LLYFR GWEDDI Gyffredin, a Gwenidogaeth y Sacramentau, a chynneddfa [...] a Ceremoniau eraill yn Eglwys Loegr.
A Brintiwyd yn Llundain gan Bonham Norton, a Iohn Bill, Printwyr i ardderchoccaf Fawrhydi y Brenhin. 1621.
¶Almanac tros xxxiij flynyddoedd.
Oedran yr Arglwydd. | Y Prif | Llythyren y Sul. | Y dydd cyntaf o'r Garawys. | Y Pasc | Wythnos y gweddiau. | Dydd y Dyrchafel. | Y Sulgwyn | Sul yr Aduent. |
1621 | 7 | G | 14. Chwefr. | 1. Ebrill. | 7. Mai. | 10. Mai. | 20. Mai. | 2. Rhagf. |
1622 | 8 | F | 6. Mawrth. | 21. | 27. | 30. | 9. Mehefin | 1. |
1623 | 9 | E | 16. Chwefr. | 13. | 19. | 22. | 1. | 30. Tach. |
1624 | 10 | D C | 11. | 28. Mawrth. | 3. | 6. | 16. Mai. | 28. |
1625 | 11 | B | 2. Mawrth. | 17. Ebrill. | 23. | 26. | 5. Mehefin. | 27. |
1626 | 12 | A | 22. Chwefr. | 9. | 15. | 18. | 28. Mai. | 3. Rhagf. |
1627 | 13 | G | 7. | 25. Mawrth. | 30. Ebrill. | 3. | 13. | 2. |
1628 | 14 | F E | 27. | 13. Ebrill. | 19. Mai. | 22. | 1. Mehefin | 13. Tach. |
1629 | 15 | D | 18. | 5. | 11. | 14. | 24. Mai. | 29. |
1630 | 16 | C | 10. | 28. Mawrth. | 3. | 6. | 16. | 28. |
1631 | 17 | B | 23. | 10. Ebrill. | 16. | 19. | 29. | 27. |
1632 | 18 | A G | 20. | 1. | 7. | 10. | 20. | 2. Rhagf. |
1633 | 19 | F | 6. Mawrth. | 21. | 27. | 30. | 9. Mehefin | 1. |
1634 | 1 | E | 19. Chwefr. | 6. | 12. | 15. | 25. | 30. Tach. |
1635 | 2 | D | 11. | 29. Mawrth | 4. | 7. | 17. Mai. | 29. |
1636 | 3 | C B | 2. Mawrth. | 17. Ebrill. | 23. | 26. | 5. Mehefin | 27. |
1637 | 4 | A | 22. Chwefr. | 9. | 15. | 18. | 28. Mai. | 3. Rhagf. |
1638 | 5 | G | 7. | 25. Mawrth | 30 Ebrill. | 3. | 13. | 2. |
1639 | 6 | F | 27. | 13. Ebrill. | 20. Mai. | 23. | 2. Mehefin | 1. |
1640 | 7 | E D | 19. | 5. | 11. | 14. | 24. Mai. | 29. Tach. |
1641 | 8 | C | 10. Mawrth | 25. | 31. | 3. Mehefin. | 13. Mehef. | 28. |
1642 | 9 | B | 23. Chwefr. | 10. | 15. | 19. Mai. | 29. Mai. | 27. |
1643 | 10 | A | 15. | 2. | 7. | 11. | 21. | 3. Rhagf. |
1644 | 11 | G F | 6. Mawrth. | 21. | 26. | 30. | 9. Mehefin | 1. |
1645 | 12 | G | 19. Chwefr. | 6. | 11. | 15. | 2. Mai. | 30. Tach. |
1646 | 13 | D | 11. | 29. Mawrth. | 3. | 7. | 17. | 29. |
1647 | 14 | C | 3. Mawrth. | 18. Ebrill. | 23. | 27. | 6. Mehef. | 28. |
1648 | 15 | B A | 16. Chwefr. | 2. Ebrill. | 7. | 11. | 21. Mai. | 3. Rhagf. |
1649 | 16 | G | 7. | 25. Mawrth | 29. Ebrill. | 3. | 13. | 2. |
1650 | 17 | F | 27. | 14. Ebrill. | 19. Mai. | 23. | 2. Mehef. | 1. |
1651 | 18 | E | 12. | 30. Mawrth. | 4. | 8. | 18. Mai. | 30. Tach. |
1652 | 19 | D C | 3. Mawrth. | 18. Ebrill. | 23. | 27. | 6. Mehef. | 28. |
1653 | 1 | B | 23. Chwefr. | 10. | 15. | 19. | 29. Mai. | 27. |
¶ Nota, fod y Prif a llythyren y Sul yn newidio bob blwyddyn ar y dydd cyntaf o Ionawr.
¶ Nota, mai y Sul cyntaf o'r Adfent fydd y Sul ar ol Gwyl Lini, yr hwn sydd y 26 o Dachwedd. Noda hefyd, fod cyfrif blwyddyn oedran yr Arglwydd, yn Eglwys Loegr, yn dechreu y 25. o fis Mawrth, yr hwn a dybir ei fod y dydd cyntaf y crewyd y byd arno, a'r dydd yr ymddygwyd Christ ym-mru Mair forwyn.
¶Ionawr y sydd iddo xxxj o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | A | Kalend. | Enwaediad. | Gen. xvii. | Rhuf. ii. | Deu. x. | Colos. ii. |
ii | b | iiii. No. | Gen. i. | Matth. i. | Gen. ii. | Rhuf. i. | |
iii | c | iii. No. | iii | ii | iiii | ii | |
iiii | d | Prid. No. | v | iii | vi | iii | |
v | e | Nonas | vii | iiii | viii | iiii | |
vi | f | viii Id. | Ystwyll | Esa lx. | Luc. iii. | Esa. xlix. | Ioan. ii. |
vii | g | vii Id. | Gen. ix. | Matth. v. | Gen. xii | Rhuf. v. | |
viii | A | vi Id. | Lucian. | xiii | vi | xiiii | vi |
ix | b | v Id. | xv | vii | xvi | vii | |
x | c | iiii Id. | xvii | viii | xviii | viii | |
xi | d | iii Id. | xix | ix | xx | ix | |
xii | e | Prid. Id. | Sol in Aqu | xxi | x | xxii | x |
xiii | f | Idus. | Hilar. | xxiii. | xi | xxiiii | xi |
xiiii | g | xix kl. | Chwefror. | xxv | xii | xxvi | xii |
xv | xviii kl. | xxvii. | xiii | xxviii | xiii | ||
xvi | b | xvii kl. | xxix | xiiii | xxx | xiiii | |
xvii | c | xvi kl. | xxxi | xv | xxxii | xv | |
xviii | d | xv kl. | Prisca. | xxxiii | xvi | xxxiiii | xvi |
xix | e | xiiii kl. | xxxv | xvii | xxxvii | i. Cor. i. | |
xx | f | xiii kl. | Fabian. | xxxviii | xviii | xxxix | ii |
xxi | g | xii kl. | Agnes. | xl | xix | xli | iii |
xxii | A | xi kl. | Vincent. | xlii | xx | xliii | iiii |
xxiii | b | x kl. | xliiii | xxi | xlv | v | |
xxiiii | c | ix kl. | xlvi | xxii | xlvii | vi | |
xxv | d | viii kl. | Troad S. | Doeth. 5. | Act. xxi. | Doeth. vi. | Act. 26. |
xxvi | e | vii kl. | Paul. | Gen. 48. | Matth. 23 | Gen. xlix. | i. Cor. vii. |
xxvii | f | vi kl. | l | xxiiii | Exod. i. | viii | |
xxxiii | g | v kl. | Exod. ii. | xxv | iii | ix | |
xxix | A | iiii kl. | iiii | xxvi | v | x | |
xxx | b | iii kl. | vii | xxvii | viii | xi | |
xxxi | c | Prid. kl. | ix | xxviii | x | xii |
¶Chwefror y sydd iddo xxviij o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | d | Kalend | Ympryd. | Exod. xi. | Marc. 1. | Exod. xii. | 1. Cor. xii. |
ii | e | iiii No. | Pur Mair | Doeth. ix | ii | Doeth. 12 | xiiii |
iii | t | iii No. | Blasii. | Exod. xiii. | iii | Exo. xiiii | xv |
iiii | g | Prid. No. | xv | iiii | xvi | xvi | |
v | A | Nonas. | Agath. | xvii | v | xviii | 2. Cor. i. |
vi | v | viii Id. | xix | vi | xx | ii | |
vii | c | vii Id. | xxi | vii | xxii | iii | |
viii | d | vi Id. | xxiii | viii | xxiiii | iiii | |
ix | e | v Id. | xxxii | ix | xxxiii | v | |
x | f | iiii Id. | xxxiiii | x | Leu. 18. | vi | |
xi | g | iii Id. | Leuit xix. | xi | xx | vii | |
xii | A | Prid. Id. | Sol in Pisc. | xxvi. | xii | Num. xi. | viii |
xiii | b | Idus. | Maw [...]th. | Num. xii. | xiii | xiii | ix |
xiiii | c | xvi kl. | Valentin. | xiiii | xiiii | xvi | x |
xv | d | xv kl. | xvii | xv | xx | xi | |
xvi | e | xiiii kl. | xxi | xvi | xxii | xii | |
xvii | f | xiii kl. | xxiii | Luc. di. i. | xxiiii | xiii | |
xviii | g | xii kl. | xxv | di. i | xxvii | Gala. i. | |
xix | A | xi kl. | xxx | ii | xxxi | ii | |
xx | b | x kl. | xxxii | iii | xxxv | iii | |
xxi | c | ix kl. | xxxvi | iiii | Deut. i. | iiii | |
xxii | d | viii kl. | Deut. ii | v | iii | v | |
xxiii | e | vii kl. | Ympryd. | iiii | vi | v | vi |
xxiiii | f | vi kl. | S. Matthias | Doeth. 19 | vii | Eccles. i. | Ephe. i. |
xxv | g | d kl. | Deut. vi. | viii | Deut. vii | ii | |
xxvi | A | iiii kl. | viii | ix | ix | iii | |
xxvii | b | iii kl. | x | x | xi | iiii | |
xxviii | c | Prid. kl. | xii | xi | xv | v |
¶Mawrth sy iddo xxxj o ddyddiau
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | d | Kalend | Dewi. | Deu. xvi. | Luc. xii. | Deu. xviii | Eph. vi. |
ii | e | vi. No. | Ced. | xviii | xiii | xix | Phil. i. |
iii | f | v. No. | xx | xiiii | xxi | ii | |
iiii | g | iiii. No. | xxii | xv | xxiiii | iii | |
v | A | iii. No. | xxv | xvi | xxvi | iiii | |
vi | b | Prid. No. | xxvii. | xvii | xxviii | Colos. i. | |
vii | c | Perpetue. | xxix | xviii | xxx | ii | |
viii | d | viii Id. | xxxi | xix | xxxii | iii | |
ix | e | vii Id. | xxxiii | xx | xxxiii | iiii | |
x | f | vi Id. | Iosu. i. | xxi | Iosu. ii. | i. Thes. i. | |
xi | g | v Id. | Sol in Ariet. | iii | xxii | iiii | ii |
xii | A | iiii Id. | Grigor. | v | xxiii | vi | iii |
xiii | b | iii Id. | vii | xxiiii | viii | iiii | |
xiiii | c | Prid. Id. | ix | Ioan i. | x | v | |
xv | d | Idus. | xxiii. | i | xxiiii | ii. Thes. i | |
xvi | e | xvii kl. | Aprilis | Barn. i. | iii | Barn. ii. | ii |
xvii | f | xvi kl. | iii | iiii | iiii | iii | |
xviii | g | xv kl. | Edward. | v | v | vi | i. Tim. i. |
xix | A | xiiii kl. | vii | vi | viii | ii. iii | |
xx | b | xiii kl. | ix | vii | x | iiii | |
xxi | c | xii kl. | Benedict. | xi | viii | xii | v |
xxii | d | xi kl. | xiii | ix | xiiii | vi | |
xxiii | e | x kl. | xv | x | xvi | ii. Tim. i. | |
xxiiii | f | ix kl. | [...] Ym. | xvii | xi | xxvii | ii |
xxv | g | viii kl. | Cenn. Mair. | Ecclu. ii. | xii | Eccl. iii. | iii |
xxvi | A | vii kl. | Barn. xix. | xiii | Barn. xx. | iiii | |
xxvii | b | vi kl. | xxi | xiiii | Ruth i. | Titus i. | |
xxxiii | c | v kl. | Ruth. ii. | xv | iii | ii.iii | |
xxix | d | iiii kl. | iiii | xvi | i. Sam. i. | Philem. | |
xxx | e | iii kl. | i. Sam. ii. | xvii | iii | Hebr. i | |
xxxi | f | Prid. kl. | iiii | xviii | v | ii |
¶Ebrill sy iddo xxx o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | g | Kalend. | i. Sam. 6. | Ioan xix. | i. Sam. 7. | Heb. iii. | |
ii | A | iiii No. | viii | xx | ix | iiii | |
iii | b | iii No. | Richard. | x | xxi | xi | v |
iii | c | Prid. No. | Ambros. | xii | Act. i. | xiii | vi |
v | d | Nonas. | xiiii | ii | xv | vii | |
vi | e | viii Id. | xvi | iii | xvii | viii | |
vii | f | vii Id. | xviii | iiii | xix | ix | |
viii | g | vi Id. | xx | v | xxi | x | |
ix | A | v Id. | xxii | vi | xxiii | xi | |
x | b | iiii Id. | Sol in Tau. | xxiiii | vii | xxv | xii |
xi | c | iii Id. | xxvi | viii | xxvii | xiii | |
xii | d | Prid. Id. | xxviii | ix | xxix | Iaco. i. | |
xiii | e | Idus. | xxx | x | xxxi | ii | |
xiiii | f | xviii kl. | Maii. | ii. Sam. i. | xi | ii. Sam. ii. | iii |
xv | g | xvii kl. | iii | xii | iiii | iiii | |
xvi | A | xvi kl. | v | xiii | vi | v | |
xvii | b | xv kl. | vii | xiiii | viii | i. Pet. i. | |
xviii | c | xiiii kl. | ix | xv | x | ii | |
xix | d | xiii kl. | Alpheg. | xi | xvi | xii | iii |
xx | e | xii kl. | xiii | xvii | xiiii | iiii | |
xxi | f | xi kl. | xv | xviii | xvi | v | |
xxii | g | x kl. | xvii | xix | xviii | ii. Pet. i. | |
xxiii | A | ix kl. | S. Georg. | xix | xx | xx | ii |
xxiiii | b | viii kl. | xxi | xxi | xxii | iii | |
xxv | c | vii kl. | Marc. Esau. | Eccles. 4. | xxii | Eccles. 5. | i. Ioan i. |
xxvi | d | vi kl. | ii. Sa. 23 | xxiii | 2. Sa. 24. | ii | |
xxvii | e | v kl. | i. Bren. i. | xxiiii | 1. Bren. 2 | iii | |
xxviii | f | iiii kl. | iii | xxv | iiii | iiii | |
xxix | g | iii kl. | v | xxvi | vi | v | |
xxx | A | Prid. kl. | vii | xxvii | viii | ii.iii. Ioan. |
Mai sydd iddo xxxj o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | b | Kalend | Phil ac Iac. | Eccles. 7. | Act. viii. | Eccl. ix. | Iud. |
ii | c | vi No. | i. Bren. 9. | xxviii | 1. Bren. x | Rhuf. i. | |
iii | d | v No. | Caffael y | xi | Matth. i. | xii | ii |
iiii | e | iiii No. | Groes. | xiii | ii | xiiii | iii |
v | f | iii No. | xv | iii | xvi | iiii | |
vi | g | Prid. No. | Ioan Port. | xvii | iiii | xviii | v |
vii | A | Nonas. | xix | v | xx | vi | |
viii | b | viii Id. | xxi | vi | xxii | vii | |
ix | c | vii Id. | 2. Bren. i. | vii | 2. Bre. 2 | viii | |
x | d | vi Id. | iii | viii | iiii | ix | |
xi | e | v Id. | v | ix | vi | x | |
xii | f | iiii Id. | Sol in Gem. | vii | x | viii | xi |
xiii | g | iii Id. | ix | xi | x | xii | |
xiiii | A | Prid. Id. | xi | xii | xii | xiii | |
xv | b | Idus. | xiii | xiii | xiiii | xiiii | |
xvi | c | xvii kl. | Iunii | xv | xiiii | xvi | xv |
xvii | d | xvi kl. | xvii | xv | xviii | xvi | |
xviii | e | xv kl. | xix | xvi | xx | i. Cor. i. | |
xix | f | xiiii kl. | Dunstan. | xxi | xvii | xxii | ii |
xx | g | xiii kl. | xxiii | xviii | xxiiii | iii | |
xxi | xii kl. | xxv | xix | Ezr. ii. | iiii | ||
xxii | b | xi kl. | Ezra. iii. | xx | iiii | v | |
xxiii | c | x kl. | v | xxi | vi | vi | |
xxiiii | d | ix kl. | vii | xxii | ix | vii | |
xxv | e | viii kl. | Nehe. i. | xxiii | Nehe. ii. | viii | |
xxvi | f | vii kl. | Augustin. | iiii | xxiiii | v | ix |
xxvii | g | vi kl. | vi | xxv | viii | x | |
xxviii | v kl. | ix | xxvi | x | xi | ||
xxix | b | iiii kl. | xiii | xxvii | Hest. i. | xii | |
xxx | c | iii kl. | Hest. ii. | xxviii | iii | xiii | |
xxxi | d | Prid. kl. | iiii | Marc. i. | v. | xiiii |
¶Mehefin sy iddo xxx o ddyddiau
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | e | Kalend. | Hest. vi. | Marc. ii. | Hest. vii. | i. Cor. 15. | |
ii | f | iiii No. | viii | iii | ix | xvi | |
iii | g | iii No. | Nicomed. | Iob i. | iiii | Iob ii. | ii. Cor. i. |
iiii | Prid. No. | iii | v | iiii | ii. | ||
v | b | Nonas. | Boniffas. | v | vi | vi | iii |
vi | e | viii Id. | vii | vii | viii | iiii | |
vii | d | vii Id. | ix | viii | x | v | |
viii | e | vi Id. | xi | ix | xii | vi | |
ix | f | v Id. | xiii | x | xiiii | vii | |
x | g | iiii Id. | xv | xi | xvi | viii | |
xi | iii Id. | Barnab. Ap. | Eccle. x. | Act. 14. | Eccl. 12. | Act. 15. | |
xii | b | Prid. Id. | Iob 17.18. | Mar. xii. | Iob. xix. | ii. Cor. ix. | |
xiii | c | Solstit. esti. | xx | xiii | xxi | x | |
xiiii | d | xviii kl. | Iulii | xxii | xiiii | xxiii | xi |
xv | e | xvii kl. | xxiiii. xxv. | xv | 26. 27. | xii | |
xvi | f | xvi kl. | xxviii | xvi | xxix | xiii | |
xvii | g | xv kl. | xxx | Luc 1. | xxxi | Galat. i. | |
xviii | xiiii kl. | xxxii | ii | xxxiii | ii | ||
xix | b | xiii kl. | xxxiiii | iii | xxxv | iii | |
xx | c | xii kl. | Edward. | xxxvi | iiii | xxxvii | iiii |
xxi | d | xi kl. | xxxviii | v | xxxix | v | |
xxii | e | x kl. | xl | vi | xli | vi | |
xxiii | f | ix kl. | Ympryd. | xlii | vii | Dihar. i. | Ephes. i. |
xxiiii | g | viii kl. | Mala. iii. | Mat. iii. | Mala. 4. | Mat. 14. | |
xxv | A | vii kl. | Dihar. ii. | Luc viii | Dihar. 3 | Ephes. ii. | |
xxvi | b | vi kl. | iiii | ix | v | iii | |
xxvii | c | v kl. | vi | x | vii | iiii | |
xxviii | d | iiii kl. | Ympryd. | viii | xi. | ix | v |
xxix | e | iii kl. | Ecclu. xv. | Act. iii. | Eccl. xix | Act. iiii. | |
xxx | f | Prid. kl. | Dih. x. | Luc xii | Dih. xi. | Ephes. vi. |
¶Gorphenhaf sydd iddo xxxj o ddyddiau
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | g | Gofwy Ma. | Diha. xii | Luc xiii | Dih. xiii. | Phil. 1. | |
ii | vi No. | xiiii | xiiii | xv | ii | ||
iii | b | v No. | Marthin. | xvi | xv | xvii | iii |
iiii | c | iiii No. | xviii | xvi | xix | iiii | |
v | d | iii No. | xx | xvii | xxi | Colos. i. | |
vi | e | Prid. No. | Dechreu dy | xxii | xviii | xxiii | ii |
vii | f | ddiau 'r ci. | xxiiii | xix | xxv | iii | |
viii | g | viii Id. | xxvi | xx | xxvii | iiii | |
ix | A | viii Id. | xxviii | xxi | xxix | i. Thes. i. | |
x | b | vi Id. | xxxi | xxii | Preg. i. | ii | |
xi | c | v Id. | Preg. ii. | xxiii | iii | iii | |
xii | d | iiii Id. | iiii | xxiiii | v | iiii | |
xiii | e | iii Id. | vi | Ioan i. | vii | v | |
xiiii | f | Prid. Id. | viii | ii | ix | ii. Thes. i. | |
xv | g | Swithun. | x | iii | xi | ii | |
xvi | A | xvii kl. | August. | xii | iiii | Iere. i. | iii |
xvii | v | xvi kl. | Ierem. ii. | v | iii | i. Tim. i. | |
xviii | c | xv kl. | iiii | vi | v | i. iii. | |
xix | d | xiiii kl. | vi | vii | vii | iiii | |
xx | e | xiii kl. | Margaret. | viii | viii | ix | v |
xxi | f | xii kl. | x | ix | xi | vi | |
xxii | g | xi kl. | Magdalen. | xii | x | xiii | ii. Tim. i. |
xxiii | A | x kl. | xiiii | xi | xv | ii | |
xxiiii | b | ix kl. | Ympryd. | xvi | xii | xvii | iii |
xxv | c | viii kl. | Ecclu. xxi | xiii | Ecclu. 23 | iiii | |
xxvi | d | vii kl. | Anna. | Ier. xviii. | xiiii | Iere. xix. | Titus i. |
xxvii | e | vi kl. | xx | xv | xxi | ii. iii | |
xxviii | f | v kl. | xxii | xvi | xxiii | Philem. | |
xxix | g | iiii kl. | xxiiii | xvii | xxv | Hebr. i | |
xxx | A | iii kl. | xxvi | xviii | xxvii | ii | |
xxxi | b | Prid. kl. | Garmon. | xxviii | xiv | xxix | iii |
Awst sy iddo xxxj o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | c | Kalend. | Iere. xxx. | Ioan xx. | Iere. xxxi. | Hebr. iiii. | |
ii | d | iiii No. | xxxii | xxi | xxxiii | v | |
iii | e | iii No. | xxxiiii | Act. i. | xxxv | vi | |
iiii | f | Prid. No. | xxxvi | ii | xxxvii | vii | |
v | g | Nonas. | xxxviii | iii | xxxix | viii | |
vi | viii Id. | Ymrithiad. | xl | iiii | xli | ix | |
vii | b | vii Id. | Enw Iesu. | xlii | v | xliii | x |
viii | c | vi Id. | xliiii | vi | xlv. xlvi. | xi | |
ix | d | v Id. | xlvii | vii | xlviii | xii | |
x | e | iiii Id. | Laurens. | xlix | viii | l | xiii |
xi | f | iii Id. | li | ix | lii | Iaco. i. | |
xii | g | Prid. Id. | Sol in Virg. | Galar. i. | x | Galar. ii. | ii |
xiii | A | Idus. | iii | xi | iiii | iii | |
xiiii | b | xix kl. | Septembris | v | xii | Ezec. ii. | iiii |
xv | c | xviii kl. | Ezec. iii. | xiii | vi | v | |
xvi | d | xvii kl. | vii | xiiii | xiii | i. Pet. i. | |
xvii | e | xvi kl. | xiiii | xv | xviii | ii | |
xviii | f | xv kl. | xxxiii | xvi | xxxiiii | iii | |
xix | g | xiiii kl. | Dan. i. | xvii | Dan. ii. | iiii | |
xx | A | xiii kl. | iii | xviii | iiii | v | |
xxi | b | xii kl. | v | xix | vi | ii. Pet. i. | |
xxii | c | xi kl. | vii | xx | viii | ii | |
xxiii | d | x kl. | Ympryd. | ix | xxi | x | iii |
xxiiii | e | ix kl. | Barth. Apo. | Ecclu. xxv. | xxii | Ecclu. 29. | i. Iohn. i |
xxv | f | viii kl. | Dan. xi. | xxiii | Dan. xii. | ii | |
xxvi | g | vii kl. | xiii | xxiiii | xiiii | iii | |
xxvii | A | vi kl. | Ose. i. | xxv | Ose. 2.3. | iiii | |
xxviii | b | v kl. | Augustin. | iiii | xxvi | v. vi. | v |
xxix | c | iiii kl. | Lladd pen | vii | xxvii | viii | 2.3. Iohn |
xxx | d | iii kl. | Ioan fedydd. | ix | xxviii | x | Iud. |
xxxi | e | Prid. kl. | xi | Matth. i. | xii | Rhuf. i. |
¶ Y 13. o Daniel yw Histori Snsanna: a'r 14 yw Histori Bela'r Ddraig.
¶Medi sy iddo xxx o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | f | Kalend. | Silin. | Ose. xiii. | Mat. ii. | Ose. xiiii. | Rhuf. ii. |
ii | g | iiii No. | Ioel i. | iii | Ioel ii. | iii | |
iii | A | iii No. | iii. | iiii | Amos i | iiii | |
iiii | b | Prid. No. | Amos ii. | v | iii | v | |
v | c | Nonas. | Diwedd dyddiau 'r ci. | iiii. | vi | v | vi |
vi | d | viii Id. | vi. | vii | vii | vii | |
vii | e | vii Id. | Geni Eliz. | vii. | viii | ix | viii |
viii | f | vi Id. | Geni. Mair. | Abdia. i. | ix | Ionah i | ix |
ix | g | v Id. | Ion. ii. iii. | x | iiii | x | |
x | A | iiii Id. | Miche. i. | xi | Mich. ii. | xi | |
xi | b | iii Id. | iii. | xii | iiii | xii | |
xii | c | Prid. Id. | Sol in Libr. | v. | xiii | vi | xiii |
xiii | d | Idus. | vii. | xiiii | Nahu. i. | xiiii | |
xiiii | e | xviii kl. | Derch. ygro | Nahu. ii. | xv | iii. | xv |
xv | f | xvii kl. | Æquinoct. | Abac. i. | xvi | Abac. ii. | xvi |
xvi | g | xvi kl. | Autumnal. | iii. | xvii | Zoph. i. | i. Cor. i. |
xvii | A | xv kl. | Lambert. | Zoph. ii. | xviii | iii | ii |
xviii | b | xiiii kl. | Agge i. | xix | Agge. ii. | iii. | |
xix | c | xiii kl. | Zach. i. | xx | Zach. 2.3. | iiii | |
xx | d | xii kl. | Ympryd. | iiii. v. | xxi | vi | v |
xxi | e | xi kl. | S. Matth. | Ecclu. 35. | xxii | Eccle. 38. | vi |
xxii | f | x kl. | Zach. 7. | xxiii | Zach. viii. | vii | |
xxiii | g | ix kl. | ix | xxiiii | x | viii | |
xxiiii | A | viii kl. | xi | xxv | xii | ix | |
xxv | b | vii kl. | xiii | xxvi | xiiii | x | |
xxvi | c | vi kl. | Cyprian, | Mal. i. | xxvii | Mala. ii. | xi |
xxvii | d | b kl. | iii | xxviii | iiii. | xii | |
xxviii | e | iiii kl. | Tob. 1. | Marc. i. | Tob. ii. | xiii | |
xxix | f | iii kl. | S. Michael. | Ecclu. 39 | ii | Eccl. 44. | xiiii |
xxx | g | Prid. kl. | Hierom. | Tob. iii. | iii | Tob. iiii. | xv |
¶Hydref sy iddo xxxj o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | A | Kalend. | Remig. | Tob. v. | Marc. iiii | Tob. vi. | i. Cor. 16. |
ii | b | vi No. | vii | v | viii | ii. Cor. i. | |
iii | c | v No. | ix | vi | x | ii | |
iiii | d | iiii No. | xi | vii | xii | iii | |
v | e | iii No. | xiii | viii | xiiii | iiii | |
vi | f | Prid. No. | S. Ffydd. | Iudith. i. | ix | Iudith. ii. | v |
vii | g | Nonas. | iii | x | iiii | vi | |
viii | A | viii. Id. | v | xi | vi | vii | |
ix | b | vii. Id. | Denis. | vii | xii | viii | viii |
x | c | vi. Id. | ix | xiii | x | ix | |
xi | d | v. Id. | xi | xiiii | xii | x | |
xii | e | iiii. Id. | Sol in Scor. | xiii | xv | xiiii | xi |
xiii | f | iii. Id. | Edward. | xv. | xvi | xvi | xii |
xiiii | g | Prid. Id. | Doeth. i. | Luc. di. i. | Doeth. ii. | xiii | |
xv | A | Idus. | iii | di. i. | iiii | Galat. i. | |
xvi | b | xvii kl. | Nouemb. | v | ii | vi | ii |
xvii | c | xvi kl. | Etheldred. | vii | iii | viii | iii |
xviii | d | xv kl. | Luc Efang. | Eccl. li. | iiii | Iob i. | iiii |
xix | e | xiiii kl. | Doeth. ix. | v | Doeth. x. | v | |
xx | f | xiii kl. | xi | vi | xii | vi | |
xxi | g | xii kl. | xiii | vii | xiiii | Ephes. i. | |
xxii | A | xi kl. | xv | viii | xvi | ii | |
xxiii | b | x kl. | xvii | ix | xviii | iii | |
xxiiii | c | ix kl. | xix | x | Ecclu. i. | iiii | |
xxv | d | viii kl. | Crispin. | Ecclu. ii. | xi | iii | v |
xxvi | e | vii kl. | iiii | xii | v | vi | |
xxvii | f | vi kl. | Ympryd. | vi | xiii | vii | Phil. i. |
xxviii | g | v kl. | Sim. a Iud. | Iob 24.25 | xiiii | Iob 42. | ii |
xxix | A | iiii kl. | Ecclu. viii | xv | Eccl. ix. | iii | |
xxx | b | iii kl. | x | xvi | xi | iiii | |
xxxi | c | Prid. kl. | Ympryd. | xii | xvii | xiii | Colos. i. |
¶Tachwedd y sydd iddo xxx o ddyddiau
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | d | Kalend. | Holl Sainct | Doeth. iii. | Heb. xi.xii. | Doeth. v | Datc. 19 |
ii | e | iiii No. | Ecclu. 14 | Luc. xviii | Eccl. xv. | Coles. ii. | |
iii | f | iii No. | xvi | xix | xvii | iii | |
iiii | g | Prid. No. | xviii | xx | xix | iiii | |
v | A | Nonas | Brad y pow. | xx | xxi | xxi | i. Thes. i. |
vi | b | viii Id. | Leonard. | xxii | xxii | xxiii | ii |
vii | c | vii Id. | xxiiii | xxiii | xxv | iii | |
viii | d | vi Id. | xxvii | xxiiii | xxviii | iiii | |
ix | e | v Id. | xxix | Ioan. i. | xxx | v | |
x | f | iiii Id. | xxxi | ii | xxxii | ii. Thes. i. | |
xi | g | iii Id. | S. Martin. | xxxiii | iii | xxxiiii | ii |
xii | A | Prid. Id. | Sol in Sagit. | xxxv | iiii | xxxvi | iii |
xiii | b | Idus. | Brisus | xxxvii | v | xxxviii | i. Tim. i. |
xiiii | c | xviii kl. | Decembris. | xxxix | vi | xl | ii.iii. |
xv | d | xvii kl. | Machut. | xli | vii | xlii | iiii |
xvi | e | xvi kl. | xliii | viii | xliiii | v | |
xvii | f | xv kl. | Huw Escob. | xlv | ix | xlvi | vi |
xviii | g | xiiii kl. | xlvii | x | xlviii | ii. Tim. i. | |
xix | A | xiii kl. | xlix | xi | l | ii | |
xx | b | xii kl. | Edmūd fre. | li | xii | Baruc. i. | iii |
xxi | c | xi kl. | Baruc. ii. | xiii | iii | iiii | |
xxii | d | x kl. | Cicili. | iiii | xiiii | v | Titus i. |
xxiii | e | ix kl. | Clement. | vi | xv | Esa. i. | ii.iii. |
xxiiii | f | viii kl. | Esai. ii. | xvi | iii | Philem. | |
xxv | g | vii kl. | Katherin. | iiii | xvii | v | Hebr. i. |
xxvi | A | vi kl. | Lini. | vi | xviii | vii | ii |
xxvii | b | v kl. | viii | xix | ix | iii | |
xxviii | c | iiii kl. | x | xx | xi | iiii | |
xxix | d | iii kl. | Ympryd. | xii | xxi | xiii | v |
xxx | e | Prid. kl. | Andreas apo. | Dihar. xx | Act. i. | Diha. xxi | vi |
Noda, y gorfydd darllen dechreu y 26 Pen. o Ecclus, hyd y xxiii. gwers. gyd a'r 25. Pen.
Nota hefyd y bydd rhaid darllen y 46. o Ecclus hyd, Ac ar ol ei farwolaeth &c. gwers 20.
¶Rhagfyr syd iddo xxxj o ddyddiau.
Haul yn
|
awr
|
Boreuol weddi.
|
Prydnhawn weddi.
| ||||
Psalmau | |||||||
i | f | Kalend. | Grwst. | Esa. xiiii. | Act. ii. | Esai 15. | Heb. vii |
ii | g | iiii No. | xvi | iii | xvii | viii | |
iii | A | iii No. | xviii | iiii | xix | ix | |
iiii | b | Prid. No. | xx.xxi. | v | xxii | x | |
v | c | Nonas. | xxiii. | vi | xxiiii | xi | |
vi | d | viii Id. | Eicho. Esc. | xxv | di. vii. | xxvi | xii |
vii | e | vii Id. | xxvii | di. vii | xxviii | xiii | |
viii | f | vi Id. | Ymddwyn | xxix | viii | xxx | Iaco i. |
ix | g | v Id. | Mair. | xxxi | ix | xxxii | ii |
x | iiii Id. | xxxiii | x | xxxiiii | iii | ||
xi | b | iii Id. | xxxv | xi | xxxvi | iiii | |
xii | c | Prid. Id. | Sol in Capr. | xxxvii | xii | xxxviii | v |
xiii | d | Idus. | Luci. | xxxix | xiii | xl | i. Pet. i. |
xiiii | e | xix kl. | Januarii | xli | xiiii | xlii | ii |
xv | f | xviii kl. | xliii | xv | xliiii | iii | |
xvi | g | xvii kl. | O sapientia. | xlv | xvi | xlvi | iiii |
xvii | A | xvi kl. | xlvii | xvii | xlviii | v | |
xvii | b | xv kl. | Tydecho. | xlix | xviii | l | ii. Pet. i. |
xix | c | xiiii kl. | li | xix | lii | ii | |
xx | d | xiii kl. | Ympryd. | liii | xx | liiii | iii |
xxi | e | xii kl. | S. Thomas. | Diha. 23. | xxi | Diha. 24 | Ioan i. |
xxii | f | xi kl. | Esa. lv. | xxii | Esai. lvi | ii | |
xxiii | g | x kl. | lvii. | xxiii | lviii | iii | |
xxiiii | A | ix kl. | Ympryd. | lix. | xxiiii | lx | iiii |
xxv | b | viii kl. | Mara. Grisi | Esai. ix. | Luc 2. | Esai. vii. | Titus 3. |
xxvi | c | vii kl. | S. Stephan. | Diha. 28. | Act. 6.7. | Eccl. iiii. | Act. 7. |
xxvii | d | vi kl. | S. Ioan. | Eccles. v. | Dacc. 1. | Eccl. vi. | Datc. 22. |
xxviii | e | v kl. | Gwirioniai [...] | Iere. 31. | Act. 25. | Doeth. i. | i. Ioan v. |
xxix | f | iiii kl. | Esai. lxi. | xxvi | Esai. lxii. | ii. Ioan | |
xxx | g | iii kl. | lxiii | xxvii | lxiiii. | iii. Ioan | |
xxxi | A | Prid. kl. | Siluest. Esc. | lxv | xxviii | lxvi. | Iud. |
¶Y rhai hyn a gedwir yn ddyddiau Gvvyliau, ac nid yr vn arall.
SEf yw hynny, Yr holl Suliau yn y flwyddyn. Gwyliau, Enwaediad ein Harglwydd Iesu Grist. Yr Ystwyll. Puredigaeth y wynfydedig Fair forwyn. S. Matthias Apostol. Cyfarchiad y wynfydedig forwyn. S. Marc yr Efanglywr. S. Philip ac Iaco yr Apostolion. Dyrchafael ein Harglwydd Iesu Grist. Genedigaeth S. Ioan Fedyddiwr. S. Petr yr Apostol. S. Iaco yr Apostol. S. Bartholomeus Apostol. S. Matthew Apostol. S. Michael Archangel. S. Luc Efangylwr. S. Simon a Iud yr Apostolion. Gwyl yr holl Sainct. S. Andreas Apostol. S. Thomas Apostol. Natalic ein Harglwydd Iesu Grist. S. Stephan Ferthyr. S. Ioan Efengyl-wr. Gwyl y Gwirioniaid. Dydd Llun, a Dydd Mawrth Pasc. Dydd Llun, a Dydd Mawrth Sul-gwyn.
¶Hyspysrwydd i wybod pa bryd y dechreu ac y terfyna pob Term.
TErm y Pasc sy bob amser yn dechreu xviii. nhiwrnod gwedi'r Pasc, gan gyfrif Dydd Pasc yn vn, ac yn terfynu ddydd Llun nesaf gwedi'r Dyrchafel.
Term y Drindod sy yn dechreu xii. diwrnod gwedi y Sul-gwyn, ac yn parhau xix. diwrnod.
Term Mihangel sy yn dechreu y ix. neu'r x. dydd o Hydref, ac yn diweddu yr xxviii, neu'r xxix. o Dachwedd.
Term Hilar sy yn dechreu y xxiii. neu'r xxiiii. o Ianawr, ac yn terfynu y xii. neu 'r trydydd ar ddeg o Chwefror.
Y RHAG-YMADRODD.
NI bu erioed ddim wedi ei ddychymmygu mor ddiball, neu wedi ei gyfnerthu mor gadarn, drwy synhwyr dyn, yr hwn mewn yspaid amser nis llygrwyd: megis, ym-mhlith pethau eraill, y mae yn eglur ddigon wrth y gweddiau cyffredin yn yr Eglwys, y rhai a elwir yn sathredic, Gwasanaeth Duw. Bonedd a dechreuad cyntaf pa rai, pes chwilid am danynt ym-mysc gwaith yr hen dadau, fe geid gweled nad ordeiniwyd y gwasanaeth hwnnw, onid er amcan daionus, ac er mawr dderchafiad duwioldeb. Canys hwynt hwy a drefnasant y matter felly, fel y darllennid yr holl Fibl trosto (neu y rhan fwyaf o hono) vn-waith yn y flwyddyn: gā amcanu wrth hynny, fod i'r Gwyr llen, ac yn enwedic i'r fawl a fyddent weinidogion y Gynnulleidfa, allu (trwy fynych ddarllen a myfyrio gair Duw) fod wedi ymddarparu i dduwioldab, a bod hefyd yn aplach i annog eraill trwy ddysceidiaeth iachus, i'r vn peth, ac i allu gorthrechu dadl y rhai a wrthwyne bent y gwirionedd. Ac ym-mhellach, fel y gallei yr bobl (trwy glywed beunydd ddarllē yr Scrythur lan yn yr Eglwys) gynnyddu yn wastad fwy-fwy mewn gwybodaeth am Dduw, a dyfod i garu yn gynhasach ei wir Grefydd ef. Ond er ys talm o flynyddoedd, y darfu newidio, torri, ac escaeluso y dwywol a'r weddus drefn yma o waith yr hen Dadau, trwy blannu i mewn yn eu lle, Historiau amheus, Legendau, Attebion, Gwersi Adwersi gweigion, Caffodwriaethau, a Seneddolion, megis yn gyffredinol pan ddechreuid vn llyfr o'r Bibl, cyn darfod darllein tair neu bedair pennod o honaw, y cwbl onid hynny a adewid heb ei ddarllen. Ac yn y wedd hon y dechreuid llyfr Esai yn yr Adfent, a llyfr Genesis yn Septuagesima: eithr eu dechreu a wneid yn vnic, heb orphen eu darllen byth. A'r vn ffunyd yr arferid am lyfrau eraill or Scrythur lan. A chyd a hynny lle mynner S. Paul, fod dywedyd y cyfryw iaith wrth y bobl yn yr Eglwys ac a allent hwy ei deall, a chaffael lleshad o'i chlywed; y gwasanaeth yn yr Eglwys hon o Loegr (er ys llawer o flynyddoedd) a ddarllenwyd yn lladin i'r bobl, yr hwn nid oeddent hwy yn ei ddeall: ac felly yr oeddynt yn vnic yn clywed a'u clustiau, ond eu calonnau, a'u hyspryd, a'u meddwl oedd yn ddiadeilad oddi wrtho. Ac heb law hynny, er darfod i'r hen Dadau barthu y Psalmau yn saith ran, a phob vn o honynt a elwid Nocturn; yn awr er yn hwyr o amser, ychydig o honynt a d [...]edid beunydd, gan eu mynych ad ddywedyd, a gadu y darn arall heibio, heb yng ā vn-gair. Gyd a hynny, nifeiri a chaledrwydd y Rheolau y rhai a elwid y Pica, ac amrafael gyfnewidiau gwasanaeth, oedd yr achos, fod mor galed ac mor rhwystrus droi at gyfnodau y llyfr yn vnic; megis yn fynych o amser y byddei mwy o drallod yn chwilio am y peth a ddarll [...]nnid, [Page] nag yn ei ddarllen wedi ei gael. Felly wrth ystyried yr anghymhessurwydd hynny, fe a osodir yma y cyfryw drefn, fel y diwygir yr vn-rhyw betheu. Ac er mwyn parodrwydd yn y matter yma, y tynnwyd Calēdar i'r vn-rhyw bwrpas, yr hwn sydd eglur a hawdd ei ddeall, ym-mha vn (hyd y gellid) y gosodwyd allan wedd i ddarllen yr Scrythur lan, fel y gwneler pob peth mewn trefn, heb wahanu vn darn o honi oddi-wrth ei gilydd. Ac oblegit hyn y torred ymmaith Anthemau, Respondau, Iusitatoriau, a chyfryw wag bethau amherthynasol ac oedd yn torri cwrs cyfan ddarlleniad yr Scrythur. Etto gan nad oes fodd amgen, na byddo angenrheidiol bod ymbell reol; am hynny y gosodwyd yma ryw reolau, y rhai megis nad ydynt onid ychydig o nifer, felly y maent yn rhwydd, ac yn hawdd eu deall. Wrth hynny y mae i chwi yma ffurf ar weddio (tu ag at am ddarllen yr Scrythur lan) yn gwbl gysson a meddwl ac amcan yr hen Dadau, ac o lawer yn fwy proffidiol, a chymmwys na'r vn yr oeddid yn ddiweddar yn ei arfer. Y mae yn fwy proffidiol, o achos bod yma yn gadu allan lawer o bethau, o basawl y mae rhai heb fod yn wir, rhai yn amheus, rhai yn wag ac o ofer-goel; ac nid ydys yn ordeinio darllen dim onid Pur-wir air Duw, yr Scrythur lan, neu yr cyfryw a seilir arni yu eglur, a hynny yn y cyfryw iaith a threfn ag y sydd esmwythaf a hawsaf eu deall gan y darllen-wyr, a'r gwrandaw-wyr.
Y mae hefyd yn fwy cymmwynasol, yn gystal o herwydd ei fyrred, ac o herwydd eglured ei drefn, ac o herwydd bod y rheolau yn ychydig o nifer ac yn hawdd. A chyd a hynny, wrth y drefn hon, nid rhaid i'r Curadiaid vn llyfr arall iw gwasanaeth cyffredin, ond y llyfr hwn a'r Bibl. O herwydd pa ham, nid rhaid i'r bobl fyned mewn cymmeint o draul am lyfrau ag y byddent amser a fu.
A lle bu ym-mlaen llaw amrafael mawr wrth ddywedyd a chanu yn yr Eglwysi o fewn y Deyrnas hon, Rhai yn canlyn arfer Salesburi, rhai arfer Henffordd, rhai arfer Bangor, rhai arfer York, a rhai eraill arfer Lincoln: yn-awr o hyn allan ni bydd i'r holl deyrnas ond vn arfer. Ac o barna neb fod y ffordd hon yn fwy poenus, o achos bod yn rhaid darllen pob peth ar y llyfr, lle o'r blaen o herwydd mynych ddywedyd, y gwyddent lawer peth ar dafod leferydd, eithr os y cyfryw rai a gydbwysant eu llafur, ynghyd a'r budd a'r gwybodaeth a gaffant beunydd wrth ddarllen ar y llyfr, ni wrthodant hwy y boen wrth weled meint y budd a dyf o hyn yma.
Ac yn gymmaint ag na ellir gosod dim gan-mwyaf mor eglur, ag na chyfotto petruster wrth ymarfer o honaw: I ostegu pob cyfryw amrafael (o chyfyd yr vn) ac am ddosparth pob rhyw betruster ynghylch y modd a'r wedd y mae deall a gwneuthur, a chwplau pob peth a gynnwysir [Page] yn y llyfr hwn: y partiau a fyddont yn ammeu felly, neu a fyddont yn cymmeryd dim mewn amrafael foddion, a ant at Escob yr Escobaeth, yr hwn wrth ei ddoethineb a rydd drefn, er llonyddu, a heddychu y ddadl, trwy na byddo y drefn honno yn wrthwyneb i ddim ar y sydd yn y llyfr hwn. Ac o bydd Escob yr Escobaeth mewn dim petruster, yna y gall efe anfon am hyspysrwydd at yr Archescob.
Er bod yn osodedic yn y Rhagymadrodd a scrifennwyd o'r blaen, fod pob peth a'r a ddarllenir neu a genir yn yr Eglwys, yn yr iaith Gamberaec, er mwyn adeiladu y Gynnulleidfa: er hynny nid ydys yn meddwl, pan ddywedo neb Blygain a Gosper wrtho ei hun, na dichon efe eu dywedyd ym-mha iaith bynnac a ddeallo.
A phob Offeiriad a Diacon fydd rwymedic i ddywedyd beunydd y foreuol, ar Bryd-nhawnol weddi, naill ai yn nailltuol ai ar osteg, oddi-eithr bod rhwystr arnynt gau bregethu, studio difiniti, ai o ran achos arall tra anghenrheidiol.
A'r Curad, sef y periglor, a fo yn gwasanaethu ym-mhob Eglwys blwyf neu Gapel, ac efe gartref, heb Iuddias rhesymol arno, rhaid iddo ddywedyd y gwasanaeth hwnnw, yn yr Eglwys blwyf neu y Cappel lle y bo efe yn gwasanaethu, a bod canu cloch iddo ar amser cymhesur, cyn iddo ddechreu, modd y gallo y neb a fyddo ganddo ddefosion, ddyfod i wrando gair Duw, ac i weddio gyd ag ef.
¶Tabl a Chalendar, yn hyspysu trefn y Psalmau a'r llithiau a draethir ar Foreuol a Phrydnawnol weddi trwy'r flwyddyn, oddiethr ychydig wyliau priodol, fel y dengys y rheolau hyn yn helaethach.
Y drefn yr appwyntir darllain y Psallwyr, neu Lyfr y Psalmau.
Y Psallwyr a ddarllennir vnwaith bob mis. Ac o herwydd bod rhai o'r misoedd yn hwy nâ'r llaill, fe dybiwyd yn dda eu cymmhwyso hwy fel hyn.
I'r perwyl yma yr appwyntir i bob mis ddeg ar hugain vnion o ddiwrnodiau.
Ac o herwydd bod i Ionawr a Mawrth vn diwrnod mwy nâ xxx, ac nad oes i Chwefror sy rhyngthynt ill dau, ond xxviii, Chwefror a fenthygia vn diwrnod gan bob vn o'r ddau fis, Ionor a Mawrth: ac felly Psalmau mis Chwefror sy raid eu dechreu ar y dydd diwethaf o Ionor, a'i diweddu ar y dydd cyntaf o Fawrth.
A lle y mae i Fis Mai, Gorphenhaf, Awst, Hydref, a Rhagfyr, xxxi o ddyddiau bob vn; fe a ordeiniwyd for darllein y dydd diwethaf o'r misoedd hynny, y Psalmau a ddarllennwyd y dydd o'r blaen; fel y gallo y Psalmau ddechreu drachefn y dydd cyntaf o'r mis a fyddo'n canlyn.
Ac i gael gwybod pa psalmau a ddarllennir, edrych yn y Calendar y rhifedi a appwyntiwyd i'r Psalmau, ac yna cais yr vn rhifedi yn y Tabl sydd yn canlyn, ac ar gyfer y rhifedi hwnnw y cai weled pa Psalmau a ddarllennir ar Foreuol a Phrydnawnol weddi.
A lle y cyfrennir y 119. Psalm yn ddwy ran ar hugain, a'i bod yn rhy hir iw darllain ar vnwaith; fe a drefnwyd na bod darllain vwch law pedair neu bump o'r rhannau hynny ar yr vn amser; fel y mae wedi ei yspyssu yn y Tabl sydd yn canlyn.
¶Y Tabl i ddangos pa drefn y darllennir y Psalmau ar Foreol a Phrydnhawnol weddi.
Boreol weddi. | Prydnhawnol weddi. | |
1 | i. ii. iii. iiii. v. | vi. vii. viii. |
2 | ix. x. xi. | xii. xiii. xiiii. |
3 | xv. xvi. xvii. | xviii. |
4 | 19. 20. 21. | xxii. xxiii. |
5 | xxiiii. xxv. xxvi. | 27. 28. 29. |
6 | xxx. xxxi. | 32. 33. 34. |
7 | xxxv. xxxvi. | 37. |
8 | xxxviii. xxxix. xl. | xli. xlii. xliii. |
9 | xliiii. xlv. xlvi. | xlvii. xlviii. xlix. |
10 | l. li. lii. | liii. liiii. lv. |
11 | lvi. lvii. lviii. | lix. lx. lxi. |
12 | lxii. lxiii. lxiiii. | lxv. lxvi. lxvii. |
13 | lxviii. | lxix. lxx. |
14 | lxxi. lxxii. | lxxiii. lxxiiii. |
15 | lxxv. lxxvi. lxxvii. | lxxviii. |
16 | lxxix. lxxx. lxxxi. | 82. 83. 84. 85. |
17 | 86. 87. 88. | 89. |
18 | xc. xci. xcii. | xciii. xciiii. |
19 | xcv. xcvi. xcvii. | xcviii. xcix. c. ci. |
20 | cii. ciii. | ciiii. |
21 | cv. | cvi. |
22 | cvii. | cviii. cix. |
23 | cx. cxi. cxii. cxiii. | cxiiii. cxv. |
24 | cxvi. cxvii. cxviii. | cxix. Inde. iiii. |
25 | Inde v. | Inde. iiii. |
26 | Inde v. | Inde. iiii. |
27 | 120. 121. 122. 123. 124. 125. | 126. 127. 128. 129. 130. 131. |
28 | 132. 133. 134. 135. | 136. 137. 138. |
29 | 139. 140. 141. | cxlii. cxliii. |
30 | 144. 145. 146. | cxlvii. cxlviii. cxlix. cl. |
Y Drefn pa wedd heb law'r Psalmau y dosparthwyd bod darllain y rhan arall o'r Scrythur lân.
YR hen Destament a osodwyd yn llithoedd cyntaf ar foreu, a phrydahawn weddi, ac a ddarllennir trwyddo bob blwyddyn vn-waith, oddieithr rhyw lyfrau, a phennodau, y rhai sy leiaf yn adeilad, ac a ellid yn oreu eu hepcor, ac am hynny a adewir heb ddarllein.
Y Testament newydd a osodwyd yn ail llithoedd ar foreu a phrydnhawn weddi, ac a ddarllennir drosto mewn trefn bob blwyddyn deirgwaith, heb law'r Epistolau a'r Efangylon: oddieithr Datcuddiad Ioan, o'r hwn y gosodwyd bod rhyw Lithoedd ar amrafael wyliau priod.
Ac i wybod pa lithoedd a ddarllennir bob dydd, myn gael y dydd o'r mis yn y Calendar o'r blaen, ac yno y cei ddeall y llyfrau a'r pennodau a ddarllennir yn llithoedd ar foreu a pryd-nhawn weddi.
A rhaid yw nodi hyn yma, pa bryd bynnac y byddo Psalmau priod, neu lithoedd, wedi eu gosod i'r Suliau, neu i ryw wyl symmudol neu ansymmudol; yna y Psalmau a'r Llithoedd gosodedig yn y Calendar a faddeuir tros yr amser hynny.
Rhaid yw i ti nodi hefyd, fod y Colect, yr Epistol, a'r Efengyl, a osodir ar y Sul, yn gwasanaethu tros yr holl wythnos rhag llaw, oddieithr digwyddo rhyw wyl y bo iddo rai priod.
Pan aller parthu blynyddoedd yr Arglwydd yn bedair rhan gyfnifer, yr hyn fydd bob pedair blynedd, yna y neidia llythyr y Sul; a'r flwyddyn honno, y Psalmau a'r llithoedd, y rhai a wasanaethant i'r 23. o Chwefror, a ddarllennir y dydd nesaf, oddieithr ei fod yn ddydd Sul, yr hwn sydd iddo Lithoedd priod o'r hen Destament gosodedic yn y Tabl sy yn gwasanaethu i'r defnydd hynny.
Hefyd, ple bynnac ni bo dechreu y Llith, Epistol, neu Efengyl wedi ei yspysu: yna y bydd rhaid dechreu yn nechreuad y bennod.
A pha le bynnac nid yspyser pa gyn belled y darllennir, yna y darllennir hyd ddiwedd y bennod.
Hefyd, cyn fynyched ac y darllennir y bennod gyntaf o S. Matthew yn llith neu yn Efengyl, dechreuer ar y 18. wers, A genedigaeth Iesu Grist oedd fel hyn &c. A'r drydedd bennod o Efengyl S. Luc a ddarllennir hyd y 23. wers, Mab (fel y tybid) i Ioseph &c.
¶Pennodau neilltuol, neu briod, iw darllen yn llithieu cyntaf ar Foreuol a Phrydnhawnol weddi, ar y Sulieu trwy'r holl Flwyddyn, a rhai o'r ail Llithiau.
Plygain. | Gosper. | |
Sulieu yr | ||
Adfent. | ||
Y cyntaf | Esai. i. | Esai. ii. |
ii | v | xxiiii |
iii | xxv | xxvi |
iiii | xxx | xxxii |
Sulieu gwedi | ||
Natalic Crist. | ||
Y cyntaf | xxxvii | xxxviii |
ii | xli | xliii |
Suliau gwedi | ||
'r Yst wyll. | ||
Y cyntaf | xliiii | xlvi |
ii | li | liii |
iii | lv | lvi |
iiii | lvii | lviii |
v | lix | lxiiii |
Septuagesima. | Gene. i. | Gene. ii. |
Sexagesima. | iii | vi |
Quinquages. | ix | xii |
Grawys. | Plygain. | Gosper. |
Sul cyntaf. | xix. | xxii. |
ii | xxvii | xxxiiii |
iii | xxxix | xlii |
iiii | xliii | xlv |
v | Erod. iii | Exod. v. |
vi | ix | x |
Die Pasc. | ||
i. Llith. | Erod xii | Exod. xiiii |
ii. Llith. | Rhuf. vi. | Act. ii |
Suliau gwedi'r Pasc.
Plygain. | Gosper. | |
Y cyntaf | Num. xvi | Num. xxii |
ii | xxiii | xxv |
iii | Deut. iiii | Deut. v |
iiii | vi | vii |
v | viii | ix |
Y Sul gwedi yr Derchafael. | Deut. xii. | Deut. xiii |
Y Sul-gwyn. i. Llith. ii. Llith. | Deut. xvi Actau. x. 34. Yno yr agorodd Petr ei enau. | Doethineb. i Actau. xix Hyd wers. 21. Gwedi cyflawni hyn. |
Suly Drindod i. Llith. ii. Llith. | Gene. xviii. Mat. iii. | Iosua. i. |
ii. Llith. | Mat. iii. |
Suliau gwedi'r Drindod.
Plygain. | Gosper. | |
Y cyntaf | Iosua x. | Iosua xxiii. |
ii | Barn. iiii. | Barn. v. |
iii | 1. Sam. ii. | i. Sam. iii. |
iiii | xii | xiii |
v | xv | xvi |
vi | ii. Sam. xii. | ii. Sam. xxi. |
vii | xxii | xxiiii |
viii | i. Bren. xiii. | i. Bren. xvii. |
ix | xviii | xix |
x | xxi | xxii |
xi | ii. Bren. v. | ii. Bren. ix. |
xii | x | xviii |
xiii | xix | xxiii |
xiiii | Ierem. v. | Ierem. xxii. |
xv | xxxv | xxxvi |
xvi | Ezec. ii. | Ezec. xiiii. |
xvii | xvi | xviii |
xviii | xx | xxiiii |
xix | Dan. iii. | Daniel vi. |
xx | Ioel ii. | Mic. vi. |
xxi | Abac. ii. | Dihareb. i. |
xxii | Dihareb. ii. | iii |
xxiii | xi | xii |
xxiiii | xiii | xiiii |
xxv | xv | xvi |
xxvi | xvii | xix |
❧Llithiau priod, neu neilltuol i bob dydd gwyl.
Plygain. | Gosper. | |
S. Andreas. | Dihareb. xx. | Dihar. xxi. |
S. Tho. Ap. | Dihar. xxiii | xxiiii |
Natalic. | ||
Christ. | ||
i. Llith. | Esai. ix. | Esa. 7.10. A'r |
ii. Llith. | Luc. ii. Hyd, Ac i ddynion ewyllys da. gwers. 14. | Arglwydd a chwanegodd. Tit. iii 4. wedi i ddaioni Duw |
S. Stephan | ||
i. Llith. | Dihar. xxviii | Pregeth. iiii. |
ii. Llith. | Act. 6.8. Stephan yn llawn Ffydd a nerth. Hyd 30. Ac wedi cyflawni | Act. vii. 30. Ac wedi cyflawni deugain mhlynedd. Hyd, ac efe yn gyflawn o'r |
S. Ioan. | deugain &c. | Yspryd glangwers. 55. |
i. Llith. | Eccles. v. | Eccles. vi. |
ii. Llith. | Datc. i. | Datc. xxii. |
Gwirioniaid | Ier. xxxi. | Doeth. i. |
Dydd yr Enwaediad. | Hyd. clywais Ephr. gw. 18. | |
i. Llith. | Genes. xvii. | Deut. x. Hyd wers. 12. Ac yr awrhon Israel. |
ii Llith. | Rhuf. ii. | Colos. ii. |
Ystwyll. | Plygain. | Gosper. |
i. Llith. | Esay. xl. | Esay. xlix. |
ii. Llith. | Luc. iii. Hyd. Mab (fal y tybid) i | Ioan. ii. Hyd. Gwedi hynny efe a |
Troad S. | Ioseph. | aeth i wared. |
Paul. | gwers. 23. | gwers. 12. |
i. Llith. | Doeth. v. | Doeth. vi. |
ii. Llith. | Actau. xxii. Hyd, A hwy a'i &c. gw. 22. | Actau. xxvi. |
Puredigaeth Mair forw. | Doeth. ix. | Doeth. xii. |
S. Matthias. | Doeth. xix. | Eccles. i. |
Cennadwri Mair forwyn. | Eccles. ii. | Eccles. iii. |
Dydd Mercher cyn y Pasc. | Osee. xiii. | Osee xiiii. |
Dydd Iau cyn y Pasc. | Daniel. ix. | Ierem. xxxi. |
Gwener y croglith. | Gen. xxii. | Esay. liii. |
Nos Basc. Dydd Llun Pasc. | Zach. ix. | Exod. xiii. |
i. Llith. | Exod. xvi. | Exod. xvii. |
ii. Llith. | Mat. xxviii. | Actau. iii. |
Dydd Mawrth Pasc. | ||
i. Llith. | Exod. xx. | Exod. xxii. |
ii. Llith. | Luc. xxiiii. Hyd. wers. 12. Ac wele ddau o honynt. | i. Cor. xv. |
Plygain. | Gosper. | |
S. Marc. | Eccle. iiii. | Eccle. v. |
Phil. ac Iac. | Eccle. vii. | Eccle. ix. |
Dydd y Derchafael. | Deut. xii. | ii. Bren. ii. |
Dydd Llun y Sul-gwyn. | Num. xi. 16. | |
i. Llith. | Genes. xi. Hyd. Dymma genedlaethau Sem. gwers. 10. | Yna y dywedodd yr Arglwydd. Hyd wers 30. A Moses a aeth i'r gwersyll. |
ii. Llith. | i. Cor. xii | |
Dydd | i. Sam. xix. | Deut. xxx. |
Mawrth y Sul gwyn. S. Barnab. | Felly Dafydd a ffôdd. &c. gwers. 18. | |
i. Llith. | Eccle. x. | Eccle. xii. |
ii. Llith. | Actau. xiiii. | Act. xv. Hyd. Gwedi nifer o ddyddiau. gwers. 36. |
S. Ioan fedyddiwr. | ||
i. Llith. | Malach. iii. | Malach. iiii. |
ii. Llith. | Matth. iii. | Matth. xiiii. Hyd. A phan glybu yr Iesu. gwers. 13. |
S. Petr. | ||
i. Llith. | Eccles. xv. | Eccle. xix. |
ii. Llith. | Actau. iii. | Actau. iiii. |
S. Iaco. | Eccles. xxi. | Eccle. xxiii. |
S. Barthol. | xxv | xxix |
S. Matth. | xxxv | xxxviii |
S. Mihang. | xxxix | xliiii |
Plygain | Gosper. | |
S. Luc. | li | Iob. i. |
S. Simon a Iud. Holl Saint. | Iob 24.25. | Iob. xlii. |
i. Llith. | Doeth. 3. | Doeth. v. |
Hyd, Canys dedwydd yw 'r amlhantadwy. gwers. 13. | Hyd, Efe a gymmer ei eiddigedd. gwers. 18. | |
ii. Llith. | Heb. xi. 33. | Dat. xix. |
Saint trwy ffydd a erescynnasant. Hyd. pen. 12. 7. Os goddefwch. | Hyd, Ac mi a welais Angel yn sefyll. gwers 17. |
¶Psalmau priod ar ryw ddyddiau.
Plygain. | Gosper. | |
Die Natalic. |
|
|
Dydd Pasc. | ii | Cxiii |
lvii | Cxiiii | |
Cxi. | Cxviii. | |
Dydd y Derchafael. | viii | xxiiii |
xv | lxviii | |
xxi. | Cviii. | |
Sul-gwyn. | xlv | Ciiii |
xlvii. | Cxlv. |
¶ Act am vnffurfiad Gweddi Gyffredin, a gwasanaeth yn yr Eglwys, a ministriad y Sacramentau.
LLe yr ydoedd ar farwolaeth ein diweddar ardderchawg Arglwydd Brenin Edward y chweched, vnffunyd drefn ar gyffredin wasanaeth a gweddi, a ministriad y Sacramentau, Rhithiau, a defodau, yn aros yn Eglwys Loegr, yr hon drefn a osodasid allan yn vn llyfr, a elwid, Llyfr gweddi gyffredin, a ministriad y Sacramentau, a Chynneddfau eraill a Ceremoniau yn Eglwys Loegr: wedi eu hawdurdodi drwy Act o Barliament wedi ei gynnal yn yn y bummed ar chweched flwyddyn o'n dywededic ardderchawg Arglwydd Frenin Edward y chweched, tituledic, Act am vnffurfiad Cyffredin weddi, a ministriad y Sacramentau, yr hon a repeliwyd, ac a gymmerwyd ymmaith drwy Act o Barllament yn y flwyddyn gyntaf o deyrnasiad ein hardderchawg Arglwyddes Frenhines Mari, i fawr adfail dyledus anrhydedd Duw, ac anghyssur i broffess wyr gwirionedd Crefydd Crist.
Enacter gan hynny drwy awdardod y Parliament presennol hwn, fod y ddywededic statut o Ddirymiad, a phob dim cynnwysedic ynddi o ran y dywededic lyfr yn vnic, a'r gwasanaeth, a ministriad y Sacramentau, cynneddfau, a Ceremoniau cynnwysedic neu osodedic yn, neu gan y dywededic lyfr; yn ofer, ac yn ddirym, yn ol, a chwedi gwyl Genedigaeth S. Ioan Fedyddiwr nesaf i ddyfod. A bod y dywededic lyfr, a threfn y Gwasanaeth, a ministriad y Sacramentau, cynneddfau a Ceremoniau, ynghyd a'r cyfnewidion, a'c ychwanegion a chwanegwyd ynddo, ac a ossodwyd drwy yr statut hon, yn sefyll, ac yn bod, yn ol, a chwedi y ddywededic wyl Genedigaeth Sanct Ioan Fedyddiwr, mewn cyflawn rym ac effect, yn ol tenur ac effect yr statut hon: Er dim ac y sydd yn y ddywededic statut o ddirymmiad i'r gwrthwyneb.
A phellach enacter gan vchelder y Frenhines, ynghyd a chydsynniad yr Arglwyddi a'r Cyffredin sydd wedi ymgynnull yn y Parliament presennol hwn, a chan awdurdod yr yn-rhyw, fod pob vn, a chwbl o'r Gwenidogion ym-mhob Eglwys Gadeiriol, a phlwyfol, neu mewn lle arall o fewn y Deyrnas hon o Loegr, Cymbru, ac ardaloedd yr vn-rhyw, neu eraill o arglwyddiaethau y Frenhines, yn ol, a chwedi Gwyl Genedigaeth Sanct Ioan Fedyddiwr nesaf i ddyfod, yn rhwymedic i ddywedyd ac i arfer y Plygain, Gosper, gweinidogaeth Swpper yr Arglwydd, a ministriad pob vn o'r Sacramentau a'r holl Gyffredin, a chyhoedd weddi arall, yn y cyfryw drefn a ffurf ac a adroddir yn y dywededic lyfr, felly wedi ei awdurdodi gan Barliament yn y ddywededic bummed a'r chweched flwyddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, gyd ag vn newidiad neu anghwanegiad o ryw Lithiau iw harfer ar bob Sul yn y flwyddyn, a ffurf y Letani wedi ei newidio a'i gorrectio, a dwy sentens yn vnic wedi ei anghwanegu wrth roddi y Sacrament i'r Cymmunolion, ac nid arall, neu ym modd amgen. Ac o bydd i neb rhyw Berson, Vicar, neu arall pa wenidog bynnac, a ddylei, neu a fydd iddo ganu, neu ddywedyd y weddi gyffredin, a goffawyd yn y dywededic lyfr, neu finistrio y Sacramentau, yn ol, a chwedi Gwyl Nadalic S. Ioan Fedyddi-wr nesaf i ddyfod, wrthod arferu y dywededic weddiau cyffredin, neu finistrio y Sacramentau, yn y cyfryw Eglwys Gadeiriol, neu Eglwys blwyfol, neu leoedd eraill, ac y dylei efe finistrio yr vn rhyw, yn y cyfryw ffurf a threfn ac a adroddir, ac a ddatcenir yn y dywededic lyfr, neu o'i wirfodd, neu o anhydynder (gan sefyll yn hynny) arferu o ryw eraill gynneddfau a Ceremoniau, Trefn, ffurf neu wedd ar weinidogaeth Swpper yr Arglwydd, ar gyhoedd neu yn ddirgel, neu Blygain, Gosper, ministriad y Sacramentau, neu eraill weddiau ar osteg, amgen nac a adroddir ac a ddeclarir yn y dywededic lyfr (Gweddi ar osteg yn a thrwy yr holl Act hon, a ddeallir y weddi sydd i eraill ddyfod iddi iw gwrando, mewn Eglwysau cyffredin, neu Gapelau dirgel, neu Oratoriau, yr hon a elwir yn gyffredin Gwasanaeth yr Eglwys) neu bregethu, declario, neu lefaru dim oll er distadlu, neu ammerchi y dywededic Lyfr, neu ddim ar y sydd ynddo, neu ryw barth o honaw, a bod o hynny yn gyfraith-lawn wedi ei farnu yn ol cyfreithiau y Deyrnas hon, trwy verdict deuddeng-wyr, neu trwy ei gyff [...]s ei hun, neu trwy hynod eglurdab y weithred; efe a gyll ac a fforfettia i vchelder y Frenhines, ei hetifeddion, [Page] a'i successoriaid, am ei gamwedd cyntaf, broffit ei holl renti ysprydawl neu bromossonau yn dyfod, neu yn cyfodi yn y flwyddyn nesaf ar ol ei gōuictiad: A bod hefyd i'r neb a gonuictier felly, am yr vnrhyw gainwedd, ddioddef carchar dros yspaid chwemis, heb na meichiau na maynpris. A bod i'r cyfryw vn, ac a gonuictier un-waith am vn camwedd herwydd y pethau a grybwyllwyd, os bydd iddo gwedi ei gonuictiad cyntaf, drachefn droseddu, a bod o hynny yn y ffurf ddywededic yn gyfreith-lawn wedi ei gonuictio, yna bod i'r vn rhyw ddyn am ei all camwedd ddioddef carchar dros yspaid vn flwyddyn gyfan, a hefyd bod ei ddepreifio Ipso facto, o'i holl bromosionau Ysprydol. A bod yn gyfreith-lawn i bob Patron, neu roddwr, cwbl, a phob vn o'r promosionau ysprydol hynny, neu neb vn o honynt, bresentio, neu goiatio i'r vn-rhyw, megis pe byddei y nebun, neu yr neb rhai a droseddo felly, wedi marw. Ac o bydd i neb vn, neu i neb rhai yn of ei gonuietio ddwy-waith yn y ffurf ragddywededic, droseddu yn erbyn neb vn o'r rhagbwylledigion y drydedd waith, a bod o hynny yn y ffurf ragddywededic yn gyfreithlawn wedi ei gonuictio, yna y neb a droseddo felly, ac a gonfictier y drydedd waith, a ddepreifir Ipso facto, o'i holl bromosionau ysprydol, a hefyd gorfod iddo ddioddef carchar tra fyddo byw.
Ac os bydd y neb a droseddo, ac a gonuictier yn y ffurf ragddywededic, oblegit yr vn o'r petheu a grybwyllwyd, heb rent iddo, ac heb ganddo bromosioneu ysprydol: Yna bod i'r vnrhyw wr hwnnw a drosseddo felly, ac a gonuictier, am y trosedd cyntaf ddioddef carchar tros y flwyddyn gyfan nesaf ar ol ei ddywededic gonfictiad, heb na meichieu na mainpris. Ac os y cyfryw vn, heb iddo ddim promosioneu ysprydol, wedi ei gonuictiad cyntaf, a drosedda drachefn mewn dim oblegid y petheu a grybwyllwyd, ac yn y ffurf ddywededic yn gyfreith-lawn a gonuieter o hynny, yna bod i'r cyfryw vn hwnnw, am ei ail drosedd ddioddef carchar tra fyddo byw.
Ac fe a ordeiniwyd, ac a enactiwyd drwy yr awdurdod a ddywedpwyd vchod, o bydd i ryw vn, neu ryw rai, pwy bynnac font, wedi y ddywededic wyl o Enedigaeth Ioan Fedyddiwr nesaf i ddyfod, mewn vn-rhyw Enterlud, Chwareon, Caniadau, Rhimmynnau, neu drwy eraill eiriau agored, ddeclario neu ddywedyd dim rhyw beth er distadlu, diystyru a dirmygu yr vn-rhyw lyfr, neu ddim a gynhwysir ynddo, neu neb rhan o honaw, neu drwy ffact agored, gweithred, neu drwy fygythiau agored, gymmell neu beri, neu ryw fodd arall brocurio neu gynnal neb Person, Vicar, neu weinidog arall, mewn vn Eglwys Gadeiriol, neu Eglwys blwyfol, neu mewn Capel, neu mewn vn lle arall, i ganu, neu i ddywedyd Gweddi gyffredin neu agored, neu i Weini vn Sacrament, yn amgenaco neu mewn: gwedd a ffurf amgen nac a osodwyd yn y dywededic lyfr, neu drwy yr vn o'r dywededic foddion, yn anghyfreithlawn rwystro, neu Iuddias i neb Person, Vicar neu Weinidog arall, mewn vn Eglwys Gadeiriol, neu blwyfol, Capel, neu mewn vn lle arall, i ganu neu ddywedyd Gweddi gyffredin neu agored, neu Finistrio y Sacramentau, neu neb o honynt, yn y cyfryw wedd a ffurf ac a grybwyllwyd yn y dywededic lyfr: Yna bod i bob rhyw vn, wedi yn gyfreithlawn ei gonuictio o hynny, yn y ffurf ddywededic, fforffettio i'r Frenhines ein Goruchel Arglwyddes, ei hetifeddion, a'i successoriaid, am y trosedd cyntaf, gan-Morc.
Ac os bydd i ryw vn, neu i ryw rai, a gonuictwyd vn-waith am y cyfryw drosedd, droseddu trachefn yn erbyn neb vn o'r troseddion diwethaf a adroddwyd, ac iddynt fod yn y ffurf ddywededic yn gyfreithlawn wedi eu confictio, Yna bod i'r vn rhyw vn felly yn troseddu ac yn gonfictiedic, am yr ail drosedd fforffettio i'n Goruchel Arglwyddes Frenhines, ei hetifeddion, a'i successoriaid bedwar cant o forciau. Ac o bydd i neb, wedi iddo yn y ffurf ddywededic fod ddwywaith yn gonfictiedic o neb trosedd yn perthynu i'r troseddion diwethaf a adroddwyd, droseddu y drydedd waith, a bod o hynny, yn y ffurf vchod, yn gyfreithus wedi ei gonfictio: bod yna i bob vn yn trosseddu felly, am ei drydedd drosedd fforffettio i'n Goruchel Arglwyddes Frenhines ei holl dda a chateloedd, a dioddef carchar yn ei fyw. Ac o bydd i ryw vn, neu i ryw rai, yr hwn am ei drosedd cyntaf o herwydd y petheu a grybwyllwyd, gael ei gonfictio yn y ffurf ddywededic, na thalo y swm taladwy o rym ei gonfictaid, yn y cyfryw wedd a ffurf ac y dirper talu yr vn-rhyw, o fewn chwech wythnos nesaf yn ol ei gonfictiad, bod yna i bob vn a gonficter felly, ac heb dalu yr vn-rhyw, am y trosedd cyntaf, yn lle y swmm dywededic, ddioddef ei garcharu dros yspaid chwe-mis, heb na meichiau na maynpris. Ac o bydd i ryw vn, neu i ryw rai, yr hwn am yr all drosedd herwydd y peth eu a gryhwyllwyd, a gonfictier yn y ffurf ddywededic, na thalo y swmm dywededic, taladwy drwy rym ei gonfictiad, a'r Statut hon, yn y cyfryw wedd a ffurf ag y dyleir talu yr vn-rhyw, o fewn chwech wythnos cyntaf ar ol ei all confictiad: bod yna i bob rhyw vn felly a gonfictiwyd, ac heb felly dalu yr vn-rhyw, am yr vn-rhyw all drosedd, yn lle y dywededic swmm, gael dioddef ei garcharu dros yspaid 12 mis, heb na meichiau na maynpris. Ac yn ol a chwedi y ddywededic wyl Natalic S. Ioan Fedyddi-wr nesaf i ddyfod, fod i bawb oll yn gwbl, ac y sydd yn presswylio o fewn y deyrnas hon, neu le arall o arglwyddiaethau Mawredd y Frenhines yn ddiescaelus, ac yn ffydd-lawn, oddi eithr bod [Page] escus cyfreithiol a rhesymmol i fod ymaith, wneuthur eu goreu ar fynychu iw Heglwys blwyf, neu Gapel delodedic, neu o ran rhwystr resymmol rhag hynny, i ryw fan arferedic, lle y byddo Gweddi gyffredin, a chyfryw wasanaeth Duw yn arferedic, yn y cyfryw amser rhwystr, ar bob Sul a dyddiau eraill ordeiniedic ac arferedic iw cadw megis yn wyliau: ac yna, ac yno aros yn drefnus, ac yn bwyllog ar hyd amser y weddi gyffredin, pregethau neu arall Wasanaeth Duw, a arferer, neu a finistrer yno, dan boen cospedigaeth gau Censurau yr Eglwys, a hefyd dau boen, fod i bob vn yn troseddu felly fforffettio am bob cyfryw drosedd ddeuddec ceiniog iw codi gan wardeniad y plwyf y gwneler y cyfryw drosedd ynddo i fwyniant y tlodion o'r vn-rhyw blwyf, o dda, tiroedd, a thyddynnau y cyfryw drosedd-wr, drwy atafael. Ac er mwyn iawn gyflawni y pethau hyn, y mae rhagorawl Fawredd y Frenhines, yr Arglwyddi temporal, a'r holl gyffredin cynnulledic yn y Parliament presennol, yn Enw Duw yn ddifrifol yn erchi, ac yn gorchymyn i'r holl Arch-escobion, Escobion, ac eraill Ordinariaid, ar iddynt ymosod hyd yr eithaf o'i gwybodaeth, ar fod dyledus a gwir gyflawni y petheu hyn yn gwbl trwy eu holl Escobaethau, a'u Curiau, fel y byddo iddynt atteb ger bron Duw, am gyfryw ddrygau a phlaau, ac y gallo yr holl-gyfoethog Dduw yn gyfiawn boeni ei bobl am ddirmygu ei ddaionus a'i iachus Gyfraith. Ac er mwyn bod awdurdod yn yr achos hyn, Bydded ym mhellach enactiedic gan y ddywededic awdurdod, fod i bawb oll o'r Arch-escobion, Escobion, a phawb eraill o'i swyddogion hwy, yn arferu awdurdod Eglwysic, yn gystal mewn lleoedd esempt ac anesempt o fewn eu hescobaethau, gael llawn feddiāt ac awdurdod gan yr Act hon i adffurfio, cospi, a phoeni wrth Censurau yr Eglwys, oll a phob dyn a droseddant o fewn yr vn o'n swyddogaethau, neu o'u hescobaethau hwynt, wedi y dywededic wyl Nadalic Sanct Ioan Fedyddi-wr nesaf i ddyfod, yn erbyn yr Act hon a'r Statut: Er neb arall gyfraith, Statut, Prillieg, braint, neu ragweliad cyn na hyn wedi ei wneuthur neu ei ddioddef i'r gwrthwyneb, yn ddiwrthladd.
Ac fe a ordeiniwyd ac a enactiwyd gan y rhacddywededic awdurdod, bod i bawb oll o'r Iustusiaid Oyer a Determiner, neu Instuilaid Assis, gael cwbl feddiane ac awdurdod ymmhob vn o'r agored, a'r cyfredin Sessionau, i ymofyn gwrando, a therfynu pob rhyw drossedd a gommittier, neu a wneler yng wrth wyneb i vn pwngc a gynhwysir yn yr Act gyndrychiol hon, o fewn terfynau y Commissiwn a roddir iddynt, a gwneuthur process i esecutio yr vn-rhyw, megis ag y gallant wneuthur am neb vn a endicter ger eu bron hwy am sarhaed, neu yn gyfrieth-lawn a gonfictiwyd o hynny.
Profidier yn wastad, ac enacter gan yr awdurdod ddywededic, fod i bawb oll o'r Archescobion, ac Escobion, allu bob amser ac amserau wrth ei rydd-did a'i fodd, ymwascu ac ymgyssylltu, gan rym yr Act hon, a'r dywededic Iustusieid o Dyer a Determinier, neu a'r dywededic Iustisiaid o Assis, ym mhob vn o'r dywededic agored a chyffredin Sessiwnau a gynnalier mewn neb rhyw le o'r Esobaeth, er mwyn ac i ymofyn, gwrando, a therfynu y camweddau dywededic.
Profidier hefyd, ac Enactier trwy yr awdurdod ragddywededic, bod y llyfrau y sy o'r dyweddedic wasanaeth, ar gost a siars plwyfolion pob plwyf ac Eglwysau Cadeiriol, wedi eu darparu a'i caffael cyn y ddywededic wyl Natalic Ioan Fedyddi-wr nesaf yn canlyn, a bod i'r holl gyfryw blwyfeu ac Eglwysi Cadeiriol neu leoedd eraill, lle y darparer, ac y caffer y dywededic lyfrau cyn gwyl Nadalic Sanct Ioan Fedyddiwr, o fewn tair wythnos wedi darpar a chaffael y dywededic lyfrau, ymarfer o'r dywededic wasanaeth, a'i fynychu yn ol yr act hon.
Ac enactier ym-mhellach wrth yr awdurdod ddywededic, na byddo vn amser rhag llaw, rhwystro neb-vn, neu neb rhai, nac ym modd arall ei folessu, neu am neb o'r camweddau a gofiwyd vchod, a gommittied neu a wneler rhag llaw, yngwrthwyneb i'r Act hon, oddieithr iddo ef, neu hwy at yn troseddu felly, fod o hynny yn dditiedic yn y Sessiwn gyffredin nessaf, a gynnalier ger bron y cyfryw Iustusiaid o Oyer a Determiner, neu Iustusiaid o Assis, yn nesaf yn ol committio rhyw drosedd yngwrthwyneb i Denur yr Act hon.
Profidier yn wastad, ac ordeinier, ac enactier trwy yr awdurdod ragddywededic am gwbl oll o Arglwyddi y Parliament, am y drydedd drosedd a gofiwyd vchod, bod en treio hwy trwy eu gogyfurdd.
Profidier hefyd, ac ordeinier, ac enacter gan yr awdurded ragddywededic, fod i Faior Llundain, ac i Faioran eraill, Balliaid, a phenswyddogion eraill, o bawb oll o'r dinasoedd, Borouchen, a Threfi corphoredic o fewn y deyrnas hon, Cymru, a marsoedd yr vn-rhyw, i'e rhai nid yw Iustusiaid o Assis yn cyrchu yn gyffredin, gaffael cwbl feddiant ac awdurdod trwy rym yr Act hon, i ymofyn, i wrando a therfynu y troseddau a ddywedpwyd vchod, a phob vn o honynt bob blwyddyn o fewn pymtheng-nhiwrnod wedi Gwyl y Pasc, a Sanct Michael Archangel, yn y cyfryw fodd, a ffurf ag y mae yr Iustusiaid o Assis, ac o Oyer a Determiner yn gallu gwneuthur.
Profidier yn wastad, ac ordeinier, ac enactier trwy y ragddywededic awdurdod, fod gwbl, ac i bob vn o'r Archescobion ac Escobion a phob vn o'r Canghell-wyr, Commisse riaid, Archdiaconiaid, ac eraill Ordinariaid, y rhai sy iddynt ohanredawl swyddogaeth Eglwysic, gael cwbl feddiant ac awdurdod trwy rym yr Act hon, yn gystal i ymofyn yn en Visitation, Seneddau, neu mewn lle arall o fewn en swyddogaeth, ar ryw amser arall a lle, i gymmeryd cyhuddiadau ac infformasiwnau am oll, a chwbl a goffawyd vcho, a wnaethpwyd, a gommittiwyd, neu a berpetratiwyd o fewn terfynau en swyddogaethau a'u hawdurdod, ac i gospi yr vn-rhyw trwy rybudd, escymmundod, secwestrasion, neu ddepreifasion, ac eraill Censurau a phrocessau, yn y cyfryw ffurf ag ym-mlaen llaw a arferwyd yn y cyffelyb ddigwyddion gan Eglwysic gyfreithiau y Frenhines.
Profidier hefyd yn wastad ac enactier, bod i bwy bynnac a droseddo yn y petheu a grybwyllwyd, ac yn gyntaf a dderbynio gospedigaeth gan yr Ordinari, a thestiolaeth ganddo o hynny tan sel y dywededic Ordinari, Na byddo am yr vn drosedd ei ail confictio gerbron yr Iustusiaid. A'r vn modd, ac efe wedi derbyn am y dywededic drosedd yn gyntaf gosp gan yr Iustustaid, ni bydd iddo am yr vn trosedd ail derbyn cosp gan yr Ordinari: er dim a gynhwysir yn yr Act hon i'r gwrth-wyneb.
Profidier yn wastad, a bid yn actiedic, bod cyfryw addurnau yr Eglwys a'i Gwenidogion, iw cynnal a'u cadw yn arfer, fel yr oedd yn yr Eglwys hon o Loegr drwy awdurdod Parliament yn yr all flwyddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, hyd oni gymmerer trefn arall yn hynny gan awdurdod Mawredd y Frenhines, ynghyd a chyngor ei Chomissionariaid, gosodedic ac awdurdodedic dan sel fawr Loegr, am achosion Eglwysic, neu sel Metropolitan y Deyrnas hon. A hefyd o damwain arferu rhyw ddirmyg neu ammarch yn Ceremoniau a chynneddfau yr Eglwys, gan gamarfer y trefnau a ossodwyd yn y llyfr hwn: bod i Orucheldab y Frenhines allu trwy gyngor y dywededic Gommissionariaid, neu yr Metropolitan, ordeinio, a chyhoeddi y cyfryw anghwaneg Ceremoniau neu gynneddfau ac a fyddo fwyaf er derchafiad gogoniant Duw, adeilad ei Eglwys, a dyledus barch ar sanctaidd ddirgeledigaethau Christ, a'i Sacramentau.
Ac ym-mhellach enacter gan yr awdurdod ragddywededic, fod holl gyfreithiau, statutau, ac ordinadau, yn y rhai, neu drwy y rhai y mae rhyw fath wasanaeth arall, ministriad y Sacramentau, neu Gyffredin weddi, wedi eu terfynu, eu cadarnhau, neu eu gosod allan iw harferu o fewn y Deyrnas hon, neu arall o arglwyddiaethau, neu wledydd y Frenhines, o hyn allan yn llwyr ofer, ac heb ddim grym.
¶Y drefn ym-mha le yr arferir ac y dywedir y Foreuawl a'r Brydnhawnawl weddi.
Y Foreuawl a'r Brydnhawnawl weddi a arferir yn y lle defodedic o'r Eglwys, Capel, neu Gangell; oddieithr i'r Ordinari derfynu yn amgenach am y lle. A bid y Corau yn aros megis ydd oeddynt ym mlaen hyn.
A noter hyn yma, Bod i'r Gwenidog ar bryd Cymmun, ac ar bob pryd arall yn ei weinidogaeth, ymarfer o gryfyw wiscoedd ac addurneu, yn yr Eglwys, ac oeddynt mewn arfer trwy awdurdod y Parliament yn yr ail flwyddyn o deyrnasiad Brenin Edward y chweched, yn ôl yr Act o Barliament a ossoded yn nechreu y llyfr hwn.
¶Trefn am weddi foreol bob dydd trwy 'r flwyddyn.
Ar ddechreu y weddi foreuol, ac yr vn ffunyd ar y weddi Bryd-nhawnol, darllened y Gwenidog â llef vchel rai o'r synhwyreu hyn o'r Scrythur lân, y rhai sydd yn canlyn. Ac yno dyweder yr hyn sydd scrifennedic ar ôl y Sentensiau.
PA bryd bynnac y bo yn edifar gan bechadur ei bechod o ddyfnder ei galon, Ezec. 18. mi a ollyngaf tros gof yr holl enwiredd a'r a wnaeth ef, medd yr Arglwydd.
Ydd wyf yn cydnabod fy enwiredd, Psal. 51. a'm pechod sydd yn wastad yn fy erbyn.
Psal. 51.Ymchwel dy wyneb oddi-wrth fy mhechodau, Arglwydd, a dilêa fy holl gamweddau.
Psal. 51.Yspryd cystuddiedic sydd aberth i Dduw, na thremyga Arglwydd Dduw, galōnau vfydd cystuddiedig.
Ioel. 2.Rhwygwch eich calonnau, ac nid eich dillad, ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw, canys tirion a thrugarog ydyw; efe sydd ddioddefgar a mawr ei drugaredd, a chyfryw vn ac sydd ofidus ganddo dros eich blinder.
Dan. 9.Ti Arglwydd bieu tosturi a maddeuant, canys aethom ymaith oddi-wrthit, ac ni wrandawsom ar dy leferydd, modd y gallem rodio yn dy gyfreithieu y rhai a osodaist i ni.
Ierem. 10.Cospa ni Arglwydd, ac etto yn dy farn nid yn dy gynddaredd, rhac na bo dim mwy o honom.
Mat. 3.Gwellhewch eich buchedd, canys bod teyrnas Dduw yn agos.
Luc. 15.Mi a af at fy Nhâd, ac a ddywedaf wrtho, fy Nhâd, mi a bechais yn erbyn y nefoedd, ac yn dy erbyn di, ac mwyach nid wyf deilwng i'm galw yn fâb i ti.
Psal. 143.Na ddwg i'r farn dy weision, Arglwydd, can nad byw neb cyfiawn yn dy olwg di.
1. Ioan. 1.Os dywedwn ein bod heb pechod, ydd ŷm yn ein twyllo ein hunain, ac nid des wirionedd ynom.
FY anwyl gariadus frodyr, y mae yr Scrythur lân yn ein cynhyrfu mewn amrafael fannau, i gydnabod ac i gyffessu ein aml bechodau a'n anwiredd, ac na wnelem na'i cuddio na'i celu yngwydd yr Hollalluog Dduw ein Tâd nefol, eithr eu cyffessu â gostyngedic, isel, edifarus, ac vfydd galon, er mwyn caffael o honom faddeuant am danynt, trwy ei anfeidrol ddaioni a'i drugaredd ef. A chyd dylem ni bob amser addef yn ostyngedic ein pechodau ger bron Duw: Etto ni a ddylem yn bennaf wneuthur hynny [Page] pan ymgynhullom i gyd-gyfarfod, i dalu diolch am yr aml ddaioni a dderbyniasom ar ei law ef, i ddatcan ei haeddediccaf foliant, i wrando ei sancteiddiaf air ef, ac i erchi y cyfryw bethau ac a fyddo cymmwys ac anghenrheidiol, yn gystal ar lês y corph a'r enaid. O herwydd paham myfi a erfyniaf ac a attolygaf i chwi, cynnifer ac y sydd yma yn bressennol, gyd-tynnu â myfi, â chalon bûr, ac â lleferydd ostyngedic, hyd yngorseddfa y nefol râd, gan ddywedyd ar fy ôl i.
Cyffes gyffredin iw dywedyd gan yr holl gynnulleidfa ar ôl y Gwenidog, gan ostwng ar eu gliniau.
HOll-alluog Dduw, a thrugaroccaf Dâd, Ni a aethom ar gyfeiliorn allan o'th ffyrdd di, fel defaid ar gyfrgoll; Nyni a ddilynasom ormodd ar amcaniō, a chwantau ein calonnau ein hunain; Nyni a wnaethom yn erbyn dy sancteiddiol gyfreithiau: Nyni a adawsom heb wneuthud y petheu, a ddylesym eu gwneuthur; Ac a wnaethom y pethau ni ddylesym eu gwneuthur, Ac nid oes iechyd ynom, Eithr tydi ô Arglwydd, cymmer drugaredd arnom ddrwg-weithred-wŷr truain, Arbet ti hwyntwy, o Dduw, y rhai sy yn cyffessu eu beiau, Cyweiria di y sawl sydd yn edifarus; Yn ôl dy addewidion a yspysswyd i ddŷn, yng Hrist Iesu ein Harglwydd. A chaniattâ drugaroccaf Dâd er ei fwyn ef, Fyw o honom rhac llaw; Mewn duwiol, vnion, a sobr fuchedd, I ogoniant dy sancteiddiol Enw: Amen.
Y Gollyngdod neu faddeuant pechodau, iw datcan gan y gwenidog yn vnic.
YR Holl-Alluog Dduw, Tâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn ni ddeisyf farwolaeth pechadur, eithr yn hyttrach ymchwelyd o honaw oddi wrth ei anwiredd, a byw: ac a roddes allu a gorchymyn iw [Page] wenidogion, i ddeclario ac i fynegi iw bobl sydd yn edifarus, absolusion a maddeuant am eu pechodau: Efe a bardyna, ac a ollwng y rhai oll sy wîr edifeiriol, ac yn ddiffuant yn credu iw sancteiddiol Efengyl ef. Herwydd pa ham nyni a attolygwn iddo ganiadtau i ni wîr edifeirwch, a'i Yspryd glân, fel y byddo boddlon ganddo y pethau ydd ydym y pryd hyn yn eu gwneuthur, a bod y darn arall o'n bywyd rhac llaw yn bûr, ac yn sancteiddiol, megis y delom o'r diwedd iw lawenydd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Attebed y bobl, Amen.
Yna y dechreu y Gwenidog weddi yr Arglwydd â llef vchel.
EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyrnas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth: Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.
Yna y dywaid yn yr vn modd.
Arglwydd agor ein gwefusau.
A'n geneu a fynega dy foliant.
Duw bryssia i'n cynnorthwyo.
Arglwydd prysura i'n cymmorth.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân. Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen. Molwch yr Arglwydd.
Yna y dywedir, neu y cenir y Psalm hon sy'n canlyn.
DEuwch, canwn i'r Arglwydd: Venite exultemus Domino. Psal. 95. ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd.
Deuwn ger ei fron ef â diolch: canwn yn llafar iddo Psalmau.
Canys yr Arglwydd sydd Dduw mawr: a Brenin mawr ar yr holl dduwiau.
Oblegit yn ei law ef y mae gorddyfnderau y ddaiar: ac ef biau vchelder y mynyddoedd.
Y môr sydd eiddo, canys efe a'i gwnaeth: a'i ddwylaw a luniasant y sych-dir.
Deuwch addolwn, a syrthiwn i lawr, a gostyngwn ger bron yr Arglwydd ein gwneuthur-wr.
Canys efe yw ein Duw ni: a ninneu ŷm bobl ei borfa ef, a defeid ei ddwylaw.
Heddyw o gwrandewch ar ei leferydd, na chaledwch eich calonnau: megis yn yr ymrysonfa, fel yn nydd profedigaeth yn yr anialwch.
Lle y temptiodd eich tadau fi: y profâsant fi, a gwelsant fy ngweithredoedd.
Deugain mhlynedd yr ymrysonais â'r genhedlaeth hon, a dywedais: pobl gyfeiliornus yn eu calonnau ydynthwy, canys nid adnabuant fy ffyrdd.
Wrth y rhai y tyngais yn fy llîd: na ddelent i'm gorphwysfa.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mab, ac i'r Yspryd glân: Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.
Yn ôl hyn y dilyn rhyw Psalmau mewn trefn, megis yr appwyntiwyd hwy yn y tabul a wnaethbwyd er mwyn hynny; oddieithr bod Psalmau priawd i'r diwrnod hwnnw. Ac ar ddiwedd pob Psalm drwy yr flwyddyn, a'r vn modd ar ddiwedd Benedictus, Benedicite, Magnificat, a Nunc dimittis, y dywedir, Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, &c.
Yna y darlleir dwy lith yn llawn llythyr, â lleferydd vehel, fel y gallo y bobl glywed. Y gyntaf o'r hên Destament; yr ail o'r newydd, megis ac yr appwyntiwyd wrth y Calendar, oddieithr bod llithiau priod wedi 'r asseinio i'r dydd hwnnw. Y gwenidog a ddarllenno y llith, safed, ac ymchweled, megis y galler ei glywed yn oreu gan bawb oll a'r a fo yn bresennol. Ac o flaen pob llith, dyweded y gwenidog fel hyn. Y pennod cyntaf, neu yr ail, neu 'r trydydd, &c. o Genesis, o Exodus, Matthew, Marc, neu 'r cyfryw, megis yr appwyntiwyd yn y Calendar. Ac ar ddiwedd pob pennod dyweded: Yma y terfyna y cyfryw bennod o'r cyfryw lyfr.
Ac er mwyn cael o'r bobl glywed yn well, mewn cyfryw leoedd ac y byddir yn arfer o ganu, bid yno ddarllen y llithiau mewn tôn eglur, ar wedd darlleniad llawn llythyr, a'r vn modd yr Epistol a'r Efengyl. Yn ôl y llith gyntaf y canlyn Te Deum laudamus yn Gamber-aec, beunydd trwy'r holl flwyddyn.
Te Deum laudamus.
TI Dduw a folwn: ti a gydnabyddwn yn Arglwydd.
Yr holl ddaiar a'th fawl di: y Tâd tragywyddawl.
Arnat ti y llefa yr holl Angelion: y nefoedd a'r holl nerthoedd o'u mewn.
Arnat ti y llefa Cherubin a Seraphin: â lleferydd dibaid.
Sanct, Sanct, Sanct: Arglwydd Dduw Sabaoth.
Nefoedd a daiar sydd yn llawn: o'th ogoniant.
Gogoneddus gôr yr Apostolion: a'th fawl di.
Moliannus nifer y Prophwydi: a'th fawl di.
Ardderchawg lu y Merthyri: a'th fawl di.
Yr Eglwys lân trwy 'r holl fŷd: a'th addef di.
Y Tâd: o anfreidrawl fawredd.
Dy anrhydeddus wir: ac vnic Fab.
Hefyd yr Yspryd glân: y diddan-wr.
Ti Christ: yw Brenin y gogoniant.
Ti yw tragywyddol: Fab y Tâd.
Pan gymmeraist arnat waredu dŷn: ni ddiystyraist frû y wyryf.
Pan orchfygaist holl nerth angeu: yr agoraist deyrnas nef i bawb a gredant.
Ti sydd yn eistedd ar ddeheu-law Dduw: yngogoniant y Tâd.
Ydd ym ni yn credu mai tydi a ddaw: yn farn-wr arnom.
Can hynny yr attolygwn i ti gynnorthwyo dy weision: y rhai a brynaist â'th werth-fawr waed.
Pâr iddynt gael eu cyfrif gyd â'th Sainct: yn y gogoniant tragywyddol.
Arglwydd cadw dy bobl: a bendithia dy etifeddiaeth.
Llywia hwy: a dyrcha hwy yn dragywydd.
Beunydd ac fyth: y clodforwn dydi.
Ac anrhydeddwn dy Enw: byth ac yn oes oesoedd.
Teilynga Arglwydd: ein cadw y dydd hwn yn ddibechod.
Arglwydd trugarhâ wrthym: trugarhâ wrthym.
Arglwydd poed dy drugaredd a ddêl arnom: megis ydd ym yn ymddiried ynot.
Arglwydd ynot yr ymddiriedais: na'm gwradwydder yn dragywydd.
Neu 'r caniad hwn: Benedicite omnia opera Domini Domino.
CHwychwi holl weithredoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: Benedicite. molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi Angelion yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd: [Page] molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi yr dyfroedd sydd vwchben y ffurfafen, bendithiwch yr Arglwydd; molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi nerthoedd yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi haul a lleuad, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi ser y nefoedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi gafodau a gwlith, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi wyntoedd Duw, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi dân a gwrês, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi aiaf a hâf, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi wlithoedd a rhewoedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi rew ac oerfel, bendithiwth yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi iâ ac eira, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi nosau a dyddiau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywdd.
Chwychwi oleuni a thywyllwch, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawr hewch yn dragywydd.
Chwychwi fellt ac wybrennau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Bendithied y ddaiar yr Arglwydd: moled ef, a mawrhaed yn dragywydd.
Chwychwi fynyddoedd a bryniau, bendithiwch [Page] yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi oll wyrddion bethau ar y ddaiar, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi ffynhonnau, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi foroedd a llifeiriaint, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi for-filod, ac oll ac sydd yn ymsymmudo yn y dyfroedd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi oll adar yr awyr, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi oll anifeiliaid ac yscrubliaid▪ bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi blant dynion, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Bendithied Israel yr Arglwydd: moled ef, a mawrhaed yn dragywydd.
Chwychwi offeiriaid yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi wasanaeth-wŷr yr Arglwydd, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi ysprydion ac eneidiau y cyfiawnion, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi y rhai sanctaidd a gostyngedig o galon, bendithiwch yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Chwychwi Ananias, Azarias, a Misael, bendithiwch [Page] yr Arglwydd: molwch ef, a mawrhewch yn dragywydd.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:
Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.
Ac yn ôl yr ail llith, yr arferir, ac y dywedir Benedictus, yn Gamber-aec, megis y mae yn canlyn.
Benedictus. Luc. 1. 68. BEndigedic fyddo Arglwydd Dduw 'r Israel: canys efe a ymwelodd, ac a brynodd ei bobl.
Ac a dderchafodd iechydwriaeth nerthol i ni: yn nhŷ Ddafydd ei wasanaeth-wr.
Megis y dywedodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi: y rhai oedd o ddechreuad y bŷd.
Yr anfonei efe i ni ymwared rhag ein gelynion; ac oddi-wrth ddwylo pawb o'n digasogion.
Y gwnai efe drugaredd â'n tadau; ac y cofiai ei sanctaidd gyfammod:
A'r llw yr hwn a dyngodd ef wrth ein Tâd Abraham: sef bod iddo ganiadtau i ni gwedi ein ymwared oddi wrth ddwylo ein gelynion, allu i wasanaethu ef yn ddiofn,
Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef: holl ddyddiau ein bywyd.
A thitheu fâb a elwir yn bropwyd i'r Goruchaf; canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef,
Ac i roddi gwybodaeth iechydwriaeth iw bobl ef: gan faddeu eu pechodau,
O herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw; trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r vchelder:
I roddi llewyrch i'r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch a chyscod angeu; ac i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:
Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd. Amen.
Neu yr Psalm a ganlyn.
CEnwch yn llafar i'r Arglwydd, Iubilate Deo. Psal. 100. yr holl ddaiar: Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd, deuwch yn ei ŵydd ef mewn gorfoledd.
Gwybyddwch mai yr Arglwydd fydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
Ewch i mewn iw byrth ef â diolch, ac iw lysoedd â moliant gennwch, diolchwch iddo, a chlodforwch ei Enw.
Canys daionus yw yr Arglwydd, a'i drugaredd sydd yn dragywydd, a'i wirionedd a bery o genhedlaeth i genhedlaeth byth.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:
Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, &c.
Yna y dywedir y Credo gan y Gwenidog, a'r bobl yn eu sefyll.
CRedaf yn Nuw Dâd oll-gyfoethawg, Creawdr nef a daiar. Ac yn Iesu Grist ei vn Mâb ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gâed trwy yr Yspryd glân, a aned o Fair forwyn: a ddioddefodd dan Bontius Pilatus; a groes-hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, a ddescennodd i vffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Dâd oll-gyfoethawg, Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân gatholic, Cymmun y sainct, Maddeuaint pechodau, Cyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragywyddol. Amên.
Ac yn ôl hynny, y gweddiau sy yn calyn, yn gystal ar brydnhawn weddi, ac ar forau weddi: a phawb yn gostwng yn ddefosionol, y Gwenidog yn gyntaf a lefara â llef vchel.
Yr Arglwydd a fo gyd â chwi.
A chyd â'th yspryd dithau.
Gweddiwn.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Yna y Gwenidog, a'r yscolheigion, a'r bobl, a ddywedant weddi yr Arglwydd yn Gamber-aec â lleferydd vchel.
Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Yna y Gwenidog yn ei sefyll a ddywaid.
Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.
A chaniadhâ i ni dy iechydwriaeth.
Arglwydd cadw y Brenhin.
A gwrando ni yn drugarog pan alwom arnat.
Gwisc dy wenidogion ag iawnder.
A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.
Arglwydd cadw dy bobl.
A bendithia dy etifeddiaeth.
Arglwydd dyro dangneddyf yn ein dyddiau.
Can nad oes neb arall a ymladd trosom, onid fydi Dduw yn vnic.
Duw glanhâ ein calonnau ynom.
Ac na chymmer dy Yspryd glân oddi wrthym.
Yna y canlyn tri Cholect, Y cyntaf o'r dydd, yr hwn a fydd yr vn ac a appwyntir ar y Cymmun. Yr ail, am dangneddyf. Y trydydd, am râd i fyw yn dda. A'r ddau Golect ddiweddaf ni chyfnewidir byth; onid eu dywedyd beunydd ar foreuol weddi, trwy yr holl flwyddyn, fel y canlyn.
Yr ail Colect am dangneddyf.
DVw, yr hwn wyt Awdur tangneddyf, a charwr cyttundeb, yr hwn o'th iawn adnabod y mae ein buchedd dragywydd yn sefyll arnaw, a'th wasanaeth yw gwir fraint: Amddeffyn nyni dy ostyngedig weision, rhag holl ruthrau ein gelynion; fel y gallom trwy gwbl ymddiried yn dy amddiffyn di, nac ofnom allu neb gwrthwyneb-wŷr; trwy nerth Iesu Grist ein Harglwydd. Amên.
Y trydydd Colect am gael rhâd.
O Arglwydd nefol Dâd, Holl-alluog, a thragywyddol Dduw, yr hwn a'n cedwaist yn ddiangol hyd ddechreu yr dydd heddyw, amddiffyn nyni ynddo â'th gadarn allu, a chaniadhâ na syrthiom y dydd hwn mewn vn pechod, ac nad elom mewn neb rhyw berygl, eithr bod ein holl weithredoedd wedi eu trefnu a'u llywiaw wrth dy lywodraeth, i wneuthur yn wastad y peth y sydd gyfiawn yn dy olwg di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
❧Y drefn am Bryd-nhawnol weddi, trwy gydol y flwyddyn.
Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.
Arglwydd agor ein gwefusau.
A'n geneu a fynega dy foliant.
Duw bryssia i'n cynnorthwyo.
Arglwydd pryssura i'n cymmorth.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân. Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oesoedd. Amen.
Molwch yr Arglŵydd.
Yna y Psalmeu mewn trefn, megis yr apwyntiwyd hwy yn y Tabul i'r Psalmau, oddieithr bod Psalmau priod wedi eu happwyntio i'r dydd hwnnw. Yna llith o'r hên Destament, megis ac yr appwyntiwyd hefyd yn y Calendar, oddieithr bod llithiau priod wedi eu appwyntio i'r dydd hwnnw. Yn ol hynny Magnificat yn Gamber-aec, megis y canlyn.
Magnificat. Luc. 1.46. FY enaid a fawrhâ yr Arglwydd: a'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdur.
Canys efe a edrychodd: ar ostyngeiddrwydd ei wasanaethyddes.
Oblegid wele o hyn allan: yr holl genhedlaethau a'm geilw yn wynfydedic.
Canys yr hwn sydd Alluog a wnaeth i mi fawredd: a sanctaidd yw ei Enw ef.
A'i drugaredd sydd yn oes oesoedd: ar y rhai a'i hofnant ef.
Efe a ddangosodd nerth â'i fraich: efe a wascarodd y rhai beilchion ym-mwriadau eu calonnau.
Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfau: ac a dderchafodd y rhai isel-râdd.
Efe a lanwodd y rhai newynog â phethau da: ac a anfonodd ymmaith y rhai goludog mewn eisiau.
Efe a gynnorthwyodd ei wâs Israel, gan gofio ei drugaredd: (fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i hâd) yn dragywydd.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis yr oedd yn y dechreu y mae yr awr hon, ac y bydd yn wastad yn oes oessoedd. Amen.
Neu ynteu y Psalm a ganlyn.
CEnwch i'r Arglwydd ganiad newydd, Cantate Domino. Psal. 98. canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: â 'i ddeheu-law, ac â'i fraich sanctaidd y parodd iddo ei hun iechydwriaeth.
Yspyssodd yr Arglwydd ei iechydwriaeth: a datcuddiodd ei gyfiawnder yngolwg y cenhedloedd.
Cofiodd ei drugaredd, a'i wirionedd i dŷ Israel: a holl derfynau y ddaiar a welsant iechydwriaeth ein Duw ni.
Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaiar: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch.
Cenwch i'r Arglwydd gyd â'r delyn: sef gyd â'r delyn, â llef canmoliaeth.
Cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin: ar yr vd-cyrn, a sain trwmpet.
Rhued y môr ac sydd ynddo, y byd a'r rhai a drigant o'i fewn.
Cured y llifeiriaint eu dwylo: a chyd-ganed y mynyddoedd o flaen yr Arglwydd, canys efe a ddaeth i farnu y ddaiar.
Efe a farna yr bŷd mewn cyfiawnder: a'r bobloedd mewn vniondeb.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis ydd oedd yn y dechreu, &c.
Yna llith o'r Testament newydd. Ac yn ôl hynny Nunc dimittis yn Gamber-aec, megis y canlyn.
Nunc dimittis. Luc. 2.29. YR awrhon Arglwydd y gollyngi dy wâs mewn tangneddyf, yn ôl dy air.
Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth,
Yr hon a baratoaist gar bron wyneb yr holl bobl,
I fôd yn oleuni i oleuo y Cenhedloedd, ac yn ogoniant i'th bobl Israel.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis yr oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, &c.
Neu yr Psalm hon.
Deus misereatur. Psal. 67. DVw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned llewych ei wyneb arnom, a thrugarhaed wrthym. Selah.
Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym mhlith yr holl genhedloedd.
Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.
Llawenhaed y cenhedloedd a byddant hyfryd, canys tydi a ferni y bobl yn vniawn, ac a lywodraethi y Cenhedloedd ar y ddaiar. Selah.
Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.
Yna yr ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw, sef ein Duw ni, a'n bendithia.
Duw a'n bendithia: a holl derfynau yr ddaiar a'i hofnant ef.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân:
Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr &c.
Yna y canlyn y Credo, a gweddieu eraill, megis yr appwyntiwyd ym-mlaen ar y Foreu weddi, ar ol Benedictus; a thri Cholect. Y cyntaf o'r dydd. Yr ail, am dangneddyf. Y trydydd am gynhorthwy yn erbyn pob perygl, fel y cā lyn yma rhac llaw. A'r ddau Golect ddiwethaf a ddywedir bōb dydd ar bryd-nhawn weddi heb gyfnewid.
Yr ail Colect ar bryd-nhawn weddi.
DVw oddi wrth ba vn y daw pob adduned sanctaidd, pob cyngor da, a phob gweithred gyfiawn, dyro i'th wasanaeth-ddynion y rhyw dangneddyf a'r na ddichon y bŷd ei roddi; modd y gallo ein calonnau ymroi i vfyddhau i'th orchymynion; a thrwy dy amddeffyniad i ni rhag ofn ein gelynion, allu o honom dreulio ein amser mewn heddwch a thangneddyf, drwy haeddedigaethau Iesu Grist ein Iachawdur. Amen.
Y trydydd Colect am gynnorthwy yn erbyn pob peryglon.
GOleua ein tywyllwch, ni a attolygwn i ti o Arglwydd; a thrwy dy fawr drugaredd amddeffyn nyni rhag pob perygl ac enbydrwydd y nôs hon; er serch ar dy vn Mâb ein Iachawdur Iesu Grist. Amên.
Ar ddydd Nadalic Christ, dydd-gwyl Ystwyll, dydd-gwyl Fathias; dydd Pasc, y Derchafael, y Sul-gwyn, dydd-gwyl Ioan fedyddi-wr, Sainct Iacob, Sainct Barttholomeus, S. Matthew, S. Simon a Iud, S. Andreas, a Sul y [Page] Drindod; y cenir neu y dywedir yn nesaf ar ôl Benedictus, y gyffes, neu 'r addefiad hyn o'n ffydd Ghristionogawl.
PWy bynnac a fynno fod yn gadwedic: o flaen dim rhaid iddo gynnal y ffydd gatholic.
Yr hon ffydd, onis ceidw pôb dyn yn gyfan, ac yn ddihalog: diammeu y collir ef yn dragywydd.
A'r ffydd gatholic yw hon: bod ini addoli vn Duw yn Drindod, a'r Drindod yn vndod.
Nid cymmyscu o honom y personeu: na gwahanu y sylwedd.
Canys vn person sydd i'r Tâd, arall i'r Mâb: ac arall i'r Yspryd glân.
Eithr Duwdod y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân sydd vnrhyw: gogoniant gogyfuwch, mawrhydi gogyd tragywyddol.
Vn-rhyw â'r Tâd, vnrhyw yw'r Mâb; vnrhyw yw'r Yspryd glân.
Digreedic Dâd, digreedic Fâb: digreedic Yspryd glân.
Anfesuredig Dâd, anfesuredig Fâb, anfesuredig Yspryd glân.
Tragywyddol Dâd, tragywyddol Fâb: tragywyddol Yspryd glân.
Ac etto nid ydynt dri tragywyddolion; onid vn tragywyddol.
Ac fel nad ynt dri anfesuredigion, na thri digreedigion: onid vn digreedic, ac vn anfesuredig.
Felly yn gyffelyb, Holl-alluog yw'r Tâd, Holl-alluog yw 'r Mâb: Holl-alluog yw'r Yspryd glân.
Ac etto nid ynt dri Holl-alluogion: onid vn Holl-alluog.
Felly y Tâd sy Dduw, y Mab sy Dduw: a'r Yspryd glân sy Dduw.
Ac etto nid ynt dri Duwiau: onid vn Duw.
Felly y Tâd sydd Arglwydd, y Mâb sydd Arglwydd; a'r Yspryd glân sydd Arglwydd.
Ac etto nid ynt dri Arglwyddi; namyn vn Arglwydd.
Canys fel i'n cymhellir trwy y gristianogaidd wirionedd: i gyfaddef bod pob person o honaw ei hûn yn Dduw, ac yn Arglwydd;
Felly i'n gwaherddir trwy'r Gatholic Grefydd: i ddywedyd, bod tri Duwiau, na thri Arglwyddi.
Y Tâd ni wnaethbwyd gan neb: ni's crewyd, ac ni's cenhedlwyd.
Y Mâb y sydd o'r Tâd yn vnic: heb ei wneuthur, na'i greû, eithr wedi ei genhedlu.
Yr Yspryd glân sydd o'r Tâd a'r Mâb: heb ei wneuthur, na'i greu, na'i genhedlu, eithr yn deilliaw.
Wrth hynny vn Tâd y sydd, nid tri Thad, vn Mâb, nid tri Mâb; vn Yspryd glân, nid tri Ysprydion glân.
Ac yn y Drindod hon, nid oes vn cynt, neu gwedi ei gilydd: nid oes vn mwy na llai nâ'i gilydd.
Eithr yr holl dri phersonau ydynt o gyd tragy wyddol: a gogyfuwch.
Ac felly ym mhob peth, fel y dywedpwyd vchod: yr vndod yn y Drindod, a'r Drindod yn yr vndod sydd i'w addoli.
Pwy bynnac gan hynny a fynno fod yn gadwedic: synied felly o'r Drindod.
Y mae hefyd yn anghenrhaid er mwyn tragywyddol iechydwriaeth: credu o ddyn yn ffyddlawn am gnawdoliaeth ein Harglwydd Iesu Grist.
Canys yr iawn ffydd yw, credu, a chyffessu o honom: fod ein Harglwydd ni Iesu Grist, Fâb Duw, yn Dduw ac yn ddŷn.
Duw, o sylwedd y Tâd, wedi ei genhedlu cyn nac oesoedd: a dyn, o sylwedd ei fam, wedi ei eni yn y byd.
Perffaith Dduw, a pherffaith ddŷn, o enaid rhesymol: a dynol gnawd yn hanfod.
Gogyfuwch a'r Tâd oblegit ei Dduwdod: a llai nâ'r Tâd, oblegit ei ddyndod.
Yr hwn, er ei fod yn Dduw, ac yn ddyn: er hynny, nid yw efe ddau, onid vn Christ.
Vn, nid trwy ymchwelyd y Duwdod yn gnawd: onid gan gymmeryd y dyndawd yn Dduw.
Vn i gyd oll, nid gan gymmyscu y sylwedd: onid trwy vndod person.
Canys fel y mae yr enaid rhesymol a'r cnawd yn vn dŷn: felly Duw a dŷn sydd vn Christ.
Yr hwn a ddioddefodd tros ein iechydwriaeth: a ddiscynnodd i vffern, a gyfododd y trydydd dydd o feirw.
Escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu-law 'r Tad, Duw holl-alluog: oddi yno y daw i farnu byw a meirw.
Ac ar ei ddyfodiad, y cyfyd pob dŷn yn eu cyrph eu hunain: ac a roddant gyfrif am eu gweithredoedd priawd.
A'r rhai a wnaethant dda, a ânt i'r bywyd tragywyddol: a'r rhai a wnaethant ddrwg, i'r tân tragywyddol.
Hon yw 'r ffydd gatholic: yr hon pwy bynnac a'r ni's creto yn ffyddlon, ni all efe fod yn gadwedic.
Gogoniant i'r Tâd, &c.
Megis yroedd yn y dechreu, &c.
Fel hyn y terfyna trefn y Foreuol a'r brydnhawnol weddi trwy 'r flwyddyn.
¶Yma y canlyn y Letani, iw arfer ar y Suliau, y Merchurau, ar Gwenerau, ac ar amserau eraill, pan orchmynner gan yr Ordinari.
DVw Tad o'r Nef: trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.
Duw Tâd o'r nef: trugarhâ wrthym, &c.
Duw Fâb, bryn-wr y byd: trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.
Duw Fâb, bryn-wry byd: trugarhâ wrthym, &c.
Duw Yspryd glân, yn deilliaw oddi-wrth y Tâd a'r Mab; trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.
Duw Yspryd glân, yn deilliaw oddi-wrth &c.
Y gogoned, lân, fendigaid Drindod, tri pherson, ac vn Duw: trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid.
Y gogoned, lân, fendigaid Drindod, tri pherson, &c.
Na chofia Arglwydd ein anwiredd, nac anwiredd ein rhieni, ac na ddyro ddial am ein pechodau: arbet nyni Arglwydd daionus, arbet dy bobl a brynaist â'th werth-fawr waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.
Arbet ni Arglwydd daionus.
Oddi-wrth bob drwg ac anffawd, oddi-wrth bechod, oddi-wrth ystryw a chyrch y cythrael, oddiwrth dy lid, ac oddi-wrth farnedigaeth dragywyddol.
Gwaret ni Arglwydd daionus.
Oddi-wrth bob dallineb calon, oddi-wrth falchder, a gwâg ogoniant, a ffûg sancteiddrwydd, oddiwrth genfigen, digasedd, a bwriad drwg, a phob anghariadoldeb.
Gwaret nyni Arglwydd daionus.
Oddi-wrth anniweirdeb, a phob pechod marwol, ac oddi-wrth oll dwyll y byd, y cnawd, a'r cythrael.
Gwaret ni Arglwydd daionus.
Oddi-wrth fellt a thymestl, oddi-wrth blâ, haint [Page] [...] [Page] [...] [Page] y nodeu, a newyn, oddi-wrth ryfel ac ymladd, ac oddi-wrth angau dysyfyd.
Gwaret nyni Arglwydd daionus.
Oddi-wrth bob terfysc a dirgel frâd, oddi-wrth bob ffals ddysceidiaeth ac opinion annuwiol, oddi-wrth galedrwydd calon, a dirmyg ar dy air a'th orchymmyn.
Gwaret nyni Arglwydd daionus.
Trwy ddirgelwch dy gnawdoliaeth, trwy dy sanctaidd enedigaeth, a'th enwaediad, twy dy fedydd, dy vmpryd, a'th brofedigaeth.
Gwaret nyni Arglwydd daionus.
Trwy dy ddirfawr ing, a'th chwys gwaedlyd, drwy dy grôg a'th ddioddefaint, drwy dy wyrthfawr angau a'th gladdedigaeth, drwy dy anrhydeddus gyfodiad, a'th escynniad, a thrwy ddyfodiad yr Yspryd glân.
Gwaret nyni Arglwydd daionus.
Yn holl amser ein trallod, yn holl amser ein gwynfyd, yn a wr angeu, ac yn nydd y farn.
Gwaret nyni Arglwydd daionus.
Nyni bechaduriaid a attolygwn i ti ein gwrando, ô Arglwydd Dduw, a theilyngu o honot gadw, rheoli, a llywodraethu dy lân Eglwys yn hollawl yn y ffordd vnion.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot gadw a nerthu i'th wîr addoli, mewn iawnder a glendid buchedd, dy wasanaethwr Iames ein grasusaf Frenhin a'n pen-llywydd.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot lywodraethu ei galon yn dy ffydd, ofn, a chariad, ac iddo ymddiried byth ynot, ac ymgais yn wastad â'th anrhydedd, a'th ogoniant.
Nyni a attolygwn i ti em gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot ei amddeffyn a'i gadw, gan roddi iddo y fuddugoliaeth ar ei holl elynion.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog. Teilyngu o honot fendithio a chadw ein Ardderchog dywysog Charles, Ffrederic y Tywysog Palatin, a'r Arglwyddes Elizabeth ei wraig a'i Tywysogawl eppil.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Escobion, Bugeiliaid a Gwenidogion yr Eglwys, ag iawn wybodaeth a deall dy air: ac iddynt hwy trwy eu pregeth a'u buchedd, ei fynegi a'i ddangos yn ddyladwy.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot gynnyscaeddu Arglwyddi'r Cyngor, a'r holl fonedd, â grâs, doethineb, a deall.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot fendithio a chadw y pen-swyddogion, gan roddi iddynt râs i wneuthur cyfiawnder, ac i faentumio yr gwîr.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot fendithio a chadw dy holl bobl.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot roddi i bob cenhedlaeth, vndeb, tangneddyf a chyd-gordio.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot roddi i ni galon i'th garu ac i'th ofni, ac i fyw yn ddiesceulus yn ôl dy orchymynion.
Nyni a attolygwni ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot roddi i'th bobl ychwanego rad, i wrando yn vfydd dy air, ac iw dderbyn o bur ewyllys, ac i gynhyrchu ffrwyth yr Yspryd.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot ddwyn i'r ffordd wir, bawb ar a aeth ar gyfeiliorn ac a dwyllwyd.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot nerthu y rhai sy yn sefyll, a chonfforddio a chynnorthwyo y rhai sy â gwan galon, a [Page] chyfodi y sawl a syrthiant, ac o'r diwedd curo i lawr Satan tan ein traed.
Nynia attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot gymmorth, a helpio, a diddanu pawb ar y sydd mewn perigl, anghenoctid a thrwblaeth.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot gadw pawb a'r sydd yn ymddaith ar fôr na thîr, pob gwraig wrth escor plant, pob clwyfus a rhai bychain, a thosturio wrth bawb a fyddo mewn caethiwed na charchar.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot amddeffyn ac ymgeleddu y plant amddifaid, a'r gwragedd gwedd won, a phawb y sydd yn vnic, ac yn goddef pwys plaid orthrech.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot drugarhau wrth bob dŷn.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot roddi a chadw er ein llês, amserol ffrwythau y ddaiar, modd y caffom mewn amser dyledus eu mwynhau.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Teilyngu o honot roddi i ni wîr edifeirwch, a maddeu i ni ein holl bechodau, ein esceulustra, a'n anwybod, a'n cynhyscaeddu â rhad dy Yspryd glân, i wellhau ein buchedd yn ôl dy air sanctaidd.
Nyni a attolygwn i ti ein gwrando Arglwydd trugarog.
Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.
Mâb Duw: attolygwn i ti ein gwrando.
Oen Duw, yr hwn wyt yn dileu pechodau yr bŷd.
Caniadhâ i ni dy dangneddyf.
Oen Duw, yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd.
Trugarhâ wrthym.
Christ clyw nyni.
Christ clyw nyni.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Ac na thywys ni i brofedigaeth.
Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.
Arglwydd na wna â nyni yn ôl ein pechodau.
Ac na obrwya ni yn ôl ein anwiredd.
Gweddiwn.
DVw Tad trugarog, yr hwn nid wyt yn dirmygu vchenaid calon gystuddiedic, nac adduned y gorthrymmedic: cynnorthwya yn drugarog ein gweddiau, y rhai ydd ym ni yn eu gwneuthur ger dy fron, yn ein trallod a'n blin-fyd, pa bryd bynnac y gwascant arnom: a gwrando ni yn rasusol, fel y bo i'r drygau hynny, y rhai y mae ystryw a dichell diafol neu ddyn yn eu gwneuthur i'n herbyn, fyned yn ofer, a thr wy ragluniaeth dy ddaioni di, iddynt fod yn wascaredic, modd na'n briwer dy weision drwy erlyn neb, a gallu o honom byth ddiolch i ti yn dy lân Eglwys, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Arglwydd cyfot, cymmorth ni, a gwaret ni er mwyn dy Enw.
O Dduw, ni a glywsom â'n clustiau, a'n tadau a fynegasant i ni y gweithredoedd arddderchawg a wnaethost yn eu dyddiau, ac yn y cynfyd o'u blaen hwy.
Arglwydd cyfot, cymmorth ni, a gwaret ni er dy anrhydedd.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae &c.
Rhag ein gelynion amddiffyn ni, Christ.
Yn rasol edrych ar ein poenedigaethau.
Yn dosturus ystyria wrth drymder ein calonnau.
Yn drugarog maddeu bechodau dy bobl.
Yn garedigol gan drugaredd gwrādo ein gweddiau.
Iesu Fab Dafydd, trugarhâ wrthym.
Yr awr hon a phob amser teilynga ein gwrandod Christ.
Yn rasol clyw ni o Christ, yn rasol clyw nyni ô Arglwydd Grist.
Arglwydd dangos dy drugaredd arnom.
Fel ydd ym yn ymddiried ynot.
NYni a attolygwn i ti ô Arglwydd Dad, yn drugarog edrych ar ein gwendid, ac er gogoniāt dy Enw, ymchwel oddi-wrthym yr holl ddrygau a ddarfu i ni o wir gyfiawnder eu haeddu, a chaniadhâ fod im yn ein holl drallod ddodi ein cyfan ymddiried a'n gobaith yn dy drugaredd, ac byth dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd a phurdeb buchedd, i'th anrhydedd a'th ogoniant, trwy ein vnic gyfryngwr a'n dadleu-wr Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Gweddi tros Fawrhydi y Brehin.
O Arglwydd ein Tâd nefol, goruchel, a galluoc, Brenin y Brenhinoedd, Arglwydd yr Arglwyddi, vnic lywiawdr y Tywysogion, yr hwn wyt o'th eisteddle yn edrych ar holl drigolion y ddaiar, ni a attolygwn, ac a erfyniwn i ti, edrych o honot yn ddarbodus ar ein grasusaf ddaionus Arglwydd Frenhin Iames, ac felly ei gyflawni ef o rad dy sanctaidd Yspryd, fel y bo iddo yn wastadol bwyso at dy feddwl, [Page] a rhodio yn dy ffordd, cynnyscaedda ef yn ehelaeth â doniau nefol, caniadhâ iddo mewn llwyddiant ac iechyd hir hoedl, nertha ef, modd y gallo orescyn a gorchfygu ei holl elynion, ac o'r diwedd yn ôl y fuchedd hon, bod iddo swynhau llawenydd a dedwyddyd tragywyddol, trwy Iesu Grist &c.
Gweddi tros y Tywysog, a phlant eraill y Brenin.
OLl-alluog Dduw, yr hwn a addewaist fod yn Dâd i'th etholedigion ac iw hâd, yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti fendithio ein Ardderchog Dy wysog Charles, Ffrederic y Tywysog Palatin, a'r Arglwyddes Elizabeth ei wraig, a'i Tywysogawl eppil▪ cynnysgaedda hwy â'th Yspryd glân, cyfoethoga hwy â'th nefol râs, llwydda hwy a phob dedwyddwch, a dwg hwy i'th dragywyddol deyrnas, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn vnic yn gwneuthur rhyfeddodau, danfon i lawr ar ein Escobion a Churadiaid, a'r holl gynnulleidfaon a orchymynnwyd tan eu gofal hwynt, iachol Yspryd dy rad, ac fel y gallont wîr ryngu bodd i ti, ty wallt arnynt ddyfal wlîth dy fendith: Caniadhâ hyn Arglwydd, er anrhydedd ein dadleu-wr a'n cyfryng-wr Iesu Grist. Amen.
Gweddi o waith Chrysostom.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni râd y pryd hyn, drwy gyfundeb a chyd-gyfarch i weddio arnat, ac wyt yn addo pa ymgynnullo dau neu dri yn dy Enw. bod i ti ganiadhau eu gofynion: cyflawna yr awr hon ô Arglwydd, ddymuniad a deisyfiad dy weision, fel y bo mwyaf buddiol iddynt, gan ganiadhau i ni yn y byd hwn wybodaeth am dy wirionedd, ac yn y byd a ddaw, bywyd tragywyddol. Amen.
RHad ein Harglwydd Iesu Grist, a serch Duŵ, a a chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gyd â ni oll byth bythoedd. Amen.
Gweddi am gael glaw pan fyddo angenrheidiol.
O Dduw nefol Dad, yr hwn drwy dy Fab Iesu Grist, a addewaist i bawb a geisio dy Deyrnas a'th gyfiawnder, bob peth angenrheidiol iw cynhaliaeth corphorol: danfon i ni wrth ein hangenoctid, ni a attolygwn i ti, gyfryw dywydd a chafodydd ardymherus, modd y gallom dderbyn ffrwythau y ddaiar, i'n mwyniant ni, ac i'th vrdduniant titheu, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
Am hinon neu dywydd teg.
ARglwydd Dduw, yr hwn am bechod dyn a foddaist vnwaith yr holl fŷd, oddieithr wyth-nŷn o bobl, ac yn ôl hynny o'th fawr drugaredd a addewaist na's destrywit felly byth drachefn: ni a attolygwn i ti, er i ni am ein anwiredd haeddu y bla hon o law a dyfroedd, etto wrth ein gwir edifeirwch, danfon i ni y cyfryw dywydd a hinon, fel y gallom dderbyn ffrwythau yr ddaiar mewn amser dyladwy, a dyscu trwy dy gospedigaeth wellhau ein bucheddau, ac am dy warder roddi i ti foliant a gogoniant, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Ar amser drudaniaeth a newyn.
O Dduw Tad o'r Nef, drwy ddawn pa vn y discyn y glaw, ac y mae y ddaiar yn ffrwyth-lawn, yr hilia anifeiliaid, ac yr amlhâ yr pyscod: edrych attolwg ar adfyd dy bobl, a chaniadhâ am y prinder ar drudaniaeth ydd ŷm ni yr a wrhon yn ei ddioddef, yn gwbl gyfion am ein anwiredd, iddo drwy dy drugarog ddaioni di, ymchwelyd yn rhâd ac yn helaethrwydd, er cariad ar Iesu Ghrist ein Harglwydd; i'r hwn gyd â thydi a'r Yspryd glân, y bo moliant yn oes oesoedd. Amen.
Ar amser rhyfel.
HOll-alluog Dduw, Brenin yr holl frenhinoedd, a phen-llywiawdur pob peth, yr hwn ni ddichon neb creadur wrthladd ei nerth, i'r hwn y perthyn o gyfiawnder gospi pechaduriaid, a bod yn drugarog wrth y rhai a fyddont wîr edifeiriol: Cadw a gwaret nyni, yn ostyngedic ni a attolygwn i ti, rhag dwylaw ein gelynion, gostwng eu balchder, tôla eu drygioni, a gwradwydda eu bwriadau, modd y gallom yn arfogion gan dy amddeffyn di, fod byth yn gadwedic rhag pob perygl, i'th ogoneddu di yr hwn wyt vnic rodd-wr pob buddugoliaeth a goruchafiaeth, drwy haeddedigaethau dy vn Mâb Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yn amser plâ cyffredin, neu haint cynhwynol.
HOll-alluog Dduw, yr hwn yn dy lid yn amser y Brenin Dafydd, a leddaist â phlâ y nodau ddengmîl a thrugain-mîl, ac yn y man gan gofio dy drugaredd, a faddeuaist y lleill: trugarhâ wrthym wîr bechaduriaid, y rhai a ddarfu i ddirfawr haint a marwolaeth ymweled â ni; fel megis ac y gorchymynnaist yr amser hynny i'th Angel beidio â chospi; felly bod yn awr yn deilwng gennit wrthladd oddiwrthym y blâ a'r gofidus haint yma, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
O Dduw, yr hwn biau o naturiaeth a phriodoldeb drugarhau yn wastad a maddeu, derbyn ein vfydd weddiau; ac er ein bod ni yn rhwym gan gaethiwed cadwynau ein pechodau, er hynny dattoder ni gan dosturi dy drugaredd, er anrhydedd Iesu Grist ein cyfryng-wr a'n dadleu-wr. Amen.
Diolch am gael glaw.
O Dduw ein Tâd nefol, yr hwn drwy dy rasol'ragluniaeth wyt yn peri i'r glaw cynnar a'r diweddar ddiscyn ar y ddayar, fel y gallo ddwyn ffrwyth er mwyniant dŷn: yr ydym ni yn rhoi i ti ostyngedic ddiolch fod yn wiw gennit wrth ein dirfawr anghenrhaid, ddanfon i ni o'r diwedd law hyfryd ar dy etifeddiaeth, a'i hireiddio pan oedd sŷch, i'n mawr ddiddanwch ni dy weision anwiw, ac i ogoniant dy sanctaidd Enw, trwy dy drugareddau yn Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Diolch am dywydd têg.
O Arglwydd Dduw, yr hwn yn gyfiawn a'n darostyngaist ni drwy dy ddiweddar bla o anfeidrol law a dyfroedd, ac yn dy drugaredd a gym-mhorthaist ac a ddiddenaist ein heneidiau, drwy y tymmhoraidd a'r bendigedig gyfnewid ymma ar dywydd, Nyni a foliannwn ac a ogoneddwn dy sanctaidd Enw dros dy drugaredd hyn, ac a ddatcanwn byth dy drugareddau, o genhedlaeth i genhedlaeth, trwy Iesu Grist ein Arglwydd, Amen.
Diolch am helaethrwydd.
O Drugaroccaf Dâd, yr hwn o'th raslon ddaioni a wrandewaist ddefosionol weddiau dy Eglwys, ac a droist ein prinder ni a'n drudaniaeth yn rhâd ac yn helaethrwydd: yr ydym yn rhoi i ti ostyngedig ddiolch dros dy ragorol haelioni hynny, ac yn attolwg i ti barhau dy garedigrwydd ymma tu ag attom, fel y rhoddo 'n tir i ni ei ffrwythau torethog, i'th ogoniant di a'n diddanwch ninnau, trwy Iesu Grist ein Arglwydd, Amen.
Diolch am heddwch a buddugoliaeth.
OLl-alluog Dduw, yr hwn wyt gadarn dwr ymddiffyn i'th weision, rhag wyneb eu gelynion; yr ydym ni yn rhoddi i ti foliant a diolch am ein hymwared ni oddiwrth y mawr a'r amlwg beryglon oedd i'n hamgylchu, yr ydym ni yn cydnabod mai dy ddaioni di yw na'n rhoddwyd ni i fynu yn ysclyfaeth iddynt hwy, ac yn attolwg i ti yn wastadol barhau dy gyfryw drugareddau tu ac attom, fel y gallo yr holl fyd wybod mai tydi yw ein hachubwr a'n cadarn waredwr ni, drwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
Diolch am ymwared oddi-wrth blâ y nodau.
O Arglwydd Dduw, yr hwn a'n harchollaist ni am ein pechodau, ac a'n difeaist am ein hanwireddau, drwy dy ddiweddar ymweliad gorthrwm ac ofnadwy, ac etto ynghanol dy farnedigaeth a gofiaist dy drugaredd, ac a achubaist ein heneidiau allan o safn angau: yr ydym ni yn offrwm i'th dadol ddaioni ein hunain, ein heneidiau a'n cyrph, y rhai a waredaist di, i fod yn aberth bywiol i ti, gan foliannu a mawrygu yn wastadol dy drugareddau ynghanol y gynnulleidfa, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
Neu hyn.
YR ydym ni yn ostyngedig yn cyfaddef ger dy fron di, ô drugaroccaf Dâd, y gallasei yr holl gospedigaethau a fygythir yn dy gyfraith, yn gyfiawn ddiscyn arnom ni, o herwydd ein haml drosseddau [Page] a chaledwch ein calonnau: Etto gan fod yn wiw gennit o'th dyner drugaredd, ar ein gwan a'n an-nheilwng ymddarostyngiad ni, esmwythau y plâ niweidiol, â'r hwn yn ddiweddar i'n cystuddiwyd, ac edfryd llêf gorfoledd ac iechydwriaeth yn ein cyfanneddau: yr ydym ni yn offrwm i'th dduwiol fawredd, aberth moliant a diolch, gan glodfori a mawrygu dy ogoneddus Enw o herwydd dy ymgeledd a'th ragddarbodaeth drosom, drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
¶Y Colectau, yr Epistolau, a'r Efengylon a arferir ar amser gweinidogaeth Swpper yr Arglwydd, a'r Cymmun bendigedig trwy 'r flwyddyn.
Y Sul cyntaf yn Adfent.
Y Colect.
HHoll-alluog Dduw, dyro râd i nyni i ym wrthod â gweithredoedd y tywyllwch, ac i wisco arfau yr goleuni, yn-awr yn amser y fuchedd farwol hon, (pryd y daeth dy Fab Iesu Grist i ymweled â nyni mewn mawr ostyngeiddrwydd) fel y byddo i ni yn y dydd diweddaf, pan ddelo efe drachefn yn ei ogoneddus fawredd, i farnu byw a meirw, gyfodi i'r fuchedd anfarwol, trwyddo ef, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
Yr Epistol.
NA fyddwch yn nylêd nêb o ddim, Rhuf. 13.8. ond o garu bawb ei gilydd: canys yr hwn sydd yn caru arall, a gyflawnodd y Gyfraith. Canys hyn, Na odineba, na lâdd, na ladratta, na ddwg gam dystiolaeth, na thrachwanta; ac od oes [vn] gorchymmyn arall, y mae wedi ei gynnwys yn gryno yn yr ymadrodd hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Cariad ni wna ddrwg i'w gymmydog; am hynny, cyflawnder y Gyfraith yw cariad. A hyn gan wybod yr amser, ei bôd hi weithian yn brŷd ini i ddeffroi o gyscu: canys yr awr hon y mae ein iechydwriaeth ni yn nês nâ phan gredasom. Y nôs a gerddodd ym mhell, a'r dydd a nessaodd; am hynny bwriwn oddiwrthym [Page] weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus, megis wrth liw dŷdd: nid mewn cyfeddach, a meddwdod: nid mewn cydorwedd, ac anlladrwydd; nid mewn cynnen, a chenfigen: eithr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, ac na wnewch ragddarbod tros y cnawd, er mwyn cyflawni ei chwantau ef.
Yr Efengyl.
Mat. 21.1 A Phan ddaethant yn gyfagos i Ierusalem, a'u dyfod hwy i Bethphage i fynydd yr Olewydd, yna yr anfonodd yr Iesu ddau ddiscybl, gan ddywedyd wrthynt, ewch i'r pen-tref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym, ac ebol gyd â hi: gollyngwch hwynt, a dygwch attafi. Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch y y mae yn rhaid i'r Arglwydd wrthynt, ac yn y man efe a'u denfyn hwynt. A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy 'r prophwyd, yn dywedyd, Dywedwch i ferch Sion, wele dy frenhin yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol, llwdn assyn arferol â 'r iau. Y discyblon a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymmynasei 'r Iesu iddynt. A hwy a ddygasant yr assyn, a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant ef i eistedd ar hynny. A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u tanasant ar hyd y ffordd. A'r torfeydd y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl a lefasant, gan ddywedyd; Hosanna i Fâb Dafydd: bendigedig yw 'r hwn fydd yn dyfod yn Enw yr Arglwydd: Hosanna yn y goruchafion. Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Ierusalem, y ddinas oll a gynnhyrfodd gan ddywedyd, pwy yw hwn? A'r torfeydd a ddywedasant, [Page] hwn yw Iesu, y prophwyd o Nazareth yn Galilea. A'r Iesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml, ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newid-wyr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommennod: Ac a ddywedodd wrthynt, scrifennwyd, tŷ gweddi y gelwir fy nhŷ i, eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
Yr ail Sul yn Adfent.
Y Colect.
Y Gwynfydedic Arglwydd, yr hwn a beraist yr holl Scrythur lân yn scrifennedic er mwyn ein athrawiaeth, a'n addysc ni: Caniadhâ fod i ni mewn cyfryw fodd ei gwrando, ei darllain, ei chwiliaw, a'i dyscu, ac i'n mewn ei mwynhâu, fel y gallom trwy ddioddefaint a chonffordd dy gyssegredic air, gofleidio ac ymgynnal wrth fendigaid obaith y fuchedd dragywyddol, yr hon a roddaist i ni, drwy ein Iachawdur Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
PA bethau bynnag a scrifennwyd o'r blaen, Rhuf. 15.4. er addysc i ni yr scrifennwyd hwynt, fel trwy ammynedd a diddanwch yr Scrythyrau, y gallem gael gobaith. A Duw yr ammynedd a'r diddanwch, a roddo i chwi synied yr vn peth tu ag at ei gilydd yn ôl Christ Iesu: Fel y galloch, yn vn-fryd, o vn genau, ogoneddu Duw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist. O herwydd pa ham, derbyniwch ei gilydd, megis ac y derbyniodd Christ ninnau i ogoniant Duw. Ac yr wyf yn dywedyd, wneuthur Iesu Grist yn wenidog i'r enwaediad, er mwyn gwirionedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion a [wnaethpwyd] i'r tadau. [Page] Ac fel y byddei i'r Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd, fel y mae yn scrifennedig; Am hyn y cyffesaf i ti ym mhlith y Cenhedloedd, ac y canaf i'th Enw. A thrachefn y mae yn dywedyd; Ymlawenhewch Genhedloedd, a chlodforwch ef yr holl bobloedd. A thrachefn y mae Esaias yn dywedyd, Fe fydd gwreiddyn Iesse, a'r hwn a gyfyd i lywodraethu y Cenhedloedd: ynddo ef y gobeithia y Cenhedloedd. A Duw 'r gobaith a'ch cyflawno o bôb llawenydd a thangneddyf gan gredu, fel y cynnyddoch mewn gobaith, trwy nerth yr Yspryd glân.
Yr Efengyl.
Luc 21.25. ABydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r ser, ac ar y ddaiar ing Cenhedloedd gan gyfyng-gyngor; a'r mōr a'r tonnau yn rhuo, a dynion yn llewygu gan ofn, a disgwil am y pethau sy yn dyfod ar y ddaiar: oblegid nerthoedd y nefoedd a yscydwir. Ac yna y gwelant Fâb y dŷn yndyfod mewn cwmmwl, gyd â gallu a gogoniant mawr. A phan ddechreuo 'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesau. Ac efe a ddywedodd ddammeg iddynt, Edrychwch ar y fligys-bren, a'r holl breniau; pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch, ac a ŵyddoch o honoch eich hun, fôd yr hâf yn agos. Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fôd teyrnas Dduw yn agos. Yn wir meddaf i chwi, nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben. Y nef a'r ddaiar a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
Y trydydd Sul yn Adfent.
Y Colect.
ARglwydd, attolygwn i ti glust-ymwrando â'n gweddiau, a thrwy dy radlawn ymweliad, goleua dywyllwch ein calōnau, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
FElly cyfrifed dŷn nyni, 1. Cor. 4.1 megis gwenidigion i Ghrist, a goruchwyl-wŷr ar ddirgeledigaethau Duw. Am ben hyn, yr ydys yn disgwil mewn goruchwyl-wŷr, gael vn yn ffyddlon. Eithr gennyfi bychan iawn yw fy marnu gennych chwi, neu gan farn dŷn: ac nid wyf chwaith yn fy marnu fy hun. Canys ni wn i'ddim arnaf fy hun; ond yn hyn ni'm cyfiawnhawyd, eithr yr Arglwydd yw 'r hwn sydd yn fy marnu. Am hynny, na fernwch ddim cyn yr amser, hyd oni ddelo yr Arglwydd, yr hwn a oleua ddirgelion y tywyllwch, ac a eglura fwriadau y calonnau, ac yna y bydd y glôd i bôb vn gan Dduw.
Yr Efengyl.
AC Ioan, Matt. 11.2 pan glybu yn y carchar weithredoedd Christ, wedi danfon dau o'i ddiscyblion, a ddywedodd wrtho, Aitydi yw 'r hwn fy 'n dyfod, ai vn erall yr ydym yn ei ddisgwil? A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Ioan y pethau a glywch ac a welwch. Y mae 'r deillion yn gweled eil-waith, a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed: y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu 'r Efengyl iddynt. A dedwydd yw 'r hwn ni rwystrir ynofi. Ac a hwy yn myned ymmaith, yr Iesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r [Page] anialwch i edrych am dano? a'i corsen yn yscwyd gan wynt: Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dŷn wedi ei wisco â diilad esmwyth? wele, y rhai sy yn gwisco dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent. Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? ie meddaf i chwi, a mwy nâ prophwyd. Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr scrifennwyd, Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen.
Y pedwerydd Sul yn Adfent.
Y Colect.
DErcha Arglwydd attolwg i ti, dy gadernid, a thyred i'n plîth, ac â mawr nerth cymmorth ni, ac am y rhwystr a'r lluddias y sydd arnom, o ran anwiredd ein pechodau, bydded i'th daionus râd ti ein gwared ni yn ebrwydd, trwy ddiwygiad dy Fâb ein Harglwydd: i'r hwn gyd â thi a'r Yspryd glân, y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
Yr Epistol.
Phil. 4.4. LLawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: a thrachefn meddaf, llawenhewch. Bydded eich arafwch yn hyspys i bôb dŷn. Y mae 'r Arglwydd yn agos. Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil, gyd â diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspys ger bron Duw. A thangneddyf Dduw yr hwn sydd vwch law pôb deall, a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yn Ghrist Iesu.
Yr Efengyl.
Ioan. 1.19. HOn yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Ierusalem offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti? Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd, a chyffesodd, Nid myfi yw 'r Christ. A hwy a ofynnasant iddo, Beth ynteu? [Page] ai Elias wyt ti? Yntef a ddywedodd, Nagê. Ai'r Prophwyd wyt ti? Ac efe a attebodd, Nagê. Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? fel y rhoddom atteb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun? Eb efe, Myfi yw llêf vn yn gwaeddi yn y diffaethwch, Vniawnwch ffordd yr Arglwydd; fel y dywedodd Esay y Prophwyd. A'r rhai a anfonasid, oedd o'r Pharisæaid. A hwy a ofynnasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Pa ham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid yd wyt ti na'r Christ, nac Elias, na'r Prophwyd? Ioan a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sy yn bedyddio â dwfr, ond y mae vn yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwaenoch chwi: Eie yw 'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth o'm blaen i: yr hwn nid ydwyfi deilwng i ddattod carrei ei escid. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i'r Iorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
Dydd Natalic Christ.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy vn Mâb i gymeryd ein anian arno, ac iw eni heddyw o for wyn bûr: Caniadhâ i ni fod wedi ein hadgenhedlu, a'n gwneuthur yn blant i ti trwy fabwys a rhâd, a pheunydd ein hadnewyddu trwy dy lân Yspryd, trwy yr vn-rhyw ein Harglwydd Iesu Grist yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd â thi yn oes oesoedd. Amen.
Yr Epistol.
DVw, Heb. 1.1. wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab, Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pôb peth, trwy 'r hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd. Yr hwn [Page] ac efe yn ddisclairdeb ei ogoniant ef, ac yn wîr lun ei berson ef, ac yn cynnal pôb peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheu-law y mawredd, yn y goruwch-leoedd: wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ'r Angelion, o gymmaint ac yr etifeddodd efe Enw mwy rhagorol nâ hwynt hwy. Canys wrth bwy o'r Angelion y dywedodd efe vn amser? fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais di. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab. A thrachefn, pan yw yn dwyn y cyntaf-anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl Angelion Duw ef. Ac am yr Angelion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei Angelion yn ysprydion, a'i weinidogion yn fflani dân: Ond wrth y Mab, Dy orsedd-faingc di, o Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen vniondeb, yw teyrn-wialen dy deyrnas di. Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist an wiredd, am hynny i'th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion. Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaiar, a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd. Hwynt-hwy a ddarfyddant, ond tydi sydd yn parhau: a hwynt-hwy oll fel dilledyn a heneiddiant. Ac megis gwisc y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr vn ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.
Yr Efengyl.
Ioan. 1.1. YN y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gŷd â Duw, a Duw oedd y Gair. Hwn oedd yn y dechreuad gŷd â Duw. Trwyddo ef y gwnaethpwyd pôb peth; ac hebddo ef, ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd. Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion: A'r goleuni sydd yn llewyrchu [Page] yn y tywyllwch, a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred. Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a'i enw Ioan: Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethei am y goleuni, fel y credai pawb trwyddo ef. Nid efe oedd y goleuni, eithr efe a anfonasid fel y tystiolaethei am y goleuni. Hwn ydoedd y gwir oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pôb dŷn a'r y sydd yn dyfod i'r bŷd. Yn y bŷd yr oedd efe, a'r bŷd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r bŷd nid adnabu ef. At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun ni dderbyniasant ef. Ond cynnifer ac a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fôd yn feibion i Dduw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef. Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw. A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr vnig-anedig oddi wrth y Tâd) yn llawn grâs a gwirionedd.
Dydd gwyl Sanct Stephan.
Y Colect.
CAniadhâ i ni Arglwydd, ddyscu caru ein gelynion, drwy esampl dy ferthyr Sanct Stephan, yr hwn a weddiodd tros ei arteith wŷr arnat ti, yr hwn wyt yn byw yn oes oesoedd. Amen.
Yna y canlyn y Colect o'r Natalig, yr hwn a ddywedir yn oestad hyd Ddydd Calan.
Yr Epistol.
AC Stephan yn gyflawn o'r Yspryd glân, Act. 7.55. a edrychodd yn ddyfal tu a'r nef, ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheu-law Dduw. Ac efe a ddywedodd; wele, mi a welaf y nefoedd yn [Page] agored, a Mâb y dyn yn eistedd a'r ddeheu-law Dduw. Yna y gwaeddasant â llef vchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn vnfryd arno, ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant, a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dŷn ieuangc a elwid Saul. A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw a'r Dduw, ac yn dywedyd. Arglwydd Iesu derbyn fy yspryd. Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef vchel, Arglwydd na ddod y pechod hyn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.
Yr Efengyl.
Matth. 23 34. WEle, yr ydwyf yn anfon attoch brophwydi, a doethion, ac Scrifennyddion: a rhai o honynt a leddwch, ac a groeshoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref: fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn, a'r a ollyngwyd ar y ddaiar, o waed Abel gyfiawn, hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y Deml a'r allor. Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon. Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn, gasclu dy blant ynghyd, megis y cascl iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech? Wele, yr ydys yn gadel eich tŷ i chwi yn anghyfannedd. Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch yn ôl hyn hyd oni ddywedoch, Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn Enw yr Arglwydd.
Dy'gwyl Ioan Efangylwr.
Y Colect.
ARglwydd trugarog, ni a attolygwn i ti fwrw dy ddisclair belydr goleuni ar dy Eglwys, fel y bo [Page] iddi wedi ei goleuo gan athrawiaeth dy wynfydedic Apostol ac Efangylwr Ioan, allu dyfod i'th ddoniau tragywyddol, trwy Iesu Ghrist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
YR hyn oedd o'r dechreuad, 1. Ioan 1.1. yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â'n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd: (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi y bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyd â'r Tâd, ac a eglurnawyd i ni,) yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyd â ni: a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyd â'r Tâd, a chyd â'i Fab ef Iesu Grist. A'r pethau hyn yr ydym yn eu scrifennu attoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. A hon yw 'r gennadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. Os dywedwn fôd i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd. Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'i gilydd, a gwaed Iesu Grist ei-Fab ef, sydd yn ein glânhau ni oddi wrth bôb pechod. Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhâo oddi wrth bob anghyfiawnder. Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, â'i air ef nid yw ynom.
Yr Efengyl.
Ioan 21.19. YR Iesu a ddywedodd wrth Betr, Canlyn fi. A Phetr a drôdd, ac a welodd y discybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn: yr hwn hefyd a bwysasei ar ei ddwyfron ef ar swpper, ac a ddywedasei, Pwy, Arglwydd, yw yr hwn a'th fradycha di? Pan welodd Petr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth [yw] hynny i ti? canlyn di fy. fi. Am hynny yr aeth y gair ymma allan ym mhlith y brodyr, na fyddei y discybl hwnnw farw: ac ni ddywedasei yr Iesu wrtho, na fyddei efe farw: ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth [yw] hynny i ti? Hwn yw'r discybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn: ac a scrifennodd y pethau hyn, ac ni a wyddom fôd ei dystiolaeth ef yn wîr. Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped yscrifennid hwy bôb yn vn ac vn, nid ŵyf yn tybied y cynhwysei y bŷd y llyfrau a scrifennid.
Dy'gwyl y Gwirioniaid.
Y Colect.
HOll-gyfoethog Dduw, yr hwn y darfu i'r gwirioniaid ieuaingc dy dystion, ar y dydd hwn gyffessu dy foliant, nid gan ddywedyd, onid gan farw: Marweiddia, a lladd bob rhyw anwiredd ynom: fel y byddo yn ein ymarweddiad, i'n buchedd fynegi dy ffydd, yr hon yr ydym â'n tafod yn ei chyffessu, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
AC mi a edrychais, Datc. 14.1 ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chyd ag ef bedair mîl, a saithugein-mil, a chanddynt Enw ei Dâd ef yn scrifennedig yn eu talcennau. Ac mi a glywais lêf o'r nêf, fel llêf dyfroedd lawer, ac fel llêf taran fawr: ac mi a glywais lêf telynorion yn canu ar eu telynau. A hwy a ganasant megis caniad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar anifail, a'r Henuriaid: ac ni allodd nêb ddyscu y gân, ond y pedair mîl a'r saithugeinmil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaiar: Y rhai hyn yw y rhai ni halogwyd â gwragedd: canys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw y rhai sy'n dilyn yr Oen, pa le bynnag yr elo: y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaen-ffrwyth i Dduw ac i'r Oen: Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt ger bron gorsedd-faingc Duw.
Yr Efengyl.
ANgel yr Arglwydd a ymddangosodd i Ioseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Mat. 2.13. Cyfod, cymmer y mâb bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti; canys ceisio a wna Herod y mab bychan, i'w ddifetha ef. Ac ynteu pan gyfododd a gymmerth y mâb bychan a'i fam o hŷd nôs, ac a giliodd i'r Aipht. Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd gan yr Arglwydd, trwy'r prophwyd gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mâb. Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yr aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwy-flwydd oed, a than hynny wrth yr amser yr ymofynnasei efe yn fanwl â'r [Page] doethion. Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn ŵylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oeddynt.
Y Sul gwedi y Natalig.
Y Colect.
OLl-alluog Dduw, yr hwn a roddaist i ni &c. Megis ar Ddydd Natalig Christ.
Yr Epistol.
Galat. 4.1. A Hyn yr ŵyf yn ei ddywedyd: dros gymmaint o amser ac y mae 'r etifedd yn fachgen, nid oes dim rhagor rhyngddo a gwâs, er ei fôd yn Arglwydd ar y cwbl. Eithr y mae efe tan ymgeledd-wŷr a llywodraeth-wyr, hyd yr amser a osodwyd gan y tâd. Felly ninnau hefyd, pan oeddym fechgyn, oeddym gaethion tan wyddorion y bŷd: Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd Duw ei Fâb, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tan y Ddeddf: Fel y prynei y rhai oedd tan y Ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad. Ac o herwydd eich bôd yn feibion, yr anfonodd Duw Yspryd ei Fâb i'ch calonnau chwi yn llefain, Abba, Dâd. Felly nid wyti mwy yn wâs, ond yn fab: ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.
Yr Efengyl.
Mat. 1.1. LLyfr cenhedliad Iesu Grist, fâb Dafydd, fâb Abraham. Abraham a genhedlodd Isaac, ac Isaac a genhedlodd Iacob, ac Iacob a genhedlodd Iudas a'i frodyr. A Iudas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar, a Phares a genhedlodd Esrom, [Page] ac Esrom a genhedlodd Aram. Ac Aram a genhedlodd Aminadab, ac Aminadab a genhedlodd Naasson, a Naasson a genhedlodd Salmon. A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab, a Boos a genhedlodd Obed o Ruth, ac Obed a genhedlodd Iesse. A Iesse a genhedlodd Ddafydd frenin, a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon, o'r hon a fuasei wraig Vrias. A Solomon a genhedlodd Roboam, a Roboam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhedlodd Asa. Ac Asa a genhedlodd Iosaphat, a Iosaphat a genhedlodd Ioram, a Ioram, a genhedlodd Ozias. Ac Ozias a genhedlodd Ioatham, a Ioatham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhedlodd Ezekias. Ac Ezekias a genhedlodd Manasses, a Manasses a genhedlodd Amon, ac Amon a genhedlodd Iosias. A Iosias a genhedlodd Iechonias a'i frodyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon. Ac wedi y symmudiad i Babilon, Iechonias a genhedlodd Salathiel, a Salathiel a genhedlodd Zorobabel. A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac Abiud a genhedlodd Eliakim, ac Eliakim a genhedlodd Azor. Ac Azor a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Achim, ac Achim a genhedlodd Eliud. Ac Eliud a genhedlodd Eleazar, ac Eleazar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhedlodd Iacob. Ac Iacob a genhedlodd Ioseph, gŵr Mair, o'r hon y ganed Iesu, yr hwn a elwir Christ. Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, sydd bedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o Ddafydd hyd y symmudiad i Babilon pedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o'r symmudiad i Babilon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddêg. A genedigaeth yr Iesu Grist oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef â Ioseph, cyn eu dyfod hwy ynghyd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd glân. A Ioseph ei gŵr hi, gan ei fôd yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a [Page] ewyllysiodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel. Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, Angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Ioseph mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi, sydd o'r Yspryd glân. A hi a escor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Iesu, oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. (A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywetpwyd gan yr Arglwydd trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd, Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fâb, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn, o'i gyfieithu, yw, Duw gyd â ni.) A Ioseph pan ddeffroes o gwsc, a wnaeth megis y gorchymynnasei Angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig. Ac nid adnabu efe hi, hyd oni escorodd hi ar ei mâb cyntaf-anedig, a galwodd ei henw ef Iesu.
Dydd Calan, neu Enwaediad Christ.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw yr hwn a wnaethost i'th wynfydedic Fâb dderbyn enwaediad, a bod yn vfydd i'r Ddeddf er mwyn dyn: Caniadhâ i ni iawn enwaediad yr Yspryd, fel y bo i'n calonnau, a'n holl aelodau, wedi eu marwolaethu oddi wrth fydol a chnawdol anwydau, allu ym-mhob rhyw beth vfyddhau i'th wynfydedic ewyllys, trwy 'r vn-rhyw dy Fâb Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Rhuf. 4.8. DEdwydd yw y gŵr nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo. A ddaeth y dedwyddwch hwn, gan hynny, ar yr Enwaediad yn vnig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? Canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham [Page] yn gyfiawnder. Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? Ai pan oedd yn yr Enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr Enwaediad, ond yn y dienwaediad. Ac efe a gymmerth arwydd yr Enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad, fel y byddei efe yn dâd pawb a gredēt yn y dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd: ac yn dâd yr Enwaediad, nid i'r rhai o'r Enwaediad yn vnig, onid i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad, Canys nid trwy y Ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu iw hâd, y byddei ef yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd. Canys os y rhai sydd o'r Ddeddf, yw 'r etifeddiō, gwnaed ffydd yn ofer, a'r addewid yn ddirym.
Yr Efengyl.
A Bu pan aeth yr Angelion ymaith oddiwrth y bugeilddynion i'r nêf, Luc. 2.15. ddywedyd o honynt wrth ei gilydd, awn ninnau hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a wnaethbwyd, yr hwn a hyspysodd yr Arglwydd i ni. A hwy a ddaethant ar frŷs, ac a gawsant Mair, a Ioseph, a'r dŷn bach yn gorwedd yn y preseb. A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwnnw. A phawb o'r a'u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeiliaid wrthynt. Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon. A'r bugeiliaid a ddychwylasant, gan ogoneddu, a moliannu Duw, am yr holl bethau a glywsent, ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt. A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dyn bach, galwyd ei enw ef Iesu, yr hwn a henwasid gan yr Angel, cyn ei ymddwyn ef yn y groth.
Os bydd sul rhwng yr Ystwylla'r Calan, Yna 'r arferir [Page] yr un Colect, Epistol, ac Efengyl ar y Cymmun, ac a ddywetpwyd ar Ddydd Calan.
¶Dy'gwyl Ystwyll.
Y Colect.
DVw, yr hwn trwy dywysogaeth seren a ddangosaist dy vn Mâb i'r cenhedloedd: Caniatâ yn drugarog i ni y sawl ydym i'th adnabod yr awr hon drwy ffydd, allu yn ôl y fuchedd hon gael mwyniant dy ogoneddus dduwdod, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Eph. 5.1. ER mwyn hyn yr wyf fi Paul yn garcharor Christ Iesu trosoch chwi y cenhedloedd, os clywsoch am orchwyliaeth grâs Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag attoch chwi: mai trwy ddatcuddiad yr hyspysodd efe i mi y dirgelwch (megis yr scrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau, wrth yr hyn y gellwch pan ddarllenoch wybod fy neall i yn-nirgelwch Christ) yr hwn yn oesoedd eraill nis eglurwyd i feibion dynion, fel y mae'r awr-hon wedi ei ddatcuddio i'w sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi trwy'r Yspryd; y byddai y cenhedloedd yn gydetifeddion, ac yn gyd-gorph, ac yn gyd-gyfrannogion o'i addewid ef yn Ghrist trwy'r Efengyl, i'r hon i'm gwnaed i yn wenidog yn ôl rhodd grâs Duw, yr hwn a roddwyd i mi yn ôl grymmus weithrediad ei allu ef. I mi y llai nâ'r lleiaf o'r holl sainct y rhoddwyd y grâs hyn, i efengylu ymmysc y cenhedloedd anch wiliadwy olud Christ, ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn-Nuw, yr hwn a greawdd bod peth trwy Iesu Ghrist. Fel y byddai'r awron yn hyspys i'r tywysogaethau, ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd trwy'r Eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw; yn ôl yr arfaeth dragywyddol yr hon [Page] a wnaeth efe yn Ghrist Iesu ein Harglwydd ni: yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder trwy ei ffŷdd ef.
Yr Efengyl.
AC wedi geni yr Iesu yn Bethlehem Iudêa, yn nyddiau Herod frenhin, wele, Matt. 2.1. doethion a ddacthant o'r dwyrain i Ierusalem gan ddywedyd, pale y mae yr hwn a anwyd yn frenhin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef. Ond pan glybu Herod frenhin, ese a gyffrowyd, a holl Ierusalem gŷd ag ef. Ac wedi dwyn ynghyd yr holl Archoffeiriaid, ac scrifennyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Christ. A hwy a ddywedasant wrtho, yn Bethlehem Iudêa, canys felly yr scrifennwyd trwy 'r prophwyd. A thitheu Bethlehem tir Iuda, nid lleiaf wyt ym-mhlith tywysogion Iuda: canys o honot ti y daw tywysog, yr hwn a fugeilia fy nihobl Israel. Yna Herod wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasei y seren. Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd: ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mâb-bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finneu ddyfod, a'i addoli ef. Hwythau wedi clywed y brenhin a aethant, ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle 'r oedd y mâb-bychan. A phan welsant y seren, llawenhasant â llawenydd mawr trosben. A phan ddaethant i'r ty, hwy a welsant y mâb-bychan gŷd â Mair ei fam, a hwy a syrthiasant i lawr ac a'i haddolasant ef, ac wedi egoryd eu trysorau, a offrymmasāt iddo anrhegion, aur, a thus, a myrr. Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i'w gwlâd ar hyd ffordd arall.
¶Y Sul cyntaf gwedi'r Ystwyll.
Y Colect.
ARglwydd nyni a attolygwn i ti dderbyn yn drugarog weddiau dy bobl sydd yn galw arnat: a chaniadhâ iddynt ddeall a gwybod yr hyn a ddylent ei wneuthur, a chael hefyd râd a gallu i wneuthur yn un-rhyw, [...] Gri [...] ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol
_ Rom. [...].1.AM hynny yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er trugaredd [...] Duw, roddi o honoch yn aberth byw, sanctaidd, cymmeradwy gan Dduw, yr [...] yw eich rhesymmol wasanaeth chwi. Ac na chyd-ymffurfiwch a'r byd hwn, [...] ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus a chymmeradwy, a pherffaith ewyllys Duw. Canys yr wyf yn dywedyd trwy y grâs a roddwyd i mi, wrth bob un sydd yn eich plith, na byddo i neb vchel-synied yn amgen nag y dylid synied, eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob vn fesur ffydd. Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn vn corph, ac nad oes gan yr holl aelodau yr vn swydd; felly ninnau, a ni yn llawer, ydym vn corph yn Ghrist, a phôb vn yn aelodau i'w gilydd.
Yr Efengyl.
Luc. 2.41. RHieni yr Iesu a aent i Ierusalem bôb blwyddyn, ar ŵyl y Pasc. A phan oedd efe yn ddeuddeng-mlwydd oed, hwynt hwy a aethant i fynu i Ierusalem, yn ôl defod yr ŵyl. Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem, ac ni wyddai Ioseph a'i fam ef. Eithr gan dybied ei fôd ef yn y fintai, hwy a [Page] aethant daith diwrnod, ac a'i ceisiasant ef ymmhlith eu cenedl a'i cydnabod. A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gan ei geisio ef. A bu, yn ôl tri-diau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd ynghanol y Doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant ef, o herwydd ei ddeall ef a'i attebion. A phan welsant ef. bu aruthr ganddynt: a'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mâb, pa ham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dâd a minneu yn ofidus a'th geisiasom di. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham y ceissech fi? oni ŵyddech fôd yn rhaid i mi fôd ynghylch y pethau a berthyn i'm Tâd? A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasei efe wrthynt. Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a ffafor gyd â Duw a dynion.
Yr ail Sul gwedi'r Ystwyll.
Y Colect.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn wyt yn llywiaw pob peth yn y nef a'r ddaiar, clyw yn drugarog airchion dy bobl, a chaniadhâ i ni dy dangneddyf holl ddyddiau ein bywyd. Amen.
Yr Epistol.
GAn fôd i ni amryw ddoniau, Rom. 12.6. yn ôl y grâs a roddwyd i ni, pa vn bynnac ai prophwydoliaeth, [prophwydwn] yn ôl cyssondeb y ffydd: Ai gweinidogaeth, yn y weinidogaeth; neu 'r hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth; neu'r hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor; yr hwn sydd yn cyfrannu, [gwnaed] mewn symlrwydd: yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr [Page] hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd. Bydded cariad yn ddiragrith: casse wch y drwg, a glynwch wrth y da. Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'w gilydd, yn rhoddi parch yn blaenori ei gilydd. Nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr Yspryd yn gwasanaethu yr Arglwydd, Yn llawen mewn gobaith, yn ddioddefgar mewn cystudd, yn dyfal-barhau mewn gweddi, yn cyfrannu i gyfreidiau'r Sainct, ac yn dilyd lletteugarwch. Bendithiwch y rhai sy yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felldithiwch. Byddwch lawen gyd â'r rhai fydd lawen, ac wylwch gyd â'r rhai sy 'n wylo. Byddwch yn vn-fryd â'i gilydd: heb roi eich meddwl a'r vchel-bethau: eithr yn gyd-ostyngedig â'r rhai iselradd.
Yr Efengyl.
Ioan. 2.1. A'R trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilæa: a mam yr Iesu oedd yno. A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddiscyblion i'r briodas. A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Nid oes ganddynt mo'r gwin. Iesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi wraig? ni ddaeth fy awr i etto. Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaeth-wŷr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych, gwnewch. Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini, wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bob vn, ddau ffircyn neu dri. Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl. Ac efe a ddywedodd wrthynt. Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraeth-ŵr y wledd. A hwy a ddygasant. A phan brofodd llywodraeth-ŵr y wledd y dwfr a wnaethid yn win, (ac ni wyddei o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaeth-wŷr, y rhai a ollyngasent y dwfr, a wyddent) llywodraeth-wr y wledd a alwodd ar y priod-fab, ac [Page] a ddywedodd wrtho, Pôb dŷn a esyd y gwin da yn gyntaf, ac wedi iddynt yfed yn dda, yna vn a fo gwaeth: titheu a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon. Hyn o ddechreu gwyrthiau a wnaeth yr Iesu yn Cana Galilæa, ac a eglurodd ei ogoniant, a'i ddiscyblion a gredasant ynddo.
Y Trydydd Sul gwedi'r Ystwyll.
Y Colect.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, edrych yn drugarog ar ein gwendid; ac yn ein holl beryglō, a'n anghenion, estyn dy ddeheu-law i'n cymmorth, ac i'n hamddeffyn, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
NA fyddwch ddoethion yn eich tŷb eich hunain. Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Rom. 12.16. Darperwch bethau onest yngolwg pôb dŷn. Os yw bossibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlawn â phôb dŷn. Nac ymddielwch, rai anwyl, onid rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn scrifennedic, I mi y mae dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef: os sycheda, dyro iddo ddiod; canys wrth wneuthur hyn, ti a bentyrri farwor tanllyd am ei ben ef. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.
Yr Efengyl.
GWedi dyfod yr Iesu i wared o'r mynydd, Matt. 8.1. torfeydd lawer a'i canlynasant ef. Ac wele, vn gwahan-glwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i. Ar Iesu a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhawyd. A dywedodd yr Iesu wrtho, Gwêl na ddywedych wrth neb: eithr dôs, [Page] dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma y rhodd a orchymynnodd Moses, er tystiolaeth iddynt. Ac wedi dyfod yr Iesu i mewn i Capernaum, daeth atto ganwriad, gan ddeisyfu arno, a dywedyd, Arglwydd, y mae fy ngwâs yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddir-fawr. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachaf ef. A'r canwriad a attebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd, nid ydwyfi deilwng i ddyfod o honot tan fy nghronglwyd: eithr yn vnig dywed y gair, a'm gwâs a iachêir. Canys dyn ydwyf sinneu tan awdurdod, a chennif filwŷr tanaf: a dywedaf wrth hwn cerdda, ac efe a â; ac wrth arall, Tyred, ac efe a ddaw: ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna. A'r Iesu pan glybu a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, na ddo yn yr Israel. Ac yr yd wyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin, ac a eisteddant gyd ag Abraham, ac Isaac, a Iacob, yn nheyrnas nefoedd: ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. A dywedodd yr Iesu wrth y canwriad, dôs ymmaith, a megys y credaist bydded i ti. A'i wâs a iachawyd yn yr awr honno.
¶Y pedwerydd Sul gwedi'r Ystwyll.
Y Colect.
DUw, yr hwn a ŵyddost ein bod ni wedi ein gosod mewn cymmaint a chynnifer o beryglon, ac nas gallwn o herwydd gwendid dynol, sefyll bob amser yn vniawn: caniadhâ i ni iechyd enaid a chorph, fel y bo am yr holl betheu ydd ym ni yn eu dioddef am bechod, allu o honom drwy dy borth di eu gorfod a'u gorchfygu, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
YMddarostynged pob enaid i'r awdurdodau goruchel, Rom. 13.1. canys nid oes awdurdod onid oddiwrth Dduw: a'r awdurdodau sydd, gan Dduw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny, pwy bynnac sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wrthwynebant, a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni di nad ofnech yr awdurdod? gwna'r hyn sydd dda; a thi a gai glod ganddo. Canys gweinidog Duw ydyw ef i ti er daioni: eithr os gwnei ddrwg, ofna, canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Oblegid gweinidog Duw yw efe, dialudd llid i'r hwn sydd yn gwneuthur drwg. Herwydd pa ham, anghenrhaid yw ymddarostwng, nid yn vnic o herwydd llid, eithr o herwydd cydwybod hefyd. Canys am hyn yr ydych yn talu teyrnged hesyd, oblegid gwasanaeth-wŷr Duw ydynt hwy, yn gwilied ar hyn ymma. Telwch gan hynny i bawb[eu]dyledion, teyrn-ged i'r hwn y mae teyrnged [yn ddyledus.] toll i'r hwn y mae toll; ofn i'r hwn y mae ofn; parch i'r hwn y mae parch [yn ddyledus:]
Yr Efengyl.
AC wedi iddo fyned i'r llong, Matt. 8.23. ei ddiscyblion a'i canlynasant ef. Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu. A'i ddiscybtion a ddaethant atto, ac a'i deffroesant, gan ddywedyd, Arglwydd cadw ni, darfu am danom. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ofnus, ô chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch [Page] mawr. A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw vn yw hwn, gan fôd y gwyntoedd hefyd ar môr yn vfyddhau iddo? Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall i wlâd y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. Ac wele, hwy a lefasant gan ddywedyd. Iesu fâb Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti ymma i'n poeni ni cyn yr amser? Ac yr oedd ynt-mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pori. A'r cythreuliaid a ddeisyfiasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniadhâ i ni fyned ymmaith i'r genfaint fôch. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint fôch. Ac wele, yr holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibyn i'r mor, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bôb peth, a pha beth a ddarfuasei i'r rhai dieflig. Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â'r Iesu: a phan ei gwelsant attolygasant iddo ymadel o'u cyffiniau hwynt.
Y pumed Sûl gwedi 'r Ystwyll.
Y Colect.
ARglwydd, ni a attolygwn i ti gadw dy Eglwys a'th deulu yn wastad yn dy wîr grefydd, fel y gallont hwy oll, y sawl sydd yn ymgynnal yn vnic wrth dy nefol rad, byth gael nawdd dy ddiogel amddiffyn, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Coloss. 3.12 MEgis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, gwiscwch amdanoch ymyscaroedd trugareddau, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros: gan gyd-ddwyn â'i gilydd, a maddeu iw gilydd, os bydd gan neb [Page] gweryl yn erbyn neb: megis ac y maddeuodd Christ i chwi, felly gwnewch chwithau. Ac am ben hyn oll, gwiscwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd. A llywodraethed tangneddyf Dduw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd i'ch galwyd yn vn corph: a byddwch ddiolchgar. Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, ym mhôb doethineb: gan ddyscu, a rhybyddio bawb ei gilydd, mewn psalmau, a hymnau ac odlau ysprydol, gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd. A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bôb peth yn Enw 'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tâd trwyddo ef.
Yr Efengyl.
TEyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes. Matt. 13.24. A thra yr oedd y dynion yn cyscu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ym-mhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith. Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna 'r ymddangosodd yr efrau hefyd. A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae 'r efrau ynddo? Yntef a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddŷn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned, a'u casclu hwynt? Ac efe a ddywedodd, na fynnaf: rhag i chwi wrth gasclu 'r efrau, ddiwreiddio 'r gwenith gyd â hwynt. Gadewch i'r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhaiaf: ac yn amser y cynhayaf y dywedaf wrth y medel-wŷr, Cesclwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn yscubau, i'w llwyr-losci, ond cesclwch y gwenith i'm yscubor.
Y chweched Sûl (o bydd cynnifer) yr arferir yr vn Colect, yr vn Epistol, a'r vn Efengyl, ac ar y pummed Sûl.
Y Sûl a elwir Septuagesima.
Y Colect.
ARglwydd ni a attolygwn i ti wrando yn ddarbodus weddiau dy bobl, fel y byddo i ni y rhai a gospir yn gyfiawn am ein camweddau, allu yn drugarog gael ein ymwared gan dy ddaioni di, er gogoniant dy Enw, trwy Iesu Grist ein Ceidwad, yr hwn sydd yn byw, ac yn gwladychu yn oes oesoedd. Amen.
Yr Epistol.
1. Cor. 9.24. ONi ŵyddoch chwi fod y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, i gŷd yn rhedeg, ond bod vn yn derbyn y gamp. Felly rhedwch fel y caffoch afael. Ac y mae pob vn a'r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym-mhob peth; a hwynt-hwy yn wir, fel y derbyniont goron lygredig, eithr nyni, vn anllygredig. Yr wyfi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel vn yn ei curo yr awyr. Ond yr wyfi yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy.
Yr Efengyl.
Mat. 20.1. TEyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweith-wŷr i'w win-llan. Ac wedi cytuno â'r gweith-wŷr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w win-llan. Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll [Page] yn segur yn y farchnadfa: ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi. A hwy a aethant ymmaith. Ac efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed awr, ac a wnaeth yr vn modd. Ac efe [...] aeth allan ynghylch yr vnfed awr ar ddêg ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y sefwch chwi ymma ar [...]. Dywedasant wrtho, Am na [...] neb nyni. Dywedodd [...] wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch. A phan aeth hi yr hwyr, arglwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliwr, Galw 'r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyfiog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf, hyd y rhai cyntaf. A phan ddaeth y rhai a gyflogasid ynghylch yr vnfed awr ar ddeg, hwy a gawsant bob vn geiniog, A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy: a hwythau a gawsant bôb vn geiniog. Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y ty: gan ddywedyd, Vn awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninneu, y rhai a ddygasom bwys y dydd a'r gwrês. Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrth vn o honynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi? Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dôs ymmaith: yr yd wyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn, megis i titheu. Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf â'r eiddof fy hun? neu a ydyw dy lygad ti yn ddrwg, am fy môd i yn dda? Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
Y Sûl a elwir Sexagesima.
Y Colect.
O Arglwydd Dduw, yr hwn a weli nad ydym ni yn ymddiried mewn vn weithred a wnelom: Caniadhâ yn drugarog fod i ni drwy dy nerth, gael ein amddeffyn rhag pob gwrthwyneb, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
2. Cor. 11.19. YR ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, gan fôd eich hun yn synhwyrol. Canys yr ydych yn goddef, os bydd vn i'ch caethiwo, os bydd vn i'ch llwyr-fwytta, os bydd vn yn cymmeryd gennych, os bydd vn yn ymdderchafu, os bydd vn yn eich taro chwi ar eich wyneb. Am amharch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae nêb yn hyf, mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd, hŷ wyf finneu hefyd. Ai Hebræaid ydynt hwy? felly finneu. Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finneu. Ai hâd Abraham ydynt hwy? felly finneu. Ai gweinidogion Christ ydynt hwy? yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl, mwy wyf fi. Mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych. Gan yr Iddewon bumwaith y derbyniais ddeugain gwialennod onid vn. Teirgwaith i'm curwyd â gwiail; vnwaith i'm llabyddiwyd; teir-gwaith y torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfn-fôr. Mewn teithiau yn fynych, ym mheryglon llif-ddyfroedd, ym mheryglon lladron; ym mheryglon fy nghenedl fy hun; ym mheryglon gan y Cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; [Page] ym mheryglon ar y môr; ym mhery glon ym mhlith brodyr gau. Mewn llafur a lludded: mewn anhunedd yn fynych; mewn newyn a syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni. Heb law y pethau sy yn digwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd, y gofal tros yr hôll Eglwysi. Pwy sy wan, nad wyf finneu wan? pwy a dramgwyddir, nad ŵyf finneu yn llosci? Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sy yn perthyn i'm gwendid. Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
Yr Efengyl
GWedi i lawer o bobl ymgynnull ynghŷd, a chyrchu atto o bôb dinas, Luc. 8.4. efe a ddywedodd ar ddammeg. Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a fathrwyd, ac ehediaid y nef a'i bwyttaodd. A pheth arall a syrthiodd ar y graig, a phan eginodd y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr. A pheth arall a syrthiodd ym myscdrain, a'r drain a gyd-tyfasant, ac a'i tagasant ef. A pheth arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed. Wrth ddywedyd y pethau hyn efe a lefodd, Y neb sydd â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed. A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddammeg oedd hon? Yntef a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw, eithr i eraill ar ddamhegion, fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant. Ac dymma 'r ddammeg, Yr hâd yw gair Duw. A'r rhai ar ymyl y ffordd, [Page] ydyw y rhai sy yn gwrando: wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymmaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bôd yn gadwedig. A'r rhai ar y graig, yw y rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen: a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu tros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio. A'r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai a wrandawsant, ac wedi iddynt fyned ymmaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i verffeithrwydd. A'r hwn ar y tîr da, yw y rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
Y Sûl elwir Quinquagesima.
Y Colect.
O Arglwydd, yr hwn wyt yn dyscu i ni na thâl dim ein holl weithredoedd a wnelom heb gariad perffaith; anfon dy Yspryd glân, a thywallt yn ein calonnau ragorol ddawn cariad perffaith, gwir rwymyn tangneddyf, a holl rinweddau da, heb yr hwn pwy bynnac sydd yn byw a gyfrifir yn farw ger dy fron di: Caniadhâ hyn er mwyn dy vn Mâb Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
1. Cor. 13.1. PE llefarwn â thafodau dynion, ac Angelion, ac heb fôd gennif gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tingcian. A phe byddei gennif brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennif yr holl ffydd, fel y gallwn symmudo mynyddoedd, ac heb fod gennif gariad; nid wyfiddim. A phe porthwn y tlodion â'm holl dda; a phe rhoddwn fy nghorph i'm [Page] llosci, ac heb gariad gennif, nid yw ddim llesâd i mi. Y mae cariad yn hir-ymaros, yn gymwynascar, cariad nid yw yn cynfigennu, nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo; nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd; nid yw yn ceisio yr eiddi ei hun; ni chythruddir; ni feddwl ddrwg; nid yw lawen am anghyfiawnder, onid cyd-lawenhau y mae â'r gwirionedd. Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim. Cariad byth ni chwymp ymmaith: eithr pa vn bynnag ai prophwydoliaethau, hwy a ballant: ai tafodau, hwy a beidiant: ai gwybodaeth, hi a ddiflanna. Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn prophwydo. Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddileir. Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd. Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych mewn dammeg, ond yna, wyneb yn ŵyneb. Yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf megis i'm hadwaenir. Yr awr hon y mae yn aros, ffydd, gobaith, cariad; y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.
Yr Efengyl.
YR Iesu a gymmerodd y deuddeg atto, Luk. 18.31. ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem, a chyflawnir pôb peth a'r sydd yn scrifennedig trwy 'r prophwydi, am Fâb y dŷn. Canys efe a draddodir i'r cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno: ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, a'r trydydd dydd efe a adgyfyd. A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn, a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywetpwyd. A bu, ac efe yn nesau [Page] at Iericho, i ryw ddŷn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta. A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn. A hwy a ddywedasant iddo mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio. Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu fâb Dafydd trugarhâ wrthif. A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mâb Dafydd trugarhâ wrthif. A'r Iesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto: a phan ddaeth yn agos, efe a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntef a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg; dy ffydd a'th iachaodd. Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw: a'r holl bobl pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
Y Dydd cyntaf o'r Grawys.
Y Colect.
HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn ni chashêi ddim a'r a wnaethost, ac a faddeui bechodau pawb y sy edifeiriol; crêa a gwna ynom newydd a drylliedic galon; fel y bo i ni gan ddyledus ddoluriaw am ein pechodau, a chyfaddef ein trueni, allu caffael gennit, Dduw yr holl drugaredd, gwbl faddeuaint a gollyngdod, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Ioel. 2.12. DYchwelwch atafi â'ch holl galon, ag ympryd hefyd ac ag ŵylofain, ac â galar. A rhwygwch eich calonnau, ac nid eich dillad, ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graslawn, a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint, [Page] a mawr ei drugaredd, ac edifeiriol am ddrŵg. Pwy a ŵyr a dry efe, ac edifarhau, a gweddill bendith ar ei ôl, sef bwyd offrwm, a diod offrwm i'r Arglwydd eich Duw? Cenwch vdcorn yn Sion, cyssegrwch ympryd, gelwch gymmanfa, cesclwch bobl, cyssegrwch y gymmanfa, cynnhullwch yr henuriaid, cesclwch y plant, a'r rhai yn sugno bronnau: deued y priod-fâb allan o'i stafell, a'r briod-ferch allan o stafell ei gwely. Wyled yr offeiriaid, gweinidogion yr Arglwydd, rhwng y porth a'r allor, a dywedant; Arbed dy bobl ô Arglwydd, ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth, i lywodraethu o'r cenhedloedd arnynt: pa ham y dywedent ym-mhlith y bobloedd, pa le y mae eu Duw hwynt?
Yr Efengyl.
PAn ymprydioch, Mat. 6.16. na fyddwch fel y rhagrith-wŷr, yn wyneb-drist: canys anffurfio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bôd yn ymprydio: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr. Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb, fel nad ymddangosech i ddynion dy fôd yn ymprydio, ond i'th Dâd yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dâd yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg. Na thryssorwch i'wch dryssorau ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta. Eithr tryssorwch i'wch dryssorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni's cloddia lladron trwodd, ac ni's lladrattânt. Canys lle y mae eich tryssor, yno y bydd eich calon hefyd.
Y Sul cyntaf yn y Grawys.
Y Colect.
O Arglwydd, yr hwn er ein mwyn a ymprydiaist ddeugain nhiwrnod, a deugain nhôs, dyro i ni râd i ymarfer o gyfryw ddirwest, fel y byddo i ni gan ostwng ein cnawd i'r Yspryd, byth vfyddhau i'th dduwiol annog, mewn iawnder a gwîr sancteiddrwydd, i'th anrhydedd, a'th ogoniant, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnasu yn oes oessoedd. Amen.
Yr Epistol.
2. Cor. 6.1. NYni gan gydweithio, ydym yn attolwg i chwi, na dderbynioch râs Duw yn ofer: (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymmeradwy i'th wrandewais, ac yn nydd iechydwriaeth i'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmerad wy, wele yn awr ddydd yr iechydwriaeth.) Heb roddi dim achos tramgwydd mewn dim, fel na feier ar y weinidogaeth. Eithr gan ein dangos ein hunain ym-mhob peth, fel gweinidogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau, mewn gwialennodiau, mewn carcharau, mewn terfyscau, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydaiu, mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hîr-ymaros, mewn tiriondeb yn yr Yspryd glân, mewn cariad diragrith, yngair y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder, ar ddehau, ac ar asswy, trwy barch ac amharch, trwy anglod a chlôd, megis twyllwyr, ac er hynny yn eir-wîr: megis anadnabyddus, ac er hynny yn adnabyddus, megis yn meirw, ac wele byw ydym; megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd, megis wedi ein tristau, ond yn oestad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ond etto yn meddiannu pôb peth.
Yr Efengyl.
YNa yr Iesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr Yspryd, Matt. 4.1. iw demptio gan ddiafol. Ac wedi iddo ymprydio ddeugain nhiwrnod a deugain nôs, yn ôl hynny efe a newynodd. A'r temptiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mâb Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fôd yn fara. Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Scrifennwyd, Nid trwy fara yn vnig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw. Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml; ac a ddywedodd wrtho, Os mâb Duw wyti, bwrw dy hun i lawr canys scrifēnwyd, y rhydd efe orchymmyn i'w Angelion am danat, a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro o honot vn amser dy droed wrth garreg. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Scrifennwyd drachefn, Na themptia yr Arglwydd dy Dduw. Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra vchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y byd a'u gogoniant. Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i. Yna yr Iesu a ddywedodd wrtho, ymmaith Satan: canys scrifennwyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnig a wasanaethi. Yna y gadawodd diafol ef: ac wele, Angelion a ddaethant, ac a weinasant iddo.
Yr ail Sûl o'r grawys.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn gweled nad oes gennym ddim meddiant o'n nerth ein hunain i'n cymmorth ein hunain: cadw di ni oddi-fewn ac oddi-allan, sef enaid a chorph: ac amddiffyn ni rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo i'r corph, a rhag pob drwg feddwl a wnâ niwed na chynnwrf i'r enaid, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
1. Thess. 4.1. YM-mhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn attolwg i chwi ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynnyddu fwy-fwy. Canys chwi a wyddoch pa orchymmynion a roddasom i chwi trwy 'r Arglwydd Iesu. Canys hyn yw ewyllys Duw, sef eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw o honoch rhag godineb: ar fedru o bôb vn o honoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd, a pharch: nid mewn gwŷn trachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw. Na byddo i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialudd yw 'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom. Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd. Am hynny, y neb sydd yn dirmygu, nid dŷn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Yspryd glân ynom ni.
Yr Efengyl.
Mat. 15.21. A'R Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon. Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthif, o Arglwydd, Fâb Dafydd, y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael. Eithr nid attebodd efe iddi vn gair. A daeth ei ddiscyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hôl. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig tŷ Israel. Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd cymmorth fi. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cŵn. Hitheu a ddywedodd, [Page] Gwîr yw Arglwydd: canys y mae 'r cŵn yn bwytta o'r briwsion sy 'n syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi. Yna yr attebodd yr Iesu ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn e wyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.
Y trydydd Sul o'r Grawys.
Y Colect.
NI a attolygwn i ti, Holl-alluog Dduw, edrych o honot ar ddeisyfiadau dy vfydd weision, ac estyn ddeheu-law dy fawredd i fod yn ymwared i ni yn erbyn ein gelynion, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
BYddwch ddilynwŷr Duw, Eph. 5 1. fel plant anwyl: a rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Christ ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun trosom ni yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o arogl peraidd. Eithr godineb, a phôb aflendid, neu gybydddra, na henwer chwaith yn eich plith, megis y gweddei i Sainct: na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg-ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. Canys yr ydych chwi yn gŵybod hyn, am bôb puttein-ŵr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod. Na fyddwch gan hynny gyfrannogion â hwynt. Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni, (canys ffrwyth yr Yspryd sydd ym mhôb daioni, a chyflawnder, a gwirionedd.) Gan brofi beth sydd gymmeradwy [Page] gan yr Arglwydd: Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach argyoeddwch hwynt. Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. Eithr pôb peth, wedi 'r argyoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. O herwydd pa ham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.
Yr Efengyl.
Luc. 11.14. AC yr oedd efe yn bwrw allan gythrael, a hwnnw oedd fud: a bu wedi i'r cythrael fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ryfeddasant. Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid. Ac eraill gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef. Yntef yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pôb teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir: a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth. Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bôd yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid. Ac os trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farn-wŷr arnoch chwi. Eithr os myfi trwy fŷs Duw, ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diāmau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi. Pan syddo vn cryf arfog yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd gāddo mewn heddwch. Ond pāddêl vn cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymmaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn ymddiried, ac a ran ei anrhaith ef. Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casclu gŷd â [Page] mi, sydd yn gwascaru. Pan êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphywysdra: a phryd na chaffo, efe a ddywed. Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y daethum allan. A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei yscubo a'i drefnu: Yna yr â efe ac y cymmer atto saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun, a hwy a ânt i mewn, ac a arhossant yno: a diwedd y dŷn hwnnw fydd gwaeth nâ'i ddechreuad, A bu fel yr oedd efe, yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llêf, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fŷd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist. Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fŷd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.
Y Pedwerydd Sul o'r Grawys.
Y Colect.
CAniadhâ, ni a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, fod i ni y rhai a boenir yn rhyglyddus am ein drwg weithredoedd, trwy gonffordd dy rad ti, allu yn drugarog gael hawshâd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
DYwedwch i mi y rhai ydych yn chwennych bôd tan y Ddeddf? Gal. 4.21. onid ydych chwi yn clywed y Ddeddf? Canys y mae yn scrifennedig fôd i Abraham ddau fâb: vn o'r wasanaeth-ferch, ac vn o'r wraig rydd. Eithr yr hwn oedd o'r wasanaeth-ferch, a aned yn ôl y cnawd: a'r hwn oedd o'r wraig rydd, trwy 'r addewid. Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw y ddau Destament, vn yn ddiau o fynydd Sina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar: Canys yr Agar ymma, yw mynydd Sina yn Arabia; ac y mae yn cyf-atteb i'r Ierusalem sydd yn [Page] awr, ac y mae yn gaeth hi a'i phlant. Eithr y Ierusalem honno vchod, sydd rydd, yr hon yw ein mam ni oll. Canys scrifennedig yw, Llawenhâ di yr ammlhantad wy, yr hon nid wyt yn heppilio: torr allan a llefa, yr hon nid wyt yn escor: canys i'r vnic y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi wr. A ninneu, frodyr, megis yr oedd Isaac, ydym blant yr addewid. Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai yr hwn a anwyd yn ôl yr Yspryd: felly yr awrhon hefyd. Ond beth y mae 'r Scrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaeth-ferch, a'i mab: canys ni chaiff mab y wasanaeth-ferch etifeddu gyd â mab y wraig rydd. Felly, frodyr, nid plant i'r wasanaeth-ferch ydym, ond i'r wraig rydd.
Yr Efengyl.
Ioan 6.1. YR Iesu a aeth tros fôr Galilæa, hwnnw yw môr Tiberias. A thyrfa fawr a'i canlynodd ef, canys hwy a welsent ei arwyddion, y rhai a wnaethei efe ar y cleifion. A'r Iesu a aeth i fynu i'r mynydd, ac a eisteddodd yno gyd â'i ddiscyblion. A'r Pasc, gŵyl yr Iddewon, oedd yn agos. Yna 'r Iesu a dderchafodd ei lygaid, ac a welodd fôd tyrfa fawr yn dyfod atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta? (A hyn a ddywedodd efe iw brofi ef: canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb vn o honynt gymmeryd ychydig. Vn o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Andreas brawd Simon Petr, Y mae ymma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer? A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glas-wellt lawer yn y fan [Page] honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mîl o nifer. A'r Iesu a gymmerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r discyblion, a'r discyblion i'r rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pyfcod, cymmamt ac a fynnasant. Ac wedi eu digoni hwy, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Cesclwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim. Am hynny hwy a'i casclasant, ac a lanwasant ddeuddeg bascedaid o'r briwfwyd, o'r pum torth haidd, a weddillasei gan y rhai a fwyttasent. Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethei 'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Prophwyd oedd ar dyfod i'r bŷd.
Y pummed Sul o'r Grawys.
Y Colect.
NI a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, edrych o honot yn drugarog ar dy bobl: fel y do iddynt trwy dy fawr ddaioni, gael byth eu llywodraethu mewn enaid a chorph, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
CHrist wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus bethau a fyddent, Heb. 9.11 trwy Dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladacth ymma, nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe vnwaith i mewn i'r Cyssegr, gan gael i ni dragywyddol rhyddhâd. Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; pa faint mwy y bydd i waed Christ, yr hwn trwy yr Yspryd tragywyddol a'i hoffrymmodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw dyw? Ac am [Page] hynny y mae efe yn Gyfryngwr y Cyfammod newydd, megis trwy fôd marwolaeth yn ymwared oddi wrth y trosseddau oedd tan y Cyfammod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragywyddol.
Yr Efengyl.
Ioan 8.46 PWy o honoch a'm argyoedda i o bechod? ac od wyfi yn dywedyd y gwir, pa ham nad ydych yn credu i mi? Y mae yr hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw; am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw. Yna 'r attebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Ond da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bôd gennit gythrael? Yr Iesu a attebodd, Nid oes gennif gythrael, ond yr wyfi yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy ni-anrhydeddu inneu. Ac nid wyfi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn. Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wel efe farwolaeth yn dragywydd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennit gythrael: bu Abraham farw, a'r Prophwydi, ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd. Ai mwy wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a'r prophwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun. Yr Iesu a attebodd, Os wyfi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw 'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw. Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef: ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef. Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham weled fy nydd [Page] i: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd. Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddengmlwydd a deugain etto, ac a welaist ti Abraham? Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, cyn bôd Abraham, yr wyf fi. Yna hwy a godasant gerrig iw taflu atto ef. A'r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml.
Y Sul nesaf o flaen y Pasc.
Y Colect.
HOll-gyfoethog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th garedigol serch ar ddŷn, a ddanfonaist ein Iachawdur Iesu Grist i gymmeryd arnaw ein cnawd, ac i ddioddef angau ar y groes, fel y gallai bob rhyw ddyn ddilyn esampl ei fawr ostyngeiddrwydd ef: Caniadhâ o'th drugaredd fod i ni ganlyn esampl ei ddioddefaint, a bod yn gyfrannogion o'i gyfodiad, trwy yr vnrhyw Iesu Grist ein Arglwydd. Amen.
Yr Epistol.
BYdded ynoch y meddwl ymma, Phil. 2.5. yr hwn oedd hefyd yn Ghrist Iesu: yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fôd ogyfuwch â Duw: eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymmeryd arno agwedd gwâs, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion: a'i gael mewn dull fel dŷn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fôd yn vfydd hyd angeu, îe angeu 'r groes. O herwydd pa ham Duw a'i tra-derchafodd yntef, ac a roddes iddo Enw, yr hwn sydd goruwch pôb Enw: fel yn Enw Iesu y plygei pôb glîn o'r nefolion, a'r daiarolion, a than-ddaiarolion bethau: ac y cyffesei pâb tafod fôd Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Tâd.
Yr Efengyl.
ABu wedi i'r Iesu orphen y geiriau hyn oll, Mat. 26.1. efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, chwi a wyddoch mai gwedi deu-ddydd y mae 'r [Page] Pasc, a Mab y dŷn a draddodir i'w groes-hoelio. Yna yr ymgasclodd yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifēnyddion, a Henuriaid y bobl, i lŷs yr Arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas: a hwy a gyd-ymgynghorasant fel y dalient yr Iesu trwy ddichell, ac y lladdent ef. Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bôd cynnwrf ym mhlith y bobl. Ac a'r Iesu yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahan-glwyfus, daeth atto wraig a chenddi flŵch o ennaint gwerth-fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford. A phan welodd ei ddiscybliō, hwy a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth y bu y golled hon? Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn er llawer, a'i roddi i'r tlodion. A'r Iesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf. Oblegid y mae gennych y tlodion bôb amser. Canys hi yn hyn i'm claddu i. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon yn yr holl fyd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi. Yna 'r aeth vn o'r deuddeg, yr hwn a elwid Iudas Iscariot, at yr Arch-offeiriaid, ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, ac mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian. Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef. Ac ar y dydd cyntaf o wŷl y bara croyw, y discyblion a ddaethant at yr Iesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni barotoi i ti fwytta 'r Pasc? Ac yntef a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw vn, a dywedwch wrtho. Y mae 'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyd â thi y cynhaliaf y Pasc, mi a'm discyblion. A'r discyblion a wnaethant y modd y gorchymynnasei [Page] 'r Iesu iddynt, ac ac a baratoesant y Pâsc. Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd, gyd â'r deuddeg. Ac fel yr oedynt yn bwytta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi mai vn o honoch chwi a'm bradycha i. A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bôb vn o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd? Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Yr hwn a wlŷch ei law gyd â mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i. Mâb y dŷn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn scrifennedig am dano: eithr gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da a fuasei i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid ef. A Iudas yr hwn a'i bradychodd ef a attebodd, ac a ddywedodd, Ai myfi yw efe, Athro? Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r discyblion, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph. Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, efe a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd Yfwch bawb o hwn. Canys hwn yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer, er maddeuant pechodau. Ac yr ydwyf yn dy wedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y winwydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd, yn nheyrnas fy Nhâd. Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwy-chwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wascerir. Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa. A Phetr a attebodd, ac a dy wedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegid ti, etto ni'm rhwystrir i byth. Yr Iesu [Page] a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai'r nôs hon, cyn canu o'r ceiliog, i'm gwedi deirgwaith. Petr a ddywedodd wrtho, Pe gorfyddei i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. Yr vn modd hefyd y dy wedodd yr holl ddiscyblion. Yna y daeth yr Iesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma, tra 'r elwyf a gweddio accw. Ac efe a gymmerth Petr, a dau fâb Zebedaeus, ac a ddechreuodd driftâu, ac ymofidio. Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch gyd â mi. Ac wedi iddo fyned ychydig ymmlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio, a dywedyd, Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthif: etto nid fel yr yd wyfi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti. Ac efe a ddaeth at y discyblion, ac a'u cafas hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Felly, oni ellych chwi wilied vn awr gŷd â mi? Gwiliwch agweddiwch, fel nad eloch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau sydd yn barod, eithr y cnawd sydd wann. Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhâd, onis gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthif, na byddo i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di. Ac efe a ddaeth, ac a'u cafas hwy yn cyscu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac aeth ymmaith drachefn, ac a weddiodd y drydedd waith, gan ddy wedyd yr vn geiriau. Yna y daeth efe at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Cyscwch bellach, a gorphwyswch: wele y mae 'r awr wedi nessau, a Mâb y dŷn a draddodir i ddwylo pechaduriaid. Codwch, awn: wele, neffaodd yr hwn sydd yn fy mradychu. Ac efe etto yn llefaru, wele, Iudas vn o'r deuddeg, a ddaeth, a chŷd ag ef dyrfa fawr a chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a Henuriaid y [Page] bobl. A'r rhwn a'i bradychodd ef, a roesei arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa vn bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef. Ac yn ebrwydd y daeth at yr Iesu, ac a ddywedodd, Hanffych well Athro, ac a'i cusanodd ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Iesu, ac a'i daliasant ef. Ac wele, vn o'r rhai oedd gŷd â'r Iesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ef. Yna y dywedodd yr Iesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymmerant gleddyf, a ddifethir â chleddyf. A ydwyt ti yn tybied na's gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhâd, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy nâ deuddeg lleng o Angelion? Pa fodd ynteu y cyflawnid yr Scrythyrau, mai felly y gorfydd bôd? Yn yr awr honno y dywedodd yr Iesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffynn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gŷd a chwi yn eistedd yn dyscu yn y Deml, ac ni'm daliasoch. A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid Scrythyrau y Prophwydi. Yna 'r holl ddiscyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant. A'r rhai a ddaliasant yr Iesu a'i dygasant ef ymmaith at Caiphas yr Arch-offeiriad, lle 'r oedd yr Scrifennyddion a'r Henuriaid wedi ymgasclu ynghŷd. A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llŷs yr Arch-offeiriad; ac a aeth i mewn, ac a eisteddodd gŷd â'r gweision, i weled y diwedd. A'r Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, a'r holl gynghor, a geistasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth, ac ni's cawsant: ie er dyfod yno gau-dystion lawer, ni chawsant: eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio Teml Dduw, a'i hadeiladu mewn tri diwrnod. [Page] Achyfododd yr Arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A attebi di ddim? Beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ond yr Iesu a dawodd. A'r Arch-offeiriad gan atteb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd o honot i ni ai tydi yw y Christ, Mab Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fâb y dyn yn eistedd ar ddeheulaw 'r gallu, ac yn dyfod ar gymmylau 'r nef. Yna y rhwygodd yr Arch-offeiriad ei ddillad, gā ddywedyd, efe a gablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef. Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth, Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a'i cernodiafant: eraill a'i tarawsant ef â gwiail, gā ddywedyd, Prophwyda i ni, ô Christ, pwy yw'r hwn a'th darawodd. A Phetr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig atto, ac a ddywedodd, A thitheu oeddit gŷd ag Iesu y Galilæad. Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd vn arall ef: a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gŷd a'r Iesu o Nazareth. A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dŷn. Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, ac a ddywedafant wrth Petr, Yn wir yr wyt titheu yn vn o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo. Yna y dechreuodd efe regu, a thyngu Nid adwaen i y dŷn. Ac yn y man y canodd y ceiliog. A rhefiodd Petr air yr Iesu, yr hwn a ddywedasei wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deir-gwaith. Ac efe a aeth allan, Pen. 27. ac a wylodd yn chwerw-dost. A phan ddaeth y boreu, cyd-ymgynghorodd, yr holl Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl, yn erbyn yr Iesu, fel y rhoddent [Page] ef i farwolaeth. Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dygasant ef ymmaith, ac a'i traddodasant ef i Pontius Pilat y rhaglaw. Yna pan weles Iudas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfod ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachein y deg ar hugain arian i'r Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwytheu a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di. Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd. A'r Arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn i ni eu bwrw hwynt yn y drysor-fa: canys gwerth gwaed ydyw. Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladd-fa dieithraid. Am gynny y galwyd y maes hwnnw. Maes y gwaed, hŷd heddyw. (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedpwyd trwy Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasent gan feibion Israel, Ac a'u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosodes yr Arglwydd i mi.) A'r Iesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A phan gyhuddid ef gan yr Arch-offeiriaid a'r Henuriaid, nid attebodd efe ddim. Yna y dywedodd Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di? Ac nid attebodd efe iddo vn gair: fel y rhyfeddodd y rhag-law yn fawr. Ac ar yrŵyl honno yr arferei y rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl vn carcharor, yr hwn a fynnent. Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas. Wedi iddynt gan hynny ymgasclu ynghŷd, Pilat a ddywedodd [Page] wrthynt, Pa vn a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barabbas, ai yr Iesu, yr hwn a elwir Christ? Canys efe a wyddei mai o genfigen y traddodasent ef. Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r Cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd o'i achos ef. A'r Arch-offeiriaid a'r Henuriaid, a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Iesu. A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Pa vn o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwytheu a ddywedasant, Barabbas. Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Iesu, yr hwn a elwir Christ? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croes-hoelier ef. A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? Hwytheu a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes-hoelier ef. A Philat, pan welodd nad oedd dim yn tyccio, ond yn hytrach bôd cynnwrf, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd, Dieuog ydwyfi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi. A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd, Bydded ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant. Yna y gollyngodd efe Barabbas yn rhydd iddynt: ond yr Iesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes iw groes-hoelio. Yna mil-wŷr y rhaglaw a gymmerasant yr Iesu i'r dadleudŷ, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin A hwy a'i dioscasant ef, ac a roesant am dano fantell o scarlat: A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsē yn ei law ddehau, ac a blygasant eu gliniau ger ei frō ef, ac a'i gwatwarasāt, gan ddywedyd, Henffych well, Brenin yr Iddewon. A hwy a boerasāt arno, ac a gymerasant y gorsen, ac a'i tarawsant ar ei ben. Ac wedi yddynt ei wat war, hwy a'i dioscasāt ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant â'i ddillad [Page] ei hun, ac a'i dygasant ef ymmaith i'w groes-hoelio. Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddŷn o Cyrêne, a'i enw Simon, hwn a gymmhellasant i ddwyn ei groes ef. A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle 'r benglog, hwy a roesant iddo iw yfed finegr yn gymmyscedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed. Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni y peth a ddywetpwyd trwy 'r prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisc y bwriasant goel-bren. A chan eistedd hwy a'i gwiliasant ef yno. A gosodasant hefyd vwch ei ben ef, ei achos yn scrifennedig, HWN YW IESV, BRENIN YR IDDEWON. Yna y croes-hoeliwyd gyd ag ef ddau leidr, vn ar y llaw ddehau, ac vn ar yr asswy. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu pennau, a dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri 'r Deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun: os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes. A'r vn modd yr Arch-offeiriaid hefyd, gan watwar, gŷd â'r Scrifennyddion a'r Henuriaid, a ddywedasant, Efe a waredodd eraill, ei hunan ni's gall efe ei waredu: os brnein Israel yw, descynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo. Ymddiriedodd yn Nuw: gwareded efe ef yr awron, os efe a'i mynn ef: canys efe a ddywedodd, Mâb Duw ydwyf. A'r vn peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groes-hoeliasid gyd ag ef. Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr. Ac ynghylch-y nawfed awr y llefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd, Eli, Eli, Lama Sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a [Page] ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elias. Ac yn y fan, vn o honynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddes ar gorsen, ac a'i diododd ef. Ar llaill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias i'w waredu ef. A'r Iesu, wedi llefain drachefn â llef vchel, a ymadawodd â'r yspryd. Ac wele, llen y Deml a rwygwyd yn ddau, oddi fynu hyd i wared: a'r ddaiar a grynodd, a'r main a holltwyd. A'r beddau a agorwyd: a llawer o gyrph y sainct a hunasent, a gyfodasant; ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac a ymddangosasant i lawer. Ond y canwriad, a'r rhai oedd gŷd ag ef yn gwilied yr Iesu, wedi gweled y ddaiar-gryn a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, Yn wîr Mâb Duw ydoedd hwn. Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hir-bell, y rhai a ganlynasent yr Iesu o Galilæa, gan weini iddo ef: ym-mhlith y rhai yr oedd, Mair Magdalen, a Mair mam Iaco a Ioses, a mam meibion Zebedaeus.
Dydd llun nesaf o flaen y Pasc.
Yr Epistol.
Esa. 63.1. PWy yw hwn yn dyfod o Edom, yn gôch ei ddillad o Bozrah? hwn sydd hardd yn ei wisc, yn ymdaith yn amlder ei rym? my-fi yr hwn a lefaraf mewn cyfiawnder, ac wyf gadarn i iachâu. Pa ham yr ydwyt yn gôch dy ddillad, a'th wiscoedd fel yr hwn a sathrei mewn gwin-wrŷf? Sethrais y gwinwrŷf fy hunan, ac o'r bobl nid oedd vn gŷd â mi; canys mi a'i sathraf hwynt yn fy nîg, ac a'i mathrafhwynt yn fy llidiawgrwydd; a'u gwaed hwynt a daenellir ar fy nillad, a'm holl [Page] wiscoedd a lychwinaf. Canys dydd dial sydd yn fy nghalon, a blwyddyn fy ngwaredigion a ddaeth. Edrychais hefyd, ac nid oedd gynnhorthwywr; rhyfeddais hefyd am nad oedd gynhaliwr; yna fy mraich a'm hachubodd, a'm llidiawgrwydd a'm cynhaliodd. Ac mi a sathraf bobl yn fy nig, ac a'i meddwaf hwynt yn fy llidiawgrwydd: a'u cadernid a ddescynnaf i'r llawr. Cofiaf drugaredd yr Arglwydd, a moliant Duw, yn ol yr hyn oll a roddodd Duw i ni, ac amlder ei ddaioni i dŷ Israel, yr hyn a roddodd efe iddynt yn ôl ei dosturiaethau, ac yn ôl amlder ei drugareddau. Canys efe a ddywedodd, diau fy mhobl ydynt hwy, meibion ni ddywedant gelwydd, felly efe a aeth yn iachawdur iddynt. Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac Angel ei gydrycholdeb a'u hachubodd hwynt; yn ei gariad, ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a'u dygodd hwynt, ac a'u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt. Hwythau oeddynt wrth-ryfel-gar, ac a ofidiasant ei Yspryd sanctaidd ef, am hynny y trôdd efe yn elyn iddynt, ac yr ymladdodd yn eu herbyn. Yna y cofiodd efe y dyddiau gynt, Moses a'i bobl, gan ddywedyd, mae 'r hwn a'u dygodd hwynt i fynu o'r môr, gyd â bugeiliaid ei braidd? mae 'r hwn a osododd ei Yspryd sanctaidd o'i fewn ef? Yr hwn a'u tywysodd hwynt â deheu-law Moses, ac â'i ogoneddus fraich, gan hollti y dyfroedd o'u blaen hwynt, i wneuthur iddo ei hun Enw tragywyddol, yr hwn a'i harweiniodd hwynt trwy y dyfnderau, fel march yn yr ynialwch, fel na thra [...]ng wyddont, fel y descyn anifail i'r dyffryn y gwna Yspryd yr Arglwydd iddo orphywys: felly y tywysaist dy bobl, i wneuthur i't Enw gogonedus. Edrych o'r nefoedd, a gwêl, o annedd dy sancteiddrwydd, a'th ogoniant: mae dy zêl, a'th gadernid, lluosogrwydd dy dosturiaethau, a'th drugareddau tu ac [Page] attafi? a ymattaliasant? Canys ti yw ein tâd ni, er nad edwyn Abraham ni, ac na'n cydnebydd Israel, ti Arglwydd yw ein tâd ni, a'n gwaredudd: dy Enw sydd erioed. Pa ham Arglwydd y gwnaethost i ni gyfeiliorni allan o'th ffyrdd? ac y caledaist ein calonnau oddiwrth dy ofn? dychwel er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth. Tros ychydig ennyd y meddiannodd dy bobl sanctaidd; ein gwrthwyneb-wŷr a fathrasant dy Gyssegr di. Ny-ni ydym eiddot ti, erioed ni buost yn arglwyddiaethu arnynt hwy, ac ni elwid dy enw arnynt.
Yr Efengyl.
Marc. 14.1 AC wedi deu-ddydd yr oedd y Pasc, a gwyl y bara croyw: a'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef. Eithr dywedasant, Nid ar yr wŷl, rhag bôd cynnwrf ymmhlith y bobl. A phan oedd efe yn Bethania, ynnhŷ Simon y gwahan-glwyfus, ac efe yn eistedd i fwytta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint, o nard glwyb gwerth-fawr, a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef. Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint? Oblegid fe a allasid gwerthu hwn vwchlaw trychan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi. A'r Iesu a ddywedodd, Gedwch iddi; pa ham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnafi. Canys bôb amser y cewch y tlodion gyd â chwi, pan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: ond myfi ni chewch bob amser. Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinio [Page] fy nghorph erbyn y claddedigaeth. Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon, yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd, a adroddir er coffa am deni. A Iudas Iscariot, vn o'r deuddeg, a aeth ymmaith at yr Arch-offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt. A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntef a geisiodd pa fodd y gallai yn gymmwys ei fradychu ef. A'r dydd cyntaf o ŵyl y bara croyw, pan aberthent y Pasc. dywedodd ei ddiscyblion wrtho; I ba le yr wyt ti yn ewyllyfio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyttâ y Pasc? Ac efe a anfonodd ddau o'i ddiscyblion, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas, a chyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: dilynwch ef. A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fôd yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae 'r llettŷ, lle y gallwyf, mi a'm discyblion, fwytta 'r Pasc? Ac efe a ddengys i chwi oruwch-stafell fawr wedi ei thanu, yn barod: yno paratowch i ni. A'i ddiscyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas, ac a gawsant megis y dywedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc. A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gyd â'r deuddeg. Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwytta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meddaf i chwi, vn o honoch yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, a'm bradycha i. Hwythau a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho bôb vn ac vn, Ai myfi? ac arall, Ai myfi? Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Vn o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddyscl yw efe. Mab y dŷn yn wir sydd yn myned ymmaith, fel y mae yn scrifennedig am dano, ond gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da fuasai i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid. Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, ac a [Page] ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph. Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant o honaw. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer. Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y winwydden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd. A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i, y nos hon: canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a'r defaid a wascerir. Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa. Ond Petr a ddywedodd wrtho, Pe byddai bawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi. A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, heddyw o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, y gwedi fi deir-gwaith. Ond efe a ddywedodd yn halaethach o lawer, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r vn modd y dywedasant oll. A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio. Ac efe a gymmerth gyd ag ef Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristau yn ddirfawr. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy enaid yn athrist hyd angeu: arhoswch ymma, a gwiliwch. Ac efe a aeth ychydig ym-mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaiar, ac a weddiodd, o bai bossibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho. Ac efe a ddywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bossibl i ti; tro heibio y cwppan hwn oddi wrthif: eithr nid y peth yr ydwyfi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt [Page] ti. Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cyscu yr wyti? oni allit wilio vn awr? Gwiliwch, a gweddiwch, rhag eich myned mewn temtasiwn: yr yspryd yn ddiau sydd barod; ond y cnawd sydd wan. Ac wedi iddo fyned ymmaith drachefn, efe a weddiodd, gan ddywedyd yr vn ymadrodd. Ac wedi iddo ddychwelyd, efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cyscu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau) ac ni wyddent beth a attebent iddo. Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cyscwch weithian, a gorphwyswch: digon yw, daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dŷn i ddwylo pechaduriaid. Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, daeth Iudas, vn o'r deuddeg, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Archoffeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid. A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnac a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymmaith yn siccr. A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi, ac a'i cusanodd ef. A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef. A rhyw vn o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ef. A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, â chleddyfau, ac â ffynn i'm dala i? Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethu yn y Deml, ac ni'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni 'r Scrythyrau. A hwynt oll a'i gadawsant ef, ac a ffoesant. A rhyw ŵr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisco â lliain main ar ei gorph noeth, a'r [Page] gwŷ ieuaingc a'i daliasant ef. A hwn a adawodd y lliain, ac a ffôdd oddi wrthynt yn noeth. A hwy a ddygasant yr Iesu at yr Arch-offeiriad: a'r holl Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, a'r Scrifennyddion, a ymgasclasant gyd ag ef. A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr Arch-offeiriad: ac yr oedd efe yn eistedd gyd â'r gwasanaeth-wŷr, ac yn ymdwymno wrth y tân. A'r Arch-offeiriaid, a'r holl gyngor, a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth, ac ni chawsant. Canys llawer a ddygasant gau dystiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson. A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gam-dystiolaeth yn ei erbyn ef, gan ddywedyd, Ni a'i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y Deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall, heb fôd o waith llaw. Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson. A chyfododd yr Arch-offeiriad yn y canol, ac a ofynnodd i'r Iesu, gan ddywedyd, oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn? Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr Arch-offeiriad a osynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Christ, Mâb y Bendigedig? A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law y gallu, ac yn dyfod ynghwmmylau y nef. Yna 'r Arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion? Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemnasant ef, ei fôd yn euog o farwolaeth. A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r gweinidogion a'i tarawsant ef â gwiail. Ac fel yr oedd Petr yn y llys i wared, daeth vn o forwynion yr Arch-offeiriad: a phan ganfu hi Betr yn ymdwymno, [Page] hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd, Titheu hefyd oeddit gyd â'r Iesu o Nazareth. Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth: a'r ceiliog a ganodd. A phan welodd y llangces ei drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn vn o honynt. Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyti yn vn o honynt, canys Galilæad wyt, a'th leferydd sydd debyg. Ond efe a ddechreuodd regu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn ymma yr ydych chwi yn dywedyd am dano. A'r ceiliog a ganodd yr ail waith: a Phetr a gofiodd y gair a ddywedasei 'r Iesu wrtho, Cyn canu o'r ceiliog ddwywaith, ti am gwedi deir-gwaith. A chan ystyried hynny efe a wylodd.
Dydd mawrth nesaf o flaen y Pâsc.
Yr Epistol.
YR Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, Esa. 50.5. a minneu ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn yn fy ôl. Fy nghorph a roddais i'r cur-wŷr, a'm cernau i'r rhai a dynnai 'r blew, ni chuddiais fy ŵyneb oddiwrth wradwydd, a phoeredd. O herwydd yr Arglwydd Dduw a'm cymmorth, am hynny ni'm cywilyddir, am hynny gosodais fy ŵyneb fel callestr, a gwn na'm cywilyddir. Agos yw 'r hwn a'm cysiawnhâ; pwy a ymryson â mi? safwn ynghŷd, pwy yw fy ngwrthwynebwr? nessaed attaf. Wele 'r Arglwydd Dduw a'm cynnorthwya, pwy yw'r hwn a'm bwrw yn euog? wele hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn, gŵyfyn a'u hyssa hwynt. Pwy yn eich mŷsc sydd yn ofni'r Arglwydd: yn gwrandaw ar lais ei wâs ef, yn rhodio mewn tywyllwch, [Page] ac heb lewyrch iddo? gobeithied yn enw 'r Arglwydd, ac ymddirieded yn ei Dduw. Wele chwi oll y rhai ydych yn cynneu tân, ac yn eich amgylchu eich hunain â gwreichion: rhodiwch wrth lewyrch eich tân, ac wrth y gwreichion a gynneuasoch; o'm llaw i y bydd hyn i chwi; mewn gofid y gorweddwch.
Yr Efengyl.
Mar. 15.1. AC yn y fan y boreu, yr ymgynghorodd yr Arch-offeiriaid gyd â'r Henuriaid, a'r Scrifennyddion, a'r holl gyngor, ac wedi iddynt rwymo 'r Iesu, hwy a'i dygasant ef ymmaith, ac a'i traddodasant at Pilat. A gofynnodd Pilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd. A'r Arch-offeiriaid a'i cyhuddasant ef o lawer o bethau. A Philat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau y maent yn eu tystiolaethu yn dy erbyn. Ond yr Iesu etto nid attebodd ddim; fel y rhyfeddodd Pilat. Ac ar yr wyl honno y gollyngai efe yn rhydd iddynt vn carcharor, yr hwn a ofynnent iddo. Ac yr oedd vn a elwid Barabbas, yr hwn oedd yn rhwym gyd â'u gyd-terfysc-wŷr, y rhai yn y derfysc a wnaethent lofruddiaeth. A'r dyrfa gan grochlefain, a ddechreuodd ddeisyf arno wneuthur fel y gwnaethai bôb amser iddynt. A Philat a attebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon? (Canys efe a wyddai mai o gynfigen y traddodasai yr Arch-offeiriaid ef) A'r Arch-offeiriaid a gynhyrfasent y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrach Barabbas yn rhydd iddynt. A Philat a attebodd, ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon? [Page] A hwythau a lefasant drachefn, Croes-hoelia ef. Yna Pilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth efe? A hwythau a lefasant fwy fwy, Croeshoelia ef. A Philat yn chwennych bodloni 'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barabbas, a'r Iesu wedi iddo ei fflangellu, a draddododd efe i'w groes-hoelio. A'r milwŷr a'i dygasant ef i fewn y llys, a elwir Praetorium: a hwy a alwasant ynghŷd yr holl fyddin, ac a'i gwiscasant ef â phorphor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei ben: ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Hanffych well, Brenin yr Iddewon. A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau i lawr, a'i haddolasant ef. Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan iw groes-hoelio. A hwy a gymmellasant vn Simon o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlâd, sef tâd Alexander a Rufus, i ddwyn ei groes ef. A hwy a'i harweiniafant ef i le a elwid Golgotha: yr hyn o'i gyfieithu yw, Lle 'r benglog: ac a roesant iddo i'w yfed win myrhllyd; eithr efe ni's cymmerth. Ac wedi iddynt ei groes-hoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coel-bren arnynt, beth a gai bob vn. A'r drydedd awr oedd hi, a hwy a'i croes-hoeliasant ef. Ac yr oedd yscrifen ei achos ef wedi ei hargraphu, BRENIN YR IDDEWON. A hwy a groeshoeliasant gyd ag ef ddau leidr; vn ar y llaw ddeheu, ac vn ar yr asswy iddo. A'r Scrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai anwir. A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu penneu, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio y Deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau; gwared dy hun, a descyn oddi ar y groes. Yr vn ffunyd yr Arch-offeiriaid hefyd [Page] yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyd â'r Scrifennyddion, Eraill a waredodd, ei hun ni's gall ei wared. Descynned Christ Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwelom, ac y credom. A'r rhai a groes-hoeliasid, gyd ag ef, a'i difenwasant ef. A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar, hyd y nawfed awr. Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef vchel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lamma sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw; Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist? A rhai o'r rhai a safent ger llaw, pan gly wsant, a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Elias. Ac vn a redodd, ac a lanwodd yspwrn yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr. A'r Iesu a lefodd â llef vchel, ac a ymadawodd â'r yspryd. A llen y Deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared. A phan welodd y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw gyferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r yspryd, efe a ddywedodd, Yn wîr, Mab Duw oedd y dŷn hwn. Ac yr oedd hefyd wragedd yn edrych o hir-bell: ym-mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iaco fychan, a Iose, a Salôme: y rhai hefyd pan oedd efe yn Galilæa, a'i dilynasant ef, ac a weinasant iddo: a gwragedd eraill lawer, y rhai a ddaethent gyd ag ef i fynu i Ierusalem. Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, am ei bôd hi yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Sabbath; Daeth Ioseph o Arimathæa, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yntef yn disgwil am deyrnas Dduw; ac a aeth yn hŷ i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorph yr Iesu. A rhyfedd oedd gan Pilat o buasei efe farw eusys: ac wedi iddo alw y Canwriad atto, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw er ysmeityn. [Page] A phan wybu gan y Canwriad, efe a roddes y corph i Ioseph. Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a'i dodes ef mewn bedd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd. A Mair Fagdalen a Mair mam Iose, a edrychasant pa le y dodid ef.
Dydd merchur nesaf o flaen y Pâsc.
Yr Epistol.
LLe byddo Testament, Heb. 9.16. rhaid yw digwyddo marwolaeth y Testament-ŵr. Canys wedi marw dynion y mae Testament mewn grym, oblegid nid oes etto nerth ynddo, tra fyddo y Testament-ŵr yn fyw. O ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed. Canys gwedi i Moses adrodd yr holl orchymmyn, yn ôl y gyfraith, wrth yr holl bobl, efe a gymmerodd waed lloi a geifr, gyd â dwfr, a gwlân porphor, ac yssop, ac a'i taenellodd ar y llyfr, a'r bobl oll: gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y Testament a orchymynnodd Duw i chwi. Y Tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth, a daenellodd efe â gwaed, yr vn modd. A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y Gyfraith, ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau y pethau sy yn y nefoedd, gael eu puro â'r pethau hyn: a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell nâ'r rhai hyn. Canys nid i'r Cyssegr o waith llaw, portreiad y gwîr Gyssegr, yr aeth Christ i mewn, ond i'r nêf ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni: nac fel yr offrymmei ef ei hun yn fynych, megis y mae yr Arch-offeiriad yn myned i mewn i'r Cyssegr bob blwyddyn, â gwaed arall: oblegid yna rhaid fuasei iddo yn fynych ddioddef er dechreuad y bŷd: eithr yr awron vnwaith [Page] yn niwedd y bŷd yr ymddangoses efe, i ddeleu pechod, trwy ei aberthu ei hun. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bôd barn: felly Christ hefyd, wedi ei offrymmu vnwaith i ddwyn ymmaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith heb pechod, i'r rhai sy yn ei ddisgwyl, er iechydwriaeth.
Yr Efengyl.
Luc. 22.1. ANessaodd gwyl y bara croyw, yr hon a elwir y Pasc. A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl. A Satan a aeth i mewn i Iudas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi 'r deuddeg. Ac efe a aeth ymmaith, ac a ymddiddanodd a'r Arch-offeiriaid, a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychei efe ef iddynt. Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo. Ac efe a addawodd: ac a geisiodd amser cyfaddas iw fradychu ef iddynt, yn absen y bobl. A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasc. Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni'r Pasc, fel y bwyttaom. A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni baratoi o honom? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ lle yr êl efe i mewn; a dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae 'r Athro yn dywedyd wrthit, Pa le y mae 'r [Page] lletty, lle y gallwyf fwytta 'r Pasc gyd â'm discyblion? Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thanu: yno paratowch. A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dy wedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasc. A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr, a'r deuddeg Apostol gŷd ag ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta 'r Pasc hwn gyd â chwi, cyn dioddef o honof. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni swyttâf fi mwyach o honaw, hyd oni chyflawner yn nheyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith. Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw. Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, Hwn yw fy nghorph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf. Yr vn modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch. Eithr wele law 'r hwn sydd yn fy mradychu, gŷd â mi ar y bwrdd. Ac yn wîr, y mae Mâb y dŷn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae 'r dŷn hwnnw, trwy 'r hwn y bradychir ef. Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hun, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny. A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fôd yn twyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt: a'r rhai sy mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded [Page] megis yr ieuangaf, a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. Canys pa vn fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc, fel vn yn gwasanaethu. A chwychwi yw y rhai a arhosasoch gŷd â mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minneu, fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddegllwyth Israel. A'r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith: eithr mi a weddiais trosot, na ddiffygiei dy ffydd di: ditheu pan i'th droer, cadarnhâ dy frodyr. Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd yr ydwyfi yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac i angeu. Yntef a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr ad weini fi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan i'ch anfonais heb na phwrs, na chod, nac escidiau; a fu arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant, Na ddo ddim. Yna y dywedodd wrthynt, Ond yn awr, y neb sydd ganddo bwrs, cymmered, a'r vn modd gôd: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd yn rhaid etto gyflawni ynofi y peth hyn a scrifennwyd, sef, A chyd â'r anwir y cyfrifwyd ef. Canys y mae diben i'r pethau am danafi. A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf ymma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digonyw. Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd: a'i ddiscyblion hefyd a'i canlynasant ef. A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth. Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg, [Page] ac wedi iddo fyned ar ei liniau, efe a weddiodd, gan ddywedyd, O Dâd, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthif: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler. Ac Angel o'r nef a ymddangosodd iddo, yn ei nerthu ef. Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddiodd yn ddyfalach, a'i chwys ef oedd fel defnynnau gwaed, yn descyn ar y ddayar. A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddiscyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch: ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn cyscu? codwch, a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth. Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa, a hwn a elwir Iudas, vn o'r deuddeg, oedd yn myned o'i blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, iw gusanu ef. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas, ai â chusan yr wyti yn bradychu Mâb y dyn? A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef, y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darawn ni â chleddyf? A rhyw vn o honynt a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef. A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn, Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i iachaodd ef. A'r Iesu a ddywedodd wrth yr Archoffeiriaid, a blaenoriaid y Deml, a'r Henuriaid, y rhai a ddaethent atto, Ai fel at leidr y daethoch chwi allan â chleddyfau, ac â ffyn? Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y Deml, nid estynnasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu 'r tywyllwch. A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ 'r Arch-offeiriad. A Phetr a ganlynodd o hirbell. Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y neuadd, a chydeistedd o honynt, eisteddodd Petr yntef yn eu plith hwynt. A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sulw arno, hi a ddywedodd, yr [Page] oedd hwn hefyd gyd ag ef. Yntef a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid ad waen i ef. Ac ychydig wedi, vn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt titheu hefyd yn vn o honynt. A Phetr a ddywedodd, O ddŷn, nid ydwyf. Ac ar ôl megis yspaid vn awr rhyw vn arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilæad yw. A Phetr a ddywedodd, Y dyn, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog. A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd ar Betr: a Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasei efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deir-gwaith. A Phetr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost. A'r gwŷr oedd yn dal yr Iesu, a'i gwatwarasant ef, gan ei daro. Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Prophwyda, Pwy yw 'r hwn a'th darawodd di? A llawer o bethau eraill gan gablu, a ddywedasant yn ei erbyn ef. A phan aeth hi yn ddydd, ymgynnullodd Henuriaid y bobl, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, ac a'i dygasant ef iw Cyngor hwynt, gan ddywedyd, Ai ti yw Christ? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim: ac os gofynnaf hefyd i chwi, ni'm hattebwch, ac ni'm gollyngwch ymmaith. Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw. A hwy oll a ddywedasant, Ai Mab Duw gan hynny ydwyti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy môd. Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dysticlaeth? canys clywsom ein hunain o'i enau ef ei hun.
Dydd Iou nesaf o flaen y Pâsc.
Yr Efengyl.
WRth ddywedyd hyn, 1. Cor. 11.17. nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghŷd, nid er gwell, ond er gwaeth. Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghŷd yn yr Eglwys, yr ydwyf yn clywed fod amrafaelion yn eich mysc chwi, ac o ran yr wyfi yn credu. Canys rhaid yw bôd hefyd heresiau yn eich mysc; fel y byddo y rhai cymmeradwy yn eglur yn eich plith chwi. Pan fyddoch chwi gan-hynny yn dyfod ynghŷd i'r vn lle, nid bwyta swpper yr Arglwydd ydyw hyn. Canys y mae pôb vn wrth fwytta yn cymmeryd ei swpper ei hun o'r blaen, ac vn sydd a newyn arno, ac arall sydd yn feddw. Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? Ai dirmygu yr ydych chwi Eglwys Dduw? A gwradwyddo y rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf i chwi yn hyn? nid wyf yn eich canmol. Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Arglwydd Iesu y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara. Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrodd, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf. Yr vn modd efe a gymmerodd y cwppan wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed, gwnewch hyn cynnifer gwaith bynnac yr yfoch, er coffa am danaf: Canys cynnifer gwaith bynnac y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd hyd oni ddelo. Am hynny, pwy bynnac a fwytâo y bara hwn, [Page] neu a yfo gwppan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd. Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan. Canys yr hwn sydd yn bwytta, ac yn yfed yn annheilwng; sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd. Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno. Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid. Eithr pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damner gyd â'r bŷd. Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch ei gilydd. Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref, fel na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.
Yr Efengyl.
Luc. 23.1. A'R holl liaws o honynt, a gyfodasant, ac a'i dygasant ef at Pilat; Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef, gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gŵyrdroi 'r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Caesar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Christ frenin. A Philat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw brenin yr Iddewon? Ac efe a attebodd iddo ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd. A dywedodd Pilat wrth yr Arch-offeiriaid a'r bobl, Nid wyfi yn cael dim bai ar y dŷn hwn. A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi 'r bobl, gan ddyscu trwy holl Iudæa, wedi dechreu o Galilæa hyd ymma. A phan glybu Pilat sôn am Galilæa, efe a ofynnodd ai Galilæad oedd y dŷn. A phan ŵybu efe ei fôd ef o lywodraeth Herod, efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntef yn Ierusalem y [Page] dyddiau hynny. A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ystalm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer am dano ef: ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef. Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau: eithr efe nid attebodd ddim iddo. A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a safasant gan ei gyhuddo ef yn haerllyg. A Herod a'i filwŷr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a'i watwar, a'i wisco â gwisc glaerwen, a'i danfonodd ef drachefn at Pilat. A'r dythwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd. A Philat, wedi galw ynghŷd yr Arch-offeiriaid, a'r llywiawd-wŷr, a'r bobl, a ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dyn hwn attafi, fel vn a fyddai yn gŵyr-droi 'r bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gŵydd chwi, ac ni chefais yn y dŷn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt: na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele, dim yn haeddu marwolaeth ni's gwnaed iddo. Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymmaith. Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng vn yn rhydd iddynt ar yr ŵyl. A'r holl liaws a lefasant ar vnwaith, gan ddywedyd, Bwrw hwn ymmaith, a gollwng i ni Barabbas yn rhydd. (Yr hwn, am ryw derfysc a wnelsid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.) Am hynny Pilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd. Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys pa ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo: am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyng af yn rhydd. Hwythau a fuant daerion â llefau vchel, [Page] gan ddeisyfu ei groes-hoelio ef: a'u llefau hwynt a'r Arch-offeiriaid a orfuant. A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt. Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysc a llofruddiaeth a fwriafid yngharchar, yr hwn a ofynnasant: eithr yr Iesu a draddododd efe i'w hewyllys hwynt. Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymmaith, hwy a ddaliasant vn Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlâd, ac a ddodasant y groes arno ef, iw dwyn ar ôl yr Iesu. Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd: y rhai hefyd oedd yn cwynfan, ac yn galaru o'i blegid ef. A'r Iesu wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Ierusalem, nac ŵylwch o'm plegid i, eithr ŵylwch o'ch plegid eich hun, ac oblegid eich plant: Canys wele, y mae 'r dyddiau yn dyfod, yn y rhai y dywedant, Gwyn eu bŷd y rhai amhlantadwy, a'r crothau ni heppiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn. Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom: ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni. Canys os gwnant hyn yn y pren îr, pa beth a wneir yn y crin? Ac arweinwyd gyd ag ef hefyd ddau ddrwg-weithred-wŷr eraill, iw rhoi iw marwolaeth. A phan ddaethant i'r lle a elwir Caluaria, yno y croes-hoeliasant ef, a'r drwg-weithredwyr: vn ar y llaw ddehau, a'r llall ar yr asswy. A'r Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. A'r bobl a safodd yn edrych: a'r pennaethiaid hefyd gŷd â hwynt, a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe, gwareded ef ei hun, os hwn yw Christ, etholedig Dduw. A'r milwŷr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan ddyfod atto, a chynnyg iddo finegr, A dywedyd, Os tydi yw brenin yr Iddewon, gwared dy hun. Ac yr [Page] ydoedd hefyd arscrifen wedi ei scrifennu vwch ei ben ef, â llythyrennau Groeg, a Lladin, ac Ebrew, HWN YW BRENIN YR IDDEWON. Ac vn o'r drwg-weithredwŷr a grogasid, a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Christ, gwared dy hun a ninnau. Eithr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fôd dan yr vn ddamnedigaeth? A nyni yn wir yn gysiawn: (canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddei y pethau a wnaethom) eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le. Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd cofia fi, pan ddelych i'th deyrnas. A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wîr meddaf i ti, Heddyw y byddi gŷd â mi ym mharadwys. Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr. A'r haul a dywyllwyd, a llen y Deml a rwygwyd yn ei chanol. A'r Iesu gan lefain â llef vchel a ddywedodd, O Dâd, i'th ddwylo di y gorchymynnaf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd. A'r Canwriad pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wîr yr oedd hwn yn wr cyfiawn. A'r holl bobloedd, y rhai a ddaethent ynghŷd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau. A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd, y rhai a'i canlynasent ef o Galilæa, yn edrych ar y pethau hyn. Ac wele, gŵr a'i enw Ioseph, yr hwn oedd gynghorwr, gwr da a chyfiawn. (Hwn ni chyttunasei â'u cyngor, ac â'u gweithred hwynt,) o Arimathæa dinas yr Iddewon, (yr hwn oedd yntef yn disgwil hefyd am deyrnas Dduw.) [Page] Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Iesu. Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn ni roddasid dŷn erioed. A'r dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a'r Sabbath oedd yn nesau. A'r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gyd ag ef o Galilæa, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef. A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant bêr-aroglau ac ennaint, ac a orphwysasant ar y Sabbath, yn ôl y gorchymmyn.
Dydd Gwener y Croc-lith.
Y Colectau.
HOll-alluog Dduw, ni a attolygwn i ti edrych o honot yn rasusol ar dy deu-lu hwn ymma, tros yr hwn y bu foddlawn gan ein Harglwydd Iesu Grist gael ei fradychu, a'i roddi yn nwylaw dynion anwir, a dioddef angau ar y groes, yr hwn sydd yn hyw ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glan, yr awrhon ac yn dragywydd. Amen.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, trwy Yspryd pa vn y llywodraethir ac y sancteiddir holl gorph yr Eglwys, derbyn ein erfynion, a'n gweddiau, y rhai yr ydym ni yn eu hoffrwm ger dy fron di dros bob gradd o ddynion yn dy sanctaidd gynnulleidfa, fel y bo i bob aelod o honynt yn ei alwedigaeth a'i wasanaeth, allu yn gywir, ac yn dduwiol dy wasanaethu di, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
O Drugarog Dduw, yr hwn a wnaethost bob dŷn, ac ni chas-hei ddim ar a wnaethost, ac ni fynnit farwolaeth pechadur, onid yn hyttrach ymchwelyd o honaw a byw: trugarhâ wrth yr holl [Page] Iuddewon, Twrciaid, Anffyddlonion, a Hereticiaid, a chymmer oddi-wrthynt bob anwybodaeth, caledwch calon, a thremyg ar dy air: ac felly dwghwynt adref, wynfydedic Arglwydd, at dy ddefaid, fel y bônt gadwedic ym-mhlith gweddilliō y gwîr Israeliaid, a bod yn vn gorlan, dan yr vn bugail Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu &c. Amen.
Yr Epistol.
YGyfraith, Heb. 10.1. yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, ni's gall trwy yr aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymmu yn wastadol, bŷth berffeithio y rhai a ddêl atti. Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymmu, am na buasei gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau vnwaith: Eithr yn yr aberthau hynny y mae adcoffa pechodau bob blwyddyn. Canys amhossibl yw i waed teirw a geifr, dynnu ymmaith bechodau. O herwydd pa ham y mae efe wrth ddyfod i'r bŷd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm ni's mynnaist, eithr corph a gymmhwysaist i mi. Offrymmau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod (y mae yn scrifennedig yn nechreu y llyfr am danaf) i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw. Wedi iddo ddywedyd vchod, Aberth, ac offrwm, ac offrymmau poeth, a thros bechod ni's mynnaist, ac nid ymsodlonaist ynddynt, y rhai yn ôl y Gyfraith a offrymmir; yna y dywedodd. Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw: y mae yn tynnu ymmaith y cyntaf, fel y gosodei yr ail. Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymmiad corph Iesu Grist vnwaith. Ac y mae pob offeiriad yn [Page] sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymmu yn fynych yr vn aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: eithr hwn, wedi offrymmu vn aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw: o hyn allan yn disgwil hyd oni osoder ei elynion ef yn droed-faingc iw draed ef. Canys ag vn offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sy wedi eu sancteiddio. Ac y mae yr Yspryd glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o'r blaen, Dymma 'r Cyfammod, yr hwn a ammodafi â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u scrifennaf yn eu meddyliau: a'u pechodau, a'u hanwireddau, ni chofiaf mwyach. A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm tros bechod. Am hynny, frodyr, gan fôd i ni rydd-did i fyned i mewn i'r Cyssegr trwy waed Iesu, ar hŷd ffordd newydd, a bywiol, yr hon a gyssegrodd efe i ni, trwy 'r llen, sef ei gnawd ef: a bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glânhau ein calonnau oddiwrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, canys ffyddlon yw 'r hwn a addawodd. A chyd-ystyriwn bawb ei gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: heb esceuluso ein cyd-gynhulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai, ond annog bawb ei gilydd, a hynny yn fwy, o gymmaint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesau.
Yr Efengyl.
Ioan. 18.1. GWedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, ef a'i ddiscyblion, tros afon Cedron, lle 'r oedd gardd, i'r hon yr aeth efe [Page] a'i ddiscyblion. A Iudas hefyd yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenei y lle: oblegid mynych y cyrchasei yr Iesu a'i ddiscyblion yno. Iudas gan hynny, wedi iddo gael byddin, a swyddogion, gan yr Arch-offeiriaid, a'r Pharisæaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau. Yr Iesu gan hynny yn gwybod pôb peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio? Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Iudas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyd â hwynt. Er cynted gan hynny ac y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysc eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr. Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn, Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nazareth. Yr Iesu a attebodd, mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gedwch i'r rhai'n fyned ymmaith: fel y cyflawnid y gair a ddywedasei efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollais i'r vn. Simon Petr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynnodd ef, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef: ac enw y gwâs oedd Malchus. Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Petr, Dôd dy gleddyf yn y wain: y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid yfaf ef? Yna 'r fyddin, a'r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef, ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaphas, yr hwn oedd Arch-offeiriad y flwyddyn honno, ydoedd efe. A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasei i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw vn dŷn tros y bobl. Ac yr oedd yn canlyn yr Iesu Simon Petr, a discybl arall: a'r discybl hwnnw oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â'r Iesu, i lŷs yr [Page] Arch-offeiriad. A Phetr a safodd wrth y drws allan. Yna y discybl arall, yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores ac a ddug Petr i mewn. Yna y dywedodd y llangces oedd ddrysores, wrth Petr, Onid wyt titheu o ddiscyblion y dŷn hwn? Dywedodd yntef, Nac ŵyf. A'r gweision a'r swyddogion gwedi gweneuthur tân glo, o herwydd ei bôd hi yn oer, oeddynt yn sefyll, ac yn ymdwymno: ac yr oedd Petr gyd â hwynt yn sefyll, ac yn ymdwymno. A'r Arch-offeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddiscyblion, ac am ei athrawiaeth. Yr Iesu a attebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bôb amser yn athrawiaethu yn y Synagog, ac yn y Deml, lle mae 'r Iddewon yn ymgynnull bôb amser: ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. Pa ham yr wyti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a ŵyddant pa bethau a ddywedais i. Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, vn o'r swyddogion, a'r oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn atteb yr Arch-offeiriad? Yr Iesu a attebodd iddo, Os drwg y dywedais, tystiolaetha o'r drwg; ac os da, pa ham yr wyt yn fy nharo i? Ac Annas a'i hanfonasei ef yn rhwym at Caiaphas yr Arch-offeiriad. A Simon Petr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymno: hwythau a ddywedasant wrtho, onid wyt titheu hefyd o'i ddiscyblion ef? Yntef a wadodd, ac a ddywedodd, Nac ŵyf. Dywedodd vn o weision yr Arch-offeiriad, câr i'r hwn y torrasei Petr ei glust, Oni welais i di gŷd ag ef yn yr ardd? Yna Petr a wadodd drachefn, ac yn y man y canodd y ceiliog. Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaphas, i'r dadleu-dŷ: a'r boreu ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i'r dadleu-dŷ, rhag eu halogi, eithr fel y gallent [Page] fwytta y Pasc. Yna Pilat a aeth allan attynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dŷn hwn? Hwy a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fôd hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem ni ef attat ti. Am hynny y dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfraithlon i ni lâdd nêb. Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasei efe, gan arwyddocau a ba angeu y byddei farw. Yna Pilat a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a alwodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yr Iesu a attebodd iddo; Ai o honot dy hun yr wyti yn dywedyd hyn, ai eraill a'i dywedasant i ti am danafi? Pilat a attebodd, ai Iddew wyf fi? dy genhedl dy hun, a'r Arch-offeiriaid, a'th draddodasant i mi: beth a wnaethost ti? Yr Iesu a attebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r bŷd hwn, pe o'r byd hwn y byddei fy mrenhiniaeth i, fy ngweision a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi ymma. Yna y dywedodd Pilat wrtho, wrth hynny ai brenin wyt ti? Yr Iesu a attebodd, Yr ydwyti yn dywedyd mai brenin wyf fi: er mwyn hyn i'm ganed, ac er mwyn hyn y daethym i'r bŷd, fel y testiolaethwn i'r gwirionedd: pôb vn a'r sydd o'r gwirionedd, sydd yn gwrando fy lleferydd i. Pilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? Ac wedi iddo dywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyfi yn cael dim achos ynddo ef. Eithr y mae gennwch chwi ddefod, i mi ollwng i chwi vn yn rhydd ar y Pasc: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi frenin yr Iddewon? Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas: [Page] a'r Barabbas hwnnw oedd leidr. Pen. 19. YNA gan hynny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd ef. A'r milwŷr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisc o borphor am dano: ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon, ac a roesant iddo gernodiau. Pilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr ŵyfi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad ŵyfi yn cael ynddo ef vn bai. Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwein y goron ddrain, a'r wisc borphor. A Philat a ddywedodd wrthynt, Wele y dŷn. Yna yr Arch-offeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant, gan ddywedyd, Croes-hoelia, croes-hoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef a chroes-hoeliwch: canys nid ŵyfi yn cael dim bai ynddo. Yr Iddewon a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni, efe a ddylei farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fâb Duw. A phan glybu Pilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy: ac a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu atteb iddo. Yna Pilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthif fi? oni wyddost di fôd gennyf awdurdod i'th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd? Yr Iesu a attebodd, Ni byddei i ti ddim awdurdod arnafi, oni bai ei fôd wedi ei roddi i ti oddi vchod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti sydd fwy ei bechod. O hynny allan y ceisiodd Pilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Caesar: pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Caesar. Yna Pilat pan glybu yr ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu, [Page] ac a eisteddodd ar yr orsedd-faingc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebrew Gabbatha. A darpar-ŵyl y Pasc oedd hi, ac ynghylch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, Wele eich Brenin. Eithr hwy a lefasant, Ymmaith ag ef, ymmaith ag ef, croes-hoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, A groes-hoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r Arch-offeiriaid a attebasant, Nid oes i ni frenin ond Caesar. Yna gan hynny, efe a'i traddodes ef iddynt i'w groes-hoelio: a hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymmaith. Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid lle 'r Benglog, ac a elwir yn Hebrew Golgotha: lle y croes-hoeliasant ef, a dau eraill gyd ag ef, vn o bôb tu, a'r Iesu yn y canol. A Philat a scrifennodd ditl, ac a'i dododd ar y groes. A'r fcrifen oedd, IESV O NAZARETH, BRENIN YR IDDEWON. Y titl hwn gan hynny a ddarllennodd llawer o'r Iddewon: oblegid agos i'r ddinas oedd y fan lle y croes-hoeli wyd yr Iesu, ac yr oedd wedi ei scrifennu yn Hebrew, Groeg, a Lladin. Yna Arch-offeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Pilat. Na scrifenna, Brenin yr Iddewon, eithr dywedyd o hono ef, Brenin yr Iddewon ydwyfi. Pilat a attebodd, Yr hyn a scrifennais, a scrifennais. Yna 'r mil-wŷr wedi iddynt groes-hoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad ef, (ac a wnaethant bedair rhan, i bôb milwr ran) a'i bais ef: a'i bais ef oedd ddiwniad, wedi ei gwau o'r cwrr vchaf trwyddi oll. Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau am deni, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Scrythur sydd yn dywedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysc, ac am fy mhais y bwriasant goel-brennau. A'r mil-wŷr a wnaethant y pethau hyn. Ac yr oedd yn sefyll [Page] wrth groes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Cleophas, a Mair Fagdalen. Yr Iesu gan hynny pan welodd ei fam, a'r discybl, yr hwn a garei efe, yn sefyll ger llaw, a ddywedodd wrth ei fam, o wraig, wele dy fab. Gwedi hynny y dywedodd wrth y discybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan, y cymmerodd y discybl hi iw gartref. Wedi hynny yr Iesu yn gwybod fôd pôb peth wedi ei orphen weithian, fel y cyflawnid yr Scrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf. Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: a hwy a lanwasant yspwrn o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch ysop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef. Yna pan gymmerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphennwyd; a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd. Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoei y cyrph ar y groes ar y Sabbath, o herwydd ei bôd yn ddarpar-wyl, (canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilat, gael torri eu hesceiriau hwynt, a'u tynnu i lawr. Yna y mil-wŷr a ddaethant, ac a dorrasant esceiriau y cyntaf, a'r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef. Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef: Ond vn o'r mil-wŷr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon, ac yn y fan daeth allan waed a dwfr. A'r hwn a'i gwelodd a dystiolaethodd, a gwîr yw ei dystiolaeth: ac efe a ŵyr ei fôd yn dywedyd gwîr, fel y credoch chwi. Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr Scrythur, Ni thorrir ascwrn o honaw. A thrachefn, Scrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant. Ac yn ôl hyn, Ioseph o Arimathæa, (yr hwn oedd ddiscybl i'r Iesu, eithr yn guddiedig rhag ofn yr Iddewon) a deisyfiodd ar Pilat gael tynnu i lawr gorph yr Iesu. [Page] A Philat a ganiadhâodd iddo. Yna y daeth efe, ac a ddug ymmaith gorph yr Iesu. A daeth Nicodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethei at yr Iesu o hŷd nos) ac a ddug myrr ac aloes ynghymmysc, tua chan-pwys. Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a'i rhw ymasant mewn llieiniau, gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu. Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef, yr oedd gardd, a bedd newydd yr yn ardd, yn yr hwn ni ddodasid dŷn erioed. Ac yno, rhag nesed oedd darpar-ŵyl yr Iddewon am fôd y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
Nôs Basc.
Yr Epistol.
GWell ydyw, os ewyllys Duw a'i mynn, 1. Pet. 3.17. i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni, nag yn gwneuthur drygioni: Oblegit Christ hefyd vnwaith a ddioddefodd tros bechodau, y Cyfiawn tros yr anghyfiawn; fel y dygei ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Yspryd: Trwy 'r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ysprydion yngharchar, y rhai a fu gynt anufydd, pan vnwaith yr oedd hir-ammynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra y darperid yr Arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr. Cyffelybiaeth cyf-attebol i'r hwn, sydd yr awron yn ein hachub ninnau, sef bedydd (nid bwrw ymmaith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tu ac at Dduw,) trwy adgyfodiad Iesu Grist, yr hwn sydd ar ddeheu-law Duw, wedi myned i'r nef, a'r Angelion, a'r awdurdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.
Yr Efengyl.
Matth. 27 57. WEdi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr goludog o Arimathæa, a'i enw Ioseph, yr hwn a fuasei ynteu yn ddiscybl i'r Iesu: hwn a aeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Iesu. Yna y gorchymynnodd Pilat roddi 'r corph. A Ioseph wedi cymmeryd y corph, a'i hamdôdd â lliain glân: ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasei efe yn y graig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith. Ac yr oedd yno Fair Magdalē a Mair arall, yn eistedd gyferbyn a'r bedd. A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darpar-wyl, yr ymgynhullodd yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid at Pilat, gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gôf gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tri-diau y cyfodaf. Gorchymmyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddiscyblion o hŷd nos, a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, Efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf. A dywedodd Pilat wrthynt, Y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch. A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen.
Dydd Pâsc. ¶Ar Foreuol weddi, yn lle y Psalm, Deuwch, canwn i'r Arg. &c. y cenir, neu y dywedir yr Anthemau hyn.
CRist yn cyfodi o feirw, yr awr-hon ni bydd marw: nid arglwyddiaetha angau arno ef mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw vn-waith i dynnu ymmaith bechod; ac fel y mae yn fyw, byw y mae i Dduw. Felly meddyliwch chwithau hefyd [Page] eich meirw i bechod, ach bod yn fyw i Dduw, yngHrist Iesu ein Harglwydd.
CHrist a gyfododd oddiwrth y meirw, ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunasant. O herwydd gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly yngHrist y bywheir pawb.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy vnig-anedig fab Iesu Grist, a orchfygaist angeu, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol; yn vfydd yr attolygwn i ti, megis (drwy dy râd yspysawl yn ein hachub) ydd wyt yn peri deisyfiadau da i'n meddyliau: felly trwy dy ddyfal gymmorth, allu o honom eu dwyn i berffeithrwydd cyflawn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
Yr Epistol.
OS cyd-gyfodasoch gŷd â Christ, Colos. 3.1 ceisiwch y pethau sydd vchod, lle y mae Christ yn eistedd ar ddeheu-law Duw. Rhoddwch eich serch ar bethau sydd vchod, ac nid ar y pethau sy ar y ddaiar. Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyd â Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Christ, ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gyd ag ef mewn gogoniant. Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sy ar y ddaiar, godineb, aflendid, gwŷn, dryg-chwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulyn-addoliaeth: o achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod. Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddych yn byw ynddynt.
Yr Efengyl.
Ioan 20.1. Y Dydd cyntaf o'r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y boreu, a hi etto yn dywyll, at y bedd, ac a weles y maen wedi ei dynnu ymmaith oddi ar bedd. Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a'r discybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymmaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le-y dodasant ef. Yna Petr a aeth allan, a'r discybl arall, a hwy a ddaethant at y bedd: ac a redasant ill dau ynghyd: a'r discybl arall a redodd o'r blaen, yn gynt nâ Phetr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd. Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn. Yna y daeth Simon Petr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: a'r napcin a fuasei am ei ben ef, wedi ei osod, nid gyd â'r llieiniau, ond o'r nailltu, wedi ei blygu mewn lle arall. Yna yr aeth y discybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethei yn gyntaf at y bedd, ac a welodd, ac a gredodd. Canys hyd yn hyn ni ŵyddent yr Scrythur, fôd yn rhaid iddo gyfodi o feirw. Yna y discyblion a aethant ymmaith drachefn at yr eiddynt.
Dydd Llun Pasc.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy vnig-anedig fab Iesu Grist a orchfygaist angau, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddol: yn vfydd yr attolygwn i ti, megis (drwy dy rad espysol yn ein hachub) ydd wyt yn peri dyseifiadau da i'n meddyliau, felly trwy dy ddyfal gymmorth allu o honom eu dwyn i ben da, trwy Iesu Grist ein Arglwydd, &c. Amen.
Yr Epistol.
PEtr a agorodd ei enau, ac a ddywedodd, Act. 10.34 Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb. Ond ym-mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef. Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangneddyf trwy Iesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll. Chwy-chwi a wyddoch y gair a fu yn holl Iudæa, gan ddechreu o Galilæa, wedi y bedydd a bregethodd Ioan: y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nazareth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef. A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlad yr Iddewon, ac yn Ierusalem, yr hwn a laddasant, ac a groes-hoeliasant ar bren. Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg, nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei ad-gyfodi ef o feirw. Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu mai efe yw 'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw, yn farn-wr byw a meirw. I hwn y mae'r holl Brophwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau, drwy ei enw ef.
Yr Efengyl.
WEle, Luc. 24.13 dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch trugain stâd oddi wrth Ierusalem: ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan â'i gilydd, am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent. A bu, fel yr oeddynt [Page] yn ymddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt. Eithr eu llygaid hwynt a attaliwyd, fel na's adwaenent ef. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wynebdrist? Ac vn o honynt a'i enw Cleopas, gan atteb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn vnig yn ymdeithydd yn Ierusalem, ac ni wybuost y pethau a wnaethp wyd ynddi hi, yn y dyddiau hyn? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair, ger bron Duw a'r holl bobl. A'r modd y traddodes yr Arch-offeiriaid a'n llywodraeth-wŷr ni ef, i farn marwolaeth, ac a'i croes-hoeliasant ef. Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredei 'r Israel: ac heb law hyn oll, heddyw yw 'r trydydd dydd, er pan wnaethpwyd y pethau hyn. A hefyd rhai gwragedd o honom ni, a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fôd yn foreu wrth y bedd: a phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o Angelion, y rhai a ddywedent ei fôd efe yn fyw. A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni, a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasei y gwragedd; ond ef ni's gwelsant. Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyr-frydig o galon, i gredu 'r holl bethau a ddywedodd y prophwydi. Ond oedd raid i i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn iw ogoniant? A chan ddechreu ar Moses, ar holl brophwydi, efe a esponiodd iddynt yn yr holl Scrythyrau, y pethau am dano ei hun. Ac yr oeddynt yn nesau i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntef a gymmerth arno ei fôd yn myned ym-mhellach. A hwy a'i cymmellasant ef, gan ddywedyd, Aros gŷd â ni, canys y [Page] mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gŷd â hwynt. A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt, efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt. A'u llygaid hwynt, a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddifannodd allan o'i golwg hwynt. A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosci ynom, tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni 'r Scrythyrau? A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr vn ar ddêg wedi ymgasclu ynghŷd, a'r sawl oedd gŷd â hwynt, yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon. A hwythau a adroddasant y pethau a wnaethesid ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt, wrth dorriad y bara.
Dydd mawrth Pâsc.
Y Colect.
HOll-alluog Dâd, yr hwn a roddaist dy vn Mâb i farw dros ein pechodau, ac i gyfodi drachefn dros ein cyfiawnhâd: Caniadhâ i ni felly fwrw ymmaith sur-does drygioni ac anwiredd, fel y gallom yn wastad dy wasanaethu di ym-mhurdeb buchedd a gwirionedd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
HA-wŷr frodyr, Act. 13.26 plant o genedl Abraham, a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon. Canys y rhai oedd yn presswylio yn Ierusalem, a'u tywysogion, [Page] heb adnabod hwn, a lleferydd y Prophwydi, y rhai a ddarllennid bob Sabbath, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant. Ac er na chawsant ynddo ddim achos angeu, hwy a ddymunasant ar Pilat ei ladd ef. Ac wedi iddynt gwblhau pôb peth a'r a scrifennasid am dano ef, hwy a'i descynnasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd. Eithr Duw a'i cyfododd ef oddiwrth y meirw. Yr hwn a welwyd, dros ddyddiau lawer, gan y rhai a ddaethei i fynu gyd ag ef o Galilæa i Ierusalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl. Ac yr ydym ni yn efangylu i chwi, yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hwn i ni eu plant hwy, gan iddo ad-gyfodi 'r Iesu. Megis ac yr yscrifennwyd yn yr ail Psalm, Fy mâb i ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais. Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychwelyd mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd. Ac am hynny y mae yn dy wedyd mewn psalm arall, Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth. Canys Dafydd wedi iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth. Eithr yr hwn a gyfodes Duw, ni welodd lygredigaeth. Am hynny, bydded hyspys i chwi. Hawŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau. A thrwy hwn y cyfiawn heir pob vn sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddiwrthynt. Gwiliwch gan hynny, na ddel arnoch y peth a ddywedpwyd yn y Prophwydi, Edrychwch, ô ddirmyg-wŷr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
Yr Efengyl.
YR Iesu a safodd ynghanol ei ddiscyblon, Luc. 24.36 ac a ddywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi. Hwythau wedi brawychu, ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham i'ch tral lodir, a pha ham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau? Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch, canys nid oes gan yspryd gnawd ac escyrn, fel y gwelwch fôd gennifi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed. Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a ddywedodd wrthynt, A oes gennych chwi ymma ddim bwyd? A hwy a roesant iddo ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddil mêl. Yntef a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gŵydd hwynt. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dymma 'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cyflawni pôb peth a scrifennwyd ynghyfraith Moses, a'r Prophwydi, a'r Psalmau, am danafi. Yna yr agorodd efe eu deall hwynt, fel y deallent yr scrythyrau. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr scrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd: a phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef, ym-mhlith yr oll genhedloedd, gan ddechreu yn Ierusalem. Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.
Y Sul cyntaf gwedi'r Pasc.
Y Colect.
OLl-alluog Dduw &c. Megis ar y Cymmun Ddydd Pâsc.
Yr Epistol.
1. Ioa. 5.4. BEth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu 'r bŷd: a hon yw 'r oruchafiaeth sydd yn gorchfygu y bŷd, sef ein ffydd ni. Pwy yw 'r hwn sydd yn gorchfygu 'r bŷd: onid yr hwn sydd yn credu mai Iesu yw Mâb Duw? Dymma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, sef Iesu Grist: nid trwy ddwfr yn vnic, ond trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw 'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Yspryd sydd wirionedd. Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nêf, y Tâd, y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn vn ydynt. Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd, a'rdwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn vn y maent yn cyttûno. Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei dderbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei fâb. Yr hwn sydd yn credu ym Mâb Duw, sydd ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn credu i Dduw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fâb. A hon yw 'r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragywyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fâb ef. Yr hwn y mae y Mâb ganddo, y mae y bywyd ganddo: a'r hwn nid yw ganddo Fâb Duw, nid oes ganddo fywyd.
Yr Efengyl.
Ioa. 20.19. YNa, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gæad, lle yr oedd y discyblion wedi ymgasclu ynghyd, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a [Page] ddangosodd iddynt ei ddwylo, a'i ystlys. Yna 'r discyblion a lawenychasant, pan welsant yr Arglwydd. Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangneddyf i chwi: megis y danfonodd y Tâd fi, yr ŵyf finneu yn eich danfon chwi. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd glân. Pwy bynnac y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac a attalioch, hwy a attaliwyd.
Yr ail Sul yn ôl y Pâsc.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist dy vn Mâb i ni yn aberth tros bechod, a hefyd yn esampl o fuchedd dduwiol, dyro i ni dy râs, fel y gallom byth yn ddiolchgar dderbyn ei anhraethawl leshâd ef; a hefyd beunydd ymroi i ganlyn bendigedig lwybrau ei wir lanaf fuchedd ef. Amen.
Yr Epistol.
HYn sydd rasol, 1. Pet. 2.19 os yw neb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef ar gam. Oblegid pa glôd yw, os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich ammynedd? eithr os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich ammynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw. Canys i hyn i'ch galwyd hefyd, oblegid Christ yntef a ddioddefodd trosom ni, gan adel i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef. Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau. Yr hwn pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn, pan ddioddefodd ni fygythiodd: eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn. Yr hwn ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y [Page] pren: fel gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi. Canys yr oeddych megis defaid yn myned ar gyfeiliorn: eithr yn awr chwi a ddych welwyd at fugail ac Escob eich eneidiau.
Yr Efengyl.
Ioa. 10.11. CHrist a ddywedodd, myfi yw 'r bugail da: y bugail da sydd yn rhoddi ei enioes dros y defaid. Eithr y gwâs cyflog, a'r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn eu sclyfio hwy, ac yn tarfu y defaid. Y mae'r gwâs cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. Myfi yw y bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm had weinir gan yr eiddo fi. Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen inneu y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy enioes dros y defaid. A defaid eraill sy gennif, y rhai nid ŷnt o'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant, a bydd vn gorlan, ac vn bugail.
Y Trydydd Sul yn ôl y Pasc.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn wyt yn dangos i bawb sy ar gyfeiliorn lewyrch dy wirionedd, er eu dwyn i ffordd cyfiawnder: Caniadhâ i bawb a dderbynier i gymdeithas crefydd Grist, allu o honynt ymogel cyfryw bethau ac y sydd wrthwyneb iw proffess, a chanlyn y sawl bethau oll ac a fyddo yn cydtuno â'r vn-rhyw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
ANwylyd, yr wyf yn attolwg i chwi, 1. Pet. 2.11. megis dieithriaid a phererinion, ymgedwch oddi wrth chwantau cnawdol, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enaid: gan fôd a'ch ymarweddiad yn honest ym-mysc y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwg-weithredwŷr, y gallont o herwydd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad. Ymddarostyngwch oblegid hyn i bôb dynol ordinhâd, o herwydd yr Arglwydd: pa vn bynnag ai i'r brenin, megis goruchaf: ai i'r llywiawd-wŷr, megis trwyddo ef wedi eu danfon er dial ar y drwg-weithredwŷr, a mawl i'r gweithred-wŷr da. Canys felly mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni, ostegu anwybodaeth dynion ffolion: megis yn rhyddion, ac nid â rhydddid gennych megis cochl malis, eithr fel gwasanaethwŷr Duw. Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliaeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.
Yr Efengyl.
YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch: Ioan 16.10. a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch, am fy môd yn myned at y Tâd. Am hynny y dywedodd rhai o'i ddiscyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch: a thrachefn, ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy môd yn myned at y Tâd? Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd: ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd. Yna y gwybu 'r Iesu eu bôd hwy yne wyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd [Page] wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â'i gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch? Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, chwi a wŷlwch ac a alerwch, a'r bŷd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd. Gwraig wrth escor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plentyn, nid yw hi yn cofio ei gofid mwyach, gan lawenydd geni dŷn i'r bŷd. A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd niddwg neb oddi arnoch.
Y pedwerydd Sûl yn ôl y Pasc.
Y Colect.
HOll-gyfoethog Dduw, yr hwn wyt yn gwneuthur meddyliau yr holl ffyddloniaid i fod o vn ewyllys: Caniadhâ i'th bobl, fod iddynt garu yr hyn yr wyt yn ei orchymyn, a deisyfu yr hyn yr wyt yn ei addo, fel ym-mhlith amrafael ddamweiniau y byd, allu o'n calonnau gwbl aros yn y lle y mae gwir lawenydd iw gaffael, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Iaco 1.17. POb rhoddiad daionus, a phôb rhodd berffaith, oddi vchod y mae, yn discyn oddiwrth Dâd y goleuni, gyd â'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chyscod troedigaeth. O'i wîr ewyllys yr enillodd efe nyni, trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o'i greaduriaid ef. O achos hyn, fy mrodyr anwyl, bydded pôb dŷn escud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint. Canys digofaint gŵr, nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw. O herwydd pa ham, rhoddwch heibio bôb budreddi, a helaethrwydd malis, [Page] a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.
Yr Efengyl.
YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, Ioan 16.5. yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned? Eithr am i mi ddywedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon. Ond yr wyfi yn dywedyd gwirionedd i chwi, buddiol yw i chwi fy myned i ymaith: canys onid âfi, ni ddaw y Diddanudd attoch: eithr os mi a âf, mi a'i hanfonaf ef attoch. A phan ddêl, efe a argyoedda y bŷd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn. O bechod, am nad ydynt yn credu ynofi: o gyfiawnder, am fy môd yn myned at fy Nhâd, ac ni'm gwelwch i mwyach: o farn, oblegid tywysog y bŷd hwn a farnwyd. Y mae gennif etto lawer o bethau iw dywedyd i chwi, ond ni ellwch eu dwyn yr awron. Ond pan ddêl efe, sef Yspryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bôb gwirionedd: canys ni lefara o honaw ei hun, ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe, a'r pethau sy i ddyfod a fynega efe i chwi. Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi. Yr holl bethau sy eiddo 'r Tâd, ydynt eiddofi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddofi y cymmer, ac y mynega i chwi.
Y Pumed Sul yn ôl y Pâsc.
Y Colect.
ARglwydd, oddi-wrth ba vn y daw pob daioni, caniadhâ i ni dy vfydd weision, allu o honom trwy dy sanctaidd ysprydoliaeth di, feddwl y pethau [Page] a fo vnion, a thrwy dy ymgeleddus dywysogaeth eu gwneuthur yn ddibennus, trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Yr Epistol.
Iaco 1.22. BYddwch wneuthur-wŷr y gair, ac nid gwrandawŷr yn vnic, gan eich twyllo eich hunain. Oblegio os yw neb yn wrandaŵr y gair, a heb fod yn wneuthur-wr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wyneb-pryd naturiol mewn drych. Canys efe a i hedrychodd ei hun, ac a aeth ymmaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd. Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhydd-did, ac a barhao ynddi, hwn heb fôd yn wrandaŵr anghofus, ond gwneuthur ŵr y weithred, efe a fydd dedwydd yn ei weithred. Os yw neb yn eich mysc yn cymmeryd arno fôd yn grefyddol, heb attal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tâd, yw hyn, ymweled â'r ymddifaid, a'r gwragedd gweddwen, yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y bŷd.
Yr Efengyl.
Ioan 16.23. YN wîr, yn wîr, meddafi chwi, pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tâd yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi. Hyd yn hyn ni ofynnasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae yr awr yn dyfod pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tâd. Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid [Page] wyf yn dywedyd i chwi, y gweddiafi ar y Tâd trosoch: Canys y Tâd ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw. Mi a ddaethym allan oddi wrth y Tâd, ac a ddaethym i'r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd, ac yn myned at y Tad. Ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd vn ddammeg. Yn awr y gwyddom y gwyddost bôb peth, ac nad rhaid it ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw. Yr Iesu a'u hattebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu? Wele, y mae yr awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwascerir chwi bôb vn at yr eiddo, ac y gadewch fi yn vnic: ac nid wyf yn vnic, oblegid y mae y Tad gyd â myfi. Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangneddyf ynof. Yn y bŷd gorthrymder a gewch: eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y bŷd.
Dydd lou Dyrchafael.
Y Colect.
CAniadhâ ni a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, megis ac yr ŷm ni yn credu ddarfod i'th vnig-anedic fab ein Harglwydd dderchafel i'r nefoedd: felly bod i ninnau â meddyl-fryd ein calon allu ymdderchafel yno, a chyd ag ef drigo yn wastadol.
Yr Epistol.
Y Traethawd cyntaf a wnaethum, Act. 1.1. ô Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dyscu, hyd y dydd y derbyniwyd ef i fynu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân roddi gorchymmynion i'r Apostolion a etholasei. I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fyw wedi iddo [Page] ddioddef, trwy lawer o arwyddion siccr, gan fôd yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw. Ac wedi ymgynnull gŷd â hwynt, efe a orchymynnodd iddynt nad ymadawent o Ierusalem, eithr disgwyl am addewid y Tâd [...] hwn, eb efe, a glywsoch gennyfi. Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â'r Yspryd glân, cyn nemmawr o ddyddiau. Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, ai 'r pryd hyn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chw i ŵybod yr amseroedd, na'r prydiau, y rhai a osodes y Tâd yn ei feddiant ei hun: eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Yspryd glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Ierusalem, ac yn holl Iudæa, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaiar. Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt hwy yn edrych, efe a dderchafwyd i fynu: a chwmmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt. Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua'r nêf, ac efe yn myned i fynu, wele, dau ŵr a safodd ger llaw iddynt, mewn gwisc wen: y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilæa, pa ham y sefwch yn edrych tu a'r nêf: yr Iesu hwn, yr hwn a gymmerwyd i fynu oddi wrthych i'r nêf, a ddaw felly yn yr vn modd ac y gwelsoch ef yn myned i'r nêf.
Yr Efengyl.
Mar. 16.14. YR Iesu a ymddangosodd i'r vn ar ddêg, a hwynt yn eistedd i fwytta, ac a ddannododd iddynt eu hanghrediniaeth, a'u calon-galedwch: am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi adgyfodi. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fŷd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur. Y neb a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig: eithr [Page] y neb ni chredo a gondemnir. A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant, Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid: ac â thafodau newyddion y llefarant: seirph a godant ymmaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed: ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach. Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmerwyd i fynu i'r nef, ac a eisteddodd ar ddeheu-law Dduw. A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym-mhôb man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau 'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
Y Sul yn ôl y Dyrchafel.
Y Colect.
O Dduw, frenin y gogoniant, yr hwn a dderchefaist dy vn Mâb Iesu Grist â mawr oruchafiaeth i'th deyrnas yn y nefoedd: Attolwg i ti na âd ni yn anniddan, eithr danfon i ni dy Yspryd glân i'n diddanu, a dyrcha ni i'r vn fan lle yr aeth ein Iachawdur Christ o'r blaen; yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn oes oesoedd.
Yr Epistol.
DIwedd pôb peth a nesaodd: 1. Pet. 4.7. am hynny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddiaw. Eithr o flaen pôb peth bydded gennych gariad helaeth iu ac at ei gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch leteugar y naill i'r llall, heb rwgnach. Pôb vn megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â'i gilydd fel daionus orchwylwŷr amryw ras Duw. Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw: os gweini y mae neb, gwnaed megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhôb peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist, i'r hwn y byddo yr gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.
Yr Efengyl.
Io. 15.26. PAn ddêl y Diddanudd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tâd, efe a dystiolaetha am danafi. A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bôd o'r dechreuad gyd â mi. Y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi. Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r Synagogau: ac y mae 'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, ei fôd yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tâd, na myfi. Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi.
Y Sul-gwyn.
Y Colect.
DVw, yr hwn ar gyfenw i heddyw a ddyscaist galonnau dy ffyddloniō, gan anfon iddynt lewyrch dy lân Yspryd: Caniadhâ i nyni trwy yr vnrhyw Yspryd, ddeall yr iawn farn ym-mhob peth, a byth lawenychu yn ei wynfydedic ddiddanwch ef, trwy ryglyddau Iesu Grist ein Iachawdur, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi yn vndeb yr vn-rhyw Yspryd, yn vn Duw heb drangc na gorphen. Amen.
Yr. Epistol.
Act. 2.1. WEdi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr vn lle. Ac yn ddisymmwth y daeth sŵn o'r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ, lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bôb vn o honynt. A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd. Ac yr oedd yn trigo yn Ierusalem, Iddewon, gwŷr bucheddol [Page] o bôb cenedl dan y nêf. Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws ynghyd, ac a drallodwyd, o herwydd bôd pôb vn yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun. Synnodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Wele, onid Galilæaid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru? A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt, bôb vn yn ein hiaith ein hun, yn yr hon i'n ganed ni? Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Iudæa, a Chappadocia, Pontus, ac Asia: Phrygia, a Phamphilia, yr Aipht, a pharthau Libya, yr hon sydd ger llaw Cyrene: a dieithriaid o Rufein-wŷr, Iddewon a phroselytiaid, Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein iaith ni, fawrion weithredoedd Duw.
Yr Efengyl.
YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, O cherwch fi, Ioan 14.15. cedwch fy ngorchymmynion. A mi a weddiaf ar y Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddiddanudd arall, fel yr arhoso gyd â chwi yn dragywyddol: Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe. Nis gadawaf chwi yn ymddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi. Etto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy: eithr chwi a'm gwelwch, canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd. Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy môd i yn fy Nhâd, a chwithau ynofi, a minneu ynoch chwithau. Yr hwn sydd a'm gorchymynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minneu a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo. Dywedodd [Page] Iudas wrtho, nid yr Iscariot, Arglwydd, pa beth yw'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd? Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr yntef, a nyni a ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef. Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddofi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i. Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyd â chwi. Eithr y Diddanudd, yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd-yn fy enw i, efe a ddysc i chwi yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi. Yr wyf yn gadel i chwi dangnheddyf, fy nhangnheddyf yr yd wyf yn ei rhoddi i chwi: nid fel y mae y bŷd yn rhoddi, yr wyfi yn rhoddi i chwi: na thralloder eich calon, ac nac ofned. Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymmaith, ac mi a ddeuaf attoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy Nhad yn fwy nâ myfi. Ac yr a wron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddel, y credoch. Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynofi. Ond fel y gwypo 'r bŷd fy môd i yn caru y Tâd, ac megis y gorchymynnodd y Tâd i mi, felly yr wyf yn gwnenthur.
Dydd Llun y Sul-gwyn.
Y Colect.
Duw, yr hwn &c. Megis ar ddydd y Sul-gwyn.
Yr Epistol.
Act. 10.34 PEtr a agorodd ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb. Ond ym-mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yngwe, thredu cyfiawnder, [Page] sydd gymmerad wy ganddo ef. Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangneddyf trwy Iesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll. Chwy-chwi a wyddoch y gair a fu yn holl Iudæa, gan ddechreu o Galilæa, wedi y bedydd a bregethodd Ioan: y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nazareth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef. A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlad yr Iddewon, ac yn Ierusalem, yr hwn a laddasant, ac a groes-hoeliasant ar bren. Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg, nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei ad-gyfodi ef o feirw. Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl, a-thystiolaethu mai efe yw'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw, yn farn-wr byw a meirw. I hwn y mae'r holl Brophwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau, drwy ei enw ef. A Phetr etto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Yspryd glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynnifer ac a ddaethent gyd â Phetr, a synnasant, am dywallt dawn yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd. Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr attebodd Petr, A all nêb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd glân, fel ninnau. Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd: yna y deisyfiasant arno aros tros ennyd o ddyddiau.
Yr Efengyl.
Ioan 3.16 FElly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei vnig-anedig Fâb, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol. Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fâb i'r bŷd, i ddamnio 'r bŷd, ond fel yr achubid y bŷd trwyddo ef. Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamnwyd eusys: o herwydd na chredodd yn enw vnig-anedig Fâb Duw. A hon yw 'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r bŷd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy nâ 'r goleuni: canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrŵg. O herwydd pôb vn a'r sydd yn gwneuthur drŵg, sydd yn casâu y goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyoedder ei weithredoedd ef: Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
Dydd Mawrth y Sulgwyn.
Y Colect.
Duw yr hwn, &c. Megis ar ddydd y Sulgwyn.
Yr Epistol.
Act. 8.14. PAn glybu yr Apostolion yn Ierusalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant attynt Petr ac Ioan. Y rhai wedi eu dyfod i wared, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Yspryd glân. Canys etto nid oedd efe wedi syrthio ar nêb o honynt, ond yr oeddynt yn vnic wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Iesu. Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Yspryd glân.
Yr Efengyl.
YN wîr, yn wîr, meddaf i chwi, Io. 10.1. yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy 'r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeiliwr yw. Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy 'r drws, bugail y defaid ydyw. I hwn y mae y dryssor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dieithr ni's canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. Am hyn ny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid. Cynnifer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron ac yspeilwŷr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. Myfi yw y drws: os â neb i mewn drwofi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. Nid yw lleidr yn dyfod ond i ledratta, ac i ddestrywio, myfi a ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
Sul y Drindod.
Y Colect.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn a roddaist i ni dy weision râd, gan gyffessu ac addef dy wîr ffydd, i adnabod gogoniant y dragywyddol Drindod, ac yn nerth y duwiol fawredd i addoli yr [Page] vndod: Nyni a attolygwn i ti, fod i ni trwy gadernid y ffydd hon, gael ein hamddeffyn oddi-wrth bob gwrthwyneb, yr hwn wyt yn byw, ac yn teyrnasu, yn vn Duw byth heb ddiwedd. Amen.
Yr Epistol.
Datc. 4.1. YN ôl y pethau hyn yr edrychais, ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nêf, a'r llais cyntaf a glywais oedd fel llais vdcorn yn ymddiddan â mi; gan ddywedyd, Dring i fynu ymma, a mi a ddangosaf i ti y pethau sy raid eu bôd ar ôl hyn. Ac yn y man yr oeddwn yn yr yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd-faingc wedi ei gosod yn y nêf, ac vn yn eistedd ar yr orsedd-faingc: A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen Iaspis a Sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg yr olwg arno i Smaragdus. Ac ynghylch yr orsedd-faingc yr oedd pedair gorsedd-faingc ar hugain: ac ar y gorsedd-feingciau y gwelais bedwar Henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisco mewn dillad gwynion: ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur. Ac yr oedd yn dyfod allan o'r orsedd-faingc, fellt, a tharanau, a lleisiau: ac yr oedd saith o lampau tân yn llosci ger bron yr orsedd-faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw. Ac o flaen yr orsedd-faingc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grystal: ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac ynghylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen, ac o'r tu ôl. A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dŷn, a'r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg. A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bôb vn o honynt, [Page] chwech o adenydd o'u hamgylch, ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorphywys ddydd a nôs, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfod. A phan fyddo yr anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, y mae y pedwar Henuriad ar hugain yn syrthio ger bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac yn addoli yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd: ac yn bwrw eu coronau ger bron yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Teilwng ŵyt o Arglwydd, i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bôb peth, ac o herwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.
Yr Efengyl.
YR oedd dŷn o'r Pharisæaid, Io. 3.1. a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon. Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nôs, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a ŵyddom mai dyscawdur ŷd wyt ti, wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allei neb wneuthur y gwrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fôd Duw gyd ag ef. Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Nicodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hên? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni? Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, meddaf i ti, oddieithr geni dŷn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw. Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd: a'r hyn a aned o'r Yspryd, sydd yspryd. Na [Page] ryfedda ddywedyd o honosi wrthit, Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn. Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno: a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned? Felly y mae pôb vn a'r a aned o'r Yspryd. Nicodemus a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn fôd? Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn ddyscawdur yn Israel, ac ni ŵyddost y pethau hyn? Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn. Os dywedais i chwi bethau daiarol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch? Ac ni escynnodd nêb i'r nêf, oddi eithr yr hwn a ddescynnodd o'r nêf, sef Mâb y dŷn, yr hwn sydd yn y nêf. Ac megis y derchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid derchafu Mâb y dŷn: fel na choller, pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragwyddol.
Y Sul cyntaf gwedi'r Drindod.
Y Colect.
DVw, yr hwn wyt wir nerth i bawb oll ac y sy yn ymddiried ynot, yn drugarog derbyn ein gweddiau: A chan na ddichon gwendid ein marwol anian wneuthur dim da hebot ti, Caniadhâ i ni gymmorth dy râd, fel y bo i ni gan gadw dy orchmynion, ryngu bodd i ti ar ewyllys a gweithred: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
ANwylyd, carwn ei gilydd; 1. Ioan 4.7. oblegid cariad o Dduw y mae: a phôb vn ac sydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw cariad yw. Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tu ac attom ni, oblegid danfon o Dduw ei vnic-anedig Fab i'r bŷd, fel y byddem fyw trwyddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fôd yn iawn dros ein pechodau. Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ei gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed: os carwn ni ei gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. Wrth hyn y gwyddom ein bôd yn trigo ynddo ef ac yntef ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Yspryd. A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tad ddanfon y Mab, i fod yn Iachawdwr i'r bŷd. Pwy bynnag a a gyffeso fod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntef yn Nuw. A nyni a adnabuom, ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tu ac attom ni. Duw cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntef. Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd farn: oblegid megis ac y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y bŷd hwn. Nid oes ofn mewn cariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth: a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. Os dywed nêb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd [Page] y gall efe garu Duw yr hwn ni's gwelodd? A'r gorchymmyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef, bôd i'r hwn sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
Yr Efengyl.
Luc 16.19. YR oedd rhyw wr goludog, ac a wiscid â phorphor a lliam main, ac yr oedd yn cymmeryd bŷd da yn helaethwych beunydd: Yr oedd hefyd ryw gardottyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gorn wydlyd: ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiei oddi ar fwrdd y gwr cyfoethog, ond y cŵn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef. A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr Angelion i fynwes Abraham: a'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd. Ac yn vffern, efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes. Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dâd Abraham, trugarhâ wrthif, a danfon Lazarus, i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon. Ac Abraham a ddywedodd, Hâ fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd, ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir ditheu. Ac heblaw hyn oll, rhyngom ni a chwithau y siccrha wyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, dramwy oddi yma attoch chwi, na'r rhai oddi yna, dramwy attom ni. Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yn attolwg i ti, gan hynny, o dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy nhâd: Canys y mae i mi bump o frodyr; fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn. Abraham a ddywedodd wrtho. Y mae ganddynt Moses a'r Prophwydi; gwrandawant arnynt hwy. Yntef a ddywedodd, Nag ê, y [Page] tâd Abraham; eithr os â vn oddi wrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt. Yna Abraham a ddywedodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith, pe codei vn oddi wrth y meirw.
Yr ail Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd par di fod arnom wastadol ofn a chariad dy sanctaidd Enw, canys byth ni phelli gymmorth a llywiaw y sawl a feithrmych yn-nwysder dy gariad: Caniadhâ hyn er cariad ar d yvn Mâb Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
NA ryfeddwch, fy mrodyr, 1. Ioan 3.13. os yw 'r bŷd yn eich casâu chwi. Nyni a ŵyddom ddarfod ein symmud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bôd yn caru y brodyr: yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth. Pôb vn ac sydd yn casau ei frawd, lleiddiad dŷn yw: a chwi a ŵyddoch nad oes i vn lleiddiad dŷn fywyd tragwyddol yn aros ynddo. Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi o honaw ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes tros y brodyr. Eithr yr hwn sydd ganddo dda 'r bŷd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisieu, ac a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? Fy mhlant bychain, na charwn ar air, nac ar dafod yn vnic, eithr mewn gweithred a gwirionedd. Ac wrth hyn y gŵyddom ein bôd o'r gwirionedd, ac y siccrhawn ein calonnau ger ei fron ef. Oblegid os ein calon a'n condemna, mwy yw Duw nâ'n calon, ac efe a ŵyr bôb peth. Anwylyd, os ein calon ni'n [Page] condemna, y mae gennym hyder ar Dduw: a pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegid ein bôd yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sy yn rhyngu bodd yn ei olwg ef. A hwn yw ei orchymmyn ef, gredu o honom yn Enw ei Fab ef Iesu Grist, a charu ei gilydd, megis y rhoes efe orchymmyn i ni. A'r hwn sydd yn cadŵ ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynddo yntef: ac wrth hyn y gwyddom ei fôd ef yn aros ynom, sef o'r Yspryd a roddes efe i ni.
Yr Efengyl.
Luc 14.16 RHyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer: ac a ddanfonodd ei wâs bryd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian y mae pôb peth yn barod. A hwy oll a ddechreuasant yn vn-fryd ymescusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho. Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol. Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol. Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig, ac am hynny ni's gallafi ddyfod. A'r gwâs hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ wedi digio, a ddywedodd wrth ei wâs, dôs allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn ymma y tlodion, a'r anafus, a'r cloffion, a'r deillion. A'r gwâs a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynnaist, ac etto y mae lle. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, Dos allan i'r prif-ffyrdd a'r [Page] caeau, a chymmell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhy. Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr vn o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.
Y trydydd Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd ni attolygwn i ti yn drugarog ein gwrando, a megis y rhoddaist i ni feddyl-fryd calon i weddio, caniadhâ drwy dy fawr nerth i ni gael ein hamddiffyn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
BYddwch bawb yn ostyngedig iw gilydd, 1. Pet. 5.5. ac ymdrwsiwch oddi fewn â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ac yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig. Ymddarostyngwch gan hynny tan alluog law Dduw, fel i'ch derchafo mewn amser cyfaddas: gan fwrw eich holl of al arno ef, canys y mae efe yn gofalu trosoch chwi. Byddwch sobr, gwiliwch: oblegid y mae eich gwrth-wynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu. Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd, gan ŵybod fôd yn cyflawni yr vn blinderau yn eich brodyr, y rhai sydd yn y bŷd. A Duw pôb grâs, yr hwn a'ch galwodd chwi iw dragwyddol ogoniant trwy Grist Iesu, wedi i chwi ddioddef ychydig; a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhâo, a'ch cryfhao a'ch sefydlo. Iddo ef y byddo y gogoniant, a'r gallu yn oes oesoedd. Amen.
Yr Efengyl.
Luc. 15.1. AC yr oedd yr holl Bublicanod a'r pechaduriaid yn nessau atto ef, i wrando arno. A'r Pharisæaid a'r Scrifennyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn b wytta gyd â hwynt. Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd, pa ddŷn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll vn o honynt, nid yw yn gadel yr amyn vn pum vgain yn yr anialwch, ac yn myned ar ôl yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi? Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dŷd hi ar ei yscwyddau ei hun yn llawen. A phan ddêl adref, efe a eilw ynghŷd ei gyfeillion a'i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyd â mi, canys cefais fy nafad a gollasid. Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd llawenydd yn y nêf am vn pechadur a edifarhao, mwy nag am onid vn pum vgain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wrth edifeirwch. Neu pa wraig, a chanddi ddêg dryll o arian, os cyll hi vn dryll, ni oleu ganwyll, ac yscubo 'r tŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo ef? Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghŷd ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y dryll a gollaswn. Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yngwydd Angelion Duw am vn pechadur a edifarhao.
Y pedwerydd Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
DVw Nawdd-wr pawb oll y sydd yn ymddiried ynot, heb pa vn nid oes dim nerthawg, na dim sanctaidd, chwanega ac amlhâ arnom dy drugaredd, fel y gallom (a thi yn llywiawdur ac yn dywysog i [Page] ni) dreiddio drwy yr pethau bydol, modd na chollom yn llwyr y pethau tragywyddol: Caniadhâ hyn nefol Dad, er mwyn Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
YR ydwyf yn cyfrif nad yw dioddefiadau yr amser presennol hwn, Rhuf. 8.18. yn haeddu eu cyffelybu i'r gogoniant a ddatcuddir i ni. Canys awydd-fryd y creadur sydd yn disgwil am ddadcuddiad meibiō Duw. Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd, nid o'i fodd, eithr oblegit yr hwn a'i darostyngodd. Tan obaith y rhyddheir y creadur ynteu hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i rydd-did gogoniant plant Duw. Canys ni a wyddom fod pôb creadur yn cyd-ocheneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn. Ac nid yn vnic y creadur, ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaen-ffrwyth yr Yspryd; yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwil y mabwysiad, sef prynedigaeth ein corph.
Yr Efengyl.
BYddwch drugarogion, Luc. 6.36. megis ac y mae eich Tâd yn drugarog. Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemnwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau: rhoddwch, a rhoddir i chwi: mesur da dwysedig, ac wedi ei yscwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r vn mesur ac y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn. Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, A ddichon y dall dwyso 'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? Nid yw 'r discybl vwchlaw ei athro: eithr pob vn perffaith a fydd fel ei athro. A pha ham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy [Page] hun? Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.
Y pumed Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
CAniadhâ Arglwydd, ni a attolygwn i ti, fod cwrs y byd hwn, trwy dy reoledigaeth di wedi ei drefnu mor dangneddyfol ag y gallo dy gynnulleidfa di dy wasanaethu ym mhob duwiol heddwch, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
1. Pet. 3.8. BYddwch oll yn vnfryd, yn cyd-oddef â'i gilydd, yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd: nid yn talu drwg am ddrwg, neu senn am senn: eithr yngwrthwyneb, yn bendithio: gan ŵybod mai i hyn i'ch galwyd, fel yr etifeddoch fēdith. Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, attalied ei dafod oddiwrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll Gocheled y drwg, a gwnaed y da: ceisied heddwch, a dilyned ef. Canys y mae llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tu ac at eu gweddi hwynt: eithr y mae wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy yn gwneuthur drwg. A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda? Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd ydych: ond nac ofnwch rhac eu hofn hwynt, ac na'ch cynnhyrfer: eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau.
Yr Efengyl.
BV hefyd a'r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, Luc. 5.1. yr oedd yntef yn sefyll yn ymyl llyn Genesareth; Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pyscod-wŷr a aethent allan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau. Ac efe a aeth i mewn i vn o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddi wrth y tir: ac efe a eisteddodd, ac a ddyscodd y bobloedd allan o'r llong. A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa. A Simon a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, O feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddaliasom ni ddim: etto ar dy air di, mi a fwriaf y rhwyd. Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd. A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion oedd yn y llong arall, i ddyfod iw cynnorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi. A Simon Petr pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau'r Iesu, gan ddywedyd, Dôs ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pechadurus wyfi, o Arglwydd. O blegid braw a ddaethai arno ef, a'r rhai oll oedd gyd ag ef, o herwydd yr helfa byscod a ddaliasent hwy: A'r vn ffunyd ar Iaco ac Ioan hefyd, meibion Zebedaeus, y rhai oedd gyfrannogion â Simon. A dywedodd yr Iesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y deli ddynion. Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dîr, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.
Y chweched Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
DVw, yr hwn a arlwyaist i'r rhai a'th garant gyfryw bethau daionus ac y sydd vwch-ben pob deall dŷn, tywallt i'n calonnau gyfryw serch arnat, fel y byddo i ni gan dy garu ym-mhob rhyw beth, allu mwynhau dy addewidion, y rai sy fwy rhagorol nâ dim a fedrom ni ei ddeisyf: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Rhuf. 6.3. ONi wyddoch chwi am gynnifer o honom ac a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i'w farwolaeth ef? Claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ac y cyfodwyd Christ o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb buchedd. Canys os gwnaed ni yn gyd-blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef. Gan ŵybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hên ddŷn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. Canys y mae yr hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. Ac os buom feirw gyd â Christ, yr ydym ni yn credu y byddwn fyw hefyd gyd ag ef. Gan ŵybod nad yw Christ, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach, nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw vnwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, eithr yn fyw i Dduw, yn Ghrist Iesu ein Harglwydd.
Yr Efengyl.
YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, Mat. 5.20. oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach nâ chyfiawnder yr Scrifennyddion, a'r Pharisæaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd. Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn. Eithr yr yd wyfi yn dywedyd i chwi, pôb vn a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, ô ynfyd, a fydd euog o dân vffern. Gan hynny, os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod i'th gof fôd gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dôs ymmaith: yn gyntaf cymmoder di â'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm dy rodd. Cytuna â'th wrthwyneb-ŵr ar fyrs, tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef: rhag vn amser i'th wrthwyneb-ŵr dy roddi di yn llaw 'r barn-ŵr, ac i'r barn-ŵr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yngharchar. Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddi-yno hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
Y Seithfed Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd yr holl nerth a'r cadernid, yr hwn wyt Awdur a rhoddwr pob daioni, planna yn ein calonnau gariad dy Enw, ychwanega ynom wir grefydd, Maetha nyni â phob daioni, ac o'th fawr drugaredd cadw ni yn yr vn-rhyw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Rhuf. 6.19 YN ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon, rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. Canys pan oeddych yn weision pechod, rhyddion oeddych oddiwrth gyfiawnder. Pa ffrwyth, gan hynny, oedd i chwi y pryd hynny o'r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o'u plegid: canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol. Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Efengyl.
Marc. 8.1. YN y dyddiau hynny, pan oedd y dyrīa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwytta, y galwodd yr Iesu ei ddiscybliō atto, ac a ddywedodd wrthynt, Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyd â mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta: ac os gollyngaf hwynt ymmaith ar eu cythlwng, i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaeth o bell. A'i ddiscyblion ef a'i hattebasant, O ba le y gall nêb ddigoni y rhai hyn â bara, ymma yn yr anialwch? Ac efe a ofynnodd iddynt, Pa sawl torth sydd gennwch? A hwy a ddywedasant, saith. Ac efe orchymynnodd i'r [Page] dyrfa eistedd ar y llawr, ac a gymmerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd hwynt, ac a'u rhoddes i'w ddiscyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau: a gosodasant hwynt ger bron y bobl. Ac yr oedd ganddynt ychydig byscod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau hwynt. A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briw-fwyd gweddill, saith fascedaid. A'r rhai a swyttasent oedd ynghylch pedair mil: ac efe a'u gollyngodd hwynt ymmaith.
Yr viij. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
DVw, yr hwn ni thwyllir byth ei ragluniaeth, yn vfydd ni a attolygwn i ti fwrw oddi-wrthym bob peth niweidiol, a rhoddi o honot i ni bob peth a fyddo da ar ein llês, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Y Brodyr, dyled-wyr ydym, Rhuf. 8.12. nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd. Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd, meirw fyddwch; eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corph trwy 'r Yspryd, byw fyddwch. Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Duw. Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i beri ofn; eithr derbyniasoch yspryd mabwysiad, trwy 'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd. Y mae yr Yspryd hwn yn cyd-tystiolaethu â'n hyspryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw. Ac os plant, etifeddion hefyd, sef etifeddion i Dduw, a chyd-erifeddion â Christ; os ydym yn cyd-ddioddef gyd ag ef, fel i'n cyd-ogonedder hefyd.
Yr Efengyl.
Mat. 7.15. Y Mogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwiscoedd defaid, ond oddi-mewn bleiddiaid rheipus ydynt hwy. Wrth eu ffrwythau yr adnabydd wch hwynt. A gascl rhai rawn-win oddiar ddrain, neu ffigys oddiar yscall? Felly pôb pren da sydd yn dwyn ffrwythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg. Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da. Pôb pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân. O herwydd pa ham, wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. Nid pob vn sydd yn dywedyd wrthif, Arglwydd Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.
Y ix. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
CAniadhâ i ni Arglwydd, attolwg i ti, yr Yspryd i feddwl ac i wneuthur byth y cyfryw bethau ac a fo cyfiawn, fel y byddo i ni (y rhai ni allwn fod hebot) allu trwoti fyw yn ôl dy ewyllys, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
1. Cor. 10.1. NI fynnwn i chwi fod heb ŵybod, frodyr, fod ein tadau oll tan y cwmwl, a'u myned oll trwy y môr; a'u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr; a bwyta o bawb o honynt yr vn bwyd ysprydol, ac yfed o bawb o honynt yr vn ddiod ysprydol: (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Grist.) Eithr ni bu Dduw fodlon i'r rhan fwyaf o honynt: canys [Page] cwympwyd hwynt yn y diffaethwch. A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megis ac y chwennychasant hwy. Ac na fyddwch eulyn-addolŵyr, megis rhai o honynt hwy, fel y mae yn scrifennedic, Eisteddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu. Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn vn dydd dair mil ar hugain. Ac na themtiwn Ghrist, megis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd ganseirph. Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd gan y dinistrydd. A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhai y daeth terfynau yr oesoedd. Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Nid ymaflodd ynoch demtasiwn, onid vn dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio vwch-law yr hyn a alloch, eithr a wna ynghŷd â'r temtasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
Yr Efengyl.
YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Yr oedd rhyw ŵr goludog, Luc. 16.1. yr hwn oedd ganddo oruchwiliwr, a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fôd efe megis yn afradloni ei dda ef. Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed am danat? dyro gyfrif o'th oruchwiliaeth: canys ni elli fôd mwy yn oruchwiliwr. A'r goruchwiliwr a ddy wedodd ynddo ei hun. Pa beth a wnaf, canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth oddi arnaf? cloddio ni's gallaf, a chardotta sydd gywilyddus gennif. [Page] Mi a wn beth a wnaf, fel pan i'm bwrier allan o'r oruchwiliaeth, y derbyniont fi i'w tai. Ac wedi iddo alw atto bôb vn o ddyled-wŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnati o ddyled i'm harglwydd? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac eistedd ar frys, ac scrifenna ddeg a deugain. Yna y dywedodd wrth vn arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac scrifenna bedwar vgain. A'r Arglwydd a ganmolodd y goruchwiliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth, nâ phlant y goleuni. Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r Mammon anghyfiawn: fel pan fo eisieu arnoch, i'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.
Y x. Sul gwedi'r Drindod.
Y Colect.
BYdded dy drugarogion glustiau ô Arglwydd, yn agored i weddiau dy vfydd weision, ac fel y bo iddynt gael eu gofynion, gwna iddynt erchi y cyfryw bethau ac a ryngo bodd i ti, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
1. Cor. 12.1. AM ysprydol ddoniau frodyr, ni fynnwn i chwi fôd heb ŵybod. Chwi a wyddoch mai Cenhedloedd oeddych, yn eich arwain ymmaith at yr eulynnod mudion, fel i'ch tywysid. Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Iesu yn escymmun-beth: ac ni all neb ddywedyd yr [Page] Arglwydd Iesu, eithr trwy yr Yspryd glân. Ac y mae amryw ddoniau, eithryr vn Yspryd. Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr vn Arglwydd. Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr vn yw Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb. Eithr eglurhâd yr Yspryd a roddir i bob vn er lleshâd. Canys i vn trwy yr Yspryd y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gwybodaeth, trwy yr vn Yspryd: ac i arall ffydd, trwy yr vn Yspryd; ac i arall ddawn i iachâu, trwy yr vn Yspryd: ac i arall wneuthur gwyrthiau, ac i arall Brophwydoliaeth; ac i arall wahaniaeth ysprydoedd, ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau. A'r holl bethau hyn, y mae 'r vn a'r vnrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bôb vn o'r nailltu, megis y mae yn ewyllysio.
Yr Efengyl.
AC wedi iddo ddyfod yn agos, Luc 19.41 pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd trosti, gan ddywedyd, Pe gwybasit titheu, ie yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i'th heddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bôb parth: ac a'th wnânt yn gyd-wastad â'r llawr, a'th blant o'th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad. Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddi, ac yn prynu: gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn scrifennedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron. Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y Deml.
Y xj. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
DVw, yr hwn wyt yn egluro dy Holl-alluog nerth yn bennaf gan ddangos trugaredd a thosturi, amlhâ dy râd arnom, fel y bo i ni drwy gyrchu at dy addewidion, allu bod yn gyfrannogion o'th nefol dryssor, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
1. Cor. 15.1. YR ydwyf yn yspysu i chwi (frodyr) yr Efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll, tywy yr hon i'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efangylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais; farw o Ghrist tros ein pechodau ni, yn ôl yr Scrythyrau, a'i gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Scrythyrau; a'i weled ef gan Cephas, yna gan y deuddec. Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy nâ phum-cant brodyr ar vn-waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iaco, yna gan yr holl Apostolion. Ac yn ddiweddaf oll y gwelwyd ef gennif finneu hefyd, megis gan vn an-nhymmig. Canys myfi yw 'r lleiaf o'r Apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol, am i mi erlid Eglwys Dduw. Eithr trwy râs Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf; a'i râs ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach nâ hwyntoll; ac nid myfi chwaith, ond grâs Duw yr hwn oedd gyd â mi. Am hynny, pa vn bynnag ai myfi ai hwynt hwy; felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
Yr Efengyl.
CHrist a ddywedodd y ddammeg hon hefyd, Luc 18.9. wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bôd yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill, Dau ŵr a aeth i fynu i'r Deml i weddio: vn yn Pharisæad, a'r llall yn Bublican. Y Pharisæad o'i sefyll a weddiodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyfi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwŷr; neu fel y Publican hwn chwaith. Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wyth-nos, yr wyf yn degymmu cymmaint oll ac a feddaf. A'r Publican gan sefyll o herbell, ni fynnai cymmaint a chodi ei olygon tu a'r nêf, eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw bydd drugarog wrthif bechadur. Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared iw dŷ, wedi ei gyfiawnhau yn fwy nâ'r llall: canys pôb vn ac sydd yn ei dderchafu ei hun, a ostyngir: a phôb vn ac sydd yn ei ostwng ei hun, a dderchefir.
Y xij. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn yn wastad wyt barottach i wrando, nâ nyni i weddio, ac wyt arferol o roddi mwy nag a archom, neu a ryglyddom, tywallt arnom amlder dy drugaredd, gan faddeu i ni y cyfryw bethau ac y mae ein cydwybod yn eu hofni, a rhoddi i ni y peth ni feiddia ein gweddi ei erchi: trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Y Cyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw: nid o herwydd ein bôd yn ddigonol o honom ein hunain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd [Page] ni sydd o Dduw: yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymmwys y Testament newydd, nid i'r llythyren ond i'r Yspryd. Canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr Yspryd sydd yn bywhau. Ac os bu gweinidogaeth angeu mewn llythyrennau wedi ei hargraphu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allei plant yr Israel edrych yn graff yn ŵyneb Moses, gan ogoniant ei wyneb-pryd, yr hwn ogoniant a ddilewyd, pa fodd yn hytrach na bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant? Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth yn ogoniant, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant?
Yr Efengyl.
Mar. 7.31. YR Iesu a aeth drachefn ymmaith o dueddau Tyrus a Sidon, ac a ddaeth hyd fôr Galilæa, trwy ganol terfynau Decapolis. A hwy a ddygasant atto vn byddar ag attal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef. Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd â'i dafod ef: a chan edrych tua 'r nef, efe a ocheneidiodd, ac a ddywedodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, ymagor. Ac yn ebrwydd ei glustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd, ac efe a lefarodd yn eglur. Ac efe a waharddodd iddynt ddywedyd i neb: ond pa mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant. A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddair glywed, ac i'r mudion ddywedyd.
Y xiij. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
HOll-alluog a thrugarog Dduw, o rodd pwy vn yn vnic y daw, bod i'th bobl ffyddlon dy wasanaethu yn gywir, ac yn fawledic: Caniadhâ, ni a erfy niwn i ti, allu o honom redeg at dy nefol addewidion, megis na phallo gennym yn y diwedd eu mwynhau: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac iw hâd ef. Nid yw yn dywedyd, Gal. 3.16. Ac iw hadau, megis am lawer; ond megis am vn, Ac i'th hâd ti: yr hwn yw Christ. A hyn yr ŵyf yn ei ddywedyd: am yr ammod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yn Ghrist, nad yw y Ddeddf oedd bedwar cant a dêc ar hugain o flynyddoedd wedi, yn ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ofer. Canys os o'r Ddeddf y mae yr etifeddiaeth, nid yw hayach o'r addewid: ond Duw a'i rhâd-roddodd i Abraham drwy addewid. Beth gan hynny yw 'r Ddeddf? oblegid trosseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelef yr hâd, i'r hwn y gwnaethid yr addewid: a hi a drefnwyd trwy Angelion, yn llaw Cyfryngwr. A chyfryngwr, nid yw i vn: ond Duw sydd vn. A ydyw y Ddeddf gan hynny yn erbyn addewidion Duw? Na atto Duw: canys pe rhoesid Deddf a allasai fywhau, yn wir o'r Ddeddf y buasei cyfiawnder. Eithr cyd-gaeodd yr Scrythur bôb peth tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist, i'r rhai sy yn credu.
Yr Efengyl.
GWyn fŷd y llygaid sy yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled. Luc 10.23 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi ewyllysio o lawer o brophwydi [Page] a brenhinoedd, weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac ni's gwelsant; a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac ni's clywsant. Ac wele, rhyw gyfreith wr a gododd, gan ei demtio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol? Yntef a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd scrifennedig yn y Gyfraith? pa fodd y darllenni? Ac efe gan atteb a ddy wedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl: a'th gymmydog fel di dy hun. Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn vniawn: gwna hyn, a byw fyddi. Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfia wnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog? A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddŷn oedd yn myned i wared o Ierusalem i Iericho, ac a syrthiodd ym mysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc ef a'i archolli, a aethant ymmaith, gan ei adael yn hanner marw. Ac ar ddamwain, rhy w offeiriad a ddaeth i wared y ffordd honno, a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio. A'r vn ffunyd Lefiad hefyd, wedi dyfod i'r fan, â'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio. Eithr rhyw Samariad wrth ymdaith, a ddaeth atto ef, a phan ei gwelodd, a dosturiodd: ac a aeth atto, ac a rwymodd ei archollion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin, ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r llettŷ, ac a'i ymgeleddodd. A thrannoeth wrth fyned ymmaith, efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletteuwr, ac a ddywedodd wrtho, Cymmer ofal trosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn mi a'i talaf i ti. Pwy gan hynny o'r tri hyn yr ydwyt ti yn tybied ei fôd yn gymmydog i'r hwn a syrthiasai ym-mhilth y lladron? Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r [Page] Iesu am hynny a ddy wedodd wrtho, Dôs a gwna ditheu yr vn modd.
Y xiiij Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, dyro i ni anghwaneg o ffydd, gobaith, a chariad perffaith: ac fel y gallom gael yr hyn ydd wyt yn ei addo, gwna i ni garu yr hyn yr wyt yn ei orchymyn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
YR wyf yn dywedyd, Gal. 5.16. Rhodiwch yn yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y chawd. Canys y mae y cnawd yn chwennychu yn erbyn yr Yspryd. a'r Yspryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrth-wynebant ei gilydd, fel na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllyfioch. Ond os gan yr Yspryd i'ch arweinir, nid ydych tan y Ddeddf. Hefyd, amlwg yw gweithredoedd y cnawd, y rhai yw, tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwŷnfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresiau, cenfigennau, llofruddiaeth, meddwdod, cyfeddach; a chyffelyb i'r rhai hyn: am y rhai yr ŵyfi yn rhag-ddywedyd wrthych, megis y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw. Eithr ffrwyth yr Yspryd, yw cariad, llawenyd, tangneddyf, hir-ymaros, cymmwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest. Yn erbyn y cyfryw nid oes Ddeddf. A'r rhai sydd yn eiddo Christ, a groes-hoeliasant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwantau.
Yr Efengyl.
Luc 17.11 BV hefyd, ac efe yn myned i Ierusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilea. A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahan-gleifion, y rhai a safasant o hirbell. A hwy a godasant eu llêf, gan ddywedyd, Iesu feistr, trugarhâ wrthym. A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu fel yr oeddynt yn myned, fe a'i glânhawyd hwynt. Ac vno honynt, pan welodd ddarfod ei iachâu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef vchel. Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo: a Samariad oedd efe. A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Oni lânhawyd y dêg? ond pa le y mae 'r naw? Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd.
Y xv Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
CAdw, attolygwn i ti Arglwydd, dy Eglwys â'th dragywyddol drugaredd: a chan na dichon gwendid dyn hebot ti onid syrthio, cadw ni byth trwy dy borth, ac arwain ni at bob peth buddiol i'n hiechyd wriaeth, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Gal. 6.11. GWelwch cyhyd y llythyr a scrifennais attoch, â'm llaw fy hun. Cynnifer ac sy yn ewyllysio ymdeccâu yn y cnawd, y rhai hyn sy yn eich cymmell i'ch enwaedu, yn vnic fel nad erlidier hwy oblegid croes Christ. Canys nid yw y rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw y Ddeddf: ond ewyllysio y [Page] maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi. Eithr na atto Duw i mi ymffrostio, ond ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist: drwy yr hwn y croef-hoeliwyd y bŷd i mi, a minneu i'r bŷd. Canys yn Ghrist Iesu ni dichon Enwaediad ddim, na di-enwaediad, ond creadur newydd. A chynnifer ac a rodiant yn ôl y rheol hon, tangneddyf arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw. O hyn allan, na flined neb si: canys dwyn yr ŵyfi yn fy nghorph nodau 'r Arglwydd Iesu. Grâs ein Harglwydd Iesu Grist a fyddo gyd â'ch yspryd chwi, frodyr. Amen.
Yr Efengyl.
NI ddichon neb wasanaethu dau arglwydd, canys naill ai efe a gasâ y naill, Mat. 6.24. ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill. ac a esceulusa 'r llall. Ni ell wch wasanaethu Duw a Mammon. Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph, pa beth a wiscoch. Onid yw 'r bywyd yn fwy nâ'r bwyd, a'r corph yn fwy nâ'r dillad? Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i yscuboriau, ac y mae eich Câd nefol yn eu porthi hwy: onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy? A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faintioli? A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? ystyriwch lili'r maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt nac yn llafurio, nac yn nyddu; eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd Solomon yn ei holl ogoniant, fel vn o'r rhai hyn. Am hynny os dillada Duw felly lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i'r ffwrn: oni ddillada efe chwi yn hytrach o lawer, ô chwi o ychydig ffydd? Am hynny na ofelwch, gan [Page] ddywedyd, Beth a fwytawn, neu beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn? (Canys yr holl bethau hyn y mae y cenhedloedd yn eu ceisio) oblegid gŵyr eich Tâd nefol fôd arnoch eisieu yr holl bethau hyn. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg. Na ofelwch gan hynny tros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun, digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.
Y xvi. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd attolygwn i ti, fod i'th wastadol dosturi lanhau ac amddiffyn dy gynnulleidfa: a chan na all hi barhau mewn diogelwch heb dy fendigedic nodded, cadw hi byth gan dy borth a'th ddaioni, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Eph. 3.13. YR ŵyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i trosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi. O herwydd hyn yr ŵyf yn plygu fy ngliniau at Dâd ein Harglwydd Iesu Grist, o'r hwn yr henwir yr holl deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaiar; ar roddi o honaw ef i chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fôd wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dŷn oddi mewn: ar fod Christ yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; fel y galloch wedi eich gwreiddio, a'ch seilio mewn cariad, ymgyffred gyd â'r holl Sainct, beth yw 'r lled, a'r hŷd, a'r dyfnder, a'r vchder: a gwybod cariad Christ, yr hwn sydd vwch-law gŵybodaeth: fel i'ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra-rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn [Page] gweithredu ynom ni, iddo efe y byddo y gogoniant yn yr Eglwys trwy Ghrist Iesu, tros yr holl genhedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.
Yr Efengyl.
ABu drannoeth, Luc. 7.11. iddo ef fyned i ddinas a elwid Nain: a chyd ag ef yr aeth llawer o'i ddiscyblion, a thyrfa fawr. A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele vn marw a ddygid allan, yr hwn oedd vnig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi. A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac ŵyla. A phan ddaeth attynt, efe a gyffyrddodd â'r elor: (a'r rhai oedd yn ei dwyn a safasant) ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod. A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a ddechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddes i'w fam. Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith: ac ymwelodd Duw â'i bobl. A'r gair hwn a aeth allan am dano drwy holl Iudæa, a thrwy gwbl o'r wlâd oddi amgylch.
Y xvij. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd ni a attolygwn i ti, fod dy râd bob amser yn ein rhagflaenu, ac yn ein dilyn; a pheri o honot i ni yn wastad ymroddi i bob gweithred dda, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
DEisyf arnoch yr wyfi y carcharor yn yr Arglwydd, Eph. 4.1. ar rodio o honoch yn addas i'r alwedigaeth i'ch galwyd iddi: gyd â phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghŷd â hir-ymaros, gan oddef ei gilydd mewn cariad: gan fod yn ddyfal i gadw vndeb [Page] yr Yspryd, ynghwlwm tangneddyf. Vn corph sydd, ac vn yspryd, megis ac i'ch galwyd yn vn gobaith eich galwedigaeth. Vn Arglwydd, vn ffydd, vn bedydd: Vn Duw a Thâd oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
Yr Efengyl.
Luc. 14.1. BV hefyd, pan ddaeth efe i dŷ vn o bennaethiaid y Pharisæaid ar y Sabbath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wilied ef. Ac wele, 'r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o'r dropsi. A'r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreith-wŷr, a'r Pharisæaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbath? A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymmerodd atto, ac a'i iachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymmaith: ac a attebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Assyn neu ŷch pa vn o honoch a syrth i bwll, ac yn ebrwydd ni's tynn ef allan ar y dydd Sabbath? Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn. Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion, ddammeg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd vchaf: gan ddywedyd wrthynt, Pan i'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bôd vn anrhydeddusach nâ thi, wedi ei wahodd ganddo: ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntef, ddyfod a dywedyd wrthit, Dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf. Eithr pan i'th wahodder, dôs ac eistedd yn y lle isaf, fel pan ddelo 'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthit, Y cyfaill, eistedd yn vwch i fynu: yna y bydd i ti glôd yngŵydd y rhai a eisteddant gŷd â thi ar y bwrdd. Canys pôb vn a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.
Y xviii. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
O Arglwydd, ni a attolygwn i ti ganiadhau i'th bobl rad i ymogelyd rhac llwgr y cythrael, ac â phur galon a meddwl i'th ddilyn di yr vnic Dduw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
YR yd wyf yn diolch i'm Duw bob amser drosoch chwi, 1. Cor. 1.4 am y grâs Duw a rodded i chwi yn Ghrist Iesu: am eich bôd ymmhôb peth wedi eich cyfoethogi ynddo ef, mewn pôb ymadrodd a phob gwybodaeth: megis y cadarnhawyd tystiolaeth Christ ynoch. Fel nad ydych yn ôl mewn vn dawn, yn disgwil am ddatcuddiad ein Harglwydd Iesu Christ: yr hwn hefyd a'ch cadarnhâ chwi hyd y diwedd, yn ddiargyoedd, yn nŷdd ein Harglwydd Iesu Ghrist.
Yr Efengyl.
GWedi clywed o'r Pharisæaid ddarfod i'r Iesu ostegu y Saducæaid, Mat. 22.34 hwy a ymgynnullasant ynghyd i'r vn lle. Ac vn o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd iddo gan ei demtio, a dywedyd, Athro, pa vn yw 'r gorchymyn mawr yn y Gyfraith? A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl. Hwn yw 'r cyntaf, a'r gorchymmyn mawr. A'r ail sydd gyffelyb iddo, Car dy gymydog fel ti dy hun. Ar y ddau orchymmyn hyn, y mae 'r holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll. Ac wedi ymgasclu o'r Pharisæaid ynghŷd, yr Iesu a ofynnodd iddynt, gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedent wrtho, Mâb Dafydd. Dywedai yntef wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae [Page] Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd, gan ddywedyd, Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu-law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed ti? Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo? Ac ni allodd neb atteb gair iddo: ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ag ef mwyach.
Y xix. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
O Dduw, can na allwn ni hebot ti ryngu bodd i ti: caniadhâ fod i weithrediad dy drugaredd vnioni a llywiaw ein calonnau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Eph. 4.17. HYn yr wyf yn ei ddy wedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach, fel y mae y Cenhedloedd eraill yn rhodio yn oferedd eu meddwl: wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithro oddi wrth fuchedd Dduw, drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt trwy ddallineb eu calon: y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pôb aflendid yn vn-chwant. Eithr chwy-chwi nid felly y dyscasoch Grist: os bu i chwi ei glywed ef, ac os dyscwyd chwi ynddo, megis y mae'r gwirionedd yn yr Iesu: dodi o honoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hên ddŷn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus: ac ymadnewyddu yn yspryd eich meddwl, a gwisco y dŷn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. O herwydd pa ham, gan fwrw ymmaith gelwydd, dywedwch y gwir bob vn wrth ei gymmydog: oblegid aelodau ydym iw gilydd. Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich [Page] digofaint chwi: Ac na roddwch le i ddiafol. Yr hwn a ledratâodd, na ledratted mwyach, eithr yn hytrach cymmered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu i'r hwn y mae angen arno. Na ddeued vn ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi: ond y cyfryw vn ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro râs i'r gwrandawŷr. Ac na thristêwch lân Yspryd Duw, trwy 'r hwn i'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth. Tynner ymmaith oddi wrthych bôb chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd, gyd â phôb drygioni. A byddwch gymmwynasgar iw gilydd, yn dosturiol, yn maddeu iw gilydd, megys y maddeuodd Duw er mwyn Christ i chwithau.
Yr Efengyl.
YR Iesu a aeth i mewn i'r llong, Mat. 9.1. ac a aeth trosodd, ac a ddaeth i'w ddinas ei hun. Ac wele, hwy a ddygasant atto ŵr claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Iesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fâb, cymmer gyssur, maddeuwyd i ti dy bechodau. Ac wele, rhai o'r Scrifennyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, y mae hwn yn cablu. A phan welodd yr Iesu eu meddyliau, efe a ddywedodd, Pa ham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau? Canys pa vn hawsaf, ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, cyfod a rhodia? Eithr fel y gwypoch fôd awdurdod gan fâb y dŷn ar y ddaiar i faddeu pechodau (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys) cyfod, cymmer dy wely i fynu, a dôs i'th dŷ. Ac efe a gyfodes, ag a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun. A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesei gyfryw awdurdod i ddynion.
Yr xx. Sul gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
HOll-gyfoethog a thrugarog Dduw, o'th ragorol ddaioni cadw ni rhag pob peth a'n dryga, fel y byddom yn barod yn enaid a chorph i allu â chalonnau rhyddion gyflawni y cyfryw bethau ac a fynnit ti eu gwneuthur, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Eph. 5.15. GWelwch gan hynny, pa fodd y rhodioch yn ddiesceulus: nid fel annoethion, ond fel doethion; gan brynu 'r amser, oblegid y dyddiau sy ddrwg. Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd. Ac na fedd wer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd: gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau, ac odlau ysprydol: gan ganu a phyngcio yn eich calon i'r Arglwydd: gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tâd, am bôb peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist: gan ymddarostwng iw gilydd yn ofn Duw.
Yr Efengyl.
Mat. 22.2. YR Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i'w fâb: ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahodda [...]id i'r briodas, ac ni fynnent hwy ddyfod. Trachefn efe anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a wahodd wyd, Wele, paratoais fy nghinio, fy ychen a'm pascedigion a laddwyd, a phôb peth sydd barod, deuwch i'r briodas. A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, vn i'w faes, ac arall iw fasnach. A'r llaill a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hammharchasant, [Page] ac a'u lladdasant. A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd eu luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt. Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briodas sydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng. Ewch gan hynny i'r prif-ffyrdd, a chynnifer ac a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas. A'r gweision hynny a aethant allan i'r prif-ffyrdd, ac a gasclasant ynghŷd gynnifer oll ac a gawsant, drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion. A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddŷn heb wisc priodas am dano. Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma, heb fod gennit wisc priodas? Ac yntef a aeth yn fud. Yna y dywedodd y brenin wrth y gwenidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymmerwch ef ymmaith, a theflwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd. Canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
Yr xxj. Sûl gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
O Drugarog Arglwydd, ni a attolygwn i ti ganiadhau i'th ffyddlawn bobl faddeuant a thangneddyf, fel y glanhaer hwynt oddi-wrth eu holl bechodau, ac y gwasanaethont ti â meddwlheddychol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
FY mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, Ephe. 6.10. ac ynghadernid ei allu ef: Gwiscwch ollarfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn [Page] erbyn bydol-lywiawdŵyr tywyllwch y bŷd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion leoedd. Am hynny cymmerwch attoch holl-arfogaeth Duw, fell y galloch wrth-sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pôb peth, sefyll. Sefwch gan hynny wedi amgylch-wregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisco dwyfronneg cyfiawnder: a gwisco am eich traed escidiau paratôad Efengyl tangneddyf. Vwch law pôb dim, wedi cymmeryd tarian y ffydd, â'r hwn y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y fall. Cymmerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw: gan weddio bôb amser, â phôb rhyw weddi a deisyfiad yn yr yspryd, a bôd yn wiliadurus at hyn ymma, trwy bôb dyfal-bara, a deisyfiad tros yr holl Sainct: a throsof finneu, fel y rhodder i mi ymadrodd drwy agoryd fy ngenau yn hŷ, i yspysu dirgelwch yr Efengyl: tros yr hon yr ŵyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hŷ am dani, fel y perthyn i mi draethu.
Yr Efengyl.
Ioan. 4.46. YR oedd rhyw bendefig yr hwn yr oedd ei fab yn glâf yn Capernaum. Pan glybu hwn ddyfod o'r Iesu o Iudæa i Galilæa, efe a aeth atto ef, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ym-mron marw. Yna Iesu a ddywedodd wrtho ef, Oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch. Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i wared cyn marw fy machgen. Iesu a ddywedodd wrtho ef, Dôs ymmaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasei Iesu wrtho, ac efe a aeth ymmaith. Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a [Page] fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw. Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasei arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr y gadawodd y crŷd ef. Yna y gwybu 'r Tâd mai yr awr honno oedd, yn yr hon y dywedasei Iesu wrtho ef, Y mae dy fâb yn fyw. Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ. Yr ail arwydd ymma drachefn a wnaeth yr Iesu, wedi dyfod o Iudæa i Galilæa.
Y xxii. Sûl gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd, ni attolygwn i ti gadw dy deu-lu, yr Eglwys mewn duwiolder gwastadol, fel y bo trwy dy nodded ti, iddi gael ei gwaredu oddi-wrth bob gwrthwyneb, ac yn ddefosionol ymroi i'th wasanaethu di mewn gweithredoedd da, er gogoniant i'th Enw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
I'M Duw yr ydwyf yn diolch, Phil. 1.3. ym nihôb coffa am danoch, bôb amser ym mhôb deisyfiad o'r eiddof trosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisyfiad gyd â llawenydd: oblegid eich cymdeithas chwi yn yr Efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon: gan fôd yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist: megis y mae yn iawn i mi synied hyn am danoch oll, am eich bôd gennif yn fy nghalon, yn gymmaint a'ch bôd chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddiffyn, a chadarnhâd yr Efengyl, yn gyfrannogion â mi o râs. Canys Duw sydd dŷst i mi, mor hiraethus ŵyf am danoch oll yn ymyscaroedd Iesu Grist. A hyn yr ŵyf yn ei weddio, ar amlhau o'ch cariad chwi etto fwy-fwy, mewn gwybodaeth, a phôb synwyr: fel y profoch y [Page] pethau sy a gwahaniaeth rhyngddynt: fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddydd Christ: wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai sydd trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.
Yr Efengyl.
Mat. 18.21. PEtr a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuafiddo? ai hyd seith-waith? Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthit, hyd seith-waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain seith-waith. Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin, a fynnei gael cyfrif gan ei weision. A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddugpwyd atto vn a oedd yn ei ddylêd ef o ddeng-mil o dalentau. A chan nad oedd ganddo ddim i dalu, gorchymynnodd ei Arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddei, a thalu 'r ddylêd. A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. Ac Arglwydd y gwâs hwnnw a dosturiodd wrtho; ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd. Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd vn o'i gyd-weision, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llindagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat. Yna y syrthiodd ei gyd-wâs wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll. Ac ni's gwnai efe: ond myned, a'i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalei yr hyn oedd ddyledus. A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasei. Yna ei Arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd [Page] wrtho, Ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil â mi: ac oni ddylesit titheu drugarhan wrth dy gyd-wâs, megis y trugarhêais inneu wrthit ti? A'i Arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddes ef i'r poen-wŷr, hyd oni thalei yr hyn oll oedd ddyledus iddo. Ac felly y gwna fy Nhâd nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bôb vn i'w frawd eu camweddau.
Y xxiij. Sûl gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
DVw ein nodded a'n cadernid, yr hwn wyt bennadur pob dwywolder, gwrando yn ebrwydd ddefosionol weddiau dy Eglwys; a chaniadhâ i ni am yr hyn ydd ŷm yn ei erchi yn ffyddlawn, allu o honom ei gael yn gyflawn, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Byddwch ddilynwŷr i mi, frodyr, Phil. 3.17. ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio felly, megis yr ydym ni yn siampl i chwi. (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd, tan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Christ ydynt: diwedd y rhai yw destryw; duw y rhai yw eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd: y rhai sydd yn synied pethau daiarol.) Canys ein hymarweddiad ni sydd yn y nefoedd, o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist: yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler ef yn vn ffurf a'i gorph gogoneddus ef, yn ôl y nerthol weithrediad, trwy 'r hwn y dichon efe, îe ddarostwng pôb beth iddo ei hun.
Yr Efengyl.
Matt. 22.15. YNa 'r aeth y Pharisæaid ac a gymmerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn ei ymadrodd. A hwy a ddanfonasant atto eu discyblion ynghŷd â'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro, ni a wyddom dy fôd yn eir-wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyti yn edrych ar wyneb dynion. Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybieid? ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Caesar, ai nid yw? Ond yr Iesu a wybu eu drygioni hwy, ac a ddywedodd, Pa ham yr ydych yn fy nhemptio i, chwi ragrith-wŷr? Dangoswch i mi arian y deyrn-ged. A hwy a ddygasant atto geiniog. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph? Dywedasant wrtho, Eiddo Caesar. Yna y dywedodd wrthynt. Telwch chwithau yr eiddo Caesar i Caesar, a'r eiddo Duw i Dduw. A phan glywsant hwy hyn, rhyfeddu a wnaethant, a'i adel ef a myned ymmaith.
Y xxiiij. Sûl gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
ARglwydd, attolygwn i ti ollwng dy bobl oddiwrth eu camweddau, fel y byddom trwy dy ddawnus drugaredd ryddion oddi-wrth rwymedigaethau ein holl bechodau, y rhai drwy ein cnawdol freuolder a wnaethom: Caniadhâ hyn er cariad ar Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
YR ydym yn diolch i Dduw a Thâd ein Arglwydd Iesu Grist, Coloss. 1.3. gan weddio trosoch chwi yn wastadol; er pan glywsom am eich ffydd yn Ghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tu ac at yr holl Sainct; er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yngair gwirionedd yr Efengyl, yr hon sydd wedi dyfod attoch chwi, megis ac y mae yn yr holl fŷd: ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ac yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch râs Duw mewn gwirionedd. Megis ac y dyscasoch gan Epaphras ein hanwyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist: yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd. O herwydd hyn, ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddio trosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef, ym mhôb doethineb a deall ysprydol: fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd, i bôb rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhôb gweithred dda, a chynnyddu yngwybodaeth am Dduw: wedi eich nerthu â phob nerth, yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bôb dioddefgarwch a hîr-ymaros, gyd â llawenydd: gan ddiolch i'r Tâd, yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymm wys i gael rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni.
Yr Efengyl.
Matt. 9.18. TRa oedd yr Iesu yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon: eithr tyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi. A'r Iesu a godes, ac a'i canlynodd ef, a'i ddiscyblion. (Ac wele, gwraig y buasei gwaed-lif arni ddeuddeng mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef. Canys hi a ddywedasei ynddi ei hun, Os câf yn vnig gyffwrdd â'i wisc ef, iach fyddaf. Yna 'r Iesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch bydd gyssurus; dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.) A phan ddaeth yr Iesu i dŷ 'r pennaeth; a gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu, Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch: canys ni bu farw 'r llangces, ond cyscu y mae hi. A hwy a'i gwatwarafant ef. Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi: a'r llangces a gyfodes. A'r gair o hyn a aeth tros yr holl wlâd honno.
Y xxv. Sûl gwedi 'r Drindod.
Y Colect.
DEffro Arglwydd ni a attolygwn i ti, ewyllyssioō dy ffyddloniaid, fel y gallont drwy ddwyn aml ffrwyth gweithredoedd da, gael gennyt ti yn ehelaeth eu gobrwyo, trwy Iesu Grist ein Harwlgydd.
Yr Epistol.
Iere. 23.5. WEle y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Ddafydd flaguryn cyfiawn, a brenin a deyrnasa, ac a lwydda, ac a wna farn, a chyfiawnder ar y ddaiar. Yn ei ddyddiau ef yr [Page] achubir Iuda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD ein cyfiawnder. Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pryd na ddywedant mwyach, Byw yw'r Arglwydd, yr hwn a ddûg feibion Israel i fynu o wlâd yr Aipht: eithr, Byw yw'r Arglwydd, yr hwn a ddûg i fynu, ac a dywysodd hâd tŷ Israel o dîr y gogledd, ac o bôb gwlad lle y gyrraswn i hwynt: a hwy a gânt arhos yn eu gwlad eu hun.
Yr Efengyl.
YNa 'r Iesu a dderchafodd ei lygaid, Io. 6.5. ac a welodd fôd tyrfa fawr yn dyfod atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta? (A hyn a ddywedodd efe iw bron ef: canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.) Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb vn o honynt gymmeryd ychydig. Vn o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Andreas brawd Simon Petr, Y mae ymma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer? A'r Iesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac yr oedd glaswellt lawer yn y fan honno. Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mîl o nifer. A'r Iesu a gymmerth y torthau, ac wedi iddo ddiolch, efe a'u rhannodd i'r discyblion, a'r discyblion i'r rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pyscod, cymmaint ac a fynnasant. Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Cesclwch y briw-fwyd gweddill, fel na choller dim. Am hynny hwy a'i casclasant, ac a lanwasant ddeuddeg bascedaid o'r briwfwyd, [Page] [...] [Page] [...] [Page] o'r pum torth haidd, a weddillasei gan y rhai a fwyttasent. Yna y dynion, pan welsant yr arwydd a wnaethei'r Iesu, a ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Prophwyd oedd ar ddyfod i'r bŷd.
Os bydd mwy o Suliau cyn Sul yr Adfent, i gyflawni hynny y cymmerir gwasanaeth rhai o'r Suliau a adawyd heibio rhwng yr Ystwyll, a Septuagesima.
Sanct Andreas Apostol.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist gyfryw râd i'th fendigedig Apostol S. Andreas, fel yr vfyddhaodd efe yn ebrwydd i alwad dy Fâb Iesu Grist, ac y dilynodd ef yn ddirwystr: Caniadhâ i ni oll, wedi ein galw gan dy air bendigedic, yn frau ymroddi o honom yn vfydd i ddilyn dy sanctaidd orchymynion, trwy yr vn-rhyw Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
OS cyffessi â'th enau, yr Arglwydd Iesu, a chredu yn dy galon, Rom. 10.9. i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi. Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffeffir i iechydwriaeth. Oblegid y mae'r Scrythur yn dywedyd, Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir. Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groeg-wr: oblegid yr vn Arglwydd ar bawb, sydd oludog i bawb ac sydd yn galw arno. Canys pwy bynnac a alwo ar Enw yr Arglwydd, cadwedig fydd. Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant heb bregeth-wr? A pha fodd y pregethant, [Page] onis danfonir hwynt? megis y mae yn scrifennedig, Mor brydferth yw traed y rhai sy yn efangylu tangneddyf, y rhai sydd yn efangylu pethau daionus. Eithr nid vfyddhasant hwy oll i'r Efengyl; canys y mae Esaias yn dywedyd; O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw. Eithr meddaf; oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaiar yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd. Eithr meddaf; Oni wybu Israel? Yn gyntaf y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wŷn-fydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus i'ch digiaf chwi. Eithr y mae Esaias yn ymhŷf-hau ac yn dywedyd; Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf. Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd, Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufydd, ac yn gwrthddy wedyd.
Yr Efengyl.
A'R Iesu yn rhodio wrth fôr Galilæa, Matt. 4.18. eie a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r mor; (canys pyscod-wŷr oeddynt.) Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dowch ar fy ôl i, ac mi a'ch gwnaf yn byscod-wŷr dynion. A hwy yn y fan, gan adel y rhwydau, a'i canlynasant ef. Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Iaco fâb Zebedaeus ac Ioan ei frawd, mewn llong gydâ Zebedaeus eu tâd, yn cyweirio eu rhwydau: ac a'u galwodd hwy. Hwythau yn ebrwydd gan adel y llong a'u tâd, a'i canlynasant ef.
S. Thomas Apostol.
Y Colect.
HOll-alluog a byth-fywiol Dduw yr hwn, er mwy o sicrhawch y ffydd, a oddefaist i'th sanctaidd Apostol Thomas ammau cyfodiad dy Fâb: Caniadhâ i ni cyn berffeithied, ac mor gwbl ddiammau gredu yn dy Fâb Iesu Grist, fel na cherydder ein ffydd yn dy olwgbyth: gwrando arnom, ô Arglwydd, drwy yr vn-rhyw Iesu Grist, i ba vn gyd â thi a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd.
Yr Epistol.
Eph. 2.19. WEithian nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gydddinasyddion â'r Sainct, ac yn deulu Duw, Wedi eich goruwch-adeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben-congl-faen: yn yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei chymmwys gydgyssylltu yn cynnyddu yn Deml sanctaidd yn yr Arglwydd: yn yr hwn i'ch cŷd-adeiladwyd chwithau, yn breswylfod i Dduw trwy yr Yspryd.
Yr Efengyl.
Io. 20.24. THomas, vn o'r deuddeg, yr hwn a a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt, pan ddaeth yr Iesu. Y discyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntef a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chedaf fi. Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Yna yr [Page] Iesu a ddaeth a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangneddyf i chwi. Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, ond credadyn. A Thomas a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant. A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngŵydd ei ddiscyblion, y rhai nid ydynt scrifennedig yn y llyfr hwn. Eithr y pethau hyn a scrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Christ, Mab Duw, a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.
Troad Sanct Paul.
Y Colect.
DVw, yr hwn a ddyscaist yr holl fyd drwy bregeth dy wynfydedic Apostol S. Paul: Ni a attolygwn i ti ganiadhau i ni, (i'r rhai y mae ei ryfedd ymchweliad ef mewn coffa) allu dilyn a chyflawni dy fendigedic ddysceidiaeth, yr hon a ddyscodd efe, trwy Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
A Saul etto yn chwythu bygythiau a chelanedd, Act. 9.1. yn erbyn discyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Archoffeiriad, ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y Synagogau, fel os cai efe nêb o'r ffordd hon, na gwŷr, na gwragedd, y gallei efe eu dwyn hwy yn rhwym i Ierusalem. Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfod yn agos i Ddamascus, ac yn ddi-symmwth llewychodd o'i amgylch oleuni o'r nef. Ac efe a syrthiodd ar y ddaiar, ac a glybu lais yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid i. Yntef a ddywedodd, [Page] pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd; Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Caled yw i ti wingo yn erbyn y swmbylau. Ynteu gan grynu, ac a braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs i'r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur. A'r gwŷr oedd yn cyd-teithio ag ef, a safasant yn fûd, gan glywed y llais, ac heb weled nêb. A Saul a gyfododd oddi ar y ddaiar: a phan agorwyd ei lygaid, ni welei efe nêb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dygasant ef i mewn i Ddamascus. Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta, nac yfed. Ac yr oedd rhyw ddiscybl yn Damascus, a'i enw Ananias. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth; Ananias. Yntef a ddywedodd, wele fi, Arglwydd. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs i'r heol a elwir Vniawn, a chais yn nhŷ Iudas, vn a'i enw Saul, o Tharsus: canys wele, y mae yn gweddio. Ac efe a welodd mewn gweledigaeth, ŵr a'i enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelei eilwaith. Yna yr attebodd Ananias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th Sainct di yn Ierusalem: ac ymma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr Arch-offeiriaid, i rwymo pawb sy'n galw ar dy Enw di. A dywedodd yr Arglwydd wrtho: dôs ymmaith, canys y mae hwn yn llestr etholedic i mi, i ddwyn fy enw ger bron cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel. Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef, er mwyn fy Enw i. Ac Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd [Page] a'm hanfonodd i, (Iesu'r hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost) fel y gwelych drachefn, ac i'th lanwer â'r Yspryd glân. Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef, megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd. Ac wedi iddo gymmeryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyd â'r discyblion oedd yn Damascus, dalm o ddyddiau. Ac yn ebrwydd yn y Synagogau, efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mâb Duw. A phawb a'r a'i clybu ef, a synnasant ac a ddywedasant, Ond hwn yw 'r vn oedd yn difetha yn Ierusalem, y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn, fel y dygei hwynt yn rhwym at yr Arch-offeiriaid? Eithr Saul a gynnyddodd fwy-fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan gadarnhau mai hwn yw 'r Christ.
Yr Efengyl.
PEtr a attebodd, Mat. 19.27. ac a ddywedodd wrth yr Iesu, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganlynasom di: beth gan hynny a fydd i ni? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr meddaf i chwi, y cewch chwi y rhai a'm canlynasoch i, yn yr adenedigaeth, pan eisteddo Mab y dŷn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel. A phôb vn a'r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe. Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf: a'r rhai olaf yn flaenaf.
Puredigaeth y Sanctes Mair forwyn.
Y Colect.
HOll-alluog a thragy wyddol Dduw, ni a attolygwn yn vfyddol i'th fawredd, megis ag ar gyfenw i heddyw y presentiwyd i'r deml dy vniganedig fâb yn sylwedd ein cnawd ni: felly Caniadhâ ein presentio i ti â meddyliau pur-lan, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Yr vn ac a osodwyd tros y Sûl.
Yr Efengyl.
Luc. 2.22. WEdi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn ôl deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Ierusalem, iw gyflwyno i'r Arglwydd, (Fel yr scrifennwyd yn neddf yr Arglwydd, Pob gwr-ryw cyntaf-anedig, a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd.) Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywetpwyd yn neddf yr Arglwydd, pâr o durturod, neu ddau gyw colommen. Ac wele, yr oedd gŵr yn Ierusalem, a'i enw Simeon, a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Yspryd glân oedd arno. Ac yr oedd wedi ei yspysu iddo gan yr Yspryd glân, na welai efe angeu, cyn iddo weled Christ yr Arglwydd. Ac efe a ddaeth trwy 'r Yspryd i'r Deml.
Sanct Matthias.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn yn lle Iudas fradwr a ddetholaist dy ffydd-lawn wâs Matthias i fod o nifer dy ddeu-ddec Apostol: Caniadhâ fod dy Eglwys yn gadwedic oddi-wrth Apostolion ffeilsion, a bod ei threfnu a'i llywodraethu gan wîr a ffydd-lawn fugeiliaid, trwy Iesu Grist in Harglwydd.
Yr Epistol.
YN y dyddiau hynny Petr a gyfododd i fynu ynghanol y discyblion, Act. 1.15. ac a ddywedodd, (a nifer yr henwau yn yr vn man oedd ynghylch vgain a chant) Ha-wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr Scrythur ymma a ragddywedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd, am Iudas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu: canys efe a gyfrifwyd gyd â ni, ac a gawset ran o'r weinidogaeth hon. A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd, ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol: a'i holl ymyscaroedd ef a dywalltwyd allan. A bu hyspys hyn i holl bresswyl-wŷr Ierusalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, maes y gwaed. Canys scrifennwyd yn llyfr y Psalmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na bydded a drigo ynddi: a chymmered arall ei escobaeth ef. Am hynny mae yn rhaid, o'r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni, gan ddechreu o fedydd Ioan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddi wrthym ni; bôd vn o'r rhai hyn gyd â ni, yn dŷst o'i adgyfodiad ef. A hwy a osodasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a henwid Barsabas, ac a gyfenwid Iustus, a Matthias: a chan weddio, hwy a ddywedasant, Tydi Arglwydd, yr hwn a ŵyddost galonnau pawb, dangos pa vn o'r ddau hyn a etholaist, i dderbyn rhan o'r weinidogaeth hon, a'r Apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Iudas, i fyned iw le ei hun. A hwy a fwriasant eu coel-brennau hwynt: ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gyfrifwyd gyd a'r vn Apostol ar ddeg.
Yr Efengyl.
Matth. 11 25. YR amser hynny yr attebodd yr Iesu, ac y dywedodd, i ti yr ydwyf yn diolch, o Dâd, Arglwydd nef a daiar, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datcuddio o honot i rai bychain. Ie o Dâd, canys felly y rhyngodd bodd i ti. Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac nid edwyn neb y Mab, ond y Tâd: ac nid edwyn neb y Tâd, ond y Mâb, a'r hwn yr ewyllysio y Mâb ei ddatcuddio iddo. Deuwch attafi bawb ac sydd yn flinderog, ac yn llwythog; ac mi a esmwythaf arnoch. Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphy wystra i'ch eneidiau. Canys fy iau sydd esmwyth, a'm baich sydd yscafn.
Cyfarchiad Mair Wyryf.
Y Colect.
NI a attolygwn i ti ô Arglwydd, dywallt dy râd yn ein calonnau, fel, megis ac y gwyddom gnawdoliaeth Crist dy Fab trwy gennadwri yr Angel, felly trwy ei grôg a'i ddioddefaint, bod i ni gael ein dwyn i ogoniāt ei adgyfodiad ef, trwy yr vn-rhyw Iesu &c.
Yr Epistol.
Esa. 7.10. YR Arglwydd a chwanegodd lefaru wrth Ahaz, gan ddywedyd, Gofyn it arwydd gan yr Arglwydd dy Dduw: gofyn o'r dyfnder, neu o'r vchelder oddi-arnodd. Ond Ahaz a ddywedodd, ni ofynnaf, ac ni themptiaf yr Arglwydd. A dywedodd yntef, gwrandewch yr a wrhon, tŷ Ddafydd. ai bychan gennwch flino dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? Am hynny yr Arglwydd ei hun a ddyry i chwi arwydd: Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fâb, ac a eilw ei enw ef, Immanuel. Ymenyn a mêl a fwyty efe, fel y medro ym wrthod â'r drwg, ac ethol y da.
Yr Efangyl.
AC yn y chweched mis, Luc 1.26. yr anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilæa, a'i henw Nazareth, at forwyn wedi ei dyweddio i wr a'i enw Ioseph, o dŷ Ddafydd: ac enw'r forwyn oedd Mair. A'r Angel a ddaeth i mewn atti, ac a dywedodd, Hanffych well, yr hon a gefaist râs, yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ym-mhlith gwragedd. A hitheu pan ei gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef: a meddylio a wnaeth, pa fath gyfarch oedd hwn. A dywedodd yr Angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafor gyd â Duw. Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a escori ar fab, ac a elwi ei Enw ef Iesu. Hwn fydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei Dâd Dafydd. Ac efe a deyrnasa ar dŷ Iacob yn dragy wydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd. A Mair a ddywedodd wrth yr Angel. Pa fodd y bydd hyn, gan nad adwaen i ŵr? A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a nerth y Goruchaf a'th gyscoda di: am hynny hefyd, y peth sanctaidd a aner o honoti, a elwir yn Fab Duw. Ac wele, Elisabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw 'r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn am-mhlantadwy. Canys gyd â Duw ni bydd dim yn ammhossibl. A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes yr Arglwydd, bydded i mi yn ôl dy air di. A'r Angel a aeth ymmaith oddi wrthi hi.
Dydd S. Marc yr Efangyl-wr.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a ddyscaist dy sanctaidd Eglwys â nefol athrawiaeth dy Efangyl-wr S. Marc, dôd ti i ni râd, na byddom fel plant, ymchweledic gan bob a wel o wag ddysceidiaeth: eithr [Page] bod i ni yn ffyrf ymgadarnhâu y ngwirionedd dy lân Efangyl, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Eph. 4.7. I Bob vn o honom y rhoed grâs, yn ol mesur dawn Christ. O herwydd pa ham, y mae efe yn dywedyd, Pan dderchafodd i'r vchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion i ddynion. (Eithr, Efe a dderchafodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddescyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaiar? Yr hwn a ddescynnodd yw yr hwn hefyd a escynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnei bob peth.) Ac efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon: i berffeithio y Sainct, i waith y weinidogaeth, i adeilad corph Christ: hyd oni ymgyfarfyddom oll yn vndeb a gŵybodaeth Mâb Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Christ. Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwmman ac yn ein cylch-arwain â phob a wel dysceidiaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwysdra, i gynllwyn i dwyllo: eithr gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu o honom iddo ef ymmhob peth, yr hwn yw 'r pen, sef Christ: o'r hwn y mae yr holl gorph wedi ei gyd-ymgynnull a'i gydgyssylltu, trwy bob cymmal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corph, iw adeilad ei hun mewn cariad.
Yr Efengyl.
Ioan 15.1 MYfi yw y wîr win-wydden, a'm Tad yw 'r llafurwr. Pôb cangen ynofi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phôb vn a ddygo ffrwyth, y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo [Page] fwy o ffrwyth. Yr awron yr ydych chwi 'n lân, trwy'r gair a leferais i wrthych. Arhoswch ynofi, a mi ynoch chwi: megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y win-wydden: felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynofi. Myfi yw 'r winwydden, chwithau yw 'r canghennau: yr hwn sydd yn aros ynofi, a minneu ynddo yntef, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebofi ni ellwch chwi wneuthur dim. Onid erys vn ynofi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd, ac y maent yn eu casclu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a loscir. Os arhoswch ynofi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac fe a fydd i chwi. Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer; a discyblion fyddwch i mi. Fel y carodd y Tâd fi, felly y cerais inneu chwithau: arhoswch yn fy nghariad i. Os cedwch fy ngorchymynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad: fel y ced wais i orchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosei fy llawenydd ynoch, ac y byddei eich llawenydd yn gyflawn.
S. Philip ac Iaco Apostolion.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn dy wîr adnabod yw bywyd tragywyddol: Caniadhâ i ni berffaith adnabod dy Fâb Iesu Grist i fod yn ffordd, yn wirionedd, ac yn fywyd, megis y dyscaist i S. Philip a'r Apostolion eraill: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
IAco, gwasanaethwr Duw, Iaco. 1.1. a'r Arglwydd Iesu Grist, at y deuddeg-llwyth sydd ar wascar, annerch. Cyfrifwch yn bob llawenydd, [Page] fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau: gan ŵybod fôd profiad eich ffydd chwi yn gweithredu ammynedd, Ond caffed ammynedd ei pherffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddeffygio mewn dim. O bydd ar neb o honoch eisieu doethineb, gofynned gan Dduw yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod: a hi a roddir iddo ef. Eithr gofynned mewn ffydd, heb ammeu dim. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt. Canys na feddylied y dŷn hwnnw, y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd. Gŵr dau-ddyblyg ei feddwl, sydd anwastad yn ei holl ffyrdd. Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth: a'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glâs-welltyn y diflanna efe. Canys cyfododd yr haul gyd â gwres, a gwywodd y glâs-welltyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei brŷd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna y cyfoethog yn ei ffyrdd. Gwyn ei fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhai a'i carant ef.
Yr Efengyl.
Io. 14.1. A'R Iesu a ddywedodd wrth ei ddiscyblon, Na thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finneu hefyd. Yn nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoi lle i chwi. Ac os myfi a âf, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymmeraf chwi attaf fy hun: fel lle yr wyfi, y byddoch chwithau hefyd. Ac i ba le yr wyfi yn myned, chwi a ŵyddoch, a'r [Page] ffordd a ŵyddoch. Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni ŵyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn ŵybod y ffordd? Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw 'r ffordd, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tâd, ond trwof fi. Ped adnabasech fi, fy Nhad hefyd a adnabasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef. Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid adnabuost fi, Philip? y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tâd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad? Ond wyt ti yn credu fy môd i yn y Tâd, a'r Tad ynof finneu? y geiriau yr wyfi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd. Credwch fi, fy môd i yn y Tad, a'r Tâd ynof finneu: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithredoedd eu hun. Yn wir, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynof, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur, ynteu hefyd a'u gwna, a mwy nâ'r rhai hyn a wna efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhâd. A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf: fel y gogonedder y Tâd yn y Mâb. Os gofynnwch ddim yn fy enw i, mi a'i gwnaf.
S. Barnabas Apostol.
Y Colect.
HOll-alluog Arglwydd, yr hwn a wiscaist dy sanctaidd Apostol Barnabas â rhagorawl roddion dy Yspryd glân, Na âd i ni fod yn ddeffygiol o'th amryw ddoniau, nac etto o râd iw harfer hwynt bob amser i'th anrhydedd di a'th ogoniant: trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Act. 11.22. A'R gair a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Ierusalem, am y pethau hyn. A hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Antiochia. Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon i lynu wrth yr Arglwydd. Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o'r Yspryd glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd. Yna yr aeth Barnabas i Tharsus, i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia. A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr Eglwys, a dyscu pobl lawer, a bod galw y discyblion yn Gristianogion yn gyntaf yn Antiochia. Ac yn y dyddiau hynny, daeth prophwydi o Ierusalem i wared i Antiochia. Ac vn o honynt, a'i Enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd drwy yr Yspryd, y byddei newyn mawr dros yr holl fŷd; yr hwn hefyd a fu tan Claudius Caesar. Yna 'r discyblion, bob vn yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Iudæa. Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr Henuriaid, drwy law Barnabas a Saul.
Yr Efengyl.
Io. 15.12. DYmma fy ngorchymmyn i, ar i chwi garu ei gilydd, fel y cerais i chwi. Cariad mwy nâ hwn nid oes gan neb, sef bôd i vn roi ei einioes dros ei gyfeillion. Chwy-chwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchy mmyn i chwi. Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision: oblegid y gwâs ni ŵyr beth y mae ei Arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion, oblegid pôb peth a'r a glywais [Page] gan fy Nhad, a yspysais i chwi. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhosei eich ffrwyth, megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
S. Ioan Fedyddiwr.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, o ragluniaeth pa vn y ganed yn rhyfedd dy wâs Ioan Fedyddiwr, ac yr anfonwyd ef i arlwyo ffordd dy Fâb Iesu Grist ein Iachawdur, gan bregethu edifeirwch: gwna i ni felly ddilyn ei ddysceidiaeth a'i sanctaidd fywyd ef, fel y gallom wîr edifarhau yn ôl ei bregeth ef, ac ar ôl ei esampl yn wastadol draethu y gwirionedd, yn hyderus geryddu camwedd, ac yn vfydd ddioddef er mwyn y gwirionedd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
CYssurwch, cyssurwch fy mhobl, Esa. 40.1. medd eich Duw. Dywedwch wrth fodd calon Ierusalem, llefwch wrthi hi gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd, o herwydd derbyniodd o law 'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau. Llef vn yn llefain yn yr anialwch, parotowch ffordd yr Arglwydd, vniawnwch lawybr ein Duw ni yn y diffaethwch. Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir, y gŵyr a wneir yn vniawn, a'r anwastad yn wastadedd. A gogoniant yr Arglwydd a ddatcuddir, a phob cnawd ynghyd a'i gwel: canys genau 'r Arglwydd a lefarodd hyn. Y llef a ddywedodd wrth y Prophwyd, gwaedda, yntef a ddywedodd, beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidawgrwydd fel blodeuyn y maes. Gŵywa y gwelltyn, a [Page] syrth y blodeuyn, canys Yspryd yr Arglwydd a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw 'r bobl. Gŵywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn, ond gair ein Duw ni a saif byth. Dring rhagot yr Efengyles Sion, i fynydd vchel, dyrchafa dy lêf trwy nerth, ô Efangyles Ierusalem: dyrchafa, nac ofna: dywet wrth ddinasoedd Iuda, wele eich Duw chwi. Wele 'r Arglwydd Dduw a ddaw yn erbyn y cadarn, a'i fraich a lywodraetha trosto: wele ei obrwy gŷd ag ef, a'i waith o'i flaen. Fel bugail y portha efe ei braidd, â'i fraich y cascl ei ŵyn, ac a'i dŵg yn ei fonwes, ac a goledda y mammogiaid.
Yr Efengyl.
Luc. 1.57. A Chyflawnwyd tymp Elisabeth i escor, a hi a escorodd ar fab. A'i chymydogion a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arni: a hwy a gydlawenychasant â hi. A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu ar y dŷn bach, ac a'i galwasant ef Zacharias, ar ôl enw ei dâd. A'i fam a attebodd ac a ddywedodd, Nid felly: eithr Ioan y gelwir ef. Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn. A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef, pa fodd y mynnei efe ei henwi ef. Yntef a alwodd am argraph-lech, ac a scrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll. Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw. A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Iudæa y cyhoeddwyd y geiriau hyn oll. A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonnau, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw 'r Arglwydd oedd gyd ag ef. A'i dâd ef Zacharias a gyflawnwyd o'r Yspryd glân, ac a brophwydodd, gan ddywedyd, Bendigedig [Page] fyddo Arglwydd Dduw Israel, canys efe a ymwelodd ac a wnaeth ymwared i'w bobl. Ac efe a dderchafodd gorn iechydwriaeth i ni, yn-nhŷ Ddafydd ei wasanaethŵr: megis y llefarodd trwy enau ei sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o ddechreuad y bŷd, fel y byddai i ni ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion, i gwplau y drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfammod: y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni, gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasanaethu ef yn ddiofn, mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl ddyddiau ein bywyd. A thitheu fachgennyn, a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef; i roddi gwyhodaeth iechydwriaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau, o herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r vchelder, i lewyrchu i'r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, i gyfeirio ein traed i ffordd tangneddyf. A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd ef i'r Israel.
S. Petr Apostol.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy Fâb Iesu Grist a roddaist i'th Apostol S. Petr laweroedd o ddoniau arbennig, ac a orchymynnaist iddo o ddifrif borthi dy ddefaid: gwna, ni a attolygwn i ti, i'r holl Escobion, a'r Bugeiliaid, yn ddyfal bregethu dy sanctaidd air, ac i'r bobl yn vfyddgar ddilyn yr vnrhyw, fel y byddo iddynt hwy allu derbyn coron y gogoniant tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
Act. 12.1. YNghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys. Ac efe a laddodd Iacob brawd Ioan â'r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd. (A dyddiau y bara croyw ydoedd hi.) Yr hwn wedi ei ddal a roddes efe yngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o fil-wŷr, i'w gadw, gan ewyllysio a'r ôl y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl. Felly Petr a gadwyd yn y carchar, eithr gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr Eglwys at Dduw drosto ef. A phan oedd Herod a'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nôs honno yr oedd Petr yn cyscu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar. Ac wele Angel yr Arglwydd a safodd ger llaw, a goleuni a ddiscleiriodd yn y carchar, ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd; Cyfod yn fuan: a'i gadwyni ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo. A dywedodd yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau, ac felly y gwnaeth efe. Yna y dywedodd, bwrw dy wisg am danat, a chanlyn fi. Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef, ac ni's gwybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr Angel, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. Ac wedi myned o honynt heb law y gyntaf a'r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth hayarn, yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd vn heol, ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymmaith oddi wrtho. A Phetr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei Angel i'm gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwiliad pobl yr Iddewon.
Yr Efengyl.
WEdi dyfod yr Iesu i dueddau Caesarea Philippi, Mat. 16.13. efe a ofynnodd iw ddiscyblion, gan ddywedyd, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy môd i, Mâb y dŷn? A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddi-ŵr, a rhai mai Elias, ac eraill mai Ieremias, neu vn o'r prophwydi. Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyfi? A Simon Petr a attebodd, ac a ddywedodd, Ti yw Christ, Mâb y Duw byw. A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fŷd ti Simon mâb Iona: canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd hyn i ti, ond fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac yr ydwyf finneu yn dywedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys: a phyrth vffern ni's gorchfygant hi. A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaiar, a fydd rhwymedig yn y nefoedd: a pha beth bynnag a ryddhaech ar y ddaiar, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
S. Iaco Apostol.
Y Colect.
CAniatâ, ô drugarog Dduw, megis y bu i'th wynfydedic Apostol Iaco, gan ymado â'i Dâd, a chwbl ar oedd eiddo, yn ebrwydd vfyddhau i alwad dy Fâb Iesu Grist, a'i ddilyn ef: felly i ninnau gan ymwrthod â holl fydol ac â chnawdol ewyllyssion, yn dragywydd fod yn barod i ddilyn dy orchymynion, trwy Iesu Grist ein Harglŵydd.
Yr Epistol.
YN y dyddiau hynny, Act. 11.27 daeth prophwydi o Ierusalem i wared i Antiochia. Ac vn o honynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd [Page] drwy yr Yspryd, y byddei newyn mawr dros yr holl fyd; yr hwn hefyd a fu tan Claudius Caesar. Yna 'r discyblion, bob vn yn ôl ei allu, a fwriadasant anfon cymmorth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Iudæa. Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr Henuriaid, drwy law Barnabas a Saul. Ac ynghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin ei ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys. Ac efe a laddodd Iaco brawd Ioan â'r cleddyf. A phan welodd fod yn dda gan yr Iddewon hynny, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd.
Yr Efengyl.
Mat. 20.20. YNa y daeth mam meibion Zebedaeus atto, gyd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo. Ac efe a ddywedodd wrthi, Pa beth a fynni? Dywedodd hitheu wrtho, Dywed am gael o'm dau fâb hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law asswy, yn dy frenhiniaeth. A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn. A ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyfi ar yfed o honaw, a'ch bedyddio â'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'm cwppan, ac i'ch bedyddir â'r bedydd i'm bedyddir ag ef: eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid eiddof ei roddi, ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhâd. A phan glybu y dêg hyn, hwy a sorrasant wrth y ddau frodyr. A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fôd pennaethiaid y cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra-awdurdodi arnynt hwy. Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fôd yn fawr yn eich plith chwi, bydded yn wenidog [Page] i chwi. A phwy bynnag a fynno fôd yn bennaf yn eich plith, bydded yn wâs i chwi. Megis na ddaeth Mab y dŷn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn brid-werth dros lawer.
S. Bartholomeus Apostol.
Y Colect.
HOll-alluog a byth-barhaus Dduw, yr hwn a roddaist râd i'th Apostol Bartholomeus, i wir gredu, ac i bregethu dy air, Nyni a attolygwn i ti ganiadhau i'th Eglwys gwbl garu yr hyn a gredodd efe, a phregethu yr hyn a ddyscwyd ganddo, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
TRwy ddwylaw yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer ymmhlith y bobl, Act. 5.12. (ac yr oeddynt oll yn gyttûn ym-mhorth Solomon. Eithr ni feiddiei neb o'r lleill ymgyssylltu â hwynt, ond y bobl oedd yn eu mawrhau. A chwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd.) Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hŷd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cyscodei cyscod Petr, pan ddelei heibio, rai o honynt. A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd; o'r dinasoedd o amgylch Ierusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll.
Yr Efengyl.
ABu ymryson yn eu plith, Luc. 22.24. pwy o honynt a dybygid ei fôd yn fwyaf. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt: a'r rhai sy mewn awdurdod [Page] arnynt, a elwir yn bendefigion. Ond na fyddwch chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf, a'r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini. Canys pa vn fwyaf, ai'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc, fel vn yn gwasanaethu. A chwy-chwi yw y rhai a arhosasoch gŷd â mi yn fy mhrofedigaethau. Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minneu, fel y bwyttaoch ac yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch ar orseddfeydd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel.
S. Matthew Apostol.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy wynfydedic Fâb a elwaist Fathew o'r doll-fa, i fod yn Apostol, ac yn Efangylwr: Caniadhâ i ni râd i ymwrthod â holl gybyddus ddeisyfion, ac â thra-chwantus serch golud bydol, ac i ddilyn dy ddywededic Fab Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thî a'r Yspryd glân yn oes oesoedd. Amen.
Yr Epistol.
2. Cor. 4.1 GAn fôd i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu. Eithr ni a ymwrthodasom â chuddiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrîn gair Duw yn dwyllodrus; eithr trwy eglurhâd y gwirionedd, yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dynion, yngolwg Duw. Ac os cuddiedig yw ein Efengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig. Yn y rhai y dallodd duw y bŷd hwn feddyliau y rhai digred, [Page] fel na thywynnei iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Christ, yr hwn yw delw Dduw. Canys nid ydym yn ein pregethu ein humain, ond Christ Iesu yr Arglwydd, a ninneu yn weision i chwi er mwyn Iesu. Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i'r goleuni le wyrchu o dywyllwch, yw yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist.
Yr Efengyl.
AC fel yr oedd yr Iesu yn myned oddi yno, Matth. 9.9. efe a ganfu wr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew: ac a ddywedodd wrtho, canlyn fi. Ac efe a gyfodes, ac a'i canlynodd ef. A bu ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, wele hefyd, Publicanod lawer a phecaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd â'r Iesu a'i ddiscyblion. A phan welodd y Pharisæaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, Pa ham y bwytty eich Athro chwi gyd â'r Publicanod a'r pechaduriaid? A phan glybu'r Iesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleision. Ond ewch, a dyscwch pa beth yw hyn, Trugaredd yr yd wyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth: canys ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
S. Mihangel a'r holl Angelion.
Y Colect.
DRagywyddol Dduw, yr hwn a ordeiniaist, ac a osodaist wasnaethau 'r hell Angelion a dynion [Page] mewn trefn ryfedd: Caniadhâ yn drugarog iddynt hwy, y rhai sy yn wastad yn gwneuthur i ti wasanaeth yn y nefoedd, fod drwy dy drefnid di yn borth ac yn amddiffyn i ni ar y ddaiar, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Datc. 12.7 ABu rhyfel yn y nef: Michael a'i angelion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd, a'i hangelion hithau. Ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni's cafwyd mwyach yn y nef. A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn twyllo 'r holl fyd, efe a fwriwyd allan i'r ddaiar, a'i angelion a fwriwyd allan gyd ag ef. Ac mi a glywais lef vchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iechydwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni, ddydd a nôs. A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt: ac ni charasant eu heinioes hyd angeu. O herwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar, a'r môr, canys diafol a ddescynnodd attoch chwi, a chanddo lid mawr, o herwydd ei fôd yn gŵybod nad oes iddo ond ychydig amser.
Yr Efengyl.
Mat. 18.1. YR awr honno y daeth y discyblon at yr Iesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd? A'r Iesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosodes yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd, Yn wîr y dywedaf i chwi, oddieithr [Page] eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd. Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw 'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd. A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i. A phwy bynnag a rwystro vn o'r rhai by chain hyn a gredant ynofi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr. Gwae 'r bŷd oblegid rhwystrau: canys angenrhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae y dŷn hwnnw drwy 'r hwn y daw y rhwystr. Am hynny, os dy law, neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennit ddwy law neu ddau droed, dy daflu i'r tan tragywyddol. Ac os dy lygad a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti yn vn-llygeidiog fyned i mewn i'r bywyd, nag â dau lygad gennit, dy daflu i dân vffern. Edrychwch na ddirmygoch yr vn o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd, bôb amser yn gweled wyneb fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.
S. Luc Efangylwr.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a elwaist Luc y physygwr, yr hwn y mae ei foliant yn yr Efengyl, i fod yn physyg-wr i'r enaid: rhynged bodd i ti, drwy iachus feddiginiaeth ei ddysceidiaeth ef, iachâu holl heintiau ein heneidiau, trwy dy Fâb Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
2. Tim. 4.5 GWilia di ym-mhôb peth, dioddef adfyd: gwna waith Efengylŵr, cyflawna dy weinidogaeth. Canys myfi yr a wron a aberthir, ac amser fy ymddattodiad i a nesaodd. Mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orphennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffŷdd. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd y barnwr cyfiawn, i miyn y dydd hwnnw: ac nid yn vnig i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef. Bydd ddyfal i ddyfod attaf yn ebrwydd: canys Demas a'm gadawodd gan garu y bŷd presennol, ac a aeth ymmaith i Thessalonica, Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia. Lucas yn vnig sydd gŷd â mi. Cymmer Marc a dŵg gŷd â thi: canys buddiol yw [efe] i mi i'r weinidogaeth. Tychicus hefyd a ddanfonais i Ephesus. Y cochl a adewais i yn Troas gŷd â Charpus, pan ddelych dŵg [gŷd â thi,] a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn. Alexander y gôf copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd. Yr hwn hefyd gochel ditheu: canys efe a safodd yn ddirfawr yn erbyn ein hymadroddion ni.
Yr Efengyl.
Luc. 10.1. YR Arglwydd a ordeiniodd ddêg a thrugain eraill hefyd, ac a'u danfones hwy bob yn ddau, o flaen ei wyneb, i bôb dinas a man, lle 'r oedd efe ar fedr dyfod. Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhayaf yn wîr sydd fawr, ond y gweithwŷr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y [Page] cynhayaf am ddanfon allan weithwŷr i'w gynhayaf. Ewch: wele, yr ŵyfi yn eich danfon chwi fel ŵyn ym mysc bleiddiaid. Na ddygwch gôd, nac yscreppan, nac escidiau: ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd. Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangneddyf i'r tŷ hŵn. Ac o bydd yno fab tangneddyf, eich tangneddyf a orphywys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi. Ac yn y tŷ hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed y cyfryw bethau ac a gaffoch ganddynt: canys teilwng y'w i'r gweithwr ei gyflog.
S. Simon a Iud Apostolion.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a adeiledaist y gynnulleidfa ar sail yr Apostolion, a'r prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben congl-faen: Caniadhâ i ni fod felly ein cyssylltu ynghyd yn vndeb yspryd gan eu dysceidiaeth hwy, fel i'n gwneler yn sanctaidd Deml gymmeradwy gennit, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Yr Epistol.
IVdas, gwasanaethwr Iesu Grist, Iud. gwers 1. a brawd Iaco, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Tâd, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd: trugaredd i chwi, a thangneddyf, a chariad a luosoger. Anwylyd, pan roddais bôb diwydrwydd ar scrifennu attoch am yr iechydwriaeth gyffredinol, anghenrhaid oedd i mi scrifennu attoch, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded vnwaith i'r Sainct. Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusco i mewn, y rhai a rag-ordeiniwyd er ystalm i'r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu yr vnic Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Iesu Grist. [Page] Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffâu chwi, gan eich bôd vn-waith yn gŵybod hyn, i'r Arglwydd wedi iddo waredu y bobl o dir yr Aipht, ddestrywio eilwaith y rhai ni chredasant. Yr Angelion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol tan dywyllwch, i farn y dydd mawr. Megis y mae Sodoma a Gomorrha, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd a hwynt wedi putteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. Yr vn ffunyd hefyd y mae y breuddwyd-wŷr hyn, yn halogi 'r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu y rhai sy mewn awdurdod.
Yr Efengyl.
Io. 15.17. HYn yr wyf yn ei orchymmyn i chwi, garu o honoch ei gilydd. Os yw 'r bŷd yn eich casau chwi, chwi a wyddoch gasau o honaw fyfi o'ch blaen chwi. Pe byddech o'r bŷd, y bŷd a garei 'r eidoo: ond oblegid nad ydych o'r bŷd, eithr i mi eich dewis allan o'r bŷd, am hynny y mae 'r bŷd yn eich casâu chwi. Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych, Nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i Arglwydd: os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. Eithr hyn oll a wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt escus am eu pechod. Yr hwn sydd yn fy nghasâu i, sydd yn casâu fy Nhâd hefyd. Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i, a'm Tâd hefyd. [Page] Eithr fel y cyflawnid y gair sydd scrifennedig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casâsant yn ddi-achos. Eithr pan ddêl y Diddanudd, yr hwn a anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, sef Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tâd, efe a dystiolaetha amdanafi; chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eich bôd o'r dechreuad gyd â mi.
Gwyl yr holl Sainct.
Y Colect.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a gyssylltaist ynghyd dy etholedigion yn vn cyfundeb a chymdeithas yn nirgeledic gorph dy Fâb Crist ein Harglwydd: Câniadhâ i ni râd felly i ganlyn dy ddwywol Sainct ym mhob rhin weddol a dwywol fywyd, fel y gallom ddyfod i'r annhraethawl lawenydd hynny a baratoaist i'r rhai yn ddiffuant sy i'th garu, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, Amen.
Yr Epistol.
WEle, Datc. 7.2. mi Ioan a welais Angel arall yn dyfod i fynu oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo: ac efe a lefodd â llêf vchel ar y pedwar Angel, i'r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu 'r ddaiar a'r môr, gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaiar, na'r môr, na'r preniau, nes darfod i ni selio gwasanaethwyr ein Duw ni yn eu talcēnau. Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: yr oedd wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd, o holl lwythau meibiō Israel.
- O lwyth Iuda, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Ruben, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Gad, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Aser, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Nephthali, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Manasses, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Simeon yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- [Page]O lwyth Lefi, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio.
- O lwyth Isachar, yr oedd xii. mil wedi eu selio.
- O lwyth Zabulon, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Ioseph, yr oedd xii. mil wedi eu selio:
- O lwyth Beniamin yr oedd xii. mil wedi eu selio.
Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allei neb ei rhifo, o bôb cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orseddfaingc, a cher bron yr Oen, wedi eu gwisco mewn gynau gwynion, a phalm-wydd yn eu dwylo: ac yn llefain â llêf vchel, gan ddywedyd, Iechydwriaeth i'n Duw ni, yr hwn syd yn eistedd ar yr orseddfaingc, ac i'r Oen. A'r holl Angelion a safasant o amgylch yr orsedd-faingc, a'r Henuriaid, a'r pedwar anifail: ac a syrthiasant ger bron yr orsedd-faingc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw, gan ddywedyd, Amen: y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, a fyddo i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.
Yr Efengyl.
Mat. 5.1. PAn welodd yr Iesu y tyrfaoedd, efe a escynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto. Ac efe a agorodd ei enau, ac a'u dyscodd hwynt, gan ddywedyd, Gwyn eu bŷd y tlodion yn yr yspryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eu bŷd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir. Gwyn eu bŷd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaiar. Gwyn eu bŷd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir. Gwyn eu bŷd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd. Gwyn eu bŷd y rhai pûr o galon: canys hwy a welant Dduw. Gwyn eu bŷd y tangneddyf-wyr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw. Gwyn eu bŷd y rhai a erlidir [Page] o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd. Gwyn eich bŷd pan i'ch gwradwyddant, ac i'ch erlidiant, ac y dywedant bob dryg-air yn eich erbyn, er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog. Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy y Prophwydi a fu o'ch blaen chwi.
¶Y drefn am wenidogaeth Swpper yr Arglwydd, neu yr Cymmun bendigaid.
CYnnifer ac a fyddo yn amcanu bod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendigedic, a arwyddocânt eu henwau i'r Curat y nos o'r blaen, neu yr boreu cyn dechreu y weddi foreuol, neu yn y fan gwedi.
Ac o bydd vn o'r rhai hynny yn ddrwg-fucheddol cyhoedd, fel y byddo ef gwrthwynebus gan y gynnulleidfa: neu a wnaeth gam iw gymmydog ar air, neu ar weithred: Y Curat wrth gael gwybyddiaeth o hynny, a'i geilw ef, ac a'i cynghôra na ryfygo efe er dim ddyfod i ford yr Arglwydd, hyd oni ddeclario efe yn gyhoeddus ei fod yn wîr edifeiriol, a darfod iddo wellhau ei ddrwg fuchedd o'r blaen; fel y bodloner y gynnulleidfa wrth hynny: yr hon a rwystrasid yn y blaen: A darfod iddo wneuthur iawn i'r neb y gwnaethoedd gamwedd â hwynt: Neu o'r lleiaf, dadcan ei fod mewn cyflawn fryd i wneuthur felly yn gyntaf ac y gallo yn gymhedrol.
Y drefn hon a arfer y Curat am y sawl y gwypo efe fod malis a chasineb yn teyrnasu rhyngddynt; ni ddioddef [Page] iddynt fod yn gyfrannogion o fwrdd yr Arglwydd, hyd pan wypo eu bod hwynt wedi cydtuno. Ac os vn o'r pleidiau anheddychol a fydd bodlawn i faddeu o eigion ei galon gwbl ac a wnaethpwyd yn ei erbyn, ac i wneuthur iawn i bawb ac a rwystrawdd ynteu ei hunan; a'r blaid arall ni fyn ei ddwyn i dduwiol vndeb, onid sefyll yn wastad yn ei wrthnysigrwydd a'i falais: Y Gwenidog yn yr achos hynny a ddyly dderbyn y dyn edifeiriol i'r Cymmun bendigedic, ac nid y dyn ystyfnig anhydyn.
Y bwrdd ar amser y Cymmun â lliain gwyn têg arno, a saif ynghorph yr Eglwys, neu yn y Gafell, lle byddo yr foreuol a'r brydohawnol weddi, wedi ordeinio ei dywedyd. A'r offeiriad, gan sefyll wrth yr ystlys gogledd i'r bwrdd, a ddywaid weddi yr Arglwydd, a'r Colect sydd yn canlyn.
¶Ein Tad ni yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
YR holl-alluog Dduw, i'r hwn y mae pob calon yn agored, a phob deisyf yn gydnabyddus, a rhag yr hwn nid oes dim dirgel yn guddiedic, glanhâ feddyliau ein calonnau trwy ysprydoliaeth dy lân Yspryd, fel y carom dydi yn berffaith, ac y mawrhâom yn deilwng dy Enw sanctaidd, trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna yr offeiriad a draetha yn eglur y deng-air deddf oll. A'r bobl ar eu gliniau ar ôl pob vn o'r gorchymynion a archant drugaredd Duw am eu torri hwynt, yn y modd hyn.
Exod. 20. DVw a lefarodd y geiriau hyn, ac a ddywedodd, Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw: Na fydded it dduwiau eraill onid myfi.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw y gyfraith hon.
Na wna it dy hun ddelw gerfiedic, na llun dim a'r y sydd yn y nefoedd vchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar: Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt. Canys myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ym weled â phechodau y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw yr gyfraith hon.
Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei Enw ef yn ofer.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw y gyfraith hon.
Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi ac y gwnei dy holl waith, eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th was, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn dy byrth. Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y môr ac oll y sydd ynddynt, ac a orphy wysodd y seithfed dydd: O herwydd pa ham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonneu i gadw y gyfraith hon.
Anrhydedda dy dad a'th fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw yr gyfraith hon.
Na ladd.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw y gyfraith hon.
Na wna odineb.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw y gyfraith hon.
Na ledratta.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw y gyfraith hon.
Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein calonnau i gadw y gyfraith hon.
Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i wâs, na'i forwyn, na'i ŷch, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo.
Arglwydd trugarhâ wrthym, ac scrifenna yr holl ddeddfau hyn yn ein calonnau, ni a attolygwn i ti.
Yna y canlyn y Colect o'r dydd, gyd ag vn o'r ddau Golect hyn sy yn canlyn, dros y Brenhin: a'r Offeiriad yn ei sefyll wrth y ford a ddyweid.
Gweddiwn.
HOll-alluog Dduw, yr hwn sydd a'i deyrnas yn dragywyddol, a'i allu yn anfeidrol, cymmer drugaredd ar yr holl gynnulleidfa, a rheola felly galon dy ddewifedic wasanaethwr Iames ein Brenhin a'n lly wydd; fel y gallo efe (gan wybod i bwy y mae yn weinidog) vchlaw pob dim geisio dy anrhydedd a'th ogoniant; Ac fel y gallom ninneu ei ddeiliaid ef (gan feddylied yn ddyledus oddi-wrth bwy y mae yr awdurdod sydd iddo) yn ffyddlon ei wasanaethu, a'i anrhydeddu, ac yn ostyngedig vfyddhau iddo, ynot ti, ac erot ti, yn ôl dy fendigedig air a'th ordinhâd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn gyd â thi a'r Yspryd glân, sydd yn byw, ac yn teyrnasu yn dragywydd yn vn Duw, heb drange na gorphen. Amen.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, i'n dyscir gan dy air sanctaidd, fod calonnau brenhinoedd wrth dy reolaeth a'th lywodraeth di; a'th fod ti yn eu gosod hwynt, ac yn eu hymchwelyd, fel y mae dy dduwiol ddoethineb yn gweled bod yn oreu: Yr ydym ni yn ostyngedig yn attolwg i ti, felly osod a llywodraethu calon Iames dy wasanaethwr, ein Brenhin a'n llywydd, fel y gallo efe yn ei holl feddyliau, geiriau, a gweithredoedd, yn wastad geisio dy anrhydedd di, a'th ogoniant, a myfyrio ar gadw [Page] dy bobl a rodded yn ei gad wriaeth ef, mewn digonoldeb, tangneddyf, a duwioldeb: Caniadhâ hyn drugarog Dad, er cariad ar dy anwyl Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yn y fan wedi yr Colectau, y darllen yr offeiriad yr Epistol, gan ddechreu fel hyn:
Yr Epistol scrifennedic yn yr [...] pennod o &c.
Ac wedi diweddu yr Epistol, efe a ddywed yr Efengyl, gan ddechreu fel hyn:
Yr Efengyl a scrifennir yn yr [...] pennod o &c.
Ac wedi gorphen yr Epistol a'r Efengyl, y dywedir y Credo.
CRedaf yn vn Duw Tâd, Holl-alluog, Creawdr Nef a daiar, ac oll weledigion, ac anweledigion. Ac yn ein Harglwydd Iesu Grist, yr vnic cenhedledig Fâb Duw, cenhedledig gan ei Dâd cyn yr holl oesoedd, Duw o Dduw, llewyrch o lewyrch, gwîr Dduw, o wîr Dduw, cenhedledig nid gwneuthuredig, yn vn hanfod â'r Tâd, gan yr hwn y gwnaethpwyd pob peth: yr hwn erom ni ddynion, ac er ein iechydwriaeth a ddiscynnodd o'r nefoedd, ac a gnawdiwyd drwy yr Yspryd glân o Fair forwyn, ac a wnaethpwyd yn ddŷn, ac a groes-hoeliwyd hefyd trosom tan Bontius Pilatus. Efe a ddioddefodd ac a gladdwyd, a'r trydydd dydd efe a adgyfododd yn ôl yr Scrythyrau, ac a escynnodd i'r nef, ac y sydd yn eistedd ar ddeheu-law yr Tâd. A thrachefn y daw efe drwy ogoniant i farnu y byw a'r meirw; ac ar ei deyrnas ni bydd trangc. A chredaf yn yr Yspryd glân, yr Arglwydd a'r Bywiawdur, yr hwn sydd yn deilliaw [Page] o'r Tâd a'r Mâb, yr hwn ynghŷd a'r Tâd a'r Mâb a gyd-addolir, ac a gyd-ogoneddir, yr hwn a lefarodd trwy yr Prophwydi. A chredaf fod vn Catholic ac Apostolic Eglwys. Addefaf vn Bedydd er maddeuaint pechodau. Ac edrychaf am adgyfodiad y meirw, a bywyd y byd sydd ar ddyfod. Amen.
Ar ôl y Credo, oni bydd pregeth, y canlyn vn o'r homiliau a ddoded allan eusus, neu a ddoder allan rhag llaw, drwy awdurdod gyffredin. Ar ôl cyfryw bregeth, neu homili, neu Gyngor: y Curad a fynega i'r bobl, a fydd na gwyliau, nac ymprydiau o fewn yr wythnos a fo yn canlyn, gan eu cynghori hwynt yn ddyfal i feddwl am y tlodion; a dywedyd vn, neu anghwanec o'r ymadroddion hyn sy yn canlyn, fel y gwelo efe fod yn oreu, wrth ei ddeall ei hun.
DIscleiried eich goleuni ger bron dynion, Mat. 5.16. fel y gwelont eich gweithredoedd da, ac yr anrhydeddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Na chesclwch dryssor i chwi ar y ddaiar, Mat. 6.19.20. lle y mae gwyfyn a rhŵd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta; eithr cesclwch i chwi dryssorau yn y Nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru; a lle ni's cloddia yr lladron trwodd, ac nis lladrattânt.
Beth bynnac a ewyllysioch ei wneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: Mat. 7.12. canys hyn yw yr Gyfraith a'r Prophwydi.
Nid pwy bynnac a ddywed wrthif, Mat. 7.21. Arglwydd Arglwydd, a ddaw i deyrnas nefoedd, ond yr hwn a wna ewyllys fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
Luc. 19.8.Zaccheus a safodd ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, wele Arglwydd, yr ydwyf yn rhoddi hanner fy ngolud i'r tlodion: ac os dygum ddim oddiar neb trwy dwyll, mi a'i talaf ar ei bedwerydd.
1. Cor. 9.7.Pwy erioed a ryfelodd ar ei draul ei hun? pwy sydd yn plannu gwin-llan, ac heb fwyta o'i ffrwyth hi? neu pwy sydd yn porthi praidd, ac heb fwytta o laeth y praidd?
1. Cor. 9.11Os hauasom i chwi bethau Ysprydol, ai mawr yw, os nyni a fedwn eich pethau cnawdol?
13.Oni wyddoch chwi fod y rhai sy yn gwnenthur pethau cyssegredic, yn bwyta pethau o'r cyssegr: a bod y rhai sy yn gwasanaethu yr allor, yn gyfrannogion o'r allor? Yr vn wedd yr ordeiniodd yr Arglwydd i'r rhai a bregethent yr Efengyl, fyw wrth yr Efangel.
A hauo ychydig, a fêd ychydig, ac a hauo yn helaeth a fêd yn helaeth. 2. Cor. 9.6, 7. Pob vn megis y mae yn amcanu yn ei galon, felly gwnaed, nid yn athrist, neu wrth gymmell, canys y mae yn hoff gan Dduw roddwr llawen.
Gal. 6.6, 7.Y neb a ddyscwyd yn y gair, cyfranned o'i dda oll â'r hwn a'i dyscodd ef. Na thwyller chwi, ni watwerir Duw: canys pa beth bynnac a hauo dyn, hynny a fêd efe.
Gal. 6.20.Tra caffom amser, gwnawn dda i bob dŷn, ac yn enwedic i'r rhai sy o deulu y ffydd.
1. Tim. 6.6, 7.Duwiolder sydd gyfoeth mawr, o bydd dŷn foddlon i'r hyn fydd ganddo, canys ni ddaeth gennym ddim i'r byd, ac ni allwn ddwyn dim o'r byd ymaith.
1. Tim. 6.Gorchymyn i'r rhai sy gyfoethogion yn y bŷd hwn, fod yn barod i roddi, ac yn llawen i gyfrannu, gan osod sail dda iddynt eu hun erbyn yr amser sydd yn dyfod, fel y caffont y bywyd tragywyddol.
Nid ydyw Duw yn anghyfion, Heb. 6.10. fel y gollyngo dros gof eich gweithredoedd a'ch trafael a ddel o gariad; yr hyn a ddangosasoch chwi er mwyn ei Enw ef, y sawl a roesoch i'r Sainct, ac ydych etto yn rhoddi.
Na ollyngwch dros gof wneuthur daioni a chyfrannu: canys â chyfryw aberth y boddlonir Duw. Heb. 13.16. 1. Ioh. 3.17.
Pwy bynnac sydd iddo dda yr byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisiau, ac a gaeo ei drugaredd oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn trigo ynddo ef?
Dyro gardod o'th dda, Tob. 4.7. ac na thro vn amser dy wyneb oddi-wrth vn dŷn tlawd, ac felly ni thrŷ 'r Arglwydd ei wyneb oddi-wrthit titheu.
Bydd drugarog yn ôl dy allu: Tob. 4.8. os bydd llawer i'th helw dyro yn aml, os bydd ychydic, bydd ddyfal i roddi yn llawen o'r ychydic: canys felly y cynhulli i ti dy hun wobr da yn nydd yr anghenrhaid.
Y neb a gymero drugaredd ar y tlawd, Dihar. 19.17. sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd: ac edrych beth a roddo efe ymaith, fe a delir iddo drachefn.
Bendigedic fyddo 'r dŷn a roddo i'r clâf a'r anghenus: yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser trwbl. Psal. 41.1.
Yna wardenaid yr Eglwys, neu rai eraill trostynt, a gasclant ddefosiwn y bobl, ac a'i dodant ym-mlwch y tlodion: ac ar y dyddiau gosodedig i offrymmu, taled pawb i'r Curat yr offrymmau dyledus, ac arferedic.Wedi darfod hynny y dywed yr offeiriad.
Gweddiwn dros holl stât Eglwys Grist sy yn milwrio yma ar y ddaiar.
HOll-alluog a thragwyddol Dduw, yr hwn trwy dy sanctaidd Apostol a'n dyscaist i wneuthur [Page] gweddiau ac erfyniau, ac i ddiolch dros bob dŷn: yr ydym ni yn ostyngedic yn attolwg i ti yn drugaroccaf gymeryd ein eluseni, Oni bydd dim eluseni wedi ei roddi i'r tlodion, yna gadawer y geirian hyn (gymmeryd cin elusent a) heb ddywedyd. a derbyn ein gweddiau hyn, y rhai'r ydym yn eu hoffrwm i'th ddwywol fawredd, gan attolygu i ti ysprydoli yn wastad yr Eglwys gyffredinol ag Yspryd y gwirionedd, vndeb, a chyd-gordio; a chaniadhâ i bawb ac y sy yn cyffessu dy Enw sancteiddiol, gytuno yngwirionedd dy sanctaidd air, a byw mewn vndeb a duwiol gariad. Ni a attolygwn i ti hefyd gadw, ac ymddiffyn holl Gristianus Frenhinoedd, Tywysogion a llywiawdwŷr, ac yn enwedic dy wasanaethwr Iames ein Brenhin, fel y caffom tano ef ein llywodraethu yn dduwiol, ac yn heddychol: A chaniad-hâ iw holl gyngor ef, ac i bawb ac y sydd wedi eu gosod mewn a wdurdod dano, allu yn gywir, ac yn vniawn rannu cyfiawnder, er cospi drygioni a phechod, ac er maentumio gwîr grefydd Duw a rhinwedd dda. Dyro râd nefol Dâd i'r holl Escobion, Bugeiliaid a Churadiaid, fel y gallont drwy eu buchedd a'u hathrawiaeth ossod allan dy wir a'th fywiol air, a gwasanaethudy sanctaidd Sacramentau yn iawn ac yn ddyladwy: a dyro i'th holl bobl dy nefawl râd, ac yn enwedig i'r gynnulleidfa hon sydd yma yn gydrychiol, fel y gallont ag vfydd galon a dyledus barch wrando a derbyn dy sanctaidd air, gan dy wasanaethu yn gywir mewn sancteiddrwydd ac vniondeb bob dydd o'u bywyd. Ac ydd ym yn ostyngedic yn attolygu i ti o'th ddaioni Arglwydd, gonfforddio a nerthu pawb ac y sy yn y bywyd trangcedic hwn mewn trwbl, tristwch, angen, clefyd, neu ryw wrthwyneb arall: Caniadhâ hyn, nefol Dâd, er cariad ar Iesu Grist, ein vnic gyfryng-wr a'n dadleu-wr. Amen.
Yna y canlyn y cyngor hwn ar ryw amseroedd, pan welo yr Curad y bobl yn escaelus am ddyfod i'r Cymmun bendigedic.
YR ydym ni wedi dyfod ynghyd yr awr hon, (wîr garedigion frodyr) i ymborth ar Swpper yr Arglwydd, i'r hwn o ran Duw i'ch gwahoddaf bawb ac y sydd yma yn gynhyrchiol, ac a attolygaf iwch er cariad ar yr Arglwydd Iesu Grist, na wrthodoch ddyfod iddo, gan eich bod mor garedigol wedi eich galw, a'ch gwahodd gan Dduw ei hunan. Chwi a wyddoch mor ofidus, ac mor angharedic o beth yw, pan fo gŵr wedi arlwyo gwledd werthfawr, ac wedi trwssio ei fwrdd â phob rhyw arlwy, megis na bai ddim yn eisieu onid y gwahodd-wŷr i eistedd: ac etto y rhai a alwyd, heb ddim achos, yn anniolchusaf, yn gwrthod dyfod: pwy o honoch chwi yn y cyfryw gyflwr ni chyffroei? pwy ni thybygai wneuthur cam a syrhaed mawr iddo? Herwydd pa ham, fy an wyl garedicaf frodyr yn Ghrist, gwiliwch yn dda rhag i chwi, wrth ymwrthod a'r Swpper sancteiddiol hwn, annog bâr Duw i'ch erbyn. Hawdd i ddŷn ddywedyd, ni chymmunaf fi, o herwydd bod negesau bydol i'm rhwystro: eithr y cyfryw escusodion nid ydynt mor hawdd eu derbyn yn gymeradwy gerbron Duw. Os dywed neb, yr wyfi yn bechadur brwnt, ac am hynny yn ofni dyfod: pa'm, gan hynny nad ydych chwi yn edifarhau, ac yn gwellhau? A chan fod Duw yn eich galw, onid oes gywilydd arnoch ddywedyd na ddeuwch? Pan ddylech chwi ymchwelyd at Dduw, a ymescusodwch chwi, a dywedyd nad ydych barod? Ystyriwch yn ddifrif ynoch eich hunain, fychaned a dâl y cyfryw goeg escusodion ger bron Duw. Y rhai a wrthodasant y wlêdd yn yr Efēgyl, oblegit iddynt brynu tyddyn, neu [Page] brofi eu hieuau ychen, neu oblegit eu priodi, ni chawsant felly mo'u hescusodi, onid eu cyfrif yn annheilwng o'r wledd nefawl. Myfi o'm rhan i, wyf yma yn bresennol, ac o herwydd fy swydd, yr ydwyf yn eich gwahodd yn Enw Duw. Ydd wyf i'ch galw o ran Christ, a megis y caroch eich Iechydwraieth eich hunain yr wyf i'ch cynghori i fod yn gyfrannogion o'r Cymmun bendigedic hwn. Ac fel y bu wiw gan Fâb Duw faddeu ei enaid gan angeu ar y groes dros eich iechyd chwi, felly yn yr vn modd y dylech chwithau gymmeryd y Cymmun ynghŷd er cof am ei angau ef, fel y gorchymynnodd efe ei hun. Yn awr, os chwychwi nis gwnewch fel hyn, Meddyliwch ynoch eich hunain faint y cam-wedd yr ydych yn ei wneuthur â Duw, ac mor flîn yw 'r boen y sydd goruwch eich pennâu am hynny. A lle yr ydych yn anfodloni Duw mor drwm, wrth ymwrthod â'r wynfydedic wlêdd hon, ydd wyf i'ch rhybuddio, i'ch cynghori, ac yn attolygu i chwi, nad anghwanegoch yr angharedigrwydd hyn ymmhellach: yr hwn beth a wnewch, os chwychwi a saif gan lygad-rythu, ac edrych ar y sawl sy yn Cymmuno, ac heb fod yn gyfrannogion o honaw eich hunain: Canys pa beth y bernir hynny amgen, nâ mwy o ddirmyg, ac angharedigrwydd tu ag at Dduw? Diau anniolch mawr yw i chwi naccau pan i'ch galwer: Ond y mae yr bai yn fwy o lawer, pan fo rhai yn sefyll ger llaw, ac etto heb na bwyta, nac yfed y sanctaidd Gymmun hwn gyd ag eraill. Atolwg iwch, pa beth amgenach yw hyn, onid gwatwar a distadlu dirgeledigaethau Christ? Wrth bawb yr ydys yn dywedyd, Cymmerwch a bwytewch, Cymmerwch, ac yfwch bawb o hwn, Gwnewch hyn er cof am danaf. A pha wyneb gan hynny, neu â pha ddigywilydd-dra y gwrandewch chwi y geiriau [Page] hyn? Beth fydd hyn amgen, onid esceuluso, diystyru a gwatwar Testament Crist? Herwydd pam, yn gynt nac y gwneloch felly, ewch ymaith, a gedwch le i'r rhai y sy â meddwl duwiol ganddynt. Eithr pan fyddoch yn myned ymaith, mi a attolygaf i chwi feddwl ynoch eich hunain, oddi wrth bwy yr ydych yn myned: Yr ydych yn myned oddiwrth fwrdd yr Arglwydd, yr ydych yn myned oddiwrth eich brodur, ac oddi-wrth wledd y nefolaf ymborth. Os y petheu hyn a ystyriwch yn ddifrifol, chwi a drowch drwy râd Duw i feddwl a fo gwell Ac er mwyn caffael hyn yr vfydd erfyniwn, tra fyddom yn cymmeryd y Cymmun bendigedic.
Ac ar ryw amseroedd y dywedir hyn yma hefyd, pan Welo y Curat fod yn berthynasol.
ANwyl garedigion, yn gymaint a'n bôd ni yn gwbl ddyledus i roddi i'r Holl-alluog Dduw ein Tâd nefol, wir galonnog ddiolch, am iddo roddi ei Fâb ein Iachawdr Iesu Grist, nid yn vnic i farw drosom, onid hefyd i fod yn ymborth ac yn gynhaliaeth ysprydol i nyni, fel yr eglurwyd i ni, yn gystal drwy air Duw, a thrwy y Sacramentau bendigedic o'i gorph a'i waed ef: Yr hwn gan ei fod yn beth mor gonfforddus i'r rhai a'i cymerant yn deilwng, ac mor beryglus i'r rhai a ryfygo ei gymeryd yn annheilwng: fy nylêd i yw eich cynghori chwi i ystyried teilyngdod y dirgeledigaeth bendigedic, a'r mawr berigl sydd o'i gymmeryd ef yn annheilwng, ac felly chwilio a holi eich cydwybodau eich hunain, fel y dylech ddyfod yn sanctaidd ac yn lân i'r dduwiolaf a'r nefolaf wlêdd. Ac na ddeloch ddim, onid yn y wisg briodas, yr hon a ofyn Duw yn yr Scrythur lân, ac felly dyfod, a chael eich derbyn, fel teilwng gyfrannogion o gyfryw [Page] fwrdd nefol. Y ffordd a'r modd i hynny, sydd fel hyn; Yn gyntaf bod i chwi chwilio, a holi eich bucheddau, a'ch ymddygiad, wrth reol gorchymynion Duw: ac ym-mha beth bynnac y gwypoch iwch bechu, pa vn bynnac ai ar ewyllys, ai ar air, ai ar weithred, yna ymofidiwch am eich bucheddau pechadurus: Cyffesswch eich hunain i'r Holl-alluog Dduw, gan gyflawn frŷd i wellhau eich buchedd. Ac os chwi a welwch eich camweddau yn gyfryw, ac nad ŷnt yn vnic yn erbyn Duw, namyn hefyd yn erbyn eich cymmydogion: yno bod i chwi gymodi â hwynt: gan fod yn barod i wneuthur iddynt iawn a thâl hyd yr eithaf o'ch gallu, am bob cam a thraha ar a wnaethoch i neb arall: Ac yn yr vn modd, bod o honoch yn barod i faddeu i eraill a wnaethant i'ch erbyn chwithau, megis ac y mynnech chwitheu gael maddeuaint am eich camweddau ar law Duw: Canys mewn modd amgen, nid yw cymmeryd y Cymmun bendigedic ddim ond angwhanegu eich barnedigaeth. Ac o herwydd bod yn angenrheidiol na ddêl nêb i'r Cymmun bendigedic, onid gan gyflawn ymddiried yn nhrugaredd Dduw, ac â heddychol gydwybod: gan hynny o bydd neb o honoch, (oblegit y moddion hynny,) heb allu heddychu ei gydwybod ei hun, onid bod yn rhaid iddo ychwaneg o gyssur, neu gyngor, yna deued attafi, neu at vn arall doeth, dyscedic, y sydd weinidog Gair Duw, ac agored ei ddolur, fel y gallo dderbyn cyfryw gyngor ysprydol, hyfforddiad, a chonffordd, fel y gallo ei gydwybod ymyscafnhau: a thrwy weinidogaeth gair Duw, allu o honaw dderbyn cyssur, a daioni y gollyngdod, er heddychu ei gydwybod, ac ymochelyd pob petruster, ac anwybodaeth.
Yna y dywed yr Offeiriad y cynghor hwn.
ANwyl garedigion yn yr Arglwydd, y sawl sydd yn meddwl dyfod i fendigedic Cymmun corph a gwaed ein Iachawdur Christ, rhaid i chwi ystyried beth y mae Sanct Paul yn ei scrifennu at y Corinthiaid, fel y mae efe yn cynghori pawb iw profi ac iw holi eu hunain yn ddyfal, cyn iddynt ryfygu bwytta o'r bara hwnnw, ac yfed o'r cwppan hwnnw. Canys fel y mae y llês yn fawr, os â chalon wîr edifeiriol, ac â bywiol ffydd y cymmerwn y Sacrament bendigedic hwnnw (canys yna ydd ŷm ni yn ysprydawl yn bwytta cîg Christ, ac yn yfed ei waed ef; yna yr ydym yn trigo yng Christ, a Christ ynom ninnau, ydd ŷm ni yn vn â Christ, a Christ â ninnau) felly y mae yr perigl yn fawr, os ni a'i cymmer yn annheilwng. Canys yna ydd ŷm ni yn euog o gorph a gwaed Christ ein Iachawdur, yr ydym ni yn bwyta ac yn yfed ein barnedigaeth ein hunain, heb ystyried corph yr Arglwydd. Yr ydym yn ennyn digofaint Duw i'n herbyn, yr ŷm ni yn ei annog ef i'n plau ag amrafael glefydau, ac amryw angau. Gan hynny o bydd neb o honoch yn gabl-wr Duw, yn rhwystro neu yn enllibio ei air ef, yn odinebus, neu mewn malais, neu genfigen, neu mewn rhyw faiceryddus arall, ymofidiwch dros eich pechodau ac na ddewch i'r bwrdd sancteiddiol hwn, rhag (yn ôl cymmeryd y Sacrament bendigedic hwnnw) i ddiafol fyned ynoch i mewn, megis ydd aeth mewn Iuddas, a'ch llenwi yn llawn o bob anwiredd, a'ch dwyn i ddestryw, enaid a chorph. Bernwch gan hynny eich hunain (frodyr) megis na'ch barner gan yr Arglwydd. Gwîr edifarhewch am eich pechodau a aeth heibio. Bid gennwch fywiol a diogel ffydd yn Ghrist ein Iachawdur. Gwellhewch [Page] eich buchedd, a byddwch mewn cariad perffaith â phawb; felly y byddwch weddus gyfrannogion o'r dirgeledigaethau sancteiddiol hyn. Ac o flaen pob peth y mae yn rhaid i chwi roddi gostyngeiddiaf a charediccaf ddiolwch i Dduw Tâd, y Mab, a'r Yspryd glan, am brynedigaeth y byd, drwy angau a dioddefaint ein Iachawdur Christ Duw a dŷn, yr hwn a ymostyngodd i angau ar y groes drosom ni bechaduriaid truain, y rhai oeddym yn gorwedd mewn tywyllwch a chyscod angau, fel y gallei efe ein gwneuthur ni yn blant i Dduw, a'n dyrchafel i fywyd tragywyddol. Ac er cofio o honom yn wastad ddirfawr gariad ein Harglwydd a'n vnic Iachawdur Iesu Grist fel hyn yn marw drosom, a'r aneirif ddoniau daionus, y rhai (drwy dywallt ei werthfawr waed) a enillodd efe i ni: efe a osododd, ac a ordeiniodd sanctaidd ddirgeledigaethau, fel gwystlon o'i gariad, a gwastadol gof am ei angeu, er mawr ac anherfynawl gonffordd i. ni. Can hynny iddo ef, gyd â'r Tad, a'r Yspryd glân, rhoddwn (fel ydd ŷm rwymediccaf) wastadol ddiolch, gan ymostwng yn gwbl iw sanctaidd ewyllys ef: a myfyrio ei wasanaethu ef mewn gwir sancteiddrwydd, a chyfiawnder, holl ddyddiau ein heinioes. Amen.
Yna y dywed yr Offeiriad wrth y rhai a fo yn dyfod i gymmeryd y Cymmun bendigedic.
CHwych wi y sawl y sydd yn wîr, ac yn ddifrifol yn edifarhau am eich pechodau, ac y sydd mewn cariad perffaith a'ch cymmydogion, ac yn meddwl dilyn buchedd newydd, a chanlyn gorchymynion Duw, a rhodio o hyn allan yn ei ffyrdd sancteiddiol ef; Deuwch yn nês, a chymmerwch y Sacrament sancteiddiol hwn i'ch conffordd, a gwnewch eich gostyngedic gyffes i'r Holl-alluog Dduw, gar bron y [Page] gynnulleidfa hon y sydd wedi ymgynnull yma ynghŷd yn ei sanctaidd enw ef, gan offwng yn vfydd ar eich gliniau.
Yna y dywedir y gyffes gyffredin hon, yn enw pawb o'r rhai a fyddont ar feddwl cymmeryd y Cymmun bendigedig, naill ai gan vn o honynt hwy, ai gan vn o'r Gweinidogion, a'i gan yr Offeiriad ei hun, gan ostwng o bawb yn vfydd ar eu gliniau.
OLl-alluog Dduw, Tad ein Harglwydd Iesu Grist, gwneuthur-wr pob dim, barn-wr pob dyn, ydd ŷm ni yn cydnabod, ac yn ymofidio dros ein amryw bechodau a'n anwiredd, y rhai o ddydd i ddydd yn orthrwm a wnaethom, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy Dduwiol fawredd, gan annog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th fâr i'n herbyn. Yr ydym yn ddifrifol yn edifarhau, ac yn ddrwg gan ein calonnau, dros ein cam-weithredoedd hyn, eu coffa sy drwm gennym, eu baich sydd anrhaith ei oddef: Trugarhâ wrthym, trugarhâ wrthym, drugaroccaf Dâd, er mwyn dy vn Mâb ein Harglwydd Iesu Grist, maddeu i ni yr hyn oll a aeth heibio, a chaniatâ i ni allu byth o hyn allan, dy wasanaethu a'th fodloni, mewn newydd-deb buchedd, er anrhydedd a gogoniant dy enw; trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna yr Offeiriad neu yr Escop (os bydd yn gydrychiol) a saif, gan droi at y bobl, a dywedyd fel hyn.
HOll-alluog Dduw, ein Tad nefawl, yr hwn o'i fawr drugaredd a addewis faddeuaint pechodau i bawb gan edifeirwch calon, a gwîr ffydd a ymchwel atto, a drugarhâo wrthych, a feddeuo i chwi, ac a'ch gwaredo oddiwrth eich holl bechodau, ac a'ch cadarnhâo, ac a'ch cryfhao ym-mhob daioni, ac a'ch dygo i fywyd tragywyddawl, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yn ôl hynny y dywed yr Offeiriad.
¶Gwrandewch pa ryw eiriau confforddus a ddywed ein Iachawdur Christ wrth bawb a wîr ymchwel ont atto ef. Deuwch attafi bawb ac y sydd yn trafaelu ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch. Felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddes efe ei vnigenedic Fab, modd nad elai neb a gredai ynddo ef ynghyfrgoll, namyn caffael bywyd tragywyddol.
¶Gwrandewch hefyd beth y mae Sanct Paul yn ei ddywedyd.
Hwn sydd air gwîr, a theilwng i bawb iw dderbyn, ddyfod o Iesu Grist i'r byd i iachâu pechaduriaid.
¶Gwrandewch hefyd beth a ddywaid Ioan Sanct.
Os pecha neb, y mae i ni ddadleu-wr gyd â'r Tad, Iesu Grist y cyfion; ac efe yw yr aberth dros ein pechodau.
Yn ôl y rhai hyn yr â yr Offeiriad rhagddo, gan ddywedyd.
Derchefwch eich calonnau.
Yr ydym yn eu derchafael i'r Arglwydd.
Diolchwn i'n Harglwydd Dduw.
Mae yn addas, ac yn gyfiawn gwneuthur hynny.
Y mae yn gwbl addas, yn gysiawn, a'n rhwymedic ddylêd ni yw, bob amser, ac ym-mhob lle, ddiolch i ti Arglwydd sancteiddiol Dad, Oll-alluog, dragywyddol Dduw.
Yma issod y canlyn y rhagymadroddion priodawl with yr amser, os bydd yr vn wedi ei osod yn yspysawl. Ac onid ê, yn ddi-dor y canlyn, Can hynny gyd ag Angelion, ac Arch-angelion, &c.
Rhagymadroddion priawd.
Ar ddydd Natalic Christ a saith niwrnod gwedi.
AM i ti roddi Iesu Grist dy vn Mâb iw eni ar gyfenw i heddyw drosom ni: yr hwn trwy weithrediad yr Yspryd glân a wnaethpwyd yn wîr ddyn, o hanfod y forwyn Fair ei fam, a hynny heb ddim pechod, i'n gwneuthur ni yn lân oddiwrth bob pechod. Gan hynny gyd ag Angelion, ac Archangelion, &c.
Ar ddydd Pasc, a saith ddiwrnod gwedi.
ONd yn bendifaddef, ydd ŷm yn rh wymedic i'th foliannu, dros anrhydeddus gyfodiad dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd: canys efe yw'r gwîr oen Pasc, yr hwn a offrym wyd drosom, ac a ddilê awdd bechod y byd, yr hwn trwy ei angeu ei hun a ddinistriodd angeu, a thrwy ei adgyfodiad i fywyd a adferodd i ni fy wyd tragywyddol: Can hynny gŷd ag Angelion, &c.
Ar ddydd y Dyrchafael, a faith ddydd gwedi.
TRwy dy anwyl garediccaf Fab Iesu Grist ein Harglwydd, yr hwn yn ôl ei anrhydeddus gysodiad, a ymddangosodd yn eglur iw holl Apostolion, ac yn eu golwg a escynnodd i'r nefoedd, i baratoi lle i ni, megis lle y mae efe yno yr escynnom ninnau hefyd, ac y teyrnasom gyd ag ef mewn gogoniant: Can hynny gyd ag Angelion, &c.
Ar ddydd Sûl-gwyn, a chwe diwrnod yn ôl.
TRwy Iesu Grist ein Hargl. yr hwn yn ôl ei gywirafadde wid y descynnodd yr Yspryd glân heddyw o'r nef, â disym wthsŵn mawr megis gwynt nerthoc, [Page] ar wêdd tafodau tanllyd: gan ddiscyn ar yr Apostolion iw dyscu hwynt, ac iw harwain i bob gwirionedd, gan roddi iddynt ddawn amryw ieithoedd, a hyder hefyd gyd â chariad gwresog, yn ddyfal i bregethu yr Efengyl i'r holl genhedloedd, trwy yr hyn i'n dygpwyd allan o dywyllwch, a chyfeiliorni, i'th eglur oleuni, ac i wir wybodaeth am danat ti, a'th Fâb Iesu Grist. Can hynny gyd ag Angelion &c.
Ar wyl y Drindod yn vnic.
YMae yn gwbl addas, yn gyfiawn, a'n rhwymedic ddylêd ni yw bod i ni bob amser, ac ym-mhob lle, ddiolch i ti Arglwydd, Holl-alluog a thragywyddawl Dduw, Yr hwn wyt vn Duw, vn Arglwydd, nid vn person yn vnic, onid tri pherson mewn vn sylwedd. Canys yr hyn yr ydym ni yn ei gredu am ogoniant y Tâd, hynny yr ydym yn ei gredu am y Mâb, ac am yr Yspryd glân heb na gwahaniaeth, nac anghymmedr. Can hynny gyd ag &c.
Ar ôl y Rhagymadroddion hyn, y canlyn yn y fan.
CAn hynny gyd ag Angelion ac Arch-angelion, a chyd ag oll gwmpeini nef, y moliannwn, ac y mawrhawn dy ogoneddus Enw, gan dy foliannu yn wastad, a dywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw yr lluoedd. Nef a daiar sydd yn llawn o'th ogoniant: gogoniant a fo i ti Arglwydd goruchaf.
Yna yr Offeiriad ar ei liniau wrth fwrdd yr Arglwydd a ddywed yn enw yr holl rai a gymmerant y Cymmun, yn y wedd y sydd yn canlyn.
NId ŷm ni yn rhyfygu dyfod i'th fwrdd di yma drugarog Arglwydd, gan ymddiried yn ein [Page] cyfiawnder ein hunain, eithr yn dy aml a'th ddirfawr drugaredd di, nid ydym ni deilwng cymmaint ac i gasclu yr briwsion tan dy fwrdd di: Eithr tydi yw yr vn Arglwydd, yr hwn biau o briodoldeb yn wastad drugarhâu. Caniatâ i ni gan hynny Arglwydd grasawl, felly fwyta cnawd dy anwyl Fab Iesu Grist, ac yfed ei waed ef, fel y gallo ein cyrph pechadurus gael eu gwneuthur yn lân drwy ei gorph ef, a'n eneidiau eu golchi drwy ei werthfawroccaf waed ef, fel y gallom byth drigo ynddo ef, ac ynteu ynom ninnau, Amen.
Yna yr Offeiriad yn ei sefyll a ddywed fel y mae yn canlyn.
HOll-alluog Dduw ein Tad nefol, yr hwn o'th dyner drugaredd a roddaist dy vn Mab Iesu Grist i ddioddef angeu ar y groes er ein prynu, yr hwn a wnaeth yno (trwy ei offrymiad ei hun yn offrymedic vnwaith) gyflawn, berffaith, a digonawl aberth, offrwm, ac iawn, dros bechodau yr hollfyd; ac a ordeiniodd, ac yn ei sanctaidd Efengyl a orchymynnodd i ni gadw tragy wyddol goffa am ei werth-fawr angeu hynny, nes ei ddyfod trachefn. Gwrando ni drugarog Dad, ni a attolygwn i ti, a chaniata i ni, gan gymmeryd dy greaduriaid hyn o fara a gwin, yn ol sanctaidd ordinhad dy Fab Iesu Grist ein Iachawdur, er cof am ei angeu a'i ddioddefaint, allu bod yn gyfrannogion o'i fendigedic gorph a'i waed. Yr hwn ar y nos honno y bradychwyd, a gymmerth fara, ac wedi iddo ddiolch Efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iw ddiscyblion, gan ddywedyd: Cymmerwch, bwytewch, [Page] hwn yw fy nghorph yr hwn ydd ydys yn ei roddi drosoch, gwnewch hyn er cof am danaf. Yr vn modd gwedi swpper, efe a gymmerth y cwpan, ac wedi iddo ddiolch, efe a'i rhoddes iddynt gan ddywedyd, Yfwch o hwn bawb, canys hwn yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn yr ydys yn ei dywallt drosoch, a thros lawer er maddeuaint pechodau: gwnewch hyn cynnifer gwaith ac ei hyfoch, er cof am danaf.
Yna y Gwenidog a gymmer y Cymmun yn gyntaf yn y ddau ryw ei hun, ac yn nesaf y dyry i'r Gweinidogion eraill, (o bydd yno neb o honynt, fel y gallont gymmorth y Gwenidog pennaf) ac wedi hynny i'r bobl yn eu dwylaw yn ostyngedic ar eu gliniau: Ac wrth roddi y bara, efe a ddywed.
COrph ein Harglwydd Iesu Grist yr hwn a roddwyd drosot ti, a gatwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragywyddol: a chymmer, a bwyta hwn, er cof farw o Grist drosot, ac ymborth arno yn dy galon drwy ffydd, gan roddi diolch.
A'r Gwenidog a fo yn rhoddi y cwppan a ddywed.
GWaed ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn a dywalltwyd drosot, a gatwo dy gorph a'th enaid i fywyd tragywyddol: ac yf hwn er cof tywallt gwaed Christ trosot, a bydd ddiolchgar.
Yna yr Offeiriad a ddywed weddi yr Arglwydd, a'r bobl yn adrodd pob arch o honi ar ei ôl ef. Wedi hynny y dywedir fel y canlyn.
O Arglwydd, a nefawl Dad, yr ydym ni dy ostyngedic weision yn cwbl ddeisyfu ar dy dadol ddaioni, yn drugarog dderbyn ein haberth hyn o foliant a diolwch, gan erfyn arnat yn ostyngeiddiaf, bod trwy ryglyddon ac angeu dy Fab Iesu Grist, a thrwy ffydd yn ei waed ef, i ni ac i'th holl sanctaidd Eglwys gael maddeuant o'n pechodau, a phob doniau eraill o'i ddioddefaint ef. Ac yma ydd ŷm yn offrwm ac yn cynnyrchu i ti o Arglwydd, ein hunain, ein eneidiau, a'n cyrph, i fod yn aberth rhesymol, sanctaidd, a bywiol i ti, gan atolygu i ti yn ostyngedic fod i bawb o honom y sy gyfrannogion o'r Cymmun bendigeid hwn, gael ein cyflawni â'th rad, ac â'th nefol fendith. Ac er ein bod ni yn anheilwng drwy ein amrafaelion bechodau, i offrwm i ti vn aberth: etto ni a attolygwn i ti gymmeryd ein rhwymedig ddylêd, a'n gwasanaeth hyn, nid gan bwyso ein haeddedigaethau, onid gan faddeu ein pechodau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, trwy yr hwn, a chŷd â'r hwn, yn vndawd yr Yspryd glân, holl anrhydedd a gogoniant a fyddo i ti Dad holl-alluog, yn oes oesoedd. Amen.
Neu hyn.
HOll-alluog, a byth-fy wiol Dduw, yr ydym ni yn dirfawr ddiolch i ti, am fod yn wiw gennit em porthi ni, y rhai a gymmerasom yn ddyledus y dirgeledigaethau sancteiddiol hyn, ac ysprydawl ymborth gwerthfawroccaf gorph a gwaed dy Fab ein Iachawdur Iesu Grist, ac wyt yn ein siccrhau ni drwy hynny o'th ymgeledd, ac o'th ddaioni i ni, a'n bod yn wîr aelodau wedi ein corpholaethu yn dy ddirgel gorph di, yr hwn yw gwynfydedic gynnulleidfa yr holl ffyddlon bobl, a'n bod hefyd trwy obaith yn etifeddion dy deyrnas dragywyddol, gan haeddedigaethau gwerthfawroccaf [Page] angau a dioddefaint dy anwyl Fab: Ydd ŷm ni yr awr hon yn ostyngedic yn attolygu i ti nefawl Dad, felly ein cynnorthwyaw ni â'th râd, fel y gallom yn wastad aros yn y sanctaidd gymdeithas honno, a gwneuthur pob rhyw weithredoedd da ac a ordeiniaist i ni rodio ynddynt, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gyd â thi a'r Yspryd glân, y bo holl anrhydedd, a gogoniant yn dragywyddol. Amen.
Yna y dywedir, neu y cenir.
GOgoniant i Dduw yn yr vchelder, ac yn y ddaiar tangneddyf, ewyllys da i ddynion. Ni a'th addolwn, ni a'th fendithiwn, ni a'th anrhydeddwn, ni a'th ogoneddwn, i ti y diolchwn am dy fawr ogoniant, Arglwydd Dduw, frenin nefol, Duw Tad holl-alluog, Arglwydd, yr vnic genedledic Fab Iesu Grist, Arglwydd Dduw, Oen Duw, Fab y Tad, yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd, trugarhâ wrthym. Ti yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd, trugarhâ wrthym. Ti yr hwn wyt yn dileu pechodau yr byd, derbyn ein gweddi. Ti yr hwn wyt yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Tad, trugarhâ wrthym. Canys ti yn vnic wyt sanctaidd, ti yn vnic wyt Arglwydd, ti yn vnic Grist, gyd â'r Yspryd glân wyt oruchaf yngogoniant Duw Tad. Amen.
Yna yr Offeiriad, neu yr Escop, os bydd yn bresennol, a ollwng y bobl ymaith â'r fendith hon.
TAngneddyf Dduw yr hwn sydd vchlaw pob deall, a gatwo eich calōnau a'ch meddyliau yngwybodaeth a chariad Duw, [Page] a'i Fab Iesu Grist ein Harglwydd. A bendith Dduw holl-alluog, y Tad, y Mab, a'r Yspryd glan a fyddo i'ch plith, ac a drigo gyd a chwi yn wastad. Amen.
Colectau iw dywedyd yn ol yr offrymiad, pryd na bo vn Cymmun, bob rhyw ddiwrnod, vn. A'r vn rhai a ellir eu dywedyd hefyd cynnifer amser ac y byddo achos yn gwasanaethu, wedi yr Colectau ar y foreuol neu'r Brydnhawnol weddi, y Cymmun, neu yr Letani, fel y gwelo yr Gwenidog fod yn gymhesur.
CAnnorthwya ni yn drugarog Arglwydd, yn ein gweddiau hyn, a'n erfyniau, a llywodraetha ffordd dy wasanaeth-ddynion tu ag at gaffaeliad iechyd tragywyddawl, fel ym-mysc holl gyfnewidiau a damweiniau yr bywyd marwol hwn, y gallont byth gael eu hamddiffyn drwy dy radlawnaf a'th barotaf borth, trwy Grist ein Harglwydd, Amen.
HOll-alluog Arglwydd, a byth-fywiol Dduw, ni a attolygwn iti fod yn wiw gennit vniawni, sancteiddio, a llywodraethu ein calonnau a'n cyrph, yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymynion, megis trwy dy gadarnaf nodded, yma ac yn dragywyddol, y gallom fod yn gadwedic gorph ac enaid, trwy ein Harglwydd a'n Iachawdur Iesu Grist. Amen.
CAniatâ, ni a attolygwn i ti Holl-alluog Dduw, am y geiriau a glywsom heddyw â'n clustiau oddi allan, eu bod felly drwy dy râd, wedi eu plannu yn ein calonnau oddi mewn, fel y gallont ddwyn ynom ffrwyth buchedd dda, er anrhydedd a moliant i'th Enw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
RRag-flaena ni Arglwydd, yn ein holl weithredoedd, â'th radlonaf hoffder, a rhwyddhâ ni â'th barhaus gymmorth, fel yn ein holl weithredoedd dechreuedic, annherfynedic, a therfynedic ynoti, y gallom foliannu dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
HOll-alluog Dduw, ffynnon yr holl ddoethineb, yr hwn wyt yn gwybod ein angenrheidiau cyn eu gofynnom, a'n hanwybodaeth yn gofyn: Ni a attolygwn i ti dosturio wrth ein gwendid, a'r pethau hynny y rhai oblegid ein annheilyngdod ni feiddiwn, ac oblegit ein dallineb ni fedrwn eu gofyn, fod yn deilwng gennit eu rhoddi i ni er teilyngdod dy Fab Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a addewaist wrando eirchion y rhai a ofynnant yn Enw dy Fab, ni a attolygwn i ti ostwng yn drugarog dy glustiau attom ni, y rhai a wnaethom yr awr hon ein gweddiau a'n erfynion attat, a chaniattâ am y pethau hyn a archasom yn ffyddlawn yn ôl dy ewyllys, allu o honom eu caffael yn hollawl, i borthi ein hangen, ac er eglurhau dy ogoniant, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Ar y 'dyddiau gwyliau, oni bydd Cymmun, y dywedir cwbl ac a osodwyd ar y Cymmun, hyd ddiwedd yr homili, gan ddibennu gydâ'r weddi gyffredin (dros holl ystâd Eglwys Grist yn milwrio yma ar y ddaiar) ac vn neu ychwaneg o'r Colectau vchod, fel y bo yr achos yn gwafanaethu.
Ac ni bydd gwasanaethu Swpper yr Arglwydd, oddieithr bod swrn o bobl i gymmuno gyd â'r offeiriad, fel y gwelo efe fod yn iawn.
Ac oni bydd mwy nag vgein-nyn yn y plwyf, o bwyll i gymmeryd y Cymmun bendigedic; etto ni bydd vn Cymmun, oni bydd pedwar, neu dri o'r lleiaf i gymmuno gyd â'r offeiriad.
Ac mewn mam-Eglwysydd, ac Eglwysi Colegiat, lle byddo llawer o Offeiriaid, a Diaconiaid, cymmerant hwy oll y Cymmun gyd â'r Gwenidog bob Sul o'r lleiaf, oni bydd ganddynt achos rhesymmol i'r gwrthwyneb.
Ac er dileu yr ofer-goel y sydd, neu a allo fod gan neb yn y bara a'r gwîn, fe a wasanaetha bod y bara yn gyfryw ac y sydd arferedic iw fwyta ar y bwrdd, gyd â bwydydd eraill, eithr y bara gwenith o'r gorau, a'r puraf ac a aller ei gael yn gymmwys. Ac o gweddill peth o'r bara nen yt gwîn, y Curat a'i caiff iddo ei hun.
Y bara a'r gwîn i'r Cymmun a baratoir gan y Curat a wardeniaid yr Eglwys, ar gôst y plwyf; a'r plwyf a ryddheir o ryw symmau arian, neu ddyledion eraill yr oeddynt arferedic o'r blaen i'w talu am danaw, wrth ddygymmod eu tai bob Sul.
Noda hefyd, bod i bob plwyfol Gymmuno o'r lleiaf dair gwaith yn y flwyddyn, ac o hynny bod y Pâsc yn vn; a chymeryd hefyd y Sacramentau a'r defodau eraill, yn ol y drefn osodedic yn y llyfr hwn. A'r Pâsc bob blwyddyn, bod i bob plwyfol gyfrif â'i Berson, Vicar, neu ei Gurat, neu ei brocurator, neu ei brocuratoriaid, a thalu iddynt, neu iddo ef yr holl ddyledion Eglwysic, a fo yn arferedic yn ddyledus yna, ar yr amser hynny iw talu.
❧ Gweinidogaeth y Bedydd iw arfer yn yr Eglwys.
YMae yn eglur trwy hên scrifennyddion, nad oeddid yn gyffredinol yn yr hen amser, yn arfer o wasanaethu Sacrament y Bedydd, oddieithr dau amser yn y flwyddyn: sef y Pasc ar Sul-gwyn. Ac ar yr amserau hynny y gwasanaethid ef ar gyhoedd yngwydd yr holl gynnulleidfa. Yr honddefod yn awr aeth allan o arfer (gan na ellir er mwyn llawer o achosion ei hadnewyddu) er hynny fe a dybir bod yn iawn canlyn y ddefod honno cyn nesed ag y gellid yn gymhesur. Oblegit paham, rhybyddier y bobl, fod yn gymhesuraf na wasanaether y Bedydd namyn ar Suliau, a dyddiau gwyliau eraill, pan allo y nifer mwyaf o'r bobl ddyfod ynghyd, yn gystal er mwyn bod i'r gynnulleidfa yno yn bresennol dystiolaethu derbyniad y sawl a fedyddier yr amser hynny, i nifer Eglwys Grist, a hefyd oblegit ym medydd rhai bychain bod i bob dyn a fo yno yn bresennol alw ei gof atto am ei broffes a'i addewid a wnaeth ef gynt yn ei fedydd. Herwydd hynny hefyd y mae yn gymmhesur bod gwasanaeth y Bedydd yn ein hiaith Gamberaec. Ac er hyn yma oll (os bydd anghenrheidiol) fe a ellir bedyddio rhai bychain bob amser gartref.
Bedydd Public.
Pan fyddo plant iw bedyddio ar ddydd Sul, neu ddydd gwyl arall, fe a ddylei eu tradau roddi rhybudd tros nos, neu [Page] y borau cyn dechreu y foreuol weddi, i'r Curat. Yna bydded y tadau bedydd, a'r mammau bedydd, a'r bobl, yn barod wrth y Bedyddfan, naill ai yn y man ar ôl y llîth ddiwethaf o'r foreuol weddi, neu ynteu yn y man yn ôl y llith ddiwethaf ar y Brydnhawnol weddi, megis y gosoto y Curat yn ôl ei ystyriaeth ei hun. A chan sefyll yno, gofynned yr Offeiriad, a fedyddiwyd y plant, a'i na fedyddiwyd? os attebant, Na ddo: yna dyweded yr Offeiriad fel hyn.
FY ngharedigion, yn gymmaint ac ymddwyn a geni pob dyn mewn pechod, a bod ein Iachawdur Christ yn dywedyd, na ddichon neb gael myned i mewn i deyrnas Duw, oddieithr ei ail-eni ef o ddwfr ac o'r Yspryd glân: Attolwg ydd wyf i chwi alw ar Dduw Tâd, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar fod iddo o'i ddaionus drugaredd ganiatâu i'r plant hyn, y peth drwy nerth natur ni allant ddyfod iddo, gael eu bedyddio â dwfr, ac â'r Yspryd glân, a'u derbyn i lân Eglwys Grist, a bod yn aelodau by wiol o'r vn-rhyw.
Yna y dywed yr Offeiriad.
Gweddiwn.
HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn o'th fawr drugaredd a gedwaist Noe a'i deulu yn yr Arch rhag eu cyfr-golli gan ddwfr; a hefyd a dywysaist yn ddiangol blant yr Israel dy bobl drwy yr môr côch, gan arwyddocau wrth hynny dy lân fedydd; a thrwy fedydd dy garedic Fâb Iesu Grist a sancteiddiaist afon Iorddonen, a phob dwfr arall, er dirgel olchedigaeth pechodau: Attolygwn [Page] i ti er dy aneirif drugareddau, edrych o honot yn drugarog ar y plant hyn, eu sancteiddio hwy, a'u glanhau a'r Yspryd glân, fel y byddo iddynt hwy gael eu gwared oddi wrth dy lid, a'i derbyn i Arch Eglwys Grist, a chan fod yn gedyrn mewn ffydd, yn llawen gan obaith, ac wedi ymwreiddio ynghariad perffaith, allu o honynt fordwyo tros donnau y byd trallodus hwn, ac o'r diwedd, allu dyfod i dir y by wyd tragywyddawl, yno i deyrnasu gyd â thi heb drangc na gorphen, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
HOll-alluog ac anfarwol Dduw, porth pob anghenog, nawdd-wr pawb a gilio attat am gynhorthwy, bywyd y rhai a gredant, a chyfodiad y meirw: ydd ŷm yn galw arnat tros y rhai bychain hyn, ar iddynt hwy yn dyfod i'th lân fedydd, gael derbyn maddeuaint o'u pechodau, drwy adenedigaeth ysprydol. Derbyn hwy Arglwydd, megis yr addewaist trwy dy garedic Fâb, gan ddywedyd; Gofynnwch, a rhoddir i chwi, Ceisiwch a chwi a gewch, Curwch ac fe agorir i chwi. Felly yn-awr dyro i ni, a ni yn gofyn, pâr i ni gael, a ni yn ceisio; agor y porth i ni sy yn curo; fel y gallo y rhai bychain hyn fwynhau tragywyddol fendith dy nefol olchiad, a dyfod i'r deyrnas dragywyddawl, yr hon a addewaist trwy Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna y dyweid yr Offeiriad.
Gwrandewch ar eiriau yr Efengyl a scrifennodd Sanct Marc yn y ddecfed bennod.
Marc. 10.13. YR amser hynny y dygasant blant bychain at Grist, fel y cyffyrddei efe â hwynt: a'r discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. A'r Iesu pan welodd hynny fu anfodlon, [Page] ac a ddywedodd wrthynt: gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wîr meddaf i chwi, pwy bynnac ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a ddodes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.
Yn ôl darllen yr Efengyl, y traetha y Gwenidog y cyngor byr yma ar eiriau yr Efengyl.
Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau ein Iachawdur Christ, yn gorchymmyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynnasei eu cadw oddi-wrtho; pa wedd y cynghora efe i bob dyn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall, wrth ei agwedd ef a'i weithred, modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: canys efe a'u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a roddodd ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, y cymmer efe yr vn ffunyd yn ymgeleddgar y rhai bychain hyn, y cofleidia efe hwy â breichiau ei drugaredd, y dyry iddynt fendith y bywyd tragywyddawl, ac y gwna hwy yn gyfrannogion o'i ddidrangc deyrnas. O herwydd pa ham, gan ein bod ni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tâd nefol tu ag at y rhai bychain hyn, wedi ei amlygu trwy ei Fâb Iesu Grist, ac heb ddim ammau gennym ei fod efe yn derbyn yn rasusol ein gweithred gardodawl hon yn dwyn y plant hyn i'w sanctaidd Fedydd ef; diolchwn yn ffyddlon, ac yn ddefosionol iddo, gan ddywedyd.
HOll-alluog a thragwyddol Dduw, Nefol Dâd, ydd ŷm ni yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth dy râs, a ffydd ynot: Ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon ynom yn wastad; dyro dy Yspryd glân i'r rhai bychain hyn, fel y ganer hwy eilwaith, a'u gwneuthur yn etifeddion Iechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gyd â thi, a'r Yspryd glân, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
Yna dyweded yr Offeiriad wrth y Tadau-bedydd ar Mammau-bedydd yn y modd hyn.
Y Caredigion bobl, chwi a ddygasoch y plant hyn yma iw bedyddio, chwi a weddiasoch ar fod yn wiw gan ein Harglwydd Iesu Grist eu derbyn hwy, rhoddi ei ddwylo arnynt, eu bendithio, maddeu iddynt eu pechodau, rhoddi iddynt deyrnas nefoedd a bywyd tragywyddol. Chwi a glywsoch hefyd ddarfod i'n Harglwydd Iesu Grist addo yn ei Efangyl ganhiadu yr holl bethau hyn a weddiasoch chwi am danynt: yr hwn addewid efe o'i ran ef a'i ceidw yn wîr ddiogel, ac a'i cwplâ. Herwydd pa achos yn ôl yr addewid hyn a wnaeth Christ, rhaid yw i'r rhai bychain hyn yn ffyddlon, ar eu rhan hwythau, addo trwoch-chwi sy feichiau drostynt, ymwrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, ac yn wastad credu gwynfydedic air Duw, ac yn vfydd cadw ei orchymynion.
Yna y gofyn yr, Offeiriad i'r Tadan-bedydd, a'r Mammau bedydd yr ymofynion hyn isod.
A Ydwyt ti yn ymwrthod â diafol, ac â'i holl weithredoedd, coeg rodres, a gwag-orfoledd y byd a'i [Page] holl chwantau cybyddus, anysprydol ewyllys y cnawd, fel na ddilynech hwynt, ac na'th dywyser ganddynt?
Yr ydwyf yn ymwrthod â hwynt oll.
A Wyt ti yn credu yn Nuw Tâd holl-gyfoethog, Creawdr nef a daiar? Ac yn Iesu Grist ei vn Mab ef ein Harglwydd ni? A'i genhedlu o'r Yspryd glân? A'i eni o Fair forwyn? iddo ddioddefdan Pontius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw a'i gladdu? descyn o honaw i vffern, a'i gyfodi y trydydd dŷdd, ac escyn o hono i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Tâd holl-alluog, ac y daw efe oddi yno yn niwedd y bŷd i farnu byw a meirw? A wyti yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cymmun y Sainct, maddeuaint pechodau, adgyfodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?
Hyn oll ydd wyf yn ei gredu yn ddilys.
A fynni di dy fedyddio yn y ffŷdd hon?
Hynny yw fy ewyllys.
Yna y dywed yr Offeiriad.
O Drugarog Dduw, caniatâ felly gladdu yr hên Adda yn y plant hyn, fel y cyfotter y dyn newydd ynddynt hwy. Amen.
Caniatâ fod i holl chwantau 'r enawd farw ynddynt, ac i bob peth a berthyn i'r Yspryd allu byw a chynnyddu ynddynt. Amen.
Caniatâ fod iddynt nerth a gallu i gael yr oruchafiaeth, a'r gorfod yn erbyn diafol, y byd, a'r cnawd, Amen.
Caniatâ fod i bwy bynnac y sydd yma wedi ei gyssegru i ti trwy ein swydd a'n gweinidogaeth ni, allu hefyd bod yn gynyscaeddol o rinweddau nefol, a bod iddynt gael eu tragywyddol obrwyaw drwy dy drugaredd, ô fendigedic Arglwydd Dduw, yr hwn wyt yn byw, ac yn llywiaw pob peth, yn oes oesoedd. Amen.
HOll-gyfoethog fyth-fywiol Dduw, yr hwn y bu i'thgarediccaf Fâb Iesu Grist dros faddeuant o'n pechodau, oddef gollwng o'i werth-fawr ystlys ddwfr a gwaed, a rhoddi gorchymmyn iw ddiscyblion fyned a dyscu pob cenedl, a'u bedyddio yn Enw y Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân: Ystyria attolwg i ti wrth weddiau dy gynnulleidfa, a chaniatâ fod i bawb o'th weision a fedyddier yn y dwfr hwn, dderbyn cyflawnder dy ras, ac aros byth yn nifer dy ffyddlon blant etholedig, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna y cymmer yr Offeiriad y dyn bychan yn ei ddwylaw, ac y gofyn yr enw. A chan enwi y plentyn efe a'i trocha ef yn y dwfr, a hynny yn ddiesceulus, ac yn ddarbodus, gan ddywedyd.
N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.
Ac o bydd y dyn bychan yn wan, digon fydd bwrw dwfr arnaw, gan ddywedyd y geiriau dywededic vcho.
N. Yr ydwyfi yn dy fedyddio di yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.
Yna gwneled yr Offeiriad groes yn nhalcen y dyn bach, gan ddywedyd.
YR ydym ni yn derbyn y plentyn hwn i gynnulleidfa defeid Christ, ac yn ei nodi ef ag arwydd y grôg, yn arwyddocâd na bo iddo rhag llaw gymmeryd yn gywilydd gyffessu ffydd Christ a groes-hoeliwyd, ac iddo ymladd yn wrol tan ei faner ef, yn erbyn pechod, y byd, a'r cythrael, a pharhau yn filwr ffyddlawn ac yn wâs i Grist, holl ddyddiau ei enioes. Amen.
Yna y dywed yr Offeiriad.
CAn ddarfod yn awr, garedigion frodyr, ad-eni, a dodi y plant hyn ynghorph cynnulleidfa Christ, diolchwn ninnau i Dduw am ei ddaioni hyn, ac o gyd-vndab gwnawn ein gweddiau ar y Goruchaf Dduw, ar fod iddynt hwy ddiweddu y rhan arall o'u bywyd yn ôl hyn o ddechreuad.
Yna y dywedir.
Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Yna y dywed yr Offeiriad.
MAwr ddiolchwn i ti drugaroccaf Dâd, ryngu bodd it' ad-eni y plentyn hwn â'th Yspryd glân, a'i dderbyn yn blentyn i ti dy hun trwy fabwys, a'i gorphori i'th gynnulleidfa sanctaidd. Ac yn ostyngedic yr attolygwn i ti ganiatâu, gan ei fod efe yn farw i bechod, ac yn byw i gyfiawnder, ac yn gladdedic gyd â Christ yn ei angeu, allu croeshoelio yr hên ddyn, ac yn hollawl ymwrthod â holl gorph pechod, fel megis y mae efe wedi ei wneuthur yn gyfrannog o angeu dy Fâb, iddo fod yn gyfrannog o'i gyfodiad, ac felly o'r diwedd, ynghŷd â'r rhan arall 'oth sanctaidd gynnulleidfa, bod o honaw yn etifedd dy deyrnas dragywyddol, drwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Ac yn y pen diwethaf, yr Offeiriad, gan alw y Tadaubedydd, a'r Mammau-bedydd ynghyd, a ddywed hyn o fyr gyngor sydd yn canlyn.
YN gymmaint a darfod i'r plant hyn addo trwochwi, ymwrthod â diafol, a'i holl weithredoedd, credu yn-Nuw, a'i wasanaethu ef: Rhaid i chwi feddwl, mai eich rhan a'ch dylêd yw, gweled dyscu o'r plant hyn, cyn gynted ag y gallont ddyscu, pa ryw hynod adduned, addewid, a phroffes a wnaethant hwy drwoch-chwi. Ac er mwyn gallu o honynt wybod y pethau hyn yn well, chwi a elwch arnynt i wrando pregethau. Ac yn bendifaddef rhaid i chwi weled dyscu o honynt y Credo, Gweddi yr Arglwydd, a'r dec gorchymmyn mewn iaith a ddeallont, a phob peth arall a ddylei Gristion ei wybod, a'i gredu, er iechyd iw enaid; a bod meithrin y plant hyn yn rhinweddol, iw hyweddu mewn buchedd dduwiol a Christionogawl, gan gofio yn wastad, bod Bedydd yn arwyddocau i nyni ein proffess, hynny yw, bod i ni ganlyn esampl ein Iachawdur Christ, a'n gwneuthur yn gyffelyb iddo ef: fel megis ac y bu efe farw, ac y cyfodes drachefu drosom ni, felly y dylem ni y rhai a fedyddiwyd, farw oddi wrth bechod, a chyfodi i gyfiawnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhagom ym-mhôb rhinwedd dda, a buchedd dduwiol.
Y Gwenidog a orchymyn ddwyn y plant at yr Escob i'w conffirmo ganddo, cyn gynted ac y medront ddywedyd yn eu tafod-iaith gyffredin byngciau y ffydd, Gweddi yr Arglwydd, a'r deng-air Deddf, a bod hefyd wedi eu haddyscu yn y Catechism a osodwyd ar fedr hynny, megis y mae wedi ei egluro yno.
Am y rhai a fo iw bedyddio mewn tai gartref, ar amser anghenrhaid; gan weinidog y plwyf, neu ryw weinidog arall a aller ei gael.
BId i'r Bugeiliaid, a'r Curadiaid rybuddio yn fynych y bobl, nad oedont Fedydd y plant bellach nâ'r Sûl, neu yr dydd gwyl nesaf yn ol geni y plentyn; oddieithr ar achos mawr a rhesymol a yspyser i'r Curat, ac a dderbynio yntef.
A hefyd hwy a'u rhybuddiant, na pharont fedyddio eu plant gartref yn eu tai, heb achos mawr ac angen: a phan gymhello anghenrhaid iddynt wneuthur hynny, yna y gwneir yn y modd hyn.
Yn gyntaf bid i'r gweinidog cyfreithlon, ac i'r rhai a fyddo yn y fan, alw ar Dduw am ei râd, a dywedyd gweddi yr Arglwydd, os gâd yr amser; Ac yna, wedi henwi yr plentyn gan ryw vn a fyddo yn bresennol, y gweinidog cyfreithlawn hwnnw, a'i trocha mewn dwfr, neu a fwrw ddwfr arno, gan ddywedyd y geiriau hyn.
N. Yr wyfi yn dy fedyddio di yn Enw y Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan. Amen.
Ac nac amheuant am y dyn-bach a fedyddier felly, nad yw efe wedi ei fedyddio yn ddeddfol, ac yn ddigonol, Ac na ddyleir ei fedyddio mwy. Eithr er hynny i gyd, os y plentyn a fedyddiwyd yn y modd hwn a fydd byw rhag llaw, iawn fydd ei ddwyn ef i'r Eglwys, fel y gallo yr Offeiriad neu 'r gwenidog plwyf, os efe ei hun a fedyddiodd y dyn bach hwnnw, hyspysu i'r gynnulleidfa ddarfod iddo ei fedyddio yn wir ddeddfol gartref: Neu os gweinidog cyfreithlon arall a fedyddiodd y dyn bach, y gallo gweinidog y plwyf y ganwyd y plentyn ynddo, holi, a threio a fedyddiwyd y plentyn yn ddeddsol, ai naddo. [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] [...] [Page] Ac yn yr achos hwnnw, os y rhai a ddygant y plentyn i'r Eglwys, a attebant ddarfod bedyddio y plentyn ensus, yna holed y Gweinidog hwy ym-mhellach, gan ddywedyd,
Gan bwy y bedyddiwyd y dyn bach?
Pwy oedd yn y fan, pan fedyddiwyd y dyn bach?
Ac o herwydd y gallai fod, ddarfod gadael heibio ryw bethau a berthyn i hanffod y Sacrament hwn, trwy ofn neu frys, yn y cyfryw gyfyngder: Am hynny y gofynnaf i chwi ym mhellach,
A pha ddefnydd y bedyddiwyd y plentyn?
A pha eiriau y bedyddiwyd y plentyn?
A ydych chwi yn tybied fod y plentyn wedi ei fedyddio yn ddeddfol ac yn berffaith?
Ac os y Gwenidog a brawf wrth attebion y rhai a ddygasant y plentyn atto, fod pob peth wedi ei wneuthur modd y dylei: Yna na fedyddied efe y plentyn drachefn, eithr ei dderbyn yn vn o nifer y gwir Gristionogion, gan ddywedyd fel hyn.
Yr ydwyfi yn hyspysu i chwi wneuthur o honoch yn dda yn y treigl hyn, ac wrth iawn drefn berthynasol, wrth fedyddio y plentyn yma, yr hwn wedi ei eni mewn pechod dechreuol, ac mewn digofeint Duw, sydd yn-awr drwy olchiad yr ad-enedigaeth ym-medydd, wedi ei dderbyn i nifer plant Duw, ac etifeddion bywyd tragywyddol: Canys nid yw ein Harglwydd Iesu Grist yn nacâu ei rad a'i drugaredd i gyfryw rai bychain, on y mae yn garueiddiaf yn eu gwahodd atto, megis y tystia yr Efengyl fendigedic er ein conffordd ni, yn y wedd hon.
Marc. 10.13.YR amser hynny y dygasant blant bychain at Grist, fel y cyffyrddei efe â hwynt; a'r discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt; A'r Iesu pan welodd hynny, fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt: canys eiddo 'r cyfryw [Page] rai yw teyrnas Dduw. Yn wîr meddaf i chwi, Pwy bynnac ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a ddodes ei ddwylaw arnynt, ac a'u bendithiodd.
Yn ôl darllen yr Efengyl, y traetha y Gwenidog y cyngor yma ar eiriau yr Efengyl.
Y Caredigion, chwi a glywch yn yr Efengyl hon eiriau ein Iachawdur Christ, yn gorchymmyn dwyn plant atto, pa wedd y ceryddodd efe y rhai a fynnasei eu cadw oddi wrtho, pa wedd y mae efe yn cynghori i bob dŷn ganlyn eu gwiriondeb hwy. Yr ydych chwi yn deall wrth ei agwedd ef a'i weithred, modd y dangoses ei ewyllys da iddynt: canys efe a'u cofleidiodd hwy yn ei freichiau, efe a ddododd ei ddwy-law arnynt, ac a'u bendithiodd hwynt. Nac amheuwch gan hynny, eithr credwch yn ddifrif, ddarfod iddo gymmeryd yr vn ffunyd yn ymgeleddgar y dyn-bychan hwn, a'i gofleidio â breichiau ei drugaredd, rhoi iddo fendith y bywyd tragywyddol, a'i wneuthur yn gyfrannog o'i ddidrangc deyrnas. Herwydd pa ham, a nyni yn credu fel hyn am ewyllys da ein Tad nefol, wedi ei amlygu trwy ei Fâb Iesu Grist, tu ag at y dyn-bychan hwn: diolchwn yn ffyddlon, ac yn ddefosionol iddo, gan ddywedyd y weddi a ddyscodd yr Arglwydd ei hun; ac er mynegi ein ffŷdd, adroddwn y pyngciau a gynhwysir yn ein Credo.
Yna yr Gwenidog gyd â'r Tadau bedydd, a'r Mammau-bedydd a ddywedant.
¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Yna y gofyn yr Offeiriad enw y dyn-bychan, a phan ddarffo i'r Tadau-bedydd, a'r Mammau-bedydd ei adrodd, y Gwenidog a ddywed.
A ydwyt ti yn enw y plentyn hwn yn ymwrthod â diafol a'i holl weithredoedd, gwag rodres a gogoniant y byd, a'i holl chwantau cubyddus, anysprydol ewyllysion y cnawd, ac na chanlynech hwynt, ac na'th dywyser ganddynt?
Ydd wyfi yn ymwrthod â hwynt oll.
A wyt ti yn enw y plentyn hwn yn proffessu y ffŷdd hon, sef Credu yn-Nuw Dad, holl-gyfoethog, Creawdr nef a daiar? Ac yn Iesu Grist ei vn Mâb ef, ein Harglwydd ni, a'i genhedlu o'r Yspryd glân, ei eni o Fair wyryf, iddo ddioddef dan Bontius Pilatus, ei groes-hoelio, ei farw, a'i gladdu, discyn o honaw i vffern, a'i gyfodi y trydydd dydd, a'i escyn i'r nefoedd, a'i fod yn eistedd ar ddeheu-law Duw Tâd holl-alluog, ac y daw oddi yno yn-niwedd y byd i farnu byw a meirw? Ac a ydych chwi yn ei enw ef yn credu yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cymmun y Sainct, maddeuaint pechodau, adgyfodiad y cnawd, a bywyd tragywyddol gwedi angeu?
Hyn oll yr wyfi yn ei gredu yn ddilys.
Gweddiwn.
HOll-alluog a thragy wyddol Dduw, Nefol Dâd, ydd ŷm ni yn ostyngedic yn diolch i ti fod yn wiw gennit ein galw i wybodaeth by râd, a ffŷdd ynot: ychwanega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ y ffydd hon ynom yn wastad, dyro dy Yspryd glân i'r plentyn hwn, fel y ganer ef eil-waith, a'i wneuthur yn etifedd Iechyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ac y gallo barhau yn wâs i ti, a mwynhau dy addewid, trwy yr vn ein Harglwydd Iesu Grist dy Fâb, yr hwn sydd yn byw [Page] ac yn teyrnasu gyd â thi, yn vndod yr vnrhyw Yspryd glân yn dragywydd. Amen.
Yna rhoed y Gwenidog y cynghor hwn i'r Tadau a'r Mammau-bedydd.
YN gymmaint a darfod i'r plentyn hwn addo trwoch chwi, yn wrthod â diafol a'i holl weithredoedd, credu yn-Nuw, a'i wasanaethu, rhaid i chwi feddwl mai eich rhan a'ch dyled chwi yw gweled dyscu o'r plentyn hwn cyn gytlymed ag y gallo ddyscu pa ryw hynod adduned, addewid, a phroffes a wnaeth efe orwoch chwi. Ac er mwyn gallu o honaw wybod y pethau hyn yn well, bod i chwi alw arno i wrando pregethau. Ac yn bendifaddef bod i chwi weled dyscu o honaw ef y Credo, Gweddi yr Arglwydd, a'r deng-air deddf yn yriaith a ddeallo, a phob peth arall a ddylei Gristion ei wybod a'i gredu er iechyd iw enaid; a bod meithrin y plentyn hwn yn rhinweddol, iw hy weddu mewn buchedd dduwiol a Christianogol, gan gofio yn wastad fod Bedydd yn arwyddocau i ni ein proffes, hynny yw bod i mganlyn esampl ein Iachawdur Crist, a'n gwneuthur yn gyffelyb iddo ef: fel megis ac y bu efe farw, ac y cyfodes drachem drosom ni, felly y dylem ni y rhai a fedyddiwyd, farw oddiwrth bechod, a chyfodi i gyfiawnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni, a'n gwyniau llygredic, a pheunydd myned rhagom ym-mhob rhinwedd dda a buchedd ddu wiol.
Ac felly rhag-llaw, fel yn y Bedydd public.
Eithr os y rhai a ddygant y plant i'r Eglwys a wnant y cyfryw atteb anyspysol i ofynion yr Offeiriad, fel na aller gwybod a ddarfu bedyddio y plentyn â dwfr, yn enw 'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glân, yr hyn sydd o hanffod y Bedydd: yna bedyddied yr Offeiriad ef yn ol y ffurf scrifennedic [Page] vchod am y Bedydd Public, oddieithr wrth drochi y dyn bach yn y ffons, efe a arfer y ffurf hon ar eiriau.
Oni ddarfu dy fedyddio di eusys, N. ydd wyfi yn dy fedyddio di, yn Enw 'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glan, Amen.
Trefn Conffirmasion, neu arddodiad dwylo ar blant a fedyddiwyd, ac a fedrant roi cyfrif o'i ffydd, yn ôl y Catechism sydd yn canlyn.
ER mwyn bod ministrio Conffirmasion er mwy o adeilad i'r sawl a'i derbynio (yn ol athrawiaeth Sanct Paul, yr hwn sydd yn dyscu y dylid gwneuthur pob peth yn yr Eglwys er adeilad iddi) fe a dybir bod yn dda na bo conffirmo neb rhagllaw, onid cyfryw a fedro dywedyd ynnhafod-iaith eu mam, fannau yr ffydd, gweddi yr Arglwydd, a'r deng-air-Deddf, a medru hefyd atteb i gyfryw ymofynion o'r Catechism byrr hwn, ag y byddo i'r Escob (neu i'r neb a osodo efe i hyn) yn ôl ei feddwl ei opposio hwynt ynddo. A'r drefn hon y sydd weddusaf ei chadw, er mwyn amrafael ystyriaethau.
Yn gyntaf, o herwydd pan ddêl plant mewn oedran synwyr, a gwybod pa beth a addawodd eu tadau bedydd, a'u mammau-bedydd drostynt wrth eu bedyddio; yna y gallont eu hun â'u genau eu hunain, ac o'u cydsynniad eu hunain, ar osteg yngwydd yr Eglwys gonffirmio, a chadarnhau yr vn rhyw addewid: a hefyd addo, drwy nerth rhâd Duw, ymegnio yn wastad i gadw yn ffyddlawn y cyfryw bethau ac a fu iddynt hwy â'u genau eu hunain, ac â'u cyffes gydsynniaw arno.
Ail yw, yn gymmaint a bod ministrio conffirmasion i'r rhai a fedyddiwyd, megis trwy osod dwylo arnynt a gweddi, y gallont dderbyn gallu ac ymddiffyn yn erbyn pob profedigaeth i bechu, a rhuthrau yr byd, a'r cythrael; cymmesuraf yw ministrio conffirmasion pan ddel plant i'r cyfryw oedran, ac y bo iddynt, peth o ran gwendid eu cnawd eu hun, peth o ran rhuthrau yr byd a'r cythrael, ddechreu bod mewn pericl i syrthio mewn amryw bechodau.
Trydydd, am fod hynny yn gysson â defod yr Eglwys yn yr amser gynt, lle darfu ordeinio bod ministrio conffirmasion i'r rhai a fyddent o gyflawn oedran, fel y byddei iddynt hwy wedi eu haddyscu mewn Crefydd Gristionogawl, allu yn gyhoeddoc broffessu eu ffydd eu hunain, ac addo bod yn vfydd i ewyllys Duw.
Ac fel na bo i neb dybied fod dim niwed yn dyfod i'r plant herwydd oedi ei conffirmasion, gwybydded yn ddiau, fod yn ddilys wrth air Duw am y plant a fedyddiwyd, ddarfod iddynt gael bob peth anghenrheidiol i iechyd eu henaid, a'u bod yn ddiammau yn gadwedic.
Y Catechism, sef yw hynny, athrawiaeth i'w dyscu gan bob plentyn, cyn ei ddwyn i'w gonffirmio gan yr Escob.
BEth yw dy enw di?
N. neu M. neu 'r cyfryw.
Pwy a roddes yr enw hwnnw arnat ti?
Fy nhadau bedydd, a'm mammau bedydd wrth fy medyddio, pan i'm gwnaethpwyd yn aelod i Grist, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nêf.
Pa beth a wnaeth dy dadau bedydd a'th fammau bedydd yr amser hwnnw trosot ti?
Hwy a addawsant, ac a addunasant dri pheth yn fy enw. Yn gyntaf, ymwrthod o honof â diafol, ac â'i holl weithredoedd a'i rodres, gorwagedd y byd anwir, a phechadurus chwantau y cnawd. Yn ail bod i mi gredu holl byngciau ffydd Grist. Ac yn drydydd cadw o honof wynfydedic ewyllys Duw a'i orchymmynion, a rhodio ynddynt holl ddyddiau fy mywyd.
Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwymedig i gredu ac i wneuthur megis ac yr addawsant hwy trosot ti?
Ydwyf yn wîr, a thrwy nerth Duw felly y gwnâf. Ac ydd wyfi yn mawr ddiolch i'n Tâd nefol, am iddo fy ngalw i gyfryw Iechydwriaeth hyn, trwy Iesu Grist ein Iachawdur. Ac mi a attolygaf i Dduw roddi i mi ei râd, modd y gallwyf aros ynddo holl ddyddiau fy einioes.
Adrodd i mi fannau dy ffydd?
Credaf yn Nuw Dâd holl-gyfoethog, Creawdur nef a daiar. Ac yn Iesu Grist ei vn Mâbef ein Harglwydd ni, yr hwn a gafŵyd trwy yr Yspryd glân, a aned o Fair forwyn, a ddioddefodd tan Bontius Pilat, a groes-hoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd. Descynnodd i vffern. Y trydydd dydd y cyfododd o feirw. Derchafodd i'r nefoedd, ac eistedd y mae ar ddeheu law Dduw Dâd holl-alluog. Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, Yr Eglwys lân Gatholic, Cymmun [Page] y Sainct, Maddeuant pechodau, Cyfodiad y cnawd, A'r bywyd tragywyddol. Amen.
Pa beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf yn y pyngciau hyn o'th ffŷdd?
Yn gyntaf yr wyf yn dyscu credu yn Nuw Dâd, yr hwn a'm gwnaeth i a'r holl fyd.
Yn ail, yr ydwyf yn credu yn Nuw Fâb, yr hwn a'm prynodd i, a phob rhyw ddŷn.
Yn drydydd, yr wyf yn credu yn Nuw Yspryd glân, yr hwn sydd i'm sancteiddio i, a holl etholedig bobl Dduw.
Ti a ddywedaist ddarfod i'th Dadau-bedydd a'th Fammau-bedydd, addo trosot ti, fod i ti gadw gorchymmynion Duw; Dywet titheu i mi, pa nifer sydd o honynt?
Dec.
Pa rai ydynt?
Y Rhai hynny a lefarodd Duw yn yr vgeinsed bennod o Exodus, gan ddywedyd, Myfi yw 'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di ymmaith o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
1 Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.
2 Na wna it dy hûn ddelw gerfiedic, na llûn dim ac y sydd yn y nefoedd vchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar. Na ostwng iddynt, ac na addola hwynt: oblegit myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau'r tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt, ac yn gwnruthur [Page] trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchymynion.
3 Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei Enw ef yn ofer.
4 Cofia gadw yn sanctaidd y dŷdd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn dy byrth. Canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd. O herwydd paham y bendithiodd yr Arglwydd y seithfed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.
5 Anrhydedda dy dâd a'th fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
6 Na lâdd.
7 Na wna odineb.
8 Na ladratta.
9 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
10 Na chwennych dŷ dy gymmydog; na chwennych wraig dy gymmydog; na'i wâs, na'i forwyn, na'i ŷch, na'i assyn, na dim a'r sydd eiddo.
Beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf wrth y gorchymynion hyn?
Yr ydwyf yn dyscu dau beth: fy nylêd tu ag at Dduw, a'm dylêd tu ag at fy nghymmydog.
Pa beth yw dy ddylêd tu ag at Dduw?
Fy nylêd tu ag at Dduw yw, Credu ynddo, ei ofni, a'i garu, a'm holl galon, â'm holl enaid, ac â'm holl nerth, Ei addoli ef, diolch iddo, rhoddi fy holl ymddiried ynddo, galw arno, anrhydeddu ei sanctaidd Enw ef a'i air, a'i wasanaethu yn gy wir holl ddyddiau fy mywyd.
Pa beth yw dy ddylêd tu ag at dy gymmydog?
Fy nylêd tu ag at fy nghymmydog yw, ei garu fel fi fy hun, a gwneuthur i bob dyn megys y chwennychwn iddo wneuthur i minneu. Caru o honof, anrhydeddu, a chymmorth fy nhâd â'm mam. Anrhydeddu, ac vfyddhau i'r Brenhin a'i swyddogion. Ymddarostwng i'm holl lywiawdwyr, dyscawdwŷr, Bugeiliaid ysprydol, ac athrawon. Ymddwyn o honof yn ostyngedic, gan berchi pawb o'm gwell. Na wnelwyf niwed i neb ar air na gweithred. Bod yn gywir ac yn vnion ymmhob peth a wnelwyf. Na bo na châs na digasedd yn fy nghalon i neb. Cadw o honof fy nwylaw rhac chwilenna a lledratta, cadw fy nhafod rhac dywedyd celwydd, cabl-eiriau, na drwg absen. Cadw fy nghorph mewn cymhedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb. Na chybydd wyf ac na ddeisyfwyf dda na golud neb arall. Eithr dyscu, a llafurio yn gywir, i geisio ennill fy mywyd, a gwneuthur a ddylwyf, ymmha ryw fuchedd bynnac y rhyngo bodd i Dduw fy ngalw.
Fy anwyl blentyn, gwybydd hyn ymma, nad wyt ti abl i wneuthur y pethau hyn o honot dy hûn, nac i rodio yngorchymynion Duw nac iw wafanaethu ef, heb ei yspysol râd ef; yr hwn sydd raid i ti ddyscu [Page] yn wastad ymoralw am dano trwy ddyfal weddi. Gan hynny moes i mi glywed a fedri di ddywedyd gweddi yr Arglwydd?
Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw, Deued dy deyrnas. Bid dy ewyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ni i'n dyledwŷr, Ac na thywys ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg. Canys ti biau 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
Pa beth ydd wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y weddi hon?
Yr ydwyf yn erchi ar fy Arglwydd Dduw, ein Tâd nefol, yr hwn yw rhodd-wr pob daioni, ddanfon ei rad arnaf, ac ar yr holl bobl, fel y gallom ei anrhydeddu ef, a'i wasanaethu, ac vfyddhau iddo megis y dylem. Ac ydd wyf yn gweddio ar Dduw ddanfon i ni bob peth anghenrheidiol, yn gystal i'n heneidiau, ac i'n cyrph; A bod yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pechodau; A rhyngu bodd iddo ein cadw a'n amddeffyn ym mhob pericl ysprydol a chorphorol: A chadw o honaw nyni rhag pob pechod ac an wiredd. a rhag ein gelyn ysprydol, a rhag angeu tr agywyddol. A hyn yr yd wyf yn ei obeithio y gwna efe o'i drugaredd a'i ddaioni, trwy ein Harglwydd Iesu Grist: ac am hynny ydd wyf yn dywedyd, Amen. Poet gwîr.
Pa sawl Sacrament a ordeiniodd Christ yn ei Eglwys?
Dau yn vnig, megis yn gyffredinol yn anghenrhaid i Iechydwriaeth, sef, Bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Pa beth yr wyt ti yn ei ddeall wrth y gair hwn Sacrament?
Yr wyfi yn deall, Arwydd gweledig oddi allan, o râs ysprydol oddifewn a roddir i ni; yr hwn a ordeiniodd Christ ei hun, megis modd i ni i dderbyn y grâs hwnnw trwyddo, ac i fod yn wystl i'n siccrhau ni o'r grâs hwnnw.
Pa sawl rhan y sydd mewn Sacrament?
Dwy, yr arwydd gweledig oddiallan, a'r grâs ylprydol oddifewn.
Pa beth yw 'r Arwydd gweledig oddiallan, neu'r ffurf, yn y Bedydd?
Dwfr: yn yr hwn y trochir y neb a fedyddir, neu yr hwn a daenellir arno, Yn Enw'r Tâd, a'r Mâh, a'r Yspryd glân.
Pa beth y w'r grâs ysprydol oddifewn?
Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i gyfiawnder. Canys, gan ein bod ni wrth naturiaeth wedi ein geni mewn pechod, ac yn blant digofaint drwy Fedydd y gwneir ni yn blant grâs.
Pa beth a ddisgwilir gan y rhai a fedyddier?
Edifeirwch, drwy 'r hon y maent yn ymwrthod â phechod: A ffydd, drwy 'r hon y maent yn ddiyscog yn credu addewidion Duw, y rhai a wneir iddynt yn y Sacrament hwnnw.
Pa ham wrth hynny y bedyddir plant bychain, pryd na's gallant o herwydd eu hieuengtid gyflawni y pethau hyn?
Ie, y maent hwy yn eu cyflawni hwy drwy eu meichiau, y rhai sy yn addaw, ac yn addunedu pob vn o'r ddau yn eu henwau hwynt; y rhai, pan ddelont i oedran, y maent hwy eu hunain yn rhwym i'w cyflawni.
Pa ham yr ordeiniwyd Sacrament Swpper yr Arglwydd?
Er mwyn tragwyddol gôf am aberth dioddefaint Christ, a'r lleshâd yr ydym ni yn ei dderbyn o ddiwrtho.
Pa beth yw y rhan oddiallan, neu 'r Arwydd, yn Swpper yr Arglwydd?
Bara a gwin, y rhai a orchymmynnodd yr Arglwydd eu derbyn.
Pa beth yw y rhan oddifewn, neu'r peth a arwyddocceir wrth yr arwyddion hynny?
Corph a gwaed Christ, y rhai y mae 'r ffyddloniaid [Page] yn wir ac yn ddiau yn eu cymmeryd ac yn en derbyn, yn Swpper yr Arglwydd.
Pa leshâd yr ydym ni yn ei gael wrth gymmeryd y Sacrament hwn?
Cael cryfhau a diddanu ein heneidiau drwy Grist, megys y mae ein cyrph yn cael drwy 'r bara a'r gwîn.
Pa beth sy raid i'r rhai a ddêl i Swpper yr Arglwydd ei wneuthur?
Eu holi eu hunain, a ydynt hwy yn wir edifeiriol am eu pechodau a aeth heibio, ac yn siccr amcanu dilyn buchedd newydd: a oes ganthynt ffŷdd fywiol yn nrhugaredd Duw drwy Grist, gydâ diolchus gôf am ei angeu ef, ac a ydynt hwy mewn cariad perffaith â phob dŷn.
Er cynted y medro y plant ddywedyd yn iaith eu mam, fannau yr ffydd, gweddi yr Arglwydd, y dec Gorchymmyn, a hefyd medru o honynt atteb i gyfryw ymofynion o'r Catechism byr yma, ag y bo i'r Escob (neu i'r neb a osoto efe) yn ôl ei feddwl eu opposio hwynt: Yna y dygir hwy at yr Escob gan vn a fyddo yn dâd-bedydd, neu yn fam-fedydd iddo, fel y bo tyst i bob plentyn o'i gonffirmasion. A'r Escob a'u conffirmia hwy fel hyn.
¶Conffirmasion, neu Arddodiad dwylo.
EIn porth ni y sydd yn Enw yr Arglwydd.
Yr hwn a wnaeth nef a daiar
Bendigaid yw Enw yr Arglwydd.
O hyn hyd yn oes oesoedd.
Arglwydd gwrando ein gweddiau.
A deued ein llef hyd attat.
Gweddiwn.
HOll-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn fu wiw gennit adgenhedlu dy weision hyn trwy ddwfr, a'r Yspryd glân, ac a roddaist iddynt faddeuaint o'u holl bechodau: nertha hwy, ni a attolygwn i ti Arglwydd, â'th Yspryd glân y Diddan-wr: A pheunydd ychwanega ynddynt dy aml ddoniau o râd, Yspryd doethineb a deall, Yspryd cyngor a nerth ysprydol; Yspryd gwybodaeth a gwîr dduwioldeb; A chyflawnha hwy Arglwydd ag Yspryd dy sanctaidd ofn. Amen.
Yna y gesyd yr Escob ei law ar bob plentyn wrtho ei hun, gan ddywedyd.
AMddiffyn Arglwydd, y plentyn hwn â'th râs nefol, fel y byddo iddo barhau yn eiddot ti byth, a phennydd gynnyddu yn dy Yspryd glân fwy-fwy, hyd oni ddel i'th deyrnas dragywyddol. Amen.
Yna y dywed yr Escob.
Gweddiwn.
HOll-alluog a byth-fywiol Dduw, yr hwn wyt yn peri i ni ewyllysio, a gwneuthur yr hyn a wnelom o ddaioni ag y sydd gymmeradwy gan dy fawredd: Yr ydym yn gwneuthur ein gostyngedic erfynion attat dros y plant hyn, y rhai (yn ôl esampl dy sanctaidd Apostolion) y gosodasom ein dwylo arnynt, i'w siccrhâu hwy trwy yr arwydd hwn, fod dy ymgeledd a'th radla wn ddaioni tu ac attynt: Bydded dy Dadol law, ni a attolygwn i ti, byth arnynt: Bydded dy Yspryd glân byth gyd â hwy, ac felly tywys hwy yngwybodaeth ac vfydd-dod dy air, modd y gallont yn y diwedd fwynhau bywyd tragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn gyd â thi, a'r Yspryd glân sydd yn byw ac yn teyrnasu yn vn Duw, heb drangc na gorphen. Amen.
Yna y bendithia yr Escob y plant, gan ddywedyd yn y môdd hyn.
BEndith yr Holl-alluog Dduw, y Tâd, y Mâb, a'r Yspryd glân, a fyddo arnoch, ac a drigo gyd â chwi yn dragywydd. Amen.
Bid i Gurat pob plwyf, neu i ryw vn arall a'r a osoto efe, yn ddiesceulus ar y Suliau a'r gwyliau, hanner awr o flaen Gosper, ar osteg y plwyf yn yr Eglwys, ddyscu a holi cynnifer o blant ei blwyf ac a ddanfonwyd atto, ac y gwasanaetho yr amser, a megis y tybio efe fod yn gymhesur, yn rhyw barth o'r Catechism hwn.
A bid i bob tâd a mam, a phob perchen tylwyth, beri i'w plant, iw gwasanaeth-ddynion, ac iw prentisiaid (y rhai ni ddyscasont eu Catechism,) ddyfod i'r Eglwys ar yr amser gosodedic, a gwrando yn vfydd, a bod wrth lywodraeth y Curat, hyd oni ddarffo iddynt ddyscu pob peth ac y sydd yma wedi ei osod i'w ddyscu. A pha bryd bynnac y rhoddo yr Escob yspysrwydd i ddwyn y plant ger ei fron i vn lle cyfaddas, iw conffyrmio: yna dyged Curat pob plwyf, neu ddanfoned yn scrifennedic henwau holl blant ei blwyf, ac a fedront ddywedyd pyngciau y ffydd, Gweddi yr Arglwydd, ar dengair Deddf; a hefyd pa sawl vn o honynt a fedr atteb i'r Qwestionau eraill a gynhwysir yn y Catechism hwn.
☞Ac na dderbynier neb i'r Cymmun bendigedic, hyd oni fedro ddywedyd y Catechism, a bôd wedi ei gonffyrmio.
¶Ffurf neu drefn Priodas.
YN gyntaf rhaid yw gofyn y gostegion ar dri Sul gwahanrhedol neu wyliau, ar bryd gwasanaeth, yngwydd y plwyf, yn ôl yr arfer ddefodol.
Ac os y rhai a fynnent eu priodi, fydd yn trigo mewn amrafael blwyfau, rhaid yw gofyn y gostegion yn y ddau blwyf, ac na bo i'r Curat o'r naill blwyf eu priodi hwy, nes cael hyspysrwydd ddarfod gofyn eu carennydd dair gwaith, gan y Curat o'r plwyf arall.
Ar y dydd gosodedic i fod y Briodas, deued y rhai a brioder i gorph yr Eglwys, a'u ceraint, a'u cymmydogion: ac yno y dywed yr Offeiriad fel hyn.
Y Caredigion bobl, ydd ŷm ni wedi ymgynnull yma yngolwg Duw, ac yn wyneb ei gynnulleidfa ef, i gyssylltu y ddeu-ddyn hyn ynghyd mewn glân Briodas, yr hon y sydd stâd barchedic, wedi ei ordeinio gan Dduw ym Mharadwys, yn amser diniweidrwydd dŷn, gan arwyddocâu i nyni y dirgel vndeb y sydd rhwng Christ a'i Eglwys: yr hon wynfydedic stât a addurnodd, ac a brydferthodd Christ â'i gynnyrcholdeb ei hun â'r gwyrthiau cyntaf a wnaeth efe yn Cana Galilea. A phriodas hefyd a ddywed S. Paul ei bod yn anrhydeddus ym-mhlith yr holl ddynion: Ac am hynny ni ddylei neb ei chymmeryd arno mewn byrbwyll, o yscafnder meddwl, neu nwyfiant, er mwyn digoni deisyfiad a chwantau cnawdol, fel anifeiliaid yscryblaidd, y rhai ni roddwyd rheswm iddynt: eithr yn barchedic, yn bwyllog, yn sobr, ac mewn ofn Duw, gan ddyledus syniaw er mwyn pa achosion yr ordeiniwyd priodas. Vn achos oedd, er ennill plant, iw meithrin yn ofn ac addysc yr Arglwydd, a moliant Duw. Yn ail, hi a ordeiniwyd yn ymwared yn erbyn pechod, ac i ymogelyd rhag godineb, megis ac y byddo i'r cyfryw rai nad oes iddynt roddiad i ymgynnal, allu priodi, a'u cadw eu hunain yn ddihalogion aelodau corph Christ. Y trydydd, er cydgymdeithas â'i gilydd, a'r cymmorth, a'r diddanwch a ddylei y naill ei gael gan y llall, yn gystal mewn hawdd-fyd ac adfyd. I'r hon sanctaidd stât y mae yr ddeu-ddyn hyn wedi dyfod i ymgyssylltu. Herwydd pa ham, o gŵyr neb vn achos cyfion, fel na ellir [Page] yn gyfreithlon eu cyssylltu hwy ynghŷd, dyweded yr awr hon, neu na ddyweded byth rhac-llaw.
A chan grybwyll hefyd wrth y rhai a brioder, efe a ddywed.
YDd wyfi yn erchi, ac yn gorchymyn i chwi (fel y bo i chwi atteb ddydd y farn ofnadwy, pan gyhoedder dirgelion pob calon) o gŵyr yr vn o honoch vn anach fel na ddylech yn gyfreithlawn fyned ynghyd mewn priodas, gyffessu o honoch yn y man. Canys gwybyddwch yn dda, am gynnifer ac a gyssyllter yn amgen nag y myn gair Duw, na's cyssylltir hwy gan Dduw, ac nad yw eu priodas yn gyfreithlawn.
Ac ar ddydd y Briodas, o bydd i neb ddywedyd bod vn anach na ddylent gael eu cyssylltu mewn priodas, wrth gyfraith Dduw, a chyfraith y deyrnas hon, ac a ymrwyma a meichiau digonol gyd ag ef i'r partiau: neu ynteu roddi gwarthol am gwbl ac a dâl cymmaint a cholled y rhai oeddynt i'w priodi, i brofi ei ddadl: yna y bydd rhaid oedi dydd y briodas hyd yr amser y treier y gwirionedd. Ac oni honnir vn anach, yna y dywed y Curat wrth y gwr.
N. A fynni di y ferch hon yn wraig briod i ti, i fyw ynghyd, yn ôl ordinhâd Duw, ynglân radd priodas? A geri di hi, ei diddanu, ei pherchi, a'i chadw, yn glaf ac yn iach? A gwrthod pob vn arall, a'th gadw dy hun yn vnic iddi hi, tra fyddoch byw eich deuoedd?
Y Mab a ettyb.
Gwnâf.
Yna y dywed yr Offeiriad wrth y Ferch.
N. A fynni di y mâb hwn yn ŵr priod i ti, i fyw ynghyd yn ôl ordinhâd Duw, ynglân stât priodas? [Page] A vfyddhei di iddo, a'i wasanaethu, ei garu, ei berchi, a'i gadw, yn glâf ac yn iach, a chan wrthod pawb eraill, dy gadw dy hun yn vnic iddo ef, cyhyd ag y byddoch byw eich deuoedd?
Y Ferch a ettyb.
Gwnâf.
Yna y dywed y Gwenidog.
Pwy sydd yn rhoddi y ferch hon iw phriodi i'r mâb hwn?
A'r Gwenidog, gan dderbyn y ferch o law ei thad neu ei cheraint, a bair i'r Mab gymmeryd y Ferch erbyn ei llaw ddchau; ac felly bod i bob vn ymgredu â'i gilydd: a bod i'r Mab ddywedyd yn gyntaf.
YR ydwyfi, N. yn dy gymmeryd ti N. yn wraig briod i mi, i gadw a chynnal, o'r dŷdd hwn allan, er gwell, er gwaeth, er cyfoethogach, er tlodach, yn glâf ac yn iâch, i'th garu, ac i'th fawrhau, hyd pan i'n gwahano angeu, yn ôl glân ordinhâd Duw; ac ar hynny yr ydwyf yn rhoddi i ti fy nghrêd.
Yna y dattodant eu dwylaw, a'r ferch a gymmer drachefn y Mab erbyn ei law ddehau, gan ddywedyd.
YDd wyfi N. yn dy gymmeryd ti N. yn ŵr priawd i mi, i gadw a chynnal, o'r dŷdd heddyw allan, er gwell, er gwaeth, er cyfoethogach, er tlodach, yn glâf ac yn iâch, i'th garu, i'th fawrhâu, ac i vfyddhau i ti, hyd pan i'n gwahano angau, yn ôl glân ordinhâd Duw, ac ar hynny y rhoddaf i ti fy nghrêd.
Yna drachefn y gollyngant eu dwy-law yn rhyddion, ac y dyry y Mab fodrwy i'r ferch, gan ei dodi ar y llyfr, ynghyd â'r ddylêd ddefodol i'r Offeiriad a'r yscolhaig. A'r Offeiriad a gymmer y Fodrwy, ac a'i dyry i'r Mab, iw gosod ar y pedwerydd bys i law asswy y Ferch. A'r Mab wrth addysc yr Offeiriad, a ddywed.
A'r Fodrwy hon i'th briodaf, â'm corph i'th anrhydeddaf, ac â'm golud bydol i'th gynhyscaeddaf. Yn Enw 'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.
Yna y gâd y Mab y fodrwy ar y pedwerydd bys o'r llaw asswy i'r Ferch, ac y dywed y Gwenidog.
Gweddiwn.
O Dragywyddol Dduw, Creawdr a cheid wad pob rhyw ddyn, rhodd wr pob rhâd ysprydol, awdur y bywyd a bery byth: Anfon dy fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn, y mab hwn, a'r ferch hon, y rhai ydd ŷm ni yn eu bendithio yn dy Enw di, fel ac y bu i Isaac a Rebecca fyw yn ffyddlawn ynghyd, felly gallu o'r dynion hyn gyflawni a chadw yr adduned a'r ammod a wnaed rhyngddynt; am yr hyn y mae rhoddiad, a derbyniad y Fodrwy hon yn arwydd ac yn wystl, a gallu o honynt byth aros ynghyd mewn perffaith gariad a thangneddyf, a byw yn ôl dy ddeddfau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna y cyssyllta yr Offeiriad eu dwy law ddeheu hwy ynghyd, ac y dywed.
Y rhai a gyssylltodd Duw ynghyd, na wahaned dyn.
Yna y dywed y Gwenidog wrth y bobl.
YN gymmaint a darfod i N. ac N. gydsyniaw mewn glân Briodas, a thystiolaethu hynny gar bron Duw a'r gynnulleidfa hon, ac ar hynny ddarfod iddynt ymgredu, ac ymwystlo bob vn iw gilydd, a declario hynny gan roddi a derbyn Modrwy, a chyssylltu dwy-law: ydd wyfi yn hyspyssu eu bod hwy yn wr ac yn wraig ynghyd: yn Enw 'r Tad, a'r Mâb, a'r Yspryd glân. Amen.
A'r Gwenidog a'u bendithia hwy â'r fendith hon yn anghwanec.
DVw Tâd, Duw Fâb, Duw Yspryd glân, a'ch bendithio, a'ch cadwo, ac a'ch cymhortho: Edryched yr Arglwydd yn drugarog ac yn ymgeleddus arnoch, a chyflawned chwi â phob ysprydol fendith a rhad, modd y galloch fyw ynghyd yn y fuchedd hon, fel y bo i chwi yn y byd a ddaw allu meddiannu bywyd tragywyddawl. Amen.
Yna y Gwenidogion, neu yr Y scolfiegion gan fyned i fwrdd yr Arglwydd, a ddywedant, neu a ganant y Psalm hon sydd yn canlyn.
GWyn ei fyd pob vn sydd yn ofni yr Arglwydd: Beati omnes. Psal. 128. yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef.
Canys mwynhei lafur dy ddwylo: gwyn dy fyd a da fydd it.
Dy wraig fydd fel gwin-wydden ffrwyth-lawn ar hyd ystlysau dy dŷ: dy blant fel planhigion oliwydd o amgylch dy ford.
Wele, fel hyn yn ddiau y bendithir y gŵr a ofno yr Arglwydd.
Yr Arglwydd a'th fendithia allan o Sion, a thi a gei weled daioni Ierusalem holl ddyddiau dy enioes.
A thi a gei weled plant dy blant, a thangneddyf ar Israel.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mab, &c.
Megis ydd oedd yn y dechreu, &c.
Neu ynteu y Psalm yma.
DVw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, Deus misereatur. Psal. 67. a thy wynned ei wyneb arnom a thrugarhaed wrthym.
Fel yr adwaener dy ffordd ar y ddaiar, a'th iechydwriaeth ym-mhlith yr holl genhedloedd.
Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.
Llawenhaed y cenhedloedd a byddant hyfryd, canys ti a ferni y bobl yn vniawn, ac a lywodraethi y cenhedloedd ar y ddaiar.
Molianned y bobl di ô Dduw: molianned yr holl bobl dydi.
Yna yr ddaiar a rydd ei ffrwyth: a Duw sef ein Duw ni, a'n bendithia.
Duw a'n bendithia, a holl derfynau yr ddaiar a'i hofnant ef.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, &c.
Megis ydd oedd yn y dechreu, &c.
Wedi gorphen y Psalm, a'r Mâb a'r Ferch yn gostwng ger bron bwrdd yr Arglwydd, yr Offeiriad yn sefyll wrth y bwrdd, a chan ymchweld ei wyneb attynt hwy, a ddywed.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
EIn Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Ac na thywys ni i brofedigaeth:
Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.
Arglwydd cadw dy wasanaeth-wr, a'th wasanaeth-wraig.
Y rhai sy yn ymddiried ynot,
Arglwydd danfon iddynt gymmorth o'th gyssegrfa.
Ac amddiffyn hwy yn dragywydd.
Bydd iddynt yn dŵr cadernid.
Rhac wyneb eu gelynion.
Arglwydd gwrando ein gweddi.
A deued ein llef hyd attat.
DVw Abraham, Duw Isaac, Duw Iacob, bendithia dy wasanaeth-ddynion hyn, a haua hâd buchedd dragywyddol yn eu meddyliau, megis pa beth bynnac yn dy air cyssegredic yn fuddiol a ddyscant, iddynt allu cyflawni hynny yngweithred. Edrych arnynt Arglwydd, yn drugarog o'r nefoedd, a bendithia hwynt. Ac fel yr anfonaist dy fendith ar Abraham a Sara, iw mawr ddiddanwch hwy; felly bid gwiw gennit anfon dy fendith ar dy wasanaeth-ddynion hyn, modd y bo iddynt (yn vfydd i'th ewyllys, a chan bod fob amser dan dy nawdd) allu aros yn dy serch hyd ddiwedd eu bywyd, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Y weddi hon sy'n canlyn a faddeuir pan fyddo yr ferch dros oedran planta.
O Drugarog Arglwydd a nefol Dâd, trwy radlawn ddawn yr hwn yr amlhâ hiliogaeth dŷn: Attolygwn i ti gymmorth â'th fendith y ddeuddyn [Page] hyn; fel y gallont fod yn ffrwythlon i hilio plant, a hefyd cyofod a byw mewn cariad Duwiol a syberwyd, hyd oni welont blant eu plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth, i'th foliant a'th anrhydedd di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
DVw, yr hwn drwy alluog nerth a wnaethost bob peth o ddiddim ddefnydd, yr hwn hefyd, wedi gosod pethau eraill mewn trefn, a ordeiniaist allan o ddyn, yr hwn a grewyd ar dy lun, a'th ddelw dy hun, gael o wraig ei dechreuad, a chan eu cyssylltu hwy ynghyd yr arwyddoceaist na byddei byth gyfreithlon wahanu y rhai trwy briodas a wnelit ti yn vn. O Dduw, yr hwn a gyssegraist ystad priodas i gyfryw ragorawl ddirgeledigaeth, megis ac yr arwyddoceir, ac y coffeir ynddi y Briodas ysprydol, a'r vndeb rhwng Christ a'i Eglwys. Edrych yn drugarog ar y rhai hyn dy wasanaeth-ddynion, fel y gallo y gŵr hwn garu ei wraig, yn ôl dy air di (megis y carodd Christ ei Briawd yr Eglwys, yr hwn a'i rhoes ei hunan drosti gan ei charu, a'i mawrhau, fel ei gnawd ei hunan) a hefyd bod y wraig hon yn garuaidd, ac yn serchog iw gŵr megis Rachel, yn ddiseml megis Rebecca, yn ffyddlawn ac yn vfydd megis Sara, ac ymhob heddwch, sobrwydd, a thangneddyf, ei bod yn canlyn cyfryw sanctaidd a duwiol fodrabedd. Arglwydd bendithia hwy ill dau, a chaniatâ iddynt etifeddu dy deyrnas dragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna y dywed yr offeiriad.
HOll-gyfoethog Dduw, yr hwn yn y dechreuad a greawdd ein rhieni Adda ac Efa, ac a'u cyssegrodd ac a'u cyssylltodd ynghyd ym-mhriodas: a dywallto [Page] arnoch olud ei râd ef, a'ch santcteiddio, ac a'ch bendithio, modd y galloch ei foddhau ef ynghorph ac enaid, a byw ynghyd mewn duwiol serch, hyd ddiwedd eich oes. Amen.
Yna y dechreuir y Cymmun, ac wedi yr Efangyl y dywedir pregeth, yn yr hon yn gyffredinol (bob gwaith ac y bo priodas) y datcenir swydd gwr a gwraig yn ôl yr Scrythur lân. Neu oni bydd Pregeth, darllened y Gwenidog y traethawd sy'n canlyn.
CHwy-chwi oll y rhai a brioded, neu y sy yn darpar cymeryd glân ystâd priodas arnoch, gwrandewch pa beth a ddywed yr Scrythur lân, oblegit dyled gwŷr iw gwragedd, a gwragedd i'w gwŷr.
Sanct Paul yn ei Epistol at yr Ephesiaid, yn y bummed bennod, sydd yn rhoddi y gorchymyn hwn i bob gwr priod.
Chwychwi wŷr, cerwch eich gwragedd, megis y carodd Crist ei Eglwys ac y rhoddes ei hun drosti, i'w chyssegru, gan ei glanhau yn y ffynnon ddwfr trwy y gair, fel y gallei ei gwneuthud iddo ei hun yn gynnulleidfa ogoneddus, heb arni na magl, na chrychni, neu ddim cyfryw: eithr ei bod yn lân ac yn ddiargyoedd. Ac y mae yr gwŷr yn rhwymedic i garu eu gwragedd, fel eu cyrph eu hunain. Pwy bynnac a garo ei wraig, a'i câr ei hun: gan na chashâodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu, a'i faethu, megis y gwna yr Arglwydd am y gynnulleidfa: canys aelodau o'i gorph ef ydym, a'i gnawd, a'i escyrn. O herwydd pa achos y gâd dyn dâd a mam, ac y cyssylltir â'i wraig, a hwy ill dau fyddant vn cnawd. Y dirgelwch hyn sydd fawr: eithr am Grist ac am y gynnulleidfa ydd wyfi yn crybwyll. O herwydd pa ham, cared pawb o honoch ei wraig megis ei hunan.
Coloss. 3.Yr vn ffunyd, yr vn rhyw S Paul yn scrifennu at y Colossiaid, a ddywed fel hyn wrth bob gŵr gwreigioc. Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.
1. Pet. 3.Gwrandewch hefyd pa beth a ddywaid Petr Apostol Christ, yr hwn hefyd oedd ei hun yn wr gwreigiog, wrth y gwŷr gwreigiog. Y gwŷr, trigwch gyd â'ch gwragedd yn ôl gwybodaeth, gan berchi y wraig megis llestr gwannach, a megis cyd-etifeddion o râd y bywyd, fel na rwystrer eich gweddiau.
Hyd yn hyn y clywsoch am ddyled gŵr tu ag at ei wraig. Yr awr hon yr vn ffunyd, y gwragedd, gwrandewch eich dylêd chwithau i'ch gwyr, fel y mae yn eglur wedi ei ddatcan yn yr Scrythur lân.
Ephes. 5.Sanct Paul (yn yr vnrhyw Epistol at yr Ephesiaid) a'ch dŷsc fel hyn; Y gwragedd, byddwch ddarostyngedic i'ch gwyr priod fel i'r Arglwydd: canys y gŵr sydd ben ar y wraig, megis y mae Crist yn ben ar yr Eglwys: ac efe yw Iachawdur yr holl gorph.
Am hynny megis y mae yr Eglwys, neu yr gynnulleidfa yn ddarostyngedic i Grist; felly yr vn modd, ymddarostynged y gwragedd iw gwŷr ym-mhob peth. A thrachefn y dywaid efe. Parched y wraig ei gŵr. Coloss. 3. Ac (yn ei Epistol at y Colossiaid) y mae Sainct Paul yn rhoddi i'wch y wers ferr hon; Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.
1. Pet. 3.S. Petr sydd hefyd yn eich dyscu yn wîr dduwiol, gan ddywedyd fel hyn, Ymostynged y gwragedd iw gwŷr priod, fel os bydd neb heb vfyddhau i'r gair, y galler ei ennill heb y gair, drwy ymarweddiad y gwragedd, wrth iddynt weled eich diwair ymddygiad yn gyssylltedic ag ofn. Ac na fid eich trwsiad [Page] oddi allan, megis o blethiadau gwallt, ac amgylchosodiad aur, neu wisco dillad gwychion. Eithr bydded dirgel ddyn y galon mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn, a llonydd, yr hyn sydd ger bron Duw yn werth-fawr. Canys felly gynt yr ymdrwssiei yr gwragedd sanctaidd, y rhai oedd yn gobeithio ar Dduw, yn ddarostyngedic iw gwŷr priod. Megis yr vfyddhaodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn Arglwydd: merched yr hon fyddwch chwi, o wneuthur yn dda, heb arnoch ofn dim dychryn.
Rhaid i'r dynion newydd briodi, y dydd y prioder hwy, gymmeryd y Cymmun.
¶Y drefn am ymweled â'r Clâf.
Yr Offeiriad wrth fyned i mewn i dy y Clâf, a ddywed.
¶Tangneddyf fyddo yn y tŷ hwn, ac i bawb y sydd yn trigo ynddo.
Pan ddel efe yngwydd y clâf, y dywaid gan ostwng i lawr ar ei liniau.
NA chofia Arglwydd ein enwiredd, nac enwiredd ein rhieni, Arbet nyni Arglwydd daionus, arbet dy bobl a brynaist â'th werthf-fawr waed, ac na lidia wrthym yn dragywydd.
Arglwydd trugarhâ wrthym,
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c,
Ac na thy wys ni i brofedigaeth.
Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.
Arglwydd iachâ dy wâs.
Yr hwn sydd yn ymddiried ynot.
Anfon iddo borth o'th sancteiddfa.
Ac bŷth yn nerthol amddiffyn ef.
Na âd i'r gelyn gael y llaw vchaf arno.
Nac i'r enwir nessâu iw ddrygu.
Bydd iddo Arglwydd, yn dŵr cadarn.
Rhag wyneb ei elyn.
Arglwydd gwrando ein gweddiau.
A deled ein llef hyd attat.
ARglwydd edrych i lawr o'r nefoedd, golyga, ymwel, ac esmwytha ar dy wâs hwn. Edrych arno â golwg dy drugaredd, dyro iddo gwnffordd a diogel ymddiried ynot, amddiffyn ef rhag perygl y gelyn, a chadw ef mewn tangneddyf dragywyddol a diogelwch, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
ERglyw ni holl-gyfoethog a thrugaroccaf Dduw, ac Iachawdur, estyn dy arferedic ddaioni i hwn dy wasanaeth-wr sydd ofidus gan ddolur, ymwel ag ef Arglwydd, megis yr ymwelaist â mâm gwraig Petr, ac â gwâs y captaen: felly ymwel a dyro i'r clâf hwn ei gynefin iechyd, (od yw dy ewyllys) [Page] neu ddyro iddo râs i gymmeryd felly dy ymweliad, fel y bo iddo yn ol diweddu y fuchedd boenedic hon, allu trigo gyd â thi yn y fuchedd dragywyddol. Amen.
Yna cynghored y Gwenidog y Claf yn y ffurf hyn, neu yr cyfryw.
YR anwyl garedic, gwybydd hyn, mai yr Holl-alluog Dduw sydd Arglwydd ar fywyd ac angeu, ac ar bob peth a berthyn iddynt, megis ieuenctid, nerth, iechyd, oedran, gwendid, a haint. Am hynny pa beth bynnac yw dy glefyd, gwybydd yn ddiammau mai ym weliad Duw ydyw. Ac am ba achos bynnac ydd anfonwyd y clefyd hwn arnat, ai er profi dy ddioddefgarwch, er esampl i eraill, ac er mwyn caffael dy ffŷdd yn nŷdd yr Arglwydd yn ganmoledig, yn barchedic, ac yn anrhydeddus, er ychwaneg o ogoniant a didrangc ddedwyddwch; neu ddanfon y clefyd hwn i gospi ynoti beth bynnac sydd yn anfoddhau golwg ein Tâd nefol: Gwybydd yn ddiammeu, os tydi a fyddi wir edifeiriol am dy bechodau, a chymmeryd dy glefyd yn ddioddefgar, ac ymddiried yn-nhrugaredd Dduw, er mwyn ei anwyl Fab Iesu Grist, a rhoddi iddo-ostyngedic ddiolch am ei dadol ymweliad, a bod i ti ymddarostwng yn hollawl iw ewyllys ef, yr ymchwel i'th fûdd, ac i'th gymmorth rhagot i'r vniawn ffordd a dywys i fuchedd dragywyddol.
Os y dyn ymweledic a fydd yn drym-glaf, yna y dichon y Curad orphen y Cyngor yn y fan hon.
AM hynny cymmer yn groesawus gospedigaeth yr Arglwydd, Hebr. 12. Canys y neb a garo yr Arglwydd [Page] [...] [Page] [...] [Page] a gospa: Ac (fel y dywed S. Paul) efe a fflangella bob mab a dderbynio. Os goddefwch gospedigaeth, y mae Duw yn ymgynnyg i chwi megis iw feibion ei hun, canys pa fab fydd na's cospo ei dâd ef? Eithr os heb gospedigaeth yr ydych, o'r hon y mae pob gwir blentyn yn gyfrannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion o briod. Heb law hynny, ni a gawsom dadau ein cyrph yn gosp-wyr, ac ni a'u parchasom; ond mwy o lawer y mae i ni ymostwng i Dâd yr ysprydoedd, a chael byw? Canys hwynt-hwy yn wîr tros ychydic ddyddiau a'n cospent ni, fel y byddei dda ganddynt; eithr efe sydd yn ein cospi er llesâd i ni, fel y byddem gyfrannogion o'i sancteiddrwydd ef. Y geiriau hyn, garedic frawd, yw geiriau Duw, ac yn scrifennedic yn yr Scrythur lân er conffordd, ac addysc i ni, fel y gallom yn oddefgar, ac yn ddiolchgar, ddwyn cospedigaeth ein Tâd o'r Nêf, pa bryd bynnac drwy fodd yn y byd ar wrthwyneb yr ewyllysio ei rad-lawn ddaioni ef ymweled â ni. Ac ni ddylei bod conffordd mwy gan Gristionogion nâ chael eu gwneuthud yn gyffelyb i Grist, trwy ddioddef yn vfyddgar wrth wyneb, trallod, a chlefydau. Canys nid aeth efe ei hun i'r llawenydd, nes yn gyntaf iddo ddioddef poen; nid aeth efe i mewn iw ogoniant, nes dioddef angeu ar bren crog: felly yn wîr, yr vnion ffordd i ni i'r gorfoledd tragywyddol, ydyw cyd-ddioddef yma gyd â Christ; A'n drws i fyned i mewn i fywyd tragywyddol, ydyw marw yn llawen gyd â Christ, fel y gallom gyfodi drachefn o angau, a thrigo gyd ag ef ym-mywyd tragywyddol. Yn awr gan hynny, os cymmeri dy glefyd yn oddefgar, (ac ynteu yn gystal â hyn ar dy lês) yr ydwyfi yn eiriol arnat yn Enw Duw, goffâu y broffess a wnaethost i Dduw yn dy fedydd. Ac o herwydd yn ôl y fuchedd hon bod yn ddîr gwneuthur cyfrif i'r barn-wr cyfiawn, gan ba vn y bernir pob dyn, [Page] heb dderbyn wyneb; Yddwyf yn erchi i ti ymchwilio â thi dy hun, a'th gyflwr tu ag at Dduw a dŷn; fel y bo i ti drwy dy gyhuddo a'th farnu dy hunan am dy feiau, allu cael trugaredd ar law ein Tâd o'r nef er mwyn Christ, ac nid bod yn gyhuddedic, ac yn farnedic yn amser y ddigllawn farn ofnadwy. Ac am hynny yr adroddaf ar fyr eiriau, fannau ein ffydd ni, fel y gellych wybod a wyti yn credu fel y dylei Gristion, ai nad wyt.
Yna yr adrodd y Gwenidog fanneu yr ffydd, gan ddywedyd fel hyn.
A wyt ti yn credu yn Nuw Dad holl-gyfoethog? &c. Fel y mae yn y Bedydd.
Yna yr ymofyn yr Offeiriad neu'r Curad ag ef, beth ydyw efe ai bod mewn cariad perffaith â'r holl fyd a'i peidio? gan eiriol arno faddeu o eigion ei galon i bob dyn a wnaeth yn ei erbyn: ac os efe a wnaeth yn erbyn eraill, ar ofyn o honaw faddeuaint iddynt. A lle y gwnaeth efe gam neu drawster â neb, ar wneuthur o honaw iawn hyd yr eithaf y gallo. Ac oddi eithr iddaw ym-mlaen-llaw wneuthur ei lywodraeth am ei dda, gwnaed yna ei ewyllys. A hefyd dangos o honaw am ei ddyled pa faint sydd arno, a pha faint sydd o ddylêd iddo, er mwyn rhyddhâu ei gydwybod, a heddwch iw esecutorion. Ac y mae yn anghenrheidiol rhybuddio dynion yn fynych am wneuthur trefn ar eu da byd a'u tiroedd tra fyddont mewn iechyd.
Y geiriau hyn y rhai a ddywetpwyd vchod, a ellir eu cymmwyll cyn dechreu o'r Gwenidog ei weddi, megis ag y gwelo efe achos.
Nac anghofied y Gwenidog, ac na faddeued eiriol ar y claf, (a hynny yn gwbl ddifrifol) ar iddo ddangos haelioni i'r tlodion.
Yma hefyd y gwna y dyn clwyfus gyffes yspysawl, os efe a glyw ei gydwybod mewn cythryfwl gan ddefnydd o bwys. Yn ôl y gyffes honno, y gollwng yr Offeiriad ef yn y wedd hon.
EIn Harglwydd Iesu Christ, yr hwn a adawodd feddiant iw Eglwys i ollwng pob pechadur â fyddo gwir edifeiriol, ac yn credu ynddo ef, o'i fawr drugaredd a faddeuo i ti dy gamweddau: a thrwy ei awdurdod ef a ganiadhawyd i mi, i'th ollyngaf o'th holl bechodau, yn Enw'r Tad, a'r Mâb, ar Yspryd glân. Amen.
Ac yna y dywed yr Offeiriad y Colect yma isod.
¶Gweddiwn.
O Drugaroccaf Dduw, yr hwn yn ôl lliosawgrwydd dy drugaredd, wyt felly yn dileu pechodau y rhai sydd wir edifeiriol, fel nad wyt yn eu cofio mwy: agor lygad dy drugaredd ar dy wasanaeth-wr yma, yr hwn o wir ddifrif sydd yn dymuno gollyngdod a maddenaint. Adnewydda ynddo, garediccaf Dâd, beth bynnac a lescâwyd trwy ddichell a malis y cythrael, neu drwy ei gnawdol ewyllys ei hun, a'i wendid: cadw a chynnal yr aelod clwyfus hwn o fewn vndeb dy Eglwys, ystyria wrth ei wîr edifeirwch, derbyn ei ddagrau, yscafnhâ ei ddolur, modd y gwelych di fod yn orau ar ei lês. Ac yn gymmaint a'i fod efe yn rhoddi cwbl o'i ymddiried yn vnic yn dy drugaredd di, na liwia iddo ei bechodau o'r blaen, eithr cymmer ef i'th nodded, trwy ryglyddon dy garediccaf Fab Iesu Grist. Amen.
Yna y dywed y Gwenidog y Psalm hon.
YNot ti ô Arglwydd, y gobeithias: In te Domine speraui. Psal. 71. na'm cywilyddier byth.
Achub fi, a gwaret fi yn dy gyfiawnder: gostwng dy glûst attaf ac achub fi.
Bydd i mi yn graig gadarn, i ddyfod iddi bob amser: gorchymynnaist fy achub, canys ti yw fy ngrhaig a'm hamddeffynfa.
Gwaret fi ô fy Nuw, o law 'r annuwiol, o law yr anghyfion, a'r traws.
Canys ti yw fy ngobaith, ô Arglwydd Dduw, fy ymddiried o'm ieuengctid.
Wrthit ti i'm cynhaliwyd o'r bru, ti a'm tynnaist o grôth fy mam: fy mawl fydd yn wastad am danat ti.
Oeddwn i lawer megis yn rhyfeddod: eithr tydi yw fy nghadarn noddfa.
Llanwer fy ngenau â'th foliant, ac â'th ogoniant beunydd.
Na fwrw fi ymmaith yn amser henaint: na wrthot fi pan ballo fy nerth.
Canys fy ngelynion sydd yn dywedyd i'm herbyn, a'r rhai a ddisgwiliant am fy enaid, a gyd-ymgynghorant.
Gan ddywedyd, Duw a'i gwrthododd ef, erlidiwch, a deliwch ef: canys nid oes gwaredudd.
O Dduw, na fydd bell oddi wrthif; fy Nuw, bryssia i'm cymmorth.
Cywilyddier, a difether y rhai a wrth wynebant fy enaid; â gwarth ac â gwradwydd y gorchguddier y rhai a geisiant ddrwg i mi.
Minneu a obeithiaf yn wastad, ac a'th foliannaf di fwy-fwy,
Fy ngenau a fynega dy gyfiawnder, a'th iechydwriaeth beunydd: canys ni wn rifedi arnynt.
Ynghadernid yr Arglwydd Dduw y cerddaf, dy gyfiawnder di yn vnic a gofiaf fi.
O'm ieuengctid i'm dyscaist ô Dduw, hyd yn hyn y mynegais dy ryfeddodau.
Na wrthod fi ychwaith, ô Dduw, mewn henaint a phen-llwydni; hyd oni fynegwyf dy nerth i'r genhedlaeth hon, â'th gadernid i bob vn a ddelo.
Dy gyfiawnder hefyd ô Dduw, fydd vchel, yr hwn a wnaethost bethau mawrion; pwy, ô Dduw, sydd debyg i ti?
Ti yr hwn a wnaethost i mi weled aml a blin gystuddiau, a'm bywhei drachefn, ac a'm cyfodi drachefn o orddyfnder y ddaiar.
Amlhei fy mawredd, ac a'm cyssuri oddi amgylch.
Minneu a'th foliannaf ar offeryn nabl, sef dy wirionedd ô fy Nuw: canaf it a'r delyn, ô Sanct Israel.
Fy ngwefusau a fyddant hyfryd pan ganwyf i ti, a'm henaid, yr hwn a waredaist.
Fy nhafod hefyd a draetha dy gyfiawnder beunydd, o herwydd cywilyddiwyd, a gwradwyddwyd y rhai a geisiant niwed i mi.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân. Megis ydd oedd yn y dechreu, y mae yr awr hon, ac y bydd yn dragywydd. Amen.
Gan ddywedyd hyn yn ychwaneg.
IAchawdur y byd, iachâ ni, yr hwn drwy dy grog a'th werth-fawr waed a'n prynaist, cymmorth ni, nyni a attolygwn i ti ô Dduw.
Yna y dywed y Gwenidog.
YR holl-alluog Arglwydd, yr hwn yw y tŵr cadarnaf i bawb a roddant eu hymddiried ynddo, i ba vn y mae pob peth yn y nef, ar y ddaiar, a than y ddaiar yn gostwng ac yn vfyddhau, a fyddo yr awr hon, a phob amser yn amddiffyn i ti, ac a wnêl i ti wybod a deall nad oes vn Enw dan y nef wedi ei roddi i ddynion, ym-mha vn, a thrwy ba vn y mae i ti dderbyn iechyd wriaeth, onid yn vnic Enw ein Harglwydd Iesu Grist. Amen.
Cymmun y Claf.
YN gymmaint a bod pob rhyw ddyn yn ddarostyngedic i lawer o beryglon dysyfyd, heintiau, a chlefydau, a byth yn anhyspys pa bryd yr ymadawant o'r fuchedd hon: herwydd pa ham, er mwyn gallu o honynt fod bob amser mewn parodrwydd i farw pa bryd bynnac y rhyngo bodd i'r Holl-alluog Dduw alw am danynt: Bid i'r Curadiaid yn ddyfal, o amser i amser, ac yn enwedic yn amser pla, gynghori ei blwyfolion i gymmeryd yn fynych yn yr Eglwys, fendigedic Gymmun corph a gwaed ein lachawdur Christ. Yr hyn os hwyntwy a'i gwnânt, ni bydd achos iddynt yn eu hymweliad disymwth, i fod yn anheddychol eu meddwl o ddiffyg hynny. Ond os y claf ni bydd abl i ddyfod i'r Eglwys, ac etto yn dymuno cymmeryd y Cymmun yn ei dy, yna y bydd rhaid iddo fynegi dros nos, neu ynteu y boreu ddydd dranoeth i'r Curat, gan arwyddocau hefyd pa sawl vn y sydd yn darparu cyd-gymmuno ag ef. Ac o bydd lle cyfaddas yn-nhy y clâf, fel y gallo y Curad yn [Page] barchedic finistrio, a nifer da i gymmeryd y Cymmun gyd â'r clâf, a phob peth anghenrheidiol i hynny, ministred efe yno y Cymmun bendigedic.
Y Colect.
HOll-gyfoethog a byth-fywiol Dduw, gwneuthur-wr dynawl ryw, yr hwn wyt yn cospi y rhai a gerych, ac yn ceryddu pawb ar a dderbyniech: Nyni a attolygwn i ti drugarhau wrth dy wâs hwn yma ym weledic gan dy law, ac i ti ganiatâu gymmeryd o honaw ei glefyd yn ddioddefus, a chaffael ei iechyd trachefn, (os dy radlawn ewyllys di yw hynny:) a pha bryd bynnac yr ymadawo ei enaid â'i gorph, bod o honaw yn ddifagl wrth ei bresentio i ti, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol.
Heb. 12.5.FY mâb, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac na ymollwng pan i'th argyoedder ganddo, canys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu, ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.
Yr Efengyl.
Io. 5.24. YN wîr yn wîr meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn a'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragywyddol, ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
Pan gyfranner y Sacrament bendigedic, cymmered yr Offeiriad yntef ei hun y Cymmun yn gyntaf, ac yn ôl hynny, ministried i'r rhai a ddarparwyd i Gymmuno gyd â'r claf.
Eithr o bydd neb o ddirdra dolur, neu o herwydd eisieu rhybydd mewn amser dyladwy i'r Curad, neu o eisieu swrn i gymmeryd gyd ag ef, neu oblegit rhyw rwystr cyfiawn arall, heb gymmeryd Sacrament corph a [Page] gwaed Crist: yna dangosed y Curad iddo, os efe sydd wîr edifeiriol am ei bechodau, ac yn credu yn ddiyscoc ddarfod i Iesu Grist ddioddef angeu yr y groes drosto, a cholli ei waed dros ei brynedigaeth ef, gan goffa yn ddifrif y mawr ddaioni sydd iddo ef o hynny, a chan ddiolch iddo o'i galon am danaw; ei fod efe yn bwyta ac yn yfed corph a gwaed ein Iachawdur Christ yn fuddiol i iechyd ei enaid, er nad yw efe yn derbyn y Sacrament â'i enau.
Pan ymweler â'r clâf, ac ynteu yn cymmeryd y Cymmun bendigedic yr vn amser: bid yna i'r Offeiriad er mwyn prysuro yn gynt, dorri ymmaith ffurf yr ymweliad lle mae yr Psalm, Ynot Arglwydd y gobeithiais &c. ac aed yn vnion i'r Cymmun.
Yn amser plâ, clefyd y chwys, neu ar gyfryw amserau heintiau neu glefydau llyn, pryd na aller cael yr vn o'r plwyf neu 'r cymmydogion i gymmuno gyd â'r cleifion yn eu tai, rhag ofn cael yr haint; ar yspysol ddeisyfiad y clâf, fe all y Gwenidog yn vnic gymmuno gyd ag ef.
❧ Y drefn am gladdedigaeth y marw.
Yr Offeiriad wrth gyfarfod â'r corph wrth borth y fonwent, a ddywed: neu yr Offeiriad a'r yscolheigion a ganant, ac felly myned i'r Eglwys, neu tu a'r bedd.
MYfi yw yr cyfodiad a'r bywyd, Io. 11.25. medd yr Arglwydd; y neb a gredo ynof fi, er iddo farw a fydd byw. A phwy bynnac a fo byw, ac a gredo ynofi, ni bydd marw yn dragywydd.
MYfi a wn mai byw fy mhryn-wr, Iob 19.25. ac y cyfodaf o'r ddaiar y dydd diwethaf, ac i'm gwiscir drachefn â'm croen, ac y câf weled Duw yn fy ngnhawd. [Page] Yr hwn a gasi fy hun ei weled: a'm llygaid a'i gwelant ef, ac nid arall trosof.
1. Tim. 6.7 Iob 1.NI ddygasom ni ddim i'r byd hwn, ac ni allwn chwaith ddwyn dim ymmaith o honaw. Yr Arglwydd sy'n rhoddi, a'r Arglwydd sydd yn dwyn ymaith: megis y byddo da gan yr Arglwydd felly y derfydd i bob peth. Bendigedig fo Enw yr Arglwydd.
Pan ddelont at y bedd, tra fyddo yr corph yn ei baratoi iw ddodi yn y ddaiar, y dywed yr Offeiriad, neu yr Offeiriad a'r yscolheigion a ganant.
Iob 14.1.DYn a aned o wraig sydd a byrr amser iddo i fyw, ac y sydd yn llawn trueni. Y mae efe yn blaguro fel llysieuyn, ac a dorrir i lawr, ac a ddiflanna fel cyscod, ac ni saif. Ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angeu, gan bwy y mae i ni geisio ymwared onid gennit ti Arglwydd, yr hwn am ein pechodau wyt yn gyfiawn yn ddigllawn? Er hynny Arglwydd Dduw sancteiddiaf, Arglwydd galluoccaf, ô sanctaidd a thrugarog Iachawdur, na ollwng ni i ddygyn chwerwaf boenau angau tragywyddol. Ti Arglwydd a adwaenost ddirgelion ein calonnau, nac ymchwel dy olwg trugarog oddiwrth ein gweddiau, eithr arbet nyni ô Arglwydd sancteiddiaf, ô Dduw galluoccaf, ô sanctaidd a thrugarog Iachawdur, Tydi deilyngaf farn-wr tragywyddol, na âd ni yn yr awr ddiwethaf er neb rhyw boenau angeu, i syrthio oddi-wrthit.
Yna tra fydder yn bwrw pridd ar y corph gan y sawl a fo yn sefyll yno, yr Offeiriad a ddywed.
YN gymmaint a rhyngu bodd i'r Goruchaf Dduw o'i fawr drugaredd gymmeryd atto ei hun enaid ein hanwyl frawd yma a ymadawodd o'r bŷd, gan hynny ydd ŷm ni yn rhoddi ei gorph ef i'r ddaiar, sef daiar i'r ddaiar, lludw 'i'r lludw, pridd i'r pridd, mewn gwir ddiogel obaith o gyfodiad i fuchedd dragywyddol, trwy ein Harglwydd Iesu Grist, Phil. 3. yr hwn a newidia ein corph gwael ni, fel y byddo yn gyffelyb iw gorph gogoneddus ef, o herwydd y galluog weithrediad, trwy yr hwn y dichon efe ddarostwng pob dim iddo ei hun.
Yna y dywedir, neu y cenir.
MI a glywais lais or nef yn dywedyd wrthif, Datc. 14.13. scrifenna, o hyn allan gwynfydedig yw y meirw, y rhai sy yn marw yn yr Arglwydd; felly y dywed yr Yspryd, canys y maent yn gorphywyso oddi wrth eu poen gynt.
Yn ôl hynny y canlyn y llith hon, wedi ei chymmeryd allan o'r pymthecfed bennod o'r Epistol cyntaf at y Corinthiaid.
CHrist a gyfodwyd oddiwrth y meirw, 1. Cor. 15.20. ac a wnaed yn flaen-ffrwyth y rhai a hunasant. Canys, gan fod marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegit, megis yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn Ghrist y bywheir pawb. Eithr pob vn yn ei drefn ei hun. Y blaen-ffrwyth yw Christ, wedi hynny y rhai ydynt eiddo Christ, yn ei ddyfodiad ef. Yna y bydd y diwedd, wedi y rhoddo efe y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddileu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth. [Page] Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed. Y gelyn diweddaf a ddinistrir yw yr angeu. Canys efe a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef. Eithr pan yw yn dy wedyd fob pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo. A phan ddarostynger pob peth iddo, yno y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir, i'r hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll. Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? Pa ham ynteu y bedyddir hwy tros y meirw? A pha ham yr ydym ninnau mewn perygl bôb awr? Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hon sydd gennif yn-Ghrist Iesu ein Harglwydd. Os yn ôl dull dŷn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Ephesus, pa les-hâd sydd i mi oni chyfodir y meirw? Bwytawn, ac yfwn, canys yforu marw yr ydym. Na thwyller chwi, y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da. Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn. Eithr fe a ddywaid rhyw vn, Pa fodd y cyfodir y meirw? Ac â pha ryw gorph y deuant? Oh ynfyd; y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. A'r peth yr wyt yn ei hau, nid y corph a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, yscatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorph, fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorph ei hun. Nid yw pob cnawd vn rhyw gnawd; eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, a chnawd arall sydd i byscod, ac arall i adar. Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol; ond arall yw gogoniant y rhai nefol ac arall y rhai daiarol. Arall yw gogoniant yr haul; ac arall yw gogoniant y lloer; ac arall yw gogoniant y sêr: canys [Page] y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw: efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth. Efe a heuir mewn ammarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol. Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol. Felly hefyd y mae yn scrifennedig, Y dŷn cyntaf Addaf a wnaed yn enaid byw, a'r Adda di weddaf yn yspryd yn bywhau. Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysprydol. Y dŷn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol; yr ail dŷn yr Arglwydd o'r nef. Fel y maey daiarol, felly y mae y rhai daiarol; ac fel y mae y nefol, felly mae y rhai nefol hefyd. Ac megis y dygasom ddelw y daiarol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. Eithr hyn meddaf, o frodyr, na ddichon cîg a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth. Wele, yr wyf yn dy wedyd i chwi ddirgelwch; Ni hunwn ni oll, eithr ni a ne widir oll mewn moment, ardarawiad llygad, wrth yr vdcorn diweddaf. Canys yr vdcorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredic, a ninnau a newidir. O herwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisco anfarwoldeb. A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth; ac i'r marwol hwn wisco anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a scrifennwyd, Angeu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth. O angeu pa le y mae dy golyn? O vffern pa le mae dy fuddugoliaeth? Colyn angeu yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith. Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hynny fy mrodyr anwyl, byddwch siccr, a diymmod, a helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a chwi 'n gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
Wedi darfod y llith y dywed yr Offeiriad.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, &c.
Ac na thywys ni i brofedigaeth.
Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.
HOll-gyfoethog Dduw, gyd â'r hwn y mae yn byw ysprydoedd y rhai a ymadawsant oddi yma yn yr Arglwydd, ac yn yr hwn y mae eneidiau y rhai detholedic wedi darfod eu rhyddhau oddiwrth faich y cnawd, mewn llawenydd a dedwyddyd: yr ydym yn mawr ddiolch i ti, fod yn wiw gennit waredu hwn N. ein brawd, allan o drueni y byd pechadurus hwn, gan attolygu i ti ryngu bodd it o'th radlawn ddaioni, gyflawni ar fyrder nifer dy etholedigion, a phrysuro dy deyrnas, modd y gallom ni gŷd â'n brawd hwn, ac eraill a ymadawsant â'r byd mewn gwîr ffydd dy Enw bendigedic, gaffael i ni ddiwedd perffaith, a gwynfyd ynghorph ac enaid, yn dy ogoniant tragywyddol. Amen.
Y Colect.
O Drugarog Dduw, Tâd ein Harglwydd Iesu Grist, yr hwn yw y cyfodiad a'r bywyd, ym-mha vn pwy bynnac a greto, a fydd byw er iddo farw. A phwy bynnac a fo byw ac a greto ynddo ef, ni bydd marw byth, yr hwn hefyd a'n dyscodd (trwy ei Apostol S. Paul) na thristaem fel rhai heb obaith, dros y rhai a hunant ynddo ef: Nyni yn ostyngedic a attolygwn i ti oruchaf Dâd, ein cyfodi ni o angeu pechod i fuchedd cyfiawnder, fel y bo i ni wedi ymado â'r fuchedd hon, allu gorphywys ynddo ef, megis y mae ein gobaith fod ein brawd hwn: Ac [Page] ar y cyfodiad cyffredin y dydd diwethaf, allu ein caffael yn gymmeradwy yn dy olwg di, a derbyn y fendith a ddatcan dy garedic Fâb yr amser hynny i bawb a'r a'th ofnant, ac a'th garant, gan ddywedyd, Deuwch chwi fendigedig blant fy Nhâd, meddiennwch y deyrnas a baratowyd i chwi er pan seiliwyd y byd. Caniadhâ hyn, ni a attolygwn i ti drugaroccaf Dâd, trwy Iesu Grist ein Cyfryngwr a'n Pryniawdur. Amen.
Diolwch gwragedd yn ol escor plant, yr hwn a elwir yn gyffredin, Rhyddhâu, neu Eglwysa.
Y wraig a ddaw i'r Eglwys, ac yno y gostwng ar ei gliniau yn rhyw le cyfaddas, yn gyfagos i'r lle y byddo yr bwrdd yn sefyll: a'r Offeiriad yn ei sefyll yn ei hymyl a ddywed y geiriau hyn, neu yr cyfryw, fel y bo y defnydd yn erchi.
YN gymmaint a rhyngu bodd i'r goruchaf Dduw o'i ddaioni roddi i ti ryddhâd ymwaredol, a'th gadw yn y mawr berigl wrth escor: ti a ddiolchi yn ewyllysgar i Dduw, ac a weddîi.
Yna y dywed yr Offeiriad y psalm hon.
DErchafaf fy llygaid i'r mynyddoedd, Psal. 121. o'r lle y daw fy nghymmorth.
Fy nghymmorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daiar.
Ni âd efe i'th droed lithro, ac ni huna dy geidwad.
Wele, ni huna ac ni chwsc ceidwad Israel.
Yr Arglwydd yw dy geidwad, yr Arglwydd yw dy gyscod ar dy ddeheu-law.
Ni'th dery 'r haul y dydd, na'r lleuad y nôs.
Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.
Yr Arglwydd a geidw dy fynediad, a'th ddyfodiad, o'r pryd hyn hyd yn dragywydd.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis ydd oedd yn y dechreu &c.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.
Ac na thywys ni i brofedigaeth.
Eithr gwaret ni rhag drwg. Amen.
Arglwydd cadw dy wasanaeth-wraig hon.
Yr hon sydd yn ymddiried ynot.
Bydd iddi yn dŵr cadarn.
Rhag wyneb ei gelyn.
Arglwydd, erglyw ein gweddiau.
A deued ein llef hyd attat.
¶Gweddiwn.
HOll-alluog Dduw, yr hwn a waredaist dy wasanaeth-wraig hon oddi wrth y mawr boen a'r perigl ar anedigaeth dŷn bach: Caniadhâ ni a attolygwn i ti drugaroccaf Dâd, allu o honi drwy dy gynhorthwy di, fyw a rhodio yn ffyddlawn yn ei [Page] galwedigaeth, yn ôl dy ewyllys di, yn y fuchedd bresennol hon; a hefyd bod yn gyfrannog o'r gogoniant tragywyddol yn y fuchedd a ddaw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Rhaid i'r wraig a ddêl i dalu diolch, offrymmu yr offrymman defodawl: ac o bydd Cymmun, iawn yw iddi gymmeryd y Cymmun bendigedic.
Comminasion, neu fygwth yn erbyn pechaduriaid: a rhyw weddiau i'w harfer ar amrafael amserau yn y flwyddyn.
Yn ôl y foreuol weddi, y bobl wedi eu galw ynghyd trwy ganu clôch, ac wedi eu hymgynnull i'r Eglwys, y dywedir y Letani Camber aeg yn ôl y môdd arferedig: gwedi darfod hynny, acd yr offeiriad i'r Pulpyt, a dyweded fel hyn.
Y Brodyr, yn y brif Eglwys gynt, yr oedd discyblaeth Dduwiol, Nid amgen bod yn nechreu yr Grawys, roi cyfryw ddynion ac oeddent bechaduriaid cyhoedd, i benyd cyhoedd, a'u poeni yn y byd yma modd y byddei eu heneidiau gadwedic yn nydd yr Arglwydd: ac megis y gallei eraill, wedi eu rhybyddio drwy eu esampl hwy, fod yn ofnusach i wneuthur ar gam. Yn lle hynny, hyd onid adnewydder y ddywededic ddiscyblaeth (yr hyn a ddylid ei ddymuno yn fawr) fe dybiwyd fod yn dda yr amser hyn, yn eich gwydd chwi, ddarllen y sentensiau cyffredin o felldithion Duw yn erbyn pechaduriaid anedifeiriol, y rhai a gasclwyd allan o'r seithfed bennod ar hugain o Deuteronomium, a lleoedd eraill o'r Scrythur lân: a bod i chwi atteb i bob sentens, Amen. Er m wyn, gwedi [Page] darfod felly eich rhybuddio am fawr ddigllonder Duw yn erbyn pechaduriaid, gallu eich gwahodd yn gynt i ddifrif, a gwîr edifeirwch, a bod i chwi rodio yn ddiesceulusach y dyddiau enbyd hyn, gan gilio oddi-wrth gyfryw feiau ac yr ydych chwi yn sicerhau â'ch geneuau eich hunain fod melldith Dduw yn ddyledus amdanynt.
Melldigedic yw yr neb a wnêlo ddelw gerfiedic neu doddedic, yn ffieidd-beth i'r Arglwydd, gwaith dwylaw y crefft-wr, ac a'i gosodo mewn lle dirgel iw haddoli.
A'r bobl a attebant, ac a ddywedant.
Amen.
Melldigedig yw yr hwn a felldithio ei dâd neu ei fam.
Amen.
Melldigedic yw yr hwn a symmudo derfyn tir ei gymmydog.
Amen.
Melldigedic yw yr hwn a ddycco y dall allan o'i ffordd.
Amen.
Melldigedic yw yr hwn a rwystro farn y dieithr, yr ymddifad, a'r weddw.
Amen.
Melldigedic yw yr neb a darawo ei gymmydog yn ddirgel.
Amen.
Melldigedic yw yr hwn a orweddo gyd â gwraig ei gymmydog.
Amen.
Melldigedic yw yr hwn a gymmero wobr er dieneidio perchen gwaed gwirion.
Amen.
Melldigedic yw yr hwn a roddo ei ymddiried mewn dyn, ac a gymmero ddyn yn amddiffyn iddo, ac yn ei galon a gilio oddi wrth yr Arglwydd.
Amen.
Melldigedic yw yr annhrugarog, y godinebus, a'r rhai a dorrant briodas, a'r cybyddion, addol-wŷr delwau, enllib-wŷr, meddwon, a'r bribwyr.
Amen.
YN-awr, Psal. 119. yn gymmaint a'u bod hwy oll yn felldigedig (fel y tystia Dafydd Brophwyd) y rhai sy yn cyfeiliorni, ac yn myned ar ddidro oddiwrth orchymmynion Duw: moeswch i ni (gan feddylio am y farn ofnadwy sydd goruwch ein pennau, ac fyth ger ein llaw) ymch welyd at ein Harglwydd Dduw â chwbl gystudd, a goffyngeiddrwydd calon, gan ddwyn galar a thrymder dros ein buchedd bechadurus, gan gydnabod a chyffessu ein camweddau, a cheisio dwyn ffrwythau teilwng i edifeirwch. [Page] Canys yn awr y gossodwyd y fwyall ar wreiddyn y pren, Mat. 3. fel y cymmynir i lawr, ac y bwrir i'r tân, bob pren ni ddycco ffrwyth da. Heb. 11. Psal. 11. Peth ofnad wy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw. Efe a dywallt law ar y pechaduriaid, maglau, tân, a brwmstan, storm a thymestl, Es. 26. hyn fydd eu rhan hwy iw yfed. Canys wele y mae 'r Arglwydd wedi dyfod allan o'ile, i ymweled ag anwiredd y rhai sy yn trigo ar y ddaiar. Mal. 3. Eithr pwy a ddichon aros dydd ei ddyfodiad ef? pwy a ddichon barhau pan ymddangoso efe? Mat. 3. Ei wyntill sydd yn ei law, ac efe a gartha ei lawr, ac a gascl ei wenith iw yscubor, ond efe a lysc yr ûs â thân anniffoddadwy. Dydd yr Arglwydd a ddaw fel lleidr o hyd nôs, 1. Thes. 5. a phan ddywedant, Tangneddyf, ac y mae pob peth yn ddiogel, yna y daw distryw dysyfyd arnynt, fel y daw gofid ar wraig feichiog wrth escor, ac ni ddiangant. Rhuf. 2. Yna yr ymddengys cynddaredd Duw yn y dydd dial, yr hwn a ddarfu i'r pechaduriaid anhydyn ei bentyrru ar eu gwarthaf trwy gyndynrwydd eu calonnau, y rhai a ddirmygent ddaioni, ammynedd, a hîr-ymaros Duw, pan ydoedd efe yn eu galw hwy yn wastad i edifeirwch. Dihar. 1. Yna y galwant arnaf, medd yr Arglwydd, ac ni wrandawaf; hwy a'm ceisiant yn foreu, ac ni'm caffant, a hynny o herwydd iddynt gassâu gwybodaeth, ac na dderbynient ofn yr Arglwydd, onid cassâu fy nghyngor, a diystyru fy nghospedigaeth.
Yno y bydd rhy-hwyr curo, wedi cau 'r drws, a rhyhwyr galw am drugaredd, pan yw amser cyfiawnder. Och mor aruthrol llef y farn gyfiawnaf a draethir arnynt hwy, Mat. 25. pan ddywedir wrthynt: Ewch y rhai melldigedic i'r tân tragy wyddol, yr hwn a ddarparwyd i ddiafol a'i angelion.
2. Cor. 6.Am hynny frodyr, ymochelwn yn amser, tra parhao dydd yr iechyd, Canys y mae yr nôs yn dyfod, [Page] pryd na allo neb weithio: Ioan. 9. felly tra fyddo i ni oleuni credwn yn y goleuni, a rhodiwn fel plant y goleuni, rhag ein bwrw i'r tywyllwg eithaf, lle y mae wylofain ac yscyrnygu dannedd. Mat. 25. Na ddrwgarferwn ddaioni Duw, yr hwn sydd yn ein galw yn drugarog i emendio, ac o'i ddidrangc dosturi, yn addo i ni faddeuaint am a aeth heibio, os nyni (â chwbl feddwl, ac â chalon gywir) a ddychwelwn atto ef. Esa. 1. Canys er bod ein pechodau cyn goched a'r yscarlad, hwy a fyddant mor gannaid â'r eira: ac er eu bod fel y porphor, etto hwy fyddant cyn wynned a'r gwlân.
Ymchwelwch yn lân, medd yr Arglwydd, Exec. 18. oddi wrth eich holl an wiredd, ac ni bydd eich pechodau yn ddistryw i chwi.
Bwriwch ymmaith oddi-wrthych eich holl annuwioldeb a wnaethoch, gwnewch i chwi galonnau newyddion, ac yspryd newydd. Pa ham y byddwch feirw, chwy-chwi tŷ yr Israel? can na'm boddheir ym marwolaeth yr vn a fo marw, medd yr Arglwydd Dduw? Ymchwelwch chwithau a byw fyddwch.
Er darfod i ni bechu, 1. Ioan 2. y mae i ni ddadleuwr gyd â'r Tâd, Iesu Grist y Cysion, ac efe a haeddodd i ni drugaredd dros ein pechodau.
Canys efe a archollwyd dros ein camweddau, Esa. 53. ac a darawyd am ein hanwiredd. Ymchwelwn am hynny atto ef, yr hwn yw trugarog dderbyniwr holl wîr edifeiriol bechaduriaid, gan gwbl gredu ei fod efe yn barod i'n derbyn ac yn orau ei ewyllys i faddeu i ni, od awn atto mewn ffyddlawn edifeirwch, os nyni a ymostyngwn iddo, ac o hyn allan rhodio yn ei ffyrdd ef: Mat. 11. os nyni a dderbyniwn ei iau esmwyth ef, a'i faich yscafn arnom, iw ganlyn ef mewn gostyngeiddrwydd, [Page] dioddefaint, a chariad perffaith, a bod o honom yn drefnedig wrth ly wodraeth ei Yspryd glân ef, gan geisio yn wastad ei ogoniant, a'i wasanaethu yn ddyladwy yn ein galwedigaeth, gan ddiolch iddo. Os hyn a wnawn, Christ a'n gwared ni oddi-wrth felldith y gyfraith, ac oddi-wrth y felldith eithaf a ddiscyn ar y sawl a fyddant ar y llaw asswy, ac efe a'n gesyd ni ar ei ddeheu-law, Mat. 25. ac a dyry i ni wynfydedig fendith ei Dâd, gan orchymmyn i ni gymeryd meddiant yn ei ogoneddus deyrnas, i'r hon poed teilwng fo ganddo ein dwyn ni i gyd oll, er ei anfeidrol drugaredd. Amen.
Yna y gostyngant bawb ar ei gliniau, a'r Offeiriaid a'r yscolheigion ar eu gliniau (yn y fan lle maent arferedic o ddywedyd y Letani) a ddywedant y Psalm hon.
Psal. 51. Miserere mei Deus.TRugarha wrthif ô Dduw, yn ôl dy drugarog-rwydd: yn ôl lliaws dy dosturiaethau dilêa fy anwireddau.
Golch fi yn llwyr-ddwys oddiwrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddiwrth fy mhechod.
Canys yr wyf yn cydnabod fy nghamweddau, a'm pechod sydd yn wastad ger fy mron.
Yn dy erbyn di, dydi dy hunan y pechais, ac y gwneuthum y drwg hyn yn dy olwg: fel i'th gyfiawnhaer pan leferych, ar y byddit bur pan farnech.
Wele, mewn anwiredd i'm lluniwyd, ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf.
Wele, ceraist wirionedd oddi-mewn, a pheri i mi wybod doethineb yn ddirgel.
Glanhâ fi ag Ysop, ac mi a lanheir: golch fi, a byddaf wynnach na'r eira.
Par di i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.
Cuddia dy wyneb oddi wrth fy mhechodau: a dilea fy holl anwireddau.
Crea galon lân ynof ô Dduw; ac adnewydda yspryd vniawn o'm mewn.
Na fwrw fi ymmaith oddi ger dy fron: ac na chymmer dy Yspryd sanctaidd oddi wrthif.
Dyro drachefn i mi orfoledd dy iechydwriaeth: ac â'th hael Yspryd cynnal fi.
Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai anwir: a phechaduriaid a droir attat.
Gwared fi oddi wrth waed ô Dduw, Duw fy iechydwriaeth: a'm tafod a gân yn llafar am dy gyfiawnder.
Arglwydd, agor fy ngwefusau, a'm genau a fynega dy foliant.
Canys ni chwennychi aberth, pe amgen mi a'i rhoddwn; poeth offrwm ni fynni.
Aberthau Duw ydynt yspryd drylliedic: calon ddryllioc gystuddiedic, ô Dduw, ni ddirmygi.
Gwna ddaioni, yn dy ewyllysgarwch, i Sion: adeilada furiau Ierusalem.
Yna y byddi fodlon i ebyrth cyfiawnder, i boeth offrwm, ac aberth llosc, yna 'r offrymmant fustych ar dy allor.
Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd glân.
Megis ydd oedd yn y dechreu &c.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
Christ trugarhâ wrthym.
Arglwydd trugarhâ wrthym.
¶Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd &c.
Ac na thywys ni i brofedigaeth.
Eithr gwared ni rhag drwg.
Arglwydd cadw dy wasanaeth-ddynion.
Y rhai a ymddiriedant ynot.
Anfon iddynt borth oddi-vchod.
A byth amddiffyn hwy yn gadarn.
Cymmorth nyni Dduw ein Iachawdur.
Ac er mwyn gogoniant dy Enw gwared ni: Bydd drugarog wrthym bechaduriaid, er mwyn dy Enw.
Arglwydd, gwrando ein gweddiau.
A deued ein llef hyd attat.
Gweddiwn.
ARglwydd, ni attolygwn i ti yn drugarog gwrando ein gweddiau, ac arbed bawb a gyffessant eu pechodau wrthit, fel y bo i'r rhai y cyhuddir eu cyd wybodau gan bechod, trwy dy drugarog faddeuaint fod yn ollyngedic, trwy Grist ein Harglwydd, Amen.
O Alluoccaf Dduw, a thrugaroccaf Dâd, yr hwn wyt yn tosturio wrth bob dŷn, ac nid wyt yn casâu dim ar a wnaethost, yr hwn nid ewyllysi farwolaeth pechadur, onid byw o honaw ac ymchwelyd oddi-wrth bechod, a bod yn gadwedic: yn drugaroc maddeu ein camweddau, derbyn a chonfforddia ni, y rhai ydym yn flîn ac yn orthrwm gennym faich ein pechodau. Ti biau o briodolder drugarhau, i ti yn vnic y perthyn maddeu pechodau: Arbed nyni am hynny Arglwydd ddaionus. Arbed dy bobl y rhai a brynaist. Na ddwg dy weision i'r farn, y rhai ŷnt bridd gwael, a phechaduriaid truein: Eithr ymchwel [Page] felly dy lid oddi wrthym, y rhai ŷm yn ostyngedic yn cydnabod â'n gwaeledd, ac yn wîr edifeiriol gennym ein beiau: felly bryssia i'n cynhorthwyo yn y byd hwn, fel y gallom byth fyw gyd â thi yn y byd a ddaw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yna y dywed y bobl hyn yma sydd yn canlyn, ar ôl y Gwenidog.
YMchwel di ni Arglwydd daionus, ac yna ydd ymchwelir ni, ystyria Arglwydd, ystyria wrth dy bobl, y rhai sydd yn ymchwelyd attat trwy wylofain, ymprydio, a gweddio; canys Duw trugarog yd wyti, yn llawn tosturi, yn dda dy amynedd, ac yn fawr dy warder, yr wyt yn arbed pan âm yn haeddu poenau, ac yn dy lid ydd wyt yn meddwl am drugaredd. Arbet dy bobl Arglwydd daionus, arbet hwy, ac na ddyccer dy etifeddiaeth i wradwydd: clyw nyni Arglwydd, canys mawr yw dy drugaredd, ac yn ôl lliaws dy drugareddau edrych arnom.