Adroddiad Cywir, O'r Pethau pennaf, ar a wnaeth, ac a ddwedodd Yspryd Aflan. YM MASCON yn BURGUNDY; Yn Nhý un Mr. FRANCIS PEREAUD, Gweinidog EGLWYS y Protestantiaid yn y DREF honno:

A Ossodwyd allan yn Frangaeg gantho ef ei hun; a chwedi hynny yn Saesoneg, gan un ac oedd a gwybodaeth neilltuol yng­hylch y Stori hon:

Ac yn awr wedi ei gyfieithu yn Gymraeg, gan S. H. o Abertawe.

Ai Brintio yn Lundain gan T. S, yn y flwyddyn. 1681.

I'm Parchedig a'm Dyscedig Ffrind, Doctor Peter Du Moulin.

Syr,

ER fy môd yn tybied yr edrychwch ar fyng waith yn danfon attoch Lyfr ffrangeg Mr. Pereaud, megis Peth ich dwyn ar gôt am yr Addewid ddiweddar y ryn­godd bódd i chwi ei gwneuthur i mi, ynghylch ei ossod ef mewn Gwisc saisnig: Etto 'rwi 'n gobeithio, y gw­newch chwi y cyfiawnder hynny i mi, ac y credwch, oni bae bod y matter yn anghyffredinol, ac oni bae bod fy llaw i (fel y gwyddoch chwi ei bôd hi) wedi ei rhag­ossod at waith arall o nattur anghyffelyb iawn, Myfi a'i ty­bygswn e'n Gam ir Deyrnas, ac i chwithe, i fôd yn un math o Achos, i wneuthur hwnnw yn Gyfieithwr o Lyfrau rhai eraill, ac a eglurodd eisioes mewn amryw ieitho­edd, mor abl y mae fo, i scrifennu rhai godidog o'i waith ei hun.

Rhaid i mi gyfaddef yn rhwydd i chwi, fod y gog­wyddiadau nerthol, y rhai y mae dull fy mywyd, a'r Ddysc y mae fy mryd arni, gwedi weithio ynof i wann­gredu, ac i fod yn llêsg i goelio; a'r amryw ddychmy­gion twyllodrus, a'r ofer-goelion, y rhai (ir gore o'm daliad sulw hyd yn hyn) ydynt arferol i ddiwyno y sto­riau ynghylch Ysprydion a Dewinessau neu witshod, Rhaid i mi gyfaddef meddafi, fod y Gogwyddiadau, y Dychmygion, ar ofer-goelion hyn yn Bethau, ac a allent beri i mi fod yn dra hwyrfrydig, i roddi dim help, nac ich gwaith chwi yn gossod allan, nac i grediniaeth un­dyn o stori llai rhyfeddol nâ'r hon a ossodwyd allan gan Mr. Pereand.

[Page 3]Eithr fe ddarfu ir Gymdeithas y gefais i gyda'r Awdwr duwiol hwnnw, tra bûm i yn Geneva, a'r Anrheg y ryn­godd bôdd iddo ddwyn i myfi o'r llyfr hwn mewn Scri­fen, cyn ei brintio ef, mewn mann, lle yr oedd genni amser cyfaddas i ymofyn, yn gystal ynghylch y scrifen­nydd, ac ynghylch rhai pethau yn y llyf [...], fe ddarfu me­ddafi ir Gym [...]eithas hon, ar ymofynia [...] hyn, orchfygu ynofi ar y Diwedd (am y Traethawd hwn) fy holl a [...]e­wyllysgarwch a'm annlineddia [...] [...]afadwy i gredu pethau dieithr.

A chan fy môd yn deall, i chwi dderbyn cyfrif, oddi­wrth yr Ysgolhaig mawr a'r Gwr rhagorol hwnnw, eich Tâd, am Mr. Percaud ei hunan, ac am lawer o bethau yn perthynn iw lyfr ef: nid oes genni reswm i dybied llai, ond mai megis ac y dûg eich gwybodaeth chwi yn y ieithoedd, o'r hon ac ir hon y mae y Traethawd hwn i gael ei gyfieithu, yr uchelfraint fwyaf iddo, ac a allo ei dderbyn oddiwrth Law cyfieithydd; felly y Bydd y Bri a'r Parch y rydd eich Henw chwi a'ch Tâd dyscedig iddo, mor nerthol ac y dichon dim o'r nattur hynny fôd, i beri ir Darllenwyr pwyllog gredu cymmaint y pethau rhyfeddol y sydd yntho, ac yr wyfi yn gobeithio eich bod chwi yn credu y Gwirionedd mawr hyn, o'm bôd i chwi,

Syr,
Yn ffr [...]nd tra chariadus ac yn W [...]sana [...]wr gostyngedig Robert Boyle.

Yr Anrhydeddus a'r tra rhagorol mewn Duw­ioldeb a Dysc Mr. ROBERT BOYLE.

Syr,

MEwn ufydd-dod ir Gorchymyn y ryngodd bôdd i chwi ei roddi i mi, myfi a gyfieithiais y stori ryfeddol hon, teilwng iw gwybod gan bawb, megis peth sy'n gwasnaethu yn rhagorawl, i argyhoeddu yr Athistiaid (sef y Sawl nid yw 'n credu fod Duw) a'r Sawl nid yw ond hanner credu, o'r amseroedd hyn: y rhai gan mwyaf a berswadiant eu hunain, nad oes yn y Byd y fath beth ac un rhwy sylwedd Ysprydol, anghor­phorol, a deallus. A rhai o honynt a ddywedant y peth y mae y rhan fwyaf o honynt yn ei feddwl, Mai Pe gall­ent hŵy gael un math o siccrwydd fod Cythreuliaid, yna y credent hwy hefyd fod Duw.

Ac i gadarnhau y rhain, sy'n cymmeryd arnynt yr Enw o wyr synhwyrol iawn, yn eu hanghrediniaeth echry­slon, braidd y datcuddia Satan ei hunan un-waith mewn Oes, mewn un math o agwedd weledig, neu fel y gellir ei glywed ef; ond naill ai i Ddynion gwael anwybodus, ac ir naturiaethau fwyaf annifeilaidd, mewn rhwy anial­wch wyllt bellennig, neu ynte os yng hyfeillach swyn­gyfareddwyr, y rhai ydynt gyfrwysach, y mae hynny yn unic mewn ymddiddan ddirgel; fel y cyfrifi i cyfa­ddefiad y rhai cyntaf megis peth yn tarddu allan o Darth tew, a geri neu felancholi lly [...]lyd, fel pe bae hynny yr unic Ddiawl, ac sydd yn ffurfio cyfarfodau a dawnsiau 'r witshod yn eu mhennyddiau hwynt; ac fel y cyfrifed [Page 5] proffes y lleill yn Dwyll Dynion Drwg, y cyfryw ac ydyw yr holl swyngyfaredd-wyr.

Ac yn yr un môdd, pan y sonnier wrthynt am ddynion â Cythreuliaid ynthynt, y maent yn bwrw afreolaeth y rheini ar glefydau neu ar hudoliaeth. A gwir ydyw fod y Diawl yn gwneuthur y niwed mwyaf, lle y gwelir ac y cly­wir ef leiaf, a lle y gochilir leiaf rhagddo. Ac am hynn 'r wi 'n credu yn ddilys, nas gwnaeth efe fwy o gam â'i Deyrnas mewn llawer Oes, nag y wnaeth efe trwy am­lygu ei hun mor eglur ac mor agored yn y pethau a ad­roddir ymma. Canys trwy hyn ni adawodd efe le yn y Byd, i Anghrediniaeth yr Athistiaid haerllyg i redeg iddo. Ac er bod hwn yn Gythrael cyfrwys, etto yn hyn o ran, nid oedd efe yn gwbl ddysgedig yn Neddfau uffern.

Llawer o Draethiadau sydd allan ynghylch cythreuli­aid yn amlygu eu hunain: eithr yn Histori yr efengyl y mae y rhai siccraf, y môdd y llefarodd y Diawlaid yn grôch, yn y cyrph a feddiannasant, yng wydd tyrfaoedd mawrion; yr hyn a wnaethant hwy, wedi gwascu ar­nynt a'u brawychu gan bresennoldeb Arglwydd y Bywyd, eu Llywydd a'u Barnwr.

Eithr ni fynegodd un Histori, na sanctaidd nac haloge­dig, na hên na newydd, y fath amlygiad ewyllysgar, cy­hoeddus, parhaus, a di-wâd, o eiddo 'r Yspryd aflan, ac y mae hon yn ei fynegi. Canys nid oedd cynnefin Gyrchfa y cythrael hwn, at Swyn-gyfareddwyr a De­winessau, eithr at Ddynion duwiol; A hynny nid mewn Congl, neu mewn Anialwch, ond yng hanol Dinas fawr, mewn Ty, lle yr oedd llaweroedd yn dyfod beunydd i wrando arno fo 'n llefaru, a lle 'roedd rhai o grefyddau gwrthwyneb iw gilydd yn ymgynnull ynghyd. A pha­rodrwyd y rheini, i wradwyddo y Sawl nid oeddynt o'u barn, a fu yn Achos, nid yn unic i Ben-llywodraethwr, eithr hefyd i Escob y Lle, i Holi y matter yn fanol, trwy yr hyn y cyflawn gadarnhawyd Gwirionedd y peth.

Yr holl Bethau hyn, a llawer ychwaneg y fynegwyd [Page 6] im Tâd parchedig, pan yr oedd efe yn Ben-llywydd yng. Hymmanfa Eglwyswyr y Deyrnas yn y Parthau hynny, gan y Gwr y bu 'r afreolaeth hyn yn ei Dy, sef, Awdwr y Llyfr hwn, Gweinidog duwiol, pwyllog, a pharchedig, yr hwn (os yw efe yn awr yn fyw) syd [...] tu hwnt i bed­war ugain oed. Fe scrifennodd y Traethawd hyn, pan yr oedd y pethau yn newydd yn ei goffadwriaeth ef, ond nis printiodd efe mo hono nes ym mhen un-mlynedd a dengain gwedyn, yn y flwy [...]dyn 1653, wedi ei gym­mell i w [...]euthur felly, trwy yr amryw Draethiadau o'r stori hon, a wascarwyd ar llêd, a rhai o honynt hwy yn [...]nghyttun ai gilydd. A chyda hwn fe osododd allan Lyfr ynghylch Cythreuliaid a Witshod, o'r E [...]w Daemo­nologia, llyfr y dàl ei ddarllain.

Yn yr holl brofedigaethau hyn, fe ymddygodd ei hu­nan yn ddoeth, yn wrol ac yn dduwiol; canys fo wrth­wynebodd y Diawl yn wastadol yn ei amryw rithiau, pa un byrnag ai o Angel y goleuni, neu ynte o Elyn cy [...]oe­ddus i Dduw. Fo'i temptiwyd ef gan yr yspryd drwg, weithie i fod yn rhy fanol, weithie i fydoldeb, weithie i arswydo, weithie i gellwair a digrifwch: eithr yr un oedd y Gwr da bob amser, sef, yn sobr, yn ddianwadal ac yn ddifrifol, yn ceryddu y Cythrel, ac yn arfer Ar­fau cyfiawnder yn ei erbyn ef, ar y llaw ddehau ac ar y llaw asswy. Ac yn ei hyder ar Dduw ni bu pâll arno; canys dros yr holl amser o'r e [...]ledigaeth hyn, ni adawodd Duw ir Cythrael bywiog hwnnw wneuthur iddo niweid yn y byd, nac i un o'i eiddo ef, nac yn eu personau, nac yn eu Da; ac ym mhen can nhiwrnod, fe fwriodd Duw y Cythrel allan o'i Gastell y drais-feddiannod efe.

Mae fy mhoen i yng-hyfieithiad y llyfr hwn mor wael, ac nas dodaswn i fy Enw wrtho, oni buasse i chwi dybied Syr, y bydde fyng wybodaeth i ynghylch gwirionedd y stori hon, trwy 'r Adroddiad a wnaeth fy Nhâd parche­dig o honi wrthifi, yn beth cadharnhad iw siccrwydd hi. Myfi a'i derbynniais hi o ail law, etto o law sicer. [Page 7] Eithr chychwi syr, a gawsoch oddiwrth yr Awdwr ei hunan hyspysrwydd agosach, yr hyn wedi ei ossod o flaen y llyfr hwn, a rydd iddo fynediad rhwydd a diddadl, i gael ei dderbyn i Grediniaeth y Darllenwyr manolaf, a doethaf. Ac ni bydd en Tyb hwynt ddim yn llai am lesáad y stori hon, nag y bydd e am ei gwirionedd hi, pan y gwelant hwy, fod Gwr, mor uchel mewn Dysc, mor ddwfn mewn Barn, mor ddiragrith mewn Duwiol­deb, ac mor hynod mewn Gweithredoedd da, gwedi barnu, y bydd hi o ddefnydd rhagorol i argyhoeddu y rhai nid yw 'n credu, ac i gadarnhau y Sawl sy yn y ffydd. Minne hefyd fy hunan trwy hyn a gâf yr uchel-fraint hon, o fod yn gydnabyddus ir Byd, fy môd i gwedi fy anrhydeddu a'ch Gorchmynnion chwi, a bod yn hôff gennif i ddangos fy hunan, fy môd i chwi

Syr,
Yn dra gostyngedig ac ufydd Wasa­naethwr, a gwir Anrhydeddwr Peter Du Moulin.

Llythyr at y Darllenwyr.

Ddarllenwyr cariadus,

DYmma i chwi stori wedi ei chyfieithu yn gymraeg, yn cynnwys ynddi gyfrif, ynghylch pethau rhy­feddol y wnaeth ac a ddwedodd Yspryd drwg, yn nhy Gweinidog duwiol yn Ffraingc, wedi ei ddanfon ich plith, ich cadharnhau chwi yn y Gwirionedd hyn, sef, Bôd cy­threuliaid; mewn gobaith, mae po fwyaf y bo chwi we­di eich sefydlu yn y grediniaeth hon, mae mwy fydd eich gofal chwi ymma, i ochelyd profedigaethe yr ysprydion melltigedig hyn, rhag ofn i Dduw eich taflu chwi i Uff­ern, i fyw gyda nhwy ar ól hyn.

Ac er bod y Scrythyrau sanctaidd yn dala allan yn eg­lur ddigon, Fod Cythrculiaid; etto pan bo Duw yn rhoddi i ni, trwy ei ragluniaeth neu drefniad o fatterion y Byd, ychwaneg o Siccrwydd am y Peth, Gweddus yw i ni ddal sulw ar, a chymmeryd Addysg oddiwrth hynny.

Megis y mae Rhwymiad Satan rhwy brydie, a'i Attaliad ef rhag gwneuthur drwg i neb, yn ûn o Drugareddau Duw ir Byd: felly y mae ei Ollyngiad ef yn rhydd ar brydie eraill, i frawychu ac i wneuthur niwed i Ddâ ac i Ddynion, yn ûn o wialennau a Barnedigaethau Duw ar y Byd, i brofi ffydd ac amynedd y Duwiol megis y profwyd Job, neu ynte i gospi yr Annuwiol megis y cospwyd Ahab, twy ollwng Satan yn rhydd arnynt; ac am hynny peth yw hyn i ddal sulw arno, ac i dderbyn Addysg oddiwrtho; canys fel hyn y dywed yr Arglw­ydd, Gwrandewch y Wialen a Phwy a'i hordeiniodd. Nat. 12.12. Dat. 20.1, 2, 3. 1 Bren. 22.22. Mic. 6.9.

Ac fel y gwasnaetha y Traethawd hwn, ich sefydlu chwi yn y Gwirionedd mawr hyn, sef, Bôd Cythreuliaid; felly hefyd y gwasnaetha fo, ich cadharnhau chwi mewn Gwirionedd arall sydd fwy pwysig o lawer, sef, Bôd Duw: ac am hynny y dilyt bod yn grefyddol ac yn rasol, fel y [Page 9] gellir bod ar y ffordd i gael ei ffafor ef ymma, ac i fyw gydag ef ar ôl hyn.

Fe ddichon Rheswm Dyn Gasclu oddiwrth amryw Be­thau, Fod Duw, ac yn enwedig oddiwrth Waith y Grea­digaeth, ac oddiwrth y Dychryn sydd yng Hydwybodau Dynion ar ôl gwneuthur rhyw fowr-ddrwg, ac oddi­wrth yr ystyriaeth hyn o fod Cythreuliaid.

Pan y gwelo Dyn y Nefoedd, yr Haul, y Lleuad, y Sêr, y Ddaiar, a'r Moroedd, pob peth yn drefnus yn ei Lê, y naill yn wsnaethgar ir llall, a'r cwbl yn wsnaethgar i Ddyn, y Creadur pennaf yn y Byd, fo Ddichon, gasclu oddiwrth hynny trwy Reswn, mae Siccr a Dilys ydyw, Fod Duw; canys fel y dwed Mr. Perkins, Pan ystyriwyf ffrâm (Gwêdd) a rhyfeddol wneuthuriad y Byd, yr wyfi yn tybie d ynof fy hun, nas galle Greaduriaid mor druain ar sydd ynddo (megis y Dynion, yr Annifeiliaid, yr Adar a'r Pys­god) wneuthur mo hwn, ac nas galle 'r Byd chwaith ei wneu­thur ei hun: ac o herwydd hynny, gan na alle 'r creaduriaid wneuthur mo 'r Byd, na 'r Byd chwaith wneuthur ei hun, Rhaid yw bod Duw (heb law y pethau hyn ôll) ar a wnaeth y Byd. Me­gis ac ped fae Gwr yn dyfod i Wlâd ddieithr, a gweled yno ryw Adeiliadau têg a chost-fawr (megis Tai a chestyll) ac etto heb gyfarfod yno ag un Creadur byw ond yn unig Ehe­diaid y Nefoedd, a Bwystfilod y Ddaiar, nis tybia hwnnw mai 'r Adar neu'r Annifeiliaid a gododd yr Adeiliadau hynny i fynu: ond Fo a ddeall ac a wyr yn y man (wrth Reswm) mai naill ai y mae, neu fe a fu (ryw amser) Ddynion yno ac a'u cododd hwynt i fynu: yn yr ûn môdd, wrth waith y Greadigaeth y [...]ellir deall (wrth reswm) Fod Duw, yr hwn a greawdd y cwbl. Rhuf. 1.20.

Felly hefyd (medd Mr. Perkins) y dichon Dyn gasclu trwy Reswm, oddiwrth y Dychryn sydd yng Hydwybodau Dynion, ar ôl gwneuthur rhyw fowr-ddrwg, mai dilys a siccr ydyw, Fod Duw: canys y neb a wnelo ryw Ddrwg, megis Llofruddiaeth, Godineb, Torr-priodas, Cabledd a'r Fath; er celu a chuddio o hono y Drwg a wnaeth ( fel nas gwyppo un dyn byw ddim oddiwrtho) etto y mae efe yn clywed yn fynych iawn [Page 10] y fath wascfa yn ei gydwybod, mal pe byddei Tân uff­ern wedi ennyn oddi-fewn iddo: A rheswm cadarn yw hwn i ddangos Fod Duw, ger bron gorseddfaingc pa un y bydd rhaid iddo ddyfod i atteb am ei weithredoedd. Psal. 14.5. Rhuf. 2.15.

Ac fel y bo i chwi weled pa fodd y dichon Rheswn Dyn gasclu Fod Duw gan fod cythreuliaid, ystyriwch yr amryw Ddrygau y wnaeth Satan gynt, [...]el y crybwyllir am danynt yn y Scrythyrau.

Pwy a demptiodd ac a dynnodd Adda ac Efa, ac yn­ddynt hwy holl ddynol ryw i bechu, ac felly i ddestry­wio eu hunain ond Satan yr hên Sarph? Dat. 20.2.

Pwy a demptiodd Dafydd (mewn balchder) i beri rhifo pob pen yn ei Deyrnas, nes digio Duw, a dyfod plâ i ddifetha deng mîl a thrugain mîl oi bobl ef, ond Sa­tan? 1 Chron. 21.1.14.

Pwy a yrrodd y Sabeaid a'r Caldeaid i ddwyn Dâ Job, ac i ladd ei weision ef? a Phwy a ddaeth â Thân o'r A­wyr i losci ei ddefaid ef, a gwynt o'r anialwch i daflu 'r Ty i lawr ar ei Blant ef nes ei lladd hwynt? a Phwy a darawodd Job ei hunan â chornwydydd blîn, o wadn ei droed hyd ei goryn ond Satan? Job, pen 1. a'r 2.

Pwy yn nyddiau 'n prynwr ar y Ddaiar ond rhyw Gy­threl a daflei Langc, weithie ir Tân, weithie ir Dwr, ac a'i dryllie ef hyd onis malei ewyn ac yr yscyrnygei ei ddanedd, gan ddihoeni ar ei draed? Mar. 9.

Pwy ond Cythreuliaid yn amser Christ a wnaeth rai mor greulon, fel nad allai neb fyned y ffordd yr oedd­ynt arni? ac wedi eu bwrw hwynt allan o'r Dynion, a myned o honynt i genfaint o Fôch, pwy ond y nhwy a wnaeth ir môch ruthro tros y dibyn, nes eu boddi oll yn y môr, ynghylch dwy fîl o honynt? Matth. 8. Mar. 5.

A thrwy gymmorth pwy ond trwy gymmorth Diaw­laid, y gwnaeth Consurwyr, Rheibwyr a Witshod ddry­ga [...] [...]awrion, o amser i amser, i Ddâ [...]c i Ddynion?

[Page 11]Yn awr gan fod y cythreuliaid oll, y pennaf a'r isse­ [...]af o honynt yn ddrwg ynthynt eu hunain, Joan. 8.44. 2 Pet, 2.4. a chan en bod hwy hefyd yn gyfrwys (me­gis seirph) i ddychymmig drwg i eraill, ac yn alluog i gyflawni hynny, fel y dangoswyd o'r blaen, ac yn aml mewn nifer, canys yr oedd lleng (gwedi chwe mil o honynt) mewn un Dyn, Luc. 8. Ni allwn yn hawdd gasclu trwy reswm, mai rh [...]id yw bod Duw, sef ûn ac sydd uwch nag hwynt-hwy mewn Gallu, yn Dda yntho ei hu­nan, ac yn Dda wrth y Byd, i attal y cythreuliaid hyn, o ddiwrth wneuthur y Drygioni a ewyllysient ei wneu­thur; oni bae hynny ni byddei ond ochain a galar ym­mhob mann.

Yr un Ddihenydd a ddaethe i Job ac a ddaeth iw Blant a'i Weision ef, oni buasse fod Duw i ddala Satan wrth gadwyn, fel nad allai fo fyned ym-mhellach nag yr oedd efe yn cenhadu iddo. Job. 2.6.

Mae hyn yn siccr ac yn Ddilys, Oni bae bod Duw, sef, Creawdwr, Meddiannydd, a Phen-llywodraethwr pob dim ôll, yr hwn sydd anfeidrol mewn Doethineb, Tosturi, Tirio­neb, Trugarodd a Dai [...]ni, i edrych at, ac i ofalu am y Byd: ac oni bae ei fod efe hefyd yn llawn Gallu i ffrwyno, ac i gadw y Cychreuliaid hyn dan Llaw, ac iw hattal hwynt rhag bwrw eu llid a'r Dda ac ar Ddymon, Gwae, Gwae, Gwae a fydde ir holl Fyd.

Nid ydyw yn afreidiol gossod ar lawr y pethau hyn o [...]laen pobl, canys y mae Bagad yn byw yn y fath fôdd, fel pe ni baent yn credu (nen ar y lleiaf fel pe ni baent yn credu fel y dylent) Fod Duw, Fod Diawl, Fod Nef, Fod Ʋffern.

Pe bae pobl yn credu hyn fel y dylent, hwy a rodient gyda 'r rhan lleiaf o ddynion, yn y ffordd gûl sydd yn arwain at Dduw ir Nef, ac nid gyda 'r rhan fwyaf yn y ffordd lydan sydd yn arwain at y Diawl i Ʋffern. Mat. 7.13, 14. * Hwy a edifarhaent am eu pechodau hên a newyd, ac a daer geisient Druga [...]edd a heddwch [Page 12] Duw trwy Jesu Ghrist: Hwy a garent Dduw ac a'i hof­nent ag ofn parchedig, ac a'i gwasanaethent, gan * ymegnio gadw ei orchymynnion ef Hwy a grynent wrth eu fy gythion ef, ac a ymhyfrydent yn ddirfawr yn ei Air ef ac a * ochelent i ddigio ef trwy bechu yn ei erbyn ef.

Eithr och Dduw nid oes ond nifer fechan o'r Byd yn byw felly; canys os edrychwn ni ar ymarweddiad cyffre­din y Byd, ni allwn weled, fod y rhan fwyaf o bobl ysy­weth, yn Weithredwyr anwiredd, a'i bod nhwy yn syr­thio i bechod, nid trwy w [...]ndid fel y mae 'r Duwiol yn syrthio iddo, ond eu bod nhwy yn gwneuthur arfer gyffre­din o hono; yr hyn beth nis byddei, pe bae Gras ynddynt, a phe baent yn credu fel y dylent. Rhuf. 6.14.

Gwelwn fel y mae 'r Byd yn heidio a Thyngwyr, Rheg­wyr yn offrymmu eu Heneidiau ir Diawl ar bob achos, Ha­logwyr sabboth, Putteinwyr, Rhagrithwyr, Maliswyr, Celwyddwyr, Anudonwyr, Enllibwyr, a Gwatwarwyr sancteiddrwydd.

Gwelwn ym-mhellach lawned yw'r Byd o Feddwon, Beilchion, Cebyddion, Ffeillstion, Lladron, Anrhugarogi­on wrth y tlawd, ac o Annuwiolion, sef, rhai nad yw 'n galw ar Dduw na'i foli ef, nac o'r neilltu wrthynt eu hu­nain, nac yn eu Teuluoedd, nac ysgatfydd uwch ben eu bwyd wrth giniawa a swperu.

Gwelwn hefyd mal yr ydys yn gwneuthur cam ag ym­ddifaid, a Gwragedd gweddwon, a'r gwann ei gallu i am­ddiffyn eu huanin trwy gyfraith rhag gorthrymderau, ac a Gweithwyr tlodion, trwy beidio talu iddynt eu llawn gy­floge, neu ynte trwy eu talu hwynt, mewn yd ag enllyn gwael, ai bris tu hwnt i bris y goreu ar y Farchnad: a gw­elwn fel yr ydys yn malu wynebau Deiliaid ac Hafodwyr, gan ddelio yn galed ac yn dost ag hwynthwy, ac fel yr ydys yn twyllo gwirionaid am eu Tai a'u Tiroedd mewn amryw leoedd.

[Page 13]Er nad yw'r rhain a'r cyffelib yn gwadu mewn gei­rie Fod Duw, a Diawl, a Nef, ac Uffern, etto y ma­ent yn gwneuthur felly trwy eu Gweithredoedd. Titus 1.16.

Pe bae pobl yn credu y pethau hyn fel y dylent, gan eu sicerhau eu hunain yn eu cylch hwynt, trwy eu dwys ystyried hwynt yn eu calonnau, a'r Sail sydd gennym am gredu eu bod hwynt, fe fydde 'r gredi­niaeth honno yn Achos, o fod gwell wyneb gan y Byd nag y sydd gantho 'rwan: ac ni byddei 'r Annu­wioldeb, a'r Anghyfiawnder; a'r Anrhugarogrwydd, a'r Bradwriaeth, a'r Heidiau eraill o'r pechodau hynny yntho ac y sydd yntho 'rwan; eithr fe fyddei pobl yn byw, yn Dduwiol, yn Sobr, ac yn Gyfiawn yn y Byd presennol, a thrwy hynny hwy a ddangossent, fod ynddynt wir ddymyniad, i fyw ar ôl hyn gyda Duw yn y Nêf, a gwir Ofal i ochelyd byw gyda 'r Diawl yn Uffern.

Meddyliwch yn fynych, Fod Duw yr hwn a roddes i ni Gyfraith sanctaidd, a'n bod ninne wedi torri 'r gy­fraith honno (1) mîl a mîl o weithie, (2) a'n bôd ni yn haeddu Damnedigaeth tragwyddol yn Uffern gyda 'r Diawl a'i Angelion, am y pechodau a wnaethom ni yn erbyn y Gyfraith honno, (3) ac nad oes ffordd i gael maddeuant am danynt ond yn unig trwy ac er mwyn Jesu Grist, (4) ac na cheidw Christ neb ond y Sawl sy'n credu ynddo (5) â chalon edifeiriol am eu pechodau, (6) ac â gwir bwrpas ynddynt i droi oddiwrthynt, (7) ac i fyw yn sanctaidd o hynny allan: (8) a meddyliwch hefyd y caiff y rheini fy­wyd tragwyddol ar ôl hyn gydag efe yn y Nef, mewn mawr (9) Ogoniant a llawenydd; ond y bydd (10) rhan Gweithredwyr anwiredd yn y llynn sydd yn llosci â Thân a Brwmstan yn eos oesoedd, gyda 'r Diafol a'i Angelion; (11) ac mai megis ac y bydd Gogoniant y [Page 14] Duwiol yn y nef tu hwnt i ddim ar a welodd Llygad, ar a glywodd Clûst, nac a ddaeth i Galon Dyn erioed i fe­ddwl am dano; (12) felly yn yr on môdd y bydd poenau 'r Annuwiol yn Uffern, tu hw [...]t i ddim ar a welwyd, ar a glybwyd, nac ar a d [...]aeth i galon Dyn i feddwl am da­no.

Eithr nid yw pobl annnwiol yn meddwl am, nac yn credu y pethau hyn fel y dyle [...]t: y Sawl o honynt ac sydd yn credu fod Duw, hwy a fynnant ei fod ef yn Dr [...]garedd i gyd, lle y mae efe yn gyfiawn i gospi 'r Anghredadwy a'r Anedifeiriol yn drwm ac yn dost, yn gystal ac yn Drugarog i fadde ac i gadw y ffyddloniaid neu 'r Ediferiol: ac am hynny, er annuwioled y mae rhai yn byw, ac er eu bod nhwy yn chawregu meddw­dod at syched; etto y maent yn dywedyd heddwch wrth eu calonnau eu hunain, y peth nid yw Duw yn ei ddywedyd wrthynt, ond y mae efe yn eu bygwyth hwynt yn galed yn ei Air, eithr nid ydynt yn credu y bydd eu Diwedd hwynt yn ôl y Bygythion hynny. Exod. 34.6, 7. Deuteron. 29.19, 20. Esay. 57.21.

Myfi a glywais stori am wr a ddeffroodd o farw i fyw, a dywedyd o hono fo y Geiriau hyn, sef, Nid oes neb yn credu, Nid oes neb yn credu, Nid oes neb yn credu: A phan y gofynnwyd iddo, Beth oedd yr hyn nad oedd neb yn ei gredu; Fo atrebodd, Nid oes neb yn credu, mor Fanol y mae Duw yn Holi, mor Gyfiawn y mae Duw yn Barnu, ac mor Dosted y mae Duw yn Cospi. Ond yr wyfi 'n cofio yr hyn a ddywedodd Abraham wrth Difes, Oni wrandawant ar Moses a'r Prophwydi, [Page 15] (hynny yw ar y scrythyrau a scryfennwyd gan Moses a'r Pro­phwydi) ni chredant chwaith, pe codei un oddi wrth y meirw Luc. 16.31. Meddyliwch am hyn, a Duw a roddo i chwi Ddeall ym mhob peth. Byddwch wych, yr wyfi 'n gorphwys

Eich Gwasanaethwr yn yr Arglwydd Stephen Hughes.

Addroddiad Cywir, O'r Pethe Pennaf, y wnaeth, ac a ddwedodd Yspryd Aflan. YM MASCON, &c.

Y Pedwrydd dydd ar ddec o fîs Medi, yn flwyddyn 1612, mi aethym gydag un o He­nuriaid yr Eglwys ym Mascon, i gymman yr Eglwyswyr yn nhre Couches; ac ni a ddy­chwelasom ym mhenn pum nhiwrnod.

A chwedi dyfod adref, mi welwn yn eglur, wrth wyneb­pryd fy ngwraig a'i morwyn, eu bôd nhwy mewn dychcyn mawr iawn.

A phan yr ymofynnais i am yr achos o'r newidiad mawr hwnnw ynddynt; fe ddywedodd fy ngwraig wr­ [...]hif, ddarfod i ryw beth, ni wydde hi pa beth, y nôs [Page 18] gwedi fy myned i oddi cartref, dorri ei chwsc gyntaf hi; trwy dynnu o amgylch, gyda nerth a thrwst mawr, gwrtens y gwely yn yr hwn yr oedd hi yn gorwedd:

A darfod ir forwyn, yr hon oedd yn cyscu mewn gwely arall yn yr un stafell, gwedi clywed hynny, gy­fodi ar frys a rhedeg atti, i wybod beth oedd y [...]t­ter; eithr nas gwelodd hi ddim; ie gael o honi ddry­se a ffenestri 'r stafell honno ynghaued yn glô iawn, fel y cauodd hi hwynt cyn ei myned ir gwely.

Dywedodd fy ngwraig wrthif hefyd, ddarfod id­di hi, oblegit yr hyn y ddigwyddodd, heri ir for­wyn orwedd gyda hi yr ail noôs: ond c [...] gynted ac yr oeddynt yn y gwely, glywed o honyn [...] [...]vy ryw beth yn tynnu 'r blancedi oddi arnynt: a darfod ir forwy [...] ar hynny gyfodi o'r gwely, a myned allan o'r stafell hon­no, yr hon oedd yng-hanol y Ty; eithr cael o honi y drws gwedi folltio, nid yn unig o'r tu fewn, megis y bolltiodd hi ef, eithr hefyd o'r tu allan; a chyn gallel o honi wybod hynny, pan y ceisiodd hi agoryd y drws gwedi ei ddadfolltio ef, hi a glywe ymosodiad yn ei hei­byn, megis a phe bua [...]e ddyn o'r tu allan yn ym [...]thio yn [...]thwyneb iddi.

A [...]han welodd y forwyn, ei bod hi gwedi ei chau i fy [...], hi a aiwodd ar langc, yr hwn oedd yn gorwedd mewn stafell arall, yr y rhan flaenaf o'r ty; ac efe a gyfododd i agoryd y drws iddi; eithr nid ynganodd hi air wrtho ef ynghylch yr afreolaeth hyn, rhag ofn ei frawychu ef: ond gwedi e [...]yn canwyll, hi gan­fydde r llestri prês a pheitir gwedi en taflu o bobtu yn y gegin; â pha rai y gwnaeth yr yspryd drwg y no­son honno, a'r wneir ( yn-ffraingc) ar briodas hen widw, nen wrth gasglu gwenyn i lester, drwy guro pedyll a chro­chanau.

[Page 19] Wedi clywed hyn, nid allafi lai na chyfaddef, nas darfu i ryw fraw fy nala i; etto mi bwrp [...]ssais, na rown ormod coel ir fath stori ryfeddol, ac nas llwyr anghrredwn hi he­fyd.

Amryw feddyliau a redent i'm calon. Weithie mi ysty­ri [...]n wendid ac [...]fn gwragedd: weithie mi dybiwn, nad o [...]dd y cwbl ond [...] rhyw ddryg-ddyn cuddied [...]g yn y ty, Am hynny cyn fy myned ir gwely, mi chwiliais holl gonglau 'r ty yn fanol, gan folltio a barro 'r holl ddry­se, a chau 'r ffenestri, ie a thyllau 'r cathe, heb adel dim heb edrych atto, ac a alle roddi achlysur i dybied mai twyll oedd y peth. Ac ar ol gweddio gyda 'm teulu, mi aethym i'm gwely, tra 'r ydoedd fy ngwraig a'm morwyn yn nyddu wrth y tan, a lamp yn llosci ar y bwrdd.

Braidd yr oeddwn yn fy ngwely, ond wele mi glywn swn mawr yn dyfod oddiwrth y gegin, megis rholiad bai [...] [...] goed tân, wedi d [...]flu â n [...]rth mawr. Clywais hefyd [...] yllod pared y gegin, weithie megis â phen bys, [...] megis ag ewinedd, weithie megis â dwrn; ac [...]ndfedd blwy [...] y dyrnodie. Llawer o bethe hefyd a daf [...] yr erbyn yr astylled hynny, megis pláts, trensh [...]e, a lledwade; a gwnaed cerdd â hiddl o breês (g [...] [...]ccian a'i modrwyau) ac â rhai offerynnau e [...] [...] gegin.

Ar ôl gwrando 'n ddyfal ar y trwst hyn, mi gyfod­ais o'm gwely, a chan gymmeryd fy ngbleddyf, mi aethym ir stafell, lle y cedwid yr holl ddwndwr hyn, a'r forwyn yn dala 'r ganwyll o'm blaen; ac a chwiliais yn fanol, i edrych a oedd neb wedi ymguddio yn y ty; ond pan nas cefais i neb, mi a ddychwelais i'm gwely. A chwedi dechreu o'r dwndwe drachefn, mi godais eilchwaith, ac a chwliais drachefn, ond i gyd yn ofer.

[...] y d [...]hreuais i ddeall mewn gwirionedd, nad allei hy [...] i gyd ddyfod oddiwrth neb, onid oddiwrth [Page 20] rhyw yspryd drwg; ac felly mi dreuliais y rhan arall o'r nôs, yn y cyfryw fraw, ac sydd hawdd i un-dyn ddeall pa fath ydoedd.

Y dydd ness;af yn fore iawn mi fynegais y matter i Henuriaid yr Eglwys: ie mi a'i bernais yn gymmwys hyspyssu 'r peth i Mr. Ffrancis Tornus, Scrifennydd y Brenin, a Gwr o gyfraith ym Mascon, er ei fod e'n bapist ac yn wresog iawn tros ei grefydd; a chyn diweddn mi roddaf fy rhesymme am hynny. A chwedi hyspyssu 'r matter iddynt, ni ffaelodd ar un o honynt ddyfod, i ym­weled â mi bob nôs, naill ai i gyd ynghyd, neu ynte at gylch, cyhyd o amser ac y parháodd yr aflonyddwch hwnnw yn fy nhy, gan wiliad gyda mi hyd hanner nos, a weithie 'n hwy.

Y nôs gyntaf ac y daethant hwy, a rhai nosweithie ar ôl hynny, fe ymattaliodd yr yspryd drwg, oddiwrth wneuthur na thrwst na chynwrf yn y byd yn eu gwydd hwynt, fel petteise 'n anewyllysgar i wneuthur ei hun yn gydnabyddus iddynt.

Eithr ar y diwedd, ar yr ugeinfed dydd o fîs Medi, yng-hylch naw o'r glôch, fo ddatcuddiodd ei hun yn am­lwg pwy 'n ydoedd efe: canys yn ein gwydd ni òll, a Mr. [...] un o'r cwmpeini, fo ddechreuodd chwibanu â [...] ac uchel iawn deir-gwaith neu bedair; ac yn y [...] ffurfiodd leferydd, y cyfryw ac y allem ni ei ddeall, et to yn lled gryg, a hynny ynghylch tri neu bedwar cam oddi­wrthym fel y tybygem ni.

Ar geiriau cyntaf ac y lefarodd efe oedd y rhain dan gan [...], vingt et deux deniers, hynny ydyw dwy geiniog ar hugain, sef, [...]òn fechan ar fessur pump, ac a ddyfcir i adar a chwiban [...] iw ganu.

A chwedyn fo llefarodd ac a ail-adroddodd yn fynych y gair hwn, Gwenidog, Gwenidog; Ac oblegit fod y llais hwnnw yn dra ofnadwy i ni ar y cyntaf, mi ymmatteli­ais yn hîr cyn yr attebais iddo ddim ond hyn yn unig; Dôs oddi wrtbifi Satan, yr Arglwydd a'th gcryddo di. [Page 21] Eithr fel yr ydoeed efe eilchwaith yn ailadrodd yn fynych iawn y gair hwnnw, Gwenidog, gan dybied (mae 'n dy­bygol) trwy hynny i'm blino i yn ddirfawr, fe 'm cy­ffrowyd i ddywedyd wrtho fel hyn; ie yn wir, Gweni­dog ydwyfi, Gwasanaethwr ir Duw byw, o flaen mawrhydi pa un yr wyt ti 'n Crynu. Yntef a attebodd, nid wyfi'n dy­wedyd amgen; ond ebe finne, nid rhaid i mi wrth dy desti­olaeth di. Etto fo barháodd i ddywedyd yr un peth, fel pe mynasse weithio ynom ni dyb da am dano ef.

Yna fe fynne ymrithio i rith Angel goleuni, gan ddy­wedyd o hono ei hun â lleferydd uchel, Weddi 'r Ar­glwydd, y Gredo, y boreuol a'r prydnhawnol weddiau, a'r dêc Gorchymyn. Gwir yw, fo 'i cwttoge nhwy bob am­ser, ac a adawe ryw ranne o honynt heb eu hadrodd. Fe ganodd hefyd â llais uchel ran o'r pedwar-ugeinfed Psalm ac un.

Yna fe adroddodd lawer o bethe, y rhai y allent fod yn wir; megis rhyw fatterion neilltuol, perthnassol i'm tylwyth i; ac ym mysc pethau eraill, wenwyno fy nhad i; gan enwi y gwr a'i gwenwynodd ef, a phaham, gan hyspyssu 'r lle, a math y gwenwyn.

Fe ddywedodd iddo ddyfod y noson honno o Bais de Vaux, a thramwy o hono trwy Bentref Alamogne, yr hon sydd yn Bailioge de Goz, wrth ddrws ty fy mrawd hvnaf; lle y gwelsai fo ef gyda Mr. Du Pan Gwenidog Thoiry; a'u bod nhwy ar fyned i swpper ynghyd yn nhy fy mrawd; a'u bod nhwy 'n gymmydogion ac yn gyfei­llion anwyl; a darfod iddo gyfarch gwell iddynt, a go­fyn, a oedd ganddynt ddim i orchymyn iddo fe i ddywedyd wrthifi, oblegit ei fod e'n myned i Fascon; a darfodd iddynt hwy ymddwyn eu hunain yn fwyn iawn tuag atto ef, a deisyf arno gofio eu cariad hwy artafi, ie a gwahodd o honynt hwy fo i yfed gydag hwynt. Ty­di 'r Fall ebe finne wrth yr yspryd drwg, pe gwyba­ssent hwy pwy 'n oeddyt ti, ni byssent hwy mor fwyn wrthyti.

[Page 22]Yr oedd peth gwi [...]ionedd yn y stori hon; canys fe ddywe dodd Mr. Du Pan a llawer eraill wrthifi ar ól hynny, eu bod nhwy 'n cofio 'n dda iawn, ddarfod i iyw un ar yr amser hwnnw, or cyfryw agwedd, yr hwn oedd yn marchogaeth ar geffyl main iawn, ac yn gostwng ei ben i lawr, siarad â nhwy; a bod y cyfryw ymddiddani­on rhyngddynt.

Mynegodd y cythrel i ni stori hefyd, y nghylch brawd arall i mi, yr hwn oedd yn trigo yn nyffryn llynn de Joux, yng wlâd Foux, gan ddywedyd, i'm Mrawd, ar ryw ddiwrnod, pan y daeth rhai o'n c [...]raint agos i ymweled ag ef, eu perswadio hwynt, er mwyn eu gwneuthnr hwy 'n llaw [...]n, i fyned ar y llynn heb un bâd, ar goed gwedi eu rhwymo ynghyd, y rhai oeddynt yn gorwedd ar wyneb y dwr; ac a nhwythau ym­mhell ar y llynn, ddarfod i wynt tymmhestlog gyfodi, yr hwn a'u gyrrodd hwynt yn eu hôl ir lann ar frys; yn agos ir hon y dadymchwelwyd yr holl goed hvnny, a braidd na foddodd yr holl bobl, a chyfaddefodd y cythrel, mai efe a gyfodasse y storom honno. 'Roedd y stori hon yn ddigon gwir; ac fe alle hynny hefyd fod yn wir, mai-efe y gyfododd y gwynt hwnnw, megis y darllenwn ni yn llyfr Job, i Satan gyfodi gwynt mawr, yr hwn y wnaeth ir ty syrth [...] ar blant y gwr sanctaidd hwnnw.

Noswaith arall, a'r cythrel yn llefaru wrth Claude Re­pay, cannwr lliain, un o'r rhai y arfere ddyfod attafi gw [...]di nôs; efe a ofynnodd iddo; onid côf gantho, ar y cyfiyw ddiwrnod, ar ôl iddo osod mewn trefn rhai drylli­an o liain a chengle o edef, gael o hono y cwbl, ym mhen gronyn ar ôl hynny, wedi eu symmyd allan o'u lle, ac yn an-nhrefnus. Ac yna fo ddywedodd, mai ei waith ef ydoedd hynny.

Gofyn [...]odd i Philbert Guilermin cannwr arall, yr hwn hefyd oêdd yn y cwmpeini; onid côf gantho, ar ryw ddiwrnod, pan yr oedd e'n plygu i droi rhai drylliau o liain a chengle o edef, y rhai y danwyd ar y gwellt [Page 23] glâs, ddarfod i ryw beth ei dynnu ef, o'r tu cefn iddo, wrth gwrre ei shercyn, a pheri iddo ym-chwelyd yn ei ôl ddau neu dri cham; ac onid côf gantho, ar y prydn­hawn-gwaith nessaf, ac yntef yn gorwedd yn y can­dy, i ryw beth daflu ei hatt ef yn ei wyneb, yr hon a grogasse efe ar hoel wrth ystlys ei wely, a pheri o hyn­ny iddo d [...]effroi o'i gwsc gyda dychryn mawr. Fy ngw­ [...]th i oedd hynny ebr diawl. Fe gyfaddefodd Repay a Gu­ilermin, ddigwyddo o'r pethau hyn iddynt, ond nas gwyddent hwy pwy 'n oedd a llaw ynddynt hyd yn awr.

Daeth o Lyons farsiandwr o Lovan, ac a lettuodd yn [...]hy ei frawd Philbert Guilermin, ac yr oedd yn ei fryd ef, i ymweled â mi y nos gyntaf, ond ni adawe ei frawd iddo ddyfo [...]. Ni ffaelodd ar y cythrel fynegi i ni hynny, gan ddywedyd, nis gwn i mor achos paham na ddaeth Mr. Philbert i wiliad ymma neithiwr. Yr oedd chwant mawr ar ei frawd ef i ymwelyd â ni, ond fe gynghorodd Phil­bert ef ir gwrthwyneb, oblegit nas mynnei idd ei frawd glywed, pa fath stwr yr ydym ni'yn ei gadw yn y ty hwn.

Soniodd hefyd ynghylch cynnen ddiweddar y fuasai rhwng James Berard, cwtler o Fascon; ac un Samuel Du Mont, a darfod ir Berard hwnnw gael ei guro gan Du Mont yn y fath fôdd, ac y bu e agos a marw: a gwir [...]edd y peth: ond efe a fynegodd lawer o bethe neilleuol, anghy [...]nabyddus o'r blaen, ac y ddigwyddasant yn y gyn­nen ho [...]o. Mynego [...]d i ni, fel y clwyfwyd un Ffrancis Chickard yn ei goes yn ffair ddiweddar Saint Laurence (ar yr hon y mae dinasyd [...]ion Mascon yn myned allan yn eu ha [...]fe, dan eu hamryw faneri,) ac ar ôl hynny dorri ei go­es ef ymaith, am iddi bydru. Ac fo enwodd y gwr a'i saethodd ef, ac a ddywedodd mai o falis, i ymddial ar Chickard y gwaethpwyd hynny iddo, yr hyn a alle fod yn ddigon gwir.

Fe adroddodd stori rodedig yrghylch Philbert Mas­son a'i wraig Guili [...]a [...]ma Blane, a elwit yn gyffredinol [Page 24] la Challonoise, rhai ac y drigasent gynt yn ein ty ni; ddar­fod ir wraig, ar ryw ddiwrnod, a nhwythau wedi cw­ympo allan a'u gilydd, gymmeryd achlyssur i ymddial ar ei gwr, pan yr ydoedd efe ar fedr myned i lawr iw shop; gan ei wthio ef o'r tu cefn iddo â'r fath nerth, hyd oni syrthiodd efe i wared tros y steire yn farw syth: ac yna hi aeth yn ebrwydd i lawr dros bâr o steire eraill, i alw 'r prentisi [...]id a'r gweithwyr o'r shop i ddwad i yfed diod; fel pan y caent hwy eu meistr wrth droed y stei­re yn farw, y bydde iddynt dybied, farw o hono o ryw glefyd disymmwyth. A chredu a wnaeth llawer, mai gwir oedd y dirgelwch hyn y ddatcuddiodd y Cy­threl.

Ar noswaith arall, pan yr oedd y Cythrel yn llefaru wrth un o'n cwmpeini, efe a fynegodd iddo y fath be­the neilltuol a dirgel, y rhai medde 'r gwr nas adrodd­odd efe wrth un dyn erioed, ac y mynnei fo gredu, fod y Diawl yn gwybod meddyliau ei galon ef, nes i mi i berswadio ef ir gwrthwyneb.

Yna efe ddechreuodd watwor Duw a phob crefydd, ac wrth adrodd gogoniant ir Tàd, fo adawodd y geiriau, ac ir Mâb, heb en hadrodd; ac wrth enwi 'r trydydd Person o'r Drindod, yr oedd ei eiriau ef o ddau ddeall, yn frwnt, yn echrydus, ac yn ffiaidd. A chwedi 'm cyffroi ar hyn i ddigofaint cyfiawn, mi a ddywedais wrtho: Tydi Yspryd drwg ac atgas a ddylasit ddywedyd yn hytrach, Gogoniant a fo ir Tâd, Creawdwr Nêf a dai­ar, ac iw Fâ [...] ef Jesu Grist, yr hwn a ddestrywiodd wei­thredoedd y Diafol.

Yna efe a ddeisyfodd arnom ni yn daer iawn, i ddan­fon am Mr. Du Chassin, yr hwn oedd bapist, a Pherson plwyf Saint Stephan, wrth yr hwn (meddai fe) y cyffe­ssai fo ei bechodau;, ac fe fynne iddo ddwyn dwr bendi­ged gydag ef yn ddiffael, canys dyna 'r peth (ebe fo) a'm gyrrei i ymmaith yn ebrwydd.

Roedd genym ni Gi yn y ty, yr hwn oedd arferol o [Page 25] fod yn wiliadwrus iawn, ac a gyfarthe ar y trwst lleiaf; ac yr oeddem ni'n rhyfeddu, nas cyfarthodd efe un am­ser, ar ddywediad uchel a scrêch erchyll y Cythrael: ac ebr Diafol o hono'i hun, heb neb yn gofyn iddo; 'rych chi 'n rhyfeddu am nad yw 'r ci yn cyfarth, ond y rhes­wm o hynny ydyw hyn, am i mi wneut hur arwydd y grôg ar ei ben ef.

Yna gan fod yn llawen, fe ddechreuodd watwor a gwawdio; ac ym mysc pethau eraill fe ddywedodd, ei fod e'n un o'r rhai a ddringhasant furiau Geneva, (uno ddinasoedd y protestantiaid) a phan dorrodd yr ysgol, fo ddywedodd iddo syrthio oddiwrth y wal i ffôs clawdd, a braidd nas bwyttawyd ef yno gan y llyffaint; ac yna fe wnaeth lais yn gwbl gyffelyb iw llais hwynt. Dywe­dodd he fyd am Jesuit (un o offeiriaid y papistiaid) a elw­yd y Tâd Alexander, ei fod e'n sefyll y pryd hynny wrth droed yr ysgol, i annog y Safoyards i ddringad yn hyderus, gan eu siccrhau hwynt, yr ennillent y Ddinas, ac y caent hwy Baradwys yn lle gwobr. A phan ar­weinwyd y tri ar ddeg hynny, y rhai a ddringhasant i fy­nu, ac a ddalwyd, ir crogpren iw crogi, fo ddywedodd, fod gwragedd y Dref yn dywedyd wrth y Dihenydd­wr neu'r Hangman, ymwrola Tabasan, Di gei arian i gwmpnio.

Mynegodd hefyd, fod Pays de Vaux yn wlâd, lle 'roe­ddyt yn gwneuthur golwython têg o'r swyn wragedd, ac ar hynny fo chwarddodd yn uchel iawn, Tra hôff o­edd gantho gytcam â morwyn y ty, gan ei galw hi Bressande (hynny yw gwraig o wlad Bressia) ac fo lefarei â'r un-rhyw lais a hithe. Un nosweith, a hi yn myned i fynu ir llofft i geisio glô, fe ddywedodd wrthi, 'rwye ti 'n eon (neu 'n hyf) iawn, i drammwy cyn agosed attafi; a chan wneuthur swn, fel pettaise 'n curo ei dwylo ynghyd, fo ddywedodd wrthi, mi'th ddodaf di yn fy Sâch.

[...] tyb ni hefyd, hoff iawn oedd gantho ymddigrifo ag [Page 26] [...]n Michael Repay, yr hwn a ddewe attom yn gyffredinol bôb nôs gyda 'i Dâd, gan ei alw ef yn fynych, Mihel, Mihel. Dywedodd unwaith wrtho, y dygei fo ef i ry­fela gyda 'r Marquess o Saint Martius, yr hwn oedd yn codi byddin o wyr meirch ym Mressia, i fyned i Savoy. Ond Michael Repay, dan wenu a'i hattebodd e'n 'llyn, a'i gyda 'r fath un digalon a thydi yr awn i ryfela, gan dy fod yn cyfaddef, ei ti redeg ymaith oddiwrth ddrin­gad murie Geneva? ir hyn yr attebodd y Cythrel; a wyt ti 'n tybied yr awn i gael fy nghrogi gyda 'm cyfeillion? nid oeddwn i mor ynfyd a hynny. A chan barhau i gellwair â Michael Repay, fo'i costaodd ef, iddo ddywedyd y Sûl o'r blaen, wrth fyned ir Eglwys gydag un Noel Mon­ginot, i bentref Ʋrigny, mai'r ffordd i ddala 'r diawl ydoedd tannu rhwyd iddo: ac yna ebe fo, a dannu di dy rwyd i'm dala i? A'r pryd hynny efe lefarodd â lleferydd yn gwbl te [...]g i leferydd mam Michael Repay, hyd oni ddywedodd efe dan chwerthin wrth ei Dâd, yn wir fy Nhâd, y ma [...] [...]fo 'n llefaru yn gymmwys fel fy mam.

Ar amser arall, efe a ddywedodd wrthym ni â llais egwan cwynfannus, fod yn ei fryd ef i wneuthur ei 'wyllys, o herwydd fod yn rhaid iddo fyned yn fuan i Chamberey, lle 'roedd gantho fatter yn barod iw osod i dreial mewn cyfraith, a'i fod e'n ofni y bydde fo marw ar y ffordd; ac am hynny fo barodd ir forwyn alw ar scrifennydd i ddyfod atto, gan enwi Mr. Tor­nus, Tâd ir Tornus hwnnw, am yr hwn y crybwylla­som o'r blaen. Fe adroddodd lawer o bethe neilltuol ynghylch ei deulu ef; am ba rai, ac hefyd am yr holl bethe y wnaeth y Cythrel yn ei wydd ef, fe adawodd y Tornus hwnnw, scrifennydd ir Brenin fel ei Dâd, dra­ethawd mewn scrifen dan ei law ei hun, yr hyn sydd gennif yn fy nghadwraeth i wirio 'r cwbl a adroddir yma. Ac er mwyn cael y cyfryw destiolaeth gymmeradwy y [Page 27] deisyfais i arno, i ddyfod i'm ty, pan y daeth y blinder hwn arnafi.

Yn y s [...]rifen honno y cofir yr amryw roddion, y fy­negodd y Diawl a adawe fo, sef, i un cymmaint a hyn, i arall cymmaint á hynny. Eithr un o honynt, ir hwn y dywedodd y Cythrel y rhoddei fo bum cant o bynne, a'i hattebod ef nas mynne fo moi arian ef, ac a erfyni­odd ar iddynt fôd gydag ef i ddestryw. Fe enwodd wr arall i fod yn etifedd iddo, yr hwn a'i hattebodd ef, y cymmerei fo 'r etifeddiaeth. Mi'th ryddhaf di oddi­wrthi ( ebr Cythrel) am chwe cheiniog a thammeid o Fara.

Gronyn ar ól hynny, cymmerodd arro, mai nid efe oedd yr yspryd y lefarase o'r blaen, ond mai gwâs i hwnnw ydoedd efe; a dyfod o hono oddiwrth waitio ar ei feistr, yr hwn a archodd iddo gadw ei lê ef yn ei absen, tra 'r ydoedd ar ei daith i Chambe­rey. A phan y ceryddais i ef â'r fath eirie ac a osododd Duw yn fy ngenau, fo 'm hattebodd i a rhîth o ara­fwch a pharch mawr, gan ddywedyd, Ardolwyn Syr pardynwch fi, 'rychi 'n camsynnied am danafi; 'rychi 'n fy nghymmeryd i yn lle un arall: Ni bum i yn y ty yma crioed o'r blaen; Ardolwyn syr beth yw'ch henw chwi? fel yr oedd e'n llefaru fel hyn, Simeon Meissioner, un ac oedd yn arfer cyrchu 'n fynych i'm ty ar yr achos hyn, a ruthrodd yn ddisymmwth ir fann, o'r hwn y deue 'r llais i'n tyb ni: a chwedi chwilio 'r lle eilch­waith ac eilchwaith, fel y gwnaeth eraill o'i flaen ef; ac er nas cawsant hwy ddim yno, etto efe ddychwe­lodd ir fann lle 'roeddem ni oll, gan ddwyn gydag ef, o'r man lle 'r oedd swn y llais, amryw bethe, ac ym mysc y rheini pottel fechan. Ac ar hyn fe chwar­ddodd y cythrel ac a ddywedodd wrtho. Mi glywais ys dyddie mai ffôl oeddyt ti, ac yn awr mi a welaf mai felly 'rwyt ti mewn gwirionedd, pan y eredit fy môd i yn y [Page 28] bottel yna: mi fysswn fy hunan yn ffôl i fyned i mewn iddi; canys felly y gallasse un fy nala i, trwy stoppo 'r bottel â'i fys.

Ar noswaith, pan yr oedd Abraham Lulier (gof aur) yn dyfod tua 'm ty, lle ni ffaelei a bôd yn gyffredinol; ebr cythrel y pryd hynny, ewch, agorwch y drws i Lulier, yr hwi sy'n dyfod; ac erbyn hynny yr oedd Lulier yn cu­ro wrth y drws. Cyn gynted ac a daeth efe i mewn, fe ddywedodd y cythrel wrtho; ei fod e'n ewyllyssio dy­scu crefft eurof gantho; ac y rhoddei fo ddeg coron a deugain, er mwyn cael bod yn Brentis iddo. A chan ddywedyd yn dêg wrtho, Rwi (ebr cythrel) yn dy ga­ru di 'n fawr, rwyt ti'n onestach gwr nâ'r cyfryw un, (gan enwi eurof arall o Geneva) yr hwn a dwyllodd y cyfryw Arglwyddes o Fascon, yr hon a aeth i ymweled â rhai o'i cheraint yn Geneva, wrth werthu iddi rai modrwye, meini gwerthfawr, a phlâts. A phan y dywedodd Lulier wrtho; nid rhaid i mi wrth dy gariad di, 'rwi 'n foddlon a chari­ad fy Nuw, ac nis cymmerafi y fath Brentis a thydi; fe at­tebodd y cythrel, gan na ddysci di i mi gelfyddyd y gôf aur, dysced Mr. Philbert fi i fod yn Gannwr lliain.

Yna gan gymmeryd arno eilchwaith agwedd gwâs, efe achwynodd ei fod e'n dlawd, a bod ei ddillad yn wa­el, a'i fod e'n sythu gan anwyd, ac nad oedd ei gyflog ond tair punt yn y flwyddyn: ac os mynnem ni iddo ym­adel â ni 'n ebrwydd, fo ddywedodd y dylem ni roi rhyw beth iddo, ac y boddlonei hynny fo. Minne a'i hatte­bais ef, ei fod e'n curo wrth y cam ddrws, ac na rown iddo gymmeint ac a bariwn oddiwrth fy ngwinedd. Ebe yntef, nid oes gennych chi wrth hynny ond ychydig iawn o gariad.

Fe haerodd arnom ni drachefn yn daer iawn, mai nid efe oedd yr hwn y fuasse yn y ty o'r dechreuad, ond ma [...] ei wâs ef ydoedd efe; ie mai nid efe oedd yr hwn y fuasse yn y ty y nos o'r blaen; a bod y pryd hynny un o' [...] gydweision ef yn disgwyl; a'i bod hwy ill dau yn edrych [Page 29] am ddychweliad eu meistr o'i shiwrne i Chambery, o ba le y dychwelei fo ar fyrrder.

Ac er nas gwn i pu'n a'i 'r Pen-cythrel ei hunan, neu ynte un neu ychwaneg o'i weision ef, oedd yn llefaru wrthym y pryd hynny; etto myfi a glywais oddiwrth dystion credadwy, fod ar yr un amser Ysp [...]yd yn nhy Mr. Favre, y Barnwr pennaf o Chamberey, (yr hwn am ei wybodaeth yn y gyfraith, oedd wr enwog yn ei oes) a darfed ir yspryd hwnnw lefaru wrtho, a dywedyd ym mysc pethau eraill, ei ddyfod ef o Fas­con, a thrammwy o hono trwy Bresse, ac iddo weled y cyfryw a'r cyfryw geraint o'i eiddo ef.

I ddychwelyd at yr hyn oedd yn ein ty ni ar yr am­ser hynny, fe archod [...] yr yspryd â llais uchel, i ni wneuthur paratóad mawr o ymborth, megis Twrc [...]s, Pe­trisstaid, yscyfarnogod, a'r cyffelyb, erbyn dyfodiad ei feistr. Yna fe ganodd fagad o ganiade halogedig a mas­weddol, ac ym mysc eraill yr hon a elwir [...]efilou. Lle­farodd hefyd megis ac y gwna Jnglers neu Hudolwyr, ac yn enwedig fel Helwyr, ga [...] weiddi 'n grôch, ho levrier, ho levrier, fel y gweidd [...] 'r Helwyr (yn ffraingc) wrth gyfodi yscyfarnog.

Gosododd arnom ni â phrofedigae [...]h i drachwantu go­lud, (un o gyffredi [...]l demp [...]asiynau Satan, ac am hynny y gelw [...]r ei Mammon) gan ymhonni 'n fynych, fod chwe mîl o goronau yn guddiedig yn y ty, ac or bydde i neb o honom [...] ei g [...]nlyn ef, y dangossei fo ble 'roedd yr arian wedi guddio. Eithr mi allaf ddywedyd â chydwybod dda, yng wydd Duw a'i Angelion sanct­aidd, nas chwiliais i fy hunan, ac nas perais i, ac nas goeddefais i [...]eb arall i ymofyn am dany [...]t, ac nas ew­yllyffiais ar un amser i mwynháu hwynt.

Mynnei hefyd ein profi ni à manylrwydd ( curiosity) gan d [...]ywedyd, os mynnem ni ei weled ef mewn rhi [...]h, gwr, gwraig, llew, arth, eî, câth, neu'r cyffelyb, y gwnei fo hynny o ddifyrrwch inni. Eithr ni a ffieiddi­asom [Page 30] yn ddirfawr ac a wrthodasom wrando arno yn y matter hwnnw, gan ddywedyd, ein bôd ni cyn belled oddiwrth ddymuno cael ei weled ef mewn un rhyw rith, a bôd o honom ni'n mawr hiraethu, os byddei gydag ewyllys Duw, na chlywem ni ei leferydd ef byth mwyach; a'n bôd ni'n gobeithio y gwaredei Duw ni ar fyrrder oddiwrth ei holl brofedigaethau ef.

Ar y diwedd fe ddechreuodd fod yn ddîg iawn, yn gyntaf wrthifi, am i mi ddywedyd wrtho, Dôs ti fellti­gedig ir tân tragwyddol, a baratowyd ir Diawl a'i Ange­lion. Ac ar hyn ebe yntef, Ti ddywedi gelwydd: nid wyfi 'n felltigedig; 'rwi etto 'n gobeithio cael iechydwriaeth trwy farwolaeth a dioddefaint Jesu Grist. Hyn y ddywe­dodd efe ysgatfydd, i beri i ni gredu, mai enaid gw­raig y fu farw ychydig or blaen yn y ty ydoedd efe, merch i wraig y fwriaswm i allan o'r ty trwy gyfraith; canys yr oedd sôn, ddarfod iddi 'hi ar ei therfyn we­ddio ar Dduw, ar allel o honi, ar ôl ei marwolaeth, ddychwelyd ir ty i'n blino ni.

Dywedodd wrthifi mewn digofaint mawr, y gwnai [...] hyn a'r llall imi; ac ym mysc pethau eraill, fo ddy­wedodd wrthyf, y dewe fo, pan y byddwn i yn y gwe­ly, i dynnu 'r blancedi oddi arnaf, ac i'm llysgo i wrth fy nhraed allan o'r gwely. Minne a'i hattebais ef, fel yr attebodd y Prophwyd Dafydd iw elynion, Mi or­weddaf ac a h [...]naf, canys yr Arglwydd a wna i mi drigo mewn diogelwch. Dywedais wrtho fe hefyd y peth y ddywedodd Crist wrth Pilat, nid oes genniti ddim aw­durdod arnafi, ond yr hyn a roddwyd i [...] ti oddi ucho [...]. Ac yna fo'm hattebodd i, gan ail-adrodd y geirie hyn ddwy waith tair, mae hynny 'n dda iti, mae hynny 'n dda i it.

Digiodd hefyd yn ddirfawr wrth un o'r cwmpeini, yr hwn a'i galwase fo y Bwch Drewllyd, a rhoddodd iddo la­wer o ddrwg eirie, megis y rhain, Ti fynnit ymddangos fel gur da, ond nid wyt ti ond rhagrithiwr: rwyt ti'n my­ned yn fynych i Bont-deville, mewn lliw i wrando pregethe: eithr wrth fyned rwyti 'n dwyn gyda thi dy flwch sydd a'th fi­le [Page 31] a'th fande yntho, er mwyn gofyn dy ddyledion a llôg dy arian Ymaith â thi, ni wneit ti ddim cydwybod o grogi dyn am bunt fel y gwna Mr Denis; a Hangman Mascon oedd y Denis hwnnw. Ac yna gan wneuthur swm, mal pettaise 'n cu­ro ei ddwylo ynghyd, fe ddywedodd eilchwaith wrth yr un gwr; 'rwyt ti 'n cymmeryd arnati yma, fel pettai ti'n wr glew, wedi dwyn yn awr dy gleddyf gyda thi: eithr or byddi di mor galonnog, a dwad hyd yma heb oleu, fe geit gweled pu'n o honom ni 'n dau sydd wrola.

Gwedi dywedyd yr holl bethe hyn am yr amser cynt a phresennol, fe fynne fynegi peth hefyd am yr amser i ddyfod. A chan grybwyll am y Protestantiaid yn nheyr­nas ffraingc, fe waeddodd un-waith, O'r Hugonots truain, chwi a ddioddefwch lawer o fewn ychydig o flynyddoedd! o pa fath darwg y fwriedir yn eich herbyn chwi! gydag ychwa­neg o eiriau ir un pwrpas.

Dywedodd ddwy waith neu dair am fy ngwraig, yr hon o­edd yn feichiog, ac yn agos iw thymp, y bydde iddi ferch. Mi ofnais o herwydd y cyflwr yr oedd hi yntho, y cei hi ryw ni­wed wrth escori, trwy ddychryndod oddiwrth ein lletteywr uffernol; ac am hynny mi attolygais arni i adel y ty, ac i fy­ned at ei mam-gû, yr Arglwyddes Philiberta de la Mousiere, gy­da'r hon y meithrinwyd hi er yn blentyn, ac felly i orwedd i mewn yn ei thi hi. Eithr hi a escusododd ei hunan oddiwrth hynny yn wrol iawn, gan ddywedyd, y bydde ei mynediad hi ymaith yn anhyder ar allu a thrugaredd Duw: a chan ryngu bôdd i Dduw, i ymweled â ni, felly y gallei fo'n gorddiwes ni yn yr un môdd mewn ty arall; ac nas dylem ni gilio ymaith, [...] mynnwn ni wrthwynebu 'r Diawl. Ac yn wir 'rwi 'n cyfa­ddef, farnu o honi 'n union yn hyn ny o beth; canys fe'n cyn­ghorir ni'n fynych yn y scrythur, i wrthwynebu, ac i ymladd, ac i ymdrechu â'r Cythrael, ond nid byth i ffoi oi flaen ef; ca­nys hynny fyddei rhoddi 'r oruchafiaeth iddo: oblegit tebyg ydyw fo ir Blaidd, ac ir Crocodil, y rhai y giliant ymaith os sefwch chwi 'n galonnog yn eu herbyn; eithr os ofnwch hwynt, a throi oddiwrthynt, hwy a redant ar eich hôl chwi.

Ar ryw noswaith fe ddywedodd y Diawl yng wydd pawb, y byddwn i marw 'n ddilys cyn pen tair blynedd, gan dy bied [Page 32] trwy hynny i'm poeni i â meddylie gwastadol am farwo­laeth, ac felly peri i mi syrthio (pe gallasal) i ryw drwmder calon, ac felly i glefyd, er mwyn gwirio ei eiriau ef. Eithr mi a'i hattebais ef yng eirie St. Paul, Act. 20. Nid wyf yn gwneu [...]hur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennif fy einio [...]s fy hun, os gallaf orphen fy ngyr­fa trwy lawenydd, ar weinidogaeth a dderbynniais gan yr Ar­glwydd Iesu, i dystiolaethu Efengyl grâs Duw.

Gwedi arfer yr holl ddichellion hyn yn ein herbyn, fe orfu ar y cythrel gyfaddef, nas gallei fo mo'n gorchfygu ni, oblegit ein bod ni 'n galw 'n rhy fynych ar enw Duw. Ac i ddangos grym ein gweddiau, y mae hyn yn wirionedd iw ddal sulw arno, yr ymattalie 'r Diawl oddiwrth lefaru, bob amser ac y gwelei fo ni yn dechreu pen-linio i fyned i weddio; ac yn dra mynych fo ddywedodd wrthym ni y geirie hyn, Tra fo chi 'n gweddio, myfi âf, ac a rodiaf ar yr heol. Ac yn ddiau ni gaen ddistawrwydd rhyfeddol, tros yr ennyd yr oe­ddem yn gweddio, p'un bynnag a'i myned allan, a'i a­ros yn y lle y wnai fo: eithr cyn gynted ac y darfydde 'r weddi, fo ddechreue eilchwaith i'n cymmell a'n han­nog ni megis o'r blaen, i siarad ag ef: Ac fo barhaodd felly i lefaru wrthym ni, ac i'n hannog ninne i lefaru wrtho yntef, hyd y 25 o fîs Tachwedd, pan y llefa­rodd efe y geirie hyn yn ddiweddaf: Ha, ha, je ne parleray plus, hynny yw, och! och! ni chafi lefaru mwy­ach. Ac oddiar y pryd hynny, efe a beidiodd, ac ni lefarodd efe ym-mhellach.

Mi allwn chwanegu at hyn lawer o ymadroddion er­aill, ac y lefarodd y cythrel hwn; ond 'rwi 'n cyfaddef, fy môd i yn ymattal o bwrpas oddiwrth eu traethu hwynt; oblegit eu bod nhwy yn wrthwyneb, naill ai i Grefydd, neu ynte ir Awdurdodau goruchel, neu i enw da rhai gwyr mawrion a Theuluoedd anrhydeddus; neu oblegit eu bôd nhwy 'n fudr ac yn anweddus, me­gis pethau yn dyfod oddiwrth yspryd aflan. Y mae cym­meint [Page 33] ac y draethasom yn ddigonol i ddangos, mor ddieithr a rhyfeddol ydoedd ymadroddion y cythrel.

Megis yr oedd ei eiriau ef yn ddieithr ac yn rhyfedd­ol, felly 'roedd ei weithrediadan ef; canys heb-law y perhe a adroddais i, ac a wnawd yn fy absen, fo wna­eth lawer ychwaneg o'r un rhyw; megis taflu o bobtu yn dra mynych ddarn mawr o liain, o ddeng el a deu­gain o hyd, yr hwn a adawse ffrind i mi yn fy nhy, iw ddanfon i Lyons ar hyd y Dwr.

Fe gipiodd unwaith ganhwyllbren prês o law 'r for­wyn, gan adael y ganwyll wedi hennyn yn ei llaw hi. Fo gymmerei 'n fynych iawn beisie 'r forwyn honno, ac a'i crogei nhw ar byst y gwely, gan osod arnynt hwy Hatt arw, y cyfryw ac y mae gwragedd gwledig o Bresse yn arferol o wisco, canys o'r wlâd honno yr ha­noedd hi.

Weithie fe grogei Blât startshio o faint mawr ar y pyst hynny, wrth gorde, wedi clymmu felly, ac â chy­nifer o glymme, ac yr ydoedd yn ammhoffibl i dattod hwynt; ac etto fo'i dattodei nhwy ei hunan yn ddisym­mwyth ac yn ebrwydd. Unwaith mi gefais fy motasse gwedi eu drysu mewn lle, fel nad allit eu [...]ynnu nhw oddi yno. A llawer gwaith y plethodd efe radish yng­hyd yn y fath fodd, ac nad ellit gwneuthur y cyffelyb beth, oni roddei ddyn ei fryd ar hynny pan bae 'n segur gyda llawer o hîr amynedd.

Ar ryw brydnawn-gwaith daeth ff [...]ind i mi, un Mr. Conain, pysygwr o Fascon, i ymweled â mi; ac fel [...] oeddwn i yn adrodd wrtho ef y pethau rhyfeddol hyn, ni aethom ynghyd ir stafell, lle yr oedd y Di [...]fol fyny­chaf yn aros: yno y cowsom ni y gwely [...]l [...]f, [...] blance­di, y llanlleine ar gobennydd wedi eu gosod i gyd ar y llawr. Yna y gelwais i ar y forw [...]n i dannu 'r gwely, ac hi a wnaeth hynny yn ein gwydd ni; eithr [...] o law, a ni yn rhodio yn yr un stafell, ni welem y gwely wedi ei fyscu, a'i daflu i lawr fel o'r blaen.

[Page 34]Yn y stafell uwch ben honno, lle yr ydoedd fy study, mi gefais lawer gwaith rai o'm llyfre gwedi eu gosod ar y llawr ynghyd â'm howr-glass heb ei dorri, heb ddim niwed ond hynny. Fel yr oeddwn i unwaith yn eistedd yn fy study, fe wnaeth y Cythrael swn yn y stafell uwch benn, megis swn ergydion llawer o fwscedi. Weithie fe fydde fel Ostler yn fy stabal, yn trîn ac yn rhw bio fy ngheffyl, gan blethu ei gynffon a'i fwng ef; ond nid oedd efe ond anfedrus yn ei waith, canys mi ge­fais fy ngheffyl unwaith gwedi ei gyfrwyo gantho, a'r crwpper ym-mlaen, a'r pwmel yn ôl.

Fe fu 'n hîr yn y ty cyn y gallasom ni ddeall ei fod e'n cyrchu im stafell wely. Eithr ar ryw nofweith, ar ôl myned o bawb ymaith ac a ddaeth [...]sant i wrando arno, a myfi fy hun a'm teuly i gyd yn ein gwelâu, a drysau a ffenestri 'r ty gwedi eu caead yn glos iawn, fo ddaeth i mewn, ac a ddechreuodd chwibanu yn araf, a hyn­ny ar droion, megis a phettaise ofn arno i'n deffroi ni. Ac fe gurodd megis ac â'i fys ar drwngc yn agos i'm gwely, fel y gwnaeth e'n fynych gwedyn. Fe daflei 'n ' [...]cidie ni o dautu 'r stafell, yn enwedig eiddo 'r for­wyn, yr hon, wrth ei glywed ef unwaith yn cym­meryd un oi 'scidie hi, a ymaflodd yn ebrwydd yn y llall, ac a ddywedodd dan wenu, ni chei di mo hon. Ac unwaith yn yr un stafell dan y bwrdd, fo ddily­nodd drwst Trin-wyr cywarch, y rhai sydd bedwar ynghyd yn curo 'r cywarch, y cyfryw ac oeddynt yn ein cymdog [...]eth ni, ac fo gadwodd yr unrhyw fessur ag hwynthwy yn gymmwys.

Dros hîr amser fo wnaeth i ni glywed pereidd-gân dwy gloch fychan, wedi eu clymmu ynghyd, y rhai y gymmerass fe o fysc rhyw hairnach rhwdlyd yn fy nhy. Pan y clywais i nhw gyntaf, mi adna­bum wrth eu swn hwy, mai myfi ai piodd hwynt: Mi aethym ir fann lle y gosodais i hwynt, on [...] nis [Page 35] cefais i mo honynt. Nid yn fy nhy i yn unig yr arfe­rodd y Cythrel ganu y clych hyn, ond efe ai dygodd hwynt o amgylch i fagad o leoedd yn y Drêf ac yn y wlâd. Ar ryw Sabboth y bore, a myfi yn myned i wenidogaethu yn Ʋrigny, gyda rhai o Henuriaid fy Eglwys, ni glywsom swn y clych hyn yn agos iawn i'n clustie. Dywedodd Mr. Lulier un o'n cwmpeini wrthif, glywed o hono fo yn ei dy ef y clych hyn yn fynych. Bagad eraill a'u clywsant hwy yn agos iawn iddynt, eithr nis gallent ar un amser moi gweled hwynt.

Ac ni chwareuodd y Diafol hwnnw ei gaste yn unic yn fy nhy i; canys fe adroddodd Mr. Lulier wrthif lawer o'i weithrediadau ef yn ei dy a'i shop yntef; me­gis ei waith ef yn cymmeryd ac yn cuddio ei feini gwerth­fawr ai offerynnau gwaith ef, ac yna ei gosod hwynt drachefn lle yr oeddynt o'r blaen. Tra 'r ydoedd Mr. Lu­lier yn adrodd hyn wrthifi, efe a osododd fodrwy aur, yr hon oedd y pryd hynny gantho tan law, ar y bwrdd, ynghyd a'r offeryn a'r hwn yr oedd yn ei dala hi: eithr yn y man fo'i cafodd hwy 'n eisie, ac a chwiliodd am da­nynt tros hanner awr, ond i gyd yn ofer; ac am hynny efe a gymmerodd waith arall yn llaw; a chwedyn, efe a minne a welsom y fodrwy a'r offeryn yn Syrthio drachefn ar y bwrdd, ond ni wyddem ni o ba le.

Ar ryw noswaith, pan nas gwiliadodd Lulier gyda ni, fel yr arferei o wneuthur, Dau ac a ddaethant yn hwyr iawn o'm ty i, a arosasant wrth shop Lulier, i roddi cy­frif iddo am weithrediau a geirie y cythrel y noso n honno: T [...]a 'r oeddynt hwy yn siarad, fe gurodd y Cythrel yng­hylch teir gwaith yn galed iawn ar Dô o astyllod, yr hwn oedd uwch ben y shiop. Y noswaith nessaf ar ôl honno, Lu­lier a Repay wrth ddychwelyd o'm ty i, a ganfyddent wraig unic, wrth gongl yr heol yn nyddu wrth oleu'r [Page 36] lleuad, mewn gwisc wledig: ond hi ddiffannodd allan o'i [...] chwy, pan nessausant i geisio gwybod pwy 'n yd [...]dd hi.

Gan adel yr-wan y cyfryw weithrediade ac a wnaeth y Diafol allan o'm ty i, megis pethe nas gallaf lefaru am danynt gyda 'r fath siccrwydd, ac am y rh [...]i y we­lais ac y glywais i fy hunan: Ni wnaf i ond adrodd ei weithrediadau diweddaf ef yn fy nhy i: ac yn wir y rhai blinaf o'r cwbl (fel y dywed [...] [...]od y Diafol bob amser yn greulon [...]ch ar y diwedd nag [...] y dechre, ac ar y pryd hynny yn [...]fyrnicaf, pan y go [...]d arno ym [...]do) canys tros y deng [...]eu [...]deuddeng niwr [...]d diweddaf, fo d [...]flodd gerrig yn ddibaid o bobtu 'm [...]y, o'r bore hyd yr hwyr, a hynny yn aml iawn, a rhai o honynt yn pwy­so dwy neu dair pwys.

Ar un o'r dyddie diweddaf hyn, fe ddaeth Mr. Tornus i'm ty ynghylch hanner dydd, ac a fynnei wybod a oedd y Cyrhrel yno fyth, ac a chwib [...]nodd m [...]n amryw do­nau, a phob t [...]ô fe chwibanei 'r Diafo [...] [...]rno vntef dra­chefn â'r un rhyw [...]ôn. Yna y taflodd [...] Diafol garreg atto; yr hon wedi s [...]rthio wrth ei d [...]ed ef heb wneu­thur iddo niwed, fo'i cym [...]e [...]odd hi fyn [...] ac a'i no­dodd hi â glôy [...], ac ai t [...]flodd ir tu cefn y ty, yr hwn o­edd agos i wal y Dref, ac ir afon Savone: eithr fe da­flodd y Diafol hi i fynu drachefn atto yntef; ac efe ad­nab [...] ôd y glôyn, mai yr un garreg ydoedd hi. Mr. T [...] we [...] cyfodi 'r garreg honno i fynu, a [...] clywe hi yn dwym iawn ac a ddywedodd ei fod e'n credu, ei bod hi yn uffer [...] g [...]edi ei bod hi yn ei law ef o'r bl [...]en.

Or diwe [...]d, ar ôl yr holl eirie a'r gwei [...]h [...]ed [...]de hyn, fe ae [...]h y Cythrel [...]maith y 22 o fis Rhagfyr; ar dydd nessaf gwelwyd Gwib [...]r fawr iawn yn myned allan o'm ty, yr hon a dd [...]llwyd â chraffe hirion gân rai Gwneu­thurwyr h [...]elion [...]eu Gymmydogion; ac hwy a'i dyga­sant h [...] ar hyd yr holl dref dan weiddi, Dymma' Cythrel y ddaeth allan o Dy 'r Gwenidog: ac ar y diwedd hwy a'i [Page 37] gadawsant hi yn nhy un William Clark Apothecary, lle yr adnabyddwyd mai gwiber naturiol ydoedd hi, Sarph anghynnefin yn y wlâd honno.

Dros yr holl amser y bu 'r Diawl yn cyrchu i'm ty, nis goddefodd Duw iddo wneuthur i ni niwed yn y byd, nac yn ein persone, nac yn ein meddianne. Y dydd yr ymadawod efe â'r ty, fo grogodd y clych hynny, y rhai y ganasse, ac y ddygasse efe mor fynych o amgylch, ar hoel uwch ben simnai 'r stafell lle 'roedd e'n cynni­weir fynychaf.

Ni channiatawyd iddo gymmeint o allu, ac i rwygo un o'm llyfrau, nac i dorri un glass, nac i ddiffodd y ganwyll, yr hon a adawem ni i losci trwy 'r nôs. Ac am hynny 'rwyfi 'n plygu 'nglinie, ac a wnaf felly tra fwi byw, im grasusol Dduw, i roddi iddo Ddiolch am y mawr Drugaredd hwnnw.

Dymma 'r gwir a'r digym mysg draethiaid o eirie a gwei [...]hrediade y Cythrel hwnnw. Ac y mae Marcellin un o O [...]feiriaid y papistiaid, yr hwn oedd yn pregethu ym Mascon ar yr amser hynny, wedi adrodd llawer o'r pe­thau hyn yn gywir ddigon, mewn llyfr o'i eiddo ef, a brintiwyd yn Grenalle yn erbyn Mr. Beuterove, gan ddy­wedyd gael o hono 'r stori oddiwrth amryw ddynion, ond yn enwedig oddiwrth Mr. Fovillard Lifftenant Ge­nerall yn y Balliage o Fascon, yr hwn wedi clywed y Sô [...] gyffredinol ynghylch y digwyddi [...]d rhyfeddol hyn, a ddanfonodd ei frawd yn y gyfraith Mr. Ffrancis Gru­cin a Mr. Gaichard, Gwr o gyfraith i'm ty, i ddeisyf ar­nai ddyfod atto ef, i fynegi 'r holl fatter iddo, yr hyn beth a wneuthum i. Etto (trwy gennad Marcellin) aid gwir yw hynny, (ac y mae efe, ac eraill gwyr tanbaid sy'n barnu cyn llwyr wrando, yn ei gasglu oddiwrth hyn, i'm gwradwyddo i a'm proffes) fef, bod cyfeillgarwch rh [...]gofi ag ysprydion drwg. Cans y mae Duw yn Dyst ar fy [...]g-hydwybod, na bu rhyngofi erioed gydymddi­ddan â'r creaduriaid echrydus [...]yn, ac nas gwn i fwy [Page 38] oddiwrthynt, nag y ryngodd bôdd iw dduwiol ddoethi­neb ef i adel i mi wybod allan o'i Air, ac o'r profiad hyn yn fy nhy. Ac fe wyr Duw, mai fyng ofal pennaf i ydo­edd, ar ir Dalent fechan honno gynnyddu, yr hon a roddes Duw i mi, i hyfforddi fy hunan ac eraill, yn y wir a'r iachus ddysgeidiaeth ynghylch iechydwriaeth dra­gwyddol, yr hyn ydyw, i adnabod ef yr unic wir Dduw, a Iesu Grist yr hwn a ddanfonodd efe.

Ac yn wir, yn y matter hyn, y mae Marcellin ac eraill, y rhai a adroddasant ac a scrifennasant y stori hon er An­glod i mi, yn gwrth-ddywedyd Mr. Ffovillard Lifftenant Generall o Fascon, a'r Arglwydd Gaspard Divet Escob Mascon, yr hwn, ar y Sôn gyffredin ynghylch y pethau hyn, a ddanfonodd am Mr. Tornus, i gael gwybodaeth o'r gwirionedd am danynt: ac er mwyn mwy o siccrw­ydd, fe anfonodd ei scrifennydd ei hun Mr. Chamber, iw dysgu hwynt yn neilltuol o'm genau fy hun; ac mi a a­droddais y cwbl wrtho ef, heb gelu na chuddio dim. Ac fe ddywedodd y ddau wr bonheddig hyn, Tornus a Cham­ber wrthifi ar ol hynny, ddarfod ir Escob ryfeddu 'n ddir­fawr wrth wrando 'r stori honno, a gwneuthur o hono ryw atgoffa o honi mewn scrifen.

Yn awr os gofyn neb i mi, pa beth a allei fod yr achos o'r ddamwain rhyfeddol hyn (canys nid oes dim yn fwy cyffredinol a naturiol i bôb dyn, nag ymofyn am yr acho­sion, yn enwedig o bethau anarferol) mi attebaf, wrth ystyried gogy [...]chiadau 'r amser, a'r lle, a'r bobl yr oeddwn i yn delio ag hwynt y pryd hynny, fod llawer o achosion (mewn tybygoliaeth) yn cydfod am y peth.

Yn gyntaf, yw gymmeint a bod amseroedd, yn y rhai y mae 'r cythreuliaid megis heb eu cadwyno, ac â mwy o rydd-dyd ganthynt i arferu eu dichellion; a bod amseroedd eraill pan y m [...]ent wedi eu rhwymo i mewn, a'u hattal rhag gwneuthur drwg, megis y gwelwn yn yr 20. o'r Da [...]cuddiad; fe allei un yn wir, gyda rheswm da ddy­wedyd, pan y bu'r Diawl mor eon yn fy nhy i, fod y cy­threuliaid [Page 39] ar yr amser hwnnw megis wedi eu gollwng yn rhydd, cany [...] yr oedd y Byd y pryd hynny yn llawn o hi­storian, ynghylch castie anarferol yr ysprydion drwg hyn.

G [...]llir gwirio hyn wrth lyfr y scrifennodd Mr. de I' Anere, un o Gynghorwyr y Brenin, wedi uno mewn commissiwn gyda Mr. D. Espagnet y Barnwr pennaf yn Tolosa, i farnu'r W [...]d o wlad Labour neu wlad y Basques, yn agos ir pyreni [...]u fynyddoedd. Enw 'r Llyfr yw, Eglurháad ynghylch [...]nwad [...]wch cythreuliaid ac yspr [...]dion drwg, lle y gosodir al­lan y fa [...]h bethau dieithr ac echrydus, ac a ddichon beri gwallt y Darllenwyr i sefyll ar eu pennau.

Angwhanegwch at hyn y stori ofnadwy ynghylch Lewis Ga [...]ffr [...]di, offeiriad o Farseilles, un o'r offerynnau mwyaf o eiddo 'r Diawl ac a ddygodd uffern erioed allan, yr hwn a loscwyd ychydig o'r blaen trwy ordinháad y Parliament 'o Aix yn Province.

Ar yn un amser yr ymddangosodd Cythrael yn Lyons, mewn agwedd gwraig fonheddig lân, i Lifftenant Mar­chog y Wiliadwriaeth, henw yr hwn oedd la Jaquere, ac i ddau eraill o'i gyfeillion ef; A gorweddodd y Tri hyn gy­da 'r Cythrel hwnnw, ac a ddaethant trwy hynny i ddi­wedd ofnadwy iawn. Y mae 'r stori honno yn brintiedig ym-mysc llawer o Historiau aruthrol o'n hamser ni.

Ar yr un amser, sef, yn n flwyddyn 1612. fe osod­wyd [...]an y cyffelyb stori ir honno o Lyons, fel y bu Gwr cyfrifol ym Mharis, ar y cyntaf o fîs Ionawr yn y flwy­ddyn honno, yn cyttal ac yn aros gyda Chythrael, yr hwn a ymddangosod iddo megis Arglwyddes brydferth: eithr y boreu nessaf, gwedi i rai Jestysiaid a Physygwyr weled yr Arglwyddes honno, fe adnabuwyd, mai Corph Gwraig ydoedd hi, yr hon a grogwyd ychydig o ddyddiau o'r blaen.

Ynghylch yr un pryd, yr oedd Carcharau Mascon we­di ei llenwi â nifer fawr o wyr a gwragedd, ifaingc ac hên o Bentref Chasselas, a Threfydd eraill ger [Page 40] llaw iddi, wedi eu in littio i gyd am swyngyfaredd neu witshio, y rhai gwedi eu bwrw a'u condemnio ym Mascon, a gyfo dasant eu matter, i Barliament Paris, ac hwy a hebryngwyd vno gan Swyddog a rhai gwyr ar­fog. Ar y ffordd fe gyfarfu Coatsh â hwynt, ac yntho Wr yn edr [...]ch fel Barnwr; yr hwn a safodd, ac a ofynnodd ir swyddog, pa garcharorion yr oedd efe yn ei arwain, [...] ba le yr oeddynt yn dyfod, ac i ba le yr oeddynt yn my­ned. Gwedi ir Swyddog ei atteb ef: y Gwr (os felly y gellir ei alw ef) gan edrych ar y carcharorion, a ddywe­dodd wrth un o honynt, gan ei alw ef wrth ei enw, Beth yn awr? a wyt ti yn un o honynt hwy? nac ofna ddim canys ni ddioddefi di, nac un o'th gwmpeini. A gwi [...] y prwsiodd ei eiriau ef, canys o fewn ychydig ar ôl hyn­ny fe'i rhyddhawyd hwynt oll.

Ar yr un amser llangces fechan o Fascon, ynghylch tair neu bedair ar ddeg oed, merch i un o'r Dinasyddi­on pennaf o'r Drêf, yr hon a orweddei gyda morwyn o'r Ty, a ddeallodd ei bod hi yn fynych iawn yn absennu e hun yn y nôs; ac a ofynnodd iddi unwaith, o ba le y daeth hi; fe attebodd y forwyn, ddyfod o honi o fan, lle yr oedd cwmpeini da, a dawnsio rhagorol, a phôb mâth o ddifyrwch a llawenydd. Yna y llangces, we­di blassu ar y newydd hyn, a ddymunodd ar y Forwyn i dwyn hithe ir lle hwnnw. Ar hyn fe enneiniodd y for­wyn hi, gan beri iddi arfer y defodau cyffredin a orch­ymynnir gan Ddiafol i witshod. Yna y cippiwyd y llang­ces i fynu ir Awyr gan Gythrael, mal ac yr adroddod [...] hi gwedyn. Ond pan wybu hi ei bod goruwch Mynach­log y Capuchin Offeiriaid, hi a frawychodd ac a alwodd ar Dduw, yr hwn a'i cynnorthwyodd hi, ac a wnaeth i'r Cythrel i dodi hi ar lawr yn ei gardd hwynt, yng­hylch hanner nôs. Y Capuchiaid, pan y clywsant ei llêf wylofus, a ddaethant iw helpu hi: A phan y dy­wedodd hi wrthynt pwy 'n oedd hi, a pha beth a ddig­wyddaffe iddi, Dau o honynt a'i hebryngasant hi yn ddir­gel [Page 41] i Dy ei Thâd. Myfi a glywais laweroedd yn sicc­rháu gwirionedd y matter hyn megis peth dilys. Myfi a welais y llargces honno yn fynych, a chlywais gwedyn ei bod hi 'n briod.

Ar y pryd hynny hefyd y dwedpwyd yn rhygil, fod rhyw Gythrael yn cyrchu 'n fynych i Dy Pobyddes ym Mascon, yn yr heol de la Tupinerie, mewn agwedd Gwr, a chap côch ar ei ben, ac fo edrychei allan trwy 'r ffe [...]estr wrth olau 'r Gannaid. Fe adroddodd bagad wrthifi fod hyn yn wir iawn, ac Abraham Lullier a en­wyd o'r blaen oedd un o honynt. Ac nis gwn i a yma­dawodd y Cythrel â'r ty hwnnw etto, er cymmaint o Gonsuriaeth ac o foddion eraill hefyd a arferwyd iw fw­rw ef allan.

Ar yr un amser fe gadwodd rhyw Ddiawl stwr fawr yn Eglwys Saint Stephan ym Mascon, gan ddadymchwelyd amryw Feddau: a chwedi cyhoeddi 'r peth o dautu 'r Dréf, myfi a welais, (gan fy môd yn trigo yn y gym­dogaeth honno) ran fawr o'r bobl yn ymgasglu yno. Y cyffelyb beth hefyd a ddigwyddodd yn Eglwys Saint Al­ban, yn agos i [...]scon, ar yr un amser.

Drache [...] ar yr amser hynny y cyrchodd rhyw Ddi­awl i Dy gwraig weddw ym Marigny les Nonnains, yn gyfagos i Fascon, dros dri mîs, lle y gwnaeth e lawer o ddrwg, gan ollwng ar redeg y gwîn yn y seler. Ac fo bwyodd amryw ddynion yn greulon, ac ym mysc eraill rhyw Of a wnai gloyon, yr hwn a ddaeth ir Ty yn feddw ac a roddodd lawer o ddrwg eiriau a bygwthion ir Cythrael hwnnw, yr hwn yn ddioed a fu cwitt ag efo; canys fe gymmerodd un o'r Andirwns (sef offeryn o'r simnai) ac ai curodd e'n dôst ag ef, hyd oni redodd e [...] ymmaith allan o'r Ty yn gyflym. Wrth y storiau hyn ac amryw o'r un fath (am ba rai ni sonniaf yr-wan) y mae 'n eglur, pan yr oedd Cythrael yn sy rhy i, fod y Diawl y pryd hynny megis heb ei gadwyno.

Rwi 'n tybied hefyd, y gallei 'r Cythrel hwn gael [...] [Page 42] ddanfon attafi, gan rai ac oeddynt yn llidiog i'm her­byn, am i mi gael trwy ymbil Gennad gan y Brenin, i adeiladu Eglwys i'n Protestantiaid ni, yn agos i furiau Mascon; o herwydd ynghorph y Dydd hwnnw, ac y dechreuodd y Diawl yr afreolaeth hynny yn fy nhy i, fe'm bygwthwyd gan un, ger bron cymmanfa y Bwrdei­siaid o Fascon, y byddei ar fyrder i ryw ddrwg fy ngorddi­wes i. A lletdybiwyd fod y Dyn hwnnw yn ddiscybl i un Cesar swynwr hynod, y fuasse byw ym Mascon ychy­dig o'r blaen.

Llawer a fwriasant ddyfodiad y Diafol hwnnw i'm Ty i, ar fy morwyn Brossande, (am yr hon y cryb­wyslais i o'r blaen) oblegit yr oeddyt yn tybied ei bod hi 'n Ddewines neu Witsh; Canys fe ddywede rhai, fodys yn bwrw fod ei Rhieni hi yn euog o swyn-gyfa­redd. 'Rwi 'n cofio iddi ofyn i mi unwaith, a ydoedd boffibl i neb o'r rheini, ac a ymroddasant eu hunain ir Diafol, gael trugaredd oddiwrth Dduw. Ac ar am­ser arall, pan y gwelodd hi fy mod i 'n ofni, rhag ir Diawl wneuthur niwed i ddau langc, y rhai a orwedd­ [...]nt yn y sta [...]ell nessaf ir hon, lle y clybuwyd ef ynthi, Hi a ddywedodd wrthif; Nac ofnwch, Ni wna fo ddim niw [...] iddynt: A gwir ydyw, y cellweirie ac y bydde hi gyfeillgar ag ef: canys heb-law 'r peth a ddywedais i o'r blaen ynghylch hyn, hi a feiodd yr Yspryd unwaith, am na ddaethasse fe â choed iddi, ac ar hynny, yn ddiaros, fe a daflodd i lawr iddi goeled o goed wrth droed y stâr. Ac ar ei gwaith hi'n cynnig gadel ein gwasanaeth ni, daeth un arall i'n gwasnaethu yn ei lle hi, ac a orweddodd yn yr un gwely gyda hi: A'r Di­awl, er nis gwnaeth niwed iddi hi erioed, etto a gurei 'r forwyn newydd yn y gwely, ac a dywallte ddwr ar ei phen hi, hyd oni orfu erni fyned ymmaith.

A chynnyddodd fy nrwg dyb i am y Bressande honno trwy adroddiad a wnaeth hi wrthif, ar ddiwrnod yr oeddwn yn glâf, am wr dû mawr, yrhwn a ymddan­gossase [Page 43] iddi hi y nos o'r blaen wrrh olau 'r lloer, yn dala phiol yn ei law fel Physygwr. Hyn ynghyd a pethau eraill o'r fath, a weithiodd ynofi Dyb ca­led am dani, megis un ac a allei fod yn achos ym­mysc eraill, o ddyfodiad y lletteywr uffernol hynny attom.

Gosodwch at hyn amgylchiad y lle, canys fe wna­ethpwyd gynt lanasdra yn yr un Ty, os gellir coelio geiriau 'r Cythrael a'r Sain gyffredin. Ac nid ydyw yn beth anarferol, fod y Diafol yn mynych gynniweir i dai, lle y gwnaethpwyd rhyw lofruddiaeth, neu ryw weithred ffieidd arall. Y mae Cardan yn mynegi, fod Castell ym Mharma, yn perthyn i deuly anrhydeddus y Torelli; ac yn un o'r simnie yntho, fod yspryd drwg yn ymddangos, mewn dull hen wraig hagr, pa bryd bynnag y byddei un o'r Teulu farw, er yr amser ac y lladdwyd hên wraig dra goludog yn y Ty hwnnw, trwy drachwant ei Neiaint hi, y rhai a'i drylliasant hi 'n ddarne, ac ai taflasanr ir gaudy.

Eithr yr achos tybygolaf yw hyn, sef, ar ôl i mi en­nill y Ty hynny trwy ordor cyfraith, a'm dodi mewn gorescyn o hono trwy awdurdod cyfiawn, fe gafwyd y wraig, yr hon y ddaethym i iw bwrw allan o'r Ty, dan y Simnai yn galw ar y Diawl, ac yn bytheirio allan regfeydd echryslawn yn fy erbyn i a'm teulu, gan ddy­wedyd, a clywei hi ar ei chalon fod yn fodlon i gymme­ryd ei chrogi, ie cymmeryd ei damnio, a bod yng waelod uff [...]rn gyda 'r holl Gythreuliaid, pe galle hi ond ymddial arnafi a'm heiddo. A phan dwetpwyd y geiriau hyn wrthif, myfi a ddygais Betishwn yn ei herbyn hi at Farn­wr Mascon, ac efe a rwymodd y wraig ir Good Behavi­our, gan wahardd iddi wneuthur niwed i neb o honom ni, nac yn ein Personau, nac yn ein Dâ, dan boen ffor­ffetion mawr: a dodwyd fi a'm Teulu dan amddiffynni­ad y Brenin a'r Gyfraith: Ac yr wyfi 'n cadw fyth gy­da mi Ordinhadau y Barnwr yn y matter hyn.

[Page 44]Eithr heb sefyll yn hwy ar yr ail Achosion, rwi [...] cyfrif y cwbl i drefniad yr Achos cyntaf, gan dderchafe fyng olygon tuagat y llaw a'm tarawodd i, yr hwn [...] gyd ddangossodd ei nerth yn fyng wendid i, ei druga­redd yn fy nhrossedd i, a'i ddoeth, arafaidd, a rhyfe­ddol weithrediadau tuag attafi; oblegit nas goddefodd fy nhemptio tu-hwnt i'm gallu, eithr a wnaeth ynghyd â'r brofedigaeth ffordd i mi ddyfod allan, fel y gallwn ei dwyn hi.

Y mae gennif Achos mawr i ddywedyd gyda 'r Bren­hinol Brophwyd Dafydd, Ein henaid a ddiangodd fel Aderyn o fagl yr Adarwyr; y Fagl a dorrwyd, a ninne a ddi­anghasom: Ein porth ni fyda yn enw'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth Nefoedd a Daiar. Iddo ef am hynny y byddo 'r Gogoniant yn awr ac yn dragywydd. Amen.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.