GWEDDIAU YN YR YSTAFELL, I'w harferu gan bob Cristion Defosionawl.

Wedi eu casclu allan o'r CYDYMMAITH GOREU, gan Awdwr yr unrhyw.

Matth. 6. 6.

Ond tydi pan weddîech dôs i'th 'Stafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.

AT Y DARLLENYDD.

YN y rhag-ymadrodd i'r Cydym­maith Goreu, mi a roes rai Cy­farwyddiadau, pa fodd y gallei y Gweddiau hynny a amcanwyd yn bennaf i'w harferu yn gyhoedd, wasanaethu he­fyd un dyn pan ymneullduei i'r dirgel. Ac er bod y cyfarwyddiadau hynny wedi eu rhoddi i lawr yn ddigon eglur; etto fe alle, nad allan rhai mwy annyscedig ddeall mo'­nynt; fe alle eraill hefyd, gan dybiaid fod yn ormod poen eu canlyn hwy, o achos hyn yscatfydd fod wedi eu llwyr ddiga­lonni oddiwrth arfer y Defosiwnau eu hu­nain

Pan fynegwyd hyn i mi, ac y dymu­nwyd hefyd, fod i mi er mwyn y rhain dynnu sylwedd y Gweddiau dywededig i ddau neu dri o Golectau, a'u gwneuthur hwy etto i wasanaethu yn well angenrhei­diau poh un yn y 'Stafell mi a gytiuna is a hyn yn rhwydd ac a addewais wneud fyngorau. Mae'n ambossibl yn wir i'r rhai doethaf fyth ddarparu y cyfryw ffurf o [Page] eiriau ac a attebant Ddiffygion ac ang­enrheidiau dirgel gyflwr pob dyn. Cym­maint ac ellir ei wneud yn hyn ymma yw rhoddi i lawr y cyfryw bethau Cyffre­dinoly dylei bob Cristion weddio am da­nynt, a chymmhwyso eu hymadroddiou felly, fel y gallo pob gweddiwr eu cyfadd­asu yn rhwydd at ei achosion priodol ei hun.

Yr awrhon mae'r ddau ymma i'w canfod yn wîr amlwg yngweddiau Defosionawl ein Heglwys ni, ac os nid ydynt yn union felly yn y rhannau hyn o'r unrhyw a dduc­pwyd ymma ynghyd yn y gwaith hwn, ar y gweithiwr yn unic y mae yr bai. O ran ni eill pûr feini gwerthfawr os torrir hwy yn gelfyddgar, a'u cyflêu yn union, byth fe­thu eu dangos eu hunain yn fwyaf man­teisiol. Pa fodd bynnac os cyfeirir y Gweddiau hyn yn union i'r un diben ac y darparwyd hwynt, nid wyf yn ammeu na ddygant ogoniant i Dduw, anrhydedd i'r. Eglwys (geiriau perffaith ac iachus yr hon ydynt) a chyssur tragywyddol i bob enaid a'u harfero.

Y CYNHWYSIAD. GWeddiau am y Boreu a'r Nôs, sef.
Cyffes. Ty Dalen. 1
Am faddeuaut a gras. 3
Cyfryngiad. 5
Diolch. 7
Gweddi ferr am y Boreu. 9
Gweddi ferr am y Nôs. 10
Gweddi tros rai priodol. 11
Gweddi tros y rhai a fo a phlant iddynt. 14
Gweddiau i'w dywedyd ar ddyddiau ympryd a go­styngeiddrwydd. 16
Gweddiau i'w dywedyd Yn amser trallod a blin­derau. 17
Gwedd­iau trosoch eich hun, neu arall, yn Glaf. 20
Gwedd­iau trosoch eich hun, neu arall, y fo heb fawr obaith ô wellhad. 22
Gwedd­iau Tros blentyn Claf. 24
Gwedd­iau trosoch eich hun, neu arall, mewn blinder meddwl a chydwybod. 25
Gweddiau cyn yr eloch i'r Eglwys. 27
Gweddiau Pan ddeloch allan o'r Eglwys. 29
Gweddiau ar ddydd­iau Sacrament i'w dywedyd y Boreu cyn yr eloch allan o'ch Ty. 30
Gweddiau ar ddydd­iau Sacrament i'w dywedyd yn ol eich dychwe­liad adref. 33

GWEDDIAU Yn y 'Stafell.

Gweddiau am y Boreu a'r Nos.

HOll-alluog Dduw, Tâd ein Har­glwydd Iesu Grist, gwneuthur-ŵr pob dim, barn-wr pob dyn, yddwyf yn cydnabod, ac yn ymofidio dros fy am­ryw bechodau a'm hanwiredd, y rhai o ddydd i ddydd yn orthrwm a wneu­thum, ar feddwl, gair, a gweithred, yn erbyn dy dduwiol Fawredd, gan annog yn gyfiawnaf dy ddigofaint a'th fâr i'm herbyn. Myfi a ddilynais ormod ar amcanion a chwantau fynghalon fy hu­nan; myfi a wneuthum yn erbyn dy san­cteiddiol gyfreithiau: Myfi adewais heb wneuthud y pethau, a ddy­laswn eu gwneuthur. Ymma Cyfadd­ef dy bechodau neullduol oEsceu­lusad. Ac a wneuthum y pethau, ni ddylaswn eu gwneuthur. Ymma cyfadd­ef dy bechodau neullduol o Wei­thred. Ac nid oes iechyd ynof, eithr tydi, o Arglwydd, cymmer drugaredd arnaf ddrŵg [Page 2] weithred-ŵr truan; Arbet fi, o Dduw, yr hwn wyf yn cyffessu y meiau. A cha­niadhâ i mi yr hwn 'y cyhuddir fy nghydwybod gan bechod, trwy dy dru­garog faddeuant fod yn ollyngedig trwy Grist ein Harglwydd. Crêa a gwna ynof newydd a drylliedig galon; fel y bo i mi gan ddyledus ddoluriaw am fymhechodau, a chyfaddef fynhrueni, allu caffael gennyt, Duw yr holl druga­redd, gwbl faddeuant a gollyngdod, trwy Iesu Grist ein Harglwydd; yr hwn o'th dyner drugaredd a roddaist i ddioddef angeu ar y groes er fy mhry­nu, yr hwn a wnaeth yno (trwy ei off­rymmiad ei hun yn offrymmedic un­waith) gyflawn, berffaith, a digonawl aberth, offrwm ac iawn dros bechodau yr holl fŷd. Arbet myfi am hynny Ar­glwydd daionus. Na ddwg dy wâs i'r farn, yr hwn wyf bridd gwael. a phe­chadur truan, eithr ymchwel felly dy lid oddiwrthyf, ac felly bryssia i'm cyn­northwyo yn y bŷd hwn, fel y gallwyf byth fŷw gyda thi yn y bŷd a ddaw.

Amen.

Fel y galloch yn haws alw i'ch côf pa bechodau neullduol y buoch euog o honynt, cyn y dechreuoch gyfaddef, i'ch cymmorth yn yr unrhyw darllenwch yn ofalus y Llech-rês o bechodau yn niwedd y Cydym­maith Goreu.

Am Faddeuant a Gras.

HOll-alluog a thragywyddol Dduw, yr hwn yn wastad wyt barottach i wrando, na nyni i weddio, ac wyt arferol ô roddi mwy nac a archom, neu a ryglyddom; tywallt arnaf amlder dy drugaredd, gan faddeu i mi y cyfryw bethau ac y mae fy nghydwybod yn eu hofni, a rhoddi i mi y cyfryw ddaionus bethau, nad wyf deilwng i'w gofyn, ond trwy ryglyddon a chyfryngiad Ie­su Grist ein Harglwydd. Er mŵyn pa un, ô Arglwydd, dyro i mi wîr edifei­rwch, maddeu i mi fy holl bechodau, fy Esceulustra, a'm Hanwybod; a chyn­nyscaedda fi â rhâd dy Yspryd glân, i wellhâu fy muchedd yn ol dy air sanctaidd. Marweiddia a llâdd bôb rhyw anwiredd ynof, a nertha fi a'th râs, fel trwy fuchedd ddiniweid a ffŷdd ddiyscog hyd angeu, y gogoneddwyf [Page 4] dy Enw bendigedic. Caniadhâ i mi râd i wrthladd profedigaethau y bŷd, y cnawd a'r cythraul, ac a phûr galon a medd­wl i'th ddilyn di yr unic Dduw. Rhyng­ed bodd i ti uniawni, sancteiddio, lly­wodraethu fynghalon a'm corph yn ffyrdd dy ddeddfau, ac yngweithredoedd dy orchymmynion, megis trwy dy ga­darnaf nodded, ymma ac yn dragy­wyddol, y gallwyf fod yn gadwedig gorph ac enaid, fel y gallwyf ryngu bodd i ti ar ewyllys a gweithred; fel y gallwyf ddeall a gwybod yr hyn a ddy­lwn i wneuthur, a chael hefyd râd a ga­llu yn ffyddlon i wneuthur yr unrhyw. Planna yn fynghalon gariad dy Enw, ychwanega ynof wir grefydd, maetha fi a phobdaioni, ac o'th fawr drugaredd cadw fi yn yr unrhyw. Caniadhâ fod i'th râd bôb amser fy rhagflaenu a'm dilyn; a phâr i mi yn wastad ymroddi i bôb gweithred ddâ, fel yn fy holl weithre­doedd, dechreuedic, annherfynedic, a therfynedic ynot ti, y gallwyf foliannu dy sanctaidd Enw, ac yn y diwedd gael gan dy drugaredd fywyd tragywydd­ol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

A­men.

Cyfryngiad.

O Arglwydd Creawdr, a Cheidwad pôb dyn, yn ostyngedic mi attoly­gaf iti tros bôb 'stâd a grâdd o ddynion, ar fôd yn wiw gennyt hyspysu iddynt dy ffyrdd, dy iechydwriaeth i'r holl genhed­loedd. Trugarhâ wrth yr holl Iddewon, Twrciaid, Anffyddlonion, a Heretici­aid, a chymmer oddiwrthynt bob anwy­bodaeth, caledwch calon, a thremyg ar dy Air; ac felly dŵg hwynt adref, wyn­fydedig Arglwydd, at dy braidd, fel y bont gadwedig ym-mhlith gweddi­llion y gwir Israeliaid, a bod yn un gorlan dan yr un bugail Iesu Grist ein Harglwydd. Yn bennaf erfyniaf ar­nat tros lwyddiannus 'stâd yr Eglwys Gatholic, fel gan gael ei harwain a'i llywio gan dy Yspryd grasusol, y caffo pawb yn eu galw eu hunain yn Gristi­anogion eu tywys ar hyd ffordd y gwi­rionedd, a chynnal y Ffydd mewn un­deb yspryd a rhwymmyn tangneddyf ac uniondeb buchedd. Mi attolygaf i ti megis tros y deyrnas hon yn gyffre­dinol, felly yn enwedig tros y Brenhin a'r Frenhines, deilyngu o honot lywio a rheoli eu calonnau, fel y gallont hwy [Page 6] yn eu holl feddyliau, geiriau, a gwei­thredoedd, yn wastad geisio dy anrhy­dedd di a'th ogoniant, a myfyrio felly i'n cadw ni: fel y bo heddwch a ded­wddwch, gwirionedd a chyfiawnder, ffydd a duwioldeb yn sefydlog yn ein plith trwy'r holl Genhedlaethau. Felly bendithia hwy, o Arglwydd, a'r holl Frenhinol deulu a gwlith dy nefol ys­pryd, fel y bo iddynt oll gan ymddiri­ed yn wastad yn dy ddaioni, a bod yn amddiffynnedig gan dy allu, a choronedig a'th rasol a diball ffafr, ga­el parhâu ger dy fron, mewn iechyd, heddwch, llawenydd, ac anrhydedd, hir einioes a ffynnadwy ar y ddaiar: ac yn ol y suchedd hon mwynhâu bywyd a gogoniant tragywyddol yn nheyrnas Nef. Teilyngu o honot lewyrchu yr holl Escobion, Offeiriaid a Diaconiaid ag iawn wybodaeth a deall dy air: ac iddynt hwy trwy eupregetha'u buchedd, ei fynegu a'i ddangos yn ddyladwy. Tei­lyngu o honot gynnyscaeddu Arglwyddi 'r Cyngor, a'r holl Fonedd, a gras, doethineb a deall. Teilyngu o honot fendithio a chadw y Penswyddogion, gan roddi iddynt ras i wneuthur cyfi­awnder ac i faentimio 'r gwir. Tei­lyngu [Page 7] o honot fendithio a chadw dy holl bobl, yn enwedig y rheini a wnae­thant ddaioni i mi, fynghyfeillion a'm Cyfneseisiaid. Bydded by Dadol law, mi attolygaf i ti, byth arnynt: bydded dy Yspryd glân byth gyda hwynt, ac felly tywys hwy yngwybodaeth dy air, modd y gallont yn y diwedd swynhâu bywyd tragywyddol. Teilyngu o honot fadden i'm gelynion, erlyn-wŷr, ac ysclandr­wŷr, a throi eu calonnau. Ac yn ddi­weddaf yr wyf yn ostyngedic yn atto­lygu i ti o'th ddaioni, Arglwydd, gom­fforddio a nerthu pawb ac y sy 'n y bywyd trangcedic hwn, mewn trwbl, tristwch, angen, clefyd, neu ryw wrth­wyneb arall, eu diddanu a'u cymmorth, yn ol angenrheidiau pob un, gan roddi idd­ynt ymmynedd dan eu dioddefiadau, a dedwyddol ymwared o'u holl gystuddi­au. A hyn a erfyniaf er mwyn Iesu Grist.

Amen.

HOll-alluog Dduw, Dâd y trugaredd­au, yr wyfi dy wâs annheilwng yn rhoddi i ti ddiolch gostyngeiddiaf a ffyddlonaf am dy holl ddaioni a'th dru­gareddau i mi ac i bob dŷn. Mi a'th fendithiaf am ein creadigaeth, am fyng­wastadol gadwraeth (vn enwedig y dydd [Page 8] hwn (neu y nôs hon) ac am holl fen­dithion y bywyd hwn. Eithr uwchlaw pob dim am dy anfeidrol gariad ym mhrynedigaeth y bŷd trwy ein Har­glwydd Iesu Grist, am y moddion ô râs, ac am obaith gogoniant. Ymhellach, mi a roddaf i ti ostyngeiddiaf ddiolch am i ti fynghorphori i'th lân Eglwys, am fod yn wiw gennyt fyngalw i wy­bodaeth dy râs, a ffydd ynot: Ychwa­nega yr wybodaeth hon, a chadarnhâ y ffŷdd hon ynof yn wastad. Dyro i mi iawn ymsynniad ar dy holl druga­reddau, fel y bo fynghalon yn ddiffuant yn ddiolchgar, ac fel y mynegwyf dy foliant, nid a'm gwefusau yn unic, eithryn fy muchedd, trwy ymroddi i'th wasanaeth, a thrwy rodio ger dy fron mewn sancteiddrwydd ac uniondeb tros fy holl ddyddiau, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gyda thydi a'r Ys­pryd glân bîd yr holl anrhydedd a'r go­goniant byth bythoedd.

Amen.

EIn Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd, sancteiddier dy Enw. Deuet dy deyrnas. Bîd dy ewyllys ar y ddaiar, megis y mae yn y Nefoedd. Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol A madd­eu [Page 9] i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ni i'n dyled-wŷr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth; eithr gwaret ni rhag drŵg: Canys eiddot ti yw'r deyrnas, a'r gallu, a'r gogoniant yn oes oesoedd.

A­men.

IRasusaf drugaredd a nodded Duw, yr wyf yn fyngorchymmyn fy hu­nan, y dydd hwn (neu y nos hon) ac yn dragywydd. Yr Arglwydd a'm ben­dithio, ac a'm catwo; llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnaf, a thrugar­hâed wrthyf. Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnaf, a rhodded i' mi dang­neddyf yr awr hon ac yn oes oefoedd.

[Os bydd eich negeseuon mor bwysfawr, ag na chaniadhânt i chwi amser i ar­feru yr holl weddiau sydd o'r blaen, y­na dechreuwch ar y Diolch, a chyssyll­twch attynt y Weddi ferr amy Boreu, neu yr Nos, megis y canlyn.]

Gweddi ferr am y Boreu.

OArglwydd nefol Dâd, Holl-alluog, a thragywyddol Dduw, yr hwn a'm cedwaist yn ddiangol hyd ddechreu 'r dydd heddyw, amddiffyn fi ynddo a'th [Page 10] gadarn allu, a chaniadha na syrthiwyf y dydd hwn mewn un pechod. ac nad elwyf mewn neb rhyw berygl, eithr bod fy holl weithredoedd wedi eu tref­nu a'u llywiaw wrth dy lywodraeth, i wneuthur yn wastad y peth sydd gyfi­awn yn dy olwg di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. O Amddiffyn fi a'th ras nefol, fel y byddo i mi barhau yn eiddot ti byth, a pheunydd gynyddu yn dy yspryd glan fwy-fwy, hyd oni ddel­wyf i'th deyrnas dragywyddol.

Amen. Ein Tad, &c.

Gweddi ferr am y Nos.

GOleua fy nhywyllwch, mi attoly­gaf i ti o Arglwydd, a thrwy dy fawr drugaredd amddiffyn fi rhag pob perygl ac embydrwydd y nos hon, er serch ar dy un Mâb ein Iachawdwr Ie­su Grist. Yn Enw pa un, o Dduw, i'm gorchymmynnaf fy hunan i'th druga­redd a'th nodded y nos hon ac yn dra­gywydd. O Arglwydd, bendithia a chadw fi. Arglwydd, llewyrcha dy wy­neb arnaf, a thrugarha wrthyf. Dyr­cha, Arglwydd, dy wyneb arnaf, a dyro i mi dangneddyf yrawrhon ac yn dragy­wydd. Cadw fi oddifewn ac oddiallan, sef [Page 11] enaid a chorph, fel yr amddiffynner fi rhag pob gwrthwyneb a ddigwyddo i'r corph, a rhag pob drwg feddwl a wna niweid na chynnwrf i'r enaid, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen. Ein Tad, &c.

Gweddiau i'w dywedyd gan rai priodol.

Duw, yr hwn drwy dy Alluog nerth a wnaethost bob peth o ddiddim ddefnydd, yr hwn hesyd, wedi gosod pethau eraill mewn trefn, a ordeiniaist allan o ddyn (yr hwn a grewyd ar dy lûn, a'th ddelw dy hun) gael o wraig ei de­chreuad▪a chan eu cyssylltu hwy ynhyd yr arwyddoceaist na byddei byth gy­freithlon wahanu y rhai trwy briodas a wnelyt ti yn un▪o Dduw yr hwn a gysse­graist ystad briodas i gyfryw ragorawl ddirgeledigaeth; megis ac yr arwydd­oceir ac y coffeir ynddi y Briodas ys­prydol a'r undeb rhwng Crist a'i E­glwys. Edrych yn drugarog [arnafi Ymma newidied y wraig y geiriau fel hyn, Arnofi a`m gwr, fel y bo iddo ef fyngharu. [yn ol dy air fel y carodd Crist ei Briawd yr E­glwys, yr hwn a`i rhoes ei hunan drosti, gan ei charu a`i mawrhâu, fel ei gnawd ei hunan; ac hefyd yn garuaidd, ac yn serchog yn ffydd­lawn ac yn ufudd iddo ef; &c. a'm gwraig a chaniadhâ fod i mi ei charu hi yn ol dy air (megis y carodd Crist ei Bri­awd yr Eglwys, yr hwn a'i rhoes ei hu­nan [Page 12] drosti gan ei cha­ru, a'i mawrhâu, fel ei gnawd ei hunan) a hefyd ei bod hi­theu yn garuaidd, ac yn serchog, yn ffydd­lon ac yn ufudd i mi, ac ymhob heddwch, sobrwydd, a thangneddyf, ei bod yn can­lyn sanctaidd a duwiol wragedd. Ar­glwydd bendithia ni ein dau, a chani­adhâ i ni etifeddu dy deyrnas dragywy­ddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, fel ac y bu i Isaac a Rebecca fyw yn ffyddlawn ynghyd, felly gallu o honom ninnau gyflawni a chadw yr adduned a wnaed rhyngom, a gallu o honom byth barhâu mewn perffaith gariad a thangneddyf, a byw yn ol dy ddeddfau trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Har­glwydd. Edrych arnom, Arglwydd, yn drugarog o'r nefoedd, a bendithia ni, ac fel yr anfonaist dy fendith ar A­braham a Sara, i'w mawr ddiddanwch hwy: felly bîd gwiw gennyt anfon dy fendith arnom, modd y bo i ni (yn ufudd i'th ewyllys, a chan fod bob amser dan [Page 13] dy nawdd) allu aros yn dy serch hyd ddiwedd ein bywyd. Duw Tad, Duw Fâb, Duw Yspryd glân, bendithia, cadw a chymmorth ni: edrych, o Arglwydd, yn drugarog ac yn ymgeleddus arnom; ac felly cyflawna ni a phob ysprydol fendith a rhâd, môdd y gallom felly fyw ynghŷd yn y fuchedd hon, fel y bo i ni yn y bŷd a ddaw allu meddiannu by­wyd tragywyddol.

Amen.

[Os byddwch heb blant, ac yn dymuno rhai, (o ni wyddoch fod rhyw achos rhe­symmol paham na ddylech ofyn rhai) yna chwanegwch megis y canlyn.]

Ymhellach, yr wyf yn ostyngediccaf yn attolwg i ti, ô drugarog Arglwydd, a Nefol Dâd, trwy radlawn ddawn yr hwn yr amlhâ hiliogaeth dŷn, ar fod yn wiw gennyt (os gweli yn ddâ) ein cym­morth a'th fendith, fel y gallom fod yn ffrwythlawn i hilio plant, ac hefyd gydfod a byw mewn cariad duwiol a sy­berwyd, fel y gwelom ddwyn ein plant i fynu yn Gristianus ac yn rhinwoddol i'th foliant a'th anrhydedd di, trwy Ie­su Grist ein Harglwydd.

Amen.

Gweddiau i'w dywedyd gan rai a fo a­phlant iddynt.

Yma dál sulw, yn y Gweddiau a gan­lyn, ar y geiriau a welych wedi eu rhoi yn bwrpasol mewn Print manach, y gelli eu newid hwy fel y gwelych achos dy hûn, megis efe 'n lle fi pan weddîech dros un arall; neu hwy yn lle ef pan weddiech dros fwy nag ûn, &c.

O Drugarog Arglwydd a Nefol Dâd, trwy radlawn ddawn yr hwn yr amlhâ hiliogaeth dŷn; yr wyfyn rho­ddi i ti ostyngedig ddiolch, a'm fod yn wiw gennyt fy nghymmorth a'th fen­dith, a'm gwneuthur yn Dâd i blentyn. Ac mi attolygaf i ti, dyro i mi râs, fel y gallwyf wîr ymegnîo i'w weled ef yn cael Cristianus a rhinweddol ddygiad i fynu i'th foliant a'th anrhydedd di, trwy Iesu Grist ein Harglwydd. A chan nad all neb wneuthur dim dâ he­bot ti, caniadhâ iddo ef dy Yspryd, ô Arglwydd, i feddwl ac i wneuthur bŷth y cyfryw bethau ag a fo cyfiawn fel y gallo ef trw'oti fŷw yn ol dy ewyllys [Page 15] trwy yr unrhyw Iesu Grist ein Har­glwydd. Bydded dy Dadawl law bŷth arno ef, bydded dy Yspryd glân bŷth gydag ef, ac felly tywys ef yngwybodaeth ac ufudddod dy air, môdd yn y diwedd y gallo ef swynhâu bywyd tragywyddol. Nertha ef mi a attolygaf i ti Arglwydd a'th Yspryd glân y Diddan-ŵr: a pheu­nydd ychwanega ynddo ef dy aml ddon­niau o râd, Yspryd doethineb a deall, Yspryd cyngor a nerth ysprydol, Ys­pryd gwybodaeth a gwîr dduwioldeb: A chyflawna ef Arglwydd, ag yspryd dy sanctaidd ofn yr awr hon ac yn dragywydd. Amddiffyn ef a'th râs Ne­fol, fel y byddo iddo ef barhâu yn eiddo' ti bŷth: a chaniadhâ iddo ef gan fod yn gadarn mewn ffŷdd, yn llawen gan o­baith, ac wedi ymwreiddio ynghariad perffaith, allu o hono ef fordwyo tros donnau y bŷd trallodus hwn, ac o'r diwedd allu dyfod i dîr y bywyd tragy­wyddawl, yno i deyrnasu gydâ thi heb drangc na gorphen, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen. Ein Tâd, &c.

GWEDDIAƲ i'w dywedyd ar ddyddi­au Ympryd a gostyngeiddrwydd.

PSal. 51.

1. Trugarhâ wrthyf, o Dduw, yn ol dy dosturiaethau dilêa fy anwireddau.

2.

Golch fi yn llwyr ddwys oddiwrth fy anwiredd: a glanhâ fi oddiwrth fy mheched.

9.

Cuddia dy wyneb oddiwrth fy mhe­chodau; a dilea fy holl anwire ddau.

10.

Crêa galon lan ynof, o Dduw, ac ad­newydda yspryd uniawn o'm mewn.

11.

Na fwrw fi ymaith oddi ger dy fron; ac na chymmer dy Yspryd Sanctaidd oddiwrthyf.

12.

Dyro drachefn i mi orfoledd dy ie­chydwriaeth; ac a'th hael yspryd cyn­nal fi.

Yna arfera y Gyffes, Holl-alluog Dduw, Tâd y trugareddau, &c. ac yn ddilynol y weddi a ganlyn.

YMchwel di fi, o Arglwydd daionus, ac yna yr ymchwelir fi; Ystyria, ô Arglwydd, ystyria wrthyf, yr hwn sŷdd yn ymchwelyd attat trwy wylo­fain, ymprydio, a gweddio; canys Duw trugarog ydwyt ti yn llawn to­sturi, [Page 17] yn ddâ dy ymmynedd, ac yn fawr dy warder. Yr wyt yn arbed, pan ŷm yn haeddu poenau, ac yn dy lîd yr wyt yn meddwl am drugaredd.

Arbet fi, Arglwydd daionus, arbet fi, ac na ddyccer fi i waradwydd. Clŷw fi, Arglwydd, canys mawr yw dy drugaredd, ac yn ol lliaws dy drugaredd­au, edrych arnaf, trwy haeddedigae­thau a chyfryngdod dy Fendigedig Fâb Iesu Grist ein Harglwydd. Amen.

Caniadhâ, mi attolygaf i ti, Holl-a­lluog Dduw, fod i mi yr hwu wyf yn haeddu cael fymhoeni am fynrŵg wei­thredoedd, trwy gomffordd dy râd ti allu yn drugarog gael hawshád, trwy ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist.

Amen.

Yma arfera y Weddi am Faddeuant a Grâs; ac yna diwedda a Gweddi 'r Ar­glwydd.

GWEDDIAƲ i'w dywedyd yn amser trallod a blinderau.

Gan fod blinderau a thrallod yn gos­pedigaethau am bechod, yn gystal a phro­fiadau o'n ffydd a'n ymmynedd, am hynny ymostwng o flaen Duw yngeiriau y Gyffes [Page 18] rhag-ddywededig: a dôs ymlaen gan ar­feru y gweddiau a ganlyn.

DUw, Tâd trugarog, yr hwn nid wyt yn dirmygu uchenaid calon gystuddiedig, nac adduned y gorthrym­medig: cynnorthwya yn drugarog fy ngweddiau, y rhai yr ydwyf yn eu gwneuthur ger dy fron, yn fy nhrallod a'm blîn-fyd, pa rai a wascant arnaf. Caniadhâ, trwy ragluniaeth dy ddaioni di, iddynt sôd yn wascaredig, môdd na'm briwer trwy erlyn nêb, a gallu o honof byth ddiolch i ti yn dy lân E­glwys, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

MI attolygâf i ti, ô Arglwydd Dâd, yn drugarog edrych ar fyngwen­did, ac er gogoniant dy enw, ymchwel oddiwrthyf yr holl ddrygau à ddarfu i mi o wîr gyfiownder eu haeddu: a cha­niadhâ fod i mi yn fy holl drallod ddodi fynghyfan ymddiried a'm gobaith yn dy drugaredd, ac bŷth dy wasanaethu mewn sancteiddrwydd, a phurdeb buchedd i'th anrhydedd a'th ogoniant, trwy ein unic Gyfryng-ŵr a'n Dadleu-wr Iesu Grist ein Harglwydd

Amen.

CAniadhâ, ô Arglwydd, mi attoly­gaf i ti fod i mi yr hwn a haedd­aswn gael fy mhoeni am fy nrŵg wei­thredoedd, trwy gomffordd dy râd ti, allu yn drugarog gael hawshâd, trwy ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist.

Amen.

CYnnorthwya fi, yn drugarog, Ar­glwydd, yn fyngweddiau hyn, a'm herfyniau, a llywodraetha fy ffordd tuag at gaffaeliad iechyd tragywyddawl, fel ymmŷsc holl gyfnewidiau a damwei­niau y bywyd marwol hwn, y gallwyf bŷth gael fy amddiffyn drwydy radlaw­naf a'th barottaf borth, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

HOll-gyfoethog a thragywyddawl Dduw, yr hwn o'th garedigol serch ar ddŷn, a ddanfonaist dy Fâb ein Ia­chawdwr Iesu Grist i gymmeryd arno ein cnawd, ac i ddioddef angeu ar y groes, fel y gallei pôb rhyw ddŷn ddi­lyn esampl ei fawr ostyngeiddrwydd ef; caniadhâ o'th drugaredd fod i mi gan­lyn esampl ei ddioddefaint, a bod yn gyfrannog o'i gyfodiad, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

O Dduw, Brenhin y gogoniant, yr hwn a ddyrchefaist dy un Mâb Iesu Grist a mawr oruchafiaeth i'th deyrnas yn y nefoedd: attolwg i ti na âd fi yn anniddan, eithr danfon i mi dy Yspryd glân i'm diddanu, a dyrcha fi i'r un fann lle yr aeth ein Iachawdwr Crist o'r blaen, yr hwn sŷdd yn bŷw, ac yn teyrnasu gydâ thi a'r yspryd glân yn un Duw, heb drangc na gorphen.

Amen. Ein Tâd, &c.

GWEDDIAƲ trosoch eich hun, neu arall, yn Glaf.

HOll-alluog a bŷth-fywiol Dduw, gwneuthur-wr dynawl ryw, yr hwn wyt yn cospi y rhai a gerych, ac yu ceryddu pawb a'r a dderbyniech; myfi attolygaf i ti drugarhâu wrthyf dy was yrawrhon yn ymweledig gan dy law, ac i ti ganiadhâu i mi gymmeryd fynghlefyd yn ddioddefus. Ac felly sancteiddia, dy Dadol gospedigaeth hon i mi fel y bo i wybodaeth o'm gwendid, anghwanegu nerth i'm ffydd, difrifwch i'm edifeirwch, fel os bŷdd [Page 21] dy ewyllys roddi i mi fy nghynnefin ie­chyd, y byddo i mi dreulio y rhan arall o'm bywyd yn dy ofn, ac i'th ogoniant: Neu dyro i mi râs i gymmeryd felly dy ymweliad, fel y bo i mi yn ol diweddu y fuchedd boenedig hon, allu trigo gydâ thi yn y fuchedd dragywyddol, trwy Ie­su Grist ein Harglwydd.

Amen.

O Arglwydd, edrych i lawr o'r ne­foedd, golyga, ymwel, ac esm­wythâ arnaf dy was, edrych arnaf i a golwg dy drugaredd, dyro i mi gom­ffordd a diogel ymddiried ynot; am­ddiffyn fi rhag perygl y gelyn, a chadw fi mewn tangneddyf tragywyddawl a diogelwch trwy Iesu Grist ein Har­glwydd. Er ei fwyn ef, adnewydda ynof garediccaf Dâd, beth bynnac a les­câwyd trwy ddichella malais y cythraul neu drwy fy ngnawdol ewyllys fy hun a'm gwendid. Na liwia i mi fy mhe­chodau o'r blaen, eithr nertha fi a'th wynfydedic Yspryd, a phan welech di yn ddâ fy nghymmeryd i oddiymma cymmer fi i'th nodded, trwy ryglyddon dy garediccaf Fâb Iesu Grist ein Har­glwydd.

Amen.

GWEDDIAƲ trosoch eich hun, nen arall, lle na weler fawr obaith ô wellhad.

ODâd y Trugareddau a Duw pôb diddanwch, ein unic Borth yn amser angenoctid, yr wyf yn attolygu ar­nat fy nghymmorth i y rawrhon yn gor­wedd dan dy law di mewn dirfawr wen­did corph. Edrych, yn rasusol ô Ar­glwydd arnafi; a pha mwyaf y gwannhy­cho y dŷn oddiallan, nertha fi fwyfwy, mi attolygaf i ti, a'th râd, ac a'th lân yspryd, yn y dŷn oddimewn. Dyro i mi ddiffuant edifeirwch am holl gyfeili­orni fy muchedd o'r blaen, a ffydd ddi­yscog yn dy Fâb Iesu, fel y dilêuer fy mhechodau trwy dy drugaredd di, ac y selier fy mhardwn yn y Nèf, cyn i mi fyned oddiymma, ac n'am gweler i mwy­ach. Dâ y gwn, o Arglwydd, nad oes un gair rhy anhawdd i ti, ac y gelli os mynni, fynghodi i etto ar fy nhraed a chaniadhâu i mi hwy hoedl yn y byd hwn. Er hyuny yn gymmaint a bod fy ymddattodiad, hyd y gwêl dyn, yn tynnu yn agos, felly parottoa, a chymmhwysa fi [Page 23] mi attolygaf i ti, erbyn awr angeu, fel ar ol fy ymada wiad oddiymma mewn tang­neddyf, ac yn dy ffafr di, y derbynier fy enaid i'th deyrnas dragywyddawl. Golch fi mi a erfyniaf arnat, yngwaed yr Oen difrycheulyd hwnnw, a laddwyd er mwyn dilêu pechodau 'r byd, fel gan gael glanhâu a dilêu pa lwgr bynnac a gasclais yn y byd adfydig a drygionus hwn, drwy chwantau'r cnawd neu ystry­wiau Satan, y caffwyf fy ngyflwyno yn bûr ac yn ddifeius yn dy olwg di; fel felly ar y Cyfodiad cyffredin y dydd diwaethaf, y caffer fi yn gymmera­dwy yn dy olwg di, i dderbyn y fen­dith a ddatcan dy garedig Fâb yr am­ser hynny i bawb a'r a'th ofnant, ac a'th garant gan dywedyd, Deuwch chwi fendigedig blant fy Nhâd, meddienn­wch y deyrnas a barottowyd i chwi er pan seiliwyd y bŷd. Caniadhâ hyn, mi attolygafi ti, ô drugarog Dâd trwy Iesu Grist ein Cyfryng-ŵr a'n Pryniaw­dwr.

Amen.

GWEDDIAƲ tros eich Plentyn Claf.

HOll-alluog Dduw a thrugaroccaf Dâd, i'r hwn yn unic y perthyn dibennion bywyd ac angeu; edrych i lawr o'r Nef, yn ostyngedig mi attoly­gaf i ti, a golygon dy drugaredd ar fy mhlentyn, y sŷdd yr awrhon ar ei glâf­wely, ymwel, ô Arglwydd, ag ef a'th iechydwriaeth, gwared ef yn dy node­dig amser dâ o'i boen gorphorol, ac a­chub ei enaid er mwyn dy drugareddau. Os bŷdd dy ewyllys estyn ei ddydd­iau ymma ar y ddaiar, y byddo iddo fyw i ti, a hyfforddio dy ogoniant, gan dy wasanaethu yn gyfion, a gwneuthur daioni yn ei Genedl; os amgen der­byn ef i'r preswylfêydd nefol hynny, lle y mae Eneidiau y sawl a hunant yn yr Arglwydd Iesu yn mwynhâu an-orphen orphwysfa a dedwyddwch. Caniadhâ hyn, Arglwydd, er dy drugareddau yn yr unrhyw dy Fâb di, ein Harglwydd ni, Iesu Grist, yr hwn sŷdd yn byw ac yn teyrnasu gydâ thi a'r Yspryd glân byth yn un Duw, heb drangc na gor­phen.

Amen.

AMddiffyn, o Arglwydd, fy mhlen­tyn a'th râs nefol, fel y byddo iddo barhâu yn eiddot ti byth, a pheu­nydd gynnyddu yn dy Yspryd glân fwy­swy, hyd oni ddêl i'th deyrnas dragy­wyddawl.

Amen. Ein Tâd, &c.

Gweddiau trosoch eich hun, neu arall, mewn blinder meddwl, neu anhedd­wch Cydwybod.

BEndigedig Arglwydd, Tâd y truga­reddau, a Duw pob diddanwch, mi attolygaf i ti, edrych a golwg tosturi a thrugaredd arnaf i dy wasanaeth-ŵr cystuddiedig. Yr wyt ti yn 'scrifennu pethau chwerwon yn fy erbyn i, ac yn gwneuthur i mi feddiannu fy ngham­weddau gynt; y mae dy ddigofaint yn pwyso arnaf, a'm henaid sŷdd lawn o flinder. Eithr o Dduw trugarog, yr hwn a 'scrifennaist dy air sanctaidd er addysc i ni, fel trwy ymmynedd a diddanwch dy lân 'Scrythurau y gallem gael gobaith, dyro i mi iawn ddealltwriaeth o'm cy­flwr fy hun, ac o'th fygythion a'th a­ddewidion di, fel nad ymadawyf a'm [Page 26] gobaith arnat ti, ac na ddodwyf fy ym­ddiried ar ddim arall ond tydi. Nertha fi yn erbyn fy holl brofedigaethau, ia­châ fi o'm hanardymherau, Na ddryllia y gorsen yssig, ac na ddiffodd y llîn yn mygu, na chau dy drugareddau mewn sorriant; eithr pâr i mi glywed llawe­nydd a gorfoledd, fel y llawenycho yr escyrn a ddrylliaist. Gwared fi rhag ofn y gelyn, a dyrcha lewyrch dy wy­neb-pryd arnaf, a dyro i mi dangneddyf trwy ryglyddon a chyfryngdod Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

HOll-alluog a thragywyddawl Dduw, yr hwn yn wastad wyt barottach i wrando, na nyni i weddio, ae wyt arferol o roddi mwy nac a archom neu a ryglyddom, tywallt arnaf amlder dy drugaredd, gan faddeu i mi y cyfryw bethau ae y mae fy nghydwybod yn eu hofni, a rhoddi i mi y cyfryw ddaionus bethau nad ydwyf deilwng i'w gosyn ond trwy ryglyddon a chyfryngiad Ie­su Grist dy Fâb di, a'n Harglwydd ni.

Amen.

DUw, yr hwn a ddyscaist galonnau dy ffyddlonion, gan anfon iddynt lewyrch dy lân Yspryd: caniadhâ i mi trwy yr unrhyw yspryd, ddeall yr iawn farn ymhob peth, a byth lawenychu yn ei wynfydedig ddiddanwch ef, trwy ryglyddon Iesu Grist ein Iachawdwr, yr hwn sydd yn byw, ac yn teyrnasu gydâ thi yn undeb yr unrhyw yspryd, yn un Duw heb drangc na gorphen.

Amen. Ein Tâd, &c.

Gweddiau i'w dywedyd cyn yr eloch i'r Eglwys.

HOll-alluog a thrugarog Dduw, o rodd pwy un yn unic y daw, bod i'th bobl ffyddlon dy wasanaethu yn gywir ac yn foledig: caniadhâ, mi er­fyniaf i ti, allu o honof felly dy wasa­naethu di yn y bywyd hwn, fel na pha­llo gennyf yn y diwedd fwynhau dy ne­fol addewidion, trwy haeddedigaethau Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

O Dduw gan na allwn ni hebot ti ryngu bodd i ti, o'th drugaredd caniadhâ fod i'th lân yspryd ymhob peth uniawni a llywiaw fynghalon, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy Fâb Iesu Grist a roddaist i Weinidogion dy Eglwys laweroedd o o ddonniau arbennig, ac a orchymynna­ist iddynt o ddifrif borthi dy braidd, mi attolygaf i ti, roddi iddynt y don­niau hynny, a grâs i'w harferu i'th an­rhydedd a'th ogoniant; a chaniadhâ iddynt trwy eu buchedd a'u hathrawi­aeth ofod allan dy wîr â'th fywiol air, a gwasanaethu dy sanctaidd Sacramen­tau yn iawn ac yn ddyladwy: a dyro i mi ac i'th holl bobl dy Nefawl râd, fel y gallom ag ufudd galon a dyledus barch wrando a derbyn dy sanctaidd air, gan dy wasanaethu yn gywir mewn sanctei­ddrwydd ac uniondeb holl ddyddiau ein bywyd; fel ar y diwedd y bôm gy­frannogion o'th deyrnas Nefol, ac y derbyniom Goron cyfiawnder, yr hon a addewaistyn Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

Gweddiau i'w dywedyd pan ddeloch all­an o'r Eglwys.

CAniadhâ, mi attolygaf i ti, Holl­alluog Dduw, am y geiriau a glyw­ais heddyw a'm clustiau oddiallan, eu bod felly drwy dy râd, wedi eu plannu yn fynghalon oddimewn, fel y gallont ddwyn ynof ffrwyth buchedd ddâ, er anrhydedd a moliant i'th Enw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

HOll-alluog Dduw, yr hwn, o'i wîr adnabod, yw bywyd tragywyddawl: caniadhâ i mi berffaith adnabod dy Fâb Iesu Grist i fod yn ffordd, yn wirionedd, ac yn fywyd; fel gan ufuddhâu ei a­thrawiaeth a dilyn ei lwybrau ef, y bo i mi rodio yn ddyfal ar y ffordd y sy 'n arwain i fywyd tragywyddawl, drwy 'r unrhyw dy Fâb Iesu Grist ein Har­glwydd.

Amen.

ARglwydd yr hollnerth a'r cadernid, yr hwn wyt Awdwr a Rhoddwr pob daioni, planna yn fynghalon gariad dy Enw, ychwanega ynof wîr grefydd, maetha fi a phob daioni, ac o'th fawr [Page 30] drugaredd cadw fi yn yr unrhyw, drwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

ARglwydd, mi attolygaf i ti, fod dy râd bob amser yn fy rhag­flaenu, ac yn fy nilyn i a pheri o honot i mi yn wastad ymroddi i bob gweithred ddâ, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen. Ein Tâd, &c.

Gweddiau ar ddyddiau Sacrament. Y boreu cyn yr eloch allan o'ch ty.

HOll-alluog Dduw, yr hwn drwy dy unic anedig Fâb Iesu Grist a orch­fygaist angeu, ac a agoraist i ni borth y bywyd tragywyddawl; yn ufudd yr attolygaf i ti, megis (drwy dy râd hys­pysol yn fy achub) yddwyt yn peri deisyfiadau dâ i'm meddwl, felly trwy dy ddyfal gymmorth allu o honof eu dwyn i ben dâ, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd, yr hwn sŷdd yn bŷw ac yn teyrnasu gydâ thydi a'r Yspryd glân bŷth yn un Duw heb drangc na gor­phen.

Amen.

HOll-alluog, Dduw, yr hwn a rodd­aist dy un Mâb i farw dros ein pe­chodau, [Page 31] ag i gyfodi drachefn dros ein cyfiawnhâd: caniadhâ i mi felly fwrw ymmaith sûr-does drygioni ac anwiredd, fel y gallwyf yn wastad dy wasanaethu di ymhurdeb buchedd a gwirionedd, trwy haeddedigaethau dy ûn Mâb Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

HOll-alluog a thragywyddawl Dduw, dyro i mi anghwaneg o Ffŷdd, Go­baith, a Chariad perffaith; ac fel y gall­wyf gael yr hyn yr wyt yn ei addo, gwnâ i mi garu yr hyn yr wyt yn ei orchymmyn, trwy Iesu Grist ein Har­glwydd.

Amen.

HOll-alluog Dduw, Nefol Dâd, yr hwn a'm gwahoddaist i heddyw i'th fwrdd sanctaidd, llê y ministrir tra­chyssurus Sacrament corph a gwaed Crist, i'w dderbyn er coffâu ei ryglydd­us Grôg a'i ddioddefaint, trwy ba un yn unic y cawn faddeuant am ein pechodau, ac i'n gwneir yn gyfrannogion o deyr­nas Nef: yr wyf yn talu i ti ufudd a ffyddlawn ddiolch am roddi dy Fâb ein Iachawdwr Iesu Grist, nid yn unic i farw trosom, eithr i fôd hefyd yn ym­borth a lluniaeth ysprydol i ni yn y [Page 32] Sacrament bendigedig hwnnw. Yr hyn beth gan ei fôd mor dduwiol a chys­surus i'r sawl a'i derbyniant yn deilwng, ac mor embydus i'r rhai a ryfygant ei dderbyn yn annheilwng; myfi yn ostyng­edig a attolygaf i ti roddi i mi râs i wîr ystyried ardderchowgrwydd y dir­geledigaeth bendigedic hwnnw, a'r mawr berygl o'i dderbyn yn annheil­wng; ac hefyd i chwilio a phrofi fyng­hydwybod fy hunan, (a hynny nid yn yscafn ac yn ôl dull rhai yn rhagrithio a thydi ein Duw, ond) felly fel y gall­wyf ddyfod yn lân ac yn sanctaidd i'r cyfryw wledd nefol yn y wisc-briodas yr hon a ofyn Duw yn y 'Scrythur lân, a chael fy nerbyn megis cyfrannog teilwng o'r bwrdd bendigedig hwnnw. Caniadhâ hyn ô Arglwydd, er mwyn yr unrhyw dy Fâb Iesu Grist ein Har­glwydd.

[O bydd eisieu ffurf o Ddefosiwn i'w harferu yn yr Eglwys, pan fydder yn gwei­ni y Sacrament, chwi a ellwch eich wasan­gethu eich hunain allan o'r Cydymmaith Goreu.]

Amen.

Gweddiau i'w harferu ar eich dych­weliad adref o'r Sacrament.

HOll-alluog a bŷth-fywiol Dduw, yr wyf yn mawr ddiolch i ti, am fod yn wiw gennyt fymhorthi y dydd hedd­yw ag ysprydol ymborth gwerth fawroc­caf gorph a gwaed dy Fâb ein Iachaw­dwr Iesu Grist; drwy ba un yr wyt yn siccrhâu y ffyddloniaid o'th ymgeledd a'th ddaioni, ac hefyd eu bod trwy o­baith yn etifeddion dy deyrnas tragy­wyddawl. Ag yr wyf yn cwbl ddeisyfu ar dy Dadawl ddaioni yn drugarog dder­byn fy aberth hyn o foliant a diolch, gan erf yn arnat yn ostyngeiddiaf ganiad­hâu, bod trwy ryglyddon ac angeu dy Fâb Iesu Grist, a thrwy ffydd yn ei waed ef, i mi ac i'th holl Eglwys gael maddeuant o'n pechodau a phob donni­au eraill o'i ddioddefaint ef. Ac ymma yr wyf yn offrwm ac yn fynghynnhyr­chu fy hun i ti, o Arglwydd, fy enaid, a'm corph▪ i fod yn aberth rhesymmol, sanctaidd, a bywiol i ti; gan attolygu i ti yn ostyngedig fod i mi, a phawb o honom a fû yn gyfrannogion o'th Gym­mun bendigaid gael ein cyflawni a'th [Page 34] nefol fendith. Caniadhâ hyn, o Ar­glwydd, er mwyn dy drugareddau, trwy Iesu Grist dy anwyl Fâb ein Harglwydd.

Amen.

NErtha fi, mi attolygaf i ti, Ar­glwydd, a'th yspryd glân y Didd­an-ŵr: a pheunydd ychwanega ynof dy aml ddonniau o râd, yspryd doethineb a deall, yspryd cyngor a nerth ysprydol, yspryd gwybodaeth a gwîr dduwioldeb; a chyflawna fi, Arglwydd, ag yspryd dy sanctaidd ofn, yr awr hon ac yn dra­gywydd.

Amen. Ein Tâd, &c.

TERFYN.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.