CAROLAU, A DYRIAU DUWIOL. NEU GOREUON GWAITH

Y Prydyddion Goreu Yng-Hymru.

Yr hŷn a Argraphwŷd yn ofalus, yn y Flwŷddŷn, 1696. Ac ar werth gan Thomas Jones.

Y Rhag-ymadrodd at y Darllennydd.

Darllennŷdd addfwŷn,

GAN ystyried mai difŷr a hôff gau lawer o'r Cymrŷ ddarllen a chanu cerdd Gymraeg; Cy­merais bêth Poen i gasglu ynghŷd bigion Cân dduwiol, neu ddewisol waith y prydyddion goreu yng hymru: Ac a'u Hargrephais yn y llyfr hwn, er mwŷn diddanu y Sawl a chwenycho Duwioldeb mewn Cynghanedd, gan obeithio a dichon Cywrein-waith y prydyddion dysgedig, ddwŷn rhai i fyfyrio yr Heudd-barch Fuddiol­gerdd hon.

Ni roddais yn y llyfr hwn un dychan, na chrâs gerdd, na gwagedd, na maswedd; na gogan i un-dŷn, na gwatwar yn erbŷn Crefŷdd yn y Bŷd; ond yn hytrach Ymborth iachus a ddygymudd a dwŷfron pôb Cristion o ddŷn: Holl fwariad y gwaith ymma, ŷw, ceisio Troi meddyliau dynion oddiwrth bôb oferedd, a gwreiddio yn blethiedig yn eu Calonnau ffrwŷth­lawn ffŷdd yn y gwir Dduw Creawdwr y Bŷd, ac yn Jesu Grîst ein gwaredwr; Ac yma dyweda gyda St. Paul, A Duw'r gobaith a'ch cyflawno o bôb llaw­enŷdd a thangnefŷdd gan gredu, fel a Cynnyddoch mewn ffŷdd a gòbaith, Trwŷ nerth yr ysprŷd glân, Amen, Rhufeiniaid, 15.13.

Amrŷw o'r Carolau ar dyriau ymma a Argraphwŷd o'r blaen yn Rhŷd-ychen, yn y Flwŷddŷn 1686. ond mewn môdd Cywilyddus; o blegŷd nid oedd odid o ddau bennill tuntu ynddŷnt yn Gymraeg cywir, nac mewn Cynghanedd; a hynnŷ drwŷ ddioddeu i'r Saeson franaru'r Gymraeg wrth gam osod y llythyren­nau, heb geryddu o rŷw gymreigwr dâ y gwaith ar eu hôl cŷn ei Argraphu; a hynnŷ a wnaeth gam mawr a'r Prydyddion, ac a'r Darllennyddion: Ac Amrŷw eraill o'r Carolau, ar Dyriau ymma (nad Ar­graphwŷd monŷnt erioed o'r blaen) a ddaethant i'm llaw yn yscrifen dywŷll iawn, ac yn llawn beiau o Gymraeg anghywir, a cherdd anghyson: Nid wŷf yn bwrw dim bai ar y prydyddion, ond ar yr yscri­fenyddion [Page]a gam yscrifenasant y Caniadiau wrth eu Coppio o'r naill law i'r llall: Gan mor amherffaith a daeth y gân i'm llaw yn Brintiedig, ac yn yscri­fennedig; Cymerais lawer o boen iw hail yscrifennu, ac iw tynnu i gynghanedd lle 'roedd anghysondeb ynddŷnt, drwŷ esceulustra yscrifennyddion di-ofal: Etto er maint o boen a Gymmerais wrtho, nid allai addo fôd y llyfr hwn heb un bai ynddo chwaith; ond 'rwi yn hyspŷs fôd cŷn lleied o feiau yn y llyfr hwn, ag mewn odid o lyfr Cymraeg ag fŷdd yn Brint­iedig y dŷdd heddŷw. Ac am y Caniadau a wneu­thum fy hun, maent hwŷ mo'r ddifai ag a medrodd fy-ngwan wenŷdd eu gwneuthur.

Er mwŷn gwneuthur y llyfr hwn yn hôff, ac yn ddifŷr i bob darllennŷdd, Argrephais destŷn Cymwŷs i pôb Carol a dyri wrth eu dechreu: Ac yn niwedd y llyfr gwneuthum daflen o'r hôll destŷnau mewn rheol wŷddorig, fel a gallo'r Darllennŷdd (wrth y dalfen honno) yn brysur gael y Carol, neu'r Dyriau a fynneu heb chwilio'r llyfr drosto amdano.

Heblaw hynnŷ gosodais daflen arall (yn niwedd y llyfr hwn) o'r llain gyntaf ymhob Carol a dyri; A hynnŷ er mwŷn dangos ir neb a fedro gofio cerdd wrth ei dechreu a ydŷw hi yn y llyfr hwn, ai nad­ydŷw.

Ac yn ddiweddaf gosodais (mewn rheol wŷddorig) henwau y Prydŷddion a wnaethant y caniadau sŷdd yn y llyfr hwn.

Cenwch i'r Arglwŷdd, canŷs gwnaeth yn ardderchog, Exod. 15.21. Cenwch i'r Arglwŷdd yr hôll ddaiar, mynegwch o ddŷdd i ddŷdd i Iechŷdwriaeth ef, 1 Cron. 16.23. Cenwch i'r Arglwŷdd ei Sainct ef, Psal. 30.4. Cenwch iddo ganiad newŷdd, cenwch yn gerddgar, yn soniarus, Ps. 33.3. Cenwch yn llafar i Dduw ein cadernid, [...]enwch yn llawen i Dduw Jacob, Ps. 81.1. Dâ ŷw moliannu'r Arglwŷdd, a chanu mawl i'th enw di y Goruchaf, Ps. 92.1. I ti Duw fy Iechydwriaeth am tafod canaf yn llafar am dy Gyfiawnder, Ps. 51.14.

Tho. Jones.

CAROLAV, A DYRJAV DVWJOL.

Ar y Dôn a elwir Leave Land, y ffordd hwŷaf: Y rhain [...]ll a ddônt hefŷd yn esmwŷth, ac yn ddifai ar dôn Gwilieu'r Natalic.

Carol ar ddechreuad y Bŷd, a'i ymddygiad.

1.
PAN greodd Duw nefol, y Bŷd mor rhyfeddol,
O'r priddŷn daiarol ordeiniodd y dŷn;
O'i assen oedd faswedd, mewn hytrach anrhydedd,
Gwnaeth wraig yn ymgeledd iw ganlŷn.
2.
Fe a'u rhoes yngardd Eden, ar ddyrŷs ddaearen,
Mewn cyflwr di angen, os llwŷdden eu lle;
Gan wahardd medleiaeth a ffrwŷth pren gwŷbodaeth
Rhag marw yn boenydiaeth eu eneidau.
3.
Y sarph yn ddichellgar a'u hudodd ac afal,
A'u gofal yn anial a nynodd;
A'u codwm cywilyddus mewn môdd pechadurŷs,
Dros bawb yn anafus a nofiodd.
4.
Pan dorwŷd gorchymynion, y cadarn Dduw cyfion,
Pob union o'r galon a giliodd;
Mewn malais ymeulwŷd, yn llanw gollyngwŷd,
Yn fwŷ nag a medrwŷd ei 'madrodd.
5.
Rhoi eu buchedd i bechu, gwaith hagar gwaethygu,
Heb gredu, na medru llyfodraeth;
Duw nefol o'i noddfa a roes ddiluw i ddifa,
Holl drigfa'r Bŷd yma i fynd ymaeth.
6.
Ond Noah oedd ddiniwaid, wâs ufudd a safiaid,
A'i deulu, a'i anifeiliaid, arbedaid i'r Bŷd;
Gan ddisgwŷl, or diwedd, i bawb mewn tyngnhefedd,
Ar Dduw ynddi goegedd roi goglud.
7.
Pan amlhaodd eilwaith y bobl heb obaith,
A wnaeth anllyfodraeth o sowaeth yn sŷn,
Heb gofio'n gyfannedd na'u dechreu na'u diwedd,
Ond ymdaith i'm goledd a'u gelŷn.
8.
Eu camwedd oedd cimmin, a'r caetha o fôdd cethin,
Heb iddŷn ymddiffŷn iw ddeffol;
Na haeddu, na gobaith o nêb well cynhysgaeth,
Na ffoeni yn y ffwrnais Uffernol.
9.
Bu Dduw mor gariadus a styrio yn dosturus,
Wrth euog wŷr clwŷfus, anafus ddi nerth,
Gan bwŷntio ei Fab cyfion, un gorph ac un galon,
I ddioddef dros filion farwolaeth.
10.
Fel buchedd dŷn bychan, apirieu'r Máb purlan,
Y Flwŷddŷn yn gyfan a gofir;
Sŷ er Mil, Chwe'chant a Thriugain, a thri saith ar gyfein,
I'r pumed a'r hugain o'r Rhagfŷr.
1681
11.
Mae'n deilwng Natalic, iw gadw yn barchedig,
Heb ddiffŷg yn ddiddig rhown ddyddiau;
I foli yn dragywŷddol, yn ufudd Dduw nefel,
Annuwiol rai bydol a beidieu.
12.
Llawenŷdd pob calon fŷdd iw dreilio ffordd union,
Heb wallgo mewn moddion iw meddwi;
Na chwenŷch i chwareu, ar ddisiau na chardiau,
Hudoliaeth hŷd angau iw rhoi i dyngu.
13.
Clodfored pôb Cristion, o eigion ei galon,
Yr union Dduw cyfion a'i cofiodd;
Rhag dymchwel i boeni i'r tân bŷth a beru,
I'r nefoedd uwch obru, fe a'u 'chuboid.
14.
Derbŷn yn ufudd, bechodau'r hôll wledŷdd,
A wnaeth ein gwaredŷdd, gwir ydŷw;
Roedd cimmin eu camwedd, a rhoi yn y diwedd,
Fab Duw am eu hoferedd i farw.
15.
Doluried pob calon, worth gofio mo'r greulon
A wnaeth yr Iuddewon afradlon ddi rol,
Croeshoelio yn gythreilig Fad Duw bendigedig,
Anniddig wŷr ffyrnig Uffernol.
16.
O'i wir-fodd yn ffyddlon, dioddefodd Duw cyfion,
I'mddiffŷn ei elynnion aflonŷdd,
Er puredd ei ddwŷfron, tuagat ei gaseion,
Tyllason ei galon heb gywilŷdd.
17.
Ar ol ei fradychu yn ddigywilŷdd, iw gladdu
Rhoi Celain yr Jesu a wnae'r Diawled;
Am y weithred anferthaf, nid pobl a'u galwaf,
Ond creulonaf a gorthrymmaf o gythreilied.
18.
Derchafu iw oruchafiaith, y trydŷdd dŷdd eilwaith,
A wnaeth yn gwir odiaeth waredwr,
A dychwel (hŷn coelir) i'r nefoedd uwch wŷbŷr,
I fod i ni'n siccir dda swccwr.
19.
A fo mor ddi-synwŷr ac ameu'r Yscrythŷr,
Sŷdd lwŷbr pob cyssur, mo'r ddifŷr i ddŷn;
Fel dall anghyfarwŷdd, ymdreinglo mae i dramgwŷdd,
A'i ddialedd a ddigwŷdd yn ddygŷn.
20.
A goelio yn ei galon farwolaeth Duw cyfion,
Daioni iddo ddigon a ddigwŷdd;
A gadwo ei orchymynion, bŷdd ddifriw ei ddwŷfron,
Iw ddysgyblion mae addwidion sŷ ddedwŷdd.
21.
Y Bibl pan chwiliach cei hŷn yn gyflawnach
Nag a ellais i gyfarch i Garol;
Gwnaed pawb hynnŷ yn ddiwŷd, os ceriff ei fywŷd,
A'i 'mddiffŷn rhag gofid tragwŷddol.

Carol ar Greuad y Bŷd, syr-thiad Dŷn, a'i all bryniad drwŷ Jesu Grîst.

1.
HOll ddeiliaid meddalon, cynhedlaeth prîdd Hebron,
Plant Efa wan galon, o gofion iawn gêd;
Na ddysged néb esgus, ein cyn-fam gildynnus,
Yr hwn sydd ddŷn dewis gwrandawed.
2.
Duw Awdwr daioni, a greue'n rhieni,
Heb bechod, na brychni, ei sonni ar ei lun;
Gan ddisgwŷl ufudd-dod, o ddyfal iawn ddefod,
A chadw ei wŷch ammod orchymmŷn.
3.
Goffode'n garedig, y ddeu-ddŷn arbennig,
I fŷw heb ddim diffŷg, na pherŷgl na phwŷs;
Mewn cyflwr anwŷl-gu, dedwŷddol dueddu,
Dan ganu ymhyfrydu, 'mharadwŷs.
4.
Y Bŷd a'i hôll Bower, ei lendid a'i lownder,
Creaduriaid, bôb nifer, yn dyner a dâ;
Gwŷllt, gwâr, a gwenwŷnig, oedd ôll ostyngedig,
Caredig ddi-eiddig i Adda.
5.
Mewn cyflwr tra-pherffaith, a phôb rhŷw wŷbodaeth,
Llwŷddianus oedd y lluniaeth a lluniwŷd y Dŷn;
Hwŷ 'droedient yn ehud, bôb gwiber wenwŷnllud,
Ni cheisient ochelud ei cholŷn.
6.
Rhoed bywŷd ac angeu, yn ebrwŷdd o'u blaene,
Gan ddweud y ffordd oreu drwŷ 'modau drâ mawr;
Ni chadwent orchmynnion, y cadarn Dduw cyfion,
(Fal gweision da sythion) ond faith-awr.
7.
Yr hên Sarph uffernol, y gelŷn ysprydol,
A dwŷlle'r wraig benffol, bu anffawd iw thâl,
Pan daflodd hi'n embŷd ei heppil, a'r holl-fŷd,
I adfŷd oer ofid er afal.
8.
Fe a wnaeth y Creawdwr, yn gyfiawn iawn farnwr,
Gan farnu'r troseddwr, a'i gyflwr yn gaeth;
Ei ddelw 'gollassen, yn Athrist 'nhwŷ aethen,
Tan aden mawr milen marfolaeth.
9.
Nhwŷ daflwŷd o Eden, i gloddio'r Ddauaren,
A'r chwŷs ar eu talcen, aniben yn noeth;
Gan golli'r ardd reial, lle bassent yn cynnal,
Heb arnŷnt mo'r gofal am gyfoeth.
10.
I gyflwr marwollaeth, dan felltith y gyfraith,
A syrthient osywaeth yn helaeth hwŷ a'u hil,
Garchorrion gresŷnnus, trwŷ Anhab truenus,
Gofudus, anhappus i'w heppil.
11.
A'r dŷn prŷd nad alle, ymdynnu o'i gadwŷne,
Nid oedd gantho ond diodde am feie môr faith:
Heb fôdd i fodloni, Cyfiawnder mawrhydi,
O ddiffŷg rhŷw eli iddo eilwaith.
12.
Pe rhoese am ei gymmod, fil filoedd o filod,
Aur, Arian tra Pharod, a sorod rif Sêr;
Ni chawse bŷth rwŷdd-deb, iw heddychu am ffolineb,
Mo wŷnob côf undeb Cyfiownder.
13.
Pe rhoese yn galennig, ei gyntaf anedig,
A'i fywŷd yn unig am fyned i'r Nef;
Y gair aethe'n union, o eneu'r Tâd cyfion,
Sŷ'n dangos achossion na chawsef.
14.
Ond Duw pôb Trugaredd, o'i fwriad, a'i fawredd,
A drefnodd ymgeledd o'r diwedd i'r Dŷn;
Cae hâd y wraig honno, orchfygu'r Sarph etto,
Ei sigo, a'i churo ar ei chorŷn.
15.
A hŷnn a wnaeth ddyfod yr Jesu Dduw uchod,
Ail Berson glân hynod y Drindod, pan drôdd
I'n gwared ni o'n bryntif, ynghroth y Fair wirŷf,
Er peri dŷsg i ni disgynnodd.
16.
Mae Dafŷdd, a Moesen, ac Esau drachefen,
Yn drogan yn llawen er mwŷn ein gwellhâd;
I'n gwared ni o'n beiau, 'nghyflawnder y dyddiau,
Mae'r Arglwŷdd a Godeu i ni Geidwad.
17.
A dymma'r prŷd prydffŷdd a ganwŷd ar gynnŷdd,
Ym Methlem Trêf Ddafŷdd, i ddefnŷdd mo'r dda;
Clodfored pôb calon, a geneu gwiw union,
Y ffyddlon fwŷn Seion Fessiah.
18.
Daeth llu o Angylion, i ddangos yn dirion,
Fôd 'wŷllŷs dâ i ddynnion, na ddioged neb;
Awn gyda'r Bugeilwŷr, i foli'n benffettur,
Ein Brenin mwŷn pryssur mewn presseb.
19.
O daeth y gwŷr doethion, trî Brenin tra mawrion,
O'r dwŷrain wlad eigion, rai diogel a fŷ,
Iw 'ddoli'n ddŷn bychan, dilynwn ni weithian,
Eu hamcan, a'u hannian yn hynnŷ.
20.
Mae'r Bibl gwîr odiaeth, yn dwŷn ei dystiolaeth,
Ni raid i'n un araith mwŷ helaeth na hwn,
Tra fŷ fe'n tramwŷo y Bŷd nes ei Ado,
Ei fywŷd ôll yno darllenwn.
21.
Er iddo'n gyffredin wir dalu'r hawl dibrin,
Dros bôb rhai or gwerin, a'u gwared hwŷnt-hw;
Ni ddŵg mewn llyffetheir i'r nefoedd ddŷn ofer,
Fo'n arfer gwâg hyder iw cadw.
22.
'Chwi welwch yn ddilus, na thyccia'r un esgus,
Rhaid meddwl gofalus i foli Duw nêf,
Sŷ'n gofŷn y galon yn astŷd gan Ghristion,
Rhŷ weigion ac oerion ŷw geirief.
23.
Rhaid derbŷn ein Ceidwad yn Brophwŷd, yn 'Ffeiriad,
Yn Frenin mawr archiad, oruchel ei rôl,
A'r sawl ni wnel fellu, ni wiw iddo hyderu
A perthŷn yr Jefu i'r an-rasol.
24.
Un Cant a'r Bymtheg a nodi'r, a naw-deg,
A phedair ychwaneg, ar adeg yr wŷl;
1694
Oedd oedran ein ceidwad, pan wnaed hŷn o ganiad,
I adrodd ei archiad, a'i orchwŷl.

Dyriau yn datcan hanes y Bŷd.

1.
Y Brŷtaniad hyna, trigolion gwlâd Cambria,
Gwŷnethia, a Demetia, yn gyfa dan go,
Clywch hanes anianol, y Bŷd anwŷbodol,
Ar bobol anweddol sŷdd ynddo.
2.
Ni bŷ'rioed rwi'n Credu amlach pregethu,
Nac amlach rhai'n pechu, a'u buchedd mor ddrŵg:
Na chaethach Cyfreithiau, nac amlach troseddau,
A gwneuthur cam golau'n ein golwg.
3.
Wrth edrŷch oes un-dŷn o'r uchaf ei ffortun,
Hŷd at y Cardotŷn fŷ'eb ronŷn o fri,
Yn ole mi wela nad ŷw y gwŷr mwŷa,
Sŷ'n Cael eu Bŷd lawna'n bodloni.
4.
Y Tlawd sŷdd yn chwanog i fynd yn gyfoethog,
A'r Cyfoethog yn farchog, gwiw Enwog ar goedd,
A'r Marchog sy a'i awŷdd ar fyned yn Arglwŷdd,
O Arglwŷdd yn Llywŷdd y lluoedd.
5.
Mae dynion wrth Ffortun, fel hoelion mewn olwŷn,
Yn sidill iawn sydŷn, a'i hilin tru hi,
A rheini a fo'n ucha mewn munŷd or lleia,
A ddigwŷdda'r hŷnt yna i fynd tani.
6.
Y bobl ynfyta, a'r dynion cnafeiddia,
Sŷ'n cael y lwc amla, a happusa'n y Bŷd,
Pan fo gwŷr deallus, mwŷn, gonest, amcanus,
Yn bŷw yn helbulus heb olud.
7.
Gŵr doeth tlawd ni hoffir, a'r dinerth ni adwaenir,
Y cyfoethog canffyddir, fe a welir heb wâd,
Pettef ond hutan, diddawn, a dî amcan,
Fe gaiff am ei arian gymeriad.
8.
Doethineb di ystyrir, a bonedd ni pherchir,
Heb gyfoeth yn siccir, esglusir gŵas glân,
Ym marn pobl grintach nid oes heddŷw ddoethach
Y dŷn a fo'n eiriach ei arian.
9.
Ffreins âeth yn oerion, ni edwŷn gwŷr mawrion
Mo'u ceraint tylodion pan dreinglon ar drô:
Tra bo dŷn mewn urddas, ac arian o'i gwmpas,
Bŷdd llawer gŵr addas gâr iddo.
10.
Er bôd i ddŷn ddigon o geraint bonddigion,
O amriw wŷr mawrion, a breulon eu bri;
Ceiff weled rŷw amser mae gwell iddo'n Lloeger
Ei arian or haner na'rheini.
11.
Rhai a brioda o awŷdd i fawrdda,
Un sut a marchnata cyfflyba eu bûdd:
Yr uchaf ei geiniog, a gaiff ferch gyfoethog,
Neu Aeres nodidog, ddŷn dedwŷdd.
12.
Eraill a garan, yn aruth am arian,
Ac eilwaith hwŷ 'gilian, nhw doran er dâ:
Ac wedi hŷn weithiau, ychydig ddefeidiau,
Neu ugiain o sylltau a'u cysyllta.
13.
Duw yn ei deŷrnas a ordeinodd briodas
Pôb gwir gristion addas, ufudd-was iw fawl,
Ond rhai sŷ'n troseddu, eisie deisyfu,
Iawn gymorth yr Jesu'n bûr rasawl.
14.
Gan gimin iw'r trawster, cybŷdd-dod, a balchder,
Nid rhyfedd os gweler rhŷw brinder in brô,
Ni rŷdd y goludog i'r tlawd gwan anghenog
Newŷnog, na cheiniog, na chinio.
15.
Mae siamplau Efangyledd, o Lazarus oedd glafedd,
A'r gŵr di drugaredd yn gomedd y gwan:
Wrth boeni yn y ffwrnes, i ymoeri o'r mawr-wres
O'r dwfr ni chae Difes ûn dafan.
16.
Mae calon dŷn chwanog, yn wâl dri chornelog,
A'r Bŷd yn grwn ochrog, cwmpasog cwŷmp ôch,
Er rhoddi hwn ynddi, nid ellir mo'i llenwi,
Bŷdd cornel wâg i ddi chwi a'i gwŷddoch.
17.
Pan lwŷddo dâ i gybŷdd, chwanegu a wna ei awŷdd,
Ni chaiff iw fodlonrhwŷdd lawenŷdd diwall,
Na heddwch i gysgu, gan ofal am gasglu,
A deusyfu pentyru punt arall.
18.
Ped fae dŷn cŷn amled ac Argus ei lyged,
I chwilio, ac i weled, a synied yr oes hon,
Gan wŷr a'u Trosedde, fe gae 'dwŷllo weithie,
Er craffed a fydde yn ei foddion.
19.
Hawddfŷd i'r amser 'bu Howel Dda ei arfer,
Yn farnwr cyfiawnder, eglurder iw glôd;
Materion y cŷmru a gae ddechreu, a diweddu,
A'i barnu heb eu darnu'n 'r un diwrnod.
20.
Gan amled iw ffalster, a rhagrith rhai eger,
Ni cheir iawn ffyddlonder o freuder y frest:
Mae Scysmau, a Heresiau, mewn llawer o fannau,
Ac amriw o'm piniwnau, heb ûn onest.
21.
Un Duw sŷ'n ordeinio un haul i'n goleuo,
I'r un nêf 'rŷm ni'n ceisio rhodio'n ddi rus,
Un ffŷdd i'n hamddiffin, ac un llwŷbur dibin,
A ddylem ni ddilin yn ddilus.
22.
Rhown barch ac ufudd-dod i bawb mewn Awdurdod,
Eu rhoddi gan wŷbod oddiuchod i ddŷn;
Crist a'i ddysgyblion, a ufudd-hau'n dirion
I greulon swŷddogion 'wedd ddygŷn.
23.
Y Protestant, bŷddwch ddianair, Cŷd-unwch
A'i gilŷdd, a gwelwch fôd gelŷn i ni,
Rhaff deircaingc ni ddryllir, cŷn hawsed fe a'i hoesir,
Yn hîr os crydeddir cred iddi.
24.
Nid ydŷw'r Bŷd ymma, ond megis hafotta,
Na hoedl yr hwŷa ond rhedfa o fŷr hŷd:
Rhaid i ni'n ddiame roi cyfri am ein geirie,
A'n trosedde, a hŷll feie'n holl fywŷd.
25.
Na werthwch wlâd nefol, am fŷr bleser bydol,
I borthi chwant cnawdol, anianol a nwŷ
Edifarhewch, credwch, curwch a cheisiwch,
A chewch yr hyfrŷdwch paradwŷ.
26.
Codwch, na arhoswch mewn niwl ac anialwch,
I wlâd Canan cerddwch, cyfeiriwch i'r fro,
Cewch fŷw yn dragywŷdd; yng haerselem newŷdd,
A pherffaith lawenŷdd lawn ynno.

Carol o fawl ir Jesu, ar foreu.

1.
POB perchen enaid, gwrandewch ar ein llefaid,
A doswch fel defaid diniwaid iawn wedd:
Rhown foliant yn fore, cŷn mynd tros y dore,
Drwŷ gariad i'r gore ei drugaredd.
2.
I'n tynnu ni on prudd-der, mae'n hoedel mewn hyder,
Daeth Duw yn ddŷn tyner, a'r nifer or nef,
I gofio'r oen gwerth-fawr, gwiw Lywŷdd goleu-fawr,
Cŷd ganwn ar bridd-lawr bereiddlef.
3.
Duw yn y dechruad, pan gwŷmpiodd ein hên-dad,
Fe addawodd yn ddiwad wir geidwad i'r gŵr:
Hwn ydoedd Jehovah, a ddycbwŷd i'r lladdfa,
Drw ŷ Suddas dros Adda drosedd-wr.
4.
Mab Duw yn enwedig, or nef fendigedig,
Mab Mair etholedig yn feddig a fu:
Mab Dafŷdd Frenhinol, lîn-o-lin ol-ynol
O Juda ddewisol oedd Jesu.
5.
Ffeiriadau a phrophwŷdi, hiliogaeth plant Lesi,
A roddes oleuni o eni Mab Mair:
A Moses ac Aron, a phawb or Athrawon,
Yn dystion i ddŷnion oedd un-air.
6.
Pân anwŷd blygeinddŷdd, ym Methlem Tre Dafŷdd,
A gwreiddiodd llawenŷdd wîr burffŷdd ir Bŷd:
Cael prŷnwr eneidiau, mawr Frenin ar fronnau,
Gan ferch yn ei breichiau o bur Jechŷd.
7.
Dan ganu'n bereiddiol a daeth y llu nefol,
Ar newŷdd dedwŷddol an-haeddol yn hŷ,
Drwŷ y rhaini a rhybuddied y gwiwlan fugeilied,
I fyned i weled i welu.
8.
Bu lawen ei ganfod, a'i eni oedd ryfeddod,
O Forwŷn ddibechod, heb achos o ŵr:
Yn Dduw iw addoli, yn Fab, yn frawd iddi,
I cheidwad wŷch wedi, ac Jachawdwr.
9.
Y doethion deallus, or dwŷrain hyderus,
Drwŷ seren gysurus a'u Tywŷs nhw ir tŷ:
Mab Duw addolason, ac iddo offrymason
Anrhegion a roeson i'r Jesu.
10.
Aur coeth o wlâd Asia, thuss enaint or brasia,
Myrrh, arogl pere [...]ddia, pur roddion gan Dduw.
Fel dyna'r tair anrheg, a rodd y gwŷr glandeg,
I dwŷsog frenhin-deg ein hun-Duw.
11.
Rhown nine Gristnogion, yr unrhŷw anrhegion,
Ir tirion oen gwirion drwŷ gariad bob dŷdd.
Rhown gred o'n calonne, rhown fawl o'n gwefuse,
A ffŷdd ddi-droeade iddo'n drydŷdd.
12.
Drwŷ ddiodde hir benud, mewn ing a chwŷs gwaedlud,
Nes colli dros enŷd i fywŷd o'i fôdd:
Henawgwŷr a bechgin, bonheddig a gwerin,
Cardottun, a Brenin a brŷnnodd.
13.
Ond angall iawn dyngu rhŷw wagedd, a rhegu,
Gan yssu gwaed Jesu a'n dwisodd ni 'fŷw,
Can moliant ar liniau, heb dwŷll o'n geneuau,
Yn hŷddysg a haeddeu fe heddŷw.
14.
At Sant na weddiwn, at bâb nag ymbiliwn,
Ar Jesu disgwiliwn, a gwiliwn yn gall,
I gadw'n eneidiau rhag Sattan a'i rwŷdau,
Na alwn y Boreu ar neb arall.
15.
Y Dŷn edifarus, a yfo ei waed Blassus,
Drwŷ fwŷta ei gnawd melus, rheolus iw'r hêdd,
Ni bŷdd arno syched, na newŷn, na niwed;
Fe a geiff yn egored drugaredd.
16.
Ymdrwsiwn yn hunen, mor drefnus ar glommen,
Heb lîd, na chynfigen, na chynnen, na chwant:
I fynd at yr Jesu, lle iawn i'n diddanu,
A'n gwŷnfŷd i ganu gogoniant.

CYNGOR I FYW YN DDUWIOL
Ar Lêf Land; y ffardd [...]ywŷaf.

1.
CLŷw bennill o ddifri y Cymro di-wegi,
Ni roddodd Duw i mi na daiar na dâ;
Nag arian iw danfon, ond hŷn o gynghorion,
Ar rheini 'n arwŷddion a rodda.
2.
Pan godech di 'r boreu, gwna dy weddieu
At frenin uchel-neu, a'th liniau i lawr,
Gan ddeisŷf ar ir Jesu a'i ddonniau i'th gynhyrfu,
A diolch am a ddarfu yn ddirfawr,
3.
Pan ddarffo it'weddio, prŷd weithran i weithio,
Mae 'n gâs gŵr a garo segurŷd iw drîn;
Bŷdd ddyfal a difeth yn ôl d'alwedigeth,
Chwanega dy daleth a dilin.
4.
Bŷdd onest ac union ymhôb rhŷw weithredon,
Ir Arglwŷdd Dduw cyfion, di a 'i cei fe i ti'n gu,
Ni welais na ffalsedd, na choegni, na thrawsedd,
Erioed yn y diwedd yn ffynnu.
5.
Cofia di ddoniau Duw dan yr Uchelneu,
Na chymmer mo'th brydiau heb weddi,
Nid wŷt ond lledratta oddiar Dduw dy fara,
Pan ddarffo i ti fwŷtta oni ddiolchi.
6.
Cadw dy galon yn lân fel y ffynnon,
Rhag troi ar feddylion, drŵg gerwin,
Rhag malais drŵg milen, neu fagu cenfigen,
Câs ddigter aflawen am flewŷn.
7.
Ffrwŷna dy dafod rhag cablu nac athrod,
Sŷ 'n peri drŵg gernod rhwng dynnion,
Rhac dwedŷd celwŷddau, neu dyngu mawr lyfau,
Ymadrodd ni weddeu i Gristionogion.
8.
Na fydded dy ddwŷlo rŷ brysur i daro,
I spwŷlia neu speilo dy frodŷr;
A mogel chwilenna, o dygi 'r grawn lleia,
Ti golli dy eirda o'r oerdir.
9.
Cadw 'n ddiammeu dy droed ir ffordd oreu,
Na rodia di 'n llwŷbrau 'r annuwiol;
Dy gorph di fŷdd hefŷd ni weddeu iddo ond glendid
Yn deml ir ysprŷd Sancteiddiol.
10.
Pan roech Dywaith i fynu wrth fyned i gysgu,
Cofia di hynnŷ yn ddiammod;
Gweddia ar dy linnîau, gan hwŷr a chan foreu,
Ar ddiwedd, a dechrau y diwrnod.
11.
Chwe diwrnod i weithio ordeiniodd Duw Jago,
A chofio sancteiddo y seithfed;
Dôd hwnnw yn gyfan i'r Arglwŷdd ei hunnan,
A phawb iddo a ganan ogoned.
12.
Cŷrch ditheu i'r Eglwŷs, borth nesa i Baradwŷs,
Cyffesa yno 'n gymmwŷs dy gamwedd,
Ac yno gweddia gyda 'r gynlleidfa,
Ar arglwŷdd a Bara i ti 'n beredd.
13.
Os bŷdd yno bregeth, gwrando 'n ddiafieth,
A chymmer athrawieth ohoni;
Ar pechod a henwo os euog wŷti ohono,
Casâ; nag ymado heb gymmodi.
14.
Mae 'r Efengyl ond antut yn dangos yn eglur
Daeth Jesu i ni a chysur, o cheisiwn ar ôl;
Dioddefodd ef adfŷd dros bechod yr holl fŷd,
I brynnŷ i ni fywŷd. tragwŷddol.
15.
Bryssia i edifaru pôb pechod a ddarfu,
Gan ddeisyf ar yr Jesu drugaredd;
A' mogel fynd iddo ond hynnŷ i ymdroi ynddo,
Mae 'n fadws it fario d' oferedd.
16.
Gochel anlladrwŷdd a phôb anonestrwŷdd,
Sŷdd ffiedd [...]an yr Arglwŷdd Dduw nefol;
Dy gorph di sŷdd hefŷd, ni weddeu iddo ond glendid,
Yn Deml ir ysprŷd Sancteiddiol.
17.
Gwilia anllywodraeth, anweddol gwmnhiaeth,
Na dilŷn bŷdoliaeth gwmpeini;
Mae 'n llâdd yn ddiammeu ein Cŷrph a'n heneidiau,
A 'n cyweth a'n teiau yn toddi.
18.
O byddi rŷ chwannog er hynnŷ i'r geiniog,
Gwaith cybŷdd anserchog, ô ddŷn yn y bŷd;
Y bŷd wrth ei drino na ddôd moth serch arno,
Cei boen gydâg efo a gofid.
19.
Bŷdd fwŷn, ostyngedig, cariadus, caredig,
Ufuddgar, a diddg, a di fâr;
Yr Arglwŷdd gorucha a gâr ostyngeidd-dra,
A balchder a gwŷmpa ei feistar.
20.
Dôd anrhydedd ir Brenin, i dâd a mam cymain,
Athrawiaeth i blentŷn i ddysgu;
Na fŷdd rŷ afrywiog wrth dŷ weinidog,
Mae Duw yn drugarog iw garu.
21.
Bŷdd hael a daionus i 'r Tlawd a 'r anghenus,
O mynni di wŷllŷs yr Jesu ar fŷr;
I 'r rheidus cyfranna, ar clwŷfus ymwela,
Ac etto comfforddia 'r anghyssur.
22.
Ac fellŷ mae i ti ymado ath hôll wegi,
Y Cymro os cerri dy enaid ir Tâd;
Meddwl di goffa y gwersi bŷr ymma,
Ac yno mi a gymra fy nghennad.
23.
Os bŷdd hŷn o gan [...] nêb yn broffidiol,
Er cael o Dduw nefol ogoniant;
Pôb dŷn a ddêl iddo yn lân a 'i calhyno,
Ac iechŷd ir Cymro a 'u canant.

Dyriau ar Robin-fron-goch, yr hwn [...] canu [...] y Frenhines Mary yr ail: ar ei chladdidicath.

(1)
CLywch Adrodd Rhyfeddod, Trwŷ hanes Trâ hynod,
[...]ŷdd Arwŷdd oddiuchod ar Gyfnod y Gwîr;
Mewn rhyfeddol foddion, yn ddisglaer i ddigon,
Ar union Dôn gyson dangosir.
(2)
Nid ydŷw ddychymŷg, na dyfais dŷn diddig,
Gwîriônedd nodedig, trâf unig, trwŷ Grêd,
A gewchi 'n ofalgar am newŷdd diweddar,
Yn llafar fwŷn Glauar iw Glywed.
(3)
Saeth i bôb mynwes oedd farw 'r Frenhines,
A Galar dirodres am Dduwies mor ddâ;
Mae 'r Awran ryfeddod digymmar [...]
Uwchben y llawr hynod lle i 'r huna.
(4)
Mae 'n anodd i 'm ddywedŷd prŷdferthwch ei gwerŷd,
A 'r Pyramid hefŷd, gwŷch hyfrŷd uwch hon!
Mausolewm Eurglod! Rhuf-anial Rhyfeddod!
Un [...]ennod ag Aerod y Goron.
(5)
Colofnau goreuraid! Angylion! Cerubiaid!
Cywrein-waith afrifaid, trâ euraid bôb trô!
Pen dyfais pôb difŷr ddŷn gwŷch ar a fedir
Yn gywir dd [...]fesur ddyfeisio!
(6)
Mae Aur bêth aneiri mewn Rhîn-waith y rheini,
Mor hardd iw ryfeddu, a 'i draethu ar bôb trô!
A llûn y fun ore mewn cŵŷr megis hithe!
Yn fŷw pawb a dybie wrth fynd heibio!
(7)
Uwchben ei chorph hyfrŷd, [...]awr [...].
Er pan ei C [...]lwŷd or bywŷd i 'r bêdd.
Di [...] Arwŷdd ysprydol, yn dangos yn Reiol
Fôd iddi yn dragywŷddol Drugaredd!
8
Fel diwres Aderŷn, Gwael egwan, gô libŷn,
A Bron-gôch, a ddilŷn y ddelw ô hŷd;
A 'i Lais yn ddiammeu yn uchach na 'r Clychau!
Yn Canu or-goreu [...] Gwerŷd.
9.
Mewn Diddan lais ufudd, dan danu ei adenŷdd,
Fe a Gânayn dra [...], pan glywo fê 'r clŷch
Ei odleu 'dderchafa i ymbyngcio a rhain ymma;
Ar Lafar pûr Adda Pereidd-wŷch!
10.
Weithieu fe a ddisgŷnear ben y llew melŷnc,
Gan ganu mor ddifline, a dilŷn ei dôn;
Ar yr Unicorn hefŷd, eiff hwn yr unffunŷd,
Oddioyno [...] Gwerŷd, a 'r Goron!
11.
Nid aeth êf oddiyno, [...]
Ond Peraidd ymbyngcio, a lleisio ar ei llês,
[...]yr awr benod a rhoed yn ei beddrod
Ein mawr-glôd fwŷn hynod Frenhines.
12.
[...]r Aderŷn mor dirion, iw fuchedd yn foddlon,
A 'i Leisiau melusion, mawl-lwŷsaidd ei Gân;
A 'i sŵn yn dadseino yr Eglwŷs a 'r ogo;
Ni fŷny moi dwŷllo i fynd allan.
13.
Er uched a cane yr Organ ar gyrsie,
A Gwŷr y Côr nhwŷthe, diamme ydŷw hŷn,
Clywe 'r gynlleidfa yn uwch na rhain yma,
Ynghylustiau 'r hôll dyrfa 'r Aderŷn!
14.
Fe 'danodd y newŷdd drwŷ Lundain yn ebrwŷdd,
Fôd Rhyfeddod [...]eunŷdd yn ufudd o'r nêf!
Iw weled yn eglur, a 'i nerth uwchlaw nattur!
A 'i ganiad mo 'r gywir ar goref.
15.
Ac yno 'r Gwŷr mawrion (boen dda) ar Bôneddigion,
A phôb mâth ar ddynnion, ae 'n union yn llî,
Lle 'r oid yn rhoi hanes y Canu mwŷn Cynnes,
[...] fêdd y Frenhines fron heini!
16.
Synnu a wnae 'r cyfan wrth weled mo 'r wiwlân
Oedd yr edn bychan, mewn buchedd lân lês,
A 'i odleu cŷn uched, mo 'r glauar iw glywed,
Yn Canu 'n gogoned gu gynnes!
17.
[...] bŷw yn [...] liniaethy drwŷ bur-ffŷdd yn berffaith
Heb gyweith; a 'i araith yn [...] y Bŷd!
A 'i nwŷf ar ei neges, o fron hardd i 'r Frenhines,
Goddiwes yr Empress ar hyn prŷd.
18.
[...] llafar Aderŷn yn dŷst o rŷw derfŷn,
A ddigwŷdd yn dd [...]gŷn [...]r gyndŷn ŵr gwŷch,
Sŷ 'n ceisio gorchfygu pôb dawn a daioni;
Er hynnŷ nyni a beru yn bur-wŷch.
19.
Ac yno hyfrydwch maith diogel, a thegwch
A gawn, a hawddgarwch, ôll heddwch a llwŷdd,
A gwŷnfŷd drwŷ 'n dyddiau, os coelir dŷsg oleu,
[...] Bruttiau cofeiriau'r [...]wŷdd.
20.
Er Machludo 'n seren, a mynd dan ddaiaren,
Mae ei chymmar yn gymmen, iâch-lawen, wŷch Lwŷdd
Drwŷ nerth y Lân Drindod, yn cadw 'r cyfammod,
A roed i ni er Eurglod i 'r Arglwŷdd.
21.
Ein ffŷdd ŷw 'n diffynfa, i 'r gwîr iechŷd gorucha,
Drwŷ gariad ŷr Adda diweddâ or ddau;
Cofiwn ein harwŷl, bôb awr dan ei ddisgwŷl,
Boed hynnŷ yn Anwŷl i ninneu.
22.
Ar ôl ein Brenhines, awn ôll i 'r hîr neges
Dan ddaiar yn ddiwres, heb hanes o hŷd;
Nêf fŷth i 'r eneidiau, drwŷ gariad y goreu
Gweddiwn bawb nineu ar bôb enŷd.

CAROL ynghŷlch Ganedigaeth JESU; A' i Farwolaeth ef.

1.
CYD torrwn i siarad, cŷd-ganwon ir hael-dad,
Oedd cyn y dechreuad, o roddiad ir wŷl.
Cŷd folwn ein llywŷdd; cŷd garwn eu gilŷdd;
Cŷd luniwn lawenŷdd, lu anwŷl.
2.
Mae amser i ganu; mae amser i alaru;
Mae amser i rannu; bŷrr ennŷd sŷdd i fŷw;
Mae amser odiaethol i foli Duw nefol;
Am hynnŷ 'n hynodol hwn ydŷw.
3.
A gyfen ir awran, o forwŷn bur anian,
Y ganwŷd Mâb bychan heb pechod na hai;
Yn Brophwŷd uchel-frein; yn offeiriad, yn frenin;
Yn ffŷddlon ir gwerin â garai.
4.
Cŷn darfod ei eni, fe roese Brophwŷdi
Ohono fe oleuni yn lana yn y bŷd;
Y dygid e i'r lladdfa fel oen or-gwiriona;
A hŷn am waith adda 'n y cynfŷd.
5.
Ni buasem ni diangol rhag uffern benydiol,
Un perchen cnawd dynol (daionus fu'r llwŷdd)
Oni bai el ddyfod a'i eni 'n ddi bechod
O forwŷn ddiweirglod Duw f' Arglwŷdd.
6.
Fel dymma i chwi deulu y môdd yr wŷ'n craethu,
Y ganed yr Jesu wir rasol ei wêdd;
Duw maddeu i mi f' amcan, a 'm gwefus mor aflan
Fyned i ddatgan ei fawredd.
7.
Un mâb y Duw ucha a ddaeth or bodlona,
Yn fâb i ddŷn ymma diammeu fu'r gwaith;
Fel dŷna 'r achosion in peri ni ddynion,
Ir gwir Dduw yn feibion fwŷ obaith.
8.
Un a elwid Maria, ferch Jeacim ac Anna,
O ganol Judea o ddynes ddà ei dŷse,
Yn Ifange berffeithiol a roed yn briodol,
A Joseph ucheddol wŷch addysc.
9.
Ai phriod hwn wedi, bŷth ni adnabu,
Mo gorph ei guwelu, gwiwlan ei phrŷd;
Nes dyfod yr Angel iw chyfarch yn ddirgel,
O nerth y goruchel gwir Jechŷd.
10.
Henffŷch fun eurfrig, fair fendigedig;
Di a ddygi galennig yn ddiddig Dduw Jôn,
A ffrwŷth dy groth euraid a fŷdd yn fendigaid,
Ymhlith y Creaduriaid crŷ Dewrion.
11.
Joseph pan wŷbu mai beichiog oedd y wen gu;
Heb gaffel er hynnŷ mo hanes lliw 'r cann,
Fe amcanodd ymadel ac ysgar yn ddirgel,
Nes D'wedŷd or Angel, nag yngan.
12.
Na rusa gymmerŷd dy wraig a 'th anwulŷd,
Or sanctaidd lân ysprŷd (ond hyfrŷd ŷw 'r hêdd)
Hi a gafodd feichiogi, a mâb a fŷdd iddi;
Ar Jesu di ai gelwi, dy 'mgeledd.
13.
Ei bobl a wared o bêch a chaethiwed;
A hynnŷ a scrifenned yn fanwl heb gêl;
A Joseph cŷn nemmor a adawodd yr Oror,
I ddilŷn hôll gyngor yr Angel.
14.
Ym Methlem Judea y ganed hwn ymma;
Alpha ac Omega, un agwedd ar bŷd,
Lle 'r oedd y Cŷw cethrin yn difa 'r hôll fechgin,
Yn ceisio 'n gwîr frenin fru ennŷd.
15.
Dae doethion or dwŷrain, ar seren ŷw harwain,
Am y mâb Murain i ymorol yn hŷ;
Ac ynteu 'r glân wŷneb ai werthfawr ffyddlondeb,
Yn gorwedd mewn preseb, pur Jesu.
16.
Pan oedd y tai Mawrion, a phôb cwrr yn llawnion
O ladron a Meddwon, da'r haedden gaei barn;
Ac ynte 'r gorucha mewn stabl or waela,
Heb gael mo 'i letyfa mewn tafarn.
17.
Yn siampl i lawer i ostwng eu balchder;
Gwelwch gynifer, gu nwŷfus wŷr hŷ;
Yr amser y ganed ein Brenin gogoned,
Ystyriwn ni waeled ei welŷ.
18.
Dyna i chwi newŷdd o Union lawenŷdd;
Ei eni blygeinddŷdd, gu iawn ddoeth fâb da,
Dyna 'r hâd meddan a dorrodd ben Sattan;
Bŷ wîr yr ymddiddan at Adda.
19.
Yn ddeuddeg o oedran fe ae i 'r Deml ei hunan;
Ni a ddylem yn gyfan ei gofio 'n ei ôl,
Ni fedrai 'r gwŷr hynnŷ, athrawon moi ddyscu,
Nac atteb i'r Jesu wîr rasol.
20.
Gan' faint oedd ei wŷrthiau, a 'i fawrion rinweddau;
A maint trugareddau a roddodd e 'n rhwŷdd;
Nid possibl im ddarfod bŷth adrodd am tafod,
Na meddwl ei fawrglod Duw f' Arglwŷdd.
21.
Yn nrŵs ei wlâd nefoedd, Jachawdwr ei bobloedd,
Un mâb y Duw ydoedd, fe a 'i dôdwŷd ynghrôg;
Y bugail dâ eisoes dŷg drosom ni drym-loes
Drwŷ golli ei wîr einioes ŵr Enwog.
22.
Yr awr-hon mae 'n eiste ar y llaw ddeheu
Ei Dâd or ne gole, Daw eilwaith yn ddŷn;
O medrwn ni gredu, a gwîr edifaru,
Nyni yn lân deulu a 'i dilŷn.
23.
Iw Deŷrnas drahelaeth a 'i hyfrŷd lywodraeth;
O 'i wîr haeddedigaeth, fe 'i dygwŷd i ni,
Ac yno cawn beunŷdd bara 'n dragywŷdd,
Ar union lawenŷdd lawn heini.

CAROL iw ganu ar ddŷdd NATALIC.

1.
AGaro lawenŷdd, gwrandawed ei Ddefnŷdd,
O eni mâb Dafŷdd, diofer ŷw 'r gan;
Cŷd neswch tuag-attaf, a newŷdd o 'r mwŷaf,
I bawb a fynegaf fi' n egwan.
2.
Augustus oedd Frenin, yn gyrru 'r hôll werin
Bawb iw gynnefin yn Ufudd o 'i wlâd;
Gorchymynnodd éf roddi ei ddeiliaid dan drethi;
Ar Rhaglaw yn eu codi nhw i 'r ceidwad.
3.
Cyrenius oedd Raglaw, a'r Syria wlâd tanaw;
Aeth Joseph i deithiaw, ŵr dethol diddig;
Efo Mair eurdrem, i wared i Bethlem,
A'u Co [...]a dâ y dylem Natalig.
4.
Roedd yn y wlâd honno fugeiliaid yn effro,
Liw nôs yn gwilio i goledd eu praidd;
Ar Angel a safodd, o 'u cwmpas disgleiriodd,
Mawr ofal a barodd dŷb oeraidd.
5.
Yr Angel a ddywedai nad prŷdd-der a barai,
Mi a draethaf bêth difai mae 'n dyfod i faeth;
[...]wŷ'n dwŷn i chwi newŷdd o dramawr lawenŷdd,
I bawb o bob gwledŷdd, gwŷl odiaeth.
6.
Heddŷw blygeinddŷdd yn Ninas fâch Ddafŷdd,
Y ganed iwch lywŷdd, a'i ddeunŷdd yn dda;
Yr hwn a glodforwn, Crist f' Arglwŷdd yr henwn,
Yn llawen ni a seiniwn Hosanna.
7.
Ar Angel cyfarwŷdd a draethodd yr arwŷdd,
Fe anwŷd eich Arglwŷdd da eurglod ei wêdd;
Mewn preseb yn ddieu yn rhwŷm mewn cadachau,
Os coeliwch im geiriau mae 'n gorwedd.
8.
Mewn treflan o 'r goegcaf, o 'r genedl dylottaf;
Yn faban o 'r gwannaf fei ganwŷd; pa ham?
I ddangos cyffelybrwŷdd o wir ostyngeiddrwŷdd,
Oddiwrtho fe 'n ebrwŷdd Dduw Abram.
9.
Dyna 'r achosion, chwi a wŷddoch y moddion,
Y daeth y Mâb tirion i dario yn ein mŷsc;
Ni ddyle 'r anghyfrŷw bechadur brwnt anwiw,
Mo gofio hwn heddŷw n anhyddŷsc.
10.
Tri phêth sŷ i ni iw gofio a ddylem ni 'styrio,
Yr Amfer y delo 'n Nadolig yn wŷl;
Ystâd o drueni a chariad Duw i ni,
A Diolch ei eni o'i fam anwŷl.
11.
Tair rhôdd a gyfrannoedd, tri brenin argyhoedd,
Frenin brenhinoedd o 'i hanes a 'u serch,
Myrrh i dŷn donnog, ac aur ir eneiniog,
A thus i Dduw enwog yn annerch.
12.
Dôd titheu f' anwŷlŷd dair rhôdd o 'r ûnffunŷd,
I Awdwr yr Jechŷd, ar Uchel Dduw nêf
Am fŷrrh deigrau heilltion; am aur burdeb calon,
Am Thus weddi ffyddlon hôffeidd lêf.
13.
Pa treuthwn ni lawer, f' ae 'r cwbl yn ofer;
Mae gair yn ei amser a 'i ymfwŷn yn iawn,
Carol canmholieth i lencŷn neu eneth,
Fel pettai hi pregeth pûr eigiawn.
14.
Er bôd y brydyddiaeth, a 'r Awdwr yn ddiffaeth,
Mae 'r testŷn yn odiaeth, iawn odle bôb prŷd;
Yr un gwr y pieu y Carol a ninnau,
A faddeuo i ni 'n beiau yn ein bywŷd.

Ystyriaeth Dŷn ar ei anedigaeth, ei fuchedd a 'i Ddiwedd.

1.
FE ddarfu 'r awenŷdd gan drymder a chystŷdd,
Ar galon anedwŷdd a neidiodd o 'i lle;
Ar pen sŷdd yn wastad yn ffynnon galarnâd,
Ar llygaid hôff rediad yn ftryde.
2.
Wrth weled fy ngwendid, a'meiau drwŷ 'mywŷd,
A ddarfu i mi o 'm mebŷd eu mabiaeth;
Fel dafad mewn cyni, mi 'mdroeswn mewn drysni,
Drwŷ gynnal drygioni draw ganwaith.
3.
Heppil aneirwir, Rhieni rhŷ-anwir,
Mewn pechod o cofir i 'm cafwŷd;
Drachefen yn llibin mewn camwedd dau cymin,
Yn ffiaidd eginin i'm ganwŷd.
4.
Y gwreiddin drŵg ymma a dyfodd i 'm difa,
Fe'm cuddiwŷdd gan ana, gwenwŷnig fu 'r gwaith;
Fy 'nghalon a bechodd, am pen a gam synniodd,
A'm trachwant a ferwodd o fariaith.
5.
Nid difai mo'm tafod (bŷ 'n moli mursennod)
I ganu i ti fawrglod Duw f' Arglwŷdd bôb tro;
Golygon anwastad, gwâg oedd eu gogwŷddiad,
A diffaith fŷ adeilad y dwŷlo.
6.
Wrth gynnal drŵg absen, gwn fagu o genfigen,
Am gyrrodd o fulen i falais;
Om Talent rhois ormod ynghadw 'n yngheudod,
Mewn gloddest a gwirod y gweriais.
7.
Torri gorchmynion, dibrisio Cennadon,
Efengŷl oen gwirion, ond garw ydoedd hŷn,
Traws oeddwn, troseddu, rhyfeddol na ddarfu
I 'r ddaiar fy' llyngcu er yn llengcŷn.
8.
Er maint oedd trugaredd yr Arglwŷdd a 'i fawredd,
Yn rhoi trwŷ amynedd i 'm ennŷd i fŷw;
I grio am fy 'mhardwn I 'm hachub os mynnwn,
Or dialedd a haeddwn i heddŷw.
9.
Lle dylwn ffrewŷllau, am dorriad y deddfau;
Neu scorpion a 'i frwiau 'n afrywiog;
Ni cheisiodd Duw beunŷdd ond gwielŷn o gystŷdd,
I 'm cospi trwŷ gerŷdd trugarog.
10.
Am hynnŷ i Dduw 'ngheidwad aberthaf fy 'nghaniad
Am serch yn hôff rwŷmiad offrŷmol;
Rwŷ 'n gweled argoelion, na chlywai ar fy 'nghalon
Roi câs am fendithion odiaethol.
11.
Mae fy 'nghrêdiniaeth yn gwbl, am gobaeth,
Fôd i mi wŷch odiaeth Jachawdwr;
A 'i waed i 'm sancteiddiad, a 'i hardd wisg i'm hurddiad,
A 'i ysprŷd yn Siccrad i 'm Swccwr.
12.
Nid ofnaf wrthwŷneb, fe roddwŷd bodlondeb,
I gyfraith côf Undeb cyfiownder;
O Uffern fe 'm prynnwŷd, gwerth drosof a dalwŷd,
Gan f' Arglwŷdd a wânwŷd ar wener.
13.
Mi âf mewn Cyfammod o newŷdd Ufudd-dod,
Trwŷ ffŷdd a chydwŷbod, ond hynod ŷw hŷn;
Yr Arglwŷdd a 'ddolaf, a 'i fengŷl a barchaf,
A 'i broffes a gofiaf er gefŷn.
14.
Os gofŷn y Cymru, pwŷ ydoedd yn canu,
Dŷn sŷdd yn credu gwir odiaeth hŷd fêdd;
A Efengŷl iw gadw er ir Gyfraith i fwrw,
Ai farnu fe 'i farw am ei oferedd.

Cyngor i ochel Cybydd [...]dra, Putteindra, Balchder, a thrawsder, ac i edifarhau o gamweddau.

1.
Gwêl ddŷn yn dy fywŷd, pwŷ bynnag wŷt hefŷd,
Nad oes ymma ond ennŷd a ordeiniwŷd i nêb;
Moes unwaith gonsidro ple 'r ydwŷt i 'n rhodio,
Ar fford yr eidi etto i roi D' atteb.
2.
Gwêl ddarfod ir haeldad, dy wared ti cystlad,
Oddiwrth dy weithrediad di haeddiad o hêdd:
A mola 'n ddiwegi Dduw Jôn o 'i ddaioni,
Yr hwn sŷ'n dy ddidoli o 'r dialedd.
3.
Gwêl dy fôd ymma 'n y dyddiau diwedda,
Gan beryccla boen yna biniwnau;
Ac ymladd yn wrôl dan faner Duw Nefol,
O mynni fŷw'n ddiangol ddŷdd angau.
4.
Gwêl mor ddilesog ŷw 'r pechod sy 'n d' annog,
I ddigio 'r gwîr dwŷsog, galluog pôb llwŷdd;
Ar ddawn it y gallan gael nefoedd yn drigfan,
Ar penŷd a ddygan o ddigwŷdd.
5.
Gwêl cŷn dy ddallu, 'r hwn ydwŷt yn ffynnu,
Nad oes ymma 'n rhannu un rhinwed ond Duw;
A gwilia gamarfer ei fendith, a 'i fwŷnder,
Heb ystŷr Cyfiownder côf Un-Duw.
6.
Gwêl hefŷd pwŷ a ddiggi wrth wneuthur direidi,
Mai 'r gwîr Dduw sy 'n rhoddi daioni i bôb dŷn,
A phwŷ ath chwant diffeth 'fodloni di eilweth,
Di weli ond ŷw alaeth, mai'd'elŷn.
7.
Pa un bynnag ai pleser, ai awŷdd i bower,
Sy 'n rhwŷstro i ti arfer duwiolder yn d'awr;
Ystŷria mor fŷan daer-fôdd y darfyddan,
A lleied a dalan ar dy elawr.
8.
Na fŷdd di gyfrannog ar lleidr, neu 'r llidiog,
Ni pherŷ y rhai euog cynnhennog yn hîr;
O chei mewn meluswaith gyfran o 'r anrhaith,
Di gei o 'r gosp bŷrwaith ni 'sperir.
9.
Na chalyn di ryfel, er gweled rhai 'n caffel,
Mawr olud a chattel heb drafel iw drin;
Na thybia y cei orchest o ddîm ar a feddest,
Heb galon bur onest ir Brenin.
10.
Gwilia di lygru wrth weled rhai 'n ffynnu,
Sŷ 'r owan yn rhŷ grŷ yn eu rhagrith;
Y golud â 'n ofer o'th ôl pan i 'th farner,
Ni ddaw ond Cyfiownder i fendith.
11.
Meddwl fy anwylŷd os rhannwŷd it olud,
I arfer feI pettit ar funŷdd dy fedd;
Gwell ceiniog a roddŷch o elusen cŷn cyflŷch,
Na miloedd a 'dewŷch ddŷdd diwedd.
12.
Os putten ael gwmpas, ath dŷnn iw chymdeithas,
Oth welu priodas puredig ei sail;
Hi ath âd yn dy golled, heb help nae ymwared,
Pan fetho d' oed gerdded y gwŷrdd-ddail.
13.
Fe fŷdd ei glân' gorphŷn, ei mwŷn.lais ai mein-lûn,
Yn wrthŷn gyferbŷn, gôf oerbwŷll ddŷdd barn
Yn udo yn dy lygad, o gâs nid o gariad,
Ith erbŷn awch anfad och iown-farn.
14.
Or merched siriolbrŷd yr ydwŷt iw erlŷd,
Yn nyddiau dy Jeuengtŷd, difantais y nghâr;
Ni thrôn wrth fynd heibio moi hwŷneb ith simio,
Pan fŷch yn oer-dduo 'n y ddaiar.
15.
Gwilie falchio o ddim ar fŷ 'n d' eiddo,
A'u rhoes a piau eu hordrio a'u llwŷddo rhagllaw;
Ehag iddo eu dwŷn ymmaith am d'uchel gamsynniaeth
A'u dal nhw fŷth eilwaith oth ddwŷlaw.
16.
Ni lesia dull uchel pan fŷch yn ymadel,
Yn waeth nac anifel, gan ofid heb râs;
A Duw wedi digio, a 'th ddryg-waith i 'th rwŷgo,
Paham i ti chwŷddo falcheidd-was.
17.
Pôb pechod sŷ'r awrhon i'th gorphŷn gymod-lon,
Wrth wirfodd dy galon, pentwŷnion y tân
A fŷdd cŷn hîr yspaid (pan elech i'r caled-laid)
Elynnion i'th enaid noeth anian.
18.
Na chyfri 'n golledion ond digio Duw cyfion;
Croesawa geryddon; gwîr adde dy ffŷdd,
A chrêd ymhôb dirmŷg dy fôd yn gadwedig,
Drwŷ Grîst dy hôff unig ddeffynnŷdd.
19.
Cofia i ti a gerfŷdd rhoi cyfri i' th ben Llywŷdd,
Pa fywŷd, pa grefŷdd a fŷdd ac a fŷ;
Gwna heddŷw dy heddwch cŷn myn'd ir tywŷllwch;
Ni lesia edifeirwch y foru.
20.
Mae 'r ammod oer ymma, ar diwrnod i'r eitha;
Fyngharwr ymendie cŷn myn'd yn rhŷ hwŷr;
Ymado di weithian a'th henaidd fargeinion,
A dilŷn ferch Seion is awŷr.

Cyffes o oferedd dŷn, a deisŷf am faddeuant.

1.
FY ffrŷns, am Cymdeithion, perffeiddlwŷs pûr ffyddlon,
Cuf oll, am cefeillion, yn gyfion eû gŷd,
Cŷd neswch ir un man i'm canfod i'n cwŷnfan.
Rwŷ 'n gruddfan yn gyfan mewn gofud.
2.
Mi a rodda 'n wŷlofus fŷwolieth an-felus,
Ar fuchedd afiachus o ddrŵg feius fôdd,
Y bum yn ei dilŷd hŷd hŷn o'm hieuengctŷd,
Fy'ngwendid am rhydŷd am rhwŷdodd.
3.
Fe 'm lluniwŷd yn llawnedd, aneirif o anwiredd,
Mewn pechod wast-oeredd fe storwŷd ar foes,
Cês faethiad, câs fwŷthol, a 'r bechod ebychiol,
Rhyfeddol ddymunol i 'm heinioes.
4.
Ymdeithio mynd waeth waeth, mewn taeredd natturiaeth,
Ni fagwŷd arfogaeth athrawiaeth wrth raid,
Porthi chwant Corphŷn, os down i gyferbŷn,
Ni phrisiwn i ronŷn, yn 'r enaid.
5.
Y bŷd a'i chwant cnowdol a 'm dallodd yn dwŷllol,
Fy noddfa 'n aneddfol anianol a wnaeth,
Pôb marwol bêch gerwin a 'm daliodd iw dilin,
Yn ddibrin jâs iwŷn ysywaeth.
6.
Rwŷ 'n gwŷbod yn hollawl fôd Satan an suttiawl,
A 'i rwŷd anwaredawl ddeffygiawl ffûg,
Yn dwŷllwr i 'm dallu, heb ochel i 'm bachu,
Ond serchu troseddu traws addug.
7.
Ni chadwn awch-odol y Saboth sancteiddiol,
A ordeiniodd y grasol Dduw nefol i ni,
Yn hyttrach gwnawn ddirmig, drwŷ ddull halogedig,
Ar ddŷdd gorchymynnedig iw nodi.
8.
Pan elai 'r Cwmpeini gwiw lês i 'r Eglwŷsi,
I addoli Duw Celi mewn calon bûr,
Mi a ôsodwn yn sydŷn ynghappel y gelŷn,
Ei addoliad yn llyfŷn a 'm llafur.
9.
Ac yno ddeugeinweth gan fâr anllywodreth,
Y tariwn i 'n heleth gwn ganweth dan gô,
Trwŷ fedd-dod a brynti anlanweth ymlenwi,
I foddi 'r daioni ydoedd yno.
10.
Tra meddwn yn ebrwŷdd, nag arian, nag arwŷdd,
Mi a 'u gwariwn môdd gwiwrwŷdd anedwŷdd naid,
Oll mewn anllywodreth, ni chnygiwn geinhiegwerth,
O lunieth ar unweth ir enaid.
11.
Pentyrru pwŷnt oeredd, pôb pechod a chamwedd,
Melus-chwant tra—ffiedd oferedd i fŷw,
Heb gofio 'r Tâd nefol, na 'i ysprŷd Sancteiddiol,
Na 'i Reol, na 'i raddol oreu-dduw.
12.
Dal i hir ddilŷn drwg demptiad y golŷn,
Gau bechod yscymŷn yn ddygun a ddaeth,
Am calon iw hoffi, heb ganfod, nag ofni,
Ond bŷw mewn gwrthuni, gwarth anoeth.
13.
Och ddigio Duw nefol, er porthi chwant cnawdol,
Y gelŷn ffieiddiol, daiarol dûth,
Och ado i fychedu lân bridwerth yr Jesu,
Ei daflu a 'i ddiystyru yn dôst arŷth.
14.
Och roddi fy nifyrrwch yhgwaith y tywyllwch,
A cholli Duw 'r heddwch, diddunwch dâ i ddŷn,
Och roddi erioed noswaith yn sŷnn o 'm gwasanaith,
I ddilŷn dirgel-waith y gelŷn.
15.
Mae 'r enaid bâch glân-bûr, yn gruddfan yn dostur;
Mewn llafur, a gwewŷr, a dolur a dig,
Am fôd yn annedwŷdd y diles gorph dilwŷdd,
Llawn awŷdd, a gwradwŷdd llygredig.
16.
Rhown obaith ar Jesu, drwŷ daeredd hyderu,
O heno hŷd y foru, drwŷ fawredd wellhâd,
Y denfŷn Duw cyfion ei ysprŷd Sancteiddlon,
Angylion, ac eirchion i 'm gwarchad.
17.
Duw pâr ŷm gydnabod drŵg sawŷr fy 'mhechod,
A dŷsg i mi ymwrthod yn hynod a hwn,
A gwrthladd chwant cnowdol y gelŷn dinistriol,
A i daerol fanteisiol demtasiwn.
18.
Cesnoga fy nghalon, a thywŷs fi i 'r union,
Llê 'r wŷf tan falch creulon, enbŷdion o bwŷs,
A gwellha fy muchedd o hŷn hŷd y diwedd,
A maddeu fy 'nghamwedd anghymmwŷs.
19.
Duw pura fy nghalon a gwlîth dy fendithion,
I ddilŷn yr union gyfreithlon yn frau,
A phlanna Dduw hefŷd, dy sanctaidd lân Ysprŷd,
I gymrŷd fôdd ennŷd feddiannau.
20.
Duw dadwraidd fy mhechod a 'i golŷn o 'r gwaelod,
Dadgweiria 'nghydwŷbod hŷd bennod y bêdd,
A throcha fi 'n ddi-drŵch, i heuddu 'r gwîr heddwch,
Yn nŵr edifeirwch, dy fawredd.
21.
Christ golch fy mhechodau, daith egredd a'th ddagrau,
A chlâdd yn dy friwiau y belau 'n ddi baid,
Mwŷ eilwaith na chodon, nôd astud yn dystion,
Yn erbŷn yr union wir enaid.
22.
Duw di-ball dôd obaith, a chariad pûr perffaith,
A chyfion oruchafiaith uniown-waith i mi,
A dirwŷstr ffydd ffyddlon, dy fanctaidd Bostolion,
A chalon faith fŷw Ion i 'th foll.
23.
Ni eill Saint, nac Apostol, Prophwŷdi prophidiol,
Roi bywŷd tra bŷwiol, ddâ foddol ddi-fêth,
Mâb Duw ŷw 'r gwir feddig i 'r enaid colledig,
Yr unig anedig ben odieth.
24.
Y Sawl ni wŷr bechu yn erbŷn Christ Jesu,
Mae hwn wedi ei ddallu, rhodresu 'n rhŷ drŵch,
Rwŷ finneu 'n llwŷr goelio nad oes wedi ei lunio,
Un dŷn [...]ill ddiheuro ei ddihirwch.
25.
Duw Awdwr tangnefedd, a gwreiddin gwirionedd,
Er mawl, ac anrhydedd, hoff-rinwedd mewn ffrwŷth,
Bŷdd eiriol (bôdd oref) ar Dduw or Uchelnef,
Ar faddeu 'mhechodau maich adwŷth.
26.
Lle darfu it orchfygu nerth angeu, a 'i ddirymmu,
A 'th wîr waed, dâ Jesu, dwŷsog y mawl,
Rhôf gyflawn wir hyder, ar ddyfod mewn amser,
Ar gyfer dy nifer Duw nefawl.
27.
Pan gaffwŷf ddibennion o'm poen am trallodion,
Duw danfon dy Angylion yn union im nôl,
Dŵg fenaid i fynu i blîth dy gywir-lu,
I ganu it fawl Jesu yn felusol.

Cyngor yn erbŷn (cybydd-dod, a) byder ar olud y bŷd.

1.
Y Cymro annyscedig, derbŷn galennig,
Yngwiliau'r Nattalig, a 'r addig a ro'
Llessol 'wŷllysiais roi allan am'ellais,
O 'r Dalent a gefais dy gofio.
2.
Gwagedd o' wagedd ŷw bydol anrhydedd,
Cofia dy ddiwedd, a 'r fuchedd a fŷ,
Tro heddŷw yn ddŷn duwiol, nis gwŷddost naws gweddoi,
Na byddi di yn farwol y foru.
3.
Gâd ymaith dy falchder, cynfigen, a thynder,
Cybydd-dod rhy ofer, a chwerwder, a chwant,
Câr dy gym'dogion, gwasnaetha Dduw yn ffyddlon,
Or galon ac union ogoniant.
4.
Pâ lês i ti er caffel yr hôll fŷd yn dy afel;
A chodi o râdd isel yn uchel dy naid,
I 'r pridd a dychweli o 'r hudol fawrhydi,
A cholli daioni dy enaid.
5.
Ond rhyfedd ŷw gweled rhai dynion cŷn ddalled;
A 'u cwbwl ymddiried am ddirwŷn y bŷd,
Er cymmaint a gasglon ni welant mo 'u digon,
Yr enaid a 'r galon ŷw 'r golŷd.
6.
Bustachu 'r dŷn truan, os hyder a osodan,
Ar diroedd ac arian, i gyrraedd ystôr,
Ymgodi ac ymryson, a bôd yn anfodlon,
A myned yn drawsion am drysor.
7.
Och druan ac ynfŷd, er maint a fo dy olŷd;
Mae yn rhaid i ti symmŷd, tra enbŷd ŷw 'r tro,
Daw angeu yn ei ammod i 'th ddyfŷn wrth ddefod,
Ni thynni di ddiwrnod oddiarno.
8.
Rwŷ 'n gweled argoelion, di gelwŷdd dy galon,
Na chei di fŷth ddigon mewn moddion a mâth,
O diroedd yn dy wrŷd, pan fŷch ar lawr gwerŷd,
Ti a wŷddost mai dy olŷd ŷw dwŷ-lâth:
9.
Ple mae dy dyddŷnnau, a 'th bleser, a 'th blasau,
Neu dy arian yn dyrrau, ond arŷth ŷw 'r môdd,
Fe gasglodd y trawsion mewn camwedd, ddâ ceimion,
Ao wŷrion y cyfion a'u cafodd.
10.
Rhai aeth o 'r Bŷd ymmeth, heb wneuthur llywodreth,
Na threfn ar en Cyweth, iw trinieth un trô,
Ond gadel a wnaethon eu dâ mewn ymryson,
Rhwng meibion ac wŷrion iw gwario.
11.
Yr angeu sy 'n dywad a dirgel gerddediad,
I wneuthur diweddiad, torriad y tŵ;
Rhai oedd yn llawn gwagedd, yn rhedeg i anrhydedd,
Sŷ'nghanol eu mawredd yn meirw.
12.
Nid ydwŷ 'n ang-hanmol mo 'r cyfoeth daiarol,
O 'u harfer yn dduwiol, mae 'n rheidiol mewn rhâd,
Ond gwilia di er hynnŷ rhag iddo dy ddenu,
Ath dynnu di i bechu mewn bachiad.
13.
Cewch lawer yn gyttun yn dywedŷd nad ydŷn,
Yn rhoddi un gronun o grêd yn eu stôr;
Na 'u hyder ar gyweth; ond mwŷ sŷ 'n rhoi ymeth,
Hŷn ymma o hudolieth hŷd elor.
14.
Ymhola di 'n gwbwl a ydwŷt ti'n moddwl,
Yn fynŷch neu 'n fanwl am fwnws i 'th gôd,
Heb fôd yn fwŷ d' awŷdd i foli Duw beunŷdd,
[...]el dyna di 'n gybŷdd rwŷ 'n gwŷbod.
15.
Os mwŷ parchedigeth a roi di i ddŷn diffeth,
Oherwŷdd ei gyweth, a 'i drinieth di-râs,
Nac ir tlawd gweddol, doeth gonest synhwŷrol,
Mi a 'th alwa di 'n fydol ynfŷd-wâs.
16.
I 'th helŷnt bŷdd fodlon, a chymmer dy ddigon,
Tymhera dy galon yn Union ir nôd,
Rhodia di 'n berffeth yn ol d' alwedigeth,
A mogel Usurieth y sorod.
17.
Yn llê dy fawr fwriad, mewn diles adeilad,
Yn gadarn ar godiad i gadw dy lê,
Sylfaena 'r gwaith newŷdd, a beru 'n dragywŷdd,
Ti a fyddi digerŷdd dy gaere.
18.
Marwolaeth fŷdd siccir, nis gwŷddost ddŷn difir
Pa fôdd y terfynir, yn ddi-hîr na ddêl,
Na phlê, na pha amser, na wna tann boen trymder,
Drô ofer ar byder yr hoedel.
19.
Trô chwŷpp at yr Jesu, rhag iddo dy daflu,
A 'th nacca di 'foru o edifeirwch,
A 'th daro di i farw, gwna di mewn elw,
(Trâ galwer hi heddŷw) dy heddwch.
20.
Heddwch, Cydwŷbod, a Christ, a 'i deilyngdod,
A 'th ddygco yn y diwrnod i deŷrnas ei Dâd,
I gadw 'n feddiannol y gwiliau tragwŷddol,
Bŷth nefol gu freiniol gyfraniad.
21.
Mîl chwechant, a phymtheg, ac union bedwar-deg, 1656,
A blwŷddŷn ychwaneg, yn rhedeg i'r rhi,
Oedd oed y Mâb cyfion, pan whaed y pennillion,
Drwŷ chwennŷch i ddynion ddaioni.
22.
Bŷdd iâch, a rhinweddedd, fy mrawd' o'm mam Gwŷnedd
Cofia dy ddiwedd, wr gwaredd, a gwêl,
Gynghorion dŷn diwair, sŷ 'n terfŷn ar un-gair,
Rwŷ 'n cymrŷd a phur-air fy ffarwel.

Gweledigaeth Nabuchodonozor, Dan. 4. Neu ddyrîau yn dangos fôd Brenhinoedd y ddaiar dan Lywodraeth Brenin y nefoeth.

1.
CLywch ddangos yn helaeth ansiccrwŷdd gorchafieth,
A bŷdol Iywodraeth, a 'r anrhaith ar ôl,
Wrth weled fôd balchder yn cwŷmpo mewn amser,
Na roddwn mo 'n hyder mewn hudol.
2.
Nabuchodonozor, perchennog mawr drysor,
Oedd Frenin mewn goror, ac euraid ei lŷs,
Ar Babilon dyrrog, drwŷ hawdd-fŷd godidog,
Galluog Aer enwog yr Ynŷs.
3.
Ynghanol ei amser o esmwŷth-fŷd, a hoŷwder,
Câdd rybŷdd o 'i falchder (gwell hyder gwellhau)
Yrwŷ freuddwŷd mewn cyntŷn (mo'r ôfnog fŷdd drygddŷn)
A barodd iw ddychrŷn ef ddechreu.
4.
Fe welai bren hawddgar ynghanol y ddaiar,
Oedd drîg-fan i 'r adar drwŷ Lwŷddgar lês,
Yn cyrraedd bôb cangen, hŷd nefawl ffurfafen,
Nid ydoedd un ddeilen yn ddi-lês.
5.
A ffrwŷthŷdd mawr arno, ae ymborth oedd ynddo,
A hwn drwŷ flaguro yn deilio mor dêg,
A thano 'r oedd cyscod i bôb rhŷw fwŷstfilod,
Drwŷ hynod glaiardod eglur-deg.
6.
Fe 'welai Wiliedŷdd o Sanct or ne 'n rhybŷdd,
Torri 'r prenn deŷnŷdd, a 'i dynnu fe i lawr,
Ond gado 'n gadarnaidd ei foncŷff heb ddiwraidd,
Mewn glâs-wellt daiaraidd dŵ îr-waŵr.
7.
Ordeiniad odd-uchod, bŷdd gyda 'r bwŷstfilod,
A 'i fawredd yn darfod ar derfŷn y nôd,
Hŷd-oni chyfnêwidier arno faith amser,
Mo 'r ofer ŷw dewrder Awdurdod.
8.
Deffro 'n drwm galon, a galw am y doethion,
Ni wŷddent attebion o 'r union wraidd,
Ond Daniel y Prophwŷd drwŷ syndod ac a [...]swŷd,
A ddeallodd y breuddwŷd yn bruddaidd.
9.
Tydi (ebr Daniel) ŷw 'r ffrwŷthlon Bren uchel,
O Frenin ymochel, am wŷched dy fri,
Cei ymborth fel eidion, a 'th yrru o blith dynion,
A newid dy galon, di a goeli.
10.
Am hŷn cŷn adfŷdwch, cais wîr edifeirwch,
Er para drwŷ harddwch, mewn heddwch yn hwŷ,
Cydnebŷdd yn rasol Frenhiniaeth Duw nefol,
Rhag trawiad dyledol taladwŷ.
11.
Ac yno ymhen blwŷddŷn, y Brenin yn hoŷw-ddŷn,
Wrth rodio ei lŷs purwŷn, ar derfŷn ei dw,
A ddywedai drwŷ fabledd, mi godais waith rhyf [...]dd,
Anrhydedd im hannedd am henw.
12.
Ond hon drwŷ orchafiaeth, ŷw Babilon helaeth,
Llê gwneis adelladaeth, drŷch odiaeth drwŷ chwant,
A nerth fy mawrhydi, am cryfder heb dorri,
A mawr a gwiw genni 'r gogoniant.
13.
Ar gair yn ei enau fei [...]roed o'i lŷs goleu,
At wellt fel eidionnau, y dyddiau dwŷs,
Bŷ allan saith mlŷnedd, dan wlîth a dihinedd,
Hîr ddialedd am gamwedd yn gymmwŷs.
14.
Tyfodd hŷd ddaiar ei 'winedd fel adar.
Pôb balch bydded ofn-gar, edifar ei dôn,
A 'i flew aeth yn gysgod, fel plu yr Erŷrod,
Rhyfeddod, Duw Uchod a 'i dichon.
15.
Saith mlynedd a gerddodd, a 'i olwg a gododd,
At nêf, lle tueddodd pan gafodd ei go;
I foli Duw 'r lluoedd, sŷdd Frenin (brenhinoedd)
Anfarwol heb oesoedd i bassie.
16.
Ar ôl ei ddalltwriaeth fe gâdd ei frenhiniaeth,
A chyfan orchafiaeth, lle odiaeth mewn llwŷdd,
Wedi cydnabod Duw 'n Frenin diorfod;
A rhoddi 'r eirwir-glôd ir Arglwŷdd.
17.
Trown ninneu o ffordd falchedd, an dull anifeiliedd,
Rhag dialedd, a gyrredd pan gurer y ddôr,
Fe gymmer pôb Doeth-gall siampl o arall,
Ni cheidw cô angall un cyngor.
18.
Pa droed fŷdd i'n balchder, ai 'n dawn ydŷw 'n hyder;
A 'i tiroedd neu wŷchder, ŷw breuder y bri,
O ddaiar ryfygus ni feddwn ddim happus,
Ond rhoddion daionus Duw i ni.
19.
Ni a welsom y leni, na thyccia mawrhydi,
Y dichon Duw dorri Arglwŷddi pôb gwlâd,
Dwŷn Brenhiniaethau; a rhoddi meddiannau,
Amserau côf-nodau cyfnewidiad.
20.
Ofnwn yn ddi fethiant, Dduw 'r gallu 'n ddi-golliant.
Boed iddo 'r gogoniant, ar moliant, Amen.
Fel er y Creadigaeth, mae 'r awran yn helaeth.
Bŷth fellŷ bŷdd berffaeth heb orphen,

Cyngor yn Erbŷn meddwdod.

1.
GWrandewch ar fy 'ngharol, Dau bêth angenrheidiol,
A welwn ni 'n fuddiol ddâ reol ddi-rus,
Rhagweliad mewn amser, neu 'r addŷsc a brynner,
Rhag myned yn ofer anafus.
2.
Wrth ddechreu mae eiriach, mi a bwŷlla bêth bellach,
Wrth weled yn glettach rai llettach eu llôg,
Cadw 'n lle cynnull a gwaŷtio ar y Cewŷll,
Sŷdd cystal ag onnŷll y geiniog.
3.
Mwŷneidd-dra cymdeithion, a'm nadodd i'n hwimon,
Gan dybio 'n fy nghalon mae moddion dâ i mi,
(O frawdol serch hynod) oedd dangos mewn diod,
Fy-nghariad yn barod heb oeri.
4.
Bŷm or ofera yn dilŷn mwŷneidd-dra,
Nid dŷn or cynhila, canolig y chwaith,
Er hŷn heb fwŷ rhiawedd, gwn arfer gormodedd,
Drwŷ ffoledd o gyfedd ag afiaith.
5.
Ni phrisiwn mewn-sylltau, pan awn i dafarnau
Fel ped fae'n becceidiau yn cadw fy'ngwrês,
A mawr anrhugarog oedd genni roi ceiniog,
O help ir anghenog anghynnes.
6.
Lle talwn i ormod, am heno mwŷ hynod,
Nid oedd mo 'r cydnabod mewn cyfnod cu;
Rhŷw fâth ar dwŷll fechan, a gnygien nhw 'n fuan,
Cawn succan am f'arian y foru.
7.
Ymâd trwŷ dy wirfodd (cŷn gorfod o 'th anfodd,)
Ar tefŷrn a 'th gneifiodd, gan ofal maith,
Afrad pôb afraid, na lâdd ar un yspaid,
Mor cophŷn ar enaid ar unwaith.
8.
Cei yn dwŷneb dy ganmol, a 'th watwor o'th lêdol,
Mewn tefŷrn annuwiol, nid buddiol o bêth,
A chneifio dy dŷnn-wlân, ath dwŷllo di os gallan,
Nes myned yn druan dy 'mdrawieth.
9.
Pan ddarffo i 'r Bŷd lithro, heb arian iw treilio,
Ni cheidi na chroeso na rhodio yn rhwŷdd,
Na llymmed or oer ddŵr, lle gweriaist di bentwr,
Pan fŷch mewn gwan gyflwr, ac aflwŷdd.
10.
Amherchi 'r dŷdd hwnnw, a ddylem ni ei gadw,
A thynnu at y Cwrw, mae 'n arw i ni 'r nôd,
Ceir gweled plaid gadarn, ar ddefod mo 'r ddifarn,
Or Eglwŷs ir dafarn yn dyfod.
11.
Rhai 'r Saboth yn feddwon, rhai 'n tyngu mawr lwon,
Rhai 'n tynnu cwerylon, llawnion a 'r llêd,
Pe peidiem ni a 'n harfer, a dilŷn cymmwŷsder,
Ni fyddem mo 'r ofer yr yfed.
12.
Groesafu dieithred, y galwn ni yfed,
A bagad yn tybied, (ond dibwŷll y farn)
Fod brawdol serch gwastad yn cael ei gyflawniad
A chariad at dyfiad mewn tafarn.
13.
Llithro a wna 'r Cariad a goder heb gydiad,
Mewn tefŷrn trwŷ afrad at droead mor drŵch,
Ond pûr serch Eglwŷsol, a berŷ 'n wastadol,
Ysprydol brŷd gwrol brawdgarwch.
14.
Pregethwŷr sŷ 'n gado, mewn drŵg i ni huno,
A'n briwiau heb chwilio, a synnio i ni su,
Rhai sŷdd yn fudion, rhag digio eu plwŷfolion,
Ar lleill sŷdd yn ddeillion, ddi-allu.
15.
Ni waeth i mi dewi, am gweddol argyoeddi,
Gwneiff pawb drwŷ ymhoffi, mewn gwegi dan gô,
Ei wŷllŷs melyswedd a marcied y diwedd,
Am gyfedd pa ddialedd a ddelo.
16.
Om rhan i fy hunan, drwŷ f' Arglwŷdd mae' famcan
Ar fynd o 'i tai nhw allan yn fuan y fi,
Ni 'm gwelir i 'n aros mewn tefŷrn ddiweddnos,
Rwŷ 'n ofni tri achos i 'm trochi.
17.
Tri phêth 'rwŷ 'n eu hofni, sŷ'n dyfod o feddwi,
Wrth weled fod cledi, yn cludo o bôb tu,
Y pechod yn drymmach, ar Corph yn afiachach,
A thitheu yn dylottach dy lettŷ.
18.
Mi a ddweda'n ddi wradwŷdd am ffyddlawn onestrwŷdd
Nad llac mo'm caredigrwŷdd, mewn breulwŷdd o'm bron
Er mynd yn ddi afreol, i 'mado 'n ammodol,
Am gweddol odiaethol gymdeithion.
19.
O mynne néb wŷbod, pwŷ laniodd y draethod,
Yn erbŷn cwrs meddwdod, drwŷ chwithdod chwŷrn
Dŷn a braw 'madel, mewn amser di 'm rafel,
A gochel attafel y Tefŷrn.

Cyngor i ymwared a Balchder, &c. Ac i ymegnio am Jechŷdwriaeth i'r Enaid.

1.
GWrandewch ar gynghanedd, gerdd euraid gyfrodedd,
I ddangos anrhydedd, a rhinwedd sŷ ar hon,
Ar llwŷddiant sŷ'n digwŷdd, o bôb gostyngeiddrwŷdd,
Ac aflwŷdd, a bol-chwŷdd y beilchion.
2.
O ufudd-dod daw power, o bower daw Balchder,
O falchder i uchder, a rhyfel yn rhôd,
Mâg rhyfel dylodi, tro anial, trueni,
Ymroi a orfŷdd wedi i ufudd-dod.
3.
Nid digon gan briddŷn, o rwŷsc i orescŷn,
Gan milltir o dyddŷn, i ddilŷn ei ddart,
A chwedi iddo fawr, pe cesclid ei ludw,
Digon iw gadw a fŷdd godart.
4.
Pan oedd Alexander ar Bŷd tan ei faner,
Fe ofnid ei bower, swŷdd ofer i ddŷn,
Pan aeth y clai trosto, fei codid i blastrio,
Ni stoppieu 'r gwŷnt atto gardottŷn.
5.
Ond rhyfedd, ond rhyfedd, i ddŷn yn ei fawredd,
Na ddeall ei ddiwedd, a 'i ddechreu,
Pe chwilie 'n ddysgedig, a meddwl yn ffyrnig,
Ychydig awch oer-ddîg a chwarddeu.
6.
Ond rhyfedd i 'r chwannog, a 'i bower goludog,
Na byddeu drugarog, i anghenog a hên,
Pan elo fe 'i ymadel, a 'r Bŷd i roi ffarwel,
Ni rhâl iddo ei gattel ddwŷ goetten.
7.
Nid ydŷw 'r Bŷd ddigon, o dammaid i 'r galon,
A hon trwŷ ofalon, ond rhyfedd,
A hitheu heb fôd hefŷd, ond tammeid i farcud,
Pan sŷch yn y gwerŷd yn y gorwedd.
8.
Dy galon ychuba, i 'r Brenin gorucha,
Di a ddoi i lettyfa tan noddfa Duw nêr
Heb galon lân ynod, i addef dy bechod,
Nid ydŷw dy dafod ond ofer.
9.
Bŷw wrth lafurio, y bywŷd a 'r dwŷlo,
Nes darfod balchio, a chwŷddo drwŷ chwant,
A mynd wrth ein pennau, nes dy [...]od y dyddiau,
Ar Cleddau, Dialeddau, Di lwŷddiant.
10.
Na chwilia am Cyfrwŷddŷd, goeg aspri, gwâg ysprŷd,
I geisio celfyddyd twŷll enbŷd i ti,
Os mynni di yspysrwŷdd, a bôd yn gyfarwŷdd,
Y Bibl iâch hylwŷdd a chwili.
11.
Fê â Teŷrnas i ryfel, i'm guttio am y gottell,
I gadw 'r Corph isel, yn uchel ei naid,
Ychydig dan iown groes, sŷ 'n dioddeu dolur-loes,
I gadw hir einioes ir enaid.
12.
Pan fytho 'r corph priddlŷd, yn labrio am ei fywŷd,
Mae 'r enaid yn hyfrŷd wêddio,
Ar corph pan fo segur, bŷdd Sattan yn brysur,
Yn dyfod ond antur iw demptio.
13.
Dy gorph os doluria, di gosti dy fawr-ddâ,
Yn talu hŷd yr eitha i bysygwr,
Ar iawn bysygwriaeth, sŷ 'n rhâd ac yn helaeth,
Gyda'th wŷch odiaeth Jachawdwr.
14.
Cofia di hefŷd mai diles ŷw d'olud,
Pan orffo i ti symmŷd o' th fywŷd i 'th fêdd,
Dy lwŷbr gwna 'n union, i wlâd ŷr Angylion,
Yn gyfion at goron trugaredd.
15.
Cofia dy ddiwedd, ar boen, ar drumgaredd,
Dy gorph eiff i orwedd i geuedd y gŵŷs,
Na ollwng di 'n ango mo 'r pêth sŷdd raid wrtho,
Dwŷn d' enaid i rodio paradwŷs.
16.
Cofia 'daw Jesu, heddŷw neu 'foru,
I 'th alw, i 'th farnu, i fynu ir farn,
Ar ddyled sŷdd arnad yn nŷdd adgysodiad,
I 'th farnwr a'th geidwad bŷth gadarn.
17.
Cofia cŷn d' orwedd grefu am drugaredd,
O foliant anrhydedd, di wagedd waith,
Ni wŷddost di wrth gysgu, ond gobaith ar Jesu,
A godi di o 'th welŷ fŷth eilwaith.
18.
Cofia bôb amser Frenin Uchelder,
Na chalŷn di falchder, na thrawsder, na thrais,
Pan fŷch di yn y ddaiar, a 'th esgŷrn ar wasgar,
Fe fŷdd yn edifar pôb dyfais.
19.
Cofia fôd pechod yn gymmaint ei ddŷrnod,
Yn pwŷso hŷd waelod y dyfnder,
Trugaredd a cheidwad, a dalodd am danad,
A dirnad wŷch hael-dâd uchelder.
20.
Ymolch yn berffaeth, Cŷn dŷdd dy farwolaeth,
Ir ail anedigaeth, fŷwoliaeth farn,
Fel yr elŷch i 'r gwerŷd, a hefŷd i 'r ail fŷd,
Ar bywŷd diwedd-fŷd ddŷdd y farn.
21.
Bêth bynnag a orfo i 'th gorph ei boenydio,
I ddioddeu neu 'dduno 'i gwŷno heb gêl,
Meddwl yn ddibaid, mewn amser anghenrhaid,
Am d' enaid hôff euraid, a ffarwel.

HANES MOSES, Exod. 2.

1.
OS Leiciwch lân deulu, roi cennad i ganu,
A wnaed i'ch difyrru o dwf araith bûr,
Mi a draetha i rhwi stori am fâb o dŷ Lefi,
A phen y prophwŷdi praff-Awdur.
2.
Yn yr Aipht yr oedd Brenin, o gigŷdd cynnefin;
Hên Phàroh gŷw cethrin, yscythrwŷd ei oes,
Ni fynnai mo'r gŷrfaid o blant yr Israeliaid,
Ond bwrw pôb enaid heb einroes.
3.
Cyfraith Dŷn ffyrnig, ni pheru ond ychydig,
Un Duw didrangcedig, an ceidw rhag drŵg,
Fel dymma i chwi'r moddion y cadwodd Duw'r gwirion,
Er gwaetha 'r gŵr creulon, cawr-olwg.
4.
Jochebed berffeith-lân, gwraig briod hên Amram,
Oedd feichiog fawr egwan rywiogedd,
Yn ôl ei rhŷdd wregis, hi a guddieu ei mâb dri mis,
Ac yno heb lê i ddewis cae ei ddiwedd.
5.
Ond tost oedd ir feingan, gael edrŷch ei hunan,
Ar lâdd ei dŷn-bychan, ebychol ffŷdd,
Fê wŷddid am Pharo, na fynnei fe 'spario,
Un mâb or rhŷw honno heb ddihenŷdd.
6.
Hi a dorrei 'n ddi-gymmell y llafrwŷn a 'i chyllell,
Hi a 'u gweithiau nhŵ 'n gawell cauad ei wêdd,
A 'i blyggu 'n glos ddigon wrth geulan yr afon,
Lle 'rhoed y mâb tirion i orwedd.
7.
Fei rhoed yn yr hesgoedd, dan dorlan y dyfroedd,
Y tirion fâb ydoedd, hynodol ei wraidd,
Lle 'r oedd ei chwaer anwŷl, o hir-bell yn disgwŷi,
Gael gweled ei arwŷl, gôf oeraidd.
8.
Merch yr hên Pharo, ae allan i rodio,
I wared tuag-yno, dŷnes lân Bur
A chanfod y Babi, wrth fyned i ymolchi,
Y hi a 'i llangcesi 'n llawn cyfur.
9.
Fe yrrodd y feingu ei morwŷn iw gyrchu,
A 'i godi fe i fynu, fy enaid bâch,
Egorŷd yr amdo, a 'i weled e'n wŷlo,
A 'i rhoes hi i dosturio 'n dosturach.
10.
Chwaer, y tlŵs fabi, a nesodd tuag-atti,
Tan ddwedŷd hŷn wrthi, gwaith addas gar bron,
A fynnwch chwi gyrchu Mammaeth iw fagu,
Hai mynna, gwna hynnŷ eb 'lliw 'r hinon.
11.
Ei chwaer aeth yn llinŷn, at fam y bachgennŷn,
Hi a draethau bôb gronŷn, i 'r grynno wawr gu,
Fe droedieu hon ddaiar yn ddigon gwllysgar,
I gyrchu 'r Mab hawddgar iw fagu.
12.
Fe ddywedei Merch Pharo 'r Hebreues lân gwrando,
Mi yrrais ith geisio drwŷ gysur a llês,
Mi a dala i ti dofŷn o gyflog bôb blwŷddŷn,
Mâg i mi 'r bychgennŷn bâch cynnes.
13.
Y fammaeth dêg irwen oedd fodlon ir fargen,
Ai fagu fe'n llawen er llwŷddiant a wnai,
Pôb dawn, a phôb rhinwedd, o'i ddechreu iw 'ddiwedd,
I fab o 'i gorpholedd ni ffaeliai.
14.
Y fammaeth fwŷneidd-dro (yn fawr wedi ei brifio)
Ai dug i ferch Pharoh, hôff Euraid argoedd,
Ai henwi fe Moses, o-herwŷdd ei hanes,
Mai or dŵr y cyfodes, côf ydoedd.
15.
Ar Moses hwn gwedi, a ddaeth yn oleuni,
Ir Israeliaid rieni, o rinwedd Duw gwŷn,
Yn nerth ac ymwared, rhag amrŷw gaethiwed,
Hên Pharoh fron galed eu gelŷn.
16.
Fe barodd boenydiau, i'r Aipht-wŷr hŷd angeu,
Fe ddygodd eu tlysau, Dylasent waeth bri,
Fe egorai'r môr llydan, i'w bobl ei hunan,
A'u dwŷn i wlâd Canaan o'u cyni.
17.
Y Moses hwn ydoedd, Jachawdwr y lluoedd,
A Chanan ŷw'r Nefoedd, henafiaid a'i gŵŷr,
Fel dyna'r hôll bwrpas, ar arwŷdd cyfaddas,
I Dynnŷ'r Messias îs awŷr.
18.
Y môr ŷw'r Bŷd bychan, a Pharoh ydŷw Sattan,
A Moses Mâb Amram, a gymrir yn awr,
Fel dyna ddiweddu, ar fŷrr i'ch addysgu,
Y ganed yr Jesu gwŷn drysawr.

Carol Natalic o fawl i Dduw; ac ar ddyfodiad ein Brenin Wiliam, &c.

1.
NEf, daiar gwmpasgron, ar dyfn-for mawr eigion,
Clodforwch Dduw cyfion, tirion ŷw'r Tŵr,
A phôb pêth sŷdd ynddŷnt, yn ôl a roed iddŷnt,
Wrth drefniad, helŷnt eu hwŷliwr.
2.
Y nefol Angylion, Prophwŷdi, Apostolion,
Ardderchog ferthyron, dduwiolion ddâ-wedd,
Sŷ'n aros mewn llwŷddiant, llê melus, llu moliant,
I'r Arglwŷdd a ganant ogonedd.
3.
Haul, Lloer, a Sêr golêu, mêllt a tharanau,
Dŷdd, Nôs, a thymhorau, defnyddiau y nen,
Gwŷnt, rhew, ac eiraoedd, a hediaid y nefoedd,
Clodforwch Dduw'r lluoedd yn llawen.
4.
Mynyddoedd, a Brynniau, Coed, Cerrig, gwŷrdd lyssiau,
Pôb ydau, pôb ffrwŷthau ar gangau y gwŷdd,
Pôb rhŷw anifeilied, gwâr, gwŷlltion, a phrŷfed,
Rhowch fawl ir gogoned ar gynnŷdd.
5.
Y môr ac fŷdd ynddo, pŷsc, Tonnau llawn cyffro,
Cŷd seiniwch fel 'Ecô, er rhwŷddo mawrhâd,
I Frenin pôb mawredd, gwîr ffynnon trugaredd,
Rhowch weddedd anrhŷdedd mewn rhediad.
6.
Pôb pêth a ddŷch ddatcan, gogoniant Duw'n cyfan,
Un Arglwŷdd mawr gwiwlan waith rhwŷddlan a rhî,
Ond mwŷ o achosion, sŷdd beunŷdd i ddŷnion,
Drwŷ ffyddlon afaelion iw foli.
7.
Fe a'n creuodd ni'n bendant, i roddi iddo foliant,
Ac union ogoniant a ffynniant ein ffŷdd,
A hŷn heb ddim amgen, ŷw'n gorchwŷl, a'n diben,
Clodforwn yn llawen ein llywŷdd.
8.
Ohono mae'n hanfod, a'n hanadl, oen hynod,
Fe an creuodd Duw uchod, ddâ rwŷdd-glod ddi-rûs,
Ar ei wir ddelw, ond eisieu i ni ei chadw,
Gogoniant iw Enw Daionus.
9.
Ac wedi i ni golli, ei lûn drwŷ wrthuni,
Fe roes ei Fâb i ni, ei foli ydŷw'r fael,
Ar gyfen ir owran i dynnu o balf Satan,
Ei gyfran yn gyfan mewn gafael.
10.
Duw'n ddŷn dan oddefiad, am bechod ein Cyn-dad,
A weithiodd ein prynniad, gwnawn grediad iw grôg
Rhown ffyddlon Aberthau, gan hwŷr, a chan foreu,
Drwŷ fynd ar ein gluniau'n galonnog.
11.
Mae'r Arglwŷdd yn ddiau, i'n llwŷtho ni a'i radau,
A'i fawr drugareddau, golau ydŷw'r gwaith,
A'i aml ddaioni, o ddŷdd i ddŷdd i ni,
Drwŷ'n codi o bôb cledi, coel odiaith.
12.
Cael gan ein Duw tadol, fendithion tragwŷddol,
Ac eraill amserol, mawr llwŷddol mor llon,
Nid possibl fŷth i ni, na chofio, na chyfri,
Mo'i aml ddaioni fe i ddynnion.
13.
Cael ein hesmwŷtho, y Flwŷddŷn aeth heibio,
(1688)
Ar ôl ein caethiwo, a'n ieuo ni'n hîr,
Rhoi ein Brennin i wared, pawb o'i wîr ddeilied,
A Briwiau ei gowiried a gweirir.
14.
Heb iachus athrawieth, heb foesawl wir-gyfreth,
Heb union lŷwodreth anhyweth wanhau,
Y buom gaeth weifion, dan filwŷr anghysion,
Ac aml ebychion o'u beichiau.
15.
Llâdd, a meddiannu, yspeilio, a gorthrymmu,
Rhagrithio, gwâg-ddyscu, a'n denu ni i'r dôn,
Yn lle Cledde'r Ysprŷd, a tharian Paut hyfrŷd,
Cymmerŷd Arf rhydlŷd, afradlon.
16.
Ordeiniodd Duw'r owran, bôb un iw lê ei hunan,
Ar gonest pureiddlan, yn gyfan o'i gûr,
Charls oedd yn ben arnom, yr hwn a gollasom,
Ac Wiliam a gawsom drwŷ gysur.
17.
A chael ei uchelwedd, iw Deŷrnas gadarn-wedd,
Heb waed na chelanedd, rhyfedd ŷw yr hôd.
Ni phrwŷthodd un gelŷn i godi yn ei erbŷn,
E'u rhwŷsc oedd ar derfŷn yn darfod.
18.
Am hyn o drugaredd, a weithiodd Duw'n rhyfedd,
Cŷd genwch glodforedd, yn llwŷbredd eich llais,
I Arglwŷdd yr heddwch, pêr felus, pur folwch,
Cŷd seiniwch, ac odlwch yn gydlais.
19.
Ar Utgorn, ar Organ, ar delŷn, ar dympan,
Cŷd genwch bereiddgan, yn fwŷn-lan o fawl,
Rhowch bûr Halelujah, a seiniwch Hosannah,
Ir uchel Jehovah o hoŷw fawl.
20.
Rhag twŷll a bradwrieth, rhag llid a gelynieth,
Gwrthrŷfel, a barrieth, mewn heleth anhwŷl,
Duw cadw'n goronog, ein Llywŷdd galluog,
Dy wâs, a'th eneiniog yn anwŷl.
21.
Mil chwe-chant, pedwar ugain, ac wŷth heb ddim amgen,
Oedd oedran ein perchen, mewn llawen wêllhâd;
Pan gawsom heb gyfing, ollyngdod llawn dibrin,
Dan Frenin Dewr riddin, dâ ei roddiad.
22.
Gogoniant mawr hyfrŷd, i'r Tâd, ar Mâb hefŷd,
Ac ir glân Ysprŷd, mewn gwŷnfŷd dan go,
Fel 'roedd o'r dechreuad, mae'r awron yn oestad,
Ac fellŷ heb ddiweddiad bŷdd iddo.

Ymddiddan rhwng Nattur a Chydwŷbod.

1.
GWrandewch ar ddatcuddiad, dau Efell ûn fagiad,
Un Fam, ac un-dâd, un Ddeiad, un Ddŷdd,
Cydwŷbod ddâ ddichlin, a Nattur wŷllt erwin,
Sŷdd gyndŷn am galŷn eu gilŷdd.
Cydwŷbod.
2.
Fy Nattur ystyria, cŷn cymrŷd dy noddfa,
Plê gwnêi di d'orffwŷsfa ffieiddia waith ffôl,
O'th flaen dôs yn union, rhŷd llwŷbŷr y doethion,
Fel Cristion crŷ foddion crefyddol.
Nattur.
3.
Yr wyfi'n mynd beunŷdd, yn gryfach o grefŷdd,
Rhŷd llwŷbrau llawenŷdd, iawn gynnŷdd yn gall,
Yn ddirfawr fe ddarfu n ben ysgafn fy nyscu,
I gablu, ac i dyngu, nôd angall.
Cydwŷbod.
4.
Os ystôl y gwatwor, ŷw steddfaingc dy gyngor,
Gelŷn di-ordor, fŷdd Blaenor dy blaid,
Cyttunwn ni ein deuwedd, i ochel drŵg fuchedd,
Rhag dialedd, anhunedd i'n henaid.
Nattur.
5.
Cydwŷbod ofalus, mae'nghorph i'n dra-chwantus,
Ni thrwbliai mo'i Ewŷllŷs, ŵr nwŷfus, er nêb,
Ein hanwŷl gymdeithion, ŷw Cabl-wŷr, a Meddwon,
Cybyddion, a dynion godineb.
Cydwŷbod.
6.
Cofia hên Adda, a gwŷmpodd yn gynta,
Naturieth wan Efa, anwŷlâ a wnaeth,
Fyn'd o Ardd Eden, i geibio'r ddaiaren,
Dan wialen poen aden penydiaeth.
Nattur.
7.
Er hynnŷ (Cydwŷbod) 'rwŷ'n cofio'r cyfammod,
Hwŷ gawsant yn barod, iaŵn gymmod am gam,
I wneuthur bodlonrwŷdd, fe anwŷd yr Arglwŷdd,
A'ddawse Duw'n Ebrwŷdd i Abram.
Cydwŷbod.
8.
Mae hynnŷ'n wîr (Nattur) ymgeisia di am gysur,
A mola'r pennadur, mewn mesur, a mawl,
A gwilia am ychydig, ammherch [...] dy feddig,
Fel Sûddas wenwŷnig anianawl.
Nattur.
9.
Rhag bôd yn rhŷ druan, y Bŷd fŷ o honr 'rawran,
Mi alla'n ddi duchan, yn llydan fy llid,
Gaethiwo rhai'n rhyfedd, am arian, a mawredd,
Drwŷ ddialedd yn garledd, ac erlid.
Cydwŷbod.
10.
Nattur Dwŷllodrus, darllen Air Moesus,
Ac yno o ddrygionus, trâ nwŷfus tro'n ôl,
Rhag myned yn ddi-lwŷdd, fel Pharoh anghyfarwŷdd,
I foddi mewn awŷdd an-nuwiol.
Nattur.
11.
Ni rusai inneu'n wresog, rwŷ'n ŵraidd, rwŷ'n arfog,
Rwŷ'n llonn-wŷch galonnog, rwŷ'n donnog bôb dŷdd,
Gwêll gennif na'th gyngor a fentrio fel Hector
Am drŷsor yn flaenor aflonŷdd.
Cydwŷbod.
12.
Cei weled ar gyhoedd, yn llyfrau'r Brenhinoedd,
Ddiscŷn o'r nefoedd, ar luoedd rhŷ lon,
Flam o dân dialedd, iw difa nhŵ o'r diwedd,
Am gamwedd, dro ysig-wedd dwŷs eigion.
Nattur.
13.
Rwŷ'n falch, ac yn uchel, i rŷw fan mi â i ryfel,
Pwŷ bynnag yn ddirgel a 'mafel â mi,
Ni edrychai am Gyfiownder, os gallai wâs gwŷchder,
Drwŷ 'marfer gwaith eger, gywaethogi.
Cydwybod.
14.
Na fŷdd di falch foddion, cofia di Absalon,
A'i falchus feddylion, a droeson yn drŵch,
Am iddo wrthrŷfelu, ei Dâd oedd iw garu.
Fe ddarfu i hwn dagu'n ei degwch.
Nattur.
15.
Rwŷ'n meddwl am foddion, y gwŷch Fâb afradlon,
Oedd gefeill i'r meddwon, rhŷ chwerwon eu chwant
Er maint oedd ei afrol, a'i anlladrwŷdd corphorol,
Fe gafodd hwn Dduwiol faddeuant.
Cydwŷbod.
16.
Deall di Nattur, nad wŷt ond pechadur,
Mewn cyflwr cyscadur, ac awŷr ei gŷd,
A darllen am draha Sodom, a Gommorah,
A chofia di laddfa dialedd-fŷd.
Nattur.
17.
Cydwŷbod ddifrifol, cei unwaith fy'nghanmol,
I olwg y bobol, yn Dduwiol mi a ddô,
Ac yn y tywŷllwch, mi a bortha 'nrhythyllwch,
Drwŷ anlladrwŷdd yn fawr-drwch, neu fwrdrio.
Cydwŷbod.
18.
Cofia di'n gynta, henuriaid Judea,
A hoffodd Susanna, oedd lana o wêdd-lon,
Am ddilŷn eu Nattur, gau dystion gô dostur,
Marwolaeth ddigyssur a gawson.
Nattur.
19.
Rwŷ'n nwŷfus, rwŷ'n wantan, rwŷ'n fywiog, rwŷ'n fuan,
Pan elwŷf mewn oedran, yn druan ar drangc,
Mi a gria drwŷ brudd-der, am faddeu i mi 'malchder
A'm harfer mo'r ofer yn Ifangc.
Cydwŷbob.
20.
Cofia Fâb Eglon, a'i falchus gyfellion,
Ni throen mo'u golygon, yn union ir nêf:
Y tri hŷn a alwodd, gau dduwiau, ac a'u addolôdd
Ar ddaiar a lyngcodd y llangcief.
Nattur.
21.
Mi a gymra drwŷ ebwch, y foru edifeirwch,
Gâd heddŷw i mi heddwch, di-dristwch am drô,
Mi allaf fel Peder a wadodd ei feister,
Alaru oni weler fi'n wŷlo.
Cydwŷbod.
22.
Nis gwŷddost pa funŷd, y dygir dy fywŷd,
Nattur segurllŷd, dwl enbŷd di-lês,
Mae d'einioes ar derfŷn, mae angeu gyferbŷn,
Mewn dychrŷn yn dy ofŷn fel Deifes.
Nattur.
23.
Paid ti Cydwŷbod, na fygwth mor gormod,
Y mwŷaf ei bechod, rwŷ'n gwŷbod y gwîr,
Mae'r Arglwŷdd yn addo, grâs hêdd o'i groeshoelio,
Pan ddelo fe i gurof agorir.
Cydwŷbod.
24.
Nattur, direidi, pan ddelo dŷdd cyfri,
Fe breintir pôb bryntni, o'th drychni, a'th drais,
A minneu fŷdd yno, i'th gyhoeddus gyhuddo,
Heb ffrwŷno mo'th ddwŷlo mi'th welais.
Nattur.
25.
Och finneu mo'r ofer, y treuliais fy amser,
(Cydwŷbod) mae llawer o brudd-der im brest,
Duw planna'n fy nwŷfron, a dŷsc i feddylioh,
Fy nghalon fwŷn union fŷw'n onest.
Cydwŷbod.
26.
Os wŷt ti (Natturieth) i'm caru'n gydymmeth,
Cei gennif fawr gyweth, athrawieth wrth raid,
Cawn drysor i'n Pebŷll, digonedd, a gweddill,
Moes gynnill yr ennill i'r enaid.
Nattur.
27.
Mi a fydda dioddefgar, fel Jôb yn ei alar,
Nag ammeu fi'n gymmar, o'r ddaiar oer-ddwŷs,
Mi a'th gymmra'n fy 'nghowled, i ganu i'r Gogoned,
Cei 'nghlywed yn barffed heb orphwŷs.
Cydwŷbod.
28.
Yr owran (fy Nattur) di a sonniaist am synnwŷr,
Gan Jesu cei gysur, yn brysur gar bron,
Tyr'd gyda mi'n ddi-fri, yn awŷddus ddyweddi,
I'm holi'n ddi-oedi am addewidion.

CAROL ar WYRTHIAU CRIST.

1.
POB Bardd awenŷddol, dwŷs breu-deg, ysprydol,
Cŷd blethwch yn dduwiol, trô bŷwiol trwŷ bwŷll,
Gerdd glôd-fawr glymmedig, i Dduwdod haeddedig,
Mawledig, nodedig oen di-dwŷll.
2.
Nid gweinieth i ganmol, pendefig daiarol,
O chwant i fudd Bŷdol, air gweddol ar gán,
Ond moliant haeddedig, i'r unig anedig.
Fâb Duw y Natalig, nôd hoŷw-lân.
3.
Mae rhai yn ein hamser, yn meddwl mae ofer,
ŷw canu Cerdd fwŷn-ber, dâ freuder di-frêg,
Rhônt farn gŷd-wŷbodol, ond rhôdd neu ddawn nefol,
Yw awen hyfrydol, hŷ freu-deg.
4.
Cerdd tri meibion Corah, Assir, ac Elcanah,
A'u brawd Abiasa, dan goffa Duw'n gu,
Y byddeu'r gwŷr diddan, dâ dawnus, cyssur-lân,
Wrth fynd i Wlâd Canan yn Canu.
5.
Fe ganodd y rheini, fawl Crîst cŷn ei eni,
A Dafŷdd fŷ'n odli, dan foli Duw'n fawr,
Gan Simon a gosia, yn ôl ei ddyfodfa,
A moliant mwŷn Anna, mewn un-awr.
6.
Mae amrŷw ganiadau, drwŷ'r ddau Destamentau,
O waith yr hên Dadau, a'r odlau'n ddi-rus,
Fe ganodd Angylion, am em'r Mâb tirion,
Cantorion nefolion, yn felus.
7.
Mae aml Orch'mynion, drwŷ'r Psalmau hyfrydlon,
Ar foli Duw cyfion, hoff union ŷw'r ffŷdd,
Molwn, can molwn, yr Jesu na ruswn,
Cŷd unwn, ac eiliwn a'n gilŷdd.
8.
Hwn ydŷw ein hurddas, y cywir Fessias,
Pen Brenin pôb Teŷrnas, mae'n addas y nôd,
Y llew o lwŷth Juda, llawn grâs, a llawn geirda,
Rhoes Duw am hwn-ymma, hên ammod.
9.
Addawodd Duw'n ddieu, ei fôb yn y dechreu,
Bedeir-mîl o flwŷddau, blynyddau blaen oes,
Cŷn dŷdd ei gnawdoliaeth, a'i dêg anedigaeth,
Pen llywŷdd Brenhiniaeth brô'n heinioes.
10.
Cyfammod Duw'n odiaith, ac Abraham seith-waith,
Am Grist y gwîr obaith, yn berffaith y bŷ,
Plant Israel a gawson, ddi-wâd addewidion,
A'u hyder a roeson ar Jesu.
11.
Ynghylch pum can mhlynedd, wir felus orfoledd,
Cŷn geni mo'i fawredd, diomwedd fŷ'r dawn,
Yr oedd y Prophwŷdi, diwaetha'n cyhoeddi,
I'r Bŷd y goleuni, goel-uniawn.
12.
Fe roed i'r Cenhedloedd, dros hîr o amseroedd,
Wybodaeth drwŷ'r oesoedd, mwŷ cyhoedd y cênt,
Brynnwr mawr breiniol, a'i râd ymwaredol,
I'r bobol gariadol a gredent.
13.
Dêg Sibŷl yn ddieu, a fŷ Brophwŷdesau,
Canasant ganiadau, a'u llwŷbrau mo'r llon,
Am Grîst a'i ddyfodiad, fôd Mâb o Hebread,
A'n gwnae ni mewn rhoddiad yn rhyddion.
14.
Diflannodd Oraclau'r Cenhedloedd, a'u duwiau,
I'r llawr fae'r allorau, a'u Breiniau heb rôl,
Palal, ac Apolo, yn feirwon yn cwŷmpo,
Dŷdd Crîst oedd yn pwŷso'n happusol.
15.
Yr Ach sŷdd yspysol, o Ddafŷdd waed breiniol,
A Jesu rinweddol, mae'n urddol ŷ nôd,
Duw Jesu dewis-wedd, mewn dynol gnawd iawn-wedd,
Mo'r rhyfedd a buchedd ddi-bechod.
16.
Ail berson y Drindod, Mâb Dafŷdd drwŷ ddyndod,
A'i Arglwŷdd mewn Duwdod, tro hynod trwŷ hêdd,
Pregethŵr daionus, Efengŷl gyssurus,
I'r rhai edifarus, dâ fawredd.
17.
Dyscu'r Athrawon, a galw ei ddyscyblion,
Ei wŷrthiau grasuslon, yn fawrion a fŷ,
Troi Saul, yn Paul dawnus, troi'r dŵfr yn wîn melus,
Mae'n hysbŷs ei ewŷllys, a'i allu.
18.
Jachâu pôb clefydon, rhoi parabl i'r mudion,
Bŷwhau y rhai meirwon, y gwirion oen gwâr,
Rhoi'r cloffion i gerdded, rhoi'r deillion i weled,
Ar Byddaried i glywed yn glauar.
19.
Rhoi'r Dieflig o'i benŷd, gostegu'r gwŷnt hefŷd,
A rhodio'r môr dyfrllŷd, yn hyfrŷd mewn hêdd,
Rhoi gweddill ac ymborth i bun-mîl o bum-torth,
Duw'n cymmod, a'n cymmorth o'n eammwedd.
20.
Goddeu am ein pechod, i wneuthur ein cymmod,
Heb ynddo fai iw ganffod, ufŷdd-dod i fŷw,
Ein gwendid a gymmerth, i'n prynnŷ a'i waed iawn-werth,
Yr aberth, ar pridwerth pur ydŷw.
21.
Ar trydŷdd dŷdd difeth, yn ol ei farwoleth,
Cyfododd Crîst eilweth, hôff odieth heb ffawd,
Ac ar law ddehef, Duw Tâd or uchelnef,
Mae trosom ni'n dadleuf, oen di-dlawd.
22.
Os ynddo fe credwch, drwŷ wir edifeirwch,
Dan wadu'r tywŷllwch, a chiliwch o'ch chwant,
Cyfiownder Crist Jesu, pan ddêl ef i farnu,
A'ch dŵg i gu ganu gogoniant.
23.
Gogoniant mawr hyfrŷd, i'r Tâd ar Mâb hefŷd,
Ac ir Glân Ysprŷd, mewn gwŷnfŷd dan gô,
Fel'r oedd or dechreuad mae'r awron yn oestad,
Bŷdd fellŷ heb ddiweddiad Dduw iddo.

Carol yn dangos fod pob mâth ar ddynnion yn bechaduriaid.

1.
TAleithiau tylwŷthog, hôll Frydain fawr oediog,
Pôb anwŷch, pôh Enwog, pôb enaid o ddŷn,
Cyfeddwn ein camwedd, a thrown o'n hanwiredd,
Mae'n deilwng ein dialedd yn dilŷn.
2.
Or isel i'r uchel, pôb un am yr hoedel,
Yn gyhoedd, neu'n ddirgel, heb ochel y bŷdd,
Yn gwneuthur yn erbŷn, pôb deddf, a gorchymmŷn,
Yn un ar tri gelŷn trwŷ 'gwilŷdd.
3.
Er nad ŷw'ngalwad, i wŷbod, neu i ddirnad,
Y cam gyfeiliornad, trwŷ afrad bôb trô,
Sŷ ymhlith y pennaethied, etto 'rwŷ'n clywed,
Eu bôd mewn hŷll weithred yn llithro.
4.
Chŵŷdd rhyfŷg, a Balchder, cenfigen mewn uchder,
Medd-dod, glŵth eger, wrth ddigwŷdd a Bair,
Odineb cŷn amled, a gwobr fe a'i dalled,
Gorthrymmu trueinied trwŷ anair.
5.
Y gyfraith a wŷran, wrth ffafr ac am arian,
Cyfiawnder i'r truan ni cheisian y chwaith,
Y naill yn arian-gar, ar llall yn rhŷ dreulgar,
Nag oedan drwŷ alar droi eilwaith.
6.
Y bonedd o'u llwŷbrau, sŷ'n rhoddi drwg siamplau,
Ir gwerin yn olau, a'u beiau heb wêdd,
Iw camwedd y rhedwn, a'u pechod a bechwn,
Er hŷn nid olrhennwn mo'u rhinwedd.
7.
Rwŷ'n ddigon hysbysol, ym muchedd anianol,
Y gwrêng cyffredinol, nid llesol wellhâd,
Myfi a gyffesa, fy hunan ŷw'r gwaetha,
Diofala a marweiddia o'u marweddiad.
8.
Duw rhai ydŷw Cyweth, Dâ, Tiroedd, a'u Toreth,
Swŷn, coelion, Dewinieth, drwŷ anrhaith a drîg,
Hŷll ofer ŷw llyfrau, halogi Sabbothau,
Ac ammarch ar dadau Awdurdedig.
9.
Drŵg absen, llîd creulon, trythŷllwch, anudon,
Chwant eiddo cymdogion, arwŷddion di-râd,
Celwŷddau rhŷ helaeth, anneddfol fŷwoliaeth,
Pôb diffaeth dwŷllodraeth, a lladrad.
10.
Aneiri ŷw'n pechodau, mewn meddwl a geiriau,
Ein gweithred a ddyleu ddialedd, a mêth,
Yr ydŷm ni'n haeddol, o boenau tragwŷddol,
Uffernol bennodol benŷdieth.
11.
Gwelwn arwŷddion digofaint Duw'n gyfion,
Cometau, Rhyfelon, mae cŵŷnion i'n cô,
Doluriau, tân rhyfedd, ond madws or diwedd,
Ar ddrŵs y drugaredd droi i guro.
12.
Gwae ni ein hastached, pa bêth all ein gwared,
Ond un Mâb a aned (iw enw bo'r glôd)
Ar gyfen i'r awran (nawdd pawb ar a gredan)
Yn faban, dâ bychan, di-bechod.
13.
Nid oes ond hwn ymma yn ddŷn, yn Dduw ucha,
'Eill achub or boenfa, bŷw iown-fŷd, a llwŷdd,
Bôb un edifeiriol, a gaffo ffŷdd ffrwŷthol,
Mae'n creu yr annuwiol o newŷdd.
14.
Am un Themistocles, fel hŷn mi a ddarllennes,
Pan ddigiodd [...]wŷ afles, ond rhŷflin fŷ'r nôd,
Phylip oedd benna ar wlâd Macedonia,
Pa bêth a ddŷg ymma iddo gymmod.
15.
Iw wyneb fe rede, a'i fâb yn ei freichie,
A Phylip pan wele, ei anwŷlŷd a drôdd,
Gwnaeth prŷd a gwên dirion y bachgen fe'n fodlon,
Ar dicter o'i galon a giliodd.
16.
Fel Simeon trown ninne, at Frenin uchel-ne.
A'î Fâb yn ein breichie dan adde Duw nêr,
Yn hwn yr ymaelwn, er dim na ragrithiwn,
Os mynnwn fŷth bardwd faith burder.
17.
Mil, chwechant, yn gorphen llawn chwebtwŷdd, a thrugien
Oedd oedran ein perchen, parchus fŷ'r ffrwŷth,
Pan wnaed yn hwŷrfrydig, y Carol ynghynig,
(Ar Wilie'r Natalig) i'r Tylwŷth.

Carol ar drî chymdeithion. Dŷn, sêf y Bŷd, y Gweithredoedd, a Chydwŷbod.

1.
GWrandewch fy myfyrdod, mi a geisiais ragosod,
Rhŷw ddammeg ar draethod, air hynod yn rhwŷdd,
I ddangos o ddifri, faint achos sŷdd i ofni,
Mawrhydi'n Duw Celi, dêg hylwŷdd.
2.
Rhŷw ŵr yn ei amser, a roesai ei hôll bleser,
A llawer o'i hyder, drwŷ hudol fudd gŷnt,
Ar dri o gymdeithion, ni chae ef fŷth ddigon,
O sôn wrth bôb dynnion amdanŷnt.
3.
Ar ddau or rhain ymma, y rhoe e ei serch fwŷa,
A'i feddwl yn gyfa, mewn gofal bôb tro,
Ni wnae ef fawr ddeunŷdd o gyngor y Trydŷdd,
Nag odid awr un-dydd i wrando.
4.
Ir rheini'n gyfannedd fe fyddeu'n ufuddedd,
Iw calŷn, a'u coledd, yn daeredd bôb dŷdd,
Heb ddeall er dangos faint iddo'fe'r oachos,
O ddialedd oedd agos i ddigwŷdd.
5.
Doe rybŷdd yn foreu ŷw gyrchu oddi cartreu,
At ŵr nid adwaene, ni wydde, fe'n iawn,
Pa fôdd a fai iddo, os eid iw ecsamnio,
Ni cheid ger bron yno ond barn uniawn.
6.
Pan wŷbu Drwŷ ddychrŷn, naws adwŷth yn sydŷn,
Y bydde raid cychwŷn, i'r dyfŷn ar daith,
Fe ae i adrodd yn gynta, ei gur a'i gyfyngdra,
Iw gyfaill anwŷla'n llawn alaeth.
Y Dŷn. 7.
Fe ddwedai mor bruddedd, rwŷ'n myned ŵr mwŷnedd,
I siwrne fawr ryfedd, oer ofid i gant,
Rhag dychrŷn, a chledi, a ddoi di efo myfi,
Moes atteb dwŷs i mi di-siommiant.
Y Bŷd. 8.
Nid oes mor môdd i mi, i fynd efo thydi,
Ond hyn a wnâf i ti, heb oedi tra fŷch,
Mi a ddyga'n ddi-wgiad, dy gôst yn dêg wastad,
Ple bynnag ar alwad yr elŷch.
9.
Gorfod ymado, a hwnnw'r awr honno,
Trwŷ ddygŷn ofidio, ynfydus wall,
A myned i Dreuthu, ei gur a'i gŵŷn fellŷ,
Lle'r oedd e'n hyderu ar ffreind arall.
Gweithredoedd. 10
Fe ddywede hwn wrtho, yn siŵr iw gysuro,
Y doe gydag efo, yn gyfan er llês,
Hŷd borth y llŷs hwnnw yr oeddid iw alw,
Lle gwyddid ei henwf a'i hanes.
11.
Ond Dwedŷd gair drosto, nid ydoedd yn meiddio,
Mo'r mynd i mewn yno, mae'n anodd un prŷd,
Chwenyche'r ymdeithŷdd, drŵg ryfŷg di-grefŷdd;
Rhag gwrâdwŷdd, a chwilŷdd ddychwelŷd.
12.
A hynnŷ pan glywodd, wâs annoeth fe 'synnodd,
Ar ail fe madawoedd, mewn breufodd yn brudd,
Gan alw dan wŷlo, y trydŷdd ffreind atto,
Y lleia a wnaef erddo'n ei fawr-ddŷdd.
Cydwŷbod. 13.
A hwnnw'n ddi-wegi, a ddwedai'n rhwŷdd gwedi,
Mi a ddôf gyda thydi, a'th adel ni wnaf,
Ac i ti yngwŷdd digon, er sŷdd o gaseion,
Yr hŷn a fo union a fynnaf.
14.
Ac yno'n deg unol, hwŷ a'm wnaethon yn nerthol,
Ysprydol ddull duwiol, ill deuwedd un frŷd,
I fyned yn fwŷn-faith, ar fyrder i fawr-daith,
Mewn gobaith o lawn-faith lawen-fŷd.
15.
O mynnwch chwi weithian, wŷbod yn union,
Pwŷ oedd y cymdeithion, twŷllason yn llwŷr,
Am iddo drwŷ gimmin, hudolieth ei dylin,
Nes myned yn iwin dan awŷr.
16.
Ei gefaill anwŷla, oedd y Bŷd ymma,
Pan ddaeth yr awr gletta, gyfynga iw oes,
Ni allodd help iddo, fynd gam gydâg efo,
Nag ystŷn awr yno ar ei Enioes.
17.
Ei gôst o hîr ymdaith, yn llawen a lluniaeth,
A gae'n y Bŷd diffaeth, trwŷ farieth tra fu,
Nid oes i fonheddig, na gwreng ond ei fenthig,
Ychydig fel barrig a baru.
18.
Yr ail (o bôb lleoêdd) oedd ei weithredoedd,
A droen o borth lluoedd y Nefoedd yn ôl,
Gan gwilŷdd heb feiddio, mor myned i 'mpirio,
Rhag peri drŵg iddo'n dragwŷddol.
19.
Y Trydŷdd ffreind hynod, y bydde'n ei wrthod,
Hwn oedd ei gydwŷbod, trâ pharod heb ffo,
Ae ir farn yn dŷst union, iw galŷn drwŷ gwŷnion,
Am wneuthur yn gyfion ag efo.
20.
Yr awron y Cymro, os gwiw dy rybuddio,
Mae i titheu gonsidrio, cais edrŷch mewn prŷd,
Am ba un or tri hynnŷ, yr wŷt ti'n gafalu,
Mae'r amser yn nesu y mynnasŷd.
21.
Pa lês it dybygid, bai gwallus, be gellid,
Draws ynnill dros ennŷd, yr hôll-fŷd yn rhwŷdd,
A cholli'n dragwŷddol dy enaid bŷth bythol,
Yn Uffern boenydiol annedwŷdd.
22.
Ystyria, di weli mai gwell a sŷdd i ti,
Na dim ar a feddi, o Beltri y Bŷd,
Cydwŷbod heddychol, i fŷnd at Dduw nefol,
Trwŷ ffyddiol iaith wiriol a'th werŷd.
23.
Dy fydol weithredon, fel diles hudolion,
O flaen dy olygon, halogus a rhôn;
Sŷ'n rhwŷstro i ti ganfod, y beiau sŷdd hynod,
Cŷn amled a thyfod wrth afon.
24.
Cei weled pan ddarffo, i'r cwbl ymado,
Pôb pleser yn ffaelio, hôff olud, a llôg,
Cydwŷbod yn effro, a'th galŷd heb gilio,
I gofio'r daith honno rwŷ i'th annog.

Dyriau yn Erbŷn meddwdod.

1.
CLywch gwŷnfan un truan, rwŷ'n oflin ddŷn aflan
Mewn pechod câs anian, cês ennŷd i braw,
Trwŷ feddwi'n anhydŷn, a sugno tân tennŷn,
Mae im briwo hên elŷn anhylaw.
2.
Bŷ gennif rŷw bwrpas, na feddwn mor ddi-ras,
Fe'm llithiodd chwant atgas, utgorn y fall,
Mi gwŷmpais i'r dommen, mi yfais froth heidden,
Mae'r enaid mewn angen, rwŷ'n angall.
3.
Fel Cigfran afluniedd, yn tynnŷ at y gig-ledd,
Mae'r galon yn coledd, i galŷn ei chwant,
Fel gele heb gilio, ddrŵg syppŷn rwŷ'n sippio,
Y Cwrw i fynd tano, fel tenant.
4.
Os cwŷmpais o'm lledfodd, i bechod a'm bachodd,
Ar gelŷn a gablodd, ffordd nefol Dduw nêr;
Gall Christ roi i mi gyssur, a newid fy nattur,
Am codi o'r pwll budur fel Peder.
5.
Mae'n ddrŵg i mi bechu, o hyder ar hynnŷ,
Rhag ofn i Christ Jesu, isel ei fron,
Ddigio'n rhŷ ddygŷn, a'm chwŷthu fel ewŷn,
Duw ymlid y gelŷn o'r galon.
6.
Oh, heddŷw rwŷ'n haeddu, fel halen fy sathru,
Sŷdd wedi diflasu, heb lesu i'r Bŷd;
Duw 'nâd fi'n aflawen, i droi'n wŷsc fy nghefen,
I Sodom, ar siglen fwsoglŷd.
7.
Os cwŷmpais i'n ddi-rŷm, mewn bwriad i'r burum,
Mi 'mafla etto'n awchlŷm, drwŷ wiw-rŷm dy râs,
Christ Jesu dôd angor, a'th ysprŷd dôd gyngor,
Rhag boddi ar oer dymmor fel Demas.
8.
Gwŷr Jefeinge, gŵyr ofer, sŷ'n saelio i'r seler,
Clywch gyngor yn dyner, i'ch denu o'r drŵg,
Toppiwch y teppŷn, na cheisiwch ymofŷn,
Am fygŷn, sef gelŷn y golwg.
9.
Er darfod i'm fethu, hŷd heddŷw orchfygu,
Y chwantau sŷ'n llechu yn lloches fy mron,
Er hynnŷ rwŷ'n ffyddio, fôd-eraill yn peidio,
A meddwi drwŷ gyrowsio mor greision.
10.
Mewn Issiw gwaed rydwŷ yn llawn o'r gwahanglwŷ,
At bechod yn trammwŷ, yn tremmio'n rhŷ lon,
Pe cawn i gyffyrddŷd, ag Arglwŷdd y bywŷd.
Fe rodde i mi Jechŷd heddychlon.
11.
Rhoi finiger i'r Jesu' mae'r meddwŷn wrth bechu,
Ystyriwn ni hynnŷ, mae'n hynod ar lêd,
Nag yfwn o'r Cwrw, er daied ŷw hwnnw,
Ond llymmed i'n cadw rhag syched.
12.
Llawer o weision, sŷdd i fedd-dod anhirion,
Anlladrwŷdd, a llwfon, a llawer o ddrŵg,
Anhwŷlio'n, anhylwŷdd heb wrido, heb wradwŷdd,
A chwilŷdd, a chelwŷdd a chilwg.
13.
O frynted ŷw'r meddwŷn, sŷ'n meddwi fel mechŷn,
Cŷn darfod dy derfŷn, gâd arfer y môch,
Trowch yn dra-phrysur, at Grist ein pennadur,
Gan Jesu cewch gysur pan geisioch.
14.
Mae chwantau mewn arfau, yn llenwi ein heneidiau,
Duw anwŷl, a'i radau a rodio yn eu llê,
Tyr'd Jesu i'n llwŷr olchi, oddiwrth ein budreddi,
A bŷdd i'n dinodi o'n drŵg 'nwŷde.
15.
Mae ffynnon ir enaid i 'molchi'n dra-channaid,
Pe ceisien ni gyfraid yn gyfrwŷs or nef,
Chwilwn Scrythyrau, ffieiddiwn ein chwantau,
Ac ofnwn ddrŵg 'nwŷdau fel nodef.
16.
Nid meddwi mo amcan llawer dŷn truan,
Wrth fyned i'r dafarn, di-fudd hŷd fêdd,
Wrth sippio'n ei sioppan, Mae Sattan a succan,
Yn fiommi dŷn egwan ei agwedd.
17.
Mae barrieth afradlon, yn calŷn y meddwon,
Na welant mo'u digon, dygŷn ŷw hŷn,
Mae llawer mewn llannau, yn yfed eu pottiau,
Heb goelio'r dialeddau a ddêl iddŷn.
18.
Gweddiwn yn ddiwŷd, ar Arglwŷdd y bywŷd,
Am goffel glân ysprŷd, grŷf hyfrŷd ei groes,
I'n tynnŷ or Tafarnau, trwŷ faddeu'n trachwantau,
A phuro'n Calonnau i gael einioes.
19.
Ymladd ar gelŷn, nes darfod dy derfŷn,
Arfer bôb erfŷn, i orfod y chwant,
Ymdrecha'n nerth Jesu, ar fall sy'n dy faglu,
Ac fellŷ cei ffynnu, drwŷ ffynniant.
20.
Os cwympaist i bechod, yn erbŷn Cydwŷbod,
Yn brysur cais gymmod, heb gwmmwl or nêf,
Er darfod ŷt drippio, na laesed dy ddwŷlo,
Fel Cain rhag Cyrwŷdro, cerdd adref.
21.
Efarwell i chwi'r meddwon, och frodŷr afradlon,
Na wele nêb monon, yn mynnu fel mwm,
Bŷth ormod o gwrw, mae'n chwareu a ni'n chwerw,
Bŷdd Arglwŷdd i'n cadw rhag codwm.
22.
Bendithia'r Cynghorion, a roddes ir meddwon,
O Arglwŷdd glân tirion, tyred yn nês,
Na âd i mi gwŷmpo, i bechod sŷ'n diwŷno,
Dy ysprŷd dôd yno dêg hanes.

Barnedigaeth y Bŷd, rhwng y Cyfoethôg ar Tylawd.

1.
Clywch ddangos rhagorieth, rhwng prinder a chyweth,
A'n heulun addolieth, gelynieth nid glân,
Mae'r Bŷd anwŷbodol, yn treiglo'n rhyfeddol,
A phawb yn naturiol at arian.
2.
Dalied bŷdolion fôd Dau o'r gorchmynnion,
Yn peri i ni ddynion, afrwŷddion yn frau,
Na byddeu i ni'n ddiwad, un Duw heblaw'n Ceidwad,
Na rhoi mo'n haddoliad i ddelwau.
3.
A minnau sŷ'n myned, fel Israel war-galed,
Oddiwrth ein hymwared, er niwed yn ôl,
Llo aur sŷ raid i ni, yn ddwl ei addoli,
Y Bŷd a'i fawrhydi o fâr hudol.
4.
Yr Arglwŷdd mawr cyfion, sŷ'n gofŷn y galon,
Ni a welwn braw ddigon, o'i dirion air doeth,
Ir Bŷd y rhown ninneu, er amled ei droeau,
Hôll serch ein colonnau, coel anoeth.
5.
Y galon sŷ'n gonglau, ar Bŷd sŷ grwn yntau,
Ni lenwiff yn ddiau, nai chyrrau nai chwant,
I bleser a chyweth, neu barch a gorchafieth,
Mae'n mynd ar draws ymmeth, drwŷ siommiant.
6.
Oes nêb na chynhithia, at dwŷll y Bŷd ymma,
Yr abwŷd perygcla, rhyfedda ar a fu,
Gan Satan (bôb diwrnod, ein gelŷn o'r gwaelod,
Yn barod dan bechod) i'n bachu.
7.
Hôll ddŷsc y brîf yscol, a rhinwedd rhagorol.
Nid ennill lê buddiol, worsibiol i Sant,
Os gweigion ei ddyrnau, ac eraill a gariau,
Wrth arian y swŷddau nis haeddant.
8.
Pan wnêl y goludog, gam ar anghenog,
Ni bŷdd y Cyfoethog, yn ofnog er nêb,
Ceiff gwan ei fedyddio, yn Gnâf wrth ei gneifio,
Ac ymbil heb wrando ei wiriondeb.
9.
A thrwm y gorthrymmir y gwirion, a'r geirwir,
Yn lleidr y bwrir, fe a'i sethrir â senn,
Ac yntau'r goludog, ŷw'r onest ŵr Enwog,
Er bôd ar ei grimmog ef grammen.
10.
Nid rhaid i wŷr cryfion, mor talu eu dyledion,
Ond taflu bygythion, yn llymmion mewn llid,
A'r truan nid allo ag eraill gywiro,
I garchar ag efo mewn gofid.
11.
Mae'r gyfraith o'i chalŷn, fel rhwŷdau prŷ'coppŷn,
A ddeil y gwŷbedŷn, gwŷbodaeth i ni,
Ar Eden a fyddo a nerth a grŷm yntho,
Dan rwŷgo, mae'n treuddio i fynd trwŷddi.
12.
Tewi fel mudion i wrando 'madroddion
Ariannog ŵr union, ŷw merion y môdd,
I gasglu gwŷbodaeth, a chrîwn ar unwaeth,
Lleferŷdd Duw odiaeth a ddwedodd.
13.
Derchafu ei Resymmau, hŷd at y Cymylau,
Rhyfeddwn ei Chwedlau, a'i eiriau'n ei wŷdd,
Pôb gair o ffolineb, i ennill ei wŷneb,
A Wnawn ni'n ddihareb o'i herwŷdd.
14.
Y tlawd a siarado, er doethed a fytho,
Ni cheiff ef moi wrando pan ddwedo fe'n ddâ,
Nid gwîr mor gwîr meddan o ben y dŷn truan,
Ynfydion ac arian a'i gwŷra.
15.
Os happia i ŵr lithro, a fŷ a pheth gantho,
Ni a farnwn amdano, lle glyno mewn glud,
Na chadwodd yr hên ddŷn, o'i synwŷr friwsionŷn,
Hi a giliodd i galŷn y golud.
16.
Mae'r Jeuangc mor henedd, wrth ddewis ei gydwedd,
Nid rhinwedd sŷ'n cyrredd, y cariad a ddŷl;
Ond Mammon ŷw'r oreu ym-mhlîth y Duwiesau,
A phawb sŷdd yn chwareu yn ei chwerŷl.
17.
Mae'n aml Cymdeithion, a Cheraînt pûr ffyddlon,
I'r gwŷr cyfoethogion, llawnion mewn llwŷdd,
Ystyriwn y diben, ni bŷdd os daw amgen,
Ond un ym-mŷsc deigien yn digwŷdd.
18.
Gŵr perchen cywaeth, yn ôl ei farwolaeth,
Fe ddaw iw gladdedigaeth, ŷrr helaeth ar hŷd,
Y tlawd pan derfyno, prin cael ir fan honno,
Mor digon iw gario'f i'r gwerŷd.
19.
Cyfoeth heb bechod, nid ydwŷ'n ei ddannod,
Na pherchi'r Awdurdod, yn barod bôb un;
Ond rhoddi mor ehud, a chynted yn symmŷd,
Y galon i'r golud 'gwâg Eulun.
20.
Cyflwr anghenus, nid ydoedd ddirmygus,
Gan Dduw mor gariadus, daionus fŷ'r dawn;
Pan roes mewn tylodi, ei anwŷl Fâb l ni,
Yr Haul, ar goleuni, goel uniawn.
21.
Lle'r oedd Cyfoethogion, mawr uchel mor wchion,
Yn llenwi'r lletteuon, tirion bôb tŷ;
A Mâb y gorucha, ar forwŷn ddiweiria,
Mewn preseb or gwaela yn lle gwelu.
22.
Nid llawer o ddoethion, a alwei'r Mâb rhadlon,
I gael ei ddirgelion, a chyfion wŷch hawl,
I bobl oedd waelach, o feddwl ufuddach,
Y rhoes e ei gyfrinach gu-freiniawl.
23.
Erloed ni bŷ ganddo, dŷ i roddi ei ben ynddo,
Cael erlid iw flino, a'i daro mewn dîg;
A thros ein pechodau, heb ynddo mor beiau,
Bŷ fodlon i ddioddeu mor ddiddig.
24.
Oedran ein Ceidwad, rhagorol ei gariad,
Ein pardwn, ein prynniad, a'n haeddiad ŷw hwn,
Mil union, a chwe-chant, saith dêg a gŷd-bwŷsant,
Ei fawl, a'i Ogoniant a ganwn.

Carol ar osdyngeiddrwŷdd ganedigaeth Crîst, a'r mawr ddaioni o'i ddyfodiad ef.

1.
DEffrown dan ymgodi, o'n pechod a'n syrthni,
Awn at y goleuni glana yn y Bŷd;
Y cannaid Haul cynnar, sŷ'n tywŷn yn hawddgar,
O'r nefoedd i'r ddaiar yn ddiwŷd.
2.
Yr eglur foreuol wŷch seren iâch siriol,
Pôb golwg ysprydol, orseddol wîr Sant,
A'i cenfŷdd drwŷ ymgŷrch, yn llawen a'u llewŷrch,
I ganu o wîr gynnŷrch ogoniant.
3.
Clywch ganiad Angylion, gogoniant gwir union,
I Dduw y Nefolion, mae'n felus eu ton,
Tangneddŷf ar ddaiar, ac wŷllŷs dâ hawddgar,
Yn foddgar, ddianwar i ddynion.
4.
Dowch allan y plygen, a chymrwn ein harwen,
Fe gododd y seren, sy oreu 'mhôb môdd;
Awn at y Gogoned (ym Methlem a aned)
Hŷd frîsc, y bugeiliod a'i gwelodd.
5.
Offrymmwn iw haeddiant, Aur, Thus, a Mŷrh, moliant,
A gweddi ddiffuant, mewn breiniant a brî,
Mâb Duw a'i drugaredd, yn fodlon i waeledd,
Lle ganwŷd ei fawredd o Fari.
6.
Perchen anrhydedd yr holl-fŷd a'i fawredd,
Mewn preseb yn gorwedd, ond rhyfedd y trô;
Dymma i ni Arwŷdd o fawr ostyngeiddrwŷdd,
A'n Harglwŷdd yn hylwŷdd i'n hŵŷlio.
7.
O Dduw ni ddirmygi fŷth waelder tylodi,
Yr ufudd a hoffi, di a'i cedwi mewn cô;
Ac ymchwel y beilchion, trem uchel trŷm wchion,
Ym-mwriad eu calon 'rwŷ'n coelio.
8.
Y gwael gostyngedig, er dwŷn ymma ddirmig,
Ar ufudd di ryfig, diddig ei dôn;
Mawr gysur cymmered (y Bŷd a orchfyged)
Gan Grîst sŷdd yn gwared y gwirion.
9.
Mud fytho pôb tafod, na ddatcan ei fawr-glod,
Am gael llawenychdod, gollyngdod a llês;
Ei waed fel oen llariedd, in gwared rhag dialedd,
A gollodd yn fwŷnedd o'i fynwes.
10.
O'n dyldra nis gwyddom faint llês a wnaeth erom,
A'i ofal mawr di-siom, trosom bôb tro;
Nes deall mor dostur, ŷw'n Cyflwr wrth Nattur,
Cŷn bôd i ni gysur iw geisio.
11.
Llawn llygredigaeth, ŷm ôll wrth Naturiaeth,
A'n Cyslwr ysywaeth, ein barriaeth ŷw'n bôd;
Yn rhwŷm i drueni y Bŷd, ac ymgolli,
I uffern fŷth gwedi, faith geudod.
12.
Y Cywir Fessiah, yn hwn y mae'n diengfa,
Yn ôl y Cwŷmp cynta, ail Adda drwŷ lwŷdd;
A'n dug am brîs helaeth i ffafr ei Dâd eilwaith,
Er bôd Damnedigaeth yn digwŷdd.
13.
Pa lês ir clâ diffeth, er bôd Phŷsŷgwrieth,
Ac iawn feddŷginieth, wŷch odieth iw chael;
Heb ddeiat yn ddieu, a rhoi wrth ei friwiau,
Yr Eli sŷdd oreu, swŷdd arael.
14.
Pa lês i ti'r mwŷn-ŵr, er dyfod Jachawdwr,
A chwbl achubwr, iâch obaith di hûd;
Heb arfer y moddion, a'i roddi fe'n raslon,
Drwŷ ffŷdd at y galon, dêg olud.
15.
Trown fel hên frattiau i ffordd ein gwaith goreu,
A'n haeddedigaethau, ni'n helpai i'n hôl;
A gwiscwn i'n harddu, Gyfiownder Crîst Jesu,
A ddaeth i'n gwaredu'n gariadol.
16.
Gwnawn waith Jechŷdwriaeth, mewn dychymmedigaeth,
Cŷn dyrnod marwolaeth, mawr elŷn mo'r drŵch,
Rhâd roddiad Duw'r bywŷd, ŷw Grâs, a'i lân Ysprŷd,
Nid dŷn all gyrrhaeddŷd yr heddwch.
17.
Mae er ei ddyfodiad, mewn cnawd, o'i fawr gariad,
Blynyddoedd gollyngiad ein rhwŷmiad yn rhŷdd;
Ddau wŷth-gant, a thrugien, ac unarddêg amgen,
Yn llawn wedi gorphen dêg wirffŷdd.
18.
Gogoniant mawr hyfrŷd, i'r Tâd, ar Mâb hefŷd,
Ac i'r Glân Ysprŷd, mewn gwŷn-fŷd dan gô,
Fel 'roedd or dechreuad, mae'r awrhon yn wastad,
Bŷdd fellŷ heb ddiweddiad Dduw iddo.

Hanes meddwdod, a Chyngor i ymado, a gwallineb yfed.

1.
FY ffreinds, am cydnabod, gwrandewch ar ryfeddod,
Yr awrhon rwŷ'n barod o burion yr ais;
I mado a drŵg fuchedd, i ymgais a rhinwedd,
Ar gofid o gyfedd a gefais.
2.
Y sawl sŷdd i'm caru, gweddian ar Jesu,
Ar iddo fy nerthu, dewr allu di-rus;
I'mochel gau lwŷbrau, i droi at y goreu,
O'm bywŷd, am beiau drygionus.
3.
Mi fum yn ymarfer, yn tybio nad ofer,
Oedd wagedd, a phleser, a ffolder, a ffug;
Pôb cast a wnae gymro, mi ai profwn heb prisio,
Fi oedd yn llŷm iddo'n llawn addug.
4.
Os ymlid budrogod, heb gael ond yr anglod,
Os canu i fursennod, rwŷn gwŷbod y gwaith;
Fe gâdd llawer Christion wrth ddilŷd rhai gwnnion,
Rŷ ddrudion fargenion fŷr ganwaith.
5.
Os yfed os meddwi, os calŷn cwmpeini,
Er saled fae rheini, mewn difri nid awn;
A cheiniog oddi-yno, os byddeu ŷw threilio,
Nes gweled rhai'n rholio yn rhŷ-lawn.
6.
Tra gellais i dalu, mi gês ynghroesafu,
Yn fynŷch, am credu mewn gariadus wêdd;
Pôb gwreigan yn wisci, pan archwn i lenwi,
Ei chwrw a ddoe i mi'n ddi omedd.
7.
Y Sawl sŷdd yn yfed, y cwrw'n ddi-arbed,
Yn fynŷch rwŷ'n gweled, argoelion yn llan,
Nad oes yn wastadol, un dŷn mor gymhedrol,
Heb nattur newidiol ni wadan.
8.
Gwneiff llwrf-wâs di hyder, fost o'i wâs-gwchder,
Ar cybŷdd ansyber, a'i Siabas mo'r wael,
Yn adrodd ei haelder a'i roddion, a'i bleser,
Nid ydŷw dra-ofer ei drafael.
9.
Fe fŷdd yr hên gostog sŷdd Anwŷl o'i geiniog,
Yr awrhon yn chwannog ŷw chynnig am gann,
Ni wŷr i ba bwrpas, mae dynnion mor ddiflas,
Ni phrisia'r mwŷn îr-was mewn arian.
10.
Bŷdd pawb yn amgennu, ar prudd yn llawenu,
Ar cwrw yn cynhyrfu, pôb cef [...]ll o ddŷn;
Er saled y tybier, fo'i ceir tros yr amser,
Yn gawr oni gurer ei gorŷn.
11.
Mi fum yn ddrŵg f'amcan mewn llawer câd aflan,
Fel hŷn yn ymrwŷfan, nid bychan mor bai;
Weithieu'n ddi meiriach, yn curo fy ngwannach,
Ac weithieu rhai trechach a'm trechai.
12.
Yn niwedd fy 'feredd, a phob amryfusedd,
Coeg faswedd, oer gyfedd o drudwedd drais;
Mawr ydoedd f' anffortŷn i fôd mor yscymun.
Mewn tylodi yn swrth-un mi syrthiais.
13.
Y Tefŷrn goeg-wragedd, lle creuliais ormodedd,
Nim gwelant, poen ddialedd, pan ddelwŷf i'r Drŵs;
Nhw a'u gwnan yn ffast gauad, ni chai o gynhwŷsiad,
Nac yno mwŷ gariad nac Eirws.
14.
Ni byddan nhw ar dafod i beri i mi'n barod,
Na chroeso, na diod, er daued a fum;
Mae'n ddrŵg genni o Bur-wraidd y galon sy Bruddaidd
Yr anrhaith anoethaidd a wneuthum.
15.
Ni wnawn ni er y goreu o ddŷn am cynghorau,
Na hwŷrnos, na boreu; y bwriad oedd ddrŵg,
Ond bôd yn anhydŷn, gwrthnysig a chyndŷn,
Wrth wagedd yn ymlŷn yn amlwg.
16.
Pwŷ bynnag a ddiystyro fwŷn gyngor a'i caro,
Caiff ynteu ei ddibrisio, a bŷr reswm ffraeth;
A phwŷ eill yr awran iawn fŷw arno ei hunan,
Os ffreins a noswilian naws alaeth.
17.
Tra bum i ar y gwllt-ol, mor ynfŷd cynhwŷnol,
Heb synwŷr natturiol, yn tario'n yng-hap;
Nid cyngor fy'nynnion, ond câs fy ngelynnion,
A ddae am fi ir union ddewr anhap.
18.
Pan welsom er ceisio, nad gwell fy rhybuddio,
Pôb un am troe heibio, i 'mguro ar gwŷnt;
A ffalswŷr ni'm careu gwenheithus eu geiriau,
Yn gymwŷs am hwylieu i'm helŷnt.
19.
Pan gês i'n ffri bosio, heb neb yn fy rhwŷstró,
Mi brofais siwrneio, nôd cymro nid call,
Fel llong heb un angor, na llywŷdd, na chyngor,
A fae'n mynd i rŷw oror 'roe arall.
20.
Mi hwŷlies yn drefnus, dros donnau peryglus,
Mor fentrus, yn boenus, heb ynnill sawr ddâ,
Nes myned i orsedd, yn fawr yr anhunedd,
Or diwedd at duedd Catea.
21.
Roedd yno'n gwladychu, rŷw ofer wâg deulu,
Yn fynŷch yn gwadu y gwiw Dâd or nêf;
Yn flîn afreolus, yn anian wallgofus,
A nattur anweddus rwŷ'n addef.
22.
Roedd yno rai'n gwaitio, heb Gaffel mor passio,
Ond gelwen, a gwilio, nes-duo y dŷdd;
Heb ddiffodd canhwyllau, ar tân wrth eu trwŷnau,
Yn newid diodau, nid dedwŷdd.
23.
Rhai'n gorwedd yn wallus, mewn diwŷg cwilŷddus,
Rhai'n flinion anafus, yn yfed eu mŵg;
Rhai'n edrŷch yn wrthŷn fel diawlaid yfcymŷn,
Yn ddiffaith yr eulun ar olwg.
24.
Rhai'n anodd eu meithrin, rhai'n rhanu baw'n ddibrin,
Rhai'n tyngn'n o gethin, yn erwin eu nâd;
Yn ymlladd yn ddu-gŷrch, ar llîd oedd yn cynnŷrch,
Heb gaffell ond llewŷrch y lleuad.
25.
Un gwŷch yn ei arfau, ond dywedŷd nis galleu,
Na gwŷbod pwŷ draweu, a'i drouad yn hŷll;
A fynneu gael treio, er bôd yn ei helpio,
Un arall iw safio'n ei sefŷll.
26.
Ac eraill ni weinien mo'r arfau a dynnessen,
Nhŵ a frethen, nhŵ a'nefen, nhŵ ladden o lid,
Y pŷst, ar parwŷdŷdd, fel gwŷbed yr hâf-ddŷdd,
Yn gweini trwŷ eu gilŷdd fe'u gwelid.
27.
Pan welais boen alaeth, eu dirfawr gamsynniaeth,
A'u herchŷll fŷwoliaeth ddi-ofalus heb gêl;
Mi a gofiais yn gyhoedd, wrth fwrw'r amseroedd,
Mae madws i'm ydoedd ymadel.
28.
O bum i er ys dyddiau, yn chwannog iw llwŷbrau,
Wrth weled eu moddau, fy meddwl a drôdd,
Oddiwrth y cyfeillion, oer farus arferion,
Yr wllŷs, a'r galon a giliodd.
29.
Mae'ngobeth i'n gymwŷs, ar haeldad paradwŷs.
Y gall fy Jôr gwiwlwŷs, er gwaeled fy stâd,
Iawn ddyfod yn ddifarn, er gwaetha pôb tafarn,
Trwŷ Jesu wir gadarn ar godiad.
30.
O bum i'n anneddfol dŷn wŷ'n edifeiriol,
Ar Jesu wîr rasol, ni rusai roi'mhwŷs;
Am gobeth yn gyfan, Duw cymer fi weithian,
Yn oenig i'th gorlan gywir-lwŷs.
31.
Yn awr er amheued, gan lawer ynghlywed,
Yn addo troi'r siacced, trâ siccir ŷw'mrŷd;
Er maint a fo'nghledi, mi brofa fi'mgosbi,
Mi wilia mwŷ dori mo'm diowrŷd.
32.
O gofŷn cyfeillion pwŷ'wnaeth y penhillion,
Dŷn sŷdd ar amcennion i ganu i chwi yn iâch;
Nid a fe i Gatea anhappus fu rhedfa,
Yn hyfa, fe bwŷlla bêth bellach.

Ystyriaeth ar Fŷwoliaeth Dŷn.

1.
YStyriwn mor dostur ŷw cyflwr pechadur,
Wrth anian ei nattur, ond amhur ŷw dŷn,
Anneddfol ddiffeith-beth, heb ynddo ddawn perffeth,
Ond coleth hudolieth, a'u dilŷn.
2.
Er Codwm ein cyn-dad, at ddrŵg y mae'n oestad,
Y tuedd, ar bwriad, taer anfad di-rus;
Fel ffiedd anghenfil, ymroes heb daer ymbil,
Dâ 'gelwir ein heppil anhappus.
3.
Ond dyrus natturieth gwraidd pren llygredigeth,
Y ffrwŷthŷdd, ar toreth, o farieth a fêdd;
ŷw aml rawn gwlltion, llîd sorriant llêd-surion,
Lle creulon, bydrason, bu drosedd.
4.
Mae'r deall or untŷ, ar côf wedi llygru,
Ar cnawd yn ein dallu, a'n denu ni i'n dal;
Mewn amrŷw gamweddau, anrhefnus yn Rhwŷdau,
Ein serch, a'n hanwŷdau'n anwadal.
5.
Nid ydŷm ni'n darbod, o Lais y gydwŷbod,
Yr ewŷllŷs ir pechod, drwŷdd;
Y rheswm or meddiant heb gyfraith, na gwarant,
Melus-chwant, y trachwant a'u trechodd.
6.
Yr Archwaeth, ar teimlad, y clŷw, ar arogliad,
Yr yscafn olygiad, mor wastad a wêl,
Pôb synwŷr, ac aelod, mawr berŷgl mor barod,
Sŷdd weision i bechod heb ochel.
7.
Mor anwiliadwrus, ŷw dŷn pechadurus,
Na wêl mor beryglus, mor wallus, mor wan;
ŷw cnawd a llawenŷdd. tra bytho fe beunŷdd,
Yn gweithio ei ddihenŷdd ei hunan.
8.
Mae'n cyfiwr (yftyriwch) fel dŷn mewn anialwch,
'Fae'n ffoi drwŷ ddyrŷswch, ond tristwch ŷw'r tro;
Rhag mynd yn ysclyfaeth, i fwŷstfil anhywaeth,
A chael mewn awr-rygaeth ei rwŷgo.
9.
Mynd wrth ffoi rhagddo, at bydew neu ogo,
Ac ar ei gwŷmp yno, gafaelio (gwiw fôdd)
Mewn brauch, neu gron gangen o beraidd afallen,
I ddisgwŷl y dibed a dybiodd.
10.
Edrŷch i wared, wrth wraidd y pren gweled.
Dau brŷ cŷn ddiwŷdied heb arbed y bôn,
Ond yssu hwn drwŷddo, a'i gnoi oddi tano,
Iw gwŷmpof ir ogof fawr Eigion.
11.
Ac Eilweith fe 'drycheu ac uwch ei ben gweleu,
Felus afalau, ymborthau mewn bai;
Ar ffrwŷth y pren peredd, ai flasus felyswedd,
Drwŷ ei Goledd, oer ddialedd a ddelai.
12.
Fe wŷr pan y styrio, y syrth y pren dano,
O'i ffrwŷth er hŷn etto, câs feiddio cais fwŷ;
Nes cael ei ddescyniad, i'r pydew dwfn anfad,
Lle bŷdd ei fynediad ofnadwŷ.
13.
Dilŷniad natturiaeth, ŷw hŷn o gyffelybiaeth,
Y pren ŷw'n bŷwoliaeth, anhywaeth, a'n hoes;
Ar dŷdd ar nos dŷna ddau brŷf sy'n ei fwŷta,
Ychŷdig o Bara ydŷw'n Bŷrr-oes.
14.
Y ffrwŷth neu'r afalau, ŷw'n haml bechodau,
Trachwantus bleserau, a drygau drwŷ wall,
Ymborthi mewn camwedd ar felus orfoledd,
'Fŷdd chwerw'n y diwedd rwŷ'n deali.
15.
Yr ogof benydiol, i'r anedifeiriol,
Yw'r uffern dragwŷddol, gythruddol, gaeth rwŷd;
Gwae'r dŷn iddi a syrthio, mae Sattan i'n llithio,
A ninneu'n ymreibio am yr abwŷd.
16.
Ffŷdd gadarn ddihocced, ŷw'r unig ymwared,
Ynghrîst y mae 'mddiried, a chadwed iwch hêdd;
Or Aipht os Llongwriwch, ar fwrdd edifeirwch,
I ganan mordwŷwch or diwedd.

Garol ar weithredoedd Crîst, a'i ddioddefaint ar y ddaiar, iw ganu ar ddŷdd Nattalig.

1.
POB Christion dâ ei gyflwr, a'i gréd iw greawdwr,
A'i brynnwr, achubwr, hôff Awdwr y ffŷdd;
Dowch i'mddiddanu, ac unwch i ganu,
Drwŷ garu gwŷl Jesu'r Eglwŷsŷdd.
2.
Dyma'r dŷdd dedwŷdd y daeth i ni newŷdd,
Fôd i ni waredŷdd, llawenŷdd wellhâd;
Clŷwch eich Cynghori, a dowch i glodfori,
Hwn sŷdd yn rhagori o hîr gariad.
3.
Haul, Lloer, a phôb seren sŷdd ar y ffurfafen,
Disgleiriwch y plygen, yn llawen i'n llu;
Gweithredoedd ei ddwŷlo, sŷ dêg yn goleuo,
I'n pwŷso ni, a'n twŷso ni at Jesu.
4.
Pôb rhŷw gorpholedd o'r ddaiar glaiaredd,
Datcenwch ei fawredd, yn groewedd un grêd;
Mae Duw iw enneinnio, ar nefoedd yn seinio,
O fawl ir gwîr Seilo a groeshoelied.
5.
Rhagorol ŷw'n gwarant i ganu gogoniant,
All heddŷw am ein llwŷddiant, maddeuant am ddig;
Angylion a Seintiau, sŷdd felus eu hymnau,
Yn nechrau dâ wiliau'r Nattalig.
6.
Heddŷw ŷw'r dŷdd dedwŷdd, y ganed yr Arglwŷdd,
Moliannwn ein llywŷdd, tragowŷdd trwŷ gân;
Hôll blant y goleuni, a ddônt ŷw addoli,
Merthyri, a phroffwŷdi ni pheidian.
7.
Fe ddoe'r Jesu raslon, o blîth yr Angylion,
Dan ddwŷlo'r Iddewon, a'u blinnion blaid;
Drwŷ ddioddeu cam cîedd, gan dorri ei gnawd iredd,
Glanhâdd ein hanwiredd yn Euraid.
8.
Fe gâdd ei fradychu, ei watwar, a'i goblu,
Pan ddaeth i'n drud brynnu, heb ronŷn o frî;
I'n gwneuthur ni'n barchus, o'n cyflwr gwradwŷddus,
Rhown'wllŷs ofalus ŷw foli.
9.
Fe fu mewn bodlondeb i boeri yn ei wŷneb,
Er tegced disgleirdeb, diweirdeb ei wêdd;
Fe aeth mewn tylodi, yn adŷn ŷw nodi,
I'n codi, a'n cywaethogi, coeth agwedd.
10.
I farw fe fwried, er ei fôd yn ddiniwed,
I'n tynnu o'n caethiwed, mewn trwŷdded fe'n trôdd,
Rhag calŷn gwenwŷnig, y sarph felltigedig,
Drwŷ drym-loes drangcedig, fe a'n cadwodd.
11.
Gwedi 'gondemnio, dioddefodd ei chwipio,
A'i greulon groeshoelio, a'i guro ar ei gern;
I achub hîl Adda odd [...]wrth yr hên draha,
Yn llwŷr rhag ei Lloffa i bwll uffern.
12.
Mâb Duw a fu fodlon, ŷw rwŷmo ymŷsc lladron,
I ollwng Chrîstnogion, yn rhyddion o'r rhwŷd;
Ai werthfawr waed puredd, oddiwrth bechod ffiedd,
Yn gruaidd wŷn golchaidd, fe an golchwŷd.
13.
Yn dirion fe dorrodd, y fagl a'n daliodd,
Ac Angeu a gongcwerodd, fe'n carodd oen cu,
Gorchfygodd y wiber, ar ddraig fawr or dyfnder,
I'n dwŷn dan ei faner i fynu.
14.
Cyflawnodd y gyfraith, fe an rhôdd mewn gorchafiaith,
Rhown ninneu ein crediniaith yn helaith yn hwn;
A chanwn ddiweddnos, yn gŷd-sain a'r Eos,
ŷw'ddoli fel Enos na slinwn.
15.
Mewn pechod er syrthio, na'mdreiglwn ddim yntho,
Ond ciliwn oddiwrtho, i'n llwŷddo rhag llaw;
Ni gawn ein pardynu gan Grist a fu i'n prynnu,
Pan fyddo fe ar ddeulu ar ei ddwŷlaw.
16.
Am gamwedd gwnae gymod, drwŷ undeb ar drindob,
Glanhâdd ein Cydwŷbod, rŷw ddiwrnod fe ddaw
Ein ceidwad a'n Harglwŷdd, ŷw deŷrnas dragywŷdd,
I'n hela ni a'i hylwŷdd ddeheu-law.
17.
Mae bywŷd heb ddarfod, mae iechŷd heb nychdod,
Mae hawdd-fŷd heb drallod, na syndod, na sen;
Mae didrangc lawenŷdd, yng-haer-salem newŷdd,
I'n derbŷn drwŷ bur-ffŷdd, heb orphen.
18.
Un Duw, a thri pherson, un râdd, ac un roddion,
Fu'n caru Cristnogion, y ffŷddlon, hoff wêdd;
A'n dygco at y Seintiau, sŷdd uchel ei Breintrau,
Yngwiliau da ddoniau, di-ddiwedd.

Carol Crediniaeth Yng-hyrîst.

1.
POB enaid hyderus, pôb calon gariadus,
Pôb tafad madroddus, awch felus rhowch fawl;
I un Mâb Maria, gwnaeth iawn i'r gorucha,
Am draha drŵg Adda'n dragwŷddawl.
2.
Fe byngciodd Angylion, fawl Jesu'n felusion,
Pan aned y cyfion, mo'r raslon ei rŷw,
Fel dyna i ni warant, i ganu'r gogoniant,
Rhown foliant ŷw haeddiant ef heddŷw.
3.
Os oes un amheuwr, na ffiedd wan ffyddiwr,
O Grist ein iachawdwr, a rhoddwr yr hêdd;
Elan darllennan air Duw, neu wrandawan,
Cân dystion o'r union wirionedd.
4.
Roedd geirie'r proffwŷdi, ymhell cŷn ei eni,
Yn rhoddi goleuni, sêl i ni ydŷw'r sail;
Arwŷddion a roddwŷd, y môdd y prophwŷdwŷd,
Fe a'i ganwŷd, iawn fagwŷd yn fugail.
5.
Mae Ioan sedyddiwr, yn dŷst o'n Jachawdwr,
Mae Crist ŷw'n cyfryngwr, a Barnwr y Bŷd;
Ai fŷs fe'ddangoseu oen Duw ŷw hwn dyweudeu,
I faddeu anwireddau fe'i rhoddwŷd.
6.
Duw Tâd ei hunan, a glywed fel taran,
Or nefoedd yn datcan, in llwŷrlan wellheu;
Dyma'r Mâb credir, drwŷ'r hwn i'n bodlonir,
Gwaredir, ni oedir eneidîau,
7.
Er peri i ni beunŷdd, iawn gofio ein gwaredŷdd,
Mae'n hysbus yr Arwŷdd, ei fedŷdd a fu;
Ar ysprŷd glân ddonnieu, fel clomen a hedeu,
Descynneu gorphwŷseu ar gorph Jesu.
8.
Pan oedd ein hên deidiau, a'u prophwŷdoliaethau,
A'u seintiau mawr freintiau, difeiau dâ fu;
Nid llywŷdd galluog, nid gŵr ond trugarog,
Nid enwog yn dwŷsog ond Jesu.
9.
Gorchfygodd gythreiliaid glânhâdd bechaduriaid,
Fe bassiodd ddoctoried, bu euraid gar bron;
Jachâdd bôb doluriau, fe wŷdde feddyliau,
Pôb drygau, pôb donniau, pôb dynnion.
10.
Nid ydŷw plant dynion ond gweision afradlon,
Gorchwŷl-wŷr anghysion, a deillion eu dull;
Trofaus ddrŵg genhedloedd, yn trefnu gweithredoedd,
Llaweroedd minteioedd mewn tywŷll.
11.
Nid oedd y Bŷd difri ond dyffrŷn trueni,
Tomenni o fudreddi yn llenwi pôb llê;
Nes dyfod o'n Safiwr odduchod, heddychwr,
Etholwr a nodwr eneidie.
12.
Y sawl sŷ'n cyffesu'n gariadus iawn gredu,
Fôd Jesu i'n gwaredu, i'n tynnu ni o'r tân;;
Mae Duw i'w calonnau mewn heddwch feddyliau,
Anhwŷthau ynddo ynteu'n ddi-wantan.
13.
Y ffrwŷthlon ganghenni da eu rhinwedd ŷw 'rheini,
Plent y goleuni, blaenori yn ein plaid,
Aelode ei gorph graslon ŷw anwŷl gyfeillion,
Nefolion yn ddofion, ei ddefaid.
14.
Fe gerddodd argyhoedd hŷd wŷneb y dyfroedd,
Achubwr yr oesoedd, yn rasol ei fôdd,
A'r môr wrth orchymŷn pan oeddent mewn dychrŷn,
A'r gwŷntoedd naws dygŷn gostegodd.
15.
Ped faem ni o ddŷsc Aaron, a synwŷr hên Salmon,
Ffŷdd Abram a Simôn, oedd ffyddlon a pher,
Nid possibl in osod drwŷ ieithoedd ar draethod,
Mo'i fawrglod oen hynod, na'i hanner.
16.
Fe ddygodd boen chwerw trangcedig i'n cadw,
Bu fodlon i farw a'i fwrw'n ddi fri,
I'n gwneuthur ni'n barchus o'n cyflwr gwradwŷddus,
Rhown wllŷs gofalus iw foli.
17.
Yn fŷw adgyfododd, llaw Thomas a'i teimlodd,
Corphorol dderchafodd yn iawn-fodd i'r Nêf,
Yn siampal ir holl fŷd i'r farn or bédd priddlŷd,
Ei gŷd or un ennŷd awn ninnef.
19.
Cŷn seilio'r Bŷd yma fe roes y gorucha,
Y nefoedd yn drigfa, iawn goffa i ni gŷd,
Y Sawl a'i gwasnaetho, meddiannol fŷdd yno,
Mae Duw gwedi addo dedwŷdd-fŷd,
19.
Trwŷ wîr Edifaru grŷm buchedd am bechu,
Hyderu yng-waed Jesu sŷ in barnu ni'n bôd,
Pan ddelo'r dŷdd atteb, cawn bardwn gan burdeb,
Ffyddlondeb tiriondeb y Drindod.
20.
Ni threutha tafodau, ni ddeuall pwŷll pennau,
Ni wŷddeu feddyliau gwybodau'r Bŷd;
Faint ydoedd perffeithrwŷdd y deŷrnas dragywŷdd,
Mae dafŷdd oen dedwŷdd yn dywedŷd.
21.
Un mil a Chwechan-mlwŷdd, a Phedwar Ugein-mlwŷdd
Ac un mlwŷdd, yn ebrwŷdd, mae siccrwŷdd yn siwr,
Pan wnaed y pennilliau er cofio mawr wŷrthieu,
Cofiadau cariadau'n gwaredwr.
22.
Os gofŷn un prydŷdd pwŷ wnaeth y gerdd newŷdd,
Er bôd yr awenŷdd iawn ddeunŷdd yn ddŵl;
Rhowch atteb cysurus, air cyfion wir cofus,
Hugh Morus, wiw foddus ei feddwl.

Dyriau o gyngor i ryngu bôdd Duw, ar les yr enaid.

1.
Y Cymro di-ledieth clŷw hŷn o athrawieth,
Er bôd dy ddealltwrieth ysyweth yn wan,
Dôd glust yma i wrando, a chalon i 'styrio,
A meddwl ei gofio fe'n gyfan.
2.
Gwŷbŷdd hŷn hefŷd, ddŷn iachus mewn iechŷd,
Nad oes i ti ond ennŷd o fywŷd i fŷw,
Er lleted dy dyddŷn, ni wŷddost di ronŷn,
A fyddi di'n hoŷw-ddŷn ond heddŷw.
3.
Gwŷbŷdd heb amgen pa achos, pa ddiben,
I'th rôdd ar ddaiaren, tan wŷbren heb rus;
I foli Duw'n ddibaid, y gorchwŷl anghenrhaid,
Ac achub dy enaid daionus.
4.
Am hŷn y glân Gymro mae'n sadws Considrio
Dy gyflwr, a'i mendio mewn mwŷnder di-wâd,
Lle cwŷmpo'r pren unwaith, yn ôl y farwolaith,
Daw fe i'r farn eilwaith ar alwad.
5.
Hên Adda a bechodd, gwae minne a'n gwenwŷnodd,
Ar felldith a danodd, hi redodd i'n rhan;
Am bechod mo'r rhŷ-drwch, a digio Duw'r heddwch,
Fe golled dedwŷddwch dâ diddan.
6.
A'r pechod ysyweth a hiliodd yn heleth,
Ar bawb or hiliogeth, gwae ganweth a gaid,
A phawb yn ddi 'mgeledd i fyned yn oeredd,
I uffern, oer annedd i'r enaid.
7.
A thithe ddŷn ehud yn llwŷbre dy fywŷd,
Yn pechu bôb munŷd o'th febŷd i'th fêdd;
Heb 'wllŷs na gallu, i ddim ond troseddu,
Llawn 'ŵllŷs i bechu ydŷw'n buchedd.
8.
Yng-hyflwr dy nattur di weli yma'n eglur,
Nad oes i ti achlysur o gysur heb gêl;
Ond mynd yn ddiamme beunŷdd i boene,
Heb obeth amode i ymadel.
9.
Yn hŷn o drueni, (neu waeledd) di weli,
Roi o Dduw celi, o gwnei di ar ei ôl;
Ei un Mâb ei hunan mewn dynol gnawd anian,
I'th dynnu o balf Sattan an-sutiol.
10.
Pa gyfaill rhagorol a gait o ddŷn bydol,
A 'mroe yn gorphorol i farw er dy fwŷn;
Ond Crist y gwir Alpha, fe 'mrôdd or bodlona,
I'th ennill di iw Noddfa yn Addfwŷn.
11.
Nid alle Angelion, na Saint, na thwŷsogion,
Congewerwŷr, na dewrion, na doethion trwŷ dêg,
Mo'th gadw rhag nychdod y pydew di waelod,
Ond un Mâb y Drindod tirion-dêg.
12.
Yn awr dewis dithe y cnawdol drachwante,
Ac uffern a'i phoene yn gartre rŷw ddŷdd;
Neu fŷw yn ddi argoedd yn wâs i Dduw'r lluoedd,
I ennill y nefoedd yn ufudd.
13.
Di 'ddewaist dy hunan, drwŷ feichiau er yn fychan,
Ymwrthod yn faban, do druan a'r drŵg,
Ac ymladd yn ddygŷn, dan Grist yr anwŷl-ddŷn,
Yn erbŷn tri gelŷn taer gilwg.
14.
Os chwant y Bŷd efrŷdd, y gelŷn di gwilŷdd,
A gais dy droi'n gybŷdd, a'th ddeunŷdd yn ddig,
Gwel Ddifes gybyddol, am garu ei ddâ bydol,
Mewn ffwrnes Uffernol, go ffyrnig.
15.
Or awudd i fawr-ddâ, dall ddŷn a'th dwŷlla,
Clŷw'n ddidwŷll a ddyweda, a Barna ger bron,
Pa les i ti'n ddibaid gael'r holl-fŷd ar amnaid,
A cholli dy enaid da union.
16.
Os golud ysceler a'th huda i goeg falchder,
Na ddyro mo'th hyder ar bywer y Bŷd,
I gyweth anwadal, nid ŷw fe ond rhŷw ffardial,
A benthig traws anial tros ennŷd.
17.
Dy gnawdol drachwantau ŷw'r gelŷn di chwareu,
Fe'th ddeil ar amserau mewn rhannau o'i rwŷd,
Fe'th gwŷmpa olynyl i bechod ebychiol,
Tra bythech di'n gnawdol, gwan ydwŷd.
18.
A Sattan os hittia, ŷw'r gelŷn mawr gwilia,
Ond antur fe'th demptia, fe'th hela di o'th ôl,
Dan osod ei faglau, amcanu mae'r cenau,
Dy ddal yn ei rwŷdau an-waredol.
19.
A thithe'n rhŷ egwan ohonot dy hunan,
Heb ymgais yn gyfan am gymorth Duw Jôn,
Ynghyflwr dy nattur i'mdrechu ar fâth filwŷr,
Rhodres-wŷr, neu dwŷll-wŷr Coeg deillion.
20.
Cais dithe gan hynnŷ yn filen ryfelu,
Tan faner Christ Jesu iw gyrru nhwŷ 'nol,
Gwisc arfau cyweithas yn gampus o'th gwmpas,
Iw trechu fel dewr-wâs daiarol.
21.
Dwŷfroneg lân berffeth, cyfiawnder sŷdd odieth,
A helm iechŷdwrieth sŷ heleth a hardd,
Tarian ffŷdd dirion, hêdd ysprŷd Sancteiddlon,
I orchfygu'r gelynion gwael anhardd.
22.
A'r cyfrŷw fâth arfef tan Grist o'r uchel-nef,
Y gelli'n ddiame or gore ar gais,
Orchfygu chwant cnawdol y Bŷd anwŷbodol,
A Sattan uffernol a'i ffwrnais.
23.
Tafl wŷe'r asp heibio, rhag iddŷn nhwŷ brisio,
Yn Seirph i wenwŷno dy einioes wrth raid,
A thafl bechod ymeth cŷn hilio'n rhŷ heleth,
Yn wenwŷn ar unweth ir enaid.
24.
Gochel ymddiried yngrŷm dy hôll weithred,
Rhag uffern i'th wared, mae it Nodded yn nês,
Nid oes dim digonol ond gwaed yr oen bŷwiol,
I'th dynnu or uffernol ddu ffwrnes.
25.
Gwilia ryfygu rhŷ daeredd hyderu,
Ni chei di mor Jesu er hynnŷ yn rhâd,
Ei waed ni bu lessol i'r cyndŷn anuwiol,
Ond i'r edifeiriol da fwriad.
26.
Er hŷn gweithred dduwiol, sŷ wîr angenrheidiol,
I gario dŷn cnawdol îr dragwŷddol nêf,
A ffŷdd heb ddâ weithred, sŷdd farw ffŷdd danbaid,
Fel ffŷdd y cythreilied, iaith olef.
27.
Dôd fwŷd, a dôd ddiod, lle gwelech lusendod,
Dod ddillad a chardod-iaith hynod o'th ddâ,
Cei hŷn yn well trysor pan elŷch ar d'elor,
Nag aur yn dy goffor i'th goffa.
28.
Ymwel ar cla clwŷfus, diddana'r galarus,
Na âd mo'r anghenus anghenog yn ôl,
Ystyria wrth garchorion, cŷd frodŷr tylodion,
Am gladdu rhai meirwon ymorol.
29.
A gwna dy gorph hefŷd yn demel i'r ysprŷd,
Yn Sanctaidd bôb munŷd, llawen-fŷd ŷw'r llwŷdd,
Ni ddaw Christ ei hunan, a'i ysprŷd Sancteidd-lan,
At bechod sŷ'n aflan, Sain aflwŷdd.
30.
Ymolch a thafl ymaith dy gnawdol natturieth,
Cais ail anedigeth yn berffeth, a chred,
A thyr'd trwŷ lawenŷdd at Grist dy ben llywŷdd,
Yn ufudd ddŷn newŷdd ddiniwed.
31.
Duw awdwr goleuni, a rotho grâs i ni,
O bechod i ymgodi, a'n gwâg ffansi ffôl,
A'n dygco mewn amser i deŷrnas uchelder,
At Grist a'i Lân nifer lu nefol.

Dyriau yn datcan mawr drugaredd Duw (yn ddiweddar) i'r deŷrnas bon a'i Heglwŷs, drwŷ attal drŵg fwriad y Papistiaid.

1.
POB Cristion crŷf astŷd, o union feddylfrŷd,
Sŷ'n Chwenŷch y gwŷn-fŷd a ranwŷd ar ôl,
Ystyried yn helaeth, oreu-barch wîr obaith,
Rhagliniaeth dawn afiaeth Duw nefol.
2.
Er cymaint fŷ'r cyffro'r blynyddoedd aeth heibio,
A Bleiddied yn bloeddio, yn anhuddo yn un haid;
Fe ddaeth y Gorucha i gael ein bugeilia,
Ni fyneu mwŷ ddifa mo'i ddefaid.
3.
Er Cynnwr, er Cynnig, gwan anwir gwenwŷnig;
Er bwriad Diafledig, a Rhyfŷg y rhain,
Daeth Duw pôb diddanwch i'n gwared ni o dristwch,
Rhôdd degwch, hyfrŷdwch i Frydain.
4.
Er geni plant weithiau heb wewŷr iw Mammau;
Er Peder a'i ddelwau, Addolwŷr mor hên;
Yn iâch i Blant Babel, ni ganwn gerdd ddiogel
Yn uchel o ffarwel iw Offeren.
5.
Daeth dŷdd yr ymweliad, ar y Babiloniaid,
Y Buttain ymddifad, ond trwŷad ŷw'r tro
Bŷdd llawen iawn trigias, gorfoledd ac urddas,
Pôb Teŷrnas o'i chwmpas ei chwŷmpio.
6.
Y faeden a feddwodd bôb rhai o'r Cenhedloedd,
Ar Gwîn a gymysgodd, hi a'i gyrodd i Gant;
Addfedodd ei Dyddiau, a galwŷd hi i'r goleu,
A'i beiau, hi a'u lladdeu'n eu Llwŷddiant.
7.
Dowch allan yn bryssŷr, mêdd Crîst wrth ei Frodŷr,
O Babilon fudur, hi a drewŷr yn drwm:
Bŷdd dŷdd gwŷnfŷdedig, er maint ŷw ei dirmŷg
Pwŷ 'gwŷna ond ychydig iw Chodwm.
8.
I ti Dduw Gorucha, 'bo'r moliant pereiddia,
Am farnu'r hon ymma, dâ fwŷna ŷw dy fôdd;
A chofio'r gwaed gwirion, a Yssodd hi o'th weision,
Ath Seintiau o'r eigion a rwŷgodd.
9.
Dâ a gwŷddom Duw gweddedd, mai llawn wŷt o Amŷnedd
I gŷd yn Drugaredd, dro hafedd drâ bêr;
Gan faint o goleddieth a wneuthost di'n odieth
Achubieth olygieth i Loegr.
10.
Di a'n dygaist ni'n difâ, fel Isaic ir lladdfa,
I Fynŷdd Moria, do doetha oedd dy daith;
Ac yno wrth ein harbed, Egoraist ein llyged
I weled dy haeled di eilwaith.
11.
Gwnai Hamon gŷnt grocpren, oedd gyfuwch a'r nenbren,
Ddêg Cyfudd a deugien mewn dig meddant hŵ,
Ond cŷn câel ei Amcân ar Fordecai fwŷnlan
Marchogodd ei hunnan ar hwnnw.
12.
Roedd dŷdd gwedi nodi, i lâdd ac i losgi,
Yr Juddewon heb oedi, gwîr brosi ger bron;
Ond trôd eu Caeth ddyddiau'n llawenudd or goreu
A rhwŷgeu Galonau eu Gelynnion.
13.
Rhŷ hîr oedd mynegu mor rassol fŷ'r Jessu
Ymhôb oes yn gwaredu, gwîr Awdwr y grâs,
Bŷth Iddo bo mawrglod, pôb calon a Thafod;
Fê a nadodd y Dyrnod i'r Deŷrnas.
14.
Pan oeddem gyfynga, mewn blinder a gwasgfa,
Heb obaith am noddfa, mewn dalfa Gwŷr dîg;
Danfonodd Duw'r Nefoedd rai i'n hachub dros foroedd,
Ar gyhoedd, ond ydoedd nodedig.
15.
Mawrygwn Genadon, 'mae Duw gwedi danfon,
I achub ei ddynnion yn gryfion dan Grist,
I ymddiffŷn'r yscrythŷr, a phawb o'i Dilŷn-wŷa;
A helpu rhoi puppur i'r Papist.
16.
Dôd Arglwŷdd Gorucha hir Einioes or hwŷa,
Anrhydedd Cadarna, a llwŷdda er ein llês,
Wiliam sŷdd heddi mewn rhâd a mawrhydi;
Lle bŷ Mari fron heini Frenhines.
17.
Gwna ei ddeilied yn ffyddlon, a Thrwŷ dy Athrawon,
I 'yfforddi dy ddynion yn hyfion mewn hêdd
Er dysgu'r Gwrthnebus, er Clôd ir daionus,
Fel y 'llanwer yr Ynŷs o rinwedd.
18.
Da 'gallwn ryfeddu, dewissol Dâd Jessu,
Dy fod yn ein câru, rhyglyddu, rhown glôd;
[...]n anfon i'n coledd, a gwiwlan ymgeledd,
Ac amled ŷw'n buchedd ni o bechod.
19.
Ni a ddylem gan hynnŷ ar Liniau 'th foliannu,
A chynar ddychrynu, ymdanu am ein dull,
Er maint ein hanwiredd gael cymaint Trugaredd,
Wrth ddialedd rhŷ oeredd rhai Eraill.
20.
Edrŷchodd Duw Cyfion ar Gystŷdd y Werddon,
Ceryddodd ei Gelynnion, wŷr beilchion y Bŷd;
Dôd ffrwŷn yn eu gweflau, Dŵg pôb peth ir goreu
Dydi bieu Cleddeu'r Celfyddŷd.
21.
Diwalla dy winllan, yn Lloeger fall egwan,
Gwna ei Magwŷr hi'n gyfan, mewn hoiwlân hêdd
Tŷn ymeth ddrŵg Lyssiau, dôd wlîth o'r Cymhylau,
Cei ditheu'r Gwîn goreu, Dduw gwaredd.
22.
Yr ŷ'm ni'n Cyfaddeu ar dwfr ar ein gruddiau,
Na chafodd un fangreu neu Barthau'n y Bŷd
Dros gyhŷd o Amser, ei harbed yn hirbêr,
A Lloeger na Sonier er's Enŷd.
23.
Duw gwna di'n Bucheddau, 'n Attebol yn ddiau,
Ir hôll Gynorthwŷau, ar llwŷddau mor llawn;
Rhag myned i'n pwŷso mewn Clorian ni ffafrio,
I ni brifio'n rhŷw osgo'n rhŷ Ysgafn.
24.
Gweddiwn ar gyhoedd, at Dâd yr Ysprydoedd
Sŷ'n rheoli Brenhinoedd, ac oesoedd heb gêl
Ar gadw ac ymddiffŷn pen Brydain, a'r gwerin
Na bytho ini orafŷn o Ryfel.

Cystudd y Bŷd dan bwŷs Rhyfel.

1
DUW mawr er dymuno dôd gennad i gwŷno,
Mae Trwm ŷw dy ddwŷlo a'r ddial y Bŷd:
Drwŷ Grêd nid oes un-man yn ddiangol yr Awran,
Nad ydŷnt yn gyfan mewn gofid.
2.
Brydain Rwi'n brudio sŷdd oreu ei swŷdd etto
Gan wared oddiyno ymlowio a'r y Lann,
Er hynnŷ mae Pleidio yn blaen yn ein blino,
Drwŷ reibio a rorrio am yr Arian.
3.
Mae Calon pôb mîlwr yn llaw ei Greawdwr;
Y gynnen a'r gynnwr drwŷ Gennad ein Duw,
A ddaeth am ein pennau i gosbi'n pechodau,
A'r cleddeu i'n rhoi'n foreuf i farw.
4.
Gillwng dŷn hafedd, di-fesur ei faswedd,
A'r fŷr bôb oferedd, draws gamwedd dros gôf;
Pôb diried adroddion, ac ofer air gwirion,
Yr union Dduw Cyfion sŷ'n Cofiof.
5.
Er llwŷtho ar ein Cefne drwŷ'n buchedd bechode
A'u Cario nhwŷ'n feichie o'n dechre i'r dŷdd
Diweddaf o'n bywŷd, ni chofiwn fawr ennŷd,
Mo weithredoedd gwaedlud ein gwledŷdd.
6.
Duw Frenin Brenhinoedd, a llywŷdd pôb Iluoedd;
Madde di i'r miloedd, Pen mîlwr y Bŷd:
A gweinia dy gledde sŷ'n Cospi'n pechode,
A'th foli a wnawn ninne yn iawn ennŷd.
7.
Gostega'r Cythreulig, dilediaeth diawledig;
A'r Ceccrus ddŷn fyrnig ystyfnig iw drîn;
Y Duw bendigedig, er mwŷn dy Fâb unig,
Bŷdd ddiddig ddâ feddig i'r fyddin.

Ymddiddan rhwng Trugaredd a Chyfiawnder.

Trugaredd.
1.
MAE ymma bechadur, wrth borth ei Bennadur,
Mewn llafur a dolur a dialedd;
Wrth dy borth nefol, yn cnoccio'n ddifrifol,
Duw am dy dragwŷddol Drugaredd.
Cyfiawnder.
2.
I mae Duw cyfion, am bechod yn ddigllon,
Sŷdd yn gweled dy foddion, a'th arfer;
Nid wŷt un aŵr segur, ond dilŷn dy nattur,
'Rwŷ'n barod i wneuthur Cyfiawnder.
Trugaredd.
3.
Duw ein hên Dadau, na chosba mo'n beiau,
A'th farnedigathau creulonedd;
Mae'r enaid yn ceisio, par gael 'mae yn curo,
Duw egor dôd iddo Drugaredd.
Cyfiawnder.
4.
Nid wŷt ti lefassus, bechadur twŷllodrus,
I fôd mo'r rhyfygus, heb esgus bêr;
Cilia, sa i wared, cei fynd wrth dy weithred,
Trwŷ union farn galed Gyfiawnder.
Trugaredd.
5.
O f' Arglwŷdd na feddwl, fynghosbi mo'r gwbwl,
A minne mewn trwbwl tra-blin heb wêdd;
Nid oes un dŷn diddrwg, na theilwng i'th olwg,
Attolwg dôd amlwg Drugaredd.
Cyfiawnder.
6.
Gwél or dechreuad Adda dy hên-dâd,
Cwŷmpiad i fagad o henafied nifer;
A'u rhiw a'u rhieni, trwŷ hir gyfeiliorni,
Mi a wneuthŷm a rheini Gyfiawnder.
Trugaredd.
7.
O f' Arglwŷdd Daionus, cyfiawn mwŷn cofus,
Mae'r drydedd o Genesis ddiwallus wêdd,
Lle i gwnaethost di fwŷnion, ac aml addewidion,
Am dyner fwŷn dirion Drugaredd.
Cyfiawnder.
8.
Cenfŷdd yn y cynfŷd, pan foddodd yr hôll fŷd,
Am eu beie a'u bywŷd ysgeler;
Am bechod rhoes ddistrŷw, a dialedd dŵr diluw,
Er cofio'r cu un Duw Cyfiawnder.
Trugaredd.
9.
O f' Arglwŷdd llawn gallu, gwir ydŷw hynnu,
Nid cymwŷs ŷw gwadu'r gwirionedd;
Ac etto gwaredu hen Noa a'i hôll deulu,
A hynnŷ trwŷ garu Trugaredd.
Cyfiawnder.
10.
Mi a ymwelais yn danbaid, a beiau'r Sodomiaid,
Oedd fawr bechaduriaid bôb amser;
A dialedd echryslon, a thân ac a brumston,
A hynnŷ trwŷ union Gyfiawnder.
Trugaredd.
11.
O f' Arglwŷdd gogoned, aeth Lot a'i ddwŷ ferched,
O blîth pechaduried rhag dialedd;
Iôr di a gedwaist y rhain lle danfonaist,
Ac uddŷn draŵ gyrraist Drugaredd.
Cyfiawnder.
12.
Dôs edrŷch a darllen os medri Lythyren,
Yn llyfre yr hên Foesen iawn fesur bêr;
Lle boddodd llu Pharo, i mae'r Môr-coch yn tystio,
Lle gwneuthŷt ti yno gyfiawnder.
Trugaredd.
13.
Mae hynnŷ 'n wîr Arglwŷdd, hwŷ 'ddylen gael tramgwŷdd.
Eu calon galedrwŷdd oedd ffiedd;
Di a ymwelaist yn rasol a Moesen a'i bobol,
A'th nerthol dragwŷddol drigaredd.
Cyfiawnder.
14.
Darllen rŷw Lithoedd yn llyfre 'r Brenhinoedd,
Nid a mo'm gweithredoedd i 'n ofer;
Ahab am bechu, a Saul gwedi hynnŷ
Lle 'darfu i mi rannu Cyfiawnder.
Trugaredd.
15.
O f' Arglwŷdd trugarog, a'th iawn wrthiau nerthog,
Oedd rowiog war enwog wirionedd;
Am bechod mo'r warthrŷdd, a wnaeth Brenin Dafŷdd,
Fe a gafodd trwŷ gerŷdd Drigaredd.
Cyfiawnder.
16.
Caerselem fan cŷnnes, oedd Ddinas a hoffes,
Ac iddi pan sŷrthies mewn digter;
Ni adewais i heb gosbi faen ar faen ynthi,
Ond gwneis yno ddifri Gyfiawnder.
Trugaredd.
17.
O f' Arglwŷdd uchel-glôd, os darfu it fy ngwrthod,
A fflant dy gyfammod o wiw nôd wêdd;
Rhoist aml addewidion i'th etholedigion,
Am dirion dra-gwirion Drigaredd.
Cyfiawnder.
18.
Chwilia di yn gŷnnil, ddâ addusg ddi eiddil,
Mae yn ddiau yr Efengŷl lle eu gweler;
Am aflan gorph Herod, a Suddas Iscariot,
Lle a gwneuthŷm i am bechod Gyfiawnder,
Trugaredd.
19.
A'i ddirfawr Ing creulon, a'i bigog ddrain goron,
A'i chwŷs a'i archollion geirwon i gwedd;
Er mwŷn ei farwolaeth, a'i hôll haeddedigaeth,
Duw hylwŷdd dy helaeth Drigaredd.
Cyfiawnder.
20.
Ystyria na pherchais, mo'm hunig Fâb Llednais,
Pan ddirfawr Dywelltais fy nigter;
Ond diodde poen ffŷring, a chwerwedd, a dirmŷg,
Trwŷ union farnedig Gyfiawnder.
Trugaredd.
21.
Duw fy achubwr 'aeth rhyngo i'n ddadleuwr,
Fel dyna fy nghŷflwr o'i fawredd;
Er Moliant iw enw, a ddŷgodd boen chwerw,
Moes gael er mwŷn hwnnw Drigaredd.
Cyfiawnder.
22.
Dywaid i mi bechadur, di 'gollog da ei gyssur,
Pan ydwŷt môr bryffŷr mewn hyder;
Pa bêth iw roi troffod, sŷdd gennid môr barod,
Pan ydwŷd ti yn gwrthod Cyfiawnder.
Trugaredd.
23.
Cur Crist a'i ddioddfaint, a'i unig Fâb rhoddaint,
A olchodd fy mhall haint, a'm llêsgedd;
A minne sŷ'n credu, trwŷ ffŷdd yngwaed Jesu,
Na fedri di ballu Trigaredd.
Cyfiawnder.
24.
Os wŷd o'r ffŷdd honno, i'th galon yn gwreiddic,
Ac ynod di yn tario bôb amser;
Trigaredd os ceifi, fel Abraham gelli,
Gael cyfri hon i ti yn Gyfiawnder.
Trugaredd.
25.
Er gwaed yr oen gwirion, a syrthiodd oi galon,
Nag edrŷch ar foddion fy muchedd;
Ond edrŷch fawr allu, dy Ing o Fâb Jesu,
Ar bren a fu yn prŷnu Trigaredd.
Cyfiander.
26.
Pinia di o'th gwmpas, dy lân wisg-briodas,
Ac arfau y Messias iawn addas Dduw nêr;
Cei haeddiant a rhwŷdeb, ar pŷrth yn agored,
A gwirŷdeb côf undeb Cyfiawnder.

Carol o Anrhydedd i Dduw, ac iw wîr Eglwŷs.

1.
POB Cristion pureiddlan ymgesclwch i'r unfan,
I'r Eglwŷs rywioglan yn gyfan dan gô,
Rhown weddi yn hyderus ar wìr dduw cariadus,
A chanwn yn felus fawl iddo.
2.
Mae pawb yn Rhwŷmedig i foli ei wîr feddig,
Mewn môdd gostyngedig, heb ddiffig oedd ddâ;
Trwŷ ddeall hŷn hefŷd, nad oes un Duw a werŷd,
Ond hwn sŷdd bób ennŷd yn benna.
3.
Er colli ein hymgeledd, a'n bôd heb Amynedd,
Yn ofni ymrafusedd yn bruddedd i'n bron;
Fe a'n ceidw heb ammeu, Rhag-llaw fel or dechreu,
Oddiwrth 'wŷllŷs caloneu'n gelynnion.
4.
Os credwn ni o ddifri, mai unig Fâb Mari,
A ddyleu ei addoli, a'i foli yn ddi-feth;
Ni ddaw i ni drwbwl, na rhwŷstŷr i'n meddwl,
Os rhown arno 'n gwbwl yn gobeth.
5.
Nid eill Pharo na'i 'ffeiried, wneud bŷth i ni niwed,
Y Twrck, na'r rhufeinied er gloŷwed eu glain;
Pan so fwŷa 'n tristwch, daw Duw a diddanwch,
A hefŷd hyfrydwch i frydain.
6.
Mae'r Eglwŷs yn barod, o syweth mewn synndod,
Na ollwng ar wrthod dy briod lân bûr;
Tro atti hi etto, na ad moni yn ango,
Dôd iddi a ni yn ceisio beth cysur.
7.
Y lleill nid ŷnt buredd, ond fal Ordderch-wragedd,
Yn rhuo eu ffoledd, rhŷw oferedd heb râd;
Mae'n gobeth heb ffaelu, fŷth fe fŷdd fellu,
A caffon gan Jesu gynhwŷsiad.
8.
Ni âd y Duw cyfion, iw etholedigion,
Fŷth wŷro o'r ffordd union, tra bôn yn y Bŷd;
Ond ydem ni ddedwŷdd, fôd cariad yr Arglwŷdd,
I'n nadu ni'n wradwŷdd i'r ynfŷd.
9.
Er bôd ynom bechod, o syweth ddau gormod,
I'r ŷ'm ni'n llaw'r Drindod, yn barod bôb trô,
Fel clai a fae'n ebrwŷdd, yn nwŷlaw'r crochanŷdd,
Efe 'eill mewn un-dŷdd yn mendio.
10.
Bendithied Duw etto, sŷ dano fe'n rhiwlio,
O hŷd oni ddelo i huno mewn hêdd;
A gwneud ei gyfrifon, fel stiwart pur ffyddlon,
Duw dôd iddo'n goron drugaredd.
11.
Mil chwechant nôd gwiwlan, sŷ iw rhoddi yn'r unfan,
Saith mlwŷdd, a dau ddeugain yn gyfan dan gô;
Oedd oed y Máb haeledd, a'n deil hŷd y diwedd,
Er bôd ein lle'n serthedd, rhag syrtho.
12.
Os gofŷn cymdeithion pwŷ wnaeth y penhillion,
Rhowch iddŷn attebion dâ foddion di-fêth;
Un fychan sŷ beunŷdd, yn deŷsŷf gan'r Arglwŷdd,
Gael marw yn y wir-ffŷdd yn Berffeth.

Dyriau yn dangos mae eisieu Cariad yw'r achos o hôll ddialeddau'r Bŷd.
Yn laith Morganog.

1.
O Arglwŷdd dduw cysion, trugarog a graslon,
Clŷw f' achwŷn hiraethlon, trwm eirad;
Yn uchel fy llefau, bôb nôs a phob boreu;
Mo'r dost wŷ'n gweld eiseu gwir gariad.
2.
Iw le fe ddaeth balchedd, a rhyfŷg a thrawsedd,
A phôb rhŷw anwiredd brwnt anllad;
I beri i'n dramgwŷddo, a myned ar ddidro,
Mae'n ambell sŷ'n rhodio mewn cariad.
3.
Mae rhai y dŷdd heddŷ, ac arian u'm dawlŷ,
A rhain gwedi casglu drwŷ'r holl wlad;
Etto yn llawn awŷdd, i gynŷll mwŷ beunŷdd,
A ydŷw hŷn arwŷdd gwir gariad.
4.
A bagad a'u talfe, yn fynŷch'ar brydie,
Mewn diffig o eise cael cenad;
I fŷw ar y rhoddion, yn rhŷdd adderbŷnson,
O ddwŷlo y Duw graslon trwŷ gariad.
5.
Mae rhai yn hyderu, y peru'r Bŷd fellu,
Ar wŷ yn dybygu wrth eu'mddygiad;
Mewn balchedd ymhwŷtho, fel rhai gwedi dottio,
Er hŷn yn proffesio gwir gariad.
6.
Rhai gwchion yn tybied, o'u prŷd gan eu tecced,
Rhai eraill môr brafied mewn trwsiad;
Yn myned mor srolug, maen ddigon go debig,
Fôd arnom ni ddiffig gwir gariad.
7.
Rhai 'honom mor goeged, an meddwl cŷn uched,
An geire cŷn ddoethed yn siarad,
Os gwelwn ddŷn simpil, at hwn trown ein gwegil,
Maen rhŷhwŷr i'n ymbil am gariad.
8.
Ac fellu mynd rhagon, mewn uchder yn greulon,
Yn debŷg i Samson mewn codiad;
Rhai'u tristo'n eu crysder, rhai tegwch, rhai doethder,
Hêb ronŷn o fatter am gariad.
9.
Rhai cewch yn eu swydde heb nabod mo'u dechre,
Na meddwl ond weithe, y cawn ddwad,
I gysri mewn syndod pan fon ni'n amharod,
Oddifŷg cydnabod gwir gariad.
10.
Rhodiwch trwŷ'r dalaith cewch fflattring a gweniaeth,
Ym hob rhŷw dafodiaith gan fagad;
Mewn golwg yn isal mo'r degced eu chwedel;
Heb ronŷn o afel mewn cariad.
11.
Os marciwn y geire, sŷ'n dyfod o'n gene,
Mae rhain yn rhoi gole ddangosiad,
Fod ynom ddrwg dybie, a chaled feddylie,
A hŷn o lwŷr eisie gwir gariad.
12.
Mi alla fynegŷ, yn eglur fôd hynnŷ,
Or gwreiddin yn tyfu er dechreuad,
I'n dilŷn ni beunŷdd, bob un fel ei gilŷdd,
Tra fôn ni'n anufudd i gariad,
13.
Fe rows yn Duw grasol, gynnygion rhagorol,
I fagad o bobol mewn bwriad;
I'n tynŷ ni atto o'n dryswch a'n didro,
An dysgu i rodio mewn cariad.
14.
Er maint ei gynygion, hwnt heiho ni tawlson,
Mêwn llwŷbre dilynson yn hen-dad;
Yn ail Herod greulon, ne'r Mâb oedd afradlon,
Ac fellu gwrthodson wîr gariad.
15.
Mi wn fe ddaw diwedd, ar ryfig a balchedd,
A phôb rhŷw oferedd ddymuniad,
Ond Crist ein anwulŷd 'saif bŷth heb gyfnewid,
pwrcasodd ein rhydd-did trwŷ gariad.
16.
Gochelwn ni drysto, i'r Bŷd rhag ein twŷllo,
Ymrown i roi heibio ddrwg fwriad;
Ymrown dan faner, gwŷch Frenin uchelder,
Cawn dderbŷn mewn power wir gariad.
17.
Tra fai i ni'n cynig, mor dirrion, mor ddiddig,
Na fyddwn fŷth styfnig i'n gwir-dad;
Down atto fe yn gymwŷs, cawn gwmpni y but Eglwŷs,
Bŷth bythoedd i orffwŷs mewn cariad.
18.
Oes gofŷn rhai'n un man, pwŷ ddodwŷs hŷn allan,
Rhŷw ddŷn sŷdd a'i gwŷnfan yn eirad;
Mewn rhan gwedi blino, yn dyfal ochneido,
Weld pawb yn dibrsiio gwir gariad.

Carol ar Anedigaeth Jesu. Iw ganu dan bared.

1.
Cŷd gofiwn a mawr-glod, fŷth y rhyfeddod,
Fod Jesu ar fŷd isod, tro hynod iw hwn;
Datcanwn ei fawredd, wr enwog a'i rinwedd,
Mor rhyfedd mewn agwedd mynegwn.
2.
Pan anwŷd ein lly wŷdd, gwiw radau gwaredŷdd,
Yn Bethlem dre Ddafŷdd mor ddifalch y môdd;
Yn Ebrwŷdd rhŷw seren dros diroedd y dwŷren.
O'r wŷbren go lawen goleuodd.
3.
Cyfeirie i'r lle hynod, rŷw bobol heb wŷbod,
Y seren wrth ganfod, wŷch barod uwch ben;
Ag yno'n lleteua, un Mâb y gorucha,
Mewn preseb or gwaela fe'i gwelen.
4.
Gan gael y Mâb nefol, o'i gariad rhagorol,
Yn bôd fel dŷn bŷdol mor firiol, y Sant;
Cŷd-rodden yn ddislin, wŷr breiniol iw Brenin,
Dro dichlin ar ddeulin addoliant.
5.
Pan glywed newŷddion ynghylch y Mâb rhadlon,
Un Herod anhirion oedd greulon ei gri;
Anfonodd iw erlid, Iddewon yn ddiwŷd,
Os medrid nas gellid i golli.
6.
Yr Arglwŷdd pan wele mor ddwl eu meddylie,
Wŷch urddas a chwardde, datcuddie eu brâd cêl;
Er mwŷn y Mâb perffaeth, a u gwlad anedigaeth,
Gwnae iw Dàd a'i Fam odiaeth ymadel.
7.
Tosturus oedd weled, y mwŷnedd yn mvned,
I morol am wared, rhag blined eu bloedd;
A chael or dichwanog, i friso yn afrowiog,
Gan fleiddiaid goludog, gwael ydoedd.
8.
Wrth angan a ballodd, a'i golŷn a giliodd,
Christ nine a gymerodd oi rwŷdd fôdd iw ran;
Dioddefodd fawr benŷd, i'n gwared ni o'n gwerŷd,
Fab Hyfrŷd mewn sal-fŷd isel-fan.
9.
Fe aeth y Mâb tirion, drwŷ filoedd o ofalon,
Heb gael ond oer galon, i ddynion bu dda;
Ir hwn am ein pardwn gogoniant a ganwn,
Cud-floeddiwn a synniwn Hosanna.
10.
Dyma'r wŷl hyfrŷd, gain addfwŷn gynedd-fŷd,
Wŷch eilwaith ddychwelŷd mawr ennŷd ei râd;
Am hynnŷ na 'mroddwch yn drwstan i dristwch.
Cŷd gymrwch ddifyrrwch dda fwriad.
11.
Gosodwch eich meingciau wŷch drwssiad a'ch drysau,
Egorwch er geiriau yn ddiau mor dda;
Na fyddwch amharod, rhag ofon rhŷw gafod,
O anglod drwŷ ofod yn nesa.

Carol. ar warediad dŷn drwŷ ddioddefaint Crîft.

1.
O Fawr yn ddi'feredd, i fach yn dda fuchedd,
Nesawn, rhown anrhydedd a mawredd, Amen;
I'r amser tra hylwŷdd, i'n gwnethpwŷd yn ddedwŷdd,
Moliannwn dduw'r llywŷdd yn llawen.
2.
Na fyddwn wrthnyssig, na del y Nadolig,
Molianwn Dduw'r meddig drwŷ ffyrnig ffŷdd;
In cadw'n ddiangol, or ffwrnes uffernol,
A rodd i'n wiw-radol waredŷdd.
3.
Un Adda waith hynod, a'n bachodd ni a'i bechod,
Fe geisiodd ein gosod dan ddyrnod rhŷ ddwŷs;
Yr ail gan ein prynu, os gwiliwn droseddu,
A'n dŷg (a bŷr oedi) i baradwŷs.
4.
Yr oeddem ni unwaith, tan felldith y Gyfraith,
Yn llawn an wybodaeth, a rhŷ gaeth ein rhan;
Nes cael drwŷ hyfrydwch, gan roddwr yr heddwch,
Ein troi ni o dywŷllwch du allan.
5.
Ein bugail di gyffro, tŷst air yn tosturio,
A ddaeth in coffleidio ni a'n sirio fel Sant;
Pan oeddem gan syrthni, yn llawn o fudreddi,
A phawb yn ymdrochi yn ei drachwant.
6.
Pan oeddem fel defaid, yn crwŷdro ymŷsg bleiddiaid,
Fe ddaeth i ymweled a'n lludded, Dduw llon;
Gwaharddodd ni'n ddiau, rhag cerdded coeg lwŷbrau,
Arweiniodd ni a'i ddoniau i'r ffordd union.
7.
Yn awr ni gawn hoŷw-fŷd, a deddfau dedwŷdd-fŷd,
Danfoned i'n Iechŷd, o dda hyfrŷd hêdd;
Y gwir Dduw gogoned a yrrodd ymwared,
Wrth weled ei ddeilied tan ddialedd.
8.
O oleini i dywŷllwch, o barch i ddiystyrwch,
Daeth Crist or hyfrydwch (gwŷbyddwch) ri bedd:
A'i sylwedd ansarwol, a wnaethpwŷd yn ddynol,
I roi i ni'n dragwŷddol drugaredd.
9.
Hwn ydŷw'r oen perffaith, a anwŷd o enaith,
I dderbŷn marwolaeth, och fariaeth o'i fôdd;
Wŷch obaith achubwŷd, yn bur i ni'n bywŷd,
Drwŷ'r penŷd ar gofŷd a gafodd.
10.
Pa roddion pereiddiol, a ddisgwil Duw nefol,
Pa aberth Sancteiddiol, da fŷwiol di fai;
Nid ychen pascedig, a foddia'r gwiw feddig,
Rhown iddo'n Galennig galonnau.
11.
Os chwenŷch un chwanog, oed Jesu dywŷsog,
Ceiff atteb godidog, bŷr enwog, a brau;
At fil deuddeg-ugien, a phum naw heb amgen,
Iw gorffen rhoed ddeugien o ddegau.
1685.
12.
Disgwiliwn yn dyner, wrth Jesu bob amfer,
Ymhob rhŷw Gyfyngder, rhown hyder ar hwn;
Cerdd gyson ir gwiw Saint, anrhydedd a moliant,
O'n genau gogoniant a ganwn.

Carol ar wrthiau Jesu a'i ddoniau êf, iw ganu ar ddŷdd Natalic Crîst.

1.
POB dŷn a fedd dafod, a diball Gydwŷbod,
Gwŷbydded mae diwrnod da hynod iw hwn;
I Grist am ei gariad, os rhŷdd Máb yr hael-dad,
Oen gwŷn i ni gennad ni ganwn.
2.
Cŷd seiniwn Gynghanedd, yn gŷd-lais gyfannedd,
Cŷd roddwn anrhydedd er mawredd i'r Mâb;
Rhown fawl newŷdd ganiad, rhown ddiolch yn ddiwad,
Rhown gariad ar dyfiad ir Duw-Fâb.
3.
Am dorri gorchmynion, a digio Duw cysion,
Pan oeddem mewn dyledion, colledion a llîd;
Nid pryniad am arian, a'i wir waed ei hunan,
A talodd iawn gyfan rhag gofid.
4.
Er syrthio drwŷ Adda, un Mâb y gorucha,
A'n cododd ŷw noddfa or drochfa rhŷ-drŵch
Os bŷdd un gau-athro, i'ch arwain oddiwrtho,
Rhag iddo fe'ch rhwŷdo na chredwch.
5.
Ni fynne'r angylion addoliad gan ddynion,
Ond bôd yn gŷd-weision, addolion i Dduw;
Rhoi'r moliant sŷdd addas, i Grîst y Messias,
Am deŷrnas ac urddas ein Gwir-Dduw.
6.
Heblaw ei fawr wrthiau, yn achub eneidiau,
Iachaodd bôb dolurau, da radau di ri,
Gwnae'r aflan yn berffaith, gwnai'r dwr yn feddiginiaeth,
Gwnai'r marw yn fŷw eilwaith iw foli.
7.
Er gallu o'i ddyscyblion, roi Jechŷd ir cleision,
Ymŷsg yr Iddewon oedd ddeillion o ddull;
Roedd pôb Efangylwr, pób Sanct, a Phroffwŷdŵr,
Ar gryfdwr ein safiwr yn sefŷll.
8.
At grŷpŷl di madfarth, rhwn oedd ym horth prydferth,
Daeth Poder dâ ei aberth, dêg wiw-nerth ac Iôn;
Grŷm gwrol a gallu i neidio dan ganu,
Drwŷ rinwedd yr Jesu iddo a roeson.
9.
Pob dŷn a ryfedde, yn ei galon a'u gwele,
Drwŷ wrthie cu-urdde yn cerdded mor grŷ;
Y Seintie a gyffessen, wirionedd na wnaethen,
Ohonŷn eu hunen mo hynnŷ.
10.
Peder a ddwedodd, Duw Tâd a'u cenhedlodd.
Iw Fâb Jesu a'n prynodd, datclwŷfodd y cloff,
Drwŷ ffŷdd wrth orchymŷn, yn enw Crist cychwŷn,
A rhodiodd a'i ddwŷ-glun yn ddi-gloff.
11.
Dilat a farne, i fôd yn ddi-feie,
A chwithe a'i traddode ni fynne iddo fŷw;
Rhŷw rai a'i gwadodd, ac erill a'i lladdodd,
A Duw a'i cyfododd, cuf ydŷw.
12.
Er i ni iawn gredu, fôd Crist i'n gwaredu,
Mogelwn ryfygu trwŷ bechu tra bom;
Awn at y Messias, mewn glân wisg briodas,
Rhŷdd Duw yn ei deŷrnas nôd arnom.
13.
Rhŷ wan ydŷw'r cryfa, rhŷ ddrŵg iw'r cyfiawna,
O ben y Cyfrwŷsa caf reswm rhŷ ffol;
Rhaid i ni gyffessu, nad oes i'n iawn lessu,
Un dŷn heb help Jesu yn hapussol.
14.
St. Paul a gyffesse, er daued ei bregethe,
Nad oedd iw seddianne fawr ddonnie er ei ddŷsg.
Grâs Jesu ydŷw'r Gwreiddŷn, drwŷ'r ysprŷd glân dislin,
I roddi i'n riddin o'r addŷsg.
15.
Od wit ti wir Gristion, na chais moth anghenion,
Gan berchen cŷrff meirwon (fel briwsion a brêg)
Y Seintie sŷ'n huno, ar Arglwŷdd yn neffro,
Sŷ'n addo dy-wrando'n dirion-dêg.
16.
Curwch fe 'gorir, gofynnwch fe 'roddir,
Medd Crist y gŵr cywir, ni wedir moi waith;
Ceisiwch yn ddibaid, chwi gewch bôb anghenrhaid,
Ir Corph ac ir enaid, ar un-waith.
17.
Drwŷ ddyfal weddio, a darllen a gwrando,
Mae gofŷn a cheisio'r iachusawl fŷd;
Trwŷ dduwiol weithredoedd, mae curo porth nefoedd,
Ar gyhoedd Duw ydoedd yn dywedŷd.
18.
Gofynnwch a churwch, drwŷ drist edifeirwch,
Yr awran na oedwch ymprydiwch mewn prŷd;
Newidiwch eich buchedd, os mynwch naws iawnedd,
I ddrws y drugaradd egorŷd.
19.
Un bugail Crist Jesu, da Escob i'n dysgu,
A'i ysprŷd mawr allu i'n trefnu ar bob trô:
A'n dygco ir llawenŷdd, sŷ nghaer-salem newŷdd,
I fŷw dan adenŷdd Duw yno.
20.
I gadw ac i amddiffŷn, ffŷdd Crist ar y Gwreiddŷn,
Hir einioes in Brenin pen brigŷn y braint;
Nad allo neb niwed, o Gred nag o angrhed,
I flodeu'r brittannied ond henaint.

Carol yn datcan Achau, Teilyngdod a thrafel y wîr Fair Forwŷn, Mam ein Harglwŷdd Jesu Grist.

1.
CLywch hanes dechreuad Mair bur, a'i diweddiad,
A'i bywŷd trwŷ gariad, da fwriad tra fu;
Or forwŷn bur ddichlin, er gwared ei gwerin,
Hi ddwg i'n Fâb, Brenin i'n prynu.
2.
Joachim ac Anna, ei thad a'i man henwa,
O wledŷdd Judea lle dodwŷd y gair;
Darllennwch 'r ystori, cewch weled goleuni,
I bawb mewn daiona di anair.
3.
I Anni bûr ddichlin, ni basae erioed blentŷn,
Nes geni Mair iddŷn, mae'r arwŷdd mewn bri;
Rhoi ei gweddi'n gyfannedd, ar Dâd y trugaredd,
Am gael o'i gwŷch agwedd feichiogi.
4.
Anna 'feichiogodd, a Duw a'i gwrandawodd,
Ar Fair yr escorodd, hi brifiodd yn llwŷdd;
Mâm Jesu o ran dyndod, a mammeth ei Duwdod,
A morwŷn bur eir-glôd i'r Arglwŷdd.
5.
I'r ysgol yn fŷan a gyrwŷd Mair bur-lân,
Yn dair blwŷdd o oedran, er adrodd ger bron,
Hi brifiodd chwi welwch, ir Bŷd yn hyfrydwch,
Hi dynnodd o dywŷllwch y deillion.
6.
Bu unarddeg cyfen, yn dysgu ac yn darllen,
Wrth gyfraith hên Foesen, ni fisiodd gar bron,
A Mair a gynyddodd, cŷn brafied hi brifiodd,
A'r geirie ni chiliodd o'i chalon.
7.
Cŷn ei bôd yn Bymtheg, priodwŷd Mair bur-deg,
A Joseph ar osteg, ŵr enwog;
Cŷn i ddi drwŷ rinwedd medleio a'i chorph sanctedd,
Y forwŷn bur fuchedd oedd feichiog.
8.
A Joseph pan welodd, yn ddygun a ddigiodd,
Y forwŷn y brifiodd, hi dyfodd mewn dawn;
Dan dybio'n anweddus, ei bôd hi'n ddrygionus,
Er hynnŷ Mair gofus oedd gyfiawn.
9.
Dansonodd yr Arglwŷdd, mae'n eirwir yr arwŷdd,
At Joseph yn Ebrwŷdd, tan wŷbren y gair,
Y newŷdd confforddus, a genid Mâb gweddus,
O'r eneth ddaionus ddi-anair.
10.
Mair sanctedd y gerdde, dros bedwar o ddyddie,
Mor lawen iw siwrne, mewn donnie di-drwch;
Nes myned i'r Ddinas, at wraig Zacarias,
I ddangos ei hurddas, ai harddwch.
11.
Yn feichiog roedd hono, mae gwarant yn gwirio,
A'i dyddie oedd yn pwŷso'n happussol i ni;
Ac Evan fedyddiwr, a ddoeth yn genadwr,
At Grist yn gwaradwr gwir ydi.
12.
Yno dros ennŷd ei tariodd Mair hyfrŷd,
I ymddwŷn am Jechŷd, a bywŷd y Bŷd;
Dan gredu'r Garuchel, trwŷ addewŷd yr angel,
A'i eirie'n ddiogel a ddygwŷd.
13.
Y forwŷn bur eirglod, ae ymeth dan Amod,
Hi gerdde dri diwrnod yn barod ar ben;
I Fethlem Judea, lle i genid gorucha,
O'r forwŷn ddiweiria ar ddaiaren.
14.
Pan oedd y Tai mawrion, o bôb cwr yn llawnion,
O ladron a meddwon a dŷnion di-ddâ;
Mae siampal hŷd dŷdd-farn, am geidwad mor gadern,
Na chawse mewn Tafarn lettyfa.
15.
Ni chafodd Mair lettŷ, iw goledd na gwelu,
Ond myned i feudŷ oedd fudur ei wêdd,
Dyna'r lle ganed, ein prynwr gogoned,
Ystyriwn ei weled mor waeledd,
16.
Yn ôl ei anedigaeth, fe orfu i Fair berffaith,
Rhag Herod fynd ymaith o'i elyniaeth heb gêl;
I'r Aipht gyda e'i 'nwŷlŷd, lle bydde dros ennŷd,
I fagu'n gwîr Jechŷd goruchel.
17.
Yn ôl marw Herod, ar hanes mor hynod,
Y forwŷn bûr eirglod, Mâm Arglwŷdd y Bŷd;
Y drôdd yn ôl eilwaith, drwŷ ffŷdd a chrediniaith,
Iw [...]wlad anedigaeth fe'i dygwŷd.
18.
Yr Jesu a Gynyddodd, yn brafiach a brifiodd,
A'r amser a nesodd, a bwŷsodd ar ben;
I wneud prynedigeth, drwŷ gwbwl achubeth,
A dyddie marwolaeth mor filen!
19.
Nid rhaid yn Eglurach, mor adrodd ymhellach,
Ei boenau mawr afiach, oer ofid i gla;
Darllennwch yr scrythur, cewch weled yn eglur,
Y weithred sŷ dostur a dystia.
20.
Mae siarad gan ddynion, am un o'r postolion,
Mae hwn oedd Joan Gyfion mêdd brithion y Bŷd;
Ei fôd yn fŷw etto, drwŷ anrhydedd yn rhodio,
Peth anodd i goelio pe gwelŷd.
21.
Oddiwrth y Groes ymeth, drwŷ ffŷdd a chredinieth,
I cymmerth Mair berffeth, o'i daleth iw dŷ,
Lle i bŷ hi'n drigannol, drwŷ ei hoes yn gartrefol,
Hon ydoedd Mâm rasol yr Jesu.
22.
Yn ôl i'n gwir Jesu, i'r nefoedd dderchafu,
Or Bŷd yma i fynu, i fynwes ei Dâd;
Bu Mair Bymtheg union, blynyddau blin oerion,
Ar ôl ei Mâb cyfion mae'r cofiad.
23.
Gydag Joan Sanctedd, yng Haer-salem iownwedd,
Yr hunodd Mair hafedd, oedd hyfrud ei gwedd;
Mewn daiar-glâdd ole mae ei chorph yn ddiamme,
Ni chladded mewn rhanne mwŷ 'rhinwedd.
24.
Hôll oedran Mair burwen, oedd dair blwŷdd a thriugen,
Pan aeth ir ddaiaren i orwedd heb gêl;
A'i henaid glân hyfrŷd, i freichie ei hanwŷlŷd,
Gar bron ein gwir iechŷd goruchel.
25.
Yr Arglwŷdd Gorucha, a'n dygco ni oddiyma,
Pan ddelo'r awr ola, i olwg Duw cu,
Ir Nêf at Fair hyfrŷd, sŷ gyda'i hanwŷlŷd,
Mewn iechŷd a bywŷd a beru.

Dyriau Duwiol, ar ddull ymddiddan, Rhwng Dŷn a Mwialchen.

1.
Dŷdd dâ fo i'r fwŷalchen, sŷ'n ymborth yn y berthen,
Fe lwŷdodd dy bluen, a'th aden i'th oes;
Fel dyna'r hyspysrwŷdd, od-ydwŷf gyfarwŷdd,
Sŷ'n digwŷdd o herwŷdd dy hîr-oes.
2.
Duw'n rhwŷd, dŷdd dâ i tithe, di'lwŷdest fel finne,
O ran dy feddylie'n rhoi pwŷse ar y penn;
Ond rhyfedd dy weled yn llwŷdo cŷn ienged,
A thithe nid lliwied mo'r llawen.
3.
Y Bŷd sŷdd bôb amser, yn chwerw, ac yn eger,
Heb ddangos yn dyner ddim mwŷnder un môdd;
Er amled fy 'mdrawieth, i foddio ei naturieth,
Ar unweth naws gwenieth nis Gwênodd.
4.
Ni wena'r Bŷd diffeth, ond ar ei gydymeth,
A fedro ei naturieth, a'ì 'mdrawieth iw drin,
Nid hwŷrath or diwedd, er gweled ei goledd,
A dengŷs ei 'scithredd yscethrin.
5.
Os ydŷw'r Bŷd die yn anwadel ei mode,
A chymmaint o droie, a phwŷntie'n ei ffŷdd;
A ddywedi di'n union yr heden fwŷn dirion,
Pa ddynion o ddâ-dôn sŷ ddedwŷdd.
6.
Mae'r Bŷd yma'n wastad, yn mynd ac yn dwad,
Fel dynion ir farchnad, neu'r lleuad uwch llawr,
Yn codi ac yn discŷn, heb orphwŷs un gronŷn,
Neu'r môr yn ei derfŷn, tra dirfawr.
7.
Mae rhŷw rai dros amser, yn cael gantho fwŷnder,
A llawer o bower, a llawnder, a llwŷdd;
A'r llall heb gael unwaith, o'i ddechre iw farwolaeth,
O fewn ei gwm helaeth gam hylwŷdd.
8.
Eel dyna'r dedwdddol, os bŷdd ef bodlonol,
A Rodie'n wastadol ddi bwŷsol ir bŷd;
A'i wllŷs e'n union, yn cofio'r Duw cyfion,
Môdd ffyddlon, y galon ŷw'r golŷd.
9.
Ni feder dŷn truan, na welo fe'd drwstan,
Fôd y Bŷd coelwan yn cilio'n rhŷ drŵch;
Pan fyddo'n amcanu, hoffeinioes i ffynnu,
Heb fedru ond traws naddu trwsneiddiwch.
10.
Gwae'r dŷn sŷ'n hyderu, mewn dynion neu 'gallu,
Na chyfoeth er medru ei roi i ffynu'n o ffel,
Nac chwaith a droe i gwŷno, er gweled yn llithro,
Sŷdd gantho trwŷ gofio mewn gafel.
11.
Pa un siwra'n y diwedd, am garrio Trugaredd,
Pen ddyger pob trawsedd ar camwedd in cô,
Ai'r mawr-barch goludog o'i rinwedd arrianog,
A'i 'ranghenog llinderog i'm daro.
12.
Nid oes mewn dâ a chyfoeth ddim drŵg o'u naturieth,
Ond perffeth gynnysceth, harddinieth i ddŷn;
Os ceidw mewn cwmpas, a diolch yn addas,
I geidwad pôb dinas amdanŷn.
13.
Gwae'r galon a goelio, a gwnâ'r golud iddo,
Er tyrru a chynhilo, ai llwŷddo mhôb llun,
A threilio'n ei 'hawddfŷd, cŷn gorwedd mewn gwerŷd,
Ceiff weled ei 'nwŷlŷd yn elŷn.
14.
Di 'ddywedaist yn union, gaeth agwedd gyfoethogion,
Eu meddwl a'u moddion sŷdd burion ir Bŷd
Mynega i mi'n sydŷn, natirieth y gwael-ddŷn,
Sŷ heb ronŷn iw galŷn or golud.
15.
Y naill sŷdd yn chwannog, yn ffoledd gelwddog,
Yn amhur wenidog, yn ddiog, yn ddel;
Heb ystŷr, na chwynfan, mo'i hanes ei hunan,
Ond trottian mewn caeth-ran ir cythrel.
16.
Mae'r llall fel yn fachgen, heb ystŷr un fargen,
Na châs, na chenfigen, na chynnen, na chwant;
Na gofal i'mafel, am un o'i ddwŷ hoedel,
Ond bŷw fel anifel di nwŷfiant.
17.
Mae'r trydŷdd heb prisio, 'rhwn sŷdd a lwc iddo,
Mewn Bŷd nac sŷdd ynddo, ond nofio at y nef;
Yn foddol iw 'mdrawieth, a diolch yn heleth,
Fed fae fe gan nosweth mewn eisief.
18.
F [...]arwel mi 'madawa, athi'r heden fwŷneiddia,
Oddiymma yn gynta, mi bwŷsa lle bo;
Cwmpeini diniwed, heb ronŷn o syched,
Na'r yfed gwpaned gamp yno.
19.
Aros beth etto, cowreindeb i 'wrando,
Mae llawer ffordd honno yn deilio'n rhŷ-drŷm,
Dû gamwedd di gymmod, gwedd oernŷch rŷw ddiwrnod,
Rhoi medd-dod yn gafod mewn gefŷn.
20.
Ni ddaw mor drwg yma, o eistef a chwedleua,
Drwŷ 'mynedd or mwŷna heb na thraha na thro;
Na chwenŷch mo'r niwed i un dŷn ar aned,
Nac yfed un ffioled i ffailio.
21.
Rwŷt ti bôb munŷd, lân gymro'n cam gymrŷd,
Pa gwŷddit ti'r drygfŷd, ar adfŷd sŷ arôl;
Dy ddifir gwmpeini, mewn gwlâd a drŷ'n gledi,
A choli y daioni diddanol.
22.
Aro yr aderŷn, mí wranta i ti anffortŷn,
Ai i uffern y perthŷn pob glânddŷn on gwlad;
Sŷ heno neu heiddiw, ai foddion yn feddw,
Yn yfed y cwrw mewn cariad.
23.
Ped faet i'n cydnabod, naturieth y drindod,
Ar galar rŷw ddiwrnod am fedd-dod a fŷdd;
Di yfit yn fodlon o 'wllŷs dy galon,
Y gloŷwon sŷ 'minion y mynudd.
24.
Mae dŷn yn ei flode, mo'r ddiddan ei ddyddie,
Yn yfed, a chware, rhŷw droie rhŷ drwch,
Ac etto amcanu, o heno hŷd y foru,
Gael cŷn ei ddifyrru ddifeirwch.
25.
Pwŷ-bynnag sŷ a'i fuchedd. yn dilŷn oferedd,
Medd-dod, a gwagedd, a'i gyrredd mor gu,
Heddŷw dymchwelwch, i'r goleini or tywŷllwch,
Na hyderwch ddifeirwch y foru.
26.
Rwŷ'n deall fôd llawer, yn blyssio rhŷw blesser,
A'u natur yn ofer, yn amser eu nwŷ;
Weithau yn cilio, a'i fwriad i'w farrio,
Ac eilwaith yn syrthio ir swrth adwŷ.
27.
Y pella a drafaelio, drwŷ adel yn ango,
Y pêth sŷdd raid wrtho, iw dreio yn y dre;
Fe'i gwel yn fai diffeth, wrth fynd yn-ol eilweth,
Ar dŷdd a rêd ymmeth, nid amme.
28.
Rwŷ'n gweled wrth hynnŷ, mae'n rhŷ-hwŷr dychrynu,
Os ydŷw gwŷr fellŷ yn pechu mewn pwŷs,
Os yfed a meddwi, sain parod sŷ'n peri,
I ddŷn golli (pur ydi) paradwŷs.
29.
Pedwar dawn hynod, a gollid am fedd-dod,
Llawenŷdd y drindod, di ddarfod i ddŷn;
Ar iechŷd perffeithia, ar goiud, ar geirda,
A mynd ir lle gwaela, at y gelŷn.
30.
Os dyna'r drygioni, a gluda'r ddŷn Gledi,
Dwŷs gerŷdd di sgori, gwae a beru yn y Bŷd;
Ple bynnag yr elo, di dorriad i darrio,
Mae digon eiff yno'r un ffunud.
31.
Pa gysur i gristion, sŷ'n bŷw yn afradlon,
Yn nŷdd y farn union, gwae foddion a fo,
Nid cryfach ei obaith, er deffol llu diffaith,
Yn helaith ar unwaith i Rainio.
32.
Ffarwel i ti o'r diwedd yr heden fwialchedd,
Mae d'eirie'n cŷd orwedd yn ddwŷsedd i ddŷn,
Am natur sŷ'n ceisio'n 'wllysgar fy llysco,
I rwŷstro i mi Goelio, na'i galŷn.
33.
Ffarwel i ti'r Cymro, sŷ ar frŷs yn ymado.
Nid elliff neb wrando i frifo yn ei fron;
Ond Arglwŷdd y lluoedd, a ddengŷs ar gyhoedd,
I filoedd ddirgeloedd dy galon.
34.
Duw o'i drugaredd, a mendio dy fuchedd;
A phawb or un agwedd cŷn diwedd y daith,
I'mwrthod'a phechu, ac i edrŷth i fynu,
I allu wŷnebu dan obaith.

Dyriau o gyngor i gadw Cydwŷbod ddâ, a chalon lân.

1.
Y Cymro cariadus, pen hên waed yr ynus,
'Rwŷ i ti mewn 'wllŷs athrawŷs wrth raid;
Clŷw hŷn o Gynghorion, yn erbŷn certh-ladron,
Gelynion di union dy enaid.
2.
Yr enaid Sancteiddiol, sŷdd dlws i Dduw nefol,
Ar bydol gorph durol daiarol wŷt ti;
O'r pridd i doist ymaith, lle cefest fagwriaeth,
Ir priddlŷd lwch eilwaith dymchweli.
3.
Nid wŷt ti'r corph priddlud, ond temel i'r ysprŷd,
Ac di ei ar fŷr ennŷd or bywŷd i'r bêdd;
I'r enaid mae hoedel, bŷthbythoedd fel Angel,
Os medri di ochel drwg fuchedd.
4.
Pechodau cŷn amled sŷdd ynot dy loned;
A rheini fel gwillied, neu'r bleiddied yn blaid,
Os cedwi di rheini yn Uffern cei boeni,
Dan golli daioni dy enaid.
5.
Cais wneuthŷr Corph addas, fel caerog lân ddims,
Sylfaena di o gwmpas mewn urddas hŷd nen,
Mur crŷ drwŷ berffeithrwŷdd, o feini sancteiddrwŷdd,
Rhag aflwŷdd anhylwŷdd dan haul-wen.
6.
Na wna'r demel dirion, yn ogo i garn ll [...]dron;
Cais gyfion swŷddogion o ddewrion ddâ wŷr,
A chadw ynddi gyfraith, drwŷ deg farnedigaeth,
Trô ymaith holl dwŷll-waith y twŷll-wŷr.
7.
Y twŷll-wŷr iw medd-dod, glothineb, cybydd-dod,
Certh wnniau fel llewod, a llyfon rhŷ ddrŵg;
Llid, Balchder, trais, awŷdd, naws digred nes digwŷdd,
Anlladrwŷdd, a chelwŷdd, a chilwg.
8.
Ymnertha dy hunan, yn erbŷn llu satan,
Rhai aflan eu hamcan, gŷr allan yn haid;
Dan Dduw ai fawr urddas, pen llywŷdd pôb Teŷrnas,
Fel Arglwŷdd mewn Dinas mae d' ennid.
9.
Dan hwn dôd, Gydwŷbod, pen barnwr pob pechod,
Fel ustus ar sŷ'eiddot ar swŷddwŷr yn gweu;
Gorseddfaingc y doethion, di-gel fŷdd dy galon,
Lle cadwon lwŷs union Sesiwnau.
10.
Y Sirri a'r cyfreithwŷr, iw deall ac ystur,
A doethdra'r yscrythŷr rhag dolur neu dwŷll:
Dy reswm fŷdd cwŷnwr, dy frŷd fŷdd cynllwŷnwr,
A'th ofn a fŷdd rwŷmwr i'r amhwŷll.
11.
Meddyliau dy galon yn dostur fŷdd dystion,
Yn erbŷn Gweithredion y coegion rai certh;
Dy go dwg i fynu fel ceidwad carchar-dŷ,
Bôb lleidir iw farnu drwŷ fawr nerth.
12.
Pan fernir y lladron, ger bron y Swŷddogion,
Gan ofud dy galon têg ddialedd a gân;
Ac yno'r difeirwch, fŷdd rhwŷddwr i'r heddwch,
A phlant y tywŷlwch ant allan.
13.
Pan yrach nhwŷ ymaith, dy gorph a fŷdd berffaith,
Yn addas lŷs-iawn waith i'th enaith mewn rhôl;
Rhag ail ddychwel trachwant, dod filwir drwŷ foliant,
A gadwant dy feddiant yn fuddiol.
14
Y rhaglaw rhywioglan ŷw'r gofal yn gyfan,
A'r milwŷr pêr anian ŷw pôb rhinwedd bûr;
Canwriad gwŷch hefŷd, yn trin cledde'r ysprŷd,
Drwŷ hyfrŷd lwŷs wnfŷd ŷw synwŷr.
15.
Y fwcled gre ffrwŷthlon, ar arfau min llymion,
I ddal y gelynion wŷr geirwon ar gwrr;
Iw ffŷdd, a chrediniaeth, a chysur, a gobaeth,
Yng-waed y gwŷch odiaeth Iachawdŵr.
16.
Ac yno bob diwrnod, ymhola a'th gydwŷbod,
Rhag gadel un pechod heb ganffôd tan go;
A gwna na bo'r lladron yn nŷdd y farn union,
Gar bron y Duw cyfion iw cofio.
17.
O rasol Dduw Jesu, dŷsg oll i wneud fellŷ,
A nertha i ni fedru dewr-rymmu yn dŷ râs;
Dod i ni ddiddanwch, o fro dy hyfrydwch,
A heddwch in harddwch an hurddas.
18.
Rhad Jesu Grist hyfrŷd, a phur serch Duw hefŷd,
A thrigfa'r glân ysprŷd bob munŷd er mawl;
A fo gyda nyni bŷth bythoedd in llenwi,
Amen, drwŷ ein gweddi'n dragwŷddawl.

Dyriau Duwiol ar ddull ymddiddan rhwng Pechadur a'r Ceiliog.

1.
TI geilog têg eilwad plygeiniol ei ganiad,
Sŷ'n dilŷn dy fwriad arferol dan gô;
Deffroi ar foreuddŷdd, rhoi fawl i'n gwaredŷdd,
Dan yscwŷd dy adenŷdd i diwnio.
2.
I mae pôb rhŷwogaeth yn ol eu creadwriaeth,
Yn cynnal canmoliaeth dawn odiaeth Duw nêr,
Yn w ell yn eu herwŷdd, na cherlŷn o gybŷdd,
Neu e frŷdd anufudd ddŷn ofer.
3.
Rwŷt tithe'r cŷw dryggiog, mewn llid i'th cymydog,
Di 'mleddi'n afrowiog mor llidiog a llew;
Dy frawd pe cyrfyddit, ar dwŷn ni ffardynit,
Os gellit di a'i lleddit wall Iddew.
4.
Nid alla'i wad fellŷ, nad ydwi'n trwm bechu,
Gwneist i mi ryfeddu a chyfaddef fy hŷn;
A gweled or diwedd fy môd i yn bŷw'n drawsedd,
Mor ffiedd fy muchedd a mochŷn.
5.
Oni wŷddost ti ystŷr, nad oes wedi wneuthur,
Un math ar greadur dan awŷr y nenn,
Ond dŷn sŷ'n rhaid iddo, roi cyfri a'm y wnelo,
I'r Arglwŷdd pan ddarffo iw ddŷdd orffen.
6.
Os bernir ni vn union, yn ol ein gweithredion,
Ni cheir un dŷn cyfion, yn llwŷrion fe'n llâs;
Na neb yn gadwedig fe â pawb yn golledig;
I uffern wenwŷnig ffwrn wnnias.
7.
Er hŷn bŷdd obeaithiol, os dŷn anghristnogol,
A dru'n edifeiriol amserol fel Sant:
Er maint wrth ei chwantau, a wnel o bechodau,
Pan fyddeu' mron heiniau mewn henaint.
8.
Pwŷ wŷr na thŷr angef pan fyddo'n ei flodef,
Yn fwŷaf ei feief yn chware'n wŷch wêdd;
Os bernir ef fellŷ ir carchar tywŷll-ddu,
Ni fŷdd edifaru ond oferedd.
9.
A'i digon o ddyddie yn dra-doeth i'm dridie,
I alaru am bechode, a chwedi 'r tro;
Rhoi fy mrŷd eilwaith ar bleser ac afiaith,
Ne gywaith gan helaith gynhilo.
10.
Rhai fellŷ a'th cyfflyben, i fcchŷn aflawen,
A rede drachefen ir dommen, a'r dŵr;
Neu gi y droŷ'n fuan iw chwdion ei hunan,
Ond ffiaidd ac aflan ei gyflwr.
11.
Dyhŷne pan ganodd, ei Beder a gofiodd,
Ei bechod traws gwelodd, troes galar iw fron;
Fe ae allan lle'r wŷle, yn heilltion i ddagra,
Am wadu na 'dwaene'r Duw union.
12.
Edifarhâ dithe, drwŷ alar a dagre,
Am dy aml bechode, trossedde traws ŷnt;
Os myni'n dragywŷddol, yn nŷdd y farn goeddol,
Gael bôd yn bardynol amdanŷnt.
13.
Pwŷ bynnag a fynno gael mynd pan ddiweddo,
I'r nefoedd i darrio, rhaid iddo ar ei daith;
Droi at Dduw cyfion holl feddwl ei galon,
Iw ffyddlon lwŷs union wasanaeth.
14.
Pa fôdd y ceiff 'wllŷs, y cybŷdd awuddus,
Y nefoedd fraint parchus, mor hwŷlus mewn rhôl,
Pan fof wrth ymado, yn chwenŷch mynd yno,
A'i galon heb ado ei ddâ bydol.
15.
Pa cait ti tra fyddid, bob pleser a golud,
Ar Bŷd fel i mynit di welit rŷw awr;
Nad oedd yr holl fawredd, na'r cwbwl ond gwagedd,
Oferedd yn diwedd mewn dwŷ-awr.
16.
Yr heden sidan blu, mi'th goelia di am hynnŷ,
Roedd Solomon fellu'n cyffessu yn ei ffŷdd,
Y Brenin cyfoethocca fŷ yn y Bŷd yma,
A ddoede'r modd yna yn ei ddeunŷdd.
17.
Paid tithe na ddyro moth frŷd a'th serch arno,
Ymadel ag efo mewn gofal sŷdd raid;
Cais gofio'n wastadol, am drigfa gwlâd nefol,
Ddedwddol berthynol i'th enaid.
18.
Ffarwel rhaid diweddu, a gadel ar hynnŷ,
Fe ddarfu i'ti ysbysu (mae'n bofibl) yn awr;
I'm ddigon o'thrawieth, i ochel ffordd ddiffeth,
Y Bŷd a'i hudolieth hŷd elawr.

Carol Natalic, iw ganu (gyda thannau) Tan bared.

1.
PEndêfigion mwŷnedd, a'r gwiw deulu gwaredd,
Rhowch osteg yn llariedd, rai hafedd o hŷd,
I wrando ar bereidd-don, mwŷn leisie melysion,
A'u treuthu yn dra hyfion dro hyfrŷd.
2.
Holl feibion a merched, a'u sŵn yn cŷd synnied,
A dolwŷr fel deilied diniwed heb wâd;
I'n Brenin mawr nefol, rhowch osteg i Garol,
I'w lesol dda fydol ddyfodiad.
3.
O dreuthu iaith hynod, a thannau ac a thafod,
ŷw bwriad yn barod yr hynod wŷl hîr,
A chanu peraidd humnie i Frenin uchel-ne,
A chofio ei wŷch wrthie iâch ferthŷr.
4.
Pawb oll o rhai doethion, gŷnt euraid gantorrion,
A geisieu fawl gyson, tro ffyddlon trwŷ ffŷdd;
A'u bwriad heb fethu oedd barchus lân berchu,
A molionu (gwîr ydŷ) ein gwaredŷdd.
5.
Mae'n weddus i ninneu, wrth reol hên dadau,
Ganmoli'r rhinweddau, nid rhoen un nôd trŵch,
Oedd geisio mwŷn Goffa y ddedwŷdd wŷl ymma,
A ddaeth i lu Adda 'lonyddwch.
6.
Llu'r nefoedd llonydda dan ganu Aleluja,
A ddaent yn ddirgela, ri llawna i'r lle,
I foli y Mâb tirion a anesid y noson,
A phawb yn wîr ffyddlon ni ffaelie.
7.
A'r gyfer i'r gwilieu, pûr ymma'n ddiameu,
A daeth o'r uchel-ne, da droeie di-drangc;
Iw eni i ni'n Arglwŷdd, iawn radol waredŷdd,
O grôth y wîr ufudd Fair Ifangc.
8.
Rhôdd ddeillion i weled, a byddarion i glywed,
A'r Cloffion i gerdded, cŷn hoewed a'r hŷdd,
A'r mudan i siarad, gan foli Duw'n oestad,
O'i gariad ddychweliad wŷch hylwŷdd.
9.
Er maint o arwŷddion a wnaeth y Mâb rhadlon,
Gar bron yr Juddewon, oedd llymmion eu llîd:
Nid ae'n eu Calonnau, nad Sattan a'i wrthiau,
A wnae y fath bethau, fŷth bythid.
10.
Am hynnŷ'r oen gwirion a Iwŷr amharchason,
Hwŷ a'i croeshoeliason, ŵr cyfion ei glôd,
Rhwng dau ladron efrŷdd, a dewis y trydŷdd,
O flaen y cu Arglwŷdd cywir-glod.
11.
Yn goeg fe'i dirmygwŷd, a'i ystlus a wanwŷd,
A'i waed a daenellwŷd, chwanegwŷd ei gûr;
Och, credwn hŷn ninne, mai hwn yn ddiamme,
Sŷ'n golchi pechode'r pechadur.

Carol Bŷrr ŷw ganu tan bared.

1.
OS rhoddwch lu dedwŷdd, bûr genad ar gynnudd,
Ni adroddwn yn hylwŷdd gerdd newŷdd yn iawn,
Er cofio mawr enw iâch hyder a chadw,
Gwŷl Jesu wŷch hael-Dduw uchel-ddawn.
2.
Pa Coeliem gwrs eurad athrawon dechreuad,
Gan drefnu pen ceidwad da roddiad di rus;
Ni fyddem yn ddifri, o geisio ei foddloni,
Pur Jesu trwŷ foli tra felus.
3.
Nid oedd neb allase mewn iawn-lles yn unlle,
Ddwŷn pwŷs ein pechode er madde i ni;
Ond Jesu a fu ffyddlon i golli waed gwirion,
Er ynill iw ddynion ddai oni.
4.
Am bechod anianol, rhoes Jesu rasusol,
A Duw yn gymodol da fuddiol a fu;
Gweddied pob Cristion, na chaffo yr gwr greulon,
Orthrymŷ plant dynion ond hynnŷ.
5.
Arferwn y weddi, a ddysgodd Duw i ni,
A deng-air ydŷw 'rheini da gyfri dan go,
A gwneled y cwacer i ddewis bôb amser,
A'i arfer y pader ai peidio.
6.
Ond rhoddwn yn ufudd, trwŷ grouw bur grefudd,
Barch i'n gwaredŷdd, ein llywŷdd a'n llês;
A threiliwn efo'n Teulu, Nadolig yr Jesu,
Hŷn oll iw fynegu ŷw fy neges.
7.
Nid awŷdd i'ch seigie, na chwrw na chware,
A'n gyrodd i'ch dryse, na'ch trysor di drai;
Ond er moli'r un meddig y Duw bendigedig,
A chariad iachwithig i chwithai.

Carol o fawl i Fâb Duw, iw ganu dan bared.

1.
MAB Duw a glodforwn, clôd lafer cŷd leisiwn,
Da fiwsig dyfeisiwn, cŷd seiniwn a Sant:
Cŷd godwch i-fynu od aethoch i gysgu,
Lân deulu i ganu gogoniant.
2.
Da i dylem heb dewi, yn felus i foli,
Un Mâb i'r goleini daioni fŷ'r dŷdd;
I ganwŷd ail Adda, trwŷ rinwedd wîr ana,
I'n tynu o blâg yma ar blygein-ddŷdd.
3.
Rhown foliant yn llawen, o'i blegŷd ar blygen,
A ganed ar gyfen, mae'n gofus ei fôd;
Mewn preseb gwael anian, i gwelwŷd oen gwilan,
Yn egwan Fâb bychan di bechod.
4.
Pwŷ galon na 'styrie, trwŷ'r dalaith nad wŷle,
O ddŷn na fŷddylie pan wele yn ddi gêd;
Dylotted 'fu Ymethlem, amddiledd a ddylem,
Yn Ninas Caerselem croeshoelied-
5.
Er maint a ddioddefodd 'nŷch enwog ni chwŷnodd,
Tros gamwedd cymerodd a gafodd o gur;
Ond mynd fel oen gwirion, i elyniaeth ei elynion,
Pwŷ galon sŷ dystion nad ystur.
6.
Or bedd lle i gorweddodd, cof ydŷw cyfododd,
Drwŷ orchafieth derchafodd lle'r ordeiniodd ei Dâd;
Eistedd yn Dduw haeledd, wŷch haul Fâb uchel-wedd,
Mewn sangctedd a mawredd gymeriad.
7.
Oddiyno y Duw Jesu, drwŷ fawr nerth i farnu,
Myddyliwn edifaru nid ŷw fore i'r un;
Cawn fynd i'r llawenudd, lu hyfrŷd i'r haf-ddŷdd,
I-gŷd efo eu gilŷdd iw ganlŷn.
8.
Mâb Duw a folianwn, gogoniant a ganwn,
Clôd felus, clodforwn, llawenwn ar lêd;
Cŷd rown o'n geneue fwŷn adlais un odle,
Y Bore ddŷdd gole, iw gweled.
9.
Er mwŷn y gogoned, daionus ei weithred,
Rhowch ddrws yn egored o nodded i ni;
Gollyngwch ni i'ch anedd, i ganu gogonedd,
I rinwedd yr hafedd Dduw heini.
[...]
[...]
[...]
[...]

Carol Bŷrr o fawl i'r Jesu.

1.
POB gradd o gristnogion 'fu gŷnt yn gaeth-weision,
Cŷn geni'r Mâb cyfion, yn rhyddion fe a'u rhodd,
Rhown fawl o'n geneue i Frenin uchel-ne,
O rwŷde'r gwall ange a'n gollyngodd.
2.
Ar wŷlie dyfodiad, trwŷ gywir bûr gariad,
I ganed yn ceidwad, mae'r siared yn siŵr;
Da i dylam hil Adda mor gofus yn gyfa,
Glodfori Duw'n bena, ein derbyniwr.
3.
Dirgelwch rhyfeddol i'r Bŷd anwŷbodol,
Ddyfodiad Duw nefol air heuddol yr hêdd;
A'i ryfedd gnawdoliaeth, trwŷ dêg anedigaeth,
O berffaeth guf Enaith gyfiown-wêdd.
4.
Ystyriwn yn wastad ei ddedwŷdd ddyfodiad,
A'i ryfedd ostyngiad i ddwad yn ddŷn;
Mâb Duw o'r dechre yn Frenin uchel-ne,
A ddoeth o'i wir adde yn oreuddŷn.
5.
O nefol hyfrydwch, ddâ ddoniol ddiddanwch,
I'r Bŷd trwŷ ddiystyrwch o'i degwch a daeth;
Er gwared yr holl-fŷd o boenus fawr benŷd,
A'n dwŷn i wŷch hefŷd orchafiaeth.
6.
Ystyriwn dylottad oedd Gwelu'r gogonad,
Pan ddaeth y bugeiliad i weled i wêdd,
Yn gorwedd mewn preseb, y pûr-lawn o ffyddlondeb,
I roedd ei lân wŷneb yn iawnêdd.
7.
Nid at rŷw wŷr mawrion, uchel-radd cyfoethogion,
I daeth yr angylion a newŷddion or nêf;
Ond at rŷw fugeiliad tan awŷr diniwed,
Or nefoedd a gyrad y geirief.
8.
Y rheini pan glŷwson o'r nefoedd y newŷddion,
I'r Ddinas yr aethon, iawn foddion un frud;
I'r beudŷ lle'r ydoedd Iachawdwr cenhedloedd,
Yn Frenin ynŷsoedd a anesŷd.
9.
Nid oedd gan Dduw cyfion, nag Ieirll na morchogion,
Nag uchel wŷr mawrion dda foddion a fu;
Ond gonest wŷr gweddol, da diddan dedwŷddol,
Oedd weision wiw rasol yr Jesu.
10.
Mae rhybŷdd i lawer i madel a'u balchter,
Sŷ heiddŷw 'n rhoi hyder ar bywer y Bŷd,
Ni hwŷrach y tlotta gar bron y gorucha,
Trwŷ ras yn annwŷla yn iawn olŷd.

Carol Natalic, o fawl i Grist.

1.
Y Teulu cariadus, cŷd folwn yn felus,
Fab Duw gogoneddus, fel dawnus wŷr dâ,
Un odlais iawn odlwn, dda fiwsig dyfeisiwn,
Cŷd ganwn a seiniwn Hosana.
2.
Clodforwn Dduw yn llawen, a gafwŷd ar gyfan,
O grôth y Fair burwen oedd enwog ferch bûr;
Y gŵr a gollasom am noeth waith a wnaethom,
Hwn eilwaith a gawsom yn gysur.
3.
Ei felus orfoledd wŷch hael Fab uchel-wedd,
A ddaeth mewn isel-wedd oen iredd or nêf;
Pur feithie gogoned, fe dalodd yn dyled,
Clôdfored, cŷd gwŷned pôb genef.
4.
Hil Efa wŷlofus ddrŵg anial ddrygionus,
Rhôdd y Cariadus ŵr hoenus yn rhŷdd;
I'r hwn i bo'r moliant, gwiw rasol oreu-sant,
A'r ffyniant, gogoniant a'r gynnŷdd.
5.
Buwiolion daiarol, rhowch fiwsig yn foesol,
I'r manuel nefol ufuddol a fŷdd,
Wur anna oreu-waed, lîn dafudd lân dyfiad.
O'n poeniad ein ceidwad a'n cadwŷdd.
6.
Cŷd ganed pôb gene, fwŷn adlais un odle,
Glôd beredd i'r bore, dda ore ei ddŷdd;
Canodd Angylion, mawl Jesu moliason,
Yn ffyddlon un galon a'u gilŷdd.
7.
Fel dyna'r môdd tirion i'mdeithiodd y doethion,
I offrwn Anrhegion i'r tirion Dduw Tâd;
Aur, thus o'r pêr gore, mur eglur ei rogle,
I'w byddin a ddyle yr addoliad.
8.
Rhown nine i'r gore, ddi-ffrom-waith offryme,
Aur ydŷw'r gred ore, on dyddie di drwch;
Tŷst eglur arogledd ŷw'r moliant cyfanedd,
A mur ŷw'n da fawredd, ddifeirwch.
9.
Y Teulu nôd haeledd, gu fwŷnion gyfanedd,
Arferwch dduwioledd dda weddedd ddi-wad,
O foliant i'r amser, in prynned on prudd-der,
Daeth o'r uchelder wŷch haul Dâd.
10.
Rhâd Duw a'i dangnefedd, wŷch hynod i'ch anedd,
Rhag gormod anhunedd iach houwedd i chwi;
Y mwŷnwr glân diwad, rhwŷdd gynes rhowch genad,
I ddywad trwŷ gariad i agori.
11.
Duw cadw i ni'n gywrain, ben seiliad ein sylfaen,
Na chaffo pâp rhufain a'r Frydain mo'i frŷd;
Tro ni ath drugaredd, o farus oferedd,
Neu ddanfon o'n camwedd ein cymrud.

Carol o fawl i Greawdwr y Bŷd, am ein gwared trwŷ Jesu Grîst, &c.

1.
RHown fawl i'r Tâd nefol, ar gân yn dragwŷddol,
Am ddoniau rhagorol wŷbodol i'r Bŷd;
O'r Prîddŷn gwael salw, gwnaeth ddŷn ar ei ddelw,
A'mgeledd i hwnnw a wnaeth hefŷd.
2.
Fe a'u lliniodd Duw 'n sanctedd, yn enw gwirionedd,
Ar ddelw ei anrhydedd o fawradd ddi farn;
Y sarff pan ei hudodd y deillied a dwŷllodd,
A ffechod a gododd yn gadarn.
3.
Ac yno cwŷmpason, o wlâd yr Angylion,
Drwŷ fyned yn noethion, rai gwirion eu gwaith;
Fe lanwodd o drallod, mewn huchedd o bechod,
Nes dyfod gollyngdod gall-iawn daith.
4.
Fe 'ddawed drwŷ dystion, i bawb or hilŷddion,
Gofiad or cyfion i ddynion urddawl;
Am iddŷn nhw bechu drais-seddawl droseddu,
Fe addawed yr Jesu yn ddewisawl.
5.
Drwŷ Foses ddewisol, ac Aran oedd dduwiol,
O frodŷr hyfrydol o freiniol un frŷd;
Esau ac Eleias, yn addo Meseias,
O benieth y deŷrnas gadernŷd.
6.
Y rhain yn prophwŷdo, yn dyner amdano,
Wêdd gyfion a'i gofio drwŷ huno mewn hawl,
Brwff odlan brophwŷdi yn hollawl gyhoeddi,
Goleini am yr Jesu rymusawl.
7.
Fe a'i ganwŷd blygeinddŷdd, ym Methlem dre ddafŷdd,
Ein Brenin a'n llywŷdd iawn beunŷdd ir bŷd;
Iw ddoli yn lle'r ddelw yn Dduw dêg mawr enw,
A'r gyfen i heiddŷw bu'r hawddfŷd.
8.
Hwn ydŷw'n achubwr garedig Greawdwr,
Jesu deŷrnaswr iawn noddwr or nêf;
Pan anwŷd ar drafel fe roed yn ddi'mrafel,
Am Fâb o waed uchel wŷch Enef.
9.
Ein Brenin cadernid mewn preseb a roddid,
Heb gyweth na golud, isel-frŷd y Sant;
Gristnogion sŷ yn credu, drwŷ ddŷsg l'n haddysgu,
Rhont foliant ir Jesu na rusant.
10.
Pan anwŷd y bachgen o Fair yn ddi amgen,
Ar arw gynfigen dyrbynien fe ir Bŷd;
Herod an ffyddlawn, heb gofio mor cyfiawn,
Oedd greulawn a hirlawn iw herlid.
11.
Hwn a wnaeth laddfa, ym Methlem Judea,
Drwŷ ddicter a thraha or mwŷa am ŵr;
Fe laddodd y bechgin, hŷd ddwu flwŷdd oedd ddiflin,
I gelsio ein Brenin iawn brynnwr.
12.
Y Tâd or uchelne ei fachgen a gadwe,
Er maint eu dialedde, a'i gledde mor glos;
I'r aipht yn ddiwegi, yn barod drwŷ beri,
Aeth Joseph a Mari yn ddi'maros.
13.
O ddynion gwrthnysig am erlid yr unig,
Or nefedd anedig mewn dirmig a dig;
Ni choelie'n penadur, na'i gyngor na'i gysur,
Iddewon Erlidwŷr diawledig.
14.
Gwrthie gogoned, rhoi crŷplied i gerdded,
Ar deillied i weled a'u llyged mewn llwŷdd,
Er maint ei fawrhydi, yn wrol aneiri,
Ni choelien Dduw celi dêg hylwŷdd.
15.
Y Mâb or uchelne, a'i nerthol fawr wrthie,
Y moroedd a osdege oer donef a'r dwr;
Fe wnaeth yn ddi fethu a'i grefŷdd gyryddu,
Y gwŷntoedd iâch wedi, ein Iachawdwr.
16.
Er gwrthie'r mab rhadlon, ni chrede yr iddewon,
Y ffarisaed creulon o ddynion di ddawn;
Ond ceisio a defeisio, ffordd iw ddinistrio,
Nid oedden nhw'n cofio mor cyfiawn.
17.
Dioddefe'r gogoned, er pan ei ganed,
Hŷdoni chroeshoelied, rwi'n gweled y gwir,
Erlidiad echryslon, am feie Crisnogion,
Gan ffolion o ddynion oedd enwir.
18.
Fe frathed y cyfion, o ddifri yn ei ddwŷfron,
A gwaŷw ffon greulon, oedd wirion ei waed;
Pob Cristion sŷ'n credu drwŷ ddŷsg iw addysgu,
A ddyle fawl ganu i'r gogoned.
19.
Ei Dâd pan ei gwelodd, yn ddygun a ddigiodd,
A duodd y nefoedd ar gyhoedd i gŷd;
Ar Haul a dywŷllodd ar demel a rwŷgodd,
Ar ddaiar a syniodd dros enŷd.
20.
Y trydŷdd dŷdd union, mae digon o dystion,
Cyfododd y cyfion oedd burion or bêdd;
Pôb Cristion dewisol a gredo yn benodol,
Caiff gantho dragwŷddol drugaredd.

Dyriau ar ymadel ag oferedd.

1.
WRth ystŷr gwaith astud o enioes dŷn ennŷd,
Sŷ'n symmŷd bôb munŷd o'i febŷd iw fêdd:
Os mad ws ymado, heddiw rwi'n addo
Peidio a myfyrio am oferedd.
2.
Os bŷm i'n Troi f'wŷneb i ddilŷn ffolineb,
Yn ddewr heb ddoethineb, na synnied naws ddâf,
I Dduw am fy nrhachwant gofynna faddeuant,
Ac iddo gogoniant a ganaf.
[...]
[...]
3.
Wrth ddarllen Cynghorion, a gwaith y gwŷr doethion,
A rhai hên Athrawon oedd ddyfnion o ddŷsg;
Rwi'n deall mae'r duwiol, sain arail, synhwŷrol,
Rhinweddol ŷw'r haeddol ŵr hyddŷsg.
4.
Rwi'n deall o'r diwedd, nad ydŷw pôb maswedd,
Ond gwagedd o wagedd anweddedd i ni:
Gwasanaethu Duw cyfion, a chadw ei orchmynnion
A ddanfon i ddŷnion ddaioni.
5.
Y Sêr sŷ'n Arwŷddion, i gofio am Dduw cyfion,
A'u rhoes fel Angylion yngolwg y Bŷd,
Na 'llynged un Cymro ei Greawdwr yn ango,
O awŷdd i'mgeulo mewn golud.
6.
Pob llawen gydymeth, sŷ'n nofio mewn afieth,
Clodfora Dduw'n heleth, naturiaeth ddâ i ti,
Ni wŷr un dŷn maswedd (er maint a fo ei fawredd)
Na ddiwedd ei oferedd e'foru.

Carol ynghŷlch Ganedigaeth Crîst, a'i ddioddifaint.

1.
I'R hael Gymrŷ, hil gynnŷdd, rwi'n addo yn ufudd,
Gân i'r diddanŷdd, pen llywŷdd pôb llu;
Y Duw digelwŷddog, tra-geirwir, trugarog;
Yr Enwog, luosog lân Jesu.
2.
Pan hûdwŷd hên Adda, o'i dduwiol draddodfa,
A hŷn trwŷ ffug Efa, desgynfa i dasg ddu:
Ond Duw nis gadaweu, i fyfyrio fawr orriau,
Heb 'modau o rasau yr Jesu.
3.
Ae o hynnŷ allan, iw gofio fe'n gyfan,
Rhôdd fwŷnlan brwff odlan Brophwŷdi,
I gywir egluro y dae ef i dario,
A gredo cae ei drwssio drwŷ r Jesu.
4.
Pan ddaeth pen yr amser, gan Dâd yr uchelder,
Trwŷ hediad tro hyder, i Fair bêr a bu,
Oddiwrth Dduw y diddanwch, gael hedŷn hyfrŷdwch,
Moliannwch, cŷd osiwch, Caed Jesu.
5.
Dymma'r plygeinddŷdd, sŷ glod-fawr trwŷ'r gwledŷdd,
Cŷd-gannwn i'n llywŷdd, ddâ newŷdd i ni,
O fawl i Jehovah, hŷ lediwn haleuja,
Hosannah hwŷlusa i'r hael Jesu.
6.
Angylion llon hyfrŷd, a ddoded i ddywedŷd,
Fôd newŷdd dâ i'r holl-fŷd o'u gofid oedd grŷ;
A gyrru'r bugeilied i Fethlem dre fythled,
I weled gariadused oedd Jesu.
7.
Iw 'ddoli daeth doethion, a'u rhwŷdd-gu anrhegion;
Dechreuason yn ffyddlon offrymmu,
I'r tirion Ettifedd, dan gofio ei drugaredd,
Mewn preseb oen nawsedd un Jesu.
8.
Pwŷ ddŷn a falchief, gwisg Crîst oedd cadachef,
Gwîr Frenin yr hôll Nef, dâ ei foddef a fŷ,
I brynnu ei hôll bobol o'r poenau tragwŷddol,
I'r wrol daith rasol daeth Jesu.
9.
Mor waredd o'i wirfôdd, yn dyner fe ordeiniodd,
Ei Swpper a osododd, pan llwŷddodd pôb llu
Rhoi ei gnawd i ni iw fwŷtta, a'i waed i'n diotta,
A dymma ffrwŷth loesfa ffraeth Jesu.
10.
A drain ef coroned, poen ddolur pan ddalied,
Yn ffrom fe a'i fflangelled, difenwed Duw'n hŷ,
A'i fwrw i farwolaeth, cre olwg cri alaeth
Ysywaeth, gelŷnasiaeth glân Jesu.
11.
Ein ceidwad i'n cadw, croeshoelied Crist hoŷw,
Mawr foliant iw Enw, rhown heddŷw yn rhwŷdd hŷ;
Fe a'n cwbl achubodd, gwaed gwirion fe a'i gwariodd,
Offrymmodd ni rusodd yr Jesu.
12.
Bŷ twrw o ddaiar-grŷn, a thywŷllwch ysgymmun,
Wrth boeni ei gorphŷn, Duw Frenin da ei fri;
Fe rwŷgodd y demmel, pan roddodd e ffarwel,
Wrth glywed gloes uchel glwŷs Jesu.
13.
Hôll bechod ein buchedd, ar Grîst yn gystogedd,
A syrthiodd yn serthedd, a'r dialedd oer du;
A'n hôll gyfrŷw gwilŷdd, yn gwrido fel gwradwŷdd,
A laeswŷd trwŷ loesŷdd yr Jesu.
14.
Clôdforwn yr unig greawdwr caredig,
Gwir feddig, a diddig y dyru,
Yr un Duw anfeidrol, mae'n gymwŷs ei ganmol,—
I'r bôbol, mo'r rasol ŷw'r Jesu.
15.
Clôd nefoedd Angylion, rhown egni gristnogion,
I foli'n Duw graslon, y cyfion oen cu;
Mawl fŷth yn dditethiant o gariad i'r gwîr Sanct,
Gogoniant dirusiant i'r Jesu.
16.
Tua'r Nêf i derchafe, i'r brafia o'r breinie;
O'th Eistdeddle Duw godde di'n gweddi,
I berffaith orffwŷso i rŷm ni'n gobeithio
Gael yno'n cynnhwŷso gan Jesu.
17.
Os gofŷn un canwr pwŷ ydoedd yr awdwr,
Y milwr o'i gyflwr iw gyfri;
Ond bŷth mae ei obeithfa ar derfŷn i yrfa,
Gael noddfa i râs ddâ yr Jesu.
18.
Mil, chwechant, mawl uchel, wŷth, deugain waith digel,
A phedair diogel, ar awel o ri,
(Pan ganed) a gerddodd hóll fesur o fisoedd
Blynyddoedd o oes oedd yr Jesu.

Dyriau, yn Cyffelybu pedair oes dŷn i Bedwar Chwarter y Flwŷddŷn.

1.
WRth Chwilio Callineb ffel iawn, a ffolineb;
'Rwi'n cofio o ddoethineb, ddihareb yn hwŷr:
O ganu i goegennod, na cheir ond yr anglod;
Nid oes gan fursennod, fawr synwŷr.
2.
Dyriau gwradwŷddus, a dychan nid iachus;
A cherddi masweddus, anweddus ni wnâf:
Rhŷw Addŷsg rhinweddol, wŷch addâs fu cheddol,
Ddi-ffôl, yn oestadol a stŷdiaf.
3.
Dŷn wedi eni fŷdd lawn o drueni,
Yn bŷw dan ymboeni rhwng oerni a gwrês hâf;
Mewn gofud a gofal, a dolur a dial,
A helbul yn ammal, iawn ymmaf.
4.
Mae'r gwanwŷn fel Mebŷd, a'r hâf fal jeuengctŷd,
Y cynhaua ffwdanllŷd, anhyfrŷd ei fraint;
Sŷdd yn debygus, i ganol oes boenus,
A'r gauaf an-hoenus fel henaint.
5.
Cyfflybwn oes plentŷn, a'r gynnŷdd i'r gwannwŷn,
Fe dŵf fel blodeuŷn, neu eginŷn go wan:
Yn ddinerth tros ennŷd, heb fedru mor dywedŷd;
Na symmŷd, ddŷn ynfŷd o'i unfan.
6.
Rhaid mammaeth ofalus, i borthi'r dŷn moethus,
Er ei fôd yn ddi-rymmus, a'i rwŷmo dros dro:
Ar ôl cropian a chodi, a cherdded wrth Brennl,
Daw gwedi ei ddireidi, i dda rodio.
7.
Fe'i cedwir fe'n fachgen, dan arswŷd v wialen,
Nes mynd yn llangc cymmen, llawen a llon,
Gwŷllt ac anwadal, heb ofon na gofal,
Yn ffôl ac yn feddal ei foddion.
8.
Yn llawen ei galon, a'i ffŷrdd yn afradlon,
Dan heu ei geirch gwŷlltion, drwŷ foddion di fudd;
A'i hyder a'r gaffel, hir hoedel, ac uchel,
I fŷw fel anifel anufudd.
9.
Yr ail oes nid amgen, i'r hâf i cyfflyben,
Hardd 'fŷdd pob cangen, a llawen fŷdd llangc;
Yn hoŷwedd gwmnhieth, a chwareu, a charwrieth,
A bŷw yn llawn afieth yn Ifangc.
10.
Na fô glân yn ugain, na chrŷ 'n ddeg-ar-hugain,
Synhwŷrol yn Ddeugain, ni ddigwŷdd ŷw oes
Na glendid na chrŷfder, na synwŷr un amser,
Pan elo dros hanner ei einioes.
11.
Y drydedd oes fethus, sŷdd yn debygus,
I'r cynhaua trafferthus 'fŷdd boenus dros ben;
A Dŷn a fŷdd dofach, a'i nettur yn oerach,
Arafach, a sobrach is wŷbren.
12.
Y Bedwaredd oes olaf gyfflybir i'r gauaf,
Pôb ffrwŷthudd a wŷfaf, ac oeraf pôb gŵr;
Y ddaiar o'i ddeutŷ, a'i dail wedi dylu,
I ddysgu i ddŷn gredu iw Greawdwr.
13.
Y gwanwŷn ni hauo, yr hâf ni lafurio,
Y cynhauaf ni fedo, o coeliwch chwi fi;
Fe a'i gwelir ê'r gauaf, yn mynd i Gardottaf,
Ychydig a 'styria wrth ei 'stori.
14.
A dreilio ymma ei febŷd, drwŷ oferedd, a'i Ieuengtŷd,
A chanol oes hefŷd, ni safia fe fawr:
Pan ddêl henaint ennŷd, fe fŷdd yn fegerllŷd,
A llwm, a di-olud, hŷd elawr.
15.
Cerdda di ddiogŷn, hŷd-at y morgrugŷn,
Ystyria ei ffordd ddichlŷn, iw ddilŷn bŷdd ddoeth;
Ei luniaeth a gasgla, yr hâf, a'r cynhaua,
Ymbortha fe'r gaua, ar ei gyfoeth.
16.
Ped fae gan Fâb Momws, holl lygaid Argws;
A dwŷlo Briarws, i hel mwnws mŷd:
Er gweithio a gofalu, nid alle fe ffynnu,
Oni bydde Dduw'n mynnu, ddim ennŷd.
17.
Er hynnŷ fe ddyleu, pób dŷn wneud ei orau,
I chwanegu ei dalentau, hoff eiriau di-ffól;
Drwŷ arfer y moddion, a deusŷ a'r Dduw cyfion,
Roi ei râd, a'i fendithion odiaethol.
18.
Y dŷn ifangc nwŷfus, meddwl yn bwŷllus,
Y daw henaint di-hoenus, anrymmus i'r iâch;
Dy gorph a wargrymma, a'th nerth a wanhycha,
A'r synwŷr a balla, i ti bellach.
19.
Un ffordd a môdd medda, y daw pawb i'r Bŷd ymma,
I redeg eu gyrfa, a'u rhedfa rŷw hŷd;
Mae llawer ffŷrdd meddan, i fynd o hwn allan,
Ni wŷr dŷn pur anian, par ennŷd.
20.
Rhai a derfynau, yn Ebrill eu horiau,
Rhai'n Rhagfŷr eu dyddiau, mae beddau o bôb hŷd;
Ni chaiff gŵr a gasglo, pan ddêl Angau iw geisio,
Ddim ond a gario fe i'r gwerŷd.
21.
Am hŷn na falchied, cnawd gwael a bwŷd prŷfed,
Yr iachus er uched, neu frafied ei fraint;
Os treiddia fe'r cyfan, oi beryglon ymhob-man,
Bŷdd farw ohono ei hunan, gan henaint.
22.
Pa 'styriau ddŷn gwaeledd, ei ddechreu a'i ddiwedd,
Ni wnae fe bŷth gamwedd, anweddedd un waith;
Ac hefŷd y cyfri, sŷ raid iddo roddi,
I'r gŵr sŷ'n rheoli, yr haul eilwaith.
23.
Gan na wŷr dŷn pa ennŷd, pâ awr, na pha funŷd,
A rhaid iddo symmŷd, o'i fywŷd sŷdd fŷrr;
Byddwn wiliedig, drwŷ fŷw'n fendigedig,
Garedig, buredig, fel brodur.
24.
Fel Brodur bwriadol, y ffŷdd Grîstionogol,
Bvddwn fŷw'n fuddiol, a gweddol a gwâr;
O'r prîdd 'daethom unwaith, o'r pridd cawn ein lluniaeth
Raid mynd i'r pridd eilwaith, prudd alar.
Ymma a diweddiff Deg a Deugain o Garolau a dyriau Duwiol, ar y Dôn a elwir Leave Land, y ffordd hwyaf.

YMA A DECHREU AMRYW O GAROLAU, a dyriau Duwiol, ar y Dón a elwir Leave Land, y ffordd fyrraf: y rhain oll hefŷd a ddônt yn ddifai ac yn esmwŷth ar Dòn Gwileu'r Nadolig.

Dyriau ar ymddiddan rhwng pechadur a'i Greawdwr (mewn Breu [...]dwŷd) lle mae Duw yn dyscu i ddŷn (mewn ychydig eiriau neu bymtheg o gynghorion dâ) y ffordd ddi-dwŷll a bwŷlus i fywŷd Tragywŷddol, Job. 23. adnodau 14, 15, 16, 17, &c.

Dŷn.
1.
AM fi mewn gweledigaeth nôs,
Mewn gwelŷ diddos noddfa,
Clvwn i'm cyfarch hén ŵr fŷnn,
A'i wâllt yn wŷnn fel eira.
Duw.
2.
Dywedai pam yr wŷt mor hŷ,
A chyscu mewn anwiredd;
Defro tywallt ddagrau fil,
Ac ymbil am drugaredd.
Dŷn.
3.
Pwŷ wŷt ti yr hên-ŵr llwŷd,
Rhyfeddol wŷd o foddion,
Dy weddaidd brŷd a'th eiriau cû,
Sŷ'n pigo deutŷ'nghalon.
Duw.
4.
Myfi ŷw'r Cadarn Frenin Nêf,
O clŷw fŷ llêf, a gwrando;
Na fŷdd fyddar, marcia'n gall,
Rhag ofn i'r fall dy demptio.
Dŷn.
5.
O f' Arglwŷdd Dduw a'i ymma'r wŷd,
Mae d'arswŷd i'm diburo;
'Rwŷfi'n crynnu drwŷ fawr san,
Yr awran am dy ddigio.
Duw.
6.
Madws i't briddellŷn gwael,
Arswŷdo cael dy gospi;
Mae dial dwŷs am fŷw ar gam,
A cherŷdd am ddrygioni.
Dŷn.
7.
Nawdd fy Arglwŷdd, nawdd er Crist,
Mae 'nghalon drist yn llefain;
Dôd i'm gennad Arglwŷdd cû,
I lechu dan dy adain.
Duw.
8.
Os o ddyfnder calon bur,
Y mynni i'm wneuthur erod;
Cadw 'ngeiriau hŷn heb ffael,
Ac ti elli gael fy 'nghymmod,
9.
Cyngor. 1 Yn gynta dim cyffesa 'n lân,
Dy ffiaidd aflan fuchedd;
A gweddia nôs a dŷdd,
Yn ufŷdd am drugaredd.
10.
Creda i ddeuddeg pwngc y ffŷdd,
cyngor. 2 Yn ufudd heb amheueth;
Dyna fylfaen pawb dan gô,
Sŷ'n ceisio Jechŷdwrieth.
[Page 136]
11.
Cyngor. 3 Gweddia drwŷ ddefosiwn dâ,
Yn gyfa, ac yn ffyddlon,
A'r Dduw beunŷdd yn ddibaid,
Er llês i'r enaid gwirion.
12.
cyngor. 4 Yn ofer bŷth na chymmer di,
Enw 'r Jesu cyfion,
cyngor. 5 Ac na ddigia Dâd na Mam,
Mae hynnŷ'n gam echryslon.
13.
Cofia gadw'r Sabbath glân,
Yn gyfan yn ddiniwed,
cyngor. 6 A gwasanaetha un Mab Mair,
Ar feddwl, gair, a gweithred.
14.
cyngor. 7 Dyro lettŷ a bwŷd i'r gwan,
I'r truan ar anghenus,
Dillada'r noeth, diwalla'r caeth,
Cei daledigaeth happus.
15.
Bŷdd gymmodol a phôb dŷn,
A dilŷn gariad perffaith,
cyngor. 8 Cyttuna'n hawdd, a maddeu'n rhwŷdd,
Cei ddedwŷdd etifeddiaeth.
16.
Dywed wîr er dim a fô,
A meddwl goelio i'r union,
cyngor. 9 Ond celwŷdd drŵg na chais i'th raid,
Mae'n llâdd yr enaid gwirion.
17.
Meddwl gadw d'enau'n lân,
Rhag geiriau aflan ffiaidd,
cyngor. 10 Mae hynnŷ'n arwŷdd da ger-bron,
Fód génnŷt galon Sanctaidd.
18.
Bŷdd ostyngedig ddifalch, gwár,
Yn fwŷn, a hawddgâr wrth bôb dŷn,
cyngor. 11 Cei râs gan Dduw, a chlôd bôb dŷdd,
A gwell-well fŷdd dy ffortun.
[Page 137]
19.
Ymgadw yn ddiwair, ac yn lân,
Rhag medd-dod aflan ffiaidd,
cyngor. 12 Oni-ymgedwi yn ddi-wâd,
Fe a'th ddwg i'r wlâd uffernaidd.
20.
cyngor. 13 Cadw bŷth gydwŷbod lân,
Yn gyfan heb amheuedd,
Dyna'r môdd y cei di fraint,
Maddeuaint, a thrugaredd.
21.
cyngor. 14 Na chwennŷch ddim o eiddo nêb,
Na wna wrthwŷneb i un-dŷn,
A'r nêb sŷ'n hoffi gwneuthur cam,
Ceiff ddryglam, ac anffortŷn.
22.
Gwilia bechu bŷth o'th fôdd,
A phenna' rhodd a ofynni,
cyngor. 15 Gan Grist dy gynnal di a'i law,
Rhag suddo draw mewn brŷntni.
23.
O gwnei di fel Christion dâ,
Mi a'th farna yn happusol,
Cei feddiant bŷth, ond mawr ŷw'r grâs,
A rhan o'm Teŷrnas nefol.
Dŷn.
24.
Gwnâf fy'ngoreu f' Arglwŷdd dâ,
O cadarnha fy ngwendid,
Trâ fytho yn fy 'ngenau chwŷth,
I'th gadw bŷth yn ddiddig.
Duw.
25.
Os gwnei dî hŷn rwŷ'n addo i ti,
Oleuni yn lle tywŷllwch,
Ymgais ditheu er mwŷn Duw,
I fŷw mewn edifeirwch.

Ymroiad dŷn i wellau Buchedd.

1.
O Dduw, rwŷ fŷth drwŷ d'ordinhâd,
Yn ymgais attad etto,
Mi addunedais ddryg-ddŷn maith,
Do lawer gwaith ymendio.
2.
Amharod, ac Anheilwng iawn,
A digon llawn o gamwedd;
Yr wŷ'n dyfod Arglwŷdd hael,
I geisio cael Trugaredd.
3.
Haeddaswn lawer gwaith fy mhlau,
Neu nharo ac angau sydŷn,
Er hŷn dy hir ymaros di,
Rwŷd etto i mi'n ei estŷn.
4.
Mae'n fy mrŷd rhag ofn dy gâs,
Drwŷ gael dy râs im helpu,
Os bŷm yn pechu am gwarr yn sŷth,
Na wnélwŷf bŷth ond hynnŷ.
5.
Nid allai ddim o'm nerth fy hun,
Ond fel y mochŷn eilwaith,
Ymdroi'n y dom, Duw cynnol fi,
O bôb drygioni diffaith.
6.
Am bôb trugaredd a roist di,
A help i mi'n fy mywŷd,
Molianus fyddo d'enw mawr,
Bôb dŷdd, bôb awr, bôb ennŷd.

Dyriau yn Annog i ystŷr cystwr dŷn dan bechod.

1.
PAn feddylion Arglwŷdd cu,
Y môdd y bu ein buchedd,
O'n dechreuad hŷd yn hŷn,
Erioed yn dilŷn camwedd.
2.
Porthi'r cnawd sŷ'n twŷllo'r Bŷd,
A'n gwaith ni i gŷd ŷw pechu,
Ac o'n beiau gwneuthur bôst,
O Dduw di a wŷddost hynnŷ.
3.
Pan fô rhaid (gwae ni o'r daith)
Am ddrygwaith wneuthur cyfri,
Mae'n haws i mi rifo'r Sêr,
Na hanner fy nireidi.
4.
Ofnwn hŷn rhag barn ddŷdd brawd,
A bair i'n cnawd ni grynnŷ,
Pan wahodder ni ger bron,
Yr Justus cyfion Jesu.
5.
Ni cheiff nêb mo'r pechu'n rhâd,
Fe wnaeth y Tâd i Angylion,
O'r Nêf am ryfŷg syrthio i lawr,
Mae'r gwîr Dduw mawr mor gyfion.
6.
Gan na spariai Dduw ei hun,
Am ddryg-waith un o'i 'Angylion,
Disgwŷl ffafor oferedd ŷw,
I'r sawl sŷ'n bŷw'n anghyfion.
7.
Adda, ac Efa am ddigio'r Tâd,
A thorri ei archiad un-waith,
Gorfu i rhain ddwŷn penŷd dwŷs,
A mynd o Baradwŷs ymmaith.
8.
Hwŷnt-hwŷ oedd waith y Tâd ei hun,
Ac ar ei lûn yn berffaith,
Eu gwaith nhwŷthau gwae ni eu gŷd,
A ddŷg i'r Bŷd farwolaeth.
9.
Cofiwn hefŷd trist ŷw'r hŷnt,
Rhŷw dri dŷn gŷnt a bechodd,
Corah, Dathan, Abitam,
Numeri, 16.31.
Y ddaiar am a'u llyngcodd.
10.
Mae'n pechodau ni dan rî,
Yn passio y rheini ysywaeth,
Pam nad ofnwn ninnau'n Duw,
Rhag cyfrŷw gospedigaeth.
11.
Madws i ni, deled i'n cô,
Ar frŷs ymendio'n buchedd,
Rhag i'r ddaiar yn ddinam,
Yn llyngcu ni am ein camwedd.
12.
Bŷdd edifar genŷm ni'n gwaith,
Am ddilŷn maith oferedd,
Drwŷ ffŷdd a gobaith hŷn os gwnawn,
Drwŷ Grist ni a gawn drugaredd.
13.
Mogelwn roddi coel ar Saint,
Etto er maint eu gwŷrthiau,
Ond ar un fŷ well ei fraint,
A wnaeth y Saint a minnau.
14.
Y duwiola sŷdd yn y Bŷd,
A'r goreu ei gŷd ei fuchedd,
Ni all o nerth ei weithredd wael,
Haeddu cael trugaredd.
15.
Mae'n gweithredoedd ni'n rhŷ wan,
I gleimio rhan cyfiownder,
Os gweithred dŷn a'i dwg i'r Nêf,
Bu Grist yn diodde'n ofer.
16.
Ni all teilyngdod gweithred fau,
Mo gyflawnhau dŷn bydol,
Ond teilyngdod y Mâb rhâd,
Ger-bron y Tâd sŷ nefol.
17.
O'n gweithredoedd dâ ni ein hûn,
Nid eiff yr un yn ofer,
Y teilyngdod coeliwch hŷn,
Sŷ'n Jesu gwŷn bôb amser.
18.
O Dduw yn ddŷn fe ddaeth i'r Bŷd,
I safio eu gŷd ei bobol,
Ac a brynnodd drwŷ fawr gûr,
Bôb pechadur bŷdol.
A gredo.
19.
Ar ein gliniau awn bob awr,
Rhown ddiolch mawr i'r Jesu,
A ddioddefodd ar bren croes,
Drwŷ ddirfawr loes i'n prynnu.
20.
Coded pawb ei law gar-bron,
Yr Justus cyfion Enwog,
Cydnabŷddwn hŷn drwŷ'r Bŷd,
Ein bôd ni ei gŷd yn euog.
21.
A meddyliwn hŷn yn ddwŷs,
Faint ŷw pwŷs pechodau,
Cyfion farn os Duw a'i rhŷdd,
Mai rhŷ-flin fŷdd ei dioddau.
22.
Nid cyfion farn o Frenin Nef,
Am bechodef amlwg,
Dy drugaredd un Duw tri,
Yr ydim ni'n ei 'tolwg.
23.
Gogoniant i'r Tâd, a'r Mâb drwŷ'r Bŷd,
Ac i'r Ysprŷd gloŷw-bêr,
Mal y bu, mae'r awr hon sŷdd,
Fellŷ bŷdd bôb amser.

Ymddiddan rhwng Pechadur a Chydwŷbod.

Cydwŷbod.
1.
NOs dâ i'r glân-ddŷn ifangc crŷ,
Plê cae ŵr lettŷ heno,
Pechadur.
Nôs dâ i titheu'r cleiriach llwŷd,
Pa-ham yr wŷd ti'n rhodio.
Cydwŷbod.
2.
Am nad oes na llê, na llan,
Na chroeso dan yr wŷbren,
'Rwŷfi'n un o'r wlâd i'r llall,
Fel hên-ddŷn dall aniben.
Pechadur.
3.
Dywed i mi bêth ŷw 'd'oed,
Ni bu erioed dy lanach,
Bêth ŷw d'enw, mae dy wlâd,
Na fŷdd anynad gleiriach.
Cydwŷbod.
4.
Fe'm ganed i 'mharadwŷs fawr,
Mewn un awr a phechod,
Ac o ddwedŷd gwir i chwi,
Fe'm gelwir i Cydwŷbod.
5.
Paham yr wŷt mor chwidr ffôll,
Ac o'th ôl yn edrŷch?
Disgwil, dial, barn ar fêdd,
Na fydded rhyfedd gennŷch.
Pechadur.
6.
O'r hên ffaffiwn 'rwŷt ti ei gŷd,
Mi wranta'r Bŷd yn methu,
Dydi 'fŷost ymhell o dir,
Neu yn rhŷ-hir yn cyscu.
Cydwŷbod.
7.
Dymma wirionedd i ti ei gŷd,
Wrth lunio'r Bŷd cwmpas-grwn,
Pan oedd Adda'n palu'r Ardd,
Yr ydoedd hardd y ffassiwn.
Pechadur.
8.
Pe baiti heddŷw o fewn tŷ,
Un Arglwŷdd frŷ, neu barwn,
Fe'th gymmerit titheu'n siŵr,
Megis gŵr o annwn.
Cydwŷbod.
9.
Nid a fi i'r un o'u tai,
Rhag amled bai, a'i hyder,
Nac i Lŷs y Brenin fŷth,
Fel dyna nŷth y balchder.
Pechadur.
10.
O balê daethost, i balê'r âi,
Os pôb rhŷw fai ni cheri,
Madws i ti fynd o'r Bŷd,
Os beiau ei gŷd a lysi.
11.
Mae'r Cymdeithion sŷdd i ti,
Plê mae 'nhw'n gweini'r awran,
Cydwŷbod.
Roedd i mi un a elwir gwìr,
A hwn o'r tir aeth allan.
Pechadur.
12.
Dos i lŷs yr Justus frŷ,
I geisio llettŷ heno,
Cydwŷbod.
Nac âf ddim ni fynnai fôd,
Mo gydwŷbod yno.
13.
Efe a rodde farn a'r gam,
Yn erbŷn Mam, a gwedd-dôd,
Nid â hwnnw bŷth i'r Nêf,
Nid edwŷn ef Gydwŷbod.
Pechadur.
14.
Dos i Lŷs y marchog crŷ,
Cei le yn tŷ, ac arian,
Cydwŷbod.
Berr ei law, a mawr ei glôd,
Fe ŷrr Gydwŷbod allan.
Pechadur.
15.
Dos i blâs Esgwier hael,
Lle dâ i gaffael llettŷ,
Cydwŷbod.
Ni châr mo'm mâth yn ei wŷdd,
Mi rodda 'r swŷdd i fynŷ.
[Page 144]
16.
Codi ardreth, prynnu tîr,
Yspeilio ei Sir, a'i breibio,
A rhoi arian y mae'n llôg,
Ni waeth i'm grôg nag yno.
Pechadur.
17.
Dôs i dŷ'r Marsiandwr gwŷch,
Yr hwn sy ddrŷch i'r gwledŷdd,
Sŷdd ai blâs ymhen y drê,
Bŷdd dy lê di'n ddedwŷdd.
Cydwŷbod.
18.
Pwŷsau bychain, a llathen ferr,
A llyfau ofer ddigon,
Nid oes i'm neges ddim ag ê,
Tra byddo ei lyfre'n ffeilsion.
Pechadur.
19.
Byddi allan heno'n siwr,
Yr wŷt ti'n ŵr poenedig,
Ti gei groeso a fir frâs,
O dei di i blâs y meddig.
Cydwŷbod.
20.
Ynnill arian am bidd cant,
Mi wranta ei chwant yn ormod,
I mae cleision gydâg ê,
Nid oes mo'r llê i Gydwŷbod.
Pechadur.
21.
Dôs at y gŵr o gyfraith frŷ,
Cei le yn tŷ, ac amlder,
Cydwŷbod.
Cymrŷd dwŷ ffis gan ddwŷ blaid,
Nid yno caid cyfiownder.
Pechadur.
22.
Dôs i dŷ'r llasurwr ŷd,
Sŷ'n dwŷn ei fŷd yn oerllwm,
Cydwŷbod.
Mi a gawn yno groefo fal,
Gan ŵr ni châl ino'i ddegwm.
Pechadur.
23.
Dôs di tua'r Eglwŷs frŷ,
Bŷdd heno yn nhŷ'r offeiriad,
Neu allan byddi heno'n siwr,
Yr wŷt ti'n ŵr anynad.
[Page 145]
Cydwŷbod.
24.
Gwŷr yr Eglwŷs sŷdd eu-gŷd,
Ar ôl y Bŷd yn paccio,
Mynne'r person fwŷ pes cae,
Mor isel mae fe'n cneifio.
Pechadur.
25.
Od oes arian yn dy gôd,
O cheri ddiod gadarn,
A chwmpeini hŷd y nôs,
Am heno dôs i'r Dafarn.
Cydwŷbod.
26.
Meddwon fyddant ar eu fiott,
Wrth eu pott, ar ddiod,
Yn y Dafarn bŷth ni bŷdd,
Na chwilŷdd, na chydwŷbod.
Pechadur.
27.
Canlŷn tua'r mynŷdd frŷ,
Cei lê yn tŷ yn rhŷw-le,
O bwŷtei di fara a llaeth,
Ni chei di waeth na minne?
Cydwŷbod.
28.
Nid llê i Gydwŷbod sŷdd,
Yn y mynŷdd hefŷd,
Dwedai pawb nad cywir ŷw,
Y nêb sŷ'n bŷw'n segurllŷd.
Pechadur.
29.
Pa rŷw lettŷ a wedde i ti,
Yr wŷt yn ddigri ddigon,
Ond yscubor, neu fol brŷn,
Y gŵr ni fŷn gymdeithion.
Cydwŷbod.
30.
Nid mewn down neu welŷ plu,
Y dô fi i gyscu heno,
Mynnai lê'n dy fynnwes di,
Neu rhaid i mi fynd heibio.
Pechadur.
31.
Ni chei di yr hên ddŷn glew,
Yn dy flew cedenog,
Nythu yn agos at fy 'nghroen,
Na chymmer boen, dôs rhagot.
[Page 146]
32.
Dôs lle bŷost tros y môr,
Fel dyna'r cyngor goreu,
N Ellir i ti ddim o'r llês,
N [...] chei di wrês yn un-lle.
33.
Ffârwel yr hên ddŷn ffola 'nghrêd,
Pl [...] ca'i dy weled etto,
Llwŷd ei fwbach, llaes ei glôs,
Attolwg dôs i rodio.
Cydwŷbod.
34.
Cei fy 'ngweled i ddŷdd-farn,
Fel dyna gadarn destŷn,
Pan fŷch ditheu ynghil y pŷst,
Mi fydda'n dŷst yn d'erbŷn.
35.
O daw gofŷn pwŷ a wnaeth,
Hŷn yma o araeth hynod,
Dŷn sŷ'n goddef llawer gloes,
Am nad oes Cydwŷbod.

Dyriau, ar ddymuno cael grás gan Dduw.

1.
EGor ddôr dy Babell dêg,
Dôf ag anrheg iddi,
Mawl, a moliant drwŷ dy râs,
I borth dy balas heini.
2.
Na âd i feddwl cyfŷng caeth,
Gael llywodraeth arna,
Chwâl gymmylau'r bywŷd brith,
A moes dy fendith y [...].
3.
Bydded fy Myfyrdod [...]ŷth,
Yn ddi-lŷth i'm calŷn,
Nâd i hudolieth chwant y Bŷd,
Fy nhynnŷ i gŷd iw ddilŷn.
4.
O nâd i chwantau ryfig mawr,
Feddiannu llawr fy 'nghalon,
Gwnâ fy neall, am Corph i gŷd,
Yn deml i'th Ysprŷd tirion.
5.
Duw ei hun a wnaeth y corph,
Ac a roes ymborth iddo,
Ni wnaeth na chlwŷ, na dolur dwŷs,
Sŷdd yn gorphywŷs ynddo.
6.
Duw a wnaeth yr enaid glân,
Yn berffeithlan unwaith,
Ac ni wnaeth, mae hŷn yn bôd,
Ynddo bechod diffaith.
7.
Tri phêth sŷ'n calŷn pechod trŵch,
Heb edifeirwch un-wedd,
Cwilŷdd, dialedd ymhôb rhîth,
A melltith yn y diwedd.
8.
Agor Dduw fy 'nghalon gau,
I wellau fy muchedd,
Rhac i syndod pechod mawr,
Fy nhynnŷ i lawr o'r diwedd.
9.
Eglura o Grist dy râs o'th nerth,
A'th brydferth ryfeddodau,
Fel y deallo 'nghalon i,
Fraint, a brî dy ddeddfau.
10.
Meddala 'nghalon fel y cwŷr,
A thŷn yn llwŷr ei bryntni,
Planna d'air, a'th gyfraith bûr,
A bŷdd achlysur i ddi,
11.
Gosod geidwad ym-hôb llê,
Ar-hŷd y Caere o gwmpas,
A dôd wiliadwrieth tŷnn,
Rhac y gelŷn atcas.
12.
Dyro Larwm, deffro fi,
Rhac cyfeiliorni beunŷdd,
Tyred, dŷsc fi Seion lân,
A chanaf gân llawenŷdd.
13.
Moliant, â chlodforedd wiw,
A fytho i Dduw f' anwŷl-un,
Am fy 'nghadw, a'm cynnal draw,
Rhac ofn a braw fy 'ngelŷn.

Dyrian o Gyngor i weddio ar Dduw, drwŷ wîr ffŷdd a gwneuthŷr gweithredoedd dâ.

1.
UNa weddi a chalon bûr,
A thafod eglur traetha,
Dôd dy fyfyrdod bôb pen awr,
I'r Arglwŷdd mawr goruchu.
2.
Megis llong mewn eigion môr,
Heb hwŷl nag angor i ddi,
Ydŷw gweddi at Dduw Tâd,
Heb ffŷdd yn geidwad arni
3.
Ffŷdd ddi-sigl ydŷw'r saeth,
A gobaeth ydŷw'r llinŷn,
Bwa annelog gwŷch o ddûr,
Yw Cariad pur i 'mddiffŷn.
4.
Nêf y Nefoedd ydŷw'r wâl,
Saetha'n dal hŷd atti,
Duw Jehofa ydŷw'r nôd,
Fel dyna'r Bendod i ti.
5.
Nâd ir Bŷd, a'r Cythrael gwael,
Arnat gael rheoli,
Nac ir Cnawd, y gelŷn swrth,
Dy droi oddiwrth ddaioni.
6.
Tri gelŷn geirwon ydŷw'rhain,
Sŷ'n arwain i farwolaeth,
Ffŷdd, a Gobaith, Cariad pur,
Yw llwŷbŷr Jechŷdwriaeth.
7.
Gwîsg y rhain, milwria'n fflŵch,
Drwŷ edifeirwch calon,
Gweddi, ffŷdd, a gweithred ddâ,
Diffrwŷtha y gelynnion.
8.
Dymma'r arfeu goreu eu gŷd,
Rhag ofn y Bŷd, a'i fawredd,
Os trechi, cei orfoledd mawr,
A thrysawr yn y diwedd.

Dyriau yn gofŷn Cyngor ynghŷlch medd-dod.

1,
GWeld y rwif o rodio'r Bŷd,
Er rhoi fy mrŷd ar sobri,
Na 'dallai lai Bŷd gwaeth Bŷd gwell,
Na mynd i ymbell gwmnhi.
2.
Hawdd ŷw denu nattur ffôl,
A'i dynnŷ arôl y dydnion
Drŵg eu buchedd, dreigiau'r Bŷd,
Sŷ, 'gŷd ar frŷd afradlon.
3.
Dymma Gystwm rhŷ-drwm rhŵth,
Pôb gwlâd fforsŵth a'i ffansi,
Rhaid gwario am gwrw, a bôb yn hael,
Os mŷn dŷn gael ei gyfri.
4.
Ac os meddwi a wneiff dŷn,
Mae hynnŷ yn wrthŷn hefŷd,
Pawb a weliff arno fai,
Ni cheif gan rai mo'i gymrŷd.
5.
A chasa gair drwŷ ffair yn ffel,
Gan bôb Cydafel difoes,
ŷw enw Cerlŷn gyndŷn gott,
Nad yfo bott er Enioes.
6.
Ac os gochelŷd meddwi a wna,
Nis gwn pwŷ gynta o gantoedd,
A'm geilw yn gybŷdd siwrl di râdd,
A llawer a'm llâdd mewn lluoedd.
7.
Dymma'r arfer sŷ'n ein mŷsg,
Chwenychwn ddŷsg yn wisgi:
Rhag ymrôi fellŷ'n ddŷn rhŷ fall,
Wrth galŷn angall gwmnhi.

Dyr [...]au o Atteb i'r ymofynniad ynghylch meddwdod.

1.
GWn fôd rhŷw demptasiwn tôst,
(A arlwŷ gôst ar lawer)
Yn y cwrrw, och o'i drîn,
A gwaeth ŷw'r gwin o'r hanner.
2.
Er dim ni ddylid mynd mewn Côst,
I wrando ar fost ynfydion:
Gogan, Cwilŷdd, Clwŷf, a gwall
A geir drwŷ fâll gyfeillion.
3.
Er bôd ymbell feddwŷn hên,
Yn dal ei ben i fynu,
Llawer mwŷ yn llwŷr eu môdd,
Wrth hŷn a fethodd fythu.
4.
Ni cheiff gŵr da o werthu ei dîr,
A'i wario yn glîr am gwrrw,
Dori ei syched gwedi'r daith,
Na chlôd y chwaith wrth farw.

Dyriau, yn datgan pechodau'r Deŷrnas a Gwall-gwŷmp amrŷw bobl.

1.
BU prinder a drudaniaeth drô,
Ond darfŷ anghofio'r Cyfan;
Er Cael llawnder ni wellhawn
Yn feilchion'r awn yn fŷan.
2.
Ni bŷ'r Bŷd erioed mor bur,
Am scrythŷr, a phregethau;
Na gwell nag amlach gyfraith gaeth,
Na dynion waeth, eu doniau.
3.
A pha dôe gyfnewid flin,
Ni fyddau hŷn ryfeddod;
Os ŷw gwŷr mawrion, a gwŷr mân,
Heb gadw glân Gydwŷbod.
4.
Aeth Cydwŷbod yn ddi wâd,
I dario i rŷw wlâd arall
Amdani yn siŵr nid oes fawr sôn,
Gan ddynion oerion îrwall.
5.
Bŷ cariad farw yn y fan
A ffŷdd sŷdd wan y syweth,
Er pan aeth Cydwŷbod ddâ
I ffordd oddiyma ymeth.
6.
I'w bronau llîd a ddaeth iw llê,
A hŷn a ddiwŷne ddynion,
Oddiwrth drawsder eger hîr,
Ni' mwerŷd rhai Gwŷr mawrion.
7.
Balchder aeth yn fawr dros ben,
A hîr gynfigen a fagwŷd;
A godineb gyda ni
Sŷdd gares i segurŷd.
4.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol,
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
i boenau trist Uffernol.
5.
Pe caet fŷw yn Eden glŷd,
Wrth afon hyfrŷd-ffrwŷthol,
Fal cae Adda ein Tâd cu,
Gen. 2.15.
Pan oedd e'n ddiniweidiol.
6.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boene trist Uffernol.
7.
Pe cait fwŷta wrth dy flŷs,
Bôb ffrwŷthŷdd melŷs meddol,
Fal cae Efa gŷnt rŷw ddŷdd,
Gen. 3.2.
Mewn perllan gudd iraiddiol.
8.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boene trist Uffernol.
9.
Pe cait arwein einoes hîr,
Heb boen na chûr corphorol;
Fel Methusalem (ar goedd)
Gen. 5.27.
A Nestor oedd hîr-oesol.
10.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
11.
Pe cait anrhydedd mawr, a bri,
A pharch mewn llu breninol;
" Gen. 39.4. &c. a'r 41.40, &c. Dan. 6.1. a'r 28.
Fel " Joseph oruwch wiliwr ffel,
A'r Prophwŷd Daniel duwiol.
12.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
13.
Pe bae i ti nerth a grŷm,
Heb ofni dim dauarol;
Megis gŷnt Goliah fawr,
1 Sam. 17.4. Barn. 14. a'r 15.
A Sampson gawr anturiol.
14.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol:
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
15.
Pe baet o brŷd a gwedd a graen,
Fal Hester lân brŷd-weddol;
Ester, 2, 7, 8. 2 Sam. 14.25.
Neu Absalom lencŷn gwîch,
A'th gudŷn crŷch discleiriol.
16.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist uffernol.
17.
Pe bae i ti ddoethder hŷf,
A synwŷr Selŷf siriol;
1 Bren. 4.29, 30. Eccles. 47.14. 15, 16.
Yn medru llywio yn ddi-fai,
Bôb helŷnt 'fai berthynol.
18.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
19.
Pe cait wisco dillad trŷm,
Heb eisie dim fae rheidiol,
Mewn porphor a lliein-wisc drŷd,
Fel Difes glŷd annuwiol.
Luc. 16.19.
20.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
21.
Pe caet beunŷdd wîn da ei flas,
A bwŷdŷdd brâs dainteithiol;
Fal Eelshazzar yn ei wledd,
[...] 5. 2, 3. 4.
A cholli hêdd Duw nefol.
22.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol:
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
23.
Pe derbynit rent bôb awr,
A golud mawr anfeidrol;
Megis Cresus frwnt anhael,
Y crintach gwael cybyddol.
24.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist uffernol.
25.
Pa deallit bôb rhŷw Jaith,
Trwŷ synwŷr maith odiaethol;
Fal Scaliger ddyscedig lwŷs,
Ac athro dwŷs rhagorol.
26.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boenau trist Uffernol.
27.
Pe baet feddŷg doeth di-wall,
Fel Galen gâll gyfrifol;
A chyfarwŷdd yn dy frŷd,
Ymmhob celfyddŷd reidiol.
28.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol,
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
i boenau trist Uffernol.
29.
Pe concwerit dréf a gwlâd,
Ac ennill estâd oreuol;
Fal Alexander filwr dewr,
A'i fyddin fawr ryfeddol.
30.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boene trist Uffernol.
31.
O gan hŷn o brŷd i brŷd,
Tro di'n y Bŷd presennol;
Cais wasnaethu Brenin Nê,
A gwna dy lê'n barodol.
32.
Ni bŷdd i ti ddim lleshâd,
Os colli'r wlâd hyfrydol;
A mynd d'enaid oddiwrth Grist,
I boene trist Uffernol.

Carol gwilieu o fawl i r Jesu, iw ganu gyda thannau.

1.
GOsdegwch bawb, fel dyma'r prŷd,
I daeth i'r Bŷd hyfrydwch;
O'r ucha ei riw i'r isa ei râdd,
Hâd Adda a gâdd ddedwŷdwch.
2.
Clowch danne mân, clau diwnie maith,
A'u hyfrŷd lwŷs waith leisie,
Fel Seraffin yn siwr ddi ffael,
Naws arail ei mesure.
3.
Hon ydŷw'r wŷl hynodol wiw,
Danfonodd Duw daionus;
Ei Fâb i fôd yn brynwr prŷd,
Tros feie'r Bŷd troseddus.
4.
Fe aned Crîst, diddanwr crêd,
Fe wnaeth ymwared gwîr-fôdd;
Pan oeddem ni mewn cyflwr gwaêl,
Yr impin hael a'n helpiodd.
5.
Angylion doethion ffyddlon ffŷdd,
Trwŷ bur lawenŷdd doniol,
A ddaeth ynghŷd cŷn tori'r wawr,
Yn fyddin fawr ryfeddol.
6.
Miwsig nefol, ddoniol ddŷsg,
Oedd yno ymŷsg eu mawredd;
Ni chlybwŷd gwedi mewn un lle,
Mor ffasiwn diwnie dawnedd.
7.
Rhinwedde, gwrthie, rhodd mewn rhôl,
A wnaeth ein breiniol brynwr;
Fe roes yn hawdd ei oes ei hun,
Tros feie ein goflin gyflwr.
8.
Pâ ddoniol râd i ddynol rŷw,
Nad ydŷw Duw yn danfon;
Oes, iechŷd, bywŷd hyfrŷd hîr,
A chysur mewn achosion.
9.
Fe 'wnaeth yn iâch bôb clwŷfŷs gwan,
Mae'n feddig gwiwlan gwelwch;
Ni ddichon tafod dreuthu yn driw,
Mo ddonie Duw'r diddanwch.
10.
Weithian deulu glân di wael,
Sŷdd yn yr adail odiaith;
Rhowch barch i'r cyfnod hynod hwn,
Na fwriwn yn ofer-waith,

Carol bŷrr, iw ganu gyda thannau.

1.
GWrandawed pawb o'r teulu pér,
Ar fwŷnder tyner tannau;
Sŷ'n seinio yn llwŷr yn un a'n llais,
Am glymu odlais odlau.
2.
Ar gyfen hŷn o wilieu glân,
Mae pawb iw gyfan gofio,
I ganed Crist i'r Bŷd heb gûdd,
Meseias fŷdd i'n safio.
3.
Clodfori a wnawn ein Jesu o'r Nef,
Mâb Duw fŷ i ddiedde yn ddiddig;
Dros ei lu dra amal loes,
A'i 'lodau 'n groes hoeledig.
4.
Rhag mynd o'r Bŷd i gŷd yn gaeth,
O ddamnedigaeth aflan;
Danfone Duw waredwr dâ,
Ei wîr Fâb ymma ei hunan.
5.
Troi dŵr yn wîn tra dirion a wnaeth,
A'r dall a berffaith welodd;
Y marw a rodd o'i fôdd i fŷw,
Ar cloff drwŷ'r gwir-Dduw a gerddodd.
6.
Fe 'wnaeth drwŷ'r Bŷd o'i wîr gostau.
Fawr ryfeddodu lawer;
Nid all sŷ o ddoethion yn y fro,
Mo ddatcan heno eu hanner.

Dyriau o ymbil pechadur am drugaredd, a madduant am ei bechodau.

1.
NA thro d' wŷneb Arglwŷdd glân,
Oddiwrth un truan agwedd,
Sŷdd o flaen dy borth yn awr,
Mewn cystudd mawr yn gorwedd.
2.
Yr wŷf yn gorwedd wrth dy ddôr,
Attolwg egor i mi,
Er bôd fy muchedd yn ddi rôl,
Rwŷ'n edifeiriol gweli.
3.
Na alw mono fi gar bron,
I roddi union gyfrif,
Yr wŷ'n cydnabod fy Nuw hael,
Y bywŷd gwael oedd gennif.
4.
Nid rhaid i mi addef chwaith,
Bôb enwir waith fu rŷ-dost,
Y sutt ar môdd yr oedd fy nghlwŷf,
Ac mal yr wŷf ti wŷddost.
5.
Ti wŷddost sŷdd yn awr Dduw cu,
Ar hŷn a fu yn fanwl,
Ti wŷddost hefŷd bêth a ddaw,
Mae ar dy law di'r cwbwl.
6.
Ti wnaethost nefoedd yn un man,
A dauar tan wŷbrennau,
Ti wŷddost béth fŷdd wedi hŷn,
A phêth oedd cŷn y dechrau.
7.
Fellŷ fy hôll feiau i,
Bŷth rhagot ti ni chuddiwŷd,
O ti gwŷddost hwŷnt eu gŷd,
Y llê, ar prŷd y gwnaethbwŷd.
8.
Trwŷ ddeigr hallt y dôf am hŷn,
I erfŷn a dymuno;
Megis bachgen a wnai ddrŵg,
Yn ofni gŵg iw guro.
9.
Fellŷ deuaf at dy borth,
I ddisgwŷl cymorth ddigon,
Sef dy drugaredd i lanhau,
Fy hôll weliau budron.
10.
Y pêth a geisiaf sŷdd rodd wŷch,
Nid rhaid moi mynŷch henwi,
Yr hŷn ti wŷddost fy nuw gwŷn
Cŷn darfod gofŷn i ti.
11.
Trugaredd f' Arglwŷdd heb ddim mwŷ;
Yw'r cwbl rwŷ'n ei geisio,
Trugaredd ŷw fy newis lwŷdd,
Trugaredd f' Arglwŷdd dyro.

Dyriau ar y Bradwŷr, yn dangos ofered, ac mor anfuddiol ŷw drŵg ddichellion.

1.
MAe rhai'n y Bŷn mewn llid yn llwŷr,
A bychan a gwŷr y gwirion,
Yn taflu eu beiau or nail i'r llall,
I dwŷlo'r angall deillion.
2.
Er ymdrechu yma dro,
A rhodio mewn anrhydedd;
Yn fŷan iawn daw'r angeu du,
I'n dofi, ac i'n diwedd.
3.
Y Duw sŷ'n rhoi pôb perffaith rôdd,
A luniodd y calonnau;
Y fe a wŷr pa rai sŷdd lân,
Ac aflân eu meddyliau.
4.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd,
I'r ddaiar oer yn fŷan'r awn,
Yn gydradd iawn i orwedd.
5.
Deled tâl yn ôl eu ffŷdd,
I'r nifer sŷdd anufŷdd:
Nad allo rhain er dallu rhai,
Ddim niwed a'u plott newŷdd.
6.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd
Yn bridd a lludw yn fŷan'r awn,
Yn llonŷdd iawn i arwedd.
7.
Y Rhai a 'mcanasent er eu mael,
Yn fŷan gael gorchafieth,
Er cymaint oedd eu grŷm a'u grâdd,
Yn filen a gadd farwoleth.
8.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd:
Rhaid i ni bawb yn wir dinam,
Roi cyfri am ein Camwedd.
9.
Oedd arnŷnt eisie aur na chlôd,
Wŷr hynod ond Brenhiniaeth:
Y peth nid oedd fe'i gwŷr un Duw,
Yn deilwng iw gwaedoliaeth.
10.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd;
Yn fŷan iawn daw'r angeu du,
I'n dofi, ac i'n diwedd.
11.
Am fwriadu gwneuthur brâd,
Ar lêd y wlâd oludog;
Digwŷddodd iddŷnt yn ddiffael,
Yn gyflŷm gael eu cyflog.
12.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd;
I'r ddaiar oer yn fŷan'r awn,
Yn gydradd iawn i orwedd.
13.
Pan oeddent barod yn eu brŷd,
A'i Harmi eu gŷd i godi;
Mewn rhwŷdd fôdd ordeiniodd Duw,
Wŷr hyddysg iw cyhoeddi.
14.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd:
Yn bridd a lludw yn fŷan'r awn,
Yn llanŷdd iawn i orwedd.
15.
Y pethau hŷn oedd yn eu brŷd,
Gael newid y Rheolaeth;
Drwŷ wŷrdroi'r ffŷdd ar fŷr o dro,
A sgubo pob Esgobaeth.
16.
Er ymdrdchu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd;
Rhaid i ni bawb yn wîr dinam,
Roi cyfri am ein camwedd.
17.
Duw a wŷr pwŷ sŷ ar y gwir,
Yn cario clîr feddyliau;
A phwŷ sŷ berigl, a di bûr,
Fel dreigie i wneuthur drygau.
18.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd:
Yn fŷan iawn daw'r angeu du,
I'n dofi, ac i'n diwedd.
19.
Duw, dôd i rhai sŷ a meddwl swrth,
Farn gyfion wrth y gyfreth;
Ac an cadwo'ni'n ddinam,
Rhag deilio a cham dystioleth.
20.
Er ymdrechu yma drô
A rhodio mewn anrhydedd,
I'r ddaiar oer yn fŷan'r awn,
Yn gydradd iawn i orwedd.
21.
Gwilied pawb a gredo i Grist,
Rhag moli'r Anghrist milen;
Na rhoi moi ben i fynd dan bwŷs,
Rhyfig Eglwŷs Rhufen.
20.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd:
Yn bridd a lludw yn fŷan'r awn,
Yn llonŷdd iawn i arwedd.
23.
Mae'r Anifel yn ei nŷth,
A'i dylwŷth gyda'u delwau;
Am hŷn o 'mrafel yn ddinam,
Yn chwerthin am ein pennau.
24.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd:
Rhaid i ni bawb yn wîr dinam,
Roi cyfri am ein Camwedd.
25.
Cynhalied Duw ein Brenin pûr,
Yn enwog gysur i ni;
A'i gyfion aer iw gofio'n ail;
Yn arail i reoli.
26.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd;
Yn fŷan iawn daw'r angeu du,
I'n dofi, ac i'n diwedd.
27.
Rhoed Duw wir galon ddoeth wrth raid,
I'w hôll gynghoriaid Tirion;
A grâs iw ddeilied ymhôb man,
I fŷw'n gywir dan y Goron.
28.
Er ymdrechu yma drô,
A rhodio mewn anrhydedd;
I'r ddaiar oer yn fŷan'r awn,
Yn gydradd iawn i orwedd.

Carol iw ganu tan bared.

1.
GWrandewch ein cân bendefig cu,
Gosdegwch deulu er 'tolwg
Clywch wrth eich wur y ddifŷr dôn,
Ar eilio gwiwlon amlwg.
2.
Hon ydŷw yr wŷl hynodol wêdd,
A bâr orfoledd dilŷs;
A llawer tafod efo'r tant,
A gânant foliant melus.
3.
Mawl Jesu ŷw melusa cân,
Ar dafod glân egluredd;
Ond union frŷd i nine ymroi,
A rhodio i roi anrhydedd.
4.
Yngolwg Duw Angylion dâ,
A roen Hosana i seinio,
A geirie Nêf trwŷ gywir nôd,
Llu parod oedd i 'mpirio.
5.
Fe aned Crîst heb ddim yn fŷrr,
Or Forwŷn bur Maria,
Cŷd glymwn glau egluredd glôd,
O fawl i'r ammod ymma.
6.
Mae llawer rhinwedd tan y rhôd,
Trwŷ fawr ryfeddod foddion;
I wirio i'r Bŷd na bŷdd yn ôl,
Mo'i lân ddewisol weision.
7.
Ar gyfen hŷn o brŷd gar-bron,
Bu yr Jesu cyfion cofiwch;
Yn feddig glân rhag Satan sŷn,
Ond ydoedd hŷn hyfrydwch.
8.
Pan oeddem ni mewn cyflwr caeth,
Tan bwŷs marfolaeth filen,
Daeth Brenin Nef ar blygen ddŷdd,
Yn llon waredŷdd llawen.
9.
Rhoddi'r byddar i glowed yn glir,
Ar dall yn wir i weled,
Y mûd i siared yn yr Jaith,
A'r cloff iw daith i gerdded.
10.
Sŷ berchan tafod daed yn nes,
I lawen gynnes ganu,
Clôd a mawl i'n prynnwr prid,
A ddaeth i'r Bŷd i'n helpu.
11.
A chwithe deulu gwiw-lu gwâr,
Sain glauar su 'n ni clywed,
Ymrowch i gud tra boch chwi bŷw,
I foli'r Duw gogoned.
12.
Dros enŷd fach i'ch tirion lŷs,
I'r ŷm ni yn dewis dywad,
Danfonwch riain feingan gu,
Yn rhwŷdd i egori o gariad.
13.
Heddychol fŷd a'ddel i'n rhan,
Pob crŷ a gwan gweddied,
Ffŷdd, a gobeth, grâs i fŷw,
Y cyfion Dduw danfoned.
Ymma a diweddiff 15. o Garolau a Dyriau Duwiol, ar Leave Land y ffordd fyrraf; y rhain oll a ddônt hefŷd yn esm­wŷth, ac yn ddifai ar Dôn Gwilieu'r Nadolig.

Ymma a dechreuiff amryw o Ddyriau Duwiol, ar fesur Triban.

Dyriau o gyngor (i feddwl am farwolaeth, ac) i fŷw yn dduwiol.

1.
POb cadarn mawr ei allu,
Cŷd mynd y corph i bydru,
Rhaid i'r cyfoethog, fel i'r tlawd,
Pôb perchen cnawd ddychrynnu.
2.
Pa-ham nad ystŷr Christion,
Yn ddwŷs o lawr ei galon,
Am foliannu'r gŵr a'i rhoes,
A byrred oes y dynnion.
3.
Pan fŷch di'n llawn o gyweth,
Heb groes, na phrofedigeth,
Dynna'r prŷd, rhag gwneuthur cam,
I't feddwl am farwoleth.
4.
Tra fŷch di'n iâch yn cerdded,
Yn Jevangc, er dy gryfed,
Cofia'n ddâ pwŷ bynnac wŷt,
Nad wŷt ond bwŷd i bryfed.
5.
Cofia Dduw o'r uchod,
A châr ê am ddioddef drosod,
Ofna'n fawr yr hwn a fŷdd,
I'th farnu'r dŷdd sŷ'n dyfod.
6.
Ni bŷdd yno anrhegion,
Mae Duw yn farnwr cyfiôn,
Pe bai freib, neu gymrŷd ffi,
Ni bŷdd gennit ti mo'r rhoddion.
7.
Cŷn cychwŷn oddi-cartre,
Mae meddwl am y siwrne,
Chware di dy gardie'n iawn,
Tra fŷch di mewn meddianne.
8.
Nâdd bêth bôb dŷdd yn lefel,
O'th farwoleth ddirgel,
Hi a fŷdd llai o gwnei di hŷn,
Y munŷd cŷn ymadel.
9.
Yr esgŷrn bêdd a weli,
Oedd gŷnt yn cael ei perchi,
Yn dy galon cofia ymhell,
Nad-wŷt ti well na rheini.
10.
Porthi'r cnawd mewn afraid,
Rhoi'r corph mewn gwisc oreuraid,
Bwrw bêth o'th ddâ i'r tlawd,
Rhan rhwng y cnawd ar enaid.
11.
Steward wŷt ychydig,
Ar ddâ sŷ ddarfodedig,
Di roi gyfri o rhain eu gŷd,
Nid ydŷw'r Bŷd ond benthig.
12.
Pan alwo Duw o'u ceurŷdd,
Dŷ gymmydogion dedwŷdd,
Meddwl ditheu ymbarotoi,
Mae rhain yn rhoi i ti rybŷdd.
13.
Cofia'r fan i'th goded,
Ar lle yr wŷt ti'n cerdded,
Ofna'r Bŷd, rhag 'mynd mewn rhwŷd,
Ar fan yr wŷd yn myned.
14.
Na ddôd dy hun i goeg-nerth,
Y gyfreth fŷd, a'i thrafferth,
Gwell na grôt yn anghyttûn.
Yw bŷw ar un geinhiegwerth.
15.
Gweddia'r Dduw gogoned,
Am gael yn ddâ dy dynged,
I rai a digwŷdd fel y maen,
Di a weli o flaen dy lygaid.
16.
O chofi hŷn, a synnied,
Ar feddwl, gair, a gweithred,
Ac os grâs gan Dduw a gei,
I nêb ni wnei di niwed,
17.
Printia hŷn o draethod,
I'th galon, a'th gydwŷbod,
Neu ni thaleu i ti ddraen,
Eu traethu ar flaen dy dafod.
18.
Y neb a fynno eu clywed,
Boed iddo râs i 'styried,
Ar neb ni fynno ac wŷllŷs da,
Aed heibio na wrandawed.

Dyriau yn Cyffelybu enioes dŷn i bôb peth darfodedig.

1.
AIL roses ar y mân-wŷdd,
Neu ail i flodeu'r coedŷdd,
Ail i beraidd lysiau Mai,
Ail borau cŷn prŷdnawn-dŷdd.
2.
Ail i'r Haul cŷn machlŷd,
Ail i'r cyscod hefŷd,
Ail i'r goldŷn iredd glâs,
Oedd gŷnt gan Jonas Brophwŷd.
3.
Fellŷ y dŷn llawn nychdod,
Pan nydde'r ede'r bennod,
Ei thynnu o hŷd, a'i thorri'n lân,
Dŷn yn y man fŷ'n darfod.
4.
Fe aeth yr haul iw fachlud,
Ar cyscod ni thrig ennŷd,
Crina'r goldŷn iraidd dŵ,
A dŷn sŷn marw hefŷd.
5.
Y rhosŷn a ddiflannodd,
A'r blodeuŷn, a syrthiodd,
Ar llysiau a wŷwodd dan y gwŷdd,
A'r borau ddŷdd a baffiodd.
6.
Ail glas-wellt a'r y meusŷdd,
Neu ddechreu chwedl newŷdd,
Ail i'r aderŷn, hîr ni sai,
Neu fân-wlith M [...]i foreu-ddŷdd.
7.
Ail i fŷrr feddylio,
Neu ail i hun sreuddwŷdio,
Ail i ddŵr yr afon draw,
Ar droad llaw sŷ'n treiglo.
8.
Fellŷ dŷn yn ddiau,
Dan arwain chwŷth iw enau,
Sŷ bôb munŷd ar y rhôd,
Mewn perŷgl dyrnod angau.
9.
Yr îr-wellt glâs a wŷwodd,
A'r chwedel a derfynodd,
'R aderŷn aeth, nis gwŷddis ple,
A'r gwlîth o'i lê derchafodd.
10.
Fe ddafu'r bŷrr feddylio,
Fe aeth y breuddwŷd heibio,
Y dŵr sŷ'n treiglo 'rhŷd y glŷnn,
Ac einioes dŷn sŷ'n passio.
11.
Ail clochau ar y croŷw ddŵr,
Neu olwg drŷch y gwŷdrŵr,
Ail 'scrifen a'r y tyfod draw,
Neu wennol llaw'r gwehŷddwr.
12.
Ail ir awr rywiogedd,
Neu rychwant rhwng y bysedd,
Ail i dôn yr Alarch gwŷnn,
Pan gano cŷn ei ddiwedd.
13.
Fellŷ dŷn sŷ'n darfod,
Wrth dynnu at ben ei ystod,
Chwŷrn y passia ei fywŷd bŷrr,
Fel chwedel prysur dafod.
14.
Y clochau'r dŵr a dorrodd,
Y golwg ddrŷch a ballodd,
Ar wennol chwidr aeth drwŷ'r llen,
Ar 'scrifen o dywŷllodd.
15.
Nid hîr yr hwŷa ei oriau,
Bŷrr ŷw y rhychwant yntau,
Marw a wnaeth yr alarch gwŷn,
Ac fellŷ dŷn dan angau.
16.
Ail ir saeth o'r llinŷn,
Neu ryferthwŷ ganwŷn,
Temhestl.
Neu amser bâch rhwng llanw a thrai,
Neu wêf a wnai'r prŷf Coppŷn.
17.
Ail gyrfa march uchel-ben,
Bywiog, nid aniben,
Ail i ynnill gâl yr hâ,
Neu rannu Bara elusen.
18.
Fellŷ dŷn heb ragor,
Sŷ drist ei ddyddiau, a'i wobor,
Heddŷw'n uchel, sŷth ei warr,
Y foru ar ei Elor.
19.
Fe aeth y Saeth o'i bŵa,
Ar llanw ar gais a dreia,
Ar amser nid ŷw amser ddim,
Ar wêf ddirŷm a rwŷga.
20.
Fe 'nilled gyrfa bennod,
Fe drawŷd gâl ar ddyrnod,
Y Bara a ranned i bôb un,
Ac einioes dŷn sŷ'n darfod.
21.
Ail mellten pan i saetho,
Neu bôst yn myned heibio,
Ail i sŵn, neu osle o gân,
Neu dridiau o fân siwrneio.
22.
Tebŷg i'r erllygen,
Neu debŷg i'r eirinen,
Neu eira gwŷn rhŷd llechwedd bron,
Prŷd haf-ddŷdd hinon wŷbren.
23.
Fellŷ dŷn sŷ'n treiglo,
Heb oes, nac ammod tario,
Ac yn myned ar ei daith,
Heb mor cyfflybiaith iddo.
24.
Ni thrig y fellten funŷd,
Ar pôst sŷ'n mynd yn esgud,
Bywiog.
Chwŷrn y passia sŵn y gân,
Ar siwrne fechan hefŷd.
25.
Pydru a wnâ 'r Erllygen,
A fyrthio 'wnâ'r eirinen,
Ar eira a dawdd, fel dyna ran,
Pob peth sŷdd dan yr wŷbren.

Dyriau yn adrodd llawer o weithredoedd Crist.

1.
GWrandewch ymddiddan cynnes,
O'r testŷn a gymmeres,
Mawl a gân pôb prydŷdd dâ,
Lle bytho mwŷa'r fantes.
2.
Mae llawer o brydyddion,
Yn derbŷn aml roddion,
Am roi allan yn ddi-feth,
Waedolieth boneddigion.
3.
Rhai'n caru sôn am filwŷr,
A rhyfel, a chongcwerwŷr,
Sampson, Alexander mawr,
Milwrieth nerth-fawr Arthur.
4.
A minneu ar fedr treathu,
Rhŷw-bêth sŷ fwŷ na hynnŷ,
O dyru Duw i'm gennad rhwŷdd,
Milwrieth f' Arglwŷdd Jesu.
5.
Fe ydŷw'r cadarn farnwr,
Y fe ŷw'r iawn gongcwerwr,
Fe ydŷw dawn yr hôll fŷd,
A bywŷd, ac Jachawdwr.
6.
Y fe ŷw'r oen bendiged,
A bugail Israel eured,
Yn ddeuddeg oed, efe fu dro,
Luc. 2.46.
Yn possio y doctoried.
7.
Y fe 'gongcwerodd angeu,
Ac Uffern dywŷll ffwrnau,
Rhoes ben Satan tan y dŵr,
Cyhuddwr yr eneidieu.
8.
Y fe sŷ'n haeddu ei goffa,
Fe droes yn Galilea,
Y dŵr yn wîn, mewn munŷd awr,
John 4.46.
Mewn neithior fawr yng-hana.
9.
Y fe a gododd Lazarus,
John 11.44.
Lle'r ydoedd farwol gorpus,
Ac a gododd drwŷ fawr serch,
O farw un ferch Jairus.
Marc 5. Luc. 8.
10.
Y fe iachaodd yn rymmus,
Y cleifion oedd o'r parlŷs,
Mat. 9.
Ac ar unwaith ddeg dŷn gwan,
Y rhai oedd wahan-glwŷfus.
11.
Y wraig o Ganan hefŷd,
Or haint diferlif gwaedlŷd,
Deuddeng mhlŷnedd drwŷ fawr gwŷn,
Y bu hi'n dwŷn ei chlefŷd.
12.
Fe 'wnaeth i'r byddar glywed,
Fe wnaeth i'r efrŷdd gerdded,
Anafus.
Y mûd i ddwedŷd yn ddiball,
Matthew 9.
Fe wnaeth y dall i weled.
13.
Y fe lanhâdd Fair Fadlen,
A'i iâch ymweliad llawen,
Mam gwraig Peter a gafodd râs,
A hefŷd gwâs y Capten.
14.
Efe a borthodd bum mîl,
A'i ginio ni bu gynnil,
A phum torth haidd, dâ'r haedde glôd,
A dau o bysgod eiddil.
Matthew 14.
15.
O bawb y bwriodd allan,
Marc. 1.34.
Bób marwol ysprŷd aflan,
Ac, a'u tynnodd yn ddi-feth,
O gospedigeth Satan.
16.
Fe fwrie 'r lleng gythreulied,
Mat. 8.28, &c.
Or ddau oedd mewn caethiwed,
Y rhain aeth i'r genfaint fôch,
A hŷn chwi a gawsoch glywed.
17.
Fe gerddodd wŷneb ffrydau,
Mat. 14.
Fe ostegodd wŷnt a thonnau,
Pwŷ erioed ond un Mâb Duw,
A wnaeth y cyfrŷw wrthiau.
Marc. 6.
18.
Fe ymprydiodd Crist ei hunan,
Mat. 4.
Dros ddeugain nhiwrnod cyfan,
Ac a gafodd wedi ei waith,
Demptio 'dair gwaith gan Satan.
19.
Fe ymrodd i gwbwl ddioddeu,
I angeu, yr groes, a phoenau,
Er mwŷn Jechŷdwrieth dŷn,
A llwŷr oresgŷn angau.
20.
Fe rôdd ei gorph i orwedd,
Yn isel mewn daiar-fêdd,
Descynnodd ef i Uffern ddu,
Ei allu, a'i anrhydedd.
21.
Ac yno ddŷdd derchafel,
Aeth i wlâd nefol uchel,
Gwedi speilio Uffern ddîg,
A'i melltigedig gythrel.
22.
Ni thybiodd drais, na chamwedd,
Fôd cymmaint cyfuwch cyd-wedd,
A'r Tâd lle mae yn eistedd draw,
Ar ddeheu-law ei fawredd.
23.
Ac yno dŵg yn union,
Ei hôll Etholedigion,
Lle caffo'n aros yn ddi ŵg,
Yngolwg ei Angylion.

Cyffes o ddilŷn pôb oferedd mewn ieuiengtŷd, ac ymroiad iw gadel oll heibio.

1.
MAe gwallt fy mhen yn gwŷnnu,
A'm barf i gyda hynnŷ,
Er ieuenged ŷw fy oed,
Mae dŷdd fy nôd yn tynnu.
2.
Tynnŷ'r wŷf bôb yn ronŷn,
Bôb awr at ddŷdd fy nherfŷn,
Ffarwel ieuengtŷd ffrolig ffrî,
Fe ddarfu i mi a'th ganlŷn.
3.
Dy ganlŷn nid wi'n hoffi,
Câs iawn gan i dy gwmnhi,
Rwi mewn blinder lawer prŷd,
Am i mi cŷd dy garu.
4.
Mi'th gerais yn garedig,
Fel ynfŷd ddŷn amhwŷllig,
Hîr flynyddoedd, gwn yn ddâ,
Heb feddwl gwella ychydig.
5.
Dilynes arnat lawer,
Ymhôb rhŷw gwmnhi ofer,
Rhyfŷg, rhodres, balchder, mwŷth,
A phôb anesmwŷth blefer.
6.
Mewn pleser hoffter cnawdol,
Mewn buchedd ddrŵg, annuwiol,
Mewn Tafarne lawer prŷd,
Yn dwŷn fy mŷd yn lled-ffol.
7.
Mewn Gwatwar, gwîn, a gwegi,
Mewn Cynnen, ac ymdeuru,
Mewn Trythillwch lawer gwaith,
A phôb amherffaith gwmnhi.
8.
Ymŷsg rhai meddon anllad,
Ymŷsg rhai diffaith fagad,
Ymŷsg maleis-wŷr, Tyng-wŷr câs,
Heb ynddŷnt râs, na chariad.
9.
Dymma'r môdd yn union,
A bŷm mi ddyddiau hirion,
Heb ystyried mwŷ na'r dall,
Un-waith mo'm gwall arferion.
10.
Dyma'r môdd a treulies,
Jeuiengtŷd hyfrŷd cynnes;
Heb feddylied un-waith ddim,
Fôd henaint i'm goddiwes.
11.
Ffarwel ieuiengtŷd di-ball,
Anwastad, a di ddeall,
Ffarwel Jeuiengtŷd mawr ei ffrwst,
Ymrois i gwnglwst arall.
12.
Cydymaith o hŷn allan,
ŷw henaint, llibin egwan,
Rhaid i'm bellach ei fawrhau,
Er bôd rhŷw rai'n ei ogan.

Cyffes pechadur o'i gamweddau, a deisŷf medduant a grâs gan Dduw i wellau buchedd.

1.
FYfi sŷ'n dechrau'r awrhon,
Yn ail i'r Mâd afradlon,
Trwŷ nerth Jesu y Mâb rhâd,
Miaf at fy nhâd yn union.
2.
Mi bechais mi gyffessaf,
O flaen y nefoedd uchaf,
I'm galw mwŷ nid teilwng fi,
Yn Fab i ti'r goruchaf.
3.
Mi dorrais bôb gorchymmŷn,
A roddoist im iw ganlŷn,
Llawn o bechod [...]yf erioed,
O fawd fy nhroed im corŷn.
4.
Mewn pechod darfu yng-eni,
Ac rwŷ'n ymdroi mewn drysni;
Mal y ddafad yn y llwŷn,
Yng-hanel twŷn mieri.
5.
Myfi a fum mo'r ddiffaith
(Heb wneuthur pris o'th gyfraith)
A myned fel yr hŵch, neu'r ci,
Ynghŷd am bryntni gan-waith.
6.
Mi wn i'm bechu yn oestad,
Na haeddwn gaffael cennad,
O ran ffiaidd fywŷd drŵg,
I godi ng olwg attad.
7.
Ond etto rydwŷ'n gwŷbod,
Y môdd i gael gollyngdod,
Er bôd cyfiawnder i't Dduw'r hêdd,
Mae mwŷ trugaredd ynod.
8.
Mi wn ddiddanwch hawddgar,
Llawenŷdd mawr di gymmar,
Fôd maddeuant am bôb tro,
I'r neb a fo'n edisar.
9.
Rwŷ'n edifeiriol bellach,
Attolwg i ti eiriach,
Dywaid Crist un gair o'th râs
Ac fe â dy wâs yn holliach.
10.
Rwŷ'n meddwl gadael pechu,
Yn llwŷthog yn trafaelu,
Er mwŷn caffael esmveŷthdod,
Rwi'n dyfod attad Jesu.
11.
Er bôd fy aniweirdra,
Mo'r gôch a'r scarlat ymma,
Dy di ddichon fy Nuw gwŷn,
Fy rhoi mor wŷn ar eira.
12.
O clâdd i'r ydwŷ'n erfŷn,
Ym medd dy Grist anwŷl-ddŷn,
Cladd o cladd nas gallont hwŷ,
Fŷth godi mwŷ i'm herbŷn.
13.
Duw crea i mi lân galon,
I fôd i'th garu yn ffyddlon,
Adnewŷdda ddull fy mrŷd,
O'm mewn a'th ysprŷd union.
14.
Dôd i mi bur ammynedd,
Tra byddwŷ'n dwŷn fy muchedd,
Yn fy mywŷd ym mhôb cam,
I feddwl am fy niwedd,
15.
Dŷsc i mi heddŷw fedru,
Bŷw trwŷ lawn hyderu;
Fel pe byddai siŵr fy ngwedd,
O fynd ir bêdd y foru.
16.
Na roddwŷf bwŷs, na hyder,
Mewn dâ, na dŷn a fager,
Nac mewn dim ond ynot ti,
Un Duw a Thri bôb amser.
17.
Dôd i mi râs i edrŷch,
A gwneuthur a orchmynnŷch,
A gorchymmŷn y Duw gwŷn,
I'm wneuthur hŷn a fynnŷch.
18.
Dôd râs i mi i ddiystyru,
Y Bŷd, a gallael trechu
Y cnawd brwnt, a gochel gwall,
Rhag cael or fall fy maglu.
19.
Dôd i mi'n hŷn o fywŷd,
Ddiogel obaith hyfrŷd,
Bŷwiol ffŷdd i, fynd i'r daith,
A chariad pe [...]ffaith hefŷd.
20.
I ddiolch am gael meddu,
Dy ddonniau Arglwydd Jesu,
Yn enwedig fy Nuw nêr,
Am amser edifaru.
21.
A hefŷd fy Nuw cyfion,
I ddiolch am y moddion,
O nad eled bŷth o'm gwŷdd,
Mo'th garedigrwŷdd tirion.
22.
A thyred y Messiis,
Fel dyna 'ngwisc briodas,
Tyred chwŷppŷn hŷn ŷw 'nghân,
I gael dy lân gymdeithas.

Dyriau ar ddiben dŷn, &c.

1.
RHoŷd i ni sêl o'n himpiad,
Cu freiniol o'n cyfraniad,
Ynghrist ei hun cŷn seilio'r Bŷd,
I dalu i gŷd yn dylad.
2.
Rhoŷd i ni arwŷdd hynod,
Cydnebŷdd pôb cydnabod,
I fôd yn filwŷr dan un Duw,
Darfu i'r gwir Dduw ein gwarod.
3.
Fe'n rhodd ni eu gŷd mewn hyder,
I ymladd dan ei faner,
Yn erbŷn y tri pheth i'n rhowd,
Y Bŷd, ar cnawd, ar cythrel.
4.
Rhoŷd arnom rwŷmedigaeth,
Cristnogedd in cristnogaeth,
I dalu'r dyled sŷ arnom 'llŷn,
A dilŷn Sacramentaith.
5.
Ae hefŷd pan in temptîr
I bechod, gwiliwn wneuthŷr,
Cosiwn am yr Arglwŷdd Dduw,
Efe a'n ceidw 'n bybŷr.
6.
Addawsom yn ein bedŷdd,
Ein bod ni oll yn usŷdd,
I ymladd dan ei faner fôd,
Yn erbŷn pób aflonŷdd.
7.
Am hynnŷ byddwn ddyfal,
Heb ame mae 'n rhaid ymladd,
Yn erbŷn cythrael brwnt, a'r Bŷd,
A'r cnawd i gŷd yr unwadd.
8.
A hynnŷ drwŷ fendithion,
Yr Arglwŷdd Dduw a ddichon,
Ein cadw ni rhag mynd yn gaeth,
I Brofedigaeth creulon.
9.
Ac wedi ein golchi unwaith,
Yn llwŷr oddiwrth ein dryg-waith,
Llawer un sŷ'n cymrŷd nôd,
A mynd mewn pechod eilwaith.
10.
Lle gweluch fod yn methu,
Conffesa di i Dduw Jesu,
Pw-un bynag fyddi ai crŷ ai gwan,
Fe dâl it am dy weddi.
11.
Rhaid i ni fôd yn helaeth,
Yn erbŷn profedigaeth,
Gan fod Satan yn ei swŷdd,
Yn ceisio in aflwŷdd eilwaith.
12.
Yr Arglwŷdd Dduw a'i ffynniant,
Addawodd i'n faddeuant,
O'n pechodau er mwŷn Crist,
A'i waed yn drist a gollant.
13.
Os medrwn roddi ein hyder,
Ar Frenin yr uchelder,
Ni gawn orffwŷs ganddo yn hŷ,
Mewn llawen dŷ, a llawnder.
14.
O byddwn bawb yn unol,
I ufudd-dod gweithredol,
Ni gawn faddeuant rhâd yn rhwŷdd,
Gan'r Arglwŷdd yn dragwŷddol.
Ymma a diweddiff chwêch o ddyriau Duwiol, ar fesur Triban.

Ymma a dechreuiff llawer o ddyriau Duwiol, ar y Don a elwir Loath to depart.

Annerch y na'll chwaer Dduwiol at y ll ll, yn dwŷs annog i ystyried ar farwolaeth

1.
ATtoch filoedd o anherchion,
Oddiwrth anwŷl chwaer un galon,
Sŷ'n dwŷn hiraeth mawr amdanoch,
Eisieu bôd yn agos attoch.
2.
Fel y gallem yn ddifrifol,
Megis chwiorŷdd edifeiriol,
Gŷd weddio bŷth heb orphwŷs,
Am fôd gartref ym mharadwŷs.
3.
Cawsom feithrin
Fagwriaeth.
dâ rhinweddol,
Gŷnt dan aden ein Mam gnowdol,
Gwedi hynnŷ mynd ar wascar,
Bawb or neilltu at ei chymmar.
4.
Gwedi gorphen ein tâsc fellŷ,
Mynd yn fethiant, ac yn ddifri,
Mynd yn glwŷfus, mynd yn egwan,
Ac yn hên, heb allu 'mlwŷbran.
5.
Dymma gyflwr pob dŷn bydol,
Doe yn fŷw, a heddŷw'n farwol,
Heddŷw'n firiol fel blodeuŷn,
Y foru'n gwŷwo fel y gwelltŷn.
6.
Dyddiau dŷn sŷdd megis cyscod;
Neu fel niwl, neu fŵg yn darfod,
Fel clôch y dŵr, neu donn y weilgi,
Neu fel canwŷll yn ddiffoddi.
7.
Fellŷ einioes dŷn sŷ'n passio,
Megis breuddwŷd wrth ddihuno,
Neu fel gwennol gwŷdd, neu fellten,
Neu fel chwŷthiad, neu wreichionen.
8.
Neu fel noswaith ferr, neu rychwant,
Yspon.
Neu fel gyrsa, neu lifeiriant,
Neu fel ewŷn, neu fel awel,
Fellŷ'r einioes sŷ'n ymadel.
9.
Neu fel cwmmwl yn diflannu,
Neu fel eira gwŷn yn toddi,
Fellŷ mêdd Salomon y doetha,
Einioes dŷn sŷdd ferr ei phara.
10.
Pa lês a wnâ casglu golŷd,
Trwŷ boen blin, a gofal dybrŷd,
Gwrthŷn,
Heddŷw n chwannog, ac yn chwerw,
A'r ail dŷdd yn bridd a lludw.
11.
Ni all mwnws, na dâ bydol,
Aur ac arian, tlysau reiol,
Na mawr gyfoeth, pan ddél dyfŷn,
Ystŷn einioes dŷn fŷnudŷn.
12.
Y Bŷd hwn sŷ'n methu llawer,
Ac fel Suddas yn llewn ffalster,
Mae fel hudol yn ein twŷllo,
Na roed nêb mo'i hyder arno.
13.
Ceisiwn ymaith, byddwn barod,
Mae'n hammodau ni ar ddarfod,
Nid gwiw ymbil, rhaid ŷw cychwŷn.
Pawb sŷ denant wrth orchymmŷn.
14.
Cychwŷn 'rydŷm tua'n cartre,
Fel dieithraid ar eu siwrne,
Ac yn codi o'u llettu noswaith,
Ar ail dŷdd yn myned ymaith.
15.
Ceisiwn beunŷdd heb ddeffygio,
Drwŷ wŷlofain, a gweddio,
Wir faddeuant am ein buchedd,
Gan yr Arglwŷdd, a thrugaredd.
16.
Dagrau'r edifeiriol gwirion,
Yw gwin melus yr Angvlion,
A gair Duw ŷw'r manna cannaid,
Gwŷnn.
Sŷdd yn ymborth pûr i'r enaid.
17.
Y rhai hŷn sŷ'n toddi'r pechod,
Gydâg ymprŷd, gweddi, cardod,
Ffŷdd, a chariad ŷw'r rhinweddau,
Sŷdd yn gwneuthur pawb yn Seintiau.
18.
Jesu a'n prynnodd a'i waed gwirion,
Fel y byddem lân Gristnogion,
Ac er ei fwŷn y cawn ein harchiad,
Gan y gwir-Dduw mawr ei gariad.
19.
Er mwŷn Jesu cawn ein gwrando,
Er mwŷn Jesu cawn ein croeso,
Er mwŷn Jesu cawn drugaredd,
A maddeuant am bôb camwedd.
20.
Y clôff, y dall, y mud, y byddar,
Ar rhai clwŷfus ar y ddaiar,
Yn y Nêf a fyddan berffaith,
Heb ddim ana 'n burlan odiaith.
21.
Ya y Nêf mae pôb anrhydedd,
Braint, ac urddas, parch a mawredd,
Gwîr lawenŷdd, a dedwŷddwch,
A bŷw bŷth mewn diogelwch.
Sicrwŷdd.
22.
Dymma'r wlâd nefolaidd dirion,
A ordeinwŷd i rhai cyfion,
I deŷrnasu mewn gogonedd,
Gyda'r drindod bŷth heb ddiwedd.
23.
Yno gydâ'r hôll Angylion,
Ar hôll Seintiau fanctaidd ffyddlon,
A canwn bŷth yr Halelujah,
Mawredd, moliant i Jehovah.
24.
Ffarwel fy chwaer dan yr un-dŷdd,
Y cawn gyfarfod bawb a'u gilŷdd,
I fŷw bŷth mewn gwir happusrwŷdd,
Gyda'n bendigedig Arglwŷdd.

Atteb diolchgar (a chyttunol mewn duwioldeb) at yr anwŷl chwaer un-galon.

1.
CAredigol bûr annherchion,
Oddiwrth anwŷl chwaer un galon,
Sŷ'n rhoi diolch i chwi ganwaith,
Am eich cyngor dâ, di-weiniaith.
2.
Buom gŷnt yn Jeuaingc ddigon,
Gydâ'n ffrŷns anwŷlaidd ffyddlon,
Wedi hynnŷ mynd ar wasgar,
Fel dieithraid ar y ddaiar.
3.
Yn y man dae henaint Nychlŷd,
I'n difuddio o'n Jeuengctŷd,
Megis gaiaf oer afrowiog,
Ar ôl tegwch yr hâf gwresog.
4.
Dymma gyflwr daiarolion,
Doe yn fŷw, a heddŷw'n feirwon,
Heddŷw fel y lili'n hyfrŷd,
Ac y foru'n mynd ir gwerŷd.
5.
Duw'n eich plaid, Chwaer garedigol,
Am eich cvngor dâ rhinweddol,
Tra fo anadl yn fy 'ngenau,
Mi a'i cofia bŷth hŷd angau.
6.
Rhoefoch i mi siamplau odiaeth,
Nad ŷw'r Bŷd ond siommedigaeth,
Ac nad ydŷw einioes un-dŷn,
Ar y ddaiar ond mŷnudŷn.
7.
Nid ŷw dŷn ond megis gwlithŷn,
Neu brŷ llwŷd, neu geiliog rhedŷn,
Neu fel goldŷn têg yn gwŷwo,
Neu ffrŵd chwŷrn yn rhedeg heibio.
8.
Neu fel dyrnfedd, neu fel amnaid,
Neu fel ebwch, neu ochenaid,
Neu fel modfedd, neu fel blisgŷn,
Neu fel Cneuen heb gynhwŷllŷn.
9.
Neu fel tarth, neu us, neu golion,
Neu fel gwŷbed, neu forgrugion,
Neu fel trwst, neu sŵn yn pallu,
Neu fel tremŷn yn diflannu.
Crap golwg.
10.
Ni wŷr dŷn yn wir moi amser,
Mwŷ na'r pŷsc mewn rhwŷd a ddalier,
Neu'r aderŷn angall gwirion,
Sŷ'n yr hoŷnŷn
Rhwŷd o rawn neu flew.
mewn trwm galon.
11.
Einioes dŷn mae hŷn yn goel-sain,
Sŷ o flwŷddau'n ddêg a thrugiain,
Os eiff ychwaneg drwŷ nerth nattur,
Nid ŷw y rest ond poen a llafur.
Psalm 90.10.
12.
Fellŷ'r amser sŷdd yn paffio,
O ddŷdd i ddŷdd, heb orphwŷso,
Ac heb aros mae'n ddisyfyd,
disymwth.
Yn dwŷn pawb ir gwelŷ priddlŷd.
13.
Pa chwant brwnt sŷ'n gyrru dynion,
I bentyrru Mwnws
golud.
budron,
Ac ar ol ei boen yn casglu,
Gwnaed i arall eu meddiannu.
14.
Rhown ein trysor fel Cristnogion,
Ym mynwesau 'r truain gwirion,
Ni a'u cawn eilwaith heb ddim colled,
Yn helaethach ar eu canfed.
15.
Fy chwaer anwŷl, mae'n rhaid i ni,
Bellach fwrw'n Tâsg, a'n cyfri,
Ac mae'n fadws i ni 'madel,
A'r Bŷd hwn, a chanu ffarwel.
16.
Ymma'r ydŷm fel dieithred,
Yng-wlad Babel mewn caethiwed,
Lle nis gallwn fôd yn llawen,
Nes bôd gartref Yng-haerselem.
17.
Ceisiwn fynd o Sodom ymmaith,
Llé mae pob drygioni diffaith,
Awn a'r frŷs i fynŷdd Seion,
Lle mae'r Saint, a'r holl Angylion.
18.
Awn or Aipht i Ganan nefol,
Llé mae'n llawn bób dawn dymunol,
Lle mae Nectar ac Ambrosia,
Ymborth Nefol.
A danteithion Duw gorucha.
19.
I Gaerselem Ddinas reiol,
Ceisiwn fynd ar frŷs yn firiol,
I gŷd byngcio cri'r Election,
Dewisol.
I Grist Jesu ein Brenin Cysion.
20.
Awn dan lesain bŷth Hosanna,
"Achub yr Awron Ar­glwŷdd.
I'n pen ceidwad sancteiddiola,
A rhoi moliant, clôd a mawredd,
I Grist Jesu, bŷth heb ddiwedd.
21.
Crist ŷw'n Jechŷd, Crist ŷw'n swccwr,
Christ ŷw'n Ceidwad, Crist ŷw'n prynnwr,
Crist a'n Ceidw bŷth heb ddiffig,
Crist ŷw'n Brenin bendigedig.
22.
Yn y Nêf mae pawb yn happus,
Ac fel Angylion Duw'n gariadus,
Pawb yn llawen, heb ddim tristwch,
A bŷw bŷth mewn diogelwch.
Sicrwŷdd.
23.
Er mwŷn Jesu cawn a fynnon,
Parch, a braint, ac urddas ddigon,
Er mwŷn Jesu cawn bôb mawredd.
A bŷw'n happus, bŷth heb ddiwedd.
24.
Ffarwel fy chwaer dan yr amser,
Y cawn fyned i'r uchelder,
I deŷrnasu yn y nefoedd,
Gyda'n Brenin yn oes-oesoedd: Amen.

Dyriau ar Gynghorion hên ŵr i fachen.

1.
GWrandewch arnai'n traethu'n galed,
Fel yr happiodd i mi glywed,
Hên ŵr wedi pedwar ugien,
Yn cynghori llangc o fachgen.
2.
Dwedai'r hên ŵr, mwŷn caredig,
Gwrando 'machgen, bŷdd fŷw'n ffyrnig,
Magle'r Bŷd mi a gês eu profi,
Gochel ditheu'r rhain os medri.
3.
Penna pêth i ti ofalu,
Am gael grâs gan Dduw i'th helpu,
I folianu Duw yn ddibaid,
Sŷdd yn cadw'r corph, a'r enaid.
4.
Ni rŷdd canwŷll ddim goleuni,
Heb dân ar ei phen yn llosci,
Na phen dŷn heb pwŷll iw riwlio,
Nid ŷw'r corph ond tann ei ddwŷlo.
5.
Cofia'r Arglwŷdd Dduw yn ffyddlon,
Ofna'n fawr o wraidd dy galon,
Galw arno ymhôb cledi,
Nid all dim drŵg niwed i ti.
6.
Wrth sylfaenu chwilia'r grafel,
Ffals ŷw'r Bŷd, a thaer ŷw'r Cythrel,
Cofia'r gwaith wrth ddechreu ei wneuthŷd,
Beth all fôd y diwedd hefŷd.
7.
I'r dŷn tlawd bŷdd di drugarog.
Na phrŷn yn ddrud, gan gybŷdd chwannog,
Na ddôd mo'th ddâ i wŷr y gyfreth,
Cochel f'enaid bôb machnieth.
8.
Na ddôd mo'th draed mewn rhŷd cŷn gwŷbod,
Beth ŷw'r dyfnder fŷ'n y gwaelod,
Ac na ddal ar ddîs i dreinglo,
Ond y pêth nid rhaid it wrtho.
9.
Cyfarch Dduw yn amla geiriau,
Ac na ddôd mor fall ar d'enau,
Na thwng lŵ, na mawr na bychan,
Cadw Sabbath Duw ei hunan.
10.
Nac ymddiried (gochel, gwŷbŷdd,)
Mo'th hên elŷn, am ffrŷnd newŷdd,
Fe all hên gâs o fynwes hwnnw,
Fôd tan glust ei gap ynghadw.
11.
Od ei ir Dafarn gochel feddwi,
Mammaeth pechod, twŷll a choegni,
A thri phéth a gei di hefŷd,
Dig, a cholled, ac afiechŷd.
12.
Wrth enweirio (bŷdd ofalus)
A bâch o berl, mae'r dŵr yn drwblus,
O chŷll y bâch, mae mwŷ'n y gwaelod,
Nac a ddaliech bŷth o byscod.
13.
Heudda fendith yn natturiol,
Dy Dâd, a'th Fam, fel plentŷn grasol,
Câr y gwir, casâ bôb celwŷdd,
Os mynni fôd yn wâs i'r Arglwŷdd.
14.
Gochel ymladd (ynnill gariad)
A ffŵl, a gwraig, ac offeiriad,
Goddeu geccrŷn yn ddioddefgar,
Nes a trawo wrth ei gymmar.
15.
Cofia'n wîr y Gair a ddywedwŷ,
Na ddring gamfa o chei adwŷ,
Pa nesa fô dy droed i'r grownd-wal,
Daiar.
Lleia fŷdd dy gwŷmp, a'th ofal.
16.
Na sŷth allan a'th gydymeth,
Na bo llê i gymodi eilweth,
Na ddôd gyfrinach bellach iddo,
Nag y gellŷch droi oddiwrtho.
17.
Gwilia'n un-lle ddechre cynnen,
Acnag ymliw, er dywed absen,
Gwilia losci (wrth gam ddeall)
Ben dy fŷs ymhottes arall.
18.
Cais ymdaro er mwŷn deu-ddŷn,
Dy hun a'th wraig.
Nid oes fawr o'r Bŷd a'i hedwŷn,
Er pruddhau dy gâs, a'i ddigio,
A llawenu'r sawl a'th garo.
19.
Bŷdd di gynail ar dy geiniog,
Hawdd yr â, hi a ddaw yn ddiog,
Aml ronŷn a wna lawer,
Ynnil grôt, ŷw y rôt a sparier.
20.
Od ei di i'r llwŷn i dorri gwialen,
Sef i'r gymansa i ddewis gwraig.
Meddwl fod yn gall fy machgen,
Gwedi ei chael a mynd iw nyddu,
Gwél fôd llawer un yn methu.
21.
Gochel neidio naid cŷn gwŷbod,
Bêth ŷw'r dyfnder sŷ'n y gwaelod,
Y diofala ar frŷs wrth redeg,
Sŷ'n amla'n taro ei droed wrth garreg.
22.
Cofia Grist, Gweddia'n ystig,
Darllen lyfrau gwŷr dysgedig,
Chwilia'r Bibl, gwrando bregeth,
Lle mae it gael dy iechŷdwrieth.
23.
Pan fŷch di mewn llan a thyrsa,
Na fŷdd falch i fynd ymlaena,
Nid fel yr eiff y cŷrph ir Eglwŷs,
Yr a'r eueidiau i Baradwŷs.
24.
Dŷsc a gwŷbŷdd hôll ddichellion,
Yr hên lwŷnog
Dŷn ystrowgar.
ffals anghysion,
A bŷdd fel yr oen diniwed,
Ar bôb meddwl, gair, a gweithred.
25.
Na ddôd bwŷs
Hyder.
yn falch ar ddynnion,
Dôd bwŷs ar Dduw, nid rhaid i't unon,
Fe wŷr Duw dy gam, a'th ofal,
Efe sŷ'n dioddef, ac yn dial.
26.
Na ddôd mo ben dy fŷs i brofi,
Pob pêth yn siop y Pothecari,
Cadw yn lân dy law bôb amser,
Tippŷn bâch 'all ddiwŷno llawer.
27.
Ni wŷr un-dŷn yn ddiogel,
Siŵr.
O faglau'r Bŷd beth reittia eu gechel,
Y bai lleia o'th frŷd dy hunan,
A all yn hawdd, dy dorri allan.
28.
Ffarwel weithian, bŷdd ofalus,
Cŷn dy hudo or Bŷd twŷllodrus,
Gwell yn Jevangc ŷw gofalu,
Nac yn henaint edifaru.
29.
Fy 'nghynghorion o gwna'n bleser,
A brynnais i yn ddrŷd yn f amser,
Ti a'u cei'n rhâd, mae'n ddi-gwŷn genni,
O gwna'r un i ti ddaioni.
30.
Oni chei di yn y diwedd,
Fy nghynghorion yn wirionedd,
Na wnâ goel ar hên ddŷn oediog,
Gwnâ dy feddwl ddŷn yfrywiog.

Dyriau o cyngor i ochel rhoi tafod drŵg i nêb.

1.
COfia dri phêth, na fŷdd amhwŷll,
Gwilia biccio ymadrodd byrbwŷll,
Os coelio a wnei di'r hên ddihareb,
Dy dafod 'eill gwilyddio d'wŷneb.
2.
Yn gyntaf meddwl hŷn o'th wir-fodd,
A 'Ydŷw'n weddol yr ymadrodd,
Yr wŷt ti ar feder ei roi allan,
Na bo fe gwarth i ti dy hunan.
3.
Yn ail meddwl, yn ei Absen,
Am bwŷ bô'r gair yn ôl ei gefen,
Ac wrth bwŷ, a phwŷ fo'n gwrando,
Dyna'r trydŷdd, cais ei gofio.
4.
Gwaeth ŷw tafod dŷn amhwŷllog,
Nac un Cleddŷf llŷm dau finiog,
Pôb perchennog pâr o ddannedd,
Rhoed nhw 'ngharchar yn eu ceuedd.
5.
Yn ei galon lân ystyriol,
Y mae tafod gŵr synhwŷrol:
Yng-wrthwŷneb hŷn o draethod,
Calon ffŵl sŷdd yn ei dafod.
6.
Medru tewi sŷ bêth hyfrŷd,
Gydâ bôd yn medru dwedŷd,
O medri hŷn, drwŷ Dduw dy geidwad,
Di elli fedru bŷw drwŷ gariad.

Dyriau yn dangos Cyflwr a buchedd dŷn, gan Gyffelybu enioes dŷn i Bedwar chwarter y Flwŷddŷn; Ac yn annog i ymbarodtoi i farwolaeth, er mwŷn Jechŷdwriaeth i'r enaid.

1.
NOeth i'm ganed, gwan a bŷchan,
Ynfŷd, byddar, heb ymlwŷbran,
Yn ddieithrŷn, dwl di-ddeall,
Braidd yn ddŷn, heb fedŷdd, angall.
2.
A chwedi 'ngeni fe'm bedyddiwŷd,
Ac yn f'enw, llŵ a roddwŷd,
Ar barhau ohono i'n llwŷr-frŷd,
Yn wâs i Dduw holl ddyddiau 'mywŷd.
3.
Fel'r oedd f' amser yn cynnyddu,
Nattur oedd i'm cynnysgaeddu,
A phum rhŷw o synwŷr diball,
Fel y rhoddeu Dduw nhw i arall.
4.
Fe roddodd Duw i mi ddysceidiaeth,
I'm cyfarwŷddo mewn gwŷbodaeth,
I gael gwŷbod, fel wrth amnaid,
Y ffordd oedd i gadw yr enaid.
5.
Rhodio'r dŷdd, mewn coeg ddigrifwch,
Cyscu'r nôs heb ddim 'difeirwch,
Codi heb gyfarch Duw y boreu,
Dyna fywŷd gwaeth nag angeu.
6.
Cymrŷd pleser mewn coeg faswedd,
A mynd rhagof mewn anwiredd,
Ac ymddadleu yn f'ynfydrwŷdd,
Lleia sôn oedd am onestrwŷdd.
7.
Pan oedd amser chwŷnnu ydau,
Torri'r drŵg er ffynnŷ'r gorau,
A minneu'n gado i'r ddau gŷd-tyfu,
Nes i'r chwŷn yn llwŷr orchfygu.
8.
Pan oedd amser medi ydau,
A phôb call yn casclu eu ffrwŷthau,
Ac yn cario eu scubaun gaeth-law,
A minneu'n dywad adre'n wag-law.
9.
Ac yno gwelais rŷhwŷr i mi,
Eiste i lawr a bwrw 'nghyfri,
O waith diofalrwŷdd yr hâf tyner,
Gwaith y gwanwŷn aeth yn ofer.
10.
Rydwŷ'n gweled nad oes gwanwŷn,
Ond un 'sywaith yn y flwŷddŷn,
Os hâd dâ púr, yn wir ni heuir,
Chwŷn, a gold, ŷw'r ffrwŷth a gesclir.
11
Gwn etto nad oes dim er cofio,
I alw'n ôl y prŷd aeth heibio,
Nac i ynnill dim o'm colled,
Y rhan sŷdd o'm hoes heb gerdded.
12.
Y Lloer
Lleuad.
sŷdd mewn pymtheg diwrnod,
Yn ei chryfder llawn yn dyfod,
Ac mewn pymtheg diwrnod beunŷdd,
Wannach fŷdd bôb dŷdd nai gilŷdd.
13.
Ar môr fel y mae rhyfedda,
Mewn chwech awr a leinw i'r eitha,
A chŷn aros yno un-awr,
Treio a wna fe i gŷd cŷn chwech-awr.
14.
Ni eill y Lleuad ddal o'i chynnŷrch,
Gwanhau a wna, a cholli ei llewŷrch,
Ar môr ynteu wedi y llenwo,
Rhywŷr gantho 'm ddechreu treio.
15.
Fellŷ dŷn pân ddêl ei flodau,
Ni erŷs ond ychydig ddyddiau,
Colli a wna ei rŷm, a'i hôll-fraint,
A gwanhau trwŷ awel henaint.
16.
Ac yno gwelir ôl y blwŷddau,
Yn brintiedig yn ei ruddiau,
Colli'r deall, ar cô perffaith,
A fu'n ŵr, fe a'n faban eilwaith.
17.
Gwanwŷn ŷw hi ar ddŷn hŷd ddeunaw,
Hâf hŷd ddêg ar hugain rhag-ddaw,
A chynhaiaf hŷd ddêg a deugain,
Ac or gaiaf oer mae ugain.
18.
Dyna'r nôd a osodwŷd iddo,
Odid un sŷ'n saethu drosto,
Ac o tŷn drwŷ gryfder nattur,
Nid ŷw y rest ond poen a llafur,
19.
Mae Duw'n taro rhai'n gynharach,
Ac yn gado'r lleill yn hwŷrach,
Fellŷ y mae'n cywiro ei wŷllŷs,
I'n dysou ninnau'n wiliadwrus.
20.
Dŷn na chysced mewn anwiredd,
Cried ar Dduw am Drugaredd,
Fel dyna gyngor Sol'mon wir-ddoeth,
Rhag ofn nas mêdd mo'i einioes dranoeth.
21.
Rhywŷr ŷw i ni edifaru,
Pan roer llwŷth o bridd i'n llethu,
Nêb heb ddâllt mo'i stât ei hunan,
Ar grudd yn ymwasc dan y graian.
22.
Duw cadw ni rhag dîg, a gwarthrŷdd,
Ac yng-hysgod dy adenŷdd,
Yn ôl hŷn o bererindod,
Er mwŷn Crist, dôd i ni gymmod.

Catechism yr Eglwŷs ar Gân.

1.
BEth ŷw d' enw a fedri ddywedŷd,
Gofŷn.
S. neu J. fel hŷn i'm galwŷd,
Atteb.
S. neu J. fel hŷn i'm galwŷd,
Pwŷ a rôdd dy enw elfŷdd?
Gofŷn.
Fy Nhadau, a Mamau bedŷdd.
Atteb.
2.
Pa rŷw brŷd? a wŷddost amcan?
Gofŷn.
Wrth fy nhrochi mewn bedyddfan,
Atteb.
Pan i'm gwnaed yn fŷwiol aelod,
O'r ail person yn y Drindod,
3.
I Dduw Dâd yn blentŷn cyhoedd,
Ac etifedd teŷrnas nefoedd.
Pa bêth trosod y prŷd hwnnw,
Gofŷn.
A wnaeth dy ddodyddion-enw?
4.
Hwŷ 'addawsant trwŷ adduned,
Atteb.
yn fy enw i dair gweithred,
Sêf, ymwrthod yn llwŷr ddigon,
Ar hén ddiawl al hôll orchwŷlion.
5.
Rhwŷsg, a gwagedd y Bŷd drygiol,
A throseddus chwantau cnawdol,
Yr ail ŷw, bôd i mi gredu,
Hôll wîr byngciau ffŷdd Christ Jesu:
6.
Ac yn drydŷdd bôd im ffyddlon,
Gadw bôdd, a hôll orchmynnion.
Fy Nuw Dâd, a rhodio ynddŷnt,
Tra bô yn y Bŷd fy helŷnt.
7.
Onid ŷw dy dŷb a'th oedran,
Gofŷn.
Yn dy farnu di dyhunnan,
Yn rhwŷmedig i lwŷr gredu,
A diyscog iawn weithredu.
8.
Eu hôll addewidion parod,
Ar adduned a wnaed trosod?
Siccredd ŷw trwŷ nerth Duw'n unig,
Atteb.
Bŷdd hŷn ynof gyflawnedig:
9.
Ac yr ydwŷf yn wastadol,
Yn mawr ddiolch im Tâd nefol,
Am fôd mor barôd-wiw ganddo,
Trwŷ Grist fy iachawdwr ynddo
10.
Beri awr fy-ngalwadigaeth,
I'r hon gyfrŷw iachawdwriaeth,
Gwnaf at Dduw erfŷniol weddi,
Am ei râd, a'i fendith i mi.
11.
Môdd y gallwŷf ynddŷnt Bara,
Tra bo ffûn i'r einioes yma.
Y Duw maŵr a'th gynorthwŷo!
Gofŷn.
Adrodd fannaû dy ffŷdd etto?
12.
Credaf yn Nuw Dâd, holl alluog,
Atteb.
Creawdr Nêf a Daiar enwog;
Ac yn Jesu Grîst ei un Mâb,
Ein Harglwŷdd ni ŷw ê'n ddianab.
13.
Yr hwn a gafwŷd trwŷ lân ysprŷd,
O'r Fair Forwŷn êf a anwŷd,
A ddioddefodd tan Pontius Pilat,
a groes-hoelwŷd er grâs arnat.
14.
A fŷ farw, ac a gladdwŷd,
ac a aeth i Uffern hefŷd,
Y trydŷdd dŷdd efe 'gyfododd,
O farw i fŷw, ac aeth i r nefoedd:
15.
I mae yn eistedd ar ddeheulaw,
Duw Tâd hôll gyfoethog meddaw,
Oddiyno 'daw i farnu'r cyfan,
y bŷw a'r meirw i gŷd yn'r un man.
16.
Credaf fi'n yr ysprŷd glân-bûr,
A'r Eglwŷs lân Gatholig eir-wir,
Cymmun y Sainct, a maddeuant,
Ein pechodau er eu cymmaint.
17.
Cyfodiad cnawd, a'r bywŷd nefol,
I'r Duwiolion yn dragwŷddol,
Amen.
Pa bêth ŷw dy brif ddysgeidiaeth,
Gofŷn.
Or rhain byngciau dy greduniaeth?
18.
Fy nŷsg ŷw, yn gyntaf gredu,
Atteb.
Yn nuw Dâd, a'i hollawl allu,
Yr hwn mewn darbodus ennŷd,
Am gwnaeth i, a'r hôll fŷd hefŷd.
19.
Yn ail rhoi fy-nghred a'm hyder,
yn Nuw Fâb, yr hwn mewn amser,
A fŷ werth fy mrhynedigaeth,
A phôb dynol rŷw genhedlaeth.
20.
Adnewŷddu sail fy-nghrefŷdd,
Yn Nuw'r ysprŷd glân, yn drydŷdd,
Yr hwn sŷdd im gwîr sancteiddio,
Ar hôll etholedig eiddo.
21.
Dywedaist i'th ddôdyddion enw,
Gofŷn.
Addaw trosod, ar i't gadw,
Hôll orchmynion Duw, f'anwýl-ddŷn,
Adrodd im pa nifer ydŷn?
22.
Dêg y rhifed y gorchmynnion,
Atteb.
Moes eu clywed mewn môdd union,
Gofŷn.
Y rhai hŷn llefarodd Duw,
Atteb.
O gyngor dâ i bôb dŷn bŷw.
23.
Pa rŷw addŷsc a gynnullwch,
Gofŷn.
Yn y dengair, deddf a dreuthwch.
Sef, bôd yn y dêg gorchymŷn,
Atteb.
Ddwŷ ddyledswŷdd o'r un gwreiddŷn.
24.
Un ŷw tua'm Duw trugarog,
Ar llall sŷdd at fy nghymydog;
Hŷn mewn bŷrr ŷw perffaith gariad.
Bêth at Dduw ŷw dy ddylediad?
Gofŷn,
25.
Fyngwir gyfiawn ddyled atto,
Atteb.
ydŷw ffyddlawn gredu ynddo,
Ei ofni êf, a'i garu'n ddibaid,
Am hôll galon, nerth, ac enaid,
26.
Ei addoli, diolch iddo,
Rhoi fy hôll ymddiried ynddo,
Anrhyddû, trwŷ iawn alw,
Ei aîr, a'i sancteiddiol enw:
27.
Ei wasanaethu'n gŷwir hefŷd,
Tros hôll ddyddiaû fy llwŷr fywŷd.
Pa bêth ŷw y ddyled honno,
Gofŷn.
Arnad, ith gymydog etto?
28.
Ei garû ef yn gwbl gyfan,
Atteb.
Mal y carwŷf fi fy hunan:
Gwneuthur i bôb dŷn y goreu,
Fel a chwenŷchwn wneud i minneu;
29.
Caru, cymmorth, ae iawn berchi,
Tâd a Mam, a'm hôll rieni,
Anrhydeddu mewn ufudd-dod,
yr iawn Frenin, a'i awdurdod.
30.
Ymddarostwng i swŷddogion,
I'm llywiawdwŷr, a'm hathrawon,
I ysprydol wîr fugeiliaid,
Ac I bawb o'r graddol feistraid.
31.
Perchi 'ngwell, na wnelwŷf niwed,
I nêb, nac ar air na gweithred,
Bôd yn gywir, ac yn union,
ymhôb gorchwŷl, a marchnadon.
32.
Na bô câs, na dryg-frŷd cyfrwŷs,
I nêb yn fy mron yn gorphwŷs,
Dal fy llaw, a'i dyfal warchad,
Rhag pôb mâth ar enw lladrad:
33.
Cadw'r tafod na bô perchen,
Cabledd, celwŷdd, neu ddrwg-absen:
Cadw'r corph mewn cymhedrolded,
Sobrwŷdd meddwl, a diweirdeb.
34.
Na chybyddwŷf, mewn chwant angall,
Y dâ fyddo eiddo arall,
Eithr dyscû, a phûr lafurio,
yn yr alwedigaeth honno.
35.
Y bo gwiw gan Ddûw fy rhoddi,
Er iawn ddwŷn fy muchedd ynddi.
Gwŷbŷdd fy anwŷlŷd bychan,
Gofŷn.
Nad wŷd ti o'th nerth dy hunan.
36.
Abl i weithredu'n, iawndda,
yr hŷn ôll a ddywedaist yma,
Nac i gadw'r hôll orchmynion,
A gwasanaethû Dûw yn union.
37.
Heb ei râd yspŷsol i ti,
Yr hŷn trwŷ dy ddyfal weddi,
Sy raid beûnŷdd alw amdano,
Mewn difrifol galon gyffro.
38.
Moes im glywed o'r hŷn herwŷdd,
A fedri ddywedŷd gweddi'r Arglwŷdd.
Ein Tâd nefol o'r Uchelder,
Atteb.
D' enw grasol a sancteiddier.
39.
Bydded d' ewŷllŷs a'r ddauaren,
Fal y mae'n y nefoedd lawen,
Dyro heddiw wir Johofa,
I ni ein beunyddiol fara.
40.
Dôd faddeuant o'n dyledion,
Mal y rhown i'n cŷd gristnogion,
I demtasiwn paid a'n twŷso,
Gwared ni rhag drŵg i'n hudo.
41.
Canŷs eiddot iw teŷrnafu,
Nerth, gogoniant ôll, a gallu,
Yn oes-oesoedd wrth ystyrrio,
Yn dragywŷdd fellŷ y byddo.
Amen.
42.
Bêth ar Ddûw yr wŷd iw erchi,
Gofŷn.
yn yr hon berffeithiol weddi?
'Rwŷf yn erfŷn ar fy Arglwŷdd,
Atteb.
Ein Tâd Nêf a Dûw'r sancteiddrwŷdd.
43.
Rhoddwr pôb daionûs gyfraid,
Anfon arnaf fi, a'i ddeiliaid,
Ei lân râd, y môdd y gallom,
Roi'r gweinyddol barch a haeddom.
44.
Ar ufudd-dôd sŷdd ddyledol,
Iw fawr glôd, a'i enw nefol;
'R'wŷf yn deisŷf ar Dduw hefŷd,
Anfon i ni, o'i syberwŷd.
45.
Bôb beunyddiol angenreidiau,
I'n cŷrph ôll, a'n gwael eneidiau;
Tanu trosom ei drugaredd,
A diddymmu'n, hôll anwiredd;
46.
Ac ar fôd yn drâ gwiw ganddo,
Ein cadw ni, a'n hachub etto,
Mewn pôb rhŷw enbŷdrwŷdd corphol,
Neu drallodus dŵrf ysprŷdol;
47.
Ein cudw, a'n gwarchadw'n wastad,
Rhag pôb mâth o gam droseddiad,
Rhag ein llwŷr ysprydol elŷn,
A'r tragywŷddol drangc di derfŷn.
48.
A hŷn ôll a wna fê i ni,
O'i drûgaredd, a'i ddaioni,
Trwŷ Grist Jesu, tan obeithio,
Dywedaf Amen. Boed gwir fyddo.
49.
Ni chyrrhaeddi ben dy yrfa,
Gofŷn.
Er a ddwedaist i mi yma,
Ond ŷw i ti yn hyspysol,
Pa sawl Sacrament priodol;
50.
A ordeiniodd Christ yn unig,
Yn ei Eglwŷs lân Gatholig?
Daû'n ddigymysc gwbl reidiol,
Atteb.
I bur iachawdwriaeth nefol.
51.
Sef glan fedŷdd, a'r iawn Swpper,
A osododd Chrîst iw arfer.
Beth yr wŷd iw feddwl-fwrw,
Gofŷn.
Wrth Sacrament, y gair hwnnw?
52.
Bwrw'r,
Atteb.
wŷf weledig arwŷdd,
O'r ysprŷdol râd sancteiddrwŷdd,
Oddi fewn a roddir i mi,
Ac oddiallan yn hynodi:
53.
Hŷn a drefnodd Christ ei hunan,
Megis môdd neû gyfrwng cyfan,
I ni dderbŷn y grâs hwnnw,
Trwŷddo ef a'i nefol enw.
54.
Ac i fôd yn wŷstledd unrhŷw,
I'n gwir siccrhau ni o'r cyfrŷw.
Pa sawl rhan neu barth iw nodi,
Gofŷn.
Sŷdd mewn Sacrament dybygi?
55.
Dwu o uchel-fri,
Atteb.
yn enwedig,
A phob un yn fendigedig,
Rhan oddiâllan weledigol,
Ac ô fewn y grâs ysprydol.
56.
Pa bêth ŷw'r gweledig arwŷdd,
Gofŷn.
Neu'r nôd allan yn y bedŷdd?
Dwfr,
Atteb.
sêf yn yr hwn a trochir,
y nêb ynddo a fedyddir;
57.
Tan iawn enw galluogaidd,
Tâd, a Nâb ac ysprŷd sanctaidd.
Pa bêth ŷw y grâs ysprydol,
Gofŷn.
Oddifewn? a wŷd hyspysol?
58.
Llwŷr farwolaeth bŷth i bechod,
Atteb.
Hên wahanglwŷs ein hên hanfod;
Buwiol newŷdd enedigaeth,
I gyfiawnder ein crediniaeth;
59.
Canŷs gan ein bôd mewn gwegi,
Wrth naturiaeth wedi'n geni,
Yn blant pechod, llid, a cherŷdd,
Yn blant grâs i'n gwneir trwŷ fedŷdd.
60.
Pa weithredoedd a ddisgwŷllir,
Gofŷn.
Gan bwŷ bynnag a fedyddir?
Edifeirwch, trwŷ'r hon rinwedd,
Maent i'm wrthod ag anwiredd.
61.
A ffŷdd gadarn, trwŷ ba allu,
Y maent yn diyscog gredu,
Addewidion Duw, ar draethiad,
Yn y Sacrament o drochiad.
62.
Pam wrth hŷn;
Gofŷn.
moes i mi wŷbôd,
y bedyddir y Babanod;
Gan nad all na'u nerth na'u hoedran,
Jawn gyflawni gair o gyfan?
63.
Jê,
Atteb.
trwŷ'r meichnâon a fyddo,
I cyflawnant hŷn yn gryno,
Addaw maent hwŷ yn eu henwau;
yr hŷn ôll trwŷ addunedau:
64.
I'w gwblhau mewn oedran gweddol,
Maent eu hunain rwŷmedigol.
Pam yr ydŷs yn llûniaethû,
Gofŷn.
Sacrament o Swpper Jesu?
65.
Er tragwŷddol goffadwriaeth;
Atteb.
Am fawr aberth ei farwolaeth,
A lleshad yr ŷm ni gymmaint,
Yn ei dderbŷn oi ddioddefaint.
66.
Bêth ŷw'r allan ran neû'r arwŷdd,
Gofŷn.
Yn hwn Swpper glân yr Arglwŷdd?
Bara a gwin,
Atteb.
trwŷ orchymŷn,
A rôdd Chrîst ar bawb eu derbŷn.
67.
Pa bêth ydŷw y dirgeledd,
Gofŷn.
Neu'r rhan oddifewn sŷ'n gorwedd?
Corph a gwaed yr Arglwŷdd Jesu,
Atteb.
Ar rhai sŷdd yn ffyddlon gredu,
68.
Diau sŷdd yn gwîr gymerŷd,
Mewn iawn fôdd yn derbŷn hefŷd,
Y ddau hŷn, yn un ysprydol,
Yn y cyfrŷw swpper nefol.
69.
Pa leshad,
Gofyn.
a gawn ni nifer,
Yn y Sacrament or Swpper?
Cryfhau'r enaid,
Atteb.
a'i diddanu,
Trwŷ wîr gorph a gwaed yr Jesu.
70.
Mal y mae ein cŷrph ni yma,
yn cael porth trwŷ'r gwîn ar Bara.
Pa rŷw weithred sŷdd iw ddisgwŷl,
Gofŷn.
Gan a ddêl i'r cyfrŷw "berwŷl?
"Bwrpas.
71.
Chwilio'n llwŷr trwŷ ymholiadau,
Atteb.
Hôll gilfachoedd eu calonnau,
A ydŷnt ddifrif edifeiriol,
Am Bechodau fu rhagflaenol.
72.
A llwŷr amcan eu meddylfrŷd,
Ar ddwŷn buchedd newŷdd hefŷd,
A oes bŷwiol ffŷdd iw cyrchu,
Yn nrhugaredd Duw, trwŷ'r Jesu,
73.
A diolchgar gôf diammeu,
Am ei chwerwaidd ing, a'i angeu,
A llawn gariad gwîr-berffeithiol,
I bôb perchen enaid dynol.
Ymma a diweddiff y Catechism.

Sulw ar Ogoniant y Nefoedd.

1.
AR ddeulin-blŷg cais baradwŷs,
Dôs gweddia mêdd yr Eglwŷs,
Pŷrth yn llydan egŷr i ni,
I ynnill coron Sêr goleuni.
2.
Un Tŷ Peder Sanct gyferbŷn,
Paul Sanct ŷw'r llall, a'r dêg gorchymŷn,
Crêd mêdd un, ar llall gwna'n gymwŷs,
Ac edrŷch ar ein Mam yr Eglwŷs.
3.
Mal arweinŷdd 'ddysgai'n dalgrwn,
Bêth a gredwn, neu weddiwn,
Ar hon mal Goshen, er prŷd nosi,
Llewŷrch Duwdab, a goleuni.
4.
Ynghanol man sŷdd yn llewyrchu,
Ffordd ymddengŷs oddi fynu,
A hon ŷw Crist, o'i wir gyfryngdod,
A'n dŵg i'r anneddau uchod.
5.
Y Tâd a'n tŷnn i r cyfle hyfrŷd,
Yno ein harwain y glân ysprŷd,
Angylion amgŷlch a'i hadenŷdd,
I'r Eglwŷs nodant Grist yn llywŷdd.
6.
Y ffordd, y gair, ir wir Nef oleu,
Jechŷdwriaeth i'n eneidiau,
Tâd, Mâb, ysprŷd, un yn Drindod,
Angylion, Apostolion Mawr-glôd.
7.
Yn hŷn a gyttunant ollawl,
Ar ffordd i'r hyfrydwch nefawl,
Trwŷ Grist (iw Eglwŷs) ffŷdd, a gweddi,
Y mae'r cwbl iw gyflawni.
8.
Y Tâl, y llyfr, efo'r Awdwr,
A ddymunai i ti yn gyflwr,
Fôd ohonot bŷth oddiwrtho,
yn eiddo Duw a'r Nêf i'th eiddo.

Dyriau yn Cyffelybu oes Dŷn i chwaryddiaeth.

1.
EInioes dŷn sŷdd yn gyffelybus,
I chwarae 'fyddai gwir alarus;
Crôth y fam ŷw tŷ'r ymwisgiad,
Ar ystafell, o'r dechreuad.
2.
Y ddauar ŷw y llê'r ymddengus.
Ar chwaryddle'r wlâd lle 'rerus,
Y Chwaryddwŷr ŷnt ddrŵg absen,
Llid, ynfydrwŷdd, a chynfigen.
3.
Y waedd gyntaf a rôe'r plentŷn,
Prolog ŷw, mae'r chwarau'n canlŷn,
Mud amneidiau ŷw'r Act gyntaf,
Pêth perffeithiach ydŷw'r nesaf.
4.
Yn y drydedd gŵr ŷw'n dechrau,
Maethu lliaws o bechodau,
Y Bedwaredd mae'n dihoeni,
Y pumed clwŷfus mewn trueni.
5.
Yr epilog ŷw dyfod angeu,
I roi diben o'i benudiau:
Ac yno'r Corphŷn i'r ddaiaren,
Ar enaid bŷth i'r Nêf neu Uffern.

Cynghor i Bechadur i ddyfod at Grist, ac i fŷw yn Sanctaidd.

1.
TYred hên Bechadur truan,
Tyred at Grîst trwŷ ffŷdd dan ruddfan;
Mae Mâb Duw yn d'alw atto,
Od ŷw pechod yn dy flino.
2.
Er dy golli'n gwitt yn Adda,
Er ir Cythrel câs dy ddala,
Er it ddigio Duw yn danllŷd;
Crêd Yng-nghrist, fe geidw'th fywŷd.
3.
Er dy ennil mewn anwiredd,
Er it fŷw mewn aflan fuchedd;
Tyrd at Grîst, cais gymmorth gantho,
Fe all dy olchi, a'th ail-drwsio.
4.
Er dy fôd ti yn Elŷn Duw,
Wrth naturiaeth a'th ddrwg rŷw;
Cred Yng-nghrist, fe a'th wnâ o Elŷn,
I'th nefol Dad yn anwŷl Blentŷn.
5.
Er dy fôd yn Slâf i Satan,
Ac yn wâs-caeth yn ei gorlan:
Cred Yng-nghrist, fe'th dŷnn o'i grampe,
Fe'th ddwg o'i dywŷll gell i'r gole.
6.
Er dy fôd yn haeddu'th ddamnio,
A'th droi i Uffern i'th boenydio;
Crêd Yng-nghrist, fe'th ddŵg i'r Nefoedd,
I glodfori'r hwn a'th greodd.
7.
Na thŷb dy fôd yn credu'n gywir,
Oni newid Crist dy nattur,
Y Dŷn a gredo 'ng-nghrist yn ffyddlon,
Fe newid Crist ei ddrŵg arferion.
8.
Cenfŷdd Saul, a chenfŷdd Zache,
Cenfŷdd Mari Magdalen hîthe,
Di gei weled Crîst yn altrio,
Buchedd pôb dŷn pan ei credo.
9.
Ni all Dŷn sŷ'n credu'n Ffyddlon,
Lai na gwella ei ddrŵg arferion,
Am fôd Crist yn rhoi glân ysprŷd,
I'r Pechadur'wellâ ei fywŷd.
10.
Onid ŷw dy ffŷdd yn fŷwiol,
Yn dwŷn Gair a gweithred rasol;
Nid ŷw hon ond ffŷdd mewn enw,
Ffŷdd na ddichon bŷth dy gadw.
11.
Bŷdd yn ffrwŷthlon (Ddŷn) gan hynnŷ,
Mewn duwioldeb, a Daioni,
Os yn siŵr a mynni wŷbod,
Dy fod trwŷ ffŷdd o Grist yn Aelod.
12.
Bŷdd drâ Sanctaidd i'r Galluog,
Bŷdd yn union i'th Gymmydog:
Bŷdd yn sobor it dy hunain,
Dyna'r tri phwŷnt rheita allan.
13.
Deilia'n union wrth fargenna,
Na thwŷll un-dŷn wrth farchnadta:
Duw ei hun sŷdd union Farnwr,
Rhwng y gwirion plaen a'r Twŷllwr.
14.
Gwna i eraill bôb Daioni,
Y ddymunit wneuthur i ti:
Na ddôd i arall waeth fessurau,
Nag y fynnit roi i titheu.
15.
Câr o'th galon bôb dŷn duwiol,
Bŷdd gyfeillgar, a rhinweddol:
Ac o ceri iechŷdwriaeth;
Gochel ddilŷn drŵg gwmnhiaeth.

Dyriau yn dangos ofered ŷw balchder y Bŷd hwn; Ac mo'r fuddiol ŷw Duwioldeb.

1.
TEstŷn 'rôf ir Cymru mwŷnion,
Sŷdd ŷw ystŷr mewn damegion;
'R hwn a'u deall drwŷ myfyrio,
Esbysed beth i'r lleill sŷ'n gwrando.
2.
Amrŷw Bren a dŷf tros amser,
Ei frig yn lâs, yn llawn o irder,
Cŷn heneiddo mae fe'n Crinno,
Ni thal ei ffrwŷth mor sôn amdano.
3.
Fellu y geire hŷn a gôfis,
Ni cheid ar ddrain mor peraidd ffigus,
Hâd y cyfion a geiff gyfoeth,
Ffrwŷthau drŵg a dorir ymaeth,
4.
Babŷlon fawr, hon a syrthiodd,
Am ei huchder yno trigodd,
Etto ei rhyfig, a'i ffieiddrwŷdd,
Or gwraidd hên sŷ'n tyfu o newŷdd.
5.
Elicus 'wnaeth rŷw hediad uchel,
Ceisio cnawdol fynd yn Angel,
Yr Haul a doddodd wraidd ei denŷdd,
I lawr a syrthiodd balchder efrŷdd.
6.
Rhai a geiff y Bŷd powerus,
Gwîn, a siwgwr, seigau melus,
'Na wnaed nêb ohonno'n ormod,
Rhag cael Bustŷl gyda wermod.
7.
Modrwŷ aûr yn-nhrwŷn hŵch meddan,
ŷw gwŷch ddŷn crâff a buchedd affan,
Doethder, synwŷr, medde Sal'mon,
Casglu o'r gwinwŷdd ydoedd gyfion.
8.
Dinnas Seion, lle duwioledd,
Nid eir yno heb drugaredd,
Y sawl a lwŷddo a'i elw'n dryfrith,
Ynnilled hwnnw fwŷ-fwŷ'r fendith.
9.
Ceiswich ddringo i'r Nê'n ewinog,
Tan wneuthŷd cyfran ar anghenog,
Cesglwch drysor yn y Nêfoedd,
Er cael mwŷniant yn oes oesoedd.
10.
Nid oes mo'r trysor yno'n llygru,
Mae pôb elusen i'n Croesafu,
Am rodd y gwan fe lwŷdda'n ganfed,
Duw a'i tâl yr hwn sŷ'n gweled.
11.
Deifes fawr a aeth i'r boeth-fflam,
A Lazrus wael i fynwes Abram,
Gwae a besgo'r cŵn ar briwsion,
A gadel eisie ar y tlodion,
12.
Pethau'r Bŷd fel gwêr a doddan,
Meddianau'r Nêfoedd ni ddarfyddan,
Fe ddaw y Brenin, a'r Cardottŷn,
I dderbŷn barn i'll dau gyferbŷn.
13.
Yr un wêdd er maint rhagoriaith,
I roi cyfri o'u bŷwoliaeth,
Y meddwl, enaid, efo'r ysprŷd,
Yn ddi-sylwedd sŷdd yn symŷd.
14.
Ond rhyfedd i ni fŷd feddylo,
Heb amodau yma i dario,
Mewn Tŷ o bridd mae yn anneddu,
Sŷdd a'i sylfaen yn gogrynnu.
15.
Pan ddêl yr awr bŷdd siŵr o ffarwel,
Or Tŷ hwn mae rhaid ymmadel,
Dâ am ddrygau na ddisgwŷlwch,
Meddig pechod, ŷw edifeirwch.
16.
I brŷnnu'r Bŷd, Nêf na werthwch,
Gydwŷbod bur-lân ydŷw harddwch,
Llwŷr wellhewch, ac ewch o newŷdd,
I gael dedwŷddwch yn dragywŷdd.

Achwŷniad am rai drŵg arferion pobl Yng-Hymru, yn iaith deheubarth.

1.
PAwb sŷ'n dynabod y gwirionedd,
Clywch fi'n traethu am fawr wagedd,
Sŷdd yn blino'r Arglwŷdd tirion:
F'achwŷn sŷdd am ynfŷd ddynion.
2.
Y mae achos i ni i synnu,
Ac achlysur i ryfeddu,
Fôd Dŷn y rhoes Duw iddo enaid,
Yn saith ffolach nâ'r 'nifeiliaid.
3.
Yr annifail gwŷllt a syrthio
Yn y ffôs, a ochel honno;
Mwŷach nid aiff yno i bori,
Y têg lâs-wellt, rhag ei foddi.
4.
Pôb aderŷn, merciwch hefŷd,
Pan wêl fagal, cais ochelŷd,
Ac ni ddaw fê ddim yn agos,
Rhag ir fagal ddwŷn ei einios.
5.
Nid ŷw llawer dŷn yn 'styriaid,
Fôd pechodau'n lladd yr enaid,
Ni 'madawant a'u drygioni,
Er bod hynnŷ'n siŵr o'u damnu.
6.
Onid ydŷw dŷn yn an-ffel,
Pan a rhotho ei hun ir cythrel,
Ple mae gelŷn gwaeth nâ hwnnw,
A ddylŷt fwŷaf rhagddo ymgadw.
7.
I mae llawer iawn a ddywaid,
Yn dra-mynŷch, Diawl y â 'm henaid;
Ond ynfydrwŷdd ydŷw offrwm,
I'r Diawl atgas ddim a feddwn.
8.
Mae rhai'n galw ar y cythrel,
Fôd yn Dŷst iddŷnt at bôb chwedel,
Llawer un a ddywed yn wisgi,
Ac yn gâs, diawl oni bu hynnŷ.
9.
Dymma gredu'r Diawl yn ffyddlon,
Dymma hefŷd ffoledd creulon,
Ceisio Tâd a phen anwiredd,
Yn lle Tŷst am y gwirionedd.
10.
Llawer sŷdd yn arfer tyngu,
Wrth y Saint, Megis Jaco a Dewi:
Fellŷ gwneir hwŷ'n rhai sŷ'n gwŷbod,
Ein calonnau fel y Drindod.
11.
Yn y ffeiriau, yn y farchnad,
Clywir llwfon mawr yn wastad,
Weithie wrth Dduw, neu wrth Jesu,
Er gwaharddu ofer dyngu.
12.
Arfer rhai wrth gôdi'r bore,
Yw troi bŷs o gŷlch eu trwŷne:
I geisio croes Duw'r Mâb iw cadw,
Rhag pôb drŵg y dwthwn hwnnw.
13.
Nid ŷw Duw yn erchi gwneuthŷr,
Un rhŷw groes, yn 'r yscrythur:
Nid ŷw'n addaw, y caiff hynnŷ,
Wared un dŷn rhag drygioni.
14.
A phan glywo rhai'r biogen,
Ar y twŷn yn lleisio rhegfen,
Hwŷ ymswŷnant yn dra ebrwŷdd,
Rhag cael colled, neu rŷw dramgwŷdd.
15.
Dymma ynfŷdrwŷdd deilliaid angall,
Coelio Aderŷn gwŷllt di ddeall,
'Rhwn ni ŵŷr bêth 'ddaw i un dŷn:
Ond a ofnant a ddaw iddŷn.
Dihar. 10.24.
16.
Mae rhai'n myned bôb nôs glammai,
At rŷw swŷnwr doeth ei chwedlau;
I gael swŷn iw Dâ, a'u heiddo,
Rhag pôb haint, a rhag eu rheibio.
17.
Dyna ffoledd melltigedig,
Ceisio help y cythrel ffyrnig;
Ac nid ceisio help Duw grasol,
Sŷ'n gofalu dros ei bobol.
18.
Mae rhai hefŷd a arferan,
Ar nôs glamme fyned allan,
I roi yn y llafŷr
ŷd.
gerdŷn,
Rhag ir llafŷr fethu ganthŷn.
19.
O'r fâth ffoledd 'ydŷw hwnnw!
Rhoddi hyder ar bren marw,
Ac nid ymddiried yng-nghrist Jesu,
Sŷdd yn peri'r llafŷr dyfu.
20.
Rhai ni soniant am y marw,
Heb ddwedŷd Nêf i enaid hwnw:
Ond ni cheisiant Nêf i un-dŷn,
Hŷd nes pasio'r fardid
Farn.
arnŷn.
21.
Mae gan fagad saith o dduwiau,
Rheini ydŷw y saith ddyddiau,
Duw Sul, Duw Llun, ŷw dau ohonŷn,
A'r pump eraill sŷdd yn canlŷn.
22.
Dymma arfer gâs annuwiol,
A ddysgodd yr hên Ddiawl ir bobol,
Galw enw'r sanctaidd Drindod,
Yn gyffredin ar ddiwrnod.
23.
Mae'r rhan fwŷaf o blant dynnion,
Yn halogi'r Saboth cyfion.
Tybiant roi i Dduw a orchmynwŷs,
Os yn unie a dônt i'r Eglwŷs.
24.
Gwedi darfod y Gwasaneth,
Ni bŷdd sôn am Dduw, na'i Gyfreth:
Ond chwedleuant am eu pethau,
Am y Bŷd, a'u hôll blefferau.
25.
Ar Brŷd-nhawn yn rhwŷdd hwŷ'ddawan,
I wasanaethu'r milain Satan;
At rŷw gamp neu ofer gwmnhi,
I gael treulio'r Dŷdd yn ddigri.
26.
Cadw'r Saboth a orchmynnir,
Ei Halogiaid a fygythir:
Num. 15.35. Nehem. 13.17, 18.
Daeth o'r nefoedd dôst ddialau,
Am halogi y Sabothau.
27.
Rhai o weision Duw gorucha,
A wêt y Saboth ar y byrra:
Gwedi dreulio oreu 'gallon,
Gwelant yn eu gwaith ddeffygion.
28.
Ond nid ydŷw'r drŵg un amser,
Gwedi dreulio i gŷd yn ofer,
Yn gweled arnŷnt ddim o feie,
Ond tebygu eu bôd o'r gore.
29.
Ar y Dŷdd hwn maent yn disgwŷl,
Myned at eu pechod anwŷl,
Ac i fwrw eu hôll hwsmonneth,
A pha waith sŷ'w ddechreu eilchweth.
30.
Hôff ŷw ganthŷnt rŷw béth ofer,
I gael môdd i dreulio'r amser,
Fel pe baent bôb awr yn ofni,
Rhag iddŷnt wneuthur dim daioni.
31.
Y mae llawer iawn yn galw,
Ar Fair gyda Duw iw cadw,
Fel pe byddei Duw yn ffaelu,
Nes cael cymmorth dŷn iw helpu.
32.
Ammarch blîn, a gwradwŷdd hefŷd,
I'r Duw mawr sŷ'n cadw'r holl-fŷd,
Ydŷw ceisio gyda'r Drindod,
Un Gwaredŷdd mewn dim trallod.
33.
O faint o ympiniwnan ofer,
'Roes y Diawl ymmhenne llawer;
Ac ni throant ddim oddiwrthŷnt,
Er maint a rybuddier arnŷnt.

Ymma a dechreuiff llawer o ddyriau (Duwiol) byr­rion, tan enw Cyngor Tâd iw Fâb; y rhain sydd o wneuthuriad Gwr o Sir Fynwŷ, ac am hynny yn iaith gwent. Ond gwelleis tai o'r geiriau tuagat Gymraeg gwynedd.

Cynghorion Tâd iw Fâb, am ddechreu gwasanaethu Duw mewn amser.

1.
DEchre'n gynnar waith sancteiddrwŷdd,
Nid ei bŷth yn ddâ'n rhŷ ebrwŷdd:
Preg. 12.1.
Dechre 'th shwrne ar foreu-ddŷdd,
Gochel aros hŷd ganol-ddŷdd.
2.
Dâ bôd Dŷdd yn hwŷ nâ'r llwŷbŷr,
Tôst bôd gwaith hêb Ddŷdd iw wneuthŷr;
Rhŷn sŷ'w wneuthŷr dwŷs-ystyria,
Pa fôdd y gwnai di hynnŷ gynta.
3.
Mae it gymaint o fusnession,
Ac y dreulia 'th hôll amserion,
Na fŷdd segur un diwrnod,
Rhag ir gwaith fôd heb ei orfod.
Ddibenni.
4.
Drŵg it roi ir Diawl dy flode,
A Duw'n aros am dy ffrwŷthe:
Mae Duw'n haeddu dy wasaneth,
'Rhŷn nid ŷw y Cythrel diffeth.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Godi'n foreu.

1.
YN dra boreu cwŷd
cyfŷd.
i fynu,
Na chaed Haul di ar dy welŷ:
Ar y canniad cynta o'r ceiliog,
Cyffro 'th hun, ac na fŷdd ddiog.
2.
Torr dy gysgu ar y wawr-ddŷdd,
Gochel ysprŷd
Llugoer.
claer di-ddeunŷdd:
D'amser gochel ei gam-dreulio,
Nid oes dim ac ellŷch spario.
3.
Amser huno sŷdd iw gyfri,
Megis amser gwedi golli:
Cysgu 'bair i'n yn ddiamme,
Fŷw ond hanner ein blynydde.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Myfyrdod, Foreu a hwŷr.

1.
YN dy gôf bŷdd Duw gorucha,
Psil. 139.18. Psil. 63.6.
O flaen dim, ac yn ddiwedda:
Cau, ac agor dy amrante,
Gydag êf, bôb nôs a bore.
2.
Pan yr ei di lawr i'th 'smwŷthder,
Cofia'r ei di'n îs ar fynder:
Ac ar dy foreuol godiad,
Meddwl am yr adgŷfodiad.
3.
Fel mae cŵsg yn Arwŷdd Ange,
Fellŷ mae'n Deffroad ynte,
Yn mynegi'n hadgyfodiad,
Ni pharhâiff y nôs yn wastad.
4.
Cân y Trwmpet, Dŷdd a wawria:
Y rhai meirw mi dybyga
Fôd eu hesgŷrn yn ymbwnnio,
A'u bôd hwŷ yn ymgofleidio.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Parodtoi ir Farn.

1.
GWna ôll fel am dragwŷddoldeb;
Cofia ar fŷrr rhaid rhoddi atteb,
Gar-bron Barnwr cadarn, cyfion,
Sŷ'n gweled holl feddyliau'r galon.
Jer. 17.10.
2.
Yno rhoir y llyfre allan;
A 'th weithredoedd,
Dat. 20.12.
fawr a bychan,
Fyddant yno wrth ei cyfri,
Naill a'i 'th Lâdd, neu'th escufodi.
3.
Bŷdd fŷw fellŷ, fel bo i tithe,
Fôd yn hŷ ger-bron y Brawdle,
Pan fo'r hôll weithredwŷr gwallus,
Dat. 6.17.
Yno'n crynu yn echrydus.
Aruthrol.
4.
Gwel na bo'th gydwŷbod awch-Iŷm,
Ddŷdd y Farn yn Dŷst i'th Erbŷn:
Cais trwŷ fŷw yn rasol ymma,
Gau ei safan hi o'r siwra.
5.
Er nas gelli trwŷ 'th weithredoedd,
Haeddu ar law Duw mo'r Nefoedd,
Na chael bŷth dy gyfri'n gyfion;
Etto bŷdd di fŷw yn union.
Gal. 2.16.
6.
Bŷdd fŷw'n gynnil, dâ dy anian,
Nattur.
Fel pe baet ti gadw'th hunan:
Ond na hydera i'th wael weithredoedd,
Sŷ'n rhŷ wann i'th ddwŷn i'r Nefoedd.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Diwŷdrwŷdd.

1.
FEL y bo i ti wasanaethu,
Duw a'th hunan yn ddi-wegi,
Yn dy alwad bŷdd yn ddiwŷd;
Na fŷdd ddiog, na swrth ynfŷd.
2.
Gwna'n ddi-oed i yr hŷn a wnelech,
Mo'r ebrwŷdded ac y gallech:
Gyda'th law, rho'th rŷm yn helaeth,
At bôb gwaith o'th alwadigaeth.
3.
Cofia wrth weithio ar bôb amser,
Nad dy daliad ŷw dy blesser:
Cŷn 'gwnêch orchwŷl pwŷsa'n ddi-far,
Diddig.
Dŷ hôll waith ynghŷd a'th wobar.
"Gwobr.
4.
Gwel pa fûdd 'ddaw o'th waith ystig,
Dyfal.
Gweithio am ddim sŷdd bêth blinedig:
'Rhwn ni chaffo ffrwŷth o'i labar,
Lafur.
Siccr ŷw a blina'n gynnar.
5.
Canol d'amser, union dreulia;
Pôb llŷs gwâg, neu segur odfa,
Llanw rheini megis Cristion,
A rhŷw weithrediadau graslon.
6.
Nâd ith alwad
Crefft, hws­monaeth.
bâch pennodol,
Rwystro at y cyffredinol:
Addoli Duw.
Dôd bêth amser yn brûdd
Difrifol.
ddigon,
I addoli'r Arglwŷdd cyfion.
7.
Dôd i Dduw ei eiddo'n bur-lân,
Cymmer d'eiddo'th hun dy hunan:
Amser sŷdd i dreulio'n Dduwiol,
A phêth i drîn d'achosion bydol.
8.
At bôb gwaith mae cymwŷs odfa,
Dŷse ddynabod hon, a chofia,
'Rhŷn a wnaer o'i allan amser,
Sŷdd ddi-flâs, heb dôn, na thymmer.
9.
Gâd waith diffrwŷth ac aflessiol,
A'r pêth sŷ i ti'n am-mherthnassol:
Drŵg ymmhyrru
chwŷn.
ac yscall crinion,
Fel Domisian,
Emprwr a dreu­lie amser i ladd gwŷbed.
héliwr cilion.
10
Ydŷw hŷn yn bwrcas uchel,
Cael ond mawr boen am dy drafelpoem
Dilês
Ewŷn.
gwegrŷn dŵr, neu dyfod,
A gwaith gwell a geisie ei drafod.
Ymorchest yn ei gylch.
11.
Digon it y gwaith sŷdd reidiol,
Bwrw ymmaith waith aflessiol;
Drŵg yw i ti'n ddi-achosion,
Ado th swŷdd, a'th waith cyfreithlon,
12.
Gweithia'n awr tra gelwir heddu,
Arall fe alle a bia foru;
Canŷs brau ŷm fel llestri gwydŷr,
Hawdd y torrir ni yn glechdur.
Gandrŷll.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Difyrawch.

1.
GWna'th ddifyrrwch o'r fâth bethe,
'Weddo i'th lê, a'th gyflwr ore:
Yntho treulia ond amser bychan,
Ac ychydig iawn o'th Arian.
2.
Yn rhŷ ddrŷd na phrŷn dy blesser,
Mawr bris a lwngc o'th gyssur lawer:
Gormod plesser gochel hefŷd,
Rhag cael drŵg i'th Gorph neu'th iechŷd.
3.
Gâd ddifyrrwch rhŷ fenwŷaidd,
Hoffa 'rhŷn fo mwŷa gŵraidd:
Nid ŷw'n weddaidd i wrŵod,
Fôd yn debig ir mursennod.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch y gwaith pennaf.

1.
NID difyrrwch ŷw'th waith penna,
I'r Bŷd hwn ni ddaist (ystyria)
Megis pŷsc i'r moroedd mawrion,
I ymlenwi ar drythyilion.
Plesserau.
2.
Chwŷssu a fŷdd rhaid am Fara,
Cadw'r Enaid ŷw'r gwaith penna;
Tragwŷddoldeb hîr sŷ'n pwŷso,
Ar ein hamser bŷrr, (ai wirio)
3.
Yn ôl 'styried hŷn o bob tu,
Na bŷdd di segûr (ddŷn) os gelli:
Mewn diwŷdrwŷdd bŷdd 'wllysgar,
F'alle'r haedda'th waith di wobar.
4.
Na fodlona ddim o'th hunan,
Os gwnei rŷw ddaioni bychan,
Neu os moli ymbell dippin,
Ar y gwir, a'r grassol Frenin.
5.
Cais y nefoedd wenn oruchel,
Dy fawr boen, hi dâl dy drafel:
Rhêd dy yrfa, di gai'th wobro,
Ennill goron, di gai 'gwisco.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Siccrwŷdd am y Nêf.

1.
BYdd yn brûdd
Dif [...]ifol.
am fatter d'enaid,
Cais Dduw'n rhan, a'r nefoedd euraid:
Ofna nes y gallech ddwedŷd,
Psal. 73.26.
Duw ŷw'm heiddo, a'r Nêf hefŷd.
2.
Na'm fodlona ddim i aros,
Mat. 6.33.
Yn ddi-Grist, mewn stâd anniddos:
Pam y crogi uwch y boeth-fan,
Uffern.
Megis wrth edafedd egwan.
3.
Mynŷch ofŷn it dy hunan,
Wŷt mewn Ffafor a Duw weithian?
A pha siccrwŷdd y sŷdd gennŷd,
Am y nefol Deŷrnas hyfrŷd?
4.
Na Pherygla dy hapusrwŷdd,
Na ddod mewn enbudrwŷdd.
Gwna fawr brîs or Néf yn ebrwŷdd:
Ac na chytcan fŷw yn ddrŷg-ddŷn,
Rhag it' ofni marw yn sydŷn.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch rhodio wrth reol.

1.
RHodia'n ôl y rheol union,
Llunia wrth reswn dâ d' orchwŷlion:
Na wna ddim 'fo anolygus,
It' a'th broffes yn gwilŷddus.
2.
Cilia rhag pôb tramgwŷddiade,
Sŷ'n dwŷn ynthŷnt rith ar ddryge:
1 Thes. 5.22. Dihar. 22, 1.
Prissia 'th Enw da bôb ennŷd,
Cŷn ei golli, coll dy fywŷd.
3.
Trin yn gâll (mewn pwŷll) d' achosion,
Cadw'th gredit gyda'r Doethion:
Bŷdd di'n dduwiol, a synhwŷr-gall,
Cŷd-dymhera zél a deall.

Cyngor Tâd iw Fâb, yughŷlch Bŷw dan gystuddiadau.

1.
JStâd isel rhaid it blygu,
Ac i'r groes
Helbul y Bŷd.
rhaid ymagweddu:
Gochel chwŷddo uwch-law'th foddion,
Bŷdd i ffortun ferr yn fodlon.
2.
Ar y storm rhaid gostwng hwŷlie,
1 Tim. 6.8. Mat. 10.16, 23.
Rhoi peth lle mewn drŵg amsere:
Dan rŷw aden fawr cais gysgod,
Nes bo'r storme wedi darfod.
3.
Y llwŷn bâch ynglais
Yn ymŷl.
cederwŷdd,
A caiff gysgod ar y tywŷdd:
Fellŷ caiff y gwan-ddŷn cofia,
Oddiwrth fawr-glod-ŵr ddiffynfa.
4.
Dŵg dy faich yn llonn fel cristion,
Gwna gystuddie'n ddi-gystuddion:
Dibrissia'r hŷn nas gelli wrthod,
Ni cheir dâ oddiwrth ymdrafod.
Ymrysson.

Cyngor Tâd iw Fáb, ynghŷlch Cyfaillgarwch.

1.
YN ochelgar bŷdd yn wastod:
Nâd i bawb a'th wêl dy nabod:
dynabod.
Bŷdd wrth bawb yn fwŷn, a hawddgar.
Ond a 'chydig yn gyfeillgar.
2.
Nid ŷw pob-dŷn ffit
Cymmwŷs.
it dderbŷn,
I dy fonwes megis glan-ddŷn;
Ffals ŷw rhai, prawf cŷn ymddiried:
Bŷdd fel dieithr ymŷsc dieithred.
3.
Nac amlyga 'th hun yn angall,
Nes gwŷbŷddech bêth ŷw arall:
Rhwŷdd ymadrodd sŷdd ynfydrwŷdd,
Ac yn tynnu senn a gwradwŷdd.
4.
Taw, gâd ffoliaid câs i ddwndraw,
Nid oes drŵg o fôd yn ddistaw:
O'u geiriau'r fantais 'elli gymrŷd,
A 'gaent hwŷ arnat ti wrth ddwedŷd.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Gwiscoedd.

1.
Bŷdd dy ddillad yn dra gweddaidd,
Nid rhŷ gost-fawr, na rhŷ fflawntaidd,
Yn llawn tegane.
Yn y ffashiwn na fŷdd flaena,
Gochel hefŷd fôd yn ola.
2.
Gâd y fashiwn na bo'n un-man,
Ffôl y gâr bôd wrtho ei hunan:
Ffurfia 'th wisg yn ôl yr arfer,
Ymmhle bŷch, rhag cael bychander.
Distyrwch.
3.
Na fŷdd megis rhŷw afrad-ddŷn,
Tor dy bais wrth hŷd dy frethŷn:
Gweddus i fonheddig cymmen,
Fwŷ yn ei bwrs nag am ei gefen.
4.
Nes a gwŷpper bêth ŷw'th haeddiad,
Dwg dy ddillad it gymmeriad:
Dillad a ennill i ti hefŷd,
Gyda'r Bŷd, rŷw glôd a chredid.
5.
Na falchia bŷth dy hunan,
Am dy fod mewn Aur a sidan:
Os wŷt werthfawr, ond mewn dillad,
Am dy hun bŷdd gwael dy dybiad.
6.
Mwŷ o glôd it harddu'th ddillad,
Na chael dy harddu gan dy wisgad:
Bŷdd cynneddfau dâ'n dwŷn i ti,
Nid dy Ddillad fwŷaf cyfri.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am Draul.

1.
YN dy draul, bŷdd yn gymhedrol,
Nid rhŷ hael, na rhŷ gybyddol:
Gwŷbŷdd fôdd i gadw a thraulio:
Treulia ar achos da pan orffo.
2.
Gwilia'n wastad, gwêl er hynnŷ,
Nad aech ddim tu-hwnt i'th allu:
A phan welech gymmwŷnasson,
Gwna bôb pêth ar rŷw ddibennion.
3.
Ond gweithredoedd a fo berthnassol,
I dwrn dâ, neu gariad brawdol;
Am y cyfrŷw ddoeth weithredon,
Na chais bŷth mor tâl gan ddynnion.
4.
Gochel afrad, rhag cael prinder;
Tynnodd afrad dlodi ar lawer:
Gwaeth nag Ange ŷw tlodi anghenol,
I'r cwilyddgar, a'r synhwŷrol.
5.
Treulia'n ôl dy stâd a'th ennill,
(Tost ŷw gorfod bŷw ar erill)
Doro allan lai yn wastod,
Nag y sŷdd i mewn yn dyfod.
6.
Dâ fôd pêth gan ddŷn ei hunau,
Pan y delo amser gruddfan:
Moddion dâ ŷw'r lloches ore,
Pan a delo trwm gafode.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am yfed.

1.
NA fawrhâ y gwin yn un-man,
Pan wreichiono yn y gwppan;
Nid er hoffder ond er syched,
Y mae gwîn, a diod iw hyfed.
2.
Gochel beunŷdd bôb rhŷw bechod,
Yn enwedig gochel fedd-dod:
Nid Does un pechod mor gwilyddus,
Mor nifeiliaidd, mor annhrefnus.
3.
Newid medd-dod ddŷn fel 'nifel,
Fe ŷrr reswm i ymadel:
Mae'n ein gwneuthur i gynghorau
Yn Anghymwŷs, a rhwŷdd i ddrygau.
4.
Beiau eraill sŷdd yn un-llŷn,
Hwn sŷ a llawer yn ei ganlŷn:
Tyngu, rhegu, brawla'n erchŷll,
Sŷ'n ei ddilŷn megis perchŷll.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am Fwŷtta.

1.
AR Gêg ddrwg rho'r gyllell lemma;
Gochel wneuthur Duw o'th fola:
Phil. 3.19.
Yn dy ymborth na fŷdd foethus;
Gor [...]u faŵs ŷw stwmog iachus.
2.
Chwennŷch ymborth sŷdd iachusol,
O flaen bwŷdŷdd prîd daenteithiol:
Plesser tlawd ŷw plesser genau:
Bŷth na chwennŷch amrŷw seigiau.
3.
Y mae gwlêdd llê bô bwŷd ddigon:
Mwŷ nâ'th fol nâd fôd dy olygon:
I'th nattur 'chydig a wasnaetha,
Porthi 'r chwant ŷw diben bwŷtta.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am Gwmpeini, ac yfed iechŷd, a thai drŵg, ac afrad.

1.
CAis yn Gristion dâ dy gyfri,
Nid yn gyfaill dâ mewn cwmnhi:
Nâd i ymbiliaeth dŷn un-amser,
Dy yrru i fŷnd tu-hwnt i'th dymmer.
2.
Na fodlona nêb yn un-man,
Mewn un pêth, a'th ddrygo'th hunan:
Cais yn bwŷllog, ac yn gyfion,
Fôdd i ddeilio â'th gyfeillion.
3.
Gâd dy gwmnhi yn llwŷr heibio,
Cŷn a Gyrrŷch Dduw i ddigio:
Cofio ffreind sŷdd bêth cyfreithus,
Yfed iechŷd sŷdd anweddus.
4.
Drŵg yn fynŷch 'ddaw o helthio,
Medd-dod, ymgegu, ymlâdd, dwndrio.
Dros dy ffreind dôd weddi wiw-lan,
Yf er iechŷd i't dy hunan.
5.
Bŷdd di sobor a gweddeiddlon,
A chŷrch at y fâth gyfeillion:
Gochel gwmni drŵg eu tymmer,
Rhag i tithe ddysgu eu harfer.
6.
O doi i fŷsg y cyfrŷw gwmni,
Dangos nad-wŷt yn eu hoffi:
Bŷth na ddilŷn eu harferion:
Gâd ar frŷs y fâth gyfeillion.
7.
Ac na thyred attŷnt mwŷach,
Mae'r fâth rai'n mynd ffolach ffolach:
Di a'u blini hwŷnt â'th sobrwŷdd,
Dithe flinant â'u hynfydrwŷdd.
8.
Gochel leoedd 'fo drŵg dybus,
Cilia o dîr y sarph anhappus:
Goreu ffordd i'th gadw'th hunan,
Yw gochelŷd llwŷbrau Satau.
9.
Cadw'th "sâf-lê
Sefŷllfa.
rhag it syrthio,
Na themptia Demptiwr i dy demptio:
F' alle gall cydwŷbod wario,
Mwŷ nag all dy gredit spario.
10.
Gochel anair bŷth, a gwilia,
Rhagddo fel rhag drŵg o'r cassa:
Haws ŷw colli (cofia f'anraith)
Anwŷlŷd.
Enw dâ nâ'i gael ef eilchwaith.
11.
Na châr weld rhai yn anghysson,
Anhemp­rus.
Ynfŷd ŷw difyrrwch ffolion;
Pam y ceri mewn un dynan
'Rhŷn nis ceri yn dy hunan?
12.
Dros ben sobrwŷdd na ŷrr un-gwr,
Paid a gweithio dros y temptiwr;
Na wna nêb yn anghymedrol,
Ond cais rwŷstro hynnŷ'n hollol.
13.
Pa lawenŷdd (rwi'n rhyfeddu)
Yw gweled arall gwedi meddwi?
Golwg trist ŷw hŷn (i'm deall)
Weled drŵg ûn, a chwilŷdd arall.
14.
Peri eraill i ben-hongcio,
Cael y gore wrth garowsio,
Nid ŷw fatter o orfoledd,
Can's am hŷn daw tôft ddîaledd.
Esay. 5.11.
15.
Ac ystyriwch hŷn yn helaeth,
Nad-oes blâs or fuddugoliaeth,
Lle mae'r Cythrel yn Ben-swŷddog,
A phwll uffern yn lle cyflog.
16.
Cadw'n issel dy Gorph nwŷfus;
Wantan.
Bŷdd o'i besgi'n afreolus;
Rheitiach rhoi iddo ffrwŷn nâ spardŷn;
Yn dy law bŷdd dŷnn y llinŷn.
17.
Na ddôd i'th gorph bôb pêth a geisio;
Dysced chwennŷch ond sŷdd gantho;
Da it weithie gael dy ragod,
Rwŷstro.
Mae rhŷw "ddâ
Pethau moethus.
rŷw brŷd iw wrthod.
18.
Gwell i't fynd ymlaen wrth raddoedd,
Heb afradu'th ddâ, na'th Diroedd,
Na bŷw'n foethus dros rŷw amser,
Gwedi hynnŷ bŷw fel Beger.
19.
Arfer bôb pêth yn gymhessur;
Na fŷdd "slâf
caethwas.
i un creadur;
Cŷfrif bôb pêth fel i gilŷdd,
Isel ffâr fel moethus fwŷdŷdd.
20.
Gochel fŷth fôd yn hiraethu,
Am un pêth ag wŷt iw garu:
Phil. 4.11.12.
Bŷdd mor fodlon i fôd hebddo,
A phe bae ymŷsg dy eiddo.
21.
Dŷsc pa wêdd i ddwŷn anghenfŷd,
A bŷw uwchlaw dy foddion hefŷd:
Nad i'th galon gael cartrefad,
Trigfa.
Yn dy law, nac yn dy lygad.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am Ddiolchgarŵch.

1.
Bŷdd ddiolchgar am sŷdd gennŷd;
'Rhwn a'i rhoes, rhŷdd etto hefŷd:
Os cafodd eraill fwŷ o bethe,
Falle fôd yn fwŷ eu heisie.
2.
'Rhwn a wnaeth y Llong, neu'r llester,
Sŷdd yn gwŷbod bêth iw arfer;
Hwnnw feder ei gymhwŷso,
At y llwŷth a rŷdd ef yntho.
3.
Pa beth bynnag wŷt yn drafod,
yn ei drîn ai feddiannu.
Anniolchgarwch a'i gwna'n ormod:
Os ŷw'n bêth islaw'th ddymuniad,
Mae uwch-law (bŷdd fiwr) dy haeddiad.
4.
Rheswm da rhoi mawl amdano,
Gore ffordd ŷw honno i feggio:
Mewn rhŷw ddull mae'r ŷch, mae'r Affen,
Esay. 1.2.3.
Am eu bwŷd yn diolch iw perchen.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am 'ei chwilio ei hunan.

1.
CHwilia'n ddyfal eraill allan,
Ond yn gynta chwilia'th hunan:
Gochel fynd mor bell mewn siwrne,
Nes bŷch di'n anghofio'th gartre.
2.
Na fŷdd ddieithir it dy hunan,
Edrŷch yn dy frest yn fŷan:
Onid wŷt ti wrth dy feddwl,
Cais wellhâu, yn glau, yn gwbwl.
3.
Lle mae nattur yn ddeffygiol,
Bŷdd i'th nattur gynnorthwŷol:
Ymorchesta i'm-gymhwŷso;
Ganwŷd ti'n ddrŵg, rhaid d'eni etto.
Psal. 51.5. Joan. 3.3.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am roi i bawb eu heiddo.

1.
Dôd i bawb eu heiddo'n hawddgar,
Parch i rai, i eraill wobar:
'Rhŷn mae'n haeddu dôd i bôb-dŷn,
Rhag bôd Achwŷn yn dy erbŷn.
2.
Ac os cam a nêb a wnaethost,
Cwna di iawn yn gynta gallost:
Edifara am dy bechod,
A llonydda dy gydwŷbod.
3.
Gwna gyttundeb a'th wrthnebwr,
Cŷn y delo Crist y Barnwr:
Duw sŷ ar ran y rhai diniwed,
Dadliff
fe bledia.
dros y cyfrŷw'n galed.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am Elusen.

1.
YN ôl d'allu dôd elusen,
Ir rhai tlawd, yn ôl eu hangen:
'Rhŷn y roech i'r tlodion cyfri
Megis benthŷg, 'rhŷn nis colli.
2.
Y mae gennit wŷch Fachniwr,
Dihar. 19.17.
Duw ei hun a fŷdd dy Dalwr:
Ei dryssor-dŷ ŷw pwrs y Beger,
A'r Dŷn tlawd ŷw ei Receiver.
Dderbynwr.
3.
Os ŷw'r Dŷn y sŷdd anghenus,
Yn anhywaith, a drygionus,
Er mwŷn Duw dôd rŷw beth iddo;
Fel mae'n ddŷn, tosturia wrtho.
4.
Dôd yn rhwŷdd heb ddim amheuon,
Am nas gwŷddost pwŷ sŷdd dlodion:
Dyro bêth i'r caccwn garw,
Gŷn i'r gwenŷn bâch gael marw.

Cyngor Tâd iw Fâb, Am Ddysceidiaeth.

1.
GOchel fôd fel coeg Ddyscawdwr;
Yn fynychaf bŷdd gwestiwnwr:
Gwell it ofŷn pêth nag atteb:
Pam na nilli di'r callineb.
2.
Hŷn rŷdd gynnŷdd i'th wŷbodaeth,
Clûft nid tafod 'ddŵg ddysgeidiaeth:
'Mofŷn nes y bŷch heb wŷbod,
Ddim ychwaneg iw ddynabod.
3.
Ac tra fŷch mewn anabyddiaeth,
Na chwilyddia gael dysceidiaeth:
Odid oni chlywaist draethu
Nad rhŷ hwŷr un prŷd i't ddyscu.
4.
Os di ffaelia gael bodlonrhwŷdd,
Am rŷw byngciau, trwŷ'th ddiwŷdrwŷdd,
A thrwŷ studio wrth dy hunan:
Cais gan eraill help yn fŷan.
5.
Ni chŷd-ddeall pawb yr un-peth,
Nid oes un dŷn a phôb gwŷbodaeth:
Os rhol ddŷse i un, fe all ynte,
Mewn rhŷw ffordd roi dŷsc i tithe.
6.
Prissia'n uchel, ddwŷs ddysgeidiaeth,
Fellŷ'r ei'n fonheddig odiaeth:
Dŷsg a'th ddŵg i fawr anrhydedd,
Aeb gynnorthwŷ un Herodredd.
Gwr yn tynnu achau.
7.
Prawf yn astud fŷth i studio,
Y ddysgeidiaeth a'th fodlono:
F'ellir disgwŷl ennill llawer,
Lle bo'r boen yn ddirfawr blesser.
8.
Bŷdd dy lyfre ond ychydig,
Etto'n ddaâ, a dewisedig:
Yn waeth 'scolhaig ni byddi ronŷn,
Pe bae'th lyfre yn dy gorŷn.
9.
Nid oes genŷt ddŷsc, na donnie,
Ond yr hŷn sŷdd yn dy asgre:
mynwes.
Eiddo'r Awdwŷr yn ddiammau,
Ydŷw'r ddŷsc sŷ o fewn dy lyfrau.
10.
Dewis lyfrau fo'n cyttuno,
At broffessiwn; a phrawf gofio:
Wrth ei faint na phrisiech lyfŷr;
Bŷdd ei ddâ yn fwŷ na'i bapŷr.
11.
Darllen-wŷr, a darllen-lyfrau;
Hwŷ berffeiddiant dy fynhwŷ [...]:
Etto canlŷn un eu rhedfa,
Y rhai dâ, ac nid y dyrfa.
12.
Ac na ddilŷn y rhai gore,
Ond cŷn belled y bo nhwŷthe
Yn Ddilynwŷr prûdd
Difrifol.
ir Iesu:
Gochel feiau Paul a Mary.
13.
Gustudd eraill pan ddigwŷddo,
Y sŷdd gennad ith rybuddio:
Dŷsc Ddoethineb trwŷ eu hynfydrwŷdd:
Gâd y fan lle cawsant wradwŷdd.
14.
Y canlynwr sŷdd yn ennill,
Mantais oddiwrth gwŷmpau eraill:
Mae'n gweled perigl cŷn dêl iddo;
Ac ni ellir ei ormeilio.
" orthrechu.
15.
Ar dy ddeal dôd derfynnau:
Na chais wŷbod dirgel bethau:
Synwŷr ŷw it ymfodloni,
I geisio'r pêth sŷdd raid i ddyscu,
16.
Gwŷbŷdd ple mae stoppio'n waffod;
Gâd beth trwm nad rhaid it wŷbod:
Studia'r pêth sŷ ddiogel i ti;
Gochel Etna
Mynŷdd o'r hwn y mae tân yn dyfod allan
rhag dy losgi.
17.
Ffrwŷth gwarddedig gochel demlo;
Nag archwaetha ddim ohono:
Pallwŷd pren gwŷbodaeth i ti;
Gwŷddost bêth a ddaeth oi brofi.
18.
Na fŷdd falch am ddŷsg na donie,
Ond bŷdd isel dy feddylie:
Barna'th hun yn îs beth hefŷd,
Nag a bo eraill yn dy gymrŷd.
19.
Gostyngeiddrwŷdd a mwŷneidd-dra
A Ddwg it glôd o'r godidogca:
Balchder a drŷ i la [...] yn irad,
Yn dost.
'Rhŷn a ddyle gael derchafiad.
20.
I'r drŵg
Sef balchder.
hwn y mae tueddfa,
Yn y Dynion godidogca:
Rhyfedd fod darllennwŷr ffel-gall,
Yn balchio ar bluf un arall.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷich trafaelio.

1.
PAn a bŷch di oddi cartre,
Cadw'n glôs at Ddyledswŷdde:
Cais gyfrwŷdd-deb
Trwŷ weddi.
y boreu-ddŷdd,
Pa fodd i ymddwŷn trwŷ yr holl-ddŷdd.
2.
Pan ddêl nôs, ymhola'n wastod,
Beth a wnaethost trwŷ'r diwrnod:
Lle gwneist bechod, deisŷf bardwn:
Am dy ddâ dôd ddiolch, ardolwn.
"Attolwg.
3.
Bŷdd ddâ ymŷsc rhai oddiallan,
Megis yn dy gartre'th hunan:
Er dy fôd yn newid treigle,
Bŷdd (er hŷn) yr un ym-mhob lle.
4.
Bŷdd yn issel yn d'ymddygiad,
Ac mor hael ac elli'n wastad:
Cŷd-ymffurfia nessa 'gallech,
At y wlâd a'r man lle byddech.
5.
Na fŷdd di, ar un-rhŷw amser,
Yn llawn gwagedd, neu lawn balchder?
Sawl na'th nebŷdd wrth dy dafod,
Wrth d'ymddygiad dônt i'th nabod.
6.
Na ddal ar bôb pêth a ddwaid,
Yn dy gwmni y dieithraid:
Gochel farnu'n galed arnŷn,
Na chystadla â nhwŷ ronŷn.
7.
Ond os rhaid it roi ar brydie,
Farn yng-hŷlch rhŷw fath ar bethe;
Os bŷdd rhai yn anfodloni,
Na [...]
8.
Mewn lle dieithr, na wna gynnen,
Ar ceiliogod ar eu tommen:
Nac ymrysson yn ei efel,
Ag un gôf, o'dwŷt ti ddŷn-ffel.
9.
Gochel wîn, a gwragedd nwŷfus,
Megis Scyla, a Charibdŷs:
Craig ŷw un, a'r llall sŷdd lyngc-lŷnn,
Wrth ymdeithio, cadw rhagddŷn.
10.
Pen a chalon, cadw'n iachus,
Fellŷ nid rhaid bôd yn ofnus,
Rhag ar Graig it gael dy frîwo,
Nac ar Lyngc-lŷnn bŷth it suddo.
11.
Cadw'th fusnes it dy hunan;
Rhag dieithraid cela'th arian;
F'all fôd perigl o'u datcuddio,
Ac mewn Tafarn ddrŵg letteuo.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Cerŷdd.

1.
PAn fo dŷn ith argyhoeddi,
Cofia'r lle, ar prŷd, a'r parti:
Rhaid it arfer mawr ddoethineb,
2 Tim. 2.25.
Os ceryddi mewn ffyddlondeb.
2.
Os bŷdd e'n uohelwr, Synna,
Gwilia.
Arfer ragor
Ychwaneg.
o fwŷneidd-dra;
Gyda'th gyd-râdd bŷdd hyderus;
Cyda'th îs bŷdd mwŷaf mentrus.
3.
Dôd dy gerŷdd wrtho ei hunan,
I dy ffreind ar reswm gwiw-lan:
F' all ar nailltu wrando a'styried,
'Phŷr na fynne — eraill glywed.
4.
Na ddôd gerŷdd maes
Allan.
o amser,
Pan fo dŷn yn ddrŵg ei dymmer:
Edrŷch am y prŷd cymhwŷsa;
At bob gwaith mae cymmwŷs odfa.
5.
Pan geryddŷch dy gymmydog,
Gochel fôd o'i fai yn euog:
Pa fodd a bei-i ar un arall,
Mar. 7.3.
A bôd dan'r un bai yn angall.
6.
Fel hŷn'r amlygi di yn ddiau,
Gâs at ddŷn yn fwŷ nâ'i feiau:
A'r fath gerŷdd bŷth nis gellir,
I roi'n ddâ, a dâ nis cymrir.
7.
Am hŷn gâd dy fai yn ddiwall,
Cŷn ceryddech di neb arall:
Rhag ir maen hwn syrthio a disgŷn,
Yn ei wrthol ar dy gobŷn.
8.
Os gwllyssi îth gymdogion,
I lwŷr fŷw wrth dy gynghorion;
Na chynghora iddŷnt wneuthur,
Ond y wnei dy hun yn ddifŷr.
9.
Gwŷbŷdd hŷn, mae'r rheswm goreu,
Bŷth a gesclir oddiwrth siamplau:
Hŷn eglura'th fôd o bryssŷr,
O ddifri.
Pan fŷch dy hun yn ledio'r llwŷbŷr.
10.
Gwŷnt ŷw geiriau, gweld ŷw credu,
Siamplau a weithia fwŷ nag erchi:
Drŵg ei fywŷd, a dâ ei gyngor,
Nid ŷw hwnnw ond dy watwor.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch ymddial.

1.
PAn gei gam, na chymmer arnad,
Fel pe na baet yn gweled a'th lygad;
Neu dibrissia fel pêth amal,
Na fŷdd chwŷrn i dalu dial.
2.
Na ddal fulw yn ddiystŷr,
Ar bôb di-bwŷll air a ddywedŷr:
Dôd ar eiriau'r ystŷr gore,
Na cham-ddeall nêb yn un-lle.
3.
Trwŷ siawns fe alle, nid o'wllŷs,
Y gwnawd i ti bêth anweddus:
Oh! na ddryga di yn un-môdd,
'Rhwn a'th ddrygodd di o'i anfodd.
4.
Os trwŷ fwriad 'gwnaed direidi,
Gweddus galw'r Dŷn i gyfri;
Etto nid yn ebrwŷdd cofia:
Pwŷntied pwŷll y cymmwŷs odfa.
5.
Yna bŷdd fel Gŵr o galon;
Etto 'mhôb pêth bŷdd fel Cristion;
Gochel beri'r côsp un-amser,
I ddirwŷio i greulonder.
6.
Er mwŷn taro braw yn erill,
Da ŷw cospi Dynion erchŷll:
Etto rhaid ŷw bôd yn dirion,
Ond ŷw'r bai yn drossedd creulon.

Cyngor Tâd iw Fâb, Ynghŷlch ymrysson.

1.
NAc ymrysson a'th isselach;
Nid clôd iti ddadlu â'th wannach:
Trwŷ wâg fiarad nid ennilli,
Ddim mewn un modd ith fodloni.
2.
O Siwi Feger tlawd heb ronŷn,
Hawdd it wŷbod bêth a ganlŷn:
Ofer iawn a fŷdd dy erlid;
Colli'th gôft a'th amser hefŷd.
3.
Gwell it golli dylêd ai madde,
Lle ni 'nilli ddim oth gostié:
Tôst ŷw treulio dêg o bunnau,
Lle na 'nillir mo'r dimmeiau.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Machniaeth.

1.
NA fŷdd Feiche dros un Dynan,
Oni elli gadw'th hunan:
Mae'r Benthycciwr yn wâs unig,
Ir hwn fŷdd yn rhoddi benthig.
2.
Rwŷt ti'n gaeth-wâs ir ddau weithian;
Dan y baich mae'th warr dy hunan;
Di a orweddi dano'n galed,
A nhwŷ'n chwerthŷn wrth ei weled.
3.
Os ni elli osgatfŷdd dalu,
Y trwm ddyled hwn o ddifri;
Blîn fŷdd colli'th rydd-did hugar,
Trwŷ dôst aros yn y carchar.
4.
Dymma'r pêth yr wŷt ti'n haeddu,
Pan y rhwŷmaist dy hun i dalu
Dyled arall trwŷ fachniaeth,
Pan yr oet
Oeddyt.
mewn rhydd-did odiaeth.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch harddwch heb rinwedd.

1.
NA wna brîs o ddŷn na phethe,
1 Sam. 16.7.
Wrth eu llun, nac wrth eu lliwie:
Ond yn ôl y rhinwedd fŷ ynthŷn,
Prissia bôb pêth megis doeth-ddŷn.
2.
Cerrig gwerthfawr 'allant edrŷch,
Fel y Diamond disclaerwŷch:
Na wna brîs o ddim golygus,
Nes bo ei syllwedd i ti'n hyspŷs.
3.
Nid gwell llyfŷr er ei glaspe;
Nid gwell Dŷn er ei feddianne;
Nid gwell ffôl er côb o'r hardda;
Modrwŷ o Aur i hwch sŷ gassa.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Gostyngeiddrwŷdd.

1.
Bŷdd dy dŷb amdanat dy hunan,
Yn dŷb issel (hŷn sŷdd wiw-lan)
Weddus.
Goreu dŷn ŷw'r gostyngedig;
Ond mae'r balch yn felltigedig.
2.
Er na all y dŷn synhwŷr-lân,
Fôd heb weld ei werth ei hunan;
Etto synwŷr mawr ŷw celu,
Ei Fôd e'n dynabod hynnŷ.
3.
Ynfydrwŷdd mawr ŷw bod yn hela,
Am ganmoliaeth y bŷd ymma;
Hynnŷ a lygra'r parch yn hollawl,
Yr hwn sŷdd i ti 'n berthnassawl.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch clôd gweniaith-wŷr.

1.
NA fŷdd falch am glôd Gweniaith-wŷr,
Canŷs gwenheithio mae pôb Twŷllwŷr:
Bŷth nis gelli weld vn drefnus:
Dy wir lûn, mewn drŷch twŷllodrus.
2.
Gochel dybied fod d' Wŷneb-prŷd,
Mor lân ag mae'r rhain yn dwedŷd:
Mi wn beth ŷw fy hun yn hollawl;
Di raid ŷw i'r cyfrŷw ganmawl.
3.
Yr hwn a garo ei ffrind yn ffyddlon,
Hwnnw a ddywaid wrtho ei feion:
Mae rhain yn eu twŷllo eu hunain,
Sŷdd â'u brŷd i'th dwŷllo'n gywrain.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch beio, a chanmol.

1.
NA fŷdd bŷth yn ddŷn anfoesol,
O ran beio dim, na'i ganmol;
Tost ŷw gorfod i't faentimio,
'Rhŷn na buasseu raid i't deimlo.
2.
Pwŷ all draethu pa ddiffeithdra,
Ddichon dyfu o'r peth ymma,
Os bŷdd arall mor anhydŷn,
Pengaled.
A chyfedi yn dy erbŷn?

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch cellwair.

1.
PAn a bŷch yn cellwair gwiw-lan,
Na chwardd am dy ben dy hunan:
Rhag i eraill yn dra chethin,
Am dy ben gael lle i chwerthin.
2.
Digrif air sŷdd i't iw glywed,
Ac nid ydŷw'n béth iw weled;
Can's llefaru 'rwŷt ti'n wastad,
Wrth y glûst, nid wrth y llygad.
3.
Os mŷn un-dŷn roddi ergŷd,
Nid oes iddo 'mlaen-llaw ddwedŷd,
Ei fôd ef ar feder taro:
Gall trwŷ hynnŷ gael ei rwŷstro.
4.
Na chellweiria yn rhŷ bigog,
Rhag it golli cyfaill rhywiog:
Gwell it golli'th sport anweddus,
Nag it golli dy ffrind moddus.
5.
Pan geryddir rhai wrth gellwar,
Mae eu gwaed hwŷ'n codi'n hagar;
Ac am hynnŷ gwilia'n fanwl,
Wrth gellweirio na bŷch ffrom-ffŵl.
6.
Ymfodlona i dderbŷn weithian,
Fel a rhoddaist di dy hunan:
Nid difyrrwch nes cŷd-drawer;
Fel a rhoddaist, fellu cymmer.
7.
Gwna i eraill fel a mynnŷd,
Iddŷnt hwŷthau a thi wneuthŷd;
Yr un rhydd-did allant ersŷn,
Heb roi lle i't ddigio gronŷn.
8.
Pam a gwnaethost di wialen?
Ac y curi di drachefen:
Ar ôl i ti guro erill,
Bŷth na thŷb fôd hŷn yn erchŷll.
9.
Gan it roddi'r dyrnod cynta,
Bŷdd yn ddistaw, ac na ddigia:
Bŷdd yn fwŷn, ac ammyneddgar:
Gan it ddechreu'r ffrae bŷdd hawddgar.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch caru, a phriodi.

1.
PAn fo'n rhaid i't fynd i garu,
Fel y bo raid i ti brîodi:
Gâd i'th ffansi gyscu'n ddilŷs,
Tra fo'th Farn yn gwneuthur dewis.
2.
Yn ôl it wneuthur d'ore trwŷddo,
Gelli er hynnŷ gael dy dwŷllo:
Arfer bwŷll wrth fynd i garu,
Pwŷll a'th gadw rhag dy faglu.
3.
Dewis hefŷd wraig yn wastad,
Wrth dy glust, nid wrth dy lygad:
Gall wŷnebprŷd glân dy dwŷllo,
A gair dâ all dy gyssuro.
4.
Heb-law hŷn, mae'n beth peryglus,
Ddottio ar degwch gwŷch trwssiadus:
Llawer gwraig ag wŷneb pur-lân,
A ddichon fôd yn fenŷw aflan.
5.
Bŷdd dy serch ar ferch rinweddol,
Fwŷ nac ar un dêg gorphorol:
Rhyfedd ŷw i ferch ddrygionus,
Brifio bôd yn wraig rinweddus.
6.
'Rhon ni ŵŷr mo'i Dyledswŷdde,
Ac yr Arglwŷdd, mae'n ddiamme [...]
Nad ŷw honno yn dynabod,
Mo'i Dyledswŷdd at ei phriod.
7.
Nêf ac uffern mewn cyssylltiad,
Nid ŷw fatter o ddim hoffiad:
Câs ŷw hefŷd fôd dŷn grassol,
A Chythreulies yn briodol.
8.
Na phrioda Front-un
Merch ddrwg.
(gwrando)
Dan rhŷw obaith i ddi mendio:
Ac os gwnei, cai weld mewn amser,
It' bwrcassu tristwch lawer.
9.
Gwaddol
Gynnys­gaeth.
gwraig all roi pêth
Amnaid
awgrŷm,
Am y cyssur a all ganlŷn:
Wrth ymadael a'th lân rydd-did,
Mŷnn amdano Aur a golud.
10.
I air gwlâd na choelia ormod,
Gair sŷ ffrind i rai menwŷod:
Bwrw fôd yn llai y gwaddol,
Nac y mae wrth air y bobol.
11.
Os i'th gyflwr 'rwŷt anfodlon,
Os ŷw'th frŷd yn siccr ddigon:
I briodi, ac i'm rwŷmmo,
Cais un Frâs,
Gyfoethog, nid Tlawd.
nid cûl, i'th flino.
12.
Os ith ran y daeth gwraig weddus,
Etto er hŷn nad addo'n ddilŷs:
It dy hun mor llwŷr ddedwŷdd-dra,
Oddiwrth wraig, na dim sŷdd ymma.
13.
Ni feddiannaist un creadur,
Ac y roddodd i ti'r cyssur:
Yr addewaist it dy hunan,
Wrth ei hela yn dra buan.
14.
Nâd ith obaith ynte'th dwŷllo,
Nac i beri it b [...]-ddottio;
Nid ŷw'r ffrwŷth yn ôl y blode,
Mae'n y bŷd fawr dwŷll yn ddie.
15.
Ond i'th ran pe bae yn disgŷn,
Yr hapusrwŷdd nâs Câdd un-dŷn;
Etto amser bôb ychydig,
A'i gwnae'n gâs, ac yn flinedig.
16.
Er meddiannu'r pêth melusa,
O hir sefŷll fe a sura:
Fellŷ pleser â'n ddi-hoffder,
O'i hîr gynnal, a'i hîr arfer:
17.
Ar dy oedran pan ddel gaia,
Pan fo gwallt gwŷn ar dy goppa,
Ti a ddwedi y prŷd hynnŷ:
Da ŷw'r cyngor hŷn o ddifri.
18.
Os wŷt gwedi'th ddala'n
Mewn stâd priodas.
amlwg,
Os yn ddôf a rhoiff dy wddwg
Dan yr iau, cais dynnu'n union,
Fel y gweddai i bôb cristion.
19.
Pan fo un rhŷw waith iw wneuthur,
Cariad a'i gwna'n hawdd o bryssur:
O ddifri.
'Rhŷn a wnelech gwna'n 'wllysgar,
Hynnŷ a ddwg it glôd yn hawddgar.
20.
Na fŷdd tŷnn i gael blaenori,
Os llonyddwch wŷt ti'n garu:
Pêth drŵg ŷw gw ahaniaeth eglur,
Rhwng dau yn un sŷ wedi gwneuthur?
21.
Na ddywed wrth dy wraig, yn ddie,
Hŷn sŷ mi, a hŷn sŷ 'tithe;
Canŷs y cwbwl ac a feddoch,
Sŷdd yn ddâ cyffredin rhwngoch.
22.
Os llwŷr gollaist gyda'th rydd-did,
Y berchnogaeth gŷnt oedd genŷd;
Nid oes i ti le i gwŷnfan;
Diolch am hŷn it dy hunan:
23.
Nid yn gaeth, ond rhŷdd ith anwŷd:
I reoli'n siwr i'th wnaethpwŷd:
Os fforffetiaist dy feistrolaeth,
Ar dy hun mae'r bai yswaeth!
24.
'Rhŷt o'th fôdd gwedi ymrwŷmo,
Drŵg gan hynnŷ i't gomplaino:
Achwŷn.
Gwna dy gyflwr bŷth tra fyddech,
Mor gyssurus ag a gallech.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Plant.

1.
OS bŷdd diffig heppil weithian:
Cyfri hynnŷ'n eisie bychan:
Plant yn siŵr a ddŵg ofalon,
Ond an-siŵr iddŷnt ddwŷn cyssuron.
2.
F'all y doeth genhedlu dwl
ffôl.
un:
Fel ei Dâd nid ŷw pob plentŷn;
Gwelais (rŷw-brŷd) Fâb gŵr ffel-gall:
Yn Anghenfil câs di-ddeall.
3.
Os i'r oes y sŷdd yn canlŷn,
I ddwŷn d'enw nid oes blentŷn:
Cofia i Frenhinoedd mawrion,
Farw'n fynŷch heb 'Tifeddion.
4.
A oes gennit Dîr, a phethe?
Ac heb 'Atifedd i'th feddianne,
Llawer sŷ ar y Ddaiar helaeth:
Ac heb ganthŷnt ddim 'Tifeddiaeth.
5.
Od wŷt Dâd, na fŷdd anwesŷn,
Nâd i'th serch ddistrywio'th Blentŷn:
Plŷg wialen cŷn a tyfo,
Rhag yn fawr nas gelli ei 'stwŷtho.
6.
Hallta ei flynyddoed d tyner;
Yn ôl ei Dymmer blassa'r llester:
Gâd i sugno yn ddiwallus;
Gyda'r fron, wŷddorion
" Principles.
iachus.
7.
Gwna i'th Fâb fod yn gynefin,
Dihar. 22.6.
A Daioni tra fo'n blentŷn;
Fellŷ dŷsc ei "ddlêd
Ddyledswydd.
yn hawsach,
Fellŷ gwnaiff ef hynnŷ'n hoffach.
8.
Bŷdd i'th Fâb yn siampl gole,
Yn Gyfrwŷddwr gwŷch o'r gore:
Dôd lân goppi'n addŷsc iddo,
I scrifennu'n drâ thêg wrtho.
9.
Pa fôdd a gellir beio'r plentŷn,
Sŷdd ar ôl ei Dâd yn canlŷn:
Ac os bei-ir, 'rwyfi'n coelio,
Nad ei Dâd a ddyle ei feio.
10.
Tywŷs di fe ir llwŷbŷr union;
Y mae siample uwch-law gorchmynion:
Y mae llygad yn cyfrwŷddo,
Fwŷ nag y mae'r glûst sŷ'n gwrando.
11.
Yn gyffredin gallwn weled,
Teulu'n dilŷn traed ei meistred:
Pêth arferol ŷw ir plentŷn,
Farcio ffŷrdd ei Dâd, a'u canlŷn.
12.
Rhaid it'weithie fôd yn dirion,
Wrth dy blant, ac weithie'n ddigllon,
Gan eu cospi'n ôl eu tymmer;
Nid yn ôl yr un traws arfer.
13.
Os trwŷ dêg y daw dy Blentŷn,
I ymostwng i'th orchymŷn:
Nid rhaid i ti arfer trawsedd,
Nac un co [...]p a fo n greulonedd.
14.
Tywallt iddo ef wrth radde,
Bôb da [...]oni a rhinwedde:
Deut. 6.6.
Hŷn a bair i'th Blentŷn garu,
Pob rhŷw rinwedd, a daioni.
15.
Dangos mai gwell gennit wobro,
Cynneddf ddâ, nâ'r drŵg bwnisio:
Cospi.
Canmol Blentŷn pan fo'n iawn-dda:
Hynnŷ a'i gwna fe'n well tro nessa.
16.
Gochel ddwŷn dy Fâb i fynu,
Yn segurllŷd, ac i ddiogi:
Pam a caiff oferddŷn di-gar,
Lwŷr ddifetha dy holl labar?
Lafur.
17.
Gwêl na roddech alwad iddo,
Ond yr hŷn sŷdd hyfrŷd gantho:
Na wrthneba ei fwriad gweddus;
Ni wna ddâ yn groes iw 'wllŷs.
18.
Ac ir Donie sŷ o naturiaeth'
Yn dy Fâb, dôd fawr gynhysgaeth:
Trwŷ roi iddo addŷsc gweddol,
Gan ei feithrin e'n rhinweddol.
19.
Mae gwŷbodaeth fel perl hawddgar;
Sŷdd ynghanol modrwŷ hŷ-gar,
Ei wŷbodaeth a wna iddo,
Fôd yn ŵr bonheddig trwŷddo.
20.
Nâd ith Blentŷn weld un-amser,
Bêth sŷdd gennit ar ei feder;
Rhag i hynnŷ beri iddo,
Sceulusso'r galwad a fo gantho.
21.
Ac na âd i'th râg-ddarpariad,
Rwŷstro'th Fâb i drîn ei alwad;
Canŷs i mae dau ennillwr,
Yn dra bychan i un Treuliwr.
22.
Da bôd march i'th law wrth rodio;
Pan a blinech, cai fynd arno:
Crefft neu Alwad dichon helpu,
Pan fo stocc y Tâd yn ffaelu.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Teulu.

1.
Bŷdd d'ymddygiad yn dy Deulu,
Yn dy Le, yn llwŷr agweddu:
Fellŷ enilli di eu cariad,
A'u dyledus barch yn oestad.
2.
Gwêl na fŷch yn rhŷ gyfeillgar,
Ag un Gwâs neu Forwŷn hawddgar;
Na ddatcuddia mo'th ddirgelion,
Nac i'th weision, na'th forwŷnion.
3.
Os gwnei fellŷ, nhwŷ fŷdd Feistri,
Tithe fyddi iw gwasnaethu:
Yna 'rhwn ni feiddi ddigio,
A'th cythrudda pan i mŷnno.
4.
Fel y bô i'r rhai sŷdd danat,
Weld eu lle, a'u dyled attat;
Bŷdd bob amser hŷn yn d'amcan,
Gadw i ti dy lê dy hunan.
5.
Rhag-ddarpara eu lluniaeth iddŷn,
Yn eu gwaith nâd ddiffŷg arnŷn:
Tâl eu cyflog ŷnt
Iddŷnt
yn ddifâr;
Ddiddig.
'Nôl eu gwaith, nhwŷ bia'r wabar.
6.
Wrth amodi cadw'n ddilŷs,
Rai o bethau ar dy ddewis:
Fellŷ bŷdd it fantais wiw-lês,
Fod mewn rhôdd yn well nâ'th bromes.
7.
Y mae amser i rai 'weithio,
Ac mae amser i orphwŷso:
Wrth dy'anifail na fŷdd 'scymmŷn;
Llai o lawer wrth wasnaethŷn.
8.
'Styria'th wâs fel dŷn, fel Cristion,
Bŷth na bŷdd di wrtho'n greulon:
Dôd iddo amser o esmwŷthad,
Cyfattebol iddo ei alwad.
9.
Fel yr wŷt ti'n rhwŷm o ddifri,
Am dy weision i ofalu:
Fellŷ am eu cŷrph a'u 'neide,
Rhaid it roddi atteb gole.
10.
Os digwŷdda i un lithro,
Fe ofynnir i ti amdano:
Os bu hŷn trwŷ dy 'sceulusdra,
Rhaid i't'atteb am dy ddyldra.
11.
'Rwŷt ti'n Dâd i'th Deulu hefŷd:
Gwell gwâs doeth nâ phlentŷn ynfŷd:
'Rhwn a ddarfu'th waith ei dreulio,
Na thafl allan pan heneiddio.
12.
Cyfri hên wasnaethwr ffyddlon,
Gyda'r goreu o'th gyfeillion;
Ond bŷdd siwr yn ddoeth geryddu,
Am ei fai dy wâs o'r neilltu.
13.
Cerŷdd ddirgel sŷdd yn toddi:
Cerŷdd Gyhoedd sŷ'n caledu;
A pharodol iawn i ddigio,
Ydŷw'r sawl sŷ heb gwilŷdd arno.
14.
Os ŷw'th wâs yn ŵr mewn oedran,
Am ei fai nâ chur ef weithian:
Drŵg a gwedd ir gwâs a'r meistŷr,
Fôd yn ymladd mewn un mesur.
15.
Nâd i'th weision nac i'th genel,
Na nêb arall mewn un cornel
Yn dy dŷ lwŷr dreilio'n erchŷll,
Fwŷ nag ydwŷt ti'n ei ennill.
16.
Mae dy weision (gwŷbŷdd) hefŷd,
Yn gyfranog o dy hawddfŷd:
Ond os dan ystorm a byddi,
Hwŷ a ffôant, ac ânt i lechu.
17.
Rhai (gwir ŷw) a wnaethant lawer,
Dros eu meistred yn eu Blinder:
Ond nid ŷw hi'n hâf er gweled,
Un neu ddau o'r bâch wenholied.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Cyfaill neu ffrind.

1.
PAn ddewisech ffrind, bŷdd bwŷllog,
Bŷdd wrth newid fwŷ gwagelog:
Gofalus.
Nâd yn ebrwŷdd i'th serch setlio,
Aros.
Ond lle craffo gwna 'ddi drigo.
2.
Mae parhâd mewn cariad gwiw-lâch,
Yn dwŷs ddilŷn gwîr gyfeillach:
Ac mae anwastadrwŷdd ynteu,
Yn Fai anodd iawn ei faddeu.
3.
Profa gyfaill cŷn ei ymddiried,
Fel a cefŷch êf mewn gweithred;
Bŷth ni wnei i'th ffrind fwŷ niwed,
Nag amdano'n dôst ddrŵg-dybied.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Bodloni Duw.

1.
NA wna ddim i anfodloni
Y b [...]ndigaid Dduw uchel-fri:
Na fŷdd dim a wnelo ynte;
Yn dy anfodloni dithe.
2.
Ac na fydded ond un'wllŷs,
Rhwng dy Dduw a thithe'n ddilŷs;
Siccr.
Ewllŷs Duw ym-mhôb rhŷw bethe,
Ddyle fôd dy'wllŷs Dithe.
3.
Bŷdd yn weddaidd dy vmddvgiad,
Fel un fŷdd o flaen ei lvgad;
Psal. 139.
Mae Duw'n canfod dy feddylie,
Mae e'n clywed dy hôll eirie.
4.
Os trosseddaist yn ei erbŷn,
Haeddaist gôsp, 'dwŷt nés er achwŷn:
Fe fŷdd Tŷst a Barnwr cyfion,
Am dy bechod a'th drosseddion.
5.
Ac os bŷdd dy farn yn galed,
Mae hi hefŷd mor gyfiawned:
Ond i ddiangc rhag yr ergŷd,
Oddiwrth bechod cilia'n ddiwŷd.

Cyngor Tâd Fâb, ynghŷlch Mârwolaeth.

1.
PAn a gwelŷch feddau'r meirw,
Darllen d'angeu yno'n groŷw:
Fel y maent hwŷ, byddi chwŷppŷn;
Aethant hwŷ, 'rwŷt tithe'n canlŷn.
2.
Darfod a wnaeth iw clŷch fodrwŷo,
Canu.
Mae'th glôch ditheu'n dechreu tinccio:
Ar fŷr o drô dy lê ni'th' nebŷdd,
Bêdd sŷ'n barod i'ti beunŷdd.
3.
Angeu sŷ'wrth y drws yn curo,
Daw ith dŷ, nid oes ei rwŷstro:
Cwblâ'th waith cŷn dêl yr Angeu;
Rhaid it fyned iw grafangeu.
4.
Bŷdd di fŷw fel un sŷ'n gwŷbod,
Fod yn rhaid it'gael dy ddattod:
Phil. 1.23.
Fellŷ'n dêg bŷdd dy farwoiaeth,
I dy ddwŷn i iechŷdwriaeth.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Daioni cyffredinol.

1.
MEddwl wneuthur da cyhoeddus;
Y mae hŷn yn siwr, yn ddilŷs,
Fod daioni cyffredinol,
Yn gan-gwell nâ da neilltuol.
2.
Mwŷ o lês fŷdd i bôb ochor;
Ond i'th hun bŷdd mwŷaf gwobor:
Ni wnei bŷth ddâ cyffredinol,
Heb wneud dâ ith hun yn hollol,
3.
Nid all peth sŷdd ddâ ir cyfan,
Fôd yn ddrŵg i neb o un-rhan:
Gochel ysprŷd câs-brin caled
Er dy fwŷn dy hun ni'th aned.
4.
Mae ith wlâd ran ynot, cofia;
Fel y mae ith blant o'r siwra;
Rhyfedd ŷw i rŷw bêth bychan,
Bwŷso i lawr y wlâd yn gyfan.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch ffrins gwedi marw.

1.
TRa bŷch arol dy ffreinds yn Tario,
A'r storm ar dy ben yn curo:
Maent (os duwiol oent
Oeddŷnt.
) yn llawen,
Yn y nefoedd hardd ddisglairwen.
2.
'Rhŷn sŷ gennit yn dy olwg,
Sŷ'n eu dwŷlo nhwŷ yn amlwg:
Hwŷ ennillasont goron fawr-gu,
Rwŷt tithe etto i gongcweru.
3.
Mae dy ddillad di yn gochion,
Mae eu gwisgoedd hwŷnt yn wnnion:
Daethont hwŷ o'r môr yn gefnog;
Ond 'rwŷt ti'n y dyfroedd tonnog.
4.
Fe lwŷr sychwŷd eu holl ddagre,
Llawn o wlîth ŷw'th ruddie dithe:
Na alara drostŷnt weithian,
Ond galara dros dy hunan.
5.
Maent hwŷ'n siccir yn fwŷ happus,
Gan eu mynd ir nêf yn ddilŷs
O'n blaen ni y rhai daiarol,
Os hwŷ fŷont fŷw yn rasol.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Gochelŷd Profedigaethau.

1.
I Ymgadw rhag y pechod;
Rhag yr achos cadw'n wastod:
Hawsach ffoi rhag temptasiwnau,
Na'u gwrthnebu yn y cyfleu.
2.
Gochel bûg rhag dy ddi-harddu;
Gochel ffordd sŷ'n enbŷd trwŷddi:
Nid Doethineb bŷth i tithe
Fynd ir man sŷ'n llawn perygle.
3.
Gwêl di fel y mae'r cilionen,
Prŷr ganwŷll.
Yn y fflam yn llosgi ei haden:
Gwedi chware o ddautu'r ganwŷll;
Dyna a ddaw o fôd yn fyrbwŷll.
4.
Bŷth na thrŷst
ymddiried.
i'th nerth dy hunan,
Rhai trwŷ ryfig a syrthiasan:
Gwell gan hŷn bôd yn ofalus,
Na bôd bŷth yn rhŷ hyderus.
5.
Anodd sefŷll mewn lle llithrig,
Bôd yn lân 'mŷsc rhai llygredig:
Cofia fel y cwŷmpodd Caphas,
Peter.
Yn nhŷ'r Arch-offeiriad Caiphas.
6.
Gochel abwŷd ar y bache,
D'olwg trô 'ddiwrth Demptasiwne:
Bwriad crŷf nid ydŷw ddigon,
Gellir hudo trwŷ olygon.
7.
Temptiwr cyfrwŷs sŷ'n dy gymmell,
Job 31.1.
Praw trwŷ rŷm, a phraw trwŷ ddichell;
Os fel llew ni thŷnn mo'r Afal,
Fel sarph i ddringo mae fe'n abal.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch Darfodiad bywŷd.

1.
MEgis Dŵr y mae dy fywŷd,
Fŷth yn Rhedeg heb ddychwelŷd;
Bôb dŷdd 'rwŷti'n marw'n ddios,
Ddie.
Iddo 'rwŷti'n farw eusoes.
2.
Mae'r corph i'r clai yn agos syrthio,
Clefŷd bâch a wna iddo siglo;
Pwŷ all ddwedŷd nad y nessa,
Ydŷw'r clefŷd a th ddistrywia?
3.
Am hîr fywŷd nis edrychaf:
Am lâu fywŷd mi 'tolygaf,
Ar i'r Arglwŷdd i roi i mi,
Fel bo parod i ddattodi.
Far [...].
4.
Ni waeth er cynted yr âf oddiyma
Pan fo 'ngwaith i wedi gwhla:
Ni châf weled Duw'n rhŷ ebrwŷdd;
Yn rhŷ fuan ni châf happusrwŷdd.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch ymgyssuro mewn gobaith o'r nêf.

1.
YDŷw'th gyflwr yn gvmylus
gymylog.
?
Gloewi 'wna, a'r Haul a ddengŷs:
Nâd i Dristwch gael ei lwŷbŷr;
Pâr i chwithdra mado'n bryssŷr.
2.
'Styria i ble'rwŷt ti'n trafaelu,
Gâd ith obaith dy ddiddanu:
Drŵg gweld Sant yn anniddanus,
Pan fo'n mynd ir nefôedd hoenus.
Llawen
3.
Na fŷdd Drist, ond bellach meddwl,
A gwna'r nêf iawn am y cwbwl:
Rwŷt ti etto dan dy oedran,
Hib. 10.36.
Cais Amynedd ennŷd fechan.
4.
Mae'r Etifedd yn meddiannu,
Ei etifeddiaeth gwedi tyfu
Iw lawn oedran: fellŷ'r grasol,
A gânt mewn prŷd y Deŷrnas nefol.
5.
Gall Tywŷsog fynd yn ffugiol,
Mewn gwael wîsc, trwŷ wlâd ddieithrol
Ond pan ddêl iw wlad ei hunan,
Hoŷw fŷdd ei wisc, a gwiw-lân.
6.
Ffordd ni phrisiaf, tra bwi'n hysbŷs,
Tua'm Trêf ei bôd hi'n tywŷs:
Am fy nhaith, nid meddwl cimmŷn,
Ac wi'n feddwl am ei therfŷn.
7.
Na chais Nefoedd ar y Ddaiar,
Ni chaiff neb ddwŷ nefoedd hawddgar:
Trwŷ iawn'styried, hawdd ŷw canfod
Un yn ddigon, dwŷ sŷ'n ormod.
8.
Nid ŷw gwaddol
Cynnys­gaeth.
mewn meddiannad,
Ar un-prŷd, ac mewn disgwŷliad:
Na chais fwŷtta bŷth dy Fara,
Os ysgogi draw, ac ymma.
9.
Y mae Gwaith i flaenu gwabar,
Fictor
"Cw [...]cwerwr.
sŷ'n cael coron hawddgar;
Am gael llwŷbŷr têg nac edrŷch,
Yn llawn Roses hardd pereidd-wŷch.
10.
Dioddefiadau sŷdd briodol,
I dy gyflwr di'n bresennol:
A fynni fôd dy lettŷ'n gyfan,
Megis ac y mae dy Drig-fan.

Cyngor Tad iw Fab, Am drwbwl ynghŷlch cystuddiau i ddyfod, ac wedi dŷfod.

1.
Bŷth na chrea it dy hunan,
Un rhŷw groes, na mawr na bychad:
Nid ŷw hynnŷ ddim peth amgen,
Nag ymofŷn clwm mewn brwŷnen.
2.
Na fŷdd gofalus am y foru,
F'alle nas cei ei feddianu:
Digon ebŷr tafod pur-lan,
I bôb dŷdd ei ddrŵg ei hunan.
Mat. 6.34.
3.
'Rhŷn sŷdd gennif mi meddiannaf,
Doed y peth a ddelo nessaf:
Ac mi dorra'm sŷched heddu,
Er bôd diffig diod y foru.
4.
Os ystyri'r drŵg 'ddigwŷddodd,
I rai eraill bôb amseroedd:
Ni ryfeddi'r digwŷddiade,
A ddigwŷddo yn awr i tithe.
5.
Ydŷw pethau'n mynd ir gwaetha,
Gyda'th well mae'n waeth mi 'wranta:
Wŷt ti'n dlawd? fel hŷn 'roedd ffortun,
Rhai o'r gwŷcha cŷn eu terfŷn.
6.
Rhai fu'n dlawd trwŷ eu dewissiad,
A'r rhan fwŷaf trwŷ ddigwŷddiad:
Gwagedd ydŷw golud lawer,
Can's hwŷ ddygant dra-mawr flinder.
7.
Mae poen mawr i gasclu golud;
Blinder sŷdd o'i colli hefŷd:
Ie Gwnant i ddynion gwŷpio,
1 Tim. 6.9.
Megis Gwisc ar lawr fo'n llusco.
8.
Dylwn fôd i'm Tâd yn fodlon,
Os trîn fi fel pawb oi feibion:
Nid ŷw reswm ir mâb gwaetha,
Ddisgwŷl cael y porsiwn
Cynhysgaeth.
mwŷa.
9.
Nâd ir trallod sŷdd arferol,
Ddilŷn dynol rŷw'n wastadol:
I beri i ti gwŷno'm hellach,
Fod yn drwm, yn drist, neu rwgnach.
10.
Cefen at y baich a luniwŷd,
Eraill megis dithe lwŷthwŷd:
Pasawl un sŷ'n mynd yn ystig,
Dan rŷw goeliau mwŷ pwŷsedig.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch ffrwŷno'r cnawd.

1.
BYdd yn sobor, bŷdd ofalus,
Na roech lê i'th chwantau nwŷfus,
Na lwŷr dreulia yr hŷn sŷdd gennŷd,
A ddarperaist at dy fywŷd.
2.
Tôst gweld dŷn yn treulio'r cwbwl,
Ac a'nillwŷd trwŷ fawr drwbwl:
Gan wastraffu, bwŷtta ac yfed,
Gwedi goddef newŷn caled.
3.
Na ro'r ffrwŷn i'th gnawd, ond gossod
Rwŷme ar dy chwantau'n wastod,
Dŷfc hwŷ i gadw eu terfynne;
Nâd hwŷ 'fyned dros y bangcie.
4.
Cymmer 'rhŷn sŷdd anghenrheidiol,
Na ddod glust i'th nattur cnawdol:
Stoppia, gwel pan fŷch yn ddife,
Blin ŷw chwennŷch gormod bethe.
5.
Os mewn pethau drŵg mae'th hoffder,
Trist ochneidion a'i trŷ'n surder:
Cydwŷbod 'ddaw rŷw brŷd i'th wascu,
Am it ddilŷn cyfrŷw fryntni.
Rhuf. 2.
6.
Cymmer rybŷdd oddiwrth selŷf,
Solomon.
Rhwn a ddwedei yn an-nigrif:
Gwedi 'mlenwi a phôb melyswedd,
Nid ŷw'r cwbwl ôll ond gwagedd.
7.
Gâd i brofiad hwnnw'th gadw,
Rhag plesserau a drŷ'n chwerw.
Os gwell synwŷr gwedi brynnu,
Cofia'th gnofeudd yn ol pechu.
8.
Ti a'ddewaist it dy hunan,
Ond cael plesser yn ôl d'amcan:
A ceit lawer o hapusrwŷdd,
Ffaeliest er hŷn gael bodlonrhwŷdd
9.
Gwasga'th gonsciens, ofna Angeu,
A'r mawr gyfri raid yn oleu
I ti roi ir Barnwr cyfion
Am dy ddrŵg, a'u trôdd hwŷ'n chwerwon.
10.
Pan a ceisir nessa'th dwŷllo,
Cofia beth wŷt wedi ffeindio:
Gael
Nid oes le ith esgusodi,
Os ddwŷ-waith y cymri'th siommi.

Cyngor Tâd iw Fâb, i ochelŷd Edliw eu gwendid i evaill.

1.
GOchel ddannod gwendid arall;
Ei an-harddwch cela'n ddiwall:
Cuddia ei glwŷf, a'th fŷs yn ebrwŷdd,
Nad (os gelli) weld ei wradwŷdd.
2.
Na chyhoedda fai neb weithian,
I wradwŷddo'r gwann a thruan:
Ac na feddwl ymdderchafu,
Pan fo arall gwedi ffaelu.
3.
Ond rhyfedda di yn ddyfal,
Y daioni sŷ'n dy gynnal;
Pan fo arall yn cael cwŷmpe,
Bŷdd ei gwŷmp i'th istwng dithe.
4.
Yr un ffynnon sŷdd ymhôb dŷn,
Yr un galon front anhydŷn:
Cyndŷn.
Ti allasse fôd fel ynte,
Neu ti elli cŷn mawr ddyddie.
5.
Bŷdd am hŷn ofalus weithian;
Edrŷch at dy droed dy hunan:
Yr hwn sŷdd yn sefŷll etto,
1 Cor. 10.12.
Gocheled ef rhag iddo syrthio.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch newid barn am eraill.

1.
BYth na newid dŷb am ddynion,
Ac na farna hwŷnt yn greulon;
Am iddŷnt newid attat tithe,
Yn eu cariad a'u serchiade.
2.
Ond ystyria di yn gywrain,
Beth sŷdd ynddŷnt hwŷ eu hunain;
Ac nid beth ydŷnt tuag-attad,
O ran un math o ymddygiad.
3.
F'alle eu bod nhwŷ'r un yn wastod,
I ddaioni yn dra pharod:
Gall fod ynnot ti'r achosion,
O newidiad eu serchiadon.
4.
Ti osgatfŷdd wŷt yn haeddu,
Mawr gasineb am ddrygioni:
Ac nid rhyfedd ŷw yn ddios,
Ddieu.
Os trŷ'r weithred gyda'r achos.

Cyngor Tâd iw Fâb, ynghŷlch bostio am bechod.

1.
AM dy bechod bŷth na fostia,
Am by warth
Cwilŷdd.
na orfoledda:
Gorchudd dros dy noethni bwrw,
Rhag drŵg enw, bŷth ymgadw.
2.
Nid rhaid i eraill weld yn gyfan,
'Rhŷn mae Duw'n ei weld, a'th hunan:
Bŷth na ddadla tros dy bechod,
Digwilydd-dra ŷw hynnŷ'n wastod.
3.
Edifara pan fŷch felus,
Wyneb-liwia di yn ddilus:
Bŷdd fwŷ parod i gyffessu
Dy fai, nag iw esgussodi.
4.
Dros y drŵg na'mgeccra un.amser;
Gwellha'th hunan yn ddi-bryder:
Diofn
Synwŷr ydŷw adde'th bechod,
Dihar. 28.13.
Ar bôb dŷdd o flaen y Drindod.
Ymma diweddiff 47. o ddyriau byrrion Duwiol, dan enw Cynghorion Tâd iw Fâb: Y rhain a Argraphwŷd ymma yn hytrach er mwŷn daued y testŷnau, ac ewŷllus dâ'r Prydŷdd; nac er mwŷn yr Awenŷddgamp, na'r Gymraeg sŷdd ynddŷnt.

DYRIAU DUWIOL, YN DANGOS dirfawr gariad Crîst, i bawb a'i derbynnio.

1.
DOwch atta i mêdd Crîst, rai llwŷthog,
Ar eu siwrne sŷdd flinderog:
Mi a gymera eich beichiau ymeth,
Ac a roi 'chwi Esmwŷthtrâ heleth.
2.
Nid oes na briw na bauch ar un dŷn,
Os trŷ fe i'r iawn, trwŷ gredu a gofŷn,
Nawdd a phardwn, fel a dylo:
Na bô gan Grîst ymwared iddo.
3.
Chwychi wragedd gweddwon gweinied,
Am eich gwŷr chwi a gawsoch golled:
Gwnewch a myfi ddŷdd dyweddi,
Rwŷ'n wîr fodlon i'ch priodi.
Mêdd Crîst.
4.
Chwithe y plant ymddifaid noethion,
Sŷ'eb Dâd na Mam, A chlŷw'ch Anghennion:
Dowch atta fi medd Crist trwŷ gariad,
Rwŷ'n Dâd ffyddlon i'r ymddifad.
5.
Yr hôll gleifion Anesmwŷthol,
O bôb clwŷf, a haint Echryssol:
Dowch atta i medd Iesu o Nassareth,
Arglwŷdd wif i'ch Iechŷdwriaeth.
6.
Y Clôff, a'r Dâll, a'r Mûd, a'r Byddar,
rwi yn eich gwhâdd yn Ewŷllysgar:
I gael eich Clŷw, a'ch golwg etto,
A'ch Genau i draethu, a'ch Traed i rodio.
7.
Rwŷf yn wisg i'r noeth, rwŷ'n fwŷd i brinder,
Rwŷ'n nerth ir gwann, i'r gwâg rwŷ'n llownder:
Pôb sychedig nessant atta,
Cânt ddwfr buwiol a'u digona.
8.
I rwi yn fywŷd i rai meirwen,
rwi'n rhoi rhydd-did i'r Carchorion:
Cyfoeth wif i'r Tlawd di 'mwared,
A chyfarwŷddwr i'r dieithred.
9.
Beth nid wif i'r neb am caffo,
A phwŷ ni'm Caiff o'm dyfal geisio
Ai hôll Galon fel ei dyle,
'Rwŷ'n gwahadd pawb i ddyfod adre.
10.
Meddwŷn, Lleidîr, Godinebwr,
Cybŷdd, Llofrŷdd, Hocrŷdd, Tyngwr:
Cablwr, Twŷllwr, gwnewch yn barod,
I gymrŷd Crîst yn ffair i bechod.
11.
I mae fê'n aros, ac yn Cnoccio,
Od-oes nêb a wrendu arno:
Mae fe'n galw'r edifarus,
I ddyfod atto i Baradwŷs.
12.
At y pechaduriaid mwŷaf,
I danfoned Crist i wleddaf:
Fel a gallent drwŷddo eilwaith,
Ail droi'n ol o'u Colledigaeth.
13.
Ond dod dy frŷd ar brynu'r amser,
Hawdd iw gweithio tra Canffydder:
Y gwaith sŷdd fawr ystyriwn hynnŷ;
Ar dyddie yn ddrŵg, a'r nôs sŷ'nesu.
14.
Os wŷt ti'n sefŷll, gwilla syrthio,
Od-wŷt ti'n Cysgu, chwenŷch ddeffrâ:
Cals ddau lygad craff deallus,
Cydwŷbod rŷdd, a ffŷdd gariadus.
15.
Un i ganfod dy holl ddiffŷg,
A hynnŷ a'th ddeil di'n ostyngedig;
A'r Ilall i graffu ar Grîst a'i lawnder,
Uwchlaw'r Bŷd di weli lawer.
16.
Meddwl calon dŷn anianol,
Ni wŷr ddim o'r pethau 'sprydol;
Duw sŷdd ysprŷd yn goleuo:
Nid eir ond yn ysprydol atto.
17.
Y Troed, ar Llaw, ar Llygad deheu,
Torwch ymeth eu drŵg chwantau:
Mae'n well colli 'lodau marwol,
Mat. 18.8. &c.
Na cholli'r Bywŷd yn dragwŷddol:
18.
Duw a ro i mi râs i 'msymmŷd,
Oddiwrth y cnawd ar ôl-yr ysprŷd:
Synnied cnawd sŷdd farwol duedd,
Ar llall sŷdd fywŷd a thangnhefedd.
Ymma a diweddiff 59. o ddyriau Duwiol, at y Dôn a elwit, Loeth to depart.

YMMA A DECHREUIFF AMRYW O Garolau Duwiol, dan enw Carolau hâf, y Rhain sŷ gymwŷs iw Canu tan barwŷdŷdd, y Boreuau yn mîs Mai, yn enwedig ar foreu ddŷdd Calanmai.

CAROL HAF.

1.
YR hwsmŷn weithan codwch,
Llu anwŷl, a llawenwch,
Ar-hŷd eich meusŷdd rhodiwch;
Mewn rhadol glôd ddi-fai,
Croesafwch gwedi'r gwanwŷn,
Gwresogca, tegca toccŷn,
Y tymmor hafedd twŷmŷn,
Disgleir-wŷn, melŷn Mai.
2.
Mae'r bedw mor wŷbodus,
A dail y Coed a ddengus,
Hŷn o gyfnewid hoenus,
Tyner i bôb rhai,
Cewch weled mor berffeithlon,
Yn eglur i'ch golygon,
Er gwîr Gonfforddi eich calon,
Mor— wnnion meillion Mai.
3.
Gogoniant, moliant miloedd,
I frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr.
Su râd wellhâd ar ydau llawer,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.
4.
Pob peth er lles a llwŷddiant,
Yn glîr drwŷ dîr a dorrant,
Cornasiwn, Lili, Lafant,
Gwîr ffrwŷthiant a gaiff rhai,
Gweini a wnaiff y gwenŷn,
Iw hadail dan eu hedŷn,
Y mêl o bôb llysiewŷn,
A fo 'nyffrŷn minwŷn Mai.
5.
Mae'r Manwl adar mwŷnion,
Yn tyrru fel Cantorion,
Ir un man yn ymryson,
Ddâ felus dôn ddifai,
Y rhain i Glammai'n unig,
'Gyrdeddant gerddi diddig,
Leferŷdd Organs Coedwig,
Urddedig fiwsig fai.
6.
Gogoniant, moliant miloedd,
I frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr.
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.
7.
Mae llawer gwâs trwmbluog,
A llawer morwŷn serchog,
A ddisgwŷl yn odidog,
Y dedwŷdd hâf lle dai,
Yn nechre Clammai cleimian,
Y diwrnod hwnnw eu hunan,
Yn ddŷdd-gwŷl codi os mynnan,
Nhw 'welan 'fŷan fai.
8.
Mae llawer Cybŷdd dichlin,
A lwŷr lawena'n ddibrin,
Pân welo ffrwŷthau ei egin,
Ffraeth agwedd yn ddi-drai,
A llawer gwâs pen siomgar,
A'i gwneiff ei hun yn feistar,
Chwi welwch mai rhinweddgar,
yw'r hawddgar fwŷngar Fai.
9.
Gogoniant, moliant miloedd,
I frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr mân.
10.
Deffrowch yn llu diniwed,
Gwŷch glaiar, chwi gewch glywed,
Yr adar or un dynged,
Yn dangos wrth eich tai,
Fôd gwedi'r gwannwŷn oeredd,
Ar frynniau fwŷ o rinwedd,
O glaerwŷn dêg egluredd,
Gorfoledd mawredd Mai.
11.
Mae llawer Prŷdd a ddechru,
Oi galon lân lawenu,
Pan welo'r ffordd yn glasu,
Chwi glywsoch hŷn gan rai,
Rhŷdd newid rwŷdd cŷn rhadted,
Ar lawer Meister caled,
O glywed cŷn wresogced,
Yw siecced felfed fai.
12.
Gogoniant, moliant miloedd,
I Frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar dir oedd,
Rifedi gwlithoed glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.
13.
Cŷd-gofiwn ar ddaiaren,
Ddammeg y ffigŷs-bren,
Mat. 24 32.
Ni a wŷddom ar ei ddeilen,
Urddoledd bur lle bai,
Mae pwŷso bŷdd, nid amgen,
Yr amser at ei ddiben,
A bôd lle gŵŷr drachefen,
Y las-wen fedwen fai.
14.
Fel y mae'r tymmor fellŷ,
Yn gwressog adnewŷddu,
A Phebus
Haul.
yn derchafu,
Tra-chyfion dês ar dai,
Adnewŷddwn ninnau
Ein bywŷd, a'n bucheddau,
Fel Cwrs, a chlôd y dyddiau,
Dedwŷddol moddol Mai.
15.
Gogoniant, moliant miloedd,
I Frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bób ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.
16.
Cofiwn y morgrugŷn,
O ddechreu gwrés y fiwŷddŷn,
Yr hwn ni orphwŷs ronŷn,
Yn'r un-awr, ac ni sai,
Ond casclu iw gadw'n ddigel,
Y gaia yrfa oerfel,
Nes dywad einioes dawel:
Prŷd Angel Mettel Mai.
17.
Yn anwŷl iawn gwnawn ninneu,
O gariad bŷth ein goreu,
Or amser glân ar dyddiau,
Dedwŷddwch i bób rhai,
Ddisgwŷl drwŷ dduwiol-frŷd,
Ddyfodiad Crist bôb ennŷd,
O ran nas gwŷddom hefŷd,
Pa brŷd na munud Mai.
18.
Gogoniant, moliant miloedd,
I Frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bób ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.
19,
Wrth glywed mor llawen-iaith,
Yw'r Gôg, ar Ceiliog bronfraith,
Ar fwŷalch hitheu ar unwaith,
Ar wennol chwaith ni thai,
Ond datcan mor berffeithlon,
Bawb yn yr iaith a fedron,
Faint ŷw rhinweddau ffrwŷthlon,
Yr hinon fawr-lon Fai.
20.
Meddyliwn fal y deffru,
Utgorn Crist ni i'n barnu,
Er claddu'r Cŷrph i bydru,
Mewn closs garchardŷ clai,
Y meirw ar drawiad amrant,
Trwŷ'r bŷd eu gŷd a godant,
Ger bron ein Duw Gogoniant,
Mewn meddiant, moliant Mai.
21.
Gogoniant, moliant miloedd,
I frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.
22.
Cŷd-fyddwn yn gweddio,
Un-galon, ac yn gwilio,
Ar lampau yn ein dwŷlo,
Yn deilwng hŷn a fai,
Ymgeisiwn a duwiolder,
Ar union ffordd iw harfer,
Trown heibio lid a ffalster,
Yn amser mwŷnder Mai.
23.
Hai codwch y llangcesi,
A lafant, rhôs, a Lili,
Perffiwmiwch eich ffenestri,
Yn llwŷni heb ddim llai,
Dangosed y morwŷnion,
I bawb heb gel, a ddelon,
Fôd yn eu teiau tirion,
Arwŷddion mwŷnion Mai.
24.
Gogoniant, moliant miloedd,
I frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr mân.
25.
Y duwiol nefol deulŷ,
Boed hir y bô'ch trwŷ'r Iesu,
Mewn urddas iw foliannu,
Fel Enôch gŷnt a wnai,
Ac megis Aron dyner.
Yn sanctaidd iawn bôb amser,
Y bo'ch chwi'n casclu power,
O frasder mawredd Mai.
26.
Oed lesu, Oen dewisedd,
Mil chwechant, trugien mlynedd,
A hefŷd saith, air hafedd,
1667.
Iw rhifo heb un llai,
Cŷd-rown ein gweddi ar unwaith,
Ar gadw'n Brenin perffaith,
A dweded pawb yn helaeth.
Amen, ar foregwaeth Mai.
27.
Gogoniant, moliant miloedd,
I frenin y Cenhedloedd,
Sŷ'n cynnŷdd ffrwŷth ar diroedd,
Rifedi gwlithoedd glân,
Ac yn danfon gydâ'r wawr,
Su râd wellhâd ar ydau llawr,
I bawb yn dêg bôb ennŷd awr,
I borthi mawr a mân.

Carol hâf, mewn amser Rhyfel yn annog i edifeirwch.

1.
BOneddigion, a chyffredin,
Gwŷr, gwragedd, merched, bechgin,
A chwbwl oll or gwerin,
Sŷdd yn eich dichlŷn dai,
Codwch a phrysurwch,
Gwiw ddeilied a gweddiwch,
A hŷn ar foreu tegwch,
Tawel teg o Fai,
2.
Codwch bawb i fynu,
I wrando ar goge'n canu,
Mae dail y coed yn glasu,
Yn lwŷswedd wrth eich tai,
Mae glân eginau gleision,
A ffrwŷthau ffrithoedd llawnion,
a hŷn ar doriad tirion,
Mwŷnion Mai.
3.
Godwch feibion Codwch,
I gymrŷd edifeirwch,
I geisio heuddu heddwch,
Gan y gwr sŷ uwch-ben,
Fe drodd y rhod i eitha'r nôd,
Ymwnewch a Duw fel dyna'r glôd,
Rhag digwŷddo yn fŷan fôd
Y bŷd ar ben.
4.
Fel dymma gyflawn ffrwŷthŷdd,
Ar goed, ar faes, ar fynŷdd,
A ninneu yn aflonŷdd,
Beunŷdd yn ein bai,
Na cymrem edifeirwch,
Pan oeddŷm yn cael heddwch,
Da fawredd, a difyrrwch,
Ar foreu teg o Fai.
5.
Dymma Dduw'n ymgynnig,
I'r bŷd yn fendigedig,
A ninnau yn wrthnysig,
Ond arŷth ydŷw'n bai,
Gan gledrwŷdd ein calonnau,
Ein balchder, a'n camweddau,
A drôdd yn chwerw chwareu,
Ar foreu Têg o Fai.
6.
Godwch feibion Codwch,
I gymrŷd edifeirwch,
I geisio hauddu heddwch,
Gan y gwr sŷ uwch-ben,
Fe drodd y rhod i eitha'r nôd,
Ymwnewch a Duw fel dyna'r glôd,
Rhag digwŷddo'n fŷan fôd
Y bŷd ar ben.
7.
Codwch Gymru, a Saeson,
Ewch ar eich gliniau noethion,
Yn eiriol ar Dduw cysion,
Gyflawnwch hŷn heb lai,
Ar gaffel o'r Cristnogion,
Heddwch, a chariad ffyddlon,
A hŷn cŷn toriad tirion,
Mwŷnion Mai.
8.
Mae'r drwm yn sowndio larwm,
A phres, a rhodress rhŷdrwm,
Mae garw ruthrau gorthrwm,
Yn passio rheswm rhai,
Mae'r tân, a phowdwr gynnau,
Ar pelets plwm yn chwareu,
Fel dyna eu miwsic danna [...],
Ar forau Tég o Fai.
9.
Codwch feibion Codwch,
I gymrŷd edifeirwch,
I geisio heuddu heddwch,
Gan y gwr sŷ uwch ben,
Fe drodd y rhod i eitha'r nôd,
Ymwnewch a Duw fel dyna'r glôd,
Rhag digwŷddo'n fŷan fôd,
Y bŷd ar ben.
10.
Mae Chwalu mawr, mae chwilio,
Mae glŵth yn rhŵth yn rhiwlio,
Mae plyndrio, rifflio, treisio,
Mae trawsedd yn ein tai,
Mae gwaed, a gwiddi canlle,
Gar bron Jehovah nerthe,
a hŷn ar lân dymhore,
Têg o Fai.
11.
Mae Cŷnph ein cymmydogion,
Ein brodŷr, a'i cyfeillion,
Yn gelaneddau meirown,
Yn gleifion yn y Clai,
A'u hescŷrn yn garneddau,
A'u claddiad rhŷd y cloddiau,
A hŷn ar lân dymhorau,
Têg o Fai.
12.
Codwch feibion Codwch,
I gymrŷd edifeirwch,
I geisio heuddu heddwch,
Gan y gwr sŷ uwch ben,
Fe drodd y rhod i eitha'r nôd,
Ymwnewch a Duw fel dyna'r glôd,
Rhag ofn digwŷddo'n fŷan fôd,
Y bŷd ar ben.
13.
Mae'r gigfran yn ymborthi,
Ar adar anifeiri,
Ar Arglwŷdd sŷdd i'n cospi,
Am ein câf-beth fai,
Ar gîg, a gwaed ein brodŷr,
Onid ŷw hŷn yn dostŷr,
A hynnŷ ar lân dymmŷr.
Dêg o Fai.
14.
Mae'r utgŷrn yn datseinio,
Ir fattel dan ymffattio,
Mae'r Canan mawr yn rhuo,
Yn rhwŷgo llawer rhai,
Creulondeb, anrhugaredd,
Cyflafan, ac anhydedd,
A hŷn ar dymhoredd,
Fwŷnedd Fai.
15.
Codwch feibion Codwch,
I gymrŷd edifeirwch,
I geisio heuddu heddwch,
Gan y gŵr sŷ uwch ben,
Fe drodd y rhod i eitha'r nôd,
Ymwnewch a Duw fel dyna'r glôd,
Rhag ofn digwŷddo'n fŷan fôd,
Y bŷd ar ben.
16.
Mae trethi mawr tra uchel,
Mae rhifo meirch i'r rhyfel,
Mae'n chwith i ninne'r chwedel,
Ar drafel aeth ar drai,
Duw f' Arglwŷdd o'i drugaredd;
A drefno heddwch gwaredd,
A hŷn cŷn toriad hafedd,
Mwŷnedd Mai.
17.
Mae Caerau'r trefŷdd cryfion,
Ar llysau'n llosci'n boethion,
Mae'r tresŷdd mawr yn weigion,
Mae'n arw hwŷl yn tai,
Mae traffic ysgolheigion,
a yspciliwŷd o'u hyscolion,
A gollodd eu harferion,
Amserion mwŷnion Mai.
18.
Codwch feibion Codwch,
I gymrŷd edifeirwch,
I geisio hauddu heddwch,
Gan y gwr sŷ uwch ben,
Fe drodd y rhod i eitha'r nôd,
Ymwnewch a Duw fel dynar glôd,
Rhag ofn digwŷddo'n fŷan fôd,
Y Bŷd ar ben.
19.
Duw Cadw, ac amddiffŷn,
Ein gwir ddihalog Frenin,
Ai gwmp'ni yn rheol feithrin,
Yn eu rhif bob rhai,
Mewn cariad a'u cynghorion,
A phawb sŷdd iddo'n ffyddlon,
Ai fradwŷr bŷw na byddon,
[...]oreuon Têg o Fai.
20.
Mil chwe-chant gwiliant gwelir,
[...] dêg a deugain rhifir,
1650.
[...]edd oedran Crist ein Meistir,
[...]arllennir heb ddim llai,
[...]an wnaethpwŷd hŷn o draethod,
[...] ofŷn nawdd am bechod,
[...] hŷn yn amser cyfnod,
[...] Mwŷn-nôd Mai.
21.
Codwch feibion codwch,
[...] gymrŷd edifeirwch,
[...] geisio heuddu heddwch,
[...]en y gwr sŷ uwch ben,
[...]e drodd y rhod i eitha'r nôd,
[...]mwnewch a Duw fel dyna'r glôd,
[...]hag ofn digwŷddo'u fŷan fôd,
[...] bŷd ar ben.

Carol Hâf i foliannu Duw, am y Tymmor, ar tywŷdd têg. Iw ganu ar ol Gaia tôst.

1.
TRigolion, dynion dawnus,
Dyhunwch, byddwch hoenus,
[...] hollawl or un wllus,
[...]owch weddus felus fawl,
Awdwr a'r gwaredŷdd,
[...]nawu 'allom oll ar wenŷdd,
Mewn Awen iddo o Newŷdd,
Yn ebrwŷdd hylwŷdd hawl.
2.
Cŷd ddywch i gŷd i fynu,
Yn wiwian bawb o'u welu,
I roddi mawl ir Iesu,
Am drefnu heini ha,
Pwŷ ddŷn a beidie'n fudur,
Pa reswm na bae brysur,
I ddatcan Mawrglod eglur,
Am ddifŷr dymŷr da.
3.
Eirglŷw di o Arglwŷdd Dâd,
Ein gweddi ni mewn gwaedd a nâd,
Cadw Frydain rhag y brâd,
Mewn cariad haeddiad hîr,
O dôd di heddwch degwch dâ,
Ir ynus hon, a hoenus hâ,
Pôb bwriad tarddiad di-dda,
Datcuddia eglura'n glîr.
4.
Bu Arw wanwŷn irâd,
Hŷd Bowŷs ddawnus ddiwad,
Ar tywŷdd hŷll yn dowad,
Trwŷ roddiad doniad Duw,
Ni dybiem mor ddiobaith,
Na chaem ni weled eilwaith,
Ddim cynnŷdd dedwŷdd odiaith,
Iawn berffaith yn ein bŷw.
5.
Lle i gwelsom ni'n ddiweddar'
Yn dduoer wêdd y ddaiar,
Ar Rhew ac Eira hagar,
Hŷd talar yn lle tês,
Ni gawsom oll drwŷ gysur,
Ddawn obaith dan yr wŷbur,
Gan Iesu hîn gymhesur,
In Llafur er ein llês.
6.
Eirglŷw di o Arglwŷdd Dâd,
Ein Gweddi ni mewn gwaedd a nâd,
Cadw Frydain rhag y brâd,
Mewn Cariad haeddiad hîr;
O dôd di heddwch degwch dâ,
I'r ynus hon, a hoenus hâ,
Pôb bwriad tarddiad didda,
Datcuddia Eglura yn glîr.
7.
Mae'r Coge, a donie dawnus,
Hŷd goedŷdd hylwŷdd hwŷlus,
Yn Canu'n heini hoenus,
Dda foddus gân ddifai,
Ar Adar cynnar cânan,
Bôb diddig fiwsig foesian,
I ddangos mor berffeithlan
Yw'r diddan fwŷnlan Fai.
8.
Mae'r ydau oll mor rhadol,
Yn tarddu i'n llesu yn llesol,
Pob llysie, a gweire gwrol,
hyfrydol reiol râd,
Pôb blode gerddi gwrddion,
Perllane sŷ'n bur llawnion,
Briallu glân, a Meillion,
Arwŷddion llon wellhâd.
9.
Eirglŷw di o Arglwŷdd Dâd,
Yn gweddi ni mewn gwaedd a nâd
Cadw Frydain rhag y brâd,
Mewn cariad haeddiad hîr,
O d ôd di heddwch degwch dâ,
Ir ynus hon, a hoenus hâ,
Pôb bwriad tarddiad di-dda,
Datcuddia, eglura yn glîr.
10.
Er cŷmŷn sŷ o ryfeloedd,
Gormesol mewn Teŷrnasoedd,
Yn cylchu c'n hamgylchoedd,
Ar gyhoedd lluoedd llîd,
Duw achŷb di sŷ'n ochain,
Rhag brwŷdŷr holl dîr Brydain,
Sŷ'n awr a'i gwawr yn gowrain,
O rhain yn gain i gŷd.
11.
Myddyliwn bawb yn ddilus,
Mewn amser cyfan Cosus,
Tra i galwer heiddiw yn hwŷlus,
Mewn dilus foddus fŷd;
Pan fytho'r nôs ar nesu,
Hi all fôd yn fŷr y foru,
Mae'n rhywŷr edifaru;
Gofalu am hynnŷ o hŷd.
12.
Eirglŷw di o Arglwŷdd Dâd,
Ein gweddi ni mewn gwaedd a nâd:
Cadw Frydain rhag y brâd;
Mewn cariad, haeddiad hîr,
O dôd di heddwch degwch dâ:
Ir ynus hon, a hoenus hâ,
Pôb bwriad tarddiad di-dda,
Datcuddia, Eglura yn glîr.
13.
Mîl chwe-chant, moliant miloedd,
Yw oedran mae yn adroedd;
Y Mâb a ddaeth o'r nefoedd:
Ar gyhoedd ydoedd o,
A phump heb gwŷmp yn gampus:
A phedwar ugain moddus;
1695.
A deng-mlwŷdd hylwŷdd hwŷlus:
Da trefnus oedd y tro.
14.
Ir hwn i bytho bythoedd,
Gân bybur gan y bobloedd:
A threuthwn foliant filoedd;
Rifedi gwlithoedd gwlaw,
Ir gwr fŷ i ni'n rhoddi'n rhwŷdd:
Rifedi'r sêr o radol swŷdd;
Mawl iddo yn dragywŷdd,
Yn llowŷdd fŷth rhag llaw.
15.
Eirglŷw di o Arglwŷdd Dâd,
Yn gweddi ni mewn gwaedd a nâd:
Cadw'n Brydain rhag y brâd;
Mewn cariad haeddiad hîr,
O dôd di heddwch degwch dâ
Ir ynus hon a hoenus hâ;
Pôb bwriad tarddiad di dda,
Datcuddia Eglura yn glîr.

Carol Haf, yn annog i glodfori Duw, am ei fawr Drugaredd yn danfon ymborth i ddŷn, drwŷ hybu'r ddaiar. Iw ganu ar ol Gaia tymherus.

1.
URddasol bendefigion,
Crefyddol, oreu foddion;
Calluog enwog union;
Perchenogion tirion tai,
Dihunwch er eich Cysur:
[...]yfrydol hoew frodŷr;
Mae rwan Ader awŷr:
Yn pyng [...]io mesur Mai.
2.
Y teulu heini haeledd,
Fwŷn ddygiad foneddigedd:
Cewch weled mewn anrhydedd
Bob rhinwedd mwŷnedd Mai;
Rhown fawl i Dduw ar gyfen:
Nid ymgudd nid rhaid amgen,
Daw i bôb dŷn yn llawen;
A llwŷddiant heb ddim llai.
3.
Os bu ers ychydig amser,
Gwaith aflendid flinder;
Cyfyngder ar wan bywer;
A phrinder mawr o ffrwŷth,
Mae heddŷw ddaiar gnydiog:
Yn ymborth ir anghenog;
Rhown fawl ir gwr trugarog:
Galluog ŷw eu llwŷth.
4.
Fel ir ydem beunŷdd,
Yn disgwŷl am yr haf-ddŷdd;
I gael y diwael dywŷdd,
Am hwn mae'n hawŷdd ni,
Disgwŷliwn fellu'n wastad,
Am awr yr ymddatodiad:
A threfnwn ein marweddiad,
Cŷn ei gwahaniad hi.
5.
Ni a gawsom dymor gaia:
Cludorwedd o'r claiara,
A gwannwŷn bŷr heb eira,
Cynhesa tyrfa tês,
Ceisiwn er ein cysur:
Cynhaia têg cŷn rhywŷr:
Diameu daw i ni dymŷr,
I'n llafur er ein llês.
6.
Os bu er's ychydig amser,
O walth aflendid flinder;
Cyfyngder ar wan bywer:
A phrinder mawr o ffrwŷth,
Mae heddŷw ddaiar gnydiog,
Yn ymborth ir anghenog;
Rhown fawl ir gŵr trugarog:
Galluog ŷw eu llwŷth.
7.
Pa medrem ni Gristnogion,
Weddio o ddyfnder calon,
Ac ymbil am fendithion:
A thirion hinon hâf;
Mae Duw a'i law'n egored,
Yn o rdrio mawr ymwared,
O lunieth i'r ffyddlonied,
Sŷdd dan ei adduned ddâf.
8.
Cŷd byngciwn sŵn Hosanna,
Gwir achos i'r gorueha,
Ein ceidwad, cadarn noddfa;
Ar pura oddiwrth bob bai:
Yngallu'r Iesu rasol,
A'i hynaws brŷd ysprydol,
Mae rhoi pôb rhodd ddymunol:
I ddŷn ar ddyddie Mai.
9.
Os bu er's ychydig amser,
O waith aflendid flinder:
Cyfyngder ar wan bywer;
A phrinder mawr o ffrwŷth,
Mae heddŷw ddaiar gnydiog:
Yn ymborth i'r anghenog;
Rhown fawl i'r gŵr trugarog,
Galluog ŷw eu llwŷth.
10.
Camwedde donie dynion,
A bare fôd clefydon:
Ymŷsg ein cymydogion;
Drwŷ fawr achwŷnion chwith;
Ofnwn y goruchaf:
A charwn ein cyfn esaf;
Fe ŷr y galluogcaf,
I dynŷ'r plaf o'n plith.
11.
Gweithredoedd Duw'n rhygluddio,
Y Bŷd ar cwbl sŷ ynddo:
Eill beri i ddŷn fyfyrio;
Cŷn i'r egoro i gêg,
A thalu mawl i'r Arglwŷdd:
Am faint ei drugarogrw ŷdd;
Yn rhoi or wŷbren ebrwŷdd,
Bôb arwŷdd tywŷdd têg.
12.
Os bu er's ychydig amser,
O waith aflendid flinder;
Cyfyngder ar wan bywer:
A phrinder mawr o ffrwŷth,
Mae heddŷw ddaiar gnydiog;
Yn ymborth i'r anghenog:
Rhown fawl i'r gwr trugarog,
Galluog ŷw eu llwŷth.
13.
Duw cadw'n ddi drangcedig,
Ein Brenin yn Arbenig:
A theulu'r ffŷdd Gatholig;
Dy wŷnfŷdedig dai,
Dôd râs i'r sawl a'i ceisiant;
Oth garedigcaf dyciant;
I ganu i't fawr ogoniant,
Cywirdant moliant Mai.
14.
Da dylem ni Dâd Iesu,
Ar lunie dy folianu:
A chynnar gŷd-ddychrynnŷ;
Naws hynnŷ ymhob sîr,
Ni gawsom ni ynghymru;
Wr odiaith in gwaredu:
A'n cadw heb ddirmygu,
Fel tyru ar y tîr.
15.
Os bu er's ychydig amser,
O waith aflendid flinder:
Cyfyngder ar wan bywer:
A phrinder mawr o ffrwŷth;
Mae heddŷw ddaiar gnydiog,
Yn ymborth i'r anghenog,
Rhown fawl i'r gwr trugarog,
Galluog ŷw eu llwŷth.
16.
Rhown fawr-glod pur i'n Harglwŷdd,
Trugarog yn dragywŷdd,
Am ddiffŷn rhag rhyfelwŷr,
Bradychwŷr bradwŷr brâd,
Fe yrodd ŵredd Erur,
Pur glau i gadw'n gwledŷdd:
Rhag dywad ar yn gwarthŷdd,
A rhwŷdŷdd heb ddim rhâd.
17.
Danghose yr Arglwŷdd cyfion,
Ddewisol ffordd iw weision;
I ymddiffŷn rhag y trowsion,
Bwriadon yn eu brud:
Rhag ofan i'r Iddewon,
Gael ffordd i ddwŷn y goron,
A safiodd Crist yn union:
Cristnogion buwion bŷd.
18.
Os bu er's ychydig amser,
O waith aflendid flinder,
Cyfyngder ar wan bywer;
A phrinder mawr o ffrwŷth:
Mae heddŷw ddaiar gnydiog,
Yn ymborth i'r anghenog;
Rhown fawl i'r gwr trugarog:
Galluog ŷw eu llwŷth.
Ymma diweddiff pedwar o garolau Hâf.

Carol yn dangos Cyflwr enaid yr Annuwiol wrth Ymadel ar Corph. Ar ddull ymddiddan rhwng yr enaid a'r Cgrph. Ar fesur Carol hâf.

1.
GWrandewch ar gywŷr ganiad,
A wnaed o stori eurad,
Fel'a bŷ'r ymddiddaniad,
Rhwn corph ac Enaid prudd,
Y corph oedd gwedi restio,
Gan Ange dû a'i daro,
Ar enaid wrth ymado,
Yn wulo 'rhŷd ei rudd,
2.
Pan oedd y corph mewn Iechŷd,
Yn fywiog yn ei fywŷd,
A'i olwg ar ei olud,
Yn cymrŷd llawn-fŷd llon,
Nid oedd e yn bwriadu,
Am farw na difaru,
Nes 'daeth yr Ange iw gyrchu:
A'i saethu dan ei frôn.
3.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch Edifeirwch,
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch:
A byddwch bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
4.
Ir oedd y gŵr o'i ieungctŷd,
Ai fuchedd yn frycheulŷd,
Yn prisio bydol broffid,
Yn fwŷ na golud nê;
Yn caru'r bŷd presennol,
Yn fwŷ nar bŷd tragwŷddol,
Ai gaion anedifeiriol,
Anuwiol ymhôb llê.
5.
Ni cheisiodd gael trugaredd,
Gan Dduw, na mendio ei fuchedd,
Na meddwl am ei ddiwed,
Na dialedd Duw mewn prŷd,
Nes daeth yr ange'n ddiwŷd,
Yn ddirgel iw gyrheuddŷd,
Nid allodd bŷth mor symŷd,
Nes iddo newid bŷd.
6.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch edifeirwch,
Cofiwch, ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a buwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
7.
Pan ddaeth yr ange addug,
Hwn oedd swŷddog sarug,
I daro'r galon flysig,
Nid allodd meddig mwŷ,
Na chyngor drŷd doctorion,
Er daued oedd eu moddion:
Am gyflog mawr na gwabron;
Dobre.
O'i galon giwrio'r clwŷ.
8.
Y corphŷn aeth yn brysŷr,
Mewn lludded mawr, a llafur,
Yn synnŷ yn ddi synwŷr,
Heb gyssŷur fel y pren,
Ar Enaid bâch yn gruddfan,
Yn achwŷn ac yn ochan,
Am fod ei gastell cadarn.
Yn grillian
Creccian.
uwch ei ben
9.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch Edifeirwch,
Cofiwch, ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a buwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
10.
Yr enaid gwan dan grynnŷ,
A wele wrth y trothwŷ,
Rhiniog.
Bêyglon mawr o'i deutu,
Iw lyngcu cŷn pen awr,
Ac uffern oddi dano,
Yn lledu ei safn amdano:
Ar gwaed gŵn yno, 'n gwilio,
Ei gael iw lusgo i lawr
11.
Fe ddywedeu'r enaid hynod,
Och ŵr p'le mae dy dafod,
A fyddeu yn siarad gormod,
Yn barod bob yn awr,
A elli yrru ymmeth,
Wrth fygwth nag wrth wenieth,
Y gwaed-gŵn duon diffeth,
Bradwrieth sŷ 'mi'n fawr.
12.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch edifeirwch,
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a buwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
13.
Yr enaid bach dan wulo,
A ddywede wrth y dwŷlo
Mi'ch gweles chwi yn swagrio
Yn rhiwlio cledde mawr,
Edrychwch alloch godi,
I daro yn fy mharti,
Ni bu 'rioed reitiach i mi,
Nag yn awr.
14.
Y traed a ellwch dreio,
Ar redeg fynd i rodio,
I mofŷn lle im safio,
Rwi henno'n huno'n gaeth,
Ac oni dewch chwi yn fŷan,
ffarwel i'r bŷd yn gyfan:
Rwi'n mynd i ddwŷlo sattan,
I uffern fel y saeth.
15.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch Edifeirwch,
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
16.
I roedd y ddwŷ goes wisgi,
Ar ddeu-droed wedi rhewi,
Ni allen mor unioni,
Na symŷd bŷs ar lawr
A'i gorph ei gŷd yn crynnŷ,
A'i galon wedi tori,
Ai anadl yn terfynu,
A ffaelu'roedd ên awr.
17.
Ar enaid annedwddol,
A ddwedodd mor dosturiol,
Wrth y corph annuwiol,
Gwŷch wrol oedd dy rŷm,
A weli'r gwaed-gwn gwaedlud,
Mewn bwriad im cyrheuddŷd,
A thithe sŷdd heb syflŷd,
Yn sud heb ddywedŷd dim.
18.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch edifeirwch
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch
19.
Fe ddywede wrth ei lyged,
Oedd yn ei ben cŷn farwed,
Ydŷch chwi yn gweled,
Ymwared yn y Bŷd,
Edrychwch draw o'ch deutu;
Am loches i mi 'lechu,
Mi glywa'r cŵn yn chwrnu:
Rwi'n crynnu fel y crŷd.
20.
Y Llyged oedd yn pallu,
Yn ddeillion wedi twllu:
Linnynne wedi torri,
A'u torre i fynu yn troi;
Ni welent mor goleuni,
Oedd gar ei fron yn llosgi:
A phawb o'i ffrŷns yn synnu,
Oddiwrth y gwelu yn ffoi.
21.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch Edifeirwch,
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch:
A byddwch, bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
22.
Yr enaid prudd a ddywede,
O gorph ple mae dy glustle:
A glywsoch sôn yn un-lle;
Am gyfle gole clîr,
Pe gallwn gael ynghadw,
Oddiwrth y rhai accw:
Sŷn edrŷch arnnai'n chwerw;
A golwg salw sur.
23.
Ei ddolur oedd mor ddwfwn,
A'i glistie gwedi gostwng:
Ni chlywe floeddio miliwn;
Na sŵn can mil o glŷch,
Eisie eu bôd nhwŷ'n gwrando;
Ar eiriau Duw, a'u cofio,
Pan oedd y gŵr heb glwŷfo:
Yn gwisgo amdano'n wŷch.
24.
Gwiliwch a Gweddiwch,
Cymerwch edifeirwch,
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch;
A byddwch bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol:
A rhodiwch lwŷbre nefol;
O'r ffordd uffernol ffowch.
25.
Y parabl oedd yn ffaelu;
Ar gegclwŷ wedi codi:
Oedd yn ei geg yn chwrnu,
Heb allu llynghu'r llaeth:
Ar tafod oedd anwadal;
A ddywede lawer dyfal,
Heb ddywedŷd dim ond mwmial,
Ar anadl hithe'n gaeth.
26.
I roedd ei ddwŷlo'n feirwon,
Yn gorwedd wrth ei ddwŷfron,
Nid allen dynu'r poerion;
Oedd lybion wrth ei fin:
Ar breichie a fydde'n brwŷsco,
Yn gyflŷm gyda'r dwŷlo,
Nid allen mor ystyrio,
I geisio ei sasio ei hun.
27.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch Edifeirwch,
Cofiwch, ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
28.
Yr enaid wrth ymadel,
Ar corph a gane ffarwel,
Ac a waedde'n uchel
O 'nifel brwnt wŷt ti,
Ysgerbwt bwŷd y pryfed,
Di am rhoddest dan law'r diawled,
I ddiodde am dy weithred,
O blin iw nhynged i.
29.
Fellu'r corph a hunodd,
A'i ffrŷns ynghŷd a'i claddodd,
Mewn bêdd i bŷ nes pydrodd;
A'i gnawd a drodd yn bridd:
Ni wŷr un-dŷn ar aned,
Pwŷ gyflwr i mae'r enaid,
Yn diodde dan law'r diawlaid,
Heb fyned bŷth yn rhŷdd.
30.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch edifeirwch,
Cofiwch, ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a buwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
31.
Mae'r stori'n osodedig,
Iw gweled yn breintiedig:
Mewn llyfr da nodedig;
Llawedig yn y wlâd,
A elwir wrth uniondeb:
Ymarfer a duwioldeb;
A dynwŷd mewn doethineb,
Ar undeb yn ddi wâd.
32.
Un mîl, chwe-chant, a saith flwŷdd,
Wŷth dêg,
1687.
od wi gyfarwŷdd:
Oedd union oed ein Harglwŷdd,
Ein llywŷdd pur, a'n pen,
Pan droed'r ystori euraid;
Ar gân i gael ei chlywaid:
Duw dod i'n nê'n Agored,
A dyweded Pawb Amen.
33.
Gwiliwch a gweddiwch,
Cymerwch edifeirwch,
Cofiwch ceisiwch heddwch,
Cŷn ange tristwch trowch,
A byddwch bûr a bŷwiol,
I gredu i'r Iesu rasol,
A rhodiwch lwŷbre nefol,
O'r ffordd uffernol ffowch.
Ymma a diweddiff pump o Garolau neu ddyriau Duwiol; ar y Dôn a elwir (mewn rhai mannau) Mwŷnen Mai.

Ymma a dechreuiff Amryw o ddyriau duwiol, ar y don a elwir yn Saesnaeg, Love is a Sweet Passion; Ac yn Gymraeg (mewn rhai mannau) ffarwel ned Puw.

Dyriau, ar edifeirwch Meddwŷn.

1.
GWrandewch ar fynghyffes am hanes o hŷd,
Dŷn wŷf ni wnaeth gvngor, heb ordor om bŷd,
Ond dilŷn tafarne a ffeire'n rhŷ ffêst:
A bwrw'n rhŷ arw fy nghwrw'n fy'nghêst.
2.
Mi fum gŷnt yn hwsmon, da dirion di drîst,
A chenni rai syllte ynghyrre fy nghîst,
Yn cael parchedigaeth iawn helaeth yn hîr:
A chariad gan fonedd, un agwedd yn wîr.
3.
Yrowan mi anhwŷlies, gollynges yn llawn,
Oddiwrth y ffordd hono i gilio'n gwitt iawn:
Lle cefais fy nghneifio, am frwŷsgo'n ddi fri,
Am hynnŷ Duw maddeu fy meiau i mi.
4.
Digio fy mhrynnwr, rhŷw gyflwr rhŷ gerth,
Heb gadw im fy hunan nag arian na'i gwerth:
Gwan-hau fy nghorph hefŷd un ffunŷd yn ffol,
A cholli fy nghredid oer ofid ar ol.
5.
Os gwag fŷdd y bocced, mae'r dynged yn dôst,
Mi ga fôd fy hunan or pentan ir post;
Os gwŷddis fôd arian yn llydan im llaw:
Cwrw a chymdeithion ddau ddigon a ddaw.
6.
Os a'i dros y llestri, ne feddwi'n y fan,
Wrth yfed cwppaned, a'i lloned yn llan:
Rhŷw goegen heb wŷbod y da dros y drŵg;
A fedir fyngwattwar yn gynar mewn gŵg.
7.
Os siarad a merched diniwed a wna,
Attebion anweddus ysgornus a ga:
Heb feddu dwŷ geiniog, rhŷw ffriliog yn ffri;
A'i gwel yn rhŷ uchel imafel a mi.
8.
Yn enw'r goruchaf mi beidiaf am bâr,
Er mwŷn fy nghaseion ar dynion am câr:
Mi âf at fy nhâd etto i geisio'n ddi gâs;
I ffafor, a'i ymgeledd, a'i rinwed a'i râs.
9.
Rwŷ'n gwŷbod yn eglur ysgrythŷr sŷ i gŷd,
Yn madde i'r annuwiol a geisio mewn prŷd:
A throi o bechadur ei nattur yn ol;
Oddiwrth ei ddrwg fuchedd oedd ffiedd a ffôl.
10.
Y Brenin Manasah a nesodd at Dduw,
Oedd mewn anllywodraeth a bariaith yn bŷw:
A darius fawr ynte er maint oedd ei wangc;
Yn ceisio difrodi a llosgi'r tri llangc.
11.
Bŷdd rhyfedd gan lawer mor ofer i'r awn,
Fy nghlywed yn addo troi etto i'r iawn:
A minnau ar feder rhag oerder a gwarth,
Ymadel a thafarn mor gadarn Arth.
12.
Ag nid o chwant gwchder o bywer y Bŷd,
A nwidiodd fy meddwl yn gwbwl i gŷd:
Ond er dedwddwch wir harddwch a rhol;
Ir corphŷn yn ddi-baid ar enaid ar ol.
13.
Nid ydwi fi'n barnu cwmnhiaeth gytun,
Llawer achosion a ddichon i ddŷn:
Ond bod y cymdeithion tirion eu taith;
Heb fedd-dod, nag absen, na chynnen y chwaith.
14
Os gofŷn un mwŷnwr dewr awdwr da ei wraidd,
Pwŷ ganodd mor arw i'r cwrw brâg haidd:
Dŷn sŷdd ar feder troi heibio'r ffordd hên;
A dweded pawb eilwaith am obaith Amen.

Ystyriaeth, a llawnfrŷd y Carwr ffyddlon, i briodi yn hytrach er Cariad i ferch, nag er Awudd i olud y Bŷd.

1.
ONd mawr ŷw camsynieth a barieth y Bŷd,
Hudolieth oer ofer, pwŷ 'rodde arno ei frud:
Llawn o dwŷll embŷd, anhyfrŷd ŷw hwnn:
Yn adwŷth anwadal, mewn gofal mi a'i gwn.
2.
Heb nemor yn canfod eu cyflwr eu hun,
Na gwel'd i ba dynged i'r ordeinied y dŷn:
Rŷm ni yma'n ddieithred, yn athrist ein llê;
Mae'n cartre ni o bwrpas yn ninas y nê.
3.
Rhai 'dybie'n hyfrydwch, dwŷs ebwch di senn,
Gael meddu holl olud y Bŷd yma o'i benn:
Bod perchen ar India a Havilah ei hun;
A gostwng lle i delo bawb dano'n gyttŷn.
4.
Gofynned i lafar Belshazzar bwŷll sâl,
Pa faint yn y diwedd hudoledd 'a dâl:
Ymofŷn a Dives dud hanes i ti;
Enillodd e'o fantes er maint oedd ei fri.
5.
Pan alwo Duw'r Enaid i raenio ger bron;
I wneuthur ei gyfri drwŷ symu'r nôs hon:
Pa bris fŷdd am gyfoeth mewn gofid ar hŷnt?
Er maint o serch arno oedd gantho'fe gŷnt.
6.
Fe a fernir mewn afles o hanes ddi hoen,
Yn ynfŷd gynhwŷnol caiff hŷn am ei boen:
Pan syrthio pob tramgwŷdd ar Gybŷdd mor gâs,
Bŷdd gwell nac Aur lwŷthi, un gwlithin o râs.
7.
Ond Mair a ganmolwŷd? Hi siriwŷd heb sen,
A Martha geryddwŷd, hi a ffolwŷd ei phenn:
Am ormod trafferthu, anffrwŷthlawn ei brŷd;
Un peth sŷ angenrheidiol i Bobol y Bŷd.
8.
Fe a gadd y gwr Iefangc a'i grefŷdd wan gred,
Addysgu iddo'n hyspŷs ei ddilŷs ddylêd:
Am nawdd ei holl dryssor o'i goffor a'i Gist;
A dechreu iawn fasnach yn gryfach am Grist.
9.
Mae Duw'n rhoi 'ni reolau yn olau yn ei Air,
Rhag Mamon daiarol, rhŷ ffol ydiw'r ffair:
Gwasanaeth dau feister nid ellir heb dwŷll;
Cymered pawb synwŷr o bybŷr iawn bwŷll.
10.
A hauo iw gnawd bŷdur caiff ddolur rhŷ ddwŷs,
Fe a fêd lygredigeth, a barieth yn bwŷs:
Pa beth a dâl ennill yr hôll fŷd i ddŷn?
Pan gollo Fe ei enaid wîr anwŷl i hŷn.
11.
Un ydwi fine dan gaere di gwŷn,
O ran rhŷw Gaethiwed, adduned 'rwi'n ddwŷn:
Ymdrois mewn rhŷw benud un ffunud a ffol;
I hoffi mwŷn Eneth mae'n anodd troi'n ôl,
12.
Ac am i mi Chwennŷch y weddol wŷch wawr,
Dyfal ŷw cerŷdd fy neurudd i'n awr:
A hŷn o wir achos fain linos fwŷn lonn;
O eisieu bod cyfoeth mwŷ helaeth gan honn.
13.
Ystyriwn raglunieth unoliaeth a wnâf,
Mae Duw sŷ'n rhoi cyfoeth 'lle gwelo fe'n ddâf:
Efe sŷ'n dwŷn ymaeth dan amod gydtun;
Gwir Awdwr pob Arwŷdd a ddigwŷdd i ddŷn.
14.
Rhoi'r geiniog ar gynnŷdd iawn ganwaith yn hael,
A dwŷn oddiar filoedd a feddont o fael:
Rhoi rhâd ar ychydig a chodi parch mawr;
A thynu'r cyfoethog goludog i lawr.
15.
Ni a welsom rai uchel brîg wchion o'r Bŷd,
Mewn agwedd dymunol yn myned ynghŷd:
A chŷn pen ychydig nod treiddig mewn trai,
Yn myn'd i gardodta o ddeutŷ pob Tai.
16.
Hawdd ŷw mynegu yn eglur o hŷd,
Mor ofer ŷw hyder ar bywer y Bŷd:
Heddiw yn gyfoethog, a thegca yn y Glôb;
Y foru cŷn dlodted a saled a Siôb.
17.
Tân gwressog ŷw cariad lle cweirwŷd e'n llawn,
Ac anodd ei ddiffodd, o enynnodd e'n iawn:
Er tywallt y Moroedd, Aberoedd y Bŷd;
Ni orffwŷs ond enŷn dros donne bôb prŷd.
18.
Ni fŷnn moi ostegu naws dygŷn ei wedd,
Gan un-rhŷw greadur o'r Bŷd, ond y Bêdd:
Fe a beru hŷd Ange dan fronne di srêg;
Glo uniawn Galonne, mae'r donnie mor dêg.
19.
Er Dioedde trwm gerŷdd i'm beunŷdd o bwŷs,
Am hoffi'r feillionen oleuwen mo'r lwŷs:
Ni ddaw deisŷfiade sefydlog fy mron;
Er maint o rai weles at ddynes ond honn.
20.
I meddu bun foddol gyneddfol gan i,
Oedd well na dâ bydol, neu' freiniol fawr fri,
Gwell hi yn ei hun-crŷs iw dewis ar dwŷn;
Na mîl o Aur melŷn, fun oleu lân fwŷn.
21.
Pa beth a dâl golud ar galon dan gur,
Heb gael moi bodloni trwŷ sorri tra sur:
Ond magu Clêfydon elynnion o loes,
Am dwŷn i'm bedd cynnar cŷn hanner fy oes.
22.
Pa lês wedi trengu, a braenu heb rôl,
I'm adael peth cywaith amherffaith o'm hôl:
Ond gwell oedd bŷw'n bur wŷch? a barned pob rhai,
Ynghwmnhi f'anwŷl-wen yn llawen a llai.
23.
Mae 'mrud i ymwroli, mor wael ydiw 'ngradd,
Na chaiff un ireiddwen fellionen fy llâdd:
Os mentri lliw'r hinon lloer hynod ei gwawr;
Cawn gŷd-ddwŷn yn hyfrŷd ein bywŷd bôb awr.
24.
Ac oni chair cymmod yn hynod trwŷ hedd,
Gwell i mi mywŷd na myned i'm bêdd:
Er athrod, er achwŷn er cimin ŷw'r cwŷn;
Ni luniai amodau i ymado am bun fwŷn.

Phŷsŷgwriaeth i'r Enaid.

1.
GWrandewch ar gynghorion i fawr ac i fâch,
I olchi'r pechadur, a'i wneuthur yn iâch,
Lle caiff y Cardodtŷn yn gystal ar Earl,
Ddiod or Cwppan sŷdd amgen na'r perl.
2.
Y gŵr a'th wnaeth ar ei ddelw ai lûn,
O'r Clai, ac or tyfod, heb neb ond ei hûn,
'All safio dy fywŷd; rhŷ enbŷd ŷw 'rhwŷd,
Ohonot dy hunan cŷdnebŷdd pwŷ wŷd.
3.
Y boreu pan godech bŷdd bur-lan fel jôb,
A Chofia'r Creawdwr, gwneuthurwr y Glôb,
Ymprydia, gweddia, o'th galon dôd lêf,
Trugarog, wir enwog ŷw Brenin y nêf.
4.
Nid rhaid i'r phŷsygwr ond gwneuthur ei bart,
A chwithau gofelwch, a chymrwch iwch chwart,
O ddŵr edifeirwch, a phrynnwch e'n ffri,
A gaed o law Jonas yng-wlâd Nenifi.
5.
Dôd y dŵr yma hôff ynna am ben ffŷdd,
Yngwaed y pur Iesu, a'n gollyngodd yn rhŷdd,
Prŷn obaith, a chariad or goreu'n y siop,
A golch dy gydwŷbod yn lân hŷd y top.
6.
Cymerwch, a berrwch, ordeiniwch ar dân,
O gariad santeiddiol, a Gwlith ysprŷd glân,
A phowdwr, na pheidiwch, dioddefgarwch Duw gwŷn,
Nid adwŷn i er costio ddim cystal a hŷn.
7.
Cymmer hon ymma, ac yscummia hi'n boeth
A llwŷ o ffŷdd Abraham, gweddia Dduw'n ddoeth,
A llygaid ffŷdd holliach, fel gwelŷch ei gŷd,
Hôll frychau rhŷ dduon ynfydion y Bŷd.
8.
Ystrainia trwŷ lien, gwell cyngor nid oes,
Gwiriondeb yr un-Duw ath brynnodd ar groes,
Gwasc yn yr un cwppan, iw yfed yn llawn,
Ac yr yfodd ein dyddiwr, a'n prynnwr pur iawn.
9.
Cais welŷ Cyfiawnder, yn enw Duw Tâd,
Ar Mâb, ar glan ysprŷd, all hefŷd wellhâd,
A gorwedd dan heddwch, cydwŷbod ddi-goll,
Ni chafodd un Arglwŷdd erioed welŷ gwell.
10.
ŷf hon yn ferwedig, dy feddig Duw fŷdd,
Yn nessa at dy galon, yn ffyddlon dy ffŷdd,
A chymmaint o ddillad, ymendiad dy fŷd,
A allech di gario i'th gadw di'n glŷd.
11.
A godde'n ddioddefgar y ddiod a wnawd,
I chwŷsu'r holl wenwŷn, o'th esgŷrn a'th gnawd,
Balchder, godineb, glothineb, a chwant,
Pechodau di fesur, feswl y Cant.
12.
Ymgadw'n ddiogel, ymogel gael gwŷnt,
Rhag i ti adgyflychu, o'r fuchedd oedd gŷnt,
Bŷdd barod a'th arfau, a'th gleddau'n dy law,
Rhag satan y gelŷn, yn d'erbŷn y daw,
23.
Oddiwrth dy hôll bechod ymwrthod yn glîr,
Tra cerddŷch di ddaiar na sathr ond gwir:
Rhag llîd, cenfigenu, a thyngu, a thwŷll,
Cofia Dduw'n fynŷch, tra fŷch yn dy bwŷll.
14.
Pan ddarffo it altrio a'th deimlo dy hûn,
Yn iach dy gydwŷbod, heb adel yr ûn,
Prŷn bowdwr y bywŷd, o ddywedŷd yn ddâ,
A dôd ar dy galon, a Duw a'th wellhâ.
15.
Cymmer dri chymmaint i'th wneuthur yn well,
Cai'n rhôdd heb ei brynnu, nai gyrchu o bell,
O oyl glân weithredoedd, i iro dy gnawd,
Pa un bynnag a fyddech ai cyfoethog ai tlawd.
16.
Eneinia dy galon, a'th lygad, a'th law,
Dy glust, a phôb aelod, at ddiwrnod a ddaw,
Bŷdd barod i rannu, o'th allu'n ddi drist,
Cyfran o'r eiddot, bôb aelod i Grist.
17.
Cais sug y llysiewun (a eilw pawb) grâs,
Os methi gael hwnnw, dŷn ydwŷt a lâs,
I'th gorph, ac i'th enaid, ar ddwŷblaid ynghŷd:
Mae'n ofer pôb Doctor, a'i gyngor, i gŷd.
18.
Dal wraidd Angelica yn nesa at dy ffroen,
O arogl uniondeb, gwirlondeb yr oen,
Rhag clywed drŵg sawŷr, drwŷ nattur gyttûn,
Ar eiddo neb arall, ond eiddot dy hûn.
19.
Lle'r heuaist di'r gwenith yn gynnar i'r tîr,
Cŷn y cynhaiaf, ymgledda fe'n glîr,
Chwŷn a dadwreiddia, bôb ffuant gwag-rith:
Yr efrau, ar tafol, rhag tyfu'n eu plith.
20.
Cyfŷd o'th bechod, a gorfod fel gŵr,
Dy einioes, ath iechŷd, ath enaid sŷ siŵr,
A dŵg yn ddioddefgar dy groes gydâg êf,
Cei drigo'n oes oesoedd yngwlâd teŷrnas nêf.
21.
I gadw'r Cynghorion, dy galon ŷw'r blŵch,
Pan ddeler i'th alw, or lludw ar llŵch,
Rhyngot ti a rhyfel y cythrel ar cnawd,
Hwŷ a godant yn gadarnt i'th gadw ddŷdd brwad.
22.
Am hynnŷ meddyliwch, considriwch fy'nghâr.
Pwŷ oedd Apothecari, lle cawsoch chwi'r wâr,
Oni 'styriwch chwi beunŷdd eu deunŷdd, a'u dâllt,
Ymara tragwŷddoldeb, cewch atteb yn hâllt.
23.
I wneuthur y ddiod ni roddwŷd erioed,
Na brâg, na hoppŷsŷn, na ffrwŷth oddiar goed,
Na dyfroedd daiarol, naws breiniol is bron,
Na dim o naws oerder, na surder yn hon.
24.
Dymma i chwi ddiod, a'i gosod ar gân,
Rwi'n ofni mai ychydig, sŷ ŷw chadw hi'n Iân,
Carowsio sŷ amlach, mwŷ hyttrach na hon:
Hola'n fynylach gyfrinach dy fronn.
Ymma a diweddiff Tri o ddyriau duwiol ar y Dôn a elwir Love's a Sweet passion.

Ymma a dechreuiff Amryw o ddyriau duwiol, ar y don a elwir Greece and Troy.

Dyriau yn Cyffelybu dwŷ oes dŷn, (Sef Ieuengcŷd a henaint) i Hâf a Gauaf.

1.
PAn fo'r Titan
(yr Haul.)
tirion,
Yn gwresogi'r goedfron:
A'r gwiail arail irion,
Yn eu preim.
A phôb pêth wrth rŷwogaeth,
Ar gynnyddiad perffaith,
Yn ôl gwir naturiaeth,
Yn y Cleim.
Y Marigold, a'r Lili,
Y Rôs, ar daffadili,
Llon eu lliw.
Yr Euos, a'r ceiliog bronfraith,
Ar fwŷalch fwŷnedd araith,
Ar oror coed y rhiw.
Phebus
yr Haul.
pan dderchafo,
Ai belŷdr yn goleuo,
Daiar fawr:
Bŷwiol, a chynnyddol,
Yn ôl rhôl naturiol,
Llonni wnânt yn awr.
2.
Pan ddel Boreas
Gwŷnt y (gogledd.
chwerw,
Rhew a barrug garw,
A dinoethi'r fedw,
Wiwlas lân.
Ciconia
Aderŷn Cyscedig.
fwŷn yn cysgu,
A Philomela'n
yr Euos.
llechu,
Ar llinos yn gruddfannu,
Heb ei chân.
Ni bŷdd na meillion gerddi,
Na llygaid dŷdd yn llonni,
Yn eu lliw.
Na gwinllannoedd hefŷd,
Yn eu blodau eur-brŷd,
Yn hafaidd dan eu rhŷw;
Mae'n nhwŷ ôll yn huno,
Megis yn breuddwŷdio,
Yn eu dig.
Nes dyfod Cephyrus
(yr Hâf)
dirion,
Ac ail ddilladu'r goedfron,
Gauadwisc aur ei brig.
3.
Jevengctid hefŷd hafaidd,
Dyfiad nofiad nwŷfaidd:
Meddwl meddal moddaidd,
Heb ddim clwŷ.
Y gwŷthi ôll yn gweithio,
Ar eurwallt yn disgleirio,
Ar aelodau'n neidio,
Yn eu nwŷ.
Beunŷdd blysio pleser,
'Feindw llawn o fwŷnder,
Dan y gwŷdd.
Mesur, a phôb miwsig,
Diddan, diddrwg, diddig,
Yn gyfan nos a dŷdd.
Yn fanwl fel y seren,
Gannaid gannwŷll plygen,
Ddechren Mai.
Neu flode gwiw dŵ gwinwŷdd,
Neu Rissial gwŷnn o roswŷdd,
Heb frychau, chwŷn, na bai.
4.
Pan ddêl henaint difri,
Llesgedd, a gwallt-foelni,
Ar giau'n gwasgu'r gwŷthi,
Yn y croen.
Ni bŷdd na miwsic tannau,
Na hyfrŷd lwŷsudd leisieu,
Yn y gwiail, a'r cangau,
A bair hoen.
Pallu a wnâ synhwŷrau,
Ar melus dêg aroglau,
Yn y gwŷdd.
Y deall, a'r co perffaith,
Ar golwg gwâr ar unwaith,
Pylu a wnant mewn dŷdd:
Y Clŷw, a'r teimlad hefŷd,
Arfau glân Jevengctŷd,
Cilian draw.
Yn wrthŷn bŷdd fel Ceubren,
Cysgod, neu ddail aethnen,
Ar y Gwŷnt ar glaw.
5.
Gwelwch deunŷdd dynol,
Lludw, a llŵch daiarol,
Creadur gwael cystuddiol:
Dros yr oes.
Na ryfyged ormod;
Yn ei bererindod,
(Tramwŷ.)
Rhaid ŷw diodde dyrnod,
Llawer gloes.
Nid ydŷw yr ymerod,
Yn ei fawredd hynod:
Yn dwŷn parch.
Ond gwaeledd iawn ei ddiwedd:
Yr awr yr elo i orwedd,
Ar oer-wag erchwŷn arch,
Llyffant ŷw ei gywelŷ,
I ganu lwli i gysgu,
Cyfeill oer.
Ar neidr hir ei lloscwrn,
Cynffon.
A yssa hŷd yr ascwrn,
Heb lewŷrch haul na Lloer.
Lleuad.
6.
Nid y mwŷa ei gyweth,
A ynnill y fictorieth,
Ond y fuchedd odieth,
Ydŷw'r dawn.
Beunyddiol lygredigeth.
A'u harwein i farwoleth,
Oni thrown ar unweth,
At yr iawn.
Gwisgwn gariad perffaith,
Ffŷdd, a chywir obaith,
Yn y daith.
Fel y gallom ni fordwŷo,
A throi peryglon heibio,
Cŷn mynd ir siwrne faith,
Mae tri gelŷn gwaedlŷd,
Y Bŷd, y Cnawd, a'r Cythrail.
Beunŷdd yn ein herlŷd,
Nid oes ball.
Yn eu dyfais greulon,
A'u bwriad, a'u Dichellion:
Yn ceisio arnom wall.

Dyriau, yn rhannu oes dŷn yn dair rhan, ac yn dangos fod Pôb rhan ohonŷnt yn Siomgar ac yn drangcedig: Ac am bynnŷ yn gwahadd dŷn i ymbarodtoi i farwol­aeth bôb amser.

1.
POb perchen Einioes nwŷfus,
Ystyried yn dosturus:
I feddwl hŷn yn foddus,
Bwŷllus beth.
Mae passio 'wneiff ein dyddie:
Fal Barrug, neu Niwl bore,
Pan ddelo dyrnod ange,
Marcie mêth.
Nid arian yn godeidie,
Neu Aur o'r cweiniad gore,
Gwir di sŷnn:
A geidw ddŷn, drwŷ ffafrieth,
Rhag terfŷn ei farwolaeth,
Na chywaeth, coeliwch hŷn,
Gan hynnŷ pob grasussol,
Wŷbodus Griston bydol,
Yn ddi baid:
Ymbarottoed ei fuchedd,
I'r Siwrneu faith Anrhydedd,
Erbŷn i bo rhaid.
2.
Dyddiau dŷn sŷdd debŷg,
Mewn oes i'r blymen ysig,
Ar ochor llechwedd llithrig:
Llathredd llêf,
Pan fytho'r Haul olwŷnog,
Yn ei oleini gwresog.
Yn disglair dywŷnnu'n enwog,
dan y nêf.
Fe a dderfŷdd bôb yn ronŷn,
Mewn agwedd, sadwedd sydŷn,
hwn a dawdd.
Ac fellu ein einioes ninne,
A dderfŷdd o'r un modde,
Rwi'n meddwl hŷn yn hawdd:
Am hynnŷ pawb yn hynod;
Arferwn lân Gydwŷbod,
Wiw-ber lonn:
Gocheled neb yn ddiau;
Lettŷfa drŵg feddyliau:
Yn ddiles tan ei fron.
3.
Tri amser sŷ i bechadur,
Yn benna peth ŷw yftŷr:
Yn hŷn o fuchedd dostur;
Ferthŷr fŷd:
Oes Aur, hŷd ddeg-ar-hugien,
I fŷw mewn buchedd lawen:
Yn rymus ar ddaiaren;
Ddewredd fŷd.
Heb feddwl 'chwaith na thybio,
A dichon dim iw flino:
I blygu ei nerth.
Mor siriol mewn pleserau,
Gan'hedfan yn ei flodau,
Fal heden bŷw'n y berth;
Yn hoewedd mewn cwmnhiaeth,
Yn dilŷn cwrs carwriaeth:
Mabiaeth merch:
A'i nattur yn blaenori,
Oddiar Gydwŷbod wisgi;
Nid diwres oeri ei serch.
4.
Yr ail oes, pruddach bargen,
I'r arian ni a'i cyfflyben,
A hon ŷw'r Dêg-a deugien,
Diben dawns.
Rhaid bario'r holl bleserau:
Ar nwŷf a sŷrth fel blodau,
Ar meddwl ar i gamreu;
I gymrŷd braw:
Ei bwŷll, a'i nerth a balla,
A'i grefŷdd byddiff gryfa:
Yn ei ddŷdd.
A'r Onix Feinir wnna:
Eiff megis yr wrthuna,
A'r Degca a grŷch ei grudd:
Helen lân ni fedrodd,
Mewn henaint, pan edrychodd:
Hi yn y Drŷch.
Ond wŷlo'r heilltion ddagrau,
Wrth feddwl laned 'fasseu
Hi gŷnt, mewn modde gwŷch.
5.
Ar drydedd oes, fethedig,
ŷw'r dêg-a thrugain unig:
A hon ŷw'r plwm tawddedig:
ysig Ais:
Pallu a wna'r golygon,
Y meddwl, clŷw, a'r moddion:
Y Teimlad, a'r Cof tirion
Llonn, ar llais.
Ar diben oes yn nesu:
A'r Corph yn llesg wargrymu,
Tua'r llawr.
Nid pleser hên ond cofio,
Yn fadws drwŷ ymofidio;
Ymrwŷfo am yr awr:
Ni fedrodd Milo rymmus,
Ond wŷlo'n brudd alarus;
Lwŷrfôdd loes:
Pan wele ei nerth yn unig,
A'i freichiau'n ddarfodedig,
Tawddedig, ysig oes.
6.
Meddyliwn bawb yn ddi-lid,
Yn nyddiau ein Ieuengtud:
Am henaint amser gofid,
Gyfaill prudd.
Os Angeu ni ddaw'n gynta,
Henaint a'n gorchfyga:
Fe an delir ni ar yr yrfa;
Redfa rŷdd,
Bŷdd rhŷ ddiweddar i ni;
Grio'n dost pecafi,
Cofiwn hŷnn:
Ar amser ar ein gwartha;
Briw sarrŷg a brysura,
Fal tynfa Tonn a'r Lŷnn:
Heb allael ymwroli,
Yn chwidr 'chwaith na chodi,
Brauch na llaw.
Ond hytrach wŷlo am Elawr,
A manwl grîo'n ddirfawr,
Och Dduw i'r awr, na ddaw.
7.
O ceisiwn wisg, a thrwssiad,
A ffŷdd, a gobaith, carriad:
Frbŷn eîn diweddiad;
Addas Daith,
Ac ewyllŷs fel a gallom;
Fordwŷo'r holl beryglon,
A nofio drwŷ'r gofalon,
Mawrion maith:
An bwriad bawb yn beredd,
I erfŷn am drugaredd;
Goreu mawl:
Ac 'wŷllŷs pur o'n mynwes,
Rhown foliant yn ddi-fales,
A chynneddus oedd ei chael,
Ac yno cawn yn benna,
Seinio mawl Hosanna,
Lân ddilŷth.
O flaen wŷnebprŷd Iesu,
Molianu drwŷ lawenu,
Yn ddi derfynu fŷth.
8.
Rŷm ymma'n bŷw mor farus,
Yn hŷn o fŷd trafferthus;
Megis yr iâ dyrŷs,
A dŷrr a'r lŷnn;
Yn dawnfio'n ddi-ofalon,
Heb wŷbod mo'n peryglon,
Nes syrthio i'r dyfndwr creulon;
Cri-alar sŷnn.
Duw ysgrifenna ar fyrdde,
Clau anwŷl ein calonne,
Ein dyddie iw d'allt;
Y rhain sŷ megis eira,
Pan fytho'r haul goleua,
Gwresogca, ar ucha'r Allt;
Dwg ni'th Dragwŷddol Deŷrnas,
Yn y Wisg Briodas;
Buredig wenn.
Ger bron d'orsedd-faingc oleu;
I blith dy Nefol Seintiau,
Drwŷ bur amodau, Amen.
Ymma a diweddiff dau o ddori [...] duwiol, ar y dôn a elwir Greece and Troy.

Ache'r meddwon a'r drygionus, Ar y dôn a elwir Spainish Wafen.

1.
GWasced pawb eu pennau ynghŷd,
Ar rŷw beth mi rois fy'mrŷd,
I dreuthu fy meddwl am y Bŷd,
A dowch igŷd i wrando,
Heb rŷw fai ni welai'r un,
Myfi ydŷw'r gwaethaf gwn fy hun,
At wellhad ni welai'r un,
Yn pŵŷso.
2.
Gyda Dafŷdd chwilio yr wŷf,
Teŷrnasoedd, gwledŷdd, trefŷdd, plwŷf:
Fel dŷn dolurus or un clwŷf,
Gwedi i'm nwŷf i baffio,
Craffu yr wŷf ar fuchedd dŷn,
A wnaed ar ddelw Duw ei hun,
Yn ddaionus nid-oes un.
Yn Ceifio.
3.
At y Câs-wir cyrchu a wnaf,
Am hynnŷ barn y bŷd a gâf,
A ddwedto'r gwir nid ŷw ond Cnâf:
Ni wnel o'n ddâ oni farno,
Fe a wêl frychau'n llygaid un,
Ni wêl mo'r trawst yn ei lygad ei hun,
Pwŷ sŷdd fŷw yn waeth o ddŷn:
Nag efo.
4.
Rhaid i mi ddiodde llawer senn,
Neu ddywedŷd fôd y frân wenn:
Neu dynnŷ hên dŷ yn fy mhen,
Ond blîn ŷw'r fargen honno,
Nid wŷfi'n gofŷn ffafr yr ûn,
Ond a fu ddi-fai o ddŷn:
Dechreu'r wŷf arna fy hûn,
5.
Mae Duw'n danfon yn ein plîth,
Amrŷw ddonniau rîf y gwlîth,
Yn ei weithredoedd ymhob rhîth,
Y fendith sŷdd yn tyccio,
Cael yr Efengŷl yn ein musc,
Ysprydol radau, donniau dŷsc,
Ehediad gwŷllt, anifeiliaid, pŷsc:
Yn lluchio.
6.
Ffrwŷth ar goedŷdd, dedwŷdd dawn,
Ffrwŷth a'r feusudd, llawnwŷdd llawn,
Y pyscod môr, a'r cyngrair cawn;
Yn uniawn hŷn a'n portho:
Heddwch beunŷdd, tawel-ddŷdd tês,
Iechŷd hefŷd, llawnfŷd llês,
Nid oes nêb yn treio três,
I'n trwblio.
7.
Fel dyna Dduw yn chwareu ei ran,
A'i râd yn llenwi ymhob rhŷw fan,
O achos bôd ein ffŷdd yn wan,
Satan sŷdd yn rhwŷdo,
Duw sŷ ddâ, a ni sŷ ddrŵg;
Y naill i'r llall yn arwain gŵg,
Duw'n rhoi'r bwŷd, a diawl y Cwg,
Iw drwisio.
8.
Fel dyna'r gwir, nid oes dim llai,
Pe cydnabydde pawb ei fai,
Fe'n llunwŷd igŷd or un clai,
A pham y mae rhai'n balchio;
Y Brenin, ar cardodtŷn tlawd,
Sŷdd, ac a fŷdd hŷd ddŷdd brawd,
Allan o'r un gwaed a chnawd,
Yn impio.
9.
Y Mâb i'r Tad a gynnig gam,
Y brawd i'r chwaer, y ferch i'r fam:
Nid wi'n gweled un mâb mam,
Gwedi ei ddinam ddonnio,
Cymdeithas bur aeth heddŷw'n llai:
Cymwŷnasgarwch sŷdd ar drai;
Cydwŷbod aeth, ni waeth gan rai,
Amdano.
10.
Am un dŷn hael, mae'n gybŷdd gant,
Mae tri chythrel am un sant;
Am un 'digâs, mae dêg mewn chwant,
Trachwant sŷdd in treisio,
Gwirionedd pur aeth heddŷw'n llai,
Cenfigen, celwŷdd sŷdd heb drai,
Am un rhinwedd, pymtheg bai,
Sŷ'n treiglo.
11.
Mewn un farchnad nwŷfiad nerth,
Ni cheir gan neb heb fwŷ nai werth,
Dyna'r achosion cofion certh;
A mae'r gair serth yn syrthio;
Cododd rhŷwbeth arnom wall,
Bradwr llwŷr ŷw'r brawd i'r llall,
Chwennŷch a wnai ei fod yn ddall,
Iw dwŷllo.
12.
Mi welais a ceid drwŷ arwŷdd grâs,
Brŷdnhawn ddŷdd gwŷl ar dwmpath glâs,
Benhillion mwŷnion peraidd flâs;
Heb na châs na chyffro,
Rhedeg, neidio, taflu maen,
Ymmeulŷd seuthu saeth wen fain,
Pa gampau heddŷw sŷ'n lle'r hain?
Ond Carowsio.
13.
Os i'r dafarn mynd a wnawn,
Chwech neu saith, ddŷdd gwŷl brydnawn,
Rhaid ŷw llenwi'r pot yn llawn,
Ac yno ni awn i garowsio,
Rhaid ŷw perchi iechŷd hwn,
O fesur loned ewppan crwn,
Onidê fe gaiff ei ben yn dwn,
Nes a parcho.
14.
Iechŷd i'r gŵr, pawb a'i harch,
I gŷd yn bennoeth gwnân iddo barch,
Nes iddŷnt yfed cymmaint a march,
Amharch a geir oddiwrtho,
Yno barilo, megis mewn gwŷn,
Un-ffunŷd a bwrw pridd a'r gorph dŷn,
Ac yfed yn llwŷr nes cael o bob un
Y Bendro.
15.
Britho, a chymyscu, a brwŷsco a wnân,
O bot i biccŷn, o bibell i dân,
Ac yno ceir clywed y fath gabl gân,
Fel a bo syfrdân eu gwrando,
Un a fŷn bot or ddiod glîr,
Ac un a fŷn fragod, ar llall a fŷn Fir,
Ac un a fynne amgenach Sìr,
Tobacco,
16.
Ac yno daw canwŷll ar wir ganol dŷdd,
Tân, a phentwŷnion, o foddion difudd,
Malu, a chrasu, a chroeso sŷdd,
Ac ufŷdd fŷdd ei dendio.
Yno ceir eu gweled yn fawr ac yn fâch,
Yn hen-ddŷn, yn llencŷn, yn llangces, yn wrâch,
Yn gollwng glofoerion, megis rhai bâch,
Yn sugno.
17.
U [...] yn yfed fel yr ŷch:
Ar llall yn chwdu i fynu'n grŷch;
Un yn gorwedd dan y gwrŷch,
Un arall yn wŷch yn bloeddio,
Un yn gweiddi fel y cawr;
[...]i rois y rhain i gŷd i lawr:
Me [...]ch y tŷ moes lestr mawr;
I biso.
18.
Yno dae un mor wŷch yn ei frŷd,
Heb gantho gownt o ddŷn yn y bŷd,
Ac atto nid eill ond bwrw o hŷd,
Enbŷd fŷdd ei ddigio;
O daw un a dywedŷd, Duw, a Mair:
A chroesi tippin ar y gair;
Mi wn y modd a bŷdd y ffair,
Ymbaffio.
19.
Fe ddae un, ac a gode o gâs,
Ac a biccie chwedel crâs;
Ar ol yfed yno sias,
Fe gae'r gwas ei guro,
Trannoeth wedi'r medd-dod maith;
Cŷn cael diben ar y gwaith:
Rhaid ŷw cyrchu'r broses fraith,
O Lwdlo.
20.
Mae rhai eraill gwaeth na rhain,
Am ben y tlawd yn chwŷthu'r drain,
Yr Occrwr
Llogwr.
brith, ar Cybŷdd main,
Nid oes mor damwain yno;
Rhwŷmo'r dyledwr wŷneb prudd:
Ei ben, a'i draed, ar gadw'r dŷdd,
Onidê fiwrne galed fŷdd,
I Lwdlo.
21.
Yn y gwrthwŷneb un a gair,
Heb gantho bris o gadw ei air,
Nes i'r un geiniog fynd yn dair;
Fel dyna ffair yn ffaelio:
Ni thal hwnnw mor cwbl, na darn,
Ond llâdd pawb, a'u sathru'n sarn:
Nes ei gondemnio i ddiodde barn,
Yn Llwdlo.
22.
Cododd terfŷsc yn ein plith,
Yr hên ddŷn a'i gwel yn chwith,
Ymrafaelion ymhob rhith:
A gofrith ymgyfreithio,
Am rŷw fatter ni thael ddraen,
O waith tafod drwg ei raen;
Rhaid ŷw gyrru'r siwt ymlaen:
Yn Llwdlo.
23.
Rhaid i'r crŷf orthrechu'r gwan;
Rhaid i'r traws gael mwŷ nai ran,
Ni lefus y tlawd mewn un fan,
Ocho-druan gwŷno.
Hŷd oni ddelo brawdfa ddŷdd,
Dŷdd y farn.
Heb na gwâd, na chêl, na chudd,
Ac yno ceir clywed y rhain yn brudd,
Yn wŷlo.
24.
Y Bŷd a'r ben sŷdd debŷg i fôd,
O Dduw a'th drugaredd datro'r rhod,
Ni welai fawr yn heuddu clôd,
Duw dôd ni ar nôd newidio,
Rhown ninne'n gweddi a'r Dduw îgŷd;
(Rhaid i ni feirw nis gwŷddom pa brŷd)
Ar ein Tâd nefol i roddi i ni frŷd.
I Mendio.

Ymddiddan rhwng dau o hên Gymdeithion, y naill yn fŷw, a'r llill yn ei fêdd. A'r y dôn a elwir Heavy heart.

1.
Evan Thomas, addas wiw-ddŷn,
Ym-ha-le yr wŷt yn bwrw'r flwŷddŷn,
Er pen golles dy gwmpeini;
Waeth y ddwŷfron gani yn ddifri:
Oni wŷddost i mi huno,
Mewn arch talgrwn, wrth y ffasiwn, fy rhoi i orffwŷso
A'm henaid gyda'r Arglwŷdd cyfion,
Atai Thomas brysia'n addas, cei newŷddion.
2.
Fy ngydymeth afieth ufudd,
Oedd a'i loned o lawenudd,
Pa brŷd y doi di y câr di-apsen;
I gadw nosweth loweth lawen:
Rwi bob nôs mewn mawr lawenŷdd,
Mwŷ dymunol, a dâ doniol, ydŷw'r deunŷdd,
Na chais dithe bechu fwŷfwŷ:
Nid gwiw ceisio geni rodio, or man yr ydwŷ.
3.
'Rydwi yn ymul tori ynghalon,
Nid oes geni ddim cymdeithion,
Na ffrind, na châr, na dŷn ar adwen;
A wneiff ero werth y frwŷnen:
Na chynwŷs un-awr galon aflan,
Glanhâ hi ar ddidro, a chadw hono i ti dy hunan,
Ameddwl am ein prynwr cyfion:
Gwrando etto, paid a'i ddigio, di a gei ddigon.
4.
Ffarwel gydymeth afieth ufudd,
Ffarwel ganiad bŷth a'r gynnŷdd,
Dy law, a'th dafod a gŷd byngcie:
Bôb arafedd lwŷsedd leisie;
Mi drois heibio bob yferedd,
Ni allai symŷd, yn y gwerŷd i rwi'n gorwedd,
Fy llaw am tafod ni chais gynig;
Penill prysŷr, a'r un-mesur gyda'r miwsig:
5.
Gwn fôd yn ddrŵg gan lawer glan-ddŷn,
Nad oeddent i't na thrâs, na fferthŷn,
Pa brŷd a doi di yn rhudd oddiyno:
Ac i ba-le rei di'r amser honno;
Mi ga godi pan ddel barnwr
Nef a daiar, i roi yn gynar farn ar ganwr:
Am Corph, am henaid yn yr-unman;
Nhw gân fyned, er eu gwaeled i le gwiwlan.
6.
Ple mae'r awnenudd luniedd leinie,
Oedd gerdd burion ar bapure,
Aeth hi i'r ddauar yn y ddwŷfron:
Lle nim ddengŷs bŷth i ddynion,
Na sôn amdani, cân di salme,
Nad i'th hindrio mor fath hono fŷth o'th Ene,
Ir tad, i'r mab, i'r ysprŷd grasol,
Doniau melŷs, mo'r dro gweddus, yn dragywŷddol,
7.
Dy wraig a gollodd ei hôll swccwr,
Trwm ei chowled, gwan ei chyflwr,
Aeth ddi syawŷr Duw a'i helpio:
Weithie yn chwerthin, weithie yn wŷlo;
Ni ddoi etto i 'mofŷn attŷn,
Ni allai mendio un gronun heno ar un ohonŷn,
Crist i'r weddw sŷ yn ymgeledd:
Ag i'r ymddifad os bŷdd cariad yn eu cyredd.
8.
Mae dy chwiorŷdd, a'th holl gefnŷr,
A'th gyfnitheroedd heb ddim cysur,
A phawb yn siarad wrth dy gofio,
Mae megis breuddwŷdd oedd dy briddo:
Nid iw hynnŷ ond ffoledd amlwg,
Myfi a hunais, ac a giliais ffordd o'r golwg:
Myddylied pawp i hun yn heini;
Pan ddel yr angel, rhaid ŷw ymadel, heb rwŷmedi.
9.
Dy gymdogion, a'th gyfathrac [...],
Mewn iâs ebrwŷdd a fŷdd sobrach,
Fsarwel i'r amser gŷnt a fydde:
Am fwŷn ganiad clymiad clame;
N [...]wŷ 'gân lonŷdd gani y leni,
Mae arnai gauad hull o gydiad, ni allai godi:
Nid oes chwaith lle 'rwifi'n tario;
Un gronŷn afieth o chwaen heleth, na chynhilo.
10.
Ffarwel i'r feiol gŷnt a genest,
Ac i'r gwaredd danne a gweiriest,
Ac i'r bysedd, a'r cymhale:
Ac i'r tafod a'u hatebe.
Ni chai weled mom cydymeth,
Ffarwel b [...]unŷdd i'r awenudd, a roit unweth:
Aed Crist a thithe, iw nefol gwmnhi;
Lle Mae 'neusyfiad gaffel dywad bŷth heb dewi.

Ymma a dechreuiff amryw o ddyriau duwiol, ar amryw fesurau nas Gwn ni mo'u henwau.

Ymgomio rhwn y Clâf o'r Darfodedigaeth a'i Glwŷf.

1.
Y Droellen arw drais, di-gysur ŷw dy gais,
Sŷ'n gweu dan fone fais, blîn diodde d'oglais di,
Rhaid i ti ddiodde'n hŵŷ, i'r gwael guledig glwŷ,
I'th fron fel on, fel wŷ, cynyddu'n fwŷ 'rwi fi,
Pa fath fwbach afiach wŷt, fŷ'n peri i mi gasau fy mwŷd
Fy'asenne sŷdd fel gwiail clwŷd, a mine'n llwŷd fy lliw,
Rhaiam geilw ymhôb gwlâd, cynsymsiwn sŷch ni cheifiaiwâd
Hên anhunedd oedd fy nhâd, yn peri'r brâd ar briw.
2.
Mi'th clywa di yn rhŷ-drwm, fel bowl, neu bêl o blwm,
Er lleied ŷw dy sŵm, dos ymeth i ffordd a'r ffo:
Lle cês fagwriaeth gain, o fewn dy fynwes fain,
Er miwsig seisnig sain, fel oen mewn drain mi 'mdro,
Er llawened fŷm i yn bŷw, ymŷsg boneddigion reiol rŷw
Pa fôdd y mages i'r fathgŷw, mor oer, mawr ŷw'n fy mron
Canu, ac yfed cwrw a bir, colli'r cysgu'r nôs yn wir,
A'magodd yn dy ddwŷfron glîr, cês wreiddio'n hîr yn hon.
3.
Os hynnŷ am gwnaeth i yn glâ, mi gadwa ddeiad ddâ,
Dod nawdd, a thrugarha, un dŷdd nid yfa un dafn,
Nage mi fydda fŷth, lle gwneuthum mi fy nŷth,
Tra bytho anadl chwŷth, naws ufudd fŷth i'th safn:
Chware'n dêg y chwerwŷn dig, fŷ'n dolurio'n curo'r cig
Yn briwo 'mrest, a bwrw mrîg, drwŷ lewŷg lawer loes,
Os cês di gur, na chais di gwŷn, drwŷ cyfeddach fasnach fwŷn
Oeri'r traed, y gwaed, ar trwŷn: rwi'n daer yn dirwŷn d'oes.
4.
Yr anhwŷledig brŷ, mi fynna phisicc crŷ,
I'th codi, a'th daflu o'th dŷ, ca wedi hynnŷ hêdd:
Nid eill un doctor drŷd, nam codi, nam croefi o'm crŷd,
Ond glynu y wna fel glud, a'th roi di yn fud i'th fedd.
Mi wahodda fawr a mân, ac ar lawenŷdd gelfŷd gân,
Oddiwrth dy loches lân, nhw a'th yrran ffwrdd i ffoi,
Ni ffyna eu gwaith, na phoena eu gŵâdd, or gwŷr hawddgara
a gwcha eu gradd, i mae llawer gwedi llâdd dan gerig nadd gan i.
5.
Haws gannit ti 'mhôb man, bardynu'r gwŷch nar gwan,
A thaflu'r llesg i'r llan, yn druan dan dy droed:
Ni cheiff un-dŷn dewr doeth, nac un gŵr cyfion coeth,
Na merch lon ddwŷ-fron ddoeth, am gyfoeth ffafar nac oêd,
Gwn i gelli esmŷthau, a pheri i hêdd yn hîr barhau,
Er i ti'r etifedd tau, drwŷ gur fyrhau fy oes:
Pan fŷch di'n dylŷfugên, athrudd yn brudd heb gynŷdd gwên
Deall nad elli fynd yn bên, ond nesu at ddiben d'oes.
6.
Os bydda i yn brudd ger bron, mi gerdda yn ffeind a ffon,
Mi hwŷlia'r feiol hon, i ganu'n llon a'm llaw:
Os ceni cân fel clŷch, dda fawl i Dduw tra fŷch,
A gwel dy drem mewn drŷch, a'th troed yn rhŷch, a rhaw,
Rwi'n cydnabod wrth fy lliw, nad wi ond gwan flodeun gwiw
Fel y rhew ar fol y rhiw, fy'ngelŷn ŷw fy nghwêdd:
Ymbarto dy hun fel Sant, a chân ffarwel ith wraig ath blant,
Mith yrra a'r gais lle gyrres gant, o'r bŷd i bant y bêdd.
7.
Yrwan rwi'n ymroi, mae nghalon i yn cyffroi,
Fel draenogyn ymdroi, 'rwŷt ti yn fy nghnoi'n fy'nghawd
Na fwrw fai arna fi, rhois rybŷdd têg i ti:
I 'mroi at un, a thri, am fawredd buredd brawd;
Fy ngweddi sŷdd ar lafer lêf, am gael ei hael ddeheulaw gref,
I rwi'n bodloni iw wllŷs êf, or unig nêf a'm gwnaeth,
Od wŷt ti fellu ga ŷn dy fŷd, ni wŷr y doetha ar gwcha igŷd;
Y dŷdd na'r awr i râ or Bŷd, i'r gongol briddlŷd gaeth.
8.
Taw sôn ni ymgomiai mwŷ, a thi'r trangcedig glwŷ,
Os ca fi hoedel hwŷ, deŷsyfu yr rwi am râs:
Os marw ar fŷr a wna, mae i mi addewid dda,
Mae Crîft a diugarha, ni lyfa ei anwŷl wâs,
Nid wi'n ofni mynd i'r gwŷs, tan ddaiaren lawen lwŷs,
Lle na chlywi un gair dwŷs, na ffiedd bwŷs, na phoen,
Angylion nêf am dwŷn or bêdd, mewn cyflwr gwiw-lân wedd,
I gael hîr iechŷd hyfrŷd hêdd, a reiol wlêdd yr oen.

Dyriau A wnaed wrth y 139. Psalm. Ar fesur arall.

1.
O Arglwŷdd hêdd, ucheledd, chwiliaist
Yn faith, ac adnabuost fi,
Fy hôll eisteddiad, am cyfodiad,
Dan fy stad, adwaenost di,
Am meddylie a weli yn ole,
Fy nghwsg-le, a'm llwŷbre, fodde fŷrdd
A amgylchyni, yspus ydi,
I'th fawrydi fy holl ffŷrdd.
2.
Oddiar fy nhafod, fy'Arglwŷdd fawrglod,
Gair yn dyfod gwn nad oes,
Nas gwŷbyddi, oll ti a'i gweli,
Amgylchynni fi yn foes,
O'm hôl i'm gwelaist, ti a'm blaenoraist:
A'th law gosodaist arnai yn siŵr,
Uchel ryfedd ŷw dy fawredd,
Pell o gyredd deuall gŵr.
3.
Oddiwrth dy ysprŷd ple'r ymguddiaf,
Ac y ffoaf o'th wŷdd yn ffri:
Os i'r nêf pei gallwn ddringo;
Yno yn tarrio yr wŷt ti,
Os gwnâf fy ngwelu yn uffern bygddu,
Yno mae dy allu yn dóst,
I gospi yn gaethedd wâr anwiredd,
Am eu camwedd ymhob cost.
4.
A phe cymerwn aden hediad,
Y wawr dderchafiad dyfiad dŷdd,
Neu drigo heb dragor
Gormod.
megis Angor;
Yn llawr y dyfn-for anfad
enwir.
gudd,
Yno i'm twŷsai, ag i'm daliai,
Dy law ddeheu, diwael lês,
Ac yn y twllni bŷdd goleini
Arnai'n tŷwŷnnu fel y tês.
5.
Ni thywŷlla y tywŷllwch,
Rhag dy Sangctaidd degwch sŷdd,
Ond y nôs a rŷdd oleuad,
Fawl dueddiad fel y dŷdd,
Un wêdd goleuni a thywŷllwch i ti,
Fy Nuw meddianaist yn ddi nam:
Fy arennau ar unwaith mewn dirgelwaith;
Toaist fi a maeth yngrhoth fy mam.
6.
Clodforaf dy enw Dduw daionus;
Rhyfedd beth arswŷdus ŷw,
I mi ystyried fy'ngwneuthuriad,
Cŷn dechreuad bwriad bŷw;
Rhyfedd hefŷd tann y nefoedd,
Dy weithredoedd cyhoedd ca,
Yn bur gwbwl gywir fanwl;
Gwŷr fy enaid hynnŷ yn dda.
7.
Fy rhîth am sylwedd, ddirgel agwedd,
Ni chuddiwŷd rhag dy fawredd di,
Pan i'm cywreiniwŷd yn llawr canol,
Daear gnwdol, freuol fri:
Fy anelwig ddefnŷdd oedd i'th olwg;
Ag yn dy lyfr mor amlwg rhoed,
Fy aulodau yn gweled, pann eu llunied,
Cŷn bôd yr un o rhain erioed.
8
Am hŷnn mor werth-fawr, gynnes gannif
Dy feddyliau di o Dduw:
Fi rhif pa ceisiwn ni chyrheuddwn,
Ac nis bwriwn tra fawn bŷw;
Uwch law rhifedi'r tyfod ydi:
Eu swn aneirif, nefol Dâd,
O'th flaen ir ydwif, pan ddeffrothwif;
Bob awr i'm ffrwŷtho mae dy râd:
9.
Ti Dduw a leddi'r anuwolion,
Am hŷn pôb creulon galon gau
Ewch oddiwrthif, nid wi'n hoffi
Rhodio i'ch cwmni, rwi nacau
Dy elynnion Duw, ol ynol,
Llwŷr anianol ymhôb lle;
Yw pawb a gymer drwŷ sgelerder:
Dy enw yn ofer dan y ne.
10.
Ond cas ŷw gennif, Arglwŷdd cyfion,
Dy gaseion duon di:
Ac onid ffiedd ŷw eu buchedd;
Rhag eu camwedd cymorth fi,
Y sawl nid arbed godi yn derbŷn,
I mi yn elŷn bydded bŷth,
Drwŷ nerth, Jehova mi a'i gwrthneba,
Tra fo'n fy ngenau chwâ o chwŷth.
11.
O Dduw gorucha chwilia 'nghalon,
Gwybŷdd hon, a'i dyfnion dwŷll,
Gwybŷdd hefŷd fy meddylfrŷd,
Praw fy mywŷd, pura 'mhwŷll,
A gwel oes gennif ffordd anuwiol,
Ac yn fŷwiol arwain fi,
I'r ffordd dragwŷddol, fy nhâd n [...]fol,
I fŷw'n oesdadol gyda-thi.
12.
Fel dyma ystyriaeth difŷr Dafŷdd,
Union lywŷdd yn ei wlâd,
Yn myfyrio mor ddifriol,
Fawredd Duw dragwŷddol Dâd;
Hŷn a ddylem ninne yn ddilŷs,
Gredu yn gofus, grŷ a gwan
Fôd Duw i'n gwilio, ac yn gweled,
Fin hamrŷw weithred ymhob man.
13.
Pa un ohonom a ddymuna,
O flaen y sala o ddyinon sŷdd:
wneuthur rhŷdrwm orthrwm weithred,
Rhag eu gweled yn ddi-gudd,
O flaen penadur llai yn siccir,
A byddem prysŷr mewn un prŷd,
I drîn drygioni, rhag ein cospi,
A'n dirboeni yn y Bŷd.
14.
Ond mwŷ o ddifri a dylem ofni,
Sŷdd a'i allu i gospi yn gaeth;
Yn uffern danbaid gorph ac enaid,
Yn ddi-nodded am a wnaeth,
Ofnwn hefŷd wradwŷdd dybrŷd;
Pan fo Duw mewn munŷd awr
Yn rhoi'n gweithredoedd ôll ar gyhoedd,
O flaen lluoedd nêf a llawr.
16.
Pa llwŷr ystyriem hŷn o ystori,
Yn gwbwl ddifri, a chredu yngrhist,
I ochel pechod byddem barod,
Rhag ofn y diwrnod trallod trîst,
Pan fo'rholl Fŷd yn llosgi ar unwaith,
A miloedd yn dwŷn alaeth mawr,
Yr haul yn lowddu, ar lloer yn gwaedu,
Ar dewra i'mdeuru yn llwgu i'r llawr.
16.
O Dduw gogoned, lân ddi-ludded,
Dirion nodded, dyro nerth,
I ni'orchfygu pôb drygioni,
A gallu sefŷll yn ddi serth,
Pan fo'r mynyddoedd fel yr hyrddod,
Yn neidio drwŷ ddychryndod draw:
Y môr yn rhuo, ar sêr yn syrthio,
Dŵg ni i lwŷddo dan dy law.

Dyriau, yn dangos gwendid a bryntni dŷn, ac yn annog iddo wellau buchedd, er mwŷn Cael bywŷd tragwŷddol. Ar fesur arall.

1.
ODdaiarol gnawdol ddŷn,
Mewn sugn draeth, a thomŷn glŷn,
Yn ymdrobaeddu ddŷdd a nôs,
Megis baedd yn eigion ffôs,
Hunlle ydwŷt drwŷ dy hun,
Cymmer ddrŷch a gwêl dy lun,
Hunlle ydwŷt drwŷ dy hun,
Cymmer ddrŷch a gwêl dy hun.
2.
O greaduriaid daiar fawr,
Gwaelaf, llescaf wŷt yn awr:
Pydew priddaidd, pruddaidd wŷd,
I nadroedd ac i lyffaint fwŷd,
Gwêl dy lûn, a chymmer ddrŷch,
Nid wŷt greadur hanner gwŷch:
Gwêl dy lûn, a chymmer ddrŷch,
Nid wŷt greadur hanner gwŷch.
3.
Creuwŷd dy ddechreuad gŷnt,
O ddŵr, a thân, a daiar, gwŷnt,
Ar deunyddiau hynnŷ a fŷdd,
I ti'n elynnion yn dy ddŷdd,
Dyna ddeunŷdd dynol rŷw,
Yn iâch, yn glâf, yn farw, yn fŷw:
Dyna ddeunŷdd dynol rŷw,
Yn iâch, yn glâf, yn farw, yn fŷw.
4.
Aflan ŷw dy febŷd di,
Yn druan wael, yn oer dy gri,
Yn dy nerth, dy rŷm, a'th oed,
Yn wŷllt greadur, ffola erioed,
Anhynaws ŷw dy henaint prudd,
Cymmer ddŷch a gwel dy rûdd,
Anhynaws ŷw dy henaint prudd,
Cymmer ddrŷch a gwel dy rûdd.
5.
Dechreu, canol, diwedd d'oes,
Llawn o brudd-der, blinder, gloes,
Clefŷd, penŷd o bôb mâth,
A rŷdd ynot ammal frâth,
A gofalon cyfŷng friw,
Cymmer ddrŷch a gwêl dy liw:
A gofalon cyfŷng friw,
Cymmer ddrŷch a gwêl dy liw.
6.
Yn dy Jeuengctŷd pybŷr llon,
Cenfigen, balchder pigau'r fron,
Chwant cybydd-dod yssa'n llŷm
Wedi paffio'r nerth ar grŷm,
Gwel di ddŷn dy gyflwr gwael,
Yn dy oes nid oes mor fael:
Gwel di ddŷn dy gyflwr gwael,
Yn dy oes nid oes mor fael.
7.
Dy sâ sylfaen sylwedd llêsc,
Diflannu a wna fel iâ mewn hêsc,
Dy bridd lestr fettel frau,
Y corph.
Dâllt nâs gall yn hir barhau,
Megis gwŷdŷr gwiw-deg glân:
A dŷrr ar fŷr yn ddarnau mân:
Megis gwŷdŷr gwiw-deg glân,
A dŷrr ar fŷr yn ddarnau mân.
8.
Mae'n waeth dy nattur wrth dy drin,
Na'r Crocodil, neu'r Teigr blîn,
Fel Camelion newid liw,
Weithieu i wared, weithieu i'r rhiw,
Byddi gefell garw hŷ,
Lle bo'r gwŷnt yn chwŷthu'n grŷ,
Byddi gefell garw hŷ,
Lle bo'r gwŷnt yn chwŷthu'n grŷ.
9.
Serfŷll mewn gweithredoedd dâf,
Mewn males beunŷdd, byddi gnâf,
Dy air, a'th galon ni chydtŷn,
Mwŷ na'r blaidd ar oenŷn gwŷn,
Cymmer ddrŷch, a chraffa'n ddwŷs,
Ar y Bŷd cŷn rhoi dy bwŷs;
Cymmer ddrŷch, a chraff'a ddwŷs,
Ar y Bŷd cŷn rhoi dy bwŷs.
10.
Cloff ŷw d'einioes ar frîg tonn,
Yn awr yn farw, oedd gynne'n llon,
Blodeun aurlliw gwan ei wêdd,
Dy ammod bŷth sŷ ar ymmŷl bêdd,
Cymmer ddrŷch a gwel dy nerth,
Gwaelach wŷt na blodau'r berth:
Cymmer ddrŷch a gwel dy nerth,
Gwaelach wŷt na blodau'r berth.
11.
Paid a'th ryfŷg, Ludw a llŵch,
Yn d'amcannion yn rhŷ fflŵch,
Y Bŷd igŷd bychan fai,
Ar dy chwant i roddi trai,
Nid oes dim o ddeutu'r ddaiar,
Leiach ei ddawn, na mwŷ ei fâr.
Nid oes dim o ddeutu'r ddaiâr,
Leiach ei ddawn, na mwŷ ei fâr.
12.
Cyfoeth China, ac India o bell,
Er ei cael ni fyddit gwell,
Pa mwŷa fae i'th feddiant ŵr,
Fwŷ-fwŷ'r gwangc, ar chwant yn siŵr;
Nid gronŷn mwŷ mo'r Ocean
Y cefn­fôr.
draw,
Er maint o ddyfroedd iddo a ddaw:
Nid gronŷn mwŷ mo'r Ocean draw,
Er maint o ddyfroedd iddo a ddaw.
13.
O fudur fydol elwa bŷth,
Er tyrru or taera dyrre i'th nŷth,
Gwŷnt ar hŷnt a'u chwŷth, a'u chwâl,
Pan roir grauan ar dy dâl,
Talcen.
Cymmer ddrŷch cŷn mynd i'r daith,
A gwêl dy libin lwŷbr maith,
Gymmer ddrŷch cŷn mynd i'r daith,
A gwêl dy libin lwŷgr maith.
14.
Nid wŷt blanhigŷn hanner hardd,
Gwŷg, a gwlŷdd sŷ'n llygru d'ardd;
Eisiau llysiau llesol iawn,
Rôs, ar Lili ynddi'n llawn,
Dattro 'rhod, a gwel beth wŷd,
Cŷn it syrthio'n swrth i'r rhwŷd:
Dattro 'rhod, a gwel beth wŷd;
Cŷn it fyrthio'n swrth i'r rhwŷd.
15.
Deffro'r bore ar doriad dŷdd,
Cŷn crino'r gwraidd, a gwŷwo'r gwŷdd,
Dôd o'u cwmpas bridd a thail,
Cŷn i'r canau golli'r dail,
A chŷnn i'r fwŷall finiog fawr,
Dorri'r pren, a'i fwrw i lawr:
A chŷn i'r fwŷall finiog fawr,
Dorri'r pren, a'i swrw i lawr.
16.
Deffro ddŷn o'th hûn a'th gwsc,
Oddiar dy ddown, a'th welŷ mŵsc;
Cyfod yn sŷth, a sâ ar dy draed,
Cŷn it fferru, ac oeri'r gwaed,
Dymma ddrŷch goleuwch glân,
Gwêl di dwŷll dy ddull a'th gân:
Dymma ddrŷch goeluwŷch glân,
Gwêl di dwŷll dy ddull a'th gân.

Dyriau (dan rîth breuddwŷd) yn cyffelybu Calon dŷn i Dŵr neu Gastell: a ffŷdd, gobeth, a chariad i filwŷr yn ei chadw hi; a'r Bŷd, ar Cnawd, ar Cythrail ŷw ei 3 gelynnion yn ymladd yn ei herbŷn. Ar fesur arall.

1.
PAn oedd y Philomela
yr Euos.
fain,
Yn cwafrio, yn pyngcio ar y drain,
Ceiliog bronfraith, mwŷalch mwŷn;
Yn cyttuno dan y llwŷn,
Ar du Orpheus
Tylyniwr.
a rôdd gri,
Oedd yn canu lwli i mi.
2.
Gwelwn Gastel cywraint uch,
Pŷramides
Lluman.
ddisglair wŷch;
Ar frŷnn Ida adail wiw,
Gadarn sail o galchwŷn liw:
A llŷnn o'i gwmpas campus waith,
Gwelŷdd cryfion, muriau maith.
3.
Palisado
Lettus.
uchel crŷ,
A phont goed iw chodi frŷ,
Arfau, a gynnau o bôb mâth,
Yn erbŷn gelŷn gerwin frâth;
Gwilwŷr, milwŷr pybur llon,
Beunŷdd oedd yn cadw hon.
4.
Pan roes Titan
yr Haul.
lewŷrch lawn,
I oleuo brigau'r gwawn,
Fe giliai Phebus
Yr Haul.
i gysgod gwŷdd,
Gwawrio'n deg, a glasu'r dŷdd,
A thrydar
Cleger.
adar yn y coed,
Ar mesurau mwŷna erioed.
5.
Fe gode gynnwrs garw blîn,
Fe 'mddangosei lawer trîn,
Lliwiau cochion cethin draw,
A bygythion eigion brâw,
Saethu'n arŷth fellt, a thân,
A bwledau fawr a mân.
6.
Tri o filwŷr ffyrnig oedd,
Yn barod wrth yr utgern floedd,
I roi lliwiau ar ben y tŵr;
A gwneuthur ymddiffynfa siŵr,
Ffŷdd, a gobaith, cariad pûr,
Safent beunŷdd ar y mur.
7.
O'r Wersyllfa,
Camp.
marcia chwant,
O reibus soldiers lawer cant,
Occreth,
Llôg.
ac usurleth caeth,
A bargenion ydoedd waeth,
Rhuthrau milein a roe 'rhain,
Ar y tŵr, a'r muriau maen.
8.
Yn nesa balchder ledia'r blaen,
Galants gwchion yn eu traen;
Yscafn feddwl, troediad sŷth,
Sathru a mathru'r gwanna bŷth,
Diystyrwch, coegni o bôb rhŷw;
Bwriadent arno lawer briw.
9.
Fe ddae cenfigen, egin drŵg,
Momws
Gau Dduw.
mammaeth eger ŵg,
Cilwg, gelŷn, calon front
A chwenvche gael y ffront,
Y blaen.
Llîd, a mwrdwr yn ei châd,
I ddiftrywio'r hôll dre-tâd.
10.
Glothineb, a godineb doen,
Yn eu rhyfŷg mawr, a'u hoen,
Maswedd, ac oferedd Fîl:
I ddiwŷno hon a'i hîl,
Gelynnion creulon dewrion taer,
Trawen, curen ddeutu'r gaer.
11.
O gomanders gwŷchion saith,
A ddyfeisieu ddyfal waith,
I dirio dan y tŵr, a'i sail,
Gelynnion oedd rifedi'r dail,
Nid oedd yno barl, na hêdd,
Ond yn drachwŷrn trochi cledd.
12.
Cynnyddu fwŷfwŷ drŵst, a gwres,
A wnaeth Phebus
yr Haul.
at y tês:
Fe fu'm daro ar dyrre'r glŷnn,
Ac anturio nofio'r llŷnn,
Mewn poen, chwŷs, mŵg, a tharth,
Bwriadent arno lawer gwarth.
13.
Pan ddechreuodd hi hwŷrhau,
A seren vesper
Dechreunôs.
ymgryfhau,
Fe gilie rai o'u pebŷll
Tents.
draw,
Yn erbŷn hon ni chodent law,
Diflannu a wnaeth eu cwbl nerth,
Eu rhydd-did gwŷllt, a'u gwŷniau certh.
14.
Chwant a balchder hŷd y bêdd,
Trawent draw, ni weinient glêdd,
Y Victorieth mynnent hwŷ,
Er tylodi mawr, a chlwŷ,
Heb segurŷd, na dim pall,
Beunŷdd maent yn disgwŷl gwall.
15.
Alarwm gwŷllt, a bloedd y drîn,
Am deffroes o'm cyntun blîn,
Aurora
Boreu
dêg, dychrynnu a wnawn,
Pan lewŷrchodd ar y gwawn,
Deall mai breuddwŷd oedd mewn hun,
Heb fôd yno liw na llûn.
16.
Dechreu dirnad beth oedd hŷn.
Myfyrio 'wnawn, a mynd yn sŷnn;
Y tŵr ydoedd galon dŷn,
Mewn glân Gorph, wrth gnawd ynglŷn,
Ffŷdd, a gobaith, cariad llonn,
Ydoedd filwŷr, gwilwŷr honn.
17
Os deffygia'r un or rhain,
Fe syrthir i fieri a drain,
Drysni, ac anialwch coed,
Heb lê rhŷdd i roddi troed,
Dyna filwŷr pybur fflŵch,
Ni ddaw attŷnt elŷn trŵch.
18.
Ymwregyswch, byddwch dal,
Ar arfau hŷn i gadw'r wal,
Y Bŷd, ar cnawd, ar Cythrel call,
Beunŷdd sŷdd yn disgwil gwall,
Cedwch feddiant foreu a hwŷr,
Neu'r clêdd heb hêdd a lâdd yn llwŷr.

Ymma a dechreuiff amryw o Garolau (duwiol) Newyddion, neu a ddaethant i'm llaw atof Argraqhu'r llyfr hwn hyd ymma.

CAROL I'R JESU.

1.
EIn Tâd sŷ'n y nefoedd, a Brenin brenhinoedd,
Achubwr cenhedloedd ar diroedd a dŵr,
Ni ddylem heb wegi fel seintiau a phrophwŷdi,
Addoli, a moli ein pen milŵr.
2.
I gofio yr amser a ganed ein meister;
Pen Justus cysiawnder, gwîr dyner aer Duw,
Yr hwn a ddae i'n llwŷddo, a'n gwiw-lan fugeilio,
Iw ddwŷlo, dda athro o ddoeth-rŷw.
3.
I Eglwŷs Duw nefol, dowch bawb yn bresennol,
Y plygen cysurol, dedwŷddol fŷ'r dŷdd,
Gael Mâb i Dduw celi, a mawredd fâb Mari;
Mâb Lefi gwîr ydi ein gwaredŷdd.
4.
I Fethlem Judea, ae'r dethol lu doetha,
I addoli'r gorucha, a'r llonna i'r llŷs;
Yn fawr, ac yn fychan, ac anrhegion yn gyfan,
Yn gywrain o'r dwŷrain hyderus.
5.
Aur coeth yn ddi bwŷsau, thus, ennaint or goreu,
Mŷrr, arogl da ei foddau, a gariau bôb gŵr,
Iw roddi yn aberthiad, gwŷch reiol ddechreuad;
Derchafiad, a chodiad Iachawdwr.
6.
Yr Iesu pan ddalied, i'r carchar fe'i cyrched,
Dros bawb o'i wir ddefed, diniwed lân oedd:
Crîst ŷw'n golygwr, a Chrîst ydŷw'n porthwr,
A Chrîst sŷ'n ofalwr i filoedd.
7.
Ystyriwch deuluoedd, yn siŵr yr amseroedd,
Y caued y nefoedd, drwŷ'r Siroedd fe ae'r sôn:
Tair blynedd a chwe-mîs, bu newŷn anafus;
Helbulus anghenus anghennion.
8.
Yn ail rwan fe a'r dyddiau, oni Encresiff y croesau,
Erioed ar arianau y fâth feiau ni fu:
Rhoes fagad mewn traha, a phinder am fara;
A llawer a fetha wrth fythu.
9.
Ein beiau ein hunen, sŷ'n magu'r genfigen,
A chimmŷn yr angen, a chynnen o'i chô:
Nid ydŷw'r ariannau hŷd drefŷdd, a Sioppau;
Ond feswl y pwŷsau yn passio.
10.
Os pwŷntir cloriannau yn union, gwae niniau,
I bwŷso ein camweddau, an beiau cŷn bêdd:
Ni chyredd neb dalu, y dŷdd y dêl barnu;
Mo'r degwn am bechu yn eu buchedd.
11.
Pe 'mroen i weddio ar Dduw, cŷn ei ddigio.
Cên uno ac efo, mae'n gyfion ŷw blant:
Ni gên yn helaethach, a llawer hawddgarach;
Ein bŷd yn ddiofalach drwŷ foliant.
12.
Gweddiau dâ ar gyhoedd, ŷw egoriad y nefoedd,
A ffyddlon weithredoedd, o'i amseroedd yn siŵr,
Mae Crîst yn lletteua dros blant y gorueha:
A Duw sŷdd yn benna der bynniwr.
13.
Drwŷ grio am faddeuant, cawn fyned iw feddiant,
Yn nheŷrnas gogoniant, mawr foliant a fo;
Lle caiff y ffyddlonied, y mawredd ymwared,
A'r pŷrth yn egored drwŷ guro.
14.
Pob enaid sŷ'n gyfion, caiff fynd i'r nêf dirion,
I blith yr angylion, da foddion dros fŷth,
Os ymadel a thrawster, a gwneuthur cyfiawnder,
I ennill drwŷ fwŷder y fendith.
15.
Mîl chwe-chant yn hylwŷdd, a phedwar ugein-mlwŷdd,
A phymtheg yn digwŷdd, deg arwŷdd ac un,
1696.
Oed Crîst a fu farw, drwŷ gerŷdd blin garw:
I'n galw yn deg elw iw ganlŷn.
16.
Partown, byddwn barod, bob awr yn y diwrnod,
Gall angau'n cyfarfod, ar bechod a bâr:
Yr Arglwŷdd sŷ'n addo cysur ond ceisio,
Trwŷ grio, ac wŷlo mewn galar.

Carol ar anfeidd-drol ddonniau Duw, drwŷ roddi Crîst i'n Gwaredu &c.

1.
WEl dyma'r wŷl bendant i ganu gogoniant,
I Dduw am faddeuant, mawr follant a fô,
I'r Tâd am drugaredd, i'r mâb am dangnefedd,
Ar ysprŷd glân peredd i'n puro.
2.
Pan oeddem friwedig, yn gleifion heb feddig,
Mewn cyflwr colledig, ffaeledig o ffŷdd:
Addawodd yr hael-dâd godi i ni geidwad,
O flaenffrwŷth llawn dyfiad llin Dafŷdd.
3.
Y gair a gowirodd, a Mair a feichiogodd,
Ar Iesu yr esgorodd, a'u rhoddodd yn rhŷdd,
Ac oni bai ei eni i'n tynu o'n trueni,
Ni base un llê i ni yn llawenŷdd.
4.
Y Llew o lwŷth Jewda, oen o'r bodlona,
A ddycpwŷd i'r lladdfa dros Adda draws waith,
Nid alle ond dŷn diflin, yn Dduw, ac yn Frenin,
Ein hachŷb or dibin diobaith.
5.
Aberthodd heb wrthod ei enioes dros bechod,
Am gymod y drindod, dan ammod i ni:
Ymwrthod yn fŷan a chwant y cnawd aflan,
A Sattan, draig anian drygioni.
6.
Sattan sŷdd etto yn hedeg i'n hudo,
Yn brysŷr heb rŷso, hir demtio thai dâ,
Ei fwriad, a'i farieth o flan Iesu o Nasareth:
Gael medi cnwd afieth cnawd Efa.
7.
Drwŷ ffŷdd i oresgŷn ei weniaeth, a'i wenwŷn,
A gyrrwn ni ein gelŷn, anffortŷn i ffo,
Lle i bytho credinieth i Grîst a'i frenhinieth,
Ni bŷdd ei helyddieth hawl iddo.
8.
Er colli yr ardd wiwlwŷs, bur eden baradwŷs,
I rodio, ac i orphwŷs, oedd gymwŷs ac iâth,
Crîst y meseias am erddi mwŷ urddas,
A brynne i ni deŷrnas gadarnach.
9.
Os mynwch chwi eich gwared o blith Babilonied,
Lle i gwelwch gribddeilied fel bleiddied yn blâ,
Dychwelwch, tueddwch at Frenin yr heddwch,
I noddfa llonyddwch, llin Adda.
10.
Brenhinoedd rhyfelgar sŷdd ymma ar y ddaiar,
A deiliaid ymladdgar, yn lladd-gar eu llid;
Y Brenin Sangcteidd-lân ei ddeiliaid a'i addolant
Ar gorlan yn burlân heb erlid.
11.
Nid oes iw frenhinieth na checri, na chyfreth,
Na diried fradwrieth, na gwenieth, na gŵg,
Mae yma fŷd garw, a threth tros y marw:
I erlid y delw diawlwg.
12.
Ni chaiff y dŷn truan mo'r llinieth am arian,
Heb farnwr a'i glorian, yn degan y dwŷll:
Awn drwŷ lawenŷdd i Gaerselem newŷdd,
Ein marchnad fŷdd dedwŷdd, a didwŷll.
13.
Cawn yno yn y ddinas, hyfrydwch ac urddas,
A Seintie cyweithas, o'n cwmpas a'n car,
A bywŷd diderfŷn, heb syched na newŷn:
Na dychrŷn, ofn gelŷn, na galar.
14.
Y cyfiawn Sancteiddiol, ar gwir edifeiriol,
A gaiff y lle nefol, yn freiniol wen-fro,
Ni chaiff un bradychwr, rhagrithiwr, na thwŷllwr:
Na thraws anudonwr fynd yno.
15.
Dioddefwch dan flinder, cewch fyned ar fyrder
I'r wlâd nad oes brinder, na thrymder, na threth:
Y llowŷdd tragowŷdd, a wna i chwi fodlonrwŷdd,
Heb aflwŷdd, nag awŷdd i gyfoeth.
16.
Y bŷd yma a dderfŷdd y foru neu drenŷdd,
Addolwn Dduw beunŷdd, mae'n hylwŷdd yn hawl:
I gael bôd yn aerod o'r bŷd sŷdd i ddyfod,
Yn nŷdd y farn hynod frenhinawl.

Carol iw ganu ar blygain ddŷdd Nadolig.

1.
RHowch osteg gorchestol, yn gwbwl o'r bobol,
Egora i chwi garol, dywisol er dŷsg,
Daionus i ddynion, sŷ'n cofio Duw cyfion,
Cynghorion pur roddion pêr addŷsg.
2.
Rŷm i yma o rŷm amod, gu ddifir o ddefod,
On gwirfodd gyfarfod, a dyfod cŷn dŷdd,
Gwŷbyddwch wrth aros, nid bychan iw'r achos,
Sŷ'n dangos ar liw-nos lawenŷdd.
3.
Os cofiwn ni'r cyfan, bob un ei fai ei hunan,
Y pechod nid bychan, dwŷs anian yn siŵr:
Pop Enaid llawened, ar dŷdd Anrhydedded,
A ganed gwŷch abled Achubwr.
4.
Hwn ydŷw'r gwir Arglwŷdd, mawr odieth mor ddedwŷdd
Offeiriad tragowŷdd, Mâb Dafŷdd, Mâb Duw:
Blagurun iw garu o Iesse iw'r Iesu,
Iw foli, mae'n haeddu hŷn heddŷw.
5.
Am ei ddywad mor raslon o blith yr Angylion,
I ddwŷlo'r Iddewon, a'u blinion blaid;
Drwŷ ddiodde cam ciedd, gan dori ei gnawd iredd,
Glanhâdd ein hanwiredd ni'n euraid.
6.
Trown nine yn union y golwg ar galon,
I gadw gorchmynion y tirion Dduw Tâd,
A gochel mwŷ bechu, dan ddeisŷf ar Iesu,
Râs i ni i Edifaru, a da fwriad.
7.
A Byddwn yn weddedd, ddilynwŷr Duw'n lan-wedd,
Fel plant anwŷl unwedd, da fawredd difarn:
A rhodiwn ar hediad, modd cwŷredd mewn cariad,
Fel i'n carodd Duw'n Ceidwad, dawn cadarn.
8.
Mewn pechod er syrthio, na ymdreinglwn ddim ynddo,
Ond ciliwn oddiwrtho, i'n llwŷddo rhag llaw,
Ni gawn ein pardynu, gan Grîst a fu i'n prynnu,
Pan ddelof a'i ddau-lu ar ei ddwŷlaw.
9.
Maddeuwn 'ddiawŷdd, mo'r berffeth trwŷ burffŷdd,
O'r Galon iw gilŷdd, yn llonŷdd er llês,
Rhoi i eraill wîr eiriau, fel i mynem i ninau,
Ar gorau o'r geneu yn gynnes.
10.
Os gwnawn hŷn heb ame, drwŷ ffŷdd, hoff a fydde,
Duw tâd a ddywede yn ole i ni:
Chwi fyddech ufuddol bawb i mi yn bobol,
A mine yn heddychol Dduw i chwi.
11.
Gweddiwn Dduw yn ddiau, yn lân on calonnau,
Am faddeu ein pechodau, a'n beiau yn y Bŷd,
Er mwŷn Iesu rasol, gael rhan o'r nef freiniol:
Dragwŷddol iawn fŷwiol yn fywŷd.
12.
Mae oed Crist ar osteg yn un-cant ar bymtheg,
Tri saith yn ychwaneg, a saith-deg y sŷdd:
1691.
Gwŷl Fair a cenhedlwŷd, a naw mîs a maethwŷd;
A'r Nadolig a ganwŷd ar gynnŷdd.

Carol Plygain, ar ddŷdd Natalic Iesu.

1.
O Gwrando gwir un-Duw, ein gweddi ni heddŷw,
Rai gwaeledd sŷ'n galw ar d' enw cŷn dŷdd,
Ar gyfen, Duw cyfion ordeiniest i'r dyn [...],
Newŷddion oedd lawnion Lawenŷdd.
2.
Pawb 'honom, pôb henw, gwael ydŷm o 'ludw;
Nid teilwng ein galw ar d'enw, Duw dôd
Dêg eirie trugaredd, er cimŷn ein camwedd,
Rhag dialedd, nag omedd dy gymmod.
3.
Deŷsyfu yn ddwŷs ufudd, i'r ydem waredŷdd,
Dy gariad di-gerŷdd, Duw beunŷdd yn bûr:
Di yn unig da ddonnie, trugarog a gore;
Sŷ'n madde pechode pechadur.
4.
Er bod mewn pechode igŷd a'n heneidie,
Yn gwŷro ar deg eirie, a'n beie heb wâd:
Danghosaist ddewisol i bawb oll or bobol,
Rinweddol ragorol, wîr gariad.
5.
O'th gariad têg arwŷdd a roddaist foreu-ddŷdd,
Wŷch obaith achubŷdd yn Arglwŷdd i'ni,
Mâb rhad Bendigedig ar deilwng Nadolig,
Puredig oedd unig iw eni.
6.
Pan aned ŵŷr Anna, daeth llu o'r nef noddfa,
Dan seinio Hosanna, Gloreia glîr oedd,
Angylion Duwiolaeth, heb orffwŷs yn berffaith,
Rhoi helaeth wŷbodaeth i'r Bŷd oedd,
7.
Pan aned y plentŷn, a fu o Faîr forwŷn,
Ei rwŷmo mewn rhwŷmŷn ei hun a wnae hi:
Duw Frenin oedd fwŷnedd, ddarostwng ei dristedd;
I waeledd oer anedd iw eni.
8.
Mair degwedd a fage y Brenin a'i bronne,
Ei thad ar ei glinie, diame Duw oedd
Wrth fronne'r ferch freiniol yn tario yn naturiol;
A'i fam yn hynodol hon ydoedd:
9.
Ei wrthie diwarthus, ar dir a môr dyrus,
Iw gredu yn gariadus yn foddus tra fu:
Ni feidir dŷn bydol gyfieuthu yn odiaethol,
Mor Dduwiol wiw rasol fu'r Iesu.
10.
O gudeb i'n cadw, bu erom ni farw,
Molianwn ei enw mâb Duw ar bob dŷdd:
Rhoe ei fywŷd di feius, o'i fôdd yn ddioddefus;
Mewn dirmŷg anafus yn-ufudd.
11.
Fe gladdwŷd goleu-ddŷdd, mewn bêdd oedd yn newŷd,
Cyfode'r dŷdd trydedd, Duw beunŷdd heb wâd:
Mae'r hynod ddŷdd hwnnw yn Saboth iw gadw;
I'r Bŷd er côf ydŷw o'i gyfodiad.
12.
Bu ddeugain o ddyddie, ar y ddaiar yn ddie,
Yn dangos nôd Ange, ei friwie, a'i frâd:
Yn ôl hŷn o boen ange, drachefen derchafe,
I'r nêf at gu rade'r goreu-dâd.
13.
Oddiyno yn ddâ iawnedd, i daw fe o'r diwedd,
I farnu gwirionedd yn buredd i'r Bŷd,
Ni a ddylem fyddylio, a mynd ar ymendio,
Gweddio, a gwilio, a 'mogelŷd.
14.
Pôb un ag sŷdd yno, y bore yn ympurio,
Or bêdd, neu'r lle a byddo yn bydio yn ddibaid:
O'i flaen y gwir Frenin, a'i farn a rŷdd arnŷn;
Iw ddilŷn bawb 'onŷn, bôb enaid.
15.
Rhown ymeth bob camwedd, a châs, a di-galledd,
Drwŷ gariad dro gwiredd, cŷn diwedd y daith:
Yn fanwl gofynnwn, lon burder am bardwn;
Ystyriwn, meddyliwn, modd alaeth.

Carol Gwilie, iw ganu dan bared.

1.
DEffrowch yn gariadlon, y teulu glân tirion,
Un-wedd a christnogion, dâ ffyddlon drwŷ ffŷdd,
Cŷd odlwn ein adlais ar bridd-lawr bereidd-lais
I'r Arglwŷdd mewn dyfais, fel Dafŷdd.
2.
Nid gwilie i ni gysgu, mewn buchedd o bechu,
Gwŷl i ni gŷd-ganu gogoniant i Dduw:
O ran coffadwriaeth gwŷl dêg Anedigaeth,
Rhown fawl i'r wŷl, odiaeth, hon ydŷw.
3.
Carchorion caethiwed, cŷn geni'r gogoned,
Heb obeth o ymwared, na nodded i ni,
Ein dyled a dalwŷd yn rhyddion fe'n roddwŷd;
Y noson pan anwŷd pen i ni.
4.
Pob gên, a phob tafod, cŷd gofiwn ar gyfnod,
Y noswaith uchel-glod, fawr hynod fŷth hon,
Offrymwn fel Seintie, drwŷ foesol wefusse,
Mewn hymnie gu odle yn gariad-lon.
5.
Mawr oedd y llawenŷdd, o'r nefoedd dda newŷdd,
A ddaeth ar foreu-ddŷdd, drwŷ'r gwledŷdd igŷd,
Geal hael iechudwrieth un noson o Nasar [...]th,
Trwŷ grêd i'r gwŷch obeth achubwŷd.
6.
Ym methlem pan aned, Llêf glauar a glywed.
O'r nefoedd i wared anfoned ar frŷs:
Paradwŷs gantorion, i'r Iesu a ganason,
Angylion nefolion yn felus.
7.
Rhŷw seren a gode, or nef a disgleirie,
I ddangos ei wrthie, a'i radde a roedd:
Ei llewŷrch hoff anian, a oleue yn oleu-lan;
Ar doethion wŷr gwiwlan a'i gwelodd.
8.
Angylion y nefoedd yn gyntaf a'i gweloedd,
Bugeilied pan glywodd a gredoedd i'r gân,
I'r dre ae'n mor barod, i weled rhyfeddod,
Lle i roedd yn ddibechod ddŷn bŷchan.
9
Pa ddiolch, pa foliant, pa barch a gogoniant,
A haedde'r goreu-sant pen ffynniant pur ffŷdd,
Gael genŷm ni yn ddiwŷd, tra gallom ymsymmŷd,
Bob munŷd ac enŷd ar gynnŷdd.
10.
Y teulu nod haeledd, da yma di-omedd,
Egorwch yn fwŷnedd eich anedd eich hun,
Trwŷ ffynniant hoff anial, a bô-chi'n bŷw'n ddiofal;
Mewn oes, a hîr gyttal yn gyttun.

Carol Gwilie iw ganu dan bared, ar ôl rhyfel.

1.
POb Cristion dyhunad, drwŷ'ch anedd a chaned,
Fawl i'r gogoned, dan nodded Duw ne,
Clôd, parch, ac anrhydedd, o felus orfoledd,
I'w Sanctedd ddi-waeledd dda wŷlie.
2.
Llawen oleuni i bawb oedd ei eni,
Yn ddŷn i'r Bŷd fellu, daioni fŷ'r dŷdd,
Drwŷ nefol rygliniaeth a cymerth gnawdoliaeth,
O forwŷn wir odiaeth, waredŷdd.
3.
Ystyriwn drueinied, cŷn geni'r gogoned,
Nad oedd nag ymwared, na nodded i ni,
Ond cyflwr amherffeth yn uffern goeg affeth,
Nes dyfod o eneth Aer heini.
4.
Dirgelwch rhyfeddol, trwŷ ganiad tragwŷddol,
Ddyfodiad Duw nefol, ufuddol a fu,
I brynu'n gariadus, hîl Efa wŷlofus,
Oedd wedi modd gwarthus ei gwerthu,
5.
Y nefol Gaerselem wlad gŷnt a gollasem,
Heb Dduw ym Methlem ni basem ni basem ni bŷth;
Mewn gobeth, na hyder o Frenin uchelder:
Na chyrredd cyfiawnder ei fendith.
6.
Pasawl ar ein glinie o haiddiant a heudde,
Pa glôd o'n geneue, bôb gradde o gred,
O ddyled sŷ heb dalu i Grîst am ein prynnu,
Da i dŷlem gŷd ganu i'r gogoned.
7.
Mae'n addo os dychwelwn, yn-fore os edifarwn,
Roi heddwch, a phardwn, os haeddwn ni hêdd,
Ein dwŷn ni or bŷd barus, drŵg anial drygionus,
Iw barchus wir felus orfoledd.
8.
At Frenin uchel-ne, danfonwn weddie,
Sŷ dalwr dialedde, a donie i bob dŷn,
I ymbil ar Drindod, lle rhodd ei wialenod,
Am dynu ei drwm ddyrnod oddiarnŷn.
9.
Rum ninne bob diwrnod mewn buchedd o bechod,
Yn heuddu ei wialenod mewn gormod o rŷm,
Ond bod y tad nefol yn oedi'n rhyfeddol,
Ei ddialedd anferthol oddiwrthŷm.
10.
Da i dylem Frŷtanied, gŷd-ganu i'r gogoned,
Am ddanfon ymwared cŷn brafied i'n bro,
Diflanu ein gelynnion, Addolwŷr go ddylion,
A'u gyru yn ddi galon i gilio.
11.
Dymuno ar eich mowredd, y teulu nôd haeledd,
Egorŷd eich anedd, sain loewedd sŷ lwŷs,
Duw Frenin uchelne 'fo'n egor i chwithe,
Y dryse ar bur rade i Baradwŷs.
12.
Clywch adrodd ar ganiad oed mâb yr uchel-dad,
A ddaeth trwŷ fawr gariad yn geidwad i grêd,
M. nodol iw'r cyfri un X. a C. gwedi,
A chwechant pen i ni er pan aned.

Carol iw ganu yn hwŷr dan bared (ar hîn rewlŷd) wilieu'r nadolig.

1.
DEffrowch or un wllŷs i foli yn ofalus,
Fab Duw gogoneddus trwŷ'ch llŷs ymhôb lle,
Rhowch fawl gostyngedig i Dduw Tad haeddedig,
A'i wilie Nadolig, fe a'i dyle.
2.
Pob Tafod a gene, ar ddeulin a ddyle,
Gŷd offrwm gweddie, bôb gradde o grêd,
Drwŷ barch ac anrhydedd, iw felus orfoledd,
Am iddo dad gwiredd ein gwared.
3.
Da dyleu bob teulu, trwŷ Loeger a Chymru,
Glodfori y gwir Iesu, gwiw rasol ei wêdd,
Am dynnŷ ei wialenod oddiarnom, a'i ddyrnod:
A llawned o bechod iw ein buchedd.
4.
Y Werddon a gafodd yr haeddiad a haeddodd,
I balchder a gwŷmpodd, fe bylodd ei brî,
A rhybŷdd os Cymre, Lloeger nis llygre,
Mae'r Arglwŷdd a ddyle hi addoli.
5.
Na roddwn mo'n hyder yn nerth ein cyfiawnder,
Duw Frenin uchelder, uniawnder i ni,
Dychwelwn cŷn dial, Brŷtanied bro diofal,
Rhag digwŷdd gwaith anial gwaeth i ni.
6.
Ni ddichon Duw Rhufen, na'i ffeiriad, na'i offeren,
Nar Pôp sŷdd ŵr amgen, (hŷd ymgŷdd iw Lŷs,
Ond Crîst y messeia iw'r unig Vria)
Ddim help i hil [...]fa wŷlofŷs.
7.
Duw 'mddiffŷn ein llywŷdd, dan goron ei geurudd,
Bŷth cadw di o newŷdd, hon grefŷdd yn gru,
Gâd Gymru o hîl Britus, i raenio yn yr ynŷs,
Nad allo war llegus mo'u llygru.
8.
Cŷd gadwn wŷl berffeth i'w dêg anedigeth,
Drwŷ ffŷdd a chredinieth, bur heleth barhâd:
Mwŷ cordial na'r cardie, neu dessach a dissie,
Iw Llyfre gweddie, gwiw ddeiad.
9.
Nid gwŷl i ni gysgu, mewn buchedd o bechu,
Ond gwŷlie bŷth canu, gogoniant i'r Tad:
Anfonodd lawenŷdd, or nefoedd yn ufudd,
Rhown fawl iw dda ddedwŷdd ddyfodiad.
10.
Er maint sŷ o ryfeloedd, ofalon i filoedd,
Mae Brenin y nefoedd, pen lluoedd pob llŷs,
Yr unig hael Iesu, fe 'ddichon heddychu,
Trwŷ nerth ei fawr allu, a'i wir 'wllŷs.
11.
Mae'n 'wllŷs a'n bwriad, goel diwael gael dwau,
I'ch anedd trwŷ'ch cenad, a chaniad i chwi,
Mae hi ymma'n lle anwŷdog, drŵg heno drygcinog:
Ar hîn sŷdd yn rhowiog yn rhewi.
12.
Oed Crîst yr wŷl yma, yn gyfan a gofia,
Yr unig Jehofa, Duw hefŷd yn ddŷn:
Mil chwechant o flwŷdde, naw union o ddege,
A blwŷddŷn dêg ole da i ganlŷa.

Carol iw ganu Wiliau'r nadolig.

1.
CLywch, Deuwch rai Duwiol, Frŷtaniaid Cyttunol,
Trwŷ gariad trâ gwrol, hyfrydol un-frŷd:
Deffrowch i offrymmu yn dêg-iawnedd, dan gonu
A dosparthu i Dduw y leni fawl ennŷd.
2.
Pa dafod a dawe, pa synwŷr na seinie,
Pa amcan na phyngcie, mewn Hymnie da i hwn,
Oen unig dâ ei rinwedd, Mâb duwiol di—ddiwedd,
Iâchawdwr Gorfoledd i filiwn.
3.
Pan ddaeth i wlâd Juda, yr Angel gwîriawna,
I fynegu yn fwŷna i Faria fawr rôl,
Awch hylaw ni choeliodd; dros enŷd hi a synnodd,
Heb gredu'r ymadrodd anfeidd-drol.
Luc. 1.
4.
Nes iddo wiw swŷddwr ei yspysu yn negeswr,
O ddyfodiad Dduw Awdwr, grŷ ffyddiwr heb ffael,
A genid i'r gain-wiw ragorfraint di-gyfrŷw
Aer ydŷw, dewis-rŷw dâ i'r Israel.
5.
Ac yno hi a grede yn gywrain i'r geire,
Yn feichiog hi a brifie; esgore ar Fâb gwŷch,
Mewn preseb gwael isel, a chredwn y chwedel;
Wrth fuddel, oer adel iw edrŷch.
6.
Yr Angel mawr rinwedd, hyspyse 'n happusedd,
I'r gwâredd wŷr hafedd, eglurwedd o glôd:
Fugeilied lu gwiwlan, llwŷbreiddie nhwŷ'n fŷan,
At Faban dâ bychan; di bechod.
7.
Fe'mdeithiodd y doethion, or dwŷrain yn dirion,
A'u rhwŷdd-gu anrhegion, oll union yn llu,
Trwŷ'r Seren prysurent, wŷr llon, a chanllynent;
Addolent, ni [...]usent i'r Iesu.
8.
Ond Herod ddihirwr, fawr drŵch oedd fradychwr,
Mewn malais i'n milwr, pen llwŷddwr pôb llê;
Ni orffwŷse'r gwrthnysig, nes difa o'i naws dieflig,
Blant Bethlem, hŷll addug fe a'u lladde.
9.
Fê fethodd bôb bwriad i'r Iesu a'i deŷrnasiad,:
Nes gwneuthŷr cyflawniad egoriad pôb gair
Ei wrthie a'i hôll nerthoedd, heb ochel ar gyhoedd,
Drwŷ diroedd a moroedd er mawr air.
10.
Yn oesdad mae'n eistedd wrth law ei Dâd haeledd,
Oddiyno yn ddâ-iawnedd o'r diwedd i daw,
I'n barnu gwŷbyddwn, o draserch ymdrwsiwn,
Darparwn, ymchwelwn wŷch hylaw.
11.
Duw dyro yn hyderus, dy rinwedd trwŷ'r ynus,
I gymru hîl Brŷtus, Dâd hwŷlus dôd hedd,
Dy enw cŷd unwn, mwŷ y leni moliannwn,
Cŷd-ganwn a lleisiwn yn llwŷsedd.

Carol ar wneuthuriad y Bŷd mewn chwech o ddyddiau; Ac ar golledigaeth dŷn drwŷ esgeuluso gorchymmŷn Duw; A'i warediad drachefen drwŷ Iesu Grîst.

1.
YBŷd hwn pan luniodd, y nefoedd a greuodd,
Ar ddaiar a weithiodd, yr un Duw a thrî;
Y dŷdd cyntaf dechreuodd, ei fawr waith o'i wirfodd,
Y gwîr Dduw 'arlwŷodd oleuni.
2.
Ffŷrfafen tra gyhoedd dodai Duw'r lluoedd,
Rhwng nefoedd a dyfroedd, di ofer a fŷdd,
A honn yn wahaniad, sŷdd rhyngddŷnt yn wastad:
A hynnŷ a wnae'r hael-dad yr ail dŷdd.
3.
Ar trydŷdd dŷdd weithian gorchmynnodd yn fŷah,
I'r dyfroedd yn'r unfan draw fyned ar dro:
Ar dyfroedd a gasglodd, yn foroedd fe'i galwodd,
Ar Tîr ymma parodd ympirio.
4.
Y pedwaredd dŷdd llawen, mêdd llyfre'r hên Foesen,
Gwnaeth yn y ffurfafen fferf afel o fôdd,
I oleuo yn wastad, Haul, Sêr, a Lleuad,
Rhoi i'r ddaiar lewyrchiad a archodd.
5.
Ac yno'r dŷdd pumed, dywedeu Duw'r nodded,
I'r ddaiar bŷdd ymlusgied, a heigied hŷn oedd,
A heidiad o heden, uwch ben y ddaiaren;
Yn wŷneb ffurfafen y nefoedd.
6.
Dywede Duw yn hawddgar, dyged y ddaiar,
Bôb peth bŷw a'i gymar, deg-amod yn ffri,
Bwŷstfilod, 'nifeilied, gwnai hynnŷ'r dŷdd chwched,
A bydded ymlusgied amal wisgi.
7.
Gwnawn ni ddŷn weithian ar ein llun ein hunan,
Ac Arglwŷddiaethan hwŷthe bôb tro
Ar bŷsg, anifeiliaid, ar nefoedd ehediaid,
Ar cwbwl o ymlusgiaid a 'mlusgo.
8.
Dwedodd Duw cerddwch, amalhewch a ffrwŷthwch,
Y ddaiar ôll llenwch, bôb llan a llŷs,
Wele ffrwŷthoedd preni, a llysie glân erddi:
A rois i fod i chwi yn fwŷd iâchus.
9.
Ac fellŷ a bu'n union, yscrythŷr sŷ dystion,
Fel'r archeu Duw cyfion, ond cofus ŷw'r hŷnt,
Ac yno pan welai, hŷn oll ag a wnaethai,
Yn siccir a dywedeu dâ ydŷnt.
10.
Wedi darfod iddo, yr hôll fŷd ddeunyddio,
Ar cwbwl oll sŷ ynddo, a'i llunio fel hŷn:
Ei waith pan orphenodd, y dŷdd seithfed bendigodd,
Can's yntho gorffwŷsoedd, gorph Iesun.
11.
A Duw e gymerai y dŷn 'phwn a wnaethai,
Yng ardd Edon gosodai, a difai fu'r daith,
Ac erchi a wnaeth iddo pan roddes ef ynno,
Ei chadw, a'i llafurio a llafurwaith.
12.
Duw wrth y dŷn hefŷd, gorchmynoedd gan ddywedŷd,
O ffrwŷth pob pien befŷd, diwŷd a dâ;
Cei fwŷta yn helaeth, i fod i ti yn llŷniaeth,
Ond pren y gwŷbodaeth na ymoda.
13.
Ar arglwŷdd dâ anian, a ddywededd weithian,
Wele'r dŷn ei hunan, a hynnŷ nid dâ,
Gwnaf iddo ymgeledd, ŷw fywŷd a'i fuchedd,
O gymwŷs fun luniedd o'r lana.
14.
Ac at y wraig fwŷnlan dae neidr rhŷ aflan,
Hon ydoedd ddiawl Sattan, ansutiol sâl,
Dwedŷd a wnai wrthi, pob drŵg a daioni:
Cei wŷbod ond profi'r pêr afal.
15.
Pan wele y wraig ledffol, mai têg oedd a siriol,
Ac yn fwŷd rhagorol, dymŷnol di dda,
Hi a'i cymerth o'i gwirfoedd, ohono bwŷtaodd,
A rhan ŷw gŵr rhoddodd o'r rhwŷdda.
16.
Ac ynteu 'fwŷtaodd, a hŷn fei gwŷr gormodd,
A Duw wrtho a lidiodd, a ddigiodd yn ddwŷs,
Am dori y gyfraith, fe'u gyrodd hwŷnt ymaith,
O'r berllan bêr odiaith Baradwŷs.
17.
Am fwŷdta o'r melus-bren fe a'u trôdd o ardd Eden,
I balu'r ddaiaren, Taith filen tan fêdd,
Arol marw o loes Ange, aeth eu hepil a nhwŷthe,
Dair mil o flynydde i flin orwedd.
Yn uffern.
18.
Nes i Dduw a'i fawredd, ddangos trugaredd,
A danfon yn rhyfedd ei rinwedd a'i râs,
Ei Fab unig i brynnŷ pob dŷn sŷdd yn credu,
Hwn yma ŷw'r Iesu'r mesias.
19.
Dyma'r wŷl a ganed, mae'n dŷst y bugeilied,
A fu yn ei weled, yn ei welu heb nêb,
Ond Joseph o'i ddeutu, a Mair oedd iw ymgleddu,
Ac ynteu'r pur Iesu mewn preseb.
20.
Os y Tâd Adda, 'r hwn oedd y dŷn cynta,
Mewn blinder a thraha, or rhwŷdda a'n rhodd,
Yr ail adda o'r uchelne, er maint oedd ein beie,
O law y gwall ange a'n gollyngodd
21.
Nid ag aur, nid ag arian, a tynodd ni allan,
Ond trwŷ roddi yn fŷan ei fywŷd ar lawr,
Ar bren yr hîr groes, lle cafodd ef fawr-loes,
A cholli ei wîr enioes yr un-awr.
22.
Fe gawse cŷn hynnŷ, ei amherchi, a'i garcharu,
Ei fflangellu, a'i gablu, ar cwbwl er ein mwŷn,
Ac ynte heb amgen, yn diodde yn llawen,
Heb unwaith nag ochen nag achwŷn.
23.
Er ei eni heb pechod, ni ddarfu iddo wrthod,
Er ein mwŷn na chernod, na ffonod, na ffed:
Nyni a bechase, Crîst Iesu fŷ'n diodde,
Pa un-dŷn na wŷle yn ei weled.
24.
Ei ben gan ddrain geirwon, a ffrydiodd yn greulon,
Ei gorph yn archollion, a cholli yn faith
O'i frest ei waed gwirion, yn ei ddwŷlo a'i draed tirion,
Rhoeson fawr hoelion dur helaith.
25.
Pwŷ mor garedig, a nine yn golledig,
A'n tynne yn arbenig, o boenau trwŷ chwŷs,
A'n gelŷn rhuad-ddu yn rhodio o'n deutu,
Gan geisio lle i'n llyngcu, 'r llew gwangcŷs.
26.
I'r Tâd am ein creuu, i'r Mâb am ein prynnu,
I'r glân ysprŷd gyda hynnŷ, rhown nine o bôb pen,
Ogoniant, anrhydedd, bob awr hŷd y diwedd;
A dywedwn heb ommedd hawb Amen.

Carol yn annog moliannu Duw drwŷ wîr grefŷdd, a Gochel Addoli delwau.

1.
BErnwch, darllenwch, a Duw a foliennwch,
A'r Mâb a wnaeth heddwch, drwŷ degwch ei dâd,
A'r ysprŷd Glân awen, tri, ac un yden,
Heb ddiben ni a ddylen eu Addoliad.
2.
Y Trî yn un rhinwedd, a wnaeth o brîdd iredd,
Adda'n ddŷn Sanctedd, o'u hagwedd eu hun,
Am afal ymwerthodd, i'r Sarph a'i hanferthodd,
A honno a'i dinerthodd yn wrthŷn.
3.
I atteb er achwŷn, a'r gelŷn yn cynllwŷn,
Rhaid oedd ei ymddwŷn, o Forwŷn yn Fâb:
I arwain hil Adda, yn blant i Jehova,
Yn ufudd yn nalfa ei anwŷl-fab.
4.
Pan anwŷd fe'n Arglwŷdd galluog, a llywŷdd,
Llawenŷdd tragywŷdd, yn fawr-lwŷdd a fu,
Cyfiawnder, Trugaredd, a hêdd, a gwirionedd,
A ddaeth yn gysonedd gusanu.
5.
Angylion a gânodd, Bugeilied a'i gwelodd,
Ar doethion a deithiodd, Goleuodd eu Gwlâd,
Gan Seren i'w Sirio; rhoen offrwm yn neffro,
Aur, Thuss, a Mŷrr iddo, mawr roddiad.
6.
Mae'r deîllion, a'r mudion, byddarion, a chloffion,
Yn dystion o'i fawrion arwŷddion o râs:
Gwerthfawr gyfnewid, oedd gymmorth eu gwendid,
I fynd yn gadernid i'w Deŷrnas.
7.
Troi'r dwfr yn wîn peredd, a'r dieflig yn Sanctedd,
A ddengus wirionedd o'i rinwedd a'i Râd:
Mâb Duw o'r uchel-ne, nid paban y delwe,
Sŷ'n cadw 'goriade gwarediad.
8.
Rhaid i ni gredu, drwŷ ffŷdd, a chyffesu,
Roi enioes Duw Iesu, i'n prynnŷ ar y prenn,
Crîst a'n gwnâ'n holl-iach, a gawn ni'n agosach,
Na myned a'r Afiach i Rufen.
9.
Ni cheisie dall angall, bardynu dall arall,
Pa byddeu mo'r ddoeth-gall, a deall ein Duw;
Nid oes a rŷdd gymmod, na rhydd-did gollyngdod,
Am bechod y dyndod ond un-Duw.
10.
Er dyfod gollyngdod o'r gwreiddiol hên bechod,
Rhaid i ni gydnabod a'r ammod a rôdd,
Ofni Duw cyfion, a charu'n cymydogion,
Yn ffyddlon iawn burion a barodd.
11.
Pa byddeu pawb addas, mewn brawdol gymdeithas,
Fe fyddeu'r holl Deŷrnas mewn urddas yn iâch,
Yn enw Duw Daniel, a'r grefŷdd grŷ afel,
Ni dorrwn ben Babel y Bwbach.
12.
Pais ein pen ceidwad, oedd newŷdd, ddi-wniad,
Yn deip ddi-wahanniad, o gariad dan gô:
A ninne'n llawn pechod, a bâr ymhôb ammod;
Yn barod o drallod i'w dryllio.
13.
Aeth cariad yn gnycciog, a'r Eglwŷs yn ddrylliog,
A chrefŷdd yn garpiog, sŷdd dyllog a dall,
Chwiliwn y dyfndwr, 'i weled ein cyflwr,
O flaen ein golygwr goleu-gall.
14.
Aeth dŷn yn garcharwr, heb obaith Iachawdwr,
Gar-bron ei Greawdwr, bŷw Awdwr y Bŷd,
Duw'r Mâb a feichniodd, a'r ddyled a dalodd,
Y dŷdd a derbynniodd ei benŷd.
15.
Madws ŷw mudo, i ffordd o dîr Pharo,
Dan— dreiddio'r môr drwŷddo, i lwŷddo ar y lan:
I Ganan ymdeithiwch, drwŷ ddrysni'r anialwch,
Eich enioes ni chollwch, ewch allan.
16.
Yngwlâd yr addewid, heb ofal, heb adfŷd,
Mae glendid heb ofud, a rhydd-did y rhêdd,
Cawn yno drigfanne, ni chollir drwŷ'r cledde,
Ar Brenin da gore ei drugaredd.
17.
I dreio ei drugaredd, y leni a'r llynedd:
Ni a welfom safn dialedd, a'i ddannedd yn ddur,
Cŷn gorfod hîr duchan, ein Harglwŷdd ei hunan,
A roes i ni gusan o gysur.
18.
Os bŷom afradlon, awn at ein Tâd tirion,
Cawn wisgoedd newŷddion, yn nwŷfron y Nêf:
Mae'r porth yn egored, drwŷ Grist i'n hymwared,
I fyned i ymweled am wilief.
19.
Dau wŷth-gant oedd Iesu, wŷth-deg heb waethygu,
A naw yn terfynu, cawn hynnŷ cŷn hir:
Pan wnaed y gerdd gywrain, yn garol i'r plygain,
I'w ddarllain, a'i arwain yn eirwir.
20.
Duw cadw'r Athrawon, Milwraidd mel Aaron,
I drefnu eu gorchwŷlion yn brydlon i'n bro,
A llyfr yr Efengŷl, rhag cael o'r anghenfil,
A'i goron ar ei wegil ei rwŷgo.

Carol ar Lawenychiad y Bŷd, drwŷ anedigaeth Crîst.

1.
POb enaid cristnogol, dan ofon Duw nefol,
Rhown draethîad mesurol, dâ duwiol di-ddig:
I'n hunig Iachawdwr, hôff urddas hyfforddwr;
Ordeiniwr, creawdwr caredig.
2.
Gan gofio defodau, nôd didwŷll ein teidiau,
Gwnawn odiaeth ganiadau, a'n llefau'n un llu:
Hôll grêd a'u teŷrnasoedd, pawb weithian, pôb ieuthoedd
Trwŷ wleddoedd, gwiw, lysoedd gwŷl Iesu.
3.
'Roedd gŷnt Apostolion, dâ wiwlwŷdd duwiolion,
Prophwŷdi, ac athrawon, drâ ffyddlon, a phur,
Yn datgan mawl hyfrŷd, mewn cofion têg hefŷd,
Bod enŷd nes gwneuthŷd
Printio,
ysgrythŷr.
4.
Rŷm nine gerddorion, a'n rhoddiad yn rhwŷddion,
I fwrw ein harferion, mewn moddion a mawl,
I ddatgan yn wastad lêf euriol Iafuriad,
Ar draethiad gwiw ganiad gogonawl.
5.
Duw nefol sŷ'n gyru llwŷddianus wledd i ni,
Mewn dawn, a daioni, i'n llenwi ymhob llus:
Duw 'yrodd bob amser, i'n tynnu ni o gaethder;
Am arfer gau feder gofudus.
6.
Pob didwŷll gredadŷn a ddyle ar ei ddeulin,
Roi mawl i'r gwir Frenin, di derfŷn mewn dâ,
Ein heinioes a dynwŷd or blinder lle i'n planwŷd;
Trwŷ'r abwŷd a roddwŷd er Adda.
7.
Bu hŷn o drugaredd er gwiwlan ymgeledd,
I'n gwared o ddialedd, blin oeredd blâ i ni,
Fe'n gwnaed yn gristnogion, or faner anffyddlon,
Ond purion a troeson trwŷ'r Iesu,
8.
Yn amser y cynfŷd, dŵg Efa ddig ofud,
A barodd dro enbŷd, mewn blinfŷd rŷw bla:
Traddodi i gaiphas, ben llywŷdd pob teŷrnas,
Cyweithas drwŷ suddas dros Adda.
9.
Pan gofiodd Duw hefŷd, ei ddiwael addewid,
I'n tynnŷ on penŷd, blin enŷd yn ol:
Rhoi ei ysprŷd glân perffaith, trwŷ Fair i gnawdoliaeth:
Mewn helaeth wŷbodaeth ddŷn bydol.
10.
A gwelwn drugaredd, ei nerth, a'i anrhydedd,
Ddaroftwng ei fawredd mewn agwedd i ni:
Goddefodd drwm ddialedd, drwch arw dro chwerwedd,
Tros gamwedd ein buchedd am bechu.
11.
Trwŷ ddŷn fe'n bradychwŷd, mewn bariaeth i'n bwrwŷd
I Satan fe'n gwerthwŷd, fe'n briwŷd ger bron,
Trwŷ Dduw mewn gras hefŷd, gwŷch obaeth achubwŷd
I fywŷd fe'n rhoddwŷd yn rhyddion.
12.
Fe'n gwerthwŷd yn gynta (gwan oeddem) gan Adda,
Bu anferth y boenfa, ar ddalfa oer ddu,
Ac eilwaith cysurwŷd, ein heinioes a brynwŷd,
An gofud a drwswŷd drwŷ Iesu.
13.
Ar hŷn o wir blygen yn ddilus ni a ddylen,
Gonu yn ddi gynnen, yn llawen ein llais,
Am ddanfon rhag Satan, orchafiaeth tra chyfan:
Rhown allan bur rwŷdd-lan bereidd-lais.
14.
Wrth chwilio'r yscrythŷr darllennwch yn eglur,
Ragorol rai geirwir, a phybur eu ffŷdd,
Bugeiliaid pan goeliant, angylion mewn moliant,
A ganant ogoniant ar gynnŷdd.
15.
Am hynnŷ blygeinddŷdd, natalic nôd hylwŷdd,
Cŷd ganwn lawenŷdd, am newŷdd da i ni:
Cŷd luniwn orfoledd, o burion gerdd beredd;
Mewn agwedd, a rhinwedd o rheini.
16.
Yr hwn a fŷ fodlon i ddiodde mor ffyddlon,
Mewn dialedd bŷdolion, tra geirwon trwŷ gur:
Addoliad a ddylen, iw foli yn dra llawen;
Hŷd ddiben, ac awen yn gywir.
17.
Rhu fychan iw'r taliad rhagorol, am gariad
Gwŷch haeledd uchel-dad, mewn haeddiad yn hir:
Dâ a dylem trwŷ fiwsig, i'r oen bendigedig;
Roi mawl fel gwaredig wîr frodŷr.
18.
Os gofŷn un prydŷdd, pwŷ a wnaeth y gerdd ben-rhŷdd
Cŷn waned ei wenŷdd, o grefŷdd iawn grêd:
Mae'r 'wllŷs ddigynnen yngwaith Humphrey Owen; 1
Yn llawen mewn awen ddiniwed.

Carol ar fawr gariad a gallu Grist, iw ganu ar foreu ddŷdd Natalic.

1.
POb duwiol greadur, rhoed osteg i ystŷr,
Yngeirio'r yscrythŷr, mae'n eglur i ni:
Er achub yr hollfŷdd, pôb enaid o'i benŷd,
Pa ofud a roesid ar Jesu.
2.
Danfonwŷd gwaredŷdd, or nefoedd yn ufudd,
Fawr roddiad foreu-ddŷdd, beunŷdd i bu:
Ar prŷd a bu lawen mae'n gofus ar gyfen;
Y plygen ni a ddylen ei addoli.
3.
Rhown allan ar ganiad, y dichell fradychiad,
Trwŷ ddyfal oddefiad, o fwriad a fu;
Tros ddynnion trangcedig ar groes gystŷddedig;
Blinedig, mor ysig i'r Iesu.
4.
Bu Crist, a'i ddysgyblion, fel milwŷr tra ffyddlon,
Adroddwn eu moddion, rai bodlon i'r Bŷd:
Drygionus dro gwenwŷn a buont iw gyd-ddwŷn;
Mewn cynllwŷn rhai anfwŷn rhu ynfŷd.
5.
Ar ol ganedigaeth ein Brenin hael perffaith,
A'i dost erlidigaeth eglur-faith, a'i glôd:
A'i ffoi rhag bradychwŷr efruddion lofrudd-wŷr,
Erlidwŷr dihirwŷr, dan Herod.
6.
A chwedi ei ddychwelŷd, a marw'r gŵr gwaedlŷd,
Oedd gŷnt yn ei erlŷd mewn gofud yn gaeth,
I ddawn fe gynyddodd, doctoriaid a bosiodd,
A miloedd a burodd o'u bariaeth.
7.
Ar ol ei holl wrthiau, a'i fawr ryfeddodau,
A'i fywŷd heb feiau, a'i raddau fu rwŷdd:
Ym mŷsg yr Jddewon cwerylodd rhai creulon;
Mewn moddion anhirion o'i herwŷdd.
8.
Dyfeisio'n eu gilŷdd am gael ei ddihenŷdd,
O fŷsg y tyrfeuŷdd, o fawr awŷdd ar frŷs,
A'r bobol yn dwad i lus arch offeiriad,
Mewn bwriad o'i ddaliad yn ddilŷs.
9.
Yr wŷl wrth swperu caed amnaid gan Iesu,
Fôd brŷd iw fradychu, cwŷn difri cŷn dŷdd:
Er gwŷbod eu bwriad, trwŷ Judas i ddwad,
Bu fodlon o'i gariad iw gerŷdd.
10.
A Judas pan gododd, ŵr gwarthus fe a'i gwerthodd,
A'i frâd a fwriadodd, bradychodd mewn dig,
A'n Harglwŷdd oedd hysbus fod miloedd mewn malus,
A'i brad cenfigenus i'w gynnig.
11.
Gan ddyweŷd a mynegu, mae'r noswaith yn nesu,
A fŷdd i'm bradychu, er ffynnu rhai ffol,
Fe ae allan yn union, efe a'i ddysgyblion,
Dan ganu Hymn dirion frawd eiriol.
12.
Ym mynŷdd yr oleuwŷdd, yn dristwch ei gystŷdd,
Ddâ ddawnus ddiddanŷdd, hoff ufudd iw ffug
Gan gilio o'r neulltu er gwiw roddi gweddi,
Da nefol ddaioni Dduw unig.
13.
Daeth Suddas fradychus, a'i gusan twŷllodrus,
Ac ynteu'n fodlonus iw falus o'i fôdd,
A thyrfa fawr greulon, ag arfe a fŷnn hirion,
Bydolion hudolion a'i daliodd.
14.
Cam farn a roed arno, gan dynnu oddiam dano,
A fflangell ei chwipio, ai friwo yn ddi fri,
A choron a wnaethant, o ddrain ei plethasant,
Trwŷ amharch a roesant ar Iesu.
15.
Trwŷ ei ddwŷlo rhoed hoelion, rhŷ arw rai hirion,
Mewn dialedd bydolion, yn greulon ar groes:
Goddefodd trwŷ gamwedd ddifawr boen chwerwedd,
Tros ffiedd anhunedd ein henioes.
16.
Bu tywŷllwch dychrynllŷdd, a daiar grŷn hefŷd,
Tros dair awr trist oerfŷd, rhŷ drwmlŷd rŷw dro,
A rhwŷgodd llen berffaith y demel fawr helaith:
Gwŷbodaith ragoriaith yn gwirio.
17.
Fe holltodd y creigiau, egorodd y beddau,
Cyfododd y Seintiau, pur weddau or pridd,
I'r ddinas Sancteiddiol, mewn moddion rhyfeddol,
Lle gwelwŷd dawn nefol Duw'n ufudd.
18.
Gan weled ei allu, ei nerth, a'i fawrhydi,
O'i raddau yn ymroddi, i brynnŷ i ni'n bri,
Am wrol ymwared, cŷd gofiwn y weithred,
drwŷ ystyried ein dyled a'i dalu.
19.
Eu nerthoedd a'u cyffro gallasau ddinistrio,
Y Bŷd ac oedd ynddo, a brwŷdro heb rôl;
Er hŷn i gyflawni holl eirie'r prophwŷdi,
Fe a'n rhoes o ddaioni'n feddianol.
20.
Mil chwe-chant ŷw oedran ein Harglwŷdd perffeith-lan
Dau ddeugain ddiogan, yn gyfan a gawn,
Dau faith a gyfrifant, drwŷ gynnes ogoniant:
Rhown foliant am ffyniant hoff uniawn.

Dyriau o gyngor i ddilŷn yr Eglwŷs.

1.
POb Dynol naturieth, trwŷ Frydain fawr odieth,
Gwrandawed yn berffeth, hôff heleth drwŷ ffŷdd,
Cŷd unwch yn ddawnus, brydŷddion gwlad Britus:
Gwnawn ddilŷs gân nwŷfus yn ufudd.
2.
Confidrwch mewn sadrwŷdd, Darllennwn ar gynnŷdd,
A chraffwn ni briffŷdd y dedwŷdd fel dur,
Cawn weled yn wiwlwŷs, pa demel sŷdd gymwŷs
A'i bythod ai'r Eglwŷs yn Eglur.
[...]
[...]
3.
Nid pôb lle'n gyffredin, a [...]mynodd Duw iw werin,
Iw foli, a'i ddilin, yn ddibrin heb rôch,
Duw'n rhwŷdd oedd yn rhoddi lle iw dduwiol Addoli,
A chwedi'r Eglwŷsi chwi glowsoch.
4.
Tra fu Adda'n gorffwŷs, ym-hûr râd ym haradwŷs,
'Roedd gantho le cymwŷs hoffeiddlwŷs drwŷ ffŷdd,
Iw breffentio'n Sanctedd, gar-bron Duw a'i fawredd,
Mynegir mewn Agwedd ei ddigwŷdd.
5.
I roedd gan ei feibion le i offrymu yn ffriwlon,
Ar Patriarchaid ffyddlon rai mwŷnion'r un môdd.
Arferent Allorau, mynyddoedd yn ddiau
Rhag drygau mewn dyddiau a doddodd.
6.
Tra fu yr Israelied, wŷr mwŷnion yn myned,
Ar daith rhwng diaithred, ffordd galed mewn gŵŷdd,
Gorchmynodd eîn meddig, trwŷ râd arferedig:
Wneud Arch symudedig sain dedwŷdd.
7.
Drachefen, o chofiwch fe ddwedodd yn ddi-drwch,
Drwŷ gysur chwi geissiwch, llef harddwch iw hon,
Y lle a ddewisa pan ddowch i wlad Cana,
I roddi im fawl lwŷs-dda yn felyssion.
8.
Dewisodd iw weision Ierusalem rasuslon,
Oi Teithiau pan ddaethon yn ffyddlon wŷr ffel:
Ac yn y dref yma, roedd mynŷdd Maria:
Lle a gwnaed i'r Gorucha dŵr uchel.
9.
Dymuniad damweiniol Dafŷdd ŵr duwiol,
Ai feddwl yn foddol, Aer gweddol oedd gael,
Adailadu yn dal odieth ir Arglwŷdd da heleth,
Mewn Afieth yn berffeth heb oer-ffael.
10.
I roedd Yng borinthia hardd Eglwŷs wêdd ddi-gla,
Danfoned oddiyna gan Phebe ddi-ffôl,
I Rufen yn ddiffreg a gyrodd yn fwŷndeg,
Ar Redeg Paul Lwŷsdeg ei Epostol.
11.
Sanct Ioan y disinŷdd a Scrifenodd ar gynŷdd,
At Saith o Eglwŷsŷdd, ŵr dedwŷdd mewn dŷsg,
Rhag dywad fel Duwiau oer oesoedd Hersiau,
A Sichma yn gieiddia gau Addusg.
12.
Yn ddâ ddwŷs fe ddewised Titws pan hittied,
Ar Eglwŷs y Creatied, trwŷ grêd a fu'r grâs,
Yn Esgob hardd osgo, Duw attal di etto:
Ei dryllio na'i darnio yn y deŷrnas.
13.
Paul ddawnŷs sŷ'n canmol swŷdd Esgob sŷdd ysgol,
I bawb oll or bobol ŵr duwiol mewn dawn:
Gochelwch chwi gilio i'r bythod lle ei bytho,
Rhai'n mynd i'r ffordd hono or ffŷdd uniawn.
14.
Ychwaneg Awch anian rwŷ'n attal i ddatcan,
Ond mi a draethes fy amcan yr awran heb rus:
Hŷn a gaiff wasnaethu am ddarfod i'r Iesu,
Bwrpasu lle iw foli yn ofalus.
15.
Mîl, chwech-chant, yn uchel, chwech deirgwaith nid dirgel
Dau ugain diogel, un dawel a dêg;
Pump ddwŷwaith yn ddiwad, dêg ae mewn digwŷddiad
Chwech eilwaith wŷch alwad ychwaneg.
16.
Oedd oedran yr Arglwŷdd pan wnaed hwn o newŷdd,
Er gweled rhai dilwŷdd yn ebrwŷdd a'u nôd,
Rhown weddi'n dragwŷddol ar Dduw gadw ei bobol,
Rai duwiol obeithiol o'u bythod.

Carol bŷrr, iw ganu dan bared.

1.
DYhunwch ŵr hoenus a'ch teulu mwŷn gweddus,
Mewn gorchest mae'n barchus dro dawnus di drwch,
Drwŷ orfoledd gwir folwn, yr Iesu na ruswn,
Gwiw Seiniwn, cyrhaeddwn gâr heddwch.
2.
Pob tafod glod ddifai meddyllo a ddylai
Gŷd offrwm gweddiau diamae i'r Duw Ioan,
Ar hŷn ymma o amser, ni gofiwn ei gyfer,
Or uchder dae uchel-faer iach wiwlon.
3.
Pa ddiolch yn ddie yr Oen heddwch a haedde,
Ar Duw Iesu da ei râse, an pryne ar bren.
Gael ufudd gerdd afieth bob munŷd yn ddi-feth,
Drwŷ heleth fawl berffeth heb orphen.
4.
Poen addig, pan oeddem golledig, gwell ydem,
Heb eni Duw Ymethlem pallassem ni bŷth:
Yn ddawnus ddâ yno, dae'r unig i raenio;
Er safio, a gwiw hilio'r gwehelŷth.
5.
Pan aned aer union oedd gowrain i'r goron,
Daeth lluoedd o Angylion oedd ffyddlon a phur,
I fynegu er duwioldeb lle roedd mewn gwareidd-deb
A phurdeb, mewn preseb Oen prysur.
6.
Tri Thwŷsog grassus-lain o diroedd y Dwŷrain,
I Fethlem dre gowrain dae 'rhain ymma a'u rhodd:
I offrymmu eu hanrhegion, aur, Thuss nis gwerthason,
Mŷrr mawrion, i'r cyfion an cofiodd.
7.
Ei wrthie clau nerthol, ar derfŷn daiarol,
Iw gredu'n gariadol, hyfrydol ei fraint:
Gorthrymodd ddychrŷn-lid, rŷm angau a'i holl rydid,
Ar benŷd, ddŷdd ofid ddioddefaint.
8.
Mae'n Eiste yn ddadleuwr, drwŷ fawr-nerth draw'n farnwr
Fe ydiw'n golygwr, Iachawdwr wŷch hedd,
Ail berson y Drindod, cu Frenin cyfryngdod,
Gwna'n barod ein cymmod o'n camwedd.
9.
Duw dyro dangnhefedd a chariad iw chyreddd,
Ffŷdd, gobaith, amynedd glir buredd garbron:
Bŷdd gadarn ben geidwad i'r Eglwŷs arogliad,
Drwŷ ddiwad ddeusyfiad ddâ i Seion.
10.
Oed Brenin Gogoniant, pen Milwr pôb moliant,
Mawl uchel Mîl chwe-chant, medd gwarant ar goedd
A naw deg sŷ'n digwŷdd, hoff amal a phum-lwŷdd,
Pan wnaed hŷn i'r Llywŷdd Duw'r Lluoedd.

Carol iw ganu ar foreu wilieu'r nadolig.

1.
POb calon egored, pôb Tasod na atalied;
Pôb Geneu pur Ganed, o'ch Lluddedd gwellhewch
Yn awch-glau ar eich glunie i dynu or un donie,
Gweddie dâ fore o Edifeirwch.
2.
Ar gyfen i'r Gwilie hwn ymma yn ddiamme,
Daeth i ni ddoeth ddonie, mwŷ rhodde mawrhâd,
Danfonodd Duw feddig, i'n safio o'r naws oerddig,
Rhag mynd yn golledig gwall hediad.
3.
Roedd pawb y prŷd hynnŷ, mewn gwall yn ymgolli
Dan rwŷde direidi, ymroi i boeni am ei bâr,
Yn ôl geni'r Oen gwaredd, cu Frenin cyfiawnedd:
Dywygiodd ein hagwedd yn hŷgar.
4.
Maîr degwedd ei dygiad, a gafodd ddigwŷddiad,
Lwŷs gwiwlan Esgoriad, ddarpariad Oen pur:
Ei oreuwedd a rwŷme mewn diwŷch gadache;
Mewn beudŷ a chore ferch eirwîr.
5.
Roedd yn ddiludded, lu gwiw lan Fugeilied,
Am elwa'n ymwilied, lon nodded liw nos:
Ar Angel a safe, gyferbŷd a'u bronne;
A nhwŷthe a frawyche yn ddiachos.
6.
Wediddo fe yspysu'n fwŷn agwedd fynegu,
A'i ffyddiol gonfforddi i hyderu yn eu Duw
Fe Adrodde yn dra diddig crŷ Awdwr Caredig;
Sŷ arbennig wŷch feddig uwch heddŷw.
7.
I roedd gantho gwmpeinieth Lu Nefol lawn afieth,
Yn moli Duw'n berffeth, ddawn odieth ddiwad:
Ei hunen fe ae'r rheini rai flyddiol heb ffaelu;
Yn ol i'r Nef gwedi or un geidwâd.
8.
Bugeilied pan glywson nhw'r nodded ar newŷddion,
I Fethlem coethason mor ffyddlon un-ffŷdd,
Er gweled ar gyfnod ddŷn bychan ddibechod:
Oedd hynod ryfeddod Dre Ddafŷdd.
9.
I weled pan gawsen, llu anwŷl Llawenen,
Yn chwŷrn nhw ddychwelen eu hunen yn ôl,
Drwŷ dirion hyderu, wŷth odieth a chredu:
I dae'r Iesu iw gwaredu yn gariadol.
10.
Roedd ef mewn heddwch was Cyfion os cofiwch,
Yn disgwŷl diddanwch mwŷn harddwch mewn hêdd,
Un Simeon dde ei synwŷr oedd hwn medd yr hen-wŷr:
A gadd yr Achlysur Iachuswedd.
11.
Fe a ddyge Mair rasol ei hetifedd gnawd deddfol,
At Simeon ŵr syniol rhagorol ei grêd:
Ag ynte pan wele, yn dra buan derbynie,
Iw freichie mewn gole wiw gowled.
12.
Bendithie yn dra doethol ddawn ufŷdd Dduw Nefol
Am ddanfon iw bobol waith Reiol wrth raid:
Iw cadw o drangcedig glwŷ uffern glo ffyrnig;
Drwŷ feddig pur unig pob Enaid.
13.
Ac yno cynnydde ein gwir Iesu ar bob oese,
Mewn dŷall a donie, synhwŷre Sain hêdd:
Fe basie Ddoctoried yn gan gwell er eu called,
Dae'n addfed in gwared Oen gwaredd.
14.
Dioddefodd ei anafu yn fflaim hŷll, a'i fflangellu,
Rhoi ei wîr waed i golli i'n prynu ar y pren;
Am hynnŷ rhown ninne dda ogoniant o'n gene:
Tra bydde yn calonne ein cael awden.
15.
Drwŷ wîr Edifaru grŷm buchedd o bechu,
Iawn i ni folianu Duw Iesu da was:
Am gadw i ni etto grefŷdd i'n gwirio;
Heb ddryllio na darnio yn y deŷrnas.

Carol i Grîst Iesu &c.

1.
Hil Cymru hael cymwŷs, gwiw ffyddlon gonfforddus
Rhown fawl i'r oen gweddus dro grymus drwy-gr [...]
O draserch ymdrw siwn, yn un-frŷd ymhyfrydwn,
O'n Genau iawn ganwn ogoned.
2.
Deffrown i ymddinynnu'r hael union hawl i ni,
Cawn drwŷddi well haeddu holl lwŷddiant;
O ran yr wŷl union, wŷch odieth awch wiw-lon,
Rhown gyfion glod gyson i'r gwiw Sant.
3.
Un galon a'n gilŷdd, lwŷr fwriad laferŷdd,
Hir barffed lwŷr burffŷdd i'n llywŷdd yn llon,
Er cofio mawr wrthie; Duw heddol a haedde;
Feddylie gwiw ddonie gan ddynnion.
4.
Iw ddynnion yn ddonniol, danfonodd Duw Nefol,
Achubwr iach radol, iawn fuddiol o'i fodd,
Ei Gennad oedd ganwŷll i'n cynnŷ ni o'r tywŷll,
I Fair bêr yn ddidwŷll fe a ddywedodd.
5.
Nag ofne mo'i gyfnod, na'i beredd nôdd barod,
Fod gosgedd ei gysgod yr hynod Dduw hael;
Yn Gweithio têg wrthie, iw chrôth mewn gwŷch radde
Digwŷdde a iawn fage fe'n fugail.
6.
Mair wiwlan pan welodd, mor fwŷnedd 'mofynodd,
Mor ddidwyll hi a ddywedodd, a phlediodd yn fflŵch,
Pa fodd a digwŷdde iw chroth y fâth radde:
I roddi da fore edifeirwch.
7.
Yr Angel mwŷn ynte, mewn hardd bas a yspyse,
Mae ysprŷd Duw yn ddie, a ddiscynne o'i rwŷsc wêdd
A'i dyner ordeiniad, da ddedwŷdd ddyfodiad,
A fŷdd mewn digwŷddiad dêg weddedd.
8.
Mair wiwber pan wŷbu fod 'wŷllŷs Duw fellu,
I roi iechŷd pur iddi iw llenwi mor llon;
Ac yno yn ddigynnwr, dâ gredodd drwŷ gryfdwr,
Iw gwir ymddiffynn wr hoff union.
9.
Mewn preseb gwael anian, escore ar Fâb gwiw-lan,
Dibechod ddŷn bychan, i'n llwŷrlan wellau,
Da i dylem roi yn daliad, ar ddeulin addoliad,
I Dduw Dâd, ein ceidwad a'n Cadwau.
10.
I offrymmu yn wir ffyddlon ymdeithiodd y doethion,
A'u rhwŷdd-gu anrhegion i'r cyfion oen cu;
Pwŷ o ddŷn a falchie wrth gofio'r fâth gyfle:
Lle'r ydoedd da rase'r Duw Iesu.
11.
Mawr oedd yr ymwared, gael geni'r gogoned,
I dalu ein dyled, Duw haeled oedd hŷn,
Rhoe ei fywŷd mo'r fwŷnedd, a'i enioes o'i rinwedd
Yn iawn am ein camwedd ysgymmŷn.
12.
Trwŷ ddîodde trwm ddolur, traha mawr dro hîr,
Ei fargen oedd fawr-gur, drîft yn wîr dost iawn:
Ein dyled i dalu, yn gyflawn drwŷ gyfri;
O chredwn i'r Iefu yn Iachus-lawn.
13.
Ei wrthie a fu nerthol i'n cadw ni'r bobol,
O ffwrness uffernol, ffyrnig ei phwŷs,
A'n hwŷlio ni'n heleth i burffŷdd le perffeth,
Gorchafieth bur odieth Baradwŷs.
14.
O'i Radol warediad, rhoes Crîft nyni'n wastad,
Rhag barus ddrŵg bwriad diffoddiad ein ffŷdd,
Ni adawodd mewn dyfais i'r diflin rai diffas:
Ein twŷllo ni o'n Teŷrnas a'n Trefŷdd.
15.
Yn Rasol drwŷ Iesu, daeth ymma i Reoli,
Grefyddwr diwegi, i'n rhoddi ni'n rhŷdd,
Oddiwrth gam addoliad a delw au didoliad:
Bydhîr a bo'n geidwad ar gynnŷdd.
16.
Oed Iesu Grîft rasol, Duw feddig da foddol,
(Pan lunied y carol) Aer llwŷddol i'r llu,
Oedd Fîl a chwechanmlwŷdd, wŷth dêg, a naw'n digwŷdd
Ymroed pawb yn ddi-gerŷdd iw garu.

Hên garol Duwiol

1.
DOd Iesu i'm wŷbodaeth, chwanega nghredinieth,
Lle'r ydwŷd ti'n berffeth d'ogoniant:
Am gwefuse tro i gori, f'Arglŷdd Dduw keli;
Am genau i fynegi dy foliant.
2.
Pob cristion ar aned gwelwn berffeithied,
Yw darllen i glowed gair Iesu,
Nid rhaid i ni ofalon i ofni peryglon,
O cheisiwn ei orchmynnion a'u dŷsgu.
3.
Casawn y Bŷd bychan sŷ'n arwen yr arian,
Na rown ar ei amcan mo'n hyder:
Mae'n debig ei derfŷn i dân ar ben gwelltŷn,
Yn gole dros ronŷn o amser.
4.
Meddyliwn ni'n ddie tra foni mewn gole,
Am y Bŷd sŷdd heb ame'n dragwŷddol,
Lle mae i'n addewidion o byddwn fŷw'n gyfion:
Gael mynd at Angylion Duw Nefol.
5.
Pe rhoid i ddŷn (traetha) igŷd y Bŷd ymma,
I gymrŷd ei wala tros amser,
Heb iddo gael hefŷd ran o'r tragywŷdd-fŷd,
Nid ydoedd ei fywŷd ond ofer.
[...]
[...]
6.
Selef ddoeth y [...] a ddywedodd yn ddi [...],
Pan ganfu fe a fedde'n yr un fan,
Er uched [...]i [...]wer heb Iesu o'r uchelder:
Nad ydoedd ond [...]fer y cyfan.
7.
Nineu gynifer [...] roddwn mo'n hyder,
Ar bethe sŷdd ofer i coffa [...]
Ond ar Dd [...]w Nefol, Frenin Sa [...]teiddiol;
Sŷdd yn dragwŷddol ei bar [...].
8.
Nid ydem ni o soweth ond casglu pob barieth,
A gadel pob pregeth yn waela:
A bŷw yn anhawddgar heb gofio troi galar;
Ond rhyfedd i'r ddalar na'n hyngca.
9.
Duw Iesu hael ynte sŷ'n rhoddi i ni siample,
A ninne yn ddie nis deallwn;
Yr ŷm ni mi ai gwela yn ail i'r hen Phara,
Oni chaffom ni ysgwrssa nid ofnwn.
10.
Pharo nid dirgel a gadwe yn el afel,
Holl blant yr Israel yn gaethion:
Ond arno pan syrthie rŷw ddialedd ne glwŷfe,
Fe ddywede a gollynge nhw'n rhyddion.
11.
Ag yno fe ae moesen mewn gweddi drachafen,
Ar fwrw'r plag milen oddiarno,
Ond Pharo cŷn gynted gwedi cae ei wared;
Fe ae ei galon yn galed heb gofio.
12.
Ninne'r un ffunŷd pan syrthio i ni esmwŷth fŷd
Ni a gymrwn yn gwnfŷd a'n pleser:
Ni a fyddwn segurllŷd, ni a dybiwn mo'r ynfŷd:
Na sŷrth i ni ddryg-fŷd un amser.
13.
Dygasom yn heleth ysgwrsiad drudanieth,
A hefŷd marwolaeth 'nifeilied,
Pam na welwn ni gwedi fod Iesu yn ein cospi,
Am fod ein drygioni mo'r bar [...]ed.
14.
Lle dyle'n ddiogan fod cariad perffeithlan,
Cenfigen yrovan sŷ'n amla,
Nid ydem ni Dduwiol i ofŷn ein rheidiol,
Tra fo ni'n arferol o'r gwaetha.
15.
Ein camwedd wrth rodio gwna i'r ddaiar geiffeinio,
Lle i'r ydem ni yn cario drŵg rinwedd,
Ni aethom ar gildro wrth illwng Duw'n ango:
Duw Iesu a'n hacubo a'i drugaredd.
16.
Ymendiwn yn buchedd, byddwn hawb fwŷnedd,
Fel y delom or diwedd yn gytŷ:
Ar Iesu Sancteiddiol a rŷdd i ni'n rhaidiol,
O byddwn ni yn dduwiol yn gofŷn.
17.
Erfyniwn ni yn gynta, yr un-peth sŷ reitia,
Duw Iesu santeiddia'n caloae,
I dderbŷn yn heleth yr impin air perffeth:
Yr hwn fŷdd achubieth eneidie.
18.
Duw ffrwŷtha'r daiarŷdd, dod iechŷd trwŷ gynnŷdd,
Danfon ar goedŷdd fesurŷd;
Cadw ni'n gynnes rhag twŷlliad na males,
A dyro i ni hanes heddych-fŷd.
19.
O rifiad perffeith-deg a'i henwi'n ddiddameg,
Un-cant ar bymtheg, nhw draethan,
Oed Iesu nid dirgel pan ddaeth yn ddimrafel,
DdŶdd clanme ar cyrchafel i'r unman.
20.
Siôn morus yn hynod a lunie'r gerdd dafod,
Chwi a glowsoch yn barod y testŷn:
Duw Iesu Santeiddia an dygco ni iw noddsa;
Pan ddarffo i ni oddiyma gael terfŷn.

Dyriau ar belŷnt y Bŷd yn amser rhyfel. Ar Leave-land y ffordd fyrraf.

1
CYd Seiniwn beth am sŷ'n y Bŷd,
Mewn awŷdd frŷd annuwiol:
Ar hŷn o ofud bywŷd bŷrr,
Mae'n addfed i'r anneddfol.
2.
Gwel Duw flinder dwŷsder dig,
Blinedig ysig oesoedd,
Gan annuwolion blinion blâ.
Rhŷ filen a rhyfeloedd.
3.
Y dynion sŷ'n ymdynu'n swrth,
A bechant wrth bob achos:
Lle byddeu llwŷddiant ffyniant ffŷdd;
Anwiredd sŷdd yn aros.
4.
Mae'r cedŷrn fonedd hoewedd hŷnt,
Yn canlŷn cŷmint camwedd:
Ar rhain yn llethu, a gweini'r gwan;
Mewn gwrol an-nhrugaredd.
5.
Os ceifio cyfraeth berffaeth bur,
Mae bradwŷr anwir yno:
Ar ol y Bŷd igŷd ar gam
Digariad am eu gwŷro.
6.
Mae llawer ffinion greulon gred
l'r golŷd rhed y galon:
O rhain mae twŷllwŷr hudwŷr haid,
O bechaduriaid oerion.
7.
Mae'r tlawd a'r tafod chwerdod chwith,
Yn unwedd fŷth mewn anwir,
Cenfigen cabledd dialedd du,
Bauch adwŷth i bechadur.
8.
Mae ymrafaelio cledio clo,
Boen anoeth o biniwnau,
Mae'n dost anhunedd saledd sŷn,
Cynhwŷsiad hŷn o oesau.
9.
Pawb yn eu grâdd yn lladd o lid,
Mewn gofud enŷd anian;
Am hŷn mae'r Bŷd mor fud ar fai,
Direol rai mo'r druan.
10.
Na wnawn drysorfa noddfa i ni,
Na hyder bri mewn hudol;
Ar gnawd a daiar fyddar fan,
I rydu'n anwaredol.
11.
Gwnawn drysor crŷ i ni yn y Nê,
Ddiogel le ni ddygir,
Ni ddaw mor rhwŷd i ddifa'n rhan,
Cawn wiw-glod cyfan eglur.
12.
Rhown ffŷdd a gobaeth helaeth hîr,
Trwŷ gariad pur rhagorol;
A chawn orfoledd gloewedd glîr,
A chysur gwir iachusol.
13.
Na 'mrown i gystŷdd beunŷdd boen,
O ddyrus hoen ddaiarol,
Ymrown igŷd a'n brŷd o'n bron,
Yn ufudd foddion Nefol.
14.
Yr Iesu hael oi râs ei hun,
O'n hynod flîn anhunedd,
A ddŷg i'n barch trwŷ ddygun bo [...];
Côf i ni'r Oen cyfannedd.
15.
Cadwn ninne wilie'n wŷch,
Mewn rhadol ddrŷch mawrhydi,
Na chadwn annial ddyfal ddig,
Ond cysur unig Iesu.
16
Cŷd yrwn yrfa llethfa llîd,
Yn hŷn o fŷd anhunol,
Ni a gawn gysurfa noddfa Nê;
O'n dyrus le daiarol.
17.
Na ruswn drymlŷd benŷd bŷth,
Cawn gynnes nŷth ogonaid,
Yn ol gorchfygu trechni trift,
Trwŷ rinwedd Crîst i'r enaid.
18.
Mîl chwe-chant, pedwar ugain llawn,
Dau saith a gawn ar gynnydd,
A'r Iesu hael mae'r oesau hŷn,
Goddefodd ddygun ddigwŷdd.
TERFYN.

Oblegŷd fôd y lleiniau yn hîrion yn y Carolau sŷdd ar fesur gwiliau'r nadolig y ffordd hwŷaf, ac yn y Dyriau sŷdd ar fesur Leaue-land y ffordd hwŷaf, nid oedd mo'r lle wrth ddiwedd y lleiniau i ddehonglu meddwl y Geiriau cledion (neu dieithr) sŷdd yn y gerdd, nac i ddangos y mannau o'r yscrythŷr lân sŷdd yn gwirio [...] Ond wrth y Gân sŷdd o leiniau byrrach, cewch bob un or ddau i'ch cyfarwŷddo yn hytrach i ddeall y llyfr hwn.

TESTYNAU YR HOLL GERDD YN Y LLYFR HWN; A daugosiad at ba du dalen a ceir Dechreu Pôb Carol a Dyriau ynddo.

CAROLAU DUWIOL,

Ar Fesur Gwilieu'r Nadolig, y ffordd hwyaf

  • AR ddechreuad y Bŷd, a'i ymddygíad Dalendu 5
  • Ar Greuad y Bŷd, Syrthiad dŷn, a'i ail brynniad Drwŷ Iesu Grîst. Dalendu 8
  • O fawl i Iesu Grîst Dalendu 14
  • Ar anedigaeth Iesu, a'i farwolaeth ef Dalendu 23
  • Iw Ganu ar ddŷdd Natolic Dalendu 26
  • Ar wrthiau Crist Dalendu 56
  • Ar ostyngeiddrwŷdd ganedigaeth Crist, &c. Dalendu 70
  • Ar weithredoedd Crîst, a'i ddioddefaint ar y Ddaiar, iw ganu ar ddŷdd Nadolig Dalendu 79
  • Ar grediniaeth yngrhîst Dalendu 81
  • Ar Anedigaeth Grist, iw ganu dan bared Dalendu 100
  • Ar warediad dŷn, drwŷ ddioddefaint Crist Dalendu 101
  • Ar wrthiau Iesu, a'l ddoniau ef, iw ganu ar ddŷdd Nado [...]g Dalendu 103
  • Ar achau, Teilyng [...]od, a Thrafel Mair Dalendu 105
  • Iw ganu gyda tha mau tan bared Dalendu 118
  • Carol bŷrr iw Ganu dan bared Dalendu 119
  • O fawl i Fâb Duw, iw ganu tan bared Dalendu 120
  • O fawl i'r Iesu Dalendu 122
  • O fawl i Grîst. Dalendu 123
  • O fawl i greuawdwr y Bŷd, am ein gwared trwŷ Iesu Grîst &c. Dalendu 125
  • Ynghŷlch ganedigaeth Crist, a'i ddioddefaint, Dalendu 128
  • [Page]Carol i'r Iesu, ben milwr a meistir Dalendu 330
  • Ar Anfeidd-drol ddoniau Duw, drwŷ roddi Crîst i'n gwaredu Dalendu 332
  • Iw Ganu ar blygain ddŷdd nadolig Dalendu 334
  • Carol plygain arall, Dalendu 336
  • Carol iw ganu tan bared Dalendu 338
  • Carol iw ganu dan bared, ar ol rhyfel Dalendu 339
  • Iw ganu yn hwŷr tan bared, ar hìn Rewlŷd Dalendu 341
  • Carol iw ganu wilieu'r nadolig Dalendu 343
  • Ar wneuthuriad y Bŷd mewn 6 diwrnod &c. Dalendu 344
  • Ar folianu Duw drwŷ wîr grefŷdd, &c. Dalendu 348
  • Ar Lawenychiad y Bŷd, drwŷ eni Crist. Dalendu 350
  • Ar gariad, gallu, a dioddefaint Crist. Dalendu 353
  • Carol bŷrr, iw ganu dan bared. Dalendu 357
  • Iw ganu ar foreu wilieu'r nadolig Dalendu 359
  • Carol i Grîst Iesu &c. Dalendu 361
  • Hên garol Duwiol Dalendu 363
Ar Fesur Gwilieu'r Nadolig, y ffordd fyraf.
  • O fawl i'r Iesu, iw ganu gyda thannau Dalendu 157
  • Carol arall bŷr, iw ganu gyda thannau Dalendu 159
  • Carol iw ganu tan bared Dalendu 165

CAROLAU HAF, DUWIOL.

Ar Fesur Mwynen Mai.

  • Ar ogoniant i Frenin y Cenhodioedd Dalendu 265
  • Yn annog i edifeirwch, mewn amser Rhyfel. Dalendu 271
  • I folianu Duw am y Tymmor, a thywŷdd oêg Dalendu 276
  • Yn Annog i Glodfori Duw, amser fowr drugaredd yn danfon ymborth i ddŷn drwŷ hybu'r ddaiar: iw ganu ar ol Gaiaf tymherus Dalendu 280
  • Carol (ar fesur Carolau Hâf) yn dangos cyflwr Enaid yr an-nuwiol wrth ymadel ar Corph; ar ddŷll ymddiddan rhwng yr enaid ar Corph. Dalendu 284

DYRIAU DUWIOL,

Ar y mesur a elwit Leaue-Land, y ffordd hwyaf.

  • YN Datcan hanes y Bŷd. Dalendu 11
  • Cyngor i fŷw yn dduwiol Dalendu 17
  • Ar Robin gôch, ar fêdd y Frenhines Dalendu 20
  • Ystyriaeth dŷn ar ei anedigaeth, ei fuchedd a'i ddiwedd Dalendu 28
  • Cyngor i ochel Cybŷdd-dra, Puteindra, Balchder a thrawsder; Ac i edifarhau o Gamweddau Dalendu 30
  • Cyffes o oferedd dŷn, a deisŷf am faddeuant. Dalendu 32
  • Cyngor yn erbŷn cybydd-dod, a hyder ar olud y bŷd Dalendu 36
  • Gweledigaeth Nabuchodonozor, yn dangos fôd Bren­hinoedd y ddaiar dan lyfodraeth brenin y nefoedd Dalendu 39
  • Cyngor yn erbŷn meddwdod Dalendu 41
  • Cyngor i ymwared a balchder, &c. ac i ymegnio am iechŷdwriaeth i'r Enaid Dalendu 44
  • Hanes Moses. Exodus. 2. Dalendu 47
  • Ar fawl i Dduw, ac ar ddyfodiad y Brenin Dalendu 49
  • Ymddiddan rhwng natur a chydwŷbod Dalendu 52
  • Ar fod pob math ar ddynion yn bechadurus Dalendu 59
  • Ar dri chymdeithion dŷn, sef y Bŷd, y gweithredoedd, ar Cydwŷbod. Dalendu 61
  • Yn Erbŷn meddwdod Dalendu 64
  • Barn y Bŷd, rhwng y cyfoethog a'r tylawd Dalendu 67
  • Hanes meddwdod, a chyngor i ymado ag yfed Dalendu 72
  • Ystyriaeth ar fŷwoliaeth dŷn. Dalendu 77
  • Cyngôr i ryngu bodd Duw ar les yr enaid Dalendu 84
  • Ar fawr drugaredd Duw yn ymddiffŷn y deŷrnas Dalendu 88
  • Cyfiudd y Bŷdd, dan bwŷs rhyfel Dalendu 91
  • Ymddiddan rhwng Trugaredd a chyfiawnder Dalendu 92
  • Ar anrhydedd i Dduw, a'i wîr Eglwŷs Dalendu 96
  • Ar holl ddialeddau'r Bŷd, drwŷ eisiau cariad. Dalendu 97
  • Ymddiddan Duwiol, rhwng dŷn a Mwialchen Dalendu 109
  • Cyngor i gadw Cydwŷbod dda, a chalon lân. Dalendu 113
  • Duwiol ymddiddan, rhwng pechadur a cheiliog Dalendu 115
  • Ar ymadel ag oferedd Dalendu 127
  • Cyffelybiad oes dŷn i bedwar chwarter y flwŷddŷn Dalendu 131
  • Cyngor i ddilŷn yr Eglwŷs Dalendu 355

Ar Leaue-land, y ffordd fyraf.

  • Ar ymddiddan, rhwng Duw a dŷn. &c. Dalendu 134
  • Ar ymroiad dŷn i wellhau ei fuchedd Dalendu 138
  • Annog i ystŷr cyflwr dŷn dan bechod Dalendu 139
  • Ymddiddan rhwng pechadur a chydwŷbod Dalendu 142
  • Ar ddymuno cael Grâs gan Dduw &c. Dalendu 146
  • Cyngor i weddio Duw, drwŷ wîr ffŷdd, a gwaith dâ Dalendu 148
  • Gofŷniad Cyngor yngŷlch meddwdod Dalendu 149
  • Atteb i'r ymofyniad ynghŷlch meddwdod Dalendu 150
  • Ar bechodau'r Deŷrnas, a gwall gwŷmp y bobl Dalendu 151
  • Annog i ganlŷn Crist, ac i esgeuluso'r Bŷd. &c. Dalendu 153
  • Ymbil pechadur am drugaredd a maddeuant Dalendu 160
  • Ar ynfydrwŷdd bradwriaeth. Dalendu 161
  • Ar helŷnt y Bŷd, yn amser Rhyfel Dalendu 366

Ar Fesur Triban.

  • Cyngor i feddwl am farwolaeth, ac i fŷw yn dduwiol Dalendu 167
  • Gyffelybiaeth enioes dŷn i bob peth darfodedig. Dalendu 169
  • Adroddiad llawer o weithredoedd Crîst. Dalendu 172
  • Cyffes o ddilŷn pob oferedd mewn Jeuengtŷd, ac ymroiad i wellhau bachedd Dalendu 175
  • Cyffes pechadur o'i gamweddau, a deisŷf maddeuant a grâs gan Dduw i wellau buchedd Dalendu 177
  • Ar ddiben Dŷn, &c. Dalendu 180

Ar y don a elwir Loath to depart.

  • Annerch y naill chwaer dduwiol at y llall &c. Dalendu 182
  • Atteb diolchgar at yr anwŷl chwaer un-galon Dalendu 185
  • Cynghorion hên ŵr i fachgen. Dalendu 188
  • Cyngor i ochel rhoi Tafod drŵg i neb Dalendu 192
  • Cyffelybiad enioes dŷn i bedwar chwarter y flwŷddŷn Dalendu 193
  • Catechism yr Eglwŷs ar gân, Dalendu 196
  • Sulw ar ogoniant y Nefoedd. Dalendu 205
  • Cyffelybiaeth oes dŷn i chwaryddiaeth Dalendu 206
  • Cyngor i ddyfod at Grist, ac i fŷw yn Sanctaidd. Dalendu 207
  • Ar oferedd balchder, a mael duwioldeb Dalendu 209
  • Achwŷniad am ddrŵg arferion y Cymru. Dalendu 211
  • Ar ddirfawr gariad Crîst, i bawb a'i derbynio. Dalendu 263
  • [Page]Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Dechreu gwsanaethu Duw mewn amser Dalendu 216
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Codi yn foreu Dalendu 217
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Myfŷrdod foreu a hwŷr Dalendu 217
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Ymbarodtoi i'r farn Dalendu 218
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Diwŷdrwŷdd Dalendu 219
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Difyrwch Dalendu 220
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Y gwaith pennaf Dalendu 221
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Sicrwŷdd am y Nefoedd Dalendu 222
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Rhodio wrth Reol Dalendu 222
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Bŷw dan gystuddiadau Dalendu 223
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Cyfeillgarwch Dalendu 223
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Gwisgoedd Dalendu 224
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Treulio neu wario Dalendu 225
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Yfed, a meddwi Dalendu 226
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Bwŷta, Dalendu 226
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Cadw cwmpeini, yfed Jechŷd, a thai drŵg, ac afraid Dalendu 227
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Diolchgarwch Dalendu 230
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Ei chwilio neu ei holi ei hun Dalendu 230
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Rhoi i bawb eu heiddo Dalendu 231
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Elusendod Dalendu 231
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Dysceidiaeth Dalendu 232
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Trafaelio Dalendu 235
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Cerŷdd Dalendu 236
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Ymddial Dalendu 238
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Ymryson Dalendu 239
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Machniaeth Dalendu 239
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Harddwch heb rinwedd Dalendu 240
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Gostyngeiddrwŷdd Dalendu 240
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Clôd gwenheithwŷr Dalendu 241
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Beio, a chanmol Dalendu 241
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Cellwair Dalendu 242
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Caru, a phriodi Dalendu 243
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Plant Dalendu 246
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Teulu Dalendu 249
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Cyfaill neu ffrŷnd. Dalendu 251
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Bodloni Duw. Dalendu 252
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Marwolaeth Dalendu 252
  • [Page]Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Daioni Cyffredinol Dalendu 253
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch ffrŷnds gwedi marw Dalendu 254
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Gochelud profedigaethau Dalendu 254
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Darfodiad bywŷd. Dalendu 255
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Ymgysuro mewn gobaith or nêf. Dalendu 256
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Trwbl ynghŷlch cystuddiau Dalendu 257
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Ffrwŷno'r cnawd Dalendu 259
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Gochel edliw eu gwendid i eraill. Dalendu 260
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Newid barn am eraill Dalendu 261
  • Cynghor­ion Tâd iw Fâb Ynghŷlch Bostio am bechod. Dalendu 262

Ar y don a elwir yn Saesnaeg, Love's a Sweet Passion; yn Gymraeg ffarwel ned Puw.

  • Ar edifeirwch meddwŷn Dalendu 292
  • Ystyr. i briodi yn hyrrach er cariad, nag er cyfoeth. Dalendu 294
  • Phŷsŷgwriaeth i'r enaid. Dalendu 297

Ar y Dôn elwir Greece and Troy.

  • Yn Cyffelybu dwŷ oes dŷn i hâf a gaiaf, Dalendu 301
  • Ar dair oes dŷn, a rheini yn Siomgar. Dalendu 304

Ar y dôn a elwir Spanish Baven.

  • Ar ddirfawr ddoniau Duw, a drŵg ymddygiad y bobl ddiffaith, ac acher meddwon. Dalendu 309

Ar y dôn a elwir heavy heart.

  • Ymddiddan rhwng dau o hên gymdeithion, y naill yn fŷw, ar llall yn el fêdd. Dalendu 314

Ar amrŷw fesurau nas gwn ni mo'u henwau.

  • Ymgomio rhwng y Claf o'r Consymsiwn a'i Glefŷd. Dalendu 317

Ar fesur arall.

  • Ar ddirfawr wŷbodaeth Duw. Psalm 139. Dalendu 319

Ar fesur arall.

  • Ar wendid a bryntni dŷn, ac annog i wellau buchedd, Dalendu 323

Ar fesur arall.

  • Cyffelybu calon dŷn i gastell, a ffŷdd, gobeth a chariad i filwŷr yn ei chadw hi; a'r Bŷd, a'r Cnawd, a'r cythrail ŷw ei thrî Gelynnion, yn ymladd yn ei herbŷn. Dalendu 327

Y LLEINIAU CYNTAF

Ymhob Carol a Dyri ar sydd yn y llyfr hwn; mewn Rheol wŷddorig: wrth y daflen hon Geill un weled yn ebrwŷdd, a ydŷw'r Carol neu'r Dyriau a fedro êf; (neu a fedro gofio'r llain gyntuf ohono) yn y llyfr hwn, ai nad ydŷw. Ar ffiguran gyferbŷn ar llain a fynnoch, sŷ'n dangos y tu dalen lle a mae'r Carol neu'r Dyri yn dechreu yn y llyfr hwn.

A
  • Agaro Lawenŷdd, gwrandawed ei ddefnŷdd Dalendu 26
  • Am fi mewn gweledigaeth nôs Dalendu 134
  • Ail Rosus ar y mân-wŷdd Dalendu 169
  • Attoch filodedd o anherchion Dalendu 182
  • Ar ddeulîn blŷg cais Baradwŷs Dalendu 205
  • Ar gêg ddrŵg rho'r gyllell lemma Dalendu 226
  • Am dy bechod bŷth na fostia. Dalendu 262
B
  • Bu Prinder a drudaniaeth dro Dalendu 251
  • Beth ŷw d'enw, a fedri ddywedŷd Dalendu 196
  • Bŷdd yn brudd am fatter d'enaid Dalendu 222
  • Bŷdd dy ddillad yn dra gweddaidd Dalendu 224
  • Boneddigion, a chyffredin Dalendu 271
  • Bernwch, darllenwch, a Duw a folianwch Dalendu 348
  • Bŷdd ddiolchgar am sŷdd genŷd Dalendu 230
  • Bŷdd dy dŷb am danad dyhunan Dalendu 240
  • Bŷdd d'ymddygiad yn dy deulu Dalendu 249
  • Bŷth na chrea it dyhunan Dalendu 257
  • Bŷdd yn sobor, Bŷdd ofalus Dalendu 259
  • Bŷth na newid dŷb am ddynion Dalendu 261
C
  • Caredigol bur anherchion Dalendu 185
  • Clywch adrodd rhyfeddod, trwŷ hanes tra hynod Dalendu 20
  • Clywch ddangos rhagoriaeth rhwng prinder a chyfoeth Dalendu 67
  • Clywch ddangos yn helaeth anficcrwŷdd goruchafiaeth Dalendu 39
  • Clywch gwŷnfan un truan, rwi'n ofni ddŷn aflan. Dalendu 64
  • Cŷd Seiniwn beth am sŷ yn y Bŷd Dalendu 366
  • [Page]Clywch hanes dechreuad Mair bur, a'i diweddiad Dalendu 105
  • Clywch, deuwch rai duwiol, Frŷtaniaid cytunol Dalendu 343
  • Clŷw benill o ddifri, y cymro diwegi Dalendu 17
  • Cŷd gofiwn a mawr-glod fŷth y rhyfeddod! Dalendu 100
  • Cŷd-torrwn i siarad, Cŷd ganwn i'r Hael-Dâd. Dalendu 23
  • Cofia dri pheth, na fŷdd amhwŷll Dalendu 192
  • Cais yn Gristion dâ dy gyfri Dalendu 227
  • Chwilia'n ddyfal eraill allan Dalendu 230
D
  • Deffrown dan ymgodi o'n pechod, a'n syrthni Dalendu 70
  • Dŷdd da fo i'r fwŷalchen, sŷ'n ymborth yn y berthen Dalendu 109
  • Duw mawr er dymuno, dod genad i gwŷno 091
  • Dechreu'n gynnar waith sacteiddrwŷdd Dalendu 216
  • Dowch atta i medd Crîst rai llwŷthog Dalendu 263
  • Deffrowch garedigion, y Teulu glân tirion. Dalendu 338
  • Deffrowch ar un wŷllus, i foli yn ofalus Dalendu 341
  • Dod i bawb eu heiddo'n hawddgar. Dalendu 231
  • Dyhunwch ŵr hoenus, a'ch teulu gwiw gweddus Dalendu 357
  • Dod Iesu i'm wŷbodaeth, chwanega 'nghrediniaeth Dalendu 363
E
  • Egor ddor dy Babell Dêg Dalendu 146
  • Einioes dŷn sŷ'n gyffelybus Dalendu 206
  • Evan Thomas, addas wiw ddŷn Dalendu 314
  • Ein Tâd sŷ'n y nefoedd, a Brenin brenhinoedd. Dalendu 330
F
  • Fy ffrŷnds a'm cydnabod, gwrandewch ar ryfeddod Dalendu 72
  • Fy ffrŷnds am cymdeithion perffeithlwŷs pur ffyddlon Dalendu 32
  • Fe ddarfu'r awenŷdd gan drymder a chystudd Dalendu 28
  • F' Anwŷl Gymro tyred i'm gŵŷdd Dalendu 153
  • Fy fi sŷ'n dechreu'r awrhon Dalendu 177
  • Fel a bo i ti wasanaethu. Dalendu 219
G
  • Gwel ddŷn yn dy fywŷd, pwŷbynag wŷd hefŷd Dalendu 30
  • Gwrandewch ar fy'ngharol, dau beth angenrheidiol Dalendu 41
  • Gwrandewch ar gynghanedd, gerdd euraid gyfroded Dalendu 44
  • Gwrandewch ar ddatguddiad, dau efell unfagiad Dalendu 52
  • Gwrandewch fy myfyrdod, mi a geisiais ragosod Dalendu 61
  • Gweld yr-wŷf o rodio'r Bŷd. Dalendu 149
  • Gwn fod rhŷw demptasiwn tost Dalendu 150
  • Gestegwch bawb, fel dymma'r prŷd. Dalendu 157
  • [Page]Gwrandawed pawb o'r Teulu pêr, Dalendu 159
  • Gwrandewch ein cân Bendefig cu Dalendu 165
  • Gwrandewch ymddiddan cynnes Dalendu 172
  • Gwrandewch arni'n treuthŷ'n Galed, neu baled. Dalendu 188
  • Gwna ôll fel am dragwŷddoldeb. Dalendu 218
  • Gwna'th ddifyrrwch o'r fath bethe Dalendu 220
  • Gwrandewch ar gywir ganiad Dalendu 284
  • Gwasged pawb eu pennau ynghŷd Dalendu 309
  • Gochel fod fel coeg ddysgawdwr Dalendu 232
  • Gochel ddannod gwendid arall. Dalendu 260
  • Gwrandewch ar fy nghyffes, a'm hanes o hŷd Dalendu 292
  • Gwrandewch ar gynghorion i fawr ac i fach Dalendu 297
H
  • Holl ddeilied meddalion, Cenhedlaeth praidd Hebron. Dalendu 8
  • Hîl cymru hael gymwŷs, gwiw ffyddlon gonfforddus Dalendu 361
I
  • I'r hael Gymru hîl gynnŷdd, rwi'n addo yn ufudd Dalendu 128
  • I Stât isel rhaid i't blygu Dalendu 223
  • I ymgadw rhag y pechod. Dalendu 254
M
  • Mae ymma bechadur wrth borth ei benadur Dalendu 92
  • Mâb Duw a glodforwn, clod lafar cŷd leisiwn Dalendu 120
  • Mae rhai'n y Bŷd mewn llîd yn llwŷr Dalendu 161
  • Mae gwallt fy mhen yn gwŷnu Dalendu 275
  • Meddwl wneuthur da cyhoeddus Dalendu 253
  • Megis dwr y mae dy fywŷd. Dalendu 255
N
  • Nêf, daiar gwmpas-gron, a'r dyfn-for mawr eigion Dalendu 49
  • Nôs dâ i'r glanddŷn ifangc crŷ Dalendu 142
  • Na thro d'wŷneb Arglwŷdd Glân Dalendu 160
  • Noeth i'm ganwŷd, gwan a bychan Dalendu 193
  • Nid difyrrwch ŷw'th waith penna Dalendu 221
  • Na fawrha y gwîn yn un-man Dalendu 226
  • Nag ymryson a'th iselach Dalendu 239
  • Na fŷdd feichie dros un dynan Dalendu 239
  • Na wna brîs o ddŷn, na phethe Dalendu 240
  • Na fŷdd falch am glôd gwenheithiwr Dalendu 241
  • Na fŷdd Bŷth yn ddŷn anfoesol Dalendu 241
  • Na wna ddim i anfodloni. Dalendu 252
O
  • O Arglwŷdd Dduw cyfion, Trugarog a graslon Dalendu 97
  • O fawr yn ddi'feredd i fach yn dda fuchedd Dalendu 101
  • O Leiciwch lân deulu roi cennad i ganu Dalendu 47
  • Os rhoddwch lu dedwŷdd bur gennad ar gynnŷdd Dalendu 119
  • O Dduw rwi fŷth drwŷ d'ordinhed. Dalendu 138
  • Ond mawr ŷw camsyniaeth, a bariaeth y Bŷd. Dalendu 294
  • O Arglwŷdd hedd, ucheledd chwiliaist, Dalendu 319
  • O ddaiarol gnawdol ddŷn, Dalendu 323
  • O gwrando'n gwîr un-Duw, ein gweddi ni heddŷw Dalendu 336
  • Os bŷdd diffŷg hepil weithian. Dalendu 246
P
  • Pan greodd Duw nefol y Bŷd mo'r rhyfeddol! Dalendu 5
  • Pôb Cristion crŷf astŷd, o union feddylfrŷd Dalendu 88
  • Pôb enaid hyderus, pôb Calon gariadus Dalendu 81
  • Pôb Bardd awenyddol, dwŷs breudeg ysprydol Dalendu 56
  • Pôb Cristion dâ ei gyflwr, a'i grêd iw Greawdwr Dalendu 79
  • Pôb dŷn a fedd dafod, a diball gydŷbod. Dalendu 103
  • Pôb Cristion puroidd-lan, ymgesglwch i'r un-man Dalendu 96
  • Pôb perchen enaid gwrandewch ar ein llefaid Dalendu 14
  • Pendefigion mwŷnedd, a'r gwiw deulu gwaredd Dalendu 118
  • Pôb gradd o gristnogion, 'fŷ gŷnt yn gaeth weifion Dalendu 122
  • Pan feddylion Arglwŷdd eu Dalendu 13 [...]
  • Pôb Cadarn mawr ei allu Dalendu 167
  • Pawb sŷ'n dynabod y gwirionedd. Dalendu 211
  • Pan fo'r Titan tirion, &c. Dalendu 301
  • Pôb perchen enaid nwŷfus Dalendu 304
  • Pan oedd y Philomela fam. Dalendu 327
  • Pôb Cristion dyhuned, drwŷ'ch annedd a chaned Dalendu 339
  • Pôb enaid cristnogol, dan ofon Duw nefol. Dalendu 350
  • Pan a bŷch di oddicartre Dalendu 235
  • Pan fo Dŷn i'th argyhoeddi Dalendu 236
  • Pan gei Gam, na chymmer ormod Dalendu 238
  • Pan y bŷch yn cellwair gwiw-lân Dalendu 242
  • Pan fo'n rhaid it fynd i garu Dalendu 243
  • Pan ddewisech ffrŷnd, bŷdd bwŷllog. Dalendu 251
  • Pan i gwelŷch feddau'r meirw. Dalendu 252
  • Pôb Duwiol greadur rhoed ofteg i ystŷr Dalendu 353
  • Pôb dynol naturiaeth trwŷ Frydain fawr odiaeth Dalendu 355
  • Pôb Calon egored, pôb tafod na atalied Dalendu 359
R
  • Rhown fawl i'r Tâd nefol ar gân yn dragywŷddol Dalendu 125
  • Rhoed i ni Sêl o'n himpiad. Dalendu 180
  • Rhodia'n ôl y Rheol union Dalendu 222
  • Rhowch osteg gorchestol yn gwbl o'r bobol Dalendu 334
T
  • Taleithiau tylwŷthog holl Frydain fawr oediog Dalendu 59
  • Ti Geilog têg eilwad, plygeiniol ei ganiad, Dalendu 115
  • Tyred hên bechadur truan Dalendu 207
  • Testŷn 'rôf i'r Cymru mwŷnion Dalendu 209
  • Trigollon, dynion dawnus Dalendu 2 [...]
  • Tra bŷch ar ol dy ffrŷnd yn tarrio Dalendu 264
U
  • Una weddi a chalon bur Dalendu 148
  • Urddasol bendefigien. Dalendu 280
W
  • Wrth ystŷr gwaith astud, o enioes dŷn ennŷd Dalendu 127
  • Wrth chwilio callineb ffel iawn, a ffolineb Dalendu 131
  • Wel dyma'r wŷl bendant, i ganu gogoniant. Dalendu 332
Y
  • Y Brŷtaniaid hyna, Trigolion gwlad Camb [...]ia Dalendu 19
  • Y Cymro annysgdig, derbŷn Galennig Dalendu 36
  • Ystyriwn mor dostur ŷw oyflwr pechadur Dalendu 77
  • Y cymro diledieth; clŷw hŷn o Athrawiaeth Dalendu 84
  • Y cymro cariadus, pen hên waed yr ynŷs Dalendu 118
  • Y Teulu cariadus, cŷd folwn yn felus Dalendu 123
  • Yn dra boreu cywŷd i fynu Dalendu 217
  • Yn dy gôf bŷdd Duw goruchaf Dalendu 217
  • Yn ochelgar bŷdd yn wastad Dalendu 223
  • Yr hwsmŷn weithian codwch Dalendu 265
  • Y Droellen arw drais, di gysur ŷw dy gais Dalendu 31 [...]
  • Y Bŷd hwn pan liniodd, y nefoedd a Grenodd Dalendu 344
  • Yn dy draul bŷdd yn gymhedrol Dalendu 225
  • Yn ol dy Allu dod elusen Dalendu 231
  • Ydŷw'th gyflwr yn gymmalus Dalendu 256

HENWAU'R PRYDYDDION A WNAETHANT

Y caniadau sŷdd yn y llyfr hwn: Ac wrth henw pob un ohonŷnt, i mae y ffigurau, i ddangos y dalennau lle i mae gw ith pob un yn dechreu; fel i'r hyspysaf i chwi yn Eglurach wrth ddiwedd y daflen hon.

D
  • DAfŷdd Manuel, neu David Manuell, o dref-Eglwŷs yn Sîr Drefaldwŷn. . 88. 294.
  • Dafŷdd Wmffre, neu David Humphrey, o blwŷf Penoges, yn Sîr Drefaldwŷn. 28.
  • Dafŷdd fychan, neu David Vaughan. 2.
  • Dafŷdd Siôn, neu David Jones 59. 361.
E
  • Edward Morus, neu Maurice, o blwŷf cerig y Drudion yn Sîr Ddinbŷch. 6. 39. 41. 49. 56. 59. 67. 70. 77. 138. 192.
  • Edward Prŷs, neu Price. 42.
  • Edward Sion, neu Jones. 09.
  • Edward Roland, neu Rowland, o'r Bala, yn Sîr Feirion­edd. 65. 304.
  • Elis ab Elis, neu Ellis Ellis, o Sîr Feirionedd. 1. 131. 151.
FF
  • Ffowc Prŷs, neu Foulk Price. 93.
G
  • Grŷffŷdd Peilin. 93.
  • Grŷffŷdd Rhŷs, neu Griffy Rice. 53.
  • Grŷffŷdd Parry. 80.
H
  • Huw Morus, neu Hughe Maurice, o Lan-armon dyffrŷn ceiriog, yn Sîr Ddimbŷch. 4. 52. 79. 103. 317. 332. 348.
  • Hari Ifan, neu Henry Evans, o'r Bedwelltŷ yn Sîr Fynwŷ. o'r tu dalen 16.
  • hŷd y tu dalen 62.
I
  • Jeremy Grŷffŷdd, y Taŷliwr llawen, o blwŷf cerig y drudion, yn Sîr Ddinbŷch. 4.
  • Ifan ab Ifan, neu Evan ab Evan, 36.
M
  • Matthew Owen, o blwŷf Langar, yn Sîr Feirionedd. 13.
  • Morus Richard. 0.
O
  • Owen Grŷffŷdd, o Sir Gaernarfon 19.
R
  • Roland Fychan, neu Rowland Vaughan, Esquire. o Gaer Gai, yn Sîr Feirionedd. 3. 26. 47. 160. 169. 177. 205. 206.
  • Roland Wiliam, neu Rowland Williams. 84.
  • Richard Abraham, o Ddyffrŷn clwŷd, Sîr Ddinbŷch 80.
S
  • Sr. Morgan. 2.
  • Sion neu John Wŷnn. 8.
  • Sion Llwŷd, neu John Lloyd, o gwm Penanner, yn Sîr Ddinbŷch. 46. 148. 301. 323. 327.
  • Sion Fychan, neu John Vaughan. 96.
  • Sion Rhydderch, neu John Rhoderick, o blwŷf cem­mŷs yn Sîr Drefaldwŷn, 76. 343. 355. 357.
  • Sion Dafŷdd, o Sîr Feirionedd. 92.
  • Sion neu John Prichard 30.
  • Sion neu John Jones. 34.
  • Sion Prŷs, neu John Price. 44.
  • Siôn morus, neu John Maurice. 63.
T
  • Tomos Llwŷd, neu Thomas Lloyd, o Ben-maen, yn Sîr Feirionedd. 2. 61. 115.
  • Tomos Morus, neu Thomas Maurice, o Sîr Ddinbŷch 25.
  • Tomas Sion, neu Thomas Jones, o blwŷf Corwen yn Sîr Feirionedd. . 20. 91. 118. 127. 150. 161.
W
  • Wiliam Philip, o Sîr Feirionedd. 4. 167. 188. 297.
  • [Page]Wiliam 'b Wmffre, neu William Humphreys, o dywŷn [...]. 05. 120. 122. 338. 339. 341.
  • Wiliam fychan, neu William Vaughan. 9 [...].
  • Wiliam Grŷffŷdd, neu William Griffioe. 57. 165.
  • Wmffre, neu Humphrey Owen, o blwŷf Llanmihangel g [...]nn [...]'r glŷn, yn Sîr Aberteifi 50. 353. 366.
  • Wmffre Dafŷdd ab Ifan, neu Humphrey David ab Evan, Clochŷdd Llan-bren-mair, yn Sîr Drefaldwŷn. 72. 271. 309.

Wrth y Daflen uchod, cewch eich cyfarwŷddo at wa [...] y Drydŷdd a fy [...]och, heb chwllio'r llyfr drosto amdanŷnt; Megis hŷn, os myn [...]ch gael y carolau ar dyr­iau sŷdd o wneuthuried Huw Morus yn y llyfr. hwn; chwilwch am y llythyren H ymhylith yr henwau yn y da [...] hon, ac yno [...]wch ei henw ef, ar man lle mae ef yn Aros, ac wrth hynnŷ y ffigurau sŷdd ar gwrr ucha'r dalennau lle mae pob carol a dyri o'i waith ef yn dechreu yn y llyfr hwn, ac fellu am y lleill oll yn yr un drefn.

Nid wif yn gwŷbod pa le yr oedd amrŷw o'r pry­dyddion yn hŷw, ac am hynnŷ ni fedrwn Argraphu eu cartrefoedd hwŷnt.

[...]e gwelwch henweu'r prydyddion mewn dwŷ o ffu [...]; y ffurdd cyntaf o henŷnt ŷw y gywir gymraeg fel yr arferid yn yr hên amser; a'r ail ffordd ŷw, y ffordd Seisnigol wrth y ffaf [...]n newŷdd, yn ol arfer plant Alis. For Sooth.

Rhai o'r carolau a'r dyriau fŷdd yn y llyfr hwn, a ddaethant i'm llaw heb henwau'r prydyddion wrthŷnt, ac am hynnŷ ni fedrai wŷbod pwŷ a'u gwnaeth, a'r [...] hynnŷ a ddechreuant ar y tudalennau a nodwŷd ar eu pen ucha ar ffigurau hŷn. 64. 81. 97. 100. 101. 109. 123. 134. 149. 159. 175. 18 [...]. 185. 207. 211. 314.

Yn y llyfr (o gafgllad Ffoulke Owen) a Argraphwŷd yn Rhŷdychen, yn y flwŷddŷn 1686. i roedd o garolau a dyrian 54. Argraphwŷd yn y llyfr hwn 45. ohonŷnt; [Page]ar 9. eraill (gan gyfri eu bôd yn anghymwŷs i fod ymhlîth cân dduwiol) nid Argraphwŷd ymma monŷnt.

Heblaw y 45 a dynwŷd allan o Lyfr Ffoulke Owen Argraphwŷd yn y llyfr hwn 115 o Garolau a dyriau duwiol eraill, na bu ond ychydig ohonŷnt yn brintiedig o'r blaen: Ac fellu i mae o garolau a dyriau duwiol yn y llyfr hwn igŷd 160.

DIWEDD.

ANNOG.

Y Llyfr hwn, [...] a phôb llyfrau eraill ar a wnelo Thomas Jones, a fyddant ar werth bôb amser yn y Mwŷthig Gan Mr. Gabriel Rogers, cŷn rhadted ag o Law yr Awdwr ei hun.

PAn brynnoch Lyfrau Cymraeg, gochelwch eu bôd o waith Saeson, rhag ofn i chwi gael eich cogio, fel a cogied llawer a'r llyfr plygain Cymraeg a brintiwŷd yn Llunden gŷnt i Sarah Harris &c.

Ac yn ddiweddar (o awŷdd i'ch arian) Sais meddw a danodd bapurau yn ffaîr Wrexham, iw gyhoeddi ei hun yn brintiwr Ynghaer, dan addo a printie ef bethau bychen yn Gymraeg neu Saesnaeg i wŷr Boneddigion neu eraill: Da a gwnaeth ef ddyweŷd pethau bychain, o blegŷd vchydig waith a ddygymŷdd ac ef oreu, mae ef yn dylu blynyddoedd o waith i'r gwr a'i cymerodd yn brentis, oblegŷd cŷn gwasanaethu hanner ei amser diangodd rhag ofn y gwaith, i fyned yn Sawdwr; Ac ar ôl iddo fŷw fellu ar gost y Brenin flynyddoedd, pan ddaeth achos i wneuthur gwasanaeth yn y ffordd honno, diangodd ef drachefen a thrachefen bedair o weithieu; Ac am hynnŷ pe cae'r gweithiwr gwŷch, ar Milwr cefnog ei haeddedigol gyflog, cywarchen a'i gorchfygau yn fŷan.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.