[Page] [Page] [Page] [Page] TESTAMEN [...] Y DAUDDEG Padriarch, SEF Meibion JACOB Gyfieithwyd allan or GROEG gan ROBERT GROST [...]EAD, Esgob Lincoln Ag allan oi Gopi [...] a Gyfieithwyd yn FRANGEG, ac yn DWITS gan eraill, ag yn awr yn GAMBERAEG.
Er Parch i ba un, i mae yn Scrifenedig yn y Brif Ysgol yn CAMBRIDGE ar Barsmant Coppi o hwn yn y GROEG▪
At yr hwn y Chwanegw [...] EPISTOL PAƲ [...] yr Apostol at y LOADICEAID.
[...] ychydig yn mherthyna [...] Marwolaeth PAƲL yn Rhufen dan N [...]ro Cæsar▪
Ar [...]raphwyd yn Duflun, ag ar werth gan [...]adwalader Ellis yn y Bala, yn Sur Meirionidd, 1700 ▪
AT Y DARLLEYDD.
ER ein dedwyddol ddyddiau hyn (Gristian da) dderbyn a mwunhau mewn peth me [...]ur, amal ac amriw weithredoedd yn go [...]alu am, ac yn tueddu at Ddadyn chwe [...]iad Belial, a Derchafiad Duwioldeb, etto ystyri [...]th hynny megis yn Ddaiarol, felly nyni Filwyr Ysbrydol, yn anfynych un rhedeg ir Wi [...]i adwrieth heb Larwm; mi a dybiais yn gymhesur alw arnoch ar Llyfr Difrifol Duwiol hwn, fu yn hir o amser yn guddiedig yn yr Hebrew, ac yn awr a ddaeth ir gole yu Gumberaeg, malais yr Iddewon yn i guddio, oherwidd fod ynddo mor aml rag-ddanghosiad [...] Grist y Cyfiawn, yr hyn oedd anesmwyth iddynt hwy; eithr unig Raglinieth yn i ym [...]diffin yn Anrheathadwy, ac yn y diwedd, [...] mae Cost is fu, etto Frwythlawn yw r go [...]diad ar argraffiad o waith mor deilwng [...] ein naturiol-iaith ein hunain: Scrifen [...] reuraid yr hon ohoni ei hunan, heb chwa [...]gi atti Baintiad o Ddoethineb Ymadrodd, [Page] sydd Ddrich ei Dwysogion, Pregethwr ei Gristionogion oll; hardd Ddrych ei Wragedd, ei Blant, ei Weinidogion, ar cyfriw; Doeth, Cymeradwy, Athro parod i dueddu at bob cyflwr arbenig i Briodolieth Penodol: Ai Tywysog wyti? gad i Juda dy reoli; os meddwl ir wyt am nerthol wroldeb, mae efe yn dyscu gwreidd-dra; os chwenych cyfiawn lyfodraethu ydd wyt, efe a fyne iti ochelyd creulondeb; os sychedy ydd wyt ar ol arferion y bywyd, mae efe yn cyhoiddi mae gwag ogoniant, godineb, ymryfusedd, beie, gwendid, sydd yn y diwedd yn llwyr ddadwneuthur Ardderchowgrwydd. Gade i mi fyned yn mlaen a gofun iti gwesdiwn: Ai Escob wyti? Ai Gwenidog, Pregethwr o Enedigeth Crist, ei Fywyd ai Farwolaeth? edrych ar Levi megis Lantar, ti a fedri ddyscu dy hunan, eithr efe a feider dy ddyscu di yn well; ydd wyt ti yn Llafaru wrth arall, gwrando ar yr hwn sydd yn Llafaru wrthit ti, yn mherthynas dy Ddyledswydd dy hunan, mor Sainctaidd yw, mor anrhydeddus, ac mor druanedd yw ei Ddyrmygwir efe. Chwy Rieni edrychwch ar Jacob, ar Deuddeg Tadau Duwiol, mewn amser a threfn, dyscwch ganthynt hwy Weddio dros eich Plant, at Dduw drwy Grist; cymerwch Addysc oi Athrawieth hwy. Taer weddi y Tad tros y Plant [Page] at yr Arglwydd, fydd Aberth Gymeradwy oi flaen efe; eithr yr hwn o ynfyd dosturi fydd yn gadel yw Plant ei rheoleith ei hunain, a gyfrifir ger bron Duw yn eyog gyfranog oi gyrfa bechadurus hwynt; o ran hynu edrychwch y Llyfur hwn, ymwrandewch pa fodd ich dyscu eich hunain, ach Plant hefyd; chwi a deimlias [...]ch eusus Eli y Gwr Claf, meddienwch weithia [...] Dafod y Gwr Claf, yw dyscu hwynt pan ir ymadawoch a hwy, a ffa beth yw adel iddynt pan faech yn marw, onid te i diwedd hwynt a fudd Galarus, ach diwedd chwithau a fydd Galarus Drueni: Dowch chwi yma, chwi Blant y Ddaiaren, darllenwch a gwelwch yr hen Dad hwnnw, Ruben, gida ei ddaionis Frodir, yn barod, ac yn union, coppiwch allan Fendigedig Lwubrau Cyfiawnder, a Gwrthodedig Lwubrau Belial, y naill iw [...]c [...]elyd, ar llall yw ddilin, A ddechreui di gyda yr hynaf, oherwydd yr hen Osoedd a ymddanghosodd yn Ddoetha? Am hyny na stopia Glusdiau dy Galon, nath Gorph, rhag gwrando ar lais Rhinwyr morr Ddoeth ac morr Felusedd. O y rhifedi! ar hyll ymddanghosiad, sydd or Ysbrydion meirwon hynny, a rifodd efe mewn trefn, Anlladrwydd, Cynfigen, Glothineb, Gwchder, Bal [...]hder, Gwag-ogoniant, Anghyfiawnder, Styfnig-Anwybodeth: Y rhain [Page] oll fel i gwelir ydynt Angheuol; eithir y cyntaf sydd fwua Fiaidd, diwedd yr hwn yw Disdrowiad y Corph Daiarol, ar En [...]id Tragwyddol; yr hwn Fynon a Fwll o Ddrygioni, os mynit i sychu i fynu, ymgadw oddiwrth Feddwdod, na fydded genit Lygad Gwammal chwannog ei edrich ar Degwch Wyneb; attal dy Enay rhag geiriau prysur wrth Ferched, onis mynit yn y drwg foddi; ymarfer o Lafurio, dof;a Ieuengtid: Myfi yn Sauthu dros fy mhen fy hun (medd Ruben wrth ei Blant) a halogais Welu fy Nhad; am hynu nag edrychwch ar degwch Merched, na ymyfyriwch ar ei gwaith hwynt; cedwch eich hunain yn dyscu neu yn gweithio; gorchmynwch eich Gwragedd ach Merched yn mherthynas Gwisgiad ei Penau; perwch eiddynt gospi ei Golygon, o herwydd pob un ac fydd yn deilio yn dwyllodrus yn y pethau hynny, fydd ynghadw i bo [...]ne y Byd fydd i ddyfod: Yr hon fuc [...]edd, gan f [...]d m [...]r anhawdd i gochelyd heb gys [...]owniad or Gufraith, ar Gyfraith mewn [...] sydd yn sefyll mewn Cariad Cyfnewidiol, ymdr [...]chwch gida Simeon, yr ail Frawd, i ochelyd Ymrysonedd, yr hwn sydd yn dally y Meddwl, yn difa y Corph, yn anog Llofr [...]ddieth; ymddiffyniad [...]a un yw Maddeu [...]c Anghofio. Cymer attat Lawenbryd [Page] Joseph cyflawn, sad, safydlog, a llonydd feddw [...] etto gosod Simeon o flaen dy Lygaid, ai Law Wyfedig, cyfiawn wober am y cyfriw becho [...] i ochelyd yr holl aflonyddwch ar drwg hwnnw cofia Juda, casgl brofiad oddiwrtho efe, Mae pechadurus yw i Ddyn ymffrosdio yn i weithredoedd ei hun, yr hwn a edliwio i arall ei drosedd, fydd yn sefyll ei hun mewn lle llithrig; Juda a edliwiodd yw Frawd hynaf (Ruben) ei odineb, noda pwy yn y man a bechodd, onid Cynfigenus, a Chwerylus Juda? Onis tramgwyddodd efe yn ol y cnawd yn Nhy y Cananeaid? Onis cymerodd efe Wraig heb undeb ei Rieni? Dau bechod mawr, arferedig yn ein dyddie ni, etto cosbwyd y naill bechod a diffig, neu ir hun lleiaf ac ychydig lawenidd oherwydd Plant, medd y Tad Juda y Padriarch; ar llall ac anesmwyth berigl o Gorph ac Enaid, medd St. Paul: Am hynny ymgedwch oddiwrth Win, casewch Feddwdod, canis y cyfriw nid yw yn enllibio, nag yn lliwied ei eraill ei bechod; nid yw yn magy anghydfod, eithr yn cowleidio cariad mewn Calon syml, megis y Tad da Isachar, yr hwn yr erioed nid enllibiodd, nid oedd niweidiol nag ysgornus yw gymydogion, nis bwytae efe ei fara ei hunan heb roi rhan ir Tlawd, nis newidie efe derfynau tir un dyn, eithr yn caru pawb megis ei Blant naturial [Page] ei hun. O na bae i ni megis ac i darllenom [...]i hwn, osod allan yr unrhiw yn ein Buchedd [...]an ymarweddiad; Trygaredd a Chariad sydd Berl Gwerthfawr, ceidwad y rhain gwedi i cud-uno a lwydda, eithr os gwasgarant daw colled, oherwidd Zebulon sydd yn dywedid, Pan ollynger yn rhydd y Coed ar Cerrig, y Dyfr a olcha ymaith y Tyfod; yr hwn am ei drugaredd ai dosdiri a gafodd yn rhagoral i obrwuo; chwiliwch ei Lythir▪ Gymmyn efe, cyfflybwch ei ragorol Gariad efe yn Dilladu y Noith, yn Porthi y newynog, yn gystadl y Dieithr ai Gymydogion: Na adewch i Ysbrid Dan feddianu eich meddylie, na adewch i ddigofaint Gad syfydlu yn eich calonau, oherwydd y cyfriw waith gida thru oddrwg Offerenau, sef Ymadrodd Chwerw, Twyll, a Llaw Orthrymedig, yn dwyn frwyth nid anhebig, megis i gellwch ddarllen a gwel [...]d; a fynit ddyseu yr inion lwybr at y peth yddwyt yn i geisio? Dwy fordd sydd (medd Aser) un yw Rhinwedd dda, ar llall yw Drygioni. Gochel yrfa gyntaf Naphtali, eithr amgyffred yr ail; ond yr hwn a rodio yn y ddwy, sydd yn dallu Dynion, yn i dwyllo ei hunan, ac yn gwatwar Duw; twyllodrus ddeiliad pa rai a gant ddyblu ei Poenau, y cyfriw yw 'r Cybyddaidd, ar Trugarog wrth Ddrygioni; y cyfriw yw (medd [Page] Aser, y rhai a Ymprydiant oddiwrth Fwydidd, ac nid oddiwrth Anlladrwidd; am hyn bydded genit Galon Syml gida Joseph Gyfiawn Bendigedig yr Arglwydd, yr hwn oedd wir arwidd o Grist Iesu; am Gas efe a ddanghosodd Gariad, pan Felldithid efe a Fendithie, pan Saethwyd efe drwyddo ni wnaeth efe gimaint ac Anelu ei Fwa, er i myne ei Frodur i Ladd efe, er iddint i dafly ir Pwll, er iddint i werthu efe yn Gaeth-was i ddieithred, y rhai a gasaent Figeiled hyd Ange, gan ba rai ei chwipwyd ac i cysdyddiwyd efe; etto pan oeddent hwy mewn ofn, efe ai cysure hwyut, pan oeddent yn mraint trengu o newyn, efe a rodde iddynt linieth, pan wrth ei awdurdod i gallasai efe ddistrywio, ydd oedd efe drwy awdurdod yn ymddiffin; ag efe yn Arglwydd arnynt, etto yn trefnu hwy megis pa baent gwell nag efe, yn Frawd eiddynt, yn i cymeryd megis pa baent Plant iddo, heb son am ei angrhedigrwydd hwynt, anghofio i bradwrieth hwynt, yn gariadus, ac yn dragarog yn maddeu ei creulondeb hwynt; chwi a glowsoch ei gariad efe at ei Gymydog, gwrandewch ei ufydd-dod at Dduw: Pan oedd efe mewn caethiwed truenus, a ffrywyllodd efe a chwyddo? Pan wnawd efe yn gaethwas, o Fab ei Wr rhydd, a lefodd efe allan yn erbyn y Nefoedd, i fod [Page] efe gwedi i llwyr adel? Y achwynodd efe yn ddiymyneddgar yn erbyn cyfiawnder yr Arglwydd? Na ddo, eithir gan ddisgwyl efe a ddisgwyliodd wrth yr Arglwydd, ar Arglwydd yr hwn a ymguddiase oddiwrtho, a ddanghosodd ei Wynebpryd iddo, or bri gwala mewn edrychiad, yn Wr rhydd, yn Gofaethog, ac o Oludog Deiliad, a Gwr Anrhydeddus, yn Rhaglaw ar holl wlad yr Aipht; yr hwn yn ei Fywyd a gerid gan yr Aiphtied, ac yn ol ei Farwolaeth a gerid; hwn ni wnae na chyfoeth na thrieni iddo Ymchwyddo, nis gwnae nag addaweidion na bygythion yr Aiphties buteinig iddo Lithro; yn ol ei Farwolaeth nid oedd nar Byd nar Cythrel, na Dichell Ddynol, y alle beri i anghofio efe. O na bydde ein Gyrfa Farwol nineu ddechru a diwedd fel hyn; ie fel hyn O Arglwydd, ddiwedd yn Ddedwydd; Yr Ysbryd sydd barod, eithr y Cnawd sydd wan; dysc gan hynny wrth Benjamin, fod dy Galon yn nynny, modd i bych barod mewn Enaid a Chorph: Gadewch i ni ganmol, medd y Pregethwr, (gadewch i ni edrych ar) yr Ardderchawg Glodfawr-Wyr, ac ar Genhedlaethau ein Henafied, oherwydd llawer o weithredoedd Clodfawr a weitheodd yr Arglwydd ynddynt hwy, ac a ddanghosodd ei fawr Allu er y dechreuad: Yr hyn wrth i ysdyried, ac yn unig am na [Page] ewyllysiwn fod dim yn niffig yn y Llyfr hwn, a fae er bodlonrhwydd iti, mi a dybiaus mor addas ddeilio ar Tad Cyfiawn, ac ar Plant Duwiol, oherwidd Llinio Gwyneb yn unig heb Gorph, sydd ai glod fel ir hauddo, yr hwn a Baentio Goes heb Gorph, neu Gorph heb Pen, [...]ydd mor addas yw alw yn ffol, ag ydiw y [...]eth yw alw yn angall ei wneithuriad, oherwydd mae cysdlad gweled y Pen ar Goes, a chlowed y Tad ar Plant, myfi a dynas allan or Scrythur, ac nid yn ol fy nhyb, ne fy ffansi fy hunan, Farwolaeth Jacob, ai Destament, y Bendigedig Gyfiawn Dad Dedwydd, yw chw anegu at yr hen Goffadwrieth yma oi Blant efe; am hynny i dalu am fy mhoen, Darllen hwynt yn ddiwyd, ac nid i Darllen yn unig, eithr ymfodloni yw dilin; canis dilin Gwyr da duwiol, iw'r Llwybr hyffordd i Dduwioldeb; felly i gallwn gyfri o Fendith Jacob; fellu ei gallwn ollawl gleimio ein bod yn Blant iddo; nid w [...]f yn meddwl yn Blant yn ol y Cnawd, eithr yn ol yr Ysbryd.
Testament JACOB, a wnaeth efe wrth ei Farwolaeth yw Ddauddeg Mab y Padriarch, yn mherthynas yr hyn a ddigwydde yn ei dyddie diwedda; a gasglwyd allan o Genesis y 48. 59. ac a chwanegwid at y Llyfr hwn.
JACOB Mab Isaac, y anwid o Rebecca, yn oedran y Bid, 2108. ei Dad efe oedd Wr 60 mhlwidd oed, yn Wr Perffaith a Chyfiawn, yn byw mewn Pebyll, nid yn ymroi i bleserae o helwrieth, megis ei Frawd hynaf yn ol natur, nid yn ol Gras, oherwydd yr Hynaf a gaiff Wasaneuthy yr Ieuangaf, ebra yr Arglwydd, oherwydd pa ham? nid oherwydd ir hadde Jacob hynny, eithr felly 'r ordeiniodd yr Arglwy [...]d; oherwydd pan drwy ragliniol ewyllus [...]uw, a Nefol drefnad yr hwn sydd yn ordeinio pob peth, fe a ynillodd Enedigeth-fraint ei Frawd, a Bendith ei Dad; ei Rieni ef yn ysdyried fod llithrig ddyddie cysylldiad Corphorol yn nesau, ac yn wiliadwrus yn ofni ei Frawd Esau, oherwydd i fod efe gwedi beichiogi yn ei Galon ar Lofruddieth, ac iddo benodi [Page 2] dydd i esgor oi amcan cythreilig, hwy ddanfonasant JACOB o Bersaba i Mesop otamia at Laban Brawd ei Fam efe, yno yn onest i gymeryd Gwraig, ac i fyw me [...]n llonyddwch; oherwydd Priodas heb undeb Rhieni, a gwir ystyrieth y ddwy-blaid or [...] tundeb, megis ac i mae yn magu aflonyddwch, mae felly yn ai foddhau Duw; am hyn JACOB yn ol hir daith, gwedi myned at Laban, ai wasaneuthi efe peder ar ddeg o Flynyddoedd, mewn Poen a Llafur, er i fod efe yn Fab yr Addewid, y Bendigedig gan Dduw, gwedi ei eni o Wraig rudd, ac heb law hynny yn Gig ag yn Waed ai Ewyrth, ac yn Arglwydd Canaan, nid ymrysymodd efe rhyngtho ac ei hun, megis Plant bydol y Ddaiaren hon, gan ddywedyd, Y gaf i yr hwn wyf rydd, a Mab ei Wr rhydd Goludog, fod yn Wasneuthwr ac yn Gaethwas yn nhy fy Ewyrth, gwedi fy nanfon i Briodi, ac nid i wasaneuthu. Laban a roddes iddo ei ddwu Ferch yn Wragedd, am ei Wasaneth da, drwy ba un i Ben [...]ithiodd Duw yr ychydig oedd gan Laban or blaen, fe a roddes iddo ei ddwy Ferch, Lea yn gyntaf, ac yna Rachel, a hefyd ei dwu Forwyn, Bilha a Zilpha, o ba rai, yn ol yr addewid a wneithid iddo efe yn Bethel, yr amlheid ei Had, efe a Genhedlodd Ddauddeg [Page 3] Mab, Duddeg Duwiol Dadau: R [...]ben, Simeon, Levi, Juda, Dan, Naphtali, Gad, Aser, Isachar, Zebulon, Joseph, Benjamin.
Ar Arglwydd yn i Fendithio efe fel hyn, yn gy [...]dl [...]d mewn Plant ac mewn Golyd, aeth yn ol drachefn i wlad ei Enedigaeth, efe ai Blant yno i Fyw, ac i Farw; ac wele Duwiol raglinieth Duw yn ol ysbaid 33 o flynyddoedd, efe a symudodd o Canaan i Gos [...]n yn yr Aipht, drwy waith Joseph ei Fab efe, Steward Gwlad yr Aipht, yr hwn a werthesid gan ei Frodur; lle, yn ol iddo fyw yno dwy flynedd ar bymtheg, a gweled ei Deulu yn cynyddu, yw fawr Lawenydd ai Gysur, heb ammau, yn arbennig yr holl Wlad oi amgylch efe yn cael ei cysduddio drwy newyn, ac efe drwy drugaredd Duw, h [...]b fawr deimlo y peth; ac felly yn deall fod ei dryblus Berariniad efe yn dyfod i ben, efe a alwodd atto ei Fab JOSEPH, ac a ddywedodd wrtho: Os cefais ras yn dy olwg dyro dy law dan fy Morddwyd (oherwyd [...] yn y drefn honno i cymerent Lw yn am [...]r [...]ACOB) deilia yn drygarog a myfi, ac yn [...]yfiawn, na chladd fi yn yr Aipht, eithr g [...]d i mi huno gida fy Nhadau, lle [...]r oedd gwir ffydd yn addeweidion yr Arglwydd yw Dadau, yn i annog efe i [Page 4] edrych am Canaan, ei obithiol Etifeddieth efe, ac nid i ymddiried yn Nhir Pharaoh; ir hwn erfyniad pan ddarfu i JOSEPH, ei anwyl Fab efe ufydd gyduno, JACOB yn chwanegi ei Nerth, ac yn sefyll i fynu, yn ewyllysio fellu ddangos eiddint fawr ddaioni yr Arglwydd yn i ymddiffin efe ai eiddo, Duw Hollalluog a ymddanghosodd i mi yn Luz, yn Nhir Canaan, ac am Bendithiodd, gan ddywedyd, Mi ath wnaf di yn ffrwythlawn, ac a wnaf it amlhau, ac a wnaf o honat rifedi mawr o Bobloedd; ac a roddaf ith Had y Tir hwn yn feddiant tragwyddol. Dy Feibion, Manasses ac Ephraim, a gymeraf megis yr eiddo fi, ei Brodyr hwynt a elwir yn ol ei henwae hwy. Myfi yn dyfod o Mesopotamia, Rachel a fu farw yn Nhir Canaan, ac a gladdwyd wrth y ffordd i Ephrata, yr un yw Bethlehem.
Yna JACOB, er i fod yn dra thowyll oherwydd ei oedran, yn edrych ar ddau Fab JOSEPH, a ddywedodd, Beth yw y rhain: JOSEPH y attebodd, Fy Meibion ydynt, y rhai a roddes Duw i mi. O dwg hwynt atta fi (ebra JACOB) a gad i mi i Bendithio; nid oeddwn yn tybied i gwelwn moth wyneb di JOSEPH, wele yr Arglwydd a ddanghosodd im dy Had.
[Page 5] Duw yn ngolwg pa un i rhodiodd fy Nhadau Abraham ac Isaac, Duw yr hwn am Porthodd i holl ddyddie fy emoes hyd y dydd hwn, ar Angel yr hwn am achubodd ei rhag pob drwg, Bendithia y Llang [...]ia hyn, a gelwir fy enw i arnynt, ac enw fy Nhadau, Abraham ac Isaac, a bydded iddynt gynyddu yn Lluosog yn nghanol y Daiar.
Yna pan gododd JOSEPH Law ei Dad oddiwrth Ephraim at Manasses yr hynaf, JACOB a ddywedodd, Gad iddo, myfi ai gwn yn dda, fy Mab, yntau hefyd a fydd Bobl fawr, eithr ei Frawd ieuangaf a fydd mwy: Ynot ti bydded i Israel Fendithio, a dywedyd, Duw ath wnel di fel EPHRAIM a MANASSES. Yn ol hyn ac efe yn gwanhychu a ddywedodd: Wele, JOSEPH, myfi yn marw, Duw a fydd gida chwi, ac ach dwg chwi etto i Dir eich Tadau; yn mhellach ydd wyf yn gadel iti barthedd o chwaneg o dir [...] F [...]odyr, yr hwn a ynilles i wrth y Cledder ar Bwa oddiar yr Amoriaid. Dowch chwithau yma O fy mhlant, fel ei gallwf ddywedyd i chwi y pethau a ddigwydd yn y Dyddie Diweddaraf, ymgesglwch ir unlle, a gwrandewch chwi Meibion JACOB, ar ISRAEL eich Tad.
[Page 6] RUBEN, Fy nghyntaf Anedig, fy Nerth fy Ngallu, rhagoral mewn Teilyngdod a Nerth, anwadal fel Dyfr, ni chei ragori, o herwidd it halogi fy Ngwelu.
SIMEON a LEVI Brodyr mewn Drygioni y rhai yn eich dig a Laddasoch Wr, ac yn eich ewyllus eich hunain a Gloddiasoch Wal i lawr, Melldigedig fyddo eich Digofaint oherwydd Digwilidd oedd, ach Gwylldineb oedd Greulon; mi ach rhanaf chwi yn JACOB, ac ach gwasgaraf chwi yn ISRAEL.
JUDA, Dy Law a fydd ar Wddf dy Elynion, dy Frodir a Ymosdyngant it; fel Cene Llew y doi i fyni or Lladdfa; ti a orweddi fel Llew, ac fel Llewes, pwy ath gyffroiff di i fynu? Yn ail, y Deirn-Wialen nid ymedu a thi, na rhoddwr Cyfraith oddi rhwng dy Draed, nis ei del SHILO, yr holl Genhedlaethau a geisiant ar ei ol efe: Yn drydedd, Ti a rwmi dy Lwdwn Asen wrth y Winwdden, a Llwdwn yr Asen wrth y Winwdden orau: Ti a olchi dy Wisc mewn Gwin, ath Glog yn Ngwaed y Grawn-Win; dy Lygaid fyddant gochio [...] gan Win, ath Ddanedd fyddant gwynnion gan Laeth.
[Page 7] ZABULON, Ti a gyfaneddi wrth lan y Mor, ti a fyddi Porthladd ei Longau, dy derfynau a fyddant hyd Zidon.
ISACHAR, Ti a fyddi cryf fel Asen yn gorwedd i lawr rhwng dau bwn; gweli orffwysdra mae da yw, a bod y Tir yn hyfryd, gogwyddi dy ysgwydd i gario, ac a fyddi darosdyngedig i Deyrnged.
DAN, Dydi a Ferni y Bobl megis un o Lwuthae Israel: DAN, Ti a fyddi Sarph ar y Fordd, a Neidr ar y Llwybr yn brathu sodlau y March, fel i syrthio i Farchog yn ol.
Yno JACOB yn rhagweled yn ei feddwl y mawr drieni oedd yn amgylchu ei Hiliogeth efe, ai cysurodd ei hunan, gan orphwys ar addewid Duw, a llefain allan oi galon ai feddwl, O Arglwydd wrth dy Iachadwrieth i disgwiliais.
GAD, Lly o Wyr ath orchfygant ti, a thitheu ai gorchfygi hwynt yn y diwedd.
A ffa beth addywedaf wrth ASER? Ei Fwrdd a fydd bras, ac efe a gaiff Ddanteithion Brenhinawl.
NAPHTALI sydd Garw ieuangc a ddanfonwyd yn anrheg yn rhoddi geiriau da.
JOSEPH sydd Gangen flodeuog ger llaw y ffynon, ai man Ganghenau yn cyrheuddyd hyd y mur; y Saethynion a Sauthasant yn ei [Page 8] erbyn efe, ac ai casasant, eithr ei Fwa efe a wnawd yn gryf, ai Freichiau efe a nerthwyd drwy Law Grymys Dduw JACOB. O hwn y daw allan Fugail a Chraig yn Israel. Hun oll a ddeillia o ddiwrth Duw fy Nhad, yr hwn ath gynorthwyodd di, ac ath fendithiodd di a Nefol Fendithion, a bendithion y dyfnder oddisod, a bendithion y bro [...]au ar groth. Rhagorodd bendithion dy Dad ar yr holl fendithion a dderbynies ei oddiwrth fy Rhieni, hyd yn nherfyn bryniau Tragwyddoldeb i byddant ar Ben JOSEPH, ac ar Gorun yr hwn a Naillduwyd o ddiwrth ei Frodur.
BENJAMIN a ysglafaetha fel Blaidd, y borau i bwutu efe yr ysglyfaeth, ac yn yr hwyr i rhan efe yr ysbail.
A ffan orffenodd ei Bendithio hwynt, yna efe a erchmynodd iddint, gan ddywedyd, Myfi a gesglir at fy Mhobl, Cleddwch fi gida fy Nhadau yn yr Ogo sydd yn Maes Ephron yr H [...]thiaid, yn yr Ogo sydd yn Maes Machpelah, yr hwn sydd oflaen Mamre yn Nhir Canaan, yr hwn a brynodd Abraham gida 'r Maes gan Ephron yr Hethiaid, yn Feddiant Beddrod, lle i claddasant Abraham a Sara ei Wraig efe, ac Isaac a Rebecha; ac yno i Cleddais einau Lea. Y Maes ar Ogo a gafwyd gan Feibion Heth.
[Page 9] A ffan orchmynodd JACOB yw Feibion yr hyn oll afynau, yn ol iddo fyw gan mhlynedd a saith a deigien, fe a dynnodd ei Draed i fynu yn y Gwelu, ac yn fuan a fu farw. Yna JOSEPH a syrthiodd ar ei Wuneb efe, ac ai cusanodd efe a Dagre, ac a barodd ir Meddygon ei Berarogli efe dros ysbaid deigien nhiwrnod; a hwy y alarasant am dano ddeng nhiwrnod a thriugain; a chan ymadel ar Aipht, a myned i Canaan, gida Gwyr Ardderchog y Wlad, mewn Cerbydau, a Gwyr Meirch, hwy ai Claddasant lle i gorchmynaseu JACOB iddynt.
TEstament RUBEN a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwolaeth, yn mherthynas y pethau oll ac a roddes efe orchymyn yw Blant oi plygid, cyn ei Farwolaeth, yn y 125 flwyddin oi Fywid, dwy flynedd yn ol Marwolaeth JOSEPH; ei blant a fflant ei blant a ddaethant i ymweled ac efe yn ei glaf wely, ac efe a ddywedodd wrthynt:
Fy Mhlant wele fi yn marw, ac yn myned i ffordd fy Nhadau; a ffan welodd efe ei Frodyr, JUDA, GAD ac ASER, fe a ddywedodd: Codwch fi fy Mrodyr, fel ei mynegwyf i chwi ac im plant yr hyn a guddiais i yn fy nghalon, canis ydd ydwyf i weithian yn tynnu tua fy hir gartref; Yna gan sefull i fynu, efe ai cysanodd hwynt, a chan wylo, efe a ddywedodd: Gwrandewch fi fy Mrodyr, achwithau fy Mhlant; rhoddwch Glust ei eiriau eich Tad RUBEN, [Page 11] a deliwch sulw beth ydd ydwyf yn i roddi yn eich siars. Wele gorchymyn ydd ydwyf y dydd heiddiw, ger bron Duw yr Nefoedd, na byddo i chwi rodio yn anwybodeth ieuengctid a godineb, yn mha un ir aethum i yn rhu bell, gan halogi Gwelu fy Nhad; canis yn ddie ydd wyf yn hysbysu i chwi ddarfod ir Arglwydd fy nharo i a dolurus blaue yn fy Nhewynau, dros ysbaid [...]aith Mis, ac fe ddarfase am danaf, oni buasai im Tad JACOB Weddio drosaf at yr Arglwydd, oherwydd ir ydoed efe yn meddwl fy Lladd i; deg mhlynedd a thriugain oed oeddwn pan wneuthym yr hyn oedd ddrwg yn ngolwg yr Arglwydd, a saith Mis i bum yn glaf i Farwolaeth, ac a chalon rydd dros saith mhlynedd mi am penydias fy hunan oflaen yr Arglwydd, nid yfais Win, na diod Gref Gadarn, ac nid aeth Cig yn fy Ngenau, chwaith ni ffrofais Fara blasus, onid Galaru am fy Mhechod canis mawr oedd, ac na fydded cyffelib iddo yn Israel. Ac yn awr fy Meibion, gwrandewch arnaf, fel i danghoswyf i chwi yr hyn oll a welais i yn nghylch y saith Ysbrid Cyfeliornad yn fy Edifeirwch. Belial sydd yn rhoddi saith Ysbryd yn erbyn Dyn, y rhai ydynt ffynonau gweithredoedd Ieuengctid; saith Ysbryd a roddwyd i Ddun yn i Greadigaeth, drwy [Page 12] ba rai i Gweithredir ei holl Weithredoedd efe: Y cyntaf ydiw Tsbryd y Bywid, a ffa un i crewyd ei hanffod efe. Yr ail yw Ysbrid Gweled, drwy ba un i mae chwantau yn dyfod. Y trydydd ydiw Ysbryd Clowed, drwu ba un i mae dysceidieth yn dyfod. Y pedwerydd yw Ysbryd Arogliad, drwy ba un i mae hoffter yn dyfod, wrth dynnu i mewn yr awyr ai hanadlu hi allan drachefn. Y pymed yw Ysbryd Llyferydd, a ffa un i gwneir gwybodeth. Y chweched yw Ysbryd Archwaethu, drwy ba un i mae ymborthiad yn dyfod ar y pethau a fwyteir neu a yfer, a thrwyddynt i cynhedlir nerth, oherwydd sylwedd y nerth sydd yn y bwyd, Y seithfed yw Ysbryd Had a Chynhedliad, drwy ba un i mae yn dyfod chwant i bleferau, o herwydd hyn, yr olaf or Greadigeth ydiw, ar cyntaf o ieuengctid am i fod yn llawn anwybodeth, ac anwybodeth sydd yn arwain y rhai ieuaingc megis un dall ir ffos, ne megis yr yeh ir preseb: Yn musc y rhai hun i mae yr wythfed Ysbryd yr hwn yw Cwsg, gyda ffa un crewyd y diflaniad o naturieth, a delw marwolaeth. Gyda yr Ysbrydoedd hyn, i mae yn Ggmysgedig Ysbrydoedd cyfeiliorni, o ba rai, y cynt af yw Ysbryd Trythyllwch, yr hwn sydd yn gorwedd yn y natur ar fynhwyrau. Yr ail ydiw Ysbryd [Page 13] Annigonolrhwydd, yr hwn sydd yn gorwedd yn y Bol. Y trydidd yw Ysbryd Cynen neu Ymrysonedd, ac yn gorwedd yn yr Afu. Y pedwerydd yw Ysbryd Ymhoiwi neu Ymwchu, fel i bo un yn i weled yn hardd drwy ormodedd. Y pumed ydiw Ysbryd Balchder, yr hwn sydd yn annog i feddwl dros bethau mowrion, neu i dybied yn dda o hono i hunan. Y chweched Ysbryd Celwddog ydiw, neu Wag Ogoniant, lle mae Dyn yn i fostio ei hunan, ac yn chwenych gwneuthur chwedl mawr yn mherthynas ei genedl ei hun, ai gydnabyddieth. Y saithfed yw Ysbryd Anghyflawnder, yr hwn sydd yn cynhyrfu i fynu y gwniau, fel i bytho i Ddyn gyflowni trachwantau pleserus y galon; canis anghyfiawnder sydd gida yr holl Ysbrydoed erail, gan gymeryd twyll gida ac efe. Ac ar holl Ysbrydoedd yma ir ymgafathracha yr wythfed Ysbryd, sef Cwsg a Syrthni mewn Camgymeriad a Dychmygion, ac felly Eneidiau Ieuaingc sydd yn darfod am danynt, am fod i meddyliau gwedi i towyllu, ac yn Guddiedig oddiwrth y Gwirionedd, ac heb ddeall Cyfraith yr Arglwydd; a hefyd heb ufuddhau i Athrawieth ei Tadau, fel i digwyddodd i mi yn fy Ieuengtid.
Ond yn awr fy Mhlant, cerwch wirionedd a hynny ach ceidw: Gwrandewch [Page 14] ar RUBEN eich Tad, ac na adewch eich Llygaid redeg i dremmu ar ol Gwragedd, ac na fyddwch yn unig gida Gwraig Briodol; nag ymgeisiwch chwaith beth i bytho Gwragedd yn i wneithyd; canis oni buase i mi weled Bilah yn ymdrochi i hunan mewn lle dirgel, ni buase i mi syrthio ir mawr ddrwg hwnnw; ond fy meddwl i a redodd ar y Wraig noeth hyd oni rwysdrodd i mi gysgu nes darfod i mi weithredu y ffieidddra hwnnw: A thra bu fy Nhad JACOB gida ei Dad ynteu ISAAC; yn Gader, yn gyfagos i Ephrata, Ty o Bethlehem, Bilah a syrthiodd yn feddw, ac fel ir ydoedd hi yn gorwedd ac yn cysgu heb orchgydd yn ei Stafell, minau a euthym i mewn, ac wrth weled ei noithni hi, mi a weithredais anwiredd gida hi, a chan i gadel hi yn cysgu mi a aethym ymaeth. Ond yn y man Angel Duw a ymlygodd fy nrwg im Tad JACOB, yr hwn pan ddaeth adre y alarodd drosof i, ac ni chyfyrddod a Bilah mwy. Gan hynny nag edrychwch ar degwch Gwragedd, ac na fyfyriwch ar ei ffyrdd hwy, ond rhodiwch a chalon syml yn ofn yr Arglwydd Dduw, gan ych ymarfer eich hunain ynghilch rhyw waith, drwy ych cadw eich hunain mewn ystydrwydd, naill ai mewn dysceidieth, ai yn nghilch eich praidd, hyd oni roddo Duw [Page 15] i chwi Wragedd a bytho efe yn i ewyllysio rhag i chwi odde megis ac i gorfu i minau canis ni feiddiais ei edrych yn wyneb fy Nhad hyd ddydd ei farwolaeth, na dywedyd wrth yr ûn om Brodyr gan Gwilidd, am Cydwybod yn fy nghnoi am fy Mhechod, ie y dydd hwn; ond fy Nhad am cysurodd, gan Weddio drosof i at yr Arglwydd, ar yw ddigofaint efe basio heibio imi, fel i darfu ir Arglwydd ei hun ddangos i mi, ac or amser hwnnw allan fe am cadwed i rhag pechy mwy.
Chwithau fy Mhlant, yn yr ûn modd ymgedwch at yr hyn ydd wyf yn i fynegi i chwi, ac ni ffechwch chwithau; canis Godineb sydd yn dystrowio yr Enaid, ac yn i naillduo efe oddiwrth Dduw, ac yn peri tynnu at Eulynod, oherwydd i fod ef yn arwen y meddwl ar dealldwrieth i Gyfeliornad, ac yn dwyn Dynion yw Beddau cyn i hamser; canis Godineb a ddifethodd lawer Dyn; ac er bod Gwr yn Henawgwr Anrhydeddus, etto mae hyn yn watwargerdd oflaen Belial, a hefyd oflaen Meibion Dynion: Ond JOSEPH, oherwydd iddo ymgadw oddiwrth Wragedd a Godineb, a Glanhau ei feddyliau oddiwrth bob drwg, a gafodd ffafar gida Duw a Dynion; yr Aipht Wraig a wnaeth lawer iddo efe drwy arfer help [Page 16] Dewiniaid, a thrwy gynig ei saigiau Gwenwynllyd, ond amcan ei feddwl efe nis unodd ac ûn dyminiad niweidiol; ac oblygid hun Duw ein Tadau ai Gwaredodd efe oddiwrth bob Marwolaeth Gwledig ac Anweledig: Canis os Godineb nis caiff feistroli eich meddyllau ni lwydda Belial yn eich erbyn chwi.
Fy Meibion, Pethau niweidiol yw Gwragedd, a ffan fytho arnynt eisiau Nerth a Gallû yn erbyn Gwr, hwy a weithredant dwyll yw dynnu efe attynt hwy drwy ddichell, ar hwn a fetho ganddint i feisdroli drwi nerth, hwy ai Gorchfygant efe drwy dwyll: Canis Angel yr Arglwydd, yr hwn am dyscodd ei, gan ddywedyd wrthif oi plygid hwy, Fod Ysbryd Godineb yn i meisdroli hwy yn fwy na Meibion, ai bod hwy beunydd yn i harfer ei hunain yn ei calonau yn erbyn Gwyr, yn gyntaf gwneuthyr yw meddyliau gyfyliorni, trwy iddynt ei gwych Wisco ei hunain; ac yno towalld ei gwenwyn iddynt trwy ei golygon, ac yno yn i cwbl ddal hwy yn Garcharorion ai harferion: Canis Gwraig nid yw abl i orchfygu Gwr.
Gan hynny fy Meibion, ffowch oddiwrth Odineb, a gorchmynwch eich Gwragedd ach Merched na bytho iddynt ei haddurno, neû wychu ei Penau; ac ewyllysiwch eiddynt Geryddu [Page 17] ei Golygon; pob Merch yn deilio yn Dwyllodrus yn y pethau hun, sydd yn hauddu cerydd y Byd a ddaw; canis yn y modd hynnu i twyllwyd y Gwiliedyddion cyn y diliw, cyn-gynted ac i gwelsant hwy, fe ddarfu iddynt syrthio mewn cariad ai gilidd, fe darfu iddynt feichiogi ar weithrediad yn ei meddyliau, ai troi ei hunain ar ddyll Ddynol, ac a ymddangosasant iddynt yn ei cymdeithas gid ei Gwyr, ar Gwragedd wrth feichiogi ar y dymuniant o honynt yn nychmygion ei meddyliau, a escorasant ar y Cowri; canis y Gwiliedyddion a ymddangosasant iddynt hwy ai huchder hyd y Nefoedd.
Gan hynnu cedwch eich hunain rhag Godineb, ac os amcenwch gael meddwl eglur, cedwch eich hunain oddiwrth Wragedd, a Gwaherddwch eiddynt hwythau Gyfeillach Gwyr, fel i bytho iddynt gadw ei meddyliau yn lan; canis er nad ydiw gwasdadol Gyfeillach bob amser yn Gweithredu drygioni, etto mae yn magu Anfeddyginiaethol Golynau iddint hwy, ac i ninau Gwilidd Tragwyddol oflaen Belial; oherwydd nid oes mewn Godineb na Dealldwrieth na Duwioldeb yntho, a ffob Cynfigen sydd yn preswylio yn y dymuniad o hono; ac or achos [Page 18] o hynny i bydd i chwi Gynfigennu wrth Feibion LEVI, a cheisio Ymddarchafu uwch i llaw hwy, ond ni byddwch chwi abl i ddwyn i ben, canis Duw a ymddial drofdynt hwy, a chwi a fyddwch meirw o Farwolaeth peryglus: oherwydd i LEVI ac i JUDA ie rhoddes Duw y Llyfodreth, ac i mineu, ac i DAN a JOSEPH i caniadhaodd fod yn Dwysogion gida hwynt. oherwydd hynny ydd ydwyf yn gorchymyn i chwi wrando ar LEVI, canis efe a gaiff adnabod Cyfraith yr Arglwydd, ac a esyd allan Farn, ac a Offrymiff Aberthau dros ISRAEL, hyd gyflawn amser Christ yr Arch-Offeiriad, canis yr Arglwydd ai Llafarodd.
Ac ydd ydwyf ineu yn Gorchymyn i chwi trwy Dduw yr Nefoedd, ar i bob un o honoch ddeilio yn inion ai Gymydog, a glynu wrth LEVI mewn Gosdyngeiddrwydd calon, fel i bytho i chwi dderbyn y Gyfraith allan oi Enau efe; canis efe a Fendithia ISRAEL a JUDA.
A Duw a ddewisodd JUDA i fod yn Frenin ar yr holl Bobl, gan hynny mawr hewch ei Had efe, canis efe a fydd marw drosoch chwi yn y Frwydyr, yn Gysdlad yn weledig ac yn anweledig, ac a Dyrnasa drosoch byth ac yn dragywydd.
[Page 19] Yna RUBEN gwedi iddo roddi y Gorchmynion hyn yw Blant, ai Bendithiodd hwynt, ac a fy Farw, a hwy ai rhoddasant efe mewn Arch, ac ai cariasant efe allan or Aipht, ac ai claddasant efe yn Hebron, yn yr Ogo ddwbl lle ir hunodd ei Dadaû.
COppiad o eiriau SIMEON a Lefarodd efe iw Feibion wrth ei Farwolaeth, yn y Ganfed ar Ugeinfed oi Fywyd, yn mha ûn hefyd i bû Farw JOSEPH; a ffan ddaethant i ymweled ac efe ar ei gla Welû, efe a esteddodd i fynu, ac ai cusanodd hwynt, gan ddywedyd:
Gwrandewch fy Mhlant, a rhoddwch Glust eich Tad SIMEON, pa beth bynag sydd genyf yn fy Nghalon; fyfi ydwyf all Fab fy Nhad JACOB, fy Mam LEA am henwodd i SIMEON, oherwydd ir Arglwydd wrando ei Gweddi; myfi y aethym yn alluog iawn, ac aethym drwyodd am holl achosion, ac nid oedd arnaf ofn dim, canis fy Nghalon oedd ddiarswyd, am meddwl yn ansigladwy, am ystwmog ydoedd Wrol; canis caledwch a roddir gan y Gorucha i enidiau a Chyrph Dynion. Yn y dyddiau hynny i Cynfigenais i JOSEPH, [Page 21] oherwydd bod fy Nhad yn i Garu efe, mi a Gledais fy Nghalon yn ei erbyn efe yw Ladd efe, canis Twysog Cyfeiliorni a ddanfonodd allan Ysbryd Cynfigenus, felly tywyllodd fy meddwl fel nas gallwn gymeryd Gofal i arbed fy Nhad JACOB; eithr ei Dduw efe a Duw ei Dadau, yn danfon i Angel, ai Gwaredodd efe allan om dwylo i. Pan euthym i Sechem i gario porth ir Praidd, a RUBEN hefyd gwedi myned i Dathan, Ile ir oedd ein holl angenrheidiau gwedi i osod i fynu yn stor, ein Brawd JUDA ai Gwerthodd efe ir Ismaelied, a ffan ddaeth fy Mrawd yn ôl drachefn, bû ddrwg gantho, canis ir ydoedd yn bwriadu i ddwyn yn ol drachefn yn ddiengol at ein Tad; and ir oeddwn i yn ddigllon wrth JUDA am i ollwng efe i fyned ymaith yn Fyw, ac a fum, yn dwyn cilwg iddo dros bum mis; ond pa fodd bynag, Duw am hattaliodd ei, ac a rwustrodd Weithredodd fy Nwylaw, am Deheu-law a hanner Wyfodd dros saith nhiwrnod ynghyd; yna ei meddyliais [...]i (fy Meibion) ddigwydd o hynny i mi oherwydd JOSEPH; yna yn ebrwydd ar ôl mi a edifarhais, ac a geifiais yr Arglwydd i adferu imi fy Llaw, ac i bydde imineu ymgadw oddiwrth bob Atgasrwydd, Cynfigen ac Ynfydrwydd, canis mi a wyddwn ddarfod i mi [Page 22] ymddwyn drwg feddwl yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn fy Nhad Jacob, er mwyn fy Mrawd Joseph, yr hwn a Gynfigenais ei.
Yn awr gan hynny fy Mhlant, ymgedwch oddiwrth Ysbryd Cyfeliorni a Chynfigen; canis os Cynfigen a reola dros feddwl Dyn, nis goddef iddo na Bwyta nag Yfed mewn Llonyddwch, na gwneithur daioni, ond i flino, ai anog i Ladd y parti a bytho êf yn i Gynfigenu, gan ddiflanu yn wastadol wrth i Llwyddiant hwy. Dwy flynedd yn nghyd ei cysduddiais ei fy Enaid ac Ympryd, yn ofn yr Arglwydd; canis mi a wyddwn mae y ffordd im gwared ei oddiwrth Gynfigen oedd ofn yr Arglwydd: Os Dyn a ddiangc at yr Arglwydd, yr Ysbryd drwg a ffû ymaith, ac felly fel i delo ei Ysbryd êf yn osdyngedig, ac allan o Afrowiogrwydd, mae êf yn dyfod i fod yn Drugarog, heb fod yn dwyn Cilwg ir cyfriw ac ai carant, ac fellu mae ei gynfigen êf yn dibennu: Ac o herwydd fy Nhad yn fy ngweled ei yn brydd, fe a ofynodd imi yr achos, wrth yr hwn ei dyweidais gelwydd, mae poen oedd yn fy Stwmog: Fyfi oedd y prudda om holl Frodyr, oherwydd i mi fod yn achos o werthu Joseph ir Aipht; a ffan ddaethym ir Aipht, am rhoddi yn y Carchar gantho am [Page 23] Ysbiwr, yna i cofiais ei mae yn Gyfiawn im Cosbid, ac ni bû ddrwg genif: Eithr Joseph oedd Wr da, ac Ysbryd Duw oedd yntho, ac yn llawn Trugaredd a Thosduri, ni feddyliodd wneuthyd imi ddim niwed, eithr efe am careu ei megis fy Mrodyr eraill.
Gan hynny fy Meibion, ymgedwch oddiwrth bob Cynen a Chynfigen, a rhodiwch mewn Symlrhwydd meddwl, a Chydwybod dda, yn ôl esampl Brawd eich Tad, fel i rhoddo Duw i chwi râs a gogoniant, a bendith ar eich Penau, fel i gwelwch yntho êf, holl ddyddiau ei fywyd ni ddarfu iddo yr ioed fwrw hynny yn ein dannedd, nai liwied ini, eithr êf an careu ni fel i Enaid ei hûn, ac yn fwy nai Blant ei hûn, gan ein Anrhydeddu ni, a rhoddi i ni Goweth, Anifeiliaid, Yed yn helaeth.
Chwithau gan hynny fy Mhlant, Cerwch eich gilidd a chalon dda, a bwriwch oddiwrthych Ysbryd Cynfigenus, canis mae yn gwneuthur Enaid Dyn yn Anaroglus, yn gwrthuno y Corph, ac yn magu Rhyfel a Digofaint yn y Meddyliau, ac yn gosod y Gwaed ar Dân, ac yn i yrru êf allan or bwyll, ac nis goddef chwaith i ûn Rheswm ddwyn na Rhwysc na Rheoleth; yn mhellach, mae ef yn cymeryd ymaith i Gwsg, ac yn aflonyddu y M [...]ddwl, ac yn gwneuthur [Page 24] y Corph i Grynu, oherwydd yn el Gwsg y bydd rhyw Lynghyren o ddychymig maleusus yn i gnoi efe, yn diswyno ei Enaid efe ac Ysbryd Drygienus, ac yn gwneuthyr ei Gorph efe yn aneulyn, ai Feddwl yn ddychrynllyd, ac yn drwblus, ac yn ymddangos i Ddynion fel pa bae Ysbryd peryglus yn towall allan ei Wenwyn; am ir ydoedd Joseph yn deg ei wyneb, yn brydferth, ac yn hardd yr olwg, oherwydd nad oedd dim anwiredd yn aros yntho efe, am hynny ir oedd ei Wynebpryd efe yn eglur oddiwrth feddwl cwmbrus.
Ac yn awr fy Mhlant, bydded eich Calonau yn addfwyn o flaen yr Arglwydd, rhodiwch yn inion o flaen Dynion; fellu i cewch chwi ffafor gida Duw a Dyn; a gochelwch rhag i chwi syrthio i Odineb, canis Puteindra ydiw Mam pob Drygioni, yn naillduo Dyn oddiwrth Dduw, ac yn i ddanfon efe at Belial: Canis mi a welais yn Scrifenadau Enoch, i bydde i chwi ac eich Plant ymlygru drwu Buteindra, a gwneuthur cam a Levi drwy 'r Cleddyf, ond ni lwyddwch yn erbyn Levi, efe a ymladd Ryfeloedd yr Arglwydd, ac a gymer eich holl Bebyll, ac ychydig a ymreniff yn Levi a Juda, canis Juda a fydd eich Captain [Page 25] megis ac i Proffwydodd fy Nhad Jacob yn ei Fendithion: Ac yn awr, wele fi yn mynegi i chwi yr holl bethau hyn yn mlaenllaw, fel i bythwyfi glan o ddiwrth bechodau eich Eneidiau.
Ac yn awr, os rhoddwch chwi heibio bob Cynfigen a Gwar-gledrwydd, fy holl Esgyrn ei a Flodeuant fel Rhosyn yn Israel, am Cnawd i fel Lili yn Jacob, am Harogl ei a fydd fel Arog Libanus, am rhai Sainctidd a Luosogant fel Cederwydd yn Dragwyddol, ai Canghenau a danant o hyd byth; yna Had Canaan a dderfydd am danynt ynghyd ar holl weddill yr Amalickiaid; yr holl Cappadociaid a dderfydd am danynt; ar holl Scythians a ddinistrir yn yr ûn modd. Yna i bydd i Dîr Cham ballu, ac ir holl Bobl fyned i ddrylliad: Ar Ddaiar a gaiff lonydd gan Heldrin, ar holl Bobl tan y Nefoedd rhag Rhyfel. Yno i Gogoneddir Sem, pan ddelo Arglwydd Dduw mawr ISRAEL i ymddangos ar y Ddaiar megis Dyn, i achib ADDA yntho êf: Yno i sethrir yr Ysbryd Cyfeiliornus dan Draed, a Dynion a deyrnasant dros Angylion niweidiol ac uffernol: Yno ei cyfodaf inau drachefn mewn llawenydd, ac i Bendithiaf y Gorucha yn ei ryfeddol [Page 26] Waith; canis Duw yn cymeryd arno Gorph, ac yn bwyta gyda Dynion, a echyb Ddynion.
Ac yn awr fy Mhlant, Ufyddhewch i Levi, a chwi a Waredir drwy Juda; nad Ymddarchefwch mo honoch eich hunain uwch law y ddau lwyth hynny, oherwydd ohonynt hwy i terddiff allan Waredigeth Iachufol ini; canis Duw a esyd i fynu Levi yn Dwys [...]g yr Offeiriadeth, ac o Juda Brenin Brenhinoedd, Duw a Dyn; fellu [...] Gweryd êf yr holl Genhedloedd, a Gwreiddin Israel. Oblygid y pethau hyn i'r ydwyf yn eich siarsio chwi i orchymyn eich Plant ar gadw y pethau hyn yw Plant drwy ei holl Genhedlaethau.
Ac yno Simeon gwedi iddo wneuthr diwedd ar Lefaru, a Gorchymin y pethau hyn yw Blant, a hunodd gida ei Dadau, pan ydoedd efe yn gan mlwydd ac ugain Oed; yna hwy ai dodasant efe mewn Arch o Goed y rhai ni ffydrent, modd i gallent hwy gario ei Esgyrn efe drachefn i Hebron, ac ai symidasant efe yn ddirgel, heb wybod ir Aiphtiaid, canis yr Aiphtiaid oedd yn cadw Esgyrn Joseph yn Rhys [...] r y Brenin; oblygid [...]w Dewinied hwy ddywedyd iddynt, mae pan elid ac Esgyrn Joseph ymaith, i bydde [Page 27] y cyfriw Bla o Niwl a Thywyllwch yn mhlith yr Aiphtwyr, fel na adnybydde y naill y llall, ie wrth oleini y Ganwill gwur. A Phlant Simeon y ddarfu iddint Alaru a [...] ei Tad yn ol Gyfraith Galarnad, ac [...] arosasant yn yr Aipht hyd ddydd ei yma [...] dawiad oddi yno dan Law MOSES.
TESTAMENT LEVI a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwolaeth yn mherthynas yr Offeiriadieth.
COppiad ô eiriau Levi, yn enwedigol y lefarodd efe wrth ei Blant yn nghylch yr holl bethau y rhai ir oeddent yw gwneuthur, ac a ddigwydde iddynt hyd ddydd y Farn; ac efe mewn iechyd etto, efe ai galwodd hwynt, canis ir ydoedd efe yn gwybod or blaen y pryd i bydde efe Farw; fellu pan ddaethant yn nghyd, efe a ddywedodd wrthynt:
Myfi Levi y anwyd ac a fagwyd yn Charan, ac ar ôl hynny mi a ddaethym gida fy Nhad i Shechem; nid oeddwn i yr amser awnnw ond yn nghylch ugien mhlwydd [Page 29] Oed, pan helpiais i fy Mrawd Simeon i ym ddial ein Chwa [...]r Deinah ar Hamor.
Ac yn awr, pan oeddem ni yn porthy y Praidd yn Abelmuel, Ysbryd Dealldwrieth yr Arglwydd a ddaeth arnaf, ac mi a welais bawb yn cloddio ei ffyrdd ei hunain, ac anghyfiawnder yn adeiladu noddfa iddo i hunan, ac anwiredd yn eisted ar yr Orseddfainck; a bu ddrwg genif dros ddynol-rhyw, ac mi a geisiais yr Arglwydd yw hachyb hwynt; yno i syrthiodd cwsg arnaf, ac mi a welais Fynydd uchel iawn, sef Mynydd Aspis yn Abelmu [...]l: Ac wele y Nefoedd▪ egorodd, ac Angel Duw a ddywedodd wrthyf, Levi, tyred yma; ac efe aeth or Nefoed gyntaf ir ail, ac yno i gwelais ei y Dyfroedd yn crogi rhwng y naill ar llall; ac mi a welais y drydydd Nefoedd, yr hon oedd lawer mwy eglurach na hwynt hwy, ai huchder hi ydoedd yn anfeidrol; ac mi a ddywedais wrth yr Angel, Beth y mae hyn yn i feddwl? Ar Angel am attebodd gan ddywedyd, Na ryfedda wrth y pethau hyn, canis ti a gei weled pedair Nefoedd mwy eglurach, ac heb gyffelib iddynt, pan ddelych di i fynu; a thi a gei sefyll gida yr Arglwydd, a bod yn Wenidog iddo, i dreuthu dirgelwch ei Ddynion, ac i Bregethu Gwaredydd Israel yr hyn sydd i ddyfod; [Page 30] trwyot ti a thrwy Juda yr Arglwydd a ymddengus i Ddynion, i achyb holl Ddynolryw ynddynt hwy, ath fywyd a bwysiff ar yr Arglwydd, drwyddo i cei dy Feusydd ath Winllanoedd, ffrwythydd, Aur ac Arian. Gan hynny gwrando yn nghilch y Saith Nefoedd:
Yr isaf honno sydd dra llychllyd, o herwydd ei bod yn nesaf at holl anghyfiawnder Dynion.
Yr ail sydd a Thân, Eira, a Rhew, gwedi i baratoi drwy drefniad yr Arglwydd erbyn cyfiawn Farnedigeth Duw; ynthi hi i mae yr holl Ysbrydion Ymddial, i geryddu y Drygionus.
Yn y drydydd i mae gallu y lluoedd, a ordeiniwyd [...]rbyn dydd y Farn, i ymddial ar Ysbrydoedd Cyfeiliornus Belial.
Yn y badwaredd uwch law hyn i mae yr Saincts; canis yn y lleoedd ucha mae yn cyfanneddu y Gogoniant mawr yn y Saincteiddiolaf or holl Saincteiddrwydd.
Yn y nesa at hon i mae yr Angylion, y rhai sydd yn gwasneuthu yn ngwydd Duw▪ ac yn ceisio ei ffafor dros anwybodeth y Cyf [...]awn; ei maent yn Offrymu ir Arglwydd felus Arogl, yn rhesymol wasanaeth Aberth heb Waed.
[Page 31] Yn y llall, yr hon sydd tann hon, i ma yr Angyllon y rhai sydd yn dwyn atteb oddiwrth yr Angylion sydd yn presennoldeb Duw.
Yn yr hon sydd uwch i llaw i mae yr Gorseddfeinciau ar Galluoedd, yn mha le i mae gwastadol O [...]rwn i fynu Hymnau ei Dduw.
Am hynnu ir ydem ni ôll yn symyd pan edrycho yr Arglwydd arnom; ie y Neroedd ar Ddaiar ar Pwll di-waulod a gynyrfasant yn ngwydd ei Fowredd êf; ond Meibion Dynion yn Wallgofus a Bechant, i annog y Gorucha i ddigofaint: yn awr gan hynny deuellwch y bydd ir Arglwydd wneuthyr Barn ar Blant Dynion; oherwydd bod Dynion yn wastadol yn aros mewn Angrhydinieth ac Anghyfiawnder, ie pan fytho y Cerrig yn holldi, ar Haûl yn tywyllu, ar Dyfroedd yn sychu i fynu, ar Tân yn cry [...]u, ar holl Greaduriaid yn drwblus wrth lewygiad yr anweledig Ysbryd, ysbeilio Uffern yn Nioddefaint y Gorucha; gan hynny i bernir hwy i Gerydd. Yna y Gorucha a wrandawodd dy Weddi, ith naillduo di oddiwrth anghyfiawnder, ith wneuthyr di yn Fab, yn Was, ac yn Wenidog yn ei wydd ef, ac yn Lantarn Gwybod [...]th i oleuo Jacob, yn gwbl i fod megis Haûl y dydd yn mysc [Page 32] Meibion Israel; i ti ag ith Hâd i rhoddir Gallu y Fendith▪ hyd oni ymwelo Duw ar [...]oll Genh [...]dloedd yn ymysgaroedd Trugaredd [...]i Fab yn Dragywydd. Er hyn igid dy Feibion a roddant ei dwylo arno, ac ai croes [...]olliant êf, ac or achos hon doethineb a dealldwrieth a roddir i ti, i, roddi ith Blant wybodeth o hono, oherwydd os bendithiant hwy êf hwy a fyddant Bendigedig; ar rhai ai melldigo êf a dderfydd amdanynt yn ei wydd êf.
Ar Angel a egorodd i mi Borth y Nefoedd, ac mi a welais y Demel Sainctaidd, ar Gorucha yn eistedd ar yr Orseddfainc y Gogoniant, ac a ddywedodd wrthyf o LEVI, Mi a roddais i ti Fendithion yr Offeiriadeth hyd oni ddelwyf fy hunan i breswilio yn nghanol ISRAEL.
Yna yr Angel am dygodd i lawr ir Ddaiar, ac a roddodd i mi Gleddyf a Tharian, gan ddyw [...]dyd: Gwna Dd [...]a [...] yn Shechem am Dina, a myfi a fyddaf gid [...] thi▪ canis Duw am hanfonodd ei; ac yn yr amser hwnnw i Lleddais ei Feibion Hamor; ifel i mae yn Scrifenedig yn Llech [...] yr Nefoedd: Ac mi a ddywedais wrtho, A [...]olwg dowed i mi dy enw, fel ei galwyf arnat yn amser trallod. Ac yntau am attebodd i ac a [...]dywedodd: Myfi ydiw yr Angel [...]ydd [Page 33] yn Esgisodi ISRAEL fel na threwir efe yn Dragywydd; canis mae yr holl Ysbrydoedd drwg yn gwneuthyr cynllwyn arnynt.
Ac yn ôl imi ddffroi mêgis allan o gwsg, mi a fendithiais y Gorucha, ar Angel yr hwn oedd yn Esgisodi Hil Israel, ar holl rai Duwiol. A ffan ddaethym at fy Nhad, fyfi a gefais Sarff o Brês, oddiwrth ba ûn i cymerth y Bryn enw Aspis, yr hwn sydd yn agos i Gebar, or tu dehau i Abila: A mi a roddais y pethau hyn i fynu yn fy Nghalon, ac a gynghorais fy Nhad, am Brawd Ruben, i annog Meibion Hamor i Enwaedu arnynt, canis ir oeddwn ei yn eiddigeddus flinderog oblygid y ffieidd-dra a wnaethent hwy yn Israel; ac yn gyntaf or cwbl mi a Leddais Shechem, a Simeon a Laddodd Hamor, yn ôl hynny daeth ein Brodyr, ac a drawsant y Ddinas a min y Cleddyf; a ffan glybu fy Nhad hynny, bu ddigllon iawn gantho, am iddynt dderbyn yr Enwaediad, ai Lladd hywnt gwedi hynny; ac am hynny fe a ddeiliodd ffordd arall a ni yn ei Fendith, am i ni bechu yn gwneuthyr fellu yn erbyn ei ewyllus efe, ac efe a syrthiodd yn Glaf yn y dydd hwnnw; ond mi a wyddwn fod yr Arglwydd yn bwriadu drwg yn erbyn y Sechemitiaid, oblygid iddynt cyn hynny, fwriadu gwneuthyr y cyffelib beth a Sara, [Page 34] ac a wnaethent an Chwaer Deina, ond Duw ai attaliodd hwynt; hwy a erlidiasant ein Tad Abraham (megis deithr) ac a yrasant ei Dda efe ymaith; ac yn mhellach fe ddarfu iddynt Guro Joblac yn ddrwg, yr hwn y anesid yn ei Dy êf; ac yn y modd hwnnw i gwnaent hwy a ffob dieithraid, gan gymeryd ymaith ei Gwragedd oddiwrthynt drwy Drais, ac ymlid y Gwyr allan oi Gwlad, am ba achos Digofaint Duw a ddaeth arnynt hwy yn y diwedd. Mi a ddywedais wrth fy fy Nhad: Sir, na thramgwydda, canis Duw a ddwg y Cananeaid i ddim oth flaen di, ac a rydd i tîr hwy i ti, ac ith sainctaidd Had ar dy ôl di: Canis o hyn allan Sichem y elwir yn Ddinas yr Ynfydion, oherwydd fel i bydd i rai watwar ffylied i darfy i nineu i gwatwar hwynt, am wneuthyr y fath ynfydrwydd yn Israel, a chymeryd ymaith ein Chwaer ni yw halogi.
Yno i daethom ni i Bethel, ac yn ôl imi Aberthu deg a thriugain o ddyddie ynghyd, yna mi a welais drachefn y peth y welswn ei or blaen. Ac mi a welais saith o Wyr mewn Gwisgoedd Gwynion, yn dywedyd wrthyf: Cyfod, a dyro amdanat Wisg yr [...]ffeiriadeth, Coron Cyfiawnder, Rheswm [...]ealldwrieth, Gwisg y Gwirionedd, Dwy [...]oneg Ffydd, Meitur Sancteiddrwydd, ac [Page 35] Ephod y Brophwydolieth; ac fellu pob ûn o [...]onynt a ddygasant ryw beth gyda ac êf, ac ai dodasant am danaf i, gan ddywedyd: Bydd di o hyn allan yn Offeiriad ir Arglwydd, dydi ath Had yn Dragywydd.
Ar cyntaf am Eniniodd [...]i ac Olew Sainctaidd, ac a roddes i mi Deirn-wisien Barn.
Ar ail am Golchodd ei a Dyfr glân, ac am porthodd ei a Bara a Gwîn, sef or tra Sancteiddiola, ac am gwisgodd i a Gogoneddus Wisg hyd y llawr.
Y trydydd a roddes imi Wisg o Sidan tebig i Ephod.
Y pedwerydd am Gwregysodd ei a Gwregis tebig i Borphor.
Y pumed a roddod i mi Gangen o Liwydden yn llawn brasder.
Y chweched a rodd Feitr yr Offeiriadeth am fy Mhen.
Y seithfed a lanwodd fy nwy Law ac Arogl Darth, fel i bydde imi wasaneuthu swydd yr Offeiriadeth ir Arglwydd.
Ac efe a ddywedodd wrthyf: LEVI, i dri ffeth penodol i mae dy Had di gwed [...]t drefnu gan Dd [...]w, yn enwedigol, i fod yn arwydd or Gogo [...]eddus Arglwydd sydd i ddyfod; ar hwn a gredo a fydd cyntaf, ar Coel [...]r [...]n mawr ni syrth arno efe; yr ail a fydd y [...] Offeiriadeth; ar trydydd a gaiff enw [Page 36] newydd; Brenin a gyfyd i fynu yn Juda, ac a adnewydda fy Offeiriadeth yn ol dull y Genhedloed, yn musg yr holl Bobl; ond i ddyfodiad efe sydd anrheuthadwy, sef, pwy a gaiff fod yn Broffwyd ir Gorucha, gwedi ei eni o Abraham ein Tad? Holl hyfrid bethau Israel a roddir i ti, ac ith Had; a chwi a fwytewch yr holl bethau teg yr olwg; ath Had ti a gyfreniff yr Argiwydd, ac o honynt hwy i bydd yr Arch-offeiriadae, Barnwyr, ac Scrifenyddion; canis yn ei Genau hwy y cedwir p [...]thau Sainctaidd.
A ffan ddeffrois mi a ddeallais fod y Weledigeth yma megis y llall, ac mi ai gosodais hi i fynu yn fy Nghalon, ac nis dangosais ei mo hyn i un dyn byw ar y Ddaiar.
Y ddau ddydd cyntaf ir aethym i a Juda at ein Taid Isaac, efe am Bendithiodd ei yn ôl geirie y Weledigeth y welswn. Ond efe ni fyneu fyned gid ni i Bethel.
Ond pan ddaethom i Bethel, fy Nhad Jacob a welodd mewn Gweledigeth yn fy mherthynas ei, i bydde i mi fod yn Offeiriad iddynt hwy oflaen yr Arglwydd; ac efe a gododd y borau, ac a Ddegymodd gimaint oll ac a feddau, drwyddo fi, ir Arglwydd.
Yna i daethom ni i aros i Hebron; ac yn mhen-ennyd Isaac am galwodd ei i egored Cyfraith yr Arglwydd, yn ôl yr hyn ir [Page 37] ydoedd Angel Duw gwedi i ddangos i mi, ac efe a ddanghosodd i mi Gyfraith yr Offeiriadeth, Aberthau, Poeth-Offrymau, Blaen-Ffrwythau, Aberthau-Gwirfodd, ac Aberthau-Hedd; bob dydd efe a ddysgodd i mi Ddealldwrieth, ac am galwodd ei yn wastadol oflaen yr Arglwydd, gan ddywedyd: Fy Mab, na ddod Glust ei Ysbryd Godineb, canis efe ath ddilin di, ac a haloga y pethau Sainctaidd trwy dy Had ti; gan hynny cymer Wraig yn dy ieuengtid, y cyfriw ûn ac ni bytho dim anaf nag aflendid, nag a fytho o Genedl yr Aiphtiaid, nag or Cenhedloedd; a chyn ir elich di ir Saincteiddiola Ymolch; ac yn yr ûn modd pen Aberthech, a hefyd pan Aberthech ir Arglwydd, a hefyd pan orffenech, Offrwm ir Arglwydd ffrwyth y deuddeg Pren y rhai ydynt byth yn Wrddion▪ megis im dyscodd fy Nhad Abraham i wneuthur; a ffrwth holl Anifeilied Glan, ac or Hediad Glan ir Offrymi; ac yn yr ûn modd ir Offrymi dy Gyntaf Anedig o bob peth, ar Blaen-ffrwyth oth Win, a thanella dy hol [...] Aberthau a Halen.
Ac yn awr gan hynny fy Meibion, cedwc [...] yr holl bethau ir ydwyf yn i Gorchymyn [...] chwi; canis pa beth bynag a glowais ei ga [...] fy Nhadau, hynny ir ydwyf yn i fyneg [...] i chwi, a glan ydwyf oddiwrth eich Pechoda [...] [Page 38] chwi, a wneloch hyd ddiwedd y Byd: Chwi a weithredwch anwiredd yn erbyn Achubwr y Byd; a chwi a hudwch Israel, gan gyffroi i fynu yn ei erbyn êf lawer o ddrygionu oddiwrth yr Arglwydd, drwy ddeilio yn annuwiol ac êf, fel na bytho ei Jerusalem barhau, obiygid eich ffieidd-dra chwi; a Llen y Demel a rwigir yn ddrylliau, i ddatguddio eich bryntni chwi; a chwi a wasgerir megis Carcharorion yn mysg y Cenhedloedd; achwi a watwerir, a felldithir, ac a sethrir dan draed: Er hyn i gid, y Ty a ddewiso yr Arglwydd a elwir Jerusalem, fel i mae yn gynwysedig yn Llyfr Enoch y cyfiawn.
Ac felly pan oeddwn ei 28 mhlwydd Oed, cymerais ei wraig, yr hon ydoedd ai henw Melcha, a hi a feichiogodd ac a esgorodd ar Fab, ac a alwodd ei enw êf Gershon, oblygid nad oeddem ni onid dieithred yn y Tîr; canis Cershon sydd yn arwyddycau Alldudaeth: Ond mi a wyddwn am dano êf, na chae fod or Gradde Penna.
Yr ail oedd Caath, yr hwn y aned yn y 35 flwyddyn: Ac mi a welais Weledigeth tua yr Dwyrain, y modd ir ydoedd yr holl Gynylleidfa yn sefyll yn Ddarchafedig; ac am hynny mi a roddais ei enw êf Caath, yr hyn sydd yn arwyddycau Dechreuad Mowredd a Dysceidieth.
[Page 39] Y trydydd ydoedd Merari, yr hwn y aned 55 flwyddyn om bywyd; ac oblygid fod ei Fam êf yn galed arni wrth Esgor, hi ai galwodd Merari, yr hyn sydd yn arwyddycau Fy Chwerwder.
Ac yn y 64 flwyddyn om bywyd i ganwyd fy Merch Jochebed yn yr Aipht; ac yno ir oeddwn yn anrhydeddus yn mhlith fy Mrodyr.
Ac yno fy Mab Gershon a gymerodd iddo Wraig, hi a ymddug iddo Libni ac Sichmi. Meibion Caath oedd Amram, Yshvar, Hebron, ac Ʋziel. A Meibion Merari oedd Mahali ac Mushi.
Yn y 94 flwyddyn om bywyd, Amram a gymerodd iddo yn Wraig fy Merch Jochebed, oblygid i genu hi ac yntau yr ûn diwrnod
Wuth Mhlwydd oed oeddwn pan aethum ei gynta i Wlad Canaan. Dau naw mhlwydd oeddwn ei pan aethym ei gynta i swydd yr Offeiriadeth. Ac wuth mhlwydd ar ugaun oeddwn pan gymerais ei Wraig. A dauguen mhlwydd oeddwn pan aethym ir Aipht: Ac wele yn awr chwi yn Blant im Plant ei, yn y drydydd Genhedlaeth. Joseph a fu farw yn y ganfed ar ddegfed flwyddyn oi fywyd.
Ac yn awr fy Mhlant, ir ydwyf yn eich rhybuddio chwi i ofni yr Arglwydd eich [Page 40] Duw ach holl galon; a rhodiwch yn iniawn yn mhob peth yn ôl ei Gyfraith êf. Ac yn mhellach, Dygwch i fynu eich Plant mewn Dysceidieth, fel ei gallant gael Dealldwrieth wrth Ddarllen Cyfraith yr Arglwydd yn ddi-baid holl ddyddiau ei bywyd; canis pwy bynag y adnybyddo Gyfraith Dduw y Anrhydeddir; ac i ba fan bynag ir elo êf, ni bydd êf dieithr, ac a gaiff hefyd fwy o Gyfeillion nag a gafodd ei Dadau êf or [...]laen; a llawer a fydd llawen ganthynt i wa [...]aneuthu êf, a chlowed y Gyfraith allan oi Enau êf.
Fy Meibion, deiliwch yn inion ar y Ddaiar, fel i galloch gael y Nefoedd; hauwch bethau da yn eich meddyliau, fel i [...]affoch chwi hwynt yn eich bywyd; canis [...]s chwi a haua bethe drygionus, chwi a fe [...]wch drwbwl, a ffob math ar gymbrus [...]wydd: Ceisiwch Ddoethineb yn ofn Duw; [...]anis os caethiwed a ddaw, a distrywio Gwledydd a Dinasoedd, Aûr ac Arian, a ffob meddiane yn darfod am danynt, etto nid [...]es neb a eill gymerid ymaith Ddoethineb [...] Doeth, ond yn unig Dallineb Anuwioldeb, [...] ffechod; canis Doethineb a fydd megis Tarian iddo yn musg ei elynion, ac a wneiff Wledydd dieithr i fod megis cartref iddo, [...]c a gaiff gymdeithas yn nghanol ei elynion, [Page 41] os dysc a gwneuthr y cyfriw bethau, êf a gaiff eistedd gida Brenhinoedd, fel ein Brawd Joseph.
Ac mewn gwirionedd fy Mhlant, ir ydwyf yn dealld wrth Scrifenadau Enoch, y bydd yn y diwedd i chwi wneuthyr yn anwireddus, a gosod eich Dwylo yn Wradwyddus ar y [...]Arglwydd; a thrwyoch chwi eich Brodyr a Wradwyddir, ac a wneir yn Watwargerdd ir holl Genhedloedd: Ond pa fodd bynnag Israel sydd lân oddiwrth anwiredd yr Archoffeiriaid, y rhai a osodant ei Dwylo ar Achubwr y Byd; ie y Nefoedd uchod, ar Ddaiar sydd lân; ac os chwi ydech Olei [...] y Cenhedloedd, fel yr Haul ar Lleuad, bet [...] a wneiff yr holl Genhedloedd os chwi a orchgiddir ac Anwiredd, ac a ddygwc [...] Felldith ar eich Gwlad, er mwyn pa rai Goleini y Byd a roddwyd ynoch chwi, ei Olei [...] yr holl Bobloedd ac êf: Dyma Oleini y Byd, yr hwn y bydd i chwi yn ewyllysga [...] i Ladd, a dyscu gorchmynion yn y gwrthwyneb i Gyfiawnder Duw.
Chwi a ddarn-giddiwch Offrwm yr Arglwydd, ac a ddygwch ddrabiau o hono.
Cyn i gwnelôch eich Offrymau i [...] Arglwydd, chwi a ledretwch ymaith y pethau dewisol, ac ai bwytewch yn Wradwy [Page 42] ddus gida ffuteinied a budrogod, gan ddyscu Gorchmynion Cybyddus.
Chwi a hal [...]gwch Wragedd Priodol, ac a dreisiwch Forwynion yn Jerusalem.
Chwi a ymgyfathrechwch a ffuteiniaid.
A chwi a gymerwch Ferched y Cenhedloedd yn Wragedd, gan i puro hwy ac anghyfiawnder puredigeth; ach cymysgedd chwi a fydd yn gyffelib i Sodom a Gomorrha.
A chwi a lyngkir ac anwiredd yn yr Offeiriadeth, yn gimaint ac i bytho i chwi yn dra chwilyddus a gwradwyddus watwar y pethau Sainctaidd; nid yn unig ymdderchafu ac ymffrostio eich hunain yn erbyn Dynion, ond hefyd ymchwyddo i fynu gan falchder yn erbyn Gorchmynion Duw.
Oherwydd hyn Temel yr Arglwydd, yr hon a ddewiso, yn ddiammau y adewir yn anghyfannedd mewn afl [...]ndid; a chwithau eich hunain cwch i Gaethiwed, ac a fyddwch yn ffieidd dra yn musg y Cenhedloedd, ac a dderbyniwch ddi-ddiwedd gwilidd a gwerth trwy gyfiawn Farn Duw; a ffawb ach gwelo ach ffieiddiant: Ac oni buase er mwyn Abraham, Isaac a Jacob, ni adewid ûn om Hâd ei ar y Ddaiar.
Ac yn mhellach, ydd ydwyf▪ yn gwybod wrth Lyfr Enoch, y bydd i chwi fyned ar [Page 43] gyfeiliorn dros ysbaid deg a thriugain o wythnosau, ac a halogwch yr Offeiriadeth, ac a ddiwynwch yr Aberthau, a ddinistriwch y Gyfraith, ac a ddirmygwch lyferydd y Prophwydi; ac yn rhyfygus ir erlidiwch y Cyfiawn, y casewch y Duwiol, ac i ffieiddiwch lyferydd y Crefyddol Bobl; ai galw yn Heretickied y rhai a elont ynghylch adnewyddu y Gyfraith trwy bower y Gorucha, ac yn y diwedd chwi ai lleddwch êf allan o law, heb wybod ei cyfyd êf drachefn; ac fellu chwi a dderbyniwch ei Waed Gwirion êf yn ewyllysgar ar eich Penau; ac oi blygid êf eich lleoedd Sainctaidd chwi a dewir yn anghyfanedd, y rhai a halogwch chwi drwy ddygyn anudonieth, ach Trigfanau ni byddant glân, ond chwi a fyddwch Melldigedig yn mysg y Cenhedloedd, a digalonrhwydd ach blina, hyd oni ymwelo êf a chwi drachefn, ach derbyn chwi yn drugarog drwy Ffydd a Dyfr.
Ac yn gimaint ac i chwi glowed am y deg a thriugain o wythnosau, gwrandewch hefyd yn mherthynas 'r Offeiriadeth; canis yn mhob Jubile, neu Lawen Ryddhad, i bydd yr Offeiriadeth.
Yn y Jubile cynta, y cynta a Eneinir a fydd mawr, ac a ymddiddan a Duw megis ai Dad; ai Offeiriadeth êf a fydd yn llawn [Page 44] ofn yn Arglwydd, ac yn nydd ei lawenydd fe a gyfyd er Iachadwrieth y Byd.
Yn yr ail Jubile yr Eniniog a Genhedlir yn nhristwch y rhai anwyl, ai Offeiriadeth êf a fydd Anrhydeddus, ac êf a fydd Anrhydeddus, ac êf a Ogoneddir yn mysg yr holl Bobl.
Y trydydd Offeiriadeth a gymerir i fynu mewn tristwch.
Ar pedwerydd a fydd mewn blinder, o herwydd amldra yr anwireddan a osodir arno êf drwy holl Israel, a ffob Dyn a gaseiff i Gymydog.
Y pumed y ddelir yn dynn mewn tywyllwch; ac yn yr ûn modd y chweched ar seithfed.
Ac yn y seithfed y bydd y cyfriw ffieidddra oflaen Duw a Dyn, fel nad wyfi abal iw eglurhau êf; pa fodd bynag y gweithredwyr o honaw ni byddant adnabyddus: Ac oherwydd hynny hwy a fyddant mewn caethiwed a llygredigeth, ai Tîr, ai Cyfoeth a ddifethir.
Ond yn y bumed Wuthnos hwy a ddychwelant yw Gwlad anghyfanedd, ac a adnewyddant Dy yr Arglwydd:
Ac yn y seithfed y daw Offeiriadu yn addoli Eulynod, Rhyfelwyr Cybyddus, Anghyfiawn [Page 45] Scrifenyddion, a Budr Ddirmygwyr Dynion, Plant, ac Anifeilied.
Ar ôl ir Arglwydd ddanfon Dialedd arnynt hwy yn yr Offeiriadeth, yna i cyfodiff Duw O [...]feiriad newydd, ir hwn yr egorir holl Air yr Arglwydd: Ac êf a w [...]ei [...] Wir Farn ar y Ddaiar dros lawer o ddyddiau: Ai Seren êf a godiff yn y Nefoedd. Fel Brenin i towalld allan Oleini Gwybodeth yn yr eglur dewyniad Haul y dydd, ac efe a Fawrygir dros yr holl Fyd, ac a dderbynir; fe a dewnna fel yr Haul ar y Ddaiar; yn ei ddyddiau efe y Nefoedd a Lawenycha, ar ddaiar a Ymhy [...]ryda, y Cymyle a Ymorfoleddant; a Gwybodeth or Arglwydd a dowelldir allan fel Dyfroedd ar y Ddaiar; ac Angylion y Gogoniant, y rhai ydynt yn Mrhesenoldeb yr Arglwydd, a Ymlawenhychant ynddo efe, ar Nefoedd a egorir, ac allan o Demel y Gogoniant i daw Saincteiddrwydd arno efe, gida Llyferydd y Tad, megis oddiwrth Abraham Tad Isaac; a Gogoniant y Gor [...]cha a denellir allan arno efe, ac Ysbryd Dealldwrieth a Sancteiddrwydd a Orf [...]wys arno efe; o ba ûn fe a rydd yn heleth ac yn all [...]g yw Blant yn y Gwirionedd yn drag [...]wydd; ac ni ddaw yr ûn ar i ôl efe o Genhedleth i Genhedleth hyd ddiwedd y Byd: Yn ei Offeiriadeth i diweddir pob [Page 46] Pechod, ar Anghyfiawn a beidiant ai Drygioni, eithr y cyfiawn a Orffwus yntho efe; ac efe a egoriff Burth Paradwys, ac a attal y Cleddyf Bygythiol yn erbyn Adda; ac a bortha ei Wyn a ffrwyth y Bywyd, ac Ysbryd Saincteiddrwydd a fydd ynddynt hwy; efe a rwum i fynu Belial, ac a rydd yw Blant ei hun allu i sathru i lawr Ysbrydoedd Niweidiol; ar Arglwydd a Ymlawenhycha yn ei Blant, a hwy a fyddant gymeradwy gantho efe yn Dragywydd fel ei Anwylyd; yna Abraham, Isaac a Jacob a Lawenychant, ac i Gorfoledddaf flnau gyda yr Seinctiau oll.
Yn awr fy Mhlant, chwi a glowsoch y cwbwl oll, am hynny dewiswch i chwi naill ai yr Goleini ai 'r Tywyllwch, naill ai Cyfraith yr Arglwydd ai Gweithredoedd Belial.
A hwy attebasant ei Tad, gan ddywedyd, Nyni a rodiwn oflaen yr Arglwydd yn ôl ei Gyfraith efe.
Yna Levi a ddywedodd: Yr Arglwydd sydd Dust, ar Angylion ydynt Dystion, a mineu ydwyf Dyst, a chwithau eich hunain ydech Dystion o Eiriau fy Ngenau.
Hwythau pan attebasant, a ddywedasant, Nyni a fyddwn Dystion.
[Page 47] Levi a orffwysodd gwed rhoddi y Gorchymyn yma yw Blant, ac êf a ystynodd ei Draed, ac a roddwyd at ei Dadau, gwedi iddo fyw 137 o flynyddoedd; a hwy ai dodasant êf mewn Arch, ac ai claddasant êf yn ôl hynny yn Hebron, yn ymyl Abraham, Isaac a Jacob.
TESTAMENT JƲDA a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwoleth yn nghilch Gwroldeb, Cybydd-dod, a Godineb.
COppiad o holl ymadrodd Juda a lyfarodd êf wrth ei Blant yn nydd ei Farwolaeth, pan ddaethant hwy ynghyd oi flaen êf, efe a ddywedodd wrthynt.
Myfi oeddwn y pedwerydd Fab im Tad, am Mam am galwodd ei Juda, gan ddywedyd, Ydd ydwyf fi yn diolch ir Arglwydd am iddo roddi i mi y pedwerydd Fab.
Myfi oeddwn gyflym ar fy Nhraed, a Llafurus yn fy Ieuengctid, ac yn ufydd im Tad yn mhob peth, ac a fendithiais fy Mam ai Chwiorydd; a ffan ddaethym i gyflwr Gwr, fy Nhad Jacob a Weddiodd drosof, gan [Page 48] ddywedyd: Ti a fyddi Frenin, ac yn Llwydianus yn mhob peth, Ac wele Duw a roddodd i mi râs yn fy holl waith, yn gysdlad oddi-cartref a chartref.
Ar ryw amser myfi y welais Ewig, ac a redais ar i hôl hi, ac ai deliais hi, ac o honi hi mi a wneuthym fwyd da im Tâd.
Myfi hefyd a redwn yn gynt nar Iwrchod, ac oddiweswn bob peth ydoedd yn y meufydd, yn gimaint a darfod i mi ddal Cafeg wylld, ai dofi hi.
Ac a dynais Fûn allan o safn yr Arth, a chan i gymeryd êf erbyn ei Balf, mi ai gorthrechais êf.
A mi a rwygwn yn ddryllie yr holl Fwystfilod gwlldion a safent yn fy erbyn, megis pa baswn ei Ci.
Myfi a ymrysonais a Baedd gwylld, a chan i orddiwes êf, myfi ai rhwygais êf yn ddrylliau.
Ac yn Hebron Cymysc-lew a neidiodd ar Gi, a myfi gan gymeryd gafel yn i gynffon êf, ai daliais, ac ai ergidiais ymaith, ac yn y mann fe dorodd ar ei draws.
Ac yn nhueddau Gath Tarw gwylld ydoedd yn pori yn y Meusydd, a myfi a ymaflais yn ei Gyrn êf ac ai ysgydwais om cwmpas, ac yn y diwedd mi ai Lleddais efe.
[Page 49] A dau o Frenhinoedd y Cananeaid a ddaethant yn arfog ar ein Praidd, a llawer o Bobl gyda hwy; a myfi fy hunan, gan redeg at y praidd, a neidiais at Frenin Dur, a chan i ddidroidi êf mi ai gorthrechais, ac ai Lleddais êf.
A myfi hefyd a Laddais Frenin arall a elwyd Thaphes, ydoedd yn eistedd ar y Cefful, ac fellu a wascerais i holl Bobl [...]wynt.
Myfi a orddiweddais y Brenin Achior y Cawr, ar ei Farch yn Saethu yn ôl ac yn [...]laen, a chan daflu carreg o driugain pwys [...]r ei Farch, mi ai bwriais êf i lawr, ac ai Lladdais; a chan ymladd ac Achor ddwy [...]wr, myfi a holldais ei Darian êf, ac a ar [...]hollais ei Draed êf, ac yn y diwedd mi ai Lladdais êf; ac fel ir oeddwn yn tynny [...]maith ei Ddwyfroneg êf, wele wyth oi gy [...]illion êf a nasasant attaf fi, ar hynny myfi [...] lenwais fy nwylaw o gerig, ac ai ergidiais [...]ttynt a thafl, ac a laddais bedwar o honynt, [...]c a yrais y pedwar eraill i ffoi.
Ein Tâd Jacob a laddodd y Cawr Beelisa, [...]redin yr holl Frenhinoedd, yr hwn ydoedd [...]wr a galluog, ei uchder oedd ddauddeg [...]fudd: Oherwydd y pethau hynn dychryn [...] syrthiodd arnynt, a hwy a bediasant ac [...]ladd ein herbyn.
[Page 51] Ac oherwydd hyn, fy Nhad ydoedd ofalus am danaf pan oeddwn mewn Brwydyr gida fy Mrodyr: Efe a welodd mewn Gweledigeth om plygid ei, Y bydde Angel y Nerth im dilin yn mhob lle, fel nam Gorchfygid.
Yr ail celenig ydoedd fwy Brwydyr i mi nar hon a gawswn ei yn Sichem; yn gimain [...] ac wrth vmladd yn wrol gida fy Mrodyr, m [...] a ymlidiais Fïl o wyr, ac a laddais o honyn [...] Ddau cant oi Gwyr, a ffedwar Brenin, a chan ganllyn ar i hôl hwynt, nyni a ysgoliasom Waliau y Ddinas, ac a laddasom dda [...] ychwaneg oi Brenhinoedd hwnt; ac a waredasom Hebron, ac ai harweiniasom hwyn [...] oll vmaith fel Garcharorion.
Yna y dydd nesaf ni aethom at Ddina [...] Gref Gaerog nas gellid nesau ati, a hon [...] elwir Ar [...]ça, yr hon a fygythiodd yn llad [...] ni, ond myfi a Gad y aethom o du yr dwyrain ir Ddinas, a Ruben a Levi o dy y [...] gogledd ar dehau, a hwythau y rhai y safent ar y Gwalie, gan dybied nad oedd ne [...] ychwaneg ond Gad a minau, hwy a roesan [...] dân arnom, pan yn y cyfamser ir ydoedd [...] Mrawd, yr hwn ydoedd yn ddirgel yn ca [...] llyn, yn torri allan or ddautu arall arny [...] hwy, a chan ddringo i fynu, ac Yscolio y [...] Gwalie, nyni a ynillasom y Ddinas yn yngwrth [Page 52] ein Gelynion, ac felly ni ai ynillasom [...]i wrth y Cleddyf, ac a osodasom y Twr [...]r Dân, ac ai llosgasom i fynu, gida chy [...]ifer ac a ffoesent iddo.
Ac fell ir oeddem yn dychwelyd, Gwyr [...]haffie oeddent yn canllyn am ein hysbail [...]i, ac ai cymerasant gyda ein Plant, ond [...]yni ai cynllwynasom hwynt hyd yn Thaffie, [...]c ai Lladdasom hwy, ac a Losgasom ei Dunas, ac a Ysbeiliasom yr hyn oedd [...]nddi.
A ffan oeddem wrth Dyfroedd Gureba, [...]yni a Syrthiasom ar Wyr Jobel, y rhai a ddaethant i Ryfel ein herbyn, ac ai lladd [...]som, ac a dygasom ei hysbail, ai cynorthwywyr hefyd, y rhai a ddaethent yw Ymddiffin hwynt o Selon, ac felly ni roesom [...]ddynt ddim hamdden i ddchwelyd drachefn arnom ni.
Ar pumed dydd ar ôl hynny i daeth Gwyr Machir i gyrchu ymaith ein Carch [...]rorion, y rhai hefyd a darfu i mi ei cyddar [...]od yn y Frwydr, âc er i bod yn Llû Nerthol, ni ai Lladdasom hwynt cyn gallu ohonynt fyned ir lle i daethant allan o [...]ono; a ffan ddaethom ni yw Dinas hwynt, [...]wy a Dreingliasant i lawr Gerrig attom o ben y bryn, ar ba ûn ir oedd y Ddinas yn [...]efyll, ond myfi a Simeon gan dueddu at y [Page 53] tû cefn ir Ddinas a ynillasom y lleoed [...] Ucha, ac a Ddinistriasom yr hol [...] Ddinas.
Yr ail dydd dywedpwyd i ni fod Dinasoedd dau Frenin yn dyfod ein herbyn, [...] Llû mawr iawn; gan hynny myfi a Dan y [...] ymddangos ein hunain megis i fod yn Amortheaid, ac yn Gymdeithion iddynt, aetho [...] i mewn ir Ddinas, ac wedi i ni fyned mewn yn rhymder y nos, ni a osodasom [...] Pyrth yn llydan agored ein Brodyr, y rhai oedd yn dyfod ar ein hôl ni, drwy ba fodd i darfu i ni i dinistrio hwynt, a chimaint ôl [...] ac a feddent; a ffan ddarffu i ni fellu ddifetha y Ddinas, ni fwriasom i lawr i thai [...] Gwal hi.
Yno ni aethom i Thamua, yr hon oedd Noddfa ir holl Frenhinoedd yn ei Rhyfeloedd; yno lle ir oeddwn i yn ddigllon oblygid briw a gowswn, mi a osodais ar y rheini oedd yn sefyll oddiarnaf, ond hwy a daflasant Gerrig i lawr ai ffynn-tafl, ac a saethasant ai Saethau, a hwy am Lladdasent i oni buase im Brawd Dan fy achyb i, am hynny ni a redasom arnynt hwy mewn cyffro ac ai gyrasom hwyrt ôll i ffoi, a hwy gan fyned ffordd arall aethant at fy Nhad, a [...] yn Ostyngedig a Erfynasant heddwch, a [...] yntau a wnaeth Gyfamod a hwynt, fel nas [Page 54] gwnaethom iddynt niwed mwyach, eithr ai derbynasom hwynt i fewn cyngrair a ni, ac a roddasom iddynt ei holl Garcharorion: Yna adeiledais i Chamma, am Tâd a adeiladodd Rambahel.
Ugain mhlwydd Oed oeddwn pan wnaethbwyd y rhyfel yma; ar Cananeaid oeddent yn fy ofni ei am Brodyr.
Ac ir oedd genif lawer o ynifeilied; am pen Bugail oedd Yean o Ocelam, yng hwmpeini pa ûn i gwelais i Bersa Brenin Odelam, yr hwn a wnaeth Wledd i ni, a chida llawer o erfuniadau, a rodd ei Ferch Bethusa yn Wraig i mi, yr hon a ymddug i mi Er, Anan a Silon, ond daû or trî hyn a laddodd Duw vn ddi-blant; a Silon a fû fyw, Plant ir hwn ydiw rhai o honoch chwi.
Ond fy Nhad a minau a wnaethom ddaunaw mhlynedd o heddwch ai Frawd Esau ai Blant: A ffan ddarfu y dau-naw mhlynedd, ar ôl ein dyfod ni i fynu o Mesapotamia, yn y daugainfed flwyddyn om bywyd, Esau Brawd ein Tâd a ddaeth arnom a Llû mawr a chrû, ond êf a Laddwyd gan Fwâ Jacob, ac a gariwyd yn Farw i Fynydd Seir; a ninau hefyd a gynllanasom ar Blant Esau, eithr ei Ddinas êf oedd Gref iawn, a Murie uchel, a ffurth Haiarn a Ffres, fel nas gallem fyned iddi; ond pa fodd bynnag nyni ai caiasom [Page 55] hwynt i fynu ynddi hi, ac ai amgylchasom: Ond yn awr pryd nad oeddent yn ymddangos ei hunain allan dros ugain o ddyddiau yn nghyd, myfi a roddais fy Helm am fy Mhen, ac yn i gwydd hwynt oll i gosodais i fynu Ysgol, a chan ddringo y Mur, myfi a Leddais pedwar oi Gwyr Anrhydeddus hwynt a charreg o bwys tair talent; ar dydd nesaf Ruben a Gad aethant ac a Laddasant triugain eraill; yna hwy a gynigasant heddwch, a ninau drwy gyngor ein Tâd, ai derbyniasom hwy dan dyrnged, a hwy a roesant i ni ddau cant quarter o ûd, a ffum cant bat o Olew, a mîl a ffum cant mesur o Win; hyd onid aethom i wared ir Aipht.
Ac yn ôl hynny Er fy Mab a briododd Thamar o Mesapotamia, Merch Aram; ond Er ydoedd impin drygionus, ac yn amheus oblygid Thamar, am nad▪ oedd hi o Wlad Canaan: Oblygid hyn Angel yr Arglwydd ai Lladdodd êf y trydydd nos ar ôl ei briodi, pryd nas darfaseu iddo eto ymgyfeillach a hi, oherwydd cyfrwysdra ei Fam êf, ac felly êf, a fu farw yn ei ddrygioni, canis anfodlon ydoedd iddo gael Plant o honi hi.
Ond pan ddaeth Onan i amser Priodi, mi a roddais Thamar iddo yn Wraig; ac [Page 56] yntau hefyd o dra gwrthnysigrwydd nid ymgyfeillachodd a hi, eithr gwedi iddo fyw ddwu flynedd gida hi yn gyfan, pan i bygythiais ei êf, yna êf a ymgyfeillachodd, ond etto drwy orchymyn ei Fam, êf a ydawodd yw Hâd syrthio ar y llawr; ac felly bu ynteu hefyd farw yn ei ddrygioni.
A mi a feddyliais hefyd am i rhoddi hi ei Seilon, ond fy Ngwraig Bethsue nis gagadawe i mi, oherwydd hi a grouse Thamar, am nad ydoedd o Ferched Canaan, megis ac ir ydoedd hitheu.
Eithr myfi a wyddwn mae drygionus ydoedd Blaguryn Canaan: Ond etto fe a dwyllodd chwant ieuengtid fy Nghalon, fel ac ir oddwn yn i gweled yn towalld allan Wîn, fyfi a dwyllwyd gan Feddwdod, ac a syrthiais mewn Cariad a hi.
Ond ar ruw amser a myfi oddi-cartref hi a Briododd Seilon a Merch o Ganaan; ond pan ddeallais ei gweithred, mi ai Melldithiais hi yn chwerwder fy Enaid, ac felly hi a fy farw yn anwiredd ei Meibion.
Ac yn mhen dwy flynedd ar ôl y pethau hyn, fel ir oeddwn i yn myned i Gneifio fy Nefaid, Thamar ai ymdrwsiodd ei hunan megis Priod-ferch, ac a eisteddodd i lawr yn Mhorth y Ddinas; canis arfer yr Amoriaid oedd, y bydde yw Priodas-ferched hwy [Page 57] i gofod ei hunein allan yn Mhorth y Dinasoedd dros ysbaid saith nhiwrnod yn nghyd, yw Halogi ei hunain a Godineb; a mineu gwedi Meddwi gan Ddyfroedd Horek, nid adnabum hi oherwydd y Gwin, ac yn gimaint a darfod yw thegwch hi yn nghyd ai gwisgiad hi, yn ei ymdrwsio ei hunan, fy nhwyllo ei, ac ar hyn, gan droi heibio gyda hi, mi a ddywedais, A gafi ddyfod i mewn attat ti. A hithau am atebodd: Pa beth a roddi ditheu i mineu? A mi a roddais iddi fy Ffon am Gwregis, a Choron fy Nheyrnas; a mi yn ymgyfeillachu a hi, hi a Feichiogodd: Ac ar ôl hynny, myfi heb wybod mae fyfi oedd y gweithredwr o hyn, a fynnwn i rhoddi hi i Farwolaeth am hynny, ond hi a gadwodd fy ngwystyl yn y stock, ac am cywilyddiodd i a hwynt; ond pan glowais i fy ngeiriau fy hunain ganthi hi yn ddirgel, y rhai a ddywedaswn i wrthi hi pan orweddais gyda hi yn fy Meddwdod, nis gallwn i rhoddi hi i Farwolaeth, oblygid gwaith yr Arglwydd oedd; ond nis cyffyrddais a hi mwyach hyd ddydd fy Marwolaeth: Canis pan wneuthym i y ffieidd-dra hwn yn Israel, mi a ddywedais, rhag iddi weithredu 'twyll imi, Mi a gyrchaf adref fy ngwystul oddiwrthi hi; ond pan ymofynais i am deni hi, Gwyr y Dref a ddywedasant nad oedd yn [Page 58] y Ddinas ûn Briod-ferch, canis o le arall i daethe hi, ac nid eisteddase hi yno ond dros ennyd fechan, a hi a dybiodd nas gwyddase neb oddiwrth fy mynediad i mewn atti.
Ac ar ôl hynny ni aethom ir Aipht at Joseph, oherwydd y Newyn: Chwech a daiugain oedran oeddwn pan ddaethym yma, a thair ar ddeg a thrugain o flynyddoedd i bum ei byw yn y lle hwn.
Ac yn awr fy Meibion, gwrandewch fi eich Tâd yn mhob peth ac ydd ydwyf yn i [...]rchymyn i chwi, a chedwch fy holl orchmynion, gan wneuthyr pob math ar Gy [...]iawnder o flaen yr Arglwydd, ac ufyddhau [...] Orchmynion y gwir Dduw, ac na rodiwch [...]n ôl eich trachwantau eich hunain, nag yn [...]l dychmygion eich meddyliau, yn malchder [...]ich calonau; ac na orfoleddwch chwaith yn [...]gweithredoedd cryfder eich ieuengtid, o [...]lygid fod hynny yn bechadurus yn ngwydd Duw.
Canis yn gimaint a darfod i mi ymor [...]leddu yn fy Rhyfeloedd, a lliwied im [...]rawd Ruben Bilha Gwraig fy Nhad, o [...]ygid hyd hynny nî ddarfuaseu ei bryd [...]rthwch Gwraig fy nhwillo i, am hynny [...]gwilydd-dra a godineb a syrthiodd arnaf [...] fel im daliwyd gan Bethsue y Canaanites, [Page 59] a hefyd gan Thamar Gwraig fy Meibion fy hunan.
Ac mi a ddywedais wrth fy Nhad ynghyfraith, Mi a wneuthyn fy Nhad yn gydnabyddus ar peth, ac am hynny mi a gymeraf dy Ferch yn Briod i mi.
Ac ar hynny fe a ddanghosodd i mi bentwr anfeidrol o Aur, megis parthred neu gynhysgaeth ei Ferch, canis êf ydoedd Frenin; a chan i thrwsio hi ac Aur a Pherlau, a ewyllysiodd iddi dowallt allan ini Wîn ar ein swpper.
A thegwch y Ferch, ar Gwîn yn nghud, a dwyllodd fy Llygaid i, a ffleser a siomodd fy nealldwrieth, hyd oni syrthiais mewn Cariad a hi, a chan dorri Gorchymyn Duw ein Tadau, mi ai cymerais hi yn Wraig imi, yn ôl bwriad fy nghalon: Ond yr Arglwydd a dalodd imi hyd adref am hynny canis ni chefais i lawenydd oddiwrth y Plant a ddug hi i mi.
Yn awr gan hynny fy Mhlant na Feddwer chwi gan Wîn, canis Gwîn sydd yr troi dealldwrieth Dyn oddiwrth y gwir ionedd, ac yn ennyn yntho Dân trachwan [...] gan arwain ei Lygaid i fewn cyfeiliornad vn gimaint a bod Gwîn yn Wâs Ysbryd Trathyllwch, i helaethu ymborthiad y meddwl ar drachwant, fellu y ddau hyn syd [...] [Page 60] yn difyddio Dyn oi holl allu: Canis os yfiff Gwr Wîn hyd oni Feddwo, i mae êf yn hyfforddi ei feddwl mewn budr amcanion trythyllwch, ac yn ennyn y Corph i gnowdol gyfeillach: Ac os dymunol achlysur a geir, pechod a weithredi yn ddigwilidd: Y cyfriw, fy Meibion, ydiw Gwîn, canis nid oes ar y Meddw gwilidd o ddim.
Wele fe a wnaeth imi a Thamar wneuthyr ar fai, fel nas cywilyddiais wrth amldra y Bobl yn y Ddinas, eithr mi a droesym [...]eibio gyda hi yn i gwydd hwnt ôll, ac a weithredais Bechod mawr, drwy ddatgiddio [...]irgel aflendid fy Meibion fy hunan.
Wrth yfed Gwîn ni bu gwilidd arnaf [...]orri Gorchymyn Duw, drwy gymeryd Merch o Canaan yn Wraig i mi.
Gan hynny fy Meibion, angenrheidiol yw bob ûn a yfo Wîn fod yn Ddoeth, ar Doethineb a ddyleu fod gan bob ûn wrth fed Gwîn yw, bod arno gywilidd o yfed [...]ormod; canis os êf a eiff y tu hwynt ir [...]erfun yma, mae êf yn colli ei Ddealldwrieth, [...] yn glynu wrth Ysbryd Cyfeiliornad, yr [...]wn sydd yn peri ir Meddwyn siarad [...]yntni, a gwneuthyr drygioni yn ddigwilidd, [...] ymffrostio oi ddrygioni, gan dybied mae [...] yw.
[Page 61] Y rhai sydd yn gwneuthyr Godineb sydd yn i difyddio ei hunain or rhydd-did, ac yn dyfod yn gaeth-weision i drythyllwch, ac heb allu dyfod allan o honaw drachefn, megis ac im noethwyd ineu: Canis mi a roddais fy Ffon, hynny ydiw, Atreg fy Llwyth: Am Gwregis, hynny ydiw, Fy Ngallu: Am Coron, hynny ydiw, Gogoniant sy Nheyrnas. Ond pa fodd bynag, gan edifarhau, mi a roesym ymaith bob Gwin a Chig▪hyd fy henaint; ac a fum yn gwbl anghydnabyddus a Llawenydd.
Ac Angel yr Arglwydd a ddanghosodd i mi, i bydde▪ i Wragedd o amser i amser feistrioli pob Gwr, yn gysdlad Brenhinoedd a Chaethion, a difuddio Gwyr mowrion oi Gogoniant: Canis trueni y Tlawd sydd fwy achles iddo na chryfder y Galluog.
Am hynny sy Meibion cedwch fesur wrth yfed, canis mae yntho bedwar Ysbryd gwenwynllyd, sef, O drachwant, o Galon-losgfa, o Drathyllwch, ac o Fudr Elw.
Os yfwch chwi Win yn llawen, ac yn ofn yr Arglwydd, gyda chrychwyledd, chwi a fyddwch byw: Eithr os yfwch yn ddibris ac yn ddigwilidd, heb ofn Duw, yna i troiff êf yn Feddwdod, ac i lladrateiff ffalsedd i fewn.
[Page 62] Eithr os chwi nid yfwch ddim Gwîn, yna ni ffechwch, nag mewn geirieu enll [...]gar, nag mewn ymrysonedd, nag mewn cabledd, na thrwy dorri gorchmynion yr Arglwydd; ac ni ddifethir chwi cyn yr amser: Oblygid Gwîn sydd yn datguddio dirgelion Duw a Dyn i Ddieithred, megis ac ir amlygais i ddirgeledigaethau Duw, am Tâd Jacob i Bethsue y Canaanites, y rhai i gwaharddasai i datguddio iddint. Gwîn sydd achos o ryfel ac ymrasusedd.
Yn mhellach fy Meibion, ydd ydwyfi yn gorchymyn i chwi na charoch Arian, ac nag edrychoch ar degwch Merched; canis Arian a thegwch Merched a barodd i mi fyned yn rhu bell yn mherthynas Bethsue y Ganaanites. Ac i mae yn siccir genif y bydd ir ddau beth hyn lygru fy Hiliogeth, a gwrthuno Gwyr Doethion on Llin i, a neweidio Teyrnas Juda, yr hon a roddes Duw i mi am ufyddhau im Tâd: Canis ni ddarfu i mi yr ioed rwgnach wrth orchymyn fy Nhad Jacob, ond a wneuthym pa beth bynnag a orchmynai.
Ac Abraham Tâd fy Nhadae am Bendithiodd i ymladd dros Israel; ac felly Isaac am Bendithiodd i yn yr ûn modd: Ac ir ydwyf yn gwubod mae trwyo fi y sau y Deyrnas.
[Page 63] Ond mi a Ddarlienais yn Llyfr Enoch y Cyfiawn, y bydd i chwi weithredu Drygioni yn y dyddie diweddaf.
Am hynny fy Mhlant, ymgedwch eich hunain oddiwrth Gybydd-dra a Thrythyllwch, a rhoddwch Glust eich Tâd Juda; canis y pethau hynny sydd yn tynnu Dynion oddiwrth Gyfraith Dduw, ac yn dallu dealldwrieth y Meddyliau, gan ddyscu iddynt falchder; ac ni chynwys i un-dyn chwaith ddangos Trugaredd yw Gymydog: Maent hefyd yn difwyno ei Enaid o bob daioni, ac yn i ddal êf i lawr mewn poenau a gofidiau, ac yn i ddiddymmu oi gwsg ac oi orffwysdra, ac yn difetha i gnawd êf: Ac yn ddiweddaf, maent yn rhwystro Aberthau Duw, ac yn ysgluso i Fendithion êf; yn anufyddhau i eiriau y Prophwydi, ac yn tramgwyddo wrth air o Dduwioldeb; canis y ddau beth niweidiol yma ydynt yn y gwrthwyneb i Orchmynion Duw: Ar hwn ai gwasaneutho hwynt nis gall ufyddhau i Dduw, oblygid i maent yn cymyscu meddyliau Dynion, ac yn rhodio oddiamgylch yn gysdlad y nos ar dydd.
Fy Mhlant, Cybydd-dod sydd yn arwain i Eulin Addoliad; canis wrth ynfydu yn nghylch Arian, i mae yn galw yn Dduwiau y rhai nid ydynt, ac yn anog y blaid glwyfedig [Page 64] allan o fath i brîsio yn dra gwael: Canis o achos Arian i collais i fy Mhlan [...] ac oni buaseu i mi boenydio a [...] Nghorph am Enaid, ac oni buas [...] [...] fy Nhad Jacob, mi a faswn fa [...] [...] blant: Ond Duw fy Nhadau yr [...]raslawn, ac yn llawn tosturi a thrugaredd, a wybu mae trwy anwybodeth i pechaswn i, oherwydd Tywysog Cyfeiliorni am dallodd, a mineu am gollyngais fy hûn yn rhu bell, megis Dyn cnowdol, gan ymlygru a phechod, nid-adnabum fy ngwendid fy hunan, eithr mi a dybiais am danaf fy hnnan nas gellid mom gorchfygu i.
Gwybyddwch gan hynny fy Meibion, fod dau Ysbryd yn disgwil wrth Ddyn, sef Ysbryd Gwirionedd, ac Ysbryd Cyfeiliornad, rhwng y ddau hynn i gosodir Ysbryd Dealldwrieth y Meddwl, priodolieth pa ûn ydiw tueddu lle ir ewyllysion. Y pethau sydd yn perthyn ei Wirionedd ac i Anwiredd ydynt scrifenedig yn Monwes Dyn, a Duw sydd yn gwybed pob tipin ohonaw, ac ni ddichon yr ûn o weithredoedd Dynion fod yn guddiedig o ddiwrtho êf, canis holl ddirgeledigaethau Calonau Meibion Dynion ydynt Scrifenedig o flaen yr Arglwydd. ac Ysbryd y Gwirionedd sydd yn dwyn Tystioleth or holl bethau, ac yn cyhuddo y cwbl, ar hwn [Page 65] sydd yn Pechu sydd a llosgfa yn ei Galon, ac ni ddichon dderchafu ei Wyneb at ei [...]
[...] fy Mhlant cerwch chwi Levi [...] chwi bara, ac nad ymddarche [...] [...] [...]unain uwch i law êf rhag eich [...] ▪ Yr Arglwydd a roddodd imi y Deyrnas, ac ei Levi yr Offeiriadeth, ac a roddodd y Deyrnas dan yr Offeiriadeth. I mi a rhoddodd êf y pethau ydynt ar y Ddaiar, ac eiddo yntau y pethau sydd yn y Nefoedd. Cyfiwch ac yw 'r Nefoedd uwch law yr Ddaiar, felly i mae yr Offeiriadeth uwch law yr Deyrnas sydd ar y Ddaiar. Canis yr Arglwydd ai dewisodd êf om blaen i, i nesau atto êf, i fwyta oi Fwrdd, ac i gymeryd Blaen ffrwythydd Meibion Israel, a thi a fyddi megis Môr iddo êf; canis megis ac yn y Môr i peryglir y Cyfiawn ar Anghyfiawn, y naill fath a ddelir yn Garcharorion, ar fath arall a Gyfaethogir; ac fellu caiff pob math ar Ddynion ei peryglu ynot ti, rhai yn soddi mewn trieni, a rhai eraill yn ymdrochi mewn hawddfyd: Canis ynot ti i rheola y Môrfilod, y rhai a lynca i fynu Ddynion fel Pysgod, ac a ddygant Feibion a Merched ei Wyr rhyddion i Gaethiwed; a hwy a gymerant ymaith Dai, Tiroedd, Anifeilaid, ac Arian [Page 66] Dynion drwy drais; hwy a Aberthant [...] franod, ac Adar gwancus erai [...] ▪ [...] Gnawdiau y Praidd drwy drow [...] ▪ [...] a lwyddant ac a flodeuant mew [...] [...] ▪ ac a ymdderchasant drwy gybydd- [...] ▪ a bydd gau Brophwydi megis tymestl, y rhai a erlidiant ry holl rai Cyfiawn: Ond yr Arglwydd ai gesyd hwy yn nghyd o [...]rbyn y Clusdiau yn i plith ei hunain, a bydd gwasdadol Ryfel yn Israel, am Teyrnas i geuir i fynu gan Ddiei hred, hyd oni ddelo Achubwr Israel, sef Duw y Cyfiawnder, fel i gorffwyso Jacob, ar holl Genhedlo [...]dd, mewn Tyngnhefedd, ac êf a geidw fy Nheyrnas mewn heddwch yn Dragwyddol: Canis yr Arglwydd a Dyngodd, Na bydden im Teyrnas i, nag im Had ddiflanu hyd ddiwedd y Byd.
Ond mae yn ddrwg iawn genif, fy Meibion, oherwydd yr aflendid, ar traetirieth, ar eulyn addolieth a weithredwch chwi yn erbyn y Deyrnas, drwy ddilin Swyngafareddwyr a Chonsurwyr, a thrwy Addune [...]u eich Merched i Gythreilied twyllodrus, drwy i gwneuthur hwy yn Dywinesau, yn Swyn-wragedd, ac yn Buteinied, a thrwy eich cymysgu eich hunain a ffieidd-dra y, Cenhedloedd: Am yr hyn beth yr Arglwydd a ddwg arnoch Newyn, Haint, Marwolaeth, [Page 67] ar Gleddyf, a Digllon Warchadigeth, [...] [...]riol, Gwradwydd Cyfeillion a Ge [...] ▪ a cholled och Llygaid, Lladd [...], Treisio eich Gwragedd, Anrheithio eich Da, Llosgu eich Temlau, Anghyfneddu eich Gwlad, ach Gaethiwo chwitheu eich hunain yn mysg yr holl Genhedloedd, y rhai a Ddysbaddant rai o hon [...]ch i wneuthyr Eunuchiaid iw Gwragedd: Ond os dychwelwch chwi at yr Arglwydd mewn Edifeirwch Calon a Gostyngeiddrwydd, gan rodio yn holl Orchmynion Duw, efe a ymwel a chwi yn drugarog, ac yn garedig ach gwared chwi oddiwrth Gaethiwed eich Gelynion.
Ac yn ôl hyn i cyfodiff Seren allan o Jacob, ac om Hâd i a terddiff allan Wr, yr hwn a rodia megis Haul y Cyfiawnder yn mysg Meibion Dynion, mewn Tyngnhefedd, Gostyngeiddrwydd a Chyfiawnder, ac yntho êf ni cheir Pechod. Y Nefoedd a egoriff i dowalld allan Ysbryd y Fendith arno êf oddiwrth y Tâd; ac Ysbryd Gras a dowelldiff êf arnoch chwitheu, a chwi a fyddwch Blant iddo êf mewn gwirionedd, yn rhodio yn y cyntaf ar diweddaf oi Orchmynion. Dyma flagurun y Gorucha Dduw, a ffynno Bywyd pob Cnawd.
Yna Teyrnwialen fy Nheyrnas a dywyna yn eglur, ac allan och gwreiddin chwi y [Page 68] terddiff allan Lester Plannu, yn mha ûn i tyfiff i fynu Wialen Cyfiawnder ir Cynhedloedd, i Farnu, ac i Wared cynifer ac a alwo arno êf.
Ac yn ôl hynny Abraham, Isaac a Jacob a adgyfodant eilwaith i Fywyd, a mineu ar Twysogion fy Mrodyr, a fydd eich Teyrnwialen yn Israel: Levi yn gyntaf, mineu yn ail; Joseph yn drydydd, Benjamin yn bedwerydd, Simeon yn bumed, Isachar yn chweched; ac fell y lleill i gid. Ar Arglwydd an Bendithiodd ni. Levi a fydd yn Genad fy Mrhesenoldeb, Simeon Gallu sy Ngogoniant; Ruben Nefoedd, Isachar Daiar, Zebulon y Môr, Joseph Mynyddoedd, Benjamin Pebull, Dan Goleuadau, Naphtali Danteithion, Gad Haul y Dydd, Aser Oliwydden: Ac ûn Bobl a fyddant ir Arglwydd.
Belial dwyllodrus mi bydd mwuach, oblygid êf a fwrir ir Tân diddiwedd.
Ar rhai a gleddir mewn Tristwch, a gyfodant mewn Gogoniant.
Ar rhai oeddent yn Dlawd er mwyn yr Arglwydd, a Gyfaethogir.
Y rhai a ddioddefasant Brinder, a Ddiwellir.
Ar rhai a fuant Weinied, a Gadarnheir.
[Page 69] Ar rhai a fuant Feirw er mwyn yr Arglwydd, a Ddeffroa [...]t i fynu i Fywyd, ac a [...]t yn Jacob; ie gan lammu a neidio hwy a redant, ac a hedant megis Eryrod o la [...]ydd.
Ond yr Anuwiol a fydd Trust, ar Pecha [...]riaid y Alarant; ar holl Bobl a Ogoneddant yr Arglwydd yn dragywydd.
Gan hynny fy Mhlant; cedwch holl Gyfraith yr Arglwydd; oblygid mae gobaith ir holl rai a r [...]diant yn inion.
Cant a ffeder ar bymtheg o flynyddoedd ydiw fy oedran i yn marw yn eich gwydd chwi.
Na bydded ir ûn o honoch fy Nghladdu i mewn dillad costfawr, ac na egorwch fy Môl, oherwydd fellu i gwna Rheolwyr; ond ceriwch fi yn ôl i Hebron gyda chwi.
Ar y Geiriau hyn JUDA a fy Farw; ai Blant gan wneuthỿr ar ôl pob peth a orchmynasai, ai Claddasant efe yn Hebron gyda ei Dadau.
TESTAMENT ISACHAR a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwoleth yn nghilch Symlrhwydd-Calon.
COppiad o Eiriau Isachar; êf gan alw ei Blant oi amgylch a ddywedodd wrthynt:
Chwi Blant Isachar, gwrandewch eich Tad, a rhoddwch Glust i anwylyd yr Arglwydd: Myfi ydwyf y pumed Fab ei Jacob, yn ngwobor y Mándragorau. Oblygid Ruben a ddygoedd Fandragorau allan, or Maes, a Rachel yn i gyfarfod êf, al cymerth hwynt oddiwrtho; yna Ruben a lefodd, ac wrth ei waedd êf fy Mam Lea a ddaeth allan, (yn awr y Mandragorau oeddent Afalau pêr aroglus, y rhai ir ydoedd [Page 71] y Tîr Aram yn i ddwyn allan yn y gwledydd uchel, wrth Ddyfroedd y Dyffrynoedd) a Rachel a ddywedoedd, Nis rhoddaf yr Afalau hyn i ti, canis hwynt am cynorthwyant i Blanta: A dau ydoedd or Afalau.
Yna Lea a ddywedodd, Ai nid yw ddigon i ti gymeryd ymaith Wr fy Morwyndod, ond a fyni di y rhain hefyd?
A hithe y attebodd, Gorwedded Jacob gyda thi y nos hon am Fandragorau dy Fab.
A Lea a ddywedodd wrthi hi, Nag ymffrostia, ac na ymfalchia, oblygid eiddo fi ydiw Jacob, ac myfi ydiw Gwraig ei ieuengtid efe.
Yna Rachel attebodd, Pa fodd felly? Oni rwymwyd efe yn gyntaf a myfi? Ac onis Gwasaneuthodd efe ein Tad ni bedair blynedd ar ddeg am danaf fi? Beth a wnaf i ti? Canis aml ydiw dichellion a chyfrwysdra Dynion, yr hwn sydd yn myned rhagddo ar y Ddaiar; pa buaseu y peth ffordd arall, ni chawsit ti weled Wyneb Jacob y dydd hwn; canis nid ei Wraig efe ydwyt ti, ond fe ath roddwyd yn dwyllodrus atto efe yn fy lle i; canis fy Nhad am twyllodd i, gan fy nhroi heibio y noson hono, nis gadawodd i mi i weled efe; oblygid pa buaswn i yno in ddaethe hyn i ben: Gan hynny cymer di ûn or Mandragorau, [Page 72] ac yn lle y llall ydd ydwyf yn i ganiatau efe i ti dros ûn noswaith.
A Jacob a adnabu Lea, yr hon gan Feichiogi, a esgorodd arnfi, ac a alodd fy enw i Isachar, oherwydd y Cyflog.
Yna Angel yr Arglwydd a ymddanghosodd i Jacob, ac a ddywedodd, nas dygau Rachel ond dau o Feibion, oblygid iddi adel cymydeithas ei Gwr, a dewis ymattal; a pha buaseu fy Mam Lea heb roddi y ddau Afal am ei gymydeithas êf, hi a fuaseu yn dwyn wyth o Blant, ond oblygid hynny nis ymddug hi onid chwech, a Rachel ddau, am i Dduw ymweled a hi yn y Mandragorau: canis fe a wydde i bod hi yn chwenych cymdeithasu a Jacob er mwyn cael Hepil, ac nid er mwyn trachwan a ffleser; oblygid hi a gadwodd y Mandragorau, ac ai rhoddes i Jacob y dydd cyntaf, a chan hynny Duw a wrandawodd Rachel yn y Mandragorau, oblygid er iddi i chwantu hwynt, etto ni fwytaoedd monynt, eithr hi ai Offrymodd hwynt ei Offeiriad y Gorucha, yr hwn ydoedd yn y dyddie hynny, ac ai gosododd hwynt i fynu yn Nhu yr Arglwydd.
Yno fy Mhlant, pan ddaethym i gyflwr Gwr, mi a rodiais a Chalon inion, ac a ddaethym yn Olygwr ar Ysmonaeth fy [Page 73] Nhadau, ac a ddygais iddynt ffrwythau ei Tiroedd mewn amser cyfaddas; am Tad am Bendithiodd i pan welodd efe y modd i rhodiais yn inion ac yn syml; nid oeddwn ysmala yn fy ngweithredoedd, nag yn sceler i ddrygu fy Nghymdogion, ni cheblais i undyn, ac ni ogenais i fywyd neb ar a rodie mewn symlrhwydd meddwl.
A ffan oedwn i yn ddeg ar hugain i cymerais i Wraig, oherwydd i lafur dreilio fy Nerth, nid adnabum i ddifyrwch Merch drwy drathyllwch, ond fy llafur a wnae i mi gysgu yn drwm; am Tad ydoedd yn wastadol yn ymlawenhychu yn fy symlrwydd i; oblygid pa boen bynag a gymerwn, yn gyntaf or cwbl mi a Offrymwn y Blaen-ffrwyth or cyntaf enedig or Anifeilied ir Arglwydd drwy yr Offeiriad, ac a roddwn im Tad y gweddill, ar Arglwydd a ddyblodd ei roddion yn fy Nwylo i; ie Jacob i hunan a wybu fod Duw yn cyd-weithio gyda mi am fy inion ymddygiad ei; canis i bob Dyn tlawd, ac i bob Dyn mewn cystydd, i rhoddais ie ffrwyth y Ddaiar a chalon seingel.
Ac yn awr fy Mhlant, gwrandewch arnaf, a rhodiwch a Chalon ac a Meddwl Syml, oblygid mi a wn fod yr Arglwydd yn cwbwl ymfydloni yntho, canis y Gwr ar Galon Syml nid ydiw yn chwenych Aur, [Page 74] nag yn Didroidi ei gymydog, nid yw yn chwantu amryw fwydydd, nag chwaith yn chwenych ymwychu mewn dillad, nag yn ymdderchafu ei hûn yn hîr o amser, ond yn unig sydd gantho Lygad at ewyllys Duw; ni ddichon Ysbryd Cyfeiliornad wneuthyd dim yn i erbun êf, oherwydd nis gwyr êf pa fodd i groesawu merch lân, rhag iddo halogi ei Feddwl ei hun, a digofaint ni feistrola ei Synwyr êf, a chynfigen ni thawdd moi Enaid êf; a chwaith nid yw ei Feddwl êf yn rhedeg yn gybyddus ar Elw, oblygid mae êf yn arwen bywyd inion, ac yn edrych ar bob peth a golwg syml, gan gau allan bob niweidiol a bydol gyfeiliornad, rhag iddo edrych dros ûn o orchmynion Duw.
Gan hynny fy Mhlant, cedwch Gyfraith Duw, a deliwch yn dynn at iniondeb, a rhodiwch rhagoch mewn dinewiedrwydd, ac na byddwch rû ymofyngar yn nirgelion yr Arglwydd, neu weithredoedd eich Cymydogion, Tostiriwch wrth y Tlawd ar Gwan, Cerwch Dduw ach Cymydogion, plygwch i lawr eich Cefnau at Ysmonaith, byddwch ddiwid i Lafurio y Ddaiar, a ffob math ar Ysmonaith, gan Oflrymu ir Arglwydd Anrhegion gyda Diolchgarwch, yr hwn a Fendithiodd y Ddaiar a chynydd, ac a newydd darddiad ffrwythau, megis ac i Bendithiodd [Page 75] êf yr holl Wyr Duwiol, er Abel hyd y dydd hwn; canis nid oes gyfran arall gwedi i roddi ei chwi ond o frasder y Ddaiar, ffrwythau pa un sydd yn dyfod drwy gymeryd poen; canis fy Nhad Jacob am Bendithiodd ei a daioni y Ddaiar, ac a blaen-ffrwyth y Cnydie.
Levi a Juda a Ogoneddiff yr Arglwydd yn musg Plant Jacob; oherwydd Duw ai plannodd ei hûn vnddynt hwy, gan roddi ir naill yr Offeiriadeth, ac ir llall y Deyrnas; gan hynny ufuddhewch iddynt hwy, a rhodiwch yn inion megis ac i darfu ein Tad Jacob; i Gad hefyd i rhoddwyd dinisdrio Profedigaethau Israel.
Fy Mhlant, mi a wn y bydd eich Plant chwi yn y dyddie diweddaf wrthod Iniondeb, a glyni wrth Gybydd-dod:
A gollwng ymaith Ddiniweidrwydd, a dilin Drygioni:
Gadel Gorchmynion Duw, a glynu wrth Belial.
Rhoddi Ymaith Ysmonaeth, a gwibio ar ôl Dichellion Anwir [...]ddus:
Am hynny hwy a Wasgerir yn mlhith y Cenhedloedd, ac a ddeuant i fod yn Gaethweision yw Gelynion.
oherwydd hyn, rhybuddiwch eich Plant oi blygid, fel os pechant i gallont ddychwelyd [Page 76] at yr Arglwydd, oherwydd mae êf yn Drugarog, ac ai gwared hwynt, gan i dwyn hwy drachefn yw Tir ei hunain.
Wele y fi yn awr yn ddwy flwydd a chwech ugain Oed, nis gwn i Bechod marwol arnaf.
Ac ni adnabum i Ferch ond fy Ngwraig fy hûn, ac ni wneuthym Buteindra yn chwant fy Llygad.
Nid yfais i Wîn i Feddwi, ac ni chwenychais i ddim o bethau Dymunol fy Nghymdogion.
Ni bú ddim Twyll yn fy Nghalon, ac ni ddaeth Celwydd allan om Gwefusau.
Bum Gystyddiol gyda yr Cystyddiedig, a rhoddais om Bara ir Tlawd.
Ni Fwyteais fy Mwyd yn unig, ac ni symudais Derfynai na Chyffynyddiau Tîroedd.
Mi a fum yn Dosturiol holl ddyddiau sy mywyd, ac a ddeiliais yn Inion yn mhob achosion.
Mi a gerais yr Arglwydd am holl Nerth, a ffob Dyn megis fy Mhlant fy hunan.
Fy Mhlant, os gwnewch chwithau yn yr ûn modd, holl Ysbrydion Belial a ffont oddiwrthych ymaith; ac ni chaiff dim er y [Page 77] allo Dynion drwg wneuthyr eich erbyn i orfoleddu drosoch: A chwi a ddygwch yr holl Fwystfilod gwylldion i fod yn Ddarystyngedig i chwi, oherwydd fod genych Arglwydd▪ y Nefo [...]dd gyda chwi, os rhodiwch chwi m [...]wn Symlrhwydd Calon.
Yna ir ewy [...]ysiodd iddynt fyned ai Gorph efe i Heb [...]on, ai Gladdu efe yno gyda ei Dadau yn yr Ogo; ac fellu efe a ystynodd ei Draed allan, ac a fu Farw mewn Oedr an teg, a chantho ei holl Aelodau yn Gryfion ac yn Ddilus, efe a hunodd hun r holl Fyd.
TESTAMENT ZABƲLON a wnaeth efe yw Blant wrth Farw ynghylch Tosturi a Thrugaredd.
Y Gorchymyn a roddes Zabulon yw Blant, y ganfed ar bedwaredd ar ddeg o flynyddoedd ei Fywyd êf, deuddeg ar ugain o flynydde yn ôl Marwolaeth Joseph; ef a ddywedodd wrthynt:
Gwrandewch fi, chwi Feibion Zabulon, rhodd dda im Tâd ac im Mam; canis pan Genhedlwyd fi fy Nhad a gynyddodd yn fawr iawn mewn Defaid ac Anifeiliaid, oblygid y lwck dda a gafodd êf drwy y Gwiail brithion.
Ni fynaswn i fy Mhlant, nis gwyddwn i mi Bechi yn y dyddie hynny, canis nid [Page 79] ysdyriais i mi wneuthyd yn Ddrygionus drwy anwybodeth yn achos Joseph; ac yn hytrach ddarfod i mi gelu y peth gyda fy Mrodyr, o ddiwrth fy Nhad; ond pa fodd bynag mi a wulais lawer yn y dirgel oi blygid: Canis ir oeddwn yn ofni fy Mrodyr yn fawr iawn, oblygid ei bod hwy yn cyd fwriadu Lladd ar Cleddyf yr hwn a ddatguddie y gyfrinach yma: Er hynny i gid pan fynent hwi i ladd êf, mi a daer erfynais arnynt drwy ddagrau, na byddae eiddynt wneuthyr y cyfriw Ddrygioni; canis Simeon a Gad a ddaethent at Joseph ar feder i ladd êf, ond Joseph gan gwympo ar ei Liniau, a ddywedodd wrthynt: Cymerwch Drugaredd arnafi, fy Mrodyr, Tosturiwch wrth Ymysgaroedd ein Tad Jacob, ac na osodwch eich Dwylo arnaf i dowalld Gwaed Gwirion; canis ni ffechais eich erbyn, ac os darfu i mi wneuthyr ar fai, Cysdyddiwch fi a Cheryddon, ac na osodwch eich dwylo arnaf i, er mwyn Jacob ein Tad. Ac êf yn dywedyd y pethau hyn, mi a gynhyrfwyd a thosduri, ac a wulais, am Calon a doddodd om mewn, a rhyddhaodd sylwedd fy Ymysgaroedd ar fy Enaid, a Joseph a wylodd, a mineu gyda ac êf, am Calon a gyffrodd, a Chymalau fy Nghorph a grynodd fel nad oedd ynof nerth i sefyll: A ffan welodd êf si yn wylo▪ a [Page 80] hwythau yn dyfod tua ac atto êf yw Ladd, êf a ffoadd or tû ôl i mi, ac a ddeusyfodd arnynt gymeryd trugaredd arno. Yno Ruben gan redeg i mewn, a ddywedodd: Fy Mrodyr, na Laddwn efe, eithr rhoddwn efe yn y Pydew sych a Gloddiodd ein Tadau, ac ni chawsant Ddyfr, oherwydd ni chaniadhaseu yr Arglwydd i Ddyfr gyfodi yntho, er mwyn diogelwch i Joseph; ac fellu ei bu hyd onis gwerthwyd êf ir Ismaliaid. Ac yn y modd hyn ni chydunais ar Pechod hwnnw yn erbyn Joseph: Ond Simeon a Gad, ac eraill om Brodyr, gan gymeryd Arian am Joseph, a brynasant Ysgidiau a hwynt iddynt ei hunain, yw Gwragedd ac yw Plant, gan ddywedyd: Na Fwutawn mohono, canis gwerth Gwaed ein Brawd ni yw, end gadewch i ni i Sathru ai Fathru dan ein Traed, oherwydd iddo efe ddywedyd i byddeu iddo efe Deyrnasu drosom ni, a ni a gawn weled beth a ddaw oi Fryddwidion efe: canis mae yn Scrifenedig yn Nheirnwialen Cyfraith Enoch am yr hwn ni chyfodai Had yw Frawd; mi a ddattodais Esgid Joseph, canis pan ddaethom ni allan or Aipht, Gwr ieuange a ddattodau Esgidiau Joseph yn y Porth, a nineu y anrhydeddem Joseph megis Pharaoh, ac nid yn inig anrhydeddem, ond hefyd a [...]m ar ein Gliniau oi flaen êf ac a wr [...]en, ac [Page 81] fellu ir oeddem ni yn cywilyddio yn ngolwg yr Aiphtiaid, oherwydd yr Aiphtiaid a glowse yr holl ddrwg a gynigiasem ac a wnaethem i Joseph.
Ar ôl i fwrw êf ir Pydew, fy Mrodyr a roddasant Fwyd ar y Bwrdd i Fwyta, ond y fi yn galaru am fy Mrawd Joseph, ni ffrofais ddim bwyd dros ddau ddiwrnod a dwy noswaith ynghyd; ac ni Fwytae Juda gyda hwynt, ond dal ei olugon ar y Pydew, rhag i Simeon a Gad fyned yno ai ladd êf; a ffan welsant nad oeddwn i yn Bwyta dim, hwy am gosodent ei yw gadw êf, hyd oni werthwyd êf.
Tri diwrnod a thair noswaith i bu êf yn y Pydew heb linieth, hyd oni werthwyd êf.
Yno Ruben pan glybu êf i werthu yn absenol iddo êf, a rwygodd ei Ddillad, ac a Wylodd, gan ddywedyd, Pa fodd ir edrychaf yn Wyneb fy Nhad Jacob? Ac yno gan gymeryd 'r Arian, fe a redodd ar ôl y Marchnatwyr, ond nis cafodd afael arnynt, oblygid iddynt hwy adel Pri-ffordd y Brenin▪ a myned hyd y Croes-ffyrdd cyfing, a Ruben ynteu ni Fwytaodd Fwyd yr holl ddiwrnod hwnnw.
Yno Dan yn dyfod atto êf, a ddywedodd▪ Nag Wyla, ac na bydded Trist genit o herwydd [Page 82] y Bachgen, oblygid mi a wnn beth yw ddywedyd wrth eint Tad Jacob: Ni a laddwn Funn Gasr, ac a drochyn Shecced Joseph yn ei Waed efe, ac a ddywedwn wrth ein Tad, Gwel ai hon yw Shecced dy Fab, ai nad te? Canis pan ddarfu iddynt fwriadu gwerthu Joseph, hwy a ddiosgasant Shecced ein Tâd oddiamdano ac a roddasant am dano hên Shecced Caethwas.
Ond Simeon gwedi cael gafel yn y Shecced, ni fynei i rhoddi hi ini, ond fe a fynei i thorri hi yn ddrylliau ai Gleddyf; cains ir ydoedd yn ddigllon am i sod êf etto yn Fyw, na buasei êf gwedi i Ladd.
Yna fy holl Frodyr a gyfodasant i fynu ynghyd, ac a ddwedasant wrtho êf, Pa ham na roddi hi i ni, gan weled mai dydi yn unig oedd Weithredwr y Drygioni hwn yn Israel? Ac yn ôl hynny fe ai rhoddodd iddynt, a hwythau a wnaethant megis ac i cynghorodd Dan.
Ac yn awr fy Mhlant, ydd ydwyf yn eich rhybuddio chwi i gadw Gorchmynion Duw, ac i fod yn Drugarog wrth eich Cymydogion, a che [...]ych Dosturi oddi mewn tu ag at bawb; ac nid yn unig tu ag at Ddynion, ond tu ag at Eniseiliaid hefyd, canis ar y cyfri hwnnw ei Bendithiodd yr Arglwydd fyfi, yn gimaint a ffan oedd fy [Page 83] holl Frodyr yn gleifion, i mi ddiank rhag y Dolur; canis Duw sydd yn gwybod amcan pob Dyn.
Gan hynny fy Mhlant, bydded genych Dosturi yn eich Ymysgaroedd, oblygid megis ac ir ymddygo pob Dyn at i Gymydog, fellu ir ymddwyn Duw tu ag atto yntau.
Canis Plant fy Mrodyr a syrthiasant yn Gleifion, ac a fuant feirw, oherwydd Joseph, oblygid na ddarfuaseu yw Tadau Dosturio wrtho yntau, ond fy Mhlant ei a gadwed yn iach, megis ac i gwyddoch.
A thra i bum i ar y Môr, ar dueddau Canaan, mi a aethum i Byfgota im Tâd Jacob; a ffan fyddae lawer eraill yn boddi yn y Môr, fyfi a gedwid yn ddiogel.
Fyfi hesyd oedd y cyntaf a wnaeth Lester Pysgota i slottian ar y Môr; canis Duw a roddes i mi Ddealldwrieth a Doethineb yn hynny, fel i gosodais i Hwylbren yn y Llester, ac a siccirheais yr Hwiliau yn nghanol y Coed; a chan fyned o hyd gyda yr glanau, mi a Bysgottais ei Deulu sy Nhad, oni ddaethom ir Aipht.
Ac o ran Tosturi mi a gyfranwn om Pysgod ei bob dieithr Ddyn ar a gyfarfyddau a mi, ac os byddeu neb gwedi i eni mewn Gwlad ddieithr▪ neu yn Glaf, neu [Page 84] Oedranus, Myfi a ferwn om Pyfgod, ac a [...] trwsiwn yn dda, ac yn ôl i angenrheidiau pob Dyn mi ai dygwn iddynt, gan i cysuro hwynt a thosturio wrthynt; ac oblygid hynny Duw a wna [...]th i mi ddâl llawer o Bysccd yn y Môr: Canis yr hwn a roddo iw Gymydog, a dderbyn helaethrwydd oddiwrth yr Arglwydd.
Pum mlhynedd i Pyscottais, gan roddi i bob Dyn ar y welwn, a gwasaneuthu Teulu fy Nhad yn ddigonol.
Yn amser Cynhauaf i byddwn yn Pyscotta, ac yn amser Gauaf [...]i byddwn i yn porthi y Defaid gyda fy Mrodyr.
Yn awr mi a fynegaf i chwi yr hyn a wneuthym i, pan welais i Ddyn truenus yn nyfnder Gauaf, a chan fod geni dosturi wrtho, mi a ddygais Ddillad yn ddirgel allan om Ty, ac ai rhoddais ir Dyn noethlyd.
Chwithau gan hynnu fy Mhlant, cymerwch dosturi yn gyffredinol wrth bob Dyn, a danghoswch Drugaredd ar y pethau a roddes Duw i chwi, a chyfrenwch hwynt oddiamgylch a Chalon dda; ac onis bydd genych fodd i gynorthwyo yr anghenus allan o law, etto bydded genych Dosturi a Thrugaredd oddi mewn wrtho êf: Canis mi a wn na bu fy Llaw i ddiog i roddi ir [Page 85] hwn a fae mewn eisiau, ac i dreilio amser gyda ac êf, yn gimaint a darfod i mi rodio y chwaneg na saith ystadiau gyda 'r cyfriw gan wylo, an Calon yn ruddfanus o dosturi wrtho.
Chwithau gan hynny fy Mhlant, bydded genych ddifrifol Drugaredd oddi mewn i chwi wrth bob Dyn a fytho mewn trueni, fel i bytho i Dduw Dosturio wrthych, a chymeryd Trugaredd arnoch yr ûn modd. Oblygid yn y dyddiau diweddaf Duw a ddenfyn ei Drugaredd ar y Ddaiar, a ffa lef bynnag i caffo êf Garedigrwydd a Thrugaredd oddi mewn, yno i preswilia êf; deliwch sulw, canis cimaint ac a ddanghoso Dyn o Drugaredd yw Gymydog, cimaint a hynny a ddengus Duw iddo yntau drachefn.
Ac yno pan ddaethom ni i wared ir Aipht, Joseph ni feddyliodd am ein drwg ymddygiad atto êf, ond pan im gwelodd i Galon a gynhesodd, ar ba ûn edrychwch chwi fy Mhlant; a dyscwch anghofio niwed a wneler i chwi; cerwch y naill y llall, ac na bydded i yr ûn o honoch feddwl am ddrwg ymddygiad y llall, canis hyn sydd yn torri yr ûndeb, ac yn anfydloni cenedl, ac yn cythryblio y meddwl; canis yr hwn sydd yn cofio cam a basiodd, sydd heb ymysgarodd [Page 86] trugaredd. Deliwch sulw ar y Dyfroedd, a gwelwch y modd i golchant ymaith y Tyfod pan fytho y Cerrig ar Trowsdiau yn symyd oddiwrth ei gilidd. Ac os i amriw ffrydiau i troir Nant, i mae y Ddaiar yn ei sugno i fynu, ac fellu yn dyddimu: Ac fellu i bydd i chwithau os ymrenwch yn eich musc eich hunain; gan hynny nag ymrenwch eich hnnain yn ddau Ben, eanis nid oes ond ûn Pen i bob Creadur ar a greodd Duw, fe roddwyd ei Ddyn ddwy Ysgwydd, dwy Law, a dau Droed, ond etto yr holl Aelodau ydynt yn ufyddhau ir un Pen.
Ond ir ydwyfi yn gwybod wrth Scrifenadau fy Nhadau, y bydd i chwi yn y dyddie diweddaf ymadel oddiwrth yr Arglwydd, ac ymranu yn Israel, gan ddilin dau Frenin, a gweithredu pob Drygioni, gan addoli pob math ar Eulynod, ach Gelynion ach cymerant chwi yn Garcharorion, a chwi a eisteddwch yn mlhith y Cynhedloedd▪ mewn pob math ar Drieui, Gorthrymder, a Thri [...]twch meddwl.
Ac ar ôl hynny i cofiwch chwi yr Arglwydd, ac ir Edifarhewch, ac êf ach dychwel chwi drachefn; oblygid mae êf yn Drugarog ac yn llawn Tosturi, ac nid yw êf yn mefyrio ar Ddrygioni Meibion [Page 87] Dynion, oherwydd Cnawd ydynt hwy, ac Ysbrydoedd Cyfeiliornus sydd yn ceisio i twyllo hwynt yn ei holl weithrediadau.
Ac yn ôl hynny Duw ei hûn a gyfyd attoch chwi Oleini Cyfiawnder, ac Iechyd a Thrugaredd sydd yn ei Gosbedigaethau êf; ac efe a weryd yr holl Bobl oddiwrth Gaethiwed Belial, ar holl Ysbrydoedd Cyfeiliornus a fethrir i lawr dan Draed, ac efe a ddychwel y Cenhedloedd i ddilin ar i ôl êf, a chwi a gewch weled Duw mewn agwedd Dyn; canis Duw a ddewisodd Jerusalem, a Duw ydiw ei enw êf: Chwi drwi eich Geiriau Drygionus ai anogwch êf i Ddigofaint, a chwi a fwrir ymaith hyd amswer cwbl Cyflawnder.
Ac yn awr fy Mhlant, na fyddwch Drist oherwydd fy Marwolaeth ei, na Ddigalonwch chwaith am fy mod i yn ymadel a chwi; canis myfi a gyfodaf drachefn yn eich musc, megis Twysog yn nghanol fy Llwyth, yn musc cynifer ac a gadwant Gyfraith yr Arglwydd, a Gorchmynion Zabulon ei Tad: Ond am y Drygionus, Duw a ddwg arnynt Dân Tragwyddol, ac ai Dinisdria hwy yn Dragowydd.
Wele y fi yn dychwelyd im Gorffwussa, fel i gwnaeth fy Nhadau:
[Page 88] Ac yn awr, ofnwch chwithau yr Arglwydd eich Duw, ach holl Nerth holl ddyddiau eich Bywyd.
Ac fel ir ydoedd efe yn Llafaru y Geiriau [...] ▪ efe a hunodd yw unig lashad, ai Feib [...] ai rhoddasant efe mewn Arch, ac ai dygasant efe yn ôl i Hebron, ac ai Claddasant efe yno gyda ei Dadau.
TESTAMENT DAN a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwolaeth ynghylch Digofaint a Chelwydd.
Coppiad o Eiriau Dan, y rhai a lafarodd êf wrthynt yn ei ddyddiau diweddaf, yn y bumed flwyddyn ar ugain a chant oi Fywyd, efe a alwodd ei Lwyth yn nghyd, ac a ddywedodd:
Chwi Blant Dan gwrandewch ar fy Ymadroddion, a rhoddwch Glust ei Eiriau fy Ngenau: Mi a hoffais yn fy Nghalon, ac a ddanghosais yn fy holl Fywyd y pethau sydd dda, oherwydd gwirionedd yn nghyd ac iniawn ymddygiad sydd yn gwir fodloni Duw. Myfi a gaseais bethau niweidiol, megis Celwydd a Digofaint, oblygid ei bod yn dyscu ei Ddyn bob math ar Ddrygioni.
[Page 90] Ydd ydwyfi y dydd hwn yn cyfadde i chwi fy Mhlant, fy mod i yn llawen yn fy nghallon ar Farwolaeth Joseph, y Gwr da iniawn hwnnw; ac ir oeddwn i yn ymlawenhychu pan werthwyd êf, oherwydd fy Nhad ai care yn fwu na nyni, am hynny Ysbryd Cynfigen a Balchder a ddywedodd withyf, Ir wyt di yn Fab iddo yn gusdlad ac yntau; ac ûn o Ysbrydoedd Belial a weithiodd gyda mi, gan ddywedyd, Cymer y Cleddyf hwn a Lladd Joseph, a ffan fytho efe marw dy Dad ath gâr dithau; dyma yr Ysbryd Cynfigenus hwnnw am cynghorodd ei i ddifetha Joseph, fel i difetha Lewpart Fynn: Ond Duw fy Nhad Jacob ni roddodd mo hono yn fy Llaw ei, ac nis gadawodd êf i mi i gael êf yn unig, fel i difethwn i ddwy, Deirn-wialen yn Israel, drwy weithredu y fath Ddrygioni.
Ac yn awr fy Mhlant, ir ydwyf yn dywedydd i chwi mewn gwirionedd, oni bydd i chwi eich cadw eich hunain oddiwrth Ysbryd Celwydd a Digofaint, a chari Gwirionedd, a hîr Ymaros, chwi a ddifethir.
Canis dall yw Digofaint, fy Mhlant, ac ni eill ûn Dyn digllonger edrych yn wyneb Gwirionedd, oherwydd pa baent Tad neu Fam iddo, etto mae yn i cyfri hwynt oll yn Elynion iddo.
[Page 91] Er i fod yn Frawd iddo, etto nid adnebydd mo honaw.
Ped fae êf Proffwyd ir Arglwydd, etto nid ufuddheiff êf iddo.
Er ei fod êf yn Wr Cyfiawn, etto nis gwneiff êf gyfri o honaw.
Ac er ei fod êf yn Gyfaill iddo, etto nid yw êf yn ystyried hynny: Canis Ysbryd Llidiowgrwydd sydd yn i amgylchu êf a maglau Cyfeiliornad, gan dallu ei Lygaid naturiol êf, a thywyllu Llygaid ei Feddwl êf drwy dwyll, a rhoddi iddo êf olygon oi wneuthyriad ei hunan.
Yn mha beth i mae êf yn cibddallu ei Lygaid êf? Mewn casineb Calon; oblygid i mae êf yn rhoddi iddo galon hunanol yn erbyn ei Frawd yw groisi êf, ac yw gynfigenu êf.
Am hynny fy Meibion, Llid sydd beth drygionus, oherwydd mae êf yn dyfod i fod yn Enaid ir Enaid, ac yn darostwng y Corph iddo ei hûn, drwy feisdroli dros yr Enaid, ac yn rhoddi gallu ir Corph ei wneuthyr pob drygioni; a ffan weithredo yr Enaid, i mae yn cyfiawnhau yr hyn a wnelo, o herwydd nid ydiw yn gweled.
Gan hynny yr hwn sydd Lidiog, os bydd êf Gwr Galluog, i mae gantho allu tridyblig yn ei Ddigofaint: ûn drwu gynorthwy [Page 92] a chmorth ei Weision: ûn arall drwy ei Gyfoeth, a ffa ûn i mae yn perswaidio Dynion, ac yn gorchfygu ei anghyfiawnderau: Ar trydydd drwy natur ei Gorph, yr hon o honi ei hunan sydd yn gwneithyr drygioni.
Ac er na bytho y Dyn yr hwn sydd ddigllon, ond Gwr tlawd, etto i allu naturiol êf a ddublir: oherwydd yr unrhiw Ysbryd sydd beunydd yn gyru yn mlaen ei ddrygioni, drwy beri yw weithredodd êf ymgymharu a Chelwydd.
Ac am hynny ystyriwch allu Digofaint, ac mor ofer ydiw: Oblygid mae yn chwerw yn yr ymadrodd, ac yn rhodio ar ddeheulaw Satan, fel i gweithredir ei weithredoedd êf mewn anffyddlondeb a Chelwydd. Canis i mae Satan yn gyntaf yn brathu drwy ymadroddion, a ffan unwaith ei pigo êf ûn yn mlaen, i mae êf yn ei nerthu êf i weithredu, ac yn blino ei ddealldwrieth a chwerw bigiadau a cholledion, ac felly yn annog ei feddwl êf i anfesurol Ddigofaint.
Am hynny pan ddywed eich erbyn undyn, na chynhyrfer chwi i Digofaint; neu pan ganmholer chwi megis Gwyr da, nag Ymddarcheswch, ac nach newidier i Wantawrwydd, nag i Wylldineb Wynebpryd; canis pan glowo Dyn beth an hoffgar gantho, [Page 93] i mae yn gyntaf yn brathu, ac yn cynhyrfu ei Feddwl fellu, hyd oni thybio sod gantho achos cyfiawn i ddigofaint.
Yn awr gan hynny fy Mhlant, os bydd i chwi syrthio i ddim colled, neu rwystyr, na byddwch allan o ymynedd, canis i mae Ysbryd anymyneddgar yn peri ei Ddynion chwantu ar ôl y pethau y aethant heibio, a digio eisiau i cael hwynt: Am hynny dioddefwch eich colledion yn ewyllysgar, ac ac na byddwch aflonydd oi blygid, oherwydd aslonyddwch a bair ddigofaint ac anwiredd; a bod ac Wyneb dau ddyblig sydd ddrwg; i mae digofaint ac anwiredd yn siarad y naill ar llall, i flino y dealldwrieth: Oblygid pan fytho y Meddwl yn cael i rwysdro gau anfodlonrhwydd, i mae yr Arglwydd yn ymadel ag êf, a Belial yn cael Arglwyddiauthu arno êf.
Gan hynny fy Mhlant, c [...]dwch Orchmynion a Chyfr [...]ithiau yr Arglwydd, a gochelwch anwiredd a chasewch êf, fel i preswilio yr Arglwydd ynoch chwi, ac i cilio Belial ymaith oddiwrthych; dyweded pob ûn ohonoch y gwir wrth i Gymydog, fel na syrthioch i fewn rhwysdyr yn ewyllysgar ac fellu i cewch fod mewn Llonyddwch, a chwi a gewch Dduw yr Danguhefedd, a [...] ni lwydda Rhyfel eich erbyn: Cerwch [Page 94] chwithau yr Arglwydd holl ddyddiau eich Bywyd, a cherwch, y naill y llall a Chalon gowir.
Canis siccir yw genyfi y bydd i chwi yn y dyddiau diweddaf ymadel oddiwrth yr Arglwydd, a rhodio mewn drygioni, gan wneuthyr ffieidd-dra, drwy weithrediad Ysbrydoedd Twyllodrus ynoch: Canis mi a Ddarllenais yn Enoch, mae Satan ydiw eich Twysog chwi; ac y bydd i holl Ysbrydoedd Godineb a Balchder ymegnio i osod rhwydau i faglu Meibion Dan, i wneuthur iddynt hwy Bechu o flaen yr Arglwydd.
Ond fy Mhlant, glynwch chwi wrth Levi, ac edrychwch arno êf yn mhob peth.
Plant Juda a gymerant ymaith eiddo Dynion eraill, megis Llewod, drwy Gybydd-dra; ac oblygid hynny ir arweinir chwi gyda hwynt i fewn Caethiwed; ac yno i dderbyn holl blaue yr Aipht, a holl ddrwg feddwl y Cenhedloedd.
Er hynny chwi a ddychwelwch at yr Arglwydd, ac a gewch drugaredd, ac êf ach dwg chwi yw le Sainctaidd, ac a gyhoedda heddwch i chwi.
Ac Iachus Achybieth a derddiff allan i chwi o Lwuthau Juda a Levi, êf a wneiff Ryfel yn erbyn Belial, ac a rydd ein Gwyr [Page 95] Ieuange ni y Fuddigolieth yn yr ymddial; êf a weryd gaethion Eneidiau ei Seinctiau oddiwrth Belial, ac a dru eich angrhediniol Galonau at yr Arglwydd, ac a rydd heddwch tragwyddol ir rhai y alwant arno.
Ar Seinctiau a orffwusant yntho êf, ar Cyfiawn a ymlawenhycha yn Jerusalem Newydd, yr hon a Glodfora Dduw yn dragywydd.
A Jerusalem ni bydd mwyach yn ddifrod, ac ni arweinir Israel i gaethiwed, oblygid yr Arglwydd a fydd yn wastadol yn musg Dynion yn ei ganol êf; a Sainct Israel a Deyrnasa drosoch chwi mewn Isder a Thylodi, ar hwn a gredo yntho êf yn ddiau a Deyrnasa yn y Nefoedd.
Ac yn awr fy Mhlant; ofnwch yr Arglwydd, a gochelwch Satan ai Ysbrydion; a nesewch at Dduw, ac at yr Angel yr hwn sydd yn esgusodi Israel, canis êf ydiw y cyfryngwr rhwng Duw a Dun, i osod tyngnhefedd yn Israel; êf a saif i fynu yn erbyn Teyrnas y Gelyn, am hynny y bydd ir Gelyn lasurio i ddadymchwel pawb oll ar y alwant ar enw yr Arglwydd; canis efe sydd yn gwybod mae pa bryd bynnag i diflano Israel▪ yno i bydd diwedd ar Deyrnas ei [Page 96] Elynion ef: Ond yr unrhiw Angel a Nerthiff Israel, fel na ddel êf i ddiwedd drwg.
Ar pryd hynny y bydd i Israel yinadel oddiwrth Anghyfiawnder, ar Arglwydd a ymwel ar cyfriw a wnelont ei ewyllus êf yn holl leoedd Israel, ie ac yn musg y Cenhedloedd, ai enw êf a fydd Yr Achubwr.
Gan hynny fy Mhlant, ymgedwch o ddiwrth Ymddygiadau Terfysglyd, a rhoddwch o ddiwrthych Lîd a ffob Anwiredd yn mhell: Cerwch Wirionedd a Mwuneidddra, ac edrychwch beth a glowsoch gan eich Tadau, a rhoddwch chwithau hynny i fynu eich Plant, fel i bytho ei Dad Cenhedlaethau eich derbyn chwi: Canis ir ydoedd êf yn gowir, yn hîr ymarhous, yn addfwyn, ac yn isel, ac yn ddysgawdwr Cyfraith Dduw drwy ei weithredoedd ei hun.
Gan hynny ymadewch a ffob Anghyfiawnder, fel y bytho i chwi lynu wrth Gyfiawnder Cyfraith yr Arglwydd, a Chleddwch fi gyda fy Nhadau.
Ac yn Llafaru y pethau hyn, efe ai Cysurodd hwynt, ac a hunodd hun yr holl Fyd; ai Feibion ai Claddasant efe, ac a [Page 97] osodasant ei Esgyrn efe wrth Esgyrn Abraham, Isaac a Jacob.
Ac megis ac i Prophwydodd Dan iddynt hwy, i byddeu iddynt ryw amser Ysgluso Cyfraith Dduw, ac ymddieitho oddiwrth ei Hiliogaeth, a Gwlad Genedigeth Israel, ac fellu i digwyddodd.
COppiad o Destament Naphtali yn mherthynas y pethau i soniodd êf am danynt yn niwedd ei amfer, yn y ganfed ar ddauddegfed ar ugain o flynyddoedd ei einioes êf: Yn nyfodiad ei Blant êf ir ûn man, ar y pedwerydd dydd or seithfed mis, ac êf etto yn ei iechyd, a orchmynodd wneuthyr Gwledd gostfawr, a ffaratoi ymheuthy [...] fwyd. Y bore pan ddeffredd êf oi gwsg, oherwydd i fod êf wrth ddrws Marwolaeth, efe a folodd yr Arglwydd yr hwn ai nerthaseu êf ac a ddechreuodd lefaru wrth ei Blant fel hûn:
Fy Mhlant, rhoddwch Glust ei Naphtali, gwrandewch Eiriau eich Tad: Fe am ganwyd o Bilha, ac oherwydd i Rachel ddeilio yn gyfrwys yn rhoddi Bilha ei Jac [...]b yn i lle ei hûn, a Bilha a esgorodd arnafi ar Arffed Rachel; am hynny im galwyd [Page 99] Nephtali: a Rachel am carodd i, am fy ngeni ar ei Harffed; hi am cusane i pan oeddwn yn fychan, ac a ddywede, Duw a wnel i mi weled brawd i ti allan om Croth i megis dydi: oherwydd pa ham Joseph oedd debig i mi yn mhob peth, yn ôl erfyniad Rachel.
Bilha fy Mam oedd Ferch Rotheus, Brawd Debora, Mam-faeth Rebecka, a hi a anesid ar yr ûn diwrnod a Rachel: Rotheus oedd Galdean, o Genedl Abraham, yn addoli Duw, yn Wr rhydd ardderchog.
Ond pa fodd bynag, yn gimaint ai fod êf gwedi i gymeryd yn Garcharor, Laban ai prynodd, ac ai Priododd a Morwyn gaeth iddo, ai henw hi oedd Efe, yr hon a ymddug iddo Fab, yr hwn y alwodd êf Zeliphas, yn ôl henw y Castell yn mha ûn i daliesid êf: Yn ôl hynny hi a ymddug Bilha, hon pan i ganwyd a elwid gan ei Mam, Y Forwyn newydd brysur, oherwydd i bod yn brysur at y Fron pan i ganwyd.
Ac oherwydd fy mod ie mor fuan ar Draed a Charw, fy Nhad Jacob am pwintiodd i redeg i bob achosion a negesau, ac am Bendithie i dan enw y Carw.
Oherwydd megis ac i gwyr y Crochenydd pa faint a gynwys i Lester êf, ac a dymera y maintioli or Clai yn ôl hynny; [Page 100] fellu i mae 'r Arglwydd yn gwneuthyr Corph Dyn yn gyfattebol ir Ysbryd a drefno êf yntho, ac yn cymhesuro yr Ysbryd at allu y Corph, fellu fel nad oes ragor anghymhesurdeb rhyngthynt; oherwydd holl Greaduried yr Arglwydd a wnawd wrth bwuse, wrth fesur a threfn.
Ac megis ac i mae y Crochenydd yn gwybod gwasaneth pob ûn o honynt, i ba beth i maent gymesura; fellu i mae yr Arglwydd yn adnabod y Corph, pa cyn belled i mae êf yn gymwys i ddaioni, a ffa bryd i mae êf yn dechreu mewn drygioni.
Canis nid oes ûn Creadur rhesymol nag anrhesymol, nad ydiw yr Arglwydd yn i adnabod; canis êf a greodd yr holl Ddynion ar ei Ddelw ei hûn:
Ac fel i butho Nerth Gwr, fellu y bydd ei Waith êf:
Ac megis ac y bytho ei Ewyllus êf, fellu y bydd ei Weithred êf:
Ac fel y bytho ei Ddyfais, fellu y bydd ei Weithrediad;
Fel y bytho ei Galon êf, fellu y bydd ei Enau:
Fel y bytho ei Lygaid êf, fellu y bydd ei Gwsg:
Ac fel y bytho ei Feddwl, fellu y bydd ei Siarad:
[Page 101] Naill ai am Gyfraith yr Arglwydd, ai am Gyfraith Belial.
Gwelwch pa ragorieth sydd rhwng Goleini a Thywyllwch, neu rhwng Gweled a a Chlowed; y cyfriw sydd mewn Gwr a Gwraig.
Ac ni ddylid dywedyd fod dim chwerwder mewn un peth, nag yn yr Wyneb, nag mewn dim or fath bethau; oblygid Duw a wnaeth bob peth yn dda yn i rheol neu ei gradde ei hunain; efe a osododd bump o synhwyrae yn y Pen, ac a gysylldodd y Pen wrth y Gwddf, ac ai gorchgyddiodd êf a Gwalld, yn Ogoniant iddo.
Ac yn mhellach, efe a ddarparodd y Galon i ddoethineb, ar Bol i waghau yr ystwmog, y Ddwyfron i iechyd, yr Afu i ddigofaint, y Bustl i chwerwder, y Dduag i chwerthiniad, yr Arenau i Gyfrwysder, y Lwynau i nerth, yr Assenau i degwch, ar Had i lystiwrwydd.
Ac fellu fy Mhlant, gwnewch bob peth mewn trefn, ac yn ofn Duw: ac na wnewch ddim yn ddi-reol mewn gwawd, na chwaith allan oi amser cyfaddas: Canis nid elli orchymyn Llygaid i weled, ac ni elli chwaith wneuthyr gwaith y Goleini yn y Tywyllwch.
[Page 102] Am hynny na ffrysurwch i ddifwyno eich Gweithredoedd drwy Gybydd-dod, nag i dwyllo eich Eneidiau a Siarad ffolineb: Canis drwy gadw distawrwydd gyda chalon lân, i byddwch abl i wneuthur ewyllus Duw, ac i fwrw ymaith ewyllus y Diafol; yr Haul, y Lleuad, y Ser nid ydynt yn torri moi rheol, fellu na thorwch chwithau Gyfraith Duw yn rheol eich Gweithredoedd.
Y Cenhedloedd drwy fyned ar gyfeiliorn, a gadel yr Arglwydd, a newidiasant ei trefn, ac a ganllynasant Foncyffion, Meini, ac Ysbrydion Cyfeiliornus:
Ond na wnewch chwi fellu fy Mhlant, gwybyddwch mae eich ûn unig Dduw sydd Arglwydd yn yr Wubrenau, ac ar y Ddaiar, yn y Môr, ac ar yr holl Greaduriaid, canis efe ydiw ei gwneuthurwr hwynt.
Ac na byddwch debig i Sodom yr hon a neweidiodd reol i naturieth; a hwynt hwy y rhai a felldithiodd Duw yn y Diliw, gan wneuthyr y Ddaiar yn anghyfanedd ac yn ddiffrwyth er i mwyn hwynt.
Fy Mhlant, ir ydwyf i yn dywedyd y pethau hyn, oherwydd i mi ddarllen yn Sainctaidd Scrifenadau Enoch, y bydd i chwithau hefyd ymadel o ddiwrth yr Arglwydd, a rhodio yn annuwioldeb Sodom▪ [Page 103] ar Arglwydd a ddwg gaethiwed arnoch chwi, fel i gwasaneuthoch chwi eich Gelynion, ac eich gorthrymer a ffob math ar gystydd a phoen, hyd onis diflaner chwi yn gwbl oll:
A ffan wneler chwi yn ychydig, ac yn anamal, chwi a ddychwelwch at yr Arglwydd, a chwi adnabyddwch eich Duw, ac yntau ach dwg chwi drachefn eich Tîr eich hunain, yn ôl ei amriw drugareddau.
A bydd pan ddelont i wlad ei Tadau, ir anghofiant yr Arglwydd drachefn, ac ymddwyn yn annuwiol, fel i bytho ir Arglwydd i gwasgaru hwynt hyd wuneb yr holl Ddaiar, hyd oni ddelo Gwr, yn nhrugaredd yr Arglwydd, yr hwn a dowalld allan drugaredd a chyfiawnder ar yr holl Bobl, yn gysdlad yn mhell ac yn agos.
Canis yn y daugenfed flwyddyd om bywyd, ar Fynydd yr Olewydd, or tû dehau i Jerusalem, mi a welais yr Haul ar Lleuad yn sefyll i fynu yn llonydd, ac wele Isaac, Tad fy Nhad, a ddywedodd wrthym, Dowch yma yn brysur, a chymered pob ûn ei afel yn ôl ei allu▪ oblygid fe a ellir dal yr Haul ar Lleuad: Ac ni a ddaethom yn nghyd i gid, a Levi dan redeg a ddaliodd yr Haul, a Juda gan neidio i fynu a gymerth afel yn y [Page 104] Lleuad, a hwnt hwy ill dau a dderchafwyd i fynu wrthynt; a flan ddaeth Levi fel yr Haul, rhyw Wr ieuangc a roddodd iddo ddeuddeg cangen o Balmwydd, a Juda a ddisgleiriodd fel y Lleuad, a dauddeg trawst ydoedd dan ei draed êf; a Levi a Juda gan redeg yn nghyd, a welsant y naill y llall. Ac wele Tarw ydoedd ar y Ddaiar a chantho Gyrn mawr, ac adenydd Eryr ydoedd ar ei Gefn êf, a ni a geisiem i ddal êf, eithr nis gallem; ond Joseph gan lammu ôn blaen ni ai dalie êf, ac a ymdderchafae i fynu arno êf. Ac wele Scrifen Sainctaiddd a ymddanghosodd ini, yn dywedyd, Yr Assiriaid, Mediaid, yr Elemitied, Geilathitied, Caldeaid, ar Siriaid, a ddaliant Deirn-wialen Israel mewn caethiwed.
Ac ar ôl hynny, yn mhen y saith mis, y gwelais i ein Tad Jacob yn sefyll ar Fôr Jamma, ai Feibion gida ac êf; ac wele Long yn dyfod heibio, yn llawn o Gig sych, heb na Moriwr na Llywydd, ar y Llong ir ydoedd yn Scrifenedig, JACOB, an Tad a ddywedodd wrthym, Gadewch i ni fyned in Llong; a ffan oeddem ni ynddi temestl greulon a gododd gyn wynt chwerw nerthol, an Tad yr hwn ydoedd yn dal y Llyw a ddiangodd o ddiwrthym, a nineu yn cael ein coithi gan y towydd, a fwriwyd ir Môr, [Page 105] an Llong ni a lenwyd a dyfr, ar towydd a gurodd ac a dorrodd arnom ni o bob-tu; a Joseph a ddiangodd allan yn y Cwch, a ni oll a wasgarwyd ar ddauddeg Ysdyllen; a Levi a Juda ydoedd yn ein plith; ac fellu ein gwasgarwud ni i bob porth, a Levi a wisgwyd a Sach-lien, a Weddiodd drosom oll at yr Arglwydd; a chan gynted ac i gostegodd y demestl, y Llong a ddaeth yn brysyr i Dîr, ac wele ein Tad Jacob a ddaeth, a ni a lawenychasom oll yn nghyd o ûn meddwl.
Myfi a adroddes im Tad y ddau Frwyddwyd hyn, ac êf a ddywedodd wrthif, Ypethau hyn sydd raid i cyflowni yn ei hamser, ac Israel sydd raid iddynt oddef llawer o bethau. Yno êf a ddywedodd yn mhellach, Ydd ydwyfi yn credi fod Joseph etto yn fyw, canis ir ydwyf yn gweled fod yr Arglwydd yn wastadol yn i gyfri efe gyda ni: Ac efe a ddywedodd, Ir ydwyt ti yn fyw fy Mab Joseph, ond etto nid ydwyf fi yn dy weled ti, ac nid wyt tithau yn gweled Jacob yr hwn ath cenhedlodd. Ac yn wir fe a wnaeth i mi wylo ar y geiriau hynny, am Ymsgaroedd a nynnodd om mewn, i ddatguddio iddo êf ddarfod gwerthu Joseph, ond ir oeddwn i yn ofni fy Mrodyr.
[Page 106] Wele fy Meibion, mi a ddanghosais i chwi yr amseroedd diweddaf, ar holl bethau a wnelir yn Israel.
Chwithau gan hynny gorchmynwch eich Plant fod yn gymwynasgar ei Levi ac ei Juda: Canis oddiwrth Juda i terddiff i fynu Iachadwrieth daionus ei Israel, ac yntho êf i Bendithir Jacob; canis drwy ei Deirn-wislen ir ymddengus Duw, ac i preswilia yn musc Dynion ar y Ddaiar, iwaredu Praidd Israel, ac i gasglu y Cyfiawn oddiwrth y Cenhedloedd.
Fy Mhlant, os gwnewch yn dda, Dynion ac Angylion ach Clodforant, ac ach Bendithiant, a Duw a ogoneddir och plygid chwi yn musg y Cenhedloedd; y Diafol a ffu ymaith oddiwrthych, ar Bwystfilod a fyddant ach derbyniant; canis megis ped fae Gwr yn dwyn i fynu ei Blentyn yn dda, i mae yr Plentyn yn ymdrechu bob amser i fod yn ddiolchgar, ac i feddwl am hynny; fellu am waith da, mae coffadwrieth da gyda Duw.
Ond am yr hwn nid ydiw yn gwneuthyr yn dda, Dynion ac Angylion ai melldithia, a Duw a ddianrhydeddir drwuddo êf yn mysg y Cenhedloedd, ar Diasol ai meddianna êf megis Llester Priodol, ac Offeryn iddo ei hun; ar holl Fwustfilod a feistrolant [Page 170] arno êf, ar Arglwydd ai caseif êf. Canis Gorchmynion y Ddeddf ydynt o ddau fath, ac a gyflownir mewn gweithred; canis i mae amser i Wr i ymgymdeithasu ai Wraig, ac amser i beidio a hi, fel i byddo iddo i roddi ei hûn i Weddio: i mae dau Orchymyn a genhedla Bechod, onis gwneir hwynt yn i pryd ai trefn, ac fellu i mae yn y Gorchmynion eraill.
Gan hynny byddwch chwi ddoethion a deallus yn yr Arglwydd, gan adnabod rheol ei Orchmynion ai Gyfreithiau êf yn mhob peth, fel i bytho i Duw eich caru chwi.
Ac wedi iddo Orchymyn iddynt lawer o bethau or fath, efe a ddeusyfodd arnynt fyned ai Esgyrn efe i Hebron, ai Gladdu efe wrth ei Dadau; ac fellu yn Bwyta ac yn Yfed a Chal [...]n lawen, efe a or chguddiodd ei Wuneb, ac afu Farw; a fflant Naphtali a wnaethant bob peth megis ac i Gorchmynodd iddynt.
TESTAMENT GAD a wnaeth efe yw Blant wrth Farw yn nghilch Cynfigen.
COppiad o Dystiolaeth Gad ac or pethau a Lefarodd wrth ei Blant, yn y ganfed ar seithfed flwyddyn oi Fywyd, gan ddywedyd:
Myfi oeddwn y seithfed Mab i Jacob, ac oeddwn gyfarwydd a chruf i Figeilio Defaid; ydd oeddwn i yn cadw y Praidd y nos, ac os deuae ún Llew, neu Lewpart, Blaidd, neu Arth, neu ryw Fwystfilod gwlldion ar ein Praidd, mi a redwn atto, ac ai Lladdwn.
Joseph hefyd a fu gyda ni yn porthi y Desaid yn nghulch deg diwrnod ar hugain, a [Page 109] hwn ydoedd dyner, oherwydd gormod gwres, a syrthiodd yn glaf, ac aeth adref at ein Tad i Hebron, yr hwn a leteuodd êf ar i ben i hûn, am i fod yn i garu êf.
A Joseph a ddywedodd wrth ein Tad ni, fod Meibion Bilha yn afradloni ei Dda êf yn Zilpha, ac yn gwneuthyr difrod o honynt heb wybod i Juda ac i Ruben; canis gwybod ir oedd êf ddarfod i mi achub Oen allan o Safn yr Arth, ac a leddais yr Arth, ac oherwydd nas gallae syw (ar peth am blinodd i) ni ai Lladdasom, ac ai bwytasom; ac êf a ddywedodd hynny in Tad, an Brodyr y anfodlonodd yn ddirfawr wrth ei waith êf, ie hyd y dydd i gwerthwyd êf ir Aipht; ac Ysbryd Cynfigen ydoedd yno fi yn gimaint, ac nad allwn i gael yn fy Nghalon wrandawiad i Joseph i siarad, nag edrych arno, oherwydd iddo achwyn arnom yn gyhoeddus am fwyta yr Oen heb Juda: i fod yn fyrr, êf a wnae ein Tad goilio pob peth ar y ddywede êf.
Ond yn awr fy Mhlant, ydd wyfi yn eydnabod fy Mhechod, fy mod yn fynych yn chwenych i Ladd êf, oherwydd casineb oedd geni em Calon iddo êf, ac ir oeddwn i yn hollawl heb drugaredd tua ac atto êf; ar achos om mawr Gynfigen i iddo oedd, oherwydd i Freyddwydion êf▪ am hynny [Page 110] mi a fynnwn i ddifetha êf fel i pawr yr Ych Welldglas y Ddaiar; ac am hynny Juda a mineu ai gwerthasom êf ir Ismaeliaid am ddeg ar hugain gilderne, yr hyn yw chweffunt, o ba rai nyni a gadwasom yn ddirgel ddeg, ac a ddangosasom ein Brodyr yr ugain eraill; ac fellu Cybydd-dod a wnaeth i ni ewyllysio ei Farwolaeth êf: Ond Duw ein Tadau ni ai gwaredodd êf om dwylo ei, ir pwrpas na chawn wneuthyd y fath ddrygioni yn Israel.
Ac yr awr hon fy Mhlant, rhow [...] Glusd ei Eiriau Gwirionedd, fel i bo i [...]wi fyw yn Gyfiawn, a chadw Cyfraith y Gorucha, ac nad eloch ar gyfeiliorn drwy Gynfigen; oherwydd hynny sydd ddrwg yn ngwaith [...]ob Dyn. Pa beth bynnag a wnelo arall, [...]ynny i mae y Cynfigenus yn i gasau ac yn [...] ffieiddio. Ac os bydd i ûn gadw Cyfraith [...] Arglwydd, etto nid yw êf yn i ganmol: [...]c er i ûn ofni yr Arglwydd, ac ymddwyn [...] gyfiawn, er hynny nid yw êf yn ei garu, [...]thr yn cablu y gwirionedd, ac yn cynfi [...]nnu yr hwn fydd yn trefnu ei ffyrdd yn [...]ion, i mae êf yn mawrygu cabledd, ac yn [...]u gwatwargerdd: Ac oherwydd i gasineb [...]allu ei feddwl, i mae êf yn gwneuthyr ai [...]mydog megis ac i gwnaethom nineu a [...]eph▪
[Page 111] Gan hynny fy Mhlant, ymgedwch oddiwrth Gasineb, oherwydd i fod yn gweithredu drygioni, ie yn erbyn yr Arglwydd; canis ni wrendu eirau Gorchymyn Duw, yn nghylch caru o Ddyn i Gymydog, eithr fe a becha yn gynfigenus yn erbyn yr Arglwydd. Ac os trosedda Brawd, i mae êf allan o law yn i gyhoiddi ar lêd, ac yn brysur yn ei euog farnu i farwolaeth, neu i gael cerydd am ei gamwedd; ac oc bydd y troseddwr yn Wâs, neu yn Wr caeth, i mae yn i gyhuddo êf wrth ei Feister, ac yn dychymig pob modd ar y allo yw erlid êf, ac yw roddi êf yw farwolaeth os bydd possibl; canis mae casineb yn gweithio gyda chynfigen, ac mae yn ddrwg gantho glowed neu weled fod Dynion yn myned yn ei blaen yn llwyddianus, yn gwneuthyr daioni. Cani [...] megis ac i mae cariad yn dwyn ewyllus d [...] ie at y marw, gan ddymuned ie bod y [...] fyw, ac yn ewyllysio, ped fae possibl, i hatt [...] rhag marwolaeth, y rhai a fwriwyd i far [...] eithr cynfigen sydd yn chwenych Llaw byw, ac yn i barnu yn anheilwng o fyw [...] am y troseddiad lleiaf: Canis Ysbr [...] casineb, drwy rydlud, gyndynrhwydd cal [...] yn gweithio yn gyttun gyda Satan yn mh [...] peth, ie hyd farwolaeth a dinistr dynion.
[Page 112] Ond i mae Ysbryd cariad, drwy hir ymaros, yn gweithio gyda Chyfraith Dduw er lleshad ei Ddynion.
Casineb sydd ddrwg, oherwydd i bod yn aros gyda Chelwydd, gan ddadle yn wastadol yn erbyn Gwirionedd, a gwneuthyr defnydd mawr o faterion bychain, gan orchguddio goleini a thywyllwch, a chyfri y melus yn chwerw, a dyscu enllibio rhyfela, a gorthrymu, a llaweroedd o bob drygioni, ac or diwedd yn llenwi y galon o bob gwenwyn dieflig.
Fy Mhlant, ydd ydwyf yn dywedyd y pethau hyn drwy brofiad, fel i bytho i chwi ochelyd Casineb, a glynu wrth Gariad Duwiol, Iniondeb a ymlid ymaith Gasineb, a Gostyngeiddrwydd ai Lladd; canis i mae yn gwilwddus gan Wr Cyfiawn Gostyngedig wneuthyd cam, nid rhag ofn cerydd, ond er mwyn Cydwybod, oherwydd bod yr Arglwydd yn gweled ei ddiben êf; nid yw êf yn cablu neb, oblygid ofn y Gorucha sydd yn gorchfygu casineb; canis nid yw ofn yr Arglwydd yn troseddu, neu yn gwneuthyr cam ac yn-dyn, gimaint ac mewn meddwl.
Ac yn y diwedd mi a ddaethym i wybodeth or pethae hyn, pan ir edifarheais oherwydd fy ymddygiadae tua ac at Joseph▪ [Page 113] oherwydd bod gwîr edifeirwch yr hwn sydd yn ôl ewyllus Duw, yn marweiddio Dyn i ufudd-dod, ac yn ymlid ymaith y tywyllwch▪ ac yn goleuo y llygaid, yn rhoddi gwubodeth ir meddwl, ac yn arwain yr enaid i iachadwrieth: Canis pa beth bynnag i mae Dynion heb i wybod o honynt ei hunain, hynny i mae edifeirwch yn i ddyscu eiddynt. Canis fe am dygodd i benyd calon; ac oni buasae Weddiau fy Nhad Jacob, myfi yn siccir y faswn marw allan o law; canis deliwch sulw, yn y peth i pecho Dyn, yn yr unrhiw beth i ceryddur êf; canis yn gimaint am bod i yn ddi-drugaredd tua ac at Joseph, fe orfu i mi odde yn fy nghalon grulon farn Duw dros ysbaid un mis ar ddeg, fel i byddae amser fy nghysdydd fod yn cyrhaeddyd allan yn inion ir amser y bum ei yn cymell gwerthu Joseph.
Yn awr gan hynny fy Mhlant, eared pob ûn o honoch eich Brodyr, a bwriwch ymaith gasineb allan och calonau, gân garu y naill y llall mewn gair a gweithred, ac amcan y meddwl: Canis o flaen fy Nhad mi a ddywedwn yn dyner am Joseph, ond or tû ôl iddo, Ysbryd Cynfien a dywvlle fy nealldwrieth, ac a demptie fy meddwl iw ladd efe.
[Page 114] Am hynny cerwch eich gilidd och calonau; ac os trosedda ûn o honoch yn erbyn y llail, hysbyswch iddo yn fwunaidd oi blygid, g n fwrw allan wenwyn casineb, ac heb feithrin dim twyll yn y galon; ac os bydd ir troseddwr i gyfadde, a bod yn ddrwg gantho oi blygid, yna maddeuwch iddo; ac os êf ai gwediff, nag ymrysonwch ac êf, rhag iddo syrthio i dyngu, ac fellu pechu yn ddauddyblig.
Na adewch ei un dieithr ych clowed chwi yn datgan dirgelion i gilidd mewn ymrafusedd, rhag iddo droi i fod yn ddrwg ewyllysiwr i chwi, a gweithio rhyw fawr ddrwg yn eich erbyn; canis êf a ymddiddan yn dwyllodrus, ac a gloddia oddi-danodd i wneuthyr rhyw dro eger, gan gymeryd i wenwyn oth law di dy hunan.
Gan hynny os êf ai gwediff, a chywilyddio oi blygid, gan dewi a son pan gerydder êf, na fwrw êf allan, oherwydd drwu wadu mae êf yn edifarhau, ac fellu ni throsedda êf mwy yn dy erl yn, ond êf ath anrhydedda di, ac ath ofna, ac a fydd mewn llonyddwch: Ond os êf a fydd yn ddigwilidd, ac a barheiff yn ei ddrygioni, yr a bwrw yr ymddial ei Dduw ath holl galor.
Ac os ûn arall a fydd mwu llwydduan [...]s na thi, na fliner dydi oblygid hynny, ord [Page 115] gweddia drosto ar iddo gael perffaith lwyddiant; oherwydd fe y alle i bydd hynny er daioni i chwi; ac os derchefir êf fwu fwu, na chynfigenwch êf, ond cofiwch fod yn rhaid i bob cnawd farw; moliana yr Arglwydd am hynny, yr hwn sydd yn rhoddi pethau daionus a llesol ei bob Dyn. Ceisiwch farnedigaethau yr Arglwydd, ac fellu dy feddwl ai gâd êf yn llonydd, ac a fydd mewn llonyddwch.
Yn awr, os Gwr a Gyfaethogur drwy foddion drygionus (megis Esau Brawd ein Tad) na chynfigenwch êf ddim; canis wrth wneuthyr fellu mae Dyn yn cyfarchwylio yr Arglwydd, naill ai i gymeryd ymaith ei ddaioni oddiwrth yr annuwiol, neu êf ai gad êf yn llonydd i edifeirwch, neu êf ai ceidw êf yn ddiedifeiriol iw ddiddiwedd boenedigaeth: Canis y Gwr tlawd a chantho Ddigonolrhwydd o bob peth, sydd yn rhoddi diolchgarwch ir Arglwydd, a gyfoethogir gan bawb, ac nid iw neb yn ewyllysio niwed iddo.
Gan hynny fy Meibion, ymaith a chasineb och calonau, a cherwch y naill y llall a meddylfryd inion: Ac ewyllysiwch eich Plant anrhydeddu Levi a Juda, canis allan o honynt hwy i cyfyd Duw Achubwr ei Israel: Canis mi a wn y bydd eich Plant chwi yn [Page 116] y diwedd ymadel o ddiwrthynt hwy, a rhodio yn mhob math ar anwiredd a drygioni, a llygredigeth o slaen yr Arglwydd.
Ac yn ôl ychydig Orsswysdra, ese a ddywedodd drachefn: Fy meibion, gwrandewch fi eich Tad, Cleddwch fi gyda fy Nhadau.
Ac fellu gan dynu ei Draed, efe a hunodd mewn tang-nhesedd; ac yn ôl pump o flynyddoedd fyned heibio, hwy ai cariasant efe yno, ac ai dodasant efe gyda ei Dadau yn Hebron.
TESTAMENT ASER a wnaeth efe yw Blant wrth ei Farwolaeth yn mherthynas dau Wuneb, ûn o Ddrygioni, ar llall o Rinwedd.
COppiad o Dystiolaeth Aser, sef or pethau a lefarodd êf wrth ei Blant yn y ganfed ar ddegfed flwyddyn oi Fywyd, ac êf etto mewn iechyd, êf a ddywedodd wrthynt:
Chwi Meibion Aser, gwrandewch ar eich Tad, a mi a ddanghosaf i chwi yr holl bethau ac sydd inion oflaen yr Arglwydd.
Duw a roddes ddwy ffordd ei Feibion Dynion, dau Feddwl, dwy Weithred, dau [...] Leoedd. dau Ddiben; ac er hynny yr holl ffyrdd y allant fod yn ûn, ie er i bod [Page 118] hwy yn wrthnebol, fel i mae ffordd da a [...]rwg: i mae hefyd ddau Feddwl yn ein Dwyfronau, y rhai sydd yn ein hannog naill [...]i at dda a gonestrwydd, ai at ffalster.
Gan hynny os Dyn a arweinir i ddaioni, [...]i holl weithredoedd a ragflaenant yn mherthynas cyfiawnder, ac os gwneiff êf ddim ar fai, yn y man i mae yn edifaru; canis yn gimaint ac i mae ei feddwl êf yn blygadwy ei Gyfiawnder, ac yn rhoi heibio Lygredigeth, ac allan o law yn gwellae ei gam weithrediadae, ac yn cosbi Llygredigaethae ei Feddwl.
Ond os ei Feddwl a blygiff at ddrwg, i mae ei holl weithredoedd êf yn tueddu at ddrygioni, yn gimaint ai fod êf yn taflu ymaith y da, ac yn cymeryd atto ei hûn y drwg, oherwydd i fod êf dan lyfrodraeth Belial: Ac os gwneiff ûn peth da, i mae êf yn troi y cyfriw i ddrygioni; canis os dechreu êf wneuthyd ûn daioni, fe ai tru yn y diwedd i ddrwg weithred, oherwydd bod trysor ei galon êf gwedi i lygru a gwenwyn dieflig yr Ysbryd Drygionus; ac am hynny i mae yr drwg yn meistroli dros y da yn ei feddwl êf, ac fellu yn dibennu pob peth yn ddrygionus.
Rhyw ûn a ddengus dosturi ar yr hwn a wasneutho ei dro êf mewn drygioni, [Page 119] i mae gan y Dyn hwnnw ddau Wyneb, a weithredoedd sydd ddrygioni creulon.
Ac ûn arall sydd yn caru Anrâs, mae hwn yn ddrygionus hefyd; ac er iddo gae [...] yn ei Galon farw er mwun tosturi ei ddrygioni êf, etto mae yn amlwg i fod êf yn ddau Wyneb [...]g, ai weithredoedd yn nghyd yn ddrygionus greulon; canis ei gariad êf heb fod yn ddim arall ond aflendid, sydd megis yn gorchguddio ei ddrwg ac enw da, pan fytho diben ei weithredoedd yn tueddu at ddiwedd drygionus.
Arall sydd Gybyddaidd, ac a wneiff gam cyhoeddus, fe a bilia, ac a ddigroena, ac ni thrugarha wrth y tlawd, mae hwn hefyd yn ddau Wynebog, a hyn oll sydd ddrygionus greulon; canis wrth fod yn grintach tua ac at ei Gymydog, mae êf yn annog yr Arglwydd i ddigofaint, ac yn gwadu y Gorucha wrth ei anrhugaredd ir tlawd: Mae êf yn dirmygu ac yn cynfigenu wrth yr Arglwydd, yr hwn a Orchmynodd y Gyfraith, nid yw êf yn cynwys ir tlawd orffwus; mae êf yn halogi ei Enaid ei hûn i gael gwchu ei Gorph; mae yn lladd llawer, ac yn trugarhau wrth y chydig: Dyma gampau y Dyn dau Wynebog.
Arall a wna odineb a ffuteindra, neu fe a flina lawer un drwy ei allu ai gyfoeth, [Page 120] ae etto a ymgeidw oddiwrth Fwydydd, i Ympryd êf sydd ddrwg, canis mae êf yn gwneuthyr y Gorchmynion a Chalon ddrwg, dyna ddeiliad dau Wynebog, yr hyn i gyd sydd ddrwg. Y cyfriw Bobl ydynt inion megis Môch ac Ysgafarnogod, canis maent yn ymddangos yn hanner glân; ond yn y weithred maent hwy yn hollawl aflân.
Am hynny fy Mhlant, na fyddwch debig iddynt, ac na ddygwch ddau Wyneb dan un Benwisg,, y naill o ddrygioni, ar llall o ddaioni, eithr glynwch oll wrth y daioni; canis yn y daioni i mae gorsfwusfa yr Arglwydd, a Dynion da ai hoffant: Gochelwch ddrygioni, a lleddwch y Diafol yn eich gweithredoed da. Y rhai dau Wynebog nid ydynt yn gwasaneuthu Duw, ond i trachwantae ei hunain; oherwydd i bod hwy yn ceisio bodloni Belial, ar cyfriw ac ydynt debig iddynt i hunain.
Ac yn awr, y cyfriw ac ydynt inion yn ei hymddygiad, ac yn ymddauos yn ûn Wynebog, ydynt yn cael ei cymeryd am droseddwyr gan y ddau Wynebog; etto inion ydynt o flaen yr Arglwydd: i mae llawer drwy roddi Dynion drwg i farwola [...]th yn gwneuthyr dwy weithred ar ûnwaith, sef daioni drwy ddrygioni; ond i mae yr holl weithred yn ddaionus, ob [...]ygid yr hwn [Page 121] a ddiwreiddiodd allan y drwg ai dinistriodd êf.
Rhuw ûn gan gasau ei Gymydog, yn an rhugarog a feia arno am ei Ledrad, y cyfriw ûn sydd ddau Wynebog; ond etto mae ei holl weithred êf yn dda, oherwydd i fod êf yn dilin esampl yr Arglwydd, gan beidio a gwneuthyr cyfri or peth sydd yn ymddangos yn dda, pan fytho êf yn ddrygionis yn ddiau.
Un arall nid ymlawenhycha gyda Gloddestwyr rhag i lygru êf ganthynt hwy, ac fellu difwyno ei Enaid: i mae y Dyn yma yn ddau Wynebog, etto ei weithredoedd ydynt dda; ac i mae êf megis Iwrch neu Hydd, y rhai mewn mintai o Anifeiliaid aflân gwlldion a dybygir i bod hwythau yn aflân, ac etto i maent yn gwbwl lân; fellu am y Dyn, oherwydd i fod êf yn rhodio yn zeal yr Arglwydd, gan ochelyd a chasau y rhai i Gorchmynodd Duw i gochelyd yn ei Orchmynion; ac fellu yn lladd y drwg drwy wneuthyr yn dda.
Gwelwch gan hynny fy Meibion, y modd i mae dau yn mhob peth, y naill yn erbyn y llall, ar naill yn guddiedig dan y llall: Marwolaeth yn canllyn Bywyd, Cwilidd yn canllyn Gogoniant, Nôs i Ddydd, a Thywyllwch i Oleini. Yr holl bethau Cyfiawn [Page 122] ydynt dan Fywyd a Goleini; am hyn [...]y mae Bywyd Tragwyddol yn rheoli ar Farwolaeth. Ac nid cymwus dywedyd fod y Gwirionedd yn Anwiredd, Cyfiawnder yn Anghyfiawnder, ac Uniondeb yn Gam▪ canis megis ac i mae pob peth dan Dduw, fellu y Gwirionedd oll sydd dan y Goleini.
Mi a arferais yr holl bethau hyn yn fy Mywyd, ac ni Chyfeiliornais oddiwrth Wirionedd yr Arglwydd, eithr ymgeisiais a Gorchmynion y Gorucha hyd yr eitha om gallu, ac a rodiais ac ûn Wyneb mewn daioni.
Byddwch ofalus gan hynny, fy Mhlant, tu ac at Orchmynion yr Arglwydd, a dilynwch y Gwirionedd ac ûn Wyneb syml: Canis y rhai sydd ddyblig ei Wynebau, a ddyblir ei Poenau; Ysbryd Cyfeiliornus sydd yn casau yr hwn sydd yn ymladd yn i erbyn.
Cedwch Gyfraith yr Arglwydd, ac na wnewch gyfri or rhai drwg sydd yn ymddangos yn dda, ond bydded eich golygon at yr hyn sydd dda mewn gwirionedd, a chedwch yr unrhiw, gan ddychwelyd at yr Arglwydd yn ei holl Orchmynion, a gorffwys arno êf; canis y dibenion at ba rai i mae Dynion yn tû [...]ddu, sydd yn dangos ei [Page 123] cyfiawnder; ac adnabyddwch Angylion yr Arglwydd oddiwrth Angylion Satan.
Canis os chwi a lyniff wrth Ysbrydoedd Drygionis; eich Eneidiau chwi a boenir gan yr Ysbrydion hynny, y rhai a wasanaethoch mewn chwantau a gweithredoedd drygionis. Ond os bydd i chwi yn llonydd ac yn gysurus fod vn gydnabyddus ac Angel Tyngnhefedd êf ach cysura chwi yn holl amser eich Bywyd.
Fy Mhlant, na fyddwch fel y Sodomiaid, y rhai nid adnabuant yr Angel, ac a gollwyd yn dragywydd: Canis i mae yn siccir geni fi y bydd i chwi bechu, chwi a draddodir ei ddwylaw eich Gelynion, eich Tîr y anrheithir, a chwithau a wasgerir i bedair congol y Ddaiar, a chwi a ddirmygir megis Dyfroedd aflesol yn eich gwasgariad ar lêd, hyd oni ymwelo y Gorucha ar Ddaiar, gan Fwyta ac Yfed m [...]gis Dyn, gyda Dynion, a chan dorri Pen y Sarph heb drwst; êf a weryd Israel ar holl Genhedloedd drwy Ddyfr, wrth fod Duw yn guddiedig mewn Dyn.
Gan hynny mynegwch eich Plant y pethau hyn, fel na bo iddynt ysgluso Cyfraith Dduw yr hon sydd Sc [...]isenedig yn Llechau yr Nesoedd: Canis amser a ddaw pryd na choiliant Gyfraith yr Arglwydd, a chwi [Page 124] gan syrthio i ddrygioni a weithredwch yn anwireddus yn erbyn Duw, gan ddiystyru ei Gyfraith êf, drwy ufyddhau ei Orchmynion Dynion.
Oblygid hyn i gwasgerir chwi oddiamgylch, fel fy Mrodyr Gad a Dan, y rhai nid oeddent yn gydnabyddus ai Gwlad ei hunain, ei Llwyth ai Tafodiaith.
Etto yr Arglwydd ach casgliff yn nghyd drachefn yn y ffydd, er mwyn gobaith oi drugaredd, ac er mwyn Abraham, Isaac, a Jacob.
Ac wedi iddo lyfaru y pethau hyn, efe a orchmynodd i Gladdu yn Hebron; ac efe y su Farw, gan gysgu cwsg da: Ac ar ôl hynny ei Feibion gan wneuthyr megis ac ir ewyllysiodd, ai dygasant efe yn ôl, ac ai Claddasant efe gyda ei Dadau
TESTAMENT JOSEPH a wnaeth efe iw Blant wrth Farw yn nghilch Diweirdeb.
FY Meibion, am Brodyr, gwrandewch ar anwylyd Israel: Fy Mlhant gwrandewch eich Tad: Mi y adnabum yn fy Mywyd Gynfigen a Marwolaeth, a ffa rai i myneu fy Mrodyr fy nifetha; canis hwy am casasant, ond yr Arglwydd am carodd: Hwynt hwy a fynent fy Lladd i, ond Duw fy Nhadau am cadwodd ei yn Fyw: Hwy am rhoddasant yn y Pydew, ond y Gorucha am dygodd ei allan drachefn: Fe am gwerthwyd megis Caethwas, ond yr Arglwydd am gwnaeth ei yn Rhydd, ai Law Nerthol êf am helpodd ei▪ Fe am cadwyd i Newynu, ond Duw ei hun am Maethiodd ei: Fe am [Page 126] gadawyd yn vnig, ond yr Arglwydd a [...] cysurodd ei: Myfi a fûm yn glaf, ond y [...] Arglwydd a ymwelodd a mi: Mi a fûm yn ngharchar, ar Achubwr am gwnaeth ei yn llawen: Fe am siccirhawd ei mewn cadweini, ond yr Arglwydd a ddattododd fy rhwumau; ac êf a ddadleuodd fy achos yn achwynieth yr Aiphtwyr; ac nid yn unig am gwaredodd ei oddiwrth gynfigen a thwyll, ond hefyd am derchafodd ei, yn gimaint ac ei Putiphar, pen Distain Ty Pharaoh, roddi i mi le i leteua, lle i bum ei mewn perigl am fy hoedl, o achos Gwraig ddigwilidd, yr hon am hude i wneuthyr drygioni gyda hi, drwy fflam o drachwnt yr hon ydoedd yn llosgi ogwmpas ei Dwyfron hi: Fe am bwriwyd i garchar oi fflegid hi: A mi a gurwyd ac a watworwyd, ond yr Arglwydd a gynhyrfodd geidwad y carchar i ddangos trugaredd tua ac ata fi.
Nis gad êf y rhai ai hofnant mewn tywyllwch, nag mewn rhwymau, na chwaith mewn trwblaethau nag eisiau.
Nid ydiw Duw y cywilyddio megis Dynion, ac nid ydiw êf yn arswudo megis Dy [...]ion; nid iw êf yn llafaru, nag yn ysgogi rhag osn Dynion daiarol; i mae êf yn bresenol yn mhob man; ac yn ei gofidus brudd-der mae êf yn cysuro yr eiddo: Mae [Page 127] êf yn myned ymaith dros amser, i brofi amcanion ei meddyliau hwynt: Fe am cafodd ei yn ffyddlawn mewn deg o Brofydigaethae, ac yn mhob ûn o honynt mi a fum syfydlog, ac fe am cadwyd. Canis dioddefgarwch sydd feddiginieth fawr, ac yn peri llawer o ddaioni.
Pa cyn fynyched y darfu ir Aiphtaid sygwth fy marwolaeth? A ffa cyn fynyched im cysdyddiwyd? ac etto y Wraig am galwe i drachefn. O mor fynych i bygythie fy marwolaeth ei, am na fydde i mi a wnawn a hi!
Hi a ddywede wrthis: Ti a gei lyfodraethu arnaf, ac ar gwbwl oll ac sydd eiddo fi, os tydi ath rydd dy hunan i mineu, ac ufyddhau im dymuniad, ti a gei arglwyddiaethu arnom.
Eithr mi a gofiais eiriau fy Nhad Jacob, a chan fyned im Stafell, mi a weddiais at yr Arglwydd, ac a Ymprydiais saith nhiwrnod; er hyn ir oeddwn ei yn ymddangos ir Aiphtwyr megis yn yr unrhiw gyflwr yn fy Nghorph, a ffa baswn yn byw mewn pleserau a difyrwch: Oherwydd y rhai a Ymprydiant i [...] Arglwydd, sydd yn derbyn t [...]gwch wynebpryd.
Pan roid i mi Win, nid yfwn ohono: a chan Ymprydio drachefn dridi [...]e, mi a gymerwn [Page 128] fy mwyd, ac ai rhoddwn ir claf a [...] angh [...]nog, ac yn forau i deffiown ei at y [...] Arglwydd, ac a wylwn oherwydd Memphetica yr Aipht-wraig, canis fy mlino ei yr ydoedd hi beunydd.
Hi a ddeue ata fi yn y nôs, megis pa bae hi yn dyfod i ymweled a mi: Ac yn gyntaf, oherwydd nad oedd iddi Fab, hi a gymere arni fy nghymeryd megis yn Fab iddi, a mi a weddiais ar Dduw roddi Mab iddi, hyd ruw amser im cowleidiodd fi megis pa baswn Mab iddi, a mineu heb ddirnad yr achos.
Ac yn y diwedd, hi a fyne fy nhynu i wneuthyr Godineb gyda hi; a mineu gan fy ngalw fy hûn i goffadwri [...]th, a fum gystyddedig hyd ange.
A ffan aeth hi allan, mi a ddaethym attaf fy hûn, ac a alerais dros amriw ddyddiau; canis mi a ddeallais ei thwyll ai chyfeiliornad: A mi a laferais wrthi hi eirian y Gorucha Dduw, fel os bydde bossibi i dychwelyd hi oddiwrth ei angheuol drachwant.
Ac amriw amserau i llafarae hi wrthyf eiriau gwenheuthus, megis wrth Wr sainctaidd, ond nid heb dwyll, gan glodfori fy mhrydferthwch, am gonestrwydd ei ger bron ei Gwr, yr hwn a fyne yn gwbl fy nisdriwio.
[Page 129] Yn gyhouddus ac yn ddirgel hi a ddywede wrthif: Nag ofna mom Gwr, canis mae efe gwedi cael bodlonrhwydd oherwydd dy ddiweirdeb di; ac os bydd i neb hysbysu iddo om plegid ei a thithau, ni bydd iddo efe gredu mo hynny.
Ac oherwydd y pethau hyn, i gorchguddiais fi fy hunan mewn Sach-liain, ac ei gorweddais ar y Ddaiar, ac ei gweddiais at yr Holl-alluog, ar iddo êf fy ngwared ei oddiwrth yr Aipht-wraig hon.
A chan nad alleu hi wneuthyr dim yn y ffordd hon, hi a ddaeth attaf fi drachefn gwedi ei harfogi a rhesymau eraill, sef ei bod hi yn chwenych dyscu gair Duw geni fi, ac a ddechreuodd lefaru yn y modd hyn: Os myni di i mi ymadel am Heulynod, dilin fy nyminiad, a mineu a gynghor af fy Ngwr yr Aipht-ddyn i fyned ynteu oddiwrth ei Eulynaddolieth, a ni a rodiwn yn Nghyfraith dy Dduw di.
Yna ir attebais ineu ir pethau hyn, Ni fun Duw neb iw addoli êf mewn aflendid, ac nid oes gantho bleser mewn godinebwyr: Ac ar hynny hi a dawodd, gan ddymuned cyflowni ei thrachwant. A mineu a Ymprydiais ac a Weddiais ar i Dduw fy ngwared ei oddiwrthi hi.
[Page 130] A thrachefn ar ams [...]r arall, hi a ddywedodd wrthyf: Oni bydd i ti Odinebu gyda mi▪ myfi a laddaf fy Nhwysog, ac fellu wrth y Gyfraith mi ath gymeraf di yn Wr i mi.
A ffan glywais ei hynny, mi a rwugais fy Nillad, ac a ddywedais, Wraig, er dolwg, cywilyddia oblegid y pethau hyn oflaen Duw, ac na wna y fath ffieidd-dra, ac na ddigalona yn gwbwl, rhag i ti foddi yn dy ddrygioni dy hyn: Canis os ti y aiff rhagot, fe a fydd i mi ddatgan a chyhoiddi amcan dy anwiredd di.
A hitheu gan ofni y pethau hyn, a ddeisyfodd arnaf, na bydde i mi ddatguddio i drygioni hi; ac fellu hi a ymadawodd.
Etto drachefn hi a aeth yn nghylch fy hudo ei ai rhoddion, gan ddanfon i mi bob peth ar oedd raid i ddynion wrthynt; a hi a ddanfonodd i mi Fwydydd gwedi i hilio oddiamgylch a Swynion; Ac fel ir ydoedd yr Eunuch yn i ddwyn i mewn, myfi a edrychwn, ac wele Ddyn dychrynllyd yn rhoddi i mi gleddyf a ffiol, a mi a ystyriais i bod yn myned yn nghylch fy hudo ei; ffan aeth êf ymaith ir wylais, ac nis cyffyrddais ei ddim ar bwyd hwnnw, nag a dim arall ar a ddanfon [...]dd hi dres ennyd fawr.
[Page 131] Yn y diwedd, yn ôl hynny, hi a ddaeth attaf, gan ddywedyd, Beth ydiw yr achos na buasit ti yn bwyta or Bwyd? A mineu a ddywedais. Am ddarfod i ti i wenwuno êf: gan hynny ti a gai wybod na ddeuaf fi at Eulynod, ond yn unig at Dduw: Deall gan hynny yn awr, mae Duw fy Nhadau drwy ei Angel a ddanghosodd i mi dy ddrygioni di, a mineu a gedwais y Bwyd ith gwilidd, fel os bae bosibl i gellit edifarhau, a dyscu gwybod nad ydiw dichell gweithredwyr anwiredd yn llwyddo yn erbyn y rhai a addolant Dduw mewn purdeb a gonestrwydd. A mi a gymerais ac a fwytais oi blaen hi, gan ddywedyd, Duw fy Nhadau, ac Angel Abraham a fydd gyda mi, a hitheu a gwympodd wrth fy Nhraed, ac a wylodd: Yna gan i chodi hi i fynu, mi ai cynghorais hi o amriw ffyrdd, a hitheu a addawodd wrthyf na bydde iddi wneuthyr y fath anwiredd yn ol y dydd hwnnw.
Etto oherwydd bod ei chalon yn alarus, [...] yn llosgi tua ac attaf fi mewn Godineb [...]rwy ocheneidion y rhai oedd yn dyfod o ddyfnder ei chylla hi, ai hwynebpryd hi a syrthiodd i lawr: Ar Aipht-ddyn ei Gwr hi a ddeallodd, ac a ddywedod: Paham ir ydwyt ti yn gostwng i lawr dy Wyneb? A hitheu y ottebodd, Ir ydwyfi yn athryst o [Page 132] Galon, ac ynteu ai cysurodd hi, yr hon nid ydoedd glaf.
Etto drachefn hi a dda [...]th i mewn atta fi, pan ydoedd ei Gwr allan, ac a ddywedodd, Ydd ydmyfi yn Grogedig neu yn Dagedig, naill ai myfi a doraf fy Ngwddf, neu mi am bodda fy hun, oni bydd itti usyddhai i mi
A mineu yn dealld fod Ysbryd Belial yn i thryblio ac yn i blino hi, mi a weddiais at yr Arglwydd fy Nuw, ac a ddywedais, Pa ham ir wyti yn dryblus ac yn flinderog, dydi gwbwl ddall mewn pechod? Cofia dy hunan, canis os ti ath ladd dy hûn, Gorddech dy Wr, yr hon a elwir Secon, yn dy gynfigennu di, a bwua dy Blant di, a ddinistria y coffadwrieth o honot oddiar y Ddaiar.
A hi a ddywedodd wrthyf: Digon yw, digon, ir ydwyf yn deall fod genit beth gofal drosofi, mae hynny yn ddigon genif, dy sod ti yn ymddiffin fy Mywyd ei am Plant, i ma [...] genif obaith da erbyn yr amser sydd i ddyfo [...] [...] bydd i mi gyrhauddyd fy nyminiad ewyllysgar: Ac nis deallodd hi mae o gariad [...]r yr Arglwydd fy Nuw i dywedaswn ei [...]ellu, ac nid er ei mwyn hi.
Canis pwy bynnag a ddilyno drachwantae [...]i frwnt ai ddistrywgar ddyminiad ei hun, a [...]neir yn Wâs ir cyfriw, megis ac ir ydoedd [Page 133] y Wraig yma: Ac os clyw êf un-peth da vn i ddioddefaint [...] mha ûn i gorchfygir êf, mae yn troi y cy [...]riw iw beryglus fudr ddymuniad.
Ydd ydwyf yn mynegi i chwi, fy Meibion, mae o gwmpas chwech ar y gloch ydoedd hi pan aeth hi oddiwrthyf, a mi a gwympais ar fy Ngliniau, ac a weddiais at Dduw yr holl ddiwrnod hwnnw, ar nos oedd yn canlyn, ac yn nghulch toriad y wawr, mi a godais dan wylo, ar ei Dduw fy nghadw ei unwaith oddiwrth yr Aipht wraig.
Ac or diwedd, hi a gymerth afel ffast yn fy Ngwisg, g [...]n fy nhvnnu i fyned ir Gw [...]ly gyda hi; yna ei deallais i bod hi gwedi vnfydu, a thrwy drais, ai holl nerth yn dal ei gafael yn fy Ngwisg: yna i gollyngais fy Ngwisg i lithro oddiwrthyf, ac i ffoais ymaith.
Ac yn ôl hvnny hi a wnaeth achwvn arnaf wrth ei Gwr, yr hwn am rhoddae yn Ngharchar yn Nhu y Brenin; ar dydd oedd yn canllyn fe am curwyd ei yn dost, ac [...]m bwriwyd ir Carchar; a ffan oeddwn yn rhwum mewn gefynan, yr Aipht-wraig a syrthiodd yn glaf g [...]n dristwch, ac a glyb [...] [...]a fodd ir oeddwn ei yn clodfori Duw y [...] Nhu y T [...]wyllwch; canis ir oeddwn ei y [...] llawenhychu a llef gorfoledd, ac yn moliann [...] [Page 134] fy Nuw yn vnig, am mae drwy y fath achos im gwaredwyd ei oddiwrth yr Aipht-wraig.
Etto y hi gan beidio a sefull i wrando, a ddywedodd: Digon, cymer y peth ir ydwyf yn i gynnig i ti, a chyflownd fy ewyllus, ac mi ath waredaf di oth Gaethiwed, ac ath ddygaf di allan or Tywyllwch: Ond hyn oll ni alleu annog dim arnaf ei, yn gimaint ac im meddwl unwaith blygu at ddymuniad o honi; canis Duw sydd yn i garu êf yn well yr hwn sydd yn Ymprydio mewn diweirdeb, er i fod mewn Carchar tywyll, nar hwn sydd yn cymeryd difyrwch mewn gwantawrwydd mewn Stafelloedd o anrhydedd a golud.
Canis os bydd Gwr fyw mewn diweirdeb, ac yn deisyf anrhydedd, os bydd Duw yn gweled yn gymwys iddo, êf ai rhoddif iddo, megis ac i rhoddes êf i mineu.
Llawer amser, megis ped faseu hi yn glaf, hi a ddeue i wared attaf a mineu heb wybod, hi a glowe lais fy ngweddi, ac a safe yn hytrach yn fwy llonydd; ond pan glown ei y hi yn ochneidio, mi a dawn: Canis yn ei Thy hi ai diosgei ei hûn yn noeth ei Breichiau ai Chouseu, fel drwy hynny i bydde iddi hi ennyn cariad ynofi tua ac atti hi; canis ir ydoedd hi yn lân iawn, a chwedi ymdrwsio [Page 135] yn ogoneddus, im hudo ei, ond Duw am cadwodd ei oddiwrth i gwaith hi.
Gan hynny fy M [...]bion; gwelwch beth i mae Dioddefgarwch gyda Gweddi ac Ympryd yn i wneuthyd.
Gan hynny fy Mlhant, os cerwch chwi sobrwydd a diweirdeb mewn hîr ymaros, a gostyngeiddrwydd calon, yr Arglwydd a breswilia ynoch chwi; canis mae êf yn caru sobrwydd: A ffan fytho y Gorucha yn preswilio mewn Dyn, er digwydd iddo syrthio i gynfigen neu i gaethiwed, neu ogan, yr Arglwydd yr hwn sydd yn preswilio ynddo, am ei ddiweirdeb, nid yn unig ai gweryd, ond hefyd ai darchefiff ac ai gogoneddiff, megis ac i gwnaeth êf a mineu; canis mae yn wastadol gyda ac êf mewn meddwl, gair a gweithred.
Fy Mlhant, chwi a wyddoch yn ddigon da, y modd im carodd fy Nhad fi, etto ni bumi yr ioed falchach o galon er hynny.
Canis er pan oeddwn yn Blentyn, ir oedd ofn Duw yn fy meddwl ei.
A ffan ddaethym i oedran, mi am cymhesurais fy hûn, ac y anrhydeddaus fy Mrodyr, y rhai ir oeddwn ei yn i hofni.
Ac mi a gelais y peth pan im gwerthwyd oherwydd na fynnwn ir Ismaeliaid wybod fy ngwreiddin nam cenedl, y modd i [...] [Page 136] oeddwn yn Fab ei Jacob, Gwr o allu a nerth mawr.
Gan hynny bydded gynech ofn Duw yn eich gweithredoedd. ac anrhydeddwch eich Brodyr; canis pob ûn ac a gadwo Gyfraith yr Arglwydd a gerir gantho êf.
Yna mi a ddaethym gyda yr Ismaeliaid i fewn rhyw lef a elwir Indoclep, a hyw a ofynasant i mi beth oeddwn ei; a mi a ddywedais (oblygid nad oeddwn yn chwenych argoiddi fy Mrodyr) mae ûn o Gaethweision y Ty hwn oeddwn.
Yna i dywedodd y pena o honynt: Nid Gwas ydwyt ti, canis dy Wyneb sydd yn dangos beth ydwyt; ac êf am bygythiodd i farwolaeth; etto er hyn i gid, mi a ddywedais drachefn mae Caeth was iddynt hwy oeddwn ei.
Ond pan ddaethom ni ir Aipht, hwy a ddechreuasant ymryson pwy am cae ei am yr Arian y dalesid am danaf fi, a hwy a gyttunasant i cawn ei aros yn yr Aipht gyda Marsiandwr, hyd yr amser i paresent iw marchnatwyr ddychwelyd drachefn; a Duw a roddes i mi ffafor yn ngolwg y Marsiardwr, fel ei rhoddes êf yn fy siars ei i holl Dy, ar Arglwydd ai Bendithiodd êf drwy fy Llaw [...]i; canis yr Arglwydd a roddodd iddo [Page 137] êf lawnder o Aur ac Arian; a mi a fum gyda ac êf dri mis a ffum nhirnod.
Yn yr amser hyn ir aeth heibio i ni Memphetica, Gwraig Putiphar, mewn rhwysg fawr, a hi a fwriodd ei golygon arnaf, oblygid yr Eunuchiaid am danghosaseu iddi a hi a hysbysodd iw Gwr oblygid y Marsiandwr, yr hwn a wnaethbwyd yn gofaethog drwy law Dyn ieuanc o Hebrewr, a hi a ddywedodd: I ladratta efe a wnaetha [...]t allan o Dir Canaan; gwna farn gan hynny arnynt hwy, a chymer y Dyn ieuanc yn Olygwr i ti, a Duw yr Hebreaid ath Fendithia di; canis Gras or Nefoedd sydd yntho efe:
Yno Putiphar ei Gwr hi, gwedi i breswaedio ar geiriae hyn, a barodd ddanfon am y Marsiandwr, ac a ddywedodd wrtho▪ Pa beth ydiw hyn ir wyfi yn i glowed am danat ti, dy fod yn Lladratta Enidiau allan o Dir yr Hebreaid, wrth werthu Plant.
Ar Marsiandwr a gwympodd i lawr a [...] ei Liniau, ac a ddeisyfodd arno, gan ddywedyd: Er dolwg fy Arglwydd, hysbys [...] i mi y peth hwn; canis nis gwn ei pa bet [...] ir ydwyt yn i ddywedyd.
Ac êf y attebodd, Yn mha fan i cefaist [...] yr Hebreaid hwn.
[Page 138] Ac êf a ddywedodd, Yr Ismaeliaid a [...] gadawsant êf yma gyda mi hyd onis dychwelent hwy drachefn.
A ffan ddywed [...]d êf yn y modd hynny Putiphar a ddywedodd, Dygwch yma y Dyn ieuanc: A ffan ddygwyd fyfi i mewn, mi a gyferchais Dwys [...]g yr Eunuchiaid▪ canis êf ydoedd y trydydd Wr mewn Anrhydedd gyda Pharoah, ac yn Dwysog ar yr holl Eunuchied, ac ir ydoedd iddo Wraig, Plant a Gordderchadon.
A ffan gymerodd êf y fi or nailldu, êf a ddywedodd: Pa ûn ai Caeth ai Rhydd ydwyt ti? Mineu y atebais [Caeth.]
Ynteu a ddywedodd: Caeth i bwy ydwyt? Mineu y atebais, Ir Ismaeliaid.
Ac ynteu a ddywedodd wrthif drachefn: Pa fodd i digwyddodd i ti ddyfod yn Gaeth iddynt hwy? Mineu a ddywedais, Oherwydd iddynt fy mrhynu ei yn Nhîr Canaan.
Etto ni choiliodd êf mo honafi, eithr êf a ddywededd: Die dy fod ti yn dywedyd celwydd, ac a orchmynodd fy rghuro ei.
Ai Wraig êf oedd yn edrych drwy y ffenestri, ac yn gweled fy nghuro ei, hi a ddanfonodd at ei Gwr, gan ddywedyd: Dy Farn di sydd Anghyfiawn, am dy fod ti yn ceryddu ar gam y Dyn ieuanc yr [...]wn a ladratt [...]d.
[Page 139] Er hynny, oherwydd nad oeddwn ei yn newid mom gair, fe am curwyd drachefn, ac a archodd fy nghadw ei wrth i orchymyn êf, hyd oni ddelai fy Meister.
Ai Wraig a ddywedodd: Pa ham i cedwir mewn Caethiwed y Plentyn Ardderchog: Elusenach a fuasei i ollwng efe ymaith, ach curo chwi.
Ac ir ydoedd yn chwenych fy spio ei m [...]wn dymuniad o bechod, a mineu heb wybod dim o hyn.
Ac êfe a ddywedodd drachefn wrth ei Wraig, Nid ydiw yn beth onest yn musg yr Aiphtiaid gymeryd ymaith eiddo un arall, beb yn gyntaf hysbysu iddo: A hynny a ddywedodd oherwydd y Marsiandwr a mineu.
Ac wedi fy rhoddi yn Ngharchar, yn ôl pedwar ar hugain o ddyddiau, daeth yr Ismaeliaid, a hwynt gwedi clowed fod Jacob fy Nhad yn drwm arno om plegid ei, hwy a ddywedasant wrthyf i: Pa ham i dywedaist ti mae Caeth was [...]eddit; ac yn awr ydd ym ni yn gwybod mae Mab i Wr mawr o Dir Canaan ydn yt; ac i mae dy Dad yn alarus am danat ti mewn Sach liain?
Yno fe a ddaeth wylo arnaf, ond mi am hatteliais fy hûn, rhag i mi gwilyddio fy [Page 140] Mrodyr, ac a ddywedais: Ni wn ei mo hynny, canis caeth was ydwyfi.
Yna hwy a gymerasant gyngor yn ei musg ei hunain, i ba lef, neu ei bwy i gallent hwy fy rgwerthu ei, rhag fy nghael ei yn i dwylo hwynt; canis ir oeddent yn ofni fy Nhad Jacob, rhag iddo êf ymddial arnynt; oherwydd hwy a glowsent i fod êf yn nerthol gyda Duw a Dyn.
Yno i dywedodd y Marsiandwr: Rhydd hewch efe oddiwrth Farn Putiphar: Hwythau pan glowsant hyn, a ymofynasant am danaf fi, gan ddywedyd ddarfod iddynt hwy fy mrhynu ei am i harian; ac yno se am rhoddwyd iddynt.
A Memphetica a ddywedodd wrth ei Gwr am fy mrhynu ei, a hi a ddywedodd, Ir ydwyf i yn clowed i bod hwy yn chwenych i werthu efe.
A hwy a ddanfonasant ûn or Eunuchied at yr Ismaeliaid, ar feder fy mrhynu ei, a ffryd nas gallent hwy gytuno am danaf fi, êf a ddychwelodd, ac a ddanghosodd yw Arglwyddes i bod hwy yn gofun pris mawr am y Bachgen.
A hi a ddanfonodd drachefn Eunuch arall, gan ddywedyd: Ped fae iddynt ofin dau Gawgied o Aur, gwel nad ysbariech di mor Arian, ond prûn y Bachgen, a dwg efe i mi.
[Page 141] Ac êf a dalodd 80 o goronau Aur am danaf i, ac a ddywedodd wrth ei Arglwyddes iddo êf roddi 100. a mine yn dealld hyn, a dewais a son, rhag ofn chwilio yr Eu [...]uch.
Gwelwch yn awr fy Mlhant y pethau a ddioddefais, a cherwch y naill y llall yn barhaus, gan fwrw ymaith och musg fyddylie twyllodrus; canis Duw sydd yn hoffi undeb rhwng Brodyr, a chantho hyfrydwch yn y cariad ar etholiad o galon brofedig.
Canis pan ddaeth fy Mrodyr allan or Aipht, ac iddynt fy adnabod ei, mi a roddais iddynt ei Harian; ac yr ioed ni roddais ei wradwydd iddynt, ac ai cysurais hwy; ac ar ôl Marwolaeth Jacob, mi ai cerais yn fwy helaethach, a chimaint oll ar y ddarfu iddo êf yr ioed orchymyn i mi, a wneuthym yn ufydd; a rhyfeddent hwy na buaswn yn godde [...]iddynt gael blinder am ychydig achos; canis yr hyn oll ar ydoedd yn fy ngallu a roddes iddynt hwy. Ei Plant hwy a gyfrifid i mi megis fy Mlhant fy hûn, am Plant ineu fel gweision iddynt hwy: Ei Bywyd hwy ydoedd fy Mywyd ei, ai Tristwch hwy ydoedd fy Nrhistwch ei; ai holl Wendid hwy, ai Doliriae, ydoedd arnaf i: Fy Nhîr ei ydo [...]d Dir iddynt hwy, am Cyngor [...]i ydoedd Gyngor iddynt hwy, [Page 142] ac nis Derchefais ei yr ioed mo honaf fy h [...] nan mewn Balchder uwch i llaw hwy, o h [...] rwydd fy Ngogoniant Bydol, eithr oeddw [...] yn i plith hwy megis ûn or rhai lleiaf.
Gan hynny fy Mlhant, os bydd i chw [...] rodio yn Ngorchmynion yr Arglwydd, y [...] Arglwydd ach derchefiff, ac ach bendithiff a chyfoeth tragwyddol: Ac os gwna un-dyn niwed i chwi, gwelwch ar i chwi drwy laryeidd-dra weddio drostô êf, ac fellu Duw ach gweryd chwi oddiwrth bob drwg.
Canis edrychwch, a gwelwch, am fy hir ymaros y modd i rhoddwyd i mi Ferch fy Arglwydd yn Wraig, a rhoddwyd i mi gyda hi gan Talent o Aur; canis Duw a wnaeth iddint hwy fy ngwasaneuthu ei, ac a roddodd i mi brydferthwch, fel i byddwn ei megis Blodeuyn uwch law pawb ar ydoedd lân yn Israel; ac sellu am cadwodd hyd fy henaint mewn nerth ac mewn tegwch, oherwydd fy mod ei yn debig ei Jacob yn nihob peth.
Gwrandewch yn awr, fy Mlhant, ar y Breddwedion y rhai a welais: Deuddeg Carw oedd yn pori, a naw o honynt a ymrannodd ar lêd yn y Ddaiar; a hefyd mi a welais fel i ganwyd Morwyn allan o Juda, a chanthi Wisg o Sidan gwyn, ac o honi hi i daeth allan Oen Difrycheulyd: Ac ar [Page 143] y llaw asswy ir Oen yma ir oedd megis Llew; [...] holl Anifeiliaid gwedi ymwneuthyr yn [...] erbyn êf, ar Oen ai gorchfygodd hwynt, [...] ai sathrodd hwynt dan ei Draed; ac yn [...]o êf i llawenhychodd yr Angylion, Dynion, [...] holl Ddaiar.
Y pethau hyn a gyflownir yn ei hamser, [...]ynny ydiw yn y dyddie diweddaf: Gan [...]ynny fy Mlhant, cedwch Orchmynion yr Arglwydd, ac anrhydeddwch Juda a Levi, canis o honynt hwy y terddiff allan Oen Duw, yr hwn drwy ei râs a geidw Israel [...]r holl Genhedloedd; ai Deyrnas êf sydd Deyrnas dragwyddol, yr hon nid aiff heibio: Canis fy Nheyrnas ei a ddiweddir ynoch chwi, megis ûn yn cadw Gwinllan; canis yn ôl y Canhauaf nid ymddengus mwuach.
Canis ir ydwyf yn gwybod yn dda, mae yn ôl fy marwolaeth ei, y bydd ir Aiphtiaid eich blino chwi, ond Duw a ymddial crosoch chwi, ac ach dwg chwi i Dîr yr addewid, yr hwn a dyngodd êf wrth Abraham, Isaac a Jacob.
Ond dygwch fy Esgyrn ei gyda chwi: Canis wrth wneuthyr fellu i bydd yr Arglwydd yn y goleini gyda chwi yn erbyn yr Aiphtiaid, a Belial a fydd yn y tywyllwch gyda yr Aiphtiaid.
[Page 144] Dygwch hefyd Esgyrn eich Mam Zilp [...] ac yn agos ir Dyffryn yn ymul Ra [...] Cleddwch hi.
A ffan orffennodd efe lafaru y geiriau h [...] efe a ystynodd allan ei Draed, ac a hun [...] hûn yr holl Fyd. Yna hwy ai Peraroglas [...] ef a Llysiau, gan i roddi efe mewn Coffor [...] yr Aipht; ac yn ôl iddo fyw ddeng mlhyne [...] a chant, efe a welodd Blant Ephraim hyd [...] drydydd Genhedlaeth; canis ei Machir M [...] Manasses i Ganesid Plant ar Liniau Josep [...] Ac yn ôl hyn, hwynt oll o Israel a alaras [...] am dano efe, ar holl Aiphtiaid hefyd, a ga [...] mawr; canis ir ydoedd efe yn Tosturio wr [...] yr Aiphtiaid fel wrth i Aelodau ei huna [...] gan i cynorthwuo hwynt ai Lafur ac [...] Gyngor, ac yn gwneuthyr daioni iddynt bob amserau a thymhorau.
[...]ESTAMENT BENJAMIN a wnaeth efe iw Blant wrth Farw yn nghylch Meddwl Glân.
COppiad o Eiriau Benjamin y rhai a lyfarodd êf wrth ei Blant, pan ydoedd [...]f yn chwech ugain o flynyddoedd, êf ai [...]usanodd hwynt, ac a ddywedodd:
Isaac a aned yn y ganfed flwyddyn ei [...]braham, fellu fineu yn y ganfed flwyddyn [...]i Jacob; ac oherwydd i Rachel farw ar fy [...]genedigeth, mi a signais ei Llaw-forwyn [...]i Bilhah: Canis yn ôl geni Joseph ei Rachel, [...]i a fu yn an-mlhantadwu ddeuddeg mlhy [...]edd, a ffan ddarfu iddi hi weddio at yr Arglwydd yn y deuddeg mlhynedd hynny, hi a feichiogodd ac a escorodd arnaf i; canis sy [Page 146] Nhad oedd yn caru Rachel yn rhagorol, ac ydoedd yn ewyllysio gweled dau Fab o honi; ac am hynny im galwed ei Benjamin, hynny ydiw, Mab fy Nyddiau, neu Fab fy Ngalar, oherwydd im Mam farw ar fy ngenedigeth ei.
A sfan ddaethym gynta ir Aipht, ac im Brawd Joseph fy adnabod, êf a ddywedodd wrthif: Pa beth a ddyn edasant hwy wrth fy Nhad pan Werthasant fi?
Mineu a ddywedais, Trochi a wnaethant dy Siecced mewn gwaed, gan i dwyn hi atto êf, a dywedyd: Gwel ai hon ydiw Siecced dy Fab, ai nad ie.
Am Brawd hefyd a ddywedodd wrthif [...]neu: Yn ddie pan Werthasant fi ir Isma [...]aid, ûn o honynt am tynnodd ei allan or Siecced, ac a roddodd i mi Grysan tene iw roddi am danaf, a chan fy chwipio ei a fflangellau, a barodd i mi redeg: Ac fel ir [...]doedd efe yn myned or naill du i guddio fy [...]illad, Llew a gyfarsu ac efe, ac ai Lladdodd ese; ar rhai oeddent gyfranog ac [...]e a ofnasant, ac am Gwerthasant ei iw feillion.
Chwithau gan hynny fy Mlhant, cerwch [...]duw yr Nefoedd, ac ufyddhewch iw Orchynion êf, gan ddilin [...] Gwr da sainctaidd [...]nnw Joseph; bydd [...] eich meddyliau [Page 147] gwedi i gosod ar ddaioni, megis ac i gwyddoch chwi sod fy meddwl ei: Yr hwn ac sydd gantho feddwl da, i mae êf yn inion, ac uwchlaw pob peth gweledig.
Ofnwch Dduw, a cherwch eich Cymydogion; yna 'er i Ysbryd Belial ych temptio i bob math ar ddrygioni eich blino chwi, etto ni chaiff êf y llaw yn ucna arnoch chwi, mwy nag i cafodd ar fy Mrawd Joseph; pa gynifer o ddynion a fynent i ladd êf, ac er hynny Duw ydoedd yn wastadol yn i ymddiffin êf?
Canis yr hwn sydd yn ofni Duw, ac yn caru ei Gymydogion, nid archollir êf gan wybrennol Ysbryd Belial; ar hwn sydd a [...] ofn yr Arglwydd yn darian iddo, sydd ddiogel oddiwrth bob Dyn ac Anifail, [...] gellir i orchsygu êf, oherwydd êf a gynorthwyir gan gariad Duw yr hwn sydd ganth [...] êf t [...]a a [...] at [...]i Gymydog.
Can [...] [...]oseph a geisiodd gan ein Ta [...] Jacob weddio dros fy Mrodyr at yr Arg [...] wydd, ar na bydde iddo roddi yn i cy [...] hwy y drygioni a ddarfaseu iddynt fwria [...] yn i erbyn êf.
Ar hynny Jacob a lefodd allan: O fy M [...] Joseph, tydi a orchfygaist fy nghalon. A ch [...] ei gofleidio ai gusanu êf ddwy awr yngh [...] a ddywedodd: [...]wydolieth y Nefoedd y [...] [Page 148] ti a gyflownir yn gwbl, yn mherthynas Oen Duw, ac Achubwr y Byd, a bydd ir Difrycheulyd gael i draddodi dros Weithredwyr Anwiredd; ac efe yr hwn sydd Ddi-bechod a gaiff farw dros Bechaduriaid yn N [...]raed ei Destament, er Iachadwrieth y Cenhedloedd, ac Israel hefyd, ac efe a deru Belial ai holl Weision.
Fy Mlhant, edrychwch ar ddiwedd y Gwr da hwnnw, a dilynwch ei Drugarogrwydd êf a meddwl da, modd i caffoch chwithau hefyd Goron Gogoniant ar [...]ich Penau.
Nid oes gan Wr da Lygad tywyll; canis mae êf yn Drugarog ac yn Dostu [...]iol wrth bob Dyn; ie er i bod hwy yn Bechad [...]riaid, ac eiddynt ddychmygu drwg iw [...]byn:
Canis yr hwn sydd yn gwneuthyr da, [...]ydd yn gorchfygu y drwg, drwy ymddiffyniad daioni:
Ac yn caru y cyfiaw [...] [...] Enaid ei hûn:
Os ûn arall y anrh [...] [...] iw êf yn cynfigenu dim:
Os ûn a gyfoethogir, nid [...]w hynny yn i flino êf ddim:
Os Gwr a fydd gryf neu galonog, i mae êf yn i ganmol, gan gredu hefyd i fod ef yn ddiwair.
[Page 149] I mae êf yn ymddiffin yr hwn sydd yn ofni Duw; i mae yn cyd-weithio yn nghyd ar hwn sydd yn ofni Duw, ac yn i garu êf:
Os bydd i Wr ymadel ar Holl-alluog, i mae yn i rybuddio êf i ddychwelyd drachefn:
Pwy bynnag a fytho gantho râs yr Ysbryd da, hwnnw i mae êf yn i garu megis ei Enaid ei hûn:
Mae êf yn tosturio wrth y tlawd, ac yn cynorthwyo y gwan; i mae êf yn gogoneddu ac yn anrhydeddu Duw.
Fy Mlhant, os bydd genech chwi feddwl da, Dynion drwg fydd arnynt ych arswyd chwi, ar afradlon rhag ei gwilidd a ddyc [...] welir at ddaioni: Ac fellu rhai cybydd [...] nid yn unig a ymadawant ai crintachrwy [...] ond h [...]fyd a roddant yn helaeth ir a [...]gh [...]nus.
Os byd [...] [...]wi gweithredwyr da, Ysbrydion [...] ymaith oddiwrthych, ar Bwys [...] [...] a giliant rhag eich ofn; canis [...] gofal am weithredoedd da yn y meddwl, yno i mae tywyllwch yn ffo ymaith; ae os gwn [...]iff êf gam ac un-dyn, fe a fydd yn ddrwg gantho: As os Gwr [...]inctedd a gaiff gam, mae yn tosturio wrth yr hwn ai gwnel [...] ac [...] i roddi i fynu drwy. [Page 150] ddistawrwydd. Ac os bydd i yn-dyn fra [...]hu Enaid cyfiawn, ac ir cyfiawn weddio [...]os ei fradychwr, nid bychan a fydd gogan abradychwr, ond y cyfiawn a ddaw yn fwy [...] hynny, megis ac i bu im Brawd [...]oseph.
Nid oes gan Ysbryd drygion [...]s Belial [...]dim gallu dros feddwl Gwr da; canis Angel Tyngnhefedd sydd yn cyfrwyddo ei Enaid êf:
Nid iw yn edrych yn serchog ar bethau llygredig, nag yn cribinio golyd yn nghyd yn nymuniant trachwant.
Nid ydiw êf yn ymhyfrydu mewn pleserau.
Nid iw yn blino ei gymydog.
Nid iw yn i lenwi ei hûn a bwydydd, [...] nid iw chwaith yn crwydro yn malchder [...]i lygad; canis yr Arglwydd ydiw ei gyfran êf.
Nid iw êf yn cymeryd dim gogoniant am roddi cyngor da.
Nid iw [...] yn dal sulw pa fodd i bytho dynion yn i [...]i-anrhydeddu êf, ni feidr êf chwaith fod yn ddichellgar neu faleusus mewn anwiredd, ymrysonedd ac enllib; canis i mae yr Arglwydd yn preswilio yntho êf, ac yn goleuo ei feddwl, i mae êf yn [Page 151] ymsawenhychu yn ngolwg pob Dyn [...] amser da. yn
Nid oes gan feddwl da ddau Dafod, [...] i fendithio, ac ûn arall i felldithio [...] ▪ ûn i enllibio; ac ûn arall i [...] o lawenydd, ac [...] arall o [...] o lonyddwch, ac ûn arall o [...]; ûn o [...] rith, ac ûn arall o wirione [...]d; ûn o dlodi, [...] ûn arall o gyfoeth: Ond mae gantho û [...] unig ddasparthiad pûr ac anllygredig tua a [...] at bob Dyn; nid oes gantho na golygon n [...] gwrandawiad ddau ddyblig; canis yn mho [...] peth ar a wnelo, pa ûn bynnag ai gwele [...] ai dywedyd, mae êf yn gwybod fod yr Arglwydd yn gweled ei galon êf, ac oherwydd hynny mae êf yn glanhau ei feddwl, mo [...] na cheffer êf yn feius oflaen Duw [...] Dyn.
Eithr holl weithredoedd Belial y [...] ddau ddyblig, ac yn gwbl wag o [...]ym [...] rhwydd.
Gan hynny fy Mlhant, gochel [...] ddry [...]ioni Belial; canis ar y cynta [...]e yn ddi [...]rwch ir fawl a ufyddhant iddo ef, eithr y [...] [...] diwedd mae êf yn Gleddyf, ac yn Dad [...] ddrwg: Canis pan feichiogo y medd [...] [...]aith drwy Belial, i mae êf yn esgor [...] [...]igen yn gynta, yn ail ar ddibrisrwyd [...] [...] [...]ydydd ar brydd der, yn bedwerydd [Page 152] gaethiwed, yn bumed ar angen, yn chweched ar drwblaethau, yn seithfed anghyfanedd dra; ac oherwydd hynny Cain a gystyddiwyd a saith o geryddon gan Dduw; canis dros saith mlhynedd olynol, Duw a ddygodd blaue oi newydd ar Cain; dau cann mlhynedd i dioddefodd, ac yn mhen naw cann mlhynedd y Ddaiar a wnawd yn anghyfanedd drwy y Diliw, [...]r mwyn Abel gyfiawn ei Fr [...]wd êf: Ac yn y seithfed gann mlhynedd Cain a farned, a Lamech yn y ddeg a thriugain saith-waith; canis y neb sydd debig i Cain mewn casineb a chynfigen tua ac at ei Brodyr, a geryddir ar unrhiw gerydd yn dragowydd, megis yntau.
Chwi gan hynny fy Mlhant, gochelwch falais, llîd a chynfigen tua ac at eich Brodyr, glynwch wrth ddaioni a charedigrwydd: yr hwn sydd gantho feddwl glan mewn cariad, nid ydiw yn edrych ar wraig mewn ffordd o drathyllwch, oherwydd nad oes halogedigrwydd [...]n i galon êf, canis Ysbryd yr Arglwydd sydd yn gorffwus arno: Canis megis ac i mae yr Haul heb i halogi er iddo dywynnu ar y pwll neu yr dommen▪ ond yn hytrach mae êf yn sychu i fynu, ac yn gyru ymaith y drewi; fellu i mae meddwl pûr yn [...]mdrech yn erbyn aflendid [Page 153] y Ddaiar, ac yn i orchfygu, ac heb i halogu ei hunan.
Ac ir ydwyf yn dealld wrth leferydd Enoch y cyfiawn, y bydd gweithredoedd drygionus yn eich musg chwi, a chwi ach halogwch eich hunain a godineb Sodom, ac fe a dderfydd am danoch, o ddieithr ychydig, a chwi a gynyddwch mewn chwantau afreolus tua ac at Ferched, a thyrnasiad yr Arglwydd ni bydd yn eich plith chwi; canis yr Arglwydd ai cymmer ei hûn yn brysur ymaith.
Er hynny Temel yr Arglwydd yn eich rhan chwi a wneir, ac a fydd gogoneddus yn eich musg chwi.
Canis yr Arglwydd ei hûn a gymer y Deyrnas arno i hunan, ar deuddeg Llwyth a gesglir ynghyd, ar holl Genhedloedd a ymgynillant yno, hyd onis danfono y gorucha ei Iachadwrieth yn ymweliad ei unig Genhedledig.
Ac êf a eiff ir Demel gyntaf, ac yno y bydd ir Arglwydd oddef cam ai ddirmygu, ai godi êf i fynu ar ddarn o Bren: A Llen y Deml a rwygir, ac Ysbryd yr Arglwydd y ddaw i lawr ar y Cenhedloedd, ac a dowelldir allan fel tân; a chan gyfodi i fynu or Bedd, êf a ymddarchefisf or Ddaiar ir Nefoed; ac êf a gofia mor Ddirmygus fy êf [Page 154] ar y Ddaiar, ac mor Ogoneddus ydiw êf yn y Nefoedd.
Pan ydoedd Joseph yn yr Aipht mi a hiraethais am weled ei Gorph êf, a gwedd ei Wynebpryd êf, a thrwy Weddiau sy Nhad Jacob, mi ai gwelais êf yn effro yn nydd cyflownder perffeithrwydd i w [...]dd êf.
Yn awr gan hynny fy Mlhant, gwybyddwch y bydd i mi farw: oherwydd hyn bydded i bob ûn dd [...]ilio yn inion ac yn blaen ai Gymydog; a chan weithredi yn iniawn ac yn ffyddlawn, cedwch chwi Gyfraith yr Arglwydd; canis hynny ir ydwyf yn i ddyscu i chwi yn lle pob etifeddieth; a rhoddwch chwithau y cyfriw eich Meibion yn feddiant tragwyddol.
Canis fellu i gwnaeth Abraham, Isaac, a Jacob, hwy a roddasant i ni yr holl bethau hyn yn etifeddieth, gan ddywedyd, Cedwch chwi Orchmynion yr Arglwydd hyd oni bytho iddo êf ddatguddio ei Achubawl Iachadwrieth ir holl Genhedloedd: Yna i cewch chwi weled Encch, Noah, Sem, Abraham, Isaac a Jacob, yn eistedd ar ei ddeheulaw mewn llawenydd.
Yno i bydd i bob ûn o honom gyfodi a [...] ei Deirn-wialen, gan addoli Brenin y N [...] foedd, yr hwn a ymddanghosodd ar [...] Ddaiar mewn gwael agwedd Dyn.
[Page 155] A chynifer ac a gredont yntho, a orfoleddant gyda ac êf yn yr amser hwnnw: Ar holl rai hynny a gyfodant drachefn i Ogoniant, ar lleill i gwilidd.
Ar Arglwydd yn gyntaf o gwbl a Farna Israel am yr anghyfiawnder a wnawd yn ei erbyn êf, oblygid na chredasant yn Nuw yr hwn a ddaeth mewn cnawd iw gwared.
Yno i Barna êf [...]r holl Genhedloedd, a chynifer ac ni chredont yntho êf pan ymddanghosodd êf ar y Ddaiar, êf a argoedda Israel yn mysg etholedigion y Cenhedloedd, megis ac yr argoeddodd êf Esau yn y Midianiaid, yr hwn a hudodd ei Frodyr drwy Odineb ac Eulyn Addolieth, y rhai oedd gwe [...]i ymddieithro oddiwrth Dduw, a syrthio ymaith oddiwrth etifeddieth y Plant, oherwydd nad ofnasant Dduw.
Os chwi à rodiwch mewn saincteiddrwydd oflaen yr Arglwydd, chwi a breswyliwch drachefn mewn gobaith yno fi, a holl Israel a gesglir at yr Arglwydd; ac nim gelwir ei mwnach yn Flaidd rheibus er mwun eich ysbail chwi, eithr mi a elwir yn Weithydd ir Arglwydd, yr hwn sydd yn rhoddi ymborth ir cyfriw ac a wnelont yn dda.
Ac [...]n fy Had ei y cyfyd êf i fynu Anvlyd yr Arglwydd, Llaferydd pa ûn a glowir [...]
EPISTL PAƲL yr Apostl at y LOADICEAID.
1 PAUL Apostl, nid o Ddyn, na thrwy Ddyn, eithr drwy Iesu Grist.
2 At y Brodyr y rhai sydd yn Loadicea: Grâs a Thyngnhefedd a fytho gyad chwi oddiwrth Dduw yr Tad, ar Arglwydd Iesu Grist.
3 Ydd ydwyf fi yn diolch im Duw yn fy [...]oll weddiau, am eich bod yn aros yn ddi [...]igl yntho êf, ac yn i holl waith, gan [...]disgwyl am ei addewidion êf hyd Ddydd Farn.
4 ¶ Ac na huder chwi drwy rai siariad [...]s [...]fuddiol, y rhai sydd yn myned oddiam [...]ylch i beri i chwi gwympo oddiwrth yr [...]fengil yr hon a bregethwyd ei chwi [...]rwyddo fi.
5 O na bae ir rhai a ddyscwyd geni fi, [...]lel gwasaneuthu er bydd ei Efengil y [...]wirionedd, a dyfod yn ddiwid mewn gwei [...]redoedd da ei fywyd tragwyddol.
6 ¶ Ac o hyn allan ir amlygir fy rhwy [...]ae ei, y rhai ir wyfi yn i diodde er mwyn [...]rist.
[Page 161] 7 oherwydd pa ham ydd ydwyfi yn llawenhychu yn fy Nghalon, ac yn i gyfri yn Iachadwrieth tragwyddol.
8 Fel i gwelid hynny drwy eich Gweddiau chwi, a thrwy weithrediad yr Ysbryd Glân, pa ûn bynnag ai drwy Fywyd ai drwy Farwolaeth.
9 Canis mae genifi ewyllus a llawenydd mawr i farw yn Nghrist, yr hwn drwy yr ûnrhiw drugaredd a rydd i chwi gael yr ûnrhiw Gariad, i fod o ûn Meddwl.
10 ¶ Gan hynny Frodyr anwyl, megis a [...] i clowsoch pan oeddwn ei gyda chwi, hynn [...] cedwch a gorffenwch yn ofn Duw, fell [...] i cewch chwi Fywyd tragwyddol; can [...] Duw ai gweithia ac ai perffeithia êf yno [...] chwi yn ddi-oed.
11 ¶ Anwylyd, ymlawenhewch yn y [...] Arglwydd, a gochelwch y rhai sydd y [...] chwenvchu ar ôl bidr elw.
12 Gwneler eich gweddiau chwi yn hy [...] bus ei Dduw, ac arhoswch mewn siccir w [...] bodaeth o Grist.
13 A gwnewch yr hyn sydd gymhesur gweddol, iniawn a rhesymol; ar hyn a glo [...] soch ac a dderbyniasoch, hynny cedwch [...] eich calonau, fellu i cewch chwi glôd.
[Page 162] 14 Grâs Duw, an Harglwydd Iesu Grist, a fytho gyda eich Ysbrydoedd chwi oll, Amen.
¶ Perwch Ddarllen yr Epistl yma ir Colosied, a darlleniwch chwithau yr hyn a Scrifenwyd, Col. 4. 16.
Epistl Paul at y Loadiceaid a gafwyd yn y Bibl hynaf ar y Breintwyd yn Worms.
Ychydig yn mherthynas Marwolaeth PATL.
PAUL gwedi i draddodi gan Nero yn rhwym at Longinus a Magistus, y pen Swyddogion, ac Acestus y Canwriaid, fel i bydde iddynt i arwen êf y tu ailan ir Ddinas, a fferi torri ei Ben êf.
PAƲL yn llawn or Ysbryd Glân, a Lefarodd Eiriau y Bywyd Tragwyddol, fel i bydde ei Nero, ac i bawb oll, gredu yn Iesu Grist, yr hwn ydoedd Frenin y Nefoedd ar Ddaiar, yr hwn a ddinistrae ogoniant y Byd a Thân.
Ac fel ir oeddent hwy yn i dywys êf ymaith, Longinus, Magistus ac Acestus, a ddechreuasant lefaru wrtho êf gan ddywedy [...] ▪ Dow aid i ni; O Paul, yn mha lef i mae y [Page 163] Brenin hwnnw? A ffa lef ir ymddengus efe i chwi? A ffa fodd ir adnabyddwch chwi efe? A ffa beth a ddyru efe i chwi? Neu pa ddaioni a dowalld efe arnoch chwi? Gan eich bod chwi y Cristnogion mor gadarn yn ei Garu efe, fel mewn un-modd na bydd i chwi gyd-uno an Crefydd ni, fel i galloch chwi fyw, a mwynhau daioni y bywyd hwn; Ond yn hytrach nar holl pleserau, ir ydech chwi yn Ymhyfrydu yn cael eich arwain i farw er ei fwyn efe, drwy amriw Boenau: Canis mae hyn yn ymddangos i ni yn Gyfailornad mawr, gasau y bywyd llawen yma, ac ymgowleidio yn eich holl ddymuniadau a Chystyddion a Marwolaeth.
PAUL gan hynny a ddywedodd, O chwi Wyr Doethion, yn Blodeuo mewn Gwybodeth, ymadewch allan or Tywyllwch ar Cyfeiliornad yn mha ûn i mae Ardderchowgrwydd eich Dealldwrieth chwi gwedi i orchguddio a Thywyllwch, rhag i chwi weled y Gwirionedd, yr hwn sydd yn gorwedd yn guddiedig ynoch; dychwelwch gan hynny Lygaid eich Meddyliae at y Tragwyddol Dduw, y gwir Oleini, fel i bythoch abl yn gyntaf eich adnabod eich hunain, ac fellu dyfod i fewn cydnabyddieth ar Brenin hwnnw drwy lawenydd, ac eich achyb chwi oddiwrth y Tân sydd yn dyfod ar y Byd ac [...]