PRIFANNAU Y Grefydd Gristionogawl.
HOL. PA ddiogel sail sydd gennych i adeiladu eich Crefydd arni?
ATTEB. Gair Duw, cynhwysedig yn yr ysgrythyrau. Yr holl scrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi. 2 Pet. 1.19. 2 Tim. 3.15.16.
Holi. Pa beth yw 'r Scrythyrau hynny?
Atteb. Ysgrythyrau sanctaidd a roddwyd gan Dduw ei hunan, er mwyn athrawiaeth berffaith iw eglwys. Yr yscrythur lân sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iechydwriaeth, trwy'r ffydd sydd yn Ghrist Jesu. 2 Pet. 2.2. 2 Tim. 3.15.16.
[Page 4]Hol. Pa beth yr ydych chwi yn ei gasglu óddiwrth hynny sef fod Duw yn Awdur ir Scrythyrau hynny?
Atteb. Eu bod gan hynny, o argoel tradiogelaf ac vchelaf awdurdod. Y mae ganddynt Moses a'r prophwydi gwrandawant arnynt hwy. Luc. 16.29. Gal. 1.8. Esay. 8.20.
Hol. Pa fodd y maent yn gwasanaethu i athrawiaethu yr eglwys yn Berffaith?
Atteb. Yn gimaint ai bod yn ddigonol in hathrawiaethu yn holl byngciau y Ffydd yr rhai yr ydym ni rwym iw credu, ac yn yr holl ddyledion daionus ar yr ydym ni rwym iw harferu. Fel y byddo dŷn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda. 2 Tim. 3.16, 17.
Hol. Pa beth yr ych yn ei addysgu o hynny?
Atteb. Fod yn Ddyled i ni, ein gwneuthur ein hunain yn gydnabyddus ar Scrythyrau Sanctaidd hyn, ac na Dderbynniom vn ddysgeidiaeth heb ei sail ai warant oddiyno. Dyscont ac edrychont am wneuthur holl eiriau'r gyfraith. Derbyniasant [Page 5] y gair gan chwilio'r scrythyrau beunydd. Deut. 31.11, 12, Josu. 8.35. Joan 5.39. Act. 17.11. 1 Cor. 4.6.
Hol. Pa beth yw r pwngc cyntaf o grefydd yr ych chwi iw ddysgu allan o sanctaidd air Duw?
Atteb. Naturiaeth neu anian Duw.
Hol. Pa beth yw Duw?
Atteb. Duw sydd Yspryd, tra pherffaith, tradoeth, hollalluog, a thra-sanctaidd. Joan 4.24. Dade. 1.8. Act. 17.24, 25. Dihar. 8.4. 1 Tim. 1.17. Job 9.12, 13. Jer. 10.12. Exod. 34.6, 7. Psal. 147.17.
Hol. Pa beth yr ych yn ei feddwl wrth alw Duw yn Yspryd?
Atteb. Nad oes iddo vn corph ollawl, ac am hynny na feddylid i fod ef yn debyg i ddim a ellid ei weled a golwg dyn. Y Duw anweledig. Col. 1.15. Rhu. 1.13. Deut. 4.12. 15, 16.
Hol. Pa nifer o dduwiau sydd?
Atteb. Un Duw yn vnig eithr tri pherson. 1 Tim. 1.17. Eph. 4.5, 6. 1 Cor. 8.4. Deut. 4.35, 39. Math. 28.19. 1 Joan. 5.7.
Hol. Pa vn yw 'r person cyntaf?
Atteb. Y Tâd yr hwn sydd yn cenedlu y mâb.
[Page 6]Hol. Pa vn yw'r ail?
Atteb. Y mab cenedledig gan y Tad. Heb. 1.3, 5. 1 Pet. 1.3. Eph. 1.3. Heb. 1.6. Joan. 1.14. Phil. 2.7. Joan. 5.26.
Hol. Pa vn yw 'r trydydd?
Atteb. Yr yspryd glân yn deilliaw oddiwrth y tad ar mab. Jon. 15.26. Gal. 4.6.
Hol. Pa beth a wnaeth Duw cyn gwneuthur y byd?
Atteb. Efe o flaen holl amser trwy ei gyngor digyfnewidiol a drefnodd bob rhiw beth a ddigwyddai. Acts. 2.23. ac 15.18. Psal. 33.11. Eph. 1.11.
Hol. Ym mha fodd y cafas yr holl bethau eu dechreuad?
Atteb. Yn nechreuad amser pryd nad oedd vn creadur, vn rhiw sylwedd, y creawdd Duw trwy ei air yn vnig, yr holl bethau mewn ysbaid chwe diwrnod. Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefocdd a'r ddaiar. Gen. 1, 1. Heb. 11.3. Exod. 20.11. Dad. 4.11.
Hol. Pai rai yw 'r prif greaduriaid?
Atteb. Angelion a dynion. Heb. 1.7, 14.
[Page 7]Hol. Pa beth yw naturieth Angelion?
Atteb. Y maent hwy ollawl yn ysprydawl, heb vddynt hwy ddim corph, Heb. 1.14. Col. 1.16.
Hol. Pa beth yw naturiaeth dyn?
Atteb. Y mae ef yn gynwysedig o ddwy amriw ran, sef corph ac enaid. Gen. 2, 7. Heb. 12.9.
Hol. Pa beth yw r corph?
Atteb. Y rhan ddauarol o ddyn oddiallan, a wnaethpwyd yn y dechreuad o lwch y ddauar. Gen. 2.7. Gen. 3.19.
Hol. Pa beth yw'r enaid?
Atteb. Yr ysprydol ran i ddyn oddifewn, yr hon sydd anfarwol ac ni eill fyth farw. Nag ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ae ni allant ladd yr enaid. Preg. 12.7. Mar. 10.28. Dad. 69. 2 Cor. 5.8.
Hol. Pa fodd y darfu i dduw wneuthur dyn yn y dechreuad?
Atteb. Yn ol ei ddull ai ddelw ei hun. Gen. 1.26.
Hol. Ym mha le yr oedd delw Dduw iw weled yn enwediccaf?
Atteb. Ym mherffeiddrwydd ei ddeall, a rhydd-did a sancteiddrwydd ei [Page 8] ewylly [...]. Y dyn newydd, yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd. Col. 3.10. Eph. 4.24. Preg. 7.29.
Hol. Pesawl dyn a greuwyd yn y dechreuad?
Atteb. Dau, Adda y gwr, ac Efa y wraig, oddiwrth yr hyn ddau, yn ol hynny y deilliawdd ac yr hanodd holl ddynawl ryw. Gen. 1.26, 27. Gen. 2.18. Acts 17.26. 1 Tim. 2.23.
Hol. Pa beth y mae Duw yn ei wneuthur yn ol y creadigaeth?
Atteb. Trwy ei ragymweliad y mae efe yn coleddu a llywodraethu ei greaduraid, a holl bethau perthynasol vddynt. Yr Jesu a'u hattebodd hwynt, y mae fy Nbâd yu gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finneu yn gweithio. Joa. 5.17: Nehem. 9.6. Psal. 119.91. Heb. 1.3.11. Act. 17.26, 28. Math. 20.30. Diha. 16.33.
Hol. Pa beth a ddigwyddodd i Angelion yn ol eu creadigaeth?
Atteb. Rhai o honynt a arhosasant yn y stat sanctaidd yn yr hon y creuwyd hwy, rhai o honynt a gwympodd ac a aethant yn ddiafoliaid. 2 Pet. 2.4. Joa. 8. [Page 9] 24. 1 Joa. 3.8. Math. 15.32, 41. Joa. 8.44. 1 Joa. 3.8.
Hol. A eill yr Angelion da gwympo yn ol hyn?
Atteb. Na allant, eithr hwy a barhant bob amser yn eu sancteiddrwydd ai dedwyddwch. 1 Tim. 5.21. Math. 18.10. Luc. 20.36.
Hol. A eill yr Angelion drwg fyth ynnill y cyflwr cyntaf a gollasant?
Atteb. Ni chânt ond eu poeni yn vffern byth bythol heb ddiben. Yr angelion y rhai ni cbadwasant eu goruchafiaeth: eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol tan dywyllwch, i farn y dydd mawr. 2 Pet. 2.4. Jud. 6. Mat. 25.41. Dad. 20.10.
Hol. Pa fodd y gwnaeth Duw â dyn wedi ei wneuthur ef?
Atteb. Efe a wnaeth gyfammod a chyttundeb ag Adda, ac ynddo ef a holl ddynawl ryw. Mal. 2.10. Gen. 2.14. Rhu. 2.15.
Hol. Pa beth yr oedd dyn yn rhwm iw wneuthur trwy r cyfammod hwn?
Atteb. I barhau i fod mor sanctaidd, [Page 10] ac y gwnaethai Duw ef yn y cyntaf, i gadw holl orchymynnion Duw, a byth heb dorri vn o honynt. Luc. 10.26, 27. Rhu. 7.7, 12, 14. Gal. 3.10, 12. 1 Tim. 1.5.
Hol. Pa beth a addawodd Duw i ddyn os. efe fal hyn a gadwai ei orchmynion ef?
Atteb. Parhâd ei Ffafor, a bywyd tragwyddol. Gal. 3.12. Lu. 10.25, 26, 27, 28. Rhu. 7.10. ac 10.5.
Hol. Pa beth a fygythiodd Duw wneuthur i ddyn os ef a bechai a thorri ei orchmynnion ef?
Atteb. Ei felldith ofnadwy a marwolaeth dragwyddol, Gen. 2.17 Gal. 3.10. Levit. 26.14, 15, 16. Deut. 28.15, 16. ac 29.19, 20.
Hol. A barhaodd dyn yn yr ufudd-dod hwnnw, yr hyn oedd ddyledus arno i dduw?
Atteb. Na ddo: Canys Adda ac Efa gan vfuddhâu yn hytrach i gyngor y cythrael, nag i ochmynnion Duw a fwyttasant or pren gwaharddedig, ac felly a gwympasant ymaith oddiwrth Dduw. Gen. 3. Preg. 7.29. Jo [...]. 8.44. Rhuf. 5.14, 15.
[Page 11]Hol. Ai hyn oedd beched Adda ac Efa yn vnig, neu ydym ni yn euog or vnrhiw?
Atteb. Nyni oll ydym blant iddynt hwy, ydym euog or vnrhiw bechod, Canys ni a bechasom eu gyd ynddynt hwy. Rhu. 5.12, 14, 15, 16.
Hol. Pa beth a gynllynodd y pechod yma?
Atteb. Colledigaeth o ddelw Dduw, a llygredigaeth anian a dyfodd mewn dyn, yr hwn a elwir pechod dechreuol neu gwreiddiol. Gen. 5.3. ac 8.28. Psa. 51.5. Job 14. Rhu. 7.14.18. Ephe. 22, 23.
Hol. Ym mha beth y mae llygredigaeth anian dyn yn Sefyll?
Atteb. Mewn chwe pheth yn bennaf.
Hol. Pa vn yw 'r cyntaf?
Atteb. Dallineb ein dealldwriaeth, yr hwn ni ddichon synnied y pethau sydd ô Dduw. 1 Co. 2.14. Jer. 24.7. Eph. 4.17, 18.
Hol. Pa beth yw'r ail?
Atteb. Abergofiad y cof, anghymmwys i gofio pethau daionus. Deut. 3.18. Psal. 119.6. Diha. 3.1. Psal. 106.21.
Hol. Pa beth yw'r trydydd?
Atteb. Gwrthryfelgarwch yr ewyllys a'r meddwl yr hwn sydd ai gwbl [Page 12] duedd ar bechu ac yn ollawl yn anvfudd i ewyllys Duw. Rhuf. 8.5, 6. Phi. 2.13. Ephes. 4.12.
Hol. Pa vn yw 'r pedwerydd?
Atteb. Anrhefnedigaeth y chwantau, megis llawenydd, trymder, cariad, digofaint, ofn a'r cyffelib. Rhu. 1.26. ac 3. 12, 13. Gal. 5.24.
Hol. Pa beth yw 'r pumed?
Atteb. Ofn, a therfysgedd yn y gydwybod, gan euog farnu lle nas dylai, ac escusodi y peth a ddylai ei euog-farnu. I'r diffydd halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a'u cydwybod. Tit. 1.15, 16. Heb. 10.22. Rhu. 7.9. Joan. 16.2.
Hol. Pa beth yw r chweched?
Atteb. Pob aelod or corph sy 'n dyfod yn offeryn parod i wneuthur anwiredd. Job. 31.3. Rhu. 6.13, 19. ac 3.3.14, 15. 2 Pet. 2.14. Psal. 119.37.
Hol. Pa beth yw r Ffrwythau sydd yn deilliaw oddiwrth y llygredigaeth anianol hyn?
Atteb. Pechodau gweithredol, trwy y rhai, y torrwn ni orchmynnion Duw yn holl yrfa ein heinioes▪ Rhu. 6. [Page 13] 16, 17. ac 7.5. Gal. 5.19, 20, 21. Math. 15.19. Math. 12.34, 35, 36.
Hol. Pa fodd yr ych chwi yn torri gorchymynion Duw?
Attob. Mewn meddwl, gair, a gweithred, heb wneuthur yr hyn a ddylem ni ei wneuthur, a gwneuthur yr hyn ni ddylem ni ei wneuthur. Act. 8.22. Jac. 3.2. Mat. 25.42, 43. Esay. 1.16, 17.
Hol. Tan ba ryw gospedigaeth y mae dynol ryw oherwydd ei ddechrenol a'i weithredol bechod?
Atteb. Y mae ef tan holl blaau Duw yn y bywyd hwn, a phoenau didrangcedig yn vffern yn ol y bywyd hwn? Deut. 28.45. Luc. 16.23, 24. Mat. 25.41.
Hol. A Ddarfu i Dduw adel dyn yn y eyflwr echrys hyn?
Atteb. Na ddo, eithr oi rwydd ddihaeddedigol drugaredd, efe a ddaeth i gyfammod newydd â dynol ryw. Ezec. 16.60, 62. Zac. 9.11. Jer. 31.11.
Hol. Pa beth yr ydis yn ei gynyg i ddyn [...]n y cyfammod newydd hwn?
Atteb. Gras a bywyd tragwyddol a ynnygir yn rhywdd-rad ir holl rai a [Page 12] [...] [Page 13] [...] [Page 14] gymmodant a Duw, trwy ei Fâb Jesu Grist, yr hwn yn vnig yw'r cyfryngwr rhwng Duw a dŷ [...]. Ʋn duw sydd, ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dynion, y dŷn Christ Jesu. Yr hwn ai rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb. Rhu. 3.24, 25. ac 5.15, 16, 17, 19, 20, 21. Eph. 2.7, 8, 9. 1 Tim. 2.5, 6.
Hol. Pa beth yr ych chwi iw ystyried yng-GRIST cyfryngwr y cyfammod hwn?
Atteb. Dau beth; ei anian, ai swydd.
Hol. Pesawl naturiaeth sydd ynghrist?
Atteb. Dwy, Duwdod, a dyndod, cyssylldedig ynghyd mewn vn person. Rhu. 1.3, 4. ac 9.5. Gal. 4.4·
Hol. Paham y mae'n rhaid i Grist fod yn Dduw?
Atteb. Mal y byddai ei vsudd-dod ai ddioddefaint o anfeidrol ac aneirif werth, a haeddiant, megis yn deilliaw oddiwrth y cyfriw berson ac ydoedd Dduw gogyfiwch ai dad, mal y gallai orchfygu colyn angau (yr hyn yr oedd ei hûn iw oddef) ac in cyfodi ni i fynu o farwolaeth pechod, trwy anfon ei yspryd glân in calonnau. Bydd i waed Christ yr hwn trwy'r yspryd [Page 15] tragwyddol a'i hoffrymmodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw. Heb. 9.14. Acts 20.28. 1 Pet. 3.18. Joa. 2.19, 21. Eph. 2.1. Col. 2.13. Rhu. 8.9 1 Joan. 4.13. Col. 2.13. Rhu. 1.4. ac 8.34. Joa. 5.25.
Hol. Paham yr oedd raid i Grist fod yn ddyn?
Atteb. O achos na allai'r duwdod mor dioddef, ac yr oedd hefyd yn angenrhaid gael or vn anian a droseddasai ddioddef am y camwedd, a bod o'n hanian ni, yr hon a lygresyd yn yr Adda cyntaf, gael ei adferu iw burdeb yn yr ail Adda Crist Jesu ein harglwydd. Gal. 4.4. 1 Cor. 15.21. Heb. 2.13, 16. Rhu. 5.12, 19. Joa. 1.16.
Hol. Pa beth yw swydd Crist?
Atteb. I fod yn gyfryngwr rhwng Duw a dyn. 1 Tim. 2.5. 1 Joa. 2.1. Heb. 12.24.
Hol. Pa beth yr oeddyd yn ei ofyn gan Grist i wneuthur heddwch a chymod rhwng Duw a dyn?
Atteb. Iddo ef roi bodlonrhwydd am [Page 16] y cyfammod cyntaf ir hwn yr oedd dyn yn rhwym. Rhu. 8.3, 4, 10. Gal. 4, 5. Rhu. 10.4.
Hol. Ym mha fodd yr oedd Crist i roi bodlonrhwydd ir cyfammod cyntaf?
Atteb. Yn cyflawni y cyfiawnder yr hyn yr oedd cyfraith Dduw yn ei ofyn gan ddyn, ac yn dwyn y Gospedigaeth am dorri y gyfraith honno. Mat. 5.17. Heb. 5.8.9. ac 10.9, 10. Phil. 2.7, 8. Joa. 4.34. Esa. 53.10, 11. 1 Pet. 2.24.
Hol. Pa fodd y darfu i Grist gyflawni y cyfiawnder hwnnw yr oedd y ddeddf yn ei ofyn gan ddyn?
Atteb. Wrth ei ymddwyn trwy 'r yspryd glan heb frychewyn o lygredigaeth dechreuol, a byw yn sanctaidd holl ddyddiau ei fywyd heb pechod gweithredol. Y cyfryw arch-offeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddiwrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn vwch na'r nefoedd oedd weddus ini. Luc. 1.35. 1 Pet. 1.19. Pen. 2.22. 1 Joan. 3.5. Esa. 53.9. Joa. 8.29, 46. ac 15.10. Heb. 7.25, 26.
Hol. Pa fodd y dygodd ef y gospedigaeth yr bon oedd ddyledus i ddyn am dorri cyfraith Dduw?
[Page 17]Atteb. Wrth iddo o'i wir fodd ei wneuthur ei hun yn ddarostyngedig i felldith y gyfraith, yn gystal yn ei gorph ai enaid, ac ymostwng i farwolaeth, gan ei offrwm ei hun ir Tâd yn aberth berffaith am holl bechod plant Duw. Y mae efe yn gyfryngwr y cyfammod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddiwrth y trosscddau oedd tan y cyfammod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. Ʋnwaith yn niwedd y bŷd yr ymddangoses efe, i ddeleu pechod, trwy ei aberthu ei hun. Gal. 3.13.21. ar. 2.23, 24. Esa. 53.10, 11. Mat. 26.37, 38, 39. Luc. 22.43, 44. Heb. 5.7. Phil. 2.8. Heb. 9.14, 15, 26, 28. Heb. 10.20.
Hol. Pa beth a erfynnir ar law dyn fel y byddo gyfranog o donniau yr Efengyl?
Atteb. Iddo ef dderbyn Crist Jesu, yr hwn a offrymmodd Duw yn rhâd iddo. Joa. 1.11, 12. Rhu. 5.17. Heb. 3.6.14.
Hol. Trwy ba foddion yr ych chwi i dderbyn Crist?
Atteb. Trwy Ffydd, i gredu addewidion grasusol yr Efengyl. Col. 2.6, 7. Joa. 1. 12, 13. ac 6.29, 35 40, 47. ac 7.37, 38. Eph 1.13.
[Page 18]Hol. Pa fodd yr ych chwi yn derbyn Crist trwy Fydd?
Atteb. Gan ymaflyd ynddo ef, ai osod ef ai d doniau yn gysur im henaid sy hun. Hyn yw gwaith Duw credu o honoch yn yr hwn a anfonodd efe. A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, myfi yw bara'r bywyd yr hwn sydd dyfod attafi ni newyna: a'r hwn sydd yn credu ynofi ni sycheda vn amser. Rhu. 9.30. Joa. 4.41, 42, 50, 53. Joa. 6.29, 35, 40, 47, 48, 50, 51, 53, 55, 56, 57, 58. Gal. 2.20. ac 3.27.
Hol. Pa beth yw'r prif ddawn cyntaf, yr ym yn ei gael wrth dderbyn Crist fal hyn?
Atteb. Cyfiawnhâd, (trwy'r hyn) ynghrist yr ydym yn derbyn maddeuant pechodau, ac yr ydis yn ein cyfrif yn gyfiawn, ac felly yn ein rhyddau oddiwrth ddamnedigaeth, ac y cawn ddiogelwch o fywyd tragwyddol. Nid oes damnedigaeth i'r rhai sydd yn Ghrist Jesu, y rhai sydd yn rhodio, nid yn ol y cnawd, eithr yn ol yr yspryd. 1 Cor. 1.30. 2 Cor. 5.19, 21. Rhu. 5.11, 16, 17, 18, 19. Rhu. 8.1, 2, 33, 44.
[Page 19]Hol. Ym mha beth y sai y cyfiawnhâd hwn?
Atteb. Ym maddeuant ein pechodau, ac yn cyfrif cyfiawnder Crist i ni. 1 Joa. 1.7, 8. Rhu. 4.3, 4, 5, 6, 7, 8, 9. 1 Cor. 1.30. Rhu. 3.3, 4. Eph. 1.7. Esa. 53.11.
Hol. Pa fodd felly y gallwn ni edrych am ein cyfiawnhau yngolwg Duw?
Atteb. Yn vnig trwy haeddegaethau CRIST JESU, derbynedig genym trwy Ffydd. Phil. 3.9. Rhu. 3.24. Gal. 1.6. ac 3.8.
Hol. Pa brifddawn arall yr ym yn ei gael wrth dderbyn Crist?
Atteb. Sancteiddhâd, trwy r hyn yr ym yn rhydd oddiwrth awdurdod pechod, ac yr adnewyddir delw Dduw ynom. 1 Cor. 6.11. 1 Thes. 5.23. Rhu. 6.6. Col. 3. 5, 9, 10. Tit. 3.5, 6, 14.
Hol. Ym mha beth y gwelir y sancteiddiad hyn?
Atteb. Mewn edifeirwch ac vsudd-dod newydd yn tarddu oddiyno. Acts 26.20. Mat. 3.8.
Hol. Pa beth yw edifeirwch?
Atteb. Edifeirwch ydyw rhodd Duw [Page 20] trwy'r hon y gweithredir cystudd duwiol ynghalon y Ffyddlonniaid, am ddigio Duw eu tâd trugarog drwy yr anwiriddau a wnaethont, gyda a chwbl fwriadu ór pryd hynny allan, i ymwrthod â'u hynt bechadurus ac i arwain bywyd newydd. 2 Tim. 2.25. Jer. 31.18, 19. 2 Cor. 7.10, 11. Acts 3.19. Acts 26.18, 20. Psa. 119.111, 112.
Hol. Pa beth yr ydych chwi yn ei alw vfudd-dod newydd?
Atteb. Amcaniad a dywydrwydd gofalus yr hyn sydd gan y Ffyddlonniaid i roi vfudd-dod diffuantus i holl orchmynnion Duw, yn ol mesur y nerth, â'r hwn y darfu i Dduw ei nerthu ef. Pob vn a aned o Dduw nid yw yn gwneuthur pechod, oblegid y mae ei hâd ef yn aros ynddo ef. Luc. 1. 6, 74, 75. Psal. 119.6. 1 Pet. 4.2, 3, 4. 1 Joa. 3.3, 4, 5, 9.
Hol. Pa reoledigaeth sydd inni in cyfarwyddo yn ein vfudd-dod?
Atteb. Cyfraith Dduw, crynodeb yr hon a gynhwysir yn y deg gorchymynion. Exod. 20. Mat. 15.6, 9. Psal. 119.105, 106. Deut. 5.32. Exod. 34.27, 28.
[Page 21]Hol. Pa beth ydyw r prifrannau or gyfraith hon?
Atteb. Y dyledion tu ag at Dduw, gosodedig i lawr yn y llech gyntaf, ar hyn ddyledus tu ag at ddyn, yn yr ail. Mat. 22.37, 38, 39, 40. Mar. 12.30.31, 33. Luc. 1. 75. ac 10.26, 27. Eph. 4.24. 1 Tim. 2.2.
Hol. Pa beth a ofyn y llêch gyntaf?
Atteb. I ni garu yr Arglwydd ein Duw, an holl galon, an holl enaid ac an holl feddwl.
Hol. Pa gynifer o orchymynnion a berthynant ir tabl hwn?
Atteb. Pedwar. Exod. 20.
Hol. Pa ddyled a gynhwysir yn y gorchymyn cyntaf?
Atteb. Fod yn yr holl nerthoedd, a chynneddfau ofewn yr enaid ir gwir dragwyddol Dduw gael ei groesawu, ac ef yn vnig.
Hol. Pa ddyled a osodir yn yr ail gorchymyn?
Atteb. Fod holl Foddau Crefydd oddiallan a gwasdadol addoliad, iw roddi ir vnrhiw Dduw yn vnig, ac na byddo y gronyn lleiaf o blygu glin y corph, iw roddi i lun neu ddelw, vn ai llun Duw, ai vnrhiw fath arall, pa fath bynnac. Exo. 20.4, 5, 6.
[Page 22]Hol. Pa beth a ofynnir i ni yn y trydydd orchymyn?
Atteb. I ni ynghyffredinol dreigl ein dyddiau, arferu Duw (hynny yw ei enwau, ei air, ei weirhedoedd, ei farnedigaethau, a pha beth bynnac y mynnai ef gael ei adnabod ei hun wrtho) gyd ag anrhydedd, a phob duwiol barch, mal ym mhob peth y gallo ef gael dyledus ogoniant iddo.
Aol. Pa beth y mae y pedwerydd orchymyn yn ei erchi?
Atteb. I ni gadw yn Sanctaidd y dydd Sabboth, gan orphywys oddiwrth gyffredinol drafferth y byd hwn, a chan roddi yr ennyd honno ar orchwylion crefydd, yn gystal cyhoeddus, a neillduol. Ex. 20.9, 10.
Hol. Pa beth yw cynwysiad yr ail lêch?
Atteb. I ni garu ein cymmydogion fal nyni ein hunain.
Hol. Pa Orchymynion a berthynant ir dabl hwn?
Atteb. Y chwech olaf?
Hol. Pa gyfriw ddyledion a ofynir yn y pymed gorchymyn, yr hwn yw'r cyntaf or ail dablen?
[Page 23]Atteb. Y cyfriw ddyledion a gyflawnir ag enwedigol barch i benaethiaid gan ddeiliaid, ac i gystadlwyr, sef anrhydedd ir holl rai a fyddo vwch nani, vfudddod ir cyfriw rai o honynt ac sydd mewn awdurdod, a phob cyfriw ddyledion neillduol ac a berthyn i wr neu i wraig, tadau a phlant, meistred a gweision, swyddog a'r bobl, bugeiliaid ai praidd.
Hol. Pa beth y mae y chweched gorchymyn yn ei erchi?
Atteb. Amddeffyn a diofalhau cyrph eu gyd-ddynion a'r holl foddau yn perthyn i hynny. Exod. 20.13.
Pa beth a ofynnir yn y seithfed gorchymyn?
Atteb. Cadwedigaeth diweirdeb cyrph dynawl, o ran y gadwraeth hynny y gorchymynnir priodas ir rhai sydd anghenrhaid iddynt wrthi. Exod. 20.14.
Hol. Pa beth a osodwyd yn yr wythfed gorchymyn?
Atteb. Pa beth bynnac a berthyn i gyfoeth y bywyd hwn, vn ai o'n rhan ein hunain, neu o ran ein cymmydog. O'n rhan ein hunain i ni lafurio yn ddyfal, mewn galwedigaeth onest, [Page 24] a buddiol, gan ein bodloni ein hunain â'r cyfoeth a ynnilled yn dda, ai gosod trwy haelioni i weithredoedd da. O ran ein cymydogion, i ni arfer masnach vnion ag hwnthwy, ac arferu holl foddion da a ddichon eu hyfforddi yn eu bywioliaeth, Exod. 20.15.
Hol. Pa beth y mae'r nawfed gorchymyn yn ei erchi?
Atteb. Arfer o wirionedd yn ein ymarweddiad y naill gyd ar llall, yn enwedig, i amddeffyn enw da ein cymydogion. Ex. 20.16.
Hol. Pa beth y mae y degfed gorchymyn yn ei gynwys ynddo?
Atteb. Y mae yn condemnio ac yn hybu holl feddyliau gwibgrwydrus, sydd yn anghyttuno ar cariad sydd ddyledus arnom in cymydogion, er na bom ni yn ymroi iw cyflawni. Exod. 20.17. Mat. 5. 28. Rhu. 7.7.
Hol. Drwy ba foddion y mae Duw arferol o gynnyg donniau ei Efeng yl i ddynion, ac o weithredu a chynnyddu si radau ynddynt?
Atteb. Gwenidogaeth yr Efengyl oddiallan. Efengyl Christ yw gallu Duw er [Page 25] iechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn credu. Rhu. 1.15, 16. ac 10.14, 15, 16, 17. 1 Cor. 1.21. ac 12.28. Eph. 4.11, 12, 13, 14. 2 Cor. 3.3.
Ym mha le y gweithia'r weinidogaeth hon?
Atteb. Yngweledig Eglwysydd Crist.
Hol. Pa beth yr ydych chwi yn ei alw yn Eglwys weledig?
Atteb, Cynylleidfa o ddynion sydd yn byw tan foddau iechydwriaeth. Mat. 18. 17, 18. Acts 11.26. Pen. 14.23, 33. ac 15. 22. ac 20.17, 28. Acts. 2.44, 46, 47.
Hol. Pa beth ydyw'r prifbarthau or gwenidogaeth hyn?
Atteb. Cyfranniad y gair a'r Sacramentau. Mat. 28.19. Act. 2.41, 42, 44. ac 20.7, 17.
Hol. Pa beth yw r gair?
Atteb. Y parth hynny or weinidogaeth oddiallan, sydd yn sefyll yn traddodi neu adrodd y ddysgeidiaeth. Tit. 1.9. 1 Tim. 1.3, 4, 5. Pen. 4.2.11, 12, 13. Pen, 5.17, Rom. 10. 17. 1 Cor. 1.18, 21, 23, 24. Act. 14.21. Pen. 20.21, 27, 31, 32. 1 Cor. 1.8. 2 Tim. 2.15.
Hol. Pa beth ydyw Sacrament?
Atteb. Sacrament ydyw arwydd gweledig a drefnwyd gan Dduw i fod yn sêl i gyd-gryfhau addewidion yr Efengyl i [Page 26] bob gwir aelod o Grist. Gen. 17.10, 11. Rhu. 4.11, 12. Pen. 2.28. 1 Cor. 10.1, 2, 3, 4. ac 12.13.
Hol. Pa beth ydyw y Sacramentau a ordeiniwyd gan Grist yn y Testament Newydd?
Atteb. Bedydd a Swpper yr Arglwydd. Mat. 28.19. ac 26.26.
Hol. Pa beth yw Bedydd?
Atteb. Y Sacrament o'n derbyniad ir Eglwys, yn selio i ni ein genedigaeth newydd trwy'r Cymun sydd i ni â Christ Jesu. Act. 2.38, 41, 42. Pen. 8.36, 37. Tit. 3. 5. Gal. 3.27. 1 Cor. 1.13, 15. Pen. 12.13.
Hol. Pa beth y mae yr elfen o ddwfr yn y Bedydd yn ei arwyddocâu i ni?
Atteb. Gwaed ac yspryd Jesu Christ ein Harglwydd ni. Act. 2.38. ac 22.16. 1 Joa. 1.7. Heb. 9.14. 1 Pet. 1.19. Dad. 1. 5. Mat. 3.6, 11. Acts 8.36, 37. 1 Pet. 3.21.
Hol. Pa beth y mae glanhau y corph yn ei arwyddoccau?
Atteb. Glanhau yr enaid trwy faddeuant pechodau, ac ymwisgo a chyfiawnder Crist! Mat. 3.6, 11. Act. 8.36, 37. Dadc. 1.5.
[Page 27]Hol. Pa beth y mae ein bod tan y dwfr, an rhyddhau oddiwrtho drachefn yn ei arwyddoccau?
Atteb. Ein marw i bechod, trwy rym marwolaeth Christ, a'n bywhau drachefn i gyfiawnder trwy ei adgyfodiad ef. Rhu. 6.4.5, 6. Col. 2.11, 12. 1 Pet. 3.21.
Hol. Pa beth yw Swpper yr Arglwydd?
Atteb. Sacrament on cynhaliaeth yn yr Eglwys, yn selio i ni ein porthiant ysprydol, a'n cynnydd cyfanneddol ynghrist. Mat. 26.26, 27, 28. 1 Cor. 11.20, 23.
Hol. Pa beth y mae y defnyddiau o fara a Gwin yn Swpper yr Arglwydd yn ei arwyddoccau ini?
Atteb. Corph a gwaed Crist. Mat. 26. 26, 28. 1 Cor. 11.25. Joa. 6.33.
Hol. Pa beth y mae torriad y Bara a thywallt y gwin yn ei arwyddoccau?
Atteb. Y dioddefaint trwy'r hyn y torrwyd ein Jachawdwr am ein anwireddau ni, tywalldiad ei waed gwerthfawr, a thywallt ei enaid ef allan i farwolaeth. Mat. 26.26, 28. 1 Cor. 11.24, 25, 26. Esa. 53.5, 6, 11, 12.
[Page 28]Hol. Pa beth y mae derbyn y bara ar gwin yn ei arwyddoccau?
Atteb. Derbyn Crist trwy Ffydd. 1 Cor. 10.16, 17, Pen. 12.13. Joa. 1.12. Pen. 7, 37.38, 40. ac. 6.27, 29, 35, 36, 40, 48, 63. 2 Cor. 13.5. Ephes. 3.17. Heb. 3.14.
Ho. Pa beth y mae y lluniaeth yr hwn y mae ein corph yn ei dderbyn trwy rinwedd yr ymborth gweledig hwn yn ei selio i ni?
Atteb. Y maeth perffeithgwbl, ar cynnydd beunyddiol o nerth, yr hwn y mae y dyn oddifewn yn ei fwynhau trwy rinwedd y Cymmun â Christ Jesu. Joa. 6. 34.50, 51, 54, 56, 57, 58. Eph. 3.17. ac 4. 16.
Hol. Pan ddiweddo gyrfa y bywyd hwn, pa beth a fydd cyflwr dyn yn y byd a ddaw?
Atteb. Pob vn a fernir ac a obrwyir yn ol y bywyd a arweiniodd. Heb. 9.27. 2 Cor. 4.8 9, 10. Eccles. 12.7.
Hol. Pa sawl math or farn hon sydd?
Atteb. Dwy fath, vn yn neillduol, ar llall yn gyffredinol. Gen. 3.19. Act. 17. 31.
Hol. Pa beth a elwch chwi y farn neillduol?
[Page 29]Atteb. Yr hon yr ydis yn ei roi ar enaid pob dyn, cyn gynted ac yr ymadawo ef ar corph. Preg. 12.7. Heb. 9.27.
Hol. Pa beth yw cyflwr enaid dyn hwy 'n gyntaf ac yr ymadawo ar byd yma?
Atteb. Eneidiau plant Duw yn ebrwydd a dderbynnir ir nef, yno i feddiannu gorfoledd anrhaethadwy; eneidiau y rhai drygionus a anfonir i vffern, yno i oddef poenau didrangcedig. Luc. 16.22, 25. Pen. 23.43. Dad. 14.13. Esa. 57.1, 2. 2 Cor. 5 6, 8. 1 Pet. 3.19. Esa. 22.14. Joa. 8.24.
Hol. Pa beth yr ydych chwi yn ei alw y farn gyffredinol?
Atteb. Yr hon a rydd Christ ar osteg pawb yn ei fawredd parchedig ar bob dyn oll ar vnwaith, pan ddelo ef yn y dydd olaf, gyd â gogoniant ei Dâd: â'r holl ddynion ar a fu erioed ynghyd oi flaen ef, yn gystal mewn corph ag enaid, pa vn bynnac a fyddont ai byw ai 'r meirw. Jesu Grist yr hwn a farna y byw a'r meirw yn ei ymddangosiad a'i deyrnas. Mat. 13.40, 41, 42, 43, 49, 50. Pen. 19. 28. ac 24.30, 31. ac 25.31, 32, 33, 46. [Page 30] Act. 1.11. Pen. 3.19, 21. ac 17.31. 1 Cor. 4.15. ac 15.52. 2 Tim. 4.1. 1 Cor. 3.15. 1 Pet. 5.4. 2 Thes. 1.7, 8. 2 Pet. 3.10. 1 Thes. 4.16.
Hol. Pa fodd yr ymddengys y meirw o flaen gorsed-faingc Crist?
Atteb. Y cyrph y rhai oedd iddynt yn amser eu bywyd, trwy ollalluog nerth Duw, a adferir drachefn, ac a fywheir â'u heineidiau, felly y bydd adgyfodiad cyffredinol, oddiwrth y meirw. Job 19. 25, 26, 27. Dan. 12.2, 3. Joa. 5.28, 29. ac 11.24. 1 Cor. 15.12, 13, 14 32, 50, 51. 1 Thes. 4.14, 15, 16. Dad. 20.12, 13.
Hol. Pa fodd yr ymddengys y rhai byw?
Atteb. Cynnifer ac a fyddo y pryd hynny yn aros yma'n fyw, a gyfnewidir wrth amrantyn llygad, yr hyn a fydd iddynt yn lle marwolaeth. 1 Thes. 4.15, 16, 17. 1 Co. 15.51, 52, 53.
Hol. Pa farn a lefara Duw ar y cyfiawn?
Atteb. D [...]uwch chwi fendigedig blant fy nhâd, etifeddwch y deirnas a barotowyd i chwi cyn seilio y byd. Mat. 25.34. 2 Thes. 1. 9, 10. Rhu. 7.9, 10. Da. 22.14.
[Page 31]Hol. Pa farn a adroddir ar y drygionus?
Atteb. Ewch oddiwrthyf rai melldigedig ir tân tragwyddol, yr hwn a ddarparwyd i ddawl ai Angelion. Mat. 25. 41. Rhu. 2.8, 9. 2 Thes. 1, 8, 9. Dad. 22.15.
Hol. Pa beth wedi hynny?
Atteb. Crist a rydd i fynu ei deyrnas iw Dâd, a DUW a fydd oll yn oll. 1 Cor. 15.24, 28.
Yr vn cyfarwyddyd ir anllythrennog i ddyscu darllain Cymraeg, ac a breintwyd yn Hanes y ffydd.
Y llythyrennau. sengl. a b c d e f g h i l m n o p r s t u y. dyblyg. ch dd ff ll ng ph th w.
A B C Ch D Dd E F Ff G H I Ll M N Ng O P Ph S T Th V W Y.
a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n ng o p ph r s t th u w y.
A B C Ch D Dd E F Ff G H I L Ll M N Ng O P Ph R S T Th V W Y.
a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n ng o p ph r s t th u w y.
A B C Ch D Dd E F Ff G H I L Ll M N Ng O P Ph R S T Th U W Y.
[Page 33]Cynefin yn y Saesonaec yw'r ddwy lythyren yma, sef XZ. craffwn arnynt er mwyn darllen y bibl Ond afraid syddai eu benthyccio, ped arferid CS yn lle'r gyntaf, ac S fain-Sain yn lle'r ail.
Y bogeiliaid, a e i o u w y.
Cydseiniaid y gelwir y lleill eu gyd. Un bogail ac un gydsain neu angwaneg, oi hadrodd ar unwaith, a wnant Sylaft, fal hyn, ab eb ib ob ub wb yb. Ac ec ic oc uc wc yc. Ach ech ich. Ad ed id od ud wd yd. Add edd idd odd udd wdd ydd. Af ef iff off wff yff. Ag eg ig og ug wg yg. Ah eh: il ol wll yll. Am em im: on un wn yn. Ang eng ing. Op up wp yp. Ap eph. Ir or: us ws ys. At et it: oth uth wth yth.
Ba be bi bo bu bw by. Ca ce ci: do du dw dy. Dda dde: fi fo fu ffw ffy. Ga ge: hi ho, lu lw. My, na ne, pi po phu, tw ty. Sa se: ti to thu thw thy.
Y geiriau byrraf o un sylaft y maent, megis byd, tâd. Y geiriau hwyaf a wneir wrth adrodd amryw sylaftau ar un anadl, megis dar-llen, edifar-ha, creda.
[Page 34]Cyssylltiad o amryw eiriau mewn synwyr yw adroddiad. Yy hyn fel y byddo iti ei ddarllen yn ddeallus, rhaid iti lywod [...]ethu dy leferydd wrth y rheolau hyn, Sef yw hynny, os bydd y nod hwn (?) yn calyn ymadrod, darllen ef ar Sain ymofyn. Os hwn (,) neu hwn (:) gwybydd na orphenwyd mor ymadrodd, eithr bod ychwaneg perthynawl iddo yn ôl. Ond pan welech hwn (.) attal dy leferydd, am ddyfod hynny o ddywediad ir pen. A phan welech eiriau wedi cau arnynt ymlaen ag yn ol (fal hyn) ymsang mewn rheswm ydynt: a chyssylta yn dy ddeall, y pethau o'r blaen, ac o'r ol, megis na buasai ddim arall yn taro rhyngthynt. A llefara y sylaft yn hirllaes a fyddo a'r nôd hwn (⁁) vwch ei ben. A phan fo bogeiliaid yn diweddu'r naill air, ac yn dechreu'r llall, torrir ymmaith un o honynt, i ochelyd drygsain, a bydd y nôd hwn (') uwchben ei lle.
[Page 35]Nodau rhifyddiaeth. 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 110, 111, 112, 119, 120, 140, 150, 160. Arferir yn y bibl y nodau hyn i ddangos rhifedi'r pennodau. I. II. III. IV. V. VI. VII. VIII. IX. X. XI. XII. XIII. XIV. XV. XVI. XVII. XVIII. XIX. XX. XXI. XXII. XXIII. XXX. XXXV. XXIX. XL. XLI. L Dêg a deugain. LX triugain. XC pedwar ugain a dêg. C. cant. CX cant a dêg.
Pan gyffyrddech a ffigurau sy'n dangos oed y byd neu oedran yr Arglwydd, neu ryw rifon eraill, gwybydd os bydd pedwar o honynt ynghyd, fod y nesaf [Page 36] at dy law ddehau di yn arwyddoccau unau, a'r ail ddegau, ar trydydd gantoedd, ar pedwerydd filoedd, megis yn rhifedi y flwyddyn hon, 1682, Y nesaf at dy law ddeheu di, yw dau, a'r nesaf atto yntef yw Wyth o ddegau, sef ped war vgain, a'r nesaf at hwnw yw chwe chant, a'r olaf yw vn mîl. Wedi bwrw yn ôl tyred eilwaith ym mlaen, a chei vn mîl, a chwechant, a phedwar vgain a dau.
CATECHISM Yn Cynwys PYNGCIAU Y GREFYDD GRISTIANOGOL Yngeiriau ac Ymadroddion YR YSCRYTHUR LAN.
Printiedig yn Llundain, gan Alice Grover, Yn y Flwyddyn 1682.
Catechism Yscrythyrol.
HOL. PA fodd y daeth y nefoedd a'r ddaiar i fod?
ATTEB. Yn y dechreuad y creawdd Duw y nefoedd a'r ddaiar, Gen. 1.1.
Hol. Pa fodd y daethoch chwi a dynol ryw i fod?
Atteb. Duw a wnaeth o vn gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaiar, Act. 17.26.
Hol. Paham y creawdd Duw bob peth?
Atteb. Oherwydd ei ewyllys ef y maent, ac y crewyd hwynt. Datc. 4.11.
Hol. Paham y gwnaeth Duw chwi a phawb eraill?
[Page 4]Atteb. Fel y ceisiem yr Arglwydd (sef fel y gwnaem ei ewyllys ef, ac y mwynhaem ei gariad ef) Act. 17.27.
Hol. Pwy sydd yn eich cynnal chwi, ac yn rhoddi i chwi y pethau daionus yr ydych chwi yn eu mwynhau?
Atteb. Yr Arglwydd a geidw ddŷn ac anifail. Efe sydd yn rhoddi i bawb fywyd ac anadl a phob peth. Psal. 36.6. Act. 17.25.
Hol. Pa bethau daionus a roddes Duw iti?
Atteb. Pe mynegwn a phe traethwn hwynt, amlach ydynt nag y gellir eu rhifo. Psal. 40.5.
Hol. Beth y mae'r Arglwydd yn ei ofyn gennych am ei ddaioni rhyfeddol a'i garedigrwydd tuag attat ti?
Atteb. Dangosodd efe it ddŷn beth sydd dda, a pha beth a gais yr Arglwydd gennit, onid gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyd â'th Dduw. Micah 6.8.
Hol. Dywedasoch i mi mai Duw a wnaeth ac sydd yn cynnal y bŷd, onid efe hefyd ys ydd yn ei lywodraethu a phob peth ynddo?
[Page 5]Atteb. Duw a farna y bobl yn vniawn, ac a lywodraetha y cenhedloedd ar y ddaiar: efe a baratôdd ei orseddfa yn y nefoedd, a'i frenhiniaeth ef sydd yn llywodraethu ar bôb peth. Psal. 67.4. ac 103. 19.
Hol. A oes mwy nag vn Duw?
Atteb. Nid oes vn Duw arall, onid vn 1 Cor. 8.4.
Hol. Beth a ddywedir am y Tâd, a'r Mâb, a'r yspryd Glân?
Atteb. Dywedir am y tri hyn vn ydynt. 1 Jo. 5.7.
Hol. A ellwch chwi gwbl ddeall beth yw Duw?
Atteb. Nid allafi wrth chwilio gael gafael ar Dduw, nid allafi gael yr Hollalluog hyd berffeithrwydd. Job 11.7.
Hol. Pa fodd yr amlygodd Duw ei hun i ddynol ryw?
Atteb. Ei anweledig bethau ef er creaduriaeth y bŷd wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed a welir yn amlwg; sef ei dragwyddol allu ef a'i Dduwdod, hyd onid yw'r cenhedloedd yn ddiescus: Yr hyn a ellir ei wybod am Dduw sydd eglur [Page 6] ynddynt hwy, canys Duw a'i heglurodd iddynt. Rhu. 1.19, 20.
Hol. Oni amlygodd Duw ei hun drwy ryw foddion eraill heb law'r ysbysrwydd a roddes efe amdano ei hun drwy weithredoedd creadigaeth a rhagluniaeth?
Atteb. Do: efe a lefarodd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, ac yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fâb. Heb. 1.1.
Hol. Pa bethau y mae'r yscrythur lân yn eu mynegi i ni ynghylch hanfod a pherpheithrwydd Duw?
Atteb. Y mae'r Yscrythyrau sanctaidd yn datcan i ni fod Duw yn (a) yspryd, ys ydd (b) o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, yn (c) sanctaidd, yn (d) ddaionus a thrugarog, yn (e) gyfiawn, (f) ffyddlawn, yn (g) ddoeth, ac yn (h) alluog.
Hol. Pa beth yr ydych yn ei ddeall wrth fod Duw yn yspryd?
[Page 7]Atteb. Yr wyfi yn deall wrth fod Duw yn yspryd, nad oes ganddo (a) gnawd ac escyrn, ei fod yn (b) anweledig, nas gwelodd neb ef ac nas gall mo'i weled (a llygaid ei gorph) ac nad oes (c) ddelw a allwn ei gyffelybu iddo ef.
Hol. Pa beth a ddysewch chwi oddiwrth fod Duw yn Yspryd?
Atteb. Oddiwrth fod Duw yn yspryd yr wyfi yn dyscu y rhaid ei addoli ef mewn Yspryd a gwirionedd. [Neu â'r enaid gyd â'r Corph] Joan. 4.24.
Hol. Beth a ddyscwch chwi oddiwrth ei fod ef yn anweledig?
Atteb. Yr wyfi yn dyscu oddiwrth ei fod ef yn anweledig, y dylaem ni wilied yn ddyfal ar ein eneidiau, rhag gwneuthur ini neb ryw gyffelybrwydd, neu ddelw gerfiedic iw addoli. Deut. 4.15, 16. Exod. 20.45.
Hol. Beth a ddeallwch chwi oddiwrth sancteiddrwydd Duw?
Atteb, Yr wyfi yn deall oddiwrth sancteiddrwydd Duw fod ffordd yr annuwiol [Page 8] yn ffiaidd gan yr Arglwydd, ac nas gellir ei demptio ef â drygau, ac nad yw efe yn temptio neb. Dihar. 15.9. Jag. 1.13.
Hol. Beth a ddirnedwch chwi oddiwrth fod Duw yn dra-daionus?
Atteb. Yr wyfi yn deall oddiwrth fod Duw yn dra-daionus, ei fod ef yn ddaionus i bawb, ac yn digoni ewyllys pob peth byw, ac yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod. Psal. 145.9, 16. Jag. 1.5.
Hol. Beth a ddirnedwch chwi wrth fod Duw yn dra-thrugarog?
Atteb. Yr wyfi yn deall wrth fod Duw yn dra-thrugarog, fod ei drugaredd ef ar ei holl weithredoedd, ai fod ef yn * raslawn, ac yn hwyrfrydic i ddig, gan faddeu anwiredd, a chamwedd, a phechod: Nad yw efe yn ewyllysio bôd neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch; ac nad o'i fôdd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. Psal. 145.9.
Hol. Beth a ddeallir wrth fod Duw yn gyfiawn?
[Page 9]Atteb. Wrth fod Duw yn gyfiawn yr ysbysir nad yw efe dderbyniwr wyneb, ond ym mhob cenhedl y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder sydd yn gymeradwy ganddo ef: y gwna Duw * barnudd yr holl ddaiar farn, ac nas gesyd ef ar ddŷn ychwaneg nag a haeddo. Act. 10.34.
Hol. Beth a ddeallwn ni wrth fod Duw yn dra-ffyddlon?
Atteb. Wrth fod Duw yn dra-ffyddlon y deallir ei fod efe yn ddi-gelwyddog, ac yn geidwad cyfammod a thrugaredd i'r rhai a'i carant, ac i'r rhai a gadwant ei orchymynion. Tit. 1.2. Dan. 9.4.
Hol. Beth sydd iw ddeall wrth fod Duw yn dra-doeth?
Atteb. Wrth fod Duw yn ddoeth yr arwyddoceir ei fod ef yn deall ein meddyliau ni o bell, a'i fod yn yspys yn ein holl ffyrdd: A bod ei farnau ef yn anchiwiliadwy, a'i ffyrdd yn anolrheinadwy. Psal. 139.2, 3. Rhuf. 11.33.
Hol. Beth a ddeallwch chwi wrth fod Duw yn ara-galluog?
[Page 10]Atteb. Wrth fod Duw yn dra-galluog yr wyfi'n deall, nad oes dim yn ammhossibl gydag ef, ai fod efe yn gwneuthur a synno yn y nefoedd a'r ddaiar. Luc. 1.37. Psal. 135.6.
Hol. Yr awr-hon oherwydd nad yw gwybodaeth ond anfuddiol oddieithr iddi ein arwain at ymarfer dda, dywedwch i mi pa ddyled-swyddau yr ydych chwi yn eu dyscu oddiwrth Briodoliaethau perffeth y Duwiol Anian: ac yn gyntaf beth a ddyscwch oddiwrth Burdeb difrycheulyd a sancteiddrwydd Duw?
Atteb. Yr wyfi yn dyscu oddiwrth Burdeb a sancteiddrwydd Duw, y dylawn i fod yn sanctaidd ym mhob ymarweddiad, megis ac y mae y neb a'm galwodd i yn sanctaidd, a'm puro fy hun megis y mae yntef yn bûr. 1 Pet. 1.15. 1 Jo. 3.3.
Hol. Beth a ddyscwch chwi oddiwrth anfeidrol Ddaioni a Thrugaredd Duw?
Atteb. Y mae daioni Duw yn fy nhywys i edifeirwch, ac i * garu'r Arglwydd fy Nuw â'm holl galon ac â'm holl enaid. Ac yr wyfi yn dyscu y dylawn i fod yn [Page 11] drugarog megis y mae fy Nhâd nefol yn drugarog. Rhuf. 2.4.
Hol. Beth a ddyscwch chwi oddiwrth Gyfiawnd [...]r Duw?
Atteb. Oddiwrth Gyfiawnder Duw yr wyfi yn dyscu pedwar beth. Yn gyntaf, y dylawn i (a) ymddarostwng tan alluog law Dduw, a bod yn fodlon am ynghospedigaeth. Yn ail, y dylawn i (b) dros amser fy ymdeithiad ymddwyn yn ofn Duw, yr hwn sydd heb dderbyn wyneb, yn barnu yn ol gweithred pob vn. Yn drydydd, (c) Na byddo i mi orthrymmu na thwyllo fy mrawd mewn dim, canys dialudd yw'r Arglwydd ar y rhai hyn oll: yn bedwerydd, (d) na ddylawn i ymddial, eithr rhoddi ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn.
Hol. Pa beth y mae gwirionedd a Ffyddlondeb Duw yn ei ddyscu i chwi?
Atteb. Y mae gwirionedd a ssyddlondeb Duw yn dyscu i mi dri pheth: sef yn gyntaf, (a) i ddywedyd gwir yn fynghalon, [Page 12] oherwydd bod gwefusau celwyddog yn ffiaidd gan yr Arglwydd. yn ail, (b) i obeithio yn yr Arglwydd a gwneuthur da. yn drydydd, (c) i ddal cyffes fyngobaith yn ddisygl, canys ffyddlon yw'r hwn a addawodd: ac (d) i orchymmyn fy enaid iddo ef megis i greawdwr ffyddlon gan wneuthur yn dda, pan ddioddefwyf yn ol ewyllys Duw.
Hol. Beth y mae anfeidrol Ddoethineb Duw yn ei ddyscu i chwi?
Atteb. Y mae anfeidrol Ddoethineb Duw yn dyscu i mi, yn gyntaf, na byddwyf ddoeth yn fy nhŷb fy hun, ac nad ymddiriedwyf i'm deall fy hun, gan wybod fod doethineb y byd yn ffolineb gyd â Duw. Yn ail, y mae'n dyscu imi * beth bynnag a wnelwyf ei wneuthur o'r galon, megis i'r Arglwydd ac nid i ddynion, canys yr Arglwydd sydd yn chwilio'r holl galonnau. Rhuf, 12.16. Dihar. 3.5. 1 Cor. 3.19.
[Page 13]Hol. Beth a ddyscwch oddiwrth Anfeidrol Allu Duw?
Atteb. Yr wyfi yn dyscu oddiwrth Allu Anfeidrol Duw, yn gyntaf, y dylwn i ei ofni ef, a chrynu rhag ei fron. yn ail, * y dylwn i obeithio ynddo ef, gan fod yn gwbl siccr gennif am yr hyn a addawodd efe, ei fod ef yn abl iw wneuthur hefyd. Mat. 10.28. Jer. 5.22.
Hol. Gan i chwi roddi i mi ysbysrwydd o'ch gwybodaeth o Dduw'r Tâd, yn nesaf gofynnaf i chwi eich tŷb am wybodaeth o Jesu Grist, ai rheidiol yw honno hefyd?
Atteb. Ydyw yn wir: canys hyn yw'r bywyd tragywyddol adnabod yr vnic wir Dduw, ac Jesu Grist yr hwn a anfonodd efe. Joan. 17.3.
Hol. Beth a annogodd Dduw'r Tâd i ddanfon Jesu Grist?
Atteb. Duw yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy'r hwn y carodd efe ni, a ddangosodd ragorol olud ei râs, trwy ei gymmwynascarwch i ni yn Ghrist Jesu. Ephes. 2. 4, 7.
[Page 14]Hol. Beth oedd amcan Duw yn anfon ei Fab Jesu i'r bŷd?
Atteb. Ni a wyddom ymddangos o honaw ef, fel y deleai ein pechodau ni: Ac * ni ddanfonodd Duw ei Fâb î'r byd, i ddamnio'r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef, ac y caffai fywyd tragwyddol. 1 Joan. 3.5.
Hol. Ynteu a bechodd pawb, ac a haeddasant hwy farwolaeth am bechod?
Atteb. Pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw, a chyflog pechod yw marwolaeth. Rhuf. 3.23. ac 6.23.
Hol. Beth yw pechod?
Atteb. Anghyfraith yw pechod 1 Joan. 3.4.
Hol. Oni wnaeth Duw ddyn yn uniawn?
Atteb. Gwnaeth Duw ddyn yn vniawn, ond hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymmygion. Preg. 7.29.
Hol. Pa rai o ddynol ryw a bechasant gyntaf?
Atteb. Ein rhieni cyntaf sef Adda ac Efa.
Hol. Pa fath bechod a wnaethant?
Atteb. Bwyttasant o'r pren, am yr [Page 15] hwn y gorchymmynnasai Duw na fwyttaent o honaw. Gen. 3.6, 11, 12.
Hol. Pwy ai temptiodd hwy ir pechod hwn?
Atteb. Y sarph [hynny yw, diafol] a dwyllodd Efa, a bwytta a wnaeth hi, ac hitheu a roddes i Adda o'r pren, ac efe a fwyttaodd, Gen. 3.12, 13.
Ho. Drwy ba ryw brofedigaeth y gŵyrdrôdd y sarph Efa?
Atteb. Y sarph a ddywedodd wrth y wraig ni byddwch feirw ddim. Canys gwybod y mae Duw, mai yn y dydd y bwyttaoch o honaw ef, yr agorir eich llygaid, ac y byddwch megis duwiau yn gwybod da a drwg. A phan welodd y wraig mai da oedd ffrwyth y pren yn fwyd, ac mai têg mewn golwg ydoedd, ai fod yn bren dymunol i beri deall, hi a gymerth ô'i ffrwyth ef, ac a fwyttaodd, ac a roddes iw gwr hefyd gyd â hi, ac efe a fwyttaodd. Gen. 3.4, 5, 6.
Hol. Beth a ddigwyddodd ar ol pechod Adda?
Atteb. Trwy'r vn dyn hwnw y daeth pechod ir byd a marwolaeth trwy bechod, [Page 16] ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymmaint a phechu o bawb. Rhu. 5.12.
Hol. Beth a wnaeth Christ pan fu ar y ddaiar er mwyn ein gwaredu ni oddiwrth bechod, a'r gospedigaeth ddyledus iddo?
Atteb. Christ, yn gyntaf, a yspysodd i ni bob peth a'r a glywodd efe gan ei Dâd. Joan. 15.15. yn ail, efe a adawodd i ni esampl, fel y canlynem ei ôl ef. 1 Pet. 2.21. yn drydydd, efe a wnaed yn felldith trosom, gan ddioddef bod ynghrog ar bren: Gal. 3.13. a'i roddi ei hun trosom ni yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. Ephes. 5.2.
Hol. Beth y mae Apostolion Christ yn ei fynegi amdano ef?
Atteb. Mynegant (a) mai efe yw'r vniganedig oddiwrth y Tâd, a (b) Duw bendigedig yn oes oesoedd: a'i (c) ymddwyn ynghrôth y Fair Forwyn o'r yspryd Glan, a nerth y Goruchaf: ac iddo (d) gerdded o amgylch gan wneuthur daioni: Ei fod ef yn (e) brofedig gan Dduw trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion: (f) Iddo gael ei demtio ym mhob [Page 17] peth yr un ffunud a ninneu, etto heb pechod: (g) Iddo farw tros ein pechodau ni, ai gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, (h) ai gymeryd ef i fynu i'r nef, ac iddo eistedd ar ddeheulaw Dduw, ac (i) y daw efe oddiyno (l) i farnu byw a meirw, (m) yn niwedd y byd.
Hol. Beth a wna Christ ac efe yr awr-hon yn y nef, tuag at ein gwaredu ni oddiwrth bechod a thrueni?
Atteb. Efe a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sy yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol trostynt hwy * ac y mae ini eiriolwr gyd â'r Tâd, Jesu Grist y cyfiawn. Heb. 7.25.
Hol. Dros barai o ddynol ryw y bu Christ farw?
Atteb. (a) Efe ai rhoddes ei hunan yn bridwerth tros bawb. (b) Efe yw'r iawn tros ein pechodau ni, ac nid tros yr eiddom [Page 18] ni yn vnig, eithr tros bechodau yr holl fyd: (c) profodd efe farwolaeth tros bob dyn: (d) Ac megis drwy gamwedd vn y daeth barn ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy gyfiawnder vn y daeth y dawn ar bob dyn, i gyfiawnhâd bywyd.
Hol. Oes dim i ni iw wneuthur fel y derbyniom ni faddeuant pechodau a bywyd tragwyddol drwy Grist?
Atteb. Gochelwn dybied hynny, canys yr yscrythur a ddywed (a) y rhaid i ni edifarhau a dychwelyd fel y deleer ein pechodau, a darfod (b) i Dduw felly garu 'r byd, fel y rhoddodd efe ei vniganedig Fâb, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol (c) A'i fod efe yn awdwr iechydwriaeth dragwyddol i'r rhai oll a vfyddhânt iddo.
Hol. Ynteu rhaid ini edifarhau a chredu, ac vfyddhau i'r efengyl, ac onidê ni chawn ni ddim budd oddiwrth farwolaeth Christ?
[Page 19]Atteb. (a) Onid edifarhawn ni a ddifethir oll: (b) a'r neb ni chredo a gondemnir. (c) A hon yw'r ddamnedigaeth ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, canys eu gweithredoedd hwy sydd ddrŵg.
Hol. A wna ffydd ddim lles i ni oddieithr ei bod yn gyssylltedig ag edifeirwch, ac vfydd-dod i orchymynion Christ?
Atteb. Na wna, canys ffydd oni bydd genddi weithredoedd marw yw, a hi yn vnic: ac y mae'r cythreuliaid yn credu, ac yn crynu. Jago. 2.17.19.
Hol. Pan yw'r scrythyrau mewn amryw fannau yn ysbysu fod cyfiawnhâd neu faddeuant pechodau drwy ffydd, ac y cyfrifir ffydd yn gyfiawnder, pa fath ffydd y maent yn eu arwyddoccâu?
Atteb. Y cyfryw ffydd ac a buro'r galon, ac a weithio drwy gariad, ac * a ddiffoddo holl biccellau tanllyd y fall. Act. 15.9. Gal. 5.6.
Hol. Pa fathedifeirwch yw'r hon a dderbyn drugaredd?
[Page 20]Atteb. Yr edifeirwch a dderbyn drugaredd yw gadel y ffyrdd drygionus a'r meddyliau, a dychwelyd at yr Arglwydd, * a gwneuthur gweithredoedd addas iddi. Esay. 55.7.
Hol. A ellwch chwi wrth eich gwaith yn credu, ac yn edifarhau, ac ymroddi i fuchedd dda haeddu ar law Dduw gael ganddo faddeuant o'ch pechodau, a bywyd tragwyddol?
Atteb. Nag allwn (a) eithr gwedi i ni wneuthur y cwbl oll ac a orchymynnwyd i ni rhaid i ni ddywedyd, gweision anfuddiol ydym: (b) Ac nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni, (c) ac yn ol cyfoeth ei râs.
Hol. Beth yw sylwedd y dyledswyddau hynny y mae efengyl Christ yn eu gofyn?
Atteb. Ymddangosodd grâs Duw, yr hon sydd yn dwyn iechydwriaeth i bob dyn, gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol yn y byd sydd yr awron. Tit. 2.11.12.
[Page 21]Hol. Beth yw byw yn dduwiol?
Atteb. Byw yn dduwiol yw (a) gwasanaethu'r Arglwydd mewn llawenydd, (b) a'i addoli wrth ei fodd gydâ gwylder a pharchedig ofn, (c) ac yn ein holl ffyrdd ei gydnabod ef.
Hol. Ai Duw yn vnig sydd iw addoli, onid allwn ni hefyd yn grefyddol addoli 'r seinctieu a'r Angelion, megis y gwna'r papistiaid?
Atteb. Scrifenwyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnig a wasanaethi. Mat. 4.10.
Hol. Beth yw byw yn sobr?
Atteb. Byw'n sobr yw ymgadw oddiwrth weithredoedd y cnawd, y rhai yw tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd, casineb, cynhennau, gwynfydau, llîd, y mrysonau, ymbleidio, heresiau, cenfigennau, meddwdod, cyfeddach, a chyffelyb i'r rhai hyn, * a chybydd-dod (neu osod ein serch ar bethau daiarol) yr hon sydd eulun-addoliaeth. Gal. 5.19.20, 21.
[Page 22]Hol. Pa beth yw byw yn gyfiawn?
Atteb. Byw yn gyfiawn yw hyn, sef pa beth bynnag oll a ewyllysiwn eu gwneuthur o ddynion i mi, felly gwneuthur o honof finneu iddynt hwy: canys hyn yw'r gyfraith a'r prophwydi. Mat. 7.12.
Hol. Beth yw eich dyledswydd tuag at y Brenin a'r awdurdodau goruchel?
Atteb. Fy nyledswydd tuag at y Brenin a'r awdurdodau goruchel yw (a) gweddio drosto, a thros bawb mewn awdurdod tano, (b) ei anrhydeddu ef a nhwythau, ac (c) ymddarostwng iddynt.
Hol. Paham y rhaid ini ymddarostwng iddynt?
Atteb. Rhaid ini ymddarostwng nid yn vnic oherwydd llid (neu rhag ofn eu cleddyf) eithr oherwydd cydwybod hefyd. Rhuf. 13.5.
Hol. Pa fodd y mae cydwybod tuag at Dduw yn ein rhwymo ni i ymddarostwng?
Atteb. Canys nid oes awdurdod onid oddiwrth Dduw, a'r awdurdodau sydd, [Page 23] gan Dduw y maent wedi eu hordeinio: Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duw: â'r rhai a wrthwynebant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Rhuf. 13.1, 2.
Hol. A ddylaech chwi roddi vfydd-dod gweithredol i'ch rheolwyr os parant hwy i chwi wneuthur y peth y mae Duw yn ei warafun?
Atteb. Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando ar ddynion yn hytrach nag ar Dduw, bernwch chwi. Act. 4.19.
Hol. Beth yw eich dyledswydd tuag at yr escobion a'r rheolwyr ysprydol a'r dyscawdwyr a osododd Christ ar ei eglwys?
Atteb. Fy nyledswydd yw vfyddhau i'm blaenoriaid ac ymddarostwng, oblegid y maent hwy yn gwilio tros ein eneidiau, megis rhai a fydd raid iddynt roddi cyfrif. Heb. 13.17.
Hol. Pa ddyledswydd ychwaneg sydd ar [...]och tuag attynt?
Atteb. Dyledus i ni adnabod y rhai sydd yn llafurio yn ein mysc, ac yn ein [...]lywodraethu yn yr Arglwydd, ac yn ein [Page 24] cynghori, a gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith. (a) a chyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair â'r hwn sydd yn ei ddyscu ym mhob peth da. 1 Thes. 5.12, 13.
Hol. Ai cyfreithlon i chwi gyhoeddi beiau rheolwyr dinasol neu eglwysig?
Atteb. Scrifenedic yw na ddywed yn ddrwg am bennaeth dy bobl. Act. 23.5.
Hol. Dwg hyn ar gôf i mi i ofyn i ohwi a all vn fod yn grefyddol heb attal ei dafod?
Atteb. Os yw neb yn eich mysc yn cymmeryd arno fod yn grefyddol, heb attal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. Jag. 1.26.
Hol. Beth yw dyledswydd plant tuag at eu rhieni?
Atteb Dyledswydd plant yw anrhydeddu eu tad a'u mam, yr hwn yw'r gorchymmyn cyntaf mewn addewid: ac (a) vfyddhau iddynt ym mhob peth, canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda. Ephes. 6.2.
[Page 25]Hol. Beth yw dyledswydd rhieni yn eu perthynas iw plant?
Atteb. Dyledswydd rhieni yw na yrront eu plant i ddigio, ond eu maethu hwynt yn addysc ac athrawiaeth yr Arglwydd. Eph. 6.4.
Hol. Beth yw dyledswydd gweision tuag at eu meistred?
Atteb. Dyledswydd gweision yw bod yn ddarostyngedic iw meistreid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth, nid yn gwrthddywedyd; nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da: fel yr harddont athrawiaeth Dduw ein Jachawdur ym mhob peth. Titus 2.9, 10.
Hol. Beth os bydd iddynt feistred anghyweithas, a raid iddynt fod yn ddarostyngedic ir cyfryw?
Atteb. Dylent fod yn ddarostyngedic iw meistreid gyd â phob ofn, nid yn vnic i'r rhai da a chyweithas, eithr ir rhai anghyweithas hefyd. 1 Pet. 2.18.
Hol. Pa fodd y dyleu gweision vfyddnau iw meistreid?
[Page 26]Atteb. Dylent vfyddhau iw meistred nid á llygad wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn simlrwydd calon, yn ofni Duw. Col. 3.22.
Hol. Pa annogaeth sydd i weision i roddi iw meistred y fath vfydd-dod a hyn?
Atteb. Gan yr Arglwydd y derbyniant daledigaeth yr etifeddiaeth, canys yr Arglwydd Grist y maent yn ei wasanaethu. Col. 3.24.
Hol. Pa annogaeth sydd iddynt o ddioddefgarwch dan feistred anhyweth?
Atteb. Hyn sydd rasol os yw neb oherwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch gan ddioddef ar gam: Ac os nyni yn gwneuthur yn dda ac yn dioddef, a fyddwn dda ein ammynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw. 1 Pet. 2. 19, 20.
Hol. Ydyw gyfreithlon i'r cyfryw ddeiliaid gorthrumedic ddangos eu cam i Dduw a dynion?
Atteb. Ydyw, yn gyntaf i Dduw, (a) y neb sydd mewn adfyd gweddied. Yn ail, i ddynion, (b) Meibion Israel a lefasant ar Pharao gan ddywedyd, wele dy [Page 27] weision a gurwyd, a'th bobl di dy hun sydd ar y bai
Hol. Beth yw dyledswydd meistred tuag at eu gweision?
Atteb. Dyledswydd meistred yw (a) gwneuthur iw gweision yr hyn sydd gyfiawn ac vniawn (b) a rhoddi bygwth heibio.
Hol. Paham y dylent hynny?
Atteb. Oherwydd bod iddynt hwythau feistr yn y nefoedd, yr hwn ni dderbyn wyneb neb. Col. 4.1.
Hol. Beth yw dyledswydd Gwyr tuag at eu gwragedd?
Atteb. Dyledswydd gwyr yw caru eu gwragedd, ac na byddont chwerwon wrthynt. Col. 3.19.
Hol. Pa fodd y dylau gwyr garu eu gwragedd?
Atteb. Dylent eu caru hwy megis y carodd Christ yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun trosti: ac felly y dylei gwyr garu eu gwragedd megis eu cyrph eu hunain. Ephes. 5.25, 28.
[Page 28]Hol. Oni ddylei gwyr cyttal â'u gwragedd?
Atteb. Gâd dyn dad a mam a glyn wrth ei wraig, a'r ddau a fyddant yn vn cnawd. Mat. 19.5.
Hol. Beth yw dyledswydd gwragedd tuag at eu gwyr?
Atteb. Dyledswydd gwragedd yw edrych ar iddynt berchi eu gwyr, ac ymostwng iddynt megis ir Arglwydd. Ephes. 5. 22.33.
Hol. Paham y dylent hynny?
Atteb. Oblegid y gwr yw pen y wraig, megis ac y mae Christ yn ben ir eglwys. Ephes. 5.23.
Hol. Beth os bydd y gwr yn anghredadyn neu yn annuwiol?
Atteb. Yr Apl. Petr a ddywed, Bydded y gwragedd ostyngedig iw gwyr priod, fel od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hynnill hwy heb y gair, wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn. 1 Pet, 3.1.
Hol. Pa wedd y dylech chwi ymddwyn tuag at yr oedranus?
[Page 29]Atteb. Dyledus i mi gyfodi ger bron penwynni, a pherchi wyneb henuriad (a) oblegyd coron anrhydeddus yw penllwydni os bydd mewn ffordd cyfiawnder. Lev. 19.32.
Hol. Beth yw eich dyledswydd tuag at ddieithraid?
Atteb. Nad anghofwyf leteugarwch, canys wrth hynny y lletteuodd rhai Angelion yn ddiarwybod. Heb. 13.2. Math. 25 35.
Hol. Beth yw eich dyledswydd tuag at y tlawd a'r anghenus?
Atteb. Mi a ddylwn fod yn (a) drugarog tuag attynt, (b) yn gymm ynascar a thosturiol, gan gofio (c) y rhai sy yn rhwym fel pettwn yn rhwym gydâ hwynt, a'r rhai cystuddiol megis yn bod fy hun hefyd yn y corph.
Hol. Ai digon yw tosturio wrthynt, a bod yn ddrwg gennych eu cyflwr?
Atteb. Na ddigon: canys os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu beunyddol ymborth, a dywedyd o honof wrthynt, ewch mewn heddwch, [Page 30] ymdwymnwch ac ymddigonwch, etto heb roddi iddynt angenrheidiau 'r corph, pa lês fydd? Am hynny (a) ni wasanaetha i mi anghofio gwneuthur daioni a chyfrannu, canys â chyfryw cbyrth y rhyngir bodd Duw. Jag. 2.15, 16.
Hol. A ddylai vn, a fyddo 'n ynnill ei fywyd wrth lafur ei freichiau, roddi elusen?
Atte. Yr hwn a ledratâodd na ledratted mwyach, eithr yn hytrach cymmered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu, i'r hwn y mae angen arno. Ephes. 4.28.
Hol. Er mwyn pa ryw ddiben y dylech roddi elusen?
Atteb. Dylai fy ngoleuni lewyrchu ger bron dynion fel y gwelont fy ngweithredoedd da, ac y gogoneddont ein Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Math. 5.16.
Hol. Pa ryw ddiben sydd i chwi iw ochelyd wrth wneuthur elusen?
Atteb. Rhaid i mi ochelyd rhag gwneuthur fy elusen yng ŵydd dynion er mwyn cael fyngweled ganddynt, ac i'm molianner gan ddynion, os amgen, ni chaf dâl gan fy nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Mat. 6.1, 2.
[Page 31]Hol. Beth o chlywch ynoch eich hunan brofedigaeth gref i chwenych gwâg ogoniant, a chanmoliaeth dynion am roddi elusen?
Atteb. Yn y cyflwr hwnw na wyped fy llaw asswy pa beth a wna sy llaw ddehau, fel y byddo fy elusen yn y dirgel: a chredu y tâl fy nhâd i mi yr hwn a wêl yn y dirgel. Math. 6.3, 4.
Hol. A pha fath feddwl y dylech roddi?
Atteb. Dylaifod yn hawdd gennif roddi a' chyfrannu, nid rhoddi yn athrist neu trwy gymmell, canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu. 1 Tim. 6.18. 2 Cor. 9.7.
Hol. A ddichon y dyn hwnw garu Duw, a nacao gynorthwyo 'r anghenus pan fyddo yn gallu?
Atteb. Yr hwn sydd ganddo dda'r byd hwn, ac a welo ei frawd mewn eisieu, ac a gaeo ei dosturi oddiwrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo ef? 1 Jo. 3.17.
Ho. Pa fath ynteu yw crefydd bur a dihalog?
Atteb. Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tâd, yw hyn, ymweled á'r ymddifaid, a'r gwragedd gweddwon, yn eu hadfyd, a'n cadw ein hunain yn ddifrycheulyd oddiwrth y byd. Jag. 1.27.
[Page 32]Hol. I bwy y dylech wneuthur da?
Atteb. Tra yr ydym yn cael amser cyfaddas, dylem wneuthur da i bawb, ond yn enwedig ir rhai sy o deulu'r ffydd. Gal. 6.10.
Hol. Pa annogaeth sydd i chwi i fod yn drugar [...]g ac yn elusengar?
Atteb. Gwyn eu byd y rhai trugarogion, canys hwy a gant drugaredd (a) os ymgyfoethogwn ni mewn gweithredoedd da, ni dryssorwn i ni ein hunain sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod, fel y caffom afael ar y bywyd tragwyddol. Mat. 5. 7.
Hol. Onid oes addewidion o drugareddau amserol hefyd ir trugarog a'r elusengar?
Atteb. Oes: (a) Gwyn ei syd a ystyria wrth y tlawd, yr Arglwydd a'i gwared ef yn amser adfyd. yr Arglwydd a'i ceidw, ac a'i bywha, gwynfydedic fydd ar y ddaiar: (b) a'i hâd a fendithir.
Hol. Beth oedd ystyriaeth Dafydd ynghylch trugarog wrth graffu ar ei gyflwr?
Atteb. Dywed Dafydd, Mi a fum ieuangc ac yr ydwyf yn hên, etto ni welais [Page 33] y cyfiawn wedi ei adu, na'i had yn cardotta bara, bob amser y mae'n drugarog. Psal. 37.25, 26. Ac medd Solomon, rhyw vn a wascar ei dda ac fe a chwanegir iddo; a rhyw vn arall a arbed mwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi. Diha. 11.24.
Hol. Onid ydych chwi yn tybied y gall Duw mewn ffyddlondeb a doethineb oddef cystudd i ddigwydd i wr da a thrugarog heb dorri'r addewidion a ragddywedpwyd?
Atteb Ydwyf: (a) Canys ni a wyddom fod pob peth yn cydweithio er daioni i'r rhai sy yn caru Duw, sef i'r rhai sydd wedi eu galw: (b) a'u byrr yscafn gystudd sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant iddynt.
Hol. Beth yw eich dyled swydd tuag at frawd a wnel i'th erbyn?
Atteb. Nyni a ddylaem gyd-ddwyn a'u gilydd, a maddeu iw gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Christ i ninnau. Col. 3.13. Eph. 4.32.
Hol. Pa sawl gwaith y dylit oddef i'th frawd bechu yn dy erbyn, a maddeu iddo, ai hyd seithwaith?
[Page 34]Atteb. Dylwn faddeu iddo hyd ddengwaith a thrugain seith-waith. Math. 18.22.
Hol. Beth oni faddeuwch ei gamwedd i'ch brawd?
Atteb. Ni faddeuiff fy nhad mom camweddau inneu. Mat. 6.15.
Hol. Beth yw eich dyledswydd tuag at eich brawd a wnaeth yn erbyn Duw?
Atteb. Ni wasanaetha i mi gasau fy mrawd yn fy nghalon, eithr gan geryddu ceryddu fy nghymydog, fel na ddioddefwyf bechod ynddo. Levit. 19.17.
Hol. Pa annogaeth sydd i chwi i wneuthur hynny?
Atteb. Od aeth neb ar gyfeiliorn oddiwrth y gwirionedd, a throi o ryw vn ef, gwybydded y bydd i'r hwn a drôdd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angeu, a chuddio lliaws o bechodau. Jag. 5.19, 20.
Hol. Pa fodd y dylaem ni geryddu ein brawd pechadurus?
Atteb. Os goddiweddir dyn ar ryw fai, y rhai ysprydol a ddylent adgyweirio 'r cyfryw vn mewn yspryd addfwynder, gan [Page 35] eu hystyried eu hunain, rhag eu temtio hwythau. Gal. 6.1.
Hol. Oni ddylaem ni fod yn dyner wrth farnu ein brawd?
Atteb. Ein Arglwydd a ddywedodd, na fernwch fel na'ch barner, â pha farn y barnoch, i'ch bernir. (a) A phwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu gwâs vn arall? i'w Arglwydd ei hun y mae efe yn sesyll neu yn syrthio. Math. 7.1, 2.
Hol. Pa fodd y dylau y rhai cryfion a gwybodus ymddwyn tuag at y rhai gwan ac anwybodus?
Atteb. Y rhai ydynt gryfion a ddylent gynnal gwendid y rhai gweniaid, ac nid rhyngu eu bodd eu hunain. Rhuf. 15.1.
Hol. Beth yw eich dyledswydd tuag at eich gelynion?
Atteb. Dylwn garu fyngelynion. Mat. 5.44.
Hol. Pa fodd y mae i chwi ddangos eich cariad tuag attynt?
Atteb. Nid yn talu drwg am ddrwg, ne senn am senn, eithr yngwrthwyneb yn bendithio, ac wrth orchfygu drygioni [Page 36] trwy ddaioni. 1 Pet. 3.9. Rhuf. 12.21.
Hol. Pa ryw resymmau sydd gennym i'n hannog i garu, ac i wneuthur da i'n gelynion?
Atteb. (a) Y mae Duw yn canmol ei gariad tuag attom, oblegid a nyni etto yn bechaduriaid i Grist farw trosom ni. (b) Ac felly y byddwn ni yn blant i'n Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, canys y mae efe yn peri iw haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn: (c) Ac y mae efe yn ddaionus ir rhai anniolchgar a drwg.
Hol. Wrth yr attebion a roesoch yr wyf yn dirnad nad ydych yn meddwl fod gras yr efengyl yn gwneuthur neb yn ddiofal am weithredoedd da?
Atteb. Yr ydym wedi ein creu yn Ghrist Jesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw fel y rhodiem ni ynddynt. Ephes. 2 10.
Hol. Ai digon ini wneuthur rhyw weithredoedd da a'r dyn oddiallan?
[Page 37]Atteb. Na ddigon, eithr od oes neb yn Ghrist, (neu yn wir Gristion) y mae efe yn greadur newydd. 2 Cor. 5.17.
Hol. Beth yw bod yn greadur newydd?
Atteb. Bod yn greadur newydd yw bod wedi ymadnewyddu yn yspryd ein meddwl ac (a) vfyddhau o'r galon. Eph. 4. 23.
Hol. Paham y mae'n angenrheidiol ini ein hadnewyddu yn yspryd ein meddwl?
Atteb. Rheidiol ein adnewyddu yn yspryd ein meddwl, oherwydd na ddichon pren drwg ddwyn ffrwythau da, na phren da ddwyn ffrwythau drwg: ac (a) o helaethrwydd y galon y llefara'r genau. Mat. 7.18.
Hol. Pa resymmau ychwaneg sydd i ddangos bod yn rheidiol ini gael ein adnewyddu yn yspryd ein meddyliau a phuro ein calonau?
Atteb. Y mae'n rheidiol hefyd oherwydd i Grist ei roddi ei hun trosom, i'n prynu ni oddiwrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun, yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. Tit. 2.14. A'r môdd hyn hefyd ein gwneir ni [Page 38] (a) yn gymmwys i gael rhan o ettifeddiaeth y Sainct yn y goleuni. Canys oddieithr (b) ein geni drachefn ni ddichon genym weled teyrnas Dduw.
Hol. pam hynny?
Atteb. Oherwydd goleuni yw Duw, ac nid oes ynddo ddim tywyllwch, ac nis gall fod ini gymdeithas ag ef a rhodio yn y tywyllwch. 1 Joan. 1.5, 6.
Hol. Ellwch chwi o honoch eich hun gredu ac edifarhau, a gwneuthur i chwi galon lân, ac vfyddbau i orchymynion Duw?
Atteb. Gallaf bôb peth trwy Grist yr hwn sydd i'm nerthu, ond (a) hebddo ef ni allaf wneuthur dim. Phil. 4 13.
Hol. A ydyw Christ yn barod i' ch nerthu chwi â'i râs ac â'i yspryd?
Atteb. Efe a addawodd i bwy bynnag sydd ganddo (hynny yw a'r sydd yn arferu'r nerth sydd ganddo eusus) y rhoddir iddo, ac y caiff efe helaethrwydd. (a) Ac os nyni y rhai ydym ddrwg a fedrwn roi rhoddion da i'n plant, pa faint mwy y rhydd ein Tâd nefol yr yspryd glân i'r rhai a ofynno [Page 39] ganddo? Math. 13.12.
Hol. Pa fath oedd gweithrediadau'r yspryd Glan a roddwyd i'r eglwys yn enwedig yn y prif amseroedd?
Atteb. Yn gyntaf, yr yspryd Glân yr hwn a anfonodd y Tâd yn enw Christ, a ddyscodd i'r Apostolion yr holl bethau, ac a ddug ar gôf iddynt yr holl bethau a ddywedasai efe iddynt. Joan. 14.26.
Yn ail, (a) wedi dyfod dydd y pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gyttûn yn yr vn lle, a hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, a dechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd; a hwy (b) a fedyddwyd â'r yspryd glân ac â thân, y pryd (c) yr ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis ô dân, ac efe a eisteddodd ar bob vn o honynt.
Yn drydydd, pan eu dycpwyd hwy o flaen rheolwyr, yr yspryd glân a ddyscai iddynt yn yr awr honno pa beth oedd raid ei ddywedyd. Marc. 13.11. Luc. 12.12.
Yn bedwerydd, i vn trwy'r yspryd y rhoddwyd ymadrodd doethineb, ac i arall [Page 40] ymadrodd gwybodaeth, trwy yr vn yspryd, ac i arall wneuthur gwrthiau, ac i arall brophwydoliaeth, ac i arall wahaniaeth ysprydoedd, ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau. 1 Cor. 12.8, 10.
Hol. Paham y rhoddes Duw y pryd hynny y fath ragorol weithrediadau a doniau yr yspryd glan?
Atteb. Drwyddynt yr oedd yr yspryd glan yn tystiolaethu ddarfod i Dduw gyfodi i fynu yr Jesu, ai dderchafu ef a'i ddeheulaw yn dywysog ac yn iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau. Act. 5.30, 31, 32.
Hol. Pa fath yw doniau'r yspryd y rhai a fu ac a fydd yn parhau yn yr eglwys ym mhob oes?
Atteb. Ffrwyth yr Yspryd yw cariad, llawenydd, tangneddyf, hir-ymaros, cymwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest. Gal. 5.22, 23.
Hol. A dderbyn Duw neb ryw vfydd-dod ond a fyddo yn gwbl berffaith a dibechod?
Atteb. O phecha neb y mae i ni eiriolwr gyd a'r Tad, Jesu Grist y cyfiawn. 1 Joa. 2.1.
[Page 41]Hol. Pa ryw foddion sydd i ni iw harferu fel y derbyniom ras Duw drwyddynt?
Atteb. Y Gair, a'r Sacramentau, a gweddi.
Hol. Beth a ddarllenwch chwi ynghylch y Gair, neu'r yscrythur lan?
Atteb. Yr wyf yn darllain ei fod yn abl i'n gwneuthur yn ddoethion i iechydwria [...]th. 2 Tim 3.15.
Hol. Onid yw'n ddigonol tuag at ein iechydwriaeth i ni gredu fel y mae'r eglwys heb wybod ein hunain pa beth, fel y mae'r papistiaid?
Atteb. Nag ydyw, eithr rhaid i mi chwilio 'r scrythyrau, (a) a phrofi pob peth a dal yr hyn sydd dda. Joan. 5.39.
Hol. A all pobl wirion ddeall yr scrythyrau yn y pethau rheidiol tuag at iechydwriaeth?
Atteb. Gallan: Tystiolaeth yr Arglwydd sydd yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth; agoriad ei eiriau a rydd oleuni, pair ddeall i rai annichellgar: ac * os cuddiedig yw ein efengyl ni yn y rhai colledig y mae yn guddiedig. Psa. 19.7. ac 119.130.
[Page 42]Hol. A ddichon yr yscrythyrau wneuthur pobl yn ddoeth i iechydwriaeth heb chwanegu attynt draddodiadau discrifen?
Atteb. Dichon: Canys yr holl scrythur sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, i hyfforddi mewn cyfiawnder; fel y byddo dŷn Duw yn berffaith wedi ei berffeithio i bob gweithred dda. 2 Tim. 3.16, 17.
Hol. Pa fodd y mae i ni ddarllen a gwrando 'r gair?
Atteb. Rhaid ini roddi heibio bôb budreddi, a helaethrwydd malis, a thrwy addfwynder dderbyn yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw ein eneidiau: ac * fel rhai bychain newydd eni chwenych didwyll laeth y gair fel y cynnyddom trwyddo ef. Jag. 1.21.
Hol. Nid digon ynteu yw ini glywed neu wrando'r gair yn vnic?
Atteb. Dylaem fod yn wneuthurwŷc y gair ac nid gwrandawyr yn vnic, gan ein twyllo ein hunain. Jag. 1.22.
Hol. Beth sydd ini iw wneuthur heb law gwrando a darllen gair Duw fel y rhoddom vfydd-dod iddo?
[Page 43]Atteb. Rhaid ini ei guddio ef yn ein calonnau a myfyrio ynddo. Psal. 119. 11, 15.
Hol. Onid rhaid ini hefyd weddio at Dduw am ei fendith i wneuthur ei air yn effeithiol i ni?
Atteb. Rhaid i ni weddio ar i Dduw ddyscu i ni ffyrdd ei ddeddfau, a gostwng ein calonnau at ei destiolaethau. Psal. 119. 33, 36.
Hol. Pa sawl Sacrament sydd?
Atteb. Dau: Bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Hol. Beth yw Bedydd?
Atteb. Bedydd yw golchiad a dwfr yn enw'r Tad a'r Mab, a'r yspryd Glan. Act. 10.47. Math. 28.19.
Hol. Beth yw gras ysprydol y bedydd?
Atteb. Golchiad yr adenedigaeth, neu olchi pechodau ymmaith. Tit. 3.5. Act. 22.16.
Hol. I ba beth yr ydych chwi yn rhwymedig wrth eich bedydd?
Atteb. Y mae fy medydd yn fy rhwymo i wisco Christ, sef i henwi enw Christ, (drwy broffess) ac i ymado [Page 44] oddiwrth anghyfiawnder. 2 Tim. 2.19.
Hol. Pa fodd y mae eich bedydd yn eich rhwymo i ymadel a phob anghyfiawnder?
Atteb. Cynnifer o honom ac a fedyddwyd i Grist Jesu, a fedyddwyd iw farwolaeth ef: claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ac y cyfodwyd Christ o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-dob buchedd. Rhu. 6.3, 4.
Hol. Onid yw ein bedydd yn ein rhwymo ni i garu eu gilydd, ac i gadw vndeb yr yspryd yn rhwymyn tangneddyf?
Atteb. Ydyw: Oherwydd trwy vn Yspryd y bedyddwyd ni oll yn vn corph. 1 Cor. 12.13.
Hol. Beth yw swpper yr Arglwydd?
Atteb. Swpper yr Arglwydd yw (a) Bara bendigedig wedi ei dorri a'i fwytta, a Gwin wedi ei dywallt a'i yfed er coffadwriaeth am Grist, yr hwn (b) a archollwyd am ein camweddau ni, ac a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni, a (c) gwaed yr hwn a dywalltwyd tros [Page 45] lawer er maddeuant pechodau.
Hol. Dros ba hŷd y mae marwolaeth Christ iw goffau yn Swpper yr Arglwydd?
Atteb. Cynnifer gwaith bynnag ac y bwytaom y bara hwn, ac yr yfom y cwppan hwn y dang swn farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo, sef i farnu. 1 Cor. 11.26.
Hol. A ellir gommedd y cwppan i'r rhai a dderbyniant y bara, megis y gwna'r papistiaid i bawb ond yr offeiriaid?
Atteb. Na ellir: canys Christ a gymerodd y cwppan, ac a ddiolchodd, ac a'i rhoddes iddynt, gan ddywedyd, yfwch bawb o hwn. Math. 26.27.
Hol. A ydyw Swpper yr Arglwydd yn aberth, neu a offrymir ynddo Gorph Christ [...]ilwaith dros y byw a'r meirw, fel y mae'r papistiaid yn taeru?
Atteb. Nag ydyw, ac ni offrymir corph Christ ynddo, eithr (a) ynddo y dangosir ei farwolaeth ef; Ac onidê buasei raid iddo yn fynych ddioddef er dechreuad y bŷd: (b) eithr yr awron vnwaith yn [Page 46] niwedd y bŷd yr ymddangoses efe, i ddeleu pechod, trwy ei aberthu ei hun.
Hol. Pa beth yw ystyr y geiriau hynny, cymerwch, bwyttewch, hwn yw fyngorph?
Atteb. Ysbysodd Christ ei feddwl ei hun wrth ddywedyd, gwnewch hyn er coffa amdanaf. Luc. 22.19.
Hol. A yw Corph Christ yn y nef yn oestadol?
Atteb. Rhaid ir nef ei dderbyn ef, hyd amseroedd adferiad pob peth, neu'r dydd olaf. Act. 3.21.
Hol. Pa fodd y mae ini dderbyn swpper yr Arglwydd yn deilwng?
Atteb. Holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan. 1 Cor. 11.28.
Hol. Beth os derbyniwch swpper yr Arglwydd yn annheilwng, sef tra fyddoch yn cynwys ynoch eich hunan bechodau adnabyddus?
Atteb. Yr hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd. [Page 47] [heb ddirnad rhagor rhwng swpper yr Arglwydd a'i ymborth cynnefinol.] 1 Cor. 11.29.
Hol. Pa fudd a gaiff y sawl ai derbynio yn deilwng, sef ai derbynio mewn bwriad cryf yn erbyn pob rhyw bechod, ac mewn diolchgar deimlad o gariad Christ?
Atttb. Ir rheini phiol y fendith yr hon a fendiger cymun gwaed Christ ydyw; y bara a dorrer, cymun corph Christ yw. 1 Cor. 10.16.
Hol. Pa fodd y mae derbyn swpper yr Arglwydd yn gosod arnom ychwaneg o rwymedigaeth i dduwioldeb?
Atteb. Y mae derbyn swpper yr Arglwydd yn gosod arnom ychwaneg o rwymedigaeth i dduwioldeb wrth ddangos marwolaeth Christ, cariad yr hwn yn marw [...]rosom ni sydd yn ein cymhell ni i bob sanctaidd vfydd-dod, Gan farnu o honom [...]yn, os bu vn farw tros bawb, yna meirw [...]edd pawb: ac iddo farw tros bawb, fel na [...]yddei i'r rhai byw, fyw mwyach iddynt [...]u hunain, ond ir hwn a fu farw trostynt [...]c a gyfodwyd, 2 Cor. 5.14, 15.
Hol. Onid yw hyn hefyd yn gosod arnom wymedigaeth enwedigol i garu eu gilydd?
[Page 48]Atteb. Ydyw: canys gorchymmynni [...] ini rodio mewn cariad, megis y carodd Christ ninnau. Ephes. 5.2. Oblegid nyn yn llawer ydym vn bara, ac vn corph canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion o' [...] vn bara. 1 Cor. 10.17.
Hol. Pa beth yw gweddi?
Atteb. Gweddi yw gwneuthur ein dei syfiadau yn hyspys ger bron Duw gyd a diolchgarwch am yr holl bethau da a dder byniasom. Phil. 4.6.
Hol. Oni ddylau ein geiriau ni mew [...] gweddi ddeilliaw o'n calonnau?
Atteb. Dylaem dderchafu ein calonna [...] a'n dwylo at Dduw yn y nefoedd. Galar nad. 3.41.
Hol. Ai cyfreithlon yw gweddio mew iaith nis deallom fel y gwna'r papistiaid y gyffredinol?
Atteb. Nag ydyw, nag ydyw: cany dylem weddio a'r deall, 1 Cor. 14.1 [...] A thywallt ein calonnau ger fron Duw Psal. 62.8.
Holl. Ynteu onid yw'n anghyfreithlon y [...] y cynnulleidfaodd cyhoeddus [...]fer gw [...]ddi [...] mewn iaith anadnabyddus i'r rhan fwy [...] [Page 49] o'r bobl, yn ol arfer yr eglwysydd pabaidd?
Atteb. Oni rydd gwyr â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? Canys hwy a lefarant wrth yr awyr: A pha wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle'r anghyfarwydd, Amen, gan nas gŵyr beth a ddyweder? Am hynny y dywed yr Apostol Paul, mai gwell ydoedd ganddo yn yr eglwys lefaru pum gair trwy ddeall, fel y dyscai eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod dieithr. 1 Cor. 14.9, 16, 19.
Hol. Pa ryw ymddygiad corphorol a ddylaem ni arfer wrth weddio?
Atteb. Dylaem addoli ac ymgrymmu a gostwng ar ein gliniau ger bron yr Arglwydd ein gwneuthurwr. Psal. 95.6.
Hol. Beth a wnawn ni er mwyn cael o'n gweddiau a'n diolchgarwch fod yn gymeradwy?
Atteb. Rhaid ini dderchafu dwylo sanctaidd heb na digter nac ammeu, ynghylch gallu Duw a'i ddaioni. (b) A pha beth bynnag a wnelom ar air neu ar weithred, dylaem wneuthur pob peth yn enw'r Arglwydd Jesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tâd [Page 50] trwyddo ef. 1 Tim. 2.8,
Hol. Oni ddylaem ni wneuthur gweddiau at Angelion, a Mair Forwyn, a seinctiau eraill, megis cyfryngwyr gyd â Duw trosom, fel y mae arfer y Papistiaid?
Atteb. Y mae'n gwbl anghyfreithlon i ni wneuthur felly, oblegid vn cyfryngwr (yn vnic) sydd rhwng Duw a dynion, y dŷn Christ Jesu. 1 Tim. 2.5.
Hol. Beth os edrychwn ar anwiredd yn ein calonnau, a'i gynwys yno, pan weddiom?
Atteb. Os edrychwn ar anwiredd yn ein calonnau, ni wrendi'r Arglwydd arnom ni. (a) Nid yw Duw yn gwrando pechaduriaid, [diedifeiriol] ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnw y mae efe yn ei wrando. Psal. 66.18.
Hol. Beth a fydd ar ol marwolaeth?
Atteb. Gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny bod barn. Heb. 9. 27.
Hol. Pwy a fydd y Barnwr?
Atteb: Y Tâd nid yw yn barnu neb, eithr efe a roddes bob barn ir Mab. Joan. 5.22.
[Page 51]Hol. Pwy a raid iddynt ymddangos o flaen y Barnwr hwn?
Atteb. Rhaid ini oll ymddangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag ai da ai drwg. 2 Cor. 5.10.
Hol. Pwy yw y rhai ni ehant eu bwrw'n euog gan y Barnwr hwn?
Atteb. Nid oes yn awr, ac ni bydd y pryd hynny, ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Grist Jesu, [...]u wir Gristianogion, y rhai sydd yn rhodio nid yn ol y cnawd ond yn ol yr yspryd. Rhuf. 8.1.
Hol. Pa beth a ragflaena'r Farn gyffredin?
Atteb. Caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed lleferydd Mab Duw, a hwy a ddeuant allan Joan. 5.28.29.
Hol. Pa beth a ganlyn y Farn gyffredin?
Atteb. Pan ddat-cuddier cyfiawn farn Duw i dalu i bob un yn ôl ei weithredoedd, i'r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, Christ a rydd fywyd tragwyddol, eithr i'r rhai sydd gynhennus, [Page 52] ac annufydd i'r gwirionedd, eithr yn vfydd i anghyfiawnder, y bydd llîd a digofaint, trallod ac ing, ar bob enaid dŷn sydd yn gwneuthur drwg: eithr gogoniant ac anrhydedd, a thangneddyf, i bob vn sydd yn gwneuthur daioni. Rhuf. 2.5, 6, 7, 8, 9, 10.
Aol. Beth a ddigwydd i'r bŷd hwn gwedi'r Farn?
Atteb. Yn nydd mawr yr Arglwydd y nefoedd a ant heibio gyd â thwrwf, a'r defnyddiau gan wîr wrês a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith a fyddo ynddi a loscir. 2 Pet. 3.10.
Hol. Gan eich bod yn pryffessu eich crediniaeth am y pethau hyn, pa fatb ddyn a ddylech chwi fod?
Atteb. Dylwn fyw mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb, a gwneuthur fyngoreu ar fy nghael ganddo ef mewn tangneddyf, yn ddi frycheulyd, ac yn ddiargyoedd. (a) A bod yn sicr a diymmod, a helaeth yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a mi'n gwybod nad yw fy llafur yn ofer yn yr Arglwydd. 2 Pet. 3.11, 14
Y deg gorchymmyn, Exod. 20.
DUW a lefarodd yr holl eiriau hyn gan ddywedyd, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw; yr hwn ath ddug di allan o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed.
- 1. Na fydded it dduwiau eraill ger fy mron i.
- 2. Na wna it ddelw gerfiedig, na llûn dim ar y sydd yn y nefoedd vchod, nac ar y sydd yn y ddaiar isod; nac ar y sydd yn y dwfr tan y ddaiar: Nac ymgrymma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd ar bedwaredd genhedlaeth o'r rhai am casant: ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd, or rhai am carant, ac a gadwant fyngorchymynion.
- 3. Na chymmer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer.
- 4. Cofia dydd sabboth iw sancteiddio ef, Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei [Page 54] dy holl waith, ond y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi na'th fab, na'th ferch, nath wasanaethwr nath wasanaeth-ferch, nath annifail, nath ddiethr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a'r ddaiar, y môr a'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Sabbath, ac ai sancteiddiodd ef.
- 5. Anrhydedda dy dad ath fam: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon y mae yr Arglwydd dy Duw yn ei rhoddi iti.
- 6. Na ladd.
- 7. Na wna odineb.
- 8. Na ledratta.
- 9. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmydog.
- 10. Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwenych wraig dy gymmydog na'i wasanaethwr na'i wasanaeth ferch, na'i ych na'i assyn, na dim ar sydd eiddo dy gymmydog.
Gweddi yr Arglwydd, Mat. 6.
EIN Tad yr ywn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw: deled dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd: dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn nineu i'n dyledwyr: ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg: canys eiddot ti yw'r deirnas, a'r nerth, a'r gogoniant yn oes oesoedd. AMEN.
Pyngciau'r Ffydd.
CRedaf yn Nuw Dad oll-gyfoethawg, creawdwr nef a daiar: Ac yn Jesu Grist ei vn mab ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gaed trwy yr Yspryd Glan, a aned o fair forwyn; a ddioddefodd dan Pontius Pilatus; a groeshoeliwyd, a fu farw, ac a gladdwyd, a ddescynnodd i vffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; escynnodd ir nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Dduw Dad, oll gyfoethawg, [Page 56] oddiyno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd Glan, yr Eglwys lan gatholig, cymmun y Sainct, maddeuant pechodau, cyfodiad y cnawd, a'r bywyd tragwyddol. Amen.
Gweddi Foreuol.
O Fendigedig a gogoneddus Arglwydd Dduw, myfi dy greadur truan wyf yn ewyllysio yn ostyngedig gyflwyno ger dy fron di fy aberth foreuol o foliant a diolch, yr hyn yr wyf yn deisyf arnat ei dderbyn yn rasusol drwy dy vnig anedig Fâb a'm Achubwr anwyl.
Yr wyf yn moliannu dy enw sanctaidd am iti fynghadw i oddiwrth beryglon y nôs aeth heibio, ym mha vn y gallaswn huno hûn marwolaeth, etto Tydi a adnewyddaist fy nerth corphorol â gorphwystra cyssurus, ac a'm cyfodais [...] i fynu i weled goleuni diwrnod arall i rodio ger dy fron di yn nhir y rhai byw Ynoti O Arglwydd yr wyfi yn byw yn symud ac yn bod, ac iti y mae i mi ddiolch am holl gyssurus drugareddau fy [Page 57] mywyd, y rhai sydd amlach nag y gallwyf eu rhifo. O na bai i gyfoeth dy ddaioni, a'th ddioddefgarwch a'th hir-ymaros fy nhywys i edifeirwch. Arglwydd darostwng fynghalon oherwydd na wneuthum â thi yn ôl maintioli y trugareddau a dderbyniais oddiwrthiti, canys bum anghofus amdanat ti ac anufydd ith sanctaidd gyfreithiau, pechais yn dy olwg di, a gwneuthum fy hun yn annheilwng i'm galw yn blentyn iti, ac i dderbyn y gronyn lleiaf o ddaioni oddiwrthit ti.
Arglwydd daionus dod imi y fath deimlad o'm pechodau ac a weithio ynof gasineb yu eu herbyn, a dod imi y fath sorriant duwiol amdanynt, ac a baro i mi eu gadel. Ac yna yn ol dy dyner drugareddau yn Ghrist Jesu rhynged bodd iti yn rasusol ddeleu fy holl bechodau i, a rhoddi imi gwbl a rhâd faddeuant o honynt.
Cynnorthwya fi drwy ffydd i gofleidio addewidion ac i vfyddhau i orchymynnion yr efengyl. Dod i mi gyfryw ffydd, ac a buro fynghalon, ac a orchfygo holl brofedigaethau'r bŷd, y cnawd, â'r cythrael.
[Page 58]O Bydded i'th Lân Yspryd fy sancteiddio i, a dod i mi fwy o'th ras a'th nerth fel y gallwyf orchfygu fy nwydau llygredig a phechadurus.
O Bydded i'th ras a ddug iechydwriaeth imi ddyscu imi wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn ac yn dduwiol yn y byd presennol; gan edrych am y gobaith bendigedig, ac ymddangosiad gogoneddus y Duw Mawr, a'm Achubwr Jesu Grist; yr hwn ai rhoddes ei hun drosofi, fel i'm prynei oddiwrth bob anwiredd, ac i'm gwnelei yn awyddus i weithredoedd da. Dyddyfna fy nghalon oddiwrth oferedd y byd hwn, a chynorthwya fi i osod fy serch ar y pethau sydd vchod, lle y mae Christ yn eistedd ar dy ddeheulaw di. Ac yr wyf yn deisyf arnat ti wilied arnaf fi er daioni y dydd hwn, a chaniatta na syrthiwy [...] i neb ryw bechod, ac na redwyf i neb ryw berigl; eithr bod fy holl weithredoedd i yn ol trefniad dy gyfreithiau di, gan wneuthur bob amser yr hyn sydd gyfiawn yn dy olwg di.
Gwna ddaioni hefyd i holl ddynol ryw, [Page 59] anwer y ddaiar â gwybodaeth yr Arglwydd megis y mae'r dwfr yn toi'r môr. Bendithia dy eglwys yn y teyrnasoedd yn: Bendithia ein Brenin a phawb a sodwyd mewn awdurdod dano ef.
Bydd ddaionus a grasusol i'm holl berhynasau, a'm caredigion, a'm cydnabod, [...]c i'r holl deulu hwn. O bydded ini [...]el gras i'th wasanaethu di wrth dy fôdd yda duwiol ofn a pharch, ac i fyw yngyd yn y fath fodd yma, fel y byddo i ni [...]ael byw ynghyd yn dy nefol deyrnas. [...]ttolwg iti faddeu i'm holl elynion, a [...]od imi ras iw caru, ac i wneuthur da idd [...]t. Diddana y rhai sydd mewn adfyd: ac [...]wain ni oll â'th gyngor hyd oni dder [...]niech di ni i ogoniant, drwy gyfryngdod [...]n Harglwydd Jesu Grist, yn enw yr hwn [...]eiriau yr wyf yn galw arnat; Ein Tad &c.
Gweddi Brydnawnol.
O Arglwydd i'th gadwraeth di yr wyf yn ymroddi y nôs hon, gan dalu iti diolch am fy nghadwedigaeth, a phob cy [...]r a roddaist ti i mi y dydd hwn a phob [Page 60] amser, yn enwedig am Jesu Grist dy ddawn annhraethadwy, a'r holl gynnorthwyau bendigedig a ganiatei drwyddo ef, fel y caffwyf ddedwyddwch tragwyddol.
Bydded i'th gariad fy nghymmell i bob rhyw sanctaidd vfydd-dod; ac i'th drugareddau fy annog i'm hoffrwm fy hun i [...] yn aberth byw, sanctaidd a chymeradwy yr hyn yw fy rhesumol wasanaeth.
Attolwg iti na chofia i'm herbyn ddin o'r gwendid a'r ynfydrwydd a wneuthum a chadw fi y nôs hon dan adenydd dy ra gluniaeth: Na bydded i ddychryniadau f [...] nghythryblu, nag i ddrwg feddyliau f [...] meddiannu: Dod i mi gwsc a gorphywy stra cyssurus, a chyfod fi y boreu yn fywi [...] ac yn deimladwy o'th bresennoldeb di, ac bwriad wedi ei adnewyddu ar dreulio y hyn sydd yn ôl o'm bywyd yn dy ofn a ith ogoniant. Hyn yr wyf yn ei ofyn y ostyngedig yn enw dy Fab a'm Achubw anwyl Jesu Grist, gan weddio ychwan [...] fel y dyscodd efe imi; Ein Tad &c.
At y Darllennydd.
Y Cymro anwyl, oherwydd i ragluniaeth gynhyrfu gwyr dieithr i wneuthur lles i'n gwlad ni, gan ddarparu llyfrau iddi, iw cyfrannu i'r gweniaid yn rhad, ac iw cael yn dda'r newid i'r cyfoethog, dylit dderbyn y cymwynas yn ddiolchgar, a gwneuthur y defnydd goreu o honaw.
Wrth fod dyledus a chyffredin barch i lyfrau 'r Escob Ʋsher, y mae y pryd hyn y Prifannau o'r Grefydd Grystianogol o'i grynodeb ef wedi eu hail-preintio yn Gymraeg. Ond oherwydd bod yr yscrythyrau perthynol i bob pwnge wedi eu pennodi yn fyrr a figurau rhifyddiaeth, heb nemawr o'r ymadroddion yscrythyrol wedi eu gosod ar lawe yn gyflawn, ac nad yw hyfedr a hawdd gan bawb droi at y lleoedd hynny yn eu biblau i sicerhau 'r gwirionedd; wele yma Gatechism arall, ys ydd yn ysbysu 'r athrawiaeth Gristianogol yngeiriau 'r scrythyr lan yn gyfannedd, yr awr-hon yn dyfod i'th law yn newydd-beth. Ac y mae'r llyfr a elwir y Llwybr Hyffordd i'r nefoedd, yn cael ei ail-gweirio hefyd, a thebygol [Page] y cei ef i'th arwain tua 'r lle goreu cyn y gaiaf: Yr awrhon pan yw llyfrau da yn amlhau yn ein mysc ni, y rhai man fel y gwlith, a'r rhai mwy fel y glaw, cymwys i ni ffrwythloni yn gyfattebol, rhag i'r Gwinllannydd nefol ddigio os byddwn yn ddignwd, a gwneuthur y boen a gymerer wrthym yn ofer. Gweddiwn a byddwn daer am gael gan y Tad Goruchaf adeiladu ein gwladwyr yn ddiymod ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn Ben-Congl-Faen. Er mwyn hynny ni bydd anhyfryd chwŷs a dagrau i'th wasnaethydd Ewyllyscar
Nodau rhifyddiaeth. 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87.
Y Llythyrenau·
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H L Ll M N O P Ph R S T Th U W Y Z
a b c ch d dd e f ff g ng h i l ll m n o p ph r s s t th v u w y z.
a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n ng o p ph r s t th u w y z.
Bogeiliaid. a e i o u w y. â ê î ô û ŵ ŷ.
Y Sylatau.
Ab eb ib ob wb yb.
Ac ec ic oc uc wc yc.
Ach ech ich och uch wch ych.
Ad ed id od ud wd yd.
Add edd idd odd udd wdd ydd.
Af ef if off uff wff yff.
Ag eg ig og ug wg yg.
Ang eng ing ong ung wng yng.
Ah eh ih oh uh wh yh.
Al el il ol ul wl yl.
All ell ill oll ull wll yll.
Am em im om um wm ym.
An en in on un wn yn.
[Page]Ap ep ip op up wp yp.
Aph eph iph oph uph wph yph.
Ar er ir or ur wr yr.
As es is os us ws ys.
At et it ot ut wt yt.
Ath eth ith oth uth wth yth.
Ba be bi bo bu bw by.
Ca ce ci co cu cw cy.
Cha che chi cho chu chw chy.
Da de di do du dw dy.
Dda dde ddi ddo ddu ddw ddy.
Fa fe fi fo fu fw fy.
Ffa ffe ffi ffo ffu ffw ffy.
Ga ge gi go gu gw gy.
Nga nge ngi ngo ngu ngw ngy.
Ha he hi ho hu hw hy.
La le li lo lu lw ly.
Lla lle lli llo llu llw lly.
Ma me mi mo mu mw my.
Na ne ni no nu nw ny.
Pa pe pi po pu pw py.
Pha phe phi pho phu phw phy.
Ra re ri ro ru rw ry.
Rha rhe rhi rho rhu rhw rhy.
Sa se si so su sw sy.
Ta te ti to tu tw ty.