Yny lhyvyr hwnn y traethir.

  • Gwyðor kymraeg.
  • Kalandyr.
  • Y gredo, ney vynkeu yr ffyð gatholig.
  • Y pader, ney weði yr arglwyð.
  • Y deng air deðyf.
  • Saith Kinweð yr egglwys.
  • Y kampey arveradwy ar Gwyðieu gochlad­wy ae keingeu.

M.D.XLVI.

Ianuarius. Mis Ionawr. y sy o.xxxi. o ðyðieu.

xix H Duw calan.
viii b  
  c  
xvi d  
v e  
  f Gwyl ystwylh.
xiii g  
ii H  
  b  
x c  
  d Yr haul yn y dyfwr.
xviii e Gwyl Lwcharn.
vii f Gwyl Elen ac erviu. Gwyl hilari.
  g Kalan chwefrawr.
xv H  
iiii b  
  c  
xii d  
i e  
  f  
ix g  
  H S. Vinsent.
xvii b  
b c  
  d Gwyl bawl. pan droes yr iawn.
xiiii e  
iii f  
  g  
vi H  
xix b  
  c Gwyl ewryd sanct.

YN y mis ymma torr dy goed defnyð ag ny holhtan. Diwreiða y koedach ar dyryssi oth wairglod ag ny thyuan eilwaith. A gwna hynn yn enwedig o ðyuewn pedwar nywarnod y ðiwed y lheyad. Pal dy arð a theila h [...] a thomm, symyd dy wenyn. Dinoetha wreiðeu dy goed ffrwyth, yn enwedig or rhai y vo hen ac heb ðwyn ffrwyth. Gwna ðefnyðyon dy aradyr. vrynara dy dir y wenith ath ryg, torr dy wndwn y geyrch val y bo meðal.

Februarius. Mis chwefrawr.

viii d Gwyl sainffred. Meuilia.
  e G. vair y kannwylheu.
xvi f G. Blas verthyr.
v g  
  H G. Agath.
xiii b G. Giwa.
ii c G. Deilaw.
  d  
x e  
  f Yr haul yn y pysc.
xviii g  
vii H  
  b G. Dyssor.
xv c G. Walentin
iiii d  
  e  
xii f  
[...] g  
  H  
ix b  
  c  
xvii d  
vi e Mevilla
  f G. Mathias.
xiiii g  
iii H. Dyvaeloc.
  b  
xi c  

Y Mis hwnn tynn y mwsswng o ðyar dy goed ffrwyth torr y keingyey dyfyrlhyd, dod goed byw, a choed rhos ar vath hynny, scathra a phlyg dy berth yn ni­weð y lheuad, dod gyffion koed ievaink a cheingien, a chlwmmey yn y lhawnlhoer. Arð dy wndwn. a haya dy ffa ath bys, ath geyrch mewn tir sych yn y newyð loer. mewn tir gwlyb wedy yr lhawn lhoer ney o vewn pedwar niwar nod y nailh ae kynt ae gwedy.

Marcius. Mis mawrth.

xix d G. ðewi Escob.
  e g. Shad escob.
  f  
xvi g  
v H  
  b  
xiii c  
ix d  
  e  
x f  
  g  
xviii H g. Gregori escob. Yr haul yn y maharen, yr am-Ser y mae gogylywcn nos a dyð.
vii b  
  c  
xv d  
iiii e  
  f G. Badric.
xii g G. Edward verthyr.
[...] H g. Gynbryd.
  b g. Sainct gudbert.
ix c g. sainct benet.
  d  
xvii e  
vi f Mevilia.
  g G. va [...]t y gyhydeð.
xiiii H  
iii b  
  c  
xi d  
  e  
xix f  

Y Mis fuawrth haya. ffa, bys a cheyrch yn echreu ye mis. Impa a phlanna goed ffrwyth, ac yn enwedig yn niweð y mis, dod Sitruls gwrds a Saeds, kyðia wreiðieu y koed y ðinoethest or vlaen a thomm a phrið ne­wyð. hevyd arð dy dirbarlis, a dwg dom yr maes yn en­wedic yn niweð y lheuad ac ny sycha ymmaith.

Aprilis: Mis Ebrilh.o.xxx.

viii g  
xvi H  
v b  
  c G. Ambros.
xiii d G. Dervel.
ii e  
  f G. Lywelyn.
x y  
  H  
xviii b  
vii c Yr haul yn y tarw.
  d  
xv e  
iiii f  
  g  
xii H  
i b  
  c  
ix d  
  e  
xvii f  
vi g  
  H G. Siorys.
xiiii v  
iii c G. Vach.
  d  
xi e  
  f  
xix g  
viii H  

Y Mis hwun haya dy halð mewn tir kryf, haya dy gw­arch a lhin a rhann o had garðeu val wniwn, kennin, persli, ar vath hynny.

Maius: Mis Mai. xxxi.

  b G. Philip a Iago.
xvi c  
v d Gwyl y groc.
  e  
xiii f  
ii g g. ievau yn elow
  H  
x b  
  c  
xviii d  
vii e  
  f g. vael a sulien.
xv g Yr haul yn y gevylhon.
iiii H  
  b  
xii c  
i d  
  e  
ix f g. saint Dunstan.
  g  
xvii H  
vi b g. Golhen.
  c  
xiiii d  
iii e g. saint Denis.
  f g. saint Awain.
xi g g. saint Byd. g. velangelh.
  H  
xix b g. Erbin.
viii c  
xvi d  

MIs Mai haya dy haið yn echreu yr mis, a had kēnin wyuwn, pwrslau, Coliander ar vath hynny. Arð yr ar kyntaf oth dir er gwenith a rhyg.

Iunius. Mis mehenin. xxx.

v e g. degla.
  f  
xiii g g. Goven.
  H  
  b g. Bonifas escob.
x c  
  d  
xviii e  
vii f  
  g  
xv H g. Barnabas ebostol.
iiii b  
  c  
xii d Yr haul yn y Cran [...].
i e  
  f g. Giric.
ix g  
  H  
xvii b g. sainct lednerth.
vi c  
  d  
xiiii e g. Wenvrewi. g. Alban verthyr.
iii f Mevilia.
  g g. Ievan vedydiwc, pan aned.
xi H  
  b  
xix c  
viii d Mevilia.
  e G. Beder a phaul ebostolion.
xvi f  

Y Mis hwnn dwg domm a thail yth wenithdir ac yth rhygdir, dwg dy goed adref dod gennin yn niweð y mis, a haya had lhysseu tener, i had weir ac weir glo­dyð y vo mewn tier issel gerlhaw dyfwr.

Iulius. Mis Gorffenna.

v g  
  H g. Vair ac Elisabeth.
xiii b g.beblic.
ii c g. martin escob.
  d  
x e  
  f  
xviii g  
vii H  
  b  
xv c  
iiii d g. ðoewan.
  e g. Armon.
xii f g. Elyw a chynlhaw.
i g Yr haul yn y lhew.
  H  
ix b  
  c  
xvii d  
vi e g. sainct margaret.
  f  
xiiii g g. Vair vablen.
iii H  
  b Mevilia.
xi c g. Iago ebostol
  d g. Anna vam vair.
xix e  
viii f  
xvi g  
v H  
  b g. Armon yn ial.

Y Mis hyn lhað weir yn y gweirglodyð ychel a thann vwya oth weirdir er mwyn y tywyð teg y sy debig y vod yr amser hwnn Ar ynghylch diweð y mis meda tann oth lavyr k [...]wnn.

Augustus. Mis Awst. xxxi.

xiii c g. beder ebostol.
ii d  
  e  
x f  
  g g. Oswalht vrenhin.
xviii. H g. Iessu.  
vii b g. enw yr Iessu.
  c  
xv d  
iiii e g. Laurens verthyr:
  f  
xii g  
i H  
  b Meuilia.
ix c g. [...]air drychavael. Yr haul yn y vorwyn.
  d  
xvii e  
vi f  
  g  
xiiii H  
iii b  
  c  
xi d Mevilia.
xix e g. Bartholomew mehou [...].
  f  
viii g  
xvi H  
  b g. saint Awstin escob.
v c g. Ievan eddiga.
  d  
xiii e  

Y Mis hwun, meda dy ryg ath wenith a dwg yth esky­bor, ac ynghylch diweð y mis meda dy geyrch ac arð yr ar dywetha ar veder dy weuith ath rhyg.

September▪ Mis medi. xxx.

ii f g. Grisostom escob.
  g g. Sulien.
x H  
  b  
xviii c  
vii d  
  e  
xv f g. Mair pan med.
iiii g  
  H  
xii b  
i c  
  d  
ix e g. Y groe. hafan hydref.
  f Yr haul yn y vantol.
xvii g g. Lambert.
vi H  
  b  
x c  
iii d Mevilia.
  e g. Matthew ebollol.
xi f  
xix g  
  H g. Vwrog.
viii b g. Veygan.
  c  
xvi d  
v e  
xiii f g. Mihangel Archangel.
ii g g. Sierom offeiriad.

YN y mis hwnn meda dy haið, pys a pha, ac yng hylch kenol y mis haya wenith a rhyg mewn tir kryf. dwg dail ar veder gwenith a rhyg, kannys vu venneid yr amser hwnu y dal tair kynn y mis vwnn.

October. Mis hydref.

  H G. Silin a garmon.
x b  
  c  
xviii d  
vii e G. Gannaval.
  f G. Saint ffaeth.
xv g  
iiii H G. Gain.
  b G. S. Denis.
xii c  
i d  
  e  
ix f G. S. Edward.
  g  
xvii H Yr haul yn y [...].
vi b  
  c  
xiiii d g. [...]u: Evangylius.
iii e  
  f  
xi g g. vnvil arðec gwyryðon.
  H g. Wnnog a noethen.
  b  
viii c  
  d  
xvi e  
v f Mevilia.
  g g. Simon a J [...]b.
xiii H  
ii b  
  c g. ðogvael. Mevilia.

Y Mis ymma haya wenith a rhyg dros olh, kartha dy gloðieu, dod goed plwmmas a pher ac avaleu a sym­myd goed, dot gnay frengic a phlyg verthidrain.

Nouember. Mis tachwed.xxx.

x d [...]. Kalan gayaf.
  e [...]
xviii f g. Gristiolus a chlydoc.
vii g  
  H g. Gwvf.
xv b g. S. Lednart
iiii c g. Gyngar.
  d g. Dysiliaw.
xii e  
i f  
  g g. Marthin Escob.
ix H g. Gydwaladyr ameylic.
  b  
xvii c [...].
vi d  
  e g. Edmwnd Escob.
xiiii f  
iii g  
  H  
xi b g. Edmwnd vrenhin.
xix c  
  d  
viii e g. Glement verthyr.
  f  
xvi g g. S. katerin.
  H  
  b g. Galhgof.
xiii c  
ii d Mevilia.
x e [...].

DOd a symmyd yn y mis hwun goed plwmmas, a pher ac avaleu, torr dygoed defnyð yn niweð y lhe­yad ac yn enwedig goed onn y wneythyr defnyðion a cadyr, a brynara dy dir ar vedyr haið.

December. Mis rhagvyr.xxx.

  f  
xviii g  
vii H  
  b  
xv c  
iiii d g. S. Nicolas.
  e  
xii f g. Mair a chynydy [...].
i g  
  H  
xi b  
  c  
xvii d Yr haul ynghorn yr a [...]yr .g. Silie.
vi e  
  f  
xiiii g  
ii H g. Dydecho.
  b  
xi c  
xix d Mevilia.
  e g. Domas chastor.
viii f  
  g  
xvii H  
v b Duw Nadoli [...].
  c g. Sryphan verthyr.
xiii d g. Ieuan evangyliwr.
iii e g. Y [...]u veibion.
  f  
x g  
  H  

YN y mis ymma torr goed defnyð y adeil. a thorr y perthi ar koeg geingey, dal adar a rhwyden ac a phyg a brynara dy dir y haið.

Almanak dros ugainc mlyneð.

Dedion y [...] ar gwlyb, ney ri [...] y hiy [...]en. Duw Basc. Rhif y prif a elwir y rhif auraid. A hythy [...]yn y Sul. Lhythyren y Bisext.
M. D. xivii. x. Ebrilh. ix B  
M. D. xiviii. i. Ebrilh. x A G
M. D. xlix. xxi. Ebrilh. xi F  
M. D. l. vi. Ebrilh. xii E  
M. D. li. xxix. o vawrth. xiii D  
M. D. lii. xvii. Ebrilh. xiiii C B
M. D. liii. ii. Ebrilh. xv A  
M. D. liiii xxv. Mawrth. xvi G  
M. D. lv. xiiii. Ebrilh. xvil F  
M. D. lvi. v. o Ebr. xviil E D
M. D. lvii. xviii. o Ebr. xix C  
M. D. lviii. x. o Ebrilh. i B  
M. D. lix. xxvi. o Vawr. ii A  
M. D. lx. xiiii. Ebrilh. iii G [...]
M. D. lxi. vi. o Ebr. iiii E  
M. D. lxii. xxix. Mawrth. v D  
M. D. lxiii. xi. Ebrilh. vi C  
M. D. lxiiii. ii.o Ebrilh. vii. B A
M. D. lxv xxii. o Ebrilh. viii G  
M. D. lxvj. xiiii.o Ebrilh. ix. F  

Whedi y aðnabod y Pasg dragwyðol.

Edrych y prif nessaf yn ol y lythyren. L. kyntaf or mis mawrth a rhif dri sul wedy, ar trydyd sul vyð duw pasc, a phe vai yr prif ar y sul, rhiver hwnnw yn vn or tri sul. Val y mae yti y synied y vlwyðyn honn, nyd amgen M. D. rlvil. lhe mae yr B. yn lythyren y Sul, a.ir. yn rif y prif, y ðiskyn ar yr ynved dyð ar ugaint o vawrth. ar try­dyð sul ar ol hynny y ðyskyn ar y degved dyð o Ebrilh, sef yw hwnuw dyw pasc. y vlwyðyn honn.

BLwyðyn yr haul y syd drichant a thri­gain a phymp diwarnod a whech awr, a deuðeg wythnos a deugain tac vn diwarnod, ac yn hynny o amser y mae yr haul yn kerðed dros y deudeg arwyð or zodiak.

Y vlwyðyn bisext y ðiskyn vnwaith, bob pedair blyneð▪ o achaws y whechawr y sy dros benn yr haul yr hwnn a wna vn diwarnot rhagor mewn pedair blyneð. lhythyren y sul y newidia bob blw­yðyn o achos y dyð dros benn y sy yny vlwyðyn a hi newidia dwywaith mewn blwyðyn bissext.

Blwyðyn y lheyad y sy o. xxvii. nywarnod ac. viii. awr.

Eythyr rhwng pob lheyad newyð ay gylyð y mae naw niwarnod ar ugaint a hanner diwarnod. ka­nys o gyfnewid yr haul ar lheyad yny gywhyr­ðon ailwaith, ve ðervyð yr haul gerðed ðros vn or deuðeg arwyðon agos, or maun lhe y ymma­dawsei ar lheyað, ac ym penn deu ðiwarnod a han­ner y gorðiweda yr lheyad yr haul, ac yno y byð kyfnewid y lheyad.

Ac y kerða yr lheuad thwng pob kyfnewid ae gy­lið dros holh arwyðon y zodiak, sef yw hynny ky­maint ac a gerðo yr haul yn y vlwyðyn.

Rhif y prif a elwir hevyd y rhif auraid. y ðychym­mygoð Iwl kesar gyntaf ac ae kaskloeð or dy­ðieu ar orieu aghyniver o bob kyfnewid, er gwy­bot y dyð y kyfnewidio yr lheyad yndaw, heb Al­manak yn y byd, onyd kalandyr y bo y rhif hynny yndaw, ac ef a bara y rhif hwnnw o vn hyd bed­wararbymtheg, kyn dyvod yðy gwrs ellwaith.

[Page]A. ix. ydiw y rhif hwnnw y vlwyðyn honn, sef yw hynny o oedran yr Arglwyð mil a phympcant a saith a deugain.

¶Rhif.
  • vn. 1 i
  • deu. 2 ii
  • tri. 3 iii
  • pedwar. 4 iiii
  • pymp. 5 v
  • whech. 6 vi
  • saith. 7 vii
  • wyth. 8 viii
  • naw. 9 ix
  • dec. 10 x
  • vnarðec, 11 xi
  • deuðec. 12 xii
  • triarðec. 13 xiii
  • pedwararðec. 14 xiiii
  • pymthec. 15 xv
  • vnarymthec. 16 xvi
  • deuarymthec. 17 xvii
  • tri arymthec. 18 xviii
  • pedwararymthec. 19 xix
  • vgain. 20 xx
  • vn aru gain. 21 xxi
  • deuarugain. 22 xxii
  • tri arugaint. 23 xxiii
  • Ac velhy racðo hyt at ðecarugaint. 30 xxx
  • ac oðyno hyd ar ðeugain. 40 xl
  • dec a deugain. 50 l
  • trigain. 60 lx
  • decathrigain. 70 lxx
  • pedwarugain. 80 lxxx
  • dec a phedwar vgain. 90 lxxxx
  • Cant. 100 C
  • vnachant. 101 Ci
  • deuachant, 102 Cii
  • Mil, 1000 M
  • dwyvil. 2000 MM
  • teirmil, ac 3000 m.m.m
  • velhy hyt at ðegmil. 10000. x.M.

[Page]PArffeitha ydiw y rhif uchaf a elwir awgrym a gwybyð nad oes ond naw lhythyr rhif y gyt yndaw, nid amgen. 1 2 3 4 5 6 7 8 9. ac vn arwyð sef yw hynny .0. y peth ny arwyðockaha rhif yn y byd ehun, onyd ef a bair wrth y lhe y bo yn sevylh yr rhif y vo yn y vlaen vod yn ywch y rif, sef yw hynny ve wna yr nessaf oe vlaen ðengwaith y rhif y arwyvckaei wrtho ehun, val. 10. dec. ar ail oe v­dlaen ganweith y rymm ehun val. 110. sef yw dec a chant, at trydyd mil, val. 1110. sef yw hynny, mil a chant a dec. Ac velhy racðo.

¶Kymro yn danvon Annerch at y darlheawdyr.

YR awr nad oes dim hoffach gán ras yn brenhin vrðassol ni. No gwelet bot geirieu duw ae evengil yn ker­ðet yn gyffredinol ymysk y bobyl ef, y peth y ðengys y vot ef yn dywys­soc mor dwyvawl ac y mae kadarn. A phan roes eiswys gymmaint o ðonieu pres­sennol y genedyl kymry. Ny byð lhesgach y gennadhau yðyn ðonyeu ysprydawl.

Am hynny gweðys yw rhoi yngymraec beth or yscrythur lan, o herwyð bod lhawer o gymry a vedair darlhein kymraeg, heb vedru darlhein vn gair saesnec na lhadin, ag yn enwedic y pync­keu y sy anghenrheydiol y bob rhyw gristion y gwybot dan berigyl y enaid, sef yw hynny: pync­keu yr ffydd gatholic, ar weddi a ðysgoeð duw y­ni, a elwir y pader, ar deng air deðyf, ar gwydyeu gochladwy ar kampeu ar veradwy.

Ac er bod y rhain gyda lhawer o betheu da e­railh yn yskrivennedic mewn bagad o hen lyfreu kymraeg, etto nyd ydy yr lhyyfreu hynny yn gyffre din ol ymysk y bobyl. Ac yr awr y Rhoes duw y prynt yn mysk ni er amylhau gwybodaeth y eireu bēdigedic ef, iawn yni, val ygwnaeth holh gristi onogaeth heb law, gymryt rhann or daeoni hwn­nw gyda yn hwy, val na bai ðiffrwyth rhoð kyst­al a hon yni mwy noc y erailh, ac er ym ðymyno gwybod o bob vn om kiwdawdwyr i yr kymry sa esneg ney ladin, lhe traethir or petheu hyn yn ber­ffeithach, etto am na elhir hynuy hyd pan welo duw yn ða a wahanoeðieythoð y byd er yn kospedigaeth [Page] ni, pechod mawr oeð ado yr sawl mil o enaideu y vyned ar gyfyrgolh rac eiseu gwybo­daeth y fyð gatholic, ac y syð heb wybod iaith yny byd onyd kymraeg.

Kanys heb ffyð ny elhir rhēgi boð duw. ar periglo ryon y sy yny mysk, oswaethhiroeð, y nailh ae nys medran, ae nys mynnan ðangos yw plwyvogy­on y petheu y maen yn rhwymedic y lhailh yw dā ­gos, ar lhalh eu gwybod, duw ae dycko yr iawn ac y aðnabod y perigleu, pa weð y gorffo arnyn at teb am yr eneideu elo ar gyfyrgolh drwy y heisieu hwy. Ac er bod y gofal mwya, yn perthyn yr peri­glorion, etto ny byð neb dibwl, ac y rhoes duw ðo­nyeu ney gyfarwyðyd yðaw, ny wnelo y peth y alho er hysbyssu yðy gydristiō y pynkeu y sy mor anhepkor ar rhain. Ac am hynny gyt a gwelet vot rhan vawr om kenedyl gymry mewn tywylhwch afriuaido eisieu gwybodaeth duw ae orchymineu ac o herwyð hynny y dygwyðo mewn dyfynder pechodeu a gwyðyeu yn rhagorach no chenedloeð erailh, ac am synyeid y bod a donyeu da o synwyr a dealh gwedy y ðuw y rhoi yðynt, val y gobei­thwn y bai hawð gentyn welhau en drycarveron onyd discu yr iawn forð yðyn, mi a veðyliais er ka riad vyngwlad roi yðyn y pynkeu hyn ynghymra eg erdāgos blas yðyn o velysper ewylhus duw ac er kadw eu henaidieu, y rhai ny alho ēnilh kyfrwy ðyd rhagorach drwy ieithoð erailh, y peth y ðym­ynwn yðyn y geisiaw yn ðyfal▪ weithian dangos­swch vynghytwladwyr o hynn alhan nad o ðrwc aniā onyd o eisieu gwybodaeth y byoch veiys kyn hynn, na edwch y minney gymryd hynn o drava­el [Page] yn ðiffrwyð dryssoch, ac yn lhekwvyl o dal am yn rhavael y kymmeraf inney, os chwi a gymmer ffrwyth o hynn. drwy ðuw ae rad heb yr hwn ny cheffir dim ac y vo da. yrr hwnn y bo gogonyant tragwyðawl, poet gwir.

¶Rheol y aðnabod y Gwyðor issod.

Am newidiaw o honaf beth o hen ortograff kym­raeg yn amgenach noc y by arveredic escrivenny kynn hynn nyd heb achos kywrain, mi a ðodeis gwyðor or lhythyreu islaw, ac ywch benn pob vn air y ðangos nerth pob lhythyrenn. A gwybyð pa rym y mae pob rhiwlythyren yny ðwyn yn y gair ywch bēn gogyvair arlhythyren y vynnych, yr vn rym y ðyg yn wastat, ac onyd kofio hynny yn ða, hawð ytt ðyscu darlhein y lhyvyr hwnn er na ðys­kysid di ðarlhein dimm kymraec er toed or blaen, o medryd ðarlhein vn iaith aralh heb law.

¶Y gwyðor.

a Aðaf. b Byd. c Caeth. d ð Dygoð. e Eua. ff f Folaf. g Gyrroð. h Hwn. i Iessu. k Kedwis. l Lawer. lh lhwyth. m Marwol. n Newyð. o O baith. p Parwys. r r Rassol. rh Rhi. s s Santeið. t Tynnoð. v u Vuben. v Var. y Ynys. w Wylwyr.

¶Rheol.

POb gair vnsilhavoc yny gymraer, o ðiethyr o­did o vn, y leisir yn hirlhaes, val gwr, mab, dyn, acam hynny nyd rhaid nodi vn or vath hynny ac ackan leðyf ywch y benn, o herwyð y reol gyf­fredin hon. Ythyr o disgyn gair y leisir in galed, nyd rhaid rhoi dwy lythyren yn niweð y gair val y by arveredic kyn i yn, kanys diffrwyth oeð hynny ony bai ynghenol gair, am vod vn l hythy­ten ky gadained a dwy or vn rhiw yny grym e­hun. Ythyr er gwahanaeth sillaf bicka o ði wrth silhaf leðyf mi a ðodeis ackan lem ywch ben y ge il wad y vo yny vath silhaf hynny: val hyn, kyn, dal, y aðnabod hyn peth mwy y oed, kyn, pawl, dal talken: oðiwrth y geireu ychod y scri­vennid gynt val hynn, kynn, dalh, a hynny y dy­bieis i vot yn gywreinach noc arver o overlythy­reu vwy nac y bai raid wrthyn.

¶Rheol aralh.

Gwybyðwch vod or kytseinanyeid, rhai yn bic­ca, val

k.ney.c. t p
Erailh yn genolig, val
g d b
Erailh yn echueidawl, val
ch. th. ph. ney. ff.
Erailh yn veðal, val
ð. v. ney. f.

A Lheiso yr rhai picka pan ðisgynnon yn ni­weð gair val y rhai kenolic val hyn. Cadwc kat, pop, yn lhe cadwg, kad, pob. Ac wrth dreiglo yr geirieu, y symmyd pob vn or kytsynanyeid yw gylið, vel hynn mi a bara, par di, ny pharei ef: ac velhy y gwna rhai or kytsynanyetd erailh, val. m. mawr, na vawr.

Y geilweid a. e. i. o. y. u w. gwybyð roi yr lhais ar grym y maen yny ðwyn yny gwyðor ychod: a go­gel y lheisio hwy, val y ðis gan mwya yn lhadin ac ynsaecnec, eithyr hwy y leisir ymma yn nes at yr hē athrawaeth, o synyir yn ða ar y gwyðor uchod. y. ac. u. vn lhais y ðygant, val y byon gan athraw­on lhadin a groec onyd bod yr. u. yn hir bop amser val vn, du. ar. y. weitheu yn drom weitheu yn bic­ka. y. lhais. val yn y gair hwn, y dyn. yr y kyntaf y leisir yn drwm ar ail yn bicka. V pan vo yn gydsei­nyad y scrivennir yn echreu y gair, ac, f. yny diweð. ð. ar nod hyn y dodeis i yn lhe. dd. lh. yn lhe. ll. rh yn [Page] lhe. rr. o achaws y vai hawð y ðangos y vot yn gywreinach, ac yn nes y athrawaeth lhadin a groec no dyblu yr lhythyreu hynny, onyd nad rhaid hyn­ny ynawr rac rhwystro y peth eu y sy reitach.

Gwybyð hevyd vod ackan lem ar bob stlhaf ðiwe tha onyd vn, o bob gair lhyaws silhavoc: val yny geireu hynn lhythyr, lhythyren, lhythyrenney.

q. ac. x. nyd rhaid wrthyn ynghymraec ony ðiskyn gair lhadin.

KYwreinach oeð Lythyreu Groec no Lhadin y ni pai gelhid torri yr hen ðevot. Ac etto or kyntaf olh y gwelir ymi arveru or Brython hynaf lythyreu groec. Kanys Plini yn y lyuyr o ystoria nattur a ðyweid, vod yn y amser ef ym prydai wyr a elwid yn lhadin Druydes yn wyr o ðysc mawr mewn kelvyðyd a elwir yn lhadin, Magia, sef oeð honno kelvyðyd y adnabot rheol y ser ar seignyeu a nattur pob poth dayarol. Ac y dyweit Iwl Ke­sar mae oðy ymma y dathoeð y geluyðyd hynny y ffraink a bod y gwyr dysgedic o honi yn eskriven­nu eu kelvyðod eu a lhythyreu groec yn y amser ef: Etwo am vod ieythoeð holh Ewropa yn arver o lhythyreu Lhadin yr awr honn, a phe newidiyd hwy y nawr, ve golhid yr hen lyfreu, go reu yw kadw yr lhythyreu arveredic gan welhau pob y­chydic y petheu y vo heiys.

¶Credo, ney bynkey yr ffyð gatholic.

CRedaf y ðuw dad holhalhyawc creawdyr nef a dayar.

Ac y Iessu Grist y vnmab ef, yn harglwyð ni.

Yr hwn y gad o tad yr yspryt glan, ac y aned o vair wyry.

Y ðioðeuoð dan Bons Pilat y groeshoeli, y lað ae glaðu.

Ac y diskynnoð y vffern, ar trydyð dyð y kyvodoð o veirw y vyw.

Ac y eskynnoð ar nefoeð, ac y mae yn eisteð ar ðe­heu Duw dad holh gyvoethawc.

O ðyn o y daw y varnu ar vyw a meirw.

¶Credaf yr yspryt glan.

A bod vn e glwys lan gatholic.

Ac yndi gyffrediurwyð y sainct, a maðeueint pe­chodeu.

Ac y kyuyd pawb yn eu knawt.

Ac y kayff yr etholedigion vywyt tragwyðawl.

¶Pater noster, ney weði yr arglwyð.

YN tad ni, yr hwn wydyn y nef, santeider dy enw di:

Doed dy deyrnas di attom:

Gwneler dy ewylhys di: yn y ðayar, megis yn y nef.

Dyro yni heðiw yn bara beynyðiol.

Maðeu y ni yn dylyedion, val y madeuwn ni yn dylyedwyr ninney.

Ac na ðwc ni y brovedigaeth.

Ond rhyðhaa ni rac drwc. Amen.

¶Aue Maria.

HAmpych gwelh vair kyflawn o rad, mae Duw gyt a thi. Bendigaid wyd ymplith y gwrageð, a bendigedic yw ffrwyth dy groth di.

Amen.

¶Krist y ðywad val hyn.

PA beth bynnac y geisioch chwi gan vyn had yn vy enw i ef ae rhyð ywch.

Meðylia ymma yr darlheawdyr glan, pan geisio gwr y nailh ay petheu anvad, ay petheu y vai ðrwc ar y les ehun, nad yn enw krist y mae yn dei­sif yno, keisiwch yu gyntaf deyrnas ðuw, ae gy­fiawnder ef, ar hynn ygyt ac y vo da er ych lhes y gwplair ywch.

¶Y deng air deðyf, ney yr dec gor­chymmyn Duw.

NA vid yt vn geuduw, rhac vy wyneb i.

Na wna yt ðelw gervedic, na lhyn dim ar y syð yny nefoeð o uchel, nac yn y ðayar o issel, nac yn y dyfwr is [...]aw yr ðayar: na orestwng yðynt, nac anrhydeða hwy.

Na chymmer enw dy arglwyð ðuw yn over.

Koffa santeiðo dy ðyð sul.

Anrhydeða dy dad ath vam.

Na Lað neb.

Na wna oðineb.

Na ðwc gam dystoliaeth yn erbyn dy gymmo­dawg.

Na whennycha dy dy gymmodawc, nae wraig. nae was mae vorwyn, nae ych, nae assen, na dim ac y vo eiðaw.

¶Krist a roes yn ni ðeu orchymmyn er kyf­lawny yr holh degair uchod.

KAr dy arglwyð ðuw oth holh gallon, oth holh enaid, oth holh nerth, ac oth holh veðwl A char dy gyfnessaf yn gymemt a thi dyhun.

Y gwydyeu goch ladwy. Y kampeu arveradwy. Y saith pechod marwol. Kampeu da gwrthwyneb yr gwydieu vchod.

  • Syberwyd neu valcheð.
  • Kenvigen, ney gyghorvynt.
  • Digasseð, neu irlhoneð.
  • Lhesgeð neu ðiogi.
  • Aggawrdeb ney gebyðiaeth.
  • Glythineb.
  • Godineb, ney aniweirdeb.
  • Vfyðdawt.
  • Kariat.
  • Anmyneð.
  • Ehudrwyð.
  • Haelioni.
  • Kymedrolder.
  • Diweirdeb.

¶Keingyeu syberwyt. xvi.

Ymvychaw. Yw na oðefer neb yn gyfuwch nac yn gyfrad.

Bocsachu. Kymeryd o wr vod eiðaw y peth nyd ydiw.

Ymdrychauael. Ymrhagori ehun gan dremygu e­railh.

Anostwng. Ny ðarestwng y welh neu bennach noc ef.

Drudannaeth. hirdrigyat meðwl ar y drwc.

Ymchwyðaw. ymwrthlað yn tremygus yn erbyn awdurdot henafyon.

Kynhennu. Bloeðgar gynghewseð yn erbyn gwi­rioneð.

Anoðef. Gwylhtineb meðwl heb y ffrwyno.

Anuvyðdawt. Anostwng y vchafion ae gorchy­mynneu.

[Page]Tremyc. Gwalhus ebry vygu gwneythur y ðir­perer.

Rhac ymgymryt. yw gommeð dylyedus anrhy­deð y hynafion.

Kelhweir. afreolus ymgeiniaw drwy chwareys watwar.

Geugrevyð. kiðio y veieu, a dangos kampeu heb y bot.

Tralha varieyth. gormoð olhwng traorwagiou barableu.

Traachub. Trach waut y gael anrhydeð er clot tranghedic.

Clot orwac. gwyðyus oruoleð am gampeu y vo neu ny bon gantaw heb rodi moliant y ðuw am danunt.

Keingieu kenvigen.

Gogan, yw anglotvori aralh yny absein.

Anglot. yw goganu aralh yn dwylhodrus yny avsein.

Absenair. yw kyfarthgar ogan hustyngus yn absenn aralh.

Klysthustingas, yw kashusting ðychymmyg drwg wrth, vedianneyd neu swyðogion y golhe­du aralh o ðigasseð arnaw.

Dybrydrwyð, yw gwrthynebu clod oralh am y werthredoð da.

Melhtigaw, yw bwrw dryc dyb yn erbyn gwei­thred da, a chamysturyaw. kyvarsagu da a chy­diaw clot.

Drycðychymic, gyrru ar aralh newyð ogan yn gelwyðawr.

[Page]Digasseð, yw anuynnu lhes neu damwein da y aralh.

Anghyweirdeb, yw aniolwch y aralh y da.

Kas chwerwder, yw gwenwynuar diffeith ve­dwl dirann o leweryð.

Anundeb, yw kassau aralh, hyt na mynner bod yn vn ac ef.

Gwatwar, yw kelhweirus digryswch, y dremy­gu aralh.

Kuhuðaw, yw menegi drwg ar aralh gerbronn brawdwr wrth, Y golhedu.

Kas yw angharu aralh drwy rhybychaw drwg idaw.

Keingyeu digasseð.

Cas, val y dywetpwyd vchod.

Anundeb, yw ymwahanu or rhai a notteint ym­garu.

Kynhen, yw sarhaed ar eireu megys ymchwyrny.

Ymwychyaw. yw ymsarhau drwy ar eireu rhod­digyon.

Auoðef, yw anwaharð tervyscus wylhtineb meðl heb y dovi.

Ymserthu. yw ymdorri drwy ðeisyuyd gyffro me­ðwl mewn geireu serthyon.

Mawrðrygeð. yw dichelhus ystriw y golhedu a­ralh.

Dryc ewylhus. yw rhybuchaw drwg y a­ralh, kynn nys galher ar weithred.

Kyndareð. yw colhi synwyr o dra lhid.

Tervysc. lhithredic gnawdoliaeth a ðel o vrenuo­lyath medwl.

Dryc anian, yw arðangos ar wyneb chwerwder meðwl.

[Page]Lhovruðiaeth. a wnair drwy weithred, megys pan laðo ðyn aralh. yn weithredawl.

Keingieu lhesgeð. ix.

Ergryn, yw ovynhau dechreu gwneythur da.

Mevyt. yw blinder wrth orffēnu da dechreuedig.

Lheturyt, yw ovynhau dechreu peth mawr að­wyn.

Gwelhyc, yw gwalh am wneythur y peth rhwymedic.

Ambruðder, yw na racweler am y pethen a ðe­lont rac lhaw.

Angkalhder, yw gochel rhyw bechod, yny syrthi­er yn aralh.

Trymlvowrwyð. lhesgu gorffennu y peth rhwy­medic y ðiweðu.

Anwybot, yw na roðo gwr y weithred y gwplau yr vn vath beth.

Gorwagrwyð, yw parablu segurion eiryeu yn or­wag.

¶Keingyeu Aghawrdeb neu gebyðiaeth. xv.

SYmoniaeth, yw prynu neu werthu peth yspry­dawl.

Vsur, yw kymryd mwy no dleyed, drwy werthu yr amser.

Lhedrad, yw kymryd da aralh heb wybod yr per­chennawg.

Herwryaeth, yw kribðeilaw da aralh yn ðirgel.

Anudon, yw kadarhau kelwyð drwy lw.

Kelwyð, yw dywedyd ffalsteð, drwy ynni twyl­haw aralh.

Treis, yw yspeilo arall oy ðað yn anghyvarchus.

Anghyvarch, yw kymhelh aralh y wneythur y peth nys dleye.

[Page]An orffwys. yw kyffroi aralh yn enwir heb achos

Kamvarnu, yw barnu yn anghyfreithawl.

Drudannyaeth, yw kynnal yn ormoð ygyt ar drwg.

Brad, yw somi aralh yn dwylhodrus drwy wenieth.

Twylh, dirgeledic vawrdynged drwy wenieyth y sommi aralh.

Falsteð, Kuðiaw drucvycheð drwy ymðangos santeiðrwyd.

Ymolhwng, ymroði y gynullyaw da, heb ðarbot pa weð y caffer.

Kamweð, yw gyrru ar aralh veieu y wypo na bont arnaw.

Keingyeu glythyneb. xii.

Rhythni, yw kymryd gormoð vwyd.

Meðdawt, yw kymryd gormod o diodyð.

Folhaelder, yw treulo yn anghymedrol, lhe ny bo rhaid.

Anymgynnal, yw rhacvlaenu tervyn gossodedic y gymryt bwyd.

Angkymedrolder, Trachwennychu gormoð o v­wyd neu ðiod.

Angkywilyð, dywedud croessau eirieu angkrevy­ðus.

Gorwac ym adrawð, yw dywedyd geireu drwy orwagrwyð seguryd.

Aniweirdeb glythni yw arðangos trachwant me­ðwl o vewn glythineb.

Anaðvwyndra, yw keisio gormoð anrhegion o vwyt blyssic.

Anhynawster, yw arver o dra gormoð o wiscoeð werthvawrussyon.

Tordynn yw, tragorthrymder y gallonn gan or­moð [Page] destlusrwyð.

Ehwyt, yd yw kymryt gormoð o vwyd neu ðiod yn y orffo, y adver drachefyn, a hynny drwy chwy­ðu.

Keingyeu Aniweirdeb. vii.

¶Fyrnigrwyð yw pob kyt gnawtawl ymaes o wely priawt.

Godmeb, yw kydiaw o wr priawt a gwreic a­ralh, neu wrthwyneb y hynny.

Tralhosgrach, pechu wrth gar neu gares, neu gy­vathrachðyn.

Anghewilyd, yw arðangos aniweirdeb meðwl ar arwyðon o dieythyr.

Pechawd yn erbyn anian, gelhwng dynyawl had yn am gen le nac y vo tervynedic y hynny.

Drycchwant, meðwl ar y wahardeð c vedal­twyd eidunet.

Pechawd, lhwdyngar, yw pechu wrth ansynhw­yron aniveileyd.

¶Saith rinweð yr eglwys.
  • Bedyð.
  • Bedyð Escob.
  • Kymmyn.
  • Penyd.
  • Angennu neu olew.
  • Vrðeu.
  • Priodas.
¶Saith wethred y drigareð.
  • Rhoði bwyd y newynawg.
  • Roi diawd y suchedig.
  • Roilletry y belhennic.
  • Rhoi dilhad y noeth.
  • Govwy claf.
  • Ryðhau carcharawr.
  • Claðu y marw.
FINIS.

Beieu y diskynnoð o walh y pryntiwr wrth daro, ac e [...] gwybod o honad y ðalen, yr wy­neb ar lain y mae yr beieu yndynt, mi a ðode­is Rhif y rheyni yn gyntaf ar geireu val y dylyon vod yn issa, ar gair nessaf yn ol gyd ar gair oeð veiys.

y ðalen, yr wyneb, y lain, y geireu at ymadroðion yn iawn
ii i ðiwethaf vod yn ða.
iiii i xiiii uchod yw gylið
iiii i xxiii gynt gan athrawon
v ii i xxviii o ðyðieu.
vi i i xxxi o ðyðieu.
ix i xvii G. lambert.
ix ii i xxx o ðyðieu.
x ii i xxxi o dyðieu
xiii ii. rhwug. xxvi. ar, xxvii. lam, dod: Na wna ledrad
xv i xix ymserthu ar eireu.
o [...]pð. d. yn lhe yr. ð. o eiseu lhythyteu or vath hynny y vy.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.