DIRGELWCH I rai [...]w DDEALL Ac i eraill iw WATWAR, SEF Tri aderyn yn ymddi [...]dan yr ERYR, a'r GOLOMEN, a'r GIGFRAN.

Neu ARWYDD I ANNERCH Y CYMRU.

Yn y flwyddyn mil a chwe­chant a thair ar ddêc a deugain, CYN DYFOD, 666.

Printiedig yn Llundain gan James Flesher, ac a werthir gan Thomas Brewster, tan lûn y tri Bibl yn ymmyl Pauls.

Arwydd i annerch y cymru yn y flwyddyn mil a chwechant a thair ar ddêc a deugain, cyn dyfod, 666.

Eryr.

O Ba le'r wyti (y Gigfran ddû) yn ehedeg?

Cigfran.

O dramwy 'r ddayar ac o amgylchu 'r gweirgloddiau i yn­nill fy mywyd.

Eryr.

Onid tydi yw 'r aderyn a ddanfonodd Noah allan o'i long na ddaeth yn ôl fyth atto dra­chefn?

Cigfran.

Myfi yn wîr yw 'r aderyn hwnnw, ac mae arnai dy ofn di brenin yr Adar.

Eryr.

Pam na ddoit ti yn ôl at yr hwn a'th ddanfonodd?

Cigfran.

Am fôd yn well gennif fwytta cyrph y meirwon na bôd dan law Noah ai feibion.

Eryr.

Di wyddost (ô Gigfran.) i'r golomen ddy­chwelyd yn ôl, ai deilien wyrdd yn ei phîg.

Cigfran.

Beth er hynny? nid yw hi ond aderyn gwan ymysy Ehediaid y ffurfasen; Rwi fy hun yn grysach, ac yn gyfrwysach o lawer.

Eryr.

Ond yr wyti yn bwytta cîg y meirwon, ac yn ymborth ar y budreddi annaturiol.

Cigfran.

Felly yr wyt tithau (O Eryr) wei­thian, er dy fôd yn falch, ac mea is yn frenin.

Eryr.

Gwîr yw hynny: Ond galwn am y golo­men i wrando beth a ddywed hi am dani ei hun, ac [...] danom ninnau.

Cigfran.

Ni ddaw hi i'n cwmnhi ni rhag ofn, [Page 2] ac ni feiddia hi ddywedyd ei meddwl lle bwyfi.

Eryr

Nage. Rhaid wrth gyngor y golomen. Gwrandawn ar bawb, a dewiswn y gorau. Pale yr wyti (o golomen?) yn lloches y grisiau? Gâd i ni glywed dy lais dithau.

Colomen.

Os cair Cennad (ac onide) mae Ewy­llys i ddangos dirgelwch y dwfr diluw a'r hen fyd a'r newydd; da gennof ddwyn y dd [...]lien las, a newydd da i'r rhai a achubir. Ac mi ddylwn gael c [...]nnad i ddywe­dyd y gwir yn llonydd am danaf fy hunan, ac am bôb aderyn arall.

Eryr.

Dos rhagot. Ni rwystra nêb di: Di gei gennad i fynd ymlaen.

Colomen.

Mae gennifi etto lawer ynghylch ys­crythurau ac eneidiau dynion, ynghylch teyrnasoedd a rhyfeloedd, Arch y dyst olaeth, a chodiad y seren ddydd, Haul y cyfiawnder, a dydd y farn, Diwedd y bŷd hwn, a dechrau 'r bŷd arall, naturiaeth Duw, a natur dyn, nêf ac vffern, a llawer o fatterion eraill, Ond mae 'r gigfran yn anhywaith, ni chair sôn am ddim daioni o'i bodd hi.

Eryr.

Ond mae Noah wedi peri i mi 'r Eryr lonyddu 'r Gigfran a chadw heddwch ymysg Adar: Ac fel yr ydym ni 'r Eryrod yn gryfach na'r cigfrain, felly mae 'r da yn gryfach na'r drwg.

Colomen.

Beth a fyn yr Eryr i wybod? ac am ba'r y newydd y mae yn ei feddwl ymofyn?

Eryr.

[...] fynnwn wybod genniti pa beth yw dirgelwch Arch Noah, A chan fôd y dychryn, a'r diluw, a'r rhyfel, a'r rhwystrau, a' [...] gwae, a'r gwa­gedd, a'r camwedd wedi parhau cyd ar y ddayar Pa brŷd y ceir diwedd?

Colomen.

Cyfrinach yw Arch Noah iw ddango [...] i rai, canys nid yw 'r adar drwg, nag yn deilwng [...] [Page 3] yn ewyllysgar iw glywed: Ond am y ddeilien wyrdd, a'r newydd da, f [...] baid y dwfr diluw pan bregether yr efengyl dra [...]wyddol drwy 'r holl ddayar.

Eryr.

Onid yw 'r pregethwy [...] yn i phregethu hi ymhôb plwyf yn barod ar i rhedeg, ac yn parablu, ac yn darllain yr efengyl i ni yn ein sefyll?

Colomen.

Nag y lyn gan mwyaf: Nid adwae­nant Dduw, Mwy nag y mae 'r twrch dayar yn aduabod yr haul, n [...] blant Eli yr hwn ai Gwnaeth.

Eryr.

Ond mae nhwy yn dywedyd mai pregethu, 'r e [...]engil y maent i gyd.

Colom.

Ie os yr un llais sydd gan y gigfran, a'r golomen, neu os yr un fâth yw cyfarthiad [...]ŵn a llefe­rydd angelion. Ac nid un o ddefaid yr Oen nefol yw 'r hwn niŵyr nad blaidd yw bugail, ac nad bugail yw 'r blaidd.

Eryr.

Ond Beth (meddi di) yw 'r ddeilien lâs a'r efengil dragwyddol?

Colom.

Arwydd fôd digofaint wedi myned hei­bio, a'r chwe mîl yn passio, a'r Sabb [...]th mawr ar fy­nydd Ararat yn agos.

Eryr.

A geir heddwch drwy 'r bŷd, a goleuni yn lle 'r tymhestloedd, a'r tywyllwch gwyntog ymma?

Colomen.

Cair dros lawer o flynyddoedd.

Eryr.

Pa fodd y profi di hynny? Onis gwnei ni byddaf bodlon i ti, mwy nag i'r gigfran, neu aderyn arall.

Colomen.

Gwrando (O Eryr) a deall; Mi ddy­wedaf y Gwîr. Mewn Chwech diwr [...] y gwnaed y bŷd, ac ar y seithfed y gorphwyswyd me [...] Moesen; Gen 2. Ac mae vn dydd gyda phreswyli-wr trag [...]ddoldeb fel mî [...] [...] [...]yddoedd, a mîl o flynyddoedd fel vn dydd, 2 Pet. 3. [...] Deall hyn meddaf (Eryr) canys ychydig [Page 4] ai cenfydd nes iddo ddyfod.

Cigfran.

Crawcc. Beth a wna 'r golomen ffol ymma yn siarad ni ŵyr hi beth, o'th flaen di O Eryr boneddigaidd?

Eryr.

Heddwch: Hi wnaeth wasanaeth i'r bŷd yn yr Arch. Rhaid i bob aderyn arfer ei lais.

Colomen.

Nid da gan y gigfran monofi, er na [...]neuthum [...]rioed niw [...]d iddi.

Eryr.

Felly nid da gan y drwg y da un amser, ond i hymlid y maent o goed i gastell.

Cigf [...]an.

Ai aderyn drwg y gelwi di fi? ai hawdd yw i mi gael fynghyfrif yn ddrwg?

Eryr.

Fe a'th anwyd yn uffern, ac yno y mynni drigo. Ond ni fynnit mo'th alw wrth henw dy wlad, na th farnu yn ol dy waith.

Cigfran.

Ni fynnai o'm bodd mo'm galw felly.

Eryr.

Gwel, ac edrych ar y golomen ymma, nid gwaeth ganthi hi pa fodd y gelwir hi, canys mwyn, ac arafaidd yw.

Cigfran.

Nid colomen wyfi, ond Cigfran. Ac fe ordeiniwyd i bob aderyn ei liw, ai lûn, ai lais ei hun; Ac os gofynni di i mi Pam? Minnau a ofynnaf i tithau, O Fryr Pam nad wyti cyn llei­ed ar dryw bâch, neu 'r wenfol?

Eryr.

Ond Gwrando (Cigfran) pa newydd yr wyti yn i ddwyn ar ol dy holl hedeg dros y gwle­dydd?

Cigfran.

Rwi 'n [...]weled mai gwych yw bôd yn gyfrwys pa le bynnag y bwyf.

Colomen.

Nid yw dy gyfrwystra di ond ffolineb canys ni fedri ac ni fynni ddyfod yn ôl at Noah.

Cigfran.

Gwêl ô Eryr frenin fel y mae 'r [...]o­lomen o'th flaen di yn fy marnu i.

Colomen.

Nid wyfi ond dywedyd [Page 5] danat ti, ac fe fyn y gwîr o'r diwedd ei le.

Eryr.

Ond dangos di (o aderyn dû) i'th gyfi­awnhau dy hun, Pa gyfrwystra sydd ynoti mwy nag mewn aderyn arall?

Cigfran

Mi fedraf droi [...]yda phôb gwynt, ac arogli fy mwyd o bell, a gochelyd y saethyddion. Ni ddescynnaf yn agos i nêb heb fy llygad yn fy mhen. Pa opiniwn bynnag a fo gan yr uchel­wyr, mi fedraf i lyngcu, am y caffwyf lonyddw [...]h yn fy nŷth.

Ery [...].

Oni fedr y golomen hynny hefyd.

Cigfran.

Crawcc. Mae rhai o'r proffeswyr newyddion ymma mor wangcus a-minnau, ac mor gyfrwys am y bŷd ar gigfra [...] [...]duaf. O d os troi 'r ddalen a darllai [...] y tu arall i'r gwîr, mae llawer o'r dynion newyddion ymma heb ganddynt brîs am y bŷd nag am danynt ei hunain, nag am ddim am y caffont fôd gyda Noah yn yr Arch, mewn cymdeithas yn ysbryd yr ail Adda; Ac ni adwaen ni yr un o honom ni y Cigfrain o'r meddwl hwnnw.

Colomen.

Gwir y mae 'r gigfran yn i ddywedyd yn hyn, canys mae llawer a lliw colomennod arnynt, Tit. 1.16 a naturiaeth y gigfran ormod ynddynt.

Eryr.

Ond gwrando di (Gigfran gyfrwys) onid oes ewyllys rhydd gennit? Oni elli os myn [...]i beidio a llâdd yr ŵyn bâch, a chymmeryd rhyw ffordd arall i fyw?

Cigfran.

Ped fai ewyllys fe fyddai allu. Ped fai'r gwaethaf yn [...]allel iawn ewylly [...]o bôd yn orau, fe fynnai fôd felly: Ond mae ewyllys [...] wedi i garcharu yn ei naturiaeth ei hun.

[...]r

Ond oni elli di ddyfod allan [...] ewyllys, a'th [...] dy hun?

Cigfran.
[Page 6]

Na al [...]af. Trêch yw naturiaeth na dim, ac ni wela [...] fi [...]awr yn nofio yn erbyn y ffrŵd hon [...]o. Ie, ni all [...]êb i gwrthwynebu yn hîr and y sawl sydd a naturiaeth newydd ganddo.

Eryr.

Ond Beth yw 'r ewyllys i'r naturiaeth?

Cigfran.

Mae 'r ewyll [...]s yn y creadur fel y ff [...]wyn i'r march, neu lŷw i'r llong, neu Arglwydd mewn gwlâd. Ac os bydd yr ewyllys yn dd [...]w [...], mae pôb pluen o'r aderyn hwnnw yn ddrwg hefyd.

Eryr.

Da yr wyti yn dywedyd dy reswm, ond drwg yr wyti yn gwneuthur. Pa le y cefaisti y synwyr ymma i ymresymmu fel hyn?

Cigfran.

Ymha le y cawn i hi, ond yn yscolion y d [...]yrnas? O dy i aderyn dû yr aethym i i'r yscol, ac yn [...]igfra [...] ddu fel y gweli di y daeth [...]m i adref.

Eryr.

Wrth hynny. Ni buase waeth i ti aros gartref.

Cigfran.

O ni fynnaswn i er dim aros [...]ar­tref: Canys mi a ynillais galli [...]eb i dwyllo 'r adar a [...]hei rh [...]iti [...]ennad (O Eryr) mi a'th dwyllwn di [...]au fel y siommodd y phariseaid Bon­tius Pilat. O [...]d crâff yw dy lygad ti, a rhaid tewi.

Eryr.

Ond a welaisti mor colomennod yn yr ys [...]ol [...]on llei buost di?

Cigfran.

Yr oedd ymbell un. Ond ni fedrwn i ddar [...]ai [...] moi hiaith nhwy, na nhwythau ddeall mo mi m [...]dd [...]liau innau. Ond Pam yr wyt, O Eryr y [...] taro gyda 'r colomen o'm blaen i?

Eryr.

Mae Noah yn i hoffi hi yn fwy na'th di.

Cigfran.

Er hynny Cofia mai er i'r [...]olomen cynta [...], a'r ail d [...]yfod i'r Arch eilwaith ni ddaeth y dr [...]dedd f [...] m [...]rol am dano mw [...].

Eryr.

Fe alle mai Anghrist oedd honno yn rhith colomen: neu fe alle fôd y bŷd yn rhydd iddo [Page 7] ar ôl da [...]fod cyfryngdod a gweinidogaeth yr Arch.

Cigfran.

Ond fel y waethaf y mae nhwy i gyd [...]es gwyddit.

Eryr.

Nage Onid y nhwy yw 'r adar gwirion, hawddgar cyflym, cwynfannus, diniwed; ac mae yn y gwledydd bobl o'r fâth honno, er dy fôd ti yn crowccian yn i herbyn: Gwell a fyddai i ti aros gyda ni yn ddiniwed Fe wyr Noah mai ade­ryn drwg wyti; Ac mae ei fwa ef yn cyrhaeddyd o entrych y ffurfafen, i waelod y ddayar, a'i saeth ar y llinyn yn erbyn pôb aderyn drwg, sydd wedi i adel ef heb ddychwelyd atto.

Cigfran.

Mi ddywedais ddwy waith o'r blaen i ti, na allai newid mo'm naturiaeth mwy na'm lliw; mae gennif lawer chwedl iw ddywedyd, bei cawn i gennad, a chroeso.

Eryr.

Pam na ddywedi di dy feddwl yn hŷf, a minnau yn rhoi cennad i ti?

Cigfran.

Ond synhwyrol yw 'r nêb a ddywedo mewn damhegion; A brenin w [...]ti yr awron, Ac os dywedaf ddim yn erbyn dy feddwl di, di am anrheithi.

Eryr.

Na wnaf ddim. Fe ddyle rheolwyr roi cennad i bawb i ddywedyd i meddwl: Dywaid yn hŷf, ac mi a'th wrandawaf.

Cigfran.

Ond mae 'n beryglus dywedyd y gwir yr awron: mae milwyr a chynghorw [...]r yn spio am danom, i'n dal, ac i'n difetha.

Eryr.

Nage Drwy na ddywedych ond y gwîr fydd ynot mewn heddwch, di gei dy wrando.

Cigfran.

Na wrando ar y golomen, ni fe [...] hi [...] duchan oferedd: wedi 'r cwbl (medd [...] [...]) [...] bwytta o chwant y cnawd tra [...] ­hatho. [Page 8] A Gwych gennif (bes gallwn) ddifa yr holl rai bâch wedi i newydd aileni, a dychrynnu y lleill am llais garw gwrol.

Eryr.

Drwg yw creulondeb y llais garw. Oni wyddost ti mai gwell bôdd pawb, nai anfodd? Dysg y gwirionedd gan y colomennod, a bydd ddiddig ynot dy hunan. Rhuf. 12.18.

Cigfran.

Ni chl [...]wa i well llais pregethau gan y naill na 'r llall.

Eryr.

Fe fed [...] y golomen [...]tteb nad oedd St Paul ond gwr gwael yngolwg y Corinthiaid, 2 Cor. 10.10. ond tuedd, a dyfnder y meddwl mewn pregethwr iw 'r cwbl.

Cigfran.

Ond pwy sydd yr awron fel yr Apo­stolion?

Eryr.

Er hynny. Mae 'n hawdd i lygad Eryr ganfod fôd yr un môr yn torri allan yr awron ac oedd y prŷd hynny; ond nad yw 'r ffynnonau ymma o ddwfr etto yn troi yn llynniau fel cynt, eisiau calonnau isel iw derbyn.

Cigfran.

O Eryr, na chrêd mor gau bro­phwydi. ond cospa nhwy mewn prŷd.

Eryr.

Nid ffals brophwydi yw y rhai sy 'n traethu yr efengyl, ac yn byw ar ei hôl: drwg yw cenfigen. sôn yr oedditi am dy sîr dda ary cyrph meirwon, os cefaist, cadw os gelli. Minnau a gefais lawer o'r seigiau hynny; Ond mae nhwy wedi darfod.

Cigfran.

Oni weli di gywion y colomennod yn ehedeg i'r pulpud i bregethu, ai plisg geni am ei pennau; Pa fodd y gall ifiengtid ddyscu henaint?

Eryr.

Fe ddywaid y golomen i ti, fôd y llangc Joseph (ac Elihu hefyd) yn fwy ei ddysg nâ'r he­nafgwyr. Psal. 105.22. Job 32.9, 10. A bôd rhai yn ddyscedig yn ei hifiengtid, a llawer yn ynfydion yn ei henaint. Ac nad [Page 9] dyfnderoedd ffynnonau naturiaeth sy 'n dyfrhau enaid dŷn, ond y cawodydd oddifry; Zach. 10.1. ac na wydde Nicodemus ddyscedig beth oedd yr ailenedigaeth mwy na phlentyn cyn i eni, a llai na phlentyn bâch wedi i eni. Joan. 3. Di weli langc bychan yn deall mwy nag anifail mawr, ac fel y bo 'r dydd yn gwawrio, y mae dŷn yn gweled. Canys fe welai Joan efan­gylwr lawer mwy ganol dydd, nag a welai Joan fedyddiwr ar y wawr: am hynny y lleiaf yn nheyr­nas nef oedd fwy nag ef.

Cigfran.

Ond mae 'r genhedlaeth ragrithiol yma yn barnu ei henafiaid i bôd nhwy yn nhân uffern, ac er hynn [...] [...] a wnânt am gariad perffaith.

Eryr.

Mi wn amcan beth y mae nhwy yn ei ddywedyd, Rwyti yn cam gymmeryd ei geiriau: vchel yw paradwys, a dwfn yw uffern, nid oes fawr etto yn y byd canol ymma yn canfod yn eglur pa rai sydd yn y ddau fŷd eraill. Ac am ei henafiaid, gobeithio maent fôd cynnifer o honynt ac a wnae­thant yn ôl yr hyn a wyddent wedi dychwelyd i lochesau 'r Arch, Ond nad digon i'r oes ymma fôd fel y nhwy. Canys fe edrychir am lawer oddiwrth y rhai a dderbyniasant lawer. Zech. 1.4. Luk. 12.48.

Cigfran.

Ond mae llawer o opiniwnau newy­ddion, ac o heresiau dinistriol, ymysg yr adar any­scedig ymma.

Eryr.

Pa bethau yw rheini? Esay 11.3. Ni chredai mo bôb chwedl; Gâd i mi weled am llygad fy hunan, ac yna mi a farnaf.

Cigfran.

Ond siwrach i ti gredu y Doctoriaid d [...]scedig? ac os pa [...]a [...]t i ti ddial, gwna heb ruso.

Eryr.

Nid felly. Mi welais yn amser Mary, Eli­abeth, Jago a Charles olaf, Matth. 15.14. ac er hynny hyd yn hyn [...]d oedd ond y trecha treisied, a llawer o waed [Page 10] gwirion a dywalltwyd i geisio ystwytho cydwy­bodau y rhain. Ond mae 'n rhaid i ebill athrawi­aeth fynd o flaen morthwyl rheolaeth, rhag hollti 'r pren, neu blygu 'r hoel.

Cigfran.

Gwrando dithau ( ô Eryr t [...]wyso­gaidd) Pam yr w [...]ti yn gwarafu i i'r cigfrain fyned ar ôl ei meddyliau, ai cydwy [...]odau? yr w [...]ti yn dwyn ein llyfr gwasa [...]aeth oddiarnom, ac yn ein llwytho ni a threthi trymion [...]n ôl dy ew [...]ll [...]s d [...] hun, ac yn gwneuthur gwaeth na'n bygwth, a­nis talwn h [...]d adref.

Eryr.

Am y trethi. Er na wyr y gigfran cystal ar Eryr beth sydd iw wneuthur i fantumio arfau, a llongau i gadw heddwch, etto rhaid i ti dalu teyrnged, ac ymostwng i'r awdurdod sydd arnat, ac oni bai fôd y cigfrain hyd yn hyn yn yscymun, ni bydde raid wrth filwyr, na threthi iw mantumio. Pan ddyscech di fôd yn llonydd fe yscafnheir y tre­thi. Ond am lyfr dy wasanaeth mi chwedleuaf yn y fan a'r golomen, i weled beth a ddywaid hi yn hynny.

Cigfran.

Cigfran anhappus wyfi: Roedd fy hena­fiaid i yn cael llonydd, a'r er [...]rod a'r rheolwyr gynt yn cymmeryd ei hesmw thdra, ac yr awron yr wyti yn fwy dy reswm, ac yn llai dy nerth na'r tywysog­ion o'r blaen.

Eryr.

Digon yw hynny o weiniaeth a chyfrwy­stra; yr oedditi gynne yn sôn am heresiau dinistriol sydd ymhlith y colomennod. Henwa un o'r heresiau hynny, ac mi ai hystyriaf, ac onide mi & &.

Cigfran.

Mae nhwy yn dal nad oes ond un breni [...] ac yn dywedyd i fôd ef ymhôb lle ac heb i gyn­nwys yn unlle. Nid adwaen i mor brenin hwnnw. Ac mae nhwy a'r fed [...] dy wrthod tithau [Page 11] O Eryr i fôd [...]n [...]w [...]ddog arn [...]nt ac am hynny fy­nghyngor i [...]w i ti mewn prŷd edrych yn d [...] g [...]lch.

Eryr.

Nid rhaid i mi ofni mor colomennod gwi­rion, ni wna nhwy ddim ond a fynno Noah, yr hwn er ei fôd ef yn aros yn gorphorol yn yr Arch, mae ei Arglwyddiaeth ef dros yr holl fŷd.

Cigfran.

Ond mae nhw [...] yn dal mae nhwy yw 'r bob buraf. O [...]i chlywaisti 'r golomen gynneu yn i chanmol ei hunan?

Eryr.

Mae hi yn llawer hawddgarach na'th di. Ac rwi 'n cofio i'r dynion diniwed gynt ddy­wedyd i bôd nhwy yn blant yr Arch, 1 Joan. 5.19. Dat. 2.17. a bôd yr holl fŷd yn gorwedd mewn drygioni, a bôd ganddynt hwy sêl ddirgel, nad edwyn nêb ond nhwy i hunain.

Cigfran.

Ond nid opiniwn dŷn am dano ei hun a all ei achub heb weithredoedd da.

Eryr,

Mi wn nad yw 'r golomen yn barnu mor yscuthanod a llawer mâth arall o adar, ond am yr adar drwg, mae ei gweithredoedd ei hunain yn i barnu.

Cigfran.

Ond pa le y mae ei gweithredoedd da nhwy, ar ôl ei holl duchan, ai tr dar?

Eryr.

Oni allant wneuthur y daioni a fynnent, ni wnânt niwed i nêb. Ond dydi, gan na fynni wneuthur da. Di a fedri ac a fynni wneuthur drwg.

Cigfran.

Ond niwed iddynt hwy hedeg i gaeau ei cymydogion a difetha ei hadyd, wrth i barnu i vffern, fel pe baent oll yn golledig.

Eryr.

Yn yr hyn y mae nhwy ar fai nid wyfi yn dadleu drostynt; Ac ni all nêb ond Noah farnu calonnau yr holl adar: Ond yr wyti yn barnu calon y golomen, i bôd hi yn ddrwg; a phawb yn gweled wrth dy liw, a'th lais, a'th weithre­doedd [Page 12] di, dy fod ti yn ddrwg dy hunan.

Cigfran.

Ni allai aros cl [...]wed y gerdd ymma. Attolwg [...]ad lonydd i mi i ehedeg llei mynnwyf:

Eryr.

O aderyn cyfrwysddrwg, Gwell gwrando na chael dy ladd. Ond fe lâs a gafas rybudd. Mae arnai fy hun eisiau cael fy nysgu, Ond er na wn i fawr; Rwi yn rhwymedig i roi i ti gyngor, a thithau yn rhwym i wrando ar fy llais.

Cigfran.

Na feia ormod arnafi. Pa warrant oedd gennit ti, os gwiw gofyn, i dorri pen y Brenin, ac i symmud Parliamentau wrth dy bleser dy hun, fel na ŵyr tawr yr awron i bwy yr ymostwng i dalu reyrnged. Ac mi welaf fôd teyrnas heb reolw [...]r (fel cor [...] heb ben) a phawb yn gwneu­thyr a fynno ef ei hunan.

Eryr.

Geirwon yw geiriau 'r Gigfran. Ond gwrando er hynny ar reswm Mae yspryd rheo­laeth fyth yn pa [...]hau, a'r sawl na phlycco iddo, a ddryllir. Mae Noah yn rhoi rheolaeth i'r sawl a fynno. Dan. 4. Yn gostwng y naill, ac yn codi 'r llall o'r dommen i reoli. Nid oedd Gideon, a Saul, a Dafydd ond gwŷr gwael ar y cyntaf yn y byd. Ac o'r tu arall, mae efe yn chwythu ymmaith bennaethiaid y bŷd fel llŵch y llawr dyrnu i'r dommen [...]anys nid yw efe yn derbyn wynebau dynion. Dan. 2.35. Nid yw 'r holl ddayar ond stôl draed iddo. Mae efe [...]n rhychwantu y ffurfafen,, Esay 40. ac yn dal y môr mawr ar gledr ei law, ac yn pwyso y myny­ddoedd mewn cloriannau; ac os bydd un gŵr mawr yn rhy ys [...]afn, Dan. 5.27. mae efe yn i roddi heibio; ond mae efe yn edrych ar yr isel, ac yn cynnal y galon dorredig.

Cigfran.

Mi welaf y teyrnasoedd yn berwi fei ped faent grochanau ar y tân. Ond beth a ddaw dybygi di O Eryr ar ôl hyn?

Eryr.
[Page 13]

Ni wn i fy hun, mi gaf wybod gan y go­lomen. Ond rwi 'n tybied y ceir etto fŷd gwell nag a gaed erioed, canys yn y nêf a'r ddayar newydd fe erys cyfiawnder.

Cigfran.

Ond oni weli dy hunan fôd y bŷd yn myned waeth waeth, a chariad perffaith yn treio?

Eryr.

Na sonnia di am gariad perffaith (O Gig­fran amherffaith) Beia arnat dy hun yn gyntaf ac yna mae gobaith o honot. Rhuf. 2.21. Om weli di fod yr haul yn cledu 'r clai? a pha dwymna y tywynno ar y dommen brynt a fydd: Mae i da yn mynd well well ymhôb oes erioed, a'r drwg yn mynnu mynd wa­eth waeth.

Cigfran.

Mi welaf dy fôd ti fyth yn ffafrio 'r colomennod: O [...]i wyddosti i bôd nhwy yn ymlusgo i deiau, ac yn gwneuthur drygioni gyda 'i gilydd?

Eryr.

A fuost ti erioed yn i mysg nhwy i weled beth y mae nhwy yn i wneuthur?

Cigfran.

Na fûm. Ac nid wyfi ar fedr bôd mor ffôl a myned yn agos attynt iw cytarfodau hwynt.

Eryr.

Oni buost; Pa ham yr wyti yn i cyhuddo?

Cigfran.

Mi glywais lawer yn dywedyd, nad oes dim daioni iw gael wrth fôd yn ei mysg nhwy.

Eryr.

Mi wrantaf mai rhyw gigfrain eraill a ddywad y chwedl ymma i ti am danynt hwy.

Cigfran.

Beth os ê? Mi gredaf i synwyr un gigfran o flaen cant o golomennod. Ond mae nhwy yn gwadu 'r yscrythurau, a phôb daioni.

Eryr.

Pam y maent hwy (wrth hynny) yn i darllain mor fynych? Ond odid di dy hun sy 'n gwadu 'r scrythurau. Ac heb edrych arnynt un­waith yn y pedwar amser, nag heb i darllain o'r tu fewn chwaith, iw dangos mewn gweithred oddi­ [...].

Cigfran
[Page 14]

O [...]d pobl dwyllodrus is ydynt hwy? nhwy a ddyweda [...]t y [...] dêg, ac a weddiant weddiau hiri­on▪ na tha [...]ant ddim wedi'r cwbl.

Eryr.

Ni ofynnwn i'r golomen Beth a atteb hi drosti i hun Beth a ddywedi di wrth hyn?

Colomen.

Gwell yw na ddyweder dim wrth rai direswm. Ond gwir yw, yr ydym ni yn ymgyfarfod yn fynych, yn dywedyd yn dêg, yn ceisio gwneuthur y daioni i bawh, ag nyni a ewyllysiem bei gallem wneuthur yn well. Ac os gellir profi yn bôd ni o'n bodd yn niw [...]idio nêb, Act, 25.11 Cymmer di (O Eryr) ddial arnom Ond ni ddyle 'r gigfran gael ei hewyllys. N [...]d oes chwaith goel ar i gair nai llŵ hi, mwy nag ar fytheiriad ci. Hi fedr dyngu cant o lŵon, am y gallo hi lyngcu eraill. Ac am y gwe­ddiau hirion y rhai'n sy 'n pwyso ar ei chylla hi: Mae 'n rhaid i ni barhau nes y caffom gan Noah wrando. Je di weli dy hunan ein bôd ni yn cael agos hôb peth ar yr ydym ni yn i ofyn, 1 Joan, 3.12. yr ydym ni yn curo wrth ystlysau yr Arch, ac yntau yn agor i ni.

Eryr.

Henwa un peth a gafodd y colomennod.

Colomen.

Ni a weddiasom ar i ni y colomennod gael y llaw uchaf yn y rhyfel, ac am lawer peth arall, ac fe ai rhoddwyd i ni.

Cigfran.

Ai colomennod oedd 'chwi yn amser y rhyfel? tebaccach i gythreuliaid o lawer.

Colomen.

Gwîr yw fôd rhai adar afreolus wedi taro ar ein plaid, ar rheini a wnaethant ga [...]nau drwy blundrio 'r gwledydd.

Cigfran.

Crawcc. Mi rhywn ar fynghalon lâdd y golomen wenhieithus ymma.

Eryr.

Digon. Mi welaf y mynnit ti ddechrau rhyfel arall or newydd bes gellit. Digon yw hy [...]y o ymladd, Di gefaist dy guro yn fynych.

Cigfran.
[Page 15]

Gad iddo, Mi gaf ddiwrnod etto.

Eryr.

Etto fyth? Di soniaist lawer gwaith wn gael y llaw vchaf. Bydd gall o'r diwedd; [...]h. 2. a cho [...]ia mai esmwythdra'r ynfyd ai lladd Canys n [...] [...]hlyw esmwyth fod yn esmwyth.

Cigfran

Esmwyth meddi di? mi fynnwn bei gwyddit ti mor anesmwyth [...] etto.

Eryr.

Os byddi esmwyth y [...] dy hunan di gei bob peth yn dda. Gochel fod fel Cain filain, neu fel Balaam ddichellgar, neu fel A [...]ph [...]l gyfrwys, neu fel Ab [...]olon aflonydd, neu fel [...]uddas fradwr, neu ryw anifail drwg; neu yn a [...]reolus fel y mor. Oni phrynaist ti synwyr etto? Gochel neidio o'r badell ffrio i'r tân: Mi ddywedais o'r blaen i ti, Mai y rhwyd a weuodd dy falais dy hun sydd yn dy faglu.

Cigfran.

Ond Pam yr ydychwi yn fyngalw i yn Gigfrân?

Eryr.

Tra foch di Cigfran, Rhaid yw dy alw di felly.

Colomen.

Os paid y gigfran ai chreulond [...]b. Fe ai hoffir hi fel aderyn arall: Nid o [...]s ynofi na chwer­wedd bustl na malais yn ei herbyn. Ond mae yn ddrwg gennif drosti.

Eryr.

Fe allai y gellir i newid hi er hyn i gyd.

Cigfran.

Mae Noah wedi fy [...]w [...]thod i, ac nid gwaeth i mi beth a wnelwyf os gwrthodedig ydwyf.

Eryr.

Nid efe a'th wrthododd di. Ond dydi ai gwrthodaist ef, Ezek 3 [...].11. ac a aethost ymmaith. Canad ac ewyllys da yw efe, ac nid oes dywyllwch ynnddo. Hawdd ganddo faddeu i'r gwaethaf; Anhawdd ganddo ddigio, a gwych ganddo hir-ymaros.

Cigfran.

Ond mae llawer yn dywedyd i fôd [Page 16] wedi gwrthod llawer, a dewis rhai cyn i geni.

[...]

Mae hyn tû hwnt i'm dysg i: fe alle y gŵyr y golomen y di [...]gelwch hwn. Beth a ddywedi di?

Colomen.

Anhawdd dywedyd, ac anhawdd deall pa fodd y ma [...] 'r dyfnder hwn yn Noah. Ond mi ddarll [...]nnaf i chwi yr A. B. C. cyntaf fel hyn. Mae ynhragwyddoldeb dri yn vn, sef ewyllys, cariad, a nerth, i'r naill yn ymgyrhaeddyd erioed a'r llall, ac yn ymborthi, D. h. 8. ac yn ymgenhedlu yn i gilydd byth. Oni bai fôd pleser cariad tragwyddol i borthi 'r ewyllys anfeid [...]ol ni byddai nêb yn gadwedig. Ac oni bai fôd cynhyrfiad yr ewyllys cyntaf yn dân lloscadwy, ni by­ddai nêb yn golledig. Ac oni bai fôd y tri, fel hyn yn cyâweithio, ni buasai na dŷn, nag angel, nag ani­fail, na dim arall wedi i wneuthur. Mae rhai wedi ymes [...]or erioed yn y cariad drwy yscogiad yr ewylls, yr hwn sydd yn i gwascaru fel gwreichion allan o hono ei hun, ac yn i tymheru yn nŵfr y difyrrwch (yr hwn yw 'r Arch) nid yw gwreiddyn y tri ond cariad ynddo ei hun, 1 Joan. 4.8 heb gashau nêb. Ond yn yr ewyllys gweithgar hwnnw mae 'r ysgogiad yn tewŷchu y peth sydd yn­ddo, ac yn gadel heibio (fel preu ei ddail, neu ddŷn ei boeryn) y peth nad yw vn ag ysoryd galon. Wele, nid yw 'r cigfrain yn adnabod tarawiad y tant ymma yn y delyn nefol. Ond deall di (O Eryr) ac fe a ddeall y colomennod hyn fwyfwy. Canys fel dymma wrei­ddyn y matter, a ffynnon pôb peth. Dymma fôn der­wen yr holl fŷd gweledig hwn: Dymma y cynhyr­fiad tragwyddol sydd yn achosi pôb symmudiad ymysg yr holl greaduriaid. Ond nid yw 'r adar ar gan­ghennau 'r pren yn meddwl pa fodd y mae 'r gwrei­ddyn yn [...]ynnal ei naturiaeth, Mat. 3 17. a nhywythau ynddi. Yr ewyllys cyntaf yw gwreiddyn pôb vn (fel y ma [...] 'r wreichi [...]n [...]n yn dyf [...]d o'r garreg) ac mae efe ei hun [Page 17] yn ymgyr [...]hu yn wastad i fonwes y mâb, ac yn ymlo­nydâu yno yn y cariad; Ond mae llawir o'r gwrei­chion heb fynnu ymoeri fel [...]y, Ond yn [...]hedig gyda Lu­ciffer yn erbyn y goleuni a'r tawelwch tragwyddol, ac yn aros yn yr yscogiad tanllyd, heb ga [...]l esmwythdra byth, [...]isi [...]u dyfod iw geisio allan o'i naturiaeth ei hu­nain. Ma [...] gallu yn yr ewyllys i ysg [...]g, ond nid oes mor ewyllys gyda gallu i ddychwelyd (fel y dywad y gigfran o'r blaen ran o'r gwir) Am [...]ynny mae llawer yn i gwrthod ei hunain, ac yn achwyn ar Noah. Ac er bod ei fonwes ef yn i chwen [...]ych, m [...] ei monwes danllyd hwynt yn i dal yn ei teyrnas ei hunain. Ond (O Eryr) os rofi di ofyn ymhella [...]h am hyn, pan fôm, ni wrthym ein hunain yn y distawrwydd, mi ddangosaf yn helaethach wreiddyn pôb dirgelwch. Ond yr awron dôs ymla [...]n i chawedleua ar gigfran.

Er.

Beth a ddywedi (ohên gigfran) wrth hyn i gyd?

Cigfran.

Dwfn yr awron yw rheswm y golomen. Ac mae 'ch geiriau chwi weithiau agos a'm gor­chfygu i. Ond (myn rh [...]wbeth) ni b [...]ddafi vn o honochi byth. Er hynny, Rwi 'n tybied be cl [...]waf y cigfrain eraill gymmaint ac a glywais i, nhwy ddoent i fôd o'r vn grefydd a chiwithau.

Eryr.

Galw di arnynt i wrando arnom ni.

Cigfran.

Na wnaf (dydygwn i:) Galwed y sawl a fynno arnynt: Galw dy hunan os mynni.

Eryr.

Wrth hynny nid wyti yn chwennych dai­oni i ti dy hun, nag i nêb arall?

Colomen.

Gad iddi (O Eryr) y rh [...]i a achubir a elwir. Ac dymma newydd da i rai o'r cigfrain, sef bôd gan Noah gelfyddyd ryfeddi droi cigfrain yn go­lomennod. Ac yn ddiammau fe ai gwna. Act. 9.1. [...] 6.11. Ac yno ni elwir mwy monynt yn gigfrain ymysg adar. Mae efe yn gwneuthur y gwaethaf yn orau, ac yn ga­del [Page 18] [...] blaen [...]f i [...] yn olaf.

Eryr.

Ond gad [...] [...]wedleua ychvdig, a'r gig­fran. Pa newydd s [...]dd genniti o'r tu hwnt i'r mor?

Cigfran.

Mae r co [...]omennod ymma vn hedeg ym mho [...] teyr [...]as ac arwydd drwg yw hynny na saf y b [...]e [...]i [...]oedd. Mae llawer o honynt hwy yn Holand▪ a rhai yn Frainc, ac ym [...]e [...]l vn yn Hispa­ [...]n, ac nid yw dda gen [...]if i gwe [...]ed nhwy ymhób mann yn hede [...] iw ffenestri. Mae nhw hefyd mor gyflym, nad oes vn gwalch yn abl iw dal nhwy.

Eryr.

Ond beth y mae 'r cigfrain eraill yn i ddywedyd yn y gwledydd themi?

Cigfran.

Mae 'r hên rai yn gweled fôd trô mawr ar fŷd yn agos, a'r cigfrain ifaingc yn dwndrio ac yn cymmeryd ei pleser. Mi fum yn Rhufain y dydd arall, ac yno mi welwn y Pâb yn c [...]ynnu yn ei gadair, mae hi yn llawn bryd i mi i ed [...]ych yn fynghylch.

Eryr.

A ydyw efe ymmysg y crynwyr? Pam y mae efe yn crynnu?

Cigfran.

Mae rhyw brophwydoliaethau yn i ddychrynnu ef, Ond mae efe yn danfon ar hŷd ac ar lêd i geisio cadw ei bl [...]s i ynu, ac er hynny syrthio y mae: ma [...] ga [...]dd [...] yn ei nŷth y cigfrain c [...]frwysaf yn y bŷd, ac mae rhai o'r tywysogion (fel pil [...]rau yn c [...]sio i [...]ynnal, ond mae y rhan fwyaf yn bwd [...] yn y gwreiddyn, ai grefydd yn drom ar ei hyscwyddau hw [...]t.

Eryr.

A oes genniti ddim newydd am y Twrk, ac am yr Iddewon?

Cigfran.

Oe [...]: mae 'r Twrk yntau yn rhythu llygaid, ac mae nhwy yn ofni, mai 'r Twrk sydd yr awron a fydd yr olaf. Mewn gwledydd eraill mae afonydd a llynniau yn troi yn waed, ac mae [Page 19] rhyfeddodau ofnadwy yn yr wybren, fel ped fai di­wedd pôh peth n a [...]os. Beth a ddaw o honom ni pan losce [...] y bŷd? Ond am yr Iddewon. mae [...]h [...]y yn ed [...]vch am seren forau, ac ar fedrcodi etto vwch la [...]'r holl [...]rynniau ac eistedd ynghadair yhŷd. Ac rwi 'n tybied fy hun y cánt [...]wy godia [...] rhy [...]edd.

Eryr.

Pam yr wyti yn meddwl felly?

Cigfran.

Amy caiff yr isaf fod yn vchaf, canys mae 'r bŷd yn troi fel olwyn certwyn.

Eryr.

A oes dim newydd o'r werddon ac o Scot­land

Cigfran.

Nag oes ond bôd sŵn mawr yn ei mysg, a'r colomennod ar yr ad [...]n ymhôb mann et­to. Ond mi ddywedais orm [...]d o newydd i ti yn barod, a siwrach a fuasai i mi d [...]wi.

Eryr.

Mae genni [...] ddiolch am dy newydd. Dô [...] rha­got. Gwych yw clywed beth a ddywetto pòb aderyn.

Cigfran.

Nid oes ond hynny. Ond bôd pilerau 'r bŷd yn siglo, a'r tân, a'r Rhyferthwy ymhôb gwlad o amgylch (oni bai hynny mi a gawswn h [...]lp rhyw rai yn lloegr cyn hyn.) Ond os dywedaf wrthyt gyfrinach, ie a glyw 'r golomen.

Eryr.

Mi wrantaf y gŵyr hi fwy na hyn: ond a oes obaith o [...]yd da yn dy dyb di?

Cigfran.

Mi ddywedais o'r blaen fy meddwl, nad oes ymhob man ond y trechaf treisied, a'r gwannaf gwichied. Nid fyng [...]aith i yw ymresym­mu fel hyn, ond dangos i ti mor felldigedig yw 'r genhedlaeth ymma o golomennod sydd yn codi ei pigau, ac rwi 'n tybied y dylit ti a nhwythau gwympo allan ai gylydd, a Dyna fy holl neges i. Mi ddywedwn air wrth y golomen oni bai fod yn scorn gennif) y dylai hithau edrych am ei bywyd, a sefyll ymhell oddi wrthit, ac nid wrth dy glûn [Page 20] di yn y modd yna. Eryr wvti, ac nid oes i'r adar mor ym [...]ellwair a'th ewinedd llymion di.

Eryr.

Mi wn i lawer o'm henafiaid ladd llawer o golomennod; ond nid wyfi ar fedr neidio cyn edrych, na phigo ni wn i pwy, nag am ba beth.

Cigfran.

Ped fawn i yma gyda'th di lawer mis, mi fed [...]wn ddangos newydd bob awr. Ond mae arnai chwant b [...]rgunnod, ac fe alle fôd rhyw rai yn llosgi fy nŷth i. Gâd i mi fyned bellach.

Eryr.

Nage, nid ei di oddi yna nes dywedyd mwy o'th feddwl.

Cigfran.

Feth a fy [...]ni di gyd a'm fi ond hynny?

Eryr.

Oni buost di y dydd a [...]all yn Llundain yn clustfeinio, beth a glywit ti?

Cigfran.

Do; Mae yn Llundain bôb mâth o adar, fel mewn coed tew (pôb aderyn a'i lais.) Mae yno lawer o golomen [...]od [...]yflym, ac hefyd o gigf [...]ain duon, heb ddim newid lliw a [...]nynt. yr oe­ddynt yn sôn y llosgid Llundain; ond er maint y sôn, mae hi etto vn sefyll, fel y mae pethau eraill: llawer darogan a da yllodd ddynion, ac er hynny nid ydym ni yn i alw yn ffals brophwyd. Canys nid ffals [...]êb a'n bodlono ni.

Eryr.

Beth a ddyscaist di yn Llundain?

Cigfran.

Yr oedd vn i wrth fôd allan yn yr hêol yn clywed y dwndrywŷr yn siarad, ond ni ddyscais i tawr, am nad oeddi [...]eswm yn ei chwed­lau: yr oeddynt hwy yn rhuo vwchben ei pottiau, fel sŵn tonnau 'r môr, neu ddaiar-gŵn yn cyfarth: yr oedd trŵst gwragedd yn vmgennio yn ei mysg, a rhyferthwy fawr o eiriau, fel llêf mewn afon, yr oedd gan bôb vn ddwy glust, ac vn tafod, a hwn­nw ei hun yn dywedyd mwy nag a glywse y ddwy glûst, a mwy nag a welse y ddau lygad, A phan [Page 21] welais i hwynt yn seler dywyll ei hynf [...]wydd, mi aethym heibio iddynt yn llawen ei [...] felly. Ac ni wyddent hwy m [...]y nag anifeilia [...]. A phed fai y dynion hyn yn cerdded ar ei pedwar-aelod, a'r Llew yn tyfu drwyddynt, ac heb fedru dywedyd dim mwy [...]ag assyn Balaam, fe dyby [...]ai ddynion rhesymol mai anifeiliaid [...]i [...]swm ydy [...]t, y [...]hai a wnaed iw dal, ac iw di [...]et [...]a.

Eryr.

Mi wn fy hun, [...]od lla [...]er o lwynogod cy­frwys, ac o gathod gwyllt [...] ac o anifeil [...]aid pe­ryglus rhyd y gwledydd, a [...] yn Llundain hefyd. Ond rwi 'n gofyn i ti Beth yr oedd gwyr doethion Llundain yn ei ddywedyd?

Cigfran.

Yr oeddent hwy y [...] dywedyd yn i [...]el. Ac er bod gennit glûst fel ade [...]yn arall ni wyddwn i beth a ddywedent. Er i mi ddescyn ar grib, neu ar fargod y tŷ, ni chawn i glywed fawr.

Eryr.

Ond beth yw 'r ychydig a glywaisti?

Cigfran.

Dwfn a di [...]gel yw cynghorion stâd. Nid yw 'r gwerin gwirion ymysg vr adar yn deall monnat.

Eryr.

Ond a wyti dy hun yn ei deall?

Cigfran.

Nag ydwyf yn iawn. Nid oes chwaith nêb yn nheyrnas loegr, nag yn ni [...]as Lundain yn ei ddeall ei hunan. Y peth a wnelont heddyw mae rhyw ysb [...]yd yn ei ddad-wneuthur y foru. Ni wela i ddim yn dyfod i ben yn ôl meddy­liau dynion, ond mae rhyw droell arall yn troi vwchlaw Synwyr pawb. Mae 'r is yn ymgas­glu, a chorwynt disymmwth yn i chwalu; Mae 'r prŷf copyn yn hî yn gwêu ei rwyd, a rhywblan­tos yn yscubo 'r cwbl i lawr, a hynny mewn mu­nud awr. Mae 'r bobl (ar a wela i mewn odyn galch, neu fel plant yn gwneuthur tai bâch ym [Page 22] mîn [...] llifei [...]iant yn ddisymmwth yn codi, ac yn [...] cwbl. Mae rhyw ne [...]th ym my [...]g dynion yr awron nad o [...]dd o'r blaen. Mae rhyw ysb [...]yd rhyfedd yn gwei [...]io, er nad [...]w r bo [...]l yn gweled. Rwi n dywed [...]d hyn wrthy [...] ti yn e [...]byn fy ewy [...]lys, ac yn ol [...]yn [...]hydwybod.

Eryr.

Pa [...]dd [...] g [...]l [...] di wneuthur felly?

Cigfran.

Mae llawer yn d [...]wedyd yn erbyn ei c [...]dwy [...]od, ac y [...] ol ei hewyllys a rhai yn l [...]e [...]aru yn erbyn ei he [...]yllys ac yn ol [...]i cydwybod; [...]elly yr wyf finnau yr awron, er nad wyfi yn arfer hynny.

Eryr.

Pa ymryson s [...]dd rhwng y gydwybod a'r ewyllys?

Cigfran.

Mae 'r gydŵybod yn lle [...]aru▪ [...]i a ddylit wneuthur [...]el hyn, a [...] e [...]yllys yn dywedyd mi fynnaf wneuthur hyn acc [...]. O [...]d yr ydym ni yn rhy fynych yn dilyn ein he [...]y [...]lys, ac yn gadel ein cydwybod.

Eryr.

Ond beth (meddi di) yw 'r Gydwy­bod.

Cigfran.

Tŷst oddife [...]n. Goleuni 'r adar, Canwyll dynion, llais yn ein holrhain, Gwalch Noah, Scri [...]ennydd buan, Cynghorwr dirgel, Cy [...]aill tra [...]y [...]yd [...]ol, G [...]ledd wa [...]tadol i rai, a phrŷf anfar [...]ol me [...]n eraill. Ond nid da gen­nif chwedleua g [...]rmod am y gydwybod ymma.

Eryr.

Pam hynny?

Cigfran.

Am nad gwiw i mi geisio i dilyn. [...]ed fawn i yn dil [...]n fynghydwybod, mi [...]eisiwn fod fe [...] y [...]olomen, ond ni allai aros hynny.

Eryr.

Wele. Di ddywedaist ddigon, a gormod yn dy erbyn dy hunan. Mi welaf fod y brain yn myned yn erbyn ei cydwybodau ei hunain, cystal ac yn erbyn y colomenno [...]

Cigfran.
[Page 23]

A wyti ar fedr fy rha [...] [...] ynof fy hun, a gosod fynghydŵybod yn erbyn fy ewy­llys?

Eryr.

Rwyti felly yn barod (meddi di [...]) ond dy­waid i mi pa 'r yn ai dy gydwybod, ai dy ewyllys a beru hwyaf?

Cigfran.

O'ch fynghydwybod: Canys nid [...]yfi 'n barod yn cael mo'm hewyllys. Ac mae ar­nai ofn y cai lai o hono pa [...] goder i m barnu.

Eryr.

Fynghyngori, fydde i ti edrych am y peth a barhatho yn hwyaf, a gochel y peth a dderfydd. Canys er melysed fo ni thal ef ddim, oni pheru fo ond munud awr.

Cigfran.

Bei gallwn i hynny, mae fy ewyllys yn i erbyn.

Eryr.

Blin yw dy gyflwr, a blin wyt tithau yn dy gyflwr; ni allafi, ond fe all yn dy helpu. Er hynny dywaid y gwîr, nid yw hynny ddim ar fai.

Cigfran.

Bei dywedwn i yr holl wîr, Gwîr yw y dy [...]edwn i lawer yn fy erbyn fy hunan.

Eryr.

Gwyn ei fŷd ai gwnelo ac a blycco i ddai­oni. Di wyddost mai gwell yw 'r wialen a blycco, na r hon a dorro o eisiau irder a rhywiogrwydd. Mae cyfraith naturiaeth yn dyscu dynion i fyned ar ol ei goleuni ei hunain. Rheswm a chydwybod yw dau lygad dyn naturiol, a'r dyna dynno ei ly­gaid ei hun allan o'i enaid fe ddyle 'r barnwr i gos­pi nid am nad yw fo yn mynd ar ol opiniwn cre­fyddol y llywodraethwr, ond am i fod ef yn mynd yn erbyn ei reswm ei hun. Ac os gwnei di yn ei­byn dy oleuni, rwyti yn dy gosbi dy hun oddi­fewn, ac yn peri i'r swyddogion oddiallan dy gosbi hefyd.

Cigfran.

Ni allai wrtho. Gwnewch a fynnoch; [Page 24] chwi yw 'r Arglwyddi dros amser gosodedig. Ond os daw fyth ar fy llaw i, mi ai talaf i'r colomennod.

Eryr.

Drwg yw hynny. Gâd i yn ddial, ac na fydd fel y mae llawer dyn; fel tarw gwyllt mewn rhwyd, neu gî cynddeiriog mewn cadwyn. Ma­ddeu di i bawb, Canys mae Noah yn barod i fa­ddeu i ti os doi di yn ôl. Ond nid gwiw (medd rhai) ganu i'r byddar, na rhoi cynghorion i'r cyn­dyn. Dih. 26.3. Rhaid yw cael gwialen i gefn y ffyliaid. Ond mi dybygwn y dylit ti ŵybod pwy a'th wnaeth.

Cigfran.

Nid wyfi yn ymofyn fawr am hynny, ond mi wn i mi ddyfod allan o'r arch. Ac ymma yr wyfi yr awron pa le bynnag y bwyf ar ôl hyn. Pwy a wŷr hynny.

Eryr.

Di dy hunan a ddylit fynnu gwybod, ca­nys hîr yw byth, Gwerthfawr yw dy fywyd, fe wna­ed yr Arch i'th gadw di yn fyw. Na chymmer mo'th wenwyno gan y cigfrain eraill, na'th dwyllo gan y sarph gnawdol.

Cigfran.

Fy nhwyllo meddi di. Os oes nêb o honom yn twyllo ei gilydd, Myfi sydd yn i twy­llo nhwy, Canys myfi yw yn o'r rhai hynaf yn y bŷd. Ond gâd i mi [...]yned o'r diwedd. Pa hŷd y pery y burdwn ymma?

Eryr.

Aros ychydig. Gorau canwyll pwyll. Gorau synwyr athrawiaeth. Gorau cyfrwystra i ddyn i wadu ei hun. Gorau meddyg meddyg enaid. Gorau defod daioni. ac hefyd, Mae yn bossi­bl i'r gwaethaf ddyscu bôd yn orau (fel y dywe­dodd y golomen o'r blaen.) Onid wyti yn cofio y diharebion gynt. Ardd cyd bych, Ardd cyn ni bych. Deu-parth y gwaith yw dechrau: Ond na âd i'r nôs waethaf fôd yn ddiwaethaf. ni thawdd dlêd er ei haros. na chais elw o esceulustra. [Page 25] Na chais fynd i'r nêf wrth fod yn chwerw. Na chais fwrw coel ar dy gelwydd. Na chais ddim lle nis dylech. Gwae ofe [...]wr yn y cynhayaf. Oni heuir ni fedir, oni fedir ni fwytteir. Ceisied Pawb ddŵfr iw long. Ac yr awron (ò hen gigfran) onid wyti yn cofio y diharebion hyn.

Cigfran.

Aros di [...]pyn. Mi welaf mai dihare­bwr wyti: Mi dygaswn ddarfod i chwi a'r colo­mennod anghofio diharebion y doethion, a'r hena­fiaid. Ond mi glywaf rai ar flaen eich tafodau, Mi henwaf finnau hên rai eraill. Lledled rydau waethwaeth ddeddfau. Na choll dy hên ffordd er y newydd. Y nesaf i'r eglwys pellaf oddiwrth y baradwys. Llawer têg drwg ei ddefnydd. An­gel pen ffordd, diawl pen tân. Addaw mawr a rhodd fechan, Pen punt, a llosgwrn dimme. Da yw 'r maen gyda 'r efengil. Drych i bawb ei gy­m [...]dog. Pôb cyffelyb a ymgais. Digrif gan bôb ader [...]n ei lais. Hawdd cynneu tân yn lle tan­llwyth. Ac ni chêl drygtir ei egin. A drwg vn, drwg arall. Drwg pawb oi wybod. Mal y dyn y bydd ei lwdn. Natur yr hŵch yn y porchell. Rhydynn a dyrr. Rhy uchel a S [...]rth. Gwnaed aelwyd ddiffydd yn ddiffaith. O chaiff yr afr fynd i'r eglwys, hi â i'r allor. Dymma rai o'r diharebi­on dyscedig sydd yn rhedeg yn fy meddwl innau.

Eryr.

Ni fedri di dy hunan ddeongli dy ddiha­rebion. Nid yw dy galon di yn deall mor peth y mae dy dafod di yn i ddywedyd. Mi fedrwn atteb i bôb dihareb ar a henwaist, ond mi a'th attebaf mewn hên ddiharebion eraill. Mae gwehilion i'r gwenith. Nid gwradwydd gwellhau. Ymrysson a'r ffôl, di a fyddi ffolach. Gwell tewi na drwg ddywedyd. Gwell pren na dyn cyhuddgar. Gwell [Page 26] ci da na dŷn drwg Hwyr [...]er hynny) y gellir dyn o'r dyniawed du. Ond dewis a [...] iau ai r fwyall. Dysg hyd angau, ac angau i' [...] sawl ni ddysgo Ni wyr ni ddy [...]g. Ni ddy [...]g ni wrendu. Ni wrendu ond y doeth [...]a [...]edog. Camwrando a wna cam ddywedyd A hir y cnoir tammed chwerw Er he­ddwch nag er rhyfel, gwenynen farw ni chasgl fel. A'r mud a ddywaid y gwir A llawer o ddoethineb a fu gynt ymmysg y Bruttaniaid.

Cigfran.

Doeth y dywedaist. Ond beth yw 'r Bruttaniaid mwy nag eraill?

Eryr.

Os drwg, gwaethaf. Os da ffyddlon. Dyma 'r ynys a ddderbyniodd yr efengil gyntaf yn amser lles fab Coel. Ymma (medd rhai) y ganwyd Helen, a'i mab Constantin. Cymru medd eraill a ganfu America gyntaf. Bryttaniaid a Safasant hyd angau dros y ffydd gywir. Esay 24.16. Y nhwy y mae Esay yn i galw as;cell y ddayar (medd yr hen Israeliaid) ac o ynys Brydain yr â (med llawer) allan, dàn a chy­fraith, a lluoedd drwy 'r hollfyd.

Cigfran.

Och ffolineb yr Eryr yn hyn. Roe­dditi o'r blaen yn canlyn yn wŷch dy ddiharebion, Ond nid oes un o'r p [...]egeth [...]yr newyddion yn canlyn ei Dert. Mae nhwy fel gwi [...]erod yn nei­dio o'r naill gaingc i'r llall, Heb ŵr doeth yn ei mysg.

Eryr.

Am hyn. Cofia di mai mynych y prege­thodd Jachawdwr y bŷd ar y ddayar, weithiau ym mhen mynydd, weithiau mewn llong, wei­thiau mewn tŷ, ac weithiau mewn Synagog. Ond nid ydym ni yn darllain iddo gymmeryd eri­oed yn text o'r bibl, ond vnwaith allan o Esay. A thrwy na bo y rhain yn pregethu ond y gwîr, nid oes fatter am ddilyn llythyren yn text. Text pre­gethwr [Page 27] yw gwirionedd. Testyn gŵr Duw yw 'r holl fibl. Ac mae llyfr ymhob dyn, er na fedr fawr i ddarllain. Ond na phregethed, ac na ddyweded neb ond y peth y mae efe yn barod iw selio a' [...] waed.

Cigfran.

Gad iddo. Ni sonniai ond hynny am iddyot ganlyn ei Text. Ond mae nhwy 'n dyscu yn erbyn y gwirionedd. Ac mae un peth a ddyle b [...]ri i'th glustiau di ferwino. Mae nhwy yn dywedyd yn yn hŷf fod y Drindod yn aros, ac yn cartrefu yn sylweddol ymhob dyn da. Ac onid yw hyn yn o'r heresiau dinistriol, ni wn i beth sydd.

Eryr.

Beth a ddywaid y Golomen. A wyti yn tybied fod hyn felly.

Col.

Dymma vn o'r pethau dyfnaf. Dymma gwlwm caled, a drŵs wedi i gloi ai farrio oddi wrth oesoedd. Ond fel dymma'r gwir, Eph. 4.6. 2 Cor. 13.5. Rhuf. 8.9. Mae vn yscrythur lân yn dy­wedyd fôd y Tâd ynom; a'r llall fod y mâb, a'r drydydd fod yr ysbryd glân ymhòb calon bûr, oleu, isel, nefol. Ac mae 'r holl yscrythurau ynghŷd yn dangos (a minnau a feiddiaf ddywedyd) fôd y Drindod dragwyddol ynom ni, ac yn ein gwneuthur ni yn dragwyddol, ie hefyd oni bai fôd Duw drwy ysbrydoedd eraill ni allent barhau byth. Ond er i fôd ef drwyddynt ni chaiff ef ganddynt mor aros ynddynt Ond mae Trindod ddry­gionus arall yn rheoli y bŷd.

Eryr.

Pa beth yw Trindod y bŷd ymma?

Colomen.

Chwant y cnawd, Chwant y llygad, 1 Joan. 2.16. a balchder y bywyd. Neu ewyllys creulon, a difyrrwch brwnt, a gallu drygionus.

Eryr.

Beth a ddywaid y frân with hyn?

Cigfran.

Gâd hyn heibio. Nid wyfi yn clywed yn tawn beth y mae hi yn i ddyweded. Ond hyn a wn i, nad ydynt hwy i gyd ond y bobl gyfyngaf ei [Page 28] deall yn y bŷd. Rhyw yn gaingc sydd yn ei pen­na [...], ond nid oes moi calonnau hwy yn helaeth.

Eryr.

Beth er hynny? O, ydnyt hwy yn deall yr yn peth anghenrheidiol tragwyddol, Luk. 10.42. nid oes ormod matter er i bôd nhwy megis ffyliaid yn­ghylch y matterion a loscir ar fyrder gyda 'r bŷd. Ond Dysced pôb aderyn y gaingc sydd iw chanu fyth yn y bŷd arall, pan fo 'r byd, a'r cyfrwystra, a sŵn pôb hwsmonaeth wedi passio byth:

Cigfran.

Mi welaf, dy fod ti yn dioddef iddynt ddywedyd fôd y drindod ynddynt.

Eryr.

Atteb di O Golomen. Pa fodd y mae hyn? Ai trwy ysbrydoliaeth neu sylwedd?

Colomen.

O Eryr Deall, mai sylwedd yw pôb ysbryd, 2 Cor. 4.18. ac nad yw 'r bŷd a welir ond cyscod o'r bŷd nis gwelir, yr hwn sydd drwy 'r bŷd ymma: ac nid yw 'r corph ond cysgod, ac megis march lliain yr ysbryd, neu wain i'r enaid a berybyth. Ond mae 'r Drindod yn aros ynom yr un fath ag y mae 'r mŵn aur yn y ddayar, Col 1.27. Hebr. 3.6. Gal. 4.19. neu ŵr yn ei dŷ, neu blentyn yn y grôth, neu dân mewn ffwrn, neu 'r môr mewn ffynnon, neu fel y mae 'r enaid yn y llygad y mae 'r Drindod yn y Duwiol. Am hynny mae 'r hên ddihareb yn cynghori, na chais ymweled a'r drindod onis ceisi yn yr vndod. A gwirio­nedd yw mai ymha le bynnag, (ymmhwy bynnag,) y bo goleuni, a chariad, a heddwch, a phurdeb ac vn­deb, a nerth nefol, yno y mae 'r tri yn yn yn aros.

Eryr.

Ni ddown at y pethau hyn etto. Chwe­dleuwn ychydig a'r gigfran, mi ai gwelaf hi yn anesmwyth, ac yn barod i ehedeg. Gwrando di frân, ni fynnem bei allem dy ynnill di i ddychwe­lyd gyda ni i'r Arch.

Cigfran.

Beth sydd gennych i'm hynnill?

Eryr.

Mi wn fi mai gwell gan Noa [...] faddeu i [Page 29] vn a edifarhao na difa cant. Cofia Rahab o Jeri­cho, a Saul o Tharsus, a'r lleidr ar y groes, a'r mab afradlon.

Cigfran.

Gobeithio 'r gorau oni bai obaith fe a dorre 'r galon. Gobaith ni chywilyddia.

Colomen.

Y Sawl sydd ar iawn obaith ynddo, 1 Joa. 3.3. Job 11.20. mae efe yn i buro ei hun: a'r gobaith ffals arall sydd, fel anadl dŷn yn marw, yn diangc ymmaith.

Cigfran.

O Eryr. Dymma 'r golomen yn cei­sio rhu yûro i mi obeithio, ac os derfydd am fy ffydd am gobaith, fe ddarfu am danaf finnau byth.

Eryr.

Nid felly. Ond dangos y mae hi fôd go­baith rhai fel llaw wywedig, na all helpu pan fo rheittia, neu fel angor llong heb gael gafael yn y gwaelod.

Colomen.

I ynnill y frân yn ôl, mi allwn roi fy my­wyd drosti. Ac rwi 'n tystiolaethu fôd gogoniant yn yr vchelder, ac ewyllys da i ddynion. Luc. 2.14. Fe fu yr Ja­chawdwr ar y ddaiar yn ynnill Publicanod mewn cariad, ac yn dioddef gloes angau dros ei elynion. A glywodd nêb erioed sôn am y fâth gariad? ddar­fod i vn dynnu ei galon o'i fonwes, a'i llâdd hi, a'i rhoi hi iw wrthwynebwŷr iw bwytta, iw cadw nhwy yn fyw? Dymma fel y gwnaeth y Goruchaf i achub y dynion bryntaf rhag y gwae tragwyddol. Mawr yw, os gall dyn dynnu ei lygad ai roi i gadw yn llaw ei gyfaill. Ond ô beth a ddywedwn i am hŷd, a llêd, ac vwchder, a dyfnder cariad y nefoedd? Mae llawer yn gorchfygu cariad ei [...]ymydogion drwy ei drygioni ei hunain. Ond mae hwn o'i ewyllys da yn talu hall ddlêd ei elyn a'i fywyd ei hun, ac yn i dynnu o'r car­char, ac yn i wisgo yn nillad ei fâb ei hunan. Mae efe yn rhed [...]g ar ôl y rhai sy 'n diangc oddiwrtho, ac [Page 30] yn cusanu y rhai sydd yn poeri yn ei wyneb, ac yn cyn­nal yn g [...]nn [...]s y rhai [...]ydd yn ceisio n [...]idio o'i fonwes, ac yn [...]yd-d [...]yn a'r rhai na erys wrtho. Fe ddaeth o'r ne [...]oedd uch [...]f i'r bedd isa [...], Eph. 4 9. i godi y pechadur drew­llyd o'r domm [...]n ddairol i'r [...]aing [...] nefol. Fe gym­merodd a [...]a [...]l ar naturiaeth dyn, ac a adawodd ange­lion [...] [...]yned gyda'r dwf [...]. Ond mae vn peth yn rhwy­st [...] yr aderyn d [...] ymma i ddyfod adref er a ddy­we­der wrthi.

Eryr.

Beth a all hwnnw fod?

Colomen.

Y p [...]th gorau ar a feddhi, Synwyr y bŷd, Rhuf. 8.7. a d [...]thineb y [...]nawd, a rheswm naturiol yr hwn (fel sarph dorchog) sy 'n chwythu allan w [...]nwyn yn wyneb y gwirionedd, Dysg lygredig sydd raid i dad­ddysgu, a'i dattod oll cyn c [...]l cwlwm y gwir ddis­cyblion. Act. 13.10. lleidr o'r tu fewn yw synwyr dyn, yn cloi drŵs pôb meddwl yn erbyn awel yr ysbryd glân. Dymma 'r Achitophel a'r suddas sy'n bradychu dyn i ddwylaw diafol. Ie [...]. 17.9. Mae gan bôb dyn ddigon ogyfr­wystra iw dwyllo ei hunan. Dymma fwa Luciffer a Gelyn Noah, Mam rhyfeloedd. Mammaeth oferedd, Plentyn vffern, Diana 'r bŷd, Castell y pechod, Mŵg y pwll, Dadleuwr dros ddrygioni, a ffynnon pob aflwydd ar anifail mawr. Canys doethineb y byd, Rhe­swm dyn, cyfrwystra 'r henddyn, yw 'r eilwg dirgel, blodeuyn y cnawd, Cares anghrediniaeth, a gwaed pwdr. Dymma deyrnwialen Beelzebub, Dymma ffals ddrych y ddaiar, Dymma eulyn Babel, a bren­hines y nefoedd, a chwedl meddwl [...]awd [...] neu ddwys feddylfryd y galon, Gwadwr gwi [...]ion [...]dd, Pensa [...]r A [...]ghr [...]st, Afon dyn, llyw natur, a chertwyn yn dwy [...] [...] [...]r y goriwared. Dat. 17 5. Dymma fambuttain pôb cre­fydd fastardaidd. Am hon yr wyfi yn sôn cymain [...], am iddi wneuthur cymmaint o ddrŵg yn y bŷd dan rÎ [...] [Page 31] synwyr a dealldwriaeth. A [...] nid malis ond y cyfr­wystra d [...]ffaeth ymma [...]y'n llâdd y gigfran. Hwn yw 'r gwynt [...]y'n troi m [...]lin yr [...]wy [...]ys oddifewn.

Eryr.

Beth yr wyti yn i ddywedyd yn erbyn doethineb. Mae a [...]nai ofn dy fod di yn am­hwylio.

Colomen.

Geiriau sobrwydd yr wyfi yn i trae­thu. Nid magl i'r cyffy [...]o [...] yw [...]yn [...]yr y cnawd, ond i'r aderyn doethaf dayar [...]l. Y dynio [...] naturiol gorau a gollir. Am hynny G [...]h [...]led pewb ei synwyr ei hun. Ni fedr anifail hoyw [...]edeg, ag n [...]d ysbrydol yw 'r naturiol, er g [...]yched fo yngol [...]g dy [...]ion. Mae llawer o bregethwyr yn anghymmeradwy ac yn golledig. 1 Cor. 9.27. Ei hathro yw synwyr y cnawd. Ma [...]t yn scrifennu ei pregethau, ond oni ba [...] gyflog dynion, ni wnaent bwyth o waith, ac er hynny f [...]l gwenidogion yr efengil y myn­nent ei hanrhydeddu. Ac heb law y dyscawdwyr dei­llion nid oes mewn tr [...]f na gwlâd ddyn llwyd llwm [...]n­llythrennog nad oes sarph yn ei fonwes, a synwyr y cnawd yn ei galon.

Eryr.

Nid rhyfedd wrth hyn fod llawer yn go­lledig os yw pob dyn fel nythed o nadroedd yn llawn o feddyliau cnawdol. Ond beth a ddywaid y frân wrth hyn?

Cigfran.

Dymma d [...]ro at y gwreiddyn. Os drŵg gynghorwr drŵg ganlynwr. Os tywyll goleu [...]i rheswm mae 'r holl gorph yn dywyll a phôb gair ar a ddywedais i criced yn ofer. Ond (om rhan i) rwi 'n tybied fôd rheswm ymhôb peth, ac mai rheswm naturiol yw 'r goleuni go­rau. Dymma wreiddy [...] y pren a blannwyd yn ddwf [...]. Diwreriddie [...] y golomen ef os gall.

Colomen.

Mi wn m [...]i dymma Salomon y bŷd, ond m [...] ysbryd gwirio [...] y golomen yn fwy na Salo­mon [Page 32] yn ei holl ogoniant ai ddoethineb. Ond i ddan­gos i ti ddoethineb ddayarol y frân. Ei synw [...]r hi yw hyn Dalied pawb ei eiddo, cippi [...]d pawb a all [...]. Safed pôb dŷn ar ei waelod ei hun. Na ddyweded mor gwîr mewn cariad, ond mewn creulondeb. Na ddringed vwchlaw rheswm dŷn. Canlyned y bŷd ai arfer. Ma­ged ei naturiaeth ai gnawd ai waed, a gwaried ei am­ser mewn trythyllwch. Bwyttaed ac yfed a bydded law­en. Bodloned bawb er i fwyn ei hun. Bydded ganddo ddau wyneb yn barod, ai galon yn ddauddyblyg: Bydded gall drosto ei hunan. Onid e marw a wna. Ond dymma ffolineb y hŷd. Dymma ynfydrwydd pen agored, canys nid call y dyn ai ceisio ei hun. Y Sawl sydd a dan wyneb gantho, mae yn o'r ddau yn gythreulig: y nêb a wenhieithio ddynion sydd bwdr yn ei galon. Hawdd yw bwytta, yfed, a chwarae gormod, a dawnsio yn y cnawd ar ôl pibell yr ysbryd drŵg. Y [...]bryd y gwaed yw cwmmwl y meddwl. Arfer y bŷd yw 'r porth lly­dan i ddestryw. A'r Sawl na ddringo [...]wch ei law ei hun, ni eistedd fyth yn y nefoedd. Mae 'r dyn difyr chwerthinog allan o'i gôf ei hun, ac o'r tu fewn i gôf y sarph. Amser dyn yw ei gy [...]nyscaeth a gwae ai gwa­rio yn ofer. Rhaid yw dofi ysbryd y cnawd, a magu by­wyd ysbryd yr vchaf. Boddi a wna 'r dyn na nofia yn erbyn ffrŵd y wlâd. Y rheswm vchaf yw 'r afreswm isaf. Ni saif nêb ond vn arno ei hun. Nid eiddo nêb ei hunan. Cadwed pawb ei galon at Dduw. A­drodded pôb vn ei gydwybod yn ddoeth. Cladded dŷn ei reswm ei hun. Ond dymma iaith nad oes nemmor yn ei deall. Nag ofned nêb arall cymmaint ac ef ei hun. Oni fedri roi taw ar eraill, distawa dy hun. Pan fo mwyaf sŵn yn y bŷd bydded lleiaf yn dy galon. Nag ofna ddiafol, na châr y pechod, ac na chynnwys dy hun. Na ddalied ysbryd y creadur di, ond nofia i [Page 33] ysbryd y creawdr. Cyfrif y da o'th flaen yn b [...]rl, a'th waith o'th ol yn dom. Melys i'r cnawd yw siwgwr diafol, ond bwytta di y manna dirgel. Mochyn yw Luciffer yn ymdreiglo ynghnawd dyn. Cr [...]chan hwn yw calon fudr yn berwi ar dan vffern. Gwŷniau 'r cnawd ŷnt feirch o ryfel; d [...]yn oddi arnynt, ac nag oeda. Perthen o ddrain yw rh [...]symmau dŷn, ai gwado ei hun a ddiangc o honi. Portha dy chwant, ac fe a'th lâdd. Llei mae dynion mae a [...]gelion, llei mae angelion y bydd dynion. Y Sawl sy'n byw ynddo ei hun sy 'n byw allan o fonwes y tâd. Oni elli a [...]hub e­raill, diangc dy hun oddiwrthit di hun. Gwell yw ad­nabod y galon yn y bŷd ymma, nai bôd hi yn adnabod digofaint byth. Pa f [...]dd y gelli fôd yn llo [...]ydd oni by­ddi ar y graig? Nid gwaeth beth a ddyw [...]do ffyliaid, nid ei gair nhwy y saif.

Eryr.

O Golomen. Dymma ddiharebion ne­wyddion. Yr oedditi gynne yn sôn am ynnill y fran, ond fe alle fôd hyn yn i gwylltio hi ym­hellach.

Colomen.

Ni ellir wrth hynny. Oni ynnill y gwîr hi, nid oes dim ai hynnill. Llawer sy 'n cro [...]ni briw pwdr, ond fe a dyr allan gwedi. Mae llyngêr ymmonwesau dynion, onis lleddir, hwy a laddant.

Eryr.

Helpa 'r frân, fel y gallo hi ŵybod hyn ynddi ei hun.

Colomen.

Nid wyfi yn gwthio ar arall y peth yr wyfi yn ei ganfod. Oni bŷdd tŷst oddi f [...]wn nid yw rhesymau genau ond rhaffau gwêllt. Er hynny mae rhyw dorriad anrhaethadwy yn fynghalon i wrth fe­ddwl am golledigaeth dyn, ac wrth [...]drych arno yn ddall yn fûd [...] fyddar, yn dl [...]wd, yn noeth, yn glwyfus, yn glôff, yn glâf, ie yn farw, Dat. 3.17. o [...]h och a dyf­na och [...].

Eryr.
[Page 34]

Onid oes help i'r frân er hyn i gyd?

Colomen.

O na wele hi y goleuni mewn cariad! Ond mae ef etto yn guddiedig oddiwrthi. Luk 19.45. [...]. Er hynny mae golwg i'r dall, a iechyd i'r difeddyginiaethol. Mae 'r porth cyfyng etto heb i gau, ac mae yn bossibl myned i mewn. Dymma 'r amser. Dymma 'r dydd. Mae fe yn passio fel breuddwyd nôs, neu saeth o'r llinyn, a phan dorrer llinyn y bywyd ni ellir moi glym­mu eilwaith byth.

Eryr.

Ond beth os pechodd hi y pechod na faddeuir mono yn y byd ymma, nag yn y bŷd a ddaw?

Colomen.

Nid oes nêb yn pechu felly, ond y rhai maleisus sydd yn rhyfela yn erbyn ei goleuni ei hun, ac yn ffieiddio daioni mewn eraill, Iob 24.13. Heb 10.27.29. ac yn gwybod mai daioni yw, ac hefyd yn parhau fel hyn yn gynddeiriog hyd ddiwedd ei heinioes. Am hynny Rwi 'n rhybuddio pawb, ac yn gweiddi ar bawb. Na thybygwch fôd drŵs y drugaredd wedi ei gan yn eich erbyn tra fo anadl ynoch, ac ewyllys i ddychwelyd. Ond yr ydych etto yn dilyn y cnawd, yn canu carolan i gyffroi eich chwantau, yn darllain llyfrau bydron anllad, ac yn gwenwyno y gwreiddyn pur, yn dilyn tafarnau, a thablerau, a llwon, a melldith, a gwawd, a gwatwar, yn caru chwarwyddfa diafol (fel eidionnau vffern) yn dibrisio 'r tlawd, yn byw yn hoyw, yn nhommen masweidd-dra, yn gwatwar sobrwydd, ac yn y tân dû anweledig, yngwely 'r buttain, mewn gwleddan a glo­thineb, mewn meddwdod, a chwerthin, mewn cydor­wedd a chywilydd, mewn cenfigen ac anfodlonrwydd, mewn rhyfig a chyfrwystra, m [...] gwa [...] a gwaelod erchyll. Deffro. Cyfod. Mae [...]tt [...] ti groeso, Mae gwledd nefol yn aros am danat. Mae [...]ara ddigon yn nhŷ dy dâd. Pa ham y byddwch feirw (o blant dyni­on?) [Page 35] Pa ham y collwch chwi eich eneidi [...]u yn yr o'ch tragywyddol?

Eryr.

Yr ydym ni yn gwrando ar hyn i gyd. ac nid yw hyn ond sŵn geiriau ynghlustiau llaw­er.

Colomen.

Sŵn yw hwn a berŷ byth, fel twrwf taranau tragwyddol mewn llawer cydwybod sydd yr awron yn gwrando ar y pethau hyn yn ddifyr, ai calon­nau yn esmwyth, ac yn chwerthinog. fe gyfyd hyn yn eich erbyn ddydd a ddaw. Chwi wrandawyr diofal. Rhaid oedd i mi i ddywedyd er i hyn fôd yn dŷst yn eich erbyn. A phwy bynnag wyti sydd a'r pethau hyn gennit yn dy law, neu yn dy glûst, Rwi yn rhoi Siars arnati erbyn y dydd mawr sydd yn agos, ar i ti ddan­gos, a danfon y pethau hyn ar bŷd, ac ar lêd ymysg y cymru a'th holl gymydogion, ac na chuddia, na chela (dan dy berigl) mo hyn oddiwrth eraill.

Cigfran.

Ha. Nid yw hyn i gyd ond bygythion a breuddwyd y golomen. Ni a fyddwn llawen tra fôm. Ac ymmaith a'r meddyliau ymma i ffwrdd allan o'r meddwl.

Colomen.

Nhwy a ddeuant i mewn eilwaith, er i ti wneuthur dy waethaf iw cadw allan. Nid ydis nês er anghofio 'r gwîr. Oni wrandewi di, fe a wrendu e­raill, ac a edifarhant, ac fe ai cedwir hwynt. ac a'th losgir di.

Eryr.

Gwrando (o Gigfran) Rhaid i mi o'r di­wedd dy holi di yn ddwysach. Pam na ddoi yn ôl at dy Arglwydd?

Cigfian.

Mi welaf dy fôd ti yn fy erbyn i yn hollawl, ond cymmer Noah, a'i Arch rhyngoti a'r golomen. Minne [...] a wn p'le caf fy swpper. Mi glywaf sawy [...] [...]urgunnod ar y ddaiar.

Eryr.

Fe dderfydd y rheini o'r diwedd ac yno [Page 36] fe dde [...]fydd am danat tithau.

Cigfran.

Nid oes fatter. Mi ai cymmeraf tra i caffw [...]f. F [...]arwel i Noah, at iw Arch, ac i ti­thau, ac i'th colomen. Ni ddoi attoch mwyach. Crawcc. Crawcc. Ymaith, ymaith. Ymhell ddigon.

Eryr.

Wele, mae 'r gigfran wedi hedeg a my­ned ymaith oddiwrthym ni yn ddigon pell. Ni gawn lonydd i ymddiddan wrthym ein hunain am y pethau a ddechreuaist. Mi welaf na ellir dywe­dyd pob peth ymhôb cwmnhi, am nad yw 'r pe­thau dyfnion ond damhegion i'r bŷd byddar. M [...]. 13.35 Rwi 'n gobeithio gan fôd y frân wedi ein gadel yr agori di i mi ddirgelwch dy deyrnas di.

Colomen.

Ni feiddiaf fi ddywedyd fyngeiriau fy hunan, J [...] 5 3 [...] J [...]an 16 14. ond oddiwrth vn, i ddangos y dwfn, ac ni fedri di m [...]i dd [...]all er i ddywedyd. Nid oes na dywedyd na gwrando yn i [...]wn onis gwneir yn ysbryd y Goruch [...]f. Arno fo rwi'n edrych, ynddo fo rwi 'n credu, y den­gys ef i ddis [...]l [...]irdeb. Am hynny dòs rhagot.

Eryr.

Pam mai deilien olewydd a ddygi di yn dy bìg, ac nid deilien oddiar bren arall?

Colomen.

Yr olew nefol a'r ennaint tragwyddol yw fy nglybwr i: Zach. 4.12 1 J [...]an 2.2 [...].27. 1 Cor. 1.26 Rwi'n gadel dail mawr-dderw Bashan ar fy ol. Canys nid y dail mwyaf oddiar rai vchaf y mae Noah yn i hoffi.

Eryr.

Pam yr wyti yn dyfod brydnhawn yn yr hwyr, ac nid yn y borau a'th newydd gennit?

Colomen.

Am mai tua diwedd y bŷd y pre [...]hir yr efengil dragwyddol, Dat. 14 6. 1 Tim 6.1 [...]. yr [...]on a guddiwyd rhag [...]eso­edd a rhag Patrieirch a phrophwydi yn y d [...]chreuad.

Eryr.

Roedd y gigfran (di gl [...]waist) yn [...]yhu­ddo y golomen ddiwaeth [...] na ddaet [...] hi [...]yth at Noah:

Colomen.
[Page 37]

Gwîr yw. Yr [...]glwys ddiwaethaf yw Laodicea. A gwir hefyd yw f [...]l y dyw [...]d [...]ist [...]i) nad rhaid wrth bregethwŷr wedi da [...]od d [...]fr dil [...]w di­ [...]ofaint. Dat. 3. 2 Tim 3.1 A'r d [...]ddiau diwaethaf yw 'r dyddiau gorau i rai, a gwa [...]thaf i [...]ill. Cany [...] y [...]ddynt y bydd rhai gwell, a rhai gwaeth nag a fu o'i bla [...]n hwynt erioed.

Eryr.

A wyddosti pa fodd y bydd dydd y farn?

Colomen.

Nid diw [...]nod fydd o bedai [...] awr ar hu­gain mwy na'r diluw. 2 Pet. 3.6.7. Ond [...] ddaw i los [...]i y bŷd [...]in ymma fel y dar [...]u g [...]lchi y byd b [...]wnt [...]'r bl [...]n.

Eryr.

A lo [...]ger y nef ar dday [...]r yn lludw ar y cyn [...]af yn nechreuad dydd y farn?

Colomen.

[...]a wn [...]ir [...]y nag y tro [...]s y diluw y byd [...]n ddim. Canys rh [...] yw bôd a [...]feriad (cyn bôd dinistriad pôb b [...]th. A [...] [...]eadwri [...]eth gael Sabbaoth o orphwysdr [...] [...]ystal a dŷn, Act. 3 2. Rhu [...] 8.19 22. a [...]y [...] y mae 'r holl broph [...]yd [...] er dech [...]u [...]d y [...]ŷ [...] yn son am dano, a [...] y m [...] [...] yn o [...]idio ar i ol.

Eryr.

Pa arwyddion a fydd cyn dechrau dydd y f [...]n?

Colomen.

F [...] d [...]wydd rhagarwyddion y dwfr [...] fyd [...] y [...]ŷ [...] yn ll [...]wn [...]ry [...]tni cnawdol, a ff [...]l [...]b natural a [...]hamm [...]u an [...]l. Mat. 24.37 38 39. Pawb yn [...] dan ei faich, a llawer yn dilyn tri [...]dod y bŷd tywy [...] ymma.

Eryr.

Oni losc [...]r y cyntaf yr holl a [...]ifeili [...]id.

Colomen.

Na wneir mwy nag yn y diluw y bo­ddwyd. Ac y [...]hydig ddynion a achu [...]ir. Ie ni achubir n [...] i gyd am fod cnawd iw l [...]gi gan b [...]wb, 1 Co [...] 3. Pan ole­u [...] dydd y [...]eir gw [...]l [...]d hyn yn eglurach, [...] deall yn [...]ll p [...] fath ddiwr [...]od fydd [...]ydd y far [...] [...]af. Gwell [...] seli [...] y ge [...]au n [...] [...]ywedy [...] [...]eiriau of [...]r iw llosci, neu iw llyngc [...]; [...] disgwili am y d [...]wr [...]d yn iawn di gei i [...]led yn [...].

Eryr.
[Page 38]

Ond pa fodd yr achubir y gweddillion o'r dynion?

Colomen.

Wrth i [...]di i [...] awyr [...]law 'r tân (fel Noah i'r Arch [...]wchlaw' [...] dwf [...]) sef wrth [...] had­gy [...]di a i hescyn oddi [...]rth y [...] y [...]yd [...]dd mei [...]w i gy­fa [...]fod a'r Arglwydd. Th [...] 4.

Eryr.

A ymladd dynion ar ôl gweled y tan cyntaf?

Colomen.

Ymladd a Duw (mewn meddwl) a wna 'r colledig byth, Buan yr anghofiwyd y diluw, ac yr a [...]thont i adeiladu Babel, Gen. 11. ac i foelystotta ar ôl Nim­rod. A [...] [...]r bôd angelion Duw yn nhŷ Latt. fe fynnai guŷr Sodom (bes galla sent) i mochi. Gen. 1 [...]. Da yw [...]of Duw yr hwn sy'n yn canfod, ac yn cynnwys pôb peth ar vn­wai [...]h hyd y diwedd, [...]al 1 [...]6. 13. Da [...]. 2 [...].7 8 a thu hn at i'r diwedd. Ond drwg yw côf dyn yr hwn m [...]wn munud awr sydd [...]di gwerthu mawr waith Duw, allan o'i law ai goffa­dwriaeth ei hunan.

Eryr.

Ond, a wyddost ti Pa brŷd y dechrau dydd y farn?

Colomen.

Nid yw Noah yn rhoi cenn [...]d i we­led yr awr a'r dydd dan y ch [...]ec [...]ed s [...]l. Dat. 6. [...]16 O [...]d [...] dde­chreuad y bŷd hyd y diluw y [...] [...]dd mil a chw [...]chant ac vn mlynedd, ar [...]ymth [...]g a d [...]ugain felly mi a'th gynghoraf (O Eryr) i dd [...]il [...]a [...]ys mae fo yn agos. Mae Sion yn escor [...]fy [...] yn ei mynydd, a'r droell fawr ddiwaethaf wedi d [...]c [...]au tr [...]i, yn [...]a [...]od yn y [...]yd.

Eryr.

Beth a ddaw ar ol y tan cyntaf?

Colomen.

Fel ar ôl y dwfr dilun yn gyntaf fe wna [...] [...]yfammod [...] [...]readuriaid, yn ail fe ro [...]d [...] ne [...]ydd i warafu [...] tywallt gwa [...], yn drydydd fe wis [...]yd dyn a maw [...]hydri, Gen. 9 H [...]. 2 [...]ai 11 9. ag arglwy­ddiaeth i [...] [...]wydd. [...] [...]goswn i ti (O Eryr) [...] digon i'r [...]all dro [...] [...].

Eryr.
[Page 39]

Ond. Pam yr wyti yn dywedyd mai cy­ffelybiaeth o Dduw oedd Noah.

Colomen.

Ʋn yw ef yn ymgenhedlu yn dri. Efe yn vnig oedd berffaith, Gen. 6. a'r holl fyd yn ymdrolio mewn c [...]lwyd [...], ac oi gariad at ei blant yn bennaf, ac at bawb, fe [...]ara [...]odd Arch i gadw cynnifer ac a ddoent iddi, Joan 3.16 Act 13.48 a'r rhai a appwyntiwyd a ddaethant i mewn, ac a gadwyd.

Eryr.

Ond er hynny Gŵr pechadurus oedd Noah. Pa fodd y gallei efe fôd yn arwydd o'r hwn sydd ddibechod?

Colomen.

Fel yr oedd Salomon yn arwydd o'r mâb. Nid yn ei bechod yr oedd efe yn arwydd, Psal. 45. ond yn ei berffeiddrwydd.

Eryr.

Tri yn yn (meddi di) oedd ef. Ond a oes dim drwg yn dyfod oddiwrth y rheolwr cyntaf fel oddiwrth Noah?

Colomen.

Nag oes. Nid oes fel y dywedais i o'r [...]laen) ond cariad a goleuni ynddo. 1 Joan 1. 5 Esay 27. 4. Job 25 [...]. 1 2 Er bôd digter ac arglwyddiaeth gydag ef pa le bynnag y mae. Ac y mae ef ymm [...]obman yn llenwi 'r nefoedd a'r ddayar. Gochel feddwl fod dim drwg ynddo, er i fôd efe yn hîr yn cyd-ddwyn ar drygioni sydd yn y bŷd. O Eryr de­all hyn. Canys Dymma wreiddyn ymranniad holl gan­ghennau gwybodaeth a naturiaeth. Canys y naturia­eth dragwyddol yw ffynnon y naturiaeth amserol. Rhuf. 11.36. Di wyddost nad yw 'r gair da ynddo i hunan yn ddrwg, a ddêl allan o enau vn a meddwl da, ond er cynt [...]d y dyweder [...]f, mae'r glûst ddrwg yn ei ŵyro. Felly ma ysbryd y bŷd wedi cippio a chammu enaid dyn, er iddo ddyfod yn bûr ac yn berffaith allan o'r vn daionus.

Eryr.

Oni anwyd pob peth allan o hono ef cy­stal a dyn?

Colomen

Na ado. Gen. 1.9.20.24. Ond y Gair yr hwn oedd yn y dechr [...]uad a barodd [...]' [...] ddaiar [...]s [...]r ar anifeiliaid, [Page 40] ac i'r môr ddwy [...] allan byscod, ac i naturiaeth ddwyn allan bob peth a [...] a o [...] yndd [...], a [...] ôl [...]i ryw ei hun. Ond pan aeth ef i wn [...]uthur dy [...], ni pharodd ef i ddim ar a greasid mor escor. Gen. 1.26. Ond, ef i hunan a ddywedodd, Gwnawn ddyn ar ein llun an delw ein hun. Am hyn­ny mae en [...]id dyn wedi dyfod o'r anfarwoldeb, ac yn myned i'r tragywyddol [...]b.

Eryr.

Ond pa fodd y daeth yr Adar a'r pyscod, a'r anifeiliaid, a'r dynion i ymladd, ac i ymrafaelio ai gilydd, na fedr n [...]b gytuno yn yr vn bŷd?

Colomen.

Ey Arglwydd Eryr. Nid oedd a'r y cyntaf ond vn natur yn Adda, ond hi a ymrannodd yn bedair caingc: Gen. 11.1. nid oedd chwaith vnwaith ond vn iaith, ond hi a dyfodd yn y dd [...]y [...]r yn dafodau lawer. Nid oedd ond vn grefydd gynt, ond hi a rwystrwyd, ac a aeth yn opiniwnau lawer i amryw Dduwiau, Ac am fôd Duwiau lawer mae rhyfel ymmhyrth yr holl greaduriaid, Esay 11. Ac ni allant gytuno ai gilydd nes iddynt gymmodi yn gyntaf a'r hwn ai gwnaeth, a dychwelyd at Noah i'r Arch gy [...]taf.

Eryr.

Ond pa peth yw 'r Arch (meddi di) yn y dirgelwch?

Colomen.

Immanuel. Yr Achubwr. Yn yr arch ymma yr oedd tair cell (sef Swm pôb naturiaeth,) fel y mae ysbryd, ac enaid a [...]horph. Ymma yr oedd llet [...]ŷ i bôb creadur o bôb rhyw▪ canys y cyntafanedig o bôb creadur yw, Oni bai iddo ymadeiladu ynghnawd dyn, Col. 1. a dioddef diluw digo [...]aint, ni buase vn cnawd cadwe­dig, na dyn nag anifail yn cael ei ana [...]l dros awr. Allan o Arch y wirionedd ymma y ma [...] ho [...]l ad [...]r drwg yn ehedeg, fel y cwympodd yr angelion gynt i'r môr mawr, (sef ysb [...]yd naturiaeth) i ymhorthi ar y burgunnod meirw y rhai yw en [...]idieu p [...]chaduria [...]d truain.

Eryr.
[Page 41]

Pa beth yw 'r drws a egorwyd yn ystlys yn Arch?

Colomen.

Y briw ynghalon yr Oen ar y groes, o'r hwn y daeth allan ddwfr a gwaed, Joan. 19.34. i lonni ac i lanhau [...]yn, ac mae 'r briw hwnnw etto yn agored i'r dynion bryntaf.

Eryr.

Ond yn yr Arch yr oedd casglfa o ym­borth i gadw yn fyw bôb anifail.

Colomen.

Felly y mae yn Immanuel, nid yn vnig ymborth i bechaduriaid, ac i Seinctian, ond hefyd i'r angelion nefol, ie mae ynddo ef fwyd i fywyd yr holl greaduriaid, Oni bai hynny ni byddai vn byw. Coloss. 1.17. Canys ynddo ef medd Paul y mae pôb peth yn cydymgynnal fel yr oedd pôb byw yn yr Arch.

Eryr.

Pa fodd y mae bôd yn gadwedig drwy­ddo ef?

Colomen.

Wrth adgyfodi gydag ef, vwchlaw tonnau chwantau a rhesymmau y cnawd.

Eryr.

Ond mae llawer yn dywedyd mai trwy fedydd y mae i ddyn fòd yn gadwedig. Ac mae llawer o sòn yr awron am y bedydd.

Colomen.

Mae bedydd adfyd hwnnw yw erlidi­gaeth) mae hefyd fedydd dyfryllyd, hwnnw yw bedydd y bedyddiwr gynt, (yr hwn a bassiodd fel y seren fo­rau.) Gyd a hynny mae bedydd tanllŷd ysbryd y gwr­thiau. Ond bedydd Christ yw 'r vn bedydd mawr, Eph. 4.5. a hwnnw yw 'r dwfr nefol yn yr ailenedigaeth. H [...]b hwn gwae ddyn. 1 Pet. 3.21 Arwydd o hwn oedd yr Arch yn y dwfr diluw. Ac f [...]l yr [...]edd [...]han o honi vwchlaw 'r dwfr a rhan is i law, felly f [...] dd [...]oddefodd y Messiah yn y cnawd, ac fe a gyfiawnha [...]d yn yr ysbryd, 1 Pet. 3 18 a'i hilio­gaeth ynddo. Ac [...] y codwyd yr Arch vwchlaw brynniau, a anifeiliad a'r [...]ynion colledig felly y mae 'r Seinctiau ar y dda [...] [...]n eistedd ym mharadwys [Page 42] yn y nefolion. Fel yr oedd yr Ephesiaid ysbry­dol. Ephes. 2.6.

Eryr.

Ond dywaid i mi pa fodd y gostegodd Gwynt y dwfr diluw, Canys mae gwynt fynychaf yn codi tonnau.

Colomen.

Gwai [...]h oedd hwn yn erbyn rheswm llawer: Ac am hynny, na roed nôb le i'r meddylian dûon, Canys pan ddelo ysbryd y nêf i mewn, efe a ostega (drwy ostwng) y dwfr diluw sydd yn dy galon di, ac yno di gei weled pennan y brynniau, a'r meddy­lian tragwyddol cariadus yn ymddangos o'r tu fewn. Gwîr yw i'r gwynt lonyddu 'r dwfr, Gen. 8.1. Joan. 9.6. Heb. 11.12. Joan. 12.24. Amos. 5.8. ac i'r clai a'r poe­ryn roi golwg i'r dall, ac i Isaac farw genhedlu milo­edd, ac i'r Oen o'r bedd ffrwythloni drwy 'r bŷd. Mae 'r Goruchaf yn galw y goleuni allan o'r tywy­llwch, yn troi cysod angau yn foreuddydd, yn peri i ganol nôs fod fel canol dydd, yn diwreiddio dyn allan o hono ei hun iw blannu byth, yn gwneuthur y gweuwyn cryfaf yn ymborth diogelaf, yn dwyn vwchder o'r dyfnder, a dyfnder i'r vwchder, yn cadw y colledig, ac yn colli y rhith gadwedig. Mae, efe yn gweithio tu hwnt i feddylian dynion, ac vwchlaw doethineb angelion, Esay 30 28 Gogr yw cwrs natur yn ei law ef, a gwych ganddo wneuthur gwrthiau.

Eryr.

O Golomen dirion. Mi welaf fôd Noah wedi caniadhau i ti wybod mwy na myfi, er bôd fy llygaid i wrth Naturiaeth yn cyrhaedd hefyd, Ac am hynny y sawl a fynno fod yn sicr o'i iechy­dwriaeth bydded fel baban bách, 1 Cor. 3.18. allan o hono ei hun, yn barod i ddyscu y llythrennau cyntaf. Ca­nys y rhai y mae Duw yn i dysgu, ac yn i. danfon; mae nhwy yn ehedeg dros bôb peth, ac yn deall na­turiaethau. Ac am hynny yr wyfi yn g [...]fyn i ti. A ydiw 'r dwfr dros yr holl fyd? Oni wela [...]sti na cho­ed, [Page 43] na chawr, na chastell, na chraig ai pennau vwchlaw 'r dwfr?

Colomen.

Na ddo vn, ymhedair rhan y byd. Ca­nys rhaid yw boddi pob cnawd, Act. 4.12. ac nid oes dim a all achub dyn ond yr A [...]ch a wnaeth Noah, sef yr Jesu a'r Immanuel Duw gyda ni yn ein cnawd.

Eryr.

Beth yw hynny? a ydyw efe yn ein cnawd ni.

Colomen.

Ydiw. os ydym ni yn ei ysbryd ef. O­blegid mae r ewyllys yn y gair, a'r gair yn y nerth, a'r nerth, a'r gair a'r ewyllys nefol (fel y dywedais o'r blaen) yn aros ynghalon pôb dyn a'r a gedwir.

Eryr.

Ond nid oes fawr yn meddwl am hyn.

Colomen.

Ped faent yn gwybod pwy sy'n aros yn­ddynt ni chae chwant a pheehod mor dyfod i mewn i blâs y galon, llei mae 'r boneddigion nefol yn swpperu. 1 Cor. 6.19.

Eryr.

Ond pwy sy 'n aros yn y rhai dr ŵg?

Colomen.

Ysbryd anufudd-dod (Diafol a Lu­ciffer) yn cadw llŷs agored i'r holl chwantau drŵg, Eph. 2.2. a neuâdd gauad yn erbyn daioni ymhôb meddwl ty­wyll. Jac. 3.6. Ac fel y mae pôb calon fudr yn grochan i'r cy­threl ar dân vffern felly mae efe yn ofalus i gadw threl ar dân vffern felly mae efe yn ofalus i gadw tânwydd dano.

Er.

Oni ŵyr y pechadur pwy sydd yn aros ynddo?

Colomen.

Na ŵyr mwy nag y mae'r muriau meirwon yn adnabod y trigianydd. Psal. 14.1 3. Psal. 82.5. Canys ni fyn dyn weled y carnlladron o bechodan sydd yn llechu ynddo, fel y gweli di 'r genegoegion, a'r pryfed mewn pwll drewllyd.

Eryr.

Gâd hyn heibio yr awron. O ba le y daeth y [...] holl ddwfr i foddi yr holl fyd?

Colomen.

Allan o drysorau y goruchaf. Gen. 7.11. Efe a rwygodd y dyfnder mawr ynghalon y greadwriaeth oddi [...]anodd ac a egorodd ffenestri element y dwfr odd [...]nodd a rhwng y ddau ddwfr yn vn fe orch­fygwyd [Page 44] pôb cnawd er dewred oedd. Ac ar ddydd y farn olaf fe ddaw tan ysbrydd, 1 Cor. 3. 2 Thess. 1.8. Job 38.25.26. Psal. 147.17. Esay 33.14. i than naturiol i far­nu ac i brofi 'r byd [...]ddiwrth y Goruchaf, yr hwn sydd ganddo yn ei drys [...]rdy y tan, a'r gwres, a'r gwynt, a'r glaw, a'r od, a'r rhew. Ac ni all vn cnawd aros na'i wres, na'i oerni ef. Ac fel y gwnaed Corph dyn o bedwar defaydd (sef tan, awyr, dwfe, a dayar) felly ni all vn corph cnawdol spario yr vn o'r pedwar, na byw ar awyr heb ffrwyth y ddaiar, nag yn y gwres heb ddwfr, nag yn y dwfr heb y tri eraill: Am hynny fe foddwyd pob peth a'r yr oedd anadl y bywyd ynddo, ac fe ddygwyd ysbryd pôb cnawd nad oedd yn yr Arch dan gaethiwed y dwfr.

Eryr.

Pam y deuai y dwfr ymma i foddi dynion druain heb roi rhy budd i fôd yn dyfod fel y gallent i ochel?

Colomen.

Nhwy gawsant rybydd i gyd gan Noah (pregethwr cyfiawnder) ond roedd yr holl fŷd yn chwerthin am ei ben ef, 2 Pet. 2.5. er bôd pôb dyrnod morthwyl yn bregeth yn galw a'r y bŷd cyndyn i'r Arch.

Eryr.

Pa hŷd y pa [...]haodd ei chwerthiniad hwynt.

Colomen.

Nes gweled o honynt ffynnonau y dyfn­der mawr wedi i [...]orri, a ffenestri 'r nefoedd wedi i hagori a'r Arch wedi i chodi allan o'i cyrhaedd hwynt, Ac yna y dychryn erchyll ai daliodd nhwy, fel gwewyr gwr [...]ig yn es [...]or, Iob 22.16. ac am na fynnen [...] moi helpu o'r blaen, ni ellid moi helpu yr awron.

Eryr.

Ond pa fodd y gw [...]asent hwy ei hamser o'r blaen?

Colomen.

Yn bwytta, ac yn yfed, yn cysgu, yn ca­ru, ac yn ymbriodi, Mat. 24.38. Nid yn ei g [...]du ei hun [...]in ond yn i gwychu ei hunain, ac yn [...]rthin am ben Noah ai dylwyth.

Eryr.
[Page 45]

Oni ellid i helpu er hyn i gyd?

Colomen.

Na ellid o'r diwedd, Preg. 3. [...]m i bôd wedi gadael i'r amser bassi [...] ac mae amser i bob peth dan yr haul.

Eryr.

Onid oedd ei he [...]idieu i hwy yn gadwe­dig?

Colomen.

Nag oeddynt. N [...] g [...]l [...]so [...]t yr enaid [...]yda 'r corph, y cleddyf gyda 'r wain, Gen. 6.11. Canys mae ys­bryd y gwirionedd yn dywedyd mai bŷd o annuwiolion oeddynt.

Eryr.

Er hynny Caled yw 'r gair, a garw i ti (Colomen wirion) farnu fod ei heneidieu hwynt yn golledig?

Colomen.

Mae ysbryd y gwirionedd yn dywedyd yr hyn a wŷr, 2 Pet. 2 5. a hwnnw a scrifennodd drwy fŷs Pedr:

Eryr.

Ond nid yw Pedr yn dywedyd i mynd nhwy i'r tân tragywyddol, na chadwyd enaid nêb ond yn yr Arch.

Colomen.

Er hynny, Act. 4.12. Ioan. 21.22. nid oes iechydwriaeth yn enw nêb arall ond yn enw yr vn heb yr hwn ni all nêb sef [...]ll. Ond n [...]g ymof [...]n di gymmaint beth a ddoeth o honynt hwy, ond beth a ddaw o honot ti, mae i ti ddigon o waith dy gadw dy h [...]nan.

Eryr.

Ond pa fòodd y ceiff vn ŵybod i fod yn yr Arch wedi i blannu yn yr achubwr, gan fod y rhan fwyaf allan o hono?

Colomen.

Os yw 'r gwir ysbryd yn rheoli ynot, 1 Ioan. 5 10. fe ddengys i ti dy fod yn gadwedig. Ac hebddo ef ni all nag addewid nag arwydd, nag ordinhad, nag an­gel mo'th siccrhau di.

Eryr.

Ond pa fòdd y ceir adnabod y gwir ys­bryd?

Colomen.

Wyth ei ffrwytl in nefol yn y meddylian, [Page 46] a'r geir [...]au, a'r gweithredoedd. Nid gwiw dywedyd geiriau yn y peth ymma; ond mae efe ei [...]unan yn selio gyda 'r gydwybod. Rhuf. 8.16. A'r Sawl s [...]d yn yr Arch a wyr i fod ynddi, ac mae 'n ha [...]d [...]ddo weled arall allan o [...]oni.

Eryr.

Ond wrth ba h [...] y mae Moesen yn g [...] ­lw yr Arch?

Colomen.

Wrth y gair Tebah. ag felly y mae Moesen yn galw y llestr yr achubwyd ei fywyd ef yn­dd [...] ar y dwfr pan ddaeth merch Pharaoh yw dynnu allan. [...]xod. 2. I achub Noah yr oedd Arch; i wared Moe­sen yr oedd llestr; ac mae gan Dduw lawer o foddion i achub ei waredigion. ond c [...]fia fyth nad Tebah, na groeg, nag Ebrew yw gwreiddyn yr yscrythurau.

Eryr.

Ond mae rhai yn dywedyd mai 'r Arch yw 'r eglwys: Ac mae gwyr duwiol dyscedig o'r meddwl hwnnw.

Colomen.

Yr vn yw 'r pen a'r corph, yr vn yw 'r gwreiddyn a'r canghennau, 1 Cor. 6 17. Eph. 5 31.32. Ma [...]. 19 6. Heb. 2.11 yr vn yw 'r gŵr a'r wraig, a'r ysbryd a'r enaid, a'r an yn y tanwydd, yr vn yw yr hwn a sanc [...]eiddir a'r hwn a sancteiddi [...] ▪ ac yr vn yw Christ ai eglwys, yr hon sydd gnawd o'r gnawd, ag ysbryd o'r ysbryd. y Sawl sydd ynghrist mae efe yn y wir Eglwys hefyd: fe a dynnwyd Efa allan o Adda, a'r Eglwys o Ghrist, a Christ o gnawd yr Eglwys, a'r Eglwys [...]ilwaith o ysbryd Christ. Mae llawer yn son am lawer math ar Eglwys. Canys mae 'r holl fyd yn dŷ i Dduw, ac vffern a lenwir hefyd, canys mae efe yn preswylio drwy bôb peth. Nid yw eglwysydd [...] plwyfolion ond yscuboriau gwe [...]gion, Gen. 30.llaw­er eglwys blwyf sydd fel co [...]l [...]n in geif [...] a b [...]arth gwar­chae defaid. Mae 'r eglwy [...] [...] [...]raill o ddynion fel ani­feili [...]d brith [...], cylch [...]r [...] mawr [...]thion, a mân­f [...]ithion Jacob, Nid [...] [...]wr e [...]to yn s [...]ad iaith bûr [Page 47] Israel, Nehem. 13 24. ond mae [...]afodiaith y ddeubâr bobl yn ein mysg▪ (fel y dywaid Nehemiah) Mae 'r wefus vchaf yn Israel, a'r wefus isaf o Ashdod, Mae 'r bobl mewn Babel. Mae 'r Eglwysydd yn goll [...]ng defni, a'r di­stiau yn pydru, Mae rhai (yn siccr) fel y canhwyll­brenni aur, eraill o brês, eraill o blwm, ac er hynny canhwyllbrenni ydynt oll. Can. 6 8. Gal. 4.30. Mae rhai o honynt yn fren­hinesau, er aill yn ordderchwragedd, ond nid oes ond ymbell yn yn aros yn y tŷ gydâ mâb Duw: ac am hyn­ny, nid eglwys ond yr ysbrydol, nid ysbryd ond yr ail Adda, nid teml i Dduw ond meddwl pûr dyn, nid teml barhaus i ddyn ond yr Hollalluog, a'r Oen, nid vndeb ond vndeb yr ysbryd tragywyddol nid canu, nid cymmun, nid vno, nid gweddio, nid ym­aclodi mewn vn Eglwys oni bydd ysbryd y pen yn rheoli mewn nerth. Canys professu maent i bôd yn adnabod Duw ac yn ei gweithred oedd yn gwadu fôd Duw wedi i caru, ac yn ei gweled, ac iw barnu, Tit. 1.16. Am hynny di­angc di allan o honot dy hunan, ac o'r hên balasau plwy­fol, ac o'r hên eglwysydd pwdr, Dat. 18.3, 4. rhag iddynt gwym­po arnat, ac i tithau gwympo danynt i'r bedd a'r pwll.

Eryr.

Fe barwyd pygu yr Arch, Beth yr oedd y pŷg hwnnw yn ei arwyddoccau i ni.

Colomen.

Fe ai gelwyd Copher (ond nad yw iei­thoedd ond fel llais cogfrain, er bôd llawer yn dotio arnynt) y pŷg yw 'r heddwch, a'r cytundeb rhwng dyn a'r hwn ai gwnaeth, Rhuf. 3. sef drwy ffydd ynghyfiawn­der vn ar all. A'r hwn sydd yn iawn gredu, mae efe wedi i glymmu, a'r bygu i ddilyn y wîr eglwys, ac nid [...] [...]del i'r bŷd ddyfod i mewn iddo.

Eryr.

Di ddywedaist o'r blaen beth oedd y drŵs nodd ar yr Arch, Iob. 1.27. ond beth hefyd yr oedd ffenestr yr Arch yn i rwyddo?

Colom [...]n.

Goleuni 'r ysbryd glân. Heb yr hwn y [Page 48] mae dyn fel tŷ yn llawn mŵg, heb vn ffenestr arno i ollwng goleuni i mewn, Ac ym mŵg naturiaeth mae 'r gwybed vffernol yn hedfan: Y golau ymma sydd fel ffenestr o risial. Esay 54.12. Mae 'r haul o'r nêf, yn discleirio drwyddi. Ond nid yw 'r dall yn gweled mor ffenestr na goleuni 'r bŷd. Ac ni all nêb ganfod y Duwdod ond drwy 'r Tád, Mat. 11. na'r Tad ond drwy 'r mâb, na'r mab ond drwy 'r ysbryd, na'r ysbryd ond drwyddo ei hunan. Mae efe yn agoryd ffenestr yn y nêf fel y gallo dyn weled y peth sydd ym monwes, 1 Cor. 2. [...]6. Luc. 24.32. ac ym meddwl yr oen, Mae efe hefyd yn agoryd vn arall yn y galon i ddyn i weled ei stafellei hun, ac i hwnnw mae 'r yscrythurau yn agored hefyd.

Eryr.

Ond beth yr oedd y tair cell yn i ddangos?

Col.

Tair rhan dyn. sef ysbryd, ac enaid, a chorph. Tair stàd yr Eglwys dan y gyfraith, dan yr efengil, ac hefyd dan y nefoedd newydd. Tair cell yn gwneuthur vn Arch, 1 Joan 5.8. trindod yn vndod, fel y mae dwfr, a gwaed, ac ysbryd yn yr vn wŷthen. Ond mae dyn fel anifail nad yw yn i ddeall eil unan, nag yn medru dychwel at Dduw.

Eryr.

Ond pa fôdd y gallai Noah gasclu yr ani­feiliaid a'r adar i'r Arch?

Colomen.

Mae 'r anifail yn well na dyn, fe dda­eth yr anifail i'r Arch i gadw ei fywyd; ond dyn a foddodd yn y diluw. Er hynny Duw a heliodd yr a­nifeiliaid, a'r adar cadwedig i mewn drwy yscogiad, ac wedi i cynhyrfu, nhwy a ddaethant o'r gwaith ei hun, Joan. 6.45. a'r Sawl a dywyso ef, a dywysir, a'r Sawl a ddy­scer gan y Tâd a ddaw at y mâb. Ac mae ysbryd etto drwy 'r bŷd yn cynnull y rhai cadwedig i mewn, ac o'r diwedd yn gadel y rhai cyndyn allan.

Eryr.

Ond yr oedd yn yr Arch anifeiliaid aflan cystal a'r rhai glân. Beth a ddywedir wrth hynny?

Colomen.

Pôb cangen (medd y winwydden) na [Page 49] ddygo ffrwyth ynofi a dorrir i lawr. Joan. 15.2. a phôb dyn ar y sydd yn cael ei fywyd naturiol ynghrist, a'r na ddyc­co ffrwyth i Dduw drwyddo, a fwrir fel ciw dierth allan o nŷth yr Eryr, hynny yw, allan o gynhesfa by­wyd tragywyddol: A hyn a wneir yn y diwedd.

Eryr.

Onid oedd yn hir gennym am ddyfod allan o'r Arch ar òl treio y dwfr.

Colomen.

Di wyddost i bôb vn ddyfod allan mewn trefn, y naill yn llonydd gyda'r llall. pôb vngyda'i gym­mar, 1 Cor. 14. i ddangos mai trefnus yw ymddygiad y rhai cad­wedig. Ac fel y claddwyd felly y codwyd nhwy, sef ny­ni, gyda 'r arch, A phau rodder y deyrnas i'r Tâd, ni bydd anhrefnusdra, ond pawb a eiff iw le, ac iw waith tragywyddol yn ôl ei naturiaeth a'i weithredoedd.

Eryr.

Ond wedi 'r diluw, fe a osodwyd Enfys wyrdd-felen yn y ffurfafen. Beth y mae honno yn i ysbysu i ni?

Colomen.

Mae 'r bwa yn y cwmmwl a'i ddau­pen i wared, ac nid i fynu, Gen. 9.13. i ddangos nad yw 'r Tâd yn ewyllysio saethu at ddynion mwyach, ond yn gollwng ei fwa i lawr yn ei law. Mae rhan o'r enfys yn wyrdd­las i ddangos ddarfod boddi 'r bŷd mewn diofr, a rhan o honi yn gochfelen i ddangos y lloscir y bŷd a thân etto.

Eryr.

Ond pa fòdd wrth hynny y mae dial wedi darfod a'r bwa a'i ddaupen tuag i wared?

Colomen.

Ewyllys y Goruchaf yw na phecho dyn yn i erbyn, ac na bo rhaid iddo ynt au ddial. Ond tra par­hatho pechod mewn dyn edryched a'r yr enfys a dian­ged rhag y rân sydd yn dyfod. Mat. 3.

Eryr.

Ond fe fu agos i mi ac anghofio dywedyd i ti fòd rhai yn y [...]ofyn pa fodd y gwnaeth Noah yr Arch;

Colomen.

Mae llawer o seiri a'r waith, as ychy­dig [Page 50] o'r rheini i hunain yn gadwedig. llawer sydd o fil­wyr, o lywodraethwyr, ac o bregethwyr fel seiri, y rhai yn y diwedd a fyddant anghymmeradwy. Phil. 2.12. Am hynny Gweithied dyn ei iechydwriaeth ei hun mewn ofn a dychryn. Ac am y peth a ddywedaist dy fôd ti a'r ang­hofio hyn, Mae llawer peth ynghylch yr Arch, nad wyti yn i gofyn na minnau yn i hatteb.

Eryr.

O golomen dirion, Dangos mewn ychy­dig eiriau beth yw dirgelwch yr Arch.

Colomen.

Yn ddiddadl Mawr yw dirgelwch yr Arch. Mawr yw cyfrinach Duwioldeb. Duw a ym­ddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr ysbryd, a welwyd gan angelion, [...] Tim 5.16. a bregethwyd i'r cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y bŷd, a gymmerwyd i fynn mewn gogoniant, ac a ddaw eilwaith mewn anrhydedd mawr, ac am dano ef yr ydym ni yn disgwil.

Er.

Wele, Da yr attebaist. A chan ein bôd ni ym­ma gydai gilydd, mewn llonyddwch, mi âf rhagof.

Colomen.

O Eryr, Gochel gythruddo pan chwilier gwaelod dy friw fel y gwna llawer, Psal. 25 9. Cares cythrybla­eth yw anwybodaeth. A fo diddig fydd dyscedig.

Eryr.

Mae hyn yn digio llawer, fôd y ffolaf yn barnu 'r doethaf, ac yn dywedyd yn erbyn y peth ni ddeallant.

Colomen.

Gwae a alwo y goleuni yn dywyllwch. Ond mae rhai nefol yn canfod Ecclips (neu Drwnn) ar y llenad naturiol, heb yr vn ar yr haul ysbryd [...]. Mae 'r creadur yn ymlusco ar ol ei oleuni: Oni wel [...] di y prenniau yn tyfu heb ymglywed a'r bywyd sydd mewn anifeiliaid? Mae 'r anifeiliaid yn symmnd lleb adnabod y rheswm sydd mewn Dyn. Mae dynion yn ymgoethi heb ddeall y ffydd sydd mewn seinctiau ar y ddaiar. Mae nhwythau hefyd heb ddeall fawr o fywyd angelion, a'r ang [...]lion sanctaidd [...]i hun [...]i [...] [Page 51] heb allel cwbl weled pa fodd y mae 'r vn mewn tri yn byw. Ac am hynny (fel y dywedais o'r blaen) Dôd i bôb peth ei lê ei hun, ac di elli weled yn hawdd nad yw synwyr naturiol yn medru nofio na hedeg i Arch No­ah. Oni weli di y gwŷr duon dyscedig yn ymdraba­eddu yn chwant y cnawd, ac yn boddi yn ysbryd y gwaed, Ma. 11.12 a rhai o'r bobl anllythrennog yn hedeg ac yn cippio castell teyrnas nefoedd drwy drais, tra fo y rhan fwyaf yn cippio drwy drais bethau 'r bŷd ymma?

Eryr.

Ond er hynny, mi welaf yr vn diwedd yn digwydd i'r naill ac i'r llall. Marw y mae'r duwiol yn y diwedd, ac nid yw 'r annuwiol ond marw hefyd.

Colomen.

Gwîr yw fôd corph y naill yn huno yn­ghrist, ond mae corph y llall yn pydru gyda'i enaid, fel y mae 'r naill long yn boddi yn nhonnau 'r môr, a'r llall yn hwylio drwyddynt, Pan fo dyn duwiol yn ymadel a'r bŷd, nid yw fo ond gadel ei wisg fel Jo­seph yn nwylaw gwraig Potiphar, Gen. 39. honno yw 'r dday­ar. Ac mae haul y cyfiawnder yn sugno gwrês yr enaid hwnnw allan o'r corph ac yn gadel y cnawd (fel gloûn dû) iw orchymyn i'r bedd. Ac fe a godir cyrph (neu natur gorphorol) y rhai duwiol fel y cyfyd yr haul yn ei ogoniant a'i nerth. 1 Cor. 15.43. Ond am y lleill fe fydd ei cyrph moethus hwynt fel tom­ [...]n i'r cythr [...]uliaid i ymdrybaeddu ynddi yn dra­gywydd. Esa. 66.24.

Eryr.

Er hynny onid oes adgyfodiad i gyrph y rhai gwaethaf?

Colomen.

Fe gynnhyrfir gwreiddyn pôb naturia­eth vnwaith etto, ond ni thâl ei cyffrôad nhwy o'r bedd moi alw yn adgyfodiad. Canys er iddynt sefyll ar y ddayar, nhwy fynnent y prŷd hwnnw gael i [Page 52] cuddio dan y ddayar ac ynghromlechydd y creigiau. Dat. 6. Ni chânt moi codi i'r awyr i gyfarfod yr vsdus mawr. Canys nid oedd ei heneidieu yn ei bywyd yn ymgodi i fynu, ond fel dwfr tywyll yn rhedeg ar i wa­red, ac yn pwyso tu a'r dyfnder.

Eryr.

Ond pa'r y ddyfnder yr wyti yn i feddwl? Pa beth yw 'r dyfnder, a'r vwchder?

Colomen.

O Eryr, Os gwrande wi fel y dylit, di gei fwy O ddealldwriaeth. Dat. 21.8. Y dyfnder ymma yw 'r pwll diwaclod, a hwnnw yw 'r ail angau, a'r angau mawr hwnnw yw 'r vffern, a'r llîd anrhaethadwy sy'n llosgi pechod a phechaduriaid cyndyn fel afon o frwm­stan, Esai 30 33 Canys mae 'r pechod lloiaf yn cynhyrfu y digo­faint mwyaf: Ac am yr vwchder, hwnnw yw di­wedd yr ailenedigaeth. Nid oes nêb ai hedwyn ond y rhai sy'n hedeg allan o honynt ei hunain iddo, ac yn byw ynddo.

Eryr.

Ond ai diogel i ddynion hedeg yn vchel? fe alle mai pa vchaf yr ymgodant isaf y cwympant.

Colomen.

Gwîr ddigon yw os bydd escyll o gŵyr naturiaeth ganddynt. Canys felly yr chedodd Luciffer a'i lû i waelod vffern. Y balch a ostyngir, a'r isel o galon a dderchefir. Luk 14.8. Psal. 25.9. Ond os calon ddrylliedig a gais adnabod dwfn gariad Duŵ, hi gaiff i dysgu, ai chyn­nal, ai chodi i vchelderan 'r Arglwydd, ai chyfarwy­ddo yn ysbryd y gwîr Noah.

Eryr.

Ond yr wyti yn fynych yn sôn am Noah. Pa beth yw yr ysbryd?

Colomen.

Ysbryd y Goruchaf yw 'r awel dragwy­ddol a' [...] seren forau, a goleuni 'r bŷd, ffynnon yr oe­soedd, sêl y testament, Anadl yr Oen, Rheolwr ange­lion a bywyd dynion: a'r ysbryd h [...]nnnw sy'n dwyn rhai i baradwys tra fo ei cyrph hwy ar y ddayar. Phil. 3.20.

Eryr.

Paradwys: Pa le mae 'r ardd hon­no? [Page 53] Mi glywais sôn llawer am dani.

Colomen.

Ni all nêb hedeg yno, Ond y sawl sydd yn rhedeg allan o hono ei hunan, sef allan o'i ewyllys, Phil. 3. [...]0. ai gyfrwystra, a'i ddiweddion, a'i lwybrau ei hunan. Mae Paradwys nid ymmhell oddiwrthyt ond ymmhôb mann llei mae cariad Duw yn ymddangos. Ac mae 'r holl golomennod cywir ynddi, yn clywed geiriau an­rhaethadwy, ymmysg myrddiwnan o angelion, Heb. 12.22. as ys­bry doedd perffaith. Ac hefyd o'r tu arall, mae vffern a'r tân, a'r nâd, a'r tywyllwch ynghalonnau llawer tra font ymma yn rhodio ar y ddayar.

Eryr.

Ond gâd i mi ofyn i ti. Onid oes vn nêf, nag vffern ond sydd yn y byd ymma?

Colomen.

Och lawer. Mae nêf dragwyddol, ac vffern fel ffŵrn a bery bŷth. Ond er hynny mae naill, ai nêf ai vffern ymhôb dyn yn y bywyd hwn. Luk. 17 21 Jac. 3.6. Ond nid yw dyn yn gweled ymma pa le y mae, mwy na gŵr yn cyscu yn ei welŷ sydd a llenni tywyll y cnawd o'i gwmpas, a'i holl ffenestri wedi i cau. Ond mae 'r amser i ddeffro yn agos pan gladder neu pan loscer y cnawd, ac yna mae pawb yn mynd iw gartref, ac yn canfod ei orweddfa.

Eryr.

Ond mae arnai ofn hyn; Pa le y byddai yn oes oesoedd?

Colomen.

Er bôd ffelix yn crynnu, Act. 24.25 nid oes fawr dan y diwedd yn ymofyn am hyn. Os dilyni naturia­eth di gei losci fŷth heb fynd byth yn vlŵ. On os cei di naturiaeth arall a chalon newydd di fyddi gyda 'r colomennod yn y llawenydd. Act. 26.18

Eryr.

Ai sôn a wnei di wrthyf fi am galon new­ydd? Parchedig oeddwn i erioed, am henafi [...]id he­fyd (fel y mae 'r [...]chau yn dangos:) Ac mae llawer a gawsant grêd a bedydd nad oes arnynt ofn vffern mwy na thithau.

Colomen.
[Page 54]

Er hynny fe ddaw vffern heb i hofni. Ac nid yw Achau teuluoedd ond rhwyd a wenodd na­turiaeth yn yr hon y mae prŷfcoppyn balchder yn llechu. Nid wyti nês er dyfod o hono o dywysogion Cymru, onid wyti yn vn o hâd Tywysog brenhinoedd y dday­ar wedi dy eni, nid o ewyllys gŵr, ond o'r Hâd anlly­gredig: Joan. 1.13. Jag. 1.18. Rhaid i ti er glaned wyt oddiallan gael ne­wid dy naturiaeth oddifewn, neu fe a'th losgir di yn dy Blû, a'th foneddigeiddrwydd a'th synwyr dy hunan. Ac am grêd a bedydd dyfrllyd, nid yw hyn fwy na gwelliyn yn y dommen, Act 8.13.23. oni chei di gyda hyn yr ailenedigaeth.

Eryr.

Peth na wn i oddiwrthi ynof fy hunan yw 'r ailenedigaeth, er i mi a'r glûst glywed sôn am dani.

Colomen.

Yr ailenedigaeth yw dyfodiad dyn allan o'r naill fŷd i'r llall yn y bywyd ymma. Pan fo 'r enaid yn yr ysbryd (mewn poen dan weiddi) yn torri drwy gwrs naturiaeth oddifewn, Joan. 3.3. heb fynnu moi ddal yn hwy ynghroth y meddwl dayarol, ond er gwaethaf pôb creadur yn dyfod allan o dywyllwch i oleuni, Act. 26.18. allan o fryntni ysbrydol i burdeb, allan o gâs i gariad, allan o gaethiwed i rydd-did nefol, allan o'r carchar i reoll, Eph. 2.1.2. allan o helynt y bŷd i gymdeithas Sein­ctiau, allan o fonwes cythreuliaid i gwmnhi angelion Duw, allan o sŵn y cnawd i glywed llais Duw, allan o'r oferedd i sobrwydd meddwl, allan o'r chwerthiniad: brudd-der paradwysaidd, allan o'r cnawd drewllyd i'r ysbryd bywiol, ac allan o groth naturiaeth i'r Gaer­salem nefol. Mae yn yr Ailenedigaeth ddwy ran. Vn i'r enaid, a'r ysbryd, am yr hon yr ydym ni yn son, a'r llall i'r corph yn y diwedd yr hon a elwir m [...]wysiad y corph. Rhuf. 8. Ac fel y mae 'r corph yn y bedd heb i eni hyd yr adgyfodiad, felly mae 'r enaid yn pydru yn naturi [...] [Page 55] ne's iddo adgyfodi gyda Christ, Ac fe wna Duw i ddyn weled i fôd ef yn gorwedd yn vffern, ac yn llechu yn y ddayar, cyn iddo ddwyn y meddwl i baradwys.

Eryr.

Rwyti yn sôn yn fynych am baradwys. A wyddost di Pwy sydd yno?

Colomen.

Dôd gennad i mi i sôn yn ddisyr am fy­ngwlâd am brô fy hunan. Luk. 6.45. Rhaid i bawb sôn am ei gartref. Rwi (mewn rhan) ynddi yn barod, a'r Co­lomennod gyda'm fi fel y dywedais i ti.

Eryr.

Ond Beth ped fawn i yn dy lâdd di 'r awron, i ba le yr ait ti?

Colomen.

I mewn ymhellach i'm gwlâd, canys ni ellir mo'm gwthio i allan o'm naturiaeth, Rhuf. 8 38 39. a naturi­aeth nefol yw paradwys.

Eryr.

A wyddosti beth yr wyti yn i ddywedyd?

Colomen.

Gwn, er na fedrai beri i tiddeall.

Eryr.

Onid oes arnat ti ofn marw er hyn i gyd?

Colomen.

Nagoes, mwy nag ar vn sydd wedi blino, fynd iw welŷ i orphwys. Phil. 1. Cennad yw angau oddi wrth fy nhâd i'm dwyn i adref allan o yscol y bŷd hwn fel allan o garchar y cnawd.

Eryr.

Ond mae ofn marw ar eraill?

Colomen.

Mae iddynt hwy achos, Da [...]. 6. Canys pan so angau yn marchogaeth attynt hwy, mae uffern wrth ei scil ef.

Eryr.

Pam nad oes arnat tithau ofn marw?

Colomen.

Am [...] [...]rall wedi marw drosofi, a hwnnw yw fy m [...]u A digon yw naill ai iddo ef, Heb. 7. ai i minnau farw.

Eryr.

Oni bu efe farw dros bôb vn arall cystal a thithau?

Colomen.

Fe fu farw dros bawb, ac mae pawb yn cael llês oddiwrtho dros amser. Heb. 2. 2 Cor. 5. Ond nid ydynt hwy yn i garn ef, ond yn ymollwng oddiwrtho i fyw [Page 56] ac i farw fel Balaam. Ac oni bai iddo erioed ymroi a chytuno i farw, ni buase y bŷd ymma yn sefyll mu­nud awr ar ôl cwymp Adda.

Eryr.

Ond ni bu efe farw lawer blwyddyn ar ôl hynny.

Colomen.

Ond deall di (O Eryr) iddo addo a bwriadu marw er sylfaeniad y bŷd, Dat. 138. a'r peth a fwriado efe, mae hynny fel ped fai wedi i wneuthur yn barod.

Eryr.

Ond a fwriadodd ef wrth farw gadw pawb?

Colomen.

Mae cariad y Tâd yn y mâb yn gwe­nu a'r bawb, 1 Tim. 2.4 2 Pet. 3.9. ond mae digofaint y Tâd, ai Arglwy­ddiaeth ofnadwy yn gadel ac yn gwgu ar lawer. Felly y mae Trugaredd a chyfiawnder yn vn, ac yn mynnu ei diweddion. Psalm. 101 Nid yw 'r rhain yn Nuw yn ym­ryson, Ond yn digoni y naill y llall, ac yn ymborth yn ei gilydd erioed. Fel llawenydd a thristwch yn yr vn galon. Ewyllys calon y Tâd (sef yr Achubwr) yw achub y pechadur, Rhuf. 9. ond mae 'r cynhyrfiad tragwyddol fel tân, neu fel chrochenydd. Dwfn yw gwreiddyn y matter ymma (fel y dangoswyd o'r blaen) a phôb Dys­cawdwr ai reswm ganddo, mewn amryw opiniwnan, Hyn sydd ddigon i'r call, a gormod i'r gwatwarwr. Ac am y gwan ei ddeall a'r sychedig ei galon, disgwilied yn ddistaw, mae 'r dydd yn gwawrio, a'r dyfnder yn ymagoryd i dderbyu i'r fonwes olan y rhai isel go­falus.

Eryr.

Nid yw hyn yn bodloni dim ar feddy­liau rhai?

Colomen.

1 Cor. 14.38. Ni fodlonir rhai byth, nag yn y bŷd ymma, nag yn yr hwn a ddaw. Ond bydd di fodlon yn­ghariad Duw, fel y mynne ef i bawb fôd: Bwytia o bren y bywyd, er bôd llawer yn ymgipio am ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg ynghŷd. Digon yw i [Page 57] ddyn wybod bŷd, a llêd, Eph. 3.18.19. ac vwchder a dyfnder cariad y G [...]ruchaf tuag at ei enaid truan: a'r holl wybodaeth wall a dderfydd ac a ddiffydd fel canwyll pan godo y [...]ymhestloedd olaf.

Eryr.

Ond (wrth hynny) i ba beth yr ydym ni [...]n ymddiddan? Onid gwiw cael gwybodaeth nid gwiw siarad nag ymofyn am dani?

Colomen.

Bywyd tragwyddol yw adnabod y Tâd [...]n y mâb, Ond angau yw i adnabod allan o hono, Joan. 17.3. a gorthrymder ysbryd. Nid yw 'r Tâd yn i ganfod ei [...]un allan o'r mâb, ond ynddo, a'r mâb ynddo yntau, Ond fel yr oedd yr Iddewon yn edrych ar y mâb allan o'r Tâd, (heb adnabod yr vn o'r ddan) felly y mae llawer yn edrych am Dduw allan o'r ddi­fyrrwch ai anwyl fâb, ac yn i gael yn dân llos­ [...]adwy.

Eryr.

O Golomen. Rwyti yn rhy gyflym i mi. Ond oni fedri di fôd yn falch am hynny?

Colomen.

Ni fedrai, ac ni feiddiai fôd yn falch. Canys nid fyfi am gwnaeth fy hunan. Psal. 100.3 A'r hwn am gwnaeth i yn wirion ymhôb peth, iddo ef y byddo 'r glôd bŷth. Nid oes gennif na llais, na lliw, na llûn na phluen o'm gwaith a'm gallu fy hun. Nag ym­ffrostied nêb ynddo ei hunan ond yr hwn sydd o hono ei hunan, Jer. 9. yn fendigedig ymmysg pawb ar ai hedwyn mewn cariad.

Eryr.

Ond mae (er hynny) llawer yn hoyw­feilchion, yn ymfronni, ac yn ymosod allan, orau y gallont.

Colomen.

Er hynny, nid yw dŷn o hono ei hun ond swp o wenwyn, a thelpyn o bridd, Gen. 3.19. Preg. 3.18. Esay 40.7. ac anifail brwnt cysclyd aneallus, neu welltyn glâs yn gwywo, Twrr o escyrn yn pydru. Gwâs i ddiafol ynnhommen y cnawd, Ac a ddyle hwn (dybygi di) fod yn falch? Je [Page 58] er bôd rhai yn Seinctiau ynghyfiawnder yr Arch, ma [...] nhwy yn gweled nad yw ei cnawd nhwy ond blodenym ni all y Goruchaf aros llygaid a meddylian vchel. Psal. 138.6 Dih. 16.5. A fe a ostyngir y brynniau fel Dagon a Jezabel. Cany llei bo balchder mae ynfydrwydd, ewyllysgryfder, ang­hofusdra, creulondeb, drwglygad, cenfigen, ymrafa­el, anfodlonrwydd, gwaed, cynnen, malais, ym­ladd, gwagfost, dirmyg, anair, ymgystadlu, ac ym­chwyddo ymhob drygioni.

Eryr.

Onid oes dim o'r pethau ymma yn eic [...] mysg chwi?

Colomen.

Fel y mae 'r afiechyd yn yr iachaf, neu ddraen yn y troed, Rhuf. 7 Gal 6.1. neu wynt yn y cylla, neu ascwr [...] o'i le. Mae pechod yn olrhain dŷn da, i geisio i ddal Ond y mae meddwl dyn drwg yn dal, ac yn goddiwedd ei bechod. Rhuf. 8.13. Psal. 18.23. Job 20.12 Mae 'r naill yn marwhan, a'r llall yn ma­gu ei anwylchwant. Mae 'r naill yn i ofni, ac yni g [...]sh [...]u fel gelyn, a'r llall yn i groesafu iw feddwl fel siwgwr dan ei ddannedd. Y naill sydd yn ei chwant ai natur fel brithyll yn y dwfr, a'r llall yn nofio allan o hono ei hunan am ei fywyd. Y naill fel yr hŵch a'r afr, a'r llall fel y ddafad ddiniwed yn adnabod llais y bugail.

Eryr.

Sôn am y bugail yr wyti. Ond mae llawer llais yn y bŷd, a sŵn rhesymmau lawer. Pa fodd yr adwaenost di lais yr ysbryd glân ymysg y cwbl?

Colomen.

Oni wyddost ti y medr oen bâch ad­nabod llais ei fam ei hun ymmysg cant o ddefaid. Nid oes nêb a fedr ddirnad y gwir ysbryd ond y sawl sydd ai natur ynddo, Joan. 10. am hynny ofer yw rhoi arwy­ddion a geirian iw adnabod

Eryr.

Wrth hynny. Rwyti yn gadel pawb iw feddwl ei hun.

Colomen.
[Page 59]

Pan fo 'r gwir fugail yn llefaru, a dŷn [...]n i glywed, mae 'r galon yn llosci oddifewn, a'r cnawd yn crynnu, a'r meddwl yn goleno fel canwyll, Luc. 24. Hab. 3.2. a'r grdwybod yn ymweithio fel gwin mewn llestr, a'r ewyllys yn plygu i'r gwirionedd: 1 Bren. 19. Ac mae 'r llais main nefol nerthol hwnnw yn codi ymarw i fyw, oi fedd ei hunan, i wisgo 'r goron, ac yn newid yn rhyfedd yr holl fywyd i fyw fel oen Duw.

Eryr.

Onid oes cnawd yn gorchfygu y gorau o honoch.

Colomen.

Nagoes. Y mae cnawd drosom ond nid yw fo yn gorchfygu monom. Ond fel tŷ Saul yn myned wannach wannach. Canys y nêb sydd yn yr Arch a groeshoeliasont y cnawd ai wynian, Gal. 5.24. ai chwan­tan. Mae nhwy fel dynion wedi meirw i blesserau a chlod a chyfoeth y bŷd, nid ŷnt fywiog iddynt, Gal. 6.14. nag yn­ddynt. Màent wedi gwywo yn ei synwyr, ai hewyllys ei hunain, ac yno mae 'r blodeuyn tragywyddol trwy­ddynt, ynddynt, iddynt.

Eryr.

Pa beth (meddi di) yw 'r cnawd yr ydym ni yn sôn am dano, gan fôd llawer heb ddeall ei gei­riau ei hun?

Colomen.

Y cnawd yw pôb peth dan yr haul a'r sydd o'r tu allan i'r dyn oddifewn. Pa beth byn­nag sydd ddarfodedig, ac nad yw dragywy­ddol cnawd yw. Cnawd yw synwyr dyn, Rhuf. 8. a phleser y bŷd. Cnawd yw chwaryddiaeth hên ac ifangc. Cnawd yw ymbor [...]h a hiliogaeth dŷn. Cnawd yw amser a phôb peth ar a derfynir y [...]do. Cnawd yw ewyllys a dirgelwch dynion. Cnawd yw gweddiau a phr [...]gethau llawer. Cnawd [...]w anrhydedd gwŷr mawr ac vwchder gwŷr mawr. Cnawd yw pob peth ar a all dŷn naturiol i weled, ai glywed, ai g [...]el, ai gynnwys. A gwellt yw pôb cnawd. [Page 60] Wele gwywo y mae. Esay 40. Nid yr vn yw dros vn munum Mae anadl Immanuel yn chwythu ar y blodeny ymma, fel ar llysseuyn gardd, yr hwn a lychwim rhwng dy fyssedd: fe elwir y cnawd ymma wrth hem Henddyn, Eph. 4.22. am i fôd yn gyfrwys i dwyllo, yn hawdd gofio, yn anhawdd i adnabod, yn gynnefin a dŷn, a [...] fel tâd iddo. Cnawd y gelwir ef, am i fôd ef am ddy [...] fel dilledyn, Gal. 5. yn anwyl iddo, yn agos atto, yn rhan o ho­no, yn tyfu ynddo, ac yn pydru wrtho. Y cnawd ymm [...] yw Gelyn Duw, Gwenwyn dŷn, lifrau vffern, Delw anifail, Anwylyd pechadur, lloches rhagrithiwr, Rhwyd y prŷf coppyn, marsiandwr eneidieu, Car­tref y colledigion, a thommen y cythreuliaid. Gwae, Gwae, Gwae y rai sydd yn byw yn y cnawd; ni all y rheini na bodloni Duw, na bôd yn gadwedig, ond ddychwelir hwynt. Rhuf. 8.8.

Eryr.

Pwy yw y rheini sydd yn byw yn y cnawd yn ôl y cnawd?

Colomen.

Ped fawn i yn henwi 'r cwbl, mi hen­nwn y rhan fwyaf o holl drigolion y ddaiar, y tywy­sogion beilchion, yr offeiriaid mudion, y llefarwyr my­glyd, y gwrandawyr cysglyd, y professwyr gweigion, yr vchelwyr trawsion, y tenantiaid ffeilsi [...]n, y rhai i­faingc nwyfus, y rhai hên ofergoelus, yr vsdusiaid anghyfion, yr ymofynwyr partîol, y cyfreithwyr cy­frwysddrŵg, y boneddigion briwsiongar, y tlodion rhagrithiol, y gwerin anwybodus, yr yscolheigion chwyddedig, y milwyr anrhesymmol, y trethwyr di­gydwybod, y t [...]farnwyr anif [...]aidd, y cynllyfanwyr segur-llyd, y gwyr chwerwon, y gwragedd anufydd, y plant cyndyn, y masweddwyr sidanog, y lladron an­weledig, y llofruddion male [...]sius, y cynhennus direol, yr ymladdwyr gwaedwyllt, y g [...]d [...]nebwyr anifeiliaidd, a holl addolwyr y llythyren, a'r cyffelyb i'r rhai hyn, [Page 61] [...] y rhai y dywedwyd o'r blaen, 1 Cor. 6. Gal. 5. ac yr wyfi etto yn ty­ [...]tiolaethu, nad y rhain yw etifeddion teyrnas Dduw. Mae rhain yn boddi yn y cnawd, ac heb adnabod rhodfeŷdd ysbryd y bywyd. Meirwon oeddynt, meirwon ydynt, a meirwon fyddant oll, oni eilw 'Duw ras o honynt.

Eryr.

Beth a wna dŷn i ddyfod allan o'r cnawd i'r ysbryd glân, ac allan o hono ei hun i fyw yn Nuw?

Colomen.

Mae llawer yn ymofyn ac yn ymbal­falu dros amser, ac yn ceisio vnioni cangen gam ei na­turiaeth ei hunain, Luc. 13.23.24. ond mae nerth natur fel llanw yn gorchfygu yn y diwedd. Ac yn y diwedd y mae barnu. yn yr hwyr y bydd dydd y farn. Dyn a derwen a di­wrnod ŷnt anhawdd i hadnabod, Ond os myn nêb i wadu ei hun a dilyn yr oen yn yr ailenedigaeth, Mat. 19.28. Mat 24.13. a phar­hau hyd y diwedd, a bôd yn gadwedig, Na ddiffodded mor golau sydd yn ei gydwybod, ond chwythed ef i o­leuo, a dilyned oleuni Duw, a'r seren forau ynddo, ac fe a gyfyd yr haul yn ddisclair arno.

Eryr.

Pa beth yw 'r seren forau honno?

Colomen.

Sicrwydd gwybodaeth, Gwystl yr ys­bryd, siŵr lygad ffydd, ernes perffeithrwydd, fel Je­hovah, [...] thyst tri yn vn, angor yr enaid, Col. 2.2. 2 Pet. 1. a'r cwbl pan fo dŷn yn y goleuni yn adnabod cariad Duw atto, ynddo, a thrwyddo, mewn nerth a heddwch ry­fedd.

Eryr.

Oh. Beth a wna i gael hyn ynof fy hu­nan?

Colomen.

Rhaid yw curo yn galed wrth ddrŵs Dnw mewn gweddiau, fel cardottyn, Luc. 11.13. ac nid tewi nes cael. Mewn ysbryd a meddwl yn y porth bôb [...]nud, Canys y Sawl ai gofynno ai caiff.

Eryr.

On [...] mae llawer yn gweddio heb fôd nês. [Page 62] Pa brŷd y mae gweddi dyn yn cyrhaeddyd mon­wes Duw?

Colomen.

Pan fo ysbryd Duw yn ochneidio (yn ddigymmysg) mewn dyn, Pan fych di yn ymroi i Dduw, ac ewyllys i geisio ysbryd Duw fel cynnysca­eth i'r enaid; Ac befyd yn ymgryfhau i barhau yn daer, ac yn wangcus nes i ti i gael. O blegid nid enocc neu ddau sydd ddigon wrth ddrŵs Duw. Mae llawer cythrel nad a allan drwy ympryd a gwe­ddi heb ffydd, na thrwy ffydd heb ympryd a gweddi. Ac mae 'n agos drô mawr ar dywydd: Mae taranau ysbrydol, Mae da [...]ar-grynfàu ysbrydol. Mae lleisiau ysbrydol, Mae cenllysg ysbrydol, Mae mellt ysbrydol, Mae dreigiau ysbrydol, a barn ysbrydol. Ac mae 'r rhain i gŷd yn anweledig yn ysbryd dŷn, ymwran­dawed dŷn ai galon, ac fe gaiff glywed y pethau hyn ynddo ei hunan, Mae llawer a fyddai wych ganddynt drafaelio yr holl sŷd drosto, ond nid adwaenant y bŷd mawr helaeth yn y galon, ond mae 'r borau wedi gwawrio i ddyn yw adnabod ei hun, canys mae 'r priodfab yn barod, ar brenin, ar barnwr, wrth y drŵs.

Eryr.

Ond mae llawer yn dywedyd er ystalm fôd y barnŵr ar ddyfod, a bôd ei fŷs ef yn codi clicced y drŵs er-ys llawer blwyddyn. Er hyn­ny ni wela i monofo etto yn ymddangos, na dydd y farn etto wedi dyfod.

Colomen.

Mae dydd barn wedi dechrau yn barod yn y gydwybod, ac fe ai datcuddir yn yr amlwg pan ymddangoso y Duw mawr. Nid yw ef [...]n oedi dyfod fel y dywaid rhai sydd heb i ganfod ef, nai gydnabod yn llenwi 'r h [...]llfyd, yn gwe [...]d pôb peth, yn barnu 'r teyrnasoedd, yn cyffroi y [...] holl naturiaethau, yn [...] ­ddu cydwyboda [...], yn cyflawni prophwydolia [...]t [...] [Page 63] yn agoryd yscrythurau. Er ir Iddewon ddisgwil yn hir am y Messiah ni dderbyni [...]nt mono pan ddaeth am na ddaeth ef yn y ffigûr yr oed lynt hwy yn disgwil am dano, felly mae fo yr awron yn barod i ddyfod yw deml, Mal. 3.1.2. ond pwy a all aros tan y toddudd a sebon y golchyddion? fe ddaw, ac fe gaiff pawb i we­led fel y dywedais i am y Diluw or blaen.

Eryr.

Rwyti yn myned oddi wrth y Questiwn a ofynnais i ti.

Colomen.

Felly yr oedd Jachawdwr y bŷd pan efynnid iddo lawer peth drwy ynwyr y sarph. Ac ni thâl y cnawd moi atteb, Ar sawl sy'n siarad llawer ymysg dynion nid yw fo yn clywed fawr o lais Duw a pharadwys. Agwell i mi dewi na dywedyd wrth vn byddar rhag dywedyd geiriau segur, Canys rhaid rhoi cyfrif am bôb gair diwaith. Matth. 12.37·

Eryr.

Beth (wrth hynny) a ddaw o honom ni sydd yn siarad rhyd y dydd am y peth cyntaf a ddêl i'n pennau?

Colomen.

Mae ysbryd dyn siaradus yn farch i ddiafol heb un ffrwyn yn ei Safn: Psal. 120.3.4. ô pa sawl mîl yn yr wythnos o eiriau segurllyd y mae pawb agos yn i traethu? yr holl eiriau budron, anllad, diofn, digllon, afrywiog, anneallus, enllibiaidd, rhyddion, yr holl eiriau gwatwarus, meddwaedd, bloddestgar, sar­rig, cyfrwysddrwg drygionus, pan ddelo 'r rhain i gyd fel lluoedd mewn arfau i gyfarfod y pechadur Beth a ddaw oi obaith ef y dydd hwnnw? Am hynny gwae­dda yn fuan am yr ysbryd glân i fôd yn borthor ar ddrws dy wefusau, Cyn i ti ddywedyd gormod. Psal. 141.3

Eryr.

Ond beth os dywedais i ormod o eiriau yn barod n [...] fedrai gofio vn o fil, (er bod yr angelion wedi i printio nhwy er cyn­ted y daethant allan o'm genau?

Colomen.
[Page 64]

Selia dy [...]nau o hyn allan ac egor dy gydwybod o flaen Duw, a glŷnyn galed wrth yr Arglwydd Jesu ar iddo fôd yn feichiau dro­sot ar ddydd y farn, ac na chwsg ddydd na nôs nes cael sicrwydd oddiwrtho. mae ar y dledwr ofn cael i arrestio ai ddal ai garcharu nes iddo dalu yr hatling eithaf. Gen. 3. Pan bechodd Adda fe ddywedodd wrth yr Arglwydd (Jehovah) mi a glywais dy lais di yn y gydwybod, ac a ofnais, ac a ymguddiais. Dymma fynydd Sinai a dirgelwch y daran, Dymma gydwybod ledradaidd yn ceisio (pe bai bossibl) ddi­angc o'r tu cefu i Dduw allan oi olwg. Job 21.15. Ac am fôd y goleuni cyhuddgar ymma mewn ayn, mae arno gy­wilydd wneuthur o flaen pawb y peth naturiol nad yw 'r anifail yn rhuso i wneuthur. Canys mae discleir­deb Delw Duw ar enaid dŷn, er na ŵyr yr enaid mo hynny yn eglur nes torri o'r gostrel bridd, a myned o'r meddwl allan o'r corph. Am hynny gochel di adel dim llwgr, ac enogrwydd ar dy gydwybod, na dim crawn yngwaelod y briw. Heb. 10.22 Canys os bydd llûn a delw y pechod (fel bŵbach vffern) yn y gydwybod, Levit. 26.36. pôb peth a'th gyn­hyrfa, a phôb digwydd a'th ddychrynna. Os gwnei di ddim (mewn meddwl gair neu weithred neu ymddy­giad) yn erbyn dy gydwybod, mae taran yn nesha ynot yn dangos ei llef. Ac os pâr dy gydwybod i ti wneuthur y peth ar peth sydd dda (drwy estyn bŷs oddifewn ai ddangos i ti) os ti ai hesceulusi, Jag. 4.17 ac a droi heibio, mae Scrifen ar dy fûr di yn peri i'th gymmalau di oddifewn siglo. Ac heb law hynny (Deall hyn O Eryr) fôd delwanym meddwl pôb dyn, Ezek. 14.4 a'r rheini yŵ llu­niau pôb peth a welodd y llygad yn y byd, maent yn yw ddangos oll megis mewn drych yn y meddwl, a'r lluniau ymma a barhant byth onis distrywirhwynt cyn i'r corph farw. Nid oedd ond vn ffordd ar ran Duw [...]w difetha, fe [Page 65] gymerodd ei anwyl fâb ai ddelw ei hunan ac ai tara­wodd yn erbyn dy ddelwau di, fe a dorrodd es ddelw ei hunan ac ai lladdodd ar y groes, 1 Joan 3.8 fel y difethid eulyn­nod dy galon dithau drwy nerth ysbryd y groes. Ac os mynni di gael heddwch cydwybod, Aheddwch a barha­tho byth, Gwybydd y gwneir i ti wybod, pa fodd y bu (Christ sef enneiniog Duw) farw drosott ti, Rhuf. 6. a thithau ynddo yntau, ac yntau ynot tithau, A thrwy gredu hyn i gyd ynghŷd, mae 'r gydwybod yn cael i hyscubo yn lân drwy ffydd, 1 Joan. 5. ai hyscafnhau oddiwrth yr holl hên feddyliau pechodol er brynted fuont. Gwaed yr Oen sy'n golchi 'r enaid, a'r dwfr gyd a'r gwaed. Ac yn y dwfr a'r gwaed hwnnw oddifewn mae rhinwedd, a holl nerth ysbryd y Duw byw tragwyddol, Heb. 9.14 Zach. 13 1 2 Cor. 5.18. Psal. 14.1 Dymma 'r ffynnon agored ynghrist i ti, ac ynot ti iw ddiodi yntau, Pob peth syddo DDuw, ac nid o ddyn, am hynny disgwil di wrtho. Ac o achos dy fôd di yn sôn am bechod y genau, ac am ddrygioni geiriau, Cofia byth fôd meddyliau 'r galon yn eiriau sylwe­ddol ynghlustiau y Goruchaf, A thra fo meddyliau 'r cnawd ynot ti, mae nhwy fel bytheuaid yn dy ganlyn di ddydd a nôs, ac yn gwneuthur sŵn amberffaith ynghlustiau 'r Barnwr. O i ba le y diangi di rhag­ddynt ond allan o honot dy hunan? Mae vn meddwl ofer yn drymmach na'r holl ddayar, Jer. 4 14. canys nid yw 'r ddayar ond amserol, ond mae 'r meddwl yn dragwy­ddol. Ac hefyd nid yw 'r llais oddiallan ond adlais y sŵn oddifewn. Ac mae meddyliau pawb, agos yn rhe­deg allan oddiwrth DDuw drwy y llygaid a'r clustiau at bethau gweledig darfodedig, heb fedru, nag heb ga­el aros i mewn i wrando ar y llais anrhaethadwy yn yr ysbryd; Mae 'r gelyn wedi tynnu allan lygaid a chlu­stiau pôb dyn agos at y peth a wnaed oddiwrth yr hwn ni wnaed ond oedd erioed.

Eryr.
[Page 66]

Son yr wyti yr awron am ryw fyd oddi­fewn, nid wi 'n deall mor pethau hyn.

Colomen.

Misoniais am hyn o'r blaen. Ond nid yw rhai yn deall er dywedyd deirgwaith yr un peth, 2 Tim [...]. am fôd y cnawd fel sachlen ddû ar ffenestri 'r me­ddwl. Rwyti o ddŷn ynghanol pôb naturiaeth er nad wyt yn gweled. Na wrando ar y mesurwŷr cnawdol, sy'n sôn gormod am yr vn mîl ar hugain a chwechant o filldyroedd sydd yn gwregysu yr holl fyd, ac yn bwrw fôd tairmil o ganol gwaelod y ddayar ir wyne­bion, a phedwar myrddiwn oddi ymma i'r haul, a phed­war vgain oddi wrtho ef i'r wybren, ac oddiyno i'r nêf gymmaint ac i'r ddayar. Ond mae gair y ffydd yn Sŵnio ynot ti. Rhuf. 10.7 8. Mae 'r Drindod gyda'th di, Mae parad­wys ac vffern drwy bôb lle, fel y dywedais i o'r blaen.

Eryr.

Er a ddywettech di. Nid yw hyn yn mynd i'm pen i, nag im calon chwaith. Ar pen yw drws y galon. Pa fodd y mae i ddyn feddwl heb gamfeddwl am y pethau hyn?

Colomen.

Ni all fôd ond vn anfesurol, A hwnnw am i fôd ef yn b [...]rffaith, Jer. 23 24. rhaid iddo fôd ymhôb man ar vnwaith, ac yn llefaru wrth bawb yn wastad, yn clywed ac yn cynnal pôb peth ar vnwaith, nid rhan o hono sydd ymma, a rhan accw, canys nid oes mor rhannau ynddo. Ond mae fe i gyd, ac yn gwbl, ac yn hollawl ymhôb man ar vnwaith, Am hynny y galle Moesen chwedleua ag ef wyneb yn wyneb. Canys yr oedd yr holl Dduw dod o flaen ei lygaid ef. Ond ni wêl nêb hyn ond y meddwl ysbrydol. Math. 11.17. Pel na ellir gweled [...] haul ond yn ei oleuni ei hunan. Pwy sydd yn gweddi [...] neu pwy sydd yn pregethu? neu yn rhoi trô yn y by [...] ac yn gweled fôd yr holl Dduwdod i gyd, sef y Duw mawr ai holl olwg arno? ac yn deall mai lle y ma [...] ei gariad ef, yno i mae bywyd a pharadwys, ac lle [Page 67] mae ei ddig ef, yno y mae angau ac vffern. Rhuf. 11.36. Hwn yw 'r Duw anfesurol bendigedig byth, yn yml [...]nyddu yn­ddo ei hunan, ac iddo fe bo 'r glod ym mhôb man yn dragywyddol. Deut. 28.58. Dat 6. Esay 6. Ni dd [...]le ddyn sôn am ei enw ef heb barch a chrynfa, canys ynddo y mae pawb yn son am dano. Oi flaen ef y mae 'r nefoedd yn diangc, a char ei fron ef y mae 'r angelion sanctaidd yn ymguddio, Ond mae dynion fel anifeiliaid dirêswm vffernol, Rhuf 3.14.18. yn rhuo, yn anghofus yn cablu, yn camarfer y gair, yn tyngu, yn drwgfeddwl, yn melldithio, yn rhegi eraill as heneid [...]eu ei hunain, heb weled fôd y tân aniffodd­adwy wrthynt ac ynddynt. Ac mae rhai eraill (Druain) yn edrych am Dduw o hirbell, ac hefyd yn gweiddi am dano oddiallan, heb weled fôd ffynnon a gwreiddyn ynddynt yn ceisio tarddu a thyfu drwydd­ynt, Canys mae fe gyda phôb dŷn er cynddrwg yw, Joan. 1.9. Eph 4 6. yn goleno pôb dŷn ar sydd yn dyfod i'r bŷd, ond er i fôd ef drwy bawb nid yw fe yn cael aros ond yn ym­bell vn. Y Sawl sydd gantho glúst i wrando, gwran­dawed.

Eryr.

O Golomen. Onid wyti yn blino bellach a siarad am y pethau hyn? Ni fynnwn i mo'th flino di chwaith.

Colomen.

Edrych di ar dy ragrith. ond dydi dy hun sydd yn ceisio escus? Nid wyti nês er blino, nac er rhagrithio, ac ymescuso. Job 23.12 Nid oes dim blinder ar­nafi, Pethau nefol yw fy mywyd, Ac fe am gwna­ed i o bwrpas i ddwyn tystiolaeth. A rhaid i bôb llestr wasanaethu yw ddiwedd ai ddefnydd. Nid yw 'r angelion yn blino yn canu, ac yn canmol. Ac yr ydychwi yn gweddio. Gwneler dy ewyllys ar y ddai [...]r fel yn y nêf.

Eryr.

Onid oes (er hynny) rai o honochwi yn swrthdrymion?

Colomen.
[Page 68]

Mat. 26.41. Yr ewyllys sydd barod ond y cnawd sydd wan, Nid yw 'r dyn gwan yn blino ar ei fywyd ond ar ei glefyd, ac eisiau bôd yn gryfach, ac mae n [...]rth newydd yn descyn ar y llescaf os disgwiliant am dano oddivchod, Esay 40.3.31. y gwan a saif, a'r cryf a syrth.

Eryr.

Ond beth meddi di a wna dyn sy'n barod i ymollwng dan ei feddwl, ac i orwedd dan ei faich yn ddigalon?

Colomen.

Nhwy ddywedant, nad trom ond y ddai­ar, ac er trymmed yw hi, Esay 40.28. (er ei hoed) mae Duw yn cynnal i fynu y ddaiar ai holl gyrrau ar ei air ei hu­nan, ac heb chwysu na dyffygio. Edrych dithau arno. Hwn a ddichon gynnal dy galon dithau er trymmed yw. Esay 40.11 Hwn sydd yn gosod ei fraich dan ei ŵyn. E­drych a gwêl fel y mae efe yn dwyn oddiarnat yr hên nerth, ac yn rhoi i ddynan truan nerth newydd, ac yn i leuwi ag îrder newydd (fel y mae 'r gwreiddyn tra barhatho, bôb blwyddyn yn danfon i'r canghennau ddail a ffrwyth newydd.) Canys yn y gwreiddyn y mae 'r bywyd. Y Tâd Abraham a obeithiodd yn er­hyn rheswm dan obaith, Rhuf. 4.18. Heb 11. felly y gwnaeth Barac a Gi­deon a Habbacuc, ac Esay, a llawer eraill yn ddiwe­ddar, ac yn yr oes hon. fe fyddai rŷ hîr i ti glywed y cwbl, Ond gwŷch gan bawb sôn am y peth y mae efe yn byw ynddo, ac arno. Dih 16 3. P [...] 55.22. Pe [...] 5 7. Oni elli di ddwyn i fynu dy ffyrdd a'th f [...]ddyliau, Treigla dy holl hunan ar yr Argl­wydd, sef arno neu tuag atto o'r hyn lleiaf. ac efe a'th gynnal di dan y maen melin. Ac os myn y Tâd rhaid i ti berchi ei fâb ef yn y cwppan chwerw er mwyn llâdd y pechodau, Rhaid yw bôd yn fodlon i orwedd yn farw yn ei fèdd ef cystal ac i eistedd yn ei gadair, Mae cûr y meddwl yn bysygwriaeth, y mae Duw yn i roddi i rai y mae efe yn i garu, i dynnu i lawr ei bal­chder. Hiliogaeth Duw yw ysbryd dŷn, ac mae Tâd [Page 69] yr ysbrydoedd yn i cosbi, cwympa dan ei draed ef, Heb. [...] 12 ac di gei gyssur.

Eryr.

Mi welaf fôd y Golomen yn hedeg heb flino mewn daioni, er bôd eraill fel yr hwiaid yn fuan yn cwympo i'r pyllau. Gwyn ei bŷd y rhai sydd heb ddyffygio wrth hedeg vwchlaw 'r bŷd ymma.

Colomen.

Onid wyti (O Eryr) yn vn o'r rhei­ni?

Eryr.

Nag ydwyf etto ysywaith. Nid oes flin­der wrth ofer-siarad, ond buan yr wyfi yn blino wrth sôn am bethau nefol. Ac er hynny tra fwyfi yn dy gwmnhi di mi debygwn fôd rhyw fath ar ddifyrrwch ysbrydol yn fy nwyn i ym­laen.

Colomen.

Am hynny Glŷn ynghymdeithas y rhai nefol: Hawdd yw adnabod rhagrithiwr wrth ei gymdeithion. Dih. 22.24.25. Dihar. 1.14 15. Dih. 4.12. Safnau diafol yw cymdeithion drŵg yn llyngcu meddyliau 'r gwirion. Gelod penagored yw 'r gwŷr cyfrwysddrwg, yn sugno 'r meddwl yn ddi­staw i vffern allan o'r gof ei hun, ac allan o gariad Duw. Ond am gwmnhi da di a glywaist o'r blaen faint a ddywedodd y gigfran yn i erbyn. Mae yn sicr Efrau ymysg y gwenith, ac mae etto wlŷdd ymysg y llysiau, a Judas ymmysg yr Apostolion, a nadroedd dwfr ymysg y pyscod, Ond er hynny Gwae a wrtho­do dda am fôd drŵg wrth ei ystlys. a gwae a gam­gymmero y naill am y llall.

Eryr.

Ond ni welafi etto vn Eglwys bûr i mi i vno gyda hi: Nid oes vn yn gwneuthur daioni, nag oes vn. (ac er hynny mae vn a hwnnw meddi yw Christ.) Ond dywaid y gwîr sydd dan y llenn, Onid yw 'r Eglwysydd newyddion ymma cyn­ddrwg a'r eglwysydd plwyfol gynt?

Colomen.
[Page 70]

Mi ddywed [...]is or blaen fod llawer yn medru lleisio f [...]l col [...]mennod ac fel cigfrain hefyd. Mae yn yr eglwysydd lawer o adar eraill, mae 'r wyddwalch, a'r forwennol, a'r barcud, a'r gog, a'r gwalch, a'r dylluan, a'r gogfran, a'r biogen, a'r gornchwigl, a'r ystlym, a'r crŷr, a'r nôs frân, a'r fulfrân, Levit. 11. (a'r cyffelyb bobloedd) a'r rhai hyn wrth y gyfraith adar aflan ydynt oll. Mae hefyd ysbryd y golomen yn ei mysg yn yr eglwysydd. ond mae ysbryd y byd yn taflu cerrig atti. Act 7.51.

Eryr.

Ond beth a ddywedi am yr yscuthanod a'r cyffelyb rai sydd yn de [...]ig i chwi eich hunain?

Colomen.

Nid yw Moesen yn i galw nhwy yn a­flan, er bôd gwahaniaeth. Nid wyf finnau yn i bar­nu, Ond yn dwyn ar gôf, nad sidan yw 'r carth meinaf, [...] 12.6. Act. 26.28. Mat. 24.13. Joan 7.3. nid aur pôb dis [...]lair, Nid Gilead yw Ephraim, Nid A [...]hdod yw Sion, ac nid gwiw nofio a boddi wrth y lan, Nid gwell rhedeg a blino cyn diwedd. Nid nes dŷn er iddo gychwyn o'r Aipht a chael i ladd yn y di­ffaethwch drwy anghrediniaeth. Roedd gan Iachaw­dur y bŷd lrai ceraint yn ôl y cnawd ai gwatwarent ef, 2 I [...]n. 6. Mi ddywedais, fod Duw wedi rhodio drwy dair Teml yn barod, sef y Deml ynghaersalem o waith Sa­lomon, (a honno oedd dywyll i'r ysbryd a disclair i'r cnawd) yr ail oedd Teml corph y mâb a ddinistriwyd, Joan 2.21. ac a gyfodwyd yn ogoneddus ysbrydol; y drydydd oedd yr eglwys wych ymrhesenoldeb Duw gyda 'r A­postolion; Act 2. Dat. 11. [...] 12.14. a'r eglwys nesaf yw Caersalem newydd, yr [...]on a gynnwys ynddi yr hên destament a'r newydd, ac eiff tu hwnt i'r ddau

Eryr.

Ond (yn bennaf peth) dangos i mi beth yw 'r bedwaredd Deml, Canys mi welaf bawb a­gos wedi blino ar y temlau a'r gwasanaeth sydd etto.

Colomen.
[Page 71]

Y Deml olaf yw Duw mewn dynion yn ymddangos, Dat. 21.22 Tit. 2.13. a dynion yn ymddangos yn ei enw yn­tau, Pan fo dynion yn addoli Duw ynddo ei hunan, ac nid mewn cyfarwyddyd dynion, a Duw ei Hunan yn oll yn oll ynddynt, ac iddini. 1 Cor. 15.24. Canys hyd yn hyn y greadwriaeth a gyscododd y Creawdwr. Ond pan ymddangoso y Duw mawr fe ddiflanna y cre­aduriaid. Mae fo drwy bob peth erioed, ond n [...]d oes mo ysbrydoedd dynion ar y ddayar yn i ganfod ef etto yn oll yn oll, Rhuf. 1.24. 2 Thess. 1 10. Ond yn chwennych y wisg yn hytrach na'r hwn sydd yn aros yn­ddi. Cyn gwneuthur y bŷd nid oedd ond Duw yn ymddangos iddo ei hunan, ac wedi difa 'r bŷd ymma ni ryfeddir neb ond Duw. Rhai a wêl ei ddigofaint, ac eraill ei gariad ef byth. Y dyn na welodd Dduw mewn meddwl ysbrydol ni addolodd hwnnw mo Dduw ei hunan; Joan. 4.22.23. Ond ysbryd y bŷd mawr yn ei le ef y mae y rhan fwyaf yn i addoli. Mae 'r amser yn agos na bydd gan ddynion na goleuni, na hyfrydwch, na thywysog, na bugail, na phorfa, na thai, na thiroedd, na meddiannau, na gorphwysfa, na chy­foeth, na gwybodaeth, na bywyd, na dim ond Duw ei hunan, ac efe sydd ddigon, fel y dywaid y ddihareb. Heb Dduw heb ddim Duw a digon: A'r rhai sydd yn byw heb Dduw, ni bydd ganddynt ddim pan loscer y bŷd ymma ond ei pechodau, a'i gwewyr tra­gywyddol yn ei cydwybodau ei hunain. Am hynny edryched dŷn ar ba beth y mae fo yn gosod ei galon. llawer o demlau yw 'r achos o lawer o ymrysonau, llawer o opiniwnan a adeiladasont lawer o Demlau, Ond yn y [Page 72] diwedd ni bydd ond vn deml i'r holl rai Duw­iol, ac ni bydd yr vn i'r rhai annuwiol. Teml Duw yw corph ei fâb: Col. 2 9. Teml y mâb yw ei ysbryd an­fesurol, 1 Cor 6. (canys yn ei ysbryd ei hun y mae fo yn byw ac nid allan.) Teml yr ysbryd glân yw plant y deyrnas, ai teml nhwythau yw Duw, yr hwn yw y cyntaf a'r diwetthaf, sef yr holl yn oll. Y sawl a fynno fodloni Duw, arhosed yn ei fâb, Y sawl a fynno ddilyn y mâb, rhodied yn ei ysbryd. Gal. 5.16 Blin gan ddyn gael i ddiddym­mu ai ddiddyfnu iw ddiddanu, Ond y sawl sydd gan­ddo glûst i wrando, Gwrandawed.

Eryr.

Di soniaist am glûst i wrando vnwaith o'r blaen. Onid oes gan bawb glûst i wran­do?

Colomen.

Mae llawer o leisiau ynghalon dŷn. Mae sŵn y bŷd a'i newyddion, Zach. 2.13. a'i drafferthion, a'i bleserau, a'i ddychryniadau. Mae hefyd o'r tu fewn i stafell y galon swn meddyliau, ac anhymerau, a lla­nw a thrai cnawd a gwaed. Ac fel hyn y mae 'r e­naid truan (fel lletty 'r meddwon) yn llawn dwnn­dwrr oddifewn, y naill chwant yn ymgoethi a'r llall, Neu fel ffair neu farchnad fawr llei mae trŵst a sia­rad a bloddest yn llenwi heolydd y dref oddifewn. Dymma 'r achos na ŵyr dyn hanner ei feddyliau ei hun, ac nad yw fo yn clywed yn iawn beth y mae ei galon ef ei hun yn i ddywedyd.

Eryr.

Ond pa fôdd y mae i feddwl dyn gael llo­nydd?

Colomen.

Wrth fynd i mewn i'r stafell ddirgel a'r stafell honno yw Duw ei hunan o'r tu fewn. Esay 2 [...]. Ond trafych di yn gadel i'r meddwl redeg allan drwy 'r llygaid a'r synhwyrau, neu yn edrych oddifewn ar lu­niau a delwan y peth a welaist neu a gofiaist. Mae 'r meddwl fel Lot yn gadel ei dŷ i ymresymmu ar Sodo­ [...]iaid, Gen 19. [Page 73] nes i ysbryd Duw dy gipio di i mewn i ymddi­ddan a Duw yn stafell y galon. A thra fo 'r me­ddwl fel hyn o'r tu allan mae diafol o'r tu fewn yn [...]hwystro y meddyliau i ddychwelyd i mewn i Dduw: ac felly mae 'r enaid [...]ruan yn rhodio oddicartref, Ezec. 6 9. yn gweled, ac yn chwennych y naill beth a'r llall oddi allan, heb weled pa fath Dduw sydd oddifewn. Ac yr aw­ron (O Eryr) Gâd i mi ofyn i ti. A wyt ti yn go­fyn, ac yn dywedyd pôb peth (dybygi di) o eigion dy galon?

Eryr.

Mae 'n erbynfy ewyllys i etto ddangos fy holl feddwl i nêb.

Colomen.

Ond Gosod at dy galon, nad oes dim dirgel, ar na fydd amlwg, Luc. 12.2. Job 34.21.22. Canys mae pôb peth o flaen wyneb mawr golau Duw ai Angelion, a cher bron milioedd meddyliau 'r gydwybod. A'r hyn a sissier yn y glûst a bregethir ar bennau 'r tai ynghanol y marchnadoedd. Yr hyn a feddylio dŷn wrth orwedd ar ei welŷ a gyhoeddir yn y ffurfafen. Esay 29.15. Er cynted y dyweder gair mae fo wedi i brintio yn yr awyr, ac mae 'r angelion yn i ysdyn ef i'r bŷd arall (yr hwn yw 'r naturiaeth nesaf yn dy gymydogaeth. Preg 12.14.) fe ddaw i oleu­ni disclair yr holl ddirgel ddychmygion, a'r llen gyng­horion, a phôb bryntui cornelydd, a difyriad cnawdol, a llofrudd a lledrad a llechiad ffalster, a thywyllwch, a phôb gair segur (fel y clywaist di) i'r farn. Ond ni all dŷn roi cyfrif am vn peth o fîl, or hynny rhaid yw rhoi cyfrif. Deall di hefyd fôd pôb peth ynddo ei hun yn eglur yn barod, nid oes ond cnawd, ac amser a mesur daiarol yn rhwystro i'r naill wybod meddyliau 'r llall, a phan dorrer y rhain, fe gaiff pawb weled y symudiadan sydd oddifewn. 2 Cor. 5.10. Ac yno fe gaiff pawb glôd neu gywilydd o enan Duw.

Eryr.

Ond er hynny Mae llawer peth a ŵyr [Page 74] dŷn na ddyle fo moi ddywedyd, a llawer gwir drŵg i ddywedyd.

Colomen.

Gwir yw. Am hynny na ddywaid air wrth neb oni bydd iw lês. Eph. 4.29. Col. 4.6 Pam y troit dy dafod yn ofer mewn lleferydd yr hwn a roddwyd i ti, ac nid i anifail? Ond er cyfrwysed a fo dyn, cofied a chan­fydded fôd y bŷd yn gweled peth, a'r angelion lawer, a'r gydwybod fwy, a Duw yn gweled y cwbl ar vn­waith.

Eryr.

Ond pa fôdd y gall vn ganfod y cwbl ar vnwaith?

Colomen.

Di weli fôd yr haul yn edrych ar yr holl wlâd ac ar bôb peth ynddi ar vnwaith, Psal. 19.6. mwy o lawer y cenfydd yr hwn a wnaeth yr haul heb yr haul. Oni chlyw yr hwn a wnaeth y glûst (heb glûst?) Ac oni wêl yr hwn a luniodd y llygad heb ganwyll y llygad cnawdol? Psal 94.9. Ped fai dŷn yn canfod fôd y Barnwr mawr yn gweled ei holl feddylian ai drofcŷdd ai lwy­bran oddifewn ac oddifaes, ni pheche efe byth. Ond mae Luciffer yn cadw mwgwd y cnawd ar lygaid meddylian Dyn, na chaiff ef ganfod mo hono ei hun nes i bôd hi yn rhŷhwyr.

Eryr.

Ai rhŷhwyr vn amser i ddyn wellhau?

Colomen.

Mae 'n rhywyr i lawer y foru. Am fôd Heddiw yn rhŷ gynnar ganddynt. Zep. 3.2.3. Ar Sawl sy'n troi, Esay 65.1. sy'n dychwelyd weithiau heb wŷbod iddo ei hun. Cafwyd fi (medd y Goruchaf) gan y rhai nim ceisiasont.

Eryr.

Beth os caledir calon dyn heddyw, onid yw yn rhyhwyr iddo geisio troi y foru?

Colomen.

Y Sawl a galedir vnwaith drwyddo, ni chais ef byth yn iawn ddychwelyd, Heb 3. nes i fôd ef yn y pwll o'r hwn ni ddaw nêb allan byth.

Eryr.

Ond pa fôdd y caiff dŷn adnabod dydd ei [...]echydwriaeth.

Colomen.
[Page 75]

Tra fo 'r adar yn canu, Tra fo 'r felin yn troi, Tra fo 'r gwynt yn chwythu. Tra fo 'r hay­arn yn dwymyn, Tra fo 'r awr hon yn parhau. 2 Cor 6.2 Tra fo 'r meddwl yn ymgeisio, Tra fo 'r gydwybod yn rhybu­ddio. Cyn diffyg yr anadl, Cyn can porth y ddinas, Cyn hedeg or enaid, Cyn torri or edef, Cyn cwympo 'r pren. Cyn caledu 'r ewyllys. Cyn serio 'r gydwybod, Preg 12. Cyn di­ffodd y ganwyll. Cyn passio y farn, Cyn i heddyw ddar­fod. Cyn i'r munud ymma fyned heibio. Dychwelwch O blant Dynion. Pa bŷd yr oedwch gymmeryd bywyd?

Eryr.

Mae llawer yn Sôn am gael i dal ai cym­meryd ar awr dda. Onid oes awr dda i bôb vn oddiwrth y Planedau?

Colomen.

Mae 'r Planedau yn rheoli y meddwl anifeiliaidd cnawdol nes iddo fynd allan or corph oddi tan yr haul. Ond mae 'r dyn difrif ysbrydol vwchlaw 'r holl blanedau yn ei feddwl yn barod, Job 38.33 er bôd ei gorph ef etto fel anifail. Ir dyn cyndyn nid oes vn awr dda, nag ir dyn nefol vn awr ddrwg.

Eryr.

Ond mae ein Henafiaid ni wedi dangos i ni yn y gwrthwyneb, ac mai da yw ymgroesi.

Colomen.

Nid gwiw croesi 'r talcen, pan fo 'r ysbryd aflan yn y galon. Mae arwydd y groes yngha­lon y dyn ffyddlon, yn croesi ei chwantan ac yn llâdd ei natur lygredig, Gal. 6.14. ac yn newid ei feddwl dyna 'r Groes sy'n achub dyn rhag pôb drwg. Ond Deall nad iw 'r dyn sy'n ofni Duw yn ofni 'r planedau (mwy nag y mae vsdus ar y faingc yn ofni y rhai sydd dano) canys mae 'r dyn duwiol yn rheoli pôb peth yn yr ysbryd gyda Duw ei hun. Hos. 11.12. & 12.3. Dan 3.16. Ond mae 'r dyn arall yn ofni ei gyscod yn fwy na Duw, am nad yw fo yn gweled drwy ffydd mor Goruch [...]f.

Eryr.

Ond Beth a ddywedi di am y Dewiniaid a'r dewiniesau? Oni wyddant hwy lawer peth dirgel?

Colomen.
[Page 76]

Deut. 18.10.11.13.15. Os ymroi a wna rh [...]i i ddiafol, fe ddengys iddynt yr hyn a ŵy [...] (gan ddyscu ei blant mewn malais a drŵg) Ond ni wyr ef ei hun mor holl gospedigaeth sydd i ddyfod arno, Am hynny mae fo yn crynnu. Jac. 2 19. 1 Joan. 5.18. O'r tu arall, y rhai sydd yn ymroi i Dduw a gant i dyscu ganddo, ac ni all yr vn drŵg gyffwrdd a hwynt, am ei bôd mewn bŷd vchel (mewn naturiaeth arall) yn rheoli gyda 'r Oen, ac yn barod i farnu dynion ac Angelion. O Gwyn ei bŷd sydd wedi cael yr adgyfodiad cyntaf, Dat. 2.11. canys ni all pyrth vffern ymhel ar rheini.

Eryr.

Gwyn ei bŷd yn siccr. Ond mae arnai ofn fy môd i etto dan draed naturiaeth cnawd a gwaed.

Colomen.

Dymma 'r amser i ti i ymgodi i'r vchel­deran, 2 Cor. 6.2. ac i ddiangc rhag y gelyn wrth redeg dan gro­es Christ. Dymma 'r dydd i dorri drwy 'r cwbl; Dymma 'r awr i fôd yn ddedwydd. Ac ô na bai pawb yn gweled ei tymmor, ac yn parato [...] erbyn y nôs a'r gayaf sydd yn dyfod; Jer. 8.7. Esay 1.3. Mae 'r wennol ar cyffylog yn adnabod ei hamser, a'r ŷch yn adnabod ei feddian­nudd, ond mae dyn yn ffolach na'r assynnod gwyll­tion.

Eryr.

Rhaid i ti ddangos yn helaethach pwy sydd ddedwydd, a pha rai sydd anedwydd. Canys mae llawer mâth ar bobloedd a galwedigaethau. Beth hefyd a ddywedi di am y Pysygwyr, ac am y Gwŷr o gyfraith? Di soniaist am lawer math o rai eraill o'r blaen.

Col.

Mae 'r pysygwyr yn llâdd llawer corph dyn drwy ei hanwybodaeth, neu o chwant arian (fel y mae llawer pregethwr yn llâdd eneidieu:) Ond mae 'r Py­sygwŷr yn helpu rhai drwy rôdd Duw. Os clâf wyt ti, Dos yn daer at Dduw; hefyd cais gan y rhai sydd [Page 77] yn y ffydd ar ffafr nefol weddio drosot ti. Iac. 5. Ac os cynghora Duw di, Dôs wedi hynny at y Pysygwr. Ond na ddôs atto fo yn gynt af rhag cael dy droi ym­maith yn ddiobaith. Ac am y Cyfreithwyr, Cofia mai fel ac y mae pysygwr ffôl yn llenwi 'r fonwent yn llawon gyrph meirwon, a'r pregethwr aneallus yn llen­wi 'r Eglwys ac opiniwnau gweigion, felly y mae 'r cyfreithwyr annuwiol yn llenwi 'r gymanfa ac ymry­sonau trawsion. Ac fel mai gorau cyfraith cytundeb, felly gorau ffordd yw dioddef cam, a bôd yn isel ac yn addfwyn. Mat. 5.39.40. fe ddioddefodd Duw fwy o gam ar dy law di nag yr wyti iw ddwyn oddiar law dy gymy­dog.

Eryr.

Ond os goddeddaf fi bôb peth, Mae dy­nion mor anrhesymol, Nhwy dynnant fy llygaid i o'm pen o'r diwedd.

Colomen.

Disgwil am gyfiawnder nid oddiwrth ddynion ond oddiwrth Dduw, ac di ai cei yn ddiammau. Ps. 98.9. Mae 'r amser yn agos iawn yn yr hon y caiff pawb ei eiddo. Nid yw 'r cam y mae eraill yn i wneuthur a'th­di ond fel pigiad chwanneu wrth y cam ar gorthrym­der yr wyti yn i osod ar wddf dy enaid dy hun. Cofia hynny cyn mynd i'r gyfraith er dim. O mor chweinllyd anioddofgar yw llawer? Mor barod i'r gyfraith? mor amharod i'r efengil? yr hon a ddysg ddyn i roddi ei gochl i'r Sawl a ddycco ei fantell cyn cynhennu: Ca­nys gwell yw dioddef y cam mwyaf, na bôd yn y gyn­nen leiaf. Ond bôd fel oen mûd dan law y cneifwyr, a mudan gwirion byddar ym mysg y cyhuddwŷr. Esay 53 7.

Ond gwae chwi 'r cyfreithwyr, mae cyfraith a'ch yssa: Gwae 'r cynhennus mewn gwlâd, Iac. 3.16. Pentewynion vffern ydynt. Gwae chwi Bysygwyr llofruddiog, mae llawer o'ch wedi mynd i'r lan arall yn eich erbyn. Iob 20.15. Gwae chwi wŷr trawsion yn llyngcu cyfoeth, Rhaid [Page 78] i chwichwdu'r cwbl gyda'ch gwaed eich hunain. Psal. 10.9.10. Job 14.9. Gwae chwi yr vchelwyr drwg ei siamplau, yn llusco y tlo­dion ar eich ol i ddestryw. Pa fodd y rhowchwi gy­frif am eich tenantiaid truain? Beth a ddaw o ho­nochwi pan dorrer a phan loscer pôb peth vchel? Esai 2.12. Math 3.10 Gwae bob pren mawr a phob pren bychan ar nad yw 'n dwyn ffrwyth da. Mae 'r tân wedi ennyn ynghymrn, Mae drws dy fforest di (o wlâd y Bruttaniaid pre­sennol) yn agored i'r eirias dân. Zach. 11.1. Ac hefyd mae 'r fwyall ar dy wreiddyn di Oni ddygi yr awron ffrwyth da, Preg. 11.8.9 Job 11.11. fe a'th dorrir rhag bôd yn bobl. A Gwae chwi 'r oferwyr, sy'n gwario ei hamser, ai hiechyd, ai harian, ai meddyliau tragwyddol mewn oferedd Gwae di la­furwr anwybodus. Job 24.5. Dy holl waith yw cloddio 'r dday­ar ai thrin, a throi 'r anifeiliaid yn y mynydd, ac nhwy a gymmerant i troi gennit ti, Am hynny tystion ŷnt yn dy erbyn. Dih. 6.13.15. Gwae di Ddarllenwr cyfrwysddrwg, yr hwn wyt yn chwilio llyfrau i ganfod llunian neu fei­au. Math. 23. Fe genfydd y Gwirionedd dy feiau di ac a'th far­na. Gwae di Ragrithiwr yr hwn wyt yn ofni golwg dyn. Nid wyti yn ofni pechu yn y dirgel, Di gei dy farnu yn yr amlwg. Gwae di Gardottyn heinif segur­llyd, na fy [...]ni weithio er llês i nêb. Llês ni cheisi, llês a golli. Dih 19.15 Dih. 6.10. Gwae di gydwybod gysclyd yr hon (fel ci mûd) wy [...] yn bradychu dy berchennog, mae amser hîr i ti i vdo. Jag 5.5. Jer. 51.39 Gwae chwi sy'n ymgyrchu ir dyrfa (yn hoyw eich ysbrydoedd) yn bwytta siwgwr chwant y cnawd yngyrfa diafol, ac yn carowsio eich eneidiau. Ar fyrder ni bydd defnyn o ddwfr i ti iw gael i oeri blaen dy dafod. Amos 4.1. Mic 3.3. Gwae chwi foneddigion drwg sy'n llyfu chwŷs y tlodion, yn peri ich tenantiaid ochneidio, ac yn torri ei hes [...]yrn. Mae amser eich gwasgfa chwi yn pryssuro heb oedi. Gwae chwi offeiriaid mudlon yn caru llwynogod, yn cyfarth defaid, cŵn deillion [Page 79] chwerwon, beil [...]hion, diog, gwang [...]us chwrnllyd, Esay 56.11 cys­glyd, llydlyd, dr [...]wllyd F [...] [...] troir chwi oll allan or eglwys. Jer. 23. Math. 5 Z [...]ch 10 1 Psal 1.3. A gwae chwi holl hên Gymru ydd etto heb i hadnewyddu. Ond Gwyn eich byd chwi sy'n h [...] ­raethus am Dduw, chwi gewch eich llenwi ac fo ynddo iddo. Gwyn [...]ich [...]yd chwi rai diwy [...] ffyddlon parhaus, c [...]wi a gewch fendith ar eich gwaith. Jer. 29 13 Gwyn ei byd y Gweddiwy [...] diragrith, nhwy a gant i gwran­do bôb amser. Gwyn ei byd ai gwadant ei hunain, Mar. 4. ni wâd Duw mo honyot. Gwyn ei bŷd a gywir hauant we­nith Duw, hwy gânt fu ynhau crwd ysbrydol. Gwyn ei byd y rhai ysbrydol, Psal. 25.14 canys gyda nhwy y mae cyfri­nach Duw. Gwyn ei byd y gwiliadwrus, ni chaiff diafol afel arnynt. Psal 27.14 Galar. 3.26 31. 2 Tim. 1.12. Gwyn ei byd y disgwilwyr di­staw, fe ymwêl yr A [...]glwydd Iesu a hwynt. Gwyn ei byd y rhai a ddioddefant dros yr Oen, gyda 'r Oen y teyrnasant. Gwyn ei byd y rhai a ddihunwyd ac a ddi­hun-anwyd, Byw a wnant yn Nuw ei hunan. Gwyn ei byd a barhânt hydydiwedd mewn daioni, 1 Joan 3.24. Dat 2.10. Esai 57.17 Phil 2 15. 1 Joan 2.12.13. Anrhaeihad­wy yw ei cyflog hwynt. Gwyn ei byd y llê [...]g gostyngedig torredig ei calonnau, canys ynddynt hwy yr erys Duw. Gwyn ei byd y diniwed, ni all neb i niweidio. Gwyn ei byd blant bychain Duw, mawr yw ei ofal am danynt. Gwyn fyd weision grymmus y Tâd, eisteddani i u li­dda, ar Oen ai gwasanaetha. Gwyn ei byd y rhai bod­lon dioddefgar, nid oes dim a all i cythruddo. Gwyn ei byd a arhosant yn isel nhwy a godir yn vohel, Gwyn ei byd a nofiant yn erbyn ff [...]ŵd naturiaeth, nhwy ddônt i'r môr llei mae 'r ysbrydoedd sanct aidd. Gwyn ei byd a wnelout bôb daioni ar a wypont, Joan 7.17. nhwy gânt wybod a fynnont, a nerth newydd fel E [...]yrod. Gwyn ei byd a rodiant gyda Duw (fel Enoch) Duw ai geilw ac ai derbyn o fysg dynion. Heb. 11.7. Gwyn ei fyd y meddwl pûr llonydd, Math. 5.8. fe edwyn hwnnw Baradwys a phren ybywyd. Gwyn ei fyd a ymprydio oddiwrth [Page 80] gnawdoliaeth, fe gaiff fwytta Manna Duw. Gwyn ei fyd a wrthodo holl bleserau 'r cnawd, efe a ŷf o afon Duw. Dat. 21 [...]7 Ac (mewn vn gair) Gwyn ei fyd yr ai­lenedig. Hwnnw a anwyd i etifeddu pôb peth. Duw fydd yn Dâd iddo, ac yntan yn blentyn anwyl i Dduw. Yr oen sydd ei oleuni, ac yntau fydd oleuni yn yr Arglwydd. Dat 7 17. [...] 5 Rhuf 8.28 Ni all dim i ddrygu, ond pôb peth a gŷd­weithiaer lles iddo. Pan na allo ddalei afael ar Dduw, fe ddeil Duw ei afael ar ei hâd ynddo ef. Fe gaiff or­phwys byth ynghalon Duw (yr hon yw ei fâb) pan fo llawer eraill byth yn ffrio ar y llechan duon tanllyd, yn farw heb fyw, yn fyw heb farw yn dragwyddol. Ond ni all yr ail angau niwed i'r ailenedig, ac nid oes dafod angel a all gyfrif yr holl drysorau sydd yn­ghadw yn Nuw cyn dechreuad y bŷd i'r enaid hwnnw. Ond efe ai cenfydd ac ai caiff, 1 Cor. 2.9. ai waith ef fydd i cy­frif ai mwynhau yn dragwyddol. Wele 'r awron, Dymma 'r felldith a'r fendith. Wele dymma fynydd Ebal a mynydd Garizim. Dymma angau ac fel dy­ma fywyd. Dewis di (o ddyn) fywyd ac nid angau.

Eryr.

Dywaid i mi. Pa fodd y cymmerai afael ai y bywyd?

Colomen.

Mae 'r addewid yn perthyn i ti wrth dy henw os cedwi afael ynddi. Dy enw di (wrth natu­riaeth) yw, Drygddyn, Anuwiol, y pechadur ffiaidd, creulon, 1 Tim. 1.13. Rhuf. 4 5. Dat. 3.17.18. Carcharwr, Dall Byddar, lr rhain wrth ei henwan yn yr yscrythur y mae gair yr addewid Ye er bod yr enaid yn wann heb allel cymryd gafael ar y cyfammod, fe gymmer cyfammod Duw afael ar yr enaid. Mat. 12.21 Canys yn enw 'r mab y Caiff y [...]enhedloedd ymddiried. Ac os dywedodd ef y Cai di lynu yn y mab. Beth er dywedyd or gelyn na chai di? Nid gair y ge­lyn a Saif.

Eryr.
[Page 81]

Attolwg Dangos i mi, Beth yw 'r cyfam­mod newydd?

Colomen.

Cytundeb rhwng Duw ai fâb dros ddyn, a rhwng Duw a dyn drwy waed yr Oen. Cariad yw Duw ac Ewyllys da at ddyn. Joan 4 10. Rhuf. 5.8. Ac er darford i Ddyn i adel ef, a dewis y cythrel yn dywysog iddo yn ysbryd y bŷd mawr ymma, etto fe a glywodd Duw arno gym­ryd i fâb (ai galon anwyl) oi fonwes, ac fe ai rho­ddodd i farw (fel gwenhithen yn y ddayar i borthi llawer. Rhodd fawr anrhaethol yw Christ, Joan. 12.24. Rhuf. 8.32 Esay 55.1. a rhodd fawr yw llaw ffydd iw dderbyn, Ni all neb i phrynnu ond fe all y tlottaf i derbyn. Llawer a ddyn edir yng­hylch y cyfammod newydd, ac am hynny ni ddywedafi ond hyn yr awron. Can. 2.16. Mai drwy rinwedd hwn y mae 'r pechadur yn eiddo Christ, a Christ yn ei eiddo yntau: mae Duw yn ymroi drwy Ghrist i ddyn, a dyn yn rhaid iddo ymroi drwy Christ i Dduw. Ac felly mae pôb peth ar sydd gan Dduw (oll yn oll) yn eiddo dyn, ac eiddo dyn pechadurus, sef ei holl ewyllys ai feddyliau yn eiddo ysbryd Duw. Joan 17.6.10. Eiddo fi (medd y Tâd wrth Christ) yw 'r eiddot ti. Ac medd yntau wrth y pe­chadur, Eiddo fi yw holl eiddo 'r Tad, ac eiddo ti yw fy eiddo fi, am heiddo fi wyti o ddyn. Myfi a'th bryn­nais. Rhaid i mi dy gael a'th gymryd. A rhaid i ti­than gael ffydd gennifi i'm cael ac im cy [...]ryd innau. Dyma swm y cyfammod newydd.

Eryr.

Ond beth yw 'r ffydd ymma y sonir am dani?

Colomen.

Ysbrydoliaeth ryfeddol, Eph. 2. [...]. Joan. 20.28. 1 Pet. [...].2 [...]. nid yn [...]ig i gredu mai 'r Jesu yw Christ, Ond hefyd mai'r Christ ymma yw anwylyd a Brenin a Bywyd dy enaid ti: a darfod i'r Jesu farw drossoti i fyw ynoti, ac ith ddwyn yn ddi [...]ed at Dduw i'r gwreiddyn yn y drindod ne­fol, or hwn yr ehedodd dyn allan drwy gwymp Adda. Pan fo 'r enaid yn canfod hyn iddo ei [Page 82] hun, ac yn cynnwy hyn y [...]ddo ei hun, Dyna ddyn yn [...] y [...]hydig. [...]na ganwyll yn dechrau go­l [...]uo. Ni d [...]iff [...]ddir moni.

Ery

Ond [...]m yr wyti mor fynych yn dywedyd mai Christ yw calon Duw 'r Tâd?

Colomen.

Am mai ef yw bywyd, a dirgelwch, a doethineb ac anwylyd a c [...]yntaf a diwaethaf, Joan. 1.18. 1 Cor. 1.24. a phen­naf ei Dâd (fel y mae calon mewn dyn.) Ac nid oes yn ei galon ef ond ewyllys da tnag at bawb, heb ewy­llysio fôd neb yn golledig. Er hynny pan wnelo dyn ddywg yn erbyn Duw mae fo yn barod i feddwl yn ddrwg ac yngaled am Dduw ac nid am dano ei hun, fel ped fai 'r Goruchaf er bai ac nid dyn.

Eryr.

Er i ti ddywedyd mai da yw Duw, nid wyfi yn credu nad oes digter ynddo tuag attaf fi?

Colomen.

Psal. 99.8. At dy gnawd y mae digter, (a gwir yw hyn) Rhaid i ti adel iddo ddifa dy gnawd, rhag ith gnawd ti ddifa dy ysbryd, Ond at dy ysbryd nid oes ond cariad. A oes dim tywyllwch yn yr haul? neu eisiau ar berffeithrwydd? A wnaeth Duw ni­wed i ti erioed? Job 36 23. Ond oddiwrtho ef y cefaisti hôb dai­oni? Exod. 34.6.7. Ond efe a'th achuhodd di oddiwrth lawer pe­rigl? Ond hîr y cŷd-ddygodd ef a'th di, er i ti bo­eri dy bechod beynydd yn ei wyneb ef? Ond efe a ro­ddes y hŷd ai bobl ai fab ai fibl o'th flaen di, a llawer rhybudd cariadus i ti? A [...]yti (wedi 'r cwbl yn tybi­ed mai meistr caled yw? Nid yw fo yn ceisio genit ti ddim ond y peth sydd dda ar dy lês dy hunan. B [...]rn. 13.23. Dywaid dithau fel y dywedodd gwraig Manoa. Pe buase Duw ar fedr ein lladd ni, ni buase fo yn gwneuthur cymaint drosom ni. Nid amser yw hi yr awron i ddigalonni. Wele, mae 'r dydd yn codi yn ddis­clair, ar Seinctiau yn gwe [...]ddi Hallelujah, ar pechaduriaid yn deffroi, ar anifeiliaid drwg yn [Page 83] rhedeg iw llochesau, ar blodau yn tarddu, ar haf mawr yn agos. Cyfod tithau i fynu yn galonnog, Ro­edd gan Dduw feddwl da attat ti pan ordeinie ef i ti gael byw yn y fath amser a hwn. Ni wyddost [...]i nad oes gan Dduw ddefnydd mawr mewn cariad iw wneu­thur ath di yn dy genhedlaeth. Gwîr yw y mynnai Diafol i ti feddwl yn ddrŵg am Dduw (i fôd ef yn dy gashau di,) fel y mae fo ei hunan. Ond Cofia i Dduw gymryd gafael nid ar natur angelion ond ar natur dynion, yn Hâd Abraham ac nid yn had Luciffer. Heb. 2.16. Dywaid ti yn dy galon. Drwy nerth Christ tra fydd­wyf byw, mi feddylia 'n dda am Dduw. Job 13.15 Er iddo fy llâdd i, mit a lynaf wrth ei draed ef. Ac os daw meddwl i mewn fel pellen danllyd oddiwrth ddiafol Tafl hi yn fuan allan eilwaith at ei thâd, ac yno nid dy eiddo ti ond eiddo 'r gelyn yw 'r fath fead liau di­ffaith ar rheini, nid yw Satan ond fel Ceil ag gydd. Gwrthwyneba fo yn dy galon, Jac. 4 7. ac fe a ddia [...]gc oddi­wrthyt. Swm dy holl ddled ti yw meddwl y [...] dda am. Dduw, ac yn ddrŵg am dy feddwl dy hunan, canys daioni yw ef, a nŷth drygioni wyt tithau. G [...]na hyn nes i ti garu Duw yn anwyl ddigon, ath gashau dy hu­nan yn anghymodlon fel y dylit.

Eryr.

O [...]d yr wyfi yn clywed beynydd i yw sŵn ynof, Mai cyfiawn yw Duw, mai cyfy [...]g yw 'r porth nefol, mai colledig yw 'r rhan fwyaf▪ mai aml yw y rhagrithwyr, Mai an [...]ml yw addolwyr y Tad, mai taer yw 'r gelyn, Mai diarfog yw dyn, Mai my [...]ych y cwympais i fy hunan, Mai digymma [...] yw fy mhechod, ac mai cant i vn y cai fŷth fod yn gadwedig.

Colomen.

Dymma 'r atteb. Wele mae 'r drŵs i'r bywyd yn agored etto. Na fydd ddiofal. Esay 65.1.2. Di elli etto fy­ned i mewn i'r plâs gogoneddus tragywyddol. Mae [Page 84] gwâedd oddiwrth Dduw drwy 'r holl wlâd yn gwahadd pawb i mewn er trymmed yw ei pechodau ac er [...]led fu ei cw [...]mpiau. Mat. 11.28. A phan ddelych yn dy ewyllys i mewn at Dduw, fe a rydd i ti arfau i ymladd ar sarph, ac a'th wna di yn daer i dynnu i lawr wrŷchoedd gardd y cythrael ynoti ac yn y bŷd. Eph 6. Ac fe a ddysg i ti addo­li 'r Tad ei hunan yn ei ysbryd ai wirionedd ei hunan, Joan. 4 24. drwy garthu allan y rhagrith ar ffalsfeddwl, Ac yna di gei ŵybod dy fod ti mewn cyflwr cadwedig, wedi myned drwy 'r porth i mewn i gyfiawnder Duw 'r hwn sydd eiddo pôb vn [...]r sy 'n nefol gredu efen­gil Duw. Rhuf 3 Canys nid o ddyn ond o Dduw y mae iechydwriaeth.

Eryr.

Mae hyn yn gyssurus iawn, ond er hyn­ny mae rhyw peth o'r tu fewn yn fy llâdd i. Beth a wna y [...] colled [...]g? A oes dun help iddo?

Colomen.

Hos 6 1.R [...]aid yw dy ladd di cyn dy iachau, a'th goll [...] cyn dy gael. A fel y daeth Immanuel o vwchder nef i wnelod vffern, felly i swydd ef yw codi llawer a wael [...]d Gwae i vwchaer Gwynfyd. Mi ad­waenwn vn [...] daeth Diafol atto, gan ddywedyd. Co­lledig wyt yn [...]au a atteb [...]dd. Gwir yw hynny. Ond (ebr ef) Gwir yw hyn hefyd. dd [...]fod Christ i gadw 'r colledig. Dal d [...] afael ar yr edef honno. fe gostiodd i Ghrist ei fywyd i nyddu [...]i i gadw dy fywyd ti. Ca­rwr y pechaduriaid pennaf yw 'r Arglwydd Go­ruchaf. Mar. 2.17.

Ac os coch fel scarlat yw dy bechodau, Esai. 18. M [...]l. 3. efe ai gwnn yn wynnach nar eira. Mae ei ysbryd ef megis sebon y golchyddion yn carthu allan y llwgr dyfnaf. Ac fel y mae 'r mab yn rhad felly mae 'r ysbryd hwnnw yn rhâd hefyd. Ps. 51 12. Lu. 11.13. Gofyn ac di ai cei. Hwn a esyd yr olaf yn gyntaf ar bryntaf yn lanaf. Hwn a gymer wiail newyddion i'th geryddu di (yn dy gydwybod) a­llan [Page 85] o honot dy hunan. Ni [...]yn ef i ti fod yn vn or bast [...]diaid, ond yn vn o wir hili [...]gaeth Duw; Heb. 12. ac er mwyn hynny mae f [...] yn dy geryddu. Ac er cynted vnwaith y gwelych di waelod vffern dy galon dy hun, ac vwchder cariad Duw, a rhyfeddodau Paradwys, a chanfod Beth wyti, Beth a fuost ti, a Beth a fyddi di byth, ie meddaf pan ymglywech vnwaith ac eli ac olew serch mwynaidd y Duw tragywyddol yn iachau briwiau 'r galon ar gydwybod y [...]a di weiddi allan. Ps. 147.3. Ha­llelujah: Moliant Duw a leinw 'r hollfyd; pwy sydd debig iddo? Iddo fo bo 'r moliant. Duw a doddodd fynghalon galed i, ac am dyscodd i yn siriol i g [...]nu iddo gydai holl seinctian mewn ysbryd a nerth. Psal. 40.2.3. Dew am carodd, Duw am cofiodd, Ceisiodd, ca­fodd, cadwodd, cododd. Haul fy mywyd drwy farwolaeth, ffynnon fy ysbryd: Swm fy hiraeth, Gwreiddyn bŷd, a phen angelion. Tâd fy Ar­glwydd Carwr dynion. Ac o hono, drwyddo, iddo, mae pôb peth: Pwy all i chwilio? Psal. 2.11. 1 Pet. 5.8. Ond pan sych di llawenaf fel hyn ym mharadwys Duw, yno Gochel fwyaf rhag i'r Sarph genfigennus ddyfod attat a dy­wedyd wrthy [...]. Di elli yr awron fôd yn ddiofal. Mae pôb peth yn dda. Gollwng i mewn dy chwantau cyfreithlon naturiol ynot i ymgymmysgu ar deisyfi­adau nefol, ac wrth hynny (medd y sarph) di gei 'r ddau ynghyd.

Ond dymma 'r gwir, Psal 30.6.7. Hos. 2. Jac. 4 4. Wrth hynny di golli 'r ysbryd pûr ar golomen, ac yn i le fe ddaw 'r gigfran i mewn, a'r llu o feddyliau duon amheus, anfodlon, tymhestlog, ac yno Rwyti yn cwympo oddiwrth dy gariad ath bri­od cyntaf ac megis yn colli dy fywyd ath oleuni nwyl ac yn putteinio yn dy feddwl gydag ysbryd mawr y bŷd hwn, yr hwn hefyd sydd yn chwennych dy enaid tithau iw feddiant. Ni bu ddyn anllad erioed yn chwennych [Page 86] morwyn brydferth, Jac 4 4. cymaint ac y mae ysbryd y bŷd hwn yn chwantu dy enaid di, Canys fe ŵyr bywyd na­turiaeth i Dduw wneuthur dy ysbryd di ar ei lun e hu [...], i fod yn forwyn iddo ei hun. ac na ddylit ti ymly­gru gydag vn creadur. Ac am hynny os cefaist ti vn­waith flas ar air Duw, Heb 6. Gochel i golli, a mynd yn but­tain [...]n dy feddwl i chwantau diafol, ar cnawd brwnt, ar bŷd byr ymma.

Eryr.

Ond beth os cwympa dyn oddiwrth y go­fal ar hira [...]h ar cariad cyntaf? A oes dim gobaith o hwnnw?

Colom.

Coded hw [...]nw yn fuan. Cofied mai gwêll yw bod ymmreichiau mab Duw nag ymdrybaeddu yn y cnawd. Hos 2 7. Ezec. 16. Gochel galedu dy gydŵybod wrth i my­nych dwym [...] ai ho [...]ri, Mae dy reswm di (ô Ddyn galwedig fel neuádd wedi i h [...]scubo ai threfnu ai goleuo, Luc. 11.24 2 Pet 2.20. Gw [...]l [...]a rhag i sa [...]h ysbryd naturiaeth ly­gredig ddyfod i mewn eilwaith, rhag ir diwedd fôd yr waeth na'r dechrau; Drŵg ac erchyll yw dechreuad pechad [...]r wrth i eni [...]r bŷd, ond mae diwedd rhai yn w [...]eth wrth i geni or bŷd. o cymmer ofal rhag i'th g [...]yll dd [...]f [...]dd [...]r y dda [...]ar, rhag na bo goleuni ynot i dda [...]g [...]s i [...]i i ba le yr ei di wrth farw. Psal. 13 3. 1 Cor 1 [...].13 Dat 2 25. Ond bydd ŵrol; [...]ynydda mewn gwyb [...]d [...]eth a gostyngeiddrwydd a hyfdra gyda Duw. Dal y daioni a gefaist. Gâd ir hedyn mw [...]dard hedeg a thyf i ynot. Cadw allan y drŵg, a Gwa [...]dda am help, ar Achubwr a nesha attat. Co­fia weision Duw gynt, er amled oedd ei gwendid yr cedd ei meistr yn rhoi henwau parchedig arnynt. Sef, Noah berffaith, Abraham ffyddlon, L [...]t gyfiawn, Job ddioddefgar, Davydd llun calon Duw, Jonah y pro­phwyd, a Moses addfwyn (yr hwn pan ddigiodd seithwaith fe a bechodd vnwaith.) Am hynny, ymdaro di yn lew ar gelyn yn nerth yr Oen. Cymmer [Page 87] gleddyf llym angau Christ i ddarnio 'r Sarph, ac i lâdd yr hên ddyn ynot. Os cwympaist, Cyfod, Ac os codaist Gochel gwympo. Nid rhaid i ti ymgadw rhag dim ond rhag y Pechod yr hwn yw gelyn Duw, a gesail diafol drwy 'r hon y mae fo yn cymryd gafael ar y meddwl.

Eryr.

Adolwg Dangos i mi yn eglurach, pa beth yw pechod.

Colomen.

Pechod yw troseddiad y gyfraith, 1 Joan. 3.4. Am­huredd y creadur, croesineb naturiaeth yn erbyn Duw. Gwrthwynebrwydd iw ewyllys sanctaidd ef. Esay 55 2. Pechod yw pan fo 'r meddwl yn chwilio am fodlon­rwydd lle nid y iw gael. Rhaid yw deall mai drwy bechod Adda y torrwyd naturiaeth yn ddawnau, ac mae Duw drwy 'r darnau hyn (sef drwy bôb peth) yn Bôd. Lu. 15 16. Ar pechod yw ceisio dedwyddwch yn y darnau hyn ond nid yn Nuw. Mae 'r dŷn glwth yn chwilio am y daioni mewn bwyd, Phil. 3.19 ar meddw mewn diod, ar balch mewn dillad neu ddoniau 'r meddwl. Hefyd mae 'r gwryw ar fenyw yn tybied fôd y per­ffeithrwydd yn y naill y llall, ac yn mynd drwy frynt­ni (o flaen wyneb golau Duw) yw geisio, ond yn lle i gael yn cwympo illdau i ffau y cythreuliaid. Canys nid mewn vn creadur, nac yn yr holl greadwriaeth y mae 'r trysor ar blodeuyn Daioni. Job 28. Mae 'r wybren ar ddai­ar, ar môr yn llefaru, Nid yw ynom ni. Mae 'r def­nyddiau ar dyfnderau, ie ac amser hefyd yn dywedyd. Nid yw ynom ninnau. Di elli gael y rhain heb gael Daioni, er i fôd ef yn ymguddio drwy 'r cwbl ym mhreswyliwr tragywyddoldeb. Mae chwantau 'r me­ddwl fel saethau, Pôb vn ar sy 'n mynd heibio i Dduw pechod wy: ô mor aneurif iw 'r rheini? Ac ni all dyn ond pechu tra fo ef yn aros ynghanghennau naturia­eth, Hynny yw yn llygadrythu ar y naill beth ar ôl y llall, hob ddychwelyd ir vndeb, yr hwn yw Duw ei hun. [Page 88] A chymaiant o ddyn ac sydd yn ysbryd Duw, cymaint a hynny sydd heb pechu. Ps 51.6. Ac yn fynnych mae enaid dyn yn pechu an fo ei ysbryd ef yn ymgadw yn bur.

Eryr.

Roeddwn i gynne yn barod i ffeintio, ond yr awron mae ynof beth nerth, (a chefn a chalon) i ymofyn ymhellach cyn ymadel. Adolwg dangos Beth yw y rhagoriaeth rhwng yr enaid a'r ysbryd yn yr vn dŷn.

Colomen.

Ysbryd dyn yw 'r tryssor mawr, ar enaid sydd megis llong iw ddwyn o'r naill ir llall. Ys­bryd dŷn yw 'r castell, ar enaid sydd fel tref oi am­gylch. Yr ysbryd yw cynhwyllin y meddyliau, ar enaid yw plyscyn y rheswm oddi allan: yr ysbryd (medd yr yscrythur) yw 'r mêr, a meddyliau 'r enaid yw 'r cy­malau. Heb. 4 12. 1 Thess. 5.23. Ysbryd dyn yw gwrciddyn y pren a rhesy­man 'r enaid yw 'r canghennau. Mae enaid ym mh [...]b peth byw, a math ar ddeall gau anifail, Ond nid oes ysbryd anfarwol mewn dim ond mewn dynion ac angelion. Yr enaid y mae dyn yn ei lun ei hun yn i genhedlu, ond Duw yw Tâd (ac nid Taid) yr ysbryd. yr enaid rhesymol yw hwylbren dyn ond yr ysbryd yw llyw y llong. Weithiau mae ysbryd dyn yn rhodio (fel Diua) allan yn rhod feydd yr enaid, ac yno mae gwynt ysbryd y bŷd hwn yn i gipio, Ond mae ysbryd dyn naturiol yn wastad allan o hono ei hun fel y mâb a­fradlou nes dychwelyd, Luc. 15.17. Eph. 2.23. yn cael i ddwyn ynghertwyn y cythrael, ac yn dilyn ei chwibianiad ef yn y enawd mae 'r ysbryd fel tŷ Lot ar enaid yn enawd fel heol So­dom. Ac fel y mae rhagoriaeth rhwng anadl dyn as feddwl, felly y mae rhwng yr enaid ar ysbryd. Yr ys­bryd yw neuâdd yr enaid, a'r enaid yw perth yr ys­bryd. Dymma 'r ysbryd (yn angau 'r corph) sydd yn escyn i fynu at gadair preswyliwr tragywyddoldeb, Preg. 3.21. pan fo enaid anifail yn descyu i lawr, canys gwaad yw.

[Page 89]Deall hyn hefyd, wneuthu [...] o Dduw ddyn ym me­rion pôb creadur (megis cynhwyllin y bŷd mawr. Psal. 139.) fe anadlodd Duw oi enau ei hun ei anadl ynddo iddo, a hwnnw a bery byth. Ei ysbryd naturiol sydd drwy gŷd-gynhulliad y ffurf [...]fen, ai gorph or pedwar def­nydd. Mae dŷn Duw yn gyfrannog ar ser mewn te­gwch, ar plauhigion mewn tyfiant, ac ar anifail mewn synhwyrau cnawdol (y rhai yw 'r enaid natu­riol:) yn gyfrannog hefyd ar Angelion mewn deall tra­gywyddol, ac a Christ yn y natur nefol. Na chymer di moth dwyllo gan dwylla ŷr yr oes hon, ac na fydd ddierth i ti dy hun.

Di weli ynot dy hun ddau fâth ar feddyliau. Rhai dyfnion cuddiedig pwrpasol dewisedig anwyl (fel aur yn y meddwl. Mae rhai eraill yn gwêu i mewn ac allan drwy 'r meddwl, fel dynion mewn llettŷ, ond nid ydynt yn aros ynddo. Di weli hefyd fôd y naill feddwl ynot yn gwrthod y llall; ath fŷd ti yn meddwl llawer peth yn erbyn dy ewyllys. Gwybydd gan hynny, A­gor dy lygaid a Gwel, mai gwreiddyn yr ewyllys yw dy ysbryd, ac mai 'r llall yw cyfraith dy aelodau. Mae 'r enaid yn y bŷd ymma yn sefyll yn y corph, ar ysbryd yn llechu yn yr enaid. Pawh sy'n gweled corph dyn, a llawer sy 'n canfod yscogiadau yr enaid, Ond ychy­dig yn dirnad yr ysbryd dirgelaf, sef gwaelod y galon. Ni wel nêb hwnnw ond ysbryd Duw, yr hwn sydd yn chwilio pawb. Ymhellach; fel mai 'r corph yw cyscod yr enaid, ar enaid yr ysbryd, felly di elli weled fel y mae dy yrsbryd di yn bwrw 'r holl ymporion (yr holl feddy­liau naturiol) fel gwagedd a gorthrymder ysbrydi breseb yr enaid, ar enaid yn bwrw yr ymborth corpho­rol i hopran y corph. Job 38.33. Mae tair néf yn gweithio ar dair rhan dyn, yr isaf ar ein cyrph (fel y gwelwn beynydd) y ganol ar ein hene [...]diau, ar vchaf ar ein hysbrydoodd. [Page 90] Yn yr ysbryd enaid a chorph yr ymddangosodd Duw ac y pechodd dyn, ac y dioddefodd Christ. Mae rhin weddau dyn naturiol yn ei enaid, ai bechodau yn ei ys­bryd, Mae rhinwedddau dyn ysbrydol yn ei ysbryd, ai bechodau yn vnig yn ei enaid. Y Sawl ni adwaeno ei e­naid ai ysbryd ni ddeall nai feddyliau 'r dydd, nai freu­ddwydion y nôs. Pam y mae rhyfeloedd mewn seinctiau oddifewn? em fôd y drêf ar castell ymma yn saethu at ei gilydd. Pam y mae ymrysonau ymysg ffyddloniaid? am fôd enaid y naill yn ymosod yn erbyn ysbryd y llall, canys yr vn yw ei hysbryd hwynt oll yn Nuw. ond ni chytuna ei heneidian naturiol ai gilydd. Ac hefyd llawer dŷn sydd yn newynu ei ysbryd wrth besci ei enaid a rheswm dynol. Mae tair rhan dyn yn ymddangos fel plant a gweision ac anifeiliaid Iob, neu yn debig i dri mab No­ah ai gwragedd. Neu fel tri phlentyn yn y ffwrn a mâb Duw yn bedwerydd. Neu fel cyntedd y deml, ar lle Sanctaidd, ar lle Sancteiddiolaf. Cofia dithau mai 'r tri hyn yw dy dyddyn ath etifeddiaeth di; Ac mae 'r yscryt r lân yn sôn yn helaeth ac yn fynych am e­naid ac ysbryd a chorph, er nad oes fawr etto yn deall hyn. Ar rhai sydd yn caufod ychydig lewyrch ni chaniadhaed iddynt moi draethu mewn raith ddynol, Canys dyfnder anfeidrol yw, Prin y ganwyd yr amser yn yr hon y dat euddir hyn. Ond disgwil di yn ostyngedig am Dduw, ac di gei weled rhyfeddodau tragywyddol ei gariad ef, a bydd ddiolchgar am ychydig oleuni.

Er.

Ond mae arnai ofn ysbryd Anghrist, rhag i mi dderbyn gàu athrawiaeth ac angel y tywyllwch yn rhith angel y goleuni; mae llawer dysceidiaeth ddwfn ddierth ddyrus yr awron nad wyfi yn i deall.

Colomen.

Hawdd i blentyn y dydd adnabod Anghrist (Blaidd y nôs) fel y dywedais i o'r blaen, wrth ei lais ai liw ai addillad a thuedd ei fywyd. Mat. 7.16. [Page 91] Mae fo yn newid gwisg yn fynych ac yn dyfod yn rhith gostyngeiddrwydd a dysceidiaeth a go­leuni newydd, 2 Cor. 11. Col. 2. yn cymryd arno brudd-der neu lawe­nydd, a zêl i losg [...] 'r cnawd ac i fyw yn ysbrydol, ac er hynny Hunan yw Swm ei holl grefydd ef, Ei ewyllys ei Hunan a wna, ai feddwl ei Hunan a syn, ai synwyr ei Hunan ai harwain. Mae 'n hawdd dy adnabod di (ô Sarph dorchog dwyllodrus er dy fôd ti yn nyddu dy edef yn llawer m [...]inach nag o'r blaen. 2 Cor. 10.12. Dat. 13. Rwyti yn ymffrostio mewn rhinwedd a chrefydd ac o­piniwnau o'r gwirionedd; rwyti yn sôn amyscrythur ac awdurdod Duw, ond yr wyti yn byw mewn anghariad a chenfigen, Math. 7.3. Jer. 7.4. mewn hyfdra cnawdol (yn barun llawer cyn clywed barn Duw am danat dy hunan) yn rhyfe­la, yn lladd, yn llosgi, yn lledratta dan rith Du­wioldeb, yn difetha 'r defaid fel llwynoges, ac yn diangc i'th ffau, yn llechu yn dy synwyr dy hun, ac yn gwnio dail i guddio dy noethni. Wele llais y Goruchaf a'th ddychryna a, Psl. 29.9. Preg 7.26. discleirdeb ei ddyfodiad a'th ddife­tha. Ar sawl a addolo Dduw ei hun a ddiangc rhagot ei

Eryr.

Ond beth a wna vn sydd yn tybied yn ei galon nad yw ei holl grefydd ef hyd yn hyn ond oferedd cnawdol, a phennod rhagrithiwr.

Colomen.

Dechrau o newydd, a chymmer dy gyfrif fel plentyn bach, Anghofia yr hyn sydd or tu 'n ôl er na wyddost nad oedd gras Duw yn yr hyn a wnaethost. Phil. 3.13. Oblegid yr un deyrnas sydd yn gyntaf yn yr eginin ac yno yn y dwysen, ac yn olaf yn ŷd llawn yn y dwyson. Mar. 4.28 Na farned neb ddydd pethau bychain rhag i fawr farn Duw gwympo arno. Zach. 4.10 Di fuost mewn cystudd meddwl yn yssbryd caethiwed mynydd Sinai, ac ar y bryn my­glyd erchyll hwnnw yr wyti etto mewn rhan, Ond mae 'r troed arall ar fynydd Sion, 1 Jos. 4.1 [...]. Cofia fôd cariad Duw yn bwrw allan ofn fel y taflodd Sara Hagar allan. [Page 92] Mae cariad Duw yn toddi calonnau rhai yn llawer cynt nai ddigofaint. Gochel iau y caethiwed. Ai vn o'r Hagarenniaid a fyddi di yn dy ddiwedd? Fe ddyle fod ynot feddwl sobr siriol diolchgar hyfryd gweddaidd diniwed yn wast ad. Nid wyneb-pryd sarrig, sûr, cymolog. Ond wyneb-pryd angel doeth diwyd di­staw di-gymysg. Ac oni buost felly, Edrych a gwel. Mae 'r pren mawr yn blodeuo ynot ti ac eraill. Bydd felly o hyn allan.

Eryr.

Er hyn i gyd, mi dyby gwn nad wyti wei­thiau yn atteb ond yn dywyll ac yn brin, a bôd llawer o'r peth a ddywedaist ti iw roi heibio cyn nemmor o amser.

Colomen.

Cofia hyn (O Eryr) fod yr holl ym­ddiddau ymma a fu rhyngom ni fel llyfr corn, neu A. B. C. i blentyn; Es 28.13. Ond mae amser a lle i bôb peth, Ac mae yn rhaid rhoi llin ar lin a gorchymyn ar orchy­myn i'r anneallus, a dysgu i'r Baban Grist Groes (yr hon ni ddeallodd nemmor mewn nerth etto) Er hynny di weli pa fath waith a wna 'r Goruchaf wrth ysgogiad deilieu. Fe alle drwy hyn y gweithia fo lawer yng­halonnau rhai. Ond mae llawer dirgelwch iw ddangos ar fyrder nad wyfi yr awron yn fawr Sôn am dano. Ac meddaf nidyw hyn i gyd ond golygiad mewn drych ar frŷs, neu rossyn yn gwywo wrth i arogli. Nid yw llyfrau a llythrennau ond fel gwellt, Mae 'r bywyd yn yr ysbryd nid yn y llythuren. A'r sawl sydd ysbry­dol a wŷr oddiwrth ba ysbryd y daeth y pethau hyn, Ac nid gwatwarwr yw. Ond gochel di pwy bynnag wyt (er doethod meddant neu er duwi [...]l [...]d) esc [...]uluso dan dy berigl y peth a ysgrifennir ymma, neu dda [...]lla­in yn ddifraw, ai fwrw i gornel i rydu yn dy erbyn, heb i ddeall hyd y gwaelod, Canys mewn rhyw fannau mae dyfnion bethau Duw yn ymddangos, ac mewn eraill [Page 93] mae llaeth, ac megis chwaryddiaeth hefyd i'r rhai by­chain. Ac weithiau rwi 'n adrodd yr vn peth yn fy­nych drosto.

Er.

Ond mae llawer o'r dyscedigion nad oes gan­ddynt fawr bris (Dybygwn i) am y pethau hyn.

Colomen.

Taw son o'r diwedd. Nid oes ŵr o ddysg yn y byd, Esay 44.25. Jer. 8 8. nag oes un a fedr ddarllain holl ddalennau ei galon ai feddyliau ei hun, Nid yw 'r Doctor ond anifail cyfrwys, nid yw 'r ys [...]olhaig da (fel y gelwi di fo) ond aderyn coeg, Oni bydd rhôdd or nefoedd gan­ddo. Ac os bydd, Mae fo yn isel ei feddwl, ac yn lle­shau pawb mewn cariad, Tit. 2. ac yn byw yn gyfion yn sobr ac yn dduwiol. Mae gwir ddysg yn dyscudyn i fôd yn y bŷd ymma, yn addiniwed fel plentyn, yn fuddiol fel dafad, yn ddiofal am y bŷd (fel vn yn hyno ym­monwes y creawdr,) yn effro yn erbyn pechod, yn ddi­wyd yn ei orchwyl, yn ddigenfigen oddifewn, yn lla­wenhau yn naioni eraill, yn llonydd dan waethaf dy­nion, yn ddioddefgar dan ddigofaint Duw, yn fodlon beth bynnag a ddigwyddo, yn nefol fel Christ ei hu­nán, yn hyfryd mewn trîstwch, yn galonnog mewn cy­fyngder, yn hyf fel y llew, yn wirion fel colomen, yn gyfrwys er mwyn yr efengil, yn ffiaidd ganddo ei hun, yn blino ar flodau natur, ac yn brefu am Baradwys. Ac lle nad yw 'r pethau hyn, nid oes yno ddim gwir ddysceidineth.

Eryr.

Ond beth oni ddyscais i yr vn o'r rhain etto?

Colomen.

Mi ddywedais o'r blaen, fôd Duw yn danfon ei holl blant ei hun allan oi tai ei hunain i ysc [...]l ei fâb. Ar sawl a ymroddo i'r mâb yn ei holl [...]wyllys a gaiff i wneuthur yn ddyscedig am deyrnas nef, a chlywed llais yn siarad oddifewn, Dymma 'r ffordd Rhodia ynddi. Cyfod, medd Jeremi, Es. 30.2 [...]. i ti arwy­ddion ffordd. Gosod it garneddau vchel i'th gyfarwy­ddo [Page 94] yn yr anialwch. Vn garnedd yw Gwybodaeth, ac lle ni bo 'r garnedd honno mae 'r dynion yn cyfeiliorni, Canys heb wybodaeth ni all y galon fod yn jawn. Fe all fôd gwybodaeth heb ras (fel tânwŷdd heb dân) ond nid oes dan heb dânwydd. Carnedd arall yw Cariad at bawb. Llei bo bwnnw mae Duw yno, ac llei bo mae fo yn awy­ddus i wellhau pawb, ac yn ofalus rhag niweidio neb. Carnedd arall yw Gostyngeiddrwydd ac isder meddwl llonydd, dioddefgar, distaw; ar cyfriw a gânt i dysgu gan Dduw ei hun. Cyfiawnder yw carnedd arall, a heddwch oddiwrth gyfiawnder, ac oddiwrth heddwch llawenydd mewn ysbryd glân. Ar sawl a wasanaetho Ghrist yn y pethau hyn, Rhus. 14.17.18. a fodlona Dduw ac fydd cym­meradwy ym mysg ei blant. Dymma rai o'r Carneddi yn y mynydd i'th arwain i Ganaan. Edrych ar y pilerau hyn ynot a Dôs ymlaen, a chosta, Nad digon i ddyn fyned i ffordd dda, oni ŵyr ef mai honno yw 'r ffordd [...]rau. Bydd ddistaw oddifewn, di gei ddeall pôb peth oddiallan. Na symmud chwaith nes codi o'r cwmmwl. Num. 10. Hawdd yw diwno 'r ffordd fawr wrth geisio i mendio. Aros ymmhebyll Duw nes adeiladu plâs Caersalem newydd. Tanbaid yw zêl heb wybo­daeth, ond cariad addfwyn golau sydd hyfryd.

Eryr.

Dywaid etto. Beth a dybygi di am holl opiniwnau a chrefyddau y Twrciaid, ar Papisti­aid, a'r Protestaniaid, ar Lutheraniaid, ar Calvi­nistiaid, ar aneirif eraill o Secti yn yr oes ymma? Mi addewais hefyd i'r Gigfran ofyn i ti cyn diwedd ynghylch y llyfr gwasanaeth.

Colomen.

Na sonia am lawer o grefyddau. Hên a newydd, a phôb vn yn barun ei gilydd. Nid oes vn grefydd a dâl ddim ond y creadur newydd. Gal. 6.15. Joan. 3.3. Ac nid oes ond vn drws i mewn yno, a hwnnw yw 'r ailenedigaeth yn enw Christ. Fe fuase dda i'r dyn nis caffo hi [Page 95] fod wedi i eni yn gi neu yn gâth, neu yn rhyw beth h [...]b ysbryd a [...]f [...]rwol yndd [...].

Swm Du [...]i [...]l [...]b iw, Car Dduw a'th h [...]ll galon, a' [...]h gy [...]ydog f [...]l ti dy hun. [...] iw yn dilyn hyn, ni waeth o ba opininiwn y b [...]. Ar sawl a dybio iddo fedru hyn yn rhŷgl nid edwy [...] hwnnw mo wr [...] ­ddyn y chwerwedd [...]ydd yngardd ei galon ei hun. Ond i dwyllo ei hunan y m [...]e. Mae r [...]p [...]iwnwyr yn ymrafaelio ai g [...]lydd fel cŵ [...] a mô [...] [...]r nad fel [...]wn a môch iw y rhan orau ynddynt, a thithe (O Ddyn cyfrwysddrwg segurllyd) vwchhen vff [...]rn yn chwer­thin [...]m ei pennau, wrth i gweled yn taro yn erbyn ei gilydd yn yr entri dy wyll, am i bôd heb na gweled na deall raith ei gilydd. Ond o [...]yn allan. Gad [...]w [...]h ymmaith yr holl ym [...]ysson tanbaid, anghariadus, rhyf [...]log, na wnaeth dda i neb erioed. A thewch a Son rhag ir cy­threuliaid chwerthin oni fedrwchwi ymresymu mewn cariad ag addfwynd [...]r, a meddwl i ddyscu llawer mewn y [...]hydig eiriau bob vn gan ei gilyd [...], ar cwbl gan Dduw. Ac am y llyfr Gwasanaeth, ni thâl ef fawr Sôn am dano. Mae hi yn ll [...]wn bryd i [...] gladdu, rhag i neb gael drwg oddiwrth, yr hên b [...]th [...]u a ant h [...]ibio. Wele, fe wneir pôb peth o n [...]wydd.

Eryr.

Oni allafi gael gwybod. I ba le mae 'r holl eneidiau yn myned pan ymadawont ar bywyd yma? Pan elont hwy vnwaith ymaith nid ydym ni yn cly­wed dim oddiwrthynt hwy ond hynny. A aethant hwy ymhell neu yn agos neu ymha le y maent hwy?

Colom.

O Eryr angraff. I ba le mae 'r ganwyll yn myned pan ddiffoddo hi ond iw hwybren danllyd natu­riol ei hun? Neu i ba le mae 'r tân ar gwrês or hay­arn poeth yn mynd allan wrth ei roi mewn dwfr? Nid drwy 'r genau y mae ysbryd dyn yn mynd allun or tŷ pridd, ag nid drwy 'r genau y daeth yr enaid i mewn i'r corph ar y cyntaf, Canys peth pur bywiog cyfl [...]m [Page 96] iw ysbryd meddwl dyn yn treuddio drwy bôb corph heb symmud na chynhyrfu dim. O chwi rai deillion A­gorwch eich llygaid a gwelwch, fod ysbryd pôb vn (wrth dorri o'r corph) ye aros yn y naturiaeth yn yr hon y bu fo byw. G [...]n 25.8. Os llygredig oedd y meddyliau llygrediga­eth tragwyddol iw ei l [...]ttŷ. Mae naturiaeth cariad neu ddigter tragwyddol yn cynnwys ei holl blant yn­ddi ac yn cipio gafael (fel fflam ar wêr) ar bôb ysbryd yn ôl ei anian. Ond ni wêl dyn moi gartref tra fo ei gnawd am dano; Mae dynion (meddaf) fel adar yn canu ar y pren heb feddwl am y gwreiddyn sydd yn­ddynt. Mae 'r eneidiau sanctaidd a hunasont yn Nuw yn llonydd yn y golau distaw ymhôb man o flaen ei wyneb ef o'r tu allan i drwst ysbryd y byd, yn dis­gwil am gynhyrfiad y corph drwy gyffroad gwreiddyn naturiaeth. Ond mae 'r ysbrydoedd colledig wedi torri edef y bywyd yn nhywyllwch meddwl digllonedd Duw yn rhûo ac yn ochain, Ord nid iw 'r hyd yn i clywed. Pam hynny? Am nad oes ganddynt hwy yn vffern mor llais tafod i l [...]faru, na chan yr rhan fwyaf o honom ni glustiau ysbrydol i wrando sef calonnau iw hystyrio er i bôd nhwy yn yr vn natir a ni. Ond mae 'r ffyddloni­aid ymma yn gwybod iaith y Seinctiau yn y byd arall, ac yn canu yr vn Hallelujah i Dduw gyda hwynt, nid yn gweddio arnynt am fyned at Ghrist drostynt, canys mae fo ei hun yn nês attynt na seinctian neu angelion. Ond am y defaid ar geifr yn y goleuni ar tywyllwch, Luk 16.26. Cofia fod Gagendor fawr rhyngddynt (fel rhwng La­zarus a'r glŵth goludog) a honno iw y rhagoriaeth yn y naturiaeth drag wyddol. Fel rhwng melys a chwerw, neu rhwng da a drwg, y rhai er i bod yn yr vn lle, maent wedi i gwahanu yn ddigymod. A phan gwympo y [...]b [...]yd dyn o'r corph i'r tywyllwch hwnnw, nid oes gan­ddo lygaid byth i weled y goleuni, na meddyliau byth am ddaioni. Ac o'r tu arall y rhai sydd wedi di [...]g [...] [Page 97] i'r Goleuni Hwnnw nid oes fyth ganddynt feddwl am y tywyllwch. Am hynny Edryched pôb dyn, ym mha vn o'r ddau y mae ei feddwl ef yn byw tra fo ef yn y corph, canys ni ŵyr y colledig moi hanes ei hun.

Eryr.

O Golomen mi fyddaf mor hŷf yr awron cyn diwedd a gofyn i ti dyh hanes dy hun. Sef Hanes y Golomen.

Colomen.

Mi ddywedais i ti ar y cyntaf ond ni ddeellaist. Rhaid iw torri pliscyn y ddammeg cyn cael y cynhwyllin, Er bôd yr yscrythurau sanctaidd hefyd yn llawn Damhegion. Ar y cyntaf, mi fûm yn Enoch yn ymrysson ar hên fyd, ond nid oedd neb am derbyniodd ond Noah anwyl ai deulu. Wedi hynny mi ddaethym at Abraham ac yn y fan fe daflodd ymaith ei Reswm ei hun ac am dilynodd i drwy ffydd. Mi fûm yn ffenestri yr holl Batrieirch ar Prophwydi he­fyd. Ag ar ôl y Prophwyd Malachi ni chefais i fawr le i ddescyn nes dyfod Joan. Ond mi orphwysais ar Jesu Christ ai Apostolion, ac mi a chedais drwy 'r eglwysydd hynny. Ond cyn ymadel o honynt hwy ar byd, fe ddaeth Brân y nôs (sef ysbryd Anghrist) ac a gafodd gennad im herlid i. Ac yno mi a ddiengais i fonwes y Merthyron, ac yn y Tân yr oeddwn i yn i cyssuro hwynt. Ond yn ddiweddar mi ddiscynnais yn ffenestri yr eglwysydd newyddion, ac weithiau ar rai oi preg [...]hwyr, or bod llawer o fudreddi yn ei nythoedd. Ac yr awr [...]n, Mae 'n weddus bod yn bryssur, Canus fe ofynnir, Esay 60. [...] Pwy iw y rhain sydd fel cymylau ac fel colomennod yn ehedeg iw ffenestri?

Er.

Ond pa fath rai y mynit ti i'th ddynion di fôd?

Colomen.

Nid fel y genhedlaeth sydd yn melldi­thi [...] 'r Tâd, ac heb fendithio ei mam, Dihar. 30.11.12. &c. neu yn lân yn ei golwg ei hun, ac yn amherffaith yngholwg Duw. Nid fol y g [...]nhedlaeth sydd vchel ei llygaid ai dannedd yn gl [...]ddŷfa [...], ai cilddannedd yn gyllill, i ddifa 'r tlodi [...]n [Page 98] oddiar y ddayar Ond mi [...]yn [...] im dyscyblion i fod f [...]l y morg [...]ug yn darparu ei [...]a [...]th cyn bod yn rhywy [...], D [...]. 30.24 25. &c. ac fel cwnningod yn adeiladu ar y graig, ac f [...]l l [...]cus [...]ia [...]d yn cytun [...] i ymdre [...]h y [...]ghyd, ac fel y pryf co [...]pyn g [...]ael yn d [...]l ei ga [...]el ar air y bywyd, fel y gallont f [...]l [...]y aros ymblas y brenin nefol. Ar rhai hyn a w [...]e [...]r mor d [...]dig na all dim i cyff [...]oi, mor i [...]l na all dim i bal [...]hio, mor hyfryd na all dim i tristhau, mor sobr na all dim i ff [...]li, mor ddiflin na all dim i cloffi, mor bûr na all dim i halogi, mor rhagorol na a [...] neb fynd [...]u hwnt iddynt, mor ddwys na all dim glodd [...]o danynt, mor [...]ylfaenedig na ellir i siglo, mor blantaidd na ellir i cyfrwyso, mor ago­red na ellir i can, mor weddaidd na chaiff neb gam­air ganddynt, mor isel na ddichon vn gwynt moi hyscwyd, mor vchel na all vn meddwl naturiol moi cyrhaedd, mor gyf [...]wys ar seirph, ac mor wirion ar colomenned. Ac ymhellach, mae rhai o honynt a allant ddywedyd (drwy râs) i bôd nhwy yn marw i'r byd yma, ac er hynny yn byw by [...]h, yn llai na dim yn­ddynt ei hunain ac yn fwy nar byd yn ei gwreiddyn. Ar y dibin beynydd, ac er hynny yn sefyll, heb wybod dim y [...]ddynt ei hunain ac yn deall pôb peth yn nuw, yn llawn tristwch, ond yn mwynhau canwyll llawe­nydd digymmar, yn ymdaflu mewn tonnau, ond yn sicr wrth yr angor, yn gwrando ar bawb heb gredu vn dyn, ond yn chwilio pôb peth, yn ed [...]y [...]h ar y canghen­nau ond yn byw yn y gwreiddyn, yn rhodio yn heol y byd yn y [...] enaid, ond yn ymgadw ymhlâs Duw yn yr ys­bryd, yn llafurio yn wastadol, ac er hynny yn gor­phwy [...] yn ddistaw ar y ddayar, ac er hynny yn dystion i'r gwir, yn llawn o feddyliau ac megis heb feddwl [...] ddim, yn cael [...]âs gan bob cnawd a chariad g [...] bob ysbryd da, yn ymdrech ar holl gythreuli [...] ac yn ymgaredigo ac angelion Duw, yn cly [...] [Page 99] mwy o lais y byd nag a garant, a llai o leferydd y Tâd nag a fynnent. yn chwilio gwaelod crefydd ac yn ymddangos ar yr wyneb yn ddiragrith mewn daio­ni, yn ymbriodi a Doethineb Duw ond etto heb i mwynhau yn hollhawl. Ac er aml [...]d ei pechedau, yn dyner ei cydwybodau yn waeth nar gwaethaf yn ei golwg ei hunain, ac yn gystal ar gorau ymmantell yr Oen, ac yn debig i'r gwy [...]t anol [...]heinadwy, ydynt yr hyn ydynt drwy ffafr yr Goru [...]haf. O bydd un o honynt.

Eryr.

Mae 'r rhain wedi myned ymbell. Ond dangos i mi Pa beth y mae 'r gwan yn ei mysg yn ei ddywedyd.

Colomen.

Mae gweini [...]id yn sicr ymmysg ffy­ddlonaid fel y mae wŷn ymysg defaid, a thosturus iw gwrando ar frefi [...]d y gwan yn llefaru ac yn trae­thu. Wrth naturiaeth marw oeddwn, a phan we­lais i hynny mi a geisiais fyw, ond nis gallwn nes i bob peth ynof ac om hamgylch farw i mi, Ac yno y collodd y creadur ei afael arnaf, ar munud hwnnw y cefais afael ar y creawdr, neu yn hytrach efe a ymaflodd ynof fi. Or blaen mi a glywais br [...] ­gethau ond nid o [...]ddwn i yn gwrando, mi ddywedais weddiau ond nid oeddwn i yn gweddio. Mi g [...]nais Psalmau ond múd oedd fynghalon. Mi Sacra­mentais ond ni welais gorph yr Arglwydd. Mi ym­ddiddenais ac a ddywedais lawer peth nid om calon mewn gwirionedd, nes i'r rhossyn darddu ynof. Ac wedi 'r holl gynnwrf rhaid oedd di [...]edd or diwedd cyn dechra [...], a marw cyn i'r wenhithen dyfu drwy fy naiar i. Fe fywhaodd y pechod ac am ll [...]ddodd i, Roedd Duw wedi digio ac yn gwgu ynghadair fynghydwybod, a diafol yn gwenu ac yn chwer­thin am fymhen i, ac yn gweiddi or tu fewn. [Page 100] Ho ho myfi piau 'r aderyn. Mae fo 'n siwr yn y fagl. Mae ei feddwl ef mewn tair o god­wyni heŷrn, yn ffast yn ei ewyllys ei hunan, ac yn ysbryd y bŷd mawr, ac yn nigofaint y brenin mawr gydam fi. Mi ofnais hefyd na ellid byth dor­ri mor tair cadwyn hynny i'm gollwng i yn rhydd. Heb law hyn hefyd fe ddaeth Bytheiaid Satan ar fy ôl i dan olrhain: Gwatwarwyr y wlâd am gwaw­diasont. A phan welodd yr Heliwr nad oedd gennif fatter beth a ddywede 'r bŷd ai fytheiaid, fe gynhyr­fodd blant y deyrnas, a rhai (megis) o blant y Bre­nin im ceryddu im digalonni, im rhwystro, ac im hoeri. Pan ballodd hyn hefyd, fe ddeffrôdd y gelyn holl wrei­ddiau vffern o'r tu fewn i mi fy hunan, i fôd yn ddig­llon, yn aflan, yn greulon, yn benwyllt, ac yn llawn o wrei [...]hion drwg, yn fydol, yn sarrig, yn suddo, yn oferfeddwl, ac yno 'r oedd yn flin gennif fyw ac yn ofnus gennif farw, am nad oedd bechod yn y dyn gwaethaf ar a welwn, nad oedd ef yn ceisio codi i ben i fynu yn fynghalon i. Roedd y nef wedi ymad [...]l, ac vffern yn nesh [...]u, Angelion Duw yn ymddieithro, a delwau anifeiliaidd yn ymddangos. R [...]eddwn i yn gweled fy mod i wedi cwympo ymysg llad [...]o [...] ysbrydol anhrugarog rhwng Caersa­lem a Iericho, ac yn ceisio gweiddi am help ond yn methu gw [...]ddio, Nes i'r Samaritan bendige­dig, sef yr A [...]hubwr nefol, ddyfod attaf am codi i fynn. A hyn oll yr wyf yn i ddywedyd er dy fwyn di, fel os doi dithau byth i'r gwasgfêydd ymma am y pechod, na ymollwng mewn an [...]baith a thrist­wch bydol, ac nag ymgura fel dafad yn y mieri, ond disgwil yn llonydd wrth fîn y ffordd. Fe ddaw 'r prynwr heibio, ac a'th ollwng di yn rhydd. Ac onide, os derfydd am danat, Darfydded am d [...]t [Page 101] yn ei freichiau ef wrth ddisgwil wrth ei air ai adde­wid ef. Ond os dilyni hyn byw fyddi, yn ysbryd y nerth, ar cariad, ar pwyll. Roedd yn fynghalon i ysgri­fennu attat i'th rybuddio mewn cariad perffaith, Ond fe ddaeth y Sarph attafi, ac a geisiodd attal y pin ymma. Hi a boerodd ei chelwydd tuag attaf wrth si­ssial fel hyn. Hunan sy 'n dy osod ar waith. Rwyti yn scrifennu yn rhŷ dywyll, ni fedr nêb mo'th ddeall nes i'th niwl di godi, ac nid wyt ti yn dy ddeall dy hu­nan; Gâd yn llonydd, Mae digon o ŵybodaeth gan ddynion, bei gwnaent ar ei hol. Mae gormod o lyfrau yn barod yn y bŷd. Dy holl wobr fydd cael dy adelfel ty­lluan yn y diffaethwch, fel pelican, ie fel hurtyn neu vn o'r philosophyddion gweigion yn ymofyn am oleuni naturiaeth i adnabod y Duwdod yngh­readuriaeth y bŷd. A welaist ti yr Argl­wydd erioed? nou a glywaist ti Dduw ei hu­nan? Dôs i ryw dwll ac ymguddia. Mae dydd Duw wedi goleuo. Gorau i ti dewi, a gadel ym­maith scrifennu. Gad bawb yn llonydd a'th gyd­wybod dy hun yn esmwyth. Bydd lawen. Bwytta dy fwyd a chalon iach. Rhodia a chymmer dy bleser fel y gweli di bawb agos yn gwneuthur, ac yna fe e­stynnir dy dyddiau di ar y ddai [...]r. Wele llyma fel y chwedleuodd y ddraig gyfrwys am fi, llyma fel y ces­siodd hi fynhwyllo i. llyma fel yr gwnaeth hi ei gwae­thaf i rwystro 'r meddwl, i selio fyngenau ac i attal fyllaw. A phe i cawse y Sarph i meddwl ni chaw­swn i nag ysgrifenn [...] hyn na thithau nai ddar­llain nai wrando. Ond fe ddaeth y Golomen ac am helpodd, ac am cynnorthwyodd gan ddywedyd. Dôs ymlaen. Rhaid i bôb gwas arfer ei daleni (er a ddywetto dynion) ac onide Gwae 'r gwâs. Nid [...]unan sydd ymma yn dy gymmell, ond gwîr serch at [Page 102] Dduw, [...] ff [...]ddl [...]n (yn nes [...]f) at y cymru. Nid wyti n [...] [...] o [...]not dy amser b [...] m [...]n [...] a diffrw [...]thdra. [...] Ac fe g [...]ff rh [...]i [...] [...]ealldwriaeth allan o'r ni [...]l ar ty­ [...]y [...]w [...]. [...] [...]r n [...]d yw dy gnawd di yn de [...]ll be [...]h y [...] ynot yn i ysgrifenn [...], Mae rhan [...]. N [...]d oes chwaith f [...]wr lyfrau [...]mr [...]ig yng [...] er pan l [...]scwyd papurau y Brutta­niaid gy [...]. A [...] (medd D [...]w) fy m [...]obl i ynghym­ [...]u a ddif [...]thir o e [...]siau g [...]yb [...]d [...]eth, [...] 46. Ac am danat ti dy h [...], n [...]d g [...]ae [...]h pa amharch a gaffech yn y cnawd. D [...] [...]ddaiest i Dduw dy wrthod, ath a­del me [...] [...]nialwch tragywyddol, Ond ni âd Duw byth mo [...]not. Ac er nad Duw yw naturiaeth, ac er na ellir i adnab [...]d drwy Philosophyddiaeth, [...]to wnaeth of mor bŷd ymma yn ofer ond fe ai gos [...]d [...]dd fel d [...]ŷch i weled ei gyscod ef ynddo. Dy­di hefyd (ebr y G [...]l [...]men, a welaist Dduw ei hunan, drwy ffydd, ac a glywaist ei lais ef ei hunan drwy 'r ysbryd s [...]dd yn llefaru wrth ddynion. Ac er bôd rhan o'th amgylch môr anheilwng ar gwaethaf, Mae er hynny y dyn oddifewn heb pechu, a chantho l [...]w ymmhôb d [...]io [...], yn ceisio llês i bawb. Ac wr­thy [...] ti (ô Hâd anllygredig a llÎn yn m [...]gy y yr wyf yn dywed [...]d eilwaith, Cyf [...]d, a Dos ymlaen yn ostyn­ged [...]g, yn [...]fa [...]us, yn ddi [...]ed, ac yn ddiolchgar. fel hyn y [...] i'r gol [...]men atteb holl resymau 'r sarph, a [...] r [...]ff a nydd [...]fe hi yn y meddwl. Wel [...] (ô Eryr) D [...]mma ran o lais vn o'r rhai llescaf om di­lynwyr i. D [...]mma ychydig o lawer.

Eryr.

Beth hefyd?

Colomen.

Mae vn [...]m [...]ellach yn llefaru fel hy [...] Byr yw fy [...]e [...]ynt i o'r dechrau i'r diwedd. fy [...] ­oes sydd fel afon chwyrn yn rhedeg i'r môr. fe [...] [Page 103] ganwyd ymmysg creigiau, fe am magwyd mewn opini­wnau, fe am maglwyd dros amserau, fe am rhydd­hawyd mewn amser cymmeradwy, fe am carwyd cyn dechrau amser, a minnau byth gaf garu yr hwn am carodd, ai lawn hoffi pan f [...] amser wedi terf [...]nu. Ca­nys yr wyf dan gariad Duw er fy môd dan gerydd pawb, Gwael yn y tir, llwyd gan môr, llawn o brofe­digaethau, ond llawen mewn gobaith gogoniant nefol. Yn y cyfamser yn rhodio mewn maes ysbrydol ymysg defaid, ac yn rhybuddio 'r geifr na thorrant ei gyddfau, A gymmero rybudd cymmered. fynhasg i yw bôd yn ddiniwed ymmysg dynion. Ac oni allai lês i bawb, gochelyd gwneuthur afles i nêb: A cheisio byw allan o Hunan, yn yr ysbryd glân, ar Ghrist, i Dduw, yn ôl yr yscrythurau, etto dan ordinhadau, vwchlaw 'r bŷd, islaw 'r groes, yn erbyn pechod, ac ar dŷ sancteiddrwydd, ymmonwes craig yr oesoedd, yn b [...]ino ar gwrs naturiaeth, yn brefu am y ffynnon ne­fol, ac yn gweddio ar i Dduw roddi heddwch nefol, a llawnder gwirionedd i'r Cymru tirion, Jer. 3.15. Eph. 3.19. iw porthi a gwybodaeth ac a deall ysbrydol, ac iw llenwi a holl lawnder Duw, ac ar i minnau gael cyfran o'r rhandir nefol ymmysg y rhai cywir mewn Duwioldeb, ac ar i'r amser fryssio pan na bo rhyfel yn vnlle ond ymmhyrth Satan ei angelion (a hynny a welaf.) Jabez a weddiodd, a Duw ai gwrandawodd. 1 Chron. 4.10. fe ofyn­nodd bedwar peth ac ai cafodd. Disgwil yr wyf finnau ar y Duw dinewidiad yr hwn a ddichon wneuthur mwy nag a allwn i ofyn nai feddwl. Eph. 3.20. Iddo ef y bo 'r glôd ar mawredd ar doethineb ar diolch ar deyrnas ar cariad ar cwbl yn dragywyddol.

Eryr.

Mae 'r amser yn dylifo fel pellen ymmaith, Rhodded y Golomen yn gair o gyngor etto ir E­ryr cyn ymadel.

Colomen.
[Page 104]

Deall a dilyn yr hyn a glywaist yn barod. Esay 59.5. Canlyn y llusern a roddwyd i ti. Gochel wŷau 'r neidr ar gigfran yn dy resymau dy Hunan. Na reoled ysbryd y creadur ynot, Canys y Sawl a yrmleuwo ar creadur sydd wag fynychaf o'r Cre­awdr. Na chais fôd yn llawn meddyliau. Gwell yw vn meddwl difrif nefol mewn diwrnod, na phum cant o rai dischair naturiol. Mynn ddifa dy Arglwydd Bechod oddifewn, ar lleill a ymro­ant. Ac wrth hyn y cai di adnabod y pechod hwnnw. fe reolodd yn dy henafiaid. Mae dy fe­ddyliau dithau nôs a borau yn hedeg atto (fel brain vwchben burgyn.) Pechod yw am yr hwn y mae dy gydŵybod yn dy gyhuddo, a'th elynion yn dy gywelyddis, a'th wir-gyfeillion yn dy rybuddio. Go­chel hwnnw (yn anad vn) beth bynnag yw. Cofia ymmhôb cwmuhi dy fôd ti ar dy daith tuar bŷd bythol, ac ystyria gwymp yr Adda cyntaf a cho­diad yr Ail. Cwympaist yn ddiammau gyda 'r cyntaf: Cyfod heb ammau gyda 'r ail hefyd. Na dderbyn vn athrawiaeth cyn i chanfod. Na wr­thod vn gair cyn i holi, ac na chwda oddiwrthy [...] mor gwirionedd a dderbyniaist vnwaith. Na choelia mo sŵn y wlàd, ond gwrando beth a ddy­waid Duw wrth dy enaid anfarwel di: Onid oes ynot waelod pôb gŵybodaeth a rhinwedd, ni elli di wneuthur y pethau hyn. Ond os oes, Bydd ys­brydol ddisigl yn dy feddyliau, Jac. 1. nid fel tonn y môr, neu cwyn y dŵfr, neu bren diwraidd, mewn tym­hestl, neu long heb angor, ne ûs anwadal, Bydd anaml mewn geiriau, ac aml mewn gweithredoedd nefol gorchestol. Ac wrth ddywodyd, Cofia, Mae mewn llawer o [...]iriau nid oes ball, Dih. 10.19.21. ar bechod, ac er hynny na fydd fudan (canys gwefusa [...] 'r cy­fiawn [Page 105] a borthant lawer.) Wrth geisio derbyn mwy o'r ysbryd da, gochel rhag ir vn drŵg ruthro i mewn yn ei fantell ef: Mae rhai lloerig a rhai dieflig, Math 17.15. ar gelyn yn marchogaeth ar sug ac ar humors ei cyrph nhwy. Mudion a byddariaid yn malu ewyn, yn llygadtynnu ac yn synnu 'r gwirion. Mae eraill fel y Bedyddiwr, yn dyfod heb na bwytta nag yfed ac meddant wele gythrael ganddo. Ond rhaid i ti brofi yr ysbrydoedd. Mat. 11.18. Ac llei bo (meddaf) oleuni a phurdeb a chariad a go­styngeiddrwydd yno y mae Duw ei Hunan yn aros. 1 Tim. 4 1.2. Gochel y ffyrdd Pabaidd hefyd, nid am nad oes ddy­sceidiaeth yn ei mysg, ond am mai creul [...]n fuont wrth bawb eraill, am hynny tywelltir phiolau dialedd ar y genhedlaeth honno. Dat. 16.6. Na ddotia wrth feddwl am lawer o opiniwnau tra fych di dy hun yn gwneuthur llawer peth yn erbyn dy gydŵybod. Gwna (o Eryr) dy orau i rwystro pôb Drŵg, ac i rwyddo pôb Da yn y wlâd o­ddifewn ac oddiallan. Na chwsg ond hynny yn nhom­men y cnawd (o swyddog.) Pryn dy amser. Na âd ir syrthni, ar ymborthi diofn, ar balchder, ar oferedd lyngcu dy einioes di ath deulu. Canys y peth a bassio vnwaith ni elli moi alw yn ôl. Gorchymyn heddwch a threfn dda (od oes awdurdod genit yn y wlâd) ô vsdus. Na âd i'th gymydogion fyw fel anifeiliaid direswm. Cosba bawb ar a weithredo ddrŵg yn erbyn ei gydŵyb [...]d fel y dywedaist di dy hun o'r blaen. Nid digon dywe­dyd heb wneuthur. Ac os cais nêb gelu ei oleuni, ym­resymma ag ef yn ofn Duw. Dymma 'r ddamnedigaeth fod dynion yn caru 'r tywyllwch yn fwy nar goleuni yn­ddynt, ac yn mynd felly yn yrroedd ir lladdfa. Caffed pôb drwgweithred genit y gosp a haedde. Na ddyger bywyd dyn am anifa [...]l Bydd dadmaeth i dd [...]i ym­mysg Pawb, Gen. 10.9. ac nid fel Nimrod yn llâdd ac yn llyngcu y [...] ei hunan. Na chais chwaith ystwy [...]ho cyd [...]y­bod [Page 106] bod nêb i'th opiniwn di drwy rym, ond drwy reswm, a chadw heddwch i bôb vn i d [...]ywedyd ei feddwl os he­ddychlon yw. Mae opiniwnau 'r cyndyn mor aml ai dyddia [...], ac m [...]r anwad [...]l ai llygaid. Mae llawer o groes ffyrdd yn llawn lladron hyd yn hyn ymhedair co [...]gl y ddaiar. Os troi di oddiar y ffordd di a gwympi tw awylaw nhwy. Am hynny Gochel meddaf fel dym­ma 'r dydd [...]u diwaethaf dyrrysaf pery [...]claf. Dy waith di yw dy wadu dy hun. Derchafu mâb Duw, Caru pôb [...]ŷn, Cashau pôb pechod, ymnythu yn Nuw yn vnig. Di [...]gw [...] yn ara [...]aidd am ei bleser ef, ymestyn ymlaen at y perlau tragywydd [...]l, Cadw gynhwyllin dealldwriae [...]h y seinctiau o'r blaen. Gochel fflûwch o ŵyboddaeth yn y pen heb nerth yn y galon a phu [...]d [...]b yn y bywyd. Ac edry [...]h am ddydd y farn bôb munud. a chais h [...]ddwch, a châr wirionedd, a gwîr Dduw 'r danghneddyf ar goleuni a fydd gydath di ac ynot ti. Ond onis gwnei yn ôl fynghyngor i ond gwrthod o honot wrando ar fy llais. Wele scerbwd drew­llyd a fyddi di yn y wlâd, a charcharwr anesmwyth yn y pwll diwaelod heb gael byth newid dy bîg. Ond (ô Eryr adenog mi d [...]bygwn dy fôd ti yn addfed i ddaioni, Am hynny fy nymuniad yw ar i tithau hefyd ehedeg dros dair sir ar ddêg Cymru, a dywedyd wrthynt ym­mhób tref a phentref, ymmhôb llan a threflau, ymmhôb cymydogaeth a theulu, wrth bôb vn o ganghennau A­dda, Hên ac ifangc. Edifarhewch. Mae teyrnas y Brenin mawr yn agos. Na chwedleuwch oferedd y naill ai gymydog mwy. Ymrowch i ddisgwil am ym­ddangosiad y Duw mawr ar holl galon mewn bwriad nerthol i ddychwelyd atto yn ei allu ei hun. Cidwch y gwir Sabbaoth oddifewn ac oddiallan. A Duw 'r Dru­garedd a ddisgleirio arnochwi or vchelder.

Eryr.

O Colomen. Mi wranderwais arnat yn ddi­staw [Page 107] fel y dyle 'r mwyaf ar y lleiaf. Ac mae fy me­ddwl i yn ddiolchgar am y cwbl, Ac am dy holl gynghorion caredig. Mi a roddaf i tithau air cyn ymadel. Cadw ar yr aden yn wastad. Canys mi wn fôd llawer aderyn dû mewn cenfigen yn chwen­nych cael gafel arnat. Pe bai yn thaid mi ddywe­dwn. Gochel ddiscyn i lawr i garu 'r ddayaren, Gochel hedeg allan o olwg yr Arch. Ond mae vn yn dy ddyscu di, nid rhaid i m [...] mo'th gyng [...]ori di ymhellach.

Colomen.

Nid ydis etto ond trydar f [...] gair llais arall ar ôl y chwe diwrn [...]d. Na e [...]y [...]hed neb am syn­wyr yn ôl dysceidiaeth y byd oddiwrth Golomen wir [...]on. Nid wyfi yn meddwl drwg i [...]êb, Am hynny na ymddi­gied nêb (nag ymflined nêb i bigo tyllau yn y llyfrau hwn) Swm yr hyn a ddywedais yw [...]irgelwch yr Ail­enedigaeth yn y dwfr ar tân ysbrydol. Dymma ddi­gon (meddaf) i'r doeth, a Dymma ormod i'r cyfrwys.

Eryr.

Mae gennif lawer o Gwestiwnau caledion eraill iw gofyn, Ond ni ai gadawn nhwy dan Glò nes cael yr Agoriad ar odfa nesaf os rhoddir hi i ni) Melys fydd gan rai ddarllain ein hymddiddanion ni, ond chwerw fydd iddynt i carcharu ai Gwaw­dio. Ac mi wn mai gwìr a ddywedodd Salomon. Y gwatwarwr a gais synwyr ac nis caiff, Dih. 14.6 ond hawdd yw i'r deallus ddeall. Y pechadur a ddibrisi [...] yr hyn ni ddeall, ac a wnaiff yn erbyn yr hyn a wŷr. Jud. 10. Nid yw nês er cael hyn iw dŷ oni bydd oddifewn. Ond mae 'r geiriau a ddywedaist ti wrthyf fi fel mêl yn fyngenau i, beth bynnag a ddêl yn nesaf. Ni a adawn hynny i ddyfod, ac yn y cyfamser ni a gŷde­hedwn ynghylch yr Arch yr hon a achubodd we­ddillion dynion. Gorau i'r plentyn fôd gydai rieni ac i ddyn fod gyda Duw, Disgwiliwn wrtho. Gwnaed [Page 108] a fynno. Ond Gwrando Accw. Mi glywaf adar eraill yn ymresymu. Ai gorau i ni fyned i wrando arnynt?

Colomen.

Gwrandawed pawb ar y llais cywir. Ond na reded ar ôl cyscodau. A Gwna dithau O Eryr yr hyn sydd ynot fel y dylit i wneuthur. Amen. Ac felly ffarwel.

TERFYN.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.