THE FOUNDATION OF CHRISTIAN RELIGION.
Gathered into Six PRINCIPLES, by Mr. WILLIAM PERKINS.
Translated into WELSH.
Whereto also is added the Welsh Alphabet, for the Instruction of the Unlearned in that Language.
By E. R.
Sail Crefydd Gristnogawl Wedi ei rhannu yn Chewch o Rannau neu Wyddorion, O Waith W. P.
Wedi ei Gyfiaethu. Ir Iaith Gymráec ai osod allan. Drwy ddymuniad. E. R.
LONDON, Printed by Richard Constable, for George Calvert, and are to be sold at his shop at the sign of the Half-Moon in Watlings-street. 1649.
To The Reader.
THis Alphabet (with the manner of the pronouncing and sound of each Letter was occasioned to be set down here, chiefly for their sakes who who would learne to read Welsh themselves, or would instruct and teach others to reade Welsh: For many in Wales, Welshmen born, have some knowledge in the English tongue, yet know nothing in there owne language. These may find this Alphabet to be usefull; for they conferring this Welsh Alphabet with their owne knowledge and [Page 2]reading in the English, may come thereby to know the right pronuntion of every letter and syllable; that so having the true knowledge of the letters in the Alphabet themselves, they may be better enabled to teach others, their Houshold, Friends, and Neighbours, who can reade neither English, nor Welsh: For in many places, people are so ignorant of the Word of God, and so carelesse of knowing it, that among twenty Families, there can scarce one Welsh Bible be found: As for the English Bible, in that Family where any is, it is but uselesse, in respect of the generalitie of those which know nothing, and understand nothing in that tongue. This carelesness is to be pittied, yet this ignorance may be remedied, by using or urging this Alphabet upon such as are so simply ignorant: It will be a meanes that the Word of God will be better heeded, however, it will keep men more civill; and in every respect the knowledge and use of it cannot be amisse. Try it then, and the Lord give his blessing upon it: This shall be the prayer of every Christian.
[Page 3]If the Learner is ignorant of numbers in Figures, let him observe but the verses of the Cxix. Psalme, thence he may learne as farre as he needeth to turne to any place in the Bible.
The Letters, with their Sound and Pronunciation. Y llythyrennau Cymraéc.
A. a. b. c. ch. d, dd. e. f. ff. g. ng. h. i. l. ll. m. n. o. p. ph. r. s. t, th. v. u. w. y.
a. b. c. ch. d. dd. e. f. ff. g. ng. h. i. l. ll. m. n. o. p. ph. r. s. t. th. v. u. w. y.
A. B. C. D. E. F. FF. G. H. I. L. M. N. O. P. R. S. T. V. W. Y.
K. Q. X. Z. are only used in Forrain words, i. e. not in Welsh: And in the Welsh, K. is expressed by the Letter C. Q. by Cw. X. by Cs.Z. by S.
The Sound of the Letters.
- A.
- as the English A.
- B.
- as the B. in English.
- C.
- as the English K. k.
- Ch.
- is pronounced wholly in the throat, the onely Welsh letter, like the Greeke Χ. χ.
- D.
- as the English D.
- Dd.
- hath the same sound that th. hath in these English words, viz. this, that, then, though, there, and not so rough as th. in such words as, viz. think, theefe, thought, thrust.
- E.
- like the English E.
- F.
- like the v. consonant in English.
- Ff.
- like the English F. or Greek φ.
- G.
- Like the letter G, in gate, goe, God, good, gold, great, &c. not as the letter G. in gender, generous, gesture giant.
- Ng.
- like Ng. in King, ring, long, &c.
- H.
- as Engl. H.
- I.
- like ee in these English words, viz. bee, tree, deep, reele, or like the letter i, in such words as these, rich, ring, bring, thing, sing, string.
- [Page 5] L.
- as the Engl. L.
- Ll.
- rougher then the single l. and it hath the pronunciation of lh.i.e. the force of lh. together.
- M. N. O. P.
- as they are in English and Latine.
- Ph. φ
- Greek, or like the English f.
- R. S. T.
- as they are in English.
- Th.
- θ Greek, or th. in this word hath.
- U.
- like the letter i. in such words as these, this, is, misse, blisse, kisse, pisse, or like, e. in blew, drew, knew.
- W.
- as the oo. in these English words, viz. roote, booke, boote, crooke, tooke or as the w. in English.
- Y.
- hath two sounds; first the same sound as
u. in these English words
sturre, turne, burn, hunt: or as the letter
i. in these words,
third, bird, dirt. Or as the letter
i. in these English words,
tinne, trimme, thinne. with this difference,
y. in the last sillable is after the second manner, in every other sillable after the first manner; examples of both, in these
Welsh words,
hynny, ystyr, llythyr, bybyr, myfyr, ymyr, it is also after the first manner in Adverbs of one sillable, or Prepositions
[Page 6]of one sillable, as also in articles, as
y. yr. y cyfiawn: yr Arglywidd yn, mynn, ym.
But in subjectives or adjectives of Verbs of one sillable it is after the second manner, as mynn, tyn bryn.
- The letter i. in Welsh,
- having a vowel following it, makes one sillable with it which follows, as dynion, duwian: unlesse in such which have a tittle! (like!) above the letter i. as gweddiau arylywiddíaeth, crío, yspío.
- W. (in Welsh)
- following
c. ch. g. ng and a vowell, or
n. l. r. with a vowell following it, looseth its sound (as
u. in English after a
q. as
quiet, quart, quarrel) examples,
cweryl, chwech, chwyrn, gwâr, gwê gwîr, gwôhr, gwych, gwlâd, gwnâeth, gwrâch.
But where ŵ hath î above it, there it hath its sound, as gŵyr crooked, and gwŷr men. gŵydd presence, & gwŷd trees, ŵyn lambes, and wŷn passion.
Sail crefydd Gristnogawl wedi ei rhannu yn chewch o Rannau neu Prif pynciau. wyddorion.
1. Yr widdor gyntaf.
Holi. Pa beth yr wyt yn credu ac yn tybied am dduw?
Atteb. Y mae un duw creawdwr a llywodraethwr pob dim oll: yn dri pherson gwahanol; y tad ar mab ar yspryd glân.
Profedigaethau am hin allan or scrythur lân.
1. Y mae duw.
Hyn a ellir ei ŵybod am dduw, Rhuf. 1.19, 20. sydd eglur yn ddint hwy: canys Duw ai heglurodd iddynt.
Canys ei anweledig bethau ef, er creaduriaeth y byd, wrth ei hystyried yn y pethau a wnaed, a welir, yn amlwg, sef ei dragywyddol allu ef a'i dduwdod, hyd onid ydynt yn ddiescus.
Er hynny ni adawodd efe mo honaw ei hun yn ddidyst, Act. 14.17. gan wneuthur daioni, a [Page 8]rhoddi glaw or nefoedd ini, a thymhorau ffrwythlawn, a llenwi ein calonnau ni a llyniaeth, ac a llawenydd.
2. Vn duw yw hwn.
Am fwytta ôr pethau a aberthir i eulynnod, 1 Cor. 8, 4. ni a wyddom, nad yw eulyn ddim yn y byd; ac nad [...]es un duw arall onid un.
3. Gen. 1.1. Efe yw creawdwr pob dim oll.
Yn y dechreaud y creawdd duw y nefoedd âr ddaiar.
Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y byddoedd trwy air duw yn gymaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir. Hebr, 11.3.
4. Efe yw llywodraethwr pob dim oll.
Ym mhôb lle y mae llygaid yr Arglwydd yn canfod y drygionus ar daionus. Dihar. 15.3.
Acy mae iê holl wallt eich pen wedi eu cyfrif. Matth. 10.30.
5. Yn dri person gwahanol, Matth. 3.16, 17. y tad, âr mab, âr yspryd glân.
Ar Jesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac efe a welodd yspryd Duw [Page 9]yn descyn fel clommen ac yn dyfod arno ef.
Ac wele lef or nefoedd yn doydyd.
Hwn ŷw fy anwyl fab yn yrhwn i'm bodlonwyd.
Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef, 1 Io. 5.7. y tad, y gair, ar yspryd glân: ar tri hyn yn un y maent yn cytûno.
2. Yr ail Prifbwngc. wyddor.
H. Pa beth yr wyt i yn credu am ddyn ac amdanat dy hun?
A. Pawb oll a lygrwyd yn llwyr a phechod trwy gwymp Adda, ac felly y gwna [...]thpwd hwy yn weision ir cythrel ac yn euog o ddamnedigaeth dragywyddol.
1. Pawb oll a lygrwyd a pechod.
Megys y mae yn scrifennedig, Rhuf. 30.10. Nid oes neb cyfiawn, nac oes un.
2. Hwy a lygerwyd yn llwyr.
A gwir dduw y tangneddyf a'ch sancteiddio yn gwbl oll: Thess. 5.23. a chadwer eich yspryd oll: a'ch enaid, a'ch corph; yn ddiargyoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.
Hyn gan hynny wyf yn ei ddywedyd ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd na rodioch chwi mwyach fel y mae y cenhedloedd eraill yn rhodio yn oferedd ei meddwl. Eph. 4.1 [...].18. [Page 10]Wedi tywyllu ei deall, wedi ymddieithro oddi wrth fuchedd dduw, drwy 'r anwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallienb ei calon.
Ar Arglwydd a welodd mai aml oedd drygioni dŷn ar y ddaiar, Gen. 6.5. â bod holl swriad meddyl, fryd ei galon, yn vnig yn ddrygionus bob amser.
3. Trwy gwymp Adda.
Am hynny megys trwy un dyn y daeth pechod ir byd, Rhuf. 5.12. a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth ar bôb dyn yn gymmaint a phechu o bawb.
4. Ac felly y gwnaethpwyd hwy yn weision ir cythrel.
Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ol helynt y byd hwn, Eph. 2.2. yn ol tywysog llywodraeth yr awyr, yr yspryd sydd yr awron yn gweithio ym-mhlant anufydd-dod.
Oblegid hynny, gan fod y plant yn gyfrannogion o gîg a gwaed, Heb. 2.12. yn [...] ef hefyd yr ûn modd, a fu gyfrannog or un pethau: fel trwy farwolaeth y dinistrieir efe yr hwn oedd a nerth marmolaeth gantho, hynny yw diafol.
Yn y rhai y dallodd duw y byd hwn feddyliau y rhai digrêd fel na thywŷnnei iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, 2 Cor. 4.4. [Page 11]yrhwn yw delw duw.
5. Ac yn euog o ddamnedigaeth dragywyddol.
Canys cynnifer ac ysy o weithredoedd y ddeddf, Gal. 3.10. tan felldith y maent: canys scri fenwyd; melldigedig yw pob un nid yw yn ares yn yr holl bethau a scrifennir yn llyfr y ddeddf i'w gwneuthur hwynt.
Megys trwy gam wedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad: Rhuf [...]5.18. felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth dawn ar bob dyn i gyfiawnhâd bywyd.
3. Y dryddydd Neu Prifbwngc. wyddor.
H. Pa fodd y mae iti ddiangc or cyflwr damnedig hwn.
A. Iesu Grist tragywyddol fab duw yr hwn a vvnaeth pwyd yn ddyn trwy ei farwolaeth ac y groes, a thrwy ei gyfiawnder a gwbl-gyflawnodd (o hono ei hun yr unig) bob dim oll yr sydd reidiol i iachawdwriath dyn.
1. Iesu Grist tragywyddol fab duw.
Ar Gair a wnaethpwyd yn gnawd ac a drigodd yn ein plith ni (ac ni a welsom ei ogoniant ef, Io. 1.14. gogoniant megys yr vniganedir [Page 12]oddiwrth y tâd) yn llawn grâs a gwirionedd.
2. Yr hwn a wnaeth pwyd yn ddyn.
Cannys ni chymmerodd efe naturiaeth Angelion, Heb. 2.16. eithr hâd Abraham a gymmerodd efe.
3. Trwy ei farwolaeth ar y groes.
Efe a archollwyd am ein camweddau ni: Esay 53.5. efe a ddrylliwyd am ein hanwireddau ni cospedigaeth ein heddvvch ni oedd arno ef, a thrvvy ei gleisiau ef yr iachavvyd ni.
4. A thrvvy ei gyfiawnder ef.
Rhuf. 5.19. Oblegid megis trwy anufydd-dod un dyn y gwnaeth pwyd llawer yn bechaduriaid felly trwy vfydd-dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.
Canys yr hwn nid adnabu bechod awnaeth efe yn bechod trosom ni, 2 Cor. 5.21. fel in gwne [...]lid ni yn gyfiawnder duw ynddo ef.
5. Efe a gwbl-gyflawnodd.
Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbwl iachau y rhai trwyddo ef fy yn dyfod at dduw, Heb. 7.25. gan ei fod ef yn byw bob amser i eiriol trostynt hwy.
6. O hono ei hun yn inig.
[Page 13]Ac nid oes iechvdwriaeth yn neb arall, Acts 4.12. canys nid oes enw arall tan y nef wedi ei roddi ym mhlith dynion drwy yr hwn y mae yn rhaid ini fod yn gadwedig.
7. Efe a gyflawnodd pob dim oll yr sydd reidiol i iechy wriaeth dyn.
Ac efe yw'r iawn tros ein pechodau ni, 1 Io. 2.2. ac nid tros yr eiddom ni yn onig eithr tros pechodau yr holl fŷd.
4. Y bedwered Prifbwngc. wyddor.
H. Eithr pa fodd y gellir dy wneuthur di yn gyfrannog o Grist ai ddoniau ef?
A. Dyn o yspryd vfydd gystuddiedig yr hwn trwy ffydd yn vnig a ymaflo, ac a iawn fwynhao Crist ai holl haeddedigaethau iddo ei hun, sydd gyfiawn ger bron duw, a sanctaidd.
1. Dyn o nspryd y sydd cystyddiedig.
Canys fel hyn y dywed y goruchel, Esa. 57.15. ar derchafedig, yr hwn a bresswylia dragywyddoldeb, ar y mae ei enw'n sanctaidd: y goruchelder ar cyssegr a bresswyilaf a chyd a'r cystuddiedig a'r issel o yspryd, i fywhau y rhai issel o yspryd, ac i fywhau calon y [Page 14]rhai cystuddiedig.
Aberthau duw ydynt yspryd drylliedig, Psal. 51.17. calon ddyrllioc gystyddiedic o douw ni ddirmygi.
2. Yr hwn trwy ffydd yn vnig.
Ar Iesu yn ebrwydd wedi clywed y gair ddywedasid, Mar. 5.36. a ddywedodd wrth Bennaeth y synagog, Nac ofna, crêd yn vnig.
A gwnaeth Moses sarph brês, ac a'i gosododd ar drostan: Num. 21.9. yna os brathei sarph ŵr ac edrych o hono ef ar y sarph brês, byw fyddei.
Ac megys y derchafodd Moses y sarph yn y diffuethwch, Io. 3.14. felly i mae yn rhaid derchafu mab y dyn.
Fel na choller pwy bynag a gredo ynddo ef, Gwers. 15. onid caffael o hono fywyd tragywyddol.
3. A ymaflo ac a iawn fwynha o Crist a'i holl haeddedigaethau iddo ei hun.
Ond cynnifer ar ai derbyniasant ef, Io. 1.12. efe a roddes iddynt allu i fod yn feibion i dduw, sef ir sawl a gredant yn ei enwef.
Ar lesu ad dywedodd wrthynt, Io. 6.35. myfi yw bara'r bywyd; yr hwn sy yn dyfod attafi, ni newyna, ar hwn sy yn credu ynofi, ni sycheda tin amser.
[Page 15]4. Hwn sydd gyfiawn ger bron duw.
Canys pa beth a ddywed yr scrythur, Rhuf. 4.3 credodd Abraham idduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
Eithr ir neb sy yn gweithio ni chyfrifir y gwobr orâs, gwers 4. onid o ddyled.
Megis i mae Dafydd hefyd yn datcan dedwyddwch y dyn y mae duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd gan ddyweddyd. 6. wers.
Dedwydd iw y rhai y maddeuwyd ei hanwireddau a'r r'hai y cuddiwyd ei pechodau. 7. wers.
5. A Sanctaidd.
Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngom ni a hwynt, Act. 15.9. gan buro ei calonnau hwy trwy ffydd.
Eithr yr ydychchwi o honaw ef yn Ghrist Iesu, 1 Cor. 1.30. yr hwn a wnaethpwyd ini gan dduw yn ddoethineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd ac yn brynedigaeth.
5. Y Bummed wyddor.
H. Pa rai yw y moddion arfaredig, cyffredyn i gaffael ffydd trwyddynt?
[Page 16]A. I mae ffydd yn dyfod trwy bregethiad gair duw yn inig; a thrwy hwnnw y mae yn cynnhyddu beunydd, megis y mae hefyd trwy wenidogaeth y sacrafenau Sacramentau a gweddi.
1. Y mae ffydd yn dyfod trwy bregethiad gair duw yn vnig a thrwy hwnnw y mae yn cynhyddu beunydd.
Pa fodd gan hynny y galwant aryr hwn ni chredasant yntho? Rhu. 10.14. a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano; a pha fodd y clywant heb bregethwyr?
Lle ni, Dihar. 29.18. byddo gweledigaeth, methu a wna'r bobl: ond y neb a gadwo y gyfraith, gwyn ei fŷd ef.
Fy mhobl a ddifethir o eisieu gwybodaeth: Hos. 4.6. am it ddiystyru gwybodaeth' minneu ath ddiystyraf ditheu fel na byddech offeiriad imi: ac am it anghofio cyfraith dy dduw minneu a anghofiaf dy blant ditheu hefyd.
2. Megis y mae hefyd trwy wenidogaeth y sacrafennau.
Ac efe a gymerath arwydd yr enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd yr hon oeddganddo yn y dienwaediad, Rhuf. 4.11. fel y byddei efe yn tad pawb a gredant yn y dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd.
[Page 17]Ac ni fynnwn ichwi fod heb wybod, 1 Cor. 10.1 frodyr, fod ein tadau oll tan y cwmmwl, ai myned oll trwy y mor.
Ai bedyddio hwy oll i Moses yn y cwmmwl ac yn y mor. 2 wers.
A bwyta bawb a honynt yr un bwyd ysprydol. 3 wers.
3. A Gweddi.
Canys pwy bynac a alwo ar enw yr Arglwydd cadwedig fydd. Act. 2.12.
6. Y chweched wyddor.
H. Pa beth yw cyflwr pob dyn yn ol marwolaeth.
A. Pawb ol a gyfodant eilwaith a'i cyrph ei hunain ir farn ddiweddaf; yn oll pa un y rhai duwiol a feddiannant deyrnas nefoedd; ond yr anffyddloniad ar gwrthodedig a fyddant yn yffern iw poeni yno gidâr cythrel ai angelion yn dragywyddol.
1. Pawb oll a gyfodant eilwaith a'i cyrph ei hunain.
Na ryfeddwch am hyn: Io. 5.28. can [...]s y mae'r awr yn dyfod yn yr hon y caiff pawb ar sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef.
2. Ir farn ddiweddaf.
[Page 18]Canys duw a ddwg bob gweithred i farn, Ecel. 12.14. a phob peth dirgel, pa un bynnac fyddo ai da ai drwg.
Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych mai am bob gair segur a ddywedo dynion, Mat. 12.36. y rhoddant hwy gyfrif yn nydd-farn.
3. Yn ol pa un y rhai duwiol.
Ac a waredodd Lot gyfiawn yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ym arweddiad yr anwiriaid. 3. Pet. 2.7.
Ar Arglwydd a ddywedodd wrtho' dos trwy ganol y ddynas, Ezes. 9.4. trwy ganol, Ierusalem, a noda nôd ar dalcennau y dynion sydd yn vcheneidio ac yn gweiddi am y ffieidd-dra oll a wneir yn ei chanol hi.
4. A feddiannant deyrnas nefoedd.
Yna y dywed y Brenin wrth y rhaiar ei ddeheu-lavv: Mat. 3.5. Deuwch chwi fendigedigion syn nhâp, etifeddwch y deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y bŷd.
5. Eithr yr Anffyddloniaid a'r gwrothodedig a feddiannant yffern iw poeni yno gida'r cythrel a'i Angelion yn dragywyddol.
[Page 19]Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, Mat. 25. [...]4. ewch oddiwrthif rai melldigedig ir tan tragywyddol, yr hvvn a baratowyd i ddiafol ac i'w Angylion.
laus Deo.
Eglurhâd y gwyddorion
Yr wyddor gyntaf wediei heglurhau.
Holi.PA beth yw duw?
Atteb. Io. 4.24. Yspryd yw Daw, neu sy lwedd ysprydol, 1 Tim. 1.17. vnig-ddoeth gwir sanctaid tragywyddol, an feidrol.
H. Pa fodd yr wyt yn sicr o hyn ac lyn gwybod fod duw or fath?
A. Heblaw tystiolaeth y scrythur lân, y mae rheswm naturiel yn dangos hyn?
H. Beth yw un rheswm?
Att. Pan ystyriwyf Rhuf. 1.20. phrâm a rhyfeddol wneuthuriad y bŷd, yr wyfi yn tybied ynofy-hun nas galle greaduriaid mor druain, ar sy ynddo, wneuthur mo' hwn, na'r byd chwaith ei wneuthur ei hûn: ac am hynny heb law hyn oll gan na wnaeth y creaduriaid moi hûnjnâr byd, mae'n rhaid i dduw fod yn wneuthurwr y byd megis ac per fae gwr yn dyfod i wlâd ddieithr, agweled [Page 22]yno ryw adeilad deg a chost-sawr, ac etto heb gyfarfod yno ac un creadur byw ond hediaid y nefoedd a bwystfilod y ddaiar yn vnig: nis tybia hwnnw mae'r adar neu'r bwystfilod a gododd yr adei lad honno i fynu, ond efe a fwriada yn y man mai naill y mae, neu fe a fu dynion yno.
H. Pa reswm arall sy gennit?
A. Rbu. 2.15. Gen. 3.8, 10. Y neb a wnelo ryw ddrwg, megys llofruddiaeth, godineb, torr-priodas, cabledd, er celu a chiddio o hono y drwg (fel nas gwyppo un dyn byw ddim oddiwrtho) etto fe a fydd ganddo yn fynych rhyw wascfa yn ei gyd wybod, mal pe byddei yn clywed megis tan yffernol yn cynneu oddifewn; a rhesvvm cadarn yvv hyn i ddangos fod duvv, ger bron gorseddfainc pa un y bydd rhaid iddo ddyfod i atteb am ei vveithred.
H. Pa Savvl Duvv fydd?
A. 1 Cor. 3.4. Nid oes un duvv ond un.
H. Pa fodd yr vvyt ti nydy feddvvl yn adnabod yr un Duvv hvvn?
A. D [...]t. 4.15.16. Ames 4.13. Nid vvyfi yn ei adnabod ef vvrth ddychymmig yn fy meddvvl ryvv lun neu ddelvv o hono (fel y mae'r annoeth ar anvvybodus yn gvventhur y rhai fy yn tybied i fod ef yn eistedd fel hen ŵr yn y nefoedd) eithr yr vvyfi yn ei adnabod ef vvrth ei rinvveddau priodol ef âi vveithredoedd.
[Page 23]H. Parai yvv ei rinvveddau pennaf ef?
A. 1. Y mae ef yn Iob 12.13. vnig-ddoeth, yn deall pob peth yn vniavvn, ac yn gvvybod gvvir-achos pob dim. 2. y mae ef yn Esay 6.3. wirsanctaidd, ar i mae hyn yn ymddangos yn eglur, o'i sod ef yn Exod. 20.5, 6. vvirgyfiavvn, ac yn wir-drugarog i'w greaduriaid. 3. y mae ef yn Esay 41.4. dragywyddol, heb na dechreuad na diweddiad ôi ddiddiau. 4. Y mae ef yn Psal. 139.7. an feidrol, am ei fod yn bresennol ymmhob man, ac am ei fod yn ddigon galluog i wneuthur a fynno Iob 9.4. Deut. 10.17. ei hun.
H. Pa ra [...] yw gweithredoedd duw?
A. Ier. 10.12. Psal. 33.6. Gwneuthuriad y byd, a phob dim ynddo, a Psal. 104.15.27. cheidwadaeth yr holl bethau ar y wnaeth ef drwy ei fawr ragluniaeth.
H. Pa fodd y gwyddost i fod duw yn lly wodraethu ar bob rhyw beth yn y bŷd drwy ei ragluniaeth priodol?
Atteb. Heb law tystiolaeth y ferythur lân myfi a welaf ac a wn wrth a brofais sef Lev 26.26. Dihar. 16.33. bŵyd, diod dillad, ŷ rhai, heb na gwres naw by wyd ynddynt, nis gallent na chadw na chynnal bywyd dyn, oddieithr fod enwedig ragweliad duw yn rhoddi nerth a rhinwedd ynddynt.
H. Pa fodd maey'r hwn yn dri pherson gwahanol?
A. Y 1 10 5.7. Mat. 3. [...]7. tad yr hwn fy yn cenhedlu 'r mab: y mab yr hwn a cenhedlwyd gan y tad: yr [Page 24] 10, 15, 26. yspryd glan yr hwn sy yn dei llaw od diwrch y tad âr mab.
2. Yr ail wyddor wedi ei eglurhau.
H. Weithian gan ini ddyfod attom ein hunain: ac yn gyntaf, dywed i ini pa beth yw anianol gyflwr pob dyn?
A. Y mae pob dyn o'i anian ei hun yn Eph. 2.1, 2. 1 Tim 5.6. farw mewn pechod, megys celain ffiaidd neu megis corph marw yn pydru ac yn drewi yn y bedd, ac ynddo hefyd y mae hâd pob anwiredd.
H. Beth yw pechod?
A. Pob 1 10: 3.4. troseddiad, neûr torriad lleiaf o gyfraith dduw: pet fae ond yr Gal. 3.10. Rhuf. 7.7. eisieu lleiaf, or hyn y mae 'r gyfraeth yn ei ofyn.
H. Pa swal rhyw o bechodau sydd?
A. Pechod yw, naill a'i Col. 3.9. Psal. 51.5. llygredigaeth naturiaeth, ai pob gweithred ddrwg a darddo o honi megys ei ffrwythau hi.
H. Ym-mha rai y mae llygredigaeth naturiaeth?
A. Ym mhawb Rhuf. 3.10. oll o blant Adda.
H. Ym-ha fan ar ddyn y mae ei lwgr?
A. Gen. 6.5. 1 Thess. 5.23. Ym-mhob man ar ei gorph ai enaid; [Page 25]megys gwahanglwyf rhedegog oddiwrth goryn y pen hyd at wadn y troed.
H. Dangos imi pa fodd y mae pob man ar ddyn wedi llygrv gan bechod?
A. 1. Yn y Rhuf. 8.5.1 Cor. 2.14. meddwl nid oes dim ond anwybodaeth a dallineb am bethau ne fawl.
2. Y mae'r Tit. 1.15. gydwybod wedi ei halogi, drwi ei bod hi bob amser naill a'i wedi sythu gan bechod, neu wedi ei therfyscu, gan achwynion a brawiau oddifewn.
3. Y mae ewyllys dyn yn ewyllysio ac yn chwenych yn vnig y peth sy ddrwg.
4. Y mae gwyniau y galon, Gal. 5.24 megys cariad, llawenydd, gobaith, chwant, ar cyfriw fath, wedi ei gyrru ai cynhyrfu ir drwg ac ei ym gofleidio ac ef: ac nis cynhyrfir hwy i dueddu at y peth sydd dda; onid er ei lysu.
5. Y mae holl aelodau y corph yn dacclau ac yn offerau ir meddwl i weithredu drwg.
H. Pa rai yw y gweithredoedd drwy y rhai ydynt ffrwythau y llygredigaeth hon?
A. Gen. 6.5. Drwg fwriadau yn y meddwl y rhai ydynt yn dyfod naill ai drwy ddyfalfeddy liad dyn ei hun, neu drwy 'r drwg [Page 26]ŵyniau y mae'r cythael yn ei coffau iddo: Io. 13.2. Act. 5.3.1 Chron. 21.1. drwg-gynhyrfiadan a chwantau yn codi yn y galon; oba rai y mae yn tarddu allan eiriau a gweithredoedd drwy pan roddir yr achos lleiaf.
H. Pa fodd y digwyddodd fod pob dyn fel hyn wedi ei halogi gan bechod?
A. Drwy Rhuf. 5.12.18.19. an ffyddloneb, anufydd-dod Adda wrth fwyta'r ffrwyth Gen. 2.17. & Gen. 3.6. gwaharddedig fel y gwelwn fod gwyr mawr pennaethiaid, trwy ei tráturiaeth nid yn vnig yn anrheithio ei hunain ond hefyd yr ydynt yn difwyno ac yn wilyddio wyneb ei blant ar ei hol.
H. Pa niwed a ddigwydd i ddyn am bechod?
A. Gal. 3.10. Y mae ef bob amser tan farn, digofaint, a melldith dduw, holl ddyddiau ei fwyd, yn-niwedd ei oes, ac ar oll ei farwolaeth.
H. Pa beth yw melldith dduw yn y bywyd hwn?
A. Yn y Deut. 18.21.22.27.65.66.67. 2 Cor. 4.4. corph clefydau, megys gwauw a phob doluriau eraill: yn yr enaid, dallineb, caledrwydd calon, a blinder cydwybod: mewn cyfoeth, helbalon rhwystrus a cholledion: mewn enw, gogan a dirmyg; ac yn ddiweddaf caethiwed tan Satan, tywysog y tywyllwch yn yr holl ddyn.
[Page 27]H. Pa fath gaethiwed yw hwn?
A. Y Eph. 2.2.2 Cor. 4.4. Luk. 11.21. gaethiwed hwn yw, pan fo dyn yn gaeth-was ir cythrel, ac yntef yn teyrnasu yn ei galon ef megys yn dduw iddo ef.
H. Pa fodd y geill dyn wybod ai yw Satan yn teyrnasu yn ei galon ef ac yn dduw iddo?
Atteb. Fe a eill wybod hynny wrth hyn: o bydd ef yn ostyngedig iddo yn ei galon a dangos hynny yn ei Ymarweddiad.
H. Pa fodd y geill dyn gan fod ynddo ei hun, i fod ef yn rhoddi y fath ostyngeiddrwydd i Satan?
Atteb. Os bydd Io. 8.44.1 Io. 3.8. hyfryd gantho y gwynniau y bo Satan yn ei gyrru iw galon ef: ac os cyflawna chwantau y cythrael.
H. Beth yw'r felldith ddyledus i ddyn yn niwedd ei fowyd?
A. Rhuf: 5.12.17. & 6.23. Marwolaeth, sef, gwahaniad ac yscar y corph ar enaid.
H. Beth yw'r felldith ddyledus i ddyn ar ol y bywyd hwn.
A. Gal. 3.10. Damnedigaeth dragywyddol yn nhân yffern: o ba un y mae pob dyn mor [Page 28]euog ac mewn cymmaint o berigl, ac ydywr traetor âr bradychwr wedi ei ddala, o gael ei losci, ei grogi a'i chwartorio.
3. Y drydydd wyddor wedi ei heglurhau.
H. Os gwobr pechod yw marwolaeth, truanaf o'r holl greaduriaid a wnaeth Duw, ydyw dyn y mae trueni ci neu lyffant yn diweddu wrth yddynt farw: eithr dechreuad trueni i ddyn yw'r awr y bo marw.
A. Gŵir a fyddei hynny pe bae dyn heb fodd i gael ei ym waredu: ond duw a ddangosodd ei fawr-drugaredd i ddyn wrth roddi iachwbwr iddo.
H. Pa fodd y gelwir yr achubwr hwn?
A. Mat. 1.21. Jesu Grist.
A. Heb. 2.16.10. Tragywyddol fab duw, yr hwn a wnaethpwd yn ddyn, yn gyffelyb i ddynion eraill, ym hob peth, lê yn ei Heb. 5.7. wendid hefyd, ond nid mewn pechod.
H. Pa, fodd y gwnaethpwyd ef yn ddŷn ac-yn ddibechod?
A. Mat. 1.18.20. Efe a genhelwyd yng-hrôth morwyn, ac a'i sancteidd wyd ef trwy 'r yspryd [Page 29]glân wrth ei genhedlu.
H. Pa ham y mae yn rhaid i'n hachubwr ni fod yn dduw ac yn ddyn?
A. Y mae yn gorfod iddo fod yn dd [...]n, 1 Tim. 2.5, 6. o herwydd mae dyn a bechodd: ac am hynny dyn sy raid farw, am bechod; i lonyddu ac heddychu digofaint duw: y ma [...] yn rhaid iddo fod yn dduw, i gynnal ac i gadern hau y dyndod, i orchfygu ac i orfoleddu ar farwolaeth.
H. Pa rai yw y sŵyddau sy gan Grist i'w wneuthur ef yn iachubwr llawn-ddigonol?
A. Y mae ef yn Psal. 110.4. Offeiriad, Deut. 18. 15, Luk 4.18. yn Brophwyd, ac yn Luk. 1.33. Psal. 45.7. Frenin.
H. Pa ham y mae ef yn Offeriad?
A. I weithio iechyd wriaeth i ddyn?
H. Pa fodd y mae ef yn gwneuthur hynny?
A. Yn gyntaf drwy wneuthur iavvn i'w dad tros anwireddau Mat. 20.28. dyn: yn ail drwy Heb. 7.25, 26. eiriol tros ddyn.
H. Pa fodd y mae ef yn gwneuthur iawn tros ddyn?
A. Mewn 2. fodd; a'r cyntaf yw trwy aberthu tros ddŷn.
H. Beth yw'r aberth honno?
A. Esa. 52.10. Crist ei hun fel y mae ef yn ddyn, a chorph ar enaid gantho.
[Page 30]H. Beth y'wr allor y mae ef yn Aberthu arni?
A. Crist fel y mae yn dduw ydyw yr allor, ar ba un yr aberthodd efe ei y hun.
H. Pwy oedd yr offeiriad?
A. Heb. 5.5, 6. Neb ond Crist: a hynny fel y mae yn dduw ac yn ddyn.
H. Pa sawl gwaith yr aberthodd efe ei hun?
A. Nid Aberthodd efe ei hun un amser ond Heb. 9.28. un waith.
H. Pa farwolaeth a ddiod desodd pan aberthodd ef ei hun?
A. Marwolaeth ar y groes, ar ba un yn ddioddef, heb law marwolaeth sef yscar yr enaid oddiwrth y corph; fe a ddywalldwyd hefyd arno holl ddigofaint duw âr oedd ddyledus i ddyn am bechod.
H. Pa les sy yn dyfod ini trwy ei a berth ef?
A. Digofaint duw a ddistawyd trwi ei Heb. 9.28. a berth ef.
H. A ellasei dioddefaint Crist, nis parhaodd ond tros vhydig ennyd, fod yn llawngyfattebol iddamnedigaeth tragywyddol dyledus iddŷn, ac felly heddychu digofaint duw?
A. Galla yn iawndda: canys pon ddioddefod Crist, Act, 20.28. fe a ddioddefodd duw er nas [Page 31]dioddefodd ef yn ei dduwdod: ac y mae hynny yn fwy na phe buasei holl bobloedd y byd yn dioddef yn dragywyddol.
H. Pa fodd arall y gwanaeth ef iawn i dduw trosom?
A. Drwy gawd a chwbwl-gyflawni y gyfraith.
H. Pa fodd y cyflawnodd ef y gyfraith?
A. Trwy berpheithrwydd ei 1 Cor. 1.30. gyfiawnder ei hun: a hyn sy yn sefyll mevvn dau beth.
1. Perffeithrwydd a phurdeb ei 2 Cor. 5.21. ddyndod.
2. Ei Ro. 5.19. vfydd-dod ef yn cwplhau yr hyn oll yr oedd y gyfraeth yn ei ofyn.
H. Ti a ddangosaist y modd y mae Crist yn gwneathur iawn trosom: dangos hefyd y modd y mae ef yn eiriol trosomni?
A. Y mae ef yn wastadol yn ei ddangos ei Ro. 8.34. hun ger bron ei dad, i wneuthur y ffythloniaid ai holl weddiau yn gymmeradwy 1 Pet. 2 5. iddo: ac i wneuthur holl haeddedigoethu ei ddioddefaint; a'r iawn a wnaeth efe trostynt iw dad, yn briodawl iddynt hwy.
H. Pa ham y mae Crist yn Brophwyd?
[Page 32]A. Io. 6.45. Mat, 3.7. Fel y gallo ef ddatguddio iw eglwys inion ffordd a moddion iechadwriaeth: a hyn y mae efe yn wastadol yn ei wneuthur trwy wenidogaeth ei air oddiallan a thrwy waith ei lan yspryd oddifewn.
H. Pa ham y mae efe hefyd yn frenin?
A. Esa. 9.7. Fel y gallo efe yn helaeth roddi a dwyn ini yr holl foddion dywededig o'n hiechydwriaeth.
H. Pa fodd y mae yn dangos ei fod yn frenin?
A. Act. 10.40. Eph. 4.8. Am ddarfod iddo (wedi ei farvv ai gladdu) adgyfodi or bedd, a bywhau ei gorph marw; Act. 1.9. escyn ir nefoedd; a'i fod yr awrhon yn eistedd ar ddeheulavv ei dad yn y nefoedd yn llawn gallu a gogoniant.
H. Pa fodd hefyd?
A. Esa. 9.7. & 30.21. Am ei fod efe yn oestadol yn ysprydoliaethu, ac yn cyfarwyddo ei holl wasanaethwŷr, trwy dduwiol allu ei lan-yspryd yn ol ei sanctaidd air.
Holi, Eithr a phwy y cyfranna y brenin Bendigedig hvvn y moddion hyn oll o iechydwriaeth?
Atteb. Mat. 20.16. Y mae ef yn ei cynnig hvvy i bawb ac y Io. 1.12. 1 Io. 2.2. maent yn llawn ddigonol er cadw pawb er hynny nis bydd pawb yn [Page 23]gadwedig, o herwydd nis derbyniant hwynt trwy ffydd.
4. Y bedwerydd wyddor wedi ei heglurhâu.
H. Pa Peth iw ffydd?
A. Eph. 2.8. Col. 2.12. Io. 6.35. Mawr drugaredd a gras duw yvv ffydd; trwy ba un ymae dyn yn ymaflyd yn Ghrist a'i holl ddoniau ac yn ei priodoli hwynt igid iddo ei hun.
H. Pa fodd y mae dyn yn priodoli Crist iddo ei hun, gan ein bod ni ar y ddaiar ac yntef yn y nefoedd?
A. Y priodolaeth ymma a wneir drvvy sicrhâd hysprydwydd drwywaith yr 2 Cor. 1.20.22. yspryd glân, o ffafor duw tuagalt ddyn ei hun, ac o faddeuant am ei holl anvvireddau.
H. Pa fodd y mae duvv yn dwyn dynion i vvir-gredu yng-Hrist?
A. Yngyntaf y mae efe yn darparu ei calonau hwy i fod yn gymwys i dderbyn ffydd, ac wedi hynny yn gweithio ffydd yn ei calonau hwynt.
H. Pa fodd y mae duw yn darparu calonnau dynion?
A. Drwy ei hyssigo hwy fel pet fae [Page 34]dyn yn malurio careg galed, onis fai mor fân ar llwch; a hyn awneir drwy ei hisel-dda, rostwng hwynt.
H. Pa fodd y mae Duw yn darostwng dyn?
A. Drwy ei ddwyn ef i weled ei bechodau, ac i dristan am danyni.
H. Pa fodd y gwneir dyn i ganfod ac i adnabod ei bechod?
A. Drwy y Rhuf. 3.20. ac 7.7, 8. gyfraith foesawl, swm pa un yw'r deg gorchymyn.
H. Pa bechodau a gafi wybod i bod y nof trwy'r deg gorchymmyn?
A. Tydi a gei weled fod deg o amryw bechodan y not.
H. Pa bechod yw'r cyntaf?
A. Gorchymmyn 1. Dy fod yn gwneuthur rhyw beth yn dduw it, yr hwn beth nid yw dduw, hynny trwy ei ofni ai garu, a thrwy roddi mwy o ymddiried ynddo nag yn y gwir dduw.
H. Beth yw'r eil?
A. 11. Dy fod yn addoli gandduwiau neu yn cam-addoli y gwir dduw.
H. Beth yw'r trydydd?
A. 111 l Am heichu duw, ac a buwsio ei enw, ei air, ai weithredoedd.
H. Beth yw'r pedwerydd?
A. 1111. torri y dydd Saboth; drwy wneuthur [Page 35]gwaith dy alwedigaeth a'th orchwylion, a gweithredoedd y cnawd: a gadal heb wneuthur gwaith yr yspryd.
H. Beth y w'r chwech eraill?
A. Gwneuthur dim ar a fo yn rhwystro dy gymmydog, neu yn ddrwg iddo.
1. Iw v. anrhydedd.
2. Iw vi. fywyd.
3. Iw vii. ddiweirdodd.
4. Iw viii. dda.
5. Iw ix. enw da.
6. Pet fae hynny ond yn ddirgel x. mewn meddwl ac ewyllys calon, er nas rhoddit dy fryd nâth fwriad er cyflawni yr hyn a fynaycht.
H. Beth yw tristwch am bechod?
A. Tristwch am bechod yw pan gyfirddir cydwybod dyn gan Act 2.37, 38. can. 5.4. wirystir a phwys, o ddigofaint duvv am ryvv rai o'r pechodau hyn, fel y byddo efe yn 1 Tim. 1, 15, 16. Ezra 9, 6, 7. gwbwl anobeichgar o iechydwriaeth, (o ran dlm ynddo ei hun) gan gyfaddeu ddarfod iddo heuddu cywylydd a gwarth yn dragywydd.
H. Pa fodd y mae duvv yn gweithio y gofyd hyn am bechod?
Atteb. Trwy felldith ofnadwy y gyfraeth.
[Page 36]H. Beth yw honno.
A. Y Gal. 3.10. neb a dorro pet fae ond un o orchymmynion duw, a hynny ond unwaith yn ei holl fywyd ac ond ar un meddwl yn inig, y mae hwnnw trwy hynny yn euog ac mewn perigl o ddamnadigaeth tragywyddol.
H. Pan fo calonnau dynion wedi darparu fel hyn, pa fodd y mae duw yn plannu ffydd ynddynt hwy?
A. Trwy weithio rhyw fynidiau oddimewn y galon, y rhai ydynt megys hadau ffydd o ba rai y mae hi yn egino ac yn cynhyddu.
H. Pa beth ydiw'r cyntaf o honynt hwy?
A. Esa. 55.1. Io. 7.27. Lug. 1.53.3 Pan fo dyn (wedi ei ddarostwng tan faech ei bechod) yn gwybod ac yn cyfaddeu i fod yn sefyll mewn mewr eisieu am Grist.
H. Beth yw'r ail?
A. Mat. 5.4. Dat. 21.6. Newynu, chwenychu ac hiraethu, am fod yn gyfranog o Grist ai holl haeddedigaethu.
H. Beth ŷwr tryddyd?
A. Heb. 4.16. Hedfan i fynu at orseddfainc gras, rhag barn y gyfraeth yr hon sy yn flin iawn yn pigo'r gydwybod.
H. Pa fodd y gwneir hynny?
[Page 37]A. Luk. 15.18.19. Mat. 15.22. Act. 8.22. 2 Cor. 12.8. Trwy weddio ac vchel-grio a thaergeisio nawdd duw yng-Hrist; er maddeuant, pechodau, a hynny o deirni barhaus, nes iddo gael deisyfiod ei galó wedi ei caniadhau.
H. Beth sydd yn canlyn yn ol hyn.
Atteb. Mat. 7.7. Esa. 65.24. Iob. 33. 25. Yno y mae duvv yn ol ei addevvid trugarog, yn gadavv ir pechadur, truan gal clyvved sicrvvyd oi gariad apha un y carodd duvv efe yng-Hrist; ar sicrvvyd yma yvv iavvn ffydd fywiol.
H. Onid oes amryw raddau a mesurau o iawn ffydd?
A. Rhuf. 1, 17. Luk. 17.5. Oes.
Holi. Pa un yw'r mesur lleiaf o vvir ffydd a eill dyn gael?
Atteb. Pan fo dyn (o yspryd isel-fryd) gan Esa. 42.3. Mat. 17.20. Luk. 17.5. leiad yvv ei ffydd, heb gael clywed etto, ddim sicrvvydd am faddeuant am ei bechodau, ac etto y mae efe yn ei berswadio ei hun i bod hwy y cyfryw rai ag a faddeuir, ac o herwydd hynny y mae efe yn eiriol o'i maddeu hvvynt, ac yn ei galon yn gvveddio ar dduvv ei maddeu hvvynt iddo.
[Page 38]H. Pa fodd y gwyddoch fod ffydd gan y cyfryw fath ar ddyn?
A. Rhuf. 8.23.26. Gal. 4.9. Tystiolaethau yr yspryd yw'r deisyfiadu ar gweddiau hyn; o herwydd priodol-waith yr yspryd glan yw cynhyrfu hiraeth-serch ac a vvydd o bethau nefol, mevvn dyn ynghyd ag ocheneidau a griddfan am gael cymmod a thrugaredd [...]uvv Rhuf. 8.6. Eph. 3.7. yn g-Hrist; vveithian lle y mae yspryd Duvv, yno y mae Crist yn aros: a'r lle y mae Crist yn aros, yno y mae gwir ffydd er llesced y bo.
H. Beth yw'r mesumvvyaf o ffydd?
A. Pan fo dyn (gan gyn hyddu beunydd mevvn ffydd) yn dyfod or divvedd i gael Rhuf 38.39. Can. 8.6, 7. llavvn-sicrvvydd o gariad duvv yng-Hrist tuagatto ef ei hun ar o faddeuant am ei holl bechodau ei hun.
H. Pa amser y geill calon Gristnogawl ddyfod ir fath lawn-hyfder o sicrwydd?
A. 2 Tim. 4.7, 8. Psal. 32.6.21, 2.3.4. gwersau. Nid ar y cyntaf, eithr ar ol rhyvv rifedi o ddyddiu wedi iddo ei iawn-ymarfer ei hun ac edifeirvvch a chael llawer profiad o gariad Duvv yng. Hrist tragatto ef: ac yno ar ei hol hvvythau, yr ym ddengis llovvnder mavvr o sicrha'd yn ei galon ef, Rhuf. 1.19, 20, 21. yr hynyvv llavvn, addfediad a holl [Page 39]allu a nerth ffydd.
H. Pa les a ddaw i ddyn o'i ffydd yng Hrist?
Atteb. 1 Cor. 1.30. Trwy hyn y cyfiavvnheuir ac y sancteiddier dyn yer bron Duw?
H. Beth yvv ystyr, bod vvedi ei cyfiavvnhau ger bron Duw?
Atteb. Rhuf. 8.33. Y mae hyn yn cynwys dau beth.
1. Rhydd hâd oddiwrth euogrvvydd a chospedigaeth pechod.
2. Cael bod yn gymeradvvy ac yn dderbyniol i fod yn gvvbwl-gyfiawn ger bron duw?
H. Pa fodd y glan hêir dyn oddiwrth euogrwydd a chospedigaeth pechod?
A. Col. 22.1 Pet. r. 24. 1 Io. 1.7. Trwy ddioddefaint a marwolaeth Crist ar y groes.
H. Pa fodd y derbynier ac y cyfrifer dyn yn gyfiawn ger bron duw?
Atteb. 2 Cor. 5.21. Trvvy gyfiavvnder Crist VVedi ei gyfrif iddo a bod yn ei eiddo ef?
H. Pa leshâad a ddavv i ddyn o'i gyfiavvnhâu yn y modd hyn?
A. Rhuf. 4.17. Lai. 1.17. Fel hyn yn inig (ac nid trwy fodd [Page 30]arall yn byd) y ceiff y neb a gretto ei dderbyn ai gyfrif yn gymeradwy ger bron gorseddfainc duvv i fod yn deilwng o fywyd tragywyddol trwy haeddigaeth cyfiawnder Crist.
H. Onid ydyvv ei gvveithredoedd da yn ein gwneuthur yn deilwng o fywyd tragywyddol?
A. Nag y dynt: o hervvydd duvv (yr hwn yw perffeithrwyd cyfiawnder) sy yn gweled ac yn canfod yn ein gweithredoedd goraf mwy o fatter damnedigaeth nac o iechydwriaeth ac o herwydd hynny rheitiach ini yn hytrach ein Psal. 143.2. Esa. 64.6, Iob 9.3. barnu ein hunain an condemnio am ein gweithredoedd da, nac edyrch ar gael ein cyfiawnhau ger bron duw trwyddynt hwy.
H. Pa fodd y dichon dyn wybod a ydyw efe wedi ei gyfiawnhau ger bron duw?
Atteb. Nid rhaid iddo escin ir nefoedd i chwilio yno am ddirgeledig gyngor duw, ond descin yn hytrach iw galon ei hun, ac i ymofyn yno a yw efe wedi ei Rhuf. 8.1. 1 Io. 3.9. sancteiddio ai nid yw.
H. Beth yvv bod wedi sancteiddio?
A. Y mae hynny yn cynwys dau beth, 1. Bod wedi ei buro oddiwrth lygredigaeth [Page 31]ei natur ei hun 2. Bod wedi ei gynyscaeddu a chyfiawnder oddimewn.
H. Pa fodd y glanheir llygredigaeth pechod?
A. Trwy Rhu. 6.4. haeddedigaethu a nerth marwolaeth Crist; y rhai wedi ei hiawn fwynhau trwy ffydd, ydynt, megys 1 Fet. 4.1, 2. eli tost neu blastr, yn gwanhâu. yn bwyta ymaith ac yn llwyrdifetha holl nerth a gallu pechod.
H. Pa fodd y cynhyscaeddir dyn a chyfiawnder oddifewn a lûn wrtho?
A. Trwy rinwedd Rhuf. 6.5, 6. Phil. 3.10: adgyfodiad Crist; iawn-fwynha'd pa un trwy ffydd sy megys meddiginiaeth yn adgyweirio ac yn bywhau, dyn, yr hwn sy yn farw mewn pechod, i newydd-deb buchedd.
H. Ym ha sanar ddin y gwneir sancteiddiad?
A. 1 Thess. 5.23. Ym hob man oi gorph ai enaid.
H. Ym ha amser y sancteiddir dyn?
A. Rhuf. 8, 23, 24. 2 Cor. 5, 5, 6. Yn yn byd hwn y dechreuir hynny yn yr hwn y mae y ffyddloniaid yn derbyn ond blaen frwythau yr yspryd yn inig: ac nis derfydd nes diweddu y bywyd hwn.
H. Pa ras neu ddoniau ysprydol a ymddengus fynychaf yng halon y gwr sanctaidd?
[Page 42]A. Psal. 119.113. ac 40.8. ac 101.3. Cashau pechod a charu cyfiawnder.
H. Beth a ddaw o hynny?
A. Edifeirwch, a hyn yvv amcan Psal. 119.57.112. diysgog o lawn fryd calon, ar y mado yn hollavvl ei bechodau, a byw yn Gristnogaidd, yn ol gorchymminion duvv.
H. Pa Beth a gydganlyna edifeirwch?
A. Gal. 5.17. Eph. 6.11.13. 2 Tim. 4.7, 8. Ymdynnu ac ym ryson yn erbyn bwriadau ei gnawd ei hun, profedigaethau y Cythrel a thwyll y byd.
H. Beth addaw iddyn at oll iddo gael y llaw oraf mewn profedigaeth neu gystydd?
A. Pravvf a sicrvvydd Rhuf. 5.3, 4. o gariad Duw yug-Hrist; ac yno amlhad heddvvch cydvvybod a llawenydd yn yr yspryd glân.
H. Beth a ddaw ar ol iddyn gael ei orchfygu mevvn rhyvv brofedigaeth, neu gwympo drvvy wendid?
A. Ar ol ychydig o amser fe a gyfid tri stwch 2 Cor. 7.8, 9. Mat. 26.75. edifeiriol: sef; pan fo dyn yn ddrwg gantho heb achos yn y byd ond am hyn, ddigio o hono efe dduw trwy ei bechod; yr hwn a fa iddo ef yn dad mor garedig a thrugarog.
H. Pa arwydd fydd or tristwch hwn?
[Page 43]Atteb. Gwir arwydd or tristwch hvvn yvv, bod dyn 1 Pet. 2, 19. yn gallu tristhâu yn inig am ei anuffydd-dodi dduw yn ei eiriau neu ei weithred oedd drwg er nas cosper efe byth am danynt ar fel pet fae na nef nac yffern.
H. Beth a ganlyna y tristwch hwn?
A. Adnewyddiad edifeirwch.
H. Drwy ba arwyddion yr ymddengus yr edifeirwch hwn?
Atteb. Trwy saith o arvvyddion,
1. Gofalwch am ymadel ar pechodau i ba rai y syrthiodd ef.
3. Llvvyr-farnu ei hun a passio barn yn erbyn ei hun am ei bechodau, a thrio am faddeuant.
3. Mawr ddigter wrtho ei hun am ei ddioflawch.
4. Gofalwch rhag syrthio ir unrhyw bechod drachefn.
5. Ewyllyschwant ar bodloni duw yn well o hynny, allan.
6. Awydd er cyflawni hynny.
7. Dial arno ei hun am ei feiau a aeth or blaen.
5. Y bummed wyddor wedi ei eglurhau.
H. Pa rai yw'r moddion oddiallan a ffydd raid i harforn i gael ffydd ar holl ddoniau ysprydol y rhai ydynt yn dyfod o ffydd?
A. Dihar. 29.18. Rhuf. 10.14. Mat. 28.19, 30. 1 Tim. 3.16. Pregethiad gair duw a gweinidogaeth y sacrimentau a gweddi.
H. Ym ha fan y ceir gair duw?
Atteb. Y mae gair duw rheidiol i iechydwriaeth dyn, wedi ei osod i lavvr yn gyflavvn yn y scrythurlan.
H. Pa fodd y gwyddost mae gair Duvv yvv y scrythyrh lan, ac nid dychymmygion dynion.
Atteb. Yr wyf yn ddigon hyspus o hyn:
1. Y mae'r yspryd glân yn gvvarantu fyng-hyd wybod mae felly y mae.
2. Yr wyfyn gweled hynny drwy Brawf ac esperiens; canys y mae ynhraethiad yr scrythur, pan i pregethir, Heb. 4.12. 1 Cor. 14.25. nerth a gallu duw i fvvrvv i lavvr ac i ddarostwng dyn, aidaflu hyd at ddyfnder yffern, ac yn ol hynny, ivv [Page 45]adgyfodi ef darchefn.
H. Pa ddefnydd ly wna gair duw wedi ei bregethu?
A. Yn gyntaf y mae yn meithrin ac yn Rhuf. 1.17: 1 Cor. 2.16. Heb. 43. gwneuthur i ffydd cynhyd du, yn y rhai ydynt etholedig i iechydwriaeth eithr ir rhai colledig, drwy ei llygredigaeth ei hun, y mae yn achos o fwy o ddemnedigaeth.
H. Pa fodd y mae ini wrando gair duw, fel y byddo yn fuddiol er iechydwriaeth.
Atteb. Rhaid ini ddy fod i wrando y guir Iac. 1.19. Act. 16.14. Heb 4.2. Esa. 66.2. Luk. 2.51. Psal. 119.11. a chalonnau newynllyd mewn awydd ir gair, graphu sy raid ini arno yn ystyriol, ai dderbyn drwy ffydd, ac ymostwog, ein hunain iddo mewn ofn a dyrchyn, y pryd h [...]fyd y bo ein beiau wedi ei hargyoeddu ini: ac yn ddiweddaf, rhaid ini i dderbyn ai guddio yn nyfnder ein calonnau, a llinio ein buchedd a'n ymarweddiad ar ei ol.
H. Beth yw Sacrament? A. Rhuf. 4.11. Gen. 17.11. Gal 3.1. Arwydd yw y Sacrament i arwyddo; fel i siccrhau ac offeryn i adgyweirio ac i dwyso Crist ir neb a gretto ynddo of.
[Page 46]H. Pa ham y mae yn rhaid cael sacrament i arwyddo ac i roddi trugareddau duw ger bron ein llygaid?
A. Oblegyd hurt iawn ydom i ystyrio ai cofio hwynt.
H. Pa ham y mae y Sacramentau yn selio ini dragareddau duw?
A. Am ein bod yn llawn anghrediniae [...]h ac amheuaeth o honynt.
H. Pa ham y mae y sacramentau yn offeryn yr yspryd glan y gyfeirio trugareddau duw in calonnau?
A. Oblegyd fel Tomas, nis credwn nes ei teimlo ai clywed hwy mewn rhyw fesur yn ein colonnau.
H. Pa sawl sacrament sydd?
A. Dau, ac 1 Cor. 10.1, 2, 3, 4, 5. nid oes mwy;
1. Bedydd, trwy ba un yr ydom yn cael derbyniad ir eglwys.
2. Swpper yr Arglywydd, trwy ba un yr ydom yn cael ein magwriaeth ysprydol; a cynhaliaeth yn yr eglwys hon 'in derbynir iddi.
H. Pa beth a wneir wrth fedyddio?
A. Act. 2.38. Tit. 3.5. Act. 2 [...], 16. Mat. 28, 19. Yng-hyd-gynulliad yr eglwys [Page 47]y mae cyfammed gras rhyng duvv ar neb a fedyddir wedi ei chwplâu ai selio yu gyhoedd-barchedig yn eigwydd hwy?
H. Pa beth y mae duw yn ei addo, ir neb a fedyddir yn y cyfammod hwn?
A. Gil. 3.17. 1 [...]t. [...].21. Crist ar holl fendithion sy yn dyfod trwyddo ef.
H. I ba gonditiwn y rhwmir y neb a fedyddir?
Atteb. Mat. 1.5.15, 16. Y mae ef yn addaw derbyn Crist, ac i ediferhau oi bechodau.
Beth y mae taenellu a dwfr, neu trochi yn y dwfr, yn arwyddoccau?
Atteb. Y mae hynny yn selio 1 Pet. 1.2. maddeuant pechodau ini, a sancteiddiad trwy vfydd-dod Crist a thaenelliad ei waed ef.
H. Pa ham y digwydd, fod llawer ar ol ei bedyddio yn hir, a rhai byth heb glywed ffrwyth a rhinwedd ei bedydd?
A. Nid ar dduw y mae r bai, yr hwn sy yn cadw ei gyfammod: ond arnynt hwy ei hunain y mae'r bai [Page 48]am nid ydynt yn cadw addewid y cyfammod, am dderbyn Crist trvvy ffydd ac ediferhau am ei holl anwireddau.
H. Pa amser y dichon dyn weled grynna ffrwyth ei fedydd?
A. Heb. 10.20, 1 Pet. 3.21. Pa amser bynnag y derbynio ef Grist drwy ffydd; er bod hynny yn ol llawer o flynyddoe [...]d [...]: y pryd hw [...]nw y ceiff efe glywedd nerth a gallu duw iw aileni ef: ac i weithio ynddo ef bob dim oll er a addawodd ef yn ei fedydd.
H. Beth oni cheidwd yn byth yr addewid i ba un y rhvvymvvyd ef yn ei fedydd?
A. Preg. 5.4, 5. Deut. 23.21, 22. Mwyaf oll y ffydd ei ddamnedigaeth ef; am iddo dorri yr adduned a wnaeth efe i dduw.
H. Beth yr y dis yn ei wneuthur yn swpper yr Arglyvvydd?.
A, Cor. 11.23, 24, 25. ac 12.13. Yr ydys yn adnewyddu (rhyng yr Arglwydd cymmynwr) yr addewid a wnaethpvvyd yn gyhoedd barchedic with ei fedyddio ef.
H. Pwy iw'r cymmynwr?
[Page 49]Atteb. 1 Cor. 11, 28, 31. Mat. 5.23, 24. Esa. 66.1.3. Pob un ar a fedyddwyd, ac wedi fedyddio a wir-gredodd yng-Hrist; ac oi galon a ediferhaodd am ei bechodau.
H. Pa beth y mae'r bara argvvin, a bvvyta'r bara ac yfed y gvvin yn ei arwyddoccau?
A. Y gweithredoedd gweledig hyn ydynt 1 Cor. 10.16, 17. yr ail fêl, y mae'r Arglwydd ai law ei hun yn ei gosod wrth ei gyfammod: acy maent yn dwyn ar ddecall i bob ymynwr; mae fel y mae duw yn bendigo y bara ar gwin oddiallan or cynnal a chryfhau corph dyn; felly y mae Crist wedi ei dderbyn drwy ffydd, yn porthi ac yn cynnal enaid a chorph y cymmynwr i fwyd tragywyddol.
Holi. Pa beth y glyw cymmynwr ffyddlon ynddo ei huu; wedi iddo dderbyn y sacramentu?
A. 1 Cor. 10.16, 17. ac 11.24: Amlhâd oi ffydd yng-Hrist, amlhâd o sancteiddrwydd; a mvvy o fesur marwhâd i bechod, a mvvy o ofal i fyw mewn adnewydd-deb buchedd.
[Page 50]H. Beth oni chlyw dyn ddim or fath beth ynddo ei hun wedi iddo gymmyno?
A. Efe a eill yn dda-iawn ammeu ei hun, a ediferhaodd efe am ei bechodau ai nis gwanaeth: am hunny arfered y moddion y sydd iw ddwyn i wirffydd ac edifeirwch.
H. Pa fodd arall sy i chwanegu ffydd?
A. Gweddi.
H. Beth yw gweddi?
A. Ymddiddan 1 Jo. 5.14. gymdeithgar gydnabyddus a duw yn enw Crist, ym ha un yr ydun naill ai yn gofyo iddo bethau rheidiol, Tim. 2.1. ai talu Phil. 4 6. iddo ddiolch am bethau a dderbyneasom.
H. Pa beth sy angenrheidiol i ofyn peth ar law duw?
A Dau beth.
1. Taergeisio.
2. Ffydd.
H. Pa bethau a ddyle dyn Gristnogawl i ofyn?
A. Chwech peth yn bendant.
Petitiwn 1. 1. Allu o hono o goneddu duw.
2. 2 Pet. Teirnasu o dduw ac nid pechod, yn ei galon.
3 Pet. 3. Allu o hono wneuthur ewyllys [Page 51]duw, nid chvvantau yn cnawd.
4. 4 Pet. Allu o hono fwrw ei hyder ar dduw ai ragluniath am bethau angenrheidiol ir bywyd hwn.
5. Gaffael o hono ei 5 Pet. gyfiawnhau ai heddychu a duw.
6. 6 Pet. Gaffael o hono drwy allu duw ei nerthu yn erbyn profedigaethau.
H. Beth yw ffydd?
A. Amen. Siccrwydd, y rhydd duw ini er mwyn Crist y pethau yr ydom ni yn ei iawnrofyn gantho.
6. Y Chweched wyddor wedi ei higlurhau.
H. Wedi i ddyn ddwyn byrenioes yn y byd hwn, pa beth a ddigwydd yn ol hynny?
A. Marwolaeth, sef yscar yr enaid ar corph.
H. Pa ham y mae yr annuwiol ar anffyddloniaid yn marw?
A. Fel yr â ei cyrph ir ddaiar ai [...]c. 16, 22, 23. heneidiau i dân yffernol.
H. Paham y bydd y duwiol yn meirw gan ddarfod i Grist drwy ei farwolaeth orchfygu marwolaeth?
[Page 52]A. Or achos hyny maent yn meirw sef, fel y gallo ei cyrph hwynt orwedd tros ennyd yn y ddaiar ai Luc. 23.43. Act. 7.69.1 Thess. 4.13. Heb. 2.14.1 Cor. 15. heneidiau fyned yn ebrwydd ir nefoedd.
H. Beth a ganlyn yn ol marwolaeth?
A. Dydd y farn. H. Pa arwydd sydd i adnabod y dydd hwnnw rhagor dydd arall?
A. 2 Pet. 3.11.12. Tân a ddifar nefoedd ar ddaiar ychydig cyn dyfod y barnwr.
H. Pwy a fydd y barnwr?
A. Iesu Crist mab duw.
H. Pa fodd y bydd ei ddyfodiad ir farn?
A. Ere a ddaw yn y cwmmylau mewn mawredd a gogoniant, 1 Thes. 4.16, 17. gidag aneirif lu o Angylion.
H. Pa fodd y rhybyddir dynion i ddyfod ir farn?
A. Mat. 24.3.1 Cor. 15.51, 52. Job. 29.24. Wrth lais yr vdcorn, rhai by w a newidit ar droead llyga: ar meirw a gyfodant, Jo. 5.28. pob un ai gorph ei hun, a phavvb oll a gasclir ynghyd ger bron Crist ar ol hyn y rhai da a ddidolir oddiwrth y drvvg: y rhai drvvg a Mat. 25.32, 33. safant ar lavv assvvy Crist ar rhai [Page 53]da ar ei lavv ddehau.
H. Pa fodd y treio ac y prawf Crist achos pob dyn?
A. Fe a Dat. 20.12. Dan. 7.20. led-agorior llyfrau gweithredoedd pob dyn; ac yno y bydd arfod i gyd wybodau dynion naill ai ei cyhuddo ai escusodi ei hun: a phob dyn, a geiff ei dreiol yn ol ei weithredoedd a wnaeth efe yn ei fywyd, 1 Io. 3.18. ac 5.13, 14. am ei bod hwynt yn arwyddion hyspus a goleuamlwg o'i ffydd neu ei anghrediniaeth hwynt?
H. Pa farn a rydd efe?
A. Mat. 25.34.40, 41. Efe a farna iechydwriaeth ir etholedig ar duwiol: eithr efe a gyhoedda (ac a rŷdd farn ddamnedigaeth yn erbyn yr Anffyddloniaid gwrthodedic.
H. Beth a ffydd Cyflwr y duwiol yn ol dydd y farn?
A. Mat. 25.34.46. Dat. [...]7.3, l. Hwy a arhosant yn yr vchelnefoedd yngolwg daw, yn dragywydd gan fwynhau llawn gymdeithas a' Christ, a theirnasu gidag ef yn dragywydd.
H. Beth a fydd cyflwr yr annuwiol ar ol dydd y farn?
[Page 54]A. Dat. 2 [...].8. Man. 25.41. Hwy arhosant mewn colledigaeth a damnedigaeth tragywyddol ynhân yffern.
H. Beth yw hynny?
A. Y mae hynny yn sefyll mevvn 3. pheth yn bendant. 1. Gwahaniaeth tragywyddol oddiwrth ddiddanus olwy duw. Esa. 66.24. 2. Cyd-cymdeithas gidas Cythrel ai Angylion. 3. Gwascfa ofnadwy a phoen mewn corph ac enaid yr hyn y gyfod o glywed holl ddigofaint duw wedi tywalt ar yr annuwiol yn dragywydd, ac os tôst yw poen o ddolur un dant tros un dydd, mor an feidol annibennus a fydd poen yr holl ddyn corph ac enaid yn dragywydd.
Soli Deo gloria.
[Page] Imprimatur