YR Arglwydd roddes y gair, a mawr oedd mintai y rhai ai pregethent, medd y Prophwyd Dafydd; Psal. 68.11. hynny yw, Duw a roddodd ei gyfraith drwy weinidogaeth Moses ac Aaron, ar efengil drwy Grist ai Apostolion, a llawer oedd rhifedi y rhai ar ôl hynny a gyhoeddasant y newyddion da o iechydwriaeth i ddynion. Duw ym mhob oes er derchafiad Christ ir nef, a ddanfonodd allan iw Eglwys lawer o bregethwyr dyscedig, a ffyddlon, i bregethu yr Efengil i ddynion, ac i ddangos iddynt ffordd iechydwriaeth; ond dymma 'r peth Sydd iw a laethu; ar ôl i Grist ai weinidogion hau [Page 2] hâd da y gair ymmaes yr eglwys, y cythrael, gelyn annyhuddol dyn, tra bu y rhai oeddynt i wilied ar braidd Dduw yn cysgu, y gelyn hwn, meddaf, a ddaeth, ac a hauodd efrau ym mysg y gwenith, hynny yw, heresiau, a gau athrawiaethau, ac felly a lygrodd ffydd Grist; megis ac y rhagddywedodd Christ ei hun, gau brophwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer. Math. 24.11. A Sanct Paul gan annog Escobion Asia, i edrych arnynt eu hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr yspryd glân hwy yn olygwyr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrchassodd efe ai briod waed, Act. 20.28. Sydd yn rhod [...]i y rheswm hwn iw hannog i wneuthur hynny, y gwyddei efe y deuei yn ôl ei ymadawiad ef fleiddiau blinion (neu gau athrawon) iw plith, y rhai nid arbedent y praidd, 29, 30. ond a dwyllent y ffyddloniaid ac a wnaent niwed mawr; ac y cyfodei ohonynt hwy ai heglwys eu hunain wyr a lefarent bethau gwyrdraws i dynnu discyblion ar eu hôl. A hyn a wiriwyd [Page 3] nid yn vnig yn ei amser ef ond hefyd yn yr holl amserau, er hynny; ac yn yspysol yn yr amserau hyn, ym mha rhai yr ydym yn byw, gan fod gennym ni yn ein mysg gau brophwydi lawer, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinistriol, 2 Pet. 2.1. a thrwy ymadrodd têg, a gweniaeth a dwyllant galonnau y rhai diddrwg Rhuf. 16.18. Y rhai fel y gallom eu gochelyd yn well y mae Sanct Joan yn rhoi i ni y rhybudd hwn yn y text, Anwylyd na chredwch bôb yspryd, eithr profwch yr ysprydion, ai o Dduw y mae [...]t, oblegid y mae gau brophwydi lawer wedi myned allan ir byd. Ym mha eiriau y mae rhybudd dauddyblig; y cyntaf, na chredwch bôb yspryd; yr ail, profwch yr ysprydion, ai o Dduw y maent. Ac yna rheswm am bôb vn òr ddau, oblegid y mae gau brophwydi lawer wedi myned allan ir byd.
1. I ddechreu ar rhybudd cyntaf, neu y gwahardd; na chredwch bôb yspryd hynny yw, na chredwch, na dderbynniwch bôb athrawiaeth a glywoch, megis [Page 4] vn yn dyfod drwy ysprydoliaeth oddiwrth yspryd Duw; neu na chredwch bôb dyscawdwr sydd yn dywedyd, fod ganddo yspryd Duw. na ddilynwch y cyfryw vn; na adewch eich twyllo drwy ei rithiau têg ef, ach [...]llygru drwy ei gau athrawiaethau. Dymma gyngor Christ ei hun, os dywyd neb wrthych, wele llymma Grist, neu llymma, na chredwch canys cyfid gau gristian, a gau brophwydi' ac a roddant arwyddion mowrion, a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe by [...]dei bosibl, ie yr etholedigion. Math. 24.23, 24. Megis pe bae yn dywedyd, yna pan ollyngir Satan yn rhydd, ac y delo i fod yn yspryd celwyddog yngenau gau ath [...]awon, yna os pregethant i chwi vn athrawiaeth amgen, nac a dderbynniasoch, byddont Anathema, na wrandewch arnynt. os dywedant, fel y mae yn y chweched wers or hugain or bennod honno, wele y mae Christ yn y diffaethwch, hynny yw, mae Christ, neu ei wir Eglwys (lle y mae efe yn bresennol) yn y neillduad, ac ym mysg y rhai sydd yn eu [Page 5] neillduo eu hunain oddiwrth wasanaethwyr c [...]hoedd Duw yn yr Eglwysi; neu y mae efe yn y stafelloedd (mewn lleoedd dirgel, cymmwys i ymgyfarfod) nac ewch allan, na chredwch hwynt. Ar cyfryw rybudd a hwn y mae ein Achubwr Christ yn ei roi, Math. 7.15. ymogelwch rhag y gau brophwydi, y ddeuant attoch yngwiscoedd defaid, ond oddimewn bleiddiaid rheipus ydynt hwy. Ymogelwch rhagddynt, na thwyllir chwi ganddynt. Hwynt hwy a ddywedant, mai hwy yw r vnig bobl sydd yn deall gair duw, ac yn jawn esponio yr yscrythur lân; y rhaid i chwi neillduo oddiwrth bawb eraill, a glynu wrthynt hwy, megis vnig bobl Dduw, ac nad oes jechydwriaeth iw gael ond trwy ymgyslylltu a hwy, ai dilyn hwy; mai hwynt hwy yn vnig yw eglwys Dduw; fel y dywedai y Donatistiaid gynt; ond na chredwch hwynt. ar cyfryw rybudd a roddodd Duw iw bobl gynt tan y gyfraith. Pan godo yn dy fysg di brophwyd, neu freuddwydudd brenddwyd (a roddi it arwydd, neu [Page 6] rhyfeddod, a dyfod i ben o'r arwydd, neu 'r rhyfeddod a lefarodd efe wrthit) gan ddywedid, awn or ôl Duwiau dieithr (y rhai nid adwaenost) a gwasanaethwn hwynt, na wrando ar eiriau y prophwyd hwnnw, neu ar y breuddwydudd breuddwyd hwnnw; Dent. 13.1, 2, 3. Paham hynny? y mae y rheswm yn canlyn yn y geiriau nessaf, Canys yr arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod, a ydych chwi yn caru yr arglwydd eich Duw ach holl galon, ac ach holl enaid. Y rheswm pam y mae Duw yn goddef i gau brophwydigodi yn ein plith yw, i brofi gwirionedd ein cariad tuag atto ef, an dianwadalwch yn ei wasanaeth. yn gysson ar hyn y mae yr Apostol yn ei ddywedyd, rhaid yw bôd heresiau yn eich mysg, fel y byddo y rhai cymmeradwy (y rhai onest, ac vniowngred) yn eglur yn eich plith chwi. 1 Cor. 11.19. ac hefyd in hannog ni wrth hynny, i fod yn fwy dyfal i chwilio allan y gwirionedd, ac i brofi yr athrawiaethau a glywom. Ca [...]ys dyna r peth a orchmynnir nessaf yn [Page 7] y text, profwch yr ysprydion, ai o Dduw y maent.
2 Na choeliwch bôb dyscawdwr, ond holwch bôb vn, ac sydd yn cymmeryd arno fod yr yspryd ganddo, a mynnwch wybod a ydyw ef ganddo mewn gwirionedd. yr hwn a fyddo mor hygred, a choelio pôb vn, ac sydd yn dywedyd fod ganddo yspryd Duw, ac ni chymmero boen yn gyntaf i brofi y cyfryw vn, ai athrawiaeth drwy air Duw, rheol y gwirionedd, siccr yw, y caiff hyrddu celvvyddau arno tan vvisg gvvirionedd; oblegid fod erioed, ac y bydd byth drvvy ganiataad duw, ac annogiad Satan, gau brophwydi, neu athrawon yn y byd. fe ymffrostia hyd yn oed gau ddyscawdwyr or gwirionedd; Ac am hynny rhaid i ni brofi drwy air Duw, oddiwrth ba y spryd y mae eu hathrawiaeth yn dyfod. Megis ac y darllenwn ir Beraeaid vvneuthur, y rhai gan fod yn foneddigeiddach (ac o vvell tymmer) na'r rhai oedd yn Thessalonica, a dderbyniasant y gair gyd â phôb [Page 8] parodrwydd meddwl, gan chwilio 'r yscrythyrau, a oedd y pethau hynny, a glywsant (sanct Paul yn eu traethu) felly. Act 17.11. Ac Angel eglwys Ephesus a ganmolir, am nad allei oddef y rhai drwg oedd yn yr eglwys honno, a phrofi ohono y rhai a ddywedent eu bôd yn Apostolion ac nid oeddynt, a chael ohono hwynt yn gelwyddog; Datc. 2.2. iddo holi eu gau ddysgawdwyr, a datcuddio eu bod y cyfryw rai. Ni wasanaetha i ni dderbyn pôb athrawiaeth, ond rhaid i ni, fel y gorchymmyn yr Apostol, brofi pôb peth, a dal yr hyn sydd dda. 1. Thes. 5.21. Ac wrth ba beth y profwn yr athrawiaethau y glywom, ond vvrth yr yscrythur làn, yr hon yvv yr vnig vvir reolo ffvdd a byvvyd? Pa beth bynnag sydd vvrthwynebol ir Scrythur lân, nid llewy [...]chiad yr yspryd glân ydyw, eithr hâd hûd tywysog y tywyllwch, Duw y byd hwn, yr hwn sydd yn dallu meddyliau y rhai digred, fel na thywynnei iddynt lewyrch gogoniant Christ, fel y dywyd yr [Page 9] Apostol. 2. Cor. 4.4. Ac am hynny y mae Christ yn peri i ni chwilio'r yscrythyrau. Joh. 5.39. A'r prophwyd Esay sydd yn ein cyfarwyddo ni at yr vn maen-prawf, i wybod gwahaniaeth rhwng gwîr, a gau brophwydi; At y gyfraith, ac at y dystiolaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hynny sydd am nad oes goleuni ynddynt. Esay 8.20. Os llefarant ddim nid yw yn ôl gair Duw, arwydd eglur yw, nad oes ynddynt oleuni gwirionedd. Ac am hynny y dywyd Sanct Austyn, (otr æ Petil de vnit. ecl: cap: 6:) wrth y gau athrawon yn eu amser ef, darllenwch i ni hyn o'r gyfraith, o'r prophwydi, òr Psalmau, o'r efengil, o scrifennadau yr Apostolion, ac nyni ach coeliwn chwi. canys gan fod yr holl scrythur wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, 2. Tim. 3.16. gan mai yr yspryd glân a lefarodd drwy'r prophwydi, ac a ddyscodd i Scrifennyddion 'r scrythur beth a scrifennent; gan mai efe oedd yr adroddwr, ac nad oeddynt hwy, ond yr yscrifennyddion; [Page 10] os yr athrawiaeth sydd oddiwrtho ef, y mae hi yn gysson a'r yscrythur, yr hon a ddaeth drwy ei ysprydoliaeth ef; gan fod y naill wirionedd yn cyttuno yn wastad ar llall. canys beth yw yr holl wirioneddau ac sydd, ond delwau a drychau oi gilidd? pelydrau yr vn haul ydynt oll, ffrydau ydynt oll yn llifeirio òr vn ffynnon, Duw y gwirionedd. Ac am hynny y dywyd yr Apostol, pe byddei i ni, neu i Angel o'r nef efangylu i chwi, amgen, nar hyn a efangelasom i chwi, bydded Anathema. Gal. 1.8.9. os dysg neb i chwi athrawiaeth newydd, wrthwynebol ir hon a ddysgasoch, neu nid yw gysson â hi, na wrandewch arno, na fydded i chwi a wneloch ag ef; eithr edrychwch arno megis gau brophwyd, a throwch oddiwrho, megis vn melldigedig sydd yn llygru gair Duw, neu yn chwannegu atto ef. Dymma gan hynny y ffordd gyntaf i brofi yr ysprydion au athrawiaethau, ai o Dduw y maent, eu holi [Page 11] hwynt yn ôl rheol gair Duw, os ydynt yn cyttuno â hon, y maent iw derbyn; ond os ydynt yn ânghyflon a'r rheol hon, rhaid eu gwrthod, yr awrhon os holwn lawer o athrawiaethau eglwys Rhufain wrth y rheol hon o air Duw, nyni a gawn weled en bod hwy yn anghysson ag ef, ac oherwydd hynny iw gwrthod.
Canys yn gyntaf y maent yn dysgu y cyfiawnheir ni ger bron Duw drwy ein cy fiawnder ein hunain (y cyfiawnder hwnnw fel y dywedant) nid trwy ba vn y mae Duw ei hun yn gyfiawn, ond drwy ba vn y mae efe yn ein gwneu [...]hur ni yn gyfiawn; ac ar hwn a nyni yn gynnysgaeddol, yr adnewyd [...]ir ni yn yspryd ein meddwl; ac nid yn vnig y cyfrifir, ond y gwneir ni yn wir gyfiawn; y cyfiawnder hwn, meddant, neu adn [...]wyddiad y dyn oddimewn, neu y sancteiddiad sydd ynom yw 'r ffurfiol achos on cyfiawnhâd. Conc. Trid. ses. ba. Lle y mae yr y scrythnr lân yn dangos yn eglur y cyfiawnheir [Page 12] ni, nid trwy ein cyfiawnder ein hunain, ond trwy gyfiawnder Christ, yr hwn a gyfrifir i ni.
Bod Duw yn ein gwneuthur ni yn gyfiawn, ac yn sancteiddio pôb vn, ac y mae efe yn ei gyfiawnhau; bod y ddwy weithred hon yn anwahanol, nid ydym yn gwadu, ond yn dra parod yn cydnabod, ond dymma 'r peth yr ydym yn sefyll arno, ac yn ei ddal, yn erbyn gwrthddadl y Papistiaid, nad yw y cyfiawnder hwn mor berffaith, ac y dichon yn dwyn ni allan ger bron gorseddfaingc Duw. A hyn sydd yn ymddangos drwy amryw fannau òr yscrythur lân; megis 1. Cor. 4.4. ple y mae yr Apostol yn dywedyd, ni wn ni ddim arnaf fy hun, ond yn hyn ni'm cyfiawnhawyd. yr oedd gan yr Apostol gimmaint cyfran òr cyfiawnder hwn, ac oedd gan y rhan fwyaf o bobl; ac etto mae efe yn professu nad oedd ef yn disgwil cael ei gyfiawnhau wrthò ef: ac am hynny nid gwiw i neb [Page 13] arall hyderu ar ei gyfiawnder ei hûn, am gyfiawnhâd ger bron Duw. Y Prophwyd Dafydd yntef oedd mewn rhagorol fodd yn gynnysgaeddol ar cyfiawnder hwn; Canys y mae efe yn dywedyd, ei fod yn myfyrio yng orchmynion Duw; ac yn ymddigrifo yn ei ddeddfau; iddo ostwng ei galon i wneuthur ei ddedfau byth hyd y diwedd; a chadw ei orchmynion, ai dystiolaethan, Psal. 119.15.112, 168. ac etto mae efe yn gweddio ar Dduw, na farnei efe ef yn ôl tos [...]rwydd y gyfraith; na ddôs i farn a'th wâs; ac yn rhoi rheswm am hynny yn y geiriau sy'n canlyn, oherwydd ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di; Psal. 143.2. hynny yw, os tydi ai berni yn ôl y gyfraith. neu fel y mae efe yn dywedyd Psal. 130.3. os creffi ar anwireddau, Arglwydd; ô Arglwydd, pwy a saif? os Duw a graffa ar anwireddau y dyn cyfiawnaf ar y ddaiar, ac a ddelia ag ef yn nhostrwydd ei gyfiawnder, ni ddichon efe sefyll ger ei [Page 14] fron; ac am hynny y mae y twysogawl brophwyd yn y wers ness [...]f yn ffoi oddiwrth gyfiawnder Duw at ei drugaredd, gan ddywedyd, onid y mae gyda thi faddeuant, fel i'th ofner. w. 4. A da y mae sanct Austyn yn dywedyd, gwedi canmol rhinweddau ei fam gwae hyd yn oed i ganmoladwyaf fywyd dyn, Aug. c [...]n [...]. lib. [...]3 os ti Arglwydd, a'i holryn fanwl, [...] roi heibio dy drugaredd. Pah [...]m h [...]nny? rhaid ir cyfiawnder, drwy b [...] vn y cyfiawnheir dyn ger bron Duw, fod yn berffaith; gan mai melldigedig yw pôb vn nid yw yn aros yn yr holl bethau a scrifennir yn llvfr y ddeddf iw gwneuthur hwynt. Gal. 3.10. ond am ein cyfiawnder ni, mae ef yn dra ammherffaith, ac ammhur; ein cyfiawnder gwael ni, medd sanct Bernard de verb. Esa scr 4. od oes vn, sydd vniawn ysg [...]tfydd, ond nid yw bur; onid ydym ysgatfydd, yn credu yn bod ni yn well nan tadau, y rhai a ddywedasant nid â [Page 15] llai gwirionedd, na gostyngeiddrwydd, megis brattiau budron yw ein holl gyfiawnderau; Canys pa fodd, medd ef y bydd cyfiawnder pûr, lle nid all bai fod yn eisieu? pa fodd y gall ein cyfiawnder ammherffaith ein cyfiawnhâu ni ger bron Duw? pa fodd y gallwn ni fod yn gyfiawn wrth gyfraith Dduw, yr hon yr ydym yn ei throsseddu? Mewn llawer o bethau yr ydym bawb yn llithro, medd Sanct Jago, 3 2. acam hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir vn cnawd yng olwg Duw, fel y dywyd Sanct Paul; Rhuf 3.20. nid all neb gael ei gyfiawnhau d [...]wy ei gyfiawnder ei hun. Drwy ba beth gan hynny y mae efe yn cael ei gyfiawnhau? drwy gyfiawnder Christ, yr hwn a [...]yfrifir iddo, ac a wneir yn eiddo ef drwy ffydd. Canys megis trwy anufydddod vn dyn (sef Adda) y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy vfydddod vn, (sef Christ) y gwneir llawer yn gyfiawn. Rhuf 5.19. Drwy hwn y cyfiawnheir pôb vn sydd yn credu, oddiwrth [Page 16] yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddiwrthynt. Act. 13.39. A thrwy ei gyfiawnder ef, yr hwn a gyfrifir i ni, y gwneir ni yn gyfiawn; yn ôl ymadrodd yr vn Apostol, Yr hwn ni wnaeth bechod, a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef. 2 Cor. 5.21. Fel y darfu i Dduw gyfrif ein pechodau ni i Grist, ai gospi ef amdanynt: felly mae efe yn cyfrif i ni (y ffyddloniaid) gyfiawnder Christ, fel y byddom gyfiawn ger ei fron ef. nid all ein cyfiawnder ammherffaith ein hunain yn cyfiawnhau ni ger bron Duw; (mae hwn yn dilledyn rhy gûl i guddio ein aflendid, yr hwn nid yw, ond megis gorchudd o ddail ffigus, fel hwnnw o eiddo ein rhieni cyntaf, fel y dywyd Macarius); ac am hynny mae efe yn cyfrif i ni gyfiawnder vn arall, sef cyfiawnder Christ, yr hwn sydd ddigon helaeth i guddio ein cywilydd a'n noethni. Ac am hynny da y dywed sanct Bernard, [Page 17] Ser. in Cant. 61. Arglwydd myfi a gofiaf dy gyfiawnder di yn ynig yr hwn hefyd sydd eiddo finneu; oblegid dy fod ti wedi ei wneuthur i mi gan Dduw yn gyfiawnder, ac nid rhaid i mi ofni ei fod yn fantell fer nid all guddio dau; Canys dy gyfiawnder di sydd wisg laes, a thra helaeth, 'ith guddio di, a minneu hefyd; i guddio ynofi liaws o bechodau, ond ynoti, o Arglwydd, beth a guddia ef, ond tryssorau dy ddaioni? mae yn amlwg gan hynny mae mai trwy gyfiawnder Christ y cyfiawnheir ni ger fron bron Duw, ac nid trwy ein cyfiawnder ein hunain.
2. Y maent yn dysgu ein bod ni trwy ein gweithredoedd da yn haeddu nid yn vnig cynnydd grâs, ond hefyd bywyd tragwyddol; ac yn ysgymmuno y rhai a ddywedant yn amgen. Cunc. Trid. Ses. 6a. cap. 16. can. 32. lle y mae Christ drwy esampl gwâs yn dyfod o'r maes, yn dangos y gwir wrthwyneb; Pwy ohonoch chwi (medd efe) ac iddo wâs yn aredig, neu yn bugeilio, a ddywed wrtho yn y man [Page 18] pan ddel o'r maes, dôs, ac eistedd i lawr i fwytta? ond yn hytrach a ddywed wrtho, arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanetha arnafi, nes i mi fwytta, ac yfed, ac wedi hynny y bwyttei, ac yr yfi ditheu. Oes ganddo ddiolch ir gwâs hwnnw, am wneuthur ohono y pethau a orchymmynasid iddo? nid wyf yn tybied. Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ac a orchmynnwyd i chwi dywedwch, gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom. Luc. 17.7, 8, 9, 10. Pa fodd y gallwn ni haeddu gwobr am wneuthur yr hyn nid allwn ei adael heb wneuthur yn ddibechod? mae 'r cwbl ac a allwn ei wneuthur, ie ac ychwaneg yn ddyledus i Dduw drwy rwym ein creedigaeth, a'n prynedigaeth, a gorchymyn cyfraith Dduw; ie yr ydym ni ymmhell oddiwrth wneuthur hynny; oblegid ein bod ni bawb yn llithro mewn llawer o bethau, fel y dywyd yr Apostol Jag. 3.2. ac am hynny ein vnig haeddedigaeth [Page 19] ni yw damnedigaeth a marwolaeth tragwyddol; yn ôl ymadrodd yr Apostol, Rhuf. 6.23. cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Jesu Grist ein hargwydd. Dawn Duw yw bywyd tragwyddol, ac nid all neb er sancteiddied fyddo, ei gleimio megis cyflog am ei wasanaeth i Dduw. Je, er i ddyn wasanaethau Duw fil o fl [...]nyddoedd yn oreu fyth ac a allo, etto ni haedda efe aros yn y nef vn hanner diwrnod fel y dywyd vn or hen dadau. A da y mae vn arall yn dywedyd; fy holl haeddiant i yw trugaredd Dduw. Ansel de mensurat. cru [...]is. mae hyn yn ymddangos, Bevns ser. 61 in cant. oblegid fod pump Peth yn angenrheidiol, fel y gallo gwaith haeddu gwobr amdano; 1. iddo fod yn eiddo ni; 2 iddo fod yn rhydd. 3 iddo fod ryw ffordd yn llessol ir hwn y disgwiliwn wobr amdano. 4 ei fod yn berftaith; ac 5 yn gyfartal ar gwobr. Yr awrhon os edrychwn ar ein gweithredoedd [Page 20] da, nyni a gawn weled eù bod hwy yn ddiffygiol yn yr holl ystyriaethau hyn. Canys.
- 1 Y gweithroedd da yr ydym yn eu gwneuthur, nid eiddom ni ydynt, ond eiddo
Duw, yr hwn, fel y dywyd yr Apostol,
sydd yn gweithio ynom ewyllysio a gweithredu oi Ewyllys da ef. Phil. 2.13. A thrachefn,
trwy râs Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a i râs ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll; ac nyd myfi chwaith, ond grâs Duw, yr hwn oedd gyda mi. 1.
Cor. 15.10. O ble y mae sanct Austin yn argau yn gryf yn erbyn pôb dadl dros haeddiant dyn, fel hyn; os dy weithredoedd sydd dda, doniau Duw ydynt; os ydynt ddrwg, nid ydyw Duw yn eu coroni hwynt;
Aug. de lib. ar [...]t. cap. 7.os Duw gan hynny sydd yn coroni dy weithredoedd, y mae efe yn eu coroni hwynt, nid megis dy haeddedigaethau di, ond megis ei ddoniau ei hun.
- [Page 21]2 Rhaid i weithred haeddiannol fod yn rhydd, hynny yw, yn ein meddiant, a'n dewis ni iw gwneuthur, neu iw gadael heb wneuthur; ond nid yw ein gweithredoedd da ni felly. Canys gwedi i ni wneuthur y cwbl oll ac a allom, fe, orchymynnir i ni ddywedyd, gweision anfuddiol ydym, ni wnaethom ni ddim ond a ddylasem; Luc. 17.10 ac am hynny ni haeddwn ni ddim mwy nag y mae yr hwn sydd yn talu arian, y mae efe yn rhwym mewn bond, yn haeddu ar law y neb, y mae efe yn t [...]lu a [...]ian iddo.
- 3 Rhaid i weithred haeddiannol fod ryw ffordd yn llessol ir hwn y mae efe yn disgwil mewn caeth gyfiawnder wobr ganddo. Ond nid yw ein gweithredoedd da ni ffordd yn y byd
llessol i Dduw; nid yw ef yn cael budd yn y byd oddiwrthynt. Canys, fel y dywyd
[...]liphaz wrth Job, 22.2.
a wnâ gwr lessâd i dduw? fel y gwna y synhwyrol lessâd iddo hun? neu fel y dywyd Elihu
[Page 22] wrtho,
Job. 35.7, 8.
Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di? I wr fel tydi, dy annuwioldeb; ac fâb dyn, d
[...] gyfiawnder, a all ryw beth, a all wneuthur cymmwynas; ond am Dduw, fe ddichon y dyn cyfiawnaf ddywe
[...]yd gyd a'r prophwyd Dafydd,
Psal. 16.2.
fy nâ nid yw ddim i ti. Nid yw ef yn sefyll mewn eisieu o vn o'n gweithredoedd da ni, ac nid yw ef ddim gwell erddynt. Ac am hynny da ydwyd Sanct Austyn Os nyni a wasanaethwn,
De Citit. Dei cap. 5.ac a addolwn Dduw, fel y dylem, yr holl lessad sydd yn dyfod i ni ein hunain, ac nid i Dduw: Canys ni ddywyd neb fod y ffynnon yn ynnill dim wrth yfed ohoni.
- 4 Rhaid i weithred haeddiannol fod yn berffaith, ac yn ddifeius; ond nid yw ein gweithredoedd da ni felly; Canys mae
[...]in gweithredoedd goreu gwedi eu ll
[...]gru yn y cyfryw fodd, a bod
[Page 23] y prophwd Esay yn eu galw,
yn frattiau budron; Esay 64.4. a'n cyfiawnder ni, medd Gregorius; Os
hb. 5. moral.holir ef yn ôl rheol cyfiawnder Duw, nid yw ef ddim amgen ond anghwyfiawnder; ar peth sydd yn ymddangos yn lân yng olwg y gweithiwr, sydd fudr ac aflan yng olygiad y barnwr.
- 5 Yn ddiweddaf rhaid bod mewn gweithred haeddiannol beth gyfartalwch, a chydweddoldeb ar gwobr; ond nid oes dim o'r cyfryw beth yn ein gweithredoedd da ni; Canys pe gallem roi gweithredoedd yn y byd yn y clorian gyda'r tragwyddol bwys hwnnw o ogoniant, yno diammeu y gallem roi ein
goddefiadau er mwyn Christ; ond mae y rhain yn rhy yscafn;
nid yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, yn haeddu eu cyffelybu ir gogoniant a ddatcuddir i ni. Rhuf. 8.18. nid oes neb yn byw mor dduwiol, ac y dichon ef fod yn deilwng o deyrnas nef; ond rhodd Dduw yn hollawl yw hon; ac er
[Page 24] pe gwnaem ni anneirif weithredoedd da, er pe deuem i vchder rhinwedd, etto er hyn ei gyd, nid allem fod yn gadwedig, ond trwy fawr, a thyner drugaredd Dduw,
ad col.hom. [...]amedd Chrysostom A sanct Austvn yntef sydd yn dywedyd, pan eisteddo y barnwr cyfiawn ar ei orseddfaingc, pwy a feiddia yna ddywedyd, mae fy nghalon yn lân? ie pa obaith i neb fod yn gadwedig, oni bydd i drugaredd y dydd hwnaw gael y llaw vchaf ar gyfiawnder?Aug. cp. [...]9.nid all neb gan hynny wrth ei weithredoedd da haeddu bywyd tragwyddol, a nef iw enaid.
- 3 Ym
[...]ent yn dysgu, ac yn credu fod y bara a'r gwin yn swpper yr Arglwydd,
Cmc. Trid. le transu [...]. c. 4. cant. 2.trwy gyssegraid yr offeiriad gwedi eu troi, neu eu trawsylweddu i gorph, a gwaed Christ, oblegid i Grist wrth ordeinio a rhoddi y swpper hwnnw, ddywedyd am y bara, hwn yw fy nghorph, ac am y gwin, hwn yw fy [Page 25] ngwaed. Ond rhaid iddynt wybod fod Christ yn dywedyd amdano ei hun lawer o bethau sydd iw deall, nid yn llythrennol, ond yn foddol, neu drwy ddull o ymadrodd; drwy ba un y troir rhai geiriau oi hystyr, neu eu synhawyreg priodol eu hunain, i arwyddoccâad arall, neu i osod allan bethau eraill, ni arddangosant yn eu arwyddoccâad naturiol. Felly y mae Christ yn ei alw ei hun y ffordd, Jo. 14.6. y drws, 10.9. a'r wîr winwydden; 15.1. a sanct Paul yn ei alw y graig 1. Cor: 10.4. nid oblegid ei fod felly mewn synhwyreg lythrennol, ond mewn mâth ar ddull, ac mewn rhyw ystyriaeth; neu oblegid fôd rhyw gyffelybrwydd rhwng Christ a'r Pethau hyn. Yn yr vn modd gan fôd y bara a'r gwin yn swpper yr Arglwydd, nid yn vnig yn arwyddion i arwyddocâu corph a gwaed Christ, ond hefyd yn offerynnau iw ddwyn ef i mewn ir enaid mewn modd helaethach nag o'r blaen, ac yn selau i siccrhâu ei roddiad, ai dderbyniad [Page 26] ef, ai holl ddoniau angenrheidiol i jechydwraieth, ir Christion gwîr edifeirol, ac vfyddgar, fe welodd Christ yn dda, oblegid hynny eu galw hwynt wrth enwau ei gorph, ai waed bendigedig ei hûn. Y bara a elwir corph Christ, ar gwin ei waed, nid oblegid eu fod felly mewn sylwedd; ond yn vnig mewn modd dirgel, [...] sacramentaidd. A pheth arferol yn yr yscrythur lân ydyw galw y sacramentau with enwau y pethau y maent yn sacramentau ohonynt. Felly enwaediad yr hwn nid oedd ond arwydd o'r cyfammod, a wnaeth Duw ag Abraham, ac ynddo ef ar holl ffyddloniaid, a elwir wrth enw y cyfammod; bydd fy nghyfammod, yn eich enawd chwi. Gen. 17.13. fy nghyfammod, hynny yw, arwydd fy nghyfammod, fef, enwaediad, fel y mae yn yr 11. wers, a chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad; a bydd yn arwydd cyfammod rhyngofi a chwitheu. Ac felly yr oen Pâsg a elwir wrth enw y Pâsg [Page 27] ei hun, bwyttewch ef ar ffrwst, Pâsc yr Arglwydd ydyw. Exod. 12.11. yr oen, yr annifail direswm hwnnw a appwyntiwd ir bol, nid Pasc yr Arglwydd oedd ef, ond arwydd, a sêl ohono. Canys y Pâsc, neu fynediad yr Arglwydd heibio, oedd, pan laddodd efe, yr holl rai cyntaf anedig yn nhîr yr Aipht, ac yr aeth heibio i dai yr Israeliaid, heb wneuthur dim niwed iddynt; o'r hwn fawr lessâd, a'r ymwared allan o'r Aipht, yr oedd yr oen Pâsc yn arwydd, ac yn goffadvvriaeth; ac fel y printiei yn well yn eu meddyliau yr hyn a wnaethei Duw drostynt, fe ai galwyd wrth enw y peth yr oedd ef yn ei gynnyrcholi, Pâsc yr Arglwydd. Yr vn ffunud hefyd yn sacrament swpper yr Arglwydd, yr arwyddion oddiallan, sef, y bara a'r gwîn, a elwir wrth enwau y pethau y maent yn eu arwyddoccâu, corph a gwaed Christ; in siccrhau ni yn well, os nyni au derbyniwn hwynt yn deilwng, [Page 28] y byddwn gyfrannogion o lessadau ei gorph, yr hwn a ddryllwyd, ac a groeshoelwyd ar y groes, a'i waed bendigedig yr hwn a dywalltwyd yno.
Oherwydd Pa achos y mae Sanct Austyn yn dywedyd, Aug. contra Adimant. cap.12. ni rusodd yr Arglwydd ddywedyd, dymma fy ngorph, pan roddodd efe yn vnig arwydd, neu sacrament ei gorph. A Thertylian yntef, gan esponio y geiriau hynny, Tert. contra. Mar. [...].4 hwn yw fy nghorph sydd yn ei alw, ffigur ei gorph. A Sanct Austyn drachefn sydd yn dywedyd, lle y tebygir y gorchymmynnir gweithred ysgeler, rhaid yw deall yr ymadrodd drwy ddull; megis pan ddywedir, oni fwyttewch gnawd mâb y dyn, ac oni yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch; Jo. 6.53. ysgelerder ffiaidd fyddei bwytta cnawd Christ mewn gwirionedd, Aug de doetrin. Christi lib. 3. cap. 16. a sylwedd; ac am hynny trwy ddull ymadrodd y mae i ni ddeall hyn, [Page 29] yr hyn sydd yn ymddangos etto ymmhellach drwy amryw resymmau cedyrn.
- 1. Canys yn gyntaf. Pan lefarodd Christ y geiriau hyn am y bara, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph; ac am y gwîn, hwn yw fy ngwaed, Mat. 26.26.28. yr oedd Christ y pryd hynny yn sefyll wrth y bwrdd, ac yn llefaru wrrh ei ddyscyblion, yn bendithio'r bara, ac yn rhoddi diolch wedi cymmeryd y cwppan; ac am hynny nid oeddynt, ac nid allent y pryd hynny fwytta vn rhan oi vvîr gorph ef, yr hwn oedd yno yn gyfan heb ei dorri, ac yn fyw; nac yfed vn defnyn oi waed ef, yr hwn oedd etto yn ei withennau heb ei ollwng allan.
- 2. Y mae yn amlwg na throir yr elfyddau o fara a gwîn i wîr gorph a gwaed Christ, oblegid ein bod yn gweled a'n llygaid corphorol, mai yr vn rhai yw 'r elfyddau hyn ar ôl, a chyn y cyssegriad; bara a gwîn yr ydym yn ei weled cynt, a chwedi; nid [Page 30] ydym yn teimlo, nac yn archwaethu dim yn gorphorol, ond bara a gwîn; nid oes yno na chig, na gwaed iw gweled a llygaid, iw teimlo a dwylo, iw profi yn y genau, nac iw gollwng i lawr ir cylla; nid ydym nac yn gweled, nac yn teimlo, nac yn profi dim ond bara a gwîn. Ac mae yr Apostol S t Paul, athro mawr y cenhedloedd, ar ôl cyssegriad yr elfyddau hyn, yn eu galw yn fara a gwîn. Cynnifer gwaith bynnac y bwyttaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr arglwydd oni ddelo. 1. Cor. 11.26.
- 3 Y mae yn amlwg nad ydym yn bwytta gwir gorph Christ, ac yn yfed ei wîr waed ef, oblegid mai yr vn bwyd ysprydol, a'r vn ddiod ysprydol yr ydym ni yn ei fwytta, ac yn ei yfed, ac a fwyttaodd,
Aug. de utilitate panit. [...]ip. 1.ac a yfodd yr Israeliaid gynt yn yr anialwch; bwyttasant medd yr Apostol; bawb ohonynt yr vn bwyd ysprydol, [Page 31] ac yfasant bawb ohonynt yr vn ddiod ysprydol (Canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Grist.) 1. Cor. 10.3.4. ond ni fwyttasant, ac ni yfasant hwy wir gorph a gwaed Christ; ac am hynny siccr yw, nad ydym ninneu yn swpper yr Arglwydd yn bwytta ei wîr gorph, ac yn yfed ei wîr waed ef; ond megis y bwyttâodd, ac yr yfodd yr Israeliaid gynt Grist yn ysprydol, ac nid yn gnawdol felly ein bôd ninneu (Gristianogion) yn yr vn modd yn bwytta, ac yn yfed ohono. Fel yr oedd ef yn fanna ir Israeliaid; felly y mae efe yn fara i ni, sef, mewn modd ysprydol; bara ydyw iw fwytta drwy ffydd, nid a dannedd; bwyd ir enaid, nid ir bol, ac am hynny y dywyd Sanct Austyn,Aug. in Evang. Job. [...] 25. 26.i ba beth yr wyt yn parattoi dy ddanedd, a'th fol? creda, a thi â fwytteaist; Canys hyn yw bwytta y bara bywiol, credu ynddo.
- [Page 32]4 Nid allwn yn swpper yr Arglwydd fwytta gwîr gorph Christ, ac yfed ei wir waed ef, oblegid ei fod ef o ran ei nattur ddynol yn eistedd ar daeheulaw Duw yn y nef, Col. 3.1. ac yr erys ef yno, nes y delo ef yn niwedd y byd i farnu byw a meirw, (ai ddyfodiad ef y Pryd hynny a elwir ei ail dyfodiad ef;) megis ac y tystia yr Apostol hwn, wedi offrymmu vn aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; Heb. 10.12. a'r hwn, fel y dywyd Sanct Pedr, a raid ir nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pôb peth. Act. 3.21. ond os ydym yn gorphorol yn bwytta cnawd Christ, ac yn yfed ei waed ef, yno y mae efe yn dyfod i lawr o'r nef, cyn fynyched ac y mae Christianogion yn cymmuno; ac mae ef ar vnwaith mewn miloedd o leodd ac mewn amryw deyrnasoedd, yr hyn sydd yn erbyn rheswm, gan nad all vn corph fod mewn amryw leodd ar vnwaith, fel y cyttuna [Page 33] y philosophyddion yn vnfryd.
- 5 Yn ddiweddaf;
[...]id gwîr fod y bara, ar gwîn trwy gyssegri
[...]d yr offeiriad, gwedi eu trawsylweddu i gorph, a gwaed Christ, oblegid fod yn erbyn nattur Sacrament, droi yr arwyddion ir pethau y maent yn eu arwyddoccau. Canys y mae pôb sacrament yn sefyll o arwydd, a'r peth a arwyddocceir trwyddo; yr arwydd sydd beth daiarol; y peth a arwyddocceir sydd beth nefol. Yn enwaediad yr oedd torriad ymaith y blaengroen, a thorriad ymaith pechod
[...]; yn y Pâsc 'r oedd yr oen, a Christ, yr hwn a arwyddocceid trwyddo; yn y bedydd y mae dwfr, yr hwn sydd yn golchi y corph; a gwaed Christ, yr hwn sydd yn golchi yr enaid; ac felly yma yn swpper yr Arglwydd, y mae bara, a gwîn, yr arwyddion; a
[...]horph, a gwaed Christ, y pethau a arwyddocceir; ac onide y mae y sacrament hwn yn erbyn nattur pôb sacrament arall. I ddibennu y pwngc hwn ag ymadrodd
[Page 34] Theodoret; Christ a anrhydeddodd yr arwyddion gweledig ag enw ei gorph,
Theod dialog. 1.ai waed, nid gan newid en natur; ond gan chwanegu gràs at nattur; ac oblegid eu bod yn achosion offerynnaidd o gyfrannogiad corph, a gwaed Christ, ir sawl sydd yn eu derbyn yn deilwng.
- 4 Y maent yn dvsgu fod arnom eisieu erfynwyr eraill heb law Christ i erfyn trosom; ac am hynny mai da,
conc. Trid sess.9. de inw. Sanct.a llessol yw, i ni weddio ar y Sainct i erfyn trosom, a rhedeg attynt am nodded, a chynnorthwy; a deisyf ar Dduw ein grwando ni er mwyn eu herfyniad au haeddedigaethau hwy; y dylem weddio arnynt, megis cynnorthwywyr, ceidwaid, ac amddiffynwyr yn ein angenrheidiau; yn enwedig ar yr Arglwyddes fair yr hon y maent yn ei galw atgweiriadwres,ex cursu horarum [...]eatâ Mariâac jachawdwres enaid anobeithiol, a rhoddes ysprydol râs; ac yn attolwg arni [Page 35] roddi iddynt ddoniau gràs, diweirdeb, lledneisrwydd, doethineb, ar cyfriw rai; iddi hefyd yn ôl ymysgaroedd ei thosturiaethau eu glanhau oddiwrth eu hanwireddau, eu cymmodi hwynt â ffrwyth ei chrôth,Psalt. lirg. Mar.a gwneuthur eu cymmod ai creawdwr; yn gweddio a'r Sanct Pedr drugarhau wrthynt, ac agoryd iddynt borth nef; ac ar yr holl Sainct yn gyffredinol erfyn dros eu pechodau a goleuo llygaid eu calonnau a goleuni y wîr ffydd gatholic;Orat. ad om. Sc. patr & proph.ac iddynt trwy eu erfyniad hwy, fod yn ollyngedig yn nydd farn. Pa ddeisyfiadau amgenach a allant eu deisyf ar law Dduw, awdwr a rhoddwr pôb dawn nefol, a rhodd berffaith? a beth amgen yw hyn, ond gydar cenhedloedd anghredadyn addoli, gweddio ar y creadur heblaw y creawdwr? Rhuf. 1.25. lle y mae Duw yn gorchymyn i ni alw arno ef yn nyddd trallod, ac yn addaw ein gwrando, [Page 36] a'n gwaredu ni; Psal. 50.151 [...] Christ yn dysgu i ni weddio ar ein tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, Math. 6.9. ac nid ar 'r vn o'r seinctiau sydd yno; ac yn addaw pa bethau bynnag a ofynnom i'r tâd yn ei enw ef, y rhydd ef hwynt i ni. Joh. 16.2 [...]. Nid oes ond vn cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dyn Christ Jesu, yr hwn ai rhoddes ei hunan yn bridweth dros bawb, fel y dywyd yr Ap [...]stol. 1. Tim. 2.5.6 ple y m [...]e efe yn cyssylltu y ddwy sw [...]dd o brynedigaeth, a chyfryngiad, ac yn dangos fod rhinwedd a grim eirioledd Christ yn dibynnu ar ryglyddon ei gyfryn [...]iad. Efe yn vnig sydd yn haeddu i ni gael ein gwrando; a thrwyddo ef y mae i ni ddyfodfa at y tâd; Eph. 2.18. yr hwn a aeth ir nef i ymdangos yn awr ger bron Duw drosom ni. Heb. 9.24. Nid rhaid, i ni with gyfryngwyr eraill, heb law hwn; a ffolineb yw myned at y gweision, pryd y gallon fyned yn ddigyfrwng at y meistr, [Page 37] yr ydym wrth wneuthur hyn, yn ddirgel yn dinistrio ein h [...]der yn Nuw, ac yn lleihau anrhydedd Christ ein dadleuwr; ie annuwioldeb o'r mwyaf yw hyn, a gau dduwiaeth, drwy ba vn yr ydym yn rhoddi ir creaduriaid, yr addoliant, ar gogoniant sydd yn perthvn i Dduw yn vnig.
- 5 Y maent yn dysgu na ddylei gwyr eglwysig briodi, a bod y sawl ohonynt ac sydd yn priodi yn y cnawd,
Conc. Trid. Ses. 8. can. 9. Syriacus Papa.ac nad allant ryngu bodd Duw, ac yn gwrthod derbyn neb i vrdau Sanctaidd, oddieithr iddynt eidduno diweirdeb, er na byddont gynnyscaeddol o'r dawn hwnnw. Lle y mae Duw yn caniattau nid yn vnig ir offeiriaid yn yr hên destament (y rhai a fynnai efe fod yn Sanctaidd) briodi; ac yn dangos pa fâth a briodent; Levit. 21.14. Ezec. 44.22. Ond hefyd yn y newydd, pan yw yn dywedyd drwy ei Apostol, 1. Tim 3.2.4.12. Rhaid i escob fod yn ddiargyoedd, [Page 38] yn wr vn wraig, yn llywodraethu ei dy yn dda yn dal ei blant mewn vfudd-dod, ynghyd â phôb honest wydd; a bydded y Diaconiaid yn wyr vn wraig; 1. Cor. 7.28. Ac os prio [...] gwyryf ni phechodd; ac mai Anrhydeddus yw priodas ym mhawb, ar gweli dihalogedig; Heb. 13.4. Ac yn galw 'r athrawiaeth wrthwynebol o wahardd priodi yn athrawiaeth cythreuliaid. 1. Tim. 4.1. Athrawiaeth wîr gythreulig yn siccr, dysgu maiPigh explic, controv. controv. 15. de eaelih. & conjug sacerd 215. cd. t paris. 1549. c [...]stv. enchirid. contrev. cap. de. calibalu prop. 9. p. 528. Bel to.2. c. 2. de Monachis. c. 30. p. 545.llai pechodir offeiriaid odinebu weithiau, na Phriodi. A chyffelib yw eu cyfraith yn gwahardd ir offeiriaid briodi; ac etto yn caniattau iddynt ordderchadon tan ammod iddvnt dalu ardreth iddynt bôb blwyddyn amdanynt, ie aEspen de con i. lib. 2. c. 7. idem [...] Tit. c. 1. p. 67. Grav. 100 Cierm. grav. 91.chymmell y cyfryw offeiriaid diwair, ac nid oes ganddynt ordderchadon dalu amdanynt, oblegid fod [Page 39] yn rhydd iddynt drwy ganiatiâd y [...] eu cadw. Duwiolach yw cyngor yr Apostol, oni allant ymgadw, priodant: Canys gwell yw priodi nag ymlosgi. Math. 19.12. Gwell, arferu y rhwymedi a ordeiniodd Duw yn erbyn pechod, na byw yn anniwair. Y mae Christ yn caniattau hyn, pan yw yn dywedyd, y neb y ddichon ei dderbyn, derbynied; y neb a a allo fyw yn vnig, gwnaed; ar neb nid allo, prioded. Sanct Pedr (dilynwr yr hwn y myn y Pâb fod) a Philip yr efangylwr,Ignat. ad Philad. clem. l. 3. sirom. p. 327. Euseb. l. 3. hist. eil. Amb. 2. Cor. 11. Cratian decret part. 1. dist. 56.oeddynt wyr gwreigiog, Megis ac yr oedd y rhan fwyaf or Apostolion, fel y tystia am-ryw o'r hen dadau. Felly hefyd yr oedd Cheremon, Spiridion, Irenaeus, Nyssenus, Synesius, a llaweroedd o Escobion duwiol eraill. Je a llawer o feibion gwyr eglwysig (meibion o briod, fel y tystia Gratian) a dderchafwyd i fod yn escobion. [Page 40] Boniffas y cyntaf oedd fâb offeiriad fel y tystia Platina. A Nazianzen fydd yn ymogoneddu fod ei dâd ef yn wr gwreigiog, pan oedd ef yn escob. Yr hyn oll sydd yn dangos fod yn rhydd wrth gyfraith Dduw i wyr eglwysig briodi.
- 6 Y maent yn dysgu nid yn vnig gosod delwau i fynu yn yr Eglwysi,
Cajet. in Aqu. part. 3. quast. 25. [...]rt. 3.i fod megis yn llyfrau ir annysgedig, iw cofio o'r pethau a wnaethpwyd gynt, ac iw cynhyrfu i dduwioldeb, ond hefyd iw addoli. Yr hyn beth a waherddir yn eglur yn yr ail gorchymyn; na wna it ddel [...] gerfiedig, na llun dim ar y sydd yn y nefoedd vchod, nac ar y sydd yn y ddaiar isod, nac ar y sydd yn y dwfr tan y ddaiar, nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt. Exod. 20.4.5. Ar prophwyd Esay a ddywyd 40.18. I bwy y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo? hynny yw, ni ddylech, nid ellwch drwy vn ddelw gynnyrcholi Duw. Ac [Page 41] etto y mae yr Papistiaid yn arferol yn eu Heglwysi yn paentio Duw'r tâd megis hên wr, Duw 'r mâb megis oen, ar yspryd glân megis colommen; ac yn haeru y dylem roddi yr vn addoliad ir ddelw, ac sydd ddyledus ir peth, y mae hi yn ei osod ger bron Delw Christ, ar groes, ar yr hon y bu Christ farw, ai llun sydd iw addoli ar vn addoliant, ac sydd ddyledus i Dduw, a Christ Jesu, medd Aquinas,Aqu. sum. par 3. qu. 25. art. 3.4.eu hathraw mawr. Athrawiaeth ofnadwy, yn maentumio erchyll ddelw addoliaeth; gan nad oes dim iw addoli â duwiol addoliant, on'd Duw yn vnig.
- 7. Y maent yn dysgu y dylid cadw yr yscrythyrau oddiwrth y bobl gyffredin, rhag eu darllain, na ddylei neb eu darllain,
Bel. de verbo Dei 1.2. c. 15.ond y rhai sydd yn cael cennad i hynny; rhag, ir bobl gyffredin, anghyfarwydd gymmeryd achlyssur iw gwyro,Molan de prac. Theol. tract. 3. c. 27. concl. 2.ac i gyfeiliorni; nad rhaid iddynt ddarllain yr yscryrhyrau, ond mai digon iddynt hwylio cwrs eu [Page 42] bywyd yn ôl gorchymyn, ac ordinhâd eu bugeiliaid, au athrawon. Eithr beth yw hyn, ond megis pe byddei i ryw ddyn ofni pawb rhag cymmeryd bwyd, a diod, oblegid fod rhai dynion glythion a meddwon, gan gamarferu y rhain i lythni a meddwdod, yn syrthio i amryw glefydau? beth yw hyn, ond gwrthwynebu eglur orchymynion yr yscrythur lân, ar dibennion, ir rhai y scrifenwyd hi? Bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddyw, yn dy galon; ac hyspysa hwynt i'th blant, a chrybwyll amdanynt pan eisteddech yn dy dy, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan godych i fynu; a rhwym hwynt yn arwydd a'r dy law, byddant yn ragtalau rhwng dy lygaid; scrifenna hwynt hefyd ar byst dy dy, ac ar dy byrth. Deut. 6.6, 7, 8, 9. Chwiliwch yr yscythyrau, Canys ynddynt hwy yr ydych yn meddwl cael bywyd tragwyddol. Jo. 5.39. Preswylied gair Christ ynoch yn helaeth, ym mhôb doethineb; [Page 43] Col. 3.16. hynny yw, na adewch i air Duw, megis estron sefyll oddiallan, ond gollyngwch ef i mewn ich eneidiau bydded yn wastad yn eich meddyliau, ar Bibl yn fynych yn eich dwylo. Oblegid fel y dywyd y prophwyd Dafydd, cyfrait [...] yr arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid; tystiolaethau yr arglwydd sydd siccr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth;deddfau yr arglwydd sydd vniawn, yn llawenhau y galon; gorchymyn yr arglwydd sydd bur, yn goleuo y llygaid Psal. 19.7.8. Ar pethau hyn ascrifenwyd, medd Sanct Joan fel y credoch chwi mai yr Jesu yw Christ, mab Duw, a chan gredu y caffoch fywyd yn ei enw ef. Jo. 20.31. A pha bethau bynnag a scrifenwyd, or bl [...]en, er addysg i ni yr scrifenwyd hwynt, fel trwy ammynedd a diddanwch yr scrythyrau, y gallem gael gobaith, medd yr Apostol, Rhuf. 15.4. oherwydd pa ffrwythau, a llessadau yr yscrythur, ni ddylid cadw y bobl lyg rhag ei darllain yn eu tai. Mae Joan aur enau [Page 44] yn gorchymyn ir bobl lyg ei darllain ai chwilio; gwrandewch chwi,[...] hom. 9.medd ef, yr holl bobl lyg, chwi oll y rhai ydych enaid-glwyfus, ceisiwch yr enaid feddeginiaeth yma, y bibl sanctaidd, a darllenwch, a chwiliwch ef.
- 8 Y maent yn eu offeren yn arferu gweddiau mewn j
[...]ith nid yw y gyffre
[...]in bobl yn ei deall;
[...]lle y mae yr Ap [...]stol yn dyw [...]dyd, nad yw yr hwn sydd yn llefaru mewn jaith ddicithr yn adeilaladu yr eglwys: ac yn peri ir hwn sydd yn llefaru a thafod dieithr, weddio ar iddo allu cyfieithu. 1. Cor. 14 5.13. (neu lefaru mewn iaith adnabyddus) ac os gweddiaf, medd ef, a thafod dieithr, y mae fy yspryd yn gweddio, ond mae fy neall yn ddiffrwyth, 14. (nid wyf yn gwneuthur dim llessâd i eraill.) Beth gan hynny? mi weddiaf a'r yspryd, ac a weadiaf a'r deall hefyd; 15. Hynny yw, mi a weddiaf yn y cyfryw iaith, ac y [Page 45] gallo eraill fy neall, a chael adeiladaeth. Ac wedi hynny, y mae yn dywedyd, gwell gennyf lefaru pum gair trwy fy neall (neu fel y gallo eraill fy neall) na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr, w. 19. Ac am hynny gan y dylem wneuthur pôb peth er adeiladaeth, 26. rhaid bod y gweddiau cyffredin yn yr Eglwys mewn iaith a ddeallo y bobl ac oni [...]ê ofer, ac anfuddiol a fyddant iddynt.
- 9. Y maent yn dysgu y dylid cadw y gwîn yn swpper yr arglwydd oddiwrth y bobl,
Conc. Trid de con [...].sub utraque spe. cap. 3 Cant: 1.ac mai yr offeiriad yn vnig sydd i yfed ohono; ac yn eu ysgymmuno hwynt, y rhai a wadant, nad oedd gan Eglwys Rufain achosion da i dynnu y cwppan oddiwrth y bobl lyg. Lle y mae Christ yn ordinhâd y Sacrament hwnnw yn gorchymyn i bawb, yfed ohono. Felly y darllenwn Math. 26.26, 27. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr lesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe ai torrodd, ac ai rhod [...]odd ir [Page 46] discyblion, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph; ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, efe ai rhoddes iddynt, gan ddywedyd, yfwch bawb o hwn. A Sanct Marc gan lefaru am y cwppan, sydd yn dywedyd, Marc 14.23. wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, efe ai rhoddes iddynt; a hwynt oll a yfasant ohono. A Sanct Paul, gan ailadrodd ordinhâd Christ, sydd yn gorchymyn ir Corinthiaid, (y bobl yn gystal ar offeiriaid) nid yn vnig fwytta o'r bara, ond hefyd yfed o'r cwppan. 1. Cor. 11.28. Je mae efe yn y bennod honno ddim llai na chwe gwaith yn crybwyll am yfed ynghyd a bwytta; ac yn dangos anghenrhaid y naill yn gystal ar llall. Oni bae fod y gwîn yn anghenrheidiol, p [...]ham y chwanegei Christ, ar Apostol ef at y bara? ac os ydyw yn angenrheidiol, paham y maent hwy o Eglwys Rufain yn ei attal oddiwrth y cymmunwyr? Diammeu fel nad yw hanner [Page 47] pryd yn bryd: felly nid yw hanner y cymmun yn sacrament. Ac os gwledd ysprydol yw y sacrament hwn, rhaid bod ynddi wîn yn gystal a bwyd, ac nid ellir heb rysig cyssegr-yspeilaidd attal 'r vn o'r ddau oddiwrth y bobl.
- 10 Y maent yn dysgu fod Sanct Pedr yn dwysog, ac yn ben yr Apostolion (a gwadu hyn sydd nid syml gamgymmeriad, ond echryslawn hæresi,
Bel. de pont Rom l. 1. c. 10.medd Belarmin) a Phâb Rhufain yn ddilynwr iddo yn y bennaduriaeth ddychmygol honno; ac yn ddilynol fod archdeirnadol lywodraeth yr Eglwys gatholig yn perthyn ir Pâb, megis Ficar Christ. Ond mae yr yscrythur lân yn dangosy gwîr wrthwyneb, fod yr holl Apostolion yn gydradd; ac nad oedd na Sanct Pedr, nac vn ohonynt yn vwch nai gilidd. Canys agoriadau teyrnas nef, ac awdurdod i rwymo, ac i illwng a addawyd gan Grist, nid yn vnig i Sanct Pedr, Math. 16.19. ond hefyd ir holl [Page 48] Apostolion, Matth. 18.18, ac a roddwyd iddynt oll, Jo. 20, 21, 22.23. pryd y danfonodd ef hwynt a chyflawn, a chydradd awdurdod i bregethu yr efengil; ac yr anadlodd ef arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, derbyniwch yr Yspryd glân; pwy bynnag y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt, ar eiddo pwy bynnag a attalioch, hwy a attalwyd. Ar yspryd glan a eisteddodd, nid ar Sanct Pedr yn vnig, ond ar bôb vn ohonynt, a hwy oll a lanwyd ar Yspryd glàn. Act. 2.3.4. Ac fel y gelwir Sanct Pedr yn garreg, ar yr hon (megis ar garreg sylfaenol, a adeiladwyd ar Grist y pen conglfaen) yr adeiladir yr Eglwys (y Jerusalem newydd; felly hefyd y gelwîr yr holl Apostolion, Datc. 21.14: ple y dywedir fod mur y ddinas honno (y Ierusalem newydd, Eglwys Grist) a deuddeg sylfaen iddo, ac yn y sylfeini hynny henwau deuddeg Apostol yr oen. A Christ a addawodd, pan eisteddei efe ar orsedd ei ogoniant, yr eisteddent hwytheu [Page 49] ar ddeuddeg gorsedd, yn barnn denddeg llwyth Israel. Math. 19.28. Hynny yw, y rhoddei efe iddynt, pan ddyrchafei ir nef, yr awdurdod a dderbyniasei efe gan ei dâd, cyd-lywodraeth ar yr Eglwys. Ac am hynny y mae Sanct Cyprian yn dywedyd,lib. de unitate Ecclesia.fod yr holl Apostolion yn gynnysgaeddol à gogyfiwch awdurdod, â gallu; A chan fod yr holl Apostolion yn gydradd, paham y chwennych y Pâb (dilynwr Pedr fel y myn ef fod) fod yn vwch nar Escobion a ddaethant yn lle yr Apostolion eraill? Pam na chofia efe i Sanct Paul wrthwynebu Sanct Pedr yn ei wyneb, am ei fod iw feio? Gal. 2.11. Yr hyn ni feiddiasei efe wneuthur, pe buasei Pedr yn ben ar yr Apostolion eraill? ac mae S t Jago oedd yn ben yn y Gymmanfa gyntaf a fu yn Jerusalem?Act. 15.19.Paham y myn ef gael mwy rhagorfraint, nac oedd erioed gan Sanct Pedr? Pam y mae efe yn cleimio archdeirnadol lywodraeth yr Eglwys, yr [Page 50] hon a rannodd Christ rhwng yr Apostolion, ai dilynwyr yr Escobion? Pam na chofia ef fod Sanct Pedr yn gwrthod pennaduriaeth ar yr henuriaid, Sef, yr Escobion eraill, ac yn ei alw ei hun yn gydhenuriad a hwy, 1 Pet. 5.1, 3.? ac yn gwahardd i'r henuriaid tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth Dduw, eu praidd; llai o lawer geisio arglwyddiaethu ar eraill, ni osodwyd, tan ei lywodraeth, fel y chwennychei efe fod yn Arglwydd, ac yn feistr ar yr holl Eglwys drwy'r byd? Christ yw pennadur, pen, a phriodasfab yr Eglwys, gydâ'r hon y mae efe yn addaw y bydd ef yn bresennol hyd diwedd y byd. Ac am hynny nid rhaid iddo wrth Bâb Rhufain i fod yn Ficar iddo; nid rhaid wrth ben arall; ni fyn ef ond vn pen ar yr vn corph; ac ni oddef ef 'r vn cyfaill gyd-ag ef yn ei wely. Nid oes yr vn ohonom oi yn ei wneuthur ei hun yn Escob Escobion medd Cyprian,Orat. Cypr. in sign.vn er hên dadau. A Gregorius vn o hên Babau Rhufain [Page 51] sydd yn beio ar Joan Escob Constatinopl, am gymmeryd arno yr enw hwn; yr hwn y mae efe yn ei alw yn enw drygionus, yn enw annuwiol, yn enw newydd,Greg. regist. 1.4. cp. 32.yr hwn ni chymmerasei 'r vn o Escobion Rhufain arnynt or blaen; ac yn dywedyd, pwy bynnag ai cymmerei arno, y byddei ragflaenwr Anghrist, plâ cyffredin yr Eglwys,cp. 34.38.a llygrwr y ffydd gristianogawl.
Ar cymanfa yng Harthag a waharddodd alw neb yn ben escob. Ac ym marn y Gymanfa a fu yn Nicaea nid oes gan escob Rhufain ddim mwy awdurdod yn Eglwys Dduw, nac y sydd gan y Patrieitch eraill o Alexandria, ac Antiochia.
- 11. Fel y maent yn dysgu fod y Pâb, yn vwch nar holl Escobion eraill drwy 'r byd, ie a chymmanfau cyffredinol; felly hefyd yn vwch na brenhinoedd, ac ymmerawdwyr; eu bod hwy yn teirnasu trwyddo ef, ac yn cael ei holl awdwrdod
[Page 52] oddiwrtho ef, fel y dyweddod Clement y pummed yng hymanta Fienna; ei fod ef yn vwch na hwy, gimmaint, ac yw 'r haul yn fwy nar lleuad; ac am hynny y dichon ef drwy ei Babaidd awdurdod eu cyssegru, eu diswyddo, eu llywodraethu, eu derchafu, eu darostwng, eu melldigo, eu fathru tan ei draed, ai bwrw yn bendra-mwnwgl i vffern; fod Christ yn teyrnasu yn y nef, ac yntef ar y ddaiar; yr hwn vchafiaeth ar frenhinoedd, a thywysogion sydd lwyr wrthwyneb ir yscrythur lân; yr hon sydd yn gorchymyn
i bob enaid fod yn ddarostyngedig ir awdurdodau goruchel. i bôb enaid, hynny yw, i bôb dyn, er ei fod yn Apostol, er ei fod yn Efangylwr, er ei fod yn brophwyd, fel er esponia Sanct Chrysostom y text. Ar Apostol Pedr yntef sydd yn gorchymyn i bawb yn ddinam,
Ymddarostwng i bôb dynol ordinhâd oherwydd yr Arglwydd: pa vn hynnag a'i i'r brenin, megis goruchel, ai i'r llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi eu danfon.
[Page 53] 1
Pet. 2.13.14. Pe bae'r Pâb yn wir ddilynwr Pedr, (fel y mynnei efe fod) fe ymddarostyngei i frenhinoedd, ac ymmerawdwyr, ac nid ymdderchafei efe ei hun vwch eu llaw hwynt, fel y mae; fe ddywedei, fel y llefarodd Pâb Gregorius gynt wrth Mawritius yr Ymmerawdwr,
Greg. lib. 4. cp. 32.yr wyf yn dymmuno rhoi i chwi bôb dyledus vfudddod; ac nid gydâ Phâb Adrian, o ble y mae yr Ymmerawdwr yn cael ei lywodraeth, ond oddiwrthym ni? oddiwrthym ni y mae efe yn cael y cwbl sydd ganddo,Had [...]. cp. apul Avent. lib. 6.ac y mae yn ein gallu ni ei roi ir neb y mynnom. Fe roddodd Christ [...]n siccr agoriadau teyrnas nef i Bedr, ar Apostolion eraill, ai dilynwyr, yr Escobion; nid ond agoriadau teyrnasoedd y ddaiar. Ni chleimiodd, ac nid arferodd efe erioed feddiant i ddiswyddo brenhinoedd annuwiol ac anghredadyn; ac ni roddodd efe, y cyfryw awdurdod ir Escobion, y rhai [Page 54] drwy ordinhâd Duw sydd ddarostyngedig ir brenhinol awdurdod. Hyn yr oedd Aaron yr archoffeiriad yn ei gydnabod, yr hwn a alwodd Moses, y pen llywiawdwr yn Israel, yn Arglwydd, Exod. 32.21. ac a geisiodd ei escusodi ei hun wrtho, pan geryddwyd ef ganddo, am wneuthur y llo tawdd yn ei absen. Yr ydym yn darllain i frenhinoedd duwiol Judah, megis Afa, Jehoshaphat, Hezekiah, a Josiah orchymmyn ir offeiriaid wneuthur eu dyledswyddau, au ceryddu au cospi os gwnaent yn amgenach, ac os haeddent, eu diswyddo. Felly Solomon a ddûg yr offeiriadaeth oddiar Abiathar, ac a osododd Zadoc yr offeiriad yn ei le ef. 1. Bren. 2.27.35. A Chonstantinus yr ymmerawdwr Christianogawl hwnnw a fwriodd Paul i lawr o fod yn Escob yn Constantinopl, ac wnaeth Eusebius yn Escob yno yn ei le ef.Sacrat. 2. 5. i [...]id. 5.7.A Theodosius a orchymmynodd i Demophilus Escob o blaid Arrius naill ai derbyn [Page 55] y ffydd gatholic, ai ymadel ai Escobaeth, Je a Phabau Rhufain, dros wythgant o flynyddoedd, a gydnabuant fod yr ymmerawdwyr yn Arglwyddi arnynt, a fernid ganddynt, ac yn fynych a fwrid allan oi Escobaethau. Yr hyn oll sydd yn dangos fod brenhinoedd, ac ymmerawdwyr yn vwch nag Escobion, a bod ganddynt awdurdod arnynt. Yr ydym ni y Christianogion yn perchi yr ymmerawdwr megis gwr yn nessaf at Dduw, ac yn llai nag ef yn vnig, medd Tertylian. Ac nid oes neb ond Dow yn vnig,Ter [...]. ad scapul.medd Tertylian. Ac nid oes neb ond Duw yn vnig, yr hwn a wnaeth yr Ymmerawdwr,Optal. contra. Parm. lib. 3.yn vwch nar Ymmerawdwr, ebr Optatus. Hyn a gydnabu Sanct Paul pan ddywedodd, o flaen gorsedd-faingc Casar yr wyfi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu. Act. 25.10. Ond yr awrhon y mae Escob Rhufain yn ei dderchafu ei hun yn vwch nar Ymmerawdwr, a holl frenhinodd y ddaiar, ac yn haeru y gall efe roddi teyrnasoedd, ac [Page 56] Ymmerodraethau ir neb a fynno; ac mai trwyddo ef y mae brenhinoedd yn teyrnasu (megis ac y dywedodd Celestinus y try dydd yr hwn wrth goroni yr Ymmerawdwr Harri y chweched,Math. Prid. p. 123.a roddod y goron ar ei ben, nid ai ddwylo, ond ai draed, gan ei tharo ymaith drachefn yn dra dirmygus;) ac nid yn vnig ysgymmuno, ond diswyddo brenhinoedd wrth ei ewyllys, a rhyddhau eu deiliaid oddiwrth eu dyledus vfudd-dod iddynt. Je eu dirmygu hwynt gymmaint y mae,Inno. 4. in cap [...] c [...]t de foro capet.ai fod yn eu gwneuthur yn weision iddo; vn i ddal y cawg iddo i olchi ei ddwylo, ac i ddwyn y saig cyntaf ar ei fwrdd; arall i ddal ei warthol wrth fyned ar ei farch; arall i ddwyn ei sancteiddrwydd ef ar ei gefn; Ar wddwf vn arall sef ffrederic y cyntaf y rhoddoddPao Adrian.ef ei droed, gan adrodd geiriau y prophwyd Dafyd, Psal. 91.13. a'r y llew ar asp y cerddi, y ceneu llew a'r ddraig a fethri. ac arall, [Page 57] sef Francis Dandalus, dûg o Fenis a rwymodd efe a chadwynau ac ai porthodd tan ei fwrdd fel cî.
- 12 A chan ei fôd fel hyn yn cleimio goruchafiaeth, ac awdurdod nid yn vnig ar yr Escobion eraill drwy'r byd, ond hefyd a'r Frenhinoedd ac Ymmerawdwyr, yn erbyn eglur oleuni yr yscrythur lân, mae yn amlwg fod athrawiaeth arall y Papistiaid (fod eu Pâb yn ddidwyll) yn amryfuseddus hefyd. Ond os yw ef yn anhydwyll,(fel y maent yn haeru ei fod,) mae ganddo fwy ragorfraint, nac oedd gan yr Archoffeiriaid tan y gyfraith. Canys Aaron yr Archoffeiriad a osododd i fynu lô tawdd iw addoli.
Exod. 32.4, 5, 6. Ac Vriah yr Archodfteiriad a gododd allor wrth orchymyn brenin Ahaz, ar ôl agwedd, a phortreiad yr allor yn Damascus i offrymmu arni; ac a adawodd iddo dynnu i lawr allor yr Arglwydd, 2.
Bren. 16. A Chaiaphas gyda'r scryfennyddion, a'r henuriaid, a'r holl gyngor a gondemnasant
[Page 58] athrawiaeth Christ, ac ai barnasant ef yn enog o farwolaeth
Math: 26 59.66. Ac os darllenwn histori Pabau Rufain, ni gawn weled iddynt hwy gyfeiliorni yn y ffydd, ac yn en buchedd. Am eu amryfuseddau ym mhyngcian 'r ffydd, mae Cardinal Belarmin,
Bel. de Rom. pont. lib. 4.eu ymdrechwr mawr, yn rhifo digon ohonynt, er ei fod yn ceisio eu escusodi hwynt eu gyd. Pâh Gregorius, medd ef, a syrthiodd drwy anwybodaeth, pryd y caniataodd ef i wr gymmeryd ail gwraig, ar gyntaf etto yn fyw; ond heb allu (fel y mae efe yn ceisio ei escusodi ef) dalu ei ddyled iddi; ac a ddyscodd y gallei gwr mewn rhyw gystwr,Conc. Trident. Ses. 24 Can. 2.gydâ chennad. ei wraig, briodi vn arall, ac felly bod ganddo ddwy wraig ar vnwaith; yr hyn sydd gau athrawiaeth, ac a farner felly gan y gymanfa a fu yn Nhrent. Pâb Liberius a roddodd ei law yn erbyn Athanasius, ac with herefi Arrius, yr hwn oedd yn gwadu fod Christ [Page 59] o'r vn sylwedd ai Dâd. Pâb Marcelinus) a aberthodd i eulynnod. Pâb Celestu [...]us a ddyscodd fod heresi yn torri priodas, ac y gallei y parti dieuog briodi drachefn. Pab Joan yr ailfed âr hugain oedd yn dal, na chae eneidiau dynion annuwiol eu cospi hyd dydd y farn. A Phâb Joan y trydydd ar hugain oedd yn gwadu anfarwolder yr enaid.Smet. cont [...]a Har [...]ilt. p. 104.Pâb Leo y degfed nid oedd yn gwneuthur ond chwedl o'r Efengil. Pâb Joan y deuddegfed, neu'r trydydd ar ddeg (fel y mae Platina yn ei gyfrif ac yn ei alw yn ddyn drygionusaf, neu anghenfil yn hytrach) a wnaeth odineb â gwraig weddw Rainerius,Platines J [...]an 13. [...] Baron. on 963. nu 17. Sigonius de regno Ital.ac â Stephana, gordderch ei dad, ac ag eraill, a thynnodddynnoddlygaid ei dâd enaid Benedict; am arian a wnaeth blant yn escobion, a fyddei arfer i dorri ffenestri liw nôs, i roi tai ar dân, ac a yfodd iechyd at gariad y cythrael; am y rhai mawrddrygau, ai ddrwg gampau y diswyddwyd [Page 60] ef gan Otho yr Ymmerawdwr mewn cymmanfa, er iddo yn ôl hynny drwy help ei gyfeillion, ai gymdeithesau dyfod iw le drachefn. Ac ar fyr,Geneb lib. 4. chronol. p. 546.Genebrard, yr hwn oedd Bapist, sydd yn scryfennu i ddeg a dengain o Babau Rhufain yn ddilynol yn ôl eu gilidd, ac o fewn yspaid cant a degmhlynedd a deugain ymadaw a rhinweddau eu hynafiaid, au dangos eu hunain yn ymwadwyry ffydd Gristanogawl, yn hytrach nag Escobion Catholic, neu vniowngred. Nid vw y Pâb gan hynny yn ddidwyll, eithr llawer o Babau Rhufain, fel y gwelwn, a aethant ar gyfeiliorn, Hawdd a fyddei i mi ddangos fod amryw athrawiaethau eraill, Eglwys Rhufain, megis eu athrawiaeth o burdan, o bardynau, o draddoddiadau, ar cyfryw rai yn wrthwynebol ir yscrythur lân, ond nid afi i sefyll yn hwy ary rheini; ond myned ymmlaen i holi with air Duw athrawiaethau y sectau eraill sydd yn ein plith, ac i [Page 61] ddangos eu bod hwytheu yn gyfeiliornus.
1. I ddechreu a'r Presbyteriaid, a'r Independentiaid, y rhai er darfod iddynt yn ddiweddar gyttuno o'r goreu i dynnu i lawr Escobion (y rhai a dddarfu i Dduw oi ddaionus ragluniaeth eu hadferu i ni gyd' an grasusaf Frenin) etto ni fedrent byth er hynny gyttuno ar lywodraeth Eglwysig arall, yn lle v llywodraeth Apostolaidd honno o Escobion a dynnasant vnwaith i lawr. Mae pôb vn o'r ddwy lect ymma yn dysgu, nad yw Escobion o ràdd vwch nag offeiriaid (swydd y rhai yw prepethu yr Efengil, a gwasanaethuy Sacramentau;) lle y mae y gwyr dyscediccaf trwy 'r byd yn haeru fod gan Escobion deilyngdod vwch, awdurdod mwy, a dyledswyddau rhagorach perthynasol iddynt, nac sydd gan Offeiriaid; a hynny yn gysson ar yscrythur lân Canys i adael heibio yr anghyfartalwch yr ydym yn ei gael yn yr hên destament yng weinidogion Duw, yr Archoffciriaid, [Page 62] yr Offeiriaid, ar Lefiaid; yr Offeiriaid yn vwch nar Lefiaid; a'r Archoffeiriaid yn vwch nar Offeiriaid; yr ydym yn darllain yn y testament newydd, i Grist osod yn ei Eglwys weinidogion, nid cynnyscaeddol â chydradd awdurdod, ond gwahanredol mewn grâdd teilyngdod, a rheolaeth. Canys y deuddeg Apostol oeddynt ardderchoccach nar dêg a thrugain discybl, ac yn rhagori arnynt nid yn vnig mewn godidawgrwydd doniau, ond hefyd mewn helaethrwydd awdurdod. A' [...] Escobion, fel y tystia S t Austin, Ambros, Theodoret, ac agos holl hen dadau yr Eglwys, a ddaethant yn lle yr Apostolion yn llywodraeth arferol yr Eglwys; megis ac y daeth yr Offeiriaid, neu y plwyfol weinidogion, yn lle y discyblion; ac am hynny y mae yr Escobion yn vwch eu grâdd nar plwyfol weinidogion; megis ac yr oedd yr Apostolion yn vwch nar discyblion. A Sanct Paul sydd yn tystiolaethu fôd yn y man yn ôl escynniad Christ ir nef [Page 63] rhagoriaeth rhwng gweinidogion Christ yn ei Eglwys. Canys Duw, medd ef, a osododd yn ei eglwys yn g [...]ntaf Apostolion, yn ail prophwydi, yn drydydd athrawon. 1. Cor. 12.28.
1 Apostolion, y rhai a ddanfonwyd i blannu 'r ffydd, ac gwedi gwneuthur hynny, i lywodraethu pan fyddent bresennol; neu pan fyddent absennol, i oruchwilied yn yr holl Eglwysi.
2 Prophwydi, y rhai gan fod ganddynt amryw ddoniau ysprydol, oeddynt yn gyflawnach yn dysgu, ac yn pregethu yr Efengil, ir rhai ai derbyniasent o'r blaen; yn cadarnhâu y ffyddloniaid, ac yn gosod dwylo arnynt.
3 Athrawon neu ddyscawdwyr yr Eglwysi hynny, oeddynt y pryd hynny gwedi eu sefydlu; a'r rhain oeddynt yr Escobion; rhwng y rhai a'r prophwydi, yr oedd y rhagoriaerh yma, fod y prophwydi yn llefaru y cwbl oddiwrth yr yspryd; yr Athrawon, neu yr Escobion oddiwrthynt eu hunain, Dr. Ham in col. [Page 64] neu yr athrawiaethau a dderbyniasant gan eraill. Ac wedi gosod i lawr y tri rhyw pennaf o vrddasau yn yr Eglwys, Apostolion, prophwydi, Athrawon y mae efe yn crybwyll am y doniau anarferol, a'r rhai yr oeddynt oll y pryd hynny yn gynnyscaeddol, sef, y pump hyn. 1. Gwrthiau, neu allu i ddanfon doluriau, ie a marwolaeth ar y rhai anufudd; megis ac y danfonodd Sanct Pedr ar Ananias a Sapphira; Act. 5. a Sanct Paul ar Bariesu neu Elymas y swynwr, a gau brophwyd; 13.11. ac megis yr oedd yr Escobion yn y brîf Eglwys yn traddodi dynion ystyfnig, drygionus i satan, er dinistr y cnawd; 1. Cor. 5, 5. hynny yw, yn danfon doluriau corphorol arnynt, fel y cymmerent edifeirwch, ac y byddei eu eneidiau yn gadwedig.
2 Doniau i jach [...]u y rhai a dderbynient y ffydd.
3 Cynnorthwyau, neu ofal tros y tlodion, rhan o swydd yr Apostolion; [Page 65] a'r y cyntaf, o'r hon ar ôl hynny y gwnaethont y Diaconiaid yn gyfrannogion; y rhai a ordeiniasant tanynt hwy, au dilynwyr yr Escobion, iw cynnorthwyo hwynt yn y gorchwyl elusengar hwnnw.
4 Llywodraethau, hynny yw, nid llyg Llywodraethwyr i gyd-lywodraethu gydâ gweinidogion Christ, (nid oes vn o'r hên dadau, nar historwyr Eglwysig yn crybwyll am y cyfryw swyddogion yn y brîf Eglwys) ond meddiant, neu awdurdod yr Escobion i lywodraethu yr Eglwysi, lle yr oeddynt gwedi en plannu, au sefydlu: (neu os myn neb ddeall yma lyg, Rich: Samps. episc. Lichfield. in loc. neu fydol lywodraethwyr, yno brenhinoedd, twysogion, a barnwyr ydynt, y rhai a gawsant awdurdod gan Dduw, i attal rhyfig y bobl, an cadw mewn trefn fel y mae yr ardderchog dâd Risiart Sampson Escob Lichfield gynt yn esponio 'r gair.)
[Page 66]5 Ac yn ddiweddaf Rhywogiaethau tafodau, rhai jethioedd angenrheidiol i bregethu yr efengil ir cenhedloedd. A'i Apostolion pawb? a'i prophwydi pawb? a'i athrawon pawb? 1. Cor. 12.29. ni wnaeth Christ bawb yn swy ddogion iddo, na r rheini yn gyd-radd ai gilidd: ond y rhai pennaf oedd yr Apostolion, ar ail rhai prophwydi, ar rhai nessaf Athrawon, neu Escobion; y rhai ordeiniwyd gan yr Apostolion i lywodraethu yr Eglwysi, fel y casclent, ac y plannent hwy. A'r rhain, yr Escobion, nid oeddynt gyd-radd ychwaith Canys Sanct Paul a ordeiniodd Titus yn Archescob ynys Creta, i ordeinio Henuriaid, neu Escobion (yr vn yw y rhain yn yr ys [...]rythur lân) ymmhob dinas yno, fel y darllenwn Tit. 1.5. ac fel y tystiolaetha Sanct Chrysostom, yr hwn sydd yn dywedyd, fod Titus yn ddiammeu yn [...] cymmeradwy, i [...] yr hwn y gorchmynnodd vr Apostol ynys gyfan, ac ir hwn y rhoddodd [Page 67] efe awdurdod ar gimmaint o Escobion eraill oeddynt tano ef yno. Chrisost. in T [...]t. 1 b [...]m 1a. Felly Timotheus (yr hwn a drowyd ir ffydd gan Sanct Paul, ac am hvnny a elwir ei fab naturiol ef yn y ffydd 1. Tim. 1.2.) a wnaethpwyd ganddo ef, (megis ac y mae yn ymddangos yn eglur yn nhystiolaethau ac yscrifennau yr hên Eglwys) yn Escob Ephesus, prifddinas Asia, ac felly yn Archescob yr holl wlád honno; a hynny i ordeinio (fel y rhoddasai awdurdod i Ditus) Escobion eraill yno, ac i lywodraethu arnynt, megis ac y mae yn ymddangos 1. Tim. 5.19. ple y mae yr Apostol yn dywedyd wrth Timotheus, yn erbyn henuriad (neu * Escob, Dr. [...]am. paraph.yr vn ydynt) na derbyn achwyn, oddieithr tan ddau neu dri o dystion. O ba le y mae yn eglur fod gan Timotheus awdurdod i dderbyn achwynion yn erbyn yr Escobion eraill yno (megis ac y mae yr awrhon gan Escobion yn erbyn îs weinidogion) ac felly ei fod ef yn vwch [Page 68] nâ hwynt. Ac yn y wers nessaf ond vn y mae efe yn gorchymmyn ger bron Daw, a'r Arglwydd Jesu Grist, a'r etholedig Angelion 1. Tim. 5.21. ar iddo yn ei farnau Eglwysig fôd yn ddiduedd, na ffafrei nêb mwy nai gilidd, na wnai ddim o gyd-bartiaeth. Ac yn y drydydd wers o'r bennod gyntaf o'r vn epistol y mae yn peri iddo ef, rybuddio rhai (y Gnosticiaid, hæreticau enbydus ac aflan) na ddyscent ddim amgen, 1. Tim. 1.3. vn athrawiaeth wrthwynebol ir hon a ddyscassai efe yn yr holl Eglwysi a sefydlassai efe. Ple y mae ei awdurdod ef ymmhellach yn ymddangos. Megis ac y mae awdurdod Titus hefyd, pan yw yr Apostol yn peri iddo ef ochelyd (neu yscymmuno) y dyn a fyddo haretic (neu gau athraw, yn tynnu discyblion ar ei ôl) wedi vn neu ail rhybudd. Tit. 3.10. y saith Angel, at y rhai y scrifennodd Sanct Joan ei lythyrau wrth orchymmyn Chist, oeddynt saith Escob, llywiawdwyr y saith Eglwys hynny yn [Page 69] Asia. Timotheus oedd Archescob yn Ephesus prif ddinas Asia, Polycarpus oedd Escob yn smyrna, Antipas yn Pergamos, Carpus yn Thyatira, Melito yn Sardis, ac eraill yn y lleill. Jago hefyd y cyfiawn, mâb Cleophas, câr Christ oedd Escob yn Jerusalem, Ignatius yn Antioch, Marc yn Alexandria, Papias, gwrandawr Sact Joan yn Hierapolis, Quadratus discibl yr Apostolion yn Athen, y rhain oll heb law amryw eraill, oeddynt Escobion, pan oedd yr Apostolion etto yn fyw, yn eu gweled, yn gwbl fodlon iddynt, ie ac wedi eu gorseddu au gosod ganddynt hwy yn eu hamryw Escobaethau. Ac am hynny nid oes ammeu, nad yw Escobion o ordinhâd Apostolaidd, ai bôd o râdd vwch nar offeiriaid. Yr hyn y mae yr hen Dâd Ignatius (yr hwn oedd yn byw yn amser yr Apostolion, ac yn gyflawn gydnabyddus â chyflwr yr Eglwys yn eu hamser hwynt, ai amser ei hun, ac oedd, fel y mynega Nicephorus y bach [Page 70] gennyn a alwodd Christ atto, ac a osododd ynghanol yr Apostolion Math. 18.2.) yn ei gydnabod. Canys gan grybwyll am y tair vrddas wahanredol o Escobion, Offeiriaid, a Diaconiaid, y mae yn rhoi y gorchymmyn hwn, Bydded y bobl lyg yn vfudd ir Diaconiaid, y Diaconiaid ir Offeiriaid, yr Offeiriaid ir Escob, yr Escob i Grist, megis ef iw Daâd. lgnat. ad Sinyr. pag. 46. Ac y mae Sanct Jerom yn dangos angenrhaid yr vchafiaeth yma. Y mae jechawdwriaeth yr Eglwys, medd ef, yn sefyll yn vrddas y pen offeiriad, sef, yr Escob; ir hwn oni roddir goruwch awdurdod ar y lleill fe fydd yn yr eglwys gimmaint o schismau, ac o Offeiriaid. Hi [...]r. ad [...]. l [...]ucis.cap. 4. p. 199. A Zanchius athraw mawr yn Germania A fydd yn dywedyd, yr hwn a dderbynio, ac a ddilyno arfer, ac opiniwn yr Eglwys gyffredinol ymmhôb amseroedd, a lleodd byd yr oes hon; megis deongliad siccr o air Duw, a ddeall yn [Page 71] hawdd, fod erioed yr amryw raddau o Offeiriaid, ac Escobion yn y ll [...]wodraeth Eglwysig, Zanch. thes. de vera reformand Ecclesia ration. yn ôl gair Duw. Ac am hynny ple y maent fyth yn sefyll, ni ddylid eu dilêu, a phle y darfu i wrthwyneb yr amseroedd eu dilêu, rhaid eu gosod i fynu drachefn. Ac y mae efe yn dywedyd ymmhellach gydâ Chalfyn, eu bod hwy yn deilwng o bôb melldith, y rhai nid ymddarostyngant ir Sanctaidd lywodraeth honno, sydd yn ymddarostwng ir Arglwydd Jesu. Ac am ben hyn y mae efe yn datgan ar gyhoedd o flaen Duw, ac yn ei gydwybod ei hun, ei fod ef yn eu cyfrif hwynt yn ymranwyr annuwiol, y rhai sydd yn dal mai rhan o ddiwgiad yr Eglwys yw, bod heb Escobion, ac awdurdod ganddynt ar eu cyd. Offeiriaid, lle y gellir eu cael. Llywodraeth yw Escobaeth a dderbyniodd yr Eglwys gyffredinol, fel y tystia Grotius, gwr traddyscedig, ar rhai sydd yn dadlu yn ei herbyn, [Page 72] chwi ellwch fod yn siccr; mai gau athrawon ydynt, y rhai a raid i chwi eu gochelyd, megis gelynion eich eneidiau.
2. Ail gau athrawiaeth y Sectau hyn yw, bod yn gyfreithlon i ddeiliaid wrth sefyll eu Brenin, a chodi arfau yn ei erbyn, os efe a aiff ynghylch dymchwelyd cyfreithiau y deyrnas, tynnu i lawr y wîr ffydd, ac anrheithio yr Eglwys. Yr hon athrawiaeth sydd wrthwynebol i air Duw, yr hwn sydd mewn amryw fannau yn gorchymyn vfudd-dod i frenhinoedd, ac yn gwahardd tan liw yn y byd wrth ryfela yn eu herbyn, Sanct Paul sydd yn gorchymyn hyn yn gaeth, ymddarostynged pôb enaid ir awdurdodau goruchef Canys nid oes awdurdod onid oddiwrth Dduw, a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio, am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duw; a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth [Page 73] iddynt eu hunain, Rhuf. 13.1.2. hynny yw, bydded pôb dyn, pa vn bynnag fyddo ai llén, ai llyg, ac o barâdd bynnag a fyddo, yn ddarostyngedig ir llywodraethwr goruchaf, sydd yn gyfreithlon wedi ei osod yn y deyrnas, y mae efe yn byw ynddi; gan ei fod ef wedi derbyn ei awdurdod gan Dduw; yn erbyn yr hwn, os efe vn amser a wrthryfela, gwybydded ei fod ef yn gwrthryfela yn erbyn Duw, rhaglaw yr hwn yw'r Brenin, ac y derbyn ef gospedigaeth addas am ei anvfudd-dod, ai wrthryfelgarwch. Ymddarostynged pôb enaid, vchel, ac isel; gwreng a bonheddig; îs lywiawdwyr a phenaethiaid y deyrnas, yn gystal a'r gyfredin bobl. Singulis. major, versus nimor. Rhai, i geisio esgusodl y gwnthryfel yn erbyn ein diweddar rasusaf Frenin, a ddywedent, er ei fod ef yn fwy na neb rhyw vn oi ddeiliaid yn neillduol, ac ar i ben ei hun; ei fod ef er hynny yn llai na phawb ohonynt, neu hwynt oll ynghyd; ac am hynny y gallant hwy oll, [Page 74] neu y rhai pennaf ohonynt gwedi ymgynnull mewn Parliament ei wrthwyneba, a chodi yn ei erbyn, os efe a orthrymma ei bobl, a erlid y rhai duwiol, ac a esid i fynu gau grefydd. Ond mae yr athrawiaeth hon yn wrthwynenebol nid yn vnig ir yscrythur lân, yr hon sydd yn gorchymyn i bawb yn ddinam fod yn ddarostyngedig ir awdurdodau goruchel, ond hefyd i jawn reswm. Canys y mae trefn cyfiawnder yn gofyn ir holl isafiaid vfuddhâu iw vchafiaid, yn amgen, nid allei trefn dda yn y byd fod ymmysg dynion; ond y Brenin ym mhob teyrnas vw y goruchaf, ar holl swyddogion eraill sydd îs nag ef; swyddogion ydynt tano ef, gwedi eu danfon ganddo ef i wneuthur cyfiawnder a barn, fel y dywyd yr Apostol Pedr; 1. Pet. 2.131 14 ymddarostyngwch i bôb dynol ordinhâd oherwydd yr Arglwydd. pa un bynnag a'i ir brenin megis goruchel, a'i ir llywiawdwyr, megis trwyddo ef wedi ef danfon, er dial a'r y drwg weithredwyr, a mawl i'r gweithredwyr [Page 75] da. Ple y mae yr Apostol yn dangos nid yn vnig y gorsaf, a'r rhagor a osododd Duw rhwng y Brenin a'i ddeiliaid, ond hefyd rhwng y llywiawdwyr goruchaf, a'r îs awdurdodau. Canys y mae y geiriau (a ddanfonwyd trwyddo ef) yn dangos yn eglur nad oes gan yr îs lywiawdwyr ddim awdurdod, ond a gawsant gan y rheolwr pennaf, y Brenin; ac fel y maent hwy yn reolwyr y bobl, felly gan nad ydynt ond offerynnau y Brenin, y dylent fod yn ddeiliaid vfudd iddo ef, iw cynhyrfu, au llywodraethu ganddo ef, yr hwn sydd goruwch pawb yn y deyrnas, ac yn nessaf at Dduw. Fel y dylei y cyffredin bobl fod yn vfudd ir swyddogion, a'r îs lywiawdwyr; felly y dylent hwytheu fod yn v.fudd ir Brenin, oddiwrth yr hwn y mae yr holl awdurdod sydd ganddynt, heb feiddio tan liw yn y byd godi yn ei erbyn. Corah, Dathan, ac Abiram, a'r lleill y rhai a wrthryfelasant yn erbyn Moses ac Aaron, oeddynt wyr enwog, [Page 76] pennaethiaid y gynnulleidfa, a phendefigion lsrae0l; Num. 16.2. ac etto nid allei hyn ei gyd eu hescusodi hwynt am eu gwrthryfel yn erbyn eu llywiawdwyr, nai gwaredu oddiwrth farnedigaeth ofnadwy. Canys y ddaiar a ymagorodd, ac au llyngcodd hwynt i fynu, ar hyn oll oedd yn perthyn iddynt, er rhybudd tragwyddol ir sawl oll ac a feiddient godi, a gwrthryfela yn erbyn eu Rheolwyr cyfreithlon, ddisgwil am ryw fâth hynod, ac erchyll farnedigaeth. Pawb gan hynny, hyd yn oed y pennaethiaid pennaf, a raid fod yn vfudd ir Brenin.
A hynny er ei fod yn orthrymmwr, neu ddelw-addolwr, neu erlidiwr y ffydd, a phobl Dduw. Felly y gwnaeth Dafydd, tra'r oedd ef yn ddeiliad; er bod brenin Saul yn ei erlid, a Duw wedi traddodi Saul iw ddwylo, etto ni feiddiei efe ei lâdd ef, fel y ceisiodd ei weision i bersuadio ef i wneuthur; ond efe ai harbedodd ef, ac a ymattaliodd rhag gwneuthur dim niwed iddo, gan [Page 77] ddywedyd, Na atto yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i'm meistr. Eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef, oblegit eneiniog yr Arglwydd yw efe. 1. Sam. 24.6. Efe yw fy Arglwydd am Brenin, ir hwn yr wyf yn dyled vfudd-dod, a ffyddlondeb; ac am hynny na atto Duw i mi wneuthur dim niwed i [...]do ef. Canys fel y mae efe yn dywedyd yn y 26. bennod o'r vn llyfr, a'r 9. wers, pwy a estyn ei law vn erbyn eneiniog yr Arglwydd, ac y fydd ddieuog? A Christ mâb Duw gan fyw tan Ymmerodraeth Tiberius, twysogaeth Herod, a llywodraeth Pilat a ymddarostyngodd iddynt ym mhôb peth nid oedd cyfraith Dduw yn gwahardd; ac a oddefodd yn ammyneddus tan Bilat farwolaeth gywilyddus, a chreulon, heb ddim grwgnach, na manson yn ei erbyn; ac a orchymynnodd trwy eu Apostolion iw holl ddilynwyr wneuthur fel y gwnaeth efe, bod yn ddarostyngedig iw brenhinoedd, au llywiawdwyr, er eu bod [Page 78] yn ddelw addolwyr annuwiol, ac yn erlidwyr crefydd gristianogawl. Ac felly y darllenwn iddynt wneuthur. Canys y Christianogion, y rhai oeddynt yn Jerusalem, pan ferthyrwyd Sanct Jago, oeddynt fwy mewn rhyfedi, a chryfach mewn gallu, nac erlydwyr yr Apostol hwnnw; ac etto o ran y parch oedd ganddynt i gyfraith Dduw, ac i esampl Christ eu meistr, hwy a ddewisasant yn hytrach, gymmeryd eu lladd gan y rhai oeddynt lai na hwy mewn rhifedi, a'r rhai a allasent yn hawdd eu gwrthsefyll, nac y lladdent eu herlidwyr, fel y tystialaetha Sanct Clement, Ac felly yr Apostolion eraill, clem. revog. l. 1. f. 9. y rhai oeddynt yn byw tan ymmerodraeth Caligula, Claudius, Nero, a Domitianus, (delw addolwyr, gormesdeyrn, ac erlynwyr gwaedlyd y ffydd gristianogawl) a'r Christianogion a'r eu hôl hwy fil o flynyddoedd ynghyd, a ddilynasant yr esamplau a roddodd Christ iddynt o ammynedd [Page 79] ac vfudd-dod i lywiawdwy r, heb wrthwynebu dim. Je er bod eu gallu yn fawr, Cypr. ad Lemetr. a'i rhifedi yn fwy nai gelynion; etto nid oeddynt yn meiddio, oblegid gorchymyn Duw, godi yn eu herbyn; a phan ddelid rhai ohonynt, nid oedd nar rheini yn gwrthwynebu, nar lleill yn ceisio eu gwaredu. Tertul. in Apol. A Thertylian gan lefaru am y Christianogion ffyddlon a oddefasant lawer o drueni ac erlid yn ei amser ef, sydd yn dywedyd, y gallasent mewn vn noswaith fer weithredu eu hymwared, a dial eu holl gamwedd, pe buasai rydd iddynt dalu drwg am ddrwg; ond na atto Duw, medd ef, ir Sect dduwlol, sef, y Christianogion wneuthur y fâth beth; na atto Duw iddynt hwy geisio dial a'r eu gelynion, ond yn hytrach dioddef, yr hyn sydd gymmeradwy ger bron Duw. Dymma fel yr oedd y Christianogion gynt yn gwneuthur, dioddef yn ammyneddus orthrymder eu tywysogion; eu cyssegr-yspail, [Page 80] au hannuwioldeb, nid codi, a gwrthryfela yn eu herbyn: Yr vnig arfau cyfreithlon i Gristianogion i wrth sefyll cynddaredd, a chreulonder eu llywiawdwyr annuwiol yw gweddiau a dagrau; yn ôl ymadrodd Sanct Ambros, ni ddysgais i mor gwrthwynebu; ond myfi a fedraf ofidio, ac wylo, ac ocheneidio; a'r arfau yr wyfyn eu harferu yn erbyn arfau y milwyr a'r Gothiaid yw fy ngweddiau am dagrau; ac yn amgen na hyn ni ddylwn ni, ac nid allafi wrthwynebu. Mae yn amlwg gan hynny nad yw gyfreithlon i ddeiliaid, tan liw yn y byd, wrthwynebu eu brenin cyfreithlon, a chodi arfau yn ei erbyn, ac mai eu hunig arfau cyfrethlon, pan orthrymmer hwy ganddo, yw gweddiau a dagrau. 3. Eu gau athrawiaeth nessaf yw, na ddylid arferu, nac yn gyhoedd, nac yn ddirgel ffurfau gosodedig o weddiau, ond y dylei pawb weddio drwy 'r yspryd, hynny yw, newid eu gweddiau, fel y byddo yr [Page 81] achosion yn gofyn yr hon athrawiaeth sydd wrthwynebol ir yscrythur lân; yr hon sydd yn dangos, er gallu ohonom yn ein stafelloedd dirgel arferu gweddiau a wnelom ni ein hunain, i gyffessu i Dduw ein dirgel bechodau, ac i ofyn maddeuant amdanynt, a grâs iw gochelyd rhag llaw; a newid y rhain, fel y byddo yr achosion yn gofyn: etto fod gosodedig ffurfau o weddiau yn gyhoedd yn yr Eglwys yn cyttuno â gair Duw, ac ymarfer yr Eglwys can y Testament hên, a'r newydd. Yn yr hên destament yr oedd gosodedig ffurfau o fendithio, o weddio, ac o roddi diolch gwedi eu appwyntio gan Dduw ei hun. Yn y 6 bennod o Numeri: 24, 25, 26, wersi, y mae ffurf a osododd Duw ei hun i Aaron a'r Offeiriaid, i fendithio 'r bobl. Bendithied yr Argrglwydd di, a chadwed di, a llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthit; derchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded it dangneddyf. Ac Deut. 26. y [Page 82] 3. wers a'r gwersi sy'n canlyn y mae cyffes osodedig gwedi ei appwyntio, ir hwn a offrymmei y cawell blaenffrwyth. Ac yn y 13. wers o'r vn bennod, a'r gwersi a'r ôl, y mae gweddi bwyntiedig, gwedi ei gosod ir hwn a roddei ddegymmau y drydedd flwyddyn, dygais y peth cyssegredig allan o'm ty, ac ai rhoddais ef i'r Lefiad, ac i'r dieithr, ir ymddifad, ac i'r weddw; yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi; ni throsseddais ddim o'th orchmynion, ac nis anghofiais; ni fwytteais ohonaw yn fy ngalar, ac ni ddygum ymaith ohonaw i aflendid, ac ni rodda [...] ohonaw tros y marw: gwrandewais a'r lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ôl yr hyn ôll a orchmynnaist i mi, edrych o drigle dy Sancteiddrwydd sef, o'r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a'r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau, sef, tir yn llifeirio â llaeth a mêl. Moses; pan gychwnnei yr Arch, a arferei yn wastad y weddi yma, Cyfot Arglwydd, a gwascarer dy elynion, a ffoed dy gaseion o'th [Page 83] flaen. A Phan orphwysei yr Arch, efe a ddywedet ac a weddiei yn y geiriau hyn dychwel Arglwydd at fyrddiwn miloedd Israel. Num. 10.35.36. Ar Offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd a orchmynnir a'r ddydd ympryd wylo, a dywedyd fel hyn, Arbed dy bobl o Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt; paham y dywedent ym mhlith y bobloedd pa le y mae eu Duw hwynt? Joel: 2.17. Ac 2. Chro. 29.30. y darllenwn i Hezekiah y brenin, a'r twysogion ddywedyd wrth y Lefiaid am foliannu yr Arglwydd â geiriau Dafydd ac Asaph [...] y gweledydd. Geiriau Dafydd yw Psalmau Dafydd; a geiriau Asaph yw y Psalmau hynny sydd yn dwyn ei enw ef, megis y 73, 74, 75, 76. ac amryw rai eraill. Yr oeddynt i foliannu Duw yn y ffurfau gosodedig hynny, sef, Psalman Dafydd ac Asaph. Felly y pedwar ygeinfed a'r deuddegfed Psalm oedd Psalm neu gân iw arferu a'r y dydd sabbath, fel y mae yn eglur wrth ei ditl ef. A'r ganfed a'r [Page 84] ail Psalm oedd weddi y cystuddiedig iw arferu ganddo ef, pan fyddei mewn blinder, ac yn tywallt ei gwyn ger bron yr Arglwydd. Ar pymtheg Psalmau hynny a'r ôl y ganfed a'r bedwaredd Psalm a'r bymtheg, (y rhai a elwr Psalmau y graddau) a genid mewn trefn gan yr Offeiriaid, pan fyddent yn escyn y pymtheg grâdd hynny, oedd rhwng cyntedd y bobl a'r Offeiriaid. Je, ac yr oedd ganddynt Psalmau, a gweddiau pwyntiedig iw harferu yn wastad o flaen eu aberthau; y rhai y mae yr Iddewon yn cwyno eu dwyn oddiarnynt gan Adrian yr Ymmerawdwr, fel y darllenwn yn y Chronicl Samaritanaidd. A'n achubwr Christ a ddysgodd iw ddiscyblion ffurf osodedig o weddi, megis ac y dyscasei Joan iw ddiscyblion ef, Pan weddioch dywedwch, neu arferwch y weddi hon, Ein tâd, yr hwn wyt yn y nefoeddd &c. Luc. 11.2. Yr hon weddi a arferodd yr Apostolion yn wastad yn eu cynnulleidfaoedd, Tert. de orat. c. 9. fel y tystia Justyn [Page 85] merthyr, a Thertylian: Ac ychydig o flaen ei farwolaeth efe a weddiodd fel hyn, fy nhâd os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddiwrthif: etto nid fel yr ydwyfi vn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Math. 26.39. A thrachefn yr ail waith efe a weddiodd, gan ddywedyd, fy nhâd, onis gall y cwppan hwn fyned heibio oddiwrthif, na byddo i mi yfed ohono gwneler dy ewyllys d. Mat. 26.42. Ac fe a w [...]ddiodd y drydedd waith, gan ddywedyd yr vn geiriau. 44. Fe fedrasei Christ yn ddiammeu newid ei eiriau yn ei weddi; ond ni wnaeth ef hynny, eithr efe a ddywedodd yr vn geiriau, iw disprofi hwynt y rhai a haerant, na ddylid arferu vn ffurf osodedig o weddi, ac a dybiant y cânt eu gwrando am eu hamryw, au haml eiriau. At Eglwys gristianogol yn gyffredinol ym mhôb oes, ac ym mhôb man a arferodd ffurfau gosodedig o weddiau yn ei Chynnulleidfaoedd cyffredin, megis ac y mae yn ymddangos yn ei gwasanaeth, neu ei gweddiau cyhoedd; ac y tystiolaetha [Page 86] hên Scrifennyddion. Sanct Jago Escob Jerusalem a wnaeth ffurf o wasanaeth, neu weddiau cyffredin iw arferu yn Eglwys Jerusalem megis ac y tystia Hegesippus. Just. Merth. z. apol Justin Merthyr Sydd y n dangos fod y Christianogion yn ei amser ef yn ymgyfarfod bôb sûl, ac yn eu cynnulleidfaoedd yn darllain rhai mannau dewisedig o'r yscrythur lân, yn canu psalmau, yn gwrando pregethau, ac yn arferu gweddiau cyffredin, y rhai yr oedd yr offeiriad yn eu hoffrymmu i Dduw, yn ôl gweddi a wnae efe ei hun o flaen ei bregeth. Orig. 1.6. contra Cels. Origen vn o'r hên dadau yn y chweched llyfr a scrifennodd ef yn erbyn Celsus Sydd yn crybwyll am weddiau pwyntiedig a arferid y pryd hynny yn yr Eglwysi. A Sanct Basil, Ambros, a Chrysostom, Escobion duwiol a wnaethant weddiau cyffredio, iw harferu yn eu Heglwysi; megis ac y maent iw gweled yn eu gweithredoedd, a llyfrgell y Tadau, er gydâ pheth adnewyddiad. [Page 87] Ac yn ôl hynny Gregorius fawr a Sanct Isiodorus a osodasant allan ffurfau o wasanaeth, iw harferu yn yr Eglwys. Ac o ran, allan ohonynt hwy, o ran o'r ffurfau o'r blaen, ac o ran o rai hynach, sef, y rhai a ddywedir eu bod yn eiddo yr Apostolion, y mae gan yr holl Eglwysi hynod, ac adnabyddus drwy Grêd, weddiau. gosodedig cyffredin, y rhai y maent yn eu harferu yn eu cynnulleidfâon. Ac fel y mae y cyfryw ffurfau gan y rhan fwyaf o'r Eglwysi adcyweiriol: felly y mae Calfyn (Difinydd dyscedig gynt yn Genefa) yn dymuno bod y cyfryw rai ganddynt ôll. Am ffurf o weddiau, a defodau Eglwysig, yr wyf, medd ef. yn dra bodlon fod vn ffurf siccr, a safadwy, oddiwrth yr hon ni byddo rydd i weinidogion Duw ymadaw, neu newydio; yn gystal er mwyn y bobl syml, anghyfarwydd, ir rhai y mae yn llessol fod ffurf osodedig; c [...]. ess.87. ad. pr [...] An g [...] ac yr ymddangoso yn well cydsyniad yr Eglwysi yn en [Page 88] mysg eu hunain; ac i ragflaenu yscafnder dianwadal rhai pobl sydd yn caru adnewyddiad. A hyn a orchmynnir gan amryw Gymanfau gwyr dysgedig; megis yn yspysol gan y Gymanfa a fu yn Toletum yn Hispaen, yr hon yn ei thrydedd Rheol sydd yn gorchymyn i holl lywiawdwyr yr Eglwys, Conc. Tolet. can. 3. a'r bobl gadw yr vn defod, a'r trefn o wasanaeth, ac a wyddent ei appwyntio yn y brif orsedd. Gan y Gymanfa a fu yng Harthag, yr hon a ordeiniodd i bawb gadw, ac arferu y gweddiau, Conc. Carth. can. 106. y dechreuadau, a'r arddodiadau dwylo a gadarnhawyd gan y cyngor. Gan y Gymanfa arall a fu yn Hyspaen, a elwir Bracharum, ym mha vn yr ordeinwyd i bawb gadw yr vn rhyw drefu o weddio, Conc. Brac. 1. can. 19. ac o ganu, ac na byddei amrywiaeth arferion ym mysg y rhai sydd rwym ir vn ffydd, ac sydd yn byw tan yr vn rheolaeth. A'r Gymanfa ym Milefis sydd yn gorchymyn yr vn peth, ac yn rhoi y [Page 89] rheswm hwn am yr ordinhâd, rhag drwy anwybodaeth, Conc. mil. can. 12. neu esceulustra draethu ger bron Duw neu offrymmu iddo ef ddim gwrthwynebol ir ffydd Gatholig. At yr hwn y gallaf chwanegu y rhesymmau hyn, fod yn gymmwys ir gweddiau a wneir yn gyhoedd yn yr Eglwys, fod yn adnabyddus ymmlaen llaw i bawb or bobl, fel y gallont yn well, ac yn hyfach gydweddio â gweinidogion Duw, ac heb ddim petrusder cydwybod, (gan wybod ym mlaen llaw ddefnydd, a chyfreithlonder y deisyfiadau) ddywedyd, Amen, wrthynt, a derchafu hefyd eu calonnau at Dduw yn well; yr hyn nid allant yn gystal tra y byddont yn dal sulw beth y mae yr Offeiriad yn gweddio amdano; ac fel y byddo rhwng yr holl gynnulleidfa vndeb calonnau, ysprydoedd, a thafodau; ac arwydd cyhoedd o gymmundeb yn eu gweddiau, yr hyn yw yr erfyn goreu, i'n gwneuthur ni yn gû i Dduw, ac y naill ir llall; ac i gael [Page 90] ein deisyfiadau; gan fod gweddi neillduol, heb ei chynnorthwyo ag vndeb yspryd cyhoedd, yn wannach, ac yn llai ei grym na'r llall, yn yr hon y mae cyffredin gyttundeb, ac y byddo pawb yn vnfryd o vn galon, ac vn genau yn galw a'r Dduw. A hyn a wasanaetha i ddangos yn gvffredinol fod rhyw ffurf dduwiol o weddiau cyhoedd yn angenrheidiol yn yr Eglwys. Am ein llyfr gweddi Cyffredin ni yn Eglwys Frudain, myfi a allaf ddywedyd yn hyf, nad oes moi fâth am dduwiol ddefosiwn drwy 'r holl fyd Christianogawl. Efe a wnaethpwyd gan Escobion a Doctoriaid dysgedig a duwiol, y rhai ai hamddiffynasant ef yn wrol, ac a roesant rai ohonynt i lawr eu bywyd trosto ef, a'r ffydd Brotestaidd. Ac oblegid ei fod yn perthyn i bawb, fe gymmerwyd cyngor y Brenin, Edward y chweched, a'i Barliament yn ei gylch, cyn ei osod allan, a gorchymyn ei arferu yn yr Eglwysi. le, ac fe ymgynghorwyd a'r gwyr dysgediccaf yn yr Eglwysi [Page 91] adcyweiriol y tu hwynt ir dwfr, ac a ddiwygwyd rhai pethau ynddo. Yr hwn pan ddarllenodd Gilbertus difinydd dysgedig o Germania, f'ai canmolodd megis coppi neu gynllun o'r hên brifffurfau yng wasanaeth Duw. Nid allei y Papistiaid yn eu holl ddysgeidiaeth gael dim bai a'r y llyfr hwn, ond bod rhai pethau, fel y tybient, yn eisieu ynddo; ac am hynny y daethant dros ynghylch vn mlynedd ar ddeg in Eglwysi, i gydweddio, ac i gydwasanaethu Duw gyda ni; nes i Bâb Rhufain am ryw achos arall wahardd iddynt. Ac etto Pâb Paul y pedwerydd a gynnigiodd yn ei lythyrau at Frenhines Elisabeth alowa, a chadarnhau y llyfr hwn, os hi a gydnabyddei ei bennaduriaeth ef, a bod yr adcyweiriad a wnaed yn yr Eglwys oddiwrtho ef. Ar cyfryw addewid tan yr vn ammod a wnaeth Pâb Pius y pedwerydd. A rhag i neb feddwl yn waeth amdano oblegid hynny, megis pe bae gormod cyffelybiaeth rhyngddo ef a llyfr offeren y Papistiaid, Bucer, [Page 92] Protestant dysgedig y tû draw ir môr gwedi ei ddanfon atto gân Archescob Cranmer, i gael ei farn ef amdano, a'i darllenodd yn dra dyfal, ac a ddywedodd, er bod ynddo rai pethau y gallei dynion syfrdanus feio arnynt, etto nad oedd ynddo mewn gwirionedd ddim, ond a gymmerwyd allan o'r yscrythur lân, neu sydd gysson à hi; os iawn ddirnedir ef. Ac yn ddiweddar yn ôl happus ddychweliad ein grasusaf Frenin, fe gy mmerwyd golwg arno drachefn, ac er mwyn ceisio bodloni y rhai a ddadlent yn ei erbyn, fe wnaethpwyd peth adnewyddiad ynddo; yn gimmaint ac nad oes le yr awrhon i neb sydd yn ei iawn synwyr feio arno; gan fod y Papistiaid, ar Protestiaid dysgediccaf yn y deyrnas hon, a theyrnasodd eraill yn ei gymmeradwyo, ai fod yn gysson a'r yscrythur lân, a hên ffurfau y brîf Eglwys. Y mae rhau fawr o'r llyfr hwn yn eiriau'r scrythur lân; y Psalmau, y Llithiau, yr Efangylau, a'r Epistolau, y dêg Gorchymyn, a'r holl [Page 93] Hymnau agos eu gyd, nid ydynt ddim amgen ond yr yscrythur lân. Y credo, yr hwn a elwir credo yr Apostolion, a wnaethpwyd ganddynt hwy, tra 'r oeddynt etto yn Jerusalem, a chyn iddynt ymwascaru drwy 'r byd, i bregethu yr Efengil, ac yn grynodeb y ffydd Gatholig. Ar ddau Gredo arall, Credo Athanasius (yr hwn a wnaeth ef, i ddangos nad oedd ef o'r vn ffydd ag Arrius yr hæretic, yr hwn oedd yn gwadu nad oedd Christ o'r vn sylwedd ai dâd) a Chredo Nicen (yr hwn a wnaethpwyd y rhan fwyaf ohono yng Hymanfa Nicæa, ac a arferwyd yn yr Eglwysi yn y cymmun wasanaeth er y flwyddyn trychant ac am yn vn deugain yn ôl Christ) nid ydynt ond esponiadau o'r llall. Am y cydfawl, y wers gyntaf ohono (Gogoniant ir tâd, ac ir mâb, ac ir Yspryd glân) a wnaethpwyd gan y Gymanfa o Escobion a fu yn Nicaea; ar wers ddiweddaf, (megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awrhon, ac y bydd [Page 94] yn wastad yn oes oesoedd, Amen) a chwanegwyd gan Sanct Jerom; er bod rhai gwyr dysgedig yn tybied ei bod yn hynach. Yr Hymn, Ti Dduw addolwn, yr hwn a arferir yn wastad ar ôl y llith gyntaf, a wnaed yn rhyfeddol gan Sanct Ambros, a Sanct Austin wrth ei fedyddio, ac a arferwyd er hynny yn yr Eglwys gydâ mawr barch; a hynny fel yr haeddai yn dda, gan ei fod yn Gredo yn cynwys holl ddirgeledigaethau y ffydd, ac yn ffurf barchedig o ddiolch, moliant, ac addoliant. Ar hymn Chwychwi holl weithredoedd yr arglwydd, ym mha vn y mae yr holl greaduriaeth yn moli Duw, a dderbyniwyd yn gyffredin yn yr Eglwys, fel y mae iw weled yn y bedwaredd Gymanfa a fu yn Toletum. Am yr holl weddiau, y colectau, a'r Letani, fel y maent oherwydd eu defnydd yn cynwys deisyfiadau duwiol, yn cyttuno ag ewyllys Duw, ac am hynny y cyfrywrai (ni allwn fod yn siccr) a wrendi Duw, yn ô ymadrodd [Page 95] Sanct Joan 1. Jo: 5.14. (hyn yw 'r hyfder sydd gennym tuag atto ef, ei fôd ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ôl ei ewyllys ef) felly oherwydd eu ffurf, y maent yn gysson a'r gweddiau a arferid yn Eglwys Dduw yn yr amseroedd gynt. Nid vn weddi hîr, barhaus ydynt, ond amryw weddiau byrrion, megis ac y mae Gweddi yr Arglwydd, ac y darllenwn fod y gweddiau yr oedd yr Iddewon gynt yn eu harferu yn eu defosiwnau, a gweddiau y Christianogion yn y brif Eglwys. Sanct Chrysostom sydd yn canmol yn fawr weddiau byrrion, aml, a pheth yspaid rhyngddynt, Chrys. bent. 1. de Hanuà. fol. 965. ac yn dywedyd fod Christ a'r Apostol Paul yn gorchymyn i ni arferu y cyfryw rai. Yn y Groeg ar brif Eglwys yr oeddynt yn gwneuthur eu gweddiau, [...] c. 26. fel y tystia Epiphanius gydâ phob mynychiaeth, a gwresog gwttogrwydd; eu gwediau oeddynt fynych, a byrrion. Yn Yr [Page 96] Eglwys Lladin, neu gorllewinawl yr holl hên weddiau oeddynt fyrrion, Eros. lib. de modo orandi. dim hwy na gweddi yr Arglwydd, fel y tystia Erasmus. Ac yn yr Eglwysi yn Africa, fel y mynega Cassian, Joh. Cass. Instit. 1.2. [...].10. yr oedd eu gweddiau yn dra byrrion, ac yn dra aml. Ac felly yr vn ffunud y brodyr, neu y Christianogion yn yr Aipht a arferent weddiau byrrion yn fynych, fel y mynega Sanct Austin; a'r rheini a ergydient tua'r nef yn ddisymmwth, Aug. ep. 121. ad Probam orando Deum. cap. 10. rhag i ddyfalwch y meddwl, yr hwn sydd angenrheidiol mewn gweddi, ddiflannu, a llaesu drwy hîr barhâd. Oherwydd pa achos ein gweddiau cyffredin ninneu yn yr Eglwysi ydynt fyrrion, ac aml; a'r bobl sydd yn dwyn eu rhan ynddynt, ac yn rhoi attebion mynych, ac yn dywedyd Amen ar ôl pôb gweddi, iw cadw eu hunain vn wiliadwrus, ac iw gwneuthur vn fwy dyfal, a gwresog ynddynt. Yr hyn y maent yn [Page 97] ei wneuthur, megis yn yr holl weddiau yn gyffredinol: felly yn enwedig yn y Letani, (y rhan oreu, a'r wresoccaf ohonynt) ple yn ôl pôb gweddi yn erbyn agos pôb pechod, y maent yn dywedyd. Gwared ni Arglwydd daion [...]s; ac yn ôl pôb deisyf am ryw râs yn dywedyd, Nyni a attolygwn i ti rin gwrando, Arglwydd trugarog; a thua 'r diwedd mae'r offelriad a nhwytheu yn ergydio eu gweddiau byrrion yn fynychach, ac yn daerach, gan lefain, Mâb Duw, attolygwn i ti ein gwrando. Oen Duw, yr hwn wyt yn dileu pechodau'r byd, trugarhâ wrthym; Arglwydd trugarhâ wrthym; Christ tr [...]garhâ wrthym; Arglwydd trugarhâ wrthym, megis ac y llefodd y discyblion ar Grist, pan oeddynt yn barod i foddi, o feistr, feistr, darfu amdanom, Luc. 8. 24 cadw ni attolygwn. Ar gweddiau nerthol, bywiol, taerion hyn a allant lawer, ac a dycciant, medd Sanct Jago; 3 5.16. ac ynddynt hwy yn ddiammeu y gweddiwn, os gweddiwn [Page 98] vn amser, yn yr Yspryd, ac a holl nerth ein eneidiau. Canys yr hwn sydd yn gweddio o'r galon am bethau cyfreithlon a chysson ag ewyllys Duw, (ar cvfryw yw yr holl ddeisyfiadau yn y llyfr hwn) y mae efe yn ddiau yn gweddio drwy 'r yspryd, ai weddi sydd gymmeradwy ger bron Duw. I ddibennu 'r pwngc hwn yng eiriau Sanct Ambros ir cyfryw berwyl, St. Amb. contra baris. cap. 7. Pwy a feiddia sarhau y llyfr Offeiriadaidd hwn. yr hwn a seliwyd gan gimmaint o gyffeswyr, ac a gyssegrwyd â gwaed cimmaint o Ferthyri? Pa fodd y galwn hwynt yn Ferthyri, os nyni a wadwn eu ffydd hwy? Paham y condemniwn y llyfr hwn, am ba vn ni rufodd llawer o wyr dyscedig a duwiol yn amser Brenhines Mari eu rhoi i farwolaeth? Diammeu yd [...]w na feiddiasent hwy farw amdano om buasai eu bod yn gwybod, ei fod yn gwbl gyslon â gair Duw ac yn ffurf ragorol i wasanaethu Duw wrthi. Ffurf yn cyttuno a'r hên ffurfau [Page 99] o wasanaeth cyhoedd Dùw yn yr Eglwysi hynodaf, Lladin a Groeg; a ffurf a wnaethpwyd gan y gwyr dysgediccaf yn y deyrnas ac a gydgyttunwyd arni drwy gyffredin gyttundeb, ac a orchmynnir ei arferu yn yr Eglwys hon o Frudain gan yr awdurdod goruchaf, y Brenin ai Barliament; ir rhai yr ydym yn rhwym i vfuddhau. Y mae yr Apostol Paul vn gorchymmyn. 1. Cor. 14.40. gwneuthur pôb peth yn yr Eglwys, y gwasaneth cyhoedd yn enwedig Yn weadaidd, neu fel y mae y gair Groeg [...] yn arwyddoccau, yn ôl rheol osodedig, a'r rheol hon yr Eglwys yma o Frudain yw y llyfr hwn, yr hwn y mae pawb oherwydd hynny yn rhwym iw arferu yng wasanaeth cyhoedd y goruchaf Dduw.
4 Dadlu y mae yr lndependentiaid y dichon pô [...] brawd dawniog, pôb ûn ae sydd yn tybied ei fod yn gymmwys i lefaru yn y gynnulleidfa, y dichon y cyfryw vn heb ddim mwy holiad, neu [Page 100] alwad cyfreithlon, gymmeryd arno y swydd o gyhoedd bregethiad, a gweinidogaeth yn yr Eglwys. Lle y mae yr Apostol yn cymmeryd hyn megis yn gyfaddefol gan bawb, nad rhydd i neb bregethu, ond ir sawl sydd wedi eu galw i hynny, gan y rhai sydd ganddynt awdurdod i danfon. pa fodd gan hynny y galwant a'r yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant amdano? a pha fodd y clywant heb bregethwr? a pha fodd y pregethant, onis danfonir hwynt? Rhuf. 10 14 15. nid allant bregethu yn awdurdodol, oddieithr eu bod gwedi eu danfon; pregethu a allant, megis rhai sydd yn cymmeryd arnynt y swydd honno oi gwaith eu hunain, ond nid megis cennadau Duw, oddieithr eu bod gwedi eu danfon ganddo ef, neu gan yr Escobion, dilynwyr yr Apostolion, y rhai sydd ganddynt awdurdod i ordeinio, ac i ddanfon allan gennadau ar wasanaeth Christ. Ac am hynny y mae y prophwyd Jeremi yn eu [Page 101] ceryddu hwynt megis gau brophwydi, a thwyllwyr, y rhai sydd yn pregethu heb awdurdod, heb eu danfon, Ni hebryngais i y prophwydi hyn, etto hwy a redasant; Ni leferais wrthynt, er hynny hwy a brophwydasant. Jer. 23.21. Bleiddiaid, a gau brophwydi sydd yn eu galw eu hunain, ac yn myned oi gwaith eu hunain; gwîr brophwydi Duw yn wastad a ddanfonir. Nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron. Heb. 5.4. Nid oedd yr offeiriaid tan y gyfraith yn cymmeryd y swydd hon arnynt. nes eu galw iddi. Aaron a neillduwydi sancteiddio y cyssegr sancteiddiolaf, efe ai feibion, byth, i arogldarthu ger bron yr arglwydd, iw wasanaethu ef ac i fendigo yn ei enw ef yn dragywydd. 1 Chr. 23.13 Je an achubwr Christ, yn yr hwn y mae pôb cyflawnder yn aros, ar hwn oedd ganddo ddoniau dros fesur; nis gogoneddodd ei hun i fod yn Archoffeiriad. Heb. 5.5. Ond f'ai galwyd ef gan ei [Page 102] dâd, ac ai danfonwyd ganddo ef. Ac fel y danfonodd ei Dâd ef, Joh. 20.21. Felly y danfonodd yntef y deuddeg Apostol, Math. [...]0 5. ac ar eu hôl nhwytheu y deg discibl a thrugain, i bregethu yr efengil, Luc. 10.1. ac ni fynnai efe iddynt bregethu, nes eu danfon. Ni pharodd efe i bawb yn gyffredin bregethu, ond efe a ddewisodd y deuddeg Apostol, ac ar eu hôl hwynt y deg discibl a thrugain, ac a barodd iddynt hwy yn vnig bregethu. Ar Apostol Paul a ordeiniodd bregethwyr yn yr hôll eglwysi a blannasei efe: ac a adawodd [...] tu [...] yn Creta i osod henuriaid a phregethwyr ymmbôb dinas, megis yr ordeiniasei iddo. Tit. 1. 5. Yr awrhon i ba beth y gadawodd Sanct Paul Tirus yn Creta i osod pregethwyr ym mhôb dinas, pe gallei pobl bregethu, a chymmeryd arnynt swydd gweinidogion Duw, heb gael eu galw ir swydd honno? Nid all neb, er bod ganddynt ddoniau rhagorawl, bregethu mewn eglwys osodedig, heb awdurdodol [Page 103] ddanfoniad. Yr oedd gan Barnabas a Saul ddoniau rhagorawl, ac etto er hynny ei gyd, efe barodd yr Yspryd glân eu hordeinio hwynt a gosod dwylo arnynt, ai danfon. Neillduwch i mi Barnabas a Saul ir gwaith y gelwai [...] hwynt iddo. Act. 13.2. Ni feiddia y gwr y gyfraith goreu wafanaethu swydd Justus, nar gwr pybyraf gymmeryd arno swydd tywysog llu, nar gwr callaf, ar ffraethaf fyned yn gennad tros frenin i wlâd arall, heb awdurdod y brenin; gan nad synwyr, a dysgeidiaeth, a grymmuusder sydd yn gwneuthur y cyfryw swyddogion, a chennadau, ond commissiwn ac awdurdod y brenin. Felly nid digon i wneuthur pregethwr yw, bod ganddo dafod trebelydr a pheth cyfarwyddyd yn yr yscrythur lân, with ei mynych ddarlain, ond rhaid iddo heb law hynny geisio vrddau eglwys, ac awdurdod i bregethu. Canys y mae dau beth yn angenrheidiol i wneuthur pregethwr, neu weinidog Duw.
1. Doniau a rhinweddau iw gymhwyso [Page 104] ef ir fâth Sanctaidd, ac vrddasol alwedigaeth.
2. Gallu ac awdurdod oddiwrth yr henuriaeth, hynny yw, yr Escobion fel y mae Chrysostom, Theodoret, ac oecumenus yn esponio y text hwnn, [...] Tim [...] 4.14 i ymarfer a'r cyfryw ddoniau. Rhaid cael galwad oddiallan yn gystal ac oddimewn; ar rhai a ryfygant gymmeryd arnynt swydd cyhoedd bregethiad, a gweinidogaeth y sacramentau, heb naill ai galwedigaeth anaferol (a dystir trwy ryfeddodau,) neu arferol oddiwrth lywiawdwyr yr eglwys, ydynt ladron, ac yspeilwyr; nid gwîr fugeiliaid ydynt, a ddaethant i mewn drwy'r drws, ond y cyfryw ac a ymlusgasant, neu, a ddringasant i mewn ryw ffordd arall, Jo. 101. Ac arfer yr eglwys er amser yr Apostolion, hyd yr oes hon, oedd rhwystro y cyfryw ryfygwyr wasanaethu y swydd sanctaidd hon. felly y tystia Athanasius, Athan. in apologe [...]. 2. i Macharius vn o weinidogion Duw gymmeryd gafael ar vn Ischiras, [Page 105] pan oedd of yn gwneuthur peth a berthynei i weinidogion Duw, ai dynnu ef ymaith. oblegid nad oedd ef gwedi derbyn vrddau eglwys, ai amddiffyn ei hun am wneuthur hynny. A Jerom sydd yn beio ar Hilarius am ryfygu gwasanaetha y sacramentau, Hier dial [...]cont. Lucif. heb ei alw i hynny. Fe fyn Duw i bawb ei wasanaethu ef yn y galwedigaeth y gosodwyd hwynt ynddo, ac nad elont dros derfynau hwnnw. Tractent fabrilia fabri, Trinied seiri, ar cyfryw grefftwyr, y pethau sy'n perthyn iw creffti; a gadawont ir rhai a ddugpwyd i fynu mewn dysgeidiaeth, ac a ordeiniwydi fod yn weinidogion i Grist, bregethu ei air, a chyflawni y dyledswyddau eraill perthynasol iw galwedigaeth. Ni fyn Duw gymmysg y galwedigaethau a neilldnodd efe; a lle nid iw rydd i neb gymmeryd arno, oi waith ei hun, swydd ddinesig, gadael i bôb dyn llyg annysgedig ruthro i swydd sanctaidd yr offeiriadaeth, ai llygru. Barnedigeth Duw ar [Page 106] Corah, Dathan, ac Abiram, y rhai â ymhyrddasant i swydd yr Offeiriaid, ac a loscasant arogl-darth ger bron yr Arglwydd, sydd hynod; au tussurau a gadwyd drwy orchymvn Duw, i fod yn arwydd, ac yn goffadwriaeth i feibion Israel, na chymmerent arnynt swydd, ni pherthynei iddynt, heb gyfreithlon alwedigaeth iddi. Nu 16.38.40 Ac Uzzaha darawyd â marwolaeth ddisymmwth, am beri dwyn yr Arch ar fen, 1. Sa. 6.8. vr hon a ddylasid ei dwyn a'r yscwyddau y Lefiaid, ac am gyffwrdd â hi ai law, yr hyn nid oedd gyfreithlon ir Lefiaid, ond ir Offeiriaid wneuthur Num 4.15. Ac Uzziah yr vn ffunud â darawyd â gwahanglyf ffiaidd hyd ddydd ei farwolaeth, am iddo ryfvgu arogldarthu ar allor yr arogl darth, yr hyn ni pherthynei iddo ef, ond ir Offeiriaid, meibion Aaron, y rhai a gyssegrwyd i arogl darthu. 2 Chron 26.16.18.19. Yr hyn oll sydd yn dangos na ddylei neb gymmeryd arno swydd pregethwr, nes ei alw yn gyfreithlon ir swydd vrddasol honno.
[Page 107]5 Y pummed gau athrawiaeth y maent hwy, a'r holl Sectau eraill sydd yn ein plith yn ei dysgu yw hon, y dylent, fel y mae eu harfer, ymneillduo oddiwrth eu brodyr Christianogawl eraill yng wasanaeth cyffredin Duw, ac nad allant â chydwybod dda ymgyssylltu â hwynt ynddo: oblegid eu bod hwy, neu o'r lleiaf y rhan fwyaf ohonynt (fel y maent yn eu cyfrif) yn bobl fydol, annuwiol. Eithr beth yw hyn, ond gyd â 'r Pharisaeaid beilchion eu cyfiawnhau eu hunain; a chondemnio eraill, a dywedyd gyd â hwnnw yn Esay 65 5. saf a'r dy ben dy hun, ac na nessaf attafi. Canys Sancteiddiach ydwyf nâ thi. Heb feddwl am gyngor yr Apostol, Na wneler dim drwy gynnen neu wâg ogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied ei gilidd yn well na chwi eich hunain. Phil. 2.3. Oblegid fel y dywyd Sanct Austyn, yn ei esponiad o' r geiriau hynny, Fe ddichon fod mewn eraill rinweddau dirgel, cuddiedig, drwy ba rai y [Page 108] maent yn rhagori arnat ti, er bod y peth drwy ba vn y tybir dy fod ti yn rhagori a'r eraill, nid yn ddirgel, ond yn amlwg. Y mae yn yr Eglwys fwy yn ofni Duw ac yn gweithredu cyfiawnder, nac a ddichon y llygad oddiallan eu canfod. Elias a dybiodd, nad oedd ond efe ei hun, o holl wir wasanaeth ddynion Duw wedi ei adael; Lle yr oedd saith o filoedd fel y dywedodd Duw ei hun wrtho. wedi eu gadael yn Israel, gliniau y rhai ni phlygasant i Baal, a genau y rhai ni chussanasant ef. 1. Bren. 19.14.18. eithr gadewch fod llawer o ddynion annuwiol yn ein mysg (fel y mae gormod ysoweth ym mhôb Eglwys) nid yw hyn achos cyfiawn o neillduad. Nid rhaid i ni ddifuddio ein eneidiau o gomffordd a llessâd ordinhadau Duw, oblegid fod rhai dynion drygionus yn eu camarferu, ac yn eu trawsfeddiannu. Mae gennym esampl [...] a'r Sainct am hyn, y rhai oeddynt yn cynniweir yn fynych ir deml, i aberthu, ac i wasanaethu Duw, y pryd yr [Page 109] oedd yr Offeiriaid, a'r bobl yn dra drygionus, ac annuwiol. Yr ydym yn darllain fod Elcanah, ai wraig, ac eraill yn gyffredin yn myned ir deml i offrymmu bôb blwyddyn, fel yr oeddynt yn rhwym, pan oedd yr Offeiriaid, sef, Hophni, a Phineas yn ddynion drygionus yn feibion Belial nid adwaenent, neu nid oeddynt yn gwîr wasanaethu, yr Arglwydd, ond a orweddent gyda'r gwragedd oedd yn ymgasglu yn finteioedd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 1. Sam. 2.12.22. Er bod yr Offeiriaid mor ddrygionus a hyn, etto yr oedd Elcanah, a phobl dduwiol eraill yn ymgyssylltu â hwynt yng wasanaeth Duw. Felly yn amser Christ yr oedd llawer o lygredigaethau ym mysg yr Iddewon; ac annuwioldeb yr Seryfennyddion a'r Pharisæaid, oedd fawr; ac etto er hynny ei gyd, yr oedd Christ yn myned iw Teml, ai Synagogau, i wasanaethu Duw gyda hwynt, heb ymneillduo oddiwrthynt. Ac Eglwys Corinth oedd lygredig jawn mewn athrawiaethau, [Page 110] 'a buchedd; yr oedd ynddi hi gybyddion, a meddwon, a godinebwyr, a gorthr [...]mwyr, yr oedd ynddi rai oeddynt yn halogi swpper yr Arglwydd, yr hwn fai y mae yr Apostol yn ceisio ei ddiwygio yn yr vnfed bennod ar ddeg oi Epistol cyntaf attynt; a rhai eraill yn gwadu yr adgyfodiad; ac etto mae Sanct Paul [...]n cydnabod ei bôd hi yn wîr Eglwys heb nac ymneillduo ei hun, na pheri i eraill ymneillduo oddiwrthi hi. Yr oedd y rhan fwyaf yn Eglwys Sardis yn bobl annuwiol, nid oedd ond ychydig ohonynt heb halogi eu dillad, gwedi eu cadw eu hunain yn ddifrycheulid; Date. 3.4. a'r rhain, er lleied rhifedi oeddynt, y mae Duw yn eu canmol, heb beri iddynt ymneillduo oddiwrth y lleill. Ond dywedyd y mae ein neillduwyr, fod yr Apostol yn gorchymyn, 1. Cor. 5.11. Na chyd ymgymmyscom a'r rhai annuwiol, ac os bydd neb, a henwir yn frawd, yn odinebwr, neu yn gybydd, neu yn enlynaddolwr, neu yn ddifenwr, [Page 111] neu yn feddw, neu yn grib ddeiliwr na chyd-fwyttaom gyd a'r cyfryw ddyn. Ir hyn yr wyf yn atteb, mai y cyfeillach a waherddir yno gan yr Apostol yw care [...]aidd, a chynnefinol gymdeithas â dynion annuwiol, nid cyfeillach, neu gymmundeb yng wasanaeth Duw. Canys fel na ddylem ni gadw cyfeillach mewn anwiredd a'r rhai goreu: felly nyni a allwn gadw cyfeillach mewn daioni, a dyledswyddau crefyddol a'r rhai gwaethaf. Yr oedd yng wleddoedd-cariad y Corinthiaid, y rhai a ganlynent Sacrament swpper yr Arglwydd, anrhefnau pechadurus; ond nid yw yr Apostol yn peri ir Corinthiaid ymgadw, oddiwrth y Sacrament, nes diwygio 'r rheini; ond gorchymyn y weithred, sef, cymmuno, y mae, a dwyn y peth iw ddiwyg cyntaf. Nid all annuwioldeb cymmunwyr annheilwng ein halogi ni, mwy nac y dichon ein Sancteiddrwydd ni eu hescusodi hwynt. Oherwydd pa achos y derbyniodd Christ Suddas fradwr ir Sacrament. [Page 112] Fe roddodd y Sacrament ir holl ddiscyblion, hyd yn oed i Suddas. Canys efe a eisteddodd gyd a'r deuddeg. Math. 26.20. ac a barodd i bawb ohonynt, heb lyssu suddas, yfed o'r gwîn; hwynt oll, medd Sanct Marc, a yfasant ohono. Marc. 14.23. ac wedi iddo roddi diolch, efe a ddywedodd Luc. 22.21. Wele law yr hwn sydd yn fy mradychu gyd â mi ar y bwrdd; i'r hwn y rhoddodd ef y tammaid Jo. 13.26. f' oddefodd iw fradychwr medd Sanct Austin, Aug. cp. 163. aros ym mysg y rhai diniwed, hyd at gussan diweddaf tangneddyf; yr hyn, pe buassei niwed yn y byd ir lleill, drwy ei gymdeithas ni oddefasei efe byth. Y mae yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn annheilwng, yn bwytta, ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, 1 Cor. 11.29. nid i arall. Nid yw y cymmunwr teilwng ddim gwaeth er y rhai sydd yn dyfod i fwrdd yr Arglwydd yn anneilwng. Ir annheilwng y mae, y bara Sanctaidd yn y Sacrament, yn wenwyn; [Page 113] ir teilwng y mae efe yn ymborth ir enaid. Pôb vn a ddwg ei faich ei hun, medd yr Apostol Gal. 6.5. Ni ddwg y mâb anwiredd y tâd, Exec. 18 20. ac ni chospir di am bechod vn arall, nid wyt fodlon iddo. Nid rhaid i ti rufo gymmeryd y cymmun, oblegid fod eraill, nid yw ef yn perthyn iddynt, yn rhyfygu ei dderbyn; na dyfod ir Eglwys, i wasanaethu Duw, oblegid fod rhai dynion drwg eu buchedd yn dyfod yno. Am hynny da y dywyd Sanct Austyn wrth. Cresconius, y drygau, neu yr anwyreddau hyn sydd yn anfoddhau y rhai da, yr ydym yn eu gwahardd, ac yn eu hattal gimmaint ac a allom, a'r hyn nid allwn ei rwystro, yr ydym yn ei oddef; ond nid ydym er mwyn y gwyg yn gadael y maes; er mwyn y col yn ymwrthod a llawr Christ;er mwyn y Pyscod yn torri yr rhwyd: Aug ep. 48. er mwyn y geifr yn gadael corlan Christ: Tra y byddom yn anfodlon i bechodau rhai eraill, yn eu ceryddu, ac yn ymofidio amdanynt, nid ydym yn gyfrannogion [Page 114] ohonynt. Ac am hynny da yw cyngor yr vn tâd dyscedig, cerydded dyn yr hyn a allo; a'r peth nid allo, goddefed vn ammyneddus, heb wneuthur ymranniad. Oblegid mai gwir yw rheol Sanct Pedr, O Arglwydd at bwy yr awn ni? gennit ti y mae geiriau bywyd tragwyddol, Jo 6.68. Ple y mae y rhain iw cael (megis ac y maent y m mhôb Eglwys blwyf drwy 'r deyrnas hon) nid yw ddienbyd i neb ymadael oddi yno, y mae ym mhôb Eglwys blwyf yng Hymru (i Dduw y bo 'r diolch) foddion grâs, ac iechydwriaeth iw cael. Canys y mae yno weddiau da, a osodwyd allan drwy awdurdod, ac a ddylid eu harferu gan bawb yng wasanaeth cyffredin Duw▪ y mae yno y credo, y dêg gorchymyn, Psalmau, a llithiau, o'r Testament hên, ar Newydd, a'r ddau sacrament a ordeiniodd Christ yn ei Eglwys; y mae yno homiliau, a phregethau duwiol, ar y rhai pe gwrandawei pobl yn vfudd, au hymarfer yn en bywyd, au hymarweddiad, [Page 115] nid rhaid iddynt ammeu, na byddant cadwedig; gan mai athrawiaeth Efengil Christ ydynt, yr hon yw gallu Duw er jechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn credu. Rhuf. 1.16. A chan mae felly y mae, pa fodd y dichon neb ymwrthod ai Eglwys blwyf, heb fod yn euog o schism, neu neillduad diachos? Hyn yr oedd Calfyn, gwr dysceig yn ei ddeall; ac am hynny y dywyd efe, gan fod yn y plwyfol Eglwysi y Gair, a'r Sacramentau iw cael, y maent yn ddiammeu yn wîr Eglwysi, Calv in stil. l 4. c. 341. oddiwrth y rhai nid all vn dyn duwiol ymneillduo. A'r rhai sydd yn ymadael a'r Eglwys, y maent yn ymadael â Duw; yn rhodio yn llwybrau Cain, yr hwn a aeth allan o wydd yr Arglwydd, Gen. 4.16. hynny yw, oddiwrth ei Eglwys, ple y mae efe yn b [...]esennol drwy ei râs; y maent yn yrrwrthod â phebyll y bugeiliaid, lle y mae Christ yn porthi ganol dydd, i droi i ddiadellau gau, neu lygredig gynnulleiddfaoedd, [Page 116] sydd yn cymmeryd arnynt fod yn gyfeillion i Grist, Can. 1.7. ond y [...]ynt mewn gwirionedd elynion; y maent yn anvfuddhau gorchymyn yr Apostol, Heb. 10.24.25 Cyd-ystyriwn bawb ei gilidd, i ymannog i gariad, a gweithredoedd da, heb esceuluso ein cydgynhulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai. y maent yn gwneuthur cythr [...]fl' ac annrhefn yn Eglwys Dduw, yn erbyn rheol yr Apostol, 1. Cor. 14.40. Gwneler pôb peth, yn eich mysg, yn weddaidd, ac mewn tr [...]fn; gan eu bod yn ymwrthod au bugeiliaid priodol, ir rhai y gorchymynwyd cadwraeth eu eneidiau, ac yn gwrando ar lais diethriaid, y rhai er mwyn eu budd eu hunain sydd yn eu tywys allan o'r ffordd, ffordd gwirionedd, a thangneddyf; y maent yn torri cymmundeb yr Eglwys, ac yn euog o schism; yr hwn sydd bechod dirfawr, dim llai na delw-addoliaeth, medd Melancthon difinydd dyscedig. A Dionisius Escob Alexandria a ddywedodd [Page 117] wrth Nofatus, mai mwy pechod oedd torri vndeb yr Eglwys, na gwneuthur delw-addoliaeth. Ni chospwyd hwn, medd ef, ond a'r cleddyf; ond y llall, sef, ymranniad, a gospwyd ag agoriad y ddaiar, yr hon a lyngcodd yr awdwvr ohono, sef, Corah, Dathan, ac Abiram, y rhai a wrthryfelasant megis yn erbyn Moses y pen llywiawdwr, felly yn erbyn Aaron yr Archoffeiriad, ac a wnaethant megis terfysg yn y deyrnas, Euseb. de vita Const. 2. felly rhwyg, neu schism yn yr Eglwys; ac nid oes ammeu, medd ef, nad mwyaf oedd y pechod hwnnw a gospwyd yn dostaf. A Chrisostom sydd yn protestio nad yw ddim llai pechod rwygo yr Eglwys drwy schism, Chris. i [...] ep. 2. ad Eph. c. 3. na syrthio i hæresiau damnedig. Ac y mae efe yn dywedyd yn yr vn fan fod gwr duwiol, sef, Sanct Cyprian yn dywedyd, fod ymranniad yn bechod anghe [...]ol, nid ellir ei jachau ag aberth, ac na ddichon gwaed merthyrdod olchi ymaith [Page 118] ei lwgwr. Ar vn Tâd parchadwy sydd yn dywedyd drachefn, yr hwn sydd wedi ei wahanu oddiwrth yr Eglwys, priodasferch Christ, Cypr. de unit. Ecclesia. sydd wedi ei gyssylltu â godinebwraig ac sydd yn ei dorri ei hun oddiwrth yr holl addewidion a wnaeth Duw iw Eglwys. A Sanct Austyn sydd yn dywedyd fod y pechod hwn o schism, neu neillduad, yn rhagori ar bôb pechod arall; ac er bod dyn yn tybied ei fod yn byw yndda, ac yn ganmoladwy: etto oblegid yr vn pechod hwn, ei fod ef wedi ei wahanu oddiwrth gorph Christ, yr Eglwys, na chaiff ef byth fywyd tragwyddol, ond bod digofaint Duw yn aros arno. Dymma y fâth bechod erchyll yr ydych yn euog ohono, y rhai ydych yn ymadael ach Eglwys blwyf, i fyned i ganlyn gau athrawon, sydd Yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos, llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau: 2 Tim. 3.6. A thrwy ymadrodd têg, a gweniaith yn [Page 119] twyllo calonnau y rhai diddrwg. Rhuf. 16.17. y rhai y mae yr Apostol yn y wers o'r blaen yn deisyf arnoch eu gochelyd, Yr wyf yn attolwg i chwi frodyr graffu a'r y rhai sy yn peri anghydfod, a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt Y mae y cyfryw athrawon sydd yn tynnu discyblion a'r eu hôl yn gwneuthur amryw ddrygau.
- 1 Canys yn gyntaf y maent yn ddiachos yn gwneuthur anghydfod, a schism yn Eglwys Dduw; ac felly yn pechu eu hunain, ac yn gwneuthur iw dilynwyr bechu.
- 2 Y maent yn digalonni y cyfreithlon plwyfol weinidogion, drwy wascaru eu preiddiau, drwy fychanu eu doniau, a beio a'r eu buchedd, au athrawiaeth; a pheri iw pobl eu angharu; fel y gallont hwy yn well ynnill eu cariad, a chael parch ganddynt; megis ac y mae yr Apostol yn ystyried am y gau athrawon oedd ym mysg y Galatiaid, am y rhai y. [Page 120] mae efe yn dywedyd, Gal 4.17. y maent yn rhoi mawr-serch arnoch, ond nid yn dda, (nid er diben da) eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr-serch arnynt hwy; neu fel y caffont hwy eich holl gariad; neu chwennych y maent eich cau chwi, allan o gorlan Christ, fel y dilynoch hwynt megis bugeiliaid newyddion.
- 3 Y maent yn dysgu y bobl, sydd yn eu canlyn, i fod yn anvfudd ir awdurdodau goruchel, ac felly i dorri y pummed gorchymyn; yn dysgu ir dyn jeuangc ei dderchafu ei hun vwch law yr hynafgwr, a'r gwreng vwch law 'r bonheddig.
- 4 Y maent yn eu dwyn hwynt i fynu mewn balchder ysprydol gan eu cyfiawahàu eu hunain, ac euog farnu eraill.
- 5 Y maent yn eu caledu hwynt yn eu ffyrdd; yn peri iddynt, fel y neidr fyddar, gau eu clistian, fel na wrandawont a'r lais y rhynwyr (eu bugelliaid priodol) [Page 121] er cyfarwydded fyddo eu swyn, Psal. 58.4, 5. er daed fyddo eu cyngor; ac felly or diwedd cael eu difetha yngwrth ddywediad core. Jud. 11.
- 6. Y maent yn ein gwanhâu ni y protestiaid, ac yn cryfhau ein gelynion cyffredin, y papistiaid; dichell y rhai yw gwneuthur anghydfod yn ein mysg, fel y gallont hwy yn haws ein gorchfygu, a dwyn i mewn drachefn eu ffydd hwy: ac am hynny y maent yn ymhyrddu i bôb sectau, ac yn dwyn eu rhith, au dull hwy arnynt, ac felly trwy eu cyfrwysdra, au dysgeidiaeth yn troi y bobl syml, annysgedig y ffordd a fynont, ac yn eu cadarnhâu hwynt yn eu amryfuseddau.
- 7. Je y maent wrth ddilyn y cwrs yma yn gwneuthur ffordd i anghrefydd, a di-dduwdod. Canys y bobl gyffredin wrth glywed sôn am gimmaint o ffyddau newyddion, a phôb sect yn llefain,
llymma Grist, ac yn taeru ei bod hi ar yr jawn ffordd, y maent o'r diwedd yn barod i
[Page 122] gredu nad oes dim siccr mewn crefydd, ac yn esceuluso yr holl ddyledswyddau crefyddol a ofynnir ar eu dwylo. Jeac y mae y Sectariaid eu hunain yn myned beunydd waethwaeth yn ôl ymadrodd yr Apostol, 2
Tim. 3 13.
drwg-ddynion, a thwyllwyr a ant rhagddynt waeth waeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo. Megis ac y mae yn amlwg yn y Presbyteriaid, y sect fawr gyntaf a ymadawodd yn ein diweddar gythryfl ag Eglwys Loegr; rhai ohonynt a aethant yn ebrwydd yn Independentiaid, rhai yn Anibaptistiaid, rhai yn Adamitiad, rhai yn Gwaceriaid, ac eraill ni wn i i ba sawl ffôl grefydd. Dymma ffrwyth eu Schism, amryw ffôl ffyddau a dorrasant allan heb feddwl amdanynt. Canys gwedi iddynt dynnu ymaith y cae (sef, lly wodraeth Eglwysig yr Escobion,) o gylch y winllan hon, yr Eglwys, bwystfilod y maes (gau athrawon) a ddaethant iddi, ac ai sathrasant, ai porasant, ac ai difrodasant.
Esa. 5.5. Yr hyn, a welsant o'r diwedd,
[Page 123] ac am hynny y ceisiasant, (ond yn rhyhwyr) Luddias y Sectau eraill, gan gondemnio
a Pref. to the divine right of Church government.eu harfer o gasglu Eglwysi o Eglwysi, megis ymarfer heb vn esampl ohoni yn yr yscrythur lân, yn wrthwyneb i orchymyn yr Apostolion, yn ddifrawd yr Eglwysi, yn fam cymmysg, yn ferch schism, ac yn llysfam adeiladaeth. Myfi a ddibennaf y pwngc hwn ag ymadrodd, a llownfryd Sanct Jerom, fy mwriad yw, eber efe ddarllain yr hên dadau, profi pôb peth, dal yr hyn sydd dda, a gochelyd ymadael â ffydd yr Eglwys Gatholic; oblegid nad oes ond vn golommen, vn briodasferch, vn corph Christ, oddiwrth yr hwn nid all neb heb berigl damnedigaeth ymadael. Awn ymmlaen yr awron i holi wrth yr vn rheol o air Duw, amryw wâg opiniwnau y Sect honno, a elwir yn gyffredin y Cwaceriaid.
1 Y cyntaf yw hwn, nad yw ein Heglwys ni o Frudain yn wîr Eglwys, ond [Page 124] gau, godinebus, âc anghristianogawl Eglwys, merch y Babilon fawr, mam putteiniaid a ffieidddra 'r ddaiar. Ond cofied y plant anrasol hyn (y rhai a fedyddwyd, ac a genhedlwyd ym mru yr Eglwys hon, yr hon y maent yn ei dirmygu) beth a ddywyd Solomon, Dihar. 30.37. llygad yr hwn a watwaro ei dâd, ac a ddiystyro vfuddhau ei fam, a dynn cigfrain y dyffryn, a'r cywion eryrod ai bwytty. Barnu vn dyn sydd hyf, ac enbydus; pa faint mwy yw euog farnu Eglwys gyfan? Ni wyddant o ba yspryd y maent, Luc. 9.55. fel y dywedodd Christ wrth ei ddiscy blion a'r arfod arall: Diammeu nad yspryd Duw, ond mai yr yspryd drwg sydd yn dysgu iddynt gablu priodasferch Christ, yr hon y maent hwy yn ei enllibio, ond nid ysgarodd efe erioed. Myfi a chwennychwn i'r rhain ystyried beth y mae meistr Rathband (gwr nid oedd yn cyflunio i ddysgyblaeth Eglwys Loegr) yn ei ddywedyd wrth Barw, tâd y Brownistiaid, [Page 125] yr hwn oedd yn llefaru yn ddirmygus am Eglwys Loegr, sef, bod yr holl Eglwysi adnabyddus drwy 'r byd yn cydnabod fod Eglwys Loegr yn chwaer iddynt; ac nad oedd vn Eglwys atcweiriedig yn gwneuthur cwestiwn o hynny; mai bru yr Eglwys ymma a escorodd a'r yr ymddadleuwyr eu hunain, ac mai ei bronnau hi a roddodd laeth iddynt; ie iddi hi ymddwyn, a meithrin cimmaint o wvr dysgedig, a Christianogion da, ac vn Eglwys yn y byd. Yr hyn hefyd a gydnabyddir gan y gwyr dysgediccaf yn Eglwysi eraill. Ond heb law tystiolaeth y rhain. mae yn amlwg fod yr Eglwys hon o Frudain yn wîr Eglwys, os ystyriwn fod ynddi y ddwy ran sylweddol angenrheidiol i wneuthur Eglwys, sef, y defnydd, a'r ffurf; a bod nodau pennaf yr Eglwys yn perthyn iddi hi. Defnydd pôb Eglwys yw cynnulleidfa o bobl yn proffessu ffydd jachusol yng Hrist, ac wedi ei neillduo i Dduw drwy fedyddiol eidduned, ai cyssegru iddo ef; ac felly [Page 126] yn dwyn enw Sainct, megis ac yr oedd y prîf Eglwysi gynt. Ar ffurf yw eu hymgyfarfod mewn modd cyfreithlon i addoli Duw yng Hrist, i alw a'r ei enw, i wrando ei air, ac i fod yn gyfrannogion oi Sacramentau. Y nodau pennaf o'r Eglwys (fel y mae y gwyr dysgeddyccaf yn cyttuno) yw pûr bregethiad y Gair, a dyledus wasanaeth y Sacramentau. A'r rhain eu gyd sydd iw cael yn Eglwys Frudain, a phôb Eglwys blwyf ynddi, ei rhannau defnyddiol. Canys y mae ynndi gynnulleidfaoedd o bobl dduwiol yn professu ffydd yng Hrist, ac gwedi ei neillduo, ai cyssegru i Dduw drwy Fedydd, ac yn ymgyfarfod yn y lleodd pwyntiedig, y plwyfol Eglwysi, i wasanaethu Duw. Ac am hynny y mae hi yn wîr Eglwys Dduw, yn yr hon y mae jechydwriaeth iw gael. Ymmhellach priodoleddau gwîr Eglwys Dduw, a nodau didwyll ohoni yw, derbyn'r vn sylfaen arall o jechydwriaeth, onid Christ Jesu; Math. 16, 18.1. Cor. 3.11. a chydn [...]bod [Page 127] chydnabod ag a'r vn rheol arall o ffydd a bywyd, onid y gair hwnnw a adawodd y prophwydi a'r Apostolion i ni; megis ac a tystia Moses Deut. 31.9, 10, 11, 12. a Christ Jo. 5.39. a'r Apostolion Act 26.22. Eph. 2.20. a bwrw ein holl ddedwyddyd nid a'r ein gweithredoedd, an haeddigaethau ni, Luc. 17.10. ond a'r râs a thrugaredd Dduw yn vnig, Tit. 3, 4, 5, 6, 7. ac annog i weithredoedd da, a Sancteiddrwydd buchedd; Math. 5.17.18.19.20 yr hyn oll gan fod Eglwys Frudain yn ei wneuthur, y mae yn amlwg i bod hi yn wîr Eglwys Dduw; ym mha vn y mae jechydwriaeth iw gael. A dyledswydd pôb aelod ohoni, yw byw, a marw yn ei chymmundeb, a gochelyd ymwrthod â hi, rhag iddo wrth hynny ymwrthod â Christ ei phriodfab, ai phen. Ac am y rhai sydd yn ymadael a'r Eglwys hon, meddyliont am ymadrodd S t Joan, 1. Jo. 2.19. Oddiwrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt ohonom ni; Canys pe buasant ohonom [Page 128] ni, hwy a arhosasant gydâ ni; eithr hyn a fu, fel yr eglurid, nad ydynt hwy oll ohonom ni.
2 Fel y maent yn gwadu fod Eglwys Frudain yn wir Eglwys: felly fod ei Gweinidogion yn wîr weinidogion Christ; ond fel y maent yn eu galw, Offeiriaid Baal, Gweision nodol Anghrist, gwerthwyr masnach y buttain, ac Addolwyr yr anifael. Dymma yr henwau y maent yn eu rhoi a'r weinidogion Christ, y rhai y mae yr yscrythur lân yn eu galw cennadau Christ, goruchwilwyr ar ddirgeledigaethau Duw, a chyd-weithwyr gydag ef yn jechydwriaeth dynion, bugeiliaid ysprydol, ac athrawon; sêr, goleuni y byd, Angelion, a'r holl Gristianogion da, ysprydol dadau, neu dadau eu heneidiau, yr awron y mae yn amlwg fod Gweinidogion Eglwys Frudain yn wîr weinidogion, oblegid eu bòd yn gyfreithlon wedi eu galw, au hordeinio. Am alwedigaeth gweinidogion Duw iw swydd, mae ef o ddau fâth.
[Page 129]1 Vn digyfrwng, ac anarferol, drwy ba vn y gelwir dyn i swydd Sanctaidd naill ai yn ddigytrwng gan Dduw ei hun, heb waith dyn yn cyfryngu, megis ac y galwyd Moses, Esay, Joan fe [...]yddiwr, y deuddeg Apostol, a Phaul; ai yn bendant wrth ei enw; ond etto yn y cyfryw fodd, a bôd Duw yn datgan, ac yn egluro ei Ewyllys drwy gennad; megis ac y galwodd efe Aaron trwy Moses, Exod. 4.14. Eliseus trwy Elias, l. Bren. 19.16. a Matthias trwy fwrw coelbrennau. Act. 1.26.
2 Vn arall arferol, a thrwy gyfrwng, drwy ba vn y gelwir vn gan Dduw, a Christ ir swydd Sanctaidd o ddysgu yn ei Eglwys; ond etto yn y cyfryw fodd, ac nad ydyw Duvv, neu Grist ei hun yn galw y cyfryw berson, ond yn rhoddi yr awdurdod hwnnw ir Eglwys; am ba vn y mae Sanct Paul yn llefaru, Tit. 1.5. Er mwyn hyn i'th adewais yn Creta, fel yr jawn drefnit y pethau sy yn ôl, ac y gosodit henuriaid ym mhôb dinas, [Page 130] megis yr ordeiniais i ti. A'r alwedigaeth hon drwy ddynion sydd alwedigaeth dduwiol, neu oddiwrth Dduw, oblegid y dywedir am y rhai a alwyd yn gyfreithlon gan ddynion, eu galw gan Dduw, 2. Chron. 29.11. au gosod gan yr Yspryd glân yn olygwyr a'r y praidd Act. 20.28. ac hefyd am y Bugeiliaid, a'r Athrawon ac alwyd trwy gyfrwng, yn gystal ac am yr Apostolion, a'r efangylwyr a alwyd yn ddigyfrwng, eu bod wedi eu rhoddi gan Grist iw Eglwys. Efe a roddes rai yn fugeiliaid, ac yn Athrawon. Eph. 4.11.12. oblegid iddo roddi awdurdod iw Apostolion, a'n dilynwyr yr Escobion; i ordeinio eraill ir svvydd hon. A'u hordeinio y maent gydâ gweddi, ac ympryd, a thrwy arddodiad dwylo; yn ôl esampl Christ a'r brîf Eglwys. Christ o flaen iddo ddewis, a danfon y deuddeg Apostol Aeth allan ir mynydd i weddio, ac a barhaodd a'r hyd y nôs yn gweddio Duw; a phan aeth hi yn ddydd, efe a [Page 131] alwodd atto ei ddiscyblion; ac ohonynt efo a etholes ddeuddeg; y rhai hefyd a enwodd efe yn Apostolion. Luc. 6.12.13. A'r Apostolion pan oeddynt i ordeinio y saith Ddiacon cyntaf, gwedi eu gosod hwy ger eu bron a weddiasant, ac a ddodasant eu dwylo arnynt. Act. 6.6. felly pan ordeinwyd Saul, a Barnabas, yr Escobion yn Antioch, a ymprydiasant, ac a weddiasant, ac a [...]s [...]dasant ddwylo arnynt Act. 13.3. A Sanct Paul pan ordeiniodd Timotheus, efe, a rhai eraill o'r Apostolion a osoddsant ddwylo arno 1. Tim. 4.14. A'r defod yma o arddodiad dwylo wrth ordeinio a aferid, i ddangos.
1 Fod y person a vrddir wedi ei gyssegru i Dduw ai wasanaeth; ac y dylei efe gan ymwrthod â gorchwylion bydol, ymroddi yn hollawl iw swydd Sanctaidd er gogoniant Duw, ac jechydwriaeth y bobl; megis y darllenwn, pan gyssegrid y Lefiaid, y gosodei meibion Israel eu dwylo arnynt, Num. 8.10. I arwyddoccau wrth hynny eu cyssegriad iw swydd, [Page 132] ac ymfodlonedd y bobl a'r swydd oi plegit eu hunain, yn lle y rhai y safei y Lefiaid wrth wasanaethu llawer o'u gweinidogaethau.
2 I arddangos fod yr Escobion yn cyfrannu ir hwn y maent yn gosod dwylo arno ran o'u swydd au hawdurdod, ac yn ei wneuthur ef yn gynnorthwywr, ac yn ddilynwr iddynt yn eu swydd Sanctaldd, neu'r cyfryw ran ohoni, ac y maent yn ei gyfrannu iddo ef. A Megis pan ordeiniodd Moses Josuah, fâb Non, yn ddilynwr iddo yn y rheolaeth a'r bobl Israel, y gosodod efe wrth orchymmyn Duw, ei law arno. Num. 27 18.
3 I fod yn arwydd o fendith Dduw arno, a'r doniau a roddid trwy arddodiad dwylo yr Apostolion, a'u dilynwyr; megis ac y mae Sanct Paul yn dangos, drwy goffau Timotheus i ail en [...]yn dawn Duw, yr hwn oedd ynddo, drwy arddodiad ei ddwylo 2. Tim 1.6. Hynny yw i feddwl pa fâth swydd anrhydeddus a gyfrannasai efe iddo ef wrth ei ordeinio yn [Page 133] Arch-Escob, ar amryw ragorawl ddoniau a dderbyniasai efe y pryd hynny; y rhai yr oedd efe yn rhwym iw cynnhyrfu, au bywhau drwy ddyfal ymarfer ohonynt.
4 I ddangos oddiwrth bwy y mae y person a vrddir i ddIsgwil nerth i gyflawni ei weinidogaeth, ac amddiffin yn ei ffyddlon gyflawniad ohoni, sef, oddiwrth Dduw, yn enw yr hwn y gosodir dwylo arno; gan mai llaw yr Arglwydd sydd yn amddeffin yn erbyn pôb perigl, a rhuthr. A chan fod Gweinidogion Eglwys Frudain gwedi eu hordeinio fel hyn; gan eu bôd gwedi eu neillduo i weinidogaeth yr Efengil; gan fod yn eu holi yn gyntaf, ac yno yn gosod dwylo arnynt, gan y rhai sydd ganddynt awdurdod i hynny; gan fôd yr Eglwys yn ymprydio cyn eu hordeinio, ac wrth eu ordeinio yn gweddio a'r Dduw ddanfon ei ddoniau arnynt, a nhwytheu yn gynnyscaeddol ohonynt mewn peth mesur gweddol, yn medru jawn gyfran [...]u [Page 134] gair y gwirionedd; nid oes ammeu nad ydynt weinidogion cyfreithlon, a'r cyfryw rai ac y mae Christ yn eu dilysu. Ac od oes gan bôb dyn llyg (fel yr haera y Brownistiaid) awdurdod digonol oherwydd ei gristianogawl broffes i ordeinio dysgawdwyr yn eu Heglwys hwy, pa fodd y gallant naccâu yr awdurdod yma ir Escobion, ai Hofteiriaid, personau cynnyscaeddol (heb law cyffredin ddoniau) â doethineb, dysgeidiaeth, ac awdurdod? Y mae gan yr Escobion, awdurdod i ordeinio Gweinidogion y gair, a'r Sacramentau, Tit. 1.5. Fel y mae yn amlwg yn yr yscrythur lân; yr hyn nid oes gan y lliaws. Nid oes ganddynt hwy vn warrant o'r yscrythur lân am y modd y maent yn gwneuthur eu Gweinidogion hwy, nac vn pattrwn ohono yna. P'le yn yr holl Fibl y maent yn darllain i isafiaid osod dwylo a'r eu vchafiaid? Y mae Gweinidogion Eglwys Frudain gan hynny yn wîr weinidogion Christ gwedi eu galw, au hordeinio yn gyfreithlon; yr [Page 135] hyn nid all ein Sectariaid ddywedyd am eu dysgawdwyr hwynt.
3 Y maent yn dychanu Gweinidogion Duw, megis gwyr gwobr, a chyflogddynion, oblegid eu bod yn derbyn degymmau gan eu plwyfolion, ac yn haeru na ddylid talu degymmau yr awrhon yn amser yr Efengil. Lle y mae yr yscrythur lân yn tystiolaethu fod nid yn vnig yr Offeiriaid yn amser y Gyfraith yn derbyn degymmau, wrth orchymyn Duw, ond Christ hefyd yn yr Efengil cyn belled oddiwrth ddirymmu y gyfraith honno ynghylch degymmau, a chynhaliaeth digonol ei weinidogion, ai fod ef yn ei chadarnhâu hi, gan ddywedyd wrth y Phariseaid, yr ydych chwi yn degymmu y mintys, a'r anys a'r cwmmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymmach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd wneuthur y pethau hyn (barn trugaredd, a ffydd) ac na adewid y lleill heibio; Math. 23.23. nad esceulusid y ddyledswydd arall o dalu degymmau, [Page 136] hyd yn oed y rhai lleiaf. Ac ni thâl dim ddywedyd fod y gyfraith ddeddfol y pryd hynny, pan lefarodd Christ y geiriau hynny, mewn grym, ac iddi barhau felly hyd marwolaeth Christ, ac yna ei dileu, ac yn ddilynol y gorchymyn o dalu degwm; oblegid nad rhan o'r Gyfraith ddeddfol oedd talu degwm, ond o'r gyfraith Foesawl; ac am hynny y mae Duw (yr hwn yw 'r deonglwr goreu oi gyfraith ei hun) yn gwneurhur attaliad degwm yn gyssegr-yspail Mal. 3.8. (yspeiliasoch fi eber ef, yn y degwm a'r offrwm) ac felly yn drosleddiad yr wythfed gorchymyn, yr hwn sydd yn sefyll fyth mewn grym; gan na ddaeth Christ, fel y mae efe yn dywedyd, i dorri 'r gyfraith hon, y gyfraith Foesawl, ond iw chyflawnu, ai chadarnhau. Math. 5.17. Jacob (o fl [...]en y gyfraith ddefodol a roddodd Duw drwy Moses;) a eiddunodd ddegwm o'r cwbl a roddei Duw iddo. Gen. 28.22. Ac Abraham a dalodd ddegwm i Melchisedec. Heb 7.2. [Page 137] o ble y mae yn ymddangos fod degwm yn ddyledus wrth gyfraith natur, (cyfraith a scrifennodd Duw ei hun ynghalon pôb dyn, cyn i Moses scrifennu y gyfraith arall, a roddodd Duw a'r y mynydd mewn llechau cerrig, a sylfaen y ddeddf Foesawl) ac nid yn vnig wrth y ddeddf ddefodol. A hyny mae yr Apostol yn ei ddangos, Heb. 7.9. pan yw yn dywedyd, i Lefi (yr hwn oedd ei hun wrth gyfraith Dduw a roddwyd trwy Moses, yn cymmeryd degvmmau) dalu degwm yn Abraham, i Offeiriad arall, vwch nag ef, sef, Melchisedec; a hynny megis y peth oedd ddyledus iddo, fel yr oedd ef yn offeiriad y Duw goruchaf. A chan fod Christ yn Offeiriad yn ôl vrdd Melchisedec; Heb. 7.11.17. a'i weinidogion yn Offeiriaid o'r vn vrdd ac yntef; mae yn amlwg fod degwm mor ddyledus i weinidogion Christ, ac yr oedd i Melchisedec. Yr vn yw offeiriadaeth Melchisedec, ac Offeiriadaeth gweinidogion Christ, o ran eu swydd o [Page 138] fendithio; yr hon sydd gyffredin iddynt; ac am hynny yr vn maentumiaeth sydd yn perthynu iddynt. Ac ymmhellach gan fod Offeiriadaeth Christ yn dragywydd, Heb. 7.24. ai Efengil, a'i Weinidogion i barhâu hyd diwedd y byd, mae yn amlwg fod eu maentumiaeth hwy, sef, y degwm, i barhâu felly hefyd, na ddileuwyd ef gyd a'r Gyfraith Ddefodol, ond fel y talwyd ef o flaen y Gyfraith i Melchisedec, felly y dylid fyth ei dalu ir Offeiriaid yn ôl vrdd Melchisedec, Christ ai weinidogion. A hyn y mae yr A postol yn ei ddangos yn ddigon eglur, 1. Cor. 9. bennod; Canys (gwedi iddo ddangos yn y 7. wers, nad yw ond cymmwys, a rhesymmol i Weinidogion Christ, (y rhai ydynt ryfelwyr ysprydol, a gweithwyr yng winllan Christ, a bugeiliaid ysprydol yn porthi ei braidd ef) gael eu maentumio gan eu pobl; megis ac y mae rhyfelwyr gan y rhai y maent yn rhyfela drostynt, ac y mae llafurwyr yn byw wrth ffrwyth eu llafur; a [Page 139] bugeiliaid wrth y peth sydd yn dyfod oddiwrth eu praidd;) mae efe yn dangos yn y 9. wers, mai dymma athrawiaeth y gyfraith, yr hon sydd yn dywedyd, Na chae safn yr ych sydd yn dyrnu; a bod y gorchymmyn hwnnw, yr hwn a dybygir fod yn synied a'r yr ych; yn perthyn yn bennaf i ddynion, ac yn arwyddocâu fod dynion yn rhwym i obrwyo y rhai sydd yn cymmeryd poen trostynt; yn enwedig, y rhai sydd yn llafurio yn y Gair a'r athrawiaeth, ac er ysprydol lessâd eu pobl, os nyni a hanasom i chwi bethan ysprydol, ai mawr yw, os nyni a fedwn eich pethan cnawdol, medd ef, yn yr 11. wers ac yn y 13. a'r 14. wers mae efe yn profi hyn ymmhellach drwy esampl yr Offeiriaid tan y Gyfraith, Oni wyddoch chwi fôd y rhai sydd yn gwneuthur pethau cyssegredig yn bwytta o'r cyssegr a'r rhai sy yn gwasanaethu yr allor yn gydgyfrannogion o'r allor? felly hefyd yr ordeiniodd yr Arglwydd, ir rhai sy'n pregethn yr Efengyl; fyw wrth yr Efengyl. [Page 140] Hynny yw, fel yr esponia Garleton, Sh [...]rloc [...]e, gwyr dysgedig y text, gael yr vn gynheilaeth, ac yr oedd yr Offeiriaid yn ei gael tan y Gyfraith, degwm ac offrwm. Yr hyn sydd yn ymddangos etto yn eglurach trwy y gorchymyn hwnnw. Gat. 6.6 cyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair, a'r hwn sydd yn ei ddysgu, ym mh [...]b peth da. Rhoed ran oi holl ddaoedd, o'r holl bethau da, y mae efe drwy haelioni Duw yn eu mwynhàu, iw ddysgawdwr, (y plwyfol Weinidog) i'r hwn y gorchmynwyd cadwraeth ei enaid. Ac fel y byddo ef siccr, ei fod yn rhoi i Dduw a'i Weinidog y cyfran y mae efe yn ei ofyn, rhoed y ddegfed o bôb peth, y rhan a appwyntiodd Duw ir Offeiriaid tan y Gyfraith, a llai n'ar hon nid yw gymmwys ei roi i Weinidogion yr Efengyl, y rhai sydd yn rhagori (o ran eu swydd) a'r yr Offeiriaid hynny. Ac nid gwiw ir gwrthddadleuwyr hyn ddywedyd, (fel y maent,) nad ydynt yn dyfod at y plwyfol Weinidogion, iw dysgu [Page 141] ganddynt, ond bod ganddynt ddysgawdwyr eraill; eithr ystyried a ddylent beth y mae yr Apostol yn ei ddywedyd amdanynt hwy, ai cyffelyb, 2. Tim. 4.3 daw yr amser pryd na ddioddefant athrawi [...]eth jachus; eithr yn ôl en chwantau eu hunain, y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clistiau yn merwino; au bod yn rhwym wrth gyfraith y deyrnas (ir hon y maent yn rhwym mewn cydwybod i vfuddhâu) i ddyfod iw Heglwys blwyf, i wasanaeth cyhoedd y goruchaf Dduw; ac nad ymgyfarfyddont, ir ddyledswydd honno, mewn vn man arall; a thalu eu degymmau ir cyfreithlon, a'r plwyfol weinidogion. Oherwydd pa gyfraith (cyfraith y deyrnas heblaw cyfraith Dduw) y mae gan weinidogion Christ gystal cyfiawnder yn y degymmau, ac sydd gan bawb eraill yn eu meddiannau priodol. Yr vn gyfraith, yr hon sydd yn rhoi iawn i drigolion y wlâd hon yn y cwbl y maent yn eu meddiannu, sydd yn [Page 142] rhoi jawn i weinidogion Chrst yn y degymmau: ac am hynny, nid allant eu hattal oddiwrthynt heb fod yn euog o ledrad, ie a'r math gwaethaf o ledrad, cyssegr-yspail; yr hwn sydd yn dwyn melldith Dduw a'r feddiant yr hwn sydd yn euog ohono; melldigedig ydych trwy felldith, Canys yspeiliasoch fi, medd Duw Mal 3.9. ym mha beth? yn y degwm a'r offrwm, fel y mae yn y wers o'r blaen. Fel y mae y gwrthddadleuwyr hyn gan hynny yn chwennych bym yn dduwiol, yn sobr, ac yn gyfiawn; Tit. 2.12. a thalu i bawb eu dyledion, fel y gorchymyn yr Apostol, Rbuf. 13.7. a gochelyd dwyn melldith Dduw a'r eu meddiannau, bvddont ofalus i dalu eu degymmau i Weinidogion Duw, ir rhai y maent wrth gyfraith Dduw, a'r deyrnas yn ddyledus.
4 Y maent yn dal, ac yn dysgu nad rhaid wrth ddysgawdwyr oddiallan, a bod y goleuni oddimewn yn ddigon iw cyfarwyddo yn ffordd jechydwriaeth, [Page 143] ond dal sulw arno. Lle y mae yr yscrythur lân (agos ym mhôb man) yn dangos angenrhaid dysgawdwyr oddiallan, neu bregethwyr; ac yn dywedyd i Grist roi rhai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwyr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon, ir diben yma, sef, i berffeithio 'r Sainct, i waith y weinidogaeth, i adeilad corph Christ, yr Eglwys. Eph. 4.11.12. Ac am hynny y mae yn peri ir bobl vfuddhau, ac ymddarostwng iddynt, Heb. 13.17. Ac Rhuf. 10.14. y mae yn dywedyd, Pa fodd y galwant a'r yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlwysant amdano? a pha fodd y clywant heb bregethwr? Ac yn Act. 26.18. yr ydym yn darllain i Grist ddanfon Sanct Paul at y cenhedloedd i agoryd eu llygaid, ac iw troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw, drwy ei bregethiad o'r Efengyl. Yr awrhon pa raid a fuasei hynny, pe buasei ganddynt o'r blaen oleuni, digonol [Page 144] gonol ynddynt i jechydwriaeth? A pha raid a fuasei ir prophwyd Dafydd weddio, Psal 119.18.4. agor fy llygaid fel y gwelwyf bethau rhyfedd dy gyfraith di: dyro i mi ddeall, fel y cadwyf dy orchymynion. Siccr yw, fod ymmhob dyn oleuni deall, a rheswm, yr hwn a elwir Rhuf. 2.14. goleuni natur, ond nid yw hwn ddigonol i jechydwriaeth, fel y mae yn ymddangos drwy esampl y cenhedloedd hynny, nid oedd ganddynt vn goleuni arall, ond hwn ac nid allent byth trwyddo ef gyrrheddyd jachus wybodaeth o Grist, yr hwn sydd angenrheidol i jechdwriaeth; gan mai hyn yw 'r bywyd tragwyddol medd ef, dy adnabod di, yr vnig wîr Dduw a'r hwn a anfonaist i Jesu Grist; Jo. 17.3. ai fod yn dywedyd, mai efe yw 'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd; 14.6. a bod vr Apostol yn dywedyd, fod y rhai sydd heb Grist ai air heb obaith o fywyd tragwyddol. Eph. 2.12. Nid yw gan hynny goleuni natur yn ddigonol i [Page 145] jechydwriaeth. Nac etto goleuni cydwybod; yr hwn sydd yn fynych yn ein tywys ni allan o'r ffordd, megis y mae y malldan y crybwyll y Philosophyddion amdano. Oni bydd ir goleuni hwn o'n mewn gael ei gyfarwyddo gan oleuni Yspryd Duw yn llewyrchu yn ei air, fe an camdywy [...] ni. Paul a dybiodd ynddo ei hun, fod yn rhaid iddo wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Jesu o Nazareth, Act. 2 [...]. 9. fod yn rhaid iddo erlid y ffydd Gristianogol, a charcharu y Chrisianogion; a'r tyb hwn a gododd o'r goleuni oi fewn, ac ai camdwysodd, a wnaeth iddo bechu yn ddirfawr. A'r golenni hwn oddmewn sydd weithiau yn dyfod oddiwrth ysprydoliaeth y cythrael; ac am hynny y darllenwn Jo 13.2. i ddiafol roi yng halon Judas Iscariot fradychu Christ cyfryw oedd y goleuni oi fewn; ac wrth rodio yn ôl y goleuni hwn, y daeth ef i ddrwg ddihenydd; Ac wrth ddilyn y goleuni hwa yn lle goleuni gair Duw, y mae [Page 146] y bobl ynfydion hynny, y cwaceriaid, yn myned mor gwilyddus a'r gyfeiliorn; yn canlyn eu dychmygion, eu breuddwydion, au gweledigaethau eu hunain, yn lle datguddiadau Yspryd Duw, ac am hynny y syrth ryw ddydd ddialedd Duw arnynt. Ezeck: 13.3.
5 Y maent yn dadlu yn erbyn, ac yn gwrthod arferu moddion grâs, a duwioldeb; ac yn dywedyd eu bod vwchlaw Ordinhadau Christ, y Gair, Gweddi, a'r Sacramentau, ac nad rhaid iddynt wrthynt. Lle y mae Christ ai Apostolion yn gorchymyn eu harferu yn ddiwyd. Am wrandawiad y Gair y mae Christ yn dywedyd yn eglur, Math 13.43. y neb sydd g [...]nddo glistiau i wrando, gwrandawed. A'r Apostol a ddywyd, Rhuf. 10.17. ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. Y ffordd arferol i weithio ffydd ynom yw gwrando yn ddyfal, ac yn barchedig a'r air Duw. Llusern yw (hwn) in traed, a llewyrch in llwybr, medd y prophwyd Dafydd; Psal. 119.105. [Page 147] a gallu Duw er jechydwriaeth i bôb vn a'r sydd yn credu, medd Sanct Paul; Rhuf. 1.16. yr hwn a ddichon gadw ein eneidiau, medd Sanct Jago; 1.21. ac felly yn dra angenrheidiol; iw dderbyn mewn addfwynder; iw ddarllain yn ddyfal; ac iw dryssori yn ein calonnau. Deut. 11.18. Am weddi, y mae ei angenrhaid hi yn ymddangos, oblegid i Grist ddysgu iw ddiscyblion ffurf o weddi, a gorchymyn iddynt ei harferu; a bod yr Apostol yn peri i ni weddio yn ddibaid. 1. Thes. 5.17. Ac am y Sacramentau, mae eu hangenrhaid nhwytheu mor eglur. Ac yn gyntaf angenrhaid bedydd, drwy orchymyn Christ iw Apostolion, Math. 28.19. Ewch, a dysgwch yr holl genhedloedd gan en bedyddio yn enw 'r tâd, a'r mâb, a'r Yspryd glân; a gorchymyn Sanct Pedr, Act. 2.38. Edifarhewch, a bedyddier pôb un ohonoch yn enw Jesu Grist er maddeuant pechodau. Ac anghenrhaid y Sacrament arall o swpper yr Arglwydd sydd yn ymddangos yn ordinhâd [Page 148] Christ, ai weinidogaeth ohono. Christ ai rhoddodd iw ddiscyblion, a nhwytheu ai derbyniasant ef ganddo; ac a roddodd iddynt ac ynddynt hwy i ni oll, y gorchymyn hwn Math. 26.26. Cymmerwch, bwyttewch, Luc. 22.19. gwnewch hyn er coffa amdanaf. A Sanct Paul 1. Cor 11.26. sydd yn gorchymyn ini ei dde [...]byn yn fynych; a pharhâu i wneuthur hyn oni ddelo ir farn. Moddion grâs ac jechydwriaeth yw 'r Sacramentau; moddion i dderbyn grâs, ac iw gynnyddu A'r neb sydd yn esceuluso y rhain sydd yn esceuluso Ordinhadau Christ, a'r moddion o'i jechydwriaeth; ac y mae efe o'r ûn t tyb ffôl, ac yr oedd y Messaliaid hæretiaidd gynt, y rhai a dybient fod pôb dyn yn dwyn gydag ef ir byd Yspryd drwg, yr hwn oedd yn cadw meddiant ynddo, nes ei yrru ef allan drwy daer weddi, ac i yspryd Duw ddyfod i mewn yn ei le ef; ac yno nad oedd raid iddynt wrth bregethau, y Sacramentau, a'r Scrythyrau, iw gwneuthur [Page 149] hwynt yn berffaith, gan y medrent weled y Drindod Sanctaidd yn eglur, a rhagddywedyd pethau i ddyfod trwy ddatguddiadau digyfrwng, a thrwy y lliw hwn o berffeithrwydd, au hyder a'r ddatguddiadau anarferol, y daethant i fod wedi eu meddiannu gan y cythrael, fel y mynega Theodoret yn ei histori Eglwysig. Theod. His. Ecl. Gocheled pawb gan hynny yr athrawiaeth hon, (fod rhai yn y byd hwn vwchlaw Ordinhadau Christ,) ac edrychont arni, megis athrawiaeth wîr gythreulig, a difrawd pôb duwioldeb.
6 Maent yn dysgu nad yw y rhai adgenedledig yn pechu; Lle y mae yr yscrythur lân yn tystiolaathu, nad oes ddyn na phecha; 1. Bren. 8.46. ac nad oes ddyn cyfiawn a'r y ddaiar, a wna ddaioni, ac ni phecha; Eccles. 7.20. i bawb bechu, a bod yn ôl am ogoniant Duw Rhuf. 3.23. yn bôd ni mewn llawer o bethau bawb yn llithro. Jag. 3.2. A Sanct Joan sydd yn dywedyd, 1. Jo. 1.8. Os dywedwn [Page 150] nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. A hyn y mae yr Apostol yn ei ddywedyd yn ei enw ei hun, a'r holl wîr Sainct fel yr vstyria Sanct Austyn, yn ei esponiad o'r geiriau hynny; A Chrysologus a ddywyd, pwy yw'r pechadur, ond yr hwn sydd yn gwadu nad yw ef bechadur? yr Apostol Pedr wrth orchymyn i ni 2. Pet: 3. 18. Dyfu mewn grâs a gwybodaeth ein Harglwydd Jesu Grist sydd yn dangos yn eglur, fod grâs ynom etto yn ammherffaith, a mwy mesur ohono iw gyrrhaeddyd, ac nad oes dim perffeithrw [...]dd yn y byd hwn. A'n achubwr Christ sydd yn dysgu iw ddiscyblion, ac yndd [...]nt hwy i ni ôll, (y rhai adgenedledig yn gystal, a'r rhai anadgenedledig weddio beunydd, MaDdeu i ni ein dyledion; oblegid ein bod ni (y rhai goreu ohonom) beunydd yn pechu drwy wendid anocheladwy; ac yn erbyn y pechodau hyn o wendid yn enwedig, y gwnaed y deisyf hwn yng [Page 151] weddi yr Arglwydd, fel y dywyd Sanct Austyn; yr hwn y mae efe yn ei alw oherwydd hynny, meddyginiaeth beunyddol yr enaid. Mae yn amlwg gan hynny fod pawb, hyd yn oed y rhai adgenedledig yn pechu.
7 Y maent yn dirmygu dysceidiaeth dynol, a'r moddion arferol, drwy ba rai y mae Duw yn gwneuthur ei ewyllys yn gydnabyddus i ddynion; ac yn hyderu a'r ddatguddiadau digyfrwng, ac anarferol; au dysgawdwyr pennaf (yn hawsach i dwyllo 'r bobl) yn fynych yn syrthio mewn llewygau. Lle y mae yn amlwg fod yr holl ffyrdd o ddatguddiad digyfrwng yr oedd Dum gynt yn eu harferu, (megis trwy weinidogaeth Angelion, Gen. 32.1.2. trwy freuddwydion, 28.13. trwy weledigaethau, 2. Cor: 12.2. trwy ysprydoliaeth yr yspryd glân,2 Pet: 1. 21. trwy vrim a Thummim. Nu: 27.21. neu trwy lêf o'r nêf 1 Bren. 19.11.12.) yr awron er ystalm gwedi peidio yn Eglwys Dduw; [Page 152] gan ei bod yn gynnysgaeddol â moddion digonol o athrawiaeth mewn cyfiawnder, ac jachus wybodaeth, heb y cyfryw foddion o ddatguddiad anarferol. Megis ac y mae yr Apostol yn dangos, Heb. 1. 1. Duw wedi iddo lefaru lawer gwaith, a llawer modd gynt wrth y tadau, trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei fâb. A ddatcuddiodd i ni ei ewyllys, nid fel gynt, o fesur ychydig ac ychydig, ond yn gyfl [...]wn; a fynegodd i ni ei holl gyngor; yn gimmaint ac nad gwiw i neb ddisgwil goleuni newydd, neu hyderu a'r ddatguddiadau newyddion a'r ei ôl ef. Felly y mae Calfyn yn ei esponiad o'r geiriau yn dywedyd, i Dduw lefaru wrthym ni yn ddiweddaf drwy ei Fab, i ddangos na chwannegei Duw yr awron brophwydoliaethau at brophwydoliaethau, a datguddiad at ddatguddiad; ond bôd holl rannau dysgeidiaeth Duw gwedi eu cyflowni, yn y cyfryw fodd yn ei Fâb, ac mai dymma y tystiolaeth, a'r [Page 153] athrawiaeth ddiweddaf, a'r ddigyfnewid, a dderbyniwn ni gan Dduw; yr hon oblegid hynny a elwir, yr Efengil tragwyddol, Datc. 14. 6. yr vnig athrawiaeth sydd i barhau hyd diwedd y byd. Ar hon yn vnig y mae i ni ddal sulw, a'r neb sydd yn disgwil datguddiadau newyddion, y mae efe yn syrthio i amryw amryfuseddau. Megis,
- 1 Y mae efe yn gwneurhur yr yscrythur lân yn annigonol i jechydwriaeth, yn erbyn ymadrodd yr Apostol, yr hwn sydd yn dywedyd wrth Timotheus, 2. Tim: 3. 15. fod Yr yscrythur lân yn abl iw wneuthur ef yn ddoeth i jechydwriaeth, trwy yr ffydd sydd yng Hrist Jesu.
- 2 Y mae efe yn dirymmu gorchymynion Duw o chwilio'r scrythyrau, o ddarllain, o wrando, myfyrio, ac ymhyfrydu yng hyfraith Dduw. Canys pa raid hyn, os Duw a ddatguddia i ddyn ei ewyllys yn ddigyfrwng, ac heb gymmeryd dim poen i gael gwybodaeth ohono?
- [Page 154]3 Y mae efe yn dirymmu, ac yn gwneuthur yn angenrheidiol swydd sanctaidd Gweinidogion Duw, y rhai ordeiniodd efe megis i eiriol a'r Dduw dros y bobl: felly i ddysgu y bobl oddiwrth Dduw. Y rhai y mae yr Apostol oherwydd hynny yn eu galw athrawon, Eph. 4.11. A'r yr rhai y myn Christ i ni wrando, megis arno ef [...] hûn, gan ddywedyd, Luc. 10. 16. Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i, a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i. A'r sawl ni wrandawont arnynt, y mae efe yn bwgwth eu cospi yn dôst. Math: 10. 14. 15. Pwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo a'r eich geiriau, pan ymadawoch o'r ty hwnnw, neu o'r ddinas honno, yscydwch y llwch oddiwrth eich traed, yn wîr meddaf i chwi, esmwythach fydd i dîr y Sodomiaid, a'r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i'r ddinas honno.
- 4 Nid yw ffydd yr hwn sydd yn cymmeryd arno ei fod wedi ysprydiolaethu [Page 155] gan yspryd Duw (os gellir ei galw yn ffydd) wedi ei goruwch—adeiladu a'r sail y prophwydi, a'r Apostolion, scrythyrau yr hên destament, a'r Newydd, Eph. 2.20. (fel y mae ffydd Eglwys Grist) ond a'r ddychmygol ddatcuddiadau; fel y ty hwnnw a adeiladwyd, nid a'r y graig, ond a'r y tywod, a phan ddaeth y glaw, a'r llif—ddyfroedd a syrthiodd. Math: 7.27:
- 5 Y mae y rhai sydd yn hyderu a'r ddatcuddiadau digyfrwng yn dra darostyngedig i hudoliaethau Satan, yr hwn, gan ymrithio yn Angel goleuni. sydd yn ddirgel yn dwyn i mewn ei annogaethau, a'i athrawiaethau cythreulig, tan liw duwiol ddatcuddiadau. A llawer o bobl dduwiol a hudwyd drwy yr ystryw hwn o'r cythrael, a syrthiasant i amryfuseddau mawrion, ac a ddaethant i ddrwg ddihenydd. Prysca a Phriscila, dwy anwylyd Montanus, a dwyllwyd gyhid drwy hudau 'r cythrael (y rhai a gymmerasant yn lle datcuddiadau duwiol) ac
[Page 156] iddo ddatcuddio iddynt o'r diwedd, y byddei raid iddynt ymgrogi, fel y gallent fyned o drueni y byd hwn i lawenydd y llall.
Euseb. eccl. bist l. 5. c. 6.A Theodoius ûn o ddiscy blion Montanus a gafodd weledigaeth, y cymmeryd ef i fynu i'r nef; a chan goelio yr Yspryd drwg, fe dderchafwyd yn vchel ir awyr, ac yna yn ddisy mmwth a ollyngwyd i lawr, ac a drengodd yn druanus. Pa fodd y darfu i rai dynion cyfrwys yn Eglwys Rufain beri ir gyffredin bobl goelio fod purdan,Mathi: Prid. introd. for reading of bist. p. 112a bod a'r yr eneidiau a boenir yno eisieu gweddiau yr Offeiriaid, iw rhyddhâu oddiyno, ond trwy ffugio iddynt weled eneidiau y meirw a haerasant hynny? Je ac vn o Babau Rhufain, sef, Caelestin y pummed, pan wybuwyd ei fôd ef a'r fedr diwygio y camarferau,Idcm. p. 130.a'r llygredigaethau oedd yn yr Eglwys honno, a dwyllwyd gan Bonifface yr wythfed, yr hwn a ddaeth yn Bâb yn ei le ef, i ymadael ai [Page 157] vchelfraint, drwy ffugio ei hun yn Angel, a llefaru trwy gist groen neu drwnc mewn mûr, Caelestin, Caelestin gâd heibio dy gadair, Canys y mae hi vwchlaw dy allu. Ni ddylei neb gan hynny hyderu a'r anarferol foddion o ddatcuddiad duwiol, gan fod y rhai arferol nid yn vnig yn ddigonol, ond yn siccrach, ac yn ddidwyllach, yr hyn y mae yr Apostol Pedr yn ei ddangos, gan gyfrif gair Duw yn well na datcuddiad digyfrwng drwy lêf o'r nêf, 2. Pet. 1.18. 19. A'r llêf yma, yr hon a ddaeth o'r nêf, a glywsom ni — ond mae gennym air siccrach y prophwydi. Ystyr y rhai eiriau yw hyn, i lêf digyfrwng o'r nèf ddatcuddio fod Christ yn Fâb Duw; ond mae gair scryfennedig Duw yn ffordd siccrach, a didwyllach o ddatcuddio Christ. A beth yw y rheswm, ond bod y cythrael yn fynych yn ffugio llefau o'r nêf, a gweledigaethau, a datcuddiadau digyfrwng; ond am yr yscrythur lân, y mae hi, os jawn ddirnedir hi, yn dwysoges. [Page 158] Siccr, ddidwyll; ac yn rheol anghyfeiliornus o'r gwirionedd; gan ei bod yn ysprydoliaeth Yspryd y gwirionedd. 2. St Pet. 1. 19. Yr hon da y gwnawn ddal arni, megis a'r ganwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio 'r dydd, ac oni chodo 'r seren ddydd yn ein calonnau. Ac os hyrddir arnom ddim heb law yr Efengil tan enw yr yspryd glân; nid yw ef beth iw gredu. Canys fel mai Christ yw cyflawniad y gyfraith a'r prophwydi; felly yr yspryd glân yw cyflawniad yr Efengil, fel y dywyd chrysostom. Am y llewygau i'r rhai y mae rhai ohonynt yn syrthio, i beri ir bobl hyfgredu yn well eu gau athrawiaethau, y maent yn dywedyd eu cael trwy ddatcuddiadau anarferol, rhaid i chwi wybod, beth yw llewyg, a pha sawl mâth sydd ohono. Llewyg yw rhwymiad y synwyrau oddiallan, megis à thrwm gwsg, ym mha vn y mae Duw yn datcuddio ei ewyllys oddimewn ir deall, drwy ffordd o weledigaeth deallol. Yn y synhwyreg yma [Page 159] y cymmerir y gair Act. 11. 5. ple y mae Sanct Pedr yn dywedyd, pan oedd efe yn ninas Joppa yn gweddio, iddo mewn llewyg weled gweledigaeth. Ac Act 22 [...] 17. p'le y mae Sanct Paul yn dywedyd. pan oedd ef yn gweddio yn y deml, iddo syrthio mewn llewyg; hynny yw, rwymo ei synwyrau oddiallan, a danfon megis trwm gwsg arno, fel y byddei gymmhwysach i dderbyn y weledigaeth, yr oedd Duw yn ei chaniattâu iddo, a datguddiad ei ewyllys trwyddi hi. Ac fel hyn yr oedd Sanct Paul, mewn llewyg. Pan gippiwyd ef i fynu hyd y drydedd nêf 2. Cor. 12. 2. yn gimmaint ac na wyddei efe, pa vn a wnaed ai ei gippio, neu ei symmud ef yn gorphorawl ir drydedd nêf trigias Duw; ai iddo yn vnig, ac efe yn aros yma a'r y ddaiar, weled mewn gweledigaeth ryw bethau dirgel a ddatguddiasei Duw iddo. Pan fyddo Duw gan hynny yn chwennych datcuddio ei ewyllys i ddyn drwy ffordd anarferol, y mae efe yn peri iddo syrthio mewn [Page 160] Ilewyg, neu yn cau ei synwyrau oddiallan, i dderbyn yn well ei ddatcuddiadau. Yr vn ffunud y mae y cythrael yntef, (eppa Duw) drwy 'r vn ffyrdd yn ysprydoliaethu ei amryfuseddau, a'i gau athrawiaerhau, sef, trwy freuddwydion, a gweledigaethau, a llewygau; yn gimmaint a bod ganddo ef gau brophwydi, yn gystal a chan Dduw ei wîr brophwydi. Ac am hynny pan oddefodd Duw dwyllo Ahab, i fyned, a syrthio yn Ramoth Gilead, Yspryd drwg a ddywedodd, Mi a âf allan, ac a fyddaf yn Yspryd celwyddog yng enau ei holl brophwydi ef. 1. Bren. 22. 22. A'r Yspryd glân sydd yn eglur yn dywedyd, medd yr Apostol, 1. Tim. 4. 1. Yr ymedi Rhai yn yr amseroedd diweddaf oddiwrth y ffydd, gan rhoddi coel i Ysprydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythreuliaid. Ac am Saul yr ydym yn darllain 1. Sam. 18. 10. l yspryd drwg ddyfod arno, ac iddo brophwydo yng hanol y ty, hynny yw, iddo syrthio mewn llewyg gythreulig. [Page 161] Mae gan yr yspryd da, a drwg gan hynny, fel y gwelwch, eu gweithrediadau anarferol, a'u llewygau a'r feddyliau dynion. Ond dymma y rhagoriaeth sydd rhyngddynt,
1 Arweddiad gwir brophwydi Duw yn eu llewygau oedd yn wastad yn bwyllog, yn sobr, ac yn foddus; lle y mae ymddygiad y gau brophwydi yn afreolus, ac yn anfedrus; y maent yn malu ewyn, yn eu taflu eu hunain a'r y ddaiar; yn oerleisio, yn torri eu cnawd, yn tynnu eu gwallt, yn ymdrabaeddu fel meddwon yn eu chwdiad, ac yn gorphwyllo fel pobl allan o'u côf, fel y mae Chrysostom yn ystyriad am ddewines Apolo; ac y mae iw weled yn y dyn a feddiannid gan Yspryd drwg, Luc. 9.39. Y mae Yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntef yn ddisymmwth yn gwaeddi, ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn, abraidd yr ymedy oddiwrtho, wedi iddo ei yssigo ef.
2 Drachefn y cwbl ac a lefarodd gwîr bropwhydi Duw yn eu llewygau oedd yn [Page 162] wastad yn wîr, ac yn tueddu at lessad, ac adeiladaeth yr Eglwys; ond am ddatcuddiadau gau brophwydi, nid oeddynt, ac nid ydynt hwy ond anwir, ac ofer, ac anfuddiol; ac am hynny iw gwrthod, megis hudau'r cythrael, wrth y rhagoriaethau hyn gan hynny rhwng llewygau y gwîr, a'r gau brophwydi, y gellwch ddeall nad yr Yspryd glân, ond mai yr Yspryd drwg yw awdur y llewygau hynny y mae rhai dynion twyllodrus yn y dyddiau hyn yn syrthio iddynt.
8 Y maent yn cadw eu plant heb eu bedyddio, ac yn dadlu na ddylid bedydio plant Christianogion. Yr hon athrawiaeth a ddiddedlir drwy amryw resymmau cedyrn a dynnir allan o'r Yscrythur lân. Canys y mae Christ yn gorchymyn bedyddio plant Christianogion yn gystal ac eraill o gyflawn oedran. Yr hyn a ymddengis yn gyntaf fel hyn.
- 1. Yr hwn sydd yn gorchymyn bedyddio pawb oll yn gyffredinol, hyd yn
[Page 163] oed pôb cenedl, a phôb dyn ym mhôb cenedl, heb wahaniaeth rhywogaeth, cyflwr, neu oedran sydd yn gorchymyn bedyddio plant, y rhai ydynt ran fawr, neu yn hytrach hanner pôb cenedl. Ond y mae Christ yn
Math. 28. 19. Yn gorchymyn
Bedyddio pôb cenedl yn enw'r Tâd, a'r mab, a'r Yspryd glân. Ac am hynny y mae efe yn gorchymyn bedyddio plant yn gystal ac eraill o gyflawn oedran. Ac felly y darllenwn i'r Apostolion fedyddio teuluoedd cyfain, ym mha rai yr oedd yn ddiammeu lawer o blant aflafar, y rhai a fedyddiwyd gydar lleill; yn amgen nid ellid dywedyd yn wîr fedyddio teuluoedd cyfain. A lle y mae yr Anabaptistiaid yn dywedyd i Grist yn
Math. 28. orchymyn iw ddiscyblion yn gyntaf
Ddysgu pôb cenedl, ac yn ôl hynny eu bedyddio; yr wyf yn atteb fôd y
[...]gair groeg mewn priodoledd ymadrodd yn arwyddoccâu nid dysgu, megis y mae y[...]gair groeg arall yn yr adnod nessaf, ond gwneuthur [Page 164] discyblion; ac fel hyn plant, er nad ellir yn eu jeuenctid eu dysgu, a ellir eu gwneuthur yn ddiscyblion i Grist trwy fedydd, ai hentro iw yscol, gan fod rhieni Christi [...]nogawl yn rhoddi eu henwau i Grist drostynt eu hu [...]ain, a'u teuluoedd.
- 2 Yr holl rhai ac a gynhwysir Yng hyfammod y grâs, ac ni waherddir mewn vn lle o'r yscrythur lân i dderbyn sêl y Gyfammod, a ellir, ac a ddylid eu derbyn iddi hi; ond plant a gynnhwysir yng hyfammod ffydd, o ba vn yr oedd enwaediad, ac y mae yr awrhon fedydd yn sêl; ac ni waherddir hwy mewn vn fan o'r yscrythur i dderbyn y sêl hon; ac am hynny f' ellir, ac a ddylid, eu derbyn i fedydd. Y cynnhwysir hwy yn y cyfammod, y mae yn eglur yn Act. 2.39. lle y mae Sanct Pedr yn dywedyd. I chwi, ac ich plant y mae yr addewid; ac am hynny y mae sêl yr addewid yn perthyn iddynt.
- 3 Pawb oll ac sydd yn perthyn i Grist [Page 165] a'i deyrnas a ddylid eu derbyn ir Eglwys drwy Fedydd. Ond y mae plant yn perthyn i Grist ai deyrnas, fel y mae Christ ei hun yn haeru, Marc. 10.14. Gadewch i blant bychain ddyfod attafi, Canys eiddo y cyfryw rai iw teyrnas nêf; ac am hynny fe ddylid derbyn plant ir Eglwys drwy fedydd. Os dywedir na fedyddiodd Christ y plant a ddugpwyd atto ef, ond yn vnig iddo roi ei ddwylo arnynt, ai bendithio hwynt; yr wyf yn atteb, er na fedyddiodd Christ hwynt, na neb arall (fe a adawodd hynny iw Apostolion Jo: 4.2.) etto efe ai cofleidiodd hwynt yn ei freichiau, ac ai bendithiodd, ac a ganmolodd eu gosty ngeiddrwydd; yr hyn sydd fwy, na phe buasei yn eu bedyddio hwynt; ac sydd warrant ddigonol i ni iw bedyddio hwy. Canys paham na dderbyniwn ni hwynt i fynwes yr Eglwys, y rhai a gymmerodd Christ yn ei freichiau ac a'i cofleidiodd? Pam na fedyddiwn, ac na weddiwn ni drostynt hwy, y rhai a fendithiodd Christ? [Page 166] Ac os yw teyrnas Dduw yn perthyn iddynt, pam y cauwn ni y drws iw rhwystro hwynt i mewn ir Eglwys, yr hwn ddrws yw bedydd? Pam y cadwn hwy rhag dyfod at Grist, y rhai y mae efe yn eu gwahodd atto? ac os yw ef yn Geidwad y rhai jeuaingc yn gystal a'r rhai hên (yr hyn a ddanogosodd efe wrth eu cofleidio) paham y naccawn iddynt y modd o'u jechydwriaeth, sef, bedydd?
- 4 Ni ddylei neb gau plant Christianogion ffyddlon allan o deyrnas nef, drwy naccau iddynt y moddion a ordeiniwyd gan Grist, er eu ailganedigaeth, a'u jechydwriaeth; ond trwy naccau bedydd i blant Christianogion, yr ydym, (cyn belled ac y mae ynom ni) yn eu cau hwynt allan o deyrnas néf, ac yn eu difuddio o fodd ailganedigaeth; megis y mae yn ymddangos yng eiriau Christ wrth Nicodemus, Jo: 3. 5. Oddieithr geni dyn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. [Page 167] Plant a genhedlir ac a enir mewn pechod; a'r vnig fodd i olchi ymaith y pechod gwreiddiol, o ba vn y maent oll yn euog yw bedydd, golchiad yr ailganedigaeth, fel y geilw yr Apostol ef; Tit. 3. 5. Ac am hynny ni ddylem ni eu difuddio hwynt o fedydd, yr vnig fodd oi ailganedigaeth, a'u tragwyddol jechydwriaeth.
- 5 Plant yr Israeliaid tan yr hèn Destament enwaedid, ac wrth hynny a roddid yn y Cyfammod; ac am hynny plant rheini Christianogawl yr awrhon tan y Testament Newydd a ddylid wrth yr vn rheswm eu Bedyddio, ac felly eu hentro i'rivn Cyfammod o râs. Anghenraid, a gwirionedd yr hwn ymresymmiad sydd yn ymddangos yn hyn, fôd Bedydd yn gyfattebol i enwaediad, ac y gelwir ef wrth yr enw hwnnw Col. 2. 11. Canys y peth y mae yr Apostol yn yr vnfed wers a'r ddég yn ei alw Enwaediad, hynny y mae efe yn y ddeuddegfed wers yn ei alw Bedydd; a phôb vn o'r ddau sydd [Page 168] yn gwasanaethù i'r vn diben, sef, i selio ini yr vn grasau, sef, marwolaethiad y cnawd, maddeuant pechodau, a dei byniad ir Eglwys weledig. A phlant Christianogion sydd mor gymmwys i dderbyn Bedydd, ac oedd plant yr Israeliaid i dderbyn Enwaediad; ac am hynny f'ellir, ac a ddylid eu bedyddio hwy, yn gystal ac yr enwaedid a'r y lleill. Acos plant Christianogion ni ddylid eu bedyddio, ni fyddei commissiwn yt Apostolion mor ehelaeth tan yr Efengil, ac oedd y gorchymyn am Enwaediad tan y gyfraith; Canys hwnnw oedd yn cyrraedd yr holl genedl, plant yn gystal ac eraill; ond nid yw, fel y tybia yr Anabaptistiaid, y gorchmyn hwn yng hylch bedydd yn perthyn, ond ir sawl sydd o gyflawn oedran, ac nid i blant, yr hyn pe byddei wir, fe fyddei plant rhieni Christianogawl mewn cyflwr gwaeth, nag yr oedd plant yr Israeliaid ynddo; Canys hwy a dderbynnid ir Cyfammod, cyn gynted, agos ac y genid hwy; ond ni [Page 169] dderbynnir y rhain, meddant, nes y delont i oedran, a synwyr. Ond meddwl i Grist naccâu i blant y ffyddloniaid tan yr Efengyl, y rhagorfreintiau a ganiattaodd efe i blant yr lsraeliaid tan y Gyfraith, a fyddei gabledd felldigedig, medd calfyn. Fel y derbynnid gan hynny plant yr lsraeliaid ir Eglwys drwy Enwaediad ac a'u gwahenredolid drwy yr arwydd hwnnw oddiwrth blant y cenhedloedd anghredadwy: felly y dylid yr awrhon dderbyn plant rhieni ff ddlon ir Eglwys, a'u gwahanredoli oddiwrth blant yr anffyddloniaid drwy fedydd; ac fel yr aeth y rheini gydai rhieni trwy 'r môr coch: felly y dylid trochi y rhain yn nwfr y bedydd, neu eu tanellu ag ef; gan fod hwnnw yn ffigur o hwn.
- 6 Ar hyn fydd rheswm cadarn arall, i brofi'r pwngc mewn llaw, dymma farn yr hên dadau yn gyffredinol y dylid bedyddio plant bychain. Irenens
Iren. 1.2 c. 39gan Iefaru am Grist sydd yn dy-wedyd', iddo ddyfod i gadw pawb trwyddo ei hun; pawb ac a ailganer (neu a [Page 170] fedyddier) trwyddo ef i Dduw, mabanau, a phlant bychain, a llangciau, gwyr jeuaingc, a hynafgwyr. am hynny y daeth efe drwy bôb oedran ac y gwnaethpwyd ef yn faban i fabanod, gan Sancteiddio mabanau; yn fychan mewn rhai bâch, gan Sanctiddio y rhai sydd o'r oedran hwnnw. Origen yntef sydd yn dywedyd,Orig. 1.5. ad Ram. c. a. p 6.yr Eglwys a dderbyniodd draddodiad gan yr Apostolion fedyddio plant bychain. Canys yr oedd y rhai y gorchmynwyd y ddirgeleddau duwiol iddynt, yn gwybod fod anianol fudreddi pechod ym mhawb, yr hwna ddylid ei olchi ymmaith drwy ddwfr, a'r yspryd; oherwydd pa vn y gelwir y corph ei hun, yn gorph pechod. Ond egluraf yw tystiolaeth y gwynfydedig ferthyr Sanct cyprian yn ei Epistol at ffidus.cypr. cp. ad fideni 1.3. op. 8.Am a berthyn ir ddadl ynghylch plant bychain, nyni oll (medd ef mewn cymmanfa o chwech a thrugain o Escobion) a farnasom, na ddylid [Page 171] gommedd trugaredd, a gras Duw i neb ar a aned. A bod dawn Duw yn perthyn yn gyfartal i bawb, pa vn bynnag ai bychain, ai mowrion, ai hen, ai jeuaingc. Canys fel nad ydw Duw vn gwneuthur rhagor rhwng person neb, mwy nai gilidd; felly nac rhwng oedran y chwaith; gan ei fod yn ymgynnig yr vn ffunud i bawb, er caffaeliad nefol iâs, ac wedi hynny y mae yn dywedyd vn yr vn Epistol, os maddeuant pechodau a roddir ir trosseddwyr gorthrymmat, a'r rhai sydd yn pechu yn fawr yn erbyn Duw, (pan ddelont yn ôl hynny i gredu) ac na waherddir neb oddiwrth Fedydd a grâs; pa faint lai y dylid gwahardd plentyn aflafar, yr hwn wedi ei newydd eni ni pechodd ddim, onid, gan ei eni yn garnol yn ôl Adda, iddo yn ei anedigaeth cyntaf gael haint llyn yr hên farwolaeth; yr hwn sydd yn dyfod o hyn yn haws i dderbyn maddeuant pechodau, yn gimmaint ac y maddeuir iddo nid ei bechodau ei hun, ond pechodau [Page 172] dau eiddo arall. Yr hyn sydd iw ystyried, ai gadw megis am bawb, fel [...] [...] hytrach am blant aflafar newyd [...] en [...], y rhai sydd [...]n haeddu ein cymmorth n [...] th [...]ugaredd Dduw yn fwy yn gimma [...]nt ac gan eu bod yn y [...]an yu ôl eu genedigaeth yn cwy [...]ofain, ac yn wylo, nad allant wneut [...]ur [...]im amgen ond deisyf hyn at ein dw [...]lo
- 7 Ac mai dymma, yr arfer yn amser yr Apostolion, fedyddio plant by
[...]h
[...]in, y mae yr Apostol yn dangos
r. cor 7.14.
y gwr dtgrêd a Sauctddir (neu a dioir i'r ify dd)
trwy'r wraig, a'r wraig ad grêd a Sancteiddir (neu a dron yn gr
[...]stion)
trwy r gwr (neu o'r lle
[...]af, m
[...]e gob
[...]ith mawr o hyn;)
pe amgen, aflan yn ddiau a fyddei eich plant;(hynny yw, ni olchid hwy yn nwfr y bedydd, ni chaent eu bedyddio;)
eithr yn awr Sanctaidd ydynt, (neu y maent wedi eu Sancteiddio, neu eu glanhau a'r olchfa ddwfr yn y Bedydd. Fel hyny mae y dysgedig
[...]Doctor [Page 173] Hammond yn esponio'r text hwnnw; ac oddi yma y mae efe yn casclu, ac yn dyfod i ddeall fod yr arfer yn amser yr Apostolion fedyddio plant gwr, neu wraig credadyn, oblegid fod yr Eglwys yn gobeithio y dygei y cyfryw vn ei blentyn i fynu yn y ffydd gristianogawl, ac yn cymmeryd meichiafon ar hynny. A'r hyn a arferid y pryd hynny yn eu hamser hwy a draddodasant i eraill a'r eu hôl, megis y dangosaf yn y rheswm nessaf am fedyd plant, sef, hwn;
- 8 Yr holl draddodiadau Apostolaidd a ddylid eu perchi, au cadw yn Eglwys Dduw; Canys ni thraddododd yr Apostolion ddim, ond yr hyn a dderbyniasant gan Grist ei hun, naill a'i trwy air llafar, a'i trwy ddidwyll ysprydoliaeth; a'r rhain y mae Sanct Paul yn gorchymyn i Timotheus eu cadw yn ddyfal; 1.
Tim. 6. 20.
O Timotheus cadw yr hyn a roddwyd iw gadw attat; ac y mae efe yr vn ffunud yn gorchymyn ir Thessaloniaid, 2.
Thes. 2, 15. gadw y
[Page 174]
traddodiadau a ddysgasant, pa vn bynnag a'i trwy ymadrodd, a'i trwy Epistol. Ond y mae bedydd plant yn draddodiad Apostolaidd, fel y tystia Origen, ac eraill o'r hên Dadau Eglwysig. Origen gan lefaru am eiriau y prophwyd Dafydd,
Mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf, sydd yn dywedyd mai am yr achos yma,
Orig. in Cap. 6. ad Romsef, oblegid ein cael, a'n geni ni oll mewn pechod, y derbyniodd yr Eglwys draddodiad gan yr Apostolion, i Fedyddio plant bychain. A St Austyn ir vn perwyl sydd yn dywedyd,Aug. l. 10 de Gen il. lit. cap. 23nid yw arfer ein Mam, yr Eglwys, yn bedyddio plant, ffordd yn y byd iw dirmygu, neu iw gwrthod, neu iw chyfrif yn afraid; ond iw chredu yn gwbl, megis traddodiad Apostolaidd. Ac mai traddodiad Apostolaidd ydyw, y mae yr vn Sanct Austyn yn profi wrth y rheswm yma; y peth y mae yr Eglwys Gatholig yn ei ddal, ac nid ordeinwyd mewn vn Gymanfa, [Page 175] ond a gadwyd o amser i amser,lib. 4. de lapt. infant.er amser yr Apostolion, sydd iw gredu yn ddiau, ei fod yn draddodiad Apostolaidd; A'r cyfryw beth yw bedydd plant, yr hwn a gadwyd, ac a arferwyd drwy 'r holl fyd Christianogawl, megis ac y tystiolaetha Chrysostom yn y geiriau hyn; mae yr Eglwys Gatholic sydd a'r wascar drwy 'r byd,Chrysost. to. 1. p. 138. A.yn dysgu y dylid bedyddio plant bychain, oblegid y pechod gwreiddiol, ym mha vn y genir hwy. Dymma gan hynny athrawiaeth yr Eglwys Gatholic, yr hon ni chafodd ei dechreuad mewn 'r vn Gymmanfa gyffredin a ellir ei henwi. Canys er bod crybwyll am Fedydd plant mewn amryw Gymmansâu, megis hwnnw o Fienna, a'r ail a gadwyd yn Bracarum; yng hymanfa Milefis, yn y bedwaredd, a'r chweched Gymmanfa gvffredinol; ac er ei gadarnhau gan Sanct Cyprian, ac eraill mewn cymanfa o chwech at thrugain o efcobion yn y ddeucant a'r chweched flwyddyn [Page 176] a deugain o oedran Christ; etto y mae ef yn hynach nag 'r ûn o'r rhain. Canys yr athrawiaeth yma a ddysgwyd, ac a setlwyd yn yr Eglwys Gatholic drwy yr awdurdod vchaf,Aug. de [...].Apost.scr 14ym mhell o flaen Sanct Cyprian, fel y tystia Sanct Austyn. Ac am hynny gan fod fel hyn yn ei dysgu yn gyffredinol yn Eg [...]wys Dduw, [...]c na ddichon neb henwi yr amser y dechreuodd hi, nid ellir meddwl am [...]en, na chafodd hi ei dechreuad oddiwrth yr Apostolion, ai bod felly yn Draddodiad Apostolaidd, ac am hynny iw chadw, ai harferu yn Eglwys Dduw;Aug. [...]Ac na sibrwyded neb i ni athrawiaeth arall; hon a ddaliodd yr Eglw [...]s erioed, hon a dderbyniodd hi oddiwrth ffydd eu hynafaid, hon y mae hi yn ei gadw yn barhaus hyd y diwedd, fel y dywyd Sanct Austyn.de lapi. [...]A'r vn Tâd dysgedig a ddywyd, [...]a [...]lu yn erb [...]n y peth y mae yr Eglwys gyffredinol yn ei [...], sydd ynfydrwydd, a [Page 177] balchder o'r mwyaf.Heir. advers.Lucif.A Sanct Jerom yntef a ddywyd ir vn perwyl, er na byddei vn awdurdod o'r yscrythur lân; i brofi hyn, etto y mae cydsynniol cyttundeb yr holl fyd yn gystal a gorchymyn. Ac am hynny na wrandawn a'r y rhai sydd yn dadlu yn erbyn bedydd plant; ond byddwn ofalus i ddwyn ein plant iw bedyddio; a hynny cyn gynted ac y gallom,'y sul, neu 'r dydd gwyl cyntaf gwedi eu geni; ac os bydd achos yn gynt, fel y mae ein Mam yr Eglwys yn gorchymyn; a gochelwn mewn modd yn y byd ddirmygu ordinhâd Christ, ai Eglwys, rhag i ni wrth hynny fod yn euog o'r cyfryw bechod, ac yr oedd y Pharisaeaid, y rhai fel y darllenwn, Luc. 7. 30. A ddiystyrasant gyngor Duw yn eu herbyn eu hunain, heb eu bedyddio ganddo.
- 9 Y maent yn dal nad yw rydd i ddynion yr awron yn amser yr Efengil gymmeryd llw yn y byd, er cimmaint fyddo yr achos, ac er bod y pen swyddog
[Page 178] yn ei ofyn; lle y mae yr yscrythur yn dangos yn eglur, y gellir rhoi, a chymmeryd llw mewn achosion pwysfawr, a phan ofynnir ef gan y llywiawdwr, pa vn bynnag ai i dystiolaethu ein ffyddlondeb iddo ef, ai er gwell datcuddiad y gwirionedd, a therfynniad a'r bôb ymryson. Y mae Duw yn y bedwaredd bennod o Jeremi, a'r ail wers yn gorchymyn cymmeryd llw, ac yn dangos pa fodd, ac ym mha achosion, y mae ei gymmeryd ef,
Ti a dyngi, byw yw 'r Arglwydd mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder. Mewn gwirionedd, nid anwiredd, gan dyngu dim ond y gwir, ac nid camarferu enw Duw i dystiolaethu anwiredd;
Mewn barn, nid yn ehud, ac yn anystyriol; ond pa fyddo angenrhaid dy ddyledswydd, a gorchymyn y llywydd, ir hwn yr wyt yn ddarostyngedig, yn ei ofyn;
Mewn cyfiawnder, nid mewn camwedd, er niwed i neb arall; neu mewn pethau cyfiawn, a chyfreithlon, ar cyfryw rai ac sydd
[Page 179] deilwng iw cadarnhau trwy lw. Tyngu y modd gosodedig yma sydd nid yn vnig gyfreithlon, ond Duw hefyd sydd yn ei orchymyn, megis dyledswydd grefyddol, a rhan oi addoliant ef;
Deut. 6. 13.
Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac iw enw ef y tyngi. Rhan, meddaf; o addoliant sylweddol Duw yw tyngu. Canys ymalwad crefyddol ydyw oi enw, ai ddialaidd gyfiawnder ef, ar y rhai a feiddiant dyngu anwiredd, gydâ chydnabyddiaeth oi oll wybodol ddoethineb; drwy ba vn y mae efe yn gwybod pôb peth dirgel, hyd yn oed meddyliau a bwriadau calon dyn; ai ollalluog gyfiawnder, drwy ba vn y dichon, ac y mae efe yn barod i gospi y pechodau hynny nid ydynt yn dyfod o fewn cwmpas cyfiawnder dyn. Fel nad ellir dianrhydeddu Duw fwy, na phan elwir ef i dystiolaethu celwydd: felly nid ellir ei berchi ai anrhydeddu ef fwy, na phan ddygir ef i dystio 'r gwirionedd. Ac am hynny fei y mae efe yn y try dydd gorchymyn
[Page 180] yn gwahardd cymmeryd ei enw ef yn ofer, hynny yw, i gadarnhau pethau ofer, anfuddiol, ac o ddim, neu ychydig gyfrif; neu bethau o bwys heb raid, neu yn anwir: felly y mae yn caniattâu, ac yn gorchymyn cymmeryd ei enw mewn pethau pwysfawr, ac angenrheidiol, mewn gwirionedd, a chydâ pharch,
Deut. 28. 58.
gàn ofni yr henw gogoneddus, ac ofnadwy hwn, yr Arglwydd dy Dduw. Yr hwn orchymyn sydd orchymyn nid defodol, ond moesawl, a thragwyddol, fel y mae y lleill eu gyd;
y rhai ni ddaeth Christ iw torri, ond iw cyflowni. Math. 5. 17. Y mae yn gyfreithlon gan hynny i ddynion roddi, a chymmeryd llw yr awron yn amser yr efengil mewn pethau pwysfawr, ac wrth orchymyn y llywiawdwr, oblegid fod Duw yn gorchymyn hyn yn ei air, ac yn yspyfol yn y trydydd gorchymyn; yr hwn ni ddileuwyd, ond sydd yn sefyll fyth mewn grym, ac yn rhwymo 'r cydwybod i vfudd dod. A hyn sydd yn ymddangos
[Page 181] etto ymmhellach drwy esampl Duw ei hûn. yr Angelion, a'r Sainct yn y ddau Destament. Am Dduw yr ydym vn darllain iddo ef dyngu, y bendithiei ef Abraham am ei vfudd dod iddo.
I mi fy hun y tyngais medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nac atteliaist dy fâb, dy unig fâb, mai gan fendithio ith fendithiaf, a chan amlhau'r amlhâf dy hâd, fel ser y nefoedd, ac fel y tywod, yr hwn sydd a'r lan y môr. Ath hâd a feddianna borth dy elynion Gen. 22. 16.17. Ac fe dyngodd hefyd wrtho ef, y rhoddei efe wlâ
[...] Canaan iddo ef, ai hâd.
Exod. 13.5. A Sanct Paul gan lefaru am gyssegriad Christ iw swydd, sydd yn dywedyd, Heb. 7.21. y rhai hynny yn wîr ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw, ond hwn (
sef Christ) trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, ti sydd yn offeiriaid yn dragywydd yn ôl vrdd Melchisedec. Llw Christ yntef a roir i
[Page 182] lawr 5.
Math. 18.
Yn wir meddaf i chwi. Ac mai llw yw yr ymadrodd honno, ac nid ffurf o haeriad vn vnig, a ymddengis wrth yr hyn a ddywyd yr Apostol Heb. 6.13, 14.
Duw wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid nad allei dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, yn ddiau (neu yn wîr) fel y mae yn y
[...]groeg) gan fendithio i'th fendithiaf. A phan nad oedd ef ar y cyntaf yn atteb i ofynnion yr arch offeiriaid, ac y tyngedwyd ef ganddo drwy 'r Duw byw i ddywedyd, a'i efe oedd v Christ, mâb Duw, efe a wnaeth ei gyffes ger ei fron ef, a'r gynnulleidfa. Math. 26 63.64. Ar Angel, yr hwn a welodd Sanct Joan yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr, a gododd ei law ir nêf, ac a dyngodd ir hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, na byddei amser mwyach. Datc. 10 5.6. A'r Sainct yn y Testament hên, a'r Newydd ni [...]usasant dyngu ar achosion cyfreithlon. Abraham, pan ddeisy fiodd [Page 183] Abimelch brenin Gerar, a Phichol tywysog ei lû arno dyngu wrtho, Gen. 21. 23. 24. Na fyddei efe yn anffyddlon iddo ef nac iw fab, nac iw wyr, a gymmerodd lw y byddei ffyddlon iddynt. Ar cyfryw gyfammod a wnaeth Isaac ac Abimelech, ac a'i cadarnhasant trwy lw, Gen. 26. 31. Gan dyngu bôb vn iw gilidd, A'r vn ffunud y gwnaeth Dafydd a Jonathan. Felly darllenwn am lwon Sanct Paul 2. Cor. 1. 23. Yr wyfi yn galw Duw yn dyst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi, na ddaethym etto i Corinth. PhIl. 1.8. Duw sydd dyst i mi mor hiraethus wyf amdanoch oll yn ymysgaroedd Jesu Grist. Ac am hynny gan fod Duw yn gorchymyn tyngu mewn gwirionedd, barn, a chyfiawnder; ac yn tyngu ei hun er mwyn mwy siccrwydd i ni; ac i'r Sainct nhwytheu dyngu ar achosion da; diammeu yw, bod yn gyfreithion i gristianogion dyngu, pan fyddo anghenrhaid, neu gariad yn gofyn hynny, ar swyddog yn ei orchymyn. Ac nid rhaid i ddeiliaid [Page 184] cywyr y Brenin rufo gymmeryd y llw o ffyddlondeb iddo, gan nad ydynt yn hynny yn gwneuthur dim amgen, ond a wnaeth Abraham, ac Isaac; y rhai, fel dywedpwyd o'r blaen, a gymmerasant lw y byddent ffydlon i Abimemelech, fel yntef i nhwytheu; Dafydd a Jonathan iw gilidd; ac yr oedd pobl Dduw arfer o wneuthur gvnt; megis ac y mae yn eglur yn Eccles. 8. 2. Ple y mae yr ysprydoliaethol bregethwr yn dywedyd, Yr ydwyf yn dy rybuddio di i gadw gorchymyn y Brenin, a hynny oherwydd llw Duw; neu'r llw o ffyddlondeb yr oedd deiliaid yn enw, a cher bron Duw yn ei gymmeryd iw tywysogion. A hyn a ddangosir yn yr vmadrodd hebraeag honno o roddi 'r llaw tan Solomon, yn 1. Cron 29. 24. Yr holl dywysogion, a'r cedyrn, a chydd hynny holl feibion y Brenin Dafydd a roddasant eu dwylo nid, ar fod, ond fel y dylid, fel yr wyf yn tybied, ei ddarllain yn ôl yr Hebraeag, tan Solomon y Brenin; ai dwylo a roesant [Page 185] tan y Brenin, wrth gymmeryd y llw o ffyddlondeb iddo;megis ac y darllenwn i wâs pennaf Abraham wneuthur, yr hwn a osododd ei law tan forddwyd ei feistr wrth ei dyngu. Gen. 24.2.3 Ac fel y mae llw addewiaiol, felly y mae llw haerol yn gyfreithlon. ie yn angenrheidiol, i roi diben a'r bôb ymrysson; yn ôl ymadrodd yr Apostol, Heb 6.16. Dynion yn wicirc;r sydd yn tyngn i vn a fo mwy, a llwcr siccrwydd sydd derfyn iddynt ar bôb ymrysson. Ond gwrthddadlu y maent fed Christ yn gwahardd yn hollawl bôb mâth ar lw, pan yw yn dywedyd, Math. 5. 34. Na thyngwch ddim. Yr hyn yr wyf yn atteb, nad yw Christ yno yn newid, neu yn diddymmu y gyfraith foesawl. am ba vn y dywedodd ef yn y ddwyfed wers a'r bymtheg, Na thybiwch fy nyfod i dorri r gyfraith, neu 'r prophwydi, ni ddaethym i dorri, ond i gyflowni; ond y geiriau hynny y mae efe yn eu gosod yn erbyn gau ddeongliad y gyfraith a ddodid arni gan y Pharisaeaid mewn amryw byngciau, [Page 186] megis llofruddiaeth, godineb, ysgar, anudonedd, taliad adref' r cyffelib, a charu ein cymmydogion; gan ddangos y gau esponiad o'r gyfraith yn y rhain oll, rhoddi y [...]ddynt y gwîr ddealldwriaeth ohoni. Clywsoch ddywedyd, medd ef, Math 5. 21. 2. gan y rhai gynt, na lâdd, a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn; fe fydd ddarostyngedig i gospedigaeth marwol; ei [...]hr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pôb vn a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a sydd euog o farn. Nid oedd y Pharisæaid yn cyfrif dim yn bechod, ond y weithred oddiallan; ond y mae Christ yn dysgu, fod digter byrbwyll, a gwaedwyllt yn bechod, sef, llofruddiaeth y galon. Clywsoch ddywedyd, medd ef drachefn, W. 27. gan y rhai gynt, na wna odineb; a'r Pharisaeaid a ddysgant mai gweithred y pechod hwn yn vnig sydd bechadurus ger bron Duw, fel y mae hi yn haeddu côsp ym mysg dynion. 28. Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fod pôb vn sydd yn edrych ar wraig iw chwennychu [Page 187] hi, wedi gwneuthur enfys odineb â hi yn ei galon. Y mae godineb y galon yn gystal, ac yn y weithred. A dywedpwyd medd ef, W 31. pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, rhoed iddi lythyr ysgar; yr scrifennyddion gan gau esponio 'r gvfraith, a ddysgent y gallei pôb dyn ac oedd yn angharu ei wraig, ei rhoi hi heibio, os rhoddei iddi lythyr ysgar; ond yr ydwyfi, medd Christ, W. 32. yn dywedyd i chwi, fod, pwy bynnag a ollyngo ymaith ei wraig, ond o achos godineb, yn peri iddi wneuthur godineb (os prioda hi wr arall, ar cyntaf etto yn fyw) a phwy bynnag a briodo yr hon a ysgarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb. 33. Trachefn clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, na thwng anudon; y Pharisæaid a dybient, os dynion ni thyngent anudon, eu bod yn cadw y trydydd gorchymyn, a bod yn gyfreithlon tyngu am bôb achos os tyngent y gwîr; ac felly yn alowa, ac yn cyd ddwyn a thyngu mewn ymadrodd cyffredin, a thrwy 'r creaduriaid, megis [Page 188] trwy 'r nef, trwy 'r ddaiar, trwy Jerusalem; ac na wneid anudonedd, oni byddei i ddynion yn eu llwon henwi enw Duw, neu grybwyll am y rhoddion a offrymmid iddo ef. ond yr wyfi yn dywedyd wrthych chwi, na thyngwch ddim, nac ir nef. Canys gorseddfa Duw ydyw; nac ir ddaiar, Canys troedfaingc ei draed ydym; nac i Jerusalem, Canys dinas y Brenin mawr ydyw; ac na thwng i'th ben, a [...] na elli wneuthur vn blewyn yn wynn, neu yn ddu. VV. 34, 35, 36. P'le y mae yn amlwg fod Christ, yn gwahardd nid tyngu yn llwyr, ond yn vnig tyngu trwy 'r creaduriaid; megis drwy r' nef, neu 'r ddaiar, neu Jerusalem, fel yr oeda arfer yr Iddewon; oblegid, gan fod y creaduriaid wedi eu creu gan Dduw, mai ganddo ef yn vnig y mae meddiant arn [...]nt ac nad ydynt ddarostyngedig in hewyllys ni, iw camarferu, neu i dyngu trwyddynt; ac hefyd oblegid gan fod tyngu yn rhan o addoliant Duw, fod y neb sydd yn tyngu drwy neb rhyw greadur yn bwrw Duwdod [Page 189] arno, ac yn gwneuthur delw-addoliaeth; gwahardd hefyd y mae tyngu yn arferedig, ac heb raid yn ein ymadroddion cyffredin, tyngu yn ewyllysgar, ac ohonom ein hunain, heb ddim yn ein hannog i hynny, ond ein elw bydol ein hunain, Dymma' r llwon y mae Christ yma yn eu gwahardd;Dr. Ham. Cateeh. 180megis hefyd llwon ewyllysgar addewidiol, rhag na chyflawnom hwynt ond am lwon anewyllysgar, y cyfryw ac y mae y llywydd yu eu gofyn a'r ein dwylo, pa vn bynnag ai er ty stiolaeth ir gwirionedd, ai e'r mwy siccrwydd o'n cyfiawn ddyledswydd, an ffyddlondeb iddo ef, y mae y rhain yn gwbl gyfreithlon i gristianogion; yn amgen ni byddei vn modd i roi diben a'r ymarfaelion yn eu mysg; na rhwymmedigaeth yn y byd gan y deyrnas ar ei chyhoedd swyddogion; na chan y Brenin a'r ei ddeiliaid; na ffordd yn y byd wedi ei adael i ddaccuddio peryglus gynllwynion a chydfradau.
- 10. Y maent yn dal nad yw rydd iddynt [Page 190] ddywedyd, Duw yn rhwydd, neu dydd dawch wrth y rhai a gyfarfyddont ar y ffordd, rhag eu bôd yn myned a'r ryw ddrwg fwriad. Lle y mae yr yscrythur lân yn dangos fod cyfarchiadan duwiol yn gyfreithlon, ac yn a [...]feredig ym mysg pobl Dduw; ac mai nôd gelynion yr Eglwys yw, Nad ydynt yn dywedyd with fyned heibio, bendith yr Arglwydd arnoch, bendithiwn chwi yn enw yr Arglwydd. Psal. 129. 8. Yr holl bobl dda erioed a arferasant gyfarchiadau duwiol yn eu teithiau. Boaz wrth ddyfod o Bethlehem a ddywedodd wrth y medelwyr, Ruth. 2. 4. yr Arglwydd a fyddo gyda chwi; a hwytheu a ddywedasant wrtho ef, yr Arglwydd a'th fendithio. Angel gogoneddus a gyfarchodd Gedeon fel hyn, Barn. 6. 12. Yr Arglwydd sydd gydâ thi wr cadarn, nerthol, Ac Archangel a gyfarchodd forwyn dlawd, sef, Mair yn y geiriau hyn, Hanffych well, yr hon a gefaist râs, yr Arglwydd sydd gyda' thi; bendigaid wyt ymmhlith gwragedd. [Page 191] Luc. 1. 28. Ar ddyledswydd ymma a orchymynwyd yn fynych ir prifgristianogion yn gystal gan Sanct Pedr, 1. pet 5. 14. Annherchwch ei gilidd áchusan cariad; a chan Sanct Paul, Rhuf. 16. 16. Annherchwch y naill y llall â chussan Sanct aidd; ond etto tan ammod os gwybyddent, fod néb yn elyn i'r gwirionedd, neu yn gau athrawr, na ddywedent wrtho, Duw yn rhwydd, fel y gorchymyn Sanct Joan yn ei ail Epistol a scrifennodd ef at ryw Arglwyddes vrddasol, a'r ddegfed wers, Od oes neb yn dyfod attoch, ac heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dy, ac na ddywedwch Duw yn rhwydd wrtho. Ni fynnei yr Apostol i'r Arglwyddes honno ddywedyd, Duw yn rhwydd wrth gau ddysgawdwr, os cyfarfyddei hi ag ef ar y ffordd, rhag iddi wrth hynny ei dynnu ef i ymddiddan â hi, ac iw llygru yn y ffydd, nac iw dderbyn iw thy; ond yn hytrach ei gau allan. Cyngor da, ir sawl oll, ac sydd yn ymwrthod an priod ysprydol [Page 192] fugeiliaid, ac yn derbyn iw tai gau athrawon, y rhai sydd yn Ymlusgo i deiau, ac y dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, ac yn twyllo y rhai sydd yn gwrando arnynt. 2. Tim. 3. 6. Ac nid yw gorchymyn Christ Luc. 10 4. ( Na rhyferthwch well i neb ar y ffordd) yn gwneuthur dim yn erbyn hyn; Canys os cymmharwn y fan hwnnw a'r text yn 2. Bren. 4. 29. fe fydd amlwg, mai bwriad Christ yno yw, annog ei ddiscyblion i gyflymder, a brys yn y gwaith, yr oeddynt yn myned iw gylch, a gadael heibio y cyfryw gyfarchiadau, ac a allent eu hattal, au rhwystro hwynt yn eu neges. Canys yn y wers nessaf, gwedi iddynt ddyfod ir fan, lle yr oeddynt i aros, y mae efe yn peri iddynt gyfarch y teulu hwnnw; ac yn pennodi iddynt y ffurf a arferant, Tangneddyf i'r ty hwn. Ac felly nid oedd y gorchymyn hwnnw ond dros amser, cyfryw ac oedd y gorchymyn yn y geiriau o'r blaen, Na ddygwch gôd, nac yscreppan, nac escidiau. [Page 193] ac nid yw yn ein rhwymo ni yr awrhon; yn amgen fe fyddei anghyfreithlon i ni yr vn flunud wisgo escidiau, neu fod gennym byrsau yn ein pocettau, (y rhai bethau a waherddir yno yr vn ffunud) yr hyn nid oes neb mor wan ai feddwl. A lle y maent yn dywedyd, na wyddant hwy ar ba fwriad y mae y nêb y maent yn ei gyfarfod yn myned, nid rhaid i hynny beri iddynt ruso a chyfarch gwell iddo, gan fod cariad (pe bae dim ohono ynddynt) yn eu rhwymo hwynt i obeithio y goreu am bawb, nes iddynt weled achos da ir gwrthwyneb. Ond gadewch i'r hwn y maent yn ei gyfarfod, fôd yn ddyn drwg, a'i fod yn myned ar ryw fwriad drwg, hwy a allant er hynny ei gyd, ddywedyd wrtho, neu ddymuno iddo; ddydd da, neu nôs da, neu ddywedyd gydâ Boaz, Yr Arglwydd a fyddo gydâ chwi; neu gyd a'r medelwyr, yr Arglwydd a'ch bendithio; neu arferu ryw gyfryw gristianogol gyfarchiad, neu weddi drosto ef, yr hyn yw y rhan oreu [Page 194] o gariad a allant wneuthur iw enaid, a'r modd goreu iw attal ef rhag gwneuthur y drwg y mae efe yn ei bwrpassu. Canys os Duw a fydd gyd ag ef, ac nid ymedy ag ef; os Duw a'i bendithia, efe a'i hettil ef rhag gwneuthur dim drwg. Ofer gan hynny y maent yn dadlu yn erbyn, ac yn gwrthod arferu duwiol, a Christianogol gyfarchiadau.
- 11. Eu hamryfusedd nessaf, a'r diweddaf y crybwyllaf amdano(ni ddeuwn i i ben i lefaru am, ac i ddiddadlu y lleill eu gyd) yw hwn, eu bod yn gommedd rhoi iw vchafiaid eu dyledus ditlau, a'u cyfiawn anrhydedd. Lle y mae yr yscrythnr lân yn dangos, fôd y Sainct yn wastad yn ofalus i lefaru wrth eu gwell yn barchedig, ac i roddi iddynt ditlau anrhydeddus. Ni henwa i ond dau yn vnig, vn wraig grefyddol, ddefosionol yn yr hên Destament, sef, Hannah, yr hon pan ddrwg-dybiodd Eli yr Offeiriad ei bod hi yn feddw, a attebodd yn llariaidd, ac yn ostyngedig jawn, [Page 195] 1. Sam. 1. 15, 16. Nid felly Arglwydd, gwraig galed arni ydwfi, o amldra fy myfyrdod, a'm blinder y lleferais hyd yn hyn. Y wraig hon mewn pôb parch a'i galwodd ef yn Arglwydd. y llall gwr Sanctaidd yn y Testament Newydd, sef, Sanct Paul, yr hwn gwedi iddo gael cennad i lefaru drosto ei hun ger bron brenin Agrippa, a ffestus yn ei gyhuddo ef o ynfydrwydd, a attebodd yn dra addfwyn, ac fel y gweddai lefaru wrth lywiawdwr, Act. 26. 25. Nid wyf ynfyd o ardderchoccaf ffestus, gan roddi iddo ei ddyledus ditl. A'r parch, a'r anrhydedd hwn o'n vchafiaid a orchymynnir yn y pummed Gorchymyn; rhannau yr hwn anrhydedd a ofynnir yno, yw y rhain.
- 1. Y cyntaf yw codi i fynu ger bron ein gwell, a'r rhai sydd hyn na ni; Levit. 19. 32. Cyfot ger bron penwynni, a pharcha wyneb benuriad.
- 2. Yr ail yw crymmu y glîn, neu 'r corph iddynt; megis ac y ddarllenwn [Page 196] Gen. 23, 12. 1 Abraham ymgrymmu o flaen meibion Heth 33. 3. Ac i Jacob ymostwng iw frawd Esau, 1. Bren. 1. 23. Ac i Nathan y prophwyd ymgrymmu i Frenin Dafydd, a'i wyneb hyd lawr.
- 3. Y trydedd yw sefyll o'u blaen tra fyddont hwy yn eistedd; megis ac y gwnaeth Abraham, yr hwn tra bu y tri Angel (a dderbyniodd efrw dy) yn bwytta, a safodd. ac a wasanaethodd arnynt. Gen. 18. 8. Ac megis safodd yr holl bobl ger bron Moses, tra 'r oedd ef yn eistedd iw barnu hwynt. Exod. 18. 13.
- 4. Y bedwaredd yw tewi a a sôn nes darfod iddynt hwy lefaru. Felly Elihu yn ei ymresymiad â Job, ai gyfeillon, a arhosodd nes darfod iddynt hwy lefaru, oblegid eu bod yn hyn nag ef o oedran; Job. 32. 4. A bod yn ddistaw mewn llyssoedd, a brawdleodd, nes peri i ni lefaru. Fel hyn Sanct Paul, pan gyhuddwyd ef gan yr Iddewon ger bron Phaelix a dawodd a sôn, nes ir Rhag law beri iddo ef atteb trosto ei hun. Act.
- [Page 197]5. Y pummed yw rhoi i bôb vn ei ddyledus ditl, ai anrhydedd; fely dangosais o'r blaen i Hannah, a Sanct Paul wneuthur.
- 6. Y chweched yw, bôd yn bennoethion o'u blaen; yr hwn barchedig arweddiad, er na osodir i lawr yn yr yscrythur lân, (gan nad rhaid gosod i lawr bôb arweddiad parchedig yn neillduol:) etto gan ei fod yn arferedig yn y deyrnas hon, ei esceulusiad i vn vwch, sydd ammharch a waherddir yn y pummed Gorchymyn; ac i vn cyd radd, anfoesgarwch Dymma rannau yr anrhydedd sydd ddyledus i vchafiaid; ym mha rai pwy bynnag a drosseddo (o'i wir fodd,) y m
[...]e efe yn trosseddu nid yn vnig yn erbyn moesau da, ond hefyd yn erbyn Cyfraith Dduw; ac nid yn vnig yn erbyn y gyfraith Foesawl a draddodwyd drwy Moses, ac a scrifenwyd mewn llechau cerrig; ond hefyd y Gyfraith naturiol, a scrifenwyd gan Dduw yng-halon pôb dyn. Hon a ddysgodd i Marcus,
[Page 198] Tylius Cicero beth yw anrhydedd,
Tul. in Rhet.sef dim amgen, ond rhinwedd, drwy ba vn yr ydym yn rhoddi parch i'n vchafiad, yn narostyngiad ein corph, yn ein arweddiad; ein munudau, a llefariad ein geiriau. Hon hefyd a ddysgodd i Seneca berchi ei well. Canys y mae efe yn dywedyd fel hyn, Os gwelaf vchelfaer, neu benbrawdwr, mi a wnâf bôb peth a fyddis arfer iw wneuthur,Sen. ep. 65.i roddi parch; mi a ddescynnaf oddi ar fy march; mi a ddinoethaf fy mhen (neu mi a dynnaf fy het); mi a roddaf y ffordd iddynt. A chan grybwyll yn ôl hynny am Marcus Cato, a Lelius doeth, a Socrates, a Phlato, yr wyf, meddef, yn eu perchi hwynt, ac yn codi i fynu, ac yn rhoi lle ir cyfryw foneddigion. A phe bae y dynion anfoesol hyn, (y cwaceriaid) yn edrych ar y goleuni sydd o'u mewn, goleuni nattur, fe ddatcuddiei hwnnw iddynt eu amryfusedd, yn gwrthod rhoi parch iw vchafiaid; yn erbyn rheol nattur, a gorchymyn [Page 199] eglur yr Apostol, Rhnf. 13. 7. Telwch i bawb eu dyledion, teyrnged i'r hwn y mae teyrnged yn ddyledus, toll i'r hwn y mae toll, ofn i'r hwn y mae ofn, parch i'r hwn y mae parch yn ddyledus. Ond nid ydynt hwy yn dal sulw, nac ar oleuni gair Duw, na hwnnw sydd o'u mewn, (oni ddarfu i Dduw yscatfydd er eu dwys gospedigaeth ei droi yn dywyllwch) ond rhodio y maent ar ôl y cnawd, nid ar ôl yr yspryd glân, Diystyru llywodraeth, a chablu, a dirmygu y rhai sydd mewn awdurdod; ac urddas. 2. Pet. 2. 10. Jud. 8. Ac fel hyn y gwelwn wrth ba beth y mae i ni brofi yr athrawiaethau a glywom, sef, wrth air Duw, yr vnig wîr reol o ffydd, a bywyd. Ac wrth hon y gwelsom fod amryw athrawiaethau y Papistiaid, a'r Sectau eraill sydd yn ein plith, yn gyfeiliornus. Ond oblegid ni feidr pawb mor darllain, na deall yr yscrythur, y mae rheol arall etto i'r bobl sy ml, anllythrennog, i brofi yr athrawiaethau a glywont; a honno yw Catechism yr [Page 200] Eglwys, crynodeb y ffydd, a'r Bibl bychan, fel y mae gwr dysgedig yn ei alw. Canys y mae dwy ffordd i brofi yr hyn yr ydym yn ei glywed, a yw ef yn wîr, ai nad yw.
1. yn gyntaf, ei holi fel y dywedais, drwy air Duw, a ydyw yn gysson â hwnnw, ac ystyried y mannnau o'r yscrythur y maent yn eu dwyn, i brofi 'r pwngc y mae yr ymddadl yn ei gylch; ac a ydyw y synhwyreg y maent yn ei roi o'r cyfryw dextau yn cyttuno â mannau eraill o'r yscrythur lân; ac ystyried yr jaith yn yr hon y scrifenwyd 'r scrythur honno gyntaf; a hyn a ellir ei wneuthur yn vnig gan wyr dysgecig, ac yscolheigion mawrion.
2. Holi a yw 'r athrawiaethau a ddysgir yn gysson a [...] ffurf o ymadroddion jachus a raid i ni ei dal, neu â phyngciau y ffydd Gristianogawl, a gynhwysir yng Hredo yr Apostolion; neu a'r gyfraith a scrifenwyd gan Fys Duw mewn dwy lech, megis rheol barhaus i gyfarwyddo ein [Page 201] buchedd, a'n ffydd wrthi. Ac fel hyn y dichon pôb dyn llyg, annysgedig a ddysgodd gimmaint a Chatechism yr Eglwys, ac sydd yn deall Egwyddorion y ffydd, brofi yr athrawiaeth a glywo. Canys os yw hi yn wrthwynebol i vn o byngcian 'r Credo, neu i vn o'r gorchmynion Moesawl, y rhai a ddaeth Christ nid iw dileu, ond iw cyflawni, au cadarnhau, y mae yn amlwg mai gau athrawiaeth ydyw, a'r cyfryw vn, ac a ddylem ei gwrthod. Ac fel hyn y gall y bobl gyffredin anllythrennog brofi amryw athrawiaethau y cwaceriaid au cael yn amryfuseddus. Canys
1 Eu harfer o dycio eu gwell, a'u anfoesawl ymddygiad tuag at swyddogion, a gwyr o alwedigaeth vchel, a chadw eu hettiau am eu pennau, pan ddelont ger eu bron, sydd wrthwynebol ir pummed Gorchymyn, Anrhydedda dy dâd ath fam, a'r esponiad ohono yn y Catechism; lle y dysgir y plentyn, mai ei ddyled ef yw, Anrhydeddu, ac ufuddhau [Page 202] i'r Breni'n a'i swyddogion, ymddarostwng iw holl lywiawdwyr, dysgdwdwyr, bugeiliaid ysprydol ac athrawon, ac ymddwyn ohono yn ostyngedig, gan berchi pawb o'i well. Pe bae y cwaceriaid yo cofio y wers hon a ddysgwyd iddynt yn eu jeuenctid, fe fyddei ganddynt well moesau.
2 Eu athrawiaeth o berffeithrwydd, bod dynion adgenedledig yn ddibechod, sydd wrthwynebol ir deisyf hwnnw Yngweddi yr Arglwydd, a ddysgodd ef iw ddiscyblion, a'r hwn a orchymynnodd ef i'r holl Gristianogion ei arferu, Maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn nd in dyledwyr; yr hwn ddeisyf yn ddiammeu a fyddei afraid, pe gallem fod yn y byd hwn heb bechod.
3 Eu athrawiaeth o neillduad, ac mai hwy yw 'r vnig bobl Sanctaidd ar y ddaiar, wrth y rhai y rhaid glynu, gan ymadael â phawb eraill, sydd wrthwynebol pyngciau hynny o'n Credo, Credaf yr Eglwys lân, Gatholic, Cymmun y Sainct; [Page 203] hynny yw; yr wyf yn credu fod, y bu, ac y bydd cynnulleidfa o bobl ffyddlon, a Sancteiddir gan yr yspryd glân; a'r rhain nid yn vn rhyw wlâd, neu deyrnas, ond yn wascaredig ar hyd wyneb yr holl ddaiar; a bod gan holl wîr aelodau yr Eglwys Gatholic hon vndeb, a chymmundeb â Christ, eu pen, drwy ffydd, ac a'u gilidd drwy gariad; yr hwn gymmundeb y maent hwy yn ei dorri, y rhai sydd yn ymrannu, ac yn ymneillduo oddiwrth eu brodyr Christianogol eraill, ac yn gwasanaethu Duw ar eu pennau en hunain, megis pe na bae eraill deilwng i wasanaethu Duw gydâ hwynt.
4 Ac, i fod yn fyr, eu breuddwyd, eu bod hwy vwchlaw Ordinhadau Christ, a ddiddedlir drwy athrawiaethy Sacramentau y rhai y gynhwysir yny Catechism hwnnw, a'r rhai a ddywedir yno eu bod yn foddion o râs; yn foddion i dderbyn grâs, ac iw gynnhyrchu. Fel hyn drwy y Credo, gweddi yr Arglwydd, y dêg Gorchymyn, ac athrawiaeth [Page 204] y Sacramentau, a gynhwysir yng hatechism yr Eglwys, y dichon pôb dyn a ddysgodd, ac sydd yn dirnad ei Gatechism, brofi at hrawiaethau gau athrawon, a'u cael yn amryfuseddus.
3 Ffordd arall i brofi ysprydion, a'r athrawiaethau a ddysgir, ai o Dduw y maent, yw drwy ffrwythau yr yspryd. A dymma y rheol y mae Christ ei hun yn ei roddi i ni, iw adnabod hwy wrthi, Math. 7. 15. 16. Ymogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yng wiscoedd defaid, ond oddimewn bleiddiaid rheipyus ydynt hwy, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Yr awrhon ffrwythau yr yspryd a rifir i fynu gan yr Apostol yn y bummed bennod o'r Epistol at y Galatiaid, y pennaf o'r rhai yw cariad, a thangneddyf. Os yr athrawiaeth gan hynny, yr hon a ddysgir, sydd yn tueddu i gynhaliaeth heddwch, cariad, ac vndeb rhwng Christianogion, nyni a allwn fod yn hyderus, mai yspryd Duw sydd yn ei hysprydoliaethau hi. ond os yw [Page 205] hi yn tueddui ymranniad, schism, casineb, cynhennau, llîd, ymrysonau, ymbleidiau, hæresiau, cenfigennau, terfysg, a dinistr, yno diammeu ydyw, nad yw hi yn dyfod oddiwrth yspryd Duw, ond oddiwrth yr yspryd drwg, awdwr pôb drygioni.
4 Pôb athrawiaeth ac sydd yn tueddu i dduwioldeb a Sancteiddrwydd buchedd; yn diddyfnu ein calonnau oddiwrth y byd, ac yn derchafu ein serch an dymuniadau tua'r nef, ac yn gwneuthur ein ymarweddiad yn nefol; pôb cyfryw athrawiaeth sydd oddiwrth yspryd Duw. Ac am hynny y gelwir athrawiaeth yr Efengil yn athrawiaeth yn ôl duwioldeb; Tit. 1. 1. ac yn ddirgelwch duwioldeb, 1. Tim. 3. 16. yn dysgu i ni wadu annuwioldeb, a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awron Tit. 2. 12. Ac yn y gwrthwyneb pôb athrawiaeth ac sydd ynagoryd drws i annuwioldeb, a rhydd-did pechadurus (cyfryw ac yw yr athrawiaethau [Page 206] sydd yn erbyn Sancteiddiad dydd yr Arglwydd, arferu yn ddiwyd ac yn gydwybodus ddyledswyddau teuluaidd (gweddi, a darllenniad gair Duw ac addysgu y tylwyth yn egwyddoriony ffydd) a chyhoedd ordinhadau Christ;) pôb athrawiaeth ac sydd 'yn archuwaethu o'r ddaiar, ac yn tueddu i ddibennion bydol, neu gyflawniad chwantau 'r cnawd, o'r cythreal yn ddiau y mae; annogaeth Satan ydyw, nid ysprydoliaeth yr yspryd glan.
5 Yn ddiwaethaf pôb athrawiaeth ac sydd yn tueddu tuag at gyffredin lessad ac adeilaeth Christianogion sydd o Dduw, ysprydoliaeth ei lân yspryd ef ydyw; oherwydd pa achos y mae yr Apostol vn gorchymyn 1. Cor. 14. 26. gwneuthur pôb peth er adeiladacth; ar Efengil, ac yn gyfattebol pôb athrawiaeth nefol arall cysson â hi, sydd athrawiaeth yn hyfforddi jechydwriaeth dynion. Megis yn y gwrthwyneb pôb athrawiaeth ac sydd yn tueddu tuag at ddinistr eneidiau [Page 207] dynion, neu niwed yr Eglwys sydd iw gochelyd megis ysprydoliaeth yspryd y cyfeiliorni. Duw yr hwn sydd yn ewyllysio fod pôb dyn yn gadwedig, I. Tim. 2.4. A ordeiniodd foddion grâs ac jechydwriaeth i ddynion, ac sydd yn gorchymmyn iddynt eu harferu yn ddiwyd ac yn gydwybodus: ar cythrael, enw yr hwn yw Apol-lyon, Date. 9. II. Y dinistrudd, sydd yn dysgu pobl i esgeuluso gweddi, derbynniad y Sacramentau, gwrandawiad pregethiad ei air o enau ei gyfreithlon weinidogion, a'r cyfryw rasusol foddion eraill o'u jechydwriaeth i ddwyn dinistr tragwyddol arnynt. Holwn gan hynny yr athrawiaeth a glywom drwy air Duw, Catechism yr Eglwys, a ffrwythau, a dibennion y cyfryw athrawiaeth, ac nyni a allwn farnu yn hawdd, a ydyw hi yn dyfod oddiwrth ysprydoliaeth yspryd y gwirionedd, ai oddiwrth yspryd y cyfeiliorni. Ac nyni a ddylem fod yn fwy gofalus i wneuthur hyn, oblegid, fel y mae yn canlyn [Page 208] yn y Text, fod gau athrawon lawer wedi myned allan ir byd.
3 Hyn oedd wîr nid yn vnig yn amser Christ ai Apostolion, ym mha vn yr oedd llawer o Sectau niweidiol, megis Pharisaeaid y rhai (fel y Papistiaid) oeddynt yn dal cyfiawnhad drwy haeddedigaethau dynol; Sadduceaid, y rhai (fel ein pobl ddidduw) oeddynt yn dal fod yr enaid yn marw gyd â 'r corph; yr Esseaid. y rhai (fel ein Anabaptistiaid) oeddynt yn tybied eu bod yn rhyddion oddiwrth bôb awdurdod dynol ar Gnosticiaid, y rhai oeddynt yn haeru mai Simon Magus oedd y Duw goruchaf, ac yn dal nad oedd bechod yn y byd iddynt fwytta pethau a offrymid i eulynnod, a thyngedu yr ffydd yn amser erlynedigaeth, ac yn byw yn ymarfer pôb aflendid: ond hefyd yn yr holl oesoedd o'r Eglwys yn canlyn, megis ac y mae yn amlwg yn Menander, Basilides, Carpocrates, Ebion, Marcion, Cerdon, Falentinus, Montanus, Noetus; a hæreticau [Page 209] a gau ddyscawdwyr eraill, y rhai, fel y mae Tertylian, Epiphanius, ac Austyn yn tystiolaethu, oeddynt cynnifer, a bod enw Christ yn dechreu myned yn gâs ym mysg y bobl; ac o achos yr hyn yr oeddid yn gwatwor y Christianogion yn eu chwarenau cyhoedd, fel y mynega Socrates. Ac a oes gennym ni lai rhifedi ohonynt yn y dyddiau hyn? nagoes; y mae gennym Bapistiaid, Antinomiaid, Sociniaid, Sablatariaid, Libertiniaid, Anabaptistiaid, Catabaptistiaid; Brownistiaid, Independentiaid, Adamitiaid, Ranteriaid, Enthusiastiaid, Cwaceriaid, a llawer eraill ni wn i o ba opiniwn; mor wîr yw ymadrodd SanctPaul, I. Tim. 4.1. Yr ymedi rhai yn yr amserocdd diweddaf oddiwrth y ffydd, gan roddi coel i Ysprydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethan cythreulig; a'r peth y mae Sanct Pedr yn ei ddywedyd, 2. Pet. 2.1. 2. y bydd gan athrawon yn ein mysg, y rhai yn ddirgel a ddygant i mewn heresiau dinistriol, ac y canlyn llawer eu destryw [Page 210] hwynt, oherwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd. A'r text hwn mewn llaw a wirir yr vn ffunud am yr amseroedd hyn, ym mha rai yr ydym yn byw, fod gan brophwydi lawer wedi myned allan ir byd. Ac am hynny na thramgwyddir vn Christion gwan, er bod llawer yn y dyddiau hyn yn troi, ac yn denu eraill oddiwrth y wîr ffydd. Fe ragddywedodd Christ, a'i Apostolion y codei gau Brophwydi; ac am hynnv na chymmerwn ddim tramgwydd wrth y gwirionedd o'u plegid hwy; ond profwn yr ysprydion, a'i o Dduw y maent; a phan gaffom hwynt yn gau brophwydi, ymogelwn rhagddynt, ac na choeliwn hwnt. Gan brophwydi lawer a aethant allan; hynny yw, a'u gwahanasant eu hunain, ac a dorrasant gymmundeb a'u brodyr Christianogawl eraill, gan eu cyfrif hwynt yn hæreticaidd, neu yn annuwiol, ac a glascasant iddynt eu hunain Gynnulleidfaoedd wrth eu meddwl eu hunain, y rhai yn vnig y maent yn eu cyfrif, yn Eglwys Dduw; [Page 211] Ond er Sancteiddied y maent yn edrych, gochelwch hwynt; ac er eu bod yn cymmeryd arnynt eu bod wedi ysprydoliaethu gan yspryd Duw, ac nad ydynt yn traddodi dim, ond yr hyn a dderbyniasant gan yr Arglwydd, drwy dduwiol Ysprydoliaeth, neu ddatguddiad anghenefin, na chredwch hwynt, Canys gau brophwydi ydynt, a gau dywysogion, y rhai a'ch twysant chwi allan o ffordd y gwirinoedd, ac a'ch foddant i amryfusedd a destryw. Y rhai fel y galloch eu gochelyd yn well, ac fel n'ach camdwyser ganddynt, cymmerwch y cyfareddau, a'r cynnorthwyau, hyn,
- 1 Na dderbyniwch vn athrawiaeth a fyddo wrthwynebol i air Duw sylfaen y gwirionedd, ac i Egwyddorion y ffydd Gatholic, cynnwysedig yng Hatechism yr Eglwys, sef, y rhain, Edifeirwch, Ffydd, vfudd dod, Gweddi, a'r S [...]cramentau. Yr hwn a dderbynio vn tyb ai tynno ef oddiwrth ostyngedig gyffes oi bechodau, a duwiol dristwch amdanynt, neu nid [Page 212] yw gysson a phyngciau y Ffydd Gristianogawl, a gynnhwysir yn gryno yng Hredo'r Apostolion, neu sydd yn gwrthwynebu, neu yn dirymmu vn o orchmymon Duw; neu yn dysgu esceuluso, ac anarferu Gweddi dduwiol, a gwre [...]og at Dduw, yn enwedig Gweddi yr Arglwydd; a'r ddau Sacrament a ordeiniodd Christ yn ei Eglwys, Bedydd, a Swpper. yr Arglwydd, fe a fyrth yn bendramwnwgl i ddamnedig amryfusedd. Y modd goreu i chwi ochelyd hudau, a deniadau gau Athrawon, yw bod wedi eich athrawiaethu yn hollawl yn Egwyddorio'n, a sylfeini y grefydd gristianogawl. Onis mynnwch fod Megis plantos yn bwhwmman, ac yn eich cylch-arwain â phôb awel dysceidiaeth trwy hocced dynion, syn cynllwyn i dwyllo, Eph. 4. 14. Ceisiwch adeiladu eich ffydd ar sylfaen y prophwydi, a'r Apostolion, 2. 20. sef, holl athrawiaeth y Testament hên, a'r Newydd, rheol fawr y ffydd; yr hwn a lyno wrth hon, ni chyfeiliorna efe byth.
-
[Page 213]2 Fel n'ach camdwyser chwi gan gau Athrawon, ac na syrthioch i enbydus amryfuseddau, byddwch ofalus i bwyso i lawr bôb tyb chwyddedig o'ch gwybodaeth, ach doethineb eich hunain; gan gofio y peth y mae Solomon yn ei ddywedyd,
A weli wr doeth yn ei olwg ei hun? gwell yw'r gob aith am ffôl, nac am hwnnw. Dih. 26. 12. Megis hefyd cyngor jachus yr Apostol.
Rhuf. 12.16.
Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain. Na hyderwch ar eich barn eich hunain, on
[...] ymdarostyngwch yn hytrach i farn, a therfyniad Tadau dysgedig yr Eglwys; a bydded arnoch gywilidd gydag Abilardus er bod yr holl dadau Eglwysig o'r tyb hwn, ac yn esponio yr yscrythur fel hyn, etto yr wyfi o feddwl arall, ac yn esponio y cyfryw dext o'r yscrythur lân ffordd arall, wrthwynebol iddynt oll; rhaid iw esponio 'r yscrythur yn ôl dealldwriaeth yr hên Eglwys, ac nid yn ôl ein tyb neillduol ein hunain; a'r rhai sydd yn gwneuthur yn amgen, y maent
[Page 214] yn
Gwyro yr yscrythur iw dinistr, eu hunain. 2.
Pet. 3. 16. Er gochelyd yr hwn niwed dirfawr, y cymmerodd yr hên dadau ofal, (medd y parchedig dêd, Escob Andrews) ir rhai a gymmerent arnynt esponio yr yscrythyrau, roi meichiafon fod y synhwyreg a roddent ohonynt yn gysson a'r hon yr oedd yr Eglwys yn yr amseroedd gynt yn ei gydnabod. A
Vincen. Lirinens. adver. haret. c. 2.vincenteius Lirinensis sydd yn dywedyd, oblegid amryw droadau, a dolystumadau, 'r scrythyrau, er meaentumiad amryw amryfuseddau, y mae yn angenrheidiol cyfarwyddo llinell y prophwydol, a'r Apostolaidd ddeongliad, yn ôl rheol y synhwyreg Eglwysig. Canys pwy, meddef, a ddûg i mewn neb rhyw hæresi, ond a anghyttunodd yn gyntaf a chydsyniad hynafiaeth, a'r hên Gatholic Eglwys! A'r hwn gan ddirmygu awdurdod yr Eglwys, sydd yn rhyfygu rhoi ar yr yscrythur ei synhwyreg priodol ei hun, sydd yn arglwyddiaethu nid yn vnig [Page 215] ar ffydd ei wrandawyr, ond hefyd ar ffydd yr Eglwys Gatholic; ie y mae efe yn dirymmu awdurdod 'r scrythur, gan nad yw 'r scrythur yn yscrythur, oni jawn ddeonglir hi. Cofiwch gan hynny Nad oes vn yscrythur o ddeongliad priod, fel y dywyd yr Apostol, 2. Pet. 1. 20. a bod ysprydoedd y prophwydi yn ddarostyngedig i'r prophwydi. 1. cor. 14. 32. Dymma ddestryw ymbleidwyr, ac ymranwyr, eu bod wedi ymchwyddo â gwâg dyb o'u gwybodaeth, a'u deall eu hunain, yn ffyrdd yr Arglwydd; ac yn eu tybied eu hunain yn gallach na'r holl fyd heb law. Ond gochelont, fel y dywyd yr Apostol am y cenhedloedd gynt, rhuf. l. 21. 22. Rhag tra byddont'yn tybied eu bôd yn ddoethion, iddynt fyned yn ffyliaid, iddynt fyned yn ofer ym eu rhesym mau, ac iw calon anneallus dywyllu, fel nad allont weled goleuni y gwirionedd drwy niwl eu ffugiol, a'u dychmygol wybodaeth; a gochelont ymddiried iw deall eu hunain, a bod yn rhy ddoethion yn eu golwg eu hunain, [Page 216] fel y cynghora Solomon. Dib. 3. 7.
- 3 Fel na huder, ac na chamarweiner chwi gan gau athrawon, ymddarostyngwch i gyfarwyddiad a llywodraeth eich bugeiliaid ysprydol, colofnau y gwirionedd. Dymma orchymyn yr Apostol, Heb. 13.17. Vfuddhcwch ich blaenoriaid; ac ymddarostyngwch iddynt, oblegid y maent hwy yn gwilied ar eich eneidiau. A gwefusau'r offeiriad a gadwant wybodaeth, a'r bobl a geisiant y gyfraith, (a'i dalldwriaeth,) oi enau ef, medd y prophwyd Malachi. 2.7. ond pan fyddo pobl yn dirmygu eu bugeiliaid ysprydol, ac yn rhyfygu bod yn gallach n [...]i dyscawdwyr, ac yn eu derchafu eu hunain vwch law y rhai a osodwyd arnynt yn yr Arglwydd, beth amgen a ellir ei ddisgwil, ond iddy [...] dramgwyddo a syrthio i amryfuseddau, hæresiau, a schismau?
- 4 Fel n'ach camdwyser chwi gan gau Athrawon, drwg-dybiwch bôb athrawiaeth, ac sydd newydd a dieithr, fod yn
[Page 217] ffals ac yn amryfuseddus. Canys rheol siccr, ddidwyll ydyw, mai r peth hynaf, a'r hyn a dderbynier yn gyffredin sydd wiraf. Y gwiraf yw 'r cyntaf,
Tert. ad. ver. Marc 1. 4. c. 5.a'r cyntaf yw 'r hyn oedd o'r dechreu, medd Tertylian; ac am hynny y cynghora vincentius Lirinensis, Daliwn yr athrawiaeth a ddyscwyd bôb amser, ym mhôb man, a chan bawb; yn gysson â chyngor Duw ei hun, jer. 6 16. Sefwch ar y ffyrdd, ac edrychwch, ac ymofyunwch am yr hên lwybrau, lle mae ffordd dda, a rhodiwch ynddi, a chwi a gewch orphwysdra i'ch eneidiau; ond hwy a ddywedasant, megis ac y dywyd yr hæreticau, a'r ymranwyr oll yn y dyddiau hyn, Ni rodiwn ni ynddi; yr ydym ni am ffyrdd newyddion, goleuadau newyddion, datguddiadau newyddion. A'r ysprydol yffa ymma sydd mor gyffredinol wedi ymdanu a'r hyd holl gorph ein Heglwys, ac na chyflawnwyd erioed brophwydoliaeth yr Apostol Paul mor eglur, ac yn y dyddiau [Page 218] hyn, 2. Tim. 4. 3. Daw 'r amser pryd na ddioddefont athrawiaeth jachus, eithr yn ôl eu chwantau eu hunain y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fod eu clistiau yn merw [...]no. Ond da y dywyd y tadau Yng hymanfa Nicaa, deliwch yn lew yr hen athrawiaethau, ac arferion yr Eglwys. A dymma yn wastad leferydd yr Eglwys, cadwer yr hên ddefawd, a bydded hynafiaeth yn farnydd beth sydd wîr, a pheth sydd anwir. A chyngor Sanct Joan yw hwn, i. jo. 2. 24. Arhosed ynoch chwi yr hyn a glywsoch o'r dechreuad: od erys ynoch yr hyn a glywsoch o'r dechreuad; chwithau hefyd a gewch aros yn y Môb, ac yn y Tâd. yr hwn gan hynny ni chwennycho redeg yn bendramwnwgl i hæresi ac amryfusedd, rhaid iddo ochelyd athrawiaethau newyddion, a glynu wrth yr hên rai, gan dderbyn dim am wirionedd, ond yr hyn a dderbyniwyd gan ein hynafiaid, ac a draddodwyd o'r naill genhedlaeth ir llall drwy barhaus ddilyniad o amser yr Apostolion
-
[Page 219]5 Fel na siommer chwi gan gau Athrawon, byddwch ofalus na thwyller chwi drwy eu rhithiau têg, a'u rhagrith. Os bernwch yn ôl y dull oddiallan, a thybied oblegid fod pobl yn awyddfrydus yn eu ffyrdd, yn gaeth yn eu buchedd, ac yn ysprydol yn eu ymadroddion, eu bod mewn ffafor â Duw, yn gwybod ei ewyllys, ac yn gyfrannogion o yspryd y gwirionedd, chwi a lwyr dwyllir. Oblegid fod dullau a rhithiau Hæreticau ac ymranwyr yn gyffredinol yn deccach, ac yn awyddfrydach nâ dynion eraill; ac mai dymma 'r ffordd drwy ba vn y mae y cythrael yn mynwesu ei holl hudoliaethau, ai gelwyddog orwageddau, sef, tan r
[...]h Sancteiddrwydd, a duwiol ymarweddiad; gan ei fod, fel y dywyd yr Apostol, 2.
cor. 11. 14. 15.
Yn ymrithio yn Angel goleuni, a'i weinidogion hefyd yn ymrithio fel gweinidogion cyfiawnder. Julian yr ymwadwr oedd wr cyfiawn, cymmhedrol, ac o fuchedd dda, ac etto yn elyn dygasol i
[Page 220] Grist. Pelagius yr hæretic damn
[...]dig hwnnw oedd o ymarweddiad caeth, a chanmoladwy. Y Manicheaid oeddynt yn ffuantu buchedd ddiwair,
Aug. lib. 6. conf. c.drwy ba vn y mae Sanct Austyn yn cyfaddef ei dwyllo ef, a'i gyfaill Alipius. Yr Arriaid oeddynt rithdduwiol;lib. l. c. 14.a'r Macedoniaid oeddynt yng olwg y byd yn dwyn bywyd r [...]weddol, fel y tystia Sozomen. A'r Sectariaid yn y dyddiau hyn, y rhan fwyaf ohonynt, fel y Phariseaid gynt, fydd ganddynt rith duwioldeb, ond ydynt yn gwadu ei grym hi; at y rhai y gellir, cymmhwyso ymadrodd Solomon, Dih. 30. 12. T mae cenhedlaeth lân yn ei go [...]wg ei hun(ie, ac yn ymddangos felly i eraill) er nas glanhawyd oddiwrth ei haflendid. Nid oes neb yn ymddangos mor Sanctaidd a hwy er nad oes dim neu ond ychydig wir Sancteiddrwydd ganddynt. Nid oes neb yn profeffu mwy zêl i grefydd a phûr addoliad Duw mewn yspryd a gwirionedd: ac etto neb yn llygru, yn [Page 221] anafu, ac yn dymchwelyd addoliant Sanctaidd. Duw mwy na hwy; gan fôd rhai a honynt yn llefain yn erbyn gorchymynion Duw; eraill yn erbyn pyngciau'r ftydd; eraill yn erbyn pôb gosodedig ffurf o weddi, hyd yn oed gweddi yr Arglwydd; rhai sydd yn dadlu yn erbyn y lleoedd; eraill yn erbyn yr amseroedd; eraill yn erbyn y personau a gyssegrwyd i wasanaeth Sanctaidd Duw; ac eraill sydd yn ei yspeilio ef o foddion, a maentumiaeth ei wasanaeth: ac etto yn en galw eu hunain y Sainct, ac etholedig bobl Dduw. Y maent yn professu eu bod yn bobl ostyngedig, ac vfudd; ac etto yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu vrddas, yn professu eu bod yn gyfiawn, ac etto yn gommedd talu, megis i eraill eu dyledion, felly yn enwedig i weinidogion Duw eu degymmau sydd ddyledus iddynt wrth gyfraith Dduw, a'r deyrnas. Ond fel na thâl dim athrawiaeth iachus gydâ bywyd llygredig felly ni thâl dim ychwaith bywyd da gydag athrawiaeth [Page 222] ddrwg. Ac am hynny y dywyd Athanasius yn niwedd ei Gredo, h [...]n yn 'r ffydd gatholic, yr hon pwy bynnag, ar nis cretto yn ffyddlon, nid all efe fod yn gadwedig. Na adewch gan hynny i Phariseaid yr amseroedd hyn eich twyllo chwi â rhith Sancteiddrwydd; er en bod yn ymddangos yn Sanctaidd, ac yn cymmeryd arnynt fod ganddynt Grist a'i Yspryd, mai hwynt hwy yn vnig sydd yn yr jawn ffordd i'r nef, a'r vnig Sainct ar y ddaiar; etto ymogelwch rhag ddynt, ac na choeliwch hwynt. Ac fel y galloch yn well ochelyd eu llygriad ta [...] rithiau têg,Mr. R. Sherlock.cymmerwch y ddwy reol hon, y mae Difinydd dyscedig yn en gosod.
1 Gwybyddwch fod pôb hæresi yn derfynnedig mewn rhyw fannau o'r byd; ac nad yw 'r llygriad wedi ymdanu yn gyffredinol. Ac am hynny y dywyd y gau brophwydi, wele dymma Grist, neu daccaw Grist; Math. 24. 23. Os cais neb gan hynny derfynu, neu briodoli [Page 223] Christ iw Sect neillduol, (megis ac yr oedd y Donatistiaid gynt, ac y mae y papistiaid, a'r Sectariaid yn y dyddiau hyn,) na choeliwch ef, nid yw ef ond gau brophwyd. Canys mae 'r gwirionedd sydd yn llewyrchu oddiwrth Grist, (haul cyfiawnder) fel goleuni nef, yn ymdanu o'r dwyrain ir gorllewin; mae yn wascaredig ar wyneb yr holl ddaiar, yr hyn sydd yn gwneuthur yr Eglwys yn Gatholic, neu yn gyffredinol.
2 Y mae hærefi a schism yn ceisio allan leodd dirgel, ac yn dechreu mewn Confenticlau, a dirgel ymgyfarfodau. Ac am hynny y dywedir, Math. 24. 26. Wele y mae Christ yn y diffaethwch, neu yn yr ystafelloedd. A'r vn ffunud y mae yr Apostol yn dal sulw am dwyllwyr, a gau athrawon, 2. Tim. 3.6. Eu bod yn ymlusgo i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau. Ond nid yw y gwirionedd yn ceisio dim tyllau i ymguddio; nid oes arni gywilidd ymddangos yn gyhoedd; gan fod yn debig ir [Page 224] goleuni sydd yn llewyrchu o'r dwyran ir gorllewin, ac yn ei wneuthur ei hun yn amlwg i bawb. Ac am hynny y dywyd Sanct Bernard yn ei esponiaid o'r geiriau hynny yn 70. 20. 19. Efe a safodd yn y canol, yr wyti yn camgymmeryd, Thomas Sanctaidd, os wyt, a thi yn ymneillduo oddiwrth yr Apostolion eraill, yn gobeithio gweled yr Arglwydd; nid yw Christ, y gwirionedd, yn caru cornelau; nid yw ef yn cymmeryd difyrwch mewn cyfarfodau neillduol; y mae efe yn sefyll yn y canol, hynny yw, yn ymhyfrydu mewn cyffredin ddiscyblaeth, cyffredin fywyd, cyffredin, a chyhoedd ddyledswyddau crefydd.
6 Fel na'ch camdwyser chwi gan gau Athrawon, ac na syrthioch i beryglus amryfuseddau, cerwch y gwirionedd, a ddysgir i chwi gan eich Bugeiliaid ysprydol, ir rhai y gorchmynwyd cadwraeth eich eneidiau, a glynwch wrtho. Yr achos pam y mae Duw yn rhoddi pobl i fynu i hudau Satan, ac amryw amryfuseddau [Page 225] yw, oblegid nad oes ganddynt ddim cariad i Dduw ai nefol wirionedd, sydd yn llewyrchn iddynt. Sanct Paul gan lefaru am yr Anghrist sydd yn dywedyd, 2. Tbes 2. 9. 10. Fod ei ddyfodiad yn ôl gweithrediad Satan gydâ phôb nerth, ac arrwyddion, a rhyfeddodau gau, a phôb dichell anghyfiawnder, a bod Duw yn goddef ir rhai anvfudd, a'r colledig gael eu twyllo ganddo, a syrthio i ddamnedig amryfaseddau, am na dderbyniant gariad y gwirionedd. Ac yn y 4 bennod o'r ail Epistol at Timotheus y 3 a'r 4 wersi y mae efe yn rhagddywedyd, y daw amser pryd na ddioddef pobl athrawiaeth jachus, ond y troant ymaith eu clustiau oddiwrth y gwirionedd, ac y gwrandawant ar chwedleuau. Ni wrandawant ar y gwirionedd; ac am hynny y credant gelwyddau. Am na chredei Ahab y gwirionedd a draethid gan wîr brophwydi Duw; ac nad allei aros mohonynt hwy, am hynny y gadawodd Duw i yspryd celwyddog ei dwyllo ef. 1. Bren. 22. 22. Y mae Duw [Page 226] yn goddef i gau brophwydi dwyllo y rhai sydd yn ymhyfrydu mewn celwyddau, yn hytrach nac mewn gwirionedd Duw. Ac am hynny fel na fyrthioch i enbydus amryfuseddau, cerwch y gwirionedd, a rhodiwch yn y goleuni, rhag i Dduw ddanfon tywyllwch arnoch; gan gofio'r peth y mae Christ yn ei ddywedyd, jo. 3.19. Hon yw 'r ddamnedigacth (neu yr achos o gyfiawn farn Duw) ddyfod golenni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy nar golenni
7. Fel na thwyller chwi gan gau athrawon, gochelwch fyned iw cyfarfodau, a gwrando arnynt. Y mae yr yspryd glân yn dywedyd am ddefaid Christ, nad adwaenant lais dieithriaid, job. 10. 5. Ac nad ydynt yn eu canlyn hwynt ond yn ffoi oddiwrthynt. A'r Apostol Paul sydd mewn amryw fannau yn gorchymyn i ni ochelyd Hæreticau a thwyllwyr, ac na chydtramwyom a hwy. Megis 1. Tim. 6. 3 [Page 227] 4, 5. Od oes neb yn dysgu yn amgenach ac heb gyttuno ag iachus eiriau ein Harglwydd lesu Grist, a'r athrawiaeth sydd a'r ôl duwioldeb, chwyddo y mae, heb wybod dim, eithr ammhwyllo ynghylch cwestiwnau, ac ymryson ynghylch geirau, o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau yn dyfod, cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fôd y gwirionedd ganddynt, yn tybied mai elw yw duwioldeb, cilia oddiwrth y cyfryw. Ac 2. Tim. 3.1, 2, 3, 4, 5. Gwybydd hyn hefyd y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf. Canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hunain, yn ariangar, yn ymffrostwyr, yn feilchion, yn gablwyr, yn an [...]fyddion i rieni, yn anniolchgar, yn annuwiol, yn angharedig, yn torri cyfammod, yn enllibaidd, yn anghymhesur. yn anfwyn, yn ddiserch i'r rhai da, yn fradwyr, yn waed wyllt, yn chwyddedig, yn caru melys-chwant, yn fwy nac yn caru Duw, a chanddynt rith [Page 228] duwioldeb; eithr wedi gwadu ei gry [...] hi, a'r rhai hyn gochel di. Ac Rhuf. 16.17. Yr wyf yn attolwg i chwi fradyr, medd ef, graffu a'r y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt. peryglus yw i ddynion syml, anneallgar gydtramwy a hæreticau, a gau athrawon. Chwi a wyddoch beth a ddigwyddodd i'n Mam gyntaf Efa am feiddio siarad ar sarph gyfryws, y cythrael a gwrando arno; hi a dwyllwyd ganddo i fwytta o'r ffrwyth gwahard [...]edig, ac iw dâdwneuthur ei hûn a'i holl heppil ar ei hôi. Ac fel na thwyller chwitheu yr vn ffunud gan ddynion cyfrwys, sy'n cynllwyn i dwyllo, gochelwch eu cymdeithas, ac na wrandewch arnynt. Yr hwn sydd heb achos da yn myned i dy y byddo y cornwyd ynddo, a all ddiolch iddo ei hun, os caiff efe y clefyd; a'r hwn a gyffyrddo a phitch a lygrir-ganddo. Oherwydd pa achos y mae Sanct Joan yr Apostol (yr hwn a ommeddodd aros yn yr vn twymdy, ar [Page 229] ymolchfa ar hæretic Cerinthus) yn gorchymyn i ni yn ei ail epistol ar ddegfed, wers, od oes neb yn dyfod attoch, ac heb ddwyn y ddysgeidaeth hon (a dderbyniwyd gau Grist, ai Apostolion) na dderbyniwch ef i dy. Na dderbyniwch gau brophwydi, ac athrawon ich tai; na wnewch ddim croesaw iddynt, pan ddelont hwy attoch chwi; ac nac ewch chwitheu vn amser attynt hwy; rhag iddynt eich camdywys, a'ch twyllo chwi allan o'r ffordd, ffordd y gwirionedd, a'ch dwyn chwi i ddestryw corph ac enaid.
8. Fel na syrthioch i amryfuseddau y rhai enwir, gochelwch hudau 'r cythrael, yr hwn sydd yn gweini i ddynion ei gau athrawiaethau; y rhai oherwydd hynny a elwir athrawiaethau cythreuliaid, I Tim. 4. 1. Ac y gelwir yntef, a'i Angelion, Ysprydion cyfeiliornus; a'r hwn a ddywedir I fod yn dallu meddyliau y rhai digrêd, fel na [Page 230] thywynnei iddynt lewyrch Efengyl Christ. 2. Cor. 4.4. Ac fel na chaffo efe ddim meddiant arnoch, gochelwch ymarfer pechodau ew [...]llysgar, a rhyfygus, yn enwedig balchder, cybydd—dod, anwybodaeth, a rhagrith, yr achosion pennaf o bôb amryfusedd. Canys fel y dywyd y gwr doeth. Drygioni a newid y deall, a hudoliaeth oferedd a dywylla bethau da. Crysostom. Ac Joan aur enau a ddywyd fôd pechod yn tywyllu synhwyrau pechaduriaid yn y cyfryw fôdd, a chan na welant ffordd geudeb, ac amryfusedd, eu bod yn syrthio iddi yn bendramwnwgl; ac nid allent byth syrthio i'r cyfryw amryfuseddau, oni bae bôd pechod yn gwneuthur ffordd iddynt. Canys dyn a ddellir yn gyntaf gan ei bechodau, ac yno y tywysir, ac y twyllir ef gan y cythrael. Canys nid amryfusedd, medd ef, sydd yn cenhedlu, pe [...]hodau, ond pechodau sydd yn cenhedlu, ac yn magu, amryfusedd. Doeth. 1.4, 5. Nid â doethine [...] [Page 231] neb i enaid drygionus, ac ni chyfannedda hi mewn corph Caeth i bechod. Oblegid sanctâidd Yspryd addysc a ffy oddi. wrtb dwyll, ac a ymedy â meddyliau angall. 6. 12. Eithr hawdd y canfyddir hi gan y rhai a't hoffant, a hawdd y ceir hi gan y rhai a'i ceisiant. Y modd goreu i gael doethineb, a gwybodaeth or gwirionedd yw purdeb, a diniweidrwydd buchedd, Os ewyllysia neb, medd Christ, wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, pa vn a'i o Dduw y mae hi. joh. 7.17. Tra y byddom, medd Chrysostom, Chryfost in Math. 7 bo [...]n. 19. yn gwneuthur gweithredoedd da, fe ddatcuddia goleuni cyfiawnder y gwirionedd i ni. Ie a Duw ai datcuddia i ni. Canys fel y dywyd y prophwyd Dafydd. Psalm. 25.9.12.14. Y rhai llariaidd d hyffordda efe mewn barn, a'i ffordd a ddysg efe i'r rhai gostygedig. pa wr yw efe sy'n ofni yr Arglwydd? efe a'i dysg ef [Page 232] yn y ffordd a ddewiso, Dirgelwch yr Arglwyd [...] sydd gyda'r rhai a'i hofnant ef, a'i gyfammod hefyd iw cyfarwyddo hwynt. Fe ddatcuddia Duw i bawb sydd yn ei ofni, ac yn ei wîr wasanaethu ef bôb gwirionedd angenrheidiol i jechydwriaeth, ac ni âd efe iddynt syrthio i Beryglus, a damnedig amryfuseddau.
9. Yn ddiweddaf, fel na syrthioch i amryfuseddau y rhai enwyr, ac na'ch camdywyser ganddynt, gweddiwch beunydd ar i Dduw eich tywys chwi yn ffordd y gwirionedd, a llwybrau vniondeb. Canys fel y dywyd Christ. Luc. 11. 10, 13. Pôb vn sydd yn gofyn, sydd yn derbyn, a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael, ac i'r hwn sydd yn curo, yr agorir, os chychwi gan hynny, y rhai y dych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rydd eich Tad o'r nêf yr Yspryd glân, ir rhai a ofynno ganddo? Os chychwi a weddiwch [Page 233] yn daer, ac yn ddefosionol gyd' a'r prophwyd Dafydd, Psal. 25.4. Pâr i ni wybod dy ffyrdd o Arglwydd, dysg i ni dy lwybrau; tywys ni yn dy wirionedd, a dysg ni; ac a arferwch yn ddiwyd y cynnorthwyau, ar cyfareddau eraill o'r blaen, ni chyfeiliornwch chwi byth. Ond byddwch ofalus fod gan eich gweddi y ddwy adaen o ympryd, ac elysen; Canys heb y rhain nid all hi escyn ir nef; ac os bydd hi gyssylltedig a'r rhain, hi a dyccia yn ddiammeu; Yr hyn sydd yn ymddangos yn yr anrhegion a offrymmodd y doethion i Grist, sef, aur, thus, a myrrh. Y thus sydd yn arwyddoccau gweddi ddefosionol; yr aur, elysen; a'r myrrh, cystuddiad, a darostyngiad y corph drwy ympryd: a pha bryd bynnag yr offrymmom gydâ hwynt y tair anrheg yma ynghyd, fe dderbyn Duw hwynt yn gymmeradwy, ac nyni a dycciwn yn ein gweddiau. I grynhoi'r cwbl ynghyd, ac i ddibennu a'r ychydig eiriau [Page 234] Na fyddwch fel plantos yn hwhwmman; ac yn eich cylcharwain á phôb awel dysgeidiaeth; eithr sefwch yn siccr, ac yn ddiymmod yn y gwirioneddau angenrheidiol bynny, (cynnwysedig yng hatechism yr Eglwys) a ddysgasoch gan eich bugeiliaid ysprydol, a gwrandewch arnynt, nid ar lais dieithriaid; ac nâ adewch eich twyllo drwy eu rhithiau têg, au rhagrith; nad ymddiriedwch i'ch barn eich hunain, ond ceisiwch hyfforddiad y dysgedig a gwybodaeth o enau yr Offeiriaid; ac na fyddwch hygred ychwaith i gredu pôb yspryd; ond profwch yr ysprydion; a'r athrawiaethau a glywoch, a'i o Dduw y maent; a drwg dybiwch bôb athrawiaeth newydd, a dieithr, ac ymofynnwch am yr hên lwybrau, yr hên athrawiaethau jachus, a ddysgwyd gan Grist, a'i Apostolion, a'r brîf Eglwys, a cherwch hwynt, a glynwch wrthynt; gochelwch hudoliaethau Satan, a phechod; a cheisiwch burdeb, a diniweidrwydd buchedd; ac [Page 235] yn bennaf dim gweddiwch a'r i Dduw Ddanfon ei yspryd glân, i'ch tywys i bôb gwirionedd. Felly y diengwch rhag amryfuseddau, gau athrawon, ac y rhodiwch yn ffordd gwirionedd, a Sancteiddrwydd sydd yn arwain i fywyd tragwyddol. Yr hyn a ffynno gan bawb ohonom ei wneuthur, trwy râs cynnorthwyol Christ Jesu i'r hwn gyd a'r Tâd, a'r yspryd glân y byddo holl anrhydedd, moliant, a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
Jesu bendigedig, yr hwn wyt y ffordd, y gwirionedd, a'r bywyd, a'r gwîr oleuni sydd yn goleuo pôb dyn sydd yn dyfod i'r byd, gwna i belydr eglur-loyw dy jachus, ath Sanctaidd oleuni lewyrchu yn ein tywyll galonnau, a gwascar oddiyno holl gymmylau pechod, anwybodaeth, a chamgvmmeriad; a chadw dy Eglwys yn wastad yn dy wîr grefydd, a nâd iddi hi vn amser syrthio i beryglus, a damnedig amryfuseddau: [Page 236] Dwg adref bôb camgredadyn i gorlan dy Elwys; dysg bôb dyn anneallgar yn ffyrdd dy dduwiol ddoethineb; ac agor eu llygaid i weled pethau rhyfedd dy gyfraith di. Danfon dy yspryd glân in tywys ni oll i bôb gwirionedd; ac agor galonnau y gwrthddadleuwyr, a chymmer oddiwrthynt bôb rhagfarn, ac ystyfnigrwydd; a gwna iddynt wrando yn ostyngedig ar dy Sanctaidd air, ac ar jachus gynghorion dy weinidogion, ac vfuddhâu iddynt. Nâd iddynt gau eu llygaid yn erbyn y goleuni, au calonnau yn erbyn cariad dy enw; eithr caniatta iddynt garu y gwirionedd, a'th nefol oleuni, a rhodio ynddo. Nad i wagedd, neu anwybodaeth neb wahanu dy Eglwys, nac i athrawiaethau dynnol gael eu dysgu megis gorchymynnion Duw; eithr caniattâ i'th wirionedd nefol gael ei amddiffyn yn gyhoedd, ei ddysgu yn wastadol, ei gredu yn ostyngedig, ai ymarfer yn awyddfrydus gan bawb oll yn eu galwedigaethau neillduol; fel na [Page 237] byddo yn dy Eglwys ddim ymrysson, ond yn rhoddi parch iw gilidd, a gogoniant i ti o Dduw, yn holl ffyrdd ffydd a chariad. Tynn ymmaith o'n plith bôb camgrediniaeth, amryfusedd, ac anghristianogawl amrafael, a chysyllta ein calonnau ni oll mewn cariad, ac ofn dy enw; a gwnâ i ni fod o vn feddwl, ac vn farn, o vn galon ac vn enaid, gan gadw vndeb yr Yspryd mewn cwlwm tangneddyf. Na Symmud, o Arglwydd, dy ganhwyllbren, goleuni dy wirionedd o'n mysg; eithr caniattâ i ni fwynhau byth rydd-did dy Efengil, ymborth dy air, melus lonniad dy Sacramentua, a holl lessadau vndeb a chymmundeb y Sainct, bendithion gwirionedd, cariad, a thangneddyf yn y byd hwn, ac yn y byd a ddaw llawenydd a dedwyddyd tragwyddol trwy Jesu Grist ein cyfryngwr an pryniawdwr. Amen.