ARWEINIWR CARTREFOL I'R Iawn a'r Buddiol Dderbyniad O Swpper yr Arglwydd.
Ym ha ûn hefyd, Y mae'r Ffordd a'r Modd o'n HIECHYDWRIAETH, wedi eu Gosod allan yn fyr, ac fal y bo hawdd eu deall.
Wedi ei lunio yn gyfaddas, ac yn gymmwys i'w gyssylltu a'r Rhybuddiwr Christnogawl.
Gan Theophilus Dorrington.
Ac a Gyfieithwyd i'r Gamberaeg, gan Ddafydd Maurice, D. D.
LLƲNDAIN, Argraphwyd gan J. R. dros B. Aylmer, tan lûn y Tair Colomen, gyferbyn a'r Cyfnewidty Brenhinawl, yn Ydfryn, 1700.
ARWEINIWR CARTREFOL I'R Iawn a'r Buddiol Dderbyniad O Swpper yr Arglwydd.
Y Dosparthiad cyntaf. Y Darlleydd Christianogol,
I Mae i ti ymma grynnodeb, hynny yw osod oth flaen di mewn lle bychan, y cwbwl ag sydd yn angenrheidiol ith wneuthur di yn dderbyniwr cymmwys a theilwng or Sacrament Sanctaidd a thra chyssurus corph a gwacd Iesu Grist ein Harglwydd. Ag yr ydwyf yn tybied fod y peth hyn wedi ei gynhyrcholi ai osod allan yn y cyfryw fodd ag sydd gymmhwysa a mwya tebygol gida bendith yr Arglwydd i weithio ynot ti y cy fryw gynneddfau ag sy yn angenrheidiol yn y sawl a ddelo ir Sacrament hwn, os caniattei di ir llyfran bychan ei ddarllain ef yn ddifrifol ag yn fynych. Os buost ti hyd yn hyn mor anhappus, ag yn camgymeryd dy wîr lessâad cimmaint, fal na osodaist di y pethau hyn at dy galon erioed or blaen, ac os darfu iti esceuluso yr ordinhâd bendigedig hyd yn hyn; myfi ath gynghorwn, ac a erfyniwn arnat ddarllen yn fynych, ac astudio y pethau hyn hyd oni byddych yn hollawn yn gydnabyddus ag y nhw ag mewn dwfn deimlad ag a nhw, fal y galloch di ith fantes ysprydol ddyfod wedi dy barottoi ir Sacrament hwn. Ond os y pethau a gynhwysir yn y llyfran yma a weithiasant eusus ar dy galon di ag a gowsant ddylanwad daionus ar dyfuchedd di, ag ydwit yn mynych gyrchu ir Sacrament hwn, fe a wasnaetha i ti ddarllen y llyfr hwn cyn fynyched ag y gelli y r wythnos or blaen i ti ddyfod ir Sacrament hwn megis [Page 4] parottôad cymmwys iddo. Ag am y rheini sydd yn cymmuno ar bôb dydd yr Arglwydd (fal y dymmunwn i bôb Cristion wneythyr) fe a wasnaetha yn gyffredinol yddyn nhw fyned or neulltu ryw amser ar y dydd or blaen, neu godi o'u gwelau yn foreuach ar ddydd y Sacrament, a myfyrio yn ddifrifol ar yr ymarferion a osodir allan yn y llyfr hwn yr rhai a fwriad wyd o bwrpas iw gymhwyso fo yn weithredol yr hwn sydd wedi ei gymhwyso yn ansoddol i'r Sacrament, ac sydd yn fuddiol ir pwrpas hwnnw. Yr wyf yn dywedyd yn gyffredinol fe a eill hyn fod yn ddigonol ir cyfryw, ond etto fe a eill y cyfryw weled yn angenrheidiol weithie ag yn fuddiol ydd yn pan fyddon yn cael amser i ddarllen yn holl lyfr. Y peth sydd yn angenrheidiol i wneuthur dyn yn dderbyniwr cymmwys or Sacrament hwn, sydd hefyd yn angenrheidiol, ag yn ddigonol i wneuthur dyn yn Gristion da, ac iw ddwyn ef ir nefoedd: Ag am hynny y mynegir yn y llyfr yma yn eglur holl drefn a ffordd ein iechawdwrieth ni. Fal os bydd neb ryw enaid yn aflonydd ynghylch y questiwn pwysfawr hwnnw, Pa beth a Wnâf fal y byddwyf cadwedig? efe a eill gael ei fodloni yn y llyfr yma. Ac er na chyfrifir, ac ni arferir y Sacrament bendigedig megis môdd i droi eneidiau at Dduw ag o fucheddu yn dda; etto yr wyf i yn gobeithio drwy fendith Dduw, y bydd y llyfr bychan yma yn gyfryw fôdd i lawer, os cymmeran y boen iw ddarllen ef er mwyn eu tragwyddol Happusrwydd.
Gweddi yr awdwr dros y llyfr yma ar sawl ai darllenno er mwyn ei barottoad ir Sacrament.
DƲw pob gras, carwr eneidiau, i bwy un y mae prynnedigaeth ac iechawdwriaeth dynol ryw yn dra-anwylaf; ar hwn sydd yn ein gwahodd ni ir Sacrament hwn megis y ffordd ir Nefoedd, ag fal y gallo wrth hyn roddi ini ddedwydd ragarchwaeth or nefoedd a pheth blas oi happusrwydd hi: A Ganiadhao i hwn fy egni gwan gael rhwydddeb yn ol mawredd ei nerth ai gariad, er mwyn chwanegu mewn llawer o galonnau serch ir Sacrament hwn, ai mynych ai cyssurys ddyfodiad iddo ef; ac er dwyn llawer o eneidiau i happusrwydd ar gogoniant tragwyddol, er mwyn Jesu Grist ein cyfryngwr an dadleuwr, Amen.
Yr 2 Dosp. Creadigaeth dyn.
A Gwelodd Duw yr hyn oll a wnaetheu, Gen. 1 31. ag wele da iawn ydoedd. y mae hyn yn arwyddoccau fôd y creawdwr ar ei ail-olwg ar ei weithredoedd yn ymfodloni ag yn ymhyfrydu ynthyn, ac nad oedd efe yn casau dim ar a wnaetheu: O blegid y peth yr ydem yn ei gasau, nyni a ddymmunem na byddei fo yn bôd, or lleia na byddei fo y peth ydyw. Os gan hynny y buase yr Creawdwr yn casu dim ar a wnaetheu, efe ai gwnaetheu fo yn gyfryw ag nis mynnase iddo fôd; A dyna beth nid yw yn cyttuno ag anfeidrol ddoethineb a daeoni, a gallu Duw yr hwn sydd abl i wneuthur pob peth fal y mynno iddo ef fod. Dynol ryw gan hynny, ymysc eraill o weithredoedd Duw a wnaethpwyd yn dda iawn, ac oeddent wrth fôdd eu gwneuthurwr. Yn ddiammeu efe a wnaeth ddyn yn greadur tra rhagorol ac enwog, y cyfryw un ag sydd mewn modd enwedigol yn boddhau Duw uwch law yr holl bethau sy yn y bŷd isod hwn: fal y gallwn farnu wrth y geiriau hynny yn Gen. 1. 27. Felly Duw a greawdd y dyn ar ei ddelw ei hun. Hyn oedd gogoniant neilltuol Dŷn, ar peth ai derchafodd ef yn bennaf uwch law yr holl greaduriaid oi amgylch. Ac yr oedd hynny yn sefyll yn bennaf yn y pethau hyn sy yn canlyn. Fel yr oedd gantho allu a grym i adnabod Duw ai garu ac ufuddhau iddo, felly yr oedd efe yn dueddol i wnenthyr hynny: Efe a wydde mai Duw oedd yr hanfod tragodidoccaf, ai barch ai anrhydedd iddo oedd gyfattebol iw wybodaeth: Efe a wydde mai Duw oedd y ffynnon o bôb daeoni, ai ddaeoni pennaf ef; ac am hynny efe ai dewisodd ef o flaen pôb peth, ag ai ewyllysiodd ef uwch law pob dim; ag a brisiodd ei ffafor ef ai gariad, (drwy ba un ir ydym yn mwynhau Duw) megis ei fwyaf ai unig ddedwyddwch. Nid oedd y pryd hynny ddim amryfusedd na gau ymresymiad yn ei ddeall ef, na dim gwrthnysig ddewis yn ei ewyllys ef, na dim anrhefn yn yr un oi chwantau ef nai serchiadau, na dim cynnyrfiadau ynthyn yngwrthwyneb iw reswm ef. Nid oedd dyn yn ogwyddedig mewn dim i wrthwynebu ei ddyledswdd i Dduw nag ir ûn oi gyfiawn gyfreithiau tragwyddol ef. A Dymma yr achos paham yr oedd Dyn yn dda iawn, ag yn anwyl gan ei wneythurwr. A chan fod Duw yn ei garu [Page 6] ef felly, ir oedd efe yn byw mewn perffaith heddwch ad happusrwydd. Nid oedd dim drwg yn ei flino ef, ni oedd arno ef eisiau dim ar a oedd dda iddo ef. I mae yn eglur na adawe ei greawdwr anwyl ef yn ôl o ddim, ag na phallei efe a gwneythyr erddo ef, hyd oni chyflawne efe ei holl angenrheidiau ef ai ddymmuniadau, fal y bydde efe yn gwbwl happus. Ir oedd Dyn y pryd hynny yn mwynhau gwasanaeth yr holl greaduriaid yn ewyllysgar ag yn barod oi amgylch. Ir oedd efe yn ei fwynhau ef ei hunan, ag a alle drwy ddifyrrwch ystyried a moliannu Duw am y Natur ardderchog a godidog yr hon a roese ei wneythyrwr iddo ef. Ir oedd ganddo ef yspryd addfwyn a llonydd; nid oedd dim cythryfwl oi fewn ef, na dim achlysur iddo ei geryddu nag i syrthio allan ag efe ei hunan: Ir oedd efe y pryd hynny yn mwynhau ei Dduw hefyd gan ei fôd efe yn siccr oi ffafor ef; ag yn derbyn cyfranniad gwastadol oi gariad ef. Efe a fedre, gida mawr hyfrydwch, ddyfal fyfyrrio ar, a moliannu gogoneddus briodolaethau Duw; A doethineb Duw, ai allu, ai gyfiawnder, ai ddaeoni ai wirionedd oeddent drahyfryd iddo ef, tra yr ydoedd yn siccr eu bôd nhw yn gariadus iddo, a chanthyn hoffter tuag atto ef. Dymma gyflwr cyntaf dynol ryw, ir oedd efe yn dra-rhagorol a happus; ond och! trwy eu bai eu hunain ni pharrhaodd chwaith hir.
Y 3dydd Dosp. Y Cyfammod cyntaf rhwng Duw a Dyn.
I Mae yn debygol iawn nad ydyw yr holl ymdriniad neilltuol Duw tuag at Ddyn yn y cyflwr happus hwnnw yn yr hwn i crewyd ef wedi ei fynegi ini yn y cyfri byr yr hwn i mae Moses yn ei roddi o ddechreuad y byd gan fôd yn ddigon ini wybod yn gyffredinol, pa beth ydyw y ffynhonell a dechreuad yr holl bechod ar trueni sydd yr awron yw gaffael ymmysc dynol ryw; yr wybodaeth o bwy ûn sydd o ryw ddeunydd a llessiant ini er mwyn cael ein rhyddhau o bôb un or ddau. Oddiwrth y peth a ddywedir ini or amser hwnnw, ag wrth y pethau a amlygir ar ôl hynny, ni a allwn ddyscu hyn; sef Ryngu fodd ir creawdwr, pan wnaeth efe ddyn mor anrhydeddus, i gymmeryd arno y perthynas o fôd yn llywodraethwr ar ei greadur, fel yr oedd gantho gyfiawnder diammeu yw [Page 7] reoli ef, ag a welodd yn gymmwys ag yn gyfiawnaf lyw [...] draethu arno ef er mwyn ei ddaeoni ef ei hûnan. Gan hynny nyni a allwn dybied ddarfod addaw i ddyn, y cae efe fwynhau ffafor ei wneythurwr, a pherffaith ddedwyddweh yn ei enaid ai gorph, ar yr ammod iddo barrhau mewn dyledus barch a chariad yw greawdwr, ag ufudddod iw orchymynion ef. Ag fe a yspyswyd iddo ef, y syrthie efe oi holl odidawgrwydd, ag or peth oedd yn ei wneuthur ef mor hyfryd iw wnaethurwr, ag oddiwrth ei holl happusrwydd, os na pharrhae efe yn ddiyscog yn ei ddyledswydd, a chyflawni ufydddod perffâith, fal y darfuase i Dduw roddi iddo allu i wneuthur. A dymma yr hwn a elwir yn gyffredinol y cyfammod cyntaf, neu yr Cyfammod o weithredoedd.
Y 4edd. Dosp. Sacramentau y Cyfammod hwnnw.
GWedi i Dduw wneuthur dyn ar ei lûn ai ddelw ef ei hún ag yn cynnwys enaid a chorph, ag yn gwybod sôd yn Naturiol iddo adel i olygynau ei synnwyrau wneuthur dwfn breintiad, a chael nerthol weithrediad ar ei feddwl ef: O'i anfeidrol ddoethineb ai ddaioni a ordriodd fatterion felly fal y byddei i synhwyrau dyn ei helpio ef, ai gynghori ef oi ddyledswydd, ag i siccrhau iddo happusrwydd tragwyddol am ei ufudddod. A Dymmae yr achos fal y gallom dybied, paham y neilltuwyd dau bren ymharadwys lle y gosodase fo ein rhieni cyntaf, i arfer neilltuol: y naill a alwyd pren gwybodaeth da a drwg, ar llall a alwyd pren y bywyd. Ar rhain yr ydym yn eu cyfri yn Sacramentau y cyfammod cyntaf: Oblegid fod ynthyn natur Sacramentau sef pethau ysprydol drwy ordeiniad Duw a arwyddocceir ini drwy arwyddion gweledig oddiallan. Dyn a gynorthwywyd i gofio ei ddyledswydd ai rwymedigaethau i'w wneuthurwr drwy y pren hwnnw a alwyd y Pren gwybodaeth dâ a drŵg. O ran nyni a allwn dybied fod ffrwyth y pren yma wedi ei nailltuo gan Ddnw yn hollawn ir pwrpas sydd yn canlyn: yr oedd y dyn i gymmeryd gofal ac i gadw 'r pren yma yn gystal ar lleill, ond yr oedd efe i offrymmu ei ffrwyth ef ar ryw amserau gosodedig i Dduw, megis cydnabod gweledig fod Duw yn wneuthurwr pob peth, ac yn Arglwydd goruchaf, ac yn berchennog ar y cwbl. yr oedd y pren yma gwedi ei neilltuo gan Dduw i fod yn gyssegredig, ac yn aberth moliant oddiwrth y dyn i Dduw am ei holl ddoniau eraill. Ac am yr achos yma y gorafunwyd i Ddyn fwytta [Page 8] ei hunan o honaw ef. Canys yr ydym yn cael yn amser diweddarach, fod yn beth drygfawr i ddynion fwytta or pethau a neilltuafe Duw iddo ef ei hunan. Y cyfryw ufudddod gweledig oddiallan, ag oedd yr offrymmiad hybarch or ffrwyth hwn i Dduw, ac edrych arno ef, ai arfer ef yn unig megis peth cyssegredig, oedd yn fodd rhagorol a chymmwys i rybuddio dynol ryw dros byth i gydnabod eu gwneuthurwr a'u ceidwad megis Arglwydd goruchaf, a pherchennog ar bôb peth: Fal yr ydoedd hyn yn yspysrwydd synniol, eu bôd nhw yn gwneuthur y cydnabod ymma, felly yr oedd hyn yn rhwymmedigaeth arnyn nhw y parrhaen nhw i wneuthur felly; ac i fod yn fwy cymmorth yddyn i barhau felly, ac i atteb yr holl rwymmedigaethau yr rhai sy yn deillio yn naturiol oddiwrth hynny yn helynt eu bucheddau.
Ac yma y pren arall sef pren y bywyd a ordeiniwyd i siccrhau i ddyn ei anfarwoldeb ai happusrwydd tragwyddol, ar ei berffaith ufudddod: Fel tra bydde fo yn parrhau yn ddianwadal yn ei ddyledswydd, yr oedd iddo hawl i gymmeryd ac i fwytta o ffrwyth y pren yma: Ac fe a alle ei gymmeryd ef megis gwystl gweledig a synniol oddiwrth Dduw, ac megis offeryn i'w ddwyn ef i fywyd tragwyddol ac happusrwydd: Yn yr un modd ag y mae Duw yn canniadhau ini i edrych ar yr enfus neu'r bwa yn y cwmmwl nid yn unig megis effaith naturiol or haul yn tywynnu ar y cwmmwl a fo'n barod i lawio, ond megis gwystl gweledig oddiwrth Dduw, a siccrwydd i ddynol ryw, na ddinistria Duw mor byd byth drachefn drwy ddwfr dilyw.
Y 5ed Dosp. Ynghylch pechod a chwymp dyn.
I Mae hyn yn dangos mawredd euogrwydd a drygioni oedd yn y pechod hwnnw on rhieni cyntaf. Eu pechod nhw oedd ddarfod yddynt fwytta o ffrwyth y pren gwaharddedig hwnnw; ac felly nhw a arferasant, ac a gymmerasant yddynt eu hunain y peth oedd wediei gadw ai gyssegru i Dduw. Hwynthwy a ddygasant i arfer cyffredinol y peth oedd wedi ei neilltuo drwy ordeiniad Duw i arfer grefyddol, ac oedd yn halogiad o beth cyssegredig a Sanctaidd: Ond ystyriwn ychydig mor orthrwm a ffiaidd oedd pechod ein rhieni cyntaf: Oh mor fuan yr anghofiason nhw y rhwymedigaethau mawrion a roese eu creawdwr [Page 9] mor ddiweddar arnyn nhw! Mor haelionus a fuase fo yddyn nhw! Pa faint a roddase fo yn rhwydd ac yn rhâd yddyn nhw! Ac ni attaliodd efe ac ni chadwodd ddim oddiwrthyn nhw ond un ffrwyth iddo ef ei hunan; A hwn, nyni a allwn ddywedyd, a rwgnachasant a chenfigennasant i Dduw i'w gael ef: Ni fynnen nhw fod yn fodlon ar y fath arlwy mawr ag a wnaethe ef yddyn nhw, ond nhw a fynnen hwn hefyd yddyn. Fe a fynne 'r creadur truan yr hwn a gowse ei hanfod ar cwbwl a feddeu oddiwrth D duw, fôd yn unig briodolwr ac Arglwydd pennaf ar yr holl ddaiar, ag ni fynne gydnabod yr un ywch nag efe ei hûn. Nid oedd arnyn eisiau dim or ffrwyth ymma, yr oedden yn berffaith happus hebddo ef, ac a allasen barrhau felly yn ddedwydd, ped fasen yn gochelyd bwytta o honaw ef; eithr hwynt hwy a ddirmygafant eu happusrwydd yn erbyn pôb rheswm, ac a ddarfu yddynt beryglu colli eu dedwyddwch tragwyddol er mwyn y bodlondeb ar fantes yr oeddent yn ei ddisgwil oddiwrth yr unig ffrwyth ymma. Fe a fuase 'r Creawdwr mor ddaionus tuag attyn nhw, na fynnen nhw gredu y cospe fo nhw mor dòst am fwytta o ffrwyth y pren, fal y darfuase iddo fygwth y gwnae efe, ac felly y peth a ddylase ei rhwymmo nhw i fôd yn ddiyscog yn eu dyledswydd a br [...] mewn modd mwya gwyrdraws yn annogaeth i bechod; Och ddrygioni ffiaidd a chywilyddus! Oh ystyried pob un o honom! o ba ddechreuad drygionus yr ydym i gid oll yn deillio, a bydded hynny yn ein darostwng ni, ac yn ein cywylyddio ni.
Drwy ymroi ir weithred ffiaidd ymma, nhw a gollasant y Sancteiddrwydd ar cyfiawnder hwnnw, yr rhai a ddarfuase i Dduw eu cynnyscaeddu nhw ag hwynt hwy, a thrwy ba rai yr oeddent or blaen mewn modd enwedigol yn boddhau eu gwneuthurwr. Yn hyn hefyd nhw a droseddasant y cyfammod cyntaf, yr hwn oedd yn gofyn, fod yddyn yn oestadol berchi a charu eu creawdwr, ac ufuddhau iddo ym hob peth. A digwyddiad trist o hyn ydoedd, Ddarfod yddyn wrth hyn golli ffafor Duw, a fforffettio eu holl happusrwydd eu hunain. Nhw a gollason eu holl hawl i ddaionus bethau 'r byd hwn; nhw a gollason eu hawl i ufudddod, a gwasanaeth y creaduriaid yr rhai a wnaethe Duw i'w gwasnaethu nhw; Hwynt hwy a ddaethant yn ddarostyngedig ir gospedigaeth a ddarfuase i Dduw ei bygwth yn eu herbyn, ac ar eu troseddiad yn ddiattreg a haeddasant [Page 10] eu rhoi i farwolaeth, a chael eu taflu ir lle o gospedigaeth dragwyddol a ddarparwyd i ddiafol ai angylion.
Y 6ed. Dosp. Y Cyfammod newydd.
AC nyni a allwn gredu y buase y tostedd eithaf or bygythiad hwnnw wedi ei gyflawni arnyn nhw yn y modd hwnnw yn ol y peth a ddywedodd yr Arglwydd; Yn y Dydd y bwyttei o honaw gan farw y byddi farw; Oni buase i fab Duw fyned yn gyfryngwr drostyn nhw. Ac efe a gymmerodd arno yn ewyllysgar wneuthur pa beth bynnag a fydde yn angenrheidiol i beri iddo fod yn gyttunol ag anrhydedd Duw i dderbyn ei greaduriaid gwrthryfelgar iw ffafor drachefn, ac i ddattod y rhwymmedigaeth oedd arnyn i gospedigaeth dragwyddol, ac iw hadferu nhw i berffaith happusrwydd. Ar peth a gymmerodd efe arno y pryd hynny iw wneuthur ir pwrpas ymma, nyni a allwn ddyscu a chasclu or pethau a wnaeth efe ynghyflawnder yr amser: A hynny oedd; Ddarfod iddo ei uno ef ei hunan a natur ddynol, ai wneuthur yn Ddyn. Ac y cyflawnei efe yn y natur honno ufudddod perffaith i Dduw yr Tâd, fal y gallai efe heyddu, dros ddynol ryw, yr happusrwydd yr hwn a sesydlwyd i fod yn wobr i berffaith ufudddod. Ac i escusodi dynol ryw oddiwrth y farwolaeth dragwyddol yr hon a haeddase efe am ei bechod, fe a gymmerodd arno ddiodde marwolaeth yn ei le ef, ac felly gwneuthur ei farwolaeth yn aberth dros bechodau dynol ryw. Hyn a wnaeth efe, yn garedigol dros ben, ac oi wir fodd ei hun a gymerodd efe arno ef ei wneuthyr drosom ni; ag fe ai derbyniwyd yn gymmeradwy gan y tâd, ag a siccrhawyd y cae efe drwy wneythyr hyn, ennill ffafor Duw drosom ni drachefn, yr hyn beth yr oedd efe yn ei ddymmuno. Felly efe a gafodd i ddyn na chae efe moi fwrw ymaith yn hollawn, nai daflu ir trueni tragwyddol; eithr caffael ammodau eraill o ffafor wedi ei ordeinio iddo ef. Ar oruchwiliaeth ar ordeiniad ymma ydyw 'r hwn a elwir y Cyfammod newydd. Ac fe ai gelwir y Cyfammod newydd yn ei waed ef, oblegid efe a gafwyd drwy ei waith ef yn addaw, ag yn ymrwymo i dywallt ei waed yn y natur ddynol megis aberth dros bechod. Ar hyn y canniattâwyd in rhieni cyntaf ni gael byw, a mwynhau mewn rhyw fesur, ddaionus bethau yr byd hwn am amser, ac a gawsant amser i wneuthur eu heddwch a [Page 11] Duw, ac i ennill ei ffafor ef, ac i adferu eu happusrwydd eu hunain. Rhaid ini wybod, mai er pan oedd hi yn gyfraith sefydlog o flaen cwympo o ddyn ar fod iddo genhedlu y cyfryw ag efo ei hun; ac y bydde ei heppil ef yw cyfri yn yr un cyflwr, a pherthynas tuag at Dduw ag oedd eu tâd hwynt yr hwn a'u cenhedlodd: Gan hynny pan halogwyd rhieni cyntaf dynol-ryw fal hyn drwy eu pechod; ac a gwympasant i stâd gwrthryfelwyr euog yn erbyn Duw: Rhaid oedd i'w holl hiliogaeth hwynt ddyfod ir bŷd yn halogedig, megis peth aflan allan o beth aflan, ac yr oeddent wedi eu geni or achos hwnnw yn blant digofaint; fal y dywed yr scrythyr. Y mae yr un dâsk arnom ninnau ag a ydoedd ar ein rhieni cyntaf; hynny yw, ail edfryd ac ennill yn ol ffafor Duw, a happusrwydd tragwyddol ein hunain, drwy gyflowni ammodau yr ail cyfammod yma, gan hynny gadewch ini weled, pa beth ydynt ffurf a dull y Cyfammod newydd ymma: Beth ydyw 'r dyledswyddau yr rhai a ofynnir gennym ni eu cyflawni: A pha addewidion a wnaeth Duw oi ran ynte; y bendithion yr rhai y mae 'r Cyfammod yma yn eu cynnig ini in gwneuthur ni yn gyfrannogion o honyn dan ammod ini gyflawni y dyledswyddau hynny.
Y 7fed Dosp. On rhan ni.
GAdewch ini yn gyntaf ddal sulw ar ein rhan ni or cyfammod hwn, ac yno edrych pa beth y mae Duw yn ei ofyn gennym ni, i ba rai y pregethir yr Efengil, pa beth a fydd rhaid ini ei wneuthur, os mynnwn fod yn gadwedig. Ac o ran bod Duw yn ystyried holl ddynol ryw yr awron megis creaduriaid euog a halogedig; o ran eu bod nhw wedi pechu, a'u bôd yn dueddol i wneuthur drygioni; fe a ofynnir gennym ni yn gyntaf, er ini edifarrhau a throi oddiwrth bechod. Ac yn y fan nessaf, oblegid rhaid ini droi at dduw; fe ofynnir gennym, ar ini gredu holl byngciau ffydd Grist: Ag yn ddiweddaf, bod ini ein rhwymo ein hunain, ac ymegnio i gadw holl ewyllys Duw ai orchymynion, a rhodio yn yr unrhyw holl ddyddiau ein bywyd. Ond oblegid fod calon dyn yn dwyllodrus ac yn ddrygionus; a ninnau mor ddiog i wneuthur ein dyledswydd, fal yr ydym yn anewyllysgar i wybod pa beth yr ydym iw wneuthur; Gan hynny y mae yn angenrheidiol i yspysu yn neilltuol y pethau a gynhwysir dan y tri phwncg cyffredinol hyn.
[Page 12] Y gaingc gyntaf ar fwyaf on dyledswydd ydyw; ar ini edifarrhau a throi oddiwrth bechod: Ir diben ymma rhaid ini fod mewn gelyniaeth a phob achosion pechod, a bwriadu na chânt mo'n rheoli ni. Ac am hynny y mae yr eglwys yn arfer o yspysu y gaingc ymma on dyledswydd ni fal hyn: Rhaid ini ymwrthod a diafol ai holl weithredoedd, coeg rodres, a gwagedd y byd, ai holl chwantau cybyddus, a holl anysprydol ewyllys y cnawd, fal na ddilynom hwynt, ac na'n tywyser ni ganthynt. Rhaid ini ymwrthod a Diafol, ai holl weithredoedd: Drwy gyfrwysdra, ac annogaeth yr yspryd drwg yma, gelyn ein happusrwydd ni y digwyddodd i ddynol ryw gael eu hudo ar y cyntaf i anufudddod yn erbyn Duw. Rhaid ini fwriadu gan hynny na botho ini ddim iw wneuthur ag efo byth, eithr ei ffieiddio ef, a gochelyd yr holl ffyrdd drygionus hynny o ymgynghori ag ef, na cheisio ei help ef mewn ffordd yn y byd, yr hyn beth y mae 'r byd annuwiol yn ei arfer. Ni wasnaetha ini byth trwy wybod, ac o wir ewyllys ufuddhau ir un oi orchymynion ef, na chydsynnied ar yr un oi brofedigaethau ef. Rhaid ini fwriadu ymladd yn wrol yn erbyn yr holl ddrygau ysprydol hynny ynom ein hunain, yr rhai y mae efe yn llygru natur ddynol a nhw; y cyfryw ydynt balchder, dig, cenfigen, twyll, celwydd, malais, a chreulondeb. Rhaid ini ffieiddio ei ddynwared ef, nai ddilin ef drwy demptio eraill i ddrygioni na thrwy gasau ac erlid dynion duwiol er mwyn eu duwioldeb.
Rhaid ini hefyd ymwrthod a choeg rodres a gorwagedd y byd drygionus hwn, a holl chwantau cybyddus yr unrhyw: hynny yw, rhaid ini fwriadu ac ymrwymo na cheiff serch ir byd, nag i neb na dim ag sydd ynddo reoli yn ein calonnau ni, yr hyn sydd yn wrthwyneb in cariad i Dduw. Ni wasnaetha ini adel in calonnau sefydlu ar goweth y byd, nag ar bleserau, nag ar oruchafiaeth ac anrhydedd bydol. Na wnawn y cascliad o honyn yn nôd nag yn ddiben on hegni na'n gofal pennaf ni; ac na bydded ein mwyniant o honyn yn hyfrydwch nag yn fodlonrwydd gorau gennym. Nis mynnwn mon harwain gan arferion y byd, na chanlyn y lliaws i wneuthur drŵg: Na cheiff ein perthynas anwylaf, na'r cymmwynaswyr gorau'a feddom ni ein tynnu ni i wneuthur dim yn erbyn ewyllys Duw, na rheolau ein cydwybodau ein hunain: Pan fydd o y pethau [Page 13] 'r Byd ymma pa un bynnag ai Dynion ai Da, yn cydymgais am ein Cariad a'n Dyledswydd i Dduw; er anwyled a fyddant ini, ac er eu bôd yn angenrheidiol ini, ac er y gallem yn gyfreithlon eu cadw, a'u mwynhau mewn môdd arall; etto rhaid ini fod yn barod i ymadel a'r cwbwl. Ac nyni a ymddarost yngwn i bôb anghyfleusdra drwy fod arnom eisiau, ie pethau angenrheidiol; yn hyttrach nag y gwnawn ddim iw hynnill, ag a fyddo yngwrthwyneb i Gyfreithiau Cariad Duw.
Rhaid ini ymhellach ymwrthod, marweiddio, ac ymadel â holl Ddeisyfiadau pechadurus y Cnawd: Holl Dueddiadau afreolus ac anufudd ein Nhatur lygredig sy' raid eu marweiddio a'u darostwng. Rhaid ini yrru ymaith yr holl Chwantau cnawdol hynny sy'n rhyfela yn erbyn yr Enaid; a phob Serch i ddiog Esmwythdra a Seguryd, a phob Anghymmedrolder a Thrythyllwch. Rhaid ini ymwrthod a gochelyd yr holl Bechodau anianol hynny, y rhai sydd yn camarfer ac yn difrodi yn afradlon Greaduriaid daionus Duw; y rhai sy'n caethiwo Meddyliau æ phriodolaethau 'r Enaid i Chwantau 'r Corph; ac yn gwneuthur yr Enaid yn anghymmwys i ymarfer ddyledus o'i phriodolaethau a'i Gweithrediadau; ac hefyd y rhai sy'n tueddu i flino ac i lwytho'r Corph a Doluriau. Rhaid ini ymwrthod a'r tair Ffynnonell yma o bob Drwg, Diafol, y Byd, a'r Cnawd; a rhaid ini fwriadu yn gadarn na ddilynom mo'nynt, ac na Chymmerom mo'n harwain ganthynt. A dymma 'r Fowr-gaingc Gyntaf o'n Dyledswydd dan y Cyfammod Newydd.
Yr Ail yw hon: bôd yn rhaid ini gredu holl Byngciau 'r Ffydd Gristnogol. Ac y mae hyn yn gofyn gennym addaw a chyflawni y pethau sy'n canlyn: sef bôd ini ymroi yn ddifrifol, (fal y bo'n hamser ac adeg yn gadel ini) i wneuthur y Defnydd goraf ag a allwn o Foddion Gwybodaeth Dduwiol y rhai y mae Rhagluniaeth Duw yn eu cennadhau ini; fal y gallom felly ynnill cymmaint o'r Trysor anfeidrol hwnnw ag a allwn: Na byddom drwy Esgeulusdra neu Gasineb i'r Gwirionedd, yn anwybodus o un Gwirionedd pwysfa yr dadcuddiedig: Bod ini dderbyn megis Gwirionedd siccr, pa beth bynnag a ymddengus ini ei fôd wedi ei ddatcuddio oddiwrth Dduw, am dano ef ei hunan ac am ein Ffordd ni i happusrwydd: O blegyd ei fôd yn dyfod oddiwrtho Ef yr hwn ydyw anfeidrol [Page 14] Ddoethineb, ac nid ellir mo'i dwyllo; ac sydd yn Dduw 'r Gwirionedd, ac am hynny nid eill efe dwyllo.
Y Pyngciau hyn o'n Ffydd a gynhwysir yn grynno yn y Ffurf honno o Athrawiaeth iachus, a elwir yn gyffredinol Credo 'r Apostolion; ymmysc pa rai y rhain yw 'r pennaf. Bod ini gredu yn Nuw 'r Tâd yr hwn a'n gwnaeth ni a'r holl Fŷd. Bod ini gredu yn Nuw 'r Mab, yr hwn a'n prynnodd ni a holl Ddynol- Ryw; a hyn a gynnwys y pethau yma: Rhaid ini gredu fod holl Ddynol-Ryw yn euog o flaen Duw, ac yn ddarostyngedig i'w Dragwyddol Ddigofaint a'i Gospedigaeth ef Ddarfod i Iesu Grist Mâb Duw farw megis Aberth dros bechodau Dynion: Ddarfod iddo ymdarostwng i Farwolaeth felldigedig, megis Cospedigaeth pechod yn ein lle ni, ac i'n hesgusodi rhag ei dioddef yn dragywydd: Ddarfod i'r Tad dderbyn ei Farwolaeth ef yn gymmeradwy megis iawn am bechod, ac y bydd hi yn fuddiol i bawb oll a edifarhant ac a gredant ynddo ef: sef, Y rhai sy'n tristau yn eu Calonnau am eu pechodau, a chwedi syrthio allan a hwynt, ydynt yn ymadel a hwynt, ac yn troi at Dduw; ac 'ynt yn disgwil ac yn hyderu, ar Haeddiant ei Farwolaeth ef, gael ffafr gyd a Duw. Rhaid ini gredu, mai fal y darfu i Iesu Grist farw dros ein pechodau, felly efe a adgyfododd i'n Cyfiawnhau: Gwedi iddo wneuthur cyflawn Gymmod, efe a ryddhawyd oddiwrth Rwymmau Angeu; ac a escynnodd i'r Nefoedd; a'i fod efe yn byw byth yno i Eiriol drosom: hynny yw, i gaffael ac i gyfrannu i bechaduriaid truain, yr holl Leshadau bendigedig a bwrcasodd ei Farwolaeth iddynt. Rhaid ini hefyd gredu yn Nuw 'r Yspryd Glan, yr hwn sy'n rasusol yn cymhwyso 'r holl Fendithion hynny im, a r nwn fy'n ein Sancteiddio ni, a holl Etholedig Bobl Dduw.
Ymhellach: Yr ydym hefyd yn rhwym ac fe ofynnir gennym wneuthur ein proffes gyhoedd o'r Grefydd a gynhwysir yn y pyngciau hyn; a mynegi i'r byd, yn bod, ac y byddwn yn Addolwyr yr un unic wir a bywiol Dduw, drwy un Cyfryngwr rhwng Duw a Dyn, y Dyn Crist Iesu. A rhaid ini ddewis dioddef neb-rhyw golled, neu farw, yn hyttrach nag ymwrthod a'n Ffydd neu ei gwadu. Ac yr ydym hefyd yn rhwym i ddilyn Buchedd gyfattebol i'r pyngciau hyn o Ffydd, i adael iddynt lywodraethu ein Ymarweddiadau fal y dylent wneuthur: A rhaid i'n Ffydd [Page 15] weithredu neu lafurio yn Ymarferion Cariad. Dymma 'r Ail brif-Gaingc o'n dyledswydd dan y Cyfammod Newydd.
Y drydedd yw hon: bod yn rhaid ini ymrwymo ac ymegnio i gadw Sanctaidd ewyllys Duw a'i Orchymynion, a rhodio yn yr un-rhyw holl ddyddiau 'n bywyd. Ac y mae hyn yn ein rhwymo i'r pethau yn canlyn: bod ini yn ddiwyd studio a dyscu 'Wyllys Duw, fal y mae'n yspysedig yn y Cyfreithiau a roddes ini; Na b'o ini ymresymmu na dadleu yn erbyn ein Dyledswydd, pan ddylaem ei Chyflowni; bod ini ymegnio i wybod ein Dyledswydd▪ fal y gallom ei gwneuthur. Y carwn ei Gyfraith, ac y bydd ein diben a'n Hegni gwastadol i gydffurfio a hi ymhob peth: Yr ydym yn llwyrgwbl yn ein rhwymo ein hunain, ac yr ydym yn rhwym na byddom byw mewn un pechod gwirfodd, adnabyddus, a rhyfygus. Na throseddwn mewn llawnfryd a gwybodaeth yn erbyn neb-rhyw Gyfraith Dduw. Nid ydyw 'r Cyfammod yma yn wir yn gofyn gennym gyflowni Ufudddod perffaith: O blegyd y mae hynny yn beth yr awr'on uwchlaw ein gallu: Ond y mae yn ein rhwymo i wneuthur ein goraj tuag at Ufudddod perffaith; hynny yw, na byddom o'n bodd yn euog o un pechod gwybyddus. Och! nid oes yn awr un unic Ddyn a eill yn wastadol ac yn gyflawn gadw holl Ddeddfau Duw, ond mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro: Ac un Fendith y Cyfammod Newydd ydyw, ei fod yn maddeu pechodau (fal y cawn weled yn y fan) yr hyn sy'n meddwl fod Deffygion yn ein Hufudddod goraf. Am hynny hefyd y dyscodd ein Iachawdwr ini weddio mor feunyddiol am Faddeuant pechodau, ag am ein bara beunyddiol. Ond y Cyfammod hwn ni chydddwyn a'r un, ond pechodau anwyllysgar, y cyfryw ag a wnelom drwy Anwybodaeth neu yn ddiswtta, ac o eisie Ystyriaeth, yn ddisymmwth, pan nad ydyw ein Hanwybodaeth a'n Hanystyriaeth yn 'wyllysgar, na dyledus i'r Esgeulustra o'n hunain. Ac am bechodau adnabyddus, 'wyllys-lawn, a rhyfygus, a'r cyfryw ag a wnelir yn ystyriol; y mae nhw 'n ein rhoi allan o'r Cyfammod yma, ac yn colli ini hôll hawl i'w Ffafrau a'i Fendithion, hyd oni edifarheir yn chwerw am danynt, ac yr ymadewir yn hollawn a hwynt.
Cymmaint a hyn sydd raid ini yn galonnog ac yn ddiragrith ein rhwymo a'n cylymmu ein hunain i'w wneuthur; [Page 16] a dymma ein rhan o'r Cyfammod Newydd. Hwn a elwir hefyd y Cyfammod Gras neu Ffafr; ac 'ni a allwn weled fod iddo yn gyfiawn yr Henw hwnnw, gan ei fod yn lwfio Edifeirwch am bechod, ac yn derbyn yn gymmeradwy yr Ufudddod truan amherffaith hwnnw, yr hwn yw'r cwbl a allwn yn-awr ei gyflawni: Ac nyni a gawn weled yr Henw hwnnw gwedi ei gyfiawnhau ymhellach, gan yr ymddengus, mai un o'i Fendithion a'i Ffafrau yw, ei fod yn rhoddi ini nerth i gyflowni 'n Dyledswydd.
Yr VIIIfed Dosp. Ar Ran Duw.
AC yr awr-hon yr ydwyf yn dyfod i osod allan ac i ddangos, beth ydyw Ffafrau a Bendithion y Cyfammod Newydd yma, ar Ran Duw. Beth y mae efe yn ei gynnig, ac yn ei addo, ac a rydd, ar ein Cyflowniad o'r Dyledswyddau a'r Ammodau a ofynnir gennym. A'r rhain a ellir eu hamgyffred dan y tri hyn o Byngciau gwerth-fawr a phwys-fawr.
Y Cyntaf yw cyflawn a rhad Faddeuant o'n holl Bechodau. Duw a ddelea ein holl Anwireddau, megis allan o'i Goffadwriaeth; a anghofia y buom yn Bechaduriaid, ac a'n trina fel rhai Cyfiawn: A Rydd heibio ei drachyfiawn Ddigofaint yn ein herbyn, ac a'n cowleidia â breichiau Trugaredd a Chariad. Yr hwn a allase yn Gyfiawnaf ein dinistrio a Dinistr Tragwyddol, a lawenycha drosom, i wneuthur ini ddaioni. Efe a faddeu ein haneirif liaws o Bechodau; a faddeu y Camweddau mwyaf; a faddeu, ie ein pechodau gwybyddus, 'wyllyslawn, ac ystyriedig, a'n harferion o bechu; ar ein Hedifeirwch a'n Llwyr-Ymadawiad a hwynt. Ac Edifeirwch cyffredinol ac Ymddygiad gostyngedig tuag at Dduw, a gant Faddeuant am y Gwendidau a'r pechodau an'wyllysgar hynny, y rhai nid 'ym yn dal ar ein bod yn euog o honynt, a'r rhai nid allwn fod yn llwyr-ryddion oddi-wrthynt. Ac wedi maddeu'n pechodau fel hyn, mae Rhedfa Trugaredd yn rhydd; mae ei holl Rwystr gwedi ei symmud, ac nyni a allwn fyned yn hyf at Dduw yn Enw Iesu Grist, megis at Dad gwedi ei gymmodi; a chredu ei fôd yn barod i roddi ini bob peth angenrheidiol i'n Hiechydwriaeth.
Nesaf Ffafr a bendith y Cyfammod hwn ydyw, adferu Delw Duw ynom yn ein Sancteiddiad. Os ar gynnig y Cyfammod hwn ini, nyni a'i derbyniwn, ac ydym yn [Page 17] ewyllysgar i ymostwng i'r Ammodau y mae yn eu gofyn, ac i'n rhoddi n hunain i fynu i Fuchedd o Sancteiddrwydd a Chyfiawnder yn ôl Deddfau Duw; efe a rydd ini Nerth Ysprydol i gyflawni ein Dyledswydd cyn belled, ag y cawn ein derbyn yn gymmeradwy drwy Gyfryngiad Iesu Grist. Oni chymmerwn arnom; nid ellwn gyflowni: ond os nyni a gymmerwn arnom, ac a'n rhwymwn ein hunain i wneuthur ein Dyledswydd, efe a roddiff ini allu iw gyflawni. Fe a alle ymddangos yn beth rhyfedd, i Dduw ofyn gennym ein rhwymo ein hunain, a chymmeryd arnom wneuthur peth nis gallwn ei wneuthur o honom ein hunain, (fal yr ydym drwy 'n rhwymo 'n hunain i wneuthur yr holl bethau hynny a grybwyllwyd o'r blaen) oni bae fod ein gwaith ni ei hun yn ein rhwymo ein hunain i hyn, yn rhoi ini hawl, drwy Ddull y Cyfammod hwn, i Ras digonol ini. Yn holl Gynghorion yr Efengyl i Ddyledswydd Pennodol, nyni a allwn gyfrif fod yn gynnwysedig hefyd gynnig o Gymmorth Duw, yr hwn a roddir i'r Sawl sy'n ymroi, yn arfaeth a dymuniad ei Enaid, i gydymddwyn a'r Cynghorion hynny. Ni cheiff neb gan hyn ny sylfaen i achwyn y gadawe efe ei Bechodau adnabyddus ac y gwnae y Dyledswyddau a ŵyr ei fod yn eu gadel heb wneuthur, eithr nid all wneuthur felly. Canys os Dyn a ddymuna yn ddiffuant adel eu bechodau, ac a ymroiff iw Ddyledswydd, ac a arfer yn ddiwyd y Moddion a allant ei alluo ef iw wneuthur: Hynny yw, Os efe a waitia ar Dduw am y Gras hwn, drwy weddi daer a pharhaus, a dyledus ddyfal-lynu wrth bregethiad y Gair, a'r Sacramentau, fe a ddaw y dyn hwnnw yn ddisiom i allu gwneuthur y peth y mae fal hyn yn ei 'wyllysio ac yn ei ddymuno. Canys, Y sawl sydd arno newyn a syched am Gyfiawnder, efe a ddiwellir, fal y dywed ein Iachawdwr, A Duw a rydd yr Yspryd Glan i'r rhai a ofynnont gantho. Ffafr y Cyfammod Newydd hwn ydyw, ein Cynnorthwyo i wneuthur y peth y mae yn ei ofyn gennym ei wneuthur.
Diweddaf Ffafr a bendith y Cyfammod hwn, yw Dedwyddwch Tragwyddol y Corph a'r Enaid ill dau yn y Nef. Yn siccr, y mae 'r Cyfammod yma yn ein gadel yn ddarrostyngedig i Farwolaeth Naturiol; i gofio ini ein heuog Wrthryfelgarwch yn erbyn Duw: fal na bo ini anghofio yn bod yn bechaduriaid, ac yn haeddu Marwolaeth Dragwyddol: O bwrpas, fal y gallo teimlad o hyn fywioghau [Page 18] ein dymuniad a'n gofal i ail-gaffael Ffafr Duw, a'n gwneuthur yn barodtach ac yn 'wyllysgarach i ymddarostwng i'r Ammodau o'i hail-gaffael. Ond ni cheiff Angeu chwaith hir Lywodraethu arnom: Ni ad Duw mo'r Enaid yn Ʋffern; hynny yw, ni cheiff efe fod bob amser yn wahanedig oddiwrth y Corph; na'r Corph chwaith fod yn wastadol yn ddarostyngedig i VVradwydd a Chospedigaeth ei Ymddattodiad▪ Gan fod y Pechodau a haeddasant Farwolaeth, yn faddeuedig; y Creadur a ryddheir oddiwrthi: Ac y mae Adgyfodiad ein Hiachawdwr oddiwrth y meirw, yn siccrhau yn yspysol Adgyfodiad y sawl sy'n Credu ynddo ef. Efe a addawodd hefyd roddi iddynt Fywyd Tragwyddol, a'u Cyfodi i fynu drachefn yn y dydd diweddaf. Y Corph, y pryd hynny, pa fodd bynnag y byddo gwedi ei danu a'i wasgaru, ac yn golledig i holl Wybodaeth Dynion, a gesglir ynghyd drwy Ddoethineb Duw; ac a gysodir i Fywyd, drwy ei holl-alluog Nerth ef: Ac fe a'i hadgyfodir gyda mantes fawr; efe a hauwyd yn Gorph Anianol, efe a gyfodir yn Gorph Ysprydol; efe a hauwyd mewn Llygredigaeth, ond fe a'i cyfodir yn Anfarwol. A'r Enaid a geiff ei uno ag ef drachefn, ac nis gwahenir byth mwyach: Eithr y ddau a gymmerir i fynu i breswylio mewn lle dedwydd a gogoneddus, lle y mae Digonolrwydd Llawenydd, a Digrifwch yn dragywydd: I fyw yng Hymdeithas a Chymmundeb Angylion mwynion, dedwydd, a gogoneddus: I breswylio yng-wydd Duw, ac i ddwys-fyfyrio arno, ac iw foliannu, a'i garu ef, a llawenychu yn ei Gariad ef yn dragywyddol. Dymma'n awr holl Ddull y Cyfammod Newydd, yr hwn a gafwyd ini drwy Werthfawr Waed Iesu Grist, ein caredig a'n galluog Ddadleuwr.
Y IXfed Dosp: Sacramentau y Cyfammod hwn.
A'R Cyfammod hwn hefyd sydd gantho ei Sacramentau. Duw a ordeiniodd Weithredoedd ac Arwyddion synniol, yn, a thrwy ba rai y mae iw wneuthur rhyngtho ef a Ninnau. Ac yn arfer y Sacramentau hyn, rhaid ini dystiolaethu ein Cydsynniad a'r Cyfammod yma, ac arwyddoccau, yn bod yn ein cydnabod ein hunain yn rhwymmedig ynddo. Ac yn yr Arferiad o'r rhain, y mae yn rhaid ini ddisgwil ac aros am y Bendithion a'r Ffafrau ar Ran Duw iw rhoddi ini. Trwy'r rhain yr ordeiniodd efe gyfrannu y Rhadau hynny yr rhai a allwn yr amser [Page 19] presennol eu derbyn, y cyfryw rai ydynt Maddeuant o'n pechodau a Sancteiddiad ein Nhaturiau; ac hefyd i siccrhau yr hyn yr ydym i obeithio am dano, ein Dedwyddwch a'n Gogoniant Tragwyddol. Y Rhain sy' angenrheidiol ini eu harferu, gan hynny, os Moddion ac odfa a gennadheir ini i wneuthur telly. fal y byddom Gyfrannogion o'i Radau: Ac yn eu harferu rhaid ini yn ddiffuant bwrpasu a'n rhwymo 'n hunain i gyflowni 'n Dylediwydd. Y Sacramentau ordeiniedig i fod, fal y gallwn ddywedyd, yn offerau y Cyfammod hwn er dyfodiad Christ, y rhai ydynt y cwbl sy'n perthyn yn agos ini, ydynt y Bedydd, a Swpper yr Arglwydd. Y Rhai'n, a'r rhai'n yn unig, ydynt yr awron yn gyffredinol, angenrheidiol i Iechydwriaeth.
Trwy y Bedydd y derbynir ni i'r Cyfammod hwn, ac yr ydym yn gwneuthur ein cyhoeddus Gymmeriad cyntaf o honaw. Trwy Swpper yr Arglwydd yr ydym yn ei adnewyddu, os torwyd ef o'n rhan ni drwy neb-rhyw Bechod 'wyllyslon gwneuthuredig ar ol ein bedyddio: Neu yr ydym ynddo yn tystiolaethu ac yn declario ein dibaid barhad ynddo, a'n pwrpas a'n dymuniad i wneuthur felly; os bu i neb o honom fyw mor ddedwydd er pan fedyddiwyd ni, ag na threisiasom neu na thorrasom erioed y Cyfammod hwn, drwy un pechod 'wyllyslon adnabyddus.
Gwir yw, pan ydys yn ein bedyddio ni yn ein Mebyd, nid ydym yn gymmwys neu yn alluog i feddwl ac i fwriadu yn yspysol, cyflawniad ein rhan yn y Cyfammod hwn; o ran nid ydym y pryd hynny yn ei ddeall neu ei wybod. Eithr y mae'r Sacrament hwn ym hwrpas Duw gwedi ei ordeinio i fod y Sacrament o'n Derbynniad i fewn i'r Cyfammod yma, er Ymddangho [...]iad Iesu Grist yn y Byd. Ac, fel yr oedd hwnnw a oedd y Sacrament o'r Derbyniad hwn i fewn, dan yr Orchwyliaeth Iddewaidd, drwy ordeiniad Duw yn Finistriedig i blant wyth Niwrnod o oed; felly yr Eglwys Gristnogol, ie er amseroedd yr Apostolion a arferodd Finistrio Bedydd i Fabanod; o ba le nid ydyw iw ammeu na ddarfu iddynt ddyscu gwneuthur hyn, oddiwrth yr Apostolion eu hunain: Ac y mae'n Iachawdwr yn rhoi ini Annogiad eglur i'r Arferiad, pan ydyw 'n dywedyd, Gadewch i blant bychain ddyfod attaf fi; ac na waherddwch iddynt; canys eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas [Page 20] Nefoedd. Y mae'n heglwys ni gan hynny, (fal yn ddiamai y dylai hi wneuthur) yn ministrio Bedydd i Fabanod, fel y derbyniont ran o Fendithion y Cy fammod Newydd iw Hiechydwriaeth.
Ond o blegyd fod Rhwymedigaeth ar Ran y Sawl a fedyddir 'n gynwysedig yn ei dderbyniad ef o Fedydd; Doethineb a Duwioldeb yr Eglwys a welodd yn gymmwys iddi gael ei hyspysu hefyd: Er mwyn cael o'r Sawl a fedyddir ei argyoeddi felly yn well ar ol hynny, ddarfod iddo ei rwymo ei hun fal hyn yn ei Fedydd. Ac o blegyd nas geill y plentyn bychan ei hunan yspysu hyn, fe ddarfu i'r Eglwys ragddarbod, bod i ryw Garedigion Cristnogol wneuthur hynny trosto, y rhai ydynt Dystion hefyd ddarfod gwneuthur y peth. Ac y mae'nt yn rhwym i gymmeryd gofal, am ini (Blant) fal y cynnyddom i arferu 'n Synwyr, gynnyddu hefyd yn y Gwybodaeth o'n rhan yn y Cyfammod hwn, a dyfod i ddeall y peth yr ydym yn rhwym iddo.
Ac fal y bo i'r Sawl a Fedyddiwyd, ei hun siccrhau a chadarnhau ei Fedyddiol Rwymedigaeth rhaid iddo, pan allo arfer ei Synwyr, a gwybod ei ran o'r Cyfammod hwn, yn rhwydd gydsynnied ag ef, a'i adnewyddu ar gyhoedd; ac felly rhaid iddo ei wneuthur yn VVaith a Gorchwyl o'r eiddo ei hun, ei gyssegru ei hunan i Dduw. Hyn a ordeiniodd ein Heglwys ni yn ddigon cyfiawn, iw wneuthur yn barchus ac yn gyhoeddus wrth dderbyn conffirmasiwn. Peth, osywaeth! yr ydys yn ei esgeuluso yn ormod, i fawr Fethiant gwir Dduwioldeb Christnogol yn ein plith: Ond ped feid yn arfer hyn yn ddyledus ac yn gyffredinol, 'ni a gaem yn ol pob tebygoliaeth weled 'chwaneg o Ddynion yn byw yn ol eu Bedyddiol Adduned, ac fal y gweddai i Gristnogion, nag sydd yn arferol.
Eithr yr ydys yn bwriadu 'r Ymadrodd yma yn bennaf, i ddwyn Dynion yn barodtous i Swpper yr Arglwydd, fal y gallont yn deilwng ac yn llesiol dderbyn hwnnw; ac am hynny ni wasnaetha gwneuthur mor fath droead oddiwrtho a sefyll yn hir ar neb peth arall gosodedig i lawr, ond sy'n angenrheidiol a gwasnaethgar i'r amcaniad a'r diben hwnnw o honaw.
Y Xfed Dosp: Swpper yr Arglwydd yn Siccrhad o'r Cyfammod hwn.
MI a ddygaf yr awron gan hynny, yr Ymadrodd yn nes at Sacrament Swpper yr Arglwydd, yr hwn a fu yr holl amser hyd yn hyn yn arwain ac yn tueddu tuag atto. Ac mi a ddechreuaf dreuthu yn nailltuol ynghylch hwnnw, drwy ddangos, ei fod gwedi ei ordeinio a'i fwriadu gan Dduw megis Defod a mmodol, a'i fod iw arferu megis y cyfryw gennym; megis Ceremoni ym ha un y mae y Cyfammod Newydd rhwng Duw a dyn yn cael ei adnewyddu a'i gadarnhau. Hyn, drwy ychydig chwiliad, a gawn weled yn ebrwydd ei fod yn ddigon eglur yn yr Yscrythur Lan.
Y mae'n Iachawdwr ei hun, pan ordeiniodd efe y Sacrament hwn gyntaf, yn dywedyd fal hyn am dano, pan oedd efe yn rhoddi 'r Cwppan iw Ddiscyblion; Y Cwppan hwn yw 'r Cyfammod Newydd yn fy Ngwaed i, Lu. 22. 20. O blegyd y peth y mae'n Cyfieithiad ni yn ei gyfieithu Testament yno, a fuasei wedi ei gyfieithu yn unionach ac yn fwy priodol Cyfammod. Meddwl eglur ein Iachawdwr yw hyn, Cymmerwch y Cwppan yma, megis yr offeryn o Drosglwyddiad bendithion Nefol y Cyfammod Gras i chwi, y rhai ydynt amhrisiol bwrcasau fy Ngwerthfawr Waed i. drachefn, pan ydyw 'n Harglwydd yn dywedyd am y bara yn y Sacrament hwn, hwn yw fy Nghorph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch; ac am y Cwppan, hwn yw fy Ngwaed o'r Cyfammod Newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer er maddeuant o'u pechodau: Y mae efe yn amlwg yn meddwl, Fod y Sacrament hwn wedi ei fwriadu i adnewyddu ini y bendithion a'r Ffafrau, y rhai ydynt bwrcasau ei haeddedigol Farwolaeth ef, a'i aberth yr hwn a offrymmodd efe i Dduw drwy farw trosom. Ac y mae'r Apostol St. Paul yn yspys yn ein dyscu i ddeall ein Harglwydd fal hyn: Cynys y mae efe yn dywedyd am y bara yn y Sacrament hwn, Cymmun Corph Crist yw; Ac am y Cwppan, Cymmun Gwaed Crist ydyw, 1 Cor. 10. 16. Wrth Gymmun, y mae efe yn meddwl y cyfraniad o'r rhain. Fe a bwrpasir yn ffyddlawn gan Dduw, fod, yn yr Arfer o'r Sacrament hwn, i'r sawl sy'n dderbynyddion addas, gael cyfran o Gorph a Gwaed Crist; ac i'r Bara hwn a'r Cwppan hwn gael bod y Cyfranniad o Gorph a Gwaed Crist [Page 22] iddynt: Yr Elementau hyn oddiallan o Fara gwedi ei dorri, a Gwin wedi ei dywallt allan, a gant ddwyn gyda nhw, i'r Eneidian hynny sy'n eu derbyn yn ostyngedig ac wedi eu parodtoi, y Gras Ysprydol hwn: trwy ba foddion hwy a gant fod yn Gyfrannogion o'r Lleshadau a'r Bendithion a bwrcaswyd trwy archolli a thorri Corph, a thywallt Gwaed ein Hiachawdwr, y Bendithion a gafwyd drwy Werthfawr Aberth ei Farwolaeth ef; y rhai ydynt fendithion y Cyfammod Newydd a soniwyd am dano o'r blaen.
Fe ordeiniwyd y Sacrament hwn gan Dduw i fod yn Wystl a Throsglwyddiad siccr o'r bendithion hyn, ac fe fydd felly yn weithredol a didwyll i dderbynyddion addas: Ni bydd Duw byth yn ddeffygiol iw Sacramentau, nag a adewiff hwynt heb yr Effaith y mae efe yn eu hamcanu nhw erddo, oni bydd y derbynyddion o honynt yn ddefsygiol iddynt eu hunain. Y mae efe yn bwriadu yn ffyddlon Adnewyddiad a Chadarnhad y Cyfammod hwn â ni yn y Sacrament hwn, ac a'i gwneiff yn weithredol os ydym ni yn ddiffuant yn amcanu yr un peth.
A bod Ad newyddiad ein rhan ni o'r Cyfammod wrth dderbyn y Sacrament hwn, yn ddisgwiliedig a gofynedig gan Dduw, nid all ddewis na ddeellir yn ddigon hawdd. Pan ydyw Duw yn cynnig pethau daionus tan Ammodau a Chydsynniadau, y mae efe yn gofyn ein Hymrwymiad ni i gyflowni 'r Ammodau hynny, os mynnem dderbyn rhan o'r pethau daionus hynny; ac y mae'n gwaith ni yn derbyn yn garedig y Cynhygion y mae efe yn eu gwneuthur, yn arwyddoccau, ac fe a ddylai arwyddoccau, Cymmeriad yr Ammodau rheini yn gymmeradwy, a'n hymrwymiad ni iw Cyflowni hwynt. Yn siccr nid ydyw Duw un amser yn amcanu cael o honom fod yn gyfrannogion o'r pethau daionus hynny, heb gyflowni 'r Ammodau hynny Pan ddywedir, Y mae Duw yn rhoddi yr Yspryd Glan i'r rhai a of ynnont gantho, fe arwyddocceir mai gofyn yw'r Ammod a'r Modd angenrheidiol i gaffael; pan ydys yn dywedyd, Fe a roddodd Duw ei unig-anedig Fab, fel na choller y rhai a gredont ynddo ef, onid caffael o honynt Fywyd Tragwyddol; Yr ydys yn gofyn, credu o Ddynion megis Ammod er caffael o honynt Fywyd Tragwyddol. Felly pan ddywedir, Iesu Grist ydyw Awdwr Iechydwriaeth i'r rhai a ufuddhant iddo; ac, Edifarhewch, fel y deleer eich pechodau: Y mae 'r pethau hyn y arwyddoccau yn eglur, na faddeuir ein pechodau, [Page 23] oddieithr ini Edifarhau am danynt; nac a fydd yr Iesu Bendigedig ei hun yn Iachawdwr ini, oni chyssegrwn ein hunain iw VVasanaeth ef, ac ymrown i ganlyn ei siampl a'i Hyfforddiad ef. Yn awr hyn yn bod didorr Arfaeth yr Efengyl; Angenrhaid ydyw ini gasclu, mai pan gynhygir ini gael ein gwneuthur yn gyfrannogion o'r Bendithion hyn yn y Sacrament hwn, y mae yn ofyn edig, bod yn rhaid ini, os mynnwn eu cael hwynt, ein rhwymo ein hunain i gyflawni y cyfryw Ammodau.
Ein gwaith ni gan hynny yn derbyn y pethau hynny y rhai ydynt Wystlon a Siccrhadau Duw am y Bendithion rheini dan Ammodau, sydd yn broffes a mynegiad oddiallan ein bod ni yn ymrwymo i wneuthur y peth a ofynir gennym: Ac oni bydd ynghyd ar broffes oddiallan bûr Fwriad oddimewn, Rhagrith erchyll ydyw, ac y mae'n gwneuthur dyn yn ddiamai yn euog o Gorph a Gwaed Crist: Fe a gyfrifir ddarfod iddo amherchi a halogi Corph a Gwaed Crist, fel y darfu i'r dynion melltigedig a'i lladdasant ef. Y mae'r derbyniad o'r Elementau hyn yn y Sacrament▪ yn broffes a mynegiad oddiallan ein bod ni yn derbyn Cyfammod Duw yn gymmerad y, ac yna y mae'n ddiddadl yn ein rhwymo ni yn ddiffuant i fwriadu ein cyflowniad o'i Ammodau.
Y mae'r Apostol yn eglur yn rhoi ini'r Addysc yma yn 1 Cor. 10. gan ei fod yn dangos, fod y weithred o gymmeryd rhannau o'r Sacrament hwn, yn ddefod o'r un Natur ac Arwyddoccad a Bwytta o'r Aberthau a offrymmesid i neb-rhyw Dduw. Fel yr oedd y bwytta o'r Aberthau rheini gan hynny yn arwyddoccau ei gydnabod ef yn Dduw, i'r hwn yr Aberthesid, ac felly yr ymrwymiad o honynt eu hunain iw addoli ac i ufuddhau iddo; a'r Hyder ar yr Aberth hwnnw er cael Ffafor a derbyn bendith oddiwrtho ef; felly y bwytta o Swpper yr Arglwydd, sydd raid ei gyfrif ei fod yn arwyddoccau ac yn declario 'r un proffessau a Rhwymedigaethau. Dymma 'r bwytta o Aberth a wnaethpwyd i Dduw, sef o'r Aberth mawr o Gorph a Gwaed Crist; ac am hynny rhaid yw bod gyd ag ef, Ffydd neu Hyder ar y Sacrament hwnnw er cael Ffafr gydag Ef; ei gydnabod ef ei fod yn Dduw; a'r rhwymiad o honom ein hunain iw Anrhydeddu, iw garu, ac i ufuddhau iddo. Am yr achos yma y mae'r Apostol yn gorafyn yn y bennod honno i'r sawl a chwenychent dderbyn cyfrannau o'r Sacrament [Page 24] hwn, fwytta o neb-rhyw Wleddoedd ar Aberthau a offrymmesid 1 Ddelwau y Cenhedloedd; yr Aberthau rheini medd efe, a offrymmid i Gythreuliaid: Nid ellwch yfed o phiol yr Arglwydd a phiol y Cythreuliaid; Nid ellwch fod yn gyfrannogion o Fwrdd yr Arglwydd a Bord y Cythreuliaid; medd efe Adnod 21. Nid ellwch, a eill feddwl, y mae'n amhossibl, i chwi yn ddidwyll bwrpasu 'r peth a arwyddocceir wrth y ddau beth hyn; hynny yw, cydnabod y gwir Dduw meg is Duw, a chydnabod y Cythreuliaid rheini megis Duw, canys wrth gydnabod y Naill, yr ydych yn arwyddoccau ymwrthod a'r lleill. Yn siccr, y mae'r gwir Dduw 'n gofyn, os ydych yn ei gydnabod ef, eich bod yn ymwrthod a phob un arall: Neu rhaid iddo feddwl, Ni ddylaech chwi wneuthur felly. Os cymmerwch gyfrannau o phiol a Bwrdd yr Arglwydd, rhaid i chwi yn ddiffuant fwriadu wrth hynny ei gydnabod ef; ac yna rhaid i chwi beidio a gwneuthur Cymmaint ag ymddangos eich bod yn cydnabod y Cythreuliaid ffiaidd rheini drwy fwytta o'r Aberthau a offrymmwyd iddynt hwy: Gan hynny y mae efe yn chwanegu yn y 22 Wers, Eu bod, wrth wneuthur fel hyn, yn gyrru 'r Arglwydd i Eiddigedd; O blegyd eu bod wrth hyn yn gwneuthur ymddanghosiad a lliw o ymadel ac ymwrthod ag ef. Y mae'r Apostol gan hynny yn dyscu ini yn eglur, ein bod wrth dderbyn y Sacrament hwn, yn gwneuthnr proffes a danghosiad o anrhydeddu a chyfammodi a Duw, ac y dylaem ni o herwydd hynny yn wir ac yn ddiffuant ei amcanu ef.
Mi a allwn ddangos fod yr Henw Sacrament wedi ei roddi i'r Ordinhad yma gan y Prif-Gristnogion, o blegyd yr oeddent yn cyfrif fod Cydgymmeryd y Swpper hwn yn arwyddoccau ein ymrwymiad ni i wasnaethu ac anrhydeddu, i garu ac ufuddhau i Dduw, ac i ymddiried ynddo; i fod yn Ddeiliaid a Gwasnaethyddion ffyddlon iddo. Ac mor adnabyddus ydoedd, a'u bod nhw yn ei arferu megis Ceremoni o gyfammodi a Duw; a bod y Cenhedloedd eu hunain yn gwybod hyn, ac am hynny y mae un o honynt wrth siarad am y Cymmanfaoedd Cristnogol i Addoli yn ei amser ef (ymha rai yr oeddent yn Wastadol yn Cyd-gymmeryd y Sacrament hwn) yn dywedyd; y byddent yn ymgyfarfod ynghyd ar Ddiwrnod gosodedig cyn (goleuni 'r) Dydd (yr oedd hyn rhag ofn eu Gelynnion) ac [Page 25] yno yn eu rhwymo eu hunain a llw neu Sacrament na byddai iddŷnt Ladratta dim, neu Odinebu, na bradychu un peth Ymddiriedig, neu wneuthur yn dwyllodrus a'u Cymmydog, na'r cyfryw. Yr oeddynt hwy, y pryd hynny, yn cymmeryd y Sacrament hwn megis Rhwymedigaeth i fod o Grefydd Iesu, ac felly i gyflawni Cydtundeb ac Ammodau y Cyfammod Newydd: Rhaid i ninnau gan hynny, pan dderbyniom ef, fwriadu yn diffuant Siccrhad y Cyfammod hwnnw.
XI Dosp. Annogaeth i ddyfod i Swpper yr Arglwydd.
MI a safaf yr awron ychydig ar Annogaeth Daer i fynych gyrchu i'r Sacrament hwn, yr hyn beth y mae gwaelawn a gresynol Esgeulustra 'r amseroedd ymma, a'r digwyddiadau athrist a ganlynant yr Esgeulusdra hwnnw, yn ei wneuthur ond rhy angenrheidiol.
Bydded yspys gan hynny i Bawb, fod, pan ddelont i oedran, ac ydynt yn gallu gwybod ac adnewyddu eu Hadduned a'u Cyfammod a wnaethont yn eu Bedydd, yn orchymmynnedig iddynt gan ein Harglwydd Iesu Grist ei adnewyddu a'i siccrhau yn y ffordd ymma. Y maent, heb allu iw rhyddhau, yn rhwym i dderbyn y Sacrament hwn, yn siccrhad o'r Cyfammod hwnnw. Nid oes Neb gwedi ei adael yn rhydd i wneathur yr un a fynno ai derbyn y Sacrament hwn ai peidio; Eithr os bydd Rhagluniaeth Duw yn rhoddi iddo Foddion ac Adeg i wneuthur felly, y mae'n rhwym i ymbarodtoi a'i dderbyn. Os bydd Dyn un amser yn esgeuluso ei barodtoi ei hun iddo, ac ydyw o herwydd hynny yn anghymmwys, ac yn aros ymaith o ran ei fod yn anghymmwys, yn y Cyflwr hwnnw, fe a'i bernir ddarfod iddo esgeuluso 'r Sacrament ei hunan. Y sawl nid yw yn ymegnio i fod yn barod, ac iw dderbyn cyn fynyched ac y ceiff odfa iw wneuthur yn y Gynnulleidfa honno o Gristnogion, yr hon y mae Trefn yr Eglwys ac Ufudddod iw Llywodraethwyr yn ei rwymo ef i ymgyssylltu a hi; Y mae cyn fynyched yn ei esceuluso a'i wrthod, ac y mae fal hyn yn ymgadw oddiwrtho. Ond esceuluso a gwrthod hwn, rhaid ini wybod, yw Esceuluso a gwrthod Bendithion digymhariaid y Cyfammod Newydd; cael Maddeuant ein Pechodau gwedi ei adnewyddu a'i selio; Cynhyrfiadau Bendigedig yr Yspryd Glan wedi eu hadnewyddu ynom; a'n Hawl i [Page 24] [...] [Page 25] [...] [Page 26] Ddedwyddwch Tragwyddol wedi ei siccrhau, a'n Gobeithiau o honaw gwedi eu cynhyddu a'u cryfhau; hyn yw esgeuluso ein Lleshad ein hunain, a chyffroi Digofaint Duw yn fwy na thrwy neb-rhyw Bechodau eraill, gan esceuluso Cynhygion ei Ras a'i Drugaredd ef.
Gwybydded y sawl oll ac sydd heb feddwl am y Sacrament yma un amser, nac ydynt un amser yn ymbarodtoi iddo, nac yn ei dderbyn, eu bôd wrth hynny yn dangos ymwrthodiad a'u Cyfammod a Duw, ac yn eu torri eu hunain ymaith oddiwrth holl obeithiau a disgwiliadau am Ffafrau a Bendithion y Cyfammod Gras, layd oni edifarhant am yr euog esceulusdra hwn o'u Dyledswydd, ac felly dyfod i'r Sacrament hwn gwedi ymbarodtoi iddo. Oh Greaduriaid gresynol! y maent yn dewis aros mewn Cyflwr o Ddamnedigaeth. Yn ddiamai y Dyn a wrthwynebodd ei Gyfammod, drwy fyw mewn neb-rhyw Bechod 'Wyllyslon ar ol ei fedyddio: Os y Dyn hwnnw nid ydyw yn llwyr-fwriadu ymadel a'i Bechod, a dyfod i'r Sacrament hwn, ac wrth hyn ymrwymo iw Ddyledswydd, fe a'i cyfrifir yng olwg Duw yn un sy'n ymwrthod a'i Gristnogaeth, yn gwadu'r Arglwydd a'i prynnodd, yn mathru Gwaed y Cyfammod; Gwaed Crist, ac yn dirmygu ei Gariad ef yn marw: Ac fel y bydd rhaid i'r cyfryw Ddyn fod yn anocheladwy yn golledig; felly efe a syrthdan y Golledigaeth drymmaf a thostaf.
Pa rithiol Ddymuniadau bynnag a allant fod gan Ddyn i ymadel a'i Bechodau, pa ofid a thristwch meddwl bynnag o'u hachos, a pha Lawn-fwriadau bynnag y mae'n eu gwneuthur i ymadel a'i Bechodau, ni fyddant gymmeradwy gan Dduw, nac a'i dygant ef i Hawl yn Ffafor y Cyfammod yma, os oes gantho odfa a moddion i dderbyn rhannau o'r Sacrament hwn, ac yw 'n gwrthod ei wneuthur: Oblegyd yn a thrwy y Sacrament hwn, y mae Duw yn disgwil ac yn gofyn Adnewyddiad y Cyfammod yma, ar ol i ni ei dorri ef: Nid ydyw ein Hedifeirwch gwedi ei gyflawni yn ol Ewyllys Duw hyd oni wnelir hyn, os ydyw efe yn rhoddi ini Foddion a Chyfle i wneuthur hyn. Ni lwfir ini ddisgwil y derbyn efe yn gymmeradwy ein Llawn-frydiau a'n Haddunedau a roddir ger ei fron mewn un ffordd arall, ac yntef wedi gosod ini y ffordd hon iw cyflwyno hwynt.
[Page 27] Heb-law hyn, onid ydyw'n beth rhyfeddol i Ddynion anghofio fod y Sacrament hwn yn osodedig gan Dduw megis y modd i drosglwyddo iddynt y nerth i gyflawni eu Haddunedau a'u Llawn fwriadau da? A chan hynny, y mae'r sawl sy'n esgeuluso y Sacrament hwn, yn ei roddi ei hunan dan Allu a Rheolaeth Greulon ei Bechodau, ac yn esgeuluso y Cymmorth nerthol y mae'r Nef yn garedigol yn ei roddi iddo yn eu herbyn: Ac y mae'n rhwymo arno ei hunan euogrwydd ei holl Bechodau, ac megis yn ei selio ei hun i Ddamnedigaeth wrth wrthod ac esgeuluso yr Ordinhad yma, drwy ba un y gellid ei selio i Ddydd Prynnedigaeth.
Gwybydded Pawb fod y gwir-fodd esgeulusdra a'r gwrthodiad o'r Sacrament hwn yn Bechod damnedig o Adawiad heibio, ac yn bwrw pob Un ac sydd euog o honaw allan o Stat o Ras ac Iechawdwriaeth: A'r rhai sy'n esgeuluso dyfod i'r Ordinhad y ma pan ydyw wedi ei barodtoi iddynt, a allant yn ddigon cyfiawn ofni na fendithia Duw un arall iddynt: Canys pa sail sydd ganthynt i dybied y bendithia efe un o'i Ordinhadau iddynt, tra b'ont yn esgeuluso un arall, neu y gad iddynt gaffael drwy Weddi a Gwrando 'r Gair, y peth y gorchmynnodd efe iddynt arferu 'r Ordinhad yma hefyd, iw gaffael; Ac am bynny y mae'r sawl sy'n byw mewn Esgeulusdra o hyn, mewn perigl mawr na chant byth fod yn gadwedig drwy un modd neu foddion eraill yn y byd o Iechawdwriaeth.
Fe a eill Pobl nid hwyrach eu tybied eu hunain yn dda ddigon os cadwant eu Heglwys, os dyfal-unant a'r Gynnulleidfa yn y Gweddiau cyhoedd, ac os gwrandawant Weithiau, a chysgant weithiau ymmaith Bregeth, Eithr os esceulusant y Sacrament hwn, rhaid iddynt ddisgwil y gwrthyd Duw eu holl gyflawniadau eraill: Y sawl a dorro 'r Gyfraith, mewn un Pwngc, yr Scrythyr a ddywed, y mae efe yn euog o'r cwbl; A chan hynny y sawl sy'n esgeuluso ei Ufudddod i' neb-rhyw un o Orchmynion Duw yn wybodus ac 'Wyllyslon, fe a edrychir arno ac a'i trinir gan Dduw Hollalluog fal ped fuasei heb gyflowni 'r un o honynt. Oh na roe pobl y pethau hyn yn ddifrifol at y galon, ac ystyried y Perigl ofnadwy y mae'nt yn eu rhoi eu hunain yntho drwy 'r Esceulusdra yma?
[Page 28] Byddwn siccr, mai pa beth bynnag yw, ac sy'n ein rhwystro rhag ini ymbarodtoi a dyfod i'r Sacrament hwn, Magl a Phrofedigaeth y Cythrael ydyw, Gelyn mawr ein Heneidiau: yr hwn a wyr fawr ac iachusol effaith y Sacrament hwn, ac am hynny ni fynne i bobl mo'i arfer: Yr hwn a wyr, y bydd rhaid iddo, os nyni yn ddifrifol ac yn fynych a arferwn y Modd yma o'n Hiechydwriaeth, anobeithio o ddwyn byth ein Dinistr ni i Ben. Oh gadewch ini ddiddymmu Bwriad maleisus ein Gelyn, a gwrthwynebu pob Rheswm a gynhygir i'n Meddyliau i'n gyrru ni ymmaith oddiwrth yr Ymarfer hwn.
Ystyriwn mor fwynaidd a charedig y mae'r Arglwydd Iesu mawr Garwr Eneidiau yn ein gwahodd n' iddo: Deuwch attaf fi, medd efe, bawb ac y sydd yn flinderog, ac yn llwythog; ac mi a esmwythaf arnoch. Na rown iddo mo'r achos i achwyn arnom, a dywedyd, Ni fynnwch chwi ddyfod attaf fi, fel y caffoch Fywyd. Gadewch ini ystyried pa Groesaw ardderchog a gwahoddus a ddarparodd efe ini yn y Wledd nefol yma: Y mae efe yn bwriadu ein Croesawu ni a siccrwyddau o'i Gariad, a Duwawl Ysprydoliaethau ei Lan Yspryd, a'r llawenychol Wystlon a'r Rhagarchwaethau o'r Nefoedd. Ac ydyw hyn ddim ond peth sydd gymmwys i'w ddirmygu! Ystyriwch ar ba bris a gwerth drud y darparodd efe y Croesaw hwn ini! sef ar bris ei Ddioddefiadau creulon, a'i Farwolaeth chwerw, a'i werthfawroccaf Waed ei hun. Os ydym, gan hynny, yn caru ein Hencidiau, a chennym ddim gofal am eu Hiechydwriaeth, Ymbarodtown a deuwn i'r Sacrament hwn cyn fynyched ag y gallwn: Od oes gennym ddim gwir-Gariad i'r Arglwydd Iesu, ein Cymmwynaswr goraf, ein Iachawdwr mwyn, yr hwn a'n carodd ni ac a ddododd ei Einioes i lawr drosom; Gadewch ini daer ddymuno a cheisio Pryniadau ei Waed ef, a cheisio ein gwneuthur yn gyfrannogion o honynt yn y ffordd honno, ym ha un y gosododd efe ini i wneuthur felly; fel y gwnawn yn ddiamai, os nyni yn wir ac yn ddiragrith a'u dymunwn hwynt.
Y XII Dosp. Yng-hylch Cymhwysdra i ddyfod i'r Sacrament hwn.
EIthr y Rhith a'r Esgus cyffredin yr hwn sy'n rhwystro pobl rhag dyfod i'r Sacrament hwn, ydyw, Nad ydynt yn gymmwys iddo: A'u bod yn ofni Bwytta ac yfed yn anheilwng, a rhedeg i'w Damnedigaeth eu hunain drwy hynny. Bwriad y Llyfryn yma, gan hynny, ydyw dangos pa Gymhwysder sydd ofynedig er teilwng a llesiol Dderbyniad o'r Sacrament hwn, a chymmorth Pobl i'r Cymhwysdra hwnnw drwy Fendith Dduw, yr hon ni fethant ei cha'el gantho drwy Weddi daer, a'r difrif a'r mynych ddarllen trwyddo yr hyn sydd yma'n osodedig ger bron.
A chan ein bod, wrth gyd gymmeryd y Sacrament hwn o Gorph a Gwaed ein Harglwydd Iesu Ghrist, i adnewyddu a chadarnhau y Cyfammod yma (yr hwn y buom yn llefaru am dano) rhwng Duw a Ninnau; Fe a'n cyfarwydda Hwn ni yn helaeth pa Barodtoad a Chymmwysdra sy' angenrheidiol, fal y byddom weddus Gyfrannogion o honaw er ein Llesad a'n Diddanwch. Ac y mae'n angenrhaid bod ini wybod pa rai yw'r Cydsynniadau a'r Ammodau o honaw y rhai y mae Duw yn gofyn eu cyflowni ar ein rhannau ni, a pheth y mae yn ei gynnig ac yn ei addaw ar ran Duw. Y pethau yma a osodwyd allan eusus am hynny, bob un ar ei ben ac yn o neilltuol.
Yn y fan nesaf mae'n rhaid ini yn ddiffuant ac yn bur ddewis ac ymeulyd yn y Cyfammod hwn: Rhaid iddo fod dymuniad ffyddlon, arfaeth bur ein Heneidiau i ymrwymo ynddo: i fod yn rhwym yn y Rhwymau dedwydd hyn y rhai sy'n gosod ein Heneidiau mewn rhyddid oddiwrth Rwymau Pechod ac Angeu: Rhaid ini ddymuno ei Fendithion a cheisio ei Radau, a chyd a pharodrwydd Meddyliau dderbyn yn gymmeradwy ac ymddarostwng i'r Erthyglau a'r Ammodau; a mynegi y disgwiliwn ni ein Hiechydwriaeth ar y Cydtundeb hwnnw.
Ac hefyd rhaid ini, yn ddiamai, fod yn ddiolchgar dros ben i Fab Duw yn y Goffadwriaeth yma o'i Farwolaeth ef, gan ddarfod iddo ei wneuthur ei hun y Cyfryngwr yn y Cyfammod hwn, a chaffael drwy ei Farwolaeth y Ffafor o Ammodau Newyddion o Iechydwriaeth, a Chynhygiad o Heddwch a Chymmod a Duw dan Ammodau mor esmwyth a hawdd.
[Page 30] Ar sawl sydd gantho 'r Wybodaeth o'r Cyfammod hwn a'r Tymmer da yma o Feddwl ar hynny, y mae'r Dyn hwnnw yn gymmwys i'r Sacrament hwn, ac os daw, 'fe a fydd yn Westai a chroesaw iddo i Fwrdd yr Arglwydd. Yn awr fal y gosodais allan yr Wybodaeth angenrheidiol i hyn, mi af rhagof i osod allan hefyd yn fwy neilltuol y Tymmer da o Feddwl a ddylaem ni ei ddwyn gyd a ni. Ac mi a osodaf hwn allan yn y cyfryw ffordd ag a fydd gymmwys i'w ffurfio mewn Dynion lle nid ydyw; neu i'w fywioghau a'i gynhyrfu a'i osod i weithio lle y mae. Mi a'i gosodaf ger bron yn y Gweithrediadau neu'r Ymarferion o honaw sy'n canlyn: Y rhai, chwi a ellwch wybod, ydynt Bortreiad bywiol o Dderbyniwr digon addas o'r Sacrament hwn. Yn gymmaint a bod yn rhaid i'r sawl a chwennyche ddyfod i fod yn gymmwys i'r Sacrament hwn, ddarllen a myfyrio ar y pethau hynny, hyd oni chaffo 'r Tueddiadau a'r Serchiadau rheini a yspysir yno gwedi eu codi ynddo. A'r sawl a fynne ei wybod neu 'i gael ei hunan yn gymmwys i'r Sacrament hwn, rhaid iddo ei holi ei hunan drwyddynt hwy, ac edrych pa un y maent ai gosod allan Cyflwr a Disposisiwn ei Feddwl a'i peidio: Ac os bydd Dyn a chantho yn arferol y fath Stat da o Feddwl, fel y bydd y rhai'n, 'rwy 'n credu, yn ddigon cydtunol ag ef, felly nhw a fyddant yn foddion i gynhyrfu 'r Disposisiwn hwnnw i ymarfer, ac i Gymhwysdra gweithredol i'r Sacrament hwn; Megis y mae Tan yn arferol o ennyn Tan mewn Deunydd sydd addas, a thueddol iw gym'ryd. Ymhellach, y sawl a chwennyche ei ymddwyn ei hun yn iawn ac yn ddyledus yn y Sacrament i'w Ddiddanwch a'i Lesad, fel y bydd rhaid iddo gael ei Feddwl y pryd hynny yn llawn o'r cyfryw Feddyliau a'r Serchau ac sydd gwedi eu portreiadu yma, felly darllen y pethau hyn yno, os bydd gantho amser, a fydd yn fuddiol i'w lenwi ef yn feddiannol a'r cyfryw Feddyliau a Serchau. Ac yn ddiweddaf Y sawl a chwennyche gynnal y Tymmer da o Feddwl yr hwn sydd gantho yn y Sacrament, a eill yn llesol iawn, i'r pwrpas hwnnw, ddarllen a myfyrio ar y pethau hyn ar ol hynny: Yr rhai a fyddant mor fuddiol i feithrin ac i gynnal, ie, ac i chwanegu ynom y Dull hwn o Feddwl, ag y mae'nt i'w ffurfio ef. Yr holl ddefnydd yma, 'r wyf mor hyderus a'i gymmeryd arnaf, a ellir ei wneuthur o'r Ymarferion sy'n canlyn.
Dosp. XIII. Ymarfer o Goffa Diolchgar am Farwolaeth Iesu Ghrist.
O Arglwydd! nid ydwyf fi deilwng i fyw, oni chofiaf yn wastadol anfeidrol Gariad fy Arglwydd a'm hunig Iachawdwr Iesu Ghrist yn marw drosof fi; ac oni ystyriaf a dal yn anwylaf ar yr aml a'r digymhariaid Ddoniau, yr rhai drwy ei werthfawr Dywalltiad o'i Waed, a ynnillodd i Bechaduriaid. O fy Enaid! fel y gallech wybod, mewn rhyw fesur, ryfeddol uchder, llêd, dyfnder, hŷd Cariad Duw yng Hrist Iesu: Fel y gallech gynnwys helaethach Ddealldwriaethau o'r Cariad hwnnw, yr hwn sydd uwchlaw holl Wybodaeth derfynol; Rhaid iti ehengu dy Feddyliau a chymmeryd i fewn yr holl-gwbl ac a ellych o'r Mesurau hyn o honaw. Ystyria o ba Ddyfnder Trueni a Chyni y mae'r Iesu yn achub truan golledig Ddynol-Ryw! Ystyria i ba Uchder gogoneddus o Anrhydedd a Dedwyddwch, y mae efe yn bwriadu eu derchafu hwynt! Ystyria pwy yw'r Person ardderchog a wnaeth yr hyn oll drosom ni! Ystyria beth a dreuliodd efe er mwyn caffael i ni y fâth Ymwared! Wele y Golwg mwya synnadwy, ond etto yr hyfrydaf, yn y Bŷd! Cariad yn Ymwared! Preswylia yn y Myfyrdod o hyn; canys yn ddiamai da ydyw bod ymma!
Am y Cyflwr i ba un yr oeddit gwedi suddo, yr oedd efe y ffieiddiaf a'r truanaf ac a alle Greadur syrthio iddo: Yr oedd efe yn gyflawn o drueni, Canys yr oeddit wedi cwblgolli Ffafr dy Wneuthurwr y Ffynnon-Ddaioni, a fforffettio holl Hawl, a cholli pôb Gobaith o fôd bŷth yn ddedwydd: Yr oeddit gwedi myned yn Bechadur ffiaidd, câs gan y pur a'r Sanctaidd Dduw; ac yr oeddit mor ddirmygus ac yr oeddit yn druenus: Yr oeddit yn ddarostyngedig i Ddigofaint Tragwyddol a chyfiawn Ddial yr HollAlluog: Ti a haeddaist dy daflu i'r Llynn dwfn O Dân a Brwmstan, lle y mae Gwae a Gofid, Wylofain a Rhingcian Dannedd yn Dragwyddol; lle y mae Digofaint Duw yn llosgi byth bythol: a'r Tân ni ddiffoddir byth: O ba le ni cheiff dim dychweliad fod. Ym ha le y mae Creaduriaid truain yn Boenyddion iddynt eu hunain, ac yn gwneuthur mwy na dyblu holl Boenau Uffern a'r Meddwl poenus hwn, fod yn rhaid iddynt oll barhau byth: Ni wybyddant ddim Seibiant neu orphwysdra; ni ddânt hwy byth ei ben. Dymma [Page 32] Gyfran athrist pechaduriaid; Ac i'r Cyflwr hwn y buase raid i holl Ddynol-Ryw, ar ôl ychydig Ddyddiau yn achwyn, gwedi eu treulio yn yr isel Fuchedd farwol hon, ddioddef eu taflu; Ac nid oedd un Creadur yn y Nefoedd nac ar y Ddaiar a allase drwy un modd possibl droi heibio y Farnedigaeth hon; Nag ê, nid allesid byth mo'i gochelyd, oni buase i'r Iesu gymmeryd yn berthynol arno ei hun ein Cymmorth ni. Ac efe a gymmerodd ymaith yr angenrheidrwydd i'n Dinistrio ni; ac a wnaeth y Gwae a'r Trueni yma yn Beth a ellir ei ochelyd yn-awr: Onid yw hwn yn Llesâd gogoneddus?
Edrych i lawr, ô fy Enaid, drwy Feddyliau difrif i'r Pwll erchyll hwnnw a'r Llyn o Dân; tybia, fel y gelli yn iawn, fôd llaweroedd o Eneidiau truain gwedi eu trochi ynddo yn barod, y rhai a dreuliasant ymaith Ddydd y Bywyd yn ofer, yr amser gwerthfawr a ganniadtesid iddynt i wneuthur eu Heddwch â Duw, ac i ochelyd y poenau a'r Trueni yma; bwrw dy fod yn eu gweled hwynt yn ymdreiglo mewn Fflammau, yn cael eu trywanu a Thân, ac ym hôb cwrr eu hunain ar Dân goleu! A bydded siccr gennit, pe gellit eu clowed hwynt, ti a geit glowed yr Udfaoedd mwya gresynol a'r Achwynion tostaf; rhai yn rhegi'r Dydd y ganed nhw erioed, a'r cwbl, ar amserau, yn eu rhegi eu hunain am fôd yn achosion o'u Dinistr eu hunain: A meddwl yr awr-hon ped fae un o'r Eneidian anobeithiol yma yn cael Angel yn anfonedig atto ef, yr hwn a agore ddrysau'r Carchardŷ, ac a'i gollynge ef allan, ac a'i gyrre ef i'r Byd hwn drachefn i fôd mewn Cyflwr a phossiblrwydd i ochelyd yr holl Drueni hwn, oni chyfrife 'fe hyn yn Ffafr ryfeddol! Y Cyfryw ac nas galle byth mo'i chanmol yn ddigon; Y Cyfryw ac nas gellid byth mo'r talu teilwng Iawn am dani: Nid yw'r peth, mewn gwirionedd, ddim llai na hyn, yr hwn yr wyt yn rhwymedig i Gariad yr Iesu am dano: Nid yw lai Cymmwynas it gael dy gadw oddiwrth y Trueni yma, na chael dy ryddhau allan o honaw i'r Cyflwr yr ydwyt yn-awr ynddo.
Ac yr 'wyt yn gadwedig oddiwrth hyn, drwy dyner dosturus, a mwyaf ammyneddgar Gariad Iesu! Er ys talm, pe gorfuase it ddioddef yn ôl dy Haeddedigaethau, y buasid wedi dy daflu i'r Trueni ymma: Er ys talm yr haeddasant dy Bechodau di hyn: O Drugaredd yr Arglwydd y mae na ddifethwyd ti. Yr Iesu a attaliodd y Farn a [Page 33] oedd ith erbyn drwy ei Eirioledd galluog: Efe a gafodd nodded iti hyd yn hyn; ïe, efe a gafodd iti, os mynni, faddeuant; a rhyddhâd dros byth rhag dioddef yr anioddefol boenau hyn. Oh, mor rhwymedig wyt ti! Dywed, mor llesol, mor angenrheidiol, mor fawr yw Cariad ein Hadbrynwr! Oh, pa Gariad, pa Foliant a eill ei gyrhaeddyd ef! Oh, Gariad tosturiol, pa fodd y câf Ymadroddion cyfaddas ith garedigrwydd di! Pa-ham yr oedd fy Einioes i mor anwyl gennit ti! Pa-ham na adewaist imi gael fy nifetha! I mi, yr hwn wyf mor anheilwng oth Ffafor di, ag yr wyf mewn cyfyngdra, ac arnaf ei heisie!
Ac a ydyw hyn yn dy rwymo di cymmaint i ryfeddu, fy Enaid? Fe eill, yn wîr, yn dda wneuthur felly; ond ni wasnaetha i hyn yn unig attal dy Ryfeddod: Y mae iti etto chwaneg o achosion i Ryfeddu a Moliannu, yng Hariad yr Adbrynwr: A hyn a gei di weled, os ystyrri i ba Uchder gogoneddus o Anrhydedd a Dedwyddwch y mae efe yn bwriadu derchafu truain, gwael, dirmygus Bechaduriaid. Y rhai a'u gwnaethont eu hunain yn anheilwng o'r Ddaiar hon, ïe, ac o'r isel, farwol Fywyd hwn, y mae yn ei srŷd ef eu derchafu i'r Nefoedd, a rhoddi iddynt Fywyd Tragwyddol. Y rheini sy'n anheilwng o ddim ag sydd dda a chyssurus, y mae efe yn amcanu eu gwneuthur yn gyflawn ddedwydd. Y rheini sy 'n haeddu y dirmyg eithaf gan eu Gwneuthurwr; sydd gwedi syrthio dan Ruthrau, Gwawd a Gwatwor y Cythreuliaid dirmygus, y mae efe yn eu pwrpasu i'r Anrhydedd o weled Duw, a phreswylio yn ei Bresennoldeb dedwydd-lawn ef ar hŷd Tragwyddoldeb. ô Gariad cyfoethog a haelionus! Nid dim llai a wasnaetha gantho Ef, na bôd, yn y lle y mae efe, i ninnau fod hefyd. Meddwl f' Enaid, os gelli, pa beth ydyw'r Nefoedd.
Meddwl am Le disglair a gogoneddus, lle y bydde 'r Haul hwn yn cywilyddio, ïe, ac yn myned heb ymddangos, fel y mae'r Sêr yr awron yn gwneuthur ar ei Gyfodiad ef. Meddwl am Lu aneirif o Greaduriaid gogoneddus, bôb un o honynt yn ddisgleiriach nac ef. Tybia dy fod yn eu gweled hwynt oll mewn Llawenydd, i gÿd yn dreisiedig ac yn drosglwyddiedig gan Ddifyrrwch, a thithe dy hunan yn eu mysg hwynt yn cyfrannogi o'r Llawenydd a'r Melyswedd hunnw. Burw y byddit yr awron yng Wydd y Ffynnon-Ddaioni, yn derbyn yn ddigyfwng [Page 34] oddiwrtho ei hunan y Tystiolaethau a'r Cyfranniadau o anfeidrol Gariad! Y byddit yn y fan, lle nid eill dim Ofn neu Dristwch byth ddyfod! Lle y mae'r Llawenydd yn bûr heb gymmysg i'w leihau! Lle y mae'r Melyswedd yn sefydlog ac yn ddibaid, yn annhebygol ith adel yn anfodlon a chwedi diflasu arno! Ym ha Le, y Llawenydd a'r Digrifwch ni Ddibennant byth! O, mor llawen a fydde gennit dy gael dy hunan yno! Ti a elli gredu, nad ydyw bossibl ith Galon di yn awr, amgyffred y Llawenydd nerthol, ath llawn-feddianne di: Ac i'r Diddanwch hwn, ïe i hwn, y mae Cariad yr Adbrynwr yn bwriadu dy ddwyn di. Y mae efe yn chwennychu iti gael dyfod i'r Dedwyddwch hwn: Y Mae efe yn ei gynnig iti dan Ammodau esmwyth: Y mae efe yn cynnig dy arwain ath gymmorth di i'r fan honno, os tydi a wnei ond ty roi dy hun i fynu i'w garedig a'i raslawn Arweiniad ef. Ac onid ydyw hyn yn Gariad digon i beri y rhyfeddod mwyaf ac i rwymo yn ddyledus?
Holl Lawenydd a Dedwyddwch y Nêf a allant fod fy Nghyfran Dragwyddol i, os mynnaf; ac a fyddant felly, onid wyf yn ddeffygiol i mi fy hun. Yr Iesu ni fu, nag a fydd ddeffygiol i wneuthur y cwbwl-oll ac a all er fy nwyn i iddo. Nid yw efe yn grwgnach i mi y Gwyn-fyd uchaf ag y mae fy Natur i yn gynnhwysol i'w gael, neu a allant fy ngharedigcaf Ddymuniadau i mi fy hun, ei ddeisyfu. Y mae efe, gan hynny, yn fy ngharu i cymmaint ag y gallaf fi fy ngharu fy hunan, ac y mae yn ewyllysgari'm gwneuthur i mor ddedwydd ag yr wyf fi yn gallu dymuno bôd; ac yn ddedwyddach nag y gallaf feddwl neu ddychymmyg. Y cyfryw ydyw Cariad yr Iesu i un Truan, sy n haeddu yn unig ei Gasineb a'i Ddirmyg ef.
Ond a wyddost di, fy Enaid? A fedri di ddyfalu pwy ydyw'r Person a wnaeth y pethau mowrion hyn erddot ti? Siccr wyf, ped fuasid heb ddywedyd iti, nid allesit byth ei ddychymmyg. Fe ellid yn wîr dybied fôd Annherfynol Gariad ym Mâb Duw; Ond y mae gantho hefyd Annherfynol Fowredd, Fawrhydi a Gogoniant; y mae efe yn dderchafedig cyn belled uwch nâ ni, ag y bydde ie yn Anfeidrol Ddarostyngiad iddo ef edrych yn Ystyriol ar, neu ei berthynu ei hunan yng-hylch y Trueni a dynnase y fâth bethau isel a ni arnom ein hunain. Heb law [Page 35] hynny, y mae efe hefyd yn annherfynol bûr a Sanctaidd, a chantho Gasineb tragwyddol i bôb pechod a Drygioni; ac nyni a ddaethom i fôd yn druenus drwy ein pechod ni. Ac y mae efe yn caru'r Tâd â Chariad annherfynol; ac efe a wnaeth Ddynol-Ryw i garu, ac i anrhydeddu ac i foliannu 'r Tâd; eithr hwy a ymadawsant a diben eu Hanfod, ac a droesant i gasau ac i ddiystyru y daionus a'r gogoneddus Dduw ei hun. Ac a ellid, gan hynny, dybied y cae y cyfryw Rai byth eu hadbrynnu gan Fâb Ddw?
Eithr synnwch, O Chwi Nefoedd! Cenwch Foliantau, O Chwy-chwi Luoedd gogoneddus o Angylion! Dygwch eich Hymnau uchaf allan, a chynnorthwywch, O Cynnorthwywch Farwolion truain gweiniaid i foliannu Mâb Duw! Canys efe ydoedd yr hwn a ddaeth i fod ein Cyfryngwr ni: Efe a gymmerodd arno y Swydd garedig o fôd ein Iachawdwr ni: Mâb Duw ydoedd efe a wnaeth i ni y Caredigrwydd hwn. Y Tragwyddol, yr Unig-anedig Fâb Duw; yr hwn ydyw gwîr Lûn Person y Tâd, a discleirdeb ei Ogoniant ef. Y Person hwn, ô fy Enaid! yr hwn sydd raid i ti gydnabod ei fod efe y gwîr a'r tragwyddol Dduw, trwy ba ûn y gwnaethpwyd y Bydoedd; yr hwn sy'n cynnal pôb peth; yr hwn yw Gogoniant y Nefoedd, a Sef, dledd y Ddaiar; yr hwn sydd anghyffred yn ei Fowredd; ac, yn siccr, Alluog i achub, yw efe a'n hystyriodd ni yn ein Trueni gwael, a'n Cyflwr mwya dirmygus.
Yr hwn a dosturiodd wrthym ni yn y Trueni a dynnasem fel Ynfydion arnom ein hunain, a haeddasem yn ddyfn! Yr hwn a garodd Bechaduriaid, y pethau casaf ac sydd! O y rhyfeddod! bôd iddo ef ddal Caredigrwydd, a Meddwl Meddyliau o Gariad tuag attom ni, ar ôl y Camarfer o fawr greu Cariad; i ni y rhai ydym yn gwbl-anfuddiol iddo ef! Gwynfyd pa rai nid yw ddim angenrheidiol i, nac a eill Chwanegu dim at yr eiddo ef! Efe a fuasei ddedwydd yn dragwyddol, ped fuasem ni oll yn golledig a thruenus byth: Etto ni fynne 'fe weled mo'nom yn golledig; efe a ganniadhaodd ei gymmorth, pan oedd pôb cymmorth arall gwedi pallu i ni yn hollawl, ac fe a fuase rhaid ini fod yn golledig, Oni buase iddo ef ein cymmorth ni.
Ond dôs ymlaen, fy Enaid, canys y mae 'r Ffordd rhagllaw yn ddisyr, a chwedi ei thanu â newydd ac amryw [Page 36] bethau Hyfryd; ac ystyria hefyd, ym ha Ffordd a Threfn y darfu i'r Person gogoneddus hwn Mâb Duw ddwyn yr Iechydwriaeth fawr hon i ben, Pa beth a gymmerodd efe arno i'w wneuthur, a pha beth i'w ddioddef, fal y galle dy achub di.
Rhaid i ti wybod, gan hynny, ddarfod i'r Person arderchawg hwn fyfyrio a bwriadu dim llai Daroslyngiad, pan gymmerodd arno dy achub di, na dyfod i fod yn Ddyn er dy fwyn di, Efe a'i hamcanodd y pryd hynny, ac yng Chyflawnder yr Amser a ymddarostyngodd iddo. Y Gair a wnaethpwyd yn Gnawd. Fe a gymmerodd Mâb Duw Natur Ddynol, ac a ddaeth i fôd yn Fâb Dafydd: Canys efe a anwyd o Forwyn, yr hon a oedd o Dy a Theulu Dafydd: Teulu Brenhinawl yn wîr; ond yn y Gaingc hon o honaw, o'r lleiaf, wedi suddo i Dlodi a Dirmŷg Efe yr hwn a wnaeth y Bydoedd, a ymddarostyngodd i'w wneuthur o Wraig! Efe yr hwn yw Arglwydd y Bywyd a'r Gogoniant, a ddaeth i fôd yn ddarostyngedig i'r Gyfraith sydd yn rhwymo Creaduriaid yn ddyledus. Efe yr hwn y mae'r Angylion yn ei gyfrif eu Hanrhydedd i'w weini a'i addoli, a'i Dibrisiodd ei hun, a gymmerodd arno agwedd Gwâs, ac a'i gosododd ei hunan allan i Ddirmyg a Gwatwargerdd Dynion. O Fab Duw! pa fodd y gellaist ddioddef byw ar y Ddaiar hon wedi ei halogi cymmaint gan Bechod, a rhodio gŷd â Phechaduriaid ffiaidd? Y Mae'n anghenrheidiol ini ryfeddu, na ddarfu iti, pan oeddit yn ein Byd euog ni, ddangos dy Gasineb ofnadwy a'th Farnedigaeth yn erbyn Pechodau Dynion, gan anson Plaau ac Anghyfanneddau hyd y Byd gwrthryfelgar. Y mae yn Syndod, ddarfod i ti gerdded yma o amgylch gan wneuthnr daioni! Ond hyn oedd dy Arfer wastadol di: Cariad gogoneddus ydoedd, O Fâb Duw i'th addoli, yr hwn a th ddûg di i wared i'n plith ni; a Chariad a lefarodd ym mhob Gair o'r eiddot ti; Cariad a ddilynodd dy holl Gamrau di; Cariad i Ddynol-Ryw a arferwyd yn dy holl Weithredoedd di Pa Anrhydedd rhagorol, ô Arglwydd grasusol, a wnaethost di i'n Nhatur Wael ni. gan ei chymmeryd hi i Undeb personawl a thy di dy hunan! Fal hyn y derchafaist ti hi yn uwch na'r Augylion, ac a'i hamddiffynnaist hi ya ddigonol oddiwrth Ddirmŷg Cythreuliaid, y rhai a'i halogasant hi yn [Page 37] gyntaf, ac wedi hynny a'i dirmygasant hi yn hollawl: Mor isel a gwael yw dy Ddarostyngiad ti, ac mor ogoneddus ein Derchafiad ni! Gwel, fy Enaid, Fab Duw gwedi dyfod i fod yn Frawd i ni! Ac fel y mae efe ein Brawd ni, y mae efe yn ein derchafu ni i fod yn Feibion Duw, gyd ag ef: Ac y mae ei Dad ef yn dyfod i fod ein Tad ni. O, pa fath Gariad yw hwn, bod i ni gael ein galw yn Feibion i Dduw!
Ond nid yw hyn y Cwbwl o Ddar-ostyngiad Mab Duw er achub Dynol-Ryw, ddarfod iddo gymmeryd atto ei hun y Natur Ddynol: Nag e; er bod hyn yn llawer, etto efe a wnaeth ychwaneg, llawer mwy na hyn, efe a gymmerodd arno farw yn Aberth dros Bechodau Dynion, yr hyn, fel Duw, nis galle efe wneuthur; ac am hynny, efe a'i hymwnaeth yn Ddyn, fel y bydde iddo allu marw: Ac yn ymostwng, efe a i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd Angeu, ie Angeu 'r Groes. Ac yma, os byth, fy Enaid, ti a gollir mewn syndod; wrth ystyried Cariad dy Iachawdwr i Ddynol-Ryw: Di a ddibrisi yn sicer bob peth arall heb ei law ef: Ti a gymhellir, fel ei Apostol mawr a'i Garwr, i brisio dim Gwybodaeth, ond honno o Ghrist, a hwnnw wedi ei groeshoelio; ac i gyfrif pob peth ddim ond sothach a thom: fel yr ennillech Hawl yn y Cariad hwn. Fel y byddo iddo dy rwymo di fal hyn, ystyria yn awr yr Angeu yr hwn yr aeth yr Iesu dano drosot ti.
Ai Angeu 'r Groes ydoedd? A groeshoeliwyd fy Iachawdwr? A pha fath Farwolaeth a oedd hon? Ei Elynion yr Iddewon anghredadyn, a'i dewisasant hi iddo; a'r Cenhedlaidd Rufeinig Filwyr a'i dygasant hi i ben. A'r Farwolaeth hon oedd y waelaf a'r wradwyddusaf yng nghyfri 'r Rhufeiniaid; y cyfryw nid oeddynt yn rhoi neb iddi ond yr Efryddion mwya dirmygus, a'r Drwgweithredwyr coegcaf; A'r Farwolaeth hon oedd, yng nghyfri 'r Gyfraith Iddewaidd, yn un felldigedig: yr oeddid yn ei gyfri ef yn felldigedig gan Dduw yr hwn a grogid ar Bren. Ond gad imi ystyried y Coegni y pethau anheilwng, y triniad gwradwyddus yr hwn oedd gyd a Marwolaeth fy Iachawdwr, ac mor boenus a chystuddus yr oedd yn anghenrhaid i hynny fod iddo ef.
[Page 38] Cyn gynted ag y barnwyd yr Iesu bendigedig i farw, efe a draddodwyd i Filwyr anrhugarog, difyrrwch pa rai ydoedd ei niweidio a'i amherchi ef. Hwy a'i dinoethasant ef o'i Ddillad, a'i rhymasant ef wrth Golofn, ac mewn modd creulon a'i Flangellasant ef ar ei Gefn noeth. O Iesu! yr ydwyf fi yn dy garu ac yn dy addoli di, yr hwn y darfu i'r Dynion Ysceler yma ei amherchi fal hyn yn gywilyddgar! yr wyf yn dolurio o achos dy Gammau di, ac yn gofidio o herwydd dy Artaith di! Gwedi hyn nhw a blethasant Goron o Ddrain, ac a'i gwthiasant, i eiste yn dyn ar ei Ben ef; gan friwo a rhwygo ei Arleisiau Bendigedig ef; ac yna, fy Enaid, pe buaswn yno, mi a gowswn weled ei Waed ef ei hun yn ffrydio i wared ac yn anffurfio ei Wyneb bendigedig ef. O pa anrhaith oedd hynny o'r Mawrhydi a'r Addfwynder, o'r hawddgarwch Urddasol a'r Daioni parchedig hwnnw yr hwn a breswyliasei yno bob amser! Gwedi hynny nhw a gowsant ryw hen wise wael o Borphor, ac a'i rhoesant hi am dano ef, ac a roesant Gorsen yn ei Law ef i ddynwared Teyrwialen; ac yna hwy a'i gwatwarasant ef gan gammu glin ger ei fron ef, a llefain, Henffych well Brenin yr Iddewon. Ac i ddangos mor ychydig Anrhydedd neu Barch yr oeddynt yn ei fwriadu iddo yn hyn, nhw a boerasant yn ei wyneb ef yn y modd mwya gwradwyddus, ac a'i cernodiasant ef rhyngthynt, o'r naill i'r llall: Ac, yn ddiamai, yr oedd hwnnw yn ei dybied ei hunan y synwyrolaf o'r Cwmpeini, yr hwn a fedrai ddychymmygu yr Ammarch mwyaf. Fal hyn y darfu iddo ef gael Cam ac anfri, yr hwn a ddacth i'r Byd hwn ar y Bwriad caredig o achub pechaduriaid colledig: Fal hyn y cafodd Brenin y Gogoniant, Brenin, nid yr Iddewon yn unig, ond y Nefoedd a'r Ddaiar, ei watwar a'i ddiystyru gan y Salaf o Ddynion.
Pan oeddynt wedi eu blino eu hunain a'r Digrifwch Barbaraidd hwn, a pha faint mwy yn hyttrach ef? Hwy a roesant ei Ddillad ef ei hun am dano drachefn, ac a'i dygasant ymmaith i'w groeshoelio. Ac arno ef y rhoesant drwm a gwradwyddus Faych ei Groes ef, ac yr oedd yn rhaid iddo ef ddwyn, hyd hir ffordd, Offeryn ei Gywilydd a'i Farwolaeth ef, i'r Ddihenyddfa; ond fe a ddarfuase iddynt ei drino ef yn rhy ddrwg o'r blaen, i'w adel ef etto yn alluog i ddwyn Baych cyn drymmed; ac wedi [Page 39] iddo ei dwyn hi braidd ychydig ffordd, efe a syrthiodd dani. Yr wyf yn gweled, O Fab Duw, hefyd yn dy Wendid hwn dan y Groes, brofiad eglur dd [...]rfod it ti yn wir gymmeryd ein Hanian ni arnat, gyd a'i Gwendidau diniwed: Ac nid allaf lai na rhyseddu a chlodfori y fath ryfeddol Ddarostyngiad yr Hollalluog er ein mwyn ni. Yr rheini a'i trinodd ef mor greulon o'r blaen, rhaid imi dybied, ni arferasant ddim Tosturi tuag atto ef ar yr achos yma, Y mae'n ffiaidd gennif feddwl, mor anddynol, y mae'n debygol, y trinasant hwy ef yr awrhon. Ond hwy a roesant o'r diwedd y Baych ar Ysgwyddau eraill; oblegid yr awron yr oedd eu Malais nhw mewn prysurdeb i gael gwared o honaw ef.
Pan ddaeth efe i'r fan lle 'r oedd efe i'w Groeshoelio, hwy a'i diosgasant ef o'i holl Ddillad, ac a noethasant y Briwiau irion a roese y Fflangell ysgeler iddo, i'r Awyr oer. Hwy a'i gosodasant ef ar ei Groes, ac mewn modd angerddol a estynnasant ei Freichiau ef ar led, ac yna a bwyasant Hoel fawr drwy bôb Llaw iddo ef: Fal hyn yn hoelio wrth draws Bren y Groes, y Dwylo bendigedig rheini y rhai a arferase efe yn gwneuthur llawer un o Wrthiau Caredigol, eithr ni wnaethent erioed ddim niwed, ac yn siccr yr oeddynt yn haeddu gwell triniad. Yna hwy a yrrasant un neu ddwy o hoelion mawr drwy ei Draed ef, ac a'u hoeliasant hwynt wrth y Pren o'r Groes a oedd yn ei union sefyll; y Traed rheini a'i dygasent ef yu ddiwyd oddi-amgylch ar ei Neges caredig yn y Byd; yr hyn oedd i geisio ac i gadw Pechaduriaid colledig. Gwedi gwneuthur hyn, hwy a osodasant y Groes yn ei huniawn sefyll, fel y bydde iddo grogi ar yr Hoelion rheini, yr rhai a yrresid drwy y Rhannau rheini a oeddynt fwya teimladwy yn ei Gorph ef, i'w Ofid ai Artaith anescorol, ac yn osodedig allan i olwg a gwawd y Golygwyr: A llawer o'r rhain a'i enllibiasant, a'i gwatwarasant ac a'i cablasant ef yma. Fe wnae hyn i Galon sydd ganthi ddim Tynerwch ie ferwino wrth feddwl fod i un-dyn gael ei drino mor greulon: a phrin y galle un attal bod yn deimladwy gyd a pheth tosturi a thrallod wrth weled ie y Drwgweithredwr casaf yn y fath gyflwr. Ond nid oedd hwn yn Ddrwgweithredwr, fy Enaid, ond fel y gwnathe dy Bechodau di ef yn un!
[Page 40] Hwn oedd yr Iesu diniwed, yr hwn ni wnaethe ddim Pechod, ac ni chaed Twyll yn ei Enau! Hwn oedd dy Garwr, dy Iachawdwr, dy Gymmwynaswr yr hwn oedd yn crogi yma; a hyn oll efe a ddioddefodd trosot ti. O fy Enaid, ped fuasit yn gweled yr Iesu caredig fal hyn yn crogi ar yr Hoelion yma, ac yn gwaedu o'i Ben, ac o'i Ddwylaw, ac o'i Draed; a phed fuasit yn clowed ei Elynion ef yn ei gablu ef yno, pa Wrth-feddyliau a gowsit yn ymgynhyrfu ynot ti! Oni wnaethe y cyfryw Olygyn trist i'th Ddagrau gyd-ymganlyn o'r lleiaf a'r Diferrion o'i Werthfawroccaf Waed ef? Oni buase hynny yn gwneuthur itti hefyd guro dy Ddwyfron, fal y gwnaeth rhai o'r Edrychwyr? A ellit ti weled hyn, a bod heb deimlo yr Archollion hynny, ac heb fod yn gyd-teimladwy o'r Gofidiau rheini a ddioddefodd ese? Pan ellid deall fod pob Briw yn dywedyd, O Bechadur, gwel pa fodd yr ydwyf fi yn dy garu di: Hyn oll yr ydwyf yn ei ddioddef drofot ti: Pa fodd gan hynny y dylac y Sacrament hwn weithio ar dy Galon di, yr hwn sydd Goffa bywiol o'i Farwolaeth ef? Pa ddwfu deimlad o Gariad a Dioddefiadau dy Achubwr a ddylae hyn greu ynot ti? Pan ydyw efe yma, megis, gwedi ei osod allan yn eglur yn groeshoeliedig o'th flaen di; Yr ydwyf yn gweled yma ei gorph glaswyn, briwiedig, diwaed, drylliedig; yr wyf yn gweled ei Waed ef wedi ei dywallt allan a'i wahanu oddiwrtho ef. A elli di edrych ar hyn, a dywedyd, y mae fy Nghariad wedi ei groeshoelio, a meddwl dy fod yn ei weled of wedi ei goroni a Drain, a'i iro drosto i gyd a Budreddi, ac a Phoeri budr ei Elynion, ac a'i Waed ef ei hun, a bod heb dristau o'th galon pan feddyliech mai o'i Gariad i ti y gorfu arno ddioddef yr holl bethau hyn. Oh groeshoeliedig Iesu, ni bu erioed Ofid, ni bu erioed Gariad tebyg i'r eiddot ti! Hyn oll a ddioddefwyd er fy mwyn i! Y mae hyn vn gorchymmyn ac yn haeddu; O bydded iddo beri fy mawr Dristwch drosot, a'm Cariad gwresog i ti.
Ond yr hyn oll a gystuddiodd ei Gorph ef, oedd y rhan leiaf o'r Dioddefiadau a deimlodd efe; efe a ddioddefodd ychwaneg, llawer mwy na hyn i gyd yn Nioddefaint ei Enaid: Canys rhaid imi ystyried ymmhellach, fod y Farwolaeth hon o'r eiddo ef, yn un felldigedig yng nghyfrif [Page 41] y Gyfraith Iddewaidd; hynny yw, yng Nghyfri Duw ei hun; O blegid efe oedd yr hwn a'u hordeiniase ac a'u dyscase hwynt i'w chyfri hi felly; o bwrpas, fal y galle hynny ragddywedyd ac arwyddoccau ym-mlaen llaw, fod Adbrynnwr y Byd i ddioddef yn ei Farwolaeth y Fel [...]dith a r Gospedigaeth yr hon a ddarfuase i'r Dduwawl Gyfraith yn g [...]fiawn ei bygwth yn erbyn pechod au Dynion. Rhaid i hyn gan hynny wneuthur i ti gofio Dioddefiadau anferthol ei Enaid ef, Efe a wnaethpwyd yn felldith trosom. A Duw a roddes arno ef ein hanwireddau ni i gyd. Gan Ddynion y trinwyd ef fal Drwgweithredwr, a chan Dduw hefyd. Llewyrch Wynebpryd ei Dâd, a Golygiadau hyfryd ei Gariad ef, yr rhai a fuasent bob amser Lawenydd ei Enaid, a Gwobr ei holl Lafurau yn ei Wasanaeth ef, ac hyd yn hyn a gowsid yn Wastadol eu mwynhau, a dynnwyd ymmaith yr awron, pan oedd re [...]ttia iddo wrthynt; pan ydoedd efe dan ei dôst Ddioddefiadau oddiallan, a phan oedd efe ar fin Trengu. Ac yn gwneuthur ei Enaid yn Offrwm dros Bechod, efe a gystuddiwyd ac a ddychrynwyd gan Ddigofaint a Llidiawgrwydd yr Hollalluog Dduw. Hyn a wnaeth iddo ef weiddi allan, yr hwn oedd ddistaw o'r blaen, Fy Nuw, Fy Nuw, pa-ham y gwrthodaist di fi? Efe a gadodd yn ofidus wybod y Llidiawgrwydd yr hwn a haeddasent ein pechodau ni. O beth ofnadwy! Pwy a all ddirnad y pethau a ddioddefodd efe? Nyni a allwn gredu nid eill neb-rhyw Boenau ragori ar yr rheini y merwinodd efe danynt yn ei Enaid, oddieithr y rheini yn Uffern, os ydynt hwy.
O Ystyriaeth archolledig! Y mae hyn yn trywanu ac yn tyllu trwy fy Enaid i: Y mae hyn yn dywedyd imi, nid yr Iddew creulon na'r Barbaraidd Rufeinig Filwr a benydiodd, ac a laddodd yr Iesu Caredig yn gymmaint, a r Pechadur Ffiaidd: My fi, ym mysg yr holl Bechaduriaid eraill, yw r hwn a roddais iddo ef ei Friwiau creulona, ei ofidiau tosta: My fi ydoedd yr hwn a anefais, yr hwn a leddais fy Iachawdwr a'm Cymmwynaswr: Myfi a dywelltais Werthfawroccaf Waed ei Fywyd ef. A wybued erioed y cyfryw beth heb law hyn? O Iesu, ni bu erioed un Cariad tebyg i'r eiddot ti; ac nid oes dim mor ffiaidd, mor frwnt a Phechadur: Mwy Cariad nâ [Page 42] hwn nid oes gan un-dyn; fod un yn rhoddi ei Einioes i lawr dros ei Gyfaill: Ond tydi a roddaist i lawr yr eiddot ti dros Elynion, dros y rheini a'th gasasant di, ie dros y rhai a'th lladdasant di: Yr wyt ti yno ar y Groes yn ddirmygus, fal y bydde i mi gael fy anrhydeddu: Yr ydwyt ti yno mewn poen, fal y cawn i fod mewn esmwythdra: Yr wyt ti yno yn Newynog a sychedig, fel y cawn i fy niwallu a phob pethau da: Yr wyt ti yno yn felldigedig, fal y byddwn i yn fendigedig: Yr wyt ti yno yn wrthodedig gan Ffafor a Chariad y Tad, fal y bydde i mi fwynhau eu tragwyddol bethau hyfryd: Yr wyt yno yn marw, fel y gallwn i fyw Bywyd parhaus byth mewn Llawenydd, a Gogoniant anrhaethola thragwyddol. O Iesu! A oeddwn i yn anwylach gennit ti, na'th Einioes dy hun? Oeddwn i i gael fy arbed a'm bodloni yn hynttrach na'th Esmwythdra dy hun, ac i'm perchi yn fwy na'th Anrhydedd dy hun? Beth wyf fi, O Arglwydd? O, beth yw Dyn, i ti fod fal hyn yn ei gofio? Ni bu erioed Gariad tebyg i'r eiddot ti; Nid alle neb ond Duw garu fal hyn! O Ddirgelwch i'w addoli! O Ryfeddod y Rhyfeddodau! Dy Fawredd sydd anchwiliadwy, dy Gariad sydd anamgyffred, a'th ffyrdd ydynt anolrheinadwy? A dyfnaf Barch yr ydwyf yn addoli dy anfesuredig Gariad ti: Yr wyf fi yn rhoi heibio wrhydu y peth nis gallaf byth ei gyrrhaeddyd, ac a ymroddaf fy hunan i foliannu ac i fawrygu yn dragywydd.
Dosp. y XIV. Ymarfer o Edifeirwch.
ADdarfu imi mewn gwirionedd roddi i'm Hiachawdwr caredig a thosturiol gymmaint o ofid drwy fy Mhechodau i ac oni roddan nhw ddim achos imi i alaru? O na bae fy Mhen yn Ddyfroedd, a'm Llygaid yn Ffynnon o Ddagrau, i drochi fy Enaid aflan halogedig! Ond, och fi! Nid yr holl Ddagrau a allaf fi eu tywallt, a ddichon fyng wneuthur i byth yn lân, neu olchi allan Aflendid yr un, y lleiaf o'm Pechodau! Och, Myfi a aethym, y mae'n weledig, mor aflan dros ben, ac a gasglais arnaf Fudreddi ac Aflendid o'r cyfryw natur, na ddichon dim, ond y Ffrwd werthfawr hon, Gwaed Bywyd fy Iachawdwr, fy nglanhau i! Pa fodd y cwympais i o Barch ac Anrhydedd fy Nghreadigaeth! Fe a'm gwnae thpwyd i ychydig is na [Page 43] r Angylion gan fy Nghreawdwr haelionus; ond myfi a'm gwneuthym fy hunan yn Waelach na'r Anifeiliaid a ddifethir. Fe a'm gwnaethpwyd nid yn ddarostyngedig i neb-rhyw Greadur, nid yn rhwym i dalu un Gwasanaeth neu arwydd o Ufudddod tuag at yr Angylion gogoneddus er fy mod wedi fy ngwneuthur yn is na hwynt-hwy; ond, och fi, myfi a'm gwneuthym fy hunan yn Gaethwas i'r Cythrael efrydd: Myfi a wrthodais wasaneuthu Duw fy Ngwneuthurwr a'm Cymmwynaswr, ac a gaeth-wasnaethais i'm Gelyn marwol. Ys truan o Ddyn wyf i! Mi a geisiais ei Wasanaeth ef, y pryd y gwrthodais yr eiddot ti; ac a redais ar ôl ei Brofedigaethau ef, tra y gwneuthym fy ngora er gochel dy Orchmynion di, Och! Mi a fym brysur i Wneuthur Drwg, a diog i'r hyn oll sy' Dda: Mi a gyttunais a Gelyn mawr fy Enaid er prysuro a chwanegu fy Namnedigaeth.
Oh Ddaioni anfeidrol! Mor anghyfiawn, mor frwnt yr ydis yn talu adref i ti am dy holl Gariad haelionus i Ddynol-Ryw! Pwy a ddichon feddwl, neu dreuthu Bryntni, Afreolwch Pechod! Yr hwn sydd Ddibrisrwydd o'th anherfynol Fawrhydi di, Gwrthryfelgarwch yn erbyn dy Awdurdod did dadl di, Cam-arfer o'th radol Ddaioni di, Cyffroad gwradwyddus i'th Hollalluog Allu, Gwadiad o'th Ddoethineb digymmar, ac Ymherriad i'th holl ogoneddus Briodoliaethau di: Yr hwn sydd yngwrthwyneb i'r Anrhydedd a'r Gwasanaeth hwnnw sydd ddyledus arnaf i ti fel dy Greadur di. Gwae fy-fi ddarfod imi erioed ddigio fy Ngwneuthurwr! Tad mor haelionus ac mor rasusol! Gwae fy-fi ddarfod imi ddirmygu a chyffroi Cariad yr Iesu fy Adbrynwr, fal y gwneuthym hynny wrth feithrin y Pechodau ffia idd rheini y rhai y daeth efe i'w Dinistrio! O Iesu ar ba Bris drud y ceraist di fi, ac yr haeddaist fy Nghariad i! Ac mor anwyllysgar, mor ddiog ydwyf i groesafu Cariad i ti: Ty di a geraist, lle yr haeddwyd dy Gasineb di; a Minnau, Goeg-ddyn truan, a gaseais yr hwn a haeddodd fy Nghariad i yn ddibaid. Dy Gariad i mi a fu yn Ddarostyngiad anferthol, ac a achosiodd dy Ymostyngiad a'th Ymwaelhâd ti; ac er hynny ti a fynnit garu yr Anheilwng: Eithr fy Nghariad i i ti a fuase yn Anrhydedd a Gogoniant, yn Oruchafiaeth dragwyddol imi; er hynny mi a fum i yn anewyllysgar [Page 44] i'th garu di. Gwae fy fi, Mi a fum yn gyndyn mewn Drygioni! Och! Pa faint y tristeais i yr Yspryd Glan, drwy esceuluso, gwrthwynebu, a sefyll yn erbyn ei ddaionus a'i garedig Gynhyrfiadau ef yn fy Enaid; drwy droi Clust fyddar at ei Rybuddion esmwyth ef, a gwrthod cael fy Nychwelyd a'm iachau. O fy Nuw, drwy ein Pechodau yr ydym yn dirmygu dy Ewyllys di, ac yn gwneuthur yr eiddom ein hunain! Yr ydym yn dy wadu di, ac yn gwneuthur Duwiau o honom ein hunain. Drwy 'n Pechodau yr ydym yn coelio y Twyllwr mawr o flaen Duw y Gwirionedd; ac yn dilyn ei Demtasiwnau twyllodrus ef, yn hyttrach na'th oludog a th ffyddlon Addewidion di. Drwy ein Pechodau yr ydym yn cyf [...]i 'r Ddaiar yn well na'r Nefoedd, y Creadur yn well na'r Creawdwr; ac yn bwrw fod mwy o Wynfyd yn y Mnyniant o rai o honynt hwy, nag yn dy Fwynhau Di, y Ffynnon anfeidrol o Ddaioni.
Och, mor frwnt, ac mor afreolus beth ydyw Pechod! Pwy a ddichon ei gasau ef yn ddigonol! Myfi a welaf, o Arglwydd, yn Nioddefiadau echrvslawn fy Iechawdwr, dy ddirfawr Ddigofaint yn erbyn Pechodau Dynion, ac y mae yn fy nychrynnu pan feddyliwyf am dano Mi a welaf yn eglur mor atcas ydynt hwy i Burdeb Duw; gan i Berson mor deilwng a mawr, i'r hwn y mae'r Tâd yn ei garu cyn anwyled a hynny yn gyfiawn, gael ei gystuddio mor drwn gan y Tâd ei hun, pan ddygodd efe Bechodau Dynol-Ryw. Yr wyf yn gweled dy Gasineb, O Arglwydd, yn erbyn fy Mhechodau; r wy n credu ei fod yn ddigon cyfiawn, ac nid allaf amgenach na'u casau nhw hefyd. O hyn allan, Mi a gasaf bob gau lwybyr, ond dy Gyfraith di a hoffaf. Mi a garaf dy Gyfiawnder a th Sancteiddrwydd di, ac a ffieiddiaf yn hollawl y peth sy' mor wrthwynebol iddo, a'm Pechodau i. Mi a'i cyfrifaf fy Anrhydedd mwyaf imi fod yn Unffurfiol a thydi, ac myfi a ochelaf, ac fe a fydd cywilydd gennif fy nghael yn y pechodau sy' fwya eu parch ne'u C [...]od yn y Byd. O hyn allan y ceiff pob pechod fod yn dra-gwrthyn a hagr yn fy Ngolwg i; ni thybiaf byth fod un pechod yn Swyno; ni chyfrifaf byth yr un yn deilwng i'w ddymuno.
Ond pan wyf yn ystyried, O Arglwydd, Helynt fy Muchedd a aeth heibio; pan wyf yn edrych i fewn i'th [Page 45] Orchmynnion, ac yn cyffelybu a nhw fy Meddyliau, a'm Geiriau, a'm Gweithredoedd i, Oh pa Olwg marweiddus y mae'r Holiad yma yn ei ddangos imi! Och fi Greadur truan, yr wyf fi yn cywilyddio, fe a'm llenwir a Chynddaredd yn fy erbyn fy hunan, pan wyf yn gweled pa faint o Fasnach a wnaethym i a'r peth ffiaidd, a'r peth atcas hwn! Gwae fi, a pha nifer yw fy Nrhoseddiadau! Och fi, Amlach ydynt na Gwallt fy Mhen, a'm Calon sy'n pallu gennif yn hollawl, pan wyf yn edrych yn ol arnynt, my-fi a bechais ym mhob Oedran o'm Hoes, er pan ocddwn yn medru gwybod neu ddewis fy Ngweithredoedd! Och fi, Greadur truan, mor foreu y dechreuais i bechu i'th erbyn di! Mor aml a fu anfeddylgar Weithredoedd fy Einioes i! Y Rhan fwyaf o ba rai, 'r wy'n ofni 'n fawr, a suant yn ddrygionus, gan ddarfod iddynt ddeilliaw oddiwrth un mor chwannog i wneuthur Drwg, a myfi. A pha nifer ychwaneg sy' raid i Bechodau fy Ngeiriau mewn pob tebygoliaeth fod, yn enwedig tra nad oeddwn yn gosod un wiliadwriaeth ar fy Nhafod, nag yn cadw drws fy Ngwefusau. Ac pan feddyliwyf mor hawdd a helaeth y mae'r meddwl ysgoewan yn amlhau meddyliau, yr wyfi yn Crynnu wrth ystyried fel y darfu i'm meddwl ofer, ffol, pechadurus amlhau Troseddau hefyd. Arglwydd, pwy a ddichon ddeall ei gamweddau! Yr wyfi yn synnu o achos Rhif fy mhechodau: Och fi, mi a bechais yn dy erbyn di ym-hob Amgylchiad a Chyflwr fy Einioes. Myfi a bechais ymhob perthynas tuag at Ddynion; gan nas rhoesym y Parch, nag y telais y Cyfiawnder, nag yr arferais y Cariad hwnnw a ddylaswn tuag at fy Nghymmy dog. Nid allaf edrych ar yr un o'th Orchymynion, nad ydyw yn atcofio imi lawer o Bechodau yr rhai y bum i yn euog o honynt. mynych iawn y gwneuthym yr unrhyw Bechodau drachefn; gan ddychwelyd iddynt, fel y Ci i fudreddi ei chwdiad; ac, fel yr hwch i w hymdreiglfa yn y Dom. mi a bechais yn crbyn dy Gyfraith di, ac yn erbyn yr Efengyl: Och, mor oeredd y derbyniais y Cynhygion oth Ras a'th Drugaredd di! pa fodd yr esceulusais i yr Icchawdwria [...]th gymmaint! Y methrais Waed y Cyfammod, ac y diystyrais Gariad fy Iachawdwr yn marw, yn Adbryn [...]u! Och, pa nifer o Bechodau rhai eraill y bum [Page 46] i yn euog o honynt! Drwy fy Siampl ddrwg; drwy eu Cyffroi hwynt heb raid ac yn anghyfiawn; drwy eu temtio a'u hudo i Bechu; drwy gynnorthwyo y peth a ddylaswn ei rwystro; drwy gyd-ddwyn neu esceuluso lle y dylaswn argyoeddi; a thrwy berchi ac annog y peth a ddylaswn ei geryddu a'i ddigalonni. Gwae fi, nid alla'i rithio ddarfod imi wneuthur un Weithred dda heb gymmysc o Ddrwg ynddi: mae ar fy Ngweithredoedd goreu eisie Gwaed Crist i'w glanhau nhw, ac i'w gwneuthur hwynt yn gymmwys i'w cyflwyno i ti: Ac yn siccr y mae arna'i eisie 'r Gwaed hwnnw i olchi ie Dagrau fy Edifeirwch. Pa Achwyn mawr sy' gennif fi yn fy erbyn fy hunan! [ Yma ti a elli fynegi yn neilltuol y Pechodau hynny yr rhai yr wyt ti yn deimladwy o honynt] Eithr tydi, O Arglwydd, a'm had waenost i yn well na myfi fy hun; ac yr wyf yn crynnu wrth feddwl pa faint mwy a elli di chwanegu at y Cwyn trymmaf a allaf fi ei ddwyn yn fy erbyn fy hun.
Myfi a fum mor frwnt a phechu yn ystyriol i'th erbyn di; gan wneuthur Drygioni, ac yn gwybod fy mod yn gwneuthur Drygioni. Myfi a'm hudwyd yn hawdd i Bechu; y Profedigaethau lleia a dycciasant gyda mi; Mi a fum gynnefin osywaeth i wneuthur Drwg. O Arglwydd, ti a arferaist Ammynedd a Hir-ymaros rhyfeddol tuag ataf fi, mewn rhes a helynt hir o bechu; ac mi a fum mor frwnt ac mor anniolchgar a'm cefnogi fy hunan i droseddu o herwydd y Dioddefgarwch hwnnw yr hwn a ddylase fy arwain i Edifeirwch.
Ys truan a ffiaidd o Greadur wyf fi, mi a bechais yn ddirfawr, mi a euthym yn dra-euog! Beth a ddywedaf wrthit ti; O tydi Geidwad Dynion! mi a orweddaf yn y Llwch o'th flaen di. Yr wyf fi ar dy Drugaredd di, O Arglwydd, ac y mae'n rhaid imi gydnabod ddarfod imi haeddu y Toster eithaf o'th Ddigofaint di. Yn Nioddef iadau trymmion yr Iesu mi a welaf pa beth a haeddasant fy mhechodau i. Yr wyf yn gweled yn ei Ddirmyg ef, fel yr haeddais i gael fy nibrisio. Mi a welaf yn ei Syched ef ar y Groes y modd yr haeddais i fod mewn eisiau pob peth Comfforddus. Mi a welaf yn ei ymdrech meddwl ef, ac wrth ei Ocheneidiau ef dan Lidiawgrwydd Duw, pa Ddigofaint a Chospedigaeth a haeddais i eu dioddef. Mi [Page 47] a welaf yn ei Farwolaeth felldigedig ef, ddarfod imi haeddu marw, a bod yn felltigedig a'm taflu allan o Ffafor Duw yn dragwyddol. O Arglwydd, yr ydwyf fi yn anheilwng, yn hollawl anheilwng i anadlu yn yr Awyr hwn o'r eiddot ti, i bresswylio ar y Ddaiar hon; i fwynhau y Goleuni Cyssurus hwn. Yr ydwyf fi yn llai na'r lleiaf o'th holl Drugareddau di. Rhaid imi fy marnu rhaid imi fy Nghondemnio fy hunan, rhaid imi gydnabod y byddit ti yn gyfiawn, ac na byddwn inne yn cael ond y pethau a haeddwn, ped fawn i yr awron wedi fy nghae i fynu yn y Tywyllwch dudew; ped fawn i yr awron gwedi fy rhwymo oddi-amgylch yn y Filammau tragwyddol; ped fawn i yn dioddef Poenau y pryf ni bydd marw byth, a Gofidiau Anobaith chwerw diddiwedd.
Arglwydd, Myfi a'm Cospaf, myfi a ddialaf arnaf fy hunan am fy Mhechodau. Mi a fyddaf fyw Fychedd o Farwhad yn hyttrach nag o Esmwythdra; Ni chroesafaf mwy un Meddwl uchel balch o honof fy hunan. Meddylio pa saint o ddirmyg a gwradwydd a gesclais, a geiff fy nghadw i bob amser yn ostyngedig! Ystyried fy hun yn Bechadur, a bod Ammherffeithrwydd a Phechod yn gymmysgedig a'm Gweithredoedd goreu.
Eithr, O Arglwydd, yr wyf yn attolwg iti na ddos i'r Farn a'th Was, canys ni chyfiawnheir neb byw yn dy olwg di. Oh na wna a'm fi yn ol fy Mhechodau; ac na obrwya fi yn ol fy Anwireddau. Gwyn ei fyd y Dyn y maddeuwyd iddo ei Bechod, ac y cyddiwyd ei Drosedd. Arbed fi, o Arglwydd daionus, arbed dy Greadur yr hwn a adbrynnaist a'th werthfawroccaf Waed! Oh arbed y Pechadur truan sydd yn cyffessu ei Feiau; cyweria di ef yr hwn sydd yn edifarus. Tosturia wrth yr hwn sydd yn ddrylliedig o Galon: Bywha Yspryd y gostyngedig: llawenha y Galon ddrylliedig: Calon ddrylliog gystuddiedig, O Dduw, ni ddirmygi. Dyro imi, gan hynny, orfoledd dy Iechydwriaeth; cynnal fi a'th hael Yspryd: Yna y dyscaf dy ffyrdd i rai Anwir, a Phechaduriaid a droir attat ti. Egor fy Ngwefusau o Arglwydd, a'm Genau a fynega dy Foliant.
Dosp. XV. Ymarfer o Fwriadau daionus.
OH Iesu yr hwn a Groeshoeliwyd. Y Merthyr mawr o Gariad! Nid alla'i ddewis na chydnabyddwyf, a rhyfeddu a moliannu Mawredd anfeidrol dy Gariad yn marw! Llawer ydyw, O Arglwydd, yr hyn yr ydwyf yn fy nghyfri fy hunan yn rhwymedig i ti am dano: A ph'eth, Oh pa beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl Garedigrwydd a'i Ddoniau! Arglwydd pan lwyr-Chwiliwyf fy Nhryssor, y mae'n gywilydd gennyf, ni fedraf ond gwladeiddio wrth weled mor dlawd ydyw efe. Oh, pa beth a ddichon Creadur dalu adref i'w Greawdwr? pa beth a allaf i ei roddi, yr hwn nid oes gennyf ddim i'w roddi? Yr hwn nid wyf ddim, ond yr hyn a gefais oddiwrthit ti? Dy Ddaioni di, yn siccr, sydd gyfryw un, nad wyt ti yn gofyn dim mwy nag a allwn ei roddi, ac a hynny yr wyt ti yn ddigon bodlon: Eithr hynny, O Arglwydd, sydd mor f [...]chan nad alla'i fod yn fodlon ag ef. O Arglwydd gad i'th Lownder o bob Gras rhagorol, i'th Lownder o Gariad fy llenwi i a phob gwir odidawgrwydd a Chariad, fel y gallwyf fod yn Rhodd well a theilyngach i ti.
O Ie [...]u anwylaf! o Gariad i ti yr ydwyf yn ddioed yn ymwrthod a holl wenhieithus Wagedd y Byd hwn, a'r holl fwya angenrheidiol Fwyniantau o honaw ef, fel y gallwyf yn ddiysgog dy anrhydeddu a'th fwynhau di: Nid wyf fi yn cyfri pob peth ond yn Golled ac yn Dom, ac ni chyfrifaf fy Einioes yn Anwyl, fal y gallwyf orphen fy Ngyrfa o Ddyledswydd drwy lawenydd, ac yr ynnillwyf Ghrist.
Eithr yn enwedig, o Arglwydd, o Gariad i ti, yr ydwyf fi yma yn ffieiddio, yn ymwrthod ac yn ymadel yn hollawl a'm holl Bechodau anwylaf. Ac yr ydwyf fi yn gofidio yn ddirfawr, fod i mi un amser fod mor Gywilyddus a chroesafu neb rhyw Wrth-Garwyr i'r caredig Iesu yn fy Nghalon. O Arglwydd yr ydwyf yn eu casau hwynt yn awr cyn gymmaint mwy, gan pa gymmaint mwy y cerais nhw gynt. Mi a'u taflaf hwynt yn gwbl oll allan o'm Calon; ni chant mor lletteua yno mwyach; ni chroesafaf ddim hwy, ni feithrinaf ddim hwy mo'th Elynion rheini di. Pa beth! A allaf fi fod yn garedig i Groeshoelwyr [Page 49] gwaedlyd fy Arglwydd! Gwel, O fy Enaid; gwel y Llofruddion hyn gwedi eu hiro drostynt a Gwaed dy Iechawdwr. Ewch ymmaith oddiwrthif chwi bethau melltigedig: Nyni a ymadawn yrwan allan o law ac yr wyf yn gobeithio, na chyfarfyddwn ni byth mwy, ac na byddwn yn gydnabyddus byth ond hynny. Ewch ymaith yn ddiattreg; Myfi a'ch bwriaf allan o'm Henaid; nid oes gennych chwi ddim Hawl i aros yma. Yr Iesu yn unig sydd gantho Gyfiawnder ynthwy i, i'm meddiannu ac i'm rheoli i. Ymmaith Genfigen front, nid allaf aros edrych arnat ti; Dos ymmaith fy Nghybydddod: Fy Malais yr ydwyf yn dy gasau di: Fy Ngormodedd mi a'th newynaf di: Fy Malchder mi a'th ostyngaf di; Fy Seguryd, tydi a roddaist imi cymmaint gwaith iw wneuthur, fel yr ydwyf yn bwriadu▪ ac yr wyfi yn gweled hynny yn angenrheidiol uwch law dim dy yrru di ymmaith oddiwrthif dros byth. Fy holl Chwantau a'm Gwyniau drygionus ewch ymmaith, ni chewch chwi ddim croeso mwy yma, na ddisgwiliwch mono gennifi.
Yr Iesu a gaiff fy holl Gariad i, nid allaf aros monoch chwi. Yr ydwyfi yn gwbl oll yn eiddo fo, ni bydd imi ddim a wnelwyf a chwi. Ewch ymmaith chwi Reolwyr creulon trahaus ar fy Enaid. Yr Iesu yw fy Meistr mwyn grasusol i, Efe sydd yn rhoddi Tasc esmwyth arnafi, ond chwy-chwi sydd yn gosod Beichiau trymmion arnaf: Ei Iau ef sydd yscafn, a'i Faych sydd esmwyth; ond eich Gorchymynion chwi sydd drymion ac annioddefus. Yr Iesu a ddangosodd imi fawr a rhyfeddol Gariad: ond chwychwi sy yn addaw llawer o fodlondeb, a charedigrwydd, eithr nid ydych yn cyflawni dim. Ni wnaethoch chwi ond fy siommi a'm twyllo i: chwi a'm hyspeiliasoch fi o'm Heddwch, chwi a ddygasoch fy Urdduniant a'm Gogoniant oddiarnaf, a plieth sydd fwy, chwi a'm hyspeiliasoch i o Ffafor fy Nuw, yr hwn sydd well na Bywyd. Pa beth a ellwch chwi ei wneuthur eros fi, ped faech chwi yn gwneuthur y cw bl yr ydyth chwi yn ei addaw, (y peth nid ydyw i'w ddisgwil byth,) yr hyn i'w gyffelybu i'r peth a wna yr Iesu erof fi; sef y peth y mae efe yn ewyllysgar, ac a addawodd yn ffyddlawn ei wneuthur drosof fi, os myfi a wnaf ond eich casau chwi ac ymadel a chwi; neu i'w gyffelybu i'r peth a wnaeth yr Iesu eisoes [Page 50] er mwyn tystiolaethu ei Ewyllys da a'i Garedigrwydd imi. Yr Iesu a'i dibrisiodd ei hun er fy mwyn i, fal y galle fo fy nerchafu i i'r Anrhydedd Uchaf; Eithr chwychwi a fynnech fy mwrw i allan i'm dirmygu gan Dduw, ac Angylion a Chythreuliaid: Yr Iesu a su farw drosof fi, fal y gallwn i fyw yn dragywydd, eithr chwychwi a fynnech fy lladd i; Yr Iesu a fynne fy rheoli i er mwyn fy achub i, ond chwy-chwi a fynnoch fy rheoli er mwyn fy nifetha i; Ei Wobrwy ef yw Bywyd a Happusrwydd tragwyddol, ond eich Cyflog chwi yw Marwolaeth a Thrueni tragwyddol. Pan ddelwyfi i farw pa Ffrwyth, pa Ddiddanwch a ddisgwiliaf oddiwrthych chwi? Och! y cwbwl oll a allech chwi ei ennill imi un amser, a'm gadawant i y pryd hynny, os na byddant wedi myned o'r blaen, ac yno y bydd rhaid imi fyned yn Adyn tlawd, noeth, ac yn ddieithr, i'r Byd tragwyddol, ie, o'ch achos chwi, oni fwriaf chwi ymmaith yr awron, rhaid imi ymddangos megis Gwrthryfelwr atcas euog gar bron fy Arglwydd a'm Barnwr, a chael fy ngosod allan i holl Ddychryniadau Llidiawgrwydd Duw. Eithr Cariad yr Iesu ni ymadewiff a myfi y pryd hynny; Ni cheiff na Thrallod, nag Ing, nag Erlid, nag Angeu ei hunan byth mo'm gwahanu i oddiwrth Gariad yr Iesu, os myfi a wnaf ond rhoddi Llythyr-Ysgar i chwi. A'r Iesu yw Brenin y Byd arall, ac efe a enfyn ei Angylion mwynion i dderbyn fy Enaid, pan fyddo efe yn ymadel a'r Babell wael yma, sef fy Nghorph; ac hwy a'i hebryngant ef i Drigfan ogoneddus: iw groesafu oddiwrth Drueni y Byd pechadurus hwn, ac i gyd-lawenychu am y Fuddugoliaeth a gefais i arnoch chwi fy Ngelynion; ac a m dygant i mewn Gorfoledd i Le Gwynfydedig, ac i fod gida Christ yn dragywydd. A allaf fi gan hynny, ymwrthod a'm Rheswm cimmaint, a cham-gymmeryd fy Lles cimmaint, a bod imi ddim a wnelwyf a chwi byth ond hynny.
O Arglwydd, y Prynnwr mawr trugarha wrthif, a gwared fi oddiwrth y Meistred creulon hyn. Dy Wasanaeth di yw gwir Fraint, a pherffaith Rydd-did; ac yn cadw dy Orchmynion di y mae Gwobr Mawr. Attolwg iti roddi fy Enaid i mewn Rhydd-did, fal y gallwyf redeg Ffyrdd dy Orchmynion di. Ac am yr rhain dy Elynion di a'm Gelynion innau, dyger hwynt allan a lladder [Page 51] nhw gar dy fron di: Diwreiddia hwynt yn llwyr allan o'm Calon i: Byddan nhw o hyn allan mewn Cyflwr methedig llesc, ac na lwyddan byth mwy; Eithr byddan feirw yn bryssur. Ni fodlonir monofi byth hyd oni welwyf hwynt wedi eu difuddio yn hollawn o bob Cynhyrfiad, a Bywyd. O Iesu, yr rhain oeddynt y Groes, yr Hoelion a'r Waywffon i ti; nhw a'th roefant di i Farwolaeth: Oh na bydde i Rinwedd dy Groes di roddi eu Briwiau marwol i'r rhain i gid, fal na byddo iddyn nhw dy ddigio di byth, nag i minnau gael fy nghystudio o'uplegit nhw byth ond hynny.
O Gariad wedi ei groeshoelio, tydi a'm rhagslaenaist i drwy dy Gariad, ac mewn modd anfeidrol a ragoraist ar y cwbwl a allafi ei roddi yn ol i ti: Ond myfi a ddyscaf gennit ti dy garu, a'th ddilin di fal y gallwyf. Ti a'th roddaist dy hunan drosof fi ar y Groes, ac yr wyt yn dy roddi dy hunan i mi yn y Sacrament hwn: Wele, O Arglwydd, yr ydwyf yn fy offrwm fy hunan i ti, fy hunan oll. Yr wyf yn offrwm ac yn dwyn i ti holl Briodolaethau fy Enaid, a holl Aelodau fy Nghorph: Yr ydwyf yn offrwm fy synwyrau a'm serchiadau i ti: yr ydwyf yn offrwm i ti fy holl Feddyliau, fy Ngeiriau, a'm Gweithredoedd: Yr wyfi yn offrwm i ti fy holl Fwriadau a'm Hegniau; holl Lafurau fy Ngalwedigaeth fydol; fy holl Addoliad a'm Defosiwnau. yr ydwyfi yn offrwmi ti fy holl Feddiannau Bydol; yr holl Ddynion yr rhai a allafi eu gorchymmyn a'u cymmell ith addoli, a'th anrhydeddu a'th wasnaethu di. Yr wyfi yn offrwm i ti holl Ddyddiau fy Mywyd; myfi a offrymmaf i ti fy Marwolaeth pa amser bynnag y gofynni hi; a pha un bynnag a wnaf ai byw ai marw yr wyfi yn dymmuno bod yn eiddot ti. Yr ydwyfi yn dymmuno bod yn gwbwl oll yn eiddot ti. Oh mor ddrud y telaist di am y Rhodd dlawd hon! Ni bu erioed Bris mor fawr heb law hwn, a daled am neb rhyw Greadur. Myfi a fyddaf byw i'm Cariad a fu farw drosof fi. Myfi a edrychaf arnaf fy hun o hyn allan megis peth wedi ei gyssegru, ac a ymegniaf i aros felly, ac i'm hymddwyn fy hunan megis y cyfryw un. Ni byddaf byth ar waith o'm bodd, ond fel yr wyt ti yn gorchymyn, ac fel yr ydwyt ti yn Iwfio. Arglwydd, er dy fwyn di myfi a garaf dy Gyfraith di, ac hi a fydd fy Myfyrdod beunydd. Myfi a garaf dy Orchmynion di yn twy nag [Page 52] Aur, a phob gau Lwybyr a ffieiddiaf yn hollawn. Dy Orchymynion di a fyddant yn anwylach gennyfi na Miloedd o Aur ac Arian, a melysach na'r Dil Mel. Ni charaf ddim ond y peth yr wyt ti yn ei garu, ac ni chasaf ddim ond y peth sydd yn dy ddigio di, a hynny i gyd a galaf.
Y mae yn ofid mawr i'm Calon, O Arglwydd, ddarfod imi erioed hoffi neb rhyw beth heb dy law di, tra yr oeddwn yn esceuluso dy garu di. Yr ydwyf o'm Calon yn cywilyddio pan feddyliwy fi ddarfod i mi osod fy Serch lle nid oedd ond ychydig neu ddim yn ddyledus, a'i naccau ef lle yr oedd y cwbwl yn ddyledus; Yn enwedig y mae 'n fy mlino i, ac yn fy nhrallodi i, fy mod mor dra-anniolchgar a cham - gymmeryd mor anferth a charu neb rhyw beth yn fwy na'm Iechawdwr anwyl. O hyn allan, drwy dy Ras di, O garediccaf Arglwydd, y mae yn fy mryd i, na charwyf ddim na neb ond llawer is na thydi, ac er dy fwyn di, pa beth bynnag a garwyf: A'r peth sydd debyccaf i ti, a mwya gwasanaethgar i'th Anrhydedd a'th Ogoniant, hwnnw a geiff fwya o'm Cariad i.
O hyn allan fe a fydd yn Oruchafiaeth imi fy mod yn Wasnaethwr i'r Iesu; Fe a fydd yn hyfrydwch ac yn ddifyrrwch imi, fy mod yn caru'r Iesu; a'm Coweth gwerthfawroccaf a fydd hyn, sef ei fod ef yn eiddo fi, a minnau yn eiddo yntef. Pwy sydd gennifi yn y Nefoedd ond tydi, O Arglwydd, ac ni ewyllysiais ar y Ddaiar neb gida thydi. Ac am hynny nid eill dim fod mor hyfryd gennisi, nid eill dim roddi imi cimmaint bodlondeb a llawenydd, a bod yn gallu dywedyd am danat ti, Fy Anwylyd sydd eiddo fi, a minnau sydd eiddo yntef. I mi fod yn eiddot ti, O Iesu, ydyw fy Anrhydedd a'm Diogelwch, fy Heddwch a'm Dedwyddwch tragwyddol; Ac i ti fod yn eiddo fi, sydd iechyd i'm Henaid, a nerth i mi i wneuthur dy Orchmynion di; Y mae efe yn Llawenydd annrhaethol a gogoneddus; Nefoedd ydyw efe ar y Ddaiar, a nef y Nefoedd; Doethineb yw imi, a Chysiawnder, a Sancteiddiad, a Phrynnedigaeth. O Gariad cyfoethog a haelionus! Yr ydwyfi yn eiddot ti O Arglwydd, a'm holl Enaid, fel y byddech di yn eiddo fi. Oh pa faint a ennillaf fi drwy fy rhoddi fy hunan i ti! Myfi [Page 53] a'm ennillaf fy hunan, ac my fi a gaf fy achub oddiwrth Ddinistr tragwyddol, ac a ennillaf Happusrwydd tragwyddol mewn Mwyniant o honot ti.
Yr ydwyf fi yn eiddot ti, O Iesu, achub fi, mysi a geisiais dy Ddeddfau. Arglwydd Sancteiddia fi yn gwbwl oll, fal y byddwyf yn eiddot ti yng Nghorph, ac Enaid, ac yspryd: Cymmer gyflawn feddiant ynof am yr amser sydd i ddyfod; ac na Lywodraethed un Arglwydd arall arnaf fi. O Arglwydd, Myfi a dyngais, ac mi a'i cyflawnaf, y cadwn dy Gyfiawn Farnedigaethau. Yr ydwyf fi yn bwriadu bod yn siccr, yn ddiymmod, yn helaeth yng Waith yr Arglwydd yn wastadol, gan wybod na bydd fy Llafur i yn ofer yn yr Arglwydd. Yr ydwyf fi yn eiddot ti, trefna di fi fal y gwelych di yn dda; Myfi a ddygaf dy Iau di, ni ochelaf dy Groes di, ni ddiystyraf dy Wradwydd di: Fe a fydd Dirmyg Crist yn fwy Golud i mina holl Lwyddiant y Byd hwn. Bydded yn unig dy Ras di yn ddigonol i mi, ac yna galw fi i wneuthur ac i ddioddef y peth a fynnych: Myfi a allaf bob peth drwy Ghrist yr hwn sydd yn fy nerthu i. Arglwydd, yr ydwyf yn gobeithio, nad ofnaf nag a wrthodaf ddioddef er dy fwyn di: ie pe gorfydde imi farw er dy fwyn di, yr ydwy fi yn bwriadu drwy dy Ras di, na'th wadaf di ddim. Eithr, och! y mae yn fy mlino i feddwl, mor wan, ac mor ofer yw fy holl Fwriadau i, ac mor fuan y diddymmir nhw heb dy Gynhaliaeth a'th Gymmorth di. Hyn sydd yn sy aflonyddu i; ond dymma fy Nghyssur i, sef bod dy Ras di yn hawdd iw gael; fe a ellir ei gael ef yr awron ond ei ofyn: Oh amddiffin fi a'th Ras yn erbyn pob Profedigaethau: Cynnal fy Nghamran yn dy Air, fal na lithro fy ngherddediad: A'th Gyngor i'm harweini, ac wedi hynny i'm cymmeri i Ogoniant.
Dosp. XVI. Ymarfer Ffydd.
YR ydwyfi yn Credu fod un unig gwir a Bywiol Ddaw; yr hwn yw'r Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan; o Hanfod anfeidrol, tragwyddol a pherphaith; Gwneuthurwr ac amddeffynnwr, Perchennog a Llywodraethwr pob peth. Yr hwn sydd ganddo hawl ac awdurdod i Wasanaeth, Addoliad, ac Ufudddod holl Ddynol-Ryw: Yr hwn a roddes ini ei Gyfreithiau, ac sy'n gweled ein holl Ymddygiad [Page 54] ni; fod ei Lygaid ef yn gweled holl Bresswylwyr y Ddaiar, ac yn profi Meibion Dynion; ei fod efe bob amser yn agos at bob un o honom, oblegid yntho ef yr ydym yn byw, yn symmyd ac yn bod. Yr wyfi yn Credu, O Arglwydd, dy fod ti, a'th fod yn Obrwywr y sawl oll a'th geisiant di yn ddiwyd: Ti a osodaist Ddiwrnod ymmha un y berni y Byd mewn Cyfiawnder, ac y teli i bob Dyn yn ol ei Weithredoedd: y sawl a geir yn ddrygionus yn y Dydd hwnnw a ant i Gospedigaeth dragwyddol, ond y Cyfiawn a ant i Fywyd Tragwyddol.
Eithr yr ydwy fi yn credu hefyd mai i'r Arglwydd ein Duw y perthyn Trugareddau a Maddeuantau er i ni wrthryfela i'w erbyn ef, os yn ffordd ei Ordeiniad ef y ceisiwn ei Drugaredd ef yn Maddeu. Bendigedig a fyddo dy Enw, O Arglwydd, ti a'th cyhoeddaist dy hunan dy fod yn Dduw yn maddeu Anwiredd, a Chamwedd a Phechod: Ac a fynegaist, nad wyt ti yn Ewyllysio marwolaeth Pechadur, eithr yn hyttrach dychwelyd o honaw oddiwrth ei Ddrygioni a byw. O Ddarostyngiad a Daioni rhyfeddol! O mor hyfryd yw dy Drugaredd! Mor ogoneddus a mawr! Brynti dirfawr ein Pechodau a'n Ffyrdd drygionus anrhesymmol sy'n mawrhygu dy Drugaredd ty hwynt i bob Amgyffred a moliant. Ffafor a maddeuant i Bechadur ffiaidd, sydd fwy nag a alle'r Pechadur ei ddisgwil, hyd oni fynegaist iddo y galle fo ei gael, ac tydi a'i cynnygiaist iddo mewn modd grasusol.
Pan oeddem ni wedi suddo i'r Trueni diystyraf drwy ein Gwrthryfelgarwch mawr yn dy erbyn di ac wedi ein rhoddi ein hunain yn ddarostyngedig i'th dragwyddol Gasineb a'th Ddigofaint di, ac wrth hynny a haeddasom ddilin yr Angylion gwrthodedig yn eu Tynged a'u Damnedigaeth, fel y darfuase ini eu canlyn nhw yn eu Gwrthryfelgarwch: Yna y darfu i'th anfeidrol Ddoethineb Ddychymmyg y modd i wneuthur ini Drugaredd mewn ffordd gyttunol a'th Ogoniant dy hun: Ti a chwiliaist allan ffordd i n harbed, ac i gospi ein Pechodau; i ogoneddu dy Gyfiawnder drwy ddial ar ein Dychymmygion ni, a'th Drugaredd yn achub Pechaduriaid truain: Felly y carodd Duw y Byd, fal y rhoddes efe ei unig-anedig Fab, fal na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw Fywyd tragwyddol. O Dad, ti a roddaist dy uniganedig [Page 55] Fab i'r Darostyngiad a'r Gwaeledd o gymmeryd ein Hanian ni arno, ac i farw yn Aberth dros ein Pechodau ni; ac arno ef, sef dy anwyl Fab, y rhoddaist di ein Hanwireddau ni i gyd oll. Ac yn ei Farwolaeth ef tydi a dderbyniaist gyflawn, berffaith a digonawl Aberth, Offrwm ac Iawn dros Bechodau 'r holl Fyd. Tydi a roddaist ein Cymmorth ni ar un Cadarn, a Galluog i waredu yn gwbl, yr rhai oll sy'n dyfod at Dduw trwyddo ef. Yr ydym yn addoli dy Ddaioni a'th Dosturi anfesuredig tuag at Bechaduriaid. Yr wyt ti yn helaeth-lawn, O Dduw, yn dy Ddaioni a'th Wirionedd.
Dy Drugaredd di sydd uwch law dy holl Weithredoedd: Ac yn dy Drugaredd yr wyt ti yn ymhyfrydu yn fawr: Yr ydym yn cofio dy ymarfer gogoneddus o'th Drugaredd: Nyni a wyddom, o Arglwydd, y gelli di faddeu y Camweddau mwya; canys ti a faddeuaist i'r Pechaduriaid mwya: Y Brenin Dafydd a faddeuwyd ei Lofruddiaeth a'i Butteindra ffiaidd; Manasseh ei Ddelw-Addoliaeth erchyll, ac er iddo lenwi Jerusalem a thywalltiad Gwaed gwirion; Ti a faddeuaist i'r Butteinwraig front honno Mair Magdalen; Ac hefyd i'r Apostol Pedr, yr hwn a'th wadodd di drwy Lw; Ac yr un modd ti a faddeuaist i Saul ffurnig, yr hwn a'th gablodd di ei hunan, a chan fod yn gynddeiriog yn dy erbyn, a gymmhellodd eraill i'th gablu di: yr holl rai hyn ydynt Siamplau o'th Drugaredd gogoneddus yn maddeu iddynt. Oh pa gwmffwrdd, pa Obaith llawen sy gennym yn y cyfryw Ddaioni!
Nyni a wyddom, mai gwedi iti roddi ini dy Fab, na naccei monom o ddim ag sydd yn angenrheidiol i'n Hiechawdwriaeth: Ond os gofynnwn, nyni a dderbyniwn; os ceisiwn, nyni a gawn; os curwn, fe agorir ini. Ar y Pris Adbrynniad hwnnw yr hwn a dalodd fy Icchawdwr drosofi, ac ar dy holl Addewidion grasol, yr rhai a wnaethost er ei fwyn ef, yr ydwyf fi yn hollawn ac yn gruf yn hyderu; Gida Goglud gostyngedig, O Arglwydd, ar ini gael Ffafor gida thydi, yr ydym yn cofio oth flaen di, yn y Sacrament hwn Friwiau gwaedlyd dy anwyl Fab, a'i werthfawr Farwolaeth ef, yr hwn oedd oludog Aberth dros Bechod: yr ydym yn cofio gar dy fron di, ac yn cyflwyno i ti, yr hwn a ordeiniaist i fod yn Iawn dros Bechod [Page 56] drwy Ffydd yn ei Waed ef. Ac yn ei Enw ef, gan hyderu ar Bris a Chymmeradwyaeth ei Offrwm ef, Myfi dy Wasnaethwr truan anheilwng ydwyf yn ostyngedig yn fy nghyflwyno fy hunan o flaen Gorsedd faingc dy Ras di, i ddymuno cennad i gleimio dy Addewidion grasol di, yr rhai yntho ef ydynt Ie, ac ynddo ef Amen; ac fal y gallwyfi yr awron, fy nifyrru a'm hyfrudu fy hunan a'r Gobeithiau gogoneddus yr rhai y mae dy Addewidion yn eu rhoddi.
Yr wyf yn dymuno ac yn gobeithio ar i ti yn hollawn faddeu fy amryw a'm haml Droseddiadau. Yr ydwyfi yn dymuno ac yn gobeithio y rhoddi di dy Yspryd Sanctaidd imi, yr hwn a addewaist i roddi i'r sawl a'i gofynno. Oh dyro imi 'r yspryd hwnnw i'm glanhau o'm holl Anghyfîawnder, i buro fy Enaid halogedig; i dynnu ymmaith holl Aflendid a Budreddi fy Mhechodau; i nerthu fy Ngwendid mewn Temtasiwnau; i'm cynnal a'm diddanu dan bob Blinderau a Chystuddiau; i'm cynnorthwyo yn fy holl Ddyledswyddau; i'm harwain i yn fy Ffordd, ac i siccrhau imi y parhaf hyd y Diwedd. Tydi, O Arglwydd, yr hwn wyt yn chwilio Calonnau, ac yn profi Arennau Meibion Dynion, a wyddost yn dda iawn, pa le y mae fy ngwendid mwyaf i yn sefyll; Arglwydd nertha fi yn nailltuol, mi a attolygaf iti, yn erbyn fy Anwiredd, sef yr hwn yr wyf chwannoccaf i syrthio iddo. Yr ydwyfi yn dymmuno, ac yn gobeithio y cedwi di fi drwy dy Ras yn ddifrycheulyd oddiwrth y Byd: Arglwydd cadw fi rhag dilin yr Amryfuseddau ar Beiau yr rhai a fyddant arferol ymmysc y Gwerin Bobl yn gyffredinol. Yr ydwyf yn dymmuno ac yn gobeithio yr amddeffynni fi yn drugarog yn erbyn holl Gynllwynion a Dichellion Diafol yr hwn yw Gelyn mawr fy Enaid i. Yr ydwyfi yn fy ngorchymmyn fy hunan yn ostyngedig i'th Gadwraeth rasusol, o Greawdwr ffyddlawn.
Yr ydwyfi yn dymmuno ac yn gobeithio, O Arglwydd, i ti fy mendithio i ag Iechyd, ac a Rhag-ddarpar cymwys o'r pethau sy'n angenrheidiol imi, o ddaionus bethau r Byd hwn; ac amddeffin fi, od yw dy ewyllys, rhag Tlodi a Dirmyg, ac na byddo imi fod yn Ormesol ar neb. Dyro imi na Thlodi na Chyfoeth, eithr portha fi a digonedd o [Page 57] Fara. Myfi a wn, O Arglwydd, mai Dyn a aned i flinder, fel yr eheda'r gwreichion tuag i fynu; ddarfod i Bechod with ddyfod i'r Byd hwn, ddwyn pob Trueni a Chystudd gidag ef; a bod ar ein Hynfydrwydd a'n Gwrthnysigrwydd ni eisiau yn gyffredinol y fath Ddyscybliaeth i'n gwneuthur ni yn ddoethion ac yn ddaionus. Yr ydwyfi yn dymuno ymddarostwng i ba beth bynnag y gwelych di yn dda ei drefnu imi, a dywedyd bob amser, ar ol Siampl fy Iachawdwr, Arglwydd, nid fy Ewyllys i, ond dy Ewyllys di a wneler. Yr ydwyfi yn gobeithio y trini di fi yn ol dy Drugaredd, ac na roddi arnaf ddim ychwaneg nag y rhoddech imi nerth iw ddwyn a'i ddioddef. Yr ydwyf yn credu y gelli di wneuthur imi lawer o ddaioni drwy fy Nghystuddiau; yr wyfi yn attolwg iti eu Sancteiddio nhw i gyd oll i ddwyn ymlaen Iechawdwriaeth fy Enaid, a'm Happusrwydd tragwyddol: Ac yr wyfi yn attolygu iti, O Arglwydd, roddi imi Ras i ymroddi fy hunan yn hollawn i'th Wasanaeth di, a gostyngedig Hunan-Roddiad, ac Ammynedd anorfod, fel na byddo imi na dirmygu cerydd yr Arglwydd, na deffygio pan i'm cerydder ganddo: Bydded imi gymmeryd Calon bob amser wrth ystyried y Gwirionedd yma, sef hwn; Ein byrr ysgafn Gystuddiau (os nyni a'u dioddefwn yn amyneddgar) sydd yn odidog-ragorol yn gweithredu tragwyddol bwys Gogoniant ini. Yr ydwyfi yn dymuno ac yn gobeithio y [...] hyfforddi ac y nerthi di fi felly i dreiddio drwy y pethau Amserol, fal na chollwyf yn llwyr y pethau Tragwyddol. Fel drwy dy Arweiniad ti y gallwyf o'r diwedd ddyfod yn ddiogel i'r Byd dedwydd hwnnw, lle y mae'r Deffygiol yn cael gorphwyso; lle mae'r Drygionus yn peidio a chystuddio; Ile y mae Tristwch ac Ochain, poen a Blinder, ac ofn a Gofal yn ffoi i gyd ymmaith; ac y sychir Pob Deigryn oddiwrth ein Llygaid ni, ac y cawn dy fwynhau di, a'r cwbwl oll ac a allwn ni ei ddymuno mewn perffaith Ddedwyddwch, a Diogelwch Tragwyddol a Gorphwysdra.
Gwir yw'r Gair, ac yn haeddu pob Derbyniad, ddyfod Iesu Ghrist i'r Byd i achub Pechaduriaid. Arglwydd, yr ydwyfi yn derbyn y Gwirionedd ymma; Arglwydd, yr ydwyfi yn credu, cymmorth fy anghrediniaeth i. Yr ydwyfi yn credu, O Iesu, mai tydi wyt y Crist, Mab y [Page 58] Duw byw, yr hwn oedd i ddyfod i'r Byd. Oh Gariad tyner a darostyngedig, mor anwyl ydyw'r Henw bendigedig hwnnw i mi! Iesu fy Iechawdwr! Oh mor llawn o hyfrydwch ydyw efe, fel Per-arogl gwerthfawr! Dy Enw sydd megis ennaint wedi ei dywallt allan! Oh bydd di bob amser yn Iesu imi. Attat ti, O Arglwydd, yr ydwyf yn ffoi megis fy Noddfa oddiwrth gyfiawn Ddigofaint Duw, yr hwn a haeddais i; Ti a ddichon orchfygu fy holl Elynion ysprydol; ac yr ydwyt ti yn ewyllysgar i dderbyn i'th Nodded bawb a ddelo attat ti. Oh Oen Duw, yr hwn wyt yn dileu pechodau'r byd, Trugarha wrth fy Enaid truan; a chaniatha imi dy Dangnheddyf. Yr ydwyt ti yn gwahodd y sawl sydd yn flinderog ac yn drwm-lwythog, i ddyfod attat ti: Wele, Arglwydd, yr ydwyfi yn dyfod, O bydded imi gael Gorphwysfa i'm Henaid.
Yr ydwyf fi yn dyfod i gyfrannogi o'r Dedwyddwch o gael fy uno a thydi yn y Sacrament hwn. Yr ydwyf fi yn credu, O Arglwydd, Wirionedd dy holl Addewidion, a Rhinwedd a Gallu dy holl Ordinhadau: Ac nad ydyw'r Bara yr ydym yn ei dorri, a'r Cwppan yr hwn yr ydym yn yfed o honaw, yn y Sacrament hwn, yn Arwyddion noethion, ond hefyd yn wir Offerynnau o Drosglwyddiad a Chyfranniad o'th Gorph a'th Waed: yr ydwyf, gan hynny, yn dyfod, fal y derbynniwyf dy Gorph a'th Waed, ac felly cael hawl yn Haddedigaethau dy Ddioddefaint; fal y gallwyf gyfrannu o'th yspryd, a chael hawl i'r etifeddiaeth Nefol, yr hon a bwrcasaist i Bechaduriaid truain colledig. Yr ydwyf fi yn dyfod i wneuthur Coffa diolchgar o'th Farwolaeth, yr hon y darfu i ti yn garedig ymddarostwng iddi er mantes i Ddynol-Ryw: Ac drwy dy Farwolaeth di yr ydwyf fi yn gobeithio cael Bywyd tragwyddol.
Yr ydwyf fi yn llawen, O Arglwydd, yn cowleidio Cynhygion dy Efengyl. Yr ydwyfi yn deisy fu arnat ti, orchfygu ynofi fy holl Drachwantau gwrthryfelgar a'm Serchiadau drygionus, ac megis Brenin i reoli arnaf, Mi a gyfrifaf yn Anrhydedd imi gael bod yn waelaf o'th Ddeiliaid ti. Yr ydwyf yn dymuno arnat ti roddi imi dy Hyfforddiad Nefol; dysc fi megis Prophwyd, a gwna fi yn ddoeth im Iechawdwriaeth drwy y Ffydd sydd ynot [Page 59] ti. Yr wyf fi yn attolwg arnat ti fod yn eiriol drosof fi megis Offeiriad drwy Rinwedd dy werthfawroccaf Aberth; a rhoddi imi y Bendithion helaeth a bwrcasaist i Bechaduriaid. Yr wyf i yn credu, O Arglwydd, i ti farw dros ein Pechodau ni, ac adgyfodi in Cyfiawnhau ni. Yr ydwyfi yn dymuno bod ith Farwolaeth di lwyr-groeshoelio a lladd fy holl Bechodau i, ac ith Adgyfodiad ti adfywio fy Ngobeithiau. Drwy dy Adgyfodiad ti yr wyf yn dymuno, yr wyf yn gobeithio cael fy Adgyfodiad innau: Drwy dy Escynniad ti i'r Nefoedd, yr wyfi yn dymuno arnat ti dynnu fy Nghalon a'm Serchau oddiar y byd gwag ofer hwn, i garu yn galonnog, ac i daer ddymuno pethau nefol: Ac yr ydwyf yn gobeithio y cyfodi di fi i fynu yn y Dydd diweddaf, ac a'm dygi i fod lle'r wyt tithe, ac y rhoddi di imi fywyd Tragwyddol. Yr ydwyfi yn cymmeryd y Sacrament hwn megis Gwystl oth Gariad Tragwyddol; ac megis Siccrwydd orCariad mawr a ddangosaist imi eusus, ac ernes ac eglurhad o Gyfranniadau mwy o Gariad i ddyfod.
Y mae fy Enaid yn sychedu am Dduw, ie am y Duw byw: Oh, pa bryd y deuaf ac yr ymddangosaf gar bron Duw! Pa bryd y cafi weled dy Wyneb di, O Iesu anwylaf, heb un Llen, ac y cusseni fi a Chussanau dy Fin, ac y caf dy fwynhau di yn ddigyfwng? Pa bryd y newidir y gwan Lewyrch byr oth Ogoniant di am lawn olwg parrhaus o honot ti? Pa bryd y cafi gennad nid yn unig i ymweled a thydi, ond i drigo gida thi; ac i dderbyn nid Archwaethau darfodedig, ond i yfed Traflyngau helaeth o Hyfrydwch a Llawenydd allan o Ffynnon annherfynol o Wynfyd a Llawenydd: Canys gar dy fron di y mae llownder o Lawenydd, ac ar dy ddeheulaw y mae Digrifwch yn dragywydd. Oh, fel yr wyfi yn hiraethu, am fod fy Mhererindod blin yma wedi darfod! am gael o honof fi fod yn absennol o'r Corph, fel y gallwn fod yn bresennol gida'r Arglwydd: am imi gael bod heb ddim gorchwyl neu beth angenrheidiol im troi, O Iesu anwylaf, oddiwrth fyfyrrio arnat ti, ath foliannu, ath garu ath fwynhau di yn wastadol! Am hyn, pwy un bynnag, yr ydwyfi yn disgwil; Hyn yr ydwyfi yn ei ddisgwil drwy dy Haeddedigaethau, ac o'th anfeidrol Gariad ti; a'r Disgwiliad hwnnw a'm cefnoga i lafurio yn dy Wasanaeth, [Page 58] [...] [Page 59] [...] [Page 60] i ddwyn dy Groes, ac ith ddilyn di i ba le bynnag y gwelych di yn dda fy ngalw i.
Dosp. XVII. Ymarfer o Gariad.
O Iesu, yr wyt ti yn Gariad anfeidrol! Ni fedraf ond trwy hyfrydwch mawr ac aruthredd ddwys fyfyrrio arnat ti; a phan wnelwyf hynny, yr ydwyf yn deimladwy o Gymmell bodlongar arnaf i garu. Rhaid imi gyfrif hwn yn Rhinwedd mwya rhagorol a Duwiol yr hwn sydd mor enwog ynot ti: Rhaid imi ei gyfrif yn Anrhydedd mwyaf imi fod yn debyg i Fab Duw; ac am hynny rhaid imi fod yn anfoddog iawn a'm casau fy hunan am ddim diffyg Cariad sydd ynofi. Heb law hynny, pan feddyliwyf mor fawr yw dy Gariad ti tuag attaf fi; pa faint a roddes dy Gariad rhad a haelionus, a pha faint a faddeuodd efe imi, fe a'm cymmellir im cyfri fy hunan yn frwnt, ac yn dra-anheilwng o hyn, oni charaf finnau yn fawr.
Gwiscaf, gan hynny, am danaf y Cariad mwyaf a helaethaf ag a fedrwyfi: Myfi a ewyllysiaf yn dda, ac a wnaf i bob Dyn yr holl ddaioni a allwyfi, a chyn fynyched ag y caffwyfi'r adeg iw wneuthyr: Myfi a garaf fy Nghymmydog fal fi fy hunan; ac a gyfrifaf hwnnw yn Gymmydog imi, yr hwn sydd arno ddim eisiau om caredigrwydd i, ac i'r hwn y mae'n fy ngallu i wneuthyr neb rhyw Swydd o gymmwynas, pwy bynnag a fyddo. Tydi, O Iesu Bendigedig, a geraist y Trueiniaid mwya anheilwng! Gan hynny, ni chyfrifafi neb yn anheilwng om Cariad a'm Hewyllys da i. Tydi a geraist yr rheini oeddynt yn anfeidrol islaw i ti, ac ath ddarostyngaist dy hun yn anferth i wneuthyr iddyn garedigrwydd. Ac am hynny ni chyfrifaf neb byth mor isel ac mor wael a bod yn anheilwng imi wnenthyr Cymmwynas iddo ef; ond yn hyttrach pwy mwya a fyddo 'r Darostyngiad yn y Weithred, mwya o bris a roddaf ar yr odfa a gefais, er mwyn dangos wrth hynny fwy o Gyffelybiaeth a Diolchgarwch i ti. Tydi O Arglwydd a geraist yr rheini oeddent yn hollawn yn anfuddiol it ti, ac oddiwrth ba rai nid elli byth dderbyn gyfattebol Daledigaeth o Gariad: Ac o herwydd hynny, bydd arnaf gywilydd, fal y dyle yn gyfiawn a [...] nad [Page 61] ydwyf yn gwneuthur un Gymmwynas ond lle y derbyniais Ddaioni, neu lle'r ydwyf yn disgwil cael Cymmwynas.
Tydi, O Iesu, a geraist ie dy Elynion, ac a weddiaist dros y sawl a wnaethant niwed i ti, ac ath erlidiasant ti: Hwn ydyw'r Esampl gogoneddus, yr hwn drwy Gymmorth dy Ras di, yr ydwyfi yn bwriadu ei ganlyn. Am y rhai oll a'r a wnaethant gam a mi drwy Air neu Weithred, O Arglwydd, yr ydwyfi yn maddeu iddynt, ac y r ydwyf yn attolwg i tithau feddeu iddyn nhw. Yr ydwyfi yn tristau mwy o achos eu Cyfeiliorni nhw au Pechod, nag yr ydwyf am neb rhyw Golled neu Niwed a ddaeth, neu a eill ddyfod îmi drwy y Cam a wnaethant imi: Arglwydd bydd drugarog wrth eu Heneidiau nhw; Maddeu im Gelynion, Erlidwyr ac Sclandrwyr, a thro eu Calonnau. Nid ydwyf yn dymuno dim drwg i neb rhyw un or rhai sy'n Elynion imi, os oes yr un felly: nag a orfoleddaf fi arnyn pan gwympan nhw, ond yn hyttrach fe a fydd drwg gennisi weled hynny; llai o lawer y ceisiafi niwed na drwg yn y byd iddynt. Ac yr ydwyfi yn bwriadu yn y gwrthwyneb, er maint a fydd eu angharedigrwydd nhw imi, wneuthyr iddynt hwy yr holl Gymmwynasau a allafi; a fo'nt yn gyttunol a gofal dyledus am fy Niogelwch fy hun, ac a Rhwymedigaethau eraill a Dyledswyddau i ti, ac i eraill sy Nghymmydogion. Yr ydwyfi yn arfaethu ac y mae yn fy mryd i astudio, a cheisio gwneuthyr iddyn ddaioni: adferu iddynt Fendith am Felldith, Parch am Ammarch, a Da am Ddrwg: fal y gallwn, os yw bossibl orchfygu drwg â daioni.
Fel y mae efe yn Nod ac yn Arwydd o Gariad perffaith, na byddom yn bryssur i feddwl yn Ddrwg am neb: Am hynny mi a gymmeraf ofal na byddo dim eiddigeddau anghariadus na Drwg-dyb am fy Nghymmydog yn llettyfa ynthwy i, i beri iddo ef ymddangos yn Elyn imi, yr hwn nid yw felly: Myfi a gymmeraf ofal rhag deongli camgymmeriad i fod yn fwriad maleusus; neu'r peth a amcenir megis Caredigrwydd, i fod yn Gam: Ond myfi a ymegniaf bob amser i gymmeryd ei holl Eiriau a'i Weithredoedd yn y synniad goreu, ac i roddi y Deongliad teccaf ag a allaf ar y cwbwl oll: yn enwedig Myfi a wnaf fal hyn a'r Swyddog, megis yn rhwymedig i hynny drwy'r Rhwymedigaeth iw Berchi a'i Anrhydeddu ef, yn gystal a thrwy Gyfreithiau Cariad; Ac oblegid bod hynny [Page 60] [...] [Page 61] [...] [Page 60] [...] [Page 61] [...] [Page 62] yn angenrheidiol ac yn fuddiol er mwyn yr Heddwch a'r Daioni cyffredinol, a'i fod felly yn ei Effeithiau yn Gariad i eraill om Cymmydogion hefyd.
Yr ydwyfi yn diolch i ti, O Arglwydd, a'm holl garedigrwydd fy Ngheraint a'm cyfeillion, ac am y rheini a wnaethant imi neb-rhyw lessad: Yr wyf yn attolwg iti, O Gariad haelionus, roddi yn ol iddynt yn helaeth yn y Byd ymma ac yn y nessaf; mewn Bendithion amserol a thragwyddol: cynnal neu chwanega eu Golud au Llwyddiant bydol, os bydd hynny er daioni iddynt; ac yn enwedig bendithia hwynt a Bendithion Ysprydol ym Mhethau nefol. Myfi a ymegniaf, hyd yr eithaf om gallu, i fod yn wasnaethgar iddynt yn eu Cyflwr oddiallan, ac yn eu Heneidiau, a phob amser i egluro y tra-diolchgar Ystyr ou caredigrwydd hwynt. Ni ddirmygaf Gariad y Dyn gwaelaf, mwy o lawer yr ystyriaf yn ddiolchgar y Caredigrwydd y bu gwiw gan y sawl sydd uwch na mi ei ddangos imi.
Yr ydwyfi yn erfyn arnat ti, O Arglwydd, yn ostyngedig yr awron ar amser da, dros holl Ddynol-Ryw: Yr ydwyfi yn gorchymmyn ith anfeidrol Drugaredd yr holl Iddewon, Tyrciaid ac Anffyddloniaid. Oh bydded i'r rheini sy'n eiste mewn Tywyllwch weled dy ryfeddol Oleuni di, a chaffael eu troi o Feddiant Satan at Dduw: A bydded y Ddaiar wedi ei llenwi a Gwybodaeth o'r Arglwydd, fal y mae y Dyfroedd yn toi y mor. Bydded ith Efengyl o Sancteiddrwydd, Heddwch a Chariad, O Iesu, gael rhedeg a'i gogoneddu o Godiad yr Haul hyd ei Fachludiad.
Gida Thrallod mawr a Thrymder Calon, O Arglwydd, yr ydwyfi yn ystyried pa nifer o'r Byd truenus hwn, sydd yn gorfedd mewn Drygioni! Och mor drwm ydyw'r Meddwl, fod y cyfryw Iechawdwr yn cael ei gynnig i Ddynion, ac mor ychydig yw rhifedi'r sawl sy'n ei dderbyn ef! Och mor drist ydyw meddwl fod cynnifer o Filoedd o Eneidiau, tros ba rai y bu Ghrist farw, yn debygol i ddescyn i Gau-dyllau ofnadwy Uffern! Fod cynnifer o bobl yr rhai a allent fod yn happus yn Dragwyddol, ath foliannu yn dragywydd, ac etto au dinistriant ac au taflant eu hunain i Drueni tragwyddol. Afonydd o Ddyfroedd a redant om Llygaid, oblegid i Ddynion ddiddymmu [Page 63] dy Gyfraith di: Cyfraith mor oludog mewn Cariad, ac mor ostyngedig mewn Gras. Yr ydwyfi yn gofidio, O Arglwydd, oblegid nad ydynt yn dy garu di, ac oblegid nhw a fynnant eu difetha eu hunain: Oblegid eu bod yn dy gyffroi di, ac yn gwrthryfela yn erbyn dy Ddaioni yr hwn y maent yn rhwymedicca iddo, ac yn esceuluso Iechawdwriaeth cimmaint ag y mae efe yn ei chynnig iddynt.
O nad allwn achub llawer o Eneidiau gwerthfawr oddiwrth eu Dinistr; och nad allwn eu tynnu hwynt megis Pentwynion allan o'r Tan! Cymmhelled ag y gallaf, ac y mae yn weddus imi wneuthyr yn fy Lle a'm Galwedigaeth, myfi a ymegniaf i iachau 'r Drygioni Cyffredinol sydd megis Haint wedi ymwascaru yn 'r Amseroedd yma. Mi a ymegniaf yn ddifrifol i gadw 'r Eneidiau rheini sydd dan fy Awdurdod a'm Gallu i, a'r sawl sydd om Cymmydogaeth a'm Cydnabyddiaeth i, a'r sawl a allaf mewn modd yn y Byd weithio arnyn fal nad elont i Ddinistr tragwyddol. Myfi a ddilynaf y rhai oll a allwyfi a Hyfforddiad a Chyngor; a'r rhai nid ydynt gyfaddas imi iw cynghori, mi a geisiaf erfyn arnynt, er iddynt fod yn gadwedig: Ac am y rheini y dylwn wneuthyr hyn iddynt, myfi au hargyoeddaf, ac au ceryddaf am bob Drygioni a welwyf ynddynt. Myfi a genhedlaf, cystal ag y medrwyf, yr Wybodaeth safadwy am danat, a'r Cariad i ti ymmysc yr Anwybodus a'r Diofal, a'r rhai y mae eu Tlodi yn eu rhwystro oddiwrth rhagddarbod drostynt eu hunain; drwy gyfrannu rhyngthynt, yn ol fy Ngallu, y cyfryw foddion iw Haddysc au Gwellhad Buchedd, ag a ddarfu ith Ffafor di eu rhoddi ar Gyhoedd.
Yr ydwyf yn athrist iawn ac y mae'n ddrwg gennifi o achos y Trueni a'r Blinderau yr rhai yr ydwyf yn clowed am danynt neu yn eu gweled yn y Byd: Fod ith Greaduriaid y rhai a wnaethost, fal y bydde i ti eu caru nhw, ac fel y byddent yn ddedwydd; dynnu arnynt eu hunain gimmaint o Drueni, oth gyfiawn Ddigofaint ath haeddedigol Ddial di. Och mor drwm ydyw meddwl fod Miloedd o Bobl yn descyn yn fyw i'r Pwll, gan gael eu llyngcu gan Ddaiar-grynfaau disymmwth; ac mewn munudun eu cippio oddiymma i Dragwyddoldeb, heb ddim amser i barottoi erbyn eu Hymadawiad. Mae'n ofi dus gennifi [Page 64] feddwl am yr alaethus Effeithiau o Newyn methedig mewn rhai Mannau; o Glefydau heintus a Nodau me wn mannau eraill. Y mae'n briwo fy. Enaid i ystyried y Blinderau tosturus a'r Destrywiadau sydd yn canlyn Rhyfeloedd echryslawn! Och mor erchyll ydyw'r peth, fod Dynion yn ceisio tywallt Gwaed Dynion; a rhoddi Cyrph y rhai sydd o'r un Rhyw a nhw eu hunain, i fod yn Ysclyfaeth i Adar ac i Anifeiliaid gwylltion! Arglwydd cerydda y Bobl feilchion hynny sy'n Aflonyddu'r Byd; gostwng eu Balchder, tola eu Drygioni, a gwradwydda eu Bwriadau: Canniatha i Ryfeloedd beidio ym mhob Gwlad, ac i Gariad hynaws a Thangnheddyf dedwydd lifeirio ynddynt! Llwydda, O Arglwydd daionus, y sawl sydd yn ymegnio am gael Heddwch cyfiawn a diogel, fal y gallont ddyfod o hyd iddo; a gwascar y Bobl sydd dda ganthyn Ryfel. Oh na bydde ith Farnedigaethau di y rhai sydd ymma a thraw ar y Ddaiar, wneuthyr i Bresswylwyr y Byd ddyscu Cyfiawnder, a throi attat ti yr hwn au tarewaist hwynt, fal y byddo iti eu hiachau hwynt.
Fal yr ydwyfi yn Aelod oth Eglwys fendigedig, y mae'n perthyn imi yn nailltuol ewyllysio Llonyddwch a Heddwch, a gwir Ogoniant Ysprydol a Llwyddiant honno. O Arglwydd, cartha allan oth Eglwys pa beth bynnag sydd yn dy anfoddhau di, ac sydd yn ddinistriol i Eneidiau Dynion. Cartha allan o honi pa beth bynnag sydd yn Dramgwydd i'r rheini ag sydd oddiallan: Gwna i bob Cristion wybod a deall hyn, sef eu bod nhw yn rhwymedig i wneuthyr eu gorau, er bod iw Hymddygiad nhw harddu a chanmol eu Crefydd yng olwg yr Anffyddloniaid: ac 'i fed yn ofalus ar fod iw Goleuni nhw lewyrchu felly gar bron Dynion, fal y gwelon nhw eu Gweithredoedd da hwynt, ac y gogoneddont eu Tad hwynt, yr hwn sydd yn y Nefoedd. Pura dy Eglwys, nyni a attolygwn i ti, oddiwrth bob gau Athrawiaeth a Haeresiau; oddiwrth Coel-Grefydd a chreulondeb; oddiwrth Genfigen, Digasedd a Bwriad drwg a phob Anghariadoldeb. Dwg i'r ffordd Wir baw'o a'r a aeth ar gyfeiliorn, ac a dwyllwyd: cyfod y rhai a syrthiasant; cryfha a nertha y sawl sydd yn sefyll, mewn Duwioldeb a Rhinwedd, a Phroffes o'r Gwirionedd. comfforddia'r Rhannau hynny oth Eglwys yr rhai sydd yn galaru, [Page 65] ac a orthrymmir dan Erlidigaeth y rhai Digred neu rai creulon eraill: a bydded ith Ddeheulaw dy hun, ath Fraych Sanctaidd, yn dy amser da dy hun, roddi iddynt hwy Iechawd wriaeth nerthol.
O Dduw 'r Cariad, O Dywysog Tanghneddyf, a Duw pob Trefn dda, 'ni attolygwn iti, bydded ith Efengyl yn helaethlawn dderchafu y daionus bethau hyn yn dy Eglwys. Canniatha na botho na drygu, na difetha yn holl Fynydd dy Sancteiddrwydd: Onid bod i holl Aelodau 'r Eglwys, megis Aelodau o'r un Corph, ac ou gilidd, garu y naill y llall ou Calonnau: Gan eu hymddwyn eu hunain gida phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder tuag at eu gilidd; a chida phob hir-ymaros, yn cyd-ddwyn au gilydd mewn cariad. Canniatha, fel nad oes ond un Arglwydd Iesu Ghrist, yr hwn yr ydym ni i gid oll yn cymmeryd arnom ei Garu a'i Berchi, ac megis nad oes ond un wir Ffydd, un Bedydd, un Duw a Thad i ni oll, felly bod i ni i gid oll ag un Meddwl, ac ag un Genau dy ogoneddu di ein Duw. Canniatha fod i bob Aelod o'r Eglwys felly adnabod a chadw ei Le neilltuol ef ei hun, fal na byddo neb ryw Rwygiad yn y Corph.
O Iesu, Brenin y Cariad, llenwa ath Yspryd caredig ac addfwyn holl Ghristianus Frenhinoedd, Tywysogion, a Llywiawdwyr. Na ad i Ddigofaint trahaus, na Ghenfigen faleusus, na Chybydddod rheibus, na Swydd-ymgais gythrwflus deirnasu yn yr un o honynt: Canniatha iddynt i gid oll, gan wybod i bwy y maent yn Weinidogion, allu uwchlaw pob dim geisio dy Anrhydedd di ath Ogoniant: A bod iddynt fyfyrrio ar gadw 'r Bobl a roddwyd yn eu Cadwraeth nhw, mewn Digonoldeb Tangneddyf a Duwioldeb: A gallu o honynt yn gywir ac yn uniawn rannu Cyfiawnder er Cospi Drygioni a Phechod, ac er maentumio dy wir Grefydd di a Rhinwedd dda.
Yn enwedig, O Arglwydd, yr ydym yn attolwg iti fendithio a'th Ffafor neilltuol dy Wasnaethwr Wiliam, ein grasufaf Frenin. Bydded dy Ddoethineb di yn ei hyfforddio ef yn ei holl VVeinidogaethau; dy Holl-alluog nerth yn llwyddo ei holl Fwriadau daionus ef, fal y caffom tano ef ein llywodraethu yn Dduwiol ac y Heddychol. Bydded ith haelionus Ddaioni di dywallt arno yn helaethlawn bob Bendith Personawl, ar ei Enaid a'i Gorph, iw hir Lwyddiant yn y Byd hwn, a'i Ddedwyddwch Tragwyddol [Page 66] yn y Byd sydd i ddyfod. Gan ein bod ni drwy ei Ddoethineb ef a'i Ofal, drwy ei Gariad i ti, a'i Ddaioni i ninnau, gida dy Fendith di ar ei Lafur ef, yn mwynhau Rhydddid dedwyddol oth Dy di, ath Ordinhadau bendigedig hyn; i Lawenydd a Chomffordd i'n Heneidiau, ni ddiffygiwn ni byth yn ei gofio ef yn ein holl Weddiau a'n Herfynniau attat ti.
Nyni attolygwn iti, dywallt yn helaeth oth Yspryd, O Iesu grasusol, ar holl Escobion a Bugeiliaid dy Eglwys. Llenwa nhw i gyd oll a Gwybodaeth uniawn ac iachusol, ac ag iawn Ddeall dy Air di, Na bydded Cybydddod, na Swyddymgais (neu Anc i Anrhydedd neu Dderchafiad) yn rheoli yn eu Calonnau nhw, nag yn eu harwain yn eu Gweithredoedd; Eithr bydd di yn eu meddiannu, ac yn eu rheoli nhw, drwy weithredu ynthyn zel mawr am dy ogoni [...]nt ti, ath Bwrpas mawr o Iechawdwriaeth Eneidiau: Caniatha iddyn fod drwy eu Hathrawiaeth Sanctaidd, au Bucheddau cyfattebol, yn llwyddiannus ragorol yn troi llawer i Gyfiawnder; ac iddynt eu hachub eu hunain, a llawer o'r rhai a orchmynwyd tan eu Gofal hwynt.
Gan nad yw fy Naioni i, O Arglwydd, yn cyrhaeddyd hyd attat ti; ath fod ti uwch-law derbyn neb rhyw Fantes oddiwrth y Taledigaethau-adref gorau ag a allaf fi eu gwneuthur am dy holl Haelioni imi: Fy ngorchwyl a'm Gofal i a fydd i dalu adref dy Garedigrwydd ar dy Wasnaethyddion i r rhai y gallwyf fod yn llesol. Myfi a garaf O Arglwydd, y rhai ath garant di, ac a wnaf yr holl Ddaioni a fyddo possibl imi, i'r rheini yn enwedig ag sydd o Deulu'r Ffydd. Myfi a ddiwallaf yn llawen ac yn ewyllysgar angenrheidiau dy Weision yr rhai a wneir yn adnabyddus imi; Myfi a borthaf y Newynog, a ddilladaf y Noethion, a ddyscaf yr Anwybodus, a ddygaf y Crwydriaid yn ol i'r ffordd uniawn, a ymwelaf a'r Cleifion ac a'r sawl sydd yng Harchar, a gyssuraf ac a gynnorthwyaf y G [...]niaid o Galon, ac a ymddiffynnaf ac a helpiaf yr ymddifaid a'r Gweddwon yn eu Cyfyngder, yn ol yr Adeg a'r Odfa a'r Gallu a gaffwyfi i wneuthur hynny. A dyro imi, yr wyf yn attolwg iti, O garedig Iesu, iawn Dd [...]all a Gwybodaeth ehang o Deulu 'r Ffydd, fal na byddo imi grynhoi fy Nhrugaredd yma o fewn Terfynau rhy [Page 67] gyfing. Bydded imi ofni yn wastadol gyfyngu fy Nghariad, ac na bydded imi byth ofni ei estyn ef yn rhy bell ym mysc Cristianogion.
Yr ydwy fi yn dy garu di, O Arglwydd Iesu, am i ti wneuthyr peth mor hyfryd ac mor hawddgar ag ydyw Cariad, yn Ddyledswydd arnaf; ac yr ydwyf yn cyfri ie hyn yn Esampl oth Gariad ti imi. Os oes yr un Ymarfer arall o'r Rhinwedd Nefol hon yr hwn ni feddyliais am dano, yr wyf fi yn attolwg i ti, yr hwn wyt fawr Ffynnon Cariad, fy rhybuddio i o honaw ef, a'm gwneuthur i bob amser yn dueddol iddo. Canniatha mai yn yr Ymarfer hyfryd o Gariad, y byddo imi dreulio amser fy ymdeithiad ymma yn y Byd maleusus, truenus hwn; hyd oni ddelwyf o'r diwedd i'r Byd dedwydd hwnnw, lle y mae pur, helaethlawn, ac anghyfnewidiol Gariad, a Llawenydd, a Gogoniant yn preswylio yn dragywydd.
Dosp. XVIII. Gweddiau am Barodtoad ir Cymun.
1. O Dduw 'r Cariad, Tad yr holl Drugareddau, a Rhoddwr pob Dawn daionus a phob Rhodd berffaith: Dy Orchymmyn di ydyw, ac yr ydwyf yn ei gyfri ef yn un uniawn a charedig, fod i mi gyd-gymmeryd y Sacrament hwn er Coffa o Farwolaeth ac Aberth dy anwyl Fab, ein hunig Iechawdwr an Gwaredwr, yr Arglwydd Iesu Ghrist; im gwneuthyr i yn ddiolchgar am ei Gariad ef, ac am Lesadau ei Ddioddefaint a'i Farwolaeth, ac f [...]l y cawn fy ngwneuthur yn Gyfrannog o'r digyrchariaid L [...]fad [...]u hynny: Tydi a orchmynnaist imi yn y ffordd hon adnewyddu fy Nghyfammod a thydi; im hyspysa fy hunan yn Greadur ac yn VVasnaethwr i ti, ac im rhwymo fy hunan i barhau yn wasnaethwr ffyddlon i ti, ac i fyw megis y gweddai i un a gafodd ei Hanfod oddiwrthit ti. O Arglwydd, rhaid i mi gydnabod nad yw ond rhy angenrheidiol imi adnewyddu y Rhwymedigaethau yr wyfi mor dra-chwannog iw troseddu. Yr ydwyfi gan hynny om calon yn ewyllysgar: Yr wyf yn dymuno cryfhau Rheffynnau Cariad, fal y gallont fy nal i yn dynnach at fy Nyledswydd. Nis mynnwn mom rhyddhau byth oddiwrth Iau dy wasanaeth di; Oh, na fwrw [Page 68] monof fi allan o honaw ef er mwyn Iesu Grist! Ac yr ydwyf yn ewyllysgar i gofio Cariad fy Iechawdwr anwyl yn marw drosof fi, a chael dw [...]n-synniad o honaw ef yn fy nghalon, ac o herwydd hynny i arfer y cyfryw Arwyddoccad bywiol oi Farwolaeth ef, ag a ddarparodd efe yn y Sacrament hwn. Rhaid imi mewn gwirionedd gydnabod fy mod mewn modd anfeidrol yn anheilwng o gimmaint Daioni, ond etto nid allaf ddewis na bod yn daer-erfynniol arnat ti, O Arglwydd, er cael o honof fi gyfrannogi yn helaeth o Haeddedigaethau a Lle ssadau marwolaeth fy Iechawdwr: Nid oes dim mor hoff gennyf fi a chael o honofi Faddeuant om holl Anwireddau; ac ynnill yn ol dy Ffafor di; a chael mwynhau Grasau rhagorawl yr Yspryd Glan, a'm cyssegru yn Deml Sancteiddlan iddo ef. A chael derbyn ernesau a Gwystion, ie, a Rhagarchwaethau om Llawenydd a'm Dedwyddwch sydd i ddyfod: Yr hyn oll ydynt y Bendithion digymhariaid a bwrcasodd efe imi, a'r rhai a gyfarwyddaist dy Eglwys iw ceisio ac i gymmeryd rhannau o honynt yn a thrwy y Sacrament hwn. Hyn oll yr ydwyf yn ostyngedig yn ei geisio ac yn ei erfyn drwy Haeddedigaethau Iesu Ghrist fy Arglwydd, i'r hwn gyda'r Tad a'r Yspryd Glan, y byddo 'r holl Anrhydedd a'r Gogoniant yn oes osoedd, Amen.
2. Hollalluog a thrugarogcaf Dduw, yr ydwyf yn dy fendithio di am y Sacrament hwn, ac mi a wyllysiwn ddyfod iddo ag Enaid newynog a sychedig. Ond, och, pa fodd y caf fi, Greadur gwael truan, nesau at dy Fawrhydi di! Pa sut y llefasaf fi, Bechadur euog halogedig nesau at dy Burdeb ath Sancteiddrwydd di! O Arglwydd, yr wyf yn ddifesur yn anheilwng, i ddyfod mor agos attat ti: Er hynny, y mae'n eglur, nad wyt ti yn dal ar fy Anheilyngdod i; pe amgen, ni buasit ti byth yn fy ngwahodd i. Yr wyt ti yn gwahodd Pechaduriaid truain yn gyffredinol ir Wledd ymma; nid eill dy Wahoddedigion di fod yr un ond y cyfryw: Ped fae pawb gan hynny ag sydd yn anheilwng i ddyfod, yn sefyll ymmaith, ni bydde 'r un o honom ni yno; ath Arlwyon mowrion a charedig a fyddent yn ofer; yr wyfi gan hynny yn dyfod, O Dduw grasusaf, mewn Ufudddod ith Orchymmyn ath VVahoddiadau di: Eithr myfi a ddeuaf gyd a'r Parch a'r [Page 69] Gostyngeiddrwydd gostyngeiddiaf; canys yr ydwyt ti yn edrych ar y gostyngedig: Myfi a ddeuaf megis un Afradlon yn dychwelyd, canys yr wyt ti yn ewyllysgar i dderbyn y cyfryw. Myfi a ddeuaf, gan obeithio yn dy anfeidrol Drugaredd di; canys y mae Trugaredd gida thi, trwy Iesu Ghrist. Fy Ngofal a'm Gorchwyl mawr i, O Arglwydd, yw, imi fod mewn rhyw fesur da yn gymmwys i nesau attat ti, er nad allaf byth fod yn deilwng; ac fal y byddo imi gael ac ymarfer y Cynneddfau a'r Grasau hynny, tra byddwyf yn gwaitio arnat ti, yr rhai sydd gyfaddas ir Sacrament hwn, a'r rhai yr wyt ti yn eu gofyn. Myfi a geisiais gan hynny a'm holl egni ddyfod o hyd i'r Rhinweddau rheini sy'n cymhwyso Dynion iddo, ynof fy hunan: ond, och fi; O Arglwydd, ni feiddiaf ymddiried im Holiadau nag im Hegniau fy hunan. Hola a phraw di fi, yr hwn wyt y Duw yn chwilio 'r Galon: Yr wyf yn hedeg at dy Ras ath Gymmorth bendigedig di; Arglwydd, dyro imi, attolwg it ti, vr hyn yr wyt yn gosyn iddo fod ynof fi. Fy Annogaeth fawr i wneuthur y Dymuniad yma, ydyw, fy mod yn gwybod fy mod yn gofyn yn hyn, y peth yr wyt ti yn wyllysgar iw roddi. Yr ydwyt ti, O Arglwydd, bob amser yn barottach i wrando, na nyni i weddio; ac wyt arferol o roddi mwy nag a ddymunom nag a raglyddom. Tydi a wyddost nas gallaf gael mo'r Grasau addas hyn ond oddiwrthit ti: Am hynny gan ddarfod it ti orchymmyn imi ddyfod yn feddiannol o honynt, y mae'n siccr gennyf, dy fod yn ewyllysgar iw rhoddi hwynt. Yr wyt ti yn chwennychu ini ddyfod wedi ein parottoi ac yn VVahoddedigion cyfaddas i'r VVledd nefol hon; ac wyt yn ewyllysio gweled dy Dy wedi ei lenwi a'r cyfryw. O llenwa fi gan hynny, Arglwydd daionus, a llawer o Eneidiau eraill a'r Grasau hynny sydd weddus ini eu caffael i nessau attat ti, er mwyn Iesu Ghrist ein Cyfryngwr a'n Dadleuwr, Amen.
3. O Arglwydd o anfeidrol Haelioni a Gallu, yr ydwyf fi yn ostyngedig yn attolwg it ti, dyro imi Edifeirwch pur a diragrith am fy holl Bechodau; Oh bydded eu Coffa yn drwm gennyf fi, a Baych a Rheolaeth eu Gallu yn amhossibl iw goddef. Llenwa fi a Chywilydd a Thristwch Calon, am ddarfod imi mor ffiaidd ac mor frwnt gyffroi [Page 70] dy Fawredd anfeidrol, a rhoddi fy Iechawdwr caredig i gymmaint Tristwch a Dioddefaint im hachub i. Llenwa fi a chasineb egniol i'r peth sydd yn dy ddigio di cimmaint ag y mae fy Mhechodau i, i ba rai yr wyt yn gyfiawn yn anfoddog; fal y byddo imi ymegnio yn ddifrifol ac yn ddianwadal iw taflu hwynt oddiwrthyf. Tro di fy Nghalon ynfyd i oddiwrth Serch i bob Pechod, ith garu di. Bydded it ti, O Arglwydd, yr hwn a adwaenost yn oreu holl Gonglau tywyll fy Nghalon i, egluro imi bob Drygioni sydd yn llechu yn ddirgel yno, yr hwn nid ellais drwy fy Ymholiad ei ganfod; a dyger ef allan yr awron, a lladder ef gar dy fron di.
Chwanega ynof fi, O Arglwydd daionus, yr ydwyf yn ostyngedig yn attolwg i ti, Ffydd fywiol yn dy Drugaredd di, drwy Haeddedigaethau a Chyfryngdod Iesu Ghrist. Cynnorthwya fi i gredu yn ddiysgog dy Barodrwydd di i dderbyn, ac i faddeu i Bechaduriaid sydd yn edifarhau ac yn dychwelyd attat ti: Ac i hyderu gyd a phob Siccrwydd ar Aberth a Chymmod Marwolaeth werthfawr dy Fab di: Cyfod ynofi Obeithiau Cwnffwrddus o bob Trugaredd a Ffafor ar y Sylfaen siccr hwnnw; a channiatha imi lawenychu mewn Gobaith o weled dy Ogoniant.
Oh na chae fy Nghalon fod i gyd ar Dan goleu o Gariad Duwiol, sef yn Aberth llosc cyfa, pan gofiwyf ac ystyriwyf Gariad fy Iechawdwr i Bechaduriaid, yn marw drostynt. Yn enwedig pan welwyf ef yn y Sacrament hwn, megis wedi ei osod allan yn eglur yn groeshoeliedig gar fy mron i: pan welwyf yno ei Gorph wedi ei ddryllio a'i Waed wedi ei dywallt allan; ac ystyried mai drosof fi y dioddefodd efe yr hyn oll. Oh bydded i'r cyfryw olwg wneuthur fy Nghalon yn deimladwy o honaw! fal y dyl [...]e efe wneuthur, tu hwynt i bob Ymadrodd. Oh bydded iddo fy nhroi i yn Gariad. Bydded iddo wneuthur y cyfryw Argraphiadau cryfion a pharhaus arnaf fi, fal y byddwyf fi byth ar ol hynny dan hyfryd a nerthol Reolaethau Cariad; y byddwyf bob amser yn arweinedig gan Gyfreithiau Cariad, ac yn amcanu ei Ddibennion ef. Bydded Cariad a Diolchgarwch iddo ef (fy Iechawdwr,) yn rhoi fy Enaid ar waith yn fawr, pan fyddwyf yn y [Page 71] Sacrament hwn; ac o hynny allan byddent fawr ofal a Gorchwyl, gwir Ffurf a Nod fy holl Fuchedd i dros byth.
A chan nad eill fy Nghariad i ddychwelyd iw Fantes ef, gwna iddo, Arglwydd, lifeirio yn helaeth ar y rhai a'i carant ef. Dyro imi Galon o Llaw hael, a Gallu i wneuthyr llawer o ddaioni iddyn nhw. Yn ol fy Ngallu yr ydwyfi yn pwrpasu arfer fy Ngariad tuag attyn nhw, a thuag at bob Dyn; mewn Meddwl, Gair, a Gweithred yn y Sacrament hwn. Yr ydwyfi yn gweddio er i Goffa o Gariad fy Iechawdwr anwyl, fy ysprydoliaethu i yn effeithiol i wneuthur felly; Ac yr ydwyfi yn pwrpasu, ac yn dymuno, ac yn gweddio er rhyngu bodd i ti, O Dduw, roddi imi allu i fod yn helaeth mewn Cariad a Gweithredoedd da tuag at Bawb trwy holl Helynt fy Mywyd.
Gosod, myfi a attolygaf i ti, O Arglwydd, ry Enaid i ym mhob perthynas yn y cyfryw fodd ag a weddai i Goffadwriaeth o Iechawdwr croeshoeliedig, fal y gallwyf ryngu bodd a bod yn gymmeradwy gida thi; fal y byddo i ti ymhyfrydu ynof fi i wneuthur imi ddaioni; fal y gallwyf gael Cymundeb gyda thi er Llawenydd a Diddanwch fy Enaid, er chwanegiad nerth ysprydol, ac er diogelu fy mharhad mewn Sancteiddrwydd a Chyfiawnder dros fy holl ddyddiau. Hyn oll yr ydwyfi yn ostyngedig yn ei erfyn yn Enw Iesu Ghrist, ac yn dymuno ymhellach pa beth bynnag a gynhwysir yn ei berffeiddiaf Ffurf o Weddi, gan ddywedyd,
Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c. Amen.
Dosp. XIX. Hyfforddiadau i Ymddygiad defosionol wrth Gymuno.
I Dduw y b'o 'r Diolch, y mae gennym gystal Rhagddarbodaeth wedi ei gwneuthur gan ein Heglwys ni, am Finistriad y Sacrament bendigedig hwn; fal y gallo pob Enaid da, ei dderbyn efgyda Defosiwn mawr a Diddanwch, yr hwn a wna ond dal yn ddifrifol ar y pethau a ordeiniwyd iw dywedyd au gwneuthur yn y Ministriad hwnnw; fal y darfu i lawer o'r cyfryw Eneidiau, arferedig iddo, ei gael yn wir, drwy Brofiad digon comfforddus: Ac am [Page 72] yr achos ymma y mae iw ddymuno yn fawr, ac yn gymmwys iawn dros ben, i'r sawl ni arferant Gymuno ond unwaith yn y Pflwyddyn, neu ond pan fyddont yn cymmeryd rhyw Swydd arnynt, eu perswadio eu hunain i ddyfod yn fynychach i Gymuno lle y caffont Odfa; fal y gallon nhw wneuthyr hynny a mwy comffordd a mantes iw Heneidiau, pan fyddo 'r achos yn peri iddyn nhw wneuthur hynny: Canys y mae'r holl Orchwyl wedi ei drefnu felly, fal y mae efe yn gymmwys iawn ac yn addas, i annog ynom ni Ymarfer bywiol a nerthol o'r holl Rasau hynny, y rhai a ofynnir iw ddilyn ef. Y Cyngor gorau gan hynny a'r a ellir ei ro'i er mwyn ein dyledus a'n llesol Ymddygiad wrth Gymuno yw hwn: Bod i'r Cymunwr yn ddyfal ac yn ddifrif iawn, ddal sulw ar y peth a orchymynir ei ddywedyd a'i wneuthur, gan yr hwn sydd yn Ministrio, neu gan y Cymunwr ei hunan, tra byddont ar y Ddyledswydd ymma.
Eithr o ran bod i'r Cymunwyr, yn enwedig lle y mae y Rhifedi yn fawr, (y peth a wyllysiwn ei fod ym-hob man) gael rhai amserau byrrion, ym ha rai y gallant eu rhoi eu hunain ar waith mewn rhyw ddirgel Weddiau a Defosiwnau byrion nailltuol, tra y byddo 'r holl rai craill yn derbyn y Cymun, os bydd llawer o honynt, chwi a gewch amser, ac a ellwch yn llesol ddigon eich difyrru eich hunain wrth ddarllen drostynt yr Ymarferion o Goffa diolchgar, Ffydd, &c, yr rhai sy'n osodedig i lawer yma o'r blaen. Ac yn eu darllen hwynt, chwi a ellwch arferu y Grasau rheini, fel y dylech wneuthur. Os ni bydd digon o amser iw darllen nhw trostynt i gyd; chwi a ellwch wneuthur yn dda, ddewis rhyw gyfryw un neu chwaneg o honynt, ag sydd fwya cyfaddas i bresennol Gyflwr a Disposisiwn eich Meddwl: Canys fe eill yr enaid defosionol fod y naill amser yn brysurach ynghylch Rhyfeddu a moli Cariad Iesu Ghrist yn marw: Ar amser arall efe a eill fod mewn modd enwedigol yn llawn o waith ynghylch Ymostyngiad ac edifeirwch: amser arall efe a eill fod yn dderchasedig gan y Gobeithiau a'r Llawenyddau fy' o Gredu; neu'n brysur yn gwneuthur difrifol Lawnfwriadau o Gariad, Ufudddod, a Diolchgarwch i'r Adbrynwr mawr: neu yng Weithredoedd o Gariad i'r Byd truan a phechadurus; a'ch Gorchwyl difyr dros yr amser [Page 73] segur yma, chwi a ellwch ei ddewis yn ol hynny. Yn unig rhaid iw rhoddi y Cyngor hwn, yng-hylch y peth hyn, bod i chwi wneuthur Obserfasiwn arnoch eich hunainai nid ydych yn rhy gyffredinol yn sefydlu eich Myfyrdod [...]u ar yr un un o'r Ymarferion hyn, ac felly yn esgeuluso r lleill: Canys nid ellir cennadhau mo hyn; eithr rhaid i chwi eich cymmell eich hunain, os bydd rhaid, i arferu weithiau y naill, ac weithiau y llall o'r rhai'n, fal y galloch felly arferu pob Gras ar amserau, ac wrth yr Ymarfer gynnyddu yn y cwbwl.
Rhai Defosionau iw harferu Gartref yn ddirgel, ar ol y Cymun.
Dosp. XX. Myfyrdodau ar y Cymun.
OFy enaid, ystyria yn ddifrifol pa fodd ith anrhydeddwyd, pa fodd ith groesawyd y Dydd heddyw yn Nhy Dduw! Tydi a fuost yn Gwledda gida Brenin y Seinctiau, Arglwydd y Bywyd a'r Gogoniant. Cariad Duw oedd dy Wledd nefol di, a Dyn a fwyttaodd ymborth Angylion. Dy Achubwr, dy Anwylyd ath ddug di iw Wledd-dy, ei Faner ef drosot ydoedd Cariad. Yn ddi. ammeu nid elli yn fuan iawn anghofio Hyfrydwch a Difyr wch y Wledd ymma: Onid adawodd hi ar ei hol archwaeth dra-hyfryd? Oni wnaeth hi bethau'r Byd hwn yn hollawn yn ddiflas yn dy Enau di? Y mae'n gymmwys iawn fod iddi wneuthur hynny: Fe a weddai i ti dros ryw amser ar ol hyn, gyfrif nad yw holl Hyfrydwch goraf y Byd hwn, ond sur a diflas; ac yn siccr, os tydi a fyfvrri ar y Croesaw rhagorol a gefaist, fe a fydd felly.
Yr Iesu, gogoneddus Fab Duw, ydoedd Feistr y Wledd y buost ti mor ddiweddar ynddi, ac efe ei hunan oedd y Wledd. Yr Iesu a'i parodtodd hi o Gariad i ti. Ac o blegid nad alle ei fawr Gariad ef (fal y gallwn ni yn hawdd dybied) ddarparu dim gwell, efe a'i harlwyodd ei hunan i fod yn Wledd gyfoethog a chostus i ti. Efe ath wleddodd di a'i Gorph ac a'i Waed ei hun. Drwy gyfrannu i ti y Bara a'r Gwin hwnnw, yr hwn, yn ol ei ordeiniad ef, a gyssegrwyd ac a neilltuwyd gan y Gweinidog, i arwyddoccau [Page 74] ei Gorph drylliedig, a'i Waed tywalltedig ef dros Ddynol-Ryw, efe ath wnaeth di yn Gyfrannog o Fendithion a Llesnadau Ysprydol ei Farwolaeth a i Ddiod defaint ef. Oh pa bethau mowrion a roddodd efe y pryd hynny i ti! Ym ha le y gelli di gael y fath Groesaw drachefn? Pa Fwyniantau o'r Byd tlawd hwn a allent ei roddi ef? Ac os llawer iawn, ie, er maint a roddes efe i ti o'r Byd hwn, efe a roddes iti yn y Wledd hon y peth sydd mewn modd anfeidrol yn fwy gwerthfawr: Ac os efe ni roddes i ti ond ychydig o'r Byd hwn, nid oes i ti ddim achos i achwyn arno ef, yr hwn a fu mor rhwydd, mor haelionus i ti mewn pethau o gymmaint yn well. Dywed gan hynny wrtho of, Oh mor helaeth; mor oludog yw dy Ddaioni, Arglwydd, yr hwn sydd gennit yn gadwedig i'r sawl ath otnant, ac o beithiant yn dy Drugaredd di?
Efe ath groesawodd di a Maddeuant oth holl Bechodau, er maint eu scelerder a'u heuogrwydd hwynt. A elli di ymattel oddiwrth ryfeddu a chlodfori cymmaint Ffafor? Onid ydyw yn rhyfeddol gerth fod i Ddyled mor anferthol gael ei maddeu i ti mor rhwydd a rhad? Onid ydyw y Maddeuant hwn yn dy adferu di i Hollalluog Ffafor a Chariad Duw? Ac yn rhoddi i ti gennad i ofyn, a sail i ddisgwil, oddiwrth y Nef gwedi cymmodi, bob peth sydd lesol i ti, ac angenrheidiol ith Iechawdwriaeth? Oh gan hynny dywed, O fy enaid, bendithia 'r Arglwydd: Y cwbwl sydd ynof, bendithied ei enw Sanctaidd ef; yr hwn a waredodd fy Hoedl o Ddistryw, yr hwn sydd yn maddeu fy holl Bechodau: Yr hwn sy'n fy nghoroni a mwyn Garcdigrwydd ac a thyner Drugareddau: Oh, bendigedig yw 'r Dyn, Trosedd pa un a faddeuwyd, pechod pa un a guddiwyd: Bendigedig, O Arglwydd Iesu, ydyw'r Dyn yr hwn sydd yn rhoddi ei Ymddiried ynot.
Efe a roddes i ti, fy enaid, ei Yspryd Sanctaidd i breswylio gyd ath di, ac ith Sancteiddio, ith lenwi a phob Gras: I iachau holl Glefydon dy enaid, dy Annhymmerau anesmwyth, cywilyddus; ith wneuthur di yn esmwyth ac yn heddychol a thi dy hun, ac yn hawddgar ac yn hyfryd [...]antho ef. Oh Eneidiau dedwydd, yr rhai ydynt Demlau'r Yspryd Glan hwn! Lle y mae efe yn preswylio, fe a fydd pob peth mewn Trefn hardd; pob peth yn llonydd ac yn [Page 75] dawel, ac yn heddychol; y cwbwl yn llawn o Orfoledd: Yno y mae Heddwch yr hwn ni ddichon y Byd ei roddi, a Llawenydd anrhaethol a llawn o Ogoniant. Ynddynt hwy y mae'r Nefoedd yn preswylio eusus; hwynt-hwy a gant fod yn gydnabyddus a'i Ddedwyddwch digymmar yma ar y Ddaiar; ac hwy o seliwyd drwy 'r Yspryd hwn hydd Ddydd Prynnedigaeth.
Dy Arglwydd caredig, gan hynny, a roddes it ti hefyd yn y Wledd yma, Wystlon, ac Ernesau o'r Gogoniant a r Gwynfyd sydd i ddyfod. Ie efe ath unodd di ag ef ei hunan mewn modd rhyfeddol; Y mae efe yn edrych arnat ti megis Aelod o'i Gorph ei hun; efe ath wnaeth di yu Gyfrannog yn ei Farwolaeth, ac y mae yn dy fwriadu i fod yn gyfrannog yn ei Adgyfodiad ef. Ni adewiff efe mo'th enaid yn Uffern; nac a oddefiff ith Gorph marw di, orwedd byth dan Ymddattodiad. Efe a ddengys it ti Lwybr y Bywyd, a thi a breswyli ar eiddeheulaw ef, lle y mae Digrifwch yn dragywydd: Di a gei breswylio yn ei Wydd ef, Ile y mae llownder o Lawenydd.
Oh mor debyg i Dduw y darfu ith Iachawdwr gogoneddus a grasusol dy groesafu di! Nid alle neb byth roddi iti y cyfryw bethau ond efe. Tydi a gefaist dy groesafu megis Anwyl-ddyn y Nef, yr hwn nid elli ddewis amgen, nath gydnabod ty hun yn Bechadur truan, ffiaidd a dirmygus. Yr holl Fendithion a'r Ffafrau hyn a gyfrannodd efe iti, ac a roddes iti yn y Sacrament hwn Wystlon ac Arwyddion o honynt, y rhai a cllid eu gweled, eu teimlo a'u harchwaethu; er dy fod ti yn anheilwng, o'r gwaelaf i gyd a'r cyffredinaf o'i Roddion ef i Ddynoi-Ryw. Bydedd siccr gennit, nad er mwyn neb rhyw Haeddiant neu Deilyngdod ynot ti, y bu efe mor haelionus, eithr o i wir ewyllys da ef ei hunan: Nid oes dim Dyled (arno ef) yn ei Gariad, ond rhaid iti edrych ar hyn yn hollawl megis Rhwymedigaeth arnat ti.
Ac yr awron, fy Enaid, rhaid iti ystyried hefyd y Rhwymedigaeth gref dros ben a roddodd efe arnat ti. Nid ellir addaw gwneuthur dim yn daledigaeth adref am ei Gariad ef, ond y peth a ddarfu iddo ef mewn modd anfeidrol dy rwymo di iw wneuthur. A ddylai y cyfryw Gariad a hwn gael byth ei anghofio? neu yn hyttrach, oni ddylit ti fwriadu o ddifrif, y cedwi di bob amser yn dy [Page 76] gof ddiolchgar Synniad o honaw: Ac y ceiff y cyfryw Gariad fod, yn fwya Llawenydd ac yn felysa hyfrydwch dy Fywyd: Y ceiff y cyfryw Gariad dy orchfygu di yn hollawl; ath wneuthur di yn ddarostyngedîg i'w Gyfreithiau hyfryd ef, drwy holl Helynt dy Einioes. Siwr, nid elli, rhag cywilydd, feddwl am lai adferiad nath lwyr-roddi dy hunan iddo ef; i fyw i'r hwn a fu farw drosot ti; i astudio a charu y peth a'i boddha ef, ac i wneuthur hynny ym hob peth. Nag e; nid elli di feddwl am ddim llai peth nag am fod yn Was iddo ef, yr hwn, ath prynnodd di a Phris mor fawr: Yr hwn ath waredodd di rhag Uffern a Thrueni tragwyddol, a hynny trwy ei Ddioddefiadau creulon ei hun, a'i Farwolaeth felldigedig.
Ac ar ol iti ystyried Dioddefiadau creulon yr Iesu er dy fwyn di, a fydd byth gweddus iti, dybygi di, fod yn ddychnynnedig neu rwgnach o achos Dioddefiadau, neu yn euog eu gochel hwynt? A gymmeri di arnat fod yn Ddilynwr, yn Ddisgybl i'r Iesu, ac etto nid elli ddiodde dim trymder neu anghymmwysdra? A ddioddefodd efe drosot ti, bethau yn cystuddio yn ddirfawr, bethau gwaeth o lawer nag a elli di, nag a ofynnir gennit ti byth eu dioddef er ei fwyn ef? Ac, ai ni ddioddefi di ddim erddo ef? A ydoedd ei ffordd ef ir Nefoedd wedi ei rhwystro a Drain pigog, ac a wed dai i ti rwgnach os ni bydd dy ffordd di wedi ei thanu a Pher lysiau? A gafodd yr Iesu mawr a gogoneddus ei ddirmygu yn y Byd, ac a raid i ti gael dy berchi ath anrhydeddu yn ddirfawr? A ydoedd yr Iesu Mab Dafydd (Frenin cyfoethog a galluog) yn wael ac yn dlawd, ac ai ni wasanaetha dim iti ond bod yn Ymmerod o Gywaeth ac yn oludog hyd ormodedd? Rhag cywilydd, fy Enaid! Nid eill y Deisyfiadau hyn fod yn weddus i ti. Digon yw i'r Discybl fod fal ei Athro; ac yn ddiammeu y mae'n Anrhydedd i'r Gwas fod fal ei Arglwydd. Os byddi yn Ddilynwr i'r Iesu, rhaid i ti ddisgwil, fal, y darfu i'r Byd ei gasau ef, ni welodd na phryd na Thegwch ynddo; felly y caseiff ac y dibrisif efe dithau: Ni wel efe ddim dymunol ynot ti. Ystyria Ddioddesiadau yr Iesu, a chaleda dy hunan; Dysc gantho ef ddiystyru pob Anghyfleusdra yn y Bywyd hwn; Dysc ddiystyru ei Demtasiwnau ef. Gan fod Crist mor ddifatter am y bywyd yma, dy Ddyledswydd ath Urddas yw, bod yn ddifatter iawn hefyd. A hyn, [Page 77] fal pob un oth Ddyledswyddau, a gei ar ei brofi yn hyfryd, ac yn Wobr i ty dy hun. Hyn a rydd iti anorfod Dawelwch a Heddwch meddwl, dedwydd Reol arnat a Mwyniant o honot dy hun, dan holl Gyfnewidiau a Digwyddiadau y Byd cyfnewidiol serfyll hwn.
Ystyria ymhellach, fy enaid, a ddarfu iddo ef dy fendithio di a Maddeuant oth holl Bechodau? Ac ai nid ydyw hyn yn dy rwymo di, i gymmeryd y gofal eithaf, fal na byddo iti bechu mwyach? Gwybvdd y dyle y sawl y maddeuwyd llawer iddo, garu yn fawr; a Chariad ni ad iti wneuthur dim oth fodd, a'r sydd mor anfodlon a chas gan yr Iesu caredig a Sanctaidd, ag y bydde 'r Pechod lleiaf. Ystyria; ddarfod maddeu dy Bechodau ith rwymo di i ymadel a hwynt yn dragywydd; a bod hyn yn dy rwymo di yn sawr i hynny: Fe a fydde, gan hynny, yn Anniolchgarwch erchyll ac Anferth, os bydde i Faddeuant o'r hyn a aeth heibio, dy annog di i ddechreu rhedeg yn y fath Ddyled o newydd. Oh ffieiddia y cyfryw Feddyliau, a chyfri dy fod yn rhwymedig i fyw mewn Gofal mawr am danat dy hun, i wilied yn ofalus ar dy Ffyrdd, i ochelyd ie ymddangosiadau Pcchadurus, i fficiddio ac i ochelyd, cyn belled ag y gelli, holl Demtasiwnau i Ddrygioni.
Ystyria, fy enaid, fod yr Yspryd Glan gwedi dyfod i breswylio gyd a thi; ith gyssegru di i fod yn Deml Sancteidd-lan iddo ef ei hun! Oh Letteuwr Nefol! Oh fy enaid, mor fawr yw dy Anrhydedd ath Ddedwyddwch di! Oni wnei di iddo wybod, dy fod ti yn ei gyfri ef y ddau? Oni wnei di dy oreu er boddhau y cyfryw Westai? er dangos iddo y Parchedigaethau mwya? Gwybydd gan hynny, y bydd rhaid iddo ef gael rheoli yn dy Galon di; rhaid iddo ef fod, nid mewn Gweniaith yn unig, ond mewn Gwirionedd, yn Feistr y Ty. Y mae efe yn anrhydeddus ddigon, yn ddiammeu, er haeddu cael y cyfryw Barch: Ath Fantes di a fydd ei roddi ef iddo. Efe a drefna bob peth yno, yn well nac y medresit ti byth wneuthur hebddo ef. Ac y mae'n rhaid iti gymmeryd gofal: na byddo it dderbyn mo'th Drachwantau neu'th ffiaidd Awyddau byth drachefn: Ni phreswylia efe gyd a'r fath Gyfeillach ffiaidd; os mynnit gadw a mwynhau Gwynfyd ei Bresennoldeb ef gyd a thi, rhaid i ti alltudo 'r rhain o'th enaid yn dragywydd: Ac yn siccr, fe a ddyle [Page 78] fod yn hawdd iawn iti weled, nad ydyw gymmwys iti, adel iddynt fod yn Gyd-erlynwyr ag ef, am dy Enaid ti.
Ystyria hefyd, pa fodd y gweddai i enaid fyw, yr hwn a ordeiniwyd i fod yn un o Breswylwyr y Nefoedd, yr hwn sydd eusys wedi ei wneuthur yn Wr-Rhydd (yn Ddinasydd) o'r Gaer-salem Newydd, yr hon sydd uchod. Oni ddylit ti yr awrhon gydffursio dy Foesau a'r Gyfeillach ddisglair hon no? Oni ddylit ti ystyried pa fath Fucheddau a ddilynasant hwy, pan oeddent yma ar y Ddaiar; ath osod dy hunan iw dilyn hwynt, fal yr oeddynt hwy yn ddilynwyr i'r Iesu? Rhaid i'r Rhinweddau a oddent mor ddisglair yn eu Bucheddau nhw, ddisgleirio yn yr eiddot tithau hefyd. Nid oedd nem-mawr o honynt yn Emmerodrwyr nac yn Frenhinoedd, na Breninesau ar y Ddaiar, oblegid ni ddigwydd y Dedwyddyd hwnnw, a ddywedaf felly? neu'n hytrach y Baych hwnnw, i rannau ond ychydig rai ym-mysg Dynol-Ryw: Nac oedd, mae'n debygol, lawer o honynt yn dragoludog, neu'n gyfoethoccach nag yr oedd yn rhaid neu'n gymmwys iddynt fod: Eithr, y peth sydd well, a mwy Manteisiol iddynt hwy eu hunain nag yr un o'r rhain, yr oeddent yn dlodion o Yspryd; yr oeddent yn ostyngedig ac yn addfwyn; yr oeddent yn gymhedrol ac yn sobr; yr oeddent yn ddaionus iawn ac yn drugarogion; eu holl Awydd a'u gofal nhw oedd i dderchafu Gogoniant Duw. Dymma'r camrau sydd raid i ti eu cerdded; hon yw'r Ffordd sydd raid i ti ei chanlyn, os mynni eu dilyn hwynt i'r Gwynfyd nefol; nid elli di ddyfod iw Diben nhw, wrth fyned ar hyd un Ffordd yn y byd, sydd yng wrthwyneb iw Ffordd hwynt: Ni wasanaetha iti gyd-ymffurfio a'r Byd hwn, eithr ymnewidia drwy Adnewyddiad dy Feddwl.
Ni wasanaetha iti ymlid yn drachwannog ar ol na Difyrrwch, na Chyfoeth, na Goruchafiaeth y Byd hwn. Fe a fydde gweddus iti fod bob amser yn ddifatter iawn am danyn nhw, megis un wedi cael yn barod brawf a mwyniant o bethau llawer gwell nag hwynt hwy: Yr rhai a ddichon roddi iti anfeidrol mwy o ddifyrwch a bodlondeb: Ac yn enwedig fe a weddai iti hyn, gan fod i ti hawl i bethau llawer gwell? I olud mwy parhaus a buddiol, i Hyfrydwch mwy sylweddol a sefydlog, ac i Oruchafiaeth a [Page 79] Rhagoriaeth cymhelled uwch. Am y rhain fe a roddes dy Achubwr ath Gymmwynaswr iti Wystlon a Siccrwydd, yn y Sacrament hwn; a'r rhain a rydd efe yn y Dydd diweddaf, i'r sawl a'i carant ac a'i hofnant ef.
Canys ti a elli ddisgwil, y daw yr Iesu hwn, gostyngedig Ddioddefaint a Marwolaeth pa un a ddarfu iti yr awron eu cyd-gofio, drachefn mewn Gogoniant, gyd a'r Llu o Angylion gogoneddus yn ei ganlyn, i farnu yn gystal y Byw a'r Meirw: Efe a ddaw i roddi Dial, mewn Fflam Dan, ar y sawl ni ufuddhasant iw Efengyl ef. Ac a ddaw i obrwyo ei holl Wasanaethwyr ffyddlon, ac i gael ei ogoneddu a'i fawrygu am ei Haelioni a'i Wobrau i'r sawl oll ag sydd yn credu. Oh ystyria yn dda, fy Enaid, y Dydd ofnadwy siccr hwnnw; a'r cyfryw un ag a fynnit ti dy gael y pryd hynny, ymegnia'r awron i fod; os treuli dy Fywyd yma yn ddiwyd yng Wasanaeth dy Feistr, yn cyflowni y Dyledswyddau sydd yn perthyn ith Le ath Alwedigaeth ath Berthynas; efe a ddywed wrthit ti y pryd hynny, Da, Was da a flyddlon, dos i mewn i Lawenydd dy Arglwydd. Fe a fydd yn fwy Mantes iti y pryd hynny, ddarfod iti dy wadu dy hunan yn awr er mwyn Anrhydedd a Gwasanaeth dy Feistr na phed fuasit ti yn cymmeryd dy lawn Rydd-did, ac yn dy foddhau dy hunan ym hob peth. Fe a fydd yn Fantes o'r fwya it ti, y pryd hynny, dy gael gwedi byw yn sobr, ac yn gymhedrol, ac yn ddaionus, ac yn gyfiawn, ac yn Grefyddol: Pan fyddo holl Anrhydedd, a holl Ffafor a Chanmoliaeth y Dydd hwnnw yn cael eu rhoddi i'r cyfryw; Ac nid edrychir ar ddim Rhagoriaeth arall rhwng Dynion, ond ar eu Rhagoriaeth yn y pethau hyn. Bydd siwr, fy Enaid, ni bydd yn edifar gennit ti y pryd hynny, pa boen bynnag a gymmeri, pa beth bynnag a dreuli, yr awron, i ennill Gwobrau ac Anrhydedd y Dydd hwnnw. Gan hynny bwriada yn gryf ddilyn Buchedd dda a Sanctaidd; na flina byth yn gwneuthur yn dda, canys y mae Gorphwysdra tragwyddol yr hwn ath dderbyn di ar ddiwedd dy gyfryw waith, ac nid yw'r amser ond byr cyn i ti ddyfod o hyd iddo. Na ddigalonna o achos dim Anhawsdra a gyfarfyddi ar dy ffordd; os ymdrechi yn wrol, ti a'u gorchfygi hwynt oll drwy Ghrist yn dy nerthu di: I'r hwn gida 'r Tad a'r Yspryd Glan, Un Byth-fendigedig [Page 80] Dduw, y byddo pob Anrhydedd a Gogoniant, Byth Bythoedd. Amen.
Dosp. XXI. Gweddiau am Ymarweddiad cyfattebol.
I. ODduw, Noddwr pawb oll ag sydd yn ymddiried ynot; yn drugarog derbyn fy Ngweddiau; ac oblegid, drwy wendid ein marwol Anian, nad ailwn wneuthur dim a'r sydd dda hebot ti, canniatha imi gymmorth dy Ras, fal gan gadw dy Orchmynion, y gallwyf ryngu bodd i ti mewn ewyllys a Gweithred, drwy Iesu Ghrist ein Harglwydd. Amen.
II. O Arglwydd, Ffynnon yr holl Nerth a'r Cadernid, canniatha, attolwg iti, i mi dy was, Ras i wrthladd Profedigaethau y Byd, y Cnawd, a'r Cythrael; ac a phur Galon a Meddwl ith ddilyn ath wasanaethu di, yr unig wir a bywiol Dduw; a channiatha imi fod yn gymmeradwy gida thydi yn fy holl Wasanaeth, trwy Iesu Ghrist ein Harglwydd. Amen.
III. HOllalluog Dduw, yr hwn yn unig a biau llywodraethu afreolus Chwantau a Gwyniau Dynion pechadurus, canniatha i mi dy Wasnaethwr, fod imi garu'r hyn yr wyt yn ei orchymyn, a deisyfu y pethau gogoneddus yr wyt yn eu gaddo; fel ym-hiith amrafael Ddamweiniau y Byd hwn, y gallo fy nghalon gwbwl-aros yn y Ile y mae gwir Lawenydd iw gaffael, trwy Iesu Ghrist ein Harglwydd. Amen.
IV. ARglwydd yr holl nerth ar Cadernid, yr hwn wyt Awdwr a Rhoddwr pob Daioni; planna yn fy Nghalon Gariad ith enw; ychwanega ynof wir Grefydd; maetha fi a phob Daioni, ac oth fawr Drugaredd cadw fi yn yr unrhyw, trwy Iesu Ghrist ein Harglwydd, Amen.
V. O Arglwydd, yr hwn a ddyscaist ini, na thal ein holl Weithredoedd ddim, heb Gariad perffaith: Anfon dy Yspryd Glan, yr wyf yn attolwg iti, a thywallt i'm Calon y rhagorolaf Ddawn hwnnw, Cariad perffaith; gwir Rwymyn Tangneddyf, a holl Rinweddau da; heb [Page 81] yr hwn pwy bynnag sydd yn byw, a gyfrifir yn farw gar dy fron di. Canniatha hyn er mwyn dy unig Fab Iesu Ghrist, Amen.
VI. HOll-alluog Dduw, yr hwn a roddaist dy un Mab ini yn Aberth dros Bechod, ac hefyd yn Esampl o Fuchedd Dduwiol; Dyro imi Ras, fal y gallwyf byth yn y modd mwya diolchgar dderbyn yr anrhaethawl Leshad hwnnw o'r eiddo ef, ac hefyd beunydd ymroi i ganlyn bendigedig Lwybrau ei wir-lanaf Fuchedd ef, trwy 'r un Iesu Ghrist ein Harglwydd, Amen.
VII. CAnniatha, myfi a attolygaf iti, Holl-alluog Dduw, megis yr wyfi yn credu ddarfod ith uniganedig Fab, ein Harglwydd Iesu Ghrist, derchafel i'r Nefoedd; felly bod i minnau mewn Meddylfryd Calon allu ymdderchafel yno, a chyd ag ef drigo yn wastadol, yr hwn sydd yn byw ac yn teyrnasu gyd a-thi a'r yspryd Glan, yn un Duw heb Drangc na Gorphen, Amen.
VIII. TAngnefedd Dduw, yr hwn sydd uwch-law pob Deall a gatwo fy Nghalon a'm Meddwl yng Wybodaeth a chariad Tuw, a'i Fab Iesu Ghrist ein Harglwydd, a Bendith Dduw Holl-alluog, y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan, a fyddo arnaf, ac a drigo gida mi yn wastad, Amen.
IX. GOgoniant a f'o i'r Tad, ac i'r Mab, ac i'r Yspryd Glan: megis yr oedd yn y Dechreuad, y mae'r awr-hon, ac y bydd yn wastad, yn oes Oesoedd, Amen.
Dosp. XXII. Gweddi o Ailgynnulliad.
Ymae hon yn cynnwys Swm y Llyfr hwn, a chwedi ei gwneuthur yn gymmwys iw harfer ar ol darllen y Rhannau a fynnoch o honaw, yn y Teulu, neu yn eich Stafel ddirgel.
OArdderchoccaf a thragogoneddus Dduw, Arglwydd Nef a Daiar, yn anfeidrol mewn Mawrhydi a Gogoniant, [Page 82] ac yn dy Fawredd yn anchwiliadwy. Oddiwrthit ti, Ffynnon pob Hanfod, y mae holl Odidawgrwydd, a holl Allu pob peth ac sydd, yn deilliaw. Tydi wyt yn deilwng o'r Parch mwyaf gan yr Angylion pennaf; yn deilwng o'n Hofn Duwiol a'n parchedigeaf Addoliadau ni; Yr wyt yn dderchafedig yn dy Fowredd yn uwch na'n holl Fendith a'n Mawl ni. Ac fal y mae dy Fowredd di yn anfeidrol, felly hefyd y mae dy Ddaioni; yr hwn a arferaist mewn modd cyfattebol ith Fawredd arpderchawg; canys yr wyt ti ym hob peth yn debyg i ti dy hun, ac nid oes neb heb dy law di yn debyg i ti. Mewn rhyfeddol Ddoethineb a Daioni y gwnaethost ti y Byd, gan gyfrannu Hanfod a Dedwyddwch yn helaeth ym mysg dy Greaduriaid. Eithr dy Ddaioni a'i danghosodd ei hunan mewn modd enwedigol yn dy Ymddygiad tuag at Ddynol-Ryw, ac a ymddangosodd mewn Gogoniantau mwya rhyfeddol. Y mae efe yn ymddangos o'n mewn ni, ac ym mhob peth ag sydd o'n hamgylch. Ti a wnaethost Ddyn yn Greadur enwog, ychydig is na'r Angylion. Ti a'i cynnysgaeddaist ef ath Ddelw ogoneddus mewn Cyfiawnder a gwir Sancteiddrwydd. Ti a'i coronaist ef ac Anrhydedd ac Ardderchowrwydd, gan roddi iddo Lywodraeth ar Weithredoedd dy Ddwylaw. Ti a adeiladaist y Byd prydferth hwn, yn Breswylfod iddo ef, ac a'i llenwaist a phob peth angenrheidiol ac hyfrydlawn iddo. Y mae'n holl Synhwyrau yn dangos ini lawer o Siamplau oth Ddaioni tuag-attom ni, y mae'r Ddaiar yn llawn o honaw; Dydd i Dydd a draetha Ymadrodd, a Nos i Nos a ddengus yr Wybodaeth o hwn. Nid allwn lai na'i weled, oni byddwn ni dan y Dallineb mwyaf a'r 'wyllyslownaf; nac a allwn anghofio neu esceuluso ei gydnabod ef, heb fod yn euog o'r Anniolchgarwch cywilyddusaf a'r annaturiolaf.
Ond hyn, O Arglwydd, ydyw'r peth sydd raid i ni gida chywilydd a hunain-ffieiddiad ein cyhuddo ein hunain am dano. Dy holl Ddaioni, a'i Rwymedigaethau a anghofiwyd yn fuan gan ein Rhieni Cyntaf, a hwy a wrthryfelasont yn d'erbyn di: A nyni ydym eu gwir a'u ffiaidd Heppil hwynt, gan gyfeiliorni o'r Groth, a byw mewn Gelyniaeth yn dy erbyn di, a dirmygu dy Orchmynion. Ti a ragwelaist holl Ddrygioni y Byd, a'r holl Ammarch a dderbyniaist gantho; ac er hynny oth fawr Ammynedd [Page 83] ath Ddioddefgarwch ti a arbedaist o'm Rhieni Cyntaf, ac a ganniadteaist iddyn nhw heppilio eu Natur ffiaidd a llygredig! A hyn, O Arglwydd, sydd yn rhoddi ini achlysur, i edrych yn ol ar yr Ymarfer mwyaf a'r gogoneddusaf oth Ddaioni i Ddynol-Ryw. Pan oeddem ni i gid oll yn euog gar dy fron di, ac yn ddarostyngedig ith Ddigofaint Tragwyddol; ath Anrhydedd ath Gyfiawnder yn gofyn ein llwyr Wrthodiad a'n Dinistr ni: etto, ie y pryd hynny y darfu ith Ddoethineb ath Ddaioni di, ddychymmygu a chaniadhau ini Ffordd a moddion i Iechawd wriaeth: ath anfeidrol Fawredd, er ei fod wedi cael ei amherchi mor ddirfawr, a ymddarostyngodd i Ofalu am ein hachub ni; ac fe a gafwyd ffordd gyfattebol ith Fawredd di, a'n Hangen ninnau. Ie y pryd hynny, felly y carodd Duw Tad y Byd, fal y rhoddodd efe ei unig anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gretto ynddo ef eithr caffael o honaw Fywyd tragwyddol: A dyna'r amser y darfu i Dduw'r Mab, o'i anfeidrol Dosturi i Ddynol-Ryw, ei gynnig ei hunan i fod yn Gyfryngwr ini; Ac efe a gymmerodd arno bwrcasu ini Ffafor Duw, yr hwn a gollasem ni, ar Draul ei ymwaelhad ei hunan, yn cymmeryd ein Hanian ni, a'i waith yn marw yn Aberth dros Bechodau Dynion. Oh mor ddiflin, Arglwydd, a fu dy Garedigrwydd ath Drugaredd tuag attom ni! Ac mor gas a ffiaidd ydyw ein holl Droseddiadau ni yn dy erbyn di! Pan fo'm yn dy ystyried ti, O Arglwydd, a'r Rhwymedigaethau yr rhai a osodaist arnom, ni fedrwn lai na chywilyddio yn ddirfawr wrth feddwl am Ffieidddra ac Afreolrwydd anferth ein Pechodau. Fe a'n cymhellir gan hynny, O Arglwydd, i'n ffieiddio ein hunain gar dy fron di. Yr ydym yn cydnabod, fod dy Ddigofaint mwyaf yn ein herbyn ni yn drachyfiawn; ac rhaid imi gyfaddeu, ddarfod ini haeddu cael ein taflu gennit ti i'r Tan tragwyddol yr hwn a ddarparwyd i Ddiawl a'i Angylion. Ond, bendiged ig a fyddo dy Enw di, y mae Trugaredd gida thi, ac yr ydwyt drwy Waith a Dioddefaint ein Cyfryngwr bendigedig, yn Dduw yn maddeu Camwedd, Anwiredd a Phechod. Nyni ath foliannwn, nyni ath fawrygwn di, O Arglwydd, am dy anrhaethawl Gariad ym Mhrynnedigaeth y Byd drwy ein Harglwydd Iesu Ghrist. Gogoniant a fyddo i'r Tad, ac i'r Mab, ac i'r Yspryd Glan, am y Ffafor a'r cymmorth rhyfeddol [Page 82] [...] [Page 83] [...] [Page 84] hwn, yn ein Cyflwr isel ac anobeithiol. Wedi ini gael ein hannog, O Dad, drwy Aberth dy Fab, a chan hyderu ar Haeddedigaethau yr Aberth hwnnw, yr ydym yn dychwelyd attat ti: Yr ydym yn ewyllysio dychwelyd at ein Dyledswydd. Yr ydym yn llawen ac yn ddiolchgar yn derbyn y Cynhygion newydd o Ras a Ffafor gida thi, yr rhai y rhyngo [...] (bodd i ti eu gwneuthur ini; yr ydym yn ymfodloni i'r Ammodau hawdd ac esmwyth yr ydwyt ti yn eu gofyn gennym, ac yr ydym yn ostyngedig yn erfyn dy Ffafor di, ar yr Ammodau hynny. Fe a ddarfu, O Arglwydd, drwy garedig Orchwyliaeth dy Ragluniaeth di, ym moreuddydd ein Mebyd, ein cyssegru i ti, a'n rhwymo yn y Cyfammod dedwyddo [...] hwnnw, yr hwn a ganniatteaist ini megis y Ffordd i' [...] Hiechawdwriaeth: Ond rhaid ini gida chywilydd gyfaddeu, ddarfod ini dorri y Cyfammod hwn, a byw mewn gormod esgeulusdra o honaw; a darfod ini chwanegu at Atcasrwydd a Drygioni eraill ein pechodau ffiaidd, y mawr Evogrwydd o dorri ein Addunedau a'n Haddewidion i ti. Fel yn deimladwy o'n Hymddygiad anheilwng, O Arglwydd, yr ydym etto yn dymmuno adnewyddu y Rhwymau rheini, ac yn taer-erfyn arnat, fod i'r rhain gael eu cadarnhau felly, drwy 'r Adnewyddiad ymma o honynt, fel nas torrer monyn byth mwy. Yr ydym yn ymwrthod a'r byd drygionus hwn, a'n Nhatur lygredig ein hunain, ac a Diafol dy Wrthwynebwr di; yr ydyw yn bwriadu nas goddefwn ini ein hunain mo'u dilyn, na chymmeryd ein harwain ganthynt. Nyni a dderbyniwn, O Arglwydd, y peth a fynni ini ei gredu; ac yr y'm yn ein cyssegru ein hunain i gadw ac i ufuddhau ith Orchmynion Sanctaidd Cyfiawn a Da, drwy holl Helynt ein Bywyd: i fod bob amser dan Rym a Rheolaeth Cariad i ti, ac i'n Cymmydogion: Ith garu di a'n holl Galon, a'n holl enaid, ac a'n holl Nerth; a'n Cymmydog fel ni ein hunain. O Dad y Trugareddau, derbyn ein [...]asusol ein Hedifeirwch a'n Dychweliad attat ti: Edrych ar Farwolaeth dy Fab, a thro oddiwrthym dy holl Ddigofaint: Cyfiawnha ni yn rhad drwy dy Ras; moddeu ein holl Bechodau er ei fwyn ef; cymmer ni ith Wasanaeth di, a channiatha ini allu byth o hyn allan, dy foddhau di mewn Newyddeb a Sancteiddrwydd Buchedd.
[Page 85] Iesu tydi Fab Duw, trugarha wrthym, O Crist clyw ni; bydd di ein Cyfryngwr gyd a'th Dad! Drwy dy Sanctaidd Anedigaeth ath Enwaediad; drwy dy Grog ath Ddioddefaint haeddedigol; drwy dy werthfawr Angeu ath Gladdedigaeth; drwy dy Anrhydeddus Adgyfodiad ath Escyniad, cymmer ni ith Ofal ath ymddiffynfa; Tydi yr hwn a wnaethost yr holl bethau hyn drosom ni Trugarha wrthym: O bydd di yn Iesu (yn Waredwr) ini, ac achub ni oddiwrth ein Pechodau: Dyro ini, yn ol dy Addewid i'r sawl ath dderbyniant di, y gogoneddus Ragorfraint o fod yn Feibion i Dduw: yr ydym yn dy dderdyn di yn gymmeradwy, O Arglwydd, megis Brenin i'n rheoli ni, ac nyni a studiwn i wybod, ac a ymegniwn i ufuddhau ith Orchymmynion di: Yr ydym yn ddifrifol yn dymuno cael ein dyscu gennit ti, fal ein Prophwyd mawr ni; ac nyni a dderbyniwn ac a ufuddhawn ith Athrawiaethau Nefol, pa fodd bynnag y mae'nt yn wrthwynebus i lygredig Duedd ein Nhatur ni, ac i'n Serch i'r Byd hwn. Arglwydd, yr ydym yn bwriadu ein cydffurfio ein hunain ath Athrawiaethau di; drwy Hyfforddiad dy Siampl ragorawl, ac na chyd-ymffurfiwn a'r Byd hwn. Ac nyni a gydnabyddwn bob amser ein anheilyngdod hollawn o'r Daioni lleiaf, ac a osodwn ein holl Obaith yn dy Haeddedigaeth ath Eirioledd di megis ein Harch-Offeiriad mawr ni. O bydded ini gael, drwy ddaionus Lwyddiant ein holl Weddiau gostyngedig, dy fod ti yn tosturio wrth ein Trueni ni, ath fod yn byw byth i eiriol drosom ni.
Eithr, osywaeth, nyni a addawsom ac a fwriadasom fwy nag a allwn ei gyflowni, heb Ysprydoliaeth a Chymmorth dy Yspryd daionus di. Gan hynny yr yd ym yn erfyn arnat ti, O Yspryd bendigcdig, Tyred i lawer, nyni attolygwn i ti, i'n Calonnau ni; llenwa ni yn helaeth ath Ras; gwna ni yn Demlau Sanctaidd cyssegredig i ti, a phresswylia ynom ni yn dragywydd: Bwrw ymaith a chartha allan o honom ni dros byth bob peth ag sydd yn wrthwynebus ac yn anfoddus gennit ti. Dysc ni felly, fal gan wadu pob Annuwioldeb, a Chwantau bydol, y gallom fyw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn Dduwiol yn y Byd presennol hwn. Scrifenna dy Gyfraith yn ein Calonnau, fel na byddo ini byth ymadel a hi. Chwanega a chynnal [Page 86] ein Ffydd; ychwanega a pharha 'n Cariad ni; maetha bob Gras ynom ni; a gwna ini ddal allan hyd Ddiwedd ein Heinioes, mewn Sancteiddrwydd, a Rhinwedd, ac yn gwneuthur Daioni. Cadw ynom ni'r Wobodaeth o Dduw, a'i Fab ef Iesu Ghrist ein Harglwydd, a Chariad iddynt ill-dau. Yr ydym yn bwriadu, O Yspryd Sanctaidd, ddisgwil yn ddyledus am dy fendigedig iachusol Weithrediadau ynom, mewn dyfal-lyniad wrth dy Sanctaidd Ordinhadau, y Gair a'r Sacramentau; Oh gwna ini fod bob amser yn gymmwys ac yn bar od i waitio arnat ti ynthyn, pa amser bynnag y caffom yr Achlysur happus i wneuthyr hynny; a channiatha id dynt fod wedi eu bendithio ini bob amser, a bod yn rhinweddol ac yn nerthol i ddwyn ym mlaen ein Sancteiddiad a'n Hiechawdwriaeth.
[Pan arferir y Weddi hon y Boreu, chwanegwch hyn atti hi,]
Yr ydym yn diolch i ti, O Dad yr holl Drugareddau, am ddiogel Ymddiffyniad, llonydd a chwnffwrddus Orphwysdra Neithiwr: Yr ydym yn cyssegru y Dydd hwn, a'n holl Einioes ith Wasanaeth di, yn y Dyledswyddau yr wyt ti yn eu rhoddi ini iw gwneuthur; Cynnorthwya ni yn drugarog, O Arglwydd, yn y cwbwl, a derbyn ni yn gymmeradwy yn Iesu Ghrist.
[Pan arferir y Weddi hon y Nos, rho'wch ynddi neu chwanegwch atti hyn yma.]
Goleua ein Heneidiau tywyll, nyni attolygwn i ti, O Arglwydd, a'r holl Wobodaeth sy'n angem heidiol i'n Hiechawdwriaeth; Llenwa ni a Serchau defosionol, a bydded dy Gariad ti yn ein meddiannu ac yn ein rheoli ni bob amser; Bydd di, 'ni attolygwn i ti, ein Hymddiffyniad y Nos hon, rhag ei holl Beryglau a'i henbyd Ddigwyddiadau.
Rhad ein Harglwydd Iesu Ghrist, a Chariad Duw Tad, a Chymundeb yr Yspryd Glan; a fyddo gida ni oll o hyn allan byth bythoedd, Amen.
Ein Tad yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c.