Yr ymroddiad NEU Bapuryn a gyfieuthiwyd ddwywaith i helpu y cymru unwaith allan or Hunan ar drygioni.
Pennod. 1.
1. MAe genym ni eglursiampl yn Luciffer, ag hefyd yn Adda (y dyn cyntaf) or peth a wna Hunan, pan gaffo fo unwaith oleuni naturiaeth iw feddiant i rodio yn y dealldwriaeth yn ei Arglwyddiaeth ei hunan.
2. Ni welwn hyn hefyd mewn gwyr ynt ddyscedig mewn cylfyddydau [Page 2] a dysceidiaeth, mae pan gaffont hwy lewyrch y byd yma ar natur oddiallan i mewn iw rheswm, ei diwedd yw Balchio ynddynt ei hunain.
3. Ag er hyn mae 'r holl fyd o ddifri yn chwennych ag yn ceisio y goleuni yma fel y tryssor gorau. Ag yn wir hwn iw 'r trysor pennaf sydd gan y byd yma os arferir ef yn uniawn.
4. Ond tra fo Hunan Dyn (neu ei reswm) wedi i faglu ai rwymo mewn carchar caeth cryf, sef yn nigofaint Duw ag mewn dayaroldeb, mae 'n beryglus jawn i ddyn gynhyrfu goleuni gwybodaeth ynddo ei hunan, fel ped fai yn ei eiddo ei hunan.
5. Canys buan y cymer digllonedd y naturiaeth dragwyddol ar amserol, ddifyrrwch ynddo, ag yno Hunan dyn ai reswm a ymgyfyd mewn balchder, ag ai tyrr ei hunan oddiwrth y [Page 3] gwir ostyngedig Ymroddiad tuag at Dduw ag ni fyn ef fwytta mwy o ffrwyth Paradwys, ond oi anian ei hunan, sef o Arglwyddiaeth y bywyd hwnw yn yr hwn y mae da a drwg yn gymysg.
6. Felly y gwnaeth Luciffer ag Adda, y rhai a aethont drwy chwant at Hunan i mewn ir gwaelod dwfn gwreiddiol ar cychwyniad, or hwn y dygwyd y creaduriaid allan, ag felly a lyngcwyd i mewn i natur ag i gyflwr y creaduriaid.
7. Luciffer a ruthrodd i mewn ir perfedd-bwynt ar erchyll naturiaeth, i grôth y Tân, ag Adda yntau ir naturiaeth ddayarol, i grôth y byd yma, sef i chwantu ar ol da a drwg.
8. A hyny a ddigwyddodd iddynt ill dau, oblegid yr oedd ganddynt oleuni Deall disclair mewn Hunan, yn yr hwn y gallent ei canfod ei hunain, Drwy 'r hwn, [Page 4] hefyd yr aeth ysbryd Hunan i mewn ir bwriad (sef ir chwant i gael y canolbwynt) fel y gallent i gwychu ei hunain, a mynd yn fawrion, yn alluogion ag yn ddeallus.
9. Ond pan geisiodd Luciffer grôth y tân yn ei ganol fan, gan feddwl drwy hyny lywodraethu ar gariad Duw ag ar yr holl angelion, a phan chwenychodd Adda brofi yn yr hanffod beth oedd yn y grôth (llei tarddodd da a drwg allan) gan ddwyn i ddeysyfiad i mewn iddi, o bwrpas i fod yn gelfyddgar ag yn ddeallus, fe garcharwyd y ddau (sef Luciffer ag Adda) yn ei trachwant yn y fammwvs.
10. Nhwy ai torrasont ei hunain oddiwrth yr Ymroddiad (yr hwn sydd o Dduw) ag felly fe ai caethiwyd hwynt yn ysbryd yr ewyllys, yn y grôth, drwy chwant, yr hwn yn ddioed a gafodd Arglwyddiaeth [Page 5] yn naturiaeth.
11. Felly Luciffer a lynodd yn yr anian ddigllon danllyd, ar tân hwnw a ymddangosodd yn ysbryd ei ewyllys of, drwy'r hwn y daeth y creadur yn ei ewyllys i fod yn elyn i gariad ag addfwynder Duw.
12. Felly hefyd Adda a gippiwyd yn ddiattreg yn nerth y famog ddayarol (yr hon yw da a drwg, a grewyd allan o gariad a digofaint Duw) ag a wnaed yn vn sylwedd. Ag ar hyny y ddayarol anian a aeth yn Arglwyddes yn Adda; ag oddiy no y mae gwres ag oerni, cenfigen a digter, a phob malis a chroesineb i Dduw yn ymddangos ag yn brenhiniaethu ynddo.
13. Ond oni bai iddynt ddwyn goleuni 'r wybodaeth ir Hunan, ni buase mo ddrych dealldwriaeth y gwaelod a gwreiddyn y creadur (sef ei [Page 6] nerth mewn Hunan) wedi ymddangos nag ymagoryd, or hwn y codod dy chwantau ar dychymygion.
14. Ni welwn fod y rhain yr awron ymhob man yn peryglu plant golau Duw, yn gimmaint mai pan fo haul presenoldeb mawr sancteiddrwydd Duw yn discleirio (drwy yr hwn y mae 'r bywyd yn ymfawrygu) yna mae rheswm yn i gweled ei hun ynddo (fel mewn drych) ag mae 'r ewyllys yn mynd er hyny ymlaen mewn Hunan, sef yn ei chwilfa ei hunan, ag fe syn brofi y gwaelod canol or hwn y mae 'r goleuni yn tarddu, ag yn ymwthio (o hono i hunan) iddo.
15. Oddiwrth hyn y mae 'r balchder ffiaidd ar Hunanserch yn codi. Ag felly drwy ei reswm ei hun (yr hwn nid yw ond drych y ddoethineb dragwyddol) mae fo yn tybied i fod ef yn fwy nag [Page 7] ydiw, Ag yno beth bynnag a ddwetto ei reswm ef, mae fo yn credu mai ewyllys Duw sydd yn i wneuthur ynddo, ag m [...]i prophwyd yw, er nad ywetto ond ynddo ei hunan, yn mynd ymlaen yn ei ewyllys ei hunan, yn yr hwn y mae Fynnonhell natur yn ymgodi yn ddisymwth, ag yn rhedeg i mewn iw chwant ffals ei hunan yn erbyn Duw, ag felly mae 'r enaid yn myned i mewn i feddwl yn dda am dano ei hunan.
16. Ag yno mae 'r cythrael gweniheithus yn dyfod i mewn ir drws, ag yn chwalu gwaelod naturiaeth ag yn llusgo chwantan drwg i mewn, ag yn gwneuthur dyn fel meddwyn ynddo ei hunan, ag yn peri iddo gredu mai Duw sydd yn i yrru ag yn i alw. A thrwy hyn mae 'r dechreuad da (yn yr hwn y tewynnodd (yn naturiaeth) y goleuni nefol) yn cael i am heithio, ag felly mae goleuni [Page 8] Duw yn ymadel oddiwrtho.
17. Etto er hyny mae 'r goleuni naturiol (arallwladoc) yn parhau i ddisgleirio yn y creadur. (Canys mae fo ei hunan yn i daflu ei hunan iddo) ag yn tybied er hyny mae fo yw 'r goleuni cyntaf oddiwrth Dduw. Ond nid felly i mae.
18. Ag ir gamdyb dda yma (yngoleuni yr allan reswm, mae diafol yn i fwrw i hun i nofio eilwaith (er darfod peri iddo unwaith ymadel yn y goleuni cyntaf yr hwn oedd nefol) mae fo yn dychwelyd ag yn dwyn gidag ef ei saith chwant drwg, fel y Dwedodd yr Arglwydd Jesu.
Pennod 2.
1. PAn el yr ysbryd aflan allan o ddyn, fe rodia drwy leoedd sychion, gan geisio gorphwysdra heb gael dim, ag yno fe gymer atto ei Hunan saith ysbryd gwaeth [Page 9] nag ef ei hun, ag a ddychwel iw dy cyntaf, ag mae fo yn i gael wedi i yscubo ai drefnu, ag yno mae fo yn aros ynddo ag felly mae'n waeth ir dyn hwnw nag erioed or blaen.
2. Y ty yma (yr hwn fel hyn a yscubwyd ag a drefnwyd) iw goleuni rheswm dyn ei Hunan. Canys os dwg neb ei ddymuniad ai ewyllys i Dduw, ag a fyn fynd ymlaen ag y mgadw rhag y bywyd drwg, gan chwantu cariad Duw, yna y serch nefol ai dengys ei hunan iddo, ai hwynebpryd hawddgar cyfeillgar, drwy 'r hwn y mae 'r goleuni yn cynneu hefyd yn yr enaid oddiallan.
3. Canys lle i cynneuo goleuni Duw, yno i mae 'r cwbl yn ennyn ag yn golau ni all diawl aros yno, ond mae yn rhaid iddo ymadel. Ag yma mae fo yn chwilio drwy grôth naturiaeth y bywyd (sef y gwaelod canolig) ond mae hwnw fel tir sych gwan diffrwyth iddo.
[Page 10]4. Digofaint Duw (sef canot natur) sydd yn ei naturiaeth ei hun yn gwbl egwan, yn sych, ag heb allel arglwyddiaethu yn yr anian digllon. Ond mae Satan yn chwilio drwy 'r lleoedd hyn am ddiws agored i fynd i mewn gida 'r chwant, ag felly yn nithio yr enaid fel y gallo ymwychu ynddo ei hun.
5. Ag yn awr Os ys bryd ewyllys y creadur ai teifl i hunan gida llewyrch rheswm ir gwaelod, sef i Hunan, ag a eiff i mewn iw falchder, [...]no mae fo yn myned allan eilwaith oddiwrth oleuni Duw
6. Ag yno mae diafol yn cael adwy agored i fynd i mewn, ag yn cael ty trefnus i aros ynddo, a hwnw iw goleuni rheswm. Ag yna mae fo yn cymeryd atto saith agwedd anian bywyd yn Hunan, sef y gwenhieithwyr sydd wedi diangc oddiw [...]th Dduw i Hunan.
[Page 11]7. Ag yna mae fo yn mynd i mewn ag yn plannu ei ddeisyfiad yn chwant Hunan ar drwgddy-chmygion. Yn y rhai y mae ysbryd yr ewyllys yn i ganfod ei Hunan yn ffurfiadau naturiaethau bywyd yn y goleuni oddiallan ag yno mae 'r dyn hwnw yn suddo iddo i hunan, fel ped fai fo yn feddw: ag yno mae 'r Ser yn cymeryd gafel arno, ag yn dwyn ei sergynhulliad nerthol i mewn iddo, fel y ceis [...]ai ryfeddodau Duw yn ei mysg hwynt, fel yn hyny y gallent hwy i dingos ei hunain.
8. Canys mae 'r holl greaduriaid yn tuchan ag yn hiraethu am Dduw. Ag er na all y Sê ganfod ysbryd Duw, etto gwell ganddynt gael [...]y golan i fod yn llawen ynddo, na thy wedi i gau yn yr hwn ni allant gael llonydd.
9. Yna mae r cyfry ddyn yn mynd ymlaen fel ped fai fo wedi meddwi vngoleuni y rheswm oddiallan [Page 12] (yr hwn a elwir y Ser) ag mae fo yn canfod pethau mawrion rhyfeddol, ag yn cael ei arwain ynddynt.
10. Ag yno yn y fan mae Diafol yn spio am ddrws agored iddo i ddyfod i mewn, fel y gallo fo ennyn troell ganol y bywyd i beri i ysbryd yr ewyllys ymgodi i synu ar escyll balchder, rhyfyg a chypyddra or hyn y mae traha yn ymchwyddo, ag ewyllys y rheswm yn ewyllysio cael ei ganmol. Canys tybied y mae iddo gael swm pob dedwyddwch pan enillodd oleuni rheswm, ag y medr ef ddirnad y ty cavedig(sef y dirgelwch) yr hwn er hyny a egyr Duw yn hawdd.
11. Yr awron mae fo yn tybied, fod y parch yn perthyn iddo ef; am fod ganddo ddealldwriaeth rheswm. Ond nid iw fo yn ystyrio fod diafol yn chwarae ag yn chwerthin gidai chwant ef yn ei saith ffurfiadiau 'r bywyd (troell [Page 13] ganol naturiaeth) na chwaith pa amryfuseddau ffiaidd y mae fo yn i osod i fynu.
12. Oddiwrth y dealldwriaeth yma y daeth allan y Babel ffals yn eglwysydd cred ar y ddayar, llei mae gwyr yn rheoli ag yn dyscu yn ol troyadau a chynffonnau rheswm, ag yn gosod i fynu (fel aeres brydferth ar orseddfaingc) blentyn yr hwn sydd feddw yn ei falchder ai drachwant.
13. Ond mae diafol wedi myned i mewn i saith ffurfiadau troellganol y bywyd sef iw reswm ei hun, ag mae fo yn wastad yn bwrw i mewn i chwant i hon sydd wedi i harddu, yr hwn y mae 'r sêr yn i dderbyn. Efe iw ei march hi ar yr hwn y mae hi yn marchogaeth yn hoyw yngalluoedd ei heinioes, fel y gwelir yn y D [...]tcuddiad.
14. Fel hyn hi gymerodd atti ryw gyscod o lewyrch gwir sancteiddrwydd, sef goleuni rheswm, [Page 14] gan feddwl mai hi ei hunan iw'r plentyn glanaf yn y ty ond mae gan ddiafol letty yn ei chanol hi.
14. Ag dyma fel y mae gida 'r holl eneidieu a oleuwyd unwaith drwy Dduw, a gynt wedi hyny yn mynd allan oddiwrth y gwir ostyngedig Ymroddiad, gan i diddyfnu ei hunain oddiwrth bûr laeth ei mam, sef oddiwrth wir ostyngeiddrwydd.
Pennod 3.
1. ONd rheswm a ettyb gan ddwedyd. Onid jawn i ddyn gyrhaedd goleuni Duw a goleuni y naturiaeth ar rheswm oddiallan, fel y gallo fo drefnu ei fywvd yn ddoeth, fel y dywaid yr yscythur.
2. Gwir j [...]wn yw, felly i mae, Nid oes dim mor fuddiol i ddyn, na dim gwell a all ddigwydd iddo. [Page 15] Ag ymhellach dyma drysor uwchlaw pob trysor dayarol i ddyn gael golwg ar Dduw, ag ar amser, oblegid dyma lygad amser a thragwyddoldeb.
3. Ond dal sulw pa fodd y dylit ti ei harfer hi, yn gyntaf mae goleuni Duw yn ymddangos yn yr enaid ag yn llewyrchu fel golau canwyll, ag yn ennyn goleuni rheswm yn ddiattreg. Etto nid iw fe yn hollawl yn ymroi i reswm i fod dan Arglwyddiaeth y dyn oddiallan, Nag ydiw. Mae 'r dyn oddiallan yn i ganfod ei hun yn y goleuni yma, drwy 'r llwyrch (fel y gwel dyn ei gyscod mewn drych)ag yn y fan mae fo yn dyscu ei adnabod ei hun, yr hun sydd dda a buddiol iddo.
4. A phan wnelo fo felly, Rheswm (yr hwn iw 'r bywyd creaduriaiadd) ni all lai nai olygu ei hunan yn Hunan ycreadur, a thrwy ewyllys y deisyfiad mynd i mewn [Page 16] ir droell ganol, iw geisio ei hun, yr hyn os gwna, mae fo yn i dorri ei hun oddiwrth Sylwedd Duw (yr hwn sydd yn cydgodi gida goleuni Duw or hwn y dyle 'r enaid fwytta ag ymfodloni yn siriol) ond mae fo yn bwytta or allanus sylwedd a goleuni, ag wrth hyny mae fo yn tynnu y gwenwyn iddo ei hun eilwaith.
5. Fe ddyle ewyllys y creadur suddo iddo ei hunan ai holl reswm ai ddeisysiad, gan i gyfrif ei hun yn blentyn anheilwng, nad iw (yn y lleiaf) yn deilwng or gras mawr yma, ag ni ddyle fo falchgymryd dim gwybodaeth na deall iddo ei hunan, na cheisio gan Dduw ddim synwyr yn yr Hunan creaduriaidd.
6. Ond fe ddyle yn ddiragrith ag yn wirion i suddo ei hunan i mewn i ras a chariad Duw yngrist Jesu, a chwantu bod megis yn farw iddo ei Hunan, ag iw reswm i hunan mewn pethau nefol, (yn y [Page 17] bywyd uchel) ai gwbl roi ei Hunan i fywyd Duw mewn cariad, fel y gwnelo Duw ag ef y peth a fynno, yn y modd y mynno, fel ai ddodrefnyn ei hun.
7. Ni ddyle ei reswm ef ei hunan chwilio am ddim mewn pethau nefol nag chwaith yngwreiddyn pethau naturiol, nag ewyllysio dim ond gras Duw ynghrist: Ag fel y mae plentyn yn gwir sychedu am fronnau 'r fam felly mae 'n rhaid iw newyn yn wastadol fynd i mewn i gariad Duw. ag nid er dim gymryd i dorri oddiwrth y newyn y ma pan fo 'r allanol rheswm yn ymffrostio yn y goleuni, gan ddwedyd mae 'r gwir blentyn genifi.
8. Ond yna mae 'n rhaid i ewyllys y dymuniad i blygu i hunan ir ddayar, ai ddwyn ei hun ir gostyngeiddrwydd dyfnaf ar anneallwch gwirionaf, a dwedyd, Ynfyd wyti, nid oes dim genit ond gras Duw. Rhaid i ti ymlechu yn hwnw [Page 18] mewn mawr ostyngeiddrwydd;a bod fel dim ynot dy hun, heb nath adnabod nath garu dy hun. Pob peth ar sydd eiddot neu ynot, sydd raid iddo i gyfrif ei hun fel dim ond dodrefnyn Duw.
9. Ag yna rhaid iw dwyn y dymuniad yn vnig i drugaredd Duw, a mynd allan oddiwrth dy wybodaeth ath ewyllys dy hun, ai gyfrif ef fel dim, heb byth ond hyny groesafu ewyllys i fyned i mewn iddo eilwaith.
10. Er cynted y gwneler hyn mae 'r ewyllys naturiol yn mynd yn wan, Ag yno ni all diafol yscog mono felly mwyach drwy chwantau drwg, Canys lleoedd ei orphwystra a wnaed yn weiniaid ag yn sychion, ag yno yr ysbryd sanctaidd oddiwrth Dduw sydd yn cymeryd meddiant ar ffurfiadau 'r bywyd ag yn peri iw Arglwy ddiaeth orchfygu.
11. Ennyn a wna ffurfiadau 'r [Page 19] bywyd drwy fflamiau ei gariad. Ag yno mae 'r gelfyddyd uchel, a gwybodaeth gwreiddyn pob peth yn codi i fnu yn ol Sér gynhulliad y creadur oddifewn ag oddiallan mewn tan sych chwiliedig, mewn difyrrwch mawr, gan chwennych ymsuddo ir goleuni hwnw ai gyfrif ei hunan yn ddim, ag yn anheilwng o hono.
12. Ag fel hyn y mae ei ewyllys ef yn treiddio i mewn ir Dim hwnw (yn yr hwn y mae Duw yn crêu) ag yn gwneuthur a fynno ynddo. Yna mae ysbryd Duw yn tarddu allan drwy ddymuniad yr Ymroddiad gostyngedig. Ag felly mae 'r Hunan naturiol yn ddiattreg yn dilyn ysbryd Duw mewn dychryn a llawenydd gostyngeiddrwydd, ag felly mae fo yn canfod beth sydd mewn amser ag hefyd ynhragwyddoldeb, am fod pob peth yn bresernnol gidag ef.
13. Pan escynno ysbryd Duw i [Page 20] fynu fel tânllwyth a fflam o gariad, yno mae ysbryd yr enaid yn descyn ag yn dwedyd. Arglwydd, ith enw di y bo 'r gogoniant ag nid i mi. Rwyti yn abli gymeryd rhinwedd, nerth, cryfder, doethineb a gwybodaeth. Gwna di a fynnech. Ni allai wneuthur dim. Ni wn i ddim. Nid af i vnlle ond llei 'r arweiniech di fi (fel dy erfyn). Gwna am fi ag ynofi y peth a fynnech.
14. Yn y fath ymroddiad hollawlisel a hwn y mae gwreichionen y nerth nefol yn descyn i ganol ffurfiadau 'r bywyd (fel gwreichionen ir ulw) ag yn i ennyn (sef nân yr enaid) yr hwn a aeth fel glôan du yn Adda.
15. A phan ennyno llewyrch Duw ei hunan ynddo, mae 'n rhaid ir creadur fynd ymlaen fel erfyn ysbryd Duw, a llefaru y peth a baro ysbryd Duw. Ag yno nid iw fo mwy yn i eiddo ei hun. Ond dodrefnyn Duw ydiw.
16. Ond rhaid i ewyllys yr [Page 21] enaid (a hyny yn ddibaid) yn y cerbyd tanllyd yma i suddo ei hunan i ddim, sef ir gostyngeiddrwydd isaf yngolwg Duw. Oblegid er cynted ag yr elo ewyllys yr enaid ym mlaen (yn y mesur lleiaf) yn ei ddychymygion ai chwiliadau ei hun, mae Luciffer yn cymryd gafael arno yngwaelod ffurfiadau 'r bywyd, ag yn i nithio (megis mewn gogr) hyd onid elo iddo ei Hunan.
17. Rhaid iddo gan hyny barhau yn ofalus wrth yr ymroddiad isel, fel y ffynnon wrth ei ffynnonell, a sugno ag yfed o ffynnon Duw, ag nid ymadel ai ffyrdd mewn dim.
18. Canys er cynted ag y bwyttao, ag y profo 'r enaid Hunan, ag o oleuni rheswm oddiallan, fe a ymlaen yn ei opiniwn ei hunan, Ag yno ei weithredoedd (y rhai y mae ef yn i dwyn allan fel ped faent nefol) ydynt yn tarddu yn vnig oddiwrth y sêr gynhulliad, y rhai [Page 22] yn ddiarbod a gymrant afel ar yr enaid; ag ai sychant, ag yna fe â ymlaen mewn amryfuseddau nes iddo eilwaith ymroi i Dduw, a chydnabod mai plentyn iw wedi i ddifwyno.
19. Ag felly wrth wrthwynebu rhesswm mae fo yn ymglywed eilwaith a chariad Duw, yr hyn sydd anhaws yr awron nag ar y cyntaf, Canys mae Diafol yn dwyn i mewn amheuon cryfion, ni âd ef yn hawdd moi ffau ai gastell.
20. Fe ellir gweled hyn yn eglur yn seinctiau Duw er dechreuad y byd, ddarfod i lawer, a arweinid gan ysbryd Duw, ymadel yn fynych odd [...]wit [...] yr ymroddiad, a mynd ir Hunan, sef iw rheswm ai hewyllys, yn y rhai y taflodd Satan nhw i bechodau ag i ddigofaint Duw: fel y gwelir yn Nafydd ag yn Solomon hefyd yn y Patrieirch ar Prophwydi ar Apostolion, y rhai yn fynych a fawr amryfuseddasont pan ymadawsont [Page 23] ar ymroddiad wrth ddyfod iddynt ei hunain, sef iw rheswm ai trachwant.
21. Am hyny anghenrheidiol yw i blant Duw wybod pa fodd y mae iddynt y mddwyn pan fynnont ddyscu ffordd Duw. Rhaid iddynt guro i lawr thaflu ymaith ie ei meddyliau ei hunain, a bod heb chwennych dim nag ewyllysio dyscu dim, oni chlywant ei hunain yn y gwir ymroddiad, fel y gallo ysbryd Duw arwain a dyscu ysbryd dyn, a bod ir ewyllys dynol(yr hwn syn briod ag ef ei hun) gael i gwbl dorri y maeth oddiwrth ei chwant ei hun ai roddi i Dduw.
Pennod 4.
1. PEryglus iawn iw 'r holl yspienna cnawdol yn rhyfeddodau Duw, canys fe all ysbryd yr ewyllys gael i garcharu yn fuan, wrth hyny oni bydd i ysbryd yr [Page 24] ewyllys fyned a rhodio ar ol ysbryd Duw, ag felly mae ganddo allu yn yr isel ymroddiad i edrych ar withiau Duw.
2. Nid wyfi yn dwedyd na ddyle ddyn chwilio a dyscu mewn celfyddydau a disceidiaeth naturiol. Nid felly, canys buddiol iw iddo, ond nid oes i ddyn ddechrau drwy ei reswm ei hunan.
3. Fe ddyle ddyn nid yn vnig reoli ei fywyd drwy oleuni y rheswm oddiallan (yr hwn sydd dda ynddo ei hun) ond rhaid iddo suddo gida 'r golau hwnw ir gostyngeiddrwydd isaf o flaen Duw, a gosod ysbryd, ag ewyllys Duw, yn flaenaf wrth ei holl chwilio, fel y gallo goleuni rheswm weled drwy oleuni Duw.
4. Ag er bod rheswm yn gwybod llawer, nid oes iddi hi ymgymmyraeth atti ei hun, fel ped fai yn ei meddiant ei hun, ond rhoi 'r gogoniant i Dduw, ir hwn yn vnig y [Page 25] mae doethineb a gwybodaeth yn perthyn.
5. Canys pa mwyaf y suddo rheswm ei hunan i lawr i ostyngei ddrwydd gwirion yngolwg Duw, a pha anheilyngaf y cyfrifo ei hun yn ei wydd ef, cyntaf y bydd ef marw oddiwrth chwant iddo ei hunan, [...] mwyaf y treiddia ysbryd Duw trwyddo, ag ai dwg ir wybodaet [...] vchaf fel y gallo ganfod mowrion wrthiau Duw.
6. Canys mae ysbryd Duw yn gweithio yn vnig yn y gostyngeiddrwydd ymroddgar, sef yn yr hyn nad yw yn i geisio nag yn ei chwennych ei hunan.
7. Mae ysbryd Duw yn cymryd gafael ar bob peth ar sydd yn ewyllysio bod yn wirion, ag yn isel oi flaen ef, ag yn i ddwyn ef allan yn ei ryfeddodau. Mae ganddo ddifyrrwch mawr yn y rheini yn vnig syn ofni ag yn plygu gar ei fron ef.
8. Canys ni chreawdd Daw monom [Page 26] ni er ein mwyn ein hunain yn vnig, ond i fod yn beiriannau ei wrthiau ef, drwy 'r rhai y mae fo yn chwennych datcuddio i ryfeddodau, Mae 'r ewyllys ymroddgar yn ymddiried i Dduw, ag yn edrych am bob daioni oddiwrtho. Ond yr Hunan ewyllys sydd yn i reoli ei hunan, am i fod wedi i dorri oddiwrth Dduw
9. Beth bynnag sydd Hunan ewyllys, pechod iw, ag mae fo yn erbyn Duw, am i fod wedi mynd allan or drefn (yn yr hon y creawdd Duw ef) i mewn i anufydddod, gan chwennych bod yn feistr ag yn Arglwydd iddo ei hun.
10. Pan fo marw ei ewyllys ef ei hun oddiwrth ei hun, mae fo yn rhydd oddiwrth bechod, canys nid iw fo yn chwennych dim ond yr hyn y mae Duw yn i geisio oddiwrth ei greadur. Ei awydd ef iw gwneuthur y peth er mwyn yr hwn y gwnaeth Duw ef, ar hyn a [Page 27] wna Duw drwyddo, ag er i fod (ag yn rhaid iddo fod) yn gweithio, etto nid iw ef ond erfyn y gwaith, drwy 'r hwn y mae Duw yn gwneuthur y peth a fynno.
11. Canys dyma 'r wir ffydd mewn dyn, sef marw iddo ei hunan, (oddiwrth ei feddwl-chwant ei Hunan) ag yn ei holl ddechreuadau, ai fwriadau, ddw yn ei ewyllys i ewyllys Duw, fel na chymero glod iddo ei hunan mewn dim ar a wnelo ond i gyfrif ei hun (ymhob peth a wnelo fel gwas i Dduw, gan feddwl mai dros Dduw y mae pob peth y mae fo yn mynd yn i gylch iw wneuthur.
12. Oblegid yn y meddylfryd hwnw mae ysbryd Duw yn i arwain ef ir gwir vniondeb ar ffyddlondeb tuag at ei Gymydog. Canys fel hyn y mae fo yn meddwl wrtho ei hun. Rwi 'n gwneuthur fyngwaith nid drosof fy hun ond dros Dduw yr hwn am galwodd ag am [Page 28] hordeiniodd i iw wneuthur, fel gwas yn ei winllan.
13. Mae fo yn clustfeino yn wastad am lais ei Arglwydd yr hwn (or tu fewn iddo) sydd yn gorchymyn iddo beth sydd iddo iw wneuthur. Mae 'r Arglwydd yn llefaru wrtho ag yn peri iddo i wneuthur.
14. Ond mae Hunan yn gwneuthur y peth y mae y rheswm oddi allan oddi wrth y Sêr yn i orchymyn, ag ir rheswm yma mae diafol yn ymlusgo ag yn ehedeg i mewn gida 'r ewyllys.
15. Beth bynnag y mae Hunan yn i wneuthur mae hyny heb ewyllys Duw ynddo, ag fe ai gweithredir yn vnig yn y ffansi, fel y gallo digofaint Duw gymeryd i ddifyrrwch ynddo.
16. Ni all vn gwaith ar a wneler heb ewyllys Duw gyrhaeddyd teyrnas Dduw. Nid iw fo i gid ond rhyw ddelw anfuddiol, ym mawr [Page 29] ofer lafur dynion. Canys nid oes dim yn bodloni Duw ond yr hyn y mae fo yn i wneuthur ei hunan, drwy 'r ewyllys (fel drwy erfyn)
17. Canys nid oes ond vn vnig Dduw yn Sylwedd Sylweddau, a phob peth ar sydd yn cydweithio gidag ef yn y sylwedd hwnw sdd vn ysbryd ag ef. Ond y peth sydd yn gweithio ynddo ei hunan yn ei ewyllys ei Hunan sydd ynddo ei hun or tu allan i reolaeth Duw. Gwir iw i fod ef yn y rheolaeth honno yn yr hon y mae Duw yn rheoli pob bywyd, ond nid yn y rheolaeth sanctaidd nefol ynddo ei Hunan, ond yn Arglwyddiaeth natur, drwy 'r hon y mae fo yn llywodraethu da a drwg. Nid Duwiol dim ond sydd yn rhodio ag yn gweithio yn ewyllys Duw.
Pennod 5.
1. MAe Christ yn dywedyd. Pob planhigyn ar na phlannodd fy nhad nefol a ddiwreiddir allan, ag a loscir yn y tân. Holl weithredoedd dyn y rhai a wneuthurwyd heb ewyllys Duw a loscir yn y tân olaf oddiwrth Dduw, ag fe ai gorchmvnnir i ddigofaint Duw, sef i bwll y Tywyllwch i gymeryd ei bleser ynddynt.
2. Canys mae Christ yn dywedyd, y Sawl nad iw gidam fi sydd yn fy erbyn i, ar sawl nad iw yn casglu gidam fi syn gwascaru. Pwy bynnag a wnelo beth, heb i wneuthur mewn ewyllys ymroddgar, drwy hyder yn Nuw, nid iw hwnw ond anrheithio a gwascaru, nid iw ef gymmeradwy gida Duw. Nid oes dim ai bodlona ond yr hyn a ewyllysio ef ei hunan drwy ei ysbryd, ag a wnelo fe ei hunan drwy ei erfyn.
[Page 31]3. Am hyny beth bynnag a wneler drwy [...]esy miadau Hunan dynol (ymmaterion ewyllys y Goruchaf) nid iw 'r cwbl ond ffûg, ag megis henchwedl ym Mabel, Nid iw fo ond gwaith y Sêr ar byd oddiallan. Ni chydnebydd Duw ef fel ei waith ei hunan. Nid iw oll ond chwaryddiaeth troell ymdrechgar naturiaeth, yn yr hon y mae da a drwg yn ymdrech ai gilydd, yr hyn a adeilado 'r naill, mae 'r llall yn i ddinistrio.
4. Fel dyma fawr drueni yr holl ofer lafur ar lludded, Ag mae hyn i gid yn perthyn i farn Duw i derfynu 'r ymrysson. Pwy bynnag gan hyny sydd yn gwneuthur llawer yn y drafferth grefyddol yma, nid iw fo yn gwneuthur dim ond i farn Duw. Am nad oes dim o hono yn berffaith nag yn barhaus, Rhaid iw i ddidoli ai roi or neilldu yn y llygredigaeth.
5. Canys yr hyn a wneler yn n [...] [Page 32] gofaint Duw, a dderbynir ganddo eilwaith, ag a gedwir yn nirgelwch ei awchlym chwant ef tan ddydd y farn, lle y ceiff da a drwg i didoli oddiwrth i gilydd.
6. Ond os dyn a drŷ ag a eiff allan o hono ei hun, ag i mewn i ewyllys Duw, yna y caiff y daioni ynddo ei hun a wnaeth ef i ryddhau oddiwrth y drwg a wnaeth.
7. Canys mae Esay yn dwedyd. Er bod eich pechodau chwi cyn goched ar scarlad (os trowch chwi ag edifarhau nhw fyddant cyn wynned ar eira) canys fe a lyngcir y drwg yn nigofaint Duw i farwolaeth, ar hyn sydd dda a ddaw allan fel planhigyn allan or ddayar ar anialwch.
8. Pwy bynnag a fwriado wneuthur dim ar sydd dda a pherffaith, yn yr hyn y mae fo yn gobeithio llawenhau yndragwyddol iwfwynhau, ymadawed ag ef ei hun, sef oddiwrth ei ddeisyfiad, ag aed i [Page 33] mewn ir ymroddiad, i ewyllys Duw, a gweithied gida Duw.
9. Ag er i chwant dayarol Hunan drwy 'r cnawd ar gwaed lynu wrtho ef, er hyny os gwrthyd ewyllys yr enaid dderbyn y chwant i mewn iddo, ni ddichon Hunan wneuthur dim. Canys mae 'r ewyllys ymroddgar yn ddibaid yn dinistrio sylwedd yr hunan eilwaith, fel na all digofaint Duw moi gyrhaedd, Ag os cyrhaedd ef weithiau (fel y gall y peth ddigwydd) er hyny mae 'r ewyllys sydd wedi ymroi i Dduw yn i orchfygu drwy ei nerth ag yn gwisco cynglwyst buddygol [...]eth yn y rhyfeddodau i allel etifeddu y mabwysiad.
10. Am hyny nid iw dda dwedyd na gwneuthur dim pan fo rheswm wedi ennyn yn chwant Hunan canys y pryd hwnw mae 'r ewyllys yn gweithio yn nigofaint Duw, a thrwy hyny fe gaiff dyn golled. Am fod yn dwyn ei waith ef i ddigofaint [Page 34] Duw ag yn i gadw ef yno erbyn dydd mawr barn Duw.
11. Pob drwg chwant (drwy 'r hwn y mae dyn yn cyfrwysfeddwl am gasglu llawer or byd iddo ei Hunan oddiar ei gymydog iw niweidio) a gymerir ag a gedwir yn nigofaint Duw iw farn, yn yr hon yr amlygir pob peth, a phob nerth yscogiad a sylwedd yn y da ar drwg a osodir o flaen pawb yn nirgelwch y datcuddiad.
12. Pob drwgweithred fwriadol a berthyn ir farn, ond os trŷ 'r pechadur, mae fo yn diango allan o honynt, ai weithredoedd hyny a berthynant ir tân.
13. Pob peth sydd rhaid i hamlygu yn y diwedd, canys er mwyn hyny y dygodd Duw ei nerth gweithgar i fod yn sylweddol, fel [...]amlygid cariad a digofaint Duw [...]od yn ddelw oi wrthiau rhyfeddodus iw ogoniant.
14. A rhaid i bob creadur wybod [Page 35] fod yn rhaid iddo barhau yn y cyflwr yn yr hwn y crewyd ef, ag onid e mai fo yn rhedeg allan i groes ewyllys, ag ir elyniaeth yn erbyn ewyllys Duw, yn i ddwyn i hunan i boen a thostedd.
15. Canys y creadur yr hwn a grewyd or tywyllwch, sydd yn byw yn y tywyllwch heb wewyr, fel nad oes ar y pryf gwenwynllyd boen yn ei wenwyn (y gwenwyn iw ei fywyd) a phe colle fe i wenwyn, a chael rhyw beth da yn i le ef (iw amlygu yn ei sylwedd ef) fe fyddai hyn yn boen ag yn angau iddo. Ag felly hefyd y mae 'r drwg yn boen ag yn angau ir da.
16. Fe grewyd Dyn o Baradwys, ag erddi ag ynddi, o gariad Duw, ag erddo ag ynddo. Ond os efe ai dwg ei Hunan ir digllonedd (yr hwn sydd fel poen wenwynllyd ag angau) yno mae 'r croesfywyd yn boen ag yn gystudd iddo.
17. Pe creasid diafol allan or [Page 36] grôth ddigofus er mwyn vffern ag ynddi, heb iddo gael y sylwedd nefol, ni buase arno ef boen yn vffern. Ond yn gimaint ai wneuthur ef yn y nef ag erddi, etto fe gynhyrfodd ynddo ei hun gyneddf ag anian y tywyllwch, ag ai dygodd ei hun yn hollawl ir tywyllwch.
18. Am hyny mae 'r goleuni yr awron yn boenus gurfa iddo, sef yn dragwyddol anobaith o ras Duw, mewn gelyniaeth ddiddiwedd, gan na all Duw i aros ef ynddo ei hun, ond fe ai chwdodd ef allan.
19. Ag am hyny mae diafol yn gvnddeiriog ag wedi digio yn erbyn ei farn ei hun (o sylwedd yr hon y casodd ef ei ddechreuad) sef y naturiaeth dragwyddol, yr hon sydd yn i garcharu fo yn ei le ei hun (fel ysbryd wedi cwympo a thynnu yn ol) ag yn i ddifyrru ei hun vnddo drwy ei chyneddf angerddol ddigllon.
[Page 37]20. A chan na fynnai fo helpu ymlaen ddifyrrwch llawenydd Duw, am hyny rhaid iddo fo 'r awren wneuthur yn y gwrthwyneb, a bod yn elyn yn erbyn daioni.
21. Canys o Dduw ag ynddo fo mae pob peth, Tywyllwch a goleuni, cariad a digofaint, Tân a golau: ond mae fo yn i alw ei hunan yn Dduw, yn vnig fel y mae fo yn oleuni yn ei gariad.
Pennod 6.
1. MAe croesineb tragwyddol rhwng goleuni a thywyllwch, n d y naill yw'r llall, ag nid iw 'r naill yu eynwys y llall. Er hyny nid oes ond vn vnig sylwedd a Bod, yn yr hwn y maent yn cydsefyll, ond mae rhagoriaeth yn yr anian ar ewyllys; etto ni rannwyd mor sylwedd ar Bod, ond mae gagendor yn gwneuthur y gwahaniaeth, yn gi [...]aint ag mai dim iw 'r naill yn y [Page 38] llall, er hyny yno i mae, ond nid wedi i egluio ynghyneddfau y peth yn yr hwn i mae.
2. Canys fe arhosodd Diafol yn ei Arglwyddiaeth ei hun, nid yn yr hon y creawdd Duw ef, ond yn nolurus boenus escorfa tragwyddoldeb, ynghanol naturiaeth, ynghyneddf y digofaint, yn y gyneddf sydd yn cenhedlu tywyllwch gwewyr a phoen.
3. Gwir iw mai tywysog iw ef ynghyfle 'r byd yma, ond yn y rhanle gyntaf, yn nheyrnas y tywyllwch yn y dyfnder. Ond nid ynheyrnas yr haul ar lleuad ar defnyddiau, Nid iw ef nag Arglwydd na thywysog yno, ond yn y rhan ofidus, sef yngwreiddyn dryganiaeth pob peth, ag er hyny nid oes mor gallu ganddo i wneuthur a fynno.
4. Canys mae rhyw ddaioni ymhob peth, yr hwn sydd yn carcharu y drwg yn y peth, ag yn i gau [Page 39] i fynu; yno y gall ef rodio a rheoli yn vnig yn y drwg pan i cynhyrfo ynddo ei hunan chwant drygionus, gan ddwyn ei ewyllys i mewn ir drwg, yr hyn ni all y creaduriaid direswm moi wneuthur, Ond fe all dyn iwneuthur drwyddynt hwy, os dwg ef nerth ei ewyllys ai gryf feddwl iddo ef allan or lle canol tragwyddol yr hyn iw swyn a gauddewniaeth.
5. Hefyd, fe ddichon ewyllys diafol fynd i mewn ir peth y dycco dyn ddymuniad [...]i enaid iddo (yr hyn hefyd sydd oddiwrth y tragwyddol mewn drygioni, canys yr vn iw cychwyn [...]ad yr enaid ar angelion allan or tragwyddol, Ond nid oes awdurdod mwy gan ddiafol ar amser y byd yma, ond yn y cynwr mawr ar gythryblaeth.
6. Pa le bynnag yr ennynno hwnw yn y dig tragwyddol a naturiol, yno i mae ef yn bryssur, fel mewn rhyfeloedd ymladd ag ymrysson [Page 40] ag hefyd mewn mawr dymhestloedd diddwfr. Mae fo yn y tan yn mynd cymhelled ag yr el y niwed, mewn cawodydd trymion a thymhestloedd o daranau mellt a chenllysg, Ond ni ddichon ef moi cyfarwyddo hwynt, canys nid iw ef ynddynt hwy, nag arglwydd, na meistr, ond gwas.
7. Fel hyn y mae 'r creadur drwy ei ewyllys chwant yn cyffroi da a drwg, bywyd ag angau; mae 'r chwant dynol angelaidd yn sefyll ynghanol y naturiaeth dragwyddol (yr hon sydd heb ddechreuad) yn yr hon y mae ef yn ei ennyn ei hun, pa vn bynnag ai mewn da neu ddrwg, yn hynny i mae yn cyflawni ei weithred.
8. Wele, fe greawdd Duw bob peth er ag yn yr hyn y dyle fo fod ynddo, yr angelion yn y nef ag erddi, a dyn ymharadwys ag erddi, Gan hyny os eiff chwant y creadur [Page 41] allan oddiwrth ei tam ai wreiddyn ei hun, yna mae fo 'n mynd i mewn ir croesewyllys, ag ir elyniaeth, ag yno fe gaiff boeni gan y croesineb, ag felly mae yn y gwir ewyllys vn ffals yn codi.
9. Ag yna mae 'r ewyllys da yn mynd i mewn iw ddim eilwaith, sef i derfyn natur a chreadur, ag felly mae yn gadel y creadur yn ei ddrygioni, fel y mae yn eglur yn Luciffer, ag yn Adda hefyd. Ag oni bai i ewyllys cariad Duw gyfarfod ag ef, a mynd i mewn eilwaith ir dyndod mewn gwir drugaredd, ni allase byth fod ewyllys da mewn dyn.
10. Am hyny peth ofer iw 'r holl edrych a chwilio ynghylch ewyllys Duw, oni bydd y meddwl wedi i droi: canys pan fo 'r meddwl fel caethgarcharwr yn sefyll yn yr Hunan-chwant ir bywyd dayarol, ni ddichon ef ganfod beth iw ewyllys Duw, ond rhedeg ymlaen [Page 42] a wna ef yn Hunan or naill ffordd ir llall, heb gael dim gorphwys. Canys mae 'r Hunanchwant yn wastadol yn magu aflonyddwch.
11. Ond pan i suddo ei hunan yn hollhawl i drugaredd Duw, gan chwennych marw oddiwrtho ei Hunan, a chael ewyllys Duw yn arweinydd ir deall, mae ef felly yn i gydnabod ag yn i gyfrif ei hunan megis Dum, heb chwennych dim ond yr hyn y mae Duw yn ei ewyllysio.
12. Ag yno os daw gwyn digofaint yn y cnawd dayarol, a chytuno gida dychymygion diafol, a gosod ar ewyllys y [...] enaid, yna mae 'r bryd feddwl a ymrôdd i Dduw yn gweiddi arno ag yn llefain, Abba, y Tad cariadus, Gwared fi rhag drwg.
13. Ar pryd hwnw (er ir ewyllys dayarol fynd yn rhy gryf yn nigofaint Duw drwy wenwyndra d [...]afol) nid iw gwyn y digofaint yn [Page 43] gweithio ond ynddo ag arno ei hunan, fel y dywaid St. Paul. Os gan hyny pechu yr wyf, nid myfi sydd yn pechu, ond y pechod sydd yn aros yn fynghnawd i; Ag hefyd Rwi yn fy meddwl yn gwasnaethu cyfraith Duw, ond yn y cnawd cyfraith y pechod.
14. Nid meddwl Paul iw, y dylai yr ewyllys gydsynio yn chwant y cnawd, Ond fod pechod mor rymmus yn y cnawd, sef yn nigofaint cyffrous Duw mewn Hunan, ag y cippir ef ir chwant wrth annogaeth y rhai drygionus, neu wrth edrych ar wchder a gogoniant bydol, ag felly mae fo yn llwyrfyddaru yr ewyllys ymroddgar ag yn rheoli drwy drais.
15. Yr awron, Pan weithreder pechod yn y cnawd mae 'r digofaint yn ymddifyrru ynddo, ag yn ymgippio am yr ewyllys ymroddgar, yr hwn sydd yn gweiddi ar Dduw am waredigaeth oddiwrth [Page 44] y drwg, ag yn gweddio ar i Dduw symud y pechod ymaith oddiwrtho, a dwyn pechod ir canol, sef ir angau fel y gallo farw.
16. Ag mae St. Paul yn dy wedyd ymhellach. Nid oes gan hynny ddim damnedigaeth ir rhai sydd ynghrist Jesu, y rhai a alwyd yn ol bwriad Duw, hyny iw y rhai yn y bwriad hwnw yn Nuw (yn yr hwn y galwodd Duw ddyn) a elwir eilwaith yn yr vn galwad, i sefyll eilwaith yn y bwriad hwnw o Dduw yn yr hwn y creawdd ef ddyn i fod yn llun ag yn ddelw iddo ef.
17. Cyhyd ag y bo ewyllys dyn yn sefyll yn Hunan, cyhyd a hynny y mae fo allan o fwriad a galwad Duw, Ni alwyd mono, canys mae fo wedi mynd allan oi le ei hun, Ond pan ymdrotho 'r meddwl eilwaith ir galwad sef ir ymroddiad, vna i mae rewyllys yngalwedigaeth Duw, sef, yn y lle yn yr [Page 45] hwn a thros yr hwn y creawdd Duw ef; ag yno mae gallu ganddo i fod yn blentyn i Dduw, fel y mae yn scrifenedig, fe roddes ef i ni allu i fod yn blant i Dduw.
18. Y Gallu yr hwn a roddes ef i ni iw ei fwriad, er mwyn yr hwn ag yn yr hwn y creawdd ef ddyn yn eilun ei hun. A hyn a ddygodd Duw eilwaith ir dyndod, ag ef a roddes allu ir gallu hwnw i dorri pen pechod yn y cnawd, sef ewyllys a dy muniad y Sarph, hyny iw yr ewyllys ymroddgar ynghrist sydd yn sathru ar ben chwant ewyllys pechadurus y Sarph ag yn lladd eilwaith y pechodau y rhai a wneuthurwyd. Ar gallu yma yr hwn a roddir sydd yn angau i angau ag yn nerth by wyd i fywyd.
19. Am hyny ni all vn dyn wneuthur escus fel ped fai ef heb allel ewyllysio. Gwir iw, mai tra fo yn dygnlynu ynddo ei Hunan [Page 46] yn ei ewyllys ei hunan ag yn gweini yn vnig i gyfraith pechod yn y cnawd, ni ddichon ef. Oblegid yr ydys yn i attal ef fel gwas ir pechod. Ond pan drotho fe ymaith ganol ei feddwl, ai osod ef yn ewyllys ag ufydddod Duw, yna fe a ddichon.
20. Wele, Mae canolwreidd yn y meddwl wedi tarddu allan o dragwyddoldeb, allan o hollalluogrwydd Duw, fe all i ddwyn i hun ir peth a fynno, ag ir lle i mynno. Canys nid oes ddeddf ir hyn sydd or vn tragwyddol.
21. Ond mae ir ewyllys ddeddf i vfyddhau i Dduw, canys yr ewyllys a anwyd or meddwl, ag nid oes iddo moi rwygo ei hun oddiwrth yr hyn or hwn y creawdd Duw ef.
Pennod 7.
1. WEle, fe greawdd Duw ewyllys y meddwl er paradwys ag ynddi, i fod yn gyfaill iddo yn nheyrnas y llawenydd nefol, ni ddylase moi symud ei hun oddi yno, ond gan ddarfod iddo ymsymud, Duw a ddygodd ei ewyllys eilwaith ir cnawd, ag yn yr ewyllys (yr hwn a newydd ddygodd ef i mewn) fe roddes allu i ni i ddwyn yn hewyllys iddo ef, ag i ennyn goleuni newydd ynddo, ag felly i ymddyfod i fod yn blant iddo eilwaith.
2. Nid iw Duw vn caledu neb, ond ewyllys dyn ei hunan yr hwn sydd yn mynd y mlaen ynghnawd y pechod, hwnw sydd yu caledu 'r meddwl, sef ewyllys Hunan sydd y dwyn oferedd y byd ir meddwl, ag felly mae argau ar y meddwl, ag mae fo vn parhau felly.
[Page 48]3. Duw, Cymmhelled ag i mae fo yn Dduw, ag y gelwir ef felly, ni all ewyllysio [...]n Drwg. Canys n [...]d oes ond yn vnig ew [...]llys ya Nuw, a hwnw iw cariad tragwyddol, a chwant ir peth sydd debig iddo, sef, Grym T [...]g [...]h a rhinwedd.
4. Nid iw Duw yn Derbyn yn pechadur iw rym ai rinwedd onid â 'r pechadur allan oi bechodau, gan fyned i mewn yn y chwant i Dduw, yr hwn ni fwrw allan mor rhai a ddel atto. Fe roddes ir ewyllys borth agored ynghrist, Gan ddy wedyd, Deuwch attafi bawb ar sydd yn llwythog o bechodau, a Myfi a esmwythaf arnoch. Cymerwch fy iau i arnoch, honno iw Croes yr elyniaeth yn y cnawd, yr hon oedd iau Christ, yr hwn oedd raid iddo i dwyn dros bechodau pawb.
5. Rhaid ir ewyllys ymroddgar gymeryd y groes yma arno yn y cnawd drwg dayarol pechadurus, [Page 49] ai dwyn hi ar ol Christ mewn dioddefgarwch mewn gobaith, o warediad, ag yn ddibaid sigo pen y sarph drwy ewyllys ymroddgar yr enaid yn ewyllys Christ ai ysbryd, a lladd a difetha yr ewyllys dayarol yn nigofaint Duw, ag nid gadel iddo orphwys ar wely esmwyth pan wneler pechod, drwy feddwl, mi edifarha ryw amser neu i gilydd.
6. Ah. Nid felly. Mae 'r ewyllys dayarol yn mynd yn gryf, yn fras, ag yn anllad ar y gwely esmwyth yma. Ond er cynted ag y tewynno anadl Duw ynot ti, a dangos pechod i ti, Rhaid i ewyllys yr enaid i suddo ei hun ei lawr i ddioddefaint ag angau Christ, ai ymddilladu ei hunan yn glyd ynddo, a chymryd dioddefaint Christ iw feddiant, ag arglwyddiaethu ar angau pechod ymmarwolaeth Christ, ai ladd ai ddifetha ef ymmarwolaeth Christ.
[Page 50]7. Rhaid iddo farw er anewyllysgared iw, Bydded gelyniaeth rhyngoti ar cnawd dayarol nwyfwys. Na ddod iddo mor peth a synno. Gâd iddo ymprydio a dwyn newyn nis iw oglais beidio, gan wybod mai ewyllys y cnawd iw dy elyndi, ag na wna mo ewyllys dymuniad y cnawd, ag felly di a ddygi angau i mewn at yr angau yn y cnawd.
8. Nag edrych ar watwargerdd y byd. Meddwl mai dy elyn di y maent yn i watwar, ai fod ef wedi mynd yn ffwl iddynt. Ymhellach, Cyfrif di dy Hunan mai dy ffwl di iw, yr hwn a barodd Add [...] ynot ti ag a ganiadhaodd i fod yn ffals etifedd i ti.
9. Tafl allan fab [...] ga [...]thwas or ty (sef y plentyn dieithr yr hwn ni roddodd Duw i fod yn nh [...] bywyd Adda ar y dechreuad cany [...] ni chaiff mab y gaethferch etifeddu gida mab v wraig r [...]dd.
[Page 51]10. Nid iw 'r ewyllys dayarol ond mab y gaeth forwyn, canys fe ddylasai y pedair elementau fod yn weision i ddyn, Ond fe ai dygodd Adda hwynt ir mabwysiad. Am hyny Duw a ddywedodd wrth Abraham pan agorodd ef y cyfammod ar addewid ynddo ef. Tafl allan fab y gaethferch canys ni chaiff ef etifeddu gida mab y wraig rydd.
11. Mab y rydd yma iw Christ, yr hwn a ddygodd Duw oi ras ir cnawd eilwaith drosom ni, sef meddwl newydd yn yr hwn y gall yr ewyllys (sef ewyllys tragwyddol yr enaid) dynnu ag yfed dwfr y bywyd, am yr hwn y mae Christ yn Sôn, Pwy bynag a yfo or dwfr yma yr hwn a rydd ef ini, fe dardda ynddo ef, ag a sydd yn ffynnon o fywyd tragwyddol.
12. Y ffynnon yma iw adnewyddiad meddwl yr enaid sef y tragwyddol Sêr gydiad anian tragwyddol cyneddf greaduraidd yr [Page 52] enaid. Am hyny yr wyf yn dywedyd, mae gwaith ofer a phethau di-fydd iw 'r holl ddychymygion ar dyfeisiau sydd gan ddynion i ddyfod at Dduw heb feddwl newydd.
13. Nid oes yn ffordd arall at Dduw ond meddwl newydd yr hwn sydd yn troi oddiwith ddrygioni ag yn myned i mewn i edifeirwch am y pechodau a wnaeth ef, ag yn myned allan oddiwrth ei anwnedd, heb i chwennych mwy, ond a cuddio ei ewyllys yn gynnes yn angau Christ, ag ai holl ofal yn marw oddiwrth bechod yr en [...]id ym marwolaeth Christ, fel nad iw meddwl yr enaid yn ewyllysio pechod mwy.
14. Ag er ir holl gythreuliaid i gynllwyn [...]f yn galed a gosod pigau e [...] chwant yn y cnawd, etto fe ddyle ewyllys yr enaid sefyll yn llonydd ai guddio ei hunan yn angau Christ heb chwenych nag ewyllysio dim ond trugaredd Duw.
[Page 53]15. Ni thal y gweiniaith rhagrithiol ddim nar ymgysuro oddiallan; fel pan fo rhai yn cuddio pechod a drygioni yn y cnawd a haeddedigaeth Christ, gan aros er hyny fyth yn yr Hunan. Fe ddwedodd Christ Oni ddychwelwch ach gwneuthur fel plant, ni ellwchi weled teyrnas Duw. Rhaid ir meddwl ymnewyddu mor hollawl a phlentyn na wyr ddim oddiwrth bechod.
16. Mae Christ hefyd yn dywedyd. Oni enir chwi eilwaith ni ellwchi weled teyrnas Duw. Rhaid iw i ewyllys newydd yn hollhawl godi yn angau Christ. Rhaid iw i ddwyn ef allan o gnawdoliaeth Christ, ai gyfodi yn adgyfodiad Christ.
17. Yr awron, cyn y gallo hyn fod, Rhaid i ewyllys yr enaid far [...] yn angau Christ yn gyntaf, [...] yn Adda y derbyniodd e [...] [...] gaethwraig sef pechod [...] [Page 54] sydd raid i ewyllys yr enaid i daflu allan yn gyntaf, a rhaid ir enaid truan caethiwus ymgynhesu yn angau Christ o ddifrif ai holl nerth ai egni, fel y bo marw mab y gaethferch, sef pechod ynddo ei hunan yn angau Christ.
18. Yn wir, Rhaid i bechod farw yn ewyllys yr enaid, ag onide ni all fod vn weledigaeth o Dduw. Canys yr ewyllys dayarol mewn pechod a digofaint Duw ni chaiff weled Duw, ond Christ yr hwn a ddaeth yn y cnawd. Rhaid ir enaid wisgo ysbryd a chnawd Christ. Ni all ef etifeddu teyrnas Dduw yn y dabernacl ddayarol hon, oblegid mae teyrnas y pechod yn crogi wrtho oddiallan sydd i bydru yn y ddayar, ag i godi eilwaith mewn grym newydd.
19. Nid iw rhagrith a gweiniaith a thwyll maddeuant oddiallan mewn geiriau yn talu dim. Rhaid ini fod yn blant, nid drwy gyfrif [Page 55] oddiallan, ond drwy yn geni o Dduw oddifewn yn y dyn newydd [...]r hwn a roddwyd yn Nuw.
20. Yr holl wegi in twyllo ein hunain, wrth ddywedyd ddarfod i Christ dalu y ddled, a gwaeuthur jawn dros bechod, ai fad ef wedi marw dros ein pechodau ni, Onid ydym ninnau hefyd yn meirw oddiwrth bechod ynddo ef, ag yn gwisgo ei haeddedigaeth ef mewn vfydd dod newydd, ag yn byw ynddo. Nid iw 'r [...]wbl ond ffals (heb hyn) ag ofer gyssur.
21. Y sawl sydd elyn chwerw ir pechod, fe all gyssuro ei galon a dioddefaint Christ. Yr hwn nad iw oi fodd yn gweled yn clywed yn profi y pechod, ond yn byw mewn gelyniaeth yn i erbyn ag a fynnai yn wastad wneuthur y peth sydd dda ag vniawn, bei gwydde beth a ddyle i wneuthur: Y sawl meddaf sydd felly, a wiscodd am dano y sbryd ag ewyllys Christ.
[Page 56]22. Y dwyll ddiff [...]ith fod dyn yn cad i gyfrif yn blentyn i Dduw drwy ryw gyfrifiad, neu afael oddiallan, sydd ffals ag ofer. Nid iw y gwaith a wneler yn vnig yn y cnawd oddiallan yn gwneuthur plentyn Duw. Ond gweithrediad Christ yn yr ysbryd sydd yn gwneuthur ag sydd blentyn i Dduw, Ag mae'r gweithrediad yma mor nerthol yn y gwaith oddiallan, ai fod yn discleirio fel goleuni newydd, ag yn i amlygu ei hun yngwaith y cnawd oddiallan i fod ef yn wir blentyn i Dduw.
23. Canys os llygad yr enaid sydd olau, yna golau iw yr holl gorph yn ei holl aelodau. Yn awr os ymffrostia neb i fod ef yn blentyn i Dduw ag er hyny yn gadel i [...] co [...]ph ymlosgi mewn pechodau, Nid iw ef etto gymwys i fod yn blentyn i Dduw, ond mae fo yn gorwedd yn garcharor ynghadwynau diafol mewn tywyllwch mawr. [Page 57] Ag onid iw ef yn clywed ynddo ei hunan ewyllys difrif yn llosgi ynddo tuag att wneuthur daioni mewn cariad, Nid iw ei escus ef ond dyfais ei reswm, yn tarddu oddiwrth Hunan, na all weled Duw oni enir ef eilw [...]ith i ddanges allan yn ei nerth ai riawedd mai plentyn Daw iw
24. Oblegid nid o [...]s dân hob ol [...]uni ynddo. Ag os bydd y tân nefol yn y meddwl fe ddiscleiria allan, ag fe fyn y meddwl wneuthur y peth a fynnai Duw iddo i wneuthur.
Pennod. 8.
1. ONd fe allai y dywedi di, Mae genif ewyllys yn wir i i wneuthur daioni. Mi fynnwn bei gall [...]n.Ond rwyfi yn cael fy rhwystro, ag mae yn methu genif.
2. Je (Di ddyn diffaith) Mae Duw yn dy dynnu di i fod yn [Page 58] blentyn iddo ond ni synni di. Mae 'r glustog esmwyth mewn drygioni yn anwylach geniti na hyny. Gwell geniti lawenydd anwiredd, na llawenydd Duw. Rwyti yn glynu ynot dy Hunan etto ag yn byw yn ol cyfraith y pechod, a honno sydd yn dy rwystro di. Rwyti yn anewyllysgar i farw oddiwrth bleser cnawd, am hyny nid wyti yn y mabwysiad, ag er hyny mae Duw yn dy dynnu di atto, ond ni fynni di.
3. O mor wych a fyddai gan Adda bei gallai fe gael i gymryd ir nefoedd gidag ewyllys [...] gnawd trachwantus, a chael plentyn y drygioni yr hwn sydd yn llawn twyll) i eistedd i lawr yngorseddfaingc Duw. Fe fynnase Luciffer hyny hefyd, ond fe ai chwdwyd ef allan.
4. Peth gofidus, trwblaethus iw marweiddio yr ewyllys drwg. Nid oes neb a fynnai hyny. Ni fynnem i [Page 59] gid fod yn blant i Dduw, bei gallem fod felly yn yr hen wisg yma o chwant cnawdol, ond ni all hyny fod. Rhaid ir byd yma fyned heibio, ag ir bywyd allanog farw. Pa les a all y maboliaeth i wneuthur i mi yn corph marwol.
5. Os mynwn ni etifeddu y mabwysiad, rhaid i ni wisco amdanom y dyn mewydd yr hwn a ddichon etifeddu y mabwysiad, yr hwn sydd debig ir Dawdod. Ni fyn Daw fod pechadur yn y nef; ond y rhai a anwyd eilwaith ag ydynt blant ag a wiscasont y nefoedd am danynt yn y byd yma.
6. Am hyny nid iw mor hawdd b [...]d yn blant i Dduw ag y m [...]e rhai yn tybi [...]d. Yn wir nid iw ef fauch a gorthrwm mawr ir hwn a wiscodd y mabwysiad, yr hwn y mae ei oleuni yn discleirio canys iddo ef hyfrydwch iw.
7. Ond i droi 'r meddwl, ag i ddinistrio Hunan mae 'n rhaid [Page 60] wrth ddifrifwch nerthol gwastadol ar fath ddwysfwriad mai ped fae 'r corph ar onaid yn ymadel ai gilydd yn y matter yma, er hyny yr ewyllys a bâ [...]hae yn ddibaid i fyned ymlaen ag nid i ddychwelyd yn ol ir Hunan eilwaith.
8. Rhaid iw i ddyn ymdrech yn hir, sef, nes ir ganolfa dywyll sydd mor gyfyng-gauad agoryd, ag ir wreichionen yn y ganolfa honno ennyn, Ag oddiwrth hyny yn ddiattreg y mae cangen y lili ardderchawg yn glasu, fel oddiwrth yr hedyn mwstaid (megis y dywedodd Christ)
9. Rhaid i ddyn weddio o ddifrif, mewn gostyng [...]iddrwydd mawr, a thros amser fod yn ffwl yn ei resw m ei hunan, ai weled ei hun yn wag o ddealldwriaeth yn hyn, nes llunio Christ yn y gnawdoliaeth newydd yma.
10. Ag yno pan aner Christ, mae Herod yn barod i ladd y plentyn, [Page 61] yr hyn y mae fo yn ceisio i gwplhau oddiallan drwy erlidligaethau, ag oddifewn drwy brofedigaethau, i edrych a sydd y gangen-lis yma yn ddigon cref i ddinistrio teyrnas y diafol, yr hon a eglurwyd yn y cnawd.
11. Yna mae dinistriwr y sarph yn cael i ddwyn ir anialwch, ar ol i fedyddio drwy 'r y sbryd glan, ai brofi pa vn a wna ef ai parhau yn yr ymroddiad i ewyllys Duw. Rhaid iddo sefyll mor ddisigl, fel (os bydd rhaid) ewyllysgar iw i adel pob peth dayarol, ie ar bywyd oddiallan i fod yn blentyn i Dduw.
12. Nid oes dim prisio am hydedd dayarol yn y byd o flaen y m [...]bwysiad, ond rhaid iddo ai ewyllys i adel ai wrthod ef i gid, ag nid i gyfrif yn eiddo, ond edrych arno ei hunan yn vnig fel gwas mewn vfydddod iw feistr. Rhaid iddo adel pob perchenogaeth fydol. Nid ein meddwl ni iw na all ef [Page 62] fwynhau neu feddiannu dim. Ond rhaid iw galon ef i wrthod fel na bo ef yn dwyn ei ewyllys iddo, nag yn i gyfrif yn ei eiddo. Os gesyd ef i galon arno, nid oes ganddo allu i wasnaethu yr anghenus ar hyn sydd ganddo.
13. Nid iw Hunan yn gwasnaethu ond yr hyn sydd amserol yn vnig, ond mae gan yr ymroddiad awdurdod ar bob peth sydd dano, Rhaid iw i Hunan wneuthur beth bynnag a baro diafol iddo i wneuthur drwy chwantau 'r cnawd a balchder bywyd. Ond mae'r ymroddiad yn i fathru fo dan draed meddwl.
14. Mae Hunan yn dirmygu yr hyn sydd isel a gwirion; Ond mae 'r ymroddiad yn eistedd i lawr yn y llwch gida 'r gostyngedig, ag yn dywedyd, Mi fyddaf wirion ynof fy hun, heb graffu ar ddim, rhag im deall i dderchafu ei hunan a phechu. Mi or weddaf i lawr ynghynteddoedd [Page 63] fy Nuw wrth ei draed ef, fel y gallwyf wasnaethu fy Arglwydd yn yr hyn a orchmynno. Ni fynnafi wybod dim fy hunan, ond gadel i orchymyn fy Arglwydd fy arwain i, ag i minnau wneuthur yn vnig y peth a wnelo Duw drwosi, ag a fynnai ef i mi i wneuthur. Mi gyscaf ynof fy hunan nis ir Arglwydd fy neff [...]o i drwy ei ysbryd, ag onis gwna ef, Mi a waeddaf byth ag yn dragywydd ynddo ef, mewn distawrwydd, ag a ddisgwiliaf am ei orchmynion.
14. Fymrodyr anwyl, mae dynion yn y dyddiau yma yn ymffrostio llawer ynghylch ffydd. Ond pa le i mae y ffydd honno? nid iw 'r ffydd gyffredinol ond histori, Ond pa le mae 'r plentyn hwnnw syn credu fod yr Jesu wedi i eni? Ped fai 'r plentyn hwnw yn Bôd, ag yn credu eni 'r Jesu, fe neshae at y plentyn tirion Jesu ac ai derbynnie, [Page 64] ag ai mamhaethai.
15. ôch. Nid iw 'r ffydd yrawron ond Historiâol, nid iw hi ond yn vnig wybodaeth or Histori, ddarfod ir Iddewon i ladd ef, ag iddo yntau adel y byd, ag nad iw fo, yr awron yn frenin ar yddayar yn y dyn naturiol, Ond y gall dynion wneuthur a fynnont, ag nad rhaid iddynt hwy farw oddiwrth bechod a chwantau drwg. A hyn i gid y mae 'r Plentyn drwg Hunan yn ymddi fyrru ynddo i lawnborthi diafol wrth fyw yn foethus.
16. Mae hyn yn dangos yn eglur, na bu wir ffydd wannach nag eiddilach er amser Christ nag ydiw h yr awron. Ag er hyny, mae 'r byd yn gweiddi yn vchel ag yn dywedyd. Ni a gawsom y wir ffydd. Ag yn ymrysson am blentyn, fel na bu waeth ymrysonau er pan iw dynion ar y ddayar.
17. Os Sion wyti, a chenyt y plentyn newydd hwnnw eni, yr [Page 65] hwn a gollasid ond a gafwyd eilwaith, yna gâd i weled ef mewn nerth a rhinwedd, a gâd i ni gael golwg amlwg ar y plentyn prydferth Jesu wedli i escor genit ti, fel y gallom weled mai dydi iw i famfaeth. Onide, yna y plant ynghrist a ddywedant, ni chefaist ti ddim ond yr Histori, sef cryd y plentyn.
18. Pa le mae genit ti yr hyfryd faban Jesu.? Dydi yr hwn wyt yn ymchwyddo yn yr Histori, ath ffydd ffals dwyllodrus ôh, fel y daw plentyn Jesu (ar amser) attati yn naturiaeth ddigllon-gyneddf y Tâd yn dy wreiddyn cyffrous di dy hunan, yr hwn a fegaist ag a borthaist ynot. Mae fo yn galw arnatti yr awron, ond ni fynni di wrando, am fed dy glustiau diwedi i cau yn chwant a phleser y cnawd: Am hyny Rhaid i lais yr udcorn vnwaith dy yscwyd di ath gyffroi drwy erchyll garreg daran dy [Page 66] dymhestl dy hun, ath ddeffro di, ysgatfydd di gei [...]i ag a gei etto yr hyfryd faban Jesu.
19. Fy mrodyr anwyl. Amser iw hwn i geisio, i geisio ag i gael. Amser difrif rhyfedd iw, A gyffyrddo a gyffyrdd hyd adref. Y Sawl sydd yn gwilio, ai gwel ag ai clyw. Ond yr hwn sydd yn cysgu yn y pechod ag ymras-ddyddiau ei fôl ei hun yn dwedyd, mae pob peth yn llonydd ag yn heddychlon, ni chlywn ni ddim swn oddiwrth Dduw, hwn a gaiff i ddallu.
20. Ond mae llais yr Arglwydd wedi dechrau swnio yn holl eithafoedd y ddayar, ag mae mwg yn codi, ag ynghanol y mwg y mae gloywder a discleirdeb mawr.