Beatus vir. Psal.
1.
Dyma wynebni y psalmau: yn dangos tycciant y duwiol ac aflwydd y rhai anuwiol.
[...]
Y Sawl ni rodia, dedwydd yw,
[...] yn ol drwg ystryw gyngor,
[...] ni saif ar ffordd troseddwyr ffol,
[...] nid eiste 'n stol y gwatwor.
verse 2 Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,
ar ddeddf yr Arglwydd vchod:
Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos,
yn ddiddos ei fyfyrdod.
verse 3 Ef fydd fel pren plan ar lan dol,
dwg ffrwyth amserol arno:
Ni chrina 'i ddalen, a'i holl waith,
a lwydda 'n berffaith iddo.
verse 4 Nid felly bydd y drwg di-rus,
ond fel yr us ar gorwynt:
Yr hwn o'r tir
â'i chwyth a'i chwal,
anwadal fydd ei helynt.
verse 5 Am hyn y drwg ni saif mewn barn,
o flaen y cadarn vniawn:
Na'r pechaduriaid mawr eu bar,
ynghynulleid fa'r cyfiawn.
verse 6 Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni ad byth i barhau,
'mo lwybrau pechaduriaid.
Quare fremuerunt. Psal. II.
Mae'r prophwyd Dafydd yn yr yspryd glan yn rhagweled gwrthwyneb mawr i eglwys Christ. Lle y mae efe yn newid personau yn yr ymadrodd, mae'r yspryd yn gryfach na rheswm dyn.
[...] PAham y terfysc gwyr y byd,
[...] a pham y cyfyd rhodres?
[...] Pam y mae'r bobloedd yn cyd-wau,
[...] yn eu bwriadau diles?
verse 2 Codi y mae brenhinoedd byd,
a'i bryd yn gyd-gynghorol:
Yn erbyn Duw a'i Ghrist (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.
verse 3 Drylliwn eu rhwymau, meddan hwy,
ni wnawn ni mwy vfydd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
ni chant yn frau 'mo'n gorfod.
verse 4 Ond Duw 'r hwn sydd vwch wybrol len
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwydd nef a wel eu bar,
efe a'i gwatwar hwythau.
verse 5 Yna y dywaid yn eilid,
a hyn fydd rhybrid iddyn:
O'i eiriau ef y cyfyd braw,
a'i ddig a ddaw yn ddychryn.
verse 6 Gosod ais innau (meddai ef)
â llaw gref yn dragywydd:
Fy mrenin i, yn llywydd llon,
ar sanctaidd Sion fynydd.
verse 7 Dyma'r ddeddf a ddwedai yn rhwydd,
hon gan yr Arglwydd clywais:
Ti yw fy mab (o'm perffaith ryw)
a heddyw i'th genhedlais.
verse 8 Gofyn ym, a mi yt' a'i rhydd,
holl wledydd iw 'tifeddu:
Y cenedlaethau dros y byd,
i gyd a gai'meddiannu.
verse 9 Ti a'i briwi hwynt yn dy farn,
â gwialen hayarn hayach:
Ti a'i maluri, hwythau ân
mor fân a llestri priddach.
verse 10 Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,
byddwch ddoeth a synhwyrol:
A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,
i ostwng terfysg fydol.
verse 11 Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,
ac ofnwch ef drwy oglud:
A byddwch lawen yn Nuw cu,
etto drwy grynu hefyd.
verse 12 Cusenwch y mab rhag ei ddig,
a'ch bwrw yn ffyrnig heibio:
A gwyn ei fyd pob calon lân,
a ymddiriedan yntho.
Domine Quid? Psal. iij.
Achwyn Dafydd wrth Dduw rhag Absalon ei fab, a'i blaid; a chysur i'r eglwys.
Caner hon fel Psalm.
1.
O Arglwydd, amled ydyw 'r gwyr,
y sydd drallodwyr imi:
A llawer iawn i'm herbyn sydd,
o ddydd i ddydd yn codi.
verse 2 Dwedai lawer o'r gwrthgyrch blaid
yn drwm am f'enaid eisoes:
Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,
chwaith mawr ystor o'i einioes.
verse 3 Tithau O Arglwydd ymhob man,
ydwyd yn darian ymy:
Fy ngogoniant wyt: tu a'r nen,
y codi 'ymhen i fyny,
verse 4 Ar Dduw yr Arglwydd a'm holl lais,
y gelwais yn dosturaidd.
Ac ef a'm clybu i ar frys,
o'i vchel freinllys sanctaidd.
verse 5 Mi orweddais, ac a gyfgais,
ac mi a godais gwedi:
Canys yr Arglwydd oedd i'm dal,
i'm cynnal, ac i'm codi.
verse 6 Nid ofnaf fi, o'r achos hwn,
'mo fyrddiwn sydd yn barod:
O bobloedd, o'm amgylch yn dyn,
i'm herbyn wedi dyfod.
verse 7 Cyfod ti Arglwydd, achub fi,
drwy gosbi fy ngelynion:
Trewaist yr en torraist eu daint,
er maint yr annuwiolion.
verse 8 I'r Arglwydd byth (o achos hyn)
y perthyn iechydwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyngwlith
ei fendith yn dra helaeth.
Cum inuocarem. Psal. iiij.
Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag ei elynion.
DVw fy nghyfiownder clywaist fi,
i'm cyni pan i'th elwais:
Rhyddheaist fi, dod y'm vn wedd,
drugaredd, clyw fy oerlais.
verse 2 O feibion dynion hyd ba hyd
y trowch trwy gyd ymgabledd,
Fy mharch yn warth? a hynny sydd
drwy gelwydd a thrwy wagedd.
verse 3 Gwybyddwch ethol o Dduw cun,
iddo'i hun y duwiolaf:
A phan alwyf arno yn hy,
efe a wrendy arnaf.
verse 4 Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,
meddyliwch ar eich gwely,
verse 5 Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,
rhodd cyfiownder yw hynny.
verse 6 Pwy (medd llaweroedd) y pryd hyn,
a ddengys yn' ddaioni?
O Arglwydd, dercha d'wyneb pryd,
daw digon iechyd ini.
verse 7 Rhoist i'n calon lawenydd mwy,
(a hynny trwy dy fendith:)
Nag a fyddai gan rai yn trin,
amlder o'i gwin a'i gwenith.
verse 8 Mi orweddaf ac a hunaf,
a hynny fydd mewn heddwch:
Cans ti Arglwydd o'th vnic air,
a bair y'm ddiogelwch.
Ʋerbamea auribus. Psal. v.
Gweddi yn erbyn ei elynion, gan ddangos ei ymddygiad ei hun tuag at Dduw, heb wneuthur cam â'i elynion.
[...] ARglwydd clyw 'ngweddi yn ddiball,
[...] Duw deall fy myfyrdod:
[...]
verse 2 Erglyw fy llais a'm gweddi flin,
[...] Fy Nuw, a'm brenin hyglod.
verse 3 Yn forau gwrando fi fy Naf,
yn forau galwaf arnad:
verse 4 Cans nid wyd Dduw i garu drwg,
ni thrig i'th olwg anfad.
verse 5 Ni saif ynfydion yn dy flaen,
na'r rhai a wnaen anwiredd:
Y rhai hyn sydd gennyt yn gâs,
sef diflas yt bob gwagedd.
verse 6 Y rhai a ddwedant ffug a hud,
a phob gwyr gwaedlud creulon,
Ti a'i tynni hwyntwy o'r gwraidd,
fel ffiaidd annuwiolion.
verse 7 Dof finnau tu a'th dy mewn hedd,
am dy drugaredd galwaf:
Trwy ofn, a pharch, a goglud dwys,
i'th sanctaidd eglwys treiglaf.
verse 8 I'th gyfiownder arwain fi, Ner,
rhag blinder a chasineb.
Duw gwna dy ffordd rhag ofn eu brâd,
yn wastad rhag fy wyneb.
verse 9 Cans iw genau nid oes dim iawn,
mae llygredd llawn iw ceudod:
Eu gyddfau fel ceulannau bedd,
a gwagedd ar eu tafod.
verse 10 Distrywia hwynt iw camwedd, Ion,
o'i holl gynghorion cwympant,
Hwnt a hwy, a'i holl ddrygioni,
i'th erbyn di rhyfelant.
verse 11 A'r rhai a' mddiried ynot ti,
am yt' gysgod
[...] drostynt:
(Llawen a fydd pob rhai a'th gâr)
cei fawr yn llafar ganthynt.
verse 12 Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith
dy fendith ar y cyfion:
A'th gywir serch fel tarian gref,
rhoi drosto ef yn goron.
Domine ne in furore. Psal. vi.
Gweddi o drymder am ei bechodau: a phan gafas obaith, y mae yn dibrissio ei elyn, gan foli Duw.
[...]
O Arglwydd na cherydda fi,
[...] ymhoethni dy gynddaredd:
[...] Ac na chosba fi yn dy lid,
[...] o blegid fy enwiredd.
verse 2 O Arglwydd dy drugaredd dod,
wyflesg mewn nychdod rhybrudd:
O Arglwydd dyrd, iacha fi 'n chwyrn,
mae f'esgyrn i mewn cystudd.
verse 3 A'm henaid i or llesgedd hyn,
y sydd mewn dychryn sceler:
Tithau O Arglwydd, paryw hyd?
rhoi arnaf ddybryd brudd-der.
verse 4 Duw gwared f'enaid, dychwel di,
iacha fi a'th drugaredd:
verse 5 Nid oes yn angau gof na hawl,
a phwy ath fawl o'r pridd-fedd.
verse 6 Diffygiais gan ochain bob nos,
mewn gwal anniddos foddfa:
Rwy'n gwlychu drwy y cystudd mau,
a'm dagrau fy ngorweddfa.
verse 7 O ddig i'm cas a goddef drwg,
fy ngolwg sy'n tywyllu:
A chan y dwfr a red yn rhaff,
ynt angraff ac yn pylu.
verse 8 Pob vn a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd:
Cans clybu yr Arglwydd fy llais,
pan lefais am drugaredd.
verse 9 Yr Arglwydd clybu ef fy arch,
rhof finnau barch a moliant:
Fe dderbyn fy ngweddi, a'm gwaedd,
am hyn yr haedd ogoniant.
verse 10 Fe wradwyddir, fe drallodir,
yn ddir fy ngelynion:
Ac fo'i dychwelir drwy fefl glwth,
hwynt yn ddisymwth ddigon.
Domine Deus meus. Psal. vij.
Erfyn ar Dduw ei gadw rhag cam gyhuddiad, a'
[...] gydwybod yn lân.
Caner hon fel Psal.
5.
O Achub fi fy Nuw, fy Ner,
cans mae fy hyder ynod:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
cans mae o'r rheini ormod.
verse 2 Rhag llarpio f'enaid fel y llew,
heb vn dyn glew a'm gweryd:
A'm rhwygo i yn ddrylliau mân,
fal dyna amcan gwaedlyd.
verse 3 O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,
os drwg y sy'n fy nwylaw:
verse 4 Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,
pe bawn wrthwyneb iddaw:
verse 5 I erlid f' oesy gelyn doed,
dalied, a rhoed fi'n isaf,
A sathred f'urddas yn y llwch,
drwy'r diystyrwch eithaf.
verse 6 Cyfod o Dduw, cyfod i'th ddig,
a gostwng big pob gelyn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn yw d'orchymyn.
verse 7 Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,
a ddaw o'th ddautu attad:
Duw dychwel i 'th farn er eu mwyn,
a gwrando 'n cwyn yn wastad.
verse 8 Duw dyro i'r bobl y farn dau,
a barn di finnau Arglwydd:
Ac fel yr haeddais dod farn iawn,
yn ol fy llawn berffeithrwydd.
verse 9 Derfid anwiredd y rhai drwg,
gwna 'n amlwg ffordd y cyfion:
Cans vnion wyd, a chraff, Duw cu,
yn chwilio deutu 'r galon.
verse 10 Ac am fod Duw yn canfod hyn,
Duw yw f'amddiffyn innau:
Duw sydd iachawdur i bob rhai,
sydd lân ddifai 'i calonnau.
verse 11 Felly mae Duw byth ar yr iawn,
a Duw yw'r cyfiawn farnydd:
Wrth yr annuwiol ar bob tro
mae Duw yn digio beunydd.
verse 12 Ac oni thry 'r annuwiol râs,
fo lifa 'i loywlas gleddau:
Ar ynnyl y mae bwa'r Ion,
a'i barod lymion saethau.
verse 13 Sef arfau angau at y nod,
y maent yn barod ddigon:
Ac ni saetha ef ergyd byrr
at yr erlidwyr poethion.
verse 14 Wele hanes y gelyn drwg,
efe a ymddwg ar draha:
O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,
ar gelwydd yr esgora.
verse 15 Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,
o fwriad mawr i'r truan:
Ac ef a syrthiodd ymron bawdd,
i'r dyfn iw glawdd ei hunan.
verse 16 E'i holl enwiredd ar ei ben,
o vchder nen a ddisgyn:
A Duw a ddymchwyl yr vn wedd,
ei gamwedd ar ei goryn.
verse 17 Im harglwydd Dduw rhof finnau glod,
câf ganfod ei gyfiownder.
A chanmolaf ei enw yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r vchelder.
Domine Dominus. Psal. viij.
Clod i Dduw, gan ryfeddu a diolch am gyflwr dyn.
[...]
O Arglwydd ein Ior ni a'n nerth,
[...] mor brydferth wyd drwy'r hollfyd!
[...] Dy enw, a'th barch, a roist vwchben
[...] dayar ac wybren hefyd.
verse 2 Peraist yt nerth o enau plant,
a rhai a sugnant beunydd,
Rhag d'elynion: tawed am hyn,
y gelyn a'r dialydd.
verse 3 Wrth edrych ar y nefoedd faith,
a gweled gwaith dy fysedd:
Y lloer, y ser, a threfn y rhod,
a'i gosod mor gyfannedd.
verse 4 Pa beth yw dyn yt' iw goffau,
o ddoniau ac anwylfraint?
A pheth yw mâb dyn yr vn wedd,
lle rhoi ymgeledd cymaint?
verse 5 Ti a wnaethost ddyn o fraint a phris,
ychydig is Angylion:
Mewn mawr ogoniant, parch, a nerth,
rhoist arno bryd ferth goron.
verse 6 Ar waith dy ddwylo is y nef,
y gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod pob peth dan ei draed,
iddo y gwnaed llywodraeth.
verse 7 Defaid, gwartheg, a holl dda maes,
a'r adar llaes eu hesgyll:
Ehediaid nef, a'r pysg o'r don,
sy'n tramwy 'r eigion erchyll.
verse 8 O Arglwydd ein Ior ni a'n nerth,
mor brydferth wyd drwy'r hollfyd,
Dy enw a'th barch a roist vwchben,
daiar ac wybren hefyd.
Confitebor tibi. Psal. ix.
Diolch am orfoledd, a deisyf ar Dduw ei ymddiffyn rhag llaw.
[...] CLodforaf fi fy Arglwydd Ion,
[...] o'm calon, ac yn hollawl:
[...] Ei ryfeddodau rhof ar led,
[...] ac mae'n ddyled eu canmawl.
verse 2 Byddaf fi lawen yn dy glod,
ac ynod gorfoleddaf:
I'th enw (o Dduw) y canaf glod,
wyd hynod, y Goruchaf.
verse 3 Tra y dychwelir draw'n ei hol,
fy holl elynol luoedd,
Llithrant o'th flaen, difeth ir hwy,
ni ddon hwy mwy iw lleoedd.
verse 4 Cans rhoist fy marn yn fatter da,
gwnaethost eisteddfa vnion:
Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,
tydi yw'r barnwr cyfion.
verse 5 Ceryddaist, a distrywiaist di
y cenhedlaethi cyndyn:
Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,
ni bydd byth son am danyn.
verse 6 Distrywiaist dithau (elyn glâs)
do lawer dinas hyfryd:
Darfu dy nerth byth, darfu hyn,
a'r cof o honyn hefyd.
verse 7 Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,
ac yn dragywydd pery:
A pharod fydd ei faingc i farn,
a chadarn ydyw hynny.
verse 8 Cans efe a farna y byd,
a'r bobl i gyd fydd yntho:
Trwy gyfiownder, heb ofni neb,
a thrwy vniondeb rhagddo.
verse 9 Gwna'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
trueiniaid fo'i hymddiffyn:
Noddfa a fydd i'r rhai'n mewn pryd,
pan fo caledfyd arnyn.
verse 10 A phawb a'th edwyn rhon eu cred,
a'i holl ymddiried arnad:
Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,
a geisio'i wyneb attad.
verse 11 Molwch chwi'r Arglwydd, yr hwn sydd
yn sanctaidd fynydd Seion:
A dwedwch i'r bobl fal yr oedd
ei holl weithredoedd mowrion.
verse 12 Pan chwilio efe am waed neu drais,
fe gofia lais y truain:
Pan eisteddo a'r faingc y frawd,
fe glyw y tlawd yn germain.
verse 13 Dy nawdd Arglwydd, dydi ym' sydd
dderchafydd o byrth angau,
A gwel fy mlinder gan fy nghâs,
y sydd o'm çwmpas innau.
verse 14 Fel y mynegwyf dy holl wyrth,
a hyn ymhyrth merch Seion:
Ac fel y bwyflawen a ffraeth,
i'th iechydwriaeth dirion.
verse 15 Y cenhedloedd cloddiasent ffos,
lle'i suddent, agos boddi:
I arall lle cuddiasant rwyd,
eu traed a faglwyd ynthi.
verse 16 Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,
adwaenir wrth ei farnau:
A'r annuwiol a wnaethai'r rhwyd,
yn hon y daliwyd yntau.
verse 17 Yr annuwiol i uffern aed,
ac yno gwnaed ei wely:
A'r rhai' ollyngant Dduw dros gof,
bydd yno fyth eu lletty.
verse 18 Cans byth y gwirion a'r dyn tlawd
hyd dyddbrawd nis anghofir:
Y gweiuiaid a'r trueiniaid, hwy,
eu gobaith mwy ni chollir.
verse 19 O cyfod Arglwydd yn dy wyn,
na âd i ddyn mo'th orfod:
Barna'r cenhedloedd gar dy fron,
a'th farn yn vnion gosod.
verse 20 Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy rym,
yn awchlym i'th elynion.
Fel y gwybyddont, pe baent mwy,
nad ydynt hwy ond dynion.
Vt quid Domine. Psal. x.
Achwyn rhag trais cedyrn bydol.
[...]
O Arglwydd pa'm y sefi di,
[...] oddiwrthym ni cyn belled?
[...] Pa'm yr ymguddi di i'th rym,
[...] pan ydym mewn caethiwed?
verse 2 Y drygrai sydd yn blino'r tlawd,
gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnai' rhai'n,
hwynt hwy eu hunain dalier.
verse 3 Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun,
pawb yn gytun
â'i bechod:
Bendithio mael ydyw eu swydd,
a'r Arglwydd maent iw wrthod.
verse 4 Yr annuwiol ni chais Dduw ner,
(mae ef iw falchder cyfuwch:)
Ni chred ef, ac ni feddwl fod,
vn fâth awdurdod goruwch.
verse 5 Am fod ei ffyrddmewn lwyddiant hir,
ni wyl mo'th wir gyfammod:
Bydd dordyn wrth elynion mân,
sel chwythu tân mewn sorod.
verse 6 Fe ddwedodd hyn
â'i seddwl syth,
ni ddigwydd byth y'm adfyd:
Ni'm symudir o oes i oes,
ni chaf na gloes, na drygfyd.
verse 7 Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,
a'i sasn yn llawn melldithion:
Tan ei dafod y mae camwedd,
a thraws enwiredd creulon.
verse 8 Mewn cilfechydd y disgwyl fan
i lâdd y truan gwirion:
Ac ar y tlawd
â llygad llym
yn dangos grym ei galon.
verse 9 Fe orwedd fel y llew iw ffau,
i fwrw ei faglau trowsion:
Y gwan a'r tlawd a dynn iw rwyd,
ac yno y daliwyd gwirion.
verse 10 Fe duchan, fe a'mgrymma ei hun,
fel vn ar farw o wendid,
Ac ef yn gryf
â fel yn wael,
ar wan i gael ei ergyd.
verse 11 Yn ei galon, dwedodd am Dduw,
nad ydyw yn gofiadur:
Cuddiodd ei wyneb, ac ni wel
pa beth a wnel creadur.
verse 12 Cyfod Arglwydd, dercha dy law,
dy fod i'n cofiaw dangos:
Ac nag anghofia, pan fo rhaid,
dy weiniaid a'th werinos.
verse 13 Paham y cablant hwy wir Dduw,
yr enwir annuw lledffrom?
Pam' y meddyliant arnat ti
nad ymofynni am danom?
verse 14 Gwelaist hyn: cans canfyddi drais,
a chospi falais anfad:
Tydi yw gobaith tlawd, a'i borth,
a chymorth yr ymddifad.
verse 15 Tor ymaith yr annuwiol rym
yn gyflym, a'r maleisus,
Cais allan eu hanwiredd hwy,
ni chai di mwy'n ddrygionus.
verse 16 Yr Arglwydd sydd yn frenin byth,
ef yw'r gwehelyth lywydd:
Distrywiwyd pob cenhedlaeth gref
o'i dir ef, yn dragywydd.
verse 17 Duw, gweddi'r gwan a glywaist di,
ac a gysuri 'r galon:
Tro eilwaith attom' y glust dau,
a chlyw weddiau ffyddlon.
verse 18 Tros yr ymddifaid y rhoi farn,
a'r gwan fydd cadarn bellach:
Megis nas gall daiarol ddyn
mo'r pwyso arnyn mwyach.
Domine confido. Psalm. xi.
Aml brofedigaethau. Duw yn gwared allan o honynt, ac yn llywodraethu y da a'r drwg.
[...] CRedaf i'r Arglwydd yn ddi-nam:
[...] paham y dwedwch weithian
[...] Wrth f'enaid, hwnt, a hed i'th fryn,
[...] fel wrth aderyn bychan?
verse 2 Wele'r annuwiol a'i bwâu,
a'i cawell saethau'n barod,
Am wirioniaid ynllechu'n fain,
i saethu'r rhai'n o gysgod.
verse 3 Y seilfain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?
verse 4 Mae'r Arglwydd yn ei ddinas gref,
fe weryd ef y cyfion.
Yr Arglwydd o'i orseddfa fry
at y tlawd try ei olwg,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,
iw lygaid ydyn amlwg.
verse 5 Mae'r Arglwydd o'r naturiaeth hon,
prawf gyfion er ymgeledd,
Ond câs yw gan ei enaid fo
ddyn drwg a hoffo wagedd.
verse 6 Ar bechaduriaid marwor, tân,
a brwmstan a ddaw'n gawod,
A gwynt tymestlog vchel iawn,
fal dyna lawn wialennod.
verse 7 Cans cyfion ydyw'r Arglwydd ner,
cyfiownder mae'n ei garu;
A'i wyneb at yr vnion try,
a hynny iw ymgleddu.
Saluum me fac. Psalm. xij.
Wrth weled anllywodraeth, y mae efe yn prophwydo, pan addfe
[...]o drygioni, y daw tro gwell.
[...]
O Achub bellach Arglwydd cu,
[...] fe ddarfu'r trugarogion:
[...] A'r holl wirionedd a'r ball aeth
[...] o blith hiliogaeth dynion.
verse 2 A gwefus gweniaith dwedant ffug,
er twyll a hug i'r eiddyn:
A chalon ddyblyg yr vn wedd
y cair oferedd ganthyn.
verse 3 Yr Arglwydd torred o'i farn faith
wefusau'r gweniaith diles:
A'r holl dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres.
verse 4 Gallwn orfod o nerth tafod,
dwy wefus y sydd eiddom:
Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,
a phwy sydd Arglwydd arnom?
verse 5 Yntau ein Duw a ddwedodd hyn,
rhag llethu'r gwaelddyn codaf:
Y dyn gofidus, tlawd, a'r caeth,
mewn iechydwriaeth dodaf.
verse 6 Pur iawn yw geiriau'r Arglwydd nef
a'i 'ddewid ef sydd berffaith,
Fel arian o ffwrn, drwy aml dro
wed'i goeth buro seithwaith.
verse 7 Ti Arglwydd, yn ol dy air di,
a'i cedwi mewn hyfrydwch
Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,
dy weision i gael heddwch.
verse 8 Pan dderchafer y trowsion blin,
da ganthyn drin anwiredd:
Felly daw dynion o bob parth
i fwyfwy gwarth o'r diwedd.
Ʋsquequó Domine. Psal. xiij.
Ymresymmu â Duw, drwy boethni y
[...] Yspryd, a thrwy weddi cael gobaith.
Caner hon fel Psal.
2.
PA hyd fy Arglwydd, Dduw dilyth?
a'i byth yr wyf mewn angof?
Pa guddio r'wyd, (o Dduw) pa hyd?
dy lân wynebpryd rhagof?
verse 2 Ba hyd y rhed meddyliau tro
bob awr i flino 'nghalon?
Pa hyd y goddefaf y dir?
dra codir fy nghaseion.
verse 3 O Arglwydd edrych arnaf fi,
a chlyw fy ngweddi ffyddlon.
Egor fy llygaid, rhag eu cau
ynghysgfa angau ddigllon.
verse 4 Pe llithrwn ddim, (rhag maint yw'r llid)
fo ddwedid fy ngorchfygu:
A llawen fyddai fy holl gâs:
dal fi o'th râs i fynu.
verse 5 Minnau'n dy nawdd a rois fy ffydd,
a'm holl lawenydd eithaf:
Canaf i'm Duw am helpodd i,
gwnaf gerddi i'r Goruchaf.
Dixit insipiens. Psal. xiiij.
Yn erbyn traha ar Dduw, a dynion.
FE ddwedai'r ynfyd nad oes Duw,
ac felly byw drwy goegni;
Ymlygru'n ffiaidd, ni chais gel:
nid oes a wnel ddaioni.
verse 2 O'r nef yr edrychodd yr Ion
ar holl drigolion daear,
A roddai neb ei goel a'r Dduw,
a cheisio byw'u ddeallgar.
verse 3 Fe giliodd pawb at lygredd byd,
ymdroenti gyd mewn brynti:
Nid oes vn a wnel well nâ hyn,
nac vn a fyn ddaioni.
verse 4 Eu gwddf sy fedd agored cau
maent
â thafodau 'strywgar.
A gwenwyn lindis sy'n parhau
dan eu gwefusan twyllgar.
verse 5 A'i genau llawn (fel gwenwyn llith)
o felldith, ac o fustledd:
Ac anian esgud yw eu traed
i dywallt gwaed a dialedd.
verse 6 Distryw ac anhap sy'n eu ffyrdd
ni' dwaenant brifffyrdd heddwch:
Nid oes ofn Duw'n eu golwg hwy,
ni cheisiant mwy'difeirwch.
verse 7 Pam? oni wyddant hwy eu bod
drwy bechod, y modd yma,
Yn ysu sy mhobl a'i cildroi,
vn wedd a chnoi y bara?
verse 8 Gweddi o'r Arglwydd hwy ni wnânt,
yn hyn dychrynant luoedd:
Am fod Duw'n dala gydâ'r iawn,
yn vn a'r cyfiawn bobloedd.
verse 9 Gwradwyddech gynt gyngor y tlawd
fal y gwnewch drallawd etto:
Am i'r tlawd gredn y doe llwydd
oddiwrth yr Arglwydd iddo.
verse 10 Pwy a all roi i Israel,
o Sion vchel iechyd?
Pwy ond ein Duw? yr hyn pan wnel,
bydd Iago ac Israel hyfryd.
Domine quis habitabit. Psal. xv.
Dull a chyflog buched dda.
DYwaid i mi pa ddyn a drig,
i'th lys barchedig, Arglwydd?
A phwy a erys ac a fydd
ym mynydd dy sancteiddrwydd?
verse 2 Yr hwn a rodia'n berffaith dda,
yr hwn a wna gyfiownder:
A'r hwn a draetha o'i galon wir,
a drig ar dir vchelder.
verse 3 Yr hwn ni ddywaid, ac ni wna,
ddim ond o'r da bigilydd:
Ac ni chynnwys y rhai a ron
iw cymydogion gwilydd.
verse 4 Y'r hwn sydd isel yn ei fryd,
yn caru'i gyd gristnogion,
Yr hwn sy 'n ofai 'r Arglwydd Dduw,
ac sydd yn byw yn ffyddlon.
verse 5 Yr hwn ni thyng ddim ond y gwir,
er dir neu niwed iddo:
Ac ni ro ei arian yn llog,
er dwyn cymydog dano.
verse 6 Na gobr, na rhodd, yr hwn ni fyn,
er dal yn erbyn gwirion.
verse 7 A wnelo hyn ni lithra fyth,
fe gaiff y ddilyth goron.
Conserua me. Psal. xvi.
Mae Dafydd yn enw'r eglwys yn ymroi i Dduw, yn coffau ei ddaioni, ac yn cydnadob fod ein holl ddedwyddwch ni yntho ef, drwy Ghrist, a'
[...] gyfodiad.
CAdw fi Duw, cans rhois fy mhwys
a'm coel yn dradwys arnad:
verse 2 Fy Arglwydd wyd: mae dan fy mron,
y gyffes hon yn wastad:
Nad lles yt yw na'm da, na'm rhin:
verse 3 ond i drin sanct daiarol,
I lesu'r rhai'n fy' wyllys yw,
y rhai sy'n byw'n rhinweddol.
verse 4 I'r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi vn amser.
verse 5 Ni henwaf chwaith, Yr Arglwydd yw
fy modd i fyw, a'm phiol:
A thydi Ior sy'n rhoi'mi ran,
a chyfran yn ddigonol.
verse 6 A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran
o fewn y fan hyf
[...]ydaf:
Digwyddodd ymy, er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.
verse 7 Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor ymmy,
F'arennau hefyd ddydd a nes,
sydd ym yn dangos hynny.
verse 8 Rhois fy Ner (bob awr) gar fy mron,
o'r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy nehau law,
yma na thraw ni syflaf.
verse 9 O herwydd hyn, llawen a llon
yw fy nghalon: ac eilwaith
Hyfryd yw fy mharch a di ddig,
a'm cnawd a drig mewn gobaith.
verse 10 Cans yn vffern ni edi di
mo'm henaidi, i aros:
Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)
i weled llygredd ceuffos.
verse 11 Dangosi ym lwybr i fyw 'n iawn,
dy fron yw'r llawn llawenydd,
Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,
mae digrifwch tragywydd.
Exaudi Domine iustitiam. Psal. xvij.
Achwyn rhag brenin Saul, a dangos ei deilyngdod yn yr achos.
OClyw gyfiownder Arglwydd mâd,
ystyr fy nâd i'th grybwyll,
Clust ymwrando a'r weddi fau
sydd o wefusau didwyll.
verse 2 Disgwilia' marn oddiwrthyt ti,
cans da y gweli'r vnion:
Profaist a gwyddost ganol nos
mor ddiddos ydyw'nghalon.
verse 3 Ban chwiliaist fi (da yw dy gof)
ni chefaist ynof gamwedd,
Fy myfyr mâd na'm meddwl llaes,
na ddoed ymaes o'm dannedd.
verse 4 I ochel cydwaith dynion drwg,
drwy d'air a'th amlwg cyngor,
Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,
fe ddysgwyd ym ei hepgor.
verse 5 Ond yn dy vnion lwybrau di,
Duw, cynal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o'th tawn hwyl,
Duw disgwyl fy ngherddediad.
verse 6 Galw yr wyf arnad, am dy fod
yn Dduw parod i wrando,
Gostwng dy glust, a chlyw yn rhodd
fy holl ymadrodd etto.
verse 7 Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)
I'r rhai sy'n ymroi dan dy law,
rhag broch, a braw y trowsion.
verse 8 Cadw fi'n anwyl rhag eu twyll,
os anwyl canwyll llygad:
Ynghysgod dy adenydd di,
o cadw fi yn wastad,
verse 9 Rhag yr annuwiol a'i mawr bwys,
a rhag fy nghyfrwys elyn,
Y rhai a gais fy enaid i,
gan godi yn fy erbyn.
verse 10 Maent hwy mor dordyn ac mor frâs,
ac yn rhy gâs eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrost ar lled,
ganfalched eu parablau.
verse 11 Maent hwy yn amgylchu yn flin
y lle yr ym m'n cyniwer,
Ac
â'i golygon tua'r llawr
mewn gwg a thramawr hyder.
verse 12 Maent hwy fei llew, dan godi gwrych,
a fai'n chwennych ysglyfaeth:
Neu fel llew ifangc (er i les)
a geistai loches hyfaeth.
verse 13 Cyfod Arglwydd, o'i flaen ef saf,
dy help a gaf i'm henaid,
A tharo'i lawr
â'th gleddyf noeth
yr enwir fflamboeth tanbaid.
verse 14 Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd,
sy' ai rhan i gyd oddiymma,
Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plant
yn fawr eu chwant a i traha.
verse 15 Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,
a welaf lun d'wynebpryd,
A phan ddihunwyf o'r hun hon
y byddaf ddigon hyfryd.
Diligam te. Psalm. xviij.
Dafydd yn diolch i Dduw, am ei orfoledd a'i frenhiniaeth, gan ddatgan gwrthiau Duw, yn rheoli hinon: y mae yn prophwydo am Grist.
O Ior fy ngrym caraf di'n fawr
fy nghreiglawr, twrf'ymwared,
verse 2 Fy Nâf, fy nerth, fy nawdd, fy Nuw,
hwn yw fy holl ymddiried.
verse 3 Pan alwyf ar fy Ior hynod,
i'r hwn mae clod yn gyfion,
Yna i'm cedwir yn ddiau
rhag drygau ty nghaseion.
verse 4 Gofidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i'm herbyn,
A llifodd afonydd y fall
yn ddiball, er fy nychryn.
verse 5 Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
am câs yn nesu attaf;
verse 6 Yna ygelwais ar fy Ner,
ef o'r vchelder clywodd,
A'm gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,
a thirion y croesafodd.
verse 7 Pan ddigiodd Duw, daeth daeargryn,
a sail pob bryn a siglodd:
A chyffro drwy'r wlad ar ei hyd,
a'r hollfyd a gynhyrfodd.
verse 8 O'i enau tan, o'i ffroenau tarth,
yn nynnu pobparth wybren:
verse 9 A chan gymylau dan ei draed,
du y gwnaed y ffurfafen.
verse 10 Ac fal yr oedd ein Ior fel hyn,
vwch Cherubyn yn hedeg:
Ac vwch law adenydd y gwynt,
mewn nefol helynt hoywdeg.
verse 11 Mewn dyfroedd a chymylau fry,
mae' i wely heb ei weled.
verse 12 Ac yn eu gyrru 'n genllysg mân,
a marwor tân i wared.
verse 13 Gyrrodd daranau, dyna 'i lef,
gyrrodd o'r nef gennadon.
verse 14 Cenllysg, marwar tân, mellt yn gwau,
fal dyna'i saethau poethion.
verse 15 Distrywiwyd dy gas: felly gynt
gan chwythiad gwynt o'th enau:
Gwasgeraist di y moroedd mawr,
gwelwyd y llawr yn olau.
verse 16 Felly gwnaeth Duw a mi'r un modd,
anfonodd o'r vchelder,
Ac a'm tynnodd, o'r lle yr oedd
i'm hamgylch ddyfroedd lawer.
verse 17 Fe a'm gwaredodd Duw fal hyn,
o ddiwrth fy ngelyn cadarn:
Yn rhydrwm imi am ei fod,
rhof finnau glod hyd dyddfarn.
verse 18 Safent o'm blaen ni chawn fford rydd
tra fum yn nydd fy ngofid:
Ond yr Arglwydd ef oedd i'm dal,
a'm cynal yn fy ngwendid.
verse 19 Fy naf ei hun a'm rhoes yn rhydd,
fe fu waredydd ymy:
Ac o dra serch i mi y gwnaeth,
na bawn i gaeth ond hynny.
verse 20 Yr Arglwydd am gobrwya 'n ol,
fy ngwastadol gyfiownder:
Ac yn ol glendid fy nwy law,
tal i'm a ddaw mewn amsex.
verse 21 Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,
ni wneuthym hyder ormod,
Na dim sceler erbyn fy Nuw,
gochelais gyfryw bechod.
verse 22 Cans ei ddeddfau, maen ger fy mron
a'i hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio'r vn or rhai'n,
hwy ynt fynghoelfain innau.
verse 23 Bum berffaith hefyd o'i flaen, ac
ymgedwais rhag byw' n rhyddrwg:
verse 24 A'r Arglwydd gobrwyodd fi'n llawn
yr hyn fu'n iawn iw olwg.
verse 25 I'r trugarog trugaredd rhoi,
i'r perffaith troi berffeithrwydd:
verse 26 A'r glan gwnei lendid ac i'r tyn,
y byddi gyndyn Arglwydd.
verse 27 Cans mawr yw dy drugaredd di,
gwaredi 'r truan tawel:
Ac a ostyngi gar dy fron,
rai a golygon vchel.
verse 28 Ti a oleui 'nghanwyll i,
am hynny ti a garaf,
Tydi a droi fy nos yn ddydd,
a'm tywyll fydd goleuaf,
verse 29 Oblegid ynot ti, fy Naf,
y torraf trwy y fyddin:
Ie yn fy Nuw y neidia'n llwy
[...];
be tros y fagwyr feinin.
verse 30 Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef,
a'i airef sydd buredig:
Ac i bob dyn yntho a gred
mae'n fwccled bendigedig.
verse 31 Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,
pwy ond yr Arglwydd nefol?
A phwy sydd graig onid ein Duw?
sef, disigl yw'n dragwyddol.
verse 32 Duw a'm gwregysodd i a nerth,
a rhoes ym brydferth lwybrau.
verse 33 Foroes fy nrhaed ar hy-lwybr da,
gorseddfa'r vchelfannau.
verse 34 Efe sy'n dysgu rhyfel ym'
gan roi grym i'm pawennau:
Fel y torrir bwa o ddur
yn brysur rhwng fy mreichiau.
verse 35 Daeth o'th ddaioni hyn i gyd,
rhoist darian iechyd ymy:
A'th law ddeau yr wyd im' dwyn,
o'th fwynder yr wy'n tyfy.
verse 36 Ehengaist ymy lwybrau teg,
i redeg buan gamrau:
Nid oes ynof vn cymal gwan,
ni weggian fy mynyglau.
verse 37 Erlidiais i fy nghas yn llym,
a daethym iw goddiwedd:
Ac ni throis vn cam i'm hol mwy
nes eu bod hwy'n gelanedd.
verse 38 Gwnaethym arnynt archollion hyll
fel sefyll nas gallasant:
Ond trwy amarch iw cig, a'i gwaed,
i lawr dan draed syrthiasant.
verse 39 Gwregysaist fi a gwregys nerth,
at wres ac angerth rhyfel:
A'r rhai a dd'aeth i'm herbyni,
a gwympaist di'n ddiogel.
verse 40 Fal hyn y gwnaethost imi gau
ar warrau fy ngelynion,
A'm holl gas a ddifethais i,
rhois hwynt i weiddi digon.
verse 41 Ac er gweiddi drwy gydol dydd
ni ddoe achubydd attynt,
Er galw'r Arglwydd: ni ddoe neb
a roddai atteb iddynt.
verse 42 Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,
fal dyna helynt efrydd;
Ac mi a'i sethrais hwynt yn ffrom,
fel pridd neu dom heolydd.
verse 43 Gwaredaist fi o law fy nghas,
rhoist bawb o'm cwmpas danaf:
Doe rai ni welsent fi er ioed
a llaw, a throed, hyd attaf.
verse 44 Addaw vfydd-dod, ond fo gaid
gan blant estroniaid gelwydd:
verse 45 A phlant estroniaid twyll a wnant,
ond crynant iw ffafellydd.
verse 46 Eithr byw yr Arglwydd ar fymhlaid,
fy nghraig fendigaid hefyd,
Derchafer Duw: yntho ef trig
fy nerth a'm vnig Iechyd.
verse 47 Fy Nuw tra fo a'i nerth i'm dal,
rhoi dial hawdd y gallaf.
A rholi pobloedd: cans efo
sydd yn eu twyso attaf.
verse 48 Fy ngwaredydd, a'm derchafydd,
o chyfyd rhai i'm herbyn,
Wyt ti o Dduw: a'm dug ar gais
rhag drwg a thrais y gelyn.
verse 49 Am hyn canmolaf di yn rhwydd
o Arglwydd, Dduw y lluoedd:
Canaf dy glod: a hyn fydd dysg,
ymysg yr holl genhedloedd.
verse 50 Duw sydd yn gwneuthyr (o'i fawr rad)
fawrhad i frenin Dafydd,
Ac iw eneiniog ei wellad,
ac iw had yn dragywydd.
Coeli enarrant. Psalm. xix.
Dangos gogoniant Duw yn eu greaduriaid, a'i gyfraith, a'
[...] râs.
DAtgan y nefoedd fowredd Duw,
yr vnrhyw gwna'r ffurfafen.
verse 2 Y dydd i ddydd, a'r nos i nos,
sy'n dangos cwrs yr wybren.
verse 3 Er nad oes ganthynt air nac iaith,
da y dywaid gwaith Duw lywydd,
Diau nad oes na mor, na thir,
na chlywir eu lleferydd.
verse 4 Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,
a'i geiriau hyd eithafoedd.
Yr haul teg a'i gwmpas sydd bell,
a'i babell yn y nefoedd.
verse 5 O'r hon y cyfyd ef yn rhod,
fel priod o'i orweddfa.
Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawr
fel cawr yn rhedeg gyrfa.
verse 6 O eithaf hyd eithafoedd nef
y mae ef a'i amgylchiad,
Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)
ymguddio o'i oleuad.
verse 7 Dysg yr Arglwydd sydd bersfaith ddawn
a dry i'r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei wir dystiolaeth
wybodaeth i'r ffyddloniaid.
verse 8 Deddfau Duw Ion ydynt vnion,
llawenant galon ddiddrwg,
A'i orchymyn sydd bur diau
a rydd olau i'r golwg.
verse 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân: ac byth
y pery'n ddilyth hyfryd,
Barnau'r Arglwydd ynt yn wir llawn
i gyd, a chyfiawn hefyd.
verse 10 Mwy deisyfedig ynt nac aur,
ie na choethaur lawer,
Melysach hefyd ynt na'r mel,
sef dagrau terfel tyner.
verse 11 Cans ynthynt dysgir fi, dy wâs
ar addas a'r vnionder:
A'r holl gamp sy o'i cadw nhwy,
felly cair gobrwy lawer.
verse 12 Er hynny i gyd, pwy a all
iawn ddeall ei gamweddau?
O gwna fi'n lân, (a bydd ddiddig)
o'm holl guddiedig feiau.
verse 13 Duw attal feiau rhyfig, chwant,
na thyfaut ar fy ngwarthaf:
Yno byddaf wedi 'nglanhau
o'm holl bechodau mwyaf.
verse 14 O Arglwydd, fy mhrynwr a'm nerth,
bydded yn brydferth gennyd.
Fy'madrodd, pan ddel gar dy fron,
a'm myfyr calon hefyd.
Exaudiat te Dominus. Psal. xx.
Y bobl yn bendithio eu brenin, ac yn gweddio yn erbyn eu gelynion, wrth fynd allan i ryfel.
GWrandawed di yr Arglwydd Ner
pan ddel cyfyngder arnad,
Enw Duw Iacob, ein Duw ni,
a'th gadwo di yn wastad.
verse 2 O'i gysegr rhoed yt help a nerth,
a braich o bryd
[...]erth Seion:
verse 3 Cofied dy offrwm poeth a'th rodd,
b
[...]'rhai'n wrth fodd ei galon.
verse 4 Rhoed ytty wrth dy fodd dy hun,
dy ddymun a'th adduned:
Dy fwriad iach a'th arfaeth tau,
a'th weddiau gwrandawed.
verse 5 Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn faner:
A'th ddeisyfiadau gwnaed yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r uchelder.
verse 6 Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o'i gysegr drwn ei'neiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.
verse 7 Rhai ar gerbydau rhont eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minnau ar enw'r Arglwydd Ddyw,
mai hwnnw yw'n ymwared.
verse 8 Hwy a'mroesant a syrthiasant,
yn eu nerth eisoes yno:
Codasom a safasom ni,
O Dduw, a thi i'n llwyddo.
verse 9 Cadw ni Arglwydd a'th iaw gref,
boed brenin y nef drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni,
a'n gweddi pan y llefom.
Domine in virtute. Psal. xxi.
Gorfoledd dros y brenin am orchfygu amryw dyrnasoedd a chenedloedd.
O Arglwydd, yn dy nerth a'th rin,
mae'r brenin mewn llawenydd:
Ac yn dy iechyd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunydd.
verse 2 Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fodd,
ac o vn rhodd ni phellaist.
verse 3 Cans da'r achubaist ei flaen ef,
a doniau nef yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddaionus Ion,)
rhoist goron aur o'r puraf.
verse 4 Ef a ofynnodd gennyd oes,
a rhoddaist hiroes iddo:
A hon dy rodd, dros byth y bydd,
nid a'n dragywydd heibio.
verse 5 I'th iechydwriaeth y mae'n byw,
a mawr yw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth yw ei lwyddiant.
verse 6 Rhoist dy fendithion vwch pob tawl,
yn rhodd dragwyddawl iddo:
A llewych d'wyneb byth a fydd,
yn fawr lawenydd arno.
verse 7 Am fod y brenin yn rhoi'i gred,
a'i 'mddiried yn yr Arglwydd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddo dramgwydd.
verse 8 A thydi Arglwydd a'th law lan,
cei allan dy elynion:
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
ni ddiangant dy gaseion.
verse 9 Di a'i gosodi 'n nydd dy ddig,
fel ffwrnais ffyrnig danllyd:
Yr Arglwydd iw lid a'i difa,
a'r tân a'i hysa'n enbyd.
verse 10 Diwreiddi dieu ffrwyth o'r tir,
a'i had yn wir ni thyccian:
verse 11 Am fwriadu yt ddrwg ddilen,
heb ddwyn i ben mo'i hamcan.
verse 12 Ti a'i gosedi hwy'r naill du,
a thi a'th lu iw herbyn:
Ac a lefeli dy fwau,
at eu hwynebau cyndyn.
verse 13 ymddercha dithau f'Arglwydd, gun,
i'th nerth dy hun a'th erfid:
Ninnau a ganwn, o'n rhan ni.
i foli dy gadernid.
Deus, Deus meus. Psal. xxij.
Prophwydoliaeth o ddioddefaint Christ, a'i weddi dros yr eglwys, a'i swyddau tragwyddol, yn brophwyd, yn offeiriad, yn frenin.
DAngos fy Nuw, fy Nuw, a'm grym,
ba achos ym gadewaist.
Pell wyd o'm iechyd, ac o nâd
fy'mloeddiad, llwyr i'm pellaist.
verse 2 Fy Nuw' rwy 'n llefain, tithau heb
roi ym' mor atteb etto,
Bob dydd a nos mae 'nghri 'n ddiffael,
a heb gael mo'm dihuddo.
verse 3 A thi wyd sanct, sanct i barhau,
lle daw gweddiau 'n wastad:
A holl dy Israel a'i clod,
a'i pwys a'i hystod attad.
verse 4 Yno't gobeithiai 'n tadau ni,
a thydi oedd eu bwccled:
Ymddiried ynot, Arglwydd hael,
ac felly cael ymwared.
verse 5 Llefasant drwy ymddiried gynt,
da fuost iddynt, Arglwydd:
Eu hachub hwynt a wnaethost di
rhag cyni a rhag gwradwydd.
verse 6 Fo'm rhifir innan megis pryf,
nid fel gwr cryf ei arfod:
Fel dirmyg dynion, a gwarth gwael,
a thybiant gael eu hystod.
verse 7 Pawb a'm gwelent, a'm gwatworent,
ac a'm min-gamment hefyd,
Ysgwyd eu pennau yn dra hy,
a chwedi hynny dwedyd,
verse 8 Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chred,
doed ef iw wared allan,
Os myn ei ollwng ef ar led,
cymered iddo ei hunan.
verse 9 Duw tynnaist fi o groth fy mam,
rhoist ynof ddinam obaith,
Pan oeddwn i yn sugno hon,
ac o'i dwy fron am harchwaith.
verse 10 Arnat ti bwriwyd fi o'r bru,
arnat ti bu fy 'mddiried:
Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,
ffyddiais yt am fy ngwared.
verse 11 Oddiwrthif fi yn bell na ddos,
tra fo yn agos flinder,
I'm cymorth i, gan nad oes neb
a drotho'i wyneb tyner.
verse 12 Bustych lawer, a chryfion iawn,
daethant yn llawn i'm gogylch.
A theirw Basan o bob parth,
yn codi tarth o'm hamgylch.
verse 13 Egorant arnaf enau rhwth
i'm bygwth, fel y llewod,
A faent yn rhuo eisiau maeth,
o raib ysclyfaeth barod.
verse 14 Fel dwfr rwyfi yn diferu'n chwyrn,
a'm hesgyrn, sigla'r rhei'ni:
Fy nghalon o'm mewn darfu'n llwyr,
fel cwyr a fai yn toddi.
verse 15 Fel priddlestr mae fy nerth mor swrth,
ynglyn wrth fy ngorchfanau
Mae fy nhafod, yr wyf mor drwch,
fy 'nghyfle yw llwch angau.
verse 16 Cans ewn cylchasant fi, fy Ner,
a chadfa sceler ddiffaith:
Cloddiasant fy nwy law a'm traed,
ac felly gwnaed fy artaith.
verse 17 A rhiso fy holl esgyrn i,
gan guini hawdd y gallaf,
Maent hwythau'n gweled hynny 'n
bob tro yn edrych arnaf.
verse 18 Rhyngthynt iw mysg y dillad mau wych,
yn rhannau dosbarthasant,
A hefyd ar fy mrhif wisc i
coelbrenni a fwriasant.
verse 19 Tithau fy nerth a'm harglwydd da,
nac ymbellâ oddiwrthy,
O bryssia, tydi yw fy mhorth,
a thyr'd a chymorth ymy.
verse 20 O dyr'd, ac achub yr oes fau
rhag ofn y cleddau ffyrnig,
A gwared o feddiant y ci
fy enaid i sy'n vnig.
verse 21 Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,
dwg o'i safn rhwth fy enaid,
Achub a gwrando fi yn chwyrn
rhag cyrn yr vnicorniaid.
verse 22 Mynegaf finnau d'enw yn bur
i'm brodur yn yr orsedd,
Lle mwya'r gynulleidfa lân,
dy glod a wna'n gyfannedd.
verse 23 Hâd Iaco ac Israel, chwychwi
rhai ych yn ofni'r Arglwydd,
Drwy ofn y rhowch iddo foliant,
a rhowch ogoniant ebrwydd.
verse 24 Cans ni'ch llysodd, ni'ch dirmygodd,
ni chuddiodd ei wynebpryd,
Eithr gwrandawodd weddi y gwan,
a'i duchan yn ei adfyd.
verse 25 Honot ti bydd, ac i ti gwedd
mewn aml orsedd fy moliant.
I Dduw rhof f' addunedau'n llon
gar bron y rhai a'i hofnant.
verse 26 Diwellir y tlodion: a'r rhai
a geislai at yr Arglwydd
A'i molant ef, fo gaiff (gwir yw)
eich enaid fyw'n dragywydd.
verse 27 Trigolion byd a dront yn rhwydd
at yr Arglwydd pan gofiant:
A holl dylwythau'r ddaear hon
dônt gar ei fron, ymgrymant.
verse 28 Cans yr Arglwydd biau'r dyrnas,
a holl gwmpas y hydoedd:
Ac vwch eu llaw, ef vnig sydd
ben llywydd y cenhedloedd.
verse 29 Y cyfoethogion a fwytânt,
addolant yn eu gwnfyd:
Rhai a ânt i'r llwch gar ei fron,
a rhai, braint meir won hefyd.
verse 30 Y rhai'n oll a'i hâd, yn vn fryd
gwnânt iddo gyd wasanaeth:
A'r rhai'n i'r Arglwydd drwy'r holl dir
a rifir yn genhedlaeth.
verse 31 Dont, dangosant ei vniondeb
y rhai sydd heb eu geni:
Hyn a addawodd, ef a'i gwnaeth,
hynny a ddaeth o ddifri.
Dominus regit me. Psal. xxiij.
Gobaith yn naioni Duw.
YR Arglwydd yw fy 'mugail clau,
ni âd byth eisiau arnaf:
verse 2 Mi a gâf orwedd mewn porfa frâs,
ar lan owfr gloywlas araf.
verse 3 Fe goledd f'enaid, ac a'm dwg
rhyd llwybrau diddrwg cyfion,
Er mwyn ei enw mawr dilys
fo'm tywys ar yr vnion.
verse 4 Pe rhodiwn (nid ofnwn am hyn)
Yn nyffryn cysgod angau,
Wyd gyda mi, a'th nerth, a'th ffon,
ond tirion ydyw'r arfau?
verse 5 Gosodaist fy mwrdd i yn frâs,
lle'r oedd fy nghâs yn gweled:
Olew i'm pen, a chwppan llawn,
daionus iawn fu'r weithred.
verse 6 O'th nawdd y daw y doniau hyn
i'm canlyn byth yn hylwydd:
A minnau a breswyliaf byth
a'm nyth yn nhy yr Arglwydd.
Domini est terra. Psal. xxiiij.
Clod i'r tabernacl, a dangos fod eglwys Dduw yma yn gyffelyb i'r eglwys nefol, a prophwydo am Ierusalem: cyneddfau y rhai a fydd cyfranogion o'r ddwy.
YR Arglwydd piau'r ddaiar lawr,
a'i llownder mawr sy'n eiddo:
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
a'r bobl i gyd sydd ynddo.
verse 2 Cans fo roes ei sail hi a'i gwedd
yn rhyfedd vwch y moroedd:
Ac a'i go sododd hi yn lân
yn drigfan uwch llif-ddyfroedd.
verse 3 Er hyn: pwy a ddringa yn hy
i gyssegr fry yr Arglwydd?
A phwy a saif, a theilwng wedd,
yngorsedd ei sancteiddrwydd?
verse 4 Dyn a llaw lân, a meddwl da,
ac yn ddidraha ei enaid,
Diorwag, ac ni roes vn tro
er twyllo 'i gyfneseifiaid.
verse 5 Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlith
ei raslawn fendith helaeth,
A chyfiawnder i bob cyfryw
gan Dduw yr iechydwriaeth.
verse 6 Hon sy gan dduw'n genhedlaeth gref,
a'i ceisiant ef yn effro,
A geifiant d'wyneb, dyma eu maeth,
sef gwir genhedlaeth Iago.
verse 7 Derchefwch chwi byrth eich pennau,
a chwithau ddorau bythol,
Cans brenin mawr daw i'ch mewn chwi,
sef pen bri gogoneddol.
verse 8 Pwy yw'r brenin hwn gogonedd?
Arglwydd rhyfedd ei allu:
Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,
a chadarn i ryfelu.
verse 9 Derchefwch chwi byrth ych pennau,
ehengwch ddorau bythol:
Cans brenin mawr daw i'ch mewn chwi
teyrn o fri gogonol.
verse 10 Pwy meddwch ydyw'r brenin hwn,
a gofiwn ei ogoniant?
Ior y lluoedd yw, brenin hedd,
a gogonedd, a ffyniant.
Ad te Domine. Psal. xxv.
Dafydd yn ei drallod yn cydnabod ei fai, a'i fod yn haeddu cospedigaeth: a thrwy amryw fyfyrdod ysprydol, yn cael edifeirwch, a gobaith; ac yn rhoi diolch.
F'Arglwydd derchefais f'enaid i
hyd attad ti yn vnion.
verse 2 Fy Nuw, fy ngobaith, gwarth ni châ,
na lawenhâ 'ngelynion:
verse 3 Sawl a obeithiant ynot ti,
y rhei'ni ni wradwyddir,
Gwarth i'r rhai a wnel am i ham
ryw dwyll neu gam yn ddihir.
verse 4 Arglwydd dangos ym' dy ffordd di,
a phâr i mi ei deall:
Dysg ac arwain fi yr vn wedd
yn dy wirionedd diball.
verse 5 Cans tydi ydwyd Dduw fy maeth,
a'm iechydwriaeth vnig.
Dy ddisgwyl yr wyf rhyd y dydd,
a hynny fydd i'm diddig.
verse 6 O cofia dy nawdd a'th serch di,
a'th fawr dosturi Arglwydd,
Cofia fod ynot ti erioed,
lawn ddioed drugarogrwydd.
verse 7 Na chofia yr enwiredd mau,
na llwybrau fy ieuenctyd:
Ond Arglwydd, coffa fy nghur i
er dy ddaioni hyfryd.
verse 8 Yr Arglwydd sydd vnion a da,
a'i ffyrdd ym noddfa ydynt:
Fe arwain, (fel y mae yn rhaid)
y pechaduriaid ynthynt.
verse 9 Fe ddysg ei lwybrau mewn barn iawn,
i'r rhai vfyddiawn ystig,
Hyddysg yw ei ffyrdd i bob rhai
a fyddai ostyngedig.
verse 10 I'r sawl a gatwo ddeddfau'r Ion,
a'i vnion dystiolaethau,
Gwirionedd, a thrugaredd fydd
ei lywydd yn ei lwybrau.
verse 11 Er mwyn dy enw (o Arglwydd man)
Duw maddau fy enwiredd,
Cans fy nrhoseddiad i mawr yw,
mwy ydyw dy drugaredd.
verse 12 Mae, pa ryw wr yn ein mysg ni
sydd yn pur ofni'r Arglwydd?
Fe ddengys y ffordd iddaw fo,
hon a ddewiso'n ebrwydd.
verse 13 O hyn y caiff fy enaid cu
le i letteu'n esmwyth:
A'r holl ddaear hon a'i gwellâd,
a gânt ei hâd a'i dylwyth.
verse 14 Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,
i'r fawl a ofno'r Arglwydd:
Ac oi' holl gyfan neddau glân,
efe a'i gwna'n gyfarwydd.
verse 15 Tueddu'r wyf fy Arglwydd mâd,
yn wastad
â'm golygon:
Cans ef yn vnic, (yn ddi oed)
rhydd fy nau droed yn rhyddion.
verse 16 Tro attaf, dod y'm nawdd diddig,
cans vnic wyf, a rhydlawd.
verse 17 Gofidiau 'nghalon ynt ar led,
Duw gwared fi o'm nychdawd.
verse 18 Duw, gwel fy mlinder, a'm poen fawr,
a madde'n awr fy mhechod:
verse 19 Gwel fy ngelynion a amlhânt,
ac a'm casânt yn ormod.
verse 20 Cadw f'enaid, ac achub fi,
na wnelo'r rheim 'm wradwydd:
Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwydd.
verse 21 Cadwed fi fy vniondeb maith,
cans rhois fy ngobaith ynod.
verse 22 Duw, cadw di holl Israel,
gwared, a gwel ei drallod.
Iudica me Domine. Psal. xxvi.
Y mae Dafydd yn dangos ei ddiniweidrwydd: ac i ddangos nâd ffug yw ei weddi, mae fe yn crio yn erbyn y rhai sydd yn arfer ffug sancteiddrwydd, sef ei elynion.
BArn fi (o Dduw) a chlyw fy llais,
mi a rodiais mewn perffeithrwydd:
Ac ni lithraf, am ym' roi 'mhwys,
yn llownddwys ar yr Arglwydd.
verse 2 Prawf di fy muchedd Arglwydd da,
a hola dull fy mywyd:
A manwl chwilia 'r galon fau,
a phrawf f'arennau hefyd.
verse 3 O flaen fy llygaid, wyf ar led
yn gweled dy drugaredd:
Gwnaeth dal ar hynny ar bob tro,
y'm rodio i'th wirionedd.
verse 4 Nid cyd eistedd gydâ gwagedd,
neu goegwyr yn llawn malais:
verse 5 Câs gennif bob annuwiol rith,
ac yn eu plith ni 'steddais.
verse 6 Mi olchaf fy nwy law yn lân,
cans felly byddan, f' Arglwydd,
Ac a dueddaf tua'th gor,
ac allor dy sancteiddrwydd.
verse 7 Y modd hyn teilwng yw i mi,
luosogi dy foliant:
Sef, addas i mi fod yn lân,
i ddatcan dy ogoniant.
verse 8 Arglwydd cerais drigfan dy dy,
lle'r ery'dy anrhydedd:
verse 9 N'âd f'enaid i a'm hoes ynghyd
â'r gwaedlyd llawn enwiredd.
verse 10 Eu dwylaw hwynt sy sceler iawn,
y maent yn llawn maleisiau.
A dehau law yr holl rai hyn,
sy'n arfer derbyn gwobrau.
verse 11 Minnau'n ddiniwed, (felly gwedd)
ac mewn gwirionedd rhodiaf:
Gwared fi drwy dy ymgeledd,
cymer drugaredd arnaf.
verse 12 Fe saif fy nrhoed i ar yr iawn,
ni syfl o'r vniawn droedfedd:
Mi a'th glodforaf, Arglwydd da,
lle bytho mwya'r orsedd.
Dominus illuminatio. Psal. xxvij.
Ffydd Dafydd tuag at Dduw, tra orfu arno fod allan o'r orsedd: a'i gysur i bawb yn eu blinder.
YR Arglwydd yw fy ngolau'gyd,
a'm iechyd: rhag pwy'r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth fo'es: am hyn,
rhag pwy doe ddychryn arnaf?
verse 2 Pan ddaeth rhai anfad, sef fy nghas,
o'm cwmpas er fy llyngcu,
Llithrasant a chwympasant hwy,
ni ddaethant mwy i fynu.
verse 3 Niddoe ofn ar fy nghalon gu,
pe cyrchai llu i'm herbyn:
Neu pe codai gâd y modd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronyn.
verse 4 Vn arch a erchais ar Dduw nâf,
a hynny a archaf etto:
Cael dyfod i dy 'r Arglwydd glân,
a bod a'm trigfan yntho:
I gael ymweled a'i Deml deg,
a hyfryd osteg ynthi
Holl ddyddiau f' einioes: sef wyf gaeth
o fawr hiraeth am dani.
verse 5 Cans y dydd drwg fo'm cudd efe
iw Babell neu ddirgelfa:
Iw breswylfod, fel mewn craig gref,
caf gantho ef orphwysfa.
verse 6 Bellach fo'm codir vwch fy nghâs,
sydd mewn galanas ymy;
Aberthaf, caraf, mola'r Ion
yn ffyddlon byth am hynny.
verse 7 Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,
bryssia a chlyw fy oernad:
Trugarhâ wrthif, gwyl fy nghlwyf,
y pryd y galwyf arnad.
verse 8 Fel hyn mae 'nghalon o'm mewn i
yn holi ac yn atteb,
Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:
fy Nuw rwy 'n ceifio d'wyneb.
verse 9 Na chudd d'wyneb, na lys dy wâs,
fy mhorth a'm vrddas fuost:
Duw fy iechyd na wrthod fi,
o paid a sorri'n rhydost.
verse 10 O gwrthyd fi fy nhâd a'm mam
a'm dinam gyfneseifiaid:
Gweddia'r Arglwydd, ef er hyn
o'i râs a dderbyn fenaid.
verse 11 Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd,
o herwydd fy ngelynion,
Ac arwain fi o'th nawddol râd
yn wastad ar yr vnion.
verse 12 Ac na ddyro fi, er dy râs,
wrth fodd yr atcas elyn,
Cans ceisiodd fy'nhaseion mau
dystion gau yn fy erbyn.
verse 13 Oni bai gredu honof fi,
bum wrth fron torri 'nghalon,
Y cawn i weled da Duw 'n rhâd
o fewn gwlâd y rhai bywion.
verse 14 Disgwyl di ar yr Arglwydd da,
ymwrola dy galon:
Efa rydd nerth i'th galon di,
os iddo credi'n ffyddlon.
Ad te Domine. Psal. xxviij.
Gweddi trosto ei hun, yn erbyn rhai trahaus ar Dduw a dyn: a bendithio'r eglwys.
ATtad (Ion fy nerth) y rhof lef,
Duw nef na fydd di fyddar:
Os tewi, rhag fy mynd mor drist,
a bod mewn cist dan ddaiar.
verse 2 O Arglwydd, erglyw fy llais i,
a derbyn weddi bruddaidd;
Pan gottwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd.
verse 3 Ac na ddarostwng fi, fy Ior,
dan ddwylo'r annuwolion
Y rhai sy'n arwain minau mel,
a rhyfel yn eu calon.
verse 4 Yn ol bwriad eu calon gau,
a'r twyll ddyfeisiau eiddynt,
Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,
Duw tâl eu gobrwy iddynt.
verse 5 Am na 'styriant weithredoedd Duw,
ef a wna ddiffryw arnynt:
Am na welent ei wyrth a'i râd,
ni wna adeilad honynt.
verse 6 Bendigaid fytho'r Arglwydd nef,
fe glybu lef fy ngweddi.
verse 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm rhan,
a'm tarian, a'm daioni.
Ymddiriedais iddo am borth,
a chefais gymorth gantho.
Minnau o'm calon, drwy fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.
verse 8 Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhai
a ymddiriedai 'n hylyn:
A'i eneiniog ef a fydd maeth,
ac iechydwriaeth iddyn.
verse 9 Gwared dy bobl dy hun yn dda,
bendithia d'etifeddiaeth.
Bwyda, cyfod hwy, am ben hyn
dod iddyn dragwyddolfaeth.
Afferte Domino. Psal. xxix.
Erchi i gedyrn gydnabod a'r Arglwydd ei fod yn hollalluog: a dwyn y taranau a'i nerthoedd eraill, i arwyddo hynny.
RHowch i'r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,
chwi blant y cedyrn, foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a'i nerth,
mor brydferth, a'i ogoniant.
verse 2 Rhoddwch i enw yr Arglwydd glod,
heb orfod mwy mo'ch cymmell,
Addolwch Arglwydd yr hell fyd:
mor hyfryd yw ei Babell!
verse 3 Llais yr Arglwydd sydd vwch dyfroedd,
Duw cryf pair floedd y daran.
Vwch dyfroedd lawer mae ei drwn,
nid yw ei swn ef fychan.
verse 4 Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,
a ddengys rym a chyffro:
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
fel y bo cymwys gantho.
verse 5 Llais yr Arglwydd a dyr yn fân
y Cedrwydd hirlân vnion,
Yr Arglwydd a dyr, yn vswydd,
y Cedrwydd o Libânon.
verse 6 Fel llwdn vnicorn neu lo llon
fe wna'i Libanon lammu,
verse 7 A Sirion oll: llais ein Ior glân
a wna'i fflam dân wasgaru.
verse 8 Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,
a godai ddychryn eres:
Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwch
drwy holl anialwch Cades.
verse 9 Llais yr Arglwydd y piau 'r glod,
pair i'r ewigod lydnu:
Dinoetha goed: iw deml iawn yw
i bob rhyw ei foliannu.
verse 10 Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,
ar y llif-ddyfroedd cethrin:
Yr Arglwyd d fu, ef etto sydd,
ac byth a fydd yn frenin.
verse 11 Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth,
dwry brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwydd a ryddei bobl ymhlith
ei fendith, a hir heddwch.
Exaltabo te Domine. Psal. xxx.
Dafydd cyn cysegru ei dy i Dduw a aeth yn glaf, ac wedi mynd yn iach mae fe yn diolch i Dduw, gan ddangos i eraill faint trugaredd Duw: adduned i fod yn ddiolchgar.
F'Arglwydd mi a'th fawrygaf di,
cans myfi a ddyrchefaist,
A'm gelynion i yn llawen
vwchlaw fy mhen ni pheraist.
verse 2 Fy Nuw, pan lefais arnat ti
y rhoddaist i mi iechyd,
verse 3 Cedwaist fy enaid rhag y bedd,
a rhag diwedd anhyfryd.
verse 4 Cenwch i'r Ion chwi ei holl sainct,
a maint yw gwrthiau'r Arglwydd;
A chlodforwch ef gar ei fron:
drwy gofion o'i sancteiddrwydd.
verse 5 Ennyd fechan y sai'n ei ddig,
o gael i fodd trig bywyd:
Heno brydnawn wylofain fydd,
y borau ddydd daw iechyd.
verse 6 Dywedais yn fy llwyddiant hir,
nim' syflir yn dragywydd:
O'th ddaioni dodaist, Dduw Ner,
sail crysder yn fy mynydd.
verse 7 Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,
a blinder mawr a gefais.
verse 8 Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,
fy Arglwydd, i'r ymbiliais.
verse 9 Pa sudd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed,
pan fwyf dan draed yn gorwedd?
A phwy a gân yt' yn y llawr,
dy glod a'th fawr wirionedd?
verse 10 Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,
dod gymorth da i'm bywyd,
verse 11 Canys yn rhâd y troist fy mâr,
a'm galar, yn llawenfyd:
Am ytty ddattod fy sâch grys,
choist wregys o lawenydd:
verse 12 Molaf a chanaf
â'm tafod,
i'm Arglwydd glod dragywydd.
In te Domine speraui. Psal. xxxi.
Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a'i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i'r sawl a'i hofnant. Cyngor i'r ffyddloniaid i ymddiried yn Nuw eu hymwaredydd.
MI a'mddiriedais ynod Ner,
fel na'm gwradwydder bythoedd:
Duw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy nghri hyd nefoedd.
verse 2 Gogwydd dy glust attaf ar frys,
o'th nefol lys i wared,
verse 3 A bydd ym' yn graig gadarn siwr,
yn dy a thwr i'm gwared.
verse 4 Sef fy nghraig wyd, a'm castell cryf,
wyf finnau hyf o'th fowredd.
Er mwyn dy enw tywys fi,
ac arwain i drugaredd.
verse 5 A thynn fy fi o'r rhwyd i'r lann,
a roesan er fy maglu:
Cans fy holl nerth sydd ynot ti,
da gelli fy ngwaredu.
verse 6 Dodaf fy yspryd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da y gwaredaist fi yn fyw:
(o Arglwydd Dduw'r gwirionedd)
verse 7 Llwyr y caseis y neb a fâg,
iw galon orwag aslwydd,
Ac mi a osodais yn llwyr faith
fy ngobaith yn yr Arglwydd.
verse 8 Mi a'mhyfrydaf ynot ti,
canfuost fi mewn amser,
Ac adnabuost, wrth fy rhaid,
fy enaid mewn cyfyngder.
verse 9 Llawen fyddaf finnau am hyn,
i'm gelyn ni'm gwarcheaist;
Eithr fy nrhaed i yn eang rydd
da beunydd ysefydlaist.
verse 10 O dangos dy drugaredd Dduw,
cans cyfyng ydyw arnaf,
Fy llygaid, f'enaid, a'm bol sydd
yn dioddef cystydd gwaelaf.
verse 11 Fy mywyd ym' gwir ofid oedd,
fy holl flynyddoedd, blinion,
verse 12 Fy nerth a ballodd o'm drwg cynt,
a'm esgyrn ydynt bydron.
verse 13 Agwatwor im' gelynion wyf,
fy nghydblwyf a'm gwatworent:
Fy holl gym'dogion, a phob dyn,
gan ddychryn a'm gochelent.
verse 14 Fe a'm gollyngwyd 'i dros gof,
fal marw a fo esgeulus:
A hawdd yw hepgor y llestr twn,
o bydda i hwn drwgflasus.
verse 15 Cans clywais ogan llawer dyn
o'm dautu, dychryn oerloes;
Hwy a'mgynghorent a'r bob twyn,
bwriadent ddwyn fy einioes.
verse 16 Ond yn fy ngobaith (Arglwydd byw)
y dwedais fy Nuw ydwyd,
Y mae f'amseroedd a'r dy law,
nid oes na braw nac arswyd.
verse 17 Dyred a gwared fi dy wâs,
oddiwrth fy nghâs a'm herlid.
verse 18 A dangos d'wyneb ym' oth râd,
rhag brâd y rhai sy'm hymlid.
verse 19 O Arglwydd, na wradwydder fi
a rois fy ngweddi arnad:
Ond i'r annuwiol gwarth a wedd,
yn fud i'r bedd o lygriad.
verse 20 Cae gelwyddog wefusau y rhai'n
y sydd yn darstain crasder,
O ddiystyrwch, a thor tynn,
yn erbyn y cyfiawnder.
verse 21 O mor fawr yw dy râd di-drai,
a roist i'r rhai a'th ofnant!
Cai o flaen meibion dynion glod,
ac ynod ymddiriedant.
verse 22 Oddlwrth sythfeilchion (o'th flaen di)
y cuddi hwynt yn ddirgel:
Cuddi yn dda i'r babell dau
rhag senn tafodau vehel.
verse 23 Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:
dangosawdd y'm ei gariad,
A gwnaeth ryfeddod dros ei was,
mewn cadarn ddinas gaead.
verse 24 Ofnais i gynt o'm gobaith drwg
fy nrhoi o'th olwg allan;
verse 25 Eithyr pan iefais arnat ti
y clywaist fi yn fuan.
verse 26 O cerwch Dduw ei holl sainct ef,
da y clyw lef ffyddloniaid:
Ac ef a dâlyn helaeth iawn,
i'r beilch anghyfiawn tanbaid.
verse 27 Cymerwch gysur yn Nuw Ion,
ef a rydd galon ynoch:
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
ei law yn gref bydd drosoch.
Beati quorum. Psal. xxxij.
Dedwyddwch y sawl y maddeuwyd eu pechodau: cyfaddef ei bechodau y mae, a chael maddeuant: cyngor i'r annuwiol i wellau, ac i'r duwiol i orfoleddu.
Y Sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,
drwy fadde'i gyd ei drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
a'i bechod, a'i anwiredd.
verse 2 A'r dyn (a gwnfyd Duw a'illwydd)
ni chyfri'r Arglwydd iddo
Mo'i gamweddau: yr hwn ni châd
dim twyll dichellfrâd yntho.
verse 3 Minnau, tra celwn i fy mai,
yn hen yr ai 'mhibellion:
A thrwy fy rhuad i bob dydd,
cystuddio y bydd fy nghalon.
verse 4 Dy law dithau, y dydd a'r nos,
sydd drom drwy achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgyrn mer
fel sychder y gorphennaf.
verse 5 Yna y trois innau ar gais,
addefais fy anwiredd:
verse 6 Tyst yn fy erbyn fy hun fum,
maddeuaist y'm fy nghamwedd,
verse 7 Amserol weddiau am hyn,
a rydd pob glanddyn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na chaer mo'r daith hyd attad.
verse 8 Rhyw loches gadarn wyd i mi,
rhag ing i'm cedwi 'n ffyddlon:
Amgylchyni fy fi ar led,
â cherdd ymwared gyson.
verse 9 Dithau (o ddyn) dysg geni fi
y ffordd y rhodi'n wastad,
Mi a'th gynghoraf di rhag drwg,
y mae fy ngolwg arnad.
verse 10 Fel y march neu y ful na fydd,
y rhai y sydd heb ddeall:
Mae yn rhaid genfa neu ffrwyn den,
i ddal eu pen yn wastad:
verse 11 Caiff annuwolion, a wnant gam,
fawr ofid am eu traha:
A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,
trugaredd a'i cylchyna.
verse 12 Chwithau'r cyfion yn dirion ewch,
a llawenhewch yn hylwydd,
A phob calon sydd vnion syth,
clodforwch fyth yr Arglwydd.
Exultate iusti. Psal. xxxiij.
Mae yn annog y duwiol i fod yn ddiolchgar i Dduw am ei amryw ddaioni; gan ddangos na eill un creadur gadw dyn, ond daioni Duw.
PA rai bynnag, yn Nuw yr Ion,
sy gyfion, llawenychwch:
I bawb y sydd yn iawn yn byw
gweddus yw diolchgarwch.
verse 2 A thannau telyn molwch ef,
rhowch hyd y nef ogoniant:
Ar y nabyl gywair ei thon,
ac ar y gyson ddectant.
verse 3 Cenwch i'r Ion fawl a mawrhâd,
wiw gerdd o ganiad newydd:
Cenwch iddo yn llafar glod,
bid parod eich lleferydd.
verse 4 Am mai vnion ydyw ei air,
ffyddlon y cair ei weithred.
verse 5 Cyfiownder a barn ef a'i câr,
a'r ddaiar llawn o'i nodded.
verse 6 Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,
a'i Yspryd ef eu lluoedd:
verse 7 Casclai efe ynghyd y mor,
a'i drysor yw'r dyfnderoedd.
verse 8 Yr holl ddaiar ofned ein Duw,
a phob dyn byw a'i preswyl:
verse 9 Ei arch a saif, a'i air a fydd,
a hynny sydd i'w ddisgwyl.
verse 10 Ef a ddirymmodd, (fy Nuw Ior)
holl gyngor y cenhedloedd:
A thrwy lysiant gwnai yn ddi rym,
amcanion llym y bobloedd.
verse 11 Ond ei gyngor ef oddi fry,
a bery'n dragwyddoliaeth:
A'i galonfryd efe ei hun,
vwch para vn genhedlaeth.
verse 12 A phob cenhedloed
[...], dedwydd ynt,
os Duw iddynt sydd Arglwydd:
A'i etholion, efe a'i gwnaeth
yn etifeddiaeth hylwydd.
verse 13 O'r nefoedd fry yr edrych Duw,
ar lwybrau pob rhyw ddynion,
Ac o'i breswylfa edrych ar,
y ddaiar a'i thrigolion.
verse 14 Yr hwn a luniodd galon dyn,
a edwyn ei weithredoedd:
verse 15 Ac ni chedwir vn bydol gun,
o'i nerth ei hun na'i luoedd.
verse 16 A pheth palledig ydyw march,
i gael parch ac ymwared:
Ac ni all achub o law'r Ner,
mo'i farchog er ei gryfed.
verse 17 Wele lawn olwg Duw, a'i wawl,
maent ar y sawl a'i hofno:
A'i drugaredd ef sydd ar lled,
i'r sawl a'mddiried yntho.
verse 18 Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,
rhag angau enaid adyn:
Ac i borthi y tlawd yn glau,
rhag eisiau, a rhag newyn:
verse 19 Ein henaid gan yr Arglwydd hael,
sy'n disgwyl cael ei bywyd:
Efe a byrth ein henaid gwan,
efe yw'n tarian hefyd.
verse 20 Sef yn vnig yn Nuw yr Ion,
mae'n calon yn llawenu:
Ac yn ei Enw sanctaidd ef.
mae hon yn gref yn credu,
verse 21 Duw dy drugaredd dod i ni,
sef ynot ti y credwn:
Dy drugaredd a'th nawdd i'n dod,
Cans ynod ymddiriedwn.
Benedicam Domine. Psal. xxxiiij.
Dafydd wedi diangc rhag Achis, yn moli Duw, drwy ro
[...] addysg i ymddiried yn Nuw.
DIolchaf fi
â chalon rwydd,
i'r Arglwydd bob amserau:
Ei foliant ef, a'i wir fawrhâd,
sy'n wastad yn fy ngenau.
verse 2 Fy enaid sydd yn bostio'n rhwydd,
o'm Harglwydd, ac o'm perchen:
A phob difalch hynny a glyw,
ac a fydd byw yn llawen.
verse 3 Molwch fy Arglwydd gyd
â mi,
cydfolwn ni ei enw ef:
verse 4 Criais arno yn fy ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ynglef,
verse 5 Y sawl a edrych arno ef,
â llewych nef eglurir:
Ni wradwyddir o honynt neb,
a'i hwyneb ni chwilyddir.
verse 6 Wele, y truan a roes lef,
a Duw o'r nef yn gwrando
A'i gwaredodd ef o'i holl ddrwg,
a'i waedd oedd amlwg iddo.
verse 7 Angel ein Duw a dry yn gylch,
o amgylch pawb a'i hofnant:
Ceidw ef hwynt: a llawer gwell
na chastell yw eu gwarant.
verse 8 O profwch, gwelwch, ddaed yw,
yr Arglwydd byw i'r eiddo:
A gwyn ei fyd pob dyn a gred,
roi ei ymddiried yntho.
verse 9 Ofnwch Dduw ei holl sainct (heb gel)
a'i gwnel ni bydd pall arnyn:
verse 10 Nag eisiau dim sydd dda: er bod,
ar gnawon llewod newyn.
verse 11 Chwychwi feibion deuwch yn nes,
gwrandewch hanes ystyriol.
Dowch a dysgaf i chwi yn rhwydd,
ofni yr Arglwydd nefol.
verse 12 Y sawl a chwennych fywyd hir,
a gweled gwir ddaioni:
Cae dy enau rhag drwg di bwyll,
a'th safn rhag twyll a gwegi.
verse 13 Gwrthod ddrwg, gwna dda: a chais hedd,
hon hyd y diwedd dylyn:
A chadw'r heddwch wedi ei chael,
fal dyna ddiwael destyn.
verse 14 Y mae yr Arglwydd a'i olwg
ar y dyn diddrwg cyfion:
A'i glustiau ef o'i lawn wir fodd,
egorodd i'r rhai gwirion.
verse 15 Wyneb yr Ion a'i guwch sy dynn,
yn erbyn gweithwyr diffaith:
Y coffa o honynt ef a'i tyrr;
ar fyrr o'r ddaiar ymaith,
verse 16 Hawdd y clybu fy Naf o'r nef,
leferydd llef y cyfion:
A thra buan (o'i râd a'i rodd)
y tynnodd o'i trallodion.
verse 17 Agos iawn yw ein Duw at gur
y galon bur ddrylliedig:
A da y ceidw ef bob pryd
yr yspryd cystuddiedig.
verse 18 Trwch, ie ac aflwyddiannus iawn,
a fydd gwr cyfiawn weithian:
Ei ddrygau oll, Duw oddi fry
a i tyn, a'i try i'r gorau.
verse 19 Ceidw ei esgyrn ef ei hun,
o honynt vn ni ddryllir:
A drwg a laddo y drwg was,
â ffrwyth ei gas y lleddir.
verse 20 Eithr holl wasnaethwyr Duw ei hun,
yr Arglwydd gun a'i gwared:
I'r sawl a'mddiried yntho ef,
ni all llaw gref mo'r niwed.
Iudica me Domine. Psal. xxxv.
Dafydd yn gweddio am ddial ar weinieithwyr Saul, y rhai a'i herlidient; a thros ei gyfeillion ef. Ac yn addaw moli Duw yn dragywydd.
PLeidia (o Arglwydd) yn fy hawl,
â'r sawl a dery'n ferbyn:
Lle'r ymrysonant
â myfi,
ymwana di
â'r gelyn.
verse 2 Mae dy gymorth? o moes ei gael,
ymafael yn y tarian:
O cyfod cais dy astalch gron,
a dwg dy waywffon allan.
verse 3 Argaua ar y rhai sy ar gam,
i'm herlid am fy mywyd:
Wrth fy enaid, dywaid fel hyn,
fy fi a fynn yt' iechyd.
verse 4 Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,
a geisio ladd fy enaid:
A thrwy gywilydd troed iw hol
y ffals niweidiol gablaid.
verse 5 Fel yr vs o flaen gwynt y bon',
Angel yr Ion i'w chwalu:
verse 6 A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,
a hwn wrth gefn iw gyrru.
verse 7 Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,
a wnaethbwyd ym heb achos:
Heb achlysur, maglau a wnaid
i'm henaid yn y cyfnos.
verse 8 O deued, cwymped yn ei rwyd,
yr hon a guddiwd allan:
Syrthied a glyned iw delm rwyll,
a'i drapp o'i dwyll ei hunan.
verse 9 Eithr am fy enaid i (Amen)
bid llawen yn yr Arglwydd:
Fe a fydd hyfryd gantho hyn,
lle daw i'r gelyn aflwydd.
verse 10 O Arglwydd dywaid f' esgyrn i,
pwy sydd a thi vn gyflwr?
Rhag ei drech yn gwared y gwan,
a'r truan rhag ei 'speiliwr▪
verse 11 Tystion gau a godent yn llym,
a holent ym' beth anfad:
verse 12 Drwg ym' dros dda talent heb raid,
a'm henaid braint ymddifad.
verse 13 Ond fi, tra fyddent hwy yn glaf,
rhown i'm nesaf liein-sach:
Drwy hir ym ostwng ac ympryd,
cymrais fy myd yn bruddach.
Yr vn dosturiol weddi fau,
a ddaeth o'm genau allan,
A droes eilwaith (er fy lles)
i'm mynwes i fy hunan.
verse 14 Mi a ymddygais mor brudd dlawd,
fel am fy mrawd neu'nghymar:
Neu fel arwyl dyn dros ei fam,
ni cherdda'i gam heb alar.
verse 15 Hwythau yn llawen doent ynghyd,
pan bwysodd adfyd attaf;
Ofer ddynion, ac echrys lu
fyth yn mingammu arnaf.
verse 16 Rhai'n rhagrithwyr, rhai'n watworwyr,
torrent hwy eiriau mwysaidd:
Hwy a'sgyrnygent arnaf fi,
bob daint, a'r rheini'n giaidd.
verse 17 Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd
yw'r pryd y dof o'i harfod?
Gwared fy enaid rhag y bedd,
f'oes o ewinedd llewod.
verse 18 Minneu a ganaf i ti glod,
lle bo cyfarfod lluoedd:
Ac a folaf dy enw a'th ddawn,
wrth lawer iawn o bobloedd.
verse 19 Na fydded lawen fy nghâs ddyn,
i'm herbyn heb achossion:
Ac na throed (er bwriadu 'mrâd)
mo gwr ei lygad digllon.
verse 20 Nid ymddiriedant ddim mewn hedd,
dychmygant ryfedd gelwydd:
Dirwyn dichell, a gosod cryw
i'r rhai sy'n byw yn llonydd.
verse 21 Lledu safnau, taeru yn dyn,
a dwedyd hyn yn vnblaid,
Fei ffe i o honot, hwnt a thi,
ni a'th welsom ni
â'n llygaid.
verse 22 Tithau (o Arglwydd) gwelaist hyn,
mor daer yn f'erbyn fuon:
Ac na ddos oddiwrthif ymhell,
rhag dichell fy nghaseion.
verse 23 Cyfod, deffro, fy Nuw i'm barn,
yn gadarn gyd
â'm gofid:
verse 24 Dydi a fynni'r vniondeb,
ni watwar neb o'm plegid.
verse 25 Na âd i'r gelyn calon wael
ddiweddu cael i wynfyd:
Na rhodresu fy llyncu'n grwn,
llyncaswn hwn yn ddybryd.
verse 26 Gwarth a gwradwydd iddynt a ddel
sy'n codi vchel chwerthin:
Gwisger hwynt
â mefl ac
â châs,
sydd ym alanas ryflin.
verse 27 Llawen fo'r llaill a llawn o glod,
sy'n coelio 'mod yn gyfion.
Dwedant, bid i'n Duw ni fawrhâant,
am roi llwyddiant iw weision.
verse 28 Minnau fy Arglwydd gyda'r rhai'n,
myfyriaf arwain beunydd
Dy gyfiownder di, a'th fawr glod,
â'm tafod yn dragywydd.
Dixit iniustus. Psalm. xxxvi.
Cwyno rhag y drygionus, eithr (drwy gydnabod daioni Duw) y mae efe yn ymgysuro.
WRth gamwedd dyn annuwiol
mae'n eglur yn fy nghalon,
Nad oes ofn Duw, na'i farn, na'i ddrwg sur
o flaen ei olwg trowsion.
verse 2 Mae yn cyd ddwyn
â'i fai ei hun,
ni wyl mo'i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i'r holl fyd
ei gâs wyd, a'i anwiredd.
verse 3 Os ei ymadrodd, mae heb wir,
ei enau dihir hydwyll,
Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,
yr adyn diffaith dibwyll.
verse 4 Ef yn ei wely ni chais hun,
ond gosod llun ar gelwydd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith annedwydd.
verse 5 Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)
sydd hyd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd di sydd yn gwau,
hyd y cymylau dyfroedd.
verse 6 Dy vniondeb fel mynydd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion.
Dy nerth fyth felly a barhâ,
i gadw da, a dynion.
verse 7 O mor werth fawr (fy Arglwydd Dduw)
i bawb yw dy drugaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
ynghysgod dy adanedd.
verse 8 Cyflawn o frasder yw'r ty tau,
lle lenwir hwythau hefyd.
Lle y cânt ddiod gennyt Ion,
o flasus afon hyfryd.
verse 9 Gyda thi mae y loywffrwd hon,
a dardd o ffynnon einioes:
A'th deg oleuni, ac
â'th râd,
y cawn oleuad eisoes.
verse 10 O ystyn etto i barhau,
dy drugareddau tirion:
Ni a'th adwaenom di, a'th ddawn,
i'r rhai sydd vniawn galon.
verse 11 O Dduw im' herbyn i na ddoed,
na ffyrdd, na throed y balchffol,
A llestair attaf, fel na ddaw
na gwaith, na llaw'r annuwiol.
verse 12 Felly y syrthiodd gynt, yn wir,
y rhai enwir a'i drygwaith,
Felly gwthiwyd i lawr hwyntwy,
heb godi mwy yr eilwaith.
Noli emulari. Psal. xxxvij.
Pob peth a roddir i'r nêb a garo ac a afno Dduw, ond er i'r annuwiol lwyddo dros amser, etto hwy a ddarfyddant.
NA ddala ddrygdyb yn dy ben,
nac o gynfigen ronyn,
Er llwyddo'r enwir, a wnai gam:
cai weled llam yn canlyn.
verse 2 Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,
neu lysiau diflas gwywon:
A hwy a grinant yn ddilwydd,
a hynny 'n ebrwydd ddigon.
verse 3 Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,
gobeithia yr hyn gorau:
Bydd ymarhous yn y tir,
di a borthir yn ddiau.
verse 4 Bydd di gysurus yn dy Dduw,
di a gei bob gwiw ddymuniad:
verse 5 Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilys
fe rydd d'ewyllys attad.
verse 6 Cred yntho ef, fo'th ddwg i'r lann,
myn allan dy gyfiownder:
Mor olau a'r haul hanner dydd,
fal hynny bydd d'eglurder.
verse 7 Ymddiried i Dduw, disgwyl, taw,
a heb ymddigiaw gronyn:
Er llwyddo'i ddrygddyn ei fawr fai,
yr hwn a wnai yn gyndyn.
verse 8 Paid
â'th ddig, na ofidia chwaith:
gad ymaith wyllt gynddaredd:
Rhag i hynny dyfu i fod,
yn bechod yn y diwedd.
verse 9 O herwydd hyn, disgwyl yr Ion,
gwyl ddiwedd dynion diffaith:
A disgwyl ef: meddianna'r tir,
a'r drwg t'oi torrir ymaith.
verse 10 Goddef y drygddyn dros dro bâch,
ni welir mwyach honaw,
Ti a gai weled y lle y bu,
heb ddim yn ffynnu ganthaw.
verse 11 Ond y rhai vfydd a hawddgâr,
y ddaiar a feddiannant:
Ar rhei'ni a thagnhefedd hir,
diddenir yn eu meddiant.
verse 12 Bwriada'r drygddyn o'i chwerw ddaint,
ar ddrygu braint cyfiownddyn:
verse 13 Duw yn ei watwar yntau a fydd,
sy'n gweled dydd ei derfyn:
verse 14 Ynnylu bwa, tynnu cledd,
yw trowsedd yr annuwiol,
Er llâdd y truan: fel dydd brawd,
i'r tlawd a'r defofionol.
verse 15 Ei fwa torrir yn ddellt mân,
a'i gledd a
â'n ei galon:
verse 16 Mawr yw golud yr ysceler,
ond gwell prinder y cyfion.
verse 17 Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,
tyr freichiau'r rhai annuwiol,
Ac ef a gynnail yn ddi ddig,
y cyfion, ystig, gweddol.
verse 18 Sef edwyn Duw ddyddiau, a gwaith
pob rhai o berffaith helynt:
Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,
deg etifeddiaeth iddynt.
verse 19 Efe a'i ceidw hwynt i gyd,
na chânt ar ddrygfyd wradwydd,
Amser newyn hwyntwy a gânt,
o borthiant ddigonolrwydd.
verse 20 Y rhai traws en wir, heb ddim cwyn,
fel brasder wyn a doddant:
Caseion Duw fydd dynion drwg,
hwy gyda'r mwg diflannant.
verse 21 Y gwr annuwiol a fyn ddwyn
yn echwyn, byth ni thalai:
A'r gwr cyfion trugarog fydd,
ac a rydd, nis gommeddai.
verse 22 Sawl a fendigo Duw (yn wir)
y tir a etifeddan:
A'r rhai a felldithio, o'r tir
i gyd a fwrir allan.
verse 23 Duw a fforddia, ac a hoffa,
hyffordd y gwr calonnog:
verse 24 Er ei gwympo efe ni friw,
fo'i deil llaw Dduw 'n sefydlog.
verse 25 Aethym i bellach yn wr hen,
bum fachgen' rwy'n cydnabod:
Ni welais adu hâd gwr da,
na cheisio'i bara 'ngherdod.
verse 26 Echwyn a benthyg cair bob dydd,
trugarog fydd y cyfion:
A'i hâd ef drwy y nefol wlith,
a gaiff o'i fendith ddigon.
verse 27 Arswyda ddrwg, a gwna di dda,
a chyfannedda rhag llaw:
verse 28 Cans Duw a gâr y farn ddidwn,
ninnau a roddwn arnaw.
Nid ymedy efe
â'i Saint,
ceidw heb haint y rhei'ni:
Ond hâd yr annuwiolion gau
a ddont i angau difri.
verse 29 Y ddaear caiff y cyfion gwyl,
lle y preswyl byth mewn iawndeb:
verse 30 A'i enau mynaig wybodaeth,
a'i dafod traeth 'ddoethineb.
verse 31 Deddf ei Dduw y sydd yn ei fron,
a'i draed (gan hon) ni lithrant:
verse 32 Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,
ond ni chaiff yna ffyniant.
verse 33 Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,
nac er ei falais lidiog:)
Y gwirion yn ei waedlyd law,
i hwn ni ddaw barn euog.
verse 34 Gobeithia yn yr Arglwydd tau,
a chadw ei lwybrau 'n gywir:
Cei feddiannu, cei vwch o radd,
a gweled lladd yr enwir.
verse 35 Gwelais enwir yn llym ei big,
a'i frig fel gwyrddbren lawri:
verse 36 Chwilais, a cheisiais yr ail tro,
'r oedd efo wedi colli.
verse 37 Ystyria hefyd y gwrpur,
ac edrych du'r cyfiownedd:
Di a gei weled cyfryw ddyn,
ma'i derfyn fydd tangnhefedd.
verse 38 A gwyl y rhai drwy drais sy'n byw,
ynghyd i ddistryw cwympant:
Fe a ddiwreiddir plant y fall,
i ddiwedd gwall, a methiant.
verse 39 Iechyd y cyfion sy o Dduw Ner,
a'i nerth mewn amser cyffro:
verse 40 Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,
a hyn am gredu yntho.
Domine ne. Psal. xxxviij.
Dafydd yn glaf yn cydnabod mai oddiwrth yr Arglwydd y mae hynny yn dyfod iddo am ei bechodau, ac yn dymuno ar Dduw droi ei law, ac yno drwy ffydd, ac ymroi i Dduw, y mae yn gobeithio iechyd.
FY Arglwydd, na cherydda fi,
ym mhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid
o blegid fy enwiredd,
verse 2 Cans glyn dy saethau ynof fi,
a phennau'r rheini'n llymion▪
A dodaist arnaf y llaw dau,
a rhoist ddyrnodiau trymion.
verse 3 Nid oes mo'r iechyd gan dy lid,
i'm cnawd, ond gofid creulon:
Ac nid oes (gan fy mhechod chwyrn)
mor hedd i'm hesgyrn sychion.
verse 4 Cans fy nghamweddau aent i'r neu.
a thros fy mhen tyfasant,
Vn wedd a baich rhy drwm o bwys▪
fal hyn mor ddwys i'm llethant.
verse 5 Fy nglheisiau sydd fal yn bwdr ddu
yn llygru gan f' ynfydrwydd:
verse 6 Crymais, a phellais beth bob dydd,
sef galar sydd ac aflwydd.
verse 7 Cans mae fy lwynau'n llawn o wres,
a'm cnawd heb les nac iechyd.
verse 8 Llesg wan ac ysig, yw fy mron,
lle gwaedda calon nychlyd.
verse 9 Clyw Arglwydd fi, herwydd o'th flaen
yn hollawl mae'nymuniad,
Ni chuddiwyd mo'm ochenaid i,
oddiwrthit di fy ngheidwad.
verse 10 Llamma' nghalon, palla fy nerth,
a'm golwg prydferth hefyd,
verse 11 Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,
hwy aent ym mhell i'm hadfyd.
verse 12 A'm caseion i yn nessau,
a'i maglau ffug a'i dichell,
Safai fy ngheraint i yn synn,
i edrych hyn o hirbell.
verse 13 Minnau fel dyn byddar a awn
megis pe bawn heb glywed;
Neu fel y mudan (dan dristau)
heb enau yn egored.
verse 14 Yn fud fel hyn y gwn fy mod,
fel vn a thafod efrydd;
Heb ddwedyd vnwaith air o'm pen,
i dalu sen a cherydd.
verse 15 Gan ym' gredu i ti yn rhwydd,
o Arglwydd Dduw goruchaf,
Rhwydd a hysbys iawn gennif fi
yw y gwrandewi arnaf.
verse 16 Mi a ddymunais arnat hyn,
rhag bod i'm gelyn wowdio,
O llithrai fy nrhoed ronyn bach,
fo fydd llawenach gantho.
verse 17 Cloffi yn barod rwyf yn wir▪
a dolur hir sy'm poeni:
verse 18 Addef yr wyf mai iawn
[...]m' fod,
fy mhechod sy'n ei beri.
verse 19 A'm gelynion i sydd yn fyw
yn aml ei rhyw, a chryfion▪
Sydd yn dwyn câs i mi ar gam,
sef am fy mod yn gyfion.
verse 20 Y rhai a dalant ddrwg dros dda
a'm gwrthwyneba'n efrydd,
A hyn am ddylyn honof i
y pur ddaioni beunydd.
verse 21 Duw, nac ymâd, na fydd ym'mhel
[...],
pen ddelo dichell ffyrnig,
verse 22 Brysia, cymorth fi yn y byd,
fy Nuw, a'm iechyd vnig.
Dixi custodiam. Psalm.
39.
Dafydd heb allu tewi gan ofid, yn gweddio, ac yn dangos meddwl blin▪ Ei ymdrech yn erbyn marwolaeth ac anobaith.
A Ddewais gadw 'ngenau'n gu,
rhag pechu yn fy ngeiriau,
verse 2 Y dyn annuwiol lle y bo
bwriedais ffrwyno' ngenau.
verse 3 Tewais, tewais fel y dyn mud,
rhag dwedud peth daionus,
Pan y cyffroais o hir ddal,
ymattal oedd ofidus;
verse 4 Yn fy nghalon y cododd gwres:
a'm mynwes o'm myfyrdod,
Fel y tân ynynnu a wnaeth,
a rhydd yr aeth fy'nhafod.
verse 5 O dangos ym' (fy Arglwydd ner)
pa amser y diweddaf
Rifedi 'nyddiau: a pha hyd
o fewn y byd y byddaf.
verse 6 Rhoddaist fy nyddiau fel lled llaw,
i'm heinioes daw byr ddiwedd.
Diau yn d'
[...]lwg di (o Dduw)
fod pob dyn byw yn wagedd.
verse 7 Sef mewn
[...]ysgod y rhodia gwr,
dan gal
[...]lu pentw' ofer,
Dd
[...] wy
[...] wrth dyrru da
pwy a'i
[...]wynha mewn amser.
verse 8 Beth bellaen a ob
[...]thiaf fi,
Duw rhois i ti fy nghalon.
verse 9 Tyn
[...] o'm camweddau yn rhwydd,
nad fi'n w
[...]a
[...]wydd i ffolion.
verse 10 Yn fudan gwael yr aethym i,
a nyn tydi a'i parodd:
verse 11 O fyn dy gosp oddiwrthif swrn,
sef pwys dy ddwrn a'm briwodd.
verse 12 Pan gosbech biam bechod wr
fo wywa'n siwr ei fowredd,
Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hyn
nad yw pob dyn ond gwagedd.
verse 13 Cl
[...]w fy ngwedd
[...] o Dduw or nef,
a'm llef
[...] a gwyl fy nagrau
Dy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)
ae felly 'roedd fy nheidiau.
verse 14 O paid a mi gâd ym gryfhau,
cyn darfod dyddiau 'mywyd.
verse 15 O gwna â mi sy'mron fy medd
drugaredd a syberwyd.
Expectans expectaui. Psal.
40.
Diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni i ddynion: addaw ymroi i wasnaethu Duw, ar modd i hynny: gwedi diolch y mae yn achwyn rhag ei elynion, ac yn mynd at Dduw am gymorth.
BVm yn dyfal ddisgwyl fy Ner,
ef o'r vchelder clybu,
Clustymwrandawodd ef fy llais
pan lefais ar i fynu.
verse 2 Cododd fyfi or pydew blin,
a'r pridd tra gerwin tomlyd,
A rhoes ar graig fy
[...]choed i wau,
a threfn fy nghamrau hefyd.
verse 3 A newydd gerdd i'm genau rhoes,
clod iddo troes yn hylwydd.
verse 4 Paw
[...]
[...] na
[...] y gwe
[...]nt hyn,
a ch
[...]an yn yr Arglwydd.
verse 5 Pob ga
[...] yn ddiau dedwydd yw
a rotho ar Dduw ei helynt:
A'r beilch, a'r ffails a'r chwedlau tro
nid edrych efo arnynt.
verse 6 Aml (o Duw) yw y gwrthiau tau,
fel dy feddyliau ynny,
A heb vn dyn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynny.
verse 7 Y rhai pe y ceisiwn i drwy gred,
eu rhoi ar led, a'i canu,
Mwy amlach ydynt nag y gall
vn dyn heb pall eu traethu.
verse 8 Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth,
na chwaith vn aberth cennyf;
Er hyn fy nghlustiau i mewn pryd,
hwy a egoryd ymy.
verse 9 Hyn pan wrthodaist dwedais i,
Duw wele fi yn dyfod▪
verse 10 Megis o honof mae gwir pur
yn dy ysgrythur hynod,
verse 11 Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,
(o Dduw) rwy' 'n fodlawn ddigon.
Dy ewyllys di a'th lan ddeddf
sy'n greddf yn nautu'r galon.
verse 12 Mi a bregethais dy air cu
ynghanol llu mawr anian.
Ac ni thawaf (fy' Arglwydd gwyn)
ti wyddost hyn dy hunan.
verse 13 Dy iownder, iechyd, a'th air gwir
ni bum chwaith hir i'w celu,
Na'th drugaredd, na'th roddion da
rhag vn gynlleidfa meithlu.
verse 14 Dithau (o Dduw) rhagof na chel
dy dawel drugareddau,
Dy nawdd a'th wir gosod ar lled,
bont byth i'm gwared innau.
verse 15 Dagrau o'm hamgylch fydd vwch rhif,
a throso'n llif mae pechod,
Amlach ydynt nâ'm gwallt i'm brig,
a'm calon ddig sy'n darfod.
verse 16 Tyred (fy Arglwydd) helpa'n rhodd,
a rhynged bodd yt' hynny.
Bryssia i'm gwared, na thrig yn hwy,
a bydd gynhorthwy ymy.
verse 17 A chyd wradwydder hwynt ar gais
a fyn drwy drais fy nifa:
A throer iw hol y rhai y sy
yn chwennych ymy ddirdra.
verse 18 Bont hwy annedd-wâg yn lle tâl
y rhai a dyfal dafod
Er gwradwydd ym' a ddwedant hyn,
ffei, ffei, ar destyn dannod.
verse 19 Y rhai a'th geisiant di bob pryd
bont lawen hyfryd hylwydd,
A dweded a'th gâr di (Dduw ner)
mawryger enw'r Arglwydd.
verse 20 Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,
ac yn druan, a dyred,
(O Dduw fynerth) na thrig yn hir,
dyrd rhag y dir i'm gwared.
Beatus qui intelligit. Psalm.
41
Bendichio y rhai trugarog wrth eraill. Achwyn rhag anffyddlon gyfeillion. Diolchgarwch.
GWyn ei fyd yr ystyriol frawd,
a wnel a'r tlawd syberwyd.
Yr Arglwydd ystyriol o'r nef
a'i ceidw efthag drygfyd.
verse 2 Duw a'i ceidw, a byw a fydd
yn ddedwydd yn ddaiarol:
O na ddyro efo yn rhodd
wrth fodd y rhai gelynol.
verse 3 Yn ei wely pan fo yn glâf
rhydd y Goruchaf iechyd:
A Duw a gweiria oddi fry
ei wely yn ei glefyd.
verse 4 Dywedais innau yna'n rhwydd,
dod f'Arglwydd dy drugaredd,
Iachâ di'r dolur sy dan fais,
lle y pechais mewn anwiredd.
verse 5 Traethu y gwaethaf a wnai' nghâs
amdanaf, atcas accen:
Pa bryd y bydd marw y gwan,
a'i enw o dan yr wybren?
verse 6 Os daw i'm hedrych, dywaid ffug,
dan gasglu crug iw galon,
Ac a'i traetha pan el i ffwrdd
i gyfwrdd a'i gyfeillion.
verse 7 Fy holl gaseion doent ynghyd,
i fradu 'i gyd yn f'erbyn,
[...]
[...]
Ac i ddychmygu'i mi ddrwg,
a minneu'n ddiddrwg iddyn.
verse 8 Yna dywedent hwy yn rhwydd,
tywalldwyd aflwydd arno,
Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,
ni chyfyd byth oddiyno.
verse 9 F'an wyl gyfaill rhwym y'm wrth gred,
fy'mddireid a'm dewisddyn,
A fu yn bwyta' mara erioed,
a godai'i droed yn f'erbyn.
verse 10 Eithyr dy hunan cyfod fi,
o'th ddaioni Duw o'r nef;
Felly y gallaf fi ar hynt
gael talu iddynt adref.
verse 11 Da y gwn fy mod i wrth dy fodd,
wrth hyn, na chafodd casddyn,
A gwn na chaiff vn gelyn glas
ddim vrddas yn fy erbyn.
verse 12 Felly y gwn am danaf fi,
di a'm cynheli'n berffaith:
Gan fy rhoi i byth gar dy fron
o fysg y dynion diffaith.
verse 13 I Dduw Israel boed yn flith
y fendith, (Ior goruchaf)
Yn oes oesoedd: a thrwy air llen,
Amen, Amen a draethaf.
Quem admodum. Psal.
42.
Dafydd heb gael gan e
[...] erlidwyr ddyfod i'r gynnulleidfa sanctaidd, yn dangos fod ei galon ef yn bresennol gydâ hwy, a bod ei holl ymddiried ef yn yr Arglwydd.
YR vn wedd ag y bref yr hydd
am yr afonydd dyfroedd:
Felly y mae fy hiraeth i
am danat ti o'r nefoedd.
verse 2 Fy enaid i sychedig yw,
am fy Nuw byw, a'i gariad:
Pa bryd y dof fi gar dy fron?
fy Nuw a'm cyfion ynad.
verse 3 Fy nagrau oeddynt ddydd a nos
yn fwyd ym', achos gofyn
Ym am fy Nuw bob pen awr bach,
ple mae fo bellach? meddyn.
verse 4 O gofio hyn wrthyf fy hun,
fel tywallt ffun fy enioes:
Ynghyd a theulu Duw yr awn,
be cawn fy meddwl eisoes.
Hyd at dy Dduw yn ystig iawn
yr awn dan ganu clodydd,
Fel tyrfa a fai'n cadw gwyl,
hyn bum iw ddisgwyl beunydd.
verse 5 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
verse 6 Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.
verse 7 Fy enaid o'm mewn pan fo prudd,
a â yn rhydd o'th gofion,
A chofio yr Iorddonen iâch,
ar mynydd bâch o Hermon.
verse 8 Dyfnder is dyfnderau y sydd,
ac ar eu gilydd galwant;
A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,
hwy dros fy mron a aethant.
verse 9 Fy Nâf a roes y dydd ym'hedd,
a'r nos gyfannedd ganu,
I ganmawl fy Nuw, hwn a roes
ym' einioes iw foliannu.
verse 10 Paham im' gedyt dros gof cyd?
Duw, wrthyd yr achwynaf,
Er gorthrymder y gelyn cam,
mewn galar pa'm y rhodiaf?
verse 12 Trwy f'esgyrn taro cleddyf llym
mewn gwarthlid ym, oedd edliw
Ym'om gelynion er fy ngwae,
dy Dduw p'le mae fo heddiw?
verse 13 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
verse 14 Disgwyl wrth Dduw, a doigar bron
ei wyneb tirion cannaid.
Iudica me Domine. Psalm.
43
Gweddio am gael ei wared o ddwylo yr enwir, modd y gallai foli Duw yn ei gynnulleidfa sanctaidd.
Barn fi (o Dduw) a dadleu'n dyun
yn erbyn pob'oedd enwir,
Rhag y gwr twyllgar gwared fi,
a rhag drygioni'r dihir.
verse 2 Cans ti yw Duw fy nerth i gyd,
paham ym' bwryd ymaith?
A pha'm yr âf mor drwm a hyn,
gan bwys y gelyn diffaith?
verse 3 Gyr dy olau, a moes dy wir,
ac felly twysir finnau,
A'm harwain i i'th breswylfydd,
i'th fynydd, ac i'th demlau.
verse 4 Yna yr âf at allor Duw,
sef goruchel Dduw hyfryd,
Ac ar y delyn canaf fawl,
Duw, Duw, fy hawl a'm gwnfyd.
verse 5 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.
Deus, auribus. Psal.
44.
Gweddi y ffyddlon pan erlidiwyd, ar i Dduw faentymio ei achos cyfion.
CLywsom â'n clustiau, (o Dduw cu)
a'n tadau fu'n mynegy
I ni, dy wyrthiau gynt a oedd
yn yr amseroedd hynny.
verse 2 Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,
a'th bobl yn fwyfwy plennaist.
Llâdd estroniaid heb ado vn,
a'th bobl dy hun a gedwaist.
verse 3 Cans nid â'i cledd eu hun yn wir,
y cowsant dir na thyddyn,
Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,
y cadwyd heddwch iddyn:
Ond dy law ddeau, a'th fawr nerth,
a'th olwg prydferth effro,
O herwydd yt'eu hoffi: hyn
a barodd iddyn lwyddo.
verse 4 Ti Dduw, fy mrenin ydwyd: o
Duw, pâr i Iago lwyddiant:
verse 5 Lladdwn a sathrwn yn d'enw di
y rheini a'n cassaant.
verse 6 Nid yn fy mwa mae fy ngrym,
na'm cleddyf llym f'amddiffyn,
verse 7 Ond tydi Dduw, achubaist fi,
a rhoist warth fri i'r gelyn.
verse 8 Am hynny molwn di bob dydd,
cai yn dragywydd fowredd.
Canwn i'th enw gerdd gan dant,
o glod a moliant ryfedd.
verse 9 Ond ti a giliaist ymaith beth,
daeth arnom seth a gwradwydd;
Nad ait ti allan gyd â'n llu,
cyfagos fu i dramgwydd.
verse 10 Gwnaethost i nyni droi heb drefu,
ein cefn at y gelynion.
Felly yr aeth ein da o'n gwlad
yn sclyfiad i'n caseion.
verse 11 Rhoist ni yn fwyd (fel desald gwâr)
ar wasgar i'r cenhedloedd.
verse 12 A gwerthaist dy bobl ar bris bach,
nid hyttrach dy oludoedd.
verse 13 Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)
i'n cymydogion gwrthrym,
A diystyrwch oll a gwarth
i bawb o bobparth ydym.
verse 14 Dodaist ni yn ddihareb chwith
ymlhith yr holl genhedloedd,
Ac yn arwydd i ysgwyd pen,
[...] choeg gyfatcen pobloedd.
verse 15 Fy ngwarth byth o'm blaen daw yn hawdd,
sy chwys a dawdd fy rhagdal,
verse 16 Gau lais gwarthruddwr, cablwr câs,
a gwaith galanas dial.
verse 17 Er dyfod arnom hynny i gyd
ni throes na'n bryd na'n cofion,
Ac ni buom i'th air (o Ner)
vn amser yn anffyddlon.
verse 18 Ein calon yn ei hol ni throed,
ni lithrai'n troed o'th lwybrau;
verse 19 Er ein gyrru i ddreigiaidd gell
a'n toi a mantell angau.
verse 20 Os aeth enw ein Duw o'n co,
ac estyn dwylo' i arall.
verse 21 Oni wyl Duw y gaugred hon?
ein calon mae'n ei deall.
verse 22 O herwydd er dy fwyn yn wir
o Dduw, i'n lleddir beunydd,
Fal y defaid ymron eu llâdd,
fal dyna râdd y llonydd.
verse 23 O deffro cyfod, Dduw, mewn pryd.
pa'm yr wyd cyd yn gorwedd?
A dihuna, a chlyw sy nghri,
a chofia fi o'r diwedd.
verse 24 Paham y cuddi d'wyneb pryd?
o darbod hyd ein blinder,
Ein henaid mathrwyd yn y llwch
ga
[...] dristwch a gorthrymder.
verse 25 Wrth y llwch mae ein boi ynglyn,
fal dyna derfyn gwagedd.
verse 26 Duw, cyfod, cymorth, gwared ni
o egni dy drugaredd.
Eructauit cor meum. Psal.
45.
Anrhydedd, nerth, a phrydferthwch Salomon; bendithio ei briodas ef a'r Aiphtes, os hia ymwrthodei â'i thylwyth, gan ddilyn ei gwr; a hyn yn arwydd
[...] Ghrist a'r eglwys o'r cenhedloedd.
TRaethodd sy nghalon bethau da,
i'r brenin gwna' fyfyrdod:
Fy nhafod fel y pin, y sydd
yn llaw scrifennydd parod.
verse 2 Vwch meibion dynion tegach wyd,
tywalldwyd rhad i'th enau,
Herwydd i Dduw roi arnat wlith
ei fendith byth a'i radau.
verse 3 Gwisg dy gleddau yngwasg dy glun,
o gadaru gun gogonedd,
A hyn sydd weddol a hardd iawn,
mewn llwydd a llawn orfoledd.
verse 4 Marchog ar air y gwir yn rhwydd,
lledueisrwydd, a chyfiownedd,
A'th law ddeau di a â drwy
bethau ofnadwy rhyfedd.
verse 5 A thanat ti pobloedd a syrth,
gan wyrth dy saethau llymion;
Briwant hwy, a glynant yn glau
ym mronnau dy elynion.
verse 6 Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)
a bery o dragwyddoldeb,
Awdurfaingc dy dyrnas y sydd
awdurol: rhydd vniondeb.
verse 7 Ceraist vniondeb, case'ist gam,
o achos pa'm; Duw lywydd,
Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,
sef ennaint y llawenydd.
verse 8 Aroglau myrh, ac aloes da,
a chasia sy ar dy ddillad,
Pan ddelych di o'th Ifyrn dai
lle i'th lawenai'r hollwlad.
verse 9 Sef merched brenhinoedd yn gwau
gyda'ch garesau cywir,
[...]'th du deau' r frenhines doeth
mewn gwisg aur coeth o Ophir.
verse 10 Clyw hyn, o ferch, a hefyd gwel,
ac a chlust isel gwrando:
Mae'n rhaid yt ollwng pawb o'th wlâd,
a thy dy dâd yn ango'.
verse 11 Yna'i bydd (gan y brenin) wych
gael edrych ar dy degwch:
Dy
[...]glwydd yw, gwna iddo foes,
i gael i'th oes hyfrydwch.
verse 12 Merched Tirus oedd
â rhodd dda:
a'r bobloedd appla o olud,
A ymrysonent gar dy sron,
am roi anrhegion hefyd.
verse 13 Ond merch y brenin, glân o fewn,
anrhydedd llawn sydd iddi,
A gwisg o aur a gemmau glân
oddiallan sydd am dani.
verse 14 Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon
yn wych gar bron ei harglwydd,
Ac a'i gwyryfon gyda hi
daw attad ti yn ebrwydd.
verse 15 Ac mewn llawenydd mawr a hedd
ac mewn gorsoledd dibrin,
Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwys
i gyd i lys y brenin.
verse 16 Dy feibion yn attegion tau
yn lle dy dadau fyddant,
Tywysogaethau drwy fawrhâd,
yn yr holl wlâd a feddant.
verse 17 Coffâf dy enw di ymhob oes,
tra caffwyf einioes ymy:
Am hyn y bobloedd a rydd fawl,
byth yn dragwy ddawl ytty.
Deus noster. Psal.
46.
Diolch i Dduw am wared yr eiddo, ac annog y ffyddloniaid iw gorchymyn eu hunain i Dduw.
GObaith a nerth i'n yw Duw hael;
mae help iw gael mewn cyfwng.
verse 2 Daiar, mynydd, aent hwy i'r mor:
nid ofnaf f'angor deilwng.
verse 3 Pe ymgymysgai'r tir a'r dwfr,
nid ofnwn gynwfr rhuad,
Ped ai'r mynrddoedd i'r mor mawr
ar brynnieu i lawr y gwastad.
verse 4 Dinas Duw lle llawen a fydd,
cyfagos glennydd afon,
Cyssegr preswylfa y rhad,
gan ddyfal rediad Cedron.
verse 5 Duw sydd yn trigo o'i mewn hi
ni âd hi'scogi vnwaith:
Duw a'i cymyrth ar y wawr ddydd,
a phreswylfeydd perffaith.
verse 6 Y cenhedloedd pan fyddent ddig,
a ffyrnig y tyrnesydd,
Toddai y ddaiar o'i flaen ef
pan glywid llef Duw ddofydd,
verse 7 Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri'y lluoedd:
Y mae Duw Iago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o'r nefoedd.
verse 8 Y wlad, o dowch i gyd yn rhwydd,
a gwaith yr Arglwydd gwelwch,
Y modd y gosododd ei ar
y ddaiar anniddanwch.
verse 9 Gwna i ryfeloedd beidio'n wâr
hyd eitha'r ddaiar lychlyd:
Dryllia y bwa, tyr y fion,
llysg y cerbydon hefyd.
verse 10 Peidiwch, gwybyddwch mai fi yw
eich vnig Dduw a'ch gwanar,
Ymysg cenhedloedd mi'a gâf barch,
a'm cyfarch ar y ddaiar.
verse 11 Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri y lluoedd,
Y mae Duw Iago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o'r nefoedd.
Omnes gentes. Psam.
47.
Peri addoli Duw am ei drugaredd i had Iago: prophwydoliaeth am deyrnas Christ.
CEnwch, a churwch ddwylo' nghyd;
holl bobl y byd cyfannedd,
A llafargenwch i Dduw nef,
gan leisio â llef gorfoledd.
verse 2 Sef ofnir Duw vwch daiar gron,
ef sydd dros hon yn frenin,
verse 3 Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,
a than ein traed fo'i disgin.
verse 4 Fe a rydd ini feddiant siwr,
gwlad Iago, gwr a garai.
verse 5 Duw a dderchafodd wrth y sain,
yr vtgorn gain pan leisiai.
verse 6 O cenwch, cenwch, glod ein Duw,
ein brenin yw, o cenwch,
verse 7 Duw dros y byd sy frenin call,
drwy ddeall ymhyfrydwch.
verse 8 Brenin yw ef, a da y gwnaeth
lywodraeth ar wyr bydoi,
Ac y mae'n eistedd yn ei drwn
gorseddfa swn sancteid diol.
verse 9 Ymgasglant bendefigion byd:
ynghyd â llu Duw Abra'm,
Duw biau tariannau y tir,
drwy foliant hir yn ddinam.
Magnus Dominus. Psalm.
48.
Diolch i Dduw dros Ierusalem.
MAwr ei enw'n ninas ein Duw,
a hynod yw yr Arglwydd,
A'i drigfan ef yno y sydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd.
verse 2 Tegwch bro, a llawenydd gwlâd,
yw Seion lathriad fynydd,
Yn ystlysau y gegledd lawr,
tre'r brenin mawr tragywydd.
verse 3 Adweinir Duw' mhalasau hon
yn gymorth digon hynod.
verse 4 Ac wele nerth brenhinoedd byd
doent yno i gyd-gyfarfod.
verse 5 A phan welsant, rhyfedd a fu,
ar frys brawychu rhagor.
verse 6 Dychryn a dolur ar bob ffaig,
fel dolur gwraig wrth esgor.
verse 7 Ti â dwyreinwynt drylli' n frau
eu llong au ar y moroedd.
verse 8 Fel y clywsom y gwelsom ni,
yn ninas rhi' y lluoedd:
Sef hyn yn ninas ein Duw ni,
sicrha Duw hi byth bythoedd.
verse 9 Duw disgwyliasom am dy râs
i'th deml, ac addas ydoedd.
verse 10 Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,
felly drwy'r byd i'th folir.
Dy law ddeau y sydd gyflawn,
a chyfiawn i'th adweinir.
verse 11 A bryn Sion a law enhâ,
a merched Iuda hefyd;
A'i llawenydd hwy yn parhau
O ran dy farnau hyfryd.
verse 12 Ewch, ewch, oddiamgylch Sion sail,
a'i thyrau adail rhifwch,
Ei chadarn fur a'i phlasau draw
i'r oes a ddaw mynegwch.
verse 13 Cans ein Duw ni byth yw'r Duw hwn
hyd angau credwn yntho,
A hyd angau hwnnw a fydd
yn dragywydd i'n twyso.
Audite haec omnes. Psalm.
49.
Yr Yspryd yn dangos nad y cyfoethoccafy sydd ddedwyddaf, ond mai Duw sydd yn llywio pôb pêth.
GWrandewch chwi y bobloedd i gyd,
trigolion byd deellwch,
verse 2 Gwerin, flawd, bonheddig, a chryf
cyfoethog hyf ystyriwch.
verse 3 O'm genau daw doethair didwyll,
â'm calon pwyll fyfyriaf,
verse 4 A'm clust gwrandawaf ddameg ddwys
â'm llais cerdd fwys a ganaf.
verse 5 Paham yr ofnaf ddrygau'r byd
yn amser adfyd atcas?
Pan fo anwiredd wedi cau,
wrth fy sodlau o'm cwmpas.
verse 6 Mae llawer rhai o wyr y byd,
mewn golud a'mddiriedant,
A thrwy siarad am werth, a rhi
y rhei' ni y rhodresant.
verse 7 Ond ni wareda neb mo'i frawd,
ni thâl yn ddidlawd drosto,
Ac ni chymer Duw y fâth dâl,
nac iawn mor sâl am dano.
verse 8 Sef pryniad enaid dyn drud fydd,
a hyn byth gorfydd peidio,
verse 9 Fel y gallo ef
[...] fyw byth,
heb fynd i nyth yr amdo.
verse 10 Gwelir mai'r bedd yw lletty'r doeth,
y ffol ar anoeth vnwedd:
Marw yw'r naill, a marw yw'r llall.
i arall gâd ei annedd.
verse 11 Meddwl am ei hadeilad byth,
yn ddilyth y parhâant,
Am hyn wrth eu henwau yn wir
henwau eu tir a alwant.
verse 12 Ni phery dyn o gnawdol dras,
mewn vrddas er ei adail,
Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,
a dderfydd fal anifail.
verse 13 Dyma eu ffordd, ffordd ffoledd fydd,
na welant ddydd yn passio.
Er hyn eu hil a ddel iw' hol
fydd yn eu canmol etto.
verse 14 Angeu yw terfyn pob dyn byw,
i hwn nid yw ond tamaid;
Myned sydd raid o'r ty i'r bedd;
yn rhwym vn wedd a'r defaid.
verse 15 Daw dydd i'r cyfion dranoeth teg,
daw ym' ychwaneg ystyn;
Daw ym' o'r bedd godiad i fyw,
deheulaw Duw a'm derbyn.
verse 16 Er codi o wr mewn parch neu dda,
nac ofna di vn gronyn:
Ei olud ef, na'i
[...], na'i dda,
i'r bedd nid â im ddylyn.
verse 17 Hwn tra fu fyw
[...] llawr,
gnwai'n fawr o hono'i h
[...]na
[...],
Gwna honot ti dy hun yn
[...]wy,
a hwynt hwy a'th
[...].
verse 18 At oes ei dadau
[...]
â i'r bodd
[...].
verse 19 Dyn mewn
[...]
(fal llwdn o wall) a dder
[...]y
[...]d.
[...]
[...]
[...]
[...]
Deus deorum. Psalm.
50.
Prophwydoliaeth am alwedigaeth y cenhedloedd, ac na fyn Duw aberth ond diolchgarwch, yn erbyn y rhai a arferant Ceremoniau o flaen gair Duw.
DVw y duwiau, yr Arglwydd cu,
gan lefaru a alwodd,
O gadiad haul hyd-fachlud hwn,
yr hollfyd crwn cyffroodd.
verse 2 O fryn Sion y daeth Duw naf,
hon sydd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch a goleuni mawr,
a liewych gwawr o'i gwmpas.
verse 3 Doed rhagddo'n Duw, na fid fel mud,
o'i flaen fflam danllud ysed,
A mawr dymestloedd iw gylch ef,
pan ddel o
[...]ef i wared.
verse 4 Geilw ef am y nefoedd fry,
a'r ddaiar obry isom,
I gael barnu ei bobloedd ef,
fal hyn rhydd lef am danom.
verse 5 O cesglwch attaf fi fy saint,
y rhai drwy ryddfraint brydferth,
A wnaethan ammod a myfi,
a'i rhwymo hi drwy aberth.
verse 6 A phan ddangoso mintai nef
ei farnau ef yn vnion,
Sef Duw fydd yn barnu ei hun,
yr vnic gun sydd gyfion.
verse 7 Clyw di fy mhobl, traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbyn,
Dithau Israel 'ac iawn yw,
Duw, sef dy Dduw a'th ofyn.
verse 8 Ni chai di am yr ebyrth tau,
na'th boeth offrymau gerydd:
Nac am na baent hwy gar fy mron,
y cyfryw roddion beunydd.
verse 9 Ni chymeraf o'th dy vn llo,
na hyfr a fo'n dy gorlan,
verse 10 Mi biau'r na'n y maes sy'n gwan
ar fil o wynniau allan.
verse 11 Pob aderyn erbyn ei ben,
a adwen ar y mynydd,
Pob da maesydd, y lle y maen,
y maent o'm blaen i beunydd.
verse 12 Nid rhaid ym' ddangos i ti hyn,
ye delai newyn arnaf,
Ar yneiddo fi yr holl fyd,
a'i dda i gyd yn llownaf.
verse 13 A'i cig y teirw fydd fy mwyd?
na thyb: nid wyd ond angall,
Ai gwaed hyfrod fydd fy niod?
dysg o newydd ddeall.
verse 14 Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thal yr offrwm pennaf;
Cân ei fawl ef: a dod ar led
d'adduned i'r Goruchaf;
verse 15 Galw arnaf yn dy ddydd blin,
yno cai fi'n waredydd.
Yna y ceni i mi glod
am droi y rhod mor ddedwydd:
verse 16 Duw wrth yr enwir dywaid hyn:
ai ti perthyn fy neddfau?
Paham y cym'ri di, na'm clod,
na'm hamod yn dy enau?
verse 17 Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysg
ac addysg ni chymeraist,
A'm geirau i (fel araith ffol)
i gyd o'th ol a deflaist.
verse 18 A phan welaist leidr rhedaist
a rhwydaist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt af lan,
mynnaist ti gyfran gantho.
verse 19 Gollyngaist di dy safn yn rhydd
yn efrydd ar ddrygioni,
A'th dafod o lithrai ym mhell
at ddichell a phob gwegi.
verse 20 Eisteddaist di, dwedaist ar gam
ar fab dy fam er enllib.
verse 21 Pan wnaethost hyn, ni'th goshais di,
a thybiaist fi'n gyffelib.
verse 22 Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,
mi a'ht geryddaf bellach
Mi a ddangosaf dy holl ddrw,,
o flaen dy olwg hayach,
verse 23 Gwrandewch: a pheidiwch tra f
[...]h byw
a gollwng Duw yn angof;
Pan ni bo neb i'ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwygo.
verse 24 Yr hwn a abertho 'i mi fawl
ym'r sawl a'm gogonedda,
I'r neb a drefno'i ffordd yn wiw
gwir iechyd Duw a ddysgaf.
Miserere mei Deus. Psal,
51.
Dafydd
yn cyfaddef ei anwiredd, ac wrth ymgydnabod a brynti ei anian, yn dymuno cael gan Dduw faddeuant, ac adnewyddu ei ddoniau: ac mae hefyd yn gweddio dros yr eglwys.
[...] TRugaredd dod i mi, Duw, o'th ddaio-
[...] ni tyner; Ymaith tyn fy enwiredd mau
[...] o'th drugareddau lawer.
verse 2 A golch fi yn llwyr ddwys
oddiwrth fawr bwys fy meiau:
Fy Arglwydd, gwna'n bur lân fyfi,
rhag brynti fy nghamweddau.
verse 3 Cans adwen fy nghamwedd,
a'm brwnt anwiredd yssig,
Sef beunydd maent gar fy mron i.
verse 4 Yn d'erbyn di yn vnig,
Y gwneuthym hyn oedd ddrwg
yn dy lan olwg distrych,
Fel i'th gyfiowner yn ol d'air,
yn burair pan y bernych.
verse 5 Mewn pechod lluniwyd fi,
ac mewn drygioni dygas,
Felly yr wyf o groth fy mam
yn byw bob cam yn atgas.
verse 6 Ac wele ceri'r gwir
o fewn y gywir galon.
Am hyn dysgaist ddoethineb iach
y'm o'th gyfrinach ffyddlon▪
verse 7 Ag Isop golch fi'n lan,
ni byddaf aflan mwyach,
[...]yddafi o'm golchi mal hyn,
fel eira gwyn neu wynnach▪
verse 8 Par i mi weled hedd,
gorfoledd, a llawenydd,
I adnewyddu f'esgyrn i
a ddrylliaist di â cherydd
verse 9 O cuddia dwyneb-pryd
rhag fy mhechodau i gyd,
Fy anwireddau tyn eu lliw,
o Arglwydd bid wiw gennyd.
verse 10 Duw, crea galon bur,
dod i mi gysur beunydd.
I fyw yn well tra fwy' n y byd,
dod ynof yspryd newydd.
verse 11 O Dduw na ddyro chwaith,
fi ymaith o'th olygon,
Ac na chymer dy Yspryd glân
oddiwrthif, druan gwirion.
verse 12 Gorfoledd dwg i mi,
drwy roddi ym dy iechyd,
A chynnal a'th ysprydol ddawn
fi, i fyw'n vniawn hefyd.
verse 13 A dysgaf dy fford wir
i'r enwir, a'th addoliad:
A phob pechadur try i'r iawn,
a chycch yn vniawn attad.
verse 14 Rhag gwaed gwared fi Dduw,
sef Duw fy iechydwriaeth,
A'm tafod o'th gysiawnder di
a gân gerdd wisgi hyffraeth.
verse 15 Duw, egor y min mau,
â'm genau mi a ganaf,
O Arglwydd, gerdd o'th fawl, a'th nerth,
fal dyna'r Aberth pennaf.
verse 16 Cans Aberth ni's ceisi,
ac ni fynni offrwm poeth:
Pe y mynasyt cowsyt hyn,
nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.
verse 17 Aberthau Duw i gyd,
yw yspryd pur drylliedig,
Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)
y galon gystuddiedig.
verse 18 Bydd dda wrth Sion fryn,
o Arglwydd, hyn a fynni,
Ac wrth Gaerselem dy dretâd,
a gwna adeilad arni.
verse 19 Cei aberth iownedd coeth,
cei offrwm poeth yn rhagor,
Cei aberth llosg, a bodlon fych,
cei fustych ar dy allor.
Quid gloriaris? Psal.
52.
Dangos dull gorthrymydd, ac am ei ddiwedd: cysur i'r ffyddlon yn Nuw. Mae y Psalm hon yn gosod allan yn eglur dyrnasiad yr Anghrist.
PA'm y rhodresi yn dy frâd,
a'th ddrwg fwriad (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bob dydd,
ac felly bydd hyd dyddfarn▪
verse 2 Dychymyg drwg yw'r fyfyrdawd,
a gwaith dy dafawd sceler,
Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,
a'i swydd yw gwneuthur ffalsder.
verse 3 Ni hoffaist dda, gwnait ddrwg yn haws,
a'r traws, yn fwy nâ'r vnion,
verse 4 Hoffaist eiriau distryw a bâr,
ti golyn twyllgar, creulon.
verse 5 Duw a'th ddistrywia dithau byth,
fo dyn dy chwyth o'th gaban:
Ac a dyn dy wraidd di i gyd,
o dir y bywyd allan.
verse 6 Rhai a'i gwelant a arswydant,
cans hwy a ydynt gyfion,
A hwy a chwarddant am ei ben,
pan welont ddilen greulon.
verse 7 Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys
ar Dduw na'i bwys na'i oglud,
Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,
a rhif a gwerth ei olud.
verse 8 Minnau fel oliwydden werdd
yn nhy Dduw, cerdd a ganaf,
Ymddiriedaf iddo yn hawdd,
byth dan ei nawdd y byddaf.
verse 9 Mi a'th folaf, a'th obeithiaf,
bythoedd drwy ymddiried.
Da yw dangos garbron dy Saint
dy enw, a maint dy weithred.
Dixit insipiens. Psal:
53.
Dangos drwg naturiaeth dyn, a chosbedigaeth y drygionys. Gweddi dros y duwiol.
DWedai'r ynfyd wrtho'i hun
nad oes vn Duw na dial:
Ei ddrwg ffieidd-dra a'i drais tynn,
a ddengys hyn yn ddyfal.
Llygru yn ffiaidd maent drwy'r byd,
verse 2
[...] neb a geisiai Dduw yn gall,
nac oedd yn deall gronyn,
verse 3 Ciliasai bawb yn ol ei gefn,
a hwy drachefn cydlygrynt:
Nid oedd neb a wnelai yr iawn,
nac vn yn gyfiawn honynt.
verse 4 Pa'm na'styria gweithwyr traha
eu bod yn bwyta' mhobloedd;
Fel y bara? ac heb ddim bri;
ni alwent fi o'r nefoedd.
verse 5 Ofn heb achos arnynt a ddaeth
y rhai a'ch caeth warchaeodd:
Cans trwy en gwasgar hwy i bob parch,
mewn gwarth Duw a'i gwasgarodd.
verse 6 Och fi na roid i Israel
o Sion uchel iechyd:
Pan roddo Duw ei bobl ar led
o drom gaethiwed adfyd,
verse 7 Yna y bydd Iago yn iach,
ac Israel bâch yn hyfryd:
Yna, &c. drachefn.
Deus in nomine. Psal.
54.
Dafydd yn galw ar Dduw i ddinistrio ei elynion, drwy addo diolchgarwch.
DVw yn d'enw cadw fi'n dda,
a barna i'th gadernid.
verse 2 Duw clyw fy ngweddi, gwrando nghwyn
a'm llef yn achwyn wrthyd.
verse 3 Cans codi'm herbyn i yn chwyrn
mae cedyrn ac estroniaid.
Ac heb osod Duw ga
[...] eu bron,
mor greulon ynt i'm henaid.
verse 4 Wele Duw sydd ym' cymorth rhag
pwy bynnag a gais dial;
Duw sydd gyda'r rhai sy'ar blaid.
fy enaid, er ei gynnal.
verse 5 Efe a bâl o'r achos hon
i'm gelynion eu drygedd,
O torr di ymaith hwynt (fy Ion)
yn eigion dy wirionedd.
verse 6 Rhof aberth yt o wllys da,
a chlod-fora' dy enw
Fy Arglwydd cymmwys ydyw hyn,
sef ti wyd yn fy nghadw,
verse 7 Gwir
[...]w
[...] Duw a'm gwaredodd i
o'm cyni a'm trallodion,
A'm llygad a gafodd ei fryd,
a'i wynfyd o'm caseion.
Exaudi Deus. Psal.
55.
Dafydd yn ofni Saul yn arurhr, ac yn gweddio, ac yn a chwyn faint ei greulondeb ef.
O Dduw gwrando fy ngweddi brudd,
nac ymgudd rhag fy nghwynfan,
verse 2 Erglyw a gwyl fy ngwael ystâd,
a llais fy nâd a'm tuchan.
verse 3 Hyn rhag rhuadaidd lais fy nghâs,
a phwys dyn llym
[...]âs enwir,
Y rhai a daerant arnaf ddrwg,
a'i llid
[...]n amlwg gwelir.
verse 4 Gofid rawn sy'n dwyn fy oes,
daeth angau loes hyd attaf.
verse 5 Mae ofn ac arswyd arnaf caeth▪
a dychryn daeth ar f'uchaf▪
verse 6 O dra ofn dwedwn yn fy nghri,
gwae fi am esgyll clommen,
Yna'r ehedwn i le rhydd,
i gael ym' lonydd amgen.
verse 7 Wele, awn i gyrwydro ym mhell,
lle cawn ystatell fachog.
verse 8 Yna y brysfiwn ac fy hynt
rhac rhuad gwynt tymestlog,
verse 9 Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)
gwahana eu tafodau.
Sef yn y ddinas amlwg drais
a welais, a chynennau.
verse 10 Dydd a nos ei chylchu yn dro,
a rhodio rhyd ei chaerau,
O'i mewn y mae enwiredd mawr,
ac ar ei llawr bechodau.
verse 11 Gan faint ei henwireddau hi,
a maint drygioni beunydd,
Nid ymâd twyll na dichell chwaith
fyth ymaith o'i heolydd.
verse 12 Ac ni wnaeth fy nghâs y gwaith hyn:
pe'gelyn, goddefaswn:
A phe dyn atgas yn ei roch,
yn hawdd y gochelaswn.
verse 13 Ond tydi wr, fy nghyfaill gwar,
fy nghymmar a'm cydnabod,
verse 14 A fu mewn cyd-gyfrinach ddwys
yn eglwys Dduw'n cyfarfod.
verse 15 Terfysg angau arnaw y del,
i'r pwll yr el yn lledfyw:
Sef ymherfedd eu cartref cau
nid oes ond drygau distryw.
verse 16 Minnau gweddiaf ar Dduw byw,
yr hwn a'm clyw mewn amser,
verse 17 Hwyr, a borau, a chanol dydd,
a hyn a fydd drwy daerder.
verse 18 Gwaredodd Duw yr enioes fau
mewn hedd yn nyddiau drygnaws,
[...]le'r oedd or blaen yn ferbyn lu,
sef ar fy nhu troes liaws.
verse 19 Duw a'i gostwng hwynt, ac a'm clyw,
sef brenin yw er cynnoes.
Hwythau heb ymado â'i chwant,
fy Nuw nid ofnant eisoes.
verse 20 Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,
drwy godi braw a frochodd,
Ef â'r vn llaw (yn erbyn hedd)
yr vn glyfaredd torrodd.
verse 21 Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,
a'i fwriad ffyrf am ryfel:
Pan fo oel ar ei dafod doeth
tyn gleddyf noeth yn ddirgel.
verse 22 O bwrw d'ofal ar dy Dduw,
o mynni fyw heb syrthio,
Duw a geidw y cyfion byth,
a'r drwg f'oi chwyth i gwympo.
verse 23 Sef pob dyn gwaedlyd bradog drs
nid oesa fo hyd hanner,
(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot ti
mae'ng o baith i bob amser.
Miserere mei. Psalm
56.
Dafydd yn achwyn rhag ei elynion: ac yn gofyn cymorth, ac yn ymddiried yn Nuw. Ac yn addaw ei foli ef yn ei Eglwys.
DVw dy nawdd ym rhag marwol ddyn
hwn yn ei wyn a'm llyngcai;
Sef ymryfelu a mi bydd,
a beunydd i'm gorthrymmaf.
verse 2 Llyngcent fi beunydd o dra châs,
(dy râs o Dduw goruchaf)
Rhai beilch rhy dynion maent yn llu
yn poeth ryfelu arnaf.
verse 3 Y dydd y bai mwyaf fy ofn
rhown ynot ddofn ymddiried.
verse 4 Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,
doi yn ddidlawd i'm gwared.
verse 5 Yn fy ymadrodd i fy hun,
y ceisiant lun i'm maglu;
Ac ar bob meddwl a phob tro
y maent yn ceisio'nrygu.
verse 6 Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,
a disgwyl fy holl gerdded,
Drwy ymfwriadu i mi loes,
a dwyn i'm heinioes niwed.
verse 7 A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,
dod iddynt ffrwyth i'enwiredd:
Disgyn y bobloedd yn dy lid,
Duw felly bid eu diwedd.
verse 8 Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,
fy nagrau dod i'th gostrel:
Ond yw pob peth i'th lyfrau di
a wneuthym i yn ddirgel?
verse 9 Y dydd y llefwyf, gwn yn wir
dychwelir fy ngelynion,
Am fod drosof fy Nuw â'i law,
mi a wn y daw yn vnion.
verse 10 Gorfoleddaf yngair fy Nuw,
gair
[...]'Arglwydd dyw a folaf,
verse 11 Yn Nuw y rhoi ymddiried siwr,
beth a wnel gwr nid ofnaf.
verse 12 O Duw mae arnaf fi yn ddled
lawer adduned ffyddlon,
Ac m
[...] a'i talaf hwynt yn rhwydd
i ti fy Arglwydd cyfion.
verse 13 Am yt ludd dwyn fy oes a'm gwaed,
a llestair i'm traed lithro,
Fel y rhodiwyf fi gar dy fron
yngolau'r bywion etto.
Miserere mei. Psalm.
57.
Dafydd yn anialwch Ziph yn galw ar Dduw drwy ymddiried yn ei addewid ef. Ac y dangosai ef ei ogoniant. Am hynny y
[...]ae ef yn rhoi dioich a mawl.
DY ras, dy nawdd, (fy Nuw) ym'dod,
sef ynod ymddiriedaf,
Nes myned heibio'r aflwydd hyn
dan d'edyn ymgyfrodaf.
verse 2 Ymddiried f'enaid ar Dduw sydd,
ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,
Ac a gwblhaf ei air yn iawn,
sef cyfiawn yw'r Goruchaf.
verse 3 O'r nef yr enfyn geidwad y'm,
rhag nerth dyn llym a'm llyngcai:
Enfyn fy Nuw ei nawdd a'i hedd,
a'i lân wirionedd didrai.
verse 4 Ym mysg y llewod mae fy oes,
plant dynion poethfoes eiriau,
Eu dannedd sydd fel gwayw neu saeth,
a'i tafod gwaeth nâ'r cleddau.
verse 5 Ymddercha Dduw y nef vwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar, a'i thrigolion.
verse 6 O flaen fy nrhaed y rhoesant rwyd,
ac felly'm rhwymwyd weithian,
Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,
i'r hwn yn hawdd syrthiasan.
verse 7 Parod yw fy nghalon (o Dduw)
o parod yw fy nghalon.
Canaf yt' a datcanaf wawd
o fawl fy nhafawd cyson.
verse 8 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Nabl a thelyn, eb ado vn,
deffrof fy hun ar las ddydd.
verse 9 Mawl yt (o Arglwydd) pan ddeffrof
a rof ymysg y bobloedd,
A chlodfori dy enw a wnâf
lle amlaf y cenhedloedd.
verse 10 Cans crrhaeddyd y mae dy râs
hyd yn'nhyrnas y nefoedd,
A'th wirionedd di hyd at len
yr wybren, a'i thyrnasoedd.
verse 11 Ymddercha (Dduw) y nef vwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a'i thrigolion.
Sivere vtique. Psal.
58.
Y mae efe yn gosod allan ddull ei elynion, y rhai yn ddirgel a geisient ei ddifa ef: ac y mae efe yn troi at farn Duw, ac yn ddangos y caiff yr union lawenydd pan gwymper y traws. A hyn er gogoniant i Dduw.
A I'r vniondeb (o blobloedd wych)
yr ydych yn ef ddwedyd?
A ydych chwi, o blant dynion,
yn barnu'r union hefyd?
verse 2 Hyttrach malais sy yn eich bron
ac ystryw calon dwyllgar:
A gwaith eich dwylo trowsder blin,
tra foch yn trin y ddaiar.
verse 3 Y rhai annuwiol aent ar gam,
o groth eu mam newidient,
Ac ar gyfeilorn mynd o'r bru,
a chelwydd fu a draethent.
verse 4 Vn wedd a gwenwyn y sarph yw
y gwenwyn byw sydd ynddyn.
Neu'r neidr fyddar yn trofäu,
dan gau ei chlustiau cyndyn:
verse 5 Yr hon ni wrendy ddim ar lais,
na'r wers a gais y rhinwyr,
Nac vn gyfaredd ar a wna
y cyfarwydda'd swyn-wyr.
verse 6 Duw, torr eu dannedd yn eu safn,
diwreiddia'r llafn o dafod:
Duw dryllia'r bonau, a gwna'n donn
bob grudd i'r c'nawon llewod.
verse 7 Todder hwynt fel dwr ar y tir,
felly diflennir hwythau:
Os mewn bwa rhoesant saeth gron,
boed torri hon yn ddrylliau.
verse 8 Boent hwy mor ddiffrwyth, ac mor hawdd
a malwen dawdd y todder:
Neu fel rhai bâch ni welai'r byd,
o eis
[...]au pryd ar amser.
verse 9 Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,
[...] nac y llosgid ffagldan:
Tynn hwyntwy ymaith yn dy ddig,
cyn twymnai cig mewn crochan▪
verse 10 A phan weler y dial hyn,
fo chwardd y glanddyn cyfion.
[...]an fo rhydd iddo olchi eu draed
yngwaed yr annuwolion.
verse 11 Yna dywaid dynion fod iawn,
affrwyth i gyfiawn bobloedd,
A bod ein Duw yn
[...]arnwr ar
y ddaiar a'
[...] therfynoedd.
Eripe me. Psal.
59.
Dafydd yn ofni Saul, yn dangos ei ddiniweidrwydd ei hun, a chreulondeb ei elynion: yn gweddio yn erbyn pechaduriaid maleisus, ac yn moli Duw.
FY Nuw gwareda fi rhac brâd
a rhac twyll fwriad gelyn,
Derbyn di drosof rhac y rhai
a godai yn fy erbyn.
verse 2 Ac ymddiffyn fi yn bybyr
oddiwrth weithredwyr camwedd,
Achub fyfi rhac câs y byd,
a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.
verse 3 Ac wele, maent hwy i'm cynllwyn,
amcanent ddwyn fy mywyd,
Nid ar fy mai yr haeddais hyn,
ond tynder gelyn gwaedlyd.
verse 4 Duw rhedent hwy yn barod iawn,
a dim ni wnawn iw herbyn.
Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,
a thyred i'm hymddiffyn.
verse 5 Ti Dduw y llu: Duw Israel,
o deffro gwel enwiredd,
I'r cenhedloedd na âd di'n rhâd,
lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.
verse 6 Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr,
o'mdroi ar wyr o bobparth,
A thrwy y ddinas clywch eu swn,
vn wedd a'r cwn yn cyfarth.
verse 7 Wele maent a thafodau rhydd,
awch cledd a fydd iw genau,
Pwy meddant hwy all glywed hyn?
ac a wna i'n herbyn ninnau.
verse 8 Ond tydi fy Arglwydd a'm Duw,
a'i gwel, ai clyw, a'i gwatwar,
Am ben eu gwaith y chwerddi di
y cenhedlaethi twyllgar.
verse 9 Ti a attebi ei nerth ef,
a'th law gref a'm hamddiffyn
verse 10 Duw a'm rhagflaena innau chwip,
caf weled trip i'm gelyn.
verse 11 Na lâdd hwynt rhag i'm pobloedd i
anghofi dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth
Duw darian prydferth lluoedd.
verse 12 Am bechod eu tafodau hwy,
a'i geiriau, mwyfwy balchedd,
Telir iddynt ni ront air teg
ond celwydd, rheg, a choegedd.
verse 13 Duw difa, difa hwynt i'th lid,
a byth na fid vn mwyach,
Gwybyddant mai Duw Iago sydd
drwy'r byd yn llywydd hyttrach.
verse 14 Maent hwy yn arfer gyda'r hwyr
o'mdroi yn llwyr o bobparth,
A thrwy y ddinas clywch ei swn,
vn wedd a chwn yn cyfarth.
verse 15 I gael ymborth crwydro a wnant,
ac oni chânt eu digon,
Nes cael byddant ar hyd y ons
yn aros dan ymryson.
verse 16 Minnau a ganaf o'r nerth tau,
a'th nawdd yn forau molaf:
Nerth ym' a nawdd buost (o Ner)
pan fu gorthrymder arnaf.
verse 17 I ti canaf, o Dduw fy nerth,
a'm hymadferth rymusol,
Sef tydi yw fy Nuw, fy Naf,
fy'nhwr, fy noddfa rasol.
Deus repulisti. Psal.
60.
Dafydd pan oedd yn frenin ar
[...]udd, yn dangos drwy arwyddion mai Duw a'i dewisasai, ac yn dangos hynny i'
[...] bobl: dymuno ar Dduw orphen yr hyn a ddechreuasei.
O Dduw, dydi a'n gwrthodaist,
ar wasgar gyrraist ymaith,
O sorraist wrthym yn ddi gel,
tro attom, dychwel eilwaith.
verse 2 Dychrynaist di y ddaiar gron,
a holltaist hon yn ddrylliau,
Cans o'th lid ti siglo y mae,
iachâ, a chae ei briwiau.
verse 3 Dangosaist i'th elynion di
o bwys caledi ormod,
A'r ddiod a roist yn eu min,
oedd megis gwin madrondod.
verse 4 Rhoddaist faner, er hyn i gyd,
i bawb o'r byd a'th ofnant,
I faneru drwy dy air gwir,
dros lu y tir lle y trigant:
verse 5 Fel y gwareder drwy lân hwyl,
bob rhai o'th anwyl ddynion.
O achub hwynt â'th law ddeau,
a gwrando finnau'n ffyddlon.
verse 6 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw,
llawen yw fy nghyfamod,
Mia rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
verse 7 Myfi biau y ddwy dref tad,
sef Gilead, a Manasse,
Ephraim hefyd yw nerth fy mhen,
a Iuda wen f'anneddle.
verse 8 Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f'esgid,
A chwardded Palestina gaeth,
a'i chwerthin aeth yn rhybrid.
verse 9 Duw, pwy a'm dwg i'r ddinas gref?
pwy a'm dwg i dref Edom?
verse 10 Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw a'mleddi drosom?
Ynot yn vnig mae'n coel ni,
perhon i ti a'n gwrthod,
Er nad aethost o flaen ein llu,
bydd ar ein tu mewn trallod.
verse 11 O vnig Dduw, bydd di' ni'n borth,
ofer yw cymorth vndyn.
verse 12 Yn Nuw y gwnawn wroliaeth fawr
fo sathra'i lawr y gelyn,
Exaudi Deut. Psal.
61.
Y mae yn dymuno ar Dduw ei achub rhag ei erlidwyr, a'i gadarnhau yn ei dyrnas, drwy addo mawl tragwyddol.
ERglyw (o Dduw) fy llefain i,
ac ar fy ngweddi gwrando:
verse 2 Rhof lef o eitha'r ddaiar gron,
a'm calon yn llysmeirio.
Dwg fi i dollgraig vwch nâ mi,
ac iddi bydd i'm derbyn.
verse 3 Cans craig o obaith, twr difost,
y'm fuost rhag y gelyn.
verse 4 O fewn dy Babell y bydd byth,
fy nrhigfan dilyth dedwydd:
A'm holl ymddiried a fyn fod
ynghysgod dy adenydd.
verse 5 Sef tydi Dduw clywaist yn glau,
fy addunedau puraidd:
Rhoist etifeddiaeth i bob rhai
a ofnai dy enw sanctaidd.
verse 6 Rhoi oes i'r brenin: nid oes ferr;
fo fydd fyw lawer blwyddyn,
verse 7 (Duw) gar dy fron y trig yn hir,
dod nawdd a gwir iw ganlyn.
verse 8 A thrwy y rhai'n y molaf si
dy enw di yn dragy wydd.
Ac felly peri i mi gwplau
fy addunedau beunydd.
Nonne Deo. Psal.
62.
Dafydd yn dangos fod yn rhaid i bob cenedl ymddiried yn Nuw. Ac na thâl dim heb Dduw.
FY vnig Dduw ydyw fy mlhaid,
mae f'enaid yn ei ddisgwyl,
O honaw ef, a thrwy ei rym
daw iechyd ym' o'm hanhwyl.
verse 2 Duw yw fy nghraig, a'm vnig nerth,
ac ymadferth fy einioes,
Ac am hyn drwy ymddiffyn hir
mi ni'm ysgogir eisoes.
verse 3 Ba hyd y mae'n eich bryd barhau,
i fwrw eich maglau aflwydd,
Lleddir chwi oll: gwthir yn llwyr
fel magwyr ar ei gogwydd.
verse 4 Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,
iw roi i lawr o'i fowredd,
Ar eu tafodau rhoi bendith
a melidith dan ei dannedd.
verse 5 Fy enaid dod (er hyn i gyd)
ar Dduw dy fryd yn ddyfai,
Ynto gobeithiaf fi er hyn,
efo a'm tyn o'm gofal.
verse 6 Sef craig ymddiffyn yw ef ym',
fy' nhwr, a grym fy mywyd,
Am hynny y credaf yn wir
na'm mawr ysgogir ennyd.
verse 7 Yn Nuw yn vnig mae i gyd,
fy iechyd, a'm gogoniant,
Fy nghraig yw, a'm cadernid maith▪
a'm gobaith yn ddilyssiant.
verse 8 Gobeithiwch yntho: gar ei fron
tywelltwch galon berffaith,
Ac ymddiriedwch tra foch byw:
a dwedwch, Duw yw'n gobaith.
verse 9 Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,
plant gwyr sydd hud a gwegi,
Gwagach na gwagedd yn eu tawl,
mewn mantawl wrth eu codi.
verse 10 Na rowch eich coel ar gam na thrais,
rhaid yw i falais drwccio:
Os cynnydda cyfoeth y byd
na rowch mo'ch goglyd arno.
verse 11 Duw a lesarodd hyn vnwaith,
mi a glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
gostyngiad byd, neu ffynnu.
verse 12 O Arglwydd, ti hefyd a fedd
drugaredd a daioni,
I bawb dan gwmpas wybren faith,
yn ol ei waith y teli.
Deus Deus meui. Psal.
63.
Dafydd wedi diangc o Ziph yn diolch i Dduw am ei waredu, yn prophwydo dinistr gelynion Duw, a dedwyddwch y rhai a ymddiriedant yntho.
TYdi o Dduw ywy Duw mau,
mi a geisia'n foreu attad.
Y mae fy enaid yn dra sych,
a'm cnawd mewn nych amdanu
[...].
verse 2 Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâ
[...]
ceifiais o'th ras dy weled,
Mal i'th welswn yn y Deml gynt.
ar helynt nerth gogoned.
verse 3 Cans dy drugaredd (o Dduw byw)
llawer gwell yw nâ'r bywyd,
A'm gwefus au y rhof yt fawl,
a cherdd ogonawl hyfryd.
verse 4 Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
ac felly'th folaf etto,
Ac yn dy enw di sydd gu
y caf dderchafu'nwylo,
verse 5 Digonir f'enaid fel â me
[...]
a chyflawn frasder hefyd,
A'm genau a gân y moliant tau,
â phur wefusau hyfryd.
verse 6 Tra fwyfi yn fy fyngwely clyd,
caf yn fy mryd dy gofio,
Ac yngwiliad wriaethau'r nos
càf achos i fyfyrio.
verse 7 Ac am dy fod yn gymmorth ym',
drwy fawr rym'dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fod
dan gysgod dy adanedd.
verse 8 Y mae f'enaid wrthyd ynglyn
dy ddeau sy'n ynghynnal.
verse 9 Elont i'r eigion drwy drom loes,
y rhai a'm rhoes mewn gofal.
verse 10 Syrthiant hwyntwy ar fin eu harf,
sy noeth er tarf i'r gwirion.
A chwedi eu meirw hwyntwy dod
yn fwyd llwynogod gwylltion.
verse 11 Ond y brenin yn enw ei Dduw
boed tra fo byw yn llawen,
A phawb a dyngo iw fowredd
a gaiff orfoledd amgen.
verse 12 Ond o'r diwedd y daw yn wir,
fe a dywelldir tywod,
I gau safnau y rhai y sydd
yn tywallt celwydd parod.
Exaudi Deus. Psal.
64.
Dafydd yn gweddio'n erbyn celwydd a cham-gyhuddiad: er cysur i'r cyfion y mae yn dangos cospedigaeth yr enwir.
O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,
a chlyw o'r nef fi'n erfyn:
O Dduw cadw fy einioes i
y sydd yn ofni'r gelyn.
verse 2 A chuddia fi dros ennyd bach
rhag cyfrinach y rhai drwg,
A rhag terfysg y rhai sy'n gwau,
i wneuthur cammau amlwg.
verse 3 Hogi tafodau fel y cledd,
a dwedyd bustledd ddigon,
Saethant ergydion i'm syrhau,
a'r rhai'n oedd eiriau chwerwon.
verse 4 I saethu'n ddirgel bigan dur,
yn erbyn pur ei galon,
Yn ddisymwth heb ofni neb,
a thrwy gasineb creulon.
verse 5 Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,
gan guddio'n gall eu rhwydau,
Yna y dwedant pwy a'n gwel
yn bwrw dirgel faglau?
verse 6 Gan chwilio dyfnder drygau trwch,
o fewn dirgelwch eigion,
A phawb iw gilydd yn rhoi nod
o geuedd gwaelod calon.
verse 7 Ond y mae Duw a'i saeth ynghudd,
rhydd yn ddirybudd ergyd,
Ef a dal adref yr hawl hon,
yn ddyfn archollion gwaedlyd.
verse 8 Gwaith y tafodau drwg lle y bo,
a fynn lwyr syrthio arnynt,
Pob dyn a'i gwel a dybia'n well
gilio ymhell o ddiwrthynt.
verse 9 Yna y dywaid pawb a'i gwel,
gwaith y Goruchel yw hyn,
Cans felly y deallant hwy
y eosbir fwyfwy'r gelyn.
verse 10 Ond yn yr Arglwydd llawenthâ,
ac y gobeithia'r cyfion,
A gorfoledda yntho'n iawn
pob dyn ag vniawn galon.
Te decet hymnus, Psal.
65.
Y ffyddloniaid yn diolch i Dduw, am eu dewis a'i llywodraethu hwy, ac am ei fendithion i'r ddaiar.
I ti (o Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Sion,
I ti y telir drwy holl gred,
bob gwir adduned calon.
verse 2 Pawb sydd yn pwyso attad ti,
a wrendy weddi dostur,
Ac attad ti y daw pob cnawd,
er mwyn gollyng dawd llafur.
verse 3 Pethau trowsion, a geiriau mawr,
myfi i'r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw, rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
verse 4 Dy etholedig dedwydd yw,
caiff nesnes fyw i'th Babell,
Trig i'th gynteddau, ac i'th lys,
a'th sanctaidd weddus gangell.
verse 5 Duw'n ceidwad attebi i ni
o'th ofni i'th gyfiownedd,
Holl obaith wyd drwy'r ddaiar hon,
a'r mor cynhyrfdon rhyfedd.
verse 6 Hwn a siccrhâ bob vchel fryn
â'i wregys yn gadernyd,
verse 7 Hwn a ostega'r mor, a'r don,
a rhuad eigion enbyd.
verse 8 A holl breswylwyr eithaf byd
sy'n ofni'gyd d'arwyddion,
I ti gan forau, a chan hwyr,
y canant laswyr ffyddlon.
verse 9 Dy
[...]rhau y ddaiar sech yr wyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lifddyfr rhyd ei llawr
iw thramawr gyfoethogi.
verse 10 Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,
a'i chwysau'r wyd iw gostwng.
A'i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,
iw chuwd rhoi fendith deilwng.
verse 11 Coroni'r ydwyd ti fal hyn
y flwyddyn â'th ddaioni,
Y ffordd hyn a'r modd (Duw fy ner)
diseraist frasder arni.
verse 12 Ef a ddifera ffrwyth dy serch
ar bob rhyw lannerch ddyrys,
Pob mynydd sych yn vchder gwlad
o ffrwyth dy râd y dengys.
verse 13 Drwy dy fendith y gwastad dir
a guddir oll â defaid,
Crechwennant, canant bawb ynghyd,
a'r wlad ac yd ei llonaid.
Iubilate Deo. Psalm.
66.
Y mae'n annog pawb i foli Duw yn ei weithredoedd, ac yn dangos ei allu ef a'i drugaredd i Israel, ac yn dysgu i bawb ei ofni a'i foli ef.
YN Nuw ymlawenhewch i gyd,
yr hollfyd, a datcen wch
verse 2 Ogoniant ei enw hyd y nef,
a'i foliant gref a draethwch.
verse 3 Wrth Dduw dwedwch fo bair dy law
i'th elyn oerfraw anfad,
Rhag amled yw nerth y llaw hon
â dy gaseion danad.
verse 4 Felly'r holl fyd i gyd a'i rhi
i ti a ymostyngant,
Canant y
[...]' fawl, ac ânt hyd lawr,
i'th enw mawr y canant.
verse 5 O dowch, edrychwch ofnus yw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rydd ddysg
ymysg holl feibion dynion.
verse 6 Fo droes y mor roch yn dir sych,
ai wyr yn droed▪ sych drwyddo,
A thrwy yr afon: llawen fu,
ei bod heb wlychu yno.
verse 7 Ef byth bydd lywydd cadarn gwych,
a'i olwg edrych beunydd
Ar y cenhedloedd drw
[...]'r holl fyd,
ni chyfyd rhai anusydd.
verse 8 O bobloedd molwch Dduw ar gais,
a moeswch lais ei foliant;
verse 9 Hwn sy'n dal bywyd rny gwaed
a dde
[...]l eiu
[...]raed na lith
[...]ant.
verse 10
[...] Dduw, profaist a choethaist ni
vn wedd a choethi arian.
verse 11 Yn gaeth y dyga
[...]st 'n i th rw
[...]d,
ein cyrpl, a wasgwyd weithiau.
verse 12 Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth,
bu rai'n marchogaeth arnom:
O peraist hyn: ni bu chwaith hir,
i ddiwall dir y daethom.
verse 13 Ac offrwm poeth i'th dy yr âf
talaf fy addunedau,
verse 14 Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais,
addewais
â'm gwefusau,
verse 15 Poeth ebyrth breision yt a rof,
aroglaeth cof cyfammod,
Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,
ac etto rhoddaf fychod,
verse 16 O dowch yn nes a gwrandewch chwi
sy'n ofni Duw tragfythoes,
Mi a fynegaf i chwi'n ffraeth
pa les a wnaeth i'm heinioes.
verse 17 Llefais i arno â'm genau,
a'r tafed mau a'i molawdd.
verse 18 Pe troeswn fy nghalon at fai,
Duw a'm gwrandawsai'n anawdd.
verse 19 Diau Duw a'm clybu yn hawdd,
gwrandawawdd ar fy ngweddi,
Bendigaid yw: fo a'm clywawdd,
ni throes mo'i nawdd oddiwrthi.
Deus misereatur. Psalm.
67.
Gweddi am lewych wynebpryd Duw, fel yr adwaener ei farnedigaethau. A dangos mai Duw sy'n llywodraethu pob peth.
Caner hon fel Psal.
51.
TRugaredd Duw i'n plith,
a rhoed ei fendith drosom,
A thywynned ei wynebpryd,
a'i nawdd, a'i iechyd arnom.
verse 2 Fel y gwyper dy ffyrdd
drwy'r ddaiar gydwyrdd gnydoedd,
A'th iechydwriaeth di (o Dduw)
y'mysg pob rhyw genhedloedd.
verse 3 Duw: moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri drwy'r hollfyd.
verse 4 A'r holl genhedloedd is wybren,
byddant lawen a hyfryd.
Cans ti a ferni'n iawn
y bobl drwy lawn wybodaeth,
Ac a roi'r holl genhedloedd ar
y ddaiar mewn llywodraeth.
verse 5 Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri trwy'r hollfyd.
verse 6 Yna rhydd y tir ffrwyth i'n plith,
a Duw ei fendith hefyd.
verse 7 A Duw, sef Duw ein tâd,
a rotho ei râd a thycciant,
A therfynau y ddaiar gron,
a phawb ar hon a'i hofnant.
Exurgat Deus. Psal.
68.
Dafydd yn dangos trugareddau Duw iw bobl, a bod Eglwys Duw yn rhagori ar bob peth bydol.
YMgyfoded vn Duw ein Ner,
gwasgarer ei elynion,
Vn drygddyn honynt nac arhoed,
o'i flaen ffoed ei gaseion.
verse 2 Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,
os tawdd cwyr wrth eiriasdan,
Fel hynny o flaen Duw (yn wir)
yr enwir a ddiflannan.
verse 3 Ond llawenycher ger bron Duw
y cyfion, iw orfoledd;
A'i hyfrydwch hwyntwy a fydd
yn llawenydd cyfannedd.
verse 4 Cenwch, a molwch enw Duw,
sef hwn yw vwch y nefoedd
Yn marchogaeth, megis ar farch,
iw enw rhowch barch byth bythoedd.
verse 5 A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion, tâd ymddifaid,
Ac i'r gweddwon mae'n farnwr da
yn ei bryswylfa gannaid.
verse 6 Duw a wna rai mewn ty'n gytun,
ei hun mae'n gollwng gefyn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,
i ddynion atcas cyndyn.
verse 7 Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,
dy daith a fu drwy ddrysni.
verse 8 Y ddaiar crynodd a flaen Duw,
a'r nef rhoes amryw ddefni.
Ac felly Sinai o flaen Duw,
sef (vnduw Israel howddgar).
verse 9 Ar d'etifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.
verse 10 Gwrteithiast hon, dy bobloedd di
sydd ynthi yn preswylio:
Oth râd darperaist Dduw i'r flawd,
i gael digondawd yno.
verse 11 Yr Arglwydd Dduw a roddai'r gair,
mawr mintai'r cantoressau:
verse 12 Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,
yr ysbail rhont yn rhannau.
verse 13 Pes ymdroech mewn parddu a llwch,
chwi a fyddwch fel y glommen,
A'i phlu yn aur ac arian teg,
yn hedeg is yr wybren.
verse 14 Hon, pan wasgarodd Duw yn chwyrn
bob cedyrn o'i gaseion,
Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,
ac eira'ar ben bryn Salmon.
verse 15 Mynydd Duw (sef Sion) y sydd
fel Basan fynydd tirion:
Mynydd Basan vchel ei grib
cyffelib yw i Sion.
verse 16 Chwychwi fynyddoedd cribog pam
y bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar Seion ei serch a roes,
lle myn ef eisoes drigo.
verse 17 Rhif vgain mil o filoedd yw
angylion Duw mewn cerbyd:
Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,
bydd Duw iw plith hwy hefyd
verse 18 I'r vchelder y derchefaist,
a chaethgludaist gaethiwed,
Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,
i ddynion oedd ddiniwed.
verse 19 Bendigaid fyth fo'r Arglwydd man
am ddoniau ei ddaioni.
A'i iechydwriaeth i ni'n llwyth
o berffrwyth ei haelioni.
verse 20 Efe ei hun yw'n Duw ni i gyd,
sef Duw ein iechyd helaeth,
Drwy'r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrth
ddiangc oddiwrth farwolaeth.
verse 21 Duw yn ddiammau a dyrr ben,
a thalcen ei elynion,
A choppa walltog rhai a fo
yn rhodio mewn drwg creulon.
verse 22 Dygaf fy mhobloedd (meddai ef)
hyd adref fel o Basan,
A dygaf hwynt iw hol drachefn,
fel o'r mor donlefn allan.
verse 23 Fel y gwlychech ditheu dy draed
yn llif gwaed dy ddigassau,
Ac y llyfo dy gwn heb gel
y gwaed a ddel o'i briwiau.
verse 24 Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy Nuw frenin fry,
fel hyn iw dy cysegraidd.
verse 25 Y cantorion, aent hwy o'r blaen,
cerddorion aen ol ynol,
Yna'r gweryfon, beraidd gân,
ar tympan yn y canol.
verse 26 Clodforwch Dduw hynny sydd dda
ym mhob cyn'lleidfa ddiwael,
A chlodforwch yr Arglwydd Ion,
chwi sydd o ffynnon Israel.
verse 27 Dodd Beniamin y llywydd bach,
doed beliach dugiaid Iuda,
Doed Nepht
[...]li, a Zabulon,
a'i tywysogion yna.
verse 28 Dy Dduw a drefnodd i ti nerth,
a'i law sydd brydferth geidwad,
Duw cadarnhâ etto yn faith
arnom ni waith dy gariad.
verse 29 Er mwyn Caersalem adail deg,
rhydd cedyrn anrheg yty.
verse 30 Difetha dyrfa y gwaywffyn,
a'r rhai a fyn ryfely.
Dewr fel feirw, mwyfus fel lloe,
y rhei'ni a roe yr arian:
Delont i'r iawn: tyn nerth a nwp'
a gostwng hwy yn fuan.
verse 31 Y pendefigion o'r Aipht draw
a ddaw, ac Ethiopia,
At Dduw yn brysur i roi rhodd,
ac aberth gwirfodd yna.
verse 32 Holl byrnasoedd y ddaiar lawr,
i Dduw mawr cenwch foliant,
Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,
sef Arglwydd y gogoniant.
verse 33 Hwn a farchogodd y nef fry,
a hynny o'r dechreuad:
Wele, daw nerthol sain ei lef
o eitha'r nef i wastad.
verse 34 Rhoddwch gadernid i Dduw ner,
sef vchder ei ragoriaeth,
Y sydd ar Israel, a'i nerth
vwch wybrau prydferth gywaeth.
verse 35 Duw, o'th gysegr i'th ofnir di,
Duw Israel dodi nerthoedd,
A chadernid mawr wyd i'th blaid,
bendigaid fych oes oesoedd.
Saluum me fac. Psal.
69.
Serch Dafydd, a'i flinderau: creulondeb ei elynion, ei gysur, a'i glod i Dduw: ymae efe hefyd yn annog pob creadur i foli Duw, ac yn prophwydo am dyrnas Christ: ac yn y psalm hon y mae Dafydd yn arwydd o Grist.
A Chub fi Dduw (y gwr a'm gwnaeth)
tros f'enaid daeth llif-ddyfr-loes,
verse 2 Yr wyf mewn dyfndar tom ynglyn,
heb le i'mddiffyn f'einioes.
Or dyfnder daethym fel ar fawdd,
a'r ffrwd a lifawdd vchod:
verse 3 Sychodd fy ngheg, blinodd fy llais,
â'm llygaid pellais ganfod.
verse 4 A hyn wrth ddisgwyl Duw a'i câs,
wele fy nghas yn amlach
Nâ'r gwalld ar ben fy nghoppa fry,
a'r trowsion sy'n gadarnach.
Y rhai celwyddog, taerion ynt,
rhois iddynt beth ni chefais.
verse 5 Adwaenost (Dduw) f'ynfydrwydd man,
a'm beiau fi ni chuddiais.
verse 6 O'm plegid i dim gwarth ni chânt
y rhai a goeliant arnad,
Na âd (Dduw'r lluoedd) fetl na thrais
i'r rhai a ymgais attad.
verse 7 (Duw Ilrael) sef er dy fwyn,
yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb,
A thrwy gywilydd ymarhois,
mewn chwys y tois fy wyneb.
verse 8 I bobl dieithr wyfi, (gwn pa'm)
i blant fy mam fel estron.
verse 9 A'm fod fy serch a'm zel i'th dy
i'm hysu hyd fy nghalon.
Cans cabl y rhai a'th gablant di
ar f'ucha i mae'n disgyn.
verse 10 Fy nagrau cystudd, a'm hun-pryd,
ynt warth i gyd i'm herbyn.
verse 11 A phan wisgwn i liain sach,
bum ddiystyrach lawer,
verse 12 Bum chwedyl drws i gryf a thlawd,
i'r meddw yn wawd i'w harfer.
verse 13 Ond f'Arglwydd Dduw, gwnaf attad ti
fy ngweddi yn amserol,
O gwrando fi i'th wirfawr hedd,
ac i'th wirionedd grasol.
verse 14 Duw, gwared fi, a gwna fi'n rhydd
o'r dom y sydd i'm suddo,
Sef caseion, dyfroedd dyfnion,
a mi nid ofnaf gyffro.
verse 15 Na lised dwfr drosof' yn ffrwd,
na'm llynced amrwd ddyfnder,
Na chaued pydew arnaf chwaith,
mo'i safn diffaith ysceler.
verse 16 Gwrando fi bellach Arglwydd Dduw,
cans da yw dy drugaredd,
Yn amlder dy dossuri mawr
edrych i lawr rhag trowsedd.
verse 17 O'm cysyngder oddiwrth dy wâs
na chudd mo râs dy wyneb,
Rwyf yn gweddio yn fy ngloes,
Duw bryssia moes y'm atteb.
verse 18 Neshâ at f'enaid Arglwydd man,
er fy rhyddhau a'm gwared,
Moes ymddiffyn rhag cael o hon
gan fy ngelynion niwed,
verse 19 Duw di a weli o bob parth
fy ngwradwydd, gwarth, a'm cwily
[...]d
O herwydd rhodio gar dy 'ron
mae fy ngelynion beunydd.
verse 20 Mewn gorthrwn ofid yr wyf fi
a gwarth yn torri'nghalon:
Disgwyl cymhorthwyr, ni ddoe neb,
ni chawn gysurdeb tirion.
verse 21 Bustl a roesan yn fwyd i mi,
finegr i dorri syched.
verse 22 Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,
a'i llwydd yn dramgwydd bydded.
verse 23 Ar eu llygaid dallineb doed,
iw lwynau boed crynfeydd.
verse 24 Tywallt arnynt dy ddig a'th lid,
doed iddynt ofid beunydd.
verse 25 Boed eu palasau 'n wâg heb wedd,
ac anghyfannedd iddyn,
Na allo neb na dydd na nos
mo'r aros yn eu tyddyn.
verse 26 Cans yr hwn a d
[...]rawlyd ti
mae'rhei'ni yn ei erlyd,
A'r doluriau y sydd o'th sriw
y maent iw hedliw hefyd.
verse 27 Dod gamwedd ar eu camwedd hwy,
na ddont mwy i'th gyfiownder
verse 28 Ymaith o lyfr y bywyd llawn,
o fysg y cyfiawn tynner.
verse 29 Finnau pan fwyf ofidus wan,
a phan fwyf druan hefyd,
Dy iechydwriaeth di (o Dduw)
eilchwyl i fyw a'm cyfyd.
verse 30 Moliannaf d'enw Dduw ar gân,
fal dyna f'amcan innau.
verse 31 A hyn fydd gwell gan Dduw drym
nag ych â chyrn a charnau.
verse 32 A phob truan, pan weler hyn,
a
[...]nnyn o lawenydd,
A'ch calon chwi sy'n ceisio Duw
cyfyd i fyw o newydd.
verse 33 Duw gwrendy dlawd, ni ddirmyg lef
ei gaethwas ef sy fethiant.
verse 34 Nef, a daiar, a mor, a hyn
a ymlysg ynthyn, molant.
verse 35 Cans Duw a geidw Sion deg,
a threfna'n chwaneg Iuda,
Adeilada ddinesydd hon,
i ddynion yn breswylfa.
verse 36 Ie ei weision ef a'i hil,
a'i heppil, a'i meddiannant,
A'r rhai a hoffa ei enw fo,
yn honno a breswyliant.
Deus in adiutorium. Psal.
70.
Gweddi am gymmorth pryssur; ac yn erbyn ei elynion.
DVw prysura i'm gwared i,
Ion, bryssia di i'm cymmorth.
verse 2 Gwarth a gwradwydd a ddel i'r blaid
a gais i'm henaid ammorth.
Drwy wradwydd troer y rhai a ddwg
i mi ddim drwg ewyllys.
verse 3 Mefl fo'i gwobr, a draeth hâ hâ,
am danaf yn ddirmygus.
verse 4 Y sawl a'th gais calonnog fydd,
o dra llawenydd ynod,
Dweded sawl a'th gâr bob amser,
mawrhyger ein Duw hynod.
verse 5 Minnau'n dlawd, ac yn druan sydd,
Duw bryssia bydd yn agos:
Fy mhorth a'm ceidwad wyd yn wir,
(o Arglwydd) na hir aros.
In te Domine. Psal.
71.
Gweddi (drwy ffydd) ar i Dduw ei waredu ef rhac ei fâb Absolon greulon.
MI a'mddiriedais ynod (Ner)
na'm gwradwydder byth bythoedd,
verse 2 Duw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy nghri hyd nefoedd.
verse 3 Duw bydd yn graig o nerth i mi
i gyrchu atti'n wastad,
A phâr fy nghadw i yn well,
ti yw fy nghastell caead.
verse 4 Duw gwared fi o law'r trahaus,
a'r gwr trofaus, a'r trowsddyn.
verse 5 Ynot ti Dduw bu'ngoglud maith,
a'm gobaith er yn ronyn.
verse 6 O groth fy mam y tynnaist fi,
rhoist ynof egni etto,
I tithau fyth, am hyn o hawl,
y canaf fawl heb peidio.
verse 7 I lawer dyn bum anferth iawn,
ti yw fy nerthlawn lywydd.
verse 8 Fy safn bydd lawn o'th sawl gan dant,
ac o'th ogoniant beunydd.
verse 9 Nac esgeulusa fi na'm braint
yn amser honaint truan.
Er pallu'r nerth, na wrthod fi,
Duw edrych di ar f'oedran.
verse 10 Medd fy nghaseion r'wyf yn wann,
hwy a ddisgwilian f'anaf:
Ymgynghorasant yn ddi synn,
gan ddwedyd hyn am danaf:
verse 11 Duw a'i gwrthododd, (meddant hwy)
erlidiwch fwyfwy bellach,
A deliwch ef, nid oes drwy'r byd
yr vn a'i gweryd haiach.
verse 12 Er hyn o frad, (Duw) bydd di well,
na ddos ymhell oddiwrthy,
Fy Nuw prysura er fy mhorth,
ac anfon gymmorth ymmy.
verse 13 Angau gwarthus pob rhai a gânt
a wrthwynebant f'einioes,
Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,
a gynnig i mi ddrygloes.
verse 14 Fy ngobaith innau a saif byth
yn ddilyth a safadwy,
Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,
ac a'th foliannaf fwyfwy.
verse 15 Dy iechydwriaeth sy i'm genau,
yr hwn ni thau funudyn,
A'th gyfiawnder, ac ni wn i
ddim o'r rhifedi arnyn.
verse 16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw,
tra fwy fi byw y credaf,
A'th gyfiownder di hyd y brig,
yn vnig hyn a gofiaf.
verse 17 Duw, di a ddysgaist i mi hyn,
do, er yn blentyn bychan,
A hyd yn hyn r'wyf yn parhau
i osod d'wrthiau allan.
verse 18 O Duw na wrthod fi yn hen,
a'm pen, a'm gen yn llwydo,
Nes i'm ddangos i'r rhai sy'n ol
dy wrthiau nerthol etto.
verse 19 Dy gyfiownder yn vchel aeth,
yr hwn a wnaeth bob mowredd,
Duw pwy y sydd debyg i ti?
nid ydym ni ond gwagedd.
verse 20 Duw gwnaethost di ym' fyw yn brudd,
a gweled cystudd mynych,
Troist fi i fyw, dychwelaist fi,
drwy'nghodi o'r feddrod-rych.
verse 21 Mwy fydd fy mawredd nag a fu,
troi i'm diddanu innau,
verse 22 Yna y molaf dy air am hyn,
ar nabl offeryn dannau.
O Sanct Israel, canaf hyn
ar delyn, at â'm genan.
verse 23 Am ytty wared f'enaid i,
gwnâf i ti hyfryd leisiau.
verse 24 Canaf y't hefyd gyfion glod
â'm tafod; wyt iw haeddu,
Am yt warthau a gwarthruddiaw,
fy nghas sy'n ceistaw 'nrygu.
Deus Iudicium. Psal.
72.
Salomon a'i deyrnas yn y psalm hon yn arwydd ac yn ffigur o Grist a'i ogoniant.
DVw dod i'r brenin sarn o'rnef,
dod iw tâb ef gyfiowndeb.
verse 2 Yna y rhydd rhwng pobl iawn frawd,
ac i'r dyn flawd vniondeb.
verse 3 Hedd a chyfiownder, yn ol hyn,
cair ym hob bryn a mynydd.
verse 4 Y gwan a'r llesg achub a wna,
fe ddryllia y gorthrymmydd.
verse 5 Hwy a'th ofnant byth ar bob tro,
tra treiglo haul a lleuad,
verse 6 Fo ddisgyn fel glaw ar wellt glâs,
neu gafod frâs ar wastad,
verse 7 Iw ddyddiau ef cerir yr iawn,
a'r cyflawn a flodeua,
Ac aml fydd hedd ar daiar gron,
tra fo'r lloer hon yn para.
verse 8 Llwydda ese o for hyd for,
o'r ffrwd hyd oror tiredd,
verse 9 Ei gas ymgrymmant, llyfant lwch,
hyd yr anialwch cyrredd.
verse 10 Cedyrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o'r ynysoedd canel,
O Seba ac Arabia deg,
doe bawb â'i anrheg reio
[...].
verse 11 Yr holl frenhinoedd doent yn llu,
a than ymgrymmu atto,
A'r holl genhedloedd, fel yn gaeth,
a wnant wasanaeth iddo.
verse 12 Cans y dyn rheidus, a'r gwr gwan,
fo'i gweryd pan weddio,
Bydd i bob dyn yn nerthol dwr,
ar ni bo pleidiwr gantho:
verse 13 Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,
fo achub enaid glanddyn:
verse 14 Fo a'i gweryd rhag twyll a drwg,
gwerthfawr iw olwg ydyn.
verse 15 Felly bydd byw: rhoir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwydd,
Hwy a weddiant arno fo,
gan ei fendithio beunydd.
verse 16 Rhyd pen y mynydd yd a gân,
fel brig coed Liban siglant,
A'r plant cyn amled ar gwellt glâs,
o'r ddinas a flagurant.
verse 17 Os haul cylch wybren byth a dry,
byth pery enw iddaw,
Pawb a'i bendithia ef yn wir,
pawb a fendithir ynthaw.
verse 18 Bendigaid so yr Arglwydd Dduw,
(sef Duw yr Israel dirion)
Efe'n vnig byth sy'n parhau,
i wneuthur gwrthiau mowrion.
verse 19 Bendigaid fytho i enw byth,
gogonedd dilyth iddo,
A'i glod llenwir y ddaiaren:
Amen, Amen, hyn fytho.
Quam bonus Deus. Psal.
73.
Dafydd yn dysgu i ddynion nad anghysurent er gweled llwyddiaut yr enwir, neu aflwyddiant y cyfion, yn y byd hwn, drwy ddangos mor ddisy mmwth y diflanna y drwg, a maint gwobr y daionus.
YS da yw Duw i Israel,
wrth bawb a wnel yn vnion:
verse 2 Minnau llithrais, braidd na syrthiais,
swrth-wael fu f'amcanion.
verse 3 Cans cynfigennais wrth y f
[...]l,
ar dyn annuwiol dihir,
Braidd na chwympais pan y gwelais
eu hedd a'i golud enwir.
verse 4 Can nad oedd arnynt rwymau caeth,
i gael marwolaeth ddynol,
Lle maent yn byw yn heini hyf,
yn iraidd gryf ddigon ol.
verse 5 Ac ni ddoe arnynt lafur blin
hyd y bawn i'n eu deall,
Na dim dialedd, na dim gwyn,
fel y doe ar ddyn arall.
verse 6 Am hynny syth maent yn ymddwyn,
fel o fewn cadwyn balchder,
Agwisgant am danynt yn dynn
(megis dilled n) drowsder.
verse 7 A'i llygaid hwynthwy wrth dewhau
doent yn folglymmau drosodd,
A'i golud hwy, er hyn o wyn,
vwch meddwl dyn a dyfodd.
verse 8 Treuthu eu trowsder, bod yn dynn,
a bostio hyn ar wasgar,
verse 9 Egori safn at wybren fry,
a thafod cry' drwy'r ddaear.
verse 10 Am hyn rhai o'i bobl es â chwant
a ymddychwelant yma,
Yn gweird y 'dw
[...]r yn loyw lân,
a thybio y cân eu gwala.
verse 11 Cans ymresymmant hyn yn syw,
pa'm? ydyw Duw yn canfod
Pwy sydd yn ddrwg, a phwy sy'n dda?
ydyw'r gorutha'n gwybod?
verse 12 Wele y drygddyn mwya'i chwant
caiff twyaf llwyddiant gwastad;
Yn casglu golud a mawr dda,
hwnnw sydd fwya'i godiad.
verse 13 Ofer iawn fu i mi warhau,
a llwyr lanhau fy nghalon:
Golchi fy nwylo, caru gwir,
a bod yn hir yn gyfion:
verse 14 Cael fy maeddu ar hyd y dydd:
ond trwstan fydd vniondeb,
Os y borau, ac os pryd nawn,
myfi a gawn wrthwyneb.
verse 15 Hyn os dwedwn, a feddyliwn,
o ryw feddalaidd ammau,
Wele, a'th blant di y gwnawn gam,
i ddwyn vn llam a minnau,
verse 16 Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,
o nerth fy synwyr ddynol,
Hynny i'm golwg i oedd flin,
nes cael rhyw rin ysprydol.
verse 17 Ond pan euthym i gysegr Duw,
lle cefais amryw olau,
Yna d
[...]eliais i pa wedd
y bydd eu diwedd hwythau.
verse 18 Gwybum i ti eu gosod hwy,
lle caent lam mwy'n y diwedd,
Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,
anialwch anghyfannedd:
verse 19 Ond gwedi dodaist iddynt wth,
disymmwth y pallasant,
Mynd o'r byd heb na lliw na llun,
o'i hofu eu hun darfyddant.
verse 20 Fel breuddwyd pan ddihunai vn,
y gwnai di iddun f'Arglwydd,
O'r newid hon y caiff sy nghâs,
drwy yr holl ddinas wradwydd.
verse 21 Bum i ddig wrthyf fi fy hun,
ac oerni fu'n sy nghalon.
verse 22 Nas deallaswn hyn yn gynt,
bum ffol vn hynt ac eidion.
verse 23 Er hyn etto bum gydâ thi,
ile i'm twysi yn ddilysiant
verse 24 Wrth fy llaw ddeau: wedi hyn
fy nerbyn i gogoniant.
verse 25 Pa'm? pwy (o Dduw) sydd gennyf fi
ond tydi yn y nefoedd?
Dim ni ddymunwn gydâ thi,
wrth weini daiar leoedd.
verse 26 Fy nghalon i, a'm nerth, a'm cnawd,
y sydd mewn palldawd beunydd,
Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,
a'm tarian yn dragywydd.
verse 27 A elo ymholl eddiwrthyd ti,
y rhei'ni gwnaent yn ddiffaith:
Ac a buteiniant rhagot ti,
y rhei'ni torrir ymaith.
verse 28 Ond mi a ddof nesnes at fy Nuw,
fy ngobaith yw i'm calon
verse 29 Y traethaf fi ei nerth, a'i wyrth,
o fewn dy byrth, merch Sion.
Vt quid Deus. Psal.
74.
Achwyn am fod yn distrywio'r Eglwys, a'r grefydd, a'r allorau: gofyn cymorth gan Dduw drwy ffydd o'i gyfamod.
PAham (o Dduw) oddiwrthym ni
y cili yn dragywydd?
Paham y digi mor danbaid
wrth ddefaid dy borfeydd?
verse 2 Cofia y bobl a brynaist gynt,
rhoist iddynt etifeddiaeth,
Mynydd Seion, dy breswylfa,
i'r rhai'n yn drigfa helaeth.
verse 3 Ymddercha (Arglwydd) taro'n drwm,
pob gelyn gorthrwm difa
Yn dragywydd, a wnaeth na thrais,
na dyfais i'th gysegrfa.
verse 4 Dy elynion daethant i'n mysg,
rhuasant derfysg greulon:
A gosodasaut dan gryfhau,
fanerau yn arwyddion.
[...]
[...]
[...]
[...]
verse 5 Iw cherfio'r saeri gorau gynt,
a roesan wynt iw bwiyll.
verse 6 Drylliant i'r llawr gerfiadau hon
ag eirf, gyfeillion erchyll.
verse 7 Llosgasant oll dy eglwys lân,
a'i phyrth a thân yn vlw,
A halogasant mewn dull dig,
y noddfa'y trig dy enw.
verse 8 Awn, gwnawn gyd-artaith meddant hwy,
a dinystr drwy yr hollwlad:
Llosgasant holl demlau y tir,
gwnaethant yn wir eu bwriad.
verse 9 Nid oes vn arwydd in' iw gael,
na phrophwyd diwael destyn,
Na gwybedydd, a wyr pa hyd,
y pery'r byd i'n herbyn.
verse 10 Dywaid di pa hyd (o Dduw Ion)
y gwna d'elynion warthrudd?
A rydd dy gâs ei gabledd fri
arnat ti yn dragywydd?
verse 11 Paham y tynni'n ol dy law,
(sef dy ddeheulaw berffaith,
Hon sydd i'th fonwes) allan tynn,
a difa d'elyn diffaith.
verse 12 Cans o'r dechreuad Duw ei hun
ydyw fy nghun a'm brenin,
Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,
i bawb trwy'r tir a'i dilin.
verse 13 Parthu a wnaethost di â'th nerth
y mor, a'i anferth donnau,
Gwahenaist, torraist, vwch y don,
bennau y blinion ddreigiau.
verse 14 Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)
y Lefiathan anferth,
I'th bobl yn fwyd dodaist efo,
wrth dreiglo yn y ddiserth.
verse 15 Holliaist y graig, tarddodd ffynnon,
ac aeth yn afan ffrwd-chwyrn,
A diysbyddaist yn dra sych
afonydd dyfr-grych cedyrn.
verse 16 Di biau'r dydd, di biau'r nos,
golau a haul-dlos geinwedd:
verse 17 Seiliaist y ddaiar, lluniaist hâf,
a gauaf, o'th ogonedd.
verse 18 Fy Arglwydd bellach cofia hyn,
i'r gelyn gynt dy gablu,
Ac i'r ynfydion roi drwg fri,
a'th enw di dirmygu.
verse 19 Oes dy durtur na ddod ar gawdd
dan nawdd anifail creulon,
Na âd o'th gof (o Arglwydd da)
dy dyrfa, y rhai tlodion.
verse 20 Duw, edrych ar dy gyfammod,
a gwyl waelod y gwledydd:
Mae ym-mhob man drigfa dyn traws,
mae honynt liaws efrydd.
verse 21 Na ddychweled y truan tlawd
mewn difrawd ac mewn gwradwydd,
Y dyn anghenus, llesg, a gwan,
a ddatcan dy enw, Arglwydd.
verse 22 Cyfod, dadlau dy ddadl (o Dduw)
dy enw yw yn dragywydd:
Coffa gabledd, yr hon drwy'r byd
a gayt gan ynfyd beunydd.
verse 23 Duw: nac anghofia lais a son
d'elynion y cenhedloedd,
Eu swn, a'i rhodres, a'i dadwrdd
a ddring i gwrdd â'r nefoedd.
Confitebimur tibi. Psal.
75.
Mawl i Dduw, a dangos y daw ef i farnu, er codi y cyfion a gostwng y drwg.
CLodforwn di (dragwyddol Dduw)
a'th enw yw yn agos.
Maint yw dy enw a'th nerth i'th hynt
dy wrthiau ynt iw ddangos.
verse 2 Dwedaist, pan dderbyniwyf y llu
nu a rof farn gu ac vnion.
verse 3 Fel y nerthais sylfeini'r byd
oedd rydd, a'i gyd-trigolion.
verse 4 Minnau a ddwedais hyn o'm bryd
wrth y rhai ynfyd, peidiwch,
Wrth annuwiolion poethion chwyrn,
eich mebcyrn na dderchefwch,
verse 5 Och: na dderchefwch chwi mo'ch cyrn,
na siglwch rychwyrn ragdal,
Ac na ddwedwch chwi yn warr-syth
nid rhaid yn' fyth mo'r gofal.
verse 6 O herwydd, nid o'r dwyrain draw
i ddyn y daw derchafiad,
Nid o'r gorllewin, na'r deau,
y daw i chwithau godiad.
verse 7 Cans ar law Duw y mae y farn,
na fid gwr cadarn rygry',
Gostwng heddyw y naill heb pall,
a chodi'r llall y fory,
verse 8 Cans yn llaw'r Arglwydd phiol sydd,
cymysgwin hyd wydd ynddi,
Tywalldodd hwn: drwg ddynion byd
yfant i gyd o honi.
verse 9 Mynegaf finnau, ac i'm cof,
ei gerdd (Duw Iagof) canaf:
Torraf gyrn yr annuwioliawn,
a phen y cyfiawn codaf.
In Iudea. Psal.
76.
Dangos gallu Duw, a'i ofal dros ei bobl. Cynghor i'r ffyddlon i fod yn ddiolchgar.
YN Iuda ac Israel dir
adweinir ein Duw cyfion.
verse 2 Ei babell ef yn Salem sydd,
a'i breswylfydd yn Sion.
verse 3 Yno drylliodd y bwa a'r saeth,
a'r frwydr a wnaeth yn ddarnau:
A thorrodd ef yn chwilfriw mân
bob tarian, a phob cleddau.
verse 4 Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,
mewn yspail helynt vchel,
Vwch a chryfach wyt na hwyntwy,
nid rhaid byth mwy mo'i gochel,
verse 5 Pob cadarn galon a ymroes,
ac ni ddeffroes o'i gyntyn.
Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,
ni chae vn llaw ei dderbyn.
verse 6 O'th waith (Duw Iagof) a'th amharch,
cerbyd a'r march rhoi'i huno.
verse 7 Ofnadwy wyd pwy i'th lid wg,
a saif i'th olwg effro?
verse 8 Pan ddaeth o'r nefoedd dy farn di,
yr wyd yn peri' i chym'ryd,
Y ddaiar ofnodd, a'i holl llu,
rhoist i ostegu ennyd.
verse 9 I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fyw y gwirion,
A'r rhai oedd lonydd yn y tir,
yr oeddyn gywir galon.
verse 10 Cans poethder dyn yw dy fawl di,
felly gostegi drallod:
Eu gwres, i'r da a fag gref ffydd,
i'r drwg a fydd yn ddyrnod.
verse 11 Eich rhodd i'r Arglwydd Dduw addewch,
a llawn gwblhewch eich gobrwy,
Pawb sydd o amgylch Sion deg,
rhowch anrheg i'r osnadwy.
verse 12 Ef a ostyngodd vchel fryd,
ac yspryd gwyr rhyfelgar:
Fo a yrr ofn ynghanol hedd,
ar holl frenhinedd daiar.
Voce mea ad Dom. Psal.
77.
Dafydd yn cofio yr amryw brofedigaethau, a'r blinderau oedd arno: yn dangos mowredd Duw, ac yn ymgryfhau mewn ffydd.
Fy llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o'r nef fo'i clybu;
A'm llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.
verse 2 Y dydd y rhedai 'mriw, a'r nos
ni phe
[...]diai achos llafur,
Mewn blin gysyngder gwn fy mod,
a'm hoes yn gwrthod cysur.
verse 3 Yna y cofiwn Dduw a'i glod,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
verse 4 Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,
verse 5 Ystyriais yna'r dyddiau gynt,
a'r helynt hen o'r cynfyd.
verse 6 Cofiwn fy ngherdd y nos fy hun,
heb gael amrantun, chwiliwn
A chalon effro, genau mud,
â'm hyspryd ymddiddanwn:
verse 7 Ai'n dragywydd y cilia'r Ion?
a sydd ef bodlon mwyach?
verse 8 A ddarfu byth ei nawdd a'i air?
a gair ei addaw bellach?
verse 9 Anghofiodd Duw druga rhâu?
a ddarfu cau ei galon?
A baid efe byth (meddwn i)
fal hyn â sorri'n ddigllon?
verse 10 Marwolaeth ym' yw'r meddwl hwn
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnaf,
waith y Goruchaf etto.
verse 11 Cofiaf dy weithredoedd (f'Arglwydd)
a'th wrthiau hylwydd cofiaf,
verse 12 Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
â myfyr maith y traethaf.
verse 13 O Dduw: pa Dduw sydd fal ti Dduw▪
dy ffordd di yw'n sancteiddiol:
verse 14 Dy waith dengys dy nerth i'r byd,
pair yn' i gyd dy ganmol.
verse 15 Dy nerth fawr hon a ro'ist ar led,
wrth wared yr hen bobloedd,
Iagof, a Ioseph, a fu gaeth,
a'i holl hiliogaeth luoedd.
verse 16 Y deifr gwelsant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud.
verse 17 Cymylau dwfr cylch wybr yn gwan,
a mellt fal saethau enbyd.
verse 18 Dy daran rhuodd fry'n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiar isod a gyffrodd,
ac a ddychrynodd hithau.
verse 19 Yn eigion mor mae y ffordd dau,
a'th lwybrau mewn deifr sugnedd,
Ac ni adweinir byth mo'th ol,
yn dy anfeidrol fowredd.
verse 20 Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a'i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.
Attendite populi. Psal. lxxviij.
Dangos ddarfod i Dduw ddethol ei eglwys o hâd Abraham annog y plant i gydnabod trugaredd Dduw, ac i gywilyddio dros amlddrygau eu tadau; dangos gweithredoedd Duw.
FY mhobl i gyd gwrandewch fy neddf,
a boed fy ngreddf i'ch calon,
Clust ymostyngwch a'm genau,
i ystyr geiriau ffyddlon.
verse 2 Mewn diharebion, i barhau,
fy ngenau a eg oraf:
A hen ddamhegion oedd ar hyd
y cynfyd a ddangosaf.
verse 3 Y rhai a glywsom gynt eu bod,
ac ym yn gwybod hefyd,
Ac a fynegodd yn ddiau,
ein tadau er y cynfyd.
verse 4 Heb gel mynegwn ninnau'n ffraeth,
hyn iw hiliogaeth hwythau:
Camnolwn Dduw i'r oes a ddel,
ei nerth a'i vchel wrthiau.
verse 5 Felly gorchmynnodd ef fod cof,
yn Iagof: ac i'r hynaf
Yn Israel ddysgu iw blant,
ogoniant y Goruchaf.
verse 6 Fel y gwypid o oes i oes,
y rhoes ef ei dystiolaeth:
O Dâd i fâd, o fâb i wyr,
i gadw llwyr wybodaeth.
verse 7 Gobeithio 'n Nuw, cofio ei waith,
y sydd mal rhaith eneidiol:
I gael cadw ei orchymmyn,
rhoes Duw'r wers hyn yn rheidiol,
verse 8 Rhag ofn mynd o'r genhedlaeth hyn
yn gyndyn ac anufydd:
A chalon wan, ac yspryd gwael.
heb afael gyda 'i llywydd.
verse 9 Eu tadau, fel plant Ephraim,
yn arfog lym er saethu,
Troesant eu cefnau yn y gâd,
ymroi a dadynylu.
verse 10 Cyfammod Duw a wrthodent,
ni rodient yn ei Gyfraith,
verse 11 Anghofio'i wyrth a welsent gynt,
a'i ddeddfau oeddynt berffaith.
verse 12 Yn nhir yr Aipht: ym maes Zoan,
gwnaeth Duw gyflafan fwyfwy.
verse 13 Rhoi dwfr y mor yn ddau dwrr crych,
a'r llawr yn sych i drammwy.
verse 14 Y dydd mewn niwl y nos a thân,
tywysai'n lân ei bobloedd:
verse 15 Holldi'r ereigiau a'i troi'n llynniau,
a llenwi ei lu a dyfroedd.
verse 16 Er tynnu dwfr o'r garreg lâs,
er llithro'n loyw frâs ffrydau:
verse 17 Yn yr anialwch digient Dduw,
chwanegent amryw feiau.
verse 18 Yn y diffaethwch profent Dduw,
oes fwyd i fyw? meddylient:
verse 19 A all Duw gael i'n ymma fwyd,
mewn cyfryw lochwyd? dwedent.
verse 20 Er taro'r graig a rhedeg dwr,
yn ffrydau, cyflwr d
[...]ball:
A eill efe roi i'n fara'a chig,
in cadw yn ddiddig ddiwall?
verse 21 Pan glybu Duw yr ar
[...]ith hon,
fel tân yn wreichion nynnodd,
Yn Iago ac yn Israel,
gan lid yn vchel digiodd.
verse 22 A'i ddig oedd am na chredent hwy
i Dduw a'i fwyfwy fawredd,
Ac na welent pa iechyd oedd
yn ei weithredoedd rhyfedd.
verse 23 Gorchymmyn wybren, a'i gwarhau,
egoryd drysau'r nefoedd:
verse 24 A Manna'n fwyd, fel gwenith nef,
a lawiodd ef iw luoedd.
verse 25 Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth da,
sef bara yr Angylion:
verse 26 Gyrru rhyd wybren ddwyrain-wynt,
gydâ'r deheu wynt nerthlon.
verse 27 Fel y llwch y rhoes gig iw hel,
ac adar fel y tywod:
verse 28 Ynghylch eu gwersyll a'i trigfydd,
y glawiai beunydd gawod.
verse 29 Bwyta digon o wledd ddiwael,
a chael eu bwyd dymunol:
verse 30 Ac heb ommedd dim ar eu blys,
nac mo'i hewyllys cnawdol.
verse 31 A'i tameidiau hwy iw safnau,
(ys ofnwn y Goruchaf:)
Yn Israel lladdodd iw ddig
wyr etholedig brasaf.
verse 32 Er hyn pechent, ac ni chredent,
iw iach radau rhyfedd:
verse 33 Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,
mewn dychryn ac oferedd.
verse 34 Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,
os ceisient dramwy atto:
Os doent drwy hiraeth at ei râs,
yn forau glâs iw geisio.
verse 35 Os cofient fod Duw iw holl hynt,
graig iddynt a gwaredydd:
verse 36 (Er ceisio siommi D
[...]w'n y daith,
â'i gweiniaith, ac
â'i celwydd:
verse 37 Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gyfammod:)
verse 38 Er hyn trugarhaei Duw a'r nef,
a'i nodded ef oedd barod.
Rhag eu difa, o'i lid y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:
verse 39 Cofiedd ddyn, os marw a wnai,
nas gallai ddycl wyl eilwaith.
verse 40 Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy,
wrth fyned trwy'r anialwch?
Gan ddigio Duw a'ilwyr dristhau,
ynghreigiau y diffeithwch.
verse 41 Troesant, profasant Dduw
â'i chwant,
gan demptio Sanct yr Israel:
verse 42 Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,
rhag cael o'i casddyn afael.
verse 43 Rhoesai'n yr Aipht arwydd o'i râs,
a'i wyrth yn ninas Zoan:
verse 44 Y modd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glan-ddwfr allan.
verse 45 Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,
waed, gwybed, llau, allyffaint:
verse 46 Lindys, locust, i ddifa'i ffrwyth,
a chenllysg lwyth, a mallhaint.
verse 47 Distrywiodd Duw eu hyd, gwellt,
verse 48 Eu coedydd, a'i han'feiliaid: (gwydd)
A chenllysg cessair, mellt a roes,
bu wrth eu heinioes danbaid.
verse 49 Rhoes arnynt bwys ei lid, a'i fâr,
ac ing anghreugar digllon:
Ffrwyth ei lidiowgrwydd ef, a'iwg,
anfonodd ddrwg angylion.
verse 50 Rhyw ffordd a hon iw lid a droes,
heb ludd iw heinioes angau,
Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,
yn ei ddigofaint yntau.
verse 51 Yna y tarawodd vn Duw Naf
y plant cyntaf-anedig:
Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,
sef am ei tod yn llawnddig.
verse 52 Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd,)
foi twysawdd drwy'r anialfan,
Fel arwain defaid, lwybrau pell,
yn wael ddiadell fechan.
verse 53 Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,
drwy'r mor (ffordd ddofn) heb wlychu,
A'i holl elynion heb fwy stor,
fe wnaeth i'r mor eu llyngeu.
verse 54 Rhoes hwy i etifeddu'n rhydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd:
Yr hwn a ddarfu ei warhau,
â llaw ddeau yr Arglwydd.
verse 55 Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwyth
rhoes i bob llwyth ei gyfran
O Israel, ac yn eu plaid,
rhoi'r hen drigoliaid allan.
verse 56 Er hyn temptient, a digient Dduw,
hwn vnic yw sancteiddiol:
Ac ni fynnent mo'r vfyddhau,
iw dystiolaethau nefol.
verse 57 Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,
fel eu holl dadau twyll-naws:
Megis bwa a fai mewn câd,
ac yntho dafliad gwyrdraws.
verse 58 Hwyntwy yn fynych a'i cyffroent,
mewn camwedd troent oddiwrtho
At wylfa nos, a delw o bren,
fal hyn y digien efo.
verse 59 Ond y Gorucha'n gweled hyn,
a ddigiodd wrthyn hwythau:
Felly dirmygodd Israel,
a gadel ei ammodau.
verse 60 Yna'r ymadawodd efo,
â chysegr Shilo dirion:
Ei bebyll a'i brif ysgol ddysg,
lle' buasai' mysg ei ddynion.
verse 61 Ei nerth a roes i garchar caeth,
dan elyn daeth eu mowredd:
verse 62 Ei bobl ei hun i'r cleddau llym',
(fal dyna rym' ei 'ddigedd:)
verse 63 Ei wyr ieuainc fo'i rhoes i'r tân,
gweryfon glân rhoes heibio:
verse 64 Ei offeiriaid i'r cleddyf glâs,
a'i weddw ni chafas wylo.
verse 65 Yr Arglwydd gwedi hyn deffroe,
fal vn a ddoe o gysgu:
Neu fal gwr cadarn wedi gwin,
yn erwin iw dychrynu.
verse 66 Taflodd y gelyn yn ei ol,
rhoes mewn tragwyddol wradwydd,
verse 67 Rhoes wyrion Ioseph dan vn pwyth,
ac Ephraim lwyth i dramgwydd.
verse 68 Gwedi cwlio y rhai'n i gyd,
fo roes ei fryd ar Iuda:
Ar fynydd Seion (ei dretâd)
o gariad iw breswylfa,
verse 69 Yna yr adeiladodd ef
adei lad grefa howddgar,
Yn gysegr-lys byth i barhau,
fel hen seiliadau'r ddaiar.
verse 70 Etholodd ef Ddafydd ei was,
yr hwn oedd ddisas sugai:
Ac a'i dug ef i maes yn lân,
o'i gorlan a'i ddefeid-gail.
verse 71 O borthi defaid mammau wyn,
iw ddwyn i borthi dynion:
Iagof, ac Israel, a'i plant.
dyna ei feddiant ffyddlon.
verse 72 Yntau a'i porthodd hwynt yn ol
ei berffaith reiol galon:
Ac a'i trinodd hwy yn brydferth,
o nerth ei ddwylaw cyfion.
Deus, venerunt. Psal. lxxix.
Achwyn rhag y dinistra wnaethai Antiochus ar Deml Dduw a Ierusalem: a gofyn cymorth gan Dduw rhag ei orthrwm elynion.
LLawer cenedl (o Dduw) a ddaeth,
i'th etifeddiaeth vnig:
Rhoed Caerselem a'i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.
verse 2 Rhoi cyrph dy weision, wrth eu rhaid,
i hediaid y ffurfafen:
I'nfeiliaid maes rhoi cig dy saint,
fel dyma fraint aflawen.
verse 3 Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amglch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bedd,
fel dyna ddiwedd atgas.
verse 4 Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,
i bawb o'n pobparth ydym.
verse 5 O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?
ai fel tân ffyrnig poethlym?
verse 6 Tywallt dy lid ar bobl estron,
rhai nid adwaenon m'onot:
Ac ar dyrnasoedd ni eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.
verse 7 Cans wyrion Iagof (bobl oedd gu)
y maent iw hysu 'n rhyfedd:
Ac a wnaethant i'r rhei'ni fod
preswylfod anghyfannedd.
verse 8 Na chofia'n camwedd gynt i'n hoes,
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a'n rhagflaeno ni
sy' mewn trueni'n gorwedd,
verse 9 O Dduw ein iechyd cymorth ni,
er mwyn dy fri gogonol:
A gwared er mwyn dy enw tau,
ni rhag pechodau marwol.
verse 10 Pan y gofynnant ple mae 'n Duw,
dod arnynt amryw ffonnod:
I ddial gwaed dy ddwyfol blant,
ac yno cânt hwy wybod.
verse 11 Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhygaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffyn blant marwolaeth.
verse 12 Ein cymdogion a'th gablodd di,
tâl i'r rhei'ni yn gwblol
Eu cabledd iw mynwesau 'i hun,
o Arglwydd gun gorchestol.
verse 13 Ninnau dy bobl a'th ddefaid mân,
awnawn yt gân ogonawl,
Does i oes byth i barhau,
ac i'th fawrhau'n dragwyddol.
Qui regis Israel. Psal. lxxx.
Gweddi at Dduw dros yr Eglwys, ar iddo barhau ei ddaioni a ddechreuasei ef ynthi.
CLyw di fugail i Israel,
sy'n arwain fel y defaid
Hil Iagof, a llewycha di,
a 'steddi ar Gerubiaid.
verse 2 Fel y gwelo Ephraim hyn,
Beniamin a Manasses:
Cyfod, cymorth a gwared ni,
o'th fawr ddaioni cynnes.
verse 3 Llewycha d'wyneb, dychwel ni,
Duw, di a'n cedwi 'n gyflym:
Duw y lluoedd, clyw ein gweddi,
pa hyd y sorri wrthym?
Llewa'i bara, drwy wylo yn dost,
a wnaethost di i'r eiddod:
A rhoi iddynt ddagrau bob awr,
drwy fesur mawr yn ddiod.
verse 6 Duw i'n gelynion o bob parth
rhoist ni yn warth i'n gwatwar:
verse 7 Llewycha d'wyneb, dychwel ni,
felly i'n cedwi'n gynnar.
verse 8 Dugost o'r Aipht winwydden ir,
rhoist iddi dir i dyfu:
A'r holl genhedloedd o bob man,
troist allan cyn ei phlannu.
verse 9 Arloesaist y tir o'i blaen hi,
a pheraist iddi wreiddio:
verse 10 Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawr
fell cedrwydd mawr yn brigo.
verse 11 A'r hiraidd frig ystyn yr oedd
hyd foroedd ac afonydd▪
verse 12 Pam y rhwygaist gae'r fâth ber lwyn,
i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?
Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,
pan oedd hi n llawn ffrwyth arni:
verse 13 A'r baedd o'r coed yn tirio 'i llawr,
a'r bwystfil mawraw phori.
verse 14 O Dduw y lluoed
[...], edrych, gwyl,
a dychwyl i 'mgleddu
Y winllan hon a blennaist di,
â'th law, a'i rhoddi 'dyfu.
verse 15 Lle cadarnheist i ti dy hun,
dy brif blanhigyn d
[...]dwydd:
verse 16 Llygrwyd
â'r cled
[...], a'r tân yn faith,
a hyn o waith dy gerydd.
verse 17 I gryfhau gwrdy ddehau law,
boed drostaw dy fraich nerthol,
Hwn a siccrheist i ti dy hun,
sef dros sab dyn dewisel.
verse 18 Tros hwn tra rhoddych di dy law▪
oddiwrthaw ni ddychwelwn:
O Dduw, dadebra, by wha ni,
ar d'enw di y galwn.
verse 19 A dadymchwel nyni i fyw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd:
Tywynna arnom d'wyneb-pryd,
ni a gawn iechyd bythoedd.
Exultate Dom. Psal. lxxxi.
Cyngor i foli Duw am ei ddaioni, ac i gydnabod â'n anniolchgarwch,
O Cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a genau ffraeth,
gerddwriaeth i Dduw Iago.
verse 2 Cymerwch gathl y psallwyr lân,
a moeswch dympan hefyd:
A cheisiwch ganu gydâ hyn
y nabl a'r delyn hyfryd.
verse 3 Cenwch vdcyrn arloer newydd,
y pryd sydd nodol iddo:
verse 4 Sefdeddf yw hon ar wyl vchel,
Duw Israel ac Iago.
verse 5 Yn Ioseph clymmodd hyn yn ddysg,
pan ddaeth ofysg yr Aiphtwyr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im',
heb ddeall dim o'i hystyr.
verse 6 Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwyddau:
Ac felly tynnais eich dwy law,
i 'madaw a'r ffwrneisiau.
verse 7 I'th flinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di sut yma:
Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meribba.
verse 8 Fy mhobl Israel gwrando fi,
os ystyri yn ffyddlon:
verse 9 Na fid ynot arall yn Dduw:
na chrymma'i gaudduw estron.
verse 10 Myfi yr Arglwydd Dduw a'th ddug
o'r Aiphtir caddug allan:
Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,
lleda dy safn yn llydan.
verse 11 Ni choeliai Israel fy rhybudd,
ni fyddent vfudd ymy:
verse 12 Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hun,
iw cyngor cyndyn hynny.
verse 13 Och na wrandawsai Israel,
gan rodio'n ffel fy llwybrau:
verse 14 A phwys syllaw llethaswn fron
eu holl elynion hwythau.
verse 15 Caseion ein Duw, yn eilid,
a ostyngesid iddaw.
Ac ef a roesai yn y tir
ammodau hir i'r eiddaw.
verse 16 Ein Duw a roesai iddynt borth,
drwy frasder cymorth rhadol:
Rhoi mel o'rgraig, rhoi llaeth yn flith,
a gwenith yn ddigonol.
Deus stetit. Psal. lxxxij.
Yn erbyn tuedd ac anghyfiownder barnwyr: a dymuno cyfiownder ar law Duw ei hun.
HOll farnwyr byd mae Duw'n eu mysg,
pe cymrent addysg gantho:
Duw yw ymysg y duwiau mân,
a'i farn sy lân heb wyro.
verse 2 Pa hyd y rhoddwch farn ar dro,
gan bleidio gydâ'r trowsion?
verse 3 I'r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,
paham na fernwch vnion.
verse 4 Gwrand ewch chwi ar y gwan a'r gwael,
a'r tlawd heb gael mo'i gyfraid:
(Pan ddel y rhei'ni gar eich bron)
o ddwylo'r trowsion diriaid.
verse 5 Gwyr heb wybod, heb ddeall chwaith,
sy'n rhodio taith tywyllni:
Ni syflent hwy, pe siglai'nghyd,
yr hollfyd a'i sylfeini.
verse 6 Dwedais maiduwiau ych yn siwr,
a phlant i'r Gwr goruchaf:
Er hyn mal dyn marw a wnewch,
vn gwymp a gewch a'ch hynaf.
verse 7 Duw cyfod, a dyro farn ar
y ddayar a'i thyrnasoedd:
Cans mawr yw d'etifeddiaeth, di
a feddi'r holl genhedloedd.
Deus quis similis. Psal. lxxxiij.
Plant Israel yn gweddio, ar i Dduw eu gwared rhag eu gelynion: ac ar iddo gosbi y rhai drwg fel yr ofnent ef.
NA ostega, na thaw, nafydd
di lonydd Duw y lluoedd:
verse 2 Wele, d'elynion yn cryfhau,
gan godi 'pennau i'r nefoedd.
verse 3 Ymgyfrinachu dichell ynn'.
y lle mae ganthyn fwriad,
A dychymygu dilen brudd,
i ni sy'n ymgudd danad.
verse 4 Dwedasant, dewch difethwn hwynt
na byddo honwynt genhedl:
Ac na bytho byth (meddant hwy)
am Israel mwy mor chwedl.
verse 5 Ymgynghorasant bawb ynghyd,
ac yn vn fryd i'th erbyn,
verse 6 Edom, Ismael, Moab blaid,
a'r holl Hagariaid cyndyn.
verse 7 Gebal, Ammon, Amalechiaid,
Philistiaid a gwyr Tirus:
verse 8 Assur, yn gydfraich
â phlant Lot,
fal dyna gnot maleisus.
verse 9 Tâl dithau adref yn y man,
megis i Madian greulon,
I Sisera, ne'i Iabin swrth,
a laddwyd wrth lan Cizon.
verse 10 Yn Endor gynt buladdfa fawr,
ar hyd y llawr ar wasgar:
Gwna honynt hwythau laddfa ail,
a'i cyrph yn dail i'r ddaiar.
verse 11 Gosod eu bon
[...]dd hwy fel Zeb,
ac Oreb yr vn diwedd:
A'i tywysogion fel Zeba,
a Salmunna i orwedd.
verse 12 Dwedent y mynnent yn eu byw
gysegrfa Duw i'w meddiant:
verse 13 Fel troad rhod neu w
[...]llt mewn gwynt,
dyna yr
[...]ynt a gaffant.
verse 14 Fa
[...] y llvsg y tân bon pren crin,
a'r fflam yr eithin mynydd;
verse 15 Felly
â'th 'storm, ymlid hwy'n gynt
nâ dych yn corwynt efrydd.
verse 16 Llanw eu tâl'o warth a chwys,
ceisiant ar frys yr Arglwydd.
verse 17 Ac yn dragwyddol iddynt bydd,
gywilydd, mefl, a gwradwydd.
verse 18 D
[...]f
[...]ther hwynt: gwy
[...]ed dyn byw,
mai d'enw di
[...] Iehouah:
Ac mai ti vnic Oduw sydd ar
y ddaiar yn oruchaf.
Quam dilecta. Psal. lxxxiiij.
Dafydd yn hiraethu am Deml Dduw, ac am gynulleidfa y Sainct: a chlod y bobl a ymwelant â Sion.
DY Babell di mor hyfryd yw!
(o Arglwydd bywy lluoedd)
verse 2 Mynych chwenychais weled hon,
rhag mor dra-thirion ydoedd.
Mae f'enaid i (fy Ion) mewn blys,
i'th gyssegr lys dueddu:
Fy nghalon i, a'm holl gnawd yw,
yn Nuw byw'n gorfoleddu.
verse 3 Aderyn y to cafoddd dy,
a'r wennol fry iw chywion
Le wrth dy allor di iw trin,
fy Nuw a'm brenin tirion.
verse 4 Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,
caiff dy folianny ddigon:
verse 5 Ac ynot ti sy'n cadarnhau,
a'th lwybrau yn eu calon.
verse 6 Pe rhon a gorfod ar y rhai'n
rhyd glyn wylofain dramwy:
Gosodant ffynnon iddyn nhw,
a'r glaw a leinw fwyfwy.
verse 7 Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth,
nes cael yn brydferth ddyfod:
I'mddangos i Dduw gar ei fron,
yn Sion ei breswylfod.
verse 8 Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fi,
a'm gweddi o Dduw Iagof:
verse 9 Gwel wyneb d'eneiniog, a'i stâd,
Duw'n tarian nâd st'n angof.
verse 10 Gwell yw nâ mil, vn dydd i'th dy,
am hynny mwy dewisol
Ym fod ar riniog y drws tau,
nâ phlasau yr annuwiol.
verse 11 Sef, haul a tharian yw Duw mâd,
a rydd rad a gogoniant:
Ni lestair ef ddaioni maith,
i'r rhai a berstaith rodiant.
verse 12 O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr,
anfon i lawr dy gymmod:
Dedwydd yw'r dyn a rotho'i gred,
a'i holl ymddiried ynod.
Benedixisti Dom. Psal. lxxxv.
Er mwyn nad oedd Duw yn tynnu mo'i wialen oddiar ei Eglwys gwedi ei dyfod adref o Babel, maent hwy yn gyntaf iw goffau ef i orphen arnynt waith ei ras. Ac yn achwyn rhag eu hir gystudd, ac yn olaf, yn ymlawenychu yn eu gobaith o addewidion Duw.
DA wyd i'th dir (Iehouah Ner)
dychwelaist gaethder Iago:
verse 2 M
[...]d
[...]euaist drowsedd dy bobl di,
mae'i camwedd wedi't guddio.
verse 3 Tynnaist dy lid od iarnom ni,
traist dy ddiglloni awchlym:
verse 4 (O Dduw ein nerth) tro ninnau'n well,
a'th lid bid bell oddiwrthym.
verse 5 Aibyth y digi wrthym ni?
a sorti di hyd ddiwedd?
A saif dy lid o oes i oes?
Duw gwrando, moes drugaredd.
verse 6 Pam? oni throi di a'n bywhau,
a llawenhau yr eiddod?
verse 7 O dangos in'dy nawdd mewn pryd,
felly cawn iechyd ynod.
verse 8 Beth a ddywaid Duw am danaf,
mi a wrandawaf hynny:
Fe draetha hedd iw bobl, a'i Sainct,
rhag troi ym mraint ynfydu.
verse 9 I'r rhai a ofnant Arglwydd nef,
mae 'i iechyd ef yn agos:
Felly y caiff gogoniant hir,
o fewn ein tir ni aros.
verse 10 Ei drugaredd, a'i wirionedd,
ar vnwaith cyfarfuant:
Ei vniondeb, a'i hedd ynghyd,
drwy'r tir a'mgydgusanant.
verse 11 O wirionedd o'r ddaiar a dardd,
vniondeb chwardd o'r nefoedd:
verse 12 Duw a ddenfyn yn' ddaioni,
a'n tir i roddi cnydoedd.
verse 13 Vniondeb oedd o flaen Duw nef,
a'r cyfion ef aed rhagddo:
A Duw a rodia yn ei waith,
fel i't vn daith ac efo.
Inclina Domine. Psalm. lxxxvi.
Dafydd yn gweddio ar Dduw am gymmorth, ac yn dymuno ar Dduw ei ddysgn ef. Ac y mae efe yn achwyn rhag ei elynion.
GOstwng o Arglwydd y glust dau,
clyw fy ngweddiau trymion:
Gwrando fi sy'druan a thlawd,
o'th barawd drugareddion.
verse 2 Cadw fy oes, gwr cynnwys wy',
ac ytt'r ydwy'n credu:
Duw bydd achubwr da i'th wâs,
o'th râs dyrd i'm gwaredu.
verse 3 Trugurha wrthif Arglwydd mâd,
cans arnad llefa'n ddibaid:
verse 4 Einioes dy wâs Duw llawenhâ,
cans attad c
[...]da' f'enaid:
verse 5 Cans ti o Arglwydd ydwyd dda,
i'th bobloedd a thrugarog,
I'r rhai a alwant arnat ti,
mae dy ddaioni'n bleidiog.
verse 6 O Arglwydd clyw fy llais mor llym,
a'm gweddi y'm myfyrdod:
verse 7 Clywi sy llais, gweli fy nghlwyf,
y dydd y brwyt i'm trallod.
verse 8 Ymysg y duwiau nid oes vn,
fel dydi gun gogoned:
Ymysg gweithredoedd cymmain hun,
nid oes yr un vn-weithred.
verse 9 Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)
o'th flaen don ac addolant:
A pha le bynnag ar y bont
i'th enw rhont ogoniant.
verse 10 Cans tydi ydwyd fawr a phur
yngwneuthur rhyfeddodau:
A thydi'n vnig wyd yn Dduw,
ni cheisiwn amryw dduwiau.
verse 11 Dysg imi dy ffordd (o Arglwydd)
câf yn rhwydd dy wirionedd:
Ewna fy nghalon yn vn
â thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.
verse 12 Fy Arglwydd Dduw moliannaf di
â holl egni fy nghalon:
Ac i'th fawr enw byth gan dant,
y rhof ogoniant cyson.
verse 13 Cans mawr yw dy drugaredd di,
tu ac attaf fi yn barod,
Gwaredaist f'enaid i o'r bedd,
ac o'r gorddyfnedd isod.
verse 14 Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,
fel llu o weilch ewin-ddrud:
Ceisient ddwyn f'einioes o'r byd hwn,
i'w golwg gwn nad oeddud.
verse 15 Ond tydi 'n vnig wyd hawddgâr,
a chlacar dy drugaredd,
Hwyr i'th lid ac i gymmod hawdd,
llawn o nawdd a gwirionedd.
verse 16 O edrych arnaf, moes dy râs
i'th wâs y sydd i'th orllwyn:
Dod ym' dy nerth, cadw fal hyn
fi, plentyn dy lawforwyn.
verse 17 O Dduw dod o'th serch ym' arwydd,
er gwradwydd i'm caseion:
Pan welant dy fod yn rhoi nerth
ym', ac ymadferth ddigon.
Fundamenta eius. Psal. lxxxvij.
Yr Yspryd glân yn prophwydo am ryddhâd yr egwlys a'r cysur sydd o fod yn un o honi.
SAilfeini hon (sef Sion) sydd,
ar gyssegr fynydd vcho':
verse 2 Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,
vwch pob trig-lannerch Iaco.
verse 3 O ddinas Duw, preswylfa'r Ion,
mawr ydyw'r son am danad:
A gogoneddus air yt' sydd,
vwch trigfennydd yr holl-wlad.
verse 4 Rahab, Babel, a Phalestin,
a Thirus flin, a'r Mwriaid,
A fu i'th blant elynion gynt,
mae rhai o honynt vnblaid.
verse 5 Ond dwedir hyn am Sion ber,
fo anwyd llawer ynthi,
Nid ymbell vn: cans swccwr da
yw Duw gorucha' iddi.
verse 6 Fe rydd yr Arglwydd yn ei rif,
y neb fo cyfrif hono:
Efe a esyd hyn ar led
sef, Hwn a aned yno.
verse 7 Cantor tafod, a cherddor tant,
pob rhai yt' canant fawr-glod
A thrwy lawenydd mae'n parhau,
fy holl ffynhonnau ynod.
Domine Deus. Psal. lxxxviij.
Y ffydloniaid yn eu cystudd yn galw ar Dduw drwy ffydd.
O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,
mae 'ngweddi 'n ufydd arnad,
verse 2 Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,
a doed fy llef hyd attad.
verse 3 Cans mae fy enaid mewn dull caeth,
a'm heinioes aeth i'r beddrod:
verse 4 Fel gwr marw y rhifwyd fi,
a'm nerth oedd wedi darfod.
verse 5 Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a'i taflu'nglhâdd mewn angof,
A laddyt di mor siwr a hyn,
na bai byth honyn atgof.
verse 6 Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,
ac mewn tywyllwch eithaf.
verse 7 Rhoist vwys dy ddig ar y corph mau,
a'th holl for-donnau arnaf.
verse 8 Pellheist fy holl gydnabod da,
r'wy fyn ffieidd-dra iddyn:
Ni chaf fi fyned at vn câr,
yr wyfmewn carchar rhydyn.
verse 9 Y mae fy ngolwg (gan dy lid)
mewn gofid o fawr gystydd.
Duw llefais arnad yn fy mraw,
gan godi 'nwylaw beunydd.
verse 10 Ai i'r meirw dangosi wyrth?
a ddont i'th byrth i'th foli?
verse 11 A draethir dy fawl yn y bedd,
a'th ni lân wirionedd heini?
verse 12 Ai mewn tywyll y mae dy râd?
a'th iowndeb yng wlâd angof?
verse 13 Fal hyn (Duw) llefais arnat ti,
o clyw fy ngweddi etto.
verse 14 Pam (o f'Arglwydd a'm Duw) i'm rhaid
y rhoi f'enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wyneb pryd?
fy nghoel i gyd sydd ynod.
verse 15 Truan ymron marwolaeth wyf,
mewn trymglwyf o'm ieuenctyd:
A'th ofni bum yn nychbeth gwael,
gan ammau cael mo'r iechyd.
verse 16 Dy ddig a lifodd drosof fi,
d' ofn sydd i'm torri 'n efrydd,
Fel deifry daethant yn fy nghylch,
do, do, o'm hangylch beunydd.
verse 17 Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,
pob cyfaill hygar heibio,
A'm holl gydnabod a fu gynt,
yr ydynt yn ymguddio.
Misericordias. Psal. lxxxix.
Dafydd yn moli Duw am ei gyfamod, ac yn achwyn wacced oedd ei dyrnas: ac yn olaf y mae efe yn gweddio am ei wared o'i flinderau, ac yn dangos byrred oes dyn.
MYfyriaf gerdd byth i barhau,
o drugareddau'r Arglwydd:
A'i wirionedd i'm genau fydd,
hyd dragywydd yn ebrwydd.
verse 2 Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,
adeiledir trugaredd:
I barhau byth cair yn y nef
dy gadarn gref wirionedd.
verse 3 Fal hyn (o Dduw) attebaist ym',
mi a wneuthym rwym gan dyngu
I Ddafydd f'etholedig wâs,
a'r gair e'm grâs yn tarddu.
verse 4 Fal hyn sicrhâi dy hâd di byth,
a gwnaf weheiyth drefniad.
I'th gadarn faingc o oed i oed,
mi a rof bob troed yn wastad.
verse 5 Am hyn y siccrwyd tragwyddawl
y nef o fawl dy wyrthiau:
Yngorsedd Sainct, ynghyrchfa hedd,
am bur wirioned d'eiriau.
verse 6 Pwy sydd cystal
â'n harglwydd cu,
pe chwilid llu'r wybrennau?
Ymysg Angylion pwy mal Ion,
sef ymhlith meibion duwiau?
verse 7 Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,
Duw o'r nef sydd of nadwy:
A thrwy'r holl syd o'n hamgylch ni,
i ofni sydd ddyladwy.
verse 8 Pwy sydd debig i ti Dduw byw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd?
Yn gadarn Ior, a'th wir i'th gylch,
o amgylch yr holl nefoedd.
verse 9 Ti a ostyngi y mor mawr,
a'r don hyd lawr yn ystig:
verse 10 A nerth dy fraich curi dy gâs,
yr Aipht, fal gwâs lluddedig,
verse 11 Eiddod nef a daiar i gyd,
seiliaist y hyd a'i lanw:
verse 12 Gogledd, deau, Tabor, Hermon,
sy dirion yn dy enw.
verse 13 I'th fraich mae grym', mae nerth i'th law,
a'th gref ddeheulaw codi:
verse 14 Nawdd a barn yw dy orsedd hir,
a nawdd a gwir a geri.
verse 15 Eu gwnfyd i'r holl bobl a fydd,
a fo'i llawenydd ynod:
Ac yn llewych dy wyned glân
y rhodian i gyfarfod.
verse 16 Yn d'vnig enw di y cânt,
fawl a gogomant beunydd,
Yn dy gyfiownder codi'a wnânt,
ac felly byddant ddedwydd.
verse 17 Cans ti wyd gryfder eu nerth hw
[...]
lle y caffent fwy o dycciant:
Dydi a ddarchefi eu cyrn,
ac felly cedyrn fyddant.
verse 18 Cans o'r Arglwydd a'i ddaioni,
y daw i ni amddiffin:
O Sanct Israel drwy ei law,
oddiyno daw ein brenin.
verse 19 I'th sanct y rhoist gynt wybodaeth
drwy weledigaeth nefol:
Gosodais gymorth ar gryf gun,
derchefais vn dewisol.
verse 20 Cefais (eneiniais ef yn ol)
fy ngwâs dewisol Dafydd
Ag olew sanct:
21 Braich a llâw gref,
rhoist gyd ag ef yn llywydd.
verse 22 Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,
na'i ddrygu vn mab enwir:
verse 23 O'i flaen y coetha'i elynion,
a'i holl gascion dihir.
verse 24 Fy ngwirionedd, a'm trugaredd,
rhof fi trwy gariad iddo,
Ac yn fy enw fi'yn ddi orn,
dyrchefir ei gorn efo.
verse 25 Gosodaf ei law ar y mor,
ac o'r goror bwygilydd:
A gosodaf ei law ddeau,
hyd terfynau'r afonydd.
verse 26 Ef a weddia arnaf fi
iw galedi, gan ddwed
[...]d,
Ti yw fy nhad fy Nuw, fy ngharn,
yn gadarn o'm ieuenctyd.
verse 27 Minnau gwnaf yntau im yn fab,
yn gynfab ac etifedd,
Ar frenhinoedd y ddaiar las,
yn vwch ei ras a'i fowredd.
verse 28 A chadwaf iddo (yr vn wedd)
drugaredd yn dragwyddol:
A'm cyfammod iddo yn llawn,
yn ffyddlawn, ac yn nerthol.
verse 29 Gosodaf hefyd byth i'w had,
nerth a mawrhâd vwch bydoedd
A'i orseddfaingc ef i barhau,
vn wedd a dyddiau'r nefoedd.
verse 30 Ond os ei blant ef (drwy afrol)
nid ânt yn ol fy nghyfraith,
Os hwy ni rodiant, gan barhau,
i'm beirn a'm llwybrau perffaith,
verse 31 Os fy neddfau a halogant,
ni chadwant fy holl eirchion,
verse 32 Yna ymwelaf a'i cam gwrs,
â gwiail sewrs, neu goedffon.
verse 33 Ond ni thorraf ag ef vn nod,
o'm hammod a'm trugaredd:
Ac ni byddaf fi ddim yn ol,
o'm ystyriol wirionedd.
verse 34 Ni thorraf fy nghyfammed glân,
a ddaeth ailan o'm genau,
Ac ni newidiaf air o'm llw,
mi a rois hwnnw 'n ddiau.
verse 35 Yn fy sancteiddrwydd tyngais im'
na phallwn ddim i Ddafydd,
verse 36 Bydd ei had a'i drwn, yn ddi draul
o'm blaen fel haul tragywydd.
verse 37 Yn dragywydd y siccrh
[...] ef,
fel cwrs (is nef) planedau
Haul neu leuad, felly y bydd
ei gwrs tragywydd yntau.
verse 38 Ond ti a'n ffieiddiaist ar fyrr,
ac yn ddiystyr lidiog
Di a gyffroaist yn dra blin,
wrth dy frenin eneiniog.
verse 39 Diddymaist di dy air i'th was,
a'th râs, a'th addewidion:
Ac a'i halogaist ef yn fawr,
gan daflu'i lawr ei goron.
verse 40 A drylliaist ei fagwyrydd ef,
a'i gaer gref rhoi'st yn adwy.
verse 41 Yn egored felly y mae
yn brae i bawb sy'n tramwy.
verse 42 Iw gym'dogion gwarthrudd yw ef,
a than law gref ei elyn,
A llawen iawn y codent floedd,
bob rhai a oedd i'w erbyn.
verse 43 Troist hefyd fin ei gleddau ef,
a'i law oedd gref a blygaist:
verse 44 Darfu ei lendid ef a'i wawr,
a'i drwn i'r llawr a fwriaist.
verse 45 Pryd ei ieuenctyd heibio'r aeth,
a thi a'i gwnaeth cyn fyrred,
A bwriaist drosto wradwydd mawr,
o nen hyd lawr y torred.
verse 46 Pa hyd fy Nuw y byddi' nghudd?
ai byth, fy llywydd nefol?
A lysg dy lid ti fel y tân
yn gyfan yn dragwyddol?
verse 47 O cofia f'oes ei bod yn ferr,
ai 'n ofer gynt y gwnaethost
Holl blant dynion? o dal dy law,
ac yn' ni ddaw yn rhydost.
verse 48 Pa wr ysydd a'i oes dan sel,
na ddel marwolaeth a
[...]to?
Pw
[...] a all ddiangc, ac ni ddew
y
[...] a'r r
[...]aw i'w guddio?
verse 49 O mae dy nodded Arglwydd gynt?
mae helynt dy drugaredd?
Mae dy lw, o ystyriol ffydd,
i Ddafydd i'th wirionedd?
verse 50 Cofia Arglwydd yn wradwydd llym'
lle'r ydym ni, dy weision.
Yr hwn a dawdd i'm monwes i,
gan ffrost y Cowri mowrion.
verse 51 Yr hwn warth 'r oedd d'elynion di
yt' yn ei roddi 'n eidiog,
(Fy Arglwydd Dduw) a'r vn syrrhâd
i droediad dy eneiniog.
verse 52 Moler yr Arglwydd byth, Amen,
a byth Amen, hyn fytho.
Moler yr Arglwydd byth, Amen,
a byth Amen, hyn fytho.
Domine refugium. Psal. xc.
Moesen wrth weled y bobl heb ystyried dim o ddaioni Duw, na'i gosb, yn gweddio ar Dduw a'm droi eu calonau hwy o'i drugaredd.
DVw! buost in' yn Arglwydd da,
ac yn breswylfa i drigo,
O bryd i bryd, felly yr aeth
pob rhyw genhedlaeth heibio.
verse 2 Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,
cyn llunio llawr cwmpas-fyd,
Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,
hyd dragwyddoldeb hefyd.
verse 3 Weithiau i ddinistr y troi ni,
troi dithau wedi'n rhydda,
A dwedi cyn ein mynd i'r llwch,
dychwelwch meibion Adda.
verse 4 Cans dec can mlynedd fel doe ynt,
pan elo 'i helynt heibio,
O'th flaen di, megis gwylfa nos,
ni chaiff ymddangos etto.
verse 5 Nid yw dyn ond fel hun, neu ail
i addail, neu lifeiriant.
Neu megys glâs lysieun gwan,
mor fuan y newidiant.
verse 6 Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,
a gwawr o newydd arno:
Ond pan y torrer ef brydnawn,
yn fuan iawn mae'n gwywo.
verse 7 Cans yn dy lid difethwyd ni
gan ofni dy ddigofaint,
verse 8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,
a'm holl ddirgelion dryghaint:
verse 9 Cans drwy dy ddig mae'n dyddiau ni,
a'n tegwch gwedi darfod,
A'n holl flynyddoedd ynt ar ben,
fel gorphen henchwedl gorfod.
verse 10 Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,
dau bump chwaneg os bydd grym:
Yna ein nerth ai'n boen blin iawn,
i ffordd yr awn yn gyflym.
verse 11 Ond pwy a edwyn nerth dy lid?
mawr ofid sydd o'th sorri:
Sef fel y mae dy ofn di'n fawr,
dy ddig sydd ddir fawr inni.
verse 12 Dysg felly 'n rifo'n dyddiau gwael,
i'n calon gael doethineb.
verse 13 Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawdd
i'th weision nawdd ac vndeb.
verse 14 Yn forau iawn diwalla ni
â'th fawr ddaioni eisoes,
Fel y caffom ni lawen fyd
yn hyfryd dros yn heinioes.
verse 15 Gwna ni yn llawen, buom brudd
ban oedd yn' gystudd dybryd:
A chwedi llawer blwyddyn drom,
y rhai y ecwsom adfyd.
verse 16 O Dduw, gwna weled dy fawr waith,
a'th wrthiau maith i'th weision,
A'th odidowgrwydd, a'th ffyniant,
ymysg en plant a'i hwyrion.
verse 17 Arnom ni doed rhâd Duw a'i nerth,
i allu prydferth weithiaw,
Duw dod ein gwaith mewn trefnid dda,
Duw trefna waith ein dwylaw.
Qui habitat. Psal. xci.
Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i'r rhai a'i hofnant ac a'i carant ef, o ddiogelrwydd, a gogoniant tragwyddol.
Y Sawl a drigo, doed yn nes,
yn lloches y Goruchaf,
Ef a ymerys i gael bod
ynghysgod hwn sydd bennaf.
verse 2 Fy holl ymddiffyn wyd a'm llwydd,
wrth fy Arglwydd y dwedaf,
A'm holl ymddiried tra fwy fyw
sydd yn fy Nuw Goruchaf.
verse 3 Cans ef a weryd yr oes dau,
oddiwrth faglau yr heliwr,
A hefyd oddiwrth bla, a haint,
echrysaint, ac anghyflwr.
verse 4 Ei esgyll drosod ef a rydd,
dan ei adenydd byddi
Yn ddiogel: a'i wiredd gred
fydd gylch a bwccled itti.
verse 5 Ni ddychryni er twrf y nos,
na'r dydd o achos hedsaeth,
verse 6 Er haint, neu blâ mewn tywyll fydd,
neu hanner dydd marwolaeth.
verse 7 Wrth dy ystlys y cwympa mil,
a dengmil o'th law ddeau:
Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,
a thi a'i gwyl yn ddiau.
verse 8 A'th lygaid y gweli didâl
i'r enwir gwammal anian.
verse 9 Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)
ac vchel yw dy drigfan.
verse 10 Ni ddigwydd niwed yt', ond da,
na phla, na dim' echryslon,
I'th Eglwys a'th gynlleidfa nawdd,
verse 11 cans archawdd iw Angylion,
I'th ffyrdd dy gadw, a'th gynllwyn,
a'th ddwyn
â'i dwylaw hardd-deg,
verse 12 Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)
taro dy droed wrth garreg.
verse 13 Dy sangfa fydd ar y llew dig,
a'r asp wenwynig sethri:
Ar greulon genau'r llew o'r graig,
ac ar y ddraig y sengi.
verse 14 Mi a'i gwaredaf ef rhag brâd,
am roi ei gariad arnaf,
Am adnabod fy enw mau,
yn ddiau y derchafaf.
verse 15 Geilw arnaf, mi' ai gwrandawaf,
mewn ing y byddaf barod,
Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,
a chaiff drwy vrddas fowrglod.
verse 16 Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,
caiff yn y byd hir ddyddiau.
Dangosaf iddo radlawn faeth,
a'm iechydwriaeth innau.
Bonum est. Psal. xcij.
Psalm i gynhyrfu y bobl i gydnabod ac i foliannu Duw yn ei weithredoedd.
[Page 40] Diwedd disymwth yr enwir: a dedwyddwch y cyfion yn cael moli Duw yn ei Deml.
MOliannu'r Arglwydd da iawn yw,
a chyfarch Duw yn bennaf:
A chanu i'th enw di fawl,
a'th ganmawl (y Goruchaf.)
verse 2 Y borau am dy drugaredd,
a'th wirionedd son y nos,
verse 3 Ar ddectant, nabyl, a thelyn,
myfyrio hyn a'i ddangos.
verse 4 Sef drwy dy weithred llawen wyf,
ynnyn nwyf yn fy Nuw Naf:
Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,
beunydd y gorfoleddaf.
verse 5 Dy weithredoedd ond mowrion ynt?
verse 6 Dy helynt nis gwyr anghall:
Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,
hyn nis gwyr ynfyd ddeall.
verse 7 Pan flodeuo yr enwir ddyn,
megis llyseuyn iraidd,
Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,
Duw yno rhaid eu diwraidd.
Y drwg flagur uchel yr ânt,
a hwy a syrthiant beunydd:
verse 8 Tithau yr Arglwydd yn ddigel,
wyt vchel yn dragywydd.
verse 9 O Arglwydd wele d'elynion,
dy gaseion difethir;
A holl weithredwyr trais a cham,
yn ddinam a wasgerir.
verse 10 Tydi a dderchefi fy nghorn,
fel yr vnicorn perffaith.
Hefyd
â gwerthfawr olew ir,
i'm taenellir i eilwaith.
verse 11 Fy llygaid a welant hefyd,
fy ngwynfyd o'm gelynion.
A'm clustiau a glywant ar frys
f' ewyllys am ddrwg ddynion.
verse 12 Y cyfion blodeua i'r nen,
fal y balmwydden vnion,
Cynnyddu yn iraidd y bydd,
fel cedrwydd yn Libanon.
verse 13 Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,
yn goedwydd byw y tyfant,
Ac ynghynteddau ein Duw ni
y rhei'ni a flodeuant.
verse 14 A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint,
yn amser henaint etto,
Tirfion, iraidd, a phrofadwy
a fyddant hwy yn hilio.
verse 15 I ddangos nad traws, ac nad cam
yw f'Arglwydd a'm cadernyd,
Ac nad oes yntho na chamwedd,
na dim anwiredd hefyd.
Dominus regnauit. Psal. xciij.
Moliant i allu Duw: yn erbyn y bobl a wrthwynebant awdwrdod.
TEyrnasu y mae yr Arglwydd,
mewn ardderchowgrwydd gwisgodd:
Ymwisgodd f' Arglwydd yn brydferth,
a nerth yr ymwregysodd.
verse 2 Fe a sicrhâodd sail y byd
heb syflyd, yn ddihareb;
Dy faingc erioed a ddarparwyd,
ti wyd er tragwyddoldeb.
verse 3 Y llifeiriaint, (fy Arglwydd) faint
y llifeiriaint yn codi,
Tyrfau a'llif yn rhwygo'r llawr,
a thonnau mawr yn coethi.
verse 4 Cadarn yw tonnau y moroedd,
gan dryfan dyfroedd lawer.
Cadarnach yw yr Arglwydd mau,
yn nhyrau yr vchelder.
verse 5 Dy dystiolaethau ynt fiwr iawn;
sef cyfiawn yw sancteid drwydd,
A gweddus yn dy dy di fydd,
byth yn dragywydd f'Arglwydd.
Deus vltionum. Psal. xciiij.
Gweddi at Dduw yn erbyn y gorthrymwyr, a chysur i'r gorthrymedig.
O Arglwydd Dduw, Duw mawr ei rym,
dialwr llym pob traha,
O Dduw y nerth, ti biau'r tâl,
a'r dial, ymddisgleiria.
verse 2 Ymddercha di farnwr y byd,
a thâl i gyd eu gobrwy,
I'r beilchion a'r trahaus dod,
y tâl a fo dyladwy.
verse 3 Ba hyd? (o Arglwydd) o ba hyd,
y chwardd gwyr byd drygionus?
verse 4 Yr ymfalchiant yn eu drwg,
gan fygwth amlwg ffrostus?
verse 5 A'th bobl di (Arglwydd) a faeddant,
a chystuddiant dy dretâd,
verse 6 Y weddw, a'r dieithr a laddant,
lliasant yr amddifad.
verse 7 Dwedasant hyn heb geisio cel,
ein gwaith ni wel yr Arglwydd,
Ac ni ddeall Duw Iago hyn,
ynny ni ddisgyn aflwydd.
verse 8 Ymysg y bobloedd difraw don,
ystyriwch ddynion angall,
Chwithau ynfydion, o ba bryd
y rhowch eich bryd ar ddeall?
verse 9 Hwn a wnaeth y glust i bob byw,
oni chlyw ef yn amlwg?
Ac oni wyl hwnnw yn hawdd
a luniawdd i ni olwg?
verse 10 Oni cherydda hwnnw chwi
sy'n cosbi pob cenhedlaeth?
Ac oni wyr hwnnw y sy'n
dysgu i ddyn wybodaeth?
verse 11 Gwyr yr Arglwydd feddyliau dyn
mai gwagedd ydyn diffaith,
verse 12 Duw, dedwydd yw a gosbech di,
a'i fforddi yn dy gyfraith:
verse 13 Yr hon a ddysg i ddyn warhau,
i fwrw dyddiau dihir,
Tra foer yn darparu y clawdd,
y fan y bawdd yr enwir.
verse 14 Cans ein Ior ni ei bobl ni âd,
a'i wir dretâd ni wrthyd,
verse 15 Ef at iawn farn a gadarnhâ,
a phob dyn da a'i dilyd.
verse 16 Pwy a gyfyd gyda myfi,
yn erbyn egni trowsedd?
Pa rai a safant ar fy nhu
yn erbyn llu anwiredd?
verse 17 Oni bai fod Duw imi yn borth,
ac ystyn cymorth imi,
Braidd fu na ddaethai ym' y loes
a roesai f'oes i dewi.
verse 18 Pan fawn yn cwyno dan drymhau,
rhag bod i'm camrau lithro.
Fy Arglwydd, o'th drugaredd drud,
di a'm cynhelud yno.
verse 19 Pan fo ynof' amlaf yn gwau,
bob rhyw feddyliau trymion,
Doe dy ddiddanwch di ar dro,
i gysuro fy nghalon.
verse 20 A oes gyfeillach i ti Dduw,
a maint yr annuwolion?
Hwn a lunia enwiredd maith
yn lle y gyfraith vnion.
verse 21 Y rhai fy'n ymdyrru ynghyd,
ar fryd dwyn oes y cyfion:
Ac yn eu cyngor yr ymwnaed
i geisio gwaed y gwirion.
verse 22 Ond yr vnic Ior sydd er hyn,
yn llwyr amdiffyn f' enaid:
Efe yw fy nerth o'm hol a'm blaen,
a seilfaen fy ymddiriaid.
verse 23 Efe a dâl i bob dyn drwg,
yn amlwg am ei gamwedd:
Y maleisus tyn Duw o'r byd,
am ei chwyd o enwiredd.
Ʋenite exultemus. Psal. xcv.
Y mae'n annog i foli Duw am lywodraethu y byd, a dewis yr eglwys: ac i ochel cyfeilorni ein tadau, y rhai am demptio Duw, ni chawsant ddyfod i dir y bywyd.
O Dowch a chanwn i'r Arglwydd,
efe yw llwydd ein bywyd:
Ac ymlawenhawn yn ei nerth,
ef yw ein prydferth iechyd.
verse 2 O down yn vn-fryd gar ei fron,
â chalon bur ddiolchgar:
Bryssiwn at Dduw dan lawenhau,
a chanwn psalmau'n llafar.
verse 3 Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,
y sy Dduw mawr yn ddiau:
Tywysog mawr yw ef mewn trin,
a brenin yr holl dduwiau.
verse 4 Efe biau holl ddaiar gron,
a'r dyfnder eigion danaw:
Vchelder hefyd, eithafoedd,
mynyddoedd sydd yn eiddaw.
verse 5 Ef biau'r moroedd vwch pob traeth,
ac ef a'i gwnaeth i ruo:
Ei ddwylaw ffurfiasant yn wir
y sych-dir ac sydd yntho.
verse 6 O dowch, addolwn, cyd-ymgrymmwn,
ac ymostyngwn iddaw:
Ef yw ein Arglwydd vn-ben rhi',
ef a'n gwnaeth ni
â 'i ddwylaw.
verse 7 Cans ef i ni y sydd Dduw da,
a phobl ei borfa ydym:
A'r ddefaid ym, os chwi a glyw
ei air ef heddyw'n gyflym.
verse 8 Meddyliwch fod eich bai ar lled,
na fyddwch galed galon:
Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,
lle y cofir bod ymryson.
verse 9 Y lle temtiodd eich tadau fi,
a'm profi i'm adnabod:
Faint ydoedd y gweithredoedd mau,
yn ddiau cawsant wybod.
verse 10 Dros ddeugain mlynedd
â'r llin hon
drwy fawr ymryson, dwedais,
Pobloedd ynt cyfeiliornus iawn,
a'i calon yn llawn malais.
Cans nid awaenent y ffyrdd mau,
onid amlhau eu tuchan:
verse 11 Wrthynt i'm llid y tyngais hyn,
na ddelyn i'm gorphwysfan.
Cantate Domi. Psal. xcvi.
Cyngor i bob cenhedlaeth i foli Duw am ei drugaredd.
O Cenwch glod ir'Arglwydd mâd,
a moeswch ganiad newydd:
Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,
yr Arglwydd nefawl beunydd.
verse 2 Cenwch chwi glod i'r Arglwydd nef,
a'i enw ef bendigwch,
A'i iechydwriaeth drwy grefydd,
o ddydd i ddydd cyhoeddwch.
verse 3 Datcenwch byth ei glod a'i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd,
A'i ryfeddodau ef ym mhlith,
pob amryw, amrith bobloedd.
verse 4 Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr,
a rhagawr canmoladwy,
Vwch yr holl dduwiau y mae ef,
yn frenin nef ofnadwy.
verse 5 Duwiau y bobl enlynnod ynt,
ni ellynt mwy na chysgod:
A'n Duw ni a wnaeth nef a llawr,
fal dyna ragawr gormod.
verse 6 Cans mawr ydyw gogoniant nef,
ac o'i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gyssegr ef y mae nerth,
a phrydferth yw'r hyfrydwch.
verse 7 Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i'r Arglwydd,
I'r Arglwydd rhowch ogonedd fry,
a nerth, a hynny 'n ebrwydd.
verse 8 Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwydd nef byth bythoedd,
A bwyd offrwm iddo a rowch,
a chwi dowch iw gynteddoedd.
verse 9 Addolwch f'Arglwydd gar ei fron
iw gyssegr, digon gweddol:
A'r ddaiar rhagddo, hyd, a lled,
dychryned yn aruthrol.
verse 10 I'r holl genhedloedd dwedwch hyn
yr Arglwydd sy'n tyrnasu:
Nid ysgog y byd sy'n sicr iawn,
ef a wyr vniawn farnu.
verse 11 O llawenhaed nefolaidd do,
i'r ddaiar bo gorfoledd:
Rhued y mor a'i donnau llawn,
a'r pysg sy' mewn ei annedd.
verse 12 A gorfoledded y maes glâs,
ei dwf, a'i addas ffyniant:
A phob pren gwyrdd sydd yn y coed,
i'r Arglwydd rhoed ogoniant.
verse 13 Am ei ddyfod, am ei ddyfod,
a'i farn sydd hynod iownwedd:
Barna yn gyfion yr holl fyd,
a'r bobl,
â'i gyd-wirionedd.
Dominus reg
[...] Psal. xcvij.
Dafydd yn cynghori pawb i lawenychu am ddyfod teyrnas Christ, yn ofnadwy i'r anwir,
[...]n llawenydd i'r cyfion.
YR Arglw
[...]d ydyw ein pen rhaith,
bo per
[...]ith y ddaiaren:
Ynysoedd cedyrn yr holl fyd,
bont hwy i gyd yn llawen.
verse 2 Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,
hyfrydwch nef gyfannedd:
Iawnder a barn ydynt yn sail,
ac adail maingc ei orsedd.
verse 3 Tân
â o'i flaen ef, ac a lysg
ym mysg ei holl elynion:
verse 4 A'i fellt yn fflamio trwy 'r holl fyd,
oedd olwg enbyd ddigon.
verse 5 O flaen Duw, fel y tawdd y cwyr,
y bryniau'n llwyr a doddent:
O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ar
y ddaiar y diflannent.
verse 6 Yr holl nefoedd yn dra hysbys
a ddengys ei gyfiownedd,
A'r holl genhedloedd a welsant
ei fawr ogoniant rhyfedd.
verse 7 Gwradwydd i'r rhai a wasnaethan
y delwau mân cerfiedig:
Addolwch ef (nid
[...]ulun cau)
holl dduwiau dar
[...]odedig.
verse 8 Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)
a glybu Sion ddedwydd:
Merched Iuda (o herwydd hyn)
sy'n ynnyn o lawennydd.
verse 9 Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,
oruchaf dros y ddaiar:
Rhagorol yw'r derchafiad tau
vwchlaw'r holl dduwiau twyllgar.
verse 10 Pob drygioni chwi a gasewch,
caru a wnewch yr Arglwydd,
Hwn sydd yn cadw oes ei Sainct,
i'w dwyn o ddryg fraint afrwydd.
verse 11 Mewn daiar yr egina 'i hâd,
golenad daw i'r cyfion,
Yn ol tristwch fo dry y rhod,
i lân gydwybod vnion.
verse 12 Yn yr Arglwydd, o'r achos hon,
chwi gyfion llawenychwch,
Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,
â llais hyd nef moliennwch.
Cantate Domino. Psal. xcviij.
Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a'i drugaredd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy'r hwn y mae ein cadwedigaeth ni.
CEnwch i'r Arglwydd newydd gân,
ei waith fu lân ryfeddod:
Ei law ddeau a'i fraich a wnaeth,
in iechydwriaeth parod.
verse 2 Yr Arglwydd hysbys in' y gwnaeth
ei iechydwriaeth gyhoedd,
A'i gyfiownder ef yn dra hawdd
datguddiawdd i'r cenhedloedd.
verse 3 Fe gofiodd ei drugaredd hir,
a'i wir i dy Israel,
Fel y gwelodd terfynau'r byd
ei iechyd yn ddiymgel.
verse 4 I'r Arglwydd
â chaniad llafar,
chwi yr holl ddaiar cenwch,
A llafar lais, ac eglur lef,
fry hyd y nef y lleisiwch.
verse 5 Cenwch i'r Arglwydd Dduw fal hyn
â'r delyn, a chywirdant:
A chydâ'r delyn lais a thon,
rhowch iddo gyson foliant.
verse 6 Canu yn llafar ac yn rhwydd,
o flaen yr Arglwydd frenin:
Ar yr vccyrn, a'r chwythgyrn pres,
fal dyna gyffes ddibrin.
verse 7 A rhued y mor mawr i gyd,
a'r byd, ac oll sydd ynthynt,
verse 8 Y llifddyfroedd, a'r mynyddoedd,
y mae yn addas iddynt.
verse 9 Curant, canant, o flaen Duw cu,
yr hwn sy'n barnu'r bydoedd.
I'r byd y rhydd ei farn yn iawn,
ac yn vniawn i'r bobloedd.
Dominus regnauit. Psal. xcix.
Mawl teyrnas Christ, dros yr Iddewon a'r cenhedloedd: gan eu hannog i foli ac i wasanaethu Duw, ac i weddio arno.
YR Arglwydd Dduw yw ein brenin,
er maint yw trin y bobloedd:
Mae'n eistedd rhwng dau gerubyn,
fe gryn' pob daiar leoedd.
verse 2 Canys brenin mawr ydyw'r Ion
yn Seion o'i dderchafel:
Ac vwchlaw pobloedd yr holl fyd,
y sydd o rydyd vchel.
verse 3 Cydfoliannant o'r nef i'r llawr,
dy enw mawr rhagorol:
Ofnadwy, sanctaidd, yw i'w drin.
verse 4 Tithau (o frenin nerthol)
[...] geri farn, darperi iawn:
yn gyfiawn heb draws-osgo,
A barnedigaeth bur ddidost,
a wnaethost di yn Iago'.
verse 5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw,
sef sanctaidd yw i'w fawredd:
Ymgrymmwch o flaen ei stol draed,
felly parhaed ei fowledd.
verse 6 Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,
ymhlith offeiriaid gyrrodd:
Samuel galwai ei enw ef,
yntau o'r nef attebodd.
verse 7 Mewn colofn o niwl y bu wiw,
gan Dduw lefaru wrthynt,
Tra fuant hwy yn cadw ei fodd,
a'r ddeddf a roddodd iddynt.
verse 8 Gwrandewaist arnynt, dodaist ged,
a'i harbed, gan ymattal:
Duw ein Nâf, dy nawdd parod fu,
a hwythau'n haeddu dial.
verse 9 Derchefwch ein Duw Ior am hyn,
yn Sion fryn cyssegraidd,
Ymgrymmwch iddo yn eich byw,
sef vnig Dduw sydd sanctaidd.
Iubilate Deo. Psal. c.
Mae yn cynghori pob dyn i wasanaethu yr Arglwydd, ac i fyned iw gynnulleidfa i'w foli.
[...]
I'R Arglwydd cenwch lafar glod,
[...] a gwnewch vfydd-dod llawen fryd,
[...]
verse 2 Dowch o flaen Duw a pheraidd don,
[...] trigolion y ddaear i gyd.
verse 3 Gwybyddwch mai'r Arglwydd sydd Dduw,
a'n gwnaeth ni'n fyw fel hyn i fod,
Nid ni'n hunain, ei bobl ym ni,
a defaid rhi' ei borfa a'i nod.
verse 4 O ewch i'w byrth a diolch brau,
yn ei gynteddau molwch ef,
Bendithiwch enw Duw hynod,
rhowch iddo glod drwy lafar lef.
verse 5 Cans da yw'r Arglwydd, awdur hedd,
da ei drugaredd a di lyth,
A'i wirionedd ini a roes,
o oes, i oes, a bery byth.
Misericordiam. Psal. ci.
Dafydd yn dangos trefn a rheol ei dy: sef yn gyrru ymaith y rhai drwg, ac yn mawrygu y da.
DAtcanaf drugaredd a barn,
i'r Arglwydd cadarn canaf.
verse 2 Byddaf ddeallus mewn ffordd wych,
hyd oni ddelych attaf.
Arhodiaf yn fy nhy yn rhwydd,
a thrwy berffeithrwydd calon.
verse 3 Pob peth drwg sydd gennif' yn gâs,
a childyn ddyrras ddynion.
verse 4 Calon gyndyn ynof ni bydd,
drwg weithydd ni'dnabyddaf.
verse 5 Sclandrwr dirgel, a'r balch vchel
o'r achos ni oddefaf.
verse 6 Ar ffyddloniaid mae 'ngolwg i,
fe lyn y rhei'ni wrthy':
verse 7 A'r hwn a rodio mewn ffordd dda,
hwn a wasnaetha ymmy.
verse 8 Ni chaiff aros o fewn fy nhy,
vn dyn ac fy dwyllodrus,
Yn fy ngolwg vn dyn ni bydd,
a lunio gelwydd trefnus.
verse 9 Holl annuwiolion fy ngwlâd faith,
yn forau ymaith torraf:
Fel da ddelont i ddinas Dduw,
y cyfryw a ddiwreiddiaf.
Domine exaudi. Psal. cij.
Gweddi y ffyddloniaid yn amser caethiwed Babel.
O Arglwydd, erglyw fy ngweddi,
a doed fy nghri hyd attad:
verse 2 Na chudd d'wyneb mewn ing tra fwyf,
clyw, clyw, pan alwyf arnad.
verse 3 Fy nyddiau aethant fel y mwg,
sef cynddrwg im cystuddiwyd:
Fy esgyrn poethant achos hyn,
fal tewyn ar yr aelwyd.
verse 4 Fy nghalon trawyd
â chryn iâs,
ac fel y gwelltglas gwywddd;
Fel yr anghofiais fwyta' mwyd
dirmygwyd fi yn ormodd.
verse 5 Glynodd fy esgyrn wrth sy nghroen,
gan faint fy mhoen a'm tuchan.
verse 6 Fel vn o'r anialwch, lle y trig
y pelig, neu'r dylluan.
verse 7 Neu fel vn o adar y to,
a fai yn gwilio 'i fywyd,
Yn rhodio 'n vnic ben y ty:
wyf anhy ac anhyfryd.
verse 8 Fy ngelynion
â thafod rhydd,
hwy beunydd a'm difenwant:
A than ynfydu yn ei gwyn,
i'm herbyn y tyngasant.
verse 9 Fel llwch a lludw yn fy mhla,
fu'r bara a fwyteais:
Yr vn wedd yn y ddiod fau
fy nagrau a gymysgais.
verse 10 A hyn fu o'th ddigofaint di,
am yt' fy nghodi vnwaith:
Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,
i'r llawr i'm teflaist eilwaith.
verse 11 Fy nyddiau troesant ar y rhod,
ac fel y cysgod ciliant;
A minnau a wywais achos hyn,
fel y glaswelltyn methiant.
verse 12 Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,
a barhei yn dragwyddol,
O oes i oes dy Enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.
verse 13 O cyfod bellach trugarhâ,
o Dduw bydd dda wrth Sion:
Mae 'n fadws wrthi drugarhau,
fel dyma 'r nodau 'n vnion:
verse 14 Cans hoff iawn gan dy weision di,
ci meini a'i magwyrau,
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
a'i thristwch, a'i thrallodau.
verse 15 Yno yr holl genhedloedd byw
yr Arglwydd Dduw a ofnant,
A'r holl frenhionedd trwy y byd,
a ront yt gyd-ogoniant.
verse 16 Pan adeileder Sion wych,
a hon yn ddrych i'r gwledydd;
Pan weler gwaith yr Arglwydd ne',
y molir e 'n dragywydd.
verse 17 Edrychodd hwn ar weddi'r gwael,
rhoes iddynt gael ei harchau:
verse 18 Scrifennir hyn: a'r oes yn ol
a gaiff ei ganmol yntau.
verse 19 Cans Duw edrychodd o'r nef fry,
ar ei gyssegrdy, Sion:
verse 20 Clybu ei griddfan, er rhyddhau
plant angau 'i garcharorion.
verse 21 Fel y cydleisient hwy ar gân,
yn Seion lân, ei foliant;
Ac ynghaer-Salem yr vn wedd,
ei fowredd a'i ogoniant.
verse 22 Hyn fydd pan gasglo pawb ynghyd,
yn vnfryd iw foliannu:
A'r holl dyrnasoedd dont yngwydd
yr Arglwydd, iw wasnaethu.
verse 23 Duw ar y ffordd lleihâdd fy nerth,
byrrhâdd fy mrhydferth ddyddiau,
A mi'n disgwyl rhyddhâd ar gais,
verse 24 yno y dywedais innau;
O Dduw na thorr fy oes yn frau,
ynghanol dyddiau f'oedran:
Dy flynyddoedd di sydd erioed,
o oed i oed y byddan.
verse 25 Di yn y dechrau dodaist sail,
odd' isod adail daiar:
A chwmpas wybren vwch ein llaw,
yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.
verse 26 Darfyddant hwy, parhei di byth,
treuliant fel llyth trwssiadau.
verse 27 Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant
felly newidiant hwythau:
Tithau Arglwydd, yr vn wyt ti,
a'th flwyddau ni ddarfyddant.
verse 28 Holl blant dy weision gar dy fron,
a'i hwyrion a bresswyliant.
Benedic anima. Psal. ciij.
Y mae'n cynghori pob creadur i foli yr Arglwydd am ei aneirif drugareddau, a'i ymwared i'r ffydloniaid.
FY enaid mawl sanct Duw yr Ion,
a chwbl o'm eigion ynof.
verse 2 Fy enaid n'âd fawl f'Arglwydd nef,
na'i ddoniau ef yn angof.
verse 3 Yr hwn sy'n maddau dy holl ddrwg,
yr hwn a'th ddwg o'th lesgedd;
verse 4 Yr hwn a weryd d'oes yn llon,
drwy goron o'i drugaredd.
verse 5 Hwn a ddiwalla d'enau di
â'i lawn ddaioni pybyr:
Drwy adnewyddu yt' dy nerth,
mor brydferth a'r hen eryr.
verse 6 Yr Ion cyfiawnder, barn a wnai
i'r rhai sydd orthrymedig.
verse 7 Dangos a wnaeth ei brif-ffyrdd hen
i Foelen yn nodedig:
Ac i Israel ei holl ddawn.
verse 8 Duw llawn yw o drugaredd:
Hwyr yw ei lid, parod ei râd,
fal dyna gariad rhyfedd.
verse 9 Nid ymryson ef
â ni byth,
nid beunydd chwyth digofaint,
verse 10 Nid yn ol ein drygau y gwnai
â ni: ni'n cosbai cymmaint.
verse 11 Cyhyd ac yw'r ffurfafen fawr
oddi ar y llawr o vchder,
Cymaint i'r rhai a'i hofnant ef,
fydd nawdd Duw nef bob amser.
verse 12 Os pell yw'r dwyrain olau hin
oddiwrth orllewin fachlud;
Cyn belled ein holl bechod llym,
oddiwrthym ef a'i symmud.
verse 13 Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwaut
tâd da iw blant naturiol,
Felly cawn serch ein tâd o'r nef,
os ofnwn ef yn dduwiol.
verse 14 Efe a'n hedwyn ni yn llwyr,
fe wyr mai llwch yw 'n defnydd:
verse 15 Oes dyn fel gwellt-glas sy'n teghau,
neu ddail, neu
[...]odau maesydd.
verse 16 Yr hwn, cyn gynted ac y del
y gwynt
â'i awel drosodd,
A chwythir ymaith felly o'i le,
na wyddis ple y tyfodd.
verse 17 Ond graslawn drugaredd a fydd,
yn lân dragywydd feddiant,
O oes i oes heb drangc, heb drai,
gan Dduw i'r rhai ai' hofnant.
verse 18 A'i gyfiownder i blant y plant
a gadwant ei gyfammod:
O chofiant ei orchmynion ef,
mae tyrnas nef yn barod.
verse 19 Yno y mae ei orseddfa ef,
sef yn y nef tragwyddol:
A llywio y mae ef bob peth,
drwy ei frenhinieth nefol.
verse 20 Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,
angylion, a'i holl gedyrn.
Ei lân orchymmyn ef a wnewch,
a'i lais gwrandewch yn drachwyrn.
verse 21 Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner,
ei luoedd tyner tirion.
Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir,
chwychwi ei gywir weision.
verse 22 Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef,
ei hollwaith ef sy hylwydd:
Ymmhob mân oll o'i drefn a'i hawl,
O f'enaid mawl di'r Arglwydd.
Benedic anima. Psal. ciiij.
Diolch am wneuthuriad, a llywodraethiad y byd, drwy ryfedd ragluniaeth Duw.
FY enaid mola'r Arglwydd byw,
o f'Arglwydd Dduw y mawredd,
Mawr wyt, gogoniant a gai di,
ymwisgi ag anrhydedd.
verse 2 Megis ei ddillad y gwisg fo
am dano y goleuad:
Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,
yn llydan, fel llen wastad.
verse 3 Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,
gwnaeth y cymylau iddo
Yn drwn olwynog: mae ei hynt
vwch esgyll gwynt yn rhodio.
verse 4 Gwnaeth bob chwythad iddo'n gennad,
gogonedd y ffurfafen:
A'i weinidogion o fflam dân,
a wibian rhyd yr wybren.
verse 5 Cref y rhoes sail y ddaiar gron,
fel na syfl hon oddiyno:
Yr hon a bery fel y rhoes,
o oes i oes, heb siglo.
verse 6 Tydi (Dduw) a ddilledaist hon
â'r eigion yn fantellau,
Ac oni bai dy ddehau law,
ai'r deifr vwchlaw y bryniau.
verse 7 Gan dy gerydd maenthwy yn ffo,
fel pan y synio taran:
Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,
y deifr iw hol a lithran.
verse 8 Weithiau y codai'r deifr yn sryn:
weithiau fel glyn panhylent,
Lle y
[...]refnaist iddynt bannwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.
verse 9 Gosodaist derfyn lle yr arhont,
ac sel nad elont drosto:
Ac na ddelont hwy fyth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.
verse 10 Rhoes Duw ffynnon i bob afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhed y ff
[...]ydau rhyd y glynu,
a rhwng pob bryn a'i gilydd.
verse 11 Yfant yno anfeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon.
verse 12 Ac adar awyr dont gar llaw,
i leisiaw rhwng y coedydd:
Yn canu ei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen vfydd.
verse 13 Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlych
â glaw oddiarno:
A'r gwastad tir efe a'i gwlych,
bob grwn a rhych i ffrwytho.
verse 14 Parodd i'r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliad: a'r llysiau,
Er da i ddyn: Lle rhoes o'r llawr,
ymborthiant mawr rhag angau.
verse 15 A gwin llawena calon dyn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gwr,
mewn cyflwr digonoldeb.
verse 16 Preniau 'r Arglwydd o sugn llawn,
o'i vnic ddawn y tyfan.
Sef y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e'n llawr y Liban.
verse 17 Lle y mae nythod yr adar mân,
mewn preniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn,
mae ty'r aderyn trwynhir.
verse 18 Y mynydd vchel a'r bryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wna les,
yn lloches i'r cwningod.
verse 19 Fe roes i'r lleuad i chwrs clau,
a'i chyfnewidiau hefyd:
A'r haul o amgylch y byd crwn,
fo edwyn hwn ei fachlyd.
verse 20 Tywyllwch nos a roed wrth raid,
i fwyst filiaid y coedydd.
verse 21 Y llewod rhuant am gael maeth
gan Dduw, ysclyfaeth beunydd.
verse 22 A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddel haul attyn vnwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
ac iw llochefau eilwaith.
verse 23 Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,
ac iw orchwyliaith esgyd;
Ac felly yr erys tan yr hwyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
verse 24 O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o'th synwyr berffaith dradoeth!
Gwnaethost bob peth
â doethder dawn,
a'r tir sy lawn o'th gyfoeth.
verse 25 A'r llydan for, y deifr ymmysg,
lle aml yw pysc yn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr od,
bwystfilod mawr a bychain.
verse 26 Yno yr
â y llongau glân
dros y Leuiathan heibio.
Yr hwn a osodaist di, lle y mae
yn cael ei chwrae yntho.
verse 27 Hwynt oll disgwiliant yn ei bryd
am gael oddiwrthyd horthiant:
I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,
ie am ei bywyd byddant.
verse 28 Duw, pan agorech di dy law,
oddi yno daw daioni:
Pob anifail a phob rhyw beth,
a ddaw yn ddifeth ini.
verse 29 Pan guddiech di dy wyneb pryd,
a chasglu d'yspryd allan,
Crynant, trengant, ac ant iw llwch,
mewn diwedd trwch a thwrstan,
verse 30 Duw, pan ollyngech di dy râd,
fel rhoddi cread newydd,
Y modd hyn wyneb yr boll dir
a adnewyddir beunydd.
verse 31 Yr Arglwydd gogoneddus fydd
drwy fawr lawenydd bythoedd.
Yr Arglwydd yn ddiau a fedd,
orfoledd yn y nefoedd.
verse 32 Ein Duw o'r nef a edrych ar
y ddayar, a hi a ddychryn.
Os cyffwrdd a'r mynyddoedd draw,
y mwg a ddaw o honyn.
verse 33 Canaf i'r Arglwydd yn fy myw,
canaf i'm Duw tra fythwyf:
verse 34 Mi a lawenhaf yn fy Ion,
bydd ffyddlon hyn a wnelwyf.
verse 35 Y trawsion oll o'r tir ânt hwy,
ni bydd mwy annuwolion.
Fy enaid, mola Dduw yn rhodd:
mae hyn wrth fodd fy nghalon.
Confitemini Domino. Psal. cv.
Mae fe yn canmol daioni Duw, am ei dewis hwy yn bobl iddo, gan wneuthur iddynt ddaioni er mwyn ei addewid.
CLodfored pawb yr Arglwydd nef,
ar ei enw ef y gelwch,
A'i weithredoedd ymmysc pobloedd,
yn gyhoedd a synegwch.
verse 2 Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a'i ddidwn ryfeddodau.
verse 3 Y rhai a gais ei enw, (y Sant)
llawenant yn eu c'lonnau.
verse 4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth mawr,
a'i fodd bob awr yn rhadlon,
verse 5 Cofiwch ei holl ryfeddodau,
a barn ei enau cyfion.
verse 6 O hâd Abraham ei wâs fo,
o feibion Iaco 'r ethol:
verse 7 Ef yw'n Duw, a'i farn ef aeth
dros holl diriogaeth fydol.
verse 8 Bob amser cofiodd ei gyn-grair,
ei air, a'i rwym ammodau
verse 9 Ag Abraham, Isaac, a'i hil,
a mil o genedlaethau.
verse 10 Fe roes i Iaco hyn yn ddeddf,
ac yn rwym greddf dragwyddol.
verse 11 Ac i Israel y rhoes lân
wlâd Canan yn gartrefol.
verse 12 Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,
a hwy 'n ddieithriaid ynddi;
verse 13 Ac yn rhodio o'r wlâd i'r llall,
yn dioddef gwall a chyni:
verse 14 Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o'r achos hyn brenhinoedd
A geryddodd ef yn eu plaid:
a'i air a gaid yn gyhoedd,
verse 15 A'm eneiniog na chyffyrddwch;
na ddrygwch fy mrhophwydi.
verse 16 Galwodd am newyn ar y tir,
yn wir dug fara' honi.
verse 17 O flaen ei biant y gyrrodd râs,
Ioseph yn wâs a werthwyd.
verse 18 Ar ei draed y rhoed hayarn tynn,
mewn gefyn y cystuddiwyd.
verse 19 Gwisgodd y gefyn hyd y byw,
nes i air Duw amseru:
Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,
a phrifiad er ei garu.
verse 20 Yna y gyrrwyd iw gyrchu fo
gar bron hen Pharo frenin:
Ac y gollyngwyd ef ar lled,
o'i gam gaethiwed ryflin.
verse 21 O hyn ei osod ef a wnaeth
yn bennaeth ar ei deuly,
Ac o'i holl gyfoeth ef a'i wlâd,
ys da fawr-hâd oedd hynny.
verse 22 I ddyscu'i reolwyr ei lys,
ei wllys a'i foddlondeb:
I fforddio henuriaid y wlâd,
yn wastad mewn doethineb.
verse 23 Daeth Israel i'r Aipht tir Cham,
lle'r oedd yn ddinam estron;
verse 24 Lle llwyddodd Duw hil Iaco bach
yn amlach nâ'i caseion.
verse 25 Yna y troes ei calon gau,
i lwyr gasau ei bobloedd:
Iw weision ef i wneuthur twyll,
a llid (nid amwyll) ydoedd.
verse 26 Duw gyrrodd Foesen ei was hen,
ac Aron llen dewisol.
verse 27 Yn nhir Ham i arwyddoccau
ei nerth a'i wrthiau nodol.
verse 28 Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,
er hyn ni châd vfydd-dod.
verse 29 Eu dyfroedd oll a droed yn waed,
a lladd a wnaed eu pysgod.
verse 30 Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,
yn stefyll ei brenhinoedd:
verse 31 Daeth ar ei air wybed a llau,
yn holl fannau eu tiroedd.
verse 32 Fe lawiodd arnynt genllysc mân,
a'i tir
â thân a ysodd;
verse 33 Eu gwinwydd a'i ffigyswydd mâd,
a choed y wlâd a ddrylliodd.
verse 34 Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,
yn difa cnwd eu meusydd,
verse 35 Vwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,
a hyn drwy air Duw ddofydd.
verse 36 Cyntaf-anedig pob pen llwyth,
a'i blaenffrwyth ef a drawodd;
Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,
a'i bobl o'i râs a gadwodd:
verse 37 Ar a'i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,
o'winedd eu caseion,
Heb fod o honynt vn yn wan,
ac aur ac arian ddigon.
verse 38 A llawen fu gan wyr y wlad,
o'r Aipht pan gâd eu gwared.
Daeth arnynt arswyd y llaw gref
a ddaeth o'r nef i wared.
verse 39 Rhoes Duw y dydd gwmwl vwchben,
fel mantell wen y toodd,
A'r nos goleuodd hwynt
â thân,
fal hyn yn lân y twysodd.
verse 40 Fo a roes iddynt ar y gair
gig sofli-air iw bodloni:
A bara, o'i orchymmyn ef,
a ddaeth o'r nef iw porthi.
verse 41 Holltodd y graig, daeth deifr yn llif,
fel be baent brif afonydd:
Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlych
rhyd pob lle sych o'r gwledydd.
verse 42 Cofio a wnaeth ei air a'i râs,
i Abram ei wâs ffyddlon.
verse 43 A thrwy fawr nerth yn rhydd o gaeth
y gwnaeth ei ddewisolion.
verse 44 Tir y cenhedloedd iddynt rhoes,
a'i llafur troes iw meddiant:
verse 45 Er cadw ei air a'i gyfraith ef,
rhowch hyd y nef ei foliant.
Confitemini Domino. Psal. cvi.
Y bobl (wedi i tanu dan Antiochus) yn datcan daioni Duw i'r edifeiriol, ac yn dymuno ar Dduw eu casglu ynghyd, er mwyn ei enw.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd:
O blegyd ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
verse 2 Yr Arglwydd pwy all draethu ei nerth
a'i holl dirionferth foliant?
verse 3 A wnel gyfiownder gwyn eu byd,
ei farn i gyd a gadwant.
verse 4 O Arglwydd, cofia fi dy wâs,
yn ol dy râs i'r eiddod:
Ymwel
â mi i'm cystudd caeth,
â'th iechydwriaeth barod.
verse 5 Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,
wych vrddas d'etifeddaeth.
Ac y cydganwyf fawl vn don,
a'th ddewisolion odiaeth.
verse 6 Pechod, camwedd, ac annoethedd,
gwnaethom gyda'n tadau:
Efa gaed arnom ormod gwall,
heb ddeall dy fawr wyrthiau.
verse 7 Yngwlâd yr Aipht wrth y mor coch,
yn gyndyn groch anufydd:
Heb gofio amled su dy râs
haeddasom atgas gerydd.
verse 8 Etto er mwyn ei enw ei hun,
Duw cun a ddaeth i'n gwared:
I ber
[...] i'r byd gydnabod hyn,
ei sod ef cyn gadarned.
verse 9 Y
[...]yfnfor coch a'i ddyfrllyd wlych,
a wnaeth e'n sych
â'i gerydd:
Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,
fel mynd rhyd ystlys mynydd.
verse 10 Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,
o ddwylaw eu caseion:
Ac y tywysodd ef ei blant
o feddiant eu gelynion.
verse 11 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,
nid oedd vn byw heb foddi:
verse 12 Yna y credent iw air ef,
a'i gerdd hyd nef ai 'n wisgi.
verse 13 Er hyn, tros gof mewn amser byrr,
y rhoent ei bybyr wrthiau:
Heb sefyll wrth air vn Duw Ior,
na'i gyngor, na'i ammodau.
verse 14 Ond cododd arnynt chwant a blys,
yn nyrys yr anialwch:
Gan demptio Duw
â rheibus fol,
ynghanol y diffeithwch.
verse 15 Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,
rhoes an-nhycciannys aflwydd.
verse 16 Lle digient Foses wrth eu chwant,
ac Aron Sant yr Arglwydd:
verse 17 Egorai 'r ddayar yn y man,
a llyngcai Ddathan ddybryd;
Ac a gynhullodd i'r vn llam,
holl lu Abiram hefyd.
verse 18 Ac yn ei ddig enynnodd tân,
yn fuan yn eu canol:
Llosgi y rhai'n, eu terfyn fu,
yn vlw, y llu annulwion.
verse 19 Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun llo
ac iddo ymgrymmasant:
verse 20 I lun llo a borai wellt mân,
y troesan eu gogoniant.
verse 21 Anghofient wrthiau Duw ar hynt,
(a fuasai gynt achubwr.
Yngwlâd yr Aipht.
22. Mor coch, tir Ham,
heb feddwl am eu cyflwr.
verse 23 Dwedodd mai eu difetha wnai
oni bai iw was Moesen
Drwy sefyll o'i blaen iw lid maith
droi ymaith eu drwg ddilen.
verse 24 Dirmygent hwy y prydferth dir,
ac iw air gwir ni chredent:
verse 25 Ond yn eu pebyll grwgnach tro,
ac arno ni wrandawent.
verse 26 Yno y derchafodd Duw ei law,
iw cwympiaw dwy'r anialwch:
verse 27 Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,
iw tanu mewn distyrwch.
verse 28 A Baal Peor aent ynghyd,
ymgredu i gyd ag efo:
Ebyrth y meirwon a fwytent,
a Duw a roddent heibio.
verse 29 Fal hyn digiasant f'Arglwydd Dduw
â chyfryw goeg ddychmygion:
Yntau anfonodd bla'n eu mysg,
fal dynaderfysg greulon.
verse 30 Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wres i ddial:
A phan roes hwn ei farn yn dda,
Duw ar y pla rhoes attal.
verse 31 A chyfrifwyd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes, i oes (drwy air Duw Ion)
pan ddelai son am dano.
verse 32 Ac wrth lan dwfr M
[...]ib
[...]ah gynt,
yno 'y cyffroynt
[...]
Lle'y digient Dduw
â'r
[...] ffraeth,
am hyn bu'n waeth i Foesen.
verse 33 Wrth gythruddo yspryd y Sanct,
hwy a barasant hefyd
Iw enau draethu gair ar fai,
ar na pherthynai'i ddwedyd.
verse 34 Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,
verse 35 Ond ymgymyscu
â hwynt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.
verse 36 Gwasanaethu eu duwiau gau,
y rhai fu faglau iddyn.
verse 37 Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferch,
o serch i'r cythraul eulyn.
verse 38 A thywall tasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tir (wrth aberthu eu plant)
â gwaed llygrasant weithian.
verse 39 Felly o'i gweithredoedd eu hun,
yn vn ymhalogasant.
Put teinio wrth ei cwrs a'i bryd,
ac felly cyd-lygrasant.
verse 40 Wrthynt enynnodd Duw mewn dig
am hyn
â ffyrnig gyffro.
Câs a ffiaidd felly yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.
verse 41 O'r achos hyn eu rhoddi a wnaeth
dan bob cenhedlaeth gyndyn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a'i câs yn feistraid arnyn.
verse 42 Eu gelynion aethant yn ffrom,
a'i llaw fu droma ffyrnig,
Felly y darostyng wyd hwy,
a mwyfwy fu eu dirmig.
verse 43 Mynych-waredodd Duw ei blant,
hwy a'i digiasant yntau
A'i cwrs eu hun: daeth cystudd hir
am waith eu henwir feiau.
verse 44 Pan welai arnyn ing na thrais,
fo glywai lais eu gweddi,
verse 45 Gan gofio'i air troi nawdd a wnaeth
o'i helaeth fawr ddaioni.
verse 46 A throi yn drugarog a wnaeth,
y gwyr yn gaeth a'i cludynt,
Y rhai y buasai 'n fawr eu câs:
cael mwy cymwynas ganthynt.
verse 47 Achub ninnau o blith y rhai'n,
i arwain d'enw hyglod,
O Arglwydd Dduw, cymell ni'n gu
i orfoleddu ynod.
verse 48 Duw Israel bendigaid fydd,
yn dragywydd Iehoua:
A dweded yr holl bobl Amen,
molwch Dduw llen gorucha'.
Confitemini Domino. Psalm. cvij.
Dafydd yn cynghori y rhai a gasglodd, ac a waredodd Duw i ddiolch iddo. Yr hwn (gan roi daioni i'r cyfion) sydd yn cau safn yr enwir.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw ein llywydd,
O blegid ei durgaredd fry
a bery yn dragywydd.
verse 2 Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
Y sawl a' achubwyd, caned hyn,
o law y gelyn creulon.
verse 3 A gasglodd o bedwar-ban byd,
dowch chwi i gyd-ganeuau.
O dir y dwyrain dowch mewn hedd,
gorllewin, gogledd, deau.
verse 4 Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,
y buasent gynt yn crwydro
Allan o'r ffordd: heb dref na llan,
lle caent hwy fan i drigo.
verse 5 Drwy newyn, syched bu 'rdaith hon,
a'i calon ar lewygu:
verse 6 Ar Dduw y galwent y pryd hyn,
pan oeddyn ymron trengu.
Yna eu gwared hwynt a wnaeth,
o'i holl orthrym-gaeth foddion.
verse 7 Rhyd yr iawn ffordd fe'i dug mewn hedd,
i dref gyfannedd dirion.
verse 8 Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac er plant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau:
verse 9 Ddiwallu honaw einioes dyn,
rhag newyn a rhag syched:
Ac o'i fawr râs eu cadw i gyd,
pan oedd y byd yn galed.
verse 10 Y rhai mewn tywyllwch a drig,
ynghysgod llewig angau,
Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,
a heyrn ar eu sodlau.
verse 11 A hyn o herwydd iddynt fod,
mewn anufydd-dod eithaf,
Allwyr ddirmygu gair Duw Ior,
a chyngor y Goruchaf.
verse 12 A thrymder calon cwympiwyd hwy,
nid oedd neb mwy a'i cododd.
verse 13 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
ac yntef a'i gwaredodd.
verse 14 Ef a'i gwaredodd hwynt o'i drwg,
sef o dywyllwg caeth-glud,
O gysgod angau eu rhyddhau,
a thorri eu rhwymau hefud.
verse 15 Addefent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
verse 16 Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrn
a'r barriau heyrn hefyd:
verse 17 Am eu bai a'i camwedd yn wir,
y poenir y rhai ynfyd.
verse 18 A hwynt yn laru ar bob bwyd,
fe'i dygwyd at byrth augan.
verse 19 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
achubodd ef hwynt hwythau,
verse 20 Gan yrru ei air iw iachau,
ac iw rhyddhau yn fuan,
A hwynt
â'i air tynnu a wnaeth
o'i methedigaeth allan.
verse 21 Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
verse 22 Aberthant hefyd aberth mawl,
iw ogeneddawl fowredd,
A mynegant ei waith a'i wyrth,
yn ei byrth mewn gorfoledd.
verse 23 Y rhai ânt mewn llongau i'r don,
a'i taith vwch mawrion ddyfroedd,
verse 24 A welsant ryfeddodau'r Ion,
a hyn mewn eigion moroedd.
verse 25 A'i air cyffroe dymestloedd gwynt,
y rhai'n a gody
[...]t d
[...]nnau
verse 26 Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,
ac ofn bob awr rhag angau.
verse 27 Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,
dull meddwyn, synnai arnynt.
verse 28 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
daeth ef a chymorth iddynt.
verse 29 Gwnaeth e'r yfform yn dawel deg,
a'r tonnau'n osteg gwastad.
verse 30 Yn llawen ddistaw doen i'r lan,
i'r man y bai'i dymuniad.
verse 31 Cyffesent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
verse 32 Hol gynulleidfa ei bobl ef,
clod Duw hyd nef dyrchafant:
Holl eisteddfeydd pennaethiaid hen,
yn llawen a'i moliannant.
verse 33 Y ffrydau'n ddyrys dir a wnai,
fe sychai ddwfr lle tarddo.
verse 34 A thir ffrwythlawn a wnai 'n ddiffrwyth,
lle trig drwg dylwyth yntho.
verse 35 Troes yr anialwch yn llyn glâs,
a'r tir cras yn ffynhonnydd.
verse 36 Lle y gwnai ef drigfan i'r gwael ddyn,
i dorri ei newyn beunydd.
verse 37 Lle yr hauasant faesydd glân,
a llawer gwinllan dyner,
Y rhai a roddant lawnder ffrwyth,
a chnydlwyth yn ei amser.
verse 38 Cans cynyddasant hwy gan wlith
grasol fendith vn Duw cun,
A'i hanifeiliaid hysb a blith,
rhoes yr vn fendith arnun.
verse 39 Daeth caethder gwedi hyn i gyd,
a drygfyd er eu gostwng.
Gadawodd eu gorthrymmu a'i plau,
cawsant flinderau teilwng.
verse 40 Eu dirmyg ar y beilchion troes,
ac ef a'i rhoes i grwydro
Mewn
[...] i heb lun ffordd i'w chael,
lle buant wael eu gorthe.
verse 41 Yna rhoes y tlawd i well fri,
dug o'r trueni allan,
Ganlwyddo ei deuiu, a'i holl blaid,
fel defaid wrth y gorlan.
verse 42 Y rhai cyfiawn a welant hyn,
a chanthyn bydd yn hyfryd,
A'r en wir ceuir ei ddwy en
ar ei gynfigen fowlyd.
verse 43 Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,
fe roddir iddyn wybod
Faint yw daioni f'Arglwydd yn',
wrth hyn y cân gydnabod.
Paratum car meum. Psa. cviij.
Dafydd yn clodfori yr Arglwydd: gan ymisccrhau yn ei addewidion ef, yr hwn yn y diwedd a deifl y gelynion i'r llawr, pe rhon i ni ac ofni ddarfod iddo yn esceuluso dros amser.
PArod yw fy nghalon (o Dduw)
o parod yw fy nghalon,
Canaf yt a datcanaf wawd,
o fawl fy nhafawd ffyddlon.
verse 2 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân agoniant beunydd,
Y nabl ar delyn yn gytun,
deffrof fy hun ar las-ddydd.
verse 3 Mawl ytty f'Arglwydd, pan ddeffrof,
a rof ymmysc y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnaf,
lle amlaf y cenhedloedd.
verse 4 Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,
hyd yn nheyrnas nefoedd.
A'th wirionedd di hyd at len
yr wybren a'i therfynoedd.
verse 5 Ymddercha Dduw y nef vwchlaw,
eddiyno daw d'arwyddion.
A bydded dy ogoniant ar
y ddayar a'i thrigolion.
verse 6 Fal y gwareder drwy hon hwyl,
bob rhai o'th anwyl ddynion.
O achub hwynt
â'th law ddehau,
a gwrando finnau'n ffyddlon.
verse 7 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw sy nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
verse 8 Myfi piau y ddwy dretâd,
sef Gilead a Manasse.
Ac Ephraim yw nerth fy mhen,
a Iuda wen fy neddf-le,
verse 9 Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f'esgid
A chwardded Palestina gaeth,
ei chwerthin aeth yn rhybrid.
verse 10 Duw pwy a'm dwg i'r ddinas gref?
pwy a'm dwg i dref Edom?
verse 11 Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw, a 'mleddi drosom?
verse 12 O vnic Dduw, bydd i'n yn borth,
mae'n ofer cymorth vndyn.
verse 13 Yn Nuw y gwnawn wrolaeth fawr,
fe sathr i lawr ein gelyn.
Deus laudem. Psal. cix.
Dafydd, wedi ei gyhuddo ef ar gam gan weinieithwyr Saul, yn gweddio ar Dduw am help i ddinistrio ei elynion.
O Dduw fy moliant i na thau,
verse 2 cans genau'r annuwiolion,
A'i tafod twyllgar, a'i safn rhwth,
arnaf sy'n bygwth digon.
verse 3 Daethant i'm cyleh
â geiriau câs,
rhoent ddiflas sen anynad.
verse 4 Fal hyn i'm talent ddrwg dros dda,
verse 5 a chas a gaf am gariad,
Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,
i'm herbyn wedi codi,
Fy wyneb attad ti a drois,
ac arnat rhois fy ngweddi.
verse 6 Bid Sathan ar ei ddehau law,
i'r swydd y daw yn barod,
verse 7 A phan roer barn, yn euog boed,
a'i weddi troed yn bechod.
verse 8 Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,
a'i swydd arall iw chymryd.
verse 9 Poed yn ymddifaid y bo ei blant,
a'i weddw yn fethiant hefyd.
verse 10 A boed ei blant yn crwydro byd,
i gymryd mân gerdodau:
A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,
lle y bytho hir eu prydiau.
verse 11 Yn rhwyd y ceisiad ei dda syrth,
ei lafur pyrth ddieithriaid:
verse 12 Na ddel iddo nawdd am ei fai,
na chwaith i'w rai ymddifaid.
verse 13 Doed distryw dial ar ei hil,
a'i eppil a ddileer,
verse 14 Am bechodau ei dâd a'i fam
y caiff ef lam ryw amser.
verse 15 A bydded hyn i gyd gar bron
yr Arglwydd gyfion farnwr,
Yr hwn a'i torro, fel na bo
mwy gofio eu anghyfiwr.
verse 16 Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,
na thrugaredd i ddyn gwan,
Ond erlid tlawd ar isel radd,
a cheisio lladd y truan.
verse 17 Hoffodd felldith a hi a ddaeth,
ac fel y gwnaeth bid iddo,
Casâodd fendith, ac ni chai,
ond pell yr ai oddiwrtho.
verse 18 Gwisgodd felldith fel dillad gwr,
a daw feldwr iw galon,
Fel olew doed iw esgyrn fo,
hyd oni chaffo ddigon.
verse 19 A'r felldith bid iw gylch yn dyn,
fel yn ddilledyn iddo:
A'i gwisgo hi bid iddo 'n dasg,
fel gwregys gwasg am dano.
verse 20 A hyn gan Dduw a gaf yn dâl,
i'r gelyn gwamal enbyd,
A ddweto neu a wnelo gam,
neu niwed am fy mywyd.
verse 21 Dithau Dduw er mwyn d' enw gwna,
herwydd mai da d'ymwared;
Gwna dy drugaredd a myfi,
a bryssia di i'm gwared.
verse 22 O herwydd tlawd a rheidus wyf,
a dirfawr glwyf i'm calon,
verse 23 Symudiad cyscod a fai'n ffo,
hyn er na welo dynion:
Mor ansefydlog yw fy' stâd:
a'r mudiad geiliog rhedyn.
verse 24 Fy nghnawd yn gul, fy ngliniau'n wan
a siglan o dra newyn,
verse 25 Gwarth wyf i'm câs yn fy ngwael ddrych,
a hwynt wrth edrych arnaf
A'm distyrent dan droi tro,
a than bensiglo attaf.
verse 26 Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,
cadw fi'n fyw
â'th nodded:
verse 27 Fel y gwyper mai gwaith dy law,
yw 'r lles a ddaw i'm gwared.
verse 28 Mell dithiant nac eiriechant hwy,
dod fendith fwy i minnau,
Bid gwarth i'm gwrthwynebwyr câs,
gorfoledd i'th wâs dithau.
verse 29 A gwarth a gwradwydd gwisger hwy,
ac fwyfwy y del attynt:
A mantell laes o gwilydd mawr,
gwisg di hyd lawr am danynt.
verse 30 Ond fi, gan ddiolch i'm Ior mau,
â'm genau mawl a ganaf:
Ac a rof glod iw enw cu,
lle bytho'r llu yn amlaf.
verse 31 O herwydd ar ddeheulaw'r tlawd
y saif ddydd brawd yn gefnog;
I gadw ei enaid ef yn gu,
rhag ei farnu yn euog.
Dixit Dominus. Psal.
110.
Dafydd yn prophwydo am allu a theyrnas Christ, ac am yr offeiriadaeth a dynnai ymmaith offeiriadaeth Lefi.
DVedai'r Arglwydd wrth f'Arglwydd mau,
ar fy llaw ddeau eistedd:
Nes rhoddi' rhai a gais dy waed
yn faignc draed yt, i orwedd.
verse 2 'R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nerth
o ddinas fowrwerth Seion,
Pan lywodraethech yn eu mysg,
gwna derfysg ar d'elynion.
verse 3 Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,
ag aberth llaw'n wyllysgar,
Yn sanctaidd hardd daw'r cynnyrch tau
o wlith y borau hawddgar.
verse 4 Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,
ti sy'n offeiriad bythol,
Wrth vrdd Melchisedech odd' fry,
a bery yn dragwyddol.
verse 5 Yr Arglwydd ar dy ddehau law,
brenhinoedd draw a friwa,
Yn nydd ei ddig gwna'n archollion
trenhinoedd cryfion, med daf.
verse 6 Ar y cenedloedd rhydd farn iawn,
a'i gwlad gwna'n llawn celanedd,
A llawer pen dros wledydd mawr,
a dyrr ei lawr yn vnwedd.
verse 7 O wir frys i'r gyflafan hon,
fe yf o'r afon nesaf,
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,
a'r Arglwydd a'i derchafa.
Confitebor tibi. Psal.
111.
Y mae efe yn y psalm hon yn diolch i Dduw am ei aml weithredoedd da i'r eglwys, gan ddangos beth yw iawn ddoethineb a gwybodaeth.
CLodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o wyllys calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl.
verse 2 Mawr iawn yw gwrthiau'n Arglwydd ni
hysbys i bawb a'i hoffant.
verse 3 Ei waith a'i iownder pery byth,
a'i wehelyth ogoniant.
verse 4 Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,
am ryfeddodau nerthol.
Cans Arglwydd nawdd-fawr yw i ni,
llawn o dosturi grasol.
verse 5 Ef i bob rhai a'i hofnant ef,
rhydd gyfran gref at fywyd:
Ac yn dragywydd y myn fod
cof o'i gyfammod hefyd.
verse 6 Mynegodd ef iw bobl i gyd,
gadernyd ei weithredoedd:
A rhoddi iddynt hwy a wnaeth
'tifeddiaeth y cenhedloedd.
verse 7 Gwirionedd a barn ydyw gwaith
ei ddwy law berffaith efo;
A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,
a da y gwnawn eu gwrando.
verse 8 Y rhai'n sy gwedi eu sirrhau,
dros byth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hedd,
a thrwy wirionedd vnion.
verse 9 Anfonodd gymmorth iw bobl ef,
cyfammod gref safadw
[...],
Archodd hyn: bo iw enw fawl,
sancteiddiawl ac ofnadwy.
verse 10 Dechreuad pob doethineb ddofn
i bawb yw ofn yr Arglwydd,
Da yw deall y sawl a'i gwnai,
a'i ofn a sai'n dragywydd.
Beatus vir. Psal.
112.
Mawl dedwyddwch y rhai a ofnant Dduw. A dangos melldith iw ddirmygwyr ef.
DEdwyddol yw mewn buchedd dda,
y sawl a ofna'r Arglwydd,
A'i orchymynion anwyl ynt,
bydd iddo helynt hylwydd.
verse 2 Ei hâd fydd nerthol yn y tir,
bendithir hil rhai vnion:
verse 3 Golud chyfoeth yn ei dy,
tros byth y pery'n gyfion.
verse 4 Yr vnion yn y tywyll cau
caiff fodd i olau weled:
Ystyriol a thosturiol iawn,
a chyfiawn fydd ei weithred.
verse 5 Gwr da a fydd trugarog fwyn,
rhydd echwyn a chymwynas,
A'i air mewn pwyll a barn a rydd,
a'i weithred sydd yn addas.
verse 6 Ni' sgogir byth y cyfiawn, gwna
ei goffa yn dragywydd;
verse 7 A chalon ddissgl, ddwys, ddiofn,
a sail ddofn yn yr Arglwydd.
verse 8 Hwn yn nerth Duw diofnog fydd,
ac atteg sydd iw galon:
Hyd oni chaffo drwy lawn wys,
ei wyllys o'i elynion.
verse 9 Rhannodd a rhoes i'r tlawd yn hy,
byth pery ei gyfiownedd,
A chryfder ei goron yn wir,
dyrchefir mewn gogonedd.
verse 10 Yr anwir edrych, ffromma o ddig,
drwy ffyrnig ysgyrnygiad▪
Yr annuwiol a dawdd: fal hyn
fydd terfyn eu dymuniad.
Laudate pueri. Psal.
113▪
Cyngor i foli Duw am ei ddaioni iw bobl.
[...] CHwi weision Duw molwch yr Ion,
[...] Molwch ei enw â llafar don,
[...]
verse 2 bendigaid fytho ei enw ef.
[...]
verse 3 O godiad haul hyd fachlud dydd,
[...] Mawr enw yr Ion moliannus fydd,
[...] yn y byd hwn, ac yn y nef.
[...]
verse 4 Derchafodd Duw vwch yr holl fyd,
[...] A'i foliant aeth vwch nef i gyd,
[...]
verse 5 pwy sy gyffelyb i'n Duw ni?
[...] Yr hwn a breswyl yn y nef,
[...]
verse 6 I'r ddaiar hon darostwng ef,
[...] gwyl ef ein cam clywef ein cri.
verse 7 Yr hwn sy'n codi'r tlawd o'r llwch,
A'r rheidus o'i ddiystyrwch,
verse 8 iw gosod vwch pennaethiaid byd.
verse 9 I'r ammhlantadwy mae'n rhoi plant,
Hil teg, a thylwyth, a llwyddiant;
am hyn moliennwch Dduw i gyd.
Gogoniant fyth a fytho i'r Tâd,
A bid gogoniant i'r Mab rhad,
i'r Yspryd glân gogoniant fo:
Megis gynt yn y dechreu yr oedd,
Ac y bydd byth yn oes oesoedd;
dwedwn Amen, poed felly y bo.
In exitu Israel. Psal.
114
Y mae mynediad Israel o gaethiwed yn dwyn ar gof i ni faith yw trugaredd Duw iw blant, a maint ein anniolchgarwch ninnau iddo ef.
Caner hon fel Psalm
113.
PAn ddaeth Israel o'r Aipht faith,
A thy Iaco o estron iaith,
verse 2 Iuda oedd ei sancteiddrwydd ef,
Israel oedd benaethiaeth Ior.
verse 3 Gwelodd hyn a chiliodd y mor,
a throes iw hol Iorddonen gref.
verse 4 Neidiai'r mynyddoedd megis hyrdd,
A'r bryniau mal wyn llament ffyrdd,
cawsant wastad meg is llawr dol.
verse 5 Ciliaist (o for) dywaid pa ham?
Tithau Iorddonen lathraidd lam,
p'am y dadredaist dithau'n d'ol?
verse 6 Chwychwi fynyddoedd p'am y ffoech,
Fel hyrddod? a ph'am nad arhoech?
a chwithau fryniau fal wyn män?
verse 7 Am mai rhaid ofni Duw Iaco,
verse 8 Yr hwn sy'n troi'r graig yn llyn tro,
a'r callestr yn ffynnon-ddwfr glân.
Gogoniant fyth, &c.
fel yn y Psalm 113.
Non nobis Domine. Psal.
115
Y bobl a orthrymid gan dywysogion annuwiol, yn addo bod yn ddiolchga
[...], os Duw a wrandawai ei gweddiau, ac a i gwaredai hwynt.
NId ini Arglwydd, nid i ni,
y dodi y gogonedd,
Ond i'th enw dy hun yn hawdd,
er mwyn dy nawdd a'th wiredd.
verse 2 Pa'm y dwedant am danat ti
y cenedlaethi estron:
A thrwy edliw hynny yn fwy,
ple'y mae'u Duw hwy yr awron?
verse 3 Sef ein Duw ni mae yn y nef,
lle y gwnaeth ef a fynnodd.
verse 4 Eu delwau hwy, aur, arian yn,
a dwylo dyn a'i lluniodd.
verse 5 Safn heb draethu: llun lygaid glân,
y rhai'n ni welan ronyn:
verse 6 Trwyn heb arogl, clustiau ar lled
heb glywed, y sydd ganthyn.
verse 7 Ac i bob delw y mae dwy law
heb deimlaw, traed heb symyd:
Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,
fal dyna ddyfais ynfyd.
verse 8 Fel hwyntwy ydyw' rhai â'i gwnant,
a'r rhai a gredant iddynt:
Am hyn ni ddylai neb drwy gred
roi mo'i ymddiried arnynt.
verse 9 O Israel, dod ti yn rhwydd
ar yr Arglwydd dy hollfryd,
Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan,
eu porth a'i tarian hefyd.
verse 10 O ty Aron, dod tithau'n rhwydd,
ar yr Arglwydd dy hollfryd:
Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan,
eu porth a'i tarian hefyd.
verse 11 Rhai a ofnwch yr Arglwydd Ion,
rhowch arno'ch vnion hollfryd.
Efe yw'r neb a'ch dwg i'r lan,
eich porth a'ch tarian hefyd.
verse 12 Duw naf a'n cofiodd, ac i'n plith
fo roes ei fendith rhadlon:
I dy Israel rhydd ei hedd,
ac vnwedd i dy Aaron.
verse 13 Sawl a'i hofnant bendithiant ef,
Yr Arglwydd nef canmolan,
A'i Enw sanct o'r nef i'r llawr,
bendithied mawr a bychan:
verse 14 Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach:
Ac a chwanega ar eich plant
ei fwyniant yn rymusach.
verse 15 Y mae ywch fendith a mawr lwydd,
gan y gwir Arglwydd cyfiawn,
Yr hwn a wnaeth y nefoedd fry,
ar ddayar obry yn gyflawn.
verse 16 Y nef, ie'r nefoedd vwchlaw,
sy yn eiddaw Duw yr Ion,
A'r ddaiar, lle y preswyliant,
a roes ef i blant dynion.
verse 17 Pwy a folant yr Arglwydd? pwy?
gwn nad hwyntwy y meirwon,
Na'r rhai a ânt i'r bedd yn rhwydd,
lle y mae distawrwydd ddigon.
verse 18 Ond nyni daliwn yn ein cof
fyth fyth fendithio'r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd yn vn wedd,
â mawl gyfannedd ebrwydd.
Dilexi quoniam. Psal.
116.
Diolch Dafydd i Dduw am ei fawr gariad tu ag atto ef, pan oedd Saul yn ei erlid ef yn niffeithwch Maon.
DA gennif wrando' or Arglwydd nef,
ar lais fy llef a'm gweddi:
verse 2 Am iddo fy nghlywed i'n hawdd,
byth archaf ei nawdd imi.
verse 3 Mae maglau angau i'm cynllwyn,
ym mron fy nwyn i'm beddrod:
Cefais ing.
4 Ond galwaf fy Ner
i'm hoes, moes dyner gymmod.
verse 5 Cyfion yw'r Ion trugarog iawn,
ein Duw sy lawn o nodded.
verse 6 Duw a geidw'r gwirion: bum i,
mewn cyni, daeth i'm gwared.
verse 7 O f'enaid dadymchwel o'r llwch;
dyrd i'th lonyddwch bellach:
Am i'r Arglwydd fod i ti'n dda,
saf i'th orphwysfa hauach.
verse 8 O herwydd i Dduw wared f'oes,
a'm cadw rhag gloes angau,
Fy nrhaed rhag llithro i lam drwg,
a'm golwg i rhag dagrau.
verse 9 Yn y ffydd hon o flaen fy Nuw,
ym mysg gwyr byw y rhodiaf.
verse 10 Fel y credais felly y tystiais,
ar y testyn ymma.
verse 11 Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,
mae pob dyn yn gelwyddog,
verse 12 Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,
am dy ddaioni cefnog?
verse 13 Mi a gymeraf, gan roi mawl,
y phiawl iechydwriaeth,
Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,
ar enw yr Arglwydd bennaeth.
verse 14 I'r Arglwydd talaf yn forau,
fy addunedau ffyddlon,
Y pryd hyn o flaen ei holl lu,
y modd y bu'n fy nghalon.
verse 15 Marwolaeth eisainct gwerthfawr yw
yngolwg Duw:
16. O cenfydd,
Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,
mab dy forwynig vfydd.
verse 16 Dattodaist fy rhwymau yn rhydd,
fy offrwm fydd dy foliant,
verse 17 Enw'r Arglwydd nid â o'm co,
i hwnnw bo gogoniant.
verse 18 I'r Arglwydd bellach tala'n frau
fy addunedau cyfion.
verse 19 Ynghaer Selem dy sanctaidd dy,
o flaen dy deulu ffyddlon.
Laudate Dominum. Psal.
117.
Cynghori y Cenhedloedd i foli Duw o ran bod yr addewid mor helaeth iddynt hwy, ac i'r Iddewon.
O cenwch fawl i'r Arglwydd nef,
moliennwch ef genhedloedd,
Molwch ei Enw ef drwy'r byd,
chwithau i gyd y bobloedd.
verse 2 Am ei fod inni yn dda iawn,
yr Arglwydd llawn trugaredd,
A'i air ef fydd yn parhau byth,
sef ei ddilyth wirionedd.
Confitemini Domino. Psal.
118.
Dafydd (wedi ei Saul ei erlid ef a chael o honaw y frenhiniaeth gan Dduw) yn erchi i bawd o'r ffyddloniaid fod yn ddiolchgar.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugareddau,
sydd yn parhau'n dragywydd.
verse 2 Dweded Israel da yw ef,
a'i nawdd o nef ni dderfydd,
verse 3 Dyweded ty Aaron mai da yw,
trugaredd Duw'n dragywydd.
verse 4 Y rhai a'i hofnant ef yn lân,
a ganan yr vn cywydd,
Rhon iw drugaredd yr vnglod,
sef ei bod yn dragywydd.
verse 5 Im hing gelwais ar f' Arglwydd cu,
hawdd gantho fu fy nghlywed:
Ef a'm gollyngodd i yn rhydd
o'i lân dragywydd nodded.
verse 6 Yr Arglwydd sydd i'm gyda'mi,
nid rhaid ym' ofni dynion.
verse 7 Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,
er cosbi fy ngelynion.
verse 8 Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,
nag mewn vn dyn o'r aplaf:
verse 9 Gwell yw gobeithio yn yr Ion,
nâ'r tywysogion pennaf.
verse 10 Doed y cenhedloedd arna'i gyd,
a'i bryd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf,
myfi a'i torraf ymaith.
verse 11 Daethant i'm cylch ogylch i'm cau,
ac ar berwylau diffaith,
Ond yn enw'r gwir Arglwydd Naf,
myfi a'i torraf ymaith.
verse 12 Daethant i'm cylch fel gwenyn mân:
fal diffodd tân mewn goddaith,
Yn enw yr Argwlydd yr wyf fi
yn eu diffoddi ymaith.
verse 13 Fy ughas-ddyn gwthiaist atta'n gryf,
i geisio gennyf syrthio.
Duw a'm cadwodd,
14 sef Ion fy ngrym,
fy iechyd i'm, ac etto.
verse 15 Am orfoledd Duw y bydd son
yn nhai rhai cyfion dwyfol,
Mai'r Arglwydd Dduw â'i law ddehau,
a wnaeth y gwrthiau nerthol.
verse 16 Deheulaw 'r Arglwydd drwy ei nawdd
ef a'i derchafawdd arnom,
A dehau law yr Arglwydd ner,
a wnaeth rymusder drosom.
verse 17 Nid marw onid byw a wnaf,
mynegaf waith yr Arglwydd,
verse 18 Hwn a'm cospodd, ond ni'm lladdodd,
yn hyttrach lluddiodd aflwydd.
verse 19 Agorwch ym byrth cyfiownder,
o'i mewn Duw ner a folaf.
verse 20 Porth yr Arglwydd fal dyma fe,
ânt iddo'r rhai cyfiownaf.
verse 21 Minnau a'th folaf yn dy dy,
o herwydd ytty 'nghlywed,
Yno y canaf nefol glod
yt, am dy fod i'm gwared.
verse 22 Y maen sy ben congl-faen i ni,
a ddarfu i'r seiri ei wrthod.
verse 23 O'r Arglwydd Dduw y tyfodd hyn,
sy gan ddyn yn rhyfeddod.
verse 24 Yr Arglwydd a'i gwnaeth, dyma'r dydd,
er mawr lawenydd ynny,
Yntho cymrwn orfoledd llawn,
ymlawenhawn am hynny.
verse 25 Attolwg Arglwydd y pryd hyn
yr ym yn erfyn seibiant.
Adolwyn Arglwydd Dduw pâr' yn'
y pryd hyn gaffael llwyddiant.
verse 26 Bendigaid yw y sawl a ddel
yn Enw yr vchel Arglwydd.
O dy Dduw bendithiasom chwi,
drwy weddi a sancteiddrwydd.
verse 27 Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni,
rhoes i'n oleuni ragor▪
Deliwch yr oen a rhowch yn chwyrn
yn rhwym wrth gyrn yr allor.
verse 28 Tydi o Dduw wyt Dduw i mi,
am hyn tydi a folaf:
(Da gwedd it fawl, fy Nuw mau fi)
a thydi a ddyrchafaf.
verse 29 Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugaredd fry,
a bery yn dragywydd.
Psal.
119.
Yn y psal. 119. y mae y prophwyd yn canmol ac yn mawrhygu cyfraith Dduw, gan ddysgu i'r ffyddloniaid ymfodloni ynddi, ar air, a myfyrdod▪ ac yn yr Hebraeaeg y mae pob 8 wers o'r Psalm hon yn dechrau ar vn llythyren, gan ddechreu yn y llythyren. A. ac felly drwy bob vn or. 22. mewn trefn.
Aleph. Beati immacul ati. Rhan.
1.
POb cyfryw ddyn y sydd a'i daith
yn berffaith, mae fe'n ddedwydd,
Y rhai'n fucheddol a rodian
ynghyfraith lân yr Arglwydd.
verse 2 Y rhai i gyd gwynfyd a gânt,
a gadwant ei orchmynion:
Ac a'i ceistant hwy yn ddilys,
â holl ewyllys calon.
verse 3 Diau yw nad â y rhai hyn,
i galyn llwybrau gwammal,
verse 4 Ond cadw dy air (a erchaist ynn)
a dilyn hyn yn ddyfal.
verse 5 Och fi na chawn vnioni'n glau,
fy llwybrau at dy ddeddfod;
verse 6 Byth ni'm gwradwyddid y modd hwn,
tra cadwn dy gyfammod.
verse 7 Mi a'th glodforaf di er neb,
ac mewn vniondeb calon:
Pan ddysgwyf adnabod dy farn,
sy gadarn, ac sy gyfion.
verse 8 Am dy farn mae fy holl amcan,
dy ddeddfau glân a gadwaf.
Na âd fyth fyth fi yn fy nych,
a, tro i edrych arnâf.
Beth. Iu quo corriget. Rhan.
2.
verse 9 Pa fodd (o Dduw) y ceidw llangc,
sydd ieuangc, eu holl lwybrau?
Wrth ymgadw yn ol dy air,
pob llwybr a gair yn olau.
verse 10 Dy orchmynion â'm holl galon,
a'i dirgelwch ceisiais oll,
O lluddias fi ar ofer hynt,
oddiwrthynt ar gyfyrgoll.
verse 11 I'm calon cuddiais dy air cu,
rhag imi bechu'n d'erbyn:
verse 12 O Arglwydd bendigaid wyt ti,
o dysg i mi d'orchymmyn.
verse 13 Dy gyfiawn feirn, a'r gwir air tan,
a mawl gwefusau traethais.
verse 14 A'th dystiolaethau di igyd,
vwch holl dda'r byd a hoffais.
verse 15 Dy ddeddf fy myfyr yw a'm drych,
dy ffyrdd'r wy'n edrych arnyn.
verse 16 Mor ddirgrif ymy yw dy air,
o'm cof nis cair vn gronyn.
Gimel Rertibue seruo tuo. Rhan.
3.
verse 17 Bydd dda i'th wâs, a byw a wna,
a'th air a gadwa'n berffaith:
verse 18 A'm llygaid egor di ar lled,
i weled rhin dy gyfraith.
verse 19 Dieithr ydwyfi'n y tir,
dy ddeddf wir na chudd rhago
[...] ▪
verse 20 O wir awydd i'r gyfraith hon,
mae'n don fy enaid ynof.
verse 21 Curaist feilch: daw dy felltith di
i'r rhai sy'n torri d'eirchion.
verse 22 Tro oddiwrthif fefl ar gais,
cans cedwais dy orchmynion'
verse 23 Er i swyddogiou roi barn gas,
rhoes dy wâs ei fyfyrdod
verse 24 Yn dy ddeddf, hon sydd ym i gyd
yn gyngor hyfryd ynod.
Daleth. Adhesit paulmento. Rhan.
4.
verse 25 F'enaid ymron llwch y bedd yw:
o'th air gwna fi'n fyw eilwaith:
verse 26 Mynegais fy ffyrdd clywaist fi,
O dysg i mi dy gyfraith.
verse 27 Pâr i mi ddeall ffordd dy air.
ar hwnnw cair fy myfyr.
verse 28 Gan ofid f'enaid fu ar dawdd,
a'th air gwnai 'n hawdd fi'n bybyr.
verse 29 O'th nawdd oddiwrthif tyn ffyrdd gau,
a dysg y'm ddeddfau crefydd.
verse 30 Dewisais ffordd gwirionedd, hon
sydd ger fy mron i beunydd.
verse 31 Glynais wrth dy air, o Arglwydd,
o lludd i'm wradwydd digllon.
verse 32 Yn dy ddeddfau fy rhediad fydd
pan wneych yn rhydd fy nghalon.
He. Legem pone. Rhan.
5.
verse 33 Duw, ffordd dy ddeddfau dysg i mi,
dros f'eimoes hi a gadwaf.
verse 34 O par i'm ddeall y ddeddf hon,
o'm calon mi a'i cyflownaf.
verse 35 Par i'm fynd lwybr dy ddeddf ar frys,
hyn yw fy 'wyllys deilwng;
verse 36 A'm calon at dystiolaeth dda,
nid at gybydd-dra gostwng.
verse 37 Tro fi rhag gweled gwagedd gwael,
bywha fi'i gael dy ffordd di.
verse 38 Cyflowna d'air â mi dy was,
yna caf râs i'th ofni.
verse 39 Ofnais warth, o tro heibio hon,
da yw d'orchmynion tyner.
verse 40 Wele, f'awydd i'th gyfraith yw,
gwna ym fyw o'th gyfiownder.
Vau. Et veniat super me. Rhan.
6.
verse 41 Arglwydd dod dy drugaredd ym,
a hyn o rym d'addewid.
verse 42 Drwy gredu'n d'air rhof atteb crwn
i'm cablwr hwn a'm dilid.
verse 43 O'm genau na ddwg dy air gwir,
i'th farnau hir yw'ngobaith.
verse 44 Minnau'n wastadol cadwaf byth
dy lân wehelyth gyfraith.
verse 45 Mewn rhydid mawr rhodio a wnaf,
a cheisiaf dy orchmynion.
verse 46 A'th dystiolaethau rhof ar goedd,
o flaen brenhinoedd cryfion.
verse 47 Heb wradwydd llawen iawn i'm cair
yn d'air, yr hwn a hoffais.
verse 48 Codaf fy nwylo at dy ddeddf
drwy fyfyr, greddf a gredais.
Zain. Memor esto. Rhan.
7.
verse 49 Cofia i'th was dy air a'th raith,
lle y rhois fy ngobaith arno.
verse 50 Yn d'air mae nghysur i igyd,
yr hwn mae' mywyd yntho.
verse 51 Er gwatwar beilch ni throis ychwaith
oddiwrth dy gyfraith hoyw-bur.
verse 52 Cofiais (o Dduw) dy ddeddf erioed,
yn honno rhoed i'm gysur.
verse 53 Y trowsion a ofnais yn faith,
sy'n torri'r gyfraith eiddod'.
verse 54 O'th ddeddf y cenais gerdd yn hy,
yn nhy fy mhererindod.
verse 55 Cofiais d'enw (fy Ion) bob nos▪
o serch i'th ddiddos gyfraith.
verse 56 Cefais hynny am gadw o'm bron
dy ddeddf: sef hon sydd berffaith.
Cheth. Portio mea Domino. Rhan.
8.
verse 57 Ti Arglwydd wyt i mi yn rhan,
ar d'air mae f'amcan innau.
verse 58 Gweddiais am nawdd gar dy fron
o'm calon yn ol d'eiriau.
verse 59 Meddyliais am ffyrdd dy ddeddfau,
a throis fy nghamrau attynt.
verse 60 Dy eirchion ar frys a gedwais,
nid oedais ddim o honynt.
verse 61 Er i draws dorf fy' speilio i,
dy gyfraith ni anghofiais.
verse 62 Gan godi ganol nos yn frau,
dy farnau a gyffesais.
verse 63 Cyfaill wyf i'r rhai a'th ofnant,
ac a gadwant dy eiriau.
verse 64 Dy nawdd drwy'r tir sy lawn i'n mysg,
Duw dysg i mi dy ddeddfau.
Teth. Bonitatem fecisti. Rhan.
9.
verse 65 Arglwydd gwnaethost yn dda a'th was,
yn ol dy râs yn addo.
verse 66 Dysg i'm ddeall dy air yn iawn,
'r wy'n credu'n gyflawn yntho.
verse 67 Cyn fy ngostwng euthym ar gam,
yn awr wyf ddinam eilwaith.
verse 68 Da iawn a graslawn ydwyt ti,
o dysg i mi dy gyfraith.
verse 69 Dy air er beilch yn clyttio ffug,
â'm calon orug cadwaf.
verse 70 Breision ynt hwy, er hyn myfi,
dy gyfraith di a hoffaf.
verse 71 Fy mlinder maith da iawn i'm fu,
i ddysgu dy ffatusoedd.
verse 72 Gwell fu i'm gyfraith d'enau glân
nag aur ac arian filoedd.
Iod. Manus tuae fecerunt me. Rhan.
10.
verse 73 A'th ddwylaw gwnaethost fi dy hun,
a rhoist i'm lun yn berffaith:
O par i'm ddeall dy air di,
a dyscaf fi dy gyfraith.
verse 74 Y sawl a'th ofnant gwelant hyn,
bydd llawen genthyn weled,
Am fod fy ngobaith yn dy air,
yr hwn a gair ei glywed.
verse 75 Duw gwn fod dy farnau 'n deilwng,
a'm gostwng i yn ffyddlon:
verse 76 Dod nawdd er cyssur i'm dy was,
o'th ras a'th addewidion.
verse 77 Dod i'm dy nawdd, a byddaf byw,
dy gyfraith yw yn felys.
verse 78 Gwradwydder beilch a'm plyg ar gam,
myfyriaf am d'ewyllys.
verse 79 Y rhai o Dduw a'th ofnant di,
troer y rhei'ni attaf:
A'r rhai adwaenant er eu maeth,
dystiolaeth y Goruchaf.
verse 80 Bydedd sy nghalon yn berffaith,
yn dy lân gyfraith Arglwydd,
Fel nas gorchuodier yn y byd,
fy wyneb-pryd â gwradwydd,
Caph. Defecit anima mea. Rhan.
11.
verse 81 Gan ddisgwyl am dy iechyd di,
mae f'enaid i mewn diffig
Yn gwilied beunydd wrth dy air,
o Arglwydd cair ff'n ddiddig.
verse 82 Y mae fy llygaid mewn pall ddrych
yn edrych am d'addewyd,
Pa bryd (o Arglwydd, dwedais i)
i'm ddiddeni â'th iechyd?
verse 83 Cans wyf fel costrel mewn mwg cau:
cofiais dy eirian cyfion.
verse 84 Pa hyd yw amser dy wâs di?
Pa bryd y berni'r trowsion?
verse 85 Cloddiai'r beilchion i'm byllau: hyn
sy'n erbyn dy gyfreithiau.
verse 86 Gwirionedd yw d'orchmynion di,
cymmorth fi rhag cam faglau.
verse 87 Braidd na'm difent o'r tir ar gais:
ond glynais wrth d'orchmynion.
verse 88 Bywha fi Dduw, i gadw'yn glau,
dystiolaeth d'enau ffyddlon.
Lamed. In aternum Domine. Rhan.
12.
verse 89 Byth yn y nef y pery d'air,
o Dduw cair dy wirionedd
O oes i oes: siccrheist y tir
na siglir mo'i amgylchedd.
verse 90 Safant byth wrth dy farnau di,
maent i ti'n weision vfudd.
verse 91 Oni bai fod dy ddeddf yn dda,
i'n difa buasai gystudd.
verse 92 A'th orchmynion y bywheist fi,
am hyn y rhei'ni a gofiais.
verse 93 Eiddoti wyf, Duw achub fi,
dy ddeddfau di a geisiais.
verse 94 Disgwyl fy lladd mae'r anwir sur:
'r wy'n ystyr dy dystiolaeth.
verse 96 Ar bob perffeithwrydd mae terfyn,
ond ar d'orchymmyn helaeth.
Mem. Quomodo dilexi. Rhan.
13.
verse 97 Mor gu (o Arglwydd) gennyf fi,
dy ddeddf di a'th gyfammod:
Ac ar y rhai'n o ddydd i ddydd,
y bydd fy holl fyfyrdod.
verse 98 Gwnaethost fi â'th orchmynion iach,
yn ddoethach nâ'm gelynion:
Cans gyd â mi yn dragywydd,
y bydd dy holl orchmynion.
verse 99 Gwnaethost fi'n ddoethach (o Dduw Ion)
nâ'r athrawon a'm dyscynt:
Oblegid fy myfyrdod mau,
dy dystiolaethau oeddynt.
verse 100 Am gadw o honof dy ddeddf di,
mwy nâ'm rhieni delldais:
verse 101 Rhag dryg-lwybr, fel y cadwn d'air,
fy nrhaed yn ddiwair cedwais.
verse 102 Rhag dy farnau ni chiliais i,
cans ti a'm dysgaist ynthynt.
verse 103 Mor beraidd gennif d'eiriau iach,
nâ'r mel melusach ydynt.
verse 104 O Arglwydd a'th orchmynion di,
y gwnaethost fi yn bwyllawg:
Am hynny 'r ydwyf yn casau
pob cyfryw lwybrau geuawg.
Nun. Lucerna pedibus meis. Rhan.
14.
verse 105 Dy air i'm traed i llusern yw,
a llewych gwiw i'm llwybrau.
verse 106 Tyngais, a chyflowni a wnaf,
y cadwaf dy lân ddeddfau.
verse 107 Cystuddiwydd fi'n fawr, Arglwydd da:
bywha fi'n ol d'addewyd:
verse 108 Bodloner di, o Arglwydd mau,
ag offrwm genau diwyd,
A dysg i'm dy holl farnau draw.
verse 109 f'enaid sy'im llaw'n wastadol:
Am hynny nid anghofiais chwaith,
dy lân gyfraith sancteiddiol.
verse 110 Yr annuwiolion i'r ffordd fau,
rhoddasant faglau geirwon:
Ni chyfeiliornais i er hyn,
ond dylyn dy orchmynion.
verse 111 Cymrais yn etifeddiaeth lân,
byth weithian dy orchmynion,
O herwydd mai hwyntwy y sydd,
lawenydd mawr i'm calon.
verse 112 Gostyngais i fy nghalon bur,
i wneuthur drwy orfoledd,
Dy ddeddfau di tra fwy'n y byd,
a hynny hyd y diwedd.
Samec. Iniquos odie habui. Rhan.
15.
verse 113 Dythmygion ofer caseis i,
a'th gyfraith di a hoffais.
verse 114 Lloches a tharian i'm i'th gair:
wrth dy air y disgwyliais.
verse 115 Ciliwch rai drwg oddiwrthiff,
fy Nuw cadwaf ei gyfraith,
verse 116 Cynnal fi â'th air, a byw a wnaf,
ni wridaf am fy ngobaith.
verse 117 O cynnal fi, fy Arglwydd Naf,
a byddaf iach dragwyddol:
Ac yn dy ddeddfau iach y bydd
fy llawenydd gwastadol.
verse 118 Sethraist o Arglwydd, yr holl rai,
a ai oddiwrth dy ddeddfau:
Am mai oferedd gar dy fron
oedd eu dychmygion hwythau.
verse 119 Difethaist holl rai drwg y tir,
fel y dyfethir sothach.
Am hyn dy dystiolaethau di,
a gerais i 'n anwylach.
verse 120 O Arglwydd Dduw rhag ofn dy ddig,
fy gnhawd am cig a synnodd.
Rhag dy farnedigaethau di,
fy yspryd i a ofnodd.
Ain. Iudicium feci. Rhan.
16.
verse 121 Barn a thrugaredd a wneuthym,
na ddod fi ym caseion:
verse 122 O Arglwydd, dysg ddaioni i'th was,
achud rhag câs y beilchion.
verse 123 Pallai'n golwg yn disgwyl llawn
iechyd o'th gyfiawn eiriau.
verse 124 Yn ol trugaredd â'th was gwna,
dysg imi'n dda dy ddeddfau.
verse 125 Dy was wyf fi, deall i'm dod,
i wybod dy amodau.
verse 126 Madws it (Arglwydd) roddi barn,
torrwyd dy gadarn ddeddfau.
verse 127 Mwy nag aur hoffais dy ddeddf di,
pe rhon a'i goethi yn berffaith.
verse 128 Yn vniawn oll y cyfrifais,
cascais lwybrau disfaith.
Pe. Mirabilia. Rhan.
17.
verse 129 Rhyfedd yw dy dystiolaethau,
fy enaid innau a'i cadwodd.
verse 130 Egoriad d'air yn olau y caid,
i weiniaid pwyll a ddysgodd.
verse 131 Dyheais gan chwant (o Dduw Ion)
i'th lân orchmynion croyw.
verse 132 Edrych di arnaf, megis ar
y rhai a gâr dy enw.
verse 133 Yn ol d'air cyfarwydda 'nrhoed,
anwiredd na ddoed arnaf.
verse 134 O gwared fi rhag trowsedd dyn,
a'th orchymmyn a gadwaf;
verse 135 Llewycha d'wyneb ar dy was:
dysg imi flas dy ddeddfau.
verse 136 Dagrau om' golwg llifo' a wnânt,
nas cadwant dy gyfreithiau.
Tsade. Iustus es Iehoua. Rhan.
18.
verse 137 Cyfiawn ydwyt (o Arglwydd Dduw)
ac vniawn yw dy farnau▪
verse 138 Dy dystiolaethau yr vn wedd,
ynt mewn gwirionedd hwythau.
verse 139 Fy serch i'th air a'm difaodd,
pan anghofiodd y gelyn.
verse 140 D'ymabrodd parwyd drwy fawr ras,
hoffodd dy wâs d'orchymyn.
verse 141 Nid anghofiais dy gyfrath lân,
er bod yn fychan f'agwedd.
verse 142 Dy gyfiawnder di cyfiawn fydd;
a'th ddeddf di sydd wirionedd.
verse 143 Adfyd cefais, a chystudd maith:
dy gyfraith yw 'nigrifwch.
verse 144 Gwna i'm ddeall cyfiownder gwiw:
a byddaf fyw mewn heddwch.
Koph. Toto corde, Rhan.
19.
verse 145 Llefais â'm holl galon, o clyw,
a'th ddeddfau Duw a gadwaf,
verse 146 Arnati llefais, achub fi,
a'th lwybrau di a rodiaf.
verse 147 Gwaeddais, achubais flaen y dydd,
wrth d'air yn vfydd gwiliais.
verse 148 Deffroe fy llygaid ganol nos,
o achos d'air a hoffais.
verse 149 Clyw fi'n ol dy drugaredd dda,
bywha si'yn ol dy farnau.
verse 150 Arnaf rhai sccler a nessânt:
troseddant dy gyfreithiau.
verse 151 Tithau bydd agos, Arglwydd Dduw:
gwirionedd yw d'orchmynion.
verse 152 Gwyddwn fod dy dystiolaethau,
gwedi eu sirrhau yn gryfion.
Resh. Ʋide humilitatem. Rhan.
20.
verse 153 Gwel fy nghystudd, gwared ar gais,
cans cofiais dy gyfreithiau.
verse 154 Dadleu fy nadl, rhyddha fi'n rhodd,
yn ol ymadrodd d'enau.
verse 155 Ffordd iechydwriaeth sydd bell iawn,
oddiwrth anghyfiawn ddynion,
Am nad ydynt yn ceisio'n glau,
mo lwybr dy ddeddfau vnion.
verse 156 Dy drugaredd Arglwydd aml yw,
gwna i'm fyw'n ol dy farnau.
verse 157 Llawer sy'm herlid, r'wyf er hyn,
yn dylyn dy lân ddeddfau.
verse 158 Gwelais y traws, a gresyn fu,
iddynt ddirmygu d'eiriau.
verse 159 Hoffais dy ddeddf, bywha fi' Arglwydd,
herwydd dy drugareddau.
verse 160 Dechrau dy air gwirionedd yw,
o Arglwydd Dduw y llywydd:
A'th gyfiawn farnedigaethau,
sydd yn parhau 'n dragywydd.
Schin. Principes persecuti sunt. Rhan
21.
verse 161 Y cryf a'r gam f'erlid a wnai,
rhag d'ofn y crynai' nghalon.
verse 162 Oblegid d'air wyf lawen iawn,
fel pe cawn dlysau mowrion.
verse 163 Celwydd ffieidd-dra a gasais,
a hoffais dy gyfreithiau:
verse 164 Saith waith bob dydd y rhof yt glod,
am fod yn dda dy farnau.
verse 165 Y sawl a gâr dy air, cânt hedd,
drwg nis goddiwedd mhonyn.
verse 166 Gwiliais Arglwydd wrth dy iechyd,
gan wneuthyd dy orchymmyn.
verse 167 Dy ddeddf cadwodd fy enaid i,
a hi yn fawr a hoffais.
verse 168 Am fod fy llwybrau gar dy fron,
d'orchmynion nid anghofiais.
Tau. Appropinquat deprecatio. Rhan.
22.
verse 169 O'th flaen Arglwydd nessaed fy nghri,
dysg imi ddeall d'eiriau.
verse 170 Gwared fi'n ol d'ymadrodd rhâd,
del attad fy ngweddiau.
verse 171 Dy fawl a draetha' ngenau 'n wych
pan ddysgych ym' dy ddeddfau.
verse 172 Datgan fy nhafod d'air yn rhwydd,
herwydd dy gyfiawn eiriau.
verse 173 Cymhorthed dy law fi ar gais,
Dewisais dy orchmynion.
verse 174 Cerais dy iechyd, a'th ddeddf sydd
lawenydd mawr i'm calon.
verse 175 Bo f'enaid byw, a mawl it rhoed:
dy farn boed i'm amddiffyn.
verse 176 Crwydrais fel oen, dy was o cais,
cans cofiais dy orchymmyn.
Ad Dominum. Psal.
120.
Dafydd wedi dyfod o fysg yr Arabiaid yn cwyno hyd y bu efe ymysg y genhedlaeth enwir anghredadwy honno.
I'M ing y gelwais ar f'Arglwydd,
ac ef yn rhwydd a'm clybu.
verse 2 Duw gwared fi rhag tafod gau,
a genau yn bradychu.
verse 3 Dywaid i mi oes les neu fael,
iw gael, oh dafod distryw?
verse 4 Geiriau fel llymion saethau cawr,
ynghyd a marwawr meryw.
verse 5 Gwae fi aros honof yn llech,
ynghyd â Mesech dwyllgar:
A chyfanneddu a'm gwersyll,
yn mhowsion bebyll Cedar.
verse 6 Hir y bu f'enaid i sut hon
ymysg caseion heddwch.
verse 7 Os son am lonydd a wnawn i.
rhy selai rhei'ni 'n 'rhyff lwch.
Leuani oeulos. Psal.
121.
Dangos y dylai y ffyddloniaid ddisgwyl am gymmorth gan Dduw yn vnic, y modd y mae y Prophwyd yn y psalm hon.
DIsgwyliaf o'r mynyddoedd draw,
lle y daw i'm help wyllysgar.
verse 2 Yr Arglwydd rhydd i'm gymmorth gref,
hwn a wnaeth nef a daiar.
verse 3 Dy droed i lithro ef nis gâd,
a'th geidwad fydd heb huno:
verse 4 Wele, ceidwad Israel lân,
heb hun na heppian arno.
verse 5 Ar dy law ddeau mae dy Dduw,
yr Arglwydd yw dy geidwad,
verse 6 Dy lygru ni chaiff haul y dydd,
ar nos nid rhydd i'r lleuad.
verse 7 Yr Ion a'th geidw rhag pob drwg,
a rhag pob cilwg anfad:
verse 8 Cai fynd a dyfod b
[...]th yn rhwydd,
yr Arglwydd fydd dy geidwad.
Laetatus sum. Psal.
122.
Dafydd ym ymlawenhau ddarfod i Dduw gyflowni yr addewid, a gosod yr Arch yn Seion, gan weddio am gynnyrch yr eglwys.
I Dy'r Arglwydd (pan ddwedent) awn,
i'm llawen iawn oedd wrando.
verse 2 Sai'n traed o fewn Caer-Salem byrth,
yr vn ni syrth oddiyno,
verse 3 Caersalem lân ein dinas ni,
ei sail sydd ynddi'i hunan;
A'i phobl sydd ynddi yn gytun,
a Duw ei hun a'i drigfan.
verse 4 Cans yno y daw y llwythau' nghyd,
yn vnfryd, llwythau'r Arglwydd:
Tystiolaeth Israel a'i drig-fod,
a chlod iw fawr sancteiddrwydd.
verse 5 Cans yno cadair y farn sydd:
eisteddfod Dafydd yno.
verse 6 Erchwch i'r ddinas hedd a mawl:
a llwydd i'r sawl a'th garo.
verse 7 O fewn dy gaerau heddwch boed,
i'th lysoedd doed yr hawddfyd.
verse 8 Er mwyn fy mrodyr mae'r arch hon,
a'm cymydogion hefyd.
verse 9 Ac er mwyn ty'r Arglwydd ein Duw,
hwn ynot yw'n rhagorol:
O achos hyn yr archaf fi,
i ti ddaioni rhadol.
Ad te leuaui. Psal.
123.
Gwedd y ffyddloniaid, y rhai y mae yr anuwiol, a diystyrwyr Duw, yn eu blino.
TVedda' ngolwg at y ne'
(fy Nuw) dy le trigiannol,
verse 2 Fel y try gweision eu llygaid
at ddwylo i meistraid bydol.
Llygaid llaw-forwyn ar bob tro,
a ddylyn ddwylo'i meistres,
Disgwyliwn arnat (Dduw) 'r vn wedd,
am dy drugaredd gynnes.
verse 3 Dy nawdd Arglwydd, dy nawdd yn rhodd,
dygasom ormodd dirmig.
verse 4 Gan watwar y tynn a'r balch iawn,
yr ym yn llawn boenedig.
Nisi quia Dominus. Psal.
124.
Y ffyddloniaid wedi eu gwaredu o'i peryglon, yn cyfaddef nad o'i nerth eu hun, eithr drwy drugaredd Duw y diangasant.
DYma'r amser yn ddi ymgei,
gall Israel, fynegi,
Yr Arglwydd nef oni bai ei fod,
a'i arfod gydâ nyni.
verse 2 Gydâ ni oni bai ei fod,
pan ddaeth gwrth-drafod dynion:
verse 3 Pan gododd llid i'n, a phoeni,
llyngcasent ni yn fywion.
verse 4 Y dyfroedd a'n boddasent ni,
a'n hoes dan gefn lli buan:
verse 5 Chwyddasent drosom, fel chwydd dwr;
fal dyna gyflwr truan.
verse 6 Bendigaid Ior ei law a droes:
ac ef ni roes mo honom
Yn ysglyfaeth i'n rhwygo'n frau,
iw gwâg efeiliau llymion.
verse 7 Ein henaid aeth yn rhydd o lyn,
fal yr aderyn gwirion,
Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,
a ninnau aeth yn rhyddion,
verse 8 Ein holl gynnorthwy ni, a'n llwydd,
sy'n nerth yr Arglwydd howddgar,
Yr hwn drwy waith ei ddwylaw ef,
a greawdd nef a daiar.
Qui confidunt. Psal.
125.
Mae fe yn dangos siccr obaith y ffyddloniaid yn eu blinderau, gan ddymuno iddynt lwyddiant: ac i'r rhai anwir ddistryw.
SAwl a'mddiriedant yn Nuw Ion,
byddant fel Seion fynydd,
Yr hwn ni syfl: a'i sylwedd fry
a bery yn dragywydd.
verse 2 Fel y saif sail Caersalem fry,
a'i chylchu mae mynyddoedd:
Felly yr Arglwydd yn gaer fydd,
dragywydd cylch ei bobloedd.
verse 3 Er na orphywys rhwysg cledd hir
yr enwir ar gyfiowniaid,
Rhag i'r rhai cyfiawn ystyn llaw
i deimlaw campau diriaid.
verse 4 O Arglwydd Dduw yn brysur gw
[...]
i bob dyn da ddaioni;
Sef vnion attad ti yn glau
y bydd calonnau' rhei'ni.
verse 5 Onid y dryg-ddyn Duw a'i gyrr
gydâ gweithwyr anwiredd;
Mewn drwg ymdroes, felly ymdroed,
ar Israel boed tangnhefedd.
In conuertendo. Psal.
126.
Y Psalm hon sydd yn dangos ryfedded fu gwarediad y bobl allan o gaethiwed Babylon, ac mai yr Arglwydd a'i gwnaethei▪
PAn ddychwelodd ein gwir Dduw Ion
gaethiwed Seion sanctaidd;
Mor hyfryd gennym hyn bob vn,
a rhai mewn hun nefolaidd.
verse 2 Nyni â'n genau yn dda'n gwedd,
gorfoledd ar ein tafod:
verse 3 Ymhlith cenhedloedd dwedynt hyn,
fe wnaeth Duw drostyn ystod.
verse 4 Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,
ein dwyn i'n tir cynnefin
O gaethiwed y gelyn llym,
am hyn yr ym yn chwerthin.
verse 5 O cynnull ein gweddillion ni,
tro adre' rhei'ni eilwaith,
Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlych
y dehau sych a diffaith.
verse 6 Y rhai sy'n hau mewn dagrau blin,
hwyntwy dan chwerthin medant:
Felly f'Arglwydd dan droi y byd,
dwg ni i gyd i'r meddiant.
verse 7 Y rhai dan wylo aeth o'r wlâd,
fel taflu hâd rhyd gryniau;
Drwy lawenydd y dont ynghyd,
fel casglu yd yn dyrrau.
Nisi Dominus. Psal.
127.
Nad synwyr dyn na'i boen, ond trugaredd Duw, sy yn cadw, ac yn dwyn i ben bob peth.
Y Ty ni adeilado'r Ner,
ai'n ofer gwaith y saeri;
A'r ddinas hon nis ceidw efo,
ni thyccia gwilio ynthi.
verse 2 Os borau godi, os hun hwyr,
a byw drwy lwyr ofidio,
Ofer i gyd: Duw a rydd hun
i bob rhyw vn a'i caro.
verse 3 Wele, y plant a roir i ddyn,
hiliogaeth yn i'r Arglwydd:
Ac o'i rodd ef daw ffrwyth y bru,
iw magu mewn sancteiddrwydd.
verse 4 Fel gwr cryf, ple bynnag y daw,
ac yn ei law ei saethau:
Plant yr ieuenctyd felly y maen
yn barch o flaen y tadau.
verse 5 Sawl honynt sydd a'i gwifr yn llawn,
mae'n ddedwydd iawn ei foddion;
Hwy nis gwradwyddir pan ddel man
i'mddiddan â'r gelynion.
Beati omnes. Psal.
128.
Dangos daioni y rhai priodol a ofno 'r Arglwydd, ac addewid o fendithion Duw i'r rhai a fo byw yn ol ei orchmynion ef yn y lân stad honno.
A Ofno'r Arglwydd gwyn ei fyd,
a rhodiaw rhyd ei lwybrau,
verse 2 Bwyttei o ynnill gwaith dy law,
a blith y daw i tithau.
verse 3 Dy wraig ar du dy dy is nen,
fel per winwydden ffrwythlon,
Dy blant ynghylch dy fwrdd a fydd
sel olewydd blanhigion:
verse 4 Wele, fal dyma'r modd yn wir
bendithir y gwr cyfion,
A ofno'r Arglwydd Dduw yn ddwys,
rhydd arno bwys ei galon.
verse 5 Cei gyflawn fendith gan Dduw Ion,
bydd dithau Seion ddedwydd,
Fel y gwelych â golan drem,
Gaersalem mewn llawenydd
Holl dyddiau d'einioes.
6 Plant dy blant,
cei weled llwyddiant iddynt,
Ac ar holl deulu Israel,
daw hedd diogel arnynt.
Sape expugnanerunt. Psal.
129.
Cynghori y mae i'r eglwys ymlawenhau, er bod erlidwyr ym mhob oes. Duw a'i gweryd hi, ac a sathr ei chaseion.
LLawer gwaith cefais gystudd mawr,
Israel yn awr dyweded,
O'm hieuenctyd hyd yr awr hon,
fe wyr fy mron eu trymed.
verse 2 A llawer gwaith y cefais lid,
o'm gwan ieuengctid allan,
A blin gystudd ar lawer tro,
ac etto ni'm gorfuan'.
verse 3 Yr arddwyr arddent y cefn mau,
drwy rwygo cwysau hirion:
verse 4 Y cyfion Ner torrodd yn frau,
bleth-didau'r annuwiolion.
verse 5 Pa rai bynnag a roesant gâs
ar degwch dinas Seion,
Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,
y rhai annuwiol creulon.
verse 6 Byddant fel y glâs wellt a fai
ar bennau tai yn tyfu,
Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,
yn gwywo, ac yn methu.
verse 7 Ni leinw'r medelwr ei law,
ni chair o honaw ronyn:
I'r casclwr nis tal ddim mo'i droi,
na'i drin, na'i roi mewn rhwymyn:
verse 8 Fel na bai byth gwiw gan y rhai
ar a dramwyai heibio,
Ddwedyd vnwaith, Duw a ro llwydd,
neu'r, Arglwydd a'ch bendithio.
De profundis. Psal.
130.
Gweddi am drugaredd a maddeuant o'n pechodeu, ac o'r diwedd am gael ein gwaredu o bob drwg.
O'R dyfnder gelwais arnat Ion,
verse 2 O Arglwydd tirion gostwng
Dy glust, ystyria y llais mau,
clyw fy ngweddiau teilwng.
verse 3 Duw, pwy a saif yn d'wyneb di,
os creffi ar anwiredd?
verse 4 Ond fel i'th ofner di yn iawn,
yr wyd yn llawn trugaredd.
verse 5 Disgwyliais f'Arglwydd, wrth fy rhaid,
disgwyliodd f'enaid arno.
Rhois fy holl obaith yn ei air,
verse 6 f'enaid a gair yn effro.
Ac am yr Arglwydd gwilio'y bydd,
fwy nâ gwiliedydd difri,
A edrych blygain bob pen awr,
a welo'r wawr yn codi.
verse 7 Vn wedd disgwylied Israel,
yn ddirgel am yr Arglwydd,
Cans mae nawdd gydâ'r Arglwydd nef,
mae yntho ef rywiowgrwydd.
Ei drugareddau ânt ar lled,
fe rydd ymwared ini.
verse 8 Fe weryd Israel: fal hyn,
fo'i tyn o'i holl ddrygioni.
Domine non est. Psal.
131.
Dafydd yn ymwrthod â balchdor gar bron Duw.
YN fy nghalon ni bu falch chwydd,
o Arglwydd, na dim tynder,
Ni chodais chwaith drahaus wg
i'm golwg o dra vchder.
verse 2 Ac ni rodiais yma a thraw,
i dreiglaw pethau mowrion;
Ni fanwl chwiliais am wybod
rhyfeddod a dirgelion.
verse 3 Gostyngais f'enaid i mewn pryd,
fel pan ddiddyfnyd herlod:
Fy enaid sydd fel vn a fu
gwedi ei ddiddyfnu'n barod.
verse 4 Ond disgwilied ty Israel
wrth wir Imanuel beunydd,
Sef wrth yr Arglwydd o'r pryd hyn,
heb derfyn yn dragywydd.
Memento Domine. Psal.
132.
Y ffyddlon yn ymddiried i addewidion Duw. Dafydd yn dymuno ar Dduw sicrhau yr vnrhyw.
O Cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,
a'i holl wrth-flinder hefyd;
verse 2 Pa lw adduned a roes fo
i Dduw Iaco, gan ddwedyd,
verse 3 Nid âf o fewn pabell fy nhy,
a'm gwely mwy nis dringaf;
verse 4 Ni roddaf i'm dau lygad hun,
amrantun chwaith ni chysgaf:
verse 5 Nes caffwyf gyfle yn ddi rus,
i Arglwydd grymus Iaco.
verse 6 Wele'n Ephrata clywsom fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.
verse 7 Pawb doed iw bebyll tirion,
Awn, ymgrymwn, pawb vfyddhaed,
wrth ei faingc draed yn vnion.
verse 8 F'arglwydd, cyfod i'th esmwyth lys,
a'th arch o rymmus fowredd.
verse 9 Gwisged d'offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
verse 10 Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyned dy enneiniog.
verse 11 I Ddafydd rhoes yr Ion lw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy faingc,
yt iraidd gaingc i eistedd.
verse 12 Fy neddfau a'm cyfammod i,
dy feibion di os cadwant;
O blann i blann o gaingc i gaingc,
hwy ar dy faingc a farnant.
verse 13 Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,
a rag-ddewisodd Seion:
I drigo ynthi rhoes ei fryd,
gan ddwedyd geiriau tirion;
verse 14 Hon fyth fydd fy ngorphwysta i,
o hoffder ynthi trigaf.
verse 15 Bendithiaf hi â bwyd di ball,
a'i thlawd diwall o fara.
verse 16 Ag iechydwriaeth, medd Duw naf,
y gwisgaf ei heglwyswyr,
A rhoddaf yngenau pob Sanct
o'i mewn, ogoniant psallwyr.
verse 17 Paraf hyn oll, ac felly y bydd,
corn Dafydd yn goronog:
Felly darperais, gan fy mhwyll,
brif ganwyll i'm eneiniog.
verse 18 Am ei elynion, o bob parth,
y gwiscaf warth a gwradwydd,
Paraf hefyd iw goron fo
flodeuo: medd yr Arglwydd.
Ecce quam. Psal.
133.
Clod cariad brawdol, a'i gyffelybu i'r olew yn y 30. pen. o Exodus.
VVEle, fod brodyr yn byw 'nghyd,
mor dda, mor hyfryd ydoedd
verse 2 Tebyg i olew o fawr werth,
mor brydferth ar y gwisgoedd▪
Fel pe discynnai draw o'r nen,
rhyd barf a phen offeiriad,
Sef barf Aron a'i wisg i gyd,
yn hyfryd ei arogliad.
verse 3 Fel pe discynnai gwlith Hermon
yn do dros Seion fynydd,
Lle rhwymodd Duw fywyd, a gwlith
ei fendith, yn dragywydd.
Ecce nunt. Psal.
134.
Cyngor i offeiriaid y Deml i glodfori yr Arglwydd.
VVEle, holl weision Arglwydd nef▪
bendithiwch ef, lle yr ydych
Yn sefyll yn nhy Dduw y nos,
a'i gyntedd diddos trefn-wych.
verse 2 Derchefwch chwi eich dwylo glân
yn ei gyssegr-lân annedd:
A bendithiwch â chalon rwydd,
yr Arglwydd yn gyfannedd.
verse 3 Yr Arglwydd, a'i ddeheulaw gref,
hwn a wnaeth nef a daiar,
A rotho ei fendith a'i ras,
i Seion ddinas howddgar.
[...]
[...]
Laudate nomen. Psal.
135.
Cyngor i'r ffyddloniaid i foli 'r Arglwydd am ei ddaioni yn gwarawyddo addolwyr culynnod.
O Molwch enw'r Arglwydd nef,
ei weision ef moliennwch,
verse 2 Y rhai a saif iw dy a'i byrth,
i'n Duw a'i fawrwyrth cenwch.
verse 3 Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
clod i'r Ior byw a berthyn:
Cenwch ei glod dros yr holl fyd,
a hyfryd yw y destyn.
verse 4 Oblegid yr Arglwydd, a'i nawdd,
ef a etholawdd Iaco,
Ac Israel, iw mysg y trig,
yn deulu vnic iddo.
verse 5 Cans mawr yw'r Arglwydd yn eilys,
mi a wn yn hysbys hynny:
Ym mhell vwchlaw'r holl dduwiau mân,
mae r Arglwydd glân a'i allu.
verse 6 Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,
yn vchder nef eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y mor cau,
a holl ddyfnderau 'r digion.
verse 7 O eithaf daiar cyfyd tarth,
daw'r mellt o bobparth hwythau,
Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,
a godynt o'i drysorau.
verse 8 Yn nhir yr Aipht dynion, a da,
â llawer pla y trawodd,
Cyntaf-anedig o bob vn,
â'i law ei hun a laddodd.
verse 9 I'th ganol di, o Aipht greulon,
rhoes Duw arwyddion rhyfedd,
Ar Pharo' a'i holl weision i gyd:
dug drwy'r holl fyd orfoledd▪
verse 10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth feirwon:
A lladdodd lawer yr vn wedd
o ben brenhinedd cryfion.
verse 11 Sef o'r Amoriaid Sehon fawr,
ac Og, y cawr o Basan:
A'r vn ddinystriad arnynt aeth,
a holl frenhiniaeth Canan.
verse 12 A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
gyd â'i holl fywyd bydol,
I Israel i roi a wnaeth
yn etifeddiaeth nerthol.
verse 13 Dy Enw (o Arglwydd) a'th nerth cry',
a bery yn dragywydd,
Ac o genedl i genedl aeth
dy goffadwriaeth, lywydd.
verse 14 Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,
yr Arglwydd cadarn cyfion,
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
bydd dostur wrth ei weision.
verse 15 Y delwau oll, gwaith dwylaw yn,
a dyfais dyn anffyddlon;
O aur ac arian dyn a'i gwnaeth,
o hil cenhedlaeth weigion,
verse 16 O waith dyn, genau rhwth y sydd,
heb ddim llyferydd iddyn:
Ac mae llun llygaid mawr ar lled,
a'r rhai'n heb weled gronyn.
verse 17 Dwy glust dynion sydd i bob vn,
heb glywed mymryn etto,
Eu safn yn ehang, ac ni chaid
na chwyth, nag enaid yntho.
verse 18 Vn fodd a'r delwau fydd y rhai
a'i gwnelai hwynt â'i dwylo,
Ac nid yw well nâ'r rhai'n yr vn,
ynthyn a ymddirietto.
verse 19 Ty Israel na choeliwch chwi:
ty Aion: Lefi vfydd,
verse 20 I'r rhai'n ddim, ond i'r Arglwydd nef,
bendithiwch e'n dragywydd.
verse 21 Bendithier fyth mawr Enw 'r Ion,
o Seion hen a barchem,
Bendithier moler ei enw fo,
sy'n trigo ynghaer Selem.
Confitemini. Psal.
136.
Mawr ddiolch i Dduw am wneuthur a llywodraethu pob peth.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
verse 2 Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd,
verse 3 ac Arglwydd yr arglwydi,
verse 4 Hwn vnic a wnaeth wrthiau mawr,
drwy ei ddirfawr ddaioni:
verse 5 Gwaeth â'i ddoethineb nef wchben,
verse 6 a'r ddaiaren a'r dyfredd,
Y rhai yw prif sylwedd y byd,
ac i gyd o'i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
verse 7 R' hwn a wnaeth oleuadau mawr,
o'r nef hyd lawr a'i fowredd.
verse 8 Haul y dydd,
9 â'r lleuad y nos,
i ddangos ei drugaredd.
verse 10 'Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig,
a'r blaen-anedig ynthi,
verse 11 Ac a ddug Israel i'r daith,
ac ymmaith o'i holl gyni.
verse 12 A hyn drwy law gref a bracih hir,
o rym ei wir ogonedd:
verse 13 A hollti'r mor coch yn ddwy ran,
o anian ei drugaredd.
verse 14 Dug Israel i'r lan yn wych,
fel dyna ddrych gorfoledd:
verse 15 Yscyttian Pharo, a'i holl lu,
a hyn a fu'i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw
moliennwch &c.
verse 16 A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,
drwy wledydd dyrys anian:
verse 17 Taro brenhinoedd er eu mwyn,
ac felly eu dwyn hwy allan.
verse 18 Lladd llawer brenin cadarn llon,
verse 19 sef Sehon yr Amoriaid:
verse 20 Ac Og o Basan yn vn wedd,
o'i fawr drugaredd dibaid.
verse 21 A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
en rhoi yn fywyd bydol
verse 22 I Israel ei was a wnaeth,
yn etifeddiaeth nerthol.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch. &c.
verse 23 Hwn i'n cystudd a'n cofiodd ni,
o'i fawr ddaioni tirion.
verse 24 Ac a'n hachubodd yn ddi swrth
oddiwrth ein holl elynion.
verse 25 Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd,
yn ddidlawd o'i drugaredd.
verse 26 Clodforwch Dduw brenin y nef,
rhowch iddo ef ogonedd.
verse 27 Molwch Arglwydd yr arglwyddl,
vwchben pob rhi o fowredo,
Duw'r duwiau, Ior vwchben pob Ion,
a ffynnon y drugaredd.
28 Molwch yr Arglwydd cans da yw,
molienwch Dduw y llywydd, &c.
Super flumina. Psal.
137.
Yr Israeliaid yn eu caethiwed (wrth glywed y Chaldeaid yn cablu Duw) sydd yn dymuno ar Dduw gosbi yr Edomiaid, y rhai a barasent i wyr Babel greuloni wrchynt: a phophwydoliaeth am ddinistr Babel.
PAn oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prif afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau'n loyw.
verse 2 Rhoddasom ein telynau 'nghrog,
ar goed canghennog irion.
Lle yr oedd preniau helyg plan,
o ddeutu glann yr afon.
verse 3 Y rhai a'n dug i garchar caeth,
ini yn ffraeth gofynnen,
A ni'n bruddion, gerdd i Seion,
sywaeth peth nis gallen'.
verse 4 O Dduw pa fodd y canai neb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlad estronol?
verse 5 Os â Caersalem o'r cof mau,
anghofied dehau gany;
verse 6 Na throed fy nhafod, oni bydd,
hi'n beu llawenydd ymy.
verse 7 Cofia di Dduw, blant Edom lemm,
yn nydd Caersalem howddgar;
Noethwch dynoethwch (meddei rhai'n)
ei mur a'i main i'r ddaiar.
verse 8 Bydd gwyn eu byd i'r sawl a wnel
iti, me
[...]ch Babel rydost,
Yr vnrhyw fesur, gan dy blau,
i ninnau fel y gwnaethost.
verse 9 Y sawl a gymro dy blant di,
bo'r rhei'ni fendigedig,
Ac a darawo'r eppil tan,
a'i pennau wrth y cerrig.
Confitemur tibi. Psalm.
138.
Dafydd ym canmol daioni Duw tuag atto ef, ac yn gweled drwy ei ffydd y cai efe gymaint daioni gan Dduw rhag llaw, ac o'r blaen.
RHof fawrglod iti, fy Nuw Ion,
o ddyfnder calon canaf:
Yngwydd holl Angylion y nef,
â'm hoslef i'th foliannaf.
verse 2 Ymgrymmaf tua'th sanctaidd dy,
dan ganu o'th drugaredd,
A'th enw mawr vwchlaw pob peth,
a'th air difeth wirionedd.
verse 3 Y dydd y gelwais arnat ti,
gwrandewaist fi yn fuan:
Yno y nerthaist â chref blaid,
fy enaid i oedd egwan.
verse 4 Doed brenhinoedd y ddaiar hon,
a rhoen yt vnion foliant:
Addolent oll ein gwir-dduw ni,
cans d'eiriau di a glywsant.
verse 5 Yn ffyrdd yr Arglwydd yr vn wedd,
ac am ei fowredd canant:
Gan ddangos drwy'r holl fyd ei fraint,
a maint yw ei ogoniant.
verse 6 Vchel yw'r Ion, etto fe wel
yr vfydd isel ddynion:
A gwyl o hirbell, er eu plau,
y beilch a'r gwarrau sythion.
verse 7 Pe bai yn gyfyng arna'r byd,
ti a'm bywheyd eilwaith:
Gan ystyn llaw i ddwyn dy wâs
oddiwrth rai atcas ymaith.
verse 8 Yr Arglwydd a gyflowna
â mi,
Duw dy ddaioni rhag llaw,
Ac yn dragywydd imi dod:
na wrthod waith dy ddwylaw.
Domine probafli. Psal.
139.
Dafydd er mwyn ei lanhau ei hun, yn dangos nad oes dim yn guddiedig rhag Duw: a thrwy ddangos ei serch tuag at Dduw, y mae efe yn ymroi i fod yn elyn i'r rhai a wrthwynebant Dduw.
ARglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i'm adwaeni hefyd:
verse 2 Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a'm meddwl cyn ei ddwedyd.
verse 3 Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a'm ffyrdd sydd ittr'n hysbys:
verse 4 Nid oes air nas gwyddost ei fod
ar flaen fy nhafod ofnys.
verse 5 O'm hol ac o'm blaen i'm lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
verse 6 Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a'i deall hi nis medraf.
verse 7 I ba le r'af fi i roi tro,
i'mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
verse 8 Os dringaf tua'r nefoedd fry,
wyd yno i'th dy perffaith:
Os tua'r dyfndwr, gostwng tro
yr wyd ti yno eilwaith.
verse 9 Pe cawn adenydd borau wawr,
a mynd i for mawr anial,
verse 10 Yno byddai dy ddehau di,
i'm tywys i a'm cynnal.
verse 11 A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywyllwg,
Canol y nos fel hanner dydd,
mor olau fydd yn d'olwg.
verse 12 Nid dim tywyllach nos i ti
nag yw goleuni haf-ddydd:
A'r ddau i ti maent yr vn ddull,
y tywyll a'r goleu-ddydd.
verse 13 Da y gwyddost y dirgelwch mau,
f'arennau a feddiennaist,
Ynghroth fy mam pan oeddwn i,
yno dydi a'm cuddiaist.
verse 14 Cans rhyfedd iawn y gwnaeth bwyd fi,
a'th waith di sy ryfeddod,
A'm henaid a wyr hynny'n dda
a hon a wna yt fowrglod:
verse 15 Ni chuddiwyd fy ngrym rhagot fi,
pan wnaethoft fi yn ddirgel,
Fel llunio dyn o'r ddaiar hon,
o fewn pridd eigion isel.
verse 16 Dy lygaid gwelsant fy nhrefn wael,
cyn imi gael perffeith-lun:
R oedd pob peth yn dy lyfr yn llawn,
cyn bod yn iawn vn gronun.
verse 17 Mor anwyl dy feddyliau ym,
mor fawr yw sum y rhei'ni:
verse 18 Wrth fwrw, amlach gwn eu bod
na'r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowyf fi,
'r wyf gyd'â thi yn gwblol.
verse 19 O Dduw, ba achos yn dy lid,
na leddid yr annuwiol?
O Dduw pe cofpid rhai o'r rhai'n
y sydd yn arwain traha;
Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,
dydi dos oddiymma.
verse 20 Y rhai am danad f' Arglwydd cu,
sy'n treuthu pethau sceler,
A'th elynion dibris eu llw,
cymrasant d'enw' n ofer.
verse 21 Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,
dy holl gaseion gwaedlyd?
Ond ffiaidd gennyf fi bob dyn,
a ai yn d'erbyn hefyd?
verse 22 A llawn gâs y cascais hwynt,
ynt fel ar hwynt gelynion.
verse 23 O chwilia fi o Dduw yn hy,
cei hynny yn fy nghalon.
Duw prawf fy meddwl i'n fy mol▪
verse 24 oes ffordd annuwiol genny;
Gwel fi, tywys, dwg fi yn f'ol,
dod ffordd dragwyddol ymy.
Eripe Domine, Psal.
140.
Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag dichellion ei elynion: a chan ei siccrhau ei hun o gymorth Duw, mae efe yn annog y cyfion i foli Duw eu helpwr.
RHag y gwr drwg gwared fi (Ner,)
rhag gwr y trowsder efrydd,
verse 2 Rhai sy'n bradychu yn ddirgel,
a chasglu rhyfel beunydd.
verse 3 Fel colyn sarph yn llithrig wau,
yw eu tafodau llymion:
Gwenwyn yr Asp sydd yn parhau
dan eu gwefusau creulon.
verse 4 Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws,
sy'n myfyr lliaws faglau,
Duw gwared fi, rhag gosod brâd,
ynghylch fy ngwastad lwybrau.
verse 5 Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,
wrth hon gosodwyd tannau;
Ar draws fy ffyrdd i ddal fy'nrhoed,
ynghudd, y rhoed llinynnau.
verse 6 Dwedais wrth f'Arglwydd fy Nuw wyd,
tyn fi o'i rhwyd a'i maglau:
O gwrando'n fuan f'Arglwydd nef,
ar brudd lef fy ngweddiau.
verse 7 Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,
a'm coel a'm iechyd calon;
Ti a roist gudd tros fy mhen mau,
yn nydd yr arfau gloywon.
verse 8 I'r dyn annuwiol, Duw, na âd
ddymuniad drwg ei'wllys;
Rhag ei wneuthur efo yn gry,
a'i fynd yn rhy drahâus.
verse 9 A'i holl ddymuniad drwg i mi,
a'i rhegen weddi greulon,
Y rhai'n yn llwyr a ddont ymmhe
[...]
y capten o'm caseion.
verse 10 Syrthied arnynt y marwor tân,
ac felly llosgan ymaith,
Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant,
fel na chyfodant eilwaith.
verse 11 Dyn llawn siarad fydd anwastad,
ni eistedd ef yn gryno:
A drwg a ymlid y gwr traws,
o hyn mae'n haws ei gwympo.
verse 12 Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâi
i ddial cam y truan;
Ac yr iawn farna y dyn tlawd
sy'n byw ar gerdawd fechan.
verse 13 Y rhai cyffawn drwy yr holl syd,
dy enw a gyd-foliannant,
A'r holl rai vnion, heb ofn neb,
o flaen dy wyneb trigant.
Domine clamaui. Psai.
141.
Dafydd pan oedd Saul yn ei erlid, yn dymuno help gan Dduw: a dioddefgarwch, nes passio 'r erlid hwnnw.
O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad;
O'r man lle'y bwyf gwrando fy llef,
a doed i'r nef hyd attad.
verse 2 Fy ngweddi gar dy fron a ddaw,
gan godi dwylaw'n vchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel vnion ddiwyr lefel.
verse 3 O Arglwydd gosod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy ngenau,
Rhag i'm gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy ngwefusau.
verse 4 Na phwysa 'nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â'r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.
verse 5 Boed cosp a cherydd y cyfiawn,
fel olew gwerthlawn arnaf;
Ni friw fy mhen, bo mwyaf fo,
mwy trosto a weddiaf.
verse 6 Eu barnwyr pe bwrid i'r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrys:
Gwrandawent ar f'ymadrodd i,
a chlywent hi yn felys.
verse 7 Fel darnau cynnyd o goed mân,
a fwrian rhyd y ddaiar,
Mae'n hesgyrn ninnau yr vn wedd,
ym mron y bedd ar wasgar.
verse 8 Mae 'ngolwg a'm holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan:
Duw bydd di'n vnic yn fy mhlaid,
na fwrw f'enaid allan.
verse 9 Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,
hon a osodwyd ymy,
Telm yr annuwiol, hoenyn main,
rhag ofn i'r rhai'n fy magly.
verse 10 Yr anwireddwyr b'ado vn,
cwympant eu hun iw rhwydau,
Ymddiried ynot ti a wnaf,
ac felly diangaf innau.
Voce mea. Psal.
142.
Dafydd, er nag ofn na dig, yn arbed Saul, ac yn gweddio ar Dduw ei geidwad.
RHois weddi ar yr Arglwydd nef,
yn llym fy llef ymbiliais;
verse 2 A'm holl fyfyrdod gar ei fron,
o'm calon y tywelltais.
verse 3 Ond pan fynegais it sy nghur,
a'm dolur o'm meddyliau,
Da gwyddit ti bob ffordd a'r man,
y rhoesan i mi faglau.
verse 4 O'r tu deau nid oedd ym' neb,
trown f'wyneb, a'm hadwaenai,
Na nawdd, na neb, o du'n y byd,
fy mywyd a 'mgeleddai.
verse 5 Arnad llefais, wrthyt dwedais,
Duw, di a ydwyd vnion:
Fy nghwbl obaith wyt ti yn wir,
a'm rhan yn nhir y bywion.
verse 6 O ystyr Arglwydd, faint fy nghri,
wyf mewn trueni digllon:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
mae rhei'ni yn rhy gryfion.
verse 7 O garchar caeth fy enaid tynn,
dy enw am hyn a folaf:
Pan weler dy fod ar sy rhan,
y cyfion twysgan attaf.
Domine exaudi. Psal.
143.
Gweddi am faddeuaut pechodau. Dymuno cael ei dderbyn i drugaredd, a chael Yspryd Duw iw gadw hyd ddiwedd ei fywyd.
ERglyw fy arch, o Arglwydd mâd,
wyf arnad yn gweddio:
O'th wirionedd, a'th gyfiownedd,
gofynnaf yt fy ngwraudo.
verse 2 Ac na ddos i'r farn â'th wâs gwael,
(pa les i'm gael cyfiownder?)
Am nad oes dyn byw gar dy fron
yn gyfion pan ei teimler.
verse 3 Y gelyn a erlidiodd f'oes,
mewn llwch i'm rhoes i orwedd:
Fal y rhai meirwon a fai'n hir,
is tywyll dir a'i hannedd.
verse 4 Yna fy ysbryd, mewn blin ing,
a fu mewn cyfing-gyngor:
verse 5 Ac ar fy nghalon drom daeth braw:
ond wrth fyfyriaw rhagor,
Mi a gofiais y dyddiau gynt,
a helynt gwaith dy ddwylo,
Am hyn myfyrais, fy Nuw Nâf,
am hyn myfyriaf etto.
verse 6 Fy nwylaw attad rhois ar led,
lle y mae f'ymddiried vnig,
Am danad f'enaid sydd yn wir,
vn wedd â'r tir sychedig.
verse 7 Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,
o Arglwydd, pallodd f'yspryd:
Rhag imi syned i'r pwll du,
fel rhai a ddarfu eu bywyd.
verse 8 Par i'm ar frys glywed dy nawdd,
cans ynot hawdd y credais:
A dysg i'm rodio dy ffyrdd rhâd,
cans f'enaid attad codais.
verse 9 A gwared fi fy Nuw, a'm Ion,
rhag fy ngelynion astrys,
Am fod fy lloches gydâ thi:
verse 10 o dysg i mi d'ewyllys:
Cans tydi ydwyt y Duw mau,
boed d' Yspryd tau i'm tywys
Ar yr vniondeb yn y tir,
dyna dy wir ewyllys.
verse 11 Duw, er mwyn d'enw fi bywhâ,
a helpa f'enaid tyner,
Allan o ing Duw cais ei ddwyn,
ac er mwyn dy gyfiownder.
verse 12 A gwna ar yr elynol blaid,
caseion f'enaid, gerydd:
Difetha hwynt er mwyn dy râs,
cans mi wyf dy was vfydd.
Benedictus Dominus. Psal.
144.
Dafydd yn moli Duw am iddo ynnill ei dyrnas, ac y mae fe yn dym uno eu tâl i'r anuwiol: ac yn dangos beth yw happus-rwydd cenedl.
BEndigaid f'or Arglwydd fy nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy nwylo'i ymladd, a'r vn wedd,
fy mysedd i ryfela.
verse 2 Fy nawdd, fy nerth, fy nug, fy nghred,
fy nhwr, f'ymwared vnig:
Cans trwyddo ef fy mhobl a gaf
tanaf yn ostyngedig.
verse 3 Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,
pan fyddyt iw gydnabod?
A mab dyn pa beth ydyw fo,
pan fych o hono'n darbod?
verse 4 Pa beth yw dyn? peth yr vn wedd
a gwagedd heb ddim hono;
A'i ddyddiau'n cerdded ar y rhod,
fal cysgod yn mynd heibio.
verse 5 Gostwng y nefoedd, Arglwydd da,
ac edrych draha dynion:
Duw cyffwrdd a'r mynyddoedd fry,
gwna iddynt fygu digon.
verse 6 Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,
iw lladd gyrr saethau tanbaid.
verse 7 Discyn, tyn fi o'r dyfroedd mawr:
hyn yw, o law'r estroniaid
Duw gwared fi.
8. Geneuau 'rhai'n
a fydd yn arwain gwegi▪
A'i dehau law sy yr vn bwyll,
ddeheulaw twyll, a choegni.
verse 9 I ti Dduw, canaf o fawrhad,
yn llafar ganiad newydd,
Ar nabl, ac ar y deg-tant,
cei gerdd o foliant bennydd.
verse 10 Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,
eo swccraeth at iawn reol:
Dan ymwared Dafydd ei was,
rhag cleddyf cas niweidiol.
verse 11 Duw gwared, achub fi wrth raid,
rhag plant estroniaid digus,
A'i safn yn llawn o ffalsder gau,
a'i dehau yn dwyllodrus.
verse 12 Bydd ein meibion mal planwydd cu,
o'r bon yn tyfu'n iraidd:
A'n merched ni fel cerrig nadd,
mewn conglau neuadd sanctaidd.
verse 13 A'n conglau'n llawnion o bob peth,
a'n defaid, difeth gynnydd,
Yn filoedd, (mawr yw'r llwyddiant hwn)
a myrddiwn i'n heolydd,
verse 14 A'n hychen cryfion dan y wedd,
yn hywedd, ac yn llonydd:
Heb dorr na soriant i'n mysg ni,
na gwdeiddi i'n heolydd.
verse 15 Dedwydd ydyw y bobl y sy,
a phob peth felly ganthynt:
Bendigaid yw'r bobl y rhai'n yw,
a'r Arglwydd yn Dduw iddynt.
Exaltabo te. Psal.
145.
Dafydd yn dangos daioni Duw yn llywodraethu pob creadur. Mawl i Dduw am ei gyfiownder, ai ras, ai serch i bob dyn a'i hofno, ac a'i caro.
MI a'th fawrygaf di, fy Nuw,
cans tydi yw fy llywydd:
Bendithio dy enw byth a wnaf,
mi a'i molaf yn dragywydd.
verse 2 Dy enw a folaf fi bob dydd,
a'th glod a fydd heb orphen.
verse 3 Yr Arglwydd sydd glodfawr heb wedd,
a'i fowredd sydd heb ddiben.
verse 4 Cenedl wrth genedl a ront fawl
i'th ogoneddawl wrthiau;
Gan danu dy nerth rhyd y byd,
a dwedyd dy gynneddfau.
verse 5 Am dy ogonedd mawr, fy Naf,
mynegaf, a'th gadernyd.
verse 6 Son am dy bethau ofnadwy,
gwnant hwy a minnau hefyd.
verse 7 Llwyr goffadwriaeth honot ti,
a'th fawr ddaioni traethant;
Ac o'th gyfiownder, fy Nuw Ion,
a llafar don y canant:
verse 8 Sef graflawn yw ein Arglwydd ni,
ac o dosturi rhyfedd:
Hwyr ac anniben yw i ddig:
llawn-frydig i drugaredd.
verse 9 Da yw yr Arglwydd i bob dyn,
a'i nodded sy'n dycciannol:
Ac ar ei holl weithredoedd ef
daw nawdd o'r nef yn rasol.
verse 10 Dy holl weithredoedd di i'th lwydd,
o Arglwydd a'th glodforant:
Dy wyrth pan welo dy Sainct di,
y rhei'ni a'th fendithiant:
verse 11 Gan son am drugaredd a grâs
dy dyrnas, a'i chadernyd:
Fal dyna'r gerdd sydd yn parhau,
yn eu genenau hyfryd.
verse 12 Fel y parent drwy hyfryd glod,
gydnabod a'th dyrnassiad,
A'th nerth ym mysg holl ddynol blant,
a'th lawn ogoniant gwastad.
verse 13 Brenhmiaeth dy dyrnas di fry,
a bery yn wastadol,
A'th lywodraeth o oed i oed,
hon a roed yn dragwyddol.
verse 14 Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,
y rhai sy 'mron eu cwympod.
Ac ef a gyfyd bawb yn wir,
ar a ostyngir isod.
verse 15 Wele, mae llygaid yr holl fyd
yn disgwyl wrthyd Arglwydd,
Dithau a'i porthi hwynt i gyd,
bawb yn ei bryd yn ebrwydd.
verse 16 A phan agorech di dy law,
o honi daw diwall-faeth:
D'ewylls da yw ymborth byw,
a hynny yw eu llyniaeth.
verse 17 Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt,
a'i wrthiau ydynt sanctaidd:
verse 18 Agos iawn i bawb ydyw fo,
a eilw arno'n buraidd.
verse 19 Sef ar y gwyr a'i hofnant ef,
fo glyw eu llef iw gwared,
Fo rydd eu wyllys hwynt a'i harch,
o'i wir-barch, Ion gogoned.
verse 20 Pob dyn a garo'r Arglwydd nef,
caiff gantho ef ei 'mddiffyn:
A chan ddifetha rhydd oes ferr,
i bob ysceler cyndyn.
verse 21 Fy enaid traethed fendith rhwydd,
a mawl yr Arglwydd nefol:
A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct,
ogoniant yn dragwyddol.
Lauda anima mea. Psal.
146.
Na all neb ymddiried i ddyn, ond yn Nuw hollalluog, yr hwn a weryd y cystuddiedig, a byrth y tylodion, a ryddha y carcharorion, a gyssura yr ymddifad, y weddw, a'r dieithr: ac sydd frenin yn dragywydd.
FY enaid mola'r Arglwydd nef,
verse 2 Mi'ai molaf ef i'm bywyd;
Dangosaf glod i'm Harglwydd Dduw,
tra gallwyf fyw na symmyd.
verse 3 Na wnewch hyder ar dwysogiou,
nac ar blant dynion bydol:
Am nad oes ynthynt hwy i gyd,
na help nac iechyd nerthol.
verse 4 Pan el y ffun o'r genau gwael,
a'r corph i gael daiar-lan;
Felly dychwyl, fel dyna'r dydd
y derfydd ei holl amcan.
verse 5 Y pryd hwn gwyn ei fyd efo
a rotho ei holl obaith
Ar Dduw Iaco yn gymorth da,
pan el oddi yma ymaith.
verse 6 Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor,
a'r holl ystor sydd ynthynt:
Hwn a saif yn ei wir ei hun,
pryd na bo vn o honynt.
verse 7 Yr hwn i'r gwael a rydd farn dda,
a bara i'r newynllyd,
Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,
o'i garchar ac o'i gaethfyd.
verse 8 Yr Arglwydd cgyr lygaid dall,
ef a dyr wall gwael ddynion:
Ymgleddu'r gwan mae'n Harglwydd ni,
a hoffi y rhai cyfion.
verse 9 Dieithraid, a'r ymddifad gwan,
a'r weddw druan vnig,
Duw a'i pyrth: ond dyrysu wnai
holl ffyrdd pob rhai cythreulig:
verse 10 Yr Arglwydd yn teyrnasu a fydd,
dy Dduw tragywydd Seion:
O oes i oes pery dy lwydd▪
molwch yr Arglwydd tirion.
Laudate Dominum. Psal.
147.
Mae'r prophwyd yn moli amryw ddaioni Duw tuag at ei greaduriaid, ac yn enwedig eu eglwys, yr hon a gasclwyd, ac a gafas ragor ddaioni rhagor vn bobl eraill.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
canu i Dduw yn llafar:
O herwydd hysryd yw ei glod,
a da yw bod yn ddiolchgar.
verse 2 Caersalem dinas gyflawn fydd,
yr Arglwydd sydd iw darpar:
Gan gasglu Israel ynghyd,
a fu drwy'r byd ar wasgar.
verse 3 Yr vnic Arglwydd sy'n iachâu,
yn rhydd o friwiau'r galon;
Yr Arglwydd rhwym 'cu brwiau'n iawn
y rhai dolur-lawn cleifion.
verse 4 Yr Arglwydd sydd yn rhifo'r ser,
a phob rhyw nifer honynt:
Ef a'i geilw hwynt oll yn glau,
wrth briod enwau eiddynt.
verse 5 Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth,
a phrydferth o rasoldeb;
Ac mae'n bell iawn vwch ben pob rhif,
son am ei brif ddoethineb.
verse 6 Yr Arglwydd vnic sydd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac ef a ostwng hyd y llawr
y dorf fawr annuwioliaid.
verse 7 Cenwch i'r Arglwydd mal y gwedd,
clodforedd iddo a berthyn:
O cenwch, cenwch gerdd i'n Duw,
da ydyw gydâ'r delyn.
verse 8 Hwn â chymylau toes y nen,
â glaw'r ddayaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,
a llysiau'i ddynion parodd.
verse 9 Hwn i'r anifail ar y bryn
a rydd yr hyn a'i portho:
Fe bortha gywion y cigfrain,
pan fon yn llefain arno.
verse 10 Nid oes gantho mewn grym vn march,
na serch na pharch, na phleser:
Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,
fal dyna gyflwr ofer.
verse 11 Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn,
yr hwn y sy'n ei hoffi:
Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,
caiff hwn yn hawdd ddaioni.
verse 12 O Caersalem gyflawn o lwydd,
molianna' r Arglwydd eiddod;
O Seion sanctaidd, dod vn wedd
i'th Dduw glodforedd barod;
verse 13 Herwydd yr Arglwydd â'i fawr wyrth
a wnaeth dy byrth yn gryfion:
A rhoes ei fendith, a thycciant,
ymlhith dy blant a'th wyrion.
verse 14 Hwn a roes heddwch yn dy fro,
fel y cynnyddo llwyddiant,
Ac a ddiwallodd yn eich plith,
o frasder gwenith, borthiant.
verse 15 Ei orchymmyn ef a ddenfyn,
o'i ddown-fawr air cymhesur,
Hwn ar y ddaiar â ar led,
ac yno rhed yn brysur.
verse 16 Eirch i'r eira ddisgyn fel gwlân:
eirch rew, fe'i tân fel lludw,
verse 17 Eirch ia, fe ddaw yn defyll cri,
pwy'erys oerni hwnnw?
verse 18 Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,
fe bair i'r gwynt ochneidio
I doddi'r rhai'n, ac felly bydd
i'r holl afonydd lifo.
verse 19 Grym ei air, a'i ddehaulaw gref,
a ddengys ef i Iaco,
A'i ffyrdd a'i farn i Israel,
a'r rhai a ddel o hono.
verse 20 Ni wnaeth efe yn y dull hwn,
â neb rhyw nassiwn arall;
Ni wyddent farnau'r Arglwydd nef.
O molwch ef yn ddiball.
Laudate Dominum. Psal.
148.
Mae efe yn annog pob creadur, o bob lle i foli Duw, yn enwedig am ei ddaioni i Israel.
O Molwch yr Arglwydd o'r nef,
rhowch lef i'r vchel-leoedd.
verse 2 Molwch hwn holl angylion nef,
molwch ef ei holl luoedd.
verse 3 Yr haul, a'r lleuad, a'r holl ser,
y gloywder, a'r goleuni,
verse 4 Nef y nefoedd, a'r ffurfafen,
a'r deifr vwch ben y rhei'ni.
verse 5 Moliannant enw'r Arglwydd nef,
hwynt â'i air ef a wnaethbwyd,
Dwedodd y gair, a hwy fal hyn
ar ei orchymmyn crewyd.
verse 6 Rhoes reol iddynt i barhau,
fel deddfau byth iw dilyn:
Rhoes bob peth yn ei le'n ddi os,
nad elo dros ei derfyn.
verse 7 Molwch yr Arglwydd o'r ddayar,
chwychwi ystrywgar ddreigiau,
verse 8 Y tân, a'r cenllysg, eira, a tharth,
a'r gwynt o bob parth yntau,
verse 9 Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlon wydd,
a'r tirion gedrwydd brigog,
verse 10 An'feiliaid, ac ymlusgiaid maes,
ac adar llaes asgellog,
verse 11 Brenhinoedd daiar, barnwyr byd,
swyddwyr ynghyd â'r bobloedd,
verse 12 Gwyr ieuainc, gwyryfon, gwyr hen,
pob bachgen ym mhob oesoedd.
verse 13 Molant ei enw ef ynghyd,
vchel a hyfryd ydoedd,
Ei enw ef sydd vchel ar
y ddaiar oll, a'r nefoedd.
verse 14 Cans corn ei bobl a dderchafawdd,
yn fawl a nawdd i'r eiddo,
I Israel ei etholedig,
a drig yn agos atto.
Cantate Domino. Psal.
149.
Cyngor i'r eglwys i foli Duw am oruchafiaeth y Sainct.
CEnwch i'r Arglwydd, ac iawn fydd,
ryw ganiad newydd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfa'r Sainct.
ei fawr fraint a'i orfoledd.
verse 2 Boed Israel lawen a ffraeth,
yn Nuw a'i gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfryd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.
verse 3 Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelyn;
verse 4 Cans bodlon iw bobl yw i gyd,
rhydd iechyd i'r lledneis-ddyn.
verse 5 Iw Sainct ef doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gwelau, (yn llawen ddull)
ac yn eu stefyll canant.
verse 6 Yn eu genau bydd cerdd bob awr,
ein Duw a'i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,
y cleddyf deufin parod;
verse 7 Ar estroniaid i'n dial ni,
ac i gosb boeni'r bobloedd:
verse 8 I roi mewn caethder gadwyn dro,
i rwymo ei brenhnioedd.
I roi eu pendefigion chwyrn,
mewn gefyn heyrn ffyrnig.
verse 9 I wneuthur arnynt vnion farn,
yn gadarn scrifennedig.
Dymma'r glân ardderchwgrwydd fydd
iw Sainct y sydd yn credu;
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
o molwch ef am hynny.
Laudate Dominum. Psal.
150.
Mae yn annog i foli Duw yn ddibaid â phob cerdd, am ei weithredoedd mowrion.
MOlwch Dduw yn ei gyssegr len,
sef ei ffurfafen nerthol,
verse 2 Molwch ef iw gadernid llym,
ac amlder grym rhagorol.
verse 3 Ar lais vdcorn rhowch y mawl hyn,
ar nabl, telyn, Tympan.
verse 4 Molwch chwi ef â llawn glod glau,
a thannau, pibell, organ.
verse 5 Ar y symbalau molwch ef,
ar rhai'n
â'i llef yn sein-gar:
O molwch ef â moliant clau,
ar y Symbalau llafar.
verse 6 Holl bethau (molent vnduw byth)
sydd ynthynt cwyth y bywyd.
Rhoent gyd gerdd foliant i barhau:
clod-forwn ninnau hefyd.
Gogonedd a fytho i'r Tâd,
i'r Mab rhad a'r glân Yspryd:
Mal y bu, y mae, ac y bydd
vn Duw tragywydd hyfryd.
Terfyn Psalmau Dafydd.