Rhan o waith Mr. REES PRICHARD, Gynt Ficcar Llan-ddyfri yn Shir Gaer-fyr­ddyn, a osodwyd allan er Daioni'r Cymru.

Some part of the Works OF Mr. REES PRICHARD, Sometimes Vicker of Llandyfri in the County of Carmarthen.

Joan oedd ganwyll yn llosci, ag yn goleuo a chwithau oedd­ych ewyllysgar i orfoleddu dros amser yn ei oleuni ef, Joan. 5.35.

Hyn a Scrifennir i'r genhedlaeth y ddel, ar bobl y greuir a foliannant yr Arlgwydd, Psal. 102.18.

Printiedig yn LLUNDAIN, Ag a werthir gan Thomas Brewster, tan lûn y tri Bibl yn ymmyl Pauls, 1659.

Y Rhag-ymadrodd at y Cymru.

RHyfeddol yw cariad Duw tuag-at blant dynion; yr hyn ymddengys yn enwe­digol fel yn anfoniad ei vnig anedig fab Ghrist Jesu i baratoi jechadwriaeth idd­ynt, felly hefyd yn ei waith ef yn cyfodi, ag yn cymhwy so rhai oi mysc, ym-mhob gwlad (gan mwy a) i gyhoeddi 'r jechawdwriaeth honno iddynt, ag i gwahodd, trwy ffydd i derbyn hi, ag i edifarhau, a gwneuthur gweithredoedd add­as i edifeirwch, Luck 13.31, Joan 3.36. heb yr hon edifeirwch a ffyd [...]n Ghrist, nis gallwn ddisgwyl ond am ddestryw tragwyddol.

Ym-mysc eraill o'r cenhedloedd, rhyngodd bodd, ir Arglwydd (mewn trugaredd) i ymwe­led a ni'r Cymru, gan gyfodi rhai o'n gwlad, Acts 26.18. 1 Joan 3.8 i arferu moddion, i oleuo'n tywllwch, i'n dwyn o feddiant Satan (ym meddiant pa vn mae pawb sy'n gwasanaethu pechod) at Dduw, ag i gyfei­rio'n traed i ffyrdd dangneddyff.

Pan oeddyd yn newydd add papyddiaeth yn y wlad, gosododd Duw ar galonnau rhai o'n cyd­wladwyr, i gyficithu'r Bibl yn Cymraeg. Oh! na ddeallem ni fawredd y trugaredd i feddiannu Gair Duw yn ein jaith yn hunain. Onid yw'r Gair yn fodd i wneuthur y gwirion yn ddoeth? (sef mewn pethau a perthynant i ogoniant Duw a thragwyddol ddedwyddwch dyn, 1 Cor. 1.10 ir hon ddoethineb, nid yw pob doethineb arall ond [Page] ffolineb) ag onid yw'y Gair yn fodd i droi enei­d au at Dduw, i lawenhau calonnau cystyddiedig ag i adeiliadu 'r duwiol yn ei ffydd Sanctaidd. Ni phrissiasau Job Air Duw tu-hwnt ei ymborth angenrheidiol, Psal. 19.7, 8 10. Acts 20.32 Job 23.12 Psal 119 2 Jèr 15.16 na Dafydd tu hwnt i filoedd o Aur ag Arian, ni ddwedassau i fod yn felusach na'r mel, ie na diferiad diliau mel. na Jeremy i fod e'n llawenydd ag hyfrydwch iw galon ef, oni bassau fod llawer o ddaioni ysbrydol iw gaffel trwy jawn arfer y Gair, yr hwn pa nis cyfieithastit yn ein jaith, beth faussem ni'r Cymru (sef y rhai o honom ni ddeallant jaith arall) well erddo? ond och! pwy sy'n ystyried maw­redd y trugaredd hyn.

Gosododd Duw ar galonnau rhai, i gyf jeithu lly [...]rau saesneg yn gymraeg, megis, y LLwybyr Hyffordd, yr Ymarfer o Dduwioldeb, Catechizm, Mr. Perkins, &c. ag ar galonnau eraill i osod allan yn ein, jaith. lyfrau bychain o'i gwaith ei hun megis Carwr y Cymru, Drych i dri Maetho bobl, Cordiaid y Scrythyrau, a Chanwyll Christ, trwy ddarlleniad pa rai, y cafwyd daioni nid ychydig fel yr wyf yn gobeithio y ceir, wrth ddarllen y Cywir ddychwelwr, a Chatechizm, E­scob Ʋsher, a gifiethwyd yn hwyr yn gymraeg.

Cyfodod d Duw hefyd rhai pregethwyr pwe­rus yn ein gwlad, a bendithiodd ei gwaith yn rhyfeddol, mewn amryw leodd, yn enwedig pregethiad Mr. Wroth o shir Fonwey ag eraill or amser hynny.

Nid allwn ni ddwedyd llai befyd, nad y ga­riad i'n gwlad, y derchafodd Duw Mr. Rees Prichard (gynt Vicker Llan-ddyfri) i fod yn gan wyll yn lloscu ag yn goleuo yn ei amser. Ei [Page] fawr boen ef ym-mrhegethiad y Gair, ei Siampl dda mewn ymarweddiad, a'i ymostyngiad, i osod allan ar fessurau (gan gymmeryd poen an­feidrol yn hynny) y pethau ganlynant, (gida llawer o pethau da eraill, y rhai allwn ei printio rhag-llaw os bendithia Duw y gwaith presenol a eglurant amcan y Gwr da ymma, i wneuthur daioni yn ei genhedleth,

Ond yn gymmaint a phrintio hyn o'i waith ef, ystyriwch, taw un peth am hannogodd i hyn­ny, yw, y tybygoliaeth mawr (o herwydd ys­brydolrwydd y pethau, yr hawsder i deall hwynt, ar Son mawr am, ar cyfryf y wneir o waith Mr. Prichayd yng-hymru) y gallant (trwy fendith Duw) argyoeddu pechaduriaid yn ein gwlad, Epb. 5.14 a'i dihuno o'r cwsc marwol y maent yn­ddo, yn i stad naturiol, i ofalu am jechawdw­riaeth ei heneidiau, ag y gallant adeiliadu'r du­wiol (ar ylleia y rhai sy'n dechrau ymlusco yn ffordd yr Arglwydd) yn ei ffydd sanctaidd.

Os yn graffys y darllenir y llyfyr hwn, gellir gweled egluro ynddo, hwnt ag ymma, er nid yn y drefn y ganlyn y pethau hyn.

1. Amryw o bechodau ein gwlad.

2. Embeidus gyflwr y neb fy'n byw mewn pechod.

3. Amryw o ddychmygion, trwy ba rai y twy­llyr pobl, gan dybied ei cyflwr yn dda ag yntau 'n ddrwg.

4. Nad oes Jechawdwriaeth ond trwy ffydd yn Ghrist.

5. Nad oes ffydd yn lleshau i jechawdwriaeth ond yr hon sy'n tynnu rhinwedd oddiwrth Ghrist, i sancteiddio 'r enaid ar corph i wa­fanaethu [Page] Duw trwy gadw ei orchmynnion.

6 Pwy leshad sydd iw cael o dderbyn Christ, a pha fodd y mae i dderbyn ef.

7. Pa fodd mewn meddwl, gair, a gweithred y dylem ymddwyn yn hun, yn naiilltuol, yn ein teulu, yn y byd, ag yn y gynnulleidfa wrth addo­li Duw.

8. Pa foddion sydd iw harfer (ar ffordd iw jawn harfer) megis pregethiad a darlleniad y gair, gweddi a swpper yr Arglwydd, i gaffel daioni ysbrydol oddiwrth Dduw trwyddynt.

9. Pa fodd mae gochelid amryw profedigae­thau Sathan.

10. Pwy mor ferred yw'n heinioes, pwy mor ofer yw gweddio dros y marw, pwy mor siccred y bydd dydd barn, pa fodd y bernir y byd, a phwy mor dda yw glynu wrth yr Arglwydd hyd y diwedd.

Ag oni ellir cael lleshad wrth ddarllain y cy­friw bethau? nid allaf dybied llai; ag yn enwe­dig, o herwydd darostwng or Awdwr, i ddeall­twriaeth y cyffredin bobl yn y rhain, fel yn eraill o'i scrifennadau.

Peth arall am hannogodd i brintio 'r pethau ymma, yw, y tybygoliaeth mawr, y cynhyrfir wrth hyn laweroedd ni fedrant ddarllain, i ddys­cu ddarllain cymareg. Awyddys yw bobl at bethau newyddion, a'r rhain yn ptintiedig yd­ynt newydd i'n gwlad: ag odid, na bydd llawer (er ys-catfydd nid ag amcan i gael lleshad i he­neidiau, etto o ran ei dyfyrwch) yn ymdynnu, i ddyscu darllain gwaith Vickar Landdyfri. Ag ar ol dyscu ddarllain hwn, pa rwystir fydd i ddarllain llyfrau cymareg eraill, trwy ba rai- [Page] (oni chesglyr trwy hwn) y gellir casglu daioni mawr; ag felly os yw'r llyfyr hwn mewrn rhyw fodd (pa bae ond trwy ddigwyddiad) dybygol i wneuthur lles, gobeithio fod genym resswm cryf am ei brintio.

Nag anfodloned neb, am ymdrechu lleshau'r bobl, trwy'r pethau hyn, Acts 17.18 Tit. 1.12. 1 Cor. 15.33 a osodwyd allan ar fessur, yn gym-maint a Scryfennu rhan or Scry­thur, yn yr Hebra-aec felly (megis, y Caniadau, Psalmau, rhan o Job, &c.) ag yn gymmaint i Paul, allan o waith y Poetau cenhedlig (y rhai oeddent yn Scryfennu ar fessur) ymdrechu gynt argyhoeddu 'r bobl yn Athens, ag eraill mewn rhai o'i lythyrau, os Paul y wnaeth ddenfydd o boetau cenhed lig, mwy o lawer y gallwn ni wneuthur denfydd o boetau Christnogaidd ir pwrpas ymma.

Na ddigied neb hefyd o herwydd y gweddiau canis, nid iw gweddio, ond i darllain, fel y caffei'r gwann gyfarwyddeb, pa fodd y mae iddynt we­ddio, y printiwyd y rhai sy'n y llyfyr ymma.

Ond fel y caffoch leshad wrth ddarllain y lly­fyr, yn gyntaf, daisyfwch ar yr Arglwydd, ariddo wneuthur i chwi ddaioni trwyddo. Psal. 3 [...].10. Psal. 119.18. Arfer dda yw, cyn ddarllain llyfyr, ble crybwyllir am bethau Duw, derchafu 'r galon ar llygaid at yr Arglwydd, gan ddwedid fel hyn. Arglwydd agor sy Llygaid i weled dy wirioneddau, paratoa fyng-halon i derbyn hwynt, a chadw fi rag am­ryfysseddau.

Yn ail darllenwch ag ysbryd gostyngedig, er cymmaint yw eich gwybodaeth, bernwch fod yn rhaid i chwi wrth ragor; tybiwch eich hun yn ffyliaid, fel y bo i Dduw'ch gwneuthur chwi [Page] 'n ddoeth. 1 Cor. 3.18 Psal. 138.6 Psal. 25.9 Mae ef yn dal sylw gidag hyfrydwch, ar y gostyngedig, ag yn addaw dyscu ei ffyrdd i'r cyfriw.

Yn drydydd, gochelwch yscawnder wrth ddar­llain, nid gwirion gan yr Arglwydd y sawl a gymmero ei enw ef yn ofer. Gwybyddwch, mae pa peth by nnag sy'n gwneuthur Dnw'n gydnabyddys, ei Enw ef yw hynny ag os yn rhygil, ag yn yscawn gida chwerthinad, y dar­llenwch hwn, neu vn llyfyr arall, sy'n gwneu­thur Duyw'n gydnabyddys, dyna chwi'n cym­merid ei Enw ef yn ofer. Darllenwch gan hynny mewn parch ag ofn (can ys iw darllain, ag nid iw canu y printiwy dy pethau ymma, y sawl y gano, Psal. [...]4.9 Esay 66.2 caned Psalmau Dasydd, neu araill o'r Seintiau, y rhai ydynt Scrifennedig yn y Scry­thur) a phan ddarllenoch felly: bydd daioni i chwi.

Yn bedwaredd, gochelwch, o herwydd rhiw airiau tramcwydds sy'n Sathredig yn y llyfyr (megis ble gelwir y llann yn Eglwys, y gweni­dogion yn offeiriaid, addoliad Duw y borau yn wasanaeth pryd, ag addoliad Duw y Pryd nhawn yn osber, &c.) ddibrisio 'r cwbl sydd yn do. Ystriwch, mae ymmadroddion arfer­edig, a chymeradw y yn amser yr Awdwr, oedd y rhain, ir cyfriw: ag os manwl chwlier hwnt, nid oes cymmaint achos tramcwydd ynddynt, ag y bo rhaid i'r rhan fwyaf o'n zel ni fyned all­an, i ymrafaelio o'i plegit. pan ddylit i stofi, i ymdrechu ym mhlaid y nydd (sef yr athrawi aeth aghenrheidioliw chredu i jechawdwriaeth) yr hon a rodded vn waith i'r Sainct, ag y sigl­wyd yn dost, [...] 2 ag y siglir fyth, yn yr amseroedd [Page] diweddaf ymma, gan Ranters, Quakers, ar cy­friw.

Er cymmaint o ofal y gymmerwyd, i ddywy­gio 'r papyrau, cyn ag wrth ei printio, etto mae rhai beiau (er nid ydynt ond ychydig, a rhai hynny (gan mwya) yn feiau llythrenol, ag a ellir yn hawdd i argyweirio a phin wrth ei dar­llain) wedi diangc yn y llyfyr, trwy anghyfa­rwydd-deb y Scrysennydd a dywygiwr y pres, i spelian cymraeg: nid allaf ddwedid llai hefyd, nad oes ynddo amriw eiriau dierth i'n jaith, ag agos jawn i saesneg: ond yn hyn, rhaid dio­ddef peth gan Magna est Poetica [...]icen­tia, Boetau: ag ni ellir disgwyl cym­maint gwybodaeth, a manylrywydd yh y 'aith, oddi-wrthm ni o Ddebau barth, ag oddi-wrth ein brodyr o Weunedd, o herwydd i llygru hi'n fwy gida ni, er ys talm o amser, na chida hwynt,

Y Cymru Annwyl, na welwch yn fawr draelo ychydig arian i brynu'r Bibl, ag eraill lyfrau da, sydd all [...]n yn eich jaith. Llawer o amser, a golud, (nid ich gwradwyddo (Duw sydd dyst) ond ich hannog i traelo'n well rhag-llaw yr wyf yn dwedid hyn) y draelodd bagad o honoch ar ddiod, a chardiau, ar ddillad tu-hwnti'ch ga­lwad, ar eraill bethau brwnt i hadrodd (anwe­ddys i henwi ym mysc Sainct) ag i gynnal mat­terion drwg mewncyfraith, o herwydd pa weith­redoed ar cifriw (onid edisarhewch) colledig fyddwch yn dragwyddol. Och! Da [...]c. 21.8 Rhuf. [...].23. Mar. 1 [...].29 mae'r enaid yn werthfawroccach, na'-holl fyd; ag a drael­assom ni lawer o Amser ag Arian, i nafu'r enaid ag a draelwn ni ddim, yn y moddion, trwy jawn arferiad pa rai, y gallwn ddyfod at Ghrist, i gaffel yn jachau a'n cadw? Na atto Duw onid [Page] Anniolchgarwch mawr, yw dibrissio'r moddion, y bwyntiod Duw o'i drugaredd i ni harfer, er daioni tragwyddol i'n heneidiau? ag onid ydym yn ei gyffroi ef trwy hynny, i fyned ar modd­ion at erail, a'n gadel ni 'n ddifoddion? Mat. 21.43. Ag oni ellwn ni ddisgwyl am farn echry­dys, os 'llyn y gwnawn? Mat. 11.20, 22. Heb. 2.2, 3. Atolwg ystiriwch hyn ag na fyddwch byw rhag-llaw, fel rhai na wyddant, neu na feddyliant, fod ganddynt, pob yr vn, enaid gwerthfawr iw gadw, neu golli: fel rhai ni wyddant, i ba bwrpas y daethont i'r bŷd, na p'le'r ant pan elont or byd, tost sydd cyflwr y cyfriw ar ol hyn. Niscant, (fwy na Difes) pan criant am ychydig ddwfr ar flaen bys vn, cym­maint argronyn, i oeri ei tafod yn y flam vffer­nol, Luc. 16.24, 26 Dihar. 1.26. ni wna Duw ond chwerthyn am ei dialedd. deellwch hyn yn awr y rhai y dych yn angofio Duw, rhag iddo eich rhwygo ag na byddo gwa­redudd. Ag felly byddwch wych.

S. H.
Y mae y llyfyr hwn ac amriw ly­frau cymraeg eraill iw cael ar werth gan Thomas Brewster, tan lun y tri Bibl yn ymmyl Pauls, megis.
  • Y Bibl.
  • Y Testament.
  • Yr ymmarfer o Dduwioldeb.
  • Sail Grefydd Gristnogol.
  • Carwr y Cymru.
  • Catechizm Escob Usher, &c.
  • Y Cywir Ddychwelwr yn datcuddio, Y nifer Bychan or rhai gwir gredadwy, Ar Anhawstra mawr o droedigaeth, Cadwedigol.

Y Llythyrennau.

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R S T Th V W Y Z.

a b c ch d dd e f ff g ng hil ll m n o p ph r s s t th v u w y z.

A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I L Ll M N O P Ph R S T Th V Y Z.

a b c ch d dd e f ff g ng h l ll m n o p ph r s s t u v w y z.

A B C Ch D Dd E F fF G NG H I L Ll M N O P Ph K S T Th U W Y Z .

a b c ch d dd e f ff g ng h i l ll m n o p ph r r s s t th v u w y z.

bogeiliaid A e i o u w y.

Y Sylaftau.

Ab eb ib ob ub wb yb.
Ac ec ic oc uc wc yc.
[Page]Ach ech ich och uch wch ych.
Ad ed id od ud wd yd.
Add edd idd odd udd wdd ydd.
Af ef if of uf wf yf.
Aff eff iff off uff wff yff.
Ag eg ig og ug wg yg.
Ang eng ing ong ung wng yng
Ah eh ih oh uh wh yh.
Al el il ol ul wl yl.
All ell ill oll ull wll yll.
Am em im om um wm ym.
An e nin on un wn yn.
Ap ep ip op up wp yp.
Aph eph iph oph uph wph yph.
Ar er ir or ur wr yr.
As es is os us ws ys.
At et it ot ut wt yt.
Ath eth ith oth uth wth yth.

Deu prath gwaith yw dechreu.

1.2.3.4.5.6.7.8.9.10.11.12.13.14.15.16.17.18.19.20.21.22.23.24.25.26.27.28.29.30.31.32.33.34.35.36.37.38.39.40.41.42.43.44.45.46.47.48.49.50.51.52.53.54.55.56.57.58.59.60.61.62.63.64.70.71.80.81.90.91.100.101.102.103.110.111.112.120.121.122. &c.

Addysc a chynghorion ynghylch gwrando pregethiad yr Efengil, ag ynghylch chwilio 'r Scrythyrau.

O Cais gwr, na gwraig, na bachgen,
Ddyscu'r ffordd 'r nefoedd lawen,
Ceisied air Duw iw gyfrwyddo,
Psal: 119.19
Onid ê, fe aiff ar ddidro,
Mae'r nef ymhell, mae'r ffordd yn ddrys,
Mae'r trammwy'n fach, mae rhwystrau anhap pys,
Mae'r porth yn gul i fyned trwyddo,
Mat. 7.14 Psal: 119.105
Heb oleu'r gair, nid air byth atto.
Mae'r nef vwchlaw, yr haul a'r lleuad,
Mae'r ffordd yn ddierth itti ddringad,
Rhaid Christ yn Escol cyn dringhadech,
Ioan: 14.6
Ai air yn ganwyll cyn canfyddech.
Mae llawer craig o rwystrau cnawdol,
Mae llawer mor o drallod bydol,
Mat: 18 7 Mat: 19 24 Psal. 119.92
Cyn mynd ir nef, rhaid myned trostynt,
Heb oleu'r gair, nid air byth trwyddynt.
Mae llawer mil o lwybrau Ceimion,
O ddrysswch blin, offoesydd dyfnion,
Cyn mynd i'r nef, rwi'n dwedyd wythyd,
Heb oleu'r gair, nielli i gweglyd.
Di ally fynd, i vffern danllyd,
Llwyr dy ben, heb vn cyfrwyddyd,
Rhuf: 1.19
Nid aiff neb, ir nef gwnaed allo,
Heb y fengil iw gyfrwyddo.
Nid golau'r haul, nid golau 'r lleuad,
Nid golau'r dydd, na'r ser sy'n gwingad,
Ioan: 5.39
Ond golau'r gair, a'r fengil hyfryd,
All dy oelu o i dir y bywyd.
Cymer
llufern
lantern Duw'th olevo,
A'r Efengil, ith gyfrwyddo,
Troyda'r llwybyr cul orchmynnwys,
Di ai yn union i Baradwys.
1 Pet: 1.19
Y gair yw'r ganwyllath oleua,
Y gair yw'r gennad ath gyfrwydda,
Y gair ath arwain i baradyws,
Y gair ath ddwg ir nef yn gymmyws.
Dilyn dithau oleuni'r gair,
Gwna beth archwys vn mab Mair,
Ioan: 12.26
Gwachel wneuthur a wrafynnwys,
Di ai yn vnion i baradyws.
Seren wen yn arwain dyn,
O fan i fan at Grist ei hun,
Yw'r Efengil igyfrwyddo,
Pawb ir nefoedd ai dilyno.
Bwyd ir Enaid, bara'r bywyd,
1 Pet. 2.2 Ier. 15.16 Psal. 119.104, 105
Gras ir corph a maeth i'r yspryd,
Lampir troed, a ffrwyn ir genau,
I [...] gair Duw, a'r holl scrythyrau.
Llaeth i fagu'r gwan ysprydol,
Gwin ilonni'r trist cystiddyol,
Psal. 19.8 Psal. 119.103
Manna i borthi'r gwael newynllyd,
Ydiw'r gair, ar fengil hyfryd.
Eli gwych rhag pob rhyw bechod,
Oyl i ddofi gwun cydwybod,
Dihar 4.20, 21 22
Triagl gwerthsawr, rhag pob gwenwyn,
Y diw'r gair, a balsam aeddfwyn.
Mwrthwl dur i barrio'n cnappieu,
Bwyall! em i dorri ein ceingieu,
Ier. 23.29
Rheol gymmwys, i'n trwssianu.
Ydiw'r gair, ac athro i'n dysgu.
2 Tim. 3.16
Udcorn pres i'n
orseddfaig [...]n
gwffio ir
Gwahodd. Psal 19.11 Eph. 7.1
frawdle,
Cloch in gwawddi wella ein beieu,
Herawld yn
cyhoeddu Iob 23.12
proclaimio ein heddwch,
Ydiw'r gair a'n gwir ddiddannch.
Y gair yw'r drych sy'n gwir ddinoethi,
Rhuf. 3.20
Ein holl frychau, a'n holl frwnti,
Ag yn erchi inni i gwella,
2 Tim: 3.16
Tra fo'r dydd, a'r goleu'n para.
Y gair yw'r had sy'n adgenhedlu,
2 Pet 1.23 Iac. 1.18
Yn blant i Dduw, yn frodyr Jesu.
Yn deulu'r nef, yn demlau ir yspryd;
Yn wir drigolion tir y bywyd.
Dihar: 29.18
Heb y gair nid wyn dychymig,
Pa wedd y bydd dyn yn gadwedig,
Rhuf: 1.16
Lle mae 'r gair yn Benna or moddion,
Ordeiniodd Christ i gadw Christion.
Heb y gair ni allir nabod
Er wrth oleuni naitur a gwaith y grea­digaeth y na­byddir Duw mewn rhan, etto i Jechydwriaeth ni nebydd vn dyn ef heb y gair.
Duw, nai nattur, nai lan hanfod,
Nai fab Christ, na'r sanctaidd yspryd,
Na rhinweddau'r Drindod hyfryd.
Mat: 22.29
Heb y gair ni ddichon vn dyn,
Psal: 119.105
Nabod wllys Duw nai ganlyn,
Na gwir ddysgu'r ffordd i addoli,
Nes i'r gair roi iddo eleuni.
Heb y scrythur ni ddealla,
Vn dyn byth, oi gwymp yn Adda,
Nai drueni nai ymwared,
Trwy fab Duw o'r fath gaethiwed.
Heb y gair ni all neb gredu,
Yn Ghrist Jesu fu'n ei brynu,
Rhuf: 10.14, 17
Cans o wrando'r gair yn brydd,
Y mae i Gristion gyrraedd ffydd.
Heb y gair nid yw Duw'n arfer,
Troi vn enaid oi diffeithder,
Ond trwy'r gair Mae'n arferedig,
Droi 'r Eneidiau fo Cadwedig.
Act: 21.19 Act. 13.48
Ar gair y trows yr Apostolion,
Y Cenhedloedd yn Gristnogion,
[Page 5]Heb y gair peth dierth yw,
Act: 11.20, 21
Droi pechadur byth at Dduw.
A phregethiad vn Efengil,
Act: 2.36 37 41
Y trows Pedr gwedi tair mil,
O Iddewon i wir gredu,
Ar ol iddynt ladd yr Jesu.
Trwy had y gair, yr adgenhedla,
Iac: 1.18 1 Thes. 1.5, 7, 9
Yspryd Duw'r pechadur mwya,
Ag ai gwna, yn orau ei riw,
Yn frawd i Grist, yn fab i Dduw.
Y gair sy'n cynnwys ynddo yn helaeth,
Iac: 1.19 Dihar: 8.10 11
Faint sydd raid at jechydwrjaeth,
Chwilia hwn, a chais yn astyd,
Ynddo mae'r tragwyddol fywyd.
Christ sy'n erchi it lafurio,
Am y gair, ath draed ath ddwylo,
Mwy nag am y bwyd y dderfydd,
O chwenychu fyw'n dragywydd.
Fel y llef dyn bach am fronnau,
1 Pet: 2 2
Fel y cais tir cras gafadau,
Fel y brefa'r hudd am ffynnon,
Llef am eiriau 'r fengil dirion.
Gwerth dy dir, a gwerth dy ddodren,
Gwerth dy grus oddiam dy gefen,
Gwerth y cwbwl oll sydd gennyd,
Cyn bech byw heb air y bywyd.
Gwell it fod heb fwyd, heb ddiod,
Heb dŷ, heb dan heb wely, heb wascod,
Heb oleu'r dydd, a'r haul gariaidd,
Na bôd heb y fengil sanctaidd.
Tost yw aros mewn Cornelyn,
Lle na oleuo'r haul trwy'r flwyddyn,
Ioan: 12.35
Tostach trigo yn y cwarter,
Lle na oleuo 'r gair vn amser.
Na thrig mewn gwlad, heb law ar brydieu,
Mewn glyn heb haul, mewn ty heb oleu,
Mewn tre heb ddwr, mewn llong heb gwmbas
Mewn plwyf heb riw bregethwr addas.
Gado'r wlad, a'r plwyf, a'r pentre,
Gado'th dad, ath fam, ath drasse,
Gado'r tai, a'r tir yn ebrwydd,
Lle na bytho gair yr Arglwydd.
Gwell it drigo mewn Gogofeu,
A chael gwrando'r fengil weithieu,
Nag it drigo mewn gwlad ffrwythlon,
Lle na bytho'r fengil dirion.
Tost yw trigo mewn tywyllwch,
Lle na chaffer dim diddanwch,
Tristach trigo yn rh [...] hair,
Lle na chaffer gwrando'r gair.
Nid gwaeth trigo'mysc y Twrcod,
Sydd heb ofni Duw nai nabod,
Nag it drigo yn dost dy drigil,
Lle na chlywyr Christ nai fengil.
Tyn i Loeger, tyn i Lyndain,
Tyn dros for, tu hwnt i Rufain,
Tyn i eitha 'r byd ar drigil,
Nes y caffech gwrdd a'r fengil.
Blin it weld yr haul a'r glaw,
Mewn plwyfe dauty yma a thraw,
A'th plwyf dithau (peth yscymmin)
Heb na haul na glaw trwy'r flwyddin.
Oni bydd vn bregeth ddirfing,
Yn y plwyf lle bech yn taring,
Dos y maes ir plwyf lle bytho,
Iac: 1.19
Nad vn Sabboth heb i gwrando.
Pan fo eisiau a'r dy fola,
Di ai i'r gell i geisio bara,
Pan fo newyn ar dy enaid,
Nid ai i vn lle, i geisio ei gyfraid.
Beth a dal it borthi'r corphin,
Mat: 16:26
O bydd dy enaid marw o newyn,
A all dy gorph di gael difyrrwch,
Pan fo dy 'enaid marw o dristwch.
Drwg it ladd y corph a newyn,
Eisiau bara tra fo'r flwyddyn,
Gwaeth o lawer lladd yr yspryd,
Eisiau borthi a bara'r bywyd.
Llef gan hynny ar y ffeiriaid,
Am roi bwyd i borthi d'enaid,
Mal: 2.7
Rwyt ti 'n rhoi dy ddegwm iddyn,
Par i nhwyntau dorri'th newyn.
Luc: 10.16 Mat. 28.20 1 Thes. 2.13 Eph. 4 11
Gwrando r gair o enau'r ffeiriad,
Fel o enau Christ dy geidwad,
Christ a roes awdurdod iddo,
Ith gynghori ath rybuddio.
Mat, 23.2, 3
O pair Christ i ffeiraid noethlyd,
2 Pet. 2, 16
Dy rybuddio well a'th fywyd,
Rwyti yn rhwym i wneuthur archo,
Pe doe Assen ith rhybyddio.
Os dy fugail sydd anweddaidd,
Mat. 23, 2, 3
Ai athraw jaeth yn Gristnogaidd.
Dysc y wers, na ddysc ei arfer,
Gwachel feieu Paul a Pheder.
Pe doe Suddasi bregethu,
Fengil Grist, ti ddylid i dyscu,
Fe all y fengil gadw d'enaid,
Erith Athro dost gamsyniaid.
Na wna bris oi wedd ai wiscad,
P'un ai gwych, ai gwael fo'i ddillad,
Nid llai grym y fengil gyngan,
O'r shiacced ffris na'r gassog sidan.
Cymer berl o enau llyffan,
Cymer aur o ddwylo aflan,
Cymer win o fottel fydur,
Cymer ddysc o ben pechadur.
Gwrando'r fengil, Christ iw hawdwr,
Pwy fath bynnag fo'r pregethwr,
Prissia'r gair, na ffrissia'r gennad,
Christ ei hun ai helodd attad.
Cadw'r geiriau yn dy galon,
Luc: 2 51 Luc: 8.12
Nad ei dwyn gan
sef gan Gythreiliad.
gigfrain duon,
Had yw'r gair ith adgenhedlu,
Os ir galon y derbynnu.
Dyfal chwilia di'r Scrythyrau,
Ioan 5. [...]9 Psal. 1.2
Darllen air Duw nos a borau,
Dilyn arch y gair yn ddeddfol,
Psal. 119.100
Hynny'th wna di'n ddoeth anianol.
Cadw'r gair pob Pryd ith galon,
Deut 6 6, 7, 8
Ac yspysa hwn ith feibion,
Sonnia am dano nos a boreu,
Y mewn, y maes wrth rodio ac eiste.
Dod e'n gadwyn am dy fwnwg,
Dod e'n rhagdal o flaen d'olwg,
Dod e'n
fodrwy Psal. 119.98
signet ar dy fyssedd,
Na ddos hebddo led y droedfedd.
Gwna'r gair beunydd yn gydymmaith,
Gwna'n gywely it bob noswaith,
Gwna e'n gyfaill wrth shiwrneia,
Gwna'r peth a archo wrth chwedleua.
Gwna fe'n ben Cynghorwr itti,
Psal: 119.24, 99
Gwna fe'n Athro ith rheoli,
Fe ry'r gair it, gan gwell cyngor,
Nag a roddo un rhiw Ddoctor.
Nad ei drigo yn yr Eglwys,
Deut. 6.6, 7 Psal. 119.11 Gen. 18.19 Eph. 6.4
Gida 'r ffeirad 'r hwn ai traethwys,
Dwg ef adref yn dy galon,
Ail fynega rhwng dy ddynion.
Gwna di'r gair yn ddysclaid benna,
Iob 23.12 Ier: 15.26 Psal: 19.103
Ar dy ford tra fech yn bwyta,
Gwedi bwyta, cyn cyfodi.
Bid y gair yn
felus-fwyd
juncats itti.
Rho ith enaid nos a borau,
Frecffast fechan, o'r scrythyrau,
Rho iddo giniaw bryd, a swpper,
Cyn yr elych ith esmwythder.
Fel y porthi'r corph a bara,
Portha denaid bach a'r manna,
Nadith enaid hir newynu,
Mwy na'r corph syn cael i fagu.
Mae'r bibl bach yn awr yn gysson,
Yn jaith dy fam iw gael
ydiw dan goron.
er coron,
Gwerth dy grys cyn bod heb hwnnw,
Mae'n well na thref dy dad ith gadw.
Psal: 119.72
Gwell nag aur, a gwell nag arian,
Gwell na'r badell fawr nar crochan,
Gwell dodrennyn yn dy lettu,
Ywr bibl bach, na dim a feddu.
Fe ry
gyffur Rhuf: 15:4 2 Tim: 3.16
gonffordd, fe ry gyngor,
Fe ry addysc gwell na Doctor,
Fe ry lwyddiant a diddanwch,
Fe ry't lawer o ddedwyddwch.
Fe ry bara i borthi denaid,
Fe ry laeth i fagu'th weiniad,
Fe ry gwin ith lawenhau,
Fe ry eli ith jachau;
Pwy na phrynau 'r bibl sanctaidd,
Sydd mor werthfawr ag mor griaidd,
Pwy na wertheu dy ai dy ddyn,
I bwrcassu 'r faeth ddodrennyn.
Dyma'r perl y fyn y Jesu,
I bob Cristion doeth i brynu,
Fely
Marchnatta­wr.
Marchant call a wertheu,
I brynu hwn faint oll y feddeu.
Gan i Ddnw roi inni 'r Cymru,
Ei air sanctaidd in gwir ddyscu,
Moeswch inni fawr a bychain,
Gwy mpo i ddyscu hwn ai ddarllain.
Moeswch inni wyr a gwragedd,
Gida i gilydd heb ymhwedd,
Brynu bob vn iddo lyfyr,
I gael ddarllain geiriau'r scrythyr.
Moeswch inni bawb rhag gwradwydd,
Ddyscu darllain gair yr Arglwydd,
Gan i Dduw ei ddanfon adre,
Attom bawb yn jaith ein mammeu.
Nadwn fynd y gwaith yn ofer,
Y fy gostfawr i wyr Lloeger,
Rhag na fetrom wneuthur cyfri,
Ddydd y farn am gyfriw wrthni.
Gwyr a gwragedd, Merched, Meibion,
Cymrwn ddysc oddi wrth y Saeson,
Rhai a fedrant bob vn ddarllain;
Llyfyr Duw'n ei jaith ei hunain.
Gwradwydd blin i ninnau 'r Cymru,
Oni cheisiwn weithan ddyscu,
Darllain gair Dnw a'r Scrythyrau,
Gan ei brintio 'n jaith ein mamman,
Ni chist bibl i'ti weithian,
Ddim tu hwnt i goron arian,
Gwerth hen ddafad y fo marw,
Yn y clawdd ar noswaith arw.
O meder vn o'r tylwyth ddarllain,
Llyfyr Duw yn ddigon Cwyrain,
Fe all hwnnw'n ddigon esmwyth,
Ddyscu'r cwbwl o'r holl dylwyth.
Ni bydd Cymro'n dyscu darllian,
Pob Cymraeg yn ddigon Cywrian,
Ond vn misgwaith, beth yw hynny,
O's bydd ewyllys gantho i ddyscy.
Mae'n gwilyddys i bob Christion,
Na chlyw arno stofi coron,
Ag vn misgwaith oi holl fwyd,
Ynghylch dyscu 'r fengil hyfryd.
Wrth y phi­giwr Synech­doche trwy ha vn y dodir y ewhl dros ran y m [...]e hyn yn wir: ag felly mae deall hyn, sef bod llawer or cyfriw, ag nid pawb beb ado vn ym misc y saeson yn medru darllain.
Mae'r Cobleriaid ai morwynion,
A rhai gwaela' mysc y Saeson,
Bob yr nna'r bibl ganddynt,
Dydd a nos yn darllain ynddynt.
Mae Pennaethiaid gyda ninnau,
Ai tableri ar ei bordau,
Heb vn bibl, nag vn plygain,
Yn ei tai, na neb i darllain.
Peth cwilyddus gweld Cobleriaid,
Yn rhagori ar Bennaethiaid,
Am gadwrjaeth ei heneidiau,
Ar peth rheitia mewn neuaddau.
Y Cobleriaid hyn y gyfyd,
Dydd y farn yn anian aethyld,
I
Evog-farnu
gondemnio 'r fath Bennaethiaid,
Sy dd mo'r ddibris am yr enaid,
Pob merch Tingcer gi da'r Saeson,
Feider ddarllain llyfrau Mawrion,
Ni wyr merche'd llawer Squier,
Gyda ninnau ddarllain pader.
Gwradwydd tost sydd ir Brittaniaid,
Fod mewn Crefydd mor ddieithraid,
Ac na wyr y canfed ddarllain,
Llyfr Duw'n eih jaith ei hunain.
Bellach moeswch in rhag cwilydd,
Bob rhai ddyscu
Gwyddorl­on
pwcniau Crefydd,
Ac ymroi i ddyscu ddarllain,
Llyfr Duw a'n jaith ein hunain.
Felly gallwn ddyscu nabod,
Ioan 17.3 Psal: 34.10
Y gwir Dduw ai ofni'n wastod,
Ac oi nabod ai wir ofni,
Fe ry ddi-drangc fywyd inni.
Duw ro gras a grym i Gymru,
Adnabod Duw ai wir wasnaethu,
Christ a nertho pob rha i ddarllain,
Llyfyr Duw'n ei jaith ei hunain.

Rhybydd ir Cymru i edifaru.

Hll Frutys fab Syluis, Brytaniaid, brwd hoynys,
Caredig, cariadys, cid-redwch im bron,
I wrando yn 'wllysgar, a chalon vfyddgar,
Fy llefain, am lla far hiraethlon.
Mae rhod y ffyrfafan, yn dirwyn y bellen
Iob 7.6, 7
On heinios nes gorphen, heb orphwys nos na dydd
A ninnau heb feddwl, nes dirwyn y cwbwl,
Yn cwmpo ir trwbwl tragywydd.
Fel llong dan ei hwyliau, yn cerdded ei shiwrnau
Tro'r morwyr yn chwarau, neu'n chwrnu ar y nen
Mae'n heinios yn
myned heib­io,
aros
passio, bobamser heb stayo
Beth bynnag a wnelo ei pherchen.
1 Thes. 5.2
Mae'r Angau glas yntau, yn dilyn ein sodlau,
Ai
Biccell
ddart ag ai saetha, fel lleidir dison,
Yn barod ein corddi, ynghanol ein gwegi,
Pan bon ni heb ofni ddyrnodion.
An bywyd fel Bwmbwl, arlynwyn go drwbwl,
Iac 4.14
Syn diffod cyn meddwl ei fod ef yn mynd,
A ninnan cyn ddwled, nad ym yn ei weled,
Nes darffo iddo fyned ei helynd:
Mae'r byd yntau'r Cleirchyn, yn glafar ei der­fyn,
f Cor: 7.31
Bob ennyd yn rofyn rhwyfo tu ai fedd,
Ai ben wedi dottio, ai galon yn
llesgau 1 Ioan 2.7 1 Cor: 10, 11
ffeintio,
Ai Fustl yn
darfod.
wasto yn rhyfedd.
Rym ninnau blant dynion, heb arswyd nagofon,
Yn
ymddiried
trysto gormoddion, ir gwr marwaidd hen,
Fel morwyr methedig, a dryflent mewn perig,
Ir llongau sigedig nes fodden.
O nedwch ein drysto, ir byd sy'n ein twyllo,
Luc. 12.19, 20 Preg. 11 9
Felia, pyn y torro, gricc dan ein trad;
An gellwng heb wybod, ir farn yn amharod,
Cyn in ni gydnabod ei fwriad.
Ond moesswch yn garcys, ein bawbfod yn daclys
I fyned yn weddus; ni wyddym pwy awr,
Mat: 25.7; 10 Nat. 22.11
O flaen y Messias, yngwisc y briodas,
A thrwffiad cyfaddas i'r neithiawr.
Anedwch ein dala pan, delo'r awr weitha
Mewn medd-dod, pytteindra,
Luc. 21.34
rhag rhwystir i'r daith
Heb
olew
oyl yn ein llestri, heb gownt on talenti,
Mat. 25.8.34
Ar cwbwl on cyfri yn berffaith.
Mae'r fwyall ar wreiddin, y cringoed es dyddieu,
Mat. 3.10, 12
Mae'r wintill yn dechre dychlyn vr us,
Mae'r Angel ar Crymman, yn bwgwyth y graban
Ai bwrw i'r boban embeidus.
Mat. 13.30, 39 40, 41, 42
Mae'r Farn uwch ein pennau, mae'r dydd wrth y dryssau,
Mat. 24.33 1 Cor. 15.52 Datc. 20.13
Mae'r vdcorn bob borau, yn barod rhoi bloedd,
Mae'r mor ar monwentydd, ag vffern yn vfydd,
Roi'r meirw i fynu a lyngcodd.
Datc: 22.12
Ar Barnwr sydd barod, ar Saint sy'n ti warchod,
Ar dydd sydd ar ddyfod, iddif a hyn o fyd,
Mat: 25, 19
An galw'r holl ddynion, o flaen y Duw cyfion,
I gifri am y gawsom oi olud.
Ry'm ninnau yn ymbescu, ar bechod, a brwnti,
Heb feddwl am gyfri, na gorfod ei roi,
oferdreulio
Yn wastio ein talentau, i borthi'n trachwantau
Doed barn a dialau pyn deloi.
Gen: 6, 4, 5 Gen: 18▪ 20
Fel Cowri cyn diliw, fel Sodom cyn destriw,
Fel Pharo ar cyfriw, (ei cyfri nid gwaeth)
Yr ydym ni'n pechu, an grym ag an gallu,
Heb fedru difaru ysowaeth.
Ymbescu ar bechod, fel moch ar y Callod,
Ymlanw ar ddiod fel ychen ar ddwr,
Ymdroi mewn pytteindra, fel perchill mewn lac­ca
Yw'n cresydd, heb goffa cyfyngdwr.
Tyngu a rhegi, a rhwygo cig Jesu,
Ag ymladd am gwnnu y gawnen y gid,
Cyfreitha yn rhy ddiraid, nes mynd yn fegeriaid,
A gadel y gweinaid mewn gofid.
Mae'r haul, y mae'r lleuad, yn gweld ein ymddwgiad,
Mae'r ddaiar yn baychad, fod ein buchedd mor ddrwg,
Mae'r sanctaidd Angylion yn athrist ei calon,
O weled Christnogion yn gynddrwg.
Mae'r ffeiriad, mae'r ffermwr, mae'r hwsmon ar creftwr,
Mae'r Bayli ar Barnwr, ar Bonedd oi bron,
Bob vn, am y cynta, yn digio'r Gorucha,
Heb wy bod p'un waetha ei harferion.
Mae 'r ffeiriad yn loetran, mae'r barnwr yn bri­bian,
Mae'r bonedd yn tiplan, o Dafarn i Dwlc,
Mae'r hwsmon oedd echdoe heb fedru cwmpnio;
Yn yfed Tobacco yn ddidwlc.
Putteindra'r Sodomiaid, medd-dod y Parthiaid
Lledrad y Crettiaid, (os credwch y gwir)
Falsedd gwlad Graecia, gwangred Samaria,
Sy'n awr yn lletua ymhob rhandir.
Mae'n anfoes i'm draethu ein campau ni'r Cymru
Rag cywilidd mynegu, yn ymddygiad i'r byd:
Preg. 12.14
Etto rhaid meddwl, y traetha Duw'r cwbwl,
Pyn ddelo'r dydd trwbwl i trefnyd.
Gwell i'ni' rowan gael clywed ei datcan,
Er peri i ni'n fuan, difaru tra fom,
Mat. 25.4 [...]
Na gweled ein taflu ir tywyll garchardy,
O eisiau difaru tra fyddom.
Gan hynny mi fynnwn, gael gennych pei gellwn
Ymbilio am bardwn, yr ennyd y boch,
Esay 56.6 2 Cor. 6.2
A gwella 'n wllysgar, cyn 'r eloi'n ddiweddar,
Rag bod yn edifar pyn ddeloch.
Mae'n ofer difaru, a chrio a chrynu,
Pyn a delir i'n barnu,
Mat. 25, 11, 12 Luc. 16.24, 25, 26
bawb ar y barr
Ni chair ond cyfiawnder, er cymaint y grier,
Pyn eloi yn amser diweddar.
Meddyliwn gan hynny, cyn delo Christ Jesu,
Or nefoedd i'n barnu, bob vn wrth ei ben,
Mat. 25.31, 32
Am fod yn edifar, a deisif ei ffafer,
Cyn tafler ni ir carcher aniben.

Yr ail Rhan.

Mat: 24 30, 31 2 Thess. 1.7, 8
FE ddaw yn dra digllon, a llu o angylion,
I ddial ar ddynion ei ddyrmig mor ddu,
Yn daran echrydys, ir bobolanrassus,
Sy rowan mor frowus yn pechu.
Yno
neu, oherwyd Mat: 24.30
waith cymmaint y fydd ei ddigofaint,
Ei weision ai geraint y garau mor gu,
Ai sanctaidd angylion y grynant yn greulon,
Pan ddelo mor ddigllon i farnu.
Yr haul a dywylla; y lleuad a wridia,
Mat: 24.29 Dat 6.12, 13
Y nefoedd a gryna, bob modfedd yn grych,
Ar stowtia o blant dynion, rhag echryd ag ofon
A gria 'n hiraethlon wrth edrych.
2 Pet: 3.7, 10 Mat. 23.25 Datc. 6.4
Fe dawdd y ffyrfafen, fe syrthia bob seren,
Fe losca'r holl ddayaren oddiarni yn boeth,
Ar twrau ar cestyll a gwympant yn gandryll
A phob rhyw o Bebill a 'n chwilboeth.
Y creigiau a holldant, y glennydd a doddant,
Dact. 21.1
Y Moroedd a sychant, ar syrthiad y ser,
A phob rhyw fwystfilod, ymlysciaid a physcod,
A drengant ar waelod y dwfnder.
Luc 21.26 1 Pet. 4 18 Mat. 23.19
Pwy wascfa, pwy wewyr, pwy gonffordd pwy gyssur
A fydd gan bechadur na chodo ei big,
Pan welo'r fath drallod, ar bob peth yn dyfod,
O barthed ei bechod yn vnig.
Brenhinoedd cadarnblaid, cowri, captenniaid,
Beilchion a gwilliaid gwcha'r awr hon,
Datc: 6.15, 16 Luc, 20.30
A griant ar greigidd, am bwnian ei' mhennydd,
Ai cyddio rhag cerydd Duw cyfion.
Yn hyn o drafel, fe gan yr archangel,
Ei udcorn mor vchel, ond awchys or cri,
Mat: 24.31 1 Cor: 15.52 1 Thess: 4.16
Nes clywo rhai meirw, yn grai ag yn groyw
Y llef yn ei galw i gyfri.
Ar meirw a godant, ar drawiad yr amrant,
1 Cor: 15.52 Dan: 12.2 2 Cor: 5.10 2 Thess: 4.17
Or llwch lle gorweddant, pan glowant y cri,
Ar byw a newidir: a phawb y gyrh aeddir,
Ir wybren lle bernir ei brwntni.
Y Barnwr mawr yntau yn gyflym ei gleddau,
Mat: 25.31, 32, 33 Mat: 19.27 2 Cor: 5, 20
Ai dafal ai bwysau, a bwyfa ddrwg a da,
Gantannu ir eneidiau, wrth gowir fesyrau,
Y cyfion ar gorau ar gwaetha.
Nid edrych e'n llygad, yr Emprwr nar Abad,
Rhuf: 2.1 1 Deut: 10.17, 18 Iob 34.19
Ni phrissia fe drwssiad na galwad vn gwr,
Ond rhannu cyfiawnder ir Brenin ar beger,
Heb ofni
Anfodd.
displesser na chryfdwr.
Fe egur y llyfrau, fe rwyga ei calonnau,
Datc: 20.12 Rhuf. 2.16 Preg: 12.4 Deut. 32.35
Fe ddengis ei beiau yn amlwg ir byd,
Fe deifil anwiredd pawb yn ei dannedd,
Feddial ar gamwedd y gwynfyd.
Ni ddiang' gair ofer, nar ffyrlling a draeler,
Mat. 12.36 Preg. 2.14
Nar munud y wastier, heb ystyr a phwys,
Na gwagedd, na gwegi, na biau na bryntni,
Nas gorfydd eu cyfri, yn gyfrwys.
Pytteindra'r gwyr mawrion, ar gwragedd bone­ddigion
Rhuf. 2.16. Luc 12.2 Mark 6.22. 1 Cor. 4, 5.
Sy'n arfer ei gweision heb wybod i'r gwyr,
Ar mawr ddrwg ar mwrddrad, ar falsedd ar lle­drad,
Y wneir i bob llygad yn eglur.
Pwy wyneb iradys? pwy galon echrydys?
Ma. 24.30. Luck 21.16 Dact. 6.16
Fwy gonffordd gofudys? gwae feddo ar y fath
Y fydd y pryd hynny, gan bobol sydd heddy,
Mor ffyrnig yn pechu y sowaeth.
Mat 10.42
Ni ddiang na llymaid, na thippin na thamaid,
A roddir ir gweinaid, er mwyn Jesu gwynn,
Heb ymdal amdano, a chyfri a chosio,
Luck 16.21, 25
Y briwsion y ballo'r cerlin.
Mat. 25.32, 33 34, 41
Yno detholir y defaid ar geifir,
Ag yno y bernir, pawb wrth y pol,
Y Defaid ir deyrnas, mewn harddwch ag vrddas,
Ar geifir ir ffwrnas vffernol.
Mat. 25.46 Mat. 13.43 1 Pet. 1.4 Rhuf. 9.23.
Yno'r a'r cyfionyn llawen ei calon,
Mewn gwnau tra gwnion yn vnion i'r nef,
Idderbyn gorescyn or deyrnas ddiderfyn,
A roddodd Duw iddyn yn artref.
Mât. 13:41, 42
Ar geifir damnedig, ar bobol fileinig,
Sy'rowan yn dirmygu y barnwr ar dydd,
Mat. 25.46
A daslir yn glwmau mewn cadarn gadwynau,
I vffern ar poenau tragywydd.
Luc. 16.24, 25
Yn vffern y llefan, gan flined oi lloscfan,
Yn ebrwydd ar Abram am ddafan o ddwr,
Ond llefent hyd ddiffin, ni chant hwy vn drop­pyn,
Na thamaid na thippin o swccwr.
Cans yno yn dagywydd,
Luc: 12.58, 59 Mar. 9.44 Mat: 13.42.
mewn carcher a chy­studd
Heb obaith y derfydd ei dirfawr gur,
Yr erys anwiredd, yn rhincian ei dannedd,
Heb derfyn na diwedd oi dolyr.
Ag yno yr awn ninnau. dan ystyn ein gweflau,
Psal: 9.17 Luc. 13.5 Mar. 13.33, 31, 36, 37
Am dreulo ein dyddiau, mewn pechod mordal,
O ddiffig i'n watchio a dyfal weddio,
A gwella cyn delo 'r dydd dial.
Gwilio.
Meddyliwn gan hynny, tro'r amser yn gadu,
Mark 13.33 Esay 55, 6, 7 Mat: 24 44
Yn brydd edifaru, nid yw foru i neb,
A'madel an bryntni i, an gwagedd an gwegi,
Cyn delom i gyfri ag atteb.
Duw Jesu dewissol, y brynaist dy bobol,
Or ffwrnais vffernol, oedd ffyrnig ei phwys,
Cadw'n eneidieu pyn delont ir frawdle,
A dwg hwy i gadeirieu Paradwys.
O gofyn deheubarth, na gwynedd o unparth,
Pwy ganodd y dosparth, ich dispwyll rhag ing,
Eglwyswr sy'n hoffi, ych dattroi och didri,
Ach cofio am eich cyfri cyfing.

Christ sydd oll yn oll.

CHrist ei hnn sydd oll yn oll,
Col: 3.11
Yn cadw dyn rhag myn'd ar goll,
Nid neb, nid dim, ond Christ ei hun,
Esay 43:11 Acts 4.12
Ddichon gadw enaid dyn.
Coll. 1.19 Coll 2.9, 10 Luc: 3.22 1 Ioan 2.2
Christ sydd bob dim, sydd anghenrhaid,
O flaen Duw i gad w'r enaid,
Ni fyn Duw, ond Christ ei hun,
Yn iawn dal am enaid dyn.
Hos: 13.4
Christ yn vnig, Christ ei hunan,
Christ heb neb, mewn rhan, na chyfran,
Hos: 13.9 Ioan 3.17
Christ heb ddim, ond Christ ei hun,
Yw vnig ceidwad Enaid Dyn.
1 Tim. 2.6 Heb. 9.4. &c 10.10, 14 Psal. 18.2 Col. 2.3 Luc. 2.12
Christ yw'n rhanswn, Christ yw'n haberth,
Christ yw'n hoffrwm, Christ yw'n cyfnerth,
Christ yw'n Tryssor, Christ yw'n golyd,
Christ yw'n gwir jachadwr hefyd.
Christ fydd gyflawn o bob doniau,
Anghenrheidiol ei'n heneidiau,
Ioan 1.14 Heb. 5.9
Mae pob peth yn Ghrist ei hun,
Ag sydd raid i gadw dyn;
Ier. 23.6 1 Cor. 1.30 Col. 1.14 Esay 32.2
Christ ei huhan yw'n cyfiawnder,
A'n Sancteiddrwyd; a'n gwir ddoethder,
A'n ymwared, a'n holl Bryniad.
Christ yw'n cyssur, Christ yw'n Ceidwad.
Mat. 17.5, Eph, 2.4 Rhuf. 5.1 2 Cor. 3.21
Christ heb ddim, ond Christ ei hunan,
Sy 'n dad-ddigio Duw yn fuan,
Christ heb ddim, ond Christ yn vnig,
S'n cyfiawnu dyn colledig.
Christ heb help na Sant, na Santes,
Hos. 13.4 Esay 43.11 Ast. 4.12
Christ heb gymmorth dyn, na dynes,
Christ heb neb, ond Christ ei hun.
Yw vnig geidwad enaid dyn.
Christ yn vnig' ymdrabaeddodd,
Esay 63.3, 51
Yn y winwryf pan ein Prynnodd,
Ni bu neb o blant yr holl fyd,
Yn eu helpu i gadw ein bowyd.
Ni wnaeth Pedr ond ei wadu,
Mat: 26.74 Mat: 26.56 Ioan 19.25 Luc: 23.28
Nar' Postolion ond diflannu,
Ni wnaeth Mair ond wylo yn irad,
Tra fu Christ yn chware'r ceidwad.
Ni ddug neb ond Christ ei hunan,
Esay 53 5, 6, 7, 8, 9
Bwys, a baich ein pechod a flan,
Ni chwssodd neb o'r gwaed yn ddaigrau,
Ond mab Duw, dan bwys ein beiau.
Luc: 24.24
Ni chroeshoeliwyd ond Christ Jesu,
Esay 53.5 Mar: 15:24 1 Pet: 2.14
Am ein pechod wrth ein prynu,
Ni bu neb, ond Christ ei hun,
Yn boddhau Duw, yn jachau dyn.
Ni bu neb ond Christ ei hunan,
Yn ein dwyn o feddiant Satan,
Heb: 2 14, 15 Hos: 13.1 4 1 Cor: 1 [...].55
Ni bu neb yn lladd, yn llyngcu,
Angau didrangc, ond Christ Jesu.
Christ ei hun a lyngcodd Angau,
Coll: 2.15 Coll 2 [...]4 Rhuf 3 14
Christ a Speiliodd awdyrdodau,

Christ a da­lodd ein dled, ag a gymerodd i fynu ein Sgri­fen rhwymmi Coll.

Eph. 2.14 Gal [...], 4, 5, 6 Mat. 8, 11

Christ a gwnnodd ein Bligassiwn,
Christ a dalodd werth ein pardwn.
Christ ei hun a wnaeth ein he ddwch,
Christ a brynodd ein dedwyddwch,
Christ a'n gwnaeth yn feibion Duw,
Christ a'n cadwodd oll yn fyw.
Joan 16.28. Ioan 17:41 Rhuf. 8.1
Christ ei hun a wnaeth y cwbwl,
A dynnodd Enaid dyn oi drwbwl.
Nid neb, nid dim, ond Christ ei hun,
Dan Dduw, a gadwodd enaid dyn.
Esay 43.11
Ni bu Angel, ni bu Brophwyd,
Ni bu Sant, na dyn a fagwyd,
Ni bu neb, ond Christ ei hun,
Yn gweithio jechadwriaeth dyn.
Ni fyn Duw na chymmorth Angel,
Luc. 3.22: 1 Tim: 2.5 Heb. 7.25
Cyfrwng Sant, nai drael, nai drafel,
Gwaed Merthyri, na gwaith dynion,
Ond gwaith Christ i gadw Cristion.
Christ yw'r jawn sydd am bob pechod,
1 Ioan 2▪ 2 Heb. 10.10. 1 Pet. 1.18, 19
Jawn amgenach ni all fyth fod,
Ni fyn Duw am bechod drewllyd,
Jawn sydd lai, na gwaed ei Anwylyd.
Na ddod waed, na gweithred vn dyn,
Gyda gwaed dy Brynwr purwyn,
Ni chytuna
Traforb.
trech di byw,
Waed pechadur, a gwaed Duw.
Gwaed yr Jesu, gwaed y cymmod,
Y diw'r gwaed sy'n golchi pechod.
Ni all gwaed yr holl Ferthyri,
1 Ioan 1.17
Olchi ffwrdd y lleia o'th fryntni.
Nid gwaith Sant, na gwaith Angylion▪
Ydiw cadw enaid Cristion,
Mat. 18.11.
Gwaith ein prynwr Christ yn vnig,
Sydd yn cadw dyn colledig.
Gwaith dwy natur mewn vn person,
Sydd yn cadw enaid Christion,
Rhaid ein prynwr Duw a Dyn,
Weithio'r gwaith ein cadwer vn.
Nid gwaith Duw, na dyn neilltuol,
1 Tim. 3.16 Mat: 1.23 Rhuf. 13.4 Ioan 1.14
Ond gwaith Duw a dyn cyssylltiol,
O ddwy natur mewn vn person,
Sydd yn cadw enaid Christion.
Rhaid ith Brynwr fod yn Dduw,
Esay 9.6 Heb [...]:26 Esay 53.11
Ag yn ddyn, er dolwg clyw,
Cyn y gellir cadw d'enaid,
Nai rhyddhau o'i boen afrifaid.
Rhaid i fod e'n dduw galluog,
Heb. 1.3 Coll. 1.20 Heb. 2.14 Luc. 1, 71
I ddad-ddigio d' Arglwydd llidiog,
Ath rhyddhau o feddiant Satan,
Ath elyniou fawr, a bychan.
Rhaid i fod e'n ddyn, di-frychau,
Heb. 7.26 1 Pet. 3.18 Heb. 7:16
I gael marw dros dy feiau,
Ai farwolaetb yn cystadlyd;
A marwolaeth pawb or holl-fyd.
Nid oes yn y nef, na'r ddaear,
Mor fath brynwr perffaith hygar,
Ioan 1.14 Rhuf: 9.5 Heb: 2.11
Ond y gair y wnaed yn gnawd,
Jesu Grist ein Duw, a'n brawd.
Nid oes neb gan hynny a ddichon,
Gadw enaid vn rhyw gristion,
Ond y prynwr mawr Christ Jesu,
Duw a dyn a fu i'n prynu.
Nid oes jechadwriaeth ddiwall,
I ni gaffel mewn neb arall,
Ond y gaffom ynghrist Jesu,
Rhwn ordeiniodd Duw ein prynu.
Nid oes Enw dan y nefoedd,
Act. 4.12
Gwedi roddi i 'nir bob loedd,
All ein gwneuthur yn gadwedig,
Onid Enw'r Jesu yn vnig.
Ni fyn Duw, ond Christ ei hunan,
Mat. 17:5 Ioan 1.29 1 Tim▪ 2.5
Ni fyn Duw
Neu Cyfrau nogwr.
vn partner aflan,
I gydweithio gidai Anwylyd,
Yn y gwaith s'yn cadw'r holl-fyd.
Nifyn Mab Duw neb yn Bartner,
Esay 42.8 Esay 63 3
I gydweithio gwaith dau hanner,
Yn y gwaith o'n jechadwriaeth,
Nid neb teilwng, o'i
gymdeithas.
gwmpniaeth.
Fe fyn naill ai bod yn hollawl,
Yn jachadwr mawr iw bobol,
Neu, na fwrw ef byth ynghyd,
A chreadur sy'n y byd.
Esay 42.8
Ni fyn Christ roi i Saint, nag Angel,
Dyn na delw, o vn fettel,
Bart, na pharsel, rhan, na chyfran;
Or gogoniant's iddo ei hunan.
Os bydd vn rhyw ddyn mor angall,
Ag ymofyn Ceidwad arall
Cymed hwnnw yn Achubydd,
A gadawed Ghrist yn llonydd.
Ceified eraill Saint a delwau,
Ai gwaith gwael i gadw ei heneidiau,
Ni chais f'eniad archolledig,
Geidwad byth, ond Christ yn vnig.

Christ sydd oll yn oll.

CHrist ei hun sydd oll yn oll,
Yn cadw dyn rag mynd ar goll.
Coll. 3.11 Esay 11.
Nid neb, nid dim, ond Christ ei hun,
A ddichon gadw enaid dyn.
Y sarph ar afal gynt an twyllodd,
Y sarph a phecod an gwenwynodd,
Gen. 3, 4
Y sarph an tynnodd o baradwys,
Y sarph i vffern dost an gyrrwys.
Christ a ddaeth or nef i'n prynu,
Ioan 6.38 Rhuf 8.1 Mat, 65.34
Christ an cadwodd gwedi'n damnu,
Christ on cystudd an gwaredod,
Christ an dwg i deyr nas nefoedd.
O gramp y llew, o ene 'r wiber,
O Rwyd y fall, o balfe 'r Teiger,
1 Sam. 17.35 Psal. 124.7 Esay 49.9
Or pwll, or pair, or deyrnas aflan,
Y tynodd Christ ei ddefaid allan.
Ni all Satan ladd a mwrddro,
Fwy nag all mab Duw ddadfywio;
1 Ioan, 3.8 1 Cor, 25.22 Datc. 12.11
Y laddo 'r ddraig ai cholyn gau,
Gwaed yr oen all ei Jachau.
Jesu Grist yw had y wraig,
Gen: 3.15
A bwyntiodd Duw i sathru 'r ddraig,
I sigo ei shol, i rwygo ei theyrnas,
I dunnu dyn oi
Chafangrau.
chrampe arcas.
Ni orchfyga neb mor ddraig,
Ond trwy gymorth had y wraig,
Ni ddaw dyn oi theyrnas aflan,
Mes y tynno Christ ef allan.
Christ ei hun yw'r hedyn dinam,
Gen: 21.18
Y
Addawadd.
bromeisodd Duw i Abram,
I'n rhyddhau oddiwrth y felldith,
A rhoi inni 'r nefawl fendith.
Gen: 49.10
Christ yn vnig ydyw'r Silo
A ddanfonodd Duw, i'n ceisio,
O gathiwed pob rhiw bechod,
I wasnaethu'r sanctaidd Drindod.
Datc: 22.2
Christ ei hun yw pren y bywyd,
Syn rhoi maeth i bawb or holl fyd,
Ni bydd marw yn dragwyddol,
Neb a fwyto 'r ffrwyth sancteiddiol.
Gen. 7.1
Christ yw'r arch ar lloches esmwyth,
Gedwis Noah rag boddi, dylwyth,
Christ yw'r arch sy'n cadw ninnau,
Rag pob diliw a dialau.
Gen: 28.12
Ghrist ei hun yw ysgol Jago,
Oedd or nef ir ddaear yn pheico,
Ar yr hwn y mae i'n ddringad,
Os ir nef y mynnwn ddywad.
Christ yw'r prophwyd mawr a helodd,
Act. 7.37
Duw oi fynwes, fry or nefoedd,
I fynegu ei'wllys hyfryd,
Ynghylch dirgel bwyntiew'n Jechyd.
Christ yw'r sarph o efydd preslyd,
Ioan 3.14, 15
Syn Jachau brath neidir danllyd,
Deuwn bob rhai an dolur atto,
Fe'n Jacha and edrych arno.
Christ yw'r ffeiriad mawr offrymwys,
Heb. 9.11, 12
Waed ei galon dros ei eglwys,
Ar y groes i dad samcteiddiol,
Dros y byd, i gadw ei bobl.
Christ yw'r brenin grymus, grassol,
Psal. 2.6, 7, 8, 9 Ier. 25.5.
Sydd trwy ras yn llywio ei bobl,
Ag yn gostwng ei gelynion,
Fel y gallont gael y goron.
Christ yw'r bugail syn bugeila,
1 Pet. 2.25 Ioan 10, 11, 12
Enaid Christion rhag ei ddifa,
Ni chaiff blaidd, na llew na llwynog.
Ddwyn oi braidd, nag oen na mammog.
Christ yw
Neu dywysog. Esay 9.6. Eph. 2.14 Col. 1:20
prins ein gwir dangnefydd,
A Ddiffoddodd pob digllonedd,
A gwaed ei groes, yn Dduw yn Ddyn,
Y gwnaeth e'r ddwy blaid ddig yn vn.
Chtist yw'r rhossin coch, o Saron,
Sydd ai liw'n cynfforddi'r galon,
Cant. 2, 1
Ag ai rogleu yn rhoi bywyd,
Ir trwm feddwl ar gwan ysbryd.
Ier: 8.20
Christ ei hun yw'r Balm o Gilead,
Syn Jachau pob archoll
Erchyll
desprad,
A rows Satana
Sacth.
dart pechod,
I'n eneidiau an cydwybod.
Ioan 6.31, 33, 35
Christ yw'r Manna ddaeth or nefodd,
Duw ei hun, oi ras ai rhoddodd;
Y neb yn ffyddlon ai bwytaffo,
Ni ddaw byth, mor newyn arno,
Exod: 12.6, 7, 12, 13 Ioan 1.29
Christ yw oen y pasc' aberthwyd,
Dros ein pechod pan groeshoeliwyd,
'Rhwn sy ai waed yn cadw'r enaid,
Rhag ir Angel drwg ei
Neu wneu­thur ysglyfaeth o hono.
scliffiad.
Christ yw'n hallor arogldarthu,
Exod: 30.1 Hydy 10
Ar yr non y mae aberthu,
Per aroglau mawl a gweddi,
Foreu a hwyr i dad goleuni.
Christ yw meddig y cristnogion,
R'hwn a gwerthfawr waed ei galon,
Marc: 2.17 Dutc: 1, 5
Syn Jachau archollion pechod,
Pan na all dim amgen dygfod.
Christ yn vnig yw'n cyfryngwr,
Sy'n cymmodi, (an Jachawdwr)
1 Tim: 2.5
Nid oes neb on Christ ei hun,
All cymmodi Duw a dyn.
1 Ioan 2.2 Rhuf: 8.34
Christ yw'r twrneu sydd yn dadlau,
O flaen Duw am fadde'n beiau,
Pan bo Satan yn cyhuddo,
Ag yn can lyn
Gennad.
grawnt i'n plagio.
Christ cyn cynfyd ydiw'r Alpha,
Datc: 1.11
Christ heb derfyn yw'r Omega,
Dechren diwedd Jechawdwriaeth,
Meibion dy nion ai derchafieth.
Christ yw dewr gyncwerwr angau,
1 Cor. 15, 54, 55, 56, 57 2 Tim. 1.10.
Christ ai speiliodd oi holl arfau,
Christ a lwngcodd angau melyn,
Christ y dynnodd ffwrdd ei golyn.
Christ fyn cadw'r holl
Agoriadan. Datc. 1.18. Job 2.6
allweddau,
Sydd ar vffern ag ar angau,
Ni baidd Diawl nag angau
Ddrygu. Luck 8.32
dwtchio,
Neb nes cael gan Grist ei
Lwfio neu roi cennad.
lwo.
Christ yw'r Pelican cariadus,
Sydd a gwaed ei galon glwyfus,
Yn Jachau ei adar bychain,
Gwedi 'r sarph ei llad yn gelain.
Christ yw'r Pelican trugarog,
Sydd a gwaed ei galon serchog,
Yn Jachau ei frodyr priod,
Gwedi 'r Diawl eu lladd a phechod.
Nid oes eli er ioed a wnaethbwyd,
1 Ioan 1.7 1 Pet. 1.19
Nag vn
Neu fed di­ginieth.
fetswn a ddychmygwyd,
All Jachau vn archoll pechod,
Ond gwaed Christ gwir eli'r drindod.
Christ yw'r perl y ddylem mofyn,
Nid tlawd perchen cyfriw berlin,
Mat. 13.45, 46
Dos dros for a thir i geisio,
Gwerth sydd genid cyn bod hebddo.
Duw; rho ini dy annwylyd,
Christ (vn arch wi'n geisio genyd)
Rho ini'fynnech gid a hynmy,
Rhoist in ddigon o rhoi 'r Jesu.
Tyn fyllygad, tyn fyng halon,
Tyn fyng olud am cyfeillion,
Tyn y cwbwl oll sydd gennif,
Cyn y tynnech Grist oddiwrthif.
Sonied milwr am ryfela,
Sonied moriwr am dda'r India,
Sonied carl am lanw'r gist,
Sonied Christion byth am grist.

Cyngor i bechadur.

Mat. 11.28, 29
DEre hen bechadur truan,
Fyred.
Dere at Grist, trwy ffydd, dan ryddfan,
Mae mab Duw, yn dy alw atto,
Od yw pechod, yn dy flino.
Esay 55.1, 2.
Christ ei hun, sy'n galw arnad,
Christ sy'n erchi itti ddywad,
Christ sy'n crynnig dy
Neu adfywio
refressio,
Os trwy ffydd y doi di atto.
Esay 61, 1, 2
Dere at Ghrist er maint yw'th drossedd,
Dere er cynddrwg oedd dy fuchedd,
Dere ymrhyd, cais gymorth gantho,
Fe all dy gadw 'rawr y mynno.
Er dy golli yn
gwbl 1 Cor. 15.2 [...] 2 Tim. 2.26 Ioan 3.36
gwitt yn adda,
Er ir cythrel cas dy ddala,
Er it ddigio duw yn danllyd,
Cred yn ghrist, fe geidw'th fywyd.
Er dy ennill mewn ahwiredd,
Er it fyw mewn a flan fuchedd,
Psal. 51.5
Derc at Grist, cais gymorth gantho,
Fe all dy olchi, ath ail
greu Zech. 13.1
greo.
Er dy fod ti'n elyn duw,
Rhuf. 5.10 Eph. 2.3
Wrth naturiaeth, ath ddrwg ryw,
Cred yn ghrist, fe'th wna o elyn,
Ith nefol dad, yn anwyl blentyn.
Ioan 1.12
Er dy fod ti'n
nen [...]was 2 Tim. 2.26 Eph. 2.2 Luc: 11.22 Luc. 1 79
flat i satan,
Ag yn was caeth yn ei gorlan,
Cred yn Ghrist, fe'th dynn oi grampeu,
Fe'th ddwg oi dywill gell ir goleu.
Er dy fod ti'n haeddu'th ddamnio,
Rhuf. 5.18. Psal. 9.17 Ioan 6.47
Ath droi i vffern, ith boenidio,
Cred yn ghrist, fe'th ddwg ir nesoedd,
I glodfori'r hwn ath Greuodd.
Er dy fod ti megis
nen gwryth ryfelwr Ezek. 2 7
rhebel,
Gwedi'th droi, O sant yn gythrel,
Cred yn ghrist bydd vn oi blant,
Ioan [...].12
Fe'th dru o gythrel etto yn sant.
Er dy fod ti'n ddyh damnedig,
Yn hên Adda, ein tád gwenwynig,
Rhuf. 5.12.16
Cred yn ghrist, fe'th geidw etto,
Er i Adda hên dy ddamnio.
Er i Satan entro i'th lettu,
Luc 11.21, 22
Ai orescin heb ei nadu,
Cred yn grift, fe ddwg ei arfau,
Fe dru Satan dros y trothau,
Er ir lladron speilio d'enaid,
Luc: 10.30.
A'th archolii yn dra enbaid,
Cred yn grift y gwir samariad,
Fe iacha d' archollion
Nen erchull.
desprad:
Num. 21.6. Ioan 3.14, 15
Er ir dandllyd sarph dy frathu,
A'th wenwy no, nes dy nafu,
Gred yn grist, fe ddofa'r poen,
Fe iacha'r clwyf, a gwaed yr oen.
Mat. 18.12, 13
Er it fynich gyfeiliorni,
Megis dafad gwedi cholli,
Cred yn ghrist fe ddaw yn fuan,
Or nef i'th ddwyn, or gors ir gorlan.
Exod. 34.6, 7. Mich. 7, 18.
Er it becbu fil o weithieu,
Er it haeddu cant dialeu,
Cred yn ghrist ti gai faddeuant,
Am dy pechod oll a'th drachwant.
Esay 1.18.
Er bod lliw dy fai cyn goched,
Ag iw'r pwrpl coch neu'r scarled,
Cred yn grist, trwy, waed fe'th olcha,
Nes bech dy, mor wynn ar eira.
Acts 10.43.
Er bod dy, feiau mewn rhifedi,
Yn fwy na gwallt dy ben o gyfri,
Cred i'th brynwr, Duw, a dyn,
Fe maddeu itti, bob yn un.
Cymmer gyssur, cwyn dy galon,
Cred ynghrist dy brymwr tirion,
Edifara am dy fryntni,
Crist a fydd yn geidwad itti.
Mae Christ i'th wawdd, mae Christ i'th alw,
Mat. 11.28, 29 Esay 55.1. Ezek. 33.11
Mae Christ i'th gymell atto'n groyw,
Pam y byddi marw yn irad.
Eisieu dywad at dy geidwad.
Christ y ddaeth or nefoedd auraid,
Luc. 19.10
Ir byd i gadw pechaduriaid,
Ei swydd, ai grefft, ai waith yn unig,
Yw cadw eneidieu rhai colledig.
Dyn colledig ydwyt tithau,
Rhuf. 3.23 Psal. 14.2, [...] Ezek. 33, 11
Fel y mae, pawb o honom ninnau,
Pam na ddoi tra fytho 'n galw,
At dy geidwad, Crist, i'th gadw.
Nid yw'th bechod ddrwg ddyn angall,
1 Tim. 1.15, 16
Fwy na pechod Saul ueu arall,
Fe gas Saul faddeuant gantho,
Dithau cai os credi yntho.
Nid yw'th bechod fwy nag allo,
Esay 1:1 [...] 1 Ioan 1.7.
Christ ei faddeu ai ddeleuo,
Na'th holl feieu nath holl fryntni,
Fwy nag allo, Christ ei golchi.
Ni all Satan byth dy ly gru,
Acts 10.38.
Fel na allo Christ dy helpu,
Na'th ddifwyno, gwaned ei waetha,
Fel na allo, Christ dy wella.
Act. 9.13, 14.15
Christ all wneuthur heb fawr drafel,
Oên o flaidd, a sant o Gythrel,
Hen dyn aflan, yn ddyn Byw,
A dyn ir fall, yn ddyn i dduw.
Luc. 19.5.9.
Ni wnaeth Christ ond galw ar Zacheu,
Ai droi yn sant, ar hynny o eirieu,
Fe'th dry dithau, 'n oên os myn,
O Lwdn du yn llwdn gwynn.
Luc. 9 42.
Duw galluog ydyw Christ,
Yn maddeu beiau'r truan trist,
Yn newid naws, yn gwella nattur,
Yn dattod gwaith, y diawl heb rwystyr.
Holl-alluog yw dy brynwr,
F'all
adfere
repaerio, gwaith y temptiwr,
F'all ei daflu beundd allan,
O galonnau'r bobol aflan.
Mar. 16.9. Mar. 5.8.9, 13
Pei bae saith rhyw gythrel ynod,
Pei fai leng, tu fewn ith gaudod,
Fe tru Christ, hwy oll fel cilion,
Ar gair cynta, 'maes o'th galon.
Nid oes grym, gan vn creadur,
rhwystro Jer. 32.17.
Hindro gwaith, dy brynwr pryssur,
Ni all dyn, na diawl ei rwystro,
Roi itti râs. os credi yntho.
Acts 15.9 2 Cor. 5.17
Nid oes dyn yn ghrist yn credu,
Na bo'n cael grâs i edifaru,
Ag i wella, ei fûchedd beunydd,
Nes yr elo, yn ddyn o newydd.
Ni daeth dyn i geisio grâs,
At fâb duw, er ioed, nas câs,
Nag i fegian cymorth gantho,
Esay 45.19
Nas rhows Christ ein ebrwydd iddo.
Dere dithau, cais râs gantho,
Nad ith bechod brwnt dy rwystro,
Mar. 2.17
Ni daeth crist i gadw enaid,
Ond eneidiau pechaduriaid.
Ni ddaeth Christ i gadw o ddifri,
Ond y rhai, oedd wedi colli,
Luc. 19.10
Swydd, a chrefft, mab duw yn vnig,
Y diw cadw, rhai colledig.
Dere dithau yn fuan atto,
Mae'n dy gathrain, mae'n dy gyffro,
Heb. 3.7, 8
Dere atto, cred yn vnig,
Fe wna Christ di'n ddyn cadwedig.
Duw ro gras, i tithau ddywad,
Yn ddiaros, at dy geidwad,
Trwy ffydd fywiol, a difeirwch,
I gael gan ghrist, cirâs, ai heddwch.
Crêd yn grist, llef am dy geidwad,
Mae duw'n cynnig, Christ i fagad,
Luc. 14.16 Hydy 25
Derbyn Crist, pan y cynnygio,
Onys g wnai, ti fyddi hebddo.
Y dyn y gretto, yn ghrist yn brydd,
Trwy galon rwydd, a bywiol ffydd,
2 Cor. 5.17
Mae Christ yn rhoi, i hwnnw râs,
I fyw fel sant, o hynny maes.
Dihar. 1.23 Ioan 7.29 Gal. 5.21 Rhuf. 8.10.
Mae Christ yn rhoi, ei ysbryd iddo,
I ail eni, ai ail lunio
Ai lwyr droi, yn ddyn o newydd,
O rebel ffol, yn blentyn vfydd,
Gwrthryfelwr
Mae'n rhoi ei air, i wir oleuo,
Ma'en rhoi ei râs, i gynorthwyo,
Psal. 119.105
Ma'n rhoi ei, ysbryd, i reoli,
Ma'en rhoi ei hun, yn bob Peth i'nni.
Col. 3.11
Nid oeslûn, i ddyn wrth hynn.
Y gretto yn gryf, yn Jesu gwynn,
Na chaffo râs, a grym oddiwrtho,
Ioan 15.5
I fyw fel sant, os cred efynddo.
Mae cred yn tynnu, grâs a gallu,
Acts 15.9.
Oddiwrth Ghrist, ir dyn ddifaru,
Am bob bai oi fuchedd aflan,
1 Ioan 3.3
A byw fel sant, o hynny allan.
Oni bydd, dy ffydd yn tynnu,
Grâs, o Ghrist, i'th adnewyddu,
Iac: 2.14:
Dy ffydd sydd falst, ni thâl hi ddimmeu,
Nes tynuo hi râs, i wella 'th feieu;
Mae bywiol ffydd, yn tynnu grâs,
Mark 9.23
A grym, O Ghrist, O hynny maes,
I roi heibio, bob hên grefydd,
2 Cor. 5.17
Ag i wneuthur, ôll o newydd.
Er creûloned, a fo'th nattur.
Er bychaned, a fo'th synwyr,
Cred yn Ghrist, a galw arno;
F'all dy wella'r awr y mynno.
Er creuloned, oedd y Gailer,
Er bod saul, yn filain scelar'
A Manasses, gwaeth nag ynteu,
Fe gwnaech Christ hwy'n saint or goreu.
Fe'th wna dithau, o bechadur,
Oflyd, aflan, drwg dy nattur,
Ezeck. 36.35
Yn wir sant, os credi ynddo,
A thyunu grâs, a grym oddiwrtho.
Ioan 15.5
Fe wnaeth Christ, o hên er lidiwr,
Saul yn ebrwydd, yn bregethwrt,
1 Tim 1.12.13
Ag or wreigan' ddrwg dros ben,
Y gigfran ddu, yn glommen wenn.
Ioan 4:18.28.29.
Cred yn ghrist a chalon gywir,
Fe wella Christ, dy naws ath nattur,
O fâb ir fall, fe'th wna di yn gristion,
O elyn duw, yn blentyn graslon.
Na thyb di fod, yn credu yn gywir,
Oni newid, Christ dy nattur,
Y dyn y gretto, yn ghrist yn ffyddlon,
Fe newid Christ ei ddrwg arferion.
Cenfydd Saul, a chenfydd Zach eu,
Cenfydd Mari Magd'len, hitheu,
Di gai weled, Christ yn altro,
Buchedd pob dyn pan y cretto.
Er bod Saul, fel Blaidd y boreu,
Cyn credu yn ghrist, yn difa 'alle,
Fe wnaeth Christ, cin canol dydd,
Y blaidd, yn oen, pan trowd e ir ffydd.
Luc. 19.8
Cyn i Zache fynd yn gristion,
Roedd [...] 'n pilio pawb or tlodion,
Gw [...]d [...] [...]redu fe rows Zache,
Ran ir tlawd, or maint y fedde,
Er i fagd'len, ryw'n rhyfygus,
Cyn credu yn ghrist; a byw yn rhwyfus,
Fe fy fagd [...]en ar ol credu,
Fyw fel Santes, nes ei chladdu.
Felly ditheu, a newidi,
Dy arferion, ond it gredu,
Nes newidiech dy arferion,
Nid yw'th ffydd, ond ffanfi ffinion.
Iac. 2.26
Ffydd heb weithred dda'n ei dilin,
Sydd ffydd farw, ffydd heb eulin,
Iac. 2.14
Ffydd i'th ddallu ffydd ith dwyllo
Ffydd sydd barod, i'th gondemnio.
Ni bydd tân, heb wres llebytho,
Gal. 5.6
Ni bydd dwr, heb wlybrwydd ynddo,
Ni bydd 'fallen dda heb falau,
Na bywiol ffydd, heb fywiol ffrwythau.
1 Ioan 3.6, 7 8, 9, 10
Os dywaid vn, i fod ê yn credu,
Ag heb wella, ei feiau er hynny,
Nid oes dim ffydd, gan hwn, ond ffrost,
Yn twyllo ei hun, yn daran dost.
Ioan 7.33 Gal. 5.22
Ni all dyn, sy'n credu yn ffyddlon,
Lai na gwella, ei ddrwg arferion,
Waith bod Christ, yn rhoi 'lan ysbryd,
Ir pechadur 'wella ei fywyd.
Nad dy dwyllo, drwg-ddyn aflan,
Lle bo ffydd, mae buchedd burlan,
Od yw dy ffydd, yn talu i gweled,
Iac. 2.18
Moes i dangos, wrth dy weithred,
Onid yw, dy ffydd yn fywiol,
Yn dwyn gair, a gweithred rassol.
Nid yw hon, ond ffydd mewn e nw,
Iac. 2.14
Ffydd na ddichon, byth dy gadw.

Cynghorion yn erbyn profedigaethau Satan.

OS
add [...]w
promeisa Satan itti,
Dai a thiroedd am ei addoli,
Dywaid nad oes troedfedd fechan,
Ond pwll vffern gantho ei hunan.
Os bydd Satan yn dy annog,
I halogi gwraig cymydog,
Dywaid fod dialau'n barod,
Heb. 13.4 D [...]tc. 21.8
A barn duw am gyfriw bechod.
Os cais satan genyd feddwi,
A charowsio gwin yn wisgi,
Dywaid yr a'r holl rai meddwon,
1 Cor. 6.9, 10 Gal. 5.21
Ddydd y farn ir tân ar brimston.
Os cais satan genyd dyngu,
Gig a gwaed yr Arglwydd Jesu,
Zech. 5:2, 3, 4
Dywaid nad oes vn rhyw bechod,
Waeth ria chablu gwaed y cymmod.
Heb. 10.29
Os cais satan genyd dreisio
Exod. 22.22, 23, 24 Psal. 68.5 Mal. 3.5
Y rhai tlodion ai hwndwyo,
Dywaid nad gwáeth pigo llygaid,
Christ ei hun, na threisio amddifaid.
Os cais genyd wneuthur falsedd,
Ag
Anudon aeth
ddlai fod. Mal. 3.5 Ier. 17.1
vdonaeth ag anwiredd,
Dywaid fod duw'r Barnwr cyfion,
Yn ei preintio ar dy galon.
Dibar 15.3 Ier. 10.27 Iob 34.21, 22 Heb. 4.13
Os cais genyd mewn dirgelwch,
Weithio gweithred y tywyllwch,
Dywaid fod duw a saith llygad,
Ymhob man yn edrych arnad.
Dihar 17.5
Os cais satan genyd gablu,
Dy gyd gristion gwedi nafu,
Mae e'n ceisio megis bradwr,
Genyd gablu dy greawdwr.
Datc. 21.28
Os cais genyd ddwedyd celwydd,
Mae e'n amcanu yn ddigwilidd,
Lladd a dwyn dy' enaid gwirion,
Ir pwll poeth o tan ar Brimston.
Os cais gennyd wan obeithio,
Am drugaredd, er
edifaru
repentio,
Mark 26.16
Mae'n ei srud dy ddwyn ir deyrnas,
Ir aeth Cain, a Saul, a Suddas.
Os cais satan gas dy rwystro,
I dy dduw y mae'n dymuno,
Dy droi' maes or nef yn ddirgel,
Eisieu addoliduw'n ei demel.
Os cais genyd droi di wegil,
Pan pregethir yr efengil,
Rhuf. 1.16 Rhuf. 10.17
Mae e'n ceisio dy ddihoryd,
Rag cael profi pren y bywyd.
Os cais satan genyd gysgu,
Yn yr eglwys wrth wasnaethu,
Mae e'n ceifio genyd foccian,
Duw'n ei lys ai dy ei hunan.
Gwachel gysgu wrth weddio,
Mat. 26 40, 41
Gwaeth na'r diawl yw'r dyn a foccio,
Duw'n ei demel, ar awr weddi,
Ar ei lin yn rhith addoli.
Os cais genyd fynych arfer,
Oedi bwyta'r sanctaidd swpper,
Wrth dy
Rwystro. Cor. 10
ddyor ir Comuniwn,
Mae'n dwyn ymaith sêl dy bardwn.
Os cais genyd lwyr anghofio,
R'fengil sanctaidd gwedi gwrando,
Mae e'n ceisio dwyn oth galon,
Luc. 8.12
Had y gair a'th wnelai'n gristion.
Os cais genyd fod yn fodlon,
Ddwyn heb sylw enw cristion,
2 Tim. 3:5
Fe wnai felly yn ddiogel,
Wâs i Ghrist, yn was i gythrel.
Os cais genyd ti professio,
Ffydd heb weithred yn cidweithio,
Iac. 2.14, 17
Mae'n dy dwyllo trwy ffydd farw,
Drystio ir ffydd ni all dy gadw.
ymadel ar cyd
Os cais genyd ti ddihirio,
Esay 55.6 Psal. 32.6 Preg. 9 16
Edifeirwch nes departio,
Mae'n dyrwystro geifio ffafar,
Duw, nes eloi'n rhy ddiweddar,
1 Pe [...]. 5.8
Ni âd Satan vn rhyw bechod,
Nad amcana gael dy orfod,
Ni ad garreg heb ei threiglo.
Nes y paro it tramgwyddo.
Bydd hob amfer ar dy wachel,
2 Cor. 2.11.
Nôs a dydd y rhodio 'r Cythrel,
Nid oes man nad iwe'n tannu,
Ei groglatheu i'n bachellu.
Yn yr Eglwys, yn y berllan,
Yn y shop, ag oddiallan,
Ar y ford ag yn y gwelu.
Eph. 6.10, 11 12, 13
Y cais satan dy fachellu.
Ollarfogeth
Bydd gan hynny megis milwr,
Yn dy gylch bob awr a'th armwr,
Ymhob man yn dyfal wilio,
Rag i satan dy wndwyo.

Rhybydd i wachelyd Rhwydau satan. Ymhob Oedran

Gwae'r dyn a fo gwyllt yn blentyn,
Glwth yn llangc, a charl yn gleirchyn,
Hwnnw draulws ei holl oedran,
Io. 3.8
Ymhob oes wrth wllys satan.
Gwachel f'enaid rwydau satan,
I'th fachellu ymhob oedran,
Ar bob llwybyr fe amcana,
A rhyw groglaeth gael dy ddala.
Psa. 54.17
Yn dy ieuengctid fe gais genyd,
Draulo d' amser yn
Preg. 1 1
ddi broffid,
Mewn pibiaeth ag o feredd,
Heb na dysc, na dawn, na rhinwedd.
Yn d'wroldeb, fe brawt'h dynnu,
I
ymlenwia diod
garowsio a gorrdderchu,
Ag y nyrddo dy lan lester,
A thrythyllwch a diffeithder.
Yn dy henaint, se braw'th rwystro,
Droi at dduw trwy wir
edifaru
repentio,
Ag y dry dy frud yn benna,
At fudolrwyed a chybydd-dra.
Prawf gan hynny ymhob oedran,
ddifudd
Lwyr ymgadw rag twyll satan,
R'hwn y gais dy gyfyrgolli,
Trwy'r peth mwya fech yn hoffi.

Cynghor i ddyfal weddio Ar bob achos ag Ymhob gorchwyl.

Er fy mendith nag anghofia,
1 Pet. 5.8
Dair gwaith beunydd ar y lleia
Brudd weddio ar dy ddaulin.
O ffaen duw dy dad a'th frenin.
Cyn mynd allan y boreuddydd,
Dan. 6.10
Cyn ciniawa y canolddydd,
Cyn swperu ol gweddia,
Y tri phryd hyn, yn ddisceulusdra.
Cifod Eph. 6.18
Cod dy ddwylaw i weddio,
Cyn gostngech law i weithio,
Cais gan dduw fendithio d'orchwyl,
Cyn y delych yn ei gyfyl,
1 Thes. 5.17
Ag wrth wneuthur dy orchwylion,
Arfer brudd weddiau byrrion,
1 Tim. 2.8
A bydd eiriol yn dy weddi,
Ar i dduw roi cymorth itti,
Os bydd trwmwaith a ffrwst arnad,
Os bydd trafferth ar ddydd marchnad,
Gwybydd f' naid, a gwna gweddi,
Fwy o les na rhwstyritti.
Er bod
achosion
busnes fawr gan Daniel,
Yn y Cwrt dan frenin Babel,
Dan. 6.20
Tair gwaith beunydd y gweddiau,
Yn ei stafell ar ei lyniau.
Joshua rymmus y weddiau,
Ios. 10.12, 13 14
Yn y frwydyr, ag ymladdau,
R'oedd e ai galon yn gweddio,
Ag yn ymladd ai ddwy-ddwylo.
Nid oedd gweddi 'rhain yn rhwystyr,
Ar vn gorchwyl faent yn wneuthur,
Ond rhwyddhau a llwyr fendithio,
Pob rhiw waith y wnelai ei dwylo.
Ar fer dithau weddi hyfryd,
Ymbob gorchwyl y fo genyd,
Di gei weled y gwna gweddi,
Psal 34 10
Rwy deb mawra
cyssur
chynffordd itti.
F'all dyn weithio ei gelfyddyd,
A gweddio yn ddyfal hefyd,
Ni chais weddi'r galon rwystro,
Hynt traed, na gwaith y dwylo.
F'all yr hwsmon, f'all y geilwad,
Alw ar dduw, a dala'r arad,
Fel y gallant ddywedyd ffregod;
Wrth yr vchaien ar nifalod.
Arifeiliaid
F'all trafaelwyr ganu Psalmau,
A gweddio ar ei shiwrnau,
Fel y gallant ganu maswedd,
A chwedleua am oferedd.
F'all y Cryddion, f'all y taelwyr,
Foli duw a chware 'r crefftwyr,
Gan roi ei breichieu i ddyfal weithio,
Ai calonnau i weddio.
F'all y gwragedd hen wrth nyddu,
F'all y merched wrth sidanu,
F'all pawb ddilin ei celfyddyd,
A gweddio yn ddyfal hefyd.
F'alle foysen wrth shiwrneia,
Exod. 14.15 Ios. 10.12, 13, 14 Mar. 1.35 Acts 27.23.35
E'alle Joshua wrth ryfela,
Christ wrth ymdaith, Paul wrth forio.
wneuthur
Dendio ei
gorchwylion
busnes a gweddio.
Nid oes dim y ddarper rwystro.
Dyn gwllysger i weddio.
Ag i weithio ei orchwyl hefyd,
Pa riw bynnag fo'i gelfyddyd.
Luc 18.1 1 Tim. 2.8
Christ sy'n erchi i bawb weddio,
Ar bob amser heb ddyffygio,
A Saint Paul sy'n erchi i'ni,
Ymhob man ymarfer gweddi.
Yn ein trallod, yn ein gwynfyd,
Yn ein nychdod, yn ein iechyd,
Y mae i'ni brudd weddio,
Ymhwy gyflwry b'om yndddo.
Ar y moroedd, ar y mynydd,
1 Tim. 2.8.
Yn ein Teiau, ar y maesydd,
Y darpareu i'n weddio,
Ymhwy fan y b'om ni ynddo.
Acts 10.6, 9. Psal. 139.18 Psal. 63 9 Dan. 6.10.
Cyda pheder yn ein llettu,
Gida Dafydd yn ein gwelu,
Gida Daniel yn ein trallod,
Y mae i'n, weddio yn wastod.
Ex 17.9, 11, 12 Gen. 24.63 Acts. 3.1
Gida moysen ar y mynydd,
Gidag Isaac ar y maesydd,
Gidag Ifan vn yr Eglwys,
Y mae gweddi yn dra chymwys.
Ymhob man, ag ar bob amser,
Ier. 29.13
Y mae gweddi yn ei themper,
Os y galon y sydd parod,
I weddio ar y drindod.
Dyn sydd demel ir gorucha,
Calon dŷn yw'r Allor benna,
Boreu a hwyr, mae Duw'n ceisio,
Mumb. 28.3.4. Dihar. 23.26
Cael or galon aberth iddo.
Nâd dy demel er dy fywyd,
Foreu a hwyr heb aberth hyfryd,
A nâd ganol dydd i
Fyned beibio
bassio,
Heb roi clôd a moliant iddo.
Felly 'byddi di
Gyfillgar
ffamiliar,
Ath greawdwr ag mewn ffafar,
Felly cai di gan y Drindod,
Dy rwyddhau ath helpu 'n wastod.
Cofia 'r nôsdy waith y dydd,
O gwnaethost gam, gwna iawn yn brudd,
Luc. 19 8 Hos 14.2 Psalm 42.8
Os digiaist Dduw, cais bardwn gantho,
Os cefaist râs, rho foliant iddo.
Na ddos i gysgu yn dy bechod,
Rhag mynd oth gwsc ger bron y dryndod,
Ag na
Hured
slwmbred dy ddau amrant,
Nes ymbilio am faddeuant.
Y dŷn a
Fetddio.
fentrio fynd i gysgu,
Yn ei bechod ein difaru,
Mae ê'n mentrio mwi o lawer,
Na phe cysgeu gida gwiber.
Rhag dy fynd ir barr i'th farnu.
Ganol nôs tra fech yn cysgu,
Mat. 25.13
Gwachel fynd fel dŷn diwybod,
Byth ith welŷ yn amharod.
Psalm 90.12
Pan edrychech ar dy welŷ.
Cofia'r bedd lle 'r aei'th gladdu,
A chyn rhoi di gorph i orwedd,
Dyfal feddwlam dy ddiwedd.
1 Cor. 15.51 Ioan 5.28
Pan y cano Ceiliog Peder,
Nes dyhunech oth esmwythder,
Meddwl f' enaid fel y deffru,
Vdcorn Christ di wedi'ch gladdu.
Pan y tynnech dŷ holl ddillad,
Ond dy grys oddi am danad,
Cofia fel y gorfydd gado,
1 Tim. 6.7 Iob 1.21.
Ymma'r cwbwl ond yramdo.

Y modd y dylae ddyn duwiol daeffroi ei gorph ai enaid ganol nos i glodfori Dvw.

DYhûn, dyhûn o gysgu,
Psalm 107.8
Fy enaid bâch prawf ganu,
Clôd a mawl, a chalon brudd,
Ir Arglwydd sydd ith helpu;
Dyhûn, dyhûn mae achos,
It wiliad fel yr Eos,
I glodfori d'arglwydd mawr,
Heb gysguawr or hirnos.
Psalm 105.5
Dyhûn, dyhûn a chofia,
Drugaredd y gorucha,
Ar modd ith
Cynuorth­wyodd.
helpodd prynwr crêd,
Er pan ith aned gynta.
Efe yw d'vnig helpwr,
Dy nawdd, dy nerth, dy swccwr,
Isai. 43.11 Psalm 18.2
Dy Ghrist, dy graig, dy gardarn Jor,
Ath dynnodd or cyfyngdwr.
Fe'th greûodd cin berffeidded,
Gen. 1.27. Ioan 8 36 Tit. 3.5, 6
Fe'th dynnodd o gathiwed,
Fe'th adgenhedlodd o'th ddrwg rân,
Ai ysbryd glan bendiged.
Fe'th alwodd o blith deillion,
I gredu 'r fengil dirion,
1 Pet. 2.9
Fe'th gyfiawnhoôdd yn rhâd trwy ffydd,
Rhuf. 3.24 Rhuf. 5.1
Yn Ghrist d' achybudd ffyddlon.
Yn foethus iawn fe'th borthodd,
Psalm 145.15 Hosea 2, 8, 9 1 Ioan 3.1
Yn drefnus fe'th ddilladodd,
Fe'th dderchafodd, i fawr fraint,
Rag cwrb a haint fe'th gadwodd.
Fe rows it enw hyfryd,
A chredit a syberwyd,
Isai. 56.5
Heddwch, llwyddiant, grâs a dawn,
1 Cor. 3.21, 22 23
Allawer iawn o olud.
Fe wnaeth it fyw mewn cariad,
Hawddgarwch a chymeriad,
Gida phob glân sort o ddŷn,
Heb gâs gan vn or teirgwlad.
Niphallodd eir ioed etto,
Psalm 34.10. Isai. 45.19 Psalm 144.34 Gen. 32.10
Or peth y faet ti'n geifio,
Er na haeddit feger taêr,
Mor briwsion ar ei ddwylo.
Nid oes vn dŷn ag 'aned,
Ag arno fwy o ddyled,
I glodfori vn duw tri,
Nag s'arnat ti or parthred.
Dyhûn gan hynny a chofia.
Garedigrwydd y gorucha,
Ar modd i'th helpodd prynwr cred,
Erp an anith aned gyt.
Psal. 146.2
A thra fo it ben a thafod,
Mynega byth ei fawrglod,
Ai ddaioni yn ddiddal.
Tro whyth ag anal ynod.
Ir tâd, ir mâb, ir ysbryd,
Ir drindod vndod hyfryd;
Y bo clôd a moliant mawr,
Bob dydd, bob awr, bob enyd.

Cyngor i foliannu Duw y boreu.

Y Boreu pan ddihu nech gynta,
Côd d' olwgon at Jehofa,
Meddwl am ei foli 'n ddiwall,
Cyn meddyliech am ddim arall.
Cofia mae Duw ydiw 'r ceidwad,
Y fu neithiwr yn dy wiliad,
Heb gloi amrant, iddo' gysgu,
Rhag ir llew dy ladd a'th lyngeu.
Oni bae Dduw ai Angelion,
Sy'n castellu daetu ei weision,
Dyn ni bydde heb ei lyngcu,
Psalm 34.7
Gan y gelyn tra fac'n cyscu,
Meddwl dithe faint yw'r dyled,
Y sydd arnad ir
Arglwdd
Gogoned,
Am dy gadw mor ddiangol,
Rhag y gelyn yn wastadol.
Ag fel y mae y dyled arnad,
Rho fawr foliant iddo 'n wastad,
Gan aberthu ar dy linieu,
Ddiolch iddo nôs a boreu,
Aderyny­wir y fron rhy­dden
Rhobin bâch cyn glychu 'eneu,
Y gân ir Arglwydd Psalm bòb boreu,
Am ei gadw'r nôs rhag niwed,
Er bôd gwely hwn yn galed.
Llawer dyn yu waeth na 'r'deryn,
Y gôd oi wely megis mochyn,
Hcb gydnabod Christ ei geidwad,
Na rhoi diolch am ei warchad.
Peth cwilyddys i blânt dynion,
Fôd yn wâeth na 'r adar gwlltion;
Sy'n clodfori nôs a boreu,
Christ mor ddyfal am ei ddonieu.

Gweddi wrth wisco dy ddillad.

CHrist fy nghraig am Jechadwriaeth,
Gwisc am danaf dy Arfogaeth,
Nad vn aelod heb ei wisgo,
Rhag ir gelyn fy
Nafu
andwyo.
1 Thes. 5.8 Eph. 6.14.15
Gwisc fy mhen a helm gobaith,
Fy mrest âth gorslet gyfiawn berffaith,
Fy lwyneu a gwregis gwir ddiddanwch;
Fynrhaed a scidieu efengil heddwch.
A Rho dy air yn gleddyf im mi,
Eph. 6.16, 18
Ffydd yn fwccler i ddiffodi;
Holl biccelleu tanllyd Satan,
Gras a grym i sefill allan.
Nertha fi fel milwr ffyddlon,
I ryfela am gelynion,
'Rhythrau Satan, chwantau cnawdol,
'Twyll y byd, ar pechod marwol,
A rho gymmorth i gorchfygu,
Fel y gallwyf dy wasnaethu,
Yn ddiofn, yn ddi wegi,
Megis plentyn ir goleuni,

Gweddi fach wrth y molchi.

GOlch o Ghrist! âth waed fy mhechod,
Dan. 1 5
Golch fy enaid am cydwbod,
Golch fi'n llwyr oddiwrth fy mryntni,
A rho d'ysbryd Sanctaidd im mi.
Golch fy meddwl oddiwrth wegi,
Sych ar twel main fy mryntni,
Golch fy mhen, am traed, am calon,
Ioan 13 5
Fel y golchaist d' Apostolion.
Golch fy nagreu gwir difeirwch,
Golch fi yn ffynnon grâs a heddwch,
Golch fi ath waed, mor wynn ar lili,
Fel y gallw i'n lân dy addoli.

Diolch am Dân a chynnessrwydd.

PEn
Paratowr. Psalm 145.1 [...]
profiwr pôb anghenraid,
Gwir ymgleddwr corph ag enaid,
'Rwi 'n bendithio duw yn hyfryd
Am roi tân i dorri f' anwyd.
Duw mor rassol yr ordeineiaist,
Tân rhag anwyd, tŷ rhag temest,
Bwyd rhag uewyn, Dwr rhag syched,
I ymgleddu dŷn pengaled.
Oni basseu itti greui,
Tan i'n gweini, an cynhessu,
B'wedd y gall' seu dnŷn ymdaro,
Heb y tân, pa b'assem heb do.
Er bôd tân yn beth anhepcor,
Etto 'sowaeth nid oes nymor,
Ymlith mileodd a rônt itti,
Am y tân or
Dioleb
godemersi.
Arglwydd agor ein golygon,
Igydnabod maint dy roddion,
An geneuau i'th glodfori,
Am ein tŷ ein tân, an gwely.
Y mae 'n gwell yn gorwedd allan,
Yn yr oêrfel tost yn gryddfan,
Duw cynhessa 'rhain a'th ffafar,
A gwna ninneu yn ddiolchgar.

Cynghorion yaghilch ceisio bendith ar y bwyd, cyn bwyta, ag ynghilch talu diolch i Dduw ar ol bwyta.

NA ddôd glûn i lawr i isteu,
Na ddod damaid yn dy eneu,
Wrth swperu a chiniawa,
Nes bendithio'r bwyd yn gynta.
Ag na
Neu, na chych­wyn godi un am­ser.
chytgam gwny vn amser,
Odd' ar ginnio nag ar swpper,
Nes rhoi diolch prudd ir Drindod,
Am dy fwyd ag am dy ddiod.
Mae pôb bywd a melldith arno,
Deut. 28.15 Hyd yr. 20 1 Tim. 4 4, 5
Er cwymp Adda nes bendigo,
'R Bwyd, a gair Duw ag a gweddi,
Nid cyfreithlon itti 'brofi,
Christ ni fwytau fara
Neu bara haidd Ioan 6.9, 11
barlish,
Whaythach bwydydd, gwell ei
Flas
relish,
Nes yn gyntaf ei fendigo,
A rhoi mawl i dâd amdano.
Pam gan hynny cytgam vndyn,
Fwyta 'r bwydydd sy'n escymmŷn,
Nes yn gyntaf ei gyssegri,
A gair Duw a deddfol weddi.
Tost yw gweled mor nif eilaidd,
Mor anneddfol, mor anweddaidd,
Y rhêd llawer dŷn i fwyta
Bwyd, fel bywch y rêd ir borfa.
Tostach yw i weld ê'n cwnu,
Oddar y ford, i fynd i gysgu,
Fel y moch 'or trwcca 'r domen,
Heb roi diolch fwy nag assen.
Fe gwilyddia hen ddŷn bâs,
Ddechreu 'n henwr ddwedyd grâs,
Rheitiachoedd i hwn gwilyddio,
Fod è cyd heb ei
Arfer
bracteisio.
Na chwilyddied vn rhyw ddŷn,
Mat. 25.3 [...] Ioan 6.11
Ddilin arfer Christ ei hun,
Ond cwilyddied pob oferddyn
Arfer fwyta ei fwyd fel mochyn.
Isai. 1.3
Fe nebydd ŷch, fe nebydd assen,
Pwy iw' porthwr, pwy iw 'perchen,
Ag a roddant ddiolch iddint,
Yn ŷ meder y fo genthynt.
Llawer dyn yn waeth na nifel,
Acts 14.17 Acts 17.28
Ni adwaeniff Ghrist ei fugel,
R'hwn sy'n wastad yn ei borthi,
Ai drwm lwytho a daioni.
Y mae'r adar bach yn canu,
Clôd dduw yn ôl swpperu,
Ag yn rhoddi moliant iddo,
Nes bo llewyrch i'ni gwrando,
Mae 'n hwy bob vn yn ymdynnu,
Am y goreu allo ganu,
Mawl ir Arglwydd nôs a borau,
Sy'n rhoi bywd i lanw ei boliau.
Y mae dynion hwyntau 'n tewi,
Gwedi'r Arglwydd mawr ei porthi,
Heb roi clô na moliant iddo.
Mwy nar pysc s'eb lafar gantho.
Ond da dylae'r fath gan hynny?
Fod yn vffern yn newynu,
Eisieu nabod Duw ei cymmorth,
A rhoi diolch am ei hymborth.
O na sydded vn rhyw Gristion,
Yn gyffelib ir fath ddynîon,
Ag o byddant yn ddigwnsel,
Maent yn waeth nag vn anifel.

Gras cyn bwyd.

POrthwr mawr y pum mil gwerin,
Ar pum torth haidd, ar ddau byscodyn,
Ioan 6.9, 10 12
Portha ninnau dy wael weision,
Ar hyn ymborth wyt ti'n ddanfon.
A bendithia'r bwyd ar ddiod,
R'hwn a roddaist ymma i'n gwarchod,
Fel y gwir fendithiaist cyn hyn,
Oen y Pasc ar ddau byscodyn.
A rho iddynt rymi'n porthi,
1 Bren. 19.8 7, 8
Ith wasnaethu ath addoli,
Fel y rhoddaist rym oth wiwras,
Gynt ar deisen i Elias.
A phâr iddynt i'n cynfforddi,
An cryfhau, an gwir ddigoni,
Dan. 1.12, 14 15
Fel y peraist ir ffar issel,
Ar y ffacpus borthi Daniel.
A nad i'ni oth ddainteithion.
Gymryd gronyn mwy na digon,
Ond y maint a fo i'n helpu,
Yn ein galwad ith wasnaethu.
Eith'r pâr i'n roddi moliant,
It bob amser am ein porthiant,
A chydnabob mae Duw r'eli,
Ginnio a swpper sy'n ein porthi.

Cyngor i edrych attom yn hunain wrth fwyta.

NAd dy ford yn fagal itti,
Trwy loddineb câs a fyrthni,
Rhag ir gelyn dû dy hela,
Gablu Duw wrth lanw'r bola.
Gwachel fwyta dim a baro:
Ith gyd gristion gwan dramgwyddo,
Y mae'r scrythur lan yn gwrafun,
1 Cor. 8.13
It trwy fwyd dramgwyddo vn dyn.
Pan bo'r ciliog coch yn bwyta,
Bydd ei lygad hwynt ag ymma,
Rhag ir barcyd llwyd i sclissiad,
Tra fo e'n bwyta heb feddyliad.
Felly bydded dy ddau lygad,
Ditheu vwch dy fwyd yn gwiliad,
Vn yn canfod dy greawdwr,
Llall yn gwiliad rhag y temptiwr.

Gras yn ol bwyd.

Psalm 145, 15, 16
POrthwr grassol pob creadur,
Gwyllt a dôf, yn ôl ei nattur,
Derbyn foliant am ein porthi,
Mor ddigonol ath ddaaioni.
Er pan ddaethom or grôth allan,
Ty di'n porthaist fawr a bychan,
Am dy fwynder yn ein porthi,
R'ym ni bawb yn diolch itti,
Nid oes gennym ddwr i yfed,

1 Chro. 29. 11 12

Mat. 6.11

Bar i fwyta, grym i gerdded,
Goleu i ganfod, nerth i godi,
Ond a roddech Arglwydd i'ni.
Itti Arglwydd am ein porthiant,
Am ein rechyd, am ein llwyddiant.
Am ein heddwch an llawenydd,
Y bo moliant yn dragywydd.

Cynghorion i fyw yn ddeddfol.

Y Neb y fynno fyw yn ddeddfol,

Dihar. 1.10 Hydy 17 Psal 26.4, 5 Dihar. 22.24 25

2 Cor. 6.17.

Yn ôl wllys ei dâd nefol.
Cynta peth sydd raid i wneuthur;
Tynnu o blith y drwg weithredwŷr.
A rhoi fynu ddrwg gwmpniaeth,
Yn dragywydd yn ddihiraeth,
Megis Moysen gwmpni'r Aiphtiaid,
Heb. 11.27 Gen. 12.1.4
Lot ag Abraham y Caldeiaid.
Fel y tâg y gwug y gwenith,
Fel y sura fincg lefrith,

Dihar 22.24 25

1 Cor. 5.6

Fel yn yrdda pûg dy gadach,
Felly 'th nafa drwg gyfeillach.
Gwachel nedir rag dy frathu,
Gwachel blâg rag dy ddifethu,
Ag o ceri iechawdwriaeth,
Gwachel ddilin drwg gwmpniaeth.
Tyn o Sodom, dere allan,
Rhed o blith y bobol aflan,
Acts 2.40
Gad oferwyr, cadw d' enaid,
Tyn o blith yr anffyddloniaid.
Tra fu foysen gida 'r Aiphtiaid,
Tra fu Abram gida'r Siriad,
Sef yn y fath fodd ogonedd­us ag y gwnaeth ef ar ol hynny
Ni'm ddangosseu 'r Arglwydd iddynt,
Nes ei tynnu ymhell oddiwrthynt.
Rho gwmpniaeth plant y fall,
Heibio 'n ebrwydd o dwyd gall,
2 Cor. 6.15
Ni bydd cydfod rhwng Duw'r heddwch,
A chyfellion plant tywyllwch.
Neu gwoll: Dihar. 13.20 Dihar. 10.20 21
Gwedyn dilin brudd gyfeillach,
Pobol dduwiol, ddoeth, ddianach,
Rhai y ddyscant itti nabod,
Y gwir Dduw ai ofni 'n wastod.
Tra fu Saul ynghwmpni Samuel,
Fe aeth Saul yn sant o gythrel,
1 Sam. 19.24
Tra fu e'n dilin pobol ddiffaith,
F'aeth y sant yn gythrael eilwaith.
Dilin Brophwyd, fe'th oleua,
Dilin athro, fe'th gyfrwdda,
Dilin sant.
Fel offeryn yn llaw Dduw ir pwrpas hynny
fe'th wna di'n sanctaidd;
Dilin ffôl ti ddeui 'n ffiaid.
Gwedyn canlyn ar dy liniau,
Psalm 25.4
Ar dduw ddangos itti 'lwybrau,
Ath lwyr droi yn dra awyddus,
Ps. 119.176
O bob llwybyr traws twyllodrus.
Nes goleuo Duw dy lygaid,
Nes dadfiwio Christ dy enaid,
Epb. 5.8.
Ni chanfyddu ffordd y bywyd,
Heb oleuni 'r Scrythur hyfryd.
Cymmer lantern Duw 'n dy law,
I'th oleuo ymma a thraw,
Ps. 119.105
Nid aiff nib i dir y bywyd,
Heb oleuni 'r Scrythur hyfyd.
Gwna 'r peth archo 'r fengil itti,
Iac. 1.22.
Paid a phob peth ni boe 'n erchi,
Hi'th gyfrwydda fynd or diwedd,
I gael bywyd a thrugaredd.
Gwedyn gwachel yn ystriol,
Rhag byw 'n ôl dy 'wllyscnawdol,
Rhuf. 8.12 13
Nag wrth fôdd dy galon gynnil.
Ond yn ôl goleuni'r fengil.
Ag os ceisi gael derchafiaeth,
Grâs, a dawn, a iechaw dwriaeth,
Psalm 128.1
Dewis, dilin, cerdd heb golli,
Y ffordd ddysco 'r Arglwydd itti.
Hi fydd cyfing ar y dechrau,
A gwrthnebus ith drachwantau,
Mat. 17.3
Ar ei diwedd hi fydd esmwyth,
Ith ddwyn at Grist, yn ddiswmwyth.
Mat. 11.30
Ffordd i ddistriw sydd yn wâstad,
Ag en esmwyth ei dechreuad,
Dihar 14.12
Ond yn niwedd ffordd annuwiol,
Y mae'r pwll ar ffoes vffernol.
Gwedi dechreu'r ffordd trwy rinwedd,
Datc. 2.10 Deut. 5.32
Praw 'i dilin hyd y diwedd,
Ag na chytgam droi oddiarni,
Nes dy ddwyn i wlad goleuni.
Nid wyt nes er dechreu'r shiwrneu,
A throi gwedyn at dy feieu,
Nid oes
Addewid
Bromais gael y goron,
Heb barhau, hyd Angau'n ffyddlon.
Fe ddechreuodd Saul a Suddas,
Heb. 10.38, 39
Fynd ti ar nef ar drott fel Demas,
Waith diffigio cyn diweddu,
F'aeth y tri ir poeth garchar du,
Mat, 11.29
Dilin Grist ar air a gweithred,
Troeda 'r ffordd y fu e'n gerddod,
Gwna 'r peth archwys yn y scrythur,
Ni throi droedfedd dros y llwybur.

Cyngor duwiol i hob dyn ag y ddymuno gael ffa­far Duw a maddeuant am ei bechodau.

PWy bynnaga geisio maddeu,
Ei bechod ai drosseddeu,
A chael pardwn gan dduw gwyn,
Rhaid dilin hyn o werseu,
Yn gynta addeu 'th bechod,
Yn brudd o flaen y drindod,
Na chais gelu dim rhag Duw,
Dihar. 28.13
'Dos bai nad yw 'n ei wybod.
Gwedyn prawf ddeallu,
Puw ddial wyti 'n haeddu,
A phwy angau didrangc maith,
Rhuf. 6.23
Am dan dy waith yn pechu.
A deall fod dy feiau,
Yn haeddu vffernol boenau,
Ioel 2.13 Dan. 9.17
Gwedyn cais a chalon drist,
Gan Dduw er Christ ei maddeu.
A dysc yn brudd gydnabod,
Nad oes o flaen y drindod,
Iawn am bechod, ond gwaed Christ,
Ai angau trist ai 'fudd-dod.
A chrêd ith bryhwr Jesu,
Yn gwbel gyflawn dalu,
Ar y groes yn ddigon drûd,
Am feiau 'r bŷd sy 'n credu.
A gwybydd fod Duw 'n fodlon,
Ir iawn y wnaeth Christ drossom,
Mat. 3.17
Ag er ei fwyn yn barod iawn,
Roi pardwn llawn ir ffyddlon.
A chrêd y maddeû i tithau,
Dy bechod ath drosseddau,
Ioan 3.16
Ond it geisio er mwyn Christ,
A chalon drist ei maddau.
Na chytgam geisio celu,
Or pechod wyti 'n garu,
Addeu 'r cwbwl gar bron Duw,
Peth ofer, iw ei wadu,
1 Cor. 11.31.
A barn dy hun yn euog,
O flaen yr holl-alluog,
Fel nath farner ar ddydd brawd,
Arg'oedd trwy wawd digassog.
Alara âm dy bechod,
Iac. 4.9, 10
Yn ôl ei weld ai nabod,
A 'mofydia nôs a dydd,
Nes itti 'n brudd ei wrthod.
Gwna 'r galon brudd ochneidio,
Ar llygaid ddyfal wylo,
A gwna ir ysbryd brudd dristhau,
Edifarhau a
Alaru:
mwrno.
A chais gan dâd goleuni,
Roi calon dyner itti,
A 'mofydia ambell awr.
Am dan dy fawr ddrygioni.
Na orphwys byth ond ceisio,
Nes cael gan Dduw dy wrando,
A rhoi calon it dristhau,
Edîfarhau ag wylo.
Yn olit
Alaru:
fwrno ennyd,
Am dan dy bechod oflyd,
Ps. 113.114
Dala afel tra fech byw,
Ar bromais Duw ai 'ddewid.
Mae Duw 'n ei air yn addo,
Mat. 5.4 Esay 55.7
Diddanu rhai fo'n mwrno,
A rhoi hefyd bardwn clûr,
I bawb y wîr
Edifaru:
repentio.
Repenta oth fywyd anllad,
A chrêd yn Ghrist dy geidwad,
Ioan 3.16 Esay 55:7
Gâd dy feiau tro ynod chwyth,
Ni chollir byth o honad.
Mae Duw yn addo helpwr,
Esay 35.6
A cheidwad a ddiddanwr,
I bôb dŷn difeiriol trist,
Sef Jefu Grist dy brynwr.
Mae Duw yn addo maddeu,
Dy bechod ath drosseddeu,
Ath olchi yn lân oth frwntni, ei gîd,
Esay 1.16, 17, 18
Ond gado ymrhyd dy feieu.
O byddi di difeiriol,
Mae 'n addo bod yn rassol,
Ier. 3.2 [...]
Diddig, tirion, mwyn, a
Rhâd: Rhuf. 5.1
ffri,
A byth a thi 'n heddychol.
Mae 'n addo dy lwŷr olchi,
Oddiwrth dy feieu ath frwntni,
Yngwaed ei fâb (O cofia hyn)
Esay 1.1 [...]
Ath droi mor wynn ar Lili.
Dal afel siwr fel Christion,
Ar hyn o addewidion,
Nef a dae 'r ânt heibio (clyw)
Mat. 24.35
Cyn torro Duw
Addewldion
bromeison.
Casa dy bechod oflyd,
Rhuf. 12.9
Fel neidir gâs wenwynllyd,
Sy'n ceisio 'th ladd o gysgod llwyn,
Dan gêl, adwyn dy fywyd.
Dihar. 4.14 15, 16
Na ddere ir man lle gallo,
Dy bechod taer dŷ hudo,
Dos
Passa he [...]bio, neu dro 'n d' ôl,
Na ddôs fel ffol ith demptio.
Os doi ar draws y neidir,
A cholyn hon feth frathir,
O doi 'n rhy agos at y tân,
Dihar. 6.27 28
Medd scrythur lân feth loscin.
Gan hynny ymgadw arnad,
Rhag tramwy lle bo 'r temtiad,
Gwell it droi, na mynd ir mann,
Nid wyt ond gwann ag anllad.
2 Pet. 2.20 21, 22
Na thro at bechod eilwaith,
Fel ci neu fochyn diffaith,
Y rêd ir dom yn frwnt ei fri,
Yn ôl ymolchi vnwaith.
Dihar. 24.1
Na ddilin ddrwg gyfeillach,
Ath
Trro
helo ffolach, ffolach,
Ni thâl ceisio troi at DduW,
Nes gado 'r cyfriw
Oferedd
ffrythnatch.
Psalm 26.4, 5 Psalm 1 9 6 3 Phil. 3 7
A glŷn wrrh bobol dduwiol,
A
Chraffa ar
Marca ei ymddygiad grassol,
Da a difir yw'r fath wŷr,
Ith ddwyn ir llwybyr nefol.
A chais gan Dduw trwy weddi,
Psalm 51.10
Dy droi oddiwrth ddrygioni,
Ath gyfwyddo tra fech byw,
I garu Duw ai ofni.
A nâd ir fâll dy ddallu,
Ath annog mwy i bechu,
Sathra
Damsing Satan dan dy draed,
Trwy rinwedd gwaed yr Jesu.
Dact. 1.11
Na ddere at y meddwon,
Rhag newid dy arferion,
Fel y newid y mor glâs,
A heli, flâs yr afon.
Ymâd a phôb cyfeillach,
Ath
Trro
helo yn annuwiolach,
Tyn oddiwrthynt, casâ ei ffyrdd,
Fel
Pûg
pitch a nyrdd dy gadach.

Cyngor yn rhybuddio dyn i ymgadw, rhag lleteua meddyliau drwg yn ei galon, ag i droi ei fe­ddyliau bob amser, i fyfyrio ar ddaioni.

MAe holl feddwl dŷn ysowaeth,
Gen. 6.5
Gwedi' lygru wrth naturiaeth,
Ni fyfyria ond drygioni,
Nes y darffo ei aileni.
Nid oes dŷn ag all myfyrio,
Meddwl da, gwnaed oreu 'gallo,
2 Cor. 3.5
Nes cael gallu Duw ai radau,
I gyfrwyddo ei feddyliau.
Psalm 51.10
O gweddia 'n daer gan hynny,
Ar ir Arglwydd adnewyddu,
Dy feddyliau ath amcanion,
I fwriadu ar yr vnion.
Luc. 11.13
Felly y denfyn Duw ei ysbryd,
I oleuo dy feddylfryd,
Ag i newid dy fedd y liau,
I fwriadu yr hyn sydd orau.
Ier. 4.14
Nâd i feddwl drug leteua,
Yn dy galon rhag dy ddifa,
Gwâs yn ceisio lleu i Satan,
Bôb yn awr yw 'r meddwl aflan.
Dôd dy feddwl ath fyfyrdod,
Col. 3.1, 2
Ar y pethau sydd oddi vchod,
Lle mae Christ dy brynwr hygar,
Nid ar bethau s'ar y ddaear.
Mat. 6.20, 21 Luc. 12.33, 34
Rho dy frud ar bethau nefol,
Ag na sercha ddim daiarol,
Meddwl am y wlad y gorfydd,
Aros ynddi yn dragywydd.
Eph. 1.7 Rhuf. 5.10 Col 1.20 Eph. 1.14 1 Pet. 1.3, 4
Meddwl am y pethau brynodd,
Christ ai waed it yn y nefoedd,
Heddwch Duw a choron hyfryd,
Teyrnas hardd, a didrange fywyd.
Psalm 139.1 Hydy 9 Dihar. 5.21 Ier. 16.17
Meddwl dy fod tra fech byw,
Bob yn awr yngolwg Duw,
A bod Duw yn gweld d' ymddgiad,
Ymhob man a chil ei lygad
Meddwl fod y gelyn gwaedlyd,
1 Pet. 5.8 Datc. 1.2.10 Iob 1.7 Mat 13.25, 39
Ddydd a nôs fell llew newynllyd,
Yn troi daetu ith orweddfa,
Bôb yn awryn ceisio 'th ddifa,
Meddwl am reoli d' eiriau,
Ma. 12.36 Datc: 20.12
Ath weithredodd, ath feddyliau,
Wrth fodd Duw, rhag iddynt beri,
Gwascfa ith Enaid ddydd dy gyfri.
Meddwl fel y daw dy brynwr,
Yn y cym 'lau i chwareu 'r barnwr,
Datc: 1.7 Mat. 24.30, 44 Mat. 25.10
Ag ymgweiria i gyfarfod,
Fel priod-ferch gwrdd ai phriod.
Meddwl fel y gorfyed rhoddi,
Ddydd y farn mor fanwl gyfri,
2 Cor. 5.10 Rhuf. 14.12 Preg. 12.14
Am y meddwl drwg ar bwriad,
Ag y roir am weithred anllad.
Meddwl fal yr awn oddiymma,
Iob 1.21 Preg. [...] 5.15 1 Tim. 6:7
Ir tŷ pruddlud am y cynta,
Mewn Cwd canfas heb vn
Geiniog
Beni,
Pe bae in ni rent Arglwyddi.
Meddwl fôd yr Angau aethlud,
Heb. 9.17 Datc 6 8 Rhu [...] 5.12 Iosh. 23.14
Ar farch glâs yn gyrru 'n ynfud,
Fal na ddichon hên nag ifange,
Rhag ei saeth ai ddwrnod ddiange.
Meddwl hefyd y daw Angau,
Megis lleidir am ein pennau,
Datc 3. [...] Preg. 9▪ 16
Heb vn vdorn i'n rhybuddio,
Yn ddi-ymgais i'n anrheithio.
Iac. 4.14 Psalm 2.9 Iob 7.7
Meddwl nad iw bywyd vn dyn,
Ond fel Bwmbwl ar y llyn-wyn,
Neu fel Padell bridd neu wydur,
'Rhwn yn hawdd y dyrr yn glechdur,
Iob 7.6 Psalm 90.5, 6 Luc. 12.19, 20
Meddwl fel y rhêd ein heinioes,
Megis llong dan hwyl heb aros,
Ag y derfydd am ein hamser,
Cyn in' dybied draelo ei hanner.
1 Cor. 7.31 Preg. 5.15 [...] Ioan 2.17 Luc. 16.24
Meddwl fôd y byd yn gado,
Pawb yn llwm i fynd o hono,
Ag fel iâ yn torri danynt,
Pan bo rheitia ei gymmorth iddynt.
2 Cor. 5▪ 10 Psalm 49.17 1 Tim. 7 Dihar. 11.4
Meddwl na ddaw aûr nag arian,
Tai na thir mor droydfedd fechan,
Gida neb i fynd ir frawdleu,
I roi cifrif am beieu.
Heb 3▪ 27 Preg. 5.15 2 Cor 5.10 Rhuf. 14.12
Meddwl pan y delo Angau,
Gorfydd gado 'r bŷd ai bethau,
A mynd o flaen Ghrist yn wisci,
Am y Cwbwli roi cifri.
Meddwl fal y bydd dy dlwsseu,
Dihar. 23.5
Ath holl olud, ath holl swyddeu,
Yn ym ofyn newydd feistri,
Cyn y caffech gwbwl oeri.
Luc. 21.26 Datc. 6 15 Datc. 20.12 Rhuf. 2.16
Meddwl dosted y fydd pechod,
Yn dolurio dy gydwybod,
Pan y
Iafler
cywler yn dy ddanedd,
Ddydd y farn dy holl anwiredd.
Meddwl fal y gorfydd rhoddi,
Rhuf 14.12 Preg. 12.14 Mat. 12.36
Ddydd y farn ir Arglwydd gyfri,
Am bob gwithred ddrwg y wnelom,
Ar gair ofer ag y ddywetom.
Meddwl fal y bydd gwŷr gwychion,
Dact. 6.15, 16
Sydd heb ofni Duw na dynion,
Ddydd y farn yn crio 'n scymyn,
Am ir creigiau gwympo arnyn.
Meddwl fal y bydd y duwiol,
Datc. 7.9. Hyd yr 16
Yn y nef mewn braint rhagorol,
Yn clodfori Duw gorucha,
Pan bo eraill yn
Vffern.
Gehenna,
Meddwl fal y mae'r annuwiol,
Datc. 21.8 Datc. 14.10 Marc. 9.44 46▪ 48
Yn ymdroi mewn tân vffernol,
Ar pruf didrangc yn ei bwyta,
Bob yn awr heb gael ei wala.
Meddwl am hyn, a dibrissia,
1 Ioan 2.15 Col. 3.2
Y bŷd hwn ai wagedd mwya,
A myfyria trwy wir grefydd,
Ar air Duw, ar bŷd na dderfydd,
Meddwl dyn a red heb orphwys,
Ar y drwg neu 'r da gyrhaeddwys,
Oni chaift beth da i fyfyrio,
Ar y drwg fe rêd tra gallo.
Meddwl dŷn fel mâen y felin,
Y
Areulia
droel a ei hun nes mynd yn gilin,
Oni roir rhiw rinwedd dano,
Iddo falu, ai fyfyrio.
Meddwl weithio 'r gwaith y bwyntiodd,
Dy greawdwr pan ith greuodd,
Eph. 5.16
Ai wasnaethu ath holl
Nerth.
bwer,
Yn dy alwad tra cech amser.
Meddwl mae gwell vn diwrnod,
Psalm 84.10
Yn gwasnaethu 'r sanctaidd drindod,
Na'th holl ddyddiau, nath holl, oesach,
Yn gwasnaethu dim amgenach.
Meddwl cin y gwelych bechod,
B'wedd attebu ddydd dy drallod,
A pha fodd i gallu ddiangc,
1 Thes. 5.3
Ddydd y farn rhag angau didrângc.
Dôd dy feddwl ar ddaioni,
Nad ar wagedd iddo ymborthi,
Hawdd y gallu i gyfrwyddo,
Os mewn pryd y ceisi' ffrwyno.
Hadd iw diffodd y wreichionen,
Iac: 4.7
Cyn y mafloi yn y nembren,
Hawdd iw newid meddwl aflan,
Os gwrthnebir hwn yn fuan.
Tro gan hynny yn ebrwydd heibio,
Bôb drwg feddwl pan dechreuo,
Rhag ir gelyn mawr ei hocced,
Droi'r drwg feddwl yn ddrwg weithred.
Lladd blant Babel trafo'nt fechgin,
Sang ar sarph tra foe 'n y rhisgin,
Tyn y gangren cyn ei gwreiddio,
Tro ddrwg feddwl cin cynyddo.
Gâd wreichionen fach i gynnu,
Yn dy do, hi lusc dy lettu,
Gâd i feddwl drwg leteua,
Yn dy galon ie'th anrheithia.
Na leteua feddwl aflan,
Yn dy galon mwy na Satan,
Os lletteui rwyti 'n derbyn,
Cennad i ha­rotoille
Harbinger o flaen gelyn.
Rho dy frud ar gadw'r gyfraith,
Psalm 1.2. Preg. 12▪ 1 1 Thes 5:1 [...]
A byw wrthi, yn ddiragraith,
Ag na ollwng Duw oth feddwl,
Ond bendithia e, am y cwbwl,
Na fwriada ddrwg oth galon,
Lev. 19:17: 1 Ioan 3:15
I anrheithio dy gid. gristion,
Laddiad
Mwrddwr yw 'r fath feddwl gwaedlyd,
Gwachel rhagddo er dy fywyd,
Na thrachwanta wraig cŷmydog,
Exod: 20:17 Gen. 12.17 Mat. 5.25
Ag na hoffa ei llygaid serchog,
Nâd ith feddwl redeg arni,
Cans godineb yw î hoffi.
Gwachel roi dy frud nath fwriad,
Zech. 7.10 Exod. 22.22 Deut. 27.19 D [...]h. 23.10, 11
Ar anrheithio vn amddifad,
Trais a blin orthrymder yw.
Y cyfriw fwriad o flaen Duw,
Gwachel chwennych Aur nag arian,
1 Tim. 6.10 Exod. 20.17 Preg: 5:10
Tai na thir, trwy dwyll a chogan,
Nid iw'r cyfriw chwant a bwriad,
Gar bron Duw, ddim llai na lledrad.
Rhwym dy feddwl nàd e'i wibian,
Ar ofer edd mawr na bychan,
Deut. 11.18
Nag ar ddim na ellech roddi,
Gifrif
Côunt am dano ddydd dy ddidri,
Mar. 7.21 Zech. 8.17 Rhuf. 2.16 Preg. 12.14
Cadw'th galon rhag drwg fwriad,
Fel y cedwr'th law rhag lledrad,
Mae'n rhaid âtteb yn cin gaethed,
Am ddrwg fwriad ar ddrwg weithred.

Dyled-swydd plant i rhieni.

OS plentyn wyt, rho wir anrhydedd,
Ith dâd, ich fam, trwy barch a mawredd;
Eph. 6.2, 3
Duw sy'n erchi i hanrhyeddu,
Os grâs a hiroês a chwenychu.
Gwna 'r peth archo dy rieni,
Prâw ymhob peth i bodloni,
Trwy na cheisiont gennyd bechu,
Gwna bob peth y fônt yn fynnu.
Dihar. 4.1
Derbyn gyngor, derbyn gerydd,
Derbyn gosb dy dâd vn vfydd,
Derbyn ddysc pan fo'n dy
Geryddu
shiaco,
Derbyn bôb athrawiaeth gantho,
Os dwl, os dall, os poeth, os lloerig,
Os anioddefgar, a dottiedig,
Y fydd dy dâd, ath fam mewn henaint,
Goddeu ei gwenidd, trwy ddioddefaint.
O bydd dy dâd, neu 'th fam mewn tlodi,
A chennyd tithau fodd iw peri,
1 Tim. 5.4
Maetha 'n dirion y ddau henddyn,
Fel y maeths'ont dithau 'n blentyn.
Dilin fiampl y Ciconia,
Sy 'n porthi ei dâd, pan fo ef gwanna,
Yn cweirio ei nŷch, yn ei
Bwrw aden trosto
adeino
Yn hên yn wann, heb allu cyffro.
Dilin arfer y Dolphiniad,
Sy, n porthi ei Tâd ai mam yn weiniad;
Gan ei cadw pan fònt gwanna,
Rhag ir Pyscod mawr ei difa.
Gwradwydd mawr, i feibion dynion,
Fod yn waeth nar Adar gwylltion,
Gwaeth nar Pyscod mewn caledi,
Wrth y rbai rows bywyd i'ni.
Od wyt wr mawr, o alwad vchel,
Ath dâd yn dlawdd, ai radd yn issel,
Rho barch ith dâd, er
Cysuwch
cywch oth alwad,
Anrhydedda'th fam yn wastad.
Er bôd Joseph yn rheoli,
Gen. 45.9, 10, 11
Gwlad yr Aipht, ai dâd mewn tlodi,
Fe wnae Joseph fawr anrhydedd,
Idd i dâd er maint oi waeledd.
Er bôd Solomon yn frenin,
Ar ei orsedd yn gyffredin,
1 Bren. 2.16
Fe ddy scennau oddiar ei orsedd,
I berchi fam a mawr anrhydedd.
Er bôd Christ yn Dduw, yn ddŷn,
Yn vwch na neb, yn well nag vn,
Luc. 2.51
Fe barche'u fam, fe barche'u dadmaeth,
Fe fyddeu vfydd i hathrawiaeth.
Pet faet ti Duwc, nid llai dy ddyled.
I berchi 'th Dâd ath fam er tloted,
Ni rŷ' chelfraint rydddid it'ti,
Leusy, 'th ddyled ith rieni.
Mae'th Dâd yn Dâd, pyt fac ef cobler,
A thitheu 'n fab pyt faet ti Squier,
Tra fech di 'n fâb, mae Duw'n dy rwymo,
'Roi parch ith Dâd, pwy bynnag fytho.
Pan oeddyd wann heb fedru cwnnu,
Heb fwyd i gnoi, heb laeth i lwngcu;
Heb glwtt ith gylch, dy fam ath helpodd,
Pwy dâl a roi ir hon ath fagodd.
Yn hir hi'th ddygodd dan ei gwregis,
Ai gwaed hi'th borthodd yno nawmis,
Ai llaeth hi'th olchodd oth holl frwntni,
Pwy dâl pwyth y wnai di iddi.
Yn glâf hi geisiôdd dy ddiddanu,
Lawer nôs, gan golli ei chyscu,
Gan dy lwlan rhwng ei breichiau,
Pan baet ti, ar dorri'n rhengau.
Rhô anrhydedd prudd gan hynny,
Ith rieni am dy fagu,
Nâd wâll arnynt hyd dy farw,
Tro gwerth ceiniog yn dy helw.
Y parch, ar bri, ar bwyd, ar trwssiad,
A roech ith dâd yn henwr ingrad,
Y ry dy fâb i' tithau 'n henddyn,
Wrth vnion farn, cyn dêl dy derfyn.
Y garthen rawn y fu ar welu,
Dy dâd wrth orwedd, yn y beudu,
Y geidw'th fâb i tithau orwedd,
Ar y dowlod cin dy ddiwedd.
Y messur Cwtta 'r hwn y roddech,
A roddir itti pan heneiddiech,
Luc: 6:38
Yr wyr y ddial medd y wlad,
Y messur bach y roest ith dâd,
Bydd gan hynny hael a serchog,
Rhwydd, a thirion, a thrugarog,
Wrth dy dâd, ath fam mewn henaint,
Fel y caffech dithau'r cymmaint.
Na ddôs fel Esau i Briodi,
Heb gael cennad dy rieni,
Gen: 16:34, 35
Odid i Dduw 'r ioed fendithio,
R'faeth briodas wyllt nai llwyddo.
Os anweddus yw'th rhieni,
Nid ôs it' ti moi amherchi,
Nai bychanu hyd ei diwedd,
Ond gweddio am wella ei buchedd.
Cham am watwar Noah ei dàd,
Gen: 9:22, 24 25
'Drwm felldithiwyd yn ei hâd,
Ar felldith hon, s'eb fyned etto,
O grwyny
Pobl dduon ei crwyn.
Moores y ddaeth o hano:
2 Sam. 18.9, 1 [...], 14
Absalon Dêg y fu anvsudd,
A thraws iw dâd, hen frenin Dafydd,
Duw ai crogodd wrth ei
Cedynnau
loscen,
Am ei drawsedd, wrth frig derwen.
Parcha 'th dâd, ath fam gan hynny,
Helpa 'r ddau pan fo'nt yn ffaely,
Eph 6.2, 3
Felly hestyn Duw dy ddyddiau,
Yn y tir lle bo dy dreiglau.

Cyngor i lywodraethu 'r ymadrodd wrth fodd Duw.

BId dy eiriau yn wastadol,
Yn gristnogaidd ag yn rassol,
Col. 4.6 Eph. 4.29
Yn rhoi grâs ir holl wrandawyr,
Ag adeilad tra chymmessur.
Dihar. 21.23 Dihar. 18.21 Dihar. 13.3
Y mae bywyd, y mae Angau,
Yn y tafod yn y genau,
Gwachel ddwedyd geiriau diriaid,
Cadw d' enau, cedwi d' enaid.
Dilin d' arglwydd yn dy eiriau,
1 Pet. 2.22.23
Dywaid fel y dywede yntau,
Ni ddaeth twyll na gair anweddaidd,
Erioed y maes, oi enau sanctaidd.
Iac. 1.19 Dihar. 10.19 Ar. 17.28
Traetha 'n bwyllog, gwrando 'n escud,
Mae dwy glust, vn tafod gennyd,
Am'l eiriau, bair gyfeiliorni,
Ni ddaeth drwg i neb o dewi.
Cin dywedych, meddwl ennyd,
Mat: 5.37, 44 Col. 4.6 1 Cor. 14:26
B'wedd y myn mâb Duw it ddywedyd,
Yno dywaid r' hyn sydd rassol,
A da i adail rhai an-neddfol.
Na ddoed ymadrodd brwnt oth enau,
Eph. 4:20 Eph: 5:4: Eph. 4.25.
Na gair ffol, na choeg ddigrifau,
Senn, na ffrost, na ffrump, na chelwydd,
Ond bid rassol dy lyferydd.
Cadw d'enau rhag gair diriaid,
Dihar. 4.24. Dihar. 13.3 Psalm 39.1 Mat. 12.37
Felly galli gadw d' enaid,
Oni ffrwyni dafod anwir,
Yn ôl d' eiriau, ith gondemnir.
Arfer iaith ag
Lleferydd Psalm 145.21 Col. 3.16 Iac. 1.26.
Aeg gwlad Canan,
Bid am Dduw ai air dy ymddiddan,
Wrth dy eiriau y cair gwybod,
O bwy wlad yr wyt yn hanffod.
Nâd ith dafod arfer tyngu,
Mat. 5.34 Iac. 5 12 Heb. 10 29
Cig a gwaed 'r Arglwydd Jesu,
Rwyt ti 'n
Sathru
damsing gwaed y cymmod,
Pan arferych gyfriw bechod.
Am air Duw nid oes it yngan,
Esay 66.2 Exod. 20.7 Deut. 28.58, 59
Heb anrhydedd, parch, ag ofan,
Ag os cymeri ei enw 'n ofer,
Di âe yn euog pan ith farner.
Dywaid beunydd leia ag allech,
Dywed yn rassol pan y dywedech,
Iac. 1.19 Dihar. 17.17
Oni ddywedi eiriau hyfryd,
Gwell it dewi a sôn na dywedyd:
Cwachel fôd yn ddau dafodiog,

Lev. 19 15 Dihar. 6.16 17

Ioan 8:44 Eph. 4.25

Câs gan Dduw bôb dyn celwyddog,
Tâd y celwydd ydyw 'r Cythrel,
Gwâs ir Diawl iwr ffalst ei chwedel.
Zech. 8.16, 19 Psalm 101.7
Arfer draethu 'r gwir oth galon,
Hoff iw'r gwir gan Dduw a dynion,
Ni chaiff dŷn celwyddog gredu,
Gair oi wir, pan bo 'n ei dyngu.
Na chno vn dŷn llwyr ei gefen,
Lev. 19.16 Psal. 120.3, 4 Psalm 64.3 Psalm 59.7
Ag na arfer gair drwg absen,
Gwaeth na chleddau llym dau-finiog,
Ydyw enllib dŷn celwyddog.
Na ddwg dafod drwg anhappus,
Dihar. 4.24 Psalm 140:3 Psalm 120.3, 4
Gwaeth yw hwn na gwen wyn lindus,
Gwaeth na marwor poeth yn llosci,
Gwaeth na saethau vn or Cowri.
Er fy mendith na lyssenwa,
Neb yn rhwyll, neu 'n ffoll, neu 'n rhaca,
1 Pet. 2.1 Mat. 5.22 Iac. 3.6
R'hwn a alwo ei frawd yn lletffol,
Mae ê yn haeddu tan vffernol.
Dihar. 7.27
Gwachel adrodd faint y glywech,
Gwachel ddwedyd faint y wypech,
Dywaid wir pan orffo ei draethu,
Nes bo rhaid, gwell weithiau i gelu.
1 Pet. 3.8 Lev. 19.17
Bydd ddeallgar pan ganmolech,
Bydd gwrteisol pan gyfarchech,
Bydd gariadus wrth geryddu,
Bydd drugarog wrth gyfrannu.

Gweddi am lwodraethu'r geiriau, ar geneu wrth fodd Duw.

ARglwydd agor fyng wefyssedd,
Psalm 51 25
I folianu 'th Dduwiol fawredd,
A chyfrwydda di fyn hafod,
I ddatcanu maes dy fawr glod.
Llanuw'ng enau, 'oth wir foliant,
Psalm 40.10
Ith fendithio am fy llwyddiant,
Ath glodfori, dâd trugarog,
Yn y dyrfa fawr luosog.
Llinia 'ng eiriau, lliwia 'n hafod,
Psalm 141.3
A chyfrwydda fy myfyrdod,
Clo, a
Neu dateloi
dat clo fy nwy wefys,
Nâd fi draethu ond dy wllys.
Arglwydd cadw ddrws fyng eneu,
Nàd fi draethu ffiaidd eirieu,
Ffrwmp, na ffrost, na sen na chabledd,
Geirieu ffol, na dim anwiredd,
Bid myfyrdod fy holl galon,
Psalm 19 14
Bid fyng weithred, am amcanion,
Bid fyng eirieu oll yn ddiddrwg,
A chymeradw y yndi olwg.

Cyngor i ddyn fod bob amser o ymddigiad Christnogaidd.

Phil. 2.15 1 Pet. 3.8 1 Pet. 3.11
BYd d'ymddygiad yn gristnogaidd‘
Yn gwrteisol, ag yn griaidd,
Ymhob tyrfa 'delych iddi,
Megis plentyn ir goleuni.
Mat. 5.16 Phil. 3.17 1 Pet. 4 16
Bydd fel seren yn discleirio,
Bydd fel cannwyll yn goleuo,
Bydd fel patrwn o gristnogaeth,
Ir rhai ddelo
Gwmpeini
ith gwmpniaeth.
1 Pet. 1 15 Deut. 16.10 1 Pet 5.8 Tit. 2.12
Bydd dra sanctaidd ir galluog,
Bydd yn vnion ith gymydog,
Bydd vn sobor it dy hunan,
Dyna 'r tri phwnc rheitia allan.
Mat 10 16 Eph. 5.15 Luc. 10 3 Mat. 12.50
Bydd mor ddi-ddrwg ag yw 'r glomen,
Bydd mor gall ar sarph drachefen,
Bydd ddioddefgar sal y ddafad,
Hôff gan Ghrist yw 'r fath ymddygiad.
Bydd yn
Yn gymesurol Dan 1.11, 12 1 Cor. 9 27 Eph. 5.18 Gal: 5.19, [...]0
demy 'raidd megis Daniel,
Cadwr 'r cnawd mewn Diett issel,
Gwachel wîn a bwyd rhy foethus,
Rhag dy fynd yn afreolus,
1 Thes. 4.2, 4 Gen. 39.7, 8.9 Dihar. 5 21 Psalm 18.26
Bydd yn ddiwair, nid yn anllad,
Bydd fel Joseph yn d'ymddygiad,
Rwyt ti yngolwg Duw bob amser,
Bydd gan hynny lân a syber.
Delia 'n vnion wrth fargeinia,
Deut. 25.15 1 Thes. 5, 6.
Na thwyll vn dyn wrth farchnatta,
Duw ei hun sydd vnion farnwr,
Rhwng y gwirion plaen ar twyllwr,
Bydd o ffydd a chrefydd vnion,
Tit. 2▪ 2 Deut. 6 1 [...]. Esay 1 16 Dihar. 1 [...].3
Ofna Dduw o ddwfnder calon,
Na wna ddrwg o flaen ei lygad,
Ymhob mann, mae 'n disgwyl arnad.
Dilin gyngor doeth bregethwyr,
Dihar. 19.20 Hebr. 13.17 1 Pet▪ 2.7 Rhuf 12:18
Ymdddarostwngith Reolwyr,
Bydd gariadus ath gymdogion,
Ag heddychol a phob Christion.
Bydd dra grassol yn dy eiriau,
Col. 4.6 Dihar. 1 [...].3 Psalm 15.4
Bydd yn fedrus yn dy chwedlau,
Bydd yn gywyr yn dy
Addewid 1 Pet. 5.5, 6
bromais,
Bydd ym-hob peth, lân, a llednais.
Bydd di berffaith ymhob tyrfa,
Mat. 5.48 Phil, 2.15 1 Pet. 2.12 Gen. 6.8, 9
Bydd fel sant ymlhith y gwaetha,
Er diffeithed y fo 'r cwmpni,
Bydd fel Noah 'mysc y cowri.
Cyfarch pôb dŷn yn dra suriol,
Rhuf. 16.16 1 Pet. 5.5. 1 Pet. 2.13 Rhuf. 13.7 Lev. 19.32
Gostwng ith well yn gwrteifol,
Parcha 'r henaint ar Awdurdod,
A rho 'r blaen ith well yn wastod.
Bydd ddioddefgar a chymmessur,
Dibar. 3.1 1 Col. 3:8 Dihar. 16.32
Na fydd boeth na thwym dy nattur,
Goddeu gamwedd cin cynhennu,
Y ddioddefo hwnnw orfu.
Exod. 20.12 1 Pet. 5.5 Mat. 21.9 Iac. 4.10
Ymddarostwng ith oreuon,
Duw ei hun a wrthladd beilchion,
Ag fe ddyru râs yn ystig,
Ir rhai vfydd gostyngedig.
Dihar. 16.5 Psal. 75.5, 6 1 Thes. 5.18 Iob 1.21
Na falchia am vn rhinwedd,
Nag am gyfoeth ag anrhydedd,
Ond rhô ddiolch prudd am danynt,
Rhag i Dduw dy adel hebdynt.
Deut. 22.11 1 Tim. 2.9 Esay 3.16, 17 1 Pet 3.3
Bydd di gryno yn dy ddillad,
Dôs yn lân yn ôl dy alwad,
Torr dy bais, yn ôl dy bwer,
Na fydd goeg, na brwnt vn amser.
Rhuf. 6.23 Iac. 1.15 Ezek. 18.4
Gwachel bechu er cwmpniaeth,
Cyflog pechod yw marwolaeth,
Cnifer gwaith y bech yn pechu,
Cnifer Angau wyt yn haeddu.
Gen 2.17 Rhuf. 5.12, 18
Mae cyfathrach er y dechreu,
Rhwng pôb pechod brwnt ag Angeu,
Fal na ddichon vn dyn bechu,
Na bo Angeu yn ei lwngcu.
Eph. 4.29 Eph. 5.11, 12 Esay 29.15
Na fydd anllad yn dy chwedleu,
Na fydd aflan mewn corneleu,
Ym-hob cornel bid d'ymddygiad,
Fal pyt faet wrth groes y farchnad.
Dihar. 1.10 Zech. 4.10
Os cais dŷn, na Diawl, nag Angel,
Gennyd bechu yn y dirgel,
Cosia fōd Duw a saith llygad,
Ym hob mann yn dlsgwyl arnad.
Er nâd ydyw dŷn yn gweled,
Ier. 16.17 Ier. 29.23
Yn y dirgel lawer gweithred,
Y mae Duw yn gweld y cwbwl,
Pan na bytho dŷn yn meddwl.
Os trosseddi yn ydirgel,
1 Cor. 4 5 Rhuf. 2.16 2 Sam. 12 12
Duw ddatguddia dy holl
Gynghor
gwnsel,
Ag a fyneg 'dy ymddygiad,
Ir bŷd yng wydd 'r haul a lleuad.
Gwachel ddilin ddrwg gwmpniaeth,
2 Thes. 3 6 Psalm 1.1
Pobol anwir ddigristnogaeth,
Os, fe
Glynu wrth, neu ddifwyne.
nyrdda r'hain g'ymddygiad,
Fel y nyrdda r' pitch dy ddillad.
Fal hallta 'r môr y granffo,
Or dwr croew ddelo atto,
Felly nyrdda pobol fcymmun,
Foeseu 'r goreu ddelo attyn.
Gwachel neidir rag dy frathu,
Eph. 5.11, 12, 13, 14
Gwachel Blâ rhag dy ddifethu,
Ag o ceri Jechawdwriaeth,
Gwachel ddilin drwg gwmpniaeth,
Câr ath galon bôb dŷn duwiol,

Psalm 101, 4, 5, 6

Phil. 3.17

Bydd gyfeillgar a rhinweddol,
Dilin arfer y rhai doethion,
A ffieiddia 'r annuwolion.

Paratoad ir cymmun.

POb rhiw Gristion ag y garo,
Ddyscu 'r modd y mae ymgweirio,
Fynd yn lân i ford 'r Arglwydd,
Dysced hyn o werseu 'n ebrwydd.
Cyn yr elych,
Ar ruthr.
rhwp, ir Cymmun,
Ystŷr ble, yr wytti 'n rofyn,
A pha beth yr wyti ar feder,
I
Dderbyn
recefio yn y swpper.
Nid i ford rhyw Emprwr llidiog,
Ond i ford yr holl Alluog.
Rwyt ti 'n rofyn. mynd i fwyta,
Bwyd sydd gan mil gwell na Manna.
Ioan 6.49, 50 1 Cor. 11.20 Ioan 13.17
Gwell na Manna os fel Cristion,
Y derbyni hwn yn ffyddlon,
Gwaeth na gwenwyn os trwy anras,
Y derbyni hwn fel Suddas.
Meddwl dithau am ei dderbyn,
Yn gristnogaidd fel y perthyn,
Mewn sancteiddrwydd, ffydd, a gobaith,
Glendid pur, a chariad perffaith.
Gwachel redeg yn amharod,
I ford Christ yn llawn o bechod,
Rhag it dderbyn barnedigaeth,
Lle caiff eraill Jechawdwriaeth.
Cofia 'n
Gryno Exod: 12.3 15.19
garcus, pwy sancteiddrwydd,
Pwy ymgweirio, pwy parodrwydd,
Gynt ossododd Duw ar dâsc,
Cin cae Israel fwyta 'r Pasc.
Cofia hefyd pwy ymolchi,
Ioan 13.4, 5
Pwy lanhau, a phwy syberwi,
Y wnaeth Christ ai ddwylo tyner,
Ar ei Saint, cyn
Profi
tasto 'iswpper.
O na ddere dithau 'n sarnllyd,
Yn dy rwd, ath bechod drewllyd,
I ford Christ, heb lwyr ymolchi,
Oth holl feiau, ath holl fryntni,
Bwrw lefein pob rhyw bechod,
1 Cor. 5.7, 8.
Llid, cynfigen, malis, medd-dod,
Rhyfig, falssedd, ffwrdd oth calon,
Ni thrig Christ y man lle byddon.
Cofia fel yr
Myned i fewn Ioan [...]3.26
entrodd Satan,
Gynt yn Suddas frawdwr aflan,
Yn ôl iddo fwyta 'r tammaîd,
Yn ei bechod brwnt mor embaid.
Gwachel ditheu rhag digwyddo,
Y fath beth yr eil waith etto,
Os ti ddoe i ford yr Arglwydd,
Yn d' aflendid heb barodrwydd.
Cofia ir Corinthiaid feirw,
A nychu 'n hîr, or gwres ar gwaew,
O waith mynd yn amharadol,
1 Cor. 11.30
Llwyr ei pen ei Bwrdd sancteiddiol.
Gwachel ditheu fynd yn rhwyscus,
Ir ford hon heb ofan parchus,
1 Cor. 11.29
Heb ystiriad beth sydd arni,
Rhag dy farw yn dy frwntni.
1 Cor. 11.28
Hola dy hun, a myn wybod,
Wyt ti 'n difar am dy bechod,
Ag oes genyd ffydd, a gobaith,
Calon lan? a chariad perffaith.
1 Cor. 11.31, 32
Barna dy hun yn ddiweniaeth,
Fel na farnô Duw di 'r eilwaith,
Ag lle gwelych ddim yn eisieu,
Cais gan Ghrist ei roi neu faddeu.
Pedwar peth angenrheidol cyn derbyniad y cymmun
Pedwar petb fydd angenrheidiol,
Ir rhai fynn cymmuno 'n ddeddfol,
(1) Ffydd gristnogaidd, (2) gwir ddifeirwch,
(3) Cariad perffaith, (4) diolchgarwch.
Nid oes llûn bôd heb y lleia,
Or rhai hyn cyn mynd i fwyta.
Ar neb êl, ir swpper hebddyn.
Ni chaiff lês ôddiwrth y cymmun.
1 Ffydd
Fydd sydd gynta 'n angenrheidiawl,
I gredu i Ghrist roi hun 'n hollawl,
Ar y groes farw drossom,
Am y pechod ôll y wnaethom,
Ffydd sy'n cyrraedd ffrwyth pardwn,
Y bwrcassodd Christ trwy
Ddioddefaint. Ioan 1.12
bassiwn,
Ag yn derbyn ar y swpper,
Grist ei hun ai holl gyfiawnder.
Nid iw Christ yn fwyd ir bola,
I gnoi adant, ai roi ir cylla,
Bwyd iw Christ, i borthi'r enaid,
Ioan. 6.35
Yn ysbrydol, trwy ffydd dambaid.
Ni all neb fwynhau 'n ysprydol,
Christ, ai waed, ai gorpa sancteiddiol,
Ond yn vnig trwy ffydd rymmus,
A ddel o galon edifarus.
Mae 'r Efengil ini yn dangos.
1 Pet. 3. [...]2 Acts 3 20, 21 Ioan 6:63
Fôd Christ yn y nêf, yn aros,
Ag na ddichon vn dŷn cnawdol,
Fwytà Christ, ond yn ysbrydol,
Ffydd gan hynny sydd angenrhaid,
I gyrraedd Christ i borthi 'r Enaid,
Ag i ddercha 'r galon atto,
O myn Enaid borthi arno.
Bwyd ir Enaid, bwyd ir galon,
Bwyd yw Christ ir meddwl ffyddlon,
Bwyd i gymryd trwy ffydd fywiol,
Bwyd i fwyta yn ysbrydol.
Pan bo 'r corph yn cymryd bara,
Yn y Cymmun er ei goffa,
Cwyn dy galon, y pryd hynny,
A thrwy ffydd, mwynha Grist Jesu.
Nessa at ffydd, rhaid edifeirwch,
2 Edifeirwch
Am bôb pechod trwy ddyfalwch,
A llwyr fwriad gwella beunydd,
Troi at Dduw, mewn buchedd newydd.
Edifara o ddwfnder calon,
Am bob bai, trwy ddagrau heilltion,
Ag na ddere i ford yr Arglwydd,
Nes difaru, rhag cael tramgwydd.
Golch dy faril, carth dy waddod,
Na ddôd wîn mawn

Llester neu faril

1 Cor. 5.7.8

Casc o bechod,
Rhag ir gwîn mewn llester aflan,
Dorri 'r casc a rhedeg allan.
Ni thrig Duw, nar Oen, nar glomen,
Lle bo pechod a chynfigen,
Golch gan hynny yn lân dy lester,
O derbynni Grist nai swpper.
Chwd dy fedd-dod, clâdd dy fryntni,
Gâd dy faswedd brwnt, ath wegi,
Attal nwyfiant, ffrwyna nattur,
Gwella 'th fuchedd, na fydd segur.
Golch dy ddwylo mewn gwiriondeb,
2 Cor. 7. [...]
Golch dy feddwl, mewn duwioldeb,
Golch mewn cariad ben a chynffon,
Os derbynnis Grist ith galon.
Sacramentum requirit Sacram mentem.
Câr gyfiawnder, dil in sobrwydd,
Arferlendid a sancteiddrwydd,
Gwisc am danad gariad perffaith,
Nad vn bai dy nyrddô 'r eilwaith.
Mat. 7.6.
Nid oes rhoi i Gwn mor pethau sanctaidd,
Nar gwerthfawr bearls ir moch angrhiaidd,
Nar Manna gwynn mewn halog grochan,
Na chymmun Christ mewn cylla aflan.
Mewn Pott o âur y dodir Manna,
A chelain Grist, mewn crus or meina,
Heb. 9.4 Mat 27.59
Ar gwîn or
Grawn
Grâp mewn baril grîaidd,
Ar Cummun hwn mewn Calon sanctaidd.
Y trydydd peth sy'n rhaid ei geisio,
2 Cariad.
Yw cariad perffaith cyn
Neu dderbyn
recefio,
Heb ddwyn meddwl drwg at vn dyn,
Pell, nag agos, câr na gelyn.
Cariad ydyw 'r
Nodau
arwms tirion,
Sydd gan Grist ar
Wisciadau Ioan 13.35 Gal. 5.22.
lifrau 'weision,
Ag wrth gariad yr adwaenir,
Ddefaid Christ oddiwrth y geifir.
Nid iw Christ yn derbyn vn dyn,
I fwynhau ef yn y cymmun,
Ond yr hwn y fo 'n ddiragraith,
A phob dŷn mewn cariad perffaith.
Pyt fae gennyd fîl o ddoniau,
1 Cor. 13.1, 2, 3
A bod cariad i ti 'n eisiau,
Nid wyt deilwng byth i ddywad,
I ford Christ heb berffaith gariad.
Câr gan hynny dy gymdogion,
Maddeu 'n rhwydd ith holl elynion,
Mat 5.43.44 Mat. 5.24
Ag osgwnaethost gam ag vndyn,
Cymmoda, cyn bwyteuch y cymmun,
Gwachel ddywad yn ddigofus,
I ford Christ mewn llid a malis,
1 Cor. 5.7, 8 Ioan 13.27
Rhag i Satan fynd ith gylla,
Gida 'r tamaid gwedi fwyta.
Dysc di gan y neidir dorchog,
Chwdu maes dy wenwyn llidiog,
Cin dy fynd ir ford yn llawen,
Rhag ith falis lladd ei perchen.
Y neidir fraith medd rhai ai gwalas,
'Fwrw ei gwenwyn ar y gamlas,
Cyn yr yfae ddwr or afon,
Rhag ir gwenwyn dorri ei chalon.
Bwrw dithau dy lîd allan,
Ath ddrwg feddwl, ath draws amcan,
Ath holl falis, a [...]h genfigen,
Rhag ir rhain
Nafu
andwyo ei perchen.
Os bydd gennyd y tri ymma,
(1) Ffydd, (2) difeirwch, (3) cariad, coda,
Dereu ir cymmun, mae i ti groeso,
Christ eî hun sŷn d' alw atto.
Mofyrdod wrth fynyfro 'r cym­mun ai dderbyn. Ioan 19.34
Pan y gwelych dorri 'r bara,
A thywalltu 'r gwin or cwppa,
Cofia fel y torreû 'r wayw-ffon,
Gorph dy Ghrist ar grogbren Creulon.
1 Cor. 10.16
Pan dderbdnniech o law 'r fleiriad,
Fara a gwîn, yn ol cyssegrad,

Quid paras dentem & ven­trem.

Crede & mandi casti.

Eph. 3.17 Nolite parare fauces sed corda sursum.

Derbyn Ghrist trwy ffydd ith galon,
Portha d' Enaid arno 'n ffyddlon.
Nid danedd y mae bwyta,
Christ yn gnawdol, ai roi 'r bola,
Ond trwy ffydd y mae 'n ysbrydol,
Fwyta Christ ar galon fywiol.
Cyfol. Luc. 2 [...].19 Mat. 26.2 [...]
Côd dy galon, dring ir nefoedd,
Edrych ar yr hwn ath brynodd,
Cofia faint y wnaeth ef erod,
Pan groeshoeliwyd am dy bechod.
Gred i Ghrist ar groes ai hoelion,
Offrwn drossod waed ei galon,
A phwrcassu bywyd itti,
R 'wyti 'n bwyta Christ o ddifri.
Os gofynni pwy ddaioni,
Pwy ddaioni y gaer dderbyn y cymmun yn delwng.
Ddyru Christ or swpper itti,
Pan dderbynniech hi 'n gristnogaidd,
Mewn gwir ffydd, a chariad perffaidd.
Mae 'n rhoi itti gyflawn bardwn,
Mat: 26:28 Eph. 1:7
Oth holl bechod
Rhyddhad.
absoluwsiwn,
Gwedi 'r brenin, mawr ei selu,
A gwaed gwerthfawr calon Jesu.
Mae 'n rhoi Pardwn, mae 'n rhoi bywyd,
Ioan 6.48.57 1 Cor. 10.16
Mae 'n rhoi Comfford, mae 'n rhoi iechyd,
Mae 'n rhoi ysbryd glan ai ddoniau,
Mae 'n rhoi 'hun, ai holl rinweddau.
Mae 'n dy wneuthur di 'n gyfrannog,
Oi holl ddoniau mawr galluog,
Eph. 3.17
Ag mewn ysbryd, mae ê 'n trigo,
Yn dy galon byth tro ganto.
Mae ê 'n porthi d' Enaid egwan,
Eph. 1.13, 14
Ai wir gorph ai waed ei hunan,
Ag yn rhoddi nefawl ysbryd,
Itti 'n ernest or gwir fywyd.
4 Diolch
O bwy ddyled mawr sydd arnad,
I folianu Christ yn wastad,
Am dy wneuthur yn gyfrannog,
Or fâth supper fawr gy foethog,
A phwy daliad sy 'n dy
Nerth
bwer,
I roi iddo am ei fwynder,
Felly 'n porthi d' Enaid aflan,
Ai wir waed, ai gnawd ei hunan.
Na fydd dithau mor nefeilaidd,
A mynd o'r llan, yn anweddaidd,
Nes rhoi clôd a moliant iddo,
Am yr ymborth y gest gantho.
Christ ni fwytau fara
Haidd Iaon 6
barlish,
Chwauthach bwyd oedd well ei
Flas
relish,
Heb roi moliant mawr am dano,
Iw dâd nefol heb anghofio.
Pwy faint mwy na ddylit tithau,
Fwytâ Christ y penna or seigiau,
Heb roi diolch ir Duw cyfion,
Am ei fâb o ddwfnder calon.
A gwawdd nef, a dâer, a dynion,
Seraphiniaid, ag Angylion,
Ith gid helpu foli 'r Arglwydd,
Am ei gariad ai g'redigrwydd.

Gweddi cyn derbyn y cymmun.

ARglwydd grassol r'hwn y roddaist,
Jesu Grist y mwya geraist,
Fôd yn
Bridwerih
ranswm dros ein beiau,
Ag yn ymborthi 'n eneidiau.
Dyrro râs i minnau 'n sanctaidd,
Y'mbartoi fel Christion gweddaidd,
'Dderbyn Christ, trwy ffydd im calon,
I borthi f' enaid arno in Euon.
Carth fy meddwl am cydwy bod,
Golch fi'n llwyr oddiwrth fy mhechod,
Gwna fi'n lleller glân i dderbyn,
Christ im calon, yn y cymmun.
Cryfha fy ffydd, amlha fyng obairh,
Enyn yn of gariad perffaith,
Sancteiddia 'r corph. cyfrwydda 'r enaid,
I dderbyn Christ y bwyd bendigaid.
Côd fyng halon cywch ar nefoedd,
Lle mae Christ, yr hwn am prynodd,
Pâr im henaid borthi arno,
A thrwy ffydd, gael grym oddiwrtho.
Pâr im gredu fôd im bardwn,
Am fy' mai er mwyn êi
Ddiodde­faint.
bassiwn,
A rhan hefyd oi holl ddoniau,
Y bwrcassodd, trwy loes angau.
Pâr im gredu y daw i drigo,
Yn fyng halon byth tra ganto,
Ag na 'medy 'sanctaidd ysbryd,
Nes fy nwyn ir nefoedd hyfryd.
1 Cor. 6.19
Nâd gan hynny i mi nyrddo,
Y demel sanctaidd lle mae 'n trigo,
Nap halogi byth om llester,
Ond i gadw 'n lân bôb amser.
Pâr im hefyd i glodfori,
Nôs a dydd ar eitha om gallu,
Ai fendithio 'n brydd bôb amser,
Am yr ymborth sy 'n ei swpper.

Cyngor i bob bentu lu i lywodrauthu ei dy yn dduwiol.

OS mynni fôd yn ddŷn i Dduw,
Yn Gristion sanctaidd tra sech byw,
Gwna dy dŷ, yn Eglwys fechan,
Ath deulu 'n dylwyth Duw ei hunan.
Gwna dy dŷ yn Demel gysson,
Gwna dy dylwyth fel Angylion,
Yn ei graddau o bôb galwad,
I wasnaethu Duw yn ddifiad.
Gwna dy dŷ yn demel sanctaidd,
I addoli Duw yn weddaidd,
Gan bôb enaid a fo ynddo,
Forau a hwyr, yn ddi-ddyffygio.
Dewis
Neuscini
fain o bobol rassol,
Gwedi
Naddu
squario ei gîd wrth reol,
Yn byw yn sanctaidd, ag yn gymmwys,
I
Adiladu
adeilio dy lân Eglwys.
Nâd vn maen anghymwys ynddi,
Nâg vndrwg-ddyn ddywad iddi,
Nid rhai aflan, ond rhai cymwys,
Y syn Duw yn faen i Eglwys.
Tro 'r maen aflan ôll oddiwrthyd,
Ni fyn Duw 'r faeth faeni sarnllyd,
Tŷ i Griist, nid ty i Gythrel,
Y fydd dy Eglwys di ath demel.
New Gymwy­sach
Ffittiach ydiw i bobol aflan.
Fôd yn fain i gorlan Satan,
Ag yn danwydd vffern drist,
Nag yn fâin i Eglwys Grist.
Maen anghymwys maen afluniaidd,
Sy 'n anffyrffio Temel
Hawddgar
griaidd,
Dŷn anneddfol. dŷn anesmwyth,
A bair anglod ith holl dylwyth.
Na ddôd glogfaen câs anghymwys,
Heb ei
Maddu
squario yn dy Eglwys,
Ag na dderbyn ith dŷ deddfol,
Rai digrefydd, at rai grassol▪
Ni wna meini càs anghymwys,
Ond diwreiddio gwelydd D'eglwys.
Nar rhai aflan, dnwg, di-grefydd,
Ond troi'th Dŷ ai dor i fynydd.
Gyrr yr aflan ffwrdd oth Deulu,
Cyn y ceisiech Grist ith llettu,
Er bod Christ yn dyfod at yr annuwiol i troi hwynt [...]au b [...]nt yn ei Hannuwioldeb, etto nid yw ef yn dyfod i cyssuro hwynt, nes iddo i Sanctiddio hwynt, Ioan 14.21.
Ni ddaw Christ ir lle amherffaith,
Nes troi yn gynta 'r aflan ymmaith,
2 Cor. 6.14
Byth ni chytfydd mewn vn Demel,
Wir Blant Duw a phlant y Gythrel,
Mwy nar gwenin bach ar mwg,
Mor ysbryd glân ar ysbryd drwg.
Ni thrig Brenin lle bo moch,
Brwnt ei buchedd, gwaeth ei rhoch,
Ni thig Christ ai ysbryd gwiwlan,
Yn yr vn tŷ ar rhai aflan.
Os bvddith dŷ rai digrefydd,
Meddwon, marllyd, ag anvfydd,
Tro hwy maes, fel Dafad glafrllyd,
Rhag Clarfrio 'r faint sydd gennyd.
Gen 21.9, 10 11, 12
Fel y bwriodd Abram, Ismael,
Ffwrdd oi dy, am chwareu 'r
Neu 'r Gwr­thryfelgar ddyn.
Rhebel,
Felly bwrw dithav 'r aflan,
Ffwrdd o fysc dy Dylwyth allan.
Ni adawneu Dafydd frenin,
Psalm 101.7
Wâs annuwiol yn ei gegin,
Na âd dithau ddrwg weithredwr,
Yn dy blâs, nag yn dy barlwr.
Vn gwas aflan a bair anair,
I lawerodd o rai diwair,
Nad gan hynny 'r aflan orphwys,
Yn dy dŷ nag yn dy Eglwys.
Myn rhai duwiol ith wasnaethu,
Os dedwyddwch a chwenychu,
Duw fendithia waith y duwiol,
Pan ddel aflwydd ir anneddfol.
Gwas fel Joseph Duwiol gair wir,
Y dynn fendith ar dŷ i feistir,
Ond y drwg-ddyn megis Achan,
Ios. 7. [...]5
All
Nasu
andwyo 'r Tŷ ar Gorlan▪
Os bydd gwâs crefyddol gennyd,
Duw fendithia dy hôll olud,
Fel y gwnaeth ef er mwyn
Iacob Gen 30.30
Jago,
I holl olud Laban lwyddo.
Gwell gwâs duwiol, llariad, llonydd,
A dynn lwyddiant ar dy faesydd,
Nar digrefydd gorau gaffech,
A dynn aflwydd ar y feddech.
Gwell y llwydda gorchwyl gwâs,
Diddrwg, llariaidd, llawn o râs,
Nag y llwydda gwaith anneddfol,
Gwâs digrefydd, grymmus, graddol.
F' all gwasnaethwr doeth crefyddol,
Drai ei feistir' fôd yn ddeddfol,
1 Pet: 3.1, [...]
Fal y dichon gwraig y Pagan,
Droi ei gwr yn Gristion gwiwlan.
Oni cheisi bobol ddeddfol,
Ith wasnaethu yn grefyddol,
Byth ni bydd dy dŷ yn Demel,
Ond yn wâl a glwth ir Cythrel,
Nid wyd nes er gweision Cryfion,
I gyflawni dy orchwylion,
Oni byddant befyd (Clyw)
Grŷf i gwpla gorchwyl Duw.
Na fynn vn ith Dŷ ath Drigfa,
Nes bô o Deulu 'r ffydd yn gynta,
Nag vn gwâs, tra fech byw,
Nes bo 'n gynta 'n was i Dduw.
Ni fynn Eglwys Duw it dderbyn,
Twrgc, na Phagan, itti 'r Cymmun,
Na fyn dithau yn dy Deulu,
Rai digresydd ith wasnaethu.
Ni bydd gwàs digresydd, cywir,
Nag ir Arglwydd Dduw nai feistir,
Can 's arferol ir fath ddrwgwas,
Werthu ei feistir megis Suddas.
Cais gan hynny bobol sanctaidd,
Pobol dduwiol, pobol weddaidd,
Ith wasnaethu tra fech byw,
Os gwnai dy Dŷ, yn Eglwys Duw.
Bydd dy hunan yn oleuni,
Ag yn batrwm o ddaioni,
Ith holl bobol mewn sancteiddrwydd,
Glendid buchedd, a gonestrwydd.
A rho shiampleu da iw dilin,
Yn y neuawdd, yn y gegin,
Mewn gair, gweithred, ag ymddygiad,
I bôb rhai fo 'n disgwyl arnad,
Rhodia gida Duw fel Enoch,
Bydd bôb amser yn
Go [...]helg [...]
wagelog.
Cofia, fod Duw a saith lygad,
Ymhob man yn disgwyl arnad.
Gwachel ddwedyd dim nai wneithur,
Ond y fytho tra chymmessur,
O flaen Duw, a chroes y farchnad,
A phâr gofio hyn yn wastad.
Bydd mor sober, bydd mor sanctaidd,
Bydd mor gynnil, bydd mor weddaidd,
Bydd mor ddoddfol, bydd mor gymwys,
Yn dy Dŷ' ag yn dy Eglwys.
Y mae dyled ar Benteulu,
Ddysgu dylwyth wir grefyddu,
Gen. 18.19 Deut. 6.6:7
Nabod Duw, a chadw ei ddeddfau,
Credu yn Ghrist, ai 'ddoli yn ddiau.
Fel y dyscau Abram, ebrwydd,
Bawb oi dŷ, i ofni 'r Arglwydd,
Felly dysc dy blant ath Deulu,
I nabod Duw, ai wir wasnaethu.
Dysc dy blant, a dysc dy bobol,
I wir nabod ei Tâd nefol,
Ar iachawdwr a ddanfonwys,
Dyma 'r ffordd ir nef yn gymwys.
Planna gyfraith Dduw 'n wastadoî,
Yng halonnau pawb oth bobol,
Sonia am danynt hwyr a boreu,
Y mewn, y maes, wrth rodio ag eisteu.
Duw sy 'n erchi 'r Tadau ddangos,
Deut. 6.6.7, 8
Deddfau 'r Arglwydd i hôll blantos,
Ai rhoi 'n lasiau ar ei dillad,
Er mwyn Cofio gair Duw 'n wastad.
Darllan Bennod or scrythyrau,
Ith holl dylwyth nos a borau,
Pâr i bawb
Ail adrodd. Iac. 1.22
repetio allont,
A byw 'n ôl y wers y ddyfgont.
Bydd reolwr, bydd offeiriad,
Bydd gynghorwr, bydd yn vnad,
Ar dy dŷ, ag ar dy bobol,
I reoli pawb wrth reol.
Bydd offeiriad iw cyfrwyddo,
Bydd gynghorwr iw rhybuddio,
Ag i draethu 'r fengil iddynt,
Ag i brudd weddio drostynt.
Bydd reolwr i
Gymmellu
gompelo,
Ag i gosbi 'r rhai droseddo,
Ag i beri pawb oth bobol,
Fyw 'n gristnogaidd ag yn foesol.
Bydd di farnmwr i gyfrannu,
Vnion farn, rhwng pawb oth deulu,
I roi tâl ir da, ar duwiol,
A dialeu ir anneddfol.
Gwna di gyfraith gyfiawn gymmwys,
I reoli 'th Dŷ a 'th Eglwys,
Pâr ith bobol yn ddiragraith,
Fyw yn gymmwys wrth y gyfraith.
Dysc i bawb yn gynta ei dyled,
Dangos b'wedd y dylent fyned,
Gwedi dyscu 'r gyfraith groew,
Pâr ir wialen beri ei chadw.
Bydd ath llaw, a bydd ath lygad,
Yn llwyr ddisgwyl ar ei ymddygiad,
Nâd i neb, ar air na gweithred,
Droi ar draws, heb gerydd caled.
Pâr i bawb oth dŷ ddiscleirio,
Megis Seren yn goleuo,
Yn rhoillewyrch, dysc, ag vrddas,
I bob rhai fo 'n trigo o gwmpas.
Pâr ith Dylwyth di ragori,
Mewn duwioldeb a daioni,
Fel 'r oedd Tylwyth Nôe dduwiola,
Yn rhagori 'r holl fyd cynta.
Pâr ith wraig fôd megis seren,
Siriol, sanctaidd, lonydd, lawen,
Yn Esample o Sancteiddrwydd,
Mewn gair, gweithred, a gonestrwydd.
Pâr ith hôll blant fôd yn foesol,
Yn gristnogaidd ag yn rassol,
Ier. 35.6
Yn ymostwng iw rhieni,
Fel [...]lant Rechab yn y stori.
Pâr ith Dylwyth fôd yn ffyddlon,
Megis Tylwyth Tŷ Philemon,
Philem. 2 Adnod.
'Rhwn y waneth ei Dŷ yn Eglwys,
Hwn, mor sanctaidd y rheolwys.
Pâr ith, bobol fyw mor gymwys,
Yn dy Dŷ, ag yn dy Eglwys,
Ag mor sanctaidd ym bob Cornel,
A pha baent ynghorph y Demel.
Nâd hwy ddangos gwaeth gynheddfeu,
Nâd hw wneithur fryntach gastieu,
Yn y Tŷ nag yn yr Eglwys,
Ond pâr iddynt fyw yn gymmwys.
Nâd hwy dorri vn gorchymyn,
Or rhai lleia heb eigwrafyn,
Nâd hwy ddilin vn drwg arfer,
Heb ei Cyffro 'wella ar fyrder.

Dihar. 26.3. Dihar. 23.13, 14

Dihar. 13.24

Nâd i fawr na bychan dyngu,
Enw 'r Arglwydd mawr nai gablu,
Na dibrissio gwaed y Cymmod,
Heb roi dial am ie bechod.
Nâd hwy
Dreulio
Cyfeillach o­fer, ysgafn.
droelo 'r Saboth sanctaidd,
Mewn oferedd anghristnogaidd,
Nag mewn gloddest, a phibiaeth,
Heb rio vnion gosbedigaeth.
Nâd yn wrando 'r gair yn ofer,
Heb ei ddilin gwediclywer,
Ai ail gnoi, a sôn am dano,
A byw yn ôl wers y ddysgo.
Nad vn fynd y nos i gysgu,
Nes
Myned ar ei lin.
penlinio wrth ei welu,
Ag addoli Duw yn gynta.
Cin y rhoddo i gorph esmwythdra.
Nâd vn fynd y borau allan,
At vn gorchwyl mawr na bychan,
Nes addoli Duw 'n ei stafell,
At ei ddaulin heb ei gymell.
Nâd vn daro ei law ar Arad,
Nag a [...] orchwyl o vn galwad,
Nes y Cotto ei law yn gynta,
Am gael Cymmorth Duw Gorucha.
Nâd vn fyned i shiwrneia,
Nag i forio nag i
Marchnata
ffeira,
Nes ymbilio 'n daer a'r Arglwydd,
Iddwyn adre, yn ddidramg wydd.
Nâd vn arfer megis mochyn,
Fwyta ei fwyd allanw ei
Neu ei fol
growyn.
Nes bendithio 'r bwyd yn gynta,
A chydnabod Duw gorucha.
Nâd vn godi megis nifel,
Gwedi llanw ei fola ai fottel,
Heb rhoi diolch prudd a moliant,
Ir Tâd nefol, am ei porthiant.
Nâd fôd vn oth Deulu 'n eisieu,
Ar wasanaeth nôs na boreu,
Wrth wasnaethu Duw, bydd gargeus,
Diwyd
Nas gwasnaetho neb ê'n sceulus.
Nad hwyarfer geirieu lloerig.
Nag ymadrodd brwnt, llygredig,
Senn, na rheg, na llw, nag en llib,
Ffrwmp, na ffrost, na dim cyffelyb.
Dysc dy blant, a rhwym dy bobol,
I arferu geiriau grassol,
Geiriau 'baro maeth, a chyssur,
Gras ag vrddas, ir gwrandawyr.
Nad hw arfer castieu brintion,
Nad hwy watwar pobol wirion,
Nad hwy gablu rhai anafus,
Na bychanu 'r tlawd gofidus.
Nad hwy whiffio yn y Seler,
Nad hwy feddwy ar vn amser,
Nad hwy
Sef, par idd­ynt waglid gor­modedd or tobacco.
sugno mwg y ddalen,
Sydd yn spelio 'r bol 'ar Cefen.
1 Cor. 11.14
Nad hwy hoffi ffashiwn anllad,
Ar ei gwallt nag ar ei dillad,
Par i bôb vnfynd yn weddaidd.
Fynd yn gryno ag yn griaidd.
Ar y Saboth nad hwy ir Pebill,
Gwel beth a ddwedir yn y seithfed ddalen ynghilch gwaran­do 'r gair mewn plwyfeu eraill, oni fydd pregeth yn dy plwyf dy hunan.
Lle mae 'r deillion yn ymgynnill,
Nag i dramwy ir Tafarnau,
Lle mae 'r Diawl yn cadw ei wiliau.
Dôs ith Eglwys blwyf Suliau,
Ath holl Dylwyth wrth dy Sodlau,
I Addoli Duw 'n gyhoeddus,
Gida 'r dyrfa yn ddiscaelus.
Nad ith dylwyth drigo gartreu,
Ond gwaglent c [...]wariaethau pechadurae.
Amser gosber ar y Sulieu,
Nad hwy loetran ar y Saboth,
Sawl y * cwhario,
Neu, a chwa­reuo.
chwarien drannoeth.
Na ddôd ormod waith a nesmwyth,
Ddŷddiau 'r wythnos ar dy dylwyth,
Neu lwfia, caniattâ
Llwa ambell awr yn llawen,
Ir diffygiol godi ei gefen.
Ar y Saboth nâd hwy 'n segur,
Pâr i bob vn cliwillo 'r scrythur,
Exod. 20.8
Ag i weithio gwaith Duw 'n escyd,
O flaen vn gwaith a fo gennyd.
Dysc dy dylwyth ar y Suliau,
Bôb yn vn i ganu Psalmau,
Ag
Neu, ymre­symmu.
ymbwncio 'n ai gîlidd.
Am air Duw a phwncciau crefydd.
Ar bôb Cinnio ar bôb Swpper,
Pâr i ryw vn ddarllain
Pennod
Chapter,
I roi ymborth i bob Enaid,
Pan bo 'r Corph yn Cael ei gyfraid.
Nad dy Dŷ, na hwyr, na borau,
Heb wasanaeth a gweddiau,
Gwell ith dylwyth fôd heb swpper,
Tra fō 'nt byw, na bod heb osper.
Nâd ith Eglwys fôd vn amser,
Heb wasanaeth pryd a gosper,
Nag heb Aberth hwyr a borau,
Ir Tad nefol am ei ddoniau.
Nâd vn Cornela fo ynddi,
Heb ei
Ysgubo
ddyscib o bôb bryntni,
Ar ddiscibell o ddifeirwch,
Nes cael ffafar Duw ai heddwch.
Golch ei llawr a halltion ddagrau,
Trwssia ei gwelydd a rhinweddau,
Nâd ei hallor heb dân arni,
Ag aroglau mawl o gweddi.
Cais dy hunan chawrau 'r ffeiriad,
Galw ar Enw Duw yn wastad,
Bâr ith bobol gyd fefyrio,
Gida thi trech yn gweddio.
Pôb penteulu Cargcus, cymmwys,
Ddylae fôd fel gwr or Eglwys,
Yn Cynghori, yn rhybuddio,
Pawb oidŷ, yn orau ag allo.
Ar fath drefen sy 'n yr Eglwys,
Yn rhoeli pawb yn gymmwys,
Ddylae fôd yn 'nhû, pob Christion,
Ireoli'r Tŷ ar dynnion.
Gossod vn neu ddau oth deulu,
Fel wardeiniaid ith gyd-helpu,
Gadw 'th bobol ôll wrth drefen,
Ai rheoli yn dy absen.
Rhaid yw disgwyl ar arferion,
Ag ymddygiad pawb oth ddynion,
Ag ar lwybrau 'rhai sy 'n pechu,
Fel y gallech ei ceryddu.
Nâd vn drwg-ddyn heb ei gosbi,
Yn ôl messur ei ddrygioni,
Rhag i arall bechu fwy, fwy,
Am it ffafro 'r anghymeradwy.
Dyro rybydd ir Trosseddwr.
Dair gwaith, pedair, 'wella ei gyflwr,
Can ei daflu ffwrdd or gorlan,
Oni wella, trô fe allan.
O bydd meddwon, na bo sobor,
Os bydd
Dyn Cyndyn
drel na dderbyn gyngor,
Vn digred na charo grefydd,
Trô hwy maes yn ôl cael rhybydd.
Os bydd morwyn yn
Yn rhoi tafod drwg.
scoldies,
Ag heb berchu Sara ei meistres,
Bwrw Hagar or drws allan,
Gâd ir festres gael ei hamcan.
Nâd ith ddynnion fôd yn segur,
Rho ryw dafc i bawb i wneithur,
Maeth diffrwythder, mamaeth gwradwydd,
Preg. 10.18
Yw cyd-ddwyn a
Seguryd
segurlydrwydd.
Myn weld pawb oth blant ath deulu,
Yn mynd mewn pryd, pôb nos igysgu,
Arfer ddrwg yw gadel gweision,
Fynd i gysgu pan y mynnon.
Pan boi 'n amser mynd i gysgu,
Cais gan Ghrist fendithio 'th deulu,
A bod arnynt oll yn geidwad,
Gwedyn cymmer di dy gennad.
A rho rybydd ith hôll bobol,
Alw ar Dduw, 'n ddefosionol,
Fawr a bach, ar ben ei gliniau,
Cyn ir elont i
Cwlau.
gwelyau.
Ag rhag ofon i Dduw gyrchu,
Rhai oi Cwsg i fynd i barnu,
Par i bob vn lwyr ymgweirio,
Fynd o flaen Duw cin y cysgo.
Os yn llynn y llywodraethu,
Dy hôll dylwyth ath holl lettu,
Duw fendithia 'th dy, arh dylwyth,
Ag ach gwna chwi ôll yn esmwyth.
Ioan 14.23.
Christ a Bresswyl yn dy demel,
Christ ath wrendy yn dy drafel,
Christ ath dderbyn oth lan Eglwys,
1 Sam. 2.30
Ar dy ddiwedd i Baradwys.

Am ddiwedd y byd.

PAwb syn chwennych dysgu 'r pryd,
Y daw Christ i farnu 'r byd,
Rheitiach yw, i bob rhai ddysgu,
Ymbartoi Cin mynd i barnu,
Ffol o beth i feibion dynion,
Geisio gwybod mwy na' Angylion,
A deallu wrth draws amcan,
Ddirgel
Gyngor
gwnsel Duw ei hunan.
Ni d oes dŷn na Diawl nag Angel,
All deallu dim ôi gwnsel,
Nar holl fŷd yn abal
Datgloi
daclo,
Vn cyfrinach a fo gantho,
Ofer yw i neb chwenychu,
Nabod dim y fo Duw 'n gelu,
A mynegi wrth draws amcan,
Beth nas gwyddeu Christ ei hunan.
Mar. 13.32
Dysc gan Ghrist y petheu hyspyssodd,
Na chais wybod dim y gelodd,
I ni perthyn a ddadgiddiwys,
I Dduw 'r cwbwl nâs mynegwys.
Deut. 29.29
Na chais wybod tra fech byw,
Ddim o ddirgel bethau Duw,
Ag os ceisi mae 'n ddiogel,
Boen a chwilidd am dy drafel.
Y mae 'r môr yn boddi lawer,
Sydd yn chwenych gweld ei ddwfnder,
Ar haul wen yn dallu llygaid,
Pawb edrycho arni 'n dambaid.
Dydd y farn sydd
Siccir
siwr i ddyfod,
Y pryd nid oes ond Duw 'n ei wybod,
Ffol yw'r dyn y geisio ddrogan,
Y dydd nas gwyr ond Duw ei hunan.
Mar. 13.32
Dweded pawb ei dewis chwedel,
Nid oes dyn, na Diawl, nag Angel,
Wŷr y dydd, nar awr, nar flwyddyn
Y daw Christ i farnu arnyn.
Gwiliwch bawb a byddwch barod,
A disgwyliwch nes ei ddyfod,
Mat. 25.13
Ar y dydd ar awr nas gwypoch,
Y daw Christ yn ddirgel attoch.
Jago a Pheder gynt ofynnodd,
I Grist, cin ei
Mar. 13.3, 4
ddercha it nefoedd,
Athro, dangos cin dy
Dder. chafi ad.
ddercha,
I ni 'r prŷd ar dydd diwetha,
Christ attebau ei ddiscyblion,
Nid perthynas i blant dynion,
Acts 1.7.
Wybod
Cynghor
Cwnsel y Gorucha,
Am y dydd ar awr ddiwetha.
Mac Duw 'n cadw hynny 'n ddirgel,
Iddo ei hunan yn ddiogel,
Gwiliwn bawb a byddwch barod,
Nes y dêl, ni chaiff neb wybod.
Nid yw'r doethâ o blant dynion,
Nar anwyla or Angylion,
Yn deallu hyn o Amser,
Gweglwch gredu chwedleu ofer.
Elias gynt medd rhai y ddwedeu,
Y parhau 'r byd, chwe mil o flwyddeu,
Yn ôl hynny fe ddiwedidd,
Drwy Dan poeth, nesail
Adne wyddid
renewid.
Dwy fil heb vn Gyfraith haychen,
Dwy fil dan gyfreithau Moesen,
Dwy fil dan Efengil Jesu,
Os cae bara cyd a hynny.
Tair ôes meddant sydd ir byd,
Vn
Sef yn Scri­fenedig.
heb gyfraith oll i gid,
Y llall dan drwm lwyth gyfraith foesen,
Ar drydydd dan y fengillawen.
Y ddwy oês gynta aethont heibio,
Ar drydydd oês syn para etto,
Hyd pa hyd, y peru weithian,
Nis gwyr neb ond Duw ei hunan.
Mila chwechant aethont heibio,
Or oês hon, ag ugain Cryno,
Fe all pawb wrth hynny wybod,
Nad oes fawr o hon heb ddarfod.
Pawb or doethion ygytuna,
Mae byrra oês ywr oês ddiwetha,
Os er mwyn y detholedig,
Hi fydd byrrach nid ychydig.
Ifan alwe'r oês hon ymma,
1 Ioan 1.1 [...]
Yn ei ddyddiau, 'r oês ddiwetha,
Os diwetha 'ramser hynny,
Mae hi 'n awr, ymron Terfynu.
Diwedd pob peth oedd yn nessid,
1 Pet. 4.7
Pan oedd Peder yn y Pwlpid,
Nid oes lûn nad y diw 'r diwedd,
'Nawr wrh hynny, 'n agos rhyfedd.
Yn amser paul yr oedd gan mwya,
Yr oês, ar dydd, ar awr ddiwedda,
Y rowan yn ein hamser ninnau,
Mae 'r diwetha or mynedau.
Y bŷd fy gwedu mynd yn gleirchyn,
Ag yn Grippil medd saint A'wstin,
Y mae 'n Cerdded ar ffynn Baglau,
Nid oes nemor iddo o ddyddiau.
Mat. 25.13
Gwiliwn bawb a byddwn barod,
Mae 'r dydd mawr yn agos dyfod,
Mae medd Ghrist ymron y drwssau,
Trwssiwn bob rhai ein Lucernâu.
Siccir
Certen yw y daw arfyrder,
Ancerteniol ydyw 'r amser,
Pwy cin gynted nis gwyr yn dyn,
Byddwn bob awr, ar ein rofyn.
Nid oes dŷn medd Christ ei hunan,
Wŷr y dydd ar awr yn gyngan,
Nag vn Angel detholedig,
Na neb ond y Tad yn vnig.
Ofer yw gan hynny i ddynion,
Gei sio
Mynegi
maneg yr amseron,
Y mae 'r Tad yn gadw 'n gyngan,
Yn dra dirgel iddo ei hunan.
Etto Napier Enwa 'r flwyddyn,
Y gwna Duw arbob peth derfyn,
Ag y bydd y flwyddyn hynny,
Cyn mil saith cant o oês Jesu.
Dweded pawb ei dewis chwedel,
Nid oes dŷn na Diawl nag Angel,
Wŷr yrawr, nar dydd, nar flwyddyn,
Y gwna Duw ar bob peth derfyn,
Byddwn barod bawb gan hynny,
Edifarwn heno, heddu,
Ar y dydd, ar awr nas gwypom,
Y daw Christ yn ddirgel attom.
Fel na nabn serchog Rachel,
Oi
Beichiog
thymp res mynd ar ei thrafel,
Felly ni chaiff dynion nabod,
Dydd yr Arglwydd nes ei ddyfod.
Pan daeth amser Rachel wisci,
Ar ei phlentyn bâch escori,
F' orfu escori ar y bachgen,
Ar y ffordd dan fôn y dderwen.
Felly gorfydd ar y ddaiar,
Sy'n beichiogi er yn gynnar,
Gwympo 'i escori ar y meirw,
Pan del vdcorn Christ i galw.
Fel y daeth y Tân ar Brimston,
Yn ddiswmyth am ben Sodom,
Felly daw y Dydd diwedda,
Luc. 17:28, 29, 30
Pan bo 'r bŷd yn cyscu 'n smala.
Ni wŷr neb or awr nar amser,
Byddwn bôb awr, ar ein pryder,
Mat. 25. [...]
An Lucernau yn ein dwylo,
Gidar merched call yn gwilio.
Mae'r arwyddion gwedi cerdded,
Y fanegodd Christ cyn
Eglyred.
blaened,
Ond bôd' chydig or Iddewon,
Etto heb gredu 'r fengil dirion.
Mat. 24.9 Acts 12.2
Fe ferthyrwyd y' Postolion,
A mil miloedd or Christnogion,
Ymlhaid y ffyth, ar efengil,
Fe wŷr hollgred hyn yn rhigil.
Luc. 19.43, 44
Fe ddinistrwyd Caerusalem,
Nid oes maen ar faen lle gwelem,
Mat. 24.2
Hithau 'r Demel fawr y loscwyd,
Ar Iddewon a wasgarwyd.
Fe aeth y fengil hygar hyfryd,
Mat. 24.14
Ar farch gwyn ar draws yr holl fyd,
Nid oes Cornel dan y nefoedd,
Na bu 'r fengil ynddo 'n rhyw-fodd.
Mat. 24.24
Nifer mawr o Gristiau ffeilstion,
Yng-rhêd ag angrêd y godasson,
A thrwy hôcced Tad y celwydd,
Troesont lawer i gamgrefydd.
Mat. 24 6, 7
Ryfel blin rhwng Twrc a Christion,
Y fu 'n fynch iawn ni glywson,
Son mawr sydd am ry fel etto,
Rhoed Duw hedd ir sawl ai caro.
Newyn mawr a thost ddrudaniaeth,
Y fu'n llawer gwlad ysowaeth,
Haint, a Phlâg, a chwarre'n waedlud,
Y fu'n hwyr ar hyd yr holl-fyd.
Luc. 21.11
Daiar grûn y fu or mwya,
Nes syrthio 'r Demel fawr Diana,
A bwrw lawr y Trefydd mawrion,
Twrau, a chestyll, yn sebwrthon.
'Rhaul ecclipsodd or Tywylla,
Nes mynd dydd, yn nos gan mwya,
Ar môr mawr aeth dros y
Torl [...]nnau
bangcau,
Luc. 21.1 [...]
Boddod miloedd o eneidiau.
Y mae Anghrist yntau 'n rochain,
Es llawer dydd yn Eglwys Rhufain,
Ag yn
Neu yn lladd
mwrddro 'r saint heb orphwys,
Eisiau alw ê'n benn ir Eglwys.
Cariad Perffaith yntau oerodd,
Mat. 24.12 Mar. 13.12
Ni char mab or Tâd ai magodd,
Gwaudd a chweger sy'n
Yn ymdafodi
ymsowtan,
Cas gan frawd ei frawd ei hunan.
Ffydd y sowaeth syn mynd lai lai,
Luc. 18.8
Cred o gryn-fyd aeth yn garrai,
Assia, Affric, Graetiâ ffyddlon,
Sydd yrwan heb gristnogion.
Nid oes vn or hollar wyddion,
Ond dymchweliad yr lddewon,
Na bont eiswys gwedi dyfod,
Gwiliwn bawb a byddwn barod.
Y mae 'r barnwr mawr yn cychwyn,
Acts 10.42
Ma e es dyddiau ar ei rofyn,
Fe ddaw weithian yn dra hoew,
1 Thes. 4.16
I roi barn ar fyw a meirw.
Mae ef gwedi hogi gleddau,
A golymmu ei holl saethau,
Mae ei fwa yn ei annel,
Ag yn barod mynd i ryfel,
Mae fraich rymmus gwedy hestyn,
Mae'i Angylion ar ei rofyn,
Mat: 24.37.38, 39
Fe ddaw fel y diliw tanllyd,
I roi barn ar bawb or hollfyd.
O meddyliwn ninnau am wiliad,
Ag am ddisgwyl ei ddyfodiad,
A bod bawb an cyfri'n barod,
Ag yn daclys cyn ei ddyfod,

Cofiwch Angau.

BErr yw 'n hoes ag Ancerteiniol,
Heddu 'n fyw, y foru yn farwol,
Gynnau 'n Gawr, y boir yn gelain,
Dymma gyflwr dŷn ai ddamwain.
Ni bydd ymma am benn ennyd,
Vn o hônom heb ei symmud,
O meddyliwn am ein shiwrnau,
Heno os scatfydd rhaid ei dechrau.
Fel y rhed yr haul yr hwyr,
Fel y
Treulia
troela 'r gannwyll gwyr,
Fel y syrthia 'r Rhossyn gwynn,
Fel y diffidd tarth ar lynn.
Felly Troela, felly rhed,
Felly derfydd pobol gred,
Felly diffydd bywyd dŷn,
Felly syrthiwn bob yn vn.
Fel llong dan hwyl, fel pôst dan sawd,
Fel saeth at farcc, fel Gwalch at ffawd,
Fel mwg ar wynt, fel llif ar ddwr,
Y
Rhedeg ar frus
Posta ymmaith einioes gwr.
Fel saeth y rhêd, fel Post y gyrr,
Fel Cwyr y Tawdd, fel ia y tyrr,
Fel dail y syrth, fel gwellt y gwywa,
Iac. 4.14. 1 [...]et. 1, 24
Fel Tarth y trig, fel Lamp y Troela.
Ni ddiflannwn fel y cyscod,
Ni lwyr doddwn fel y manod,
Ni ddiharffwn fel glaswelltyn,
Ni ddiffoddwn fel yr Ewyn.
Nicheir gweled mwŷ on hôl,
Nag ol Neidir ar y ddôl,
Neu ol llong aeth dros y Tonnau,
Neu ol saeth mewn Awyr denau.
O! gan hynny heddu, heno,
Moeswch i' ni bawb ymgwereido,
'Fynd ar ffrwst, a thynnu oddiyma,
Lle na chawn mor hir arhosfa.
Mewn Tai o glai, yr ym yn trigo,
Cynwrf neu de mestl.
Storom gronn y bair ei syrthio,
Gwiliwn rhag ir Angau ein saethu,
A briwio 'r wal, Tra fom yn Cysgu.
Fel y trewir pysc a thryfer,
Fel y saethir phesant dyner,
Fely torrir blodau 'r ardd,
Fel y lleddir
Gweirglo­dydd.
gwaynidd hardd,
Felly trewir dŷn heb wybod,
Felly saethir yn ddiarfod,
Felly torrir gwchder dŷn,
Fell y 'n lladdir bob yr vn.
Brau yw'n cnawd, a bâch yw'n cyflwr,
Gwann yw 'n grym, a gwael yw'n cryfdwr,
Tippyn bâch o groes ne gerydd,
All yn troi an torr i fynydd.
Gwrâch all ladd y Cawr a chogeil,
Blewyn bâch all tagu 'r bugail,
Drâen ar draws all ladd yr hysmon,
Duw mor ddiserth yw plant dynion.
Y gwann, y gwael, y dwl, y dall,
Y ladd y cryf, y gwymp y call,
Y gwr di-barch, y maen nid mawr,
Y friwia 'n caer, y ddifa 'n cawr,
Beth yw dŷn, wrth hyn, ond tarth,
A mwg, a nywl, a gwellt, a gwarth,
A gwydyr crîn, a rhew a rhossyn,
A stên o bridd, a gwynt, ag ewyn.
Fel y cwymp holl ddail yr allt,
Fel y croppia 'r gwelle 'n gwallt,
Fel y gwywa lili 'r maes,
Fel y tyrry gwydyr glâs.
Felly gwyfa, felly tyrr,
Felly craccia 'n bywyd byrr,
Felly croppyr eineos dŷn,
Felly cwmpwn bob yr vn.
Fel tŷ bugail yn symmydyr,
Fel sten briddlyd yn candrillyr,
Fel dylledyn y darfyddwn,
Fel y llwydrew y diflannwn.
Ni chawn aros mwy na 'n tadau,
Awn ir ffordd yr aethont hwyntau,
Rhaid i'n fynd i wneuthur cyfri,
A rhoi lle i eraill godi,
Nid oes lle in' aros ymma,
Ond dros ennyd i hafotta,
Gwedyn gorfydd ar bawb symmyd,
'Fynd ir ffordd yr aeth yr holl-fydd.
Y mae 'r angau glâs ai fwa,
Yn ein herlid ymhob tyrfa,
Nid oes vn-dyn all ddihangyd,
Rhag ei follt, ai saeth wenwynllyd.
Mae ê'n ddirgel yn marchogaeth,
Ar farch glâs ymhob cenhedlaeth.
Nid oes dŷn all diangc rhagddo,
Aed ir wlad ar mann lle mynno.
Er bôd Hasael gynt na 'r ewig,
Er bôd Sawl fel eryr ffrolig,
Er bod Jehu 'n gynt nag yntau,
Ni ddigangodd vn rhag angau.
Er gwroled gwr oedd Sampson,
F' orfu
Ymoflwng
ildo ir angau digllon,
Felly gorfydd arnom ninnau,
Pyt fae ei gryfdwr yn ein breichiau.
Alexander y gongcwerodd,
Yr holl fyd y ffordd y cerddodd,
Angau gwedy'r
Oruchafiaeth
conquest sceler,
Y gongcwerodd Alexander.
Lladdodd angau bôb congcwer wr,
Lladdod Galen y pessygwr,
Lladdodd Luc y meddig gorau,
Pwy all ddiangc mwy rhag angau.
Fel y
Satbru
damsing meirch Rhyfelwir,
Dan ei traed bob
Matth
sort o filwyr,
Felly damsing angau diriaid,
Y Brenhinoedd fel begeriaid.
Lladdod Angau Abel wirion,
Lladdodd Angau Sanctaidd Aaron,
Lladdodd Cain a Cham Escymyn,
Nid ywr Angau 'n arbed vndŷn.
Pharo 'r
Tywysog
Prins, ag Eli'r ffeiriad,
Esay 'r Prophwyd, Joel yr vnad,
Nona yr Patriarc, ar hen Dadau,
Y ddifethwyd gan yr Angau.
Fel n' arbedeu Herod greulon,
Ladd y bychain mwy nar mawrion,
Felly gwn nad arbed Angau,
Hen nag ifangc, mwy nag yntau.
Pa rhoid iddo Aur yn bwnnau,
Mil o wledydd ai Coronau,
Nichaed ganthô Arbed bywyd,
Dyn dros Awr, Pa rhoid yr hollfyd.
Ni chaiff neb ganlyniaeth gantho,
Er ymnhedd ag er ceisio,
Mwy nag y Cae Bilat ddigllon,
Oi ganlyniaeth gan Iddewon,
Ni ry Angau Pan y delo,
Awr o
Odfa
resbyt i ni ymgwelrio,
Nag vn rhybydd oi ddyfodiad,
Mwy nar Ci yn lladd y ddafad.
Ond fel llidir fe ddaw 'r Angau,
Yn ddiswmwyth am ein pennau,
Tro ni 'n Cyscu yn ddiofon,
Fel Philistiaid am benn Sampson.
Os bydd diffig dim ir shiwrnau,
Oel ir lamp, na gwisc ir Cefnau,
Nichaer gan yr Angau melyn,
Aros i ni fynd i mofyn.
Ond fel Brenin Babel ddiras,
Yn Troi Sidrac whip ir ffwrnas.
Fe dry 'r Angau bawb y granffo,
Ir ffwrn briddlyd fel y caffo.
Fel y daw y lleidir difiog,
Gennol nos am benn goludog,
Felly daw yr Angau 'n Cyrchu,
Yn ddiymgais tro ni yn Cyscu.
Fel y Teru gwr a thryfer,
Bysc tro 'n gorphwys yn ddibryder,
Felly teru Angau ddwrnod,
Ar blant dynion mor amharod.
[...]
Fel nawyr y Glomen dyner,
Nar pryd, nar mann y Teru 'r flowler,
Felly yn hôllawl ni wyr vn dyn,
Nar pryd nar modd y bydd eî derfyn.
Mewn vn ffordd yr im yn dywad,
Ir byd hwn dan wylo yn irad,
A thrwy fil o ffyrdd heb farcco,
Yr im yn mynd y maes o hono.
Nid oes vn mann yn ddibryder,
Na ddaw 'r Angau glâs ai dryfer,
I roi i'ni ddirgel ddyrnod,
Ymhob mann, och! byddwn barod.
Gen. 4.8
Wrth droi 'r defaid mewn lle dirgel,
Y daeth Angau ar draws Abel,
Gwachel dithau gael ei ddyrnod,
Wrth droi dautu dy nifeilod.
Gen. 35.19
Ar y gefnffordd wrth shiwrneia,
Y bu farw Rachel fwyna,
Wrth shiwrneia gwachel dithau,
Rhag cyfarfod ar glâs Angau,
Iob 1.13
Pan oedd holl blant Job yn gwledda,
Y daeth Angau ar ei gwartha,
Nid oes gwarant gennyd tithau,
Yn dy wledd rhag dyrnod Angau.
Holophernes y fu farw,
Yn ei gwsc pan oedd ef meddw,
Gwachel dithau yn dy fedd-dod,
Rhag i, Angau roi 'ti ddŷrnod.
Balthazar er maint eodd gantho,
Dan. 5.30
Y fu farw wrth
Ymsed
garowsio,
Wrth garowsio gwachel dithau,
Od wyt gall rhag dyrnod Angau,
Fe rows Angau anfad ddyrnod,
Acts 12.23
Ar y faingc i frenin Herod,
Ar y faingc y dylae farnwyr,
Gofio Angau mawr ei hudyr.
Saethodd Angau saeth wenwynllyd,
Trwy gorph Achab yn ei gerbyd,
Yn dy
Bren. 22.34
Gerbyd
Goach ymgadw dithau,
Rhag dy daro a bollt Angau.
Fe ddaeth Angau megis mwrddrwr,
Ar draws Eglon yn ei barlwr,
Gwachel dithau rhag ei biccell,
Barn. 3 21
Trafoch
Trech yn gorphwys yn dy stafell.
Pan oedd Difes yn ei sidan,
Ar phâr foethus oll yn hedfan,
Fe ddaeth Angau ag ai lladdodd,
Luc 16.22
Gwachel dithau balch ei wiscoedd.
Gwedi 'r Cerlyn adail llawer,
A chrynhoi dros hirfod amser,
Fe ddaeth Angau ag ai lladdwys,
Cyn cael profi 'r pethau glascwys.
Luc. 12.20
Gwachel dithau 'r Cob ar Cerlyn,
Syn Crynhoi dros lawer blwyddyn,
Rhag ir Angau dy gyr haeddyd,
Cyn cael profi dim oth olud.
[...]
[...]
[...]
Fe ddaeth Angau i drywanu,
Lev. 10.2
Dau fab Aron wrth Aberthu,
Wrth yr Allor dylae 'r ffeiriad,
Ofni Angau ai ddyfodiad.
Pan oedd Senacherib y Brenin,
2 Chron. 32.21
Yn y Demel ar ei ddaulin,
Fe ddaeth Angau ag ai lladdwys,
Ofnwch Angau yn yr Eglwys.
Num. 25.14, 15
Ferows Angau frath i Zimbri,
Wrth gydorwedd gida Chosbi,
Gwachel dithau wrth buteinia,
Rhag ir Angau glâs dy ddala.
Ennyn
Nynn dy Lamp, a gwisc dy drwssiad,
Cin dêl Angau 'n Agos attad,
Gwna dy gownt ath gyfri 'n barod,
Cin dy alw o flaen y Drindod.
Mat▪ 25.7
Bydd di barod heddu, heno,
Ag Oel ith lamp ath wisc yn gyfrdo,
Fynd o flaen dy farnwr prydd,
Y foru fe alle ydiw 'r dydd.
Ni wyr Peder, ni wyr Pawl,
Ni wyr Angel, ni wyr Diawl,
Ni wyr Planed, ni wyr dŷn,
Na neb on hawr, ond Duw ei hun.
Rhyd ddydd, rhyd nos, yn glaf yn iach,
Ar fôr a thir, yn fawr yn fach,
Mewn Tre a gwlad, pawb byddwch barod,
Ni wŷs pwy wlad y cawn ni 'r dwrnod.
Gweithiwch bawb, Tro 'r dydd yn para,
Cyn cotto 'r haul crynhowch y manna,
Derbyniwch ras, Tro Duw 'n ei gynnig,
Partowch eich rhaid cin delo 'r diffig.
Cin colli 'r Gôl, cin delo 'r nos,
Cin Torri 'r pren, cin cwympo ir ffos,
Cin cae y Porth, cin mynd ir garn,
Cin canu 'r Corn, cin rhoddi 'r farn.
Rhed am y chwyth, gwna waîth dy Dduw,
Dwg ffrwyth yn rhin or gorau ei ryw,
Dos whip ir wledd ar farn yn gyfrdo,
Cais dy gyfraid cin ymado.

Cyngor Difes.

CLywch bawb gwûn a chyngor Difes,
Or fflam boeth ar danllyd ffwrnes,
I bum brodyr ai holl drassau,
Luc. 16.19 Hyd y diwedd
Rhag ei dywad lle mae yntau.
O fy mrodyr clywch fi 'n traethu.
Fy holl gyflwr gwedi, 'ng-hladdu,
Fel y galloch ithau ddiangc,
Rhag y cyfriw boenau didrangc.
Mae arna 'i ddyled ich cynghori,
A rhoi rhybydd amlwg i chwi,
Rhag heb wybod i chwi ddywad,
Ir fath garchar di-ddymchweliad.
A pha gwypech faint om trallod,
Am holl boen yn vffern issod,
Chwi wrandawech ar fyng eiriau,
Rhag ich dywad ir fath boenau.
Gwn yn hysbys iawn pa gwypech,
Faint om poen, am Cur, am gortrech,
Na ehymerech dda
Emprwr
Ammherod,
Er ei goddef vn diwrnod.
Os ni ddichon dŷn nag Angel,
Adrodd gymmaint yw fyn rhafel,
Yn y flam ar Tân vffernol,
Lle 'm poenydir yn dragmyddol.
Bum 'i gynt yn fawr fy rhyfig,
Yn y bŷd yn wr Arbennig,
Yn rheoli fal mynnwn,
Ag yn gwneuthur faint wllyssiwn.
Bum yng olwg llawer vn,
Heb ofni Duw, heb berchi dyn,
Mwy nag
Digred.
Infidel neu Bagan,
Y ddilynau ei
[...]eddylfryd.
ffansi hunan.
Och mi dybiais trwy gam grefydd,
Na bawn marw yn dragywydd,
Ag o byddwn marw vnwaith,
Na ddoe 'morol arnai 'r eilwaith.
Er bod Moysen, ar Prophwydi,
Yn mynegu 'n amlwg im mi,
Fod fy Enaid yn anfarwol,
Ni wnawn bris oi geiriau grassol.
Er ei bod yn dangos im mi,
Y gorfydde wneuthur cyfri,
Ger bron Duw am bob fileindra,
Nid ae hynny yn fyng cloppa.
'Nawr yn vffern rwi 'n cael dysgu,
Mae gwir oeddent yn ei draethu,
Abod Enaid didrangc genni,
Yn y fflam yn gwneuthur cyfri.
Tybiais hefyd tra fum byw,
Nadd oedd vn nefoedd, nag vn Duw,
Nag oedd vn vffern, nag vn Cythrel,
Na gwell diwedd dŷn na nifel.
'Nawr yn vffern wrth boenydio,
Y mae'r Diawl im
Addyscu.
Catecheiso,
Ag yn dangos yn
Eglur.
blaên im mi,
Fod Duw i ddial pob drygioni.
'Nawr rwy 'n Clywed ag yn Canfod,
Fod y Diawl, ag vffern issod,
A mil miloedd o Gythreiliaid,
Wrth farn Duw yn poeni fênaid.
Rwifi 'n gweld yn Eglur hollol.
Fod pob Enaid yn anfarwol,
Gwedi marw 'r Corphaigladdu,
Bid drwg, bid da, fo 'r Enaid hynny.
'Nawr y gwn mae gwir yw 'r scrythur,
'Nawr y gwn fad Christ yn air-wir,
Mat. 14.35
'Nawr y gwn y
Treulia
troela 'r nefoedd,
Cin êl Geireu Christ yn niffodd.
Eisieu Credu hon mewn amser,
Nid yw fyngred yn awr ond ofer,
Eisieu ei chredu yn fy mywyd,
Mi fum byw fel nifail ynfyd.
Felly byddwch chwithau 'mrodyr,
Oni chredwch eiriau 'r Scrythyr,
Ag amcanu byw yn ddeddfol,
Yn ei hôl, fel meibion grassol.
Eisieu dilin Geiriau 'r scrythur,
Eisieu dofi trachwant nattur,
Eisieu byw yng oleuni 'r fengil,
'Rwi fi'nawr mor dost fy
Cyflwr
mhiccil.
Eisieu dilin Cyngor Moysen,
Eisieu Credu 'r fengil lawen,
Eisieu cadw pwncciau 'r Gyfraith,
Y bu 'muchedd front mor ddiffaith.
Pan y troes i'r fengil heibio,
Fe ddaeth Satan im cyfrwyddo,
Ag im Tynnu i bob drygioni.
Y fae 'nhrachwant yn ei hoffi.
Nid oes pechod allai draethu,
Nas dilynais nes im laru,
Nes mynd bywyd ffiaid Difes,
Mor ddihareb a Manasses.
Gwnaethym Dduw om golud bydol,
Rhoes fy 'mrŷd ar bethau cnawdol,
Ym hob drwg mi aethym ragof,
A gollyngais Dduw yn angof.
Felly gwedi tost gamsyniaid,
Llwyr ddibrissias am fy Enaid,
Fel ryw nifel na bae 'n cofia,
Dim ond am y bŷd ar bola.
Mynnais drwssiad gwych am danaf,
Yscarlat
Pwrpl coch, bob dydd or meinaf,
'Nawr yn vffern rwi 'n noeth lemyn,
Am fyng hoegedd heb Edefyn.
Mynnais Sindon, Lawnd, a Chambrig,
Y fyng rhysseu, awr ag orig,
'Nawr gwae finneu na bae Garthen,
Neu hws Ceffyl am fyng hefen.
Minnau fynnwn lanw 'mola,
Ar ddainteith-fwyd or melyssa,
Bob diwrnod tra fu 'r flwyddyn,
Er bod f' naid yn dwyn newyn.
Bum mor foethus ag mor ddainti,
Ag na fynnwn vnwaith brofi,
Dim ond y fae tra ddainteithiol,
Bras a melus, drud, a manol,
'Nawr mi fynnwn pa cawn fwyta,
Soeg y moch i lanw 'mola,
Ag i docri peth or newyn,
Syn dolurio pob Colyddyn.
Bum yn yfed, ag yn whiffio,
Diod
Bur a gwîn, heb fessur arno,
Ag yn llanw 'mola ganwaith,
Nes ei chwdu fyny eilwaith.
'Nawr mi rown y bŷd yn gyfan,
Ai holl dryssor pa cawn ddafan,
O ddwr oer i oeri 'n hafod,
Sydd mewn fflam yn llosci 'n wastod.
Er bod ar fy mord i friwsion,
Allau borthi swrn o dlodion,
Fe gae'r Cwn y Cwbwl rhyngthyn,
Cin cae Lazar, vn briwsionyn.
'Nawr mae Lazar yntau 'n talu,
Pwyth hed adre, ag yn pallu,
Rhoi or ffynnon im mi ddafan,
Or dwr oer, et maint wi'n
Ceifie
fegian.
Er bod Moysen ar Prophwydi,
Yn rhoi llawer rhybydd im mi,
Ni wrandawn ar ddim a ddywedent,
Ni wnawn vn rhith ag a geisient,
'Nawr gan hynny rwi 'n cael crio,
Ddydd a nos, heb gael fyng wrando,
Ond cael taflu yn fy nannedd,
Mor annuwiol y fu 'muchedd.
Pan pregethid yr Esengil,
Minnau drown at hon fyng wegil,
Ag y gysgwn ar fy nwrnau,
Pan bae eraill yn cael gwersau.
'Nawr am gysgu yn y demel,
Fe'm
Poenir
Tormentir gan y Cythrel,
Fel nad wyf yn abal Cysgu,
Na marwino mwy ond hynny.
Ag am flir o gwrando 'r fengil,
Ag Athrawiaeth Christ yn rhugil,
Y mae 'n gorfod arna 'i wrando,
Creglan
Screch y Cythrel fyth tra gantho.
Eisieu gwrando cyngor Moysen,
Eisieu credu 'r fengil lawen,
Eisieu dilin hon ai disgu,
Y mae yn vffern fil yn
Gryddfan
gryddu.
Minnau dreulais ddydd yr Arglwydd,
Mewn glothineb ag anlladrwydd,
Yn gan gwaeth mewn gloddest scymyn,
Nag vn dydd o ddyddiau 'r flwyddyn.
Mae ymma filoedd o rai annoeth,
Am halogi 'r Sanctaidd Saboth,
Heb gael Saboth nag Esmwythdra,
Ond yn poeni, haf a gaya.
Cymrais Enw Duw yn ofer,
Fil o weithiau wrth fy 'mlheser,
Nid oedd blâs ar chwedel genni,
Nes y Tyngwn Enw'r Jesu.
O bwy boenfa s' ar fy nhafod,
Am ddirmygu gwaed y Cymmod,
A phwy
Boen
dorment sy 'n fyng ryddfu,
Am amherchu Enw 'r Jesu.
Minnau offrwmais f' enaid ganwaith,
Yn y dydd, ir Cythrel diffaith,
Am i roi mor fynych iddo,
F' aeth y Diawl ar Enaid gantho.
Mae ymma lawer mil fel finnau,
Yn y pwll mewn irad boenau,
Am roi ei hun ir diawl dan regu,
Wedi i Grist ai waed ei prynu.
Llawer vn a fum i yn hela,
O dra malis i rifela,
Er mwyn Tywallt gwaed y gwirion,
Ai difetha heb a chossion.
'Nawr mae gwaed y rhain yn llefain,
Am ddialau ar na 'i'n filain,
Ag yn Cryo ar y Cythrel,
Dalu im mi am fynrhafel.
Bum yn gwest ar fywd ganwaith,
Heb nag ofon Duw nar gyfraith,
Yn Condemnio llawer Gwirion,
Ag yn Cadw llofrudd, lladron.
'Nawr mae 'r
Leiddiaid
mwrddwyr dan ei henw,
Ar drwg ddynion fum i 'n Gadw,
Yn y pwll yn llarpio f' enaid,
Mor ddiffafar ar Cythreiliaid.
Latais ar fyngwraig fy nunan,
Cymrais fenthig gwragedd aflan,
Llu or rhain sŷn 'nawr im pwyo,
Ymhwll vffern am ei hudo.
Mae 'r bastardiaid fum i yn ennill,
Or rhai aflan hyn, fel perchill,
Oll yn llefain ag yn Crio,
Am ir Cythrel fy
Poeni
nhormento.
Minnau orthrymmais blant ym ddifaid
Pan bae farw vn om deilald,
Awn ar ddau ŷch fawr or arad,
Rhag ir naill or ychen freifad.
'Nawr am dreisio 'r fath wirionaid,
Fem tost ffystir gan Gythreiliaid,
Yn gan gwaeth nag y bydd Tanner,
Ar Pawl mawr, yn ffysto r, lleder.
Bum yn hirio anwir ddynion,
Lawer gwaith i dyngn 'n
Anudon, a ddylai fod.
vdon,
Ag yn geri 'r rheini dyngu,
Y peth y fynnwn ond ei dyscu.
Mae rhain fel haid o nadredd.
Ddydd a nos, yn Cnoi fy mherfedd,
Ag yn rhwygo 'n dost dostfyng halon,
Am ei dyscn i dyngu 'n
Anudon
vdon.
Minnau elwais pobol wirion,
Weithiau 'n
Leiddiaid
fwrddwyr, weithiau 'n lladron,
Ag enllibiais wŷr a gwragedd,
Heb ddim achos, ond fy 'nrhawsedd.
Cedwais
Tal
hur a llawer Cyflog,
Ar fyng was, ar tlawd anffodiog,
Ag y ber ais ir Tlawd fedi,
Fy holl heinar, heb vn
Geiniog
beni.
'Nawr mae gwaedd y rheini'n Crio,
Ar y drwgwr am fy mhwyo,
Am im Gadw hûr y rheini,
Ag Andwyo 'r Cyfriw dlodi.
Rhoddaisf' arian gynt ar
Occraeth
ôccor,
Ir dŷn Tlawd fel Cebydd angor,
Nes im lwngcu feddau 'r tlodion.
Ai handwyo am bargennion.
'Nawr mae llawer vn o rheini,
Ymma yn vffern yn fy mhoeni,
Am ei gyrru i ledratta,
Gwedi fy occor brwnt ei difa.
Rhoddais ir Cyfreithwŷr duon,
Wobr fawr am dreisio tlodion,
Mae 'r Cyfreithwŷr yn fy llethu,
Ymma yn vffern am ei llygru.
Rhoddais gennad im holl weision,
Flino
Vexo pawb om Cymmydogion,
'Nawr mae 'r gweision am ei goddau,
Yn vexo 'n dost fy Enaidinnau.
Prynais dir dan bris gan fagad,
Cedwais beth ar bawb oi Taliad,
'Nawr mewn Carchar rwi am hynny,
Heb fod gennif rôt i dalu.
Pa dae ddime 'n abal prynu,
Rhydd-did im mi om Carchardu,
A dwyn or pwll, ir nefoedd olau,
Nid wi 'n abal cael mor ddimmau.
Cefais rybydd fil o weithieu,
Am rai dreisiais eilwaith adre,
Minnau awn ir Tân vffernol,
Cin rhown ddimmeu yn ei gwrthol.
Pan y gwerthwn wlân a llafur,
Rhown gam bwysân, rhown gam fessur,
Yn yr ŷd mi werthwn
Yd ambûr
raban,
Yr vn bris ar gwenith purlan.
Ag yn Erbyn Duw ai ddeddfau,
Ced wais amriw
Fath
sort o bwysau,
Pwys rhy fawr, pan fawn yn prynu,
A phwys rhy fach, pan fawn yn gwerthu.
'Nawr fêm Curi r at fyng hloppa,
Gan y Diawl ar pwy sau mwya,
A phawb Eraill megis minnau,
Y fo 'n arfer amriw bwyfau.
Ni adewais bwngc or Gyfraith,
Heb ei thorri lawer Canwaith,
Mi ymdrois ymhob rhiw bechod,
Nes ir Angau roi 'mi ddwrnod.
Mi fynegais i chwi yn olau,
B' wedd y bum i byw hyd Angau,
Mi fynega i chwi weithian,
B' wedd im poenir danlaw Satan.
Y mae 'r pwll lle rwyfi 'n trigo,
Yn ddwfn iawn heb waelod iddo,
Daic. 20.3
Ai holl welydd Cyn ycheled,
Nad oes Gobaith Cael ymwared.
Y mae'r pwll dros fyth yn llosgi,
O dân poeth fel môr yn berwi,
Y mae anal Duw ei hunan,
Yn ei drin, fel môr o frwmstan.
Gwedi nynnu 'r Tân hyn vnwaith,
Byth ni ddiffidd hwn yr eilwaith,
Nid rhaid chwthu dim o hono,
Mae ê 'n Cynnu heb ei gyffro.
Mar. 9, 44
Y mae 'r Tân dros fyth yn llosci,
Yn dra ffyrnig ag yn poeni,
Ag er hyn nid yw ê 'n truelio,
Nag yn d faidimêl iddo.
Y mae 'r vn tân yn poeni 'r bobol,
Ond mewn dulla modd neilltuol,
Mar. 10:15
Rhai yn fwy, neu lai o ronyn,
Fel y bytho ei beiau yn gofyn.
Yr Haul a lusc y Moore ar India,
Yn fwy nar rhai a drig yn Rwssia,
Vffern boeth y lusc yn boethach,
Bechod mawr na pechod byrrach.
Nid oes yn y pwll yn Trigo,
Mar. 22.13
Neb heb rwym, ar draed a dwylo,
Mewn Cadwynau Tragwyddoldeb,
Am ei pechod ai ffolineb.
Mae tywyllwch hefyd ynddo,
Ma [...]. 25.30
All pob rhai yn hawdd ei deimlo,
Ag er dechrau 'r bŷd ni walad,
Ynddo, olau 'r Haûl neû 'r lleuad.
Mae ê 'drewi Cyn ffyrnicced,
Nad oes dim all ddrewi gassed,
Er bod miloedd yn ei nyrddo,
Ni lanhawd er ioed mo hono.
Y mae pryfed ynddo yn bwyta,
Mat. 9 44
Cidwybod
Consciens dyn heb gael ei gwala,
Dydd a nos, yn fawr ei hawydd,
Ag heb farw yn dragywydd.
Y mae gwedi mil o filoedd,
O gythreuliaid megis lluoedd.
Yn
Yn poeni
Tormento 'rhai damnedig,
Ag heb orphwys awr nag orig.
Maent yn dyrnu ag yn pwyo,
Rhai damnedig heb ddyffygio,
Ag Er maint y fônt yn ddial,
Byth ni chymer vn oi anal.
Y mae
Poen
Torment yn dragwyddol,
Ag ar bawb yn gyffredinol,
Yn Tôrmento pawb ar neilltu,
Ymhob aûlod y fu 'n pechu.
Y mae 'r llygaid heb galel gweled,
Ond Cythreuliaid, Er ei Cassed,
Ag Eneidiau Rhai damnedig,
Yn y pwll yn wylo yn ffyrnig.
Y mae 'r Genau yntau 'n bwyta,
Bustl Lind is, bwyd or chwerwa,
Psalm 75.8
Ag heb yfed dim ond Gwaddod,
O ddigyfaint Tost y drindod.
Y mae 'r Clustiau hwyntau yn gwrando,
Luc. 13.28
Creglais
Screch y diawl ai blant yn Crio,
A thost ochain rhai damnedig,
Yn scyrnygu dannedd ffyrnig.
Y mae 'r Tafod yntau yn llosci,
Ag mewn Brimston poeth yn berwi,
Luc. 16.24, 25
Heb gael Cymmaint ag vn dafan,
O ddwr oer i ddofi 'r lloscfan.
Y mae 'r ffroenau yn aroglu,
Datc. 21.8
Gwynt y Brwnstan or Carchardu,
Sydd heb garthu etto Er Adda,
Ag yn drewi or ffyrnicca.
Y mae 'r Traed ar dwylo hwyntau,
Mat. 22.13
Gwedi Clymmu mewn Cadwynau,
Ag heb Allel Troi na threiglo,
Or lle 'r ydys yn ei
Poethu
brwylio.
Y mae dannedd pawb yn rhinccian,
Yn scyrnygû ar fath
Swn
dwrddan,
Luc. 13.2 [...]
Ag y bydd Echrydys
Gennym
gennwn,
Wrando ei llais, na gweld ei ffashiwn.
Y mae pryfed Câs anfarwol,
Yn Cnoi
Cidmybed Mar. 9.43, 44
Consciens pob annuwiol,
Ag yn bwyta 'n llym Escymmyn,
Etto byth heb dorriei newyn.
Fel y pechodd pob rhyw aelod,
Ag oedd gennif, nôd fy nhâfod,
Felly poenir fy aelodau,
Bob yn vn ag amriw boenau.
Mae pob aelod yn poenydio,
Mae pob manna a dial arno,
Mae pob dial yn dragywydd,
Yn poenydio heb ddim llonydd.
Ni bydd marw byth mor pryfyn,
Byth ni ddiffidd Tân yr Odyn,
Ni ddaw Angau er y geisiaf,
Byth i wneuthur diwedd arnaf.
Ni bu 'r ddiw ond blwydd hynod,
Na than Sodom ond diwrnod,
Newyn
Allot.
Egipt ond saith mlynedd,
Mae 'mhoen innau byth heb ddiwedd.
Pa cawn rydd-did om holl boenau,
Am ben Can mil o flynyddau,
Byddeu hynny gynffordd im mi,
Ond dros fyth mae 'n rhaid im boeni.
Y gair byth sy 'n torri nghalon,
Y gair byth sy 'n Cnoi nghylyddion,
Y gair byth sy 'n peri im mi,
2 Thes. 2. [...]
Fwyta 'm reichiau a gwallgosi.
Tost yw goddau hyn o gystudd,
Dan law Satan yn dragywydd,
Y mae Etto beth fydd dostach,
Colli 'r Jesu ai gyfeillach.
Colli 'r bywyd, Cylli'r Goron,
Colli 'r Jesu, ai Angylion,
Colli 'r nefoedd, ai rhialwch,
Colli Duw, a phob dedwyddwch.
Melldith Duw ir dydd im ganed,
Anap ddrwg ir awr im llunied,
Vffern boeth im mam na basseu,
Yn dwyn llyffant yn fynghyfleu.
Gwae fi erioed na thorsai'ng-wddwg,
Ar y ploccyn prena bilwg,
Cin rhoi bron i fâb anwadal,
Iddigio Duw, i ddwyn ei ddial.
Nid oes Cythrel na dyn scymmyn,
Ymma yn vffern ai holl derfyn.
Na bônt ac ei Cylch yn * Gyngan,
Yn fy mhwyo fawr a bychan.
Nid oes Enaid dŷn Er Adda,
Ym hwll vffern mewn mwŷ boenfa,
Mewn mwytrallod, mewn mwy eisieu,
Nag y maefy Enaid inneu.
Dymma 'ng, hustydd, dymma 'mboefna,
Dymma 'ng-wewyr, dymma 'ng-wasc fa,
Dymma 'r Cyflwr yr wi ynddo,
Bob yn awr yn tost boenydio.
O gan hynny fy 'mhvm brodyr,
A phawb Eraill sydd o synwyr,
Cymrwch rybydd cin del Angau,
Rhag iwrch ddywad lle'rwi finnau.
Oni byddwch Ediferiol,
Ffyddlon, vfydd, a christnogol,
Gwn na ddengis Duw 'r Dialau,
Iwch fwy ffafar nag i minnau.

Atteb i Gwestiwn ynghylch gweddio dros y marw: ble dangosir anghyfreithlondeb gwe­ddio dros y cyfriw.

FY nghâr am gwir annwylyd,
Gofynfoch gwestiwn hyfryd,
A gweddys im, ymhlaid ych ffydd,
Rhoi atteb prydd oi blegid.
Hyn ymma yw 'ch gofyniad,
Ai gweddys iw ir ffeiriad,
Weddio dros y marw'n brudd;
Yn ôl y dydd
Ymmadawl­ad,
departiad.
'Rwi 'n atteb i chwi yn groew,
Na dioddef y Scrythur alw,
Nag weddio, na dydd na nôs,
Yn ofer dros yn marw.
Mae Duw yn barnu 'r enaid,
Ir nef neu vffern dambaid,
Heb. [...]
Yr awr yr êl, or corph y maes,
Yn ôl ei
Neucyflwr
gâs ai weithred.
Mae enaid y duwolion,
Yn mynd or corph yn vnion,
Luc: 23.42 Acts 7 59 Phil. 1.13 Luc: 16.22
Ir nefoedd at Angylion gwir,
Fel enaid Lazer wirion.
Mae enaid yr annuwiol,
Yn mynd ir pwll vffernol,
Cyn elo 'r corph ir tân ar rhês,
Luc: 16.23
Fel enaid Difes fydol.
Mae 'r duwiol mewn dedwyddwch,
Gogoniant a
Rheolaeth
rhialwch,
Psalm 16.11
Ar fath nid rhaid i geisio mwy,
Gadawn ni hwy mewn heddwch.
Nid rhaid gweddio drostynt,
Gan gystal yw ei helynt,
Y maent hwy gida 'r oen bob awr,
Mewn swpper fawr sydd ganthynt.
Luc: 16.23 Hyd. 27
Mae 'r Enaid anwir yntau,
Yn griddfan yn y poenau,
Ni ddaw hwn; oi boen ai blâg,
Er gweddi nag offr wmmau.
Pa ceisieu Job a Daniel,
Noah, Abraham, Moysen, Samuel,
Laeseu
Sefpoenau 'r annuwiol
ei poenau yn y flam,
Ni chânt ddim am ei trafel.
Pa deleu 'r bŷd yn gyfan,
A gweiddi am laesu 'r boênfan,
Ni chânt gwedi marw 'r gwr,
Or droppyn dwr iw Safan.
Yn ôl i vn dŷn farw,
A chael y farn yn groew,
Ofer yw, ir wlâd ar plwyf,
Weddio mwy dros hwnnw.
Pa deleu ffeiriaid holl-fyd,
I grio drosto yn daerllyd,
Ai baberthau o bôb rhyw,
Ni
Newidiau
altreu Duw moi
Faru
ferdid.
Y farn y saif yn ddilys,
Preg. 11.3
Lle cwympo 'r pren fe erys,
Ni newid Duw or faen y rows,
Er ioed ni throws oi 'wllys.
Iac. 1.17
Mae Duw yn ddianwadal,
Y farn y rows fe i cynnal,
Ni all y byd ai hymbil taêr,
Nar nef nar ddâer ei hattal.
Gan hynny 'rwi 'n cynghori,
I bawb y garo weddi,
'Geîsio hon, tra fo yntho wrês,
Os cais ê les oddiwrthi.
Mae amser i weddio,
Sefcin i dynn
Ymmado neu farw
ddepartio,
Gweddi, gwedi marw neb,
Sydd weddi heb
Leshan.
brefailio.
Mae Christ yn erchi 'r treisiwr,
Gyttuno ai wrthnebwr,
Tro ar y ffordd cyn delo 'mlaen,
Mat. 5.25, 26
Rhag mynd o flaen y barnwr.
Rhag rhwymo ei draed ai ddwylo,
Ai daflu i gael i
Boethi
frwylo,
O eisieu gwneuthur Jawn mewn pryd,
Nis tynn y bŷd oddiyno.
Cyn marw mae
Edifaru Ioan 12.35
repentio.
Tra fo hi 'n ddydd mae ymgweirio,
Pan el hi'n nôs medd Christ eu hun,
Ni all vn dŷn mor gweithio.
2 Sam. 12.15 Hyd. 24
Fe wyddau Ddafydd frenin,
Pan ddarfu am y plentyn,
Mac ofer oedd gweddio mwy,
Dros hw nnw trwy hir ganlyn.
I ddangos hyn mor ofer,
I vn rhyw ddŷn i arfer,
Gweddi, gwedi marw 'r ffrind,
Yn ôl i fynd i esmwythder.
Nid oes i bawb ond dau-le,
I fined gwediangeu,
Nef, ag vffern, medd gaîr Duw,
Tân pur nid yw ond chwedleu.
Nid rhaid i neb weddio,
A mynd ir nef i
Aros
darrio,
Luc. 16.25
Os yn vffern y gwna ei nyth,
Ni ddaw ê byth oddiyno.
Nid oedd y ffeiriaid gorau,
Yn goddef y fath weddiau,
Nis gwna ond rhyw ffeiriedin ffôl,
Sy 'n serchi 'n ôl y ddimmau.
Mae dyled ar bôb ffeiriad,
Roi diolch am adawiad,
Pob dyn duwiol yn ddi ddoi,
Mewn gobaith oi gyfodiad.
Ond am weddio trostyn,
Yn ôl ei cladd ai terfyn,
Peth di lês,
Cw [...]hardde­dig.
gwarddedig yw,
Nis gwna ond rhyw oferddyn.
Wel' dymma i chwi atteb,
Och cwestiwn mewn ffyddlondeb,
Duw rô cynydd ar ych ffydd,
A grâs yn brudd ich wyneb.

Achwyn Mr. Prichard ynghilch Trefllanddy­fri, ai Rybydd ai gyngor ef iddi.

MEne tecel Trefllanddyfri,
Pwysodd Duw di yn dy fryntni,
Ni châs ynod ond y Sorod,
Gwachel weithian rhag y Drindod.
Gwialen dost sydd barod itti,
Er yr ys dyddieu am dy frwntni,
Ath anwiredd sy 'n cynyddu,
Gwachel weithian gael dy faeddu.
Hîr yr erys Duw heb daro,
Llwyr y dial pan y delo,
Am yr echwyn ar hîr scori,
Och! fe dâl ar vn-waith itti.
Mae 'n rhoi amser itti wella,
Mae 'n rhoi rhybydd or helaetha,
Cymmer rybydd tra fo 'r amser,
Onidê fe bryn dy grwpper.
Pa hwya mae Duw 'n aros wrthyd▪
Am ddifeirwch a gwell fywyd,
Waeth waeth, waeth waeth yw dy fuc [...]
Ond gwae di, pan ddel y diwedd,
Lle bo Duw yn hir yn oedi
Heb roi dial am ddrygioni,
Trwmma oll y fydd y drindod,
Pan y dêl i ddial pechod.
Gwachel ditheu ddial Duw,
Fe ddaw ar frys, er llacsed yw;
Ai draed o wlàn, ai ddwrn o blwm,
Lle delo, 'n llaês, fe dery 'n drwm.
Tebig ydwyt i Gomorra,
Sodom boeth, a thre Samaria,
Rhai na fynnent wella hyd farw,
Nes i troi yn llwch a lludw.
Tebig ydwyt ti i Pharao,
Oedd ai galon gwedi serrio,
'Rhwn na fynneu wella ei fuchedd,
Nesi
Rhoddi pl [...] arno
blago yny diwedd.
Cefaist rybydd lawer pryd,
Nid yw cyngor
Ymheuthyn
moethyn it,
Nid oes lun it wneuthur escys,
O! gwae di y dre anhappys.
Bore codais gida 'r ceiliog,
Hîr ddilynais byth yn d' annog,
'Droi at Dduw oddiwrth dy fryntni,
Ond nid oedd ond ofer im mi.
Cenais itti 'r vdcorn aethlyd,
O farn Duw, ai lid anhyfryd,
Ith ddehyno, o drwm gwsc pechod,
Chwrnu er hyn wyti yn wastod.
Minnau
Ymdrechais
Lithais a disigil,
Addewidion yr Esengil,
Yn fwyn ith wawdd i edifeirwch,
Ond ni chefais ond y tristwch.
Mith fwgwthiais dithau ar gyfraith,
A dialau Duw ar vn waith,
'Geisio ffrwyno d'ên rhag pechu,
Ffrom a ffol wyti er hynny.
Cenais bibe, ond ni ddawnsiaist,
Tost gwynfannais, nid alaraist,
Mat. 11.17
Ceisiais trw y deg, a thrwy Hagar,
Ni chawn genid ond y gwatwar.
Beth allai wneuthur weithian,
Ond tynnu i ochor ceulan,
I wylo 'r deigrau gwaed pa gallwn,
Weld dy arwain tu ar
Dacardy sef vffern.
dwngwn.
Pwy na wyleweled Sattan,
Yn dy dynnu wrth ede Sidan,
I bwll vffern yn dragwyddol,
Ar bach, ar
Abwyd
bait o b [...]esser cnawdol.
Esaw wertheu y 'tifeddiaeth,
Am Phiolaid gawl y sowaeth,
Dithe werthaist, deyrnas nefoedd,
Am gawl brâg, do, do, om hantodd.
Dymma 'r peth sy 'n torri 'nghalon,
Wrth dy weld di nawr mor ffinnion,
Orffod
Testiola [...]
prwfio hyn yn d'erbyn,
Ddydd y farn, heb gelu gronyn,
Tost yw gorfod ar y tâd,
Ddydd y farn heb ddim or gwad,
Destiolaethu o led 'Safan,
Yn erbyn bryntni ei blant ei hunan.
Hyn y fydd, a hyn y ddaw,
Oni wellhau 'maes o law,
Er mwyn Christ gan hynny gwella,
Rhag i ddial Duw dy ddala.
Gwisc di lenn, a sâch am danad,
Ioel 3.12, 13
Wyla nes bo'th welu 'n noefad,
Ag na fwyta fwyd na diod,
Nes cae! pardwn am dy bechod.
Cûr dy ddwy-fron, tyn dy wallt,
Ezra 9 3 Luc. 18 3
Wyla 'r deigreu dwr, yn hallt,
Cria 'n ddyfal jawn,
Pechais
Peccavi,
Arglwydd madde 'meiau im mi.
Bwrw ymmaith dy ddiffeithdra,
Twyll, a ffalstedd, a phyteindra,
Gad dy fedd-dod, cladd dy fryntni,
Ier 16:17
Mae Duw'n gweld dy holl ddrygioni.
Mae dy farn wrth ede wenn,
Yn crogi beunydd vwch dy benn,
Mae dy blant a phawb ei reffun,
Yn eithynnu, ar dy gobin.
Gwachel bellach, dal dy law,
Ezek: 37.7, 8, 9
Dial Duw fel bollt y ddaw,
Rhoi it rybydd prydd syddraid,
Oni chymri rybydd, paid.

Achwyn Eglwyswr.

DUw gwêl drwmmed yw fyng halon,
Weled faint pengaledrwydd dynion,
Cais i harwain tua 'r nefoedd,
Hwyntau ânt ir tan heb ddiffodd.
Golchu 'r
Black Mo eres neu ddynion duon
Morys du trwy Sebon,
Troi 'r Jorddonen i ben Hermon,
Yw cynghori 'r dyn pencaled,
'Ofni Duw a charu ei enaid.
Cais trwy deg, a chais trwy Haga [...],
Psalm 58:4, 5
Ofer Canu ir neidir fyddar,
Trinia fynech ar bren pwdwr,
Byth ni ry 'ti ffrwyth na Swccwr.
Dysc a dangos, gwawdd, ymnhedd,
Màb y fall, ni wella oi fuchedd,
Lladd ar gyfraith, gwawdd ar fengil,
Ni thry attat, ond ei wegil.
Gollwng arno 'r holl Brophwydi,
Ar'Postolion i gynghori,
Nid gwaeth
Curo
ffysto pen wrth bentan,
Ni wna ond y fyneu ei' hunan.
Gwae fyng halon drom gan hynny,
Na buasseu Duw 'n ewyllyssu,
Fy rhoi 'n fugail ar dda gwylltion,
Cin rhoi im' shiars y cyfriw ddynion.
Y corr y dynn y gwenwyn lyndys,
Or blodeuyn gorau ei
Flas neu sawr.
relys,
Ar dyn drwg a dynn ryw accan,
O bur eiriau Duw ei hunan.
Waith i Grist yn prynwr tirion,
Golli drossom waed ei galon,
Iud. 4 Rhuf. 6.1, 2
Ai roi 'n brid werth dros ein pechod,
Fe fynn llawer bechu 'n wastod.
Waith bod Noe, a Lot yn feddw,
Waith bod Jonas hên, yn chwerw,
Fe fyn llawer,
4 Sef rhodio neu fyw yn ei pecho dau hwynt
droedio ei beiau,
Heb ddilin vn oi holl rinweddau.
Pob gwas gwych y nawr y feder,
Dyngu a rhegu gida Pheder,
Mat. 26, 75
Pam na welai neb yn medru,
Gida pheder edifaru.
Pawb y ddilin Dafydd Brophwyd,
Mewn godineb, lle gwradwyddwyd,
Ond ni welai neb yn dilin,
Edifeirwch Dafyddfrenin.
Vn y ddywaid mi
Edifara
Repenta,
Fy meiau gid y flwyddyn nessa,
Luc: 12.10
Beth medd Christ, os aiff dy enaid,
Heno nessa gan gythreiliaid.
Llall y ddywaid, helwn heddu,
Ni wellhawn ein beiau foru,
Heno liadd y gwryn feddw,
Duw ble 'r aeth 'difeirwch hwnw.
Yn ol hwn y dywaid y trydydd,
Pet fae fy mai yn fwy nar mynydd,
Mae Duw mawr yn fwy' Drugaredd,
Mi gaf bardwn ar fy niwedd.
Felly waith bod Duw yn rassol,
Ag yn dirion ir 'difeiriol,
Llawer dyn syn pechu 'n Sceler,
Heb wneuthur pris oi gyfiawnder.
Er bod Duw yn llawn trugaredd,
Exod. 34, 6, 7 Nahum. 1.2, 3
Yn hwyr ei lid, yn dda ei ammynedd,
Etto er hyn mae Christ yn dwedyd,
Fod Duw mawr yn gyfiawn hefyd.
Duw sydd rassol, Duw sydd gyfion,
Duw sydd fwyn, a Duw fydd ddigllon,
Duw sydd ddof, a Duw sydd danllyd,
Heb. 12.29
Duw sydd hael, a chynnil hefyd.
Mae ê'n maddeu 'r mîl talentau,
Mat. 18.21 Hyd y diwedd
Etto 'n pallu 'r hatling withiau,
Mae 'n rhoi 'r nef yn rhwydd i ryw vn,
Etto ir llall yn pallu 'r droppyn.
Ir rhai ffyddlon edifeiriol,
Mae Duw 'n ffyddlon ag yn rassol,
Esay 557 Ioan: 3.36 Psal. 18.25, 26
Ond ir
Cyndyu.
stwbwrn, câs, gwrthnyssig,
Mae Duw 'n greulon, ag yn ffyrnig.
O herwydd hyn 'rwi yn cynghori,
Na ddilynet hîr ddrygioni,
Ond i bawb tra fyddont byw,
Dreulo ei hoes mewn ofan Duw.

Gwell Duw na dim.

OS tâd, os mam, os mâb, os merch,
Os tai, os tîr, os gwraig, trwy serch,
Y gais dy droi, yn draws neu 'n drist,
Oddiwrth dy gred ath serch at Grist.

Luc: 14.26 Lrc: 9.59, Jo, 61 62

Mar: 10.2 [...], 29 30

Mat. 10.39 2 Cor: 6.18 Psalm 18.2 Eph. 1.3

Gâd dâd i drio, gâd fam i wylo,
Gâd wraigi scoi, gâd blant i grio,
Gâd dai, gâd dir, gâd faeth, gâd fywyd,
Cin gado Christ, gâd faint sydd gennid.
Bydd Christ yn dâd, yn fam, yn frawd,
Yn graig, yn gaer, yn ffrind, yn ffawd,
Yn gyfoeth mawr, yn lles, yn llwyddiant,
Yn bob pech i bawb ai carant.
Heb Grist, heb gred, heb faeth, heb fywyd,
Cel: 3.11 Mat: 11:30
Heb ddull, heb ddawn, heb nerth, heb Jechyd,
Heb
Gabaith
hop, heb help. heb râs, heb rym,
Heb ddysc, heb dda, heb Dduw, heb ddim.
Deut: 10:14 Psolm 24:1 Ier: 9:23, 24
Gwell Duw na 'r nef, na dim sydd ynddi,
Gwell na 'r ddae 'r, na 'r maint sydd arni,
Gwell nar bŷd, nai olud in',
Gwell, a dau well Duw na dim.
Psalm 27.10 Dihar: 8:9
Gwell na Thâd, na mam, na mammaeth,
Gwell na chyfoeth, na Thifeddiaeth,
Gwell na Mari, gwell na Martha,
Psalm 63:3
Gwell na dim, yw Duw gorucha.
Os Duw ddewisaist yn dy ran,

Psalm 73.25, 26

Rhuf: 8:21 Psalm 91.1 [...], 12

1 Cor: 2:9

Cae Grist ith gynnal ym-hob man,
Cae 'r Saint ith gylch, cae 'r bŷd ith berthu,
Cae 'r nef ith ran, cae 'r fall ith osni.
Di ddewisaist y rhan benna
Pan ddewisaist Dduw gorucha,
Rhan na ddygir byth odd' arnad,
Tra parhaffo 'r haul ar lleuad.
Luc: 10:42
Pan dduo 'r haul, pan wridio 'r lleuad,
Mat: 24:29 2 Pet: 3.10 Luc: 11.28 1 Thes [...] 4.17
Pan Syrthio 'r ser, pan ofno bagad,
Pan llosco 'n boeth, y bŷd ai bwer,
Bydd dy ran di, yn ddi-bryder.
Cwyn dy galon, na fydd wan,
Cadw d' afel ar dy ran,
Datc: 3:3 Datc: 2:10 Mar. 13.13
Di ddewisaist y rhan orau,
Gwachel newid hed at angau.

Y Llyfr rhagorol hwnnw a fû fuddiol iawn yn saesnog (sef) Y Cywir Ddychwelwr: yn datcuddio y nifer bychan or rhai gwir Gredadwy, ar anhawstra mawr o droedi­gaeth Cadwedigol.

Darllenydd, fel y bo i ti yn hawdd ga­ffel allan dim ag sydd gynwysedig, yn y llyfyr hwn, craffa ar yr amryw titlau, ag ar y rhif, neu nod y daleunau, fel y canlynant.

A Ddysc a chynghorau ynghylch gwrando pregethiad yr Efengil, ag ynghylch chwlio 'r Scrythuran.
Dal. 1
Rhybyddir Cymru i edifaru.
dal. 14
Yr ail ran.
dal. 18
Christ syddoll yn oll.
dal. 21
Christ sydd oll yn oll.
dal. 27
Cyng [...]r i bechadur.
dal. 32
Cynghorion yn erbyn profedigaethau Satan.
41
Rhybydd i wachelyd Rhwydau Satan, Ymhob Oedran.
dal. 44
Cyngher i ddyfal weddio ar bob achos ag ymhob gorchwyl.
dal. 45
Y modd y dylae ddyn duwiol ddeffroi ei gorph ai enaid genol nos i glodfori Duw,
dal. 50
Cyngor i foliannu Duw y bore.
dal. 52
Gweddi wrth wisco dy ddillad.
dal. 54
Gweddi fach wrth ymolchi,
dal. 55
Diolch am Dan a chynnessrwydd,
dal. 55
Cynghorion ynghilch ceisio bendith ar y bwyd, cyn bwyta, ag ynghilch talu diolch i Dduw ar ol bwyta.
dal. 56
[Page]Gras cyn bwyd.
dal. 50
Cyngor i edrech attom yn hunain wrth fwyta.
dal. 60
Gras yn ol bwyd.
dal. 60
Cynghorion i fyw yn ddeddfol.
dal. 61
Cyngor yn rhybuddio dyn i ymgadw, rhag lleteua meddyliau drwg yn ei galon, ag i droi ei fedd­yliau bob amser, i fefyrio ar ddaioni.
dal. 69
Dyled-swydd plant i rhieni.
dal. 76
Cyngor i lywodraechu 'r ymadrodd wrth fodd Duw.
dal. 80
Gweddi am lywodraethu 'r geirian, wrth fodd Duw.
dal. 83
Cyngor i ddyn fodbob amser o ymddwgiad Chri­st nogaidd.
dal. 84
Paratoad ir cymmun.
dal. 88
Gweddi cyn derbyn y cymmun.
dal. 97
Cyngor i bob bentaulu i lywodrauthu ei dy yn dduwiol.
dal. 98
Amddiwedd y byd.
dal. 112
Cofiwch Angau.
dal. 120
Cyngor Difes.
dal. 129
Atteb i Gwestiwn ynghylch gweddio dros y ma­rw: ble dangosir anghyfreithlondeb gweddio dros y cyfriw.
dal. 145
Achwyn Mr. Prichard ynghilch tre llanddyfri, ai Rybydd ai gyngor ef iddi.
dal. 145
Achwyn Eglwyswr.
dal. 153
Gwell Duw na dim.
dal. 156

Att y Darlleydd.

Y Cymro Anwyl,

DYmma'r drydedd waith y printiwyd y llyfr hwn, agermwyn ittia phawb oth gydwladwyr ddeall yn eglurach, a dar­llain yn hyffordda [...]h y gân yma, fe gymerwyd peth po [...]ni ddiwy­gio rhai beiau, ag i amlygu rhai geiriau, ynghwr y ddalen, or vn lleiaf; fel i byddeu im Cymydogion annwyl yngwynedd gyfranu yn helaethach or wybodaeth leshol, sydd iw chae! yn y llyfran yma. Am hynny cymmer gyngbor ag annogaeth i ddarllain y gerdd odi­dog yma, a derbyn hi megys Annerch oddiwrth Dduw, Megys lleferydd Mr. Prichard (yr [...]wdwr) or bedd ag megys blacn­ffrwyth goleuni Duw ynghymra yn yr oes a bassiodd. Ag fel i Caflech fywyd a lleshâd ith Enaid oddiwrth ddat llennidd y llyfr hwn; Ystyria y tri pheth yma ith gyfarwyddo. Yn gyntaf, Cais gymwyso, barchennogi, a chyfaddafu yr hyn a ddarllennych ynddo ith enaid ath gyflwr naill duol dy hûn; Yn ail, Gochel rhag ei dre­sui ad y gwirionoddan yma mewn dull Canghanedd ysgasnhau dy galon di wrth eu darllain, a chy froi dy wniau ffolion di, Mae llawer ory sbryd ehud hwnnw, ar Coeg ddigrifwch yn rheoli ym­ylgy Cymru hyd y dydd heddiw; Eithr cais di gan Dduw lwyr dorri a marwhau dy galon di oddiwrthy Cyfriw oforedd a phleser darfodedig, ag ystyria di y gwirionedd ar gwersi, nid y gàn, a hynny yn ddwys, yn ddifrifol, ag mewn fòbrwydd ysbryd: Yn drydydd, Gesod y llyfran yma, a phob modd arall a ordeiniodd Duw i Iechawdwriacth, ynghyd ath galon wrth draed yr Ar­glwydd ae gweddia yn dacr ar iddo roddi bendith ar y moddion ag ar dy galon; felibo itti i fwyn hau ef yn a thrwy ei holl fod­dion grasusol: Hyn a sgrifennwyd ar ddcisyfiad, ag fel i bo itti gyflawni hyn, dig ei ysgwydd wann fyngaeddi i yn yehwaneg, a hynny o wir fodd Calon yr hwn, wyf,

Eiddoti yn yr Ar­glwydd. H. M.

Mae rhan arall o waith yr vn Awdwr, yn dyfod tan y printwasg ag fyrder, ag ni byddd hir, hyd onl ddelo y rhan honno ar led hefyd iw chael ar werth; heb law amriw lyfrau eraill yn gymraeg, os Duw a ganiatta.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.