GWYDDOR VCHOD.

Psal. 8.3, 4.

Pan edrychwyf ar dy nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer ar ser, y rhai a ordeniaist.

Pa beth yw dyn iti iw gofio? a mab dyn iti i ymweled ag ef?

Printiedig yn Llundain, 1657.

Gwyddor vchod.

Psalm 8.3, 4.
Wrth edrych ar y nefoedd faith
a gweled gwaith dy fysedd.
Yr Haul ar lleuad gron, ar Ser
mewn trefn ag amlder rhyfedd.
Pa beth yw dyn? (Rhyfeddwn i.)
pan fyddit di yw gofio,
Neu fab dyn marwol (llwch y llawr)
pan wneit ti 'n fawr am dano!
1.
TAd yw Duw y byd cen­hedlodd.
Duw yw 'r mab y cyfan prynnodd.
Ysbryd glân yw Duw ein lluniwr.
Barnwr, Cârwr, a chyssurwr.
2.
Nid yw Duw Ddim ar a welir.
Duw drwy 'r cwbl a genfyddir.
Yn y ddayar nid oes arall,
Yn y nef vwchlaw pob deall.
3.
Sôn am helynt, Sôn am dynged,
Sôn am adar, bwystfil pryfed.
Sôn am ddyddiau gynt neu gwedi,
Sôn am Dduw yw'r swn o ddifri.
4.
Rhyfedd, Rhyfedd, Rhyfedd, Argl­wydd.
Rhyfedd medd pob Angel dedwydd
Rhyfedd wyti, medd dy seinctiau,
Rhyfedd hefyd medd dy eiriau.
5.
Rhyfedd yn dy fab ath hunan,
Rhyfedd yn dy waith ath amcan:
Rhyfedd yn y môr ar nefoedd,
Rhyfedd wyt ynghalon pobloedd.
6.
Rhyfedd yn y ffurfafennau,
Rhyfedd yn yr holl blanedau.
Rhyfedd wyt ymhob creadur.
Rhyfedd iawn, nith wêl pechadur.
7.
Rhyfedd wyt, ag agos attom.
Rhyfedd wyt yn gwilio drosom:
Rhyfedd! Pwy a all dy wadu?
Rhyfedd, nad yw pawb ith garu:
8.
Rhyfedd fywyd. Rhyfedd ffynnon,
Rhyfedd wraidd, a Thâd ysbrydion.
Rhyfedd frenin y Teyrnasoedd,
Rhyfedd Garwr yr holl bobloedd.
9.
Rhyfedd hefyd gweled Dynion,
Rhyfedd deillion a byddarion.
Rhyfedd heb adnabod Jesu,
Rhyfedd fod rhai ith oganu.
10.
Rhyfedd oeddit cyn bod bydoedd
Rhyfedd pan ddarfyddo 'r oesoedd.
Rhyfedd oedd 'd anrhydedd cyntaf
Rhyfedd fydd dy glod ddiwaethaf.
11.
Rhyfedd wyt yn llunio angelion,
Rhyfedd yn diddymmu dynion.
Rhyfedd yn dy enwau rhyfedd;
Rhyfedd wyneb, Rhyfedd agwedd.
12.
Nid oes ddyn a edwyn Dduwdod
Ag ai cenfydd heb Ryfeddod.
Nid dim Rhyfedd gida 'r Jesu,
Christ sydd Ryfedd, Bydd iw garu.
13.
Gwreiddyn calon, Dirgel Dwyfrō
Gweled Gwilied Gwaelod dynion.
Mawr yw tasg y galon isel,
Yn ymchwilio ir Derchafel:
14.
Beth yw Duw (medd llawer ennid)
[Page 4]Mae adnabod Duw 'n anghenrhaid.
Neb nis cenfydd ar a lygrir
Pawb ai cenfydd ar a gedwir.
15.
Cariad Distaw ydiw'r Arglwydd,
Pûr, Anrhaethol, Dirgel, Dedwydd,
Duw heb gâs, heb swn, heb dristwch,
Dinewidiad, Heb dywyllwch.
16.
Calon byd, yw Duw ei Hunan,
Ag oi ewyllys i daeth allan:
Yr oedd Duw cyn gwneuthur vnlle
Oll yn oll yn llenwi 'r holl le.
17.
Ni wnaeth Duw mor byd o hir bell,
Fel rhyw sâer yn gwneuthur pabell,
Ond o hono, mae 'r Byd drwyddo,
Ag yn vnig sefyll ynddo.
18.
Paid a chwilio wrth dy feddwl,
Gwann yw synwyr ddynol drwsewl
Ni cheir gweled Haul mewn tywyll,
Ganol nos wrth olau canwyll.
19.
Ond mae ysbryd Duw mewn dynion
Yn datcuddio rhyfeddodion.
Llei bo hwn, ar dyn iw garu.
Mae fo 'n eglur ddangos Jesu.
20.
Roedd goleuni Duw mewn mesur
In Henafiaid oll yn eglur.
Ag mae llewyrch Duw yr awran
Fel y wawr yn tarddu allan.
21
Mae caersalem nefol hawddgar
Ymron disgyn ar y ddayar.
Gwilied dyn broffessu y chwaneg
Nag a gafodd yn ddiddammeg.
22.
Deall hyn, ô Gymro tirion,
Deall hyn, a gwel dy galon.
Deall hyn ar holl gelfyddau:
Deall hyn a thyrd ir golau.
23.
Duw a wnaeth saith seren siriol
Adda cyntaf yn rhyfeddol.
Yn yr wybren yn cyfatteb,
Yn yr eglwys mewn doethineb.
24.
Mae saith ysbryd Duw tragwy­ddol
Ar saith seren ynt derfynol.
Drwy naturiaeth Duw yw 'r Arglw­ydd
Ar saith Blaned ynt saith Arwydd.
25.
Hyn sydd hynod, Hyn sydd eglur wrth natur.
Mai 'r gwir Dduw sydd Dduw
A addolo Dduw terfynol
[Page 6]A addola Arglwydd cnawdol.
26.
Delw Duw yw 'r Adda gwerth­fawr
Delw dyn yw 'r holl fyd trâ mawr.
Delw 'r cythrael ydyw 'r pechod:
Delw 'r ynfyd ydyw Gormod.
27.
Paid a chwilio wrth dy synwyr.
Paid a thybio gwellhau 'n rhywyr.
Paid a chysgu, Dyma 'r bo [...]au.
Paid a grwgnach, Dyma 'r blodau.
28.
Os gofynni, Beth yw 'r Anian
A naturiaeth dyn ei Hunan?
Pawb ath ettyb. Mai, Tân, Awyr,
Dwr, a Dayar fydd mewn natur.
29.
Nid rhaid i ni wrth yn fydion
Nad adwaenant moi Defnyddion.
Cymrwn ddeall. Bydd wn hyddysg.
Na ddirmygwn oddef addysg.
30.
Chwilied dyn ei holl ddefny­ddiau.
Chwaled ymaith ddrwg feddyliau.
Gwilied gablu 'r gwaith oddiallan,
Gweled beth sydd ynddo ei hunan.
1.
Y Lleuad a Mercurius
Yn nesa at hyny Venus;
Yr Haul a Mars a Jupiter
A Saturn Sceler anhlws.
2.
Mae ymhob dyn naturiol,
Saith Blaned fawr ryfeddol;
Ag yn cydweithio heb nâghau
Gida 'r Planedau nefol.
3.
Yr isaf ydyw 'r Lleuad.
Ar nesaf at ddayar-wlad:
Cares ymmennydd pawb i gid
Yn newid fel miswriad.
4.
Mercurius yw 'r ail Blaned,
A hynod yw ei cherdded.
Hon yw 'r ysgyfaint mewn dyn byw
A llais-gar yw iw chlywed.
5.
Venus yw 'r blaned eglur
Sydd dan yr Haul yn gyssur.
Fel yr Arrennau ynghorph dyn
Mae hon yn nhyddyn natur.
6.
Yr Haul canolig rhyfedd,
Yw 'r Blaned fawr bed waredd.
Hwn sy 'n rheoli 'r einioes hon,
Fel Calon mewn corpholedd.
7.
A Mars yw 'r bymmed seren,
Mae hi vwch haul yn 'r wybron.
Mewm dynion y Bustl tanllyd yw,
Sy 'n rhwystro byw yn llawen.
8.
A Jupiter yw 'r blaned
Sy 'n cael ei lle yn chweched.
Vn ddull a bon yw Afù dyn,
Am dano ei hun meddylied.
9.
Ar seithfed vchaf awyr
Yw 'r Seren Saturn laswyr:
Y Ddueg o fewn corpws dyn
A hon sydd vn mewn gwew yr.
10.
Dyn iw Canolfa 'r hollfyd,
Dyn o bob peth a grewyd.
Pob peth a wnaed sydd ynddo ef,
Môr, Dayar, Nef, a Bywyd.
11.
Mae esgyrn dyn fel creigiau.
Ai withi fel y ffrydiau.
Ai gnawd fel dayar domlyd frâu,
Ai chwantau fel cysgodau.
12.
Ai wallt fel gwellt yn tyfu,
Oi ffroen mae 'r gwynt yn chwythu
Ag or tu fewn mae dwr a thân,
Ag oddiallan felly.
13.
Adwaened dyn ei hunan.
[Page 9]Aed dyn oi hunan allan.
Os gwna fe hyn fe fydd yn siwr
Yn y creawdwr pûrlan.
14.
Astronomyddion cnawdol
Sy 'n sôn am Sêr naturiol:
Heb ganfod y saith ysbryd byw,
Sydd yn ei rhyw 'n dragwyddol.
15.
Ni ddarfu i Dduw (o afraid)
Mo lunio 'r creaduriaid.
Na Sêr y nef ddim ond i fod
Yn Syndod anifeiliaid.
16.
Ond fel i bae eneidiau
Yn canfod y canhwyllau:
Ag yn mawr berchi Duw ei hun
Ynghrist heb lûn na delwau.
17.
Mae 'r pryfed ar Bwystfilod
Yn gweled serâu vchod.
Heb ddeall dim, ond ceisied dyn
gan Dduw ei hun i dattod.
18.
Ai dattod a wna 'r Arglwydd
Ir dyn a fynno 'n ebrwydd
Droi iddo ei hun at Dduw ai gw­naeth
Ni bydd hwn caeth ond dedwydd.
19.
Mae 'r ddayar yn y drallod.
[Page 10]Ar wybren mewn anghydfod.
Ar sêr yn croesi 'r naill y llall.
Fe ddichon call i cymmod.
20.
Nid oes vn yn serennu
Heb arall yn i magu.
Mae croes ddefnyddiau yn gytûn,
Ag oll yn vn yn clymmu.
21.
A chofied y Darllennydd
Na farno gân y prydydd:
Nes iddo ddeall ynddo 'r gwaith,
Ar sêr ar saith tragywydd.
Hwre wŷddor ith dorri, o newydd
yn niwedd dyreidi.
Hwre air call, deall di.
Hwre Dasg. Hwyr i dysgi.

Y Lleuad.

1.
SEren agos ydyw 'r Lleuad,
Gwlyb ag oerllyd ag anwastad.
Isaf ydyw or Planedau
Ag Arglwyddes nos i ninnau.
2.
Tanllyd (medd rhai) ynddi ei hunan,
[Page 11]Ond bod moroedd a dayarlan
Yn i boddi mewn cymdogaeth,
Wrth roi iddi ei gwlybaniaeth.
3.
Drych ir Haul, os disclair arni,
Tywyll yw os ymgudd rhagddi.
Haul yw 'r Gwr, a hon yw 'r wreig­dda.
Behemoth a leuiatha.
4.
Ffôl a ddywed-weled ynddi,
Wr a bauch drain yn i gospi.
Ond ei hun dan ddrain dayarol
Sydd yn torri 'r Sabbath nefol.
5.
Brychau yn y lleuad hawddgar
Ynt fel pyllau yn y ddayar.
Ag nid oes gorph heb ei frychau,
Ped fae 'r vn, yr Haul ai piau.
6.
Dyma 'r Lleuad gennad gaingron
Hallt ir blas, yn lliwio 'r saffron.
Yn mynd drwy 'r arwyddion nefol.
Mewn wyth diwrnod ar hugainiol.
7.
Tra fo 'r Haul yn Symud dani,
Mae dau gorn i fynu iddi:
Pan fo 'r Haul vwchlaw ei cherdded
Mae 'r ddau gorn yn troi i wared.
8.
Yn ei gwendid mae 'n troi atto,
[Page 12]Yn ei chynnudd oddiwrtho.
Er nad oes na chorn na chynnudd,
Nar fath beth ir lleuad newydd.
9.
Os côch fydd blaennewydd-leuad
Gwynt ty mhestloedd Hwde attad.
Os dû 'r corn, Glaw mawr sy 'n canlyn.
Canol ty wyll ni phair ddychryn.
10.
Llygaid cath a ddengys i chwi,
Pan fo 'r lloer mewn trâi neu lenwi,
Newid a wna 'r pethau isod,
Sy 'n cytuno ai chyfammod.
11.
Gwyr yr Hwsmon fod lloer ne­wydd
Ar y tir ai gwaith mewn arwydd,
Ar yr awyr yn tymhestlu,
Ar y lloerig iw ynfydu.
12.
Plant y Lleuad Digllon ydynt.
Ag anwadal fel y corwynt.
Ag anffyddlon ymrysongar,
Cenfigennus ag anhawddgar.
13.
Yn y Dwfn babanod anghall.
Cas iw ganddynt lwyddiant arall.
Fel yr Hîu neu lanw 'r moroedd,
Gwenu, Gwgu, llawn tymhestloedd.
14.
Glas ei lliw, a chrwn ei hwyneb
Llygad dû yn llawn godineb.
Canol gwriaeth, Aeliau crychion,
Trwm ei bywyd ag anfodlon.
15.
Meddal ynt yn mynych fûdo,
A dychrynllyd, hawdd i Stwytho.
Neu rai meddwaidd segur diog
Yn cardotta am y geiniog.
16.
Dwylaw pryssur blewog byrrion
Fel y dyfrgi neu 'r camelion.
Fel y cacewn, neu 'r chwilennod,
Môch a gwyddau. Hawdd i canfod.
17.
Nid adwaenant graig yr oesoedd,
Gweithiwr dinewidiad bydoedd.
Mae barr rhyngddynt a pharadwys,
Cnawdol ydynt ag anghymmwys.
18.
Oni ddaw 'r eneidiau truain
Yn y byd iw gwadu ei hunain.
Ag i dorri drwy naturiaeth,
Nid oes iddynt iechydwriaeth.

Mercury.

1.
MErcury sydd sych ag oerllyd.
Yn ymroi ir lleill yn ddiwyd,
[Page 14]Mammaeth synwyr ag ymadrodd,
Ar cyfrifwyr ai haddolodd.
2.
Ynddi ei hun, hi helpa ddynion,
I ymddwyn yn ddoeth yn ffyddlō.
Ond os Saturn neu Mars waedlyd
Ai rheola, Mae hi'n ynfyd:
3.
Yno mae hi 'n ennyn rhyfel,
Ymchwydd, gwaed, y mryson, cwa­rel.
Ag yn cammu pethau vnion,
Wrth vnioni pethau ceimion.
4.
Ond os Jupiter a hithau
A gytunant ar amserau.
Mae iaith dêg, a mwyn hawddga­rwch,
Yn troi heibio lid a thristwch.
5.
Mae plant hon yn ddynion grym­mus,
Gwinêu ynt, ag anwadalus.
Vchel-lydan yw ei talcen,
Hir ei bysedd, Barf deuêuwen.
6.
Llygad têg, a gwefus denau,
Breichiau hirion, Hwy ei tafodau:
Lladron neu farsiandwyr ydynt,
A chwedleugar hwylgar helynt.
7.
Chwilio llawer, rhodio gwledydd,
Cyfrwys, Hyddysg, ymhob defnydd
[Page 15]Ag yn erbyn pob cymydog,
Weithiau yn ymddadlau 'n gefnog:
8.
Cario chwedlau yn ymffrostgar,
Megis doeth, ond nid ddeallgar.
Fel yr eppa, fel y milgi,
Gwiwer a phryf coppyn difrî.
9.
Fel y wengci neu sgyfarnog,
Fel y ddafad gida 'r llwynog.
Fel y wennol sarph a phiogen,
Fel morgrugyn a gwenynen:
10.
Da yw ganddynt hwy ddewinia­eth,
Hoffant lawer drwg ysywaeth.
Rhaid ir rhain (os mynnant fywyd)
Ddysgu tewi, Goddef adfyd.
11.
Bod yn dynn ymhob daioni
Er maint gweiniaeth y cwmpeini.
Ag ymgadw rhag cwmnhiaeth,
Neu ni allant ond mynd waeth­waeth.
12.
Rhaid ir rhain cyn mynd ir ne­foedd
Ag i bawb ymysg y bobloedd.
Fod fel plentyn bychan gwirion,
Gwael diniwed ymysg dynion.

Venus.

1.
SEren oer yw Venus dirion
Gwlyb a gloyw yn llithio 'r ga­lon;
n llonyddu Mars ryfelgar
Fel gwraig ddoeth, Aigwên yn ha­wddgar.
2.
Seren ddydd: Mae 'r haul iw ffafrio
Ni fynn Venus fod oddiwrtho.
Mammaeth cnawd a brasder cnaw­dol
Arian disglair. Grisial nefol.
3.
Plant dan Venus, Dynion digrif,
Llawen, Hawddgar ag annifrif:
Caru cêrdd, chwerthinog, Anllad,
Gwych ei llais, a da ei harogliad.
4.
Melyn wallt. Wynebau crynnion,
Cydnerth gyrph a llygaid llawnion,
Mwynaidd, Gweddaidd, Cymwy­nasgar
ymadroddus a chymdeithgar.
5.
Dynion llonydd, anghyfreithus.
A difalais tacclus trefnus.
Neu segurllyd a diofal,
Mewn tafarnau aflan gwammal.
6.
Maent yn debig in cwn mânaf,
Ag ir Teirw ar geifr ynfyttaf,
[Page 17]Fel cwnningod neu betrisen
Fel aderyn tô neu glomen.
7.
Drwy naturiaeth gwych godidog,
Hylaw hwylus hael a Haûlog.
Ond heb ddofi'r galon oser
Ni chant fyned ir vchelder.
8.
Gwelent frynted yw chwant cnawdol
Gwenwyn melys; siwgwr diafol.
Rhaid yw lladd y chwant yn fuan
Neu fe ladd yr enaid truan.

Haul y pedwerydd.

1.
Mawr yw 'r Haul. y Blaned freiniol
Poeth a sych yn troi 'n y canol.
Yn tymheru 'r holl Blanedau.
Yn bywhau holl ddayar bethau.
2.
Bywyd mawr, a llygad oesoedd,
Chwiliwr natur, Wyneb nefoedd:
Twymnwr mwynaidd araf hyfryd,
Heb vn pelydr yn wen wynllyd.
3.
Calon y Byd. Cynnes odiaeth.
Mewn vn dydd mae 'n llawn rha­goriaeth.
[Page 18]Plentyn newydd eni beynydd;
Hûn nag Adda, Arglwydd tywydd.
4.
Ped fae mhellach, fe ddoe fferdod
Ped fae 'n nes, fe losgai ormod:
Duw ai plannodd yn y canol,
Mewn doethineb anherfynol.
5.
Mae fo 'n canfod calon dayar
Yn troi 'r pridd yn aûr rhy hawdd­gar
Yn lle 'r galon mae fo 'n trigo
Drwy 'r Arwyddion mae fo 'n drin­go.
6.
Llygad dehau 'r byd gweledig,
Cysgod yr haul Dirgeledig.
weithiau ynghudd ynghlips y lleuad
Ynddo ei hun heb fawr newidiad,
7.
ond pan oedd Christ Jesu'n dioddef
Fe ymguddiodd Haul yr holl nef.
Am na bu mor fâth ddioddefaint,
Ag ni bydd yn amser Henaint.
8.
Tri Haul weithiau fu ar vnwaith,
Vn or tri oedd wir Haul perffaith.
Yn disgleirio ar gymylau,
Yn cenhedlu ei gysgodau.
9.
Plant yr Haul ynt vchelfeddwl,
Codi a wnant neu golli 'r cwbwl:
Chwennych clod a dattod clymmau
[Page 19]Caru ei gwlad, a chadw ei geiriau.
10.
Doethion ynt yngwaith teyrna­soedd.
Yn dyfaisio llês ir bobloedd.
Gwastad ynt a dianwadal,
Fel yr Haul heb hoffi dial.
11.
Hoffi cael, a bodlon colli.
Dwysion dirgel yn ymlenwi.
Geiriau byrrion, llawn awdurdod,
Mawr ei meddwl, hawdd ei cymmod
12.
Neu fonheddig tlawd aniolchgar
Ffol afradlon a thafarngar.
Melyn wallt yn moeli 'n fuan,
Barfog, corphol, dwfn ei amcan.
13.
Fel y llew, neu hwrdd yn gwibio,
Neu bryf can wyll yn disgleirio.
Fel y paûn na fynn mor ammarch,
Fel yr eryr, fel yr alarch:
14.
Ond er vched yw ei natur,
Rhaid iw dioddef cûr a dolur.
Nid oes vn or rhain gad wedig,
Ond a wneir yn ostyngedig.
15.
Nid ymostwng heb dorr calon
Nid torredig heb ofalon:
Nid gofalus ond wrth ganfod
[Page 20]Enaid gwerth fawr, llawn o bechod.
16.
Pechod byw, nes i groeshoelio,
Hi fydd ty wyll pan ddioddefo,
Rhaid i nef y rhain dywyllu,
Rhaid iw cyssur cnawdol ballu.

Mars.

1.
MArs fych seren boethlyd ydyw
Yn cynhyrfu y digter chwerw
Mars yw 'r Mors sy 'n lladd y digllon
Trom, ddireswm yw, a chreulon.
2.
Côch ei lliw yn llûnio Rhyfel:
Ni bydd Mars nai phlant yn dawel.
Digio 'n fuan, Wyneb ffyrnig,
Ag er mwynder nid ynt ddiddig.
3.
Dû yw 'r gwallt, vwch llygad melyn,
Brych ei gwedd, Am waed ymofyn:
Gwrol a diarswyd ydynt,
Caled, cyfrwys, Blin ei helynt.
4.
Tynnant gleddyf noeth yn fuan
Torri pennau yw ei hamcan.
Ymysg dynion nid by wioccach
Neb na Mars, na neb greulonach.
5.
Dychryn pobloedd, Cryfdernatur,
Iw gelynion nid oes gyssur:
Stomog ddrwg, a llygaid llymion
Yn argeifio tanllyd goron.
6.
Chwimwth t' hwnt ir brodyr di­staw.
Gwell llaw goch (medd Mars) nar waglaw
Buan i dysg bob celfy ddyd
Er i bod yn danllyd ynfyd.
7.
Fel yr eirth ar teirw gwylltion,
Fel y meirch ar dreigiau creulon.
Fel y geifr ag fel y bleiddiaid.
Fel mastyffgwn ymysg defaid.
8.
Mynnant glod a dewrder Hunan,
Ag hyd angau gael ei hamcan.
Lladron weithiau, a chwerylwyr,
Plant y frâd ag anvdon wyr.
9.
Gwyntog, yn llawn anwadalwch
Syth ei glîn, Ni phlyg er tristwch:
Ond os mynnant fynd ir bwyd,
Rhaid yw diffodd Mars drwy 'r ysbryd.
10.
Ag ymostwng dan draed Jesu
A chy meryd ganddo i disgu,
Yn ddioddef gar ag yn dirion,
Dan yr iau cyn cael y goron.

Jupiter.

1.
Jupiter sydd wlyb a gwresog.
Ffyrfdrâ natur. Ffynnon gefnog:
Gan ei phlant mae wyneb siriol:
Tafod teg: ymddygiad gweddol:
2.
Gwyngoch agwedd. a chorph pybyr.
Llygaid mawr. Gwallt teneu glaswyr
Barfan grych. Blaenddannedd hirion
Buan dâeru. Buan dirion.
3.
Yn y byd fei mynych godir.
Swyddau iddynt a gynnygir.
Plantâ a wnant, a gweled gorwyr.
Prydferth ynt a llawn o synwyr.
4.
Mawr ei meddwl. Hawdd i gwrido
Mae 'r diolchgar yn cwilyddio.
Da wrth dlodion a gofalus
Am ei tylwyth, a chariadus.
5.
Llygaid gleision, talcen vchel.
Hael a chyfiawn heb ymrafael.
Hardd mewn llawer peth naturiol,
Er nad ydynt etto ysbrydol.
6.
Fel y Defaid, fel yr ychen.
Fel y carw, ag fel y golomen.
[Page 23]Fel yr Eryr, ar ciconia,
Fel yr Jeir, yw 'r dynion yma.
7.
A gwir yw nad mettal nefol
Yw plant Jupiter uaturiol
Rhaid yw adnewyddu ysbryd
Ei holl feddwl, os cânt fywyd.

Saturn.

1.
Oer a sych yw Saturn greulon,
Mamfaeth y meddyliau dûon.
Pladur lom, yn lladd llaweroedd.
Gwyrddlas wenwyn. Bygwth fydo­edd.
2.
Da i bod hi mhellaf vchod,
Ar Sêr eraill yn i gorfod.
Duw ai cododd hi yn vchaf,
Am mai hon yw 'r vn greulonaf.
3.
Dynion pruddion yw plant Saturn.
Calongaled fel yr asgwrn.
Hir yu dysgu. Craff yn cofio.
Pobloedd unig yn neillduo.
4.
Dewr ei talcen Llygaid trymion,
Nos anesmwyth. Dydd anfodlon.
Breuddwyd ofn cythreuliaid gwangcus.
[Page 24]Gwythi mawrion. Chwydd afiachus.
5.
Wyneb cûlgrûch. Aeliau vchel.
Gweflau tewion. Rhagrith dirgel.
Parod waed wyllt yn dihoeni.
Yn llawn malis a drygioni.
6.
Hênwyr ydynt cyn deugieiniau.
Oerni sy 'n byrhau ei dyddiau;
Sychder oer syn lladd yr Henaint.
Felly gwna 'r Saturnaidd drwghaint.
7.
Anobeithio 'n erbyn rhefwm
Ai llawen ydd yn ddigwlwm.
A Da ganddynt gael melysgerdd.
Cerdd a helpai Saul oi angerdd.
8.
Prin yn rhoddi, a Thawedog:
Ag eiddigus ag afrywiog.
Cas priodi ag anfodlon.
Gelyn cûchiog ir a fradlon.
9.
Llygaid bychain ar i wared,
Calon sûr yn ofni tynged.
Maent fel eirth a chwn a chathod,
Fel y seirph ag fel Assynnod.
10.
Llyffaint dafadennog dûon,
Tyrchau dayar: Dynion blinion.
Ond er cynddrwg ei naturiaeth.
Help sydd mewn Ailenedigaeth.
11.
Troi anifail yn ddyn gweddaidd
Neu droi diawl yn angel sanctaidd,
Anhawdd yw, a thasg ryfeddol.
Hyn a âll y Gair tragwyddol.
12.
Ond er bod y poenau mwyaf
Ir rhai sydd or natur waethaf:
Os troi wnant at Dduw yn fuan.
ymysg seinctiau bydd ei cyfran.
1
Wele, Ddyn ben gair ith helpu
Os edrychi ar i fynu,
Ar sêr Duw, neu i lawr ar ddynion,
Wele Air im holl gymdogion.
2
Rhai a ddwedant fod y ddayar.
yn troi beynydd yn olwyngar.
Eraill mai 'r Haul sydd redegog.
Ar ddayaren yn ddiyfgog.
3
Ond y gwir yw hyn: Deellwch.
Chwiannoethion doethion dysgwch:
Fod y ddau a phob creadur,
yn ymsymud yn ei natur.
4
Nid oes Dim nad ydyw 'n yfgog,
Ond yr Arglwydd Hollalluog:
Mae 'r holl ddayar mor a nefoedd:
yn rhoi trôeau yn ei lleoedd:
5
Fel mewn clocc mae llawer ôlwyn
yn y dirgel y mae'r cychwyn,
Maent yn troi ar gyfer beynydd,
yn wynebu 'r naill i gilydd:
6
Anrhaethadwy yw 'r ddoethineb
Ai gwnaeth oll yn wyneb wyneb:
A rhyfeddol yw 'r cadernid
Sy 'n i cynnal yn ei rhydddid:
7
Rhyfedd rhyfedd yw 'r Goruwchaf:
Ai gwnaeth oll or Dim Dim lleiaf:
Pleser Duw oedd ffynnon oesoedd;
Dim ond Gair a wnaeth y bydoedd:
8
Dyma 'r Gair drwy'r byd a glywyd
Dyma 'r Gair yn gnawd a wnaeth­bwyd;
Dyma 'r Gair a weithiodd gyntaf:
Dyma 'r Gair a farn yn olaf:
9
Nid yw hyn i gyd ond dechrau
Bychan ddattod rhyfeddodau.
I adnabod y saith ysbryd,
Yn oen Duw a ninnau hefyd.
10
Dos di mlaen fy mrawd, a llwydda
Yn eglurach ysgrifenna.
Ond na phwysa ar y doethion
Ag nag ofna rwystrau dynion.
11.
Ar ddyfnderoedd hoffant boeri
Pob gwaith da a gaiff i groesi:
Maent yn cablu 'r peth ni welsont:
Ag yn llygru 'r hyn a wyddont.
12.
Ond dydd mawr yn awr a wawria
Ar boreugwaith a ddisgleiria:
Er cân ceiliog trwm yw 'r syrthni:
Ond yr Haul a wna i chwi godi:
13.
Nid yw hyn dros hyn o amser
Ond pen gair: Mae 'n eisiau lawer:
I agoryd pyrth ffurfafen,
Ag i ganmol Duw yr wybren:
14.
Dim o newydd: Ond hen bethau
Pethau dyfnion vwchlaw geiriau:
Rhaid cael blodau, cyn cael addfed:
Rhaid yw croppian cyn cael cerdded
15.
Nid wyfi yn ymgystadlu,
A neb yma wrth scrifennu:
Dyma derfyn y Planedau:
Ofna 'r hwn ai gwaneth yn olau:
16.
Nid y Sêr yw 'r vnig Destyn,
Chwilia 'r Galon ar Gorchymyn.
Tyrd o ysbryd y byd diffaith
Ir Baradwys beraidd berffaith.
17.
Gwaefi (meddi) nid wi 'n medru
[Page 28]Codi 'r enaid ar i fynu.
Vwchlaw 'r ddayar ar planedau
Beth a wnaf? cyn dyfod angau.
18.
Dos i mewn i ti dy Hunan,
Dos at Dduw oddi yno allan,
Allan oth naturiol wyllus,
Ag o ysbryd byd gofidus.
19.
Na chais edrych am ddiddanwch
Yn y byd, ond dioddef dristwch.
Tônn ar wddf Tonnau yn wastad,
Ond ynghrist mae cyssur cariad.
20.
Hyny yw, yn ysbryd Jesu,
Dilyn hwn a dos i fynu.
Os canlyni dy Hun-ysbryd
Cnawdol, nid oes obaith bywyd.
21.
Rwyti 'n cael Rhybuddion lawer,
Mewn canghânodd ag mewn amser,
Drwy bregethau a thrwy lyfrau,
A thrwy ryfedd newidiadau.
22.
Duw in helpu, Duw in caru
Duw in oewid an diddauu:
Duw nid yw yn ol i vndyn,
Ond gwae 'r dall ar byddar cyndyn.
23.
Both a ddywaid Amos Brophwyd
Wrth dy Israel am ei hywyd?
[Page 29] Ceisiwch Dduw a wuaeth saith Seren,
Lluniwr Orion ar ffurfafen.
24.
Beth a ddywad Job oi galon?
Mawr yw Duw sy 'n gwneuthur Orion
Ar Pleiades ag Arcturus,
A stafelloedd dehau Venus,
25.
Beth a ddwedodd Duw Job wrtho
Fyngwas Job, Tâw Sôn a gwr an do.
Dangos Ple 'r oedd Jobyn dru [...]n,
Pan sylfaenais i ddayarlan.
26.
Pan gydganodd Sêr Angelion,
Pan ganfuont wnthiau mawrion:
A stafelloedd y goleuni,
Ar dwyrein wynt yn ymgodi.
27.
Pwy yw Tad y glaw ar gwlitho­edd
Crôth yr iâ a llwyd rew nefoedd?
A adwaenost di ordeiniad
Yr holl nefoedd ai hamgylchiad?
28.
Rhwyma di hyfry dwch Ebryll:
Neu gais Mattod clymmau erchyll
Dayar sych yn amser gayaf:
Deall Mazzaroth yn gyntaf.
29.
Mae Arcturus ai holl feibion
Vwch dy law di (gysyng galon)
Onid ynt, Gorchymyn gwmwl
[Page 30]I roi glaw yn ol dy feddwl.
30.
Pâr di (Job) ir mellt ar taranau
Fynd a dyfod wrth dy eiriau.
Pâr ir wawr ddisgleirio 'n eglur ddôran
A dilladu 'r byd yn bybur:
31.
Ehang ydyw 'r môr. Gwna
Par di iddo arbed tonnau.
Neu wascara gwmmwl drosto,
A gwna 'r niwl yn Rhwymyn iddo.
32.
Nid philosophydd sy 'n gofyn gwanddyn.
Ond llais Duw sy 'n gwahadd
I ymofyn am ryw bethau,
Drwy ddwfn natur ysgythurau.
33.
Pam i llosgi ran or scythur
Sydd yn Sôn am Arglwydd natur [...]
Os wyt waeth na Job dysg etto;
Os wyt ddysgediccach. Iddo.
Ll. G. M.
TERFYN.
1.
PAm y printiwyd y Gân yma?
Cymer atteb, ag na farna.
Rhaid ir dalent gael i harfer
Er i bod yn chwith gan lawer.
2. Gwych er hyn gan Gymro tirion
Gael drwy gerdd wirionedd Gysson
Gwagel (yn nehau-barth) watwor:
Gwynedd, Gochel Golli 'r Tymmor
3. Tra fo amser, gwell yw printio
Y gwirionedd, nai lêchguddio.
Gwir sydd yma, a Dyfnderau,
Nid cynhayaf opiniwnau.
4. Wrth gopîo, mae cam sacrifen.
Felly 'r meddwl sy 'n camddarllen.
Dyma 'r atteb pam y printiaf,
Os drwg genit, Danfon attaf.
5. Vnwaith etto gwel a Gwrando
Na ddirmyga Dduw ith lunio.
Mae Dyfnderoedd creadwriaeth
Vwch law bywyd dy farwolaeth.
6. Ond os cablu, Sisial, grwgnach
A wna rhyw ddyn gwan gwag afiach
Gadewch iddo, Ni allwn wrtho,
Diwrnod Jesu ai goleuo. Amen.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.