GWYDDORION Y Grefydd Gristianogol, Wedi eu hegluro i'r gwannaf eu deall a'u Cymmhwyso tuag at yr ymarweddiad.
II. Gofyn. Pa le yn mae 'r wybodaeth hon iw chael.
Atteb. Yngair Duw a gynnhwysir yn yscrythyrau 'r Hên Destament a'r Newydd.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y mae tripheth iw ysbysu.
1. Beth sydd yma iw ddeall wrth yscrythyrau.
2. Pa rann o honynt a gynwys yr Hê [...] Destament, a pha rann a gynwys y Newydd.
3. Fod yr yscrythyrau yn air Duw.
1. Am y cyntaf, Beth sydd ini yma iw ddeall wrth Yscrythyrau? Yscrythyrau a arwyddoccânt bethau wedi eu scrifennu. Rhyngodd bodd i Duw, yr hwn gynt a yspyssod ei feddwl iw bobl mewn amryw foddion, beri ei yscrifennu yn amser Moses, ac yn yr oesoedd a ganlynasant, megis y byddai fel Cof-Lyfr gwastadol iw chwilio ar bob rhyw achosion. Joan 5.39. y Cof-Lyfr hwn o Air Duw, a elwir drwy odidawgrwydd yr yscrythur. Joan 2.22. gan iddo fod yn gyfryw ac a haeddai ei ysc [...] fennu yn anad dim. Ac o herwydd i Dduw ar lawer o amseroedd beri i fagad o ddynion yscrifennu ei ewyllis ef mewn amryw lvfrau, gelwir hwy yn Yscrythyrau, yn y rhif liosog. Mat. 22.29. Act. 17.11.
2. Am yr ail Rhan-nod, pa rann o'r Yscrythyrau [Page 4]a gynwys yr Hên Destament; a pha rann a gynwys y Newyd? Gelwir yr Hén Destament gan Grist a'i Apostolion yn ddosparthedig, y Gyfraith a'r prophwydi. Mat. 7.12. Act. 13.15. Dan henw 'r Gyfraith y mae 'r pum llyfr cyntaf yscrifennedic gan Moses Gweinidog Duw, drwy 'r hwn y rhoddes Duw iw bobl gopi o'r Gyfraith Foesol wedi ei hargraphu â'i Fŷs ei hun ar ddwy lêch; ac yr yspyssodd y defodau a'r barnedigaethau, yn y rhai yr addolodd yr Iddewon Dduw, ac y cynnalasant dangneddyf a chyfiawnder yn eu mysc eu hunain. Fel hyn y dywedir roddi 'r gyfraith trwy Moses. Joan 1.17.
Y rhan arall o lyfrau 'r Hên Destament a elwir y prophwydi, o achos i brophwydi fod yn scrfennyddion iddynt oll.
Y Testament Newydd a amgyffred yr holl scrythyrau Sanctaidd hynny a welodd Duw vn gymmwys eu gosod yn Gofion iw eglwys ar ol Dyfodiad ac Escynniad Christ, y rhai ydynt 27 mewn rhifedi, Gellir rhannu y rhain yn historiawl, ac yn athrawiaethawl. Yr historiau sydd ynghylch Christ a'i Eglwys yn y prif amser. Yr ystoriau ynghylch Christ a yscrifenwyd gan bedwar Efangylwyr, a elwir felly, am fod defnydd eu scrifennadau yn newyddion da, sef, Cnawdoliaeth, genedigaeth, buchedd, athrawiaeth, marwolaeth, ac Escynniad Jesu Grist Iachawdwr dyn. Enwau 'r pedwar Efangylwyr yw Matthew, Marc, Luc, ac Joan.
Histori yr brif Eglwys a scrifennwyd gan St. Luc, un o'r pedwar efangylwyr, ac a elwir, Actau 'r Apostolion. Histori agos o ddeuga [...]n o flynnyddoedd yw, sef o escynniad Christ hyd garcharu Pawl yn Rhufain.
Y llyfrau athrawiaethawl ydynt Epistolau [Page 5]a phrophwydoliaeth. Dosperthir yr epistolau wrth y rhai a'u hanfonodd hwynt, a'r rhai yr anfonwyd hwynt attynt.
Y llyfr olaf o'r Testament Newydd, ac o'r scrythyrau oll, a Elwir y Datcuddiad, o herwydd ei fod yn datcuddio dirgeledigaethau nad oeddent adnabyddus o'r blaen. Prophwydoliaeth yw am gyflwr yr Eglwys o amser yr Apostolion hyd ddiwedd y bŷd. Mal hyn y mae 'r scrythyrau yn histori barhaus o'r Eglwys o ddechreuad y bŷd hyd ei ddiwedd. Nid oes gyffelib iddo iw gael.
3. Y rhannod arall iw eglurhau yw, fod yr yscrythyrau yn air Duw.
Yr hyn a ymddengis;
1. Wrth burdeb a sancteiddrwydd eu defnydd, gan fod delw y Duw sanctaidd arnynt.
2. Wrth gyfundeb eu scrifennyddion er eu bod yn llawer, heb fod yr un yn gwrthddywedyd y llall, ond i gyd yn cydsynnio mewn sylwedd ac amgylchiad, megis rhai a arweinwyd gan yr un yspryd, yr hwn oedd Dduwiol.
3. Wrth ddyfnder y defnydd a gynhwysir ynthynt. Y mae ynddynt y fath ddirgeledigaethau, ac sydd uwchlaw dirnad dyn, ac a wnânt i'r-Angelion ryfeddu. 1. Pet. 1.12.
4. Wrth simlrwydd a mawrhydi eu hymadroddion, a roddant oleufyneg da eu bod o Dduw.
5. Wrth y destiolaeth a roddir: yr hon fydd oddiallan, ac oddifewn. Oddiallan, y rhyfeddodau a wnaeth y scrifen-wyr, gyda boddlawn gydsynniad vr Eglwys ym mhob oes a chyfaddefiad llawer o elynion. Oddifewn, drwy Weithrediad yspryd Duw yn y meddwl, yr hon yw 'r destiolaeth siccraf ac disiommediccaf o'r lleill i gyd.
Cymmhwys. 1. Gall hyn ddwyn ar [...]deall [Page 6] ini, cyfiawned yw 'r achos ini i ffieiddio cre [...]ydd y Papistiad, y rhai a ommeddant i'r bobl ddarllen yr yscrythyrau, gan eu cadw oddiwrthynt.
Yn 1. Sam. 13.19. ni ddarllenwn fod y Phylistiaid yn caethiwo Israel, ac er mwyn eu dal hwy tanynt, ni oddefent un gof yn y tir, rhag ir Hebreaid wneuthur iddynt eu hunain gleddyfau a gwaiw-ffyn i ymladd yn eu herbyn hwynt. Y cyfryw ddichell a arferodd y Papistiaid yn hîr, ac a arferant yn awr hefyd, i gadw pobl mewn dallineb ac anwybodaeth, rhag canfod o honynt y beiau Ffiaidd a'r sydd yn eu crefydd hwynt, canys ni chynwysant i'r bobl gael y Bibl yn eu iaith mamawl, eithr mynnant ei gloi ef rhagddynt hwy mewn tafod dieithr, rhag iddynt oddiyno dynnu rhesymmau i argoeddi eu opiniwnau a'u harferion ynfyd hwynt.
2. Dylai hyn ein hannog ni i dybied yr yscrythyrau yn werth-fawr, ac i fendithio Duw am en bod hwy yn ein plith ni; ac yn ein iaith naturiol, fel y gallo pob gradd, y tlawd gystal a'r cyfoethog, ddarllen ewyllis eu Tad yn iaith eu Mam.
3. Annoger ni i ddarllen ac i chwilio yr yscrythyrau. Ac fel y gwnelom ni hynny gyda mwy o ofn, dyfyrrwch, a budd, edrychwn arnynt hwy,
1. Megis llythyr Duw yn yr hwn yr yscrifennod ef i'r byd beth yw ei ewyllis ef, y peth a fynn ef iddynt ei wneuthur yma, a'r peth y mae ef yn ei amcanu ei wneuthur ô hwynt yn ol hyn. Pe rhôn ac i chwi glywed son am lythyr wedi ei yscrifennu o'r nef, a'i anfon at holl bobl y bŷd, a henw Duw ei hûn wrtho, sef Iehofab, wedi ei ddwyn attom ni drwy law Angel, pwy ni byddai chwanog iw ddarllen ef? y cyffelyb [Page 7]lythyr yw 'r scrythyrau, wedi eu danfon i wared attom ni, nid yn llaw Angel, ond yn llaw ei Fâb ei hun. Darllennwn ninnau hwynt megis y ddarllennem y fath lythyr.
2. Megis ein shiarter am ogoniant. Yr yscrythyrau ydyw scrifennadau Duw, drwy y rhai y gwnaeth ef deyrnas dragwyddol ar ei Sainct. Eu hawl hwynt ir deyrnas honno a gyrchir oddiyno. Mynega 'r scrythyrau,
1. Ryngu bodd iw Tâd roddi iddynt deyrnas. Luc. 12.32.
2. Pa ryw fath ddynion ydynt hwy, y rhai a gant etifeddu y deyrnas. Psal. 15.1. Pwy a drig yn dy babell; pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? yr hwn a rodia yn berffaith, &c. A oes gennych obaith cael gogoniant? a fynnech chwi brofi fod eich hawl iddo yn dda? Chwiliwch yr scrifenadau, gweithredoedd eich Tâd, sanctaidd yscrythyrau Duw, yno y cewch chwi weled beth yw eich hawl. Wrth ddarlien yr yscrythyrau y gellwch chwi ganfod eich enw eich hunain wedi ei yscrifennu yn y nef, hynny ydyw, os gwelwch y fath gynneddfau yn eich calonnau ac y mae 'r yscrythyrau yn eu gwneuthur yn nodau o etifeddion bywyd, mae 'r etifeddiaeth cyn siccred i chwi, a phe darllennasech eich enwau eich hunain yn llyfr y bywyd.
3. Megis y rheol wrth yr hon y mae rhaid ein llywodraethu ni yma, a'n barnu ni yn ol hyn. A fynnech chwi wybod pa fodd y dylech fucheddu? o Gofynnwch i'ch calonnau, pa fodd y mae'n scrifenncdic? pa fodd y darllenni? Darllenwch yr hyn sydd scrifennedic, a gwnewch yn ol yr hyn a ddarllenwch, a Duw 'r heddwch a fydd gyda chwi. A fynnech chwi wybod pa fodd y bydd i chwi yn ol hyn? Darllennwch vr yscrythyrau, a hwy a fynegant i chwi. Y rhain a adroddant i chwi eich barn am eich cyflwr tragywyddol. [Page 8]O na ddygech y meddyliau hyn am yr yscrythyrau yn eich calonnau, pan eloch ynghylch eu darllen hwy, pe dywedech yn eich Calonnau wrth fyned iw darllen hwynt, yr ydwyf yn awr yn myned i ddarllen llythr fy Arglwydd, yr hwn a ddanfonodd efe i lawr o'r nef; i edrych yn fy scrifennadau, ac i geisi, canfod yno fy hawl i ogoniant; i ystyried y rheol, wrth yr hon y rhaid fy rheoli a'm barnu. Pe deuem fel hyn i ddarllen y gair, o faint fyddai ein parch, a'n ofn, a'n cariad, a'n hyfrydwch wrth ddarllen!
Eithr cyn i chwi ddarllen byddwch siccr i weddio Duw, ar iddo drwy ei yspryd oleuo eich meddyliau chwi i ddeall ei ewyllis ef a gynwysir ynddynt, Ac wedi darllen, nac esceulyswch fyfyrio arnynt, yr hyn a fydd gymmorth godidog i'ch deall a'ch coffadwriaeth.
III. Gof. Pa fodd y mae'r yscrythyrau yn mynegi am Dduw?
Att. 1. Mynegant ei Natur ef. Exod. 3.14. Joan 4.24.
2. Ei Bersonau ef. Matth. 28 19.
3. Ei Briodoliaethau. Exod. 34.6.
4. Ei Weithredoedd ef. Rhuf. 1 20.
Wrth ymadrodd ynghylch Duw buddiol ini brofi yn gyntaf, Fod Duw. Rhaid i ni wybod Fod Duw, cyn ini ofyn beth yw ef.
1. Mae'n Eglur Fod Duw, wrth wneuthuriad nefoedd a daiar, a'r holl greaduriaid a'r sydd ynddynt: Y rhai ni allasent fyth fod heb wneuthurwr Holl-alluog. Ac wrth ddoeth alluog lywodraethiad y býd; y sydd yn dangos ini Dduwiol Ragluniaeth yn tra-awdurdodi [Page 9]ar y cwbl: Ac wrth gyffredinol gydsynniad, a chydwybod yr holl genhedloedd.
Cymmhwys. 1. Gan fod Duw, yna mae 'r dynion di-dduw anghredadwy iw argyoeddi yn gyfiawn, o'r rhai y mae tri math;
1. Rhai sydd ddynion di-dduw mewn opiniwn, gan feddwl yn ysmala nad oes Duw. Wedi iddynt hwy ymroddi i gyflawni eu ffiaidd drachwantau, fel na rwystrer hwynt yn y rhydd-did a [...] arferant i wneuthur pob math ar ddrygioni, ceisiant eu cymell eu hunain i dybied nad oes Duw. A thrwy gyfiawn farnedigaeth Duw arnynt, maent yn fynych heb feddyliau na chrediniaeth am Dduw, a chwedi eu rhoddi i fynu i feddwl anghymeradwy, ac i gydwybod seriedig, yr hyn yw'r farn drymmaf a all ddigwydd i ddŷn yma.
2. Mae rhai yn ddi-dduw ac yn anghredadwy yn eu dymuniadau; Er na lefasant rhag cywilydd y byd ddywedyd â'u geneuau, nad oes Duw; Etto yn eu calonnau y dymunant na bae un Duw i gymeryd dial ar eu hanwireddau. Ond gwybydded y cyfryw fod eu Dymuniadau hwynt i gyd yn adnabyddus i Dduw, yr hwn ai geilw hwynt ryw ddydd i roddi cyfrif am danynt.
3. Rhai sydd ddi-dduw ac anghred-ddynion mewn buchedd, megis y mae 'r annuwiol drygionus oll, y rhai yn eu dealldwriaethau a gydnabyddant fod Duw, ond gwadant ef yn eu gweithredoedd, gan fyw megis na bai na Duw, na nef, nac uffern; o'r rhifedi hwn y mae,
Yn gyntaf, y rhai sydd yn eu hyfrydu eu hunain wrth feddwl am ffieidd-dra ac aflendid, ac yn ymfendithio ynddynt. Yr hyn sy'n profi fod anghrediniaeth ddirgel yn llechu yn eu calonnau hwynt, heb ystyried fod Duw yn gwybod pob peth. Dealled y cyfryw fod [Page 10]dirgel feddyliau eu calonnau hwy mor adnabyddus i Dduw, a'u gweichthedoedd oddiallan. Deelli fy meddwl o bell, Ti a feddiennaist fy arennau, medd Dafydd. Psal. 139.2.13.
Yn all, y rhai a gymerant rydd-did i bechu yn y dirgel, o herwydd eu bod allan o olwg dyn. Fel hyn y dengis Job y modd yr ymannogai 'r llofruddion a'r godinebwyr eu hunain yn eu drwg, gan ddywedyd, ni chaiff llygad ein gweled. Job 24.14. Bod neb yn ceisio cuddio eu pechodau rhag ei lygad ef, yr hwn sydd yn lygad oll, a llygad yr hwn sydd ar bawb oll, sy'n dangos dirgel anghrediniaeth eu calonnau, megis na bai Duw bresennol ym mhob llê. Ystyried y cyfryw y peth a ddywed Duw am dano ei hun drwy 'r prophwyd Jeremi. Pen. 23.24. A lecha un memn dirgel-leoedd, fel na's gwelwyfi ef? Y gofyn hwn sy'n dangos ddarfod i rai eu gwenheithio eu hunain i'r cyfryw dyb, sef y gallent ymguddio mewn dirgel-leoedd fel na chanfyddai Duw hwynt. Ond y gwirionedd yw, ym mhob lle y mae llygaid yr Arglwydd yn canfod y drygionus, a'r daionus. Dih. 15.3.
Yn drydydd, y rhai a fynych Esceulusant ddyledswyddau sanctaidd. Megis darllen yr yscrythyrau, gweddio yn y dirgel, ac yn eu teuluoedd, a'r cyffelyb. Er iddynt wybod a chydnabod eu bod yn ddyledswyddau gorchymynnedig gan Dduw yn ei air, a chanmoledig gan esamplau gwyr duwiol, etto llawer a'u esceulusant, yr hyn fy'n tarddu oddiwrth anghrediniaeth gweithredol.
Yn bedwerydd, y rhai er iddynt ymddangos o'u bod yn gwneuthur cydwybod o gyflawni dyledswyddau duwiol yn gyhoeddus ac yn ddirgel, etto y maent yn hollhawl ddiofal am y modd y cyflawnant bwynt: gan weddio megis na baent yn gweddio, [...]a gwrando megis na baent [Page 11]yn gwrando, drwy 'r hyn y maent yn dangos dirgel angrhediniaeth eu calonnau. Canys ped faent yn gwir gredu holl-wybodus bresennoldeb Duw, ei fod ef yn chwiliwr calonnau, yn gwybod oddiwrth bob meddwl crwydraidd mewn gweddiau, a dyledswyddau eraill, nid allent ymfodloni cymaint wrth wneuthur y rhan oddiallan i ddyledswyddau duwiol.
Yn bumed. Y rhai ydynt yn arwain drwg fuchedd yn amlwg; er iddynt ar eiriau gydnabod Duw, etto gwadant ef ar eu gweithredoedd, canys hwy ydynt yn byw fel pe na bai un Duw. Ond llaw Dduw ai cyrhaeddiff hwy yn ddiammau yn fuan neu yn hwyr; ac yna y gorfydd iddynt ddywedyd, Diau fod Duw a farna ar y ddaiar. Psal. 58.11. Yr hwn a ddarparodd loneid uffern o ddychryn a thywyllwch ir fath ddynion annuwiol.
Yn chweched. Y rhai ar amryw achosion a ant at ddewiniaid a hudolion, a alwant hwy yn wyr neu yn wragedd doethion, ond mewn gwirionedd ydynt ff [...]liaid i'r cythrael. At y rhain yr aiff llawer i geisio gwybod beth a ddaw o honynt hwy, a phwy a briodant hwy, neu i geisio gwybod ple y byddo y pethau a gollasant hwy. Beth yw hyn onid ymwrthod â'r gwir Dduw, a cheisio gosod y cythrael yn ei lê ef?
II. Y gwirionedd hwn sef fod Duw a ddylai ein cynhyrfu ni i amryw ddyledswyddau; megis,
1. I'n darostwng ein hunain am yr hâd melldigedig o annuwiol anghrediniaeth a'r sydd yn ein calonnau ni, ac i arfer mawr ddiwydrwydd iw gadw i lawr rhag iddo darddu allan. Y Mae meddyliau annuwiol yn chwannog i godi ynghalonnau pobl, ac y mae Satan yn brysur iw cynhyrfu; am hynny eu doethineb hwy ydyw ymddarostwng o'i herwydd [Page 12]ai taflu hwy ymaith yn frawychus, a gochelyd mewn môdd yn y bŷd eu coleddu o'i mewn, ac yna nis cyfrifir hwy i chwi onid i Satan; yr hwn yw'r prif-awdwr o honynt.
2. I ddewis y gwir Dduw yn Dduw iti, yn etifedddiaeth ac yn ddedwddwch it. Yr hyn sydd reidiol i wir Gristianogaeth. Na ddewis ddim o'i flaen ef. Gosod dy galon arno ef yn unig, a bydded ef yn bennaf dymuniad ac hyfrydwch i'th enaid ti fel y gellych ddywedyd gydâ Dafydd. Psal. 73.25. Pwy sydd gennifi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiats ar y ddaiar neb gyd â thydi? Ac os dewisaist Dduw fel hyn i fod yn eiddoti, yna Duw a 'i holl briodoliaethau a fydd ar dy ran er mawr ddaioni iti. Ei ddoethineb ef a'th wna di yn ddoeth i iechydwriaeth. Ei allu ef a'th gynnorthwya di yn dy wendid, ac a'th gynnal ym mhob profedigaeth. Ei Hollddigonedd ef a'th ddiwalla, ei Drugaredd ef a dosturia wrthit yn dy gystuddiau oll, ei Râd ef a faddeua dy holl anwireddau, a'i Gariad a hyfryda dy enaid.
3. I rodio gydâ Duw mewn pob cydwybod dda. Ac i hyn,
Yn gyntaf, Dechreu bob diwrnod gydâ Duw; Deffro gydag ef y boreu, derchafa dy enaid at Dduw mewn gweddi a ddiolchgarwch am y gorphywystra a ganiadodd ef iti y nos aeth heibio: ac eiriolwch arno am eich cadarnhau chwi drwy ei râs fel y gogoneddoch ef yn eich holl ymarweddiad drwy 'r dydd. Ac yno gadewch i'ch calon osod ar fyfyrfod am Dduw, ei Air, a'i weithredoedd, a'i briodoliaethau gogoneddus oni bydd i feddyliau duwiol yn gyntaf gymeryd lle yn eich calonnau chwi, fe fydd Satan Siccr o fwrw i mewn iddynt ryw feddyliau ofer, bydol, ac aflan.
Yn ail, Rhodia gydâ Duw drwy gydawl y dydd. Gosodwch ef ger eich bron, ac ystyriwch eibresennoldeb [Page 13]ef yn eich cylch chwi, yn eich gweled chwi pale bynnag y byddoch, a pha beth bynnag y wneloch. Yr hyn a'ch attal rhag pechu, ac a'ch annog i dduwioldeb. Pa wâs ni wnaiff ei waith yn ddiwyd ac ef yn gwybod fod llygad ei feistr arno ef? yr un modd pa Gristion ni chyflawna ei ddyledswyddau yn gywir, pan ystyrio fod Duw yn bresennol yn ei gylch ef?
Yn drydedd, Diweddwch y diwrnod gydâ Duw drwy ddifrifol ymboliad o'r modd y darfu i chwi y dydd hwnw gyflawni dyledswyddau eich lleoedd, a'ch perthynasau: pa fodd yr ymddygasoch yn y dirgel ac mewn cymdeithas, pa fodd y gwnaethoch y pethau crefyddol, ai ag yspryd difrifol neu ysgoefon: pa feddyliau blasus a fu ynoch y dydd hwnw am Dduw, a Christ, a Thragywyddoldeb: oni esceulusasoch ryw ddyledswydd hynod, ac oni ryfygasoch wneuthur rhyw ddrwg amlwg: Ac fel hyn wrth ystyried ddigwyddiadau yr diwrnod, chwi a fyddwch yn fwy cydnabyddus â'ch cyflwr ysprydol, a chedwir chwi hefyd rhag myned ym mlaen mewn ystod bechadurus yn ddi edifeiriol.
A chwedi eich holi eich hunain fel hyn, cyn myned ich gwely byddwch siccr o wneuthur eich tangneddyf â Duw drwy ostyngedig gyffes o'ch pechodau, a gweddi galonnog am faddeuant o honynt drwy haeddedigaethau Jesu Grist, a bwriad iw gochelyd rhag llaw. O byddai i chwi orwedd i lawr yn eich pechodau yn ddiediferiol, a chael eich cyrchu allan o'r bŷd y nôs honno, oh mor druenus a fyddai eich cyflwr chwi i dragywyddoldeb!
4. Gof. Beth yw Duw?
Atteb. Yspryd yw Duw o anfeidrol berffeithrwydd.
Eglurh. Er agoryd yr Atteb yn well myfi a ddangosof i chwi,
[Page 14]1. Beth sydd yw ddeall wrth yspryd.
2. Beth wrth berffeithrwydd.
3. Pam y chwanegir anfeidrol at berffeithrwydd Duw.
Am y cyntaf, sef, Beth sydd yw ddeall wrth yspryd? yr wyf yn atteb mai sylwedd ysprydol: felly yspryd a arwyddocca ddau beth am Dduw,
Yn gyntaf, ei fod ef yn sylwedd, a chantho wir hanfod: Rhaid ir hwn a ddelo at Dduw gredu ei fod ef.
Yn ail, Fod ei sylwedd ef yn ysprydol. Sylweddau yw 'r goreu o bethau, ac ysprydion yw 'r uchaf a godidoccaf o sylweddau, gan eu bod yn bur, a galluog. Ac am hynny y maent gymmwysaf i arweddu 'r Duw anfeidrol i'n dealltwriaethau cyfyng ni, yr hwn a scrifennir ei fod yn yspryd. Joan. 4.24.
II. Perffeithrwydd a arwyddocca ddau beth,
1. Rhyddhâd oddiwrth bob deffygion.
2. Pob math ar odidowgrwydd.
Am hynny y dywedir fod Duw yn yspryd perffaith, o herwydd nad oes ynddo ddim yn niffyg, a bod ynddo gwbl odidowgrwydd.
III. Henwir Anfeidrol gydâ ei berffeithrwydd ef, i ddangos nad oes na mesur na therfyn wedi ei osod i Berffeithrwydd Duw, nid ellir na mesur nac amgyffred ei fawredd ef. Job 11.7.
Felly yr adroddiad hwn am Dduw, sef ei fod ef yn yspryd o anfeidrol Berffeithrwydd, er ei bod yn ferr, etto y mae mor gyflawn ac y dospartha i Dduw ragori ar bob peth yn y nef a'r ddaiar, a fedrer eu dychymyg, neu ydynt yn ddiau.
Yn gyntaf, Gan fod Duw yn Sylwedd ac y [...] wir Hanfod, dengis hynny ragor rhyngtho [Page 15]ef a dychymygion meddwl.
Yn ail, Gan ei fod yn Sylwedd Ysprydol dirnedir rhagor rhyngddo a sylweddau corphorol. Y mae math ar fod gan gyrph, ond y cyfryw ac sydd ddarostyngedic i lawer o wendid. Duw gan ei fod yn yspryd sydd gwbl rydd oddiwrth y cyfryw.
Yn drydedd, perffeithrwydd Dduw sydd yn dangos y rhagor rhyngtho ef ac ysprydion amherffaith, sef eneidiau dynion drwg, a chythreuliaid. Y mae y rhain yn ysprydion, ac o ran rhyw eu sylwedd y maent yn rhagori ar gyrph. Eithr y pechod yr hwn a'i meddianodd hwy sydd y fath erchyll ddiffyg, ac nad ellir darostwng iddo yspryd y perffeithrwydd.
Yn bedwerydd, Anfeidroldeb perffeithrwydd Duw a ddengys ragor rhyngtho ef ac ysprydion eraill y rhai fydd berffaith yn eu rhyw, megis y mae 'r Angelion da, ac eneidiau y sainct gogoneddus. Heb. 12.23. Er bod y rhain yn Ys [...]dion, ac yn ysprydion perffaith, etto y mae eu perffeithrwydd hwy yn derfynol; mae ganddynt eu mesur: eithr p [...]ffeithrwydd Duw sydd y tu hwnt i bob terfyn.
Cymh. Gan f [...]d Duw yn yspryd, dyscwn oddiyma,
Yn gyntaf, na wnelom fath yn y bŷd ar ddelw o Dduw, gymmaint ac yn ein meddyliau: na thybiwn Dduw yn debyg i ddŷn, nag i vn creadur arall.
Yn ail, ei addoli ef mewn yspryd a gwirionedd. Addoliad â'r galon ydyw calon addoliad. Rhaid addoli â'r corph hefyd; y mae 'n weddus arfer y dwylo â'r llygaid, a'r tafod, a'r gliniau yn addoliad Duw; eithr yr enaid sydd i fod yn bennaf, nid yw 'r lleill ddim hebddi. Derchefwch y dwylo a'r llygaid, a phlygwch y gliniau, ond byddwch siccr o dderchafu 'r galon, a phlygu o'r enaid ac ymdywallt ger bron Duw. Gweddiwch [Page 16]â'ch deall ac â'ch serch; ymuned eich ffydd a'ch cariad, eich dymuniadau a'ch gobaith oll, i gyd-gyflwyno eich gweddiau.
Gan fod Duw o anfeidrol berffeithrwydd, Dyscwn,
1. Gasau pechod, drygioni yr hwn sydd drymach, o herwydd ei wneuthur yn erbyn Mawrhydi anfeidrol. Arswydi wneuthur ammarch i dwylog marwol, pam y rhyfygi wneuthur yn erbyn y Duw Anfeidrol? ynfytted yw pechaduriaid, a hwy yn lliaws o brofed gwael ymosod i wrthwynebu y Duw anherfynol! od yw digofaint brenin fel cennadon angeu, Dihar 16.14. P [...]m y digi Frenin y brenhinoedd?
2. Berchi Duw, a byw yn oestadol yn ei ofn ef, yn enwedig pan nesaom atto ef iw addoli ef.
3. Na osodwn derfynau i'n serch tuag atto ef. Cerwch ef â'ch holl galon, â'ch holl feddwl, â'ch holl allu. Ymgyrhaeddwch yn uchaf ac y galloch: gan ei fod ef o berffeithrwydd anfeidrol, ac yn haeddu cariad.
5. Gof. Pa sawl Duw sydd?
Atteb. Nid oes ond vn Duw yn vnig, a ddosperthir yn Dri pherson; y Tâd, a'r Mab, ar Yspryd Glân, y sydd gydradd mewn Gallu a Gogoniant.
Eglurh. Y mae yma chwe pheth iw hyspysu.
1. Nad oes ond un Duw yn vnic.
2. Mai ef yw 'r Gwir Dduw.
3. Fod Tri pherson yn y Duwdod.
4. Enwau a threfn y Tri pherson.
5. Fod y Mâb a'r Yspryd Glân yn Dduw, yn gystal a'r Tâd.
6. Fod y personau oll yn gydradd mewn gallu a gogoniant.
I. Nad oes ond un Duw yn unig, Sydd [Page 17]eglur o'r yscrythyr. Deut. 6.4. Clyw ô Israel, yr Arglwydd ein Duw ni svdd un Arglwydd. 1 Cor. 8.4.5, 6. Ni a wyddom, medd yr Apostl, nad oes vn Duw arall, onid vn. Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau pa vn bynnag ai yn y nef ai ar y ddaiar, (megis y mae duwiau lawer, ac Arglwyddi lawer) eithr i ni nid oes ond un Duw. Megis pe dywedasai, gwneled y cenhedloedd y faint a fynnont o dduwiau, etto mewn gwirionedd nid oes ond un Duw. A dir yw nas gall fod ond un Duw, o herwydd ei fod ef yn anfeidrol ym mhob math ar berffeithrwydd, ac y mae yn erbyn natur anfeidroldeb fod mwy nag vn.
II. E [...]e yw 'r Gwir Dduw, megis y cydnebydd ein Iachawdwr, Joan. 17.3. Hyn yw 'r bywyd tragywyddol, iddynt dy adnabod di yr vnic wîr Dduw. Ac medd yr Apostol, 1 Thes. 1.9. Troesoch oddiwrth eulynnod i wasanaethu 'r bywiol a'r gwir Dduw. Mae ef yn wir Dduw, ac nid un gau a ddychymygwyd. Nid yw eulynnod ddim yn y byd. 1 Cor. 8.4. sef nid ydynt ddim o'r peth y mae eu haddolwyr yn tybied eu bod hwy; nid oes ynddynt ddim duwiol anian: fel y dywed Hezeciah. 2 Brenh. 19.17.18. Gwir yw ô Arglwydd, i frenhinoedd Assyria roddi duwiau 'r cenhedloedd yn tân; canys nid oeddynt hwy dduwiau, eithr gwaith dwylo dŷn o goed a maen.
III. Fod Tri pherson yn y Duwdod. Er nad oes ond un Duw yn y Sylwedd fendigedig, etto y mae Tri pherson ynddi. Dyma vn o'r dirgeledigaethau mwyaf yn y ffydd Gristianogol, nad ellir ei amgyffred, ond a ddylid ei gredu, am ei fod wedi ei osod ar lawr yngair Duw, 1 Joan 5.7. Y mae tri yn tystiolaethu yn y nêf, y Tàd, a'r Gair, a'r yspryd Glân, a'r tri hyn un ydynt, mewn hanfod. Yma y cyhoeddir Trindod, mae tri yn tystiolaethu gerfydd eu henwau, y Tâd, y Gair, a [...] [Page 18]yspryd Glân. Lle wrth y Gair y deellir Christ yr hwn a gyfenwir yn Air, oblegyd i Dduw drwy ei Fâb fynegi ei ewyllys iw Eglwys, megis yr ydym ninnau yn datcan ein meddwl drwy ein geiriau. Hefyd y mae profiad eglur o'r Drindod yn y Comisiwn a roddes ein Achubwr iw Apostolion cyn ei dderchafiad ir nef, I fyned i ddyscu 'r holl genhedloedd, ac iw bedyddio yn enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân.
IV. Am enwau a threfn y Tri pherson. Y Tâd yw 'r cyntaf, y Mâb yw 'r ail, yr yspryd Glân yw 'r trydydd. Nid yw 'r Tâd gyntaf o ran amser, ond o ran trefn, gan fod y personau oll yn dragywyddol, ac yn gyfartal mewn gallu a gogoniant.
V. Fod y Mâb a'r Yspryd Glân yn Dduw gystal a'r Tàd.
1. Fod Christ yr ail person yn Dduw, a ynaddengis yn eglur.
Yn gyntaf, wrth fod yr yscrythyr yn ei alw ef yn Dduw yn fynych. Esay 9.6. Gelwir ef y Duw Cadarn, Rhuf. 9.5. Yn Dduw Bendigedig yn oes oesoedd. Joan 1.1. yn y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd [...]ŷd â Duw, a Duw oedd y Gair: sef Jefu Grist, yr hwn a elwir yn yr yscrythyr yn Air, oedd Dduw.
Yn ail, cydnabyddir yn yr yscrythyrau fod priodoliaethau hanfodol Duw ynddo ef; megis Tragywyddoldeb, oll-wybodaeth, a'r cyfryw. Datc. 1.8. Joan 21.17.
Yn drydydd y gweithredoedd a'r rhyfeddodau a wnaeth ef ar y ddaiar, a gyhoeddasant ei Dduwdod ef: Joan 5.36. ac 10.25.
2. Fod yr yspryd Glân yn Dduw a ymdde [...] gis.
Yn gyntaf, o herwydd enw Duw a roddir iddo ef, Act 5.3.4. Mynegodd Petr gan geryddu Ananias am ddywedyd celwydd wrth [Page 19]yr Yspryd Glân, iddo ddywedyd celwydd wrth Dduw.
Yn ail, cyfrifir iddo weithredoedd priodol i Dduw, megis gweithredoedd creadigaeth. Gen. 1.2. Job. 26.13. a gwaith yr adenedigaeth. Joan. 3.5. Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. A phwy a ddichon wneuthur y fath bethau mawrion ond Duw?
Yn drydydd, cyfrifir iddo hanfodol Briodoliaethau Duw. Megis, tragywyddoldeb, Heb. 9.14. Gelwir ef yr Yspryd Tragywyddol. Ac ollwybodaeth. Joan. 14.26. A bod yn bresennol ym mhob lle. Psal. 139.7. Iba le yr âf oddiwrth dy yspryd? Je yr yspryd a ddichon rag-fynegi pob peth. 1 Tim. 4.1. Yr hyn ni wyr neb ond Duw.
VI. Fod y personau oll yn gyd-radd mewn gallu a gogoniant. Nid yw 'r vn yn rhagori ar y llall, eithr i gyd yn gyfartal yn eu Duwiol Briodoliaethau a'u perffeithrwydd: Fel nad yw un o honynt fwy na gogoneddusach nâ'r lleill. Er bod un person i'r Tâd, ac un arall ir Mâb, ac un arall ir yspryd Glán, etto yr un yw Duwdod y Tâd a'r Mâb a'r Yspryd Glân; eu Gogonian [...] sydd gyd-radd, a'u Mawrhydi o'r un Tragywyddoldeb. Megis y mae ynghrêd Athanasius.
Etto dosperthir hwynt y naill oddiwrth y llall:
1. Mewn trefn, y Tâd yn gyntaf, a'i hanfod o honaw ei hun yn vnic. Y Mâb yn ail, a'i hanfod o'r Tâd yn vnic. A'r Yspryd Glân yn drydydd, a'i hanfod oddiwrth y Tâd a'r Mâb.
2. Yn y gweithredoedd perthynasol iddynt eu [Page 20]hunain, sef a gyflawnant iw gilidd. Y Tâd sy'n cenhedlu Psal. 2.7. Y Mâb a genhedlwyd. Joan. 1.18. Yr Yspryd Glân sy'n deilliaw. Joan. 15.26.
Cymmhwys. Gan nad oes ond un Gwir Dduw yn vnic, gwasanaetha hyn i argyoeddi,
1. Y Papistiaid, y rhai sy'n ymddangos eu bod yn gosod i fynu lawer o dduwiau heb law y Gwir Dduw. Megis yn y gallu gormodawl a roddant i'r Pâb: ac i Fair Forwyn; yr hon a wnant yn dduwies, gan ei gosod o flaen Christ, a gweddio arni i orchymyn ei Mâb i wneuthur yr hyn a ddymunant. Gwnant dduwiau hefyd o'r Sainct a ymadawsant â'r bŷd, gan weddio attynt, megis pe 'r adwaenent ddirgelion calonnau dynion, ac y baent bresennol ym mhob llê: yr hyn bethau sydd briodol i Dduw yn unic, ac ni chyfrennir i greadur yn y byd, nac Angelion, na Sainct.
2. Llawer o Brotestaniaid cnawdol; y rhai, er eu bod ar eiriau yn proffessu un Duw, ac yn rhoddi addoliad oddiallan iddo ef yn vnic, etto gosodant i fynu lawer eulun yn eu calonnau, ac felly gwnant iddynt eu hunain fwy o dduwiau nag un. Gwnaiff rhai Dduw o'i hyfrydwch cnawdol, gan ymroddi i gyflawni eu trachwantau, fel y gwna y rhai thrythyll oll. Eraill a wnânt Dduw o'u golud bydol, gan osod eu serch arnynt, a rhoddi eu hymddiried ynddynt, yr hyn sydd eulun-addoliaeth, megis y dywed yr Apostl fod cybydd-dod, Col. 3.5. Rhai hefyd a wnânt eu bol yn Ddvw, gan ymroddi i gyflawni eu blŷs cnawdol, fel y gwna cyfeddach-wŷr. Y gwir yw, nad oes ond ychydig yn y bŷd, a'r ni's gwnânt iddynt eu hunain ryw dduwiau eraill heb law y gwir Dduw, [...]'r [Page 21]rhai yr aberthant eu serch, a'u poen, a'u dymuniadau pennaf. Beth bynnag a hoffo dynion yn fwy na Duw, hwnw y maent yn ei osod i fynu yn Dduw iddynt hwy. Gwn y gwada pawb hyn, ac y dywedant, Na att [...] Duw i ni fod gennym, nac addoli Duw arall heb law 'r unic wîr Dduw; etto gwybydd yn siccr, fod beth bynnag a hoffi, ac yr ymhyfrydi ynddo yn fwyaf, wedi myned yn Dduw iti.
Yn awr hola dy hun yn ddifrifol, a yw dy feddyliau a'th serch wedi eu gosod ar dy drachwantau, ac ar foddhau dy flŷs cnawdol, yn fwy nag ar wasanaethu Duw, a'i fodloni: neu ar bethau bydol, pa fodd i fyned yn fawr yn y bŷd: os felly y mae, yna yn ddiameu dy chwant, dy fol a'r bŷd yw dy dduwiau ir rhai yr ymgrymmi ac yr aberthi. Oh frynted yw i Gristianogion, a nhwy ar eiriau yn cyfaddef y gwir Dduw, etto ar weithred wneuthur iddynt eu hunain gymmaint o dduwiau eraill! Wrth wneuthur Duw arall chwi a wadasoch y Duw sydd vchod. Na ddywed nad wyt yn gwneuthur mor fath yscelerder: Diau ni wnei lai na cheisio yspeilio Duw o'i holl ogoniant, yr hwn wyt yn gosod dy galon ar beth arall yn fwy.
II. Gwybodaeth dirgelwch y Drindod sy'n tueddu llawer at Ogoniant Duw a lleshâd i ninnau.
Yn gyntaf tuedda at ogoniant Duw, gan fod felly gydnabyddiaeth o'r rhagor y sydd rhyngddo ef a'r gau dduwiau oll. Jer. 10.6. Gwir yw fod priodoliaethau anghyfrannadwy Duw, a'i weithredoedd duwiol ef yn ei ddosparthu ef oddiwrth bob peth arall. Canys nid oes neb yn y nefoedd nac ar y ddaiar, [Page 22] yn Dragywyddol, yn Oll-Allueg, yn Bresennol ym mhob man, yn Gwybod pob peth, yn Greawdwr y cwbl oll, ond Duw yn unic: etto tybiodd yr eulun-addolwyr iw gau dduwiau hwynt fod felly. Ond ni ddaeth erioed i galon un eulun-addolwr i dybied ei Dduw yn un a thri. Dyma y fâth ddirgelwch, ac nas gall eulun debygu i Jehofah ynddo.
Yn ail, megis y tueddu gwybodaeth am ddirgelwch y Drindod at ogoniant Duw, felly hefyd i'n budd ninnau: Canys,
1. Dengis Fôdd Tadoliaeth Duw, pa fodd y mae ef yn Dâd ini, sef drwy Jesu Grist. Canys a Duw yn Dâd i Grist wrth natur, y mae wrth hynny yn myned yn Dâd drwy râs ir cyfryw ac a Gredant yn Ghrist. Joan 1.12. ac 20.14.
2. Dengis i ni Brynwr a chyfryngwr cymwys a galluog. Canys y mae gennym Dduw yn gyfryngwr drosom at Dduw. Duw yr Mâb yn gyfryngwr at Dduw 'r Tâd. A pha ryw hyder y gallwn ni ymddiried ir cyfryw Gyfryngwr, Brynur, ac Iachawdwr! Y dirgelwch hwn o'r Drindod yw sail pingciau ein ffydd ni ynghylch teilyngdod person ein Iachawdwr, a gwerthfawrogrwydd yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd efe drosom ni.
3. Rhydd galon yn y gweiniaid yn erbyn holl alluoedd uffern, wrth wybod fod yr yspryd sydd yn gynhaliwr ini yn Dduw, a'i gymorth yn nefol, ac y dichon ef â'i Allu Duwiol ein cadarnhau ni i wrthsefyll pob ymgyrch gelynoi.
Gof. 6. Beth yw priodoliaethau Duw?
Atteb. Priodoliaethau Duw ydynt Rinweddau rhagorol cyfrifedic i Dduw er cyfarwyddo ein deall ni iw ddirnad ef yn well, megis Tragywyddoldeb, Anghyfnewidioldeb, Holl-alluogrwydd, Doethineb, Sancteiddrwydd, Cyfiawnder, Daioni, Gwirionedd, &c.
Eglurh. Er mwyn gwell yspysrwydd am Briodoliaethau Duw, creffwn fod dau fath o honynt, sef Anghyfrannadwy, a chyfranadwy.
Priodoliaethau Anghyfrannadwy sydd eiddo Duw yn vnic, ac ni ellir mewn môdd yn y bŷd eu cyfrif hwynt i neb arall. Ynddynt hwy nid oes neb fel yr Arglwydd. Psal. 113.5.
Priodoliaethau cyfrannadwy yw'r cyfryw ac a ellir en cyfrannu i Greaduriaid, megis perthynol iddynt: Felly gall dynion fod yn sanctaidd ac yn gyfiawn i debygu i Dduw.
Y rhain a ganlyn ydynt rai o Briodoliaethau Anghyfrannadwy Duw, megis
1. Tragywyddoldeb, bod heb na dechreu, na diwedd. Ni bu dechreu i Dduw, ac ni bydd iddo ddiwedd chwaith, eithr Duw yw o dragywyddoldeb i dragywyddoldeb. Psal. 90.2. o'r creaduriaid cafodd rhai ddechreu, a chant ddiwedd hefyd, sef y creaduriaid islaw eneidiau dynion. Cafodd eraill o honynt ddechreuad, ond ni chant ddiwedd fyth, megis yr Angelion ac eneidiau dynion. Ond ni chafodd Duw erioed ddechreuad, ac ni chaiff [Page 24]fyth ddiwedd, ac dyna ei Draywyddoldeb ef.
Cymmhwys. Dysced hyn ini hyderu ar Dduw drwy ffydd dros ein gwragedd a'n plant. Er ein bod ni ein hunain yn farwol, ac y gellir ein cymeryd ni ymaith cyn i ni wneuthur rhagddarbod cymmhedrol iddynt, etto y mae Duw yn dragywyddol, ac yn parhau byth. Am hynny wedi ini orchymyn ein plant a fo ar ein hol iw Dadol ofal a'i ragluniaeth ef, ni allwn yn hyderus orphywys arno ef, am roddi iddynt ddiddanus ddiwalliad o bob peth angenrheidiol. Gen. 50.24. Dywedodd Joseph wrth ei frodyr, myfi sydd yn marw, a Duw gan ymweled a ymwel â chwi: sef â'i drugaredd. Yr un ffunyd y dichon pob tâd ffyddlon ddywedyd wrth ei blant ar ei glaf-wely; yr wyfi yn myned o'r byd hwn, ond er imi farw, etto byw yw Duw pob diddanwch, yr hwn a fydd i chwi yn Dduw ac yn Dâd, ac a gymer ofal drosoch chwi, yn ol ei addewid grasusol. Jer. 49.11. Gâd dy ymddifaid, myfi a'i cadwaf hwynt yn fyw: ac ymddirieded dy weddwon ynof fi. O herwydd i mi fyned dan ofal am danynt hwy.
2. Yni y cyfiawn a fydd dedwydd byth. Duw a'i hoffa hwynt yn anwyl, ac sydd iddynt hwy yn Dad ac yn etifeddiaeth dragywyddol. Hwy a fyddant fendigedic tra fo Duw a nhwythau yn byw ynghyd, a hynny a fydd tros byth bythoedd. I Thes. 4.17.
3. Yna yr annuwiol a fyddant druenus byth: Y mae Duw yn elyn tragywyddol i bechaduriaid diedifeiriol, ac y mae ganddo dân tragywyddol iw llosci hwynt ynd [...]o.
O na byddech doethion a chymodi â Duw drwy
3. Y mae y Briodoliaeth hon o'r eiddo Duw, yn rhoddi cyssur i bob un ffyddlon, a'r sydd iddo ran ynGhrist. Canys gan ddarfod iddo ef megis eu mâch a'u Iachawdwr wneuthur iawn i gyfiawnder Duw drostynt hwy, ni âd cyfiawnder i Dduw ofyn iawn drachefn ganddynt hwy, y rhai a dderbyniasant ac a gyflawnasant ddyledswyddau 'r ail Cyfammod. Nid yw echwynwr, wedi iddo gael taledigaeth gan y mâch, yn ceisio un drachefn gan y dyledwr. Gall credadyn o herwydd hyn dynnu cyssur oddiwrth fyfyrdod am Gyfiawnder Duw.
IV. Priodoliaeth arall yn Nuw yw Daioni; vr hon sydd fawr iawn, ac anfeidrol. Y mae 'r Arglwydd yn mynegi am dano ei hun, ei fod ef yn aml o drugaredd. Exod. 34.6. yr hyn sydd hynod wrth ei oll ddigonolrwydd ef. Y mae ynddo ef dryssor aneirif o bob daioni, o'r hwn y gall y byd gael diwallu pob angen ysprydol a chorphorol ym mhob cyflwr. Ac fel y mae ef yn llawn [...] mae ef yn haeli [...] [...] [...] thur llés i [...] [...] wydd i [...] nefoed [...] [...] [Page 36] trugarog a graslawn, hwyrfrydic i ddig, ac aml o drugaredd a gwirionedd, yn cadw trugaredd i filoedd, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod. Exod. 34.6.7. Ac addaw y caiff pob peth gydweithio er daioni iddynt. Rhuf. 8.28.
Cymmwys. I Y mae daioni Duw wrth ei ystyried yn dangos fod ein pechodau ni yn drymion, o herwydd eu gwneuthur yn erbyn Arglwydd mor ddaionus; yr hwn a'n dilynodd ni â'i ddaioni ein holl ddyddiau. Felly y dannodwyd eu pechodau i bobl gynt. Deut. 32.6. Ai hyn a delwch ir Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? ystyried faint oedd y pechodau a faddeuodd Duw i Fair, a barodd iddi dywallt dagrau mo'r helaeth A hyn a gystuddiodd galon Dafydd, pan gafodd deimlad o'i bechodau, sef iddo bechu yn erbyn Duw da. Yn dy erbyn di, dydi dy hunain y pechais. Psal. 51.4.
2. Dylai ystyriaeth am ddaioni Duw weithio [...] ni iw garu ef yn ddirfawr. Dy [...] na thâd neu fam, [...] oll ac a fedd [...] oll enaid, ac [...] [Page 37]eu deall yn tybied yn werthfawr am Dduw, gan wneuthur mwy cyfrif o honaw ef nag o ddim arall, ac yn fodlon i ymadel â phob peth er ei fwyn ef; fod hynny yn gariad cryf, er na byddo mor deimladwy ac un naturiol, a'r sydd yn ennyn oddiwrth bethau cnawdol.
3. Y mae daioni Duw yn dyscu ini ddiolchgarwch. Pwy o honom nad ydym gyfrannogion o aml ddaioni Duw? wedi ein gwaredu oddiwrth beryglon a doluriau, a'n cadw oddiwrth amryw bechodau, a'n cynal dan amryw brofedigaethau? fel y gallom ddywedyd yngeiriau 'r Apostol. 2. Cor. 4.8.9. Buom gystuddiol ym mhob peth, ond nid mewn ing, mewn cyfyng gyngor, ond nid yn ddiobaith. yn cael ein herlid ond heb ein llwyr-adel; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha.
Je mor fynych y gwnawd ini brofi a gweled mor dda yw 'r Arglwydd drwy gyfraniad o'i râd enwedigol, a'i gariad, ac gspysrwydd o'i diriondeb tragywyddol! Oni bu felly gyda thi? pam ynteu na elwi arnat dy hun gan ddywedyd, Fy enaid bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei enw sanctaidd ef: yr hwn sydd yn gwaredu dy fywyd o ddestryw, yr hwn sydd yn dy goroni à thrugaredd ac â thosturi. Psal. 103.
4. Daioni Duw a ddylai ein hynnill ni i ufydd-dod, a'n bywoccau ni i rodio yn fanylach gydâ Duw. Y rheswm hwn a arferodd Samuel wrth bobl Israel. i Sam. 12.24. Ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn gwirionedd, â'ch holl galon, Canys gwelwch faint a wnaeth efe eroch. Dylaem wneuthur llawer er mwyn ei enw ef, yr hwn a wnaeth [Page 38]gymaint erom ni. Ymegniwn i debygu i Dduw mewn daioni. Megis ac y mae ef yn dda ac yn gwneuthur daioni, felly y mae yn ddyled arnom ni, ac a fydd yn rhan doeth ini, fod yn dda, a gwneuthur mwyaf fyth ac allom ni o ddaioni. Os wyt swyddog, bwriada arferu dy allu i ogoniant Duw ac i ddaioni dy wlâd. Os wyt wenidog yr efengil, gosod allan dy nerth i wneuthur mwyaf ac allech o lesâd i eneidiau pobl. Os bendithiodd Duw di â rhan helaeth o olud y bŷd hwn, fel y ceffech amser gwna dda i bawb, yn enwedig i deulu 'r ffydd. A bydded iti nid yn vnic dderbyn odfeydd i wneuthur daioni, eithr hefyd chwilio am danynt. A bydded i ti gyfrannu yn gyfattebol ir hyn a roddes Duw iti. Cany s i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo. Luc. 12.48.
Os wyt dlawd, ac yn dy dybied dy hun mewn anallu i wneuthur da i eraill, etto tydi a elli annog rhai galluog i wneuthur daioni. Je a gwneuthur da dy hun drwy ymarweddiad sanctaidd, a gostyngedig. Drwy 'r hyn y gelli gau safnau gelynion Duwioldeb, a harddu proffess crefydd. Bydded gwneuthur daioni yn ein lleoedd, a'n galwedigaethau, a'n perthynasau, yn gwbl waith ini yn y bŷd, a chyfrifwn y dydd hwnw wedi ei golli, yn yr hwn ni wnaethom neu ni ddarparasom ni ryw dda. A chwedi 'r cwbl na thybiwn ini haeddu dim ar law Dduw, a chydnabyddwn hyn yn vn o'n trugareddau pennaf, i Dduw ein anrhydeddu ni â gallu i wneuthur neb ryw ddaioni yn ein cenhedlaeth.
V. Y Briodoliaeth olaf a grybwyllaf am deni [Page 39] yw Gwirionedd Duw. O herwydd pa un y gelwir ef y Gwir Dduw. Joan. 17.3. Ac y mae yn mynegi ei fod yn aml o wirionedd. Exod, 34.6. Yr hyn sy'n yspysu ini fod Duw yn ddiau, yngwrthwyneb ir gau dduwiau dychymygedic. Ei enw ef yw, ydwyf yr hyn ydwyf, Exod. 3.14. Ac mai gwir a fynega ef. Y mae pob peth fel y mynega Duw ei fod ef. Yr hyn y mae ef yn ei ddywedyd ei fod yn dda, sydd dda; a'r hyn a ddywed ef ei fod yn ddrwg, sydd ddrwg yn siccr. A bydd pob peth a'r y dywedo Duw y caiff ef fod. Y mae ef yn ffyddlon yn ei addewidion, a geir-wir yn ei fwgythion, ni ddiangc vn gair a ddywedo heb ei gyflawni. Medd ef yn Jeremi, Pen. 18.7.8. Pa bryd bynnag y dywedwyf am ddiwreiddio, a thynnu i lawr, a difetha cenedl, neu frenhiniaeth; os y genhedl bonno y dywedais yn ei herbyn, a dry oddiwrth ei drygioni, myfi a edifarhàf am y drwg a amcenais ei wneuthur iddi. Yma y gwelwch henwi edifeirwch yn fodd i ddiangc rhag y bygwth. Bwgythir farnedigaethau Duw i'n herbyn ni mewn modd ammodol, sef onid edifarhawn. Henwir y cyfryw ammod weithiau, i ddangos bod hynny i ni yw ddeall amserau eraill pryd nas henwer.
Cymmwys. 1. Y mae hyn yn adrodd dychryn wrth yr annuwiol diedifeiriol. Gan fod yr Arglwydd yn Dduw 'r gwirionedd, pa farnedigaethau bynnag a fwgythir yn ei air ef, yn ddigon siccr a gyflawnir yn ei amser ef. Bwgythiodd yn ei air, na chaiff na godinebwŷr, nac eulyn-addolwŷr, na maswedd-wŷr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr etifeddu teyrnas Dduw. Ac y caiff yr annuwiolion diedifeiriol oll eu troi i uffern; Ac felly y bydd yn ddiammau.
[Page 40]2. Dysced pob Christion ymddiried i Dduw. Beth bynnag a addawodd Duw ymddiriedwch ar hynny, Canys y mae ef yn ffyddlon, ac ai gwna. Cymerwch ofal o'ch bod yn blant yr addewid, ac i chwi gyfran ynddo, ac yna nac ammheuwch ei gyflawniad.
Gof. 7. Pa fodd y dosperthir Gweithredoedd Duw?
Atteb. Adroddir am weithredoedd Duw dan ddau bennod, sef, Creadigaeth a Rhagluniaeth.
Gof. 8. Beth yw gwaith creadigaeth?
Atteb. Gwaith Duw yn y dechreuad yn gwneuthur pob peth o ddim drwy ei air, yn dda odiaeth mewn chwe diwrnod.
Eglurh. Y mae yn yr atteb hwn chwe pheth iw yspysu.
1. Pwy a wnaeth y bŷd?
2. Beth sydd iw ddeall pan ddywedom i Dduw wneuthur pethau yn y dechreuad?
3. Pa bethau a wnaeth Duw y pryd hynny.
4. Pa fodd y gwnaeth Duw bob peth.
5. Ym mha amser y gwnaeth Duw yr cwbl.
6. Ym mha gyflwr y gwnaeth Duw bob peth ar y cyntaf.
I: Am y cyntaf, pwy a wnaeth y bŷd: Dywedir Gen. 1.1. mai Duw ai gwnaeth ef. [Page 41] Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefoedd a'r ddaiar. Yn ddiau creadigaeth ydoedd waith y Drindod Fendigedic, ac nid yw felly iw gyfrif ir un o'r personau, fel y cauer y lleill allan: Canys gan fod y Tâd a'r Mâb a'r Yspryd Glân yn un Duw, rhaid eu bod ynghyd yn gweithredu. Am hynny yr yscrifenir yn Gen, 1.26, Megis pe buasai 'r Drindod yn ymgydgynghori ynghylch gwneuthuriad dyn. Gwnawn ddyn ar ein delw ni.
2. Beth sydd iw ddeall wrth wneuthuriad Duw, sef darfod iddo greu pob peth. Creu yw rhoi bod i bethau na buasent erioed, a hynny o ddim. Gen. 1.1. Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefoed [...] a'r ddaiar. Sef pryd nad oedd defnydd yn y byd iw gwneuthur hwynt o honaw. Canys pe buasai 'r fath beth o'r blaen, yna ni alwasid y pryd hynny dechreuad. Creawdd Duw yr Nefoedd vchaf, a'r Angelion, a'r Defnydd Cymyscedic cyntaf o ddim. Ond creawdd ddyn o lwch y ddaiar, a'r wraig o ais y dyn.
3. Pa bethau a wnaeth Dduw yn y dechreuad: sef pob rhyw beth. Col. 1.16. Trwyddo ef y crewyd pob dim a'r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaiar, yn weledig ac yn anweledig.
4. Pa fodd y gwnaeth Duw bob peth, sef yw hynny, drwy ei air. Gen. 1.3.6. A Duw a ddywedodd bydded goleuni, a goleuni a fu. Bydded ffurf [...]fen, ac felly y bu. Psal. 33.6. Trwy air yr Arglwydd y gwnaethpwyd y nefoedd. Wrth air Duw y deallwn ei ewyllys. Efe a ddywedodd, hynny yw, efe a ewyllysiodd ir fath bethau fod.
5. Am yr amser ym mha vn y gwnaeth Duw [Page 42] bob peth. Exod. 20.11. Mewn chwe diwrnod gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar. Gallasai Duw wneuthur pob peth mewn mynudyn, ond rhyngodd bodd iddo gymeryd yr yspaid hyn o amser.
6. Am y cyflwr ym mha vn y gwnaeth Duw bob peth ar y cyntaf, efe ai gwnaeth hwy yn dda iawn. Yr ydoedd gwaith y creadigaeth yn gwbl hardd, heb grychni yn wyneb y bŷd, a phob creadur yn brydferth yn ei ryw. Gen. 1.4.10.30. Yn niwedd pob dydd edrychodd Duw ar y pethau a wnaethai, ac a'u cafodd hwy yn dda. Craffwn ar hyn er mwyn cyfiawnhau Duw, er bod drygau yn y byd. Y mae llawer creadur yn awr yn niweidiol, nad oedd felly cyn i ddŷn bechu.
Cymmwys. Y mae athrawieth y creadigaeth yn fuddiol lawer ffordd:
I argyoeddi yr anghredadwy o'n amseroedd ni, y rhai sydd anfodlon i gyfaddef y Gwir Dduw, er bod gwneuthuriad nefoedd a daiar, a phob peth ynddynt yn ei ddangos ef yn eglur. Y mae cymaint o allu, doethineb, a daioni Duw wedi eu hyscrifennu ar y creaduriaid oddiallan, a chymaint o ddeall wedi ei roddi yn eneidiau dynion oddifewn, nas gall neb (ond y rhai a dywyllwyd drwy farnedigaeth) ystyried y bŷd gweledic, heb gydnabod y Duw anweledig.
II. I'n athrawiaethu mewn dyledswyddau megis,
1. I ollwn allan ein calonnau mewn ystyrîaeth ddifrifol am weithredoedd Duw. Psal. III. 4. Gwnaeth gofio ei ryfeddodau, medd Dafydd, y mae gweithredoedd creadigaeth mor rhyfeddol, ac yr haeddent ein myfyrfod difrifaf. [Page 43]Rhoddes Duw ini lyfr y creaduriaid, a llyfr yr yscrythyrau, a'n dyledswydd ni yw darllen pob vn o honynt, er chwanegu ein gwybodaeth am Dduw, a'i rinweddau gogoneddus. Esay 5.11.12. Gwae y rhai am waith yr Arglwydd nid edrychant. Diystyru Duw yw bod heb ystyried ei rinweddau ef yngwneuthuriad y bŷd. Ped ystyriem ni fel y mae 'r naill ran o'r byd yn gymwys ir llall, ac fel y mae 'r naill yn cyrmorthwyo 'r llall, ni allem amgenach na llefain gydâ Dafydd, Mor rhyfeddol yw dy weithredoedd, mewn doethineb y gwnaethost hwynt oll.
2. I helaethu ein calonnau ni mewn diolchgarwch ir Arglwydd. Nid digon ini ystyried gweithredoedd Duw gydâ rhyfeddu, ond rhaid ini roddi iddo ef ogoniant ei ddoethineb, ai allu, ai ddaioni, a amlygir ynddynt, Psal. 136.1.5, 6, 7, 8. 9. Clodforwch yr Arglwydd yr hwn a wnaeth y nefoedd mewn doethineb; yr hwn a estynnodd y ddaiar oddiar y dyfroedd, yr hwn a wnaeth oleuadau mawrion, yr haul i lywodraethu 'r dydd, y lleuad a'r sêr i lywodraethu 'r nôs. Er i bechod frychu llawer ar weithredoedd Duw, etto y mae ei ogoniant ef vn eglur ynddynt. A phed ystyriem ni yn ddifrifol amryw rywogaethau 'r creaduriaid a'u tegwch, ac mor fuddiol ydynt i ni, nid allem na ryfeddem Ddoethineb, a Daioni, a Gallu Duw ynddynt, ac na thalem ddiolch iddo ef am danynt.
3. I fyned at yr Arglwydd yn hyderus mewn gweddi yn ein cyfyngderau, ac i ymddiried iddo ef am ddiwallu ein deffygion, a'n cynnal yn ein holl brofedigaethau.
Medd Dafydd, Psal. 121.2. Fy nghymmorth [Page 44]a ddaw oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar. Lle y mae efe yn edrych ar waith gogoneddus y creadigaeth, er cadarnhau ei ffydd ynghylch gallu Duw. Ac felly y gwna 'r eglwys; Psal. 124.8. Ein porth ni sydd yn enw 'r Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar. Yn ddiau diogel y gellir ymddiried yn yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar drwy air ei nerth. Canys nid oes neb mor alluog ag ef i ddiwallu ein deffygion ni, i symud ymaith ein peryglon ni, ac i'n cadarnhau ni. Efe a ddichon weithio drwy foddion llêsc, ac heb foddion, ac yngwrthwyneb i foddion, gan fod pob peth dan ei orchymyn ef.
Gof. 9. Ym mha beth y mae Rhagluniaeth Duw?
Atteb. Y mae Rhagluniaeth Duw yn cynnal y creaduriaid a wnaeth ef, ac yn eu rheoli hwy yn ddoeth, ac yn alluog.
Eglurh. Er agoryd yr atteb hwn egluraf i chwi,
Fod Rhagluniaeth.
II. Dangosaf weithrediadau Rhagluniaeth Duw, yn cynnal ac yn rheoli pob peth a wnaeth ef.
III. Amlygaf rinweddau Rhagluniaeth Duw.
Am y cyntaf, sef bod Rhagluniaeth, y mae llawer o bethau yn y bŷd yn dangos hynny: Megis bod y bwyst-filod rheibus gwlltion yn anffrwythlonach nâ'r rhai gwâr, rhag iddynt orchfygu 'r bŷd. Ac er bod llawer mwy o [Page 45]ddynion drwg yn y bŷd nag o rai da, etto attelir yr annuwiol rhag llwyr ddifetha 'r duwiol. Gofal Duw am eu greaduriaid yn gyffredin, ac am ei eglwys yn enwedic, sydd yn dangos ei Ragluniaeth ef.
II. Gweithrediadau Rhagluniaeth Duw ydynt ddau fath, sef cynnal pob peth, a'u rheoli.
Yn gyntaf, oni bae fod Duw yn cynnal eu greaduriaid, hwy a ammharent, ac a aent yn ddiddim. Megis y creawdd Duw bob poth drwy air ei orchymyn, efe a orchymynnodd a hwy a grewyd, felly y mae ef yn eu cynnal hwy drwy air ei Nerth. Dywedir yn 17. o'r Act. 28. mai ynddo ef yr ydym yn byw, yn symud, ac yn bod. Megis y parodd Duw i'n bod gael Dechreuad, felly drwy ei ragluniaeth ef y mae yn cael parhâd. Yr un gallu ac a'n tynnodd ni allan o ddim ar y cyntaf, a raid ein cadw ni rhag dychwelyd iddo drachefn. Ac y mae ef yn cadw etto rai o'r un creaduriaid ac a wnaeth ef ar y cyntaf, megis yr Angelion, y nefoedd, yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, a'r ddaiar. Ceidw eraill drwy genhedliad eu rhyw. Er bod y dynion, a'r anifeiliaid, a'r adar, a'r a wnaeth Duw ar y cyntaf, wedi myned ymaith, y mae eu rhywogaethau hwy etto yn parhau drwy genhedliad.
Yn ail, y mae rhagluniaeth Duw yn ymddangos wrth ei fod yn trefnu ac yn rheoli pob pethYr hyn a wnaiff ef,
Drwy blannu cyfraith yn n [...]turiaethau y creaduriaid oll, yn ol yr hon y tueddir hwy i weithredu. Ymsymud pob creadur bvwiol a difyw, fel y bo ei natur ef yn peri. Descyn y garreg, ac escynniff y tán, pawr yr [Page 46]anifeiliaid, a gwnaiff yr holl greaduriad yn ol eu rhyw.
Trefna ef hefyd eu holl weithrediadau hwy i ddwyn i ben yr hyn a fwriado ef. Y mae llaw Dduw-yn rheoli pob digwyddiad, bychan a mawr, er i ni dybied eu bod yn anturiol. Yn enwedigol efe a reola yn holl weithrediadau dynion, (y pennaf o'i greaduriaid ef ar y ddaiar,) ac yn yr holl bethau a ddigwydd oddiwrthynt.
Rheola ef gynghorion a gweithredoedd dynion, da a drwg, doeth ac ynfyd. Ni wneir ein gweithredoedd byrbwyll ni heb ei ystyriol gyngor ef.
Ei drefnid ef sy'n gosod pawb yn eu lleoedd a'u cyflyrau yn y bŷd, yn gwneuthur cyfnewidiadau ar y ddaiar, yn tynnu 'r naill i lawr, ac yn derchafu 'r llall: Yn gwneuthur rhai yn gyfoethogion, eraill yn dlodion, yn anfon heddwch a rhyfel, Iechyd a dolur, adfyd ac hawddfyd, briwiau ac iachâd ydynt oddiwrth ei law ef. Er i vn dynnu yn ei fŵa mewn gwiriondeb, etto cyfarwyddodd Duw y saeth 1 porph Ahab, 1 Bren. 22.20.34. i gyflawni 'r peth a ragfwriadasai am dano ef.
III. Rhinweddau Rhagluniaeth Duw yw Doethineb a gallu.
Gwneir holl weithredoedd Duw mewn doethineb. Esay. 28.29.
Canys dwg ef bob peth i ben yn ei iawn amser. Y mae pob peth yn brydferth yn ei amser. Preg. 3.11. Ffolineb dynion a wna iddynt fod yn anfodlon i ragluniaeth Duw, [Page 47]eisiau iddynt wybod pa beth sy dda iddynt a pha brŷd. Gŵyr yr Arglwydd yr am [...]er goreu i gystuddio, ac i waredu, i osod yr iau, ac iw dynnu ymaith.
Gwnaiff hefyd ir holl ddigwyddiadau gwrthwynebus gydweithio i gyflawni ei fwriad ef. Y mae esamplau rhyfeddol am hynny ynghylch Joseph, ymodd y dugwyd ef ir Aipht, a'r hyn a ddigwyddodd iddo yno: a'r môdd y gwaredwyd Israel o'r Aipht.
Y mae Rhagluniaeth Duw hefyd yn alluog: Nis gellir ei gwrthwynebu. Medd ef, Esay 43.13. Gwnaf a phwy a'i lluddia. Y mae Duw yn rhy ddoeth ir cyfrwysaf, ac yn rhy drêch i'r cadarnaf.
Cymmwys. 1. Craffwn ar ragluniaethau [...] Psal. 107.43. Y neb sydd ddoeth ac a gadwo hyn, hwy a ddeallant drugareddau 'r Arglwydd. Gosodwn ein meddyliau ar weithredoedd Rhagluniaeth: a cheisiwn ddeall llaw Dduw yn yr hyn a ddigwyddo i ni, ac i eraill, a dywedwn, Hyn yw gwaith yr Arglwydd.
2. Ail-cofiwn ragluniaethau Duw yn fynych, yn enwedig mewn cyfyngderau a pheryglon. Yr hyn a nertha eich ffydd yn odidog yn y profedigaethau mwyaf. Wrth hyn yr ymgadarnhâodd Dafydd i ymladd â Goliah, 1 Sam. 17.37. Dywedodd Dafydd, yr Arglwydd yr hwn a'm hachubodd i o grafango y llew, ac o balf yr arth, efe a'm hachub i o law y Philistiad hwn. Je cafodd gymaint o gysur wrth gofio Rhagluniaethau o'r blaen, oni ymrodd ef i fod yn astud yn y cyfryw fyfyrfod. Psal. 77.11.12. Medd ef, Cofiaf weithredoedd yr Arglwydd, ie cofiaf dy wrthiau gynt. Myfyriaf hefyd ar dy holl waith, ac am dy weithredoedd [Page 48]y chwedleuaf. O na baem ni yn fynych yn ymarfer â'r gorchwyl ysprydol hwn yn dwyn ar gòf ini ein hunain yr hyn a amlygwyd ini o drefniad Duw tuag attom ni; gan ddirnad tymoreidd-dra trugareddau Duw a dderbyniasom ni, a'i ofal ef am danom ni. Yna o mor gyssurus a fyddai ein bywyd ni, a lleied y brawycheu peryglon ni!
3. Na chamgymerwn ragluniaethau, na medawl Duw ynddynt. Y peth a fo tywyll yn ei ddechreu, a ddichon fod yn oleu tua 'r diwedd. Gall Duw fod ar fedr adeiladu, pan fo yn tynnu i lawr, ac ar fedr rhoddi bendith, pan adawo i ddynion adrodd melldith, gall wneuthur ini lês, pan fo'n goddef i ryw niwed ddigwydd.
4. Na chamarferwn ragluniaeth, drwy ei gwneuthur yn rheol i'n gweithredoedd heb y Gair. Da yw dilyn Rhagluniaeth â'r gair cenym. Gair Duw, ac nid digwyddiadau yn y bŷd, sydd i fod yn rheol i ni. Y mae rhagluniaeth yn rhoddi achlysur i'n gweithredoedd ni, ond y Gair yn vnic sydd iw awdurdodi hwynt.
Mogelwn hefyd fwrw 'r bai ar Ragluniaeth pan ddigwyddo ff [...]wyth ein di falwch i ni. Na chyfrif i Ragluniaeth yr hyn sy ddyledus i'th ynfydrwydd a'th chwant. Cais rhai escusodi eu pechodau drwy argumennu oddiwrth Raglunieth, a dywedyd, ewyllys Duw oedd ir peth fod felly, am hynny nis gallwn wrtho. Os dyn a dreulia ei iechyd neu ei dda wrth ddilyn meddwdod, chwareuon, a seguryd, ofer iddo geisio ymescusodi drwy ddywedyd, ewyllys Duw oedd i mi fod fel hyn. [Page 49]Yr un modd y mae am briodosau ynfyd a phechadurus.
5. Ymddarostyngwn i Ragluniaeth. Nac ymgodwn yn erbyn Duw, ac na ddigiwn wrth ei ewyllys a'i waith ef. Beth bynnag a wnel Duw ar y ddaiar, byddwn ddistaw, ac na ddywedwn wrtho mewn anfodlonrwydd, Beth a wnei di? Pam y mae 'r peth fel hyn. Yn hytrach dywed, Yr Arglwydd yw, gwnaed yr hyn a fo da yn ei olwg ef. Dyma fi, gwneled yr Arglwydd â mi fel y rhyngo bodd iddo ef. Llonyddwch dan law Dduw a wna ein beichiau yn esmwythach, ond ymgynhyrfu 'n ddiclon a wna iddynt friwo mwy.
6. Gwasanaethwn Ragluniaeth drwy arfer moddion yn gydwybodus. Er bod Rhagiuniaeth Duw ar bob digwyddiad, etto ni ddylai hynny beri i ni beidio ag arfer diwydrwydd i ochelyd y drwg, ac i ddyfod o hyd ir da. Na fydd byw mewn seguryd, gan ddywedyd, os myn yr Arglwydd roddi imi lawnder, nid rhaid imi gymeryd poen; neu os myn ef i dlodi ddyfod arnaf, ni thycia i mi weithio, a gofalu, neu os myn ef fy ngwaredu o gystudd, nid rhaid i mi arfer moddion i hynny: temtio 'r Arglwydd ac nid ymddiried iddo yw hyn. Yn enwedig na ddyweded neb, os myn Duw achub fy enaid i neu ei golli, mi a adawaf arno ef, ni cheisiaf mor edifarhau, na gweddio; Digio Duw yw hyn, ac nid ymddiried iddo.
7. Ymroddwch i Ragluniaeth. Cedwch ffordd Duw, ac arferwch ei foddion ef, a gadewch ar Dduw yr hyn a ganlyno. Pan fom mewn cystuddiau ni a ddychrynwn, a'n calonnau a lefain beth a wnawn ni? Gwnewch eich dyledswydd, ac yna rhoddwch ar ragluniaeth. [Page 50]1 Pet. 4.19. Y rhai sy yn dioddedd yn ôl ewyllys Duw, gorchymynnant eu heneidiau iddo ef, megis i greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda. Pe gallem wneuthur fel hyn, yna caffem y fath orphywysdra ac a gafodd y Psalmydd, Psal. 4.8. Mewn heddwch y gorweddaf, ac yr hunaf, canys ti Arglwydd yn vnic a wnei i mi drigo mewn diogelwch.
8. Disgwil am effeithiau Rhagluniaeth: Na bydded ir rhan dywyll o'r diwrnod dy ddigalonni di, eithr creda, os disgwili wrth yr Arglwydd, y bydd goleuni yn yr hwyr. Aros oni pherffeithio Duw ei waith, ac yna y cei ei weled yn ogoneddus. Dros yr amser presennol gelli weled pob peth yn dyfod yn dy erbyn, a'th holl hyfryd-bethau yn dy adel, a'r drygau a ofnaist yn dyfod arnat, a phob ffordd weledig o warediad wedi ei chau i fynu, a thitheu yn barod i ddywedyd, nad all amgen na bo 'r fath gyssylltiadau o ddigwyddiadau tywyll yn ddinistriol. Er hynny disgwil, aros, hyd oni orphenno 'r Arglwydd ei waith, ac yna y cei weled y pethau a dybiaist eu bod yn achosion o ddinistr i ti, yn gwasanaethu i gynnorthwyo dy warediad.
Yn vnic os mynwn siccrwydd y dwg rhagluniaeth bob peth ir goreu i ni, edrychwn ar ein bod ni yn caru ac yn ofni Duw, ac felly dan yr addewid hwnw yn yr 8 Pen. at y Rhuf. a'r 28 adn. sef, y cydweithia pob peth er daioni, ir rhai sy yn caru Duw. A'r addewid hwn a droiff olwyn Rhagluniaeth cyhyd, onid elo ar draws dy elynion maleisus, a thorri eu cefnau hwy, a'th ollwn di yn rhydd, a'th osod mewn cyflwr cyssurus.
Gof. 10. Ym mha gyflwr y gwnawd dyn gan Dduw ar y cyntaf?
Atteb. Gwnawd dyn gan Dduw mewn cyflwr da a dedwydd, yn ol delw Duw, yr hon oedd mewn gwybodaeth berffaith a gwin sancteiddrwydd.
Eglurh. Er yspysu 'r atteb hwn mi a ddangosaf i chwi,
1. Pwy a wnaeth ddyn, sef Duw.
2. Ym mha ryw y gwnawd ef.
3. Ym mha gyflwr y gwnawd dyn ar y cyntaf, sef mewn cyf [...]wr dedwyddol.
4. Ym mha beth yr oedd delw Duw, (ar ba v [...] y gwnawd dŷn) yn sefyll.
Am y cyntaf, sef pwy oedd gwneuthurwr dyn, dywedir yn eglur, Gen. 1.27. mai Duw a greawdd ddyn. Ac megis y gwnaeth ef y dyn cyntaf, felly efe yw gwneuthurwr pob dyn. Am hynny y dywed Job, pen. 10.8. Dy ddwylaw di a'm gweithiasant, ac a'm cyd-luniasant o amg ylch.
O herwydd hyn nid oes i neb achos i ymfalchio o'i tegwch, wrth eu bod yn waith Duw, ac nad oes ganddynt ddim ond a dderbyniasant: Ac nid yw neb iw dirmygu am neb ryw ddiffyg, am eu bod hwy hefyd yn waith Duw. Dylem yn hytrach ddiolch i Dduw am y pryd a'r gwêdd a roddes efe i ni.
II. Am y rhyw, Gwnaeth Duw hwynt yn wryw a benyw. Gwnawd y wraig ar yr un dydd ac y gwnaed y gŵr, sef ar y chweched [Page 52]er dechreuad y creadigaeth. Dywedir, Gen. 1.27.31. mai ar y chweched dydd y creaudd Duw hwynt yn wryw ac yn fenyw. Yr ystori fy'n dangos y modd y crewyd y wraig, Gen. 2.18. a berthyn ir chweched dydd. Moses wrth adrodd gweithredoedd y chwe diwrnod ar ychydig eiriau, a grybwyll am y prif bethau, gan adel traethawd cyflawnach am danynt i lê arall, at yr hyn y dychweliff, wedi iddo ddangos fel y gorphywysodd yr Arglwydd ar y seithfed dydd, ac y sancteiddiodd ef yn Sabath i Adda ac iw hâd. Am hynny yn Gen. 2.4. hyd ddiwedd y bennod, yr adroddir yn yspysol bethau a wnaethpwyd cyn y seithfed dydd.
III. Y cyflwr ym mha un y gwnawd dyn ar y cyntaf ydoedd dda a dedwydd, gan ei fod ar ddelw Duw: sef yn debyg i Dduw: a diau fod hynny yn râdd uchel o ddedwyddwch, canys yn Nuw y mae pob godidowgrwydd, a phob peth a berthyn i ddedwyddwch.
IV. Delw Duw ar yr hon y gwnaed dyn, ydoedd mewn gwybodaeth, sancteiddrwydd, a chyfiawnder. Yn y pethau hyn yr oedd dŷn yn debyg i Dduw.
Yn gyntaf, mewn gwybodaeth. Hanfod ddeallus yw Dduw, ac efe a roddes i ddŷn ddeall iw adnabod ef, a phob peth a'r oedd ddyledus iddo eu gwybod.
Yn ail, mewn cyfiawnder. Sanctaidd a chyfiawn yw Duw, a gwnawd dŷn yn debyg iddo, Pechod a ddaeth i mewn gwedi hynny drwy 'r cythrael, ond yr oedd dŷn pan oedd ef newydd ddyfod o law Dduw, yn greadur par, ac yn gwbl dueddol i ddaioni. [Page 53]Nid oedd ganddo y pryd hynny ddeddf yn ei aelodau yn rhyfela yn erbyn deddf ei feddwl. Am hynny y darllennwn ei dynnu ef ar ŵyrdro gan brofedigaeth oddiallan: Gen. 3.1. Ac nid ar y cyntaf wrth gynhyrfiad ei ewyllys ei hun.
Yr ydoedd yn nyn hefyd ragor-freintiau eraill, wrth ba rai y tebygai ef i Dduw, o'r rhai y difuddiwyd ef wrth bechu: megis,
Arglwyddiaeth ar y creaduriaid. Gen. 1.28. Duw yw 'r Arglwycd pennaf ar y cwbl: yr oedd dŷn i reoli dano ef ar y creaduriaid gweledic eraill, ac yn hynny yn tebygu iddo ef.
Ac Anfarwoldeb. Gelwir Duw yn Anfarwol. 1. Tim. 1.17. Yr oedd Adda felly cyn syrthio, canys drwy bechod y daeth marwolaeth. Rhuf. 5.12.
A Mawrhydi. Medd Dafydd am Dduw, Iti y mae Mawredd. 1. Cron. 29.11. Yr ydoedd y fath harddwch a gogoniant ar Adda ac Efa cyn pechu, nad oedd arnynt gywilydd er eu bod yn noethion. Gen. 2.25. Yr ydoedd y golwg arnynt mor urddasol, ac y barei ir creaduriaid oll ufyddhau iddynt, ac iddynt hwythau ill dau berchi a hoffi ei gilidd.
Cymmwys. 1. Gan-mai Duw yw 'n Gwneuthurwr m [...] yr ydym ni yn gwbl rwymedic i'n rhoddi ein hunain iw wasanaethu ef. Ni wnawd ni i wasnaethu 'r cythrael, a'n cnawd, a'r bŷd hwn. Nid y rhain, a'n gwnaeth ni, ac nid iw gwasanaethu hwynt y gwnaeth Duw [Page 54]ni. Iddo ef ei hun y gwnaeth Duw ni, gwasanaethwn ninnau ef mewn sancteiddrwydd, a chyfiawnder dros ein holl ddyddiau.
2. A. Chan i Dduw ein gwneuthur ni ar ei ddelw ei hun, mogelwn anffurfio ei ddelw ef ynom ni. Y mae pechod yn brychu ein natur ni, ac yn dwyn dianrhydedd i Dduw wrth anrheithio ei ddelw ef. Y mae 'r enaid pechadurus yn dangos ir bŷd ddelw wrthun, ac yn ceisio peri coelio pethau caledion am Dduw. Yr hwn drwy bechod ai gwna ei hun fel anifail, sydd megis un a liwiai gi, ac ai gosodai ar bared yn lle llûn ei dywysog.
XI. Gof. Pa gyfraith a osododd Duw i Adda yn ei gyflwr perffaith.
Atteb. Wedi i Dduw greu dyn efe a aeth mewn cyfammod ag ef, gan addo iddo fywyd tragywyddol os parhaei mewn ufydd-dod, a bygwth iddo farwolaeth dragywyddol os anufyddhae.
Eglurh. Er agoryd hyn ystyriwn;
1. I Dduw wneuthur dŷn mewn cyflwr perffaith, ond nid yn anghyfnewidiol. Yr oedd ef yn gwbl sanctaidd, a chanddo allu i barhau yn y sancteiddrwydd hwnw os mynnai, etto nid oedd wedi ei gryfhau yn gymaint, nad allei syrthio,
[Page 55]2. Rhwymodd Duw ef i aros yn y cyflwr sanctaidd hwnw drwy gyfammod.
3. Yr oedd hwnnw yn gyfammod o fywyd, canys addawodd Duw iddo fywyd tragywyddol os ufyddhae ir ammod. Bwgythiad o farwolaeth am anufydd-dod sydd yn arwyddoccàu addewid o fywyd am ddyledus ufydd-dod.
4. Yr ydoedd hwnw yn Gyfammod Gweithredoedd. Hynny yw, ar ammod iddo ufyddhau i gyfraith Dduw yr oedd iddo gael parhau mewn bywyd.
5. Heb law'r gyfraith foesol, neu'r naturiol, yr hon oedd scrifennedic ar galon dyn, ir hon yr oedd ef rhwymedic i ufyddhau, rhoddes Duw iddo gyfraith osodedic, gan warafun iddo fwytta o bren gwybodaeth da a drwg. Gen. 2.16.17.
6. Y gosp am dorri 'r gyfraith hon ydoedd farwolaeth. Yn y dydd y bwyttaech o honaw gan farw y byddi farw. Gen. 2.17.
Os ammei neb a gyflawnwyd y bwgwth hwn ar Adda, gan na bu ef farw yn ebrwydd wedi iddo drosseddu, eithr darfod iddo fyw gantoedd o flynyddoedd gwedi.
Yr wyf yn atteb. Os ystyriwn ni farwolaeth hyd yr eithaf, sef ynghy d â'i pherthynasau, y rhai ydynt farwoldeb, doluriau, poenau, a phob rhyw drueni a'r sydd yn y bywyd hwn; Gallwn ddirnad yn hawdd y modd y bu ef farw yn y corph, yn y man gwedi iddo bechu. Canys y pryd hynny cymmerth marwoldeb afel arno ef, ac aeth [Page 56]ei gorph ym macheu angeu, ir hwn yr oedd awdurdod arno ef. Gellir dywedyd am un a ddalier gan swyddog, ei fod ef yn garcharor, cyn myned ag ef i mewn ir carchar. Felly y gellir dywedyd fod dyn yn marw a ddalier gan farwoldeb, a breuolder, y rhai yw swyddogion angeu iw ddwyn ef ir bêdd.
Cymmwys. I. Molianwn Addfwynder Duw yn myned mewn cyfammod â'i greaduriaid. Mawr oedd ei ddaioni, ac ef yn Greawdwr nefoedd a daiar, fyned mewn cyfammod â dyn ydoedd lŵch: ac addaw iddo ddedwyddwch os ufyddhae iw orchymynion ef. Gallasai Duw wrth ei Fawrhydi a'i arglwyddiaeth, orchymyn y peth a fynnasai i ddŷn, heb ymrwymo mewn addewid iddo, gan ei fod mor rydd oddiwrth ei greaduriaid, ac yw 'r crochenydd oddiwrth y telpyn pridd. Etto rhyngodd bodd iddo ef o'i râd gariad, addaw gwobr haelionus ir ufydd-dod oedd ddyledus iddo ei chael, ped fuasai heb wneuthur rhwymedigaeth ar ei ran ei hun.
2. Y mae ini achos i foliannu daioni Duw ymhellach, am nad yw yn ein dal ni yn oestadol at y cyfammod o weithredoedd. Canys felly fe fyddai ein cyffwr ni yn echryslon, heb debygoliaeth o gael bywyd ac iechydwriaeth. Maintioli y drugaredd hon a ymddengys yn well wrth ystyried fel y mae 'r Cyfammod grâs a wnaeth Duw â'r ffyddloniaid ar ol y cwymp, yn rhagori mewn godidowgrwydd any cyfamod gweithredoedd a wnaeth Duw gyntaf ag Adda ac Efa.
Yn y cyfammod gweithredoedd addawodd. Duw fywyd tragywyddol ir rhai a ufyddhaent [Page 57]iw orchymynnion ef, eithr ni chrybwyllwyd am faddeuant pechodau ir edifeiriol. Ond yn y cyfammod grâs y mae Duw yn edrych ar edifeirwch ei bobl, ac yn derbyn eu hymddarostyngiad a'u ffydd yn Ghrist Jesu.
Yn ail, Llais y cyfammod gweithredoedd yw, gwna hyn a bydd fyw. Ond medd cyfammod y grâs, crèd yn yr Arglwydd Jesu Grist a chadwedig fyddi. Act. 16.31. y mae cyfammod o râs yn gofyn gweithredoedd hefyd. Tit. 3.8. Eithr y mae rhagoriaeth yn y môdd, o ran bod y cyfammod o weithredoedd yn gorchymmyn gweithredoedd da yn ammod o fywyd, ac yn achos on cyfiawnhâd ni ger bron Duw. Ond cyfammod y grâs a ofyn ffydd ac edifeirwch, a chywir ufydd-dod, megis ammodau, eglurhâd, a ffrwyth o'n cyfiawnhâd ni drwy haeddigaethau Christ. Fel trwyddynt hwy y bo ini dderbyn Christ, ac amlygu ein bod wedi ein cyfiawnhau, ac y bo i ddynion wrth weled ein gweithredoedd da ni, ogoneddu ein Tâd ni yr hwn sydd yn y nefoedd. Mat 5.16.
Yr hyn a ddichon ein cyssuro ni yn erbyn ein amryw bechodau, ac amherffeithrwydd ein gweithredoedd da tra fo gennym ffydd fywiol yn Jesu Grist, yr hon a rydd ini hawl ynghyfammod y grâs. Os ymunwn yn galonnog â Jesu Ghrist, ac ymroddi i fod yn weision ffyddlon iddo ef, iw wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder, a gosod bwriad ein calonnau ar fyw felly, gallwn gael siccrwydd fod ini ran yn y cyfammod o râs, a'i holl fûdd, a'i fendithion, megis maddeuant pechod yma, a bywyd tragywyddol yn ol hyn.
[Page 58]Yn drydydd, yn y cyfammod o weithredoedd yr ydoedd y gwobr iw roddi yn bendant yn ol gweithredoedd perffaith. Ond yn y cyfammod o râs y mae Duw yn ol ei drugaredd yn gobrwyo ein ufydd-dod egwan ni, gan dderbyn ein dymuniadau diragrith, a'n ymegniad ddifrifol yn gymmeradwy drwy Jesu Ghrist. 2. Cor. 8.12. Os bydd parodrwydd meddwl yn ol yr hyn sydd gan un, y mae yn gymmeradwy, nid yn ol yr hyn nid oes ganddo. Y mae hyn yn diddanu ac yn cynnal ysprydoedd pobl Dduw yn erbyn eu holl wendid a'u deffygion, sef, bod gwir ddymuniad eu calonnau ar ryngu bôdd Duw, a'u gwneuthur eu [...]unain yn brofedig iddo of ym mhob peth. Rhuf. 7.15.
12. Gof. A hir barhaodd ein rhieni cyntaf ni yn y cyflwr dedwyddol y gwnaechpwyd hwynt ynddo?
Na ddo, hwy a gwympasant o honaw.
Eglurh. Y mae yma ddau beth iw agorydsef yw hynny, cwymp ein rhieni cyntaf ni: ac oddiwrth pa beth y syrthiasant, sef eu cyflwr dedwyddol cyntaf.
I. Ynghylch codwm ein rhieni cyntaf. Gwnaeth Duw hwynt mewn cyflwr da, ac yn abl i barhau ynddo, ond nid heb bossiblrwydd o syrthio. A hwy wrth roddi lle i brofedigaeth Satan, a gwympasant yn fuan o'r cyflwr y gwnaethpwyd hwynt ynddo. Y sarph wedi ei chynhyrfu gan ddiafol, a lefarodd [Page 59]yn gyntaf wrth y wraig, megis y llestr gwan naf, ac hawsaf ei siomi, a thwyllodd hi trwy ei chyfrwysdra. 2. Cor. 11.3. gan addaw iddi wybodaeth da a drwg. A hitheu wedi ei thwyllo a ddenodd ei gwr, ac a wnaeth iddo bechu. Canys efe yn ewyllysio boddhau ei wraig, yr hon a dderbyniasai ef yn ddiweddar yn serchog, a fwyttaodd o'r ffrwyth gwaharddedig gydâ hi. Gen. 3.17. medd Duw wrth Adda, Am wrando o honot ar lais dy wraig, a bwytta o'r pren, &c. Diau fod y weithred honno yn dra-athrist, gan iddo anrheithio dŷn, ac (heb drugaredd Duw) wneuthur eneidiau gwŷr a gwragedd oll yn golledig byth.
II. Am yr ail, sef oddiwrth pa beth y syrthiodd ein rhieni cyntaf, syrthiasant o'r cyflwr da ym mha un y creawyd hwynt. Canys lle gwneuthid hwy ar ddelw Duw mewn gwir wybodaeth, sancteiddrwydd, a chyfiawnder: wrth eu cwymp anffurfied delw Duw ynddynt, ac aethant hwy yn halogedig yn holl gynnedfau eu henediau. Tra y parhasant yn eu cyflwr diniwed, cawsant dangneddyf â Duw, ac â'u cydwybodau, a llonyddwch meddwl: ond wedi iddynt bechu, daeth dychryn arnynt, a chynted ac y clywsant lais Duw yn yr ardd, ofnasant rhag iddo yn ebrwydd wneuthur iddynt yr hyn a fwǵythiasai.
Cymmwys. Oddiwrth gwymp ein rhieni cyntaf trwy brofedigaeth Satan y mae ini ddyscu na bom rhy hŷf, a rhyfygus o'n nerth ein hunain. Gan syrthio o'r fath dderw uchel, pa fodd y gallwn ni berthi gweiniaid sefyll yn ddiymod? er bod Adda ar y cyntaf wedi ei gynnyscaeddu â llawer o wybodaeth, [Page 60]ac o allu i barhau yn ei ddiniweiddrwydd, a chanddo dueddiad ir da heb ddim ir drwg, etto pan demptiwyd ef ymollyngodd, a gorchfygwyd ef iw ddinistr ei hun ai hepil. Oh faint yw 'r perigl ynteu rhag ini syrthio yn nydd y brofedigaeth, pan yw Satan mor faleisus yn erbyn dynol ryw ac oedd ef o'r blaen, ac yn awr drwy hir brofiad wedi myned yn gyfrwysach i dwyllo.
Er mwyn dy amddiffyn dy hun yn erbyn profedigaethau Satan cymer y cyfarwyddyd a ganlyn.
1. Bydd gwbl deimladwy o'th wendid dy hun i wrthsefyll ei brofedigaethau ef. Y mae 'r goreu o honom yn weniaid, a rhyfyg o'n nerth yw 'n gwendid mwyaf, a ragflaena godwm: megis y gwelir wrth Pedr, yr hwn pan oedd ef fwyaf hyderus o'i nerth ei hun, ac yn dywedyd, er i bawb adel Christ nas gadawai efe mono ef, ydoedd y pryd hynny yn nesaf at gwymp.
2. Ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac ynghadernid ei allu ef. Y cyfarwyddyd hwn yn y geiriau hyn i'n cadw oddiwrth ymgyrch Satan a roddir ini gan yr Apostol. Ephes. 6.10.
3. Gweddia beunydd ar Dduw na byddo iti syrthio mewn profed [...]gaeth, a phan ddigwyddo iti, ar ir Arglwydd dy gynnal mal na'th orchfyger ganddo. Gallu Duw yn unic a ddichon ein cadw ni rhag profedigaethau Satan, ac rhag ymollwn ynddynt: a gweddi a ordeiniodd Duw yn fodd i geisio hynny.
4. Arfera a chynhyrfa dy ffydd yn Jesu Grist, gan gredu ei fod ef yn gallu ac yn ewyllysio [Page 61]dy nerthu di ath gynnal dan bob profedigaeth, ac ith waredu allan o honynt yn yr amser cymmwysaf, pan fo mwyaf iw ogoniant ef, ath gyssur ditheu. Am hynny chwi oll a'r a achwynwch rhag profedigaethau Satan, ewch at Grist am gymmorth; breichiau 'r hwn sydd bob amser yn agored i dderbyn pob rhai cystuddiol profedic, a'i galon yn ewyllyscar i roddi iddynt swccwr rheidiol, a gwarediad amserol. Wrth eich bwrw eich hunain ar ei allu ef am gymmorth, chwi ai annogwch ef i'ch cynnorthwyo.
5. Chwilia am dy bechod hoffaf, ir hwn yr wyti yn fwyaf tueddol, ac ynyr hwn y cymeri fwyaf dyfyrrwch, ac ar yr hwn y rhêd dy feddyliau fwyaf. Hwnw yw 'r pechod sydd debyccaf i'th orchfygu di pan ith profer. Am hynny wedi iti ei ddatcuddio ef, bydd ofalus i ochelyd pob achlysur a allai osod y chwant hwnnw ar waith, a chadw hwynt oddiwrth eu gilidd fwyaf ac ellych. Canys anhawd iti ymgadw oddiwrth bechod, yn enwedic oddiwrth yr hwn yr wyti dueddol iddo wrth dy naws 'naturiol, neu'th helynt yn y byd, oni chili oddiwrth y pethau a allent dy dynnu iddo.
6. Gochel gressawu meddylian oddiwrth Satan, na locha hwynt ynot. Canys os gwnei, yr wyt mewn perigl oth faglu. Am hynny gwrthod hwynt yn fuan ac yn ddiclon. Gwaith Efa yn rhoi clust i ymadroddion Satan, ac yn cymeryd hamdden i ymddiddan ag ef, oedd yr achos o'i chwymp hi.
7. Os cynwysaist brofedigaethau Satan yn ormod hyd oni ynnillasant dy ewyllys di agos, er hynny ymegnia i attal y weithred bechadurus [Page 62]oddiallan. Er i Satan gynneu tan yn dy fonwes, n'ad iddo dorri allan; ni whyrach ir Tân ddifodd wrth gau 'r ffwrn i fynu.
8. Pan syrthiech i fewn profedigaeth, a'th gernodio gan Satan, bydd ddyfal i chwilio am yr achos o hynny. Canys weithiau cospir y naill bechod, drwy adel i Satan annog dŷn i bechod arall. Fal hyn y digwydd profedigaeth i aflendid yn gosp am falchder. Yn y fath gyflwr, y môdd goreu i gael ymwared o'r brofedigaeth, yw galaru o flaen Duw am y pechod arall, a cheisio nerth yn ei erbyn rhag llaw. Ac onid ê ofer iti weddio yn erbyn y naill bechod, tra fych yn coledd y llall. Dan bob cystudd, doethineb yw ceisio allan y pechod y sydd yn achos o honaw, a throi oddiwrtho i gymmodi â Duw, ac felly yn enwedig dan y cystudd hwn o brofedigaeth. Cydnabyddodd yr Apostol Paul iddo gael draen yn ei gnawd, a chennad Satan iw gernodio, er mwyn ei ddarostwng ef. 2. Cor. 12.7. medd ef, Fel na'm traderchafer gon odidowgrwydd y datcuddiedigaethau, rh [...]ddwyd imi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan i'm cernodio.
13. Gof. Beth ydoedd bechod ein rhieni cyntaf ni ym Mharadwys?
Atteb. Pechod ein rhieni cyntaf ni ym Mharadwys oedd anufydd-dod yn erbyn Duw wrth fwytta 'r ffrwyth gwaharddedig.
Eglurh. Pennaf peth yw ystyried yma yw [Page 63]'r pechod am yr hwn y collodd ein rhieni ni eu dedwyddwch: yr hwn oedd anufydddod yn erbyn Duw wrth fwytta 'r ffrwyth gwaharddedig, Gen. 3.3.6. Gelwir ef felly yn eglur, Ruf. 5.19. Trwy anufydd-dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid. Er i ni dybied eu trossedd yn fychan o ran ei ddefnydd, etto mewn gwirionedd yr ydoedd yn fawr, gan i'n rhieni cyntaf bechu yn erbyn Duw anfeidrol, a thorri ei orchymyn ef yn wrthryfelgar, ac yn dwyllodrus, ac mewn modd anniolchgar dalu drwg iddo, am yr holl liaws o fendithion a roddasid iddynt.
Er amlygu mor echryslon ydoedd pechod ein rhieni cyntaf, dangosaf i chwi,
1. Pa amgylchiadau ydoedd yn ei drymhau ef.
2. Pa bechodau enwedigol ydoedd gynwysedic ynddo.
Dau amgylchiad a drymhâ eu pechod hwy yn ddirfawr.
Yn gyntaf, nid oedd anhawdd iddynt hwy ymattal. Haws yw ymattal oddiwrth beth gwaharddedic, na gwneuthur peth gorchymynedic. Na fwytta o ffrwyth y pren y sydd ynghanol yr Ardd. Ni ofynwyd am hynny o beth ond ymattal yn vnic.
Yn ail, nid oedd raid iddyut wrth y ffrwyth hwnw, canys yr oedd iddynt aml rywogaethau o ffrwythydd eraill, yn ddigonol nid yn vnic iw porthi, ond iw hyfrydu hefyd.
[Page 64]Y pechodau a'r ydoedd gynwysedic yn y trosedd hwnw oedd,
1. Anghrediniaeth, ni chredasant orchymyn Duw ai fwgwth. Er i Dduw ddywedyd, Yn y dydd y bwytteych o honaw, gan farw y byddi farw, Gen. 2.17. Ni choelient hwy y byddent feirw.
2. Coel ynfyd, gan wrando ar Satan. Llefarodd y cythrael yn y sarph, a dywedodd, Ni byddwch feirw ddim. Gen. 3.4. a choeliodd y wraig ef: Am hynny y dywedir ei thwyllo hi. 1 Tim. 2.14. Ar goel hon ydoedd waeth o ran ei bod yn erbyn gair Duw, sef gan farw y byddi farw, dywedodd y cythrael ni byddwch feirw ddim. Etto 'r wraig, a'r gwr drwy ei gwaith hi, a goeliasant y cythrael tâd y celwydd, o flaen Duw Tâd y gwirionedd.
3. Rhodres ofer, yn ceisio gwybod peth nad oedd reidiol iddynt ei wybod. Canys pan ddywedodd y sarph, y caent wybod da a drwg, cynhyrfwyd hwy i anturio bywyd tragywyddol [...] gael gwybod y drwg, er bod y da yn gydnabyddus iddynt eusus.
4. Balch chwant i godiad, gan ddeisyf bod megis duwiau. Canys wrth hyn hefyd y denwyd ac y tywyllwyd y wraig. Dywedodd y cythrael, byddwch megis duwiau, Gen. 3.5. ac ynnillodd hynny ei chalon hi at bechod.
5. Cnawdoliaeth feius, sef chwant bechadurus i ddigoni y synhwyrau cnawdol. Nodir hyn yn eglur. Gen. 3.6. Gwelodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, (sef hy fryd ir blŷs, a'r archwaith) ac mai tég mewn golwg [Page 65]ydoedd, (sef prydferth i edrych arno) a hi a gymmerth o'i ffrwyth ef ac a fwyttaodd.
6. Llofruddiaeth, drwy hynny y dugasant farwolaeth arnynt eu hunain ac ar eu holl heppil. Je a gwnaethant gymaint ac a allasant iw foddi eu hunain a'u hiliogaeth mewn dinistr tragywyddol.
Cymmwys. 1. Y mae pechod ein rhieni cyntaf yn rhoddi ini achos i ymddarostwng o herwydd y gwarth a'r golled dragywyddol ysydd i'n natur ni oddiwrtho. Calon pwy ni ofidiai pe iawn ystyriai ei drymder. Galara bagad yn eu gweddiau o achos eu pechodau gwneuthurol, ond rhy anfynych y crybwyllir am lygredigaeth natur, a'u euogrwydd o'r pechod hwn a wnaeth ein rhieni cyntaf, er ei fod o gynddrwg naws. Megis y deilliaw pechodau gwneuthurol oddiwrth lygredigaeth ein natur ni, felly y mae llygredigaeth natur yn dyfod oddiwrth y pechod yma a wnaeth ein rhieni cyntaf. Ni chafodd pechod er ioed fwy lliaws o bechodau erchyll iw galyn, nag a gafodd trosedd Adda ac Efa. Pa bechod ynteu a ddylai beri mwy galarnad? Am hynny yn ein gweddiau cyffesswn y pechod hwn megis mam ein holl ddrygau eraill.
2. Maintioli pechod Adda a ddylai godi ein calonnau ni i ryfeddu rhagorol fawredd daioni a doethineb Duw, yn cymeryd achlysur oddiwrth y drwg echryslonaf i wneuthur iw bobl y llès mwyaf. Derchafwyd calon Bernard yn gymaint wrth ryfeddu yn ei gylch, ac y dywedodd, o drossedd dedwydd yr hwm a roddes achlyssur ir fath waredwr! Gweddai i bawb o honom ni nid yn vnic alaru am bechod Adda, [Page 66]eithr hefyd foliannu Duw am foddion ym warediad, ac anrhydeddu rhyfeddol ddoethineb Duw yn darparu ini y fath ffordd o waredigaeth trwy farwolaeth ei vnicanedic Fâb Jesu Grist, er bodloni ei gyfiawnder, a llareiddio ei ddigofaint ef, a throi ei ffafr ef tuag attom ni. Yn ddiau y mae yn hyn y fâth ddyfnder o ddoethineb a daioni Duw, ac y mae 'r Angelion gogoneddus yn chwennych edrych iddo. 1 Pet. 1.12. Y maent hwy yn ymostwng i edrych ir dirgelwch dwfn hwn o'n prynedigaeth drwy Grist. Felly y mae 'r gair Groeg [...] yn arwyddoccau. Megis yr oedd y Cherubiaid yn y deml yn edrych i lawr ir drugareddfa. Am hynny da y gall ai 'r Apostol weddio dros yr Ephesiaid, ar iddynt allu ymgyffred gyd â'r holl Sainct, beth yw 'r llêd a'r hŷd, a'r dyfnder a'r vchder o gariad Duw yn Ghrist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth. Ephes. 3, 18.19.
Gof. 14. A ydyw heppil Adda i gyd yn euog o'i bechod ef?
Atteb. Y mae holl heppil Adda, a'r a ddaeth oddiwrtho ef drwy genhedliad naturiol, ac a gymmerwyd ir cyfammod gydag ef, yn euog o'i bechod ef.
Eglurh. Cynnygir yma ddau beth i'n ystyriaeth ni.
1. Wneuthur y cyfammod o weithredoedd ag Adda, nid yn vnic drosdo ei hun, ond dros ei heppil ef hefyd. Cymerth Duw hwynt 1 gyd ir cyfammod gydag Adda, yr hwn oedd [Page 67]wreiddyn a phen iddynt oll. Ymddengis hyn wrth fod y bwgwth o farwolaeth a wnawd iw drosedd ef, yn cael beunydd ei gyflawni ar ei hiliogaeth ef, ie ar blant bychain, y rhai ydynt yn marw, cyn iddynt wneuthur pechod gweithredol. Am hynny dir yw eu bod yn euog o'i drosedd ef.
2. Ddarfod i holl ddynol ryw, a ddaethant ac a ddeuant o honaw ef drwy genhedliad naturiol, bechu a syrthio gydag ef yn ei drosedd. Yr ydoedd Adda y pryd hynny yn wr cyffredin, yn dwyn ei holl hil yn ei lwyna [...]. Dywedir fod Lefi yn lwynau Abraham, Heb. 7.10. cyn i Abraham genhedlu vn plentyn, o herwydd dyfod Lefi o honaw ef yn y drydydd genhedlaeth. Felly yr oedd hil Adda yn ei lwynau yntef, sef megis ac y mae 'r dwysen yn yr hedyn. Ac yr oedd ef i sefyll yn lle holl ddynol ryw a fyddai hyd ddiwedd y bŷd. Rhuf. 5.12. Trwy vn dŷn y daeth pechod ir bŷd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth ar bôb dýn, yn gymmaint a phechu o bawb, gan eu bod yn lwynau Adda pan bechodd, o'r hwn yr hanasant. Ac adn. 19. Trwy anufydd-dod un dŷn y gwnaethpwyd llaw [...]r yn bechaduriaid.
Cymmwys. Oh na chymmerem ni rybudd oddiwrth esampl Adda. A bod i rieni wneuthur eu goreu ar i râs ddyfod iw plant drwy eu cyngorion a'u bucheddau hwynt, fel y daeth pechod a marwolaeth oddiwrth y rhai cyntaf. Disgwil rhieni i blant fod yn ufydd iddynt, yn awr nid oes fodd gwell iw gwneuthur hwy felly, na thrwy eu meithrin a'u magu hwy mewn gwir dduwioldeb. Lle mae hyn yn ddeffygiol, nid rhyfedd i blant ddyfod i fod yn ofid iw rhieni. A gwybydded rhieni os bydd iw plant fyw a marw [Page 68]yn eu pechodau drwy eu esceulusdra hwy, y gofynnir eu gwaed hwy ar eu dwylo hwynt. Ac er dwyn plant i fynu mewn duwioldeb, ystyried rhieni y cyfarwyddyd a galyn.
1. Cyn gynted ac y medro plant ddarllen, perwch iddynt ddarllen yr yscrythur lân. Yr hon sydd ynddi fwy o rinwedd i weithio duwioldeb na holl scrifennadau dynol. Drwy fendith y Goruchaf gall gwaith grâs ddechreu mewn plant wrth ddarllen yr scrythyrau. Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith yn troi 'r enaid. Psal. 19.7.
2. Dyscwch iddynt ryw Gatecism da, fel y bo iddynt ddeall gwyddorion crefydd: a thrwy hynny y byddant gymmwysach i wrando pregethau, ac i gofio eu creawdwr yn nyddiau eu ieuenctid. Dylai 'r fam wneuthur hyn ar y cyntaf, o herwydd ei bod hi gartref a'r plant yn ei chylch: a chenddi achlysur gwastadol i ddefnynnu iddynt ddaioni o fesur ychydig ac ychydig.
3. Dygwch hwynt gydà chwi ir ordinadau cyhoeddus. Jos. 8.35. Pan ddarllenwyd cyfraith Dduw i gynnulleidfa Israel, yr oedd eu rhai bychain gyda hwynt. A gofynnwch iddynt gartref beth a gofiant, ac yspyswch iddynt a gosodwch beth o'r athrawiaeth at eu calonnau hwy: a phar hynny iddynt wrando 'r gair â mwy gofal.
4. Dyscwch iddynt weddio: drwy yspysu iddynt natur y ddyledswydd honno, a rhoddi iddynt b [...]t [...]wm o weddi, nes medru o honynt adrodd yn amgenach.
5. Byddwch ich plant yn Esampl o dduwioldeb. Amlyger wrth eich buchedd beunyddiol eich bod chwi eich hunain yn gyfryw ac y mynnech chwi iddynt hwy fod, sef yn ofni Duw. Y mae esamplau yn drech na gorchymmynnion. [Page 69]Ac y mae plant yn dueddol i debygu iw rhieni. Yr hyn a ddylei beri i rieni wilied arnynt eu hunain, rhag iw drwg fywoliaeth hwy fod yn achlysur o annuwioldeb eu plant.
6. Byddwch ofalus i ddal ar y tarddiad cyn taf o lygredigaeth eich plant, a cheryddwch ef yn amserol. Cyn gynted ac y clywoch chwi hwynt yn dywedyd celwydd, neu yn cymeryd enw Duw yn ofer, cystuddiwch hwy am hynny. Dihar. 29.15. Y wialen a cherydd a rydd ddoethineb. Dihar. 13.24. Yr hwn a arbedo y wialen sydd yn casâu ei Fâb: ond yr hwn ai câr ef, ai cerydda [...] mewn amser. A mynech y digwydd ir plant hynny fod yn gystudd iw rhieni, y rhai ni cheryddwyd gan eu rhieni am eu drygioni yn erbyn Duw. Meddalwch Eli tuag at ei blant anraslon, a barodd iw galon ef ac iw wddf dorri, ac a ddug gleddyf y Philistiaid ar ei ddau fab ef yn yr un dydd.
7. Cymmerwch ofal ar iddynt gadw 'r dydd Sabbath yn sanctaidd. Na oddefwch iddynt dreulio un rhan o honaw mewn oferedd, eithr gelwch arnynt i dreulio peth amser mewn gweddi ddirgel, yn darllen yr yscrythyrau a llyfrau da eraill, pan ddelont o'r ordinhadau cyhoedus. Yn y pedwerydd gorchymmyn y perir i rieni edrych ar fod en plant, gystal a nhwy eu hunain, yn cadw 'r Sabbath yn sanctaidd.
8. Cynnefinwch hwynt â chymdeithas dda, a gommeddwch iddynt gymdeithas ddrwg. Cyfeillach ddrwg sydd yn diffodd crefydd, ac yn gwneuthur y naill cynddrwg ar llall. Yr hwn a rodia gydâ doethion a fydd doeth. Dihar. 13.20. Felly 'r hwn a rodia gydâ 'r drwg a sydd drwg. Llawer un a'r ydoedd vnwaith [Page 70]yn obeithiol, wrth ymuno â chymdeithas ddrwg a aeth yn annuwiol.
9. Pan allo eich plant ddeall dirgeledigaethau yr efengil, yna byddwch daer arnynt am dderbyn troedigaeth. Aci hynny,
Gwnewch yn yspys iddynt eu cyflwr colledic wrth natur: Fel y maent o ran eu pechodau mewn perigl o ddigwydd iddynt bob rhyw farnedigaethau, amserol, ysprydol, a thragywyddol. Ac os meirw a wnant yn eu cyflwr naturiol, y bydd eu rhan yn vffern gydâ 'r cythreuliaid yn dragywydd.
Yn ail, dangoswch iddynt reitied yw 'r ailenedigaeth er mwyn cael iechydwriaeth. Gwescwch arnynt araith Christ wrth Nicodemus, Joan. 3.3. yn wîr, yn wîr, meddaf iti, oddi eithr geni dyn drachefn ni ddichen efe weled teyrnas Dduw. Yma y gwelwch nas gall neb sod yn gadwedig, tra y pathâont yn eu cyflwr cnawdol, heb eu hadnewyddu a'u troi drwy yspryd Duw oddiwrth natur i râs. Hynny yw, oddieithr eu newid hwy oddifewn ac oddiallan o'r peth a fuont, a dyfod i fod yn greaduriaid newydd, a'u dealldwriaethau wedi eu goleuo, a'u serch wedi ei sancteiddio, a'u bucheddau wedi eu diwygio.
Yn drydydd, athrawiaethwch hwy yn yr vnic sylfaen o iechyd wriaeth, sef Jesu Grist, ai gyfiawnder, ac haeddedigaethau ei ddieddefaint a'i farwolaeth. Fel y mae efe yn adeiladwr doeth a osodo ei dŷ ar y graig, felly y mae efe yn Gristion doeth a osodo ei ymddiried yn Ghrist Jesu. Ac er mwyn annog rhai ieuaingc i osod adeilad eu gobaith ar Grist yn vnic;
Eglurwch iddynt fel y mae Christ yn Iachawdwr Oll-ddigonol.
Fel y mae ei farwolaeth ef yn aberth haeddianus, gan ei fod efe yn Dduw gydag [Page 71]yn ddŷn, ac am hynny fod ei ddioddefaint ef yn gyflawn fodlonrwydd i gyfiawnder Duw dros ein pechodau ni er maint a fyddont. 1 Joan. 1.7. Gwaed Jesu Grist sydd yn glânhau oddiwrth bob pechod. Psal. 130.7. Disgwilied Israel am yr Arglwydd, o herwydd y mde trugaredd gydâ 'r Arglwydd, ac aml ymwared gydag ef, rhag pob math o bechodau a chystuddiau.
A mynegwch iddynt mor ewyllyscar yw Christ iw gwaredu hwy. Megis y mae ef yn gallu, felly y mae efe yn ewyllysio achub pechaduriaid, gan iddo ei roddi ei hun yn aberth dros eu pechodau hwy, a gwahodd pawb a'r sydd yn ocheneidio dan faich eu pechodau i ddyfod atto ef, au bwrw eu hunain au baich arno ef. Math. 11.28. Esay. 55.1. Joan. 7.37.
Yn bedwerydd, yspyswch iddynt nad oes fodd arall i iechydwriaeth, ond yn vnic drwy iawn gredu ynGhrist. Gan ymwrthod â'u hanwireddau, ac â phob hyder arnynt eu hunain a'u cyfiawnder, ac hyderu ar gyflawn gyfiawnder Christ a'i haeddedigaethau, ac ymroddi i fod yn weision iddo ef.
Yn bumed, byddwch ddyfal a thaer mewn gweddi drostynt hwy. Ari Dduw ei gwneuthur hwy yn blant iddo ei hun, a rhoddi grâs iddynt. Gweddi yw 'r modd i geisio pob rhôdd berffaith, ini ein hunam, ac i eraill: ac nid ellir ddisgwil fawr ffynniant ar foddion eraill hebddo. Er i Baul blannu, ac i Apollos ddyfrhau, Duw piau rhoddi'r oynnyrch. Pan ymroddodd yr Apostolion i weddi, ac i wenidogaeth y gair, trowyd lliaws at y ffydd. Act. 6.4.7. Gweddiau wedi eu rhoddi i gadw yn y nef dros blant, a wnaei iddynt lawer mwy o lés nag arian a dyrrer iddynt ar y ddaiar.
Gof. 15. Beth yw pechod?
Atteb. Pechod yw troseddiad cyfraith Duw.
Egluth. Fel hyn y dywed yr Apostol. 1 Joan. 3.4. gan alw pechod yn anghyfraith. Eglurhâd o ewyllys Duw yw 'r gyfraith, yn dangos i ddŷn beth a fynnai, a pheth ni fynnai efe i ddŷn ei wneuthur. Am hynny torri 'r gyfraith yw digio Duw, a gwneuthur yn erbyn ei ddatcuddiedic ewyllys ef. Yspysa cyfraith Dduw ini beth a ddylaem ni ei wneuthur, a pheth a ddylaem ni fod. Gorchymmyn ini ddilyn sancteiddrwydd, Heb. 12.14, a bod yn sanctaidd, 1 Pet. 1.16. Rhaid i'n natur ni, gystal a'n buchedd ni, fod yn gydffurfiol ag ewyllys Duw.
Gof. 16. Pa sawl rhyw sydd o bechod?
Atteb. Dau 'n bennaf, sef yw hynny, Gwreiddiol a Gweithredol.
Gof. 17. Beth yw pechod gwreiddiol?
Atteb. Pechod gwreiddiol yw Llygredigaeth Natur ym mha un y cenhedlir, ac y genir pawb.
Eglurh. Gelwir y pechod a soniwn ni yn awr am dano yn wreiddiol, am iddo yn [Page 73]gyntaf darddu allan o Adda, yr hwn oedd fel gwreiddyn a bon-cyph pechod i ddynol ryw. Am dano ef y dywed yr Apostol-Rhuf. 5.12. Trwy un dŷn y daeth pechod i'r bŷd. A'r pechod gwreiddiol hwn yw 'r ffynnon o ba vn y dylifa pechodau gwneuthurol.
Y pèchod hwn a feddyliodd yr hwn a ddywedodd. Mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy fam arnaf. Psal. 51.5. Wedi anffursio delw Duw yn Adda wrth ei godwm ef, aeth efe yn halogedic ym mhob vn o gynneddfau ei enaid, ac o aelodau ei gorph: ac yna y cenhedlodd fâb ar ei lûn ei hun, sef yw hynny, wedi ei lygru â phechod, onid oedd y tâd a'r Mâb yn vn-wedd. Am hynny y dywedir ein bod ni yn dwyn natur bechadurus gydâ ni ir bŷd. Fel y mae pob creadur arall yn dwyn tueddiad ei rywogaeth gydag ef ir bŷd, yn y llewod a'r bleiddiaid bychain y mae 'r vn natur reibus, ac sydd yn y rhai mawr; felly y mae tueddiad bechadurus ym mhlant dynion pechadurus. Y mae 'r llygredigaeth gwreiddiol hwn yn bechod trwm, megis y dengis yr yscrythur yn aml. Psal. 51.5. Rhuf. 5.12. Yn y bummed a'r chweched bennod at y Rhufeniaid, geilw 'r Apostol lygredigaeth gwreiddiol yn bechod yn dra mynech.
Ac ymddengys mor echryslon yw,
1. Wrth ei fod yn hâd pob pechod. Terddiff pob math ar bechodau gwneuthurol allan o hwn, megis ac y tyfiff pob math o ŷd a phlanhigion oddiwrth eu hâd eu hun.
2. Y mae yn lygredigaeth oll-hawl, gan halogi dyn drwyddo, sef ym mhob gallu o'i enaid, ac ym mhob rhan o'i gorph: ac o herwydd hynny nid oes burdeb mewn un rhan o hono.
[Page 74]3. Y mae yn anorphwys, ac yn ddibaid yn tueddu ac yn gyrru dyn i bechodau gwneuthurol: Tyst yw cwynfan yr Apostol: yr wyf yn gweled deddf yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fy nghaethiwo i ddeddf pechod. Rhuf. 7.23. Ni chai efe lonydd gan y pechod hwn ynddo ei hun, eithr yn oeftadol ceisiai wrthryfela yn erbyn grâs. Y mae megis ffynnon o fewn dŷn yn bwrw allan ddyfroedd chwerw, neu fôr diclon yn bwrw allan dom, neu domen ffiaidd, o'r hon y cyfyd tarth drewllyd. Y cyfryw ager o drachwantau drygsawr a dardda yn oestadol allan o galon ddrygionus dyn.
4. Y mae efe yn llygredigaeth parhaus, erys gydar annuwiol a'r diedifeiriol dros byth. Nid all holl dân uffern mo'i ddifa ef, a'i losci ef allan o honynt. Ac nid yw grâs yn ei yrru ef yn gwbl allan o'r duwiol yn y bywyd hwn. Nid yw 'r rhai a adnewyddir drwy yspryd Duw, wedi eu rhyddhau yn berffaith oddiwrtho ef yma. Er lleihau llawer o'i gryfder ef, Etto y mae gweddill o honaw yn aros yn y dynion goreu, y rhai sy'n cael prawf o'i allu ef yn eu rhwystro hwy ym mhob man, ac ym mhob dyledswydd er duwioled fyddo.
Cymmwys. Bydded i bawb o honom dderbyn yr athrawiaeth ynghylch llygredigaeth wreiddiol am wirionedd, ac ymddarostwng o'i blegyd. Rhai a'i gwada, a'r rhan fwyaf b [...]bl ydynt annheimladwy o honaw ef; ond y duwiol a'i cydnebydd, ac a drist alaru o'i herwydd.
Y mae Dafydd yn llefain yn chwerwedd ei enaid, wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf. Psal. 51.5. Wrth yr hyn y mae yn cyfaddef [Page 75]ei ddyfod ef ir bŷd wedi ei ddiwyno a'i lygru; a geni ffynnon o bechod gydag ef, o'r hon y daethau y ffrydiau bruntion o fwrdwr a godineb. Yn Rhuf. 7.24. Ni gawn yr Apostol yn croch-lefain, ys truan o ddŷn wyfi; pwy a'm gwared i oddiwrth gorph y farwolaeth hon? sef yw hynny, oddiwrth gorph pechod a llygredigaeth, a ddygai efe yn ei gylch. cyfaddefodd Job hefyd y llygredigaeth gweiddiol hwn pan ddywedodd, pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? Neb. Job 14.4. Medd ein achubwr, yr hyn a aned o gnawd sydd gnawd. Joan 3.6. Cymerir cnawd yn y lle cyntaf am rieni naturiol, y rhai ydynt gnawd megis pawb oll: yn yr ail lle y cymmerir cnawd am yr hyn sy lygredig. Megis pe dywedasai, pob un a aned o ddŷn sydd gnawdol a llygredic, a chwannog i bob drwg, ac anhydyn i [...] da.
Gan fod cyflwr dynol ryw fel hyn, doethineb fydd i ni edrych yn fynech ar ein llygredigaeth gweiddiol er ein cadw ni yn isel yn ein tŷb ein hun. A pha bryd bynnag yr ymosodom i gystuddio ein heneidiau o flaen Duw, dygwn v pechod ar gôf, ac yn ein cyffes cyfaddefwn ef yn ostyngedic megis gwreiddin ein holl bechodau eraill.
Ac wrth ystyried fel y mae 'r pechod hwn yn daer arnom bob amser i weuthur rhyw anwiredd neu gilidd, doethineb fydd ini ei gadw i lawr fel na reolo ynom ni, drwy ymdrech yn oestadol yn ei erbyn ef, a'i guro i lawr cyn gynted ac y dirnadom ei fod efe yn ymgynhyrfu ynom ni: Gan fyned at Dduw drwy weddi am allu yn ei erbyn ef, ac ar ryngu bodd iddo roddi ini râs digonol iw wrthwynebu ef.
[Page 76]Amlygaf y pwnc hwn ynghylch llygredigaeth wreiddiol, drwy osod ar lawr rai ysty iaethau i ddiddanu rhai Christanogion, y rhai er eu bod hwy wedi eu hadnewyddu drwy yspryd Duw, etto ydynt yn anghyssurus, ac yn myned yn alarus, gan deimlo gweithrediad llygredigaeth ynddynt.
Yr ystyriaeth gyntaf yw,
Bod golwg a theimlad o lygredigaeth yn arwydd gobeithiol o wirionedd grâs. Gall llwch a brychau fod mewn ystafell heb eu canfod yn y tywyll, eithr ymddangosant pan dywynno 'r haul i mewn. Yr oedd llygredigaeth yn dy galon di o'r blaen, yn dy gyflwr naturiol diadgenedledic, yr oedd meddyliau beilchion trachwantus y pryd hynny yn heidio yn dy galon di, a thitheu heb ymrando â hwynt: a'r achos o'th fod di yn awr yn eu dirnad hwy yw grâs Duw: Christ, Haul y Cyfiawnder, a gyfododd ar dy enaid di, gan roddi iti belydr ei oleuni, y rhai a ddatcuddiant iti bob brycheuyn, sef dirgel lygredigaeth dy galon di. Am hynny dylai teimlad o'th lygredigaeth fod cyn belled oddiwrth beri iti ammau gwirionedd gràs ynot, a'th ran yn Ghrist, ac y dylai yn hytrach gadarnhau dy ffydd ynddo ef.
2. Ystyriaeth. Pan weithier grâs yn yr enaid, ymgynhyrfa a gweithia llygredigaeth lawer mwy nag o'r blaen. Math. 2.3. Ni ddarllenwn gyffroi o Jerusalem oll pan anwyd Christ. Felly pan aner Christ mewn enaid bydd llygredigaeth yn peri blinder, ac yn gwrthryfela. Gan fod grâs a llygredigaeth yn wrthwynebus iw gilidd, bydd ewyllys y naill yn chwennych yn groes ir llall. Y mae llygredigaeth yn rheoli ynghalonnau rhai dynion yn ddirwystr. Ond nid yw grâs yn rheoli ynghalon neb yma heb gael ei rwystro [Page 77]gan lygredigaeth.
3. Ystyri. Nid yw Duw yn gwrthod neb eisiau eu bod hwy yn gwbl rydd oddiwrth gynwrf llygredigaeth yma, tra y byddont yn ymegnio i farweiddo eu llygredigaeth fwyfwy, yn ol mesur y grâs a'r gallu a dderbyniasant hwy. Nid yw efe yn disgwyl ini fod yn gwbl ddibechod yma, ond bod ini na adawom i lygredigaeth reoli yn ein cyrph marwol ni, ac na byddom gaethweision iddo i ufyddhâu iw drachwantau ef. Rhuf. 6.12.
4. Ystyriaeth. Er bod llygredigaeth yn aros ym mhlant Duw, wedi iddynt uno â Christ drwy wir a bywiol ffydd, etto ni chyfrifir ef iddynt iw damnedigaeth. Y mae 'r Apostol yn mynegu hyn yn eglur. Rhuf. 8.1. Wedi iddo yn y bennod o'r blaen osod allan gyflwr y dŷn adgenedledic, o herwydd bod gweddillion llygredigaeth ynddo, y modd nad all ai efe wneuthur y da a fynnai, eithr y drwg nis mynnai; a bod cyfraith yn ei aelodau ef, yn gwrthryfela yn erbyn ei feddwl ef, ac yn ei gaethiwo ef i ddedd [...] pechod. Rhag digalonni neb wrth hyn o achos teimlad o'i lygredigaeth, y mae efe yn ebrwydd yninechreu 'r wythfed bennod yn dangos, nad oes damnedigae th ir rhai sydd ynGhrist Jesu, er bod gweddill llygredigaeth yn eu blino hwy. Ac y mae efe yn dosparthu y rhai sydd ynGhrist, sef eu bod hwy yn gyfryw ac sydd yn r hodio, nid yn ol y cnawd ond yn ol yr yspryd. Er bod ynddynt gnawd, etto nid ydynt dan ei reolaeth ef. Y rhai a waredwyd oddiwrth arglwyddiaeth pechod gan yspryd Christ ydynt ddiangol oddiwrth ddamnedigaeth drwy ei waed ef.
Er bod ffynnon o bechod ynom di, etto yn Ghrist y mae ffynnon wedi ei hagoryd i bechod ac aflendid. Zech. 13.1. A'i waed ef [Page 78]a'n glanhâ oddiwrth bob pechod. Am hynny bydded ini drwy ffydd daenellu ein enediau â gwaed Christ, gan dynnu ei haeddedigaethau ef attom ein hunain i'n diddanu. ffydd yw llaw 'r enaid, a'r enaid drwy ffydd a esyd ei llaw ym mriwiau Christ, a chwedi cymeryd o'i waed ai taenella ei hun ag ef. Ac megis yr oedd tai 'r Israeliaid, ar ddryssau ac ystlysbyst pa rai yr ydoedd gwaed yr oen pasc wedi ei daenellu, yn ddiogel oddiwrth yr Angel a ddinistriai, Exod. 12.23. Felly y mae 'r enaid a daeneller â gwaed Christ yn ddiogel oddiwrth allu damnedigol eu llygredigaeth.
Gof 18. Beth ym pechod gwneuthurol.
Atteb. Pechod gwneuthurol yw ffrwyth pechod gwreiddiol mewn meddyliau, geiriau, a gweithredoedd.
Eglurh. Megis y mae llygredigaeth natur yn effaith o bechod Adda, felly y mae pechodau gwneuthurol yn ffrwyth o'r llygredigaeth hwnw. Pechodau gweuthurol ydynt ganghennau yn tyfy o'r gwreiddyn chwerw hwnw. Ac megis y mae 'r gwreiddyn felly y mae 'r ffrwyth. Dyn drwg, sef pob plentyn Adda, o'i dryssor drwg, sef natur lygredig, a ddwg allan bethau drwg, sef pechodau gwneuthurol. Mat. 12.35. Galw pechodau gwneuthurol yn weithredoedd y enawd, Gal. 5.19. a ddengis o ba le y deuant. Canys wrth gnawd yno ac mewn lleoedd eraill o'r yscrythyr lân y deellir llygredigaeth natur.
[Page 79]Gellir gosod yr holl bechodau gwneuthurol yn dair rhenc, sef meddyliau drwg, a geiriau drwg, a gweithredoedd drwg.
1. Meddyliau drwg. Gen. 6.5. Holl fwriad meddylfryd calon dŷn sydd yn unic yn ddrygionus bob amser. O faint yw'r yscelerder y sydd ynghalon dŷn! ped fai yn nŷn ddim pechod onid ei feddyliau drwg ef, o amled yr heidiau o honynt! Nid oedd y gwybed, a'r locustiaid a anfonwyd yn blâ i'r Aipht, ond myntai fechan wrth rifedi 'r lliaws o feddyliau drwg a'r sydd ynghalonnau dynion.
2. Geiriau drwg. Y mae 'r rhain yn bechodau gwneuthurol, fel yr ymddengis wrth eiriau Christ. Mat. 12.36. Lle y dywed efe, y rhydd dynion yn-nydd farn gyfrif am bob gair segur. Y pryd hynny y bernir pechodau, ac y rhoir cyfrif am yr hyn sydd bechadurus, ac yn haeddu damnedigaeth. Am hynny geiriau segur ydynt bechodau, yn enwedigol geiriau drwg, y rhai ydynt bechodau gwneuthurol o herwydd eu bod yn weithredoedd y tafod.
3. Gweithredoedd drwg. Nid all fod ammau nad yw 'r rhain bechodau gwneuthurol, wrth eu bod yn weithredoedd y maent yn wneuthurol, ac wrth eu bod yn ddrwg y maent yn bechodau. Meddyliau a chwantau ydynt weithredoedd yr enaid, a ddirnedir gan Dduw yn unic. Geiriau ydynt weithredoedd y tafod, a ddirnedir drwy 'r glûst, eithr gweithredoedd odd diallan a ddirnedir drwy'r llygad, ac ydynt amlwg i Dduw a dŷn.
Cymmwys. 1. Dyscwn oddiyma, y rhaid i'n adferiad ni allan o'n cyflwr pechadurus ddechreu yn ddwfn, sef yn ein calonnau a'n naturiaeth.
[Page 80]Yn gyntaf, rhaid bod ynom ni ymddarostyngiad ddwfn. Dylaem ymddarostwng a'n ffieiddio ein hunain, yn bennaf o herwydd ein bod ni yn fraenllyd oddifewn, a chwedi ymlygru yn ein calonnau, a'n naturiaeth. Pechaduriai d ynfyd a ymescudosant gan ddywedyd,
Fod ganddynt galonnau da tuag at Dduw, er bod eu bucheddau yn ddrwg, Lle mae calon pob pechadur yn waethaf rhan o honaw. Ymddengis ddaed yw dy galon wrth y ffrwyth a dŷf o honi. Ydyw 'r tyngu a'r meddwi a'r celwydd, a'r godineb, a lenwant y bŷd, yn dyfod oddiwrth galonnau da? A all y gwreiddyn fod sanctaidd o'r hwn y deilliaw ffrwythydd mor aflan? Diau nas gall; Am hynny 'r galon yw 'r rhan waethaf yn nŷn.
Rhai pechaduriaid eraill a escusodant ddrygioni eu bucheddau gan ddywedyd, nas gallant hwy wrth y peth, ac nad ydynt hwy ond byw yn ol eu naturiaethau. Megis na bai mor gasaus fod yn llyffant du, a phe byddai i un yfed gwenwyn. Tostwriwn wrth un a yfodd wenwyn yn ddiarwybod, ond lladdwn lyffant du y sydd o natur wenwynllyd. Y mae 'r peth hyn, sef bod gennit natur sarph neu lyffant, neu ryw brŷf gwenwynllyd arall, cyn belled oddiwrth dy escusodi am dy weithredoedd gwenwynig, ac y dylai dy ddarostwng yn îs, a'th wradwyddo yn fwy, o ran bod gennit natur mor ysceler. Am hynny dechreuwch eich edifeirwch yma, darostynger chwi am eich natur lygredig.
Yma hefyd y mae i farweiddiad ddechreu. Rhaid llâdd corph pechod o flaen ei aelodau. Rhuf. 6.6. Rhoddwch y fwiall wrth fôn y pren, a bwriwch halen ir ffynnon, os mynnwch iachau 'r dyfroedd, Carthu 's galon, [Page 81]a'i marweiddio i bechod, yw eich gwaith mawr. Newidier eich natur chwi, ac adnewydder chwi yn yspryd eich meddyliau, os mynnwch eich cwbl iachau.
2. Rhaid i'n adferiad ni allan o'n cyflwr pechadurus gyrhaeddyd ym mhell, sef drwy ein holl fywyd ni. Rhaid iddo ddechreu yn y galon, ond nid diweddu yno. Yscydwer y ffrwyth drwg i lawr, ac yscythrer y canghennau drygionus, ac iachaer y gwreiddyn. Bydded cwbl adgyweiriad y fuchedd oddiallan, gystal ac adnewyddiad y galon oddifewn. O bechaduriaid, glanhewch eich cydwybodau yn gyntaf, ac yna glanhewch eich bucheddau oddiwrth weithredoedd meirwon. Lleddwch bechod oddifewn, a chiliwch oddiwrtho oddiallan. Pa fath a fu dy ffyrdd pechadurus di? A ymarferaisti â thyngu, a dywedyd celwydd, meddwi, cablu; neu a arferaisti gybydd-dod a gwatwor crefydd, neu ryw ddrwg gampau eraill? pa fath bynnag oeddent, rhoddwch hwynt i gyd heibio: a bwriedwch drwy gymmorth grâs Duw na bo fyth i chwi a wneloch mwy ach ffyrdd pechadurus gynt, ac wrth hynny y dirnedi dy fod yn gadwedig.
Dôs bechadur, dos ger bron Duw, cyffessa dy natur ath fuchedd ddrwg, a'r amrywweithrediadau o honynt cyn belled ac y gellych, ynghyd â'r amgylchiadau a'r sydd yw trymhau; ac na pheidia nes iti deimlo cywilydd ar dy wyneb, a gofid yn dy galon: Ac o hynny allan ymosod i groeshoelio dy ddrwg natur, ac i droi oddiwrth dy holl ffyrdd pechadurus: ac felly y gelli ddywedyd, Fy enaid hwn a fu farw a byw yw, a fu glâf ac a iachawyd.
Gof. 19. Drwy ba sawl ffordd y gwneir pechod?
Atteb. Drwy dair ffordd: yn gyntaf, wrth wneuthur yr hyn y mae cyfraith a gair Duw yn ei ommedd.
Yn ail, drwy adel heb wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei orchymyn.
Yn drydydd, drwy gyflawni dyledswyddau mewn modd annyledus.
Eglurh. 1. Pechir drwy wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei ommedd. Dywed y gyfraith na thwng, na ddywed gelwydd, na chwennych, &c. Yn awr yr hwn sy'n tyngu, yn dywedyd celwydd, neu 'n chwennych, neu 'n gwneuthur rhyw beth arall y mae 'r gyfraith yn ei ommedd, sydd droseddwr yn hynny.
2. Drwy adel heb wneuthur yr hyn y mae gair Duw yn ei orchymmyn. Onid wyt gelwyddwr a thyngwr, etto os wyt arferol o esceuluso gweddi, a sancteiddiad y Sabbath, a dyscu dy deulu, neu ryw ddyledswydd adnabyddus arall, wrth hynny yr wyt yn droseddwr.
3. Drwy gyflawni dyledswyddau mewn môdd annyladwy. Y mae Duw yn edrych nid yn vnic ar i ni wneuthur y rhan oddiallan in dyledswyddau, ond ar y môdd y gwnelom hwynt hefyd. Pan weddier heb weddio yn wresog, a phan wrandawer y Gair heb ei wrando yn ddyfal, a phan rodder heb roi yn ewyllyscar; nid hynny yw 'r gweddio a'r gwrando, na'r rhoddi, y mae Duw yn ei ofyn, neu yn ei dderbyn.
Cymmwys. 1. Pa faint mwy yw rhifedi 'r [Page 83] pechodau yr ydym ni euog o honynt, nag a dybia llawer? Erbyn y bwrioch gyfri [...] y pechodau aml a wnaethoch, ac y gosodoch ar lawr gymaint o honynt ac a alloch eu cofio: pan ystyrioch fynyched yr esceulusasoch ddyledswyddau cydnabyddus, a'r amryw ddeffygion oedd yn y modd o wneuthur y dyledswyddau a wnaethoch, oh mor ofnadwy a fydd y rhifedi o honynt!
2. Cydnabyddwn faint yw 'n heisiau ni am Jesu Grist i atteb trosom ni. Nid allem ni fyth fodloni Duw am vn pechod, ped faem ni heb vn arall; pa fôdd ynteu y gallem ni atteb am rifedi cymaint o honynt hwy, ped faem heb Grist i atteb drosom ni?
3. Rhaid ini wrth edifeirwch beunyddiol barhaus. Tra fyddo pechu, rhaid bod edifaru. A dylai ein edifeirwch fod yn gyfartal i'n pechaduriaeth. Llawer o bechodau a ofyn lawer o ddagrau ac ocheneidiau, a phechodau a fynech wneler, am edifeirwch a fynech adnewydder.
4. Nac ymfodlonwch mewn dyledswyddau heb eu gwneuthur mewn vniondeb calon. Gwendid a fydd, ac ni wasanaetha ini ddigalonni wrth hynny. Ond er llesced a fyddoch mewn dyledswyddau, byddwch sicr na boch ragrithwyr. Yr hyn a wneler yn wan, os gwneir ef yn gywir mewn duwiol simlrwydd calon, ac â meddwl diragrith er mwyn gwasanaethu a gogoneddu Duw, yn ol yr hyn a allo dyn, a fydd gymmeradwy gan Dduw. Bydded ich gwendid eich cadw yn ostyngedig, ac ymogelwch rhag i yspryd balchder lechu yngwaelod eich cystudd am dano. Ni flinai eu llescedd mewn dyledswyddan gymaint ar rai, oni bae eu bod hwy yn tybied hynny yn wradwydd iddynt, nas gallant eu gwneuthur yn gystal ag eraill. Byddwch [Page 84]vniawn, a Duw a guddia eich gwendid chwi, er nas gwnelo dynion.
Gof. 20. A ydyw pob math ar bechod o'r vn maintioli ger bron Duw?
Atteb. Nac yw. Eithr y mae rhai pechodau yn fwy nag eraill yn eu natur, ac o achos rhyw amgylchiadau a'u trymhânt.
Eglurh. Yr hyn a heurir yn yr atteb hwn yw bod rhai pechodau yn fwy nag eraill.
1. Yn eu natur: ac felly y mae pechodau yn erbyn y llêch cyntaf o'r gyfraith yn fwy na 'r pechodau yn erbyn yr ail llêch yn y cyfryw râdd. Pechodau o'r grâdd vchaf yn erbyn y llêch gyntaf, ydynt fwy na'r pechodau o'r grâdd uchaf yn erbyn yr ail llêch. Ymhellach y mae gweithredoedd drwg yn gyffredin yn waeth na geiriau drwg: a geiriau pechadurus yn waeth na meddyliau pechadurus.
2. O achos rhyw amgylchiadau a'u trymhâ. Felly y mae pechodau a wneler yn erbyn gwybodaeth yn waeth na'r rhai a wneler mewn anwybod. Pechodau o ryfyg ydynt waeth na pechodau o wendid, Pechodau Christianogion ydynt waeth na phechodau 'r dynion digrêd. Ac anwireddau swyddogion a gwenidogion gan mwyaf a ddigiant Dduw yn fwy na phechodau 'r cyffredin.
Cymmwys. 1. Byddwn wiliadwrus yn erbyn pob pechod, yn enwedig yn erbyn pechodau mawrion. [Page 85]Po mwyaf a fyddo dy bechodau, mwyaf a fydd dy blâau.
2. Byddwn ddiolchgar nid yn vnic am râs yn sancteiddio, ond hefyd am yr hwn a attalio. Diolch i Dduw onid wyti nac eulun-addolwr, na godinebwr, nac euog o'r pechodau echryslonaf, Canys grâs Duw a wna hynny.
3. Na chaniadwn ini ein hunain fyw mewn pechodau bychain. Y pechod lleiaf heb edifarhau am dano a ddichon dy fwrw yn y farn. Rhuf. [...] 23. Cyflog pechod yw marwolaeth. Sef yw hynny, cyflog pob pechod, mawr a bychan. Canys y mae 'r Apostol yn adrodd fod pechod, heb osod dosparth arno, na mawr, na bychan, yn dwyn marwolaeth. Felly onid yw 'r pechodau lleiaf heb fod yn bechodau, rhaid iddynt fod yn farwol: gan fod y pechodau lleiaf yn dyfod dan yr enw hwn pechod, cyflog yr hwn yw marwolaeth.
Ynteu na chyfrifwn bechod yn y bŷd yn fychan, o herwydd Bod y pechodau lleiaf yn ddrygau mawrion. Yn gyntaf, y maent yn gwneuthur ammarch i fawrhydi anfeidrol.
Yn ail, gorfu talu gwerth mawr ith brynu di oddiwrth y pechodau lleiaf. Yr hwn nid oedd lai na gwerthfawr waed mab Duw: yr hwn yn unic a ddichon ein glànhau ni oddiwrth bob pechod, bychan gystal a mawr.
Yn drydedd, dug y Duw cyfia [...]n farnedigaethau ofnadwy ar ddynion am bechodau a dybid yn fychain; megis ar Uzzah; yr hwn a darawyd ag angau disyfed am iddo estyn allan ei law i ddal yr Arch i fynu, pan oedd mewn perigl o syrthio. 2 Sam. 6.6. Darllenwn hefyd ladd ddeng mil a deugain o wŷr Bethshemes ynghyd, am edrych ir Arch 1 Sam. 6.6. Je y mae ein Achubwr yn dywedyd, Math. 12.36. Yn nydd y farn y [Page 86]gorfydd i ddynion roddi cyfrifam bob gair segur. Wrth hyn ystyriwn mor ysceler yr ymddengis pob pechod bychan yngolwg Duw, fel y bom yn fwy gwiliadwrus yn ei erbyn.
Gof. 21. Beth yw 'r gospedigaeth sydd ddyledus i bechod?
Atteb. Y Gospedigaeth d [...]ledus i bechod yw digofaint a melldith Dduw, yn dwyn ar y pechadur drueni'r bywyd hwn, ac yn y diwedd marwolaeth, a gofid tragywyddol yn vffern.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y gosodir allan gyflwr truenus dŷn wrth bechod, yr hwn fydd yn sefyll mewn pum peth.
1. Fod pawb yn eu pechodau dan ddigofaint Duw.
2. Y maent dan felldith Dduw.
3. Y maent yn agored i holl drueni 'r bywyd hwn.
4. Y maent dan ddyrnod angau.
5. Ac yn haeddu poenau tragywyddol yn uffern.
Yn gyntaf, y mae pawb yn eu pechodau dan ddigofaint Duw: yn agored iw sorriant ef, yr hyn sydd gyflwr mor ofnadwy ac na ddichon deall creadur yn y bŷd amgyffred maintioli ei ofid. Psal. 90.11. Pwy a edwyn nerth dy sorriant? Megis pe y dywedasai, pwy a ddichon feddwl neu adrodd mor ddychrynadwy yw digofaint Duw i'r rhai y cyffrowyd ef yn gyfiawn yn eu herbyn. Dihar. 20.2. Medd y gwr doeth, fod digofaint [Page 87]brenin megis rhuad llew. Beth ynteu yw digofaint Duw, brenin y brenhinoedd? Dig yr hwn sydd dân yssol, o flaen yr hwn nis gall creadur sefyll.
Rhyfeddol ynteu yw ynfydrwydd a gwallgofi y dynion hynny y rhai a ryfygant wneuthur pechodau adnabyddus, drwy y rhai 'r enynnant dân digofaint Duw iw herbyn, a thaflant eu hunain iw ganol. Math. 17.15. Ni ddarllennwn am vn a syrthiai yn y tân yn fynych. Ond wrth chwilio 'r histori ym mhellach ni gawn weled ei fod ef yn lloerig, sef o'i gôf, heb wybod beth yr ydoedd efe yn ei wneuthur, a bod y cythrael ynddo yn ei yrru ef i hynny. Yn ddiammau yr cythrael sydd yn gyrru pechaduriaid ym mlaen mewn ffyrdd drwg, ac amhwyll yw i bechaduriaid ei galyn ef.
2. Y mae pawb yn eu pechodau dan felldith Duw, yr hon sydd yn eu canlyn hwynt i ba le bynnag yr elont. Os yn eu tai y byddant, melldith yr Arglwydd sydd yn nhŷ 'r annuwiol: Dihar. 3.33. ac ai dilyn hwy iw meusydd a'u perllenni. Hi a gyferfydd â hwynt ym mhob peth a ddigwyddo, ac ym mhob peth a gymmeront h wy mewn llaw. Pa dycciant a allant hwy ei ddisgwil ar ddim a drinont? Bu melldith Noah yn rhy drwm i heppil Cham. Oh drymmed ynteu a fydd melldith yr Holl-Alluog Dduw!
3. Y mae pawb yn en pechodau yn ddarostyngedig i drueni 'r bywyd Lwn; sef i bob math a gràdd ar ddrygau; i'r rhai perthynasol ir corph, doluriau, poenau, carcharau; ac i'r rhai perthynasol ir enaid, megis dychrynfau cydwybod, a gofid yspryd: I'r rhai perthynasol iw stâd fydol, megis colledion drwy dân a lladron: i'r rhai perthynasol iw enw, megis anair, gwradwydd, [Page 88]a'r cyfryw: Ac nid yw 'r fath ddrygau a ddigwyddo ir annuwiol, yn gerydd tadol iddynt er llessâd iw eneidiau, ond rhan o gyfiawn ddialedd Duw am eu pechodau.
4. Y mae pawb o herwydd eu pechodau yn ddarostyngedic i angeu. Yn siccr cyfnewidiodd rhai eu bywyd naturiol am un nefol yn rhyfeddol, megis Enoch, Heb. 11.5, ac Elijah, 2 Bren. 2.11. Felly y digwydd ir rhai grasol a fo 'n fyw pan ddel Christ ir farn, hwy a gipir oddiar y ddaiar iw gosod o flaen brawdle Christ. [...]'i herwydd hwynt y dywed yr Apostol; 1 Cor. 15.51. Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment. Cynwysir ym mhynciau 'r ffydd, Y daw Christ i farnu byw a meirw. Wrth y rhai byw y deellir y rhai a fyddo 'n fyw y pryd hynny. Ond dir yw y rhaid i bawb eraill farw, er bod yr amser a'r lle a'r môdd yn anyspys.
Er bod marwolaeth, drwy un Christ, wedi myned ir credadwy yn ddyfodfa i mewn i degrnas nef, ac yn ddrws iw gollwng hwynt i fewn tragywyddoldeb Fendigedic, i fwynhau y diddannwch pennaf: etto ir anghredadwy, y rhai sydd yn ymado â'r byd hwn yn eu Cyflwr naturiol, y mae marwolaeth yn ofnadwy, am hynny ei gelwir yn frenin dychryniadau. Canys gwyddant y gorfydd iddynt ar ol marwolaeth ymddangos o flaen y cyfiawn Dduw iw barnu, ac oddiyno eu cipio gan gythreuliaid i garchar ofnadwy uffern, llê tywyllwch a phoenau tragywyddol.
Ni hwyrach i rai ar eu claf-wely ddechreu gofidio am eu buchedd ddrwg, a dymuno na buasent yn meddwl cymmaint am y byd a'i ddyfyrwch pechadurus, ond yn gofalu mwy am eu heneidiau gwerthfawr, ac am wneuthur [Page 89]jawn ddefnydd o foddion ac achlysur grâs a ganhiadasid iddynt. Eithr gall fod yn rhy hwyr iddynt i lefain gyda Balaam: o na chawn farw marwolaeth y cyfiawn; wedi iddynt esceululuso dilyn bywoliaeth y cyfiawn. Canys megis ac y mae bywyd dynion yn gyffredin y bydd eu marwolaeth hwy, ac megis y gadawo marwolaeth hwynt, y goddiwes barn hwynt. Am hynny ein doethineb ni yw gwneuthur yn awr iawn ddefnydd o foddion ac odfeydd grâs, ymadel a'n trachwantau, ac ymroddi i Grist, yr hwn yn unic a ddichon wneuthur marwolaeth yn gyssurus ini.
V. Y mae pawb o herwydd eu pechodau yn haeddu poenau tragywyddol yn uffern. Y mae yma yw ystyried dosted, ac mor barhaus a fydd poenau uffern, ir rhai y bwrir yr annuwiol.
O byddi fyw a marw yn dy bechodau yn ddiedifeiriol, disgwyl fod yn gyfrannog o'r ail marwolaeth gystal ac o'r cyntaf, sef dy benydio yn y tân a baratowyd i ddiafol a'i Angelion. Y mae'r Yscrythur yn dal allan boenau uffern drwy gyffelybiaethau o'r pethau mwyaf poenus ac ofnadwy ir corph, megis tân, brwmstan, a phryf. Drwy 'r rhai y cynnorthwyir ein deall ni am bethau y sydd vwchlaw ein gwybodaeth ni.
Ac megis y mae poenau uffern yn anoddefadwy, felly y maent yn dragywyddol hefyd. Gosodir hwynt allan drwy eu galw yn dân tragywyddol ni ddiffoddir mono byth, ac yn bryf ni bydd marw byth. Marc. 3.12. ac 9.48. Ac yn Datcudd. 14.10.11. Y rhai a deflir ir llynn o dân a brwmstan a boenir, a mwg eu cospedigaeth hwy sydd yn myned i fynu yn oes [Page 90]oesoedd t ac nid ydynt yn cael gorphywystra ddydd a nôs. Ac etto cynhelir eu bod fel nas diddymmer hwy. Er eu poeni cyn dosted, ni bydd diben iw gofid, yr hyn sy'n trymhau cyflwr vffernol yn annrhaethadwy.
Cymmwys. I. Hyn a ddichon ddwyn ar ddeall ini mor resynol ydyw cyflwr pob pechadur diedifeiriol. Diau ped ystyriti hyn yn ddifrifol, a'i osod at dy galon, sef dy fod dan ddigofaint a melldith Dduw yn y bŷd hwn, ac yn yr hwn a ddaw, dychrynai hynny di yn gymmaint, ac nad ellit na bwytta na chyscu, na gweithio, heb ofn a chrynfa, rhag a fyddai ith enaid yr awr nefaf gael ei thaflu ir ffaglau tragywyddol. Ac etto dyma dy drueni di, braidd y mynni dreulio un meddwl difrifol arno o'r naill ddydd ir llall, ond ymddwyn mor ddiofal ac mor annheimladwy, a phe bait heb fod mewn perigl yn y bŷd.
O bechadur ai cyflwr yw hwn i fod yn ddiofal ac i orphywys ynddo? i fod yn llawen ynddo? yr wyt yn llawen gan gymeryd dy orphywystra ath ddyfyrrwch, ond y dŷn beth yw dy gyflwr di? onid wyti dan ddigofaint Duw, ac ar fin uffern, mewn perigl bob awr o syrthio ir llynn o dân, ac a fyddi di mor ddiofal a llawen?
2. Dylai ystyried erchyll haeddiant pechod, beri i'n eneidiau ni ryfeddu rhagorol gariad Christ, yn dwyn ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, ac yn offrwm yno ei fywyd yn aberth ddigonol a bodlongar i Gyfiawnder Duw: a'r cwbl i'n gwaredu ni oddiwrth ddigofaint Duw, yr hwn nid allem ni na holl Angelion nêf ei oddef.
Beth a ddichon beri i'n calonnau ni hoffi Christ yn fwy na hyn?
[Page 91]3. Gan fod pob pechod yn haeddu melldith Dduw, mawr yw 'r achos ini i ymddarostwrg, am fod gennym ni feddyliau mor yscafn am bechod: onid ydym yn ei gofleidio ef yn ddiofn, ac yn ei wneuthur yn ddiofid, ac yn byw ynddo heb gerydd cydwybod. Ped edrychem ni ar bechod drwy friwiau Christ, a chraffu ar y torriadau, yr archollion, y cleisiau a'r dioddefiadau a ddug arno ef, neu pe gallem osod ein clust ar safn twll uffern, a chlywed lleisiau ac wylofain y rhai colledic yno nid allai na bai gennym feddyliau amgenach am haeddiant pechod, a bod yn ostyngedic am y meddyliau yscasn yn ei gylch ef a fuasai ynom ni o'r blaen.
4. Od yw pechod yn ein gwneuthur ni yn ddarostyngedic i ddigofaint a melldith Ddum, gweddaî ini arfer pob diwydrwydd a g [...]fal i ymgadw oddiwrtho, drwy ochelyd pob achlysur a llîth a allai ein denu ni iddo; a gwilied yn ei erbyn ym mhob cyfeillach, lle, ac amser: Am hynny y gorchymyn ein Achubwr iw ddiscyblion; Gwiliwch a gwedd [...]wch fel nad eloch i brofedigaeth. Math. 26.41.
Gof. 22. A oes fodd yn y byd i waredu dynion pechadurus allan o'i cyflwr truenus?
Atteb. Oes, Duw a roddes Iachawdwr i ddŷn.
Eglurh. Gan fod dyn heb allel ei waredu ei hun allan o'i gyflwr truenus, Duw [...]'r Tâd o'i anfeidrol ddoethineb a'i ddaioni a gafodd ffordd ac a ordeiniodd fodd i adferu, ac i achub dŷn. Joan. 3.16. Felly [...] carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei unic [...]nedig Fâb, fel na cheller pwy bynnag a gre [...]o ynddo ef, onid caffael o honaw ef f [...]wyd tragywyddol. [Page 92]Er bod hyn yn gydfwriad y Drindod fendigendic, etto dywedir fod gan bob un o'r personau ei waith priodol yn dwyn i ben iechydwriaeth dyn. Y Tâd oedd y ffynnon a'r bwriadwr o honaw. Y Mâb oedd y môdd o'i brynu: Efe a ddescynnodd o'r nêf, a gymerodd ein natur ni arno, ac ynddi a offrymmodd ei fywyd yn aberth ddigonol a bodlongar i gyfiawnder Dvw dros bechod dŷn. Y mae 'r yspryd Glân yn gosod llesâd prynedigaeth at ein calonnau ni, yn ei selio ini, ac yn ein gwneuthur ni yn gyfrannogion o'i ffrwyth. Felly cydweithiant ir gwaith mawr hwn.
Nid oes reswm iw roddi pam y bwriadodd Duw 'r Tâd achub dŷn, ond ei râd gariad a'i dosturi. Ei ymyscaroedd ef ydoedd dyner tuag at ei greaduriaid, wedi iddynt gwympo i ddygn drueni wrth eu diosalwch eu hunain, a malais Satan. Am hynny y mae 'r Apostol pedr yn rheddi diolch i Dduw 'r Tâd am ei fawr drugaredd yn ordeinio moddion prynedigaeth dŷn drwy Jesu Grist, yn y geirsau hyn: Bendigedig fyddo Duw a Thâd ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn yn ol ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol, &c.
Cymmwys. Bydded i'r holl fŷd ryfeddu a moliannu doethineb anfeidrol Duw Tâd, a'i [...]gorol gariad i ddynion colledic.
Yn gyntaf, ei ddoethineb arfeidrol yn trefnn y fath ffordd i brynedigaeth dan, a morwolaeth ei Fab ei hun. Rhaid ydoedd wrth Brynwr, ac wrth y fath Brynwr ac a fydde farw, ac wrth farw a allai wneuthur iawn cyflawn; a pha le yr oedd y fath Brynwr iw gael? Gallai dŷn sarw, ond nid allai fodloni cyfiawnder Duw or hynny. Gallai Duw fodloni cyfiawnder, ord nid aLai sarw. Ond [Page 93]wele, doethineb y Duw mawr a geisiodd allan y fath Brynwr ac oedd Dduw a dŷn. Yr hwn wrth ei fod yn ddŷn a allai farw, ac wrth ei fod yn Dduw a allai fodloni cyfiawnder.
Yn ail, Rhyfeddwn gariad Duw tuag at bechaduriaid truain, yn caniadu iddynt y fath rôdd dra-gwerthfawr a'i Fâb anwyl iw prynu hwy. 1. Joan. 4.10. Yn hyn y mae cariad, nid am ini garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fâb i fod yn iawn dros ein pechodau. Joan 3.16. Felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei uniganedig Fâb. Yn y lleoedd hyn yr amlygir mai cariad Duw oedd y prif achos o anfon Christ ir bŷd i farw drosom ni. Llawer a ryfeddant gariad Christ tuag at bechaduriaid, wrth iddo adel monwes ei Dâd i gymeryd ein natur ni arno, a dioddef yn honno farwolaeth chwerw er mwyn ein prynedigaeth: ond leied a ystyriant yn ddifrifol ryfeddol gariad Duw yn ymadel â'i anwyl Fab, hoffder ei enaid, i ddyfod i'r fath gyflwr gwael, a marwolaeth mor greulon, i'n gwaredu ni oddiwrth dragywyddol farwolaeth a damnedigaeth! mewn gwirionedd dylaem garu Duw 'r Tâd fel y Mâb.
Ac fel y derchafer ein calonnau ni i ryfeddu cariad Duw tuag at ddŷn colledig, ystyriwn,
Yn gyntaf, pa fath Fâb a roddes Duw i'n prynu ni. Nid mâb cynnwys, ond ei Fab naturiol, nid un mab o laweroedd, ond ei unig-genhedledic. Nid y fath fâb ac oedd Esau yr hwn a barei ofid iw rieni, eithr ei Fâb anwyl ef, yr hwn nis digiasai ef erioed, ac oedd ei ddifyrrwch ef, ac a orweddai yn ei fonwes. Dihar. 8.3.
Yn ail, dros bwy yr anfonodd ef ei Fâb anwyl ir bŷd. Nid dros Angelion, na dynion [Page 94]niwed: Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad yn rhoddi ei Fâb ini a throsom ni tra 'r oeddem ni yn bechaduriaid, yn elynion, ac yn wrthryfelwyr yn ei erbyn ef, y rhai a allasai efe eu dinistrio yn gyfiawn.
2. Bydded i gariad Duw beri i'n calonnau ni ei garu yntef eilwaith. Bydded ein bwriad ni ar fyw iw anrhydedd a'i ogoniant ef, yr hwn a fwriadodd ein gogoneddu ni, pan i'n bwriasem ein hunain i gyflwr colledigaeth.
3. Gan i Dduw o'i râd râs a'i oludog drugaredd ordeinio y fath Iachawdwr i bechaduririaid colledig, bydded ini ei dderbyn ef yn gresawus i'n heneidiau, a'i wneuthur ef yn eiddom ni.
Dau beth ydynt reidiol i wneuthur Christ yn eiddom ni, sef gwaith Duw yn ei roddi ef, a'n gwaith ninnau yn ei dderbyn ef.
Gwnaethpwyd y cyntaf yn barod, rhoddes Duw Grist ini. Yr ail sydd i ninnau iw wneuthur, sef Cymeryd Christ, yr hwn a roddes Duw. A ydwyti fodlon i dderbyn Christ ith enaid, ac i hyderu arno, i'th wadu dy hun a'th chwantau, a'th gyfiawnder, ac i fod yn un o'i wir ddyscyblion ef iw ddilyn ef mewn sancteiddrwydd? Os hyn yw bwriad diragrith dy galon, yna Christ yw dy Achubwr a'th brynwr, a thitheu wyt un o'i waredigion ef.
Gof. 23. Pwy yw Achubwr dyn?
Atteb. Achubwr dyn ydyw 'r Arglwydd Jesu Ghrist, yr hwn ydoedd Dduw a dŷn yn un person.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y gosodir allan Awdwr prynedigaeth dŷn.
[Page 95]1. Wrth. ei Ditlau, Achubwr; Arglwydd.
2. Wrth ei henwau, y rhai ydynt, Jesu, Grist.
3. Wrth ei Naturiaethau, y rhai ydynt ddwy, Duwiol a Dynol, o herwydd ei fod ef yn Dduw ac yn Ddŷn.
4. Wrth undeb y ddwy naturiaeth yn un person.
Yn gyntaf, gelwir Christ yma yn Achubwr. Pan syrthiodd dŷn drwy ei unufydd-dod i gyflwr pechod a thrueni, a'i fod yn ddiobaith ac yn ddigymmorth er dim a allai efe ei hun tuag at ei adferiad, rhyngodd bôdd i Dduw o i râd râs a'i oludog drugaredd ordeinio iddo Achubwr drwy 'r hwn y byddai iechydwriaeth iw gael, ac nid drwy neb arall. Act. 4.12. Nid oes iechydwriaeth yn neb arall: Canys nid oes enw arall tan y nef, wedi ei roddi ym mhlith dynion, drwy 'r hwn y mae yn rhaid ini fod yn gadwedig.
Yr ail Titl a roddir l Grist yw Arglwydd, yr hwn a roddir iddo yn fynych yn yr yscrythyrau, yn enwedic yn y Testament Newydd, a hynny am ddau achos;
Sef am ei fod yn un â'r Tâd ac â'r yspryd Glân yn ei Natur Dduwiol, ac felly yn Arglwyd pob peth yn y creadigaeth, Gan iddo roddi bod i bob creadur, rhaid ei fod ef yn Arglwydd ar y cwbl.
Ac am ei fod yn Arglwydd ar ei Eglwys, A hynny drwy ordinhâd Duw, yr hwn ai rhoddes ef yn Ben uwchlaw pob peth ir Eglwys. Ephes. 1.22. Duw a'i gwnaeth ef yn Arglwydd ac yn Grist. Act. 2.36.
Yn ail Wrth gyfiawnder prynedigaeth. Yr hwn a bryno ryw un allan o gaethiwed, sydd wrth hynny yn Arglwydd ir hwn a brynodd efe. A Christ wedi ein gwaredu [Page 96]ni oddiwrth ein holl elynion sydd yn Arglwydd ini.
2. Am ei enwau, y cyntaf yw Jesu: Henwyd ef fel hyn gan Angel Duw. Matth. 1.21. Gair Hebraec yw, ac yn arwyddoccau Iachawdwr. y mae 'r Angel yn datcan yr rheswm am yr enw, medd ef, Ese a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Ei enw arall yw Christ, yr hwn hefyd a adroddwyd gan Angel: Luc. 2.11. Gair o Roeg yw, ac yn arwyddoccau Enneiniog. Gân fod y rhan hynodaf o'r bŷd y pryd hynny wedi ei dosparthu gan y cenhedloedd doethaf ynddo, sef yr Iddewon (y rhai oedd o'r Eglwys) a'r groegiaid, (y rhai oedd allan o'r Eglwys) Act. 14.1. I ddangos y byddai Jesu Grist vn Iachawdwr i Juddewon a Groegiaid, sef i bob math ar genedl, rhoddwyd arno yr ddau enw hwn, Jesu Grist, o amryw dafod-iaith. Jesu a ddengis ei fod ef yn Jachawdwr, Christ a yspysa ei fod ef yn alluog i iachau, am ei fod ef yn Enneiniog, sef wedi ei briodoli a'i urddo â doniau Cymmwys i fod yn Gyfryngwr.
3. Ei naturiaethau ydynt ddwy. Yn gyntaf y Dduwiol. Y mae ef yn dragywyddol Fâb Duw, Gwir Dduw o wîr Dduw, o'r un Dduwiol Hanfod a sylwedd â'i Dâd, A rheidiol oedd i'n prynwr fod yn Dduw:
Yn gyntaf, Fel y byddai iddo allu goddef y cwbl ac oedd iw ddioddef dros bechod dŷn. Yr ydoedd digofaint Duw yn erbyn pechod yn gymmaint, ac y gallai wascu 'r Angylion a ai dano o'r nêf i lawr i uffern. Rhaid ydoedd wrth Allu Duw i gynnal dan ddigofaint Duw. Buasai pwys digofaint Duw yn rhy drwm i natur ddynol Christ, oni bai ir Natur Dduwiol ei nerthu a'i Chynnal hi.
[Page 97]Yn ail, Fel y byddai iw ufydd-dod ef a'i ddioddefiadau fod yn dra-gwerthfawr. Yr odoedd ufudd-dod a marwoloaeth Christ o anfeidrol werthfawrogrwydd, am eu bod yn ufydd-dod a marwolaeth Mâb Duw, sef yr hwn ydoedd Dduw gystal a dŷn.
Natur ddynol Christ a amlygir yn y gair Dŷn. Christ Mâb Duw a aeth yn ddŷn drwy gymmeryd natur ddynol at y Dduwiol. A rheidiol oedd i'n Iachawdwr fod yn Ddŷn gyd ag yn Dduw;
Yn gyntaf, Fel y dioddefai farwolaeth. Canys y farn yn erbyn pechod, gan farw y byddi farw, Gen 2.17. a aethai allan o enau Duw cyn i ddŷn bechu. Rhaid i bob gair a ddelo oddiwrth Dduw sefyll; am hynny wedi bod pechod, rhaid i farwolaeth ddigwydd, ac i Grist ei ddioddes drosom ni am ein pechodau. Eithr fel yr oedd efe yn Dduw nis gallai farw, o herwydd hynny y cymerodd atto natur a'r oedd ddarostyngedic i farwolaeth.
Yn ail, Fel y gwnai efe Iawn i gyfiawnder am bechod yn yr un natur ac a bechodd, Gan ddyfod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y daeth adgyfodiad y meirw. 1. Cor. 15.21. Yr ydoedd cyfiawnder yn gofyn ir natur a bechai, farw am bechod. Ordeiniodd Trugaredd y cyfryw Fachniaeth ac oedd gyttunol a chyfiawnder.
IV. Yn y llé nesaf y mae traethu am undeb y ddwy natur yn ein Iachawdwr bendigedig, a amlygir yn yr ymadrodd, Duw a dŷn yn un person. Ac efe yn Dduw cymmerodd y Natur Ddynol i undeb ei Dduwiol Berson. A'r undeb hon nid yw wrth droi 'r Natur Dduwiol yn Ddynol, nac wrth droi 'r Natur Ddynol yn Dduw: eithr y cyfryw undeb yw ac a wna 'r ddwy vn un person, er [Page 98]bob un o'r naturiaethau gadw eu priodoliathau, a bod yn ddosparthedig: Megis y gwelir yn undeb yr enaid a'r corph yn-Nŷn. y mae 'r enaid yn sylwedd ysprydol, ac yn byw wedi ei wahanu oddiwrth y corph: y mae 'r corph yn sylwedd cnawdol, etto nid yw 'r ddau ynghyd yn gwneuthur ond un dŷn, vn person. Felly nid yw Duwiol a dynol anain Christ wrth eu uno yn gwneuthur ond un person, y mae efe yn Dduw ac yn Ddŷn yn ei ddwy Naturiaeth, ond nid yw efe ond un person yn dragywydd. Gan ei fod efe yn Gyfryngwr rhwng Duw a dŷn, i wneuthur Duw yn gymmodol a dŷn, ac i wneuthur dŷn i hosfi Duw, Cymmwys oedd ei fod efe yn gyfrannog o'r ddwy naturiaeth.
Cymmwys. I. Y mae hyn yn rhoddi ini achos i ryfeddu. Canys peth tra-anhygoel oedd i Grist gymmeryd natur ddynol at ei Dduwdod. l'r Mawrhydi Goruchaf wisco am dano garpiau ein dynol naturiaeth ni, i'r Duwdod ymgnawdoli, ydyw 'r fath beth, ac nas gall ymadrodd ei fynegi, na synwyr ei amgyffred, nac Angelion beidio â rhyfeddu w [...]tho, Os oedd Salomon yn rhyfeddu fod yn wiw gan Dduw breswylio yn y Deml, yr hon oedd mor ogoneddus ac y gallai synwyr dŷn ei gwneuthur; da y gallem ni ryfeddu i Dduw breswylio yn natur fregus dŷn.
Buasai Christ yn cymeryd ein natur ni arno ei hun, pan oedd ein rhieni cyntaf yn eu diniweidrwydd, a'r creaduriaid oll yn eu gwasanaethu, yna y buasai yn beth iw ryfeddu. Eithr i'n Iachawdwr ddescyn o'r nef, a chymmeryd arno agwedd gwâs, sydd fel y dywed yr Apostol, yn Ddirgelwch mawr i synnu wrtho.
[Page 99]2. Wrth hyn y gallwn ddeall vched y derchafwyd ein natur ddynol, wrth i Grist ei chymeryd i fewn vndeb â'i natur Dduwiol. Canys wrth hyn yr anrhydeddwyd hi vwch law natur Angelion. Fel y gallom ddywedyd gydâ 'r Psalmydd, Psal. 8.4. Arglwydd pa beth yw dyn iti iw gofio? a mâb dŷn iti i ymweled ag ef.
3. Dylai ystyriaeth o hyn ein hannog ni i ymofyn yn ddifrifol beth a ddylaem ni ei wneuthur er anrhydedd Jesu Grist, yr hwn a'n anrhydeddodd ni yn gymaint. Fel y mae yn arwydd o galon onest a diolchgar, felly y mae yn ddyled ac yn ddoethineb i ni, fod yn mynych fwriadu rhyngom â ni ein hunain, pa beth a wnawn i ddwyn gogoniant i Grist: yr hyn a fydd nid yn vnic yn gymmeradwy iddo ef, ond yn gyssurus hefyd in eneidiau ninnau: gan ei fod yn arwydd hynod o weithrediad yspryd Duw ynom ni, ac i ni brofi melysdra mawr ynddo ef.
Gof. 24. Pa fodd y cymmerth Mab Duw natur dyn iddo ei hun?
Atteb. Fe gymmerth Mâb Duw natur ddynol iddo er hun, wrth ei ymddwyn ynghrôth Mair Forwyn o'r Yspryd Glân, a'i eni o honi hi yn ddi-bechod.
Eglurh. Yr atteb hwn a esyd allan ymgnawdoliaeth Christ, yn yr hwn y mae ini nodi dau beth yn enwedigol;
Yn gyntaf, wneuthur ein Cymerth hefyd wendid Act. 17.31. Nid oedd efe yn vnic mewn tebygoliaeth, ond mewn gwirionedd yn ddŷn.
Yr oedd ganddo ef rannau hanfodol dyn, sef yw hynny, corph dynol, ac enaid rhesymol Math. 27.58. ac 26.38. Cymerth hefyd wendid [Page 100] a deffygion dŷn. Ystyriwn yma fod rhai o ddeffygion dynol,
Yn bersonawl, sef yn gyfryw ac a ddigwydd i rai dynion oddiwrth achosion neilltuol, megis dallineb, byddarwch, gwall-gofi, a'r rhain ni chymerth Christ, o herwydd na chymerodd efe berson dŷn neilltuol, ond natur dŷn yn gyffredinol.
Y mae rhai deffygion yn gyffredinol i bawb, megis newyn, syched, blinder, gofid. Ir fath yma yr oedd Christ yn ddarostyngedic; ond ni chymerth efe iw natur yr vn o ddeffygion pechadurus dŷn.
Yn ail, pa fodd y cymmerth Christ natur dŷn. Ir hyn yr attebir iddo fyned yn ddŷn wrth ei ymddwyn ynghrôth Mair Forwyn o'r Yspryd Glân, a'i eni o honi hi.
Efe a gaed trwy 'r Yspryd Glân, gan all [...] 'r hwn, y ffurfiwyd ei gorph ef yn rhyfedd o sylwedd y wraig heb adnabod gwr.
Sancteiddwyd hefyd a neilltuwyd ef oddiwrth bechod yn y mynudyn y ffurfiwyd ef.
A'r pryd hynny 'r vnwyd ei natur ddynol ef â'r dduwiol, sef wrth ei ffurfio ef yn y bru, a chreu ei enaid ef, y gwnawd ef yn vn person â Mâb Duw.
Ganu'yd [...]f o Fair Forwyn. Rhag-brophwydasid y genid ef o Forwyn. Esay 7.14. Mynegir ei henw, fel yr amlyger ei bod o heppil Dafydd, o'r hwn yr oedd y Messiah i ddyfod.
Cymmwys. 1. Hyn a ddwg ar ddeall ini ragorol gariad Christ tuag at ein heneidiau ni. Iddo ei ddarostwng ei hun yn gymmaint drosom ni ddynion, ac er mwyn ein iechydwriaeth ni, a myned yn ddyn, a'i ymddwyn ynghrôth morwyn dlawd, ac aros yno rai [Page 101]misoedd: O gariad digyffelyb Christ yn hyn!
2. Dylai hyn ein dyscu ni i fod yn fodlon i bob dirmyg er mwyn Christ; A phlygu yn vfydd at bob peth y gallom ni ei wa [...]anaethu ef ynddo: ac i fod heb gyfrif arnom yn y bŷd er ei fwyn ef. Y mae ini Esampl hynod o hyn ym Moesen, yr hwn oedd wedi cael goruchafiaeth fawr yn y byd wrth fod yn fâb dewis i ferch Pharaoh (yr hon, a hi yn ammhlantadwy, oedd vnic etifeddes ir brenin Pharaoh, fel yr yscrifenna Josephus) ac ydoedd yn debygol i etifeddu 'r goron; etto medd yr Apostol am dano ef, Heb. 11.24.25. Iddo trwy ffydd wrthod ei alw ynfâb merch Pharaoh, Gan ddewis yn hytrach [...]ddef adfyd gydâ phobl Dduw, nâ chael mwyniant pechod tros amser.
3. Gwaith Christ yn cymmeryd ein natur ni a'i deffygion dib [...]chod, sydd sylfaen o gyssur ini, o herwydd y gallwn ni wrth hynny fod yn siccr o'i dosturi ef tuag attom ni yn ein holl brofiadau a'n cystuddiau. Canys gan ddarfod iddo ef gael prawf ynddo ei hun o'r deffygion a'r cystuddiau digwyddawl i'n natur ddynol ni, y mae [...]fe yn dueddol i'n cynnorthwyo ni, ac yn hawdd ei gynhyrfu i'n swccro ni ym mhob trueni. O herwydd megis y dywed yr Apostol, Heb. 2.17. ci fod efe ym mhob peth yn gyffely [...] iw frodyr, fel y byddei dr [...]g [...]rog ac Arch-offeiriad ffyddlon. Hynny yw, fel wrth ei brawf ei hun y byddai dynerach wrth rai cystuddiedig, yr hyn a fydd efe yn ddiammau i bawb a wir ymd [...]iriedant ynddo ef. Yn ddiau gan fod [...]heswm naturiol yn dyscu i ddynion yn eu helbulon fyned am gymmorth at y rhai y gwyddant eu bod yn dosturiol ac yn gallu eu cynnorthwyo hwynt.
[Page 102]Dylaem ninnau ynteu wrth yr un fath reswm fyned at Grist yn ein holl brofedigaethau, am ei fod yn Alluoccaf i'n gwaredu ni, wrth ei fod yn Dduw Holl-ddigonol, ac yn barottaf i hynny wrth ei fod ef yn Ddŷn, a ddioddefodd ei hun yr ynrhyw bethau.
Gof. 25. Pa swydddau a gymmerth Christ arno er gweithredu ein Iechydwriaeth ni?
Atteb. Cymerth Christ arno dair o swyddau, sef yw hynny i fod yn Brophwyd, yn Offeiriad, ac yn Frenin.
Yn hyn y Derchafwyd Christ vwchlaw holl feibion dynion, ymbell vn ym mysc dynion a ddug ddwy o'r swyddau hyn ar vnwaith, ond ni ddug neb y tair ar vnwaith, megis y dywed vn dyscedig. Yr oedd Moses yn brophwyd, ac Aaron yn offeiriad, a Salomon yn Frenin, a Melchisedic yn Frenin ac yn offeiriad, a Samuel yn offeiriad ac yn Brophwyd, a Dafydd yn Frenin ac yn Brophwyd, ond y mae Christ yn Frenin, ac yn Offeiriad, ac yn Brophwyd.
26. Gof. Beth yw gwaith pennaf swydd brophwydol Christ?
Atteb. Gwaith pennaf swydd brophwydol Christ yw yspysu iw Eglwys ewyllys ei Dàd drwy ei air a'i yspryd.
Eglurh. Y mae tri pheth yma iw nodi,
1. Fod Christ yn Athro iw eglwys. Act 7.37.
2. Y peth a ddyscodd ae a ddatcuddiodd Christ iw Eglwys. Dywedir mai ewyllys ei Dâd a ddatcuddiodd efe. Sef cymmaint ol [...] ac a fynnai Duw ini ei gredu a'i wneuthur mewn trefnid i'n iechydwriaeth. Nid oes dim angenrheidiol iw gredu na'i wybod, nac iw wneuthur tuag at fod yn gad. [Page 103]wedig, a'r nas datcuddiodd Christ ein Prophwyd ini yn eglur.
3. Y modd y mae Christ yn datcuddio hynny ini, sef
Yn gyntaf, drwy ei Air, scrifennedic yn yr yscrythyrau, ac a bregethir gan ei wenidogion ef, am y rhai y dywed ef, Luc. 10.16. Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i. Pan yw gwenidogion yn pregethu i chwi, y mae Christ yn pregethu i chwi drwyddynt hwy.
Yn ail, Drwy ei yspryd. Y mae 'r Gair yn ei weinidogaeth yn pregethu ir glust, yr yspryd a bregetha ir galon. Y mae 'r gair yn gosod ewyllys Duw ger ein bron ni, ond yr yspryd sydd yn ei yspysu i'n deall ni, ac yn ei osod yn ein eneidiau ni. Nid yw Christ yn dyscu drwy 'r gair heb yr yspryd, na thrwy 'r yspryd heb y gair, ond drwy 'r ddau ynghyd. Nid all y gair ein dyscu ni heb yr yspryd, ac ni fynn yr Yspryd ein dyscu ni heb y gair. Nid yw 'r yspryd yn dyscu i ni rai pethau y naill ffordd, a'r gair bethau eraill ffordd arall, eithr cydweithiant i ddyscu ini yr vn rhyw bethau.
Cymmwys. 1. Na chresawer athrawiaeth neb (ym mha liw bynnag y delo) oni bydd yn gyttunol â'r gair scrifennedig. Esay 8.20. At y gyfraith, ac at y dystiolaeth, oni ddywedant yn ol ygair hwn, hynny sydd am nad oes oleuni ynddynt.
2. Nag ymf dlo [...]ed neb yn nysceidiaeth dŷn yn vnic, ie er ei fod yn Weinidog Christ. Dymuned dy galon yr yspryd ith oleuo, ac ith gyfarwyddo i ddeall y gair, ac iw wneuthur yn effeithiawl yn dy galon.
3. O herwydd fod Christ yn Athro iw eglwys, bydded i bob Christion ddyscu ganddo ef. Felly y gorchymyn ef, Math. 11.29. Dyscwch gennifi. Y mae efe yn dyscu iw holl ddisscyblon [Page 104]dair o wersi mawrion tuag at fucheddu yn dda. Math. 16.24. Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a chanlyned fi. Gofynnir yma dri pheth enwedigol.
1. Ymwadu â'r hunan. 2. Dioddesgarwch dan y groes. 3. Ei ganlyn ef. Y mae 'r olaf yn amgyffred y ddwy eraill, a'r cwbl ac a fynnai efe ini ei wneuthur. Canys ei ganlyn ef sydd yn arwyddoccau,
Yn gyntaf, ini ddilyn ei esampl ef, yr hwn ai gwadodd ei hun, ac a gymmerodd ei groes o'n blaen ni.
Yn ail, ini vfyddhau iw orchymynion ef: a gwneuthur pa beth bynnag a barodd efe, a hynny yw Sancteiddrwydd gyflawn: sef, rhodio yn holl orchymynion Duw yn ddiargyoedd, a bod yn sanctaidd ym mhob ryw ymarweddiad.
Os myni fod yn Gristion, adnebydd ac ystyria beth a gyst dy Gristianogaeth iti; Canys rhaid iti roi dy fryd ar arwain buchedd wrthwynebus ith gnawd, a llawn o gystuddiau. Nid yw 'r hwn a geisio ac a ryngo fodd ei gnawd pechadurus ddiscybl cymwys i Grist. Ni wasanaetha iti rodio yn ffordd dy galon, a phorthi dy ddrwg chwantau, eithr ymwrthod â'th gnawdoliaeth feius, os myni fod yn ddiscybl i Grist mewn gwirion-edd. A glywi di ar dy galon adel dy hen ffyrdd pechadurus, a bod yn ddyn sanctaidd? Ydwyti yn fodlon o hyn allan i fod â'th ymarweddiad fel y gweddai ir efengil, ac i ymroddi i rodio ger bron Duw â chydwybod dda? Os dysci 'r wers fawr hon gan Jesu Grist, yna y byddi yn wir ddiscybl iddo ef.
Ond os dywedi fod hyn yn rhy anhawdditi, ac nas gelli eu goddef, eithr bod dy galon yn rhedeg ar ol dy rydd-did cnawdol, [Page 105]ac yn codi yn erbyn manylwch sanctaidd, yna na chyfrif monot dy hun yn ddiscybl i Grist. Canys ni chydnebydd efe neb yn ddyscybl iddo ef, a'r na ddysco ganddo y gwersi hyn.
Gof. 27. Beth yw rhannau swydd offeiriadol Christ?
Atteb. Rhannau swydd Offeiriadol Christ yw offrwm iawn, ac eiriol.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y cynwysir y ddau ran gyffredinol o swydd offeiriadol Christ. sef, Gwneuthur Iawn, ac Eiriol.
Y cyntaf a wnaeth efe pan ydoedd efe ar y ddaiar, drwy ei offrwm ei hun yn aberth i fodloni cyfiawnder Duw. Yr ail y mae efe yn ei wneuthur yn y nefoedd, ac efe yn eistedd ar ddeheu law Duw i wneuthur erfyniad drosom yn ddibaid.
Aberthu ac eirioli ydoedd brif weithredoedd yr Arch-offeiriad dan y gyfraith: yn yr offrymmau defodol lleddid yr anifail ar yr allor, ac yna y dugid y gwaed gydag arogl-darth gan yr Arch-offeiriad i'r Sanctaidd sancteiddolaf, â'r gwaed y taenellai 'r Drugareddfa, ac â'r arogl-darth y codai cwmwl ar y Drugareddfa. Lev. 11.11.15. Felly y lladdwyd Christ yn gyntaf pan offrymwyd ef yn aberth, ac yna y ducpwyd ei waed ef ir Sanctaidd Sancteiddiolaf, sef y nefoedd. Heb. 9.12. Ac yno y mae efe yn erfyn drosom drwy rinwedd y gwaed hwnw. Arwyddoccâd o'r hyn oedd y cwmwl arogl-darth dan y gyfraith.
Er ychwaneg o yspysrwydd ynghylch hyn cydnabyddwn,
Mai 'r aberth a offrymmodd Christ fel yroedd yn offeiriad, oedd efe ei hun. Y natur [Page 106]ddynol yn Ghrist a ddioddefodd, nis gallai 'r Dduwiol na dioddef, na'i haberthu, er hynny o ran yr undeb rhwng y ddwy natur yn yr un person, dywedir iddo ei offrymmu ei hun: Heb. 7.27. ai roddi ei hun. Ephes. 5.2. Gan fod ir Hun a aberthodd efe, berthynas ir person y sydd Dduw a dŷn, yspys yw fod gwerth ein prynedidigaeth ni yn anfeidrol o'r rhagorol.
Yr Allor ar yr hon yr abertho dd Christ ei hun, os ystyrir y lle, oedd y groes. Y mae 'r Efengil yn dangos ei hoelio ef wrthi. Ond os ystyriwn ni yr hyn oedd yn Sancteiddio 'r aberth a wnaeth efe, (ir hyn ddiben yr ordeinwyd allor, Math. 23.19.) Y Duwdod oedd yr Allor. Christ-ddyn oedd yr aberth, Christ-Dduw oedd yr Allor, Christ Dduw-Ddyn oedd yr offeiriad.
Yr achos Pam yr aberthodd Christ ei hun ydoedd, er mwyn gwneuthur iawn i gyfiawnder Duw dros ein pechodau ni, ac i'n cymodi ni ag ef. Yr oedd cymmaint rhinwedd yn aberth Christ ar y groes, ac a fodlonodd gyfiawnder Duw yn ddigonol dros bechodau ei bobl. Ymddengis mor ddigonol oedd wrth urddas ei Berson, a thrymder ei ddioddefiadau, a'i gwnaeth, er nad oeddent ond dros amser, yn gyfattebol mewn gwerth i'r rhai tragywyddol a haeddasem ni.
Ein cymmodi ni â Duw sy'n deilliaw oddiwrth aberth Christ.
Lle 'r oedd anghydfod a gelyniaeth rhwng Duw a dyn o achos pechod, yr ydym ni yn awr gymaint oll ac a wir edifarhaom, ac a gredom yn Ghrist, yn gymmodol â Duw drwy ei aberth ef, a'i farwolaeth.
[Page 107] Yr ail rhan o swydd offeiriadol Christ yw gwneuthur erfyn drosom ni,
Drwy ei gyflwyno ei hun iw Dâd drosom ni. Heb 9.24. Aeth Christ i mewn ir nêf ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw drosom ni.
Drwy ddangos ei Ewyllis fod o'i bobl yn gyfrannogion o'i aberth ef. Joan 17.24. Medd ein Iachawdwr, Y Tâd, y rhai a roddaist imi, yr ŵyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi fod o honynt hwythau hefyd gyd â mysi, fel y gwelont fy ngogoniant.
Erfyniad yw ymbil dros un arall. 1. Tim. 2.1. Adroddir hyn am Grist mewn môdd o gyffelybiaeth. Un o'r llŷs, a fyddo yn cael dyfod i ŵydd y brenin, a eiriol am gael rhyw gymwynas neu oruchafiaeth iw gyfaill. A gwr o gyfraith mewn llŷs cyfiawnder a argumenna dros arall fel yr elo 'r cŵyn gydag ef. Felly y gelwir ein Achubwr yn Eiriolwr. 1. Joan. 2.1.
Ni wasanaetha ini dybied fcd erfyniad ein Iachawdwr drwy 'r fath ymbil cyssuddiedic ac y wnaeth efe at ei Dâd pan oedd efe yma yn dioddef. Heb. 5.7. Canys y mae efe yn awr wedi ei dderchafu, a'r hyn y mae efe yn ei wneuthur wrth ei swydd offeiriadol, sydd mewn môdd urddasol awdurdodol.
Y mae efe yn ei gyflwyno ei hun i Dduw yn ein natur ni megis mâch drosom ni. Unwaith y cymmerth efe ein cnawd ni, ac byth y mae efe yn ei gadw yn y natur hon yr aeth efe yn fachniudd drosom ni: Heb. 7.22. ac a wnaeth yr hvn oedd ddyledus ini iw wneuthur i ddyfod i fywyd tragywyddol, ac a ddioddefodd yr hyn a haeddasom ni am bechod. Wrth hynny efe a fodlonodd gyfiawnder Duw, ac a ddyhuddodd ei ddig of aint [Page 108]ef, a ennillodd ei ffafr ef, a bywyd tragywyddol, gan orchfygu marwolaeth a'r cythrael, ac adgyfodi oddiwrth y meirw drwy Allu Duwiol, ac escyn ir nefoedd mewn gogoniant: lle y mae efe yn ymddangos ym mhresennoldeb Duw drosom ni, yn dystiolaeth iddo gyflawni 'r cwbl er ein mwyn ni.
Gellir hefyd ddywedyd fod Christ yn erfyn drosom ni wrth ysbysu ei Ewyllys o fod ei etholedigion ef yn gyfrannogion o fûdd ei aberth ef, yr hyn a wnaiff yn ei natur Dduwiol. Yn ei gorph y mae efe yn eistedd yn y nef.
Gwelodd Stephan Fab y dŷn, sef Christ yn ei natur ddynol yn sefyll ar ddeheulaw Duw yn y nefoedd. Act. 7.56. Ond ewyllysio a pheri ini gael ffrwyth ei ddioddefiadau ef, a ddeilliaw o'i Dduwdod ef, a thrwy 'r ewyllys hon o'r eiddo ef y sancteiddir ni, ac y gwneir rhinwedd ufydd-dod Christ ai ddioddefaint yn eiddom ni.
Fel hyn y mae ersyniad Christ yn gosod allan dragywyddol rinwedd ei aberth ef, ac yn ei chyfrannu ir ffyddloniaid. y mae ei gorph ef a aberthwyd, yn oestadol ger bron Duw, ac ynteu yn ewyllysio ini gael cyfran o'i iechydwriaeth ef.
Cymmwys. I Ceisiwn yr Arch-offeiriad hwn i fod yn Arch-offeiriad ini. Yr Archoffeiriad dan y gyfraith ydoedd dros Israel Naturiol yn unic, eithr Christ sydd Archoffeiriad dros yr Israel ysprydol, sef pobl briodol Duw drwy ffydd.
Yr oedd Israel yn bobl enwaededic, ac yn ddidoledig oddiwrth y than arall o'r byd, a chwedi eu nailltuo i Dduw.
Bydd ditheu yn ddŷn enwaededig yn dy galon, wedi carthu ymaith dy aflendid naturiol: a bydd yn ddidoledig, wedi dy neilltuo dy hun oddiwrth ffyrdd a moddion [Page 109]drwg y byd pechadurus hwn, ac ymroddi i gyfraith dy Dduw, ac yna y byddi un o Israel Duw, a bydd Christ yn offeiriad iti, ie iti. Nac ymghyfeillach â'r byd aflan dienwaededig, ac na ddilyn ei arferion yn cyflawni chwantau 'r cnawd a'r meddwl, dan ryfygu y bodlona Christ am dy bechodau di, er iti barhau mewn anufydddod. Ni bydd Christ offeiriad ac ni wnaiff iawn dros y rhai a ant ym mlaen rhagddynt yn eu pechodau gydar byd drygionus hwn. Am hynny tyred allan o honynt, ac ymneilltua oddiwrh eu ffyrdd annuwiol hwynt, ac Efe a'th dderbyn di, ac a ymddengis ger bron Duw drosoti.
2. Gan ddarfod i Grist fodloni Duw, bydded iddo dy fodloni ditheu hefyd. Cais Grist yn eiddot, a bodloned hynny di, ac heddyched dy gydwybod yn erbyn holl achwynion y cythrael, ac euogrwydd dy galon dy hun. Beth bynnag yw 'r pechod sy 'n pwyso arnati, a pha ryw bynnag a fo 'r achwynion sydd yn dy erbyn di, ymddiried i Grist, ac efe a atteb drosoti. Edifarhâ am dy bechodau, a thro oddiwrthynt oll, ac yna diddaner dy galon â hyn, sef ddarfod i Grist wneuthur cyflawn dal drosoti.
3. Gan daarfod i Grist ei aberthu ei hun drosoti. offryma ditheu dy hun yn aberth iddo yntef, Rhuf. 12.1. Nac edrych arnat dy hun yn eiddot dy hun, eithr cydnebydd dy fod yn eiddo 'r Arglwydd, yn aberth byw, sanctaidd, a chymeradmy gan Dduw. A aberthodd Christ ei hun drosoti, ac a aberthi ditheu dy hun ir cythrael ac i drachwantau dy galon? Na atto Duw. Ymrodda ir Arglwydd, iw ogoneddu ef yn dy gorph ac yn dy yspryd, y rhai ydynt eiddo ef. 1 Cor. 6.20.
4. Os yw Christ yn erfyn ac yn eiriol drosoti, [Page 110] yna ti a elli yn hyderus weddio drosot dy hun. Pan weddiech am faddeuant pechodau, ac am nerth yn erbyn pechod, am râs, tangneddyf, a chyssur, neu ryw ddaioni arall y bo arnat ei eisiau, o siccred yw 'r gobaith y gelli gael yr hyn a weddiech am dano, pan yw Christ yn vno mewn erfyn gydâ thi! Pe clywit Grist yn dywedyd fel hyn drosoti, O Dâd, gwrando 'r enaid truan hwn, maddeu iddo ef, a derbyn ef, caniattâ ddymuniad ei galon, a chyflawna ei holl ddeisyfiadau: o fel y rhoe hyn galon ynoti i weddio drosot dy hun! ac mor fywiol a fai dy obaith di y ceit dy wrando yn yr hyn y byddai iti weddio am dano! wele, di a elli gymeryd y calon. did hwn (os wyti ddŷn ffyddlon i Grist) y bydd ith Gyfryngwr bendigedig vno gyd â thi mewn erfyniad drosot, pan weddiech am yr hyn a fyddo cyttunol ag ewyllys Duw.
Gof. 28. Beth yw rhannau swydd Frenhinol Christ?
Atteb. Y mae Christ fel brenin yn rheoli ei eglwys, yn parattoi iddi bob peth da ac sydd reidiol, ac yn ei ymddiffyn hi oddiwrth ei holl elynion.
Elgurh. Y Rhannau o frenhinol swyddau Christ, y mae yn ei ha [...]feru tuag at ei eglwys a'i bobl ydynt dair: Yn gyntaf y mae 'n eu rheoli hwynt. Yn ail, Mae ef yn parattoi iddvnt. Yn drydydd, Mae ef yn eu ymddiffin hwynt.
1. Mae Christ megis brenin yn rheoli ei Eglwys. Rheoliad Christ o'i Eglwys sydd mewn rhan oddiallan ac mewn rhan oddimewn.
Yn gyntaf, oddi allan wrth ei air. Y mae Christ yn rheoli wrth gyfreithiau, a'i gyfreithiau [Page 111]ef ydynt yn ei air. Yr yscrythyrau ydynt lyfr cyfreithiau Christ, trwy ba rai y mae ef yn rheoli, ac ym mha rai y mae ei gyfreithiau ef gwedi eu datcuddio. Ac hefyd drwy gyfryw swyddogion a'c â ordeiniodd ef i sefyll yn ei le, i beri i bobl vfyddhau iw gyfreithiau ef. A rhain ydynt ddinasol, megis brenhinoedd a swyddogion eraill tanynt hwy, y rhai a elwir gan hynny Tadmaethod yr eglwys; Es. 49.23. Ac eglwysig, ir [...]hai yr ymddi [...]iedwyd gyfrannu 'r gair a'r Sacramentau, ac arfer rheoliad ysprydol.
Yn ail, rheoliad Christ oi eglwys, sydd mewn rhan oddifewn drwy ei yspryd. Drwy y rheoliad yma oddimewn, y mae ef yn gweithio mor nerthol arnynt hwy, ac y mae yn ei gwneathur hwynt yn ewyllysgar i ufyddhau iddo, Psal. 110.3. Os oeddynt hwy megis Bleiddiaid, Llewpardiaid, Llewod, Eirth, neu 'r cyfryw, y mae Christ drwy 'r gwaith yma oddimewn yn newid ei naturiaeth hwynt, ac yn ei gwneuthur hwynr megis ŵyn, neu blant bychain. Wrth ei rheoli hwynt oddi mewn drwy ei yspryd, y mae Christ yn goleuo eu dealldwriaeth hwynt, yn eu darostwng hwynt at ei ewyllys ei hun, yn gosod eu serch hwynt ar bethau ysprydol, ac yn ei cwbl adnewyddu hwynt. Nid all brenin arall yn v bŷd reoli ei bobl y modd hwn, ni fedrant hwy weithio ynddynt mor ufyddgarwch, a gostyngeiddrwydd oddi mewn.
II. Y mae Christ fel brenin yn rhagddarbod iw eglwys. Y mae ei barattoad ef yn cyrhaedd at bob peth ac sydd reidiol i enaid ac i gorph, sef at bob bendithion amserol ac ysprydol. Am fendithion amserol, yr ydym yn darllen am y rhai oeddynt yn [Page 112]canlyn Christ, eu bod yn cyffessu nad oedd arnynt eisiau dim; Luc. 22.35.
Os gad ef yn ei ddoethineb i neb or eiddo i fod mewn eisiau, efe a all ac a fyn eu dyscu hwynt, fel y dyscodd ef iw Apostol, i fod yn gysurus ac yn fodlon mewn prinder, ac i fod yn ddoeth mewn llawnder ac belaethrwydd. Phil. 4.12. Eithr am fendithion ysprydol, yr hyn y mae 'r Apostol yn ei ddywedyd am y Seintiau yn Corinth 1 Cor. 1.7. sydd wir am 'r holl seintiau ym mhob man; Nid ydynt yn ol mewn un dawn. Ac ymhellach y mae Christ fel Brenin o'r nef yn parattoi etifeddiaeth nefol ini. Mat. 19.29.
3. Y mae Christ fel Brenin yn ymddiffin ei eglwys. Ac y mae ei ymddiffyniad ef o'i eglwys yn cyrredd cŷn belled ac y mae ei barattoad ef iddi: Canys y mae ef yn ei ymddiffin hi oddiwrth elynion amserol, Ysprydol, a thragywyddol. Y mae 'r gorffwysfa'r oedd yr eglwys yn ei gael yn amser yr apostolion, yn rhoddi eglurhâd o'i ymddiffyniad ef o honi oddiwrth ddrygau amserol. Os gad ef iddi gael ei chystuddio, y mae ef yn gwneuthur hynny o'i wir ddoethineb iw ogoniant ei hun, a daioni iw eglwys, gan ei chynnal hi yn y prosiadau mwyaf.
Y mae 'r cymorth y mae 'r seintiau yn ei gael yn erbyn Satan a'i brofedigaethau Luc. 22.32. yn hyspysu fel y mae ef yn ei hymwared hwynt oddiwrth Elynion ysprydol: a'i rhyddhâd hwvnt oddiwrth ddamnedigaeth, Rhuf. 8.1. sydd yn eu cadw hwynt yr un modd oddiwrth ddrygau tragwyddel.
Y mae Christ yn ymddiffin ei Eglwys oddiwrth ei golynion; yn gyntaf, trwy i gwahardd [Page 113] hwynt. Yn ail, trwy ei gorchfygu hwynt.
1. Am y cyntaf, Y mae Christ megis Brenin yn attal gelynion yr Eglwys, rhag iddynt gwblhau eu llid a'u cynddaredd yn ei herbyn nhw; Psal. 76. 10. Gwddill cynddaredd a waherddi. Hynny yw, ar ol iddo adel iw cynddaredd hwy ferwi i fynu ir uchder y gwelo ef yn dda, efe a rydd attal fel nad allo fyned ddim uwch, na pharhau ddim hwy nag y mynno ef: nid all na dynion na chytheuliaid daro dyrnod, na dywedyd gair yn erbyn y seintiau, mwy nag a bo'r Arglwydd yn rhoddi cennadiddynt. Mae nhw i gyd gantho ef mewn cadwynau, ac er iddynt syned ir eithaf, etto nid allant fyned un fodfedd ymhellach na'u cadwyn.
2. Christ fel brenin a ddynistria eu elynion ei hun, a'i Eglwys.
Nid yn unig fo'i rhwymmau nhw, ond foi sathra hwynt dan ei draed, ac ai llwyr ddinystria hwynt. Rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elyni [...]n dan ei draed, 1 Cor 15.25. Y Seintiau yŵ 'r gwenith, y gelynion yw 'r ûs, a mab y dyn a gascl ei wenith i [...] escubor, eithr yr ûs a lysc efe â thân anniffoddadwy. Mat. 3.12.
Mae cyflwr eglwys Grist gwedi ei osod allan drwy 'r berth yn llosgi, Exod. 3.2. Yr hon er ei bod oll ar dân, etto ni ddifethwyd moni; o herwydd fod Crist ynddi, o'i ewyllys da yn ei chadw hi rhag ei distrywio.
Je, mae 'r Seintiau fel y tri phlentyn yn ffwrn Nehuchadnezzar y rhai a achubwyd i gyd, oblegid fod mâb Duw gyda hwynt, ac yn eu cadw, ond y tanwydd i gyd a losgwyd; Nid yw gelynion christ ond tanwydd, y rhai er eu bod yn gosod yr eglwys ar [Page 114]dân, a gant eu hunain eu llosci a'u difetha.
Cymmwys. Dysgwch oddi yma, 1. Gymeryd Crist m [...]gis Brenin i chwi, a hynny nid drwy roddi iddo yn unig y Titl o fod yn frenin, ond drwy dalu iddo deyrnged, a rhoddi ufydd-dod dyledus iddo; Pa ham y gelwch fi yn Arglwydd, ac na wnewch y pethau 'r wyf fi 'n eu gorchymyn?
2. Profwch eich hunain eich bed yn wasanaeth-wyr i Grist, yr hyn a ellwch drwy y rhannau yma sy'n calyn.
1. Drwy hollawl u [...]yddhau iw gyfreithiau ef. Nid yw gwasanaethwyr Crist yn ufyddhau yn y naill beth, ac yn gwrthod mewn pethau erail [...]; ond maent hwy yn edrych ar ei holl orchmynion ef. Psal. 119.1. Er nad allant gwblhau y cwbl, etto hwy a wnant eu goreu, fel a gallont rodio yn holl orchrnynion Crist yn ddifeius.
2. Drwy gyflwr eich ysprydau, a threfn eich bywyd chwi. Nid yw teyrnas Crist or byd yma, ac nid yw ei wasaenethwyr ef or bŷd yma. Nid yw eu hyspryd hwynt or bŷd yma, ac nid yw eu rhan hwynt yn y bŷd yma; ac nid yw eu hymarweddiad hwynt yn ol y bŷd yma; ond mae eu calonau hwynt a'i rhan a'i hymarweddiad yn y nêf.
A fynit ti wybod ydyw Crist yn frenin iti a'i nid yw; Ymofyn y roddaist ti dy hun yn hollawl iw lywod aeth ef? Ac wyt ti yn rhodio o'i flaen ef mewn pob cydwybod dda, a sanctaidd ymarweddiad. Ydyw dy galon yn dywedyd, Arglwydd eiddot ti ydwyfi? yn ddiammau yntef a ddywed, eiddo fi ydwyt tithau.
Etto gàd i mi ofyn i ti, ydyw dy galon di uchod? wyt ti yn bennaf yn ceisio teyrnas [Page 115]Dduw? hyn a rydd iti sicrwydd, dy fod ti yn perthyn ir hwn nid yw ei deyrnas o'r byd yma.
Gof. 29. Pa fodd y darfu i Grist ei ddarostwng ei hun i'n prynu.
Atteb. Fo ddarfu i Grist ei ddarostwng ei hun wrth ei enedigaeth, ei fywyd, ei farwolaeth, ei gladdedigaeth, a'i orweddiad yn y bèdd.
1. Christ a'i darostyngodd ei hun yn ei enedigaeth, pan ddarfu ei eni ef o wraig, ac ef yn Dduw tragwyddol, yr oedd Solomon yn rhyfeddu, fod y Duw mawr, yr hwn nid allei nefoedd y nefoedd ei ymgyffred, yn dyfod i breswylio ir Deml, y wnaethei efe er anrhydedd iw enw ef. 2. Chron. 6.18. Pa faint mwy y dylem ni ryfeddu ddarfod ir Duw mawr ymddarostwng i breswylio mewn corph o gig.
Fo anwyd Crist mewn cyflwr isel, ac am hynny y dywedir am dano ddarfod iddo gymeryd arno ymddygiad gwâs, yr hwn oedd yn ffurff Duw a'i darostyngodd ei hun i gymeryd arno ymddygiad gwâs.
1. Foi ganwyd ef nid mewn Brenhinol lŷs eithr mewn lletty cyffredin.
2. Nid yn y stafell oreu, ond yn y stabl.
3. Gwedi ei eni fo'i rhwymwyd mewn cadâchau, ac yn lle crûd fo'i rhoddwyd mewn preseb.
Crist a'i darostyngodd ei hun yn ei fywyd, mewn dwy ran enwedigol.
Yn gyntaf, Yn gymaint ac y gwnaethpwyd ef tan y gyfraith iw chyflowni, hynny y wnaeth ef yn hollawl. Yr hwn oedd [Page 116]wneuthurwr y gyfraith, ac uwchlaw 'r gyfraith, a'i darostyngodd ei hun iddi.
Ac nid yw 'r gyfraith yn unig yn gofyn oddi ar ein llaw ni wneuthur y peth a orchmynir i ni, ond hefyd dioddef y gospedigaeth a fwgythir ar ein hanufyddgarwch ni; a ni heb fod yn gallu gwneuthur y naill, na dioddef y llall; Jesu Grist megis ein meicheu ni, y ddarfu iddo gyflowni, a dioddef trostom ni; am hynny y dywedir am dano, ei fod ef wedi ei wneuthur tan y ddeddf, fel y prynei y rhai oedd tan y ddeddf. Gal. 4.4.
Yn ail. Christ a'i darostyngodd ei hun yn ei fywyd, trwy fyned tan drueni y bŷd hwn. Ei holl fywyd ef oedd ddioddefaint parhaus, a hynny o'i enedigaeth hŷd ei farwolaeth.
Yn gyntaf, yn ddŷn bâch, heb fedryd mor cerdded, fo fu raid iddo ffoi ir Aipht rhag Herod greulon, yr hwn oedd yn sychedu am ei waed ef. Fo ddarfu ir bŷd erlid Crist, cyn gynted ac y darfu iddo ei dderbyn. Mat. 2.13.
Yn ail, Yn ei ieuengtyd efe a'i darostyngodd ei hun, wrth gymeryd poen arno yngalwedigaeth dylawd ei dâd, fel y mae 'n eglur wrth ymresymiad y bobl; Marc. 6.3. Ond hwn yw 'r saer?
Yn amser ei drigfa ar y ddaiar, yr oedd ef yn ddarostyngedig i bob gwendid a blinder dynol; megis gwrês ac oerni, newyn a syched, blinder a thlodi, a'r cyffelib.
Yn drydedd. Pan ddychreuodd ef gyflawni gwaith ei weinidegaeth, Yno y darfu i Satan daro arno ef â'i dentasiwnau creulon. A llysenwyd ef yn wradwyddus, gan ei alw yn dwyllwr, ac yn gyfaill ir publicanod a'r pechaduriaid.
[Page 117]4. Ond yn enwedig tuag at ddiwedd ei oes, yn eigyfyngder yn yr ardd, pan ddaeth ef i deimlo digofaint Duw yn erbyn ein pechodau ni, fel y mae 'n eglur drwy fagad o bethau, y rhai y ddigwyddasant yn y cyfamser; megys,
Yn gyntaf, cymellwyd ef i ddolefain am ollyngdod oddiwrth 'r unrhyw, yn y geiriau yma, Fy nhad os iw bossibl, aedy cwppan hwn heibio oddi wrthif; sef cwppan o ddigofaint ei dâd, yr hon a cherwaseu ein pechodau ni.
Yn ail. Dymuniad Christ at ei Dad am ollyngdod o'i gyfyngderau, heb ei ganiattau, efe a gyfododd o weddi, ac a aeth at ei ddyscyblion, (megis dŷn mewn cyfyngder yn trio pob ffordd i gael cymmorth;) ac ar hynny efe a fynegodd iddynt y cyflwr blin 'r oedd ef ynddo, gan ddywedyd, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu. Eithr ei ddyscyblion yn lle [...]hoi cwmffwrdd iddo, yn hytrach a chwanegasant ei dristwch ef; drwy i rhoddi eu hunain i gysgu yn hytrach nag i weddio.
Yn drydydd. Arwydd o'i ddirfawr boen ef, [...]edd ei chwŷs gwaedlud ef. Mae 'r efang [...]lwr yn dywedyd fod ei chwŷs ef megys [...]efnynnau mawrion o waed yn syrthio i [...]awr ar y ddaiar, a hynny ar noswaeth oer [...]lyd. Canys yr ym ni yn darllen am y tân [...]n llŷs yr Archoffeiriad. O mor drwm yr [...]edd pwŷs digofaint Duw arno ef, pan wne [...]i ef iddo chwsû yn y modd hyn! Nid [...]lodd y cythrael erioed, na chreulondeb ei [...]ynion wneuthur iddo chwsû. Ond fe ddar [...] i ddigofaint Duw wneuthur iddo chwsû gwaed.
III. Crist a'i darostyngodd eu hun yn ei [...]rwolaeth, trwy fyned tan farfolaeth felldi [...]dig y Groes. Fo'i Croeshoelwyd ef, hynyw, fo hoelwyd ei draed ef a'i ddwylo ar [Page 118]groes fawr o bren. Efe a roddwyd ir cyfryw farwolaeth drwy ddoeth ragluniaeth Duw, o herwydd ei bod yn farwolaeth felldigedig; ac hefyd, o ran cynfigen ei elynion, am eu bod yn gwybod ei bod yn farwolaeth boenus, a chwilyddus. Felly 'r oedd y farfolaeth ar y groes yn felldigedig, yn gwilyddus, ac yn boenus.
1. Yr oedd hi yn farwolaeth felldigedig; o herwydd ddarfod ir Arglwydd draethu er ystalm, fod melldith Dduw ir hwn a grogir: Deut. 21.23.
Gan ddarfod i Grist gan hynny ymfeichnio trossom ni, y rhai trwy bechod a'n gwnaethem ein hunain yn felldigedig, yn ei anfeidrol gariad tuag attom ni, fe aeth tan y felldith fel y gallai ein gwaredu ni oddiwrthi, ac fel y gellid rhoi amlwg ddangosiad o hynny fe hoelwyd ei ddwylo ef ar groes o bren. Mae geiriau 'r Apostol yn cytuno â hyn, Gal. 3.13. Crist a'n ilwyr-brynodd oddi wrth felldith y ddeddf gan ei wneuthur yn felldith trosom, canys y mae 'n scrifennedig, Melldigedig yw pob un sydd ynghrog wrth bren.
2. Yr oedd y farfolaeth ar y groes yn gywilyddus, yn gymmaint a bod y rhai y groeshoelwyd, yn noethlymmyn, cyn gynted ac yr hoelwyd ein Iachawdwr ar y groes, fo'i codwyd ef i fynu yn noeth yngolgwg tyrsa fawr o bobl, ac felly y gwnaethpwyd ef yn wawd ir holl fyd, Angylion, ac i ddynion.
3. Marfolaeth Crist ar y groes oedd boenus, mewn tri modd,
Yn gyntaf, O herwydd fod y dwylo a'r traed yn fwy teimladwy o'r boen, oblegid eu bod yn llawnach o wythenau na'r aelodau eraill; ac felly ni ddarfu iddynt hwy yn unig osod ei gorph ef ar y groes, ond hefyd hwy y hoeliasant ei aoledau ef â [Page 119]hoelion mawr, fel yr arteithid ef, gydâ ei groeshoelio. Yr hyn a ragddywedwyd gan y Psalmydd; Psal. 22.17. Mi allaf gyfrify holl escyrn, a thrachefn fy escyrn sydd o'i lle. yr hyn sydd yn dangos fod ei gorph ef, a'i holl aelodau gwedi ei hystyn tu hwynt iw naturiol hŷd; fel y gellir cymwyso geiriau 'r eglwys i'n iachawdur. Galarnad. 1.12.
Gwelweh ac edrychwch a oes y fath ofid a'm gosid i, yr hwn a wnaethpwyd i mi? â'r hwn y gosidiodd yr Arglwydd fi, yn nydd angerdd eiddigter.
Yn ail 'r oedd y farfolaeth ary groes yn boenus, oblegid el bod yn barhaus: o ran yr oeddynt yngrhog fagâd o oriau cyn iddynt ymadel â'r yspryd. Marc. 15.25. Yr ydym yn darllen mae'r drydydd awr oedd hi pan groeshoeliasant ein jachawdwr, a hynny oedd lynghylch naw or gloch y boreu; ac yn 34, yr ydym yn darllen mae'r nawsed awr oedd hi pan lefodd yr Jesu â llef uchel, ac yr ymadawodd â'r yspryd, a hyn oedd ar dri or gloch or prydnhawn; Felly y bu ef ynghrog chwê awr, ac ym mhob mynud yn o'r amser yma, efe a ddioddefodd y fath anioddefus boenau ac oeddent tu hwynt i loesau marfolaeth gyffredinol; ac yr oedd yr holl fŷd megis yn deimladwy o'i boenau ef, oblegid fe ddarfu ir haul ar hanner dŷdd guddio ei wyneb, ac o ddeuddeg o'r gloch hyd yn dri y bû dywyllwch dros yr holl ddaiar; Luc. 23.44. mal ped fai yn anfodlon i edrych ar gynnig y fath greulondeb i fab Duw ac Iachawdwr y bŷd; a gwiscwyd ef â du, megys ped fuasei yn galaru am dano ef. Y ddaiar hefyd a grynodd, a'r creigiau y rwygasant, fel pad fuasai holl gwrs natur yn deimladwy o'i boenau ef.
Yn drydydd, Yr oedd hi yn farfolaeth boenus, Obl [...]gid-fo'i fflangellwyd ef, yr hyn ym mysc [Page 118] [...] [Page 119] [...] [Page 120]Rhufeiniaid oedd yn gosbedigaeth drom. Oblegid i mae Histori yn dywedyd ini mae gwedi iddynt ddinoethi y damnedig, a'i rwymo ef wrth bost, fod dau o wyr gry mmus yn ei guro ef â gwialennau o ddrain, tra byddent yn gallu; ac yno dau eraill a'i curent ef â chord yn llawn o glymmau, hyd oni flinent; ac yn ddiwaethaf y doe dau eraill, â flangellau o ddûr, ac a rwygent ei gnawd ef gydâ 'r croen. Y mae 'r Psalmydd yn dangos y fflangellwyd ein iachawdur ni y modd yma, Psal. 129.3. Yr arddwyr a arddasant ar fy nghefn, estynnasant eu cwysau yn hirion; Yr hyn y ddywedpwyd am yr eglwys a phobl Dduw, y rhai a orthrymwyd yn greulon, drwy arteithio ei cyrph hwynt; ond fo i prophwydwyd am Grist, yn yr hwn ei cyflawnwyd, sef ddarfod iw elynion ef arddu ar ei gefn, ac estyn eu cwysau yn hirion.
IV. Crist gwedi iddo ef farw, a gladdwyd, yr hyn oedd yn râdd arall oi ddarostyngiad ef, trwy ba un y dycpwyd ef ir llŵch, a'i gladdedigaeth ef oedd wael heb ŵchder yn y byd.
V. Y râdd ddiwaethaf o'i ddarystyngiad ef oedd ei orweddiad ef yn y bedd tros amser; yr hyn oedd o brydnhawn ddydd gwener hyd y boreu ar ddydd yr Arglwydd. Math. 27.57. ac 28.1. Yr hyn oedd râdd anfeidrol o'i ddarystyngiad ef, o herwydd ei fod ef gwedi ei gadw cyhyd tan gaethiwed marfolaeth, a Satan; a hwythau oeddynt yn gorfoleddu tra bu ef yn y bêdd yn garcharwr.
Cymmwys. 1. Mae hyn yn dangos i ni natur greulon pechod. Yn ddiammau 'r oedd hwnw yn ddrwg ofnadwy, pan barai y fath gosbedigaeth ofnadwy. Yr oedd gan dy [Page 121]bechodau di (o ddyn (pwy bynnag wyt) law yn y weithred greulon yma. Tydi feddwyn, ryngwr, celwyddwr, a godinebwr, dy feddwdod ti, ath lyfon, ath gelwyddau, ath odinebau, yw 'r drain, a'r hoelion, a'r gwaiwffyn, y rhai a bigasant, ac a arteithiasant dy Arglwydd di: Je tydi dy hun a'i bradychaist ef. O gan hynny na wna arfer o bechod o hyn allan. Ac ystyria y dylei yr hyn a ddarostyngodd dy Arglwydd, dy wneuthur dithau yn fwy darostyngedig.
2. Ystyriad o ddarostyngiad Crist a'i ddioddefaint a ddyleu yn hannog ni i ryfeddu o herwydd anfesurol gariad Duw y Tâd, yn rhoddi ei Fâb, a chariad Jesu Grist yn i roddi ei hun iw eni mewn cyflwr mor isel, i fyw y fath fywyd, ac i farw y fath farfolaeth tros bryfaid gwael. Yn ddiammau, mawr yw dirgelwch duwioldeb: Duw a ymddangosodd yn y cnawd 1. Tim. 3.16.
3. Ymegniwn ni i atteb y cariad mawr yma,
1. Trwy ein parodrwydd ni i wneuthur as i ddioddef pob peth, ar y galwo ef ni iddo.
Wytiti yn dwedyd am ddioddefaint yn y byd, mae hyn yn ormod i mi iw oddef drosdo ef, yr hwn y fu farw drosot ti? Och ddyn anheilwng! dywed yn hytrach o hyn allan; pa beth y wnaf fr? neu pa beth a wrthodaf fi ei wneuthur neu ei ddioddef er ei fwyn ef, yr hwn a wnaeth bob peth ac oedd er daioni i mi.
2. Trwy ein marw ni i bechod; dy bechod di oedd yr achos o groeshoelio dy frenin; O gan hynny na bydded iti fyw ddim hwy ynddo.
Dywed am dy falchder, ath gybydd-dod, [Page 122]ath chwantau cnawdol fel y dywedasant hwy am dano ef, Ymmaith â hwynt, ymmaith â hwynt. Dywed wrthit dy hun, o fy enaid, gan ddarfod ir Arglwydd farw am bechod, pa fodd a gallaf fi fyw ddim hwy ynddo ef! Dyma raddau darostyngiad Crist, bellach mi a ddangosaf raddau ei dderchafiad ef.
Gof. 30. Pa rai ydynt raddau derchafiad Crist, ar ol ei ddarostyngiad.
Atteb. Graddau derchafiad Crist ydynt ei adgyfodiad ef, ei escyniad ef, ei eisteddiad ar ddeheulaw Dduw, a'i waith yn barnu y bŷd ar y dŷdd diweddaf.
Egluth. Yma mae'n calyn amryw raddau o dderchafiad Crist:
1. Y Cyntaf oedd ei adgyfodiad ef, Mae'r scrythur yn dywedyd i ni, mae ar y trydydd dydd y cyfododd ef oddiwrth y meirw 1. Cor. 15.4. a hynny yn yr un cnawd ac y dioddefasai ef ynddo, gydâ ei holl berthynasau; ond heb y gwendid cyffredinol sy'n perthyn ir bywyd hwn: fel y thoddes ef ei fywyd i lawr, felly fo'i cymmerodd ef i fynu drachefn, trwy ei awdurdod ei hun, ac felly fo a ddangosodd ei fod yn Fab Duw trwy gwbl fodloni cyfiawnder Duw, a gorchsygu marfolaeth a'r cythrael.
Y mae adgyfodiad Crist yn wirionedd siccr, ac yn eglur tu hwynt i bob gwrthddvwediad.
Yn gyntaf, Trwy amryw lygaid-dystion; y rhai a'i gwelsant ef, ac y ymddiddanasant [Page 123]ag ef, ar ol ei gyfodi; a'u rhif hwynt sy'n eglur yn 1. Cor. 15.5: 6.7.8.
Yn ail. Rhag i ddynion roddi llai coel iw tyitiolaeth hwynt o ran nad oeddynt ond ychydig mewn cyffelybiaeth, ac hefyd o'i dû ef; Y mae ei adgofodiad ef gwedi ei siccrhau trwy 'r amryw wrthiau, y rhai a wnaeth eu Apostolion ef, a llawer o'r Cristnogion cyntaf ar eu hol hwynt yngolwg yr holl fŷd, trwy ba rai y darfu i Dduw dystiolaethu or nef, ddarfod i fab y dyn gyfodi oddiwrth y meirw mewn gwirionedd.
Yr amser y cyfododd ef oddiwrth y meirw, oedd y trydydd dŷdd, fel y rhag-ddywedodd ef. Mat. 20.19. Ni chyfododd ef tan y trydydd dydd, i roddi siccrwydd o'i farsolaeth: oblegid ped fuaseu ef yn cyfodi yn gyntach, fe fuaseu rhai yn ammau ei farfolaeth ef. Ac ni orfeddodd ef ddim hwy, oblegid fod y gelain, ar ol y trydydd dŷdd yn dechreu llygru, yn enwedig os bydd ef gwedi ei archolli, ac yr oedd Corph Crist i gyfodi cyn gweled o hono ef lygredigaeth; Psal. 16.10. Ac hefyd i gadarnhau ffydd ei ddyscyblion oedd yn dechreu ammeu o ran i fod ef cyhyd heb adgyfodi: oblegid rhai o honynt a ddywedasant. Luc. 24.21. Yr oeddem ni yn gobeithio mae efe oedd yr hwn a waredei 'r Israel; ac heb law hyn oll, heddyw yw 'r trydydd dydd er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
II. Yr ail râdd o'i dderchafiad ef, oedd ei escyniad ef i'r nêf: yr hyn sydd eglur trwy amryw scrythyrau, ond yn enwedig yn Act. 1.9.10.11.
III. Y drydydd râdd o'i dderchasiad ef, oedd [Page 124]ei eisteddiad ef ar ddeheulaw Dduw ei Dâd. Mae 'r ymadrodd yma yn fynych yn y scrythur mewn cyffelybiaeth; oblegid nid oes gan Dduw na llaw ddehau na llaw asswy, eithr yspryd yw efe. Ond mae 'r geiriau yma gwedi eu cymeryd oddiwrth frenhinoedd y ddaiar, y rhai a arferent o roddi gwŷr anrhydeddus i eistedd ar eu llaw ddehau hwynt.
Yr ymadrodd yma, o eistedd ar ddeheulaw Dduw, a ddywedir am Grist ein Jachawdur ni, sŷ 'n arwyddocau derchafiad ei natur ddynol ef yn nesaf at Dduw, vwchlaw 'r holl greaduriaid, a'i reolaeth ef hefyd arnynt hwy; Oblegid pob awdurdod yn y nef, ac ar y ddaiar a draddodwyd iddo ef gan Dduw. Math. 28.18. Mae ei eisteddiad ef gan hynny ar ddeheulaw Dduw yn arwyddocau,
1. Ei dderchafiad ef ir râdd uchaf o ogoniant.
2. Ei dderchafiad ef ir râdd uchaf o lywodraeth; trwy ba un y mae ef megis Arglwydd a brenin yn rheoli 'r bŷd, a hynny er daioni iw eglwys a'i bobl. Ni ddarfu ir Tâd roddi i fynu ei reolaeth, ond mae ef yn rheoli trwy ei Fâb, gan draddodi iddo ef bob barn, hyd oni ddinistria ef yn hollawl holl elynion yr eglwys, yr hyn ni fŷdd tan ar ol dydd y farn. Ac yno y rhydd Crist ei deyrnas a'i arglwyddiaeth iw Dâd: Ond etto megis Duw yn ogysuwch á'i Dâd, mae gantho ef deyrnas naturiol, yr hon a beri yn dragwyddol.
IV. Grâdd arall o'i dderchafiad ef, yw ei waith yn barnu y bŷd, yn y dydd diweddaf. Yma y dangofir.
1. Pwy y fydd yn farnwr; sef Jesu [Page 125]Grist. Er bod barnedigaeth y bŷd yn perthyn ir holl drindod; Etto 'r neb a ymddengys yngolwg y bŷd i fod yn Farnwr, yw 'r Arglwydd Jesu Grist, Duw a dyn, Act. 17.31. Duw a osododd ddiwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder drwy y gwr a ordeiniodd efe.
2. Y rhai y farna ef, ydynt, y bŷd; sef yr holl wŷr a'r gwragedd y fu erioed yn y bŷd, a ymddangosant o flaen ei orseddfaingc ef.
3. Yr amser y barna Crist y byd, a elwir y dydd diweddaf. Mae anghytundeb mawr rhwng llawer o wyr duwiol ynghylch ei hŷd ef, rhai sy yn tybied y bydd efe yn fil o flynyddoedd, ac eraill sy yn tybied na bydd efe ond megys vn dydd. Ond gan nad yw 'r scrythur yn crybwyll am ei hŷd ef, nid yw gymwys i ni fyned ddim pellach ynghylch y pwnc hwn.
Cymmwys, Fe ddyleu Cristnogion gydymffursio á Christ, yn ei ddarostyngiad, a'i dderchafiad. Fel y mae yn rhaid i [...]ni ddescyn gyd ag ef, a'n croshoelio, felly hefyd y rhaid ini gysodi gyd ag ef, fel y cyfododd ef or bêdd, felly y rhaid i ninnau gyfodi o bechod. A rhaid i ni hefyd gael ein derchafu gyd ag ef. Crist a aeth oddi ar y ddaiar ir nef, rhaid i ninau dderchafu ein calonau ar ei ol ef. Col. 3.1.2. Am hynny os cyd-gvfodasoch gyd â Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yr eistedd ar ddebeulaw Dduw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sy ar y ddaiar.
Fel y dywedodd yr Angylion wrth y dyscyblion pan ofynasant am gorph yr Jesu yn y bêdd, Luc. 24.5.6. Pa ham yr ydych yn ceisie y byw ym mysc y meirw? Nid [Page 126]yw efe yma; ond efe, a gyfododd. Felly y dylem ninau ddywedyd am eneidiau y thai a gredasant, nid ydynt hwy yma, eithr hwy a gofodwyd ac a dderchafwyd gyd á Christ. Ceisiwch galon y gwir gredadyn yn y nef, lle y mae ei drysor ef. Eithyr fe a ellir dywedyd yn drist am galonnau gwyr cnawdol y byd hwn, eu bod heb eu cyfodi, ac yn farwol, megis gwedi eu claddu yn nyfnder a phridd y ddaiar.
Anwyl gyfeillion, a ydych chwi yn wir Gristianogion? dangoswch chwithau eich bod trwy eich cyfodiad ach dyrchafiad. Rhoddwch eich serch ar bethau uchod, ac nid ar bethau isod. Nôd llestri distryw, yw eu bod hwynt yn synied pethau daiarol; Phil. 3.19.
2. Y ddaw Crist i farnu 'r byd? dyscwn ninau,
Yn gyntaf, Fyw, a gwneuthur, a dywedyd, megis rhai a ddisgwiliant eu barnu: Jag. 2.12. Meddwl di 'r hwn wyt yn llawenychu yn nyddiau dy ieuengtid, ac yn rhodio yn ol ffordd dy galon dy hun, drwy gyflawni dy chwantau cnawdol, y daw dydd cyfri. Gwybydd y geilw Duw di ir farn am hyn ôll. Tydi, yr hwn wyt yn tyngu ac yn rhegu, ac yn gwneuthur pob math ar ddihirwch; A'i dyma 'r ffordd i fyw megys un a fernir? O pa fodd yr ymddangosi di o flaen cyfion Farnwr y nefoedd a'r ddaiar, i atteb am yr holl bethau hyn, neu am un o honynt.
Yn ail, Gwnewch Grist eich barnwr yn gyfell i chwi ac yn eiriolwr drosoch chwi. Och bechaduriaid! mogelwch eseuluso Crist dan eich perygl, neu ei ddigio ef wrth galedwch eich calonnau. Duw a'i gwnaeth ef yn Farnwr i chwi, yr hwn trwy eich pechodau yr ydych yn ei wneuthur yn elyn i chwi: [Page 127]Dôs bechadur, Dôs at Grist heddyw; a thor ymmaith dy bechodau trwy edifeirwch, a chymer ei iau ef arnat, ac ymrodda iw Arglwyddiaeth ef.
Gof. 31. Pa fodd y mae Grist a'r pechau y wnaeth ac a ddioddefodd ef, yn eiddom ni?
Atteb. Trwy ffydd yr hon sydd yn ein huno ni ag ef, yn ein galwad effeithiawl.
Eglur. Dal sulw yma ar ddau beth.
1. Fod y rhai sydd yn credu, gwedi eu huno â Christ.
2. Fod yr undeb yma â Christ, trwy ffydd.
Am y cyntaf, sef fod y rhai sydd yn credu gwedi eu huno á Christ, Y mae yn eglur mewn amryw fannau or scrythur, ond yn enwedig yn y 17. Ben. o efeng Joan. Mewn amryw wersi or bennod.
Mae rhwng Crist â rhai sydd yn credu.
1. Ʋndeb dirgel; Eph. 5.32. Mae 'r undeb dirgel yma gwedi ei yspysu yn y scrythur trwy undeb gwr a gwraig; y winwydden a'i changhenau, ac yn enwedig, trwy undeb y pen a'r corph. Crist ai Seintiau ydynt un Corph, pen yr hwn yw Crist, a hwythau ydynt yr aelodau, ac felly y maent yn eiddo eu gilydd.
2. Mae rhwng Crist a'i Seintiau undeb moesawl. 1. Cor 6.17. yr hwn a gysylltir a'r Arglwydd, vn yspryd yw; Mae ef or un meddwl, ac or un galon â Christ. Fo'i gwnaed ef yn debig iddo, yn sanctaidd megys y mae yntef yn sanctaidd, ac yn addfwyn megys y mae yntef yn addfwyn.
Cymmwys. Profed Cristianogion eu hundeb [Page 128]dirgel â Christ, drwy eu hundeb moesawl. Y wnaethpwyd ti yn debig i Grist, yn yr un ddelw ag ef? wyt ti yn addfwyn megys 'r oedd yntef yn addfwyn, ac yn sanctaidd, megys 'r oedd yntef yn sanctaidd? hyn a ddengys dy fod ti yn aelod o'i gorph ef. Nid yw corph Crist or fath ac oedd y corph y welodd Nebuchadnezzar yn ei freuddwyd, yr hwn oedd a'i ben o aûr, a'r rhannau isaf o brês, hayarn, a chlai; Ond mae corph Crist or coryn hyd y sowdwl o aur, ac o arian; Ac fel y mae 'r corph yn sanctaidd felly hefyd y mae ei holl aelodau ef.
O bechadur, wyt ti yn dywedyd dy fod ti yn aelod o Grist tra fo genit ti y fath galon ô hayarn, a'r fath dalcen o brês? pan wyt ti or fath yspryd cyndyn, ac yn byw mor annuwiol? Na sioma monot dy hun, nid wyt ti ddim ynGhrist, ac nid oes iti ddim a wnelych ag ef. Ni fyn y pen o aur byth y fath hayarn, a chlai ac wyt ti, i fod yn aelod iddo ef. Rhaid yw newid dy ben di, yn debig iw ben ef, Onid ê, pwy bynag wyt, nid yw Crist yn ben i ti, na thithau yn aelod o hono ef.
Gof. 32. Pa beth yw galwad effeithiawl.
Atteb. Galwad effeithiawl yw gwaith yr yspryd, trwy ba un y mae ein dealldwriaeth ni yn cael gwybodaeth o'n cyflwr gresynol, ac o Grist ein iachawdwr ni, ac i'n troir i uno ag ef.
Eglur. I ddangos yn eglurach, y grâs mawn yma o alwad effeithiawl deliwch fulw fod dau fath ar alwad at râs;
1. Galwad Cyffredinol oddi allan.
2. Galwad neillduol oddi mewn.
[Page 129]1. Galwad oddi allan trwy Weinidogaeth y gair, yn gwahadd y rhai a'i gwrandawant ef, i ymadl â'u pechodau, ac i droi at Grist. I ba alwad y mae rhai yn ufyddhâu, ond y mae eraill yn ei wrthod ef. Math. 20.16. Llawer fy gwedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewys. Nid yw y galwad yma oddi allan yn gweithio er iechadwriaeth bob amser, ond mae efe yn gwneuthur pobl yn ddiescus.
II. Galwad oddi mewn, pan fo'r Yspryd Glân trwy wenidogaeth y gair oddi allan, yn dwyn y galon at Grist, drwy ei allu ef. Mi y egluraf i chwi y galwad galluog yma (yr hwn sydd yn vn ar ail-enedigaeth, ac edifeirwch) trwy ddangos i chwi amryw weithredoedd yr yspryd, trwy ba vn y dygir ef i ben; megys,
1. Trwy ein harg yoeddi ni o'n pechod a'n trueni, Joan. 16.8. hynny yw trwy wneuthur i bobl eu hadnabod eu hunain, eu bod yn greaduriaid gresynol a phechadurus, ac mewn teimlad o hynny, lefain allan, Och fo ddarfu am danaf fi, enaid colledig. Gwae fi, pa fodd y gallaf fi ochel damnedigaeth uffern!
2. Y mae yspryd Duw, wedi iddo ein hargyoeddi ni o'n pechodau a'n trueni, yn goleuo ein dealldwriaeth ni â gwybodaeth o Jesu Grist. Dengis fel y mae ef yn holl-alluog iachawdwr i ni, yn abl i faddeu ein pechodau ni yn hollawl, ac yn barod i gofleidio pawb a'r y ddelont atto ef mewn purdeb calon.
3. Y mae yspryd Duw, wedi iddo ef oleuo ein dealldwriaeth ni â gwybodaeth o Grist, yn adnewyddu ein ewyllys ni; hynny yw, y mae ef yn gweithio y fath newidiad grasol ynom ni, ac a'n gwnelo yn fodlon i vfyddhau i ewyllys Duw. Psal. 110.3.
4. Y mae yspryd Duw, gwedi iddo newid ein [Page 130]ewllys ni y modd yma, yn ein hannog ni i gosleidio Jesu Grist, megys ein vnig brynwr, a'n iachawdwr; hynny yw, trwy ei resymau dwysion ef, a'i daer wahoddion, y mae yn ein tynnu ni at Jesu Grist.
Cymmwys. 1. Hola dy hun drwy 'r hyn a ddywedpwyd i wybod a alwed ti a'i peidio.
1. A argyhoeddwyd ti o bechod? A wnaeth Yspryd Duw iti wybod dy fod yn bechadur truan a cholledig, a derbyn barn angeu ynot dy hun a llefain, och yr wyfi yn ddyn marwol, marwol mewn pechodau ac anwireddau, mae fy enaid i mewn cyflwr gresynol, ac os parhaf i ynddo, rhaid i mi fyned yn ddiammau i vffern? O resynol ddŷn wyfi, pwy am gweryd i? wyt ti, neu a ddarfu ericed dy argyoeddi di y modd yma?
2. Y gefaist di ddealldwriaeth o Grist? Pan argyoeddwyd ti am bechod, a argyoeddwyd ti o gyfiawnder, hynny yw, fod yn y cyfiawn Grist gyfiawnder digonol i bob pechaduriaid, iw cadw hwynt, ac i ti yn enwedigol.
3. Pa fodd y mae gyda dy ewyllys di? wyt ti yn fodlon i ddyfod at Grist, yr hwn sydd a'i freichiau a'i galon yn agored i dderbyn pob pechaduriaid a ddelo atto ef. Yr oedd genit ti vnwaith fwy o gâriad ith pechodau ac ith chwantau, nag i Grist, ac ni fynit ddyfod atto ef i gael bywyd. Ond a ddarfu i Dduw yn awr newid dy ewllys di, fel y gallech ddywedyd yr wyf fi yn fodlon, yr wyfi yn bwriadu bod yn vfydd i Grist?
Yr wyf yn rhoi fy mryd ar ymd diried iddo ef, i fod i mi yn gyfiawnder, iw gymeryd ef imi yn Arglwydd ac yn Frenin, i'm rhoddi fy hun iddo ef yn ddyscybl. Os hyn yw dy galon ath ewyllys, cymet gysur, yr wyti yn vn o [Page 131]alwedigion yr Arglwydd, a'th alwad trwyadl sy'n dangos dy fod yn vn o'i etholedigion.
2. Os wyt yn anhyspys o'r fath waith ynot dy hun, ac yn amheus genniti pa vn a wnaethpwyd ai'th ddwyn at Grist ai nat do, ystyr beth sydd yn dy frŷd.
Wyti ar fedr esceuluso galwad a gwahoddiad Christ rhag llaw, neu ynteu uryddhau iddynt, a derbyn Christ ar ei gynnig? wyti yn fodlon y dydd hwn i adel dy ffyrdd pechadurus, ac i ymyscar â'th gariadau gynt? Ac i gymeryd Christ iti yn Arglwydd ac yn Briod? O da fyddai iti, pes gwneit hynny y pryd hyn.
Ond os wrth dy brofi dy hun y cei di dy fod yn vn o'r rhai a alwyd gan Dduw, annoger di i rodio yn addas ir alwedigaeth i'th alwyd iddi. Ephes. 4.1. Er mwyn hynny,
Rhodia yn ostyngedic, yn ddiolchgar, yn fsyddlon ym mhob gweithred dda, ac yn wiliadwrus yn erbyn pob gweithred ddrwg.
Na wna ddim a fyddo ammharchus ir enw teilwng ar yr hwn ith elwir, a bydd helaeth ym mhob peth da, yn yr hyn y gellych rodio yn addas ir Arglu'ydd i bob rhyngu bcdd, Col. 1.10.
Gof. 33. Pa ragorfreintiau sydd berthynol ir rhai a alwer yn effeithiawl?
Atteb. Y rhagorfreintiau perthynol ir rhai a alwer yn effeithiawl yw cyfiawnhâd, Mabwsiad a Sancteiddiad.
Gof. 34. Beth yw cyfiawnhad?
Atteb. Cyfiawnhâd yw gweithred o râd ras Duw yn maddeu ein pechodau ni, ac [Page 132]yn ein cyfrif ni yn gyfiawn yn ei olwg ef, er mwyn cyfiawnder Christ, a'r iawn a wnaeth efe, as a gresawer gennym ninnau drwy ffydd.
Eglurh. Gair o gyfraith yw cyfiawnhâd, yn arwyddoccau cymaint ac yspysu bod vn yn gyfiawn ai ollwn yn rhydd oddiwrth farn.
Yn yr atteb y mae ini graffu ar y pethau hyn.
1. Pwy yw awdwr cyfiawnhâd, sef Duw yn vnic. Rhuf. 3.33.
Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw 'r hwn sydd yn cyfiawnhau.
II. Yr achos sydd yn annog Duw i hynny, sef ei râd ras ef. Rhuf. 3.24. Dywedir fod y Sainct wedi eu cyfiawnhau yn rhâd trwy ei ràs ef.
Gwrthddadl. Os yw ein cyfiawnhâd ni yn vnic oddiwrth râd râs, pa fodd y dywedir ei bod er mwyn cyfiawnder Christ?
Atteb. O'n rhan ni, ac o ran dim â wneler gennym ni y mae yn rhad râs.
A rhad râs a annogodd Dduw i drefnu Gwaredwr i ni, ac i dderbyn ei gyfiawnder ef megis yn eiddom ni.
III. Achos defnyddiol ein cyfiawnhâd ni, yw cyfiawnder Christ. Ei ufydd-dod weithredol a dioddefgar ef a gyfrifir ini. Ei vfydd-dod weithredol ef oedd ei ymroddiad ef i ddilyn cyfraith Duw, a'i waith ef yn ei chyflawni hi. A'i vfydd-dod ddiodefgar ef sydd yn cynwys ei holl ddioddefiadau ef o'i enedigaeth iw farwolaeth. Dyma 'r cyfiawnder drwy ba vn y mae 'r credadyn yn cael ei gyfiawnhau ger bron Duw, a'i dderbyn iw râs ef, ac yn cael hawl i etifeddiaeth nefol.
[Page 133]Ni chyfiawnheir ni drwy ein gweithredoedd ein hunain. Nid all dim a wnelom ni mewn cyflwr diadgenedledic cyn credu yn Ghrist Jesu ryngu bôdd Duw. Ac y mae 'r gweithredoedd yn amherffaith a wnelom ni wedi derbyn grâs, ac ymghy mysc â llawer o ddeffy gion: O herwydd hynny y gallent fod ini yn achos o farn drom yn lle cyfiawnhàd. A hynny a barodd iDdafydd (er ei fod yn ŵr wrth fodd Duw) ymwrthod â'i gyfia wnder ei hun, a phob hyder arni am gyfiawnhád. A gweddîodd Dduw fel hyn, Psal. 143.2. Arglwydd, na ddôs i farn â'th wâs, o herwydd nich) fiawnheir neb byw yn dy olwg di. Dywed yr Apostol na chyfiawnhawyd Abraham drwy ei weithredoedd, er ei fod yn wir ffyddlon, a'i alw yn fynych yn Dad y ffyddloniaid. Rhuf. 4 2. Gal. 2.16. Dywed efe yn eglur, nad ydys yn cyfiawnhau dyn drwy weithredoedd y Ddeddf, ond trwy ffydd Jesu Grist.
IV. Yr offeryn, drwy ba vn y derbyniwn gyfiawnhâd, yw ffydd gywir a bywiol; sef y cyfryw ffydd ac a weithia ufydd-dod ym muchedd Christion, drwy 'r hon megis â llaw ysprydol y cymerwn ni afel ar Grist, ac y derbyniwn ef i'n heneidiau gyda budd ei vfydd-dod gwneuthurol a'r dioddefgar. O herwydd hyn y dywedir ein cyfiawnhau ni drwy ffydd. Rhuf. 3.28. a gelwir hynny derbyniad o Grist. Joan. 1.12.
V. Y mae dau ran o'n cyfiawnhâd ni. Canys ynddo,
Y maddeuir ein pechodau ni.
A chyfrìfir ni yn gyfiawn yngolwg Duw, er mwyn cyfiawnder Christ a'r iawn a wnaeth efe.
Craffwn ar ryfeddol gariad Duw a amlygir yn y pethau hyn.
Yn gyntaf, y mae efe yn cymeryd oddiwrthym ni yr hyn sydd wir eiddom ni, sef [Page 134]e in pechodau, o ran eu bod yn ein gwneuthur ni yn druenus, a hwy [...] esyd efe ar ei Fâb, yr hwn a wnawd yn bechod drosom ni. 2 Cor. 5.21.
Yn ail, y mae efe yn cyfrif cyfiawnder Christ yn eiddom ni, er nad yw o honom ni, o herwydd nas gallwn fod yn ddedwydd hebddo. Y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder Christ i'r ffyddloniaid, megis pe buasai yn eiddynt hwy. Y mae efe yn eu gwneuthur hwy yn gyfrannogion o rinwedd yr iawn a dalodd Christ, ac o'r pethau chwerwon a ddioddefodd efe, megis pe buasent hwy yn ei dalu ac yn eu dioddef.
Nid yw reidiol i Dduw dybied ir etholedigion eu hunain wneuthur y peth a wnaeth Christ drostynt hwy, eithr digonol tuag at eu cyfiawnhâd hwy yw iddo ef dderbyn yr hyn a wnaeth eu machniudd hwy drostynt, gan gydnabod ei fod yn gymaint mewn haeddiant a thâl a'r peth a ddylasent hwy eu hunain ei wneuthur.
Cymmwys. Er na chyfiawnheir ni drwy ein gweithredoedd ein hunain, ond er mwyn yr i [...]wn cyflawn a dalodd Christ drosom ni, a'i gyfiawnder perffaith ef, etto heb gyfiawnder cywir ynom ein hunain, ac o'r eiddom ein hunain, nid allwn ni gael eglurhâd o'n cyfiawnhâd, na gobaith siccr o'n iechydwriaeth: Canys heb sinct [...]iddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Heb. 12.14. Nid all neb ryw rai fod yn llestri gogeniant, ond y cyfryw ac a olcher â grâs. 1 Cor. 6.9. Oni wyddoch chwi, medd yr Apostol, na chaiff yr anghyfiawn etifeddu teyrn is Dduw? Na thwyller chwi. Megis pe dywedasai, Gwirionedd diammau yw, y bydd ir rhai sydd yn byw yn ddiedifeiriol mewn boddlawn ymarfer o bechodau adnabyddus, neu mewn boddlawn [Page 135]esceulusdra o ddyledswyddau adnabyddus, golli iechydwriaeth dragywyddol, er iddynt eu gwenheithio eu hunain â gwan obaith o honi. Felly er ini gau gweithredoedd allan o gyfiawnhâd, etto yr ydym yn eu cydnabod yn angenrheidiol yn y dŷn a gyfiawnhaer. Tra yr ydym yn ymwrthod â chyfiawnder ein gweithredoedd, yr ydym yn siccrhau gweithredoedd cyfiawnder.
Rhaid i Gristianogion fwriadu dau beth.
Sef, bod mor helaethion yngweithredoedd sancteiddrwydd, a phe byddent iddynt yn gyfiawnhâd.
Ac yna gorphywys a rhoi goglud mor hollhawl ar gyfiawnder Christ, a phe buasent er ioed heb wneuthur daioni.
Gof. 35. Beth yw Mabwysiad?
Atteb. Mabwysiad yw Gwaith Rhâd Râs Duw yn ein cymmeryd ni i rifedi ei blant, ac yn rhoi i ni feddiant o'i rhagor-freintiau hwynt.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y gosodir allan,
1. Awdwr ein Mabwysiad ni, yr hwn sydd yn ein dewis ni i fod yn blant iddo, sef Duw a Thâd ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn sydd fodlon er mwyn Jesu Grist, i wneuthur y rhai a gyfiawnhaer yn gyfrannogion o râd Mabwysiad.
2. Y peth sydd yn annog Duw iddo: sef ei râd râs ei hun. medd yr Apostol, Ephes. 1.5. Iddo ein rhagluniaethu ni i Fabwysiad trwy Jesu Grist iddo ei hun, yn ol bodlonrwydd ei ewyllys ef. Hyn, a hyn yn vnic, a annogodd Dduw i anfon Jesu Grist o'i fonwes i gymmeryd ein natur ni arno, fel y bai iddo [Page 136]wrth fod yn Fâb dŷn, ein gwneuthur ni yn feibion Duw.
3. Natur y Mabwysiad, yr hon sydd iddi ddwy gaingc.
1. Drwyddi y cymmerir ni, y rhai ydym blant digofaint wrth natur, i fod o rifedi, ac i gael perthynas plant Duw. O ryfedded newidiad a wneir wrth hynny! Lle 'r oeddem ni o'r blaen yn blant y cythrael; gwneir ni drwy râs yn blant Duw. Je pan osododd Duw ei gariad arnom ni, yr oeddem ni yn blant gwrthryfelgar, ac halogedic yn ein gwaed, a hâd ffiaidd, etto 'r pryd hynny oedd amser cariad. Ezec. 16.6.8. Pan oedd debyccaf y buasei efe yn ein ffieiddio ni, y pryd hynny yr hoffodd efe ni.
2. Drwyddi y rhoddir ini hawl. i holl ragorfreintiau plant Duw. Ni fyn Efe yr enw yn vnic o fod yn Dâd; ac ni rydd efe i ni yr enw yn vnic o fod yn blant; eithr cawn amryw freintiau: y rhai grasol ydynt blant ei ofal ef, a phlant ei hoffder ef: cant rydddid, ac ymddiffin, a chynhyscaeth plant.
Cymmwys. I. Dyscwn ddyledswyddau plant.
Yn gyntaf, na wradwyddwch eich vchel-fraint drwy ymarweddiad front. Anweddaidd i fâb tywysog fod yn gyfaill i ddiffeithwyr gwael: a buchedd gnawdol bechadurus sydd fwy anweddaidd i blentyn Duw. Bydded i blant y Goruchaf fyw yn nefol, ac yn addas ir Arglwydd.
Yn ail, Rhoddwch i Dduw anrhydedd Tâd. Mal. 1.6. Anrhydeddwch eich Tâd,
1. Wrth ei garu ef.
2. Wrth ufyddhau iddo ef.
3. Wrth hyderu arno ef.
4. Wrth ymddarostwng iw gerydd ef.
5. Wrth ymddiried iw amddiffyn ef.
[Page 137]6. Wrth fod yn fodlon iw ragweliad ef, a'r rhan a roddo efe i ni.
Gof. 36. Beth yw Sancteiddiad?
Atteb. Sancteiddiad yw gwaith rhâd rás Duw yn ein cwbl adnewyddu ni drwy ei Yspryd ar ei ddelw ei hun, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder, ac yn ein nerthu ni i farw i bechod, ac i fyw i gyfiawnder.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y mae chwe pheth iw agoryd yn bennaf.
1. Prif Awdwr Sancteiddiad, yr hwn yw Duw ei hun.
2. Yr hyn ai annog ef ir gwaith, sef ei râd Râs.
3. Y môdd y gweithir ef, Drwy fod yr yspryd yn ein adnewyddu ni.
4. Ei faintioli, bydd yn gwbl drwy 'r holl ddŷn.
5. Y Patrwm wrth yr hwn i'n adnewyddir, sef, delw Duw.
6. Rhannau Sancteiddiad, sef marw i bechod, a byw i gyfiawnder.
Am y cyntaf, prif Awdwr ein sancteiddiad yw Duw. Megis y mae efe yn vnic yn ein cyfiawnhau ni, ac yn ein gwaredu ni oddiwrth euogrwydd pechod, a'r gôsp ddyledus iddo, Felly efe yn vnic sydd yn ein sancteiddo ni, ac yn ein gwaredu ni odditan arglwyddiaeth pechod.
Am yr ail, yr achos sydd yn annog Duw i'n sancteiddio yw ei râd râs, Hynny yn vnic a bar y rhagor rhwng Sanct a phechadur.
Y moda ein sancteiddir yw drwy adnewyddiad yr yspryd. Er deall hyn yn well rhaid ini wybod, ein gwneuthur ni yn aelodau o ddirgel gorph Christ, pan ymunom ag ef drwy [Page 138]ffydd, ac ar hynny yr ydym gyfrannogion o fudd ei farwolaeth ef a'i adgyfodiad. Drwy rinwedd ei farwolaeth ef y marweiddir ein pechodau ni, a chroeshoelir ein llygredigaeth ni gyd ag ef. A thrwy rinwedd ei adgyfodiad ef y rhoddir gallu bywiol ynom ni, i'n cyfodi o bechod, fel yr arweiniom fuchedd sanctaidd. Ac felly y deuwn i fod yn ddynion sanctaidd wedi ein adnewyddu gan yspryd Duw.
Gelwir y sainct yn yr yscrythyrau yn Greaduriaid newydd, nid o ran newid sylwedd eu heneidiau a'u cyrph, onid o ran gweithio ynddynt foddion a rhinweddau newyddion. Bydd y deall tywyll wedi ei oleuo mewn peth mesur â gwybodaeth o Dduw ac Jesu Grist. A bydd yr ewyllys, ydoedd o'r blaen yn wrthwynebus i Dduw, yn awr yn ufydd iw ewyllis ef. Ac yn awr gosodir y serch ar Dduw, er iddi o'r blaen fod ar bethau aflesol: a bydd dyn yn ffieiddio'r peth yr oedd efe o'r blaen yn ei hoffi, ac yn hoffi'r peth yr oedd efe o'r blaen yn ei ffieiddio. A bydd yn llawenychu ynGhrist, fel yr oedd efe o'r blaen yn llawenychu yn y creaduriaid. Y dymuniad ydoedd am olud budol ac hyfrydwch cnawdol, a fydd yn awr am lewyrch wyneb Duw, a siccrwydd o'i gariad ef. Fel hyn drwy sancteiddiad y gwneir un yn ddyn arall.
Y mae sancteiddiad yn myned drwy'r holl ddyn, drwy holl gynneddfau 'r enaid ac aelodau 'r Corph. Bydd yr ymarweddiad oddiallan yngwrthwyneb ir peth ydoedd o'r blaen. Bydd yspryd sanctaidd yn gweithio oddifewn, ac yn anadlu allan mewn ymadroddion a gweithredoedd grasol.
Ond er adnewyddu dŷn ym mhob rhan, [Page 139]nid yw efe yn ddiddiffig yn ei sancteiddiad.
Canys y mae grâs yn dechreu yn isel, ac yn cyfodi yn uwch beunydd: er ei fod ym mhob rhan, nid yw gwbl berffaith ynddynt, hyd oni newidier bŷd. 1. Cor. 13.10. Pan ddelyr byn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddeleuir.
Y patrwm wrth yr hwn ein adnewyddir yw delw Duw, ym mha un y creuwyd dŷn ar y cyntaf, mewn gwybodaeth, sancteiddrwydd, a chyfiawnder. Y ddelw hon a anffurfiwyd yn echryslon wrth gwymp ein rhieni cyntaf, ond a adnewyddir yn ein sancteiddiad gan yr yspryd glân. Tit, 3.5.
Rhannau sancteiddiad ydyw y rhai hyn, sef marw i bechod, a byw i gyfiawnder.
Yna y dywedir ein bod ni yn marw i bechod pan yw nerth Llygredigaeth yn cael ei wanychu ynom hi beunydd, a'i ddwyn danom. Er na lwyr ddinistrir bob gweddill pechod allan o honom ni tra y byddom yn y daiarol bebyll hyn, etto y mae yn cael ei friw marwol yn y ffyddloniaid, ac yn colli ei fywiogrwydd a'i allu, a'i reolaeth ynddynt, ac yn nychu fwyfwy hyd oni byddo efe marw gydâ eu cyrph hwy.
Ac y mae 'r grasol yn y bŷd hwn yn cyfodi o farwolaeth pechod i newydd-deb buchedd sanctaidd, gan fyw i gyfiawnder. Cyn gynted ac yr impier dyn ynGhrist drwy wîr fywiol ffydd, yn yr undeb hwnw derbyniff rinwedd oddiwrth Grist i farweiddio ei drachwant, ac i fywoccâu ei enaid at y da: yr lyn ai codiff ef o farwolaeth pechod i fywyd grâs, yr hon yw arferiad o wîr sancteiddrwydd a chyfiawnder.
Cymmwys. Y defnydd a wnaf o hyn a fydd i'n annog ni ir ddau ddyledfwydd [Page 140]fawr hyn y sydd rannau sancteiddiad, sef marweiddiad a bywoccâd.
Marweiddiwch eich pechod. Yr hwn sydd â'i bechod wannaf, yw 'r Christion sancteiddiolaf, ac er marweiddio pechod,
Yn gyntaf, Torrwch eich cyngrair ag ef. Yr hwn nid yw gymmodel à phechod, a glwyfa'r trachwantau sydd ynddo yn ymgynhyrfu, ac yn gwrthryfela yn ei aelodau ef. yr hwn sydd yn edrych ar bob trachwant megis yn elyn iddo, ac sydd yn ocheneidio dano, ac yn ei deimlo fel draenen yn ei bigo ef, a fydd daer iw dynnu ymaith, ac i gael gwared o honaw. Yr hwn sydd yn casau pechod a fydd debyg iw lâdd ef.
Yn ail, Dirymmwch bechod. Wedi i Dalilah ddwyn oddiar Sampson yr hyn yr oedd ei gryfder ef ynddo, buan y gorchfygwyd ef, ac yr aeth yn gaeth. Barn. 16.19. y mae nerth pechod
Yn ei wraidd, sef corph pechod o'n mewn ni, yr hyn yw llygredigaeth ein natur ni.
Ac yn ei ben, yr hwn yw diafol. Anwiredd yw ei heppil ef a fagir ac a gynhelir ganddo ef. Efe yw 'r capten, a chwantau dynion yw'r fyddin dano ef.
Ac yn ei ddilynwyr, sef y bûdd, a'r dyfyrrwch, a'r anrhydedd a fo 'n dyfod gyd â rhvw anwiredd.
Y mae y rhain i gyd yn cadarnhau pechod. Ond ei nerth mwyaf y sydd yn ei wraidd. Yma y mae dechreu gwaith marweiddiad, gan osod y fwyall wrth fôn y pren. Ceisiwch groeshoelio 'r hên ddŷn gydâ Christ, a difetha corph pechod oddifewn. Rhuf. 6.6. pan dorrer calon pechod, yna y gwanhychir ei law ef: a llesceir Satan, pan dorrir ei gastell ef i lawr: ac nid all golud ac anrhydedd y bŷd, ac hyfrydwch pechadurus [Page 141]y cnawd, weithio dim ar y galon rasol a fo wedi ei chroeshoelio ir bŷd.
Yn drydedd, torrwch i lawr geinciau mwyaf pechod: sef y trachwantau priodol a fo yn eich cythryblu fwyaf. Craffa ar y chwantau a fo'n troi dy feddwl attynt fwyaf, pa un bynnag fyddant a'i balchder, cenfigen, cybydd-dod, neu aflendid: a bydded dy law yn erbyn y rhain yn bennaf.
Yn bedwerydd, yscwyd i lawr dy holl ddrwgffrwythau, gan adel arferion pechadurus heibio. Peidio â gweithrediadau pechod o fesur ychydic ac ychydic a farweiddia 'r tueddiad iddo. Diffydd tân wrth ei gadw i mewn. Onid escori di ar blentyn pechod, myga yn y bru. Wrth fyw bywyd gwell y deui i gael peth gwellâd yn dy feddwl. Pa brŷd y gwellhâ dy galon, os parhei i fyned ym mlaen yn dy anwiredd?
Os gadewir i chwyn dyfu, ac addfedu, a dihidlo eu hâd, tyfan yn amlach. Rhag hynny y torrir yscall a mieri i lawr, pan nas tynner hwynt o'r gwraidd. Gwna ditheu yr un ffunyd. Edrych ar dy fuchedd, pa ddrwg arferion y fo ynddi. Hola dy ymddygiad tuag at ddynion, i gael allan yr anhrugarogwydd, a'r anghyfiawnder a'r anffyddlondeb a arferi. Ystyr dy ddeledswyddau tuag at Dduw, pa fath fyddo dy wrandawiad ath weddi, a pha gymaint o ragrith sydd ynddynt. Edrych at dy aelodau faint o bechodau a wnant hwy. A pha anwireddau bynnag y byddech euog a honynt, gwilia arnat dy hun ar beidio o honor â hwynt.
II. Am fywoccâd, yr hyn yw 'r rhan arall o sancteiddrwydd, annoger di i fyw i gyfiawnder, ac ymrodda i arwain buchedd dda. Esay. 1.16.17. Paid a gwneuthur drwg, dysc wneuthur da. 2. Cor. 7.1. Ym| [Page 142]lanhawn oddiwrth bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw. Nid digon i chwi fod heb bechodau amlwg, ond rhaid i chwi fod yn sanctaidd ym mhob [...]hyw ymarweddiad. Nid digon rhoddi attal ar fuchedd ddrwg, ond rhaid ymosod at fywoliaeth dda. Rhaid byw yn ffyddlon, yn gariadus, yn nefol, yn ffrwythlon. Hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi. 1. Thes. 4.3.
Gof. 37. Beth yw 'r bendithion sydd arferol o ddilyn y rhai a gyfiawnhaer, ac a ddewiser yn blant i Dduw, ac a santeiddier ganddo ef.
Atteb. Tangneddyf cydwybod, Llawenydd yn yr yspryd Glan, a chynnyrch mewn gras.
Eglurh. Yn yr atteb hwn yr amlygir cyfoeth y sainct, a feddiannant hwy yn amser eu tlodi a'u amherffeithrwydd yn y bywyd hwn, a hynny mewn tri pheth.
1. Tangneddyf cydwybod. Rhuf. 5.1. We di ein cyfiawnhau drwy ffydd y mae ini dangneddyf â Duw. Ac wrth rodio yn uniawn y [...] ol gwirionedd yr e [...]engyl cawn heddwch cydwybod. 2. Cor. 1.12. Ac er mwyn hynny. rhaid glanhâu ein cydwybodau ni drw [...] waed Christ.
A rhaid bod ynom gydwybodau tyner, a arwydant wneuthur y pechodau lleiaf, ne [...] esceuluso 'r dyledswyddau lleiaf. Os by [...] cydwybod rwth yn llefaru heddwch, ni by [...] hwnw ond heddwch afiachus.
Rheidiol hefyd tuag at dangneddyf [...] cydwybod ddifrycheulyd, ni chynwyso i ddi [...] [...]yw yn ddiedifeiriol mewn un pechod. Es [...] [Page 143]57.21. Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, ir rhai annuwiol. Gallant hwy eu hunain ac eraill dybied eu bod yn cael heddwch, ond nid yw efe ddim ond heddwch ffuantus. Fel y dywedodd Jehu wrth Jehoram, 2. Brenb. 9.22. Pa heddwch tra fyddo putteindra Jezebel dy fam di, a'i budoliaeth mor aml? Felly y mae dywedyd wrth yr anwiriaid, pa heddwch, tra fyddoch yn cyd-ddwyn â chwi eich hunain yn eich drygioni? Ni lefara Duw ddim tangneddyf w [...]th y cyfryw, ac os eu cydwybodau a ddywed heddwch wrthynt, nid yw hynny ond tŵyll, ac heddwch gwaeth na chyffro.
II. Llawenydd yn yr yspryd Glân yw bendith arall a ddilyn rai cyfiawn sanctaidd, ac sydd briodol iddynt hwy yn unic.
Y weddi honno o'r eiddo'r Apostol. Rhuf. 15.13. a berthyn iddynt hwy yn unic. Duw 'r gobaith a'ch cyflawno o bôb llawenydd a thangneddyf gan gredu.
Mi a wn y meddyliff pobl fydol gnawdol, nad oes lawenydd iw gael yn ffyrdd duwioldeb, ond y gwrthwyneb i hynny sydd wîr, sef nad oes iawn lawenydd iw gael allan o ffyrdd duwioldeb; ac nid all neb gael prawf o lawenydd sylweddol nes ei fod ef yn grefyddol.
O dywed rhyw vn, nad oes neb yn arwain bucheddau mor bruddaidd a thrist, ac yw bucheddau rhai duwiol. I hynny yr wyfyn atteb, nad eu duwioldeb a'u crefydd a'u gwna hwy mor drîst, ond eu bod hwy yn gofidio eisiau bod ganddynt ychwaneg o dduwioldeb, ac am eu bod yn teimlo cymmaint o'r pechod ynddynt eu hunain.
III. Cynnyrch mewn g [...]âs yw bendith arall a berthyn ir sanctaidd. Dyledswydd ac arfer pob un ffyddlon yw tyfu mewn grâs. [Page 144]Canys mewn gwir râs y mae rhinwedd a gynnydda, fel y mae ym mhob peth bywiol nes dyfod iw faintioli. O herwydd hyn y cyffelybir grâs i ronyn o hâd mwstard. Mat. 13.31. yr hwn wrth ei hau sydd vn o'r hadau lleiaf, etto tyfiff yn gymmaint ac vn o'r llysiau mwyaf. O'r achos hwn hefyd y cyffelybir gras pobl Dduw i oleuni 'r boreu, yr hwn a lewyrcha fwyfwy hyd ganol dydd. Dihar. 4.18. Nid iw gras berffaith ar y cyntaf, am hynny rhaid iddo gynnyddu nes dyfod iw faintioli. Ac yn ddiau y mae rhinwedd grâs mor hyfryd ac mor ddymunol, ac nas gall yr hwn a brofodd o'i melysdra, amgen na chwenycho ychwaneg o honi. A bendigedig yw 'r rhai a newynant ac a sychedant am gyfiawnder, canys hwy a ddiwellir. Mat. 5.6.
Mi a wn fod llawer yn cwyno nad ydynt yn cynnyddu mewn grâs, [...]nd eu bod yn sefyll, neu yn myned yn ol. Cymmer ofal rhag bod felly, canys hynny sydd beryglus. ystyria hefyd,
Y gall un gynnyddu mewn grás er nas dirnado hynny: am fod twf ysprydol yn codi o fesur ychydic ac ychydic mewn môdd anheimladwy.
Ac nad yw pobl bob amser yn medru barnu eu cyflwr eu bunain yn iawn. Weithiau tybiant yn rhy dda am danynt eu hunain. Amseroedd eraill, pan ddel profedigaeth a chystudd yspryd arnynt, tybiant eu cyflwr yn waeth nag yw mewn gwirionedd. A hyn a ddigwydd mewn rhan, Oddiwrth eu tlodi ysprydol, a wna iddynt feddwl yn wael o honynt eu hunain, ac o'r hyn a fyddo ynddynt o ddaioni. Ac mewn rhan, oddiwrth y taer ddymuniad sydd ynddynt am ychwaneg o râs. Megis y mae mawr chwant i olud yn peri i [Page 145]rai eu tybied eu hunain yn dlodion, pan fo ganddynt ddigon: Felly y mae dymuniad am râs yn y duwiol yn eu rhwystro i gydnabod â chymaint ac sydd ynddynt. Gan fod hiraeth am y perffeithrwydd a fydd, yn eu gwneuthur yn rhy anghofus o'r hyn fydd ar eu helw yn barod.
Cymmwys. 1. Na ddisgwil feddiannu 'r trugareddau a'r bendithion rhagorol hyn, oni byddi ffyddlon yn dy ddyledswyddau, a gwiliadwrus yn erbyn pechod. Nid elli gael siccrwydd o lawenydd a thangneddyf ond wrth barhau yn ffyddlon ynghyfammod dy Dduw. Gwir rà [...] yn unic a ddwg gysur yn ffyrdd duwioldeb. Act. 9.31. Dywedir am y prif Gristianogion, iddynt rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr yspryd Glân. Bywoliaeth feius yw 'r achos pam y mae cymaint yn cwyno fod arnynt eisiau cyssur ysprydol, a llawenydd yn Nuw.
2. Dylai hyn ein cyfarwyddo ni beth i wneuthur, pryd na theimlom ni ynom ein hunain y bendithion hyfryd hyn, sef tangneddyf â Duw, a llawenydd yn yr yspryd Glàn, yn deilliaw oddiwrth gyfiawnhâd.
Yn gyntaf, hola dy hun na byddech di euog o ryw bechod mawr, am yr hwn ni th ddarostyngwyd etto.
Yn ail, Gwilia na byddech di diofalach nag a fuosti ynghylch pethau crefyddol.
Yn drydydd, galara o herwydd dy gyflwr presennol, gan ddywedyd, ys truan o ddyn wyfi, mor drist yw fynghyflwr yn eistedd mewn tywyllwch heb ddim goleuni, na gwreichionen o gyssur, na siccrwydd o gariad Duw! Fel hyn galara yn y dirgel, a'th ryddfan a gynhyrfa ymyscaroedd tyner Duw tuag attati: ac ni hir attal efe gyssur oddiwrthiti: Canys efe a ymrwymodd drwy lawer o addewidion grasusol [Page 146]i ddiddanu y rhai galarus. Psal. 126.5.6. Esay. 61.3. Math. 5.4. A gallaf ddywedyd yn hyderus, na chafodd pobl Dduw erioed fwy siccrwydd o gariad Duw tuag attynt, na phan gystuddid ac y darostyngid hwynt, ac y gofidient am eu tywyllwch.
Yn bedwerydd, Na fydd ry ddiwyd i fagu amheuon: Canys os byddi, nhw a amlhant ynot yn ddirfawr. mae rhai yn myfyrio gormod am resymmau yn eu herbyn eu hunain, o herwydd eu hanfodlonrwydd.
Yn bumed, wrth wrando a darllen bydd ddiwyd i ystyried yn ddifrif, ac i graffu ar yr hyn a ddichon dy ddiddanu di, ac nid yn unic ar yr hyn a ddichon dy fwrw i lawr. Llawer dan eu hammeuon a'u hofnau ysprydol a ddadleuant yn erbyn pob peth a ddyweder wrth: ynt iw diddanu. Y mae 'r psalmydd yn cyfaddef ei wendid yn hynny. Psal. 77 2. Fy enaid a wrthododd ei ddiddanu. Ac yn y ddecfed adnod y dywed efe, dymma fy ngwendid. Ac felly y mae yn wendid i bob gwir Gristion a geisio argumennu yn erbyn addewidion cyssurus, ac a gymmero blaid Satan yn erbyn ei enaid ei hun, gan amddiffyn ei anghrediniaeth, a chadw diddanwch allan.
Yn chweched, na fydded iti edrych yn unic ar dy bechodau a'th ddeffygion ysprydol, eithr pan edrychech ar dy bechodau â'r naill lygad, edrych ar Grist â'r llall. Meddwl am ei berffaith Gyfiawnder ef, a'r aberth oll-ddigonol, drwy y rhai y gall ef dy gwbl achub di odiwrth dy holl bechodau. Edrych ar Grist mor ansynych yw 'r achos o'r amheuon y sydd mewn bagad o Gristianogion.
Yn siccr y mae y rhan fwyaf o bobl yn pechu yn y gwrthwyneb, gan ystyried eu pechodau [Page 147]yn rhy anfynech, ac felly yn cadarnhau eu rhyfyg, a'i diofalwch am Grist. er hynny ni wasanaetha i neb edrych yn bechadurus ar eu pechodau, sef yn y modd ai rhwystro hwynt i edrych ar Grist Jesu.
Gof. 38. Pa rai yw 'r pethau a ofynnit gennym ni er mwyn cael o honom fywyd tragywddol ac iechydwriaeth?
Atteb. Y pethau a ofynnir gennym ni er mwyn cael iechydwriaeth ydynt ffydd ynGhrist, edifeirwch i fywyd, gydag arfer gydwybodus o ordinhadau Duw.
Er bod ein prynedigaeth a'n iechydwriaeth oddiwrth Grist yn vnic, etto gofynnir rai pethau gennym ni, y rhai os gwrthodwn eu gwneuthur drwy 'r nerth a gynnygio Christ i ni, nid allwn ni fod yn gadwedig drwyddo ef: a'r rheini yw ffydd, edifeirwch, a dyfal ddilyn moddion grâs, sef y Gair, y Sacramentau, a Gweddi; am y rhai y scrifennaf yr hyn a ganlyn.
Gof. 39. Beth yw ffydd yn-Ghrist?
Atteb. Ffydd ynGhrist yw grâs iachusol, â'r hon yr ydym ni yn derbyn Christ i fod i ni yn offeiriad, yn Brophwyd, ac yn Frenin, ac yn rhoddi ein ymddiried ynddo ef yn vnic am ein iechydwriaeth.
Eglurh. Yn yr atteb y gosodir ffydd allan,
1. Wrth ei natur gyffredin, am ei bod yn râs iachusol.
2. Wrth ei gwrthrych ynghylch yr hwn yr arferir hi yn bennaf, a hwnw yw Christ.
[Page 148]3. Wrth ei gweithrediadau, y rhai ydynt ddwy yn enwedigol, sef Derbyn Christ, yr hyn a helaethir wrth ddangos y modd y mae ei dderbyn ef, sef yn ei holl swyddau:
Ac ymddiried iddo ef yn vnic am iechydwriaeth.
Am y cyntaf, sef natur gyffredin ffydd a adroddir yn y geiriau hyn, ffydd yw grâs iachusol. Grâs ydyw, ac nid gwaith natur, y mae mor amhossibl i ddŷn gredu o honaw ei hun, ac ydyw iddo ef gadw 'r Gyfraith Foesol; am hynny y dywedir yn yr yscrythur mai rhodd Duw yw ffydd. A gelwir hi yn râs iachusol, er mwyn dangos y rhagor rhyngthi â grâs gyffredinol, ac o herwydd ei bod yn gosod dŷn mewn cyflwr cadwedigol.
Yn ail, gwrthrych ffydd yw Christ, yr hwn yw 'r gwrthrych pennaf a digyfrwng iddi, gan ei bod yn crefawu Christ ac yn cymmwyso ei haeddedigaethau ef ir enaid. O herwydd pa ham ei gelwir hi ffydd ynGhrist, a'r ffydd sydd tuag at ein Harglwydd Jesu Grist. Act. 20.21.
Yn drydedd, Gweithrediadau ffydd iachusol yw y rhai a ganlyn.
Y cyntas o honynt yw derbyn Christ ir enaid, yr hyn yw 'r vn peth a chymeryd gafel arno ef.
Eithr araith yr yspryd Glân am gredu yw derbyn Christ. Joan. 1.12. Cynnifer ac ai derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i Dduw, sef ir sowl a gredant yn ei enw [...]f. Dengis yr yscrythur hon beth sydd ini [...]w ddeall wrth dderbyn Christ, sef credu yn ei enw ef. A chysylltir derbyn wrth gredu, i ddangos pa fath ffydd yw honno drwy ba vn y mae Christ yn myned yn eiddom ni: sef y cysryw vn ac y derbyniwn ni Grist â hi, [Page 149]ynghyd â llesâd [...]i ddioddefaint a'i farwolaeth.
Amlygir gweithrediad ffydd yn helaethach wrth y môdd y mae hi yn derbyn Christ, sef yn ei holl swyddau, hynny yw, yn offeiriad, ac yn Brophwyd, ac yn Frenin. Nid yn vnic yn offeiriad ini, i wneuthur iawn ac eiriol drosom ni, ond yn Brophwyd hefyd i'n dyscu ni, ac yn Frenin in rheoli ni: Rhaid ini fod mor ewyllyscar i'n bwrw ein hunain with draed Christ mewn vfydd-dod iddo ef, megis ac yr ydym yn chwenych rhedeg iw freichiau am ein cadw i iechydwriaeth.
Rhoddais i lawr fod ffydd yn derbyn Christ yn ei holl swyddau, i rybuddio pobl rhag iddynt yn gnawdol gamarfer yr athrawiaeth hon. Ac hefyd i ddangos y gwirionedd ir rhai a dybiant ein bod ni yn dyscu nad yw ffydd ddim amgenach, na rhoi ein goglud a'n pwys ar Grist am iechydwriaeth; Lle 'r ydym ni yn dal allan ei bod hi yn derbyn Christ yn ei holl swyddau; ac yn peri i'r enaid ymostwng i gyfreithiau a rheolaeth Christ, a bod mor ewyllyscar iw wasanaethu ef, ac i gael iechydwriaeth drwyddo ef. Canys pura efe y rhai y mae yn eu hachub; drwy ordinhâd Duw efe a wnaethpwyd yn Awdwr iechydwriaeth dragywyddol ir rhai oll a ufyddhant iddo. Ac ir rheini yn vnic. Heb. 5.9.
Er bod ymddadlau ynghylch rhai amgylchiadau perthynol ir pynciau hyn, etto nid wyfi yn ewyllysio rhoddi ar lawr yma onid y gwirioneddau y mae pawb yn eu cydnabod, sef bod ffydd iachusol yn derbyn Christ, yn ei holl swyddau, Offeiriadol, prophwydol, a Brenhinol. Ac o disgwiliwn iechydwriaeth oddiwrth Grist, rhaid i ni gymeryd ei ian ef arnom, ac ufyddhau iw orchymynnion ef.
Ail weithrediad ffydd iachusol, yw gorphywys [Page 150]a rhoi goglud ar Grist yn vnic am icchydwriaeth. Mynegir hyn yn yr yscrythyrau drwy ymadroddion eraill, megis drwy obeithio yn Nuw. Job 13.15. A gobeithio yn-Ghrist. Ephes. 1.12. A rhoi pwys ar yr Arglwydd. 2 Cron. 16.8. A phwyso ar yr anwylyd. Cant. 8.5. Pwy yw hon sydd yn dyfod i fynu o'r anialwch (sef anialwch anwybodaeth ac anghyssur) ac yn pwyso ar ei hanwylyd. Yr hyn sy'n arwyddoccau fod y wir Eglwys yn gorphywys ar Grist, megis sylsaen ei gobaith, am faddeuant ei phechodau yma, ac am dragywyddol iechydwriaeth yn ol hyn.
Dywedir ym mhellach fod ffydd yn gorphywys ar Grist yn V N I G am iechydwriaeth: Nid ar neb arall heb ei law ef, na chydag ef, ond arno ef yn vnic. Pan fyddo 'r enaid yn deimladwy o'i chyflwr pechadurus a thruenus, heb obaith cynnorthwy ynddi ei hun, ac yn synnied yr hyn a glywodd am allu Christ i fod yn Iachawdwr, ac am ei ewyllyscarwch ef i dderbyn pob pechadur edifeiriol a ymddiriedo iddo ef, ac ar hynny yn ymroddi iddo ef i orphywys yn holl-hawl ar ei haeddedigaethau ef, gan ddywedyd, os derfydd am danafi, trengaf yn ei freichiau ef, os achub fi mi ai moliannaf ef.
Cymmwys. 1. Na chamgymmerwn natur ffydd. Na chymerwn ryfyg yn ei lle hi. Tybia rhai fod yn ddigon iddynt ddywedyd eu bod yn credu i Grist farw drostynt, er eu bod yn anwybodus o'r Arglwydd, ac heb ymroddi iw iau ef.
2. Nac ymfodlonu'n i fod heb ffydd iachusol. Ac i'n cynnorthwyo ni i iawn gredu, deliwn ar y cyfarwyddyd a ganlyn.
Yn gyntaf, Ystyriwn yr annogaethau a roddes Christ i bobl i gredn ynddo ef, ac i ddyfod atto ef, Canys efe a ddescynnodd o'r nef ir [Page 151]ddaiar yn bwrpasol i achub y sawl a ddeuai at Dduw drwyddo ef.
A phan oedd ef ar y ddaiar, ni wrthododd efe neb a ddaeth atto ef i gael iachau eu doluriau corphorol; er bod ei neges ef yn y bŷd i iachau eneidiau, yn fwy na chyrph. Ni ddylem ni ynteu dybied y gwrthid ef neb a ddelo atto ef am iechydwriaeth eu heneidiau. Nid aeth neb er ioed atto ef â chalon gywir heb gael ei dderbyn. Medd ef yn Joan. 6.37. Yr hwn a ddêl attafi, nis bwriaf ef allan ddim.
Y mae Duw yn gorchymyn ini gredu yn ei Fâb ef Jesu Grist. I Joan. 3.23. Hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom yn enw ei Fâb ef Jesu Grist. Dylai orchymyn Duw fyned yn drech yn ein meddyliau ni na holl rwystrau Satan, neu resymmau cnawdol ac amheuon ein calonnau ein hunain.
Y mae Christ yn amlygu ei ewyllyscarwch i dderbyn pob pechadur edifeiriol a ddel atto ef, ac ai bwriant eu hunain trwy ffydd iw freichiau ef.
Canys y mae efe yn gwahadd atto bob pechadur ac sydd deimladwy o'i anwireddau, ac yn deisyf bod yn gysrannog o lesâd ei brynedigaeth ef. Math. 11.28. Joan. 3.37. Datc. 22.17. Ac at wahodd chwanegir cri i'n deffroi ni. Esay 55.1. Oh deuwch i'r dyfroedd bob vn y mae syched arno, ie yr hwn nid oes arian ganddo, dim daioni na chyfiawnder o'r eiddo ei hun, deuwch, &c.
Y mae efe hefyd yn anson ei gennadon i ddymuno ar bechaduriaid ddyfod i mewn atto, a chymmodi ag ef. 2 Cor. 5.20. Yr ydym ni yn gennadau dros Grist, megis pe byddei Duw yn deisyf arnoch drwyddom ni. O faint yw 'r cariad y mae hyn yn ei ddatcan! Dylasem ni bechaduriaid truenus geisio Christ [Page 152]yn gyntaf, ond efe sydd yn anson attom ni yn gyntaf, gan ddeisyf arnom ni, drwy ei weinidogion a'i gennadau, ddyfod atto ef i dderbyn y maddeuant a brynodd efe ini. Yr ydys yn yr yscrythyrau yn dal trugaredd allan i'r pechaduriaid gwaethaf:
Drwy fynegi ddyf [...]d Jesu Grist i achub y pechaduriaid pennaf. 1 I im 1.15.
Drwy yscrisennu coffadwriaeth ynghylch troedigaeth pechaduriaid echryslon, megis Manasseh, Paul, Mair Fagdalen, ac eraill. Y rhar a olchwyd drwy waed yr Jesu er eu bod yn dra pechadurus.
Drwy roddi yspysrwydd am fsynnon agored i bechod ac aflendid. Y mae scrifenwyr yn gyffredinol yn cymmwyso hyn at Grist: Gwaed yr hwn sydd ffynnoni olchi ymaith aflendid, ac yn ffynnon agored i ddangos ei barodrwydd ef i hynny.
Yn ail, er ein cyfarwyddo i gredu, bydded i ni yn fynech feddwl am Grist, a mysyrioar yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd efe i'n prynu ni. Cydffurfir yr enaid â'r peth y byddo yn meddwl am dano fwyaf. My fyriwn yn ddifrifol ac yn ddwsn ynghylch aberth holl-ddigonol Christ, a'r iawn a wnaeth efe, a rhatted y cynnygir ef yn yr efengyl i bob pechadur edifeiriol, a thaered y geilw efe ar bechaduriaid llwythog i ddyfod atto, gan addaw gorphywystra iddynt. Math. 11.28.
Yn drydedd, dyfal gyrchwn at wenidogaeth y gair, yr hwn yw 'r môdd cyffredinol a ordeiniodd Duw i weithio ffydd yn ein calonnau ni. Rhuf. 10.17. ffydd sydd trwy glywed.
Yn bedwerydd, Gweddia. Drwy weddi y sancteiddir y moddion eraill i ni, ac eu gwneir yn ffrwythlon ac yn dyccianus ini. [Page 153]Ynteu na fydd ddeffygiol; eithr gweddia fwy na mwy. Bydd daer ar Dduw am roddi iti ffydd iachusol, beth bynnag a naccaffo efe iti.
Gof. 40. Beth yw Gwir Edifeirwch?
Atteb. Gwir Edifeirwch sydd râs iachusol drwy 'r hwn y trŷ pechadur oddiwrth ei anwireddau, ac y dychwel at Dduw, gan fwriadu yn ei galon, ac ymosod yn ei fuchedd i arwain bywoliaeth newydd.
Eglurh. Yn yr atteb hwn y cynhwyfir,
1. Natur gyffredinol edifeirwch, sef ei bod yn râs iachusol.
2. Yr hwn sydd yn edifarhau, sef pechadur.
3. Rhannau edifeirwch, y rhai ydynt ddwy, sef, troi oddiwrth bechod, a dychwelyd at Dduw.
4. Gwir arwyddion edifeirwch, y rhai ydynt gywyr fwriad calon, a diwydrwydd i ddilyn bywoliaeth newydd.
Am y cyntaf, sef natur gyffredin edifeirwch, dywedir ei bod yn râs iachusol. Grâs yw, o blegyd hi a roddir gan Dduw, ac a weithir drwy 'r Yspryd Glân. Ac y mae yn râs iachusol am ei fod yn iachau ac yn cymmwyso 'r enaid i iechydwriaeth. Ac felly ei gelwir ef yn edifeirwch i fywyd, am ei fod yn tueddu i fywyd tragywyddol. Canys addawodd Duw ddedwyddwch tragywyddol i bob vn ediseiriol, Ezec. 18.21. Os yr annuwiol a ddychwel oddiwrth ei holl bechodau, y rhai a wnaeth, a chadw fy holl ddeddfau, a gwneuthur barn a chyfiawnder, efe ganfyw a fydd byw, ni bydd efe marw.
Am yr ail, yr hwn sydd i edifarhau yw pechadur, Canys pob vn a edifarhao sydd yn [Page 154]cydnabod euogrwydd ynddo ei hun. Dywed Christ Math. 9.13. Ni d [...]aethym i alw rhai cyfiawn ond pechaduriaid i edifeirwch.
Am y trydedd, sef rhannau edifeirwch, anhepcor ydynt, canys rhaid troi oddiwrth bechod a dychwelyd at Ddew, oddiwrth yr hwn yr aethom ar gyfeiliom.
Rhaid i ni droi od trwrth y chwantau a'r ffyrdd drwg yn y rhai y rhodiasom ni. Ynghylch hyn y rhydd Duw orchymyn yspys i bobl Judah. Esay 1.19. Ymolchwch, ymlanhewch, bwriwch ymaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid, peidiwch â gwneuthur drwg. Rhaid ymadel â phob pechod mawr a bychan, oddifewn ac oddiallan. Nid oes vn pechod cyn lleied nad rhaid edifaru am dano, na chyn gymaint na saddeuir ef ar edifeirwch, oddieithr y pechod yn erbyn yr yspryd Glân. Er bod drwg mawr yn y pechodau lleiaf, etto tru [...]aredd anfeidrol a ddichon faddeu 'r pechodau mwyaf ar edifeirwch.
Rhaid i'n edifeirwch ni fod yn chwerw am y pechodau oedd felusaf gennym ni. Ac ni wasanaetha ini lochi vn anwiredd er hyfryded a lleied fyddo, os gwnawn, collwn fywyd ein heneidiau am ei arbed ef.
Y rhan arall o ediseirwch yw dychwelyd at Dduw. Nid digon ini adel pechod a'r bŷd, oddiethr ini ymroddi i fod yn weision i Dduw, gan ei ddilyn ef mewn eyfiawnder a sancteiddrwydd ein holl ddyddiau. A'r gwirionedd yw nad ydym ni yn peidio â bod yn annuwiol nes ini droi yn fanctiaidd, a'n bod wedi ein cwbl gyssegru iddo ef.
Yn bedwerydd, y calyn ini draethu am arwyddion ediseirwch, y rhai ydynt gywyr [Page 155] fwriad calon, a diwydrwydd i ddilyn buchedd newydd.
Bydd yn yr edifeiriol wir fwriad calon i vfyddhau i Dduw. A chymmer Duw yr ewyllys yn garedic.
Ond ni bydd gwir fwriad calon yn segur, eithr periff i ddŷn arfer diwydrwydd i rodio mewn newydd-deb buchedd. Bwriadau gau a thwyllodrus yw 'r rhai ni ofodant yr enaid ar waith da. Lle bo dŷn wedi ei adnewyddu drwyddo, bydd y llaw a'r galon yn cydweithio tuag at anrhydeddu Duw.
Ond nid yw y rhai edifeiriol yn cael llwyr wared o weddillion eu llygredigaeth tra fyddont yn y corph marwol hwn, er bod nerth pechod wedi ei dorri ai ddarostwng.
Yma y mae 'n fuddiol i ni ystyried fod ped war peth yn darparu edifeirwch.
Y rheini ydynt, 1. Teimlad o bechod. 2. Ystyriaeth am drugaredd Duw ynGhrist. 3. Gofid am bechod. 4. Cafineb iddo.
Am y cyntaf, sef teimlad pechod, y mae 'r Arglwydd wrth baratoi 'r galon i waith mawr edifeirwch yn ei gwneuthur yn deimladwy o'i phechodau gwreiddiol a gwneuthurol, ac o'i chyflwr truenus o'u herwydd. Gofidiodd Dafydd am y pechod y ganwyd ef ynddo. Psal. 51.5. A dywed yr Apostol fod pawb wrth natur yn blant digofaint. Ephes. 2.3. Nid yn vnic wrth arfer, ond wrth natur hefyd. Nes i bobl ymglywed â'u llygredigaethau naturiol, a'u cyflwr colledig o'u herwydd, nid ymroddant i gymeryd edifeirwch.
Dylaent am hynny ddyfal ystyried eu halogedigaeth naturiol, ai gwna mor dueddol ir drwg, ac mor anhydyn ir da, a lygra gynneddfau eu heneidiau, ac aelodau eu [Page 156]cyrph, a'r holl weithredoedd a ddeilliaw o honynt.
Ac yna cofiant eu pechodau gwneuthurol, gydâ eu holl amgylchiadau trymion. y cyfryw ystyriaethau gydâ bendith Dduw, a ddichon weithio yn nŷn y fath deimlad o'i ddirfawr bechaduriaeth, ac a baro iddo ei ffieiddio ei hun, a throi at yr Arglwydd.
Yr ail peth a baratoiff bobl i edifeirwch, yw ystyriaeth am drugaredd Duw yn Ghrist. Edrych y galon ddrylliedic ar drugared Duw ynGhrist gyd ag ar ei euogrwydd ei hun: ac wrth hynny yr annogir hi idroi at Dduw mewn gobaith o gael maddeuant. Ac ystyriaeth ddifrifol am gariad Duw yn Ghrist a weithia serch yn yr enaid tuag atto yntef, a gofal i ryngu ei fôdd ef, ac ofn rhag ei ddigio ef; yr hyn yw edifeirwch efangylaidd.
Er bod ffydd ac edifeirwch yn gyfoedion o ran amser, gan eu gweithio ar vnwaith yn yr enaid, etto mewn trefn, ffydd sydd gyntaf, ac yn dangos fylfaen i adeiladu edifeirwch arno.
Yn drydedd, y mae gofid am bechod yn paratoi rhai i edifeirwch. Medd yr Apostol, 2 Cor. 7.10. Duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch er iechydwriaeth; ni bydd edifeirwch o honi. Y mae 'n tristwch am bechod yn dduwiol, pryd y delo oddiwrth ofid ynom am ddigio Duw mor ddaionus, a Thâd mor garedic.
Nid escor gwraig heb lôes, ac ni throir dŷn oddiwrth ei bechodau heb ofid. Yn siccr nid yr vn fesur o sorriant edifeiriol svdd ym mhob vn edifarus: cystuddir meddyliau rhai am bechod yn drymach nag eraill, yn enwedig y rhai fuant bechaduriaid o'r ffieiddiaf. Digwyddodd fwy gofid i Pawl [Page 157]wrth ei droi nag ir vn o'r Apostolion eraill, o herwydd ei fod ef yn erlidiwr milain i Sainct Duw. Act. 9.9. Y sawl a ddygwyd i fynu yn weddol dan rieni grasol, ac a attalwyd oddiwrth bechodau gwradwyddus, ydynt gan mwyaf yn teimlo llai gofid nag eraill yn eu troedigaeth.
Am hynny nid rheidiol i rai ammeu gwirionedd eu hedifeirwch am nas darostyngwyd hwynt cyn ised ac eraill; bydd ofalus am gael dy iachau yn dda, para vn bynnag a fo'r briw ai bâs ai dwfn. Bernir peth yn ddigonol a fo 'n cyfatteb ir diben yr arferir ef o'i herwydd. Os dy ofid am bechod ath ddug at Dduw, yr oedd o'r iawn fodd, ac yn gymwys fesur. Os meddig dy enaid ath iachâodd di yn dynerach nag eraill, nid oes iti achos i achwyn, ond i foliannu Duw am ei garedigrwydd iti. A gwybydd na dderfydd holl ofid Christion am bechod yn ei edifeirwch cyntaf, ond y gall ddigwydd iddo fod yn fwy wedi ir enaid gael prawf o gariad Duw. Llawer Christion a ofidia ei holl ddyddiau dan synniad ddyfn o'i angharedigrwydd ef tuag at yr Arglwydd, a ymddengis yn ei waith ef yn rhodio mor anheilwng o'i gariad ef. Eu bod yn cyflawni dyledswyddau mor oerion, a'u bod yn byw mor ddaiarol, mor feilchion, ac mor rhagrithiol, a glwyfa eu calonnau hwy, ac a wna iddynt fyned ir bêdd yn alarus.
Ni whyrach hefyd i rai a fo grasol ammeu gwirionedd eu gofid am bechod, am na byddant yn tywallt cymaint o ddagrau am eu pechodau a rhai eraill.
Bydded ir cyfryw ystyried nad yw dagrau reol siccr i fesur edifeirwch wrthi ym mhob dŷn. O herwydd y gall fod gwir ofid mewn rhyw ddŷn, er nas gallo dywallt dagrau. [Page 158]Gall y galon waedu, pan fo'r llygad yn sych. Ac oddiwrth ryw ddŷn arall y gall llawer o ddagrau ddiferu, pan na bo 'r galon wedi ei harcholli yn ddigon dwsn.
Y mae cyrph rhai o dymer cyn syched nad yw hawdd iddynt hwy wŷlo am dd [...]m a ddigwyddo iddynt, ac nid yw ryfeddod fod y cyfryw heb wylo cymaint ag eraill am eu pechodau chwaith.
Ond os gelli wylo am golledion a chroesau oddiallan, heb wylo dim am dy bechodau, y mae iti fwy achos i achwyn rhag caledwch a llygredigaeth dy galon, nag sydd iti i gwyno rhag tymer dy go ph.
Os hyn yw dy gyflwr, eymer y cyngor hwn, pan geffych dy galon yn deimladwy o ryw groesau a cholledion bydol a ddigwyddo iti, a'th lygaid yn tywallt dagrau o'i plegyd, yna cymer yr amser hwnw i syfyrio yn ddifrifol am dy bechodau, a thro ffrŵd dy ddagrau i alaru o'i plegyd hwy, ac yno y rhedant yn eu iawn lê.
Yn bedwerydd, Perthynas arall i edifeirwch yw casâu pechod: a hynny o ran ei fod yn droffeddiad o sanctaidd gyfraith Dduw, ac yn gwneuthur yn erbyn ei Fawrhydi ef. A hyn a beriff ini ffieiddio ein hunain o'i herwydd ef. Y mae y rhain bob amser yn myned ynghyd. Canys y sawl a ofidiant am bechod ai casânt ef, a'r sawl ai casant ef a ofidiant o'i herwydd.
Casau pechod sydd fwy cymeradwy gan Dduw na dagrau, ac sydd arwydd siccrach o wir edifeirwch. Canys gwelir beunydd fod llawer o rai drwg a fuant fyw yn anwireddus, yn udo ac yn gweiddi am eu pechodau ar eu claf-wely, y rhai pan elont yn iach eilwaith, a droant at eu pechodau drachefn, gan ddychwelyd fel cŵn at eu chwdfa, a dangos [Page 159]leied y maent yn casau 'r pechodau a ddarfu iddynt gwyno rhagddynt o'r blaen: ond gwir gasâu pechod a bar i bobl ymgadw rhagddo tra bont fyw.
Cymmwysiad. I. Ceisiwch y grâs hwn o edifeirwch yn ddioed, ac fel y byddo i chwi ei gael ef,
Gosodwch ar y ddyledswydd reidiol o'ch holi eich hunain. Chwilia dy galon dy hun, a chofia fwyaf ac a ellych o'th bechodau, gyd ar pethau a fyddo yn eu trymhau. Y Cyfarwyddyd hwn a adawodd Dafydd mewn Cof-lyfr gydâ probatumest; sef profedig yw Psal. 119.59.
Meddyliais am fy ffyrdd, a throais fy nhraed at dy dystiolaethau d [...]. Cyrchwch yn ddyfal at weinid [...]gaeth y Gair, gan ei fod ef yn fodd enwedigol wediei ordeinio gan Dduw i'n dwyn ni i edifeirwch. Act. 2.37. Darllenwn mai tra 'r oedd pedr yn pregethu 'r Gair ir Juddewon, y durysbigwyd bwy yn eu calonnau, ac y dywedasant, Beth a wnawn ni? Nid phraethineb ddynol a chelfyddgar, eithr pregethiad y Gair gydag eglurbâd yr yspryd a gallu yw 'r hyn sydd yn gweithio troad yn nynion oddiwith eu pechodau at Dduw.
Bydd daer ar Dduw mewn gweddi ar iddo roddi iti edifeirwch, canys ei rodd ef ydyw. Ac yn dy weddiau,
Cyffessa dy bechodau yn ostyngedic. Galara am dy lygredigaeth gwreiddiol, ac am aml bechodau dy fywyd. Ac yna gan daro dy ddwyfron gyd â'r publican, dywed, Arglwydd trugarhâ mrthifi bechadur. A deisyf ar Dduw weithio ynoti dristwch duwiol am dy bechodau di, y cyf [...]yw ac a weithio edifeirwch na bo raid edifarhau o honi. Er mwyn hynny [Page 160]deisyf arno ef daro 'r graig sydd yn dy galon di, fel y ffrydio o honi ddyfroedd edifeirwch ddiragrith: ac iddo droi dy galon di oddiwrth serch pechod atto ei hun, fel y byddo iti ymroddi iw wasanaethu ef mewn gwir dduwioldeb a chyfiawnder dy holl ddyddiau.
Myfyria hefyd yn ddifrifol mor siccr yw dydd y Farn, ac mor anadnabyddus iti yw 'r amser o honi. Je drwy ffydd edrych ar y diwrnod hwnw megis yn bresennol. Nid adwaen i fòdd tebyccach i ddeffroi pechaduriaid diofal, ac iw troi oddiwrth bechod at Dduw, na thrwy ddyfn ystyried y dydd ofnadwy hwnw, pan orfydd rhoi cyfrif manwl am ein holl feddyliau, ein geiriau, a'n gweithredoedd. Ond hyn yw dinistr llawer o bobl, sef eu bod yn ymfodloni ag ychydig feddyliau yscoefon ynghylch y dydd hwnw, megis yn ddigon pell oddiwrthynt, ac am hynny y maent yn ddifraw yn eu myfyrdod am danaw. Ond pe byddem yn edrych arno yn agos, ac yn byw mewn disgwiliad o honaw yn oestadol, byddai naws oddiwrtho ar ein calonnau a'n bucheddau, yn peri ini ofalu am edifarhau. Canys ymofynnir yn y dydd mawr hwnw, nid yn unic pa bechodau a wnaethom ni, onid hefyd pa edifeirwch a gymmerasom ni am danynt: ac fel y bo 'r atteb gwir, y bydd ein barn ni.
II. Nac ymfodlonwn â'r edifeirwch gyntaf, neu a dechreuad edifeirwch, ond bydded ini ei hadnewyddu yn fynech. Er deall hyn yn well ystyriwn fod dau fath ar edifeirwch.
Y cyntaf yw 'r hwn a gymmer rhai pan ddelont hwy gyntaf i gael golwg'a theimlad o'u pechodau, ac eu troer at Dduw yn iachusol.
[Page 161]Yn yr edifeirwch dechreuol hwn, y sydd yr un a throedigaeth, y rhaid bod y pedwar peth hyn.
Yn gyntaf, rhaid bod newidiad meddwl. Y gair [...], a gyfieithir edifeirwch, sydd yn arwydoccâu newidiad meddwl, neu ddealltwriaeth, y mae mewn difrif yn barnu fod yn well iddo droi at yr Arglwydd.
Yn ail rhaid bod cyfnewidiad o gynghorion y galon. Newid yr edifeiriol ei gynghorwyr, nid ymgyngoriff â chig a gwaed: Gal. 1.16. eithr â Duw ac â'i gydwybod: Ac ni bydd ei ofal mwyaf ef chwaith ar ymgynghori ynghylch pethau cnawdol, pa fodd i foddhau ei gnawd, ac i ymgodi yn y byd, eithr ynghylch y modd i ryngu bodd Duw ac i achub ei enaid, ac i gael cyfran o Grist. y rhain a'r cyfryw yw 'r ymofynnion a fydd ynddo ef. Y ddau beth hyn sydd obeithiol, etto nid yw ddigonol i newidiad iachusol, canys gall rhai fyned cyn belled a hyn tuag at edifeirwch, a chyfr-golli yn y diwedd. Am hynny,
Yn drydedd, rhaid bod cyfnewydiad o fwriadau 'r galon. Daw 'r enaid edifeiriol i roi ei fryd fel hyn, drwy râs Duw myfi a fyddaf yn eiddo 'r Arglwydd. Yr wyfi ar fedr cadw ei orchymynnion ef. Ni byddafi ddim hwy yn wâs i bechod nac ir bŷd, eithr byddaf i Dduw, i fancteiddrwydd, ac ir nêf. Y Llawnfryd hwn yw gweithrediad iachufol mewn troedigaeth, os bydd yn ddigon dwfn a diymod, pan so 'r ewyllys yn ymuno à Duw.
Yn bedwerydd, rhaid bod cyfne widiad ynyr ymarweddiad. Bydd y gwir edifeiriol yn ymgynhyrfu i rodio gydâ Duw. A'r newidiad hwn yn y fuchedd a ddengis fod newidiad y bwriad yn ddiragrith.
[Page 162]Y mae 'r pedwar peth hyn, sef cyfnewidiad o'r deall, ac o gyngorion y galon, a'i bwriadau, a newydd-deb y fuchedd iw cael ym mhob un gwir edifeiriol, ac yn gynwysedig yn yr edifeirwch ddechreuol. Ystyriwch y pethau hyn yn ofalus, ac ymholwch wrthynt hwy, rhag i chwi gamgymmeryd yn beryglus ynghylch cynneddfau edifeirwch, a'ch tybied eich hunain yn edifeiriol pryd na boch, ac felly cyfrgolli yn dragywydd. Luc. 13.3. Onid edifarhewch, (a hynny yn y môdd ac y disgwyl Duw) chwi a ddifethir oll.
Yr ail math. ar edifeirwch yw adnewyddiad y gyntaf yn holl ystod ein buchedd ni. Megis ac yr ydym ni yn adnewyddu ein pechodau yn erbyn Duw, dylaem adnewyddu ein edifeirwch am danynt: a hynny beunydd yn y môdd y dosparthwyd eusus, ac weithiau mewn môdd rhagorol, megis ar amseroedd cystuddiau trymion, neu ar ol syrthio yn anafus i bechod, neu o flaen derbyn swpper yr Arglwydd, neu ar ryw achosion eraill.
Gof. 41. Pa rai yw 'r ordinhadau a drefnodd Duw er hyfforddi ein iechydwriaeth ni?
Atteb. Yr ordinhadau a drefnodd Duw er hyfforddi ein iechydwriaeth ni, yw 'r Gair, a'r Sacanentau, a gweddi.
Eglurh. Y mae 'r Atteb hwn yn gosod allan yr ordinhâdau a drefnodd ac a sancteiddiodd Duw i fod yn foddion cyffredin o'n iechydwriaeth ni. Galwaf hwynt yn foddion cyffredin, am y rhaid ini gydnabod nad yw Christ yn ei rwymo ei hun i weithio drwy un math ar foddion yn unic, eithr y [Page 163]mae efe weithiau yn myned ar hyd ffyrdd anarferol. Trowd Paul drwy oleuni rhyfeddol a llais o'r nef, a ddywedodd, Saul, Saul, pa ham yr witi yn fy erlid i. Act. 9.1.2.3.4. Ceidwad y carchar hefyd a alwyd mewn modd anarferol, Canys ar hanner nôs tra 'r oedd Paul a Silas yn gweddio, ac yn canu mawl i Dduw yn y carchar, yn ddisymmwth y bu daiargryn mawr, hyd oni syglwyd seiliau y carchar, ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion. Act. 16.25.26. Y daiargryn hwn a escydwodd seiliau 'r carchar, drwy ddaionus ragluniaeth Duw a escydwodd galon galed ei geidwad: ar yr hyn yn ebrwydd y gweithwyd ynddo ef gyfnewidiad. Canys dywedir yn yr 29, &c. adn. wedi iddo alw am oleu, efe a ruthrodd i mewn, ac yn ddychrynedic, efe a syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas, ac a ddywedodd, o feistred beth sydd raid imi ei wneu [...]hur fel y byddwyf gadwedig? A hwy a ddywedasant, crêd yn yr Arglwydd Jesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu. Ac efe a'u cymmerth hwy yr awr honno o'r nos, ac a olc [...]odd [...]u briwiau, ac efe a fedyddiwyd a'r eiddo oll yn y man.
Ond er rhyngu bodd ir Arglwydd Jesu Grist weithio ar rai drwy foddion anarferol, etto y mae yn gweithio ar y rhan fwyaf o bobl drwy 'r moddion cyffredinol, sef y gair, y Sacramentau a gweddi, a gorchymyn ini eu harfer hwy, a disgwil ei fendith ef arnynt er ein troi a'n sancteiddio.
Cymmwysiad. Gan mai 'r Gair, a'r Sacramentau, a Gweddi yw 'r moddion cyffredinol a ordeiniodd, ac a sancteiddiodd Christ i'n troedigaeth a'n iechydwriaeth ni, dylaem eu harser hwy yn ddiwyd ac yn ddi [...]rifol, ac ymegnio i hynny â'n holl nerth.
[Page 164]Y mae dau fath o nerth sydd i ni iw estyn allan wrth gyflawni dyledswyddau sanctaidd, a bod yn gyfrannogion o'r sanctaidd ordinhadau.
Y cyntaf, yw nerth dyfalwch. Rhaid ini fod mor ddiwyd yn eu cylch, ac na oddefrom i un meddwl gwibiog gymeryd meddiant o'n pennau ni, nac ì dynnu ymaith ein calonnau ni tra fo'm yn eu trin. Rhaid i'n brŷd fod yn gwbl arnynt, heb feddwel am bethau eraill: ac i ffrwd ein meddyliau redeg i gyd y pryd hwnw ir un ffordd: Nid yw lai na dirmygu 'r Duw Mawr, os trown ein eneidiau oddiw [...]tho ef at y byd, a chressawu pob meddwl ofer a ymgynnygio ini, pan fo'm ni yn ei ŵydd ef yn ei ordinhâdau, ac yn ymddiddan ag ef ynghylch y pethau mwyaf pwysfawr, sef iechydwriaeth ein heneidiau gwerth-fawr. Pa brŷd bynnag gan hynny y bo Duw yn llefaru wrthym ni yn ei air, neu y bo'm ni yn llefaru wrtho yntef mewn gweddi, neu y bo'm ni yn swpperu gydag ef yn y Sacrament, cymerwn ofal i gadw ein calonnau yn ddiwyd ar y pethau sanctaidd hynny y byddom ni yn eu trin. Mi a wn yn wir y bydd meddyliau ofer bydol y pryd hynny yn ymhyrddu i mewn, ond rhaid ini eu gwilied, a chau 'r drws yn eu herbyn hwynt, iw cadw allan, a'u bwrw allan drachefn os deuant i mewn.
Yn ail, gofynnir gennym ni arfer nerth ein serch mewn dyledswyddau sanctaidd. Rhaid ini gynhyrfu ein calonnau pan gymmerom hwy mewn llaw. Ysgrifennir am Mr. Bradfford, Jerthur, pan fai ef yn gweddio neu yn darllen yr yscrythyrau, na pheidiai efe a hynny, nes clywed ei galon yn cynhesu, a'i serch yn bywioccau yn yr ordinhâd y byddai [Page 165]efe arni. Esampl yw hon a haeddai ei dilyn gan bob Christion. Ond och belled yw hyn oddiwrth arfer llawer o bobl, y rhai a ruthrant i ddyledswydd, ac a ant trwyddo ef yn ddiystyr! os darllennant bennod yn y Bibl, neu os rhedant dros weddi, tybiant iddynt wneuthur digon o wasanaeth i Dduw, er bod eu calonnau yn farwaidd ynddynt. Beth amgenach yw hyn nag offrwm i Dduw gorph marw dyledswyddau, heb eu bywyd a'u hyspryd? Yr hyn beth his gall na byddo ffiaidd yn ei olwg ef. Canys megis ac y mae 'r corph marw heb yr enaid yn myned yn yscerbwd ffiaidd yngolwg dynion, Felly y mae corph marw 'r dyledswyddau heb eu henaid a'u bywyd yn myned yn anhawddgar yngolwg Duw. Am hynny ym mhob dyledswydd sanctaidd cymerwn fawr ofal ar ei gyflawni â nerth dyfalwch a serch.
II. Ac wedi y gwnelom hynny, mogelwn orphywys ar ein dyledswyddau, na thybied ini haeddu iechydwriaeth am danynt. Y mae digon o achos i roi ac i dderbyn y cyngor hwn, o ran bod yn naturiol i bobl orphywys ar eu dyledswyddau, a disgwyl iechydwriaeth am danynt, yr hyn sydd beryglus mewn dau fodd:
Yn gyntaf, os gorphywysir ar ddyledswyddau da, ceidw hynny ni rhag edrych am Grist, a gorphywys arno ef a'i gyfiawnder: yr hwn yw 'r vnic sail siccr ini i adeiladu gobaith ein iechydwriaeth arno.
Yn ail, y mae llawer o bechodau a deffygion ynglyn wrth y dyledswyddau goreu a wnelom ni. Y mae digon o achos i Dduw i'n damnio ni am ein dyledswyddau goreu, os efe a fydd manwl i graffu ar ein anwireddau ni, ac nis taenella waed yr Arglwydd Jesu ar ein dyledswyddau ni.
Gof. 42. Pa fodd y mae 'r gair yn myned yn llesol ini tuag at adeiladaeth ysprydol?
Atteb. Y mae Gair Duw yn myned yn llesol tuag at adeiladaeth ysprydol wrth ddwyn pechaduriaid i ganfod ac i deimlo eu cyflwr truenus, a'u troi hwy oddiwrth eu pechodau at Dduw, as wrth berffeithio gwaith grâs a ddechreuwyd yn y Sainct.
Eglurhâd. Er mwyn agoryd yr atteb hwn egluraf bedwar peth.
Pa fodd y gwneir y Gair yn effeithiol tuag at ein iechydwriaeth ni, sef drwy ei ddarllen ef, a'i bregethu ef.
II. I bwy y gwneir y Gair a'i wenidogion yn effeithiol, sef i bechaduriaid ac i Sainct.
III. Pa fodd y gwneir y Gair yn effeithiol i iechydwriaeth pechaduriaid; sef wrth eu dwyn i garfod ac i deimlo eu cyflwr truenus.
Hefyd wrth eu troi oddiwrth eu pechodau at Dduw.
IV. Pa fodd y gwneir y Gair yn effeithiol ir Sainct, sef wrth berffeithio gwaith gras a ddechreuer ynddynt.
Am y cyntaf, gwneir y gair yn effeithiol i iechydwr [...]aeth weithiau wrth ei ddarllen ef. Y mae histori yn dangos i ni am lawer o athrawon ac o wyr enwog a drowd at Dduw wrth ddarllen yr yscrythyrau. Am hynny y gorchymyn ein Achubwr i bawb chwilio 'r yscrythyrau, Joan. 5.39. A phed fai rhieni nid yn vnic yn darllen eu hunain, ond hefyd [Page 167]yn mynech wrando ar eu plant yn darllen yr yscrythyrau gartref, byddai hynny yn ddirfawr yn eu cymmwy so hwy a'u plant i dderbyn mwy o lesâd oddiwrth bregethiad y gair.
Yn ail, gwneir y Gair yn effeithiol wrth ei bregethiad ef. Canys wrth hynny y mae yn gweithio mwy ar y nwydau, ac yn gadel mwy o'i ol ac o'i bwys ar feddwl dŷn. Er bod llawer wrth ddarllen y gair yn ddirgel yn cael peth o anadliad peraidd yspryd Duw, etto yngweinidogaeth gyhoeddus y Gair y mae 'n fynech fwy mesur o rás yspryd Duw yn descyn ar yr etholedigion. Act. 10.44. Tra yr oedd Pedr yn llefaru, syrthiodd yr yspryd glân ar bawb a oedd yn clywed y Gair. A diammau droi llawer mwy o bobl od diwrth eu pechodau at Dduw drwy gyhoeddus bregethiad y gair, na thrwy ei ddarllen yn y dirgel. Ac nid godidowgrwydd gweinidogion yr efengyl yw 'r achos o hynny, canys y mae godidowgrwydd mwy yngair Duw, nag yn y pregerhau a adrodder gan ddynion; ond yr achos yw ordinhad Duw, o ran iddo ef drefnu pregethiad i fod yn fodd cyffredinol o'n iechydwriaeth ni.
III. Gwneir Gweinidogaeth y Gair yn effeithiol i bechaduriaid;
Yn gyntaf, drwy eu dwyn hwy i ganfod ac i deimlo eu pechodau. Yspryd Duw wrth weithio gydâ gweinidogaeth y gair a beriff i bechaduriaid ganfod eu pechodau neilltuol, a gofidio o herwydd eu pechodau hyfrydaf, a thrymmaf, a phob ryw rai, mawrion a bychain. Canys pan ryngo bôdd i Dduw ddangos ir enaid ddrygioni rhyw bechod y mae yn euog o honaw, fe a wêl yr enaid hwnw gymaint o ddrwg yn y pechod hwnw, ac ai hannogo [Page 168]iw adel. A phan ddarffo i yspryd Duw ddangos vn pechod, aiff rhagddo i ddangos y lleill, yn enwedic corph pechod oddifewn, yr hwn yw gwreiddyn chwerw pob drwg.
Yn ail, gwneir gweinidogaeth y gair yn effeithiol i bechaduriaid, wrth eu troi hwynt oddiwrth eu pechodau at Dduw. A hynny a ddigwydd wrth yspysu 'r gyfraith a'r efengyl.
Y mae 'r gyfraith yn dangos i bechaduriaid eu haml anwireddau, eu natur, a'u perygl, a'r cyflwr truenus in hwn y syrthiasant, ac mor amhossibl iddynt ddianc o hono; ac wrth hynny derbyniant farn marwolaeth ynddynt eu hunain.
Yn ail, Yr efengyl'a ddwg gennadwri cymmod, ac a ddengis gymmorth, drwy ba vn y gall pechaduriaid gael eu gwaredu allan o faglau Satan, a'u rhyddhau oddiwrth felldith y gyfraith, a'n dwyn i dangneddyf a Duw, ac i fod yn gymmeradwy ganddo ef, wrth ymuno ag Jesu Grist ar gynnygion yr efengyl.
IV. Fel y mae gweinidogaeth y Gair yn effeithiol i bechaduriaid drwy eu argyoeddi a'u troi hwynt, felly y mae ir Sainct drwy berffeithio gwaith grâs a ddechreuwyd ynddynt hwy. Megis y dywed yr Apostol (Act. 20.32.) wrth adrodd ynghylch pregethiad: yr ydwyf yn eich gorchymyn i Dduw ac i air ei râs ef, yr hwn a all adeiladu chwaneg, Ac Ephess. 4.11.12. medd efe, rhoddes Duw rai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon, i berffeithio y Sainct.
Cymmwysiad. I. Gan fod Gweinidogaeth y Gair gymaint o ffyrdd yn llesol tuag at adeiladaeth ysprydol, y defnydd cyntaf a wasanaetha i argyoeddi rhifedi o ddynion annuwiol yn y dyddiau hyn, y rhai yn safa-rwth a [Page 169]lefant yn erbyn Gweinidogaeth y Gair, a dyfal bregethiad o honaw. Ac fel y rhoddont beth gwell lliw ar eu annuwioldeb, gwaeddant am fwy o weddio a llai o bregethu. Ond yn ddiau nis gall fod ganddynt serch i weddi tra y byddont yn llaru ar bregethu: Canys pe bai hoff ganddynt hwy lefaru wrth Dduw, fe fyddai 'n hoff ganddynt hwy glywed Duw yn llefaru wrthynt hwythau. Ond wele eu balchder, mynnent glustiau Duw yn agored i wrando arnynt hwy, ond ni fynnant hwy agoryd eu clustiau i wrando ar Dduw. Wele hefyd eu ynfydrwydd, y mae pregethiad y Gair yn cyfarwyddo pobl i weddio yn iawn, a thrwyddo y bywiocceir hwy i weddio yn fynychach ac yn wresoccach, ac etto hwy yn y gwrthwyneb a fynnent lai o bregethu er mwyn cael mwy o weddio. Yn ddiau oni bai pregethiad y gair, troai ein defosiwn ni yn ofergoel, ac a fferrai fel ffurf ddifywyd.
2. Byddwch ddyfal yn arfer ordinbadau Duw, ac nac esceuluswch vn odfa iw mwynhau. Er a wyddosti, gallasai 'r prydiau a adewaisti i ddiangc heb arfer ordinhadau Duw ynddynt, fod yn amser trugaredd ith enaid ti, ac ni whyrach na chei di mo'r fath eilwaith. Pe buasai ir hwn a ddisgwiliasai ddeunaw mlynedd ar hugain wrth lyn Bethesda, fod yn absennol yr amser y daeth Christ yno, ni chawsai iachâd, onid tebygol y buasai ei glwyf yn ei ddifetha ef. Am hynny y mae yn dda disgwyl amser Christ, er iddo yn ein tŷb ni aros yn hîr.
Gof. 43. Pa fodd y gallwn ni gael llessad wrth ddarllen a gwrando 'r gair?
Atteb. Gallwn gael llessâd wrth ddarllen a gwrando 'r Gair, drwy ein paratoi ein [Page 170]hunain a bod yn ddyfal dano, ai dderbyn mewn ffydd a chariad, ai dryssori yn ein calonnau, ai ddilyn yn ein bucheddau.
Eglurh. Yn yr atteb hwn yr haerir mai wrth y moddion hyn y cynnorthwyir ni i gael Heffâd wrth ddarllen neu glywed y Gair.
1. Wrth ein paratoi ein hunain i dderbyn y Gair.
2. Wrth fod yn ddyfal yn ei gylch.
3. Wrth ei dderbyn â ffydd, ac â chariad.
4. Wrth ei dryffori ef yn ein calonnau: ac yn enwedig,
5. Wrth ei ddilyn yn ein bucheddau.
Am y cyntaf, Rheidiol ini ymbaratoi ir gair. Oddieithr paratoi 'r tir i'r hâd, ni bydd tebygoliaeth o gael cnwd da. Ac fel y bo iti ymbaratoi yn ddyledus,
1. Cais ofn Duw ith galon ymlaen llaw. Mal y gallech ddywedyd gyda Jacob, Gen. 28.17. mor ofnadwy yw y lle hwn, nid oes yma onid tŷ i Dduw.
2. Dos at Dduw drwy weddi, a hynny yn gyntaf dros y gweinidog, ar roddi iddo ddrws ymadrodd, i bregethu 'r gair yn ddiragrith, yn gywir ac yn fuddiol. Ac yn ail gweddia drosot dy hun, ar i Dduw roddi iti galon i ddyfal wrando, a meddwl i ddeall, a doethineb i gymmwyso 'r gair at dy gyflwr, a choffadwriaeth iw ddal yn dy gôf, a ffydd iw gredu, a grâs iw ddilyn.
3. Dôs â chalon barodol i dderbyn ac i gressawu pob gwirionedd a ddysco Duw i ti. Hyn yw myned â chalon onest a diragrith, pan fyddo vn yn gwir fwriadu gochel pob pechod, er hyfryded a buddioled fyddo, ac arfer pob rhinwedd a dyledswydd a ddysco Duw iddo ef, er anhawsed fyddo.
[Page 171]4. Pan fyddech yn myned ystyr yn ddifrifol i ba le yr wyt yn myned. Nid i ffair, neu farchnad, ond i dŷ Dduw, lle y mae Duw ei hun yn bresennol ith weled, ac y llefara efe drwy enau y gweinidog.
5. Dod heibio bob gofalon a meddyliau bydol a allent rwystro dy feddyliau di, wrth wrando 'r Gair, a thagu 'r bâd nefol, a'i wneuthur yn anffrwythlon. Canys megis ac nas gall y llestr llawn dderbyn dim ychwaneg, felly y mae 'r galon sydd gyflawn o feddyliau bydol heb roi lle i air Duw i ddyfod i mewn.
II. Fel y gwrandawer y Gair yn fuddiol, rhaid ei drîn a dal arno yn ddyfal. Dywedir am Lydia, ir Arglwydd agoryd ei chalon i ddal ar y pethau a leferid gan Paul. Act. 16.14. Oni bydd i'n meddyliau graffu ar y gair, nid allwn ni moi ddeall ef, a pha fodd yr adeiledir ni gan y peth ni ddeallwn?
Ac er mwyn gwrando yn ddyfal rhaid ini wilied yn ofalus rhag tri pheth, a'i gochelyd yn ddichlyn.
Y cyntaf yw meddyliau gwibiog, yn rhedeg ar achosion cnawdol a bydol. Yr ail yw golugon treigl, yn craffu gormod ar amryw bethau oddiamgylch. Y trydydd yw cwsc swrth ar amser yr ordinhâd.
Bydded i gyscadwyr wybod nad yw'r cythrael yn cyscu, ond ei fod efe yn wiliadwrus i geisio dal eu heneidiau hwvnt yn cyscu, ac iw dwyn i vffern. Ein doethineb ni am hynny yw ymegnio yn ei erbyn drwy sefyll i fynu ac ymgynhyrfu, a gweddio Duw am gael cymorth yn erbyn y gwendid corphorol hwnw, a phob gwendid arall. Ac os bydd hawdd gennym gyscu ar ol ein prydiau, goreu ini y pryd hynny ymddiwallu yn arbedus.
III. Rhaid derbyn y gair d [...]wy ffydd: gan [Page 172]goelio a chymmwyso attom ein hunain yr hyn a glywom. Fel y dylai gwrandawyr ddymuno cael pregethu iddynt yr athrawiaeth a fyddo perthynol iw heisiau yn neilltuol, felly wedi gwrando y dylaent wneuthur y fath ddefnydd o hono ac a fo iachus iw cyflwr hwynt. Ni wna 'r gair mor llês ini heb ei dderbyn ynom ni, a'i gymyscu â ffydd yn ein eneidiau ni. Y pryd hynny y gellir dywedyd ein bod ni yn derbyn y Gair drwy ffydd,
Yn gyntaf, pan goeliom ni mai gwirionedd yw.
Ac yn ail, pan osodom ni ef at ein eneidiau ein hunain, megis gwirionedd perthynol ini yn weilltuol. Pan bregether yn erbyn rhyw bechod y byddo dy gydwybod di yn dy gyhuddo o honaw, cymmer hynny attat dy hun, a dywed y mae 'r Arglwydd yn galw arnaf i ymddarostwng am y pechod a'r pechod, ac i roi fy mryd ar ei adel, a thrwy râs yn fynghynnorthwyo felly y gwnaf. Ac felly pan annoger pobl i ryw ddyledswydd perthynol i ti, gosod hynny at dy galon dy hun, gan ddywedyd, Galwodd yr Arglwydd arnasi heddyw drwy ei air i fod yn fwy gofalus a chydwybodus yn sancteiddio dydd yr Arglwydd, ac i fod yn ddyfalach mewn gweddi ddirgel ar fy mhen fy hun, a chydâ fy nheulu, a thrwy râs Duw mi a fyddaf felly. A'r gwirionedd yw nad oes neb yn gwrando 'r gair yn fywiol, ond yr hwn a'i gesyd at ei galon a'i gyflwr ei hun, ac nid yw pregethiad y Gair er cyfarwydded fyddo yn myned yn effeithiawl i neb o'r gwrandawyr, and ir sawl a wnel hynny.
Megis ac y rhaid derbyn y Gair drwy ffydd, [...]elly y rhaid ei dderbyn ef drwy gariad hefyd. [Page 173]Ac efe a haeddai ein serch ni wrth fod cymaint o lessad yn dyfod ini drwyddo: y rhai yw gwybodaeth o Dduw, a ffydd, a grasau iachusol eraill a'n cymmwysa ni i fywyd tragywyddol, a dedwyddwch.
1. Drwy 'r Gair a'i weinidogaeth y goleuir golugon tywyll ein meddyliau ni, i adnabod Duw a ni ein hunain, a Christ Jesu ein vnic Achubwr a'n prynwr.
2. Drwy 'r gair y gweithir ffydd ynom ni: Canys ffydd a ddaw trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. Rhuf. 10.17.
3. Ynddo y datcuddir ini 'r ffordd i ddedwddwch tragywyddol. O herwydd pa ham y gelwir ef yn air y bywyd. Philip. 2.16. A gair yr Iechydwriaeth Act. 13.26. Gan ei fod yn fodd drwy 'r hyn i'n cyfarwyddir i ddyfod o hyd i ddedwddwch tragwyddol.
Os mynni garu Duw a'r Arglwydd Jesu Grist, yna hoffa 'r Gair drwy ba vn y darcuddir ef iti. Os mynni gredu a byw, yna hoffa 'r gair yr hwn yw Gair y ffydd, a Gair y bywyd.
IV. Y dyledswyddau iw cyflawni wedi gwrando neu ddarlien y gair ydynt ddwy yn enwedigol, sef ei dryssori yn ein calonau, aiddilyn yn ein bucheddau.
Yn gyntaf, Rhaid ini ei dryssori ef yn ein calonnau. Y mae 'r gwr doeth yn cynghori i hynny, Dihar. 4.4.21. Dalied dy galon fy ngeiriau: cadw hwynt ynghanol dy galon. Guddia hwynt yn ddyfn yn dy feddwl, a myfyria arnynt yn fynech. Yr hyn a arferai Dafydd, Psal. 119.11. cuddiais dy air yn fy nghalon. Rhaid cnoi 'r cil arno os mynnwn iddo ein porthi, sef ei ddal yn ein côf, a myfyrio arno yn fynych. Nid yw lesol wrando llawer lieb fyfyrio ar ddim.
[Page 174]Yn ail, wedi gwrando 'r gair rhaid ini es ddilyn yn ein bucheddau, Jag. 1.22. Byddwch wneuthur-wyr y gair, ac nid gwrandawyr yn vnic, gan eich twyllo eich hunain. Yspysa hyn ini nad ydym ond ein twyllo ein hunain wrth wrando pregethiad y gair heb vfyddhau iddo.
Cymmwysiad. Na wenheithiwn monom ein hunain i dybied yn dda o'n cyflwr wrth ein bod yn cy [...]chu at y Gair iw wrando, oddiethr ini vfyddhau iddo. Er mwyn ei wneuthur y mae ini wran [...]o 'r Gair. Mogel dy fodloni dy hun â gwrando yn vnic. Gwrando fel y byddo iti wneuthur, ond na thybia y gwasnaetha gwrando yn lle gwneuthur.
Gof. 44. Pa fodd y mae 'r sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth?
Atteb. Y mae 'r sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth ni wrth ini eu derbyn hwy drwy ffydd.
Eglurhâd. Er amlygu yr atteb hwn yn well, dangosaf i chwi pa fodd nid yw 'r sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth ni, a pha fodd y maent.
Nid ydynt yn gweithio trwy rinwedd ynddynt. Canys nid ydynt yn gallu o honynt eu hunain beri grâs i neb ex opere operato, o waith eu gwneuthur, nac ex dignitate operantis, O haeddiant y gwenidog a fo yn eu cyfrannu. Canys y mae ammherffeithrwydd ynddo. Fal nad yw rhagrithiol ddrygioni rhyw wenidog yn diddymu 'r sacrament ir derbyniwr grasol diragrith, felly nid yw duwioldeb gwenidog ffyddlon yn gwneuthur y sacrament yn llesol i dderbyniwr anh [...]ilwng, Acts 8.13, 21.
[Page 175]2. Y mae sacramentau yn hyfforddi ein iechydwriaeth ni:
Yn gyntaf, Drwy fod presennoldeb Christ yn bendithio ei ordinhâd, a hynny a addawodd ef iw Apostolion a'i wenidogion, ychydic cyn escyn o honaw ir nefoedd, Mat. 28.20. Wele yr ydwyfi gydâ chwi bob amser, hyd ddiwedd y bŷd.
Yn ail, Drwy weithrediad ei yspryd ef yn yr ordinhâd. Canys yt yspryd sydd yn gwneuthur y sacrament yn rymmus ac yn effeithiol ini, Joan 6.63. Yr yspryd yw'r hyn sydd yn bywhau. Y Cnawd, sef y rhan oddiallan o'r ordinhâd yn vnic, nid yw yn llesau dim.
II. Y mae y Sacramentau yn ffrwythlawn yn vnic ir rhai ai derbyniant trwy ffydd. Y ffyddloniaid yn vnic sydd gyfrannogion o'r bendithion a arwyddocceir, ac a roddir drwyddynt.
Cymmwysiad 1. Gan nad yw rhinwedd y Sacramentau yn deilliaw oddiwrth dduwioldeb y gwenidog, gallwn dybied oddiwrth hynny na ddichon drygioni gwenidog rwystro iddynt fod yn effeithiol i gysur ac iechydwriaeth rhai credadwy. At yr vn peth yr annela pregethiad y gair a gwenidogaeth y Sacramentau, canys drwy 'r naill pregethir Christ ir glust, a thrwy 'r llall ir llygad. Nid oedd Christ yn gommedd iw ddyscyblion wrando beth a ddywedai 'r scrifennyddion a'r phariseaid ydoedd yn eistedd ynghadair Moses, tra byddent gofalus i brofi pob peth, ac i ddal yn vnic yr hyn oedd dda.
2. Gan nad yw 'r Sacramentau fuddiol i neb ond ir rhai a'i derbyniont drwy ffydd, gallwn ddirnad y rheswm pam y mae cymaint yn arser y Sacramentau yn ddiles, sef oblegyd eu bod heb iawn ffydd,
Gof. 45. Pa beth yw Sacrament?
Atteb. Sacrament yw ordinhâd dduwiol yn yr hon drwy arwyddion oddiallan y siccrheir Christ a'i ddaioni ir ffyddloniaid.
Eglurhad. Yspysir yma ynghylch Sacrament wrth ddatcan.
1. Ei natur gyffredinol, sef ei fod yn ordinhâd Dduwiol.
2. Ei rannau y rhai ydynt yn gyntaf, yr arwyddion oddiallan, yn ail, y pethau ysprydol a arwyddocceir wrthynt.
3. Ei ddiben, a'r defnydd a wneir o honaw, sef siccrhau 'r enaid o Grist, a'i drugireddau.
4. A'r dynion a gant lês oddiwrth arfer Sacrament yn iawn, sef, ffyddloniaid.
Am y cyntaf, natur gyffredinol Sacrament a osodir allan drwy 'r ymadrodd hwn sef, ei fod yn ordinhâd dduwiol, gan ei gorchymyn drwy Grist, Mat. 28, 19. Y mae ein Arglwydd ni yno yn rhoi awdurdod iw Apostolion ac iw Wenidogion i fyned i ddyseu 'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw 'r Tâd a'r Mâb, a'r yspryd Glân. Rhinwedd Sacrament a'i allu i adeiladu sy'n dyfod oddiwrth orchymyn Christ, yr hwn a'i gosododd ac a'i bendithia ef i'r cyfryw ddiben.
Am yr ail, Rhannau Sacrament ydynt ddau, sef, yr arwyddion oddiallan, a 'r pethau ysprydol a arwocceir [...]rwyddynt.
Rhaid ir ddau fod ynghyd i wneuthur Sacrament: Canys heb yr arwydd oddiallan nid oes amlyglad o Sacrament, ac heb y pethau ysprydol a arwyddoceir drwyddynt, nid all [Page 177]fod ond golygiad yn vnic heb sylwedd, ond y ddau ynghyd a wna Sacrament cyflawn.
Y pethau ysprydol a arwyddocceir drwy arwyddion Sacramentol yw Christ, a'r pethau daionus a geir ganddo drwy 'r cyfammod o râs: O ba rai pennaf a godidoccaf yw cyfiawnhâd, sancteiddiad, a gogoneddiad.
Yn drydedd, y diben a'r prif ddefynydd o Sacrament yw siccrhau 'r enaid o Grist, a'i drugareddau yn y cyfammod newydd.
Megis yn y Sacrament y gosodir Christ a'i ddoniau daionus ger bron llygaid y corph, ac wrth hynny ger bron llygad ffydd, felly y siccheir hwy ir enaid ffyddlon. Canys selau yw Sacramentau wedi eu gosod gan Dduw wrth y cyfammod, er mwyn cryfhau ein ffydd ni, a'n gwneuthur yn ddiogel o'n rhan yn Ghrist a'i drugareddau, ac i'n rhwymo ninnau i bob vfydd-dod a diolchgarwch. A thrwyddynt y mae Duw yn ein siccrhau ni o wirionedd ei addewidion, y bydd efe yn eiddom ni, ac yr ydym ninnau yn siccrhau ein addewid a'n bwriad i fod yn eiddo yntef.
Yn bedwerydd, y dynion ir rhai y selir Christ a'i drugareddau yn y Sacrament, yw 'r ffyddloniaid. I bawb eraill nid yw Sacramentau ond pethau diffrwyth a marwaidd. A'r hyn y mae 'r Apostol yn ei ddywedyd am weinidogaeth y Gair, Rhus. 1.16. Ei bod yn allu Duw er iechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn credu: a ellir yn yr vn modd ei ddywedyd am y Sacramentau, y maent yn allu Duw er iechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn CREDU, ond nid i neb arall.
Cymmwysiad I. Cymerwn ofal am drin y Sacramentau yn barchedig ac yn grefyddol, nid er mwyn arfer neu gyfreithiau dynion, [Page 178]eithr mewn vfudd-dod i Grist a'i orchymyn, gan eu bod yn ordinhadau sanctaidd o'i dtefniad ef.
Gof. 46. Pa sawl Sacrament sydd?
Atteb. Y mae dau Sacrament yn unic, Bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Eglurhâd. Megis yr oedd gan yr Juddewon gynt ddau Sacrament hynod y rhai oeddent yr enwaediad a'r Oen pasc, Felly y mae gan Gristianogion yn awr ddau yn cyfatteb iddynt, sef Bedydd ir enwaediad, Col. 2.11, 12. a swpper yr Arglwydd ir oen pasc. Luc. 22.15, 16.
Cymmwysaid. Gan nad yw Sacramentau y Testament newydd ond dau, a henwyd eusus, y mae 'r papistiaid iw beio ac iw barnu am ddychymyg pump eraill, y rhai a henwir:
1. Cryfhâd, drwy 'r hwn y cryfhânt blant yn y ffydd, ir hon y bedyddiwyd hwynt.
2. Penyd, pan yw pechadur yn myned dan ryw gosp am ei anwiredd.
3. Ordinhâd, drwy 'r hyn y dewisir ac y cyssegrir gweinidogion y gair iw swydd.
4. Priodas, drwy 'r hyn yr vnir gwr a gwraig, ac eu gwneir yn vn cnawd.
Nid oes ir pedwar hyn arwyddion gweledig oddiallan iw gwneuthur yn Sacramentau, megis y mae dwfr yn y bedydd, a bara a gwin yn swpper yr Arglwydd.
5. Yr ennaint diweddaf, â 'r hwn yr enneinir y cyfryw ac a fyddo glâf ddiobaith, iw siccrhau o ymadawiad dedwyddol.
Gwir yw y sonir am y peth hwn yn Epistol Jago. pen 5. 14. ac yn y 6. pen. O Farc 13. adn. Ond peth oedd a arferai 'r Apostolion a'r Christianogion cyntaf wrth blannu 'r efengyl, ac a arferid gan y cyfryw rai [Page 179]ac oedd ganddynt ddawn tra rhagorol i iachau 'r clwyfus. A dylai y rhai ai harferant yn yr oes hon ddangos fod ganddynt y fath ddawn rhyfeddol. Ac hefyd arwydd oedd o gael iachâd a meddiginiaeth oddiwrth [...]dolur corphorol, ac nîd o ymadawiad dedwyddol.
Ni ordeiniodd Christ mo'r rhain yn Sacramentau. A dylaem graffu ar hyn, sef ddarfod i Grist sancteiddio 'r Sacramentau a arferiff ei eglwys ef er pan ddaeth ef yn y cnawd, drwy fod yn gyfranog o honynt hwy ei hunan, tra 'r ydoedd ef ar y ddaiar. Canys efe a fedyddwyd ac a gymmerth ei swpper olaf. Ond ni ddarllenwn ni iddo ef arferu y rhai dychymygol hyn.
Gof. 47. Beth yw Bedydd?
Atteb. Bedydd sydd Sacrament, drwy 'r hwn y selir ini ein impiad ynGhrist, a'n Cyfranniad o'i drugareddau ef yn y cyfammod o râs, a'n addewid ninnau o fod yn weision ffyddlon iddo ef, a hynny drwy olchi 'r corph â dwfr yn enw 'r Tad, a'r Mâb, a'r yspryd Glân.
Yma y gosodir bedydd allan drwy fynegi.
1. Ei natur gyffredinol, sef ei fod yn Saerament.
2. Yr arwydd oddiallan a srferir ynddo, sef golchi â dwfr.
3. Y geiriau a adroddir wrth ei weinidogaethu, sef bedyddio yn enw 'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân.
4. Y pethau a arwyddocceir ac a selir ynddo, a'r rheini ydynt,
1. Ar ran Duw, ein impiad ni yn Ghrist, [Page 180]a'n cyfranniad o'i drugareddau ef yn y cysammod o râs.
2. Ar ein rhan ninnau, ein addewid o fod yn weision ffyddlon i Grist. Am y rhain y mae ini draethu yn eu tresn.
Yn gyntaf, y mae Bedydd yn Sacrament, sef yn sêl a osodir wrth y cyfammod o râs, er cryfhau ein ffydd ni i ddisgwyl am y pethau daionus a addewir ynddo.
Yn ail, yr arwydd oddiallan yn y bedydd yw dwfr: sef dwfr cyffredinol, yr vn ac sydd mewn ffynhonnau ac afonydd, neu lynnau. Canys y fath hynny a arferwyd gynt, Math. 3.6. Joan 3.23.
Drwy ddwfr yn y bedydd yn enwedigol y gosodir allan waed Christ: a chymwysed yw 'r arwydd ir peth a arwyddoceir a ymddengis wrth ystyried y tebygoliaeth sydd rhyngddynt.
1. Y mae gan ddwfr rinwedd i lânhau, gwnaiff bethau aflan yn garuaidd, ac wrth hynny y mae 'n gymwys i yspysu ini rinwedd gwaed Christ yn golchi ymaith fudreddi pechadurus oddiwrth ein eneidiau ni, 1 Joan. 1.7. Gwaed Jesu Grist sydd yn ein glanbau ni oddiwrth bob pechod.
2. Y mae dwfr yn elfen gyff [...]edin. Gall pawb fyned ir afon yn ddinag, y tlåwd gystal a'r cyfoethog: ac felly y gallant gael eu rhan ym mûdd gwaed Christ os sychedant am hynny, ni cheuir neb allan ond gan ei anewyllys ai anghrediniaeth ei hun, Math. 11.28. Dywed Christ Deuwch attasi bawb ac sydd flinderog a llwythog: pob pechadur ac sydd deimladwy o'i anwiredd a wahoddir i ddyfod atto ef, ac ni waherddir i neb hynny.
3. Ceir y dwfr yn rhâd: Ac felly y ceir llesâd gwaed Christ heb arian ac heb werth, Isa. 55.1. Oh deuwch ir dyfroedd, bob vn y mae [Page 181]syched arno, ie yr hwn nid oes arian ganddo: Sef yr hwn nid oes ganddo ddim daioni i haeddu derbyniad. Ac mewn gwirionedd yr enaid gwaccaf sydd debyccaf i dderbyn Christ, ac i gael ei dderbyn ganddo ef. Canys y rhai sydd yn eu tybied eu hunain yn gyfoethogion fel y Laodiceaid, ac yn llawn o dyb dda am eu cyfiawnder eu hunain, ni fynnant hepcor llê i Grist i ddyfod i mewn iddynt. Ni chymer neb afel arno ef ond y dyn a fyddo â'i law yn wâg, Drwy ffydd y derbynir ef ir enaid a fyddo deimladwy o'i eisiau.
Yn y bedydd y mae 'n ddyledus olchi corph pob vn a fedyddier â'r dwsr, yr hyn sydd yn arwyddocau glanhâd yr enaid oddiwrth fudreddi pechod drwy waed Christ, a gwaith yspryd Duw. O herwydd pa ham y dywedir yn Datc. 1.5. Fod Christ yn glanhau 'r eiddo gan eu golchi hwy oddiwrth eu pechodau yn ei waed ei hun. Ynteu gwaed Christ a [...] nid dwfr y bedydd sydd yn golchi ymaith ein pechodau ni.
Yn y gwledydd brŵd ni a ddarllenwn fod yn arferol drochi 'r corph yn y dwfr, ond yn yr oes hon yn y gwledydd oerion hyn y mae 'n arferol daenellu 'r corph â dwfr, neu dywallt dwfr ar wyneb plentyn, ac nid yw yn anghyttuno â'r ordinhâd, canys darllenwn y byddid yn taenellu dwfr ar yr aflan iw glanhau hwy, Num. 19.13.18. Ac yn fynech yn yr yscrythyrau gelwir ein glanhâd ysprydol ni oddiwrth bechod yn daenelliad, Ezec. 36.25. Heb. 9.13.
Yn drydedd, y geiriau a arferir yngweinidogaeth y bedydd yw, yn enw 'r Tâd, a'r Mab, a'r Yspryd Glân; er dangos i bwy y mae 'r hwn a fedyddier yn ymroddi, sef i Dduw trwy gyfryngdod y Mâb, a Sancteiddiad yr yspryd Glân. A'r môdd hwn a arferwyd er amser y brif eglwys.
[Page 182]Yn bedwerydd, yr pethau a arwyddoceir ac a selir yn y bedydd ar ran Duw yw ein impiad ni yn Ghrist, a'n cyfranniad ni o drug areddau y cyfammod o râs:
1. Drwy Sacrament bedydd yr impir ni yn Christ, ac ein gwneir yn aelodau o'i gorph ef. Hynny yw, yn amlwg drwy 'r weinidogaeth oddiallan, ac yn ddirgel drwy ffydd. Megis ein derbynir gan y gynnulleidfa i fod yn aelodau o'r eglwys weledig, felly yn ddirgel y rhaid ein cyssylltu ni â'r Arglwydd drwy weithrediad yr yspryd. Yn ol yr hyn a ddywed yr Apostol, Gal. 3.26, 27. Chwi oll ydych blant i Dduw, drwy ffydd yn Ghrist Jesu. Canys cynnifer o honoch ac a fedyddiwyd yn Ghrist, a wiseasoch Grist. Wrth yr hyn y gallwn ddeall fod ordinhâd y bedydd yn dal allan i ni ein glanhad oddiwrth bechod, a'n vndeb â Christ.
A'i bod yn selio ini ein vndeb à Christ drwy ffydd. Megis yr oedd yr enwaediad felly y mae bedydd yn sêl o gyflawnder ffyad; ace addewidion Duw ynghylch cyfiawnhâd, maddeuant, adenedigaeth, mabwysiad, ae iechydwriaeth. Ni a gawn yr yscrythur mewn amryw fannau yn henwi 'r bendithion ysprydol hyn gvdâg ordinhâd bedydd, Act. 2.38. Tit. 3.5. Y mae espon-wyr dyscedig yn nodi fod yr yscrythur yn y lleoed hynny ac mewn bagad o leoedd eraill o'r fath, yn adrodd am y bedydd fel y mae yn amgyffred y bedydd â dwfr, a bedydd yr yspryd. Megis y mae bedydd gweledig â dwfr, felly y mae bedydd anweledig drwy 'r yspryd Glân. Wrth y cyntaf vnir y dŷn a fedyddier â chorph yr eglwys weledig, yr hon yw cymd eithas o bobl yn proffessu enw Christ: wrth yr ail yr vnir ef â 'r eglwys anweledig, yr hon yw corph dirgel Christ. Y cyntaf a wneir drwy ddŷn, a'r [Page 183]ail drwy yr yspryd Glân; Trwy vn yspryd y bedyddiwyd ni oll yn vn corph: Medd yr Apostol, 1 Cor. 12.13. Sef yw hynny, drwy 'r yspryd y bedyddir ni i gorph dirgel Christ. Am hyn y dywed ein Jachawdwr, Joan 3.5. Oddi eithr geni dŷn o ddwfr ac o'r yspryd, ni ddichon efe fŷned i mewn i deyrnas Dduw.
2. Drwy Sacrament y bedydd yr arwyddoceir ac y selir ini ein cyfran yn nhrugareddau 'r cy [...]ammod grâs.
Er mwyn eglurhau hyn ystyriwn y pethau a ganlyn.
Yn gyntaf, ddarfod i Dduw cyn cwymp dŷn, a chwedi, fyned mewn cyfamod â'i bobl, fel y gallent wybod yn hyspys beth i ddisgwyl oddiwrtho ef, a pha beth a ddisgwiliai yntef oddiwrthynt hwy. Cyn y cwymp gwnaeth Duw Gyfammod Gweithredoedd ag Adda a'i heppil, gan addo iddo fywyd tragywyddol a dedwyddwch am ei vfudd-dod, a bwgwth marwolaeth dragywyddol am ei anufudddod.
Yn ail, wedi i Adda dorri y cyfamod cyntaf, rhyngodd bodd i Dduw er mwyn dangos ei râd râs, a golud ei drugaredd, wneuthur cyfammod arall a fyddai gyfammod o râs; yn yr hwn yr addawodd efe faddeuant pechod yma, a thragwyddol ddedwddwch yn ol hyn, [...]r ammod i ni gredu ac vfyddhau, Acts 20. [...]1.
Yn drydydd, y cyfammod hwn o râs a siccrhaodd Duw drwy Sacramentau, a elwir sê [...]au y cyfammod, o ba rai y mae bedydd yn [...]n, Drwy 'r hwn os gweinyddir ef yn iawn, [...] gallwn gael siccrwydd o'r bûdd a addawyd gydag ef. Canys vn diben mawr o'r bedydd [...]w cryfhau ffvdd pobl Dduw am gael mwyn [...]au y bendithion rhagorol a addawyd yn y [...]yfammod o râs, ar eu vfudd-dod hwy iw or [...]hymynion.
[Page 184]Hefyd y peth a arwyddoceir ae a selir o'n rhan ni yn y bedydd, yw ein siccr ymroddiad i fod yn weision ffyddlon i Grist. Megis y mae Duw drwy 'r bedydd er cryfhau ein ffydd ni yn selio iw ran ef o'r cyfamod, gan roddi ini siccrwydd o'i ffyddlondeb; felly y mae y rhai a fedyddier yn selio iw rhan hwythau, sef ar gyflawni 'r dyledswyddau a ofynnir ganddynt, ac a addawant wrth fyned ir cyfammod. Sef yw hynny, y byddant hwy yn eiddo 'r Arglwyddyn vnic, ac yr ymwrthodant a diafol ae â'i holl weithredoedd, ac à gorwagedd y bŷd hwn, ac â chwantau pechadurus y cnawd, i ymgyssegru i Dduw yn gwbl, eneidiau, a chyrph, iw wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau eu bywyd.
Cymmwysiad. Gan ein bod ni drwy fedydd wedi ein corpholi i deulu Duw, y mae yn dra rheidiol ini gymeryd gofal ar rodio yn deilwng o'r mawr-fraint hwn, ac i arwain buchedd sanctaidd ger bron y fath Sanctaidd Dduw. Dylai Christion dros holl ddyddiau ei fywyd ymegnio yn ddyfal i dalu 'r adduned a wnaeth efe yn ei fedydd, gan wrthwynebu a bwrw ymaith bob anwiredd, a rhodio yn addas ir Arglwydd, gan ryngu ei fôdd ef. A fedyddiwyd ti? O pa fath ryw ddŷn a ddylit titheu fod mewn pob rhyw sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb! Fe [...] hyn yr addunedaist i fod, ac fel hyn y gweddai bod pob vn o deulu Duw.
Gof. 48. Nwy yw y rhai a ddylid eu bedyddio?
Atteb. Dylid fedyddio y rhai a dybier mewn cariad eu bod o fewn y cyfammod.
Eglurh. Gan fod bedydd yn sêl o gyfammod [Page 185]Duw, y mae pob vn, ac sydd iddo hawl ir naill, a chanddo hawl ir llall. Am hynny ni wasanaetha gweinyddu 'r bedydd i neb ac sydd ddieithrol i gysammod y grâs, megis y mae pawb ac sydd allan o'r eglwys weledig, nes iddynt broffessu eu ffydd yn-Ghrist.
Am hynny nid yw bedydd iw roddi i neb onid ir sawl a broffessant ffydd Grist, ac iw plant hwy.
Y mae hyn yn wirionedd llesol, er bod rhai yn ei ammau. Canys rhoddwyd gorchymyn ir Apostolion i fedyddio cenhedloedd, ac arferent hwy fedyddio teuluoedd cyfain. Ac nid oedd vn genedl na nemawr o deuluoedd chwaith heb blant ynddynt. Ac heb law hyn y mae amryw resymau yscrythyrol a ddylaem ni eu ystyried ynghylch y peth hwn.
Y rheswm cyntaf a ellir ei gymmeryd oddiwrth helaethrwydd cyfammod Duw, yr hiun sydd yn cyrhaeddyd hyd at blant y ffyddloniaid. Canys pan osododd Duw y cyfammod rhyngddo ef ac Abraham, efe a ddywedodd, cadarnhaf fynghyfammod rhyngof a thi, ac â'th hâd ar dy ol di trwy eu hoesoedd. Gen. 17.7. A dywedodd yr Apostol Pedr wrth y rhai a broffessasant y ffydd Act. 2.39. I chwi y mae 'r addewid ac i'ch plant. Ac o ran helaethrwydd cyfammod Duw y mae 'r Apostol yn dywedyd am blant eu bod yn sanctaidd, o byddai vn o'u rhieni yn ffyddlon, er bod y llall yn anghredadwy. 1 Cor. 7.14. ac nid yw arferol eu cyfrif hwy yn sanctaidd cyn ieuanged, ond o ran eu bod hwy mewn cyfammod â Duw.
2. Ewyllys da Christ a amlygwyd tuag at blant a ddygwyd atto mewn breichiau, a'r fendith a roddes efe iddynt, a'i waith ef yn datcan eu [Page 186]bawl hwynt i deyrnas nefoedd, sydd yn awdurdodi rhoddi iddynt sêl y cyfammod. Math. 19.14.
Ac am y modd y cymmwyfir i eneidiau plant yr hyn a arwyddoccaer yn y bedydd, rhaid ini adel hynny i waith dirgel yspryd Duw, yr hwn sydd yr vn i blant, ac yw ffydd fywiol a weithir gan yr vn yspryd yn y rhai oedranus: Am hynny cyfreithlon y cynhelir yr arfer o fedyddio plant er amser yr Apostolion.
Cymmwysiad. I. Gan fod i blant gwir Gristianogion bawl i dderbyn bedydd, dylai rhieni duwiol fod yn ofalus ar eu gwneuthur hwy yn gysrannogion o honaw. O herwydd iddynt eu hynnill mewn pechod, a'u dwyn ir bŷd mewn anwiredd, dylaent fod yn ddiwyd iw dwyn hwynt at Grist, yr hwn yn vnic a ddichon lanhau eu heneidiau halogedig hwy oddiwrth bob aflendid pechod.
Ac o ran bod yr ordinhâd yn sanctaidd wedi ei threfnu gan Grist er mwyn eu llesad ysprydol hwy, rhaid yw ei gwneuthur mewn modd iawn. Sef yw hynny,
1. Mewn vfudd-dod i orchymyn Duw: ac nid yn vnic o ran cyfraith neu arfer ddynol. Nid all y rhai a arferant yr ordinhadau i ddibennion cnawdol ddisgwil gymaint cyssur oddiwrthynt, ac y gaent pe baent yn eu harfer yn amgenach.
2. Yn ddioed, gan fod ei dirmygu ai hesceuluso yn beryglus.
3. Gydâ pharch sanctaidd; gan ei bod yn rhan o addoliad Duw, wedi ei gorchymmyn ganddo ef.
4. Gydâ ffydd yn ei addewid grasusel, ar fod o honaw yn Dduw i ni ac i'n hâd.
Gydâ gweddi daer a gwresog ar i Dduw fendi [...]hio ei ordinhâd. Ar iddo gyssylltu 'r bedydd [Page 187]ysprydol oddifewn wrth y bedydd â dwfr oddi allan, a gwneuthur yr ordinhâd hwnw ir plentyn yn sêl o addewidion y cyfammod o râs.
6. Gydà diolchgarwch i Dduw: am iddo roddi Christ y pennaf o'i drugareddau i ni, a gwneuthur a selio i ni gyfammod o râs drwyddo ef, a bod yn rhyngu bodd iddo nid yn vnic ein derbyn ni ond ein heppil hefyd ir cyfammod hwnw, fel y byddai ini a nhwythau gael ein cydarwisco â'i drugaredd.
II. Y drugaredd hon a ganiatta Duw i'n plant, wrth eu dwyn i fewn cyfammod o râs, a esid rwymedigaeth gref ar rieni iw dyscu bwynt yn nirgeledigaethau 'r cyfammod, i adnabod Duw a Jesu Grist. ac iw dwyn hwynt i fynu yn ofn yr Arglwydd, yr hyn yw 'r peth goreu a'r a ellir ei wneuthur erddynt, a'r eglurhâd amlyccaf o gywir gariad iddynt ac o ofal am danynt.
III. Cyfarwydder y rhai a fedyddiwyd yn blant, ac a dyfasant mewn oedran a synwyr, pa fodd i wneuthur y defnydd goreu o'u bedydd. Er mwyn hynny,
Galwont iw cof yn fynech yr adduned a'r ammod a wnaethpwyd drosdynt wrth eu bedyddio; sef bod iddynt ymwrthod a diafol ac a'i holl weithredoedd, a rhodres a gorwagedd y bŷd, a thrachwantau 'r cnawd pechadurus, ac ymroddi i wasanaethu Duw.
2. Adnewyddont yr adduned a wnaethpwyd drostynt yn eu bedydd, gan eu rhwymo eu hunain mewn addewid ddifrifol i Dduw, ar ymadel a'u pechodau i fod yn weision ffyddlon iddo ef. Wrth dy fedyddio darfu ith rieni dy anthegu di i Dduw, ac y mae hynny wedi gosod rhwyme [...]igaeth arnati, bydded i titheu wedi dysod o [Page 188]honot i ddealltwriaeth ymroddi ir Arglwydd o wir fodd dy galon.
Ystyria ynteu, a hola dy galon dy hun, a ydwyti yn ewyllyscar i ymwrthod a gwasanaeth y cythrael, a'r byd, a'r cnawd, ac i'th roddi dy hun i Dduw, ac wyti yn rhoddi dy frŷd ar hynny. Adnewydda dy gyfammod â Duw, a bydd ofalus iw gyflawni. Nid yw anghymwys iti adnewyddu dy gyfammod a Duw â'th enau, neu a'th yscrifen, gan fynegi o flaen yr Arglwydd ar dy liniau dy gywir swriad i fod yn eiddo ef.
Ac er mwyn eich cyfarwyddo ym mhellach yn y dyledswydd hwn, gellwch gael hyfforddiad yn y llyfr a elwir
Gair i Bechaduriaid a Gair ir Sainct, yn y 12 pennod o honaw.
3. Ystyriwch pa fodd y cadwasoch yr addunedau a wnaethoch wrth eich be dyddio. Pa vn a wnaethoch ai gwrthwynebu diafol a'i holl brofedigaethau drwy weddio ac ymegnio yn eu herbyn, ai peidio. A ddarfu i chwi farweiddio eich chwantau pechadurus, ai gwanhychu, ai gorescyn?
4. Lle gwelwch ddarfod i chwi fethu, cyffesswch i Dduw, a chwynwch wrtho eich amryw ddeffygion, ach trosseddau. Ac wedi i chwi weddio a chael maddeuant am danynt, cymerwch ofal ar wilied arnoch eich hunain yn well dros yr amser i ddyfod. Ac ymegniwch fwyaf ac alloch i fyw o hynny allan yn gyfattebol ir addewidion a wnaethoch.
5. Yn fynech myfyriwch ar y dibennion en mwyn y rhai yr ordeiniodd Christ Sacrament y bedydd. Canlyn rhai o honynt. Megis,
1. I'n derbyn ni ir eglwys weledig. Act. 9.18. & 16.33.
2. I fod yn sêl o'n impiad ni ynGhrist, ac [Page 189]o'n cyfranniad o fendithion y cyfammod grasol.
3. I fod yn arwydd hynod o'n proffess Gristianogol, ddarfod ini roddi ein henwau i fod yn filwyr i Grist, i ymladd dan ei faner ef yn erbyn y cythrael, a'r bŷd a'r cnawd.
4. I fod yn rwymedigaeth arnom ni ar gyflawni o honom y dyledswyddau y mae ein Christianogaeth yn eu gofyn, y rhai yw credu 'r efengyl, a derbyn Christ ar yr ammodau a gynnygier yno, sef i fod ini yn offeiriad, yn brophwyd ac yn frenin, ac i orphywys arno ef yn vnic, a haeddedigaethau ei vfudd-dod gweithredol a dioddefgar, er mwyn caffel o honom faddeuant pechodau ac iechydwriaeth dragwyddol.
6. Gellir gwneuthur defnydd da o'n bedydd yn erbyn amryw brofedigaethau Satan. Pan fyddo efe yn ceisio gennym ni anobeithio o ran lliaws ac erchylldra ein pechodau, gallwn argumennu oddiwrth ein bedydd, yn yr hwn yr addawodd ac y seliodd yr Arglwydd ini faddeuant o'n pechodau er mwyn haeddiant gwaed Christ.
Felly hefyd pan in temptier i wneuthur rhyw bechod, cofiwn yr adduned a wnaethom i Dduw yn ein bedydd, yn yr hwn yr addawsom fod yn weision ffyddlon i Grist, ac ymladd dan ei faner ef yn erbyn y cythrael a'r bŷd a'r cnawd: a hynny drwy fendith Duw a ddichon ein cadw ni rhag ymroi i brofedigaethau. Y mae Luther yn son am forwyn a fai arferol o wrthsefyil profedigaethau â'r rheswm hwn, Fe am bedyddiwyd i, a chwedi fyngolchi yngwaed Christ, a ddychwelafi i frynti pechod, ac i dom oflendid? Yr un môdd dyweded pob vn o honom ni pan y ceisier ein llithio i ryw bechod, yr ydwyfi wedi fy medyddio, ac wrth bynny dan rwymedigaeth [Page 190]i ymwrthod a diafol ac a'i holl weithredoedd ef, ac o herwydd hynny ni wasanaetha imi na meddwi, na thyngu, na thorri 'r Sabbath: Ni wasanaetha i mi wneuthur yr anwiredd mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw, ir hwn y cyssegrais i fy hun yn fy medydd. Fel hyn y gallwn ni wneuthur defnydd llesol o'n bedydd lawer môdd, ac ar lawer o achosion.
Hyd yn hyn am y Sacrament cyntaf.
Canlyn traethiad ynghylch y llall.
Gof. 49. Beth sydd ini iw ystyried yn swpper yr Arglwydd?
Atteb. Ei enw, a'i natur.
Eglurh. Yr enw mwyaf arferol a roddir iddo yw Swpper yr Arglwydd.
Yn gyntaf, fo'i gelwir yn swpper o herwydd ei ryw, am fod y Sacrament hwn yn fath ar wlêdd, ac y mae 'r yscrythur yn rhoddi ini ysbysrwydd y byddid yn gwledda tua 'r hŵyr wedi darfod trafferthion y diwrnod, yn fynych ar swpper y byddai 'r wlêdd Luc. 14.16. Joan. 12.2. Datc. 3.20.
Y swpper ar yr hwn yr ordeiniodd ein Achubwr y Sacrament hwn, oedd y prŷd olaf a gymerth efe o flaen ei farwolaeth, Math. 26.29. O herwydd hynny gelwir ef yn swpper er coffadwriaeth o'r môdd a'r amser y gorchymynwyd ef.
Yn ail, fo'i gelwir yn swpper yr Arglwydd,
Am ir Arglwydd Jesu ei ordeinio.
Ac oblegyd yr arferir ef er coffadwriaeth o'n Arglwydd.
Ac o herwydd bod yr arwyddion gweledig ynddo yn gosod allan gorph a gwaed yr Arglwydd Jesu.
Dichon ammau godi yma ynghylch rhai amgylchia dau perthynol ir Sacrament hwn. Megis [Page 191]am y prŷd, a ellir ei gymeryd ef ar neb ryw amser arall o'r dydd onid yn vnic ar brydnawn; oblegyd i Grist ei ordeinio ar Swpper.
Tuag at hyn ystyriwn fod y gorchymyn yn bendant am ei wneuthur ef. Gwnewch byn. 1 Cor. 11.24. Ond nid oes grybwyll am bennodi 'r awr o'r dydd, ai cyn ciniaw, ai cyn swpper, neu ar swpper y gwneler ef. Yn amser yr Apostolion dechreuodd rhai gamarfer y wlêdd a wneid yn yr eglwys pan ymgasclent ynghyd i dderbyn y Sacrament hwn 1 Cor. 11.21. Ac yn y cerydd a rydd yr Apostol iddynt, gwelwn ef yn fwy gofalus ar iddynt fod o foddion cymmwys iw dderbyn ef, nag am yr amser o'i wneuthur ef. Felly hefyd nid rhaid i neb ymrwystro ynghylch y lle iw gymmeryd ef ynddo, o ran i'r prif Gristianogion ei gymeryd mewn ystafell; nac ynghylch ymddygiad y corph ynddo am y byddo gweddaidd. Os bydd calon rasol barodol yn y derbyniwr, ni waeth pa vn a wnelo ai sefyll, a'i gogwyddo, ai eistedd. Nid yw Christianogion wedi eu rhwymo yn gaeth ym mhob peth bychan oddiallan nad ydynt o sylwedd yr ordinhâd.
Gof. 50. Beth yw swpper yr Arglwydd?
Atteb. Swpper yr Arglwydd yw Sacrament o'n ymborth ysprydol, yn yr hwn drwy dderbyn bara a gwîn yn ol ordinhâd Christ, y mae 'r derbinwyr ffyddlon yn ymborthi ar Grist drwy ffydd, ac wrth hynny yn cynyddu mewn grâs.
Eglurh. Yn y geiriau hyn y gosodir allan natur swpper yr Arglwydd. A hynny,
[Page 192]Yn gyntaf, mewn modd cyffredinol yn yr ymadrodd hwn, Sacrament o'n ymborth ysprydol, i nodi 'r rhagor rhyngddo ef â bedydd, yr hwn yw 'r Sacrament cyntaf, perthynol i'r ADENEDIGAETH, ond Swpper yr Arglwydd sydd berthynol i'n ymborth ni.
Yn ail, drwy ystyried yn enwedigol yr arwyddion gweledig, y rhai ydynt fara a gwîn.
Yn drydedd, y pethau a arwyddoceir drwy 'r bara a'r Gwîn yn swpper yr Arglwydd yw Corph a Gwaed Christ. A hynny a ymddengis, o herwydd i Grist wrth ordeinio 'r Sacrament hwn, ddal y bara yn ei law, a dywedyd, Hwn yw fy nghorph, ac wedi iddo gymmeryd y cwppan efe a ddywedodd, Hwn y [...] fy ngwaed a dywelltir tros lawer, Matth. 26.26, 27, 28. sef mewn dirnad ysprydol. Megis pe dywedasai, yr Bara a'r Gwin hwn sydd mewn môdd o debygoliaeth yn dangos, ac wrth fy ordinhâd yn selio i chwi fûdd fy nghorph a'm gwaed. Ordeinwyd y Bara a'r Gwîn yn arwyddion i'n siccrhau ni y bydd ini wrth eu derbyn hwy mewn môdd dyladwy, gael bod yn gyfrannogion hefyd o'r pethau a arwyddoceir drwyddynt, sef Christ ei hun.
Ond craffwn yma yn ofalus nad ydys yn swpper yr Arglwydd yn newid y Bara a'r Gwîn, nac yn ei troi yn Gorph naturiol Christ fel y dywed y Papistiaid; Canys gwrthun yw 'r Opiniwn hwnw, â gwrthwynebus ir yscrythyrau, ac i wyddorion Philosophi, ac i synwyr naturiol, ac i naws Sacrament.
Y mae 'r yscrythyrau yn dywedyd y rhaid i'r nefoedd dd [...]rbyn Christ hyd amseroedd adferiad pob peth, Act. 3.21.
Y mae Philosophi yn dywedyd fod i bob gwir gorph gyfran fesurol, ac nas gall fod onid mewn vn man ar vnwaith. Am hynny nid yw [Page 193]debygol wrth reswm fod corph Christ mewn llawer o fannau ar vnwaith, megis y mae, neu y gall fod llawer o'r arwyddion Sacramentawl yn cael eu cyssegru a'u cymeryd ar vnwaith mewn llawer man.
Y mae synwyr naturiol yn dywedyd mae Bara a Gwîn yw 'r arwyddion yn y Sacrament, a hynny sydd ddigon amlwg in golwg ni, ac i'n archwaith, ac i'n arogliad ac i'n teimlad. Ni chamgymmer ein synhwyrau ni mo'u gwrthrych priodol, sef y pethau bydol ac sydd naturiol iddynt eu gweled a'u blasu, a'u arogli a'u archwaethu, a'u teimlo. Onid ê nid allau dynion fod siccr o ddim yn y bŷd.
Hefyd y mae tyb y Papistiaid yn erbyn natur Sacrament. Yn yr hwn y mae bob amser arwydd gweledig yn arwyddoccau peth dirgel. Os y bara a'r gwîn wedi eu cyssegru sydd wedi eu troi yn Gorph a Gwaed Christ, pa le y mae vn arwydd? Ac onid oes arwydd, pa le y mae Sacrament? Nid all fod Sacrament lle ni bo arwydd, ac nid yw 'r bara a'r gwîn yn arwyddion, os ydynt wedi eu troi ir peth a arwyddoceir.
Ond er gorfod gwrthod y gau opiniwnau ynghylch transubstantiatio, sef troad y naill hanfod ir llall; ac ynghylch Consubstantiatio, sef, assiad o'r ddau sylwedd ynghyd; etto ni wadwn ni nad yw 'r ymadrodd hwn, Hwn yw fy nghorph, yn arwyddoccau gwir bresennoldeb Christ yn y Sacrament, mewn modd ysprydol. Canys y mae Duw yn cynyg yn y Sacrament nid yr arwyddion yn vnig, ond rhoddir yr hyn a arwyddoceir hefyd ir enaid ffyddlon ai derbynio drwy ffydd. Y mae y rhai a dderbyniant swpper yr Arglwydd yn deilwng, yn ymborthi ar gorph a gwaed Christ, nid mewn modd corphorol, ond mewn modd ysprydol o'r siccraf, tra fyddont drwy [Page 194]ffydd yn derbyn Christ a groeshoeliwyd, ac yn ei gymmwyso ef iddynt eu hunain, gydâ llesâd ei farwolaeth a'i ddioddefaint.
Yn bedwerydd, y mae ini ystyried yn swpper yr Arglwydd y g weithrediadau oddiallan: Set y cyfryw ac a wneir gan y Gwenidog, a chan y bobl.
Yn gyntaf, y mae 'r Gwenidog wrth adrodd geiriau 'r ordinâd a lefarodd ein Achubwr, ac wrth weddio Duw am fendith, yn cyssegru 'r arwyddion sef y Bara a'r Gwîn iw arfer yn ysprydol.
Yna y mae 'r Gwenidog yn cymeryd y Bara ac yn ei dorri, yr hyn sy 'n arwyddocau dioddefiadau Christ. Canys medd efe, hwn yw fy nghorph a dorrir drosech. 1 Cor. 11.24. Ac medd Esay pen 53.5. Efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni.
Wedi torri 'r Bara a thywallt y Gwîn y mae 'r Bugail ysprydol yn eu rhoddi hwy ir derbyn-wyr, iw siccrhau fod Duw yn rhoddi Christ i bob derbyniwr teilwng. A hynny nid yn vnic mewn modd cyffredinol drwy ei anson ef ir bŷd i ddioddef dros bechaduriaid, ond mewn modd neilltuol gan ei roddi i bob vn iw gymeryd i mewn atto, er llesâd anhraethol.
Dywed y gwenidog wrth roddi y Bara a'r Gwîn, cymmerwch, bwyttewch ac yfwch, wrth yr hyn y gallwn ddeall y dylaem ni gymmeryd Christ i'n mewn, iw wneuthur ef yn eiddom ni, fel y byddo ini fyw drwyddo ef.
Y mae 'r Bobi yn bwytta 'r Bara ac yn yfed y Gwîn, ac wrth hynny yn dangos eu cydsynniad i dderbyn Christ drwy ffydd, megis y tywalltodd efe ei waed yn aberth drosdynt. Drwy ffydd y derbynir yr hyn a arwyddoceir i borthi 'r enaid, cyn wired ac y derbynir yr arwyddion iborthi 'r corph.
Yn bummed, gosodir allan y modd yr ydym [Page 195]yn gyfrannogion o Gorph a Gwaed Christ, sef drwy ymborthi arno ef drwy ffydd. Pan fo'm ni yn cymmwyso Christ a'i drugareddau oll igysur ein eneidiau yr ydym yn ymborthi arno. Gallwn ein siccrhau ein hunain y cyfrifir ni yn gyfiawn ger bron Duw drwy ei gyfiawnder ef, ac ini gael ein gwaredu oddiwrth farwolaeth dragywyddol drwy ei farwolaeth ef: Iddo ddwyn ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, ac offrwm ei fywyd yn aberth ddigonol, ac yn iawn cyflawn i gyfiawnder Duw dros ein pechodau ni.
Yn chweched, y diben, o herwydd pa vn y mae ini fod yn gyfrannogion o'r ordinhâd hwn, yw ein ymborth ysprydol, a thwf mewn grâs. Ni ordeinwyd ef yn hâd bywyd i genhedlu, onid yn hytrach yn gynhaliaeth bywyd, i'n cry fhau: Nid i droi rhai pechadurus, ond i adeiladu y rhai a drowyd. Y mae 'r Gair wedi ei ordeinio tuag at ein troi ni, a'n adeiladu; ond y Sacrament sydd i'n adeiladu yn vnic, ac i beri ini gynyddu yn grâs Duw. Joan. 6.5.5. Fy nghnawd i sydd fwyd yn wîr, a'm gwaed i sydd ddiod yn wîr. Hynny yw, y mae yn fwyd ysprydol, ac yn ddiod ysprydol yn ol ymadrodd yr Apostol, 1 Cor. 10.3, 4.
Cymmwysiad. Gan fod Ordinhâd swpper yr Arglwydd wedi i Grist ei drefnu, nid yw beth wedi ei adel yn rhydd i'n ewyllys ni, para vn a wnelom ai arfer ef ai peidio; eithr y mae efe yn ddyledswydd rheidiol, yr ydym ni rhwymedig iw arfer mewn vfudd-dod i Grist, yr hwn ai gosod odd yn rhan o'i addoliad, ac yn goffadwriaeth parhaus o'i fawr gariad ef yn marw drosom ni, ac yn sêl o'i gyfammod grasusol. Yn ddiau y maent hwy yn eu dangos eu hunain yn ddirmygwyr o addoliad Duw a'i gyfammod, y rhai ydynt o'i gwirfodd ym gwrthod, neu o ran diofalwch yn esceuluso bod yn gyfrannogion, o honaw, pam gas [...]onu [Page 196]wahodd ac achlysur i hynny.
Er mwyn gwneuthur hyn yn fwy defnyddiol a llesol i chwi, myfi a osodaf ar lawr rai rhesymmau i'ch annog chwi i arfer yr ordinhâd hwn yn gydwybodus, ac yna mi roddaf attebion i'r escusodion a rydd rhai drosdynt eu hunain am ei esceuluso ef.
Y Rheswm cyntaf yw hwn, y dylaem ni adnewyddu ein cyfammod â Duw yn fynech; ac am hynny y dalaem fod yn gyfrannogion o swpper yr Arglwydd yn fynech, o ran ei fod yn a [...]lysur rhagorol i hynny. Megis yr ydym ni ynddo yn derbyn arwydd oddiwrth Dduw, drwy ba un y mae efe yn ymrwymo i fod yn Dduw i ni, i faddeu ein pechodau, i roddi ini 'r yspryd Glân, i'n cyfiawnhau ac i'n sancteiddio, ac i'n hachub yn y diwedd drwy haeddedigaethau dioddefaint Christ: Felly y dylaem ninnau hefyd y pryd hynny adnewyddu ein cyfammod ar ein rhan ninnau, ac ymrwymo o newydd i fod yn bobl cyfammodol ag ef i adel ein pechodau gynt, ac iw wasanaethu ef am yr amser i ddyfod mewn newydd-deb buchedd, ac ufudd-dod gwell.
Yr ail rheswm. Yn swpper yr Arglwydd y mae ymborth ysprydol ein eneidiau, drwy 'r hwn ein cryfheir mewn bywyd a grâs iechydwriaeth dragywyddel. Ac megis y lleihâ ein nerth corphorol, oni chymerwn ein lluniaeth beunyddiol. felly y gwanhycha ein bywyd ysprydol ni, onid ymlonnwn ni yn fynech ar Grist drwy ffydd yn y Sacrament.
Y trydydd rheswm a dynnir oddiwrth y mawr llês a ddigwydd ini wrth dderbyn swpper yr Arglwydd yn deilwng. Canys wrth hynny y cryfheir ein undeb ni â Christ fwyfwy.
Nerthir ein ffydd ni befyd. O herwydd i Dduw roddi ei sêl, sef y Sacrament wrth y cyfammod o râs, nid oes lê i ammau na [Page 197]bydd efe yn gystal â'i air. Canys y mae 'n ammhossibl na bo Duw yr hwn sydd wirionedd, yn siccr yn ei addewidion, yn enwedig pan fyddo fel hyn wedi ei selio a'i gadarnhau.
Cryfheir ein siccrwydd ni o faddeuant ein pechodau, yr hyn yw 'r cysur mwyaf, ac allwn ni ei gael yn y bywyd hwn. Canys drwy 'r Sacrament a dderbynier yn iawn, y mae Duw o'r nefoedd yn selio ini ei fod ef drwy haeddedigaethau Christ yn maddeu ein holl bechodau ni, cyn wired a'n bod ni yn gyfrannogion o'r ordinhâd honno.
Y pedwerydd rheswm a ellir ei dynnu oddiwrth fwgythion Duw yn ei air yn erbyn ei esceuluswyr. Num, 9.13. Ni a ddarllenwn o bai i neb (heb achos cyfiawn yn ei rwystro, beidio à chadw 'r pasc, y torrid yr enaid hwnw ymmaith o fvsc ei bobl. Ynteu ofnadwy yw 'r gosp a'r farnedigaeth a allant hwy ei disgwyl, y rhai ydynt o amser i awsser o ran diofalwch yn esceuluso bod yn gyfrannogion o swpper yr Arglwydd, yr hwn a ddaeth yn lle 'r pasc.
Yr escusodion a wnaiff rhai am eu esceulusdra o honaw a galyn.
Dywed rhai nad ydynt hwy yn ddigon cymmwys ir fath vchel ordinhâd; ai bod yn ofni o ran hynny rhag a fyddai iddynt dynnu melldith arnynt eu hunain yn lle bendith.
Atteb, Y mae hyn yn gosod y naill bechod i escusodi 'r llall. Megis, y mae yn bechod iti esceuluso bod yn gyfrannog oswpper yr Arglwydd, felly y mae yn bechod arall iti na baech mewn mesur wedi dy gymmwyso a'th baratoi iddo. Rhaid iti ddyfod yn gymmwys ac onid ê ti a ddeui yn anheilwng; ond edrych na byddech yn peidio â [Page 198]dyfod, rhag gorfod o honot fyned ir boen i ymbaratoi, neu ymrwymo i arwain y fath fuchedd sanctaidd ac a ddylit wedi ei dderbyn. Y rhai fydd yn dysod yn ammharod sydd yn halogi 'r ordinhad hwn, a'r rhai sydd yn esceuluso ymbaratoi sydd yn gwneuthur cyfrif bychan o honaw.
Yn ail, y mae eraill yn ymescusodi o herwydd eu anheilyngdod, och y maent yn gwbl anaddas ir fath ordinhâd sanctaidd, ac ir fath wlêdd nefol.
Atteb. Os ydwyt mewn gwirionedd yn deimladwy oth anheilyngdod, ac yn ymddarostwng o'i blegyd, y mae hynny yn râdd dda o deilyngdod, ac yn ein gwneuthur ni yn gymmwysach i fod yn gyfrannogion o gorph a gwaed Christ a ddelir allan ini yn yr ordinhâd hwn. Pa anheilyngaf a fyddo 'r gostyngedic yn ei dŷb ei hun, teilyngaf a fydd efe yngolwg Duw.
Yn drydedd, y mae rhai a gwynant nad ydynt hwy mewn cariad perffaith a'u cymmydogion, a'u bod hwy o'r achos hwnw yn dal oddiwrth y Sacrament.
Atteb. Y mae hyn hefyd yn chwaneg [...] pe [...]hod at bechod. Ni ddysal neb adel ir haul fichludo ar ei ddigofaint, ond cymmodi a'i gymmydog yn ddioed. Ac os dywedi yr [...]wyllysiti gymmodi ac na fynn y llall hynny, aifera bob modd Christianogol iw dynnu er ith garu, a chwbl saddeua di iddo ef oth galon; ac yna os efe a wrthid gymmodi a thi, m [...]wn gweddi gynnes gwna 'r Arglwydd yn dyst o'th garedic fwriad, ac yna nesa at ei fwrdd ef,
Gef. 51. Beth yw dy edswydd pob vn a ddelo i fod yn gyfrannog o swpp [...]r yr Arglwydd?
[Page 199]Atteb. Dyledswydd pob vn a ddelo i fod yn gyfrannog o Swpper yr Arglwydd yw ei holi ei hun ynghylch ei wybodaeth a'i ffydd, a'i gariad, a'i edifeirwch a'i vfudd-dod newydd.
Eglurh. Y mae 'r atteb hwn yn cynwys y dyledswydd mawr sydd iw gyflawni gan bawb a ewyllysio gael cyfran o swpper yr Arglwydd yn deilwng, sef ymholiad.
Y dyledswydd hwn o ymholiad a orchymynnir gan yr Apostol, 1 Cor. 11.28. Holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan. Dylai pob Christion ei holi ei hun yn fynech, yn enwedic cyn ei fyned at fwrdd yr Arglwydd; y pryd hynny y dylai ei chwilio ei hun yn fanwl, a chymeryd gofal ar fod ganddo y grasau ysprydol a'r sydd reidiol ir sawl a dderbynio yn deilwng.
Yn gyntaf, edryched at y gwybodaeth a fo ynddo i ddirnad corph yr Arglwydd, megis y gosodir ef allan ini drwy 'r elfennau o fara a gwin. Canys yr hwn nid yw yn iawn farn [...] corph yr Arglwydd, sydd yn bwytta, ac yn yfed yn anheilwng, ie y mae efe yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun. 1. Cor. 11.29. Am hynny mae mawr achos ini i edrych pa fath wybodaeth a fo cennym ynghylch priffannau 'n crefydd, ac ynghylch athrawiaeth y Sacrament: sef ei bod gwedi ei hordeinio gan Grist ei hun, a hynny i fod yn goffadwriaeth gwastadol o'i fawr gariad ef yn offrwm ei fywyd yn aberth dros ein pechodau ni, ac yn sêl o gyfammod y grâs. Mai 'r arwyddion gweledig yw bara a gwin, bara wedi ei dorri, a gwîn wedi ei dywallt, y rhai sydd yn yspysu mi am gorph a gwaed Christ gydâ ei holl ddioddefiadau chwerwon [Page 200]er mwyn ein prynedigaeth ni. Fod pob cymmunwr teilwng yn gwir dderbyn Christ drwy ffydd gyd â llesâd ei farwolaeth a'i ddioddefaint. Rheidiol yw gwybodaeth am y pethau hyn, o herwydd nas gallwn hebddi iawn ddirnad corph yr Arglwydd.
Yn ail, rhaid ini chwilio pa fath fsydd a fo ynom. Canys y mae ffydd yn lle llaw, a safn, a chylla ir enaid, i dderbyn corph a gwaed Christ, ac i ymborthi arno. A hyn a ddengis reitied ini chwanegu ffydd at wybodaeth: canys er bod dyn drwy ei wybodaeth yn gallu dirnad corph a gwaed Christ dan yr arwyddion oddiallan, etto oni bydd iddo ef gredu yn Ghrist a'i gymmwyso ef at ei enaid, ni wnaiff ei wybodaeth iddo ef ddim llesâd: mwy nag y wna edrych ar Iuniaeth i ddŷn newynog, a fyddo heb gael bwytta o honaw.
Yn drydedd, Rhaid ini ein holi ein hunain ynghylch ein edifeirwch. Canys nid all neb ddyfod yn deilwng at swpper yr Arglwydd heb edifeirwch ddiragrith, sef yw hynny, oni bydd wedi galaru yn drwm o herwydd ei bechodau adnabyddus, a'u bwrw hwy oll ymmaith, a chwbl swriadu na ddychwelo efe attynt byth gwedi. A gwybyddwn yn siccr mai yn ol mesur ein edifeirwch y bydd ein llesâd drwy 'r Sacrament. Po mwyaf a so 'r boen a gymmerom ni yn darostwng ein heneidiau am ein pechodau, mwyaf a fydd y cyssur a allwn ni ei ddisgwyl oddiwrth yr ordinhâd.
Yn bedwerydd: rhaid ini ein holi ein hunain ynghylch ein cariad tuag at Dduw a thuag at ein cymmydog.
Cariad tuag at Dduw sydd reidiol ym mhob gwasanaeth Sanctaidd a wnelom er anrhydeddu Duw, yn enwedig yn swpper [Page 201]yr Arglwydd; ym mha vn y mae ei gariad Duwiol ef, yn rhoddi ei fâb i'n prynu wedi ei hegluro mor ogoneddus, a chwedi ei selio ini mor rasusol.
Cariad tuag at ein cymmydog hefyd sydd reidiol i bob vn a fynno gyfrannu yn deilwng. Yn Math. 5.23. Y mae ein Iachawdwr yn mynegu, nad yw Duw yn gwneuthur cyfri ô weithredoedd crefyddol, ll [...] ni bo cariad brawdol; mae ef gan hynny yn gofyn cariad brawdol, cyn i ni offrymu ein haberthau i Dduw.
V. Rhaid ini holi ein hunain o'n hufuddga [...]wch, heb yr hyn ni bydd ein derbyniad ni ond of [...]r a rhagrithiol. Megis y mae Swpper yr Arglwydd yn Sêl Dduw wrth y Cafammod ô Râs, yn hyspysu i ni ei ewyllysgarwch ef, i gyflawni y Cyfammod ar ei du ef: felly hefyd y mae ef, ar ein tû ninnau, yn Ysgrifen neu Weithred o rwymedigaeth, i'n rhwymo ni i roddi gwasanaeth ffyddlon, ac ufuddgarwch perffeith i Dduw: Ac ni y ddylem cyn fynyched ac y cyfrannom ni o'r Ordinhâd hwnnw, adnewyddu ein Gweithred i ufuddgarwch newydd, a holi ein hunain ynghylch gwirionedd a phûrdeb ein hufuddgarwch ni hyd yn hyn.
Gof. 52. Pa beth yw Gweddi?
Atteb. Gweddi yw iawn agoryd deisyfiadau y Galon i Dduw yn enw Jesis Grist.
Eglurh. Yn yr Atteb yma y gosodir allan,
1. Natur Gyffredin gweddi, yr hyn yw yspysu ac eglurhau i Dduw ddymuniadau ein calonnau. Dymuniad yw enaid Gweddi, ni wasanaetha yn vnig fod deisyfiadau trigfannol, ond rhaid hefyd eu gosod hwynt ar waith. Gweddio yw pan fo'm ni yn tywallt [Page 202]allan ein eneidiau, mewn dymuniadau bywiog am y pethau da yr ydym ni mewn eisiau o honynt, Esay 26.9. Etto nid yw 'r lleferydd gwedi ei gwbl gau allan, oblegid y mae yn reidiol yngwed [...] gyffredinol yr Eglwys; ac yn y neillduol ym mysg y teulu; ac a arferir yn y dirgel, i gynhyrfu ein defosiwnau, ac i gadw ein meddyliau rhag gwibio; trwy na wneir hyn, er mwyn cael ein clywaid gan eraill; yr hyn a ddengis ragrith mawr.
II. Gwrandawr ein gweddiau ni, yr hwn yw Duw; efe yn vnig yw yr hwn sydd yn adnabod ein calonnau, yr hwn sydd yn bresennol ym mhob lle, i wrando gweddiau ei bobl; hynny yw yn holl-alluog, yr hwn a all gyflawni yr hyn sydd yn eisiau arnynt, ac atteb iw holl ddeisyfiadau; am hynny y rhoddir y Titl yma i Dduw yn vnig, sef i fod yn wrandawr gweddiau, megis Psal. 65.2. Ti yr hwn a wrandowi weddi, attat ti y daw pob cnawd. Nid yw na Sainct nag Angel, na Chreadur arall yn wrandawr gweddiau, ond Duw yn inig. Rhaid ini gyfeirio ein gweddiau mewn trefn at Dduw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân; etto ni a allwn eu cyfeirio hwynt at bob vn o'r tri pherson.
III. Rhaid i ni offrymmu ein gweddiau i fynu yn enw Christ: Nid yw neb yn dyfod at y Tâd ond trwof fi, medd ein Iachawdwr, Joan 14.6. Ac medd yr Apostol. Ephes. 2.18. Oblegid trwyddo ef y mae ini ddyfodfa at y Tâd: Ac Jo. 16.23. Pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tâd yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi: medd Christ. Nid ydym ni yn offrymmu ein gweddiau i fynu yn enw Christ, drwy arferu dywedyd y geiriau yma yn ddiystyr Trwy Jesu Grist ein Hirglwydd: ond gweddio gan roddi [Page 203]ein goglud arno ef, drwy haeddedigaethau yr hwn yn unig yr ydym yn erfyn ac yn gobeithio cael ein gwrando.
Cymwys, Yr unig ddefnydd y wnaf fi o'r ddyledswydd yma o weddi; yw, ich cynbyrfu chwi at wastadol a chydwybodus gyflawniad o hono.
Byddwch wastadol ynddo, a hynny ym mhob math ar weddi; sef cyffredinol, neillduol, a dirgel.
Yn gyntaf, Deliwch sulw yn ddyfal ar yr amseroedd pwyntiedig i weddi gyffredinol yn y gynnulleidfa; oblegyd y cyfryw sydd fwyaf nerthol a gilluog.
Yn ail, Fo ddylid cyflawni gweddiau neilltuol mewn teuluoedd, yr hyn trwy fendith Dduw, y fydd yn foddion enwedigol iw dwyn hwynt i fynu yn ofn Duw.
Yn drydydd. Fo ddyleu feistraid a gweisi on a phawb ar y fo mewn dealldwriaeth offrwm i fynu e'u haberth foreuol a phrydnawnol o weddi a moliant i Dduw yn y dirgel, yn ol hyfforddiad ein Iachawdwr Math. 6.6. Pan weddiech dôs ith (tafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yr hwn a wel yn y dirgel, ac efe y dâl i ti yn yr amlwg. Yno y gellwch agor eich calonnau i Dduw, a dymuno ei hyfforddiad a'i fendith ef yn y cyfryw bethau ac nad ydynt gymwys iw mynegu o flaen eraill; ac yno y mae Duw yn fynych yn i ddatcuddio ei hun iw blant. Y ddyledswydd yma yw gwaith y gwir Gristion. Cyn gynted ac y trowyd Paul, efe a aeth i weddio ar ei ben ei hun, Act, 9.11. Wele y mae efe yn gweddio. Ac y mae yn ddiddadl nas gall na gwr na gwraig fod yn gadwedig heb alw ar enw yr Arglwydd, Rhuf. 10.12. Y mae efe yn drugarog ir rhai a alwo arno ef.
[Page 204]II. Fel y mae yn rhaid i ni fod yn ddiwyd yn nyledswydd gweddi, felly hefyd yn gydwybodys yn ei iawn arferu, i wneuthur hyn ni a ddylym,
1. Weddio trwy ffydd, trwy gredu ynGhrist y cawn ni ein derbyn, ac y canhiedir ein dymuniadau trwy ei haeddedigaethau ef, ac felly ymddiried ir Arglwydd am raslon Atteb trwyddo ef.
2. Etto mewn darystyngiad o'n ewyllys i Dduw, enwedigol am y trugareddau amserol, ac hefyd am fesurau bendithion ysprydol; Ac yn ddiammau y ffordd siccraf i gael ein ewyllys ni, yw gwneuthur ewyllys Duw yn eiddom ni.
3. Rhaid ini weddio yn wresog gan dywallt ein dymuniadau gydag ocheneidiau. Gweddi wresog yn unig sydd gymeradwy. Jaco. 5.16. Nid allwn ni fod bob amser o'r un gwresogrwydd meddwl, etto ni y allwn ymegnio yn erbyn trymder yspryd, a'n cynhyrfu ein hunain ir ddyledswydd, yr hyn y fydd yn arwydd fod Duw yn derbyn ein gweddiau ni, ac yn caniatau ein dymuniadau.
4. Rhaid ini weddio mewn g [...]styngeiddrwydd, drwy gyffesu ein annheilyngdod i ymddangos o fl [...]en Duw, ac i dderbyn dim da ganddo ef; ac yn deimladwy o'n gwendid yn ein dyledswyddau crefyddol oll. Fel y mae y Duw Mawr yn trigo yn y calonnau darostyngedig, felly y mae yn hoff ganddo ein gweled ni yn dyfod yn nês atto ef yn ddarostyngedig. Cedwch eich calonnau yn isel a rhoddwch eich pennau yn y llwch pan ddeloch yn nês at orseddfaingc grâs. O Gristianogion os mynnech un amser gael sicccrwydd eich bod yn wir Gristianogion, byddwch ddiwyd a chydwybodus yn y dyedswydd [Page 205]yma o weddi. Y mae eich holl grefydd chwi yn debygol i godi ac i [...]yrthio pan godoch chwi, ac y syrthioch [...]n y ddyledswydd yma o weddi, ac yn enwedigol yn yr un ddirgel. Os y chwi a'i esgluswch neu a'i cyflawnwch yn ddifatter, heb ymegnio i ymdrechu â Duw, a crochlefain i wresogi, ac i ddeffro eich calonnau, [...]id iw eich Crefydd chwi byth debig i ddyfod ir goreu. Y rhai y fyddant yn wagsaw wrth weddio, a fyddant felly yn ei holl ffyrdd bucheddol: a fynit ti fod dy Grefydd [...]di yn wir, edrych dithau am fod dy weddio yn weddio difrifol.
Mi y ddangosais i chwi gyflwr newydd [...]l y ffyddloniaid yn y bŷd yma, bellach [...]mi y ddangosaf i chwi eu cyflwr hwynt a'r e'u marfolaeth ac ar ol eu marw.
Gof. 54. Pa beth yw cyflwr y ffyddloniaid ar eu marwolaeth?
Atteb. Y mae eneidiau y ffyddloniaid yn myned yn union i'r nef, a'u Cyrph hwynt yn Cysgu yn eu beddau, megis yn eu gwlâu o orphwysfa.
Eglur. Yma y gosodir allan gyflwr eneidiau a Chyrph y ffyddloniaid ar eu marfolaeth.
1. Oblegid mae e'u heneidiau hwyntyn myned yn inion i'r nef: hynny yw, cyn gynted ac y bo y credadyn farw, y mae ei enaid ef yn myned i ogoniant. yr hyn fydd eglur i'r rhai y ystyriant y scrythyrau sydd yn calyn Luc. 16.22. Luc. 23.43. 2. Cor. 5.8. Phil. 3.23.
Dydd ein dattodiad ni, yw dydd ardderchawgrwydd ein eneidiau ni. Hwy a fyddant [Page 206]yn gyflawn ogoneddus yn ddioed. Er bod graddau mewn gogoniant; Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Etto caiff pob enaid gymaint o ogoniant ac a anno ynddo ef.
II. Y mae eu cyrph hwynt yn cysgu yn e'u bêddau, megis mewn gwlâu o orphwysfa. Y bêdd yn yr hwn y mae y rhai a gredasant yn gorwedd gwedi e'u marw, y elwir yn welu, Esau, 57.2. 2 Cron. 16.14. a'i marfolaeth yn Gŵsg, Deut. 31.16. 2 Sam. 7.2. Joan. 11.11. Y bedd sydd i orphwyso ynddo, yn llonydd heb ddim aflonyddwch, megis gwelu. fo elwir y bêdd yn welu yn fwy addas, o herwydd fo ddywedir am y rhai y orweddant ynddo, eu bod yn cysgu. Oblegid y mae y gwelu yn lle cyffredinol i gysgu, ac megis mewn cwsg, felly hefyd gwedi marw, y mae pobl yn gorphywys oddi wrth eu gwaith. Rhuf: 14.13.
Cymmwys. 1. Dysgwch oddi yma yr achos pa ham y mae llawer o bechaduriaid na newidient fywyd â'r seintiau, etto hwy y fyddent yn fodlon i newid e'u marfolaeth â hwynt; megis Balaam. Num. 23.10. Marw a wnelwyf o farwolaeth yr vnion, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntef. Nid yw hyn ond ewyllys gwag; yr hwn ni fydd byw yn gyfiawn, ni ddichon byth farw marfolaeth y cyfiawn. Os mynni di y naill, rhaid i ti gymeryd y llall, ond etto hyn yw ewyllys y rhai gwaethaf.
Nac ofned y rhai sy'n credu farw: bydd siccr dy fod yn wir gredadyn: cymer ofal nad wyt yn cam-gymeryd, drwy dybiaed dy fod yn gyfiawn pan wyt yn rhagrithiwr: Profa dy fod y wir Israeliad, yn yr hwn nid [Page 207]oes dim twyll, ac yno na ofna mor marw. Y mae Brenin Dychrynniadau, yn dyfod i'th ddwyn di at frenin y Seintiau, o hynny allan y byddi byth gyda 'r Arglwydd. Cysura dy hun a'r geiriau yma, a dod hwynt i fynu erbyn y dydd y delo loesau Angeu arnat ti.
Gof. 55. Pa beth yw cyflwr y ffyddloniaid ar ol marfolaeth?
Atteb. Cyrph y ffyddloniaid y gânt eu codi, a'u cymeryd gan Grist yn nŷdd cyffredinol y farn, a'u derbyn iw ffafor ef a mwynhau Duw yn gyflawn yn dragywydd.
Eglurh. Yma y cynwysir pedwar peth.
1 Y bydd adgyfodiad y Corph: Y Sein [...]iau a gyfodir i fywyd a gwnfyd tragwy [...]ddol. Joan. 5.28.29. Y mae 'r awr yn dyfod yn [...]r hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef, A hwy a ddeuant allan, y rhai a wnaethant dda, i adgyfodiad bywyd, ond y rhai a wnaethant ddrwg i adgyfodiad barn. Os gofyn neb fel y darfu i Nicodemus ar achos arall; Joan. 3.4. Pa fodd y dichon y pethau hyn fod? rhaid atteb, pa fodd y gall fod yn anhygoel nad all Duw, yr hwn a wnaeth bob peth, gyfodi 'r meirw hefyd? nid oes dim yn amhossibl gyda Duw.
Os gofyn neb ym mhellach, megis 1 Cor. 15.35. Pa fodd y cofodir y meirw? ac a pha ryw gorph y deuant? mi attebaf, â'r un corph ac oedd yn fyw yma ar y ddaiar. ( Job. 19.27.) y corph hwnw a gyfodir, ac a vnir ar vn enaid i dderbyn eu sancta [...]dd wobr.
[Page 208]II. Cyrph y rhai sy 'n credu a adgyfodir mew [...] gogoniant. Y mae yr Apostol yn gosod allan eu gogoniant hwy yn yr ymadrodd cyffredinol hwn, Phil. 2.21. Hwy a fyddant yn debig i ogoneddus Gorph Christ; ond yn fwy enwedigol, 1 Cor. 15.42. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyf [...]dir mewn anllygredigaeth: Efe a heuir mewn ammarch, ac a gyfodir mew [...] gogoniant: efe a heuir mewn gwendid ac a gyfodir mewn nerth; efe a heuir yn gorph anianol, ac a gyfodir yngorph ysprydol.
III. Fo fydd barn Giffredinol, pan berchenoga Christ y rhai a gredasant, eu bo [...] hwy yn eiddo ef, ac efe a'i rhyddhâ odd wrth e'u pechodau, a'i pûrdeb hwynt a fydd hynod i bawb.
Gwedi ir Angylion gasclu y Seintiau a'i dwyn at Grist, hwy a ymddangosan [...] mewn llawenydd o'i flaen ef, ac yno efe a'i derbyn hwynt, ac a eglurhà eu sanctaidd ufuddgarwch hwynt yngolwg yr ho [...] fŷd, ac yn enwedig yr holl gariad a ddangosasant hwy iddo ef, neu ir eiddo; ga [...] ddywedyd wrthynt hwy, Deuwch chwi fend [...] gedigion fy nhâd, meddiennwch y deyrnas a b [...] rattowyd i chwi er dechreuad y bŷd; pan oeddwn yn newynog, chwi a roesoch i mi fwyd pan oeddwn sychedig, chwi am diodasoch, bum noeth a chwi am dilladasoch, & c.
IV. Ar ol yr adgofodiad, y rhai a gredasant a gant eu bendithio, â llawn fwynhâd o Ddu [...] yn dragwyddol: Y mae llawn fwynhâd Dduw yn arwyddocau,
1. Eu preswylfod ym mhresennoldeb Duw.
2. Eu preswylfod yn ei gariad ef.
3. Eu dedwyddol weled [...]gaeth, trwy fod y [...] gweled y gogoneddus Dduw wyneb yn wyneb: [Page 209]ynghyd â ffrwyth y weledigaeth fendigedig honno, sef digonedd Psal. 17.15. Myfi a edrychaf ar dy wyneb mewn cyfiawnder. digonir fi pan ddihunwyf a'th ddelw di. Psal. 16.11. digonolrwydd llawenydd syddger dy fron. Dyma ddedwyddwch y rhai a gredant, ac yn y dedwyddwch yma y parhâant yn dragywydd, lle y bydd tragwyddol foliannu ac addoli, ac Halelujau iddo ef, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac ir Oen yn dragywydd. Amen.
Cymmwys. Dyma air ir rhai ni chredant. Pa beth yw deisyfiad pennaf eich eneidiau chwi? A ydych chwi am ogoniant tragwyddol, neu am ddifyrrwch pechod dros amser? Yr wyf fi yn tybied y dyleu rai o honoch or lleiaf ddywedyd, ymmaith â chwantau pechadurus y bŷd, gydâ holl chwantau pechadurus y cnawd, ni byddwn ni mwyach yn gaeth-weision i'r Cythrael, eithyr yn weision i Jesu Grist; efe a fydd ein Offeiriad, a'n Iachawdwr ni, ein Harglwydd a'n Brenin hefyd. Os hyn yw ewyllys eich eneidiau, yna cymerwch genad â'ch hyfrydwch pechadurus, a'ch cymdeithion gwâg, a byddwch ddyscyblion i Grist, ac efe a'ch tywys chwi i'r bryn sanctaidd, ac ach dwg i'r nef.
2. Gair i'r rhai y gredant, y chwi y rhai a ddiengasoch allan o'r Aipht, ac ydych yn niffaethwch eich ymdaith tua Chanaan ewch i fynu i ben Pisgah, ac edrychwch ar ogoniant y wlâd fendigedig honno, lle yr ydych yn cyfeirio. A ydyw eich trysor chwi yn y nefoedd? bydded eich calonnau chwi hefyd yno. A ydyw eich calonnau chwi yn y nefoedd? bydded eich golugon chwi yno hefyd. Edrychwch beunydd ar y gogoniant, yr hwn sydd tan y llenn. Byddwch fyw beunydd [Page 210]mewn myfyrdod hoff or dedwyddwch i ddyfod. Golwg o'ch cartref, a'ch gyr chwi ym mlaen yn galonnog yn eich taith tuag atto.
[Page 211] Gan ddarfod i mi egluro pyngciau ein crefydd Gristianogol, myfi a ddibennaf y Catecysm yma â byrr eglurhâd o'r deg gorchymyn, a Gweddi 'r Arglwydd.
Gof. 56. Pa sawl Gorchymyn sydd?
Atteb. Y mae deg Gorchymmyn, y rhai sydd yn cynwys swm y Gyfraith foesol.
Egiur. Yn yr Atteb yma yr adroddir dau beth.
1. Fod deg Gorchymmyn.
2. Y Cynwysir swm y gyfraith foesawl ynddynt.
Am y cyntaf, yr ydym yn darllen yn eglur fod deg Gorchymmyn, yn Deut. 4.13. lle y mae Moses gan lefaru wrth yr Israeliaid, yn dywedyd, Duw a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynnodd efe i chwi iw wneuthur, sef y deng air; ac a'i scrifennodd hwynt ar ddwy lech faen. Yma y rhennir y gyfraith yn ddêg Gorchymmyn, y rhai gan hynny a elwir yn y Groeg Decalog.
Y dêg Gorchymmun yma a adroddwyd ac a gyhoeddwyd yn gyntaf gan Dduw ei hun, a holl Israel a'i clywsant, gyda tharanau a mellt yn cyhoeddi Maurhydi Duw, a hwy a scrifenwyd â bŷs Duw ar lechau o gerrig. Ar ol hyn y gwelodd Duw yn dda draethu i Moses y gyfraith ddefodol a barnol [...]w deuall hwynt yn well, deliwch sulw ddarfod i Dduw trwy Moses roddi i bobl Israel ar fynydd Sinai, dair math a'r gyfraith, sef Moesawl, crefy ddol, a barnol.
Cyfraith foesuwl a roddwyd i egluro dyledswydd, a phechod, ac iw rhwymo hwy i'r naill, ac yn erbyn y llall, ac yr vn peth yw gan mwyaf a chyfraith Natur.
[Page 212]II. Y gyfraith Grefyddol, ydoedd yn yspysu am Grist y prynwyr, ac ocdd yn hyfforddiad o addoliad dduwiol, yn cynwys yr amryw ordinhadau a roddes Duw iw bobl Israel, iw cyflawni yn ddyfal ganddynt. A hynny,
Er mewn eu hattal hywnt trwy y fath liaws o ddefodau rhag math arall yn y byd a'r addoliad or eiddynt eu hunain, Rhoddes Duw iddynt ddigon, nid oedd raid iddynt wrth fwy.
2. Er mwyn eu tynnu hwynt oddi wrth y defodau perthynol ir eulun-addoliaeth a ddyscasent hwy gan yr Aiphriaid, neu a allent eu dyscu gan y Cananeaid. Duw yr hwn a roddes y rhain iddynt, a'i rhwymodd hwynt iw harfer hwy yn unig.
3. Er mwyn darlunio iddynt hwy y pethau a'r oedd Christ iw gwneuthur ai dioddef, iw gwaredu hwynt.
III. Y Gyfraith farnol, oedd yn perthyn i ddinasol reoliad yr Iddewon, ac oedd yn briodol yn inig iddynt hwv.
Y Gyfraith ddefodol yr hon oedd yn perthyn i'r Iddewon a ddiddymwyd pan fu farw Christ.
Y Gyfraith farnol, yr hon oedd briodol ir Iddewon megis ac yr oeddent yn deyrnas neilltuol, ydoedd iw dirymmu hefyd ar ddyfodiad Christ. Oddieithr y cyfryw geing ciauo honi ac ocddent yn tyfu oddiwrth vniondeb cyffredinol i bawb, a rheini sydd etto yn parhau mewn grym i reoli pawb.
Y Gyfraith foesawl sydd fyth yn parha [...] mewn grym, ac wrthi hi y mae yr hol [...] gynhedloedd iw rheoli, a hynny hyd ddiwedd y byd: a hon vw 'r Gyfraith a drefnodd Duw ar y cyntaf i ddŷn i fod yn rh [...]o [...] o'i vfydd-dod ef.
[Page 213]Duw a roddes i Adda, fel yr oedd ef yn ddyn cyffredin, ac yn gyff-âch dynol ryw, orchymmyn enwedigol, na fwyttae o Ffrwyth pren gwybod éth da â drwg, i brofi ei vfuddgarwch ef: ac hefyd Gyfraith am vfuddgarwch hollawl, gwedi ei scrifennu yn ei galon ef, yr hon drwy i godwm ef a ddileuwyd yn resynol, etto y mae gan holl ddynol ryw ddarnau o honi yn parhau yn e'u calonnau, yr hyn sydd yn gwneuthur y Ce [...]hedloedd y rhai nad oes ganddynt y Gyfraith scrifennedig, yn ddiesgus am e'u troseddiadau, megis y gwelir, yn Rhuf. 2.14, 15.
Pan ddileuwyd y Gyfraith ac y tywyllwyd mor resynol ynghalon dyn wrth ei bechaduriaeth, hi a gyhoeddwyd drachefn gan Dduw i bobl Israel ar fynydd Sinni, trwy weinidogaeth Moses, yr hon oedd yr vn mewn sylwedd ac a scrifenwyd ynghalon Adda, yr hyn sydd yn fy arwain i at yr ail rhan yn yr atteb.
II. Y cynhwysir swm y Gyfraith foesawl yn y deg gorchymmyn: Yr hyn sydd yn eglur, os ystyriwn ni e'u hŷd hwynt, oblegid nid oes vn màth ar ddyledswydd moesawl, ond yr hyn a erchir yma: pob dyledswyddau o fancteiddrwydd tu ag at Dduw, pob dyledswyddau o gyfiawnder tu ag at ddyn, pob dyledswyddau o sobrwydd tu ag at ddyn ei hun, a phob mâth a'r bechodau gorthwynebol i'r rhain a gynhwysir yn y Gyfraith foesawl: ni roddes Christ gan hynny na dyledswyddau na chifraith newydd, eithyr efe a esponiodd yr hên, fel y galleu eu gogoniant a'u glendid fod yn fwy eglur.
Cynwys. Gan weled y cynhwysir swm y Gyfraith foesawl yn y dêg gorchymmyn, ni a [Page 214]ddylaem ddyfal astudio arwyddocâd y gorchmynion, gan geisio dirnad a chwilio eu helaethrwydd hwynt. I'n hannog ni i hyn, gwybyddwn fod y gorchmynion yn reidiol ini Gristianogion tan yr Efengyl, a hynny mewn bagad o ffyrdd.
1. I ddatguddio yr amlder hwnnw o bechod, ac o anwiredd sydd ynghalonnau dynion wrth naturiaeth, Ruf. 7.7. Trwy 'r Gyfraith y mae adnabod pechod.
2. I'n hargyoeddi ni o'n cyflwr gresynol o herwydd pechod. Oblegid nid ydym ni yn unig trwy'r Gyfraith yn gweled ein pechod, eithyr ein trueni hefyd, ac mor noeth ydym i ddigofaint Duw, a melldith y Gyfraith; oblegid melldigedig yw pob vn nid yw yn aros yn yr holl bethau a scrifennir yn llyfr y Ddeddf iw gwneuthur hwynt, Gal. 3.10.
3. I'n gyrru ni allan o bob tŷb o'n cyfiawnder ein hunain at Grist, a'i gyfiawnder, am fywyd a iechydwriaeth. Oblegid pan fo'm ni yn gwybod mor fyr yr ydym o'r cyfiawnder perffaith hwnnw y mae 'r Gyfraith yn ei ofyn, gan suddo mewn anobeith, o'n gwaredu ein hunnain, nyni a annogir wrth hynny i redeg allan o honom ein hunain at Grist am gysiawnder a bywyd.
4. I'n hyfforddi ni yn ffyrdd sancteiddrwydd, a chyfiawnder, a'n rhwymo ni iddynt. Oblegid gwedi i'r Gvfraith ein gyrru ni at Grist, y mae ystyriaeth am awdurdod Duw y sydd yn peri i ni, a theimlad o'i gariad ef i'n heneidian ni, yn rhoddi ei fab i farw i'n gwared ni, yn ein cymmell ni i vfuddgarwch: ac yno y mae v Gyfraith yn ein cyfarwvddo ni i wneuthur v pethau a ryngant fodd Duw.
N [...] thybied neb ei fod ef, trwy ddyfodiad Christ, neu ei ffvdd ynddo ef, vn rhydd oddiwrth awdurdod y Gyfraith. Gwir yw, [Page 215]fo ddywedir ddarfod i Grist Gwblhau y Gyfraith ac felly y gwnaeth: Efe a gwblhâodd ac a ddiddymmodd y Gyfraith Grefyddol; ac a gyflawnodd ac a gadarnhâodd y Gyfraith foesawl, Rhuf. 3.31. A ydym ni yn gwneuthur y Ddeddf yn ddirym trwy Ffydd? na atto Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau y ddeddf. Tra fo'm ni gwedi ein gwaredu oddi wrth awdurdod damnedigaeth y Gyfraith, etto yr ydym yn cael ein dal tan awdurdod ei gorchymmun hi. Er i Dduw roddi heibio ei ddigofaint drwy Grist, etto ni rydd ef mo'i awdurdod i [...]wr.
Fel y galloch ddeall yn well arwyddocâd a hŷd y gorchymynion deliwch sulw ar yr hyfforddiadau yma sydd yn calyn.
1. Gwybyddwch fod y Gyf [...]aith yn ysprydol, Rhuf. 7.14. Nid yw hi yn cyrredd yn unig at y dŷn oddi allan, ond hesyd at ysprydoedd dynion, a'i meddyliau oddi mewn. y mae eilun-addoliaeth, a lladdiad, a godineb yn y galon, yn gystlad ac oddi allan.
Yn ail, Lle y mae rhai gorchmynion yn peri, [...]a'r lleill yn naccau: gwybyddwch, mai lle y bo dyledswydd yn orchymmynnedig, y bydd y pechod a so o'r gwrthwyneb iddo yn waharddedig, a lle bo pechod yn waharddedig, bydd dyledswydd o'r gwrthwyneb yn orchymmynnedig.
Yn drydydd, Y mae pob gorchymmyn yn cyrhaeddyd hyd at eithaf pob dyledswydd a chamwedd. Lle y gorchmynnir vn ddyledswydd, gosynnir yno bob dyledswydd o'r vn rhyw, Mat. 5.44. o'r tû arall lle y gommeddir vn pechod, gommeddir pob pechod o'r vn rhyw. Fel hyn wrth wahardd eulun-addoliaeth, y gwaherddir ofer goelion, a rhagrith, a phob math ar addoliad gau. Ac [Page 216]wrth wahardd godineb, y gommeddir pob math ar aflendid gyda dynol ryw, neu anifeiliaid. Je y mae yn gwarafun y grâdd lleiaf o'r fath bechodau, a phob serch iddynt, neu dueddiad meddwl tuag attynt.
Yn bedwerydd Lle y gorchymynnir rhyw ddyledswydd, gorchymmynnir yno hefyd y moddion a'r sydd iw hyfforddi: Ac lle y gwaherddir rhyw bechod, gwaherddir yno hefyd bob achlyfur a phob peth a'r a allai ein llithio ni iw wneuthur.
Yn bummed, y mae pob gorchymmyn yn gofyn gennym ni ar fod i ni ei gadw [...]f ein huuain, ac ar ini wneuthur ein goreu i beri i eraill ei gadw ef hefyd. y rheol hon a dynnir allan o'r pedwerydd Gorchymmyn, lle y dywedir, y seithfed dydd yw Sabboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na'th fâb, na'th ferch, na'th Wasanaethwr. A'r vnrhyw beth sydd iw gymmwyso at y gorchymynion [...]raill.
Gof. 57. Beth yw swm cyffredinol y ddwy lêch o'r Gyfraith?
Atteb. Swm y llèch gyntaf o'r Gyfraith yw hyn, Tydi a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl feddwl. A swm yr ail llêch o'r Gyfraith yw hyn, Ceri dy gymmydog fel ti dy hun.
Eglur. 1. Caru Duw yw swm y llech cyntaf o'r Gyfraith, fel y dywed ein Achubwr, Marc 12.30. Pan ofynnodd yr yscrifennydd iddo, pa vn oedd y gorchymyn cyntaf, efe a attebod, Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, &c. hwn yw 'r gorchymmyn cyntaf, ac y mae 'n amgyffred swm gorchymynnion y llêch gyntaf.
[Page 217]Rhaid ini garu Duw â'n holl galon, ac â'n holl enaid, ac â'n holl nerth, hynny yw, dylai ein cariad tuag at Dduw fod yn galonnog, ac yn ddiragrith, yn deilliaw o'r galon, a'r râdd vchaf o'n serch, nid yn vnic mewn golwg ond mewn gwirionedd; nerth ein calon ni, a'n serch ddyfnaf sydd raid iddynt fyned tuag at Dduw.
II. Megis mai cariad tuag at Dduw yw swm gorchymmynion y llêch gyntaf, felly cariad tuag at ein cymmydog yw swm gorchymmynion yr ail llêch. Wrth gymmydog y mae ini ddeall yma, nid yn vnig yr hwn a fo'n byw yn agos attom ni, neu a fyddo o'n ceraint, neu 'n cenedl ni, ond o ba genedl bynnag y byddo, rhaid ini geisio gwneuthur iddo lês fel y bo'r achlysur yn gwasanaethu ini, a'r achos yn gofyn gennym ni: o ba wlâd bynnag, ac o ba gyflwr bynnag y byddo ef, ie pe rhôn a'i fod ef yn elyn ini, canys felly y dengis Christ, Matth. 5.43, 44. Am hynny y mae 'r gair hwn cymmydog yn amgyffred pawb ar y ddaiat, ymhell ac yn agos. Ac yn yr ystyr helaeth hon yr arferir brawd yn fynech.
Y môdd o garu ein cymydog a fynegir yn yr ymadrodd hwn, fel ein hunain: Drwy 'r hyn yr arwyddocceir mai 'r cariad sydd gennym tuag a [...]tom ein hunain sydd i fod yn rheol ini wrth yr hon y mae ini garu eraill. Rhaid ini garu ein cymydog mor gywir ac yr ydym yn ein caru ein hunain. Yr ydoedd goleuni Natur yn canfod vniondeb y rheol hon, am hynny yr aeth yn ddihareb ym mysc y cenhedloedd, quod tibi fieri non vis alteri ne fe eris. Yr hyn a allaf ei gyfieithu drwy eiriau ein Achubwr, Mat. 7.12. Pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy.
[Page 218]Cymmwysiad I. Y mae i ni achos mawr i ymddarostwng eisiau ein bod ni yn caru Duw yn y môdd y mae efe yn gofyn ini ei garu ef, sef â'n holl galon, a'n holl enaid, ac â'n holl nerth. och belled yw 'r rhan fwyaf oddiwrth garu Duw a'u holl galon, ie ni wyddant a oes ganddynt fath yn y bŷd ar gariad tuag atto ef. Am hynny y mae Duw yn llefaru, Deut. 5.29. Oh na byddei gyfryw galon ynddynt i'm hofni i!
II. Gan fod cariad yn gyflawniad o'r Gyfraith, yna ceifiwch lenwi eich calonnau â'r grâs hwn o gariad fel y byddoch vfudd.
Fel y byddo i chwi garu Duw Myfyriwch yn Ystyriol ar ei odidowgrwydd anfeidrol ef, ei ddaioni, ei drugaredd a'i gariad ef tuag attoch chwi. Myfyriwch oni chanfyddoch, a chreffwch oni phrofoch mor dda yw'r Arglwydd i chwi. Cariad a ennyn gariad, fel y mae 'r naill dân yn ennyn y llall. Gweddiwch am gariad. Bydded hyn yn bennaf arch a adroddoch wrth Dduw, sef iddo roddi i chwi galon iw garu ef. Gweddiwch fel hyn: Arglwydd Cynnorthwya fi ith garu di, er nad allaf ddywedyd, Arglwydd Tydi a wyddost fy mod i yn dy garu di, etto gwnafi yn ewyllyscar ith garu di â'm holl gulon, ac â'm holl enaid.
Hefyd ymegniwn i garu ein cymmydog, a hynny â'r fath gariad ac a ddycco iawn Ffrwyth; yn enwedig y ddau ryw hyn, sef, rh ddi, a maddeu.
Gof. 58 Pa rai yw geiriau y rhag ymadrodd i'r deg gorchymmyn?
Atteb. Y rhai hyn, sef, Myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw a'th ddug di i fynu o dir yr Aipht, o dŷ 'r Caethiwed.
[Page 219]Eglur. Yn y rhag- ymadrodd hwn y mae tri o resymmau i'n annog ni i gadw 'r Gorchymmynnion.
Y cyntaf yw, bod Duw yn Arglwydd, ac am hynny y dylid rhoi vfudd-dod cywir iw orchymmynnion ef.
Yr ail, ei fod ef mewn cyfammod â'i bobl, a hynny a ysbyfir yn hyn, sef, dy Dduw. Maddai ef wrth Ifrael Myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, a hynny nid yn vnic drwy greadigaeth, a rhagluniaeth, megis y mae efe ir annuwiol, ond drwy gyfammod neilltuol a wnaethai efe iw tadau, drwy 'r hwn yr addawsei iddynt lawer o drugareddau a bendithion.
Y trydydd yw, ei fod efe yn waredwr iddynt, gan eu dwyn hwynt allan o wlâd yr Aipht ac o dŷ 'r Caethiwed; lle y dioddefasent hwy gymmaint o drueni, a phe buasent mewn pair o haiarn, a'u gwarediad hwy allan o honaw ydoedd yn gosod arnynt rwymedigaeth gref i ufuddhau iw Gwaredwr yn ystig ac yn siriol.
Er bod y rhesymmau hyn yn briodol ir Juddewon, etto y maent hefyd yn berthynol i ni Gristianogion, ac yn gedyrn i beri ini gadw gorchymmynnion Duw. Canys,
Y mae efe yn Arglwydd ini hefyd, oddiwrth yr hwn y derbyniwn ein bywyd a'n cynhaliaeth, a'n holl drugareddau.
Y mae efe mewn cyfammod a ni gystal ac ag Israel gynt.
Ac megis y gwaredodd efe blant yr Israel allan o gaethiwed yr Aipht, felly y gwaredodd efe nyni oddiwrth ein cathiwed ysprydol dan y pechod a'r cythrael a'r bŷd hwn. Am hynny yr ydym ni yn rhwymedig iw gymmeryd ef yn Dduw ini, ac i fod iddo ef yn weision ffyddlon i gadw ei holl orchymmynnion ef.
Gof. 59. Pa vn yw 'r Gorchymmyn cyntaf?
Atteb. Ni bydd iti dduwiau eraill ger fy mron i.
Gof. 60. Pa beth yw ergyd ac ystyr y gorchymmyn hwn
Atteb. Bod ini gymmeryd Jehofah y gwir Dduw yn Dduw i ni, a bod ini ei addoli a'i ogoneddu ef megis y gwir Dduw, a'n Duw ni.
Eglur. Gofynnir tri pheth yn y gorchymmyn cyntaf.
Bod ini gydnabod Jehofah yn wir Dduw a'i gymmeryd ef yn Dduw ini, a'n cwbl roddi ein hunain iddo ef, i fod yn bobl ffyddlon iddo ef, gan ymgyssegru yn hollhawl iw wasanaeth ef.
II. Bod ini ei addoli ef megis yr vnic wir Dduw yn ol ei cwyllys a ddatcuddiwyd ini yn ei air. Addolir Duw â'r galon oddifewn, drwy ei garu a'i ofni ac ymddiried ynddo ef: ac â'r dyn oddiallan hefyd drwy weddio atto ef ai foliannu. Gofynnir y ddau yn y gorchymmyn hwn.
III. Bod ini ogoneddu Duw megis y gwir Dduw a'n Duw ni. os gofynnwch beth yw gogoneddu Duw, neu pa fodd y mae i ddyn ogoneddu Duw? Attebaf,
Yn gyntaf, rhaid ini ogoneddu Duw oddifewn yn ein Calonnau, gan ddeall, ac ystyried, a rhyfeddu gogoniant Duw, a gwneuthur cyfrif mawr o honaw ef ac o'i gariad, a'n rhoddi ein hunain iddo ef yn gwbl.
Yn ail rhaid ini ei ogoneddu ef oddiallan, a'n gwneuthur ein hunain yn offerau o'i anrhydedd ef.
Gan adrodd daioni Duw, Psal. 145.11, 12. [Page 221] Dywed [...]nt am ag [...]niant dy frenhiniaeth, a thraethant dy gadernid.
A byw iw ogoniant ef, gan drefnu ein ffordd yn vniawn, ac annelu at ei ogoniant yn ein holl fywoliaeth, fel y byddom i anrhydedd gogoniant ei râs ef, ac y rhodiom yn deilwng o'i enw sanctaidd, 1 Thes. 2.12.
Megis y gofynnir tri pheth yn y gorchymmyn cyntaf, felly y gwaherddir tri pheth ynddo. Sef bod yn Gwadu Duw, ac yn annuwiol, ac yn [...]ulun-addolgar.
Gwedir Duw mewn meddwl, gair, a gweithred.
Annuwioldeb yw bod heb addoli a gogoneddu Duw fel y dylaem. Megis pan fo dynion yn esceuluso addoliad Duw, gan dybied rhyw fûdd neu hyfrydwch bydol yn well na gwasanaeth Duw.
Neu pan addolont Dduw mewn môdd oer diofal, gan nesau atto ef yn rhagrithiol â'u Cyrph yn vnic, a'u calonnau ym mhell oddiwrtho ef.
Bod yn eulunadolgar yw rhoddi 'r addoliad sydd ddyledus i Dduw i ryw beth arall.
Gof. 61. Pa vn yw 'r ail gorchymmyn?
Atteb. Na wna it ddelw gerfiedic, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd vchod nac a'r y sydd yn y ddaiar isod; nac a'r y sydd yn y dwfr tan y ddaiar. Nac ymgrymma iddynt, a [...] na wasanaetha hwynt: oblegid myfi 'r Arglwydd dy Dduw wyf Dd [...]w eiddigus, yn ymweled ag anwired y tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt: ac yn [Page 222] gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'mcarant ac a gadwant fyngorchymmynion.
Eglur. Megis y mae 'r Gorchymmyn cyntaf yn dangos ini pwy sydd iw addoli, felly y mae hwn yn yspysu ini pa fodd i addoli 'r gwîr Dduw. Gan beri ini ei addoli ef yn y cyfryw ordinhadau ac a drefnodd efe i ni yn ei air: megis darllen yr Yscrythyrau, a chlywed eu pregethu, a gweddio Duw, ac arfer y Sacramentau.
Gwaherddir tri pheth yn y gorchymmyn hwn.
1. Gwneuthur neb ryw ddelw er mwyn addoliad grefyddol. Trosedd yw ini ddychymyg tebygoliaeth i Dduw, neu geisio amlygu ei natur ef drwy ryw ddelw oddiallan.
2. Gwaherddir yma addoli eulynnod yn y geiriau hyn, nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt. Sef na ddod iddynt na gwasanaeth nac addoliad grefyddol, nac oddifewn nac oddiallan, yr hyn yw eulunaddoliad.
3. Ewyllys-addoliad a waherddir yma: ni wasanaetha ini wrth orchymyn neu ddychymyg dŷn addoli 'r gwir Dduw mewn ffordd amgenach nac yr ordeiniodd efe yn ei air: na gwneuthur peth nis gorchymmynnodd Duw, yn rhan angenrheidiol o'i addoliad ef wrth ein ewyllys ein hunain.
Adroddir yn y gorchymyn hwn dri rheswm i'n hannog ni i vfyddhau iddo, ac iw gadw yn ddiwyd: a rheini a gynhwysir yn y geiriau hyn, oblegid Myfi 'r Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus.
Yn gyntaf, y mae Duw yn Arglwydd arnom ni, ac iddo oruchel awdurdod i'n rheoli ni. Am hynny dylaem roddi ufudddod gywir iw holl orchymmynnion ef.
Yn ail, y mae iddo ef feddiant o honom [Page 223]ni, y mae iddo ef hawl gyfiawn ynom ni. Medd ef, myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw.
Yn drydedd, y mae efe yn eiddigus ynghylch ei addoliad, a hynny a fynega 'r geiriau hyn, wyf Dduw eiddigus. Megis ac nas gall gwr priod oddef aflendid ac anffyddlondeb ei wraig, felly nis gall yr Arglwydd oddef anffyddlondeb ei bobl pan droffont at gau dduwiau, eithr caseiff eulunaddoliaeth mewn eglwys, yn gymaint ac y casâ gwr ordineb ei wraig.
Ac y mae 'r Arglwydd yn amlygu ei ofal ynghylch ei addoliad ym mhellach,
1. Wrth gospi 'r sawl a dorrant y gorchymmyn hwn, a hynny hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth. A thoster Duw yn hyn ydoedd er mwyn attal rhieni oddiwrth eulunaddoliaeth a chrefydd ddychymygedic, o ran y digwyddai iddynt wrth hynny dynnu digofaint arnynt eu hunain, ac ar eu heppil hefyd, os rhodient yn ffyrdd eu tadau, a dilyn eu heulunaddoliaeth hwynt, yr hyn y byddent mewn perigl o'i wneuthur wrth eu esampl hwy: Ac onidê nid ydoedd Duw arferol o gospi plant am feiau eu rhieni.
2. Wrth obrwyo 'r sawl a gadwant y gorchymyn hwn yn gydwybodus, a'r addewid am hynny a gynwysir yn y geiriau hyn, ei fod yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai ai carant, ac a gad want eu orchymmynion. Ac y mae 'r ymadrodd hwn yn dangos fod Duw yn fwy tueddol i drugaredd nag i doster, gan fod ei drugaredd ef yn descyn ar fil o genedlaethau y rhai au carant ef: Ond wrth gospi 'r anwiriaid y mae efe yn eu bwgwth hwy hyd y drydedd neu 'r bedwaredd genhedlaeth yn vnic. Rhaid ini gofio fod trugaredd Duw tuag [Page 224]at y cyfryw rai o blant y ffyddloniaid, ac a rodiont yn ffyrdd eu rhieni duwiol. Yr hyn y mae mwy gobaith iddynt ei wneuthur, o ran gweddiau a chynghorion ac esamplau da eu rhieni.
Gof. 62. Pa vn yw 'r trydydd gorchymmyu?
Atteb. Na chymmer enw 'r Arglwydd dy Dduw yn ofer: Canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
Eglurh. Cymmerir enw Duw a'i ditlau yu ofer dair o ffyrdd.
1. Wrth eu harfer hwynt yn ammharchus yn ein ymddiddan cyffredin. Megis y gwnaiff pobl yn aml wrth henwi 'r Arglwydd, Duw, a Crist Jesu yn rhy ddiystyrus, arfer rhai hynny er harddu eu ymadrodd fel y tybiant, eraill a wnant hynny pan fynnont iw gwrandawyr dybied eu bod hwy yn rhyfeddu wrth ryw beth, ac weithiau wrth weddio yn yscoefon, pryd na bo Duw yn eu meddyliau hwy.
Weithiau cymerant enw Duw yn ofer wrth eu melldithio eu hunain neu eraill ynghylch rhyw amrafel. Er bod pobl yn gwneuthur yn Yscafn o'r fath ddrwg araith etto Duw a'i cyfrif yn euog.
2. Wrth dyngu i enw Duw mewn ymadroddion cyffredin, yn ddiraid, yr hyn syd [...] arwydd hygoel o galon annuw [...]ol, nad yw yn gwneuthur cydwybod o'i ffyrdd.
3. Wrth dyngu yn anudon, neu 'n gelwyddog. Yr hyn a wneir, wrth haeru bod pet [...] yn wîr pryd na bo, neu fod peth yn gelwyd [...] a fyddo gwir, neu fod peth yn wîr ne [...] 'n gelwydd ac vn heb wybod hynny: A wrth addaw peth, ar lw na byddo ym mry [...] vn ei gyflawni
[Page 227]dogaethu swpper yr Arglwydd, a diammeu mai wrth ordinhâd Christ y gwnaethant felly, Act. 1.2, 3. dywedir ddarfod i'n Achubwr wedi ei adgyfodiad a chyn ei Escyniad ir nefoedd, fod yn weledig iw ddyscyblion, a dywedyd wrthynt y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Sef y pethau a berthynent i Eglwys Dduw. Er na ioddir ar lawr yno beth oeddent, etto gallwn dybied mai 'r pethau hynny oeddent a'r a arferodd yr Apostolion, ac a ordeiniasant i'r eglwysydd.
Amlwg yw ddarfod ir Apostolion wedi adgyfodiad Christ gadw'r dydd cyntaf o'r wythnos, Joan. 20.19, 26. Act. 2.1. ac 20.7. Ac ordeiniodd yr Apostol Paul fod cascliad tuag at y tlodion ar y dydd cyntaf o'r wythnos: o herwydd bod y Christianogion y pryd hynny yn ymgasciu yn gynnulleidfaoedd i wasanaethu Duw, ac i annog eu gilidd i weithredoedd da.
Ac megis yr ydoedd arfer yr Apostolion, y rhai a arweinid gan yspiyd Duw i bob gwirionedd, i gadw 'r dydd cyntaf o'r wythnos yn Sabboth, felly yr arferodd Eglwysi Christ drwy 'r holl fŷd er eu hamser hwy gadw 'n sanctaidd yr vn dydd: megis yr ymddengis wrth dystiolaeth Ignatius, Justin Ferthyr, ac eraill o hên athrawon y Christianogion. Y rhai a ddywedant yn eu yscriddinadau, fod y Christian [...]gion oll yn eu dyddiau O hryn cadw dydd yr Arglwydd.
Os gofynnwch y rheswm am gyfnewid y diwrnod, gwybyddwch ei ordeinio yn goffadwriaeth parhaus o adgyfodiad Christ, ac o waith Mawr ein Prynedigaeth ni a gyflawnwyd [...]anddo ef; o'r hyn y gwnaeth efe amlyg [...] [...]vrth adgyfodi o honaw ef o feirw.
[...]egis y bu cyfnewidiad o'r diwrnod [Page 224] [...] [Page 227] [...] [Page 228]felly y mae 'n debygol fod cyfnewidiad o' i ddechreuad ef hefyd. Yr y doedd y Sabbath cyntaf yn dechreu ac yn parhau o hwyr i hwyr, mewn coffadwriaeth o 'r creadigaeth; ac y mae 'n rhesymol dybied fod y Sabbath Christianogol yn dechreu ar yr amser y cyfododd Christ oddiwrth y meirw, yr hyn oedd yn foreu, Matth. 28 1.
Wedi i mi draethu ynghylch ordeiniad y Sabbath, dangosaf beth ynghylch y môdd y mae ei sancteiddio ef, a hynny sydd,
Drwy orphwyso cddiwrth ein achosion bydol, a'r peth lleiaf yw a'r a ellir ei ddeall wrth sancteiddio diwrnod, a'i gadw yn Sabbath, Exod, 20.10. Y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith. Sef ddim gwaith o'th alwedigaeth, na gwaith hwsmonaeth yn amser cynhaiaf, yr hyn a warafunir yn eglur, Exod. 34.21. Chwe diwrnod y gweithi, ac ar y feithfed dydd y gorphywysi: yn amser arcdic, ac yn y cynhaiaf y gorphywysi. Hawdd gan rai dybied, os yr hîn a fydd glawog hyd yr wythnos, a bod tês ar ddydd yr Arglwydd, y gallant y pryd hynny achub eu cynhaiaf. ond nid yw 'r cyfryw weithredoedd angenrheidiol.
Ac nid yw marchogaeth ar y dydd hwnw er bûdd neu ddifyrrwch wedi ei ganiadu ini. Canys gorchymmynnodd Duw gael o 'r anifail orphywys arno, Exod. 20.10.
II. Drwy orphywys oddiwrth ddifyrrwch cnawdol, megis chwaryddiacth, Campio, bowlio, saethu, dawnsio, gwledda a diotta yn ormodol, ac a phob rhyw beth ac a dynno ein meddyliau ni oddiwrth addoli 'r Arglwydd, Isa. 58.13. Gofyn Duw gan [...] duwiol droi ei droed oddiwrth y Sabba [...] heb wneuthur ei Ewyllys ei hun ar y dydd sanc [...]
[Page 229]Y mae chwareuon ac oferedd yn anghymmwyso 'r enaid i gyflawni dyledswyd dau sanctaidd yn ddifrifol, ie yn rhwystro mwy arno i hynny na llafur fudol.
Os argumennir yma dros weision a morwynion, y rhaid iddynt gael rhyw amser o ddifyrrwch a chwareu, ar ol eu llafur poenus.
Y mae ini atteb, fod gorphywystra yn ol ordinhâd Duw yn beth cyssurus i rai poenus: ac ir rhai y sydd â meddyliau ysprydol nid all dim fod ddifyrrach, na chyflawni dyledswyddau ysprydol yn gydwybodus.
Ac o thybir hyfrydwch corphorol yn llesol i bobl, bydded mewn gweddiedd- dra ar ryw ddiwrnod arall, ac nid ar y dydd y mae 'r Arglwydd yn ei neilltuo iw wasanaeth ei hun. Gan i Dduw ganiadu i ni chwe diwrnod, a chadw iddo ei hun yn gwbl onid vn o saith, byddem anniolchgar os cyssegrledrattaem ni ran o hwnw i oferedd.
III. Sancteiddir y Sabboth drwy ei gadw yn orphywystra sanctaidd: gan gyssegru 'r diwrnod hwn o orphywysdra i ddyledswyddau ysprydol, Exod. 20.8. Cofia 'r dydd Sabboth iw sancteiddio ef: am hynny nid digon ini ymattal oddiwrth ein gweithredoedd ein hunain, eithr rhaid ini hefyd wneuthur gweithredoedd Duw, sef dyledswyddau ei addoliad a'i wasanaeth: a'r rheini ydynt o dri math, sef cyhoeddus, a theuluaidd, a dirgel.
1. Cyhoedd ddyledsywddau duwioldeb yw 'r cyfryw ac a gyflawnir yn y gynnulleidfa gyhoed dus
2. Dyledswyddau teuluaidd ydynt y rhai a gyflawnir yn addoli Duw gydâ 'r teulu, megis gweddio, darllen yr yscrythyrau, a llyfrau da eraill, cateceisio, ailadrodd y pregethau a glywyd y dydd hwnw, canu [Page 230]psalmau, ac ymddiddanion ysprydol. wrth weddio a darllen yr yscrythur y boreu yn tŷ, y cymmwysir rhai i addoli 'n well ar gyhoedd. ac wrth ail-adrodd y pregethau bryd nawn, y gwneir hwy yn fwy buddiol ir teulu.
Er bod y pedwerydd gorchymmyn yn rhwymo pawb iw gadw, etto yn bennaf gofyn ofal rhieni a phen-teuluoedd. Sancteiddia 'r Sabboth, tydi, a'th fâb, a'th ferch, a'th wasanaethwr, &c. Exod. 20.10. Am hynny gwybydd y rhaid i ti atteb am y rhai sydd dan dy gronglwyd di, os torrant hwy y Sabboth drwy dy fai di. A phan fyddo i Dduw ar y dydd Mawr ofyn gwaed eneidiau ar dy law di, oh faint gwradwydd a orchuddia dy wyneb! pa ddychryn a Ieinw dy enaid! Am hynny bwriada fel Joshuah fod i ti ac i'th deulu wasanaethu 'r Arglwydd, Josh. 24.15.
3. Dirgel ddyledswyddau duwioldeb a gyflawnir yn ein celloedd cauad. Megis darllen, myfyrio, gweddio, ac ymholi.
Y Dyledswyddau hyn a wneir rhyngom ni a Duw yn y fath gyfle. Fel yr aeth Christ yn fynech ir mynydd i weddio yn neilltuol, felly y mae efe yn gorchymmyn i ninnau fyned i lê dirgel i dywallt ein eneidiau mewn gweddi o flaen Duw, Matth. 6.6.
A rhaid ini gymmeryd gofal ar wneuthur yr amryw ddyledswyddau hyn yn y fath drefn a thymmoreidd dra, ac na byddo ir naill rwystro 'r llall. Am hynny dechreuwn y dyledswyddau dirgel cyn foreued ac y byddo ini allu eu gwneuthur erbyn pryd gweddi teuluaidd: a gorphenner ein dyledswvddau teuluaidd, cyn dechreu o'r ordinhadau cyhoeddus; ac felly y bydd ini wneuthur y goreu o'r diwrnod bendegdic hwn.
[Page 231]Yn awr wedi dangos pa fodd y mae cadw 'r Sabboth yn sanctaidd, dangosaf i chwi'r pethau a waherddir yn y pedwerydd gorchymmyn, y rhai a ellir eu cynwys mewn tri o bennau.
A'r cyntaf yw Esceuluso dyledswyddau gorchymmynnedic. Llawer a dreuliant y rhan fwyaf o'r diwrnod yn cyscu yn eu tai, neu yn y gynnulleidfa. A'r rhai a ant i weddîau cyhoeddus, a esceulusant weddiau dirgel, ac yn fynech a ymgymmyscant â chymdeithion ofer.
A'r ail yw, cyflawni dyledswyddau duwioldeb yn ddiofal. Dydd Marchnad i'r enaid yw'r Sabboth, ac arno ef y dylaem geisio elwa yn ordinhadau Duw tuag at ein bywyd: ond och mor oer, a diofal, a chandryll ydym in wrth eu cyflawni a'u trîn? gan weddio megis na baem yn gweddio, a gwrando megis na baem yn gwrando, a chyffroi Duw drwy hynny i'n gwrthod ni a'n gwasanaeth.
A'r trydydd peth a waherddir yn y gorchymmyn hwn, yw halogi 'r Sabboth, a hynny a wneir drwy dri pheth:
1. Drwy seguryd, pan dreuliom ni ran o'r diwrnod yn ofer, yn rhodio, neu yn eistedd, neu yn cyscu, neu yn gwâg chwedleua. Yn y cyfryw feguryd yr ydym yn cadw 'r Sabboth fel ein anifeiliaid, y rhai ydynt y pryd hwnw yn peidio â'u llafur. Ond dylai Christianogion, nid yn unic beidio â'u gweithredoedd eu hunain, eithr hefyd wneuthur gweithredoedd Duw. Er bod y Sabboth yn orphywystra ir Corph, y mae efe yn ddydd gwaith ir enaid.
2. Drwy wneuthur pethau pechadurus. Dyledus i ni beidio â'n drygioni bob dydd, yn enwedig ar ddydd yr Arglwydd, canys ar y [Page 232]dydd hwmw y mae pob pechod yn myned yn ddau, gan fod camarferu 'r amser yn trymhau 'r anwiredd. Tybia rhai y bydd ail-dyfodiad Christ ar ddydd yr Arglwydd: Ofnadwy ynteu a fydd cyflwr y rhai a gaffer yn gwasanaethu 'r cythrael, ac yn ymdreiglo yn eu aflendid, pan ddelo eu Harglwydd i gyfrif â hwynt.
3. Halogir y Sabboth drwy feddyliau a geiriau, a gweithredoedd afreidiol.
1. Nid digon i ni ymattal rhag pethau sydd yn ffiaidd echryslon, eithr os goddefwn i'n calonnau redeg ar bethau bydol a fo cyfreithlon ar ddyddiau eraill, haloga hynny 'r dydd hwn. Am hynny pan welom ein meddyliau yn rhedeg ar ol achosion bydol, attaliwn hwynt drwy gofio fod y seithfed dydd yn Sabboth ir Arglwydd ein Duw, ac iw gadw yn Sanctaidd.
2. Halogir y Sabboth drwy roddi rhydddid i'n tafodau i adrodd pethau bydol diflas, ac a fo anghyttunol ag adeiladaeth. Y cyfryw ymddiddanion fel dyfroedd bruntion sy 'n diffodd yr ychydig gynhesrwydd a gaffo rhai yn ordinhâdau Duw. Arwydd yw nad ydym ni yn yr Yspryd ar ddydd yr Arglwydd, pan fom cyn gynted yn troi at y cnawd.
3. Gwneuthur rhyw orchwylion afreidiol ar y dydd Sabboth sydd yn ei halogi ef. Am hynny ni a gawn y cyfryw yn waharddedig, Esay. 58.13. Heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun. Ni wasanaetha na chwarae na gweithio ar y Sabboth, eithr ei dreulio yn gwneuthur dyledswyddau duwioldeb a chariad.
Tua diwedd y pedwerydd gorchymmyn y mae pedwar rheswm wedi eu rhoddi [Page 233]ar lawr i'n hannog ni i gadw 'r Sabboth yn ddichlin.
Yr vniondeb sydd yn hynny. Dylaem yn ewyllyscar dreulio vn dydd o saith yn ei wasanaeth ef yn enwedigol, yr hwn a roddes i ni chwe diwrnod i drîn ein hachosion ein hunain. Lle y gallasai ef yn y gwrthyneb orchymmyn cadw chwêch iddo ef, a rhoi vn yn vnic i ninnau. Etto dywed efe, Exod. 20.9. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith, ond y seithfed dydd yw Sabboth yr Arglwydd dy Dduw.
2. Y priodoledd sydd i Dduw yn y sethfed dydd. Y sethfed dydd yw Sabboth yr Arglwydd dy Dduw, Exod. 20.10. Y yeth sydd wedi ei neilltuo â chae yn ei gylch i fod yn feddiant ir Arglwydd, ni wasanaetha i neb ei wneuthur yn gyffredin.
3. Y trydydd rheswm, a gymmerir oddiwrth esampl Duw. Yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar, y môr a chwbl ac sydd ynddynt mewn chwe diwrnod, ac a orphywysodd ar y sethfed dydd: Am hynny y dylai dyn orphywys. Rhoddes Duw i ni esampl iw dilyn.
4. Y pedwerydd rheswm a gymmerir oddiwrth y fendith a roddes Duw ir dydd. Dywedir Exod. 20.11. Bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabboth. Hynny yw, y mae efe yn gwneuthur y Sabboth yn ddydd bendigedig, ac yn ddydd i fendithio, sef yn fodd effeithiawl i beri daioni i eneidiau, ac i gyflyrau bydol y rhai a'i cadwant yn gydwybodus.
Yn gyntaf, i eneidiau dynicn. Canys llawer enaid a drôdd Duw drwy waith ei râs ar y dydd hwn, ac a'i plannodd ef yn ei winllan, ac a'i dyfrhâodd â gwlith ei râd Nefol iw gwneuthur yn ffrwythlawn mewn daioni. Parodd Duw i lewyrch ei râs dywynu ar [Page 234]lawer enaid tywyll yn y dydd hwn: gan e [...] wneuthur yn ddydd priodas i lawer, ac o' [...] diweddîad i Grist. Miloedd a gawsant y [...] ail-enedigaeth arno. A chan ddarfod i Dduw fel hyn anrhydeddu ei ddydd ei hun, a feiddiwn ni ei ddirmygu ef? Gan i Dduw ei fendithio, a fydd ini ei halogi ef?
Yn ail, y mae Duw yn bendithio gwaith pobl yn iawn gadw ei ddydd ef iw bûdd amserol gyd ag iw bûdd Ysprydol, 1 Tim. 4.8. Duwioldeb lydd fuddiol i bôb peth, a chenddi addewid o'r bywyd y sydd yr awr hon, ac o'r hwn a sydd. Y mae elw Mawr mewn gwir dduwioldeb, gan fod y nêf a'r ddaiar wedi eu gwneuthur arni. Ac ym mha beth yr amlygir gwir dduwioldeb yn fwy, nag wrth gadw dydd yr Arglwydd yn gydwybodus? A pha ddyfalaf y bom ni yn iawn sancteiddio hwnnw, mwyaf a fydd y fendith a allwn ni ei disgwil yn ein galwedigaethau ar ddyddiau 'r wythnos. Os dechreuwn ni yr wythnos gydâ Duw ar y dydd cyntaf o honi, Efe a fydd siccr o'n dilyn ni â'i fendithion y rhan arall o honi. Ynteu 'r ffordd ddiogelaf i ynnill cynhaliaeth i ni, ac i 'n plant yw cadw 'r Sabboth yn sanctaidd.
At y rhesymmau hyn y chwanegaf y peth sydd gynwysedig yn y gair cyntaf o'r gorchymmyn, sef, Cofia. Oddiwrth yr hwn air y mae ini ystyried yr hyn a galyn.
1. Ein tueddiad i anghofio cadw'r Sabboth yn sanctaidd. Anhydyn ydym iddo. Anhawdd a pheth gwrthwynebus yw gan natur lygredic dreulio diwrnod neu awr gyda Duw vn ddifrifol.
2. Y mae bywyd crefydd a Christianogaeth yn cael ei gynal yn ddirfawr wrth sancteiddio 'r dydd Sabboth. Am hynny y dywedodd athro duwiol, y diddymmir crefydd, [Page] [Page] [Page 235]os bwrir y Sabboth ymaith. Ac yn ddiau ni buasai Duw yn rhoddi arnom ofal i gofio 'r ddyledswydd hon, oni bae ei bod yn bwysfawr. Gan iddo ef osod y gair hwn cofia yn nechreu 'r gorchymmyn hwn, y mae 'n arwydd fôd y peth yn dra-rheidiol a buddiol, ac nas gallwn ni ei esceuluso ef a'i anghofio yn ddiberigl.
Yn olaf ystyriwn fod torriad o'r gorchymmyn hwn yn drossediad o'r cwbl, Exod. 16.28. O herwydd'i rai o'r Israeliaid fyned allan i gasclu Manna ar y seithfed dydd yngwrthwyneb i orchymmyn Duw, y mae 'r Arglwydd yn dywedyd, pa hyd y gwrthodwch gadw fyngorchymynion, a'm cyfreithiau? Gwelir drwy brofiad gwastadol, fod y rhai ni chadwant ddydd yr Arglwydd, heb wneuthur cydwybod o ddim arall ar ddyddiau 'r wythnos.
Gof. 64. Pa vn yw 'r pumed Gorchymyn?
Atteb. Anhrydedda dy dâd a'th fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae 'r Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
Eglurh. Cynwysir yma orchymyn i anrhydeddu ein Tâd a'n Mam: ac addewid i'n hannog i hynny, sef, fel yr estynner ein dyddiau ni ar y ddaiar, yr hon y mae 'r Arglwydd ein Duw yn ei roddi ini.
Wrth dâd a mam y mae i ni ddeall ein rhieni naturiol, a phawb eraill a fyddo goruwch na ni mewn doniau ac oedran, yn enwedig y rhai a fyddo drwy ordinhâd Duw wedi eu gosod arnom ni mewn llêoedd swyddau, ac awdurdod, pa vn bynnag ai mewn teulu, ai mewn Eglwys, ai mewn [...]heolaeth wladwriaethol.
[Page 236]Pob rhyw vchafiaid a elwir yn dadau ac yn fammau, i ddwyn ar gôf iddynt y dylâent hwy ddangos cariad, a thynerwch tuag at y rhai a fyddo îs na hwynt, megis y gwna rhieni yn y dyledswyddau a wnelont er llesâd iw plant: ac fel y byddo i ddeiliaid hefyd gyflawni eu dyledswyddau tuag at eu goruchelwyr gydag ewyllys da, megis tuag at rieni.
Wrth y gorchymyn am anrhydeddu Tâd a Mam, y cyssylltir adddewid o fywyd hîr a llwyddiant ir sawl a vfuddhao iddo, cyn belled ac y byddo hynny er gogoniant i Dduw, a'u llesâd hwythau. Ac os anfeidrol ddoethineb Duw a wêl yn dda eu casclu hwy at eu tadau, a'u cymeryd hwy oddi-yma, gan eu gwaredu hwy oddiwrth bechod a thrueni yn gynharach, bydd iddo ef wneuthur â hwynt gyfnewidiad dda, gan roddi iddynt fywyd tragwyddol yn llê 'r amserol.
Gof. 65. Pa vn yw 'r chweched gorchymyn?
Atteb. Na lâdd.
Eglurh. Y pethau a waherddir yn y gorchymyn yma a galyn.
1. Dwyn bywyd ein [...]ymmydog yn anghyfiawn: Nid yw yn gwahardd yn bendant na chymerer fywyd dyn ymaith, canys gall fod achosion cyfiawn i gymeryd eu bywyd oddiar rai; megis mewn rhyfel cyfiawn, neu wrth geisio ymddiffin rhag trais gwaedlyd, neu wrth ddihenydio y rhai a farnwyd y [...] gyfiawn am eu drwg weithredoedd. Eithr y mae 'n gwahardd cymeryd ei fywyd oddiar ddyn mewn môdd anghyfiawn, ac yn gommedd pob rhyw fwriad, a chais, ac achly sur, a'r a fyddo yn annelu at hynny.
[Page 237]2. Y mae 'n gwahardd ini ddwyn ein bywyd oddiarnom ein hunain mewn môdd yn y bŷd. Annaturiolaf o bob rhyw fwrdwr ydyw 1 ddyn ei lâdd ei hun. Caru ein Cymmydog fel ni ein hunain yw swm gorchymynion yr ail llêch, ac wrth hynny y gallwn ddeall fod yn bechod trymmach ini ein llâd ein hunain, na llâd arall.
Gof. 66. Pa vn yw 'r seithfed gorchymyn?
Atteb. Na wna odineb.
Eglurh. Yn nesaf at y gorchymyn i edrych at ein bywyd ein hunain a'r eiddo arall, y rhoddir hwn i ni am edrych at ein diweirdeb ein hunain, ac vn ein cymydog.
Y mae dau fath ar ddiweirdeb, sef oddifewn yn yr enaid, ac oddi allan yn y corph, a rhaid ini fod yn ofalus am bob vn o'r ddau.
Rhaid ini yn ddichlin gadw diweirdeb ein heneidiau oddifewn, gan ymegnio i guro i lawr bob dychymygion aflan, a phob meddwl a chynwrf trachwantus yn y galon.
Rhaid ini hefyd edrych yn ddyfal am gadw diweirdeb oddiallan, gan fanwl ochelyd pob gweithred aflan, ac halogedigaeth y cnawd. Er mwyn hyn rhaid ini gydâ Job wneuthur cyfammod â'n llygaid, na edrychom ar lendid yn drachwantus: ac â'n clustiau na wrandawom ar ymadroddion a rhimynnau anllad: ac â'n tafodau na siaradom serthedd. A rhaid ini ymarferu ag ymddygiad diwair bob ffordd, sef yn ein golugon, ein ymadroddion, a'n dillad: a bod yn ddiwyd yn ein galwedigaethau, gan ochelyd seguryd, y sydd yn famaeth i aflendid: A gweddîo Duw beunydd, ar fod iddo ef drwy ei lân yspryd ein glànhau ni oddiwrth [Page 238]hod aflendid cnawd ac yspryd.
Ac am yr hyn a waherddir yn y gorchymyn yma, Rhaid ini wybod mae dan enw godineb y gwarafunir pob math ar aflendid, megis putteindra, trais, ymloscach, pechod Sodom, a thrachwantau annaturiol, a meddyliau aflan, ac ymadroddion bruntion, a fyddont yn cynhyrfu aflendid ynom. Y mae 'n gwahardd hefyd bob achlysur i aflendid, megis cymdeithion anllad, gwisc anweddaidd, gormod cyfeddach, gwrando caniadau nwyfus, a downsio anniwair, a'r cyffelyb.
Gof. 67. Pa vn yw 'r wythfed gorchymyn?
Atteb. Na ledratta.
Y peth pennaf a waherddir yma ydyw gwneuthur cam â'n cymydog yn ei dda: yr hyn a ellir ei wneuthur lawer môdd; Nid yn vnic wrth yspeilio ar y ffordd fawr, neu dorri tai, ond wrth arfer pwysau a mesurau gau, a phethau twyllodrus eraill mewn marchnadoedd, a nawffeiriau, ac ammodau, drwy gyrhaeddyd, a gorthry mmu rhai o herwydd eu hanwybodaeth, neu eu hangenoctid, a'u gwendid. Y pethau drygionus hyn i gyd a waherddir yma yn y gorchy myn hwn, na ledratta.
Ac megis y gwaherddir ini wneuthur cam â'n cymydog yn ei feddiannau bydol, felly ni wasanaetha ini wneuthur cam â ni ein hunain, fel y gwna llawer yn rhy fynech; a hynny,
1. Drwy fyw mewn seguryd, ac esceuluso eu galwedigaeth, Dihar. 18.9.
2. Drwy fod heb osod eu meddiannau yn y drefn oreu ar eu llês, Dih. 21.17.
3. Drwy feichniaeth ehud, a byrbwyll, Dihar. 11.15.
[Page 239]4. Drwy hoffi trythyllwch, Dihar. 23.21.
5. Drwy chwareuon; Er bod chwareyddion yn bwriadu ynnill yn annheilwng, etto gan mwyaf y maent yn colli, ac yn treulio eu golud a'u hamser yn ofer. Lleidr yw pob vn o'r chwarey ddion anturiol, yr hwn fydd yn colli, sydd yn ei yspeilio ei hun; a'r hwn sydd yn ynnill, sydd yn yspeilio ei gymy dog.
Gof. 68. Pa vn yw 'r Nawfed gorchymyn?
Atteb. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
Eglurh. Dylem gynnal enw da ein cymmydog, drwy gelu yr hyn a allai ddwyn gwradwydd arno ef, oddieithr bod achos cyfiawn i'n cymmell ni i dystiolaethu 'r gwir yn ei erbyn ef; a thrwy wrthod coleddu y rhai a fyddant yn dwyn chwedlau, a naccâu derbyn anair yn erbyn ein eymmydog o ôl ei gefn ef, na'i farnu am bethau ammhens, nes cael goleufyneg.
A phan alwo awdurdod arnom i dystiolaethu rhyw beth ynghylch ein cymmydog, rhaid ini ddywedyd y gwirionedd yn vnic, a hynny yn ddiduedd, yn rhwydd, yn eglur, ac yn gyflawn.
Y mae 'r gorchymyn hwn yn gwarafun tri pheth;
1. Pob math ar gelwydd. Nid yn vnic y celwydd dinystriol, a wneler i dwyllo ac i golledu arall, ond y celwydd cellweirus, a wneler er difyrrwch, a'r celwydd cymwynascar hefvd, a wneler er rhwystro rhyw niwed i ddigwydd i ni, neu i'n cymmydog, neu i gael rhyw lesâd. Câs gan yr Arglwydd y tŷst celwyddog yn dywedyd celwydd, Dihar. 6.19. a phob tafod celwyddog, Dihar. 12.17. Cyfryfir celwydd-wyr, yn yr yscryrhyrau [Page 240]ym mysc llofruddion, Eulun-addolwyr, godinebwyr, a'r cyfryw bechaduriaid erchyll, a'r sydd â'u rhan yn y tân vffernol yn dragywydd, oddiethr iddynt edifarhau yn gywir, Datc. 21.8.
Och mor gyffredin yw 'r drygioni hwn ym mysc hên ac ieuangc!
Dysc plant ddywedyd celwydd cyn gynted ac y medront siarad: a chwedi ymgynnesino ag ef yn eu ieuengctid, ni fedrant beidio ag ef yn eu henaint. O na bai i bawb ei ochelyd megis pechod diafolaidd.
Rhieni, cymerwch chwi ofal rhag dywedyd celwydd, a rhoddi felly Esampl ddrwg i'ch plant, ac na byddwch debyg ir cythrael, yn dadau celwyddau, Gochelwch ef ynoch eich hunain, a chosbwch ef yn yr eiddoch yn ddifaddeu. O blant, yr ydych yn rhy dueddol i arfer celwydd. Ym mha fai bynnag i'ch caffer, na chaer monoch ar y celwydd. Canys plant y cythrael yw y rhai celwyddog.
2. Y mae 'r gorchymyn hwn yn gwahardd pob peth a wnelo niwed i'n enw da ni. Megis gwneuthur rhyw beth an weddaidd yn gyhoeddus neu yn y dirgel, yr hyn a ddwg Duw ir amlwg, i'n gwradwydd ni, onid edifarhawn yn ddwys.
3. Y mae 'r gorchymyn hwn yn gwahardd pob peth afo Niweidiol i enw da ein cymmydog. Ni wasanaetha ini godi na derbyn anair iddo yn ewyllyscar: na deongli ei bethau amheus ef i'r ystyr gwaethaf, na dywedyd yn ddrwg am ei ddaioni ef; na gwneuthur ei feiau dirgel ef yn gyhoeddus, yn enwedig os byddant o ran gwendid yn unic.
Ond wrth y gorchmyn yma yn enwedig y gommedir dwyn cam dystiolaeth yn erbyn ein cymydog o flaen awdurdod; a hynny a wneir pan dystiolaethom ni am wirionedd [Page 241]y peth nas gwyddom ni ei fod yn wir, neu a wyddom ni ei fod yn anwir.
Gof. 69. Pa vn yw 'r degfed gorchymyn?
Atteb. Na chwennych dŷ dy gymmydog; na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaeth-ferch, na'i ych nai assyn, na dim a'r sydd eiddo dy gymydog.
Eglurh. Y mae 'r gorchymyn hwn yn gofyn dau beth yn enwedigol:
1. Bod o honom ni yn fodlon i'n cyflwr presennol.
2. Bod tymer ein yspryd ni yn iawn, ac yn gariadus tuag at ein cymydog, a thuag at yr hyn a fyddo yn eiddo ef.
Am y cyntaf, sef bod o honom ni yn fodlon i'n cyflwr presennol, ystyriwn mai bodlonrwydd yw 'r môdd tebyccaf i iachau cybydddod, ac felly y dywed yr Apostol, Heb. 13.5. Bydded eich ymarweddiad yn ddiarian-gar, gan fod yn fodlon ir hyn sydd gennych.
Bodlonrwydd yw llonyddwch y galon yn ein rhan, pa vn bynnag fyddo ai ychydig ai llawer.
II. Jawn a chariadus dymer yspryd tuag at ein cymydog, a phob peth a'r a feddo efe. Fel na feddyliom yn ddrwg am dano ef heb achos amlwg, ac na ewyllysiom niwed iddo ef, eithr bod ini lawenychu yn ei lwyddiant ef, a galaru yn ei adfyd ef.
Y pechodau a waherddir yn y Gorchymyn hwn yw y rhai a galyn.
1. Anfodlonrwydd i'n cyflwr ein hunain. Yr hyn a'n gwnâ ni yn ddiclon wrth ragluniaeth Dduw, a'i drefnid. A hynny a ddichon gyffroi Duw yn gyfiawn i'n herbyn ni, a pheri iddo ef ein dinoethi ni o'r holl drugareddau yr ydym ni drwy ei ddaioni ef yn [Page 240] [...] [Page 241] [...] [Page 242]eu mwynhau wrth ein rhaid.
2. Cenfigennu a thristâu wrth lwyddiant ein cymydog. Y mae 'r gorchymyn hwn yn gofyn cariad tuag at ein cymmydog, a bod ini ymhyfrydu yn ei gyflwr llwyddianus ef: ynteu torriad amlwg o honaw ydyw ini genfigennu wrth ei lwyddiant ef, a gofidio wrth weled ei ddedwddwch ef.
3. A chwenych gwncuthur yr hyn sydd ym meddiant ein cymydog yn eiddom ni ar gam. Yn y gorchymynion o'r blaen gommeddir i ni wneuthur cam â'n cymydog yn ei gorph, neu yn ei enw, neu yn ei dda; gomeddir ini yma gymaint a chwenych neu ddymuno y peth sy'n eiddo ef.
Nid wyfi 'n dywedyd fod pob dymuniad i chwanegu peth at ein rhan yn waharddedic yma, ond yn vnic yr hwn sydd yn afreolus, a phechadurus, a'r cyfryw yw,
1. Dymuno mwy nag sydd reidiol i'n cyflwr.
2. Pan fo 'r dymuniad yn rhy chwannog ac yn rhy daer. Oni bom yn glwyfus, fel Achab, eisieu cael y peth a ddymunom, ac allan o iawn hwyl nes dyfod o hyd ir peth y byddom yn ei ddeisyf.
Ni wasanaetha i ni chwenych eiddo 'n cymydog yn erbyn ei ewyllys ef, nac iw niwed cf, na cheifio dyfod o hyd iddo drwy foddion anghyfreithlon; ond os bydd arnom eisiau rhyw beth o'r eiddo ef, a'r a allo efe ei gyfrannu i ni, cyfteithlon ini ddymuno a cheifio 'r peth hwnw ganddo ef drwy ei ofyn ef yn rhôdd, neu yn echwyn, neu ar werth.
Wedi darfod imi fel hyn yspysu i chwi ystvr y Gorchymynion; Myfi a ddiweddaf y Catecysm hwn ag agoriad byr ar weddi 'r Arglwydd.
Gof. 70. Pa sawl rhan sydd o weddi 'r Arglwydd?
Atteb. Y mae yngweddi 'r Arglwydd dair o rannau cyffredinol, sef yw hynny, y rhag-ymadrodd, yr eirchion, a thalu diolch.
Gof. 71. Ym mha eiriau y mae y rhag-ymadrodd i weddi 'r Arglwydd yn gynwys [...]dig?
Atteb. Y mae y rhag-ymadrodd i weddi 'r Arglwydd yn y geiriau hyn, Ein Tâd yr hwyn wyt yn y nefoedd.
Eglurh. Yma y dygir ar gôf ini Ddaioni Duw a'i Fawredd.
Ei Ddaioni ef a gy nwyfir yn y gair Tâd.
Ei Fawredd ef a osodir allan wrth sôn am lê pennaf ei breswylfod ef, sef y nefoedd, Lle 'r amlygir ei agoniant ef yn rhagorol.
Y cyntaf sy 'n dangos mor barodol yw Duw i wrando ac i atteb ein gweddiau ni, gan ei fod ef yn Dâd grasusol ini drwy Grist Jesu.
Yr ail a fynega mor alluog yw efe i'n helpu ac i ganiatau ein gweddiau.
Jawn Ystyriaeth o'r ddau a ddichon weithio ynom ni hyder a parchedic ofn, y rhai sydd weddol, a rheidiol eu bod ynom ni, wrth ini nesâu at Dduw mewn gweddi. Dylaem fod yn siccr o serch tadol Duw tuag attom ni, fel y byddo ynom ni galon i fyned atto ef, ac i roi ein hymddiried arno ef am bob peth da a fyddo reidiol. Felly hefyd y dylaem ni ymostwng ger ei fron ef mewn môdd isel a sanctaidd, gan ei fod ef yn y nefoedd, a ninnau ar y ddaiar.
Gof. 73. Pa beth a ofynnir yma?
Atteb. Bod i Dduw ym mhob peth, ac ar bob amser, gael ei anrhydeddu a'i ogoneddu drwyddom ni a'r holl greaduriaid.
Eglurh. Yngweddi 'r Arglwydd y mae chwech o ofynnion neu eirchion, o'r rhai Y mae 'r tri cyntaf yn perthyn i ogoniant Duw, a'r tri olaf i'n bûdd ein hunain.
Er mwyn deall crgyd yr arch cyntaf yn well, ystyriwn pan fôm yn gweddio ar gael o enw Duw ei sancteiddio, ein bod ni yn dymuno arno ef,
1. Ein cynnorthwyo ni iw ogoneddu ef, yn ein meddyliau, gan ei gydnabod ef ynGreawdwr, yn Gynhaliwr, ac yn lywodraethwr pob peth; yn ein calonnau, gan ei garu ef, a rhoi ein ymddiried ynddo ef vwchlaw pob peth; yn ein bucheddau, gan ogoneddu Duw yn ein holl weithredoedd, a threfnu ein ffyrdd, fel y byddo iddo ef gael anrhydedd oddiwrthym ni, Matth. 5.16.
2. Bod i eraill hefyd ogoneddu enw Duw; sef bod i'r bŷd oll ryfeddu a chlodfori ei Hollalluogrwydd ef, a'i anfeidrol ddoethineb, a'i gariad, a'i ragluniaeth ef ar bob peth, Esa. 67.3. a rhyngu ei fodd ef.
3. Bod i Dduw amlygu ei anrhydedd a'i ogoniant, wrth drefnu pob beth i weithio at hynny.
Ystyr yr arch cyntaf ar fyrr yw hyn: sef, yn gymaint ac na wyddom ni o honom ein hunain pa fodd i anrhyddeddu Duw yn iawn, ydd ym yn gweddio arno ef am ein cynnorthwyo [Page 245]ni ac eraill drwy ei râs iw ogoneddu ef bob amser â meddyliau, ac a chalonnau, ac a bucheddau: Ac ar fod iddo ef drwy ei oruchel ragluniaeth drefnu pob peth iw ogoniant bendigedic ei hun.
Gof. 74. Pa vn yw 'r ail arch?
Atteb. Deled dy deyrnas.
Gof. 75. Beth a ddeisyfir yma?
Atteb. Bod i Dduw wanhychu a gorchfygu gallu Satan, a derchafu teyrnas ei Ràd drwy amlhau ei ddeiliaid beunydd, a phryssuro teyrnas Gogoniant drwy ddyfodiad Christ ir farn.
Eglurh. Yn yr arch cyntaf dyscodd ein Jachawdwr ini weddio am dderchafu gogoniant Duw yn y byd; i ddangos ini y dylaeu ein gofal a'n egni pennaf ni fod, ar i Dduw gael ei ogoneddu a'i anrhydeddu gennym ni, a chan ei greaduraid oll.
Yn y man nefaf y mae efe yn ein cyfarwyddo ni i weddîo ar iw deyrnas ef ddyfod: yr hyn yw'r modd goreu idderchafu ei ogoniant ef yn y bŷd.
Er mwyn synied helaethrwydd yr arch hwn yn well, myfi a ddangosaf,
2. Beth a ddeellir wrth deyrnas Dduw.
Soniff yr yscrythyr am ddau fath ar deyrnas Dduw:
Sef yn Gyffredinol, ac un neilltuol.
Ei deyrnas gyffredinol ef yw ei Allu Goruchel ef drwy 'r hwn y mae efe yn rheoli ei holl greaduriaid. Am y deyrnas hon y llefara 'r Psalmydd, Psal. 103.19.
Ei deyrnas neilltuol ef sydd mewn dau fôdd, sef ei deyrnas o râs, a'i deyrnas o ogoniant. Yr vn a'r vnrhyw deyrnas yw, er ei dosparthu yn ddwy ran, oblegyd [Page 246]rhyw ragoriaeth mewn rhai amgylchiadau; megis,
1. Mewn amser, teynas grâs sydd yn y bywyd hwn, a theyrnas gogoniant yn y bywyd i ddyfod.
2. Mewn llê, teyrnas grâs sydd ar y ddaiar, teyrnas gogoniant yn y nefoedd. Teyrnas grâs yw 'r cyflwr ysprydol ym mha vn y mae pobl Dduw yn ewyllyscar yn ymostwng i Ewyllys Duw, ac yn cydymffurfio â hi. Teyrnas gogoniant yw cyflwr bendigedic pobl Dduw yn y nêf. Y gair deled yn yr arch hwn sydd yn yspysu deisyfiad ar fod i deyrnas grâs gynnyddu a myned rhagddi i berffeithrwydd, a bryfio o deyrnas gogoniant.
II. Y mae gan ddiafol deyrnas yn y bŷd hwn. Gelwir ef yn dywysog, yn Dduw 'r bŷd hwn, yn lywodraethwr tywyllwch. Nid yw efe reolwr wrth vniondeb, ond yn vnic drwy ddioddefgarwch Duw, a'i daerni ei hun.
III. Y mae teyrnas y cythrael yngwrthwyneb i deyrnas Dduw: ac fel y derchafer y naill, iselir y llall.
Ynteu ystyr yr arch hwn, deled dy deyrnas, yw hyn, sef deisysiad ar i Dduw dorri gallu Satan, a gwared ei etholedigion ei hun allan o'i feddiant ef, ac o ddwylo eu holl elynion: ac ar iddo dderchafu teyrnas grâs drwy amlhau ei deiliaid beunydd, a'u cryfhau mewn sancteiddrwydd, a brysio o deyrnas gogoniant drwy ddyfodiad Christ ir Farn, fel y bo i ddedwyddwch pobl Dduw fod yn gyflawn byth.
Gof. 76. Beth yw 'r trydydd arch?
Atteb. Gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd.
Gof. 77. Beth a ddeisyfir yma?
Atteb. Bod ini tra fo'm byw ar y ddaiar, ymegnio iroddi 'r fath vfydd-dod i ewyllys Duw, ac a rydd y Sainct a'r Angylion yn y nef.
Eglurh. Er mwyn agoryd yr Arch hwn yn well, myfi a ddangosaf ar fyrr eiriau,
1. Beth a ddeellir yma wrth ewyllys Duw.
2. Beth wrth ei gwneuthur.
3. Beth wrth y geiriau, megis yny nef.
Am y cyntaf, sef yr hyn a ddeellir wrth ewyllys Duw.
Er nad yw ei ewyllys ef ond vn, etto y mae 'n rhaid ini wrth ystyriaeth dau ddyblyg o honi.
Canys y mae ini feddwl am ei cwyllys ef yn rhoddi gorchymynnion, yr hon a fyn ef ini ei hadnabod, ac vfyddhau iddi; ac am ei ewyllys ef a amlygir yn ei ragluniaeth, y sydd yn dwyn pethau i ben yn y bŷd. Y mae 'r arch hwn yn dymuno cyflawni cwbl cwyllys Duw.
Am yr ail, gwneuthur ewyllis Duw sy 'n arwyddoccau dau beth, sef, rhoddi, vfudddod bywiol i cwyllys Duw, a yspysir yn ei orchymmynion ef;
Ac ymddarostwng yn ddioddefgar iw ewyllys a amlygir yn ei ragluniacth ef, er ei bod yn groes i'n cnawd llygredig ni.
Am y trydydd, wrth y geiriau hyn megis y m [...]e yn y nef, y mae ini ystyried yr vfudddod siriol, ddyfal, serchog, gynnes, galonnog, ddiragrith, a rydd yr Angylion a'r Sainct gogoneddus i ewyllys Duw, a dylaem weddîo am gael grás i wneuthur ei ewyllys ef à chymaint o burdeb ac a so cyttunol â'n cyflwr yn y bywyd hwn, a thebygol mewn mesur o gywirdeb i'r hwn y ma [...]nt hwythau yn byw ynddo.
[Page 248]Ynteu ystyr yr arch hwn yw hyn, sef gan ein bod ni a phawb a'r a drigant ar y ddaiar heb ewyllysio wrth natur, ac heb allu cadw gorchymmynion Duw, ydd ym i daer weddio drosom ein hunain a thros eraill, ar i Dduw dwy ei yspryd roddi ini ewyllys a gallu iw adnabod ef, ac i vfuddhau iw orchymynion ef, ac i groesawu ei ragluniaeth ef, a hynny gydà 'r fath burdeb, a diwydrwydd, a bodlonrwydd, ac a arfer yr Angylion yn y nêf.
Och faint nifer, a gresyned cyflwr, y rhai a ddywedant gwneler dy ewyllys, ac etto a fynnant eu ewyllys eu hunain yn vnic, ac a fyddant annioddefgar pan ei gommedder iddynt!
Gof. 78. Pa vn yw 'r pedwcrydd arch?
Atteb. Dyro ini heddyw ein bara beunyddiol.
Gof. 79. Beth a ddeisyfir ywa?
Atteb. Ar i Dduw roddi ini bob peth angenrheidiol yn y bywyd hwn, a'i fendithr gyda hwynt.
Eglurh. Er agoryd yr arch hwn yn amlyceach, myfi a ddangofaf i chwi,
1. Beth sydd ini iw ddeall ima wrth fara.
2. Pam yr henwir bara yma yn hytrach na dim arall, a'r sydd reidiol i'r corph.
3. Pam y gweddîwn am fara dros ddiwrn od, yn hytrach na thros fîs neu flwyddyn.
Am y cyntaf, wrth fara yma y mae ini ddeall ein lluniaeth a phob peth daionus a'r sydd reidiol i gynnal ein bywyd presennol a'n cyflwr cyssurus yn y bŷd, megis bwyd, diod, dillad, phvsygwriaeth.
Am yr ail, sef pam yr henwir bara yma [Page 249]yn hytrach na phethau eraill, ystyriwn,
Mai bara yw 'r peth rheitiaf yn y byd tuag at ein bywyd a'n iechyd ni. Ac wrth hyn dylaem ddyscu ffrwyno ein serch i bethau daiarol, ac na ddeisyfom o honynt fwy nag y mae 'n anghenrhaid ni yn ei ofyn. Ni ddyscir ini ofyn sofl-ieir, ond bara, na danteithfwyd ond lluniaeth iachus.
Ac wrth hyn hefyd y mynnai Duw ini ddeall y dylaem ni fod yn fodlon er na bo cennym ormodedd. Y mae tlodi lawer môdd yn well na golud. Llawnder a dywylla 'r deall, a enynna chwant, a bortha falchder, a anghofia Dduw; ond cyflwr gwaelach a fydd iddynt yn achlysur cynnorthwyol i ymddid dyfnu oddiwrth serch ir byd, ac i ymgodi tuag at Dduw. Am hynny medd yr Apostol, 1 Tim. 6.8. O bydd gennym ymborth a dillad ymfodlonwn ar hynny.
Am y trydydd, sef pam y dyscir i ni weddîo am fara beunyddiol, yn hytrach nag am fara blynyddawl, Ergyd hyn yw peri ini Ymddiried i Dadol ragluniaeth Duw o ddydd i ddydd.
Ac i osod angenrhaid arnom ni i weddîo beunydd. Megys ac yr ydym yn pechu beunydd yn erbyn Duw, ac mewn eisiau o luniaeth bob dydd i faethu 'n cyrph, felly y dylaem weddîo beunydd am gael maddeuant o'n pechodau, a'n cynhaliaeth beunyddiol.
Ynteu ystyr yr arch hwn ar fyrr yw hyn; sef,
Yn gymmaint a'n bod ni drwy godwm Adda wedi colli ein hawl ir trugareddau perthynol i'r bywyd hwn, ac yn haeddu bod hebddynt, ydd ym ni yma yn gweddio drosom ein hunain a thros eraill, gael o honom [Page 250]ni a nhwythau o ddydd i ddydd y fath ran o bethau daiarol gan Dduw, gydà ei fendith ef arnynt, megis ac y gwelo efe fod yn llesol ini.
Gof. 80. Pa vn yw 'r pumed arch?
Atteb. Bod i Dduw er mwyn Christ ein gwaredu ni oddiwrth euogrwydd ein holl bechodau, a'r gosp ddyledus iddynt, a rhoddi grâs ini i saddcu i eraill yr hyn a wnaethant i'n herbyn, fel wrth wneuthur hynny, y derbyniom siccrwydd o faddeuant ein pechodau ein hunain, y rhai a wnaet hom yn erbyn Duw.
Eglurh. Yn yr arch hwn y mae dau beth iw ystyried,
1. Y maddeuant a ofynnir yn y geiriau hyn, maddeu ini ein dyledion.
2. Yr ammod a roddir wrtho yn y geiriau hyn, fel y maddeuwn ninnau i'n dyled-wŷr.
Am y cyntaf, wrth faddeuant o'n pechodau y deellir yma gwbl ollyngdod a rhyddhâd oddiwrth euogrwydd ein pechodau, a'r gosp ddyledus iddynt, a hynny heb iawn iw ofyn oddiwrthym ni, ond er mwyn haeddedigaethau Christ.
Yn ail, er mwyn agoryd yr ammod a chwanegir at yr arch yn y geiriau hyn, fel y maddeuwn i'n dyled-wŷr, myfi a ddangosaf i chwi,
1. Pwy sydd ini iw deall wrth ddyledwyr.
2. Pa beth a ddeallwn wrth y gair fel.
3. Pam y cyssylltir y geiriau hyn, fel' y maddeuwn i'n dyledwyr wrth yr arch hwn.
Yn gyntaf, wrth ddyledwyr y mae ini ddeall y rhai a wnaethant gam â ni yn ein Cyrph neu 'n golud, neu 'n enw da, ac enwir [Page 251]hwy yma yn y rhif liosog, i ddangos y rhaid i'n maddeuant gyrhaeddyd hyd at lâwer, ie hyd at bawb a wnelont i'n herbyn, pwy bynnog a wnelo gam â ni, bydded gyfaill neu elyn, tlawd neu gyfoethog, rhaid ini faddeu iddynt.
Yn ail, nid yw 'r gair fel yn arwyddoccau cwbl gogystadledd, megis pe gallem ni faddeu cymmaint ac yn gystal â Duw, ond bod ini mewn peth mesur geisio rebygu i Dduw yn maddeu i'n cymmydog y camwedd a wnaeth efe ini; a hynny o'n calonnau heb attal ynom gasineb ddirgel, ac mor llwyr a phe buasai heb ein digio ni erioed.
Yn drydedd, yr achosion pam y rhoddir y geiriau hyn, fel y maddeuwn i'n dyledwyr, wrth yr arch, yw y rhai hyn a galyn, sef yw hynny, I fod yn annogaeth ini i faddeu i'r rhai a wnaethant gam â ni. Canys yr ydym yn gweddîò Duw i faddeu ini, fel yr ydym ninnau yn maddeu i eraill. Am hynny os nyni ni faddeuwn i eraill, yr ydym yn dymuno ar Dduw na faddeuo efe i ninnau, ond ein bwrw yn golledig. Ynteu ofnwn gau ein colonnau yn crbyn ein brodyr, rhag inirwystro trugaredd Duw i ddyfod attom ein hunain. Canys barn ddi-drugaredd fydd ir hwn ni wnaeth drugaredd, Jag. 2.13.
Hefyd os nyni ydym yn madden i'n cymydog, y mae hynny yn arwydd ac yn ffrwyth o gariad Duw tuag attom ni yn maddeu ini ein p [...]chodau.
Cariad a thrugaredd yn nŷn sydd lewyrch o'r goleuni cynnes sydd yn tywynnu ar ei enaid ef oddiwrth Dduw, Matth. 6.14. Am hynny bydded ir hwn a fynno siccrwyd o faddeuant iddo ei hun gan Dduw, fod yn barodol i faddeu i eraill.
Swm yr arch hwn yn fy r yw hyn: sef ei n [Page 252]bod ni yn ein cydnabod ein hunain yn bechadurus, ac yn euog o lawer o bechodau; drwy y rhai yr ydym ni yn noeth i ddigofaint a melldith Dduw yma ac yn ol hyn; a chan ein bod heb allel ein gwaredu ein hunain allan o'r cyflwr truenus hwn, yr ydym yn gweddîo drosom ein hunain ac craill, ar fod i Dduw er mwyn Christ râd-faddeu ini ein holl bechodau, a thrwy ei râs ein nerthu ni i faddeu o'n colonnau ir rhai a wnaethant niwed i ni; fel y byddo ini wrth hynny gael ysbysrwydd gyssurus i'n eneidiau ein hunain fod Duw yn maddeu ein pechodau ni.
Gof. 82. Pa vn yw 'r chwechcd arch?
Atteb. Nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg.
Gof. 83. Pa beth a ddeisyfir yma?
Atteb. Deisyfwn yma fod ir Arglwydd ein cadw ni oddiwrth brofedigaeth i bechod, a'n cynnorthwyo ni pan i'n profer, a'n gwaredu ni yn ei amser prydlawn.
Eglurh. Yn yr chweched arch y mae ini ystyried chwe pheth.
1. Ein bed ni mewnperigl o gael profedigaethau, ac o gael ein tynnu ir drwg ganddynt: Sef i bechod, ac ir aflwydd a'r sydd yn ffrwyth o honaw. Y mae 'r bŷd yn llawn o brofedigacthau, y mae Satan a'i weifion a'n chwantau ein hunain yn hudwyr taerion i ni; a phob cyflwr a digwyddiad yn llawn o faglau i'n heneidiau ni.
2. Ynom ein hunain ein bod ni yn weiniaid i wrth-sefyll ac i orchfygu profedigaethau: wrth fod ein natur yn lygredig, yr ydym ni yn dueddol i ymroddi iddynt.
[Page 253]3. Fod gan Dduw allu goruwch pob profedigaeth, a gelyn budol. Nid all diafol na'i offerau gyflawni'r hyn a fynnont: y maent gan Dduw mewn cadwen, ac nis gallant fyned vn fodfedd ym mhellach nag y caniado efe iddynt, 1 Pet. 2.9. 1 Cor. 10.13.
4. Ydylaem ni weddîo am gael ein cadw oddiwrth brofedigaethau i bechod: ond gydà ymddarostwng i ewyllys Duw, yr hwn sydd weithiau yn gadel profi ei blant anwylau er llesâd iddynt.
5. Dylaem hefyd geisio gan Dduw ein cynnal ni danynt, pan ddigwyddont ini:
6. A'n gwaredu allan o honynt yn ei amser gweddus ef.
Ynteu hyn yw cynwysiad yr arch hwn; sef, ar ryngu bôdd i Dduw, wedi iddo faddeu ein pechodau ni, roddi attal ar ddiafol a'i offerau, a darostwng ein cnawd, fel i'n cadwer ni a'r sainct oll rhag ein tynnu i bechod, ir hwn yr ydym wrth natur yn dueddol; a thrwy ei lân yspryd ein cynnal ni mewn purdeb, a'n gwaredu oddiwrth bob gweithred ddrwg, a'n cadw ni iw nefol deyrnas [...]f.
Hefyd y mae ini ddyseu yma y dylai Christianogion of ni profedigaethau.
A chymeryd gofal na redont hwy iddynt: os gweddiwn yn erbyn profedigaethau, ac er hynny rhedeg ir fath lêoedd a chyfeillach ac a fyddo debygol i'n tynnu ni i bechod, aiff ein gweddiau yn ddiffrwyth wrth fod ein bucheddau yn groes iddynt, a ninnau yn gwrthod cilio oddiar ffordd y drwg.
Gof. 84. Ym mha eiriau yr adroddir diolch?
Atteb. Diolch a adroddir yn y geiriau hyn; Canys eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r [Page 254] nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Eglurh. Rhoddir y geiriau hyn ar lawr er rhoddi calon ynomni, a chryfhau ein ffydd ni mewn gweddi, ac i'n cyfarwyddo i roddi moliant a diolch.
Y pethau a ddichon roddi calondid ynom ni i weddio Duw mewn hyder o gael ein gwrando ydynt bedwar.
1. Y cyntaf a gymerir oddiwrth ei Awdurdod goruchel ef, a gynwysir yn y gair teyrnas; Canys eiddot ti yw 'r deyrnas, sef yr ydwyt yn llywodracthu ar bob teyrnas, yn Frenin y brenbinoedd, ac yn Arglwydd yr Arglwyddi, 1 Tim. 6.16. yn gallu gwneuthur a fynnech, a chyfrannu i ni y trugareddau a ofynom.
2. Yr ail a gymerir oddiwrth ei allu anfeidrol ef, drwy'r hwn y dichon efe ganiatau ini ein holl eirchion, a gwneuthur crom vwchlaw 'r hyn a ofynnom ni neu a feddyliom, gan nad oes dim yn amhossibl iddo ef, Matth. 10.27.
3. Y trydydd a gymerir oddiwrth ogoniant Duw. Gan ei fod ef yn Ogoneddus mewn trugaredd, a gwirionedd, a'i holl briodoliaethau, gallwn fod yn hyderus o'i ewyllyscarwh ef i wneuthur erom ni yr hyn a berthyn iw ogoniant ef a'n bûdd ninnau. Mor gymwys ynteu y mae Christ yn dyscu ini grybwyll wrth Dduw am ei ogoniant, pan syddom yn cyflwyno ger ei fron ef eirchion perthynol iw anrhydedd ef?
4. Y pedwerydd a gymerir oddiwrth ei Dragywyddoldeb anghyfnewidiol ef yn y geiriau hyn, yn oes oesoedd. Hyn a ddichon gryfhau ein ffydd ni 1 ddisgwyl oddiwrth Dduw y cyfryw bethau ac a wnaeth efe er ei bobl [Page 255]gynt, o herwydd ei fod ef bob amser yr vn ac oedd. Medd Dafydd wrth ymgyssuro mewn gweddi, Psal. 22 4, 5. Ein tadau a obeithiasant ynot, gobeithiasant, a gwaredaist hwynt. Arnat ti y llefasant, ac achubwyd hwynt: ynot yr ymddir iedasant, ac nis gwradwyddwyd hwynt.
Yr ymadrodd hwn, eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd, sydd yn rhoddi ini batrwm i'n cyfarwyddo i roi moliant a diolch, gan gydnabod Mawrhydi, a gallu, a gogoniant, a thragwyddoldeb Duw.
Yma y dyscir ni i glodfori ac i foliannu Duw wrth weddio atto ef. Mawl sydd ddyledswydd mwy cymeradwy gan Dduw na phoeth-offrymmau, ac aberthau defodol, Psal. 50.13. ac megis y mae ef yn hyfryd gan Dduw, felly hefyd y mae ef yn llesol i ninnau, wrth fod yn hôff gan yr Arglwydd haelionus roddi i bobl ddiolchgar.
Diwedd y weddi sydd yn y gair hwn Amen. Drwy 'r hyn y mynegir ein cydsynniad, a'n dymuniad am gael yr hyn a weddier amdano, a'n hyder y bydd i Dduw dderbyn ein deisyfiadau a'n mawl. Canys y mae Amen yn arwyddoccau gwirionedd, a chymaint ag felly bydded.
Medd dymuniad felly y byddo, ac medd hyder felly y bydd.
1. Gofyn. BEth y mae pob dyn rwymediccaf iw adnabod?
Atteb. Duw ac ef ei hun.
Eglurhad. Y mae gwybodaeth o Dduw yn dra angenrheidiol;
1. O herwydd ei bod yn odidoccaf Psal. 139 6. Canys gan fod Duw yn rhagori ar bob peth, rhaid yw i wybodaeth o honaw ef fod yn rhagorawl ywch law pob gwybodaeth.
2. Y mae yn dra anrhydeddus i Dduw. Exod. 18.10. Po mwyaf gwybodaeth y fo ganddynion am Dduw, mwyaf yr anrhydeddant ac yr ofnant ef.
3. Y m [...]e yn dra buddiol i ni. Joan. 17.3. Wrth wybodaeth o Dduw y deallwn pa fodd i fyned atto ef, pa fodd i ddisgwil bend [...] thion oddiwrtho ef, ac i ymddiried ynddo yn ein cyfyngderau a'n peryglon mwyaf. Diau ped adweinid Duw yn well, ymddiriedid iddo yn fwy. Y rhai a adwaenant dy enw a ymddiriedant ynot. Psal. 9.10.
Cymmhwysiad. Bydded i bawb a ofalant [Page 2]am danghneddyf a chyssur eu heneidiau, geisio gwybodaeth hyspys o Dduw, nid oes dim arall a haeddai ein hamser a'n dyfalwch yn fwy. Am hyn y rhoddes Dafydd y cyngor hwn iw fab Solomon, 1 Cron. 28.9. A thitheu Salomon fy mab, adnebydd Dduw dy Dâd. Yn y Cyffelyb fodd ymegniwn ninnau am wybodaeth o Dduw, drwy ddyfal gyrchu at weinidogaeth pregethiad y gair, a darlleniad yr Scrythyrau Sanctaidd, a ddichon ein gwneuthur ni yn ddoeth i iechydwriaeth. ac i wneuthur y gwirion yn ddoeth. Psal. 19.7. Gweddiwn hefyd ar Dduw am gael calon ddeallus iw adnabod ef, a dirgelion yr efengil.
2. Yn nesaf at wybodaeth o Dduw y mae yn addas i ni geisio ein adnabod ein hunain.
Wrth hynny y cawn ni ddirnad ein cyflwr truenus. Yr ydym ni yn greaduriaid tra gwael a phech [...]durus, etto wrth natur yn tybied yn dda o honom ein hunain. Yr ydym ni oll, nes i Dduw newid ein meddyliau a'n moddion, yn aroglio falchder y Laodiceaid. Datc. 3.17. Er ein bod ni yn druenus, yn dlodion, yn ddeillion, ac yn noethion, etto ni a'n tybiwn ein hunain yn gyfoethogion, ac heb fod arnom eisiau dim.
Cyngor ein Hachubwr gan hynny sydd dymmhoraidd i ni, ar i ni weddio am yspryd goleuad, fal y bo i ni allu ein dirnad a'n barnu ein hunain. Pe baem yn ein hadnabod em hunain yn dda, yn fuan gyda dirfawr gy [...]vilydd ni a ollyngem ein balchder i syr [...]io, a dywedem gyda Job. pen. 42.6. Y mae yn ffiaidd gennif fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw. Gwelodd y rhai cenhedlic mor rheidiol ydoedd y wers hon, ac am hynny y rhoddir ar lawr ym mysc diharebion eu doethion hwynt, cydnebydd [Page 3]a thi dy hun. Drwy hyn y Cedwir ni rhag meddwl yn rhy dda o honom ein hunain, ac i'n cynhyrfir yn fwy i geisio cymmorth. Canys wrth wybod ein trueni naturiol, y dichon y cyfryw deimlad o honaw fod wedi ei weithio ynom ni, a'r na adawo ini lonydd, nes i ni gael moddion gwaredigaeth.