❧YR AWDVR NEVR GWR A WNAETH Y LHYFR YMA AT EI garedigion Gymry, yn erchi phynniant a lhwydhi­ant idhynt.

WRTH feðwl am fraint a bri r Cymry gynt, a i lhesced a i diystyred yr owran, mae dolur a chlefyd yn magu yn fynghallon: Cymbry yn d [...]ag­yn [...]. Canys heb geisio son am wyr mawr a fu o Gymry, drwy synnwyr a nerth yn gorescyn ag ennuỻ gwledyð, gan orchfygu a gorfod ar frenhinoeð, drwy lawer oes o Bhrutus hyd yn amser Crist: Nyni a gophawn y peth rheitiaf i n harfaeth a n pwrpas ni, a r [...]ech sy n heuðu mwy o glod ymhlith Cristianog [...] ­ion, yn fwy na dim o r a fu cyn geni Crist, yn gymaint ag y mae braint a pharch yr en aid yn rhagori ar y corph. Eisoes ny ðaw [...] i o benn a chasclu r cwbl ynghyd, a r a fu e [...] amser Crist o oruchafiaeth Cristianogaw ymhlith Cymbry. Am hynny yn lhe samp [...] i ðangos i ni beth a fuom gynt, a pheth yd ym yn awr, mi a ðangosa bedwar sampl yn dwyn clod fawr i genedl Gymry, pe y ba­ent yn haudhu clod a pharch: On d y maent yn nes i ðwyn i r Too syð hedhiw o Gymry fwy o gywilyð a gwarth, nag o glod a ch [...] ­moliaeth.

Y Goruchafiaeth cyntaf oedh, i Dhuw [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] mor drugarawg i r hen Gymbry a dāfon yn y mann, ar ol i Grist ðioðef, y phyð Gristi­anogawl yn eu plith: Yn gymaint a danfon o Dhuw Ioseph ū o r ðau wr vrðasawl a fu yn claðu Crist: Hwnn a ðoeth a r phyð gyn­taf oỻ i ynys Frydaī i r Cymbry. Ag er eyn bod ni yn beỻ aruthr oð i wrth Gaer Selem [...] ynys wedy n corlānu a n neiỻtu­aw [...]d i wrth yr hoỻ fyd mewn cōgol ðirgel: eisioes ir oeð Duw yn gofalu ag yn pryderu cymeint am dāom ni, ag iðo yn y mān, meg­ys cyn oeri gwaed y mab rhat, ðanfō y gwr [...] fuassei yn claðu Crist, i bregethu i r Cym­ [...] [...] throes y Brenhin i r phyð y pryd [...]ny, eisoes ef a droes lawer o Gymbry [...]raiỻ.

Mae rhai yn yscrifennu na fu ðigon gan Crist ðanfon Ioseph i n plith ni, ond hefydfod un▪ on [...] [...] fwy o Bostolion Crist yn yn­ys Brydein ymhlith Cymry. Ond hynn sy [...]cur ðigon mae vn or Brenhinoeð cyntaf, a fu Gristiawn, oeð Frenhin yr hen Gym­bry. Canys pawb sy n aðef ðanfon o Les fal­ Coel gēnad i Rufain at Bab Rhufain i ðeis­yf arno dhanfon gwyr o ðysc atto i bregethu phydh Grist i r Brenhin. Yna y danfonodh Eleutherius y Pab ðau wr dyscedig duwiol, sef Phagan a Doewan. Y ðau yma oeð Bos­soliō y Cymbry: yr hain a drosāt y Brenhin [Page] a ỻawer o r deyrnas i phyð Grist.

Y trydydh Goruchafieth i r Cymry oeth, fod yr Emherawdr cyntaf o r a fu erioed o Gristiawn, yn Gymbro: Hwnn oeð Cons­tennin Fawr fab Elen. Cyn yr Emherodr yma yr oeð y lheiỻ i gyd yn ỻadh milioedh o Gristnogion beunyð drwy r hoỻ fyd, yn en­wedig yn Rhufain, lhe i byðei yr Emhera­wdr yn preswyl ag yn trigo fynychaf: Yn gymait ag na adawsont vn Pab o Bedr hyd yn amser Siluester hwnn a fedyðioð Cōstēn­in fawr. Ny adawed vn Pab i fyw heb ei ỻað o Bedr hyd ar rifedi tri ar ðeg ar hugeint. On d pā ðoeth Cystēnin Gymro yn Emher­odr, ny laðed mwy o r Cristnogiō, on d gw­neuthur cyfraith a wnaeth ef i roi rhyðid i r Cristiāogiō drwy r hoỻ fyd i wneuthur Eg­lwysi. Ag ef hefyd a roes sampl iðynt: Da [...]us i [...] [...] Can­ys ef a wnaeth yr Eglwysi cyntaf yn Rhufa­in ag mywn manneu eraiỻ.

Y pedweryð Gorchafieth oeð, P [...] m [...] [...] ðamwī i Elē y Frēhines sāteiðiol a mam Gōstēnin drwy weledigaeth fyned i Gaerusalem o ynys Brydein, a dwyn oð i yno y groes fendiga­id, a oedh wedy ei chlaðu a i chuðio mywn rommen dros ðeucant o flynyðoeð drwy fa­wrðrygynieth yr Iðewon. Gwedy cloðio r Groes o r dommenn a i adnabod drwy wyr­rhieu odh y wrth groeseu r lhadr [...]n, Elen y [Page] Gymraes a r Santes a i rhannoð: Dar [...] adawoð yn Ghaerselem a gwisc ariant yn [...] chylch, ag a wnaeth eglwys deg yno er en rhydeð i r Groes: Y druỻ araỻ a ðug hi i Ru­fain, le i mae etwa yno mywn eglwys sy wedy ei gwneuthur er enrhydeð i r Groes. Dyma Gymraes ai Mab yn cael son mawr am danwynt, ai copha drwy fawrglod yn yr Eglwys Gatholic drwy hoỻ Gred hyd ar ðiweð y byd.

Ny ðerfyðei i mi fyth henwi Rhisteir ag eiryf Saint o Gymry. Yr oeð mywn vn ynys fechan, a elwid ynys Enlhi yn Gwyn edh vgeinmil o Saint. Mi a welais gopi [...] Siarter yr ynys dan law Pab Rufain y rhoi mawr feðianneu i r sawl a ðelai yno [...] berindotta er enrhydeð i r vgeinmil o Saīt. Yno yr oeðid yn ei henwi hi yn Rhufain y [...]ymbry, ag ynys yr vgeinmil o Saint: Am fod y ỻe o i faint mor rhinweðawl, a chym­ [...]int cyrchfa iðo yn i herwyð ag i Rhufain [...]awr. Beth a ðywedwn am Vrsula Sant­es a Chymbraes? A hitheu yn ferch i Fren­hin y Cymbry, a ðioðefoð farwolaeth er ca­ [...]w ei morwyndod, ag vnmil ar ðeg o foryn­nion yn Santesol yn ðioðef gyd a hi: A r cwbl a ðoethant o wlad y Cymbry.

Yr oeð yn yr hen amser yn Sir Bhrache [...]iawc vn gwr a phedwar ar hngain o bl [...] [Page] iðo, a phob vn o honynt yn Sant. Nyd oes [...]olad yn hoỻ Gred o gymaint o dir a chyma­int o Saint ynðei, ag oeð gynt ymhlith Cy­mbry. Ny rhoen ni ðim o r ỻaw vwchaf i vn wlad onyd i r Rufeindir yn vnig: Ag etto mywn Conphessorieid yn merw yn Saint heb eu ỻað, nyd ydym ni yn tybieid fod Rhu­fain yn rhagori ar Cymry: Ond o rān Mer­thyri y mae Rhufaī yn dwyn rhagor ar bob gwlad. Mae n rhaid i r gwledyð er aiỻ enwi r rhann fwyaf o e Heglwysi ar henw vn o r Postolion neu Saint ereiỻ, ny bythont yn perthyn ið eu gwlad nhyw: Ond drwy holh [...]ymry ny cheir nemor o eglwys on d ar [...]nw Saint y wlad. Mae i Fair ag i Fihan­ [...]el lawer o eglwysi yn Ghymry: Heb law r [...]au yma anaml y cephir nhwy ond yn dwyn enweu r Saint Cymbreig: Ag etto nyd yd­ym ni yn adnabod y ðegfed rann o henwær Saint yn y wlad.

Dyma fal y bu Gymry gynf: ond yr owrā myfi a glowa fod aml leoeð yn Ghymbry, Cymbry yn dhrwg yn yr oes hon. ie Siroeð cyfan heb vn Cristiawn ynðynt, yn byw mal anifeilieid, y rhān fwyaf o honynt heb wybod dim oð i wrth ðaioni, ond ei bod yn vnig yn dala henw Crist yn ei cof, heb wybod haychē beth yw Crist mwy nag ani­feilieid: A r manneu ỻe i mae rhai o honynt yn Gristnogion, nyd oes ond rhai tlodion cy­phredin [Page] yn calyn Crist: Mae r Bonheðig a r hai Cyfoethoccaf heb feðwl am phyð y y byd, heb fod na thwymyn nag oer: Am hynny (með Crist) ef ai chwyda nhwy alhan oi eneu, fal i mae naturieth dyn chwdu dw­fr hoewdwym a fytho rhwng twym ag oer. Ond yn ỻoegr mae r gwyr Bonheðigion yn amal yn dha, ag yn rhoi sampl mywn phydh a buchedh dha i r Cyphredin: A r Cymry Bonhedhigion yn rhoi sampal i r tylodi [...] cyphredī i fod heb na Phyð na Chydwybod Am hynny y byð rhaid i r bonneðigion ar [...] dyð dial roi cyfrif nyd yn vnic am eu pech dæ i hunain ond am lawer o r cyphredin s [...] goỻedig o ethryb sampl drwg y bonheðigiō fal i mae r cyphredin Gymry y rhān fwya o honynt yn canlyn bonheðigion, ag yn dw yn eu bucheð ar ol sampleur r bonneðigion. [...] fal i mae r Cymbry ymheỻ oðiwrth ðai [...] feỻy y mae r bonheðigiō ag eraiỻ yn ys gluso ag yn diystyru r iaith gymraec: Am fod y rhann fwyaf o r bonheðigion heb fedr [...] na darỻain nag yscrifēnu cymbraeg: Y peth syð gywilyð iðynt: A hyn syð yn peri i r Sa­esō dybieid a doydyd fod yr iaith yn salw, yn wael, ag yn diphrwyth ðiberth, heb dalu dim: Am eu bod yn gweled y bonnedhigion Cymbreig heb roi pris arnei: Canys pe y haei r iaith yn talu dim, y Saeson a dy [...] [Page] [...]t y gwnai r bonheðigion Cymreig fwy [...] oris arni, nag i maent yn i wneuthur. Hefyd chwi a gewch rai o r Cymry mor ði­flas ag mor ðibris ðigywilyð, ag iðynt ar ol bod vn flwyðyn yn Lhoegr, gymeryd arnynt oỻwng en Cymraeg dros gof, cyn dyscu Sa­esneg ðim cyful i ða. Y coegni a r mursen­dod hyn yn y Cymry sy yn peri i r Saeson [...]ybied na thal yr iaith ðim, am fod ar y Cy­mry gywilyð yn dywedyd eu hiaith i hūain: A hynny a wnaeth i r iaith golhi a bod wedy ei chymyscu ai ỻygru a saesneg. Ond i mae gan y fi beth amcā ar ieithoeð eraiỻ, a pheth gwybodae [...]h o rann yr iaith Gymraec: ag yn wir wrth gymharu ieithoeð ynghyd ny wela [...] yr vn o r ieithoeið cyphredin eraiỻ, nad yw Gymraeg yn gystal a r ore [...] o honynt oỻ, as ceiph ei dodi ai gossod aỻan yn ei rhith ai [...]eulun i hun, ie ag yn blaenori ar lawer o ieithoeð ereiỻ mywn aml foðau a fedrwn eu henwi, ag a wyr y Cymbro dyscedig. Py ba­ei r bonheðigiō Cymreig yn ymroi i ðarỻen [...] i scrifēnu eu hiaith, hynny a wnaei i r cy­ [...]hredin hefyd fawrhau a hophi r iaith. Ag megys y darfu i mi scrifennu r ỻyfr yma yn [...]ennaf er mwyn y cyphredin a r annyscedig [...]ymbry, er rhoði cynghor i r hai deiỻion, sy [...]edy myned ymheỻ oð i ar y phorð: feỻy ir [...]yf yn deisyf ar y bonneðigion Cymbrigeið [Page] ar y sy yn dwyn ewylhys da i r iaith, er eu bod yn cael cyngor da mywn ỻyfreu saesoneg da, etto er mwyn denu r cyphredin i darỻain ag i wrando ar hyn o gyngor, nhwy a wnant yn ða gar bron Duw, a daioni yw Gwlad, os darỻennant hefyd y ỻyfr yma, er mwyn rhoi sampl i r cyphredī i fod yn chwānoccach yw ðarỻein ai glywed.

[...]ynhwy­ [...]ad ag or­ [...]r yr ho­lyfr.Yr ansawð a r ordor a gedwais i yn y ỻyfr yma a gewch chwi ei deaỻ y lhynn: Fy með­wl a m pwrpas yn vnig yw dwyn dynion i fyw fal Cristnogion, i wasanethu Duw yn ðwyfol: Dyma r peth yr ydwyf yn trafaelio ag yn ỻhafurio am dano yn yr hoỻ lyfr yma. Am hyn mi a rēnais y ỻyfr yn dair rhān.

Yn y rhan gyntaf ir wyf yn ceisio dwyn dyniō i wasanaethu Duw drwy deg a thrwy gariad: Ag o achos hynny yn yr hoỻ rān gyn­taf ir wyf yn dangos y daioni y mae Duw [...]edy roi i ðynion i geisio eu dwyn i garu [...]uw ag ei wasanethu drwy deg, am idho [...]neuthur cymaīt o ðaioni i ðyniō. Y daioni cyntaf a gawsom gan Dhuw, oeð idho eyn gwnenthur ni o ðim ar ei lun ai ðelw i hun­an yn Nechreuad y Byd: ag o r daioni yma [...] mae vn Pennod i r rhān gyntaf or lhyfr. Yr ail daioni a gowsom gā Dhuw oeð wrth [...]ðo eyn prynnu ni drwy farw drosom pan [...]eðem yn goỻedig: ag i mae Pennod araỻ yn [Page] dangos y daioni yma. Y ðau ðaioni hynn a [...]āgosoð Duw i ni yn y byd yma: Ond i mae r trydyð ðaioni yn ei gadw hyd y byd nesaf: Hwnn yw ỻawenyð ternas nef: Y daioni yma yr wyfi yn ei ðangos yn y Pēnod diw­eðaf o r rhann gyntaf i r ỻyfr. Ag fal dyma derfyn a diweð ar y moð cyntaf, Sef yw ich dwyn drwy deg i fod yn Gristianogion. Ag ony throwch drwy deg, y mae r ail Rhān yn eych galw drwy hagar: Ony fyðwch da er cariad ar Dhuw yn y Rhān gyntaf, byðwch weison i Dhuw rhag ei ofn yn yr ail Moð.

Ag o achaws hynn yn yr ail Rhān i r ỻyfr yr wy fi yn dangos dig a dial Duw yn erbyn Pechadurieid, i beri iðynt ofni Duw, ai wa­sanaethu rhag ei ofn. On d cyn dechreu r ail rann, yr wy fi yn dangos brynti pechod, a maint yw dig Duw ai ðial yn fynech yn y byd yma yn erbyn pechadurieid. Yn ol hynn yr wy fi yn myned o radh i rað hyd at y dial pennaf, wrth ðechreu dangos dial Duw yn y byd yma: Ond yr ail dial sy waeth na r cyntaf, a r ail a fyð Dhyð y Farn. Etto y mae r trydyð dial yn waeth na r ail: a hwnn a fyð fyth yn Yphern. Am hynny mae r tri dial hynn yn canlyn eu gilyth yn ol eu grað­eu yn yr ail rann i r ỻyfr: a hyn i gyd i yrru ofn ar ðynion. Yn y penn diwedhaf i r ail [...]nn yr wy fi yn dangos faint i dylem ofn [Page] farfoleth annuwiol: Am fod marfoleth ða yn dwyn dynion i r nef, a marfoleth dhrwg yn dwyn i Yphern. Ið wu gwnenthur yn bryd­e [...]us ag yn ofalus i feirw yn dha, ag i fod yn barod pan ðel angheu, y gosodais i farwola­eth ar ol yr hoỻ betheu ofnys: Am fod cym­eint achos i ofni marfoleth ðrwg, ag y syð i ofni Dhyð y Farn ag Yphern. Y ðwy Rān yma i r ỻyfr a aỻei fod yn ðigon i ðwyn dyn­ion resymol i garu ag i ofni Duw.

Ond gan fod dynyon bydol yn gwneuthur ỻawer o escusodion rhag troi at Dhuw, yn y drydyð Rann i r ỻyfr yr wyf yn tynnu pob rhwystr oð i ar eu phorð nhwy. Yr rhwyst­ron pēnaf a r amlaf yw r hain: y Byd, Oedi r amser i droi at Dhuw, Pwyso gormoð ar drugareð Dhuw, Anhawð a chaled ganth­ynt fucheð y Cristianogion, Coỻi Tir a da­yar a Da, a Gadel eisieu ar y Wraig a r Plant, os byðant Gristianogion, Diodhef Cospedigaeth a Marwolaeth am y Phyð. Dyma r chwech rhwystr pennaf sy n dala ỻawer rhag bod yn Gristianogion. Am hyny yn y drydyð rann o r ỻyfr mewm chwe phē ­nod ir wy fi yn tynnu r Rhwstron coegion hyn oð i ar y phorð, yw gwneuthur yn rhw­yð i bob math ar ðyn.

Ag er bod y ỻyfr yma wedy ðosparthu ai rannu yn dair Rhān, fal i clowsoch, rhaid [Page] yw dyaỻ o rann daioni r matter a r phrwyth fod y tair Rhān wedy eu gwneuthur ai cyss­yỻtu ynghyd, ae bod nhwy megis yn vn Co­rph eiỻ drioeð. Ag fal y byð corph yn amher­phaith, o byð vn aelod yn eisieu: feỻy ny byð vn yn cael dyalh dyfnder y matter mawr yma, nes iðo ðarlhain neu glywed y tair Rhān yn gwbl, a phob Pennod o honynt o r dechreu hyd y diweð.

Drych Cristianogawl yr hēwais i y ỻyfr yma am fod pob Cristiawn yn gaỻu canfod ynðo, os mynn, lun y petheu yssyð iðo eu canlyn neu gochel yn y byd yma, megis y cenfyð dyn mywn drych o wydr lun gwrth­ðrych y peth a fo ar gyfeiryd y drych.

Mi a wnn y bydh peth beio ar fyngwaith pan ðel i ðwylo ỻawer o ðynion, cyd bwy fi o ewyỻys da im gwladwyr yn gwneuthur y peth y syð oreu a chymhwysaf yn fy meðwl i. Am hynn mi a atteba i rai or beieu a eỻir dybieid eu bod yn y ỻyfr yma.

Yn gyntaf ef a rhyfedhir paam yn y lhyfr hynn ir wyf yn arfer o eirieu anghyfieith, Att ebio [...] r bieu a [...] byer eu bod yn lhyfr y megis o eirieu seisnic ag o ereiỻ ny pherth­ynant i r iaith Gymraec, heb law bagad o r sawl nyd ydynt Gymraeg rywiog: gann fy m [...] o r blaen yn beio ar Gymbry am nad oeðent yn ymgleðu r Gymbraeg. I atteb, hynn yw r achos: Nyd oes bai ar y Gymra­eg, [Page] ond ar y dynion yn y pwngc yma. Can­ys fynghyngyd am meðwl yn bennaf yn y ỻyfr hynn yw rhoi cynghor sprydol i r ānys­gedig: Ag er mwyn cael gann y cyphredin ðeaỻ y ỻyfr er daioni iðynt, mi a ðodais fy medhwl i lawr a ch [...]ir eu bronneu hwy yn yr iaith gyphredinaf a sathrediccaf ymhlith y Cymry yrowron. Canys pe i bysswn i yn dethol aỻan hen eirieu Cymraeg nyd ydynt arferedig, ny byssei vn ym mysc cant yn dy­aỻ hanner a ðywedasswn, cyd byssei yn Gy­mraeg ða: am fod yr iaith gyphredin wedy ei chymyscu a lhawer o eirieu anghyfieith sathredig ymhlith y bobl, a bod yr hen eiri­eu a r wir Gymraeg wedy myned ar gyfyr­goỻ ai habergofi. Amherthynas wrth hynn a fuassei ymarfer o araith heb nemor yn ei dhealht.

Hynn hefyd a wnaeth i mi yn y ỻyfr yma gytgymyscu geiriau r Deheudir a geirieu Gwyneð, pan fyðant heb gytuno, sef i gael o bawb o r ðwywlad ðyaỻt y ỻyfr yma. O ðamwain ef a gymerir fann araỻ i goleð ag i ymgeleðu r iaith, os Duw a ðenfyn iech­yd ag amser cyfadhas: Eithr ynawr wrth dreuthu Gair Duw rhaid yw ymgais ag ymarfer o r iaith hawðaf a nesaf ei deaỻt y­mysc pawb yn gyphredin.

Hefyd achwyn a eỻir fod y ỻyfr hynn yn [Page] ormoð ei hyd, atfyð vn byrrach a fyssei weỻ: Canys ỻawer peth a aỻessid ei hepcor, a ỻa­wer araỻ ei ðangos a ỻai o eirieu: Ond wrth ystyriaw Stad a chyflwr y Cymbry, ny aỻei fod mywn moð gweỻ, Canys i mae r ỻyfr yma yn dwyn i lawr [...]yn dangos gwad­an a grwndwal, neu sy [...]faen a gwaelodfaen pob daioni sprdol: Ag o achos hynny y sawl bynnag a wrandawo r ỻyfr yma, ag ai pla [...] ­no yn ei feðwl yn gadarn, ef a fyð gantho yn ei gallonn y dechreuad a r rhann reitiaf o bob daioni sprydol: Ag am hyn ir oeð yn rha­id roi r garreg waelod yn dhiogel siccur ar lawr, cyn gossod dim araỻ arnei. wrth hyn nyd rhyfeð roi r dechreuad ar lawr yn gyfia wn ag yn phrwythlawn, ā fod y maē cyntaf yn cynhal yr hoỻ bwys a ðodir arno. Eisoes er dayed ag er diogeled i bytho rhaid i r dech reuad fod, ef aỻessid a ỻai o eirieu gyfansoði hyn cyn phrwythloned a chynt, ōd nyd ir cy­phredin Gymry er mwyn yr hain i bu hyn o boē i gyd. Y sawl sy a dim dysc a dyaỻ gan thunt, a aỻant dhyaỻ resyme r ỻyfr hynn pan glywont hanner y rheswm, herwyð ei bod yn gyfarwy wrth glywed neu ðarỻain ỻa­wer o r cyfryw betheu: Ir hai hynn ny by­ssei raid onyd dāgos y petheu yn fyrr drwy resymeu, samplau, a doydiadau, r Scythur lan ar Saint: Ond pob peth o r ahenwo dyn [Page] [...]y ðigō tywyỻ i r cyphredin deiỻon, heb ne [...] or o gloywed ðim eirioed: a rhyfethod a fyd ganthynt a thywyỻ glywed araith, hon nys clowsant yn eu hoes. Wrth hyny rhaid o cymeryd pawb megis i bo, a chydðwyn gyd a phlant gweinieid: Bwyd cryf a phrwth­lonfwyd sy gyfaðas i wyr, a ỻaethfwyd gw­ann i r plant. Arfer mamhaethod yw, pan ðel y plātos bycheinn i dechreu medru bwy­ta, ir famhaeth gnoi r bwyd yn faan, ag yna ei roi yngenau r plētyn: Feỻy rhaid i mineu chwareu r famhaeth: Plant ifeingc yw r cy­phredin Gymbry, a dechreu i maent fwytta bwyd sprydol, dechreu rhoi clust i wrando gair Duw. Am hynny o s mameth a fyðaf iðynt, ys dir i mi gnoi r bwyd yn faan: nys gaỻant lyngcu brasfwyd onys gwneir yn fa­nol iðynt. O achos hynn ny wasanaetha ðim ðangos iðynt gorph y gwaith, a dangos yn fyrr beth y mae r Scrythur lan a r Saint yn ei ðoydyd yn erbyn Pechadurieid: Ny byðei hynn iðynt onyd brasfwyd: ny aỻent nai ðe: aỻt nai lyngcu: Am hyny yr oeð yn anghen­rhaid gnoi bob peth yn fanwl iðynt drwy Resymeu naturiol, drwy sampleu goleu a, thrwy gyphelybiaetheu wedy eu benthycca oðiwrth bethau daearol gnotaedig iðynt.

Yð wyf hefyd ar hyd y ỻyfr yma o r gwa­ith oðef ag o bwrpas yn amgenu ag yn am­rywio [Page] ansawð a moð yr yscrifenn a r ortho­graphi neu r iapnscrif yn y geirieu, megis a phras yr ymadroð hefyd scatfyð y gaỻ ei la­wer dybied taw o ānwybod y damchweini­assei hynny oỻ i mi: nyd feỻy, canys gwnn yn brifdha y modh y gnottaynt gynt yr hen bobl o scrifennu ag adroð eu historiaae, eu Cyfreithae, eu Cerð dafawd, eu meðygina­ethæ, a ỻawer o eraiỻ bithæ mewn membr­wn a chrwyn hyfrod: mal y mae ỻawer o r ỻyfræ hynn etto i n plith ni oi gweled, cyd bwynt lawer hefyd wedy myned ar golh a chwedy eu difa yn ỻwyr, ys waeth er oedh hynny. Paam y gwneutho hynn o newidi­ad, ef a ðangosir ryw bryd araỻ a Duw yn y blaen.

Ag fal dyma rai o r achosion a wnaeth i mi fod mor frith helaeth yn y petheu a scri­fennais, heb geisio son fod y defnyð a r mat­ter morr phrwythlawn, ag y gelhasswn i ðywedyd dri chymaint nag a ðoydeis ymhob Pwngc. Achyd bwynt y Pennodeu yn ani­an hyriō ið eu ðarlein vn ar bob pryd, i mao moð ið eu rhannu, ag ið eu darỻain y maint a fynnoch ar bob pryd.

Rhai atfyð a ðywedant fod y ỻyfr yma yn rhy gaeth rhy galed, yn gyrru gormodh ofn, ag yn abl i beri i ðynyon ānobeithio trugar­eð Dhuw: Ag am hynny cynt y credant fod [Page] trugareð Dhuw vch law pob peth: Ny fyn­nant son fod Duw mor gaeth wrth bechad­urieid, ag y mae r ỻyfr yn dangos: Mi atte­baf i hynn drwy gyphelyb am y corph: Pan gapho ðyn frath ag arf yn ei gig ai gnawð, rhaid i r medhyg wneuthur gwareth ai fra­thu yn nhwỻ y weli neu r archoỻ, a rhaid i r oreth warethu a myned hyd dyfndw [...]y twỻ, onyd ef, ny wna na ỻes na canhorthwy i r dyn bratheðig: Am hynny cyd boed mawr dolur y dyn, rhaid yw chwilio dyfudwr a gwaelod y clwyf a r briw, onyd ef, nyd eiph byth yn iach. Ef a ðychon arbed y dyn brath­edic a pheidio a chwilio gwreiðin y dolur, a pheri i groen dyfu arno, etto ef a darð aỻan ryw bryd, am fod y gwrhidein eb fyned yn iach: Yn yr vn agweð y gaỻwn innef chwa­reu rhann meðyg twyỻodrus, gan ðywedyd yn deg ag yn wenheithus wrthych, a gadel i chwi bwyso gormod ar drugareð ðuw: ny byðei hyn oỻ onyd gwneuthur croen newyð o r tu aỻan, a gadu gwreiðin y clwyf, sef dy­fnder a gwaelod y Pechod yn y Gallonn, a gadel iðo bydru yno a lað yr enaid yn farw, ai ðwyn yn y diweð hyd ar waelawd Yph­ern. Ond gweỻ gan yfi beidio a ch twylho chwi, gan chwareu r meðic cywir, drwy fra­thu goreth hyd at wreiðin y clwyỻ, er ei fod yn peri i chwi fyrwino, dolurio, a chrynnu. [Page] Y maer brath yn ðyfn aruthr a chwedy pyd­ru r enaid drwy eych aml bechodau chwi. Wrth hynny nyd oes foð i chwilio ðyfndwr y gallōn, ag i wneuthur y dyn yn iach gwbl, onyd drwy ðangos ðyfnder a gwreiðin pech­od, a maint yw dial a dig Duw yn erbyn pechadurieid. Hynn a wnaeth i mi ðangos cymeint yn erbyn pechawd, a dangos di­al Duw ar y pechaduried, er mwyn eych dwyn chwi i ofni Duw: am fod yr Scrythur laan yn dywedyd Pan yw ofni r Arglwydh yw dechreuad synnwyr nefawl. Psal. 100 Nyd wyf yn doydyd dim ar fy mhenn fy hunan: Gair Duw yn bennaf a geirieu r Saint a ðango­saf i chwi am bob Pwnc. Nyd yw fy rhann i guðio ragoch y petheu y mae Duw a r Sa­int yn eu dāgos: Nyd wyf yn ceisio gan eych chwi fyngrhedu i, ōd credwch eirieu Duw a r Saint, onyd ef, nyd ydych Gristianogion. Nyd yw r dial mawr y syð yn y ỻyfr yma, yn erbyn y rhai da, nag yn erbyn y pechadu­ [...]ieid, os troant at Dhuw ym mrhyd ag am­ser: Eithr y dig a r dial yn vnig yssyð yn er­byn y callōneu caledion ny throssant er ma­int a ðywetter wrthynt.

Atfyð hefyd y beiēt arnaf rhyw rai or Cym­bry dyscedigiō, am nad wyf yn y ỻyfr yma yn troi r Scrythur laan, a doydiadeu r Saīt [...] haraith yn gymhwys i r iaith Gymraec, [Page] wrth ðodi gair tra gair, ag i bob gair rhoði ei enw anianol, megys y byð rhaid wrth gy­fieithu a throi peth o vn iaith i r ỻaỻ: Ag yn enwedig wrth gyfieithu r Scrythur lan a geirieu r Saint rhaid yw bod yn bryderus i geisio geiriau cyfaðas cynhwynawl i henw pob peth. Gwir iawn yw hynn oỻ pan fytho dyn yn cyfieithu ag yn trossi r Scrythur lan i iaith araỻ, ag yn ei dodi a i gossod alhan i dynion yw darỻain yn enw Scrythur laan: Yna y byð rhaid ymchwel bob geir yn gym­hwys ag yn ei briawd anian cyd bo tywyỻ i lawer: Ond pan fytho vn yn pregethu i ðyn­ion cyphredin ag ychydig ðeaỻt, ganthynt, yna y dychon gyfieithu r geirieu yn y modh goreu ag y galho r cyphredin bobl y ðyalh, drwy ei fod ef yn cadw r vn meðwl a r syn­nwyr yn y geirieu ag y mae r Yspryt glaan yn ei feðwl a r Eglwys laā Gatholig yn ei ðangos. Ag am fy mod i yma yn ceisio dyscu r cyphredin gymry, rhaid i mi droi r geirieu yn egluraf a goleuaf y galhwyf, i gaphel o honynt eu dealht hwy yn ðibetrus, heb ym wrthod nag ymadel o honof ðim a meðwl yr Yspryd glan nar Eglwys, wrth droi r gei rieu i r Gymraeg.

Hynn o ðamchwain o liw beieu a gasclai rhyw fath ar ðynion yn y ỻyfr yma, ag eraiỻ ryw eulun beieu o fath araỻ: Ond o chaf [Page] wybod vn bai nag araỻ, mi a fyðaf barod i ymostwng ag i vfuðhau i r sawl bynnag ai dāghosso, yn enwedig o dihangawð ðim om geneu drwy anghof yn y ỻyfr yma a fo yn anghytuno mywn ðyaỻ a meðwl a r Eglw­ys Gatholic fy Mam sprydol.

Ny cheisiaf na thal na diolch am fy mhoen am hewyỻys da, ond bod yn gyfrānol o weði pob Cymro phyðlon, o r a gapho ðim diðan­wch na ỻes yw enaid wrth darỻain neu gly­wed y ỻyfr hynn.

Duw a Mair gyd a chwi oỻ, ag a drefno i ni fyw yma ynghorlān Crist, megys y gaỻ­om i gyd gytgyfwrð ym Haradwys nefawl, a theyrnasu gyd a Duw yn dragywyðawl.

Amen.

OFVLAN yr eidoch G. R.
[...]
[...]

*YR ACHOS AR MODH Y dodwyd y lhyfr yma mywn Print.

Y mae blwydhyn belhach a chwaneg er pann dhaeth i m lhaw yn Nhir Phreinc lyfr Cymbraeg o waith yr Athro mawr o Dhinas Fulan yngwlad yr Idal. Ewylhys yr Athro ydoedh dhanfon y lhyfr mywn scrifē law i blith y Cymbry: Am nad oedh dim modh yw brintio ef yno, ag am fod y phorð yn rhy belh rhy faith i dhanfon mawr nifer o lhyfreu o r Idal i wlad Gymbry: Rhag tor­ri ar ewylhys yr Athro, mi a dhanfonais o Phrainc i ynys Brydain vn copi o r ỻyfr me­wn yscrifen law, ag a gedwais gopi araỻ gyd a mi fy hunan yn Phrainc. Yn y mann ar ol tirio r lhyfr a dyfod yn hoeth ag yn anrhef, nus wedy ei wlychu gann fordwy a heli, i dhwylo Cymbry, cafodh (fal y clywais) wisc yn ei gylch ai sychu ai ymgledhu yn ewyỻys­gar ag yn chwannog dhigon. Yna cerdhed a wnaeth dros amser o law i law drwy aml fā ­neu o dir Cymry, yn cael mawrbarch a chro­eso ymhob mann: pawb o r a glywei son am dano yn chwānog i gael cydnabod arno: rhai yn deisyf ei dharlhain: erailh, yr hai nys med­rēt dharlhain, yn damuno clywed ei dharlh­ein: y drydedh rann yn fodhlon yw gopio ai scrifennu, i gael aml gopiae i fyned ar hyd y [Page] wlad. Pann dhoeth y gair o hynn i dir Phra­inc lhe yr oedhwn i yn trigo, ef a fu lawen a chynhes fynghallon, wrth glywed chwant ag awydh y Cymry i wrando cynghor spry­dol. Yma y tyfodh gobeith mawr yn fy me­dhwl, y gelhyd achub lhawer o eneidieu yn-Ghymry rhag discyn i Yphern, pe y baei foð i dhāgos ydhynt eu peryglon sprydol. Wrth fedhwl am hyn ny fedrwn i weled vn modh phrwthlon gymhwys, ony baei gael gossod a dodi i maes y lhyfr mywn Print. O fywn y Deyrnas ny welwn dhim gobaith i gael nag arian, na gweithwyr, na lhe cymhwys cyfa­dhas. Wrth hir fedhwl, a gweled egni y Sa­eson phydhlon yn printio lhyfreu Saesnec o r tu yma ir mor mywn gwledydh dieithr, mi a ganfuum mewn rheswm y galhei y Print­wyr o Phrainc brintio Cymbraeg yn gystal a Saesnec, gan fod y dhwy iaith yn gyfdhiei­thr idhynt. Ag ynghyferyd y mawr nifer o lhyfreu Saesnec a ossoded alhan er pan lygr­wyd Phydh a Chrefydh yn ynys Prydein, drwy boē a thrafael y Saeson Catholic: rhag cywilidh a cholhed i holh Gymry, cymesur a phrydferth y gwelwn ossod a dodi alhan vn lhyfr Cymraec, gan fod cymeint o eisieu, a r Cymbry, mor chwannoc i gael lhyfreu, a Duw wedy trefnu Printwyr mywn tref ar fin y mor yn barod er cyflog i brintio Cym­raec [Page] cystal a Saesnec: Mi a gymerais arnaf (nyd heb gyfarch a chennad yr Athro) ossod mywn print y Rhan gyntaf o r tair. Canys, megys y gelhwch dhealht wrth lythyr yr A­thro o r blaen, nyd yw r holh waith onyd vn lhyfr yn cynhwys teir Rhann: Ag os Duw a dhenfyn rhwydheb, mifi a assodaf alhan y Rhanneu erailh yn gyntaf y galhwyf, sef yr ail a r drybydh, pob vn yn ei hordor ai gra dh. Lhthrenneu Seisnic a gawson i r gwaith, ag yn lhe y D. a r L. dybledigion y rhoefom dh. ag lh. ar ol arfer yr hen gymreigwyr gynt, y peth ys ydh wedheidhiach na dyblu r lhy­threnneu. Gan na fedrem gael D. ag L. a no­dae danynt ar ol ordor yr Athrawaeth Grist­nogawl a brintied ym Mulan, mewn ymheỻ fanneu chwychwi a gewch, D. ag L. wedy eu nodi yn eu penneu: a r rhai hynny i gyd sy n arwein sain y lheilh, ag yn arbed yr H· Ag os cawn yn ol hyn dhigon o honynt we­dy nodi yn eu penneu, nyni a beidiwn yn gwbl a chydiaw r H gyd a D ag L. Y mae r gost, a r darul, a r boen yn fawr iawn ag yn flin: Am hynny i mae pob Cymbro phydh­lon gar bron Duw yn rhwymedig i roi help a chanhorthwy i r Gwaith drwy wedhi a mod heu ereilh, pawh yn ei radh a i alhu. Ag am fod gwyr āghyfarwydh anghyfiaeth my­wn gwlad ðierth heb dhealht yr iaith Gym­braeg [Page] yn gelhwg odh dann eu dwylo fagad o feieu drwy gam gymeryd a cham ossod y lhythrenneu, a beieu erailh at hynny: rhaid o madheu y fath feieu bychan: Gan na elhid cael petheu mywn modh gwelh o dan dhw­ylo dieithred anghyfarwydh. Yn olaf peth ydh wyf yn deisyf ar bob Cymro phydhlon fedhwl amdanaf īneu yn ei wedhi, a cho­phau hefyd yn i wedhi pob math ar dhyn o r a fu ag o r a fydh yn helpu r gwaith hynn drwy gost, traul, blinder, neu fodhion erailh yn y byd.

ODREF ROAN eych gwladwr caredig. R. S.

DANGOSIAD RHIFEDI PEN nodæ y Rhan gyntaf o r lhyfr, a r petheu nodadwy ymhob pennod.

Y Pennod Cyntaf a dhengys reitied medh­wl am betheu sprydol: 1. a.

Yn Cynhwys y petheu hynn, ys ef:

  • 1. Yr ethryb ar achos y mae r byd cyndhrwg yn yr oes honn. 1. a. 28.
  • 2. Reitied medhwl am y byd aralh. 2. a. 8.
  • 3. Y pedwar peth diwedhaf a rheitiaf medh­wl amdanynt. 5. b. 4.
  • 4. Yr Scrithur laan yn canmawl fyfyriaw ar betheu sprydol. 7. b. 8.
  • 5. Yr achos y gwnaed y lhyfr yma. 9. a. 20.

YR AIL PENNOD A DHENGYS y dylyem garu Duw yn fwy na dim.10.

Ag yn Cynwys:

  • 1. Fod Duw yn amgyphred yndho ei hunan bob daioni ag achos i n denu ni yw garu ef. 10. a. 15.
  • 2. Achos i garu Duw am idho eyn gwneuth­ur ni o dhim. 12. a. 2.
  • 3. Am aelodeu r corph. 12. a. 27.
  • [Page]4. Am yr enaid. 13. b. 23.
  • 5. Am fwyd, diod, a dilhad. 15. b. 17.
  • 6. Am iechyd corphorol. 16. b. 26.
  • 7. Am y phurfafen ai holh Lerthynass­eu. 18. b. 3.
  • 8. Am geidwadaeth yr Angyliō. 19. a. 8.
  • 9. Am eyn cadw ni wedy eyn gwncuth­ur. 20. b. 15.

Y TRYDYDH PENNOD A DHEN gys faint y dylyem garu Duw, am idho eyn prynu, wrth farw drosom ar y Groes: 21.

Ag yn Cynnwys,

  • 1. Fod mwy o achossion i garu Duw am eyn prynnu, nag am eyn gwneuthur ni. 22. a. 11.
  • 2. Fod cariad Crist yn fawr tu ag at dhyn, am gymeryd o hono gnawd dyn amdano, ai eni yn dlawd, pe y byssei eb dhiodhef dhim chwaneg drosom. 23. a. 12.
  • 3. Yr achos y chwyssodh Crist chwys gwaed­lyd yn yr ardh cyn ei dhala. 24. a. 10.

A thri ar dheg o dholurieu nodadwy a ga­fodh Crist wrth dhiodhef, sef:

  • 1. Fod Idhas yn fradwr idho. 24. b. 12.
  • 2. Dolur wrth ei dhala. 25 a. 21.
  • [Page]3. Phoi o r Apostoliō ai adu ef ihunā. 25 b. 10
  • 4. Fod y swydhogion yn anghyfion, a r tyst­ion yn pheilsion. 25. b. 26.
  • 5. Gwadu o Bedr Grist. 26. a. 19.
  • 6. Ei chwippio ai scyrsio wrth y piler. 26. b· 26
  • 7. Dodi y Goron dhrain am ei bēn. 28. b. 29.
  • 8. Dewis Barrabas o flaen Crist. 29. b. 17.
  • 9. Arwain a dwyn y Groes ar ei gefn i hun­an. 31. a. 9.
  • 10. Rhoi bustl idho oi yfed yn ỻe gwī. 31. b. 6.
  • 11. Ei hoelio ar y Groes greulon. 32. a. 13.
  • 12. Ei watwor ar y Groes. 32. b. 30.
  • 13. Ei neccau o lymmeid o dhwfr, a rhoi fin­egr yn lhe dwr idho. 33. a. 13.

A phedwar dolur nodadwy a gafodh Crist yn ei enaid, sef:

  • 1. Am bechodeu r holh fyd. 33. b. 12.
  • 2. Am āgharedigrwydh Cristiāogiō. 34. a. 14
  • 3. Am bechodau r Idhewon. 34. b. 21.
  • 4. Am dholur callōn ei fam ānwyl. 35. a. 7.
  • Tri achos o rān y corph yn gwneuthur dio­dhefaint Crist yn greulon. 35. a. 20.
  • Dau achos o rann yr enaid. 35. b. 14.

Cobrwy a thal mawr am fedhwl beth a dhiodhcfodh Crist, sef:

  • Am dhyscu tristau gyd a Christ wrth fedh­wl [Page] beth a dhiodhefodh drosom. 37. b. 10
  • 2. Am fedhwl a dyscu yn Niodhefaint Crist mae n pechadae ni a wnaeth idho dhio­dhef. 38. a. 13.
  • 3. Am dhyscu yn niodhefaint Crist rhinwe­dheu a sampleu da o fuchedh dha, sy n lhawn yn ei dhiodhefaint ef. 38. b. 30.

Pedwar peth idh ei copha yn nio­dhefaint Crist, sef:

  • 1. Pwy sydh yn diodhef. 40. a. 2 [...].
  • 2. Beth y mae yn ei dhiodhef. 40. b. 2.
  • 3. Dros bwy i mae yn diodhef. 40. b. 8.
  • 4. Paam y diodhefawdh Crist. 40. b. 19.

Achosion mawr i garu Crist, am eyn gw­ncuthur yn gyfrannol oi dhiodhe­faint ef drwy saith Rinwedh yr eglwys, sef:

  • 1. Am eyn bedydh. 42. a. 6.
  • 2. Am eyn gwneuthur yn Gatholic eilwaith wedy colhi phrwyth eyn bedydh. 43. a. 12
  • 3. Am idho roi i ni rhat i gael madheuaint am lawer o bechodae, wedy dyfod yn Gatholic. 44. a. 9.
  • 4. Am i Grist eyn cadw ni rhag pechu. 44. a. 26.
  • 5. Am yr Aberth. 44. b. 19.
  • [Page]6. Am ei fod yn danfon lhawer o dhaioni yn dhirgel heb wybod i ni. 45. a. 22.
  • Cyphylybiaeth faint y dylyem garu Crist. 45. b. 9.
  • Pob achos cariad yn Nuw yn welh nag yn vn dyn. 45. a. 26.

Y PEDWERYDH PENNOD A DHE­ngys faint y daioni y mae Duw wedy drefnu i ni yn y Nef. 47.

Yn Cynnwys

  • Na elhir dealht faint lhawenydh nefawl. 47. a. 18.

Ag eisoes pymp pwngc nodadwy yn y nef, sef:

  • 1. Tegwch y dinas nefol, tegwch y lhe ne­fol. 48. b. 14.
  • 2. Y lhawenydh a gair yn y nef drwy gedym­deithas a chyfeilhach yr hoỻ Saīt. 54. a. 30.
  • 3. Gleindid yr holh gyrph dewisawl yn y nef. 59. a. 13.
  • 4. Lhawenydh yr enaid yn y nef. 62. a. 5.
  • 5. Medhiant pob daioni mwy nag a dhichon callon ei fedhwl.

Yn y fann hynny i r lhyfr y cephir pedwar lhawenydh ar dheg yn y nef, Saith yn perth­yn i r enaid, a Saith i r corph: Ag yn wrth­wyneb [Page] i hynny, pedwar aflywenydh ar dheg yn Y phern, Saith yn perthyn i r corph, a Sa­ith i r enaid: Ag yno y terfyn y rhann gynt­fa i r lhyfr.

I ðyaỻ y Dafulen yma, ag i gael yn ðirwystr pob peth nodadwy yn y rhān gyntaf i r ỻyfr, nodwch fod y rhif cyntaf a r y ỻaw deheu yn dangos rhifedi r ðolenn i bo r peth nodadwy ynðei: a r ail rhif, rifedi r ỻineỻ: a r ỻythyren A. y tu cyntaf i r dhalen: a r B. yr ail tu iðei.

Nodwch hefyd dhieinghc peth beieu drwy dwylo r Printiwr, o achos ei fod yn anghy­fieithydh ag yn ðrwg ei annwydeu: megis wrth ðodi vn ỻythyren yn ỻe ỻythyren araỻ, neu aỻan oi lhe, neu ai chynphon ar i fyny, neu eisieu neu ormoð o lythyr, neu rhai gw­ahanedig dhiwahanadwy, neu cyssylhtedic anghyssyỻtadwy, neu lythyren fach yn ỻe r fawr, neu r fawr yn ỻe r fach, ag weithieu cam byngcieu. Etto hawð i gymreigyð gw­ann ganfod y sawl feieu hynn, ai gweỻa a r penn wrth ðarỻein y ỻyfr drosto.

IESUS. M. A. ‡ Y PENNOD CYNTA YN DANGOS Reitied yw medhwl am bethe Sprydol.

NI BV Er pan aned Crist hyd y dydh hedhiw bobl waeth, nag sy yn yr oes hon. Ie ni bu wayth buchedh pobl anphy dh lon heb glowed son am Dhuw a Christ yri­roed, nag yw buchedh y rhai ar sy yn cyme ryd arn yn fod yn gristnogion yn eyn oys ni. Balchder ni bu erioyd mwy, pob lhe yn lha wn cynfigen, trachwant, a phob drygioni. Nid oys na chariad tu ag at dhuw na dyn yn eyn plith, nid oys parch nag ofn tu ag at Dhuw na dyn. Pawb yn gofalu drosto i hunan, heb fedhwl am eisie rhai ereilh, pawb yn gofalu am y corph, heb agos vn yn medhwl am yr enaid. Chwannog i be­theu bydol, heb roi pris mewn pethe nef­ol. Y rhan fwya yn byw el ynifeilied, megis pe baen heb vn eneid. Os mynnwch wybod yr achos o gymeint o dhrygioni, a chyn lheied daioni yn yr oes hon, rhowch ych clust wrth eneu r prophwyd, ag ef a dhenghys yr achos dan dhoyded: Iere. 12. Fod yr holh fyd wedy methy, am nad oys vn yn medhwl yn dhyfal ar y pethe sy n perth­yn i Dhuw.

Dyma r aches pennaf yn wir, pam i mae [Page] cymeint o frynti in plith, am nad ydym yn medhwl yn fynech ag yn phrwythlon ar y petheu ir ydym yn i gredu. Oblegyd pei baym yn copha ag yn mefyrio y pethe yr y dym yn i gredu, hynny a fydhe phrwyn in phrwyno ni rhag rhedeg yn wylht i bob pechod, Canys pwy a beche mor esmwyth ag mor dhibris ag i mae dynion yn awr yn pechu, pei baei yn medhwl yn nyfndwr i galon dharfod i Dhuw farw dros bech­aduried, i fod ef yn cospi pechod mewn tan vphernol, heb obaith trugaredh. Er yn bod ni yn credu i bydhwn feirw ni wdh­om para dhydh na phara awr, er yn bod yn credu dydh y farn, pen fo rhaid cyf­ri am bob gair ofer, er yn bod yn credu poene vphern yn barod ir pechadur, ather­nes nef ir duwiol: etto er hyn i gid nid ydym yn gwelhau yn buchedh, nag yn ym­wrthod a phechod: am nad ydym yn medh­wl ag yn mefyrio yn fynech ar y pethe ir ydym yn i gredu. Rydym wedi syppio a rhwymo ynghyd pyngcie eyn phydh: os mynnwn idhyn wneuthur daioni, rhaid yw i myscu ai dattod, ag edrych yn eyn medh­wl ar bob vn o honyn ar i ben i hunan.

Weithie medhwl am dhiodhefaint crist, weithie erilh agoryd blwch aralh, lhe i mae r pechode ynghadw, amefyrio ar fryn [Page] frynti pechod, rhyw bryd aralh agoryd blwch myrfoleth, yn ol hyny dydh y farn, poene vphern, a lhywenydh ternes nef. Rhaid yw goryd pob vn or hain ar i ben i hunan, mefyrio arnyn yn fynech ag yn phrwythlon.

Beth a wna dilhad o dhaioni i dhyn wedi cloi yn wastod yn y gist? Beth a wna cle­dhe yn y wain yn wastod, ond rhydu? Fe­lhy ni wna lhesaad gredu r pethe hyn, oni bydhwn weithie yn medhwl amdanyn, ag yn copha yn fanwl faint yw poene vphern, a lhywenydh y nef, ag felhy meðwl am byngcie erilh o n phydh yn dhyfal, ag yn fanwl, ag yn arafaidh pob pwngc, ai byr­thynasseu ar i ben i hunan.

Megis i dwed y physygwr na wna physy­gwrieth dhim lhes ir claf, odhigeth idho i fwytta ef, neu i yfed, ag yno gadel i wres yr stymoc neu r cylha i weithio ef, ai droi mewn modh i wneuthur daioni ir claf: yn yr vn modh ni wna credu bod nef ag vphern a phethe erilh, dhim lhes i ni, nes i ni fe­dhwl, a mefyrio arnynt yn fanwl yn eyn clonne, yno i gwna gwres defosiwn a me­fyriad, idhin yn troi odhiwrth bechode, a n dwyn i dhaioni. I gael o honoch weled mor anghenrheidiol yw mefyryo ar byngcie eyn phydh, ond rhyfedh genych hyn? Er [Page] bod naturieth dyn yn wastad yn chwenych daioni, ag yn wrthnebys gyntho dhiodhe dim drwg yn i gyfyl, a chyn fod y daio­ni a r drygioni, ar i mae Duw wedi orde­inio yn y byd aralh, yn gan gwelh a gwa­yth, na holh dhaioni a drigioni y byd yma, am fod yrheini yn pyrhau byth, a r hain ni phyran ond ennyd fechan: beth yw r achos (medhwch) pam i mae dynion yn rhoi cymeint pris yn y daioni byrr bychan a r sy yma, ag mor chwannog i dho ag i rhedan drwy dhwr a than i gael i hwylhys ar ble­sser bydol brwnt, ag mor wrthwynebys yw gynthyn bob tristwch a dolur, er byrred a fo yn y byd yma. Ag etto er bod y daioni ar sy yn y nef yn gan gwelh na r budur ble­ser yma, a r poene yn y byd aralh yn gan gwaeth nar holh boene ar dolurie yma: er hyn igid nid ydym yn rhoi pris yn y byd am y pethe mawr hyn a bery byth, ond rhoi medhwl yn gwbl ar y pethe bychein ni pha rhant ond ennyd fechan, beth (medhwch) yw r achos or dalhineb hyn mewn dyn?

Dima r achos mwyaf, am yn bod ni yn gweled an lhyged, ag yn teimlo an dwylo y pleser ar daioni daearol, ond nid ydym nag yn gweled nag yn teimlo daioni ternes nef, nid ydym ond weithie yn clowed yn ysgafn son fod y fath beth: pei baem yn i [Page] weled, falir ydym yn gweled daoni dayarol ni ai carem yn fwy. Fel hy ir ydym yn go­chel clwyfe a dolurie dayarol, am yn bod yn i gweled gar bron yn lhyged, etto nid ydym yn ofni poene vphern sy gan gwayth am nad ydym yn i gweled, fal i gwelwn y poene yn y byd yma. Wrth hyn, pei bae fodh i ni yn y byd yma weled nef ag vphern nyd oes dowt na bydhern welh yn buched.

Belhach in pwrpas mrhyn alhwn ni gael yn hawdh, os mynnwn. Ni alhwn weled nef ag vphern yr awr a fynnom yny dydh ar nos. Para fodh (medhwch) i galhwni gweled? Yn wir drwy feðwl amdanynt, a meferyo arnynt yn dhyfal yn eyn clonneu. Trelio vn awr o hirnos gayat, neu hir­dhydh haf i [...]edhwl weithie am angeu, weithie am dhydh y farn, bryd aralh am vphern, yno am y nef, a medhwl yn fan­wl ag yn arafaidh ar bob vn or hain, yn y modh i maen, ai pyrthynaseu, fel pet fa­sem yw gweled garbron yn lhyged. Nid rhedeg drosryn ar gip ag yn hasti, ar frys, ond medhwl yn ara deg, ag yn dhyfn am bob vn o honyn ar i ben i hunan.

Megys ni wyr dyn beth yw gwres y tan wrth daro i fys ar farforyn, ai dynnu ymeth ar gip yny fan, cyn cael or tan en­trio arno. Am hyny i bydh rhaid idho adel [Page] i fys beth amser i gael dynabod gwres y tan. Yn yr vn modh, os bydhwn yn medh­wlag yn mefyr [...]d ar vphern, nev vn or pyngcie er eilh or frys ag yn gyflym, ni wei­thia hyny dhun gwres na defosiwn yn eyn clonne, ni fydhwn gwelh er hynny, ond os medhyliwn yn fanwl ag yn arafaidh ar y pyngcie hrny, [...]id oes fodh na weithiant dhaioni yneyn callonneu. Wrth mefyrio yn dhyfn ag yn fanwl ar y petheu hyn, i by­dhe wyr do gyntmegis yn cwympo i lawr yn fewn, o ran i bod yn i medhwl yn my­fyrio mor phrwythlon, ai bod megis yn gw­eied y pethe gerbron i lhygaid. Yno pen ðe­len i myfyrio ar lywenydh teernas nef, y bydhent yn i medhwl megis yn cael gwe led y lhywenydh, ag wrth hynny yn phie ið io ag yn casau pethe bydol, wrth fedhwlme int y lhewenydh ysprydol. Wrth hyn i gwe led gwyr duwiol yn fynech wrth mefyrio yn ymgodi odhiwrth y dhayar droedfedh ne fwy heb dhim yn i cynnal i sefylh felhy, ond bod nerth a chryfdwr yr enaid, wrth fe­dwl am bethe nefol, yn chwennych gorcha­fu a myned tu ar nef, ag o wir egni yn codi r corph trwm cdhiwrth y dhayar gid ac ef tiar nef. Felhy wrth fedhwl yn fan­wl am boene vphern ai holh byrthnasse, i bydh calon lhawer dyn da yn crynnu rac­ofyn, [Page] fel pet fai ef yn gweled y phwrnes ða [...]lyd garbron i lyged. A hyny a wna idho welhau i fucheð, ag ymwrthod a phechode. Gwelwch y modh i mae ni weled megis gar yn bron, y pethe sy n y byd aralh. Ag fel dyma r modh i ni ymadel a holh ofe­redh y byd. Yr atteb hyn a royd ifanach ifangc, ar oydh newydh dhwad i grefydh. Roydh yn flin ag yn boenus gyntho y tro cynta fod ehunan drwy r dydh ar nos yn i stafelh, yno i gofynnodh ef i hen fanach yr achos pam yr ydoydh yn flin gyntho dario yn westod yn i stafelh. Rydoedh yn rhyfeð gantho paam i blinef gadw i mewn mwy nar manachied ereilh. Ond y gwr hen a [...]hangosodh idho yr achos yn y mohd hyn. Fymab na ryfedha dy fod yn dyphygio ar dy stafelh, yr achos yw, am na welaist ti etto dhim o boen vphern, yr hwn pe bait yn i gweled, pei bay dy stafelh di yn ỻawn nadroydh yn barod ith gnoi di, nid aiti vn troedfedh tuar drws i fyned alhan, ond se fydhe dhigon bodlon gynnyt daring i me­wn, wrth weled poene vphern. Nid oedh y gwr da doeth yn medhwl i galhe r gwr ifanc weled vphern yn y byd yma, ond i fedhwl ef oydh, i galhe bob dydh weled vph­ern garfron i fedhwl, wrth mefyrio yn fan­wl, ag felhy i galhe drwy fedhwl am vph­ern [Page] yn phrwythlon, gael cymeint o ðaioni, a phe bay yn gweled vphern ai lyged cor­phorol. Ag felhy ir oydh gynt lawer o wyr o grefydch buchedhol yn byw mewn coedyð, heb fedru lhythyren ar lyfer, ond yn vnig darlhen a mefyrio y pethe mawr hyn yn i clonne. Felhy ir attebodh meudwy i ðyn a dhoyth atto ef, lhe ir oydh yn crefydhu: y dyn a ofynnodh idho para fodh ir oydh yn difyrru r amser, gyn na fedrei dharlhen ar lyfer. Ynte attebodh fod gyntho lyfr o da­ir dolen, vn dholen wen, yr ail yn goch, y drydydh yn dhu. Y dhelen wenn oydh yn dangos ternes nef, y goch yn dangos tan v­phern, y dhu yn dangos angeu. I fedhwl oedh hyn, er nad oydh gyntho vn lhyfer o bapyr a du yw dharlhen ag i dhifyrru r am­ser, etto roydh gyntho yn i gallon fodh i mefyrio ag i gopha yn wastod angeu, nef, ag vphern, ai fod ef yn bwrw r amser hei­bio, ag yn cael mwy o dhaioni wrth fedhwl yn fanwl am y pethe hyn, nag ir oydh lha­wer dyn yn i gael wrth dharlhen lhyfre. Hefyd i weled mor anghenrheidiol yw mefyrio ar byngcie yn phydh, Hiero. Epist. ad tunicum. mae Saint Hieron yn dangos, mae Bwyd yr enaid yw mefyrio a medhwl am byncie yn phydh.

Wrth hyn megis na all y corph fod heb borthiant corphorol, ag os bydh yn hir heb [Page] fwyd, fe eiph yn wann, ag yn y diwedh fe fydh farw: yn yr vn modh, os bydh yr enaid heb i borthiant ynte yn hir, hyn yw mefy­rio a meðwl am bethe sprydol, ef a wanhe­iph ag eiph yn lhesc, ag yn y diweð ef a fyð marw drwy bechod marwol. Am hyn i dw­ad y lhaswyrwr: Fe sychodh fynghalon i, Psal. 102. ā olhwng o hono i yn ango fwytta fy mara. Nid oes fodh idho fedhwl yn y geirie hyn, fara corphorol yn peri r gallon ag ir meðwl sychu, ond yr eneid sy n diodhe r sychdwr hyn o ejsie defosiwn, pen fo dyn yn golhwn dros gof fwytta r bara sprydol, hyn yw me­fyrio ar byngcie i phydh. Hefyd mae call­on dyn mor naturiol i betheu bydol, ag yd­iw oerfel ir dwr, ag mor annaturiol i beth­eu nesol ag yw y gwres ir dwr. Am hynny megis i bydh rhaid rhoi i dwr ar y tan i ga­el gwres, a phen dynnir ef odhiar y tan fe eiph yn oer eilwaith: am hynny os mynnir i gael ef yn wresog yn wastod, ni elhir tyn­nu dhim o hono odhiwrth y tan: yn yr vn moð am galon dyn, gan i bod oi natur i hun yn oer tu ag at betheu nefol ag yn chwan­nog i bethe bydol, rhaid yw i dwyn oðiwrth pethe bydol i fedhwl ag i fefyrio am bethe sprydol. Ag fel dyna hi yn cael gwres: ond nedwch idhi fod yn hir heb fedhwl eilwaith am bethe nefol: os bydh yn hir heb fedhwl [Page] am bethe sprydol, hi eiph yn oer eilwaith, hi a dry drwy i naturieth at betheu bydol, ag yno hi a fetha. Ym hlith holh byngcie yn phydh ni, y rhai pennaf in cadw ni odiwrth bechu ywr pedwar peth diwaethaf, nyd ā ­gen, nag angeu, y farn, nef, ag vphern.

Nid ydym welh er credy r hain, oni bydh­wn yn fynech yn mefyrio arnynt yn yn clō ­neu, yn medhwl yn fanwl am bob moð sy n perthyn i bob vn o honynt: hyn i maer scy­thyr lan yn i dhangos: Eccli. 7. Yn dy holh weithre­doedh med hwl am y pethe diwaetha, ag ni phechi byth. Mae ỻawer yn pechu er i bod yn medhwl ā y pethe diwaetha: pam wrth hyn i mae r scythyr lā yn doydyd, na phecha vn byth, os medhwl am y pethe diwaytha▪ Nid pob math ar fedhwl sy dhigon, ond me dhwl yn phrwythlon, yn fanwl, yn dhyfn, yn ymarhoys, yn ara, hyn yw pan fo r cnawd ne r cythreul yn dy dentio di i wneuthu r vn pechod, cyn cytuno yn dy fedhwl ir wei­thred cyfri dy gardie, edrych yr ynilh sy ti, or nailh tu, a gwyl y goỻed or tu aralh. Yr ynuilh mwyaf sy n dwad i ti yw melysdr a phleser a digrifwch y weithred wrth wneuthur y pechod, peth bychan, Duw ai gwyr, yn parhau dros fynudun awr, ag yn y man wedi r weithred yn phiaið ag yn arswydus gyn i ti r weithred a wnaethost, y pleser yn [Page] darfod ar droead ỻaw: ond i mae r clwyf yn y gallon a bery dra foch fyw: am i gorfydh [...]wedhio, vmprydio, ag wylo am yr vn wei­ [...]hred yma hyd angeu. Dyma r pleser byr orwnt yn dwyn lhawer o flinder yn y byd yma. Etto ni wela i dhim ynilh, ond y ple­ser sy n diflannu ag yn darfod mewn troead lhaw, o ðigeth i ti gyfri vphern yn ỻe yniỻ, o blegid mae pob pechod marwol yn ynulh vphern, ond y golhed sy fawr: rwyti n coỻi dy enaid, am dy fod yn i ladh drwy bechu, rwyti n taflu Duw alhan oth gallon, ag yn derbyn dia wl i dario a phreswylo yn y gal­lon lhe i bu Duw or blaen, rwyti n colhi ternes nef ag yn yniỻ vphern. Medhwl he­fyd i bydh chwerw gyniti y pleser byr ar dydh y farn, pan fo rhaid cyfri am bob gair a meðwl ofer, chwaethach am pechod mar­wol. Ni dherfydhei im fyth fynegi r golhed sy n dwad o dhiwrth bechod marwol. Etto pei bay dhyn yn mefyrio yn fanwl ar gym­eint ag a dhangoseis yn awr o ran y golhed sy n canlyn pechod, pan glowei r cnawd neu r cythreul yn i dentio ai brofi, os bydh dim cof a synwyr yn i ben, ni phecha byth, fel i mae r scrythur lan yn dangos or blaen. Pei beym yn studio ag yn mefyrio wrth fargen a r cythreul mor galh ag a fydhwn yn gwneuthur bargen fydol, ni bydhem [Page] yn cael yn twylho cyn fynyched. Gwelwch mor gaỻ ydym mewn bargen fydol: os pryn nu cephyl a wna dyn, pwy a fydh mor phol a chredu r gwerthwr, o dweid i fod yn ge­phyl da? pwy a fydh mor ynfyd a phrynnu r cephyl heb geisio dim edrych arno, ond ar i wyneb? ag am fod idho wyneb gwynn ef a brynn y cephyl, heb geisio edrych ar i draed ef, ar i gefyn, ar i oedran, a lhawer o be­theu gyd a hynny. Nid oes vn a bryn ge­phyl y lhyn, ond ef a fyn i weled ef yn cer dhed, fe fyn deimlo, nodi, a marco pob troed idho, fe fyn weled i dhannedh ef, ni edewiph fodfedh oi ben hyd i gynphon heb i edrych ai deimlo: yn yr vn modh i mae rhaid i dhyn studio a mefyrio ar y fargen pan fo r cyth­reul yn ceisio gantho brynnu pleser bydol, rhaid idho gonsidro ystyrio a mefyrio ar y pris. Chwi a glowsoch or blaen fod y ple­ser yn fyr ag yn frwnt. Y pris yw colhi r e­naid, colhi r nef, colhi Duw, ynulh vphern. Dyma bris mawr am beth bvchan, dyma r fath fargen a masnach i mae dyn a diawl yn i wneuthur yn wastod mewn pob pechod marwol. Pei bae ðyn yn marco ag yn me­dhwl am hyn yn wastod cyn bargen ar cy­threul, ni chaei i dwylho cyn fynyched.

Am hynuy rhaid idho wneuthur i fargen, fel i gwna wrth brynnu cephyl, nid edrych [Page] ar wyneb gwyn y cephyl heb geisio gweled i draed a phob modfeð hyd y gynphon. Feỻy am bechod nag edrych wn yn vnig ar i wyn­eb ef, ar y pen blaen iðo: i wyneb sy n edrch yn deg ag yn wyn, ond cyn prynnu r pechod moyswch farco a gweled pob modfeð oi ben hyd i gynphon cyn i brynnu, hyn yw edrych hyd at y gynphon, eðrych y pen ol cysdal ar pen blaen, mefyrio y diwedh, beth sy n can­lyn y pechod, rhaid o gweled y gynphon, er tecced yr wyneb, mae r gynphon, mae r pen ol yn dhrwg ag yn anferth: cynphon y pech­od yw coỻi r enaid, colhi Duw, colhi r nef, ag ynuỻ vphern. Ydrychwch ar y gynphon yma ag ar y pen ol: na fydhed gynych dhim pris am y pen blaen, hyn yw am y pleser byr br­wnt, gyn fod y pē ol mor anferth. Os bydhei gephyl ag wyneb gwyn idho, heb alhu rhoi drayd ol ar lawr, pwy a roei ariant amda­no. Am hynny byth wrth fargen ar gelyn twyỻodrys merciwch y pen ola, ag nī thwy­lhir dhim honoch byth. Gwelwch reitied yw mefyrio a chonsidrio r pethe diwaytha i ym­wrthod a phechode, yn anwedig, pē dhel ten­tasiwn i geisio methel ar dhyn i wneuthyr gweithred dhrwg: yno yn bennaf i mae an­ghenrheidol mefyrio diwedh y peth cysdal ai dhechre. Medh vn sant: S. Chris­ost. O gwely di dhim teg a pheth mawr yn y byd yma, rhag ofn i [Page] ti gymeryd gormodh pleser yndho, medhwl am degwch a daioni ternes nef, ag yno ni bydh y peth bydol ond diphrwyth: o gweli dhim ofnys yn y byd yma, medhwl am vph­ern, ag di a ehwerthy am ben yr ofn yma, [...] bydh y cnawd yn dy dentio, medhwl am dan vphern, a hyn a dhiphid tan y cnawd. dyma ðefod ag arfer gwyr da gynt mefyrio yn wa­stod ar bethe sprydol. Mae r lhaswyr yn da­ngos, mae vn or pethe pennaf, sy n perthyn i wr da, Psal. 1. yw mefyrio ar gyfreth Dhuw nos a dydh. Ni dherfydhei im fyth dhangos sam­ple r saint yn mefyrio beunydh ar betheu sprydol. er bod Dafydh brophwyd yn frenin, ag o ran hynny, fod yn gorfod idho medlieth a lhawer o faterion bydol: etto er hynny nid oydh ef yn golhwng vn dydh heibio heb feð­wl a mefyrio ar bethe sprydol. Psal. 118. Mi a fefyria­is ar dy orchmynion di, yr hwn a gerais i: hefyd, Psal. 26. Mi a fefyria yn dy gylch di y boreue: mewn man aralh, Psal. 118. O farglwydh faint i cera­is i dy gyfreth di, rwy n mefyro arnei yn hyd y dydh: ag nid yn vnig y dydh, ond hefyd i mae n dangos i fod yn mefyrio yn i gallon y nos cysdal ar dydh. Psal. 76. Mae moysen yn rhoi i farn ynte yn y geirie hyn: Printwch y geirie hyn yn ych clonne, Deut. 5. a dyscwch nhwy ich plant fel igalhon hwy fedhwl am danynt, pen fych ti n eistedh yn dy dy ne n siwrneio ag ymo [...] [Page] th ar y phordh, pen fych ti n myned i gyscu, neu yn codi r bore, medhwl a mefyria am danynt. Ynghyfreth Foysen gynt, Leuit. 11. ag ym hlith lhawer o gynedhfe gwiw da yn anghenrheidiol i dhynabod y nifel glan hwn oydh vn, Deut. 14 fod yn rhaid i r y nifel glan gnoi i gil, onid e nid oedh lan. Hawdh yw gwybod nad oedh gyn Duw gymeint gofal am yn feilied, ag idho wneuthur y gyfreith er i mwyn hwy. Ond er mwyn dynion i gwnaed y gyfreth yma, i dhangos para en­aid a fydhe lan gar bron Duw. Am hynny i daỻt y gyfreth, gwelweh mae hyn yw cnoi cil: wedi r nifel fwytta i fwyd, megis i fras bori ef, yno i raf eilwaith i gnoi gil, megis i ail fwytta r bwyd, ag ai gwna yn fanach ag yn fanylach: ag yno ef ai rhan i bob ae lod i bart ai ran. A hwn yd oydh y nifel glā: ond dealht y gyfreth yw hyn: nad oys vn e­naid yn lan ond a wnelo gyphelib ir nifel yn cnoi gil. Wrth hyn mae r enaid yn bw­ytta i fwyd pen dhel i gredu pob peth ar i mae r egiwys gatholic yn i dhangos idho. Wrth gredy r ewbl dyma fe yn bwytta i fwyd megis i fras gnoi ef, ond nid yw hyn dhigon yw wneuthur yn lan, rhaid idho i ailfwytta, i ail gnoi drwy gopha, medhwl, a mefyrio yn fanwl ag yn arafaidh ar bob pwnc ar i ben i huuan, ai holh byrthnase, [Page] megis medhwl am vphern a r holh bethe sy n perthyn ir poene vphernol, ag yn yr vn moð am y pyncie erilh. Wedi cnoi y cwbl or pyncie hyn yn fan ag yn fanwl yn y me­dhwl, yno rhaid yw rhannu r bwyd spry­dol hyn i bob aylod or enaid yn ol i radh, i of­yn, ai eisie, yno i bydh ef y nifel ag enaid glā, fel i mae r gyfreth yn gofyn. Nid yw phydh heb fedhwl a mefyrio am dani, ond megis lhythyr wedi gay ai selio, lhei mae n y scri­fenedig newdhion mawr o lywenydh ne dristwch: ag etto nid yw r lhythyr yn ỻywe­nu nag yn tristau dhim arnom, am nad yd­ym yn agoryd y lhythyr ag yn i dharlhen: canys pen darpho agoryd y lhythyr ai dhar­lhen yn arafaidh, yno i cawn weled a dealht achos a wna i ni chwerthin, ne wylo: Fe­lhy am yn phydh, er yn bod yn credy r cwbl, yn y gallon i mae pob peth yn scrifenedig, yno i mae lhywenydh y nef a thristwch vph ern yn scrifencdig: etto mae yno yn glos we di selio, ni wna i ni dhaioni yn y byd, nes i ni agoryd ỻythyr y gallon a darỻen yn araf­aidh y pethe hyn, drwy fedhwl a mefyrio am danyn yn fanwl ag yn arafaidh. Ni wa­sanetha darlhen ar gip, ar frys, ond yn ara deg wrth farco pob pwnc ar i ben i hunan. Y lhyn i mae medhwl a mefyrio yn agoryd y peth sy wedi gloi yn y gallon, yn gwneu­thur [Page] yn oleu y peth ydoedh yn dywyỻ a thr­ [...]y dhwyn goleuni i r medhwl y mae yn [...]gwydho r ewylhys i welhau r fuchedh, megis i mae r phydh yn dangos. Mae n gor fod i mi adel heb son amdanynt fil o resy­meu yn dangos daioni ag anghenrhaid my­fyrio a medhwl am betheu sprydol: a hyn i gyd rhag bod yn rhyhir wrth dhephygio r darlhennydh. Yma y dywaid dyn annysce­dig ei fod yn fodhlon ag yn chwannog i fedh wl am betheu ysprydol, ag i fyfyrio arnynt lawer gwaith, on d ny wyr ef para fodh y mae idho fedhwl am y petheu hyn, ny feder dynabod y petheu rheitiaf i fedhwl amdan­ynt: na chwaith er gwybod henweu y pe­theu, ny s gwyr y mesur, y modh, yr ordor a r drefn sy raid i gadw wrth fedhwl a my­fyrio, fal i meder gwr dyscedig dynabod hyn i gyd. Dyma r achos mwyaf a wnaeth i mi scrifennu hyn i gyd, a r a gewch ei gly­wed yn y ỻyfr yma, i dhangos i r cyphredin gymry y petheu rheitiaf sy idhynt fedhwl a myfyrio arnynt. Hefyd yma i cahant weled y modh, y mesur a r drefn sydh yw gadw wrth fyfyrio ar y petheu hyn. Canys wedy i bob dyn dharlhen neu glywed darlhein y pethe hyn, y galhant fal anifeilied glan fyned i gnoi ei cil, drwy fedhwl a myfyrio ar y pethen a r y dharlhenason neu a glow­son, [Page] ag yno mywn amser, drwy arfer o dha­rỻein neu wrādo yn fynech ar y pethe hyn, i galhen eu plannu yn i medhwl, a mefyr­io arnynt, pan i mynnant, fal pe y baynt wedy dyscu r petheu alhan o lyfr ar ei tafa­wd leferydh. Arfer hyn yn fynech a wna i dhyn yn y diwedh alhu parhau yn dhiboen: hyn a dhwg oleuni r dyalh i weled i stad a i berigl: ag a ogwydha r wylhys i ganlyn y goreu ag i wrthod y gwaethaf. I dhyfod yn nes at y matter a r deunydh, mae r Pro­phwyd yn dangos, mae dau beth sy raid ei gadw, o s mynnwn fod yn gristnogion da: nyd amgen nag ymwrthod a drygioni, Psal. 36. a gwneuthur daioni: hyn yw r cwbl: byrr yw r geirieu, on d i mae r gwaith yn drwm ag yn fawr. Y phordh nessaf i dhyscu r wers hon, yw gwybod y modh i garu Duw yn fwy na dim, ag i ofni Duw yn fwy na dim. Canys pwy bynag a garo ag a ofno Duw yn fwy na dim, ef a geidw goruchmynion Duw, ni wna ef dhim yn erbyn wylhys duw, ef a wnciph bob peth o r a fyno duw i­ðo: ag wrth hyn ef a dhysc y wers sy yn erchi gwrthod drygioni a gwneuthur daioni. Nid oes dim i n denu ni i garu Duw, yn fwy na gwybod beth a wnaeth Duw o dhaioni er mwyn dyn. Hefyd i dhenu dyn i ofni Duw, nid oes vn peth cysdal a gwybod a [Page] chydnabod dhigofaint Duw a e gosbedigeth yn erbyn y sawl a dorro i orchmynion. Wr ch hyn yn gyntaf, gyd a Duw, chwi a ge­wch glywed achosion mawr i ch denu chwi i garu Duw yn fwy na dim. Wedy hyn mi adhangosa achosion nerthol a grymus i ch dwyn i ofni Duw o flaen dim. Yn y trydyð mann y tynnaf odhiar y phordh bob rhwy­ [...]tr, megis y galhoch wasanaethu Duw yn debyg i gristnogion da.

* YR AIL PENNOD yn dangos i dylyem garu Duw yn fwy na dim, am idho eyn gwneuthur.

MAE mor naturiol i wylhys dyn chwe­nnych a charu daioni, 1. Yr achos Cyntafi garu Duw. a gwrthod a chash au drygioni, ag na bu eirioed vn yn chwen­nych nag yn caru dim, ond daioni, neu o r hyn lheiaf, ni charei on d y petheu a r ir oeð of yn tybied i bod yn dha: Hefyd ny wrth­ododh ag ni chashaodh dyn dhim erioed, en d drygioni, neu r peth yr oedh ef yn i fedh­wl yn tybieid i fod yn dhrwg. Gan fod mor naturiol a hyn i dhyn garu daioni: rhyfedh paham na char dyn Dhuw, pei baei Dhuw heb wne nthur eiryoed dhim daioni i dhyn. Pam (medhwch) yr ydym yn caru dysc, [...]oethineb, a synwyr, a r holh rinwedheu [Page] da ar sy yn eneid dyn? Pam ir ydym yn ca­ru goleuni a gleindid yr haul, y lheuad, a r ser, a thegwch yr holh phurfafen? Pam ir ydym yn caru tegwch, ag amryw liwieu blodeu a lhyseu r dhayar? Paam yr ydym yn caru paradwysaidh leisieu a chynghanh­edheu adar a dynion? Pam yr ydym yn ca­ru bwydydh a diodyð melys? Pam ir ydym yn lhawenychu wrth swyro ag aroglu aro­gleu a gwynt teg ar flodeu a phetheu erilh? Yn y diwedh pam ir ydym yn caru pob dai­oni, hyfrydwch a glendid ar a welom, a gly wom, nag a dhealhtom, yn sprydol nag yn gorphorol? Nid oes fodh i atteb, on d fal i doydais o r blaen: am fod naturiaeth dyn i garu pob daioni, glendid, hyfrydwch, ples­er, a drigrifwch. Belhach pei bae bossibl i chwi gasglu ynghyd yr hoỻ dhaioni, y glen­did, y lhywenydh, yr hyfrydwch, y pleser, a r melysdra, a r sy yn yr holh fyd, a rhoi r cwbl yn yr vn lhe: fe fydhe mwy o ragor­iaeth rhwng y daioni, glendid, hyfrydwch, melysdra. a r pleser, a r sy mywn Duw a r holh bethe paradwysaidh daearol hyn, nag ysydh o ragorieth rhwng vn defnyn neu ðroppyn o dhwfr a r holh for mawr. am fod daeoni a thegwch Duw yn passio ag yn rhagori ar bob daeoni a thegwch yn y byd ym­a, yn fwy o lawer, nag y mae r mor yn rha­gori [Page] ar vn defnyn o dhwr mywn maintiol­aeth. Canys er bod yn y mor gymaint o ri fedi dhefnyneu dwr, ag na alh dyn wybod moi rhifedi: etto mae rhifedi arnynt gar­bron duw: ef a wyr pa sawl defnyn sy yn y mor mawr. Ag er maint sydh yno o dhwr, pei baid yn tynnu vn defnyn o hono ymaith bob dydh, o s bydhei r byd yn parhau byth, yn y diwedh cyn byth fe dherfydhei y dwr i gyd yn y mor, er y fod yn hir cyn darfod. Yr achos yw, am nad oes dim yn y byd yma, er maint a fytho, nad oes mesur a diwedh arno cyn byth. On d nid oes na diben, na di­wedh, na dosparth, na mesur yn y byd ar y daioni, hyfrydwch, ar ỻywenydh a r sy my­wn Duw: nyd yw r daioni sy yn yr hoỻ fyd, a i fod i gyd yn yrvn lhe, on d megis vn de­fnyn o r daioni heb fesur a rhifedi a r sy me­wn Duw. Am hynny, o s bydh vn defnyn o win yn felys, pe bae r hoỻ for yn win me­lys, fe fyddei yno felysdra mawr: felhy yr holh hyfrydwch, a r lhawenydh yn y byd hyn, nid yw ef onyd defnyn o r melysdra mawr alhan o fesur, a r y sy mywn Duw: ieu nyd yw y cwbl yn y byd yma, onid gw­ascod daioni, wrth dhaioni Duw.

Am hynny od ydym yn caru cyscod daioni cymeint, hyn yw holh degwch y byd yma: paam na charwn yn fwy y gwir dhaioni y [Page] fy yn Nuw? od ydym yn caru cymaint vn defnyn melys: pam na charwn yn fwy y mor melys mawr? Od ydym yn caru cyme int goleuni vn seren a r sy n cael i goleuni odhiwrth yr heul: pam na charwn yr haul yn fwr, sy n lhawn goleuni, ag yn rhoi go­leuni i r holh ser ag i r lheuad. Felhy mae Dnw yn lhawn daioni, a r byd i gyd megis defnyn o r daioni heb fesur. Gwelwch fod digon o achos i ni garu Duw yn fwy na dī, o rann i fod ef yn ỻawn daioni, ag yn passio pob daeoni aralh yndho ihunan, yn fwy nag y mae r mor yn passio ag yn rhagori ar vn defnyn o dhwfr: ieu mae hyn yn dhigon o achos i ni i garu Duw o flaen dim: pei ro­wn idho a bod eb wneuthur i ni dhim dayo­ni eirioed: etto mae achos yw garu o ran i dhaioni a r y sydh yndho o ran i naturaieth i hunan. Er hyn i gyd, natur dyn a fydh fy­nychaf i garu yn gynt er mwyn y daioni a r prophid a r elw, y mae yn i gael ar law y sawl i mae yn i garu. Am hynny moeswch dhangos beth o r daioni, y mae Duw yn i dhanfon, ag yn i roi i ni: fal i galhom, or hyn lheiaf, i garu am i ðaioni i ni, onys ca­rwn er mwyn i dhaioni i hunan. Mae dai­oni Duw tu ag at dhyn aỻan o rif a mesur: etto nyni a i dygwn mywn mesur, ordor a threfn goreu i galhwn.

[Page]Yn gyntaf dim mae dyn yn rhwymedig i garu Duw yu fwy na dim, 2. Yr ail ach­os. am i Dhuw i wneuthur ef: o dhim i gwnaeth Duw bob peth, ag i dhim yr aei bob peth eilweith, o­ny bai fod Dnw yn eu cadw. Fe alhassei Dhuw na wnaethei na dyn na dim aralh, ō d gadel dyn yn dhim, megis yr oedh yn y dechreuad: etto i fawr dhaioni ef ydoedh, nyd er lheshad idho ehunan i gwnaeth ef ðyn. Mawr a fassei r daioni wneuthur dyn o ðim yn rhyw beth, megis yn garreg neu n bren. Hefyd fe alhassai Dhuw wneuthur dyn yn neidr, yn ỻyphant, yn sarph, yn arth neu yn rhyw anifeil aralh: etto ny wnaeth Dhuw dhim o dhyn yn vn o r hain, on d yn dhyn. Pe i baei vn (a alhei wneuthur vn o honom yn anifel) yn bygwch i wneuthur ef yn arth, beth a roei (dybygwch) rhag i wneuthur yn arth? a phara dhiolch a roe er i adel yn dhyn, a pheidio a i wneuthur yn anifail: yr vn dhiolch a dhylem roi i Dhuw, am na wnaeth ni y tro cyntaf yn anifeilie­id, nen am nad ydyw beunydh yn eyn troi yn anifeilied, a nineu yn haedhu, o ran eyn bod yn byw fal anifeilieid.

Hefyd nid oes vn aelod ar gorph dyn, 3. Y trydydh achos. nad yw yn rhodh mor werthfawr, ag na elhir prisio vn o honynt. Pei byssei Dhuw yn dy wneuthur di heb vn ỻygad, megis y mae ỻa­wer [Page] dyn yn dhalh, heb weled dim eirioed beth a glywy ti arnat i roi ā gael gweled▪ Mi a wn i rhoyt hoỻ dha r byd er cael dy o­lwg. Gofyn i dhyn dalh, ny weles erioed, beth a roe am i olwg, yno y gelhy frith wy­bod pamcen yr wyti n rhwymedic i Dhuw am dy olwg. Nid oedh ef dhim mwy rhwy­medig i ti, nag i r dyn dalh aralh: ag yscat­fyð, pei cowsei r lhaỻ i olwg, ef a arferassei o honei yn welh, nag yr wyti yn arfer oth olwg. Heb law hyn, yr wyti yn rhwyme­dig i Dhuw nyd yn vnig am roi i ti dy olwg y tro cyntaf, ond hefyd am adel iti d olwg, a thitheu wedy rhyglydhu a haeðu ei choỻi yn fynech. Beth pei baei gyfraith y deyr­nas yn barnu iti golhi dy dhau lygad am bob gwaith ag i torrach di gyfreith y Fren­hines: byrw yn awr dharfod iti dorri gyfra­ith y dyrnas gant o weithieu, ag am bob vn o r cant yr oedhyt yn phorphettio ag yn coỻi dy dheu ligad: etto fe fadheuodh y frenhi­nes itti bob gwaith, ag a adawodh itti gael dy lygeid: ony fydhy ti rwymedig yn y cyf­lwr a r ansodh hyn i garu r Frenhines, ag i dhiolch idhi hyd tra fayt fyw, am idhi roði i ti dy olwg cyn fynyched. Can mwy rhwy­medig wy ti i Dhuw, am fadheu itti dy o­lwg brydieu heb rifedi. Canys fe dharfu iti heudhu colhi dy lygaid lawer gwaith, am [Page 13] itti bechu yn erbyn Duw drwy gamarfer oth lygaid a th holh aelodeu ereilh. Oblegid ā bob gwaith a r i pechaist yn erbyn Duw, yr oedhy ti yn phorphettio, nyd yn vnig dy lyged, on d dy holh aelodeu er eilh. Wrth hyn, megys y mae dy bechodeu alhan o fe­sur heb rifedi arnynt, a thitheu ym hob pe­chod yn heudhu colhi dy lygaid a th holh ae­lodeu: felhy i mae r cariad a r diolwch a ðy­ly di i Dhuw am dy arbed di, alhan o fesur a rhifedi. Ag megis y dangosais itti am dy lygeid, felhy y gelhy fedhwl a mefyrio am vy holh bum synwyr, ag am dy hoỻ aelodeu. Pei bassei Dhuw yn dy wneuthur yn fydh­ar heb glywed dim, yn fud heb dhoydyd, yn gloph heb alhu cerdhed, ag vn lhaw ag vn troed, megys y mae mil yn y modheu hyn: medhwl beth a royt am vn o r petheu hyn, pei buassei Dhuw yn dy wneuthur ag eisi­eu vn o r hain: mi a wn i rhoyt dha yr holh fyd cyn bod arnat eisieu vn o r hein. Gwyl wrth hyn y cariad a r diolch a dhylyt i Dhuw, sy n rhoi itti hyn i gyd yn rhad, ath ditheu heb haedhu dim ar i law ef, ag yntef eb roi r pethe hyn i lawer dyn aralh, a fass­ei yn i heudhu yn welh nath di, eb law roi itti dy bum synhywr a th aelodau y gyd yn y dechreuad. Medhwl fal yr ercheis am dy lygaid, o bydhei gyfraith y dyrnas yn dwyn [Page] lhaw neu droed, dy glustieu neu th dafod, ie neu n dwyn y petheu hyn i gyd, am bob bai yn erbyn y Frenhines, ath ditheu wedy to­rri r gyfraith ganwaith, ag etto y Frenhi­nes yn madheu r cwbl, ni elhy ti fedhwl y cariad a r diolch a fydhei ðylyedus i r Frē ­hines am hyn i gyd. Can mwy cariad a di­olwch sy yn dhylyedus i dhuw ā y cyphelyb beth. Am bob gwaith y camglywaist, cym­eint o weithieu ir heudheist golhi dy glust­ieu: am bob gwaith y camdhywedaist, cym­aint o weithieu yr haudhaist golhi dy dafod: am bob gweith y camdeimleist, ac y cam­gerdhaist, cymeint o rifedi i phorphetaist dy dhwylo ath draet. Ag fal y mae r gweith­ieu hyn alhan o rifedi a mesur, yn yr vn modh y mae r cariad a r diolwch eb fesur a rhifedi yn dhylyedus i Dhuw, am fadheu it ti dy olh aylodau, ath ditheu wedy haudhu eu colhi rhifedi eb wmbreth. Hyn a clhy di fedhwl ynghylch aelodeu r corph.

4. Y pedw­crydh a­chos.On d beth a ðywedwn am yr enaid? Pei baei r holh degwch, y gleindid a r hyfryd­wch, a r y sy n yr holh fyd wedy gasclu yn­ghyd i r vn fann, nid yw hyn i gyd o i gyphe­lybu i degwch ag i lendid vn enaid, mwy nag yw vn defnyn o dhwr yw ei gyphely­bu mywn meintioleth i r holh dhwfr yn y mor mawr, nen oleuni [...]n ganhwylh o wer [Page 14] yw gyphlybu i oleuni yr haul yn yr wybrē: [...]eu can mwy o ragoriaeth sy rhwng yr ene­id a r holh bethe corporel o lann gleindid, nag y sy rhwng yr heul ag vn gannwylh: am fod yr haul a phob peth a r a elhir i we­led, yn gorphorol, fal i mae r gannwyỻ, er bod vn corph yn deccach na r lhaỻ, etto cyrph ydynt i gyd. On d i mae r enaid yn beth ys­prydol heb dhim natur corphorol yndho. Ni elhir na gweled na chlowed na theimlo en­aid, fal i gelhir petheu corphorawl.

A phwy n belhaf a fo peth odhiwrth natu­riaeth gorphorol, tebyccaf a fydh i Dhuw: a phwy n debyccaf a nessaf a fo peth at ðuw, chwi a wydoch mae glanaf a theccaf fydh. Gwelwch debycced yw r enaid i Dhuw: ni elhir na gweled na chlowed na theimlo na dyalh Duw yn i naturiaeth i hunan, felhy ny alhwn na gweled na chlywed na theim­lo na dealht naturieth enaid dyn. Gen. 1. Ef a dhy­wad Duw yn nechreuad y hyd i gwnai ðyn ar i lun a e dhelw i hunan. Hyn yr oedh yn i fedhwl nid o ran y corph, on d o ran yr en­aid: am nad yw r corph ar lun Duw, on o yr enaid. Canys megis y mae Duw yn vn Duw, ag etto yn dri pherson neu n dri dry­ch, sef y tad, y mab, a r yspryd glan, a r tri hyn yn vn Duw: felhy i mae yn yr enaid dri pheth, sef dyalh, ewyỻys a chof: am fod [Page] yr enaid yn cofio, yn dealht, ag yn ewylhy­ssu: ag etto nyd yw r tri hyn yn gwneuthur on d vn enaid. Oh pe y baem yn galhu gw­eled tegwch a hardhwch yr eneid, ef a fyð­ei fwy eyn gofal a n carc am ei gadw rhag brynti pechod marwol. Pei baym yn me­dhwl ag yn myfyrio beth yw pris yr enaid, ny bydhem mor dhibris amdanaw, nyd ad­awem idho farw cyn fynyched drwy bechod marwol, Crist a wydhei degwch a glendid yr enaid, ef a wydhei beth a dalei yr enaid: Canys ef a brynodh enaid dyn, a r ydoedh yn golhedic. Beth a roes Crist am a thros enaid dyn? Yn wir cymeint fyth ag a oedh o waed yn i gorph bendigedig ef: dyna i chwi bris yr enaid. O s mynwch wybod beth a dal eych enaid, medhyliwch beth a dal gw­aed Crist, ag wrth hynny i cephwch wyb­od beth a dal yr enaid. Na thybygiwch ga­el el o Grist na i dwylho na e somhi wrth rodi mwy am yr enaid nag a dalei, megis y mae ỻawer yn cael eu twylho wrth brynu: na fe­dhyliwch hyn am Grist: mae ef yn Dhuw yn gwybod pob peth: am hynny ny elhir twylo dhim o honaw. Wrth hyn y gwel­wch fod yr enaid yn talu cymeint a gwaet Duw a dyn. Belhach i n pwrpas ni: [...] y­dych yn cydnabod ych bod yn rhwym [...]g i garu Duw, ag i dhiolwch idho yn f [...]wr am [Page 15] wneuthur ych corph a e holh aelodeu, (me­gis i clywsoch o r blaen) can mwy, ie mil mil mwy yr ydych yn rhwymedig i garu Duw ag i dhiolch idho am ych enaid, gyn fod yr enaid yn passio ag yn rhagori ar bob peth corphorol mywn tegwch a gleindid yn gann mwy nag y mae r mor mawr yn pass­io vn defnyn o dhwfr. Etto vn peth chwan­eg, cyn ymadel a r enaid: M [...]dhyliwch fod lhawer o pholieid naturiol yn y byd, mae gan bob vn o r hain enaid cyn decced a r en­aid teccaf: Oblegyd nyd oes rhagorieth te­gwch rhwng enaid a r lhalh, o ran naturia­eth yr enaid, er bod o ran bai dyn, vn yn fry­ntach na r lhalh.

Er bod gen y pholied hyn eneidieu o r gla­naf, etto nyd oes ganthynt na chof na synnwyr i wybod drwg dros ða, mwy nag anifail. Gwelwch y gelhassei Dhuw ych gwneuthur chwitheu yn phol naturiol, heb na chof na synwyr, heb wybod rhagor rhw­ng dydh a nos, rhwng drwg a da: etto ef a roes Duw i chwi gof a synnwyr. Nyd oeð­ech chwi yn heudhu mwy na r phol, ag (scatfydh) pei baei r phol a synhwyr gyntho, ef a ymarferei o hono yn welh na chwi. Beth wrth hyn yr ydych yn rhwymedig i Dhuw am roi i chwi synnwyr a dealht i dhynabod drwg a da, a chof i gofio pob peth a r a gly­wsoch [Page] ag a welsoch? Hefyd wedy i chws gael cof a synhwyr gen Dhuw, chwi a heu­dhassoch ei goỻi eilwaith am bob gwaith ag y darfu i chwi gamarfer o ch synnwyr, dr­wy ymadel a Duw a chanlyn brynti pech­od. Yma yr oedhech bob gwaith yn waeth nag anifel. Am hynny i darfu i chwi bob gwaith ag y pechassoch, phorphettio ych cof a ch synwyr, a heudhu bod yn enifeil, am i chwi fyw fal enifel. Wrth hyn yr ydych yn ðylyedus i Dhuw am ych cof a ch synwyr: am idho na dhug ef odhiarnoch, am bob gw­aith i darfu i chwi bechu. Hyn yw maes ag alhan o rifedi, megis i doydais am aeloden r corph o r blaen.

5. Y pum­hed achos.Belhach myfyriwch ar y peth eu y mae Duw wedy eu danfon i borthi r cnawd, holh adar yr awyr, holh byscod y mor, holh anifeilieid a phrwythydh y dhayar, lhiein a brethyn i gudhio noethni, ag i n cadw rhag annwyd, dwfr a than i gyweirio bwyd, cy­phyleu i farchogaeth ag i dhwyn pynneu. Pei baei n gorfod arnawch fod vn pedeir awr ar hugein yn hoeth heb vn dilhedyn yn ych cylch drymder gayaf dros vn diwarnod a noswaith, heb law r cywilydh a fyðei ar­noch yn bod yn noeth ymhlith pobl, gwaeth a fydhei bod yn marw o annwyd. Yn y cyf­lwr a r stad hyn pe i baei gennych dha r hoi [Page 16] fyd, chwi a e rhoych am vn hen gadechyn ne bilyn: ag o baei vn a roðei i chwi dhilhedyn y pryd hynny yn rhad heb geisio dim am­dano, chwchwi a fyðech mor ðyledus i r dyn hwnw, a phet fassei yn rhoi i chwi dha r hoỻ fyd. Wrth hyn myfyriwch para gariad a diolwch sy dhylyedus i dhuw sy n rhoi ich­wi ðilhad yn rhad er pyn i ch ganed hyd he­dhiw, nos a dydh, haf a gauhaf: er darfod i chwi drwy aml bechodeu haedhu marw o annwyd a noethni. Medhyliwch hefyd o ran dilhad fod lhawer vn yn y byd yn dwyn ag yn dioðeu annwyd a noethni o eisieu di­lhad, heb wneuthur yn erbyn Duw gyme­int ag wnaethoch chwi. Yn yr vn modh i mae ichwi fedhwl am fwyd a diod: o buoch yn dwyn newyn eiryoed dros ðiwrnod neu dhau, neu n diodhef syched dros amser o eis­ieu diod: wrth hynny i mae i chwi fedhwl faint yr ydych yn nylyed Duw, am y ch ca­dw hyd yn hyn o ch hoes, eb fod arnawch na newyn na syched: ag ymhob vn or hain na elhyngwch dros gof fod Duw yn porthi ei elynion, am y gynifer gwaith i mae n rhoi bwyd i chwi, o rann darfod i chwi heu­dhu marw o newyn a syched, am bob gwa­ith ag i darfu i chwi bechu yn erbyn Duw, hyn yw alhan o fe sur a rhifedi. Gwybydh­wch hefyd fod Duw yn gadel yn fynech yr [Page] hai sy gan gwelh na chwi, dhiodhef newyn a syched, ag i bydhei lawen gan yr hai da hyn gael y gwargred a r gwedhulh, yr yd­ych chwi yn ei fyrw yn fynech i r cwn.

Peth aruthr yw newyn: fe wnaeth newyn i r fam yn erbyn anian a naturiaeth fwytta ei phlentyn: megis y gwelwch gephyl, gw­elh gantho wair na olh aur yr holh fyd: fe­lhy dyn, pan dhel arno newyn, ef a rydh da yr holh fyd am vn dorth o fara. Yr oedh brenhin a elwid Lysimachus o wlad thracia, mywn rhyfel, cyn brinned arno, ag iðo ym­roi i r gelynion, a i roi i hunan a i holh fre­nhiniaeth yn nwylo ei elynion, er cael vn dhiod o dhwfr i dorri i syched: wedy idho gael torri i syched ar y dwr, yna i dywad: Oh fychaned yw r peth a m gwnaeth i o frenhin yn was caeth: i fedhwl ydoedh, dhar­fod i dhiod o dhwr ei wneuthur ef o frenhin yn waas caeth. Gan fod newyn mor dost a hyn, y geỻwch gael achos anianol ei faint i garu Duw, ag i rodhi diolwch idho am ych cadw hyd yn hyn o ch hoes heb eisieu na bwyd na diod na dilhad.

6. Y chwe­ched achosMae vn achos mawr etto i n denu ni i garu Duw o ran y corph: hyn yw iechyd cor­phorawl. Ni wyr vn dyn pa ryw ðaioni yw raphel iechyd, on d y sawl a fu ryw bryd yn glaf. Y sawl o honoch a fu glaf a feder [Page 17] feðwl beth a roesei y pryd hynny er cael ie­chyd: ieu, ag o bydh y dolur yn dost, er ca­el vn nosweith o esmwythdra. O s bydh dyn yn glaf aruthr, er cletted ag er cybydh­ed a fo, er na rodhei vn geinog i ðyn tlawd dros farw: etto pan dhel yn glaf, fe rydh a fedho ar y dhaear i r Physygydh, yn gynt na bod yn poeni mywn gorthrwm glefyd: fe wna r dolur dywalht yr aur a r a fu heb weled goleini er s lhawer dydh. Gwelwch faint y boen y mae yn i gael ag yn ei gym­eryd i fyned i belh i hela phynhoneu r Sa­int, i geisio iechyd: gwelwch hefyd gimint sy o glefydon yn y byd, maent maes o rife­di: chwychwi a fedrwch henwi ag ednabod lhawer o honynt, nyd amgen na r colic, a r tostedh neu r garreg, y frech fawr, y clwy gwahanol: o s mynnwch enwi petheu by­chein, chwi elhwch enwi r dhanhoedh, a ỻa­wer o dholurieu heb law hynny. Belhach moeswch weled yr achos paam y mae duw yn danfon i n plith gymeint o glefydoedh a dolurieu: ny ni alhwn atteb fod yr emelh­tith a gawsom o ran bwytta o Adha yr afal, yn achosiol o r holh gledi a r cospedigaeth a r y sy yn y byd: ond heb law hyn mae corph dyn ar ol pechod Aða mor fethiedig ag mor wann a diphrwyth, a e fod o naturiaeth yn barod i dherbyn ag i gynhwys aml dholu­rien. [Page] Mae vn achaws aralh yn peri lhawer o glefydoydh, nyd amgen na dial a chospedi­geth Duw am cyn pechodeu ni: megys y mae yn eglur drwy eirieu Crist am y rhai a dharfu idho rodhi iechyd idhynt, pan ydo­edh yma ymhlith dynion: Ioan. 5. bydh wych (með ef) ag na phecha mwy: i dhangos mae am ei bechodeu ir ydoedh yn glaf. Ag feỻy y ma­ent mil yn glaf yn y byd, yn danfō am phy­sygwyr neu fedhygon, ag yn rhodhi ariant yn braph idhynt, a nhwytheu wrth edrych ar y dwr neu r trwngc drwy r gwydr yn cy mheryd arnynt dhangos achos naturiol o r dolur, ag yn gadho ei wneuthur yn iach: a r dolur yn vnig wedy Dhuw ei bwyntio a i nodi yn dhial am bechodeu r claf. Ag yna dyweded y physygwr a fynno, ny cheiph y claf byth iechyd, nes gwelhau ei fuchedh a myned dan law tad enaid: yna darpho tyn­nu r pechod ymaith a r oedh achos o r dolur, ef a fyð haws a chynt ei wneuthur yn iach. Belhach i r pwrpas: gyn sod dau achos o r dolurieu hyn, nailh a i methiant y cnawd er dydhieu Adha, neu dhial pechodeu r clw­yfus: Yr ydych yn gweled lhawer o dholu­rieu a chlefydoedh a chlwyfeu yn y byd ar lawer o bobl, ar ych cymodogion o ch am­gylch, ag etto nyd oes vn o r doluriau a r clefydoedh hyn arnawch chwi: nyd oes a­chos [Page 18] onyd daeoni Duw yn ych cadw chwi rhag yr olh glefydeu hyn: oblegyd mae r dheu achos a roesom o r blaen, cyn nessed i chwi ag i r hei ereilh: o r vn dywarchen y gwnaed chwi a r hai cleifion er eilh. Am hynny o ran naturiaeth y cnawd yr ydych mor barod i bob clefyd a ch cymodog: o ran yr ail achos, hyn yw dial pechod, chwiliwch ych ascre a ch mynnwes yn dha, a chwi a gewch fwy o bechodau i dhial arnynt ag yw cospi, yn ych mynwes chwi, nag ym mynwes y cymydawg clwyfus: ag etto y mae ef yn glaf a chwithef yn iach lawen. Wrth hyn gwelwch ta yw ewylhys a dai­oni Duw sy n ych cadw chwi odhiwrth ðol­urieu, clefydeu a chlwyfeu, nyd natur ych corph na ch buchedh dha. Wrth hyn od yd­ych yn caru ch iechyd yn fwyaf peth ar y dhaiar, edrydchwch pa ryw diolch a roech i physygwr dros ych iachau heb vn geinog o dholur angerdhawl, yr vn diolwch, ieu a chan mwy a dhylyech rodhi i Dhuw am ych cadw yn wastad odhiwrth pob dolur, neu odhiwrth mil erailh, er ych bod yn glaf o rai o r dolurieu: am ych bod o ran naturieth y cnawd yn heudhu holh dholurieu r byd, ag o ran ych pechodeu yn rhyglydhu mwy na ntil o rai cleifon. Nyd yw hyn i gyd a hen­wasom, ond pethe daearawl: moeswch [Page] dhringo yn vwch i fynydh.

7. Y seith­fed achos.Gwelwch yr haul yn goleuo drwy r dyd, a r lheuad a r ser dros nos: Y cwbl o r phur­fafen a wnaeth Duw i wasanaethu dyn: mae r planedae vwch ben yn rheoli corph dyn a phob peth daearol: fal i gwelwch y physygydh a r medhyc, ny wnant na golh­wng na tharo gwaed, na rhoi medhygina­eth yn y byd i r claf, nes gweled ydyw r ar­wydh yn yr wybren yn gwasanaethu. A phe baei vn o r planedeu yn torri tros y lhywbr a dharfu i Dhuw ordeinio idhynt yn y dechreuad, ny bydhei dhim byw ar y dhaear, na dim daearawl yn phrwytho, on d pob peth a [...]hifannei ag a fethei. Ag er bod dyn drwy gamwedheu yn heudhu beu­nydh golhi goleuni r heul a r holh enulh ag elw a r y mae yn ei gael oiwrth yr hoỻ phu­rfafen: etto mae daioni Duw yn gymeint, ag na bu er pan wnaed y byd dhim cam or­dor na cham vrdhas ar y planedeu, mwy nag y welwch y pryd hwn hyn: on d dydh a nos, haf a gaeaf, vn yn callyn y lhalh yn wastod, heb fod y planede yn gorphywys na dydh na nos, onyd rhodhi goleini cwn­phort a didhanwch i ryw rann o r byd. Pei baem vn diwrnod heb dhowad yr haul i n plith, heb law colhi goleuni, ny bydhei vn o honom yn fyw: o ran bod eyn cyrph ni yn [Page 19] cael eu bywoliaeth a i nerth odhiwrth y planedeu. Wrth hyn y gelhwch wybod a medhwl faint yr ydym yn rhwymedig i Dhuw am adu i r planedau eyn gwasana­ethu n wastad, a ninef wedi heudhu ei co­lhi beunydh.

Etto nyni awn vn radh yn vwch: 8. Yr wyth­fed achos. beth a dhoydwch am yr angylion, a r y sydh yn y nef gyd a Duw? Maent hwytheu yn gwa­sanaethu dyn. Mae. S. Heb. 1. Pawl yn dywedyd eu bod hwy i gyd wedy ei danfon i wasnay­thu r sawl a geiph fedhiannu etifedhiaeth teyrnas ne [...] ▪ Hyn hefyd y mae r lhaswyrwr yn i dhoydyd am Dhuw wrth dhyn: Psal. 90. fe ro­dhes orchymyn yw Angylion yn dy gylch di ag oth blegyd, ar idhynt dy gadw di yn dy holh phyrdh: eynt hwy ath dhygant ti yn ei dwylo, rhag itti gyfladh neu daro dy droed wrth garreg. S. Hier­on. Gwelwch feint yw go­fal Duw amdanom, yn gymeint a bod An­gel nodedig wedy i bwyntio a i drefnu iar­ail ag i gadw pob dyn yn y byd ag i fwrw golwg arnynt, er drycced a fo r dynion, o r awr y ganed pob vn o honynt i r byd, hyd yr awr dhiwedhaf, hyn yw. hyd angeu: ieu pawb sy a i angel gantho ar ei ben i hunan. Nid yw angel pob vn o honom yn cael sw­ydh yn y byd, on d waetio pawb ar ei dhyn. Maent hwy yn eyn cadw ni nos a dyð rhag [Page] peryglon enaid a chorph: er eyn bod ni yn cyscu nid yw r angelion yn cyscu dim, onyd gwedhio at Dhuw drosom, a n cadw rhag i r cythreulieid eyn lhadh yn eyn cwsc me­gys y gwnaent, ony baei fod yr angylion yn eu hela ymeith. Trwy help yr angylion hyn yr ydym yn cael eyn cadw odhiwrth beryglon corphorol ag ysprydol. Lhawer plentyn a dorrei ei wdhwg neu ei fynwgl lawer gwaith, wrth redeg alhan i chwar­eu, eb vn yn edrych am dano, yn enwedig plant tlodion, heb ganthynt na gwas na morwyn yw harail nag yn ei gwilio: y plāt hyn a gaent lawer o gnyccieu ar hyd eu pē ­neu, ie eyn hwy a dorrent ei hesgyrn yn gandrulh, any baei fod ei anghylion wy yn i cadw ag yn ei harwain yn eu breicvieu, rhag i dhynt gwympo ar y cerrig, fel y clo­wsoch y lhaswyr yn dangos. Ag fal i mae r angelion yn cadw dynion rhag peryglon cor phorawl, felhy am bechodeu. Lhawer pe­chod brwnt a gyttunei dynion idhynt, ony baei fod yr angel da yn eu cadw odhiwrth­ynt. I gael o honawch weled faint yw ca­ryad Duw i dhyn yn hyn o beth: mawr a fy dhei gariad brenhin daearol i gerdottyn, pe i baei yn gorchymyn i vn o i arglwydhi wa itio yn wastod ar y cardotdhyn, a e gadw rhag pob perigl: mawr a fydhei hyn, etto [Page 20] nyd yw hyn, dhim wrth fod angel yn areil dyn ag yn ei gadw, ag yn waytio arno. Er bod arglwydh yn waetio ar gardottyn, nyd yw hyn, on d dyn yn cadw dyn, pridh yn waetio ar bridh, tom ar dom, lhudw ar lu­dw. Canys nid yw argl wydh onyd o r vn fettel a r cerdotdhyn: ond mil mwy na hyn yw bod angel yn waetio ar dhyn ag yn ei a­rail. Chwychwi a glywsoch o r blaen son am degwch enaid dyn, nad oes dim daearol yw gwmpario ai gyphelybu i degwch ena­id, etto mae tegwch angel yn rhagori ar de gwch yr enaid yn gān mwy nag y mae aur yn rhagori ag yn blaenu ar blwm. Ni alhei r Saint gynt edrych ar angel, pan ymdhan­gosei, onyd cwympo i r lhawr ar ei hwy­rebeu o rā bod naturieth angel yn deccach, yn phrwythlonach, ag yn gadarnach na na­tur dyn: mal y gwelwch eyn golwg ni yn rhwy wann i edrych ar yr heul. Oh pe i ba­em yn galhu vnwaith weled yr angel y syð yn bwrw golwg arnom, ny pheidiem bydh on d rhyfedhu fod Duw yn rhoi cymaint pris mywn dyn, a rhodhi creadur mor deg i olygu ar dhyn ag ei arail. Rhyfedh fyth i ni fod mor dhigywilydh a phechu geir bron yr angel sy n wastod gyd a ni: ag etto fe fydhei arnom gywilydh yn pechu gerbron cardot­tyn tylawd. Ny dherfydh i chwi na dydh [Page] na nos ðiolch i Dhuw am hyn o ðaioni, ag am fil o betheu, ny dhawn o ben ai henwi. Megys i maent y creadurieid y wnaeth Duw yn y nef, yn yr wybren, yn yr awyr, yn y mor a r tir, heb rifedi arnynt: felhy i mae cariad a daioni Duw tu ag at dhyn eb fesur a rhifedi: am fod Duw wedy gwneu­thur pob peth i wasnaethu dyn. Am hyn­ny cymeint ag y sydh o greadurieid, cyme­int sydh o rodhion wedy Dhuw eu rhoi i dhyn. Any dhylyem wrth hyn bob awr ag enhyd dhiolwch i Dhuw am gymeint o ða­ioni?

9. Y nawfed achos.Nyd yn vnig am dharfod i Dhuw wneu­thur y petheu hyn yn y dechreuad er mwyn dyn, on d hefyd am ei fod ef yn wastad yn cadw r petheu hyn er eyn mwyn ni, ag yn eyn cadw nineu hefyd. Canys mae yn gy­meint achos i dhiolch iðo am eyn cadw we­dy n gwneuthur, ag am eyn gwneuthur y tro cyntaf. Ny alhei vn o honom droi ei fys na i fedhwl i wneuthur dim, on y baei fod Duw bob mynudun awr yn i gadw, yn i gymhorth ag yn i helpu. Ag megys yr oeð­em yn dhim, cyn gwneuthur o Dhuw ni, felhy yr aem yn dhim mywn troead lhaw, pe y baei Dhuw yn troi ei wyneb odh i wr­thym. Megys pan fo dyn yn edrych mywn drych, fe fydh ei wrthdhrych a i lun yno o e [Page 21] [...] led, tra fo r dyn yn edrych yn y drych: ond yn y mān hwy nag y trosso r dyn ei wy­neb odhiwrth y drych, ef a dhifanna ag a di­phlāna r gwrthdhrych a r gwascod yn y gw­ydr, ny bydh yno dhim o dhrych y dyn nag o i lun yw weled: yn yr vn modh dry fo duw a i wyneb attom ni, nyni a fydhwn yn par­hau yn y byd yma o i rat ef, ond o s try ef ei wyneb odhiwrthym, ny bydh dim o honom yw weled, fel pe y byssem heb fod eirioed, mwy nag a fydh yw weled yn y drych we­dy r dyn fyned ymaith. Nyd oes fynudun awr o r dyð a r nos nad ydym yn derbyn da­ioni mawr ar law Duw. Am hynny nyd o­ys fynudun awr na wedhei i nineu feðhwl am dano ynteu a rhodhi diolwch idho. Pe y baei ðyn yn gwneuthur bargain a masnach ath di yn y lhun hyn, ar iti gael rhodhion mawr gyntho ef yn wastod dra fych di yn medhwl am dano ef a r ys ydh yn gwneu­thur y daioni i ti: a phan olhyngy ti ef dros gof ae abergofi, yna ny chay ti ðim gyntho. Wrth y fargein hyn myfi a wn y bydhyt ofalus rhag ei olhwng ef yn angho, ny dhi­phygiyt na dydh na nos yn meðhwl amda­no, gyn dy fod yn caphael cymeint o dhaio­ni gentho. On d y mae Duw yn dy gadw yn wastad ag yn danfon daeoni i ti bob my­nudun awr, ag etto prin i bydhy n medhwl [Page] [...] [Page 21] [...] [Page] am danaw ef vnwaith yn y dydh, ieu vn­waith yn y mis, ar ol defod ag arfer rhyw rai. Rhaid o torri yman yn fyrr, a myned i fatter a defnydh aralh, er bod lhawer mwy yw dhoydyd nag y alh callon ei fedhwl.

* Y trydydh penod yn dangos cariad Duw i dhyn wrth ei brynnu.

HYD yn hyn y dangosasom beth yw cari­ad a daoni Duw i dhyn o ran ei wneu­thuriad: beỻach y dangoswn ei gariad i dyn wrth ei brynnu yr eilwaith, pen oydh dyn yn gelhedig. Idh adnabod hyn, hir a fydhei dhangos y modh y gwnaeth Duw dhyn yn y dechreuad, o ran ei enaid ae gorph. Yr o­edh y corph yn hoeth, ac ette nyd oedh dim annwyd na chywilydh, nyd oedh dim dolur a alhasei eniwed i r corph, pei bassai Adha eb bechu, ie ny bassei dhyn farw byth ony baei fwytta o Adhaf yr afal ymharadwys: o ran yr enaid fe fassei dhyn yn gwybod pob peth anghenrheidiol o ran enaid a chorph, ony baei bechod Aðaf. Yn fyr, nyd yw dyn yn awr dybyceach i r stad a r ansawdh yr o­edh ynðo cyn pechu o Aðaf, nag yw r plwm debyg i r aur. Plwm ydym yr owran, aur oedhem y pryd hynny, ag felhy y buasem byth, ony byssei bechod Adha: ond drwy be­chod [Page 22] Adha: nyni a golhassom eyn medhiant [...]mharadwys, nyni a golhassom rhinweðeu nawr yn enaid a chorph, nyni aethom o blant i Dhuw yn weision i r cythreul, a n taflu alhan o baradwys i r byd blin brwnt [...]ma, i dhiodhef pob blinder, ag yn y diweð i farw ag i fyned i yphern, heb obaith tru­garedh, hyd yny dhoeth vn mab Duw o r nefoedh i lawr i dhwyn dyn i dhaioni eil­weith. Mawr ydoedh y daioni a gawsom ar law Duw wrth eyn gwneuthuriad, mal y clowsoch: on d can mwy o r daioni ir yd­ym yn ei gael gantho drwy n prynnu eil­waith, pan oedheni golhedig: canys wrth eyn gwneuthur Duw a n gwnaeth ni ar ei lun, ai dhrych a i dhelw ehun: ond i n pryn­nu Duw a wnaed ar lun dyn: hyn a fu pen gymerodh ef gnawd dyn am dano yngreth yr arglwydhes fair forwyn wyry: yno y cy­merth Duw lun dyn amdano: wrth eyn gwneuthur Duw a n gwnaeth ni yn gyf­rānol o i ðaioni ef, wrth eyn prynnu Duw a fu gyfrānol o n blinder ni: wrth eyn gw­neuthur ny chymerawdh Duw dhim poen na thrafael, ny wnaeth ef onyd doydyd y gair wrth wneuthur pob peth: ond ef a n prynodh ni drwy dhywedyd lhawer, drwy wneuthur rhyfedhodeu, a thrwy dhiodhef y loes angeu a cholhi ei waed ar y groes: [Page] wrth eyn gwneuthur Duw a n dug o blith clai, ag a n plānodh ymharadwys daearol, wrth eyn prynu Duw a n dug o dhyfnder vphern i baradwys nefol: Gen. 9. wrth eyn gwne­uthur y rhoes gennad i ni ladh anifeilied a byw ar eu cig wy, wrth eyn prynu mae Duw yn gwneuthur yn fyw enaid a chorph drwy ei farfolaeth ef ihunan: wrth eyn gw­neuthur Duw oedh yn rhoi daioni i ni, ond wrth eyn prynnu y mae yn i roi eihunan i ni, nyd yn vnig yn arglwydh i ni, ond yn bris a gwerth i n prynu ni. Ag yn gymeint ag i Dhuw wrth eyn gwneuthur roi i ni yn vnig ei greadurieid ef, y peth a wnaeth ef, ag wrth eyn prynnu ef ae rhoes eihunan yn gwbl i ni: wrth hyn mae eyn pryniad ni yn rhagori ar eyn gwneuthuriad cymeint ag y mae Duw yn rhagori ar yr holh grea­durieid a r petheu a wnaeth er mwyn dyn. Fal y clowsoch o r blaen mae mwy o rago­riaeth rhwng Duw a daioni yr byd oỻ, nag yssydh o ragoraeth rhwng dwr y mor ag vn defnyn o dhwfr. Wrth hyn y mae Duw wrth eyn prynnu wedy rhoi i ni fwy o dha­ioni nag wrth eyn gwneuthur, ieu yn fwy nag i mae r mor igyd yn blaenori ag yn rha gori ar vn defnyn o dhwfr. Digawn o boen a blinder a fassei i fab Duw dhyfod i lawr o r nef a chymeryd cnawd dyn am dāo: hyn [Page 23] a fuassei dhigon i n prynu. Mawr a fydhei caryad brenhin daearol i gardottyn, pei ba­ei yn gwisco manteỻ garpiog am dāo byth, ief a r fanteỻ wedy ei chodi i fynydh o r fān y bydhent yn gnottau ag yn arfer o esmw­ythau ei cyrph, yna y bydhei r fantelh yn lhawn tom dynyon: mawr a fydoei cariat y brenhin i r cerdottyn pe i gwiscei dhydh a nos y fantelh yma er ei brynted, heb dynnu o honei byth odhiam dano, a hyn igyd i ga­dw r cardottyn rag marw: can mwy cariad no hyn oedh i Dhuw gymryd cnawd dyn am dano, am fod cnawd dyn yn fanteỻ front cyn frynted a mantelh y brenhin daearol: am nad yw cnawd dyn ond tom, o dom y gwnaed ag yn dom yr eiph. Hefyd er bod y brenhin daearol yn gwisco manteỻ domlyt, nyd yw hynny fawr, am nad yw ond tom yn gwisco tom: tomlyd yw r fantelh a thom yw cnawd y gwr goreu: ond mawr a rhy­fedh oedh i Dhuw holhaỻuawg, heb yndho dhim ond gleindyd a daeoni, gymryd amda­no y fath wisc front ag ydoeth cnawd dyn, a hyn ygyd er dwyn dyn o vphern i lewenyð teyrnas nef: etto mawr a fassei i Dhuw yn vnig gymeryd enawd dyn am dano, pe y rhown iðo a mynnu ei eni yn debyg i fren­hin mywn ty teg, mewn ystafeỻ o r deccaf, a gwely o r goreu: er hyn i gyd o wychter [Page] a thegwch mawr a fyssei i Dhuw wiscc cnawd dyn am dano, wrth vched ei radh ef, a brynted cnawd dyn: ond can mwy cariad a rhyfedhod ydoedh i Dhuw dhewis ei eni yn y modh ag y ganed mewn stabl ymhlith anifeilieid: yn gyntaf discyn o groth ei fam yn noeth, drymder gaehaf, hāner nos, heb na thā na chāhwyỻ, discyn yn hoeth ar y ỻa­wr oer: a phan gymerodh ei fam fendigedig ef yn ei breichieu, nyd oeð lhe gweỻ ei roi i gyscu ōd yn y presep rhwng yr ych a r assē. Dyma dlodi aruthr ar frenhin nef a daear, dyma noethni a chledi mawr ar yr hwn sy n dilhadu yr holh fyd, dyma ostyngfa a di­falchder anfeidrawl ar Dhuw holhalhua­wg, Duw mywn presep ymhlith anifeli­eid. Hyn a chan mwy no hyn a gymeres ef arno er mwyn dyn: yma y bu dechreuad ei gledi ef, ond ny chymerth dhim esmwyth­dra o r man hyn hyd ony oruchmynnodh ei enaid ar y groes i law ei dad: dros dair bly­nedh ar dheg arhugeint ny bu segur, onyd rhedeg i fynydh ag i waered i bregethu, i iachau dolurieu, yn chwysu, yn dephygio, yn dwyn dygn newyn, syched ag annwyd: ag er hynny yn cael ei gablu a i drytheino, a doydyd lhawer o gelwydh arno, er maint ei dhaioni yn ei plith: yn y diwedh diodhef a wnaeth Crist farfolaeth er mwyn dyni­on [Page 24] yw tynnu aỻan o gaethiwed y cythreul: dyma r peth mwyaf a alhei Dhuw wneu­thur dros dhyn. Ag o achaws hynny y mae yn rhaid i ni fod yn fwy amarhoys ag yn hwyach eyn haraith yn y fan yma nag my­wn vn fann aralh, am nad oes dim yn dan­gos cariad Duw tu ag at dhyn yn fwy nag yw diodhefaint Crist: hefyd nyd oes ðim yn enynnu gwres cariad perpbaith tu ag at Dhuw ynghallon dyn ag yw myfyrio yn fanol ar y petheu a dhioðefodh Crist er eyn mwyn ni: mae yn rhwy hir dhangos pob peth a phob pwngc o dhiodhefaint Crist.

Rhaid i bob criston da drwy wrando neu ðarlhain ỻyfreu da, fod drwy ymarfer mor gyfarwydh ymhob pwngc o dhiodhefaint Crist ag ydyw yn ei Bader, i gaphel o hōo pan y mynno dhewis matter a defnyh i fy­fyrio arno: etto er mwyn yr hai annyscedic myfi a redaf dros y pyngcieu pennaf o r di­odhefaint, i ðangos yn vnig lwybr i dhyni­on i chwilio ag i dhyscu y chwaneg.

Mae r gwyr dyscedig yn dangos na dhi­odhefed eiryoed ag ny dhiodhefir byth yn y byd yma y fath gospedigeth ag a fu ar ena­id ag ar gnawd Crist, pan roed ef i dhioðef. Diodhe­faint Crist yn dech­reu. Summa. S. Tho. 3. q. 46. art. 6. Mawr ydoedh ei dholur ef, pan dhoeth i dhiodhef, gan ei fod ef yn yr ardh wrth wedhio, cyn ei dhala, yn chwysu defnyneu [Page] gwaedlyd, yn diferu ar hyd ei gorph ef i r lhawr, wrth fedhwl am ei dhiodhefaint a r oedh yn agos. Canys yr oedh ef yn gwybod o r blaē pob dyrnod, a phob clwfy a dolur a r a gaei ganthynt, ag yn gweled yn ei fedh­wl y modh y gwnaent ag ef: ag wrth fyfy­rio ar y poeneu a oedh yn dyfod ar ei war: tha, o wir dhychryndod y diferoedh y defny­neu gwaed yn chwys ar hyd ei gnawd gw­ynn ef hyd y lhawr.

1. Y dolur cyntaf yng hallō CristI dhechreu r cwbl, fe a yntrodh ag a aeth diawl ynghallon Idhas fradwr i werthu Duw ei feistr ae arglwydh bonhedhigaidh, rhywiogaidh, i r gelynion creulonaf, er pris bychan. Dyma r dolur a r cam cyntaf a gafodh Crist oe dhiodhef. Mawr gan ðyn gaphael ei dwylho gan vn a fo ānwyl gan­tho, gan vn a gafodh lawer o dhaioni a rho­dhion ar ei law ef. Beth wrth hyn a ðych­on fod yn fwy doluryns i gallon Crist na chael ei fradynu drwy arian a chussan twy­lhodrys gan dhyn a wnaethei yn vn o r de­udheg abostol dewisol: yr hwnn a dharfa­ssei idho ei dhwyn i fynydh a i fethrin drwy dhysceidiaeth a sampleu o fuchedh rinwe­dhawl: yr hwnn i rhoesei awdurdawd idho i iachau dolurieu, ag i daflu cythreulied aỻ­an o bobloedh, megis y rhoesei ir Postoli­on ereiỻ: a r hwn a wnaethei yn gydymeith [Page 25] idhaw i eistedh ar ei ford. Yr angrhedigrw­yð hyn i mae eyn prynwr i hunan yn i dhā ­gos wrth dhoydyd: Matt. 26. Y sawl sy a i law yn y dhescyl gyd a myfi, hwn a m bradycha i. Felhy y mae yn achwyn arno yn y ỻaswyr y ỻyn: pe y basei fyngelyn yn dywedyd drwg am danaf, digwyn a fassei gynyf: Psal. 54. pei bassei hwn a oedd yn fynghasau, yn doydyd yn fawr yn ferbyn, yscatfydh myfi a ymgudhi­asswn rhagdho: ond dydi (Idhas) yn gyttun a myfi, vn o m capteinieid am tywysogion i, vn om cydnabod i, yn cytfwytta r melys­fwyd gyd a myfi: dydi yr hwn a dharfassei i mi ei rwymo yn ānwylyd ag yn gariaddhyn drwy gymeint o rodhion, a m bradynaist i m gelynion, ag ath wnaethost dy huuan yn gaptain ag yn ben tywyswr idhynt, i dhw­ad i m dala fi. Hwn oydh y dolur cyntaf, ag nyd dolur bychan i gallon Crist.

Nyd oedh lai r cam a gafodh wrth ei dha­la, na r hwn a gafoð wrth ei fradynu. 2. Yr ail ā ­harch. Mae n dangos ei hunan y cam a gafodh wrth ei dhala: Matt. 26. Chwychwi a dhoethoch (medh ef) i m dala i megys i dhala lheidr a chledhyfeu ag a chnwppaeu. Gwir yw farglwydh eu bod wy yn dy deimlo yn amharchus megis lheidr, am dy fod yn dhiodhef dros ladron: nyni yw r lhadron: drosom ni yr wyti n di­ [...]dhef: o achos hynny nyd rhyfedh eu bod yn [Page] dy drin ath deimlo megys lheidyr. Na bei dhim cam onyd hyn yn y deunydh yma, pa­ra anglod a chywilydh i wr da gonest, o fu­chedh dhinam dhiflottedig, gael ei ðala, ei rwymo, a i lusco garbron swydhogion, i dherbyn barn ar ei fywyd? etto ef a odhe­fodh arglwydh y nefoedh a r angylion hyn i gyd.

3. Y trydyhh dolur.Yn ol hyn y gelhir myfyrio ar phoead ei dhyscyblon ef: hyn a dhug dholur mawr i gallon Crist. Trymder mawr oedh idho eu gweled yn phoi, ag yntef wedy cymeryd cymeint o drafael a pho [...] yn eu dyscu ag yn eu cadarnhau hwy, wedy idhynt weled Crist yn gwneuthur cymeint o wyrthieu, a nhwytheu eu hunain wedy gwneuthur gw yrtheu lawer yn ei enw ef. Mawr yw r bai a r angharedigrwydh i r plant redeg ymde­ith, a gadel eu tad mywn perigl, i r gweisi­on adu eu harglwydh, i r discyblon adel eu meistr ai hathro: etto i gael o hono ef hyn o dholur, wyntwy a i gadawsont yn nwylo ei elynion, ag a redasont ymdeith pawb i w fann.

4. Y pedwe­r [...]dh dolurWedy dala eyn Prynwr, pa ryw drin a hwndlio a fu arno o swydhog i swydhog, o vstus i vstus: ei lusco yn gyntaf i dy Annas, yna at Caiphas, yn ol hyn at Pilatus, odhi yno at Herodes, odhiwrthaw ynteu at Pi­latus [Page 26] eilwaith. Yr oedh yr hain i gyd yn sw­ydhogion anghyfyon, yn lhawn o ewylhys drwg ag enwiredh. Pwy y alh aros dhyfod i dherbyn brawt a barn gar bron brawd­wyr, yngneid ag instusieid, a fōt yn dwyn [...]wyỻys drwg i r dyn a fo yn derbyn y farn: yn gymeint a bod yr vstus yn chwilio ag yn dyfeisio cael cam dystion yn ei erbyn? Pwy a ðychō aros cam tystolyaeth a cham farn a cham farnwr? Dyma r fath farn, dy­ma r fath farnwr a r fath dystolaeth a gafoð eyn prynwr. Ef a fydhei bechadur o dhyn yn rhegu ag yn tyngu, pe i baci n cael y gā ­fed ran o hyn o gam: etto ny dhywawd eyn prynwr dhim yn erbyn hyn, on d yn oē gw­irion sefylh ger bron y gwyr a oedh yn ei gneifio, heb agoryd ei eneu vn waith.

Yn ol hyn y mae yn canlyn pwngc o dho­lur mawr i n prynwr, 5. Y pum­hed dolur. drwy fod ei dhiscybl anwylaf a phennadur y Postolion yn gwa­du ei feistr ai athro (Peder oeð hwn) a wa­dodh ei feistr nyd rhag ofn yr icstusieid na i gwesion, ond wrth lais lhances o fachēnes: ef a wadoð yr hwn a welsei yn gwneuthur lhawer o wyrtheu, yr hwn a dharfyssei iðo ef yn gyntaf o r cwbl gyphessu ei fod ef yn fab Duw, drwy weledigaeth y tad goruw­chaf, yr hwn a welsei, wrth rithio ar y my­nydh, yn disgleirio fal yr heul: yno hefyd y [Page] clywsei lais y tad yn galw Crist yn fab iðo: yno hefyd y dyscassei fod yn rhaid i Grist dhiodhef wrth glowed Crist, Moesē ag Eli yn ymresymu yno am dhiodhefeint Crist. Etto er y gwyrthieu a r tystion hyn y gyd, Peder ai gwadodh nyd vnwaith, nyd dwy­waith, ond teirgwaith geir bron lhygaid ei arglwydh, ae warantu hefyd drwy dyngu a rhegu. Ny wn para vn ryfeðaf yma, ai ma­it pechod pedr, ae maīt trugareð ðuw: Y pe­chod chwi ae clowsoch, gwelwch y trugareð: Hwy nag y darfu i Bedr ei wadu ef gar brō ei wyneb, ef a daflodh Crist ei olwg tu ag at Beder, ag yn yr olwg drugarawg hon, fe droes callō Pedr i edifeirwch: yma yr aeth Pedr alhan ag a wylodh yn dostur, o wir e­difarwch am wadu ei feistr. Dyma druga­redh barod i bechod cymeint ei orthrymder: ny wnaeth Crist onyd edrych ar Bedr, ag yn yr olwg honno troi ei gallon ef at edifar­wch, am nad oedh possibl i Bedr wylo cyn gynted, ond drwy rodhi o Grist rat a dawn, yr hyn a gafodh yn y mann gyd a r olwg ry­wiogaidh honno. 6. Y chwe­ched dolur.

Yn ol hyn y mae n canlyn phrowylhaw chwippio ag yscyrsio eyn Prynwr. Yma y galhwn fefyrio mor amharchus y maent yn ei lusco i r fann, mor amfedrus y maent yn tynnu ei dhilhad ag yn eu taflu peth yma peth accw. Yna y mae yn gywilydhus we­led [Page 27] croeneu cyn wynned yn sefylh yn hoeth ag yn lhonydh gar bron cnafieid maleisus a chreulon. Gwelwch hefyd eu bod wy yn ei rwymo ef wrth golofn a philer o garrec o­er, ag yn clymu ei dhwylo ef o amgylch y pyler a chort neu denhyn calet, heb dhim rhwng ei groen noeth a r cerrig oerion.

Chwychwi a elhwch hefyd fyfyrio eu bod wy yn rhwymo ei wdhwg ef, ai draed wrth y piler. Yna wedy rhwymo ei ben ai draed ai dhwylo, ny fydhei fodh idho ymdroi yma na thraw, on d gorfod idho dhiodhef y cwbl. Chwychwi a elhwch hefyd fedhwl fod y cy­threul wedy gwueuthur yr Idhewō yn dhi­gawn drwg eu hwylhys ag yn liðiawg: yn gymeint ae bod yn ymryson pwy a gaei roi r dyrnod cyntaf, neu pwy a gaei roi mwyaf o dhyrnodieu idho. Nyd oes dim ameu na phetrusder nad ydoedh eu phrowylheu, eu chwippieu ae scyrsieu hwy wedy gwneu­thur o r fath waethaf ag y medrei r cythre­ul a r dyniō drwg eu dechymyg ai defeisio: Cyrt a rhapheu o r hai clettaf, wedy rhoi ar hyd y clymeu yn lhawn pigeu haearn lhy­mion, megis troelheu yspardyneu.

Yno y galhech eu gweled hwy yn rhoi dyr­nod ar dhyrnod, pawb ar draws ei gilydh: yn gyntaf yn ei wneuthur drosto cyn dhued ar esgid: yna r gwaed yn seuthu alhan yn [Page] byst phrydeu: ar ol hyn, cyn diwedhu, yr oedhen yn rhwygo ag yn drylho ei gefn gwynn ef, gan dynnu r cig a r croen ymeith gyd ai chwyppieu: yno y galhei dhyn roi ei fys yn ei glwyfeu a i archolhieu yn lhawn ar hyd ei gefn: ag mywn rhyw fann fe an­neu dhwrn dyn yn y tylheu a wnaethant yn ei gorph ef, yn enwedig ar ei yscwydh­en, lhe ir oedh nerth y dyrnodieu yn discyn fwyaf. Pasawl dyrnod (debygwch) a roes­ont idho? Yr oedh ryfraith yr Idhewon yn erchi na chaei r gwaethaf o dhyn a chwipp­id ōd deugein nhyrnod: Deut. 26 ond ef a gafodh rhai duwiol drwy weledigaetheu wybod rhife­di archolhion, gwelieu a chlwyfeu corph e­yn harglwydh ni yn y modh hyn: O doyd­ent bymtheg Pader bob dydh dros flwydh­yn, yna y bydhent yn enrhydedhu pob arch­ol a gweli yn ei gorph ag vn Pader: mae pymtheg bob dydh yn y flwydhyn yn dwad i bym mil, pedwar cant, a phymtheg a thri­geint vnion: a hyny oedh rhifedi r archolhi­on o gwbl yn ei gorph ef, gan gyfrif y pum harcholh penaf a r pigeu drain yn ei ben ef: yr oedh y rhan fwyaf ar ei gefn ef. Beth (dybygwch chwi) yr oedh eyn prynwr ar­no hyd hyn o amser? Nyd oedh yn dywedyd vn gair, ond yn ymwascu ei fola medhala­idh tyner wrth y piler oergaled o wir ang­erdh [Page 28] y dolur a r ferwindod: lha wer vchen­aid a roes yn y man hynny. Am ei fod we­dy ei rwymo ei dhwylo, nyd oeð gantho ond edrych ai lygaid tu ag at i dad yn y nef, a dei­syf arno gymeryd y dyrnodieu hynny yn ỻe tal am bechodeu yr holh fyd. Para fodh y peidasont yn y diwedh? Nyd o ran cyme­ryd trugaredh ar eyn prynwr y peidiasont, ond o ran dau achos. Vn achos am fod arn­ynt ofn y bydhei farw wrth ei chwippio, ag yna ny chaent ei roi ef ar y groes i dhiodhef mwy. Am hynny i gael o hono mwy o ðo­lur ar y groes, rhag idho farw dan eu dw­ylo hwy, eunhwy ai gadawsont yn lhon­ydh. Yr ail achos idhynt beidio ydoedh, am dharfod idhynt dhyphygio yn ei phusto ai daro: cynt yr oeðent wy yn blino wrth phu­sto, nag ir oedh Crist yn blino wrth dhio­dhef: am y fod ef yn barod i dhiodhef can mwy drosom ni, nag ir oedh eu maleis ai drwg ewylhys hwy yn galhu rhoi arno ef: er i bod nhwy wedy ei rwymo ef wrth y piler yn dynn, etto tynnach oedh ef wedy rwymo yno drwy gariad i dhioðef drosom, na thrwy eu cyrt caledion hwy. Belhach yr oedh yn bryd idhynt ei olhwng ef yn rhydh, ir oedh y rhwymyn am ei dhwylo wedy entrio a menu i r cig a r cnawd, me­gys na eỻid y weled, am y fod cyn dynned: [Page] yna y gorfu ei dorri a chylhelh. Pan olhyn­ged ef yn rhydh, ny alhei yn brin sefylh ar ei draed: yr ydoedh y waed yn rhedeg yn phrydieu ar hyd y lhawr, fal y gaỻei vn fy­ned dros i escidieu mewn gwaed. Beth a wnaethont idho belhach? Rhan trugaredh a fassei idhynt i helpu ai ganhorthwyaw i gael ei dhilhad ag i wisco am dano: etto ny wnaethont dhim o hyn, ond o bwrpas ag o r gwaith odhef i gael ei boeni ef yn fwy, a chwerthin am ei ben, wy a daflassont ei ði­lhad peth yman a pheth occo, ag a adawsōt idho yn lhawn gwaed, gwelieu, archolheu a chlwyfeu fyned i hunan i chwilio am dan­ynt, ag ei wisco ehunan yn ei gylch, ag yn­teu heb alhu onid yn brin godi ei law i fyn­ydh: etto sport a digrifwch oedh gantynt hwy ei ganlyn i fynydh ag i wa ered i chwi­lio am ei dhiỻad, a chwerthin wrth i weled mor boenus yn ceisio gwisco am dano. Heb law r dolur anfeidrawl yn y gosbedigaeth hyn, gwaeth yn ei herwydh yw r diystyr­wch: am fod yn welh gan wr a challon gan­tho, i ladh ganwaith, na i chwipio: am fod y fath gosoedigeth a hyn yn perthyn i blant, i ladron, i goegdhynion cyrwydrus heb bris amdanynt.

7. Y seithfed dolur.Yn ol hyn y galhwn ni fedhwl am y gorō dhrain a roesont am ei ben ef. Ny bu eiry­oed [Page 29] mor fath dhyfais a dychymyg yn y byd i boeni ag i dhiystyru dyn, yn debyg i r dhy­feis hyn: plethu coron o dhrain lhymion pi­gawg, ai gyrru cyn dynned am ei ben, yny oedh yn ei bigo hyd at yr asgwrn: yny oedh phrydieu gwaed yn rhydeg o r pen megis o phynnawn ar hyd yr wyneb gwynn gwe­dhaidh: yma yr oedh poen anfeidrawl a di­ystyrwch heb fesur: nyd oedh yn ol idhynt ond peri i r pen dholurio. Beth hefyd am y diystyrwch a r amharch a wnaethant idho heb law ei dholur, wrth ei watwor a chw­erthin am ei ben, a chamarferu o hono ym­hob modh: wrth boeri yn fynech yn ei wy­neb, fal pet fai heb fod le bryntach i boeri nag ar ei wyneb ef: am fod rhai yn ymarfer o boeri yn y fān fryntaf a r a welont: Beth a dhywedwn am ei gernodio ef ai fonclust­io megis oferdhyn gwael: ei dhilhadu wei­thieu mywn gwisc wenn, weithieu mewn gwisc goch, megis pet fasei yn phol. Cudhio ei wyneb, ag yna ei gernodio ai watwor gan dhywedyd: Dychymyg pwy ath traw­odh, megis pe y baei yn dhyn hurtphol gw­iriōphol: rhoi gwisc bwrpl yn ei gylch, rhoi corsen yn ei law, a phenlino ar vn glin gar ei fron, megis pei bassei yn frenhin gwato­rus, ag yn y diwedh i gyhoedhi yn yr holh strydoedh ar heolydh yn dhyn drwg ag yn [Page] afreolus. Pwy a glybu eirioed gymeint o dhiystyrwch ag o amharch wedy i gasclu ynghyd yn erbyn vn gwr: gwelh a fydhei gā wr gwrawl dhiodhef marfolaeth yn fy­nech o amsereu na godhef ei dhirmygu, ai watwor, ai dhiystyru yn yr āsodh a r modh hyn. Yman y mae yn dyfod i m cof fod vn o r Seintieu yn dangos yr ethryb a r achos paam yr oedhent yn cudhio ei wyneb ef, ag yna yn ei daro: am fod y fath dhawn a rhat, rhinwedh, ag hyfrydwch, a hawdhgarwch yn i wyneb ef, ag na dhawei arnynt, er eu creuloned, ei daro pan ir edrychent yn i wy­neb ef: ag o achaws hynny yr oedhent yn cudhio i wyneb ag yna yn ei daro.

Gwelwch etwa cam o r mwyaf o r a alh fod: 8. Yr wyth­fed dolur. ydh oedh dhefod ag arfer ymhlith yr Idhewen ar gael o honynt bob Pasc, er en­rhydedh i r wyl vwchel, dhewis y carchar­wr a fynnent, cyd bydhei yn heudhu mar­wolaeth, ai gadw ai bardynu rhag marw: Yr oedh yr Ygnad ar brawtwr Pilat yn chwennych cadw Crist yn fyw, wrth y fod yn gwybod panyw o dhrwg wylhys ydh oedh yr Idhewon yn ceisio ei ladh.

Yna yr henwodh Pilat idhyut dhau a oedh yngharchar, sef Crist ag vn Barrabas, dyn o r gwaethaf a r a alhei fod, vn y adwaenei bob plentyn i fod yn dhyn drwg anianol, a [Page 30] [...]hawb yn son am dano, o ethryb y fod yn [...]hadh, yn lhosci, yn lhedratta, anrheithio ag yspeilio: y teclyn hyn a gwplysodh Pilat ynghyd a n Prynwr ni, o waith odhef ag o wyr bwrpas, i geisio ei gadw rhag marw: yr oedh yn dhigon diogel a sicur gan Bilat, pan gaent dhewis, na dhewissent rhag cy­wilydh Farrabas i fyw o flaen Crist. Yna y daeth Pilat yngwydh yr olh bobl, ag a of­ynnodh iðynt pa vn a fynnēt i fyw ai Crist ai Barrabas: yna y lhefasont yn groch ag yn greulon megys cythreulieid, Ioan. 18. Nyd hwn on d Barrabas a fynnwn yn fyw: Bydhed Bar­rabas y lheidr, y lhofrudh, y lhadhwr cela­nedh yn fyw, a chrogwch Crist: am eyn bod yn ei adel ef yn waeth na Barrabas. Beth a alhei fod tuhwnt i hyn: Duw o r tynghu a r rhegu a wna dyniō, pan dharpho idhynt gael cam neu dwylh, neu angharedigrwyð a diystyrwch ar law dyn a gathoedhei ryw elw a pherwyl da ar ei dwylo hwy: yna i ty­ngēt na wnait fyth na daiōi nag āwared da i neb er mwyn hwnw, ie nhwy a regent y sawl a wnelei dhim daioni byth i vndyn. A phaham y mae r dig hyn i gyd? nyd oes nag ethryb nag achos, ond am gael i dwylho o angrhedigrwydh gan dhyn a gowsei gentho fenthig peth arian wrth ei anghen, neu gā dhyn a r oedh yn ei dhylyed, ag ynteu wedy [Page] maðeu yr ðylyed. Nyd oeð hyn ōd mater by­chā a choeg ðigō, wrth y peth a wnaeth crist yn Dhuw ag yn dhyn dros yr Idhewō: Pa­sawl vn (dybygwch) a dharfu i Grist lāhau yn eu plith hwy o r clwyf gwahanol, pa­sawl vn a wnaeth ef yn iach o r efrydhdod, i basawl dalh y rhoes ei olwg, pasawl dyn cloph a wnaeth ef i gerdhed yn dhiascloph, pasawl mud a wnaeth ef i dhoydyd yn eu plith, pasawl bydhar i glowed, a phasawl marw a gyfodes ef i fyw? Mae r Efenghil yn dangos y fod ef yn myned o le i le i wne­uthur daioni, i iachau dolurieu, i daflu cy­threulieid alhan o dhynion: nyd oedh agos vn pētref or coeccaf trwy hoỻ wlad yr Iðe­won, nad oedh ef wedy gadel rhyw arwydh o i dhaioni yn eu plith. Hyn o dhaioni o ðy­lasei rwymo r Idheon i garu Crist y [...] was­tod. Ny bu lair daioni a dhangosodh idhynt o ran i heneidieu: Drwy bregethu teyrnas nef idhynt yn wastad, drwy dynnu r cwm­wl odhiar eu calloneu i gael o hōynt weled drwy phydh y phordh i r nef. Paryw dal a gafoð Crist am hyn i gyd? Dyma r tal, cro­gwch Crist, bydhed ef farw yr hwn a oedh yn rhoi iechyd a bywyd i lawer, gedwch i Bharrabas fyw a myned i ỻad ag i ledrata: gwelwch yma faīt oedh cariad, difalchder, a diodhefgarwch Crist, wrth i fod yn fodhlō [Page 31] i odhef cymeint o dremyg. Gwelwch wrth hyn na dhylyem brisio er barn y byd am da­nom, er bod y byd yn doydyd eyn bod yn wa nom, er bod y byd yn doydyd eyn bod yn waeth na lhadron, na fydhed chwith ganym, gyn fod yn wiw gē Dhuw i hun ei adel yn waeth na lheidr a lhofrudh neu ladhwr ce­lanedh.

Rhag nad oedh hyn dhygon o dremyg ar eyn harglwydh ni, 9. Y nawfed dolur· ar ol idhynt fod yn hyd y nos, yn i watwor, ag yn ei phrowylhaw ai chwippio, ag yn i goroni a drain lhymion, ar ol idhynt gael i hwylhys ar ei farnu ef i farw, nhwy a gawsont phordh newydh yw dhodi ef mywn mwy o boen: ynhwy a roe­sont ar i yscwydheu ef a oedhent wedy clw­yfo ag yn lhawn archolhion, y groes idhy dwyn i r fān ỻe y bydhei raid idho dhiodhef, alhan o r dref, er bod crogwyr ereilh er cre­uloned a fōt, yn cudhio r cledhyf neu r fw­yalh, rhag i r dyn a fo rhaid torri ei bē, we­led yr arf, ag wrth hynny cymeryd ofn: ond nyd ydynt yn dangos cymeint a hyn o ewy­ỻys da a phafor i Grist, ond dwad a r groes gar bron ei lygeid, ai gossod ar ei scwydheu, i gael o honei, drwy olwg a phwys drwblio i fedhwl ef, cyn cael o r corph dhiodhef ar­nei. Beth a alhei fod greulonach na hyn? Ny chais y gelyn casaf on d lhadh ei elyn: ond nyd yw dhigon gan elynion Crist gael [Page] i ladh ef, ond raid idhynt drwy fil o dhyfei­sieu helaethu ei sarfolaeth ef: yn gymeint a bod y fath dhyfais a hyn yn waeth na mar­wolaeth gryno.

10. Y dheg­sed amha­ [...]ch.Mae mwy creulondeb na hyn yn ol, pe i galhei dhim fod yn fwy na hyn. Yr oedh yr arfer yn y wlad honno y pryd hynny, pā fy­dhid yn rhoi vn yw farwolaefh a i dhiheny­dhio, roi ir dyn yw yfed dhiod o win ynghy­mysc a myrrh, i beri idho fod megis yn cys­cu, fal na bydhai cymeint i dholur ai boen wrth farw: ond beth a darfu i r gelyniō roi i n prynwr yn ỻe r gwin? y peth chwerwaf o r alhent ei gael: mae ganym dhiaereb yn Gymraeg cyn chwerwed a r bustl: Dyna r peth a roesont idho idh ei yfed yn lhe gwin. Nyd oedh vn aelod ar ei gorph heb gael ei gosp ai gystudh ai artaith, ond y tafod a oeð yn gudhiedig odhifewn i r geneu: ag rhag diangc o r tafawd rhag caphel rhan o r gosp, y rhoesant idho r dhiod chwerw hon.

Pwy a dhichon fedhwl y fath greulondeb a hyn? Y lhadron a fydhant yn lhadh ag yn lhosgi yn yspeilio ag yn anrheithio ar for a thir, pan dhelont yw marwolaeth, ef a gy­merir trugaredh arnynt, ef a roir idhynt y dhiod oreu a r fo yw chael: ond i n prynwr ny roesant on d bustl yn lhe diod dha. Ny wn para vn ryfedhaf o r dhau beth yma, ai [Page 32] creulondeb y gelynion yn gwneufhur mar­woleth eyn Prynwr yn chwerwach drwy hyn o dhyfais, ai ynteu daioni a chariad cyn prynwr yn talu r ðylyed dros bechodeu drwy lothīaeb a melysfwyd, wrth yfed y ðiod chw­erw hon: Cāys nyd oeð y gelyniōyn yn ga­lhu dyfeisio dim yn ei erbyn ef, nad oedh o r blaen yn i wybod, ag yn pwrpasu ag yn am­canu ei dhiodhef yn lhwyr: am nad oedh ef yn diodhef oi anfodh, ond yn lhawen ag o wylhys ei gallon.

Dyma nyni belhach wedy dwad i r my­nydh, 11. Yr vnfed dolur ar dheg. lhe y diodhefodh eyn Prynwr: Mo­eswch weled y modh: tynnu a wnaethant ei dhilhad oðiamdāo, ai rhānu rhyngthynt, ond y wisc oedh heb vn gwrym arnei: chw­areu disieu a wnaethant am honno. Yr oeð yn nesaf iw groen ef wisc o sasnet teneu, a roesent hwy yn ei gylch ef ar ol i chwippio fal y galhei r saesnet neu r pali teneu lyuu wrth y cig a r croen a r oedh wedy sigo a chlwyfo ar hyd ei gefn. Pan dynhasont y wisc yma, ny cheisiasont dhim oi thynhu yn araf deg, yn chweryan, ond yn amharchus. Wrth ei thynnu ymaith yr oedh ei groen bēdigedig ef yn dwad ymeith gyd a r wisc, wedi glynu wrthei. Yno y gwelech Dhuw o r nef yn sefylh yn hoeth hep gātho gyme­īat ai groen ehunan i gudhio r cig gwaedlyt. [Page] Ny adawsōt idho dhim yw dhodi ynghylch ei wasc yn lhe clos neu fritsieu: o nd gorfod y w fam fendigedig a oedh yno yn wylo, ro [...] ­lhien ei phen i gudhio gwasc ei mab. Yr oedh y groes ar lawr yn gorwedh, wedy gwneuthur tylheu ag ebilh yndhei i hoelio ei dhwylo ae draed: ei dhodi a wnaed i or­wedh ar y groes, a chwedy hoelio vn lhaw ny chyrheudheu r lhaw aralh cyn belhed a r twlh yn y groes: Yna y gorfu cymeryd cort neu dēnyn, ai roi am ei fraych, ai dynu a i ystyn, yn yd oedh ei escyrn wedy myn­ed maes o i lhe, ag felhy y darfu idhynt dy­nnu ag ystynnu ei goeseu, yn ydoeð pob as­cwrn yn i gorph alhan o i le, fal y ge [...] o cyfrif pob ascwrn. Yr oedh swn pob dyrnod a r ir oedhent yn ei daro a e myrthyleu wr­th ei hoelo ef yn myned hyd ynghallon yr Arglwydhes Fair ei fam ef. Wedy ei ho­elyo ar y groes, yr oedh twlh a mortais yn y dhaear wedy ei wneuthur i r groes i sef­ylh yndho: yna y dyrchafwyd y groes i fyn­ydh yn vchel vwch ben y twlh, ag yna ei golhwng a orugant neu a wnaethant wrth ei phwys i gwympo i r fortais: Wrth bw­ys y groes ag yntef arnei yn cwympo fe grynnodh ei hoỻ gorph ef, 12. Y deu­ [...]hegfed [...]olur. ag a engodh hyn­ny lawer ar y tyỻeu ỻe yr oeð yr hoeliō.

Er ei fod ef yrowran wedy ei godi cyu­wch [Page 33] odh iwrth y dhayar megis na alhant dhim drwg idhaw ai dwylo, ag er ei fod a r fath olwg druanus arno, ag y bydhei bechod gan dhyn weled ei yn poeni ag yn diharphu fal ir oedh Crist: eisoes er hyn y gyd nyd o­edh y gelynyō yn tosturio, nag yn gresynu, nag yn cwyno dim idho, on d ei wattor ai tafodeu, ag yn ysgwyd eu penneu arno dān dhoydyd: Matt. 27 Phi o honot yr hwn a fwry tems Duw i lawr ag ei cody eilweith mywn try­dieu.

Creulon hefyd oedh hyn: 13. Y trydyd dolur ar dheg. Gan ei fod ef ar y groes yn poeni ag yn gwaedu, yr olh wa­ed yn ei gorph agos a darfod, ag wrth hyn­ny marw o syched, digon oedh yr olwg a o­edh arno i fedhalau callonneu cerrig, megis na neccaent rodhi idho dhefnyn o dhwfr i wlychu ei eneu: Etto yn lhe dwr wy a roe­sont idho wineger surchwerw: Dyma gre­ulondeb gwaeth nag vphern: Luc. 16. Er neccau r gwr cyfoethawg yn vphern o dhefnyn o dhwr, eisoes ny roed idho dhim chwerw yn lhe dwr, tal i rhoed i n Prynwr.

Y rhan fwyaf o r poeneu hyn oedh yn per­thyn i gorph eyn harglwydh ni: Crist diodhef dwy gro­es, y [...]rph ar vn [...] enaid a [...] lhalh. yr oedh po­enau anfeidrol eraiỻ yn cospi r ēaid yn fwy nag yr oedh y rhain yn cospi r corph. Wrth hyn ir oedh eyn Prynwr yn diodhef dwy groes, vn groes bren ar oedh yw gweled [Page] ydoedh yn poeni r corph: y groes aralh ny elhid ei gweled, oedh yn cospi r enaid: Ag yn gymeint ag y mae r enaid yn rhagori ar y corph, feỻy yr oedh croes yr enaid yn dost­ach ag yn phyrnic [...]ach na chroes y corph: Ag fal ir oedh y corph wedy hoelio a hoelion, felhy ir oedh yr enaid wedy ei hoelo. Yr oeð pedair hoel nodedig, heb law hoelion ereilh, yn myned drwy ēaid eyn Prynwr, yn gw­neuthur dolur drwy ei gallon ef.

1. Y dolur cyntaf yn enaid Crist.Yr hoel gyntaf a r oedh yn myned drwy gallon Crist, ydoedh bechedeu r holh fyd: Am ei fod ef ar y groes yn gweled megys gar bron ei lygeid yn ei fedhwl yr holh be­chodeu a'r a fuassent o Adhaf hyd y dydh hynny, a r holh bechodau a r oedh yn y byd yn ei amser ef, a r holh bechodeu a fydhdi hyd dhydh y farn: Yr oedh ef yn gweled ag yn gwybod pechodeu pob dyn, a fuassei, a r oedh, ag a fydhei rhag lhaw: Ag ir oedh ef yn cymeryd dolur yn ei gallō am bob pe­chod ar ei ben i hun megis pe i bassei r pe­chodeu yn eidho ef ehunan: Fal y mae o ran cariad perphaith ag o ran eyn bod ni ag yn­tef yn vn corph, o r achaws hyn i mae yn galw eyn pechodeu ni yn bechodeu idho ef yn y lhaswyr. Psal. 21. Wrth hyn am ei fod ef yn ca­ru Duw yn welh ag yn fwy nag y mae r holh fyd yn caru Duw, ag am i fod ef yn ca­ru dynion yn welh nag i car dynion eyn wy [Page 34] eu hunain, ir oedh ef yn dolurio am becho­deu pob v [...] yn fwy nag yr oedh Peder neu Fair Fadlen yn doluriaw am eu pechodeu. Wrth ei fod ef yn dolurio yn ei gallon am bob pechod marwol ar i ben i hun, yn gym­eint a Mair Fadlen am ei phechodeu hi: ny alhwn ni fedhwl na rhif na rheswn ar dho­lur ei gallon ef am yr holh bechodeu, gan ei fod yn gymeint am bob vn ar ei ben i hun. Yr oedh pechodae r byd yn dolurio ei gallon ai enaid yn gann mwy nag yr oedh y groes bren yn poeni r corph.

Ail hoel yr enaid ydoedh fod eyn Prynwr ar y groes yn ei fedhwl yn gwybed, 2. Yr ail do lur. er ei fod ef yno yn diodhef dros bechodae r hoỻ fyd: eisoes ny byðei vn ym mysc mil yn gadwe­dig, am na chredei lawer i phydh Grist: A lhawer o gristnogion yn golhedig, ie yr oeð ef yn gweled na bydhei vn cristion ymhlith mil yn [...]yfrannol oi dhiodhefaint ef, a hyn­ny ar ei bai nhwy: Nyd oedh ef yn ceisio tal am dhiodhef, ond cael enhulh y nef i ni: A nineu ar eyn bai ni yn coỻi r peth a brynodh ef mor brid: Hyn oedh yn dolurio i gallon ef yn fwy na r groes bren a r oedh yn poeni r corph: Hyn y mae n ei dhoedyd drwy eneu r Prophwyd: Esai. 49. Yn ofer ag eb achos y treuliais fyngrhyfder. Mae S Bernard yn dangos fod Crist yn cymeryd mwy o dholur am angh­aredigrwidh [Page] Cristnogion nag am ei boe [...] a oedh ef yn eu diodhef ar y groes: Mae [...] dwyn Crist i dhoydyd wrth dhyn yn lhynn: Oh r dyn gwyl y poeneu creulon yr wyf yn eu diodhef er dy fwyn di: Nyd oes dim yn peri i mi dholurio cymeint ath angharedig­rwydh di: Myfi a r yssydh yn diodhef mar­folaeth drossot, sy n galw arnati: Gwyl fy mhoenau, gwyl yr hoelon drwy fy nwylaw a m traed, gwyl y distyrwch a r amharch yr wyf yn ei dhiodhef: Ag er bod y poenoe o r tu alhan yn fawr aruthr, eisyoes mae o r tu fywn i m callō boenau sy fwy o lawer, wrth dy weled di yn angharedig ag yn anniolch­gar am fy niodhefaint i. Gwelwch fod Crist yn dolurio yn ei ēaid ar y groes yn fwy am eyn bod ni yn angharedig, heb fod yn byw fal cristnogion, nag oedh ei gorph ef yn do­lurio ar y groes.

3. Y trydydh dolur.Y drydydh hoyl yn ei enaid ef oedh, am i fod ar y groes yn gweled pechodeu r Idhe­won yn fawr gar bron Duw am idhynt ei ladh ef, ag ir oedh hefyd yn gwybod faint y cosbydigeth a gaen ar fyrder am ei ladh ef. Roedh ei pechodeu nhwy, wrth ei ladh ef, yn dwyn mwy o dholur yw gallon ef nag oedh y groes brē yn dwyn o dholur ir corph: gan fod y prophwyd Ieremi yn doydyd fod pechod yr Idhewon, ar oedhent yn myned [Page 35] yw ladh ef, yn peri idho dholurio mwy nai farfolaeth i hun. Para dholur dybygwch, a wnai eu pechodeu nhwy i gallon Crist, a r oedh yn passio pob prophwyd mewn cariad perphaith, yn fwy nag aỻ dyn i dheaỻt.

Y pedwerydh hoel, Luc. 2. Y pedwe­rydh dolur ar oedh yn tylhu ena­id Crist ar y groes, oedh ei fod yn y mann hwnnw yn gwybod, ag yn gweled, y cleðef dolurys, ar oedh wedy myned drwy gallon ei fam ef, pen weles hi ef yn dioðef rhwng dau leidir ar y groes. Ir oedh hyn yn gym­eint dolur yw gallon ef, ag oedh y cariad yn fawr, ar ir oedh ef yn i arwen yn ei gallon tu ag at i fam: Yr hwn gariad oeð vwch bē pob dealht, am i fod ef, yn nesaf at Dhuw, yn caru i fam yn fwyaf. Ir ydoedh tristwch i gallō ef wrth weled callō glwyfus i fam, yn fwy dolur idho na hoỻ boene r groes.

Mae ỻawer o betheu yn gwneuthur dio­dhefaint Crist yn dostach, Marfol­eth Crist yn dost a pham. na phei bai vn dyn aralh yn diodhef y fath farfolaeth: O ran y corph ag o ran yr enaid. Ny bu gorph yrioed, ag ni bydh byth mor dyner, ag mor fedhalaidh ag oeð corph Crist. Canys pwy n bura fo r deunydh yn y corph, medhalaf fydh y corph: Nid oedh deunydh mewn vn dyn, mor bur ag oedh deunydh corph Crist, wedy dhewis or gwaed puraf ynghorph yr Arglwydhes Fair. Wrth fod i gorph ef [Page] mor fedhalaidh ag mor dener, ir oydh yn fwy o lawer i dholur ef, nag a fydhei dholur vn aralh yn y cyphelyb: Hefyd ir oydh y do­lur yn fawr anial, o ran nad oes man ar gorph dyn, lhei clyw dhyn dholur a merw­indod cyn dosted a chyn gynted, ag yn y dw­ylo ar traed, o ran fod cymeint o wythi n cyfwrdh yn y manneu hynny: Heb law hyn, mae marfoleth ar y groes yn greulon am i bydh yn hir heb farw. Marfoleth ani­ben sy dost, fe orfu torri coese r lhadron cyn meirw o honynt er i bod deir awr yngrhog.

Mae hefyd achosion yn gwneuthur dio­dhefaint Crist yn dosturys o ran yr enaid: Pen fo dyn yn diodhef dau dholur, mae r dolur mwyaf yn todhi r lheiaf, fel na bydh dyn yn gwybod dhim o dhiwrth y ỻeiaf, me­gis pen fo r yfanoedh yn trwblio dyn, os brath ei fys yn tan, ni chlyw dhim dolur or dannedh, am fod lhoscfa r tan yn todhi r do­lur aralh. Gwelwch nalh dyn ymwrando a dau dholur or vnwaith, o bydh vn yn dost­ach na r lhalh: Ond yr oedh enaid Crist mor berphaith, ai fod yn clowed y dolur ỻe­iaf, cystal ar dolur mwyaf, yn gymeint er bod milioedh o amal dolurieu yn ei gorph ai enaid ef ar y groes, roydh ef yn dealht, yn ymrando, ag yn clowed y dolur lheiaf, a phob vn ar ei ben i ehunā or ỻeiaf ir mwy­af: [Page 36] A hyn oedh yn gwneuthur i dholur ef yn dostach na dolur neb aralh yn y cyphelyb. Mae r myrthyrwyr, pen font yn diodhef marfolaeth am ei phydh, yn cael lhawer o lywenydh a chwmphwrdh ynghanol i dol­urie, megis ir oedh rhai n myned i farfola­eth tan ganu, a Lawrens yn ceỻwer wrth froelto ar y marfor. Yr achos pam i roydh y seint yn lhywenu wrth feirw, yw, am i bod wrth farw yn medhwl i caant ar ol marw fyned yn y man cyn oeri r gwaed i lywenydh teyrnas nef, ai bod yn rhoi sam­pwl wrth i marfolaeth i lawer i dhiodhef er mwyn i phyð: A lhawer o betheu mawr eri [...] i mae r myrthyrwyr yn i fedhwl: Ag wrth hynny yn cael cwmphordh yn i dio­dhefaint, ag yn enwedig mae Duw y pryd hynny yn danfon y fath rat idhint, ar fath nerth ag na bydh genthynt bris am dhioðef ar i cyrph: Ond ir oedh Crist o bwrpas, i gael diodhef digon er mwyn dyn wedy cau r holh phyrdh i lestyr dim cwnphwrdh ir enaid nag ir corph: Nid oydh ef yn cymeryd cwnphwrdh na ỻywenyð mewn dim. Ro­ydh pob dyn a phob peth wedy dynnu o dhi­wrtho ar alhe dw [...] [...]m cwnphwrdh idho. Yn gymeint a bod y tad o r nef wedy gadel i faab heb dhim cwnphwrdh: A hyn i mae Crist yn i dhangos wrth dhoydyd y lhyn [Page] wrth i dad: Matt. 27 Fy nuw pam i gedewaist fi: hyn oedh am fod Duw wedy adel ef ynghanol pdb math ar dholuriae yn ēaid a chorph, heb dim cwnphwrdh yn dwad yw fedhwl ef, i dhwyn dim lhywenyd: Gadel a wnaeth ir enaid a r cnawd dhiodhef yn bur heb dhim yn attal y dolurie: Hyn a wnaeth idho ef chwsu gwaed wrth fedhwl am i dhiodhefa­int yn yr ardh. Pen oedh y saint drwy i rat ai nerth ef yn myned tan ganu i farw, pan fo r myrthyrwyr yn meirw ni alhan dhio­dhef na mwy na lhai, nag i mae r gelyn yn yn i roi arnynt: Ag nid oys nemor o honynt na fydhent fodlon i dhiodhef lhai pei caent dhewis: Ond pan oedh Crist yn diodhef, o ran i fod ef yn Dhuw holhalhuog, nid oedh malais y gelyn yn gaỻu rhoi dim arno mwy nag oedh ef fodhlon i dhiodhef: Hefyd roydh i gariad ef yn gymeint i dhyn, ai fod ef yn barod i dhiodhef can cymeint nag a dhiodhe­fodh, pei bassei rhaid. Ni dhown i fyth o bē a dangos y cwbl ar sy n perthyn i dhiodhe­faint Crist, etto mi a dhangosais beth ar y rhai pennaf, ag agorais lwybyr ir dyn du­wiol i chwilio chwaneg. Pwy bynnag a fe­dhylio yn dhyfn ar y pethe a dhiodhefodh Crist, oni bydh i gallon yn rhy galed, hi a fedhal haa, ie oni bydh yn glettach na r cer­rig, am fod y cerrig yn torri wrth i dhiodhe­faīt [Page 37] ef, y dhayar yn crynnu, yr haul yn tyw­yỻu, ag etto mae callō dyn mor galed ag na fedhalaa wrth glywed son am dhiodhefaint Crist. Ond nid oes rhyfedhod i lawer fod yn galediō i callōne, am nad ydynt yn meðwl vn amser am dhiodhefaint eyn prynnwr. Pei baēt yn cōsydrio yr prophid sy n dwad i­dhynt odhiwrth mefyrio ar y petheu hyn, nhwy a fydhent chwanoccach ir gwaith, os gwnaei gyflog mawr idhynt fod yn chwa­nnog.

Mae vn doctor yn doydyd fod yn fwy pro­phidiol i dhyn gar bron Duw fefyrio peth bob dydh ar dhiodhefaint Crist, Albert­us Mag­nus. nag yw y gobrwydh er vmprydio bara a dwr bob gw­ener yn y flwydhyn, ie mwy am fedhwl am dhiodhefaint Crist, nag am i scyrsio ai hw­ippio i hun bob gwener, yni for gwayd yn canlyn, ne yn fwy na doydyd yr holh lassw­yre, a wnaeth Dafyd brophwyd. Or lheia hyn sy dhigon diogel, nad oes gwaith weỻ i dhwyn dyn i bob rhinwedh dha, nag yw mefyrio ar dhiodhefaint Crist. Am a dhan­gosais i or blaen ynghylch ordor a modh di­odhefaint Crist, er nad yw r modh wedy dhangos yn yr Efenghil, megis i rhois i ar lawr, ag nid yw sicur para foð i bu bob peth yn fanwl, etto mae n phydh yn rhoi cennad i ni wrth fefyrio, fedhwl y modh gwaetha [Page] i galhom, am na alhwn fedhwl yn wae [...]h nag i bu. Am idho dhiodhe can mwy ag yn gann gwaeth, nag i galh vn dhyfeisio a me­dhwl. Er darfod i mi yma fyned yn fyrr drwy r holh dhiodhefaint, etto sawl a fynno fefyrio ar y pethe hyn beūydh, rhaid iðo gy­meryd ordor yn i waith, i gymeryd vn rhān bob dyð fel i bo i stad ai negesseu yn gobhyn.

Petheu sy rhaid eu dyscu yn ni odhefaint Crist.Hefyd nid yw hyn i gyd a rois ar law [...] ōd i n dwyn ni i fedhwl beth a dhiodhefodh Crist drostom: ag wrth gonsydrio hynny e­yn bod nineu yn drist, yn brudhaidh, ag me­gis cwyno i Grist y dolur a gafes. Fal i gw­elwch natur phrind phydhlon i wylo ag i gymeryd alar a thristwch, pan welo i phrīd a nnwyl mewn dolur, caledi, a chyfyngdra: Yn yr vn modh i mae Crist yn phrind phy­dhlonaf i ni yn edrych am i ni wylo, alaru, a thristau er i fwyn ef. Digon bychan o dal idho gael gynym wylo, a thosturio, ag vch­eneidio, wrth fedhwl am i dhiodhefaint ef. Hyn i mae Crist yn i edrych amdāo ar eyn dwylo ni: A hyn i mae n i gymeryd yn lhe tal a diolch mawr am i waith: ag am hyn i rhydh eilwaith i ni obrwydh mawr. Ag yn gymeint nad oes modh yn y byd i ni dristau gyd a Christ, heb i ni n gynta wybod a me­dhwl beth a dhiodhefodh drostom, am hyny i mae r cwbl a dhangoseis hyd yn hyn, yn [Page 38] gwasneuthu i ch dwyn i dheaỻt beth a wn­aeth Crist er ych mwyn, ag felhy ich dwyn i dristau gyd ag ef. Nid yw hynn ond vn prophid yw gael wrth fedhwl am dhiodhe­faint Crist. Mae mwy o prophid a phrwyth yw gael wrth fedhwl am bob pwngc, heb law tristau gyda Christ. Dau brophid ym­hlith lhawer a henwa i. Ymhob pwngc ar i boch yn medhwl amdāo, darpho i chwi we­led beth a dhiodhefodh Crist, ag feỻy tristau gyd ac ef.

Cyn myned pelhach, ymhob pwngc me­dhyliwch, mae ch pechodae chwi a roysont a­chos i Crist dhiodhe r cwbl, am na basei ra­id i Grist dhiodhef dim ond er mwyn talu dros bechode r holh fyd. Am hyny rhaid i chwi wrth fefyrio ar bob bwngc fedwl mae ch pechode chwi a wnaeth i Grist dhiodhe r cwbl, ych pechode chwi ai hoeliodh ef ar y groes. Na thybygwch fod yn lhai r bai ar baych arnochi, o ran fod pechode rai creilh yn achosiol idho dhiodhef, heb law ych pe­chode chwi. Nid yw hyn yn gwneuthur ych bai chwi yn lhai. Oblegid mae cyfreith y dernes yn barnu dyn yn euog o farfoleth, er i fod yn vn o gant a r oedh yn lhadh y gwr, ag mor euog, a phet fai ef yn lhadh y gwr i hunan, heb vn yn i helpu. Feỻy chwitheu ydych mor euog o farwolaeth Crist, ag mor [Page] achosiol idho dhiodhef, er bod rhai ereilh yn gyfrannol gyd a chwi, yn gysoal a phet fase r vn ond chwi yn peri idho dhiodhef. Hyn sy dhigō o achos i beri i dhyn gasau pechod, ag i fod yn ydifeiriol am a wnaeth, gyn ðar­fod yw bechode ef beri i grist dhiodhef mar­foleth. Wrth hyn pan bo ch di n mefyrio ar dhiodhefaint Crist, ag yn gweled yn dy fe­dhwl megis ir oeð y gelyniō yn dala Crist, yn i rwmmo, yn i gyhudho, yn i gernodio, yn i scyrsio at hwippio, ag yn poyri yn i wy­neb, medhwl yn dhieu dhiogel, o rann dy fod yn bechadur, dy fod ditheu yn i plith, wedy cysylhtu gida nhwy ya erbyn Crist. Am i gelhy di dhoydyd yn wir fod dy becho­de di yn cyhudho Crist, fod dy anlhyfodreth di yn i rwmmof, dy dhygofaint yn i hwip­pio, dy hurtrwydh ath ormodh hyder yn i gernodio, dy falchder yn i goroni a drain, dy goegni ath oferedh mewn dilhad yn rhoi r wisc bwrpwl amdano ef, dy frynti ath od­ineb yn poyri yn i wyneb, dy felysfwyd yn rhoi idho fustyl a fineger: Yn y diwedh dy anufudhdra di a hoeliodh i draed ai dhwylo f ar y groes. Yma i dangosais i chwi y modh i gelhwch fefyrio ar ych pechodeu, wrth fe­dhwl am dhiodhefaint Crist, ag felhy dyscu i cashau.

Yr ail peth a adhewais dhāgos yw r moð [Page 39] sy chwi dhyscu rhinwedhe da, wrth fefyrio ar dhiodhefaint Crist. Nid yw holh fuchedh Crist ond megis gardh yn lhawn lhyseuw­edh teg, hyn yw yn lhawn sampleu o rin­wedheu da, yn enwedic mae ei dhiod hefaīt ef yn ỻawn o bob sample da i ni canlyn. Ni dhown i o ben a dangos yr hoỻ rinwedhe da sy yw dyscu yn i dhiodhefaint: ōd y rhai pē ­naf mi ai henwaf. Ni alhwn dhyscu fod yn dhifalch, ag ymostwng i bawb, wrth fedh­wl fod mab Duw yn fodlō i gymeryd i dhi­styru ai amherchi: yn gymeīt a bod yn wiw gyntho adel idhynt gyfri Barrabas yn weỻ nag ef, a bod yn fodlon i dhiodhef ar y groes rhwng dau leidr, fel pet fasei yn ben ag yn gapten ar yr hoỻ ladron. Diodhefgar oydh dros ben ymhlith milioedh o gamme a pho­ene. Roydh ef hefyd yn ỻawn hyder a chryf­dwr sprydol, gyn i fod yn i ophrymu i hun­an mor wyỻysgar i dhwylo i elynion, i dhi­odhe r poene mwyaf ag a dhiodhefed erioed yn y byd yma. Hefyd i roi i ni sampl, na throm yn ol, wedy dechre daioni, ef aeth rhagdho drwy dhiodhe hyd at farfoleth ar y groes: a chyn peidio faeth hyd yn vphern i dhiweðu r gwaith. Cōsydrwych i gariad p­phaith ef yn passio pob deaỻt, ā fod yn wiw gyntho ðioðe marwoleth dros bechode r hoỻ fyd, i roi bowyd dragwydhol, nid yn vnig [Page] yw āwyleid ōd hefyd yw i elynion, ie hefyd ir gwyr a dowalhtodh i waed bēdigedig ef. Consydrwch y drugaredh, am gymeryd pe­chode a dyledion yr holh fyd arno i hunan, a gwneuthur iawn amdanynt, megis pei ba­sent yn bechode idho ef. Consydrwch i vf­udhdra tu ag at i dad, ir hwn i bu ef vfudh hyd āgheu, ie hyd āgheu r groes: ag yn arw­yth oi vfudhdra, yn y diwedh, ef a bwysodh i bē tu ar ỻawr dan ophrymu yw dad i enaid bēdigedig: i roi i ni ar ðeaỻt, i fod y pryd hy­ny yn diwedhu i waith vfudhgar. Consi­drwch hefyd i howdhgarwch ef yn diodhef pob peth, yn gadel idhynt fyned ag ef me­gis dafad at y cigydh, ag megis oen heb frefu dan law r cneifiwr.

Merciwch hefyd mor dhistaw ydoedh ym­hlith cymeint o gelwydheu ag o dystiolay­the pheilsion: etto roedh ef mor dhistaw a bod yr ystus ai condemniodh yn rhyfedhu aỻu o honno fod mor dhistaw. Hefyd o my­nnwchi dhyscu gasau r byd ai holh oferedh, megys gorchafieth coweth, a phleser bydol, nid oes ỻe welh i ðyscu hyn i gyd, nag wrth edrych ar Grist ar y groes mor dhiystyr, mor boēys, ag mor noeth. Yn gymeint nad oeð gyntho vn gwely i orfedh, ond y groes, nid oedh vn glustog dan i ben ond y goron dhrain, nid oedh na melysfwyd, na diod fel­ys, [Page 40] ōd fineger a bustyl, nid oedh vn dyn yw gonphwrdof, ond y cnafied oedh yn i wat­tor, ag yn yscwyd i pēne arno dā dhoydyd, Phei honot. Am hyn nid oes le gweỻ i dhy­scu pob rhinwedh dha, na mefyrio ar dhio­dhefaint Crist. Pedwar peth yw fe dhwl yn ni odhefaint Crist. Y rhinwedheu hyn a eỻwch i hela wrth fefyrio ar bob pwngc or diodhe­faint.

Hefyd ymhob pwngc chwi elhwch fedh­wl y pedwar peth hyn, i gael o honoch we­led y gwreidhin, i wneuthur i chwi rhyfc­dhu mwy ar y gwaith, a charu a moliannu Duw am y gorchwyl. Am hyn ymhob pw­ngc mefyriwch pwy sy n diodhef, yr ail, beth i mae n u ðiodhef, y trydydh, dros pwy i mae n diodhef, y pedw [...]rydh, am bara ach­os i dioðefodh. Os sefwch ēnyd ar bob vn or pedwar peth hyn, a-mefyrio arnynt ymhob pwngc, chwi a gewch dhigon o achos i garu Duw, ag i rhyfodhu ar i waith.

Y peth cyntaf yw, Pwy sy n diodh ef. Sefwch yma beth a meðyliwch mae Duw or nef hoỻaỻuog, creadwr nef a dayar, Em­herodr yr holh fyd, goleuni yr Angylion: Hwn sy n diodhef hyn i gyd: Hwn er y gry­fed sy n crio yn y preseb, hwn er i gwthocc­ed sy n noeth ar y groes, Duw sy n cael i whippio, Duw sy n cael poyri yn i wyneb, Duw sy n marw ar y groes.

[Page]Yr ail cwestiwn oedh, beth i mae n i dhio­dhef, hyny i gyd ag a clowsoch i hennwi or blaen yn i enaid ai gorph, a chān mwy nag a alh callon dyn fedhwl, am na bu ag ny bydh yn y byd hyn mor fath dholur ag a dhug ef yn i enaid ai gorph.

Y trydydh cwestiwn, dros pwy i diodh­efodh, nid dros Angylion nag Archangeliō, ond dros bechadur o dhyn: Nid yw r holh fyd o faint garbron Duw ond megis gwr­einyn yn ỻaw dyn. Hefyd nid yw pob peth yn y byd ond megis darn or gwreinyn hyn. Wrth hyn nid yw dyn wrth Dhuw ond megis yn brin y ganfed ran i wreinyn, peth diphrwyth brwnt disulw, diphaith, gwaeth na dim o ran i bechodau: dros y coegyn hynn i bu Dhuw farw.

Y pedwerydh cwestiwn oedh, pam i dio­dhefodh Crist. Yn wir nid oedh vn achos o ran i hun nag o ran dyn. O ran Duw nid oedh vn achos prophidiol, am nad oedh dim daioni yn dwad i Dhuw, na dim prophid o ran diodhef drossom, am nad oedh arno ef eisieu dim. Hefyd o rann dyn nid oedh vn achos yn heuðu r cariad hyn ar law Duw. Ie i rydym cyn beỻed odhiwrth heudhu dai­oni, a bod yn pechodeu yn heudhu dig a gla­nastra tragowydh. Wrth hyn nid oes ach­os yn y byd yn peri i Grist dhiodhef, ōd i fa­wr [Page 41] gariad ai drugaredh tu ag at dhyn, heb neudhu dim, am i fod yn wastod yn elyn i Dhuw. Y cariad ar trugaredh mawr hyn a dynnodh Dhuw i lawr or nef, ag a bar­odh idho gymeryd gnawd dyn amdano, a diodhe r loes angheu ar y groes, i dhwyn dyn o dhyfndwr vphern i lywenydh ternes nef. Dyma r achos yn ūig a wnaeth i Grist dhiodhef. Pwy bynnag a safo ar y pedwar peth hyn wrth fefyrio ar dhioðefaint Crist, nid oes fodh na ynnyn hyn dan a gwres ca­riad tu ag at Dhuw yn ei gallon ef. Hyn i gyd yngylch diodhefaint Crist yn perthyni n pwrpas cynta ni: lhe i roydhem yn gadho rhoi ar lawr achosion i beri i ni garu Duw yn fwy na dim, a rhoi diolch idho yn wa­stod am i fawr dhaioni yn sprydol ag yn gor phorol. Y daioni cyntaf ydoedh eyn gwne­uthur ni, yr ail oedh fwy, am idho yn pryn­nu ni. Hyn a fu drwy dhiodhef marfoleth drosom. Etto ni dharfu i ni a phrwyth dio­dhefaint Crist. Mae diodhefaint Crist me­gis eli a mēiginieth i bod clwy a dolur spry dol, hyn yw pechodae: Megis mynydh yn lhawn lhyseu i iachau pob dolur yw diodhe­faint Grist. Yn awr ni bydh dyn welh er bod medhiginieth yw dholur ef, oni cheiph roi peth eli ar y mān sy glwyfys a dolurys. Achosiou i garu Cri­st, am eyn gwneuthur yn gyfran­nol oi dhi­odhefaint ef.

Para les i mi er bod eli ar werth yn ỻun­dein [Page] a wna yn iach bob dolur, a mīneu heb gael dim o hono: yn yr vn modh, er bod di­odhefaint Crist yn eli gwrythfawr: etto ni wna les i mi, ony chaf mewn lhwy neu ar flaen cylhelh gymeryd peth o hono ai roi ar y mann dolurys. Wrth hyn mae i ni achos i dhiolch i Dhuw, nid yn vnig am wneu­thur i ni yr eli cyphredī hyn ar fynydh Cal­fari, ond hesyd rhaid i ni dhiolch, am idho roi ỻwyed o hwn i bob vn o honom, am idho weithio r modh, i ni gael rhoi r eli ar y mān dolurys. Chwi a wdhoch, er bod yr eli hyn mor heleth ag mor phrwythlō, ai fod yn abal i wneuthur yn iach hoỻ bechode r byd a fu, y syð, ag a fyð, hyd ðydh y farn: ie pei bai fil o fydoeð cymeint a hwn, digō a fyðei vn def­nyn o waed Crist i dalu r iawn am holh be­chode r miliodh o fydeu. Wrth hyn rhy ði­gonol yw holh waed Crist i bechode r holh fyd. Etto er hyn chwi welwch fod lhawer o nasiwneu a matheu ar bobl cyn gēi Crist, yn byw ag yn meirw mewn pechodeu, heb glowed son yrioyd am Grist. Cānys er bod yr eli hyn mor nerthol, ai fod yn glanhau cyn geni Crist, y sawl a gredei i doei Grist ir byd: etto nid oedh vn ymysc cann mil yn credu i doei Grist. Felhy mae wedy i Grist dhwad; mae mil heb gredu am vn sy n cre­du, a phawb sy heb gredu mae n golhedic. [Page 42] Belhach mer ciwch fod mil filioedh drwy r holh fyd yrw ran yn fyw heb fod yn gristno­gion, heb gael bedydh: Canys bedydh yw r ỻwyeid gynta sy n gwneuthur dyn yn iach:

Duw sy n rhoi r gras i gredu, a Duw sy n choi r bedydh. Gwybydhwch nad oes vn yn gristion drwy r hoỻ fyd am fil sy heb fod. Wrth hyn ir ydych yn rhwmmedig i garu Duw ag i dhiolch idho yn fawr am ych de­wis chwi, a choi rhad i chwi gredu, a modh i gael bedydh ymhlith milioedh a aeth, ag a eiph i vphern o eisie bedydh: heb fod achos i Dhuw ych dewis chwi, mwy nag vn o rhai colhedig: Ie peth sy fwy, ỻawer o rhai coỻedig, pei basent yn gael bedydh, a fasent gwelh nag ydychi. Pei bay fil o ladron yn yr vn carchar, wedy cael barn marfoleth am ladratta yn erbyn cyfreth y deyrnes mae r farn wedi passio yn erbyn y cwbl, heb vn yn gadwedig: ar ol y farn i daw r brenhin ir carchar, ag a edrych arnynt i gyd: yn y di­wedh ef a rydh bardwn ir dyn gwaethaf yn y carchar, ag a adewiph grogi r lheilh i gyd. Para fodh i galh y dyn hyn dhiolch ir bren­hyn, am i fowyd, i gadw ef ymysc mil rhag marw, ag yntef yn heudhu gwaeth na neb. Ni dherfydh idho na nos na dyð dalu diolch yn eheleth. Can mwy diolchgar i dylechi fod, am i Dhuw ymhlith, nid mil, ond mil [Page] [...] [Page 42] [...] [Page] filiodh, ych dewis chwi yn gristion, a chw­itheu yn heudhu gwaeth nag vn. Gwybyð­wch fod mil filioedh o blant bychein yn v­phern, heb obaith trugaredh, heb fedhwl dim drwg erioed, ag etto yn golhedig, am na chowsont fedydh i lanhau pechod a gow­sont odhiwrth Adha. Rhaid i chwi adhef ych bod yn gann gwaeth na rhain i gyd. Hefyd mae milioeð o rai hē yn vphern heb vn pe­chod ond vn medhwl byrr bach: etto chwi a wnaethoch bechodeu mawr alhan o rifedi: Ag etto rydych mywn modh i ochel vphern. Chwi a gowsoch bardwn am y cwbl drwy gyphes: Er bod milioedh yn vphern heb wneuthur y ganfed rān o ch drygioni chwi. Gwelwch ych bod yn debig ir dyn gwae­thaf or mil a bardynodh y brenhin yn y car­char: Ie rydych, yn fwy rhwymedig i dhi­olch i Dhuw, nag oedh hwnnw i r brēhin. Y dyn a gafodh bardwn oedh vn ymysc mil, chwi a gowsoch bardwn er ych bod yn vn ymysc mil o filioedh heb rifedi. Hefyd nid oedh y dyn ar law r brēhin yn cael ond par­dwn rhag marfoleth ny phery ond ennyd awr. Hefyd ny chafos ond oedi marfoleth, am orfod idho yn y diwedh farw drwy fawr boen yn i wely. Ond rydych chi wedi cael pardwn am farfoleth dragwydhol, oðiwrth boenae vphern, ie ach cadw byth rhac myn­ed [Page 43] yno, os mynnwch ych huneī. Ie, heb law hyn, nyd oedh y brenhin daearol ond rhoi r dyn ei fowyd, a gadel idho ymdaro am beth i fyw fal i mynnei, gadel idho gardotta i ge­isio bwyd: Ond mae Duw wedy ch tynnu chwi o vphern a ch gwneuthur yn etifedh idho yn heyrnes nef, os mynnwch gadw ych etifedhieth. Ny elhwch fyth fedhwl fa­int i dylech garn Duw am y daioni hyn. Dyma r pardwn cyntaf a gowsoch.

Er y daioni yma i gyd a gowsoch wrth y pardwn cyntaf yn ych bedydh, chwi a lhy­ghasoch y cwbl yn angho: chwi aethoch yn fradwyr i Dhuw eilwaith, chwi aethoch dros y gorlan, chwi a dorrasoch y gedhewid a wnaethoch yn ych bedyð wrth gael y par­dwn cyntaf. Beth, medhwch, a dhoede r brenhin dayarol wrth y dyn drwg a gowset gynne i gadw rhag i grogi, ef yn vnig yn cael i fowyd ymhlith mil, beth a ðoydei wr­tho, pei cae i weled eilwaith yngharchar ā wneuthur nid ỻedrad, ōd traeturieth a brad­ynieth yn erbyn y brēhī a roysei iðo bardwn o r blaē, ag yntef yn waethaf ymhlith mil. Yma i dangose r brenhin dayarol i fod yn dhayarol, yno yr edrychei yn phyrnig ag yn lhym ar y dyn, ag a dynghei fawr lyfeu na fadheuei idho mwyach, ag a dhangosei gar­bron yr holh deyrnes fel y pyrdynasei y ỻei­dir [Page] [...] [Page 43] [...] [Page] o r blan, ag ynawr am i fod yn dra [...] wedy torri cyfreith eilwaith, ef ai rydh i f [...] rw mewn rhyw fodh creulon, am fod yn fy [...] chan idho gael i grogi. Hyn a wnae r brnhin dayarol, ond cann mwy o dhig a chosbedig [...] eth ir ydychi yn i heudhu am ych ail draetu­rieth i r brenhin nefol, nid oedh y lhalh ond dyn, mae hwn yn dhyn ag yn Dhuw: yn yr ail pardwn yma merciwch y rhyfedi sy [...] heudhu marwolaeth dragowyð. Nid aw [...] alhan or ynys fechan hon: Mae miloedh o Hereticieid yn lhoygr heb gredu n iawn, mae milioedh ereilh o darnwyr yn credu, ag etto heb ymadel ar byd, a r brynti: Y rha­in i gyd a gowsont fedydh, nhwy a gowsont y pardwn cyntaf: etto nhwy a dorrasont cy­freith eilwaith: vn or hain ydy chwitheu, gwedy ch bedydh chwi a fuoch yn nailh ai heredic, ai n dharnwr, yn gwneuthur lha­wer o bechodeu dros igen neu bedair ar hi­gein o flynydhoedh, ne fwy. Etto ymhlith yr ail draeturieid hyn, er bod o honynt fili­oedh wedy myned yn barod i vphern, a mil­ioedh ereilh i fyned ar i hol: rydychi gwedi cael ail bardwn ymhlith y rhain i gyd. Er bod milioedh o rhain yn ỻai eu pechodeu na chwi, a phei basei y rhai o honynt ar aeth i vphern, neu pei bai lawer ohonynt a r sy n fyw, yn cael y gwybodeth ar gras a gows­ochi, [Page 44] nhwy a fasent gann gwelh cristnogiō nag ydychi. Chwi elhwch yma yn ych me­dhwl ych cwmpario i r ail traytur yn erbyn brenhin dayarol. Gwelwch dyma chwi ym­ysc milioedh wedy cael yr ail pardwn, hyn oedh drwy r gyphes gyntaf a wnaythoch ar ol ych bedyð. Mae mwy na hyn o ras etto.

Wedy cael yr ail pardwn, pechu a wna­ethoch beunydh. Er ych bod yn gatholic, we­dy ymwrthod ach holh dhrigioni yr eilwed waith: am bob pechod marwol a wnaeth­och, ag a gowsoch sadheuint am danynt drwy gyphes ag ydifeirwch, cymeint o rif­edi o weithieu i darfu i chwi heudhu vph­ern, ag etto pardwn a gowsoch bob gwaith. Am hyny od ydych yrowran heb fod ych cy­dwybod yn ych cyhudho drwy ch bod mewn pechod marwol, rhowch dhielch i Dhuw am i ras ai drugaredh, am idho fadhe i chwi cyn fynyched, ag yrowran od ydych alhan o bechod marwol, rhowch gymeint aralh o ði­olch, idho am ych cadw rhag pechod yn wa­stod.

Canys cymeint achos i dhiolch am eyn cadw rhag pechod, ag yw r achos i dhiolch am fadhe r hen bechodeu. O blegid oni bay i ras ef, ni bndhei vn heb bechod marwel. Ond cymeint diolch genych i r dyn a fo yn ych cynhal rhag cwympo ir tan, gyn ych [Page] [...] [Page 44] [...] [Page] bod yn sefylh vwch ben y tan, ag mor wan ag na elhwch sefylh heb vn i bwyso arno, ag a fudhei genych o dhiolch i vn ach tynnei alhan or tan. Yn yr vn modh mae cymeint cariad a diolch i Dhuw am eyn cadw rhag pechod, ag yw r cariad ar diolch am yn tyn­nu or pechod: Am yn cadw o vphern cysdal ag am yn tynnu ni o vphern. Hefyd (megis i doydais) rhinwedheu a sacrafenneu r egl­wys yw megis lhwyei i ni yfed neu i fwy­tta r feneginieth fawr, ar sy n dyfod o ystl­ys Crist ar y groes. Ymhob vn or sacrafen­neu hyn ir ydym yn cael rhān o r eli gwer­thfawr. Saith sydh o honynt i gyd: Bedyð a chyphes chwi ai clowsoch: Y pennaf ar go­reu chwi elhwch i gael beunydh: Corph a gwaed yn harglwydh ni.

Dyma arwydh cariad yn passio pob arw­ydh. Wedy idho dhiodhef marfoleth dros dhyn, ai dynnu o vphern, a chodi o r bedh, roydh yn rhaid idho fyned i r nef at i dad: etto roedh yn anhodh gyntho ymado a dyn, rhag maint oedh i gariad idho. Drwy res­wm naturiol, nid oedh welh a wnelei i ad­el arwydh ar i ol, ond ceisio paintwr i wne­uthur i lun yn debyccaf i galhei i wyneb Crist, a gadel i dhyn edrych ar y lhyn yn ỻe Crist. Ny alhe synnwyr fydol fyned beỻach hyn. Etto nid oedh hyn yn bodloni cariad [Page 45] Crist. Am hyny i dyfeisiodh fodh i fyned at i dad, ag i dario yn gwbl yn dhuw ag yn dhyn yn eyn mysc ni. Dyma wyrtheu mawr, dy­ma gariad heb fesur. Ie nid oedh dhigon gy­ntho fod yn trigo yn eyn plith yn gorphorol, ōd o wir gariad rhaid idho yn cussāu, ymw­ascu a ni: Etto nid yw hyn dhigon, ond fe fy n fod yn vn corph a ni, yn vn cnawd, drwy entrio i n corph ni, ag yno aros yn wastod. Gwelwch faint yw r cariad hyn. Pen fydh­och yn cymuno corph ych Arglwydh, chwi e­ỻwch fefyrio y ỻynn: Dyma hoỻ lēdid a dai­oni r byd yn entrio i holh frynti a drygioni r byd, gwreinin bach yn derbyn duw, pridh a lhudw yn cynhwys Creawdwr nef a dayar. Mae r lhe bryntaf ar lhe cyfyngha ar y dha­ear yn cynnwys yrhwyn ny alh holh hengd­wr y nef i gynnwys. Oh gariad heb fesur, oh drigaredh anfeidrol, oh ymostyghiad heb gymar.

I dorri hynn mewn dau air, mefyriwch heb law a glowsoch, ych bod yn cael ỻawer o dhirgeliō gyn Dhuw: hyn yw er ych bod yn dynabod, ag yn copha lhawer o dhaioni spry­dol a chorphorol ar a gowsoch gyn Dhuw: Etto rhaid o aðe ych bod yn cael ỻawer o ða­iōi gyntho yn sprydol ag yn gorphorol, ar na wdhochi dhim oðiwrthyn, ond Duw i hun, ag ef ach cadwodh rhag mil o beryglon sprydol [Page] a chorphorol, ar na wdhoch vn o honyn. Wrth hyn dyna chwi wedi diolch am bob peth yn heleth, heb adel dim heb gopha.

Beỻach i dhiwedhu hyn i gid, ag i gysylhtu r dechre ar diwedh, gwelwch fod achos ma­wr i garu Duw yn fwy na dim, am idho ði­odhe marwoleth drosom.

Pei baech wedy gwneuthur traeturieth yn erbyn brenhin dayarol, ar gyfreith yn ych barnu i farw: yna pei bay vn mab y brē ­hin yn deisyf ar i dad ych pardynu, ag wrth i air ef chwi a gaech ych pardwn: chwi a de­bygech ych bod byth yn rhwymedig i garu mab y brēhin, ag i dhiolch idho dhydh a nos. Ond pei bay r brenhin heb fadheu i chwi, ar air i fab, ond drwy dhiodhef or mab y farfo­leth or greulonaf ar elhyd i defeisio er ych mwyn chwi, yna ni bydhei gynych obaith cael pardwn, o rann fod yn amhessibl i fab y brenhin ych garu n gymeint, ag i bydhei farw drossoch, i adel i chwi fyw. Ag o bydh­ei fab y brenhin yn dwyn cymeint cariad i chwi, a marw er ych mwyn: ni dherfydhei fyth ir hoỻ fyd rhyfedhu maintioleth a nerth y cariad hyn. Ond am danochi, ni chysgech na nos na dydh, ond medhwl para fodh i ga­lhech d [...]lu pwyth ag echwyn am gymeint o gariad: rhy fychan a fydhei genych farw fil o weithie u dros fab y brenhin. Er hyn i gyd [Page 46] cann mwy rhwmmedig ydych i Grist, am farw drosoch, am na fydhei mab y brenhin dayarol, ond dyn o r vn fettel a chwitheu, pridh a lhudw: Ond nid yw Crist yn vnig yn fab i frenhin, ond hefyd yn frenhin ar nef a dayar, yn Dhuw holhalhuog, cysdal ai dad o rann Dhuw. Hefyd, nid yw r brenhin da­earol ond ych tynnu odhiwrth farfoleth ni phery ond vn enhyd awr, ag etto nid ydyw ond oedi r amser, am i bydh rhaid i chwi fa­rw yn y diwedh or ỻeiaf yn ych gwely. Am na lh vn brenhin gadw dyn heb farw byth. Ond i mae Crist drwy i farwoleth yn ych dwyn o vphern, lhe i mae marfoleth drag­wydhol, ag etto heb gael marw: Ag yn ych tynnu odhyno yn siwr, o ni bydh ar ych bai chwi. Wrth hyn, yn gymeīt ag i mae Duw yn welh na dyn, a thynnu dyn o vphern, ỻe i mae marfoleth dragwydhol, yn weỻ ag yn fwy, nag oedi dros amser byrr farfoleth fy­dol: Yn gymeint a hyn yn heleth ir ydych yn rhwmedig i dhiolch i Grist, ag i garu ef yn fwy na mab brenhin dayarol, a fydhei fa­rw drosoch.

Wrth hyn nid oys achos yn peri i ni garu dynion bydol yny byd, nad yw r vn achos yn gān mwy i n dēu ni i garu Duw. Mwy­a cariad ar y dhaear o gariad naturiol, yw cariad carennydh a chyfathrach. Dyna r ga­rē [Page] [...] [Page 46] [...] [Page] rennydh nesa: tad a mam, a brawd.

Mae Duw yn dad i ni: Ef yn gwbl a wna­eth y rhan oreu, hyn yw r enaid: ef hefyd a wnaeth y corph, ai holh aylodeu, ond cael o honom ronyn bach o dheunydh o gig lhym­rig brwnt gyn eyn tad a n mam, i wneuth­ur y corph: Ag etto ni alhassent hwy roi cy­meint a hyn, ond drwy help Duw. Ag etto gwelwch faint yw n cariad i n tadeu ag i n mameu am y tippin cig amrwd a gowsom odhiwrthynt, a hyny drwy nerth Duw. Od awn i gompario y tad cnowdol i r tad or nef, nid yw r tad dayarol yn heudhu henw tad. Hyn y mae Crist yn i dhangos wrth ðo­ydyd: Matt. 23. Na cheisiwch hēwi vn tad ar y dhaear, am nad oys i chwi vn tad ond vn, a hwnnw yn y nef. Hefyd am gariad mam yw phlāt mawr yn wir yw cariad y fam i r plant, et­to ny ni glowsom fod mameu wrth newyn yn lhadh i plant, ag yn i bwytta, ny chlows­om fod vn fam yn i lhadh i hunan i borthi ei phlant: ond Crist ai ophrymodh i hunan ar y groes i farw er eyn mwyn ni. A chwedy i ladh, mae n eyn porthi ni ai gic ai waed yn yr Aberth. Dyna fe yn weỻ tad a mam, nag a alh fod ar y dhayar. Hefyd mae yn frawd i ni, am idho gymeryd cnawd dyn amdano, ag nyd yw ef yn gwadu m o r garēnydh: am idho alw i dhiscyblion yn frodyr idho: doyd­wch [Page 47] (medh ef) i m brodur am fyned i Gale­li. Hefyd mae priodas rhynghom ag ef, Mat. ult. yn y bedydh i mae r gred, yno ir ydym yn gadho ymwrthod ar Cythrel ai hoỻ weithredoedh, a glynu n gwbl wrth Grist, fal i mae r wr­aig yn gatho glynu wrth i gwr, a gwrthod pawb aralh. Cantic. Cantic. Ag i mae Duw mywn cant o leoedh yn yr scrythur lan, yn galw enaid dyn yn wraig briod iðo. Nyd oes gyfathrach nes i r wraig nai gwr priod. Canys er i fw­yn ef i mae n caru i hoỻ gereint ef, feỻy rha­id i nineu garu Duw fel eyn gwr priod, yn fwy na neb, a phawb aralh o rān cyfathrach er i fwyn ef. Ag yma i terfyna hyn o fatter.

*Y pedwerydh pennod ynghylch ternes nef.

CYMEINT a glowsoch hyd yn hyn o ða­ioni Duw i dhyn, sydh yw gael yn y byd yma: A mwy o lawer, nag a dherfydh i dhā ­gos yn y mān hyn: ond mae r rhann fwyaf, a r rhann oreu wedy oedi hyd y byd nessaf. Wrth hyn mi a dhangosa beth o r ỻywenyð anfeidrol, ar i mae Duw wedy ordeinio yn y byd araỻ i r sawl ai caro ag ai gwasnaetho ef yn y byd yma. Pei baym yn mefyrio yn phrwythlō ag yn fynech ar y daioni a r sydh wedy arlwy yn y nef i r rhai duwiol, ny ni a [Page] redem drwy dhwr a than i gael ynnilh tey rnas nef. Mawr y doedh dhaioni a r i mae Duw yn i roi i ni yn y byd brwnt yma, fel i clowsoch hyd yn hyn, er na chlowsoch ond peth bychan, wrth a aỻasswn i dhangos: etto hyn i gid a glowsoch, a hyn sy heb glowed, nid yw r cwbl or holh dhaioni yn y byd hyn yw cyphlybu i r daioni sy n barod yn y byd nessa, mwy nag yw vn defnyn o dhwr yw gyphlybu i r holh for mawr: gyn fod y peth mor werthfawr, i ch tynu chwi i garu duw am y daioni hyn, ag ich gwneuthur yn wyỻ­ysgar i weithio i ynnuỻ teyrnas nef, mi a ro ar lawr megis vn tammed praw or hoỻ ðai­oni mawr hyn, i gael gyrru blus arnoch am y cwbl, gyn fod vn tāmeid mor felys. Cāys pan dharpho i dhyn dhywedyd cymaint fyth ag a alho am lawenydh ternas nef, nid yw hyny i gyd dhim wrth y sydh yn ol heb dhā ­gos: nid yw r cwbl ond megis vn defnyn aỻ­an or mor mawr, wedy clowed cymeīt fyth ag a alho tafod dyn treuthu. Mae r scrythur lan yn dangos fod yn amhossibl dhealht lhy­wenydh teyrnas nef yn y byd yma.

Esai. 64. Erpē dhechreued y byd ni cholwodh clust, ni welodh lhygad, y petheu ar ir wyti Duw wedi ordenio i r sawl sy n dy aros di. Mae Sant Pawl yn myned ymhelhach, ag yn dangos, n alh callon fedhwl y petheu sy n y [Page 48] nef: ỻyn i mae n doydyd: 1. Cor. 2. Ny welodh lhygad ag ny chlowodh clust, nyd entriodh i gallon dyn y petheu a dharfu i Dhuw ordeinio i r sawl sy n i garu ef. Apoc. 2. Am hyn i mae Ifan Efā ­ghylwr yn dangos na wyr vn beth sydh yn y nef, ond y sawl sy yno yn meðiānu r peth. Etto megys i gedhewais mi a ro i chwi vn defnyn or mor melys mawr hyn, i dhwyn blas ar ych gene, ar blas a dhwg blys am gael y peth, ag a ch gwneiph chwi yn chwa­nnog i gymeryd poen i ynnulh ternes nef. Yma ir wy fi n debyg i dhyn mywn gardh deg yn ỻawn blodeu, a ỻysie peraidh a pher­phaith i harogleu ai gwynt, lhe i mae cyme­int o dhewis, na wyr para vn a gymer, pa­ra vn a adewiph: Felhy finneu sy wedy en­trio i blith lhyseuwedh paradwysaith terēs nef, lhe i mae cymeint o betheu rhinweðol, nas gwn i ple y dechreua, na phle i diweða, beth a gymera, na pheth a adawa eb son am dano. Ag am fod cymeint o betheu dewisol, rhag myned yn rhy belh, mi am cadwa fy hunan ar vn lhwybyr yn vnig, lhe i rwy n gweled pum ỻysewyn teg yn tyfu: Y rhain mi a gascla ynghyd i wneuthur bwysi i ðw­yn orogleu a gwynt teg ich phroneu chwi. Am hyny rhaid i mi ganlyn y lhwybyr hyn, a gadel milioedh o betheu ereilh heb son am danynt. Ag etto ny alha dhangos y ganfed [Page] rann o phrwyth y pum lhysewyn hyn.

Ond yn vnig i casglu ynghyd ai henwi. Y pum peth a dhangosa yw r hain: Tegwch ag ehelathdra y lhe ar fann, lhe i mae r Sa­int yn trigo: Yr ail yw r ỻywenydh a gawn yno drwy gymdeithas a chyfeilhach yr holh Saint: Y trydydh peth yw rhinweðeu, gle­indid, ag hyfrydwch y corph: Y pedwerydh yw r melysdra ar ỻywenydh a geiph yr en­aid: Y pumhed yw medhiant pob daioni, mwy nag a aỻ callon i fedhwl, heb dhiphyg nag eisie dim byth yn dragwdhol.

Ny ni alhwn gael peth tyb am degwch y dinas nefol yn y byd araỻ, drwy feðwl beth a wnaeth Duw i ðyn yn y byd yma. Chwi a glowsoch or blaen faint o amryw betheu a wnaeth Duw i wasneuthu r corph. Gw­elwch degwch yr wybren vwch ben, gole­ini r haul, y lheuad, ar ser, i rhifedi, i main­tioleth, ai tegwch, y mor mawr yn lhawn o amhal rhyfogaetheu pyscod, y tir yn lhawn o bob phrwyth, a math ar ynfeilieid, yr af­onydh ar phynōneu sy n rhedeg drwy r dha­yar, megis gwythi drwy r corph. Er bod y pethe hyn i gyd wedy gwneuthur i wasnae­thu dyn: etto nid yw dynion yn occwpio y ganfed ran ir petheu hyn, ond i maent yn sefylh ag yn aros i dhangos daioni a synw­yr y gwneuthurwr. Mawr a rhyfedh yw [Page 49] [...]wch y byd yma, o ran yr wybren, y mor, [...]r tir: etto hyn i gyd a wnaeth Duw i n cy­rph ni, a hyny dros enhyd awr i aros yn y byd yma. Wrth hyn rhaid ir ỻe fod yn fawr, ag yn deg, a wnaeth ef yn y byd aralh i r en­ [...]id i dario, nid dros ēnyd bach, ōd dros byth. Os gwnaeth Duw le cyn decced yn y byd yma, lhei ni thariwn ond ēnyd awr, megis a [...]yn siwrneu i ochel cafod o law, rhaid ir ỻe [...]od yn deg aryth, lhe cawn dario byth. Pwy a wna gost fawr ar le ar y phordh i ochel ca­fod o law, ag a wrthyd wneuthur cost i dei­lad ag i fuldo, lhe i bo yn i fryd dario byth. Wrth hyn, o gwnaeth Duw le cyn decced i ni yn y byd yma, megis i ochel cafod ar y phordh, mil mwy teccach yw r lhe a wnaeth i ni dario byth: Os gwnaeth le mor diriō i r corph brwnt dros enhyd awr, beth a wna­eth wrth hyn i r ēaid ag i r corph dros byth? Os gwnayth dy cyn decced i dhyn dros am­ser bychan, beth a wnaeth i r anghyliō dros byth yn y byd nessa? Ie os gwnaeth Duw y fath le teg, ar byd yma yw was distadlaf, gwaethaf, a distyraf dros ennyd bach, beth yw tegwch i dy ef i hunan, y nefoedh, lhe i mae Duw yn tario? Od yw ty dyn o gardot­tyn carpiog brwnt i ochel cawad ar fin pho­rdh cyn decced, beth yw tegwch ty r brēhin, ie brenhin nef a dayar, Duw holhalhuog? [Page] [...] [Page 49] [...] [Page] gyn fod i synwyr, i nerth, ai dhaioni cyme­int wrth wneuthur cwt bach i nyfeilieid dros vn noswaith. Khaid i ni fedhwl fod y ỻe a wnayth ef iðo i hunā, cyn decced ag a aỻei i synnwyr ef dhefeisio, ai nerth i wenuthur. Ar hyn i mae Sant Awstin yn myfyrio ag yn doydyd wrth Dhuw y lhyn: S. Augu­stin. Oh Farglw­ydh, od wyti yn rhoi i ni betheu mor fawr, heb rifedi arnynt odhiwrth y phurfafen, yr awyr, y tir, y mor, drwy oleini, drwy dywy­lhni, drwy wres a chysgod, drwy wlith, cafo­de, gwynt, a glaw, drwy adar, pysgod, anifei­led, prennie, lhyseuwedh, ag amhal blanigiō, gyd ar holh greaduried ereilh i wasnaethu dyn, heb rifedi arnynt: a hyn i gyd i r corph brwnt. Oh Farglwydh da, para fath betheu, para faint, a phara dhaioni, a phara rifedi sy ar y petheu, a dharfu iti ordeinio yn eyn gw­lad nefol ni? ỻe i cawn dy weled di wyneb yn wyneb. Od wyti yn gwneuthur cymeīt dro­som yn eyn carchar yn y byd yma, beth a roi di i ni yn eyn lhys? Od wyti n rhoi cymeint o betheu yn y byd yma ir da ag i r drwg yn­ghymysc, beth a roisti i gadw i r rhai da yn ūic yn y byd nesaf? Od wyti wedy arlwy cy­meint yn y byd yma ith gereint ath elynion ynghyd, Apoc. 19 beth a geiph dy geraint ath ānwyle­id yn vnig yn y byd aralh? Od oes gymeint o gwnphwrdh yn y dydhie alarus hyn, para [Page 05] [...]wenydh a fydh ar dhydh y briodas? Od oes petheu cymeint yn eyn carchar, beth a fydh vn eyn gwlad a n teyrnes ni? Psal. 30. O Farglwydh a m Duw, rwyti n Dhuw mawr, a mawr yw maintioleth dy orchafieth ath felysdra di. Ag megis nid oes diwedh ar dy faintioleth di, na rhifedi ar dy synwyr, na mcsur ar dy dhaioni: felhy nid oes na therfyn, na rhifedi, na mesur ar dy rodhion ath dal i r sawl sy n dy garu, ag yn ymladh drosot. Yma i terfy­n geirie Sant Awstin. Ond i dhwad yn nes i n pwrpas, ag i fyned rhynghom ag i fynydh. Er bod yn lhe ni i drigo ar ol y byd yma yn y nef: etto ni a gawn o vcheldra y nef weled yr hoỻ fyd danom, a myned a dw­ad a gawn wrth yn pleser or nef i wered, ag odhiwered i r nef mewn mynudun awr. Ag wrth hyn, rhag bod dim brynti yn y byd ym­a i anfodloni eyn golwg ni, ag i wrthnebu n wlhys ni, fe fydh y pedwar deunydh, hyn yw y dhayar, a r dwr, yr awyr, a r tan, we­dy puro ai glanhau odhiwrth pob brynti ag amhuredh, fel y galho pob peth fod yn deg, yn hyfryd ag yn rhinwedhol mewn golwg dyn. Mae hyn gyn wired, a bod Saint Pa­wl yn doydyd fod pob Creadur a wnaeth Duw yn ychneidio ag yn trafailio wrth aros am weledigeth plant Duw. Rom. 8. Hyn yw medh­wl S. Pawl, fod holh greaduried Duw yn [Page] y byd yma megis yn hieraethu, ag yn echn­eidio am dhydh y farn, ai bod megis gwraig yn trafailio, yn hir gynthei hyd yni capho i throed yn rydh. Feỻy mae n hir gyn bob cre­adur am dhydh y farn, ag am lywenydh y Saint, i gael o honyn nhwythe orphowys, a pheidio a gwasnaethu dyn mwyach, ond cael i puro ai glāhau oðiwrth y brynti a ga­sclasont drwy bechodeu dynion. Am hyn i bydh pob peth ar y dhayar, ag vwch y dhay­ar yn y phurfafen, yn deccach ag yn berphe­iðiach ei weled, nag yw ynawr. Mae r pro­phwyd Esai yn dangos i daw newid ar bob peth, Esai. 66. wrth dhoydyd drwy eneu Duw y ỻyn: Yr wyfi yn gwneuthur phurfafen newydh a davaren newydh, ag ny bydh dim copha am y rhai hen. Yr vn peth i mae Ifan yn i ðan­gos wrth ðoydyd: Apoc. 21 Mi a welais phurfafen ne­wydh, a dayaren newydh: am dharfod ir phurfafen gynta, ag ir dhayaren gynta dhif­annu a myned hebio. I gael o honoch weled tegwch pob peth dan y phurfafen, mae r Doctoried a r Athrawon yn dangos i ỻoscir y byd cyn dydh y farn, ar tan a gescliph yn­ghyd bob amhuredh, ag ai denfyn i vphern, lhe i mae pob brynti. S. Thom Yna i bydh y dhaear drosti cyn wastotted ar geiniog, neu a r ford wastotta: Heb dhim yn tyfu drwydhi, na dim yn cerdhed arnei. Fe fyth y dhayar cyn [Page 51] laned, ag mor loyw a r gwydyr gloywaf, fel i gelhwch weled drwy r dhayar, megis drwy r gwydyr. Fe fyð y dwfr i gyd yn rha­gori ar y ðayar: am i bydh y dwr cyn loyw­ed ar grisial gloywaf. Fe fydh yr awyr yn dwy [...] odieth ar y dwr mor glir ag mor lo­yw ag yw r phurfafen. Ar tan yn rhagori arnynt y gyd, yn goleuo fel y se r yn y phur­fafen. Dyma fal i purir y pedwar defnyndh a r elfydh er mywn dyn. Digon o nef a fy­fei weled y creaduried hyn mor bur ag mor lan, y pryd hynny. Awn yn vwch i fynyð: Fe fydh y phurfafen, yr haul, a r lhcuad ar holh ser yn rhagori ag yn oleuach o lawer, nag ydynyt yrowrā. Mae r prophwyd Esai yn dangos y byð yr haul yn saith oleach nag i mae yrowran, ar lheuad cyn oleued ag yw r haul ynawr: Ag felhy i bydh yr helh ser pob vn yn rhagori ar i gilyð mewn golcuni. Yma i bydh goleini mawr dhyð y farn: gyn fod yr haul yrowran yn rhoi goleuni i r holh fyd, ie i r lheuad ag ir ser hefyd: am nad oes dim goleini yn y lheuad, ond i mae n i gael odhiwrth yr haul. Y pryd hyny o ran yr haul yn vnig, fe fydh y dydh saith oleuach nag ydyw yrowran: o ran i bydh yr heul yn saith oleuach, heb law goleuni r lheuad, a fydh y pryd hyny cyn oleued ar haul yna­wr: a phob seren hefyd yn rhagori mywn [Page] goleini. Wrth hyn ni bydh nos mwyach ar ol dydh y farn, fel i mae r Prophwyd yn do­ydyd: Esai. 60. Nyd aa dy haul di mwyach i lawr nag i fachlyd, ag nid aa dy leuad mwy ar gil. Nid a r haul, na r lheuad na r ser mwyach i we­ini r byd, wrth symudo a throi, ond nhwy a safant yn wastod, pob vn yn i le, lhe ir oydh­ent pen i gwnaed gyntaf. Yr haul a sai yn y dwyrein, ar lheuad yn y gorlhewin, a phob feren yn i lhe. Yna ny bydh gwahanieth yn y byd mewn amser: ni bydh son am nos, am haf, a gayaf, am wres nag oyrfel, am law ag eira, am dryseu a ỻechid, am feỻt a thra­neu: ond pob peth a fydh yn wastod, yn hy­dhychol, ag yn hyfr yd i weled. Beỻach moe­swch dhringo yn vwch, i gael gweled peth o degwch dinas Duw a dyniō yn y byd nesaf. Chwi a welwch fod y creaduried, a r holh betheu vwch ben yn rhagori mewn goleuni a glendid vwch law petheu daearol: felhy gyn fod y nef vwch law r phurfafē vwchaf, mae n rhagori mewn tegwch a goleuni, ar y phurfafen, yn cymeint, ne n fwy, nag i mae riphurfafen yn rhagori ar bob peth da­yarol mewn tegwch a goleini.

Wrth hyn rhaid ir nef fod yn lhe paradwy­saið, ag yn passio pob paradwys a thegwch, ar a aỻ dyn fedhwl am dano. Mae Ifan Ef­engylwr yn i weledigaith yn dāgos glendie [Page 52] ternes nef mewn lhawer o fodheu: Mae n dangos Fod yr holh dinas o aur pur, Apoc. 2 [...] a mur mawr vchel oi hamgylch, wedy gweithio r garreg wyrthfawr elwyd Iaspis: Roedh y mur yma wedy sylfaenu a gwneuthur [...] ro­wndwal a deudheg rhyfogeth o gerrig gwe­rthfawr: Hefyd mae yno dheudheg porth wedy gweithio a deudheg o gerrig gwerth­fawr: Pob porth o garreg gyfan: Heolydh ag ystrydoydh y dinas oedh wedy palmantu ag aur, a cherric ag a meini gwerthfawr rhw­ng pob darn o r aur: Goleuni r dinas y doedh Crist i hunan yn discleirio ag yn goleuo yr holh dinas. Crist oedh yn eistedh ynghanol y dref, ag alhā oi stedhle roedh afon o dhwr yn rhedeg cyn loywed ar grisial, i dhyfrhau r dinas. Ag ar lann y dwr, o bob tu r afon, roydh yn tyfu pren y bowyd, yn phrwytho byth yn wastod: Nid oedh dim nos yn y di­nas, nyd entriei yno dhim brynti: Ond y sawl sy yno a gaant dernasu heb drāghc heb orphen. Nyd oedh Ifan yn medhwl fod y petheu dayarol hyn yn y nef, megis i mae r geirie n dāgos, am nad oes vn maē na char­reg werthfawr, na dim dwr, na phrēn, nag aur: Ond am fod y petheu dayarol hyn me­wn pris mawr yn y byd yma, ag am nad o­es dim dayarol yw gwmpario, ag yw gyph­lybu i dernes nef, yn nes na meini a cher­rig [Page] [...] [Page 52] [...] [Page] gwerthfawr: Am hynny i cyphlybodh· dinas i waith o gerrig gwerthfawr, i ðwyr ar dhealht fod y gwaith yno yn gann teccach nag alh tafod dreuthu, na cballon fedhwl. Moeswch gael tyb ar degwch y dynas drwy gonsidrio vn oi rhinwedheu: Ag wrth yr vn rhinwedh hynny i galhwn gael amcen ar y lheiỻ. Y rhinwedh yma yw engdwr ag ehe­laethdra r dinas. Mae hi yn fwy na lhunde­in, ie na hoỻ loyger, mawr a fyð ei dhoydyd, na r hoỻ fyd: Ond gwelwch reswm naturi­ol, y peth i mae r gwyr doethion yn i adhef, ag yn i wybod cyn idhynt dhynabod Duw: Mae gwyr dyscedig doethion drwy reswm naturiol yn dangos fod pob vn or ser yn yr wybren yn fwy na r holh fyd: Ie peth sy fyw, mae rhai or ser cymeint i cwmpas, a bod yn rhannu vn o honynt yn dheg rhann a phedwar igein, fe fydhe bob rhan o honi yn fwy na r holh fyd: Mawr yw bod vn seren cymeint a hyn. Gyn fod y ser cymeīt a hyn, ai bod hefyd heb wybod o dhyn i rhifedi, a bod gyda hyny gymeint o spas, cyfrwng, ag o le gwag rhwgh pob seren ai gylydh, rhaid i r wybren ag i r phurfafen, sy n cynnwys y rhain i gyd, fod yu fawr ag yn engh, ag yn eheleth i chwmpas. Wrth hyn nyd yw r byd yma, ond bychan wrth yr wybren syd [...] vwch bē. Os ceiph lōg ar y mor wynt hwy [...] [Page 53] [...] hi alh fyned o vn pen ir byd ir lhalh me­ [...]on swrn ag amcan o dhiwrnodie: ond er [...]d y ser yn gynt ag yn gyflymach na lhew­y [...]ch a phaladr yr haul, etto ni dherfydh idh­ynt mewn ỻawer o flynydhoeð fyned o am­gylch yr wybren. Mae vn or saith blaned, er i bod yn gynt na lhewyrch yr haul, dheg mlynedh ar hugein yn myned vnwaith o amgylch yr wybren. Gwelwch faint yw hengdwr y phurfafen, ỻe i mae r ser, yr ha­ul ar lheuad: Etto rhaid i ni dhringo vwch law hyn i gyd: Yr wybren yma, lhe i mae r ser sy nesaf attom ni, mae dwy phurfafen aralh vwch ben hon, a phob vn yn vwch nai gilydh. Hyn i mae Saīt Pawl yn i ðangos, wrth dhoydyd ei fyned ef ir drydydh phurfa­fen. 2. Cor. 12 Wrth hyn roedh dwy phurfafen dann hōno ir aeth ef idhei. Belhach i gaỻwn gael tyb ag amcen o hengdwr ag helaethdra r di­nas nefol. Rhaid ir wybrē ỻe i mae r ser, fod yn aruthr o faint, gyn fod pob seren yn fwy na r holh dhayar, fel i clowsoch: Etto mae r [...]hurfafen vwch ben hōno sy n dwyn y ser, [...]n fwy na hithef: Am fod honno yn ymwis­ [...] [...]g yn cwmpassu honn oi hamgylch: Hef­ [...] mae r drydydh yn fwy nar ail, am i bod [...]theu yn cwmpasu r ail oi hamgylch. Can­ [...] mae r tair phurfafen hyn megis wy, lhe [...] mae tri pheth, yn y canol i mae r melyn­wy, [Page] o amgylch ir melyn, i mae r gwynn, o amgylch ir gwynn i mae r pliscin. Ag fal y mae r gwyn yn helaethach na r melynwy, am i fod yn myned oi amgylch, a r pliscin yn helaethach na r gwynwy, felhy i mae r ail phurfafen yn helaethach na r gyntaf, ar dry­dydh yn engach na r ail. Yn y drydydh i mae Duw a r Saint yn preswyl. Ag wrth hyn i geỻwch fefyrio helaethdra a hengdwr y din­as nefol. Hefyd i dhangos helaethdra a the­gwch ternes nef, mae gwyr o dhysc yn gw­neuthur cyphlybieth y ỻyn: Mae Duw we­di ordeino i dhyn dri lhe, Marcus. Marulus y cyntaf sy fychan a chul, ymmola i fam, yr ail sy enghach ag helaethach o lawer nar cyntaf, hwn yw r byd yma, y trydydh ỻe yw ternes nef. Yma i gael gweled helaethdra yr dīas nefol, gw­elwch fod y trydydh lhe yn rhagori r ail, cy­meint ag i mae r ail yn ragori r cyntaf. Hyn yw, yn gymeint ag i mae r holh fyd o hengdwr a maintioleth yn rhagori ar groth i fam, yn gymeint yn heleth ne n fwy i mae maintioleth a hengdwr y nefoedh yn passio ag yn rhagori ar y byd yma yn gwbl. Am nad yw r hoỻ fyd o gwmpas ond megys bla­en nydwydh, wrth helaythdra ag engdwr y nefoedh. Yma i gaỻwn gael peth tyb ag am­cen am y dinas nefol. Cāys yn gymeint ag i mae r byd yma yn rhagori croth i fam my­wn [Page 54] tegwch gleindid, hyfrydwch a meintio­leth, cymeint aralh neu fwy i mae ternas nef yn rhagori ag yn passio mewn tegwch, gleindid, hyfrydwch a maintioleth yr holh fyd yma. Hefyd yn gymeint ag i mae gwr yn y byd yma mywn cryfdwr corph, mewn glendid, synwyr, dealht, dysc, a gwybodeth yn passio plentyn yngrhoth i fam, cymeint araỻ, a mwy o lawer i mae r Saint yn y nef yn passio pob gwr yma yn yr hoỻ rinweðeu hyn. Ag megis i bydhei wrthnebys a phiaið gyn wr fyned or byd yma eilwaith i groth i fam i drigo, felhy i bydh gwrthwynebys a phiaidh gyn vn o r Saint dhyfod eilweith or nef ir byd brwnt yma. Hefyd megis i mae r naw mis yngrhoth i fam yn amser byrr wr­th oes y gwr hynaf yn y byd yma: felhy nid yw r oes hwyaf yma, ond megis vn awr wrth yr oes yn y byd nesaf, a bery byth. Gyn fod teyrnes nef mor ēg ag mor heleth, da i gwelwn ir gwyr bydol sy n ymysgwy­dho yma, heb gael lhe vn gyn y lhalh, wrth geisio dwyn tir i gilydh, da fydhei idhynt bwrgasu teyrnes nef: yno i cahant dhigon o hengwr, yno i caant fod yn frenhinoedh, pob vn o honynt yn frenhin ar holh ternes nef, ag yno i caant dernasu a rheoli yn frenhino­edh byth heb dhiwedh.

Yr ail lhysewyn, 2. Yr ail lhy­wenydh yn y nef yw cymdeithas y Saint. a aðowsom i gasclu yng­ardh [Page] y drindod, ydoedh y lhywenydh a gawn yn y nef o ran cymdeithas a chyfeilhach yr hoỻ Saint. Yn gyntaf ny ni alhwn gael ỻy­wenydh mawr o ran rhifedi r cwmpeini a r nifer yn y nef. Od awn ni i son am rhifedi r Anghylion, mae o honynt naw gradh, mae n y radh isaf i gyd fwy o Anghylion nag ys­ydh o bobl yn y byd, nag a fy ar vn waith yn fyw pen oydhent fwyaf. Am fod Duw, fel i clowsoch or blaē, wedy ordeino i bob dyn or dydh i ganed hyd angheu, vn Anghel i wai­tio arno, ag yw gadw. Ar Anghylion sy n cadw dynion, sy n y radh isaf o r naw. Wrth hyn mae n y rað isaf yn helaeth cymeint ag sy o bobl yn y byd. Ond od aw n i dhringho ar i fyny, ny ni a gawn y rhifedi yn fwy: oblegid mae mwy o lawer yn yr ail radh, nag yn yr isaf, a mwy yn y trydydh nag yn yr ail, a mwy yn y bedweryð, nag yn y try­dydh, ag felhy o radh i radh, pwy n vwchaf ir eloch, mwya fydh y rhifedi. Wrth hyn mae lhawer yn y radh vwchaf or naw. S. Thom He­fyd mae r doctorieid yn dangos fod yr Ang­hylion yn rhagori r holh betheu dayarol me­wn rhifedi, cymeint ag yw r wybren vwch ben yn rhagori r byd yma mewn hengdwr a maintioleth. Chwi a glowsoch o r blaen ra­gorieth maintioleth rhwgh yr wybren ar dhayaren, nad oeð y dhaear fwy i chwmpas [Page 55] na blaen nydwydh wrth helaethdra r ph [...] ­fafen, feỻy i gaỻwn dybied fod rhifedi r An­ghyliō yn passio rhifedi hoỻ betheu dayarol, yn gymeint a bod cān mil o Anghylion yng­hyferyd pob vn yn byd yma. Dan. 7. Mae r Proph wyd Deinial yn doydyd fod mil o filioedh o Anghylion yn gwasnaethu Duw, ie a deg cant mil o filioedh yn sefylh ger i fronn ef: Nyd yw r Prophwyd yn medhwl nad oes ōd hyn o rhyfedi o honynt, ōd am i bod nhwy alhan o rifedi dynion, mae n dangos fod mi­lioedh o honynt, i dhwyn ar dhealt i bod yn fawr anial i rhifedi. Am fod yn harfer ni hē ­wi milioedh, pen fo r petheu alhan o rifedi. Belhach medhyliwch para lywenydh a fydh gweled hyn o rifedi o Anghylion yn y nef, yno i cewch nid yn vnig wybod i rhif nhwy, ond hefyd chwi a gewch gydnabod a chym­deithas a phob vn o honynt ar i ben i hunā, ai dynabod, pob vn yn i ordor, fel pet fai ond vn anghel yn yr holh nef. Chwi a glowsoch or blaen y melystra ar pleser sydh wrth we­led vn Anghel. Nid yw tegwch yr holh fyd yma a r wybrē a chwbl, yw gyphlybu i deg­wch yr Anghel lheiaf yn y nef, mwy nag yw vn defnyn o dhwr yw gwmpario a dwr yr hoỻ for. O byð cymeint pleser a hyn we­led yr Anghel lheiaf yn y radh isaf, beth a [...]ydh weled yr Anghel teccaf yn y radh vw­chaf? [Page] O byð golwc vn Anghel yn passio hoỻ bleser y byd yma, beth a fydh y melystra wrth weled yr holh Anghylyon mywn vn fann, ag ar vn waith? Ag yma i cewch dhe­alht vn peth mawr: Chwi a elhwch dybied darpho i chwi weled vn Anghel, na bydh fa­wr rhyfedhod ganych weled y lhailh, o ran i bod yn debyg vn ir lhalh, am i bod or vn rhyfogeth, er bod vn yn deccach n a r lhalh: Ond nid yw r peth felhy: Am fod pob Ang­hel yn y nef, nid yn vnig vn yn rhagori ar y lhalh mewn tegwch, ond hefyd ymysc cym­eint o filioedh o honynt, nid oes ond vn o hō ­ynt ymhob rhyfogeth: S. Thom Yn gymeīt a bod pob Anghel yn vn rhywogeth ar i ben i hun: nid ydynt fel dynyon i gyd o vn rhyfogeth. Am hyny pyn welom vn dyn, ny bydh rhyfedhod gweled vn aralh, am ei bod o vn rhyfogeth: Ond pan ðarpho gweled vn Anghel, fe fyð cyn rhyfedhed gweled vn aralh, a phei bas­ech heb weled vn erioed. Ag feỻy y bydh ne­wydh lywenyð a rhyfedhod wrth weled pob Anghel ar i ben i hun. Y peth sy n helaethu ag yn chwanegu r pleser yn fawr. Ag er meint i rhifedi, etto maent yn cadw i hor­dor ai hurdhas, nad yw vn o honynt alhan oi le ae radh, pob vn o honynt yn molyannu a gwasanaethu Duw yn i radh ai ordor y hu­nan: Ar ordor hon sy n dwyn pleser anianol [Page 56] i olwg dyn, megis i mae n hyfryd weled gweision brenhin dayarol pawb yn waetio yn i radh ai swydh.

Belhach moeswch weled rhifedi r Saint erailh a dhoethon or byd blin yma i r nef. Mae Ifan Efanghylwr yn i weledigaith yn cyfri r dynyon Saint yn y nef, a chwedi cyfrif can mil a deugein mil, a phedeir mil, yn y diwedh ef a roys y maes i fynydh, ni alhei gyfrif mwyach, ond doydyd yn ol hyn, i fod yn gweled cymeint o rhifedi o bob nas­iwn, o bob math ar bobl, ag o bob iaith, nad oedh vn dyn abl yw cyfri nhwy. Apoc. 7. Roydhent yn sefylh garbron Duw yn i gadair, roydh­ent i gyd mewn gwiscoedh gwynyō, yn ar­wein blodeu yn i dwylo, yn canu cowydhe o foliant i Dhuw. Pei baem yn gweled teg­wch a lhywenydh vn or Saint hyn, fe fydhe hynny yn bereidhiach ag yn felyssach na r holh hyfrydwch ar pleser yny byd yma: ie fe fydhe yn gan mil mwy pleser a chynnes­rwydh weled vn or Saint na gweled teg­wch yr holh fyd. O ran bod y pleser ỻeiaf yn [...] nef, yn gan mil mwy na hoỻ degwch y ða­yaren ar wybren yn y byd yma. Wrth hyn beth a fydh y lhywenydh yn gweled tegwch pob Sant ar i ben i hunā yn yr vn fan aỻan o rifedi dyniō. Ni alhwn ond rhyfedhu wrth fedhwl am y mawr lywenydh yma, wrth [Page] gasclu r cwbl ynghyd. Yma i cawn weled y holh radheu o Saint pob Sant o vwchaf [...] vwchaf, vn o flaen y lhalh yn ol i weithred­oedh da yn y byd yma. Ag fel i mae naw gradh or Anghylion, pob vn yn rhagori ar y lhalh, felhy i mae pob Sant yn cael ei osod ymhlith yr Anghylion, ag yn cael i gyflog wrth y gwaith a r boen a gymerth yn y byd blin hyn. Yma rhaid o medhwl fod y cythre­ulieid sy n vphern, gynt yn Anghylion yn y nef. Fe gwympodh lhawer o honynt o bob vn or naw gradh, ag i gwplau rhifedi r An­ghylion a syrthiasont i vphern o bob gradh, mae r Saint yn cael dwad yn lhe r cythrei­lied, rhai i bob gradh or naw. Mae r plant bychein sy n meirw cyn dwad i synwyr a dyalh wedy cael bedydh, yn cwplau r diph­yg ymhlith yr Anghylion yn y radh isaf. Ag felhy i mae r olh Saint ereiỻ, pob vn yn i radh, yn cwplau diphyg rhifedi r Anghyli­on a gwympason or rað isaf hyd yr vwchaf, pob vn yn ol i waith ai drafel yma. Oh para lywenydh a fydh yno wrth weled pob gradh o r Saint, pawb yn i hordor. Yno i caw [...] weled yr hen dadeu a fuont cyn geni Crist, Adhaf, Noe, Abraham, Isaac, a Iacob, a milioedh o rai ereilh, pawb yn i radh ai le [...] ie ny ni a gawn i gweled, i dynabod, chwed­leua a nhwy. Mewn gradh aralh i caw [...] [Page 57] [...]eled y prophwydi a fuont yn prophwydo i [...]ei Grist, yn cael mawr lywenydh wrth weled pob peth wedi dwad yn wir, megis ir [...]ydhent yn prophwydo ag yn daroganu. Yno i cawn mewn gradh arahl weled y Postoliō yn cael mawr lywenyð wrth we­led rhifedi r nasiwnæ a droesont i phydh Grist. Yno mewn mann araỻ i cawn weled gradh y merthyrwyr yn cael tal anianol am feistroli ag ynuỻ y maes drwy ðiodhef mar­ [...]oleth a cholhi eu gwaed er mwyn i Meistr ai Harglwydh. Yno i cawn weled mywn gradh aralh filioedh o forynion yn moliannu Duw yn wastod, am roi gras idhynt yn y hyd yma i orchfygu ag i ortrechu y cnawd ae holh frynti. Mewn gradh araỻ i mae r Con­phessoried, yr Escobion, ar y Pheirieid, y [...]wyr o grefydh, a phawb o r Saīt ereiỻ we­ [...] ymladh a gorchfygu r tri gelyn, y byd, y [...]nawd, ar cythrel. Troed dyn i wyneb ir tu a fynno, fe geiph weled pob mann yn ỻawn goleūi, tegwch, hyfrydwch a melystra. Ond er bod y Saint i gyd wedy eu rhannu, rhai ymhob gradh o r naw gradh Angylion: Etto mae gradh vwch law yrhain i gyd: Am fod yr Arglwydhes Fair forwyn mewn gradh ar i phen i hunan: Canys am i bod yn fam i Dhuw, yn Frenhīes ar y nefoedh, yn ferch i r Tad or nef, mae hi mewn cadeir vwch bē ­yr [Page] holh Saint, a gradhe r Anghylyō: I cha­dair hi sy nesaf at cadair i mab. Nid yw r ỻawenydh ar hyfrydwch wrth weled yr hoỻ Saint a r Anghylion dhim wrth weled yr Arglwydhes Fair ar i phē i hun. Mae r hoỻ Angylion ar Saint yn cwympo i lawr gar i brō hi, ag yn rhoi diolch a moliant idhei, am i bod yn fam i Dhuw, ā idhi dhwyn i r byd yr had a dorrodh pen y sarph. Pan oedh yr Arglwydhes fair yn y byd yma, Dionis Carth. fe dhoeth S Denis discybl S. Paul lawer o dir i gael i gweled: Pan cynhiadodh Ifā idho gael gol­wg arnei, fe welei gymeint o degwch a go­leuni yn i hwyneb hi, ag idho gwympo ar i wyneb i lawr megis yn farw, wrth ryfedhu gweled cymeint o leindid: Pen dhoeth yn i gof ae synwyr eilwaith, fe gododh i fyny, ag a ðwad, Oni bay i fod ef drwy dhysc a phy­dh yn gwybod fod Duw aralh, fe gredassei nad oydh vn Duw ōd yr Arglwydhes Fair. Od oedh mor hyfryd yr olwg arnei yn y byd yma, can mwy melyssach a fydh i gweled yn yn y nef. Etto mae gradh aralh cyn dwad at gadair y drindod, mae dynolieth Crist, hyn yw rhān dhyn yngrhist yn gwneuthur grað ar i ben ihunan: Am fod Crist o ran i fod yn dhyn, vwch ben pob creadur, yn vwch nai fam fendigedig, ag etto o ran i fod yn dhyn, dan y drindod. Am hyny mae idho gadair ar [Page 58] [...] i hun, o ran i fod yn dhyn. Y ỻewenydh [...]ydh wrth weled corph crist a dyaỻ rinwe­ [...]eu i eneid ef, ny alh callon dyn fedhwl i feint. Mawr o r lhywenydh (fel i clowsoch) wrth weled Mair wenn, etto can mil mwy lhewēydh weled dynolieth Crist. Mae rha­gorieth rhyghthynt megis rhwgh yr heul ar lheuad. Mawr yw goleini r lheuad, can mwy yw goleūi r heul. Nid oes dim goleu­ni yn y lheuad ond odhiwrth yr haul: Felhy y tegwch ar hyfrydwch sy gyn fair, sy n dw­ad o dhiwrth i mab, nid yw i thegwch hi ōd vn defnyn or mor mawr o degwch yn i mab hi. Wrth weled y gradhe hyn vwch eyn pē ­ [...]reu, falhei i doei arnom gynfigen yn y nef a chwant i fod mewn gradh a faei vwch.

Ond na thybiwch fod y chwant ar genfi­gen hyn yn y nef: Nid oes dim chwant i gael chawneg, am fod pob vn yn lhawn lhy­wenydh heb alhu cynnwys mwy. Mae tair phiol yn ỻawn, vn o bintied, yr ail o chwart, y trydydh o alwyn: er bod mwy yn vn nag yn y lhalh, etto mae pob vn yn lhawn, os bwriwch chwaneg yn y phiol o bint, fe red drosti, am i bod yn lhawn yn barod: Felhy i mae r Sant isaf yn lhawn megis yr vw­chaf. Hefyd a fydh cynfigen gyn y tad ne r fam weled i mab yn frenhyn? maent cyn belhed odhiwrth cynfigē, ag i byð gynthynt [Page] gymeint ỻywenydh weled i mab yn frenhī, a phei baent i hunein yn y radh honno. Yr achos yw am i bod yn caru i mab cymeint: Ond mae can mwy cariad rhwng y Saint yn y nef bawb yw gilydh, nag yw cariad mam a thad yw plant yny byd yma. Wrth hyn fe fydh cymeint lhywenydh gyn bob vn o hōom weled tegwch yr Arglwydhes Fair ar holh Saint, ag a fydhei eyn lhywenydh pei bae r holh degwch hyny ynom ni ny hu­nein. Hyn a dystlaetha S. Grugor yn y gei­rieu hyn: S. Grego Mae r etifedhieth nefol yn vn i r holh gwmpeini, ag yn gwbl i bob vn o hon­ynt. Am fod pob vn o r Saint bendigedig yn cymeryd cymeint o lywenydh wrth we­led hyfrydwch yr holh Saint ereilh, fel pei baei ef i hun yn medhiannu r cwbl. Wrth hyn gyn fod rhifedi r Saīt aỻan o wybodeth dyn, feỻy i mae ỻywenydh pob vn o honynt megis heb fesur a rhifedi. Am fod pob Sant yn cael bod yn gyfrannol o degwch y cwbl, yn gymeint a pheth bynag a r a fo n ðiphyg yn vn, mae yn i gael yn i gydymeith yn gys­tal a phei baei yndho i hunā. Am hyn o byð­wch yn y nef yn y radh isaf, chwi a gewch fod mor heleth yn gyfrānol or radh vwchaf, a phei baech yno ych hunā. Yno i cewch gy, meint ỻywenydh yn gweled myrthyrwyr a phei baech yn fyrthyrwyr ych hunan. Ag [Page 59] felhy i cewch rān o bob rhinwedh dha aralh. Chwi a gewch ran o phyð y Patriarchieid, o obaith y prophwydi, o gariad y Postoliō, o saddeidhrwyð y merthyrieid, o sobreiðrwyð y Eonphessoried, o forwyndod y morynnyō, o buredh yr Angylion. A hyn i gyd am fod cariad perphaith yn y nef gyn gryfed ai fod yn gwneuthnr pob peth yn gyphredin, yn gymeint a bod cystal gyn vn weled daioni mewn vn aralh ag yndho i hunan. Yma ga­dawn yr ail lhysewyn o ardh y drindod. 3. Y trydydh lhywēydh nefol yw tegwch y corph.

Y trydydh lhysewyn yw glendid a theg­wch y corph. Ymysc amal rinwedheu, a fydh ar gyrph y rhai dewisol dhydh y farn, a byth ar ol hyny, mae r doctorieid yn dangos pedwar yn spysol: Y cynta yw goleuni cyr­ph y Saint. Mae Crist yn doydoyd i bydh cyrph y rhai cyfiō yn discleirio fel yr haul yn hernes nef. Matt. 13. Fe fydh yr haul y pryd hyny yn saith oleuach nag i mae yrowran, Esai. 30. fel i clow­soch o r blaen. Gyn fod yr haul yn awr yn abl i roi goleuni i r olh fyd, mawr a fydh i nerth pen fo saith goleuach. Mawr a fydh yn y nef goleuni vn Sant, hyn yw saith o­leuach nag yw r haul yr owran.

Wrth hyn gan fod y Saint alhan o rhifedi ag o wmbreth dyn, yn fil fil o filioedh, para oleuni a fydh (dybygwch) lhe i bo hyn yn yr vn lhe, a phob vn o honynt yn discleirio yn [Page] saith oleuach na r haul ynawr. Ag er bod pob vn o honynt, ie yn y radh isaf yn discle­irio fal yr haul: etto ni bydh gymeint oleuni ymhob vn ai gilidh, am i bydh y goleuni yn fwy, neu n lhai ar ol i gweithredoedh yn y byd yma, ai gradh yn y nef. Yn gymeint ag i geỻir dynabod para radh i bo pob vn ynði, wrth weled golein ei gorph ef. Hyn i mae S. Pawl yn i dhangos: megis (medh ef) i mae vn seren yn oleuach na r lhalh, 1. Cor. 15 felhy i bydh cyrph y rhai cyfion, vn yn oleuach na r lhalh. Wrth hyn, er i bod i gyd cyn oleu­ed ar haul, etto fe fydh rhagorieth goleuni ar ol i daioni yma, ai gradh yn y nef. Ond mawr anianol a fydh rhagorieth rhwng co­rph Crist a r Arglwydhes Fair, a chyrph y Saīt ereiỻ. Cāys er bod cyrphpawb cyn ol­eued ar haul, etto mae rhyghthynt gymeīt ragorieth a chorph Mair, wēn, ag sy rhwng goleuni seren a goleuni r haul: a chymeint rhagorieth rhwng goleuni Crist ae fam, ag sy rhwng yr haul ar ỻeuad. Para lywēydh ag hyfrydwch a fydh wrth weled cymeint oleuni yn yr vn fann. Matt. 17. Crist eyn prynwr a roes megis tamed praw or goleini hyn cyn i dhiodhefaint, ar y mynydh geirbron Ped­er, Ifan, ag Iago, yno ir oedh i wyneb ef yn discleirio fel yr haul, ai dhilhad cyn wy­nned ar eira. Pan welodh Peder yr olwg [Page 60] [...] yma ar Grist, ef a dhowad wrth Grist: Farglwydh gore i ni drigo yma, gwnawn dy yma i dario. Gwelwch fod melysdra r olwg hyn ar wyneb Crist pen rithiod a dā ­gos y goleuni, yn gymeint a bod Peder yn fodlō i dario yno yn wastod ar y mynyð oer­lhym, heb na bwyd, na diod, na dilhad, ond byw yn vnig wrth felystra r olwg hono. Mae S. Marc. 9. Marc yn dangos na wydhei Peder beth ir oedh yn i dhoydyd yn y geireu hyn wrth Grist. Yn gymeint ai fod ef megis wedi medhwi drwy fels [...]ra r olwg rin we­dhol hon. Etto nid oedh goleini Crist yn y rhithiad hyn ar y mynydh, ond megis vn defnyn or mor mawr oi oleuni yn y nef. Od oedh vn defnyn or gwin nefel hyn eyn gry­fed, ai fod yn dwyn Peder i fedhwi yn spry­dol, fal na wyðei beth ir oedh yn y dhoydyd, mawr aryth a fydh y medhded melys yn y nef wrth yfed lhywenydh o r mor mawr. Rhyfedhu a alhwn ar hyn, i dhealht nis ga­lhwn. Yr ail rhinwedh ynghyrph y rhai de­wisol yw cyflymdra, yst wythdra, a buand­er. 1. Cor. 15. Hwy a fydhant y pryd hynny yn gyrph sprydol, hyn yw ple i bynag i mynn yr en­aid fod, yno yn y mann i byð y corph mewn enhyd awr. Os ar y dhayar hyn i mynne r enaid fod, yn y man fe fydh y corph mor gy­flym, ag i bydh yno mewn mynudun awr. [Page] Os yn y nef i mynnei fod eilwaith, fe ðrīg y corph mewn troead lhaw ir nef heb boen yn y byd. Marc. 16 Felhy i bydh y corph yn ỻawn ag yn gwbl wrth orchymyn yr enaid. Roydh corph Grist wedy codi or bedh mor yscafn ag mor gyflym, ag idho orchafu ir nefoedh mewn ennyd awr. Philip. 3. Felhy i bydh eyn cyrph nine (medh S. Pawl) wedy gwcỻau i gālyn rhīwedheu corph Crist. Y trydydh rinwedh ynghyrph y Saīt, i bod yn abal i fyned drwy garreg, drwy r hayarn, neu drwy r wybrē, heb wneuthur twlh, na thorri vn o honynt. Ny bydh dim ai rwystra i fyned ỻe i myn­nont. Ioan. 20. Hyn o arwydh a gowsom ynghorph Crist, pen dhoeth at i dhyscyblion, ar drws yn gaead. Y pedwerydh rhinwedh a fydh ynghyrph y Saint, i bod cyn belhed odhi­wrth dholur a merwindod, ag nalh dim i dolurio. Ny alh dwr, na than, nag arf, na dim aralh niwed idhynt. Pei baynt y pryd hynny ynghanol y tan, ni chlowant dhim gwres, na dim annwyd pei baent ynghanol eira. Digon o nef a fydhei weled vn corph ar pedwar rhīwedh yma arno: gormod nef a fydh ei gael bod y ỻyn yn hūain. Etto ny ni a gawn weled yr holh Saint yn y modh hyn, a nineu hefyd, os bydhwn yn cadw go­rchmynion Duw ai eglywys. Beth a dhoy­dwn am lywenydh y pum synwyr, y ỻyged [Page 61] [...] gan weled oleini a glendid Crist ai Fam, [...]r holh Saint ereilh. Er bod y ỻyged yrwr­ [...]n mor weinied, ag nalhan edrych ar yr ha­ul, etto y pryd hynny nhwy a fydhant cyn gryfed, ag i galhant edrych ar Grist, er i fod yn gan goleuach na r haul, ie a gweled go­leini r holh Saint or vn waith, heb vn yn rhwystro r lhaỻ. Nyd rhaid edrych ar bob vn yn ol y lhalh, fel yn y byd yma: Ond ar vn olwg ny ni gawn weled pob lhywenydh ag hyfrydwch. Y clustie agaan glowed y fath gerdh a music gyn y Saint yn moliannu Duw, yn passio holh fusic a cherdh yn y byd yma, yn gan mwy nag i mae cerdhorion yr holh fyd yn ragori hwch yn gryngian. Am y roglau, sawyr, a gwynt teg i r phroyne, nid yw r hoỻ rogleu teg yn y byd yma wedy casclu ynghyd, ond brynti wrth y gwynt ar sawyr afyð yny nef. Ag er nabo rhaid dhim bwyd a diod yn y nef, am na bydh yno ofni enwyn na syched, etto rhag bod y geneu heh i felystra, S. Thom fe fydh yn wastod o fewn y gene y fath wlith melysber, ag i bydh yr hoỻ fwyd­ydh melys yma yn chwerwon wrth y blas a fydh yn y nef. Ag i gael o honoch weled peth amcen ar y lhywenydh yn y nef o rann golwg, clowed, a sawyr, mi a dhangosa sa mpal o vn o honynt, hyn a fydh or clistie. R ydoedh gynt wr da mewn crefydh yn de­isyf [Page] ar Dhuw yn i wedhi (megis ir oedh yn hyf ag yn ewn arno) ar gael megis vn tamed praw o lywenydh y nef, yn y byd yma, fel i gaỻei fod yn weỻ i wylhys i was­naethu Duw. Ar foregwaith teg fe aeth alhan o r fynachlog i fewn coed oydh yno yn agos, fe glowei yderyn yn canu n beraidh ymrig pren: fe nessodh yn nes ag aeth dan y pren. Yno i bu yn gwrando dhwy awr ne dair yn i dyb i hunan. Wedy hyn fe aeth ad­ref: erbyn i ðwad i mewn, nid oedh ef yn dy­nabod vn, nag vn yn i dhynabod ynte. Rhy­fedh oedh hyn. Erbyn edrych y lhyfre, nid oedh dim rhyfedhod, cael a wnaethont wrth henw r Abad, a dhangossodh ef idhyn, i fod ef lawer o flynydhoedh yn eisie, (trychant a deigein o flynydhoedh i bu ef yn gwarando r yderyn yn canu) nid oedh nar Abad nag vn or manachied, yn fyw ar oedh yn i amser ef: er i fod ef yn tybied na biasse alhan bassio dwy awr ne dair. Yna i medhyliodh mae Angel oedh yr yderyn yn canu n y pren. Wrth hyn i mefyriodh, od oedh caniad vn Angel mor felys a pheri idho dybied yr am­ser mor fyrr, a bod ỻawer o flynydhoedh me­gis awr neu dhwy, a pheri idho oỻwng dros gof newyn a syched, ag annwyd drwy fod megis yn fedhw o ran melysdra cerdh vn Angel, para hyfrydwch a melystra wrth [Page 62] hyn a fydh yn y nef wrth glowed, nid caniad [...]n Angel, ond mil filioedh o Saint ag An­gylion yn canu n wastod.

Y pedwerydh pwnghc, 4. Y pedwe­rydh lhywe nydh nefol ar ỻysewyn teccaf yn yr hoỻ ardh yw ỻywenydh yr enaid, drwy gael gweled Duw wyneb yn wyneb. Nid oedh y cwbl, a dhāgosais o lywenydh or bla­en, er i fod yn fawr aryth, etto nid oedh dim wrth hyn fy n calyn. Nid oedh y cwbl or blaen ond megis y pliscin, ar cynhwylhingh sy n calyn. Y parion aeth or blaen, dyma r afal belhach yn ymdhangos. Gweled Duw yw gwreidhin, sylfaen, a growndwal lhy­wenydh ternes nef. Hyn yw, cael or enaid weled Duwnolieth Crist, hyn yw rhā Dh­uw ynghrist, ag wrth hyny gweled y drīdod fendigedig, y tad, ar mab, ar ysprydglan, vn Duw tri pherson. S. Aug. Hwn yn vnig yw r ỻy­wenydh a r daioni pennaf, medh S. Awstin. Hyn i mae Crist yn i dhāgos wrth dhoydyd y lhynn: Dyma r bowyd tragwdhol, Ioan. 17. cael o dhyniō dhynabod y gwir dhuw a Iesu Grist. Felhy mae S. 1. Cor. 13. Pawl yn gosod yr happusr­wydh ar daioni pēnaf yn hyn: i weled Duw wyneb yn wyneb. Ag Ifan yn doydyd i ca­wn weled Duw megis ag i mae yndho i hūā. A chyn fod hon yn saig bennaf ar felysaf yn y nef, rhaid o cymeryd peth poen i dhangos megis vn tamed a gronyn or melystra ma­wr [Page] hyn, i yrru arnoch flys y saig. Ag am fod y matter cuwch a chyn dhyfned, ag mor beỻ odhiwrth dhealht dynion, a n synwyr nin­neu mor wann, ag mor dhiphrwyth: rhaid i ni wneuthur yscol yn y mann hyn i dhringo odhiwrth y creaduried at y Creadwr, i dhrī ­gho odhiwrth y gwaith at y gweithwr, oði­wrth bethe bydol at Dhuw, oðiwrth y peth ir ydym yn i weled at y peth nid ydym yn i weled. Belhach i fyned ynghylch gwneu­thur yr yscol i ðringo nesaf i gaỻom at dhuw yn y byd yma: Gwybydhwch fod tegwch, glēdid, a daiōi pob peth ar a wnaeth Duw, yn gān mil teccach, a glanach yndho ef, nag yn ei greaduried. Canys ny aỻ vn roi y peth nid oes gyntho: Am hyny gyn fod Duw yn rhoi tegwch, glendid, a daioni i bob peth, rhaid idho ef fod yn deg, yn lan, yn dhaionus: Ie rhaid i r rhinwedhau hyn fod yn gan mil gwelh yndho ef, nag yn ei greaduried. Am nad yw holh degwch y creaduried yma, ag yn y nef: ond megis vn defnyn or mor ma­wr o degwch, ar sy mewn Duw: Fel i gw­elwch fod y lheuad, ar holh ser yn cael eu cwbl oleuni odhiwrth yr haul: Wrth hyn rhaid ir haul fod yn oleu anial. Felhy gyn fod pob peth dayarol a nefol yn cael ei deg­wch ai dhaioni gyn Dhuw, rhaid idho ef fod yn deg ag yn dhaionus heb rhif a mesur. [Page 63] Wrth hyn edrychwch ar degwch blode r dhayar, ar degwch cerric gwyrthfawr, ar bureð aur, ag ariā, ar loywder dwr y phyn­honne, ar beraidh leisie r adar yn canu, ar hyfrydwch phrwyth coydydh a meysyð, mae r tegwch, y gleindid, ar hyfrydwch hyn i gyd yn Nuw, nid yn yr vn modh, ag i mae yn i greaduried, ond yn gan mil gweỻ. Psal. 49. Mae tegwch y maes (medh ef) gidamfi: ydiw yn gan teccach nag ar y maes. Yn yr vn modh nid oes perpheidhr wyð yn y byd mewn dyn nag anifel, nad yw yn gan gwelh yn Nuw. Am hyny mae Duw yn gweled, yn clyw­ed, yn dealht pob peth yn gan mil gwelh na dyn, na dim aralh. Mae fe yn gweled heb lyged, yn glowed heb glustie, yn doydyd heb dafod, yn dealht heh resymu. Psal. 93. Onid yw r sa­wl a wnaeth lhygad, yn gweled? yr hwn a wnaeth clust, yn clowed? medh y Prophw­yd yn ei loswyr. Hyn hefyd sy raid i gopha megis i mae gradheu o r Angyliō yn y nef, felhy i mae gradheu o greadurieid Duw yn y byd yma, a phob vn o honynt yn rhagori ar y lhalh mewn perpheidhrwydh. Ag i mae Aristoteles ar Philosophydhieid ereilh yn dangos fod pob rhyfogeth yn y byd yn rha­gori vn ar y lhaỻ, megis i mae vn rhifedi yn rhagori vn ar y lhalh, felhy i gwelwch vn, dau, tri, pedwar. Merciwch y rhagorieth y [Page] lhynn, cymeint ag sy mewn vn, mae hyny yn heleth mewn dau, ag ū mwy: Feỻy y cy­meint y sy mewn dau, mae hyny mewn tri, ag vn chwaeg: Y cymeint sy mewn tri, m [...] hyny mewn pedwar yn gwbl, a pheth chw­aneg. Felhy pei baech yn cyfri o vn hyd fil filioeð, chwi a gewch yn wastod pob rhifedi yn cynnwys y cwbl yn hwnnw a fo oi flaē ef, ag yn cynnwys vn mwy na r swmm sy dano. Yn yr vn modh i geỻwch weled rhag­orieth perpheidhrwyð mewn petheu bydol. Ni a gymerwn yn sampal pedwar o gread­uried Duw ar y dhayar, carreg, pren, ani­fel, a dyn: Os merciwch y pedwar hyn, chwi a gewch eu gweled yn rhagori vn ar y lhalh, megis y rhifedi or blaen.

Y cyntaf yw r garreg, nid oes yndhi nag en­aid nag anadl, ond i bod yn vnig yn beth cor­phorol: Mae hyn i gyd o berpheidhrwyð yn y pren, am i fod yn beth corphorol, fel y gar­reg, a mwy na hyn, mae bywolieth a sug yn y pren i beri idho dyfu, y peth nid oes yny garreg: am nad yw vn yn plannu cerrig i dyfu. Felhy i mae anifel y trydydh peth yn rhagori ar y pren: Am i fod ef yn cynhwys holh berpheidhrwydh y garreg ar pren, a gradh chwaneg, am fod y nifel yn beth corphorol megis y garreg, mae fe hefyd yn ty­fu o beth bychan i fod yn fawr, megis y pr [...] [Page 64] ond heb law hyn i gyd mae r nifel yn gwel­ed, yn clywed, ag yn cerdhed, yr hwn ber­pheidhrwyð nid yw mewn carreg, na phrē. Etto mae r pedwerydh peth, h wn yw dyn, yn rhagori ar y cwbl: Mae fe yn cynnwys yndho yr holh berpheidhrwydh, a glowsoch, a pherpheidhrwydh aralh idho i hun: Can­ys mae fe yn gorphorol gyd ar garreg, mae ef yn tyfu gyd ar pren, mae ef yn gweled, yn clowed, yn cerdhed gydar nifel, ag heb law hyn i gyd, mae gyntho synwyr, rhes­wm, ag wylhys rydh ar i ben i hunan: Yr hwn berpheidhrwydh nid yw yn y lheilh. Am hyn i geilw r scrythur lan, dyn yn bob creadur, fel i dwad Crist wrth y Postolion: Pregethwch yr Efenghil i bob creadur. Marc. 16 Os pregethir i bob creadur, rhaid o bregethu ir cerrig, ir prennie, ag ir anifeilieid. Wrth hyn rhaid o deaỻt dān enw pob creadur dyn yn vnig: Ai henw sy felhy, am i fod yn gyf­rannol o berpheidhrwydh pob creadur, yn gorph gyd ar cerrig, yn tyfu gyd ar prennie, yn gweled gyd ar nifeiled. Am hyn i gelw­ir dyn y byd bychan, am fod yndho ef berph­eidhrwydh pob peth bydol. Chwi a glows­och or blaen fod perpheidhrwydh pob peth bydol yn gan mil gweỻ ag yn berpheidhiach yn Nuw nag mewn petheu daearol. Wrth hyn nid oes na maintioleth, na chryfowr na [Page] nerth, na thegwch, na glendid, nag hyfryd­wch ar y dhayar, nid yw mywn modh araỻ, ag yn gan mil gwelh yn y Drindod. nag yn y petheu dayarol. Ni chowson etto ond vn phō ne werthyd i r yscol i ðringo at Dhuw. Yr ail phon wirthyd yw r wybren vwch bē, lhe mae r haul, y lheuad, ar ser: mae r pethe hyn vwch bēn yn rhagori lhawer ar betheu dayarol mewn maintioleth, tegwch, hyfry­dwch, a goleini, fel i clowsoch or blaen: etto nid oes dim perpheidhrwydh mewn modh yn y byd, nad ydyw yn gan mil gweỻ modh yn y Drindod, nag ydiw yr holh phurfafen ai phurthenasseu. Dyma r ail phonn neu werthyd i r yscol i dhringho at Dhnw. Nid yw hyn i gyd ond pethe corphorol. Beỻach moeswch weled creaduried sprydol, sef yr Angylion. Mae r Angel lheiaf yn y nef yn rhagori mewn perpheidhrwydh, hoỻ bethe corphorol fil filioedh o radheu: Am nad oes dim perpheidhrwyð dayarol, nag yn y phur­fafen, nad ydyw mywn modh gwelh yn yr Angel, heb law i berpheidhrwydh yn i na­turieth ai rhyfogeth i hunan, yr hwn sy yn passio pob deaỻt. Dyma r trydydh phō wer­thyd ir yscol i dhrīgo i gael gweled y Drin­dod, y drydydh phon ne werthyd yw r Ang­el isaf yn y nef. Ag fel i mae pob perpheidh­rwydh corphorol yn yr Angel hyn, heb lab [Page 65] i naturieth i hunan, felhy mae yn y Drin­dod, nid yn vnig perpheidrwyð corphorol yn gwbl, ond hefyd yr hoỻ berpheidhrwydh yn yr Angel hyn, yn gan mil modh gwelh nag yn yr Angel yma. Belhach i gael gweled y bedwerydh phon werthyd, rhaid yw copha peth a glowsoch or blaen, hyn yw megis i mae r phurfafē yn passio hoỻ betheu dayaro­ol mewn hengdwr a maintioleth fil filioedh o radheu, felhy i mae r Angylion yn passio pob peth corphorol mewn rhifedi, mil fili­oedh o raðeu. Chwi a glowsoch fod Deinial Brophwyd yn cyfri ỻawer o Angylion, er nad oeð bossibyl iðo henwi r cwbl: Etto mae n doydyd fod mil o filioedh o honynt yn gwasnaethu Duw, Dan. 7. a deg cant mil yn sefylh gar i fron ef. Mae Iob santeiðiol yn dangos nad oes wmbredh na rhifedi ar filwyr Duw. Iob. 25. Hefyd rhaid yw copha, fel i clowsoch or bla­en, nad oes vn Angel o vn rhyfogeth ar ỻaỻ: Canys er bod mil filioeð o honynt, etto nid oes ond vn ymhob rhyfogeth, o honynt. Nyd ydynt fal dynion, mae hoỻ ðynion y byd o vn rhywogaeth, a hyny sy n peri fod dynion yn debyg yw gilyð, heb fawr rhagorieth rhyng­thynt: Am i bod o vn rhyfogeth: S. Tho. ond y mysc milioeð o Angylion ni chewch vn yn debyc­cach ir ỻaỻ o ran rhyfogeth, nag yw dyn yn debig i nifel: Yn gymeint a phen ðarpho [Page] gweled vn Angel, fe fyð cymeint rhyfeðod gweled vn araỻ, a phei basei heb weled vn yrioed. Hefyd fal i clowsoch fod rhagorieth mewn perpheiðrwyð rhwng carreg, pren, nifel, a dyn, o ran bod perpheiðrwyð y cyn­ta yn yr ail, a chwaneg, a pherpheiðrwyð yr ail yn y trydyð a chwaneg, ag feỻy am y pe­dweryð: yn yr vn moð i mae perpheiðrwyð yr Angylion yn rhagori vn ar y ỻaỻ. Fel i clowsoch fod pob perpheiðrwydh corphorol yn yr Angel isaf, heb law i berpheiðrwyð i hunan: Feỻy i mae r ail Angel yn y nef yn cynnwys hoỻ berpheiðrwyð yr Angel cyn­ta, ai berpheiðrwyð i hunan heb law hyny. Yr ail Angel hyn yw r pedweryð phō wer­thyd ir yscol: Y werthyd nesaf yw r trydyð Angel, yr hwn sy n cynnwys hoỻ berpheið­rwydh yr ail Angel, ai berpheiðrwyð i hu­nan, o rann i fod o ryfogeth araỻ. Y pedwe­ryð Angel yw gwerthyd aralh, hwn sy n cynhwys yr holh berpheiðrwydh ar sy n y trydyð ai berpheiðrwyð i hnnan hefyd.

Nid oes perchen tafod alh henwi pasawl gwerthyd sy n yr yscol hyn i ðringho hyd at y Drindod. Mae cymeint o werthydoeð yr yscol hyn, ag sy o Angylion yn y nef: am fod pob vn yn vwch nai gilyð, a r vwchaf fyð o vn i vn yn cynnwys hoỻ berpheiðrwydh y cwbl sy dano, heb law i berpheiðrwyð ehu­nan. [Page 66] Hyd yni dheloch yn y diwedh dros fil filioeð o werthydoeð hyd at y werthyd vw­chaf, sef yr Angel teccaf yn y nef. Ymhlith grað Seraphinieid yn yr Angel vwchaf i gyd i mae tegwch a phyrpheiðrwyð yr hoỻ fil filioeð o Angylion dano fe, am fod y cwbl is i law ef, heb gyfri perpheiðrwyð mawr anianol yndho ef i hunan, o ran i ryfogeth. Rhaid ir Angel hyn fod mor deg ag mor berphaith, fel naỻ tafod i drauthu na challō i feðwl. Dyma ðangos i chwi r phorð i ðrī ­go hyd at Dhuw, i gael gweled i degwch ef. Yma ny wnaethom ond dangos y phorð i ðrngo, ny wnaethom ond neitio dros y gw­erthydoeð hyd at yr vwchaf i gyd: Belhach moeswch dreiglo hyn i gyd i n pwrpas ni: Mae tegwch a pherpheiðrwyð holh betheu corphorol, ag ysprydol or Angel isaf hyd yr Angel vwchaf, yn y Drindod fendigedig. A hynny yn gan mil gweỻ moð, nag yn yr hoỻ greadurieid, heb law i berpheiðrwyð i hūā: Yr hwn sy n passio pob deaỻt a synnwyr. Er meīt y tegwch ar perpheiðrwyð sy n yr hoỻ greaduried yn gorphorol, ag yn sprydol hyd yr Angel vwcha: Etto nid yw hyn i gyd, ond megis vn defnyn or mor mawr, o berpheið­rwyð sy n y Drindod. Yn gymeint a phen ðarpho i ni weled hoỻ berpheiðrwyð yr An­gylion yn y Drindod, ny chowson ond vn [Page] defnyn or mor mawr sy ynðo ef. Etto ni a gawn weled a deaỻt i berpheiðrwyð ef yn­ðo ehunan, heb law gweled perpheiðrwyð i greadurieid ef, heb law y defnyn o berph­eiðrwyð y Saint. Ni a gawn yfed yn gwa­la or mor mawr oi berpheiðrwyð ef. Ni aỻ­wn gyphlybu r olwg hyn i vn a fai n edrych mewn drych: Tri pheth a geiph dyn weled wrth y drych, fe wyl y drych, fei gwyl i hu­nan yn y drych, ag a geiph weled yn y drych bob peth ar a fo garbrō y drych. Duw a fyð eyn drych ni yn y nef: Yn gynta ni a gawn i weled ef yn ðrych yn discleirio, ynðo ef i cawn weled yr hoỻ greadurieid ereiỻ yn spry­dol, ag yn gorphorol, yn gā deccach nag yd­ynt yndhyn i hūain. Yno hefyd i cawn wel­ed eyn tegwch ny hunain. Wrth i weled ef i cawn ðeaỻt pob peth, am fod pob gwybod­eth ynðo ef, ynðo ef i gorphwysa chwant, ag wỻys dyn, am nad oes daioni or tu aỻan iðo ef, i beri blys ar ðyn. Yma ny byð rhaid wrth phyð, sy n credu Duw heb i weled, am eyn bod yr owran yn i weled wyneb yn wyneb. Yma ny byð rhaid wrth obaith, am eyn bod mewn meðiant o Dhuw: Yma hef­yd i ceiph cariad perphaith i pherpheiðio yn gan gweỻ nag oeð yn y byd yma. Yn yr ol­wg yma i cawn pob digonoldeb. Psal. 16. Mi a fydha lawn (með y ỻaswyrwr) pen ymdhangosso [Page 67] dy ogoniant di. Mae r Prophwyd yn dāgos y lhywenydh hyn mewn mann araỻ y lhyn: Psal. 35. Nhwy a gan fedhwi drwy phrwythlondeb dy Dy di. Nhwy a gan yfed o afon dy felyst ra di, am fod phynon y bowyd gydath di, ag yn dy oleuni di cawn weled goleuni. Wrth y meddoð hyn ag yfed or afō i mae n meðwl faītioleth yr melystra ar lywenyð yn y nef. Ny alh dyn fod yn vwch i radh na hyn, cael gweled, deaỻt, caru, a meðiānu Duw byth yn dragwðol: Dyma fowyd yr Angylion yn y nef. Nyd oes i r Angel pennaf ðim chwa­neg, ond cael meðyant ar Dhuw: Ny aỻ vn fyned beỻach hyn: Dyma ni yn cael bod ar yr vn ford, ag yn yr vn saig ar Angylion. Ie, peth sy fwy, rydym yn cael eisteð ar ford y brenhin, a rhoi n ỻaw yn yr vn ðescil gyd ag ef. Am fod yr hoỻ wyr o ðysc yn dangos fod perpheiðrwyð a ỻywenyð Duw yn vnig ag yn gwbl yn sefyỻ yn hyn, sef drwy fod yn ed­rych ar i degwch i hunan: Ag wrth weled i degwch i hunan, yn caru r tegwch hyny aỻan o fesur. Feỻy rydym inneu yn y nef yn cael gweled a deaỻ daioni Duw, ag yn i garu ef wrth weled i degwch. Dyma r rhagorieth yn vnig: Mae fe yn gweled i hoỻ berpheið­rwyð, er i fod heb fesur: nid ydym ni yn gw­eled ond wrth fesur, cymeint ag a fo possibl i greadur o ðyn weled: etto ar ol yn grað ni, [Page] rydym yn gyfrānol or vn ỻywenyð, ag i mae Duw yn i gael. Mae n dwylo ni yn yr vn ðescil gyd a Duw: rydym yn bwytta yr vn fath fwyd ag ynteu. Wrth hyn rydym ni nyd yn ðyniō, ond megis yn Dhuwieu: Hyn yw yn debig iawn i Dhuw i hunan. Hyn i mae Ifan yn i ðangos y ỻyn: [...] Ioan. 3. Fy mechcin rydym yrwran yn blant i Dhuw, ni chaed gweled etto beth a fydhwn ni, ond ni a wdhom pen ymdhangoso ef, i cawn fod yn debig idhof. Yn ol hyn mae n dangos yr achos pam i by­ðwn yn debig i Dhuw, am i cawn i weled ef yn i rith i hunan. 1 Ioan. 3. Wrth hyn dyma waith a ỻywenyð Duw yn y nef, i weled i hunan. A hyn sy n eyn gwneuthur nineu yno yn de­big i Dhuw. Yma nyd ydym ond plant iðo, yno ni a fyðwn megis yn Dhuwie, ni aỻwn fyth fyned yn vwch: Na cheisiwn weỻ bw­yd, nag i mae Duw i hunan yn i fwytta. Yn y ðescil yma i mae hoỻ felystra, lhywenyð, ag hyfrydwch ar aỻ dyn ðyfeisio. Nyd yw r wleð yn y nef yn debig ir gwleðoedh bydol yn y byd yma. Mewn gwleð neu ginio rha­id yw eisteð awr neu ðwy cyn cael y cwbl o r bwyd melys, am bob saig a ðel ir ford, mae blas a melystra newyð yn cālyn pob descil: a hyny sy n peri i rai brofi amal fwydyð, am nad yw vn bwyd vn flas a bwyd o rhyfogeth araỻ. Ag er dayed a fo blas y dhescil gynta, [Page] pen del yrail descil, mae melystra r gynta wedy darfod. A phen ðel y drydyð, mae blas yr ail wedi passio. Pechod wrth hyn na bai vn descil morwerthfawr, a bod blas a me­lystra pob math ar fwyd yn yr vn ðescil hō ­no. Pe [...] bay yr fath ðescil a hon, ni byðei ra­id wrth yr vn ond hon. Hefyd pob tamed or ðescil yma a fyðe yn dwyn blas pob math ar fwyd ar eneu dyn. Dyma r fath ðescil sy n y nef ar ford y drindod. Nyd rhaid yno aros awr na dwy cyn cael profi r hoỻ fwyd. He­fyd nid yw r pleser yno mewn ordor, vn yn canlyn y ỻaỻ: vn yn myned, ar ỻaỻ yn dwad, megis mewn gwleð fydol. Ond mae dyn yno bob mynudun awr yn cael cwbl lywe­nyð a melystra, a hyny yn wastod, y cwbl yn aros heb vn yn passio. Vn tamed yno sy n cynnwys pob melysdra, a r vn tamed hw­nw ni ðerfyð byth. Nyd rhaid newidio dim o hono, fel i mae rheid mewn gwleð fydol. I wneuthur pen ar hyn o beth yn fyrr, chwi a glowsoch yn y pyghcieu ereiỻ, fod lhywe­nyð mawr wrth weled tegwch y nefoedh, wrth weled tegwch yr hoỻ Saint, yr Angy­lion, Mair wēn, ai mab, ie ny aỻ callō feð­wl faint y lhywenyd yn gweled hyn i gyd. Etto, fel i clywsoch, nid yw hyn ðim wrth weled Duw wyneb yn wyneb. Mae cyme­int rhagorieth rhwgh y naiỻ ar lhaỻ, ag sydh [Page] [...] [Page] [...] [Page] rhwng y Creawdr ai greaduried, rhwng Duw a dyn. Am nad oyðem yn y petheu er­eilh yn gweled ond gwaith a chreaduried Duw, ōd yma i cawn weled Duw yn [...]ried ai naturieth i hunan. Rhaid oedh bod yn hir yn agoryd matter cyn dhyfned, a chyn beỻed oðiwrth ðealt dyn, ag ydoeð y matter yma: Gyn fod hwn yn deccaf ỻysewyn yng­arð y drindod, yn felysa saig ar ford yr Ar­glwyð, yn wreiðin, yn sylfaen, ag yn row­ndwal ir hoỻ ðaiōi, ỻywenyd ag hyfrydwch yn y nef.

5. Y pumed pwngc yn ghylch y nef.Y pumed pwngc ar diwaetha ynghylch y nef ydoeð, i cawn fod yno yn gyfrannol o bob daioni byth yn dragwðol. Ni aỻwn yma ðo­ydyd mwy, nag a glowsoch or blaen: etto i wneuthur pen ar y cwbl, mi a ðangosa yn fyrr bedwar ar ðeg o rinweðeu, sy n perth­yn ir nef, a chymeint araỻ yn y gwrthwyneb yn perthyn i vphern.

S. Ansel. Sant Anselmus escob Caint fyn scrifennu yn i cylch. Ni wna ōd i hēwi yn fyrraf i ga­ỻwy. Saith o honynt sy n perthyn ir corph, a saith ir enaid. Rhinweðe r corph cadwe­dig yw r rhain: Tegwch, cyflymdra, cryf­dwr, rhydhid, iechyd, pleser, hir fuchedh. Tegwch y corph chwi ai clowsoch or blaen, i bydh pob corph yn discleirio fel yr haul, ar haul a fydh saith oleuach nag yw yrwran.

[...]
[...]

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.