na gwelldyn, ac efydd megis pren pwdr? nage ein Jachawdwr an dysg ni yn well, fod ffydd o honi ei hunan yn gwneuthur llawer o bethau, eithr o honi ei hun nid i daflu allan yn ollawl y cyfriw wyrthwynebwyr heb ympryd a gweddi: yr wyf yn coelio (fy merched) wrth yr hyn a ddywedpwyd or blaen eich trechu chwi i [Page 16]synied mor anghenrhaid yw gweddi. Yn awr os ameu vn; neu ddywedyd, fe wyr Duw ein anghenion cyn eu gofynom: ac a arfaethodd neu a swriadodd beth a wneiff, [...]elly ni eill ein gweddiau moi gyfnewid ef, am hynny hwy a brifiant yn afraid, y mae yr atteb garllaw, iddo ef yr hwn a fwriadodd yr hyn a wna a orchymynnodd i ni hefyd ofyn; Ac nid rhagluniaethau dirgel Duw (yr rhai ni wyddom) ond ei orchymynion neu orafynion dadcudd [...]ed [...]g yn ei air ydynt reol on gweithredoedd ni, yr hon sydd raid i ni galyn; na rhaid ir mab ei hunan ofyn yr hyn yr oedd y Tad yn barod errioed iw roi: gofyn i mi a rhoddaf de [...]fynau y ddaiar ith feddiant. [Page 17]Yr aw [...]hon os prifiwn ni yn oer yn gofyn, fo eill ein gobaith rewi cyn mwynhau. Eithr oni eill taerder hyfedr yn hytrach erwino cyfiawnder na mwynhau ffafor gyda dynion fe eill, eithr gyda ffynon y trugareddau, ymdrechu i fyned i mewn ir porth cyfyng a chynnyg nerth i deirnas nefoedd, a wna llwybr egored i gael maddeuant: yn y cyfriw achos y gwna y barnwr anghyfion vninodeb iw dynnu ei hun allan o boen; mwy o lawer y bydd Tad y trugareddau yn fodlon ir cyfriw ddyfodiad neu rythriad sanctaid, in rhagflaenu ag at [...]eb cyn y galwom.
Yn olaf ei gyd, nid rhaid ini ofni y geill ein gweddio parhaus mewn vn modd [Page 18]rwystro gorchwylion ein amriw alwedigaethau; yr Arddwr yn y maes, y creftwr yn ei siop, Martha ynghylch ei hwswiaeth, a allant weddio wrth weithio a gwneuthur yn well o weddio. Dos (medd yr Arglwydd) wrth Ananias a helpa Saul o Tarsus iw olwg. Canys wele ef yn gweddio, Y maelgweddiau yn dwyn bendithion yr ydym ni yn meddwl ychydig am danynt, ni ddylem gan hynny feddwl am weddiau yn fwy difrifol, er mwyn meddianu y bendithion hynny, canys rhaid ir bendithion hynny fod o bris bychan, yr rhai ni welwn ni y talant eu gofyn.
PEN. II. At bwy y mae i ni drefnu ein Gweddiau.
I ba beth y dangosid angenrheidrwyd Gweddi, oni wyddom ni yn hyderus at bwy yr hyfforddwn ein Gweddiau. Am hynny ef a osododd ein jachawdwr hyn ar lawr mor fanwlhynod, nad rhaid i ni fwrw o amgylch am ychwaneg o yspysrwydd; Luc. 10.26. Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac efe yn vnig a wasanaethi, ac iw enw ef y tyngi. Galw arno, iw glodfori a gweddio atto, ydynt y moddau yspysol o addoliad Duw, yr hyn a gydffurfied gan ein Jachawdwr, yn y Testament newydd allan or hen, i berthynu [Page 20]yn vnig i Dduw, a gywilyddiodd hawl y Temptiwr o hono mal yr aeth ymaith or maes, ac ni feiddiodd demptio ymmhellach, oddiyma y gallwn ddal sulw, na ellir dangos trwy yr holl Destament hen neu newydd fod vn ryw rai o bobl Dduw errioed yn gweddio at Seinctiau neu Angelion, eithr yn ving at Dduw: Dim dywedyd yma o Abraham Sanctaidd, neu Sanct Peter gweddia trosom; Eithr tydi o Dduw a glyw weddiau, Psa. 65.2. attat ti y daw pobcnawd. Ond chwychwi pan weddioch na ddywedwch o Sanctaidd fam Duw eithr: (Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd) A chwi a ellwch ym mhellach nodi fod Angelion (ac felly [Page 21]Sainctiau) yn gwrthod megis mewn digllonrhwydd y cyfrw oruchel addoliad a gweddiau a roddid attynt hwy. Er i ti fy nal i (medd yr Angel wrth Manoah) ni fwytai oth fara, ac os offrymi di boeth offrwn offrwm ef ir Arglwydd, Jud. 13.16. St. Joan yn amcanu addoli Angel, yn yr vn modd, a gafas yr vn wers ddwywaith iddo (gwel na wnelych, Jo [...]. 19.10. & 22.9. dy gyd was di wyf fi; addola Dduw na adewch i ddyn gan hynny eich twyllo chwi am eich gwobr (geiriau St. Paul ydynt) mewn gostyngeiddrwydd ewyllyscar, ac addoliad angelion, gan ruthro i bethau nis gwelodd. Ac onid yw yn sefyll gyda rheswm naturio [...], fod yr hwn y trosglwyddom ni ein gweddia [...] [Page 22]atto yn ollwybyddydd yn gwybod y galon; ac ollalluog i fod yn abl in helpu ni yn ein holl gyfyngderau, ac yn oll-bresennol ym mhob man, i fod bob ams [...]r garllaw, y pryd y galwom arno? Onide ni allem chwarau y rhagrithwyr ag ef dywedyd vn peth a meddwl peth arall, neu fethu yn ein hamcan yn ymbil am beth gan vn ni eill mon gwaredu. Canys pa greadur a allwn ni yn dda feddylied ei fod ym mhob man, neu a ddichon ein cynorthwyo ni bob amser, neu a ddeallai ein holl feddyliau ym mhell or blaen? ond yn vnig ein Tad yr hwn sydd yn y 'nefoedd? hyn y mae Satan yn deall ei fod yn ddinistr iw amcanion ef, mal lle na allo ef hudo dynion [Page 23]yn erbyn naturiaeth, i dybied nad oes vn Duw, y gallai ef or lleiaf eu pendefadu hwy, beth a ddylai y Duw hwnnw fod, mal y byddai y rhan fwyaf yn meddwl na byddai ef ddim arall ond y peth a ddychymygent hwy ai harweinwyr, trwy y cyfriw foddau y chwanegwyd Duwiau yn ol rhifedi Dinasoedd a chenedloedd: Jer. 2.28. ac mal hyn (megis) ar drouad Psal. 106.20. llaw, y trowyd gogoniant Duw Israel i geffelybiaeth llo a fwytan wair. allan or vn einion y daeth Moloch a Baal gyd ag aneirif o ffieidd-dra ac ofergoelion y cenedloedd. Yn yr holl bethau hyn yr amcan bob amser oedd ym mhlith yr rhai doethaf, fod y gwir Dduw yn cael [Page 24]ei addoli yn vn g gan y cyfriw ddadl [...]uwyr, neu gyfryngiad; eithr ni ymgyfodai y cyffredin yn vwch nar hyn a w [...]lent, ar rhan fwyaf a gyttunent ai meddyliau [...]wynt, y ddau yn dyfod tan argyoeddiad yr Apostol, ha wyr Atheniaid ni ddylen ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur neu arian, neu faen o gerfiad celfyddyd a dychymyg Act. 17.22, 29. dyn. Y rhai ai gwnant ydynt fel hwythau (medd y Psalmydd) hyn yw yn ddisynwyr yn gyffion mal y maent hwythau. Canys Duw yspryd yw, ar rhai ai addolant ef rhaid vddynt ei addoli, Mewn yspryd a Gwirienedd. Y rhai a ddywedo i chwi fod lluniau a delwau yn goffadwriaeth da i ni feddwl beth a [Page 25]ddylem ei addoli, chwi ellwch atteb, fod y nefoedd yn datcan gogoniant Duw ar holl greaduriaid waith ei ddwylaw ef, an hyffordda ni iw addoli ef yr hwn ai gwnaeth hwynt (mal hyn y cewch chwi ddywedyd vddyut hwy (mal y gorchymynnodd y prophwyd ir Israeliaid ddywedyd ir Chaldeaid ofergoelaidd) yn eu hiaith eu hunain. Jer. 10.11. Y Duwiau ni wnaethant mor nefoedd, difethir hwynt or ddauar ac oddi [...]an y nefoedd. Llaniau iw addoli (medd vn arall) nid ydynt ond athrawon celwyddau a derchafwyr athrawiaeth y cythreuliaid, hwy a allant fodd arall mewn arfer Historiaidd harddu adeiladaeth; eithr am addoliad y mae [Page 26]genym ni addysc y Gair; nid delw gerfiegid ond Jesu Grist croeshoeliedig yn Gal. 3.1. eich plith Galatiaid ynfyd.
Ac am goffadwriaeth o ddioddefaint ein jachawdwr, pa ham na chai toriad y bara ac yfed y gwin yn y Sacrament oi Swpper olaf, gael ei gyfrif yn orau celfyddyd coffadwraeth, gan weled mai ef ei hun an Luc. 22.19. weled mai ef ei hun an dysgodd Gwna hyn er cof am danaf? Ac oni chymerai bob gwr synwyrol bregethau ein jachawdwr a scrifennau yr Apostolion i fod yn well gweddillion, nag ysglodyn defnyddol o Groes Crist, ne gadwynau St. Peter iw dangos, in athrawiaethu ni beth a wnant in hiechydwriaeth neu a ddyscasant i ni iw canlyn.
[Page 27]7. Yn olaf oll, yn erbyn y dadleuwyr, am weddio at Seinctiau neu Angelion, yr hyn a attebodd ein jachawdwr ir cyfreithwr ellir ei arferu yma yn dda, Luc. 10.26. pa beth sydd scrifenedig yn y gyfraith, pa fodd y darlleni? A ellwch chwi ddangos vn gorchymyn neu esampl am y cyfriw weddio o fewn yr holl Destament hen a newydd? Neu a allwn ni feddwl mewn rheswm y bydd Seinctiau yn barottach i wrando, neu i synied ein heisiau, neu i roi ym mlaen ein erfyniau, nan jachawdwr bendigedig, an vnig Gyfryngwr an Dadleuwr Jesu Grist?
Cysur bychan a gafas y wraig o Canaan ar y ddauar yn ymwared Seinctiau: Mat. 15.23. gollwng hi ymaith, canys y [Page 28]mae hi yn llefain ar ein ol ni. Ni a gredwn fod y Seinctiau yn dra dedwyddol yn y nefoedd, ac a anrhydeddwn eu personau ai coffadwriaeth yma ar y ddauar, yn gosod dyddiau gwylion yn yr rhai y mae eu gweithredoedd ai hathrawiaeth yn ganmoladwy in cynylleidfa i ddilyn eu hagwedd yn dduwiol. Eithr beth a wyddant hwy am danom ni, neu a allant wneuthur trosom ni o gyfrynglad yn y nefrodd nis dadcuddiwyd i ni. Adeiladwch chwi gan hynny ar sail ddiogel (fy merched): Christ ach dysgodd chwi i ddywedyd (Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd) ar Ecclwys yn yr hon ich ganwyd ac ich bedyddiwyd, ach dysc chwi felly, [Page 29]Pan fyddoch yn hyfforddi eich gweddiau yn neullduol at vnrhiw or personau (yn enw yr rhai ich bedyddiwyd) neu yn gysylltiedig at y Drindod fendigedig i chwi eu vnioni at vn Duw, yr hwn sydd dri yn vn ac yn oll. A chynifer a rodio yn ol y rheol hon tyngneddyf fyddo ara Gal. 6.26. nynt, thrugaredd ac ar Israel Duw; yr hyn gan fod yn nerthol gyd a Duw, hwy a gant yn ddiogel fwynhau ac yn fwy cyssurus os cymerant Swyn gyfaredd. gyd a hwynt (megis yn Antidot) ddiweddiad St. 1 Joa 5.13. Joan, sy mblant bychain, cedwch eich hunain oddi wrth eulynnod.
PEN. III. Beth a ddylem ni ei ofyn yn ein gweddiau.
I Wybod yr angenrheidrwydd o weddi, a phwy y dylem ni weddio atto ni wna fawr gymorth i ni, oni chawn ni gyngor da beth iw ofyn, Peter a ddichon ymofyn, Joa. 21.22. beth a ddaw o Joan, eithr ef a gaiff sen beth yw hynny i ti? na ymosyn am yr hyn nid yw yn perthyn i ti; gwna yr hyn a archwyf fi i ti, canlyn fi. A phan ddaeth Mam meibion Zebedi yn erfynwraig am ei derchafu hwynt, ir lle nid oeddynt hwy gymeradwy o hono, ni wyddom pa fath fodlonrhwydd oer a gawsont [Page 31]gan ein jechawdwr, Mat. 10.20.35. ni wyddoch beth yr ydych yn ei ofyn: Act. 1.7. Ac ni chafas cyderfyniad yr Apostolion ynghylch Teirnas ddauarol, ddim gwell digwyddiad. Ni pherthyn i chwi wybod yr amseroedd na r prydiau, yr rhai a osodes y Tad yn ei feddiant ei hun. Yr rhai gan hynny a obeithiant gael ei neges, sydd raid vddynt yn vnig erfyn am y pethau a fo cymwys vddynt eu derbyn, ac i dduw eu canniattau, mal y mae y Liturgi neu lyfr yr Ecclwys yn y dechreu yn dangos i ni: Rhaid vddynt ofyn y pethau hynny a fyddont angenrheidiol yn gystal ar les yr enaid ar corph, Ps. 119.7. onide fe ddichon eu gweddiau droi yn bechod; ac yn lle y fendith a ddisgwilier, [Page 32]melldith haeddedigol a eill gwympo arnynt. Gen. 27.12. Gan hynny cyngor, y pregethwr, yn gystal am y genau ar troed sydd iw gadw gan yr holl ymbilwyr, ai gosodant eu hunain o flaen gorseddfaingc y Gras.
Yn gyntaf, dysc wrth glywed beth sydd iw wneuthur, cyn i ti gynnyg aberth ynfyd (heb ystyrriaeth) mewn gobaith i fwynhau: Eccles. 5. ac na fydd yn ddibwyll ath enau, ac yn hyll ath galon, i amlhau llawer o eiriau, lle byddai ychydig yn fwy at y pwrpas, ac yn well gymeradwy; Canys pa fodd y geill ddewis na phrisia y llafur yn ofer, i erfyn gan Dduw yr hyn ni ellir moi ganiattau, o herwydd ei ewyllys dadcuddiedig ir gwrthwyneb? [Page 33]Oddi yma y gwelwn na wasanaetha i ni, na son nag ymbil am jechydwriaeth Judas, ar ysprydion damnedig, neu ragwybodaeth am ddydd farn a dirgelion Duw, yn ei etholedigaeth neu ei wrthodedigaeth or blaid yma, neu r blaid accw. Ac os rhaid ir pren orwedd lle cwympo, a bod cyflwr y marw, o waeth i well [...]n anghyfnewidiol; yr offerennau, caneuau neu weddiau tros vn rhiw gefaill a ymadawodd a ellir yn hawdd ac yn dda eu hepcor, yr hyn y mae rhai gwedi eu camarwain iw pry [...]u yn ddrud, Es [...] ac eraill iw gwerthu mewn pris [...]nys pwy a geisiod [...] hyn ar eich llaw chwi? [...] fawr yw pryniad [...] [Page 34]a hynny a baid byth. Ar yr vn sail ni allai Samuel weddio tros Saul na Jeremiah i ragflaenu caethglud Judah, lle yr oedd digyfnewidiol arfaeth Duw vnwaith wedi roi yn wybyddawl vddynt. Pethau ysprydol gan hynny a berthyn in jechydwriachth, ac amserol a berthynant in cadwedigaeth yn y cyflwr y gosedodd Duw nyni, neu an trosglwyddo i vn gwell, yn ol ei ewyllys da ai arfacthiad, nid ein aflonyddol ysfa o falchder, sydd i fod yn rheol-drefn on defosionau cymeradwy. A hyn a ddwg i fewn yr hyder hwnnw y mae y discibl anwyl yn llefaru am dano: os gofynwn ni ddim yn ol ei ewyllys efe a wrendy arnoml ni, ac [...]s gwyddom [Page 35]y gwrendy beth bynnac a ofynom, ni wyddom y cawn ni yr erfyniad, a ddeisyfwn ganddo: Llawer o betruster a ddychymygir yma, pa vn a wnawn ni ai gallael gweddio tros vn a fai yn gabledig yn pechu i farwollaeth, neu yn gyndyn yn sefyll mewn escymundod, neu yn wrthryfelgar yn erlid yr Ecclwys, ar Stât. Gan fod erfyniad y Psalmydd ar lawr mal hyn: A thi Arglwydd dduw y lluoedd deffro ti dduw Israel deffro i ymweled ar cenedloedd, na thrugarha wrth neb a wnelo anwiredd yn faleisus. Eithr gweddi y prophwyd yn erbyn y rhai y by ddai Dduw yn ei cael felly, nid yn erbyn y cyfriw yr ydym ni on drwg anwydau yn barnu eu bod [Page 36]felly; canys yr ydym ni i obeithio y goreu o bawb, ac nid i gondemnio rhag, ein bod yn gondemnedig. Oni eill Paul erlidiwr ddyfod yn llestr etholedig? A phetr anudonwr fyned allan ac wylo yn chwerwdost? Ni roddwn ychwaneg am hyn o beth: pan elom i lefaru am regfau yn ol hyn. Beth yr ydym ni i weddio am dano: Terfynau. cyffiniau digonol ellir ei gael yn y nefol batrwm a adawodd ein jachawdwr i ni ir pwrpas hwnnw, yn cynwys ynddo ragymadrodd erfynian a therfyniad; yn y rhagymadrodd, y gair cyntaf, sydd genym [Ein] an rhydd i feddwl am vndeb, a pharch in brodyr, megis i ni ein hunain, i gau allan anghyttundeb, yr hyn a ddihoena [Page 37]ein amcanion goreu, a hefyd berchi personau, i dderchafu y cyfoethog o flaen y tlawd, ac i farnu, nad yw rhai eraill yn haeddedigol o drugareddau Duw yn gystal ac hwynt hwy eu hunain. Yr ail air [ Tad] an sicrha ni on derbyniad, a ddywaid i ni ein bod oll yn frodyr, ac nad rhaid i ni wreuthur mon cwynion, am ein anghennion at eraill, yr rhai ni allwn ni eu galw yn Dadau, gan fod iddo ef ewyllys a gallu in cyfreldio ni, ac yn anfodlon i ni geisio ym mhellach mewn gobaith o gael margen Llwyddiant. well: Rhy. 8.15, 15. Canys ni dderbyniasoch yspryd mabwysiad trwy r hwn yr ydym yn llefain Abba Dad. Gan fod yr yspryd hwn yn dwyn testiolacth gyd an hyspryd [Page 38]ni, Gal. 4.6, 7. ein bod ni yn blant i Dduw. Yr hyn a ganlyn [ yr hwn wyt yn y nefoedd] a wna bererindod at foddau neu relyw yn ddelwaddolaidd ofergoel. Canys y mae yn derchafu ein calonnau ir nefoedd, ac at bethau nefol, megis ac y mae y Psalmydd yn ein addyscu: Psa. 25. derchafaf fynghalon attat ti, Psa. 121. ac attat ti y derchafaf fy llygaid; Psa. 122. O tydi yr hwn a breswyli yn y nefoedd. Yr hyn y mae ymarfer ein jachawdwr yn ei sicrhau; y geiriau hyn a ddywaid Jesu, Joa. 17. ac a dderchafodd ei lygaid ir nefoedd gan ddwyedyd fyn nhad yr awr a ddaeth. Ac yn dywedyd i ni ym mhellach fod i ni olygwr yr hwn a edrych in holl feddyliau, geiriau, a gweithre doedd pwy sydd [Page 39]fal yr Arglwydd ein Duw ni yr hwn sydd yn preswylio yn vchel: Psa. 113, 5, 6. ac etto ymostwng i edrych y pethau yn y nefoedd ac yn y ddauar? yr erfyniau a ganlynant, ni wneiff rhai ond chwech o honynt, eithr heb ymrafael ellir eu cyfrif yn saith. Yn yr rhain y drefn o honynt, a ddengys, mae pethau ysprydol sy n gyntaf i edrych am danynt, ac i weddio am danynt o flaen pethau amseral: yn ol yr hyn a ddwedodd ein jachawdwr, yn gyntaf ceisiwch Deirnas Dduw ai chyfiawnder; ac yno pethau amserol a chwanegir, megis yn elw: O herwydd hynny dewis rodd Salomon a ryngodd fodd Duw yn gweddio am ddoethineb, o flaen cyfoeth, ac anrhydedd: [Page 40]Canys ni fydd arnom ni eisiau y peth a fo goreu, ar ein lles, os rhoddwn or blaen yr erfyniad cyntaf sancteiddier dy enw, cyn holl bethau amserol. O hyn yr oedd Moses a St. Paul mor Exo. 32.32. ddichlyn, Rhy. 9.3. megis yr oedd y naill yn deisyf ei ddileu Fygu gwahanu. allan o lyfr y bywyd, y llall i fod yn anathema oddiwrth Grist, yn hytrach na bwrw anair ar Dduw: vn ai oi anallu, neu doriad addewid, megis na chyflawnai yr hyn oi rwydd haelioni a gymerodd arno tros ei Ecclwys iw ddwyn i ben. Sancteiddio gan hynny a gogoneddu a derchafu vwchlaw pob peth Fawrhydi anfeidrol enw Duw yw r peth sydd raid i ni edrych am Dame o flaen ein iechydwriaeth [Page 41]ein hunain. Ar [ enw] a arwyddocâ yma hanfod, priodol aethau, a gorchymynion, rhaid iw deall nad ydynt ddim arall ond yr hyn y Bedyddiwyd ni ynddynt, yn ymgyffred, Tad, mab ac yspryd glan, y rhai gan eu bod or vn hanfod, rhaid vddynt wrth yr vn weithred a wnelom ni, gael en gogoneddu gogyfuwch, neu eu diogoneddu.
2. Yr ail erfyniad [deued dy deirnas] an athrawiaetha ni mai yn nesaf ar ol gogoniant Duw, rhaid iw edrych am barch ir Ecclwys a gweddio trosti, yr hon gan ei bod yn filwrus yma fal y dylai, y gallai orfoleddu yn ol hyn, mal y mae hi n disgwyl: pob peth a leihao neu a dynno [Page 42]oddiwrth hyn, sy raid ei fod ym mhell allan on gweddiau ni, iw roi heibio, megis yn sail in melldithion pennaf.
3. Yn drydydd [ bydded dy ewyllys ar y ddaiar megis ac y mae yn y nefoedd;] yn llywodraethu ein holl ddymuniadau neu ein erfyniau iw rheoli, yn ol cwyllys Duw dadcuddiedig yn ei air: gwrthwynebu neu gilio oddiwrth hynny ni wasanaetha vnwaith ddyfod o fewn cylch ein Meddyliau, llai o lawer yn ein erfyniau. Ac yn awr pan ddiscynnom i erfyn ymwared i ni ein hunain.
4. Y pedweryd erfyniad [ Dyro i ni heddiw ein bara beunyddiol y modd y mae ym mhob gair yn ein dyscu i ochelyd amgylchiadau [Page 43]amherthynasol [ dyro] nid megis dyledus eithr oth wir haelioni; nid i vn sydd ganddo oi eiddaw ei hun, ond ir rhai o diffuant anghenrhwydd a drechwyd i ymbil gyd a nyni; nid trostynt eu hunain yn vnig, eithr tros eu brodyr hefyd, yr rhai sydd raid vddynt wneurhur y ceffelyb trostynt hwythau: cyfoethog a thlawd ydynt wrth borth Duw ai drugaredd, sydd rhaid vddynt fod yn erfynwyr vn agwedd a hynny, am ymwared presenol. [ Heddiw] ein bara beunyddol: rhaid iw ei ddwyn i ni trwy haelioni parhaus: lle tan enw bara y cynhwysir dillad, trigfâu holl bethau anghenrhaid; i ddyscu cymedroldeb iw ymarfer yn holl feddithiau Duw, [Page 44]felly nid yw gormodedd yn gwneuthur i fynu vn rhan on erfyniau. Ac na rwystrir y bendithiau hyn gan ein pechodau ni.
5. Y pumed erfyniad a rydd caueat neu ocheliad i mewn [ Maddeu i ni ein dyledion fal y maddeuwn ni in dyledwyr] y condisiwn neu (r) cyflwr a rydd ar lawr y rhwymedigaeth sydd yn sefyll arnom, am faddau i eraill os gobeithiwn ni gael maddeuant gan Dduw ein hunain; yr wyf yn dywedyd gan hynny, (medd ein jachawdwr) bendithiwch yr rhai ach melldithio, gwnewch dda ir rhai ach casant, a gweddiwch tres y rhai a wnel niwed i chwi, ac ach erlidiant. Felly chwi welwch na chaiff erfyniwr anghymodol moi wrando [Page 45]yn llys y goruchaf. Ac megis na chaiff faddeuant oi ddyledion ei hun, felly ni chaiff moi ryddhau oddiwrth ruthrau cynllwynion, neu anturiau profedigaethau dinistriol, yr hyn a wna i fynu y chweched erfyniad iw ganiattâu ganddo ef, yr hwn yn vnig a ddichon ein cadw ni oddiwrth, an gwared ni yn yr ymdrech cryfaf rhyngom ar byd ar cnawd, a hefyd ergydiau cyfrwys nerth diafol ei hunan, yr hyn a dddymunir yn y seithfed erfyniad ar olaf. Yr holl rhai hyn a ddengys yn, ddigonol beth sydd i ni iw ofyn, mal nad rhaid i ni fwrw o amgylch, i edrych beth heb law hynny fydd i ni i weddio am dano: Canys yr articloedd [Page 46]neu (r) nodau o gredo yr Apostolion ni ddangosant ond cyflwr y Deirnas honno, am ddyfodiad a dedwyddwch yr hon y gweddiwn ni yn yr ail erfyniad. A pheth ydyw carn Duw vwchlaw pob peth an cymydog megis ein hunain, (ond crynodeb sylweddol or deg gorchymyn) yr hyn a erfyniwn yn y trydydd erfyniad, i ewyllys Duw gael ei wneuthur yma ar y ddaiar, mal yn y nefoedd, gan ei Seinctiau, ai Augelion. Am fwynhau yr holl erfyniau yn ddiogelach, y mae y diwedd yn chwanegi yr ymddiried-gwbl goel hon Canys eiddot ti (o Dad) yw r deirnas; am hynny ti a ewyllysi; [ y gallu] am hynny ti a elli; y gogoniant] am hynny [Page 47]oth anrhydedd, yr wyt (mewn modd) wedi ymrwymo o honot dy hun, i eurglyw gweddiau dy blant, dy ddeiliaid ath erfynwyr gostyngedig, ac iw gollwng ymaith wedi selio Amen: wrth eu deisyfiadau vnion. Ni ellwch chwi gan hynny (fy merched) fod yn anwybyddawl beth i weddio am dano, neu beth iw ochel megis amherthynas ich defosiwnau. Gan eich athrawiaethu mor gryno fyrr gan Hyfforddwaith nefol ein jachawdwr ei hunan. Digon da fyddai yn y lle nesaf, cymeryd peth sulw ac hynodi pa ymddygiad yn ein gweddiau a ellir ei arfer yn weddeiddiaf ac yn gymhesuraf.
PEN. IV. Am yr ymddygiad oddiallan Gweddaidd i Dd [...]fosiwnau Duwiol.
PA wedd bynnac y mae ofergoel megis gweddio mewn iaith anwybyddus ar leiniau o flaen Croes neu r cyffelyb, megis yn winwydd gwylltion a deflid ym mhilth dail da, yn gwneuthur y cawl yn farwol: 2 Bren. 4.40. etto rhaid yw gwneuthur gwahanrediad bob amser rhwng hynny ac anrhydedd dyledus, hwn a ofynnir, nid yn vnig gan y meddwl, eithr gan y corph hefyd. Ex [...]. 4.5. Rhaid i Moses a Josua dynnu eu esgidiau oddi am eu traed, y Jos. 5.15. y pryd y neshânt i ymddiddan [Page 49]a Duw. Job oedd ychydig ry flaenllaw ar ei berffeithrwydd, Pan ddyscodd yr Arglwydd ef a ddygwyd yn fuan i gyfaddef, I. 42.6. ac ai ffieiddiodd ei hun m [...]wn llwch a lludw. Ac fe ellir meddwl yn dda, mai r farn galed a adrodder ym meriodas mab y brenin yn erbyn hwnnw a ymwthiodd i mewn heb wisc periodas, a osodwyd arno yn enwedig, am ei waith yn dianrhydeddn y fan y daethai. Canys a ddioddefai Dywysog dauarol i Greftwr a wahaddesid ganddo ef i wledd, ddyfod yn ddibris allan oi siop, yn ei wisc ddyhiraf, heb wneuthur cyfrif, na pharch, ir gwr, neu ir lle, neu anrhydedd i bendefig, a fu wiw ganddo wneuthur Gimaint [Page 50]o hono: nid á Joseph yngwydd Pharaoh heb ei eillio a newid ei dàillad. A pha drallod ydoedd yno yn puro y gwyryfon cyn y tybid eu bod yn gymhesur i ddyfod yngwydd Ahafuerus? Ir deunydd yma, ymae Duw ei hun yn rhoi gwers i Aaron gystuddiedig, am farwolaeth ddisymmwth ei ddau feibion hyllion, Nadab ac Abihu, mi fynna fy sancteiddio gan yr rhai a ddel yn agos attaf, ac o flaen yr holl bobl, mi fynnaf [...]od yn Ogoneddus. Vn o ddichellion Satan yw; llysenwi, dyledus anrhydedd y corph, yn Dramgwydd o ddelwaddoliaeth. Plygu ar enw yr Jesu, sefyll ar y credo myned ar l [...]niau wrth dderbyn y Sacrament fendidedig, o [Page 51]Swpper yr Arglwydd, a fyn rhai eu bod yn ofergoelaidd ym aroglu o babeiddrwydd: megis pe bai ormodd iddo ef, yr hwn a greawdd y corph yn gystal ar enaid, gael dyledus anrhydedd oddiwrth y ddau. Ac oran fod y Papistiaid yn rhy ddiflas yn gwneuthur yn rhybell, ni ddylem ni gyflawni vn gronyn. Y canolbwngc gan hynny sydd rhaid ei gadw rhwng ceremoniau gwarantedig, ac ynfydroau ofergoelaidd mal yn cashau y naill, na phrifiom yn halogedig yn y llall. Yn hyn o beth y bu ein Heglwys ni yn dragofalus vnionddoeth yn rhoddi rheswm am y Liturgia. ceremoniau yn y rhagymadrodd in Gweddiau cyffredin, pa ham y tynwyd [Page 52]rhai allan, ac y cadwyd y lleill: y rhai hyn, y cyfriw nid ynt fodlon vddynt nid ydynt fodlon i unrhiw beth ond a ddelo or efail oi dychymygion cu hunain: a hynny yn gyffredin (mal ein arferion) ni phery yn hwy, whimsi Jud. nag y codo rhiw ffrithoneg arall i fynu, yr hyn newydd-dra a fodlona y bobl yn fwy; y cyfriw gymylau heb ddwfr, brennau diffrwyth, tonnau rhuadwy y mor, yn bwrw allan ewyn oi cywilydd eu hunain; rhoddion heb râs, hudoliaeth heb wladeiddio na chochi oi hachos, dichellion heb y mym [...]yn lleiaf o gydwybod neu Gristnogrwydd; ein gorchwyl diweddar a ddyscodd i ni mor ddinistriol y prifiasant ir Ecclwys ar Gyffredin-wlad: [Page 53]y Briwiau o hyn a ddylai yn hytrach beri i ni yn ail gasglu ein hunain, ac edfrydu yr hyn a gollasom, yn gystal mewn defosionau oddiallan, ac oddifewn, na myned rhagom yn y cyfriw lwybrau peryglus yr rhai yn y diwedd sy rhaid vddynt ein anrheithio ni; canys y mae hyn yn digwydd, gyd ar hyn a ddywaid y prophwyd, O herwydd im pobl fy anghofro Ier. 18.15, 16, 17. i, hwy a arogldarthant i wagedd, ac a wnaethant vddynt dramgwyddo yn eu ffyrdd, allan or hen lwybrau i gerdded llwybrau ffordd ddisathr i wneuthur eu tir yn anghyfannedd, ac yn chwibaniad byth: pob vn a elo heibio iddo a fynna ac a esgwyd ei hen. Eithr gwelwch y digwyddiad (oni bydd edifeirwch amserol iw [Page 54]rag flaenu) megis a gwynt y dwyrain y chwala hwynt o flaen y gelyn, fyngwegil, ac nid fy wyneb a ddangosaf iddynt yn amser eu dialedd. Gwellhâd gan hynny yn yr amser presenol, i ragflaenu yr amser sydd i ddyfod, a brifiai yr amser yma yn enwedig yn fwy tymoraidd, nag achwynion am aeth heibio, ac na ellir moi dychwelyd.
Yr hyn y mae yr Apostol yn ei erchi: 1 Cor. 14.40. Gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn] sydd ac ymestyniad helaeth, ac sydd a llewych eglurach yn ein defosiwnau, ar osodiadiau ein cyrph oddiallan, nag ar serch y meddwl oddifewn.
Y cyfriw symudiadau gan hynny ar rhain;
1. Bwrw ein golwg at y [Page 55]Ddauar, curo ein monwesau, megis anheilwng i edrych ar y nefoedd, o herwydd ein gau galondyd an troseddau.
2. sefyll i fynu ar y credo yn arwydd on proffes rydd o hono, an ymroad byth i sefyll wrtho.
3. Derchafu i fynu [...]in golygon a'n Dwylaw tu ar nefoedd mal at orseddfa trugaredd yr vnig Dduw hwnw, at yr hwn yn vnig yr hyfforddwn ein gweddiau.
4. Llefain cryf a dagrau, yr hyn a wna ein erfyniau Heb. 5.7. yn nerthol g [...]d ag ef, yr hwn ai gesyd yn ei gostrel, ac a ddichon ein gwared ni oddiwrth farwolaeth, gan ragweled fod yn eu meddwl mor dda, ac yr adroddir hwynt yn fynych
5. Plygu y pen ar corph.
6. Plygu ar lianiau.
7. Gorwedd an holl gorph ar y ddaiar; sydd a chyffelybiaeth ac awdurded yn yr Scrythyr, ac a ellir ei arfer genym ni yn ein defosionau neullduol neu gyhoeddus, mal y byddo yr amriw achosion yn ymgynnig.
1. Am fwrw i lawr y g [...]ygon tu ar ddaiar megis anheilwng i edrych tu ar nefo [...]dd, a churo ei ddwyfron, hynny fu agwedd y publican edifeirrol, aeth iw dy yn gyfionach or achos, nag yr aeth y Pharisead coegfalch a ryngai fodd iddo ei hun ai ffrostiad.
2. Phineas a safodd i fynu ac a weddiodd gan wneuthur neu iawn farnu (y mae y gair yn ymgyffred y ddau [Page 57]feddwl) ar plâ a attaliwyd: Eglon y Brenin tew o Moab, oedd ynddo gimaint o ddaioni a chyfodi oi orseddfaingc, pryd yr oedd i wrando cenadwraeth oddiwrth Dduw. Ac a eill Cristnogion dybio ei fod yn ofergoel godi i fynu yn anrhydeddus pryd y byddont i gyffesu eu ffydd? Ac ar Gogoniant ir Tad, ir mab, ar yspryd glan, i gydnabod y Drindod fendigedig, iw roddi i Dduw?
3. Moses yn codi eu ddwylaw Exo. 13.11. i fynu a ynnillodd fuddygoliaeth yn erbyn Amalec: Arfer David ai weddi yw: derchefais fy llygaid ir mynyddoedd or lle y daw fynghymmorth a bydded derchafiad fy nwylaw megis aberth brydnawnol. Cydffyrfiad ein jachawdwr [Page 57]yn y weddi oddidawg honno tros ei ddiscyblon [ y pethau Joa. 17.1. hyn a lefarodd yr Jesu, ac ef a gododd ei lygaid ir nef, ac a ddywedodd] dyna esampl di-wrthwynebus, am godi i fynu y golygon ar Dwylaw at Dduw, mewn gweddi.
4. Ar hwn a ddalio sulw ar David yn gwlychu ei orweddfa ai ddagrau y nos, ac yn cymyscu ei ddiod ai wylofain liw dydd: Jeremi yn dymuno ei ben yn Psa. 6.6. Ps. 102.4. Ja. 9.11. ffynon o ddagrau: Dagrau chwerw dost St. Petr, a golchfa o ddagrau Mair i draed ein jachawdwr, ai gwallt yn eu sychu, rhaid iddo gydnabod fod dagrau a gweddi yn gwneuthur cymysgiad dedwyddol i annog trugaredd oddiwrtho ef, yr hwn a dywalltodd [Page 59]ddagrau tros Jerusalem, ac a wylodd o rywiogrwydd gyd ar chwiorydd oeddynt yn alaru am eu brawd Luc. 19.41. marw Lazarus. Am blygu y gliniau ar corph, Joa. 11.35. yr ymddygiad gostyngedig hwnw ir Israeliaid cystuddiedig, pan dderbyniasant y genadwri obeithiol oi ymwared, a ddichon fod yn achos iw ddilyn, a gwneuthur ar ei ol: pan glywsant ymweled or Arglwydd a meibion Israel ac iddo edrych ar eu gorthrymder, Exo. 4.31. yna hwy a ymgrymasant ac a addolasant medd yr Scrythyr.
Apha beth yw meddwl, y gwaharddiad hwnnw rhag cwympo i lawr ac addoli lluniau, neu vnrhiw ddelwau craill, yn yr ail gorchymyn: eithr darfod i Dduw gadw iddo ei hunan [Page 60]y cyfriw addoliad crefyddol ar corph.
Y rhai a betrusant neu a gymerant yn dramgwyd y cyfriw fyned ar liniau, mewn gweddi, sydd raid vddynt eu gosed eu hunain yn erbyn y cyhoeddiad arbennig hwnnw i frenin; Mi ayngais i mi fy hunan, Esa. 45.23. y ga [...]r aeth allan om genau mewn cyfiawnder ac ni ddychwel: mai i mi y plyga pob glin y twng pob tafod: Yr vn ymddygiad pryd y gwelom ni ei gynwys in jachawdwr yn ei gnawdoliaeth, mal yn enw yr Jesu y Plygei pob glin or nefolion, ar daiarolion a than ddaiarolion bethau. Y wae yn cyd-ffurfio vndab y mab ar Tad, yr hyn y mae y newyddwyr yn gwneuthur dadl o hono yr awrhon, ac yn ei wneuthur [Page 61]yn anrhydedd vddynt, ymcecri am dano, lle y mae yn amhossibl eu gorchfygu: Ymgecri. fe fydd Salomon (gyd ar Athrawon hyn yn awr) am fyned ar ei liniau, ac ymostwng, ac am ledu ei ddwylaw, tu ar nefoedd, yn ei weddi o gyssegriad y Deml 1 Bre 8.54. iw gyfrif yn anoeth. Daniel am weddio ar ei liniau Dan. 6.10. deirgwaith yn y dydd, braidd y tybir ef yn deilwng i gael ei garu. A St. Paul a allai arb [...]d ei lafur yn plygu ei liniau i Dad ein Harglwydd Eph. 3.14. Jesu Grist tros yr Ephesiaid, oblegit bod eistedd (mal y bydd llawer ar bregethau ai pennau yn eu gwisgoedd) yn esmwythach o lawer, ac ym marn y gwyr hynny ai disge diaeth yn gystal. Ac yn ol [...]f oll lle yr wyf yn gweled fy jachawdwr yn [Page 62]cwympo ar ei wyneb, ac yn gweddio [ O dad os yw bossibl aed y cwppan hwn heibio odd [...]wrthyf fi, etto nid fal yr wyf fi yn ewyllysio ond fal Mat 26.39. yr wyt ti. Myfi ai tybygwn ef yn well oddiwrth ofergoel yr hwn mewn pryd ac amser a lle y gellid ei gyflawni yn gymwys a ymostyngai ei holl gorph neu wneuthur mwy (os bai bossibl) 1 Bre. 18.24 gosod ei wyneb rhwng ei liniau, mal y gwnaeth Elias ar fynnydd Carmel iw addoli. Yn llyfr yr hwn yr oedd ein holl aelodau yn scrifenedig y dydd y lluniwyd hwynt, Psa. 129.16. pryd nad oedd yr vn o honynt. Trwy farn ddoeth gan hynny, y gosodwyd y 95 Psalm yn nechreu ein llyfr Gwedd [...]au Liturgia. megis blaen ymadrodd ir defosiwnau a ganlyn; lle y [Page 63]mae yr ymadrodd hwnnw [ O dowch addolwn a syrthiwn i lawr a gostyngwn gar bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr] yn cydtynnu ar 132 Ps. Nt awn iw babell ef ni syrthiwn yn isel o flaen ei droedfaingc ef, a ddylai gywilyddio ymddygiad amharchus rhy ormod o rai yn y Ty Gweddi; yr hyn a welai neu a dybiai y Twrciaid, neu anffyddloniaid, fod yn ffiaidd iw arfer yn Nhemlau eu eulynnod. Ym mhellach (lle mae y merched yn troseddu fwyaf) nid yw Ty Dduw le i dynnu allan wallt plethedig neu wisgiad o aur, neu i ymwisco a dillad, neu fyned tu hwnt y naill y llall, mewn mwy na 240 ffasiwnau neu foddion merched Sion (y mae y prophwyd yn neullduol [Page 64]in eu henwi) eithr i ysprydau llonydd addfwyn Esa. 3.16. iw darostwng eu hunain o flaen Duw, i osod allan ei wir deilwng foliant, i wrando ei sancteiddiolaf air, ac i erchi y pethau fyddo angbenrhaid yn gystal ar les y corph ar enaid. Ac nid yw iw ddibrisio yr hyn a argyoeddoedd yr Apostol ynghynylleidfaoedd y Corinthiaid, fod gwyr yn rhyfygu gweddio ai pennau wedi ymwisco, 1 Cor. 11, a gwragedd yn bennoethion; mi fynnwn i chwi (fy merched) felly edrych ar eich traed pan eloch i dy Dduw, m [...]l na byddo eich gweddiau trwy ddianrhydeddus anweddeidd-dra yn prifio yn Ynsydion. aberth ffyliaid: medrusrwydd a gostyngeiddrwydd rhai och neiniau chwi ydoedd, [Page 65]nad aent iw gafell eu hunain yn yr Ecclwys cyn vddynt gyflawni parch anrhydeddus ir ecclwyswr a fyddai yn gwenidogaethu y pryd hynny: yr hyn pa wedd bynnac y mae gwyeh vchel yr amseroedd yma yn ei weled yn ostyngfa iw mawredd; etto ef ai cymer mab Duw fel pe gwneid iddo ei hun, os gwneir ir gwaelaf oi eiddaw er ei fwyn ef; Ac fe ddatcan y fendigedig forwyn ei fam ef ir gwychaf, y derchafa Duw y truan ar gostyngedig, pan dynno ef i lawr y cedyrn oi eisteddfau, ac anfon ymaith y rhai goludog yn weigion. Yr ymddygiaid gostyngedig crefyddol hwn or corph, yn addoliad Duw a esceulused yn gywilyddus yn ein plith ni: di ammau y [Page 66]cyfriw a ddi ystyrent wenidogion Duw gimaint, anodd a fyddai ddwyn ar ddeall vddynt olchi traed cu meistriaid ai dagrau, ai sychu ai cydynnau crychion: eithr yr rhai sydd vddynt glustiau i Luc 7.38. wrando a wrandawant.
1. Plygu y pen ar.
2. Corph ir ddauar. Gen. 24.26, 52.
3. Myned ar liniau.
4. Gorwedd neu syrthio Ps. 9.6. ar wyneb.
5. Codi y golwg ir nefoedd.
6. Lledu y dwylaw ir Mat. 26.39. vnrhiw le, megis, hefyd.
7. Curo y ddwyfron gyd ar Pwblican edifeiriol ydynt sumiadau or corph gwarantedig, Joa. 17.11. neu awduredig, 2. Bren. 22. trwy orchymyn ac ymarfer allan o air Duw, yr rhai pe arferid yn fynychach, yn amserol ac yn [Page 67]grefyddol genym yn ein gweddiau neullduol a chyhoeddus, Luc. 18.13. yn ol esampl ein henafiaid bucheddol, an rhoddai ni i feddwl yn well am bwys y gwaith yr ydym oi amgylch, Mat. 23.6. nag unrhiw philacterau Juddewaidd neu ridens. Deut. 6.8. ac a roe flaen ar ein pwlni, ac a gynhyrfai eraill i gynnyg (megis o daerni) Iac. 5.16. ac i gymeryd trwy nerth Deirnas nefoedd, Mat. 11.12. eitr y brwdaniaeth sanctaid hyn a gyferfydd a llawr o rwystron iw ystyrried yn y lle nesaf.
PEN. V. Am Rwystrau a luddies neu a wna yn ofer ein Gweddiau.
GWeddi sydd mor effeithiol yn erbyn Satan ai holl ddichellion ai ddyfnderau, mal y gesyd ef ei holl gyfrwysdra ai hudoliaeth iw rhwystro ai gwneuthur yn ofer: ac am hynny, yr hwn am daclo neu a ymroddo ei hunan i weddio, a fydd diogel i gyfarfod ag aneirif o rwystrau ym mhlith y cyfriw, y rhai hyn a ellir dal sulw arnynt iw gwrthwynebu yn ofalus:
1. Meddyliau gwibgrwydrus.
2. Rhyfyg.
3. Ffrost.
4. Ofergoeliad.
5. Cynnal pechodau mynwesig.
6 Anghymodiad.
7. Anobaith.
Ynghylch meddyliau crwydrus, ni ddylem yn enwedig wilied ar caveat yr Apostol, Iac. 1.5. Gocheliad. o bydd ar neb o honoch eisiau doethineb gofynned (nid trwy gyfryngiad Seinctiau neu Angelion) eithr gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb ac heb ddanod. Eithr gofynned mewn ffydd heb ammau dim, canys yr hwn sydd yn ammeu sydd gyffelyb i dony mor a chwelir a deflir gan y gwynt. Ac na feddylied y dyn hwnnw y derbyn ef ddim gan yr Arglwydd: y cifriw bobl (ym marn ein jachawdwr) [Page 70]ai anrhydeddant ef ai gwefusau, Mat. 15 8. eithr y mae eu calonnau ym mhell oddiwrtho ef, I a. 6.26. dywedyd vn peth a meddwl y llall; ymddangos fod cariad, Luc. 14.16. eithr ei geisio ef am y torthau, ac a ddygir ymaith gyd ag edrychiadau, ar eu gwragedd, eu hafodydd, ai hychen (ac ond odid pethau gwaeth) ynghanol eu defosionau. Dolur a fagwyd oddi fewn yw hwn, chwyn heintus or llygredigaeth dechreuol: yr hwn sydd raid ei ddiwreiddio i fynu ag Higgaion a Selah ac Hosannau a arferid er mwyn gwrando yn well (mal y mae rhai yn tybed yn brofadwy) yn yr hen Destament: a thrwy eiriau yr Apostolion, Arglwydd angwanega ein ffyd ni, yn y newydd; yr hyn a brawf [Page 71]yn fwy ffrwythlon nag vnrhiw Philacterau Phariseaidd.
2. Yr ail rhwystr neu attaliaeth ellir ei gymeryd yw Rhyfyg, yr hwn a chwydda i fynu y meddyliau oi dylyngdod ei hun, ac a gyfrif yn fath o anheilyngdod na chai ei wrando o flaen eraill, y gwr doeth ai gesyd allan yn cu lliwiau genedigol: y mae cenedlaeth lan yn ei golwg ei hun, ac etto heb lanhau oddi wrth ei haflendyd. Yr rhain a ddywaid i chwi (fal y mae y prophwyd yn dangos) Sa ar dy ben dy hun, na nessa attaf si; canys sancteiddiach ydwyf na thi: Dih. 30.12. eithr beth yw barn Duw am danynt yn yr vnrhiw le? Esa. 65.5. yr rhai hyn sydd fwg yn fy ffroenau tan yn llosci hyd y dydd. wrth yr rhai hyn y [Page 72]digiodd cym mhelled, ac y dinistria y cyfriw lofruddion, ac a lysc i fynu eu dinas. Y peth a gafas y pharisead am ei Ryfyg, ar pwblican am ei ostyngeiddrwydd mewn gweddi, y mae ein jachawdwr yn adrodd i ni: vn aeth adref wedi ei gyfiawnhau ychwaneg, beth a gafas y llall nid ydym yn darllain. Dechreuad sylweddol gan hynny yw, y nechreu llyfr yr ecclwys a fyn i ni gyffesu ein pechodau, ag isel ostyngedig edifeiriol ac vfuddol galon, mal y caffom faddeuant am danynt trwy ei anfeidrol ddaioni ai drugaredd ef.
Am hynny pa fodd y gallwn ni ryfygn y bydd y gweddiau hynny yn gymeradwy, y rhai a gysylltir [Page 73]a ffrost o ddonniau dychymygol a chwedi cynyddu allan o hyd, erfyn canmoliaeth yn hytrach gan glustiau blinedig, na bendith oddiwrth Dduw, neu Amen deallgar oddiwrth y rhan fwyaf ni wyddant beth i wneuthur a honynt? Chwi (fy merched) ellwch ddyscu gan ein jachawdwr; fod y cyfriw ymprydiau, Gweddiau, ac eluseni a wneler, yn vnig er mwyn cael eu gweled gan ddynion, heb gael dim pellach gwobr, nag anadl gwenheithwyr: Mat. 6, Canys yr rhai a hauasant wynt ni allant ddisgwyl gwell na chorwynt iw fedi (mal y dywaid prophwyd vddynt) yr hwn ni wna ddim ac os gwna dieithriaid ai llwngc. Hos. 8 7.
4. Mal ffrost, felly ofergoeliad sydd iw ochelyd, [Page 74] Ceremoniau oddiallan o ran trefn gweddeidd - dra a pharch arbenuig, (heb fod yn groes mewn vn fordd i air Duw, wedi cyttuno am danynt gan ddoeth grefyddol benaethiaid) ydynt yn gyttunol i ymddarostwng vddynt, eithr i droi Sacramentau, yn Aberthau gwneuthur Duw o ddarn o fara, rhoi ychydig lai vrdduniant ir groes nag ir hwn a groeshoeliwyd arni, Gwneuthur meistred o erfynion, o Seinctiau, ac Angelion, heb awdurdod neu gomissiwn ganddynt oddiwrth Arglwydd pawb oll; na a gwaharddiad yn y gwrthwyneb ar cyffelyb: ni eill hyn beri grâs ym mhellach ar law Dduw nag y mae y prophwyd yn ei adrodd, pwy sydd yn gofyn [Page 75]hyn ar eich dwylaw chwi? y cyfriw offrymau ac aroglau ydynt ofer a ffiaidd geni fi; megis torri gwddwf ci yn lle offrymu oen. Am hynny gwilied Nadab ac Abihu (er eu bod yn feibion i Aaron) y modd y denant a than dieithr o flaen yr Arglwydd, yr hyn a orchmynnodd ef beidio, rhag darfod mwy na llosei eu bysedd. Canys lle y mae gorchymyn yn gorwedd rhaid iw cadw hwnnw yn ddyfal, rhaid i ni feddwl nad ydyw ei ddanghosiad ef ei hunan ai ragscrifeniad.
5. Eithr meddyliwch ein bod ni yn ddiangol rydd oddiwrth oforgoeliad, etto fc ddichon rhwystr mwy roi yn ofer ein gweddiau; a hynny yw pechod monwesic. [Page 76]Yr hwn y mae llawer yn ei faethu megis anwylddyn. Eithr rhaid iw rhoi hwn allan gyd ar lleill o dysgwiliwn ni ddim ffafor gan yr hwn a wrendy weddiau: ni wyddom (hebr dyn tlawd a iachawyd) nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid. Psa. 65.2. Yr hyn a broffesodd David oi wybodaeth ei hun. Joa. 9.31. pe edrychwn ar anwiredd yn fynghalon, Psa. 66.18. ni wrandawsei yr Arglwydd. Fe fynnasai y gwr ieuangc a ddaeth tan redeg at ein jachawdwr, gadw ei olud, ar hawl yr oedd yn ei erfyn yn neirnas nefoedd, eithr pan ganfu ein jachawdwr yr attaliaeth monwesic hwnw ef Mat. 10.20. aeth ymaith yn athrist. (Medd yr scrythyr) ac am yr ydym ni yn ei ddarllain ni ddychwelodd mwy: mor [Page 77]amhossiol yw wneuthur Crist a Belial yn gyd breswylwyr: rhaid iw bod yn edifeiriol am bob rhyw bechod, cyn ffrwytho vnrhyw weddiau. Er taered a fyddo Joshua gyd ag henuriaid Israel o herwydd y gorchfygiad a gawsant gan wyr Ai, etto ni chair vn atteb arall gan Dduw ond hyn: y mae diofryd beth yn dy ganol di o Israel, ni elli disefyll o flaen dy elynion nes i Josh. 7.13. chwi gymeryd ymaith y diofryd beth och plith chwi. Hyn y mae yr Apostol yn cyfeirio atto, pan yw yn eiriol mor ddifrif ar ei gorinthiaid newydd droi. Profwch chwychwi eich hunain a ydych yn y ffydd, holwch eich hunain ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, sef bod Jesu Grist ynech oddreithr [Page 78]i chwi fod yn anghymeradwy? Yr awrhon ni chyfanneddodd Jesu Grist errioed, lle byddai bechod monwesig yn cadw ei drigfa. Rhaid i weddi y prophwyd David yn y cyflwr hwn wneuthur ffordd in gweddiau. Psal. 139.23, 24. Chwilia fi o Dduw a gwybydd fynghalon, prawf fi a gwybydd fy meddyliau, a gwel a oes vn ffordd anuwiol gennyf, a thywys fi yn y ffordd dragywyddol. Yn yr hon ffordd.
6. Nid oes vn rhwydddeb dedwyddol iw ddisgwyl, os nyni y rhai a erfyniwn danghneddyf Dduw, a ddaw heb ein cymodi an brodyr. Y mae St. Joan yn rhoi y celwydd yn eglur ir hwn, 1 Joa. 4.20. sydd yn proffessu cariad i Dduw ac yn cashau ei frawd; canys (medd ef) [Page 79] yr hwn ni charo ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y y geill ef garu Duw yr hwn ni welodd. Yr hyn a welom sydd yn gweithio mwy gyda ni nar hyn y clywom am dano, a phawb a ddywaid, rhaid i mi goelio fy llygaid fy hun, o flaen chwedlvn arall.
Eithr y modd y mae anghymod an brodyr, yn rhoi yn ofer ein holl erfynniau at Dduw nid rhaid i ni gael addysg ym mhellach nag o enau ein jachawdwr ei hunan.
Yn gyntaf lle y mae yn dywedyd i ni, fod ein holl offrymau yn ofer, os bydd dim anghymod rhyngom ni an brawd, ac am hynny, cyttuna ath wrthwynebwr ar frys (medd ef) tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef.
[Page 80]Yn ail, beth a ddywedwn ni wrth hynny, nad ydym ni yn dymuno maddeu ein dyledion i ni mewn modd arall, ond tan amod (ai ail ddywedyd trachesn a thrachefn iw gadw yn ddyfal) mal y maddeuwn in dyledwyr. Mas. 6.14, 15.
Ac yn olaf ond barn echryslon a adroddwyd yn erbyn y cono a gymerodd ei frawd erfydd ei geg, am ychydig geniogau, a ddarfuasai iw Arglwydd faddeu iddo gynifer o dalentau? Ha was drwg maddeuais i ti yr holl ddyled honno am i ti ymbil a mi: ac oni ddylasit tithau drugarhâu wrth dy gydwas, megis y trigarbevais innau wrthit ti? A ellwch chwi ddarllain hyn sy n canlyn, cymerwch ef y poenwyr, ni faddeuir ceniog [Page 81]iddo, y rhai ni [...]oddan [...] ni chant drugaredd: cyfaddas a ddaw oddiwrth yr hwn a esyd yr athrawiaeth felly y gwua fy nhad nefol i chwithau oni faddeuwch och calonnau bob vn iw frawd eu camweddau.
7. Yn olaf, cythryfwl ac anobaith a dyn ymaith holl seiliau Gweddi ac an try allan i dir Nod gyd a chain, Bren. 4.13 i ddwedyd a chydwybod euog mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu. Neu yn wladwr doeth in crogi ein hunain gyd ag Achitophel neu i roi enw i Aceldema gyd a Judas. Y cyfriw lofruddiaid a gwrthryfelwyr ydynt (megis) yn rhagflaenu barn Duw, ac a dybiant fod poenau vffern yn haws eu goddef, na chydwybod euog.
[Page 82]Bydded eich gofal chwi gan hynny (fy merched) ach gweddiau attolygu ar Dduw, ym mhlith bendithiau eraill, i symud oddiwrthych y rhwystrau rhagddywededig ar weddiau. Abraham a gafas boen fawr pryd yr oedd yn aberthu i gadw yr adar oddiwrth ei ddifa ef. Ac hwyn gynted ac yr ymddangosodd Joshua yr Archoffeiriad yn erfyniwr truanddlawd yn ei ddillad budron am gael rhyddhau Zech. 3.1. ei gydwladwyr oi carchar, fe saifai Satan ar ei law ddeheu iw wrthwynebu ef: gwrthwynebwch ddiafol (medd yr Apostol) ac Ja [...]. 4 7. [...]fe a ffy oddiwrthych. Ni wneir mo hynny o nerth arfau, nag wrth ymprydio yn vnig, neu elusenau (pa wedd bynnac yn ganmoladwy [Page 83]y modd y maent) eithr trwy weddiau parhaus defosionol seiliedig ar eiriau ein jachawdwr na arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg. Ac ar hyn wedi ei roi ef i ffo os yspryd drwg, a ddychwel a saith waeth nag ef ei hun, oi gefeillion dichellgar i ddiwadnu. Tarian y ffydd a fydd digonol i ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall, Eph. 5.18. os trinir a gweddiau beunyddol a deisyfiad yn yr yspryd, a bod yn wiliadwrus at hyn yma trwy bob dyfal bara: megis y mae yr Apostol in siccrhau ac y cymerir mewn llaw yn gyflawnach yn yr hyn sydd yn canlyn.
PEN. VI. Y moddau cynnorthwyol in cynhyrfu ni ym mlaen yn ein herfyniau.
YR hwn sydd ai fryd ar adeiladu twr (chwi ellwch weled pwy a ddaliodd sulw ar y peth) yn gyntaf a eistedd i lawr, a bwrw y draul, Luc. 14 28 i edrych a oes ganddo ai gorphenno, rhag wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb ai gwelant ei watwer ef, gan ddywedydd y dyn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orphen. Yn hyn, mae cyflwr yr rhai a wnant eu herfynniau at Dduw wedi ei roi ar lawr: Pob math ar faglau gwahaniaeth, hudoliaeth, attaliaeth [Page 85]a deflir yn ei ffordd: oddieithr i ragflaeniad a chynnorthwy ddyfod oddi vchod ai arfera yn ddiwyd genym, ni phrifia ein hamcanion goreu ond cychwyniadau, megis' sail ddechreuol ag eisiau pwn i ddibenu yr adeilad: y cynnorthwy gorau ar ein lles yn hyn o beth a ellir ei gyfrif yw:
1. Myfyrdod.
2. Addunedau.
3. Ympryd.
4. Elusenau.
5. Gofwy y claf ar anghenus.
6. Mynych fyned ir gynylleidfa dduwiol, a chyfreithlon.
7. Cymeryd attom holl arfogaeth Duw, fal y gallom wrthsefyll yn y dydd drwg, ac gwedi gorphen [Page 86] pob peth, sefyll. 1. Y modd y mae myfyrdod a gweddi yn gyfnewidiol yn helpu y naill y llall. Y mae y Psalmydd yn dangos yn ei foreuol ai ddifrif gynllwyniad o honynt. Gwrando fyngeriau Arglwydd a deall fy myfyrded. Eurglyw ar lef fyngwaedd fy mrenin am duw, canys arnat y gweddiaf yn foreu Arglwydd y clywi fy llef, yn foreu y cyfeiriaf attat, ac yr edrychaf i fynu. Yr hyn wedi iddo ef wneuthur gan droi yn ddifrifol tros dri o lyfrau, llyfr natur, llyfr yr Scrythyr, a llyfr y cydwybod, (yr rhai a saif yn egored bob amser i bawb i edrych arnynt) y mae yn cloi i fynn ei olygiad crefyddol ar diben dymunol hwn: bydded geiriau fyugenau a myfyrded [Page 87] fynghalan bob amser yn gyglwydd Psa. 19. meradwy oth flaen di O Arfy 14, 15. nerth am gwaredydd. Hyn oedd arfer Isaac sanctaidd (yn ddiammau yn ol athrylith ei Dad da Abraham) aeth allan i fyfyrrio yn y maes y min yr hwyr i weddio medd yr ymyl yn y cyfieithiad diwaethaf, gan arwyddoccau fod gweddi heb fyfyrdod ond megis cenad a redai heb ei neges. 2. Addunedau eill fod yn help i weddi yn ol myrfyrdod pwyllig, onide hwy a allant brifio yn hyll ac yu bechadurus. Y rhai a wnaethom trwy ein Tadau bedydd an mammau bedydd, yn ein Bedydd i ymwrthod ar byd, y cnawd, ar cythrael ai holl wychder ai gwagedd a allai ein dal mewn ffordd [Page 88]vnion, (heb osodiadau pellach on gwaith ein hunain neu ailgyfraith Fynachaidd) pe cedwid hwynt cystal ac y gosodwyd hwynt yn ddoethgall yn y Catechism: eithr y cyfriw yw ein gwendyd sigledig an hysfa yn ol newydddeb, mal y mae yn rhaid i ni gael gwers newydd cyn dysgu yr hen, ac ni chlywn ni flas ar Manna Nid archwaethwn. or nefoedd, os tyf yn rhy gyffredin: chwi a wnaech yn dda am hynny (fy merched) na addunedech fwy nag a aethoch chwi tano yn barod, neu na addunedoch ffordd arall ddim, ond yr hyn a fo yn tueddu i gyflawni yr hyn yn arbennig o flaen Duw ai Ecclwys a addawsoch chwi yn barod. Canys er bod vfudd dod y Rechabiaid [Page 89]i orchymynnion eu Tad Jonadab yn ganmoladwy yn yr Scrythyr, mal yn esampl am gadw y pumed gorchymyn, etto y rhwym Phareseaidd am eu Corban hwy a neullduodd y plant oddiwrth vfudddod iw Tadau, neu roi Angenoctid. ymwared vddynt yn amser ei angenrhwydd, a hybir gan ein Jachawdwr, megis cynnyg i gilgwthio cyfraith Dduw, mal y gallo traddodiadau dynion gymeryd lle. Mor ddoeth y mynnem ni ein gwneuthur ein hunain i berffeiddio Tecst Duw, an nodau emylau ein hunain, a gosod trefn am ffordd i gyfeirio yn vnionach ir nef, nag yr oedd ef, yr hwn yw r ffordd, y gwirionedd, Job. 14.6. ar bywed, yn wiw neu yu fodlon ganddo [Page 90]cu dangos ar ei ol. Echres oedd y digwyddia dau trymion o Adduned anysty-Barn. 11.39. riol Jephtha. A pheth oedd adduned Saul am ladd Jonathan? 1 Sam. 14. &c. pe. 25. A David am ladd Nabal, ai holl deulu pa fodd a fuasai oni buasai i Dduw yn ei drugaredd roi ei law yn y gwaith? Ein addunedau gan hynny (pryd y gwnelom rai anghyffredin) sydd raid vddynt fod, yn warantedig trwy air Duw. 2. Yn gymmwys i gyflwr ein bywyd. 3. Ynghylch pethau a fyddai yn ein gallu. 4. Yn ddiniwaid i bawb heb gam a neb. 5. Yn gyfnewidiol wrthanghenrhaid. Yn tueddu ollawl i ogoniant Duw, daioni yr Ecclwys ar Gyffredinwlad, lle byddom yn byw. 7. Na byddo vn modd yn lluddios [Page 91]neu roi i lawr gyflawniad vnrhiw ddyledion Cristnogawl, a berthyno i ni yn gyfiawn. Addunedau neu ymroadau or cynneddfau hynny, a ddichon fod yn gymorth bywiol in gweddiau, Mal. y 3. Y mae yu rhaid cydnabod mai ympryd yw yn gyffredin yr hwn a gysylldir a gweddi; Inat. 17 2. y mae ein Jachawdwr yn crybwyll rywogaeth ar gythreuliaid nid ant allan trwy weddi yn vnig, ond trwy ympryd cysylldedig a gweddi lle y mae ympryd yn ein cymwyso ni atti. Y rhai sy n gweiddi am fwrw i lawr ein ymprydiau Grawys, y gydcorriau, ymprydiau ar nos yr wyl yn ol trefn rhagscrifenudig yn ein Heglwys, allant yn gystal [Page 92]weled bai ar y dydd gosodedig am gymod i gystuddio Levet. 23.26. eneidiau yn yr hen Destament, Num. 29.7. ac ar St. Paul am gospi ei gorph ai ddwyn yn gaeth (yn y Testament newydd) heb yr hyn ni allasai 1 Cor. 9.27. ei bregethu moi ryddhau ef, rhag bod yn anghymeradwy. Goreu y gwnewch chwi gan hyuny (fy merched) gadw yr ordeiniadau ar trefnau daionus gwarantedig hyn yn eich teuluoedd. Eich eleusenau a fydd helaethach, i dderchafu eich gweddiau rhagddynt. Act. 10 3. 4. Yn y pedwerydd lle. Cornelius (medd yr Angel) dy weddiau ath elusenau a ddaeth i fynu yn y goffadwriaeth o flaen Duw: gan ragweled bob amser na byddo nar rhain nath ympryd yn gymysgedig a [Page 93] gwagogoniant Phareseaidd, neu ragrith i ymddangos i ddynion, yr hyn y mae ein jachawdwr yn ein rhybuddio am dano, megis o surdoes yn llygru yr holl does lle. 5. Y mae gofwyo y claf neu unrhiw anghenus arall yn ol ein gallu yn gwneuthur ffordd lan i gael gwrando ein gweddiau, ac ymwared in anghenion. Canys onid yw ein jachawdwr yn gosod y cyfriw roddion tylodion allan (etto nid on ei ddaw ein hunain ond y rhai tros amser yr ymddiriedir i ni am danynt) ar ei gyfrif ei hunan. Bum newnog a chwi a roesoch i mi fwyd; bu arnaf syched a rhoesoch i mi ddiod, bum ddieithr a chwi am dygasoch gyd a chwi: noeth, dilladosoch fi, bum [Page 94] glaf ac ymwelsoch a mi, bum yngharchar a daethoch attaf. Yr hwn sydd yn craffu i anrhydeddu y cyfriw brofiadau bychain, gan roddi vddynt enw Bendigedig, ac yn eu coroni hwynt trwy ei anfeidrol drugaredd a dedwyddwch tragywyddol, a wrthyd ef yr erfynniau a ddelo ar fath gyd-gefeillach, yn enwedig os yn eu hyrfa y cymerant boen i fod yn danghnefeddwyr? Mat. 5.9. Canys hwy a anrhydeddir ag enw neu ditl Plant Duw Yr holl radau, anhrydedd ar cymeriad da a ddeallir yn well, ac a gynnydda gyd a ni, os. 6. Byddwn ni crefyddol a chyfannedd i gyrchu ir cynylleidfau gosodedig, yn yr amserol ar lleoedd trefnedig i gyhoeddus sanctaidd addoliad y [Page 95]Duw goruchaf. Nid i wrando ac i ddal sulw yn vnig pa ddoniau sydd in dysgawdwyr, eithr i wrando ar yr Scrythyr ai darllain yn drefnus, gan y Gwenidog cyfreithlon, yn ol rhagweledig ordinhad yr Ecclwys mal yr Eglurwyd yn ein calendrau, ac i gyfuno ag ef ar darn arall or gynylleidfa i gyffesu ein pechodau, proffesu ein ffydd, ac vn lleferydd ag un galon i offrwm i fynu ein gweddiau, megis aberth o arogl peraidd o foliant a diolchgarwch in Tad yr hwn sydd yn y nefoed trwy Jesu Grist ein vnig Arglwydd an jachawdwr. Dyma yr hyn y mae r Apostol yn ei erfyn; daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, ac ystyrriwn bawb ei gitydd i ymanneg i gariad [Page 96]a gweithredoedd da, Heb. 10.23, 24.25. heb esceuluso ein cydgynnilliad ein hunain megis y mae arfer rhai. Rhai ofergoelaidd a schismaticaidd wrthodwyr, Recusantiaid. oeddynt y pryd hynny mal y maent yr awrhon. Canys y gweddiau cysylltedig, a darllain y Scrythyrau mewn trefn, ydynt y Sail ar yr hon y mae adeiladu a chodi i fynu bregethau a a chyngorion trwy yr rhai y catechisir ac y dysgwch eich gwyddorion yn ffyddlon, y peth sydd iw gredu, ar modd i weddio, a pha agwedd i gyflawni eich dyled tu ac at Dduw ach cymydogion: a pha ffydd gobaith a chariad perffaith, i wneuthur och bedydd, ac i dderbyn y Sacrament fendigedig o Swpper yr Arglwydd: yn awr ym mha [Page 97]le y dysgir y pyngciau yma o jechydwriaeth (yn enwedig gan y cyffredin) ond yn ein cynylleidfaoedd cyhoeddus? y rhai os troi r heibio neu eu cwttogi, y rhan fwyaf or Pregethau a adeilada ychydig ychwaneg nag udcorn a fyddai yn rhoi swn aniogel tu ac at yr ymladd, yr wyf ich cynghori gan hynny (fy merched) i fod bob amser yn bresenol gyd ar cyfriw a berthynant i chwi, ym mhob vfudd-dod crefyddol, ym mhob gweddiau cyffredin, Periodasau, Bedyddfau rhyddhau gwragedd, claddedigaethau, neu gynylleidfaoedd gorychymynedig eraill, ar achosion arbennig neu neullduol, yn enwedig i fod yn gyfranogion o Swpper yr Arglwydd, lle y cyfrennir [Page 98]mewn trefn yn grefyddol. Canys yn y cyfriw Gymun o Seinctiau (nid wedi eu bedyddio felly honynt eu hunain eithr ynghifrif Duw) chwanegwch at eich ffydd rinwedd, ac at eich rhinwedd wybodaeth ac at wybodaeth gymedroldeb, ac at gymedrolder, amynedd, ac at amynedd duwioldeb, ac at dduwioldeb garedigrwydd brawdol, ac at garedigrwydd brawdol cariad. 2 Pe [...]. 5.6, 7. Y pethau, hyn yn amlhau ac yn gyflawn ynoch ach gwnaiff chwi yn nerthol mewn gweddi, yn ffrwythlon mewn gweithredoedd da, yn gyssurus yn eich galwedigaeth, yn ddisigl a dianwadal yn eich taith ach yrfa, yn fodlon ich cyflwr, yn ddedwyddol yn eich plant ach teulu, [Page 99]yn ddiddan ich cymydogion ach cydnabyddiaeth. Yn hytrach os goruwchwilir hwynt a holl arfogaeth Duw, yr hyn y mae yr Apostol yn ei roi yn glodfawr annerch attom. Ac,
7. Yn claf, ni an dygwn ein hunain megis i noddfa ddiogel, a thwr ymddiffyn, siccrhau ein gweddiau gan yr Arfogaeth hon:
1. Y mae r traed wedi Ephes. 6.15. ymwisco a pharatoad Efengyl tangneddyf: y cyfriw dangneddyf na ddichon y byd ei roddi; hyn an harwain yn y ffordd vnion, ac an rhyddha rhag gaulwybrau, neu daro ein traed wrth gyffion neu gerrig. A gydse [...] n. yr hwn bob amser sydd gyson iddo ei hun; ac [Page 100]ni thynnir or ueulldu gan wnniau tueddol neu hoffder o neullduaeth.
3. Y ddwyfron a amgylchir a dwyfroneg cyfiawnder, nid on eiddo ein hun, yr hwn sydd or gyfraith, ond yr hwn sydd trwy ffydd Grist sef y cyfiawnder sydd o Dduw trwy ffrdd.
4. Y llaw aswy nesaf ir galon wedi ymwisco a tharian y ffydd, mal y pryd y byddo Satan ai biccellau tanllyd yn barod i yrru cydwybod euog i anobaith, g [...]n ddychryndod digyfnewidiol gyfiawnder Duw, y mae ffydd yn barod garllaw ar diffoddyn, megis a phardwn i ragflaenu y dihenydd. O phecha neb y mae i ni ddadleuwr gyd ar Tad, Jesu Grist y cyfion efe yw r aberth tros ein pechodau. [Page 101]Trwy friwiau yr hwn in 1 Jo [...]. 2.1, 2. jachawyd yr rhai aethem megis defaid ar gefeilorn, 1 Pet. 2.24, 25. eithr yn awr a ddychwelasom at fugail ac escob ein eneidiau.
5. Y llaw ddehau a gymhwysir a chleddyf yr yspryd, yr hwn yw gair Duw, yr hwn nid yw yn vnig yn ymddiffynnol ond niweidiol, bywiol a nerthol, a llymach nag vn cleddyf daufiniog, yn cyrhaeddyd trwodd, hyd wahaniad yr enaid ar yspryd, ar cymalau ar mêr: ac yn barnu meddyliau a bwriadau y galon: hyn a wylltiodd ac a ddychrynodd y Temptiwr wrth osod ar ein jachawdwr yn yr anialwch, or hon orfoledd y gwnaethbwyd ni yn gyfranogion wrth arfer yr vnrhiw arf yn vnion.
[Page 102]6. Y pen a ddiofalhauir a tharian jechydwriaeth gosododig ar addawidion y tad yn ein gwaredydd Jesu Grist, yn yr hwn yn vnig y bodlonir ef. Yr holl amrywogaeth hynny o Arfogaeth profedig, a gair ynghyd, ac a wnair yn ddeunydd lawn i ni.
7. Trwy weddi ac erfyniad yn yr yspryd, Eph. 6.18. a bod yn wiliadwrus at hyn yma trwy bob dyfalbara (megis y dengys yr Apostol yno) a hynny trwy fod gwir angenrheidrwydd yn ymddangos. Canys nid ydym yn vnig yn ymdrechu yn erbyn cig a gwaed, ond yn erbyn Tywysogaethau, yn erbyn galluogrwydd, yn erbyn llywawdwyr Tywyllwch y byd bwn; yd erbyn anwiredd ysprydol mewn lleoidd [Page 103]vchel, yr hyn bethau sy raid vddynt fod yn beryglus i ni.
1. Am eu arafwch y rhai a ymgais a ni.
2. Am eu bod yn ddiangol rhag briwiau a niweidrwydd, gan eu bod hwy yu ysprydion, lle yr ydym ni yn gig a gwaed.
3. Am eu Tywysogaethau, trwy yr rhai y maent yn perchnogi rhagorfraint arnom ni.
4. Am eu galluogrwydd, trwy yr hyn y byddent yn fuan yn drech na nyni.
5. Trwy eu llywodraeth mewn Tywyllni, yn yr hyn yn ddiarwybod y maglent nyni yr rhai ni welwn beth a wnawn.
6. Hwynt hwy gan eu bod yn ysprydol ac anweledig, nyni yn gnowdol ac [Page 104]yn egored ir holl ruthrau.
7. Hwynt hwy mewn lleoedd vchel, nyni yn y tir isaf pan fynnent i fyned arnom.
Y Rhagoriaeth ar manteisiau gan hynny, gan eu bod mor aml ac mor bwysig, onid yw yn sefyll arnom ni fod yn arfog (megis o ben i droed) i wrthsefyll yr holl nerthoedd hyn yn y dydd drwg; a chwedi gwneuthur oll i sefyll? yr hyn os mewn temestl anguriol yr ofnwn mae prin y gallwn ddal allan; dychwel sy raid at ein jachawdwr trwy weddi, gyd ai Apostolion mewn perigl o foddi, o feistr, feistr darfu am danom, mal y gallo godi a cheryddu y gwyntoedd ar tonnau; ac yno taw [...]lwch dymunol a ganlyn. [Page 105]Yr hyn mal y gellir ei ganfod y penod nesaf a ddichon mewn rhyw fodd gyfeirio atto ai ddangos.
PEN. VII. Am wilied am atteb grasusol oddiwrth Dduw ar arwyddion diogelaf o adnabod hynny.
NI rydd neb erfynniau at arall ond a ddisgwyl am atteb, or modd y byddont yn sefyll. Gweision Benhadad yr rhai oeddynt ymbilwyr mewn sach liain a rhaffau o amgylch, eu pennau tros eu meistr, at Ahab orfoleddus a ddalient sulw yn ddyfal a ddeuai dim oddiwrtho ef, ar a allent hwy graffu [Page 106]arno. Ar rwymedigaeth Ester ym mhlith y gweryfon iw dwyn at Ahasferus i ddewis brenhines. Mordedecai a rodiodd be [...]nydd o flaen cyntedd ty r gwragedd, i wybod llwyddiant Hester a pheth a wnelid iddi, y mae yn rheidiach o lawer i ersynwyr Duwiol a roesant i fynu eu gweddiau at Dduw, mewn matterion or berthynas oruchelaf: i wilied beth a fydd y digwyddiad o honynt, mal os llwyddant y byddo eu diolchgarwch yn gyfattebol: os amgen eu gofal i chwilio allan y lle y mae yr attaliaeth, a holl ddiwydrwyd a ellir ei arfer iw symud ef. Ar hyn y mae r Psamydd yn ymroi: Gwrandawaf beth a ddywaid Psa. 85.8. yr Arglwyd Dduw canys efe a draetha heddwch iw b [...]bl, [Page 107]ac iw Sainct, mal na threant drachefn at ynfydrwydd. Felly Michah yn ail, y pryd nad oedd na chefaill na gwraig na phlant llai o lawer gweision i ymddiried vddynt mi edrychaf ar yr Arglwydd Mic. 7 9. (medd ef) disgwyliaf wrth Dduw fy iachydwriaeth, fy Nuw am gwrendy. Yr unrhiw ddisgwyliad a welwn ni Habacuc yn ei broffesu, gan ddisgwyl beth a wnai Dduw ynghylch y dinistr bygythiol oddiwrth y Caldeaid yr hwn y bu ef ddifrifol i weddio yn eu herbyn, safaf fynisgwylfa (medd ef) ac ymsafydlaf ar y Twr, ac a wiliaf i edrych beth a ddywaid ef wrthyf, a pheth attebaf pan im cerydder. Canys yr hwn a dybio yn ddigonol weddio, heb ddal [Page 108]sulw pa ffrwyth a ddel o honi, ellir ei, gyffelybu ir ostrids yr hon a âd ei hwyau yn y ddaiar, ac ai cynhesa hwy yn y llwch heb fawr brisio beth a ddel o honynt wedi hynny. Rhaid in dichlyndod gofalus fod yn fwy na hynny, nid yn vnig i weddio yn wresog, eithr i wilied yn ammyneddgar nes gweled rhyw arwydd ar ein daioni, am ein cyssur mewn bywoliaeth dda, a chywilydd ir rhai au cashant; nid yw Gwyrthiau i ddysgwyl am danynt yma, yn y cyfriw oleuni eglur or Efengyl, yr hon a gadarnhawyd trwy wrthiau: eithr dal sulw ar ddigwyddiadau a ddylid, mal y gallom ddirnad, Pa cyn belled y cyrhaeddodd nerth ein gweddiau.
[Page 109]Pan welodd gwas Abraham ai lygaid y modd y llwyddodd yr holl bethau a weddiasai ef am danynt, wrth waith parodrwydd Rebecca yn rhoddi iddo ddiod, ac yn dyfrhau ei gamelod, ni amheuodd na wrandawsai Dduw ei weddi.
A chyssur Hannah yn ol gweddio at Dduw am gael mab oedd eglurwch odiaethol, na fwrid moi gobaith yn ofer.
Logic neu ymresymiaith Gwraig Manoah yn y cyfriw achosion a eill sefyll am reol, y weithred an harwain ni at y gweithredwr, y hynny a welwn at y peth y c [...]wiliwn ar ei ol. Pe mynnasei (medd hi) yr Arglwydd ein lladd ni (mal yr ych chwi fyngwr yn tybed) [Page 110] ni ddyrbynuiasei ef boeth offrwm, a bwyd offrwm on llaw ni, ac ni ddenghosasei efe i ni yr holl bethau hyn, ac ni pharasei efe i ni y pryd hyn glywed y fath bethau. Ar ddadliaith y wraig hon gan hynny, pa ham na ddichon y gwyr goreu ar gwragedd fyned ym mlaen fal hyn i gasglu a dyfalu beth a ddaw oi gweddiau duwiolaf? Y mae r Apostol at y Galatiaid yn gosod i lawr naw o ffrwythau yr yspsyd a phwy bynnac sydd yn gynysgaeddol or rhain nid ydyw tan vnrhiw gyfraiih gondemnedig yr rhain ydynt, 1. Cariad. 2. Llawenydd. 3. Tanghneddyf. 4. Hirymaros. 5. Cymwynasgarwch. 6. Daioni. 7. Ffydd. 8. Addfwynder. 9. Dirwest.
[Page 111] Oc yn ol tywallt ein erfynniau Gal. 5.22, 23. gostyngodig at Dduw yn ol holiad didueddol ein cydwybodau dieuog, y cawn ein cariad i Dduw a dyn yn cynnyddu, ein llawenydd, trwy ryw ddigwyddiadau daionus yn derchafu, ein heddwch, yn gystal i mewn, ac allan, wedi ei gadaruhau, ein hir ymaros wedi ei fywhau, ein cymwynasgarwch heb ei gamarfer, ein synwyr neu ein daioni yn fwy cymeradwy, ein ffyrdd neu ein ffyddlondeb yn cael ymddiriaid ynddynt, ein addfwynder yn ynnill eraill, an cymedroldeb tymerus mewn rhiw fesur da yn gwellhau; pa ham na allwn ni ddibennu neu goncludio fod ein holl weddiau wedi ei cymeryd i mewn, ai gosod ar y llinyn, neu r ffil yn Stafell [Page 112] Seren Duw, i feddwl ym mhellach am danynt in daioni an lles ni? Canys wrth ein gwaith yn rhodio yn yr yspryd mal y mae r Apostol Gal. 5.16. yn rhoi rheol yno) ni gawn wybod pa ffordd y mae r yspryd yn chwythu, wrth yr hwn yr ym yn byw. Ac ir rhodio hwn yn yr yspryd, y mae n rheidiol saith cydymaith.
1. Goleuni heb yr hwn nid oes na rhodio na gweithio. Y mae r nos yn dyfod pryd na all vn dyn weithio.
2. Hyder i ddyfod o hyd ir nefoedd, Joa. 9.4. Psa. 107.30 lle mynnem ein bod yn gimaint nad ydym ni yma ond dieithriaid a Psa. 39.2 Cor. 5.6. phererynnion.
3. Cariad ir wlad ir hon yr ydym yn rhodio; wrth fod yn absenol oddywrth [Page 113]yr hon, y mae hiraeth David, pa bryd y deuaf, ac yr ym ddangosaf o flaen Duw, yr hen Simeon yn ceisio ei lythyrau gollyngdod yr awrhon Psa. 42.2. Arglwydd y gollyngi dy was i ymadel mewn tanghneddyf, Luk. 2.15. yn ol dy air: a dymuniad St. Paul i gael ei ymddattodiad Phil. 1.23. ac i fod gyd a christ.
4. Diogelwch on bod yn y ffordd vnion atti, gwelwch pa fodd y rhodioch yn ddiesceulus (medd yr Apostl) nid fel anoethion ond fel doethion gan brynur amser oblegit y dyddiau sy ddrwg.
5. Sobrwvdd, Psa 119.1.5. canys gwynfydedig yw yr rhai perffaith eu ffyrdd, y rhai a rodiant ynghyfra [...]th yr Arglwydd, yr hon ai harwain yn ddiogel fendigedig.
[Page 114]6. Heddychlonrhwydd ai cyd-ymdeithwyr, gwelwch na syrthioch allan ar y ffordd (medd Joseph wrth ei frodyr) yr hyn fynychaf a wnawn trwy wag ogoniant, (hynny y mae r Apostl yn ei ddanod( gan ymannog ei gilydd gan genffigennu wrth ei gilydd, pryd y mae cyffredin flinderau neu fendithion, yn ein annog ni fwyaf i vndeb.
7. Diddanwch syn melysham yr holl groesan ar y ffordd ac an cyssura ni i fyned ym mlaen gyd a siccrwydd or goron, a osodwyd on blaen ni: y rhai a ocheneidiant ac a waeddant am ffieidd-dra yr amseroedd, ac a welant (megis) llaw dduw yn dderchafedig i daro, a gant weled rhai wedi eu nodi (megis [Page 115]yn Ezeciel ar Dadcuddiad) Eze. 9.4. Dad. 7.3. yr hyn a allwn ni wybod ynom ein hunain, os gwelwn gyfluniad rhwng ein gwe thredoedd an erfynniau. Canys oni ddichon ef yr hwn (megis gwir Nathaniel heb dwyll) syn ei gael ei hunan yn ostyngedig ynddo ei hunan, yn alaru am ei bechodau, yn addfwyn wrth ei gefeillion, yn newynu a sychedu i wneuthur daioni i bob dyn; yn drugarog wrth y truan; yn bur yn ei amcanion, yn amyneddgar yn diod [...]ef camau, er mwym cyfiawnder, ddiweddu yn ddiogel fod n [...]d o fendith wedi ei daro arno, yr hwn yw r prif nod, y mae ein gweddiau yn saethu atto ond paham y rhaid i ni fyned ym mhellach yn hyn o beth [Page 116]na gweddi r Arglwydd: os gwelwn ein meddyliau yn ddidueddol yn ymdrechu i amgylchu:
1. Sancteiddio enw Duw vwchlaw pob peth.
2. I dderchafu ei Deirnas ai ecclwys.
3. I wneuthur ei ewyllys yn cadw ei air.
4. I gydnabod gyd ag holl ddiolchgarwch ein bara beunyddiol.
5. Ein parodrwydd i faddeu i bawb eraill ei camweddau yn ein herbyn, fel y gallom dderbyn maddeuant on holl bechodau oddiwrtho ef.
6. Ein deisyfiadau i fod yu rhydd oddiwrth holl brofedigaethau y cnawd ar byd, yn yr rhai in difethir, os gadewir ni i ni ein hunain. Ac,
[Page 117]7. On ymddiffyniad rhag rhuthrau a dichellion y llew rhuadwy hwnnw yr hwn sydd bob amser yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu. Oni ddylai y cyfriw ddeisyfiadau calonnog, y rhai ni allant gyfodi oddiwrth ein nerth ein hunain, ein siccrhau ni fod adroddiad calonnog y weddi hon o gysylltiad y mab, yn cael ffafor gyd ar Tad, in buddygoliaeth oreu ni mewn amser dyledus iw gyflawni.
Mal hyn y cawsoch chwi (fy mhlant anwyl) angenrheidrwydd Gweddi, ac at bwy y mae ei thueddu, y pethau sydd i ni i weddio am danynt; ac anrhydedd cyfreithlon iw arfer wrth ofyn: yr attaliaeth a eill ei rhwystro, ar cymorth eill [Page 118]ei gwneuthur yn ffrwythlon, yr arwyddion trwy y rhai y gallwn ddywedyd or diwedd fod ein gweddiau yn cael ffafor i gael eu derbyn. I roi diben dedwyddol gan hynny ir paratoad yma: pryd y gosodom ni ein hunain i weddio yr hyn (mal y dywaid yr Apostol i ni) 1 The. 5.17. sydd raid bod yn ddibaid.
1. Anherfynol Fawrhydi Duw.
2. Ein Gwaeldra ein hunain.
3. Twyll a chynddeiriogrwydd ein gwrthwynebwyr, y cnawd, y byd, ar cythrael.
4. Pwys y gorchwyl, yr awn yn ei gylch, sef vn ai ein gwneuthur, ai ein anrheithio yn ollawl.
5. Yr hawl sydd genym yn ein jachawdwr Jesu [Page 119]Grist, yr hwn a wnaeth y cymod trosom.
6. Y cyfrif diddiangol sydd i ni iw roi, ar anhyspysrwydd or amser y gelwir am danom.
7. Yn olaf, vnionder y farn ddigyfnewidiol, sydd raid ei ystyrried yn ddiesceulus ac yn grefyddol ei osod at y galon, megis y gallom felly broffesu gyd ar Psalmydd: Psa. 4 8, 9. ciliwch oddiwrthyf oll weithredwyr anwiredd canys yr Arglwydd a glywodd lef fy wylofain, clybu r Arglwydd fy neifyfiad yr Arglwydd a dderbyn fy ngweddi. Y modd y gwnewch hyn yn neullduol, mi rof gais ar osod i chwi hyfforddiad eglur, yn yr hyn a ganlyn.
YR AIL RHAN Ynghylch Gweddi neullduol.
GGeddiau a wyddir eu bod vn ai yn neullduol ai yn gyhoeddus, yr rheini a gyfrifir yn neullduol, yr rhai nid ydynt yn vnig yn cyfwrdd ac achosion neullduol, eithr mal y maent yn rhagori oddiwrth weddiau parchedig mewn cyfarfod cyhoeddus, yn nhy Dduw, ac, a ellir eu cyfrif i fod megis:
1. Personol, neu weddiau yn ddirgel.
2. Cartrefol neu weddiau yn y Teulu.
3. Bendithiau neu gyfarchiadau achosawl.
4. Psalmau, Hymnau o gerdd ysprydol cyfaddas i amriw ddigwyddiadau.
5. Ergydiau, ar bob math o feddyliau ueu wrthddrychau.
6. Galarnad am bechod, neu drueni:
7. Annogaeth, neu gyssurwch i bob math ar Gristnogawl ddiddanwch, a [...] ymroad.
PEN. I. Am bersonol neu ddirgel weddiau.
Y Cweslwin a osododd yr Apostol yw: pa ddyn a edwyn bethau dyn, 1 Cor. 2.11. ond yspryd dyn yr hwn sydd ynddo ef? Ac ni ellir ei atteb fodd arall ond fel yr attebodd ef yn lle arall: fod yspryd yn mabwysiad trwy r hwn yr ydym Rhuf. 8.15, 16. yn llefain Abba Dad yn dwyn testiolaeth an hyspryd ni ein bod ni yn blant i Dduw.
Yr yspryd hwn sydd gydwybodol an llygredigaethau ni, ac an pechodau diogelaf; am ba rai os ein calonau an condemna ni, y mae Duw yn fwy nan calonnau, [Page 124]i gospi ac i drugarhau; Joh. 3.20, 21. fel y byddo ei gyfiawnder neu ei drugaredd yn ei dywys ef: eithr os ein calonnau nin condemna yno y mae i ni hyder tu ac at Dduw.
Rhaid yw ymgynghori a llyffr y cydwybod yn y cyfriw achosion yn vnig: oddi yma yr oedd yr awenydd fiydiol ir nefol anadledig Psalmydd: Psa 139.1.22.4. Arglwydd chwiliaist, ac adnabuost fi. ti odwaenest fy eisteddiad, am cyfodiad deelli fy meddwl o bell, Amgylchyni fy llwybr am gorweddfa, ac hyspys wyt yn fy holl ffyrdd. Canys nid oes air yn fy nhafod ond wele Arglwydd ti au gwyddost oll. Ir vn deunydd yw r cydnabod ystyrriol hwnnw, mewn lle arall. Pwy a ddeall [Page 125]ei gamweddau, Psa. 19.12, 13, 14. glanha fi oddiwrth fy meiau cuddiedig, Attal hefyd dy was oddiwrth bechodau rhyfygus na arglwyddiaethant arnaf, yno im perffeithir ac im glanheuir oddiwrth anwiredd lawer. Dyma gynnydd pechod, megis plentyn yn y groth. Oddiwrth symudiadau prin ystyriol, i wneuthur anwireddau dirgel; yr rhai oni chyfarfyddan a thiw senn gyhoeddus, hwy a feiddiant bob yn ychydig ymddangos ar gyhoedd, a chynyddu or diwedd ir anwiredd mawr hwnnw i serrio eu cydwybod, 1. Tim. 4.2. ai wneuthur ef yn ddibris o vffern neu r nefoedd: y neidr hon oni leddir, yn wy a ddaw yn y man yn Sarph hedegog tra-pheryglus; yr hon yn vnig a ellir ei churo [Page 126]i lawr ai lladd trwy weddiau personol i wrthwynebu y profedigaethau, dychryniadau ar rhuthrau an gorthryma yn fwyaf: yn awr yr rhain sydd vnig adnabyddus i Dduw a ninnau ein hunain; Ar Tad a wel yn y dirgel ein deisyfiadau neullduol, an gobrwya yn egored iw ogoniant, ac in lles goreu. Hyn a wyddai Jacob yn dda, ac am hynny ar y newydd dychrynllyd o fod ei frawd Esau yn dyfod a phedwar cant o wyr yn ei erbyn ef, ef ai gosododd ei hun at y weddi bersonol effeithiol yma, mal y rhoesai ofn yn ei ben ar yr achos bresennol hon: O Dduw fy uhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, ti Arglwydd yr hwn a ddwedaist wrthyf, dychwel ith wlad [Page 127]ac at dy genedl ac mi a wna ddaioni i ti, ni ryglyddais y lleiaf oth holl drugareddau di, nag or holl wirionedd a wnaethost ath was, oblegit am ffon y daethym tros yr Gen. 32, &c. Irddonen hon, ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai, Achub fi attolwg o law fy mrawd o law Esau, oblegit yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod o hono ef am taro ar fam gyd ar plant. Mal hyn yr ymaflodd ef a Duw ac a gafas fendith, ac fel hyn y mae n rhaid ir holl genedlaeth o honynt wneuthur; Ps. 42.6. ai coifiant ef, ie y rhai a geisiant dy wyneb di o Jacob. Pa beth oedd yr ysbaddaden bigog ynghnawd St. Paul ai cernodiodd ef i ostyngeiddrwydd, nid oedd neb yn gwybod hyn ond efe ei hun, eithr pa [Page 128]feddyginiaeth a welwn ni iddo gymeryd iw thynnu ymaith? dim yn y byd ond gweddi bersonol. Am y peth hyn (medd ef) mi attolygais ir Arglwydd ar fod iddo yn adel a mi. Ar atteb a dderbyniodd gan Dduw oedd dragrasusol. Digon i ti fyngras i canys fy nerth i a berffeithir mewn gwendyd. Yn yr rhain ar cyffelyb ymarfer o dduwioldeb, y mae i chwi Sampleri (fy merched) y medd ich cymhwyso eich hunain a gweddiau personol, ar bob rhiw ddigwyddiadau neullduol: pechodau monwesig, temptiadau cnawdol, a diffygion dirgel ydynt yn digwyddo ir gorau, ac ni wyr neb gystal ple y mae r esgid yn gwasgu a hwn ai gwisg hi: yn y cyfriw [Page 129]achos gan hynny angenoctid y matter a ddychymig yn fuan, ffurf cyfattebol in dymuniadau: nid oedd ar Hannah ddigllon amhlantadwy, eisiau vn i adrodd wrthi heblaw chwerwedd ei henaid i ddysgu iddi weddio mal hyn at yr Arglwydd: O Arglwydd y lluoedd os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac am cofi i, ie nid anghofi dy lawforwyn, onid rhoddi ith laforwyn fab, yna y rhoddaf ef ir Arglwydd holl ddyddiais ei einioes. Nid rhaid i mi ddywedyd y modd y ffynnodd y weddi hon, Histori Samuel a wyddis yn dda. Oddiwrth ofn Esther, ar yr anturiaeth beryglus a wnaeth at fawredd-fawr Ahasferus ar taerder rheidiol am y cwyn a gymerth mewn llaw, y [Page 130]mae genym y weddi berthynasol hon: O fy Arglwydd ein Brenin ni wyt ti yn vnig, cynnorthwya fi yr hon ydwyf vnig, ac heb gynnorthwyydd genyf, ond tydi, oblegit y mae yn gyfyng iawn arnaf. O Dduw cadarnach na neb, gwrando lefain y rhai diobaith, Ester 14 3, 4, 19. gwared ni o law drygionus, ie gwared, fi em hofn. Y weddi hon er ei bod yn Apocriphal, gofidiau yr amseroedd yma ai gwnaeth mewn modd yn Canonicol. Y pe [...]yglon nid ydynt anhebyg; y cwbl oll ym mron colli heb obaith o ymwared ond trwy gyhoeddus a neulltuol weddi, hamddenol, ac achosawl, y rhai nid rhaid vddynt gilgwthio y naill y llall, eithr yn ddyledus gymeryd ei cylch yn e [...] hamriw [Page 131]leoedd. Extemporal a phersonol ddychmygion ar achosion neulltuol (y rhai a ymddengys yn rhyfynych) y mae yn rhaid i ni eu canmol, a bod ar fath barodrwydd gyd a ni ynghadw; eithr mewn cynylleidfaoedd cyhoeddus, lle y mae pobl Dduw yn dyfod ynghyd nid yn vnig i wrando, yr hyn a fyddai athrawiaeth vddynt, eithr yn enwedig i gyffesu eu pechodau, ac i broffesu eu ffydd, ac i roddi diolch i Dduw oi geneuau ei hunain mewn modd vnffurfiol am ei ho [...]l fendithiau, ac i ofyn y pethau a fyddo dyledus ac angenrheidiol yn gystal ar les y corph ar enaid, nid yn vnig vddynt eu hunain, eithr tros eu brodyr ym mha le bynnac yn wascaredig, [Page 132]yn bresennol, neu yn orthrymedig, yn y cyfriw ddefosionau cyhoeddus, gwyr ieuaingc, a gwyryfon, hefyd, henafgwyr a llangciau, pawb yn ol ei allu sy raid vddynt weithredu eu rhannau rhagscrifenedig gyd ar Gwenidog, a moli enw Duw. Rhaid vddynt oll yn vnfryd vno i ddywedyd Holl alluog Dduw a thrugarr [...]ccaf Dad, ni bechasom, ac a aethom ar gefeilorn allan oth ffyrdd di mal defaid ar gyfrgoll. Pawb i atteb cychwyniad y Gwenidog. Oi Arglwydd egor ein gwefusau an geneu a fynega dy foliant. Pawb i sefyll i fynu gyd ag ef, sy n blaenori yn y ffordd. [ Credaf yn Nuw Dad, holl alluog, gwneuthurwr nef a daiar] canys, onid oedd [Page 133]yr Hosannah gan y plant yn y Deml, yn cael ei ganmol ai gyfionhau gan ein jachawdwr yn erbyn yr rhai ni fynent glywed neb yn yr Ecclwys ond hwynt hwy eu hunain. A pha ham na eill y gynylleidfa yn gystal vno ar Gwenidog yn gweddio ac yn canu (neu i lefaru at y pungc) mewn gweddiau o ymadrodd di gynghanedd mewn ffurf osodedig, mor gydseiniol ac mewn ffurf osodedig o weddiau ar gân? a raid vddynt ddyfod ynghyd i ryfeddu neu i farnu ar ddoniau rhyw wenidog, ac heb gyflawni dim en hunain? Ac oes y fath Anghysondeb neu wrthwyneb rhwng duwiol bregethu iddynion, a chyhoeddi gweddiau: gosodedig i Dduw, [Page 134]mal na allant sefyll ill dau ynghyd, ar naill yn well o herwydd y llall? fe ddarfu i wyr mor grefyddol a doethion hyd yn hyn ac ar a fedrwn ni weled) sydd yr awrhon, osod ar lawr fodd arall, yr rhain y gwnaech chwi yn dda eu calyn nes eich gorchfygu chwi a rhesymau gwell nag a ddangoswyd i chwi etto.
PEN. XI. Am weddiau ir Teulu.
OS oes neb heb ddarbod, neu ragddarparu tros yr eiddo, 1 Tim. 5.8. ac yn enwedig ei deulu, neu r ceraint a berthyn iddo (medd yr Apostol) ef a widodd y ffydd, a gwaeth yw na r diffydd.
[Page 135]Yr awrhon os gorchymynnir hyn mewn matterion amserol, paham na ofynnir hwynt yn fwy difrifol, mewn achosion ysprydol o gimaint ac y mae r nefoedd iw rhoi o flaen y ddauar, ar enaid o flaen y corph? Psal. 127.1, 2. Canys os yr Arglwydd ni adeilada y ty, ofer y llafuria ei adeiladwyr wrtho: os yr Arglwydd ni cheidw r ddinas, ofer y gwilia y ceidwaid: llafurio a gwilio a allwn gan hwyr a chan foreu, bwyta bara gofalwch, heb fod ddim nes, oni bydd gogoneddus Fawrhydi ein Duw arnom ni, i lwyddo gwaith ein dwylaw, ac i roddi llwyddiant a chwsg iw rai anwyl: Gen hynny y rhai perchen tai a ddisgwyliant fendithion y Psalm beriodas [Page 136](a arferir mor berthynasol yn ein llyfr Gweddiau arnynt hwy ai heiddo, rhaid vddynt mor ofalus ac oedd Abraham i gael ei hathrawiaethu yn dduwiol, ai Cateceisio n dda (mal y trychant ar deunaw, ar rhai yr ymlidiodd ef bedwar Brenin gorfo [...]eddus y Gogledd, ac a ddyg yr anrhaith a gymerasent hwy.) Ar Duw hwn a gyfrannodd ei gyfrinach ag ef oi arfaeth i ddinistrio Sodom a Gomarraf, Gen. 18.2.19 17. ar Arglwydd a ddywedodd a gelaf fi rhag Abraham yr hyn a wnaf? Canys mi ai hadwaen ef, y gorchymyn ef iw blant, ac iw dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyfiawnder a barn, y ffrwyth or hon athrawiaeth deuluaidd, [Page 137]a welwn ni yn ol hynny yngweddi a ffyddlondeb ei brif was, yr hwn a anfonodd ef i mesopotamia i gyrchu gwraig iw fab Isaac. Gweddi y gwas sydd hynodoliawn, O Arglwydd fy meistr Abraham, attolwg pâr i mi lwyddiant heddyw, a gwna drugaredd am meistr Abraham. Yno y canlyn: yn dily n ei negesau hyn, ef a naccadd o fwyta neu yfed, nos derbyn atteb bodlonol, ac yno ni anghofiodd ei ddiolchgarwch i Dduw, eithr ymgrymodd hyd lawr ir Arglwydd. Och am y fath weision yn ein plith ni Gristnogion, nid oes arnom eisiau cyfoeth, ond gofal a chydwybod, a rhoi esampl dda iw gwneuthur hwynt felly.
[Page 138]Yn hyn o beth fe ddichon Job allan o wlad vz o blith y cenedloedd tebygol, eill eilwaith fod yn batrwm i feistred teuluoedd eu hunain; mor foreuol y codai ef, ac mor ddiwyd i edrych ar gamgylchiadau ei feibion afreolgar? iw bendithio ac i offrwm poeth Job 1.5. offrymautrostynt, canys medd ef ond odid fy meibion a bechasant ac a felldithiasant ychydig ar Dduw yn ei calonnau, felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.
Am Eli nid ydym yn gweled dim drwg ynddo, o hono ei hun, yr oedd ef yn hen wr da, a diniwaid, etto eisiau cymeryd cwrs caethach ai feibion oeddynt mewn drygair, 1 S [...]m. 2.12. pa fath dorrgweddwf a dynnodd [Page 139]ef arno ei hun ai deulu.
Da y meddyliodd David mewn pryd wrth osod ei deulu (ond odid yn ol y trwmder a wnaethai rai oi blant anwylaf iddo ef) ni chaiff dyn drygionus, anffyddlon cildynnus enllibiwr, balch cyndyn, twyllodrus, Psal. 101. ad 6. Na (medd ef) fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigant gyd a mi, yr hwnw a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw am gwasanaetha i.
Na: os gwelir capten Cornelius yn ofni Duw yn ddifrifol, ac i fod yn ddifrifol, ac i fod yn ddyfal ddianwadal yn ei weddiau, ni bydd arno eisiau gweision yn dylwyth Ty, a milwr defosionol, yr hwn y [Page 140]gallo ef ymddiried iddo yn Act. 10.7. ei fatterion pennaf, y cyfriw arwainydd yw esampl dda, i ddaioni ac athrawiaeth gartrefol, i ragflaenu dinistr. Y mae hyn yn sefyll yn en [...]edig mewn golygiad dyfal, gan ddal pob vn sy tan ein llaw iw beunyddol ddefosionau, ai gorchwylion gosodedig. Ar defosionau hynny, sy raid [...]ddynt fod yn gyntaf mewn ffurf osodedig, ar cyfriw y gallo bawb yn oreu fod yn gydnabyddus a hi, wedi ei gwneuthur yn hawdd yn eiddynt hwy i ddwyn eu rhan ynddynt.
Yn nesaf y pryd ar lle ir cydr [...]diad ar cyfarfod hyn sy raid ei drefnu felly, lle y gallo y rhan fwyaf (oni allant eu gyd) fod yn bresennol. Lle geill mynych [Page 141]ailadrodd yr vnrhiw osodedig ffurf, wneuthur y cyfriw seliad mal y gallo yr anysgediccaf, ar rhai bychain ei ddysgu ar ei dafod leferydd, yr hyn a gyfaddef yr rhai goreu eu doniau fod yn dra-llesawl a chanmoladwy, ac yn amhossibl ei ddysgu oddiwrth ewyllyslawn hoffder o amrywogaeth, yr hyn a dawdd yn ei adrodd, ac yn anawdd ei ail ddywedyd gan yt rhai ai dychymygodd mor brysur.
Yr awrhon Gweddiau teuluaidd ydynt arferedig o fod foreu a phrydnawn.
Am foreuol weddi, fe g [...]ir gweled o herwydd llawer o drafferthion i luddies n teulu ir vnfan, mae goreu amser yw yn ddigyfrwng o flaen ciniaw, yno [Page 140]y penteulu, neu y cymwysaf ym mhlith y gynylleidfa, a bennodo ef eill fyned ymlaen yn y modd yma.
1. Ar Gyffes gyffredin. Hollalluog Dduw a thrugarroccaf Dad, &c. iw dywedyd ar ei ol gan bawb oll yn ddefosionol ar eu gliniau yno.
2. Y ddwy weddi adnabyddus hynny, vn am danghneddyf, O Dduw yr hwn wyt Awdur tanghneddyf a charwr cyttundeb. Y llall am Ras ac ymdd ffyniad a ganlyn: O Arglwydd tin tad nefol holl alluog a thragywyddol Dduw ellir yn gymhesur eu rhoi yn ychwaneg atti. Yn y trydydd lle dowch i fewn ar Scrythyrau cymysgedig gyd a gweddi yr Arglwydd yn ei canol hwynt, mal y trefnwyd [Page 141]hwynt yn llyfr yr Ecclwys, Arglwydd trugarha wrtbym Crist trugarha wrthym, Ein tad, &c. O Arglwydd dangos dy drugared arn [...]m, &c. hyd y diwedd O Arglwydd glanha ein calonnau ynom.
4. Yn ol y cymysgedig erfyniad hwnnw Ni attolwgwn i ti o Dad] &c. am bardynu ein gwendyd, a throi oddiwrthym gospedigae [...]hau haeddedigol, gan ein cryfhau a gobaith a pharhad mewn sancteiddrwydd a phurdeb, fe ellir.
5. Cysylltu y weddi honno, a erfyn gael on gweddiau beius eu derbyn yn rasusol, O Dduw yr hwn biau o naturiaeth a phriodoldeb drugarhau yn wastad a maddeu, &c. Ac felly y fendith gyffredin Rhad ein [Page 144]Harglwydd Jesu Grist a serch Duw &c. a ddichon wneuthur y diwedd i fynu.
Pryd nawnol weddi (i gyrchu arto yn barchedig vn ai yn ddigyfrwng o flaen Swpper, neu cyn ir teuleu ymadael iw gorphywysfa) eiff rhagddo yn vn ffunyd.
1. Ar gyff [...]s holl-allnog Dduw a thrugaroccaf Dad &c. neu) y gyffes arall o flaen derbyn y Cymun, Ollalluog Dduw Tad ein Harglwyd Jesu Grist Gwneuthurwr pob peth, barnwr pob dyn, &c.
2. Yno y daw y ddau golect i mewn O Duw oddiwrth yr hwn y daw pob deisyfiadau da &c. a Goleua ein tywyllwch &c. cyfattebol ir ddau golect yn y borau.
[Page 145]3 Yn ol hynny Arglwydd trug [...]rha wrthym &c. ac adrodd gweddi yr Arglwydd (megis yn y boreu) chwi ellwch gymeryd y deisyfiadau byrrion i gyd atteb, oddiwrth ein g [...]lynion ymddiffyn ni o crist, yn rasusol edrych ar ein poenedigaethau &c. hyd y diwedd. Ac yno ni attolygwn i ti o Dâd &c. O Dd [...]w yr hwn biau o naturiaeth a phriodoldeb &c. a Rhad ein Harglwydd Jesu Grist. a chwanegir mal yn y foreuol weddi.
Modd eglurach neu fwy gwarantedig am weddiau Teulu, gosodant hwy allan yr rhai ai cafas. Am danaf fy hun rhaid i mi gyffesu, na chyfarfu fy hir fyfy [...]aeth ym mhlith llawer o amldra, ar cyffelyb am [Page 146]eiriau a matter mor gelfyddgar gymwysol. Ac ni ellir mom perswadio i, neu ddwyn ar ddeall i mi, fod y gwyr dysgedig hynny ar Merthyron yr rhai oeddynt gysylltwyr on llyfr gwasanaeth, ddim o fyrr o ran dwysder dysgeidiaeth neu dduwioldeb, ir gwyr hynny, yr rhai sydd yn sefyll yn yr oes hon ar eu donni [...]u neu roddion, ac yn cymeryd arnynt (mal y dywedir) wellhau y Magnificat eithr ni wasanaetha i mi yscoi or ffordd: y mae genych yn yr athrawiaeth flaenaf y Gweddiau teuluaidd cyffredin, am y borau ar hwyr trwy yr wythnos. Suliau a gwyliau fe ach diwellir yn gyhoeddus yn yr Ecclwys (yr hon a fynwn i chwi [Page 147]yn grefyddol fynych gyrchu atti); etto y [...]ercheraw ar gwenerau yn yr wythnos allant gynwys yn fuddiol y cyfnewidiad hyn yn y weddi foreuol yn vnig.
Ar ddyd mercher bydded eich dechrenad.
1. Arglwydd egor ein gwefusau ar cyfattebiad cyfnewidiol hynny a Gogoniant ir Tad &c. a ganlyn.
2. Yno credo yr Apostolion iw adrodd gan bawb oll gan sefyll gyd ar hwn sydd yn gwasanaethu Credaf yn Nuw Dad oll-alluog, &c.
3. Y weddi o flaen y gorchymynyon ellir ei adrodd ar liniau Hollalluog Dduw ir hwn y mae pob calon yn egored a phob deisyf yn gydnabyddus, &c. Yno.
[Page 148]4. Y gellir adrodd y gorchymynion gan y Gwenidog oi sefyll at hyn, y lleill eu gyd ar eu gliniau mal y maent yn arferedig mewn gweddiau cyhoeddus ddatgan ei deisyfiadau gan ddywedyd Arglwydd trugarha wrthym, &c.
5. Yn y pumed lle yn yngwaneg y gellir dywedyd y weddi tros holl estat Ecclwys Grist yma yn milwrio ar y ddaiar, fel y mae cennych: Holl-alluog Dduw yr hwn sydd ai deirnas yn dragywyddol ai allu yn anfeidrol, trugarha wrth y gynylleidfa hon &c. ac yno mal or blaen o Dduw yr hwn sydd o naturiaeth a phriodoldeb yn wastad i drugarhau a maddeu &c. A Rhad ein Harglwydd Jesu Grist a wna y diwedd allan.
[Page 149]Hyn a fywha ynom goffadwriaeth Credo yr Apostolion (yr hyn a addawsom ni ei broffesu ai gredu yn ein Bedydd) ac or deg gorchymynnion, y rhai a scrifenwyd gan fys y Tad, ac ni ddiddymed errioed gan y mab, ond eu esponnio ai deongli ac erchi eu cadw yn ddyfal, rhoi heibio yr rhai hyn, eill beri i lawer (yn enwedig irrhai dearwybod a gwirion) fod tan y cyfriw argyoeddiad ir Prophwyd, y rhai sydd yn meddwl peri im pobl anghofio fy enw Jer. 23.17. trwy eu breuddwydion, ac heb gofio i ba ryw ffydd eu Bedyddiwyd hwynt.
Am y Swydd ddydd Gwener yn y foreuol weddi y liturgi fel y mae yn [Page 150]sefyll a wasanaetha mor llawn gan Ddechreu Duw Tad or nef, &c. a diwedd a Rhad ein Harglwydd Jesu Grist, &c.
Ac felly y mae cennych chwi y gweddiau cynefinol arferedig gyd ach teulu: Os yn neulltuol heb law hynny, pan orweddoch chwi i lawr i gysgu, neu gyfodi yn y boreu y mynnech chwi gacl rhyw [...]ath ar weddiau ich gorchymyn i Dduw, anawdd i chwi gyfarfod ag vnrhiw mwy ffrwythlawn, a eill fod yn gymwys i chwi am y borau, na honno, Hollalluog a thragrasusol Dduw, yr wyf yn diolch i ti yn ostyngedig am y cwsg melus ar esmwythdra cyssurus, &c. ar llall am yr hwyr: [Page 151] O Drugarog Dduw a Thad nefol, pa vn bynnac ai cysgu ai effro, byw ai marw dy eiddo de ydym bob amser &c. iw cael yn amlaf yn niwedd ein llyfrau Ecclwysig; yr hyn oi arferu yn defosionol, an dwg ni ir cydnabod diolchgar hwnnw, a wnai r Psalmydd: Mi orweddais ac a gysgais; ac a ddeffroais canys yr Arglwydd am cynhaliodd.
PEN. III. Am fendithiau a chyfarchiadau achosawl.
BEndithion a ellir eu deall amriw fodd. Pob ffafor a wnelo Duw i ni, a ninnau yn talu dio'ch iddo ef, a elwir bendithion yn ddiragor, am yr rhain mwy ar ol hyn yma. Yma y cyfrifir Bendithion: y tyrnau da, neu r talu diolch cymwynasau, a dymuniadau, mal y derbyniwn ni yn arferol y naill oddiwrth y llall, felly Melchizadeg a fendithiodd Abraham. Bendigedig fyddo Abram gan Dduw goruchaf meddianydd nefoedd a daiar, a bendigedig fyddo Duw goruchaf, yr hwn a roddes dy elynnion [Page 153]yn dy law, Gen. 14.19, 20. lle datcenir fod Abraham yn ddedwyddol trwy ffafor Duw, a Duw a glodforir ac a ogoneddir am ffafrio Abraham felly.
Y Digofaint ar cyfrwysdra rhwng Esau a Jacob am fendith ei Tad sydd arwyddocad, fod bendithion rhieni y pryd hynny mewn cyfrif, yr rhai yr awrhon (gan lawer) y cyfrifir hwynt prin yn talu eu gofyn. Esau (nid gwr o dduwioldeb mawr) mor dyner y cymerth ef iw frawd ei ragflaenu ef? ac yn ofidus ddigllon trwy ddagrau Gen. 27.8 yn ymbil ai Dad am ei fendithio yntau vn agwedd. Oni chedwaist ti fendith i mi, ai vn fendith sydd gennyt fyn nhad, bendithia finnau, finnau hefyd, fyn [Page 154]rhad, mor ystyrriol yr oedd yn ymddangos ei hun o gimaint coll [...]d, ac yr addunedodd ddial ar ei frawd, am ei ddisodli y modd hyn. Ni adawai Jacob ir Angel fyned heb fendith, er iddo ei chael a chloffni gyd ag hi byth ar ol hynny; i ddangos fod bendithion y byd hwn yn ymgefeillach a gwendyd, megis cippiad St. Paul ir trydydd nef oedd a swmbwl yn y cnawd iw gadw rhag ffrostio, yr hyn y mae yn oes ddoniol ni yn gorfoleddu gimaint ynddo.
Yn lle y defodau or hen Destament, y mae genym ni orchymyn yn y |newydd, a hynny oddiwrtho ef yn yr hwn y mae holl genedloedd y ddaiar yn fendigedig. Yr wyf yn dywedyd [Page 155]wrthych chwi, cerwch eich gelynton, bendithiwch yr rhai ach melldithiant, gwnewch dda ir sawl ach casant a gweddiwch tros yr Mat. 5.44. rhai a wnel niwed i chwi ac ach erlidiant. A phan ddygwyd plant bychain atto ef, efe ai cymerodd hwynt yn ei freichiau, Marc. 10.16. ac a roddes ei ddwylaw arnynt ac ai bendithiodd.
Y mae St. Pedr yn ein tywys ymlaen yn yr unrhiw lwybr bendigedig: Canys yn ol iddo ddangos yn gyflawn ddyledion cyfnewidiol gwyr a gwragedd y naill tu ac at y llall, Am ben hyn bydawch oll yn vnfryd (medd ef) yn cyd-oddef 1 Pet. 3.8, 9. at gilydd yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd, nid yn talu drwg am ddrwg, neu senn am [Page 156]senn, eithr yn y gwrthwyneb yn bendithio, gan wybod mai i hyn ich galwyd, fel ir etifeddoch fendith.
Ac onid ydym ni yn darllain mal y gorchymynnwyd Aaron i fendithio meibion Israel yn y modd hyn: Numb. 6.23, &c. Bendithied yr Arglwydd di a chadwed ti, a llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthit. Derchafed yr Arglwydd ei myneb arnat a rhodded it danghneddyf: felly y mae Bendith yr Apostol, yr hon sydd genym yn ein liturgi, 2 Cor. 13.14. Rhad ein Harglwydd Jesu Grist a serch Duw a chymdeithas yr yspryd glan a fyddo gyd a ni oll yn dragywydd. 2 The. 3. 1 [...]. A gydnabyddir ei fod yn gyfarchiad arferol ganddo tan ei law ei hunan, ac ydyw vn or prif resymmau [Page 157]am gydwirio athrawiaeth or Drindod fendigedig: yr hyn gan y Newyddiaid yn eu rhydd-dyd i brophwydo, a wrthwynebir drachefn yn y dyddiau yma. Mewn hyn y mae yn rhyfeddol hefyd fod cenedlaeth yn ein plith a betrusant wrth weled plant yn gofyn bendith gan [...]u rhieni; ydynt hwy yn ofni rhag vddynt eu dangos eu hunain yn rhy foesol, neu swrffedu ar ormodedd o fendithion? neu ai rhaid na chyfrifir vn fendith yn effeithiol ond a ddelo oi geneuau hwy?
Yr Athrawiaeth hon a ddichon gael croesaw gan glustiau merwinllyd, a gwrageddos truain, eithr chwychwi (fy merched) a wnewch yn well ganlyn llwybrau [Page 158]eich henafiaid bucheddol, yn ol athrylich y Duwiol frenin David, yr hwn yn ol cyssegriad arbennig o gyhoeddus addoliad Duw gyd ai Ddeiliaid, a ddychwelodd (medd y Text) i fendithio ei dy. Yn eich tai gan hynny bydded y fath ofal, na chlywer na rhegi na thyngu, Eph. 5.3. na chelwyddau, na serthedd nac ymadrodd ffol, yr rhai nid ydynt weddol, ac nad elont heibio ym mhlith eich plant ach gweision yn ddiargyoedd: Na adewch vddynt gynnyg bwyta neu yfed, heb ras o flaen bwyd, ac ar ei ol, Darn o argraphiad Judas a rag-brophwydwyd ym mhell or blaen gan y Psalmydd, yw hwn: hoffodd felldith a hi a ddaeth iddo, ni fynnai fendith a hi a bellhaodd oddiwrtho: [Page 159]ymadawiad diweddaf ein jachawdwr oddiwrth eu ddiscyblion a adroddir mal hyn, Luc. 24.51, 52. ef a gododd ei ddwylaw ac ei bendithiodd hwynt ac fe ddarfu tra r oedd yn eu bendithio hwynt ymadael o hono [...]ddiwrthynt, ac efe a ddygbwyd i fynu ir nef. Luc. 24.50, 51. Oddiyno pan ddychwelo ir farn, o gimaint y mae yn s [...]fyll arnom ni, ein cael gyd ar bendigedig ar ei law ddehau ef i etifeddu Bendith dragywydd. A pha beth ydyw cyfeirchiadau Cristnogawl ond bendithion, trwy rhai yr ydym yn datcan yr ewyllys da diffuant sydd genym i holl blant Duw. Brenin Toi a anfonodd y Tywysog Joram ei fab i gyfarch David ac iw fendithio ef. Y mae Brenin, Saul yn [Page 160]myned i gyfarfod Samuel 1 Sam. 13.10. (iw gyfarch ef (medd y Tecst) nôt yr ymyl iw fendithio ef. Ac nid rhaid mo gyflawni hyn yn vnig i rai mawrion neu rai on cydnabyddiaeth ni: Canys os eich brodyr a gyferchwch yn vnig (medd ein jachawdwr) beth a wnewch chwi mwy nag eraill? ond yw y publicanod yn gwneuthur felly? Pan ddeloch chwi i dy (dyma ei orchymyn iw Apostolion) cyferchwch well Mat. 10.12, 13. iddo ac os bydd y ty yn deilwng deued eich tanghneddyf arno: ac oni bydd yn deilwng dychweled eich tanghneddyf attoch. Teilwng ac anheilwng gan hynny ellir eu cyfa [...]ch, yr hyn y mae yr Apostol yn ofalus iw wneuthur yn nechrau a diwedd y rhan fwyaf [Page 161]oi Epistolau: Pa fath rôl neu gof-restr o gyfeirchion sydd genym ni yn y penod olaf at y Rhyfeniaid, gyd a rhoi cenad i gyfarch y naill y llall a chusan sanctaidd. Yr hyn braidd y gwel eddigedd rhai Cristnogion fod yn gymeradwy.
Cyfarchiad yr Angel i Gedeon, yr Arglwydd sydd Birn. 6.12. gyd a thi wr cadarn nerthol. O ddyrnwr iw dderchafu i fod yn flaenor gorfoleddus.
Y cyfriw gyfarchiad oedd oddiwrth yr Angel Gabriel Luk. 1.29. a nerthodd y fendigedig wyryf i groesawu ymddiddan ag ef. A phan glybu Elizabeth gyfarchiad y fendigedig forwyn y plentyn yn y groth a lamodd medd y Tecst ac [Page 162] Elizabeth a lanwyd ar yspryd glan.
Ym mhlith beiau eraill i Nabal furlyd anfoe [...]ol (yr hwn a fu fyw fel mochyn a marw fel ci) hyn a nodir am vn or rhai pennaf; fod gwas cymedrol yn rhoi ei feistres yn adnabyddus i Ddafydd, anfon cennadau or anialwch i gyfarch ein Meistr, ac yntau yn eu rhegi hwynt.
Eithr cyfarchiad bonoddigaidd Boaz iw fedelwyr, yr Arglwydd fyddo gyd a chwi, ai hattcb gweddaidd hwynt iddo yntau: yr Arglwyd ath fendithio, a goffheuir i fod yn athrylith iw ganlyn yn y cyffelyb achos.
Bydded gan hynny yn brif arwydd och gostyngeiddrwydd ach arafwch [Page 163](fy anwyl ferched) fod yn hael och bendithion ach cyfeirchiadau gweddol, nid yn vnig ir rhai och amgylch yn eich ty, eithr ich cymydogion, i ddieitriaid, na ir rheini yr ych chwi yn meddwl na ddygant ddim ewyllys da i chwi. Canys fel mae atteb arafaidd yn troi ymaith ddigofaint, felly cyfarchiad rhywogaidd ryw bryd, a wna elynion yn gefeillion ac esceuluso lle y dylid ei gyflawni a dry gefeillon yn gaseion, oddiwrth benaethiaid y mae n dwyn ymaith y tybygoliaeth o falch [...]er, a dirmyg; mewn rhai cydradd, neu iselradd, nod o dauogrwydd ac anweddeidd-dra. Ym mhawb oll: y mae yn dangos deisyfiad Duwiol i gadw [Page 164]mewn arfer orchymyn yr Apostol, es yw bossibl, yn gimaint ac y mae ynoch chwi, Rhy 12.18. byddwch heddychlon a phob dyn; ac nid yw ein jachawdwr yn gwrthddwedyd i hynny, na chyferchwch neb ar y ffordd, neu yr hyn a ddywaid y discybl anwyl am gau ddysgawdwr, na dderbyniwch ef i dy, 2 J [...]a. ad 10. ac na ddywedwch duw n rhwydd wrthe. Gan roi rheswm ar lawr: Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog ei weithredoedd drwg ef. C [...]nys yn y cyntaf, nid ydis yn gwahardd cyfarchiad yn ollawl, ond sefyll ar gyflawniadau medrusder, yr hyn a allai rwystro dibendod buan ar y gorcwyl oedd mewn llaw. Ac yn yr olaf rhagwybodaeth [Page 165]a ragdybir, fod y cyfriw yn dyfod i hudo (megis y gwnaeth y Sarph i Efa) ac am hynny ydynt iw gollwng ymaith, yn hytrach a cherydded yr Arglwydd di, nag, Zech. 3.2. a Duw yn rhwydd iw gyssuro. A hyn a allwn ni ei gymeryd yn rheol wrth anturiaeth ar vnrhiw weithred. Os gellir rhoddi Duw yn rhwydd iddi a chydwybod diogel: Hos. 8.7. ewch ym mlaen a llwyddwch: Job 8.14. onide yr rhai a hauo y gwynt nid ydynt gyffelybol i fedi dim ond corwynt lle byddo gwe y pryf copyn, ac yscubau destryw; ac ni ddaw yr rheini yn wiscoedd ac ni chuddiant hwy chwaith mo honynt eu hunain ai gweithredoedd.
PEN. IV. Am Psalmau Hymnau a chaneuau ysprydol.
YMae ymrafael ym mhlith dysgedig am y rhagoriaeth sydd rhwng y rhain: eithr nid yw hynny at ein pwrpas ni.
Hyn a ddywaid St. Pen. 5.13. Jaco sydd gunonicol; A oes neb yn eich plith mewn adfyd, gweddied, a oes neb yn esmwyth arno, caned Psalmau: Pa beth nid baledau neu riwys nau or amseroedd, ond Psalmau, Eph. 5.18, 19. a hymnau, ac ysprydol gerdd: felly y mae St. Paul yn athrawiaethu yr Ephesiaid iw wneuthur, nid o ormodedd o win ond o lawnder yr yspryd. Nid yn vnig mewn cydsain [Page 167]ag eraill, eithr yn llefaru wrthym ein hunain, pan fyddom or neulldu, Pen. 3.16. gan ganu a phyngciau yn ein calonnau ir Arglwydd. Ar yr vn cywair y try ef y colossiaid. Y cyfriw fath y mynnai ef eu bod hwynt oll (yn yr rhai y preswylia gair Duw yn helaeth, ym mhob doethineb) i ddysgu, ac i rybuddio bawb ei gilydd mewn Psalmau (mal y mae rhai n tybed) llaferydd ac offerynnau or miwsic gorau; a hymnau i foli Duw ai llef yn vnig, a chaniad ysprydol, o fyfyrdodau neullduol ar bob achos digwyddedig. Ac onid yw yn nod enwedigol fod ein jachawdwr er mwyn profi ei jechydwriaeth cyflawn yn gosod y Psalmau, gyda chyflawnder y gyfraith [Page 168] ar prophwydi? Na, ni chawn ond prin weled vn rhan or Testament hen mor fynych yn crybwyll am dano yn y newydd, ar hwn yr ydym ni yn ei alw Psalmau Dafydd: O herwydd efe oedd y prif Awdur o honynt. Saith or Psalmau hyn, a dybir in jachawd wr eu canu gyd ai ddyscyblion (yr rheini yw yn ol y cyfrif cyffredin or 112 ir 119.) yn ol ordeinhad ei Supper diweddaf, pryd yr oedd yn myned tu ai ddioddefaint.
Hwn sydd Scrythyr eglur: Hezechia y brenin ar Tywysogion a ddyw [...]dasant wrth y lefiaid, am foliannu yr Arglwydd, nid yn eu dychymyg ex tempore, yn eu hadgyweiriad parchedig o addoliad Duw [Page 169]ai Deml, eithr a getriau Dafydd ac Asaph y gweledydd. Ac a neccausent hwy oi wneuthnr? Felly hwy a foliannasant a llawenydd, 2 Cro. 29.29, 30. ac a ymostyngasant ac a addolasant. Ar y gweddio, ar canu y cyfriw foliant i Dduw gan St. Paul a Silas yngharchar yn y modd caethaf; ysgydwyd seiliau y carchar trwy ddaiargryn, y drysau a daflodd yn egored, rhwymau y carcharorion a ollyngwyd yn rhydd, a cheidwad y carchar a ddychrynodd i ddyfod yn Gristion, fo ryfeddai ddyn gan hynny beth y mae r dynion hynny yn ei feddwl, yr rhai ydynt mor danbaid yn erbyn miwsic Ecclwys ag offerynnau cyttunol? A dorrent hwy dannau telyn David (pe bai ef fyw yr awrhon) a [Page 170]throi allan Asaph ai frodyr am ffidleriaid, neu glerwyr coegion? Mae n dda nad oedd y lliaws o lu nefol yr rhai a ganai yr Authem o Luk. 12.13, 24. gyd-ddiolchgarwch am enedigaeth ein jachawdwr [ gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaiar tangneddyf, i ddyanion ewyllys da] yn descyn cyn ised a chlyw y gwyr hyn; pe buasent fc allesit nodi rhywboth ynddi i fod yn brin mewn cywair, neu yn ol y gan newydd o osodiad y gwyr yma. Fe gystuddiai galon pob Cristion duwiol, ystyrried yn ddifrifol fod lle yr oeddem ni yn cael or blaen ddarllain trwoedd y Psal [...]au hyn bob mis, ar Testament newydd (ond y Dadeuddiad) deirgwaith bob blwyddyn, at digwyddiadau [Page 171] [...]wyaf in adeiladu neu yn lleshau or hen Destament vnwaith yn y flwyddyn, i roi gair Duw mewn trefn yn adnabyddus ir bobl yr hyn sydd raid iddo fod yn sail a rheol or holl bregethu, gweddio, ac ymarweddiad cristnogawl;) yr awrhon y cryfriw adgyweiriad a hyfforddir inni, mal nas gwyddom lym mha le yr ydym neu beth iw ddisgwyl, Act. 20.27. ond na cheiff yr hwyaf fo byw fod byth yn gydnabyddus (trwy y modd ar dyll newydd hwn yngwasanaeth yr Ecclwys) a holl gyngor Duw; ac (oni rynga bodd ir Gwenidog) y deg gorchymyn, or hen Destament nou weddi yr Arglwydd, or newydd, byth in chaiff y bobl anysgedig en gwybod: Eithr [Page 172]am yr amriw arferion, neu ddeunydd cyfaddas or Psalmau yn neullduol, y Traethawd nodedig hwnnw, o waith hen Dad a gyfleuwyd o flaen y Psalmau, ar gynghanedd, eill fod yn hyfforddiad buddiol; yn yr hyn y gosodir i lawr 99. o achosion, pa Psalmau a arferwn ni yn wahanredig in diddanwch mwyaf.
I chwi (fy merched, fe ddichon fod yn ddigonol) gymmeryd ich defosionau neullduol y faith Psalmau a elwid gan yr henafiaid, 7. Psalm edifeirwch; y rhai ydynt y 6.32.38.51.102.130.143. ac a adroddid yn arferol bob wythnos, vn ar bob dydd gosodedig, yr hyn oedd orchwyl bucheddol, Ond os tybir yn well y gyffes a grybwyllir [Page 173]or blaen yn y Teulu yn eich gweddi beunyddol, foreu, a hwyr, fe ddichon fod yn deilwng och llafur ddal sulw ac ystyrried amriw waith y chwe diwrnod yn y creadigaeth (mal y rhoddir hwynt ar lawr yn Genesis) gyda chysegriad Gen. 1. y Sabbaoth, ac yno i ddewis saith o Psalmau allo wasanaethu, mal yn dramelus a pherthynasol eglurhad o bob vn o honynt.
Fal hyn yn gyfaddas ir goleuni gwaith y dydd cyntaf, y mae gennych y 27. yr Arglwydd yw fyngoleuni, am jechydwriaeth rhag pwy yr ofnaf, &c.
Am y ddaiar ar môr a luniwyd y trydydd dydd. mor gymhesur yw 24. Psalm, Eiddo r Arglwydd y ddaiar ai chyfiawnder, y [Page 174] byd ac a breswylia ynddo, canys efe ai seiliodd ar y moroedd, ac a sicrhaodd ar yr afonydd, &c.
Yn yr vnrhiw drefn yr Haul y lleuadd ar Ser, y rhai a greuwyd yn y ffurfafen y pedwerydd dydd, a gymerir mewn ystyrriaeth hynodol yn yr 8. Ad. 3. Psalm, Pan edrychwyf ar dy nefoedd gwaith, Ad. 4 dy fysedd, y lloer arfer, yr rhai a ordeiniaist. Wele mor odiaethol yw 'r deunydd a wna ef o hono, ymlygyn in cyfarwyddo ni beth a ddylem ni ei wneuthur yn myfyrrio ar ei holl greaduriaid eraill. Arglwydd beth yw dyn, i ti iw gofio a mab dyn i ti i ymweled ag ef.
Yn vn, deunydd a wnair wrth ystyriaerh pyscod y mor, ac adar yr awyr, y [Page 175]rhai oeddyot waith y pumed Ad. 25. dydd, yn y 140. Psalm.
Ac am y chweched dydd yn yr hwn y creuwyd dyn, ar anifeiliaid ac oll eraill o drigolion y ddauar iw wasanaethu ef, mor gymwys yw: y 139. Psalm, O Arglwydd chwiliaist ac adnabuost fi, ti adwaenost fy eisteddiad am cyfodiad doelli fy meddwl o bell &c. ni chuddiwyd fy sylwedd oddiwrthit, pan im gwnaethbwyd yn ddirgel, ac im cywreiniwyd yn iselder y ddaiar dy lygaid a welsant fy anelwig ddeunydd, ac yn dy lyfr di y scrifenwyd hwynt oll sef: fy aelod [...]n.
Yn olaf ei gyd y 92. Psalm a ddwg y titl yma Psalm neu gan ar y dydd Sabboath (cydffurfiol ar hwn y mae genym ni y [Page 176]seithfed, a dydd yr Arglwydd) yn yr hwn y gallwn synnied yr hyn ni wyr gwr anoeth, ac ynsyd ni ddeall hyn.
1. Beth sydd iw wneuthur yn ei gyssegru ef [ Da yw moliannu r Arglwydd a Ad. 6. chanu mawl ith enw di y goruchaf.
2. Ar ba amser gosodedig, yn enwedig [ A mynegi y boreu am dy drugaredd, Ad. 1. Ad. 2. ath wirionedd y nosweithiau].
3. Ar fath brydferthwch arbennig [ ar ddectant ac ar y nabl ac ar y delyn yn fyfyrriol. Unrhiw a fyddo cyfaddas, neu a fywhatho ein gweddiau, ein moliant, neu ein diolchgarwch.
4. Ar ba ryw sail? o herwydd i dduw yn gwneuthur yn llawen trwy eu [Page 177] weithredoedd; ac am hynny y dydd hwn yn enwedig a ddylid ei osod allan i orfoleddu, gan roddi diolch am weithredoedd ei ddwylaw ef, yr hyn a sonnir am dano yn y pedwerydd gorchymyn ei human, mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar y'mor, ac oll sydd ynddo. Beth y mae hyn yn ei feddwl, ond bod, yn enwedig ar y dydd hwnnw gyd ag holl ddiolchgarwch a moliant, yr holl bethau hyn iw ystyrried mewn myfyrdodiu duwiol, a gweddiau gwahanredol, clodforedd a diolch i ddyfod i mewn ar hynny, yn ol defosionau neullduol pobrhyw ddyn ai ddeallgarwch, heb law y gwasanaeth cyhoeddus.
[Page 178]5. Ym mha fodd y rhaid gwneuthur hyn mae a Psalmydd hefyd yn ein cymorth ni, a gloria Pairi [O Arglwydd mor ogonedd [...] yw dy weithredoedd, ath feddyliau ydynt ddyfn iawn].
6. Y mae ef yn dywedyd am yr rhai ydynt yn myned tros hyn, megis tros orchwyl gwael digyfrif, nad ydynt ond gwyr annoethion ac ynfydion, yr hwn a saetha i fynu mal gwyrdd lysieuyn yn fuan iw dorri i lawr iw roi yn ymborth i anifeiliaid; lle y mae y gwir dduwiol, ar rhai a gadwo yn ddyledus ddydd yr Arglwydd, (yn ol ei ordinhad sanctaidd ei hun).
1. Yn ca [...]l derchafu ei merth mal corn yr vnicorn.
2. Eu eneinio ag olew pur o yspryd Dduw.
3. J flodeuo mal palmwydden a gynnyddo tan bwysau.
4. Ac a leda o amgylch fel y cedar yn libanus hob yn waethaf i wyntoedd a thymestloedd.
5. A gant weled eu gelynnion yn digaloni, ac yn cwympo i wradwydd, yn ol cu dymuniad.
6. Lle byddont hwy eu hunain yn sefyll yn rymmus, ac yn blodeuo yn ny Dduw: ac yn dwyn ffrwyth mwy yn eu hoedran nag oedd nerth eu dyddiau or blaen yn eu roddi.
Y mae rhai yn bwrw y 150. Psalmau yn y modd hyn: y deg a deugain cyntaf, a ddylai ein cynhyrfu ni yn enwedig i edifeirwch [Page 180] calonnog, neu o eigion calon: yr ail i ystyrriaeth trugaredd Duw, ai gyfiawnder: y trydydd i fyfyrrio ar ddedwyddwch tragywyddol i Psa. 139. ad. 6. gael ein croesawu ag Halelu jab, ac a diolchgarwch, eithr os attebwch i hyn Dyma wybodaeth ry ryfedd i mi vchel yw, ni fedraf oddiwrthi.
Cymerwch gan hynny mewn ffordd fer rach y tri Psalmau hynny yr rhai yn dda a ellir eu galw pregethoedd David.
Yn y cyntaf or rhain (yr hwn yw 37.) Ad. 1. &c. y mae i chwi eli neu blastr rhag digio wrth weled llwyddiant y drygionus, ac stat angenog yr rhai (ym marn gwyr o ddeall) a haeddai well.
Yn yr ail, yr hon yw r naw a d [...]ugain y c [...]wch [Page 181] arlloesiad i ymchwydd yr rhai o godiad diweddar, Stat yr rhain nid yw ddim gwell na r anifeiliaid a ddifethir: hynny a osodir allan yn helaethach yn y 73. Ad. 27, &c. 37.38. Psalm: in curo ni allan oddiwrth bob gwagedd bydol, ac in tynnu ni i lynu yn dynn wrth Dduw, canys hynny a ddaw i ni a gwir danghneddyf or diwedd: y pregethau hyn ni thrwmlwytha moch coffadwiaeth ai hanibendod, eithr a ddyscir yn hawdd gennych chwi, ac a ddysgir ich rhieni. A chan weled fod gennych ganeuau Miriam a Deborah, gyd ag vn Hannah yn yr hen Destament a Magnificat y fair forwyn yn y newydd: wedi ei roi ar lawr mor ganonical; y cyfriw batrymau a ddylai eich cynhyrfu [Page 182]chwi i fynu) ac i ymadel ach prif ddifyrrwch bydol (megis y gwnaeth y Gwragedd Heberacc ai drychew i Exod. 38.8 wneuthur noc ir babell) i osod allan foliant ac addoliadd Duw, hyd eithafon eich gallu. O curwch eich dwylaw ynghyd yr holl bebloedd, o cenwch i Dduw a llef gorfoledd, o cenwch foliant in brenin ni, canys Duw yw Brenin yr holl Ddauar, cenwch foliant (iddo) a deallgarwch. Ac oni wnewch bob amser mewn Psalmau parhaus, etto ar oll achosion, mewn ocheneudiau, neu ergydiadau, [...]estyn y pennod nesaf.
PEN. V. Am Ergydiadau achosawl.
WRth Ergydiadau y deellir y cyfriw weddiau neulltuol, megis pan welom, clywom, neu feddwl, am vnrhiw beth o anghenefinol berthynas, y [...]wn ein hunain yn ddigyfrwng at Dduw, ac mewn erfynni [...]n byrrion, moliant, deisyfiadau, ueu ddiolchgarwch, osod ar lawr ein defosionau bucheddol.
Yn y cyfriw ni ellir rhagscrifennu vn ffordd osodedig, eithr yr achos ei hunan a wna i fynu y gwaith a ymbil, mal y bo yn gydnerthol fel y mae yn brathu, a dyffyg y geiriau a wnair i fynu ag ewyllysfryd calonnawg.
[Page 184]Yn y cyfriw gyffes ergydiol y torrodd yr Israeliaid allan ar y golwg or tan or nefoedd i ddifa Aberth Elijah (yr hyn a fethodd gan yr holl Baaliaid er ynfydu ai torri eu hunain ag ellynnod, gael gan eu eulynuod ei wneuthur) yr Arglwydd ef sydd 1 Bren. 18, 39. Dduw, yr Arglwydd efe sydd Dduw, gan syrthio ar eu wyneban wrth ei ddywedyd. Felly David wrth glywed fod Achitophel gyfrwysdrefn wedi troi yn fradwr yn ei erbyn ef, O Arglwydd (medd ef) tro gyngor Achitophel i ynfydrwydd. A pha ynfydrwydd a allai fod yn fwy gweledig nag wedi 2 Sam 17.29. trefnu ei deulu yn ddoethgall, gadw cebustr iw grogi ei hunan?
[Page 185]Nid oedd gan frenin Asa ddim amser (pan syrthiodd Zerah yr Ethiopiad yn ei erbyn ef, a mil o filoedd o wyr) ond ymroi ei hunan yn vnig ir ergydiadau hyn, a gweddio: O Arglwydd nid yw dd [...]m i ti gynnorthwyo, pa vn bynnac ai gyda llawer ai gyd ar rhai nid oes ganddynt gryfder: Cynnorthwya di ni O Arglwyd ein Duw, canys pwyso yr ydym arnat ti, ac yn dy enw di y daethom yn erbyn y dorf hon, O Arglwydd ein Duw ni ydwyt ti, na orfoledded dyn in herbyn. Ac onid oedd y llwyddiant ar ol, mor gyflym, ac oedd y deisyfiad yn drefnusgall: Canys yr Arglwydd a drawodd yr Ethiopiaid o flaen Asa nc o flaen Juda ar Ethiopiaid a ffoasant.
[Page 186]Ar gwynfan byrr y dysgyblion at ein jachawdwr mewn temestl, Athro ai di fatter gennit ein colli ni? efe a gododd i fynn ac a geryddodd y gwyntoidd, ac a ddywedodd wrth y môr gostega, tawela, ar gwynt a beidiodd, a bu dawelwch mawr. Mar. 4 38. Rhaid i beryglon disymwth gael ymwared cyfattebol: ac o ba'le y gobeithir am danynt, ond oddiwrtho ef yr hwn fydd bob amser yn bresennol ym mhob lle, ac ni ddisgwyl ond i ni alw arno, mal y gallo ein gwaredu ni.
Mal yr ydych yn rhagweled gan hynny (fy merched) bod gennych ddryfroedd poeth mewn parodrwydd, neu feddyginaeth cyfaddas i achosion disymmwth, rhag yn y cyfamser [Page 187]cyn y gellir eu cael ir neb y byddoch yn dymuno oreu iddo, oi heisiau, ir rheini, drengu: mwy o lawer y dylech chwi fod gennych gar llaw; ac ar dafod leferydd, y cyfriw fannau or Scrythyrau, i seilio deisyfiadau ac ergydiadau da arnynt, yr rhai mewn aneirif ddigwyddiadau damweiniol, y cewch chwi achos i wneuthur deunydd o honynt: y cyfriw y mae llyfr yr Ecclwys yn eu bennodi i chwi, nad rhaid i chwi fyned ym mhellach.
I sefyll ar ychydig or mannau mwyaf hyfforddus, er mwyn cyfodi i fynu enaid gogwyddedig digalor, beth a ddichon brifio mwy cyssurus na r hyn a gyfarfyddwn ni gyntaf at lawr dyrnu neu drothwy ein gwasanaeth: [Page 188] Pa bryd bynnac y byddo edifar gan bechadur Ezec. 46.2. ei bechodau o ddyfnder ei galon, mi a ollyngaf tros gof ei holl anwiredd ef medd yr Arglwydd. Beth mwy ffrwythlon i symud barnedigaeth Duw am ein amryw Jer. 10 24. anwireddau na hynny a ddywaid y prophwyd alarus: Cerydda ni O Arglwydd etto yn dy farn, nid yn dylid, rhag it yn gwneuthur yn ddiddim. Hyfforddiad eglurach ni ell r meddwl am dano i bechadur cyfeiliornus, na hwnnw or mab afradlon newynllyd: mi af at fyn nhad ac a ddywedaf wrtho, fy nhad mi bechais yn erbyn y nefoedd ac yn dy erbyn di ac nid wyf mwyach yn deilwng im galw yn fab i ti: y mae eich plant ach gweision gwirionaf yn gydnabyddus [Page 189]o lyfr yr Ecclwys ar erfynniau taerllyd hyn: Arglwydd egor ein gwefusau, an genau a fynega dy foliant: O Dduw gwna frys in gwared, o Arglwydd prysura in cymmorth. O Arglwydd dangos dy drugaredd arnom, a channiatta i ni dy jechydwriaeth, O Arglwydd na wna a nyni yn ol ein anwireddau: Rhag ein gelynnion ymddiffyn ni O Crist; yn rasusol edrych ar ein poenedigaethau ar cyffelyb.
Yr rhain a wneir yn gydnabyddus vddynt wrth eu mynych adrodd, yr hyn y mae rhai ai geilw pennau edafedd neu bottes, yn meddwl ychydig am ergydiad byrr David, O Arglwydd mi bechais, a gas yr atteb hwn yn y man, yr Arglwydd a faddeuodd dy bechod, [Page 190]ni biddi farw. Neu hwnnw or [...]wblican symlwedd Duw tr [...]garha wrthyf bechadur, ar digwyddiad o hynny i fyned ef i wared iw dy yn hytrach wedi ei gyfiawnhau nar pharesead coegfalch, er ei araithiad. Ac mae hyn o leshad yn y tywalltiadiau byrrion, nad ydynt sail i wahaniadau, mal y mae gweddiau hirion, ac y mae yn haws eu cofio gan bawb, yn barod îw harfer pryd na cheffir lle ac amfer i weddiau hwyach;
I roi i chwi archwaeth mewn rhai pethau neullduol.
Ar ein deffroad cyneaf yn y borau, pwy ni eill a chalon ac a dwylaw, ac a llygaid derchafodig tu ar nefoedd ddywedyd, Arglwydd dercha lewych dy [Page 191]wynepryd arnom: a chroesawu ymddangosiad y goleuni, a hwn neu r cyfriw dywalltiad, Duw a drugarhao wrthym, ac an bendithio, Psa. 67.1. a thewynned ei wyneb arnom? wrth wisco am danom ein hunain mor gymhesur a fyddai hynny o eiriau yr Apostol (yr rhai a droesant Dad sanctaidd) iw gymhwyso at yr achos: y nos a gerddodd ym mhell, Rhy 13.12. ar dydd a nefaodd, canniatta (O Arglwydd) i mi fwrw oddiwrthyf weithredoedd y tywyllwch a gwisco am danaf arfau y goleuni, megis y gallwyf rodio yn weddus megis wrth liw dydd nid mewn cyfeddach, a meddwdod nid mewn cydorwedd, ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chynfigen: eithr mal y gallwyf wisco [Page 192]am denaf yr Arglwydd Jesu Grist; (mwy angenrheidiol i guddio noethni fy enaid, na dillad im corph) a pheidio a gwneuthur y cyfriw ragddarbod tros y cnawd (mal yr arferir yn gyffredin) er mwyn cyflawni eu drachwantau ef.
Yn yr vn agwedd, bydded ym mhell oddiwrth ddelwaddoliaeth, pryd yr ymolchom, weddio: golch fi yn llwyr ddwys oddiwrth fy anwiredd, a glanha fi oddiwrth fy mhechod. Canys yr wyf yn cydnabod fynghamweddau am pechod sydd yn wastad gar Psal. 51.2, 3. sy mron.
Ar ein myned allan: par i mi wybod y ffordd y rhodiwyf, Ps. 143.8. canys attatti y derchafaf fy enaid.
Wrth glywed y cloc, wats, neu ddiol, dysg i mi [Page 193]Arglwydd gyfrif fy nyddiau, fel y dygwyf fynghalon i ddo [...]thineb.
Wrth gymeryd vnrhiw waith on galwedigaeth mewn llaw, gogoneddus fawredd ein Harglwydd an Duw afo arnom ni; O llwydda di waith ein dwylaw, ie llwydda di weithredoedd ein dwylaw; yr hyn oni allwn ei erchi a chydwybod dda, rhaid eu attal, a pheidio a chymeryd y gwaith mewn llaw. Yn olaf oll, yn ein claf wely, geirian tywalltedig Jacob a fydd cymeradwy, a chyssurus, mi wiliais am dy techydwriaeth di o Arglwydd. Gen. 49.18. Gyd ar hen Simeon yn y Testament newydd i gadw cymdeithas iddo, yr awrhon Arglwyddy gollywngi dy was mewn tangneddyf, canys fy llygaid a welsant [Page 194]dy iechydwiriaeth, yn adnabod ac yn disgwyl arno ef am fy Jechydwriaeth; fy Arglwydd am Jachawdwr Crist Jesu. Gweddi yr hwn wrth roi i fynu yr yspryd, sydd rhaid iddo fod yn eiddo ni, yn ein trangcedigaeth, o Dad ith law di y gorchymynnaf fy yspryd. Y diwedd dedwyddaf a ddichon ein holl ddefosionau ein dwyn ni iddo. Yn y cyfamser ni gawn gyfarfod yn y dyffryn hwn o drueni, a llawer o ddigwyddiadau i alaru am danynt, yr hyn y modd y cyflawnir y pennod nesaf a ddengys.
PEN. VI. Am alarnadau ac achwynion yn ot tristwch.
NI ddarllenwn yn yr hên Destament am blyg llyfr, Ezec. 2.10. lle yr oeddyd wedi scrifennu or ty fewn, ar ty allan Alan, gruddfan a gwae: A llef a glybuwyd yn Ramah (mal yr ail-adroddir yn y Testament newydd) galar, ac wylofain, ac ochain, mawr, Rachel yn wylo am ei phlant ac ni fynnai Mat. 2.18. ei chyssure, am nad oeddyn [...]. Cymeryd galar i fynu, ymadrodd yr Scrythyr yw, ar ymarfer o honi yn arferol. Galarnadau, a ragscrifennir am Teir a Pharaoh, y mae gen Saul alarnad gosodedig o waith David am ei orchfygu [Page 196]yn athrist; a Jonathan ei fab gwych ar y mynydd melldigedig Gilboa, yn yr hwn y galwyd merched Israel i wylo twstynt hwy, tan yr rhai yr oeddynt yn mwynhau y cyfriw addurnwisc a dedwyddwch. 2 Sam. 1.22. Eithr yr holl gantorion a chantoressau ai gwnaethon 2 Cro. 35.25. yn ddosod yn Israel, Zac. 12.11. lefaru am Josiah yn eu galar-nadau, yr hwn a lâs yn Hadadrimon yn nyffryn megiddo, am yr hyn y Scrifennodd y Prophwyd J [...]remi: oddiwrth yr hwn y mae i ni Alarnadau iw canlyn, am ddinistr yr Ecclwysar Stâ [...] a ddigwyddoedd yn ei amser e [...]. Oni bai fy mhen yn ddyfroedd, Jer. 9.1. am llygaid yn ffynonnau o ddagrau, mal y gallwn wylo ddydd a nos am laddedigion [Page 197]merch fymhobl. Cneifia dy walld O Jerusalem, a bwrw i ffordd, a chyfod gwynfan yn y lleoedd v [...]hel. Onid gwaeth gennych chwi y fforddolion oll, gwelwch ac edrychwch oes y fath ofid am gofid i: yno y try ar yr Arglwydd: edrych Arglwydd a gwelii bwy y gwnaethost fel hyn, a fwyttu y gw [...]agedd eu ffrwyth eu hun, plant o rychwant o hyd: a leddir yr offeiriaid ar propfiwydi ynghyssegr yr Arglwydd? mor oerion o [...]dd y Beirdd neu r poetau ac areithwyr y cenedloedd, iw cyffelybu ir adrodd on gwresog yma. Yr oedd gan Esay y cyffelyb, cyn dyfod y ddinistr a ragwelodd ef, a ddeuai ar ei wlad am eu phechodau: edrychwch oddiwrthif, mi [Page 198]wylaf yn chwerw na lafuriwch fynghyssuro am ddinistr Pen. 5.16. merch fy mhobl.
Ac och, och, yw byrdwn y galarnad a ragddyweddodd Amos, yn y ceffelyb g [...]flwr, yr hyn y rhaid ir dinaswyr, ar arddwyr, a phawb a fedro alaru gymer [...]d i fynu, pan fyddo yr Arglwydd yn ddigllon, yn anfon pwys ei gospe [...]aethau arnynt, y cyfriw fara o wylofain a diod gymysgedig a dagrau, a wnaeth y Prophwyd David yn fynych yn ymborth brenhinol iddo, pryd yr oedd llifeiriant Belial yn ei ddychrynu ef, deliwch sulw mor ddifrif a chalonnog yw ef yn ei amriw erfynniau at Dduw, yr rhai a hyllt y nefoedd vchaf, i ddwyn bend [...]h (megis ar drais). [Page 199]Ai yn dragywydd y bwrw r P [...]a. 77.7, 8, &c. Arglwydd heilio? ac oni bydd ef bodlon mwy: a ddarfu ei drugaredd ef tros byth, a balla ei addewid ef yn ces oesoedd t a anghofiodd Duw drugarhau: a gaeodd ef ei drugareddau mewn soriant▪ A pha gysondeb mwy a thrueni yr amseroedd galarus hyn, na hynny or drigeinfed Psalm, O Dduw, bwriaist ni ymaith, gwasgeraist ni, a sorraist: dychwel altom drachefn: gwnaethost ir ddaiar grynn a holldaist hi: iacha ei briwiau canys y mae yn crynn dangosaist ith bobl galedi diodaist ni a gwin madrondod, pan ystyrrioch gan hynny (fy merched) yr hyn a fynnwn i chwi yn ddifrifol ac yn gydwybodus wneuthur, y dirmyg dianrhydeddus, a [Page 200]gwaeth na balogedigrwydd y cenedloedd, a gwympodd yn ddiweddar ar addoliad Duw, tan liw oddysg yn rymusach ac yn gaethach ag adgyweiriad purach, chwi ellwch gymeryd attoch achwyn y Psa. 12.1. Psalmydd: Achub Arglwydd, canys darfu y trugarog, o herwydd palledd y ffyddloniaid o blith meibion dynion: yr anuwolion o rodiant o amgylch pan dd [...]rchafar [...] y gwaelaf o feibion dynion. A throwch argyoeddiad ein jachawdwr yn weddi angenrheidiol.
O Arglwydd dy dy di, a ddylid ei alw ai gydnabod yn dy Gweddi. Eithr gwêl of a wnaethbwyd yr awrhon nid yn vnig yn ogof lladron ond yn Stabl i geffylau, Esa. 34.14. ac yn orphywysfa i Zim ac ohim a chywion y [Page 201]ddylluan, i chwarau ei rhan yno. Gwyr a chyneddfau gwaeth na r cenedloedd, a ddaethant ith etifeddiaeth, Psa. 79.1. halogasant dy deml sanctaidd, gosodasant Jerusalem yn garneddau, &c.
2. Pan wneloch gyfrif wrthych eich hunain, y modd y mae pethau a gyssegrwyd i Dduw, wedi eu dieithro i ddeunyddiau melldigedig, taro y bugeiliaid, a gwasgaru y praidd, a hynny nid gan ddieithriaid, ond ynghartref yn nhai fyngharedigion, mor dymhoraidd y cofir hynny or pedwaredd ar ddeg a thrigain Psalm: Pa ham Dduw in Z [...]c. 13.6. bwriaist heibio yn dragywydd, ac y myga dy ddigofaint yn erbyn defaid dy borfa? dy elynnion a ruasant ynghanol dy gynylleidfaoedd, Psa. 74.44. gosodasant eu bannerau [Page 202]yn armyddion, gan dorri i lawr y gwaith cerfiedig (a osodwyd i fynu ith addoliad) ai bwyill, ac ai mwrthoelion. Psa. 83.4. Dywedasant deuwch a difethwn hwynt mal na byddeut yn genedl wwyach, mal y cymerom dai Duw in meddiannau ein hunnin. Onid yw bryd gan hynny i holl Gristnogion da i lefain: Cyfod O Dduw dadleu dy ddadl, cofia dy wradwydd gan yr ynfyd beunydd.
3. Ar y golygiad erchill or gyffredinwlad flodeuog hon, mor glod fawr yn ddiweddar ym m [...]lith y ceneddloedd cyfnesaf, ac yr awrhon mor drwcciannus, pwy a eill ddewis na chymero i fynu y galarnadau hynny or Prophwyd, fy [...]ol, fy mol gofidus wyf o [Page 203] barwydennau fynghalon, mae fynghalon yn terfyscu ynof ni allaf dewi am it glywed sain yr vdcorn o fy enaid a gwaedd rhyfel, dinistr ar ddinistr a gyhoeddwyd, canys yr holl dir a anrheithiwyd a hyn i gyd a wnaethbwyd gan blant ynfydion, yr rhai ydynt ddoeth i wneuthur drwg, eithr gwneuthur da Jer. 4.1 [...], &c. ni fedrant.
Ac oni ddichon ein dioddefiadau neullduol ein hunain yn troi ni ir adroddiad alarus or 69 Psalm: Achub fi o Dduw canys y dyfroedd a ddaethant i mewn hyd at fy enaid. Soddais mewn tom dyfn lle nid oes sefyllfa daethym i ddyfnder dyfroedd, Psa. 96.1. ad. 21. ar ffrwd a lifoedd trosof. Gwarthrudd a dorrodd fynghalon, yr ydwyf mewn gofid: a dysgwyliais am rai [Page 204]i dosturio wrthif, ac nid oedd neb, ac am gyssurwyr, ac ni chefais neb. Ac yn ddiogel ffalsder cefeillion, a thwyll rhagrithwyr, gorfoleddiadd digywilydd y gwaelaf or bobl, a eill.
5. Ein thoddi i achwyn mal Job, y rhai sy ieuangach na mi sy yn fyngwatwar, y rhai a ddiystyrraswn eu tadau iw gosod gyd a Job 30.1, 8, 9. chwn fy nefaid. Llefain y byddid ar eu hôl megis ar ol lleidr: Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt, gwaelach nar ddauar oeddynt. Ac yn awr eu cau hwy wyf fi ac myfi sydd yn destyn iddynt. Y maent yn fy ffieiddio yn cilio ym mhell oddiwrthif, ac nid arbedant boiri yn fy wyn [...]b.
[Page 205]6. Wrth synnied a bwrw golwg ar ein anallu ein hunain i roi ychydig achles in cystuddiau briwedig, mor fywiol y mae yr nyn a ddywaid Esay yn tywalld ein gruddfanau allan. O fynghulni fy-nghulni, gwae fi, yr rhai anffyddlon a wnaethont yn anffyddlon, ie gwnaeth yr anffyddlon or fath anffyddlonaf. Dychryn, a ffos a magl fydd arnat tis, ar bwn a ffy rhag trwst y dychryn a syrth yn y ffos, ar hwn a gyfodo o ganol y ffos a ddelir yn y fagl.
7. Yn olaf oll, os oedd llygaid David yn llifeirio allan o ddagrau am na chadwai ddynion mo gyfraith Dduw, pa afonydd o wylofain a ddylai redeg hyd ein gruddiau ni, wrth weled ein trawseddwaith [Page 206]cyndyn tan wialen wradwyddus gospedigaeth Duw? ie, yngolwg Moses ar gynylleidfa alarus (o herwydd bod y pla yn eu plith) yr aeth Zimri ddigywilydd ym mhlaen o chosbi bureinllyd, Num. 25.6. yn lle gwir ostyngeiddrwydd ni gawn wthio arnom weniaith gwatworus, ar cwn a brifia yn fwy trugarog wrth Lazarus druandlawd, Luc. 16.19. na Dives berphoredig, ac nag yr vn or ymborthlawn wilwyr. Wrth yr holl gwbl, b [...]th sydd i ni iw ddywedyd? ond o Dduw ir hwn y perthyn dial, Ti o Dduw ir hwn y perthyu dial dangos dy hun &c. Ac in cyssuro ein hunain yn hyn o beth, mae yn ninistr Sodom or nef le i Lot i gael ymwared i ddiangc; a Baruch a geiff ei [Page 207] einioes yn ysglyfaeth, Jer. 45.5. i ba le bynnac yr eso. Yn ministr y Deml ar Ddinas yr hon oedd hawddgarwch yr holl ddaiar, nod a osodir ar yr rhai a ocheneidiant ac a waeddant am y ffieidd-dra a Ezec. 9.4. wnair yn ei chanol hi: mal yn nydd y dial y gellir myned trostynt hwy ai hymddiffyn. Dad. 7. Ar hyn y gallwn ddiweddu yn ddiogel gyd ar Psalmydd cyfarwyddiaith gimaint yn y peth hyn, ac a ddichon vn o blant Duw: Psa. 126.5, 6. yr rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd, yr hwn sydd yn myned rhagddo ac yn wylo gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoldd dan gludo ei escubau. O ran adrodd y cyfriw orfoledd, ni allwn arfer yn hyfforddwaith y cynnorrhwyan a ganlyn.
PEN. VII. Am annogaeth a chyssurau tu ac at bob math ar sirioldeb a hoiwder.
Y Cyfriw yw ein dyldra lledfeddod an hurtrwydd, wedi cwymp Addd an gwrthwynebiad ffieiddiol at bob daloni, mal er ei dderchafu trwy ras ai hyfforddi ir llwybrau egluraf sy n arwain i ddedwyddwch, etto heb ei bywhau beunydd, hi a edrych yn ol gyd a gwraig Lot ac mal y ceffyl neu assen, yr rhai ni chynllynant mo honom, ddim hwy nag y tynnir hwy i hynny gan y ffrwyn ar wenfa a fo yn ein dwylaw. Oddi yma y mae y Psalmydd yn synnied yn [Page 209]odiaethol y marwgwsg cynfydedig hwn: nid llai na seithwaith mewn vn Psalm yn erfyn ar y Physygwr ysprydol Aqua vitae yn yr ymadroddion hyn neu r cyffelyb; Bywha fi O Arglwydd yn ol dy air, yn dy ffordd yn ol dy gariadol garedigwydd. Psa. 119.25, 37, &c. Ac nid yw r Apostol bendigedig yn tybed yn ddigon roddi ei Scolhaig Timothi i oddef cystudd, oni chysylltai ef at 2 Tim. 2.3, &c. hynny, ail ennyn dawn Duw yr hwn oedd ynddo, gan ei roi ary gorau ir eithaf yn yr alwedigaeth a osodasai yr Ecclwys arno ef. Pan ddywedodd y bobl i Bartimeus ddall (yr hwn a geryddent or blaen am ei waith yn gweiddi:) fod yr Jesu yn sefyll ac yn galw Mar. 10.46, 50. arno ef. Oh mor gyflym [Page 210]y cyffrodd y cerdottyn dall, ymaith y tastai ei gochol, i tynu y cyfododd, ac aeth at Jesu yn oreu y medrodd, ef a jachawyd yn y man ac a gynllynodd ar ei ol yn gyflym, gan foliannu y rhoddwr nefol or fath fendith anrhaethadwy. Y cyfriw gyssurns ac hyderus hoiwder a orchmynnodd yr Arglwydd ei hunan mewn modd neullduol ir pen llywydd Joshuah. Oni orchmynnais it, ymgvysha ac yw wrola, nag arswyda ac nag ofna; canys yr Arglwydd dy Dduw sydd gyd a thi i ba le bynnac yr Jos. 1.9. elych: ym mhlith dann [...]dd, gwaiwffvn, a saethau a thafodau ei elynnion cyn llymed ar cleddyf, a rhwydau i faglu ei draed, a phydew i lyngcu ei gorph ei gyd, deliwch sulw y modd y [Page 211]mae y prophwyd David yn ei gyssuro ei hun: Parod yw Jynghalon o Dduw parod yw fynghalon canaf a chanmolaf. Psa. 108. Deffro fy ngogoniant, deffro nabl a thelyn deffroaf yn forau. Ac fal dyma r barod ewyllysgar gyssurus addoliad, Psa. 28. y ga on yn llemain o lawenydd, clodfori Duw ar aelod gorau a feddom. Hynny a brophwydwyd iw gyflawni yn ol in jachawdwr adeiladu ei Ecclwys o Juddewon ar cenedloedd. Psa. 10 3. Yn nydd dy nerth mewn harddwch sancteiddrwydd o groth y wawr &c. neu mal y mae y cyfieithiaid diweddar, dy bobl a fyddant ewyllyscar yn nydd dy nerth mewn harddwch dy sancteiddrwydd o groth y wawr y wawr y mae gwlith dy enedigaeth di. Yn addfwyn yn descyn yn ddefnynuau aneirif.
[Page 212]Am osod einioes a chalon yn yr Addoliad rhyddlawn ewyllys, yr hwn sydd yn vnig gymeradwy o flaen Duw pan ddelo yn ol ei hyfforddiad ei hun, y mae tri pheth yn yr Scrythyr, ac yn llyfr ein Heglwys ni yn enwedig hynodol i ni.
1. Cyhoeddiadau oddiwrth Dduw.
2. Cynny fiadau o honom ein hunain.
3. Annog rhai eraill.
1. Or rheini a gyfenwir cyhoeddiadau cyssurus, chwi ellwch ddal sulw ar y saith yma yn enwedig.
1. Or hyn yr aeth Brenin David yn Herawd, blant gwrandewch arnaf fi Psa. 34.11. dyscaf i chwi ofn yr Arglwydd. Eich Athro a fydd frenin a phrophwyd, eich dysc a sydd râd, eich dysceidiaeth [Page 213]a fydd gyfriw ac ach gwna chwi yn ddedwydd yn dragywydd.
Ac o herwydd (ond odid) fe ddichon ddyfod yn fwy cymeradwy i rai oddiwrth ymadrodd merch, Salomon y mab a ddwg ddothineb yn ei ymdaclu ei hun, ac yn anfon allan ei morwynion i wahadd pawb a chwenycho ddysgu i wledd fawr, yn eu Thy ardderchawg a adeiladwyd ar saith golofn: y mae yn llefain o fannau vchel y ddinas, gar llaw r ffordd lle mae llwybrau lawer, pwy bynnac sydd anichellgar, troed i mewn yma ac wrth anoeth y mae hi n awedyd, Dib. 9.1, &c. deuwch bwytewch om bara ac yfwch om gwin, a gymyscais.
Yn y trydydd lle, yr hyn a ddywaid Isaiah a ddylid [Page 214]ei wrando yn ddyfal: Ho deuwch ir dyfroedd bob vn y mae syched arno, (am lonychiad ysprydol yr hwn sydd yn anherfynol tu hwnt i gyssurau cnawdol) prynwch a bwytewch, ie deuwch prynwch win a llaeth heb arian ac heb werth. Paham y gwerriwth fara am yr hyn nid yw fara, ach llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gwrandewch yn ddyfal arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda, Esa. 55.1, &c. ac ymhyfryded eich enaid mewnbrasder.
Ac i Ragflaenu pob dychymyg a thybygoliaeth fod tristwh yn cydymdeithio a bywyd Duwiol, ac yn gosod thwym arnom, an byrhau hi o bob cymdeithas gyssurus, y mae cyhoeddiad ein jichawdwr ei hunan (yn bedwerydd) in [Page 215]siccrhau ni ir gwrthwyneb: Mat. 11.18, &c. deuwch attaf fi bawb ac sydd yn flinderog ac yn llwythog, ac mi a esmythaf arnoch, cymerwch fy iau arnoch, a dysgwch gennif, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon, chwi a gewch orphywsfa ich eneidiau: canys fy iau sydd esmwyth, am baich sydd yscafn: fe gymered hyn i lyfr ein Eglwys ni am y prif sail o annogaeth a osodwyd o flaen cymeryd Swpper yr Arglwydd, derchefwch eich calonnau, yr ydym yn cu derchafu hwy ir Arglwydd, gadewch i ni roddi diolch in Harglwydd Dduw y mae yn addas ac yn gyfion ddyled i ni wneuthur hynny Ar hyn.
5. Y dylid gwrando yn ddifrifol ar wahadd y Brenin mawr i swpper periodas [Page 216]ei fab, wele mi baratoais fynghinio, Mat. 22.4. fy ychen, am pasgedigion a laddwyd, deuwch, ir beriodas: ac heb droi heiblo ag escusion i fod yn absennol, neu ei halogi trwy ymwthio yn ddianrhydeddus i mewn heb wisc beriodas, Mat. 7. canys nid á hyn [...]eibio heb farn dromddwys.
Ac nid yw y chweched Cyhoeddiad o lai digwyddiad dowch alian o hori fy mhobl, mal na byddoch gyd gyfrannogion oi phechadau hi, ac na dderbynnioch oi phlauan hi. Cymerwch fel y mynnoch y naill ai am eich glanhau eich hunain oddiwrth y Babilon neu y gwradwydd o babeidd dra, neu o Schismaticiaid, neu o gybyddion bydol, y cyflwr sydd or cyfriw [Page 217]bwys, mal oni roddwn ni ymaith y cyfriw gydymdeithas neu gefeillach, a cawn ni golli y rhagorfreintiau, or.
Seithfed cyhoeddiad ar olaf, ac y mae r yspryd ar briodferch yn dywedyd, iyred: ar hwn sydd yn clywed dyweded, Tyred ar hwn sydd a syched arno, deued, ar hwn sydd yn ewyllysio cymered ddwfr y bywyd yn rhad. Dad. 12.17. Pa synwyr mor hurtiedig, pa serch a hudwyd felly, pa galon mor garegog na wneiff y cyfriw gynnygion (os metha ganddynt ynnill vn) or lleiaf arafu neu hwyrfrydu dyn oddiwrth y moddau neu yr yrfau peryglus, yr hyn y mae y byd, y cnawd, ar cytrhael, yn ein gosod ni arno?
I gryfhau y rhadau hynny [Page 218]a gynnygir mor rhwyddlan; y coffadwriaeth neu r memorandum hyn a ddichon fod yn dda iw gadw mewn parodrwydd.
1. Cofia dy greawdwr yn nyddiau dy ieuengtyd, Ecl. 16.5. tra byddo y gallu ar amser i wneuthur hynny; canys ni wyddost ti pa cyn gynted y gellir dy ddifuddio di o honynt.
2. Cofia wraig Lot, Luc. 17.30. na chwympa yn ol or fuchedd dda, yn yr hon yr wyt rhag i ti fod mewn colled, na ellych di fyth moi hynnill.
3. Cofia Dives, Lot, a Lozarus, na feddyliwn fyw yn ddanteithio! yma, ac na elwir mo honom byth yn ol hyn i roddi cyfrif.
4. Cofia y Sabboath iw gadw yn sanctaidd; nid [Page 219]yn gwrando Gimaint ar waith gwyr eraill yn llefaru, ac ar addoliad Duw ein hunain ym mhrydferthwch ei sancteiddrwydd: A chyd ystyrriwn bawb ei gilydd. Heb. 10, 24, 25. i ymannog i gariad a gweithredoedd da, heb esceuluso ein cyd gynnilliad ein hunain (megis y mae arfer rhai) eithr annog bawb ei gilydd, a hynny yn fwy o gimaint ach bod yn gweled y dydd yn nesau hyn a dynn ym mlaen.
Y pumed memento, 2 Tim. 2.8. Cofia gyfodi Jesu Grist o had Dafydd o feirw, gan yspeilio Tywysogaethau, ac awdurdodau, efe ai arddangosodd hwynt ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt, Col. 1.15. ynddo ei hun ar y groes. Gan ein [...]hyddhau ni felly o gaethiwed Satan, a phwrcasu i [Page 220]ni Deirnas dragywyddol. Wrth ymdeithio ir bon, rhaid i ni lafurio i gynnal y gwan a chymeryd.
Y chweched memento in jachawdwr gyd a nyni, mwy bendigedig iw rheddi na derbyn.
Ac etto wedi gwneuthur y cwbl oll, in cadw rhag dadwneuthur oll drachefn, angenrheidiol fydd gymeryd memento Jud. Yn y lle olaf: Eithr chwi o rai anwyl ceisiwch y geiriau a rag ddywedwyd gan Apostolion ein Harglwydd Jesu Grist: ddywedyd o honynt i chwi y bydd yr vmser diweddaf watworwyr yn cerdded, Jud. ad 17, 18. yn ol en chwantau anuwiol eu hunain. Eithr pa fodd y canfyddwn ni ragor rhyngddynt a gwyr gonest, gan weled eu bod [Page 221]yn addurno eu holl weithredoedd a gwisg sancteiddrwydd, ac yn gosod allan eu bwriadau bridiol ar broffes ddewisaf o Seintrwydd? Y 19. adnod yno a ddengys i ni yn eglur, y rhai hyn ydynt y rhai syn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr yspryd ganddynt. Y Didolwyr, anghrogyniaid, ysprydwyr, a ddeorwyd yn yr oes hon, yr rhai yr ydis yn tybed fod carennydd rhyngddynt, ar tri o lyffaint oedd yn dyfod allan o safn y ddraig, Ded. 16.15. y bwys [...]fil ar gau brophwydi, y rhai a esyd deirnasoedd, a gwledydd, yn erbyn yr oen, ai ddilynwyr nes cu difa ollawr yn rhyfel Armagedon.
Yma y gellir rhoi cynifer cyffelyb o rybuddiau, neu caveat i ochel: ac oli [Page 222]oddiwrth ein jachawdwr yn ddigyfrwng megis.
1. Edrychwch rhag twyllo o neb chwi, Mar. 13.5. gan roddi gau Grist, neu gau brophwyd i chwi.
2. Edrychwch beth a Mat. 24, 5, 7. glywoch neu beth a wrandawoch.
3. Gwiliwch wâg ogoniant yn eich gweithredoedd gorau, o Eluseni, ywprydio, neu weddie. Mar. 4, 24.
4. Gochelwch rhag bod Luc. 8.18. y goleuni sy ynoch chwi yn diwyllni, Mat. 6. gan fwriadu cam ddiben, a thybio yn rhydda och sancteiddrwydd Luc. 11.35. mewn ceffylybrwydd i eraill.
5. Rhaid i wyr gymeryd gofal am gysylltu doethiuib Je [...]. 9.4. y Sarph a diniweid wydd y glomen: yr hyn a ddengys y peth y mae y Prophwyd [Page 223] Jeremi yn ei roi ar lawr yn helaech: gocheled pawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd, canys pob brawd gan ddisodli a ddisodla a phob cymydog a rodia yn dwyllodrus.
6. Cymerwch o [...]al i ochelyd cybydd-dra; canys yr amlder a feddo gwr, nid yw yn ei wneuthur yn ddedwyddol, ond en rhoddi, yn dda, yr hyn os esceulusir yn gywilyddys a brifia yn fynych yn wenwyn ir perchennog: ac yn sclyfaeth ir rhai ai treulio n ddrygionus.
7. Chwychwi sydd o fedyliau gwell, gochelwcharnoch eich hunain, rhag pwyfo ar eich calonnau vn amser a gormodedd neu feddwdod, [Page 224]neu ofalon y byd hwn, ac felly dyfod er dydd olaf arnoch yn ddiarwybod: canys megis magl y daw ar yr holl rai a drigant ar wyneb yr holl ddaiar.
Eithr fe ddyweded digon os cofir yn dda ai arferu, ond both a ddichon rhybudd neu goffhâ caveat neu mumento, neu orch ymyn or nefoedd ffrwytho neu leshau, os byddwn ni yn niffyg i ni ein hunain, heb plygu clust i wrando, neu galon i groesawu, beth a ddywaid yr yspryd wrth yr ecclwysi, ac ynddynt hwy wrthym ninnau yn neullduol?
8. Yma gan hynny y daw i mewn yr annogaerhau hynny, y thai ym mhlith defynyddion a elwir neullduol adroddion, yn yr [Page 225]rhain gan ddatroi attom ein hunain, ym mha gyflwr bynnac y byddom, yr ydym ni yn gosod goruchel egni ein eneidiau, hynny yw, y deall, ar ewyllys, i gyffuro a diddanu ein synhwyrau gwywedig, an cydwybodau, ar seilia nefol ni phallant byth. Ac mal hyn yn llusern in traed, ac yn oleuni in llwybrau, y mae y prophwyd David genym ni yn llawer o fannau, yn dangos mal y geill ein petruso ni. Ym mha fan hynodol i ddechrau yng hanol en elynion gwangcus a ddaethai arno i fwyta ei gnawd, mor gyssurus y mae ef yn ei ddadebru ei hunan? yr Arglwydd yw fy llewych am jechydwriaeth, pwy gan hynny a ofna? yr Arglwydd yw nerth fy mywyd: pwy [Page 226]gan hynny a ddylwn ni ei ofni? ac ar watwor ei wrthwyncbwyr, a gawsai ryw gyfyngder arno, ac a edliwient ai ddannedd, Ps. 42.12. pa le y mae ei Dduw ef yr awrhon? y mae yn gwrthgilio atto ei hun, h [...]b ddychwelyd drwg anwydau yn gwneuthnr ei safydle yn dda yn eu herbyn: Ps. 42.11. pa bam ith ddarostyngir fy eneid? a pha ham y terfysci ynof, ymddiried yn nuw, canys etto y moliannaf ef sef iechydwriaeth fy wyneb am Duw: Ps. 10. 3.2. fy enaid bendithia r Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei enw sanctaidd ef: fy enaid mola yr Arglwydd, molaf yr Arglwydd yn fy myw, canaf im Duw tra fyddwyf. Y cyfriw ymddiddan a chalon oedd gan y wraig druan a orthrymid gan y dyfrlif gwaed, pe [Page 227]gallwn ond cyfwrdd ai wisc ef, Mar. 5.26. mi fyddwn iach ac mor dewel yn yr vn agwedd y mae Job yn rhoi heibio golledion ei dda ai blant. Noeth y daethum i o groth fy mam a noeth y dychwelaf yno, yr Arglwydd sydd yn rhoddi yr Arglwydd a ddygodd ymaith, bengidedig a fyddo enw r Arglwydd.
3. Yn olaf oll, er mwyn annog eraill, nid yn vnig pob math ar bobl sydd raid galw arnynt, yn yr ymadroddion hyn, neu r cyffelyb. O molwch yr Arglwydd rhoddwch ddiolch ir Arglwydd, cenwch ir Arglwydd ganiad newydd. Yr rhai ydynt mor gynefin ac ynt gyssurus, eithr hefyd anife [...]liaid a chreaduriaid mudion syd raid eu cyrchu i mewn i ganu eu rhan pob [Page 228]perchen anadl molianned yr Ps. 150. Arglwydd: ydyw y clo cyngan ar y Psalmau, rhued y mor a chured y llifeiriant eu dwylaw, gorfoledded y mynyddoedd ynghyd o flaen yr Arglwydd, byddwch lawen yn yr Arglwydd, y rhain ar cyfriw ddewisedig fannau a osodwyd yn llyfr yr Ecclwys, wedi eu gwneuthur yn gynefin i chwi ach eiddaw, (fy merched) eill wasanaethu i wneuthur miwsic nefol i chwi yn y gwahanieth, ar cythryfwl mwyaf a ddichon y byd hwn roi arnoch: Canys ni phalla yr Arglwydd iw boll, ac ni wrthyd ei etifedd [...]aeth, eithr rhoi amynedd vddynt yn amser adfyd, nes cloddio pwll ir anuwiol. Psa. 42.3. Corsennau yssig ni ddryllir, ac ni ddiffoddir y llin a fo yn mygu. [Page 229]Y defaid a gaiff borfa las, ar llewod newyn, y blawd ni dderfydd yn y celwrn, na r olew yn yr Stên, nes y dêl mwy cyflawn changder, 1 Bren. 17. bwrw eich gofal gan hynny ar Dduw (fy merched) yn 1 Pet. 5 7. eich holl gyfyngderau, canys y mae yn gofalu am danoch chwi, a byddwch fodlon ir hyn a ganiattào ef i chwi: canys ef a ddywad ni adawaf fyth mo honot, ac nith wrthoda. An jachawdwr yr hwn a ddywaid i ni y cawn orthrymder yn y byd hwn, a bod yn gyfrano gion ag ef yn ei ddioddef [...]int, an cyssura ni yn hollawl er hynny, ar diweddiad hwn: byddwch o gyssur da mi a Joa. 16.3. orchfygais y byd.
Y TRYDYDD RAN: AM WEDDIAV MEWN Cynylleidfâoedd cyhoeddus neu Gyffredin.
PEN. I. Am Gyffesoedd.
GWeddiau ar gyhoedd ydynt y cyfriw a gyssegrir yn barchedig yn y lloedd, ar amseroedd a ordeinir mewn [Page 232] ffurf osodedlg, a ragscrifennir ir offeiriad ar bobl gan Ecclwysi gwahanredol, o fewn eu neullduol lywodraeth. Y cyfriw oedd honno o fendithio y bobl gan yr offeiriad: nid mewn amriw ffurf neu ymadroddion, mal y gwelai ef fod yn dda, eithr yn y cyfriw foddau, ar geiriau, a orchmyned gan dduw ei hun. Ar Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd, llefara wrth Aaron ai feibion, gan ddywedyd. Yn y modd hyn y bendithiwch blant yr Israel, gan ddywedyd wrthynt, yr Arglwydd ach bendithio ac ach ca [...]wo, llewyrched wynebpryd yr Arglwydd arnoch, ac a fyddo grasusol wrthit, derchafed ei wynebpryd arnoch a rhodded i ti danghnefedd, [Page 233]Ac felly y gosodant fy enw ar feibion Israel a mi ai bendithiaf hwynt, yr enw hwn a fynnai rai ei fod yn arwyddoccau y drindod fendigedig, o herwydd Jehovah new Arglwydd a ailadroddir yma deirgwaith, ir hon y mae r fendith honno wedi ei chydffuifio yn dda, yr hon a roddir yn arferol gan y rhan fwyaf or Tadaw iw plant, yn enw y tad, Mat. 28.19. y mab, ar yspryd glan. Ac yn yr vnrhiw ffurf yn ddiddadl y gorchmynnir bedyddio holl blant Cristianogion. Yn yr vn ffunud, nid oedd yn ei ddewis ef yr hwn a anrhegai ei flaen ffrwyth, i gydnabod ei ddiolchgarwch yn yr ymadroddion ar cyfnewidiau y gwelai ef fod yn dda, neu fal y dychymygai ef ei hun, [Page 234] rhaid i ti lefaru (mal y mae y text yn gorchymyn i ti) a dywedyd o flaen yr Arglwydd dy Dduw, Siriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad, ac efe a ddiscynnod ir Aipht, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn geneddl fawr gref ac aml. Ar Aiphtiaid an drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant ar nom gathiwed caled, A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, an llafur an gorthrymder, ar Arglwydd an dug ni allan or Aipht a llaw gadarn, ac a braich estynnedig, ac ofn mawr ac arwyddion ac a rhyfeddodau: ac efe an dug [Page 235]ni ir lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl. Ac yn awr wele mi ddygais flaen ffrwyth y tir a roddaist ti i mi o Arglwydd.
Felly y mae Hosea yn cynghori Israel i edifarhau, Cymerwch eiri [...]u gyd a chwi a dychwelwch at yr Arglwydd, dywedwch wrth [...], maddeu yr holl anwiredd, derbyn ni yn ddaionus, a thalwn it loi ein gwefusau, Hos. 14.2. felly yn eu hympryd arferedig, ni threulid mor amser yn anhymoraidd, mewn hwyrfrydig Addysgu neu trwy ddifyfyrriol gipiadau i osod allan ddonniun y llefarwr, neu i flino defosiwn y gwrandawyr; Eithr (fal y mae y prophwyd yn erchi) wyled Gweinidogyon yr Arglwydd rhwng y porth ar allor, [Page 236]a dywedant: arbed dy bobl o Arglwydd ac na ddyro dy etifeadiaeth i warth, ir cenedloedd i lywodraethu arnynt, pa ham y dywedant ym mlith y bobloedd pa le Joe. 2.17. y mae eu Duw hwynt? Y ffyrdd hyn mewn cynylleidfaoedd cyhoeddus oeddynt cymhelled oddiwrth gyfnewid yn y Testament newydd, mal y perffeithir y Swm i fynu yngweddi yr Arglwydd, ac felly ei drosglwyddo gan yr Apostolion ir holl rai a ddeuent ar ol. Mal y gellir hynodi nad oedd vn Ecclwys osodedig, nad oedd iddi ryw weddiau cyffredin yn yr rhai y gallai y bobl vno ar Gwenidog yngwasanaeth Duw; fe ddichon plant ar rhai gwirion gael eu athrawiaeth wrth glywed [Page 237]yr vnrhiw eiriau iw hadrodd beunyddol, ac nyd i ddyfod yn vnig megis edrychwyr i Chwaryddfa, i glywed llawer ac i ddyscu ychydig, a gwneuthur dim, megis na byddai i bawb oll hawl yngwasanaeth Duw, yn ol eu gallu ai galwedigaeth, ac na ellid goddef Hosannah o enau plant bychain a rhai yn sugno.
Gweddiau cyhoddus eill fod, un ai
- 1. Cyffesoedd.
- 2. Ymbiliau taerllyd.
- 3. Vfudd erfynniau.
- 4. Cyfryngdodau.
- 5. Diolchgarwch.
- 6. Clodfawredd.
- 7. Bygythiau neu Cominasionau.
Am Gyffes gyhoeddus, beth a ellir ei grynoi ai ddychymyg yn fwy effeithiol a chyflawnach na honno a arferir ar ein mynediad ni in defosiwn. Hollalluog Dduw a thrugaroccaf Dad, ni aethom ar gefeilorn allan oth ffyrdd di mal defaid ar gyfrgoll, &c.] ar llall o flaen derbyn Swpper yr Arglwydd, Holl-alluog Dduw Tad ein Harglwyddd Jesu Grist, Gwneuthurwr pob peth, Barnwr pob dyn, yr ym yn cydnabod ac yn ymofidio tros ein amriw bechodau &c. yr rhain sydd rhaid i chwi ac ich plant fedru ar eich tafod laferydd, i fod yn barod bob amser mewn holl gyfyngder a thrymder am bechod, neu grugynnau mwy peryglus or cydwybod: yn y clwyf [Page 239]hwn y cafas y Psalmydd efmwythder presennol; dywedais cyffesaf yn fy erbyn Psa. 32.5 1 Joa. 1.9, 10. fy hun fy anwireddau ir Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod. Hyn y mae r Apostol yn ei ganmol am ragorol feddyginiaeth: O chyfaddefwn ein pechodau. Eithr os dywedwn, na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, ai air nid yw ynom. Y mae y prophwyd Daniel yn adrodd yn oleulawn y modd y gweithiodd gyd ag ef, Canys hwyn gyntaf ac y gwnaeth ef ei daer ddifrifol weddi trosdo ei hun, ai gyd garcharwyr ym mabilon; je, a mi etto yn llefaru ac yn gweddio (medd y Text) ac yn cyffesu fy mhechod, a pechod fy mhobl Israel, ie a mi etto [Page 240]yn llefarn mewn gweddi, y gwr gabriel gan ehedeg yn fuan a ddaeth ac am cyfyrddodd i, i roi i mi fodlonrhwydd. Dau. 9.20, 21. Mor fuan yn eu gorchwyl ydyw gweddi galonnawg a chyffes. Cyn gynted ac y dywad David mi bechais yn erbyn yr, Arglwydd. Yr attebodd y Prophwyd: yr Arglwydd a dyn ymaith dy bechod ti, ni chai di farw. Cyn gynted ac y cydnabyddo ef lithro ei draed, ef a gaiff yn y man achos da i ddywedyd: dy drugaredd di o Arglwydd am cynhaliodd. Yn amlder fy meddyliau om mewn, dy ddiddanwch di a lawenycha fy anaid. Canys fal y mae chwdu yn ol gormodedd o lothineb, yn esmwythau ar y ddwyfron, felly y mae cyffes ir cydwybod yn ol [Page 241]bauch ebychiol a bechod a wneler. Ac er mwyn hyn i arferu yr odlau neu r Psalmau yn ein llyfr Gweddiau, ai canu yn ddefosionol, Arnat Arglwydd mae fy mhwys om calon ddwys ofalus, &c. Ac na thro d' wyneb Arglwydd glan oddiwrth vn truan agwedd, &c. Ac fymddiriaid Arglwydd ynot ti &c. a fydd yn esmwythder mawr i enaid cystuddiol. Ar rhai sydd vddynt archwaeth a blas cryfach yngair Duw a eill wneuthur math ar Letani gyffesawl vddynt 'eu hunain, cymwys ir amseroedd o orthrymder y byddont yn byw ynddo. Megis am esampl.
1. [Am laddiad brawd gyd a Cai, yr hwn yn ddiachos a lafruddiodd [Page 242]ei frawd diniwaid.]
[2. Am ein dianrhydedd annaturiol gyd a Cham a chwarddodd am ben dinoethni ei Dad.]
[3. Am ein halogedigrwydd dirmygus gyd ag Esau yr hwn a werthodd ei enedigaeth fraint am ddysgled o gawl.]
[4. Am ein cyssegrledrad gyd ag Achan, yr hwn a anturiodd yn ddrygionus ar yr hyn a gyssegraswyd i Dduw, iw ddinistr ei hun ai eiddaw.]
[5. Am ein gwrthryfel cythreulig gyd a Corah, ai ddilynwyr of, yn erbyn Moses ac Aaron preladiaid Duw yn yspryddol ac amserol.
[6. Am 'ruthro yn anifeiliaidd ar offeiriadau Duw gyd a Doeg iw difa hwynt [Page 243]mal y gallai ef gael rhan yn anrheithio eu meddiannaus.]
[7. Am wrthryfel annaturiol gyd ag Absalan yn erbyn ei garueiddiaf Dad; fe ddarfu i ni O Arglwydd wrthwynebu y nefoedd, a thynnu i lawr ddial arnom ein hunain. Eithr Cerydda ni O Arglwydd am hynny yn dy farn, nid yn dy gynddaredd, rhag ein difa, ac na byddo dim mwy o honow.]
Ac os chwychwi (fy merched) a fynnech, yn fwy hynodol, ei gymhwyso at eich rhyw chwi, chwi ellwch ei roddi yn y modd yma.
[1. Gyda gwraig Lot yn gadael ei gwr ac edrych yn ol at anllywodraeth Sodom.
[2. Gyd a Dinab yn cerddetri allan iw chywilydd ei hun i ddigio ei brodyr, ac anfodloni ei thad.]
[3. Gyd a dichellion meistres Joseph, yn erbyn ei gwas diwair.]
[4. Gyd a gwraig amhwyllig Job i chwanegi cystuddiau at gystuddiau mwyaf, ei gwr gorthrymedig.]
[5. Gyd a Gwatwor Michal am grefydd ddefosional David ei gwr, mal pe buasai yn anweddol i wr mawr oi le ef fod yn ostyngedig i Dduw]
[6. Gyd a balchder merched Sion yn gosod allan eu gwychder ir byd, Esa. 3. mewn vn ar vgain o foddau.]
Gyd ar gwragedd juddewaidd creision, ni chwrnwn [Page 245]ar weinidogion Duw, megis y gwnaethont hwy ar prophwyd Jeremi yn yr Aipht, ac a ddywedasant wrthynt mewn geiriau eglur, dywedont a fynnont, ni wnawn fal y mynnem, an gwyr an cyfiawnha ni yn hynny, mal y cymerasont yn llaw yno. Yn yr holl ddidrefnau anghysbell hynny, neu rai o honynt, y tynnasom dy gyfion farn arnom, eithr arbed ni Arglwydd daionus, arbed dy bobl yr rhai a brynaist ath werthfawroccaf waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd: yr hyn an harwain i ymbiliad yr all fath ar weddi gyhoedd.
PEN. II. Am Ymbiliau.
YN ol cyffes, y gellir m [...]ddwl am ymbil yn orau, trwy yr hyn y gallwn ni, yn oll gwybod yr haeddem amriw gospedigaeth am ein ancirif bechodau, lefain allan ar Dduw gydar. Psalmydd, [...]f 1103. os creffi ar anwiredd [...]u Arglwydd, O Argluydd pwy a saif? ac i syrthio i mewn i lyfr yr Ecclwys, o Arglwydd na wna a ni yn ol ein pechodau, ac na obrwya ni yn ol ein anwireddau. Acir deunydd yma yn llawn-lythyr yw yr ymbiliad a ganlyn. O Dduw drugarog dâd, yr hwn ni, dd [...]rmygi ochonaid calon gustuddiedig, &c. a hwn ac [Page 247]vn arall yn ei ddilyn nid yw waeth ei ddeunydd nag yntau: Nyni a attolygwn i ti o drugarog Dâd, yn drugarog edrych ar ein gwendyd, ac er gogoniant dy enw, tro oddiwrthym yr holl ddrygau yr rhai o wir gyfiawnder a haeddasom, &c. Ac yma y gellir cymeryd i mewn y llaferydd cyfnewidiol rhwng yr offeiriad ar bobl, yn y rhai hyn: O Arglwydd cyfot, cymorth a gwared ni er mwyn dy enw. O Dduw ni a glywsom an clustiau, &c. Ac am hynny yn awr O Arglwydd cyfot, cymorth gwared ni er mwyn dy anrhydedd. Mal y gallom ni bob amser a llaferydd ac a chalonnau cyttunol, yn y pwngc vchaf broffesid a dywedyd Gogoniant ir tad ar mab, [Page 248] &c. A pha beth yw yr ail gyfrif hynny ar beryglon (yn ein gweddiau neullduol) yn cyfodi megis mygdarth oddiwrth ein pechodau, yn ymgasglu i gwmmwl du oddialedd; i ochelyd yr hwn y llefwn ni ag vnfryd yn y Letani, Arbed ni Arglwydd daionus, a gwared ni Arglwydd daionus. Beth ydynt hwy ond cynifer o ymbiliau am fymud dihenyddiau cyfion, yr rhai oni bai hynny an difethent ni ollawl? Nid heb achos gyfyon gan hynny y cynghorai St. Paul, Timothi Escob (yr hwn a adawsai ef yn Ephesus, i osod athrawiacth yr Ecclwys ai discybliaeth) megis y cai ef mewn Athrawiaeth lafurio iw troi hwynt oddiwrth newydddeb, [Page 249]chwedlau ac ymrysymmau aniben ynghylch iachoedd, neu r cyfriw ddadleuon cynnenus heb dueddiad o adeiladaeth, ac am drefn discybliaeth, ef a fynnai osod yn y lle cyntaf, wrth drefnu addoliad cyhoeddus, 1 Tim. 2.1. ymbiliau gweddiau deisyfiadau a thalu diolch, tros bob dyn, ond yu enwedig tros frenhinoedd, a phamb sy mewn awdurdod, yr hon addysg pe buasit yn ei gorchymyn yn iawn, gan y rhai a gymerant arnynt fod a donnian mwy vddynt, nag iw brodyr, ai chadw yn well gan eu dilynwyr brydiol, neu Zelaidd, ni buasai arnom ni fawr eisiau y cyfriw ymbiliau leitwrgiaidd.
[1. Oddiwrth Greulondeb Herodaidd.]
[2. Phareseaidd falais ragrithiol.]
[3. Angrhediniaeth Saduceaidd anifeiliaidd.]
[4. Tra vchel fradwriaeth Judas.]
[5. Vffernol wrthwynebion Simon Magus ac Elimas.]
6. Gwarwor trefnus a chelwydd llyfn Ananias a Saphira.]
7. Cythryfwl a therfysg aruthrol y dwylaw Greftwyr, y gof arian, ar gof efydd, i luniaw yr Ecclwys ar Stât ar eu Heingion hwy, y modd y mwrthhoclient hwy) i ail-adrodd drachefn, a thrachefn; Gwared ni Arglwydd daionus.]
Bydded eich gofal gan hynny (fy merched) yn y cyfriw lefain soniarus ( gw [...] [...]wch yma Grist n [...]u accw [Page 251]Grist) wele chwi a gewch ei weled ef wrth y cyfriw afon, yn ailfedyddio, neu gyfarfod ag ef yn y cyfriw gyd gyfarfod, yn arferu dysgu neu gyfrannu ei ddonniau) bydded eich gofal meddaf na ymadawoch ar hên ffordd, yr hon sydd iddi warant o fod yn dda, oddiwrth yr hen o ddyddiau, ac i lynu yn dynn wrth dduw gyd ar Psalmydd, ac Luc. 21.19. yn eich amynedd meddienwch eich hunain, (yn ol addysg ein jachawdwl) yn y gorthrymderau mwyaf, heb ollwng tros gof y cynghor hwnnw, a roe r prophwyd difrifol-drist: Jer. 18.14.50. ni ddylid dewis dyfroedd dieithr o flaen ffynonnau rydegog ydynt gartref, na llwybrau disathr, o flaen yr hên ffyrdd yn yr rhai [Page 252]y rhodiodd ein tadau yn ddiogel heb dramgwyddo. Er mwyn cyflawniad or hyn: gweddiau a welir yn anghenrhaid, ac am hynny cymhwysaf iw ystyrried am deni yn y trydydd lle.
PEN. III. Am Weddiau neu erfynniau.
ERfynniau ydynt weddiau, a gyfeirir at Dduw er mwyn diwallu ein anghenion, neu lwyddo ein bwriadau an amcannion duwiol, pa vn bynnac ai ysprydol ai amserol. Or hyn y mae llyffr Gweddiau yr Ecclwys yn drysordy, yn cynwys yr holl bethau daion [...]s, newydd a hên, y [Page 253]sydd iw [ddymuned, a hefyd yn fagazin neu Stafellarfau yn yr hon y mae yr arfogaeth honno gan Dduw iw chael, i wrth-sefyll yn erbyn Twysogaethau, awdurdodau, a llywawdwyr bydol dywyllwch y byd hwn, Eph. 6.12, 13. a drygau ysprydol yn y nefolion leoedd, os parhawn ni a gweddiau oll ac erfynniau, a gwilio at hynny a dyfal bara, yn ol cyngor yr Apostol i ni. Canys yma yn ol cyffes on pechodau, a thaer ymbil i ochel cospedigaeth, mor drefnus hwylgar yr arweinnir [ni ym malen i fod yn Erfynwyr gostyngedig am danghneddyf ac ymddiffyniad? Yr hyn a drefna y dedwyddwch mwyaf ar a ellir ei ddisgwyl yn y byd yma. Yr awrhon am y cyntaf, y [Page 254]mae genym y gweddiau yma, O Dduw yr hwn myt Awdwr tanghneddyf a charwr cyttundeb, &c. Ac O Dduw oddiwrth ba vn y daw p [...]b cyngor da, a deisyfiad sanctaid, &c.
Am yr ail, yr rheini, O Arglwydd ein tad nefol holl alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn an dygodd ni yn ddiangel hyd dechreu y dydd heddiw, ymddiffyn ni ynddo ath gadarn allu, &c. A, Goleuo ein tywyllweb ni a attolygwn i ti, a thrwy dy fawr drugaredd ymddiffyn ni, &c. Yr rhai syn dal fod yr rhain ar cyfriw erfynniau, yn llai effeithiol o herwydd eu bod yn gyffredin, ac felly wedi eu cymhwyso i eneuau plant bychain, a rhai yn sugno bronnau or deall lleiaf, ym [Page 255]mhlith cyffredin, allant yn gystal ddibrisio yr haul ar lleuad, sy n rhoddi eu llewyrch yn gystal ir Tywysog ac ir gwrongyn, a bwrw ymaith yr holl desdyn or Scrythyr, o ran nad yw yn dyfod bob wythnos mewn cyfieithiad newydd.
Yr rheini hefyd a chwenychai fwy o amldra, megis mwy croesawgar iw chwantau hwy, (yr rhai ni fodlonai M [...]nna or nefoedd yn hir mo honynt) os cymeran [...] y boen i arferu gyd ag arafwch a symlrwydd calon, y deuddeg a phedwar vgain, yr rhai nid ydynt ddim arall, ond erfynniau bywiol a pherthynasol, gwedi eu llunio ai cymhwyso at yr amser or flwyddyn, allan o Desdynnau yr Epistoloedd ar Efangylau [Page 256]am y Suliau ar Gwyliau, ni chaiff weled mor fath withen o Ddefosiwn yn rhedeg mewn vnrhyw gymmorth, neu lawforwyn, neu yn yr ymarfer o Dduwioldeb, a ddichon lenwi y newynog a phethau da, pryd y gallo y goludog yn ei ddewisder mingrynnaidd gael ei anfon ymaith mewn eisiau. Lle ar y ffordd; o bwriwn ni olwg ar y Letani, pa beth yw r holl ddeisyfiadau angenrhediol hynny (y rhai y darfu i feddyliau crefyddol llawer o ocsoedd eu gasglu ynghyd) ar rhai y mae hên ag ieuang, tlawd a chyfoethog, megis yn cyd gynnyg trais ai llefain ir orseddfa Rhad ( ni attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd daionus.) Beth yw hyn ond Swm ein holl [Page 257]erfynniau yn vn gadwyn, yn yr hon y mae i ni oll ran, yr hyn y bydd anawdd ir gwyr ar donniau goreu feddwl am dano? O pa fath amlder rhyfeddol o ddewis a ellir ei gael yma. Megis pan edrychom ni ar yr Scrythyrau, id dechrau ar colect hwnnw or ail Sul or Adfent. Bendigedig Dduw, yr hwn a beraist yr holl Scrythyr yn scrifenedig er ein haddysg ni, &c.
Pan gymerom mewn llaw, heu ddechreu vnrhiw orchwyl on galwedigaeth, i beri bendith arno, ar weddi a wyddis mor dda, Rhagflaena ni Arglwydd yn ein holl weithredoedd ath radlawnaf hoffder, &c.
Wrth ddechreu ar ein gweddiau, mor gymhesur yw honno. Cynnorthwya ni [Page 258] yn drugarog yn ein gweddiau an erfynniau, &c. Neu yr hwn a ganlyn. Hollallnog Arglwydd a thragywyddol Dduw, caniatiâ ni attolygwn i ti, vnioni sancteiddio, a llywio, &c.
Ac yn ol gwrando pregeth mor dduwiol a gweddol yw yr erfynniad hwnnw? Caniattâ ni attolygwn i ti oll alluog Dduw am y geiriau a glywsom heddiw an clustiau oddiallan, &c.
Ac i gloi ar ein holl weddiau, yr hyn sydd yn cloi ar wnsanaeth y Cymun? Oll-alluog Dduw, yr hwu a addewaist wrando eirchion yr rhai a ofynnant yn enw dy fab, &c.
Y maent hwy yn anheilwng i weddio neu i gael eu gwrando, y rhai a wrthodant [Page 259]y cyfriw ffynonnau adnabyddus o ddyfroedd bvwiol, ac a gloddiasant iddynt eu hunain bydewau, bydewau wedi torri na ddalient ddyfr, neu (ond odid) peth cymysgedd o Marah neu Merthbab; yr hwn ni ein harwain ni i ffynonnau y cyfryngdod, yr rhai nesaf a ganlyn.
PEN. IV. Am Gyfryngdod.
YM mhlith y [...]hywiau hynny ar weddiau, ir rhai y mae yr Apostol yn cynghori yn enwedig, gweddiau o gyfryngdod a ganlyn ddeisyfiadau, yr rhai ydynt erfynniau a roddir i fynu at Dduw tros eraill, tros yr rhai yr ydym ni yn rhwym i weddio, vn ai o ran naturiaeth, cyfraith, neu gariad Cristnogawl. Tan y titl neu r enw yma gan hynny, y daw yr holl weddiau hynny sydd genym ni tros yr Ecclwys yn gyffredinol, ac yno yn fwy gwahanredol, tros benaethiaid, blaenoriaid, cynyseifiaid, cefeillion, gelynion, a phawb sydd yn vnig, [Page 261]ac yn orthrymedig, ar gael o honynt ymwared; ar holl rai a fyddont, mewn yr fa buchedd dda, iddynt hwy gael eu hymddiffyn ai cussuro.
Ir cyfriw weddiau y mae r Psalmydd yn cynghori holl bobl o feddyliau da yn enwedig, pan ymgynhyllont ynghyd, O gweddiwch (medd ef) am heddwch Jerusalem, llwydded y rhai ath hoffant, heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balsau: er mwyn fy mrodyr am cefeillion y dywedaf yn awr heddwch fyddo i ti, er mwyn ty yr Arglwydd ein Duw y ceisiaf-i ti ddaioni. Felly y gweddiodd Samuel tros Saul, nes i Dduw ddywedyd yn eglur iddo ef ei wrthod ef. A chyhyd a [Page 262]hynny mewn cariad perffaith yr ydym ni i weddio tros yr rhai afreolaf, nes i Dduw eglurhau trwy eu torri hwy ymaith, fod eu cyflwr yn anobeithiol, yr hyn ni wasanactha i ni fod yn phy hy iw lagfarnu, gan weled fod yr hon oedd a saith gythraol ynddi, i fyned yn wasanaethyddes tra - vfudd garedigol in jachawdwr; ar hwn ydoedd yn erlidiwr creulenaf, yn cymeryd y boen fwyaf ym mhlith yr 1 Cor. 15.10. Apostolion. Yr oedd gobaith gwan o gadwedigaeth St. Peter yn y carchar, gwedi ir cleddyf roi r dynged i dorri pen St. Jago; a Herod wedi ymroi yn ollawl i fodloni yr Juddewon gwaedlyd. Act. 12.5. Peter gan hynny a gadwyd yn y carchar (medd y Tecst) eithr [Page 263] gweddi (sef cyfryngdod) yn ddyfal a wnaethbwyd at Dduw trosto ef. Ac onid oedd y digwyddiad mor rhyfeddol? Angel a waredodd Petr, ar Juddewon a dwyllwyd am a ddisgwylient. Ni feddyliai lawer am St. Paul (yr hwn a 2 Cor. 4. gafas y ffafor iw gippio i fynu i beradwys, i glywed geiriau anrhaethadwy: yr rhai nid oedd gyfreithlon i ddyn eu hadrodd) y byddai rhaid iddo eisiau cyfryngdod vnrhiw oi droadigion, yr rhai yn ddiweddar, a ddysgasai ef vddynt wyddor Cristianoldeb; etto ni welwn beth a scrifennodd ef at y Thessoloniaid, 1 Thess. 5.25. fy mrodyr, gweddiwch trosof fi. Ac at yr Hebreaid, gweddiwch trosom ni canys yr ydym yn credu fod genym [Page 264]gydwybod dda gan ewyllysio fyw yn onest ym mhob peth. Na nid oedd na Pharaoh na Simon Magus mor galon galed, er eu bod ym mustl chwerwedd na fynrent, ac na ddymunent gyfryngdod gweision Duw. Gweddiwch ar yr Arglwydd (medd Pharaoh) ar Exod. 9.28. na byddo taranau na chenllysc. Act. 8.24. A Gweddiwch chwi trosof fi at yr Arglwydd mal na ddel dim or pethau a ddywedasoch (medd Magus). Am hynny y gosododd St. Jago y hi n rheol ym mhlith y ffyddloniaid, cyffeswch eich pechodau bawb iw gilydd a gweddiwch tros eu gilydd fel ich iachaer. Y ddau eli hynny a wna feddyginiaeth enaid godidawg, i bobrhyw friwiau ysprydol a sictodau. Ac [Page 265]am hynny mae cenym ni amriw ffurf effeithiol o gyfryngdod a gweddio yn llyfr ein Eglwys. mal y gallaf fi yn dda arfer y geiriau wrthych chwi, a ddywedodd Boaz wrth Ruth oni chlowch chwi fy merched, nag ewch i loffa i faes arall, ac nag ewch oddiyna. Canys yma y cewch yr hyn ach bodlona. Y patrwm o weddi a gawsom gan ein jachawdwr tros ei Apostolion, ei ddilynwyr ai droadigion, Joan 17. Megis y cawsom ei weddi gyffredin ef am bob peth angenrheidiol, Mat. 6. Yn gydffurfiol ar hwn y lluniwyd y weddi odiaethol yn llyfr ein Hecclwys, tan y titl o Gweddiwn tros holl Stât Ecclwys Grist sydd yn milwrio yma ar y ddaiar, [Page 266]yn y geriau hyn. Hollalluog a thragywyddol Dduw, yr hwn trwy dy Apostol sanctaidd an dyscaist, i wneuthur ein gweddian an erfynniau attat, ac i roi diolch tros bob dyn, &c. Y weddi yma fydd raid ei dyscu ar dafod leferydd, ai harferu bob amser ar bob achosion. Ac yn neulltuol oni welwn ni weddiau ym mhellach tros y Brenin, y frenhines, ar frenhinawl hiliogaeth, Escobion, ar holl eglwyswyr, yn drefnus yn canlyn y naill y llall. Ir vnrhyw arfaeth y mae y gweddiau cyfnewidiol hynny rhwug yr offeriad ar bobl, O Arglwydd dangos dy drugaredd arnom, a chaniatta i ni dy iechydwriaeth, O Argwydd. Cadw y Brenin, &c. Yr hyn y gellir dysgu [Page 267]ich rhai bychain ei adrodd gan atteb y naill y llall. Y cyffelyb weddiau a gydadroddir mewn periodas tros y pleidiau a beriodir: O Arglwydd cadw dy was ath llaforwyn, yr rhai sydd yn ymddiried ynot, &c. Yn ymweliad ar claf; O Arglwydd cadw dy was yr hwn sydd yn ymddiried ynot, &c. Ac ar gyfarfod gwragedd, a elwir rhyddhau yn gyffredin, O Argylwydà cadw y wraig hon dy wasanaethyddes yr hon sy n ymddiried ynot, &c.
Perswadiwch eich hunain (fy merched) nad yw y peth hyn iw di-ystyru ai rhoi heibio. Y symlrwydd yma i ddyfod at Dduw a chalonnau da, [...]c a meddyliau gostyngedig mewn vfudd dod in mam yr Ecclwys, [Page 268]yr hon an hyfforddodd ni mal hyn, a fydd mwy cymeradwy iddo ef a mwy gwerthfawr na saith allawr Balac, Pf. 69 31. a Balam yn cyrchu prophwydoliaeth oddiyno, ie nag aberth O fustach (i arfer geiriau y Psalmydd) corniog carnol. Canys nid â dychymygion trwyadl, neu odidawgrwydd ymadrodd y rhyngir bodd Duw (mal y dywaid yr Apostol) nid 1 Cor. 2.1. yw doethineb y byd hwn iddo ef ond ynfydrwydd, ai deirnas ef nid yw yn sefyll mewn geiriau ond mewn gallu os ein calonnau gan hynny ni n condemna, mae Duw yn fwy nan calon, [...]c awyr bob peth. Ac yno (medd yr Apostol bendigedig) os ein calon ni n condemna y maie genym hyder [Page 269]ar Dduw, 1 Joa. 2, 20 21, 22. a pha beth bynna [...] a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn gonddo ef, os cadwn ei orchymynnion ef, a gwneuthur y pethau a ryngo fodd yn ei olwg ef. Ac felly ni allwn ddiwedd gyd ar gwr wrth fodd calon Duw, y gostyngedig a ystyrria hyn ac a fydd lawen, ceisiwch yr Arglwydd yn ei Ffordd aeh enaid a fydd byw.
PEN. II. Am Ddiochgarwch.
DA y dylai Ddiolchgarwch ddilyn Gweddiau o gyfryngdod; yr hwn yw r vnig daledigaeth a ddisgwyl Duw, am yr anfeidrol fendithiau a dywalldodd ef a [...]nom ni. Ym mhlith Aberthau yr hên Destament, hon o ddiolch a hynodir yn bennaf iw hiro ag olew llawenydd, Levi. 7.12. Psal. 20 4.15. a wna ir wyneb ddisgleirio. Yn hyn o beth mae r Psalmydd yn gyflawn: mal y mae yn anawdd iwch weled dim y mae ef iw ddatcan yn eglurach. Yn y 92 Psalm yr hon a elwir 7 Psal. am y dydd Sabbaoth nid oes un gychwynfa iddi [Page 271]ond trwy ddôr diolchgarwch. Da yw moliannu r Arglwydd, a chanu mawl ith enw di y goruchaf, a mynegi y boreu am dy drugeredd ath wirionedd y nosweithiau, ar ddectant ac ar y nabl, ac ar y delyn yn fyfyrriol, nid oeddid yn dal miwsic Ecclwysawl yn yr oes honno yn ddelwaddoliaeth, eithr ei gymeryd yn help ac yn gymorth i osod allan fawi Duw a diolchgarwch. Am gyflawniad yr hon ddyled, y mae cynifer o rwymau arnom, mal y mae y prophwyd yn llefain o eisiau ymadrodd, Beth a dalaf ir Arglwydd am ei holl ddonniau i mi: ac yn ymroi am dano ei hun; Psa. 116.12. Molaf yr Arglwydd yn fy myw canaf Psa. 145. im Duw tra fyddwyf: [Page 272] gann gynhyrfw eraill ir vnrhiw ddyled. Molwch yr Arglwydd medd ef canys da yw canu in Duw ni, o herwydd, Psa. 47.1. hyfryd yw, ie gweddus yw mawl.
Ond pa raid i ni fyned ym mhellach lle y mae genym ni ddefod ac arfer ein Jachawdwr in harwain ni? i ti yr ydwyf yn diolch o Dâd Arglwydd nef a dauar, am i ti guddio y pethau hyn rag y doethion, [...] 11.25. a rhai deallus, ai dadcuddio hwynt ir rhai bychain: ie O Dâd canys felly y rhyng odd bodd i ti. Yn cyttuno a hwn, y mae gynym ni ffurf helaeth am dalu d [...]olch, heb law llawer eraill (in hannog ni ein hunain, ac eraill) o waith y Prophwyd brenhinol. Ps 136.23. Clodforwch yr Arglwydd canys da yw, o herwydd [Page 273] ei drugaredd sydd yn dragywydd. Clodforwch Dduw y Duwiau, oblegit ei drugaredd sydd yn dragywydd. Clodforwch Arglwydd yr arglwyddi, e herwydd ei drugaredd sydd yn dragywydd.
Ar y sail hon yr ymddangosai y pedwar ar hugain o henuriaid yn arwyddoccâu holl Ecclwys y ffyddloniaid: gan syrthio ar eu hwynebau a moli Duw, gan ddywedyd yr ydym ni diolch iti o Arglwydd Dduw hollualluog, Dad. 111, 16, 17. yr hwn wyt, yr hwn oeddit, ar hwn sydd i ddyfod oblegit di a gymeraist dy allu mawr ac a deirnasaist.
Oddiwrth yr rhain ar cyffelyb batrymau y tynnwyd ffurfoedd a moddau ein llyfrau ecclwysig.
[Page 274]Diolch am law yn amser fychder, [ O Dduw ein Tad nefol yr hwn trwy dy ragluniaeth grasusol a beraist y cynner ar diweddar law i ddescyn ar y ddaiar, &c.]
Am hin deg, [ o Arglwydd Dduw, yr hwn yn gyfiawn an darostyngaist ni trwy dy ddiweddar blâ o anfeidrol law a dyfroedd, &c.]
Am helaethrwydd, [ Yr hwn oth raslawn ddaiom a wrandewaist ddefosionol weddiau dy Ecclwys, &c.]
Am heddwch a buddygoliaeth, [ Holl-alluog Dduw yr hwn wyt Dwr cadarn o ymddiffyn ith weision yn erbyn wyneb eu gelynnion, &c.]
Am ymwared oddiwrth y plâ nodau [ O Arglwydd [Page 275] Dduw yr hwn an | barchollaist ni am ein pechodau, &c.]
Yn ol derbyn Swpper yr Arglwydd, [ Holl-alluog a thragywyddol Dduw ni a ddiolchwn yn ostyngedig i ti am iti ein porthi ni yr rhai yn ddyledus a dderbyniasom y dirgeledigaeth sanctaidd hyn, &c.]
Ac yn olaf ei gyd, tan ditl gweddiau gosodedig yn gyffredin yn niwedd llyfr yr Ecclwys, pa fath gyflawn ffordd ar dalu diolch sydd genym ni, a ddechrau yn y modd hyn? [ Anrhydedd a moliant a rodder i ti, O Arglwydd Dduw holl-alluog, anwylaf Dad am dy holl drugareddau ath caredigrwydd cariadol a ddangosaist ti i ni, &c.] Yr hwn a ddiwedda ar [Page 276]tra duwiol angenrheidiol erfynniad hwn iw arfer bob amser ar bob achos, Bydded dy law alluog ath frauch estynnedig yn wasdad in ymddiffyn, &c.]
Ich rhyw chwi hefyd (fy merched) diolch gwragedd yn ol geni plentyn nid yw iw adael allan, yr hyn a elwir yn gyffredin, Ecclwysa gwragedd (er bod yr amseroedd diweddar yn ei dybed yn ofergoel neu yn ddelwaddoliaeth:) yn yr hyn [ yn gimaint a rhyngu bodd ir holl-alluog Dduw oi ddiaent roddi i ti ddiogel ymwared, ath cadw yn y mawr berigl wrth enedigaeth dyn lach.] Ef a elwir arnoch i fod yn ddiolchgar och calon ac i weddio a geiria [...] y Psalmydd Derchefais lly [...]ygaid ir mynyddoedd, [Page 277]or fan y daw fy iechydwriaeth: fynghymorth a ddaw oddiwth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daiar. At hyn a ganlyn nith lysc yr haul y dydd na r lleuad y nos, &c. nid yw amherthynasol, megis y mae rhai yn ei gymeryd) yn gimaint ai fod yn traddodi holl gadwedigneth i Dduw bob amser, ym mhob lle yn ein cyfyngder mwyaf. Pryd y rhoddir i chwi ddiolchgarwch mwy defosionol, diwyd a dysgedig, ar seiliau, ac Awdurdod diogelach (fy merched) chwi ellwch fodloni eich cydwybod i wneuthur deunydd o hono. Yn y cyfamser chwi ach eiddaw ellwch ymborthi ar y llunia eth a ganniattaodd eich [Page 278]mam yr Ecclwys yn drahelaeth i chwi; ac heb fwrw o amgylch am newid mamaethod yr rhai yn brin a brifiant yn naturial i chwi.
PEN. VI. Am Glodfawredd.
MAwl neu glodforedd yw cydnabod dyledus odidawgrwydd anherfynol Duw, adroddedig yn ei weithredoed o allu, trugaredd, a Barn, y mae y fath garennydd rhyngddo a diolchgarwch; mal y maent yn gyffredin yn myned ynghyd, ac yn arferol iw cymeryd vn tros y llall. Megis yn y Psalm hwnnw, Dy holl weithredoedd ath Psa. 145.10. Ad. 1.2. clodforant, O Arglwydd, ath Sainct ath fendithiant. Derchafaf di fy Nuw o frenin a bendithiaf dy enw byth [Page 280]ac yn dragywydd: beunydd ith fendithiaf ath enw a folaf byth ac yn dragywydd.
Er hynny, pa ddelw bynnac yr arferir derchafu, moliannu, bendithio, neu dalu diolch i Dduw, at yr vn arfaeth, etto fe dichon moliant berthynu i odidawgrwydd, ir hwn nid ydym ni rwym i ddiolch, lle mae diolch yn cau moliant oi mewn am ganniattau i ni fendith am yr hon yr ydym ni yn rhwym i fawrygu y Rhoddwr.
Yn yr hên Destament, y rhai a geisiant ffurfoedd ir tuedd yma, a gant weled fod holl Psalmau David yn y dechreuad i ddyfod tan y titl o lyfr o glodforedd, nid, o ran y gellid galw yr holl Psalmau oi fewn felly, [Page 281]eithr o herwydd bod y rhan fwyaf felly, sydd yn rhoddi cyfenwad ir cyfan.
Ensamplau o foliaut i chwi (fy merched) a ddichon fod yn berthynasol mal honno o Miriam, a gofir i bob hiliogaeth a ddel ar ol, iw dilyn, yn y geiriau hyn. A Miriam y brophwydes chwaer Aaron, a gymerodd dympan yn ei llaw, ar holl wr [...]gedd aethant allant ar ei hol hi, a thympanau ac a dawnsiau (nid oedd vn y pryd hynny mor betrusol a gweled bai arnyut) a dywedodd Miriam wrthynt, Ex. 15.10, 21. cenwch ir Arglwydd, canys gwnaeth yn ardderchog, bwriodd y march ar marchog ir môr. O pa fath ynfydrwydd godidawg yw pan fyddo y naill yn ceisio [Page 282]rhagori ar y llall, ac yn ymdrechu pwy a gaiff foli Duw yn fwyaf am y bendithiau a dywalltwyd arnynt yn yr vnrhyw laferydd o gydgerdd yw cân Deborah a Barac am ladd y Penblaenor Sisara: Am ddial dialeddau Israel, Baru. 5.2. ac ymgymell or bobl, Bendithiwch yr Arglwydd, &c. wrth cyffelybiaeth ir hyn, nid yw r nod uchaf o farddoniaeth ac awenydd y cenedloedd yn seinio ond coegwag ddifyw.
Ac na thybier fod y gwragedd da O Bethlehem a foliannai Dduw am enedigaeth Obed, Taid Brenin, David yn anheilwng i wneuthur ar eu hol yn y cyffelyb achos. Ar Gwragedd a ddywedasant wrth Naomi, bendigedig fyddo r Arglwydd [Page 283]hwn nith adawodd di heb gyfathrachwr, fel y gelwid ei enw ef yn Israel, ac efe a fydd i ti yn adferwr einioes ac yn ymgeleddwr ith Ruth 4.14, 15. penwynni; canys dy wawdd neu dy ferch ynghyfraith yr hon ath gar di a blantodd iddo ef, a hon fydd well i ti na saith o feibion.
Hymn neu gan Hannah ddiolchgar a droir ar yr vn cywair; Am enedigaeth ei mab Samuel. A Hannah a weddiodd ac a ddywedodd, llawenychodd fynghalon yn yr Arglwydd fynghorn a dderchafwyd yn yr Arglwydd, fyngenau a ehangwyd ar fyngelyn [...]ion, canys llawenychais yn dy iechydwriaeth di. Eithr ardderchawg vwchlaw y cwbl oll yw r Magnificat neu r [...]gan o foliant a diolch or fendigediccaf [Page 284]forwyn fam a gedwir yn llyfr ein Hecclwys ni iw hailadrodd bob amser lle mae gostyngeiddrwydd yn ei deichafiad mwyaf, yn gosod y cwbl oll at ogon [...]ant Ddw, ac yn llewyrchu beunydd ar ddaioni r Etclwysydd wedi roi allan yn dra-bywiol, ef a edrychodd arnaf fi vn truan gan wneuthur cyfrif o isel ac anystyrriol gyflwr ei lawforwyn, heb synnied ar wychder cynnyddol y cyfoethog ar galluog, ef a gofiodd ei drugaredd am iechydwriaeth ac ymwared Israel yn ol yr addewid a wnaethbwyd in Tadau, ac am hynny fy enaid a fendithia ac a fawryga yr Arglwydd, am hyspryd a lawenychodd (nid am ddim a dal ei glodfo [...]i ynof fi eithr) yn Nuw yn [Page 285]vnig fy iachawdwr. O na feddyliai y rhai beilchion or amserau yma am hyn o beth. Yr esampl hon yn vnig a fyddai ddigonol i dynnu i lawr eu golygiadau vchelfalch ai gosciadau newyddion ffringc-glymmau: gan weled fod y fendigodiccaf ym mhlith oll ferched, ai serch y ffordd arall.
Y ceffelyb awenydd yw r Benedictus hwnnw o waith Zachari sanctaidd Bendigedig neu mawledig fyddo Arglwydd yr holl ddaiar, gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd, deuwch oi flaen ef a chan. O ewch i m [...]wn iw byrth ef a diolch, ac iw gynteddau ef a mawl, diolchwch iddo a bendithiwch ei enw. Ac fe haeddai ei nodi fel megis y mae r llyfr o gant a deg a deugain [Page 286]o Psalmau yn dechreu a Bendigedig yw r gwr (neu llawer bendith sydd ar y gwr hwnnw) ni rodiodd yngynger yr anuwolion, ond a gusanodd y mab, ond a drefnodd ei lwybrau at Dduw, ir hyn y mae y deg a daugain cyntaf yn enwedig yn ei arwain ef; ac ni saif yn ffordd pechaduriaid. Yn ei ymddwyn ei hun oddiwrthynt, mal peth tra-pheryglus: mal y mae yr ail deg a deugain yn ei dywys: felly y mae y trydydd deg a deugain, yn ei dynnu ef ai eiddaw oddiwrth eisteddfa y gwatwarwyr; ac yn ei dderchafu i fynu a Psalmau o raddau, ac haleluiak i ddiolch ac i glodfori Gwneuthurwr ac ymddiffynnwr pob peth, gan gloi a selio i fynu y cwbl [Page 287]oll ar diben hwn Pob perchen anadl molianned yr Arglwydd, molwch yr Arglwydd.
Am hynny na fydded ein Te Deum [Tydi a folwn o Dduw ti a gydnabyddwn yn Arglwydd] neu y Benedicite y caniad a ganlyn: [Oll weithredoedd yr Arglwydd bendithiwch yr Arglwydd molwch ef a mawrhewch yn dragywydd] iw tybed yn oforgoelaidd neu ormodedd yn llyfr ein Hecclwys ni, am na chawsant mor Awdurdod ganonicol honno, yr hon a gafas yr Scrythyrau or blaen, rhag in pregethau ni, an mawl an gweddiau di ragfyfyrriol fod o herwydd hynny i fwrw yn eu herbyn, ac felly pregethu i fod yn ddigoel, megis mewn [Page 288]cymydogaeth ryagos weithiau i Apocripha. Bydded yn ddigon gan hynny, fod y cyfriw weddiau sanctaidd, ac sydd vddynt ai sail yn yr Scrythyr lân, oddiwrth yr hon mal bannau ein ffydd y tynnwyd ac y lluniwyd, i ddealldwriaeth a choffadwriaeth oll, ar na ellir eu haddysgu ai hathrawiaethu yn, fwy adeiladus a nerthol. Felly [Gogoniant ir tad ac ir mab ac ir yspryd glan] a addroddir cyn fynched i gynal i fynu yr Athrawiaeth or Drindod fendigedig yn erbyn yr hereticiaid hên a newydd: ar felus hudolwawd Angelaidd a arferir yn ol derbyn Swpper yr Arglwydd [ Gogoniant i Dduw yn yr vchelder, ac yn y ddaiar ta [...]ghneddyf ewyllys da i ddynion. Nith folwn nith fendithiwn [Page 289]nith addolwn, nith ogoneddwn di, i ti yr ydym ni yn diolch am dy fawr ogoniant, O Arglwydd, &c. sydd or cyfriw gasgliadau, mal y dichon gwyr ieuangc a gwyryfon, hên wyr a bechgin glodfori enw yr Arglwydd, mal y mae r Psalmydd yn eu cynghori hwy i wneuthur. Gyd ar hwn y gallwn ddiweddu yn ddiogel yn yr hyn y mae llyfr ein Hecclwys yn ei gymeryd yn ddechreuad. O dowch, canwn ir Arglwydd, &c. Llewenyched ac ymhyfryded ynot ti y rhai oll ath ceisiant: dyweded y rhai a garant dy iechydwriaeth bob amser mawryger yr Arglwydd.
PEN. VII. Am Cominasiwn neu regfâu.
COminasion yn llyfr ein Heglwys ni, sydd ran o ddysgeidiaeth yr Ecclwys, lle yr ydis yn adrodd barredigaethau Duw yn erbyn troseddwyr hynodol, iw dychrynu hwynt oddiwrth eu harferau cynhwynol, ac i beri i eraill ymattal rhag eu canlyn hwynt yn eu ffyrdd meldigedig, yr rhai trwy eu geneuau eu hunain a alwent yn felldigedig.
[Page 292]Y Sail i hyn o beth yw y seithfed ar hugain o Deuteronomt gyd ag ychydig cyfnewidiad o eiriau a matter, iw roi yn gyfaddas in hamser ni. Ac ir vn diben y mae y gwaeau hyn a adroddir gan ein Jachawdwr ( Mat. 23.) yn e [...]byn Scrifenyddion a pharaseaid rhagrithiol; yn hyn nid eiff ei amser allan byth tra-glofo [...]rir allan yr vnrhiw b [...]chodau, ac y tybir hwynt yn rheol dda, ac heb edifarhau am danynt o eigion calonnau ym mhlith proffeswyr Cristianogaeth.
Carenydd agos sydd rhwng y Ceminasion hwn ag escumundod yr Ecclwys, trwy r hwn y cedwir allan droseddwyr cyndyn hynodol [Page 293]oddiwrth ddawn Cymun y Sainct, ac ai traddodir i Satan (mal y Corinthiad godinebus ymlosgaidd gan St. Paul) i ddinistr 1 Cor. 55. y cnawd, fel y byddo yr yspryd yn gadwedig yn nydd yr Arglwydd Jesu Christ.
Yr arferion gwarantedig ac awdurol hyn, gan y ddysgeidiaeth gynfydedig iw ystyrried fel y dylent, a ddylai fagu dychryndod anesmwyth ynghydwybodau y rhai a orwedd tan y cyfriw farn o felldithiau. Canys na thwyller chwi, Gal. 6. ni watworir Duw, yr hwn ni fynn esceuluso moi Ecclwys, rhagorfreintiau yr hon o rwymo a rhyddhau yma ar y ddaiar, Mat. 18.18. ydynt mewn scrifengof yn y nefoedd. [Page 294]Ac os cymerwn ni ei fod yn fatter gwael, gael ein cyfrif gan bobl Dduw, megis yn angrist neu bwblican, ym mynediad olaf y ffyddloniad, ar vfudd weision i Jerusalem newydd, ni allwn ni ddisgwyl gwell cyfran na chael ein cau allan gyd ar cwn a dewiniaid, a phutainwyr, a delwaddolwyr, ar holl gelwyddwyr, a phob vn sydd yn caru ac yn gwneuthur D [...]. 21.8. & 21.11. celwydd ir, tywyllwch eithaf lle bydd wylofain a rhincian dannedd, ar pryf heb farw ar tân heb diffoddi.
Eithr yr hyn sydd o fwy deunydd a lles (i chwi fy merched) a mwy cyson at weddi, yr hon sydd, genym mewn law yw rhegi nen felldithio, pa cym [Page 295]mhelled y mae, iw ochel âi ffieiddio, ac etto mewn rhyw achosion yn safadwy.
Y cyfriw regfau gan hynny a ddichon fod ar greaduriaid anrhysymol neu rysymol.
Felly y melldithir y Sarph Gen. 3.14. vwch oll anifeiliaid, am fod yn offeryn i ddiafol i hudo dyn.
Y Tir a felldiged er mwyn dyn, a ymroesai mor hawdd i ddiafol i droseddu gorchymyn ei wneuthurwr.
Vn agwedd yn y Testament newydd ni ddarfu ir ffigusbren ni dygai ddim ond dail yn lle ffrwyth ddiangc rhag melldith ein Jachawdwr bendiged [...]g.
[Page 296]Nid yw y pethau hyn in ymarfer ni ond i ddal sulw arnynt in addysgu ni megis na lwydda dim heb fendith Duw: felly pan felldithio y daioni lleiaf, neu ronyn o gyssur ni ellir ei ddisgwyl.
Arfer llawer pan dramgwyddo neu dripio eu ceffyl, ddymuned neu ddywedyd diafol ath cymero, neu pan fyddo dim yngwrthwyneb eu hewyllys erchi ynghrog y bo neu r cyffelyb.
Y cyfriw felldithiau ydynt gamarferion arghymwys mewn Cristianogaeth, ac ni roddant fwy o fodlonthwydd na r hyn y mae r Psalmydd yn llefaru am danynt: Hoffodd felldith a hi a ddaeth iddo i [Page 297]ni fynnai fendith a hi a bellhaodd oddiwrtho.
Melldithiau yn erbyn creaduriaid rhesymol, a aill fod yn erbyn y cyfriw ac ydynt gablwyr Duw neu halogwyr o enw Duw, ai addoliad, dinistrwyr neu erlidwyr ei Ecclwys ai Seinctiau, Treiswyr a gorthrymwyr cyfreithiau iachus, a rhydd-dyd eu gwledydd. Neu yn erbyn personau eraill neu gefeillachoedd yr rhai trwy droseddau neullduol a wnaethont gam a ni neu an heiddaw.
Fod Cablwyr a Halogwyr enw Duw ai addoliaeth, Dinistriwyr, ac Erlidwyr ei Ecclwys ef ai Sainctiau, gortrechwyr cyfreithiau a rhydd-dyd eu gwlad, neu [Page 298]wneuthur ceisiau, tu ac at hynny, yn gorwedd tan felldith Duw, a holl bobl dda, ni eill neb amau, a ddarllennodd am y bachgen a labuddied i farwolaeth am Gabledd Levit. 24.14. ac Achan ai holl deulu a labuddiwyd ac a loscwyd am gyssegrledrad, Josua 7.22. Meroz a felldithiwyd yn chwerw greulon, am na ddaethent yn gynorthwy i bobl Dduw yn erbyn cedyrn. Barn. 5.23.
Felly am y Psalmau hynny i Ddauid y 83. ar 109. ar cyfriw ddigwyddiadau mewn rhai eraill, nid [...]haid moi cymeryd ollawlam gimaint o brophwydoliaethau, beth a ddigwydda ir drygionus, ond weithiau [Page 299]yn rhegfau i erfyn cyfiawnder Duw, i roi dialedd arnynt, yr rhai a barhant yn gyfan yn ei bywoliaeth gyndyn. Archolla lwynau yr rhai a godant yn erbyn yr Arglwydd neu ei Ecclwys ef, gwaith Moses yn bendigo gelynnion Levi, Deut. 33.11. Y neb nid yw yn caru yr Arglwydd Jesu Grist bydded Anathema Maranatha medd St. Paul, 1 Cor. 16.22. Ac or vnrhyw Zel frydiol y llefarai ef yn erbyn y rhai a fynnai fath arall ar Efengyl newydd, ym mhlith y Galatiaid penchwiban. Gal. 1.8. Eithr pe byddei i ni neu angel or nef, Anathema. efangylu i chwi amgen na r hyn a efangylasom i chwi bydded felldigedug. [Page 300]Megis y rhag ddywedasom, felly yr ydwyf yr awrhon drachefn yn dywedyd, os efangyla neb i chwi amgen, Anathema. na r hyn a dderbyniasoch, bydded felldigedig. Fel dyma felldith ar felldith, a thebygol fod yr erlidwyr damnedig yn ymgasglu tan ryw ben i wrthwynebu gwirionedd Duw. Lle y mae y rhegfa neu y felldith (felly welwch) mewn achos gyffredinol, wedi ei lefelu ai osod yn erbyn pechodau, yn hytrach na phersonau y troseddwyr. Canys yr rheini os gwêl Duw fod yn dda, trwy weddi ac edifeirwch eill ddychwelyd drachefn; megis Petr yn ol gwadu ei feistr, pryd y rhegodd ac y tyngodd nad adwae [...]ai ef mor dyn. Mat. 26.74.
[Page 301]Hyn oll a saif ac a gyttuna yn dda ac athrawiaeth, ac ymarfer rywogeiddia ein Jachawdwr: Yr wyf yn dywedyd wrthych chwi cerwch eich gelynion, bendithiwch yr rhai ach melldithiant, gwnewch dda ir rhai ach casant a gweddiwch tros yr rhai ach erlidiant ac a wnel niw d i chwi, Mat. 5.44. Canys camau personol neu neillduol rhwng vn ac arall, a ellir ac sydd raid eu maddeu, lle y mae y felldith yn ddyledus yn dragywydd i wrthwynebwyr holl wir danghneddyf, a duwioldeb. Oddiwrth yr hwn y mae i ni y pennod vchaf o gariad perffaith yn ei ing ai gyfyngder caethaf, ac eithaf ar y Groes tu ac at ei [Page 302]ddihenyddwyr gwatworus anifeilaidd, O Dad maddeu iddynt canys ni wyddant beth y maent yn ei wneuthur, Luc. 23.24. Mal hyn Pan ddifenwyd ni ddifenwodd drachefn, pan ddioddefodd ni fygythiodd, 1 Pet. 2.23.
Ni ddaeth errioed y fath eiriau oi enau bendigedig ef, sef mi allaf faddau ond ni ollyngaf fi fyth tros gof; mi gaf amser i dalu r echwyn adref i chwi, neu melldith Dduw ir hwn a wnaeth gam a myfi, mor gythreulig, neu y cyffelyb: nid felly, y mae ef yn ei orchymyn ei hunan yn vnig ir hwn a farna yn gyfion, yr hwn a ddadleu tros y gwirion, Psa. 35.1. yn erbyn y rhai a ddadleuant iw erbyn; ac a ymladd ar rhai a ymladdant [Page 303]ag efo; ac a ddywaid wrth ei enaid myfi yw dy iechydwriaeth. Canys i mi y mae dial, Rhuf. 12.19, 20. myfi a dalaf medd yr Arglwydd, am hynny os dy elyn a newyna portha ef, os sycheda dyro iddo ddiod, canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tânllyd am ei ben ef.
Ac yn ol y tynerwch ar tawelwch Cristnogawl hyn, nid wyf yn amau, nad oedd yspryd Duw yn hyfforddi yn vnion y Duwiol ddysgedig Gysylltwyr o lyfr gweddiau ein Hecclwys, i roddi i mewn y weddi gariadol honno a lefarir at Dduw ar ddydd Gwener y croglith (mal y galwn ni ef) tros bob math ar bobl, ar y dioddefodd ein Jachawdwr trostynt, mal gan gredu [Page 304]ynddo ef y gallont afaaelio yn yr vnig foddau oi Hiechywdriaeth. [Trugarog Dad yr hwn a wnaethost bob dyn, ac ni chashei ddim ar a wnaethost, ac ni ewyllysit farwolaeth pechadur, eithr yn hytrach dychwelyd o hono a byw, trugarha wrth oll Iuddewon Tyrciaid anghredyniaid a Hereticiaid, &c.
If cyfriw gariad a bendith in galwyd ni oll (mal y mae yr Apostol in athrawiaethu) fel yr etifeddom y fendith.
Brenin David yw yr esampl, yn gosod ei deulu (mal y dywedwyd or blaen) ni allai oddef i vnrhiw, anffyddlon, Psa. 101.1. Cildynnus enllibwr, Balch, Drygionus, celwyddog dichellgar, i aros o fewn ei dy ef. Ac os chwychwi (fy [Page 305]merched) a ddisgwyliwch fyth fendithiau Duw arnoch chwi, neu eich eiddaw, na chynwyswch fyth yn eich plith ddianrhydeddus grybwyll o enw sanctaidd Duw, na chelwydd, Tyngu rhegfau, drwg absen, cellwair halogaidd yn enwedig am air Duw, neu ei weinidogion, ymddiddan budrbwdrllyd, a lygra foesau da. Eithr dyrnodiwch (megis) yn y pen ach argyoeddiad ach ceryddau mwyaf effethiol. Yr hyn os gwnewch yn grefyddol mewn Zel a brydserch i ogoniant Duw, ac nid o ymddygiad drwgnaturus i dywallt allan eich afrywiogrwydd anweddaidd yno ich gwaredir O law meibion estron, genau yr rhai a lefara wagedd, ac y mae eu deheulaw yn ddeheulaw ffalster, [Page 306]felly y bydd eich meibion fel planwydd yn tyfu yn eu ieuengctyd, ach merched fel congl fain nadd, wrth gyffelybrwydd palas. Felly y bydd, eich celloedd yn llawn, yn trefnu pob rhyw luniaeth, an defaid yn dwyn miloedd a myrddiwn yn ein heolydd. Ach ychen yn gryfion i lafurio heb na ruthro i mewn, na myned allan na gwaedd yn eich heolydd.
Ac fel hyn (fy merched anwyl) yr ych chwi yn cael y rhodd oreu, yr hyn a allai fy stât ddinistriol fydol i, ym mhlith cynifer o wahaniadau amhwyllig, gasglu ynghyd i chwi, yn yr hyn y gellwch chwi ddal sulw a nodi i mi fy rhwymo fy hun o bwrpas ir Scrythyrau a llyfr yr Ecclwys heb chwanegi vnrhiw fannau neu [Page 307]droddion o vnthiw Awdur arall (y rhai er hynny ydynt gyflawn a buddiol yn y modd hyn) neu weddi om gwneuthuriad fy hun, i gael o honoch chwi ddeall, y cewch chwi ddigonedd yn y ddau lyfr hynny, os gosodwch chwi eich calon i wneuthur vnion ddeunydd o honynt, heb fyned o amgylch am hyfforddiadau newydd goweirio.
Mi ddiweddaf ar colect a osodir am y pedwerydd sul yn ol yr ystwyll, yr hwn a wasanaetha yn gymesur ir amseroedd yr ydym ni yn byw ynddynt, ac a ganmolwyd i ni gan eich Taid sion Prideaux fy nhad anwyl, pryd yr oeddwn yn fachgen, yn amser y pla nodeu, y geiriau yw r rhain:
[Page 308] O Dduw yn hwn a wyddost ein lob wedi gosod mewn cimaint cynifer o beryglau, mal oberwydd gwendyd dynol na allwn bob amser sefyll yn union, caniatta i ni iechyd enaid a chorph, mal y byddo am yr holl bethau yr ydym yn eu ddiodd ef am bechod, allu o honom trwy dy borth di eu gorfod ai gorchfygu trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
[Page 309]Ar hwn y gellwch chwanegi (o mynnwch) y colect am yr ail Sul or grawys.
Hollalluog Dduw, yr hwn wyt yn gweled, nad oes genym ddim meddiant on nerth ein hunain in cymorth ein hunain, cadw di ni oddifewn ac oddinllan sef enaid a chorph, ac ymddiffyn ni rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo [Page 310]ir corph, a rhag pob drwg feddwl a wna niwed ir enaid trwy Jesu Grist ein Harglwydd, Amen. Yr hwn ach gwnel chwi ach eiddo yn gyfrannogion helaethlawn o bob amserol, ysprydol, a nefol fendithiau oddiallan o ddifewn yn dragywydd. Ir hwn gyd ar Tad ar yspryd glan, tri pherson ac vn Duw, [Page 311]y byddo oll anrhydedd, gallu, mawrhydi mewn gweddi moliant, a diolchgarwch, [iw roddi] yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.