Y CATECHISM A osodwyd allan yn Llyfr GWEDDI GYFFREDIN, Wedi i egluro yn gryno drwy no­dau Byrrion a sylfaenwyd ar yr yscrythyr lan.

Printiedig yn RHYDYCHEN Yn y flwyddŷn 1682.

Y CATECHISM, hynny yw, Athra­wiaeth i'w dyscu gan bob rhyw ddyn, cyn ei ddwyn i'w gon­ffirmio gan yr Escob.

Cwestiwn.

BEth yw dy enw di?

Atteb.

N. neu M.

Cwest.

Pwy a roddes yr enw hwnnw arnat ti?

Atteb.

Fy nhadau bedyd, a'm mamau bedydd wrth fy medyddio, pan i'm gwnaethpwyd yn aelod i Grist, yn blentyn i Dduw, ac yn etifedd teyrnas nêf.

Cwest.

Pa beth a wnaeth dy dadau bedydd a'th fam­mau bedydd yr amser hwnnw trosot ti?

Atteb.

Hwy a addawsant, ac a addunasant dri pheth yn fy enw. Yn gyntaf ymwrthod ohonof â diafol, ac â'i holl weithredoedd, a rhodres, a gorwagedd y bŷd anwir, a phechadurus chwantau y cnawd. Yn ail bod i mi gre­du holl byngciau ffydd Grist. Ac yn drydydd, cadw ohonof wynfydedic ewyllys Duw a'i orchymmynion, a rhodio yn yr unrhyw holl ddyddiau fy mywyd.

Cwest.

Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwymedig i gredu ac i wneuthur megis ac yr addawsant hwy trosot ti?

Atteb.

Ydwyf yn wîr, a thrwy nerth Duw felly y gwnaf. Ac ydd wyfi yn mawr ddiolch i'n Tâd nefol, am iddo fy ngalw i gyfryw stât lechydwriaeth trwy lesu Grist ein lachawdr. Ac mi a attolygaf i Dduw roddi i mi ei râd, modd y gallwyf aros yn yr unrhyw holl ddyddiau fy ei­nioes.

Cwest.

Adrodd i mi fannau dy ffydd?

Atteb.

CRedaf yn Nuw Dâd oll gyfoethawg, Creawdr nef a daiar. Ac yn lesu Grist ei un Mâb ef, ein Harglwydd ni: yr hwn a gâed trwy yr Yspryd [Page] glân, a aned o Fair forwyn: a ddioddefodd dan Bontius Pilatus, a groeshoeliwyd, a fu farw ac a gladdwyd, a ddis­cynnodd i uffern, y trydydd dydd y cyfododd o feirw; a escynnodd i'r nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Dâd oll gyfoethawg, Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Credaf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân ga­tholic, Cymmun y sainct, Maddeuant pechodau, Cyfo­diad y cnawd, a'r bywyd tragywyddol. Amen.

Cwest.

Pa beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf yn y pyngciau hyn o'th ffydd?

Atteb.

Yn gyntaf yr wyf yn dyscu credu yn Nuw Dâd, yr hwn a'm gwnaeth i a'r holl fyd.

Yn ail yr ydwyf yn credu yn Nuw Fâb, yr hwn a'm prynodd i a phob rhyw ddŷn.

Yn drydydd, yr wyf yn credu yn Nuw Yspryd glàn, yr hwn sydd i'm sancte [...]ddio i, a holl etholedig bobl Dduw.

Cwest.

Ti a ddywedaist ddarfod i'th Dadau-bedydd a'th Fammau-bedydd, addo trosot ti, fod i ti gadw gor­chymmynion Duw; Dywet titheu i mi, pa nifer sydd ohonynt?

Atteb.

Dec.

Cwest.

Pa rai ydynt?

Atteb.

Y Rhai hynny a lefarodd Duw yn yr ugein­fed bennod o Exodus, gan ddywedyd, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di ym­maith o dîr yr Aipht, o dŷ y caethiwed.

I. Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.

II. Na wna it dy hun ddelw gerfiedic, na llûn dim ac y sydd yn y nefoed uchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar. Na ostwng iddynt, ac na ad­dola hwynt: oblegit myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau'r tadau ar y plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casânt, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant, ac a gadwant fy ngorchymmynion.

III. Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn o­fer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gy­mero ei Enw ef yn ofer.

[Page] IV. Cofia gadw yn sanctaidd y dŷdd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith. eithr y seithfed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na'th fab, na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dŷn dieithr a fyddo o fewn dy byrth, canys mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd nef a daiar, y môr, a'r hyn oll sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd. Oherwydd paham y bendithiodd yr Arglwydd y seith­fed dydd, ac a'i sancteiddiodd ef.

V. Anrhydedda dy dâd a'th fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaiar, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

VI. Na lâdd.

VII. Na wna odineb.

VIII. Na ledratta.

IX. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymmy­dog.

X. Na chwennych dŷ dy gymmydog, na chwennych wraig dy gymmydog, na'i was, na'i forwyn, na'i ych, na'i assyn, na dim ar sydd eiddo.

Cwest.

Beth yr wyt ti yn ei ddyscu yn bennaf wrth y gorchymmynion hyn?

Atteb.

Yr ydwyf yn dyscu dau beth: fy nylêd tuag at Dduw, a'm dylêd tuag at fy nghymmydog.

Cwest.

Pa beth yw dy ddyled tuag at Dduw?

Atteb.

Fy nyled tuag at Dduw yw, Credu ynddo, ei ofni, a'i garu, â'm holl galon, â'm holl enaid, ac â'm holl nerth, Ei addoli ef, diolch iddo, rhoddi fy holl ymddi­ried ynddo, galw arno, anrhydeddu ei sanctaidd Enw ef a'i air, a'i wasanaethu yn gywir holl ddyddiau fy mywyd.

Cwest.

Pa beth yw dy ddylêd tuag at dy gymmydog?

Atteb.

Fy nylêd tuag at fy nghymmydog yw, ei garu fel fi fy hun, a gwneuthur i bob dyn megis y chwennyc­hwn iddo wneuthur i minneu. Caru ohonof, anrhy­deddu, a chymmorth fy nhâd a'm mam. Anrhydeddu, ac ufyddhau i'r Brenhin a'i swyddogion. Ymddarostwng [Page] i'm holl lywiawdwyr, dyscawdwŷr, Bugeiliaid ysprydol, ac athrawon. Ymddwyn ohonof yn ostyngedic, gan berchi pawb o'm gwell. Na wnelwyf niwed i neb ar air na gweithred. Bod yn gywir ac yn union ymmbob peth a wnelwyf. Na bo na châs na digasedd yn fy ngha­lon i neb. Cadw ohonof fy nwylaw rhac chwilenna a lledratta, cadw fy nhafod rhag dywedyd celwydd, cabl­eiriau, na drwg absen. Cadw fy nghorph mewn cym­hedroldeb, sobrwydd, a diweirdeb. Na chybyddwyf ac na ddeisyfwyf dda na golud neb arall. Eithr dyscu, a llafurio yn gywir, i geisio enill fy mywyd, a gwneuthur a ddylwyf, ymmha ryw fuchedd bynnac y rhyngo bodd i Dd w fy ng [...]lw.

Cwest.

Fy anwyl blentyn, gwybydd hyn ymma, nad wyt ti abl i wneuthur y pethau hyn ohonot dy hun, nac i rodio yngorchymynion Duw, nac iw wasanaethu ef, heb ei yspysol râd ef; yr hwn sydd raid i ti ddyscu yn wa­stad ymoralw amdano trwy ddyfal weddi. Gan hynny moes i mi glywed a fedri di ddywedyd gweddi yr Argl­wydd.

Atteb.

EIn Tad yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteid­dier dy Enw. Deuet dy deyrnas. Bid dy e­wyllys ar y ddaiar megis y mae yn y nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol. A maddeu i ni ein dy­ledion, fel y maddeuwn ni i'n dyled-wyr. Ac nac ar­wain ni i brofedigaeth; Eithr gwaret ni rhag drwg: Amen.

Cwest.

Pa beth ydd wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y weddi hon?

Atteb.

Yr ydwyf yn erchi ar fy Arglwydd Dduw ein Tad nefol, yr hwn yw rhoddwr pob daioni, ddanfon ei râd arnaf, ac ar yr holl bobl, fel y gallom ei anrhyde­ddu ef, a'i wasanaethu, ac ufuddhau iddo megis y dy­lem. Ac ydd wyf yn gweddio ar Dduw ddanfon i ni bob peth angenrheidiol, yn gystal i'n heneidiau, ac i'n cyrph; A bod yn drugarog wrthym, a maddeu i ni ein pechodau; A rhyngu bodd iddo ein cadw a'n amdde­ffyn [Page] ym mhob perigl ysprydol a chorphorol: A cha [...] ohonaw nyni rhag pob pechod ac anwiredd, a rhag ein gelyn ysprydol, a rhag angeu tragywyddol. A hyn yr ydwyf yn ei obeithio y gwna efe o'i drugaredd a'i ddai­oni, trwy ein Ha [...]glwydd Iesu Grist: ac am hynny ydd wyf yn dywedyd, Amen, Poet gwir.

Cwe­stiwn.

PA sawl Sacrament a ordeiniodd Crist yn ei Eglwys?

Atteb.

Dau yn unig, megis yn gyffredinol yn anghen­rhaid i Iechydwriaeth, sef, Bedydd, a Swpper yr Argl­wydd:

Cwest.

Pa beth yr wyt ti yn ei ddeall wrth y gair hwn Sacrament?

Atteb.

Yr wyfi yn deall Arwydd gweledig oddi allan, o râs ysprydol oddifewn, a roddir i ni; yr hwn a ordei­niodd Crist ei hun, megis modd i ni i dderbyn y grâs hwnnw trwyddo, ac i fod yn wystl i'n siccrhau ni o'r grâs hwnnw.

Cwest.

Pa sawl rhan y sydd mewn Sacrament.

Atteb.

Dwy, yr arwydd gweledig oddiallan, a'r gras ysprydol oddifewn.

Cwest.

Pa beth yw'r Arwydd gweledig oddiallan, neu'r ffurf, yn y Bedydd?

Atteb.

Dwfr: yn yr hwn y bedyddir un, Yn Enw'r Tad, a'r Mab, a'r Yspryd glân.

Cwest.

Pa beth yw'r grâs ysprydol oddifewn?

Atteb.

Marwolaeth i bechod, a genedigaeth newydd i gyfiawnder. Canys gan ein bod n [...] wrth naturiaeth we­di ein geni mewn pechod, ac yn blant digofaint, drwy Fedydd y gwneir ni yn blant gras.

Cwest.

Pa beth a ddisgwilir gan y rhai a fedyddier?

Atteb.

Edi [...]e [...]rwch, d [...]wy 'r hon y maent yn ymwrthod â phechod: A ffydd, d [...]wy r hon y maent yn ddiyscog yn credu addewidion Duw, y rhai a wneir iddynt yn y Sa­crament hwnnw.

Cwest.

Paham wrth hynny y bedyddir plant bychain, pryd na's gallant oherwdd ou hifi [...]ng [...]d gyflawni y pe­thau hyn?

Atteb.

Oblegid eu bod yn addaw pob un o'r ddau drwy eu mechiau, yr hwn addewid pan ddelont i oedran, y maent hwy eu hunain yn rhwym iw gyflawni.

Cwest.

Paham yr ordeiniwyd Sacrament Swpper yr Arglwydd?

Atteb.

Er mwyn tragywyddol gôf am aberth diodde­faint marwolaeth Crist, a'r lleshâd yr ydym ni yn ei dder­byn oddiwrtho.

Cwest.

Pa beth yw y rhan oddiallan, neu'r Arwydd, yn Swpper yr Arglwydd?

Atteb.

Bara a gwin, y rhai a orchymmynnodd yr Ar­glwydd eu derbyn.

Cwest.

Pa beth yw y rhan oddifewn, neu 'r peth a ar­wyddocceir?

Atteb.

Corph a gwaed Crist, y rhai y mae 'r ffyddlo­niaid yn wir ac yn ddiau yn eu cymmeryd ac yn eu der­byn, yn Swpper yr Arglwydd.

Cwest.

Pa leshâd yr ydym ni yn ei gael wrth gymme­ryd y Sacrament hwn?

Atteb.

Cael cryfhâu a diddanu ein heneidiau drwy Gorph a gwaed Crist, megys y mae ein cyrph yn cael drwy'r bara a'r gwîn.

Cwest.

Pa beth sy' raid i'r rhai a ddêl i Swpper yr Ar­glwydd ei wneuthur?

Atteb.

Eu holi eu hunain, a ydynt hwy yn wîr edifei­riol am eu pechodau, a aeth heibio, ac yn siccr amcanu dilyn buchedd newydd: a oes ganddynt ffŷd fywiol yn nrhugaredd Duw drwy Grist, gydâ diolchus gôf am ei angeu ef, ac a ydynt hwy mewn cariad perffaith â phôb dyn.

¶ Bid i Gurat pob plwyf yn ddiesceulus ar y Suliau a gwy­liau ar ol yr ail llith o'r Gosper ddyscu ar osteg yn yr Egl­wys, a holi cynnifer o blant ei Blwyf, ac a ddanfonwyd atto, megis y tybio efe fod yn gymhesur yn rhyw bart o'r Catechism hwn.

Y CATECHISM A osodwyd allan yn llyfr GWEDDI GYFFREDIN, wedi ei egluro ar fyrr eiriau.

N. neu M.] Y Mae'r henw Cristiano­gawl a roddwyd yn y bedydd, yn dwyn ar gôf y Acts 19. 4, 5. Fydd Gristia­nogawl, yn yr hon y bedyddiwyd y neb, a henwyd y pryd hynny; ac efe hefyd gan ddwyn arno henw Crist, a elwir yn 1 Pet. 4. 16. Gri­stion, ac felly a Math. 23. 8. wahanir oddiwrth ddy­nion o grefyddau eraill, megis Iddewon, Tyrciaid, a phaganiaid.

Fy nhadau bedydd a'm mammau bedydd wrth fy medyddio.] Henwau a roddid yn arferol i blant pan dderbynnid hwy i'r Eglwys drwy Luc. 2. 21. enwaediad, i'r hwn y mae Col. 2. 11, 12. Bedydd yn Sacrament cyfattebawl. A'r henwau hyn a roddid weithiau gan Gen. 21. 3. Rie­ni, ac weithiau gan Ruth 4. 17. eraill, drwy fodd y Luc. 1. 59, 60, 61. Rhieni.

Pan i'm gwnaethpwyd &c.]’ Tair Gal. 3. 27. rhagor­fraint a roddir i'r Cristion bedyddiol, neu'r Credadyn.

1. Efe yr hwn * wrth natur a Eph. 2. 12. ym estro­nasai ei hun oddiwrth Grist, a wneir yr [Page 2] awrhon yn aelod ohonaw, hynny yw, yn Eph. 5. 30. aelod or Eph. 1. 22, 23. corph dirgel hwnnw yr Egl­wys, o ba un Crist yw'r pen.

2. Gan fod yn aelod o Grist, efe yr hwn wrth natur oedd yn Eph. 2. 3. blentyn digofaint, a wneir yr awrhon yn 1 Jo. 3. 1. blentyn i Dduw trwy Gal. 4. 5. Fabwysiad, trwy Grist mab Duw wrth natur.

3. Gan fod yn fab Duw, efe yr hwn oedd wrth natur yn blentyn Colledigaeth, ac yn Mat. 25. 41. rhannog a'r Cythraul, a'i Angylion, a wneir yr awrhon yn Rhuf. 8. 16, 17. Etifedd i dduw, ac yn gydetifedd â Christ yn Luc. 12. 32. Nheyrnas go­goniant.

Hwy a addawsant ac a addunasant &c.]’ Trwy gynnal yr hen arfer o Esay. 8. 2, 3. Dystion neu feichniafon, wrth roi henwau ar Blant wrth eu bedyddio, gofal Crefyddol a gym­merir am dduwiol feithrin y Plant a fe­dyddir: yn bennaf, Rhag digwyddiad Ester 2. 7. marwolaeth, neu esceulustra y Rhieni. Er hynny y Rhieni a orchymmynnir yn eglur i fod yn Deut. 6. 6, 7. ddiwyd i ddyscu eu plant eu hunain yn Sandaidd air Duw, au Eph. 6. 4. mei­thrin hwynt yn Addysc, ac Athrawiaeth yr Arglwydd.

Tri pheth yn fy enw &c.]’ Megis y sic­crheir yn y Bedydd dair Rhagorfraint i'r neb a fedyddir, neu'r Credadyn: felly yn ei enw ef yr Deut. 26. 17, 18. addewir cyflawniad tri pheth.

1. Ymwrthod ohonof a Diafol &c.]’ Y peth cyntaf a addawyd tros yr hwn a fe­dyddiwyd, yw ymwrthodiad a'i Eph. 2. 1, 2, 3. dri gelyn ysprydol, y Cythraul, y bŷd a'r cnawd.

Y Gelyn ysprydol cyntaf yw'r Cythraul, [Page 3] yr hwn ydyw yspryd drwg, neu Angel 2 Pet. 2. 4. col­ledig, ac sydd i ni ei ymwrthod, oblegid ei fod,

  • 1. Yn temptio i bechod; ac felly a el­wir yn
    Mat. 4. 3.
    Demptiwr;
  • 2. Yn cyhuddo am bechod; ac felly a elwir y Diafol, a'r
    Dat. 12. 10.
    Cyhuddwr;
  • 3. Yn Rhwystro rhag gwneuthur Daio­ni; ac felly a elwir
    Zach. 3. 1.
    Satan, neu'r gwrth­wynebwr.

Gweithredoedd y Cythraul ydynt yn 1 Jo. 3. 8. gyffredinol yr holl bechodau a wneir yn ol ei Jo. 8. 44. siampl ef, megis Mwrndwrn, Cel­wydd ar cyffelyb.

Rhodres a gorwagedd y byd anwir hwn &c.]’ Yr ail Gelyn ysprydol i ymwrthod âg ef, yw y Gal. 1. 4. bŷd presennol drygionus hwn gyda'i wagedd.

Wrth y byd, y mae yma ei ddeall, nid y byd elfyddol; neu drefnus osodiad y Acts 17. 24. creaduriaid gweledig, y rhai ŷnt 1 Tim. 4. 4. dda; nag yn unig y Jo 15. 19. bŷd rhesymmol o ddynol ryw, yr hwn nid yw yn Phil. 2. 15. hollawl yn ddrwg; ond wrth y byd y deâllir yma y 1 Jo. 15. 19. bobl hynny o'r bŷd, a ydynt elynion i dduwiol­deb, a'r 1 Jo. 2. 15. creaduriaid eraill yn y bŷd, y rhai y mae y Cythraul, ei Jo. 14. 30. dywysog, ef yn eu harseru megis Mat. 4. 8, 9. abwydau a maglau i ddenu dynion i bechu.

Rhodres a gorwagedd y bŷd hwn, a 1 Jo. 2. 16. ddosparthir i.

  • 1. Chwant y cnawd, yr hwn yw
    2 Tim. 3. 4, 5.
    dy­fyrrwch.
  • 2. Chwant y llygad, yr hwn yw
    1 Tim. 6. 9.
    golud.
  • 3. Balchder buchedd, yr hwn yw
    Jer. 45. 5.
    An­rhydedd. A'r rhain ydynt yn dyfod i fod yn niweidiol i dduwioldeb, pan y rhoir [Page 4]
    Jac. 4. 4.
    serch arnynt yn anweddaidd, yn An­ghymmhedrol, ac yn ammhrydlon.

A holl bechadurus chwantau y Cnawd.] Y trydydd gelyn ysprydol i ymwrthod âg ef, yw Gal. 5. 24. y cnawd ai chwantau.

Wrth Gnawd yma, ni ddeallir yr amryw rywogaethau ar 1 Cor. 15. 39. greaduriaid bywiol, y rhai a wneir o gnawd Es y. 58. 7. natur dynol, na 1 Cor. 15. 50. breuol gorph dyn, y rhai a elwir weithiau yn gnawd.

Ond cnawd yw llygredigaeth Rhuf. 7. 25. anfar­weiddiedig yr enaid, yr hon sydd Rhuf. 8. 7, 8. elyni­aeth yn erbyn Duw, oblegid ei bod,

1. Yn ein Gal. 5. 17. rhwystro ni rhag gwneuthur da, ac yn 2. Yn Rhuf. 7. 23. ein tueddu ni i wneu­thur drwg.

Chwantau pechadurus y cnawd ydynt yr amryw wniau Gal. 5. 19, 20, 21. anystywallt, a Jac. 1. 14. drygio­nus drachwantau yr ewyllys, drwy ba rai y croesawir temptiasiwnau y Cythraul, ac y camarferir pethau 1 Tim. 6. 10. da'r byd i bechod.

Yn ail bod i mi gredu &c.]’ Yr ail peth a addawyd tros yr hwn a fedyddid yw Acts 8. 36, 37. Ffydd neu * Acts 26. 27, 28. greduniaeth Cristianogr­wydd.

Trwy Greduniaeth ni ddeallir yma yn unig Ffydd Historiawl, y cyfryw ûn ac a all fod gan y Jac. 2. 19. Cythraul, a dynion drwg.

Nag yn unig 1 Cor. 13. 2. Ffydd Rhyfeddodau, y cyfryw un ac a allai fod gan Suddas fradwr, a Mat. 7. 22, 23. phroffeswyr drygionus eraill ar grefydd:

Nag yn unig Ffydd Luc. 8. 13. amserol, y fâth ac a ddichon fod gan Acts 8. 13, 21. ragrithwyr.

Ond y Ffydd hon yw grasusol waith yr [Page 5] 2 Cor. 4. 13. yspryd glan, drwy'r hwn y nerthir Rhuf. 10. 10. ca­lon dyn i Jo. 3. 33. gydsynnio, ac i hyderu * ar wi­rionedd Eph. 1. 13. gair Duw, ac Esengyl Jechydwri­aeth dyn.

Gwrthedrychiad athrawiaethol Ffydd Cristion yw yn gyffredinol, yr Acts 24. 14. holl yscry­thyr lân, ac yn fwy neillduol Luc. 24. 25. holl byng­ciau y Jo. 20. 31. Grefydd Gristianogawl.

Y Ffydd hon sydd anghenrheidiol i bawb, gan ei bod hi yn ddyledswydd a or­chymmynnir gan 1 Jo. 3. 23. dduw, ar modd Marc 16. 16. heb pa un nid all dŷn fod yn gadwedig.

Yn drydydd cadw ohonof wynfydedig e­wyllys duw &c.]’ Y trydydd peth a adda­wyd tros yr hwn a fedyddiwyd yw Luc. 3. 12. ufudd­dod i Jer. 7. 23. holl ewyllys Duw, a Psal. 40. 8. ddatcuddi­wyd yn ei gyfreithiau.

Yr ufudddod hwn sydd gyffredinol

  • 1. Oherwydd y Gwrthedrychiad oble­gid fod y dŷn ufudd yn ei ddymuniad yn cadw
    Psal. 119. 128.
    holl orchmynnion Duw;
  • 2. Oherwydd y * Gorgynhwysiad ob­legid ei fod yn eu cadw hwynt, a'i
    Deut. 26. 16.
    holl galon;
  • 3. Oherwydd y Parhâd, oblegid ei fod * Gorgynhwysiad. [Page 6] ef yn rhodio ynddynt
    Luc. 1. 74, 75.
    holl ddyddiau ei fywyd.

Nid yw dŷn yn gadwedig trwy foddion y Cyfammod o Gal. 2. 16. weithredoedd, ammod pa un yw perffaith Rhuf. 10. 5. ufudd-dod, ond▪ trwy Gyfammod Gras, Rhuf. 10. 9. ammod yr hwn ydyw gwir ffydd, * etto mae'r ufudd-dod hwn, a ofynnir yn anghenrheidiol, oblegid mai trwyddo,

  • 1. Y
    Mat. 5. 16.
    gogoneddir Duw
  • 2. Yr ennyllir, ac yr Adeiladir ein
    1 Pet. 3. 1, 2.
    cymmydog.
  • 3. Y Cyfiawn heir ein
    Jac. 2. 18.
    ffydd ni ein hu­nain.

Onid wyt ti yn tybied dy fod yn rhwyme­dig i gredu, ac i wneuthur &c.]’ Credu a gwneuthur, 2 Tim. 1. 13. neu ffydd a gweithredoedd da, sydd yn cynhwys holl athrawiaeth, ac ymarfer cristianogrwydd, a'r rhain nid y­dynt i'w Acts 19. 18. gwahanu, oblegid fod Jac. 2. 20. ffydd heb weithredoedd yn farw, ac nad all gweithredoedd Heb. 11. 6. heb ffydd ryngu bodd i Dduw.

Trwy nerth Duw felly y gwnaf, ac yr wyf yn mawr ddiolch &c.]’ Heb law ein Psal. 119. 106, 107. llawn­fwriadau * ar ufudd-dod i Dduw, fe a ofyn­nir yn bennaf i ni geisio help neu gymm­orth gantho ef, fal yr ufuddhaom îddo ef. Y moddion trwy y rhai y mae ceisio Duw am gynnorthwg, ydynt Col. 1. 3. ddiolch­garwch am drugareddau ysprydol a dder­byniwyd [Page 7] yn barod, a Col. 1. 9. Gweddi am wasta­dol gynhaliaeth o'i ras tros yr amser sydd i ddyfod.

Am iddo fy ngalw i gyfryw stad Jechyd­wriaeth &c.]’ * Galwad sydd naill ai Mat. 22. 14. cy­ffredinol, ai yspysol ac affeithiol. Gal­wad cyffredinol yw hwnnw, drwy ba un y gelwir Psal. 147. 19, 20. cenedl, dinas, neu deulu i wy­bodaeth y moddion o jechydwriaeth. Gal­wad yspysol neu affeithiol yw hwnnw, drwy yr hwn y mae Duw yn Rhuf. 8. 30. galw ei 1 Pet. 2. 9. Etholedigion allan o'u cyflwr naturiol o bechod, i 2 Thes. 2. 13, 14. sancteiddrwydd, ac Jechyd­wriaeth trwy Grist Jesu; a hynny yn ar­ferol trwy'r moddion o bregethu yr Efen­gyl.

Ac mi attolygaf i dduw roddi i mi ei ras &c.]’ Er mwyn Cyflawniad pob gwei­thred dda, y mae Duw trwy ei ragflaenol râs, yn rhoi'r 2 Cor. 3. 5. ewyllys, trwy ei gynnor­thwyol râs y mae'n rhoddi y Phil. 2. 13. gallu; a thrwy ei berffeithiol râs y mae yn rhoi'r Phil. 1. 6. weithred, neu'r cwbl-had.

Adrodd i mi Fannau dy ffydd.] Athra­wiaeth y ffydd gristianogawl a draddo­dwyd gynt mewn 2 Tim. 1. 13. ffurf o eiriau, ac felly a Acts 8. 36, 37. gyffeswyd ar gyhoedd cyn derbyniad bedydd.

Y PWNGCE CYNTAF.

Credaf yn Nuw.] Y pwngc cyntaf hwn yw Jo. 14. 1. sylfaen y cwbl sydd yn canlyn.

Duw yw Psal. 90. 2. yspryd Jo. 4. 24. tragwyddol, Exod. 3. 14. han­fod yr hwn sydd ohonaw ei hun, hynny yw, yr hwn nid yw o neb arall: Ac am hynny nid oes * ond un gwîr Dduw Esay. 44. 6. yn u­nig, oddiwrth yr hwn y mae Acts 17. 24, 25. pob peth yn cael ei fod.

Dad holl gyfoethawg] Efe yw 2 Cor. 11. 31. Tad Crist er ys tragywyddoldeb, ac a elwir yn Dâd Crist ei Jo. 5. 18. hun, megis ac y gelwir Crist yn fâb Duw ei Rhuf. 8. 32. hun. Ac er mwyn Crist, Duw hefyd yw Jo. 20. 17. ein Tâd nefol ninnau, ac a ddichon wneuthur erom ni Mar. 16. 36. beth bynnag a fynno.

Creawdr Nef a Daiar.] Drwy y nef ar ddaiar y deallir yr holl Acts 17. 24. fyd, a phob peth a'r sydd ynddo, yr hyn a Heb. 11. 3. greawdd Duw o ddim trwy ei air, mewn Exod. 20. 11. chwe diwrnod, er ei Col. 1. 16. ogoniant ei hun. Ac y mae efe yn wastadol yn Neh. 9. 6. cynnal pob peth trwy yr un­rhyw Heb. 1. 3. air ei nerth.

YR AIL PWNGCE.

Ac yn Jesu Grist.] Yn yr ail pwngc hwn, yr ydym yn Acts 8. 37. proffesu ein ffŷdd ynghrist Jesu. Mat. 1. 21. Jesu sydd yn arwyddoccau Je­chawdwr, ac efe a alwyd felly, oblegid mai 'r Mab Duw hwn, yw'r unig Acts 4. 12. Jechiawdwr dynol ryw. A Crist neu'r Jo. 1. 41. Messias sydd yn arwyddoccau enneiniog; ac a alwyd felly, oblegid ei Acts 10. 38. enneinio ef i dair 1 Cor. 1. 30. swydd, yn enwedigol, i Swyddau 1 Bren. 19. 16. Prophwyd, Exod. 40. 13. Offeiriad, a 1 Bren. 1. 34. Brenhin; pa dri tan y gy­fraith a enneiniwyd mewn modd Yspysol.

Crist, fal y mae efe yn Brophwyd, sydd [Page 9] yn Luc. 4. 18. addyscu ei Eglwys oddiallan trwy ei air, ac Luc. 24. 45. oddimewn trwy ei Yspryd.

Fal y mae efe yn Offeiriad, y mae efe yn gwneuthur 1 Tim. 2. 5, 6. cymmod ei Eglwys t [...]wy Daliad yr jawn, a wnaeth efe unwaith ar y groes, a'i Hebr. 7. 25. wastadol eirioledd y mae efe fyth yn ei wneuthur ar Ddeheulaw ei Dad yn y nef.

Fal y mae efe yn Frenhin y mae 'n Eph. 1. 22. lly­wodraethu, ac yn Eph. 5. 23. amddiffyn ei Eglwys.

Ei un Mab ef.] Ynghrist y mae Mat. 1. 23. dwy natur, sef Duwiol natur, neu natur Duw; a Dynol natur, neu natur dŷn. Oher­wydd ei dduwiol natur, fe'i gelwir ef yn Jo. 1. 18. uniganedig fab Duw, ac y mae o'r Jo. 10. 30. un hanfod dduwiol a'i Dâd; Ohe [...]wydd ei ddynol natur, efe a elwir yn Mat. 16. 13. fab dŷn.

Ein Harglwydd ni.] Y titl hwn, Argl­wydd, yr hwn 1 Cor. 8. 5, 6. amryw fodd a roddir i ddynion, yma yw yspysol briodoliaeth Crist, Dat. 19. 16. Ardderchoccaf Arglwydd yr Ar­glwyddi: i'r hwn y perthyn Act. 10. 36. gyflawn Arglwyddiaeth ar bawb ac Phil. 2. 10, 11▪ ufudd-dod gan bawb.

Y TRYDYDD PWNGC.

Yr hwn a gafwyd trwy'r Yspryd Glân.] Yn y trydydd pwngc hwn y cyffesswn, pan Rhuf. 1. 3. wnaed Crist o hâd Dafydd yn ol y cnawd, fe'i Heb. 2. 17. gwnaed yn debyg i n [...] ymmhob peth, eithr Heb. 7. 26. heb bechod. Canys gan ei gael yn unig trwy Luc. 1. 35. weithrediad yr Yspryd glân yr [Page 10] oedd yn Sancteiddiolaf yn ei ddynol enaid a chorph.

A aned o Fair forwyn.] Fal y byddai Crist yn Ruth 2. 20. gâr agos ini, ac yn abl i'n pryn­nu drwy dalu ein dylêd, yn yr 1 Cor. 15. 21, 22. un natur ddynol, ymmha un yr aethom ynddi: Anghenrheidiol ydoedd, y byddai efe o Gal. 4. 4. hâd y wraig. Ac mal yr ymddangosei ei fod y Messiah, yr hwn a addawyd, ang­henreidiol oedd ei Mat. 1. 23. eni ef o forwyn o Mat. 1. 1. hiliogaeth Dafydd.

Y PEDWERYDD PWNGC.

A ddioddefodd tan Bontius Pilatus.] Yn y pedwerydd pwngc hwn, yr addefwn, ddar­fod i Act. 3. 18. Grist yn ol 1 Pet. 4. 1. prophwydoliaethau yr yscrythyr, ddioddef yn ei natur ddynol, yn gystal yn ei Mat 26. 38. enaid ai Jo. 19. 1, 2, 3. gorph; Yn ei 1 Tim. 6. 15, 16. natur ddywiol nid allai ddioddef. Ca­nys efe a Draddodwyd i Mat. 27. 2. Bontius Pilat, yr hwn oedd y pryd hynny y llywiawdr Rhy­feiniaidd yn Judaea, yr hwn gan ei fod yn wr gwedi ymroi i Luc. 13. 1. greulonder, a Mar. 15. 15. chyd­synniad pechadurus a Luc. 23. 23, 24. gondemniodd Grist i'w groeshoelio.

A groeshoeliwyd.] Megis y dŷg Gen. 22. 6. Isaac y coed, a baratowyd i'w losgi ef: felly y Jo. 19. 17. dŷg Crist ei groes ei hun. Ac megis y derchafodd Jo. 3. 14. Moses y sarph yn yr anialwch ar Drostan: fellwy derchafwyd Crist ar y groes; wrth yr non yr hoeliwyd ei Psal. 22. 16. ddwy­lo a'i draed ef.

A thrwy y gwilyddus, a'r felldigedig farwolaeth Heb. 12. 2. boenus hon, ar y groes y gwnaeth Crist 1 Pet. 2. 24. jawn tros ein pechodau, ac a'n rhyddhaodd oddiwrth Gal. 3. 13. felldith y gyfraith.

A fu farw.] Megis tan y gyfraith y rhoddwyd yr Lev. 4. 29. aberthau tros bechod i far­wolaeth: felly Heb. 9. 28. Crist trwy ddioddef an­geu, a ddaeth i fod yn offrwm tros bechod. Ac er i'w Mar. 10. 33, 34. elynion ei roi ef i farwolaeth, etto efe yn Jo. 10. 17, 18. ewyllysgar a roddodd i lawr ei einioes. A'r gwaed a dywalltodd efe oedd o brîs anfeidrol, oblegid ei fod yn Act. 20. 28. waed y cyfryw, ac oedd yn Dduw, ac yn ddyn.

Yn y farwolaeth hon, Luc. 23. 46. Enaid ein Je­chawdr a wahanwyd oddi wrth ei Luc. 23, 53. gorph, ond ni wahanwyd mo'i enaid, na'i Mat. 28. 6. gorph oddiwrth ei Dduwdod.

Ac a gladdwyd.] Crist a gladdwyd yn ol Jo. 19. 40. arfer yr Iddewon, hynny yw, a Mat. 27. 59, 60. rwymwyd mewn Bedd-ddillad gida phêr­aroglau, ac a osodwyd yn y bedd, gan dreiglo maen mawr wrth ddrws y bedd wrth yr hyn, y mae'n eglur ei fod efe yn Act. 2. 29. siccr wedi marw, ac hefyd iddo efe yn ol hynny mor Act. 13. 29, 30. siccr gyfodi oddiwrth y meirw.

Descynnodd i Uffern.] Wedi marw Crist, a'i gladdu, ei Act. 2. 31. enaid a'i gorph a barhau­sant tros amser mewn cyflwr gwahanol tan Rhuf. 6. 9. reolaeth Angeu; yr hwn gyflwr ar­wyddocceir weithiau Drwy'r Psal. 89. 48. bedd, neu 1 Cor. 15. 55. Uffern.

Yn ol y tair grâdd o Ddarostyngiad Crist, sef, ei Anedigaeth, ei Farwolaeth, [Page 12] a'i Gladdedigaeth tan reolaeth angeu: Y Canlyn y tair grâdd o'i Dderchafiad, sef ei Adgyfodiad, ei Escyniad a'i Ogoneddiad yn y nef.

Y PUMMED PWNGC.

Y trydydd dydd y Cyfododd o feirw.] Yn y pummed pwngc hwn y cyffesswn, na Act. 13. 36, 37. welodd corph Crist lygredigaeth, fel y gwnaeth cyrph y Patriarchiaid: oblegid nad oedd Act. 2. 24. bossibl ei attal ef tan feddiant marwolaeth: am hynny megis y cyfodwyd Heb. 11. 17, 19. Isaac mewn ffigûr oddiwrth y meirw: felly y cyfododd Crist Luc. 24 34. yn wir ddiau. Oblegid yr Luc. 24. 39. un corph ac enaid ein Jechaw­dr, y rhai a wahanwyd trwy farwolaeth, a ailunwyd yn ei Jo. 2. 19, 21, 22. adgyfodiad, a hynny trwy ei dduwiol Jo. 10. 17, 18. allu ei hun.

Efe a adgyfododd y Luc. 24. 46. trydydd dydd, yr hwn oedd y dydd Luc. 24. 12, 13. cyntaf o'r wythnos, ac hwn mewn Coffadwriaeth o'i adgyfodiad ef, a elwir Dat. 1. 10. dydd yr Arglwydd.

Y CHWECHED PWNGC.

A Escynnodd i'r nefoedd,] Yn y chwech­ed pwngc y cyffesswn, mai fel yr oedd yr Heb. 9. 7. Archoffeiriad tan y gyfraith yn myned unwaith bob blwyddyn i'r Cyssegr San­cteiddiolaf: felly Heb. 9. 11, 12. Crist Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, a Heb. 10. 24. dderchafodd unwaith yn Luc. 24. 51. lleol, ac yn Act. 1. 9. weledig i'r Eph. 4. 10. nef y nefoedd, fal y J [...]. 14. 2, 3 paratôei efe le i ni, ac y derbyniei ni iddo ef.

Ac y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Tâd ollgyfoethog.] Wedi i Grist escyn i'r nef, efe a Mar. 16. 19. eisteddodd neu a Act. 7. 5, 6. safodd ar ddeheulaw Duw hynny yw, megis Bren­hin, a barnwr, efe a gymmerodd ei 2 Pet. 3. 22. drig­fan Heb. 8. 1. mewn mawredd a Mat. 26. 64. gallu, Eph. 1. 20, 21. goruwch yr holl greaduriaid yn y nef a'r ddaiar.

Ac oblegid ei fod yn eistedd ar ddeheu­law y Tâd ollalluog, y mae yn gwbl abl i Psal. 110. 1. orescyn ei holl elynion, ac hefyd i Rhuf. 8. 34. ei­riol tros y rhai ydynt eiddo ef, ac i'w Dat. 3. 21. cadw yn Dragywydd.

Y SEITHFED PWNGC.

Oddiyno y daw i farnu byw a meirw.] Yn y seithfed pwngc hwn y cyffesswn, y Act. 1. 11. Daw Crist yr ail waith o'r Mat. 24. 30. nef, mewn gogoniant mawr, i Act. 17. 31. farnu y bŷd.

Yn y farn ddiweddaf hon Jo. 5. 22, 27. Crist ei hun, megis pen barnwr, a rydd y farn ddiwe­ddaf, a'r 1 Cor. 6. 2. Saint a roddant eu barn hwy­then o'u boddiant.

Pawb a fernir, yn gystal y rhai a fyddant yn 1 Pet. 4. 5. fyw, a'r 1 Thes. 4. 15. ddyfodiad yr Arglwydd, a'r meirw, y rhai a adgyfodir.

Hwy a fernir am 2 Cor. 5. 10. bob peth, a wnaed yn y corph, pa un bynnag ai da, ai drwg: a hynny wrth Dat. 20. 12. lyfr hollwybodaeth Duw, llyfr y bywyd, Rhuf. 2. 15, 16. cydwybod, a'r yscruthyr lân.

YR WYTHFED PWNGC.

Credaf yn yr Yspryd glân.] Yn yr wyth­fed [Page 14] pwngc hwn, yr ydym yn prossessu ein bod yn credu yn yr Yspryd glan, yr hwn oherwydd ei natur, yw y Jo. 5. 7. trydydd person yn yr hanfod dduwiol, ac am hynny sydd Act. 5. 3, 4. wir Dduw, ac megis y mae efe yn dei­lliaw oddiwrth y Jo. 14. 26. Tad a'r Jo. 15. 26. Mab, felly y mae efe hefyd yn Act. 13. 2. Berson Jo. 14. 16. gwahanrhe­dol oddiwrth y ddau.

Oherwydd ei swydd, efe a elwir yr Rom. 5. 5. y­spryd glân, oblegid ei fod efe yn cyflawni ein calonnau, âg ysprydol a chadwedigol ddoniau trwy ei waith o 2 Thes. 2. 13. Sancteiddiad.

Y NAWFED PWNGC.

Yr Eglwys lân gatholic Cymmun y Sainct.] Yn y nawfed pwngc hwn wrth Eglwys Dduw y deallir Eph. 2. 19. Corpholaeth, neu gyffre­din deulu yr Act. 2. 44, 47. holl wir ffyddloniaid.

Eglwys Dduw a Mat. 16. 18. sylfaenwyd ar Graig: Oblegid mai 1 Cor. 3. 11. Crist yw ei sylfaen berson­awl hi; a'r Eph. 2. 20. Apostolion a'r Prophwydi yw ei Sylfaen athrawiaethol. A'i harwyddi­on ydynt pur Act. 41, 42. bregethiad gair Duw, a dyledus weinidogaeth y Sanctaidd Sacra­mentau, gan weinidogion a Rhuf. 10. 15. elwir yn gy­freithlon.

Hi a ddosparthir i'r Act. 8. 1. Eglwys filwraidd, yr hon sydd yma, ar y ddaiar, ac i'r Heb. 12. 23. Egl­wys orfoleddus, yr hon sydd yn y nêf.

Cymmun y Saint yw'r 1 Jo. 1. 7. Rhagorfraint Gristianogol gyntaf, Oblegid, fel y mae gan Eph. 5. 23, 25, 26. ddirgel gorph yr Eglwys, undeb â Christ, yr hwn yw ei phen hi, ac am hyn­ny sydd Sanctaidd: felly y mae ynddi hi 1 Cor. 26. 27. gymmundeb yr aelodau a'u gilidd yr hwn a elwir Cymmun y Saint.

Y mae'r Eglwys yn Gatholic, neu yn gyffredinol, oherwydd Mat. 28. 19, 20. Personau, lle, athrawiaeth, ac Amser.

Y DEGFED PWNGC.

Maddeuant Pechodau.] Yn y degfed pwngc hwn, yr ail rhagorfraint gristiano­gawl yw Luc. 24. 46, 47. maddeuant Pechodau, yr hwn a bregethir i bawb, yn enw Crist, ac a se­lir yn y Act. 2. 38. bedydd, ond nid yw gyfranno­gol i'r Angylion 2 Pet. 2. 4. pechadurus.

Pechod yw 1 Jo. 3. 4. troseddiad Cyfraith Dduw, ac a Marc. 2. 7. faddeuir yn unig ganddo ef, yn er­byn yr hwn y gwneir ef.

Pechod a wahanir i bechod cynhwynol, yr hwn yw Psal. 51. 5. pechaduriaeth natur dŷn, ac i bechod gweithredol; yr hwn a Mat. 15. 19. wneir mewn meddwl, gair, neu weithred. Ar ddau fath hyn ar bechod sydd yn Rhuf. 6. 23. haeddu marwolaeth tragywyddol, ond sydd Col. 2. 13. fad­deuol drwy haeddigaethau Crist.

Y UNFED PWNGC ar DDEG.

Cyfodiad y Cnawd.] Yn yr unfed pwngc hwn ar ddêg, y trydedd Rhagorfraint Gri­stianogawl, yw Luc. 14. 14. cyfodiad ein cyrph mar wol o 1 Cor. 15. 54. lygredigaeth y bedd, i ogoniant anfarwol, drwy rinwedd 2 Cor. 4. 14. adgyfodiad Crist.

Gwirionedd y pwngc hwn a sylfaen­wyd ar 1 Cor. 6. 14. allu Duw, a'i ewyllys daf. Yr hwn a all, ac a gyfyd o feirw, yr Job 19. 26, 27. unrhyw gorph ac a fu farw.

Fe a gredwyd hyn gan y Dan. 12. 2. Tadau tan yr hen Destament, yn gystal ac y credir gan [Page 16] y Act. 24. 15. Cristianogion tan y newydd y bydd Adgyfodiad i'r cyfiawnion a'r anghyfiaw­nion.

Y DEUDDEGFED PWNGC.

A bywyd tragywyddol.] Y y deuddeg­fed pwngc hwn, y bedwaredd rhagorfraint Cristianogawl yw Jo. 5. 24. mwyniant bywyd tra­gywydddol.

Wrth fywyd yma y deallir mwyniant pob Psal. 16. 11. gwir ddedwyddwch mewn enaid a chorph, pan 1 Cor. 13. 12. gyflawn oleuir, ac y Heb. 12. 22, 23. San­cteiddir nerthoedd yr enaid, ac yr yspry­dolir y 1 Cor. 15. 44. corph ac y Phil. 3. 21. dirfawr ogoneddir ef.

I'r hwn fywyd tragywyddol y mae marwolaeth 2 Thes. 1. 3, 4. dragywyddol yn wrthwy­nebol, yr hon yw Mat. 25. 41. cyfran yr annuwio­lion.

Ar farwolaeth hon sydd yn sefyll mewn colled presennoldeb Duw, a'r holl Dan. 14. 11. gys­surau eraill, ac mewn dioddefaint Mar. 9. 44. colyn cydwybod, a Dat. 21. 8. phoenau tân uffern yn dra­gywydd.

Yn Gyntaf, yr wyf yn dyscu credu yn Nuw Dâd &c.]’ Yn yr hanfod ddywiol, yr hon nid yw ond un, y mae 1 Jo. 5. 7. tri pherson Mat. 3. 16. gwahanrhedol, sef y Mat. 28. 19. Tad, y Mab a'r yspryd glân, y Rhai a wahanir trwy eu priodoliaethau.

Priodoliaeth y Tâd yw Psal. 2. 7. cenhedlu y Mâb Priodoliaeth y Mab yw bod gwedi ei Jo. 1. 14. genhedlu o'r Tâd. Priodoliaeth yr Yspryd glân yw Jo. 15. 26. deilliaw oddiwrth y Tad a'r Mab.

Creadigaeth y byd a adroddir i'r Tâd, yr hwn a Heb. 1. 2. wnaeth bob peth drwy y Mâb a Gen. 1. 2. gweithrediad yr Yspryd glân.

Prynnedigaeth y byd a adroddir ir Mâb, megis yr 1 Tim. 2. 5, 6. unig Berson a weddai fod yn brydwerth trostynt.

Sancteiddiad etholedig Bobl Dduw, a adroddir i'r Yspryd glân, megis yspryd Sancteiddrwydd, drwy 1 Pet. 1. 2. weithrediad yr hwn y gwneir hwy yn sanctaidd.

Y GORCHYMMYNION.

Y Dêg gorchymmyn.] Er bod Psal. 119. 96. Gor­chymmyn Duw yn dra-ehang, etto efe yn ei fawr Ddoethineb, * a'i drugaredd tuag attom, a Dal-gryn-hôdd yr amryw Gy­freithiau hynny i Exod. 34. 28. Ddêg Gorchymmyn; a'r Dêg Gorchymmyn hynny i Exod. 31. 18. ddwy Lêch, pa Ddwy a Rhuf. 13. 10. gyflawnir drwy un grâs ysprydol, yr hwn yw * cariad.

O'r Gorchymmynion rhai a osodir a­llan yn Mat. 5. 33. Negyf, neu waharddol, ac sy' yn gwah [...]rdd pechodau: a rhai eraill a oso­dir allan yn erchawl neu haeraidd ac sydd yn gosod arnom ddyledswyddau.

Gorchymmyn Negyf, neu waharddol, sydd yn gwahardd pob gradd a Mâth ar bechod, a'r 1 Thes. 5. 22. annogaethau iddo; ac yn gorchymmyn y Eph. 4. 28. ddyledswydd wrthwy­nebol.

Gorchymmyn haeraidd neu erchawl, sydd yn gorchymmyn pob math a grâdd a'r ddyledswydd, a'r Rhuf. 14. 19. moddion y sydd yn [Page 18] helpu ymmlaen i'r unrhyw; ac yn gwa­hardd y pechod Mar. 7. 10. gwrthwynebol.

Y mae y Gorchymmyn yr hwn sydd yn erchi dyledswydd un a berthyn i arall, yn gorchymmyn hefyd Eph. 6. 2, 4. dyledswydd y llall, i ba un y mae efe yn perthyn.

Y rhai hynny a lerafodd Duw &c.]’ Y Deg gorchymmyn a Deut. 5. 22. draddodwyd yn gystal trwy leferydd, a thrwy yscrifenniad: Ac felly yspysol ewyllys Duw a ddospar­thir i 2 Thes. 2. 15. anyscrifennedig air Duw, a scri­fennedig.

Anyscrifennedig air Duw a draddod­wyd ir eglwys Heb. 1. 1. amryw fodd er Luc. 1. 70. dechreu­ad y bŷd, hyd amser Neh. 9. 14. Moses, ac * er am­ser Moses, y mae gan yr Eglwys y gair scrifennedig, yr hwn a elwir yr Rhuf. 1. 2. yscry­thyrau sanctaidd.

Hwy a elwir yn yscrythyrau, oblegid eu bod wedi eu Hos. 8. 12. scrifennu; a Sanctaidd, ob­legid i scrifennu gan wŷr 2 Pet. 1. 20, 21. Sanctaidd, yr rhai a ysprydoliaethwyd gan yr Yspryd glân.

Y RHAGYMADRODD.

Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddyg di &c]’ Yn y rhagymadrodd hwn i'r deg gorchymmyn y gosodir allan, awdurdod Duw, y sydd yn gorchymmyn; a rheswm o Hos. 13. 4. ufudd-dod iddo ef, yn unig.

Efe yr hwn sydd yn Gorchymmyn yw y Creawdr, ac Arglwydd goruchaf pawb oll, a Duw Gen. 6. 16. Israel ei bobl ef: Oherwydd [Page 19] hynny mae gantho Lev. 19. 37. awdurdod i osod cy­freithiau * iddynt.

Y mae dyn yn rhwymedig i ufuddhau i'r Num. 15. 40, 41. Duw hwnnw, a'i gwnaeth, a'i Jac. 4. 12. cad­wodd, ac a'i Deut. 4. 20. gwaredodd ef oddiwrth Luc. 1. 74. Gaethiwed creulon Aiphtiaidd, pechod, a'r cythraul.

Y GORCHYMMYN CYNTAF.

Na fydded i ti Dduwiau eraill, onid myfi.] Yn y Ddeddf foesawl, yr hon yw 1 Jo. 3. 22. rheol gweithredoedd da, y mae y Gorchymmyn cyntaf hwn, y sydd yn perthyn i gydna­byddiaeth Duw, yn gwahardd y pechodau hyn:

  • 1. Pechod Dynion didduw, y rhai
    Psal. 14. 1.
    ni­chydnabyddant fod un Duw.
  • 2. Pechod y rhai sydd yn
    Gal. 4. 8.
    gwasanae­thu gau Dduwiau.
  • 3. Pechod y sawl nid ydynt yn
    2 Bren. 17. 33, 34.
    gwa­sanaethu y gwîr Dduw, yn unig, ac yn jawn.

Yr unrhyw orchymmyn sydd yn gor­chymmyn y dyledswyddau hyn:

  • 1. Ini gydnabod nad oes
    Marc. 12. 32.
    ond un Duw.
  • 2. Bod gennym yr
    1 Cor. 8. 6.
    unig wir Dduw, yn Dduw i ni:

Yr hyn sydd raid ymddangos drwy ein bod

1. Yn ei
Marc. 12. 30.
garu
ef vwch law pawb eraill.
2. Yn ei
Mat. 10. 28.
ofni
3. Yn
Dih. 3. 5.
ymddiried ynddo
4. Yn
Act. 5. 29.
ufuddhau iddo

YR AIL GORCHYMMYN.

Na wna i ti dy hun &c.]’ Yn yr ail gorchymmyn hwn, y sydd yn perthyn i Addoliant Duw, y gwaherddir y pecho­dau hyn:

  • 1. Gosod un
    Lev. 26. 1.
    mâth ar Ddelw, † er A­ddoliad Crefyddol.
  • 2. Addoliad y cyfryw ddelw, neu
    Datc. 22. 8, 9.
    un Creadur arall.
  • 3.
    Rhuf. 1. 25.
    Esceuluso addoli y gwir Dduw.
  • 4. Ei
    Mat. 15. 8, 9.
    addoli yn ol gau fodd:

Oblegid fod yr Arglwydd yn Dduw Esay. 42. 8. eiddigus ac yn gospwr Deut. 8. 19. tost o ddelw­addolwŷr.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorch­ymmynnir y dyledswyddau hyn:

  • 1. Addoli yn grefyddol Duw yn
    Mat. 4. 10.
    unig yn ol ei
    Lev. 10. 1.
    ordinhâd ei hun.
  • 2. Ei addoli ef yn gystal mewn
    Psal. 95. 6.
    corph ac
    Jo. 4. 23.
    enaid.

Ac i'r cyfryw Addolwyr, y rhai sydd fel hyn yn caru yr Arglwydd, ac yn ufuddhau iddo ef, yr Jo. 9. 31. addawodd efe ei yspysol dru­garedd.

Y TRYDYDD GORCHYMMYN.

Na chymmer enw &c.]’ Yn y trydydd gorchymmyn hwn, yr hwn sydd yn per­thyn i enw Duw, y gwaherddir y pecho­dau hyn:

  • 1. Meddyliau
    Job. 1. 5.
    anhybarch o Dduw.
  • 2.
    Datc. 13. 6.
    Cabledd, neu ddianrhydeddus gryb­wylliad am ei enw. 20
  • [Page 21]3.
    Zech. 8. 17.
    Llw celwyddog yn haeru anwiredd.
  • 4.
    Mat. 5. 33.
    Anudonedd, neu dorriad llw cyf­reithlon.
  • 5.
    Rhuf. 2. 24.
    Peri i enw Duw, a'n Proffess san­ctaidd gael eu cablu gan eraill.

Ar cyfryw bechodau yn enwedig a 2 Sam. 12. 14. fwgythiodd Duw ei hun eu cospi.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorchym­mynnir y dyledswyddau hyn:

  • 1.
    Psal. 103. 1, 2.
    Synnied, a llefaru yn barchedig am henwau a Phriodoliaethau Duw.
  • 2.
    Act. 13. 48.
    Ei ogoneddu ef yn ei air Sanctaidd, a'i ordinhadau, y sydd yn dwyn ei enw.
  • 3.
    Deut. 6. 13.
    Arfer ei enw gyda pharch wrth gym­meryd llyfon Crefyddol.
  • 4.
    Jer. 4. 2.
    Cadw y cyfryw lyfon gyda chrefyd­dol ofal a chydwybod.
  • 5.
    1 Tim. 6. 1.
    Gogoneddu Duw, drwy ein ymar­weddiad Cristianogawl.

Y PEDWERYDD GORCHYMMYN.

Cofia gadw yn sanctaidd &c.]’ Y pedwe­rydd gorchymmyn hwn sŷdd ynghylch Sabbath yr Arglwydd, yr hwn sydd i'w gadw yn sanctaidd, neu i'w Deut. 15. 19, 20. sancteiddio, hyn­ny yw, i'w neillduo oddiwrth gyffredin i sanctaidd Arfer.

Duw a Gen. 2. 3. sancteiddiodd y seithfed dydd, wedi iddo orphen ei weithredoedd o'r creadigaeth cyntaf; ac yn Exod. 31. 16, 17. ol hynny, efe a orchmynnodd i'w bobl ei sancteiddio ef.

Yn ol Adgyfodiad Crist, yn lle y seith­fed dydd o ddechreuad y Creadigaeth, y cadwyd y dydd cyntaf o'r wythnos, yr [Page 22] hwn a elwir Datc. 1. 10. dydd yr Arglwydd; * a hyn a wneir yn ol Jo. 20. 19, 26. arfer Crist, a'i Act. 20. 7. ddyscy­blion.

Yn y Gorchymmyn hwn y gorchym­mynnir gwiliadwriaeth yspysol, ar wasa­naethau Duw, ar y dydd hwnnw, y cyfryw ydyw. 1 Act. 16. 13. Gweddi, 2 Act. 13. 44. Traethiad, a gwran­dawiad ei air, 3 Act. 20. 7. Ymgyfranniad yn ei Sacramentau, 4. 1 Cor. 16. 1, 2. Cynnorthwyo y Sainct, ac 5. Myfyrio ar ei weithredoedd o Psal. 92. Titl a'r 4, 5. G [...]ea­digaeth, a Deut. 5. 15. Phrynnedigaeth.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gwaher­ddir ein Esay. 58. 13. Anturiau, a'n Neh. 13. 15. Gorchwylion bydol ar y dydd sanctaidd hwn: oddieithr y cyfryw rai ac sydd yn perthyn i weithre­doedd Mat. 12. 5. duwioldeb, Luc. 6. 9. cariad, Luc. 14. 5. Angenno­ctid, neu harddwch Luc. 6. 1. neu dacclusrwydd.

Rhaid Esay. 66. 23. cofio bob dydd am gadw yn sanctaidd y seithfed dydd hwn, a Neh. 13. 17. lly­wodraethwŷr sydd i beri i bawb y sydd ta­nynt ei gadw.

Y PUMMED GORCHYMMYN.

Anrhydedda dy Dad a'th Fam &c.]’ Yn y pummed Gorchymmyn hwn, yr hwn yw gorchymmyn rhwng perthynas, ac sydd yn perthyn i barch dyn, y gorch­mynnir dyledswyddau Isafiaid a Vwcha­fiaid taag at ei gilydd.

Gan Blant tuag at eu Rhieni y gofyn­nir [Page 23] Anrhydedd yr hwn sydd yn cynnwys 1. Lev. 19. 3. Ofn, 2. Gen. 31. 35. Anrhydedd, 3. Eph. 6. 1, 2. Ufudd-dod, ac 4. 1 Tim. 5. 4. Maentumiant ac ymgeledd, ar beiau Lev. 20. 9. gwrthwynebol a waherddir.

Y Gorchymmyn hwn sydd yn perthyn nid yn unig i Rieni Heb. 12. 9. naturiol, ond y mae'n cyrhaedd hefyd at Isai. 49. 23. swyddogion yn y stât, 1 Cor. 4. 15. Gweinidogion yn yr Eglwys, a 2 Bren. 5. 13. Meistred mewn Teuluoedd, y rhai hefyd a elwir yn Dadau.

Dyledswyddau ailddychweledig Vcha­fiaid tuag at Isafiaid, a osynnir yn yr un ffunud, yn y Gorchymmyn hwn, yn en­wedigol, dyledswyddau Rhieni Eph. 6. 4. naturiol, Psal. 78. 70, 71. swyddogion, 1 Pet. 5. 2. Gwenidogion yr Eglwys, a Col. 4. 1. Meistred. A'r beiau Psal. 106. 37. gwrthwynebol a waherddir.

Ac yma hefyd y Gorchymmynnir 1 Pet. 3. 1, 7. dy­ledswyddau gwyr a gwragedd tuag at eu gilydd.

Ac i annog pawb yn eu dyledswyddau ymgyffattebawl tuag at eu gilydd y mae yma Eph. 6. 2, 3. addewid yspysol wedi ei gyssylltu, a'r gorchymmyn hwn.

Y CHWECHED GORCHYMMYN.

Na Ladd.] Yn y chweched gorchym­myn hwn, yr hwn a berthyn i einioes dyn, y gwaherddir y pechodau hyn:

  • 1.
    1 Jo. 3. 15.
    Casineb.
  • 2.
    Mat. 5. 21, 22.
    Digter Diachos a dialedd.
  • 3.
    Psal. 64. 3.
    Gwradwyddiadau chwerwon.
  • 4.
    Deut. 22. 8.
    Arfod o dywall Gwaed.
  • 5.
    2 Sam. 12. 9.
    Dychymmyg marwolaeth dyn.
  • 6.
    Exod. 21. 14.
    Gweithredol a gwirfodd laddiad dyn.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorch­mynnir, cadwriaeth einioes dyn,

  • 1. Trwy
    Eccl. 10. 17.
    brydlawn, a
    1 Tim. 5. 23.
    chymmhedrol Arfer o greaduriaid Duw, a ordeiniwyd i'r Diben hwnnw;
  • 2. Trwy bwyllog
    Mat. 10. 23.
    ochelyd Peryglon.
  • 3. Trwy ffo oddiwrth bob pechod, ac yn neillduol oddiwrth
    Psal. 55. 23.
    lofruddiaeth ac aflendyd * y rhai a ddeallir eu bod yn y­spysol yn ddinistriol i
    Dih. 5. 11.
    gorph ac
    Dih. 6. 32.
    enaid, y sawl a'u gwnelo.

Y SEITHFED GORCHYMMYN.

Na wna odineb.] Yn y seithfed Gor­chymmyn hwn, a berthyn i ddiweirdeb dŷn y gwaharddir

Godinebus neu anllad 1.
Mat. 5. 27, 28.
Feddyliau,
2.
2 Pet. 2. 14.
Olygon,
3.
Dih. 7. 10.
Ymwisgiad,
4.
Eph. 5. 3.
Eiriau,

5. Gal. 5. 19. Gweithredoedd torpriodas a godi­neb, ac hefyd 6. Luc. 16. 18. Priodasau anghyfrei­thlon.

Heb law y pechodau hyn, y sydd yn fwy uniawngyrchiol yn erbyn y gorchymmyn hwn, y gwaherddir hefyd y Cyfryw be­chodau ac sydd achosawl ir rhain; megis, 2 Sam. 11. 2. seguryd, Jer. 5. 7. gormodedd mewn bwytta ac yfed, a'r cyffelyb.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorchym­mynnir Diweirdeb, a gweddeidd-dra mewn 1 Thes. 4. 4, 5. meddyliau, 1 Pet. 3. 2. ymddygiad, a 1 Tim. 2. 9. dillad megis hefyd 1 Pet. 5. 8. sobrwydd, a gwiliadwr­iaeth.

YR WYTHFED GORCHYMMYN.

Na ladratta.] Yn yr wythfed Gor­chymmyn hwn ynghylch da gwr, y gwa­herddir y pechodau hyn:

  • 1.
    Jo. 12. 6.
    Deisyfiadau trachwannog.
  • 2.
    Esay. 1. 23.
    Derbyn gwobrau anghyfiawn.
  • 3.
    Jac. 5. 4.
    Attaliad pethau dyledus i eraill.
  • 4.
    1 Thes. 4. 6.
    Somiant, neu ladrad twyllodrus.
  • 5.
    Luc. 3. 14.
    Gorthrymder, neu yspail treisiol.
  • 6.
    Mal. 3. 8.
    Cyssegr-ladrad, neu yspeilio Duw.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorchym­mynnir y dyledswyddau hyn:

  • 1.
    Rhuf. 13. 7.
    Rhoi i bawb yr hyn sydd ddyleddus iddynt.
  • 2.
    Eph. 4. 28.
    Byw mewn Galwedigaeth gyfrei­thlon.
  • 3.
    2 Thes. 3. 11, 12.
    Bod yn ddiwyd yn yr alwedigaeth honno.
  • 4.
    Ezek. 33. 15.
    Talu adref yr hyn a ladrattawyd.
  • 5.
    Dih. 3. 27, 28.
    Rhoi yn gariadus i'r Tlodion.
  • 6.
    Dih. 29. 24.
    Gochelyd cymdeithas trosedd wŷr y gyfraith hon.

Y NAWFED GORCHYMMYN.

Na ddwg gam dystiolaeth &c.]’ Yn y nawfed Gorchymmyn hwn, y sydd yn perthyn i enw da dyn y gwaherddir y pe­chodau hyn:

  • 1.
    Eph. 4. 25.
    Celwyddau.
  • 2.
    1 Sam. 22. 13.
    Eiddigedd diachos.
  • 3.
    Exod. 23. 1.
    Codi,
    Psal. 15. 3.
    cymmeryd i fynu, neu
    Dih. 10. 12.
    gy­hoeddi gau * a maleisus chwedlau.
  • [Page 26]4.
    1 Bren. 21. 9, 10.
    Dwyn i mewn, * neu roi calon mewn gau Dystion.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorch­mynnir y dyledswyddau hyn, y fy'n cyn­nal Eph. 4. 15. gwirionedd, a chariad:

  • 1.
    Zec. 8. 19.
    Caru, a
    Eph. 4. 25.
    dywedyd y gwîr.
  • 2.
    Phil. 4. 8.
    Cadw ein enw daf.
  • 3.
    Act. 25. 8.
    Ein ymwared ein hunain yn bryd­lon, a'n
    Luc. 23. 41.
    cymydogion gwirion rhag cam.
  • 4.
    1 Pet. 4. 8.
    Cuddio gwendid rhai eraill.

Y DEGFED GORCHYMMYN.

Na chwennych dy dy Gymmydog &c.]’ Yn y degfed gorchymmyn hwn, y sydd yn perthyn yn yspysol i Ddymuniadau dyn, y gwaharddir,

1. Yn gyffredinol, Rhuf. 7. 7. Trachwantau pe­chadurus, a'n Jac. 1. 14. cynnhyrfiadau cyntaf o ly­gredigaeth cynhwynol.

2. Yn nejllduol, chwennychiad Mic. 2. 2. tŷ, Jer. 5. 8. gwraig, Gwasanaethddynion, a'r Act. 20. 33. da­oedd eraill fydd yn perthyn iddo ef.

Yn yr unrhyw orchymmyn y gorchym­mynnir y dyledswyddau hyn:

  • 1
    1 Cor. 9. 25.
    Rheoli ein gŵniau.
  • 2.
    Tit. 2. 12.
    Attal dymyniadau pechadurus.
  • 3.
    Heb. 13. 5.
    Bod yn fodlon i'n cyflwr presen­nol, Ac er mwyn cael y bodlondeb hwn, rhaid i ni arferu y moddion, yn enwedi­gol:
Myfyr­dod ar 1.
1 Cor. 7. 20.
Ordinhadau Duw.
2.
Eccles. 5. 10.
Annigonoldeb y creaduriaid.
3.
Gen. 32. 10.
Ein Annheilyngdod ein hu­nain.

Yr wyf yn dyscu dau beth fy nyled tuag at Dduw &c.]’ Y ddwy Mat. 22. 40. Gangen o Ga­riad tuag at Act. 24. 16. Dduw a dyn sydd yn per­ffeiddio dyledswydd Cristian, ac nid yd­ynt i'w 1 Jo. 4. 21. gwahanu.

Luc. 10. 27. Duw sydd raid ei garu vwchlaw pôb peth, a hynny er ei fwyn ei hun Lev. 19. 18. Cym­mydog dyn sydd raid ei garu, fel ef ei hun, a hynny er mwyn Duw.

Cymmydog dyn * yw Rhuf. 13. 8. neb rhyw ddyn arall heb ei law ef ei hun, y sydd yn sefyll mewn Luc. 10. 29, 33, 36, 37. eisieu o'i gymmorth ef, er ei fod o Jo. 4. 9. Genedl, neu grefydd arall, ië er ei fod ei Exod. 23. 4, 5. elyn proffessol ef.

Y mae dyn yn caru ei gymmydog fel ef ei hun, pan garo efe ef, a'r un mâth ar gariad, a ddŷl efe iddo ei hun, a hwnnw * yw

  • 1. Yn
    Luc. 6. 32.
    bur, nid er elw;
  • 2. Yn
    1 Jo. 3. 18.
    gywir, nid ffugiol;
  • 3. Yn
    2 Tim. 3. 2, 4.
    gymmhedrol, neu yn llai na'i gariad tuâg at Dduw;
  • 4. Yn
    Lev. 19. 17.
    waraidd, gan ofalu mwy am yr enaid, na'r corph;
  • 5. Yn
    1 Pet. 4. 8.
    wresog, ac yn ddianwadal.

—Yr hwn a raid iti ddyscu yn wastad ymo­ralw amdano trwy ddyfal weddi.] Gwe­ddi yw galwad ar Dduw â'r Hos. 7. 14. Galon, ac weithiau à'r Act. 7. 60. Lleferydd, yn gystal mewn Luc. 11. 2. ffurf osodedig ar eiriau, ac mewn 2 Sam. 15. 31. arfo­dol neu achosawl ymadroddion.

Gweddi a ddylid ei gwneuthur,

  • [Page 28]1. At
    Rhuf. 10. 14.
    Duw, megis yr
    Mat. 4. 10.
    unig gwrthe­drychiad o addoliant crefyddol;
  • 2.
    Jac. 1. 6.
    Mewn ffydd, ac
    1 Jo. 5. 14.
    yn ol ewyllys Duw;
  • 3.
    Psal. 145. 18.
    Mewn purdeb calon, ac
    Neh. 2. 4, 5.
    ymarfer o'r moddion i gael y poth, a erfynnir;
  • 4. Trwy
    Jo. 16. 23.
    Gyfryngiad Crist, * a
    Mar. 11. 25.
    cha­riad tuâg at Ddynion;
  • 5. Gida
    Jac. 5. 16.
    Thaer-der, a
    Luc. 18. 1.
    pharhânt.

Gweddi yr ARGLWYDD.

Yngweddi yr Arglwydd (yr hon a el­wir felly, oblegid ei Luc. 11. 1, 2. dyscu i ni gan ein Harglwydd Iesu Grist) y cynnhwysir y Rhagymadrodd, * chwe Erch, a'r Mawl­ymadrodd, neu'r Cloedigaeth.

Y RHAGYMADRODD.

Ein Tâd ni, yr hwn wyt yn y Nefoedd,] Yn y Rhagymadrodd hwn fe 'n dyscir i gyfeirio ein gweddiau at Galar. 3. 41. Dduw yn y ne­foedd: oblegid efe yn unig sydd bresen­nol 1 Bren. 8. 38, 39. ym mhob man i dderbyn ein holl er­fynion er na bont, ond gwedi eu bwriadu yn y galon.

Megis y mae efe ein Tad ni, * y mae efe yn Mat. 7. 11. barottaf i'n cynnorthwyo, ac ny­ni a ddylem ddyfod atto â gostyngedig 1 Jo. 5. 14. hyder.

Mal y mae efe yn y Nefoedd, y mae efe yn Psal. 115. 3. aplaf i'n helpu, ac nyni a ddylem [Page 29] ddyfod atto ef â sanctaidd Eccles. 5. 2. barchediga­eth.

Yn Gymmaint ac y'n dyscir ni i ddy­wedyd ein Tâd ni; fe'n gorchymmynnir i 1 Thes. 5. 25. weddio y naill tros y llall, megis Bro­dyr, ac nyni a ddylem ddyfod at Dduw mewn Zeph. 3. 9. Brawdgarwch.

YR ARCH CYNTAF.

Sancteiddier di enw.] Y mae y tri Arch cyntaf, neu ddeisyfiadau yn perthyn i ogo­niant Duw; y tri diweddaf a berthynant i'n anghenrheidiau ein hunain.

Yn yr Arch cyntaf hwn, fe'n dyscir ni i ddeisyf, ac ymgais yn Psal. 148. 13. gyntaf, ac yn bennaf dim, ogoneddiad sanctaidd enw Duw.

Wrth henw duw y deallir yn gyffredi­nol, 1 Bren. 5, 5. Act. 7. 47. Duw ei hun, yn neillduol

y deallir 1. Ei
Exod. 6. 3.
Ditlau, megis Arglwydd Duw, &c.
2.
Exod. 34. 5, 6.
Ei briodoliaethau, megis ei Drugaredd, Cyfiawnder, &c.
3.
Psal. 138. 2.
Ei goffadwriaethau, megis ei Air, ei Ddydd, &c.

Lev. 10. 3. Sancteiddio sy'n arwyddoccau cysse­gru i Arfer sanctaidd, neu ogoneddu:

Yn gymmaint a'n bod ni yn yr Arch hwn, yn gweddio na chabler Rhuf. 2. 24. enw mawr ein Duw, a'n proffes sanctaidd, eithr ei Psal. 72. 19. ogoneddu ef gennym ni ein hunain, ac eraill, ym 1 Pet. 3. 15. meddwl, Rhuf. 15. 6. gair a Mat. 5. 16. gweithred.

Yr AIL ARCH, neu ddeisyf.

Deued dy Deyrnas.] Yn yr ail Arch hwn, [Page 30] y dyscir ni i weddio, ar i deyrnas Dduw * gael ei chadarnhau; ac i wrthwynebol deyrnasoedd y cythraul, Rhuf. 5. 21. pechod, a mar­wolaeth gael ei dinistrio.

Teyrna [...] Dduw sydd o dair mâth

Teyrnas 1. Gallu,
2. Grâs,
3. Gogoniant.

1. Teyrnas gallu yw honno, trwy ba un y mae Duw Psal. 110. 2. yn rheoli ar yr holl greadu­riaid, er mai ei broffessol elynion ydynt. Ac am hon y gweddiwn, a'r iddo drefnu Psal. 67. 3, 4. pob peth er gogoniant ei enw, a daioni ei bobl.

2. Teyrnas grâs yw honno, drwy ba un y mae duw yn Heb. 1. 8. rheoli ynghalonnau ei blant, trwy ei air a'i yspryd, Ac am hon y gweddiwn a'r iddo ein Col. 1. 13. gwared ni o fe­ddiant Tywyllwch, gynnhyddu ein rhad­au, ac helaethu ei Efengyl.

3. Teyrnas gogoniant, sydd yn y Luc. 23. 42, 43. nef. Ac am hon y gwediwn, a'r i Dduw ddi­bennu y dyddiau hynny o bechod, a danfon ei Mat. 25. 34. fab Jesu Grist yn y Cymmylau er cwplhâd ein Jechydwriaeth.

Wrth weddio ar i Datc. 12. 10. Deyrnas Dduw ddyfod, yr ydym yn demunad i'w y­sprydol lywodraeth ef gael ei sefydlu lle nis derbyniwyd hi; ac iddi gael ei Mic. 4. 8. helae­thu, lle y derbyniwyd hi yn barod.

Y TRYDYDD ARCH.

Bid dy ewyllys &c.]’ Yn y trydydd [Page 31] deisyf yma y traethir y defnydd, a dull ein ufudd-dod i Dduw.

Defnydd ein ufudd-dod yw, y gwnelid Luc. 22. 42. ewyllys Duw, ac nid ein ewyllys ni. Ac ewyllys Duw sydd o ddau fâth

sef 1.
Deut. 29. 29.
Dirgel, a
2. Datcuddiedig.

Am Ddirgel ewyllys Duw, yr hwn sydd yn gofyn Act. 21. 13, 14. ufudd dod goddefawl, yr yd­ym yn gweddio am amyneddus Mat. 26. 42. ymost­yngiad iddo ef.

Am Psal. 40. 8. ewyllys Duw a ddatcuddiwyd yn ei air, yr hwn sydd yn gofyn ufudd-dod Act. 9. 6. gweithredol, yr ydym yn gweddio, ar­iddo ef yn gystal ein Psal. 143. 10. dyscu ni i'w wy­bod, a'n nerthu i'w gyflawni.

Dull ein ufudd dod yw patrwm yr Psal. 103. 20. An­gelion sanctaidd yn y nef, y rhai sydd yn gwneuthur ewyllys Duw yn berffaith: ca­nys y maent yn gweini iddo, 1. Job. 1. 6. Yn barod, 2. Esay 6. 2. Yn fuan, 3. Psal. 103. 21. Yn ffyddlon, ac 4. Mat. 18. 10. Yn wastadol.

Y PEDWERYDD ARCH.

D [...]ro i ni heiddiw &c.]’ Yn y pedwe­rydd Arch hwn, fe'n dyscir ni i broffessu * ein hyder ar dduw am Act. 17. 25. y bywyd hwn, a'i gynnheiliaethau.

Wrth Psal. 37. 25. fara y deallir yr holl gyssurau oddiallan anghenrheidiol i'r bywyd hwn.

Trwy 2 Thes. 3. 12. ein bara, y deallir yr hyn a geir trwy foddion union a chywîr wrth fara beunyddiol, y deallir yr hyn sydd Dih. 30. 8. gym­mhesur i'n cyflwr presennol a'n Achosion.

Trwy ddywedyd wrth ein tâd nefol, do­ro i ni ein bara yr ydym yn dymuno, ar ei roddi * i ni a'i Exod. 23, 25. Dadol fendith.

Trwy ddywedyd, heiddiw, yr ydym yn dangos ein Exod. 16. 4. bodlondeb a'n anghenreidiau presennol, a'n brŷd ar 1 Thes. 5. 17. barhau ein gwe­ddiau beunyddiol.

Ac wrth weddio fel hyn, yr ydym 1. yn rhoi ein Phil. 4. 6. gofal ar Dduw, 2. yn cael Mat. 7. 11. pe­thau da ar ei dadawl law ef, ac 3. y sanctei­ddir ei Tim. 4. 4, 5. ddaionus greaduriaid i ni.

Ac os gofynnir gennym fal hyn geisio beunydd ymborth i'n Cyrph breuol, Mat. 6. 33. mwy o lawer yr ŷm yn rhwymedig i Jo. 6. 27. la­furio am ysprydol ymborth ein eneidiau.

Y PUMMED ARCH.

A maddeu i ni ein Dyledion, &c.]’ Yn y pummed deisyf hwn, yr hwn a gyssylltir â'r pedwerydd, y dyscir ni i ymbil * Psal. 7. 11. bey nydd am bardwn am bechod, megis yr yd­ym ni beunydd yn deisyf ein lluniaeth anghenrheidiol.

Wrth Mat. 18. 32, 35. Ddyledion neu droseddiadau y deallir pechodau, drwy ba rai ein gwneir yn ddyledwŷr i gyfiawnder Duw; yn gym­maint mai duw yma yw y Psal. 51. 4. Coeliwr, Esay. 53. 6. dŷn y dyledwr, a Christ y mâch.

Am hynny y gweddiwn: 1. na ofyn­no Psal. 130. 3. Duw gennym y fforffed am bechod, 2. iddo derbyn yr jawn a wnaeth 2 Cor. 5. 21. Crist trosom ni, ac 3. Iddo ef er mwyn Eph. 4. 32. Cristein [Page 33] rhyddhau ni oddiwrth y ddyled. Ac fel­ly maddeuant yw gweithred o 1 Jo. 1. 9. gyfiawnder Duw, oherwydd Crist; ond gweithred o Mic. 7. 18. drugaredd i'r pechadur.

Ein Maddeuant ni o droseddau rhai e­raill a arferir gennym megis rheswm wrth Dduw, a rhwymmedigaeth arnom ein hu­nain. Ein Rheswm neu'n Dadl yw hyn, os Luc. 11. 4. nyni, y rhai ydym barod i ddial, a allwn trwy ras Duw faddeu i eraill; pa faint mwy y maddeu efe i ni, yr hwn sydd anfeidrol mewn trugaredd. Ein rhwymedigaeth yw maddeu i Mar. 11. 25, 26. eraill, megis yr ŷm yn ewyllys­sio, ar i dduw faddeu i ninnau.

Y CHWECHED ARCH.

Ac na arwain ni i brofedigaeth, &c.]’ Yn y chweched Arch, yr hwn a gyssylltir â'r pummed, y dyscir ni i weddio am ymwa­red oddiwrth Rhuf. 8. 1. feddiant, Pechod, megis yr ŷm yn gweddio yn yr Arch o'r blaen, gael ein hymwared oddiwrth ei euogrwydd ef, a'i ddamnedigaeth.

Yr ŷm ni yn gweddio tan ammod, os rhyngeu bodd i Dduw, gael ohonom ein Dat. 3. 10. gwaredu oddiwrth brofedigaeth: ond yr ym yn gweddio yn ddios gael ein Jo. 17. 15. gwared oddiwrth ddrygioni y brofedigaeth.

Er rhyngu bodd i Dduw ein profi ni, etto nid yw efe yn briodol yn Jac. 1. 13. temptio, neu'n denu i ddrwg: er hynny am, ein pechodau, efe a all yn gystal oddef i 2 Sam. 24. 1. 1 Chron. 21. 1. Satan ein tem­ptio ni i bechod, ac hefyd 1 Sam. 16. 14. dynnu oddiwrth ym gymmorth ei lân yspryd.

Os gwêl duw yn dda i ni gael yn temptio, ein gweddi yw, ar iddo ef

1.
Psal. 23. 4.
fod gida ni yn
y brofedi­gaeth.
2.
1 Cor. 10. 13.
ein cynnal ni tan
3. ein
a Pet. 2. 9.
gwared ni allan o'r

Y mae 'r drygwr, yr hwn yw Satan, a'r dryg-beth, yr hwn yw pechod: ac yr ydym ni yn gweddio gael ein Psal. 119. 133. hym wared oddi­wrth lywodraeth y ddau. Oblegid mai Mat. 26. 41. gweddi yw r modd yspysol i'n cadw ni rhag perigl temptiad i ddrygioni.

Y MAWL YMADRODD:

Canys eiddot ti yw'r deyrnas &c.]’ Y cloe­digaeth hwn ar weddi yr Arglwydd sydd ffurf yn gystal oddiolchgarwch, y cyfryw ac a 1 Chron. 29. 11. arferwyd gynt gan Ddafydd, ac hefyd yn rheswm, pa ham yr ydym yn cynhyrchu ein rhagddywededig ddeisyfiadau i'n tad nefawl. Y rheswm yw, oblegid mai iddo ef y perthyn Psal. 96. 7, 10. pob Arglwyddiaeth, gallu, a gogoniant.

Wrth Deyrnas y deallir Awdurdod, a Psal. 22. 28. chyfiawnder Arglwyddiaeth ar bawb.

Wrth Allu, y deallir 2 Chron. 20. 6. ollalluog rymmus­der i orchymmyn neu lywodraethu pawb.

Wrth ogoniant y deallir y Datc. 5. 13. cyfryw An­rhydedd a'c sydd yn deilliaw allan o ardder­chowgrwydd daioni Duw, a'i fawredd, yr hwn sydd ddyledus iddo ef oddiwrth yr holl greaduriaid.

Trwy yn oes oesoedd, y dangosir,, er bod Dan. 2. 37. Arglwyddiaeth, Gallu, a Gogoniant, yn perthyn mewn rhyw ystyriaeth i Dywyso­gion daiarol; etto o'r 1 Tim. 1. 17. dechreuad, yn o­ruwchafaidd a thragywyddolaidd maent yn perthyn yn unig i Dduw.

Amen, neu Jer. 28. 6. poed felly, sy' yn arwyddoc­cau 1 Cor. 14. 16. boddiant, 2 Cor. 1. 20. siccrwydd, a 1 Bren. 1. 36. Deisyfiad cwblhâd

Pa beth yr wyt ti yn ei erchi ar Dduw yn y weddi hon?] Y mae pedair rhan mewn gweddi; sef: 1 Tim. 2. 1. Darostyngedig ymbil, erfyn­iad, Eirioledd, a Thaliad Diolch.

[Page 35] 1. Ymbil, neu wrthddeisyfiad, a wneir er mwyn Hos. 14. 2. gochelyd drwg pechod, neu gospe­digaeth. Ac i hon y perthyn Dan. 9. 3, 4. cyffes pecho­dau, ac ymgrefyddu.

2. Erfyniad, neu ar-ddeisyfiad a wneir, er mwyn Phil. 4. 6. cael doniau ysprydol ac amserol.

3 Eirioledd, neu Jac. 5. 16. dros-ddeisyfiad a wneir tros y sawl, y mae Duw yn erchi i ni weddio trostynt.

4 Heb. 13. 15. Taliad diolch a ddychwelir am y do­niau a dderbyniwyd, ac i'r rhan hon y per­thyn canu Psal. 81. 1, 2, 3. psalmau, a chadwriaeth gwle­ddau crefyddol.

Y mae gweddi yn rhag ddarbod Jac. 1. 5. Teim­lad Eisiau, a thaliad diolch yn rhagsynniaw Psal. 103. 2. Teimlad mwyniant.

Pa beth bynnag a Psal. 119. 4, 5. orchmynnodd, neu 1 Chron 17. 23. addawodd Duw yn ddinam, mae'n rhaid gweddio amdano yn ddinam neu os: a'r­peth a Psal. 119. 133 wahardd efe yn hollawl, mae'n rhaid yn hollawl weddio yn ei erbyn.

Y peth a orchymmynodd neu addawodd Duw tan Luc. 22. 42. ammod; rhaid gweddio amdano tan yr unrhyw ammodau.

Y SACRAMENTAU.

Dau Sacramentau yn unig &c.]’ Megis yr oedd dau brif Sacrament o'r hen Desta­ment; sef Exod. 12. 48. Enwaediad, a'r Pasc: felly y mae dau Sacrament o'r Testament newydd; sef 1 Cor. 12. 13. Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.

Trwy Fedydd, yr hwn sydd Col. 2. 11, 12. gyfattebol i enwaediad y Act. 2. 42. derbynnir ni i Eglwys Grist: A thrwy Swpper yr Arglwydd, yr hon sydd 1 Cor. 5. 7, 8. gyfattebol i'r Pasc, y Act. 2. 42. maethir ni yn yspry­dol.

Bedydd sydd yn gosod allan Jo. 3. 5. anedigaeth newydd, ac am hynny ni finistrir mono ef [Page 36] ond unwaith, oblegid nid rhaid geni dyn ond Jo. 3. 4. unwaith. Swpper yr Arglwydd sydd yn gosod allan 1 Cor. 11. 33. ymborth ysprydol: ac am hynny fe'i ministrir yn 1 Cor. 11. 26. fynych, oblegid mai anghenrheidiol i ddyn gael yn fynych ei luniaethu.

Arwydd gweledig oddiallan, a ordeiniodd Crist ei hun &c.]’ Crist yn ei rasusol ym­ddarostyngiad tuag attom ni, a ordeiniodd arwyddion Sacramentaidd

  • 1. I
    Gal. 3. 1.
    hyfforddio ein dealltwriaeth.
  • 2. I
    Luc. 22. 19.
    adnewyddu ein coffadwriaeth.
  • 3. I
    Zech. 12. 10.
    annog ein Tueddiadau.

Megis y moddion i dderbyn &c.]’ Y mae yr arwyddion oddiallan yn Gen. 17. 11. arwyddoccau, Mat. 26. 26. yn rhoi ger bron, ac Rhuf. 4. 11. yn selio y rhadau y­sprydol i'r derbyniwr credadwy.

Dwy ran.] Arfer yr arwyddion oddi­allan, yn gystal yn y Mat. 28. 19. Bedydd, a 1 Cor. 11. 23. Swpper yr Arglwydd, a warantir drwy orchymmyn Duw: a lleshâd y rhadau oddimewn, yn gy­stal yn y Sacrament Act. 2. 38, 39. cyntaf, a'r y ail, a sic­crheir trwy Addewid Duw. 1 Cor. 10. 16.

Dwfr yn yr hwn y trochir y neb a fedyddir &c.]’ Bedydd sydd yn arwyddoccâu Act. 22. 16. gol­chiad, neu, ad ddodiad dwfr trwy Act. 8. 38. drochi, neu Heb. 10. 22. daenellu, yn Mat. 28. 19. enw y Drindod fendi­gaid.

Mae Mat. 3. 14. Angenrhaid bod ddyn wedi ei ol­chi, yn rhagsynniâw halogiad: ac y mae halogiad pechod, yr Psal. 51. 2. hwn sydd yn diwyno yr enaid, yn rhagsynniaw anghenrheidiol­deb gael o ddyn ei Heb. 9. 14. fedyddio yn enw duw ei hun, Ac nid yn enw 1 Cor. 1. 13. creadur yn unig, er 1 Cor. 1. 14, 15. rhagored fyddo.

A marwolaeth i bechod, &c.]’ Trwy fe­dydd neu olchiad Dwfr yr arwyddocceir, ac y selir Tit. 3. 5. golchiad adenedigaeth, a sancteid­diad [Page 37] yr yspryd; er Act. 22. 16. Glanhâd, a Rhuf. 6. 3. marweid­diad pechod. Ac er Rhuf. 6. 4. adgyfodiad i newydd­ [...]eb buchedd.

Gan ein bod wrth naturiaeth wedi ein geni mewn pechod &c.]’ Y mae tair ystad dyn yn y bŷd hwn,

  • 1. Ystad
    Eccl. 7. 29.
    diniweidrwydd, ymha un y creuwyd y dŷn cyntaf ar
    Gen. 1. 26.
    ddelw ei wneu­thurwr; yr hon oedd yn sefyll yn bennaf mewn
    Col. 3. 10.
    Doethineb
    Eph. 4. 24.
    cysiawnder, a gwir san­cteiddrwydd yr Enaid.
  • 2. Ystad
    Rhuf. 5. 12.
    pechod i'r hon y syrthiodd dŷn trwy anufudd-dod, ac ymmha un y genir
    Eph. 2. 3.
    pob dŷn wrth natur.
  • 3. Ystad
    Rhuf. 6. 14.
    grâs, i ba un y gwaredir dyn trwy
    Eph. 2. 4, 5.
    Grist.

Edifeirwch drwy'r hon y maent yn ymwr­thod a phechod;] Edifeirwch a ffydd ydynt y ddwy athrawiaeth gristianogawl bennaf a bregethwyd gan Mar. 1. 14, 15. Grist, a'i sanctaidd Heb. 6. 1. A­postolion.

Y mae gan wir Edifeirwch, yr hon yw Act. 26. 20. dychweliad oddiwrth bechod at Dduw, bedair rhan, yn enwedig, nid amgen nag

1. Cystudd calon, neu 2 Cor. 7. 10. dduwiol dri­stwch, yr hwn sydd yn gosidio 2 Sam. 24. 10, 17. mwy am y pechod, nac am y gospedigaeth.

2. Cyffes pechod, yr hon sydd yw gwneu­thur yn wastad i 1 Jo. 1. 9. Dduw, ac mewn rhyw gy­flyrau i Jac. 5. 16. ddynion.

3. Taliad adref, neu Adferiad, mewn Rhyw gyflyrau, yr hwn sydd raid ei wneu­thur i'r neb y gwnaed y Ezek. 33. 15. cam âg ef, ac i'r Num. 5. 8. cyfryw eraill ac yr ordeiniodd Duw.

4. Ymchweliad, yr hwn yw Ezek. 18. 21. Troead od­diwrth bob pechod cadnabyddus, i Eph. 5. 11. ymar­fer y ddyledswydd wrthwynebol.

Ffydd drwy'r hon y maent yn credu Adde­widion [Page 38] Duw &c.]’ Yr un ffydd, yr hon sydd yn cydsynnio yn gadarn i Byngciau y ffydd, sydd hefyd yn Heb. 11. 13. ymwascu âg addewi­dion yr Efengil: ac a Heb. 10. 22. llawn siccrwydd yn eu had-ddodi, megis wedi eu gwneuthur i ni gan Dduw, yr hwn sydd Heb. 11. 11. ffyddlon, ac Rhuf. 4. 20, 21. abl i'w cyflawni hwynt.

Paham y bedyddir plant buchain, &c.’ Y mae 1 Cor. 7. 14. plant buchain aelodau Teuluoedd Cristianogawl, mor gymmwys i dderbyn lleshâd cyfammod Duw wrth eu Act. 16. 33. bedyddio, ac yr oedd Deut. 29. 10, 11, 12. plant gynt mewn teuluoedd crefyddol i'w derbyn i gyfammod â Duw wrth Gen. 17. 13. enwaedu arnynt. A'r plentyn a enir yn Act. 22. 28. freiniol, sydd ganddo gymmaint cy­fiawnder i ragorfreintiau dinas, a'r hwn a bwrcasodd ei ddinasfraint â swm o arian.

Oblegid eu bod yn addaw pob un o'r ddau trwy eu meichiau:] Megis yr Jachawyd plant gan Grist ar ffydd eu Mar. 9. 17, 24, 25. tadau, Mat. 15. 22, 28. mam­mau, a'u Luc. 7. 2, 3, 9, 10. ceraint eraill; felly Act. 16. 15. teuluoedd cyfan a dderbyniwyd i'w glanhau trwy fe­dydd, ar broffes eu ceraint megis eu meich­niafon.

Y rhai pan ddelont i oedran, y maent hwy eu hunain yn rhwym i'w gyflawni.] Fal nall all plant bychain, a phobl weiniaid eraill trafyddont y cyfryw rai, gyflawni Rheol yr Apostlo 2 Thes. 3. 10. weithio am eu bara, ac etto yd­ynt yn rhwym i weithio pan allant, fellŷ plant, a phobl diwybod, pan ddelont i Jo. 9. 21. oedran, ac yn gymmhwys i gymmeryd Athrawiaeth, ydynt yn Rhwym i weithredol gyflawniad Act. 17. 30. Edifeirwch, a Act. 19. 18. ffydd, y rhai a addawyd trostynt wrth eu bedyddio.

Er mwyn tragywyddol gof am aberth &c.]’ Yr ail Sacrament o'r Testament newydd a elwir yn yr yscrythyr lân, yn 1 Cor. 10. 21. fwrdd yr Ar­glwydd, [Page 39] 1 Cor. 11. 20 Swpper yr Arglwydd, a Act. 20. 7. thoriad bara. Ac y mae yn dwyn henw yr Argl­wydd lesu Grist, gan ei fod yn goffadwria­eth safadwy o'r Heb. 10. 12. Aberth ohono ef ei hun, a offrymmwyd unwaith: âc felly sydd i ba­rhau yn ei Eglwys, hyd ei ail 1 Cor. 11. 26. ddyfodiad, yn niwedd y byd.

Bara a gwin.] Fe ryngodd bodd i Grist osod allan ein cyfagosaf gymmundeb âg ef, trwy Jo. 1. 12. dderbyn ac Jo. 6. 53. ymborth ar luniaeth, trwy'r hwn y cynnhalir ein Jo. 6. 57. bywyd.

Lev. 26. 26. Bara yw Math ar ymborth anghenrhei­diol o wasanaeth mwyaf cyffredin, beuny­ddiol, ac Jachusol: A'r gwîn yw gwlybwr, yr hwn sy'n gwasanaethu, nid yn unig i dor­ri k 1 Tim 5. 23. syched, ond hefyd i gynnorthwyo gwen­did corphorawl. Yn gymmaint a bod Psal. 104. 15. Ba­ra a Gwin, gan eu bod yn rhagoraf yn eu Rhyw, yn gosod allan yn gymmhwys, Y Jo. 6. 57. lluniaeth perffaith ysprydol hwnnw y sydd i'w gael ynghrist.

Corph a gwaed Crist, &c.]’ 1 Cor. 11. 23. Y bara yr hwn a dorrir, sydd yn arwyddoccau 1 Cor. 11. 24. corph a dorrwyd trosom ni: a'r Mat. 26. 27. gwin a dywall­tir allan, sydd yn arwyddoccau Mat. 26. 28. gwaed Crist a dywalltwyd trosom.

Y Bara a'r Gwin y rhai a finistrir, ydynt yn arwyddoccau, ac yn selio Jo. 6. 51. rhoddiad Crist â holl leshadau ei 1 Cor. 11. 26. farwolaeth i'r gwir Jo. 6. 35. gredadyn.

Corph a gwaed Crist a dderbynnir yn Jo. 6. 55 wîr ddiau i Jo. 6. 56. galon y Cymmunwr tei­lwng trwy râd Jo. 1. 12. ffydd.

Cael cryfhau a diddanu ein eneidiau &c.]’ Megis y mae'r enaid neu'r dyn oddifewn, sy' yma i'w borthi, yn Dih. 18. 14. yspryd: felly y mae corph a gwaed Crist yn Jo. 6. 63. ymborth ysprydol, ac i'w dderbyn mewn Jo. 6. 64. modd ysprydol.

Y Mat. 26. 26, 29. Bara a'r Gwin ar fwrdd yr Arglwydd ni newidir monynt yn eu natur, ond yn eu harfer neu gwasanaeth, gan eu bod yn ar­wyddion oddiallan a ordeiniwyd yn ol na­tur Sacramentau, i 1 Cor. 11. 25. arwyddoccau rhyw beth y sydd oddimewn a yn ysprydol.

Eu holi eu hunain &c.]’ Er mwyn teilwng dderbyniad y Sacrament Sanctaidd hwn, y gofynnir 1 Cor. 11. 28. ymholi o ddyn ei hun, yr hyn sydd yn bwrw fod cryn ddigonedd o Gwers 29. wybo­daeth gan y cymmunwr.

Mae'n rhaid i ni ein holi ein hunain yn­ghylch y neillduol bethau hyn:

  • 1.
    1 Cor. 11. 31.
    Diragrithrwydd ein hedifeirwch am bechodau, a aethont heibio.
  • 2. Ein
    Esay. 1. 17, 18.
    brŷd i adgyweirio ein buchedd dros yr amser sydd i ddyfod.
  • 3.
    Jo. 7. 37, 38.
    Ymarfer gwîr ffydd, gan sychedu ar ol Crist.
  • 4. Ein
    Act. 2. 46, 47.
    Diolgarwch i Dduw am y doniau y Dderbynnir yma ganddo ef.
  • 5. Ein
    1 Cor. 11. 33.
    cariad tuag at ddynion gan roi yn ewyllysgar, a maddeu iddynt; megis y mae
    Mat. 10. 8.
    duw yma yn gwneuthur yn rasusol a
DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.