Haec translatio Cambro.-Britannica Articulorum Fidei & Religionis in Ecclesia Anglicanâ receptorum Concordat cum Editionibus Latina & Anglicanâ, facta fideli collationi, per,
IMPRIMATUR.
ARTICULAU NEU BYNGCIAU.
A gyttunwyd arnynt gan Archescobion ac Escabion y Ddwy Dalaith, a'r holl Eglwyswyr, yn y Gymmanfa a gynnhaliwyd yn
Llundain, yn y flwyddyn o oedran ein Harglwydd Dduw, 1562, yn ol cyfrif Eglwys Loegr, er mwyn gochelyd ymrafael o
[...]inionau, ac er cadarnhau cyssondeb ynghylch gwir grefydd.
Pyngciau Crefydd.
1. Am ffydd yn y Drindod Sanctaidd.
NId oes ond un bywiol a gwir Dduw, tragywyddol, heb gorph, heb na rhannau na dioddefiadau, o anfeidrol allu, a doethineb, a daioni, gwneuthurwr a chynnhaliwr pob peth gweledig ac anweledig. Ac yn undod y Duwdod ymma, y mae tri Pherson, o un sylwedd a gallu, a thragywyddoldeb, Y Tad, Y Mab, a'r Yspryd glan.
2. Am y Gair, neu Fab Duw, yr hwn a wnaethpwyd yn wir ddyn.
Y Mab, yr hwn yw gair y Tad, ac a genhedlwyd er yn dragywyddol gan y Tad, gwir a thragywyddol Dduw, o un sylwedd a'r Tad; a gymmerodd natur dyn yngrhoth y fendigedig forwyn, o'i sylwedd hi: fel y mae dwy natur berfaith gyfangwbl, hynny yw, Y Duwdod a'r dyndod, wedi eu cyssyll tu ynghyd yn un Person, ni wahenir byth, o'r rhai y mae un Christ, gwir Dduw a gwir ddyn; yr hwn a wirddioddefodd, a groe [...]-hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, i gymmodi ei Dad a nyni; ac i fod yn aberth, nid yn unig tros evogrwydd pechod cynhwynol, ond hefyd tros holl weithredol bechodau dynion.
3. Am ddiscyniad Christ i Uffern.
MEgis y bu Christ fa [...]w drosom, ac y claddwyd ef, felly y mae yn rhaid credu iddo fyned i wared i Vffern.
4. Am Adgyfodiad Christ.
CHrist a wir-gyfododd drachefn o farwolaeth, ac a gymmerodd drachefn ei gorph, gyda chnawd ac escyrn, a phob peth a berthyni berffeithrwydd naturiaeth dyn, a'r hyn y derchafodd ef i'r nefoedd, ac yno y mae yn eistedd hyd oni ddychwelo i farnu pob dyn y dydd diweddaf.
5. Am yr Yspryd glan.
YR Yspryd glan, yr hwn sydd yn deilliaw oddiwrth y Tad a'r Mab, sydd o un sylwedd, mawrhydi a gogoniant gyda'r Tad a'r Mab, yn wir ac yn dragwyddol Dduw.
6. Bod yr Scrythur lan yn ddigonol i Jechydwriaeth.
Y Mae yr Scrythur lan yn cynnwys pob peth angenrheidiol i Iechydwriaeth: megis am ba beth bynnag ni ddarllennier yn thi, neu na eller ei brofi wrthi, nid ydys yn [Page] gofyn bod i neb ei gredu, megis pwngc o'r ffydd, na'i fod yn angenrhaid i Iechydwriath; Dan enw yr Scrythur lan yr ydym yn deall y Cyfryw lyfrau Canonaidd o'r hen Destament a'r Newydd, ac ni bu erioed ddim ammau yn yr Eglwys am eu hawdurdod,
- GEnesis.
- Exodus.
- Leviticus.
- Numeri.
- Deuteronomium.
- Josuah.
- Barnwyr.
- Ruth.
- Llyfr cyntaf Samuel.
- Ail Llyfr Samuel.
- Llyfr cyntaf y Brenhinoedd.
- Ail Llyfr y Brenhinoedd.
- Y Llyfr cyntaf o'r Cronicl.
- Yr ail llyfr o'r Cronicl.
- Llyfr cyntaf Esdras.
- Ail llyfr Esdras.
- Llyfr Hester.
- Llyfr Job.
- Y Psalmau.
- Y Diharebion.
- Ecclesiastes, neu y Pregeth-wr
- Cantica, neu Ganiadau Solomon.
- 4 Prophwydi mwyaf.
- 12 Prophwydi lleiaf.
A'r llyfrau eraill (fel y dyweid Hierom) y mae'r Eglwys yn eu darllein er Ssiampl buchedd ac addysc moesau: ond nid yw yn eu gosod hwy i sicerhau un athrawiaeth, Y cyfryw yw y rhai Sydd yn canlyn.
- Trydcdd llyfr Esdras.
- Pedwerydd llyfr Esdras.
- Llyfr Tobias.
- Llyfr Judith.
- Y Darn arall o llyfr Hester.
- Llyfr y Doethineb.
- Llyfr Jesu fab Sirach.
- Barnch y Prophwyd.
- Can y tri llangc.
- Histori Susanna.
- Histori Bel a'r Ddraig.
- Gweddi Manases.
- Llyfr cyntaf y Machabæaid.
- Ail llyfrr y Machabæaid.
Holl lyfrau y Testament Newydd, fel yr ydys yn gyffredin yn eu derbyn hwy, yr ydym ni yn eu derbyn, ac yn eu cylrif yn Ganonaidd.
7. Am yr hen Destament.
NId yw'r hen Destament wrthwyneb i' [...] Newydd oblegid yn yr hen Destament a'r newydd y cynnygir bywyd [Page] tragywyddol i ddyn trwy Christ, yr hwn yw'r unig gyfryngwr rhwng Duw a dyn, ac ef yn Dduw ac yn ddyn. Am hynny nid iawn gwrando fluant y rhai sy'n tybied nad oedd yr hen dadau yn disgwyl ond am addewidion trangcedig. Er nad yw'r gyfraith a roddwyd oddiwrch Dduw trwy Moses, hyd y perthyn i Ceremoniau a chynneddfau, yn rhwymo Cristianogion, ac nad yw anghenrhaid derbyn ei gorchymmynion hi am lywodraeth bydol mewn un wlad; er henny nid oes un Christian yn rhydd oddiwrth u'ydd-dod i'r gorihinynnion a elwir moesawl.
8. Am y tair Credo.
Y Tair Credo, sef Credo Nicaea, Credo Athanasius, a'r hon a elwir yn gyffredin Credo yr Apostolion, a ddylid yn gwbl eu derbyn a'u Credu: oblegid fe ellir eu profi hwy trwy ddiddadl warrantrwydd yr Scrythur lan.
9. Am bechod cynhwynol, neu bechod cynenid.
PEchod dechreuol nid yw yn sefyll o ddilyn Adda (megis yr ofer starad y Pelagiaid,) eithr bai a llygredigaeth natur pob dyn ydyw, a'r a genhedlir yn naturiol o hil Adda; trwyr hwn y mae dyn wedi myned yn dra phell oddiwrth gysiannder dechrevol, ac o'i naturiaeth ei hun, a'i ddychwant ar ddrygioni, megis y mae'r cnawd bob amser yn chwennychu yn erbyn yr Yspryd; ac am hynny ym-mhob dyn a enir ir byd hwn, yr haedda ddigofaint Duw, a damnedigaeth. Ac y mae'r llwgr ymma a'r naturiaeth yn aros, ie yil y rhai a adgenhedlwyd: O blegid, hynny nid yw chwant y enawd, a elwir yn Groeg [...]. yr hyn a ddeongl rhai doethineb [y cnawd] rhai gwyn, rhai tuedd, rhai chwant y cnawd yn ddarostyngedig i gyfraith Dduw. Ac er nad oes damnedigaeth i'r rhai o gredant ac a fedyddir: etto y mae'r Apostol yn cyfaddef fod mewn gwyn a thrachwant, o honaw ei hun, naturiaeth pechod.
10. Am Rydd Ewyllys.
CYfryw yw cy [...]lwr dyn wedi cwymp Adda, ac nas gall nac ymchwelyd nac ymddarparu i ffydd, ac i alw ar Dduw o'i nerth naturiol a'i weithredoedd da ei hun: O herwydd pa ham, nid oes gennym ni allu i wneuthur gweithredoedd da a fo hoff a chymmeradwy gan Dduw, oni bydd gras Dduw trwy Christ yn ein rhagflaenu in, fel y bo ynom in ewyllys da; ac yn cyd-weithio gyda ni wedi y del ynom yr ewyllys da hwnnw.
11. Am gyfiawnhad dyn.
NI a gyfrifir yn gyfiawn ger, bron Duw, yn unig trwy haeddedigaethau ein Horglwydd a'n Achybwr Iesu Christ, trwy flydd; nid o herwydd ein gweithredoedd, neu ein haeddedigaethau ein hunain. Am hynny, Athrawiaeth gwbl jachus, dra-llawn o ddiddanwch, yw, Mai trwy ffydd yn vnig in cyfiawnheir in, fel yr yspyssir yn hetaethach yn yr Homili am Gyfiawnhad,
12. Am weithredoedd da.
ER nas dichon gweithredoedd da, y rhai yw ffrwyth ffydd, ac sydd yn dyfod ar ol cyfiawn had, dynnu ymmacth ein pechodau ni, a goddef eithaf cyfiawn-farn Duw; etto maent hwy'n fodlon ac yn gymmeradwy gan Dduw yng Hrist; ac yn tarddu yn anghentheidiol allan o wir a bywiol ffydd, yn gymmaint ac y gellir wrthynt hwy adnabod ffydd fywiol, mor amwg ac y gellir adnabod y pren wrth y ffrwyth.
13. Am weithredoedd o flaen cyfiawnhad.
GWeithredoedd a wneler cyn [cael] gras Christ, ac ysprydoliaeth ei Ypryd ef, nid ydynt yn b [...]dloni Duw, yn gymmaint ac nad ydynt hwy yn tarddu allan o ffydd yn Iesu Grist; ac nid ydynt ychwaith yn gwneuthur dynion yn addas, i dderbyn gras, neu (fel y dywaid yr Yscol-ddifein-wyr) yn haeddu gras o gymmhesurwydd: eithr yn hytrach, am nad ydys yn eu gwneuthur hwy megis yr ewyllyfiodd ac y [Page] gorchymmynnodd Duw eu gwneuthur hwy, nid ydym ni yn ammau nad oes natur pechod ynddynt.
14. Am weithredoedd gyd ag a orchymmymnwyd.
GWeithredoedd o ewyllys dyn ei hun, heb law a thros ben gorchymmynndon Duw, y rhai a alwant yn weithredoedd Supe [...]erogatori, ni ellir heb ryfyg ac an-nuwioldeb eu dyscn. Oblegid trwyddynt hwy y mae dynion yn dangos eu bod hwy yn talu i Dduw, nid yn unig cymmaint ac y maent hwy yn rhwymedig i'w gwneuthur, ond eu bod yn gwneuthur er ei fwyn ef mwy nag sydd anghenrhaid wrth rwymedig ddled: lle y mae Christ yn dywedyd yn oleu, Gwedii chwi wneuthur y cwbl oll ac a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym.
15. Am Ghrist yn unig yn ddibechod.
CHrist yngwirionedd ein naturiaeth ni, a wnaethpwyd yn gyffelyb i ni ym-mhob peth, ond pechod yn nnig; yr hwn yr oedd efe yu gwbl iach oddiwrtho, yn gystal yn ei gnawd ac yn ei Yspryd. Efe a ddaeth i fod yn oen difrycheulyd, yr hwn trwy ei aberthu ei hun un-waith, a ddeleai bechodau'r byd; a phechod (fel y dywaid S. Joan) nid oedd yntho ef. Eithr nyni bawb eraill (er ein bedyddio a'n ail-eni YngHrist, ydym yn gwneuthur ar gam mewn llawer o bethau; ac os dywedwn ein bod heb pechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunani, a'r gwirionedd nid yw ynom.
16. Am bechod gwedi Bedydd.
NId yw pob pechod marwol a wneler o wirfoddgwedi Bedydd, yn bechod yn erbyn yr Ysprid glan, ac yn anfaddeuol. O herwydd pa ham, nid iawn naccau caniattad edifeirwch i'r sawl a syrthiant mewn pechod yn ol bedydd. Gwedi darfod i in dderbyn yr Yspryd glan, ni a allwn ymmadel oddiwrth y gras a roddwyd i ni, a syrthio mewn pechod; a thrwy Ras Duw (y gallwn) gyfodi drachfn a [Page] gwellhau ein bucheddau. Am hynny‘ bid Condemno y rhai a ddywedant na allant bechu mwy yr rhyd y byddont byw ymma; neu a wadant nad oes lle i'r rhai a wir-edifarhao i gael maddeuant.
17. Am Ragluniaeth ac Etholedigaeth.
RHagluniaeth i fywyd, yw tragywyddol arfaeth Duw; trwy'r hon (cyn gosod seiliau'r byd, (y darfu iddo trwy ei gyngor dirgel i nym, ddianwadal derfynu gwared oddiwrth felldith a damnedigaeth, y rhai a ddarfu iddo ddcthol yngHrist o fysc dynion, a'u dwyn trwy Ghrist i dragywyddol Iechydwrtaeth; megis llestri wedi eu gwneuthur i anrhydedd. Gherwydd ya ham, y rhai a ddarfu i Dduw ea cynyscaeddu a chyfryw ragorol ddawn, a alwyd yn ol arfaeth Duw trwy ei Yspryd ef yn gweithio mewn pryd amserol; hwynt-hwy sydd trwy ras yn ufyddhau i'r galwedigaeth; hwynt-hwy a gyflawnheir yn rhad; hwynt-hwy a wneir yn feibion i Dduw trwy fabwys; hwynt-hwy a wneir yn gyffelyb i ddelw ei unig fab ef Iesu Grist; hwynt-hwy a rodiant yn grefyddol mewn gweithredoedd da; ac o'r diwedd trwy drugaredd Duw y meddiannant ddedwyddyd tsagywyddol.
Megis y mae duwiol ystyried rhaglumaeth Duw a'n hetholedigaeth ni yngHrist, yn llawn melysder a hyfrydwch, ac an-nhraethawl ddiddanwch i'r rhai duwiol, a chyfryw rai ac fydd yn clywed ynddynt eu humain weithrediad Yspryd Christ, yn marwhau gweithredoedy cnawd a'u haelodau daisarol, ac yn tynnu i fynu eu meddwl at uchel bethau nefol: yn gystal o blegid ei fod yn cadarnhau Iechydwriaeth dragywyddol trwy Grist; ac o blegid ei fod yn gwresog-ennynnu eu cariad hwy tuac at Dduw: felly i'r rhai cynnilgais a chnawdol, sy heb Yspryd Christ ganthynt, y mae iddynt fod a barn Rhagluniaeth Duw yn wastadol ger bron eu llygaid, yn dramgwydd tra pherigl, trwy'r hwn mae diafol yn eu gwthio hwy naill ai i anobaith, ynteu i ddifrawch a [...]lanaf fuchedd, nid dim am-mherycclach nag anobaith.
Heb law hynny, mae'n rhaid i in dderbyn addewidion Duw, yn y cyfryw fodd ac y maent wedi eu gofod allan yn gyffredinol yn yr Scrythur lan: ac yn ein gweithredoed, [Page] yr ewyllys hwnnw i Dduw sydd raid ei ganlyn, yr hwn sydd wedi ei egluro i ni yn amlwg yngair Duw.
18. Am gaffael Jechydwriaeth dragywyddol yn unig trwy enw Christ.
Y Mae'n rhaid hefyd cyfrif yn felldigedig y sawl a ryfygant ddywrdyd, y bydd cadwedig pob dyn trwy'r gyfraith, neu y rhith grefydd y mae yn ei broffessu, os efe a fydd diwyd i lunio ei fuchedd yn ol y gyfraith honno a goleuni natur. Canys y mae'r Scrythur lan, yn gosod allan i ni, yn unig Enw'r Iesu Grift, trwy'r hwn y bydd rhaid i ddynion gael bod yn gadwedig.
19. Am yr Eglwys.
GWeledig Cglwys Christ, yw cynnulleidfa y ffyddlonion, yn yr hon y pregethir pur air Duw, ac y ministrir y Sacramentau yn ddyledus, yn ol ordinhad Christ, ymmhob peth ac fydd augenrheidiol eu bod yn yr unrhyw.
Megis y cyfeiliornodd Eglwysi Jerusalem, Alexandria, ac Antiochia, felly hefyd y cyfeiliornodd Eglwys Rhufain; nid yn unig yn eu buchedd a modd eu Ceremoniau; eithr hefyd mewn matterion ffydd.
20. Am awdurdodd yr Eglwys.
Y Mae i'r Eglwys allu i osod deddfau a Ceremoniau, ac awdu [...]dod mewn amrafaelion ynghylch y ffydd; ac er hynny nid cyfreithlawn i'r Eglwys ordeinio dim ac fydd wrthwyneb i scrifennedig air Duw; ac nis gall felly esponi un lle o'r Scrythur lan, fel y bo yn wrthwyneb i le arall. Am hynny, er bod yr Gglwys yn dyst ac yn geidwad ar yr Scrythur; er hynny, megis nas dylei hi ordeinio dim yn erbyn yr Scrythur, felly heb law r unrhyw ni ddylei hi gymmell credu dim er anghenrhaid i Iechydwriaeth.
21. Am awdurdod Gymmanfau, neu Gynghorau cyffredinol.
CYnghorau cyffredinol nis gellir eu casclu ynghyd heb orchymmyn ac ewyllys tywysogion. Ac wedi eu casclu ynghyd (yn gymmaint ac nad ydynt ond cynnulleidfa o ddynion, o'r rhai ni lywodraethir pawb gan Yspryd a gair Duw,) hwy a allant gyfeiliorni, ac weithiau a ddarfu yddynt gyfeiliorni, a hynny mewn pethau a berthynant i Dduw. O herwydd pa ham, y pethau a ordeinier ganthynt megis yn anghenrhaid i Iechydwriaeth, nid oes iddynt na nerth nac awdurdod, onis gellir dangos darfod eu tynnu allan o'r Scrythur lan.
22. Am y Purdan.
YR athrawiaeth Rufeinaidd ynghylch Purdan, pardynau, anchydeddu ac addoli delwau a chreirisu, a hefyd galw a gweddio ar y Sainct, nid yw ond peth Ysmala, o wag ddychymmyg, ac heb iddo sail ar u [...] warrant o'r Scrythur lan; ond yn hytrach sydd wrthwyneb i air Duw.
23. Am finistrio, neu weini yn y Gynnulleidfa.
NId cyfreithlawn i neb gymmeryd arno swydd pregethu ar gyhoedd, neu finistrio y Sacramentau yn y gynnulleidfa, hyd oni alwer, ac oni dbanfoner ef yn gyfraithlawn i wasanaethu y swydd honno. A'r rhai hynny a ddylem ni farnu eu bod wedi eu galw a'u danfon yn gyfreithlon, y rhai a ddetholwyd ac a alwyd i'r gwaith hwn, gan ddynion a fo ac awdurdod cyhoedd wedi ei rhoddi iddynt yn y gynnulleidfa, i alw ac i ddanfon gweinidogion i winllan yr Arglwydd.
24. Am lefaru yn y gynnulleidfa, yn y cyfryw dafodiaith ac y bo'r bobl yn ei ddeall.
PEth llwyr wrthwyneb i air Duw ac i arfer yr hen Eglwys gynt, yw bod gweddi gyhoedd yn yr Eglwys, neu finistrio y Sacramentau mewn tafod-iaith ni bo'r bobl yn ei ddeall.
25. Am y Sacramentau.
SAcramentau a ordeiniwyd gan Grist, nid ydynt yn unig yn arwyddion, neu yn argoelion o broffess Cristianogion: ond yn hytrach, rhyw ddiogel dystion a gweithredol arwyddion ydynt o ras ac o ewyllys da Duw tuac attom ni, trwy y rhai y mae efe yn gweithio yn anweledig ynom ni; ac nid yn unig yn bywhau, ond hefyd yn nerthau ac yn cadarnhau ein ffydd ni yntho ef.
Dau Sacrament y sydd wedi eu hordeinio gan Grist ein Harglwydd yn yr Efengyl, nid amgen na, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.
Y pump hynny a elwir yn gyffredinol yn Sacramentau, sef, Gonffirmasion [neu fedydd Escob] Penyd, Vrddau, Priodas, ac Enneiniad, new'r Olew, nid ia [...]n eu cyfrif yn Sacramentau'r Efengyl; eithr yn gyfryw ac a dyfasant, peth o gam ddilyn yr Apostolion, ac o ran ydynt stat o fuchedd, y mae'r Scrythur lan yn eu eynnwys: ond er hynny nid oes ynddpnt gyffelyb natur Sacramedtau ac mewn Bedydd a Swpper yr Arglwydd; am nad oes ynddynt nac arwydd gweledig, na Ceremoni a ordeiniwyd gan dduw. Y Sacramentau ni ordeiniwyd gan Grist flygadrythu arnynt, neu i'w dwyn oddi amgylch; ond er mwyn bod i ni eu dyledus arfer hwynt. Ac ynghyfryw rai yn unig ac fydd yn eu derbyn hwy yn deilwng, y mae iddynt effaith, neu weithrediad: ond yr rhai sydd yn eu derbyn hwy yn an-heilwng, sydd yn ynnill iddynt eu hunain ddamnedigaeth, fel y dywaid S. Paul.
26. Nad yw an-nheilyngdod y Gweinidogion yn rhwystro gweithrediad y Sacramentau.
ER bod yn yr Eglwys weledig bob amser y rhai drwg 'ynghymmysc a'r rhai da, a bod weithiau i'r rhai drwg yr audurdod pennaf yngweini dogaeth y gair a'r Sacramentau: etto yn gymmaint ac nad ydyut hwy yn gwneuthur hynny yn eu henw eu hunain, ond yn enw Christ, ac mai trwy ei Gommissiwn a'i awdurded ef y maent yn gweini; nyni a allwn dderbyn eu gweinidogaeth hwy trwy wrando'r Oair a thrwy dderbyn y Sacramentau. Ac nid yw eu hanwiredd hwy yn tynnu ymmaith ffrwyth ordinhad Christ; nac yn lleihau Gras doniau Duw oddiwrth y cyfryw rai ac sydd trwy ffydd yn iawn-dderbyn y Sacramentau, a finistrir iddynt, y rhai sy mewn ffrwyth o blegid gosodiad Christ a'i addewid, er bod yn eu ministrio gan ddynion drwg.
Er hynny i gyd, y mae yn perthyn i ddiscyblaeth yr Eglwys, bod ymofyn am weinidogion drwg, a bod i'r rhai a fo yn gwybod eu beiau hwy, achwyn arnynt: ac o'r diwedd gwedi eu caffael yn evog trwy farn gyfiawn bod eu diswyddo.
27. Am Fedydd.
BEdydd nid yw yn unig yn arwydd o'n proffess ni; neu yn nod gwahaniaeth i adnabod Christianogion oddiwrth eraill ni wnaed yn Gristianogion; eithr y mae hefyd yn arwydd o'r adgenedliad neu'r ail-enedigaeth; trwy'r hyn, megis trwy offeryn, yr impir yn yr Eglwys y rhai a dderbynniant fedydd yn iawn: yr arwyddir yn w [...]ledig, ac y seilir trwy'r Yspryd glan, yr addewidion am faddeuant pechodau, a'n mabwysiad ninnau i fod yn feibion i Dduw: y cadarnheir ffydd: ac yr angwanegir gras trwy rinwedd gweddi at Dduw. Bedydd plant ieuangc a ddyleid er dim ei gadw yn yr Eglwys, megis peth yn cwbl gyttuno ag ordeinhad Christ.
28. Am Swpper yr Arglwydd.
SWpper yr Arglwydd nid yw yn unig yn arwydd o'r cariad a ddylei fod gan Gristianogion i'w gilydd; ond yn hytrach Sacrament yw o'n prynnedigaeth ni trwy farwolaeth Christ. Yn gymmaint ac i'r rhai a'i derbynniant yn iawn, yn deilwng, ac mewn ffydd, y bara yr ydym ni yn ei dorri sydd gyfranogaeth Corph Christ; a'r un modd cwppan y fendith sydd gyfranogaeth gwaed Christ.
Trawsylweddiad (neu newidiad sylwedd y bara a'r gwin) yn Swpper yr Arglwydd, ni ellir ei brofi wrth yr Scrythur lan; ond y mae yn wrthwyneb i eglur eiriau'r Scrythur lan, yn dadymchwelyd naturiaeth Sacrament; ac a roddes achlysur i lawer o ofergoelion.
Corph Christ a roddir, a dderhynnir, ac a fwyteir yn y Swpper, yn unig mewn modd nefol ac Ysprydol. A'r cyfrwng trwy'r hwn y derbynnir ac y bwyteir Corph Christ yn y Swpper, yw ffydd.
Sacrament Swpper yr Arglwydd wrth ordinhad Christ, ni roid i gadw, ni ddygyd oddiamgylch, ni dderchefid, nid addolid.
29. Nad yw'r Annuwiol yn bwyta Corph Christ wrth arfer Swpper yr Arglwydd.
YR annuwiolion a chyfryw rai, ac nid oes ganddynt ffydd, er eu bod yn gnawdol ac yn weledig a'u dannedd yn enoi, (fel y dy waid S. Augustin) Sacrament Corph a gwaed Christ; er hynny nid ydynr hwy mewn modd yn y byd yn gyfran [...]gion o Ghrist; ond yn hytrach i'w damnedigaeth eu hunain yn bwyta ac yn yfed arwydd neu Sacrament peth mor fa [...]or.
30. Am y Ddau ryw.
Cwppan yr Arglwydd ni ddylid ei naccau i'r llygion bobl. Canys dwyran Sacrament yr Arglwydd, wrth oreinhad [Page] a gorchymmyn Christ, a ddylid eu ministrio i bod Christion yn gyffelyb.
31. Am un aberth Christ a gyflawnwyd ar y groes.
ABerthiad Ghrist, yr hwn a wnaed unwaith, y sydd berfaith brynedigaeth, boddhad, ac iawn tros holl bechodeu'r holl fyd, yn gystal cynenid a gweithredol; ac nidoes iawn arall am bechod onid hwnnw, yn unig. O herwydd pa ham, nid oedd aberthau'r offerennau, y rhai yn gyffredin y dywedant fod yr Offeiriaid yn aberthu Christ ynddynt tros y byw ar mewn i gael maddevant am y gosp neu'c euogrwydd, onid thwedlau cabl a Siommedigaethau peryglys.
32. Am Briodas Offeiriaid.
EScobion, Offeiriaid, a Diaconiaid nid ynt wedi eu gerchymmyn trwy gyfraith Dduw, nac i addunedu stat buchedd sengl, nac i ymgadw rhac priodas, Am hynny mae'n gyfreith lawn iddynt hwythau, megis i bob Christianogion eraill, wreicca yn ol eu deall eu hunain, fel y bo'nt hwy yn barnu fod y peth yn gwasanaethu yn oreu i dduwioldeb.
33. Am Ddynion a fo wedi eu hescommuno, pa wedd a d'leid eu gochel.
Y Dyn trwy eglur gyhoeddiod yr Eglwys, y iawn dorrer ymmaith oddiwrth undeb yr Eglwys, ac a escommuner, a ddyleid ei gymmeryd gan holl liaws y ffyddloniaid, megis cenhedl-ddyn a Phublican, hyd oni chymmoder ef yn gyhoedd trwy benyd, a'i dderbyn i'r Eglwys gan farnwr a fo iddo swdurdod i hynny.
34. Am Draddodiadau'r Eglwys.
NId yw anghenrhaid bod traddodiadau a Ceremoniau ym-mhob lle yn yr un modd, neu yu gwbl gyffelyb; canys hwy a fuant bob amser o amrafael fodd, ac a ellir eu newidio mewn amrafael wledydd, amferau ac arferau dynion, trwy na ordeinier dim yn erbyn Gair Duw. Pwy bynnac wrth ei farn nailltuol ei hun, o'i fodd ac o'r gwaith goddef, yu gyhoeddys, a dorro draddodiadau a Ceremoniau'r Eglwys, y rhai nid ydynt wrthwyneb i air Duw, ac a ordeiniwyd ac a gynnhwyswyd trwy awdurdod gyffredin; a ddylid ei geryddu yn gyhoeddus (fel y bo i eraill ofni gwneuthur y cyflelyb,) megis un yn gwneuthur yn erbyn trefn gyffredin yr Eglwys, ac yn briwo awdurdod y lywodraethwr, ac yn archolli cydwybodau y brodyr gweinion.
Y mae i Eglwys wahanol pob cenedl awdurdod i ordeinio, newidio, ac i ddyddymmu Ceremoniau neu gynneddfau'r Eglwys, y rhai a ordeiniwyd yn unic trwy awdurdoe dyn trwy fod gwneuthur pob peth er adeiladaeth.
35. Am Homiliau.
YR ail llyfr o'r Homiliau, y rhai y darfu i ni gyssylltu eu henwau gwahanredol tan yr Articul ymma, sydd yn cynnwys dysceidiaeth dduwiol, iachus, anghenrheidiol i'r amferau hyn, megis y mae'r llyfr cyntaf o'r Homiliau, y rhai a osodwyd allau yn amser Edward y chweched: am hynny yr ydym yn barnu fod eu darllein hwy yn yr Eglwysi gan y Gweinidogion, yn ddiesceulus, ac yn llawnllythur, fel y gallo'r bobl eu deall.
- 1. AM iawn-arfer yr Eglwys.
- 2. Yn erbyn perigl delw-addoliad.
- [Page]3. Am adgyweirio a chadw'n lan Eglwysi.
- 4. Am weithredodd da, ac yn gyntaf am Ymprydio.
- 5. Yn erbyn glothineb a Meddwdod.
- 6. Yn erbyn Dillad rhy-wychion.
- 7. Am weddi.
- 8. Am le ac amser Gweddi.
- 9. Y dyleid ministrio Gweddi Gyffredin a'r Sacramentau mewn [...]aith gydnabyddus.
- 10. Am barchus gymmeriad Gair Duw.
- 11. Am roi Elusen.
- 12. Am enedigaeth-Christ.
- 13. Am ddioddefaint Christ.
- 14. Am Adgyfodiad Christ.
- 15. Am Deilwng dderbynniad Sacrament Corph a Gward Christ.
- 16. Am Ddoniau'r Yspryd Glan.
- 17. Ar wythnos y Gweddiau.
- 18. Am Stat Priodas.
- 19. Am Edifeirwch
- 20. Yn erbyn Seguryd.
- 21. Yn erbyn Gwrthryfelgarwch.
36. Am Gyssegriad Escobion a Gweinidogion.
LLyfr Cyssegriad Archelcobion ac Escobion, ac Vrddiad Offeiriaid a Diaconiaid, yr hwn o ofodwyd allan yn ddiweddar, yn amser Edward y chweched, ac y gadarnhawyd yr un amser trwy awdurdodd Parliament, sydd yn cynnwys yntho bob peth angenrheidiol i gyfryw Gyffegriad ac Vrddtad: ac nid oes yntho ddim ac sydd o hono ei hun yn ofergoelus, neu yn annuwiol. Ac am hynny pwy bynnac a gyssegrwyd neu a Vrddwydd yn ol cynneddfau'r llyfrc hwnnw er yr ail flwyddyn o'r unrhyw frenin Edward hyd yr amser ymma, neu yn ol hyn a gyffegrir neu a urddir yn ol yr unrhyw gynneddfau; yr ydym ni yn ordeinio bod y cyfryw rai oll wedi eu cyssegru a'u hurddo yn iawn, yn drefnus ac yn gyfreithlawn.
37. Am Lywodraethwyr bydol.
MAwrhydi y Brenin sydd iddo y gallu pennaf o fewn y deyrnas hon o Loegr ac eraill o'i Arglwyddiaethau; i'r hwn y perthyn y llywodraeth pennaf ar bob stat yn y deyrnas, pa un hynnac font ai Eglwysic ai bydol ym-mhob ryw achosion: ac nid yw, ac nis dylei fod yn ddarostyngedig in llywodraeth ddieithrol.
Le'r ydym yn rhai i fawrhydi y Brenin y llywodraeth pennaf, oblegid y rhyw enwau yr ydym yn deall fod meddyliau rhyw bobl enllibus yn ymrwystro: nid ydym ni yn caniattau in tywysogion na Gweinidogaeth gair Duw, na'r Sacramentau; yr hyn beth hefyd y mae'r Injunctions a osodwyd allan gan y Frenhines Elizabeth yn gwbl eglur yn ei dystiolaethu: ond yr rhagorfraint hwnnw yn unic, yr [Page] hwn yr ydym yn gweled fod yu ei roi bob amser i bob tywysagion Duwiol yn yr Scrythur lan gan Dduw ei hun, hynny yw, a dylent hwy lywodraethu ar bob Stat ac ar bob gradd a orchymynnwyd tan eu gefal hwy gan Dduw, pa un bynnac font ai Eglwysic ai bydol, a chostwyo a'r cleddyf bydol y rhai cyndyn a'r drwgweithredwyr.
Nid oes i Escob Rhufain lywadraeth o fewn y deyrnas hon o Loegr.
Fe ddichon cyfreithiau y deyrnas gospi Christianogion ag angeu am feiau sceler trymiou,
Y mae yn gyfreithlawn i Gristianogion wrth orchymmyn y llywodraethwr, wisco Arfan, a gwasanaethu yn y rhyfel.
38. Am olud Christianogion, nad yw gyffredin.
GOlud a da Ghristianogion nid yw gyffredin o hrewydd eu cyfiawnder, a'u titl, a'u meddiant megis y mae rhyw Anabaptistiaid yn gwag-ymffrost. Er hynny fe ddylei bob dyn o'r cyfryw bethau ac a fo ar ei elw, roi elusen yn hae [...] i'r tlawd, yn ol ei allu.
39. Am Lw Christion.
MEgis yr ydym yn cyfaddef bod ofer dyngu ac afraid lyfau wedi eu gwahardd i Gristianogion gan ein Harglwyddd Iesu Christ a'i Apostol Jaco: felly yr ydym yu barnu nad yw Christianogol grefydd yn gwahardd nas gall dyn dyngu pau fo'r llywodraethwr yn erchi, mewn matter o ffydd a Chariad perffaith, trwy fod gwneuthur hynny [Page] yn ol addysc y Prhphwyd, mewn cyf [...]awnder, a barn, a gwiricnedd.
Y Sicerhad, neu y Ratification.
Y Llyfr hwn o'r Articulau rhagddywededig a brifiwyd trachefn, ac a gynnhwyswyd i'w gynnal a'i arfer o fewn y deyrnas, trwy gyttundeb a chydsyniad ein goruchaf Arglwyddes Elizabeth, trwy ras Duw Brenhines Lloeger, Ffrainc ac Iwerddon, ymddiffynferch y Hydd, &c. A chwedi hynny trwy gydsyniad ein goruchaf Arglwydd Frenin JAMES, trwy ras Duw, Brenin Prudain fawr, Ffrainc ac Iwerddon, ymddiffynnydd y ffydd, &c. Y rhyw Articulau a ddarllennwyd yn hamddenol, ac a gadarnhawyd trachefn tan ddwylaw yr Archescob a'r Escobion o'r ty uchaf, a than ddwylaw yr holl Eglwyswyr o'r ty isaf, yn eu Cymman [...]a hwy, yn y flwyddyn o oedran yr Arglwydd 1571. Ac yn gyffelyb yn y Gymmanfa a gynnhaliwyd yn y flwyddyn o oedran yr Arglwydd 16 [...]4.
Y TABUL neu y dangoseg.
- 1. AM ffydd yn y Drindod.
- 2. Am Grist Mab Duw.
- [Page] 3. Am ei ddiscynniad i ufforn.
- 4. Am ei Adgyfodiad.
- 5. Am yr Yspryd Glan.
- 6. Am Ddigonoldeb yr Scrythur lan.
- 7. Am yr Hen Destament.
- 8. Am y tair Credo.
- 9. Am bechod cynhwnol neu gynenid.
- 10. Am rydd ewyllys.
- 11. Am Gyfiawnhad.
- 12. Am Weithredoedd da.
- 13. Am weithredoedd o flaen Cyfiawnhad.
- 14. Am weithredoedd gydac a orchymynnwyd.
- 15. Am Grist ei hun yn ddibechod.
- 16. Am bechod ar ol bedydd.
- 17. Am Raglumaeth ac Etholedigaeth.
- 18. Am fwynhau Jechydwriaeth trwy Grist.
- 19. Am yr Eglwys.
- 20. Am Awdurdodd yr Eglwys.
- 21. Am awdurdod Gynghorau cyffredinol.
- 22. Am y Purdan.
- 23. Am finistrio yn y Gynnulleidfa.
- 24. Am lefaru yn y Gynnulleidfa.
- 25. Am y Sacramentau.
- 26. Am an-nheilyngdod y Gweinidogion.
- 27. Am y Bedydd.
- 28. Am Swpper yr Arglwydd.
- 29. Am yr annuwiol y rhai nid ynt yn bwyta Corph Grist.
- 30. Am y Ddau ryw.
- 31. Am un Aberthiad Christ.
- 32. Am Briodas Offeiriaid.
- 33. Am ddynion a Escommunwyd.
- 34. Am Draddodiadau'r Eglwys.
- 35. Am yr Homiliau.
- [Page] 36. Am Gyssegriad Gweinidogion.
- 37. Am Lywodraeth-wyr bydol.
- 38. Am olud Christianogion.
- 39. Am Lw Chriflion.
- Am Sicerhad yr Articulau hyn.