[...]
A daliodd fel y dyle,
Lawer o'u ffeiriade;
I gael barnu 'rheini 'n rhwydd,
Wrth arwydd e'u llythyre.
Un Wakman â addawse
Am bymtheg mîl o bune:
Wenwyno 'r BRENIN yn ddi ffael
Yn gyflŷm ond Cael Cyfle.
O hynny cafodd wakman
Ymlaenllaw, gan un Colman,
Bum mîl o bune o aur di brin
Am wneuthyr hyn ei hunan.
Er maint oedd brâd Papistied
A chythryfwly cythreilied:
I Charles ein brenin hyd yn hyn
Ni allasant ronyn niwed.
Danfoned saith ar unwaith
I newgat am draetturiaeth:
Mae trî yno etto am e'u bâr,
Cadd padwar e'u marwolaeth.
Ag amriw mwy a gymred,
Wrth eilwaith ddyfal chwilied;
[Page 6] A diengodd llawer drôs y môr,
Pan gaethodd ar e'u gweithred.
Cadd rhai am ddrwg ddyfeisio
I'n Teyrnas, eu chwarterio;
A rhai sydd etto ynanad nêb,
Ond rhyfedd hêb eu treio.
A thros nemor o amser,
Yr oedd y plott ysceler,
Yn sefyll ar air ôts ei hun,
A lw yn erbyn llawer.
Gan ryfedded fydde
Glywed y fâth bethe,
Llawer oedd yn ame 'n hîr
Nad oedd yn wîr ei eirie
Nes rhoddi o Dduw drachefen
Ir byd oleini amgen
Drwy syrthio 'n llwyr o fawr eu llŵg
Iw hynod ddrŵg eu hunen▪
Mae Duw 'mhôb oes yn gyfion
Yn gweled pôb dirgelion
Gan gosbi 'rheini a fo ar fai
A gwared y rhai gwirion.

Y môddy brâdychoddy Papistiad yr Justus o heddwch, sef (Syr Edmondbury godffrey) o fewn ychydig amser ar ôl dechreu datcuddio 'r Plott.
Ar fesur triblaen.

NI fedre 'rhain orffwyso
Gan yspryd drŵg yn gweithio
Iw gyru i gario 'r plott i ben
Hwynt hwy a fentrien fwrdrio
Syr Edmondbury godflre,
Oedd farnŵr gwâr a gare:
Am wneud Cyfrawnder ymhôb pêth,
Yn ôl y gyfreth ore.
Hwnnw a dderbyniasau,
Ddatguddiad ôts or dechreu:
Ag a roddase ei lŵ ar lawr,
Ei fwriad ai fawr eiriau.
Am hyn yn ddirfawr, darfu
I lîd papistiaid nynnu
Gan fyfyrio yn ôl eu rhiw
A 'u dichell iw frâdychu
Mwy nag un cwmpcini
A gafodd eu cyflogi
Gan ryw rai ô uchel râdd
I lâdd Syr Edmyndburi
Y rhain ag amriw erill
A nynne er mwgn enill
I wnêud, trwy gel, heb warth na gwyl
Y ffiedd orchwyl erchill
Yn hyn o derfyn darfy
I lû mewn gwisgoedd gasglu
Oll yn gyttyn wedi 'm roi
Yn frŷd awchus oi frâdychu
Gan yrru'n chwyrn i chwilio
Y ffordd a raethe i rodio
Ryw wŷr milen ar eu mael
Ar feder Cacl ei fwrdrio
Nhw wilien hyd gornele
Oni ddoe i fyned adre
Ynghylch naw ar y glôch o nôs
Gwedi iddo aros orie
Dau agymrau arnynt ffrauo
Un arall a ae i ddymyno
[Page 9] Ar iddo ddyfod er mwyn Duw
Wr tynner iw cyttuno
Naccae êf ar y dechreu,
Yn daerach crefen hwythau
Gan ddeud mae ef oedd farnwr hedd
O wŷch rinwedd au dychrynau
Wrth eu tŵyll, ir tywyllwch
Cyn gweled moi dirgelwch
Ae êf o ran cyflawni ei lŵ
Yn rhwydd i gadw 'r heddwch
Pan gowsant êf ir cyfle
Rhoent am ei wddw 'n droue
Iw dynu yn groes liain crŷ
Waith hagar oni thege
Ai bwnio au traed au gliniau
Hyd ei frest ai fronau
A wnent tra gwelent hyll oedd hyn
Fôd anadl ffûn iw enau
Grîn oedd fulen garw,
Y droe, ag a nyddau ei wddw:
Ei lêf oedd gaeth, gan faint ei gur
Gwnênt ef ar fyr yn farw.
Gwedi lâdd nhŵ ai teflen,
I stafell master goden
ag ênt adre bawb mor hŷ
Au brud ar gelu 'r gelen
Ymhen y teirnos ynno,
Y doe prâns a bedlo:
I gael llewyrch ar y lle
Y base'r godde, ai guddio.
Y pumed nôs, y gelen
Mewn garw fôdd y garien
O drê lunain tuar wlâd
Ar dawiad nhw ai gadewen.
Wrth hôff eiriad eu ffeiriade
Rhoent yn ei goludd gledde
Fel y tybie lawer dŷn
Mae ei lâdd ei hun a wnaethe
Ei deulu oedd wŷr dylion
Eu 'mddygiad, ai gymdogion,
Gan ryfeddu a synnu yn siŵr
O golli 'r barnwr Cyfion
Ei frâdwŷr a wnent stori
Yng hylch Syr Edmundburi
Ei fôd êf wedi mynd ir wlâd
Mewn bwriad iw briodi
Ar gelwydd rhai a goelie,
Ai ddyfal ddisgwyl adre,
Nes datguddio cyn pen hîr
Y gelen i dîr gole.
Ar ôl hyn, meddylied
Yn oesdad, mae papistied,
O lîd i'r barnwr cyfiawn hêdd
Oedd athraw 'r ffiedd weithred.
Ein Brenin, a addawe
Roi pum cant o bune
A hefyd nawdd yn rhwydd i rhai,
Yn ufuddol ai cyfedde
Er hyn ymroent i gelu
Hyd ange, o ran eu tyngu
I gyd wadu 'r weithred hon
Cyn dichon ei frâdychu
Nes darfod i Dduw weithio,
Ar galon william bedlo,
I ddatguddio 'r dwyll drwy fôd
Cydwybod yn e'u briccio,
Yr hwn er pan ddarfase
Llâdd yr justus gedffre
Oedd anesmwyth iawn a dwl
O feddwl nes cyfadde
O achos y bradychiad
Hwnnw, daeth cyhoeddiad,
A goleini fel hael hâf
O ddechreu codfa 'r cydfrad
Llawer oedd yn amme
Mewn dychryn ar y dechre
Nes dyfod mwy i brifio 'r peth
O bûr dystiolaeth ole
Doe prans, a dygdal, nhwthau
I gywir wiro 'r geiriau
Ag amryw eraill heblaw 'r hain
Wŷr cywrain iw cyfaddau
Tored am draeturieth
Ben arglwydd stafford y maeth
A llawer o rhai isel râdd
Or fulens a gàdd far woleth
Mae pedwar Argwydd etto.
Yn y Tŵr yn tario,
Yn diodde am eu beie ai bâr
Enw o garchar ynno.

Ail ddichell y Papistiaid, pan [...]welsant fethu 'r gyntaf.
Ar y mesur, (trwm galon,) nou (heauie heart.)

PAn ddealltodd y papistiaid
Gyda eu hathro ffaelio 'eu gweithred
Ymroen yn hyll rhag colli 'n angall
I fyfyrio rhyw ffordd arall
Drwy ryfygu i dyngu dynion
Ar eu Celwydd bôb anedwydd bawb yn udon
[...] ddadlu na doedd ôts a bedla
Ond ffeils wŷr ffiedd, ag or diwedd, iw gwradwgddo.
I ddau ŵr a ddaeth or werddon
Cynygien aur ag arian ddigon
A bôd yn ddiangol os nhw a dyngen
A roent yn groew yn y sgrifen
I gael dysgu eu gwers yn bersfaith
Oyn mynd iw holi, i roi cyfri ir gwŷr o gyfraith
Ag yno helien ryw rai eilwaith,
I wirio eu geirie, yn dŷst ole, o gam dystiolaeth
Yn ddi gelwydd cênt o gyflog
Bum cant o bune gan rai enwog
Ai rhoddi i gadw 'r pryd presenol
Yn lle gonest mewn llaw ganol
[Page 14] Gan obeithio, os troent hyn heibio
Y doent i ddial yn ddiattal ymlaen etto
A phan ddoent i raynio'r deyrnas
Y Caen hwythau, yma swyddau, Cymwys addas.
Ond bwrwr plott oddiwrth y Papist
Ar y ffyrnig nonconfformyst
Ag ystyrio 'r Presbyteriaid
Mewn an harddwch i gynhyrfiad
A denu 'r prodesdaniaid beunudd,
I ymranu yn ddi gelu i lâdd eu gilidd
Hawdd pan hitio ddotio or ddeutu
I ffydd Rusen, Godi eu hunen, gwedi hynny
Gan y pâb disgwilient fendith
Am ddiflanu 'r gwûg or gwenith
Ni ddoe iddynt ronyn niwed
Er rhoi ar eu twrca 'r hereticiaid
I ddwyn eu ffŷdd i ddawn hôff addas
Gellent losgi, er daioni, drê a dinas
A chent yn Rufain barch a chariad
A bôd mewn enw, gwedi 'marw, yn dda eu cymeriad.
Am bôb amhuredd nid am heuen
Yn eu rhyfyg dan Bâb Rufen
Fe a roese rydid iw ffeiriade
Iw glanhau o'u holl bechode
Ag i wneuthur rhai yn seintie
[Page 15] Os dioddefan megys Colman heb gyfadde,
A llawer gwell nag aur nag arian,
Oedd absoliwsiwn gyda eu pardwn rhag y purdân.
Am fôd mewn ffydd iw mam yn ffyddlon
Hwy a Gent fynd ir nêf yn inion,
Agore Peder ddrŵs ar ddiben
Ond rhoi arwydd o dre Rufen,
O ran nhw a heudden wrth eu gweithred
Gael lle yno am ystyno'r prodesdantied;
A bôd hesyd mewn tanghefedd,
A rhagor freintie gida seintie i gid yn sanctedd.
Na chredwch, gwiliwch ofer goelion,
A gwael doraeth papist dewrion,
Gwelwch hylled e'u dichellion,
Ai dull au geirie i dwyllo 'r gwirion;
Ond bydde hardda i wŷr y werddon,
A gwell eu synwyr, fôd yn gywir, dan 'y goron,
Na mynd im drechu ar ddŵg drachwant,
Drwy dyngu llyfon mawr yn udon ymwaredant.
Diame fôd y deyrnas yma
Yn waeth na Sodom, a Gomora,
Ag o achos ein pechodau,
Rym yn hauddu pôb dialeddau;
Er hyn maeDuw 'n ei hoedi 'n rhyfedd,
Er mwyn rhai duwiol, sydd yn eiriol am drygaredd
[Page 16] Mae 'n deallu ym hôb tywyllwch
Eu holl feie, a daw ir gole a phôb dirgelwch.
Dymyned pawb a garo heddwch,
A byw 'n llon-addas mewn llynyddwch,
Ar i dduw gadw 'n, BRENIN Siarlas
Mewn hir gadernid yn ei deyrnas,
I ddal yn ddilys gyda ei ddeiliaid
I fynu 'r fengil, er maint bustyl y papistiaid,
A gweddiwn hwyr a bore
Ar Dduw 'n ddyfal, a eill attal, e't hôll blottie.

Deongliad y Cydfradwriaeth diweddar, yr hwn a elwir (Cydfradwriaeth y whigs,)
Ar y don (hay boys up go wee.)

MAe rhai 'n y byd mewn llid yn llwŷr
A bŷchan a gwŷr y gwirion,
Yn taflu eu beiau or nail i'r llall
I dwyllo 'r angall deillion.
Er ymdrechu yma dro, a rhedio mewn anrhydedd,
A'i saethe dwys daw'r ange du, i'n dofi yny diwedd.
Wrth gimin sy'n yn Teyrnas ni
O'u bryntni gwedi breintio:
[Page 17] Ni wŷr un dŷn a chalon rwydd,
Gan gelwydd beth iw goelio.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saethe dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Y Duw sy'n rhoi pob perffaith rôdd,
A liniodd y calonnau:
Y fe a wŷr pa rai sydd lân,
Ag aflân eu meddyliau.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saethe dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Deled tâl yn ôl eu ffŷdd,
I'r nifer sydd anufydd:
Nad allo rhain er dallu rhai,
Ddim niwed ai plott newydd.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saethe dwys daw'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Os by arglwydd Russel dro,
Yn treio gwneud traetirieth:
A chapten Walcott, Rows, a Hoân,
Yn erbyn Cyfion gyfreth.
Er imdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saethe dwys doy 'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Y Rhai amcanasent er eu mael,
Yn fyan gael gorthafieth:
[Page 18] Er Cynint oedd eu grym a'u grâdd
Yn filen a gadd farwoleth.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saet he dwys doy 'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Oedd arnynt eifie aur na chlôd,
Wŷr hynod ond Brenhiniaeth:
Y peth nid oedd fe 'i gwŷr un duw,
Yn deilwng iw gwaedoliaeth.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saet he dwys doy 'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Am fwriadu gwneuthur brâd,
Ar lêd 'y wlâd oludog;
Digwyddodd iddynt yn ddiffael,
Yn gyflym gael eu cyflog.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd:
A'i saet he dwys doy 'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Pan oeddent barod yn eu brŷd,
A'i Harmi eu gŷd i godi;
Mewn rhwydd fôdd ordeiniodd Duw,
Wŷr hyddysg iw cyhoeddi.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd.
A'i saet he dwys doy 'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Siasbri ffel a ganfu frû,
Fod cwmmwl dû yn dyfod;
[Page 19] I ffwrdd i holand hwylie am hyn,
Yn gyfrwys cyn y gafod.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys doy 'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Tan lawer brest a bron mae briw,
O arhos asbriw siasbri;
Gadawodd yn y deyrnas hon,
Wŷr mawrion mewn mieri.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, iw dofi yn y diwedd.
Cadd safio ei ben wrth fynd or bŷd,
Cyn dyfod prŷd Cyfadde;
Mae ef mewn daear nôs a dydd,
Rhai erraill sydd yn diodde.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Y pethau hyn oedd yn eu bryd,
Gael newid y Rheolaeth;
Drwy wyrdroi 'r ffydd ar fyr o dro,
A sgubo pob Esgobaeth.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Eu Bwriad meddent oedd ynawr,
Ar gadw, i lawr babyddieth;
[Page 20] Wrth hunny yr holl frâd a wnen,
A elwen yn dduwiol-waith.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Duw a wyr pwy sy ar y gwir,
Yn cario clîr feddyliau;
Aphwy sy berigl, a di bûr,
Fel dreigie i wneuthur drygau.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Duw, drefno i rhai sy a meddwl swrth,
Farn gyfion wrth y gyfreth;
Ag an cadwo'ni 'n ddinam,
Rhag deilio a cham dystioleth.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Gwilied pawb a gredo i grist,
Rhag moli'r Anghrist milen;
Na rhoi moi ben i fynd dan bwys,
Y rhyfig Eglwys Rhufen.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Mae'r Anifel yn ei nyth,
Ai dylwyth gyda'i delwau;
[Page 21] Am hyn o 'mrafel yn ddinam,
Yn chwerthin am ein pennau.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys aaw'r ange dû, i'n dosi yn y diwedd.
Cynhalied Duw ein Brenin pûr,
Yn enwog gusur ini;
Ai gysion aer iw gofio 'n ail,
Yn arail i reoli.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Rhoed Duw wir galon ddoeth wrth raid,
Iw holl gynghoriaid tirion;
A grâs iw ddeilied ymhôb man,
I fyw'n gywyr dan y Goron.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.
Os gofyn rhai pa'run wy f fi,
Ai Whigg, ai Tori dygyn;
Nid yr un ond dŷn fel dûr,
Ai fron yn bûr iw Frenin.
Er ymdrechu yma drô, a rhodio mewn anrhydedd;
A'i saet he dwys daw'r ange dû, i'n dofi yn y diwedd.

Gwall-gwymp amriw bobl.
Ar y mesur (Gadel y Tîr) neu (Leaue Land.)

BU prinder a drudaniaeth drô,
Ond darfy anghofio 'r Cyfan;
Er Cael llawnder ni wellhawn
Yn feilchion 'r awn yn fyan.
Ni by 'r byd erioed mor bur,
Am scrythyr, a phregethau;
Na gwell nag amlach gyfraith gaeth,
Na dynion waeth, eu doniau.
A pha dôe gyfnewid flîn,
Ni fyddau hyn, ryfeddod;
Os iw gwyr mawrion a gwyr mân,
Heb gadw glân, gydwybod.
Aeth cydwybod yn ddi wâd
I dario i ryw wlâd arall
Am dani yn siŵr nid oes fawr sôn
Gan ddynion oerion îrwall.
By cariad farw yn y fan
A ffydd sydd wan o soweth
[Page 23] Er pan aeth cydwybod dda
I ffordd oddiyma ymeth
I'w bronau llîd a ddaeth iw llê.
A hyn addiwyne ddynion,
Oddiwrth drawsder eger hîr
Ni 'm weryd rhai Gwyr mawrion.
Balchder aeth yn fawr dros ben,
A hîr gynfigen a fagwyd;
A godineb gyda ni
Sydd gares i seguryd.
Aeth twyll a rhagrith yma 'n rhwydd
Yn fawr ei swydd o soweth
Nid elli ymddiried am y gwîr
Ith gyd amal hîr gydymeth
Nid eill nêb gadw dros fawr drô
Iw ran moi eiddo ei hunan,
Nes dobri gŵr o gyfreth draw,
Ag iro ei law ag arian.
Cariad perffaith aeth ar ffo
Oddiyma i rodio ar rwydeb,
I ryw le i dario dros y traeth
O Lundain aeth ffyddlondeb.
Mae gwŷr mawrion yn ein mysg
A gafodd addysg ddigon,
Yn byw yn waeth ond dyna wall
Nar gwerin angall gwirion.
Rhai Sydd ail i
Act. 18. 12. 15.
gallio heb gêl,
Yn ddirgêl, yn eu ymddygiad
Heb fod yn dwymyn nag yn oer
Fel llugoer
Datcudd, 3. 14. 15.
Laodiceaid,
Er ffŷdd, cyd-ddwyn y rhain a phwys,
A rhyfyg eglwys Rhufen,
Yn ddiddig am y caffon 'nhŵ,
Yn heini eu cadw eu hunen
Gwasaneuthu'r diafl yn lle duw
A wnant drwy fŷw'n afrolus,
Ar gasglu aur yn daer wŷr del
Mae eu meddwl uchel awchus.
Ar y rhain os tru y rhod,
Er enill clod drachefen
Fe dron hwythau'n ddigon ffel
Yn gynar fel y gywnen.
Y barnwyr gwiliwch, byddwch bur,
I gyd, ar gwŷr Eglwysig;
[Page 25] Na chytunwch er mwyn budd,
A theulu 'r
Sef pabyddiaeth.
ffŷdd addolig.
I rhai yn llwyr a aeth oi lle,
Dâ fydde edifeirwch;
Gochelwth goel athrawon
Ffals.
Gau,
I ffordd o'u rhwydau rhedwch.
Os angrist ddaw i riwlio'r bŷd,
Ni pheru ond enyd fechan;
Cadwed Cristion ar bob tro,
Ei ffydd heb willio allan.

Englynion o gyngor i gymro.

Pôb Cymro a gredo i grîst, oi galon
Gwilied y Papist;
Uno ai hathro athrist,
Er Cael Clôd neu gôd iw gist.
Ag na addola ddelwe, hudol
Na hyder ar seintie;
Dâ ddywed dy weddie
O fron jawn i Frenin nê.
Gwêl nad eill angel help i'n, na phâp,
Na phapist Cyffredin;
Na neb roddi amddiffyn
Onid Duw i enaid dŷn.
Ffyddia i grist a ffŷdd gre, y BRENIN,
A brynodd eneidie,
Trwyddo ef a fy'n diodde
Cur, o'i nerth y Ceir y ne'.
Yn ol ange cei nê unwaith, yn hyffordd,
Neu uffern farwolaeth
Nid iw purdân baban bêth,
Adeilad, ond hudolieth.
Ffydd yn dwyn bûdd i babyddion, rhufen
Ai rhyfedd ddychymygion,
Ffŷdd a wna wledydd Tlodion,
A ffydd hyll ffiedd iw hon.
[...]
[...]
Ar Dduw dymunwn ymhob damwain,
Ar iddo ymddiffyn Brenin Brydain:
Ag iddo gael wrth fodd ei galon,
Yn Gelanedd ei Elynion.
Ymrown yn ddyfal i weddio
Am hir Enioes Charles i ray nio,
Yn Gyfrodedd ceir hyfrydwch
Dan bur hafedd buler he dwch.

Cyugor yr awdwr i'r gwaith,

Y gwîr addas, sy gwedi roddi,
Mewn Jaith iawn, beth a wnai a thi:
Ni wrendu un llwdwn ymma yn Llwnden
Y geiriau yn bûr a ddaw oth ben.
O blîth saeson duon dôs,
Dan wyr ffyrnig na phoena di 'n aros,
Yn Lloeger y mae llygru
Pôb Llawenydd o newydd i ni.
Oddiwrthif y maith yn ddi 'maros,
Cymer daith, I gymru dos.
Yn Gynta dos i gant o dai
[...]mhûr gyfanedd Abergyfeni,
[Page 34] Chwilia'n fanwl sir fynwy,
Ei threfydd man a thrafel mwy.
I Aberonddu o bûr rinwedd,
Dôs yn rhwydd, a dewis yr hedd.
I Sîr forganog dòs yn gy nar,
Ile y Cei yn ddigerydd rai ath gâr.
I Gaerfyrddyn dós er mawrdda,
Ile 'ganed Merddyn y dewin da.
Dôs hefyd, a dewis ynno
Gwmnhi 'r Bonedd yn sîr benfro.
Y mwythig ddiddig dda,
dewis yn amal, a dòs oddiymma.
I groesyswallt, y Dre rasusa
Dan srenin dy fro, dôs yno drosaua.
I Lanfyllin fel dewin dôs,
I'r dwylo sydd yno 'n daros
Ir Trallwm hefyd, dôs Cyn hyfed,
Ir Dre newydd, yn rhwydd rhed.
Yn llanidlos▪ a llon odle
Dyro dro ymhylith gwyr y dre.
I Gaerlleon, Gywraint ei lle,
Dôs unwaith a dewis fane
Oddiyno i'r Gorllewin dewis y llwybre,
Drwy north Gymru a nerth gre.
Dôs i wrecsam, a dewis yn wacsaw,
O ddeut û'r dre rodio draw.
I Ddimbych draw, os rhoddi drô,
Ag i Ruthyn, Gwilie d' anrheithio,
[Page 35] Bydd ynno ganwr ath ogano,
Ag yn eu bro, rai ath bryno.
I Lanrwst, a Thre Gonwy,
Dyro naid at ddifyr eu nwy:
Os gweli yno Goegun, ai frud ar ymgegi,
Iw Grafangc na ddôs er d'enioesd i.
Yng haergybi, a Llanerch y mêdd,
A Llan ddanial, llawen annedd,
Cei ynno degwch, harddwch, a hédd.
A bòd fel dewin yn y diwedd.
Yng haernarfon dirion drê,
A llun mewn llawer o fanne;
Cei groeso mwy, a Grâs eirie,
Na Phapist Grym ai ffydd grê.
Ar bwyll hylaw i bwll-heli,
Yn ddi ymaros dós di.
Ir Bala Tyn ar Lan' Tegid,
A rhodia benllyn yn gytun i gid.
Ir deirnion o dei, Cei'r Câs,
Ath daflu fel Cene diflas,
Lle 'gwelech Lîd i ni, nag aros ddim yno,
Rhag iddynt o ddifri dy regi, ath rwygo,
Ir Tàn ith losgi, Cei dy lusgo,
Neu Cyn dy ddarllen Cei dy ddryllio.
Cei Groeso lle fynych o fowddwy i drawsfynydd
Yng hwmmwd ar dudwy, Cei gymod aer dedwydd
[Page 36] Yn hal y bont, yn hael bur,
Llawer Cymro llon, ath gymyr.
Ym machvnlleth, dyro sonlle
Wrth bawb o'r plwy drwy'r dre:
Oddiyno rhêd, ddamwain y'rhâ,
I Aberteifi, wybyr Tyrfa.
Dòs yn fyân, ar draws afonydd,
I dal y sarn, i r dwylo sydd.
Ymhôb man ar redeg, lle relych i rodio,
Rwi'n rhoddi i ti'n dyner, genad i dario:
Dan wyr grasol, lle Cesych di groeso.
Ag y ma oth
Rhedfa
ras mwy na thrô.
[...]

CYWYDD YN DANGOS GWA GEDD MAWRHYDI'R BYD

PRûdd-lwm ydiw 'r Corph priddlyd
Pregeth oer o beth iw'r byd
Hoûw-ddyn aûr, heddiw yn arwain
Caûau a modrwyau main
Scarlad aml, a Chamlod
A Sidan glân, os ydiw 'n glod
Goroff bûal ag eûrwin
Gweilch, hebogaû, a gwin,
Esgynû ar wâs gweniaid
Or blaen a gwanhaû r blaid
Ymo yn am dyddyn da
Ai ddaû Ardreth oedd ddirdra
Gosdwng y gwan yn ei eiste
Dan ei Law, a dwyn ei Le
Dwyn Tyddyn y dyn dall
A dwyn erw 'r dyn arall.
Dwyn'yr yd oddi dad yr non
A dwyn gwair y dyn gwirion.
[Page 40] Cynnill arian daû Cannyn,
Cyrchû r da, Carcharû 'r dyn
Ni roddai ddifai d [...]wy tuw
Wr da ddoe, er d ûo ddûw
Heddiw mewn pridd yn ddiddim
Oi dda nid oes gantho ddim
Poen a Leinw, pan êl yno
Mewn garchfan grauan a gro
Rhû Isel fydd ei we û
Ai dàl, wrth nenbren ei dy
Ai gorsed or ddarged ddû
Ai Ridens wedi Rydû
Ai ddir hynt ir ddaûar hon
Ai ddeufraùch ar ei ddwyfron
Ai gwn yn ei Neuadd gaû
Ai Emmys yn ei Ammaû
Ai wraig wasdad or adail
Gywir iawn yn gwra 'r ail
Oi neûoedd fawr falch, gaehbryd
I'r arch bach, yn iach ir byd
Pan él mewn Arch gyfarchan
Ar frys or llys tûar llan
Nis Calyn ûn dyn na daû
Nis gorfydd iw wisg-arfaû
Nis hebrwn merch anherch-wedd
Na gwr iach bellach y bedd
Ni rydd Gordderch o ferch fain
Ei llaw tan yr ûn lliain
[Page 41] Ni fydd ei chof yn wylofus
Nis gorfedd ar ei fedd fis
Gwedi bo yno ûn-awr
Y dyn ar gwallt melyn mawr
Llyffant hyll tywyll iw'r tû
Os gwyl fydd ei wâs gwelû
Hyttra tan war y gareg
Y breuog tew ar brig teg,
Amlach y gorchgûdd pridd-lawr
Yn ei gylch eirch, na meirch mawr
Cas gan Grefyddwyr y Côr
Iw Cyttal ar tri seccuttor
Or tri Chan pynt ar un tal
A Gowse 'n rhwydd ar swydd sâl
Balch fydd ei geraint ûwchben
A Pharant dair offeren.
Yno ni bydd ir enaid
Na phlas nag Urddas na phlaid
Na gwiw addyrn na G [...]û-Ddûw
Na dim ond a roes er Dûw
Mae 'r trefi teg. mae 'r tref tad?
Mae'r llysoedd amal? Mae'r lleisiad?
Mae 'r Tai Cornogion? Mae'r tir?
Mae 'r Swyddaû mawr os heuddir?
Mae'r sew? Mae'r gegin newydd?
Mae'r Cig Rhosd? Mae'r Cwg ai rhydd?
Mae'r fedd gell deg? Mae'r gegin
Is Law 'r allt? Ma'r seler win
[Page 42] Mae'r siwrnau i Loeger? Mae'r saernial?
Mae'r beirdd or ty? Mae'r bwrdd tâl?
Mae'r Cwn addfwyn Cynydd fawr?
Mae'r Cadw Eleirch? Mae'r meirch mawr?
Mae'r Trwsiad amal? Mae'r trysor?
Mae'r da mawr ar dir a môr?
Or annedd gaer, ar neûoedd gaû
Or plasoedd ar palisaû
Diddym ydiw o dyddyn
Ond saith droedfedd diwedd dyn
Rhowyr sydd yn y dydd dû
(Od wyf wr) Edifarû
Nis anhercha yna ûn
Or Cant, rhû hir iw 'r Cyntyn
Nis câr merch, nis anherchir
Ni seing na dadl, na Sîr
Ni chais fedd iw gyfeddach
Ni ddaw ir wledd or bedd bach
Ni roid pen ûn or cennin
Er ei 'sgrwd o fewn ei sgrin
Ar Enaid mewn dilif difost
Or ia ir Tân, oerfel Tôst
Lle i gorfydd Celfydd nis Cel
Gydfod a gorfod oerfel
Pyllaû ffyrnaû Uffernawl
Peiriaû, dreigiaû, delwau diawl
Cadwed Crist (trist iw r tro)
Y Dynion rhag mynd yno.
[Page] [...]styd fyd ystâd fydawl
A ddyg Lawer Dyn I Ddiawl
Medd sain Bened Gredadyn
Ni fyn Duw Roi nef ond un
Ag am hyn o gymhenair
Nid gau mo Emmynau mair,
Y dyn Na werth er da
Nwyf ammal y nef yma
Rhag Colli medd meistri mawl
Drwy gudd y nef Dragwyddawl.
Ni pheru 'r byd gyd goegnyth
Ar byd fru a beru byth,
Heb drangc, heb lun yn un-air
Heb orphen, Amen mab mair.
Dr. Sion Cent ai Cant.

Cywydd ir Cymru

OCh gymru fynych gam fraint
Och wyr or dynged uwch haint
Och faint fy 'r orsib uchod
Och ddechrau clae'r ddyddiàu clôd
A heddiw in dyhuddir
Ar drai heb na thai, na thîr,
Rhyfedd ynof rhag gofid
Mae 'n lladd meddyliau un llid
[Page 44] Ag etto enwog yttwy
Gobeithio yr addo y rwi, o weled gwragedd gwynedd gam, yn hau li [...] yn nh [...] Llundain.
Gobeithiaw addaw y ddwy
Penna nassiwn gwn o gwmpas
Erioed oeddem i râs (ddynt
Cynta Arglwydd mewnrhwy
Heb gam fy o honyn gynt.
Siaffeth fab Noah Siaffir
Fab Lameg oedd deg ei dir
Er hyn lle roedden honwy
Gobeithiaw addaw i ddwy.
Tair-caer penna yn Twrci
Heb gam gynt a wnaethom i
Caer Droia lle da lliw dydd
A Chaer Rufain ai Chrefydd
Rhinnau a fy yno ennyd
Hwy na thair siwrnau o hyd
Gwenied hyderu gwan-wy
Gobeithiaw addaw i ddwy,
Daeth holl Roeg ddiddoeg ddadl
O gaer Droia gowrt trwyadl
Yno llas yn un llu
Or ddwy blaid wedi ddvblu
Deunaw can mil o siloedd
Ag wyth can mil eiddil oedd
Gwin deg wyth gan-mil gwedi
Pedwar ugain mil oi hil hi
Deng mhylynedd anrhydêddir
A Chwe mis y by [...]îds hir
[Page 45] Gwn draws-dda [...]l, gwirion-drist ydwy
Gobeithiaw addaw i ddwy.
Goreû llwyth aml ei gwythi
Llwyth Dardan meddan imi
Or [...] wn y doe yr hên dôn
Or [...]û addaw or Iddewon
Or hwn, y down nine y rhawg
O dâd i dâd odidawg
Sesar ein Câr dihareb
A wnaeth yr hyn ni wnaeth neb
Eurglod ef a wnaeth Arglwydd
Hollt dir rhufen
Omn is terra Roma Rwydd
Yr ynys hon or eunym
A roes Crist yn aros grym
Pan wisgodd Brutus Esgyd
O groen yr Ewig oi gryd
Gyrrodd Angel gwehelyth
At Brutus ap Sylfus syth
Dôs ir Eigiawn dwys rwyga
Ath hil, ath heppil, ath dda,
Nid um un sonedd heddiw
Am galon hil gweision gwiw
Nag ún gysiownder gwn gûr,
A hinsiestr a hors hensyr,
Na hil Rolo medd tro tri
Meindw or îr Normandi
Hil Barbara Erfa Eûrfost,
O fôr tawch gwnaethom ferw tost
[Page 46] Galon, waeth waeth y gwelwy
Gobeithiaw addaw i ddwy
Well well ûm gym û williaid
Dydd Rhag ei gilydd a gaid
Coeliais waeth-waeth iw calon
Waeth-waeth syth ag waeth-waeth sôu
Nes-nês mae Cerdd Taliesyn
Wrol ei Fsydd arail ffyn
Mair or nef nes-nes iw'r nôd
Disai mae'r gwaith yn dyfod.
Gwae ddwyblaid lloegr, gwiw ddyblwy
Gobeithio 'r addo yrwy
Un wedd im gymru anwyl
A phum oes hyd yn aros hwyl
Yn uffern gynt rhown affaeth
Yn
I mae'r pa­pistied yn dal nad aeth yr un or hen daede, Nag Abra­ham, ir nêf nes adgyfodiad Crist ond yn y man a alwan nhw Limbus Pa­trum.
Limbo Patrum mewn Cwm caeth
Yn gwilio beunydd y dydd du oer
Gweled goleuni gwiwloer
Awr ba awr gan awr fawr fy
Disgwyl yr um a dysgu
Gwilio bob dydd ai gwelwy
Gobeithio'r addo i rwy.
Dr Sion Kent ai Cant

Ache 'r Cybydd, ar hael.

Y Cybydd fab difedydd di
Crwn Uffernol; crin ffyr
Fab chwant i gael y fantais,
Fab poen byth, fab hên ei bais,
Fab cangcrys, fab crwydrys rhâd,
Fab siwrl Eger, fab sur lygad,
Fab llogi 'r aur; fab, llaw grin,
Fab tryth-wâs, fab torth eisin,
Fab baw-beth, fab câs-beth Cog,
Fab oer iawn, fab arianog,
Fab Ewinog, fab ânael,
Fab prudd ei wên, fab rhodd wael;
Fab ai fittel ddi helaeth,
Fab hwyr lles, fab bara a llaeth
Fab seith-gwlwm pwrs fab syth-glusd,
Fab craffiawn, fab creie ffusd,
Fab rhu ddig, fab prudd ei wèn,
Fab hwyr lythyr, fab ber Lathen,
Fab rhawn-ddig, fab or hen-ddull,
Fab llawes-ddofn, fab llaes d dull,
Fab Cul llwm, fab cael y llôg,
Fab gwineu, fab y geniog,
[Page 48] Fab gwandrael ddi drael ddo drefn,
Fab llym gwael, fab llwm ei gefn
Fab clô tyn, fab clwt henaur,
Fab cau ei ddrws, fad cuddio'r aur,
Fab di râs Duw, fab Drist wên,
Fab del iw, fab di lawen,
Fab an howddgâr iw garu,
Fab ffroen-ddig, fab uffern ddu,
Yr haeledd fab gwirionedd grâs,
Hylaw roddion hil urddas,
Fab daionys, fab dinag,
Fab llwyd d-waith, fab llaw ddi wag,
Fab gwrda ryglydda glôd,
Fab pur da, fab rhoi diod,
Fab diau fawl, fab da ei fyb,
Fab rhoddfawr na bo prudd-fyd,
Fab cyfion fendithion da,
Fab y gardod, fab gwrda,
Fab dillad, fab diwallys,
Fab bwrdd llawn, fab harddu llys,
Fab pur odiaeth, fab breudeg,
Fab gwin iw dy, fab gwen deg,
Fab caru cerdd, fab cowraint,
Fab difai erioed, fab da ei fraint,
Fab bedydd mair, fab bydol,
Fab naf Nerth, fab nef yn ôl,
Sion Tudyr ai Cant

Cywydd odiaethol i'r Neidir, o waith Wiliam Llun.

MAe gwr fyth am gywir farn
Math ofydd ym
Henwr lle
Mathafarn
Sion ap
Hum
Hugh sy'n hop yr hôd,
Seiniwr pur synwyr parod,
Seilfawr bendefig brig braint,
Sylfaen gwlâd, Cariad Ceraint,
Rhydd Roddion rhwydd or eiddo,
Rhoi i bawb, a phoed hir y bo,
Rhoes farch ym, gwiw-rym heb gêl,
Rhygyngog, a Rhug Angel,
A marw fy'r march rh wydd-barch rhodd,
O frath neidir fraith ai nododd,
Gwaith hon, a fy gaeth enyd,
Chwerw boen yn nechre byd,
A dwyllodd medd Deall-wr,
Efa ag Adda ei gwr,
I fwyd 'llawn o fywyd llid
Yr afal, y by oer ofid,
A lanwyd o Elyniaeth,
A drwg yn ôl, Neidir ai gwnoeth,
Troes bum oes, trais heb amau,
I Uffern gynt a ffwrn gau,
[Page]*rhif tudalen?* Om Ddaeth oi newydd wr,
Iesu brenin, sy brynwr,
A godde fel ei gwyddiad,
Feddwl Dúw, ei foddol Dad,
Ni base raid o naws brig,
Erioed i neb Aredig,
Nag eilwaith medd hên goelion
I neb hau, oni bae hon,
Na bwyd dyn, na bywyd dig
Ond o ran y Neidir Unig,
Ecsdro 'r berth, ag ysdriw 'r bâr,
Yn troi dolen trwy dalâr,
Burwy Diawl, yn dwyn Bâr Dyn,
Braith Chwnogl, brath ai chonyn,
Yr hon y wnaed, a rhan an-wâr,
O bwyll Duw Ebill Daear,
Gwael fidog foliog heb fydd,
Gwerthyd arw, gwarth iw Deurydd
Gwyll Udcorn, llun gwaell atgas,
Gwain yn glog, or gwenwyn glas
Cycysen boeth ffroen ai ffrwyth;
Carwden lle Cair adwyth,
Cyw gwiber mewn Coeg o bant,
Colyddyn noeth Clawdd y nant,
Rhodd ai gafael Rhwydd gofid,
Rholyn llwyth Rhylawn ei llid,
Llun Asseth ai lle 'n o sych,
Lliw Erionyn brethyn brych,

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.