Llwybr hyffordd yn cyfar­wyddo yr anghyfarwydd i'r nefoedd.

Yn yr hwn y dichon dyn ystyriol weled ei gyflwr presennol, pa vn ydyw a'i cadwedig, a'i colledig.

Wedi ei osod allan ar dull ymddiddan­nion, yn gyntaf yn Saesonaec, o waith Arthur Dent, Gwenidog Gair Duw.

Ac yr awr-hon wedi ei gyfieithu yn Gamber­aec er cymmorth i'r Cymro annyscedig, fel y gallo efe gael yn ei dafod-iaith ei hûn, fo­ddion a chyfryngau i chwanegu ei wyboda­eth i wasanaethu duw.

Esay. 1.16.

Ymolchwch: ymlanhewch, bwriwch ymmaith ddrygioni eich gweithredoedd oddi ger bron fy llygaid: Peid­iwch a gwneuthur drwg, Dyscwch wneuthur daioni, &c.

Yr ail argraphiad.

Printiedig yn Lundain gan Bennet Griffin yn y Flwyddyn, 1682.

I'r Gwir Barchedig Dàd yn Nuw, IOHN drwy râd Duw Ar­glwydd Escob Llan Elwy, R. Ll. sy'n damuno pob llwyddiant, a diddanwch Ysprydol ar y ddaiar, a gogoniant trag­wyddol yn y Nefoedd.

GWir Barchedig Dàd, ynghylch tair blynedd, neu chwaneg a gerddodd heibio eusys, er pan ddaeth attaf oddiwrth fy mharchedig Arglwydd Escob Escob Hanmer. o goffadwriaeth vrddedig, lyfr Saesonec (o waith y poenus wenidog Gair Duw A. D.) iw gyfiei­thu yn Gymraec, er mwyn cael o'r gwerin-Gymru cartrefol (yn enwedig oi Escobaeth ei hûn) drwy ymarfer a darllain y llyfr hwn, fodd cymmwys i chwanegu eu gwybodaeth yn y wir ffydd, ac iw cymmell i fyned rhag­ddynt yn gyfarwydd, ac yn hyfedr ar hyd iawn­ffordd jechydwriaeth.

Y cyfieithiad hwn wedi ei gymhennu yn barod, a arhosodd rhag-llaw gyd a'm fi, megis plentyn tan ei ymddwyn yn y grôth, yn dis­gwyl yr amser pennodol, a'r tymp prydlawn ei gael ei escor i'r byd, sef yr achlysur cymmwys iw osod allan mewn print.

Ar hynt, rhag myned fy llafur-waith yn ofer, ac ar ddymuniad rhai o'm cydnabod a oedd yn ofni Duw, ac yn sychedu am gael di­odi eu heneidiau a dwfr y Pydew ffynnon a glyw­sent [Page]ei bod wedi ei chloddio ar eu medr, mi a'i dygum ef allan i'r byd yn gyfryw etifeddyn gwael, truan, ac y mae yn dangos arno: eithr yn druanach o lawer ei gyflwr, am golli o honaw yn ddiweddar, y nodded, yr ymddeffyn, a'r ym­geledd a fwriadaswn i ddarparu iddo: Canys tra fûm i yn bryssur yn dibennu fyngwaith, yr Arglwydd Nefol a alwodd atto ei hûn y Pre­lad Parchedig a'm gosodasai ar waith.

Ar hyn mi amcenais wneuthur ir etifeddyn hwn y cyffelyb peth, ac a wnaethai ei rieni gynt i Moses; sef ei hebrwng ef allan yn ddi­staw ar antur, tan beryglon y byd yn ddi-ym­geledd, fel Moses i'r afon, gan ddisgwyl pa helynt a ddigwyddei iddo, Exod. 3.3. a gobeithio y dan­fonei Dduw ryw wladwr boneddigeidd-lan, megis merch Pharaoh, a gyfodei y truan i fynu, ac a'i hymgeleddai. Ond pan glywais fod Duw wedi ei'ch galw, a'ch pennu chwi i fod yn Ben▪ bugail i areilio yr eneidiau a adawsid yn ddiweddar yn ymddifaid o'u Tad Yspry­dol, ac i ba rai yn bennaf, y darparasid y lly­fran hwn, Myfi a anturiais yn hyfach ddymu­no, ac erfyn ar eich Arglwyddiaeth chwi, ro­ddi cennad iddo, a'i gynnwys i gael achles [...]n orchudd eich ymdd [...]ffyn, a gwascod diogel [...]n barwydydd eich ymgeledd.

Anfedrus, ac anfoesawl oedd i mi (yr wyf yn cyfaddef) ryfygu bod cyn hyfed a chynnig crocsawu eich Arglwyddiaeth i'ch Ʋchel­swydd Gyssegredig ag anrheg cyn waeled, eithr y hydig bethau gwael a distadl sy faich [Page]trwm i dlodi, ac er eu lleied, yn arwydd o ewy­llysgarwch y rhoddwr i ymadael yn rhwydd a chalennig a fai gwell, pe bai meddwr arni. Mwy oeddd y ddwy hatling i'r wraig weddw dlawd o herwydd ei phrinder hi, Mar. 12 4 a mwy yn­golwg Duw, o herwydd ei chalondid, a'i sy­berwydd, na rhoddion mawrion diandlawd y galluog o'u gweddill, a'u gormodedd.

Tu ag at adeiladaeth y Tabernacl en bod cy­foethogion yn gallu dwyn rhoddion gwerth­fawr sef aur, arian, perlau, porphor, yscarlat, Exod 25. a sidan: etto yr oedd crwyn hyrddod, a chrwyn daiar foch a blew geifr yn gymme­radwy hefyd, ac yn cadw eu lle yn y gwaith: Pan ddêl eich Arglwyddiaeth chwithau i'r Babell a osododd ordinhâd Duw i chwi, a chael adnabyddiaeth a'r eich Periglorion eich hûn, chwi a gewch weled yno lawer o'ch Tan-fugeiliaid yn trîn, ac yn areilio eu praidd yn ofalus, yn dacclus yn drwyadl. 1 Sam. 17.36. Rhai by­wiog, a chalonnog fel y Bugail Dafydd gynt, ni rusant fyned ynghyd a'r llew, ac ar arth yng­hweryl yr wyn tru▪ in, iw hachuh, ac iw cadw rhag sclyfaeth bwystfilod: Rhai yn casclu cerrig llyfnion gweithgar o afon Gair Duw, iw her­gydio at y Goli [...]h ysprydol yr [...]wn sydd yn cablu, ac yn gwradwyddo Israel. 2 Bre. 9.20. Rhai yn gyrru yn bybur, yn ddirûs, ac yn wrolwych yn eu galwedigaeth megis gyrriad I [...]hu Fâb Nimsi, yn llawn zêl, a duwiol fryd yn er­byn offeiriaid, ac addol-wyr Baal: Ac eraill yn rhagorol eu dysc, a'u dawn yn dwyn i [Page]adeiladaeth Eglwys Grist roddion gorchestol o bur-athrawiaeth, ffraethineb, ymadrodd, a hyf­der i guro i lawr bechod a drygioni.

Etto er hyn ei gyd, y mae yn hyderus gennif na bydd anghymmeradwy gan eich Arglwy­ddiaeth chwi weled eraill, eiddilach eu grym a gwannach eu nerth, yn dwyn pwys y dydd a'r gwrês yn ôl eu gallu, Ma [...]. 20.2. drwy wneuthur cyd­wybod o drîn yn ofalus, ac yn ffyddlon y tal­entau by chain, a distadl yr ymddiriedwyd idd­ynt am danynt. Ar cyfryw yw fyngwaith gwael i ar y cyfieithiad ymma. Yr hwn er ei fod yn arw, yn drwscwl, ac yn anrhefnus o her­wydd fy anghyfarwyddyd i yn ei drîn yn ang­helfyddus; etto yr athrawiaeth a gynhwysir ynddo sydd ddefnyddiol, a buddiol, a'r cyfryw ac â wna ddaioni, a mawr-llês (drwy râd Duw) i'r eneidiau difedr truain y darparwyd ef iddynt. Hwn y fâth ac ydyw, gyd a'm fy bûn, a'm gwasanaeth goreu, yr ydwyf yn rhwydd-galon, ac a phôb gostyngeiddrwydd yn eu gosod ar lawr wrth draed eich Arglwy­ddiaeth chwi. Arglwydd yr Arglwyddi, â gynnyscaeddo eich Arglwyddiaeth chwi a lluo­sogrwydd o bôb doniau cymwys ac-anghenrhei­diol i drîn yr Alwedigaeth gyssegredig i'ch gal­wodd Duw iddi, Hyn a weddiaf beunydd, gan barhau yn

Eiddo eich Arglwyddiaeth i'm gorchymmyn tra bwyf Robert Lloyd.

At y darllennudd o Gymro vn­iaith; Annerch.

Y Darllennud hygar, Er dy fwyn di yn vnig y cyrchais o eithaf Lloegr Sais-fam-dad, i ddyscu i ti yn dy iaith dy hûn, gan na wyddost ond honno, yr vniawn-lwybr hyffordd i'r nefoedd.

Ac yr awr hon wedi'r holl boen a gymme­rais, ar fedr gwneuthur i ti lesâd, a dwyn di­ddanwch i'th enaid; Nid hwyrach y byddi mor anniolchgar i Dduw am ei ddaioni ac mor ddi­frâw, a difedr am danat dy hun, ac na chym­meri hamdden i ddarllein y llyfran hwn: ac yn & yr aeth fy holl ofal, am llafur i yn hyn o beth, o'th ran di, yn ofer: A pheth sy waeth i ti, y llyfr hwn a saif ddydd y farn, yn dystiolaeth i'th erbyn, ac a brawf gynnig i ti athràwiaeth iachus, ac hyfforddrwydd i achub dy enaid, ond nas mynnit; fod helynt y byd, coegni, ac oferedd yn dallu dy galon, yn pendafadu dy synwyr, ac yn suo byrdwn yn dy glustiau, fel nad wyt yn meddwl am dy ddiwedd, nac yn ymorol pa beth a ddigwydd i'th enaid, Gofala mewn pryd am danat dy hûn, a cho­fia y ddihareb:

Fe lâs a gafas rybudd, ac ni lâs a'i cym­merodd.

Ac er nad oes gennit flas ar ddarlain llyfrau duwiol o herwydd cydwybod, etto ar fy na­muniad i darllain yma nid dwy ddalen, neu [Page]dair yn vnig, ond y cwbl trwyddo vnwaith, i ddifyrru yr amser, oni wnei ddefnydd gwell o honaw. Ti a gei gyfarfod a rhai ymddidda­nion mwynion; yn enwedig lle y mae'r Cec­cryn (dy wir gydymmaith di yscatfydd) yn taro i mewn ei draws-ddadleuon trwscwl, ac anghymmen, i ddadleu ynghweryl anwybo­daeth, a drwg arferon y byd. Nid hwyrach ond antur y digwydda i ti wrth drîn y pethau hyn yn graff, fel y digwyddodd i Zaccheus wrth edrych ar Grist o frîg y pren, pa wr ei sut ydoedd; Edrych ditheu pa fâth Gristianogol athrawiaeth sydd yn y llyfr hwn, a chyn yma­d [...]el ag ef, fe a'th ddelir yscatfydd ar y gwtta yn ddiarwybod it dy hûn, fel y d iliwyd Zac­cheus, ac y troi i fod yn ddyn ffyddlon i groe­sawu Crist i'th galon (er nad oedd hynny yn dy fryd ar y cyntaf) fel y croesawodd Zac­cheus ef iw dy.

Neu, onid yw y bwyd hwn yn dygymmod a'th gylla di, etto na fydd fel y cî yn y preseb, sef heb gymmeryd daioni it dy hûn, na bod yn fodlon i era [...]ll i gael y peth yr wyt ti yn di­flasu arno; Oni wnei ddaioni i dylwyth dy dŶ, na wna gam a hwynt am ymborth eu henei­diau, ac os gwnei, ti a gei atteb am dano, lle ni bydd vn llyfr i'th ddyscu, ond llyfr dy gydwy­hod i'th gyhuddo, a'r llyfr hwn hefyd yn dyst i'th erbya, fel y dywedais or blaen: Canys er porthi o honot gyrph dy blant, a'th deulu, a gadel ar hynny heb ymorol a'm eu heneidiau, beth yr wyt ti yn ei wneuthur iddynt chwa­neg, [Page]nac a wnei i'th farch, i'th ych, ie i'th gî? Darllein hwn gan hynny, i'th wraig ac i'th blant.

Ac oni wnei hynny o gydwybod, etto gwna o gymmwynas i ddifyrru iddynt. Os rhyw Abigail a drefnodd yr Arglwydd i ti i fod yn winwydden ar ystlysau dy dŶ, wrth droi ei throell, neu drîn ei hwswiaeth yn ddi­staw, hi a gippia yn grâff y geiriau da a glywo, ac a'u rhydd yscatfydd iw cadw yn ei chalon, fel y fendigedig Fair, a'm eiriau ei mâb.

Ped anfonaswn it lyfr i ddyscu bod yn arian­nog, yn gyfoethog o dda, neu i bwrcasu tiroedd; ie neu ryw chwareuon ofer, a choeg­ni, fe gawsai y fâth hwnnw anfad groesaw yn aml ar hyd y wlâd: Eithr dymma it beth sydd well ar dy lês. Dysc wrth hwn o fewn ychy­dig at ei ddechreuad, weled dy gyflwr presen­nol, a chyrhaeddyd y wir adenedigaeth, i fod yn blentyn i Dduw; ac yna y cei dryssor safa­dwy, parhaus yn y nefoedd: ti a fyddi cyfoe­thog yng-Hrist o bob rhadau ysprydol: a'r nefoedd hefyd eiddot ti fydd.

Ai arswydo yr wyt ti ymroi i w [...]sanaethu Duw rhag gwatwor cymmydogion? Os cei­sio rhyngu bodd dynion yr wyt, ni byddi byth wâs ffyddlon i Grist: Gal. 1. Os bydd cywilydd gennit Grist, a'i air, ai wasanaeth yma ar y ddaiar, ti a wyddost beth sydd yn canlyn yn yr Efengyl, e fydd cywilydd gan fâb y dyn ditheu, &c.

Os bydd mwy gofal arnat rhag anfodloni [Page]rhyw geccryn anghrefyddol, heb ddim ofn Duw yn ei galon, neu ryw Gain genfigenus, neu Ismael watworus, neu Esau afreolus, neu Su­ddas gybyddus, na bodloni Duw, ac achub dy enaid, fe aeth hynny yn galed. Ti a'glywaist mai rhaid yw ymdrechu, ac ymwthio am fy­ned ir nef, ac mewn vn peth, drwy anglod a chlôd: ac os ymroi ditheu i wasanaethu Duw, ti a gei glôd ganddo ef, a chlod gan rai da: ond y mae yn rhaid i ti ymroi i ddwyn yn orau ac y gellych anglod, anair, gwawd, a gwatwor gan rai drwg, Canys ni elli ddiangc rhagddo; ni châr y byd ond yr eiddo ei hûn.

Ai anhawdd genit dreulio amser yn y gor­chwyl hwn, nid rhaid i ti golli dim amser a waethygo arnat, neu a rwystro dy orchwy­lion bydol yn eu pryd: y mae'r nos yn hîr y gaiaf, a'r Suliau, ar gwiliau yn hîr yr hâf; gad ymmaith y twmpath chwareu, a'r bowliau, ar tafarnau, a'r bêl-droed, a'r denis, a'th ne­geseuau; gwna y pethau hyn yn weddol ar dy ddiwrnodau dy hûn, o bydd achos: eithr gwa­sanaetha Dduw ar ei ddydd ei hûn; ac onidê, efe a ddigia wrthit, ac i ba le y ffoi di rhagddo?

Ai blîa gennit ymadael ag ychydig arian i brynu llyfran bychan, ni chyst ond ychydig? Mi â wnn yn yspys dy fod yn rhwydd galon yn talu yn ddrûd am dy beiriannau ysmonaeth, a dodrefn dy dy i lafurio am bethau y bywyd yma; ac a rusi di er ychydig, ddarparu am fy­wyd sydd well? y mae gennit gleddyf ar dy glûn i fyned i ffair, a marchnad, rhag dy friwo, [Page]dy hûn, ae i friwo dy elyn; mae'r cleddyf ys­prydol i gadw dy enaid, yr hwn sydd a mwy taro arno i ba le bynnag yr elych, nac ar dy gorph? Ymae yn hawdd gennit roi arian i'r cerddor ar y suliau, ar gwyliau i ladd eneidiau dy blant; ac oni roddi di ddim iw hachub? fe fedr y Treccyn hwnnw dynnu oddiwrthit wobr, a chyflog am ddianrhydeddu Duw, a gwasanaethu diafol ar y dydd Sabboth; a'm fod yn debyg i Jeroboam yr hwn a bechodd, ac a wnaeth i Israel bechu: neu'r Brenin Darias yr hwn a cherddoriaeth a hudei y bobl i gau­dduwiaeth; gâd i minnau gael gennit y gêd hon o haelioni: sef prynu ychydig lyfrau by­chain o'th iaith a'th ddeall dy hûn, i gyssuro dy enaid, pan na allo yr holl fyd ddim llesâd i ti.

Ai ni fedri di ddarllain Cymraec, na neb o'th dy chwaith? O, beth â ddywedaf wrthit, ond Duw a'th helpio druan; pa fodd y gwasana­ethi di Dduw, gan na fedri ddarllain ei air ef. Dysc yn gyntaf y gellych, neu bâr i ryw vn o'th dy ddyscu darllain, a dysced y lleill gan hwnnw: Mi a gynmeraf arnaf osod y dyn ieuangc a fynnych (yn enwedig o bydd efe hy­ddysc) ar ffordd gymmwys i ddyfod i ddar­llain o honaw ei hûn yn adrybelydr, yn ôl cymmeryd o honof ychydig boen gyd ag ef tros vn wythnos. A pheth yw hynny wrth y llesâd a ddichon dyfu oddiwrtho?

Rhag dy syfrdanu yn rhyhir: Am athra­wiaeth y llyfr hwn, dal arno, ac ystyria o ho­naw [Page]fel y darllenych: O bydd rhyw le yn dy­wyll i ti, darllen hwnnw yn fynych trosto, ti a ddeui iw ddeall o'r diwedd. Eithr gwybydd hyn, fod y pethau gorau ynddo yn y canol, ac tu ag at y diwedd.

Am ddull yr ymadrodd, mi a wneuthum fyngoreu ar ei osod ar lawr yn wastad, yn ddi­geîngci [...]g, ac yn rhwydd iw ddeall, lle y me­thodd gennif gwplau hynny, maddeu i mi fy­ngwendid, a chymmer fy ewyllysgarwch yn lle gwaith a fai gwell: ond hyn, geiriau an-arfe­redig a ochelais yn oreu ac y medrais, gan ym fodloni ar cyfryw eiriau sathredig, ac y mae cy­ffredin y wlâd yn gydnabyddus a hwynt, ac yn yspys ynddynt.

Am y print, nid ydyw ddifai er a ellais: Eithr yn rhyw fan y mae llythyren yn dd [...]ffyg, mewn man arall yn ormod, a rhyw air yscat­fydd allan o'i drefn: rhai o'r beiau hyn a ddi­ang [...]sant gan y Printiwr, yr hwn oedd anghyd­nabyddus a'r i aith: a rhai gennif fy hûn er cra­ffed yr oeddwn ar fedr bod; diwygia di yn ddi­ddig, attolwg, a'th bin yr hyn â Welych yn fei­us. Y synhwyreg, a dalltwriaeth y rheswm a ddeng ys i ti yn hawdd beth a ddylei fod. Mi â amcanaswn chwanegu at ddiwedd y llyfr ym a fagad o weddiau iw harfer ar amryw fâth ar achlyssur, ac achosion; eithr y mae yr Ymar­fer o Dduwioldeb ynteu tan y Print-wasc, ac yn bryssio i ddyfod i wlâd Gymru cyn y gaiaf; Oddi-yno y gelli di gael beth bynnag a ddy­munech. Dyna wr boneddig yn treulio ei am­ser [Page]yn weddol, ac yn ganmoladwy, gan wneu­thur gwasanaeth i Dduw, daioni iw wlâd, a llesâd mawr iddo ei hûn drwy gyfieithu y llyfr godidog hwnnw. Pe cymmerai foneddigion ieuaingc ein gwlâd ni ryw gyffelyb orchwyl­waith duwiol, a buddiol, i dreulio eu hamser arno, ni byddei anllywodraeth, a rhysedd yn cael cymmaint rhwysc: Na gwir Grefydd vn­iawn-grêd yn cael cyn lleied brî, a chymmeriad; ac ni byddei occreth yn yssu, ac yn bwytta y naill ddarn o'u tiroedd, na thafarndai, a mwg Tobacco yn yfed y darn arall.

Bellach y darlleydd hawddgar bydd iâch: a chofia hyn, Pa lesâd bynnag a gasclech oddi ymma, dyro y Gogoniant i Dduw, ac yna y tyccia i ti yn well y peth a ddarllenych. A Duw a'th fendithio a phob rhâd angenrheidiol; i'r hwn i'th orchymynnaf.

Yr eiddot yn yr Arglwydd, R. Ll.

Ystyriaeth, a chynnwysiad yr ymddi­ddanion hyn â ddengys i ni.

  • 1. Drueni dyn tan naturiaeth, a'r ymad­ferth i ddiangc rhagddo.
  • 2. Anwiredd yr amser ymma, a chy­ffredin lygredigaeth y byd.
  • 3. Nodau plant Duw, a nodau y rhai gwrthodedig: ac arwyddion hyspys o iachawdwriaeth, a damnedigaeth.
  • 4. Mor anhawdd yw myned i fywyd: a lleied yw nifer y rhai â ânt yno.
  • 5. Anwybodaeth y byd, a'i wrth-attebion yntef.
  • 6. Hyfry [...] addewidion yr Efengyl, ac aml drugareddau Duw ir sawl oll â edi­farhânt, ac â gredant, ac á wir ddy­chwelant atto ef.

Llwybr dyn anghyfarwydd I'r nefoedd.

  • Yr ym­ddiddan­wyr. Theologus: Pregeth-wr.
  • Yr ym­ddiddan­wyr. Philagathus
    Gwr­onest
    Gwr-da.
  • Yr ym­ddiddan­wyr. Asunetus: Aughyfarwydd-ddyn
  • Yr ym­ddiddan­wyr. Antilegon:
    Cyn­nenwr.
    Ceccryn.
Philagathus.

DYdd da i chwi Mr Theologus.

Theol.

Ac i chwithau fy hên gydymmaith Philagathus.

Phila.

Da iawn gennif eich gweled chwi yn iach-lawen, a'ch cyfarfod yn y fath gyfle, i dderbyn o'ch genau a­ddysc, a chynghorion ysprydol, fel y byd­dwn gynnefin gynt; oddieithr bod rhyw achosion a fai mwy yn rhwystro i chwi gael ennyd.

Theol.

Ac y mae yn dda gennif finnau eich gweled chwi yn parhau yn yr vn medd­wl duwiol, ac yn yr vnrhyw a wyddi geisio chwanegu eich cyfarwyddyd yn ffordd ie­chyd wriaeth: Ac o'm rhan i nid wyf amha­rottach yr awr'hon nac i'm gwelsoch gynt, i gyfrannu i chwi, ac i bawb eraill o'r mesur gwybodaeth a ganniadhaodd duw i mi, ond mi a welaf ddeu' wr o'r plwyf nessaf yn cy­feirio tu ag attom: y naill a elwir Asunetus, gwr anghyfarwydd yn y pethau a berthyn [Page 2]i wybodaeth o dduw: Ar llall a elwir Anti­legon, Ceccryn ymddadleugar yn erbyn pob daioni. Os gwelwch chwi yn dda, a hwy­thau hefyd, hwynt hwy a gant wrando ar yr ymddiddan, on a dyfo rhyngom i edrych a weithia hynny ynddynt hwy h [...]fyd beth Ilesâ [...].

Phila.

Da y dywedwch, ac am hynny awn iw cyfarfod hwynt.

Theol.

Dydd da i'wch fynghymydogi­on: pa fyd Asunetus, a chwithau Antilegon?

Asun.

Byd da, i dduw byddo'r diolch: Ac y mae yn llawen gennym weled eich meistrolaeth chwithau yn iach.

Theol.

Dymma wr onest o'm hên gydna­byddiaeth i, yn ewyllysio ymchwedleua am fatterion ysprydol, a chwithau, ond odid yn bryssur ynghylch rhww achosion bydol: eithr p [...] caech ennyd a hamdden, e fyddei dda gennym, a da yscatfydd i chwithau, g [...]d­ymddiddan ai gily [...]ld [...]ros awr, neu ddwy-Canys angenrh [...]idiol i bawb (o flaen dim) ymorol am y pethau a berthyn i'w iechyd­wriaeth tragwyddol.

Asun.

Gwir yw hynny, ac nid yw gymmaint ein brys ac na allwn hep­cor ychydig amser, i wrando ar y pe­thau yr ydych chwi yn son am danynt; gan fod y gwybodaeth o honynt mor angen [...]heidiol.

Theol.

Am hynny, fy annwyl gydym­maith Philagathus, gwnewch fel yr oeddych [Page 3]yn ewyllysio: Gofynnwch chwi ynghylch Cristianogol grefydd y cwes [...]iwnau a ryngo bodd i chwi. Eithr rhag bod y gwyr ymma yn anghydnabyddus a gwyddorion y ffydd, ni wna niwed, i'm týb i, ddechreu o honoch ar yr rheini, fel y byddo rhwyddach y ffordd ym mlaen at ymofynnion a fo dyfnach yn ol hynny.

Phila.

Myfi a wnaf eich cyngor: ac am hynny chwenychwn wybod ym mhâ gyflwr y genir pawb wrth drefn naturiaeth.

Theol.

Geni pawb yr ydys wrth naturi­aeth mewn cyflwr gresynol, a thosturus, sef mewn stât damnedigaeth, fel y mae yn am­lwg: Eph. 2.3. Yr oeddem wrth naturiaeth yn blant di gofaint fel eraill. Drachefn scrifennedig yw. Wele mewn anwiredd i'm lluniwyd, Psal. 51.5. ac mewn pechod y beichiogodd fy mam arnaf

Phila.

Ai dymma gyflwr pob dyn? Onid yw y Duciaid ar gwyr ardderchog: yr Arg­lwyddi a'r Arglwyddesau, y rhai mawrion, a galluog ar y ddaiar wedi eu neillduo allan or cyflwr ymma!

Theol.

Nac ydynt yn wir; Cyflwr yw hwn cyffredin i bawb, i'r vchel' radd megis I [...]r issel: i'r rlawd fel i'r cyfoethog, megis y mae yn scrifennedig: Job 15.14. Pa beth yw dyn i fod yn bur, a'r hwn a aned o wraig i fod yn gyfiawn?

Phila.

O ba achos y digwyddodd geni pob dyn mewn cyflwr mor ofidus?

Theol.

O achos cwymp Adda, drwy'r hwn y maglwyd ef ei hun a'i holl heppil mewn [Page 4]trueni dirfawr, ac anrhaethadwy; fel y dy­wed yr Apostol: Drwy gamwedd vn dyn y daeth y bai ar bawbi gondemniad: Ruf. 5.18, 19. Ac drwy anvfydd dod vn dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid.

Phila.

Pa reswn sydd i'n cospi ni oll am fai vn arall?

Theol.

Oherwydd ein bod ni oll y pryd hynny ynddo ef, acyn awr o honaw ef: sef nyni a ddaethom felly allan o'i lwynau ef, fel y dig wyddodd i ni nid yn vnig gael gan­ddo ein cyrph anianol, a lly gredig hyn, eithr hefyd drwy heppiliaeth etifeddu ei lygre­digaeth ef, megis cyfiawnder treftadol yn dyfod oddiwrtho.

Phila.

Eithr oblegid bod rhai yn tybied na ddrygodd Adda wrth ei gwymp, neb arall ond ef ei hûn yn vnig, ac nid e heppil hefyd gyd ag ef; a bod ei lygredigaeth ef yn descyn i ni drwy ymgyffelybiad ac nid drwy heppiliad, myfi a ewyllysiwn i chwi hyspysu y pwngc hwn yn eglurach.

Theol.

Megis y bydd Pennaethiaid drwy wneuthur teyrn-frad wriaeth, yn drygu nid eu hunain yn vnig, ond eraill hefyd, trwy halogi eu gwaedoliaeth, a distadlu eu hiliogaeth hyd oni adgyweirier, ac y glan­haer iddynt drachefn eu gwaedoliaeth a'u braint trwy Act o Barliament: Felly ob­legid megis llygru ein gwaedoliaeth nin­nau drwy droseddiad Adda, ni allwn ni etifeddu ddim hawl gyfiawn hyd oni ad­ferer [Page 5]i ni drachefn ein braint, a'n gwaedo­liaeth.

Phila.

A ydyw y gwenwyn treftadol hwn, a'r llygredigaeth yn ymdanu ar was­car tros ein holl naturiaeth ni?

Theol.

Ydyw yn ddiau, yn cyrhaeddyd yn hollawl, ac yn ym wahanu ar lêd trwy'r holl ddyn sef enaid, a chorph, y rheswm, y deall, yr ewyllys a'r nwydau. Canys y mae 'r Scrythyrau yn cadarnhau ein bod ni yn feirw mewn pechodau, a throseddau.

Phila.

Pa fodd yr ydych chwi yn deall hynny? sef ein bod ni yn feirw

Theol.

Nid am farweidd-dra y corph nac am farweidd-dra naturiol swydd-gynnedd­fau yr enaid, ond am farweidd-dra y ner­thoedd ysprydol.

Phila.

A gollodd Adda ei naturiaeth drwy ei waith yn cwympio mewn pechod ar y cyntaf? Neu â ydyw ein naturiaeth ni wedi ei ddiddymmu, ai ddileu ymmaith drwy ei gwymp ef?

Theol.

Nac ydyw: ein naturiaeth ni a lygrwyd yn vnig drwy gwymp Adda, eithr ni ddinistriwyd ef. Canys y mae yn aros yn ein naturiaeth ni, reswm, dalltwriaeth, ewyllys, a nwydau: ac nid ydym wedi myned yn gyffelyb i brennau, neu gyffion digynnwrf: Eithr trwy anvfydd-dod Adda i'n gwaethygwyd, i'n anafwyd, ac i'n yspeiliwyd o bob gallu, a grym i iawn ddeall neu i ewyllysio, neu i wneuthur uniondeb. [Page 6]Megis ymae yn scrifennedig: Nid ydym ni ddigonol o honom ein hunain i feddylio dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o dduw. 2 Cor. 3.5. Phil. 2.13. Drachefn: Duw yw'r hwn sydd yn gweithi [...] ynoch: ewyllysio, a gweithredu o'i ewyllys da.

Ac am yr ail peth y mae St Jago yn dy­wedyd: Fod dynion wedi eu gwueuthur ar lun Duw: Jago 3.9. Gan ddeall fod peth gweddillion a darnau o lun, a delw dduw yn aros etto, ie hyd yn oed, yn y dyn gwaethaf: megis rheswm, dalltwriaeth ar cyffelyb; mal y gellir weled wrth hynny, nad yw ein natu­riaeth ni wedi ei lwyr-ddinistrio.

Phila.

Wrth hynny tybied yr ydych chwi fod etto wedi eu gadel ynom ni rai gwreichion, a pheth gweddillion o ragorol lun duw, yr hwn oedd yn ein cread wriaeth ni ar y cyntaf.

Theol.

Felly yr wyfi yn tybied; a hynny a ymddengys yn eglur allan o ddoeth ymma­droddion, a dyscedig ly frau y Poetau gynt, ar Philosophyddion enwog ym mhlith y Cenedloedd. Wrth y rhai megis wrth fath ar hên furddunau amharus y gellir deall mor odidawg oedd celfydd-waith, ac adeilad cread wriaeth dyn ar y cyntaf.

Phila.

A ddichon dyn ryngu bodd i dduw mewn dim oll a wnelo, tra yr arhoso efe tan gyflwr naturiaeth?

Theol.

Na ddichon: Canys hyd oni sym­muder ni i gyflwr gras, pechadurus yw ein [Page 7]gweithredoedd goreu, sef ein gwaith ni yn pregethu, yn rhoddi elusenau, ar cyffelyb. Fel y mae yn scrifennedig. Job 14.4. Pwy a rydd beth glân o beth aflan. A'r Apostol hefyd a ddywed. Y sawl ydynt yn y cnawd ni allant ryngu bodd duw; y sawl ydynt yn y cnawd, hynny yw, Rhuf. 8.8. y sawl ydynt yn aros yn eu llwgr naturiol: a'n Harglwydd Jesu ei hun sy'n dywedyd: Matth. 7. A gesclir grawn-win oddiar ddrain, neu ffigus oddiar yscall? Ei feddwl ef yw hyn, sef na ddichon dynion llwyr-naturiol heb râs duw, ddwyn dim ffrwythau cymmeradwy gan dduw.

Phila.

Tôst iawn, a chaled yw'r chwedl hwn: Attolwg i chwi, hyspyswch hyn etto yn oleuach.

Theol.

Dynion yn eu cyflwr naturiol, heb râs a allant wneuthur llawer o bethau, y rhai ydynt o honynt eu hunain yn dda, eithr pallu y maent hwy yn y moddion y dylid eu gwneuthur, megis y perthynei iddynt; sef nid ydynt yn eu gwneuthur mewn ffydd, mewn cariad, mewn zêl, mewn cydwybod i ddangos vfydd-dod, nac yn llawen chwaith drwy gymmeryd difyrwch yn gwneuthur daioni, ond megis o led-anfodd, a thrwy ymgymmell oddi mewn i wneuthur y gweithredoedd oddiallan. Felly yr offry­mmei Cain, y gweddiei y Phariseaid, y rhoddei Ananias a Saphira elusenau, ac yr offrymei yr Juddewon eu haberthau a'u poeth-offrymmau.

Phila.

A ydyw dynion yn gwir weled yn iawn-graff, ac yn adnabod ynddynt eu hunain y trueni, a'r cyflwr gresynol hwn, tra fyddont yn llwyr ddilyn rhwysc naturi­aeth?

Theol.

Nac ydynt, either y maent wedi eu llwyr-ddallu a'u caledu ynddo, heb chwe­nychu dyfod allan o honaw, ac yn ymhoffi ynddo, ac ni fynnant goelio eu bod mor resynol eu helynt: fel y gallwn weled yn siampl y llywodraethwr, yr hwn pan ar­chodd Crist iddo gadw y gorchymynion, a attebodd: Luke 18.21. Hyn oll a gedwais o'm hieuengtid. Drachefn er bod eglwys Laodicea yn druan, ac yn dlawd, Date. 3.17. yn ddall ac yn noeth; er hynny hi a'i tybiei ei hun yn gyfoethog, a chanddi aml­der o dda, ac nad oedd arni eisieu dim. Oher­wydd hyn tra fyddo dynion yn eu cyflwr naturiol, nid ydynt nac yn gweled eu true­ni, nac yn ymwrando ag ef.

Phila.

A ydych chwi yn tybied fod pawb oll o'r sawl ydynt lwyr-naturiol, tan fell­dith y gyfraith?

Theol.

Ydwyf yn ddiau: Ac nid hyn­ny yn vnig, eithr eu bod hefyd tan war­rogaeth a llywodraeth Satan, er nad ydynt yn gwybod nac yn gweled hynny: nac yn ymwrando a'r peth, nac yn ei ddirnad: Ca­nys pawb oll ar nid ydynt ynghrist sydd tan felldith y gyfraith, a than feddiant y tywy­llwch, ar Cythraul: fel y mae yn amlwg. Ephe. 2.2. Lle y gelwir y Cythraul y ty­wysog [Page 9]yr hwn y mae iddo lywodraeth yn yr awyr; sef yr yspryd sydd yr awr'hon yn gweithio ym mhlant yr anvfudd-dod. Ac mewn man arall y gelwir ef Duw y byd hwn, yr hwn sydd yn dallu llygaid yr holl anffyddloniaid. Drachefn y dywedir, fod pawb wrth naturiaeth yn ei fagl ef, wedi eu dal ganddo, yn gaethion wrth ei ewyllys ef.

Phila.

Nid oes ond rhai a goelia hynny: y rhan fwyaf a ddywedant eu bod yn ym­wrthod a'r Cythraul, ac a rônt ddiolch i dduw am eu bod yn ddiangol oddiwrtho, na wnaeth erioed niwed idddynt.

Theol.

Nid y w'r geiriau dewrion hyn yn gwellau dim ar y matter. Ni ffy 'r Cythraul rhag geiriau, mwy na rhag dwfr bendigaid; eithr aros y mae efe ar dafodau, a geneuau dynion, ie cyfanneddu y mae yn heddychlon ynghalonnau, a meddyliau miloedd, y rhai a ddywedant eu bod yn ym wrthod ag ef, ac yn ddiangol oddiwrtho, fel y mae yn am­lwg gweled wrth eu gweithredoedd cyffre­din, a holl ystod eu buchedd.

Phila.

Yn fy nhyb i, pe bai'r Cythraul yn meddiannu calonnau a chydwybodau dynion, hwy a ddeallent hynny, ac a wy­byddent oddiwrth y peth?

Theol.

Dull y Cythraul yn gweithio y­nghalonnau dynion (ac ynteu yn yspryd an­weledig) sydd mor ystrywgar, a chyfrwys­ddrwg, ac nad yw bossibl i ddynion yn eu cyflwr naturiol, allu ei ddirnad ef; na [Page 10]gwybod oddiwrtho. Canys pa fodd y gwel dyn dall, neu y clyw dyn marw?

Phila.

Hyspyswch hyn etto yn oleuach.

Theol.

Megis y bydd hudol cyfrwys drwy siommedigaeth Satan, yn dallu ac yn twy­llo sy nhwyrau dynion oddiallan, trwy beri iddynt goelio eu bod yn gweled y peth nis gwelant, ac yn clywed y peth nis clywant: felly y mae Diafol yn twyllo, ac megis yn rheibio y synhwyrau oddimewn, sef natu­riol swydd geneddfau yr enaid, nes bod dynion fel rhai a niwlen tros eu llygaid yn tybied eu bod yn amgenach nac ydynt, sef yn gweled y peth nis gwelant, ac yn cly­wed y peth nis clywant. Canys cyfrwystra Satan sydd yn sefyll yn fawr ar hyn o beth, nid amgen, ar fedru rhoi i ni ein briw marwol, ac [...]r hyn, bod yn anwybod i ni pwy a'n briwodd.

Phila.

Nid oes nemmawr a goelia hyn yn lle gwir.

Theol.

Nac oes; oblegid nid oes nem­mawr a gredant yr scrythyrau. Nid oes nemmawr a grêd hyn, o herwydd nid oes nemmawr yn clywed hyn. Ac lle ni bydder yn clywed oddiwrth y peth, nac yn ei ddirnad, anhawdd yw ei gredu. Yr etholedigion yn vnig ai clywant ynddynt eu hunain, ac ydynt yn ymwrando a'r peth, ac am hynny yr etholedigion yn vnig a gredant fod y peth yn wir. Ac am eraill, caeth-weision i'r Cythraul ydynt, Cyflwr [Page 11]gwaeth o lawer na bod yn gaeth ddiym­wared i rwyfo yn llongau y Twrcaid.

Phila.

Pa hyd yr erys dyn yn y gofidus gyflwr naturiol hwn, tan felldith y gyfra­ith, a chaethiwed Satan, a phechod?

Theol.

Hyd onid ail-ganer ef, ac y dyger felly i gyflwr gras, fel y dywed ein Har­glwydd Jesu: Joh. 3.3. Oddiethr ail-geni dyn ni ddichon efe weled teyrnas dduw.

Phila.

Onid oes lawer yn marw, ac yn ymadel a'r byd cyn eu hail geni, a chyn eu dyfod i gyflwr gras?

Theol.

Oes lawer mil-filoedd yn byw ddeugain, a thrugain mlynedd, ac yn y di­wedd yn marw, ac yn mynedd allan o'r byd cyn iddynt wybod yr achos y daethant i'r byd. Felly mae yn scrifennedig: fy mhobl a gysrgollir o eusieu gwybodaeth.

Phila.

Beth sydd i ni iw dybied am y cyfryw rai?

Theol.

Arswydus gennif adrodd y peth yr wyf yn ei dybied am danynt. Oblegid nid wyfi yn medru dirnad pa fodd y di­chon y cyffelyb fod yn gadwedig. Nid wyf yn awr yn yngan am blant bychain, o ba rai diammeu y bydd llawer yn gadwedig drwy rym yr addewid, ar ammod drwy etholedigaeth grâs.

Phila.

Cyffelybus yw wrth hyn eich bod chwi yn tybied na ddichon neb fod yn gad­wedig oddiethr yn vnig y rhai a ail-genir.

[Page 12]
Theol.

Hynny yn siccr yw fy meddwl.

Phila.

Adolwyn, dywedwch i mi pa fath beth yw'r ail-genedliad hwnnw, ar genedigaeth newydd, yr hwn yr ydych yn sôn am dano?

Theol.

Adnewyddiad, ac adgyweiriad ydyw ar lygredig, Beth yw [...]r ailene­digaeth. Rhuf. 12.2. Ephe. 4.23. a methedig gyflwr ein eneidiau: megis y mae yn scrifennedig: Ymnewidiwch gan adnewyddiad eich meddwl. Ac eilchwel; ymadnewyddwch yn yspryd eich meddyliau.

Phila.

Eglurwch y pwngc hwn yn hy­spysach.

Theol.

Megis y mae'r oliwydden wyllt yn cadw ei hên naturiaeth, hid onid impier hi mewn oliwydden ber, eithr wedi hynny, y mae hi yn gyfrannog o naturiaeth newydd: felly ninnau hyd onid impier ni ynghrist, ŷm yn cadw ein hên naturiaeth: eithr wedi ein impio, i'n troir i naturiaeth newydd: 2 Cor. 5.17. fel y mae yn scrifennedig: Od oes neb ynghrist y mae efe yn greadur newydd.

Phila.

Nid wyfi yn deall y peth yr ydych yn ei ddywedyd.

Theol.

Gwybyddwch chwithau hyn, sef megis yn y genedigaeth naturiol, yr ydys yn geni dyn yn hollawl, neu'r holl ddyn: felly yn y ganedigaeth ysprydol yr ydys yn geni yr holl ddyn.

Phila.

Pa fodd y bydd hynny?

Theol.

Pan fyddo naturiol swydd-ge­neddfau [Page 13]yr enaid sef y rheswm a'r deall, yr ewyllys, ar nwydau, ac aelodau y corph hefyd wedi eu sancteiddio, a'u glanhau, a'u hadgyweirio drwy râs hyd oni bônt yn deall. yn ewyllysio, ac yn deisyfu yr hyn sy dda.

Phila.

Oni ddichon dyn ewyllysio, a deisyfu yr hyn sy dda cyn ei ail-geni?

Theol.

Na ddichon, mwy nac y dichon dyn marw ddeisyfu daionus bethau y byd hwn. Canys nid yw ewyllys dyn yn rhŷdd i gydsynnied ar da, hyd oni ryddhaer ef drwy râs. A pha ddyn bynnag nis ail-ganed etto, ni ddichon hwnnw amgen na phechu; a hynny yn ddigymmell. Oblegid y mae ewyllys dyn yn rhŷdd oddiwrth gymmell, (am ei fod oi waith ei hun yn pechu) eithr nid yw efe yn rhŷdd oddiwrth gaethiwed i bechod.

Phila.

Dywedyd hyn yr ydych, sef na ddichon dyn amgen na phechu, hyd oni weithier y gwaith newydd ynddo.

Theol.

Je hynny yw fy meddwl. Oble­gid dyn ai gnawd, vn ydynt hyd oni aner ef drachefn. Cyttuno y maent ai gilydd, fel gŵr a gwraig yn cyttal, cydsynnio a wna'r naill ar llall ym mhob drygioni: byw a marw ynghyd: canys pan ddarfyddo am y cnawd, derfydd am y dyn hefyd.

Phila.

Onid yw 'r ail-genedigaeth hon yn newidio, neu yn hyttrach, yn dinistrio naturiaeth ddynol?

Theol.

Nac ydyw, nac yn diddymmu, nac yn newidio sylwedd y corph na'r e­naid: eu diwygio yn vnig y mae'r ail-ene­digaeth, a'u cyweirio drwy dynnu ymma­ith y llygredigaeth sydd ynddynt.

Phila.

A ydys yn glanhau, ac yn carthu ymmaith drwy ras, ein llwgr naturiol ni mor llwyr, ac nad oes dim o honaw yn a­ros mwyach ynom, ond ein bod o hynny allan wedi ein cwbl-ryddhau oddiwrtho, ac yn lân o honaw?

Theol.

Nac ydys. Oblegid y mae gwe­ddillion ein hên naturiaeth (y rhai a elwir yn y scrythyrau yr hen ddyn) yn glynu wrthym, ac yn aros ynom, ie hyd ddydd ein marwolaeth: megis y profir yn eglur yn y deg adnod ola [...] o'r seithfed at y Rhu­feiniaid.

Phila.

Wrth hynny dywedyd yr ydych chwi fod y dyn newydd ymma, neu ne­wyddwaith grâs, ac ail-enedigaeth yn an­orphen, ac yn amherffaith yn y byd ymma.

Theol.

Je, hynny yr wyf yn ei ddywe­dyd. Oherwydd niddichon y creadur ne­wydd, neu newydd-waith grâs gael byth ei gwbl-ffurfio, ai lwyr berffeithio yn y bywyd hwn, eithr y mae ar waith bob amser, ac er hynny yn anorphen: ond megis yn y byd ymma y mae ein ffydd ni, a'n gwybodaeth yn amherffaith, ac a di­ffig ynddynt: felly y mae ein adenediga­eth, [Page 15]a'n sancteiddiad-hefyd yn amherff­aith.

Phila.

Chwi a ddywedasoch or blaen fod yr holl ddyn yn ail-geni, neu yn geni o new­ydd; yr hwn ymmadrodd sydd yn arwy­ddocau fod newydd waith grâs mewn dyn yn gyflawn ddigoll, ac yn berffaith-gwbl.

Theol.

Cam-synnied yr ydych; oblegid er bod y genedigaeth newydd yn hollawl, ac yn llwyr-gwbl, am a berthyn ir holl ddyn, etto nid yw yn ddiddiffig, yn ber­ffaith, yn bur, yn ddigymmysc, ac yn ddi­lwgr: Canys scrifenndig yw; Y Cnawd a chwennych yn erbyn yr yspryd, ar yspryd yn erbyn y-cnawd: A'r Apostol hefyd sydd yn gweddio ar gael or Thessaloniaid eu sancteiddio yn gwbl oll yn yr yspryd, ar enaid, a'r corph.

Phila.

Y mae y pwngc hwn yn syrn dy [...] ­wyll, yspyswch ef attolwg, yn eglurach.

Theol.

Hyn sy raid i chwi ei ysty ried, nid amgen, fod y ddau waith sef y newydd a'r hen, y cnawd a'r yspryd, grâs a llygredi­gaeth wedi eu cyd-gymmyscu a'u gilydd drwy holl nerthoedd, a synhwyrau enaid, a chorph yn y cyfryw fodd, hyd onid yw y naill yn ymdrech yn oestadol yn e [...]byn y llall.

Phila.

Pa fodd, adolwyn, y deellwch chwi y cyfryw gydgymmysc o râs, a llygrediga­eth yn yr enaid: Ai meddwl yr ydych chwi fod gras wedi ei gyfleu, a'i osod yn y [Page 16]nail ran i'r enaid, a bod llygredigaeth yn y rhan arall, âu bod ill dau ar wahan oddi­wrth eu gilydd o ran lle?

Theol.

Nage: nid hynny yw fy meddwl, eithr hyn, sef bod y ddau hyn wedi eu cys­sylltu ai gilydd, ai cymmyscu ynghyd (fel y dywedais) drwy'r holl ddyn. Canys y meddwl, neu'r deall nid yw yn y naill ran yn gnawd, ac yn y rhan arall yn yspryd; Eithr y deall sydd ei gyd-oll yn gnawd, ac ei gyd oll trwyddo yn yspryd: peth or naill, a pheth o'r llall yn gymmyscedig ai gilydd. Ar vn peth sydd iw ddywedyd am yr ewy­llys, a'r nwydau.

Phila.

Attolwg, hyspyswch hyn yn eglu­rach.

Theol.

Megis y bydd yr awyr ary cyfdd­ydd, neu yn y Cyfnos, nid yn llwyr oleu, nac yn llwyr dywyll, megis ar hanner dydd, neu ar hanner nos: ac nid yw chwaith yn y naill fan yn dywyll, ac mewn man arall yn oleu; eithryr awyr sydd trosti oll yn Llwyd­oleu, a llwyd-ty­wyll. lled-oleu, ac yn lled-tywyll, goleuni a thywyllwch yn ymgymmysc au gilydd yn gyflewyrch trosti oll: Neu megis mewn llestrod o ddwfr claiar, nid yw'r dwfr nac oer yn vnig, na brŵd yn vnig, ond hoiwdwymyn drwyddo oll, brŵd ac oer wedi ymgym­mysc a'u gilydd ym mhob rhan or dwfr: felly y mae cnawd ac yspryd wedi ymgym­mysc au gilydd mewn enaid dyn. Ac dyna'r [Page 17]achos sy'n peri i'r ddau hyn fod mor an­ghyttun ai gilydd, yn ymryson beunydd.

Phila.

Diau fod yr athrawiaeth hon yn­ghylch yr adenedigaeth yn ddirgelwch mawr tros ben.

Theol.

Je yn wir, dirgelwch y dirgelion ydyw, y cyfryw ac nas gall doethion y byd hwn ei gyrhaeddyd ai ddirnad.

Phila.

Rhai a dybiant fod mwyneidd­dra, tiriondeb, medrusrwydd, naturioldeb, a chyweithasrwydd yn adenedigaeth: ac nad rhaid ammeu na bydd dynion boneddi­gaidd, a llednais yn gadwedig.

Theol.

Y sawl a dybiant hynny a gam­dybiant. Oblegid nid yw angenrhaid yn gofyn bod y rhinweddau hyn yn ddiball yn y rhai a fyddant cadwedig, eithr hwy a geir yn fynych mewn dynion llwyr afreol-gar ac anghrefyddol. Er hynny ein rhan ni yw mawrhau y cyfryw geneddfau rhinweddol, ar sawl y ceffir hwynt ynddynt.

Phila.

Beth a ddywedwch chwi am ddysc, synwyr, a Calli­neb. chyfrwysdra? onid yw y pethau hyn o sylwedd gwir grefydd ac yn argoelion hynod o'r adenedigaeth?

Theol.

Nac ydynt ddim. Oblegid cy­neddfau cyffredin ydynt, ac a geir yn y rhai mwyaf eu drygioni, megis mewn Pa­pistiaid, Paganiaid, Poetau, a Philosophy­ddion: ac etto nyni a ddylem berchi, a mawrhau gwŷr dyscedig, doethion, er na [Page 18]byddo newydd-waith yr adenedigaeth we­di ei weithio etto ynddynt. Canys oddi vchod y mae hwnnw yn dyfod oddiwrth dduw yn vnig.

Phila.

Y cyffredin bobl a wna gyfrif mawr o ddysc, a challineb: Canys hwy a ddywedant fod y gŵr ar gŵr yn ddyscedig ac yn ddoeth, ac yn gwybod yr Scry­thyrau yn gystal ar gorau, ac etto nid yw efe yn gwneuthur fel hyn, ac fel hyn.

Theol.

Un peth yw gwybod histori, a geiriau yr Scrythyrau, a pheth arall yw clywed eu grym, au nerth hwynt yn gwei­thio yn y galon: yr hwn beth nid oes dim ai cynnyrfa ynom, ond yr yspryd sy'n sanc­teiddio, yr hwn ni ddichon neb o ddoethi­on y byd hwn ei dderbyn. Joan. 14.17.

Phila.

Y mae llawer yn tybied hyn, sef os bydd dŷn yn medru adnabod y gwiri­onedd, ac yn glynu ynddo, drwy na byddo efe na Phapist na Gau­gredadyn. Heretic, eithr yn byw yn ônest, ac yn weddaidd, na ddichon dig­wyddo amgenach na byddo hwnnw cad­wedig.

Theol.

Nid yw hynny yn canlyn: oble­gid y mae llawer yn cyrhaeddyd hyd y fan honno, ac etto nid oes ganddynt y cyn­nwrf hwnnw oddifewn.

Phila.

Peth rhyfedd yw hynny. Canys llawer a ddywed, trwy na byddont na [Page 19]phutteinwyr, na lladron, nac yn ymroi i'r cyfryw feiau anafus, fod eu gobaith y byddant cadwedig.

Theol.

Cyfeiliorni y maent, am na wy­ddant yr Scrythyrau: Canys y mae llawer mîl o bobl mewn perigl o golli eu eneidiau yn dragwyddol, ac etto yn dddiangol, ac yn ddichlin-gwbl oddi­wrth y cyfryw feiau ffiaidd, ac anafus. Je llawer, meddaf, y rhai â gymmerir yn wŷr ônest da, yn trîn y byd yn vnion, ac yn dda, yn gymmydogion da, ac yn ddi­nasyddion da.

Asune.

Attolwg Syr, rhoddwch i min­nau gennad: Mi â glywais eich holl ymadro­ddion hyd yma; ac yr wyf yn tybied yn rhesym­mol, ac yn daran dda o honynt, eithr ni allaf ymattal yn hwy na hyn, Fynghydwybod sy'n fynghymmell i lefaru. Ac i'm tyb i, yr ydych chwi yn myned yn rhy-bell, ac y tu hwnt i'ch dysceidiaeth yn hyn o beth, sef lle yr ydych yn condemnio cymydogion da, a dinasy­ddion da. Dywedyd yr ydych fod llawer or cyffelyb mewn perigl o golli eu eneidiau: Ei­thr ni choeliaf fi hynny byth tra fyddo chwy­thad ynof: Canys os y cyfryw ddynion ni byddant cadwedig, ni fedrafi wybod pwy a fydd cadwedig.

Theol.

Ond y mae yn rhaid i chwi ddyscu o'r Scrythyrau, na thyccia gonestrwydd by­dol, a chyfiawnder oddiallan i ddwyn dyn [Page 20]i fywyd tragwyddol, heb wir wybodaeth o dduw, ac athrylith dduwiol oddimewn: Megis y dywed ein Jachawdwr Christ: Oni bydd eich cyfiawnder chwi yn helaethach na chyfiawnder yr Scrifennyddion ar Phari­seaid, ni ellwch chwi fyned i mewn i deyr­nas nef. Hefyd pan bregethodd St Paul yn Ecrea, llawer o wŷr, a gwragedd ônest a gredasant, sef rhai ônest yn y golwg, ac yn vnig oddiallan yn ônest. Canys ni al­lent etto fod yn wir ônest oddi mewn cyn iddynt gredu. Wrth hyn chwi a welwch nad yw y gonestrwydd bydol hwn oddia­llan yn vnig yn tyccio i fywyd tragwyddol, heb adenedigaeth yr yspryd oddimewn. Ac o hyn y canlyn fod eich holl wŷr ônest bydol chwi mewn perigl o golli eu eneidiau yn dragwyddol.

Asune.

Pa reswm a fedrwch chwi ei roddi trosoch i brofi y bydd y cyfryw wyr onest yn golledig?

Theol.

O herwydd bod llawer o'r cyffe­lyb, heb ganddynt ddim gwybodaeth o dduw, nac o'i air. Je a pheth sydd waeth, y mae llawer o honynt yn dirmygu gair duw, ac yn casau pawb a ewyllysient ym­gais ag ef yn wir grefyddol. Ni wnant mwy cyfrif o bregeth-wyr, nac o wâg­fiarad-wyr: ni phrisiant o bregethau mwy nac o hên-chwedlau: o'r Scrythyrau mwy nac o'u hên escidiau. A pha obaith a ddi­chon [Page 21]fod, y bydd y rhai hyn cadwedig? Pa fodd y diangwn os esceuluswn iechyd­wriaeth gymmaint. Heb. 2.3.

Asun.

Rhy-bell yr ydych chwi yn myned, a rhydost yw eich barn am danynt.

Theol.

Nid dim, na rhy bell, na rhy­dost: Oblegid nyni a welwn wrth brawf, a chydnabyddiaeth, nad ydynt yn rhoddi eu brŷd, a'u serch, a'u meddwl ar ddim amgen ddydd a nôs, ond ar y bŷd, y bŷd; ar eu tiroedd, a'u scrifennadau, eu cyllid, au hardreth, eu gwartheg, au defaid; a pha fodd y gallant ymgyfoethogi. Am y pethau hyn a'r cyffelyb y mae eu holl feddy­liau, geiriau, a'u gweithredoedd: helynt eu buchedd, a'u ymddygiad a ddengys yn amlwg mai or ddaiar y maent, ac am y dda­iar, y llefarant, ac nad oes dim ynddynt ond daiar, daiar. Ac am bregethau, nid gwaeth ganddynt er lleied o honynt a glywant. Ac am yr Scrythyrau, ni wnânt fawr gyfrif o honynt. Nid ydynt yn e [...] darllain, nac yn bwrw y talant dreulio'r amser wrthynt. Nid oes dim mor wrth­wynebus ganddynt. Dewisent bob rhyw oferwaith, yn hyttrach na gwrando, neu ddarllain gair duw, neu ymgommio o'r Scrythyrau. Ac fel y dywed y Prophwyd: Dirmygus ganddynt air yr Arglwydd, nid oes ganddynt ewyllys iddo, Jer. 6.10.

Phila.

Rhyfedd yw gennifi, fod y cyfryw [Page 22]ddynion yn byw mor ônest tu ag at y byd.

Theol.

Nid oes mor rhyfeddod o hynny. Oblegid y mae llawer o ddynion drwg, ai calonnau yn fregus, ac yn afiach oddi­mewn, a fedrant ymgadw, ac ymattal rhag gwneuthur pechodau anafus, oher­wydd rhyw achosion cnawdol: rhai rhag angoel, anair, ac anghymeriad; rhai rhag cospedigaeth, a dial; eithr nid oes neb o honynt yn ymgadw felly o wir gari­ad ar dduw, neu o awydd-fryd calon er dangos vfydd-dod iw air. Canys diammeu ydyw, fod yn y drygionus yspryd i beri ymattal, ond nid i adnewyddu.

Phila.

Cyffelybus yw wrth eich geiriau chwi, fod rhai o'r sawl ydynt etto heb eu hail-geni, mewn rhyw bethau yn rhagori ar blant duw.

Theol.

Digong wir yw hynny fod rhai o honynt yn rhagori, ac yn myned tu hwnt i'r etholedigion mewn doniau cyffredin oddiallan, ac yn eu ymddygiad yngolwg y byd.

Phila.

Dywedwch i mi, attolwg, ym mhâ ddoniau?

Theol.

Mewn dysc, synwyr, vniondeb, cymmedroldeb, callineb, ammynedd, haelioni, mwyneidd-dra, caredigrwydd, boneddigeiddrwydd, tiriondeb, a'r cyffe­lyb.

Phila.

My fi â dybygwn na byddei bos­sibl hynny.

Theol.

Beth bynnag a dybygych chwi, etto hynny sy'n digwyddo. Canys rhai o anwyl blant Duw (yn y rhai y mae y dir­gelwaith oddifewn sef yr adenedigaeth wedi ei weithio yn bur, ac yn ddilys) a drallodir, ac a gythryblir gan naturiaeth afrywiog, ac anhydyn; ac a rwystrir gan ryw bechod raerddrwg: sef rhai gan ddig­llonedd, a rhai gan falchder, rhai gan gybydd-dra, ac eraill gan drachwant; rhai gan y naill beth, ac eraill gan beth a­rall. Ar holl feiau hyn wrth eu bod yn tarddu allan ynddynt hwy, ydynt mor an­hardd arnynt, ac ar eu crefydd, ac na all­ant oblegid eu gwendid ddiscleirio ge [...] bron dynion megis y dylent, ac yr ewy­llysient. Ac dymma'r peth sy'n briwo, yn dolurio, ac yn gofidio eu calonnau, ac yn tynnu oddiwrthynt lawer deigr hallt, a llawer gweddi ddirfing. Ac er hyn nid ydynt yn gallu llwyr orchfygu y beiau hyn; eithr hwy a adewir ynddynt megis swmbwl yn y cnawd iw darostwng.

Phila.

Etto cariad a ddylai guddio lliaws o'r cyfryw wendid ym mhlant duw.

Theol.

Fe ddylei hynny: eithr mae diff­ig mawr o gariad yn y rhai goreu: Ar gwaethaf wrth ganfod y gwendid hwn yn y duwiol, a ruthrant arnynt yn fafn-rhwth gan eu condemnio, a barnu eu ca­lonnau: gan haeru mai rhagrith-wyr, [Page 24]a thwyll-wyr ydynt; ac nad oes neb wa­eth na hwynt.

Phila.

Onid ydych chwi yn tybied fod rhai ffuantwyr yn rhagreithio ym mhlîth y proffesswyr goreu?

Theol.

Y mae heddyw, ac e fu erioed ragreith-wyr yn yr eglwys; eithr ymogel­wn farnu, a chondemnio pawb am feiau rhai. Canys caled tros ben, a thôst fyddei euog-farnu Crist, ai vn Apostol ar ddêg o achos drygioni vn Judas: neu'r brif-egl­wys oll am fai Ananias a Saphira.

Phila.

Gwir yw hynny, ond etto gobei­thio eich bod yn coelio, fod rhai o'r sawl a ail-ganed, o herwydd rhinweddau can­moladwy ac ymddygiad gweddol oddia­llan iw cystadlu ag eraill o'r rhai gorau.

Theol.

Diammeu fod llawer felly: Oble­gid hwynt-hwy a chanddynt yspryd duw iw cyfarwyddo, ai râs ef iw cynnal, a rodi­ant yn gyfiawn, ac yn ddifeius o flaen dynion.

Phila.

Eithr y mae vn cwlwm etto heb ei ddattod, sef rhyfedd yw, i'm tŷb i, fod dynion mor weddol yn eu ymddygiad, ac mor ddiandlawd eu rhinweddau ce­neddfol, ac er hynny heb fod yn gadwedig: gresyndod mawr tros ben fod y cyfryw ddynion yn golledig.

Theol.

Felly yn ddiau, y rybiem ni. Eithr duw sydd vnig ddoeth, ac y mae [Page 25]yn rhaid i chwi ystyried hyn: megis y mae ym mhlant duw beth gwendid y rhai a gospa efe a cheryddon bydol, ac etto efe a wobrwya eu ffydd, eu cariad, eu ewyllys­gar wasanaeth, a'u-vfydd-dod, drwy roddi iddynt fywyd tragwyddol: felly yn y dry­gionus, a'r anghristianogaidd, y mae rhyw bethau da, y rhai a wobrwya duw a ben­dithion amserol, ac er hynny am eu hangh-rediniaeth, a'u caledrwydd calon ai cospa yn dragwyddol.

Phila.

Hyd yma i'm bodlonwyd yn rhe­symmol am athrawiaeth yr adenedigaeth, a'r amryw amryfusedd, ar twyll sydd yn llechu ynddo ac yn codi o honaw. Bellach, ewch rhagoch, adolwyn, ac yn gyntaf peth mynegwch i mi, drwy ba foddion, a chyfryngau y gweithir yr adenedigaeth mewn dyn.

Theol.

Drwy bregethiad y gair megis môdd amlwg oddiallan, Jac. 1.18. Rhuf. 10.17. Joan. 3.6. a dirgel-waith yr yspryd megis modd a chyfrwng oddi mewn.

Phila.

Llawer sy'n gwrando ar brege­thu'r gair, ac heb fod ddim gwell erddo, ond yn hytrach yn waeth: beth, attolwg yw'r achos o hynny? Act. 19.9.

Theol.

Eu hanghrediniaeth, au calon­galedwch, oherwydd bod duw yn ei ddigo­faint, yn eu gadael arnynt eu hunain, ac yn attal ei yspryd oddiwrthynt, heb yr hwn [Page 26]nid yw pregethu ond ofer. Canys oddi­eithr bod yr yspryd yn canlyn y gair i'n calonnau, ni allwn ni gael na llawenydd oddiwrtho, na blâs, na chyssur ynddo, Eph. 4.18. Act. 16.14.

Phila.

Oni ddichon dyn gael ei ail-geni heb y gair a'r yspryd?

Theol.

Na ddichon: oblegid y rhai hyn ydynt y moddion ar cyfryngau, drwy ba rai y mae duw yn gweithio'r peth.

Antil.

Paham na ddichon dyn, heb gly­wed dim pregethu, fod ganddo gystal ffydd tu ag dduw, a'r hwn a glywo holl brege­thau'r byd?

Theol.

Paham na ddichon dýn ni fwyt­tao ddim bwyd, fod mor bwyntys ac mor olygus a'r hwn fy'n bwytta holl fwydydd y byd? Canys onid pregethiad y gair yw ymborth ein eneidiau? 1 Pet. 2.2. Jer. 15.16.

Antil

Nid wyfi yn gweled fod yn dda gymmaint o wrando ar bregethau, a dar­llain yr scrythyrau, oni bai allu o ddynion eu cadw yn well.

Theol.

Gwrandawyr ffyddlon, ac ônest, a wrandawant yn ddiwyd, er mwyn gallu yn haws gadw, a gwneuthur. Canys ni ddi­chon dyn wneuthur ewyllys duw hyd onis gwypo, na'i wybod heb wrando a darllain.

Antil.

Yt wyfi yn rhyfeddu pa lesâd y mae dynion yn ei gael drwy redegen i brege­thau, a llygad-rythu cymmaint ar yr Scry­thyrau; [Page 27]neu pa faint ydynt hwy well nac eraill? nid oes neb lawnach na hwynt hwy o genfigen a malis. Hwy a wnânt anghymwynas, ac atcasrwydd iw cymmy­dog cyn gynted a'r cyntaf. Ac am hynny i'm tyb i, nid ydynt ond bagad o ragreith­wŷr, a ffyliaid crefyddol.

Theol.

Barnu yr ydych chwi yn anghari­adol. Bychan iawn y gwyddoch chwi pa gynnwrf sydd ynddynt hwy, neu pa lesâd y mae pobl dduw yn ei gael o wrando ei air ef. Oblegid dirgel tros ben, a llwyr guddi­edig oddiwrth y bŷd yw gweithrediad ys­pryd duw ynghalon nau yr etholedigion; fel y mae yn Scrifennedig. Y mae y gwynt yn chwythu lle y mynno, a thi a glywi ei swn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i b [...] le yr â: felly y mae pawb ar a aned o'r ys­pryd. Drachefn, nid edwyn neb bethau duw, ond yspryd duw, Joan. 3.8. 1. Cor. 2.11.

Antil.

Pa raid y fâth drafferth a hynny? O dywed dyn ei Bader, a'i Gredo, a'i ddeg gorch­ymmyn, a bod heb ddy wedyd drŵg am neb, na gwneuthur niwed i neb, a gwneuthur i er [...]ill fel yr ewyllysiei wneuthur iddo ynteu: a bod ganddo ffydd dda tu ag at dduw, a bod o grefydd dda, diddadl yw y bydd hwnnw [...]adwedig heb y rhedegen ymma i bregeth­au, ar dadwrdd ynfyd hwn am yr Scrythyrau.

Theol.

Yr awr hon y tywalltasoch allan eich meddwl o wrantu, gan dybied lefaru o honoch [Page 28]yn synhwyrol. Eithr, sywaeth datcuddio yr ydch eich dygn anwyboda­eth. Canys meddwl yr ydych, y dichon dyn fod yn gadwedig heb y gair; yn yr hyn beth mawr yw eich camsynnied.

Antil.

Nid gwaeth, dywedwch chwi a fynnoch, a holl bregethwyr y byd gŷd â chwi, tra y gwasanaethwyf fi dduw, ac y dywedwyf fyngweddi yn ddyfal nôs a borau: a bod gennif ffydd dda yn nuw, ac y gosodwf fy holl ymddiried ynddo; ac y dygwyf galon dda, a meddwl da tu ag at dduw, er nad wyf ddyscedig, etto gobei­thio y gwasanetha hynny tu ag at iechyd­wriaeth fy enaid. Canys rhaid yw i'r duw am gwnaeth fynghadw. Nid chwi a'm ceidw, o'ch holl ddysc, a'ch Scry­thyrau.

Theol.

Eich cyffelybu a ellir yn gym­mwys iddyn clâf, ai ymennydd wedi an­hwylio, a myned yn an-wastad gan ormod gwrês, ac o hynny yn amleferydd, ac yn gwâg-siarad, heb wybod beth a ddywaid. Canys yr yspryd glân a ddywaid: Dihar. 28.9. Dihar. 13.13. Y neb a dry ei glûst ymmaith rhag gwrand [...]'r gyfraith ffiaidd fydd ei weddi hefyd. Drachefn; Yr hwn a ddirmygo'r gair, a ddifethir o'i blegid. Am hynny tra y dirmygoch chwi air duw, ac y trôch ymmaith eich clûst rhag gwran­do ei efengyl ef pan y pregether, eich gwe­ddiau oll, a'ch dychymmyg-waith eich [Page 29]hun ar wasanaethu duw; eich meddyliau, a'ch amcanion da fyddant ofer a diffrwyth a ffiaidd, a chasedig yngolwg duw. Me­gis y mae yn scrifennedig: Esay. 1.14.15. Eich lleuadau newydd, a'ch gwyliau gosodedig a gasaodd fy enaid; y maent yn faich arnaf, blinais yn ei dwyn. A phan estynnoch eich dwy-law, cuddiaf fy llygaid rhagoch: befyd pan weddi­ [...]ch lawer ni wrandawaf; eich dwylo ydynt yn llawn gwaed: Ac eilchwel y dywaid yr vn Prophwyd: Yr hwn a laddo Ŷch sydd fel yr hwn a laddo wr: Yr hwn a abertho oen sydd fel yr hwn a dorfynyglo gî. Esay. 86.3. Yr hwn a offrym­mo fwyd offrwm, sydd fel yr hwn a offrym­mo waed môch: Yr hwn a arogl-dartha thus, sydd fel pe bendigei eulyn. Ymma y gwel­wch fod yr Arglwydd yn dywedyd wr­thych ei feddwl am y pethau hyn: Nid amgen, bod eich gweddiau oll, a'ch gwa­sanaeth, a'ch meddwl da yn ffiaidd ganddo ef, tra y rhodioch mewn anwybodaeth, halogrwydd, anvfydd-dod, a dirmig ar yr efengyl. Canys yn y geiriau diweddaf or blaen y dywaid: Ar hwn yr edrychaf, sef ar y truan, gostyngedig o yspryd, a'r hwn sydd yn crynu wrth fy ngair, Esay. 66.2.

Asune.

Cyfaddef yr wyf, am rai segur heb nemmawr ganddynt iw wneuthur, nad oes ormod niwed er gwrando o honynt ymbell bregeth; ac weithiau darllain yr Scrythyrau: Eithr am eraill, ni chawn mor cnnyd: Y mae [Page 30]yn rhaid i ni ddilyn ein gorchwyl: ni allwn ni mor byw wrth yr Scrythyrau. Nid dynion diddysc sydd i drîn y rheini. Rhy ddyfnion ydynt i ni, ni bydd i ni a wnelom a hwynt. I bregethwyr, ac i eglwyswyr y maent yn per­thyn.

Theol.

Christ a ddywaid: Joan. 10.27. Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais, ac yr wyf finnau yn rhoddi iddynt hwy fywyd tragwyddol. Os chwi a wrthodwch wrando llais Christ, nid ydych o'i ddefaid ef, ac ni ellwch gael by­wyd tragwyddol. Y mae yr hwn sydd o dduw yn gwrando geiriau duw, John 8.47. am hynny nid ydych chwi yn gwrando, am nad ydych o dduw. St Paul yn scrifennu at bob mâth ar ddynion, cyfoethog, a thlawd, vchel ac issel, meibion a merched, hên ac ieua­ingc, a'i cynghora i dderbyn gair Crist i breswylio ynddynt yn helaeth ym mhôb doe­thineb; Col. 3.16. Chwi a welwch wrth hyn y myn­nai yr Apostol i bob mâth ar ddynion ac sydd ganddynt eneidiau iw cadw, fod yn gyd nabyddus ar Scrythyrau. Ac am hyn­ny chwi a ellwch yn gystal ddywedyd, na bydd i chwi a wneloch a duw, ac a Christ, ac a bywyd tragwyddol: a dywedyd na bydd i chwi a wneloch a'r Scrythyrau.

Asune.

Myfi ni fedraf mor darllain, ac am hynny nid wyfi yn gwybod beth a ddy­waid Christ, neu St Paul: Ond hyn a wnn i yn dda, mai gwr da yw duw (Gogoniant [Page 31]iddo) a thrugarog tros ben, a bod yn rhaid i ni fod yn gadwedig drwy ein gweddiau da, a'n gwasanaeth da i dduw.

Theol.

Ynfyd yr ydych chwi yn siarad, ac anwybodus ym mhôb peth a ddywed­wch: heb gennych ddim rheswm iw roddi trosoch am ddim ar a ddywedwch, ond eich tŷb, a'ch amcan eich hûn; ac er hyn­ny chwi a goeliwch eich tŷb eich hûn of­faen yr holl bregth-wyr, ac yn erbyn beth bynnag a aller ei adrodd allan o air duw. Eithr, adolwyn, rhoddwch i mi gennad tros ychydig. Pe breuddwydiei ddyn ei fod yn frenin; ar boreu pan ddeffroe, coe­lio ei fod felly, ond iawn, a chymmwys oedd chwerthin am ei ben, ac ynteu heb ganddo ddim iw roddi trosto? yr vn ffun­yd am y rhai a goeliant eu breuddwydion, au dychymmygion eu hunain ynghylch eu iechydwriaeth, ond iawn oedd chwerthin am eu pennau? Eithr gwir yw'r hyn a ddywaid Salomon: Diha. 14.15. Yr ynfyd a goelia bob peth. Sef fod coppr yn aur, a chown trysen yn angel. Ac yn ddiau diryfedd yw am yr hwn ni choelia dduw, i dduw ei roddi ynteu i fynu i goelio y cythraul, a'i freu­ddwydion, a'i ddychymmygion.

Asune.

Attolwg i'wch, dyscwch chwi fi yn well.

Theol.

Digon rhaid oeddi chwi gael eich dys­cu yn well. Canys y mae'r cythraul drwy [Page 32]ei gyfrwysdra wedi hudo eich enaid a bwrw niwlen tros eich llygaid, drwy beri i chwi goelio fod y frân yn wen, sef fod eich cyflwr chwi ger bron duw yn dda, ac yntef mewn gwirionedd yn resynol, ac yn dosturus.

Asune.

Nagê yr wyfi yn ymwrthod ar cythraul o wir ewyllys fynghalon: Eithr mi a ddamunaf arnoch ddangos i mi; pa fodd y digwyddodd fy nhwyllo mor swrth a hynny.

Theol.

Dymma'r modd y twyllwyd chwi, a llawer eraill gyd a chwi: sef am eich hod yn eich mesur eich hun wrthych eich hun, ac wrth eraill. Yr hwn fesur sydd anghy­wir. Canys ymddangos yr ydych yn vni­on tra y mesurer chwi wrthych eich hun, ac wrth eraill: eithr gosoder chwi wrth wialen fesur, a rheol gair duw, ac yno y ceir eich gweled yn ŵyrgam ddybryd, 2 Cor. 10.12.

Asune.

Beth gyd â hyn sy'n fy nhwyllo?

Theol.

Peth arall yn eich twyllo yw eich calon eich hun. Canys nid ydych chwi yn dirnad eich calon eich hun, eithr ei chamgymmeryd hi: Am fod y galon yn fwy ei thwyll na dim. Jer. 17.9. Angenrhaid i hwn­nw fod yn ddyn doeth a adnabyddo ei galon ei hun: ai fod wedi derbyn goleuni mawr o wybodaeth: Eithr dall ydych chwi, ac ni wyddoch beth sydd ynoch, ond tybied ar eich amcan y byddwch cadwedig: a [Page 33]gobeithio ni wyddoch pa beth, am y by­wyd tragwyddol. Ac oblegit bod dalli­neb, ac anwybodaeth yn eich hyfhau, chwi a fynnech ymddangos yn hydervs ar eiriau, a dywedyd, mai gresyn oedd gael o ho­naw ef fyw, a amheuo ddim am ei iechyd­wriaeth. A diau fod eich ymadrodd yn ôl eich tŷb a'ch gwybodaeth. Ac am a wyddoch chwi or gwrthwneb, chwi a dy­bygych hynny, er nad yw'r peth felly me­wn gwirionedd; Canys eich twyllo chwi yr ydys a llewyrch anghywir: A diau, eich bod yn clywed weithiau, bigiadau, a gwe­wyr, a dychryndod, a dirgel gyhuddiadau cydwybod yn eich blino oddimewn, er hy­fed ydych ar eich geiriau oddi allan.

Asune.

Ar fyngonestrwydd, ni chlywais i gymmaint a hyn erioed or blaen.

Theol.

Yr achos yw am eich bod yn cau eich llygaid, a'ch clustiau yn erbyn duw, ac yn erbyn pob daioni. Cyffelyb ydych i'r neidr fyddar yr hon ni wrendu ar lais y rhinwyr, na'r cyfarwydd swynwyr swynion, Psal. 58.4.

Asune.

Os felly y mae'r peth, mi a chwe­nychwn yr awr'hon ddyscu, o chlywch chwi arnoch ddangos i mi. Ac megis y dangosa­soch i mi, y modd y gweithir yr adenediga­eth: felly yspyswch hefyd arwyddion ansiom­medig, ac argoelion diamheus wrth y rhai y gallo pawb wybod yn hy-wir, eu bod wedi [Page 34]eu sancteiddio, a'i hailgeni, ac y byddant cadwedig.

Theol.

Y mae ŵyth o arwyddion, wyth o arwyddi­on ansio­mmedig o iechy­dwriaeth. 1 Joan. 3.14. Psal. 1.2. Zech. 12.10. Psal. 145.18. 1 Cor. 10.31. Luc. 9.23. a no­dau didwyll yn dangos ac yn pennu y dyn a ailganer, Y rhai a ellir yn gymmwys [...]eu cyfenwi ŵyth arwydd iechydwriaeth. A'r rhai hyn ydynt: sef

  • 1. Cariad tu ag at blant Duw.
  • 2. Digrifwch yngair Duw.
  • 3. Aml a difrifol weddio.
  • 4. Awydd-fryd i osod allan ogoniant Duw.
  • 5. Ein gwadu ein hunain.
  • 6. Dioddef-gar ddwyn y groes er budd, a chyssur, Heb. 12.6, 7, 8.
  • 7. Ffyddlondeb yn ein galwedigaeth.
  • 8. Ymarweddiad ônest, cyfiawn, a chydwybodus tu ag at bob dyn yn ein gweithredoedd, a'n buchedd, Tit. 2.12.
Phila.

Gan ddangos o honoch i ni ar­wyddion hyspys o iechydwriaeth, dan­goswch i ni hefyd arwyddion damnedi­gaeth.

Theol.

Y gwrthwyneb i'r rhai vchod, ydynt arwyddion amlwg oddamnediga­eth: nid amgenach na'r rhai hyn, sef

  • 1. Angharu plant Duw.
  • 2. Diflasu ar air Duw.
  • 3. Gweddio yn oer, ac yn anfynych.
  • 4. Difraŵch yngwasanaeth Duw.
  • 5. Hyder arnom ein hunain.
  • [Page 35]6. Annioddefgarwch tan y groes.
  • 7. Anffyddlondeb yn ein galwedigaeth.
  • 8. Ymarweddiad an'ônest, ac ang­hydwybodus.
Phila.

Diau, os halogir dyn ar beiau hyn, arwyddion sceler ydynt fod y dyn hwnnw ai enaid yn glwyfus, ac mewn cy­flwr enbydus: eithr onid oes etto arwy­ddion eglurach, a hynottach o ddamnedi­gaeth na'r rhai hyn?

Theol.

Oes yn wir: y mae naw arwydd eglur, ac hyspys o golledigaeth dyn?

Phila.

Damuno cael clywed y rheini.

Theol.
  • 1. Balchder.
  • 2. Putteindra.
  • 3. Cybydd-dod.
  • 4. Dirmig ar yr Efengyl.
  • 5. Tyngu.
  • 6. Celwydd.
  • 7. Meddwdod.
  • 8. Seguryd.
  • 9. Gorthrymder.
Phila.

Y rhain ydynt feiau anafus yn ddiwâd.

Theol.

Nid anghymmwys y gellid eu cyfenwi hwynt naw Belzebwb y byd. Ar neb sydd ar arwyddion hyn arno, sydd mewn cyflwr gofidus.

Phila.

Beth o bydd dyn wedi ei lygru â dau nen dri o'r rhai hyn?

Theol.

Pwy bynnag a lygrir a thri o'r rhai hyn, sydd mewn perigl o golli ei en­aid. Canys gwenwyn cynhwynol yw y rhai hyn oll: a phob tri o'r rhain pa un bynnag ai'r tri cyntaf, ai'r tri olaf, ai'r tri canol, ydynt ddigon i wenwyno yr enaid i [Page 36]farwolaeth: Je, ac o ddywedyd y gwir ni byddei waeth i ddyn ddwrn wascu llyff­ant, a theimlo neidr, na chymmyrhedd ag vn o'r rhai hyn.

Phila.

A yw pob vn o honynt mor en­baid?

Theol.

Ydyw, canys echrys-haint yr en­aid ydynt: os bydd dyn ar cornwyd, ar ei gorph, ein harfer ni yw dywedyd; fod nodau duw arno; duw a drugarhao wrtho; Felly y gallwn ddywedyd yn hy­dda; o bydd neb yn galon-glwyfus, ac wedi llwyr-glafychu o'r vn o'r rhai hyn, fod nodau duw ar ei enaid: yr Arglwydd a drugarhao wrtho.

Phila.

Nid yw llawer yn tybied fod y pethau hyn mor beryglus ac y dywedwch chwi; Ie mae llawer yn gwneuthur cyfrif bychan o honynt.

Theol.

Gwir yw hynny: Canys y mae y rhan fwyaf o'r byd wedi eu gwarchau mewn dallineb, a chaledrwydd calon, heb na chanfod eu pechodau, nac ymwrando a hwynt; ac am hynny yn gwneuthur cy­frif bychan o honynt, gan dybied nad oes mor fâth berigl ynddynt.

Phila.

Diammeu yw fod dynion yn ch­wannog i wneuthur prîs by chan o'u pecho­dau, ac iw lleihau: neu iw cuddio, ac iw toluro a llawer o ddychymmygion dichell­gar, a gwâg escusodion. Canys y mae lla­wer [Page 37]yn chwannog beunydd i lechu, ac i ymddolennu fel nadroedd er mwyn cuddio eu pechodau: ie pe bai bossibl, i wneuthur pechod yn ddibech, i droi rhinwedd yn fai, a bai yn rhinwedd. Am hynny attolwg i chwi adrodd o'r Scrythyrau mor anguriol, ac mor ffiaidd yw eu pechodau hwynt.

Theol.

Mor erchyll, ac mor ffiaidd yw aruthredd y pechodau hyn, ac na ddichon dyn, nac ar dafod fynegu, nac mewn Scrifen yspysu eu holl frynti, a'u ffieidd-dra yn ôl eu dull, au naturiaeth. Etto myfi â wnaf fyng­goreu ar eu gosod hwynt allan ar gyhoedd i beri i bawb eu ffieiddio hwynt yn fwy.

Phila.

Attolwg i chwi gan hynny, dech­reuwch yn gyntaf ar falchder.

Theol.

Da y dywedwch: Canys iawn yw i hwnnw gael bod yn flaenor: am ei fod yn echrys-haint pennaf o holl anafau yr enaid.

Phila.

Dangoswch allan or Scrythyrau fod balchder mor anguriol, ac mor athrugar.

Theol.

Ffiaidd gan yr Arglwydd bob dyn vchel-galon. Diha. 16.5. Yr hyn â ddengys yn eglur fod duw yn gwrthwynebu, ac yn casau y beil­chion. Ac onid peth ofnadwy dybygwch chwi, i ddyn fod yn ffiaidd gan dduw? Ac yn yr vn bennod y dywed. Balchder sydd yn myned o flaen dinistr, Diha. 16.18. ac vchelder yspryd o flaen cwymp. Ymma y dengys yr yspryd glân fod balchder yn rhagflaenu rhyw [Page 38]gwymp tra-mawr, naill ai trwy anair, neu golli ei gymmeriad. Canys Fên wir ddi­hareb a ddywed: Balchder a gaiff gwymp. A mynych y gwelir, pan fyddo dynion­wedi ymgodi vchaf, yna y maent yn nessaf i syrthio: Megis wrth siamplau Haman, Nebuchadnezzar, a Herod, y gwelir yn eg­lur. Pan fyddo'r ddueg yn chwyddo, y bydd y corph mewn mannau eraill yn dar­fod: felly pan fo'r galon yn chwyddedig drwy falchder y bydd yr holl ddyn yn agos i ddinis [...]r. Heb law hyn yr yspryd glan a ddywed. Diha. 15.25. Job. 20.26. Yr Arglwydd a ddiareiddia dŷ y beilchion. A Job a ddywed am y cyfryw ddynion. Tân heb ei chwythu ai hyffa hwynt. Mi a dybygwn wrth hyn pe bai ynom gŷmmaint a gwreichionen o râs, y gallai yr ymadroddion erchyll hyn, a ddywaid yr yspryd glan, ein darostwng, a thynnu i lawr ein balchder: yn enwedig gan fod yr Scrythyrau yn t [...]stiolaethu fod duw yn gwrthladd y beilchion, ac yn ymosod yn bwrpassol iw herbyn: Ac am hynny gwae hwynt-hwy. Canys os duw a ymddyru yn eu herbyn, pwy a ddichon ei attal ef? yr hwn a wna beth bynnag a fynno.

Phila.

Eithr dywedwch i mi, attolwg, a chwithau yn ymmadrodd yn erbyn bal­chder, pa fath falchder yr ydych chwi yn ei feddwl?

Theol.

Yr wyf fi yn deall hyn am bob [Page 39]balchder; yn gystal balchder y galon oddi­mewn, ar hwn sydd yn tarddu iw weled yn wynebau dynion oddiallan: sef yr hwn sydd yn ymddangos yn eglur yn eu geiriau au gweithredoedd.

Phila.

A ydych chwi yn meddwl hyn hefyd a'm falchder dynion o'u doniau?

Theol.

Y dwyf yn wir. Canys nid oes yn y byd falchder gwaeth, na mwy peryglus na hwnnw, Gochelwch (medd vn) rhag balchder ysprydol, sef balchio o'n dysc, o'n synwŷr, o'n gwybodaeth, o'n darllain, scrifennu, pregethu, gweddio, o'n duwi­oldeb, gwroldeb, cryfder neu gyfoeth: o'n goruwchafiaeth, bonedd, glendid, neu awdurdod. Canys ni roes duw y cyfryw ddoniau i ddynion i wneuthur marsian­diaeth o honynt, iw heulo allan iw gweled er mwyn ceisio oddiwrthynt wâg ogoni­ant, a chanmoliaeth gan ddynion, drwy yspeilio duw o'i anrhydedd, a honni iddynt eu hunain drwy wâg-fost, y peth sydd ddy­ledus i dduw, sef clôd am ei ddoniau. Ei­thr ar fwriad ac amcan arall y rhoes efe ei ddoniau: sef i'w ogoniant ef, ac er llesâd i eraill (mewn swydd eglwysig, neu ly­wodraeth gwlâd) yn enwedig y rhai nes­af o berthynas i ni.

Phila.

Etto nyni â welwn yn aml fod y rhai mwyaf eu doniau yn fwyaf eu balch­der.

Theol.

Gwir iawn: oblegid y brethyn rhywioccaf â gymmer a mliw yn gyntaf. Ac megis y bydd pryfed yn magu yn y pren rhywiog tyner yn gynt nac yn y caled, a'r ceingciog: ac megis y maga y gwyfyn yn y gwlân rhywiog main, yn hytrach nac yn y garw: felly y mae balcher, a gwâg ogoniant yn magu yn gynt mewn rhyw ddyn rhagorol, ac odiaeth ym mhob math ar wybodaeth a rhinweddau da, nac me­wn eraill gwaelach eu doniau a'u rhoddi­on. Ac o hynny y dywedir, mai o ludw pob rhinweddau da y mae balchder yn tarddu allan. Canys balchîo a wna dynion o her­wydd eu bod yn ddoethion, yn ddyscedig, yn dduwiol, yn ddioddefgar, yn ostynge­dig, &c. Cymmwys gan hynny y cyffely­bir balchder i'r blagur surion a darddant allan o foncyff y pren afalau pereiddiaf. Ac o ddywedyd gwir, dymma vn o'r peirian­nau rhyfel, a'r arfau perycclaf a gymmer y cythraul yn llaw yn olaf i orchfygu gwir blant duw. Nid amgen, megis eu chwythu hwynt i fynu a balchder fel a phowdr-gwn. Canys megis y digwydda wrth warchau rhyw ddalfa gadarn-gref, pan fetho ei hyn­nill drwy daro arni, a saethu atti; y dy­chymmig olaf fydd cloddio tani ai chwy­thu i fynu a gwn-powdr: felly pan fetho gan Satan orchfygu y rhai rhagorol ym mhlith gweision duw, ei ddichell olaf ef [Page 41]fydd eu chwythu hwynt i fynu a balchder megis a gwn-powdr.

Phila.

My fi a welaf mai grâs enwedigol oddiwrth dduw mewn gwŷr o ddoniau rha­gorol yw bod yn ostyngedig o galon: Ac odid o cheir ym mhlîth mil or rhai a ragor­ant mewn doniau, oddieithr ychydig, ie prin vn yn rhagori mewn gostyngeiddr­wydd; A pha amlaf fyddo ei rinweddau da, mwyaf or cwbl fydd ei ostyngeiddr­wydd yn byw; nid drwy ddiystyru eraill, ond tybied o honynt yn well nac o honaw ei hun. Canys mynych y digwydda fod doni­au, a rhoddion duw yn ein gwneuthur ni yn waeth, o herwydd nad ydym yn eu trîn hwynt yn iawn: Ac o herwydd eu bod yn magu ynom lawer o farw-gig chwyddedig y cyfryw ac sydd raid beunydd a rhyw sugn­eli llym ei yssu ymmaith. Ac o hyn y mae duw yn dangos ffafor, a thrugaredd ra­gorol i'r hwn a dynno efe i lawr i fod yn o­s [...]yngedig drwy ryw flinder, a gwendid. Canys oni bai hynny, diau y gorchfygid ni yn hollawl gan y cnawd eoeg. falch.

Theol.

Gwir a ddywedasoch; Canys y mae'r Apostol yn cyfaddef am dano ei hûn, ei demptio ef, ai drallodi fforad hon­no, a bod yn agos iddo a thra-ymdderchafu tros fesur o herwydd godidawgrwydd ei ddatcuddiedigaethau: 2 Cor. 12.7. ono bai ddanfon o dduw iddo o'i ddirfawr drugaredd, swm­bwl [Page 42]yn y cnawd iw oeri, ac iw attal (sef cennad Satan) â'r hwn yr iachaodd yr Arglwydd ef o'i falchder. Ac felly y mae efe yn iachau llawer o honom ninnau oddiwrth ein balchder drwy ein taflu i Satan, a'n gadael arnom ein hunain, a'n rhoddi i synu i wneuthur rhyw bechod anguriol, megis syrthio bendramwnwgl a thorri ein gyddfau. Ar cwbl oll er mwyn ein darostwng, ein gwârhau, a thynnu i lawr ein balchder: o'r hwn y mae efe yn gweled fod ein calonnau wedi clafychu. Gan hynny da yw i ni ein darostwng, yn amlder doniau, a rhadau duw, rhag i ni falchio o'r pethau sy gennym, neu o'r pe­thau a wnaethom. Canys gwell yw or ddau ymostwng mewn pechod, na balchio o dduwioldeb.

Phila.

Yn hyn yr ymddengys doethineb a thrugaredd dduw yn ddiandlawd: sef ei fod efe mor raslon yn tynnu daioni allan o ddrygioni, ac yn troi ein blinderau ni, ein gwendid, a'n cwympiau iw anrhydedd ei hun, a llesâd i ninnau.

Theol.

Digon gwir yw hynny. Canys megis o gîg gwiber y gwneir meddiginia­eth ragorol i iachau y sawl a frather gan wiber: ac megis y mae y pysygwr ar naill wenwyn yn gyrru allan y llall: felly y mae duw yn ôs ei ryfeddol ddoethineb, â'r gwen­did sydd yn aros ynom wedi ein hail-geni, [Page 43]yn iachau heintiau eraill mwy peryglus, sef balchder, gwâg-ogoniant, a rhyfig. Bendigedig fyddo ei enw ef yn dragy­wydd; yr hwn mor drugarog sy'n peri i bob peth gydweithio ir goreu er daioni i'w bobl ef, am ba rai yn bennaf y deellir y pethau hyn.

Phila.

Onid oes dim achos i wŷr a chan­ddynt ddoniau rhagorol, i ymorfoleddu dim yn eu doniau?

Theol.

Nac oes ddim. Oblegid yr A­postol a ddywaid: pwy a'th neillduodd di? 1 Cor. 4.7. Beth hefyd sydd gennit ar nis derbyniaist, ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn ym­orfoleddu megis pe nas derbyniasit? lle y mae'r Apostol yn dangos yn eglur, na ddylei neb fod yn falch o'r doniau a roes duw iddo, o herwydd nad ydynt eiddo ef: Nid oes iddo ond cynnwysiad iw t [...]în; ac iw harfer. Os benthyccia dyn gan a­rall ddillad gwychion, sef gown o si­dan, a phais o Satyn, cadwyn aur, a chlôs melfed: ac a ymsiongcci yn y rhai hynny allan ar osteg, megis pe baent yn eiddo ei hun: Oni thybiem ni yr hae­ddai hwnnw chwerthin am ei ben, megis dyn ffôl? felly y dylid cyfrif yn ffy­liaid y rhai a falchiant or doniau da a roes duw iddynt tros amser, y rhai nid yw eiddynt eu hunain. Am hyn y dy­wed y Prophwyd Jeremias: Fel hyn y [Page 44]dywed yr Arglwydd: nac ymffrostied y doeth yn ei ddoethineb, ac nac ym-ffrostied y cryf yn ei gryfder: [...]re. 9. [...].24. ac nac ymffrostied y cyfoethog yn ei gyfoeth; eithr y neb a ymffrostio ymffrostied am hyn, ei fod yn deall, ac yn fy adnabod i. I'r ystyriaeth hyn y dywed y Poet digrêd: [...]eocrit. Ni ddichon neb ddiangc rhag cospedigaeth am falchder, am hynny na falchîed neb e [...] ei lwyddiant.

Phila.

Etto rhyfedd yw gweled falched, sured, hoiwed, goeced, a phen-vched yw llawer o herwydd eu doniau, au campau da: yn tybied eu bod cyfuwch ar cymmylau, ac nad yw y ddaiar yn eu cynnal: Tybied y ma­ent eu bod yn Angelion bychain, neu yn rhyw fâch a'r greaduriaid rhy feddol. Diy­styru a wnant a dirmygu pawb eraill, y rhai nid oes ganddynt y cyfryw ddoniau. Edrych arnynt a wnant yn ddiystur, fel llew ar lygoden, neu frenin ar gardottyn.

Theol.

O ludw balch, ô fwyd-pryfed v­chel-fryd: pe gosodent eu calonnau o flaen duw: a'u cydwybodau, au meddyliau au nwydau iw barnu wrth ei gyfraith ef: hyn­ny a'i hoerei hwynt, ac a'i gostyngei yn ddigon issel: yna y caent weled fod eu di­ffygion, a'u amherffeithrwydd yn gymma­int, ac na byddei iddynt mwy achos i ym­ffrostio, nac i'r Aethiopiad o'i wnder, am fod ei ddannedd yn wynnion. Yr yspryd glân sydd yn torri ein cribau ni, ac yn gostwng [Page 45]balchder ein cnawd, pan yw yn dywedyd. Job. 26.14. Mor fychan yw'r peth y mae dyn yn ei gly­wed, neu yn ei wybod a'm dduw.

Phila.

Awn rhagom, attolwg, i dreu­thu am y balcher hynod a diwin sydd yn dwyn rhwysc yn y byd. Ac yn gyntaf dim dywedwch i mi, beth a dybiwch chwi am falchder mewn dillad?

Theol.

Tybied yr wyfi fod hynny yn oferedd tu hwnt i bob oferedd: ac yn ffo­lineb tu hwnt i bob ffoledd. Oblegid bal­chio o ddillad fyddei megis pe balchiei lleidro'i gebystr, neu gardottyn oi glytti­au, neu blentyn o'i frithni, neu ddyn ffôl o'i degan.

Phila.

Er hynny, ni a welwn mor feil­chion yw llawer (yn enwedig gwragedd a merched) o'r cyfryw deganau. Canys dar­fyddo iddynt dreulio trauan y diwrnod yn ymdrwssio, ac yn ymdacclu: yn ymbing­cio, ac yn ymbinio, yn ymsiongci ac yn ymgymmwyso, yn ymwisco, ac yn ymlas­sio: yn ymhoiwi ac yn ymloiwi, ac yn ym­wychu yn y modd manylaf; yna y deuant allan i'r heolydd a'u siop pedler ar eu cef­nau, a'u corŷnau yn dra vchel, gan eu ty­bied eu hunain yn angelefau bychain, neu yn bethau amgenach na merched eraill. O hyn y digwydd eu bod yn ymchwyddo o falch­der, ac yn barod i dorri ar eu traws wrth gerdded yr heolydd. Ac yn wir fe ellir tybied [Page 46]fod y cerrig yn yr heolydd, ar [...]rawsti­ [...]. coed yn y taî yn dychrynu, ac yn rhyfeddu weled eu han­suttiol, an hanfeidrol falchder. Canys cyffe­lybus yw nad ydynt ond swpp o falchder, ac o falchder y gwnaed hwynt, ac nad oes ynddynt ddim ond balchder, balchder.

Theol.

Yr ydych chwi yn frŵd yn yr achosion hyn.

Asun.

Yn wir Syr, yr wyf finnau yn ty­bied yn well o honaw ef. Canys ni bu'r byd erioed mor llawn o falchder, ac y mae yn y dyddiau hyn.

Theol.

Pwy a ddichon ymattal rhag dy­wedyd yn erbyn balchder yr oes hon? Pa achos sydd i gîg a gwaed, i fwyd pryfed, llŵch a lludw, i bridd a domm ymhoiwi mewn brattiau gwychion, yngolwg Duw, ac Angelion, a dynion? Canys fe ddaw yr amser pan gladder hwynt, a u holl wych­der mewn beddrod. Je fel y dywed Job: Pan fyddo y bedd yn dŷ iddynt, Job. 17.13.14. a phan gy­weiriant eu gwelu mewn tywyllwch: Pan ddywedant wrth lygredigaeth, ti wyt fynhâd, ac wrth y pryf, ti wyt fy mam a'm chwaer. Pa lesâd a wna iddynt y pryd hynny, eu bod gynt yn ymrwfflio mewn pob gwych­d [...]r, pan orfyddo yn ddisymmwth descyn i ddestruw? Pa lesâd a wnaeth i'r gŵr goludog ymddilladu a gwiscoedd gwerth­fawr a chymmeryd ei fyd yn ddanteithiol, ac yn foethus beunydd, pan gladdwyd ei [Page 47]gorph ef yn y bedd, a'i enaid yn nhân vffern?

Asune.

Beth a ddywedwch chwi am y rw­ffiau mawrion y rhai a gynhelir i fynu ag attegion, ac a rebattôs megis a physt ac a chledr?

Theol.

Beth addwedaf am danynt; ond duw a dosturio wrthym. Canys y cyfryw bethau sy'n tynnu i lawr lîd, a dial duw ar­nom oll. Megis y dywed yr Apostol. Col. 3.6. O a­chos y pethau hyn y daw digofaint duw ar blant yr anufydd-dod. Ac yn wir ddigel­wydd, y mae i ni achos i ofni y dŵg duw ddialedd arnom am ein ffiaidd falchder.

Asune.

Beth a ddywedwch am y rwffian tri-phlyg, a phedwar-plyg, y rhai â arferir yn y dyddiau hyn yn sathredig? Ac am y ffar­dingal gwmpassog, y cudynau lleision, y to­pynnau, y crych-wallt, ar holl arfer newydd a ddychymmygir, ac a adnewyddir beu­nydd?

Theol.

Hyn â ddywedaf, mai pell ydynt oddiwrth y symlrwydd, ar lledneisrwydd a fu yn yr oesoedd gynt: Nid adwaenai ein ta­dau ddim or fâth beth. Darllain yr ydym am William Rufus, a fu gynt yn frenin ar y deyrnas ymma, pan ddûg ei stafelludd atto bâr o hosanau newydd, ofyn o honaw beth a gostiasent, attebodd yntef, mai tri­swllt; yno y Brenin yn ddigllon a orchy­mynnodd [...]eisio iddo bâr a gostiei farc. [Page 48]Os tybid yn y dyddiau hynny fod yn or­mod i frenin dalu marc am bar o hosanau: beth a dybiwn ni am lawer o ddynion gwa­el yn y dyddiau hyn (heb na bod yn ber­chen tiroedd, na chwaith o alwedigaeth enwog) y rhai a dalant am vn pâr gymma­int ac a roddei y brenin am ddeubar, pan oeddid yn ei farnu ef yn afradlon. Eithr sy­waeth, nyni a aethom tros derfyn gwedde­idd-dra, a chymmesurdeb. Nid oes reswm arnom: Y pechod hwn sy ry drwm i'n gwlâd ni. Canys balchder pod cenedl, a ffoledd pob gwlâd a ddaeth i'n plith, pa fodd y dygwn y pethau hyn? Ac am yr ar­fer newydd, pa newyddaf, ffolaf o'r cwbl: Canys a'n harfer newydd yr ydym ni yn myned yn llwyr allan o bob arfer dda. Pe bai gynnifer gosgedd ar ein cyrph; ac sydd o amryw agwedd ar ein dillad, e fyddei gynnifer dull arnom ac sydd o rifedi bys­edd, ar ein dwylo, a'n traed. Eithr ofer­ddynion yn feibion ac yn ferched a ddan­gosant yn amlwg yscasned yw eu meddyli­au pan ydynt mor chwannog i ddilyn y fath oferedd, a ffôl arfer.

Asune.

Ni bu'r byd yn dda byth er pan ddaeth y fâth Startsio, a rhwbio, ar dwyfron­bren, ar whâl bons: Yr attegion a'r rebattês, y peintio ar lliwio, a gwerthu pryd a gwêdd. Oblegid er pan ddaeth y pethau hyn y daeth cybydd-dod, trais a thwyll. Canys pa fodd [Page 49]amgenach y cynnelid balchder? A diau o fewn y dêg mlynedd ar hugain hyn, nad ad­waenid, ac na chlywsid sôn am y pethau ym­ma. Gan hynny beth a ddywedweh chwi am goluro wynebau, noethi dwyfronnau, lliwio y gwallt, gwisco y periwig, a gwallt gosod, a thop­galantau? A pheth a ddywedwch am y mer­ched a wneir yn lluniaidd drwy gelfyddyd, y rhai fynnant fod yn well eu llûn nag y gwna­eth duw hwynt. Nid ydynt fodlon i waith ei ddwylo ef: hwy a fynnant wellhau ar hwnnw, drwy gael gwêdd arall, wynebau eraill, gwallt arall, escyrn eraill, dwyfronnau eraill, a boli­au erâill amgenach nac a wnaeth duw iddynt.

Theol.

Hyn yr wyfi yn ei ddywedyd, fod lchwi, ac i minnau ac i bobl yr Arglwydd oll, achos mawr a chyfiawn i alaru, i wylo, ac i gwynfan am wneuthur y cyfryw ffi­eidd-dra yn, Israel. Psal. 119.136. Afonydd o ddyfroedd a ddescynnas ant o lygaid Dafydd am nad oedd dynion yn cadw cyfraith dduw. Ac ofn aruthr a ddaeth arno ef oblegid yr annuwolion, y rhai oeddynt yn gadu cyfraith dduw. A Jeremy a ochneidiei yn ddirgel, gan ddy­muno bod ei ben yn llawn dwfr a'i lygaid yn ffynnon o ddagrau o achos pechodau y bobl. Jerem. 9.1. Nehem. 1.4, 7. 2 Peter 2.7. Nehemias oedd yn galaru tros gam­weddau y bobl. Lot gyfiawn oedd mewn gofid drwy anniwair ymarweddiad y Sodo­miaid. Ac oni alarwn ninnau ddim am y pethau hyn? Oni ymofidiwn ddim am [Page 50]falchder ein gwlâd? Oni ollyngwn ddim dagrau am y cyfryw ffieidd-dra erchyll? y fâth ni ddylid eu diodddef mewn gwlâd? Casedig ydynt oflaen Duw a dynion: oni bai fod Duw yn rhagorol ei ddioddefgar­wch, ai hir-ymaros, y cythraul a'i cippiai hwynt ymmaith yn fyw, new dân a brwmstan â syrthiei arnynt or nefoedd iw difa.

Antil.

Yr ydych chwi yn rhy frŵd yn y matterion hyn am ddillad. Pryssurach ydych nac a fyddei raid.

Asune.

Y mae gennifi ddiolch iddo. Ben­dith dduw i'r galon. Mi ai caraf ef yn fwy tra yr adwaenwyf ef, am fod mor ddiragrith yn erbyn y cyfryw falchder cywilyddus, a ffia­idd. Ond cywilydd i ferched yn cyfaddeu gwir grefydd, eu gwneuthur eu hunain yn gy­fryw eulynned, a delwau, a pheunod ac y ma­ent? Ac er hyn nid wyfi yn clywed fod nem­mawr o'r pregethwyr yn dywedyd yn y pul­pit yn erbyn hyn.

Antil.

Rhyfedd yw gennif eich bod chwi mor frŵd yn achosion dillad. Chwi â wyddoch yn ddigon da nad yw dillad ond pethau cyffredin, ac nad yw crefydd, a theyrnas Dduw yn sefyll yn y pethau hyn.

Theol.

Mi a wnn yn dda nad yw dillad yn eu naturiaeth eu hunain ond pethau cy­ffredin, eithr nid peth cyffred in yw dillad [Page 51]coeg, anlladaidd, anllednais, ac anhardd. Canys y mae pob cyfryw gamarfer yn tyn­nu ymmaith y cyffredinrhwydd, ac yn eu gwneuthur yn bechadurus, ac yn ddrygio­nus, oherwydd y moddion, sef y ffrwy­thau, ar digwyddiadau sy'n canlyn. Can­ys pe amgen, paham y bygythiai Duw drwy ei Brophwyd, yr ymwelai efe â phawb a wiscent wiscoedd dieithr, hynny yw, dull ac agwedd dillad gwledydd eraill, ie hyd yn oed y tywysogion, a phlant y brenin? Zeph. 1.8. Paham hefyd y dygei yr Argl­wydd y fâth blâ ar bendefigesau beilchion, a'r mursennod hoiw yn Jerusalem am eu balchder a'u coegni mewn dillad, oni bai fod y cyfryw gamarfer yn ddrygionus? fel hyn y dywed yr Arglwydd drwy'r Pro­phwyd Esau, yn erbyn y meistresod gwy­chion hynny. Oherwydd balchîo o ferched Sion, a rhodio a gyddfau estynnedig, ac yn am­neidio au llygaid, gan rodio, a rhygyngu y cerdd­ent, ac y trystient au traed: ac am hynny y cla­fria yr Arglwydd gorynau merched Sion. Yr Arg­lwydd hefyd a ddinoetha eu gwarthle hwynt: Yn y dydd hwnnw y tynn yr Arglwydd addurn yr escidiau, y rhwydau hefyd ar lloerawg wisco­edd, y perarogl, y breichledau, ar moledau: y penguwch ai llawdrau, a'r snodennau, ar dwy­fronnegau: ar clust-dlysau, y modrwyau, ac add­urn-wisc y trwyn: y gwiscoedd symmudliw, ar hefysau. Y misyrnau hefyd a'r pyrsau, y drychau hefyd ar lliain [Page 52]meinwych: Y cocwllau, ar gynau. A bydd yn lle peraroglau ddrewi: bydd hefyd yn lle gwregys rwygiad, ac yn lle iawn drefniad gwallt foelni: ac yn lle dwyfronneg gwregys o sach-liain: a lloscfa yn lle prydferthwch. Dy ddynion a syrthiant drwy'r cleddyf, a'th gadernid drwy ryfel: felly ei phyrth hi â ofidiant, ac yn wâg yr eistedd hi a'r y dda­iar, Esy. 3.16.

Fel hyn, ni a welwn mor ofnadwy y mae Duw yn bygwth y gwragedd heini yn Ierusalem am eu balchder rhyfygus, a ffiaidd. A hyn a ddichon fod yn ddrŷch ir mursen­nod beilchion fo ein dyddiau ni, y rhai y mae achos iddynt i ofni, y dŵg Duw ryw farnedigaeth drom arnynt, megis y dûg efe gynt ar ferched Ierusalem. Canys eu pechodau hwynt yn hyn o beth ydynt mor ffiaidd, a chymmaint ac oedd yr eidd [...] merched Sion. Ar vn Duw yw efe yr awr hon, ac ydoedd y pryd hynny i gospi balchder.

Antil.

Na cheisiwch mo'ch rhuad, a'ch dadwrdd ynghylch yr achosion hyn am ddillad. Canys y mae yn rhaid i ni wneu­thur, fel y gwnelo eraill: a chanlyn yr arfer, ac onidê, ni wneir cyfrif o honom.

Theol.

Os chwi nis canlynwch hwynt, e wneir mwy cyfrif o honoch gyd â Duw, ai Angelion, ai seintiau, a phob dynion da. Ac am bawb eraill, os chwi a wnewch [Page 53]fwy cyfrifo honynt nac or rhain, dyna arwydd pa fath ydych.

Antil.

Gedwch i hynny fod: etto er hyn ei gyd, dywedwch chwi a fynnoch, yn y galon y mae balchder, ac nid yn y dillad. Canys fe ddichon dyn fod yn falch o dillad cymmedrol, megis o ddillad gwy­chion. Ac y mae rhai cyn falched o'u colerau llyfnion, ac ou rwffiau byrrion vn-plŷg, ac ydynt eraill o'u rwffiau maw­rion,

Theol.

Ynfyd yr ydych chwi yn siarad: Pa fodd y gwyddoch chwi hynny? A fed­rwch chwi farnu calonnau, a meddyliau dynion? Pan fyddo dillad meibion, a merched yn sobr, yn weddaidd, yn lled­nais, ac yn Gristianogol, a ellwch chwi ddy wedyd eu bod hwy yn feilchion o'r cy­fryw ddillad? Pell tros ben yw eich er­gyd chwi, gymmeryd arnoch farnu'r ga­lon. Chwi a ddylych farnu mewn cariad am y rhai a ymwiscant yn sobr, ac yn we­ddaidd, fod eu calonnau yn gyffelyb iw gwisciad. Ond am danoch chwi, myfi a all wn yn hytrach dybied fod eich calon yn ofer, yn yscafn, ac yn ynfyd, o herwydd bod eich dillad hoiw yn arwydd eglur o hynny: A bod fel y dywed y Prophwyd, dull eich wynebau yn testiolaethu i'ch er­byn, a chwithau hefyd fel Sodoma yn my­negu eich pechodau, ac heb eu celu, Esay. 3.9.

Phila.

Gosodwch chwi ar lawr, adol­wyn, ryw drefn am ddillad, allan or Scry­thyrau.

Theol.

Gosodwyf fi a fynnwyf, y rhan fwyaf yn feibion, ac yn ferched a wnant yr hyn a fynnont hwythau. Canys y mae lle i dybied, fod llawer yn yr oes hon, wedi rhoi diofryd dilyn Duw, a'i air, a phob da­ioni. Oblegid y maent wedi dyfod cyn belled a hyn, dyweded Duw a fynno, hwy a wnant y peth a fynnont hwythau. Canys fel y dywed y Prophwyd: Hwy a wnaethant gyfammod ag vffern, ac a'r bedd y gwnaethant gyngrair. Esay. 28.15. Ac yr wy fi yn tybied pe descyn­nei Duw ei hun i lawr or nefoedd, a chyn­ghori meibion a merched i roddi heibio eu gwagedd mewn dillad, etto y canlynent eu harfer, er gwaethaf Duw, iw gythruddo ef ym mhellach. Oblegid rhoesant gym­maint serch ar y peth, a chymmaint difyrr­wch ynddo, ac na fynnant amgen, na chadw eu harfer, pe rhôn a bod dynion, ac Angelion, ar byd oll yn dywedyd y gwr­thwyneb, Je y peth sydd fwy pe gorfyddei iddynt fyned i ddiafol yn fyw gyd a'r peth. Ac am hynny gwaith ofer yw pregethu, neu scrifennu, neu ddywedyd yn eu her­byn. Gwaith cyffelyb i aredig y môr, neu guro wrth ddrŵs gŵr byddar, canys nid oes obaith o'u gwellhâd. Hyn yn vnig sydd i ni iw gael am ein poen, sef fod y [Page 55]byd wedi ei argyoeddi, ai farnu am be­chod. Ar pethau hyn fydd dŷst yn eu herbyn yn y dydd diwaethaf; fel na a­llant ddywedyd amgen, na chawsant [...]ybudd têg, ac na bu prophwyd yn eu plîth.

Phila.

Etto er hyn ei gyd, gosodwch ar lawr ryw drefn a rheol allan o air Duw, ynghylch dillad. Canys er bod rhai yn ddrŵg, ac yn afreolus yn y pethau hyn: etto diammeu yw, fod eraill ar feddwl da yn gwneuthur cydwybod o fyw yn ôl rheol gair Duw.

Theol.

Er mwyn y rhai sy ar feddwl da, myfi a osodaf ger bron beth cyfarwyddyd iddynt, S. Paul a fynnei i wragedd ym­wisco mewn dillad gweddol, 1 Tim. 2.9. gyd â lledne­isrwydd, a chymmesurdeb, nid a gwallt ple­thedig, neu aur, neu gemmau, neu wisc werthfawr, eithr megis y gweddei i wrag­edd yn addo duwioldeb, a gweithredoedd da. St. Peter hefyd sydd yn gosod a'r lawr yr vn fath reol, Canys efe a ddywed wrth grybwyll am wragedd Christianog­aidd, ac yn cyfaddef crefydd dda, y dylei y cyfryw rai fod a'u trwssiad, nid oddiallan sef yn sefyll ar wychder y corph; Megis plethiadau gwallt, ac amgylch osodiad aur, ar cyffelyb; ond ar harddwch oddimewn, fel y byddo dirgel ddyn y galon mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn a llon­ydd, yr hwn sydd ger bron Duw [Page 56]yn werthfawr. Canys felly gynt (medd efe) yr ymdrwssioi'r gwragedd sanctaidd, y rhai oeddynt yn gobeithio ar dduw, megis Sara, Rebecca, Rachel, ar cyffelyb henaf-wrag­edd llednais, 1 Pet. 3.3.

Phila.

Ar ba beth yn bennaf y mae'r trwssiad hwn oddimewn yn sefyll?

Theol.

Ar bedwar peth, y rhai a osod­wyd ar lawr yn y lleoedd a henwyd or bla­en: sef lledneisrwydd, cymmedroledd, yspryd llonydd, ac yspryd addfwyn.

Phila.

Dymma wiscoedd gwychion yn siccr. Mi a fynnwn pe gwiscai bawb or gwragedd y rhai hyn am danynt heb eu diosc vn amser, ond eu gwisco beunydd. Canys y rhain ydynt well o'u gwisco, er bod gwiscoedd eraill yn waeth.

Theol.

Beth Ped ymdrwsiei gwragedd oddimewn a'r rhinweddau vchod? Hwy a fyddent yn lle tlysau o aur, a pherlau. Canys y gwragedd a ofnant yr Arglwydd, a gannolir, Dihar. 31.30.

Phila.

Moeswch glywed attolwg Syr, eich barn chwi am wiscoedd y corph.

Theol.

Hyn yw'r cwbl a fedrafi ei ddy­wedyd am y matter ymma: y dylei ein gwisciad ni fod, fel y dywed yr Apostol yn weddaidd, yn drefnus, yn hardd; ac nid yn yscafn, yn anlladaidd, yn anwladaidd, ac yn dramgwyddus.

Phila.

Pa fodd y bernwch chwi beth [Page 57]sydd weddaidd, trefnus a hardd? Canys [...]fe ddywaid pob mâb, a phob merch fod eu lillad, yn weddaidd, ac yn drefnus, er hoiwed, er gwched, er ofered fyddont.

Theol.

Yn hyn o beth, nyni a ddylem ddilyn siamplau y gwŷr a'r gwragedd Du­wiolaf, synhwyrolaf, sobraf, a llednesiaf. Pwy a fedr yn well na'r cyffelyb, farnu beth sydd hardd, a gweddaidd, a chym­mesur?

Phila.

Eithr nyni a welwn rai o'r rhai goreu wedi llygru peth arnynt, a myned tros y terfynau ynghylch dillad.

Theol.

Gwaethaf ôll. Eithr sywaeth, ni a welwn fod rhwysc yr amser, a nerth y ffrŵd cyn gryfed a bod yn dwyn gyd â hwynt beth bynnag nid yw wedi ei sefyd­ [...], ai wreiddio yn ddyfn, ac yn gadarn. Ac ymbell rai duwiol (er nad yw eu calon­nau yn tueddu tu ag at y pethau hyn) a ddygir ymmaith gyd â nerth y gwynt, a'r llanw; Y rhai er nas gellir yn hydda na dadieu yn eu cweryl, nac escusodi eu cy­dwr, etto fe ddylid tosturio wrthynt, ac ymofidio trostynt.

Phila.

A oes gennych-chwi ddim cy­farwyddyd ychwaneg ynghylch yr achos ymma?

Theol.

Oes vn peth y chwaneg, Sef y dylei ddillad pob dyn fod wrth ei râdd, a'i lê, ai alwedigaeth. Canys nid yw hardd [Page 58]ar y naill ddyn, y peth sydd hardd ar y llall: Nid cymmwys i'r tlawd y peth a weddei i'r cyfoethog. Ac anhardd yw ar ddynion gwael, y peth sydd drefnus, a chan-moladwy ar bendefigion, a phen­naethiaid.

Phila.

Wrth hyn, yr ydych chwi yn ty­bied fod yn gyfreithlon i frenhinoedd, ty­wysogion, a gwŷr mawrion wisco perlau ac aur, ac arian, a melfed, ar cyffelyb?

Theol.

Diammeu fod yn gyfreithlon, ac yn rhŷdd i'r cyffelyb, mewn môdd, a me­sur gweddaidd, wisco y pethau drutaf, a gwerthfawroccaf ar y ddaiar: A hynny er mwyn gosod allan mawredd, a rhwysc, a gogoniant eu galwedigaethau. Ac am hynny y cyfryw bethau ydynt arnynt hwy yn hardd, ac yn weddaidd.

Phila.

Eithr yn y dyddiau hyn, nid oes nemmawr yn ymgadw o fewn eu terfynau: Nid oes nemmawr yn cydnabod eu lleo­edd, ond cilio yn ôl, a gadael eu mesurau.

Theol.

Gwir iawn. Oblegid yn y dy­ddiau hyn merched boneddigion gwael, [...]e a boneddigion o'u gwneuthuriad eu hun­ain, a rwffliant ac a swaggriant yn eu dillad megis Cowntesau, neu Arglwyddesau anrhydeddus. Pobl gyffredin y wlâd a ymosodant allan fel gwŷr llŷs y brenin, a boneddigion da; gan ddywedyd yn eu calonnau, Ffei or symlrwydd ymma [...] ni [Page 59]fynnwn ni mor byd fel y bu; Ac yr aw'r hon y gwelir yn wir yr hên ddihareb: pob Coeg-was a fyn fod yn foneddig: ar for­wyn yn gystal ai meistres. Fel la ellir heddyw adnabod wrth eu dillad ddim rhagoriaeth rhwng y llaw-forwyn a'i Harglwyddes. Ac fel hyn chwi a welwch fod pob peth allan o drefn o ran dull, ac agwedd dillad.

Phila.

A oes dim ychwaneg i'w ddy­wedyd yn yr achos hwn?

Theol.

Oes un peth etto yn ôl iw ysty­ried ynghylch dillad, sef bod dillad pawb yn ôl eu gallu: Canys peth gresynol yw ystyried fod meibion, a merched yn eu dillad ym mhell oddiar eu gallu. A mwy tosturus yw gweled mor wael a chywily­ddus fydd y dyfais, ar ffordd, a gymmerant i geisio cadachau gwychion: mor a wyddus, a chwannog y rhônt eu brŷd ar hynny.

Phila.

Chwi a dreiglasoch ddigon ar y gareg hon, ac a ryngasoch ein bodd ni yn helaeth yn eich ymadrod am falchder, yr hwn yw'r arwydd cyntaf o ddamnedigaeth. Ewch rhagoch bellach at yr ail arwydd, yr hwn yw putteindra; Ac eglurwch i ni allan o'r Scrythyrau y peryglon sy'n dyfod oddiwrtho?

Theol.

Salomon yn ei ddiharebion a ddy­wed, Mai ffos ddyfn yw genau gwragedd diei­thr, ac mai y neb y byddo yr Arglwydd yn ddig wrtho a syrth iddi. Diha. 22. [...]4. Lle y mae efe yn dangos yn [Page 60]amlwg fod y rhai y mae'r Arglwydd yn eu ffi­eiddio, ac yn ddigllon wrthynt yn ymroi i ddilyn y bai anafus hwn. Ac mewn man arall dywed, F fôs ddyfn yw puttain, a phydew cyfing yw'r ddieithr. Gan ddwyn ar ddeall wrth hyn, os digwydda unwaith i ddyn syrthio mewn serch â phuttain, y bydd mor anhawdd iddo ddiangc yn ddichlin oddi­wrthi, ac i ddyn â syrthiai mewn ffôs ddyfn, a chyfing, lle ni allai ond prin ymdrof, ym lusco allan o honi. Ar vn Salomon yn llyfr y Pregethwr â ddyry reswm am hynny: O he [...]wydd ei bod hi megis rhwydau, a maglau, a rhaffau, a rhwymau, yn y rhai os delir dyn vnwaith, y mae efe yn ddigon caeth, fel na ddêl allan: Preg. 7.26. Cefais (medd efe) beth chwerwach nac angeu, gwraig ynghalon yr hon y mae rhwydau, a maglau, a rhwymau yn ei dwy­law, y neb sydd dda gan dduw a waredir oddiwrthi hi, ond hi a ddeil bechadur.

Nyni á welwn yn eglur wrth hyn mor dramgwyddus, ac mor beryglus yw'r sawl yr ymadawodd Duw â hwynt, ac a roddodd i fynu i odineb a phutteindra: Ac am hyn­ny dywedir: Diha. 6.25. Na chwennych ei phryd yn dy galon, ac na âd ti iddi dy ddal ag amrantau ei llygaid. Oblegid y fenyw butteinig y daw gwr i gardotta tammaid o fara, a gwraig gwr arall a hela yn ol yr enaid gwerthfawr. Ac eil­chwel y dywed. Gwefusau y ddieithr a ddi­ferant fel dil mêl, a'i genau yn llyfna [...]h nac [Page 61]olew: Dihar. 3, 4. ond ei diwedd hi â fydd chwerw fel y wermod, ac yn llym fel cleddyf daufiniog: ei thraed hi a ddescynnant i angeu, a'i cherddediad â sang vffern. Yr holl ymadroddion hyn or eiddo yr yspryd glân a yspysant yn eglur, mor ofnadwy yw godinebu, a syrthio yn nwylaw putteiniaid. Ac am hynny y dy­wed Job am yr annuwolion: Job. 3 14. Eu henaid hwy a fydd marw mewn ieuengtid, au bywyd gyd a'r putteinwyr.

Phila.

Odiaeth y dangosasoch allan o lyfr Duw, berigl godineb, a phutteindra. A gresyn yw bod dynion yr oes hon yn gwneuthur cyn lleied cyfrif or pechod hwn, ac ynteu mor gyffredin. Je gresyn yw y peth sydd ddolur yn fynghalon ei adrodd) fod rhai yn ei gynnal, ac yn byw wrtho.

Theol.

I'r cyfryw râi yn feibion, ac yn ferched y mae achos i ofni dialeddus law dduw: Canys yr Arglwydd â ddywed drwy ei Brophwyd: Pan ddiwellais hwynt, gwnaethant odineb, ac a heidiasant i dy y but­tain. Oeddynt fel meirch porthianus yn boreu godi, gweryrent bob vn ar wraig ei gymmydog. Onid ymwelaf am y pethau hyn, medd yr Arglwydd? oni ymddial fy enaid ar gyfryw genedlaeth a hon?

Phila.

I'm tŷbi, oni bai fod dynion wedi eu caledu yn aruthr yn eu pechodau, ac a bâr arnynt, heb ymwrando a'u cyflwr, fe barci y bygwth ofnadwy hwn oddiwrth [Page 62]dduw nefol, iddynt ddychrynu, ac ofni.

Theol.

Fe dybygei ddyn hynny: Eithr yr awr hon y gallwn adgoffau hên gwynfan y Prophwyd gynt. Mi â ystyriais, ac a wran­dewais, ni ddywedent yn iawn: Nid edihar­haodd neb am ei anwiredd, gan ddywedyd, beth a wneuthym mi: pob vn oedd yn troi iw yrfa, megis march yn rhuthro i'r frwydr. Jer. 8 6.

Antile.

Pa raid y trŵst ymma? Ac wedi hyn ei gyd, nid yw putteindra ond [...]fn­ [...] nwyf ieuengtid; ac ni â welwn nad oes neb heb ei fai.

Theol.

Anghrefyddol, ac annuwiol yr ydych chwi yn siarad. A gyfrifwn ni y peth hwnnw, [...]r. ddim amgen ond nwyf ieuengtid, am yr hwn y tarawodd yr Arglwydd ei bobl ei hûn, sef tair mil ar hugain o honynt yn yr vn dydd? Ai yn nwyf ieuengtid ycymmer­wn ni y peth, am yr hwn y bygythiodd Duw Ddafydd, [...]m. [...]. ei was ei hûn, nad ymadawei cleddyf ai dŷ ef byth? Ai yn nwyf ieueng­tid y cyfrifwn ni y peth am yr hwn y lladd­wyd Hemor, a Shechem, y tad, ar mab, a lla­wer eraill yn wŷr, ac yn wragedd ac yn blant, [...] 34. gan Simeon, a Leui, meibion Jacob? A wnawn ni ddim amgen ond nwyf ie­vengtid or peth, [...]m. 4. am yr hwn y lladdodd yr Arglwydd Hophni, a Phinehes, dau fab Eli yr Offeiriad yn rhyfel y Philistiaid? A wn­awn ni cyn lleied prîs or cyfryw aruthredd anguriol? Onid yw toster angerddol y dia­leddau [Page 63]trymmion hynny yn dangosi ni mor ffiaidd yw'r pechod? Onid yw'r Apostol yn dywedyd. 1 Cor 10.1 [...] Y pethau hyn â ddigwyddasant yn siampl iddynt hwy, ac a scrifenwyd yn rhybudd i ninnau ar ba rai y daeth terfynau yr oesoedd.

Ac etto er hyn ei gyd, chwi a gymmer­wch y peth yn yscafnder meddwl, ac ai cy­frifwch yn nwyfiant ievengtid: fel pe na bai Duw ond cellwair: Eithr na thw­yller chwi, ni watworir Duw. Y rhai ni chynnyrfir yn awr wrth wrando, a fe­lir yn chwilfriw ryw ddydd wrth ddio­ddef: Ar sawl yn awr â alwant butteindra yn yscafnder meddwl a nwyfiant ieveng­tid, a vdant, ac a grygleifiant ac a floeddi­ant ac a waeddant, och, a gwae hwynt hwy erioed eu geni o'i herwydd.

Antil.

O Syr, y mae yn rhaid i chwi gyd-ddwyn ag ievengtid: Chwi â wyddoch fod ievengtid yn llithrig, ac yn hawdd ei hudo. Ac darfyddo i chwi ddywedyd eich amcan, fe fyn ieuengtid ei helynt.

Theol.

Etto nid yw Duw yn caniadhau dim mwy rhydd did i ieuengtid, nac i he­naint; eithr rhwymo y mae efe bawb fel ei gilydd, tan boen marwolaeth i vfyddhau iw orchymyn. Yr Apostol â ddywed, Titu [...] Bydded y gwyr ieuaingc yn bwyllog. Dafydd a ddy­waid: Pa fodd y glanhâ llangc ei lwybr? wrth ymgadw yn ôl dy air di. Psal. 9. Y gŵr doeth a ddy­waid. Cofia dy greawdudd yn nyddiau dy [Page 64]ieuengtid. [...]e. 12.1. Ac a ddengys ym mhellach, oni fynnant amgen, na phorthi eu trachwan­tau, a dilyn nwyfiant eu cnawd, yn y di­wedd y dŵg Duw hwynt i'r farn, ac ai Dofa. gwarhâ yn nhan vffern.

Phila.

Etto ni a welwn fod dynion mor chwannog i ddilyn gwyniau, melus-wedd, a digrifwch pechod, dél a ddel: ac nad ofnant ddim, nac afiechyd, na marwolaeth, nac v­ffern, na damnedigaeth. Nid oes edrych pa fyd sydd yn ôl iw gael, neu iw golli. Ond prynu eu meluswedd, au trachwantau a cholledigaeth eu eneidiau: ôch or fath bwrcas, a gwae hwynt or fath ddigrifwch.

Theol.

Bwyd melus a fyn saws chwerw: a'r dim lleiaf o felus wedd a ddŵg ganddo bwys o ofid. Y cyfryw ddynion melldigedig, a gant yn y diwedd dalu yn hallt am eu di­grifwch, a gwybod iw dialedd tragwyddol beth yw cyffroi Duw, a phechu yn ei erbyn ef yn ddi-rûs, ac a llaw vchel. Hwy a gant wybod o anfodd eu calonnau, fod dialedd wedi ei ddarparu i'r drygionus, a bod Duw a farna y ddaiar. Am hynny gwilied pawb arno ei hun mewn prýd. [...]r. 13. Canys puttein­wyr, a godineb-wyr â farna Duw.

Ar Apostol a ddywed yn ddilachr: Na chaiff godinebwyr, na thorwyr priodas feddi­annu teyrnas dduw. Na fydded gan hynny yn ein mysc ni, [...]r. 6. vn putteinwr, neu aflân megis Esau: [...] 12. Eithr ymgadwn oddiwrth drach­wantau [Page 65]y cnawd, y rhai-sy'n rhyfela yn er­byn yr enaid. 1 Per 11. A gwybydded pob vn pa fodd y meddianna ei lestr mewn sancieiddrwydd, ac anrhydedd, 1 The [...] 4.4, 5. nid mewn gwyn trachwant megis y Cenedloedd y rhai nid adwaenant Dduw.

Ymma moeswch i ni ystyried ymadrodd synhwyrol vn o'r hên dadau. Chriso [...] in Ma [...]. Pechod tra bydder yn ei wneuthur, a bair beth digrif­wch, eithr gwedi y gwneler, y byrr ddi­grifwch a ddiflanna ymmaith, a hir drist­wch a ddaw yn ei le ef. Ac na wrthodwn ymma ymadrodd gŵr cenedlig doeth. Gochel felus-wedd rhag ofn gofid. Isocra. ad De [...] ­on. Yn ôl melus y daw chwerw: ac yn ôl llawen­ydd, tristwch.

Antil.

Etto er hyn ei gŷd, ni wnewch i mi goelio fod putteindra yn gymmaint pe­chod: yr ydych chwi yn ei wneuthur yn waeth nac ydyw.

Theol.

Digon gwir. Canys chwychwi a'ch cyffelyb ni choeliwch ddim yn erbyn eich trachwantau, a'ch gwyniau cnawdol. Ac dyna'r achos yr ydych yn fyddar o'r naill glûst: am hynny mi a chwanega air neu ddau allan o air Duw, at yr hyn a ddywet­pwyd. Y Brenin doeth â ddywaid, Diha. 32. Y neb â wnêl odineb â benyw a lygra ei enaid ei hun, ac felly sy'n euog o'i farwolaeth ei hûn, yr hyn nid yw beth yscafn. Canys os digwydda i ddyn ymgrogi, neu ymfoddi, neu ryw fodd [Page 66]arall fyrhau ei einioes; ein harfer ni yw dy­wedyd am dano, fod bâr Duw arno, fod llaw Dduw yn drom yn ei erbyn: gael o'r cythraul wall arno. Y sŵn, a'r siarad am y fâth drychineb, a gerdd tros y wlad y prŷd, a'r lle y digwyddo. Y Crwner a eilw yng­hyd gŵest ar ei gorph ef; a serdyd a bassia am dano. Pa faint hyttrach y dylei yr holl fŷd ryfeddu am y peth hyn: sef fod dyn yn difetha ei enaid ei hun, ac o wir lwyrfryd ei galon yn ei anrheithio ei hun yn dragwy­ddol. Yr yspryd glan a dywed, fod y put­tein wr yn gwneuthur y fath beth a hynny, sef o wirfodd ei galon yn ei ladd ei hûn. Ac am hynny gwae ef erioed o'i eni. Canys y­na y daw y Crwner mawr or nefoedd, (yr hwn a gorona y neb a gorono) i eistedd ar­no ryw ddydd, ac i roddi barn iw erbyn. Ac megis y mae y godinebwr, yn pechu yn er­byn ei enaid ei hun: felly y mae efe hefyd yn erbyn ei gorph, fel y tystia yr Apostol. Ac yn erbyn ei fraint, Cor. 6.8. [...]ob 31.2. a'i gyfoeth, fel y dywed y gŵr duwiol Job: Godineb sy dân â yssa oni anrheithio, ac y diwreiddio yr holl ffrw­yth. Y mae efe yn pechu hefyd yn erbyn ei enw da, neu ei eirda a'i gymmeriad yn y byd. Oblegid clais, [...]iha. 6.3. a gwarth a gaiff efe, a'i gywilydd ni ddileir. A phechu y mae yn erbyn ei wraig, yr hon sydd gymhares iddo, a gwraig ei gy­fammod. A Duw a ddywed yn yr vn fan: ymgedwch yn eich yspryd, [...]al. 2.14. ac na fydded neb [Page]anffyddlon i wraig ei ieuengtid. Yn ddi­weddaf oll, pechu y mae yn erbyn ei blant, ai heppil: fel y dywed yr Arglwydd wrth Dda­fydd: O herwydd i ti fy nirmygu i a gwneu­thur hyn: 2 Sam. 12.10. wele nid ymedu cleddyf a'th dŷ di byth, mi â gyfodaf ddrŵg i'th erbyn di, o'th dŷ dy hûn. Felly, i orphen y pwngc hwn nyni a welwn pa fawl briw anafus, ac ar­choll ffyrnig y mae dynion aflan yn eu gw­neuthur ynddynt eu hunain, ac yn eu plant. Pwy, oddiethr ei fod yn ynfyd cynhwynol, a'i trafrathei ei hûn mewn cynnifer o fannau ar vnwaith? y mae y godinebwr, ai odineb ei hûn, yn gwneuthur yr holl archollion hyn ynddo ei hûn: A chant i vn na iacheir of byth: ond y bydd marw gan waedu i far­wolaeth.

Bellach chwi a welwch ddull, ac agwedd y pechod anguriol hwn: ac a wnawn ni gy­frif bychan o honaw? A ddywedwn ni nad yw efe ond nwyfiant, ac yscafnder ieueng­tid? A golurwn ni beth mor ffiaidd, a gei­riau hygoel? Ar yspryd glân yn ei wneuthur yn fai erchyll, ac athrugar? oni arswydwn ni y peth sydd yn tynnu i lawr ddigofaint Duw ar yr enaid, y corph, y cyfoeth, yr enw, y wraig, y plant: Gormod dalli­neb a chaledrwydd calon fyddei hynny. Hên Athro er ystalm â roes farn i'n her­byn am gymmeryd y pechod hwn mor yscafn o beth: Godineb, medd efe, yw [Page]bâch y cy thraul, a'r hwn y llûsc efe ddyni­on i ddestruw.

asil in pist.Un arall or hên Dadau a ddywed, Godi­neb sydd debig i ffwrn, yr hon glothineb yw ei* safn, Genau. balchder ei fflam, serthedd ei gwreichion, an-air ei mŵg, tlodi ei lludw, a gwradwydd ei diwedd. Mal hyn ni â we­lwn yn amlwg, er yscafn ed y cymmerwn ni y pechod hwn, fod y rhai â a gorodd Duw eu llygaid ym mhôb oes wedi ei gondemnio ef, ai farnu yn bechod echryslon, a ffiaidd. Ie y Cenedloedd â gyfodant i'n herbyn yn y farn, y'rhai a lefarasant, ac a scrifennasant lawer yn erbyn y pechod aflan, ac anifei­laidd hwn.

Phila.

Chwi a deimlasoch ddigon be­llach, ar ddrwg gynneddfau putteindra, ac a noethasoch ei wrthvni yn daran helaeth, fel y dichon pawb ei ganfod yn amlwg, a'i ffieiddio. Os anturia neb (er hyn ei gyd) ei ddilyn, fe ellir galw hwnnw yn angenfil anferth heb obaith o honaw. Canys beth amgen yw ei helynt, ond megis estyn ei law yn safn y llew, a dal arth erbyn ei daint? A hawdd yw gwybod beth sy'n canlyn, a pheth sy iw ddisgwyl o hynny. Edryched pawb mewn pryd arnynt eu hunain, ac ar eu ene­idiau fel yr attebont tan eu perigl yn nydd y farn ofnadwy, pan ddatcuddier dirgelion y calonnau. Ond yn awr, un peth sy'nol: sef dangos o honoch pa fath yw march-wraidd, a phrif achosion godineb.

Theol.

Prif achosion putteindra ydynt bump. Y cyntaf yw ein llwgr naturiol ni. Canys rhithin, a had pob pechod fydd yn ein natur lygredig: a hwn yn anad un, yw'r pechod mwyaf cartrefol: fel y tystia yr Apo­stol Iago: Wedi i drachwant ymddwyn, escor ar bechod a wna, a phechod pan or­phenner a escor ar farwolaeth. Jag. 1.15.

Yr ail achos o butteindra yw digonoldeb o fara. Canys darfyddo i ddynion lenwi eu boliau, ac ymsechu o ddanteithion, gwin, a diod gadarn, gymmaint ac a anno yn eu crwyn; i ba beth y maethwy y pryd hwn­nw yn gymmwys? Ac am ba beth y mo­ddyliant ond am butteindra ac aflendid. Ac am hyn da y dywedir: ymborth diand­lawd, a danteidd-fwyd yw gweith-dŷ an­lladrwydd. Ar Poet Cenedlig a fedrai ddy­wedyd, Sine Cerere et Baccho friget Venus. Prinhewch ar fwyd a diod, ac fe oera ser­chowgrwydd. Ac ir perwylymma y dywed y Brenin Doeth, Am y rhai a ddeisyfiant win, a danteithion; Dihar. 23.31, 33 Eu llygaid hwy a edrych ar wragedd dieithr. Ac am hynny ei gyngor ef i bawb yw, nad edrychant ar y gwin pan ymddangoso yn gôch, ac yn lliwys yn y cwppan, a phan fyddo yn gwreichioni, rhag y drŵg a ddichon digwyddo: hên Athro a ddywed i'r un ystyriaeth: Greg. Nazian. y neb a lanwo ei fol o ddanteithion, ac er hynny a fynnei orchfygu yspryd godineb, a gyffelybir i [Page]ddyn yn ceisio diffoddi fflam o dân ag olew.

I ddibennu y pwngc hwn, er bod o ddy­nion yn arfer gweddio, gwrando, a dar­llain llawer, ac a'u bryd ar y pethau goreu; etto oni byddant gymmedrol yn eu llunia­eth, a sobr yn eu hymborth, trachwant a fydd blîn, ac aflonydd wrthynt.

Y trydydd achos o butteindra yw seguryd. Canys pan fyddo dynion yn segur, yn swrth, ac yn ddiog, heb ganddynt ddim iw wneuthur, yno y maent yn Hylithr. agored i odi­neb, a hawdd gan chwant y cnawd ledratta arnynt. Historia-wyr a scrifennant fod y crangc yn chwannog i fwytta Lem­wrch. oystres: ac oherwydd na ddichon eu agoryd hwynt, efe a ddisgwyl yr amser pryd yr ymagorant ir haul o'u gwaith eu hunain yn ôl y llanw: ac yno yr estyn efe ei spag i mewn, ac a dynn allan y pyscodyn: Felly Satan ynteu sydd yn disgwyl ei achlyssur, i geisio bwrw ynom wenwyn trachwant, a gwŷniau cnawdol, yn enwedig pan fyddom megis yn yma­goryd, ac yn ymroi i seguryd: Synhwyrol gan hynny y dywaid y Poet Groeg. Hesiod. Segu­ryd lawer sydd yn magu trachwant. A Phoet arall a ddywed.

Quaeritur Aegistus quare sit factus adulter? In promptu cansa est, desidiosus erat.
Beth a wnaeth Aegistus frenin.
gynt yn odinebwr diwin?
Hawdd yw adrodd yr achlyssur,
Segur oedd heb ddim iw wneuthur.
A thrachefn: Oria si tollas periére cupidinis arcus.
Na fydd segur ddyn, o mynni
na wnêl maswedd niwed i ti.
Dod dy fryd ar orchwyl Duwiol,
hynny a ddiffydd chwantau cnawdol.

Pedwerydd achos godineb yw dillad an­lladaidd, megis cerddor î ganu dawns i but­teindra: eithr ynghylch hynny ni â glyw­som ddigon or blaen.

Pummed achos putteindra yw gobeithio diangc yn ddioddial. Oblegid y mae llawer wedi i satan ddallu eu llygaid a chaledu eu meddyliau yn tybied na elwir bŷth am da­nynt i roddi cyfrif am eu drygwaith. Ac o herwydd eu bod yn medru dallu llygaid dy­nion, a dwyn eu pechod ar gûdd megis tan gwmmwl, fel na wŷr y byd oddiwrtho, meddwl y maent fod pôb peth yn ddiogel, ac nad yw Duw yn eu canfod.

Am hynny y dywed Iob. Llygaid ȳ godinebwr sydd yn gwilied y cyfnos, Job. 2.15. Job. 22.13. gan ddywedyd, ni chaiff llygad fyngweled: Ac efe a esyd hû ar ei wyneb. Ac mewn man arall: Pa fodd y gwyr Duw? a farn efe drwy dywyllwch? Eithr yn wir ddi­gel. [Page]er dirgeled, er cyfrwysed y cuddia y puttein-wr ei bechod: etto yr amser a ddaw pan ei datcuddier iw dragwyddol wradwydd ef: Canys Duw â ddwg bob gwe­ithred i'r farn, [...]reg. 12. [...]4. [...]sal. 90. a phob peth dirgel, pa vn bynnag ai da, ai drwg: Canys gosododd ein anwiredd ger ei fron, a'n dirgel bechodau yngoleuni ei wy­neb Ac, yr Arglwydd â oleua ddirgelion y ty­wyllwch, ac â eglura feddyliau y galon. Cor. 4. Am hynny y dywed Job. Ti am gwiliaist, [...]ob. 10. [...]4. ac ni'm glanhei oddiwrth fy anwiredd.

Phila.

Hyd ymma y dangosasoch acho­sion putteindra: Bellach dangoswch atto­lwg y feddiginiaeth sydd iddo, neu yr ym­wared oddiwrtho.

Theol.

Y mae chwêch o bethau nodedig yn erbyn godineb: y rhai a wnant lesad mawr, os arferir hwy yn ofalus. Sef y rhai hyn.

  • 1. Prysurdeb mewn gwaith a gorch­wyl.
  • 2. Dirwest.
  • 3. Cymmedroldeb.
  • 4. Gweddi.
  • 5. Gwarchau ar y synhwyrau.
  • 6. Ymgadw rhag cyfeilliach merched, a phôb cyfryw achlysur.
Phila.

Digon i chwi hyn am yr ail ar­wydd o ddamnedigaeth: bellach awn rha­gom attolwg at y trydydd sef cybydd­dod. Ac fel y dangosasoch i ni ddull, ac ag­wedd [Page 73]y ddau gyntaf, felly dinoethwch hwn hefyd, fel y gwelo pawb mor anferth yw'r anghen fil, ac y cymmeller hwynt iw gasau, ac iw ffieiddio ef.

Theol.

Mi a ewyllysiwn wneuthur eich damuniad, eithr yn hyn o beth, nid yw bossibl i mi allu cyflawni hynny fel y mae'r achos yn gofyn; oblegid ni ddichon calon ddirnad na thafod dreuthu mor ffiaidd yw'r bai anafus hwn: Canys Cybydd-dra yw'r ellyll gwrthunaf, ar cythraul anferthaf or lleill ei gyd. Ie hwn yw'r Belzebwb mawr. Ac am hynny ni allwn i yn fy myw ei bor­treiadu ef yn ddigon hynod. Ond mi a wnaf fyngoreu ar ei ddiosc ef yn noeth­lwm fel yr adwaener tan ei liw, ai arwydd. Ac er bod dynion a meddyliau daiarol, ac wedi eu dallu o gybdd-dra yn tybied bod y treccyn hwn, yn hawddgar, yn bryd­ferth, yn gy weithas; ac am hynny a'u cro­esawant, ac a'u coleddant megis pe bai rhyw ddedwyddyd ynddo: etto darfyddo i mi ddangos iddynt ei wynepryd ef mewn drych eglur (sef cywir ddrych air Duw) gobeithio na roddant mwyach eu traserch arno, eithr y diflasant ef: myfi gan hynny a ddaliaf allan ger eu bron y drych hwn.

S. Paul

fydd yn cyhoeddi aruthredd, a ffieidd-dra y pechod hwn, pan yw yn dywe­dyd. Gwreiddin pob drwg yw ariangarw [...]h. 1 Tim 6.10. Ein Harglwydd Jesu Grist a ddyry i ni [Page 74]air amnaidi ymogelyd rhag cybydd-dod gan ddywedyd: Luc. 12.15. Edrychwch ac ymogelwch rhag cybydd-dod. Megis pe dywedasei: na chyffyrddwch ag ef, na ddeuwch yn agos atto: Anadl y cythraul yw, marwolaeth ddisymmwth, a gwenwyn yr enaid. Yr A­postol â dengys mor beryglus yw y pechod hwn gan ddywedyd. Phil. 3.19. Diwedd y rhai oll yw destruw — y rhai sydd yn synnied pe­thau daiarol. Gosoded pob cribddeiliwr by­dawl y pethau hyn at ei galon, a synnied yn ddeallgar o honynt: rhag digwyddo iddo achos i ddywedyd ryw ddydd: oh na wybuasswn.

Phila.

Attolwg Syr, yspyswch i ni wir naturiaeth cybydd-dod, a pha beth ydyw, fel y gallom ei adnabod ef.

Theol.

Cybydd-dod yw chwant anghym­medrol i feddu.

Phila.

Gôbeithio yr wyf nad ydych chwi yn meddwl fod cynnildeb, a chrynodeb, ac ysmonnaeth dda yn gybydd-dod.

Theol.

Nac ydwyf ddim. Canys pethau gorchymynedig yw'r rheini: ac iw harfer mewn ofn Duw, ac a chydwybod dda.

Phila.

Onid ydych chwi yn tybied fod yn gyfreithlon i ddynion wneuthur eu gorchwylion bydol: a bod yn ffyddlon, ac yn ddiwid yn eu galwedigaeth er mwyn rhaglu­niaethu. darparu iddynt eu hunain, ac iw teulu eu hangenrheidiau?

Theol.

Ydwyf yn ddiau. Ac yn enwedig os gwnant y pethau hyn drwy alw ar Dduw am fendith ar weithredoedd eu dwylaw: gan arfer gweddi, a thal-diolch wrth dde­chreu, ac ar ddiwedd eu gwaith: ac ymga­dw yn ofalus ar hyd y dydd rhag beiau cy­ffredin y byd: sef tyngu, rhegu, dywedyd celwydd, rhagreithio, twyllo, cribddeilio ar cyffelyb.

Phila.

Ym mha beth, adolwyn, y mae cybydd-dod fwyaf yn sefyll ynddo?

Theol.

Yn awydd-chwant y meddwl. Canys fe ddichon dyn yn gyfreithlon wneuthur gwaith, a gorchwyl ei alwe­digaeth; a bod yn gynnil, ac yn gryno yn tŷ, ac allan: Eithr gwilio sydd raid rhag rhwydo, a maglu ein calonnau mewn an-ymddiried yn Nuw, a chwannogrwydd i'r byd. Canys felly i'n gosodid ar frw­daniaeth anniffoddadwy, ac i'n anrheithid byth.

Phila.

Os yn y galon yn enwedigol, ac yn bennaf, y mae cybydd-dod yn cartrefu, pa fodd y cawn ni wybod yn hyspys pa brŷd y bydd y galon wedi clafychu o honaw?

Theol.

Y mae pedwar arwydd hynod yn dangos yn eglur pan neu, pan glafych [...] y galon. glafycher y galon o'r pechod hwn.

Y cyntaf yw chwannogrwydd awyddus i glasclu. Am hynny y dywed yr yspryd glan. Y neb â brysuro i fod yn gyfoethog ni [Page 76]bydd dieuog. [...]ha. 28.20. Diha. 20.21. Demost. in Olinth. Drachefn: Yr etif eddiaeth â geir ar frys yn y dêchreuad, ni ffynna yn y diwedd. Hefyd y gŵr Cenedlig â ddywed; Ni all neb fod yn gyfiawn, a myned yn gyfoethog ar frŷ s.

Yr ail arwydd o gybydd-dra yw cadw yr eiddom ein hunain yn rhŷ gerrith, ac yn grintachlyd. Pan fyddo dyn ac ynteu yn gallu rhoi, yn anhawdd ganddo ymadael a dim, er daed, a duwioled fyddo'r achos. A phan orfyddo iddo or diwedd rhag cywi­lydd roddi rhyw-beth, fe ddaw hynny o­ddiwrtho yn anewyllysgar (Duw ai gŵyr) ac yn obrin ddigon.

Y trydydd arwydd o gybydd-dod yw es­ceuluso pethau sanctaidd, a duwiol, pan fy­ddo cariad i bethau bydol wedi gorchfy­gu'r galon, a pheri iddi laesu, ac oeri ym mherthynas gwasanaeth Duw.

Y ped werydd arwydd o gybydd-dra yw rhoddi ymddiried mewn cyfoeth, a hyderu arnynt, fel pe bai ein henioes ni yn cael ei chynhaliaeth yn unig oddiwrthynt, ac yn sefyll yn vnig arnynt: yr hwn beth y mae ein Harglwydd Jesu yn ei wadu yn eglur lle y dywed, Nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau ydynt ganddo. Luc. 12.15.

Dymma bedwar o arwyddion, 'ac argoe­lion hynod, a didwyll, wrth y rhai y gellir adnabod vn hyspys, pwy sydd ai calonnau, ac ai ymyscaroedd wedi-clafychu o gybydd­dod.

Phila.

Chwi a'n bodlonasoch ni yn dda iawn yn y pwngc hwn. Bellach moeswch glywed pa rai yw prif achosion cybydd­dod.

Theol.

Dau achos pendifaddeu sy'n peri i ddynion fod yn chwannog. Y naill yw an­wybodaeth o ragluniaeth Duw, ac anym­ddiried ynddo.

Y llall yw diffig profi, archwaethu, a chlywed blâs ar bethau nefol. Oblegid hyd oni chaffo dynion flâs ar bethau gwell, hwy a fawrhânt y pethau hyn: hyd oni chaffont gydnabyddiaeth ar ne­foedd, hwy a garant y ddaiar, hyd oni byddont crefyddol, hwy a fyddant gyby­ddol.

O hyn hawdd yw dirnad yr achos pa harn yr ydys mor channog i'r pethau by­dol hyn, ac yn mawrhau cyfoeth, rhwysc bydol, meluswedd, a golud; sef oherwydd nad adwaenant bethau gwell, na phro­fasant erioed pa flas sydd ar bethau trag­wyddol.

Phila.

Megis yr adroddasoch i ni achosi­on cybydd-dra: felly moeswch glywed bellach pa fath sydd ar ei ffrwyth.

Theol.

Os dechreuaf vnwaith ar hynny, mi a syrthiaf mewn penbleth, neu megis mewn drysni, fel na wypwyf pa fodd y deuaf llan. Canys cyn-ddrwg, a chynnifer yw frwythau heintus y pechod anafus hwn, ac [Page 78]mai prin y medraf fwriadu, nac ym mha fan y mae goreu i mi ddechreu, nac ym mha le y diweddaf arno. Ond diwedd wyf fel y gallwf, mi a ddechreuaf arno.

Phila.

Gadewch i ni gael prawf ar ychy­dig o honynt, ac fe fydd digon hynny.

Theol.

Gan hynny, mi a gymhennaf be­thau ar fyrr, ac mewn trefn. Ac yn gyn­taf, mi a ymresymmaf o eiriau yr Apostol, a grybwyllwyd or blaen. Os cybydd-dod, a serch i arian yw gwreiddin pob drygionis wrth hynny gwreiddin gaudduwiaeth y­dyw, gwreiddin llofruddiaeth, gwreiddin lledrat, gwreiddin tyngu, gwreiddin ce­lwydd, gwreiddin Simoni. cyssegr-werth, gwrei­ddin gwobraug, wreiddin occreth, gwrei­ddin ymgyfreithio, gwreiddin pob ym­rysonau yn yr eglwys, a gwreiddin pob ymgeccreth, ac ymgynhennu mewn gw­lâd. Heb law hyn, y mae cybydd-dod yn ymdanu ar lêd ym mhell, ac yn agos, ac yn cartrefu ym mhôb tŷ, ym mhob tref, ym mhob dinas. Spienna y mae ym mhob congl, ac ymlusco i bob calon, drwy ddry­gu ein pysygwyr, llygru ein eglwys-wyr; llindagu ein cyfreithwyr, clwyfo ein lla­furwyr, gwenwyno ein boneddigion, lladd ein celfydd-wyr, rheibio ein Marsiand­wyr, a brathu ein morwyr. O cybydd-dod cybydd-dod gwenwyn pob peth, archoll Cristianogaeth, anafod pob daioni: Ca­nys [Page]cybydd-dod sydd yn difwyno pob peth, ym mhob man, ym mhob lle, ym mhob gradd, a phob rhyw o ddyn. Difwyno [...]riodasau y mae, drwy gyssylltu yng­nyd ieuaingc a hên, hên ag ieuangc. Dif­wyno lletteugarwch, difwyno syber­wyd; difwyno elusenau, difwyno cre­fydd, difwyno crefydd-wyr, difwyno eglwyswyr, difwyno llywodraethwyr, a difwyno pob peth. Ac am hynny pa be­chod mor anguriol, pa ddrŵg mor ffiaidd, pa fallhaint mor anafus, mor sceler, mor atcas a hwn? O herwydd hyn odiaeth y dywedasai ryw vn gynt: Nad yw pob math ar feiau eraill ond gorchwylwyr i gybydd-dod, i wasanaethu ei gyfraid ef, megis clud-wyri gyrchu, ac iddwyn i mewn iddo ei fyw yd. Caethwas, ac megis trottai iddo yw cyssegrwerth, gwobrau, occreth, twyll, tyngu, celwydd, ar cyffelyb. O pa ddiafol cnawdol yw hwn, sy'n gosod ar waith gynnifer o bechodau: a chanddo y fath gaeth-weision, a negeseuwyr ta­no i wasanaethu ei drō? Ond odiaeth dy­bygech chwi yw helynt y rhai a lygrwyd ar pechob hwn? Nagê gresynol yw eu cyflwr.

Da fuasei iddynt pe nas ganesid hwynt erioed. Oblegid er eu bod yn fyw, meirw ydynt: meirw (meddaf) yn en eneidiau: Canys cybydd-dod yw gwenwyn yr enaid, echryshaint yr enaid. Cybydd-dod yw'r [Page]gwenwyn cryfaf ir enaid ar a ddichon bod. Rhyw gymmysc-bla ydyw megis or holl bryfedach, ac ymlusciaid mwyaf eu gwenwyn ar y ddaiar. Os dichon y cythraul beri i ni lyngcu cymmaint a phwys ceiniog o hwn, digon ganddo hynny, ni ddamunei ddim ychwaneg; canys hynny a'n lladdei yn feirw syth. O hyn y dywed yr Apostol: y rhai a fyn­nant ymgyfoethogi (sef ar frŷs bid iawn, bid cam) syrthio y maent i brofediga­eth, ac i fagleu, ac i lawer o drach­wantau angall, a niweidus, y rhai sy yn boddi dynion i golledigaeth, ac i dde­struw. 1 Tim. 6.9.

Canys megis y mae cybydd-dod yn wen­wyn marwol i'r enaid: felly y mae'r Apo­stol yn ei gyffelybu i ryw sybwll dyfn yn yr hwn y mae miloedd yn boddi. Ac am hyn­ny y dywed ym mhellach yn yr un fan: Ond tydi o wr Duw gochel y pethau hyn. Yn y geiriau hyn, synhwyrol tros ben y mae efe yn cynghori gwenidogion gair Duw i ymogelyd rhagddo. Canys megis y mae'r pechod hwn yn beryglus, ym mhwy byn­nag y byddo: felly y mae yn fwy enby­dus, a chramgwyddus ym mhregethwyr yr Efengyl.

Phila

Yn wir ni ellir amgen na chyfa­ddeu bod cybydd-dod yn bechod dirfawr, anghenfil saith bennog: Etto er hyn ei gyd [Page 81]nyni a welwn yn yr oes haiarnaidd hon, pa nifer mawr o bob math ar ddy­nion a lygrir ganddo, a lleied yw rhifedi y rhai a roddant ddim i weithredoedd da. Y rhan fwyaf yn y dyddiau hyn ni allant hepcor dim i Grist, dim i'r Efengyl, dim i'r eglwys, dim i anghenus blant Duw, ac aelodau tlodion Crist. Ychydig iawn y mae Crist yn rhwymedig iddynt; canys ni wnant ddim erddo, ie gymmaint a dy­wedyd, gair da yn ei blaid, ac ynghweryl ei seintiau tlodion ef. Pob peth gwael a dybiant hwy yn rhydda i Dduw, ac i ddy­nion da.

Oblegid pan ddelont hwy i gyfrannu tu ag at faentumiaeth duwioldeb, ac a­chosion crefyddol, hwy a safant yn dynn ar Neu, anhawdd ganddynt roddi gym­maint a cheiniog. geiniog, ac a russant mewn pethau dibris; gormod yw'r draul leiaf ffordd honno. Eithr iw dreulio arnynt eu hu­nain nid yw ddim yn ormod. Nid yw ddim yn ormod a dreulier ar eu trachwantau, au trythyllwch, ar y cefn, ar bol, ar adeilad, ar gardiau, a disiau, ar fudrogod, ar rysedd a bugeilrhes, ar dafarnau a phutteindai.

Digon bychan yw cantoedd, a miloedd, ie a rhy-tychau iddynt iw treulio ffordd hon­no. Tosturus yw ystyried pa bentyrrau o arian â afradlonir, ac â dreulir ar y pethau hyn. Eithr gwae, gwae hwynt drymmed yw'r cyfrif sydd raid ei wneuthur yn nydd [Page]yr Arglwydd, am ddifrodi eu tiroedd, au rhenti, a'u hardrethi. Yr wyf yn crynu wrth feddwl beth a ddaw o honynt yn y diwedd. Da fyddei iddynt pe na bai gwa­eth eu cyflwr na'r neidr, neu'r costog tom.

Theol.

Gwir iawn a ddywedwch; ac y mae i bawb o honom achos i bryderu am y peth: ac i goffau hên gwynfan y Prophwyd Ieremi, Ierem. 6.13. gan ddywedyd. Or lleiaf o honynt hyd y mwyaf, pob vn sydd yn ohwenychu golud; ac or Prophwyd hyd yr offeiriad pob vn sydd yn gwneuthur ffalster. A Phrophwyd aral a ddywed. Micah 3.10. Adeiladu Sion y maent a gwaed, ac Ierusalem ag anwiredd; ei phennaethiaid â roddant farn er gwobr: a'i offeiriaid â ddy­scant er cyflog, a'r Prophwydi a brophwydant er arian, etto wrth yr Arglwydd yr ymgynhali­ant gan ddywedyd, onid yw'r Arglwydd i'n plith? Ni adaw drwg i'n herbyn.

Y Prophwydi sanctaidd hyn, a gwŷr Duw ydynt yn dangos i ni yn helaeth, he­lynt ein hamser ein hunnain. Yn yr hwn er bod pawb wedi eu llygru, etto hyderu yr ydym ar Dduw, a rhyfygu oi ffafor ef o herwydd ein profess, a'n crefydd, a dy­wedyd yn ein calonnau: ni ddaw drŵg i'n herbyn.

Asune.

Gwir vnion a ddywedwch Syr; ni bu'r byd erioed wedi ei osod mor llwyr ar gybydd-dod, na dynion erioed mor chwannog i'r byd, ac y maent yn y dyddian hyn. Ac [Page 83]etto (mewn gwirionedd) nid oes dim or fâth achos i beri i ddynion fod mor awyddus ir byd hwn. Oblegid nid yw'r byd ymma ond gwa­gedd: ac nid yw'r cwbl ond sorod a sothach: ffei or dommen ymma.

Phila.

Llawer o'ch cyffelyb chwi â fe­drant yn gyfrwys ddigon adrodd geiriau têg, a dywedyd ffei o'r byd ymma, nid yw'r cwbl ond gwagedd, ac er hyn yn eich ymarweddiad ydych yn rhoddi eich brŷd ar y byd fel eraill. Nid ydych yn ymgais a Duw ddim chwannoccach, nac yn gwran­do ei air ef ddim mynychach: nac yn ei ddarllain ddim diwittiach: nac yn gweddio ddim dyfalach. Yr hyn beth â ddengys yn eglur nad yw eich geiriau hygoel, a'ch glân gyffes ddim amgen, ond rhagrith a chel­wydd. Nid yw eich calon ar Dduw er hyn ei gyd. Nid yw'r cwbl ond geiriau: Nid oes dim or fath gynnwrf oddi mewn yn y galon. Am hynny mi â allwn yn hy-dda ddywedyd wrthych chwi fel y dywe­dodd Duw wrth ei bobl: Deut. 5.28, 29. Y bobl hyn â ddywedasant yn dda, yr hyn oll a ddywe­dasant; oh na byddei hyn o galon gan­ddynt, i'm hofni i, ac i gadw fy holl orchy­mynion.

Theol.

Ei eiriau ef ydynt dda, pe bai ei galon yn cyttuno a hwynt, Canys wrth ystyried y cwbl, nid oes achos i ddynion fod mor awyddus ir byd. O blegid y mae [Page 84]yn rhaid iddynt ei adael, darfyddo gwneu­thur eu goreu. Megis y dywedir, Heddyw yn hoiw-ddyn, y foru yn adyn. Ac fel y dywed yr Apostol: 1 Tim. 6.7. Ni ddugasom ni ddim i'r byd, a diogel yw na allwn ddwyn dim ym­maith. Marw sydd raid i bawb, ni wydd­om pa cyn gynted: a pha ham y gesyd neb ei galon ar bethau mor anwadal, a thwy­llodrus? Oblegid pob peth yn y byd ym­ma sydd yscafnach na'r bluen, breuach na'r gwydr, cyflymmach na chyscod, darfod­ediccach na'r mŵg, ac anwadalach na'r gwynt. Diau medd y Prophwyd Dafydd: Dyn sydd yn rbodio mewn cyscod, Psal. 35. [...]. ac yn ei f [...]ino ei bûn yn ofer: y mae efe yn pentyrrun go­lud, ac ni wyr pwy a'i casgl. Y mae yn rhyfedd gennifi fod y wâdd hyn, ac abwyd y ddaiar, sef cybyddion deillion, yn ym­synhwyro am y pethau diflannedig yma, ac yn ymhoffi ynddynt fel y maent. Oni bai fod diafol wedi eu caledu hwynt yn athru­gar, nid ymgaredigent ar dywarchen, ac ar geiniog mor dynn ac y maent; gan dy­bied, a meddwl beunydd nad oes dedwy­ddwch i'w gael ond yn y pethau hyn, y rhai nid ydynt ond sorod, a fothach. Ac ar y diwedd a ddiengant oddi cennym pan dybiom ein bod yn siccraf o honynt. Y brenin doeth yr hwn a gafodd y prawf mwyaf ar bethau bydol, ac â gafodd dyn erioed (canys efe â fwynhaodd beth byn­nag [Page 85]â allei y byd ymma ym mhôb modd ei osod ger ei fron) er hynny ni fedrodd efe gael ynddynt ddim amgen ond gwagedd, a blinder yspryd. Heb law hyn y mae efe yn dadleu yn daer am holl bethau godidoccaf y byd, sef golud, cyfoeth, anrhydedd, difyrr­wch, a thryssor, y siomma y pethau hyn ni yn y diwedd, yr ymlithrant ymmaith, ac l'n gadawant: Canys efe a gyffelyba gy­foeth, a gogoniant y byd hwn i eryr, neu walch, yr hwn â ddeil dyn ar ei ddwrn, gan el lyfnhau, a'i fawrhau, a chymmeryd difyrrwch mawr ynddo, ac ni chymmerei ddêg punt am dano: eithr ynghanol hyn y gwalch yn ddisymmwth a ymgyfyd ar ei adenydd, ac a eheda ymmaith i'r awyr, heb wybod i ba le, ac byth mwyach ni welant hwy eu gilydd.

Geiriau yr yspryd glân yw y rhain. Diha 5. A beri di i'th lygaid ehedeg arnynt? (Gan ddeall am gyfoeth) Ti â elli: yn y man y darfy­ddant, ac y cymmerant adenydd, ac megis eryr yr ehedant ymmaith tu a'r wybr. Oddiwrth hyn y gallwn ddyscu, er maint y serch, ar hoffder, a roddom ar bethau daiarol: etto y pethau hynny ar hynt, naill ai a gym­merir oddiwrthym ni, neu ninnau oddi­wrthynt hwy. Oherwydd paham nid yw dynion bydawl on [...] gweu gwê y prŷf cop­pyn, ac â ellir eu cyffelybu yn gymmwys i'r prŷf coppyn: yr hwn a ymdraffertha [Page 86]yn gweithio drwy'r wythnos i orphen ei we, fel y gallo gyfanneddu ynddi megis mewn tŷ, a thyddyn or eiddo ei hûn: eithr yn niwedd yr wythnos llangcesig, wrth lanhau y tŷ, ag vn arfod ag yscub a'i difu­ddia or etifeddiaeth a ddarparasai iddo ei hûn drwy fawr boen, a thrafferth. Felly yn yr vn modd, darfyddo i ddynion y byd, drwy ofal, a gofid bwrcasu tiroedd helaeth, ac ar­drethi mawrion, gymmaint oll, ac â allent: yno y daw angeu arnynt yn ddisymmwth, ac a ddŵg eu henioes ag vn brâth ai lem-bic­cell: ac yno pa ley maent hwy? Godidawg y dywedasei gŵr call gynt wrth lewyrch naturiaeth: Ni bu neb erioed yn byw yn y byd ymma mor ddedwydd, ar na ddigwyddodd iddo lawer o bethau, o herwydd y rhai y dewisei yn byttrach farw na byw. Ac yn wir ddigelwydd yr wyfi yn tybied na bu neb eriod yn byw vn diwrnod ymma ar y ddaiar, yr hwn ni oddefodd ryw drallod neu gilydd, neu yr hwn ni ellid trallodi ei feddwl cyn y nôs: Naill ai drwy brofedigaethau y byd, neu'r cnawd neu'r cythraul. Neu o ran ei enaid, neu ei gorph, ei dda, neu ei eir-da: O her­wydd ei wraig, ei blant, er geraint, neu ei gymmydogion. O herwydd rhyw enbyd­rwydd yn achos y brenin, y Pennaethiaid, yr eglwys, neu'r deyrnas: O achos trychineb a cholledion drwy ddwfr, neu dân, ar fôr, neu ar dîr. Pa fath fywyd yw hwn, nad oes [Page 87]ynddo vn dydd diogel? Pwy â chwenny­chei hir-drigo ynddo? oblegid y mae yn ddarostyngedig bob dydd i amryw drueni, peryglon, colledion, damweiniau, danno­diaeth, gwradwydd, anair, tlodi, clefyd, afiechyd, y tostedd, y crŷd, y ddannoedd, dolur o ben, dolur o getn, gwewyr yn yr escyrn, a mil o ofidiau.

Phila.

Odiaeth yr adroddasoch i ni ofe­redd y bywyd ymma; ac nad oes ddiwrnod yn ddiangol oddiwrth ryw aflwydd neu gilydd, y naill ofid neu'r llall. Yr hyn beth y mae ein Harglwydd Jesu yn ei gadarnhau yn y rheswm â ddŵg efe i brofi na ddylid drwy Anf [...]ddi [...]. anymddiried ofalu dros drauno­eth: digon (medd efe) i'r diwrnod ei ddry­ganiaeth ei hûn. Neu fel y darllain rhai: y mae i'r diwrnod ddigon iw wneuthur ai flinder ei hûn. Mattl 34. Lle y dangosir yn amlwg fod i bod diwrnod ei dristwch, ei ddryganieth, ei gystudd, a'i wrth wyned. Eithr attolwg ewch rhagoch yn y pwngc hwn.

Theol.

Hyn yr wyf yn ei ddywedyd ym mhellach. Darfyddo i ddynion ymchwthu, ac ymchwsu, ymofidio ac ymofalu, ymdra­baeddu, ac ymdrafferthu nôs a dydd, ar fôr ac ar dir, drwy ddirfawr ofal, a blin­der, llafur a lludded i gribinio ynghyd be­thau, y bywyd ymma: etto ar hynt ym­maith yr â y cwbl: a rhaid yw iniddiweddu lle y dechreuasom. Canys fel y dywed Iob. [Page 88] 1 Yn noeth y daethom i'r byd, ac yn noeth rhaid yw myned allan o honaw. Oblegid megis y bydd melin wynt yn ymguro, ac yn ym­drystio, yn ymchwrnellu, ac yn ymdro­ [...]llu o ddydd bwy gilydd drwy'r flwyddyn: etto ar ben y flwyddyn sefyll a wna lle y dechreuodd, heb symmud droedfedd ym mlaen nac yn ôl: felly darfyddo i ddynion ymchwthalu, ac ymofalu hyd eithaf eu ga­llu, drwy ymorchestui grafu ynghyd gyfo­eth y ddaiar: er hynny yn y diwedd y mae yn rhaid iddynt (o anfodd eu dannedd) ddi­weddu lle y dechreuasant: Diweddu ar ddim megis y dechreuasant oddiwrth ddim, di­weddu mewn amdo fel y dechreuasant mewn rhwymyn. Canys beth a ddaeth o'r Brenhinoedd, Tywysogion, Cedyrn, ar Pen­defigion galluoccaf a fu erioed yn y byd? ym mha le y mae Cyrus, Darius, Xerxes, Alexan­der, Caesar, Pompey, Scypio, a Hannibal? ym mha le y mae yr Harriaid, a'r Edwardiaid, Brenhinoedd gŵrolwych, ac Ardderchawg o Loegr? Onid aethant oll i wared i dŷ an­ghoffadwriaeth? Oni ddychwelasant oll iw­daiar? Ac oni ddarfu am eu holl amcanion hwynt? Ac er eu bod gynt megis duwiau, etto hwy a fuant feirw fel dynion, ac a gwympasant fel eraill. Pwy heddyw sy'n eu hofni? Pwy yn sôn am danynt? Pwy sy'n gwneuthur cyfrif o honynt? Onid yw cardottynion yn sathru arnynt: Tra fuont [Page 89]fyw, Aglwyddi ar y byd oeddynt, mor of­nadwy a llewod. Dychryn i bawb oeddynt, yn llawn rhwysc, anrhydedd, ardderchaw­grwydd, a mawredd, yn gorthrechu pob man lle y delynt, a phwy onid hwynt hwy? eithr yn awr ymadawsant ar byd: Ac (fel y dywaid Iob) Aethant i wared iw tŷ rhag­derfynedig i bod dyn byw. Job. 30.23. Eu rhwysc a syr thiodd gyd a hwynt, au holl ogoniant a gladdwyd yn y llŵch. Heddyw y gorch­guddir hwynt tan bridd, medi eu bwrw allan iw beddrod, a'u gwneuthur yn gy­feillion i lyffaint, a'r pryfed a'u hyffa. A­pha ddigwydd a ddaeth o'u eneidiau hwynt, dyna'r peth sydd fwyaf iw ofni. F [...]lly nyni a welwn nad yw pob cnawd ond ymrithio tros amser ar dwmpath true­n [...] y byd hwn, a rhoi trô oddiamgylch, a diflannu yn ddisymmwth. Oblegid fel y dywed y Poet.

Serius aut citius sedemproperamus advnam.
Rhai yn bwyr, a rhai yn gvnnar,
Pawb sy a'u hynt ar fyn'd i'r ddaiar.
Phila.

Godidog oedd eich ymadrodd: o­diaeth gennif ei chlywed: ni fedraf na ryfe­ddwyf wrth synnied yr holl bethau hyn, fod dynion yn ymroi i'r byd mor llwyr, ac y maent, y cythraul, dybygaf, a gafodd wall ar­nynt: Canys ni ddygant ddim ganddynt wrth [Page 90]farw, onid eu gweithredoedd da, a drŵg.

Theol.

Cribddeilwyr tomlyd y byd hwn â ellid yn gymmwys eu cyffelybu i dryssor­farch Brenin, yr hwn â ddwg ei bwn o aur neu arian gymmaint ac â allo ei gynnal, eithr yn yr hwyr y tynnir y tryssor oddiar­no, ac ynteu â droir i stabl domlyd, heb ganddo ddim wedi ei adael ond ei fol yn wâg, a'i gefn yn friwedig: Felly dynion goludog megis mulfrain yn llyngcu'r cwbl, neu lindis yn difetha, ac yn yssu â ddelont o hŷd iddo, yn ôl iddynt gasclu ynghyd bentyrrau athrugar o aur ac arian (y rhai y­dynt megis pynnau arnynt iw dwyn tra fônt yn y byd) a ddioscir yn y diwedd or cwbl oll: ac a ddymchwelir i'r bedd, heb ddim or da mawr yn glynu wrthynt: ond yn vnig eu cydwybodau yn llygredig, ac yn anafus. Ynghyd a'r rhain y treiglir hwynt i geu-dwll tywyllwch tragwyddol.

Phila.

Ym mha beth yn bennaf y mae colyn, a nerth y byd yn sefyll ynddo?

Theol.

Megis gynt yr oedd mawr gryfder Sampson yn sefyll yn ei wallt: felly mawr gryfder y byd sydd yn sefyll yn ei ddwy fron, y naill o felus-wedd, a'r llall o fudd. Oblegid tebig yw'r byd i fudrog ddigywil­ydd, yr hon drwy noethi ei bronnau, â fai yn hudo dynion i anllad rwydd: Ac felly y mae'r byd yn rheibio, ac yn twyllo milo­edd i ymroi iw drachwantau: Canys oni [Page 91]ddichon ein twyllo ni ar naill fron, etto efe â gais ein hudo ar llall. Os metha gan y byd ein hynnill ni â melus wedd, efe a ddyry gais i gael methel arnom a budd; os metha â budd, efe a gais a melus-wedd. Dyn rhyfedd yw efe o fil yr hwn ni sugno o vn or ddwy fron hyn. Eithr pa vn byn­nag a sugno, diau y gwenwynir ef: Canys nid yw'r byd yn rhoi dim amgen llaeth onid gwenwyn marwol. Oblegid tebig yw'r byd i Jael wenheithus yn eistedd wrth ei drŵs, ac yn gwahodd dynion i ddy­fod i mewn i yfed o laeth ei goeg-ddigrif­wch; ond hwyn gyntaf y caffo gennym ddyfod i mewn, y mae efe yn barod (ie tra fôm yn bwytta) ai forthwyl, ac ai hoel i'n trawanu trwy ein ymennydd, megis y gwnaeth Jael a Sisera, Barn. 4.21.

Phila.

Mi â welaf yn eglur nad yw y byd ond megis putteinwraig, abwyd cryf, neu rwyd faglog, yn yr hon y delir milo­edd. Glûd ydyw yn gludio ein nwydau ni fel na ddichon ein deisyfiadau dderchafu i fynu. Cyffelyb yw i bwysau clocc â rwy­mid wrth ein eneidiau, ac au tynnai i lawr ir ddaiar. Ein hoelio y mae yn dynn wrth y ddaiar, a'n marweiddio fel clai, a'n gw­neuthur yn ffiaidd gan yr Arglwydd. Yr wyf yn cofio wneuthur o Dduw gyfraith, mai pa beth bynnag â gerddei ar ei dorr a ddylei fod yn ffiaidd i ni. Pa faint ffieiddi­ach, Levit 11.42. [Page 92]yw'r cribddeilwyr cnawdol hyn, y rhai a gyfansoddir yn dynn wrth y ddaiar.

Theol.

Yr Apostol S. Jago wrth ystyried drygioni y byd, (a gwybod mor ffiaidd i'n gwna ni ger bron Duw) sydd yn llefain yn ei erbyn, gan ei gyfenwi yn odineb, a'r cy­byddion yn odineb-wyr, o herwydd eu bod yn gwrthod Crist, eu gwir briod, ac megis putteiniaid yn rhoddi eu calonnau i'r byd. Jag. 4.4. Chwi odineb wyr a godineb wragedd, oni wyddoch fod cyfeillach y byd yn elyniaeth i Dduw? Pwy bynnag am hynny a fynno fod yn gyfaill ir byd y mae yn ymwneuthur yn elyn i Duw. A phwy â feiddia sefyll allan a dywedyd, myfi â fyddaf elyn i Dduw? Pwy gan hynny â feiddia fod yn gybudd? Beth gan hynny a ddaw o honoch chwi o gybyddion drygionus?

Phila.

Eglur yw wrth yr Scrythyrau mai peryglus tros ben yw gormod serch ir byd hwn, a chwannogrwydd annigonol i gasclu. Ac na ŵyr dynion pa beth y maent arno, pan fyddant mor awyddus yn ymroi i'r byd.

Theol.

Y gŵr cenedlig. Sophocles a gy­fyd yn y farn i'n herbyn ni: Canys efe a ddywaid: Annigonolrhwydd yw'r drygioni ffieiddiaf ym mhlith dynion: Eithr yn ein mysc ni y mae llawer yn debig i'r sugn­draeth, neu'r llyngc-lyn, ni wnant gydwy­bod o lyngcu y cwbl a ddelont o hŷd iddo, ac er hynny ni sedrant ymddigoni. Ni ddi­chon [Page 93]yr holl fyd eu bodloni, ond rhaid yw i Dduw greu bydoedd etto o newydd iw bodloni hwynt. Cleifion ŷnt or dropsi aur, pa fwyaf a gaffont, mwyaf a geisiant. Serch i arian a gynnydda fel y cynnyddo yr ari­an. Eithr yr Scrythur a ddywaid, Preg. 5.10. Yr hwn a garo arian ni ddigonir ag arian. Oh nad y­megnîem ni yn fywiog i ddiangc allan or vffern-dwll hwn, a sathru y lleuad (sef pethau bydol) tan ein traed, Datc. 12.1. fel y dywedir am yr eglwys. Oh na roddem ein serch ar bethau vchod, ac nid ar bethau sydd ar y ddaiar. Oh nad ehedem yn vchel, ac nad ymgodem fel eryrod, gan edrych i wared ar y byd ac ar bob peth sydd ynddo, megis tu ar llawr, drwy ddirmyg, a sathru tan ein traed ei odidawgrwydd ef, fel na chaffei byth mwyach feistroli arnom.

Phila.

Dedwydd a thra dedwydd yw'r hwn a ddichon wneuthur hynny. Ac mi a at tolygaf i'r Goruchaf Dduw roddi i ni ei yspryd Glân, Can. 4.6. fel i'n derchafer goruwch y byd hwn i fynyddoedd y myrrh a myny­ddoedd y peraroglau. Canys faint dedwy­ddwch fyddei i ni fod ein ymarweddiad yn y nefoedd? Sef bod gwladwriaeth ein ca­lonnau gyd â Duw, drwy aml weddiau, dar­llain, myfyrio, a nefol ddeisyfiadau: hyn vn ddiau fyddei ddringo i fynu goruwch y byd, a chyfanneddu o fewn stafelloedd tangneddyf. O na fedrem ni lwyr ddir­nad [Page 94]y byd hwn, ai iawn ystyried yn ôl ei naturiaeth. Na chofiem yn ddifrif-bwyll yr oferedd sydd ynddo, a godidawgrwydd y byd a bery byth, fel i'n cynnyrfid i ddi­ystyru y naill, ac i garu'r llall: i gasau y naill, ac i fawrhau y llall, i garu Duw yn fwy nag erioed, ar byd yn llai. Canys beth yw'r byd hwn ond gwagedd ar wagedd?

Antil.

Aruthr o'r diystyru yr ydych chwi ar y peth y mae eraill yn ei gymmer­yd yn Dduw iddynt. Dirmygus y dywed­wch am y peth y mae y rhan fwyaf yn ei sawrhau yn rhagorol. Dibrisio a wnewch chwi y peth y mae llaweroedd yn gwneu­thur cyfrif mawr o honaw. Moeswch glywed eich rhesymmau chwi. Dangos­wch y neglurach pa fath beth ydyw, hysp­yswch ei ddull ai ag wedd.

Theol.

Y byd, môr o wydr ydyw, ym­ddangos-fa ffôl ddigrifwch, chwareufa of­eredd, ca [...]berth amry fusedd, sybwll gofi­diau, cut o fudreddi, dyffryn trueni, drŷch o adfydwch, afon o ddagrau, syngryg hu­doliaeth, cawell yn llawn o dulluanod, llo­ches scorpionau, anialwch o fleiddiau, ca­ban o eirth, corwynt cystuddiau, difyrrwch twyllodrus, gwall-gôf llawen-ffôl, lle y mae digrifwch siommedig, cystudd anochel, tri­stwch diymmod, llawen-fyd anwadal, afl­wydd diddiwcdd, llwyddlant diflannedig, trymder hir-faith, hyfrydwch darfodedig.

Phila.

Yr awr hon y dangosasoch ddull, ac agwedd y byd hyd yr eithaf, ac a'i goso­dasoch allan wrth ei liw a'i arwydd. Ac fe ellid tybied ei fod efe wedi ei reibio, neu yn ynfyd cynhwynol yr hwn o hyn allan a o­sodei ei feddwl arno. Ond etto ewyllysio yr wyf gael clywed ychydig ychwaneg am y peth a ofynnais i chwi gynne: ym mha beth yn bennaf y mae nerth, a gwenwyn y byd yn sefyll ynddo?

Theol.

Yn hyn y mae mawr gryfder y byd yn sefyll, sef o'i fod yn tynnu i lawr sêr y nefoedd, ac yn peri iddynt gwympio ir dda­iar; fel y dywedir am gynffon y ddraig. Date. 12 Yr hon yw swydd-ymgais, cybydd-dod, a serch ir byd hwn. Canys y mae i ni le i ryfeddu, ac i bryderu wrth weled pa wedd y mae serch ir pethau hyn wedi anafu, a gorchyfygu lla­weroedd o weision enwog i Dduw, yn gy­stal Pregeth-wyr a Phroffesswyr yr efengyl: yr hyn beth sydd argoel hynod o'i gryfder ef. Oblegid hwn yw'r offeryn cadarnaf, ar erfyn deheuaf-a gymmer Satan i osod ar­nom, pan ballo pob peth arall.

Canys prŷd na thycciei math yn y byd ar brofedigaeth yn erbyn Crist, y Cythraul a­ddûg allan yn ôl y cwbl, yr arf-hwn iw er­byn: sef Yr holl bethau hyn â roddaf i ti, Matth. 4. gan ddangos iddo ogoniant yr holl fyd. Felly efe (wedi profi yn fynych nad yw hwn yn pa­llu yn amser) a fwriadodd orchfygu Crist [Page 96]ei hun ag ef. Ac wrth hynny cryfder y byd ar Cythraul sydd yn sefyll yn y pethau hyn. Canys pwy nis daliodd efe yn y magl hwn, sef, Yr holl bethau hyn a roddaf i ti. Pwy nis clwyfodd? Pwy nis twyllodd? Pwy ni orchfygodd? Dymma'r modd yr hudodd efe Balam: Dymma'r modd y twyllodd efe A­chan: A hwn y gorthrechodd efe Iudas: A hwn y rheibiodd efe Demas. Ac a hwn yn ein dyddiau ni yr awr-hon y mae efe yn twyllo llawer o ddynion rhagorol. Oblegid Phenix yw efe ym mhlith dynion yr hwn nis gorthrecha'r byd. Je rhyfeddod yn y byd yw'r hwn ni ellir ei ynnill ag arian.

Phila.

Yr wyfi bellach, wedi fynghwbl fodloni am y matter ymma: eithr vn peth etto sy'n taro yn fynych yn fy meddwl; sef na ddichon bod gan y crintach-wyr cyrrith hyn ddim gwir gyssur yn eu digrifwch a'u cyfoeth, o herwydd nad oes ganddynt ddim cyssur yn Nuw, na heddwch yn eu cydwybodau eu hunain.

Theol.

Gwir iawn a ddywedwch. Am­hossibl i'r sawl a garant y byd hwn, allu cael dim gwir gyssur yn Nuw. Oblegid ni ddichon neb wasanaethu dau feistr, Duw a golud bydol.

Am hynny peryglus, ac ofnadwy yw en cyflwr bwynt, er nad ydynt yn ei weled, nac yn ymwrando ag ef; megis y dangosaf i chwi wrth siampl hynod [...]eth pe bai vn or [Page 97]cribddeilwyr goludog hyn, wedi ei wisco mewn melfed, a brethyn aur yn wŷch ra­gorol; a'i osod i eistedd ar ei fwrdd, a hwn­nw yn gyflawn o bôb danteithion bydol; a chael ei wasanaethu gan lawer o weision yn dra Arglwyddiaidd, ac yn vrddassol tros ben, a bod yn eistedd yn ei oruwch stafell, a honno yn discleirio fel eur-lliw; a chael dwyn attobôb gwasanaeth, y cyntaf, ar ail, ar trydydd a cherddorion, yn dra pendefi­gaidd; ac ynteu yn ei gadair fel Brenin ar ei orseddfa: etto er hyn i gyd; pe gosodid y pryd hwnnw wrth ei ddwyfron ef ddagr noeth, barod iw drywanu: Pa hyfrydwch, pa lawenydd, pa gyssur â allei efe ei gym­meryd yn yr holl bethau eraill? Felly yr vn modd pa rwysc, neu ddigrifwch bynnag y mae dynion drygionus yn ei gael ymma ar y ddaiar, etto eu heuog, ai vffernol gydwy­bod sydd megis dagr lem wedi ei gosod beunydd yn agos at eu calonnau, fel na ddi­chon bod ganddynt ddim gwir gyssur mewn dim ar â feddant.

Neu gadewch i mi ddwyn y peth ar ddeall i chwi fel hyn. Beth pe gwnai ddŷn fradwriaeth yn erbyn y Brenin, a'i fod am hynny wedi ei ddal, ai farnu, ai fwrw iw grogi, ac iw dynnu yn aelodau: yn y cyfryw gyflwr â hwn, beth â ddichon roddi cyssur ynddo? A ddichon difyrrwch, a cherddori­aeth? A ddichon aur, neu arian, neu diro­edd, [Page 98]neu ardrethi? Na ddichon: Nid oes yr vn or pethau hyn a wna lesâd iddo, naca ddiddana ddim arno. Oblegid meddwl gwa­stadol am farw sydd yn gwascu cyn dosted ar ei galon, fel na ddichon dim oll wneu­thur llesad iddo, nac esmwythau ar ei ofid.

Beth gan hynny ai cyssura yn y cyfryw anghyflwr a hwn; Onid pardwn wedi ei selio, a sêl fawr y Brenin, ai law ef ei hûn yn scrifennedig wrtho. Canys cyn gynted ac y caffo hyn, ei galon farwaidd a adfywia, ac a lonna o lawenydd. Dymma wir gy­flwr pob cribdd [...]iliwr bydol, aflan, a Di­dduw, yr hwn nid oes ganddo oddiwrth y Brenin nefol ddim siccrwydd o Bardwn, a maddeuant am ei bechod: ac yno pa la­wenydd a ddichon fod gan [...]ho yn ei fwyd, ai ddiod, ei dda ei ani [...]iliaid, ei wraig, ei blant, ei diroedd, ai ardrethi, nac mewn dim arall a [...]êdd? Canys meddyliau dy­chrynllyd am vffern sydd bob awr yn ei gythry [...]lu oddi [...]ewn: yn [...]agu ac yn diffo­ddi ei holl lawenydd. Nid ymlonydda cydwybodau treiswyr, a chribddeiliaid either cyfodi a wnant drwy ofn, a dy­chryn i gyh [...]ddo, a thestiolaethu iw her­byn: gan ddywedyd wrthynt yn frau, ac yn ddiragrith mai colledig ydynt, er llaw [...]d, a digrif [...]d y cymmerant arnynt fod yngolwg y byd.

Canys nid oes ddadl na bônt yn dioddef [Page 99]o'u mewn, lawer gwascfa drom, a llawer oerloes calon; ac nid yw eu holl ddigrif­wch, a'u rhodres ond gwên ar y genau yn vnig oddiallan, heb ddim gwir gyssur yn y galon. Am hynny y dywed y Brenin doeth. Diha. 14.13. Job. 27.20. Je wrth chwerthin y bydd blîn ar y galon: a diwedd y llawenydd hwnnw yw tristwch. Job hefyd y gŵr sanctaidd a ddy­wed. Dychrynniadau a'i goddiweddant ef fel dyfroedd; conwynt a'i cippia ef liw nôs. Eliphas y Temaniad a gadarnha yr vn peth, Holl ddyddiau yr annuwiol y bydd efe yn ymofidio, Job. 15.20, 21. &c. llais ofnadwy sydd yn ei glustiau ef, &c. felly nyni a welwn pa fodd bynnag y mae llawer annuwiol-ddyn [...]nawdol yn rhwyforio (a'i hwyliau yn vchel yngolwg y byd) ym mhôb difyr­wch, a llawenydd, gan ddangos wyneb têg: etto efe a ddwys-bigir oddimewn a dychrynniadau, ac a gwascfaoedd cydwy­bod yn erchyll tros ben, ac yn dra ffyr­nig.

Antil.

Chwi a ddywedasoch lawer yn awchlym yn erbyn cybydd-dod: Eithr i'm tyb i tra na chwenycho neb ond yr eiddo ei hûn, ni ellir dywedyd ei fod ef yn gybudd.

Theol.

Gellir yn wir: Canys nid yn v­nig efe sydd gybudd yr hwn a chwenny­cho yn awyddus eiddo arall: ond hwnnw hefyd a gadwo, ac a ddalio yn dynn, yn garlaidd ac yn grintachlyd ei eiddo ei hûn. [Page 100]ac â fyddo mor galed ac na ddaw dim o­ddiwrtho, onis gwescir o'i anfodd, megis gwascu agoriad o law Hercules.

Nid gwaeth gan y cribinwyr tomlyd hyn golli eu gwaed nac ymadael a'u da. Prinhau â wnânt ar y bol, ar cefn, i geisio dwyn ei Duw (sef eu golud) i mewn iw cîst. A phan gaffont ef vnwaith i mewn yno; â ymadawant ag ef yn hawdd dyby­gech chwi? na wnânt: nid ymedu dyn a'i Dduw er dim â ddigwyddo: efe â fwyttu fara pŷs, ac â ŷf ddiod succan, yn gynt nag y lleihao efe ddim ar ei Dduw. Am hynny y dywed yr Scrythur: Na fwytta fwyd y cenfigennus drwg ei lygad, Dihar. 23.6, 7, 8. ac na chwennych o'i ddanteithion ef: Canys megis pe meddyliei efe felly yn ei galon y dywed efe wrthit: bwytta ac yf, a'i galon heb fod gyd â thi: y tammaid â fwytteaist, a fwri di i fynu, a'th eiriau melus a golli di. Yr hên ddihareb yw, fod y cybudd yn dwyn [...]i­fieu, yn gystal y peth sydd ganddo, a'r peth nid yw ganddo; o herwydd ni chym­mer wrth ei gyfraid, o'r hyn sydd ganddo. Ac wrth hyn chwi â welwch, fod llawer o nerth, a grym cybydd-dod yn sefyll mewn crintachrwydd yn yr eiddom ein hunain.

Antil.

Er hynny y mae yn rhaid i ddynion fod yn ofalus, ac yn ddyfal ynghylch eu gor­chwylion bydol, a bwriadu byw. Y byd sy galed ac nid hawdd yw ymdaro. Yr hwn nid [Page 101] [...]rycho yn fanwl am drîn y byd, drwy fod [...]n bryssur yn ei waith, ai orchwyl, â ddi­ [...]hon fyned i gardotta, neu farw o new­ [...]n, am a wn i.

Theol.

Nid wyf fi yn gwadu, nas gell­ [...]ch, ie nas dylech fod yn ddiwid yn eich [...]waith, a'ch gorchwyl; drwy gmmeryd [...]ynny yn ofn Duw, ac â chyd wybod dda, [...]l y dywedais or blaen: eithr yr awydd [...]wnnw, ar chwannogrwydd, a'r gormod [...]rch i arian y mae Duw yn ei gondemnio.

Antil.

Credwch fi nid adwaen i neb a'i [...]sâ Nid wyfi yn gweled nad yw pawb [...]n caru aur, ac arian.

Theol.

Un peth yw trîn, a mwynhau, ac [...]rfer y pethau hyn, a pheth arall yw ei caru, a [...]osod ein calonnau arnynt: Canys yr Scry­ [...]ur â ddyŵed: Os cynnydda golud, Psal. 62.10. na ro­ [...]dwch eich calon arno. Ac Joan Sanct a ddy­ [...]ed: Na cherwch y byd, 1 Joa. 2.15. na'r pethau sy yn y [...]d. Nid yw efe yn dywedyd, na thrinwch, [...]c arferwch y byd; ond, na cherwch y [...]d hwn: Canys ei drîn, a'i arfer sydd rŷdd, a [...]yfreithlon i ni, ond nid rhŷdd yw ei garu. [...] hyn y dywed yr Apostol: 1 Cor. 7.31. Y rhai â arferant [...] byd hwn, byddant megis heb ei gam-arfer. [...]anniattau y mae yr Apostl arfer pethau y [...]d hwn yn sobr, ac yn gymmedrol ac yn [...] Duw, eithr nid mewn modd amgen. [...]ghenrhaid sy yn gofyn gennym ei arfer, [...]egis yr ydym yn arfer bwyd a diod, a di­llad: [Page 102]ond gwiliwn rhag cybyddu mwy na [...] a fyddo anghenrhaid, rhag gormodedd: dy­na fam y drŵg. Yr yspryd glan a ddywed [...] Bydded eich y marweddiad yn ddiserch i aria [...] gan fod yn fodlon i'r hyn sydd gennych yn bre­sennol. Heb. 13.5. Gan hynny dedwydd yw'r neb a fy­ddo gwir fodlon i'w gyflwr presennol beth bynnag fyddo; ac a ymddygo ynddo yn lla­wen, ac yn weddaidd. Oblegid yr yspry [...] glan a ddywed: Preg. 2.24. Nid oes daioni mewn dy [...] oddieithr iddo fwytta ac yfed, a pheri i'w [...] ­naid gael daioni o'i lafur: hyn hefyd â welai [...] i yn dyfod o law Dduw ei hun. Yn y geiria [...] hyn deall y Brenin doeth yw, mai dymma' [...] holl ddaioni a allwn ni ei gyrrhaeddyd yn y byd; sef cymmeryd mwyniant cymmedrol a chyssurol o bethau y bywyd ymma, y rha [...] y mae Duw yn eu rhoddi i ni. Ac ym mhe­llach y dywed mai rhodd ragorol gan Dduw yw eu harfer yn weddol, ac yn gyssur [...] Canys fel y dywed hên Athro. Gregor. Naz. Gwr syn [...] ­wyrol yw'r hwn ni thristeir o herwydd diffig y pethau nid yw ganddo, ond a lawenycha yn y pethau fydd ganddo; gan eu harfer i ogonian [...] Duw, ac i'w gyssur ei hun. Mal hyn y di­bennaf y pwngc hwn, ac yr attebaf i chwi sef fod yn rhŷdd, ac yn gyfreithlon i ni drîn, ac arfer, a mwynhau aur, ac arian [...] a pethau bydol yn gymmesuraidd, y [...] gymmedrol, ac yn dduwiol; eithr er dim na, osodom serch ein calonnau arnynt.

Antil.

Etto er hyn, nid wyfi yn gweled, [...]d yw y Pregethwyr, a'r Professwyr goreu, [...] gwŷr dyscedig, a'r crefyddol mor chw­ [...]nog i'r byd, ac mor awyddus ag eraill. Theol. Yn awr yr ydych yn dangos eich [...]pryd. gŵenwynig yn erbyn gwell gwŷr a chwi eich hûn. Ac y mae gennif bed­ [...]ar math ar atteb i chwi.

Yn gyntaf, er bod gŵyr duwiol yn my­ [...]d tros y terfyn ffordd honno, ac ychydig [...] rhŷ danbed, ac awyddus i gasclu pe­ [...]au bydol, etto nid ydynt yn torri allan [...]n belled mewn chwannogrwydd, ac mor [...]afus ag eraill.

Yn ail, os Duw a'u gedu hwynt arnynt [...] hunain i'w gorchfygu gan y byd, etto efe [...] ei fawr ddoethineb, ai drugaredd a drŷ [...] cwbl er llesad, a daioni iddynt: Canys [...]lly, yn gyntaf, y darostwng efe hwynt, [...] wedi hynny, ai cyfyd i fynu drachefn. [...] felly pob peth sydd yn gweithio ir hyn [...]reu i'r sawl a garant Dduw. Rhuf. 8.28.

Yn drydydd wrth athrawiaeth yr ydym [...] yn byw, ac nid wrth siamplau: Canys [...] mae diffygion, a gwendid yn y rhai go­ [...]u o bobl Dduw:

Ac am hynny ni wasanaetha i ni gym­ [...]eryd gwendid y rhai mwyaf eu rhinwedd­ [...], ac yn dwyn y rhagormwyaf ym mhlîth [...]weision Duw, i fod yn rheol, yn drefn, [...] yn batrwm i ni, i fyw wrthynt. Drygio­nus [Page 104]gan hynny, ac annuwiol yw eu da [...] hwynt y rhai a honnant, ac a gymmera [...] odineb Dafydd, meddwdod Lot, cwym [...] Petr, tramgwydd Abraham, Gwendid S [...] ­lomon, &c. yn ymguddfa, yn escus, ac ym ddeffynfa iddynt eu hunain, am y cyffe [...] feiau, a phechodau, fel pe bai rŷdd iddy [...] bechu fel hwythau. Yn ddiwaethaf, fy a [...] ­teb i chwi yw hyn, fod eich ymadrodd eic [...] hûn yn gwaethygu ar eich matter; cyn b [...] ­lled ydych oddiwrth wellhau dim arno [...] eich geiriau. Oblegid os pregethwyr, [...] gwŷr duwiol eraill (yn ôl arfer gw [...] ­ddiau lawer, yn ôl dagrau; a chyfry [...] ­gau addas eraill) ni allant ddiange y ddifriw nas clwyfer hwy weithiau, ac na lliaser yn dôst gan y byd, ar cythraul: beth [...] ddaw o honoch chwi, y rhai nid ydych yn [...] morol am ddim cyfryngau, nac yn hyb dim ar y gelyn, ond yn ymroi iddo y [...] rhwydd, ac yn ddiymdrech? Os y Cythra [...] a orchfygodd Ddafydd, a Lot, a Sampson, [...] Salomon, ar cyfryw wŷr Cedyrn nertho [...] beth a dderfydd i'r rhai llwyr fydol, a D [...] dduw? Os y gwŷr gwrolaf mewn rhyfel, [...] Capteniaid pennaf a syrthiant, beth a dda [...] o'r ciwdawd-wyr llesc, a digalon? Ac fel dywed S. Petr: 1 Pet. 4.18. Os prin y bydd y cyfiaw [...] cadwedig, pa le yr ymddengys y drygionus. [...] annuwiol? Felly mi a'ch cymmeraf c [...] [...] ar adsias, ac a drôf eich arf yn eich erl [...] [Page 105]eich hûn, Oni ddichon gŵyr duwiol ddi­angc drwy'r byd heb ddyrnodiau, a chlei­siau, a briwiau, beth a ddaw or rhai ni wyddant beth yw duwioldeb?

Antil.

Dywedyd yr wyfi etto, fod yn rhaid i ddynion fyw, ac ymdaro ar byd. Ni allwn ni fyw wrth yr Scrythyrau. Ac am y peth a elwch chwi cybydd-dod, nid yw ddim amgen ond cynnildeb.

Theol.

Mi a dybiais y ceid allan or di­wedd. Yn awr y talasoch iddo hyd adref. Chwi a ddaethoch i'ch hên helynt, ac megis yscyfarnog i'w hên wâl ac iw hên berth. O­blegid dymma loches, a chatberth y byd, lle y mynnai lawer guddio cybydd-dod. Ond myfi a wnaf fyngoreu ar eich ymlid chwi allan o honaw ar Scrythyrau.

Yn gyntaf Salomon a ddywed: Diha. 11.24. Rhyw vn â arbed ei dda, ac â ddaw i dlodi. Felly cy­bydd-dod a ddŵg dlodi weithiau. O hyn­ny yr ymresymmaf fel hyn. Y peth a ddy­go dlodi nid yw gynnildeb, eithr cybydd­dod, a chrintachrwydd a ddŵg dlodi, am hynny nid yw cybydd-dod yn gynnildeb.

Yr vn Salomon a ddywed: Diha. 15.27. Y neb sydd ai fryd ar gasclu a flina ei dŷ ei hûn: hynny yw, y cybudd sydd achos llawer o flinder, ac o ddrygau yn ei stat, ai deulu. Or Scrythur hon yr ymresymmaf fel hyn. Y peth a flina dŷ gŵr ei hun, nid yw gynnildeb: eithr cybydd-dod a flina dŷ gŵr ei hûn, am [Page 106]hynny nid yw cybydd-dod yn gynnildeb. Yn ddiweddaf oll, yr hên ddihareb â ddy­wed. Cybydd-dod ni ddwg ddim adref, am hynny nid yw cybydd-dod yn gynnildeb. Oblegid nyni â welwn fod dynion o wir awydd i geisio cyrhaeddyd ychwaneg, yn colli yr hyn, oni bai y chwannogrwydd hwnnw, â allasent ei gael.

Gŵr doeth Cenedlig â ddywed: Cyn­ddrwg yw drwg elw a cholled: Hesiod. Eithr y cy­budd sydd yn ymgyrhaeddyd am elw drwg, ac am hynny yn ymgyrhae­ddyd am golled, ac o hynny nid yw gyn­nildeb.

Un arall â ddywed: Phocilides Elw anghyfiawn â ddwg golled a thrueni, ac am hynny digon pell yw oddiwrth gynnildeb, ac ysmon­aeth dda.

Mal hyn gobeithio yr wyf eich bod yn cael y fâth ymlid arnoch, gan Dduw, a dy­nion, ac na ddichon y gatberth hon eich cuddio. Ac am hynny ceisiwch ddiangc allan o honi, ac ymwrandewch am ryw loches arall, Canys ni thyccia hon i chwi.

Phila.

Yr awr hon y cauasoch ei safn ef, ac ai hymlidiasoch allan o'i dwll: A gwir a ddywedwch, sef i'r Cenedloedd digrêd gondemnio cybydd-dod, a phôb elw an­ghyfiawn a arferir, ac a amddeffynnir yn ein plith ni: ac hwy a gyfodant i'n her­byn yn y farn. Eithr bellach ymadawn ar [Page 107]cynnen-wr ymma, ac awn rhagom: ond y mae vn peth yn ôl etto, am yr hwn yr ewyllysiwn gael fy modloni, sef pa gyffyri­au, neu feddiginiaeth, oreu yn erbyn cy­bydd-dod.

Theol.

Y mae dau fâth ar feddiginiaeth nodedig yn erbyn cybydd-dod: nid amgen.

  • 1. Bodlonrhwydd.
  • 2. Ystyriaeth o ragddarparwch Duw.
Phila.

Moeswch glywed am fodlonrhw­ydd, allan or Scrythyrau, beth â ddywed yr yspryd glân.

Theol.

Yr Apostol â ddywed. O chawn ymborth, a dillad, ni a ymfodlonwn ar hynny: Canys ni ddugasom ni ddim i'r byd, 1 Tim 6 6, 7, 8. a diogel yw na allwn ddwyn dim ymmaith. Hefyd yr yspryd glan a ddywed: Heb. 13.5. Phil. 4.11 Bydded eich ym­arweddiad yn ddiserch i arian, gan fod yn fod­lon i'r hyn sydd gennych yn bresennol. Dra­chefn yr Apostl a ddywed: Ddyscu o honaw ef ym mhâ gyflwr bynnag y byddei, ymfodloni ag ef Deliwch sulw ar y peth a ddywaid, sef ddyscu o honaw; canys ni fedrei efe o honaw ei hûn ymfodloni. Oblegid rhôdd ragorawl oddiwrth Dduw yw bodlon­rhwydd: fel y mae yn scrifennedig: Y cyfiawn â fwytu hyd oni ddigonir ef, Diha. 13.25. eithr bol yr an­nuwiol fydd mewn eisieu. Fe ddywed vn o hên Dadau yr eglwys. Nyni â ddylem ymarfer o fyw ar ychydig, ac ymfodloni a hynny; Cyril. in Jo. 12. fel na wnelom ddim yn ddrygionus, neu yn aflân, [Page 108]er mwyn budd. Un arall a ddywed: Nid yw efe dlawd yr hwn nid oes dim ganddo, Chrysoft Hom. 52. eithr yr hwn sydd yn chwennych llawer: Ac nid yw efe gyfoethog, yr hwn a feddianno lawer, ond yr hwn nid oes arno eisieu dim; canys ni bydd byth eisieu ar fodlonrhwydd. Nid oes dim go­fid mewn prinder, oddieithr lle y byddo chwant annigonol i gael ychwaneg. O byddwn hyw yn ôl rheol naturiaeth, ni byddwn byth yn dlo­dion; os yn ôl ein trachwant, ni byddwn ni byth cyfoethogion.

Da y dywed y Poet. Nac ymgyfoethog­wch drwy anghyfiawnder, Enripid. ond drwy vniondeb: ymfodlona a'r eiddot dy hun: ac ymgadw oddi­wrth eiddo eraill. Mal hyn nyni a welwn fod, nid yn vnig Duw ei hun yr hwn yw ffynnon yr holl ddoethineb, ond dynion he­fyd, yn gystal rhai digrêd tan naturiaeth, a chredadwy tan râs, o vn frŷd yn cynghori i ni ymorchestu, a gwnneuthur egni i geisio cyrrhaedd bodlonrhwydd: Ac yno y dichon fod gennym gyffyr meddiginiaeth godi­dawg yn erbyn cybydd-dra.

Phila.

Moeswch glywed rhyw-beth am yr ail math ar ymwared yn erbyn cybydd­dod.

Theol.

Yr ail yw difrifol ystyriaeth am ragddarbodaeth Duw. Ar cyphyr hwn sydd gymmorth iachusawl yn erbyn ansynhwy­rol, a gofidus ofalon am y bywyd ymma. Oblegid pe baem ni yn synnied yn ddyledus [Page 109]o ymgeleddus ragddanbodaeth Duw tu ag ar ei blant, ym mhôb oes, o ran eu hym­borth a'u dillad; ac mor rhyfeddol y dar­parodd efe iddynt eu hangenrheidiau, di­gon fyddei hynny i amlygu, ac i argyoeddi y mallhaint hwn, ac i osod o'n blaen fodd a chyfrwng difethedig i'n cadw rhag cy­bydd-dod. Darllain yr ydym mor rhyfe­ddol y darparodd Duw fôdd i achub ei Brophwyd Eliah, yn amser y drudaniaeth tramawr, ar sychder a-oedd yn Israel. Oni orchy mynnodd yr Arglwydd i'r cigfrain ei borthi ef wrth yr afon Cerith? Oni ddûg y cigfrain iddo fara a chîg y boreu, a bara a chîg brydnawn, ac ynteu a yfodd or afon? 1 Brenh. 17.

I ba beth y mynegwn pa fodd dieithrol y rhag ddarbododd Duw tros Hagar a'i phlentyn, pan droed hwy ill dau allan o dŷ Abraham, ac y syrthiasant i galedi mawr, nes eu bod ill dau ym mron trengu o ddiffyg ymborth? Gen. 21.15, 17. Oni chymmorthodd Duw hwynt wrth raid, fel y byddei gynnefin bod am­s [...]? oni ddanfonodd Duw ei Angel attynt, nid yn vnig iw cyssuro, eithr i'w dianghenu hefyd?

I ba beth y soniwn mor ymgeleddus y gwnaeth Duw ddarparwch tros ei eglwys yn yr anialwch: Oni phorthodd efe ei bobl â manna or nefoedd, ac oni roddes iddynt ddwfr or graig iw yfed? Exod: 1.15: Oni wnaeth ein Tad nefol lawer o addewidion haelionus, a [Page 110]helaeth, y paratoei efe bethau angenrhei­diol iw blant? Oni Chre­dwn. choeliwn y bydd efe yn gystal ai air? Onid yw efe yn dwedyd: Y mae eisieu, a newyn ar y llewod, a'r sawl a geisiant yr Arglwydd, Psal. 34.10. ni bydd ar nynt eisieu dim daioni. Onid yw efe yn dywedyd: Ofn­wch ef ei holl saint, oblegid nid oes eisieu ar y sawl a'i hofnant ef. Psal. 84.11. Mat. 6.33. Oni ddywed efe: Ni attal efe ddim daioni oddiwrth y rhai a rodiant yn vnion. Oni ddywaid efe: Ein i âd nefol â ŵyr fod arnom eisieu y pethau hyn: ac y rho­ddir yr holl bethau hyn i ni yn y chwaneg, os ni â geisiwn ei deyrnas ef. Onid yw efe yn erchi i ni, 1 Peter 5.7. Luc. 12.22. Fwrw ein holl ofal arno ef, Canys y mae efe yn gofalu drosom? Onid yw efe yn gor­chymyn i ni? Na ofelwch pa beth a fwytaech, neu pa beth a yfoch, nac a pha beth yr ymddi­lladech? Ac lle y mae ein Achubwr yn gwahardd gofalu, deall y mae efe am y cy­fryw ofal, ac fydd yn pendafadu synwyr dyn, ac yn peri iddo anobei [...]hio, ac anfly­ddio yn Nuw, sef na ofalom felly. Onid yw efe yn dywedyd? Heb. 13.5. Phil. 4.5. Ni phallaf i ti, ac nis gadawaf di chwaith. Onid yw efe yn dy­wedyd. Y mae yr Arglwydd yn agos; na efelwch am ddim? Onid yw ddigon yr ad [...]ewidion hyn i gynnal ein ffydd ni yn rhag ddarbodaeth Duw? A dybiwn ni fod Duw yn cellwair â ni? A dybiwn ni nad yw efe yn bwriadu y fâth beth? A am­heuwn ni y ceidw Duw ei air? Oh cab­ledd [Page 111]fyddei vnwaith feddwl y fâth beth. Oblegid Duw sydd eir-wir, Heb. 10.23. a phob dyn yn gel­wddog. Ffyddlon yw'r hwn â addawodd. Ei air ef sydd fwy nac addewid Tywysog, a mwy na deng-mîl o rwymedigaethau. Paham nad ydym yn credu ynddo, ac yn rhoddi ein goglud arno? Paham na chym­merwn ei air ef? Paham yr ydym yn par­hau i fod yn chwannog? ac yn anffyddio iddo? Paham yr ydym yn rhagrithio ac yn twyllo, Oh nyai ò ychydig ffydd? Ein Harglwydd Jesu Grist, oblegid ei fod yn llwyr-ddirnad anghrediniaeth, ac anffy­ddlondeb ein naturiaeth ni, ac yn gweled ddyfned y gwreiddiodd hyn ynom, sydd nid yn vnig yn fodlon i wneuthur i ni yr addewidion haelwych hyn, y rhai â fyddei ddigon, ond hefyd yn cadarnhau i ni y pe­thau hyn, a llawer o resymmau hygoel i gynnal ein gwendid ni yn hyn o beth. Ystyriwch (medd efe) y cig frain: Luke 12.24 27 ystyriwch adar yr awyr, nid ydynt nac yn hau, nac yn medi, ac nid oes iddynt na chell, nac yscubar, ac y mae Duw yn eu porthi hwynt. Ystyriwch y lili, y modd y maent yn tyfu, nid ydynt yn poeni, nac yn nyddu, ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, na bu Salomon yn ei holl ogoniant, wedi ei ddilladu fel vn or rhai hyn.

O nad ystyriem ni yr ystyriaethau hyn; nad ystyriem fod y bywyd yn fwy na'r [Page]bwyd, a'n cyrph yn well na'n dillad: nac ystyriem na allwn drwy ein holl ddirfawr ofalu dyccio dim, ie gymmaint ac anch­wanegu vn cufydd at ein maintioli. Yn wir pe dwys ystyriem ni y rhesymmau hyn, a draethodd ein Achubwr Crist; ac pe cymmwysem hwynt attom ein hunain, hwy a allent wasanaethu i ni yn amdde­ffynfa gadarn-gref yn erbyn cybydd dra, Ped ystyriei ddynion fod Ardderchog fre­nin y nefoedd (yr hwn sydd ai ffordd yn y corwynt, Nah. 1.3. a'r cymylau ydynt lŵch ei draed ef) yn gofalu am y dryw bychan, ac am aderyn ytô, ai fod efe yn eu t [...]în, ac yn eu hymgeleddu hwynt, gan baratoi iddynt eu Huniaeth beunydd, sef eu cinio, a'u pryd­nawn-fwyd, a'u fwpper bob dydd, fe wasa­naethi hynny i a rgyoeddi ein anhyder, a'n gwan-ymddiried ni yn Nuw. Canys pwy erioed a welodd y rhai hyn, neu'r cyfryw adar eraill, yn meirw o newyn? y fath Dad, a thadmaeth daionus sydd ganddynt.

Ac onid ydym ni yn well o lawer na hw­ynthwy? Onid oes gan Dduw fwy gofal am danom ni, nac am danynt hwy? Oes yn wir gan mîl mwy. Oblegid efe a'i car hwy er ein mwyn ni yn vnig. Pa faint mwy o lawer y car efe nyni? Am hynny dywedyd yr wyf drachefn a thrachefn, ped ystyriem ni y pethau hyn, a phe gosodem hwynt at ein calonnau, e fyddei hynny [Page]ddigon i yssigo cybydd-dod yn ei ben, ac iw yrru yn llwyr allan o'n calonnau.

Moeswch i ni ystyried, pa wedd y rhagddarbododd Duw tros ddyn, cyn etto bod dŷn. Pa faint hytrach y gofala efe yr awrhon tros ddŷn, ac ynteu yn bôd.

A yw efe yn Dâd i ni, ac oni ofala tro­som: oni ddarpara i ni ein cyfraid? Ai efe yw ein Brenin, ac oni wna gyfrif o honom? Ai efe yw ein bugail, ac oni arei­lia efe ni? Ai i ni y darparodd efe y nefo­edd, ac oni ddyry efe y ddaiar? A roddes efe ei fab Crist, ac oni rŷdd efe i ni bob peth gyd ag ef? A yw ei ragddarbodaeth ef yn cyrrhaeddyd tros ei elynion; ac oni ddarpara efe tros ei garedigion? A ddyry efe eu cyfraid i but teinwyr, ac a efceulusa efe ei etholedigion? A yw efe yn peri i'r glaw ddescyn, ac i'r haul lewyrchu ar yr anghyfiawn, ac oni wna efe hynny ar y cyfiawn? A ragddarboda efe dros ddieith­raid, ac estroniad; ac oni ddarpara efe tros ei deulu: A bortha gŵr ei fôch, ac oni ofala tros ei weinidogion: Neu a ofala efe dros ei weinidogion, ac oni ofala tros ei blant?

Gan hynny moeswch i ni ystyried y rhe­symmau hyn. Cofiwn fod ein Tad nefol yn cymmeryd cymmaint gofal am gynha­liaeth ei greaduriaid, ac a gymmerodd efe [Page 114]gynt am eu creadwriaeth. Gadewch i ni gofio nad yw ein bywyd yn sefyll yn y pe­thau hyn, ond yn rhagluniaeth Duw.

Cofiwn fod yr hwn sy yn rhoddiy diwr­nod, yn paratoi angenrheidiau y diwrnod.

Cofiwn fod Duw yn rhoddi bob amser er ymborth, ac nid i ormodedd.

Cofiwn na newyna Duw eneidiau y cy­fiawn. Dihar. 10▪ 3.

Cofiwn na phallodd Duw erioed i'r eiddo e hûn: Canys pwy erioed â ymddiriedodd yn yr Aglwydd, ac â wradwyddwyd?

Phila.

Paham y mae llawer yn dwyn ei­sieu pethau bydol, beth y w'r achos o hynny?

Theol.

Yr achos sydd Neu, o­ [...]diwrth­ [...]nt. o honynt eu hu­nain, am fod arnynt ddiffyg ffydd: Canys pe bai gennym ffydd, ni allei fod arnom ddim diffyg. Oblegid nid yw ffydd (medd hên Athro) yn ofni na newyn, na phrinder. A thro arall a ddywed: Gan fod pôb peth yn eiddo Duw, y neb sydd a Duw ganddo, nid all hwnnw ddwyn diffyg o ddim, oddieithr iddo ef ei hun gilio oddiwrth Dduw. Am hynny bod Duw gennym, yw bod pob peth gennym. Oblegid o chawn ef ar ein plaid e fydd gennym ddigon: nid rhaid i ni fyned ym mhellach: Canys efe a bair i ddynion fod ar ein rhan; Ie i'r Angelion, ar creaduriaid oll fod yn wasanaethgar i ni. Efe a rŷdd iddynt orchymmyn en­wedigol i ymorol am danom, ac i'n ym­ddeffyn, [Page]ac i ddangos i ni vfyddgarwch diballedig.

Am hynny gwnawn Dduw ar ein plaid, ac yno y gwnaethom ar unwaith y cwbl ar a berthyn i'n daioni yn y byd yma, ac mewn byd fydd well. Eithr oni saif efe yn garedig gyd â [...]oni chawn ef ar ein iú: oni bydd efe yn g [...]fn i ni yna ni wna dim arall ronyn lle­sad i ni; ni thâl y cwbl nodwydd: Canys Q [...]id prodest si omnia habes, Austin. eum tamen qui omnia dedit non habeas. Pa well yw er meddu pob peth, a bod heb yr hwn sydd awdur pob peth.

Phila.

Gwir a ddywedwch chwi. Ob­legid ni â welwn lawer o ddynion a chan­ddynt helaethrwydd o bethau bydol, eithr o herwydd nad yw Duw ganddynt, nid oes dim gwir gyssur oddiwrthynt, na bendith arnynt.

Theol.

Gwir vnion. Oblegid nid wrth fara yn vnig, Matth. 4 y bydd byw dyn (medd ein Hargl­wydd Iesu) Onid wrth bob gair â ddaw o enau Duw. Drachefn y dywed: Luc. 12.15. Er bod gan ddyn helaethrwydd, etto nid yw ei fywyd ef yn sefyll yn y pethau sy ganddo. Oblegid heb gael bendith oddiwrth Dduw, ni ddi­chon bod gan neb wir gyssur mewn dim oll ar â fêddo. Nyni â welwn beunydd wrth brawf, a chydnabyddiaeth fod yr Arglwydd yn melldithio y drygionus, er bod gan­ddynt helaethrwydd: Rhai â chanddynt [Page]gyflawnder, a gystuddir yn oestadol a chle­fydau. Rhai ynghanol eu digonoldeb, a lifant ymmaith gan ddarfodedigaeth. Era­ill yn eu hamldra, a'u gormodedd ydynt yn meirw o lothineb. Eraill a gippir ymaith yn gynnar o'u hoes, drwy farwolaeth ddi­syfyd, pan fyddo mwyaf eu rhodres. E­raill a oddefant golledion trymmion ar fôr ac ar dîr. Eraill a gant flinder, a thrallod gan wragedd anynad, a drwg nawsus, a chan blant anufyddion. Rhai a wnant lofruddiaeth, a theyrn-frad, ac a gollant y cwbl ar vnwaith. Er aill a ddihoenant, ac a ddarfyddant gan ryw ddirgel aflwydd, a melldith Dduw, ni ŵyr neb pa fodd. Rhai a chanddynt gyfoeth mawr, a syrthiant yn nwylo y llofrudd: Rhai tan law y lleidr, eraill ym meddiant y gwen-wynŵr.

Am hynny y dywed y Brenin doeth, [...]reg. 5 [...] 3. y mae trueni a welais tan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed iw perchennog: Zophar hefyd y Naamathiad a ddywed: Pan gy­flawner digonoldeb yr annuwiol cyfyng fydd arno: llaw pob blinderog â ddaw yn ei erbyn ef: pan fyddo efe ar lenwi ei fol, [...]ob. 20. [...]2, 23. Duw a dden­fyn yn ei erbyn ef angerdd ei ddigofaint, ac ai glawia hi arno ef, ym mysc ei fwyd ef.

Felly ni a welwn yn eglur nad yw by­wyd dyn, ai lwyddiant yn y byd yn sefyll ar amldra, a helaethr wydd o bethau bydol; eith [...] yn vnig ar fendith, a rhagddarbo­daeth [Page]Duw: Diha. 1 [...].22. Canys ei fendith ef yn vnig sy yn cyfoethogi, ac nid yw yn dwyn tristid gyd ag ef. Oblegid, gwell yw prinder y cyfiawn, Psal. 37▪16. na mawr olnd yr annuwolion cedyrn. Gwell yw y chydig gyd ag ofn yr Arglwydd, na thry­ssor mawr, a blinder gydag ef. Diha. 15 16. ac. 1 [...] 8. Gwell yw ychydig drwy gyfiawnder na chnwd mawr d [...]wy gam.

Gan hynny fel hyn y pen-glymmaf y pwngc hwn: Nid wrth fara y bydd byw dyn, ond wrth fendith ar y bara: Nid trwy, foddion canolig, a chyfryngau bydol, ond drwy fendith ar y moddion, a'r cyfryngau: Canys pa fodd y dichon bara, gan nad yw ond peth marw, ac heb fywyd ynddo ei hun, roddi by wyd i eraill.

Phila.

Nid wyf fi yn deall ystyriaeth y geiriau hyn: sef drwy bob gair a ddaw o enau Duw.

Theol.

Wrth hyn (sef pob gair) y de­ellir gorchymyn, ordinhad, a rhag-ddar­bodaeth Duw, yr hwn sydd yn cynnal pob peth sef holl drefn naturiaeth.

Canys yr Scrythur a ddywed: Psal. 33.9. Efe â ddywedodd, ac felly y bu: efe â orchymynnodd, a hynny a safodd. Yn y geiriau hyn ni a welwn yn amlwg, nad ydyw Duw ond dywedyd, a hynny sy'n sefyll: Efe a or­chymmyn, a'r holl greaduriaid a gynnelir. Oblegid ai air y mae Duw yn gwneuthur pob peth. Ai air y creawdd efe y cwb [...], [Page]a'i air y cynnal efe y cwbl: Dywedyd y mae efe, a hynny a saif, felly y derfydd. Ei eiriau ef ydynt eiriau o allu, ac awdur­dod. Beth bynnac â ddywedo, beth byn­nac â alwo am dano, rhaid yw ei wneuthur yn [...]brwydd, ac yn ddioed: Nid gwiw sefyll yn ei erbyn ef. Efe â eilw am ne­wyn, ac wele newyn. Efe â eilw am he­la ethrwydd, ac wele helaethrwydd. Efe â eilw am haint y nodeu, ac wele y nodeu. Efe â eilw am gleddyf, ac wele gleddyf. Yr holl Angelion, yr holl ddynion, yr holl anifei­liaid, yr holl byscod, yr holl ehediaid, yr holl greaduriaid pa ryw bynnag ydynt, â v­fyddhânt iddo, ac ydynt wrth ei amnaid ef. Efe yw y Pen-Rheolwr. Ei air ef sydd yn gorchymmyn y nefoedd, ar ddaiar, a'r môr. Y mae yn rhaid ir holl greaduriaid vfydd­hau i'w ewyllys ac ymollwng iw ordinhâd.

Dymma'r achos y mae pob peth yn y nefoedd, ar y ddaiar, ac yn y môr yn cadw eu trefn, eu prydiau, au tymhorau yn an­ghyfnewidiol, ac yn ddianwadal, sef o her­wydd iddo ef orchymmyn iddynt wneu­thur hynny. Ac y mae yn angenrhaid i­ddynt b [...]unydd bob amser, byth ac yn dragwyddol vfyddhau: Canys y mae yn rhaid ir Creaduriaid vfyddhau i'r Creaw­dudd, Yr Act hwn o Barliament â wnaed yr wrthnos gyntaf or byd ac ni allwyd erioed etto ac nis gellir ei droi yn ôl nai ddirym­mu.

Phila.

Eithr i'ch galw chwi yn ôl etto, at y pwngc â oedd gennym yn llaw, yspyswch i mi hyn, attolwg, onid oes lawer o an­wyl blant Duw yn fynych, yn y byd ymma, yn dwyn eisieu pethau bydol, ac yn dioddef cyfyngdra, a chaledi tramawr?

Theol.

Oes yn wir. 1 Bre [...] 17. 2 Cor▪ 8. 2 Cor. 25. Heb. 11 36. Canys Elias â ddûg eisieu, ac â fu mewn caledi. Paul a fu mewn diffyg, ac mewn llawer o gyfyngderau. Y Cristianogion duwiol â grybwyllir at yr Hebreaid, â ddugont eisieu, ac â gystu­ddiwyd yn rhyfedd: Llawer o garedigi­on Duw ym mhôb oes, â fuont mewn ei­sieu, ac ydynt yn y ddydiau hyn mewn diffygion, a chaledi tramawr. Eithr hyn sydd wirionedd anhybus, a disiommedig, pa fodd bynnac y digwyddo fod caledi, a diffyg, a chyfyngder ar blant Duw, etto bŷth nis llwyr-wrthodir hwynt; ond pan fyddo cyfyngaf arnynt, hwy â gânt gym­morth a diddanwch, ac ymwared, yn eu peryglon mwyaf, pan fyddo pob peth we­di myned hyd yr eithaf; ac yngolwg y byd ar y gwaethaf.

I'r ystyriaeth yma odiaeth y dywed yr Apostol: Ym mhôb man i'n cystuddir, 2 Cor. 4 8, 9. etto nid ydym mewn ing, y mae yn gaeth arnom, ond nid ydym gwbl heb obaith: wedi ein her­lid, ac heb ein gwrthod: Wedi ein taflu i lawr, ac heb ein difetha. Y prophwyd Ie­remi hefyd â ddywed: Nid yn dragywydd [Page 120]y gwrthid yr Arglwydd: [...]alar. 3. [...]1, 32, [...]3. Canys er iddo gy­studdio, efe â dosturia eilwaith yn ôl amlder ei drugaredd. Nid o'i fodd y cystuddia efe, nac y blina efe ddynion. Y Brenhinol Bro­phwyd a ddywed: Psal. 94. [...]4. Canys ni âd yr Arglwydd ei bobl, ac ni wrthid efe ei etifeddiaeth. Yr Arglwydd ei hun a ddyw [...]d: [...]say 54. [...]. Dros ennyd fe­chan yn fy nigofaint y cuddiais fy wyneb rha­got, ond â thragwyddol drugaredd y tosturi­ais wrthit. Wrth hyn digon diogel, a siccr y gallwn ni fod, ie ac scrifennu o honaw (megis o wirionedd diammeu, ac a [...]siom­medig) na lwyr-wrthodir byth blant Daw yn eu trallod, au blinderau.

Phila.

Gan fod gofal, a rhagddarbo­daeth Duw dros ei blant yn gymmain [...] ac y mynegasoch chwi yn helaeth: beth, adol­wyn, yw yr achos sy'n peri i Dduw adael dwyn yr eiddo ef i gynnifer o flinderau, ac anghenion?

Theol.

Yr achos yw eu budd, ai daioni hwynt eu hunain, ac nid i wne [...]thur idd­ynt niwed Oblegid pan yw efe yn eu curo, yna y mae yn eu caru: Pan dybygid ei fod dostaf yn ei herbyn, yna y mae efe yn dan­gos iddynt fwyaf caredigrwydd, a ffafor. Amcana dda pan dybier ei dd [...]io wrth­ynt. Efe a'i clwyfa, fel y caffo achlyssur iw iachau: ai gwasc, fel y gallo esmwythau ar­nynt: a bar iddynt lefain, fel y gallont wedi hynny chwerthin: Bob amser y bw­riada [Page]efe iddynt ddaioni, ac nid drwg vn amser: Dianwadal yw ynei gariad tu ag attynt: Os dŵg arnynt anghenion, eu dwyn â wna er prawf ar eu ffydd, eu cariad, eu di­oddefgarwch, a'u dyfalwch mewn gweddi.

Os yn tân y bwrw efe hwynt, nid i'w di­fa, ond iw coethi, ac iw puro y gwna efe hynny. Os dŵg arnynt beryglon tramawr, efe a'u dŵg er mwyn peri iddynt alw arno yn daerach am gymmorth, ac ymwared.

Efe a wâsc arnom i beri i ni lefain: Nin­nau yn ein blinder a lefwn, i beri ein gwran­do: ynteu a'n gwrendu fel i'n gwareder: felly yn hyn nid oes dim niwed. Mwy yw'r braw na'r briw.

Megis y bydd mam, pan fai ei phlentyn yn anynad, yn bygwth ei daflu ef i'r bla­idd, neu yn ei ddychrynu ef a bwbach, i beri iddo ddistewi, a glynu yn dynnach wrthi: Felly y mae yr Arglwydd yn dan­gos i ni, yn fynych guchiau ofnadwy blin­der, ac enbydrwydd, i'n cyffroi, ac i'n cynnyrfu i ddal ein gafael yn dynnach yn­ddo: ac i ddyscu i ni wneuthur mwy cyfrif o'i fendithion ef, a bod yn fwy diolchgar am danynt pan gaffom eu mwynhau, sef iechyd, cyfoeth, heddwch, rhydd­did, ar cyffelyb. Felly nyni â welwn nad oes amgen bwriad, ac amcan tu ag attom, o ran Duw, ond ar ddaioni: fel y mae yn scrifennedig, Pob peth sydd yn cydweithio [Page 122]i'r hyn goreu, i'r sawl a garant Dduw. Ob­legid hyd yn oed cystuddiau plant Duw â sancteiddir iddynt, Rhuf. 8.28. Heb. 12.10, 14. 1 Thes. 1.6. Gal. 6.14. drwy yr yspryd, iw gwneuthur, yn gyfrannogion o sanctei­ddrwydd Duw.

Drwy hynny y mwynhânt heddychol ffrwyth cyfiawnder. Drwy hynny y cyrhaeddant fesur helaethach o lawenydd yn yr yspryd glân. Phil. 3.10. 1 Cor. xi 32. Rhuf. 5.3.4. Drwy hynny y croeshoelir y byd iddynt hwy, a hwythau i'r bŷd. Drwy hynny y cydffurfir hwynt â mar­wolaeth Christ. Drwy hynny y cedwir hwynt rhag damnedigaethy byd. Drmy hynny y dys­cant Brofiad. adnabyddiaeth, ammynedd, gobaith, &c. Felly wrth ystyried y cwbl, nid yw plant Duw yn colli dim (o'u cystuddio) ond yn hytrach yn ynnill, drwy ddwyn eu cystudd yn llawen. Gwell ar eu llês yw eu cael, na bod hebddynt. Oblegid pan gerydder plant Duw, yno y mae pethau fel y dylent fod. Canys iddynthwy y mae'r Blinder. groes yn dru­garedd, a cholled yn elw. Cystudd yw eu dyscybliaeth, ac adfyd eu athrawiaeth goreu.

Da yw i mi fynghystuddio (medd sanctaidd ŵr Duw) fel y dyscwn dy ddeddfau. Psal. 119.71. Wrth ei gystuddiau y dyscasei efe lawer, ac yr ae­thei yn ddiscybl hyfedr yn llyfr Duw, ac yn gyfarwydd yn ei destiolaethau, ai ddedd­fau ef. Drwy ei geryddon y cyrhaeddodd efe synwyr, a doethineb rhagorol. Drwy druga [...]og ragddarbodaeth Dduw, y trôdd pob peth i'w dragwyddol ddiddanwch ef.

[Page 123]

Canys dywedyd yr wyf yn hŷf, ac yn hyderus, fod pob peth yn tynnu, ac yn tueddu i ddaioni, a llesâd i etholedig bobl Dduw. Ac am hynny y cyflwr â ewyllysio yr Arglwydd ddigwyddo i'w blant, hwn­nw sydd bob amser yn orau ar eu llês. Ob­legid efe yr hwn â fedr yn oreu ddirnad beth sydd orau, a wêl hynny yn oreu i­ddynt: pa vn bynnac ai clefyd, ai iechyd; ai prinder, a'i helaethrwydd; a'i carchar, ai rhydd-did; a'i gwynfyd a'i adfyd. Ob­legid gwell ar ein llês ni weithiau yw cle­fyd, nac iechyd: Agwell yw prinder, nac ehangder.

Gan hynny, ai cleifion yw plant Duw? Dyna'r peth goreu ar eu llês. Ai tlodi­on ydynt? goreu iddynt hynny. Ai mewn rhyw drallod, a chyfyngder y ma­ent? hynny sydd oreu iddynt. Oherwydd eu Tâd daionus a dry hynny i'r goreu. Efe an hattal ni rhag cael y peth â chwen­nychom i borthi ein trachwantau, ob­legid ei fod yn rhag-weled y byddei hyn­ny megis yn wenwyn i ni i'n drygu. Efe o'i Dadol ofal drosom a dynn y gyllell o­ddiwrthym, am ei fod yn gweled na fe­drem ni ei thrîn heb gael briw oddiwrthi. Efe a brinhâ ar ein iechyd, a'n cyfoeth, ob­legid ei fod yn gwybod mai'r pethau hynny a'n drygei: Ni ddyry efe i ni ormod esm­wythdra, a llwyddiant yn y byd ymma, ob­legid [Page 124]efe a wŷr mai hynny a'n gwenwy­nei. Ni channiatta efe i ni lonyddwch beu­nyddiol megis llynnoedd safadwy, digyn­nwrf rhag casclu o honom ewyn, a budre­ddi. Efe a'n trîn ni yn Dadol, ac yn dostu­riol ym mhôb peth, ie hyd yn oed y pryd hynny yn darparu i ni y daioni mwyaf, pan dybygom ni ei fod efe yn gwneuthur fwyaf drŵg.

Ac i adrodd y cwbl ar vn gair: efe an dwg ni i drallod, a chyfyngder, er mwyn hyn yn bennaf: sef fel y gallo gael clywed oddiwrthym. Canys hyspys yr ed wyn ein naturiaeth ni, a chydnabyddus yw a'n awe­nydd-fryd. Gwybod y mae na ddeuwn at­to, oddieithr bod yn rhaid i ni wrtho, ac na wnawn gyfrif o honaw tra y y caffom ein byd wrth ein bodd; ond os daw arnom gy­fyngder, neu ddiffyg o ddim ar a ddymu­nem ei gael, yna bydded siccr, y caiff efe glywed oddiwrthym. Fel y dewaid efe ei hûn drwy ei Brophwyd: Hos. 5.15. Pan fyddo adfyd idd­ynt, i'm boreu geisiant. A Phrophwyd a­rall a ddywed: Mewn adfyd, Arglwydd y'r ymwelsant a thî, tywalltasant weddi pan oedd dy gospedigaeth arnynt. Esay 26.16.

Felly gobeithio eich bod bellach, yn gweled yn amlwg, am ba achos y mae Duw yn dwyn ei blant, i gynnifer o flin­derau, ac anghenion.

Phila.

Mi a welaf hynny yn ddiau; ac am hyn o beth fo'm bodlonwyd yn ddigon da. Ond etto gadewch ofyn i chwi vn peth ymmhellach. Ai peth diammeu ydyw fod plant Duw yn cael eu gwaredu bob amser allan o'u blinderau?

Theol.

Ydynt yn wir, a hynny (yn ddi­ammeu) hyd y gwelo Duw fod hynny yn llessol iddynt. Canys scrifennedig ydyw, Lla­wer o ddrygau a gaiff y cyfiawn, Psal. 34.19. 2 Petr. 2.9. ond yr Arg­lwydd a'i gwared ef oddiwrthynt oll. A St Petr a ddywed, Yr Arglwydd a fedr achub y gwirioniaid oddiwrth brofedigaeth. Megis pe dywedasai, y mae efe yn ymarfer a hynny ac yn gynnefin a chydnabyddus ar peth: Fel y dichon ei wneuthur yn hawdd, ac yn ddirwystr.

Am Ioseph pan ydoedd yngharchar, y dy­wedir: Yr amser y daeth ei air ef i ben, Psa. 105.19, 20. gair yr Arglwydd a'i profodd ef: Y Brenin a anfo­nodd, ac ai gollyngodd ef, a llywodraethwr y bobl ai rhyddhaodd ef. Drachefn y dywed yr Scrythur: Y rhai cyfiawn a lefasant, Psa. 34.17. a'r Arglwydd a glybu, ac ai gwaredodd o'i holl drallodion. Angel yr Arglwydd a gastella o amgylch y rhai a'i hofnant ef, ac a'i gwared hwynt. Ac mewn man arall y dywed yr Arglwydd am y cyfiawn: Ps. 91.14.15. Gwaredaf ef am roddi o honaw ei serch arnaf, derchafaf ef am adnabod o honaw fy enw: Efe a eilw arnaf, ac mi a'i gwrandawaf ef: Mewn ing y byddaf [Page 125]gyd ag ef, y gwaredaf ef, ac y gogoneddaf ef.

Felly y dywed Eliphas y Temathiad. Job. 5.19. Mewn chwêch o gyfyngderau efe a'th achub di, ac yn y seithfed ni chyffwrdd drwg a thi.

Deuwch fy mhohl (medd yr Arglwydd:) Dos i'th stafelloedd a chae dy ddrysau ar dy ol: Esay. 25.20. ymguddia dros ennyd fechan nes myned digofaint heibio. Ar Prophwyd a ddywed: Ar fynydd Sion y bydd ymwared, Obad. 17. ac y bydd sancteiddrwydd: a thŷ Iacob â orescyn eu heti­feddiaethau hwynt.

Llawer o fannau eraill or Scrythur lân â ellid eu dwyn i'r ystur hwn; eithr digon yw hyn.

Am hynny bydded hyspys i ni yn lle gwir, cyn siccred a bod trallod, a blinder i blant Duw; y bydd iddynt hefyd ym­wared diammeu, a rhyddhâd allan o'u cy­studdiau. Megis y gallwn yn hŷfscrifen­nu am y naill, a gwneuthur cyfrif o ho­naw cyn siccred a bod ein crysau am ein cefnau: Felly y gallwn hefyd, pan welo Duw fod yn dda scrifennu am y llall, a gwneuthur llawn gyfrif o honaw, cyn siccred a bod yr Arglwydd yn eir-wir. A­braham a fu mewn trallod, ond efe â ware­dwyd: Job mewn trallod, eithr â wared­wyd: Dafydd mewn trallôd, eithr â war­edwyd. Y tri llangc yn y ffwrn, eithr â waredwyd. Daniel yn ffau y llewod, eithr â waredwyd. Jonas ym mol y mor­fil, [Page 126]eithr â waredwyd. Paul mewn an­nelrif o flinderau, ond etto â waredwyd oddiwrthynt oll.

Phila.

Gan fod y pethau hyn oll a ddy­wedwech, yn wir, y mae yn canlyn mai er daioni iddynt eu hunain yn vnig, yr ydys yn cystuddio plant Duw, a bod yn ddiogel iddynt, gael ymwared yn ei amfer gosodedig. Yr hyn beth o herwydd ei fod yn digwyddo felly, i'm tŷ i nid oes dim achos iddynt i gymmeryd gormod trym­der, na l [...]yfrhau yn rhŷbell yn eu blinder­au.

Theol.

Diau nad oes dim or fâth achos, ond yn hyttrach i lawenychu, i guro dwy­lo ynghyd, a bod yn hyfryd ddiogel: Ca­nys â ddichon tâd wrthod ei blant? Bre­nin ei ddeihaid? Meister ei wâs? Buga­il ei braidd? Onid yw yr Arglwydd yn dy­wedyd: Nith adawaf, ac ni'th wrthodaf. Heb. 5.13. Oni ŵyr ein Tâd nefol [...]od yn rhaid i ni wrth y pethau hyn? Oni addawodd Duw ar ei air, na bydd arnom ddiffyg pethau bydol? oni ddy wedodd efe y rhoddid y p [...]thau hyn i ni yn ychwaneg? Paham gan hynny y llaeswn? Paham y gostyngwn ein pennau yn bruddion? Paham na chod­wn ein calonnau▪ a bod yn llawen? Duw yw ein Tâd caredig: ein ymgeledd­wr b [...]unyddiol: ein cyfaill anwylaf: Efe a'n cynnal ni ar ei draul, ai gôst ei hûn. [Page 128]Nid yw efe yn grwgnach am ddim ar a ga­ffom: Ni thybia efe ddim yn rhy dda i ni. Ein caru y mae yn gû, ac yn anwyl. Ni all oddef ir gwynt chwythu arnom. Ni fyn efe i ni ddwyn eisieu dim â fyddo da ar ein llês. Pe bwyttaem aur â llwyau, nyni a'i caem ganddo. Efe â addawodd yn ffyddlon na bydd diffyg arnom tra fo'm byw. Byddwn gan hynny lawen, a hyfryd. Oblegid ei­ddom ni yw'r nefoedd, eiddom ni yw'r dda­iar, eiddom ni yw Duw, eiddom ni yw Crist, eiddom ni yw'r cwbl oll: megis y dy­wed yr Apostol: Pob peth oll eiddo chwi yw, a chwithau yn eiddo Crist, 1 Cor. 3.22. a Christ yn eiddo Duw. Y byd sy'n curo dwylo ac fel cei­liog yn canu ym mhell cyn dydd, gan ddy­wedyd, Pob peth oll, eiddom ni yw: eithr plant Duw â allan ddywedyd, a dywedyd y gwir, pob peth oll eiddom ni yw. Ob­legid y mae ganddynt hwy hawl gyfiawn drwy Grist i'r holl greaduriaid. Eu braint hwy sydd helaeth, a'u rhydd-did sy fawr. Rhyddion ydynt ar y ddaiar, a rhyddion yn y nefoedd.

A hwynt hwy yn unig ydynt ddinasy­ddion rhyddion or byd. Crist a brynodd i­ddynt [...]u rhydd-did: Crist a'u rhyddhaodd, ac am hynny gwir ryddion ydynt. Rhyddi­on ydynt oddiwrth bechod, rhyddion oddi­wrth vffern, a rhyddion oddiwrth damne­digaeth: Heddychol ydynt a Duw, a dynion, [Page 129]ac ag Angelion. Heddychol a hwynt eu hunain, heddychol ar creaduriaid oll. Ty­wysogion ieuaingc ydynt, cyfeillion i An­g [...]lion, yn hanoedd or tŷ pennaf, o waed Brenhinol yn y nefoedd: Pendefigion o Baradwys, ac etifeddion ir goron dragwy­ddol. Am hynny y gorchymynnodd Duw ir Angelion eu hamddeffyn, a hwythau yn gyfryw dywysogion ac ydynt. Je efe a roddes orchymmyn caeth ir holl greadur­iaid, ar eu gwarchadw, a gwilied arnynt rhag digwyddo iddynt niwed. Mor eiddi­gus yw o'u herwydd hwy, mor anwyl, mor gu ganddo hwynt. Rhaid ydoedd i'r Angelion ymgeleddu Jacob; Gen. 32. Ionah 2. 1 Brenh. 17. Ios. 10. Exod. 14 Dan. 3. a'r 6. I'r morfil a­chub Ionas: I'r cigfrain borthi Elias: I'r haul, ar lleuad aros am Iosuah: I'r môr ym wahanu fel y gallei Moses ai bobl fyned trwyddo. Y tân ni chai ddifa y tri llangc: Nar llewod ddifetha Daniel. Rhaid ir creaduriaid newidio eu naturiaeth yn hyttrach nag y byddau plant Duw heb gym­morth ac ymwared.

Gan hynny pwy â ddichon adrodd faint yw dedwyddwch ethol [...]digion Duw? Pwy a fedr ei fynegu? Nid adwaenant eu ded­wyddwch eu hunain: Cuddiedig yw oddi­wrthynt. Trallod sydd megis cwmmwl trosto, ac adfyd yn ei gyscodi: Blinder au au tywyllant, a chyfrwng osodiad y ddaiar [...]y'n attal eu golwg oddiwttho, nad ydynt [Page 130]yn gweled tros amser mor happus ydynt. Eithr hyn sydd ddiddadl, a siccr; fod cy­flwr goreu plant Duw yn ôl etto, a'u hy­frydwch hwynt i ddyfod. Nid yw eu ded­wyddwch yn ymddangos yn y byd ymma.

Eu bywyd â guddiwyd gyd â Christ yn Nuw. Pan ymddangoso Christ yr hwn yw eu bywyd, Col. 3.3.4. 1 Jo. 3.2. yna yr ymddangosant hwythau gyd ag ef mewn gogoniant. Nid ymddangosodd etto pa heth fyddwn, eithr gwyddom pan ym­ddangoso, y hyd dwn gyffelyb iddo ef.

Eu h [...]nwau â g [...]mmerwyd eusys, ac â scrifennwyd yn llyfr y bywyd: ar y dydd a ddaw, hwy a goronir. Y mae dydd yn dy [...]od pan ddy wedir wrthynt: Deuwch chwi fendigedig blant fy Nhâd, &c. a phan ga­ffont ddyfod, ac aros yn ei wydd ef, lle y mae cyflawnder llawenydd, Psal. 16.11. ac ger bron yr hwn y mae digrifwch yn dragywydd.

Am hynny llawenychant, canant, ac ymhyfrydan [...] pawb ôll o ddirg [...]l-ddynion Duw. Oblegid pe rhôn a'u bod yn y byd yma yn ddirmygedig megis rhai â sethrid tan draed, ac a gyfrifi [...] yn so [...]hach y ddaiar, ac yn sorod y byd: [...]to y mae amser yn dyfod pan fyddo eu d dwyddwch, a'u gwynfyd hwynt yn gyfryw, ac nad a [...]th, erioed y cyffelyb i galon dyn, anherfynol yw, anrhaethol ac annealladwy.

Phila.

Yr awr-hon mi â welaf yn amlwg nad oes achos i bobl Dduw i drissâu gor­mod, [Page 131]a llaesu yn rhybell o herwydd eu blin­derau. Mi â welaf, er nad ydynt ddian­gol oddiwrth bob cystuddiau, eu bod er hynny yn ddiangol oddiwrth gystuddiau niweidus: Canys nid oes, na gwialen, na chroes, na cherydd â wna ddrŵg iddynt, ond y cwbl yn y diwedd â ddaw i ddiben, a therfyn gwynfydedig.

Theol.

Chwi â adroddasoch y gwir yn helaeth, ac yn ddiammeu: Oblegid nid oes dim blinder â ddygo Duw ar ei bobl, ond (os dioddefant yn llonydd, ac ymddi­ried yn ddiyscog yn ei drugaredd ef, a bod yn ymarhous, ac yn vfydd iw ewyllys) y cyfryw ac â drŷ yn fendith, ac yn gyssur iddynt yn y diwedd.

Am hynny, hydda ddigon y geill pobl Dduw fod yn llawen ynghanol eu cystu­ddiau. Hwynt hwy â allant drwy am­mynedd a chyssur ymddarostwng i gery­ddon eu Tâd, gan eu dwyn yn oddefgar, ac megis cussanu ei wialen ef, a dywedyd yn­ddynt eu hunain,

Gan fod fy Nhâd yn ewyllysio hynny, bodlon wyf finnau.

Gan mai hynny â fyn efe, hynny a fyn­naf finnau. Fel y dywedodd yr hên Elī gynt: Yr Arglwydd yw, 1 Sam. 3.18. gwnaed fel y gwelo yn dda.

Ac megis yn y cyffelyb ostyngeiddrwydd y dywedodd Dafydd mewn achos arall:

[Page 132]

Wele fi, 2 Sam. 15.26. gwnaed am fi fel y gwelo yn dda yn ei olwg ei hun.

Ac mewn man arall y dywed: Aethym yn fûd, ac nid agorais fyngenau: Canys ti Arglwydd ai gwnaethost, Psal. 39.9.

Ystyriwch wrth hyn ddioddefgarwch saint Duw, a'u gostyngedig vfydd-dod iw sancteiddiaf ewyllys ef. Hwy â wyddant y diwedda pob peth i'r goreu, a chofio hynny sydd lawen gan eu calonnau. O hyn yr wyf fiyn bwrw mai dedwydd yw plant Duw ym mhâ gyflwr bynnag y bydd­ont: dedwydd mewn tlodi, a dedwydd mewn ehangder: Dedwydd gartref, a dedwydd oddi cartref, ac ym mhôb modd yn ddedwydd. Deut. 28.3, 16. Eithr yngwrthwyneb i hyn, melldigedig yw'r drygionus ym mhâ gyflwr bynnac y byddont: melldigedig yn gleifion, a melldigedig yn iâch: Melldi­gedig mewn cyfoeth, a melldigedig mewn prinder: melldigedig mewn gwynfyd; a melldigedig mewn adfyd: melldigedig mewn anrhydedd, a melldigedig mewn gwaeledd.

Canys pob peth sy yn cydweithio er dialedd iddynt. Nid oes dim â wna lesâd iddynt. Nid ydynt ddim gwell er na thrugareddau Duw, nac er ei farnedigae­thau: yr vn ffunyd iddynt hwy yw pob hîn.

Yr vn ydynt bob amser mewn gwynfyd, ac adfyd, ni newidiant eu harfer: ac fel [Page 133]y dywedwn, nid yw blwyddyn dda yn gwe­llau, na blwyddyn ddrŵg yn gwaethygu dim arnynt.

Phila.

Chwi a safasoch yn hîr ar y pwngc hwn: bellach ewch rhagoch at y pedwerydd arwydd o ddamnedigaeth dyn, yr hwn yw dirmig ar yr Efengyl. Ac eg­lurwch yn gŷstal pa bechod ei faint ydyw, a pha enbydrwydd sy oddiwrtho.

Theol.

Y pechod hwn sydd o naturiaeth arall amgenach na'r hwn o'r blaen. Pe­chod yw hwn yn erbyn y dablen gyntaf, ac yn tuedd-bennu at Dduw ei hûn.

Oblegid dirmygu yr Efengyl yw dirmy­gu Duw ei hûn, eiddo yr hwn yw'r E­fengyl.

Os dirmygu Gwenidogion yr Efengyl yw dirmygu Duw, a Christ, Luk. 16. fel y dywed ein Harglwydd Jesu, pa faint mwy yw dirmygu yr Efengyl ei hun.

Am hynny, peth peryglus yw ymgym­myrredd a'r pechod hwn: Megis trîn ar­fau llifed, neu fod yn bryssur ym matteri­on Brenhinoedd, neu gyffwrdd ag Arch y Cyfammod, neu neshau at y mynydd san­ctaidd: yr hyn bethau oll oeddynt yn lla­wn perigl, ac enbydrwydd; Je hyn sy­ddei gymmaint â dibrisio y Sacrament: peth ni ddylid ymhel ag ef, mwy na difen­wi Brenin, neu boeri yn wyneb Duw, neu Deyrn-frâd yn erbyn Brenin y Gogoniant.

[Page 134]

Am hynny y pechod hwn yn anad vn ni ellir eioddef, nac mewn modd yn y byd cyd-ddwyn ag ef: Canys â ddichon Brenin bydol oddef dirmygu ei gyfreithiau? A ddi­chon efe na ddigio am ei ddiystyru ei hun?

A all efe oddef i neb boeri ar ei deyrn­wialen, neu daflu-carreg atti? Na all yn wir, ac nis gwna. Am hynny y dywed yr yspryd Glán: Yr hwn a dorrai gyfraith Mo­ses â roddid i farwolaeth heb drugaredd tan ddau, neu dri o dystion: Pa faint mwy dia­ledd dybygwch chwi, y bernir heuddu o'r hwn a sathro fâb Duw, ac a farno yn aflân waed y cyfammod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, b. 10.29. ac a ddifenwo yspryd y Grâs.

Drachefn os cadarn oedd y gair a ddod­wyd drwy Angelion: Ac os derbynniodd pob camwedd, ac anvfydd-dod gyfiawn daledi­gaeth, pa fodd y diangwn ni os esculuswn ie­chydwriaeth gymmaint? Oni ddiangodd y rhai ai gwrthwynebasant ef, b. 2.3.0.12. yr hwn oedd yn llefavu yn enw Duw ar y ddaiar: Nyni yn hytrach o lawer ni ddiangwn os gwrthwyne­bwn yr hwn sydd yn dywedyd or Nefoedd. Am hynny y dywed ein Jachawdwr Crist: Y bydd esmwythach i Sodom ddydd y farn nac i ddirmygwyr yr Efengyl. [...]. 1 [...]. Efe â ddywed ym mhellach. Brenhines y dehau â gyfyd ddydd y farn gyd a'r genedlaeth hon, ac ai con­demna hi: [...]. 12. Am iddi hi ddyfod o eithafon y ddaiar i glywed doethineb Salomon, ac we­le [Page 135]vn mwy na Salomon ymma. Canys mwy yw Crist na Salomon, ei athrawiaeth ef, ai ddoethineb sydd yn rhagori llawer arno ef. Ac am hynny mwy yw eu pechod hw­ynty rhai ai dirmygant. Ni allant byth atteb am y peth. Canys yr yspryd â ddy­wed, Y neb â ddirmygo y gair a ddestrywir. Diha. 13.

Hefyd St Petr â ddengys i ni fod yr hên fyd gynt, ar dynion yn yr oes gyntaf, yr awr-hon yn nhân vffern, o herwydd i­ddynt ddirmyga athrawiaeth Crist, a bod yn anufydd iddo, yr hwn er nad yn ei ber­son, neu ei wyddfod ei hun, er hynny yn ei yspryd sanctaidd, a lofarodd drwy Noah. 1 Pet. 20. Mal hyn nyni a welwn yn amlwg na odd­ef Duw yn ddi-ddial ddirmygu ei Efen­gyl ogoneddus mor hollawl, ac mor gy­hoeddus, ac yr ydys.

Phila.

Chwi a ddywedasoch y gwir yn vnion, ac a ddangosasoch or Scrythyrau, fod dirmig ar yr Efengyl yn bechod ffiaidd. Etto er hyn ei gyd, tosturus yw ystyried lei­ed cyfrif a wna dynion o honi, ac mor wael yw yn eu golwg hwy. Ni wna lla­wer fwy prîs or Efengyl, nac o gibin ŵy, neu o flew geifr. Nid ant hyd y drŵs i'w gwrando. Ni thybiant o honi, ond megis chwythad oddiwrthym ni, a lle­ferydd attynt hwy, ac dyna ddiwedd y gaingc. Ni chyfrifant o honi ond megis trŵst, neu ryw wag-sain yn [Page 136]yr awyr, neu lais o bell yr hwn nid ydys yn ei ddirnad. Ni chlywsant erioed moi grym hi yn gweithio yn eu calonnau. Am hynny y mawrhânt eu defaid, eu tyddyn­nod, eu hychen, eu budd, eu digrifwch, ie pob peth o'i blaen hi. Ni wyddant fod yr Efengyl yn gyfryw dlŵs gwerthfawr ac ydyw. Er i'n Harglwydd Jesu Grist ei chyffelybu hi i dryssor cuddiedig, ac i berl gwerthfawr: Etto y môch budr-fydol hyn a'i sathrant tan eu traed.

Oblegit nid adwaenant ei godidawgr­wydd er bod Salomon ddoeth yn dywed­yd: Gwell yw ei Marsiandiaeth hi na Mar­siandiaeth o arian: ei chynnyrch hi sydd well nac aur: Gwerthfawroccach yw hi na gemmau, iha. 3.3.14. a'r holl bethau dymunol nid yd­ynt gyffelyb iddi hi. Etto yr anifeiliaid hyn, y cŵn, ar môch bydol ymma a'u diy­styrant hi. Mwy cyfrif â wnânt of fuwch, nac o anrhydeddus Efengyl Grist.

Tebig ydynt i geiliog Esop, yr hwn a w­naeth mwy cyfrif o ronyn haidd, nac o holl feini gwerthfawr y byd. Tebig ydynt i blantos bychain, y rhai â dybiant yn well o'u babanod nac o godaid o aur. Tebig ydynt i'r Gadareniaid y rhai â fawrhaent eu môch yn fwy na Christ, a'i Efengyl: Ty­bied y maent, na thâl hi ei gwrando. Lla­wer o honynt â eisteddant yn segurllyd yn yr heolydd, ie ar y dydd Sabboth [Page 137]pan fydder yn pregethu yr efengyl yn yr eglwys: Llawer a dreuliant yr am­ser vwch ben cardiau, a thableri yn y tafarn­dai: Llawer a gyscant ar eu gwelau tros am­ser y bregeth prydnawn: Llawer â wranda­want bregeth y borau, ac a dybiant fod hyn­ny yn gymmaint ac a ddichon Duw ei ofyn ganddynt: ac y dylei efe fod yn rhwyme­dig iddynt am hynny. Ac o bydd pregeth brydnawn, aed y neb a fynno iddi, at y bowliau a'r tableri yr ânt hwy. Y cyfryw rai â wasanaethant Dduw y borau, a Diafol brydnawn. Rhai a redant i butteinia ar y suliau; rhai i'r twmpath chwareu, ac i ddawnsio; rhai i chwareu pêl-droed: Rhai i faetio eirth: Rhai i sippian diod, ac i ddad­wrdd: Rhai mewn trefi a eisteddant allan wrth eu sioppau, ac eraill oddi mewn: Rhai at chwareu stŵl bâl, ac eraill i edrych arnynt.

O ffyliaid anhappus, o genawon melldi­gedig! O vffern-gŵn anraslon y rhai â ddir­mygant Efengyl Grist mor gyhoeddus, ac mor ddigywilydd! Beth â ddaw o honynt yn y diwedd? Diau nad yw eu damnediga­eth hwy yn cyscu. Miloedd o farwolaethau sy yn disgwyl am danynt: Noeth ydynt, ac agored o bob tu i ddigofaint Duw. Ac y mae achos i ryfeddu am ammynedd Duw, nad yw efe yn ergydio or Nefoedd belle­nau o dân gwŷllt iw difa hwynt, au sioppau, a'u teiau, ac yn eu gwneuthur yn ddrychau [Page 138]ac yn siamplau oi ddialedd am y cyfryw ddirmig hynod ar b [...]thau mor gyssegr-lan, mor sanctaidd, ac mor vchel-freiniol.

Theol.

Chwi a ddywedasoch y gwir vni­on yn dduwiol, ac yn grefyddol: ac yr wyf yn eich canmol yn fawr am hynny. Ac y mae yn rhaid i mi ddal yr vn rhyw be­thau, canys ni ellir eu gwadu. Ac o'm rhan fy hun yr wyf or meddwl ymma, sef na ddirmygwyd yr Efengyl erioed gan bobl yn byw can grefydd Gristianogol, a phro­ffess yr Efengyl, a than frenin duwiol, mor oleu, ac mor ddilachr, ac yr ydys yn yr oes hon. Canys pa liw bynnag, ac escus o grefydd y mae rhai yn ei wneuthur: Etto y maent yn gwadu ei grym hi, ac yn troi Gras Duw i drythyllwch, fel y dywed St Jûd: Jud. 4. Ac yn gwneuthur yr Efengyl yn gochl iw pechodau. Ei derbyn y maent, ai chofleidio, hyd y byddo yn sefyll oreu, ac yn ddeheuaf gyd a'u mantais, a'u di­grifwch, au trachwantau, au bodlonrhw­ydd, a'u cymmeriad, a'u cyfrwystra, au nid ewinfedd pellach: wrth yr Efengyl y byddant bŷw pan gaffont ennyd. Cyfa­ddeu y maent yr adwaenant Dduw, eithr ar eu gweithredoedd y maent yn ei wadu ef, [...]it. 1.6. am eu bod yn ffiaidd, ac yn anufydd, ac i bob gweith­red dda yn anghymeradwy. Llawn yw'r oes hon or cyfryw Broffesswyr cnawdol.

Phila.

Llawn yn siccr yw'r oes hon o'r [Page 139]cyfryw ragrithwyr twyllodrus, ffuantwyr, a rhai yn disgwyl gwneuthur eu mael or amser. Y rhai er eu bod yn dangos wy­neb têg, megis pe baent yn caru yr Efen­gyl, etto nid yw eu calonnau gyd â hi. Eu calonnau sy gyd ag An-nuwdeb: Eu calon­nau sy gyd â Phabyddiaeth, ac er eu bod weithiau yn dyfod i'r eglwys er dangos lliw teg ir Pregethwr, er hynny eu calon­nau sy yn myned ar ôl cybydd-dod. Yr Arglwydd syn achwyn am hyn drwy'r Pro­phwyd Ezechiel gan ddywedyd: Deuant attat fel y daw pobl eraill: Ac eistedda [...]t o'th flaen fel fy mhobl i: Gwrandawant he­fyd dy eiriau, ond nis gwnant hwynt. Ezec. 33 31. Canys a'u genau y gwnant hwy watworgerdd, a'u calon sydd yn myned ar ôl cybydd-dod.

Duw sydd yn achwyn am hyn drwy'r Pro­phwyd Jeremi gan ddywedyd: Ai yn lled­ratta, yn lladd, ac yn godinebu, a thyngu anvdon, ac arogl-darthu i Baal; a rhodio ar ôl Dawiau dieithr, y rhai nid adwaenoch, y deuwch, ac y sefwch ger fy mron i yn y tŷ hwn, yr hwn y gelwir fy enw i arno, ac y dywedwch, Rhydd-hauwyd ni i wneuthur y ffieidd-dra hyn ôll: Ai yn lloches lladron yr aeth y tŷ ymma, ar yr hwn y gelwir fy enw i ger bron eich llygaid? Lle y gwelwn fod yr Arglwydd yn rhoi senn i'w bobl, ac yn eu hargyoeddi yn llym am gam-arfer ei deml, ei wasanaeth, [Page 140]a'i aberthau, drwy eu gwneuthur hwynt yn farch-gynfas i guddio eu pechodau: A gwneuthur ei dŷ ef yn ogof lladron, yr hwn a ddylei fod yn gynnulleidfa y Saint.

Hyn oll, portreiad hyliw ydyw o'n ham­ser ni: Yn yr hwn y mae llawer yn cym­meryd ymarfer o'r gair, o weddi, ac o'r Sa­cramentau, nid i lâdd, ac i farwhau pecho­dau, ond iw meithrin a'u cyscodi.

Canys y maent mor ddeillion â thy bied, os deuant ir eglwys, a gwrando y weddi gyffredin, a phregeth, eu bod yn rhyddion oddiwrth eu pechodau, er nad ymadawant a hwynt. Meddwl y maent iddynt dalu i Dduw eu holl ddyléd, ac o hynny allan, y gallant fod yn hyfach i bechu. Y cyfryw ddynion ydynt debig i [...]ipanod. grwydraid; y rhai a roddant gau feddiginiaeth, nid i iachau, ond i beri doluriau. Cyffelyb ydynt i'r Papistiaid, y rhai a dybiant, ond cael gw­rando offeren y borau, fod yn rhŷdd iddynt wneuthur a fynnant, drwy'r dydd wedi hynny.

Theol.

Mi â welaf yr awr-hon fod gen­nych chwi wybodaeth mawr am Dduw, ac am wir grefydd. Digon vnion, a gwir y dywedasoch, a thebig i ŵr a chanddo gyfarwyddyd ym matterion Duw. Ob­legit y bobl gyffredin a dybiant yn ddiau fod y grefydd oll yn sefyll yngwasaneth Duw oddiallan mewn golwg, er bod eu [Page 141]calonnau ym mhell oddiwrtho.

Wrth y rhain y dichon Duw yn hydda ddywedyd: Nesau y mae y bobl hyn attaf a'u genau, a'm hanrhydeddu a'u gwefusau, Math. 15 8. a'u calon sydd bell oddiwrthif. Am ba rai y di­chon Duw yn gyfiawn adnewyddu ei holl achwynion gynt, yn erbyn Israel, a Iu­da: y rhai ydynt mor aml yn yr holl Broph­wydi: Mai ffiaidd oedd ganddo eu haber­thau, ai fod yn blino ar eu hoffrymmau, yn casau eu harogl-darth, yn diystyru eu ne­wydd loerau: yn dirmygu eu hyrddod, eu hŵyn, au geifr gan eu cyfrif oll megis gwaed dŷn, gwaed ei, gwaed môch; ar cwbl o herwydd bod eu dwylo yn llawn gwaed: o herwydd na osodent allan farn a chyfi­awnder yn y porth: o herwydd nad vfydd­haent iw ewyllis ef: o herwydd nad oedd eu calonnau gyd ag ef: Esay 66 3. ac. 1 11. ac o herwydd eu bod yn arfer, neu yn hytrach yn cam-arfer y pe­thau hyn oll megis gwascod i guddio tano eu pechodau.

Phila.

Y Mawr ddirmig ar wenidogion yr Efengyl, sydd argoel hynod o ddirmyg ar yr Efengyl. Canys ni all neb garu yr Efen­gyl, a chasau ei ffyddlon weinidogion hi: Eithr nyni a welwn wrth brawf gresynol, fod y Gweinidogion dwys-bwyllaf, duwio­laf, a dyscediccaf ar watworgerdd gan ddynion o'r gwaelaf, a'r dihiraf. Iob. 30 8.

Ac fel y dywed Iob: Y rhai y gwrtho­daswn [Page 142]eu tadau iw gosod gyd â chŵn fy ne­faid: Meibion yr ynfyd, a meibion heb enw ydynt hwy; gwaelach ydynt hwy na'r ddaiar. Yn y dyddiau hyn pob diffeith was, â fei­ddia yn ddirûs watwor, a dyfalu yr hên Dadau difrif-bwyll, a Bugeiliaid yr Egl­wys: A feiddia eu llysenwi wrth rodio yr heolydd, neu farchogaeth ar hyd y pri­ffyrdd. Ac er rhoddi or yspryd Glân iddynt enwau anrhydeddus, a brî vrddassol (sef Gorchwylwyr tŷ Duw: Datcudd wyr ei ddirgeledigaethau ef: Cyfranwyr ei dry­ssor: Ceidwaid ei sêl fawr: Ceid waid a­goriadau y Nefoedd: Scrifennyddion Duw: Cennadon Duw: Angelion, ie gwir ogo­niant Crist, a hyn ôll i yspysu godidow­grwydd eu galwedigaeth, etto y dihirwyr hyn, ie pryf [...]dach gwenwynig y ddaiar ni rusant eu galw hwynt yn Breladiaid coeg­feilchion, Personiaid arfoelion, Off [...]iriadach yn ginio. O annuwioldeb ffiaidd, ac anfaty­nedd. Yr awr-hon y mae yn digwyddo ir, swydd gyssegredig hon (yr hon sydd ogo­neddus yngolwg Duw, ai Angelion, ac yn­ddi ei hûn yn dra-anrhydeddus) fod yn fwyaf ei dirmig or holl alwedigaethau. Ob­legid yn y dyddiau hyn, llawn yw'r byd o goeg-wyr Di-dduw, a gwatwor-wyr Duw, yn gwneuthur gwawd or Efengyl, ac yn edyn tafodau yn erbyn pob gwir grefydd. Y cymdeithion hyn ni cheisiant mor gêl o'u [Page 143]drygwaith, na ffrost o'u crefydd. Nid ydynt yn cuddio eu drygioni yn rhagrithus, eithr yn ei osod allan ar gyhoedd, fel Sodom. Nid gwaeth ganddynt na ddelont byth i'r egl­wys: Blîn ydynt o hynny. Byw y maent yn anifeilaidd: a thybied am yr Scrythyrau nad ydynt ond ofer chwedlau. Difenwi y Gwenidogion, ar pregethwyr a wnânt: a'u gwrthwynebu yn ddilachr: a gwatwor­wyr hynod, ac anraslon ydynt.

Theol.

Am y cyffelyb y rhagfynegodd yr Apostol St Petr. Y deuai yn y dyddiau di­weddaf watworwyr, 2 Pet. 3.3 a rhai yn byw yn ôl eu trachwantau eu hunain. Am y cyffelyb yr Scryfenna gŵr Duwiol. Verbum Dei securê contemnitur, pr [...]missiones inanes esse creduntur, minae pro fabulis habentur: hynny yw: Gair Duw a ddirmygir yn ddiofal: ei addewedi­on ef a gyfrifir yn oferedd, ai fygythiau yn chwedlau. Am y fath hynny y dywed y Poet.

H [...]u vivunt homines tanquam mors nulla sequa­tur,
Aut velut infernus fabulavana foret.
Och or byw mae dynion ofer
heb tyfyrio marw vn amser:
Neu fod Uffern ffwrn dywyll-ddu
yn rhyw goeg-chwedl gwael iw gredu.

Dymma hysyd yr armser y mae'r byd yn heidio o Bapistiaid, ar rhai Annuw: [Page 144]A byw y mae y rhan fwyaf fel pe na bai yr vn Duw. Canys yr awr-hon y caseuir gwir grefydd, y diystyrir duwioldeb, y ffieiddir zêl, y gwawdir purdeb, y diflesir ar vnion­deb, y dirmygir Pregethwyr, y distedlir Pro­ffesswyr, a'r dynion da oll gan mwyaf â gymmerir ar fugeilrhes. Dymma'r am­ser y gallwn drwy achos cyfiawn, gwynfan gyd a'r Prophwyd: Barn hefyd â droed yn ei hôl, Esay. 55.14. a chyfiawnder a safodd o hirbell: Canys gwi­rionedd a dramgwyddodd yn yr heol: ac union­deb ni allei ddyfod i mewn.

Y Prophwydd Mic. syd yn cwynfan dros yr amseroedd, gan ddywedyd: Darfu am y Duwiol ar y ddaiar, nid oes vn vnion ym mhlith dynion: Cynllwyn y maent ôll am waed, pob vn sydd yn erlid ei frawd a rhwyd. Mic. 7.2. Y Proph­wyd Ieremi sy yn achwyn am y cyfryw ddrygioni yn ei amser ef: Fod y bobl wedi myned yn rhy ddigywilidd i bechu.

A fu gywilidd arnynt hwy am wneuthur o honynt frynti? Ier. 8.12. Na fu ddim cywilidd arnynt; gan gywilyddio ni chywilyddiasant y chwaith. Dymma bortreiad eglur, a gwir gy­ffelybrwydd o'n hamser ni: Canys yr awr-hon y gwiscasom wynebau o brês. Ae­thom yn ddygywilidd i bechu: Ni fedrwn mor gwrido, ni fedrwn wladeiddio: Ae­thom agos tros ben cŷwilidd, ac yn ddi­râs: Oh Arglwydd beth â ddaw o hyn yn y diwedd?

Phila.

Y mae i ni achos i ofni fod rhyw farnedigaeth drom goruwch ein pennau, ie yn nesâu attom. Canys ni âd yr Arglwydd byth yn ddiddial, ddirmig ar ei Efengyl, ai wenidogaeth.

Theol.

Gwir â ddywedasoch. Ac ni â glywsom or blaen fel y cospodd Duw yr hên fyd gynt o blegyd yr achos hwnnw. Darllain yr ydym pa ddialeddau trymmion â ddioddefodd yr Juddewon gan y Rhufei­niaid am y pechod hwn. Megis yn eglur y rhagddywedasai ein Harglwydd Jesu. Dar­llain hefyd yr ydym, yn ôl ir Arglwydd ei hûn osod allan yr Efengyl, a'i thanu ar lêd drwy'r Apostolion, gan orchfygu y byd yn y modd hwnnw (yr hyn beth â arwyddo­ceid wrth y march gwyn, ai farchog, ai fŵa, ai goron) pan ganfu, o fewn ychydig at hyn­y, fod yn ei dirmygu hi yn y byd, ac yn dechreu gwneuthur gwael-gyfrif o honi: Pa wedd y cystuddiodd efe y ddaiar mewn dull ofnadwy, a rhyfeloedd, a thywallt gwaed, a therfyscau, drudaniaeth, new­yn, a haint y nodeu. Y rhai hyn ôll â ar­wyddoceid wrth y march côch, y march du, ar march gwineu, y rhai a ymddangosa­sant pan agorwyd yr ail, y drydedd, ar bedwaredd sêl. Datc. 6.

Felly hefyd y cospa Duw yn dôst bob tra­ha, camwedd a dirmig â wneler ar ei genna­don ffyddlon. Megis y gwelir Datc. 11.5. [Page 146]Lle y mae yn amlwg: os ewyllysia neb wneuthur niwed i'r ddau dyst, y ddwy ole­wydden, ar ddau ganwyllbren (wrth y rhai y deellir ffyddlon Bregethwyr yr Efen­gyl a'u holl dryssorau ysprydol, a'u goleuni Nefol) fod tân yn myned o'u genau ac yn difetha eu gelynion: sef tân digllonedd Duw, a yssei y sawl oll a'u trallodei hwynt pa fodd bynnag, ai drwy watwor, ai coeg­fynudyn, ai difenwi: ai enllib, carchar, neu ryw fath arall ar ddirmig, ac anfri. Or peth ymma y mae gennym yn yr Scrythur siampl hynod, neu ddau.

Yn gyntaf darllain yr ydym ddescyn tân or nefoedd a llosci y capten dirmygus, a'i ddêg a deugain, ar fygwth, ac archiad Elias. 2 Bren. 1.10.

Yn ail, y modd y daeth dwy arth or goed­wig ac y drylliasant ddau a deugain or bech­gin â watworasent Eliseus, Prophwyd Duw, 2 Bren. 2.24. gan ei alw ef moelyn, moelyn.

Amlwg yw wrth y siamplau hyn fod yr Arglwydd yn dioddef tros amser y cyfryw beth, heb gymmeryd arno ei weled: Ac etto fe ddaw'r amser pan lawio efe dân, a brwm­stan ar holl watworwyr ei wenidogion ffyddlon, a dirmygwyr ei Efengyl.

A hyn â fynegir yn eglur yn y bennod gyntaf o ddiharebion Salomon: Lle y dan­gosir pa wedd y mae doethineb Duw sef Je­su Crist, y doethineb pennaf, yn llefain yn [Page 147]vchel ym mhôb man or byd; ac yn ymgym­mell ar bawb, ar osteg yn yr heolydd; ond er hynny yn cael ei ddirmygu gan rai bydol drygionus, a ffyliaid gwawdebus. Am hynny y dywed Crist:

Yn gymmaint ac i mi eich gwahodd, a chwi­thau yn necau o ddyfod, i mi estyn fy llaw o­ddiwrthif, a neb heb droi attaf, ond bod pawb yn tynnu yn ôl eu cefnau oddiwrth fy holl gyngor i, Dihar: 1.24, 25. heb fod yn fodlon i'm cospedi­gaeth: minnau hefyd â chwarddaf yn eich dia­ledd chwi; mi â escydwaf fymhen, pan syr­thio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni: pan ru­thro yr hyn yr ydych yn ei ofni megis destruw disymmwth: A phan ddêl eich dialedd ar­noch megis Corwynt. trowynt: pan ruthro arnoch me­gis gwascfa, a chaledi. Yna y galwant ar­naf, ond ni'm cânt: Canys cas fu ganddynt wybodaeth, ac ofn yr Arglwyd ni ddewisa­sant.

Ymma y gwelwn pa wedd y mae yr Argl­wydd yn bygwth ei ddigllonedd ofnadwy, a dialedd or nefoedd yn erbyn holl anghre­fyddol ddirmygwyr Crist, a'i Efengyl dragwyddol, a phawb o'i ffyddlon draeth­wyr, a'i chyhoeddwyr.

Edrychwch chwi ddirmygwyr, a rhyfedd­wch: ystyriwch yn dda beth â ddaw o ho­noch yn y diwedd. Na feddyliwch y cym­mer y Duw cyfiawn y pethau hyn ar eich llaw yn oestad, sef dirmygu ei air ef mor gy­hoeddus, [Page 148]ac amherchi y Pregethwyr du­wiolaf, ar Proffesswyr ffyddlonaf mor gywilyddus, ac yr ydych: Na chewch, na chewch. Bydded hyn diammeu i chwi, sef y cyrrhaedd efe chwi hyd adref yn y diwedd: Efe a'ch tery ar hŷd, ac ar draws; Efe a'ch ymlid, ac a'ch erlid ai farnedi­gaethau trymmion, ac ni thrŷ yn ôl nes iddo eich difetha, a'ch llwyr ddinistrio oddiar wyneb y ddaiar.

Canys cofiwch, attolwg, y peth â ddy­wed efe yn Deutronomi: Os hogaf fyngh­leddyf disclaer, ac ymaflyd o'm llaw mewn barn, dychwelaf ddial ar fyngelynion: a thalaf y pwyth i'w caseion; meddwaf fy saethau a gwaed, Deut. 32.41, 42. a'm cleddyf a fwyttu gîg: o waed y lladdedig, ar caeth, o ddechreu dialeddau y gelyn.

Phil.

Mewn gwirionedd Syr y mae achos i ofni rhag (o herwydd ein mawr ddirmig ar yr Efengyl, ac mor llaes, ac mor llygoer ydym bawb yn gyffredrin iw dilyn ac i wneuthur defnydd o honi) i Dduw ei dwyn hi oddiarnom, ai rhoddi i bobl a ddygant mwy ffrwyth oddi­wrthi. Math. 21.43.

Theol.

Yn wir y mae achos i ofni rhag am ein pechodau (yn bendifaddeu, oblegit ein bod yn llaru ar y manna nefol) i'r Ar­glwydd symmud ein cannwyllbren, dynnu ymmaith ein vdcyrn arian, a pheri na chaffom mwyach glywed hyfryd-lais glŷch [Page 149] Aaron: peri hefyd in gweledigaethau ballu, ac i'n Sabbothau beidio, a dwyn arnom y newyn dirfawr, a thôst, o ddiffig clywed gair yr Arglwydd, Amos 8.11. a grybwyllir drwy'r prophwyd Amos: Y pryd hynny y troid ein holl ddyddiau hyfryd, a'n blynyddoedd llawen, yn wylofain, yn alar, yn gwyn­fan. Duw er ei anfeidrol drugaredd, a drô hynny oddiwrthym.

Phila.

Amên, amên. Gweddiwn bawb yn ddifrifol, ac yn daer, nôs, a dydd, ar attal o Dduw yn ei anfeidrol drugaredd y dia­leddau ofnadwy hynny oddiwrthym: y rhai y mae ein pechodau ni beunydd yn galw am danynt: ac ar gael o honom rhag llaw hîr fwynhau ei ogoneddus Efengyl ef i ni, ac i'n hiliogaeth ar gynnydd, ac yn fwy ffynnadwy.

Asun.

Yn ddiddadl, pechod mawr yw di­ystyru gair Duw: Ac yr wyfi yn tybied nad oe [...] neb cynddrwg a gwneuthur hynny. O­blegit ni â ddylem garu gair Duw. Na atto Duw fod neb ni charo air Duw: Gresyn oedd gael o hwnw fyw.

Theol.

Nid yw hyn ond geiriau hygoel. Hawdd yw adrodd geiriau têg. A llawer iawn â ddywedant fel y dywedwch chwi­thau: eithr chwychwi, a hwythau yn gystal ai gilydd ydych yn dangos yn eglur, yn eich ymarweddiad, nad oes gennych ond cyfrif bychan o honaw: Ie pe dywedwn na thy­biwch [Page 150]biwch yn well o honaw nac o hên gadach Ilestri, ni ddywedwn nemmawr ar fai: A meddwl yr wyf, pe profid y peth yn dda, mai prin y mae gennych y Beibl yn eich tŷ: Ac er ei fod, hawdd yw gwybod mai anfyn­ych yr ydych yn ei ddarllain yn gydwybo­dus, ac yn ofalus; ac mor anfynych a hynny yr ydych yn gŵrando piegethu'r gair. Pa fodd, oni bai hynny y gellych chwi fod cyn Ileied eich gwybodaeth, ac yr ydych?

Asun.

Cyfaddeu yr myf fy môd i, ac er­aill yn gwrando yn daran esceulus, ac yn dar­llain yn ddiofal; etto ni ellwch chwi ddywedyd, ein bod ni am hynny yn dirmygu y gair.

Theol.

Gallaf yn wir. Eich cynnefin es­ceulustra, a'ch diofalwch yn hyn sydd argoel hynod o ddiystyrwch ar y gair. Diau nad oes arnoch na blŷs na chwant iddo.

Dewisach gennych bob peth arall, nai ddarllain, neu fyfyrio arno. Nid ydych yn cael dim blâs arno, nac yn darllain dwy bennod yn yr wythnos: Gwrthwyne­bus, a blîn yn eich golwg, yw pob duwiol ymarfer o grefydd, megis finegr i'ch dannedd, a mŵg i'ch llygaid. Serch an­ghymmodrel i'r byd hwn ac iw oferedd, â wnaeth i chwi laru ar bethau nefol. Ac lle yr ydych ar fedr diangc yn escusodol, drwy gyfaddeu eich esceulusdra, megis pe bai hynny yn escus cymmeradwy, yr Apo­stol [Page 151]a'ch cyrrhaedd chwi hyd adref, pan yw yn dywedyd: Pa fodd y diangwn os ni â [...]sceuluswn iechydwriaeth gymmaint: Heb. 2.3. deliwch sulw ar y peth â ddywed: os ni a [...]sceuluswn.

Antil.

Cyffelybus yw eich bod chwi yn meddwl nad oes gan ddynion ddim am­gen iw wneuthur, ond darllain yr Scry­ [...]hyrau, a gwrando Pregethau.

Theol.

Nid wyfi yn dywedyd felly; nac [...]n meddwl na ddylych chwi wneuthur dim [...]mgen. Oblegit y mae Duw yn caniattau y gellweh chwi a chydwybod dda, ac yn ei ofn ddilyn, ac arfer gorchwylwaith eich galwedigaeth, fel y dywetpwyd or blaen: Eithr hyn a welaf fi yn feius ynoch chwi, [...]c mewn llawer eraill, sef na threuliwch beth amser mewn gweddiau neillduol, yn darllain ac yn myfyrio yngair Duw, foreu, hwyr, cyn gwaith neu gwedi gwaith. Ac er gallu o honoch yn fynych gymmeryd [...]amdden ddigon: Etto dewisach gennych [...]reulio hynny mewn oferedd, a gwag [...]iaradach, nac mewn dim iawn ymarfer o grefydd. Yr hyn beth a ddengys yn [...]mlwg, nad oes gennych chwi ddim difyrrwch mewn pethau sanctaidd, na [...]handdynt hwythau ddim ofn Duw o flaen [...]u llygaid.

Antil.

Yr wyfi yn dywedyd wrthych yn [...]diweniaith, mai rhaid yw i ni ofalu am ein [Page 152]gwaith, a thrîn ein pethau: ac onidê, ni á all­wn fyned i gardotta. Ni allwn ni mor byw wrth yr Scrythyrau. Os dilyn Pregethau a wnawn, ni allwn ni mor ymdaro. A ydych chwi yn tybied fod pawb yn rhwymedig i ddarllain yr Scrythyrau? Onid ydym yn ein côf, a'n pum synwyr? Chwi â fynnech yn gwneuthur ni yn ynfyd dybygaf, ond nid ydym na meddwon, na gwallgofus.

Theol.

Fe ddangoswyd i chwi eufys, ac â brofwyd yn nechreu ein ymddiddan ni fod pod dyn o ba râdd, neu gyflwr bynnag y byddo, yn rhwymedig o herwydd cydwy­bod i wrando ac i ddarllain gair Duw. Eithr am eich pum synwyr chwi, ni wasanaeth [...] môch trô yn yr achosion hyn pe bai gen­nych bymtheg synwyr, chwaethach pump. Oblegid holl synwyr a deall, a rheswm dynion naturiol ym matterion Duw, ni [...] ydynt ond dallineb, a ffoledd. Ar Apostol a ddywed, nad yw doethineb y doethaf yr y byd hwn ond, nid yn vnig ffolineb gyd â Duw, eithr llwyr elyniaeth yn erby [...] Duw. 1 Cor. 3.19. Rhuf. 8.7.

Drachefn y dywed, nad yw'r dyn na­turiol, 1 Cor. 2.14. ai bum synwyr ganddo, yn deal perthynas yspryd Duw; canys yn yspryd ol y hernir hwynt. Tra synhwyrol i' [...] ystyriaeth ymma y llefara Elihu, ga [...] ddywedyd: Job. 32.8. y mae yspryd mewn dyn, ysprydoliaeth yr Holl-Alluog sydd yn gwneu­thur [Page 153] iddynt hwy ddeall.

Antil.

Nid wyfi yn deall yr Scrythyrau hyn, yr ydych chwi yn eu hadrodd: Nid ânt yn fy mhen i.

Theol.

Hynny yr wyf yn ei dybied. Ca­nys, yr yspryd glân a ddywed, Diha. 24.7. Rhy vchel yw doethineb i ffôl.

Antil.

Paham i'm gelwch yn ffôl? nid wyfi ffolach na chwithau.

Theol.

Nid wyfi yn eich galw yn ffôl, ond adrodd yr wyf i chwi beth a ddywed yr Sc­rythur, yr hon sydd yn galw pawb (er doe­thed, er cyfrwysed fyddont, ac er maint eu dysceidiaeth) yn ffyliaid cynhwynol, hyd oni wir lewyrcher hwynt, ac y sancteiddier oddi mewn ag yspryd Duw.

Fel y mae yn amlwg, Tit. 3.3. Lle y mae yr Apostol yn siccrhau fod Titus, ac ynteu ei hún cyn derbyn o honynt lewyrch yspryd grâs Duw, yn wir ffyliaid difynwyr, ac yn llwyr anneallgar yn y pethau â berthynant i Dduw.

Phila.

Attolwg M. Theologus gadewch iddo ef ddywedyd a fynno. Ni phaid efe byth ai ymgeccreth: mi a welaf mai ceccryn rhagorol yw efe, heb ei fath: moeswch i ni gan hynny fyned rhagom i ymadrodd am y pummed arwydd o ddamnedigaeth, yr hwn yw tyngu.

Theol.

Da iawn y gellir ei gyfenwi yn arwydd o ddamnedigaeth. Oblegid yr [Page 154]wyf yn meddwl ei fod yn fwy nac arwydd. Sef ei fod yn siccrwydd ansiommedig o ddyn gwrthodedig: Canys nid adnabum i erioed neb a gwir ofn Duw yn ei galon, yn arferol o dyngu yn gyffredin.

Phila.

Yr wyfi or vn feddwl a chwithau, oblegit ni ddichon digwyddo, fod gwir ofn Duw, a chynnefin arfer o dyngu, yn cyfan­neddu bŷth ynghyd yn yr vn dyn. Oblegid y mae tyngu yn beth gwaharddedig wrth orchymmyn hynod: Ac y mae Duw yn chwanegu at ei gyfraith fygwth ofnadwy, sef nad dieuog ger ei fron ef, yr hwn a gymmero ei enw yn ofer: ond ei gospi a wna yn llym, ac yn ddwys.

Theol.

Gwir a ddywedwch: A Duw a ddywed ym mhellach: Onid ofnwn, ac oni pharchwn yr enw gogoneddus, ac ofnadwy hwn (yr Arglwydd dy Dduw) y gwna efe ein plaau ni yn rhyfeddol. Deu. 28.58. Fe ddywed hefyd drwy ei Brophwyd Malachy: y bydd efe tŷst cyflym yn erbyn yr anudon­wyr. Mal. 3.5. Ar Prophwyd Zachary a ddywed y daw melldith a dial Duw, Zach 5.2, 4. fel llyfr yn ehedeg i dŷ yr ofer-dyngwr, ac wrth hwnnw y difethir ef. Am hynny gocheled yr ofer-dyngwyr oll, a gwiliant arnynt eu hunain, a hynny mewn prŷd: Canys ni a welwn fod dialedd wedi ei ddarparu eusys ar eu medr hwynt.

Phila.

Y bygythion hyn, a thosted y­dynt, a hynny oddiwrth y Duw nefol ei hûn, a barei (dybygei ddyn) i galonnau dynion grynu, a dychrynu, a bod yn arswy­dus ganddynt ruo allan y cyfryw ofer­lwon ac y byddant arferol o dyngu, oni bai eu bod wedi eu llwyr galedu, heb ynddynt nac ystyriaeth, na gras.

Theol.

Gwir. Ond etto nyni a welwn wrth ein cydnabyddiaeth ein hûn fod dy­nion yn ymroi i dyngu, ac i dyngu anvdon. Canys y dydd heddyw nid oes vn pechod arall fwy sathredig yn ein plith ni na thyn­gu. Y mae llawer ni fedrant adrodd dêg o eiriau, na byddo vn o honynt yn llw. Ie ac yn ein plith ni y Cymru, y gair cyntaf a adroddwn sydd llw. Canys llawer a gym­merasant y cyfryw ddrwg-arfer o dyngu, ac na fedrant beidio, mwy nac y newidia yr Ethiopiad ei liw, neu'r llewpard ei frith ni. A'u cynnefin arfer o dyngu, a wnaeth dyn­gu yn naturiol iddynt, ac yn ddiarswyd, ac yn ddichwith ganddynt.

Tybied yr wyf, pe bai tyngu yn Deyrn­frad, na fedrei rhai mor peidio ag ef. A diogel gennif, (er yscafned y gwnawn ni or peth) mai Teyrn-frad ydyw yn erbyn y Brenin Nefol. Ie pechod digyfrwng yn erbyn Duw, sef yn erbyn ei berson ef. Ac am hynny efe ai gwaharddodd yn y llêch gyntaf oi orchymynnion.

Phila.

Yn ddiddadl, y bai anafus hwn o dyngu, yn anad vn pechod arall sydd sa­thredig tros ben yn y wlâd yma. Canys chwi a gewch glywed plantos bychain yn yr heolydd yn tyngu yn erchyll, ac yn fell­digedig: fe grynei calon dyn ai clywei. Fe dybygid iddynt sugno y llwon hynny o fronnau eu mammau. Eithr hyn sydd ddiammeu, iddynt ddyscu tyngu oddiwrth ddrwg-siampl eu rhieni. Ac yn y dyddiau hyn, anhawdd yw gallu ymddiddan a dŷn yr hwn (yn ei ymadrodd cyffredin) ni frytheirio allan ryw lw, neu i gilydd.

Theol.

Mi a ddywedaf i chwi beth rhyfedd: ac y mae yn ddrwg dros ben gennif ei ddywedyd. Tybied yr wyf fod yn eu tyngu yn y deyrnas ymma bob dydd yn y flwyddyn, gan mil o lwon.

Phila.

Diammeu Syr, eich bod o fewn eich terfynau. Canys yn a wr gan mwyaf cynnifer dyn cynnifer llw, oddieithr ychydig iawn. Ie myfi a adwaen lawer o'm cydnabyddiaeth fy hûn, y rhai os cydsiaredir a hwynt, a dyngant o'u rhan eu hunain, gant o lwon bob dydd yn y flwyddyn.

Theol.

Oh mor dosturus, a gresynol yw'r cyfryw beth: Nyni a allwn yn gymmwys adgoffau hên gwynfan y Pro­phwyd I [...]remi. Jer. 23.10. Yr hwn â ddywed fod yn ei amser ef, Y ddaiar yn gofidio o herwydd [Page 157]llwon. Ac iawn y gallwn ryfeddu nad yw'r wlâd yn suddo o herwydd llwon. Oblegit oni bai fod Duw yn Dduw o anfeidrol ddioddefgarwch, pa fodd y gallei efe oddef cablu yn amharchus ei enw sanctaidd, gogoneddus, gynnifer miloedd o weithiau yn yr vn dydd, a hynny gan goeg-bethau mor anheilwng ac ydym ni.

Phila.

Y mae lle yn ddiau i ryfeddu o herwydd ammynedd, a dioddefgarwch Duw yn ein harbed ni cyhyd o amser, ac yn caniattau i ni hir yspaid, a hamdden i edifarhau. Eithr diddadl yw'r hyn a ddy­wed y Prophwyd: Er bod yr Arglwydd yn hwyrfrydig i lîd, etto mawr yw ei nerth, ac ni ddieuoga efe yr anedifeiriol. Er iddo gyd-ddwyn dros amser ai cythreu­lig dyngo, etto nid anghofia efe hwynt: Nahum 1.3. Ond yn hytrach efe a gymmer gyfrif o honynt, ac a'u scrifenna yn ei lyfr coffad­wriaeth, fel y byddont yn distiolaeth yn eu herbyn. A phan ddêl y dydd cyfrif mawr, efe ai gesyd oll yn eu trefn o'u blaen hwynt, ac a ddyry hawl yn eu herbyn am danynt.

Na ddisgwilied ofer-dyngwyr drygionus, a chabl-wyr enw Duw gael diangc bob amser yn ddigosp, o herwydd bod Duw yn gadael iddynt fyw yn llonyd tros amser, ac yn oedi eu dialedd. Oblegit pa hwyas yr oeda Duw, mwy ofnadwy, a dwysach fydd [Page 158]ei ddyrnodiau ef pan ddelont. Pa hwyaf y tynner sa [...]th mewn bŵa, cryfach sydd yr ergid pan ddêl allan. Er bod gan Dduw draed o blwm, ac am hynny bod ei gerdde­diad yn araf, ac ynteu yn llaes i roddi dial: etto y mae ganddo law o haiarn, ac yn taro yn drwm ac yn farwol pan ddêl. Er bod Duw yn gadael i'r drigionus fyw mewn diofalwch tros amser (medd Iob.) Etto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy. Iob. 24.23, ac 21.30. Ac mewn man arall y dywed: Y drygionus a gadwyd hyd ddydd destruw, ac hwy a ddygir allan erbyn dydd digofaint: felly y mae y gŵr sanctaidd Iob yn siccrhau fod cyflwr yr holl rai goludog bydol yn gyffelyb i gyflwr ŷch, a bascer erbyn y dydd lladfa.

Oblegid yn yr vn rhyw bennod y dy­wed, Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac yn ebrwydd y descynnant i'r bedd. Iob. 21.13. Eithr yn awr, attolwg, henwch y llŵon mwyaf sa­thredig, a chynnefin yn ein plith ni.

Theol.

Y mae ŵyth o lwon, y rhai (yn a­nad eraill) ŷnt amlaf, a chynnefinaf ar da­fod pob dyn, sef,

Myn Duw.
Fel y barno Duw ar fy enaid.
Myn Crist.
Myn Iesu.
Myn Mair.
Myn fenaid.
Myn fyngwirionedd.
Myn y Saint, a thyngu i amryw greaduriaid, Myn y wnaeth Duw.

Canys odid o gellwch ymddiddan a neb, yr hwn ni ollyngo allan yn ddilachr, ryw vn or llwon hyn yn ei ymadrodd cyffredin.

Asune.

A ydych chwi yn gwneuthur cym­maint cyfrif or peth, o thyng dyn iw ffydd, a'c iw wirionedd?

Theol.

Ydwyf. Canys ein ffydd, a'n gwi­rionedd yw'r tlysau gwerthfawroccaf a feddwn. Ac â wystlwn ni y rhai hynny am bob gair a ddywedom? hynny a ddengys nad oes fawr goel arnom. Canys pwy (a dim coel arno) a osodei y tlŵs goreu yn ei dŷ yngwystl coegbeth?

Asune.

Myfi â adwaen ŵr, ni thyng vn amser ond myn enaid ffon goll neu myn dail y bedw, neu myn deilcn dolen, &c. Gobeithio na ddywedwch mai llwon yw rheini. Canys cyn onested gŵr ydyw, ar gonestaf a fwyttaodd fara ai ddannedd. Ni chewch glywed llw yn dyfod allan o'i enau.

Theol.

Nid wyf yn tybied ei fod cyn o­nested, ac y dywedwch chwi. Oblegit pe­chod nid bychan yw tyngu ir creaduriaid. Yr Arglwydd â ddywed drwy ei Broph­wyd: Dy blant di am gadawsant i, Jer. 5.7. ac a dyn­gasant i'r rhai nid ydynt Dduwiau. Felly tyn­gu i'r creaduriaid yw ymwrthod â Duw, ac ni ddywedwch, dybygaf, mai gŵr onest yw'r hwn â ymwrthodo a Duw.

Asune.

Nid wyfi yn credu mai ymwrthod a Duw yw tyngu i bethau gwael.

Theol.

Chwychwi, a'ch cyffelyb, ni chre­dwch ddim o air Duw, ond yr hyn â weloch chwi yn dda. Eithr pa vn bynnac a wneloch ai credu, ai peidio, gair Duw â saif byth yn safadwy, ac ni phrofir byth fod vn tippin o air Duw yn amgenach na gwir. Ond o her­wydd mai matter bychan yn eich golwg chwi yw tyngu i'r creaduriaid, hyn a ddy­wedaf wrthych: sef pa waelaf, pa ddihi­raf, pa ddiffeithiaf fyddo'r peth y tynger iddo, mwyaf a gwaethaf or cwbl yw'r llw. Oblegid eich bod felly yn rhoddi i'r crea­dur gwael, y peth a berthyn i Dduw yn v­nig, sef gwybod y calonnau, a medru dir­nad pethau cuddiedig, a dirgel. Canys beth bynnac y tyngo dyn iddo, y mae efe yn galw hwnnw yn dŷst i'w gydwybod, mai gwir a ddywed, ac nid celwydd, yr hwn beth a berthyn i Dduw yn vnig. Ac am hynny wrth dyngu i'r creaduriaid yr ydys yn yspeilio Duw o'i anrhydedd. O hyn, tyngu ir croesau ar yr arian, neu i'r bara, neu i'r llaw, neu i'r engil dân, neu i'r ddiod, neu'r cyffelyb lwon; yw yspeilio Duw o'i ogoniant drwy roddi i'r creadur, y peth a ddigwydd yn briodol, ac o gyfiawnder i'r Creawdudd.

Asune.

Beth a ddywedwch chwi am y rhai a dyngant i'r off [...]ren, ac i ddelw'r Grôg.

Theol.

Pechod y rheini sydd cynddrwg ar lleill. Canys peth ffiaidd yw tyngu i eu­lynnod, sef myn Mair, myn y grôg, myn delw Fair, ar cyffelyb. Y Prophwyd Amos â ddywed: Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac â ddywedant, byw yw dy Dduw di o Dan, Amos 8.14. a syrthiant, ac ni chodant mwy. Tyngu i bechod Samaria yw tyngu i eulynnod. He­fyd yr Arglwydd sydd yn bygwth drwy'r Prophwyd Zephani: Y tyrr efe ymmaith y rhai a dyngant i'r Arglwydd, ac a dyngant i Mal­chom, neu i'w Brenin: Canys yr Eulyn­addol-wyr â alwent eu heulyn Molech eu Brenin. Zeph. 1.5.

Asune.

Gan eich bod yn condemnio pob vn o'r ddau: tyngu i'r creaduriaid a thyngu i eulynnod: Wrth hynny i ba beth y tyngwn? Cyffelybus yw na fynnech chwi i ni dyngu i ddim.

Theol.

Yn ein ymadrodd cyffredin, ni ddylem ni dyngu i ddim, nac ir naill beth, nac ir llall: Ond fel i'n dysc ein Har­glwydd: Bydded eich ymadrodd ie, ie; ac nagê, nagê. Oblegid beth bynnac sydd dros. Math. 5.37. ben hyn, o'r drŵg y mae. A St Iago a ddy­wed: O flaen pob peth fy mrodyr na thyng­wch, nac ir Nefoedd, nac ir ddaiar, na llw arall: eithr bydded eich ie yn ie, a'ch nagê, yn nagê, rhag syrthio o honoch mewn barn. Jag. 5.12.

Antil.

Cyffelybus yw mai Anabaptist ydych [Page 162]yn condemnio pob tyngu: ni fynnwch chwi fâth yn y byd ar dyngu.

Theol.

Nid felly: Canys er fy mod yn go­rafun tyngu i'r creaduriaid, tyngu i eulyn­nod ac ofer dyngu: etto yr wyf yn cyfa­ddeu fod yn rhydd, ac yn gyfreithlon tyngu ger bron swyddog, ie ac heb swyddog hefyd mewn achosion o bwys, a defnydd-fawr, er mwyn cael allan y gwirionedd.

Hyn a gadarnheir o enau Duw ei hun, lle y dywed: A thi a dyngi byw yw yr Arglwydd mewn gwirionedd, [...]er. 4.2. mewn barn, ac mewn cyfi­awnder. Ie yn yr achosion hyn enw Duw yn vnig y tyngir iddo: Fel y mae yn scri­fennedig, Yr Arglwydd dy Duw a ofni ac i'w enw ef y tyngi. Deut. 10.20.

Asune.

Onid cyfreithlon i ni dyngu yn ein ymadrodd cyffredin?

Theol.

Na chyfreithlon ddim: canys hynny fyddei cymmeryd enw Duw yn o­fer: yr hyn beth fel y gwyddoch a wa­herddir.

Ac vn o ddoethion y Cenedloedd a fe­drei ddywedyd fel hyn. Pan i'th gymmeller i dyngu, socrat, gwna hynny o herwydd dau achos: naill ai er ymddiheuro oddiwrth ryw fai ana­fus, ac achwyniaeth trwm: neu er mwyn achub dy garedigion allan o ryw enbydrwydd: Ni channiattaodd y Pagan hwnnw dyngu neb rhyw lw mewn ymadrodd cyffredin, pa faint llai y mynnei efe dyngu i Dduw. Un [Page 163]arall a ddywedodd: Gochel lw, Phocili er dy fod yn tyngu y gwir: felly nyni a welwn fod ofer­dyngu wedi ei euog-farnu, ie gan y Paga­niaid.

Asune.

Ond etto y mae, yn rhaid i ni dyn­gu, ac onid ê ni choelir mo honom.

Theol.

Ac ni'ch choelir chwi ddim cynt er maint a dyngoch: Canys eglur yw fod miloedd heb wneuthur cyfrif or peth. Ni wnânt mwy cydwybod o dyngu nac o dorri cnau.

Ac am hynny pa ddyn synhwyrol ai co­liei er maint a dyngont: Eithr o gwnewch chwi gydwybod o ddywedyd gwir o'ch calon bob amser heb dyngu math yn ybyd ar lw: pob gŵr onest synhwyrol a'ch coe­lia yn gynt o lawer na phe baech, a chwi yn amgenach, yn tyngu mîl o lw on.

Antil.

Yr arfer yw tyngu.

Theol.

Arfer ddrygionus, a chythreu­lig ydyw.

Antil.

Yr wyfi yn gobeithio y gallwn dyngu trwy na thyngom ond y gwir, ac na thyngom ond ir peth a fyddo da.

Theol.

Attebwyd or blaen nad yw rŷdd i chwi dyngu dim mewn achosion gwael, a di-ddefnydd.

Antile.

Tra na wnelom ddim gwaeth na hynny, gobeithio y cymmer Duw ni yn Escusodol.

Theol.

Ni chymmer Duw chwi yn es­cusodol [Page 164]pan dorroch ei orchymmynion, a pharhau yn hynny.

Antil.

Beth a ddywedwch chwi am y rhai â dyngant i welîau, ac i waed, i gîg, ac i gorph Duw, a Christ, a'r cyffelyb lwon me­gis mewn gorchest; gan fwriadu bod hynny yn harddu eu hymadrodd yn odiaeth.

Theol.

Y mae vffern ai safn yn agored iw derbyn, ac hwy a gânt wybod ryw ddydd beth yw cablu Duw.

Antil.

Beth a dybiwn am y rhai a dyn­gant ar bob gair a ddewedant, i gorph Duw, gwaed Duw, cîg Duw, chwŷs Duw.

Theol.

Bod eu cyflwr yn resynol, ac yn enbydus: ac yr wyf yn crynu wrth adrodd y geiriau hynny. Cabl eiriau ffiaidd echrys­lon a chynddeiriog ydynt; digon i beri ir meini yn yr heolydd hollti, ac ir cymylau syrthio ar ein pennau. Ac y mae achos i dy­bied fod holl gythreuliaid vffern yn barod i fwrw y cyfryw ddihirwyr cabl-iethus bendramwnwgl i'r pwll sy yn llosci a thân a brwmstan yn dragywydd.

Antil.

A ydych chwi yn cael yn yr Scry­thyrau, y cospa Duw mor dôst a hyn y sawl â dyngant?

Theol.

Ydwyf yn wir. Oblegid heb law yr hyn â ddywetpwyd or blaen, y mae gen­nym esamplau eraill.

Yn gyntaf Sennacherib Brenin Assy­ria, yr hwn am ei gabledd cynhwynol yn [Page 165]erbyn y Duw nefol, â laddwyd mewn modd echrydus, 2 Bren 19.37. ac aruthrol gan ei feibi­on ei hûn, Adramelec, a Sarezer; a hyn­ny yn y deml pan ydoedd yn addoli ei eulyn-Dduw Nisroch: Ac etto wele e­sampl mwy ofnadwy o ddigofaint Duw yn erbyn cablwyr. Darllain yr ydym i'r Israeliaid lâdd or Syriaid yn yr vn dydd gan mîl o wŷr traed, am gablu Duw. 1 Bren. 20.29.

Ar lleill â ffoasant i'r ddinas, i Aphec: ar mûr â syrthiodd ar saith mîl ar hugain or gweddill â adawyd.

I ba beth y coffawn ymma y modd y crogwyd faith o feibion Saul Brenin Is­rael o flaen yr Arglwydd ym mynydd Gi­bea, am dorri'r llw a wnaethid ir Gibeo­niaid lawer o flynyddoedd or blaen, 2: Sam. 21.

Wrth y siamplau hyn y gallwn weled yn eglur, y myn y Duw cyfiawn, ie weithiau yn y bywyd ymma, ddwyn dial ar gabl­wyr, a thorwyr llwon.

Ac am hyn yr oedd, hyd yn oed y Cened­loedd ym mhôb oes yn ofalus am gyflawni, a chadw llwon: megis y parodd Pharaoh Brenin yr Aipht i Ioseph fyned i fynu i wlâd Canaan i gladdu ei dâd yn ôl y llw a wnaethei efe iw dâd.

Phila.

Mi â dybygwn y dylei yr esam­plau hyn, (a hwythau mor ofnadwy) o [Page 166]ddialedd Duw yn erbyn cabl-wyr, a thyng­wyr, yrru peth dychryn, ac arswyd yngha­lonnau ein tyng-wyr ni.

Theol.

Fe dybygei ddyn hynny, pe ga­lle ddim hynny: Ond, syweth y maent hwy wedi eu caledu yn eu drŵg yn hyn, ac ym mhôb pechod arall cyn belled, ac nad oes dim a gynnyrfa arnynt, oni bai fod cy­fraith wedi ei gwneuthur, a honno yn rhw­ymo pob tyng-wr, a chabl-wr i ddal ei law dros ennyd fechan mewn plwm berwedig.

Y Fâth hyn, neu ryw gyffelyb gyfraith dôst, a barei iddynt, yscatfydd arswydo peth, a llaesu, a brathu eu tafodau wrth dyngu. Eithr oni bydd rhyw fâth gy­fraith a hon, nid ofnant ddim, nes eu my­ned i vffern, i'r tân hwnnw, pan fyddo rhy hwyr edifarhau.

Phila.

Beth a allei fod yr achos or my­nych, ar mawr dyngu ymma? Canys dio­gel ydyw, nad yw hwn bechod gwreidd­iol, yn darlynu wrth ein naturiaeth, fel y mae rhyw fath ar bechodau eraill.

Theol.

Nac ydyw. Eithr y tri pheth hyn I'm tŷb i ŷnt achosion o dyngu, Sef

  • 1. Arfer.
  • 2. Eisieu rhybudd.
  • 3. Diffig cospedigaeth.
Phila.

Pa gyphyriau ym wared, neu fe­ddiginiaeth sydd yn erbyn hyn?

Theol.

Y pethau ymma: Sef [Page 167]

  • 1. Di-ymarfer.
  • 2. Gweddi.
  • 3. Rhy­budd caredig.
  • 4. Rhyw gyfraith dôst, gaeth.
Phila.

Da iawn Syr. Hyd yn hyn ni a glywsom ddigon am dyngu. Bellach ewch rhagoch, adolwyn, at yr arwydd nessaf o ddamnedigaeth, yr hwn yw celwydd.

Theol.

Tyngu, a dywedyd celwydd y­dynt agos iawn o garennydd iw gilydd. Ca­nys y neb a fyddo yn dyngwr cyffredin, a fydd hefyd fynychaf yn gelwydd-wr cyff­redin: Ar hwn ni wna gydwybod o dyngu, ni wna ychwaith gydwybod o ddywedyd celwydd: ac megis mai câs gan yr Argl­wydd y naill: felly câs ganddo hefyd y llall. Ac fel y cospa efe y naill: Felly y cospa efe y llall. Am hynny y dywed Sa­lomon: Ffiaidd gan yr Arglwydd wefusau y twyllodrus. S. Joan a ddywed: Diha. 12.22. Dat. 22.15. Oddi allan y bydd swynwyr, a phutteinwyr, a llofruddiaid, a phob vn ac sy yn caru, ac yn gwneuthur celwydd. Drachefn y gŵr sanctaidd hwn­nw â ddywed. Y rhai celwyddog â gânt eu rhan yn y pwll yr hwn sydd yn llosgi â thân, Dat. 21.8 as â brwmstan, yr hwn yw'r ail farwolaeth.

Phila.

Yr Scrythyrau hyn y rhai â a­droddasoch chwi â fynegant yn eglur, mai ffiaidd gan Dduw y celwyddog, a darparu o honaw idynt ddialeddau trymmion. Am hynny y dywed y Brenhinol Brophwyd: Ni thrîg yn fy nhŷ, yr vn â wnelo dwyll, [Page 168]ni chadarnheuir yn fyngoiwg yr vn a ddy­wedo gelwydd. Diha. 6.16, 17. Tafod celwyddog yw vn o'r chwe phêth câs gan yr Arglwydd, ac sydd ffiaidd gan ei enaid ef.

Etto er hyn ei gŷd, ni a welwn wrth gydnabyddiaeth resynol, pa nifer â ddys­casant iw tafodau ddywedyd celwydd, fel y dywed y Prophwyd, Jer. 9.5. ac nid oes wirio­nedd yn eu gwefusau.

Y bai anfus hwn sydd gan mwyaf mor sathredig â thyngu: Canys anhawdd yw cael dyn â ddywedo'r gwir, a chwbl or gwir, ac nid dim ond y gwîr o'i galon, yn ddigymmysc ac yn ddidwyll bôb amser, ym-mhôb lle, ac ymhlith pob mâth ar ddy­nion, heb goluro, na rhagrithio, er na rhag ofn, nac er gweniaith na bodloni dynion, na chelu beiau, na dim o'r fâth gau acho­sion. Pale meddaf, y ceid y fath ddvn, mi a ewyllysiwn ei weled ef. Mi a chwenychwn edrych ar y Cyffelyb ddŷn. Cynnes fyddei gan fy nghalon graffu arno.

Theol.

Y cyfryw rai ac y soniwch am­danynt, sydd anhawdd i cael ym mhlith mei­bion dynion. Eleirch duon ydynt ar y dda­iar: brain gwynion: adar anaml ydynt, o­did or fâth. Oblegid nid oes ond rhifedi bychan o'r rhai a ddywedant wir o'u calon: etto gobeithio fôd rhai o'r fâth; ond gan mwyaf, ac ym mhlith y rhan fwyaf, celwydd, gweniaith, a thwyll sy'n dwyn y rhwysc [Page 169]ei gŷd. Nid oes dim gwirionedd, dim go­nestrwydd, dim cydwybod, dim diniwei­drwydd, dim purdeb ym mhlith dynion yn yr amserau llygredig hyn. Ffyddlondeb, a gwirionedd â ymadawsant ymmaith yn llwyr. Ac fel y dywed y Brenhinol Bro­phwyd, Pallodd y ffyddloniaid o blith mei­bion dynion: Psal. 12. oferedd â ddywedant bōb vn wrth ei gymmydog, a gwefus wenhieithgar, ac a chalon ddau ddyblyg y llefarant.

Dynion yn y dyddiau hyn ydynt yn ym­roi i ddyscu celfyddyd y celwydd, gweniaith, parllyg, ffûg a rhagrith: y mae ganddynt galon a chalon, sef dwy galon. Y mae gan­ddynt fêl vn eu genau, â bustl yn eu calon­nau. Eu tafodau ydynt mor dyner ac y menyn, neu olew: Ond eu calonnau ydynt yn llawn o chwerwedd, gwenwyn, a wer­mod. Llawn ydynt mewn golwg o fedrus­rwydd, boneddigeiddrwydd, a moesau da, pryd nad oes, na gwirionedd nac vni­ondeb yn eu ceudod oddifewn. Hwy â ddy­wedant wrthych yn dêg, pan ewyllysient dorri gwythen eich gwaed, hwy â ddango­san [...] i chwi wyneb siriol, pan ewyllysient fwyta eich calon gyd â garlleg. Yn y gol­wg oddl allan yr ymddygant yn hawdd­gar, pan fyddo eu calonnau yn llawn gwenwyn, â drwg fwriad: yr hiliogaeth gwiberaidd hyn â ddisgwyliant eu hamser, a'u cyfle hyd oni gaffont ddal dyn ar yr ad­wy [Page 170]wannaf, ac yno hwy a'u brathant, ac â gymmerant eu mantais arno: y Cor­gŵn mw [...]n-ffeilsion hyn ni chyfarthant ddim nes brathu yn gyntaf.

Gostwng gwarr â wnânt, llechu, ac ymguddio nes canfod eu mantais, ac yno yr ymddangosant yn eu rhyw eu hûn; yno y rhuthrant, ac yr anafant, os ga­llant.

Y dynion hyn ydynt debig i lynnoedd, y rhai ydynt ddyfnaf, lle y byddant a­rafaf: tebig i graig beryglus guddiedig tan dawel fôr digyffro. Neu fel y dywed y Cenedloedd: Tebig i ganiad y fôr for­wyn, yr hwn yw destruw y morwyr: Neu fel chwibanogl yr adarwr, yr hon yw marwolaeth yr adar: Fel abwyd y py­scodwyr yr hwn yw gwenwyn y pyscod. Tebig ir adar Harpiaid, â chanddynt wy­nebau merchedaidd, ond yspagau Eryrod: Neu debig i'r Hyena yr hwn â ymchwed­leua fel cyfaill, ond â lâdd fel gelyn. Neu fel y dywed yr Scrythur: Tebig i Joah Capten y llu; yr hwn â gyfarchodd yn fwynaidd i Amasa Capten arall, ac a'i cu­ssanodd, prŷd yn ddisymwth y brathodd ef hefyd: neu debig i'r Herodianiaid, a gweision y Phariseaid, y rhai â ddae­thant at ein Harglwydd Jesu, â llawer o ymmadroddion têg a gwenhieithus, gan ei alw ef Athro dâ, a dywedyd [Page 171]wrtho ei fôd yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oedd arno v­non neb, a llawer o fwynder, &c. prŷd mewn gwirionedd yr oeddynt yn bwriadu ei ddal ef yn ei ymadrodd, a'i fachellu fel y caent achos iw erbyn, fel y difethent ef drwy roddi iddo megis gwenwyn ar felys-fwyd.

Dymma'r peth â ddywed y gŵr doeth: y neb a ddywedo weniaith wrth ei gymmy­dog sydd yn gosod magl iw draed ef. A thrachefn: Diha. 29.5. ac 26.23, 24. Fel sorod arian wedi eu bwrw dres ddryll llestr pridd: felly y mae gwe­fusau gwenieithûs, a chalon ddrŵg. Ac mewn man arall y dywed. Y digasog â ragrithia a'i wefusau; ac yn ei galon yn dychymmig twyll: pan ddywedo efe yn dêg, nac ymddiried iddo, canys y mae saith ffi­eidd dra yn ei galon ef: drwy gyfrwystra y cuddir digasedd, ond ei ddrygioni a ddat­cuddir yn y gynulleidfa. Mewn man a­rall y mae efe yn cyhoeddi melldith, yn erbyn rhagrithwyr dau wynebog, a gwen­hieithwyr mwynffeilsion. Canys medd efe: Ir hwn â fendithio ei gyfaill yn foreu iavvn a llef vchel gan gyfodi yn foreu, y cyfrifir yn fell­dith, Dihar. 27.14.

Phila.

Chwi â eglurasoch yn odiaeth gyneddfau dŷnnion yr oes hon, y rhai sydd ganddynt wynebau a thafodau, ond heb ddim calonnau. Y rhai â wnânt gelwydd, [Page 172]a gweniaith yn gelfyddyd: y rhai â ddywe­dant, na fedr efe fyw, ond â fedro ragri­thio: y rhai y mae ganddynt wynebau go­lygus, a chalonnau twyllodrus: y rhai â anghofiasant mai gwir onestrwydd yw'r cyfrwystra buddiolaf.

Theol.

Yr yspryd Glân yn fynych, yn Niharebion Salomon sy'n galw pob mâth ar ddynion heb eu adeni, ffyliaid: Neu fel y mae yn yr Hebreaec, dynion heb ga­lonnau. Oblegid nad oes ganddynt na cha­lon i Dduw, na chalon iw air: Na chalon iw blant ef: Na chalon i Dduwioldeb: Na chalon i ddim sy dda: y maent heb ga­lon ônest, heb galon vnion, heb galon ddi­ffûg: y cwbl a ddêl oddiwrthynt sydd ar eiriau, dim mewn gweithredoedd. Adde­widion mawrion â wnânt, heb gwplau vn gronyn: hwy â ddywedant yn dda am gre­fydd, ond nid ymarserant â hi. Hwy â rônt ciriau têg iw caredigion, eithr ni wnânt ddim erddynt.

Phila.

Y bŷd sy lawn or cyfryw hudo­lion: a chelwydd a rhagrithio ni bu erioed cyn amled.

Theol.

Rhy wir ydyw, bod celwydd a thwyll yn drasathredig, ac yn feiau rhŷ gynnefin ymysc pob mâth ar ddynion: Ond yn bendifyddeu y maent yn lluosogi, ac yn amlhau mewn Siop-wyr, a gwasanaeth ddynion. Oblegit y ddau hyn a wnant [Page 173]gelfyddyd a chrefft o honaw, ni fedrant amgen na dywedyd celwydd: y mae hynny yn glynu wrthynt fel yr hoel yn y ddôr.

Phila.

Myfi â adwaen yn hyspys rai Si­op-wyr, y rhai (er mwyn gwerthu eu wâr diffaith, ac i ddallu llygaid y gwirion) a wnant elw o gelwydd drwy'r dydd, o haul i haul, o'r prŷd yr agorer y Siop, ar ffene­stri, hyd onis cauer. A pheth yw ystod eu buchedd? (os daw prynwyr i mewn yn aml, ond tyngu, dywedyd celwydd, rha­greithio, a thwyllo? hwy a ddywedant gel­wydd cyn gyflymmed ac y tithiei farch. Peth rhyfedd nad yw eu sioppau a'u holl war yn myned yn chwil-boeth am eu pen­nau am eu celwydd, mor arferol, mor ddrygionus, ac mor ffiaidd; a hynny yn erbyn eu gwybodaeth eu hûn, yn erbyn eu cydwybod, yn erbyn Duw, yn erbyn e'u cymmydog, yn erbyn y Nefoedd ar ddaiar, yn erbyn dynion ac angelion.

Theol.

Gwir ydyw: y mae achos i ry­feddu am hîr ammynedd Daw yn y pethau hyn. Eithr hyn sydd i ddal sulw arno, nad ydyw Duw yn ebrwydd yn cospi pôb pechaduriaid hynod, yn y bywyd yma: ond yn gadael miloedd i farn y dydd mawr: Yn y bywyd yma efe yn vnig a ddidola ychydig ddynion, y rhai a gerydda efe er siampl i eraill, i beri iddynt ddychrynu, ac ofni, ac fel y dysgont wrth weled dial ar [Page 174]eraill ymgadw eu hunain yn ddichlin.

Am hynny yn y bywyd ymma y gwel­wn o flaen ein llygaid rai celwyddog, rhai meddwon, rhai putteinwyr, rhai tyng­wyr, rhai carliaid bydol, rhai gloddestwyr, a thor-gegau, wedi eu taro ir llawr gan ddialeddus law'r Arglwydd. Ond am vn or cyffelyb â darawo Duw yn y byd yma, y mae efe yn gadael cant i ddiangc, o her­wydd pe cospei efe bob troseddwr yn y byd yma, pa raid fyddei wrth farn yn ôl hyn? Pe bai efe heb gospi neb, yna y ty­bygem, na byddei yr vn Duw, neu fod o honaw yn segur yn y nefoedd, ac na wnai na da, na drŵg, Na chymyrredd dim ym matterion y byd: Megis y breuddwydiodd rhai or Epicureaid. Am hynny er mwyn gochelyd y ddeu-ddrwg hyn, Duw yn ei Nefol ddoethineb â dybiodd yn dda roddi dial ar rai yn y byd ymma.

Phila.

Yr wyf fi or meddwl yma: sef am y da a gascler, drwy dyngu, dywedyd cel­wydd, a thwyll, na bydd arnynt hîr lwy­ddiant, a ffynniant yn y byd ymma.

Theol.

Nid ydych am hyn o beth yn camfeddwl. Canys Duw â chwŷth ar bob mâth ar dda a ynniller felly yn anghyfi­awn: Ac hwy a roddir mewn côd dyllog: Fel y dywed y Prophwyd: Hag. 1.6. Yr ys­pryd Glân yn llyfr y Diharebion â gry­bwyll am lawer o ymadroddion odiaeth [Page 175]ir ystur hwn: megis pennod 13. a'r 11.

Golud yr hwn a gesclir drwy anwiredd a ddiflanna: Ond y neb a gasclo â llaw gymir a chwanega ei gyfoeth. Drachefn: Diha. 10.4. Y neb a weithio â llaw dwyllodrus fydd tlawd, ond llaw y llafurus ai cyfoethog a hwynt. Mewn man arall y dywed. Diha. 12.27. Ni rostia y twyllodrus mor peth a heliodd, ond y dŷn diesceulus a fw­ynhâ gyfoeth gwerthfawr. Hynny yw y dŷn twyllodrus ni chaiff hîr fwynhau, neu brofi o'r helfa â gasclodd drwy dwyll: Oblegyd rhyw drallod, neu gilydd â syrth arno, fel na allo fwynhau, neu ymla­wenhau yn y pêth â gasglodd. Am hyn­ny y dywedir: Diha. 20.17. Melus yw'r bara a ynni­ller drwy ffalster, ond o'r diwedd ei enau a lenwir â grô. Hyn yw: yn y diwedd y dyn dichellgar â gyferfydd a thrallo­dau lawer. Oblegit naill a'i ei gyd­wybod a'i cyhudda, ac a'i cerydda ef: Neu aflwydd a'i blina am ei dwyll. Yr ofn, ar gôfalon, ar tristwich â ddaw ar­no, fydd megis cynnifer o gerrig llym­mion yn hogi ei ddannedd ef, ac yn ei boeni. O herwydd paham, yn lle bwyd efe a borthir â gro; ac yn lle gwenith â graian.

Ychydig lawenydd a geir yn y diwedd or da a gascler yn anghyfiawn, neu'r ardrethi a gyrhaedder yn anghyfreith­lon. Canys yr yspryd Glan a roes eusys [Page 176]farn am danynt, na fydd byth lwyddiant arnynt.

Phila.

Digwyddo y mae weithiau iddynt dyccio dros amser, ond fel y dywedwn, Prin y perchennoga y trydydd etifedd hwynt. Oblegit Duw a'i melldiga yn ein hilioga­eth ni; a'n hwyrion a gant ddwyn dîal am ein pechodau ni. Am hynny y dywed y gŵr sanctaidd Job. Job. 27.14. Hiliogaeth y drygionus ni ddigonir â bara. Canys yn ddiammeu hynny yn vnig a fendithia Duw, a enniller a chydwybod dda drwy lafurwaith ein galwedigaeth. A hynny a erys yn llwyddi­anus i ni ac in hiliogaeth.

Am hynny y dywed yr yspryd: Y Cyfi­awn a rodio yn vnion, Diha. 20. [...] gwyn ei fyd ei blant ar ei ôl.

Eithr ni rŷdd Duw fendith, ond mell­dith ar yr hyn a gasgler a chydwybod ddrŵg, megis trwy dyngu, dywedyd cel­wydd, rhagrith, twyllo, &c.

Theol.

Rhai o'r hên Athrawon a lefa­rasant yn synhwyrol tros ben am y peth hyn. Yerom. Canys vn a ddywed: Iniusta lucra breves habent voluptates, longos autem dolores. Elw anghyfiawn a ddŵg hir dristid, eithr byrr lawenydd. Arall a ddywed: Eligas dammum potius quam turpe lucrum: illud e­nim semel tantum te dolore afficit, August. hoc veró sem­per. Dewis golled yn hytrach no bûdr elw: Canys y naill ni'th dristha ond vnwaith; [Page 177]eithr y llall dros byth.

Trydydd a ddywed: Melius est honeste pauperem esse, quam turpiter divitem: Bernar. hoc enim commiserationem, illud veró reprehensionem adfert.

Gwell yw bod yn dlawd ônest, nac yn gyfoethog drygionus: Canys y naill a bair tosturi, ar llall gerydd.

Un o'r doethion Cenedlig hefyd a ddywed: Ni ddylem ni ymgyfeethogi drwy anghyfiawnder, Euripid. ond byw ar bethau cyfiawn, y rhai a eilw efe pethau sanctaidd.

Philagathus.

Onid oes gennym yn yr Scrythyrau siamplau o rai a gospwyd amgel­wydd?

Theol.

Oes: oblegid yr ydym ni yn dar­llain, pa wedd am eu celwydd a'u rhagrith y gwnaed y Gibeoniaid yn gaethion ir Is­caeliaid. Iosh. 9.23. Gehesi hefyd gwâs Elisêus am ei gelwydd ai gybydd-dra â darawyd a dir­fawr wahanglwyf, 2. Bren. 5. Ananias, a Saphyra ei wraig, Act. 5.5.10. am eu celwydd a'u rha­grith â darawyd i lawr yn feirw â llaw yr Arglwyd ar gerydd Petr. Zophar vn o gy­feillion Iob a ddywed am y cyfryw ddy­nion: Efe â sugna wenwyn aspiaid. Ta­fod gwiber ai lladd ef: efe a ffy oddiwrth arfau o haiarn: bŵa o ddur a'i trywana ef. Felly nyni â allwn weled yn oleu wrth y siam­blau hyn, mor ffiaidd gan Dduw gelwydd, a chagrith. Iob. 20.16, 24.

Phila.

Oh gan hynny na fedrem ni gan­lyn cyngor yr Apostol yr hwn â ddywed, Na ddywedwch gelwydd wrth eu gilydd, Col. 3.9. gan i chwi ddiosc yr hên ddŷn ynghyd a'i ymarferion. Ephes. 4.25. A thrachefn: Gan fwrw ym­maith gelwydd dywedwch bawb y gwir wrth ei gymmydog: Dull ymadrodd yr Apostol sydd dra ystyriol, yn arwyddocau hyn, Y dylem ni mewn mâth ar ddiflasrwydd, a ffieidd-dra daflu ymmaith gelwydd, a'i ergydio oddi wrthym megys brettyn budr, a drewedig ac aflân, a fai o amgylch gw­ddf dyn: yr hwn a gippiei efe ar gais, ac a'i bwriei ir tân rhag cywilidd ei w [...]led byth nai adnabod. O Dduw na byddai mor ffiaidd, ac mor wrthwynebus gen­nym ni gelwydd, ac y poerem tu ag atto, ac y llefem, ffei fyth o honaw, ac o bawb a'i harfero. Oh na chasaem ni gelwydd megis y Cythraul gwir dâd y celwydd, ac megis tân vffern ei wobr. Oh na chyrhae­ddem ni cyn belled ar gŵr cenedlig yr hwn a ddywed, Yr wyf yn casau megis pyrth vffern, y dŷn a fyddo ar naill beth ar ei da­fod, a pheth arall yn ei galon.

Antil.

Etto er hyn ei gyd yr ydym ni yn cael yn yr Scrythyrau fod ym mhlith y du­wiol, rai wedi eu dal ar gelwydd, ac etto heb pech [...] yn hynny: megis Abraham, Iacob, Ranab, Byd-wragedd yr Aipht: A pha ham na allwn ni wneuthur felly hefyd?

Theol.

Mi a ddywedais i chwi ymlaen llaw, nad rhŷdd gwneuthur gwendid pobl Dduw yn rheol i chwi i fyw wrtho. Ac ym­hellach yr wyf yn atteb droseddu o rhai hyn oll yn eu celwydd. Rhai o honynt yn siccr, yr wuf yn cyfaddeu, â ganmolir am eu cariad ir eglwys, a'u caredigol serch i bobl Dduw: ond nid ydys yn canmol neb o honynt, am ei gelwydd: Yr hwn beth â gondemnir gan y Cenedloedd: Canys medd vn o ho­nynt, Celwydd sydd yn llygru buchedd dyn: a phob dyn synhwyrol, a duwiol a gasa [...] gelwydd.

Antil.

Eithr onid rhydd dywedyd cel­wydd weithiau er ynnill▪ a mantais?

Theol.

Na rŷdd yn wir: ac nid oes dim gwir fantais iw ynnill ffordd h [...]nno: Ca­nys darfyddo bwrw cyfrif, a thynnu allan y draul, a thalu'r gôst, ychydig fydd eich mantais. Oblegyd drwy eich amryfus arfer o ddywedyd celwydd, ynnill yr ydych dristyd calon, a cholli gwir lawenydd: yn­nill byrr ddigrifwch, a cholli tragwyddol ogoniant; ynnill vffern, a cholli y nefoedd. Gwneuthur diafol yn gyfaill, a Duw yn clyn. Bellach cyfrifwch, a bwriwch eich mantais.

Phila.

Attolwg gadewch i ni dynnu at ddiben yn y pwngc hwn; a dangoswch ar fyrr yr achosion pennaf o gelwydd.

Theol.

Y prif achosion o ddywedyd cel­wydd [Page 180]yw y rhai hyn.

  • 1. Arfer.
  • 2. Ofn.
  • 3. Cybydd-dra.
  • 4. Y Cythraul.
Phila.

Beth yw'r feddiginiaeth? neu'r ymwared.

Theol.
Y feddiginiaeth yw hyn.
Di-ymarfer.
Hyder duwiol.
Bodlonrhwydd.
Dyfal weddi.
Phila.

Chwi a ddywedasoch ddigon am y bai hwn er peri i bawb ei ffiieiddio, ac ym­wrthod ag ef, ac sydd ynddynt ddefnyn o ras, neu wreichionen o ofn Duw: ond am y rhai ydynt aflan, byddant aflanach: Be­llach moeswch attolwg, eich barn chwi am y seithfed arwydd o ddamnedigaeth: yr hwn yw meddwdod.

Theol.

Y mae y pechod hwnnw mor swrth, ac mor anifeilaidd, ac y tybygei ddyn mai afraid fyddei ddywedyd yn ei erbyn: ond y dylei pawb oll, a rheswm ganddynt ei ffieiddio, a chrynu o feddwl am dano. Oblegit pechod hychaidd ydyw, yn gwneu­thur dyn yn anifail, ac yn tynnu ymaith ga­lon dyr. oddiwrth bob daioni, megis y te­s [...]iolaetha y prophwyd, Hos. 4.11. Putteindra, gwîn, a gwîn newydd sy yn dwyn ymmaith eu calonnau: Canys pa galon, pa flys, pa chwant a ddi­chon bod gan butteinwyr, a meddwon i ddim ar a fyddo da? nid oes arnynt ddim chwant i wrando, nac i ddarllain gair [Page 181]Duw, neu i weddio, ac i fyfyrio ynddo: y maent sywaeth ym mhell oddiwrth Dduw, a phell oddiwrth bob gras, a daioni. Am hynny y dywed y Prophwyd, Joel. 1.5. De­ffrowch feddwyr, ac wylwch, ac vdwch holl y­fwyr gwin. Ie y cadarn Dduw nefol sy'n cy­hoeddi gwae iw herbyn: Esay, 5. xi. gwae y rhai a gy­fodant yn foreu, ac a ddilynant ddiod gadarn, ac a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt. Ein Harglwydd Jesu ei hun sydd yn rhoi i ni rybudd i ymogelyd rhag y pechod hwn, gan ddywedyd. Edrychwch arnoch eich hunain rhag gorchfygu eich calonnau, a glothi­neb a meddwdod, a gofalon y byd hwn, Luc. 21.34. a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth.

Mal hyn chwi a glywch pa wedd y mae Crist ei hûn a swrn or Prophwydi gyd ag ef, yn taranu i lawr or nefoedd fygythion of­nadwy yn erbyn y pechod anifeilaidd hwn, yr hwn heddyw sydd yn amlhau, ac yn dwyn rhwysc ym mhlith meibion dynion.

Phila.

Gwir iawn. Etto nid oes dim â bair iddynt ei adael ymmaith: Canys bai ydyw sathredig, a rhŷ gynnefin. Ni â we­lwn lawer yn tybied yn dda o honynt eu hunain (ac ni fynnant eu cyfrif ym mhlith rhai gwael) y rhai â adawant ir bai hwn eu gorchfygu, ac wrth hynny yn colli eu, holl gymmeriad, a'u coel dda gyd â gwyr syn­hwyrol: ie yn eu gwneuthur eu hunain megis môch, ac anifeiliaid direswm. Fel [Page 182]y tystia yr yspryd Glân gan ddywedyd.

Gwarwarus yw gwîn, a therfyscaidd yw diod gadarn: Pwy bynnag a siommer ganddi nid yw ddoeth, Dihar. 20.1.

Theol.

Y Brenhin doeth yn yr vn llyfr sy'n gosod allan yn odiaeth y drygau, ar niweidiau sy'n canlyn meddwdod wrth [...]i sodlau. I bwy (medd efe) y mae gwae? I bwy y mae ochain? I bwy mae cynnen? I hwy y mae dadwrdd? I bwy y mae gwe­liau heb achos? I bwy y mae llygaid cochion? Ir neb sydd yn aros wrth y gwin ac yn chwilio am wîn cymmys [...]edig, Dihar. 23.29.30.

Yn yr vn bennod honno y dywed. A [...]n. 20. Na fydd vn or rhai sydd yn meddwi ar win: Nac vn o'r rhai glythion ar gig: Canys y me­ddw, ar glŵth a ddeuant i dlodi, â gormod cyscu a bair myned mewn gwisc ddrylliog. Ymhellach y dywed. Dy lygaid â edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha draw­sedd. Diha. 23.33. Ti fyddi megis vn yn cyscu ynghanol y môr, ac fel vn yn cysgu ym mhen yr hwylbren. Yn yr holl ymmadroddion hyn y mae'r ys­pryd glân yn dra eglur yn hyspysu i ni gyn­neddfau y meddwon, sef eu ymddygiad a­nifeilaidd, a'u maswedd, a'u brynti.

Gwelwn gan hynny pa ffrwyth melldi­gedig, â drŵg ddich wen â ddaw o feddw­dod: sef y rhai hyn sy'n canlyn. Gwae, ochain, tristwch, trueni, rheidusni, tlodi, cywilydd, trachwantau, ymryson, dad­wrdd, [Page 183]ymgynhennu, ymladd, ymgeccru, glothineb, clefydau, afiechyd, swrth-gwsc, diofalwch ac afreoldeb.

Felly yr wyf yn bwrw mai bai Scele [...] neu ang riol. anafus yw meddwdod, gweddeiddiach i lwdn hŵch nac i ddŷn â rheswm ganddo. Ac fel y dywed yn, Demos in Olin. Meddwdod yw y fam-ddinas ar holl dalaith y drŵg gampau. Da gan hynny y dywed yr Athro Cenedlig: Pan yser yn vchel, y mae dyn fel cerbyd ar ei rhe­deg heb neb iw hattal.

Phila.

Moeswch glywed pa gospedigae­thau â wnaed ar feddwon yn yr oesoedd gynt, mal yr awr-hony gallo dynion ddys­c [...] ymogelyd wrth eu siamplau hwynt.

Theol.

Amnon vn o blant anraslon y Brenhin Dafydd yn ei feddwdod â laddwyd gan ei frawd Absolon. 2 Sam. 28, 29. 1 Bre [...] 20.20. Benhadad Brenhin Syria pan ydoedd yn feddw â orchfygwyd gan Ahab Brenhin Israel. Ela Brenhin Is­rael yn ei feddwdod â laddwyd gan Zimri ei wâs ei hun, a Chapten ar ei gerbydau: yr hwn hefyd â deyrnasodd yn ei lê ef. 1 Bre [...]. 16.1 [...]. Gen. [...]. 37. Lot yn fe­ddw awnaeth loscach gyd â ei ferched ei hun, ac am hynny â gospwyd yn ei hiliogaeth.

Mal hyn ni â welwn pa ddialeddau a wnaed, ie ar frenhinoedd am y pechod hwn. Am hynny dysced dynion o'r di­wedd ochelyd drŵgfeiau, a dilyn rhinwedd dda. Ac fel y dywed yr Apostol, Gor­phen eu iechydwriaeth drwy ofn, a dy­chryn. [Page]Oblegid ni wna ein holl ddichellion, an cyfrwystra i ni ddim lleshad yn y di­wedd. Ond darfyddo i ni geisio bwrw cêl dros gyffion yma a thraw hŷd y gallom, etto ar hynt fe a'n ceir ni, bid drŵg, bîd da, wedi ein gwarchau tan ddigofaint Duw.

Antil.

Beth yw hyn attolwg a wnewch chwi gymmaint defnydd o honaw? o bydd dyn wedi cael crap wrth gwmpniaeth y­chydig mwy na digon weithiau? Nid oes nêb heb ei fai, ac y mae ir goreu o honom ddigon o lê i wellhau. O daw cymmydo­gion ynghyd ymbell waith ir dafarn, a chwareu am bott yn ddifeddwl drŵg, i'm tŷb i, cymdeithas dda yw, a modd cymm­wys i fagu cariad rhwng cymmydogion: ac nid peth mor ffiaidd, ac y dywedwch chwi.

Theol.

Myfi a welaf, yr ewyllysiech chwi deghau'r matter; ac â geiriau hygoel coluro y peth, fel pe na bai nemmawr niwed yn­ddo. Eithr pa wedd bynnag y gwnewch chwi fatter yscafn o honaw, etto yr Apostol a ddywed yn hŷf: Cor. 6. [...]0. Na chaiff meddwon eti­feddu teyrnas Dduw. Yr wyfi yn tybied mai digon yw'r vn ymadrodd hwnnw i bendafadu, ac i daro drwy galonnau holl feddwon y byd.

Oblegit cymmaint yw mewn ystyriaeth a phe dywedasai yr Apostol: Pob meddwon ydynt hynod wrthodedig: Cŵn Uffern, [Page]caeth weision y cythraul, ac wedi ymroi i ddestruw tragwyddol, a damnedigaeth.

Ond chwi a ddywedwch nad oes gen­nych feddwl drŵg. I'ch atteb: Beth byn­nag yw eich meddwl, drŵg yw eich gwei­thredoedd, a chyn-ddrwg yw eich cym­deithas. Oblegid pa feddwl da a ddichon bod gennych, neu pa gymdeithas dda y g [...]lwch chwi pan fyddo gweith­wyr tlodion, crefftwyr, ar cyffelyb, yn ei­stedd yn segur drwy'r dydd yn y tafarndŷ: yn ofer-dreulio eu hamser, a'u harian: Yn chwareu, yn gloddest, yn tyngu, yn llygad-rythu, yn ymddifoli, yn ymyfed, yn ymgynhennu, ac yn dadwrdd. Nid oes dim gwir gyfeillach dda yn hyn: llwyr annuwioldeb yw: ac annuwioldeb y gelwir, pan fyddo dynion tlodion yn byw yn segur, ac yn afradlon gan esceuluso eu galwedigaeth, a gadael eu gwragedd tru­ain, a'u plant gartref i lefain. nadu am fara i dorri eu newyn; yn barod i lewygu, i gar­dotta, neu i ledratta: attolwg dywedwch eich cydwybod, pa gymdeithas dda yw hyn?

Antil.

Etto er hyn ei gŷd, y mae rhai yn ymgadw allan or tafarnau; ac etto cyn­ddrŵg ac eraill. Canys enllibio, a drwg­absennu eu cymmydogion a wnânt: A gwneuthur direidi, ac atcasrwydd cyn gynted ac eraill: Cenfigennus ydynt, ac yn bernu arnom, ac yn diystyru ein cymdei­thas. [Page 186]Etto yr ydym ni yn tybied o ho­nom ein hunain, ein bod cystadl â hwy­rhau, er duwioled ydynt mewn golwg.

Theol.

Dywedyd yr ydych mwy nag â wyddoch neu â ellwch ei brofi yn erbyn rhai gwell na chwi eich hûn. Eithr pe felly y byddei, ni wnaech ond cyfiawnhau y naill bechod drwy'r llall, y lleiaf drwy'r mwyaf: ac i ba bwrpas?

Antil.

A gondemniwch chwi bob cym­deithas dda?

Theol.

Na wnaf; yr wyf fi yn tybied yn dda iawn o bôb duwiol, a Christianogol gymdeithas, ac yn cydnabod mai hynny yw yn o'r cyssuron pennaf sydd gennym yn y bŷd yma. Myfi â wn y gorchymynnir i ni garu cymdeithas brawdol. Ond am eich cymdeithas chwi [...]wchben pottiau, 1 Pet. 2.17. câs yw gennifi, ai ffieiddio yr ydwyf.

Canys scrifennedig yw: Diha. 28.19. Diha. 28.7. Diha. 21.17. Y nêb a ganlyno oferwyr a lenwir o dlodi. A thrachefn. Y neb a fyddo gydymmaith i loddestwyr, a gywi­lyddia ei dâd. Ac mewn man arall: Y neb â garo wîn ac olew, ni bydd cyfoethog.

Phila.

Attolwg Mr Theologus, na siare­dwch ag ef mwy; eithr moeswch i ni dyn­nu tu ag at ddibennu y matter yma; â my­negwch i ni ar fyrr, pa rai yw prifacho­sion meddwdod?

Theol.
Yr achosion yw y rhai hyn: sef,
Drŵg gymdeithas.
[Page]
Tafarnau.
Achos [...] medd [...] dod.
Seguryd.
Drwg awen.
Phila.

Beth yw'r gwir feddiginiaeth?

Theol.
Y meddiginiaethau yw y rhai hyn.
Gochelyd drwg gymdeithas.
Medd [...] ­niaeth feddw [...]
Gochelyd tafarnau.
Pryssurdeb yn ein galwedigaeth.
Trefn dda i fyw.
Phila.

Felly Syr: Chwi â aethoch yn ddigon pell yn y pwngc ymma. Bellach moeswch i ni ddyfod at yr wythfed arwydd o ddamnedigaeth, yr hwn yw seguryd.

Theol.

Am seguryd, hyn â ddywedaf ar fyrr: mai mam pob drygioni yw, a llys­fam pôb rhinwedd dda: ie mammaeth pob afreol, mam putteindra yw, mam balch­der, mam lledrad, mam meddwdod, mam annwybodaeth, mam meddwdod, mam annwybodaeth, mam amryfusedd, mam tlodi, mam enllib a drwgabsen, dadwrdd, a siaradach, ymchwrnu, ym­ddifenwi, ac ymgynhennu, â pheth nid yw? Seguryd oedd vn o brif bechodau So­dom, fel y tystia y Prophwyd Ezechiel, Ezec. 49. gan ddywedyd. Balchder, digonoldeb bara, a gormodedd seguryd oedd ynddi, ac yn ei mer­ched. Helaeth iawn yw Salomon yn yr a­chos hwn. Diha. 1 4. Diha. 1.2 16. Enaid y diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim. A thrachefn. Y diog sydd ddoethach yn ei olwg ei hun, na saith o wŷr [Page 188]yn medru rhoi rheswm synhwyrol. Hynny yw. Efe a'i tybia ei hûn yn ddoethach o lawer, am arbed ei gorph, pan yw eraill yn cym­meryd poen. [...]ih. 24. [...]3 Efe â ddywed: Etto ychydig gyscu ychydig heppian, ychydig wascu dwyl [...] i orwedd ynghyfwng hyn y daw tlodi arnat, megis ymdeithudd, sef yn ddiarwybod, a'th angen fel gŵr arfog: Hynny yw yn grŷf. Y diog â guddia ei law yn ei fonwes, Preg. 4.5 a blin gan­ddo ei hest yn at ei enau. Trachefn mewn man arall y dywed yr yspryd Glân. Dih. 26.15. Dih. 20.4. Y diog ni ardd yn amser gaiaf, am hynny y bydd yn cardotia yr hâf, ac ni chaiff ddim. Drachefn, Y dyn diog sydd frawd ir neb â fyddo dra-afradlon. Ym mhellach y dywedir. Dih. 18.9. ac 26.14. Fel drŵs yn troi ar ei golyn, felly y trŷ y diog yn ei wely. Sef efe â geidw ei welŷ fel pe bai ynglŷn wrtho.

Ac oblegid y myn yr yspryd Glân am­lhau yn y pwngc hwn, Scrifennedig yw ymhellach am y dyn diog y dywaid, Dih. 26.13. Y mae llew mawr ar y ffordd, y mae llew yn yr heolydd, hynny yw: pan fyddo dim gorchwyl da yn llaw (megis pregethu, darllain, gwe­ddio, rhoddi i'r tlawd, &c. yna cilio yn ôl a wna, fel malwen iw chogwrn, bwrw ei beryglon, a dychymmig escusion: yna budd, a digrifwch, prysurdeb, a diogi, ac achosion gartref, ac achosion oddi cartref, cymdeithion a mîl o rwystrau a saif ar ei ffordd, megis cynnifer o lewod, i rwystro, ac i luddias iddo wneuthur dim daioni. [Page]Felly ni a welwn mor hyspys, ac mor he­laeth y mae yr Scrythyrau Sanctaidd yn portreiadu cwlbrenni diog swrth y bŷd hwn, a meibion seguryd: y rhai cyn an­hawsed yw eu tynnu at ddim da, a llusco hên arth at y sang-bawl.

Ac am achosion crefyddol, hwy a ânt ynghylch y rheini mor fywiog, ac mor llawen a lleidr i ddringo'r yscol iw grogi am ei ledrad.

Phila.

Mi a welaf yn amlwg, fod y pe­chod hwn o seguryd yn bechod tra-anafus: ac yn wreiddin llawer o feiau: Etto er hynny ei gŷd, y mae llawer yn tybied eu geni i fyw yn segur: megis llawer o fone­ddigion ieuaingc, ar Cyffelyb; y rhai a dy­biant eu dyfod i'r bŷd i wneuthur, nid dim amgen ond hela, ac hebocca: a chwa­reu disiau, a chardiau, a dilyn anllywodra­eth, a rhodres, a threulio eu dyddiau mewn meluswedd, ac oferedd. Drachefn y mae llawer o lwbîod pen drymmion, ac ebol­feirch pwdr-ddiog mewn trefi a phentrefi heb wneuthur dim drwy'r dydd ond rho­dio'r heolydd, eistedd wrth sioppau, a my­nych drammwy i'r tafarnau: Llawer o ddi­nasyddion goludog, yn bendifaddeu y gw­ragedd, a orweddant fynychaf yn eu gwe­lau hyd naw ar y glôch, ac yno a godant, ac a ymdacclant erbyn cinio.

Ac darfyddo ciniawa yn ddigonol, a dreu­liant [Page 190]y darn arall o'r diwrnod, a rhan fawr o'r nôs hefyd mewn chwareuon, chwedle­uach, dadwrdd, siaradach, sibrwd, sisial, a maldar. Ffei o'r fath fuchedd segurllyd. Llawer o weision afreolus hefyd a gam-dy­biant, eu geni hwy yn vnig i chwareu, gloddest, tyngu, putteinio, rhodressa, Swag­grio, a threulio eu hamser mewn seguryd.

Eithr am y rhai hyn oll da y dywededd yr Arhro Cenedlig: Illos pariter indignantur & dij, & homines quisquis otiosus. Duw a dŷn sy gas ganddynt y dyn segurllyd.

Theol.

Gresyndod mawr yw gweled cynnifer o wyr, a gwragedd yn y byd mor sogur, ac mor anfuddiol, ac y maent: Canys sywaeth y mae gormod heb ganlyn math yn y byd ar gelfyddyd ônest. yn byw yn ddi­fedr, nid gwell neb erddynt. Ni wnânt ddim da, nac ir eglwys, nac ir deyrnas. Tebig y­dynt i gaccwn: gormes antuddiol y byd y­dynt. Ni wna Duw ddim defnydd o honynt: Nid oes iw gael oddiwrthynt na gwasana­eth i Dduw, na daioni ir eglwys, na llesâd ir wlâd, na budd i gŷmmydogion, na char­dod i dlawd.

Meddwl y maent eu dyfod ir bŷd, nid i ddim amgen ond bwytta, ac yfed, a chysgu a chyfodi i chwareu. Meddwl y maent y dy­lent dreulio eu hamser ar ddisieu, a dawnsio, mewn put eindia a gwychder, mewn glo­thineb, a moethusdra, yn ymlenwi fel [Page 191]môch, ac yn rhythu eu boliau: yn ty wallt iw potânau, yn ymbesci fel baeddod mewn cutt, hyd oni byddont yn ddigon breision, ac fel y dywed Iob: Mêr ei esgyrn ef ydynt iraidd, tôdd efe ei wyneb a'i frasder, ac â wnaeth dyrch o floneg ar ei dynewyn. Oh pa fuchedd anifei­laidd yw hon? Ffei o honi, ffei o honi cym­wysach ydoedd i'r Epicurea [...]d nac i Gristia­nogion, i fôch, nac i ddynion: I Sardanapalus ac. i Heliogabulus, ac ir cyfryw bol-ddu­wiau, nac i Broffesswyr yr Efengyl.

Eithr am y cyffelyb ôll, digon yw'r hyn â ddywed Iob: Treuliant eu dyddiau newn daioni, ac yn ebrwydd y descynnant i'r bedd, Iob. 21.13.

Phila.

Eithr oni ddichon bod yn rhŷdd new yn gyfreithlon i Arglwyddi, ac i Ar­glwyddesau, i wŷr a gwragedd boneddi­gion, a rhai mawrion eraill, fyw yn segur, gan fod ganddynt ddigon o fodd iw cadw?

Theol.

Nid yw. Duw yn cennadhau i neb fyw yn segur: Ond pawb, mawr a by­chan â ddylent fod ganddynt beth iw w­neuthur ryw fodd neu ei gilydd:ie er llessâd ir eglwys, neu'r wlâd: Neu er mwyn cyn­nal lywodraeth dda ar eu teuluoedd: Neu er daioni i drefi, ac i blwyfau, ac ir rhai y maent yn byw yn eu plîth: Neu er cymmorth a chynhaliaeth y tlawd: Neu er llwyddiant yr Efengyl, a maentumiaeth [Page 192]y weinidogaeth eglwysig: Neu er mwyn rhyw amcan da ne'u ei gilydd.

Ir tuedd-fryd hwn y dylid cymmwyso ein synwyr, ein dŷsc, ein cyfarwyddyd, ein callineb, ein cyfoeth, ein hiechyd, ein doethineb, ein rhwysc: Gan wybod hyn, fod yn rhaid dyfod, ryw ddydd, i roddi cyfrif o'n gorchwyliaeth, a bwrw hefyd pa fôdd y trinasom ein talentau.

Am hyn y dywed Job: Job. 5.7. Dŷn â aned i flin­der fel yr eheda gwreichionen yn vchel. A Duw â osododd hyn ar Adda a'i holl hilio­gaeth: sef drwy chwŷs dy dalcen y bwytei fara. Rhai a osodant ar lawr bedwar achos, paham y dylei pob rhyw ddŷn weithio yn ddiwyd yn ei alwedigaeth.

  • 1. Er mwyn dwyn yr iau â osododd yr Arglwydd ar bob rhyw ddŷn.
  • 2. Yn ail, er mwyn Ynnill pethau ang­enrheidiol ir bywyd ymma.
  • 3. Er mwyn byw yn fuddiol i gymdei­thas ddynol.
  • 4. Yn olaf, er mwyn gochelyd drwg­feddyliau, a drwg weithredoedd.

S. Paul sy'n beio yn fawr ar rai yn egl­wys Thessalonica: am eu bod yn rhodio yn anllywodraethus: 2 Thes. 3.10. Sef yn segurllyd, ac heb ryw fâch ar gelfyddyd neu alwedigaeth gyfreithlon. Ac am hyn y mae efe yn go­sod trefn, ynghylch y rhai ni weithiant, sef na ddylent gael bwytta. Felly m â [Page 193]welwn yn eglur, nad yw Duw yn canniad­hau i neb fod yn segur.

Canys pan fyddom yn segur (fel y dan­goswyd or blaen) yna agored ydym ir cy­thraul, ac iw brofedigaethau: Ac ynteu sydd yn ymhyrddu i mewn ynom, ac yn ein gorchfygu. Tra yr arhosodd y Bren­hin Dafydd yn segur gartref, yn nechre­uad y flwyddyn, prŷd yr arfereu Bren­hinoedd fyned allan i ryfela, 2 Sam. 11. buan y dali­wyd ef mewn dau bechod ffiaidd, sef godi­neb, a llofruddiaeth. Tra fu Sampson yn rhyfela yn erbyn y Philistiaid ni allwyd erioed nai ddal, na'i orchfygu: eithr we­di ŷmroi o honaw i seguryd, a maswedd, efe nid yn vnig â wnaeth odineb gyd ar ddiffeithwraig Dalilah, ond hefyd â ddali­wyd gan ei elynion, ac a dynnwyd ei ly­gaid yn dosturus.

Y siamplau hyn a ddangosant mor bery­glus yw seguryd, Am hynny yr yspryd Glân a'n denfyn i'r yscol, at greadur by­chan, sef y morgrugyn: i ddyscu ganddo, nid yn vnig ochel seguryd, ond hefyd ar­f [...]r doethineb, a rhagluniaeth yn ein gweithredoedd. Cerdda at y morgrugyn tydi segurllyd, edrych ar ei ffyrdd ef, a dŷsc synwyr: Nid oes ganddo neb iw arwain, Diha. 6.6. iw lywodraethu, nac iw feistroli, ac er hynny y mae efe yn [...]a atoi ei fwyd yn amser hâf, ac yn casclu ei pluniaeth amser cynhaiaf. Ac [Page 194]mewn gwirionedd peth rhyfedd yw, o'i y­styried pa boen dibaid, a diddeffygiol a gymmer y creadur gwael hwn i gasclu yr hâf, fel y byddo ganddo ei gyfraid o gyn­haliaeth erbyn y gaiaf.

Dyscwn ddoethineb oddiwrth ei siampl ef, Gosodwn y creaduriaid o flaen ein l [...] gaid megis drŷch i edrych arnynt. Ysty­riwn fod yr adar yn ehedeg, y pyscod yn nofio, y pryfed yn ymlusco, yr wybren­nau yn troi oddiamgylch, yr awyr yn ymsymmud, y môr yn llenwi ac yn tre­io yn ddibaid: ie hyd yn oed y ddaiar yr hon yw y creadur trymmaf ac any­stwythaf or lleill ei gyd, heb peidio er hynny vn amser ai gweithio, ond yn dwyn ei baich ar osteg yr hâf, a dirgelweithio oddifewn y gaiaf, er mwyn ardymheru a darparu ei chynnydd-faeth erbyn y gwan­wyn nessaf.

Felly nyni a welwn fod y creaduriaid oll yn ddyfal ar waith yn eu rhyw eu hanain: Ac onid anferth, a chywilyddus i ni fyw yn segur, yn ddiofal, ac yn afreolus. Dys­cwn bawb o hyn allan ochelyd rhag diogi, a byw yn ffyddlon, yn ddiwyd, acyn bo­enus yn ein galwedigaethau neillduol: Fel y gallom gadw Satan ymmaith oddiwr­thym, a bwrw llawer o b [...]chodau allan o feddiant ein calonnau: y rhai oni bai hyn â dynn seguryd ar ein gwarthaf.

Phila.

Y mae yn rhaid i mi gyfaddeu, mai bai anafus yw seguryd ym mhwy byn­nag y caffer, ond yn bendifaddeu ffieidd­iach ydyw yn fy marn i mewn llywod­raethwyr, ac eglwyswyr.

Theol.

Gwir yw hynny. Oblegit hw­ynt hwy â ddylent fod yn gyfarwydd­wyr, yn rheolwyr, yn fugeiliaid ac yn wilwyr i bobl Duw. Ac am hynny os hw [...]nthwy â esceulusant eu dyled-swy­ddau, a'u gofal, peth anferth ydyw: ob [...]git bod hynny yn peri niwed i la­wer. Da iawn y dywed y Poet cened­lig. Ni ddylei llywodraethwr, neu eglwy­swr fod yn ddiog, neu yn segurllyd: Homer. Illiad. 2. ir rhai hyn y gorchymynnir meithrin y bobl, ac i'r rhain y mae llawer o bethau i ofalu am danynt.

Gan hynny, pa resyndod yw bod lly­wodraethwyr yn fydol, yn angrefyddol, yn Babaidd, yn anrhinweddol, ac yn esceu­lus yn nyled-swydd eu galwedigaeth? Pa faint mwy gresynol yw, pan fyddo'r Egl­wyswyr yn esceuluso darllain, ac astudio, yn ddiog i bregethu, ac i weddio, ac yn ymroi, rhai i gybydd-dod, rhai i falchder, rhai i ysmonnaeth, rhai i ryw bryssurdeb bydol, a rhai i dreulio eu hamser yn segur­llyd mewn tafarnau, yn ymŷfed, a chwa­reu, a gloddest, a rhodres, a dilyn cymdei­thas ofer. Oh nad ymroddei y ddau fâth hyn ar alwedigaethau cyffredin, i adael [Page 196]ymmaith eu diogi, a'u seguryd; ac i gy­flawni dyledswydd eu galwedigaeth yn ddiwid, yn ffyddlon, yn ofalus, ac yn gydwybodus: Oblegit rhagorol yw i bob mâth ar ddyn fod yn ddyn da yn ei le.

Megis bod yn llywodraethwr da, yn rheoli yn dda, ac yn llywodraethu yn syn­hwyrol, gan achlesu ac ymddeffyn dyni­on da, ac achosion da, ac ymosod yn er­byn dynion drŵg, ac achosion drŵg, drwy eu cospi yn llym, ac yn dôst: eithr ymge­leddu, a maentumio rhinwedd dda; a hynny, o wir draserch, a hoffder ei galon arni; a cheryddu beiau o wir zêl, a chasineb iw herbyn: Ac nid er mwyn yn­nill cymmeriad yn vnig, neu er bodloni rhai: Neu o herwydd na ddichon amgen na gwneuthur hynny, neu o herwydd rhyw gau achosion eraill.

Ond o wir gariad ar Dduw, a gofal am ei ogoniant ef, o gydwybod o'i ddylêd, a chasineb diledrith yn erbyn pechod. Felly peth odiaeth yw bod eglwyswr yn ŵr da yn ei le, yn gyfarwydd ynghyfraith yr Argl­wydd: yn pregethu vn boenus, ac yn ddy­fal: a hynny o gariad ar Dduw, ac awydd Duwiol i osod allan ei ogoniant ef, ac o wir dosturi tu ag at eneidiau y bobl, gan wneu­thur ei oreu ym mhôb modd i'w hynnill hwynt at Dduw: gan ei ymddwyn ei hûn [Page 197]yn ei holl fuchedd yn synhwyrol, yn gre­fyddol, yn ddifeius, ac yn ddidramgwydd.

Felly peth vrddassol yw bod yn ŵr cyfoe­thog da, yn gwneuthur llawer o ddaioni a'i gyfoeth: yn cadw tŷ da, yn syber wrth dlawd: yn gweini wrth angenrheidiau y Saint: ac yn cyfrannu yn llawen, ac yn synhwyrol lle y byddo rhaid.

Felly peth canmoladwy yw bod yn gym­mydog da: yn ddinas-wr da, yn ymyl yr hwn y gallo dyn fyw yn llonydd, ac yn he­ddychol, yn llawen, ac yn gyssurus.

Ac i ddiweddu hyn o draethawd, peth da yw bod yn dlawd da, yn ostyngedig, yn iss [...]l-feddwl, yn vfydd, yn boenus, yn barod i wneuthur cymmwynas, ac yn ewyllysgar i fodloni pawb: Peth rhagorol yw hyn, a chlodfawr, pan fyddo pob dyn yn cadw ei le, ei gylch, ei drefn, ai bennod; pan fy­ddo pawb yn ofalus, ac yn gydwybodus am gyflawni dyledswydd eu galwedigaeth: pan wnelo'r gŵr ran gŵr, ar wraig ran gw­raig: pan wnelo y tâd ran tâd, ar plentyn ran plentyn: pan wnelo'r meistr ran mei­ster, ar gwas berthynas gwâs. Pan osodo pob dyn Dduw o flaen ei lygaid, gan wneu­thur y pethau a berthynant iddo ef yn bendant: Canys yn hynny y mae yn sefyll anrhydedd Duw, g [...]goniant y Brenin, co­ron yr eglwys, amddeffyn y deyrnas, di­ogelwch dinasoedd, cadernid teyrnasoedd, [Page 198]a gwir gynhaliaeth pob dyn.

Asune.

Da dros ben y dywedasoch mewn rhyw bethau: Ond nid wyfi yn gweled na ddichon cyfoethogion yn wyr ac yn wra­gedd fyw yn segur os ewyllysiant hynny; gan fod ganddynt ddigon o fodd iw cyn­nal, ac iw cadw: Canys onid cyfreithlon i ddyn wneuthur â fynno a'r eiddo ei hun?

Theol.

Nac ydyw. Canys nid cyfreithlon i chwi gymmeryd eich cyllell eich hûn, a'ch lladd eich hûn a hi. Ac nid rhŷdd i chwi chwaith gymmeryd eich bwyall eich hûn, a lladd eich plant. Am hynny nid yw dda y rheswm hwnnw. Er bod gan gyfoethogion helaethrwydd o bob peth, fel nad rhaid i­ddynt weithio: et to cymmerant ryw beth iw wneuthur a ddygo lesâd iddynt ffordd arall, rhyw beth daionus, megis mynych arfer o weddio, a darllain yr Scrythyrau, fel y gallont athrawu, a chynghori eraill. Neu gwnaed Arglwyddesau, a phendefige­sau fel y gwnaeth gynt y wreigdda ddaio­nus Dorcas, Sef prynu brethyn, a lliain; ei dorri, ai weithio, ai wnio, a gwneuthur o honaw beisiau, a chrysau, a gwiscoedd, a rhoddant y rheini i'r tlodion: Canys fe ddy­wedir am Dorcas, Acts. 9.36.39. ei bod hi yn gyfoethog o wei­thredoedd da, ac o elusenau y rhai â wnaethei hi. Gwraig drugarog, a thosturus ydoedd hi, a charedig i'r tlodion.

Hi a ddilladei y tlawd, ar noeth; hi a wy­ddei [Page 199]fod hynny yn aberth cymmeradwy gan Dduw. O na bai gwragedd goludog ein gwlâd ni yn dilyn esampl Dorcas. Eithr nid yw'r dyddiau hyn sywaeth, yn dwyn nemmawr or fath ac ydoedd Dorcas.

Phila.

Megis y dangosasoch i ni achosi­on y drygau or blaen: felly yn awr adrodd­wch i ni attolwg, achosion y bai hwn hefyd.

Theol.
Achosion seguryd yw y rhai hyn,
Drwg-siamplau.
Drwg-feithrin.
Byw yn ddigelfyddyd.
Phila.

Moeswch glywed y feddiginiaeth.

Theol.
Y feddiginiaeth yw'r pethau hyn: sef,
Meithrin da.
Gweithio yn ieuangc.
Siamplau da.
Diwydrwydd mewn galwedigaeth gy­ [...]reithlon.
Phila.

Gedwch i ni ddyfod bellach at yr [...]rwydd olaf o ddamnedigaeth, yr hwn yw gorthrymder. Ac mi â ddymunaf arnoch [...]ynegu eich meddwl am dano allan or Scrythyrau.

Theol.

Gwaith yw hwnnw mor anfeidrol [...]c na fedraf wybod, na pha le y dechreuaf, [...]ac ym mhâ fan y diweddaf: dyfn-bwll [...]iwaelod ydyw o bod mawr ddrŵg echry­ [...]lon. Dechreu ymadrodd am dano fyddei [...]chreu myned i ryw gat-berth ddyrys, [Page 200]o ba vn nid wyf yn dirnad pa fodd y deu­wn allan. Eithr o blegit eich bod chwi yn ewyllysio clywed am dano, hyn â ddy­wedaf am orthrymder: mai anghenfil creu­lon ydyw, pechod anafus gwaedlyd, ellyll anferth, gwrthun, ac vffernol yw. Yr scrythyrau mewn llawer iawn o fannau, ydynt yn llefain yn grôch yn ei erbyn, gan ei gyhuddo, ei farnu, ai gondemnio i wae­lod vffern, Ac yn cyhoeddi bygythion of­nadwy, megis mêllt a tharanau yn erbyn pawb â lygrir ac â halogir ar bai sceler hwn, gan arddodi iddynt y cyfryw enwau, a theitlau, ac a dynnir yn addas oddiwrth ffrwyth y pechod hwn, ac sydd yn gweddu yn gymmwysaf i orthrymwyr: sef Eu bod yn malu wynebau y tlodion. Esay. 3.15. Amos 8.6. Mic. 3.2. Psal. 14.4. A [...] yn tynnu eu crwyn oddiam danynt: a'u cîg oddiwrth eu hescyrn. Eu bod yn eu bwytta hwynt fel y bwyttânt fara.

Dymma y rhai ydynt yn gweuthur egni i lyngcu y cwbl (fel anifeiliaid rheipas) ac i dynnu yr holl ddaiar tan eu meddiant eu hunain, bid drwg, bid da, bid iawn, bid cam, drwy orthrymder, twyll, a thrais. Y lindis ar mulfrain daiarol hyn ydynt [...] big ir morfil, yr hwn a lwngc yn fyw [...]scod bychain: neu debig ir llew, yr hwn a ddifetha anifeiliaid eraill; neu gyffelyb i'r gwalch yr hwn a ddeil yn ei grafangc, a blua, ac a fwyttu adar eraill.

[Page 201]

Y bleiddiaid gwangcus hyn sy yn di­fetha y cwbl, ac yn llyngcu holl dlodion y tîr. Am hyn y mae Prophwydi yr Argl­wydd yn bygwth llawer gwae drom yn eu herbyn.

Yn gyntaf y Prophwyd Esai a ddywed. Esa. 5.8.

Gwae y rhai sy yn cyssylldu tŷ at dŷ ac yn cwplyssu maes wrth faes, hyd oni bydd eisieu lle, ac y trigoch chwi yn vnig ynghanol y tîr.

Yn ail, y Prophwyd Ieremi a ddywed. Jer. 22.13. Gwae yr hwn a adeilado ei dŷ drwy anghy­fiawnder, ai stafelloedd drwy anwiredd.

Yn drydydd, Mic. 2.2. y Prophwyd Micah a ddywed. Gwae hwynt, canys meusydd a chwennychant hefyd, a theiau a dreisiant, ac a ddygant; gorthrymmant ŵr ai dŷ, dŷn ai etifeddiaeth.

Yn bedwerydd y Prophwyd Habacuc sy'n llefain gan ddywedyd. Hab. 2.12. Gwae a adei­lado dref d [...]wy waed, ac a ddarparo ddinas mewn anwiredd. S. Jago hefyd sydd yn byg­wth y cyffelyb ddynion yn dôst iawn gan ddywedyd: Iddo yn awr chwi gyfoetho­gion, wylwch ac vdwch am eich trueni â ddêl arnoch: eich cyfoeth a bydrodd: Jag. 5.1, 3. eich aur a'ch arian a rydodd, a'u rhwd hwynt a fydd tŷst yn eich erbyn chwi ac a yssa eich cna­wd fel tân. Yn ddiwaethat, S. Paul a ddywed yn eglur: 1 Cor. 6.10. Na chaiff cribddeilwyr etifeddu teyrnas Dduw.

Mal hyn nyni â welwn faint o felldithi­on [Page 202]on ofnadwy, a bygythion arswydus a gy­hoeddir or nefoedd yn erbyn cyfryw ge­nawon gwangcllyd.

Phila.

Ar cwbl yn ddigon bychan. Ob­legit y maent wedi mwydo yn eu pechod, ar amliw oddiwrtho sy wedi myned cyn ddyfned, ac y bydd anhawdd byth ei gael allan. Gwir yw yr hyn â ddywedasoch, fod y gorchrechwyr sceler hyn megis yn sugno gwaed dynion, ac yn bryfedach yffol mwyaf eu gwenwyn ar y ddaiar. Ac et­to yr wyf yn tybied na bu erioed fwy o honynt nac sydd yn y dyddiau hyn. Ob­legid yr awrhon y mae'r byd drygionus yn llawn or cyfryw rai, ac sydd mewn am­ryw fodd yn brathu, yn temmigo, ac yn gwascu'r tlawd; fel y gwelwn beunydd wrth brawf a chydnabyddiaeth resynol. Eithr chwi a fedrwch ddywedyd mwy na myfi am yr achos hwn: Am hynny attolwg i chwi ddangos yn eglur yr amryw fath ar orthrym­derau, ar sy arferol a chynnefin yn y dydd­iau hyn.

Theol.
Y mae gorthrymder drwy occreth:
Gorthrymder drwy wobrau.
Gorthrymder drwy godi ar ardrethi.
Gorthrymder drwy gymmeryd gor­mod cyllid blaen-llaw:
Gorthrymder mewn masnach.
Gorthrymder drwy ardrethu tîr yn rhy ddrud.
Gorthrymder yn gosod tai, a meusydd yn vwch nac a dalont.
Gorthrymder drwy rwymo gwŷr tlodion i ammodau anrhesymmol.
Gorthrymder yn bwrw tlodion allan o'u tai.
Gorthrymder yn cymmeryd tai gwŷr tlodion vwch eu pennau.
Gorthymder mewn ffisoedd.
Gorthrymder gan gyfreithwyr.
Gorthrymder gan Swyddogion-egl­wysig.
Gorthrymder drwy brynu yn rhâd, a gwerthu yn ddrud yr vn pethau.
Gorthrymder yn yr eglwys.
Gorthrymder yn y weinidogaeth.
Gorthrymder ar y tlawd.
Gorthrymder ar y gweddwon.
Gorthrymder ar ymddifaid.

Ac fel hyn ni a welwn fod gorthrym­derau yn heidio ym mhlith pawb oll: ac nad oes dim ond gorthrymderau, gor­thrymderau.

Phil.

Mewn gwirionedd, creulon tros ben a gorthrymderus yw'r oes hon, yr ydym ni yn byw ynddi; ie, oes llwyt haiarnaidd yw. Tebygol nad yw y rhai mawrion yn myfyrio dim amgen, ond ymosod yn gwbl ar orthrymder; amleferydd y maent, a breu­ddwydio am dano, a chael melusdra yn­ddo, ac am hynny yn yn fydu o honaw: fel [Page 204]y dywed Salomon: Gorthrymder a wna ŵr doeth yn ynfyd. Tebig gan hynny fod y bai anafus hwn mor gadarngryf, ai fod yn gyrru dynion i wallgofi, a myned yn ynfyd Cynhwynol i glascu cyfoeth drwy drais a thwyll, nid gwaeth ganddynt pa fôdd, nac­oddiar bwy, am y caffont.

Er hynny diammeu yw wneuthur or v­nig fynhwyrol Dduw lawer o gyfreithiau da i ddiffoddi y drŵg hwn; ac y mae efe yn bygwth dwyn dial am danynt drwyddo ei hûn: Ac yn bendifaddeu y mae ei gyfraith ef yn darparu dros ddi­ogelwch y tlawd, yr ymddifaid, y we­ddw, ar dieithr.

Eithr Chwychwi M. Theologus, â fedrwch goffau y cyfreithiau hyn yn well na myfi, o herwydd cith bôd wrth eich galwedig­aeth yn bregethwr. Gan hynny adolwyn, gadewch i ni eu clywed hwynt gennych chwi.

Theol.

Yn yr ailfed bennod ar hugain o Exodus, Exod. 22.21, 22, 23. Duw â wnaeth y gyfraith hon sy'n ca­lyn: sef na orthrymmwch vn weddw, nac ym­ddifad: os gwnewch iddo ddim blinder: ac os gwaedda arnaf, myfi a lwyr wrandawaf ei waedd ef, am digofaint â ennyn, ac mi a'th la­ddaf arcleddyf, a bydd eich gwragedd yn we­ddwon, a'ch plant yn ymddifaid.

Drachefn efe â ddywed; Deut. 24.14, 15. na o thrym­ma wâs cyflog, yr hwn sydd anghenus, a [Page 205]thlawd, ond ti a deli iddo ei gyflog am ei ddi­wrnod, ac nad eled yr haul i lawr arno: (Canys tlawd yw, a thrwy hynny y cynnal efe ei enioes) rhag iddo lefain ar yr Argl­wydd i'th erbyn di, a bôd hynny yn bechod ith erbyn.

Ym mhellach yr Arglwydd â ddywed. Na orthrymma, ac na flina y dieithr, Canys dieithraid fuoch chwi yn nhir yr Aipht. A Duw ei hun sy'n bygwth, y bydd efe yn dŷst cyflym yn erbyn y rhai a attaliant gyflog y cyflogedig, ac a flinant y weddw, ar ywddi­faid, Exod. 22.21. Mal. 3.5.

Ar Apostol a ddywed. Na fydded i neb or­thrymmu na thwyllo ei frawd mewn masnach: Canys yr Arglwydd sydd ddialudd ym mhôb cyfryw beth, 1 Thes. 4.6.

Salomon hefyd a ddywed: Os gweli mewn gwlâd dreisio y tlawd, a bwrw i lawr gyfiawn­der, a barn, na refydda er hyn: Canys y mae v­chel yn gwilied ar vchel, ac y mae vn sydd uwch na hwynt, Preg. 5.8.

Y deddfau sanctaidd hyn, ar cyfreithiau yma oll â wnaethpwyd yn erbyn gorthrym­der, ac a ddangosant yn amlwg pa ofal sydd gan yr Arglwydd dros ei bobl dlodion, cy­studdiol, a diymgeledd.

Phila.

Eithr yr vffern-gwn gorthrymmus hyn ydynt or cyfryw ddrwg athrylith ac na wnânt gyfrif o ddim. Ni ddichon yr vn o gy­freithiau yr Holl alluog Dduw eu ffrwyno [Page 206]hwynt: nid oes dim a'i dychryna, dim a'i hattal: Esay. 28.15. hwy a wnaethant gyfammod ag vffern a marwolaeth. Ceulo a wnaethant ar eu sorod, nid ydynt yn ymwrando a dim. Ac fel y dywed Iob. Job. 24.13. Dymma y rhai sy'n gwrthwynebu goleuni: nid ydynt yn adnabod ef ffyrdd ef, nid ydynt yn aros yn ei lwy­brau ef. Y mae eu calonnau cyn galetted ar Adamant, nid oes dim ai cynnyrfa hwynt: dim a graffa arnynt. Y mae llefain mawr ym mhôb man rhag y garreg yn y lwynau, yr hwn yn ddiau sydd ofid blîn ir corph: Ond nid oes dim achwyn rhag y garreg yn y galon, sef y galon galed: yr hwn yw y clwyf blinaf ar a ddichon ddigwyddo i enaid dyn, ac etto yn yr amserau hyn tyfu y mae yn aml iawn. Canys y mae calonnau dy­nion cyn galetted ar prês, ac fel y maen me­lin issaf megis y dywed yr Scrythur. Ob­legid llawer yn enwedig o'r anhrugarog, ar gorthrymmus dreiswyr hyn â ddywedant yn eu calonnau: Zoph. 1.1 [...]. Ni wna'r Arglwydd dda, ac ni wna ddrwg, am hynny y maent yn pellhau ydydd drwg ac yn nessau at eisteddle trais.

Gorwedd y maent ar wely Ifori, ac ymmest­yn ar eu gwâl, ae yn bwytta'r ŵyn o'r praidd a'r lloi o ganol y cutt: y rhai a ddatcanant gyd â llais y nablau. Dychymmygant iddynt offer cerdd megis Dafydd: y rhai a yfant win me­wn phiolau, ac a ymirant ar olew pennaf, ac nid ymofidiant am ddryllio Joseph: Sef am [Page 207]flinderau pobl Dduw, Amos 6.4, 5.

Y Prophwyd Esay hefyd sy'n achwyn yn erbyn y fâth ddynion ar rhain, gan ddywe­dyd. Am waith yr Arglwydd nid edrychant, Esay. 5, 12. a gweithred ei ddwylaw ef ni welant. Pro phwyd arall â ddywed, y dywedant yn eu ca­l [...]n anghofiodd Duw. Cuddiodd ei wyneb, ni wêl efe byth: yr annuwiol gan ei falchder ni chais Dduw, Psal. 10.5, 6, 11. nid ydyw Duw yn ei feddy­liau ef, vchel yw ei farnedigaethau o'i elwg ef. Dywedodd yn ei galon ni'm s [...]m­mudir, o herwydd ni byddaf mewn dryg­fyd hyd genedlaeth, a chenedlaeth.

Theol.

Chwi â ddywedasoch yn dda tros ben am donnogrwydd, a chaledwch calon y dynion hyn, y rhai ydynt mor anrhuga­rog wrth eu cymmydogion truein, ac bra­idd y dichon neb fyw yn eu hymyl. Mor flinion, ac mor aflonydd ydynt, ac na cha­iff y tlodion heddwch i drigo yn agos att­ynt. Gwir â ddywed y Brenin doeth. Gŵr cadarn â flina bawb, ac sydd yn rhoddi gwerth i'r rhai â ânt heibio, ond gŵr tlawd â lefara trwy ymbil: Sef drwy erfyn, ac ymbil. Oblegit y mae'r tlawd yn eu hof­ni: ac yn crynu pan eu gwelant, fel y cryna yr anifeiliaid pan rûo y llew. Llawer o gymmerwyr tlodion, o lafurwyr tlodi­on, o fugeiliaid tlodion, o weithwyr tlo­dion: Llawer o weddwon, a chyflog-ddy­nion â ddychrynant, ac â grynant pan [Page 208]ddêl y bleiddiaid gwangcllyd hyn i rodio allan.

Ac fel y dywed Iob: Tlodion y ddaiar â gyd-ymguddiant. Job. 24.4. Canys (gwae eigion eu calonnau, ni allant oddef edrych arnynt) nid gwaeth ganddynt gyfarfod â chythraul, na chyfarfod ag vn o honynt; rhag ofn rhyw atcasrwydd▪ Oblegit ofni â wnant rhag cael rhybudd i ymmadael a'u tai: Neu ddi [...]io arnynt am ychwaneg o ardr­eth, ac ammodau caethach: neu gym­mortha vn o'u gwartheg teccaf: Neu fen­thyccio march: Neu geisio ŵythnos o waith, hob dalu byth am dano: Neu bor­fa tros amser i farch, neu i fuwch: Neu rhag iddynt dynnu rhyw gweryl yn eu herbyn, a gwneuthur iddynt ryw ddrŵg. Y truain hyn ni fedrant ddirnad pa beth â wnant, nac i ba le y ffoant, [...]hag ofn y rhuadwyr hyn. B [...]în ydynt o'u bywyd, Mynych y dymunent eu bôd allan o'r bŷd, pan na byddo ganddynt ddim ymddeffyn i ymachub, ond gorfod goddef fel y ga­llont. O herwydd hyn y dywedant wei­thiau, y maddeuent i bwy bynnag ai tara­wei hwynt yn eu talcennau.

Oh gyflwr tosturus; ô ymmadrod gresyn ei glywed: rhaid yw i'r creaduriaid tru­ein hyn ymdrafferthu, ac ymffwdanu, dr­wy'r flwyddyn, hâf a gaiaf, ar rew, ac eira, ar frwdaniaeth, ac oerfel, i gas­clu [Page 209]ynghyd eu cyllid, a'u hardrethi, er mwyn gallu talu iw meistr-tîr addig yn ei ddydd. Os amgen pa fodd y gallant ed­rych yn ei wyneb ef? Er bod eu hardreth wedi ei godi cyfuwch, ac mai digon by­chan i dalu, yw'r cwbl â allant hwy ei wneu­thur. Ac wedi talu hynny (gwae fi) ni bydd wedi ei adael i'r gŵr tlawd, ac iw wraig, ai blant, onid ychydig iawn tuag at eu cynhaliaeth. Y mae yn gorfod iddynt gnoi crystau, bod ar brinder bwyd, ac yn llymmion eu cadachau: weithiau y bydd ganddynt beth iw fwytta, ac weithiau ni bydd dim, ond y plantos druein yn llefain am fara. Mynych y ceir yn wylofain yn eu tai, wrageddos gweddwon truein, a ph­lant ymddifaid yn athrist, ac yn bruddion yn yr heolydd. Yn gymmaint ac yn y dy­ddiau hyn y gallwn gyd â Salomon droi, ac ystyried yr holl orthrymderau tan yr haul, nyni â allwn weled dagrau y gorthrymmedig heb neb yn eu cyssuro, Preg. 4 1.

Oblegit y cryfion â dreisiant y gweni­aid, megis y bydd yr anifeiliaid cryfaf yn rhuthro, ac yn bustachu y gwannaf. Y gorthrymwyr ffyrnig hyn â wascant y tlo­dion hyd y byw. Cippiant oddiar yr ym­ddifaid ar gweddwon yr ychydig â fyddo ganddynt. Er na byddo ond buwch neu ychydig ddefaid wedi eu gadael, hwy â gymmerant hynny.

[Page 210]

O bydd ychydig fael, ac elw iw gael o­ddiwrth dŷ, neu erw o dir, pa ystrywiau â ddychyminygant i lusco hynny i mewn tan eu ewinedd eu hunain. Y treiswyr hyn â wascant ar eu deiliaid cyn dosted a dwyn y gwely y gorweddant arno. Hwy â wyddant yn ddigon da, na ddichon y tlodi hyn ymgyfreithio â hwynt: ac am hynny hwy a allant wneuthur y cam a fyn­nont, a dangos pa greulondeb bynnac a ewyllysiant. O hyn y mae yn dyfod da­grau y gorthrymmedig: O hyn y mae yn dyfod wylofain, a chwynfan y tlawd. Ei­thr ôch y druain, wylofain a allant i yscafn­hau peth ar eu calonnau: ond nid oes neb iw diddanu, na dim iawn iw gael.

Eithr diau fod y tragwyddol Dduw yn eu canfod, ac y myn efe ddwyn dial arnynt. Oblegit gwaedd y tlawd, yr ymddifaid, ar gweddwon a ddaeth i glustiau Arglwydd y lluoedd, yr hwn sydd ddialudd ar bob cyfryw beth: Ie dialudd cadarn fel y dy­wed Salomon: [...]iha. 23.0, 11. Na symmud hên derfyn, ac na thyret i feusydd yr ymddifaid, Canys eu dialudd hwynt sydd nerthol, ac â amddeffyn eu cweryl hwynt yn dy erbyn di. Drachefn y dywed. [...]iha. 22. [...].23. Nac yspeilia y tlawd o herwydd ei fod yn dlawd, ac na sathr yr anghenus mewn barn: Canys yr Arglwydd â ddadleu drostynt, ac â orthrymma enaid y neb a'i gor­thrymmo hwynt.

[Page 211]

Nyni â welwn wrth hvony, y dŵg y Duw cyfiawn ddialedd ary gorthrechwyr anhrugarog hyn. Ni ollwng efe bob am­ser yn ddigosp y cyfryw gam, a thraha â wneler ar y tlawd.

Yn yr wythfed bennod or Prophwyd Amos, Y twng efe i odidawgrwydd Iacob, nad anghofia efe byth eu gweithredoedd bwynt. Drachefn drwy'r Prophwyd Ieremi y dy­wed. Oni ddialaf ar y cyfryw genedlaeth a hon. Jer. 5.9.

Diammeu y gesyd efe ei wyn [...]b yn eu her­byn iw difetha ymmaith oddiar y ddaiar, Oblegid nid ydynt deilwng i ymlusco ar wyneb y ddaiar: nac i anadlu ym mlith meibion dynion. Scrifennedig yw yn llyfr y Psalmau, y gesyd Duw y cyfeillion hyn gyferbyn ag ef, megis gwal i saethu att­ynt; y gesyd efe hwynt ar y naill d [...], ac y paratoa efe saethau yn ei linynnau yn e byn eu hwynebau, Psal. 21.12.

Synna am hyn o nefoedd: a chryna di­thau o ddaiar: Gwrandewch chwithau o feistred tiroedd creulon, Gorthrechw [...]r sceler, a gelod y ddaiar. Da y gellir eic [...] cyfenwi chwi gelêod, Canys sugno yr yd­ych chwi waed llawer o wŷr, gwragedd, a phlant tlodion; ei fwytta, ai yfed yr yd­ych. Hwnow a osodir ar eich byrddau moethus: ei draflyngcu yr ydych bob dydd, ac ymborthi, a byw arno.

[Page 212]

Ac megis y dywed Job. 24.5 Y diffeithwch fydd yn dwyn iddynt fwyd, ac iw plant: Megis pe dy wedasai: Ar yspeilio, a llâdd yr ydych chwi yn byw. Eithr gwae chwi erioed, eich geni oblegit gwaed y gor­thrymmedig yr hwn â fwyttasoch, ac â yfa­soch â waedda, ryw ddydd am ddial ar frŷs i'ch erbyn, fel y llefodd gwaed Abel yn er­byn Cain.

Eu gwaed hwynt â destiolaetha i'ch er­byn yn nydd y farn. A dagrau llawer o blant newynog, ac ymddifaid, a gweddw­on â wacdda yn grôch i'ch erbyn.

A ddialodd Duw ar Ahab am ei wei­thred greulon ac anghyfiawn yn erbyn Na­both wirion, 1 Bren. 21. ac pen. 22. ac oni ddial Duw arnoch chwi? A lyfodd cŵn waed Ahab, ac a ddiengwch chwi? Nagê, ni ddiengwch chwi ddim. Yr Arglwydd fydd tŷst cyflym i'ch erbyn, fely dywedodd yn Malachi? A ddigiod yr Ar­glwydd with gyfoethogion y bobl am or­thrymmu y tlodion, N [...]h 3. (fel y clybu yr Holl-Alluog waedd ei bobl a'u gwragedd, yn erbyn eu gorthrymwyr) ac â dybygwch chwi y cewch ddiangc yn ddichlin? Oni ddŵg yr vnrhyw achos yr vnrhyw ddig­wyddiad, a'r cyfryw bechod y cyfryw go­spedigaeth? Gan hynny gwybyddwch yn lle gwir, fod gan yr Arglwydd gistiau yn llawn dia [...]edd i'ch erbyn: a bod diwrnod yn dyfod pan agoro efe y rheini, ac y [Page 213]dygo hwynt allan yngolwg pawb ôll.

Gwybyddwch hefyd am drawstiau eich tai, a cherrig eich muriau, y rhai a adeila­dasoch chwi drwy orthrymder, a gwaed, y rheini â lefant yn eich erbyn yn nydd di­gofaint yr Arglwydd. Fel y dywed y Pro­phwyd. Y garreg â lefa or mur, Hab. 2.11. a'r trawst â ettyb o'r gwaith coed. Lle y dywed y Pro­phwyd wrthych, y llefa parwydydd eich tai, â adeiladwyd drwy waed, y gwaedda y rheini yn vchel, gad atteb eu gilydd o'r ddeutu megis cantorion mewn Côr. Y naill du a lefa, wele waed: a'r tu arall wele lâddry naill du wele dwyll, a'r tu arall wele greulondeb: y naill, wele gribddeilio ac ys­peilio; y llall, wele gybydd-dra: y naill â gân, wele anrhaith: y llall, wele anudonedd.

Ac fel hyn chwi â welwch pa wedd y bydd coed a cherrig eich tai yn canu byr­dwn i'ch erbyn. A pha fodd bynnac y gwis­coch tros amser wynebau o brês, ac y cale­doch eich calonnau yn erbyn bygythion yr ofnadwy Dduw, ac Arglwydd y lluoedd: Etto y mae y dydd yn dyfod y dygir chwi i'r farn, bid bodd, bid anfodd, heb yn wae­thaf yn eich dannedd.

Chwi â ddeuwch vnwaith i'ch cyfrif. Fe a'ch delir ar y diwedd, ac a'ch dygir ger bron gorseddfaingc Duw, ac a'ch bernir o flaen Pen-Barn-wr y byd. Yna yr â barn yn eich erbyn; sef y farn ofnadwy; Math. 25.41. Ewch [Page 214]chwi felldigedig i dân vffern, i'ch penydio yn dragywydd gyd â diafol a'i Angelion. Oh gan hynny, Math. 16.26. gwae, gwae chwychwi: Canys pa lesâd yw i dāŷn er ynnill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hûn? medd yr Arglwydd Jesu. Yn wir ynghylch cymmaint ac pe bai ddŷn yn ynnill ffyring, ac yn colli can mîl o bun­nau.

Oblegyd os i Uffern y teflir yr hwn ni roes ei dda cyfiawn ei hûn fel y dywed [...]in Achubwr: ac os colledig fydd yr hwn ni ddilladodd y noeth: i ba le y bwrir yr hwn â ledrattodd dda rhai eraill? A pha beth â dderfydd ir hwn â ddinoethodd y dilla­dog?

Gan hynny, edifarhewch mewn prŷd o chwychwi orthrechwyr creulon. Ceisi­wch yr Arglwydd tra y caffer ef: Ge­lwch arno tra fyddo yn agos, ymadewch a'ch ffyrnigrwydd anifeilaidd. Ymwel­wch ar ymddifaid, ac ar gweddwon yn eu hadfyd.

Rhennwch eich bara i'r newynog. Cyn­northwywch y rhai â oddefant gam, i gael eu cyfiawnder. Gwnewch drugaredd a'ch deiliaid. Na chodwch mwyach ar eich ar­drethi. Na wescwch ar y truein tros y rhai y bu Crist farw.

Tosturiwch wrthynt, meddaf, ac na chy­studdiwch hwynt. Dangoswch iddynt di­ [...]iondeb, â charedigrwydd: Meddyliwch [Page 215]am eich cyfrif mawr. Ystyriwch fyrred yw eich enioes, ac oferedd eich buchedd. Ym­chwelwch at yr Arglwydd a'ch holl galon mewn ympryd, wylofain, a galar. Dyhudd­wch ei ddigilonedd ef a lloi eich gwefusau, ac ag yspryd drylliedig. Ymofidiwch am a aeth heibio, a diwygiwch yr hyn sydd etto i ddyfod.

Na wrthsefwch mwyach yn erbyn Duw: Canys ni thyccia i chwi ymryson ag ef: y mae efe yn rhy-gryf i chwi: yr vnig synwyr i chwi, yw dyfod atto yn ostyngedig, ac ym­gymmodi ag ef.

Deuwch atto, deuwch atto, chwi gened­laeth wrthryfelgar: ymddarostyngwch i'r Brenin Ardderchog. Byddwch issel-feddwl, ac vfydd tan ei law nerthol ef. Teflwch ym­maith oddiwrthych eich cleddyfau, a'ch tariannau, ac ymroddwch i'n Duw ni. Felly y diangwch rhag y dialedd a ddêl. Felly y derbyn Duw chwi: y trugarha wrthych, y byddwch yn gymmeradwy gyd ag ef, y dyry i chwi faddeuant o'ch holl bechodau, ac i'ch derbyn i nifer ei ddeiliaid cywir, a ffyddlon.

Phila.

Yr wyfi yn deall wrth amryw ym­adroddion a draethasoch chwi; na cheir hir lwyddiant o'r da a gascler drwy orthrym­der, a thrais: Canys gorthrechwyr ydynt yn bathu eu harian ar grwyn eu cymmydogi­on: pa fodd wrth hynny y bydd bendith arnynt.

Theol.

Gwir â ddywedasoch. Oblegit megis y mae y da hynny yn felldigedig (fei y clywsom or blaen) y rhai â gasclwyd drwy dyngu, a chelwydd: Felly y mae y rheini hefyd yn felldigedig, y rhai â gryn­hoer drwy orthrymder, a thrais. Am hynny y dywedodd yr Arglwydd drwy'r Proph­wyd Ieremi. Fel petris yn eistedd, ac heb dde­or yw'r hwn â helio gyfoeth yn anheilwng. Yn hanner ei ddyddiau y gedu hwynt: ac yn ei ddiwedd, ynfyd â fydd efe, Jer. 17.11.

Phila.

Och Dduw, na wnai ein llywod­raethwyr ni, a'n swyddogion ryw drefn ar frŷs i ddiwygio y pethau hyn: ac i wellhau y beiau syrhaed-lon sydd yn ein plith. Neu na frathent hwy eu hunain i mewn, a gwaredu y gorthrymmedig o law y gor­thrymmwr.

Theol.

Odiaeth oedd Iob am y fâth beth â hynny. Canys am dano ef y dywedir: Dry­lliwn hefyd gil-ddannedd yr anghyfiawn, a gwnawn iddo fwrw'r sclyfaeth allan o'i ddannedd. Felly ni â welwn fod Iob yn peri gwaredu y gwirion, a thynnu yr oen allan o grafangau y llew. Scrifennir am dano ym mhellach yn y bennod honno: Bendith y co­lledig â ddeuei arnaf, [...]ob. 29.3, 15, 17. a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu: llygad oeddwn i'r dall, a thraed i'r clôff, a thâd i'r anghenog; a'r cwyn yr hwn nid adwaenwn, â chwiliwn [...]llan. Oh pa ŵr rhagarol oedd hwn. Oh na [Page 217]bai gennym lawer o fâth Iob, yn y dyddiau hyn. Salomon ddoeth yn synhwyrol tros ben sy yn ein cynghori ni bawb i ddilyn siampl Iob yn hyn o beth. Gwared (medd efe) y rhai â orthrymmir, ac â luscir i angeu: Dih. 24.11.12. Canys pa­ham y gadewit ti y rhai â dynnir i farwolaeth? Mi â ddymynwn, pe gwelei Duw yn dda, gael o'r cyngor hwn ei iawn-ystyried, ai arfer yn ein plith ni.

Phila.

Y mae yn rhyfedd gennifi pa fodd rhag cywilydd y beiddia y gorthrymwyr creulon hyn ddangos eu hwynebau o flaen Duw yn ei deml sanctaidd, i weddio, ac i offrwm eu gwasanaeth iddo. Canys nyni a welwn am lawer o honynt, er bod ganddynt ddwylaw budron, a chalonnau aflan, fel y clywsom; etto hwy â ryfygant, heb ar­y clywsom; etto hwy â ryfygant, heb ar­nynt ddim gwladeidd-dra, ddyfod i'r eglwys, a gweddio, neu o'r hyn lleiaf wrth orwedd yn eu gwelau y nôs, a brith­gyscu, y byddant weithiau yn sisial eu gweddiau, ac yn sibrwd ymbell air o ryw bader noster.

Theol.

Gwae hwynthwy eu ffoled: Nid yw yr hyn oll â wnânt yn escus gwasanaeth i Dduw, ond rhagrith, a ffuant. Canys mewn gwirionedd ni wnânt gyfrif o Dduw: hwy a'u carant ef ar eu tafodau yn vnig: eithr eu calonnau â ant ar ôl cybydd­dod; [...]u dwylaw sy yn llawn gwaed, ac am hynny ffiaidd gan Dduw hwynt a'u gwe­ddiau [Page 218]hefyd. Esay. 1.15. Canys efe â ddywed: Pan e­stynnoch eich dwylo, y cuddiaf fy llygaid rha­goch: Hefyd pan weddioch lawer, ni wrandwa­af, eich dwylo ydynt yn llawn gwaed.

Ym mhellach yr yspryd glân â ddywed. Y ned a drŷ ei glust ymmaith rhag gwrando'r gyfraith sydd ffiaidd ei weddî befyd. Dih. 28.9. Psal. 66.18. A Da­fydd â ddywed: Pe edrychaswn ar anwi­redd yn fynghalon, ni wrandawsei'r Argl­wydd. Yr Efengyl â ddywed hefyd. Na­wrendu Duw ar bechaduriaid, sef p [...]chadu­riaid gwargaled, a difraw. Felly nynia welwn yn eglur (wrth yr holl dystiolaethau hyn or Scrythyrau sa [...]ctaidd) pa groesaw gyd â Duw syddi weddiau Gorthrechwyr, ac i bob mâth ar ddynion anghrefyddol, ac annuwiol: Sef mai câs ganddo hwynt megis pethau drewedig, a gwrthwynebus yn ei olwg ef.

Phila.

Bellach i ddibennu hyn dango­swch i mi achosion gorthrymder.

Theol.
Yr achosion ywy rhai hyn.
Achosion gorthrym­der.
Cr [...]ulondeb.
Cybydd dod.
Calon-galedwch.
Cydwybod Ddrŵg.
Diafol.
Phila.

Moeswch glywed hefyd beth yw'r cyphyriau meddiginiaeth.

Theol.
Y pethau hyn: did amgen.
Tosturi.
[Page 219]
Ymwared yn erbyn gorthrym­der.
Bodlonrhwydd.
Caredigrwydd.
Cydwybod dda.
Aml weddi.
Phila.

Bellach Sir, megis y darfu i chwi draethu eich meddwl yn helaeth am y dry­gau bydol anafus, â grybwyllwyd or blaen: a phrofi yn oleu, ac yn hysbys eu bod hwy yn wen wyn marwol i'r enaid: Felly he­fyd attolwg i chwi ddangos i ni hyn; onid ydynt yn ddrŵg ar lês y corph, y cyfoeth, a'r enw da.

Theol.

Myfi â sefais yn hwy ar y beiau cy­ffredin hyn, o herwydd bod pôb māth ar ddynion gan mwy af wedi eu llygru a rhai, neu rhyw vn o'r drygau hyn. Ac am hynny ni ellir byth ddywedyd digon yn eu her­ [...]yn.

Canys y mae'r holl fyd yn gorwedd yn y pethau hyn, fel y tystia Ioan Sanct. 1 Ioan 5.19. Pe ge­llid iachau dynion o'r clwyfau hyn, diam­meu y gwneid llwybr hyffordd i gael helae­thrwydd o râs: ac ni a gaem eglwys lwy­ddiannus, a gwlad hyfryd: Ond tra fyddo'r pethau hyn yn rhwystr ar y ffordd pa obaith sydd o gael doniau helaethach, a bendithion mwy rhagorol i'w tywallt arnom? Neu allu o honom byth gyrhaeddyd ymarwedd­iad gyweithas, a chymmeradwy gyda Duw.

[Page 220]

Oblegit y beiau hyn ydynt yn dallu ein llygaid, yn trymhau ein calonnau, ac fel y dywed y Prophwyd Ieremi, yn attal daioni oddiwrthym, Jer. 5.25.

Eithr am eich dymmuniad chwi, y mae yn rhaid i mi gyfaddeu: megis y mae y drwg-gampau hyn yn wenwyn marwol i'r enaid, ac yn arwyddion eglur o ddamnedigaeth: Felly y maent hefyd yn dra pery­glus i'r corph, i'r cyfoeth, ac i'r enw: Ie ac i'r holl wlâd, yn gystal eglwys, a they [...] ­nas.

Phila.

Dangoswch allan or Scrythyrau pa enbydrwydd â ddygant i'r corph.

Theol.

Yr Arglwydd ein Duw a ddy­wed. Os fy neddfau a ddirmygwch, ac or eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, beb wneuthur fy holl orchymynnion, gan dorri o honoch fy nghyfammod, minnau hefyd a [...] nâf hyn i chwi: Gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, ar crŷd poeth, y rhai â wnânt i'r llygaid ballu, ac â ofidiant eich e­neidiau, Levit. 26.16.

Efe a ddywed hefyd: Os nyni nid vfydd­hawn iw leferydd ef, i wneuthur ei holl or­chymynion, ai ddeddfau: y gwna efe i haint lynu wrthym nes ein difa: y teru efe nyni a chŵydd, Deut. 28.21, 27, 28. ac a chrŷd poeth, a chornwydion yr Aipht, a chlwy y marchogiôn, a llos [...]fa, ac a gwrês: hefyd y teru efe ni ag ynfydrwydd, a dallineb, ac a syndod calon.

[Page 221]

Felly chwi a welwch pa ddrygau angu­riol a fygwth yr Arglwydd eu dwyn ar ein cyrphyn y byd ymma, am y pechodau hyn, a'u cyffelyb. Eithr yn y gwrthwyneb, yr yspryd glân a ddywed: Ofna yr Arglwydd, a thynn ymmaith oddiwrth ddrygioni: hynny fydd iechyd i'th fogel, a mêr i'th escyrn. Dihar. 3 7 8.

Phila.

Pa ddrŵg a ddŵg y pechodau hynny a grybwyllwyd or blaen, ar ein da ni, a'n cyflwr bydol?

Theol.

Hwy â gymmellant Dduw i'n melldithio ni ym mhôb peth y gosodom ein dwylo arno: Megis y mae yn eg­lur yn y pennodau â henwyd or bla­en: Lle y dywed yr Arglwydd fel hyn.

Oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw: melldigedig fyddi di yn y ddinas, a melldigedig yn y maes: melldigedig fydd dy gawell, a'th does di: melldigedig fydd ffrwyth dy grôth, a ff [...]wyth dy ddaiar, mwyniant dy wartheg, a chorlannau dy ddefaid. Melldige­dig fyddi di yn dy dynediad. Yr Arglwydd â ddenfyn arnat ti felldith, trallod, a cherydd yn yr hyn ôll yr estynnech dy law arno, ac yn yr hyn a wnelech nes iddo dy ddinistrio, a'th ddifetha di yn gyflym am ddrygioni dy wei­thredoedd, yn y rhai i'm gwrthodaist fi. Ac ym mhellach efe â ddywed. Y torrei efe ffon [Page 222]y bara: a dêg o wragedd a bobant eu bara mewn vn ffwrn, ac hwy a roddant drachefn eu bara wrth bwys: ac hwy â fwytânt, ac nis di­gonir, Levit, 26 26.

Chwi a welwch gan hynny y rynny pe­chodau hyn ddigofaint Duw arnom, ac ar a foddom.

Phila.

Pa niwed a wna y pechodau hynny or blaen i'n enw da ni?

Theol.

Hwy a ddygant arnom ddanno­diaeth, cywilydd, ac anglod: ac a barant i bôb gŵr da ein ffieiddio, a'n diystyr [...]. Llwyr ddiffoddi a wnânt ein holl eirda, a'n cymmeriad.

Oblegit megis y mae rhinwedd dda yn gwneuthur dynion yn anrhyddeddus, ac yn barchedig: Gwyd. Beiau. felly drygioni â wna ddynion yn wael, ac yn ddirmygedig. Hyn â eglurir lle y mae yr Arglwydd yn bygwth Israel: mai am eu p [...]chodau, a'u hanvfydd-dod y gw­nai efe hwynt yn ddihareb, 1 Bren. 9.7. ie yn ddannodiaeth, ac yn rhyfeddod ym mhlith y bobl oll. Mewn amryw fannau eraill or prophwydi y mae efe yn bygwth, am eu pechodau eu gwneu­thur hwynt yn wradwydd, yn gywilydd, ac yn rhai i yscwyd pennau arnynt gan y cenedloedd oll. Ezec. 5.15.

Phila.

Yr wyfi yn ddiau yn tybied: me­gis y mae pechod yn gyffredin, yn llygru neu yn difwyno geir-da pob dyn: yr hwn sy gû, ac annwyl gan bawb: felly difwyno y [Page 223]mae yn enwedig y sawl ydynt mewn ga­lwedigaethau vchel, a chymmeriad mawr oherwydd dŷsc, doethineb, a duwioldeb.

Theol.

Chwi a ddywedasoch y gwir yn vnion, ac yn gysson ar Scrythrau: Ca­nys yr Scry [...]hur â ddywed: Gwybed meirw â ddrewant, Preg. 10.1. ac â ddifwynant ennaint yr Apo­thecari: felly ychydig ffolineb a ddifwyna ŵr ardderchog oherwydd ei ddoethineb, a'i anrhy­dedd. Lle y dengys Salomon, os â gwy­bedyn i flŵch ennaint yr Apothecari, a marw yno, a drewi ynddo, efe a'i difwy­na oll er da [...]d fyddo: felly o chaiff pe­chod bychan fyned i mewn i galon, a thor­ri allan i dalcen gŵr tra enwog am ryw rinweddau rhagorol, y pechod bychan hwn­nw a'i difwyna ef, a bair iddo anglod, er maint ei gymmeriad.

Phila.

Dangoswch hyn, adolwyn yn e­glurach.

Theol.

Dal sulw ar hyn yr ydym ym mhob profiad: o bydd pennaeth yn ŵr da, ac ynddo lawer o ddoniau rhagorol, o ry­wiogeiddrwydd, dioddefgarwch, gostyn­geiddrwydd, a chariad i wîr grefydd: er hynny os bydd efe yn chwannog, y bobl gyffredin a graffant ar hynny yn fwyaf, ac â ddywedant, y cyfryw bendefig sydd ŵr da iawn, oni bai vn peth; y mae efe yn chwannog [...]ros b [...]n, yn gorthrymmu tlo­dion, yn dôst wrth eu ddeiliaid, heb gadw [Page 224]tŷ iawn, ac yn gwneuthur ychydig ddaio­ni yn y wlâd lle yr erys. A hyn yw'r peth sy'n dyfwyno'r cwbl. Ymhellach, ged­wch i farnwr, neu ynad, neu llywodra­ethwr fod wedi ei gynysgaeddu a cham­pau nodedig o gallineb, synwyroldeb, cym­medrolder, haelioni, a chyfarwyddyd yn y gyfraith: Etto os bydd efe yn ŵr digllon, yn cymmeryd gwobrau: Oh mor flîn a fydd hyn gan y bobl: Canys hwy â ddywedant: Gŵr odiaeth yw mewn gwirionedd, ond y mae vn peth ynddo yn difwyno'r cwbl: gŵr digllon a chyffrous dros ben yw: y mae mor ddigllon ar gyccynen: efe â ffromma yn aruthr am ben y blewyn: efe â gyffry, ac a frocha os edrychir arno. Ac heb law hyn, aruthr mor anghyfiawn ydyw: efe â gymmer wobr yn anrhesymol: odiaeth ganddo gael iro ei law: fe â wna'r peth a fynnoch am werth.

Etto ymhellach, o bydd Pregethwr â chanddo rôdd ragorol, y Cyffredin bobl â ddywed am dano: Oh gŵr perffaith yw yn wir, odiaeth o ddŷsc, Scrythyr-wr trwyadl, gŵr nodedig mewn pulpit: ond etto er hyn ei gŷd y mae arno stremp yn difwyno'r cwbl, y mae yn falch anguriol: y mae efe cyn falched a Luwcifler. Yn siccr y mae ganddo ddoniau rhagorol: ond mi â attebaf i chwi y gŵyr efe hynny yn ddigon dâ.

Canys y mae ganddo ymddygiad vchel, [Page 225]ac a edrych yn sarrug, ac yn scoewan ar bawb eraill: y mae yn chŵydd hyd yr ên o falchder: yn tybied o honaw ei hûn yn well nag o nêb.

Mal hyn ni â welwn pa wedd y mae y gwybed meirwon yn difwyno'r cwbl: a pha fodd y mae rhyw vn pechod yn peri gogan i ddŷn, â fyddei, oni bai hynny yn rhagori.

Phila.

Beth yw'r achos, fod rhyw vn pe­chod yn peri y fath angoel, ac anglod ir dy­nion perffeithiaf?

Theol.

Y rheswm yw hyn: am fod y cy­fryw ddynion megis canwyll wedi ei gosod mewn canwyllbren, neu yn hytrach ar fryn i bawb iw chanfod, ac i graffu arni: a dio­gel yw fod mil o lygaid yn edrych arnynt bob dydd.

Ac nid yn vnig yn eu canfod, ond hefyd yn manwl graffu arnynt, i weled y bryche­un lleiaf, fel y gallent wneuthur mynydd o honaw.

Canys megis ar bappur gwyn glân y gwe­lir yn amlwg y blottyn lleiaf: ond mewn llarp o bappur llwyd prin y gellir dirnad er bod ynddo vgain o flottiau; yn yr vn môdd mewn Barnwyr, Swyddogion, Ustusiaid, Pregethwyr, a Phroffesswyr, yr amliw, neu'r brychni lleiaf â ganfyddir yn gyflym; Eithr ym mhlith y rhai gwaelaf, a gwae­thaf eu buchedd, braidd y gwelir, ac y gw­neir cyfrif o ddim er maint a fyddo.

Phila.

Gan fod llygaid pawb ôll yn tremmio ar y rhai enwog, rhaid iddynt e­drych yn graff ar eu camrau er mwyn tyn­nu ymmaith bob mantais oddiwrth y rhai ydynt yn disgwyl mantais.

Theol.

Rhaid yn wîr. Ac ymhellach rhaid iddynt weddio bob amser gyd a Dafydd. Psa. 119.133. Psal. 41.1 [...]. Cyfarwydda fynghamreu wrth dy air, ac na ly­wodraethed dim amwiredd arnaf. A thrachefn: Ond am danaf fi yn fy mherffeithrwŷdd i'm cyn­heli, ac i'm gosodi ger dy fron yn dragywydd: Canys os y Cyfryw rai a ymrônt i dyngu, i ddywedyd celwedd, i ymyfed, i butteinio (er anfynyched fyddo) hwy a ganfyddir yn y fan: ac a gollant eu geir-da: eu clôd a benddua, eu gogoniant a dywylla, ar coel da arnynt yn ebrwydd a wiscodd allan ei amser.

Phila.

Bellach megis y dangosasoch pa sawr ddrŵg a ddŵg y pechodau hyn ar ein eneidiau, a'n cy [...]ph, ein da, an cym­meriad: Felly hefyd, attolwg dangoswch pa beryglon a ddygant ar yr holl wlâd.

Theol.

Yn ddiddadl, tynnu i lawr a wnant ddigofaint Duw, arnom oll, a rhoi iddo achos cyfiawn i droi'r cwbl ar y gwae­thaf, a llwyr ddadymchwelyd, ac anrhei­thio llwyddianus gyflwr yr eglwys, ar de­yrnas: Ie i wneuthur difrod anescorol, ac anghyfanedd-dra or cwbl. Oblegit y pe­chodau hynny ydynt megis pentwynion [Page 227]digofaint Duw, ac megis sych'wŷdd i ennyn ei ddig ef, a'i lidiawgrwydd i'n herbyn. Canys yr Apostol a ddywed, Am y pe­thau hyn y [...]aw digofaint Duw at blant yr anufydd-dod. Col. 3.6.

Phila.

Mynegwch i ni allan or Scry­thyrau, pa fodd yn yr amseroedd gynt, y cospodd yr Arglwydd genedlaethau cy­fain a theyrnasoedd am y pechodau hyn, a'u cyffelyb.

Theol.

Yn y bedwaredd o Hosea y dy­wed yr Arglwydd wrth ei bobl, Fod cŵyn rhyngddo â thrigolion y wlâd, am nad oes wirionedd, na thrugaredd, na gwybodaeth o Dduw yn y wlâd, onid tyngu, dywedyd celwydd, lladd celain, lledratta a thorri priodas â orchfygasant, a gwaed â gyffwrdd â gwaed: am hynny y galara y wlâd, y llesceir y wlâd, ar hyn oll â fyddo yn trigo ynddi, o fwystifilod y maes, ac o ehediaid y nefoedd, pysc y môr hefyd a ddarfyddant.

Ymma y gwelwn pa beth yw'r hyn â bair i Dduw gyffroi i'n herbyn, ac a wna i bawb o honom alaru. Felly yn yr vn ffu­nyd y mae yr Arglwydd yn bygwth drwy'r Prophwyd Amos. Mai am dreisio, a gor­thrymmu y tlawd y dygei efe ddialedd ar yr holl wiâd. Oni chrŷna y ddaiar am hyn? oni alara ei holl breswylwyr. Amos. 8.8.

Drachefn yr Arglwydd a ddywed drwy [Page 228]'r Prophwyd, Jeremi 7.19. A'i myfi y maent hwy, yn ei ddigio, medd yr Argl­wydd, a'i hwynt eu hûnain er cywylidd iw hwynebau? Am hynny fel hyn y dy­wed yr Arglwydd Dduw. Wele, fy llîd, am digofaint a dywelltir ar y fan ymma, ar ddŷn, ac ar anifail, a'r goed y maes ac ar ffrwyth y ddaiar fel y llosco ac na's di­ffoddir. Drachefn yr Arglwydd a ddywed. Jer. 22.5.

Ac oni wrandewch y geiriau hyn, i'm fy hûn y tyngais medd yr Arglwydd mai yn anghyfannedd y bydd y tŷ hwn. Paratoaf hefyd i'th erbyn anrheithwyr: pob vn a'i arfau, a hwynt â dorrant dy ddewis Ge­drwydd, ac a'i bwriant i'r tân. Yn yr vn modd y bygwth yr Arglwydd drwy'r Prophwyd Ezechiel gan ddywedyd: Am na rodiasoch yn fy neddfau, ac na chadwa­soch fy marnedigaethau, gan hynny myfi, ie myfi à ddenaf i'th erbyn, ac a wna sarn yn dy ganol, ie yngolwg cenedloedd. Ac myfi a wnâf ynot ti y peth nis gwneuthym erioed or blaen, ac ni wnâf mwy y cyffelyb, o herwydd dy holl ffieidd-dra. Canys yn dy ganol di y bwyttu y tadau y plant, a'r plant y tadau. Ezec. 5.7.

Drachefn, drwy'r vn Prophwyd y dywed yr Arglwydd. Y wlâd sydd yn llawn o farnedigaeth gwaed, a'r ddinas yn llawn creulondeb: Oherwydd paham myfi â [Page 229]ddygaf arnynt y cenedloedd drygionus, ac hwy a feddiannant eu teiau: Myfi hefyd a wnaf i odidawgrwydd y cedyrn ddarfod, a'r lleoedd cyssegredig â halogir. Pan ddêl destruw, hwy a geisiant heddwch, ac nis cânt. Trueni â ddaw ar drueni, a sôn ar sôn: Hwy a geisiant weledigaeth y Pro­phwyd, eithr y gyfraith â balla gan yr offeiriaid, a chyngor gan yr henaf-gwyr: Y Brenin a lefara, ar twysog â wiscir ag anghyfannedd-dra, a dwylo y bobl yn y w­lâd a flinir. Myfi â wnâf iddynt hwy yn ôl eu ffyrdd, ac yn ôl eu cyfiawnder y barnafi hwynt: ac hwy a gânt wybod mai myfi wyf yr Arglwydd. Ezec. 7.23. hyd 27.

Yn ddiweddaf oll, yr Arglwydd a ddy­wed drwy ei Brophwyd. Gwrando o ddaiar, wele myfi a ddygaf blâ ar y bobl hyn, sef ffrwyth eu bwriadau eu hunain, am nad ystyriasant fyngeiriau i, na'm cyfraith, ond eu bwrw heibio. Jer. 6.19.

I'r ystyriaeth yma y gellid cael llawer o fannau yn Scrythyrau y Prophwydi, ei­thr y mae hyn yn ddigon i brofi y prif bwngc hwn: sef fod y Duw cyfiawn yn cospi cenedlaethau cyfein a thyrnasoedd, am eu pechodau, a'u hanvfydd-dod.

Phila.

Gan fod yr holl bechodau hyn (am y rhai y dûg yr Arglwydd y cyfryw gospedigaethau cyffredin ar ei bobl ei hûn) [Page 230]mor aml megis llifeiriant a'r wascar yn gorescyn tros y wlâd yma, onid oes i ni a­chos i ofni rhag syrthio arnom ryw ddia­ledd dirfawr? Ac yn hytrach oblegit bod ein troseddau ni yn cynyddu beunydd, fel y gellid tybied fod cynhaiaf dial Duw yn nesau, ac yn tynnu yn agos.

Theol.

Y mae achos i ofni, a dychrynu, Oblegit onid arbedodd Duw yr Angelion â bechasant, pa fodd yr arbed efe ni? Onid arbedodd efe ei bobl ei hun, beth sydd i ni i'w ddisgwyl am dano? Onid arbedodd efe y canghennau naturiol, pa fodd yr arbed efe ni, y rhai ydym gang­hennau gwylltion o naturiaeth? Ai gwell ydym ni na hwynt hwy? A oes i ni le i ddisgwyl cael ein harbed, pan gos­pwyd hwy? Onid yw ein pechodau ni mor lluosog eu rhifeddi, ac yn gymmaint o fantioli a'r eiddynt hwythau? Onid yw yr vn achos yn dwyn yr vn ffrwyth? A gwttogwyd braich yr Arglwydd? Neu onid yw Duw yr vn Duw cyfiawn i gospi pechod yr awr'hon, ac ydoedd efe gynt? ydyw yn ddiammeu.

Ac am hynny y mae i ni ach [...]s mawr i alaru. ac i gwynfan, i ofni, ac i grynu, o herwydd bod cleddyf noeth o ddialedd ynghrôg goruwch ein pennau: Fel hyn) gwnaeth Ieremi, fel hyn y gwnaeth Amos fel hyn y gwnaeth Habacuc pan ganfu­ant [Page 231]yn amlwg ddiglonedd Duw yn nesau at bobl Israel a Iudah. Jer. 4.19. Amos 5.16. Habac. 3.16.

Phila.

Tybied yr wyfi, y dylem ni yn hytrach arswydo, ac ofni, o herwydd bod em llywodraethwyr ni yn esceuluso cospi y beiau a grybwyllwyd vchod. Canys pan fyddo y rhai sy'n dwyn cleddyf cyfiawn­der, yn esceuluso ei dynnu allan, i gospi trosedd-wyr, a drwgweithredwyr hynod, yna fynychaf, y cymmer yr Arglwydd ei hûn yr achos yn llaw, ac ai law ei hûn yn ddigyfrwng a ddyry gospedigaeth, a dial: yr hyn sydd beth tra ofnadwy, ac enbaid. Oblegit peth ofnadwy yw syrthio yn nwy­law y Duw byw. Heb. 10.31.

Theol.

Gwir a ddywedasoch. Canys os y rhai â osodwyd yma ar y ddaiar tan Dduw, i fod yn rhaglawiaid, ac yn swyddogion iddo, a gyflawnant eu dyledswydd yn ffyddlon, drwy gospi drygioni, a phechod, a maentumio rhinwedd dda, drwy daro yr annuwiol, a chymmorth y duwiol: Felly y tynnir drygioni ymmaith o Israel, y troir heibio ddigofaint Duw, ac yr atte­lir ei farnedigaethau: Megis y mae yn scrifennedig: Phinehes a safodd i fynu, ac â iawn farnodd, a'r plà a attaliwyd. Psal. 196.30. Eithr os y llywodraethwyr (rhag ofn, neu er dangos serch, a charedigrwydd; neu er [Page 232]elw, gweniaith, gwobr, neu ryw gau-achos arall) a fyddant esceulus, a llaes i geryddu trosedd-wyr hyddrwg, ac yn barotach i daro 'r gwirion, yna y maent yn cyffroi, ac yn annog digofaint Duw yn erbyn y wlâd, ac yn eu herbyn eu hunain:

Phila.

Un peth sydd ddrŵg tros ben gennif: Nad yw'r gyfraith fydol, na'r gyfraith eglwys yn gosod dim cospediga­eth, (neu ychydig iawn) ar lawer o'r belau, a henwyd o'r blaen: Sef balchder, cybydd-dod, gorthrymder, seguryd, tyngu, a'r cyffelib.

Theol.

Peth yw hwnnw i'w resynu yn ddiau. Canys pa le yr ydym ni yn gwe­led cospi dŷn balch, neu ddŷn chwannog, neu ddyn traws, neu dyngwr, neu ddŷn celwyddog, neu segurwr? Ac o her­wydd eu bod yn gwybod na ellir eu cospi, y maent yn caledu, ac yn hyfhâu yn eu pechodau. Fel y dywed y gŵr doeth: O herwydd nad oes gyfraith, Preg. 8.21. i gospi drŵg yn fuan, am bynny calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drŵg.

Phila.

Vn peth yr wyf yn rhyfeddu am dano: yn yr hwn yr ewyllysiwn gael gwy­bodaeth ym mhellach: Sef beth yw'r achos fod tan frenin mor dduwiol, lle y mae cyn­nifer o gyfreithau da, a chymmaint o bre­gethu, ac athrawiaethu, gymmaint hefyd er hyn ei gyd, o ryfig i bechu ym mhôb [Page 233]grâdd, megis llifeiriant yn torri tros y glannau.

Theol.

Yr achosion o hyn ydynt ymra­fael, ac amryw. Eithr myfi â henwaf bedwar achos hynod, yn fy marn i.

Y cyntaf yw naturiol lygredigaeth dŷn, yr hwn sydd cyn gryfed, ac odid, od oes dim ai ffrwyna ef.

Yr ail yw siamplau drygionus, yn annog ar osteg i ddrŵg.

Y trydydd yw diffyg Pregethu mewn llawer o gynnulleidfaoedd yn y wlâd. O herwydd yr hwn ddiffyg ni ŵyr llawer fod pechod yn bechod.

Ar achos olaf yw llygredigaeth, ac esceulusdra llawer or sawl ydynt mewn awdurdod.

Phila.

Onid yw y cefn-llanw, a'r llifei­riant hwn ar bechu, gyd â diffyg cospedi­gaeth am dano, yn darogan digofaint mawr i'n herbyn?

Theol.

Ydyw yn wir. Megis y dango­swyd eusys o ran. Ac y mae amryw rag­arwyddion eraill o ddigofaint Duw, er nad ydynt or yn rhyw. Sef y rhai hyn.

Anniolch-garwch am yr Efengyl,
Arwy­ddion di­gofaint.
Cam-arfer ein hîr heddwch.
Dirgel gaudduwiaeth.
Diddarbodrwydd cyffredin.
Ein addfedrwydd ym mhob pechod.
Cam-arfer ar drugaredd Dduw.
Amharch ar ei hir ymaros ef.
Difraŵch Proffesswyr.

Diffyg derbyn llesâd oddiwrth geryddon blaenllaw, sef y Cornwyd, drudania­eth, marwolaeth, ac yscwyd y cleddyf, neu fygwth rhyfel.

Phila.

Yr wyfi yn meddwl fod yr olaf hwn yn arwydd hyspys o ddialedd Duw, yn nesan attom: sef am nad ydym ddim gwell er cael rhag-rybuddion.

Theol.

Gwir yw hynny: Canys peth cynnefin gyd â Duw, pryd na thyccio i ddynion gael ceryddon esmwyth, a chos­pedigaethau cyffredin, yw dwyn arnynt rai a fyddo trymmach.

A phrŷd na wnaeth trallod blaenorawl ddim llesad i ni, yra y mae achos da i ofni rhag rhyw ddialedd dybryd anesco­rol: Canys darllain yr ydym ym mhro­phwydoliaeth Hosea: y byddei Duw i E­phraim ar y cyntaf, fel gwyfyn, ac fel pydredd i dŷ Iuda: Eithr yn ôl hynny pryd nad oedd yn gwellhau dim wrth hynny, Hosea 5.12. yr oedd efe i Ephraim fel llew, ac i Iuda fal ceneu llew.

Felly y dywed yr Arglwydd mewn man arall, oni ddychwelent, ac vfyddhau ar alwad cyntaf ei lîd ef, Levi. 26.18.21.24 28. yna y cospei efe hwynt yn saith gymmaint mwy: Eithr os parhaent hwy yn ei cyndynrhwydd, yna bygwth y mae efe ddwyn arnynt am eu [Page 235]pechodau, saith mwy o ddialeddau. Ond os er hyn oll ni wellhaent ddim, eithr rhodio yn donnog, ac yn gildynus yn ei erbyn ef, yna bygwth y mae efe saith mwy ychwaneg am eu pechodau: Ar bedwaredd waith, saith mwy etto y chwa­neg. Prawf o hyn sydd gennym yn llyfr y Barnwyr. Ele y darllenwn fel y bu­plant yr Israel am eu pechodau, tan wa­rogaeth Brenin Aram-Neharaim, wyth mlynedd. Barn 3.8.

Yn ôl hyn, o herwydd na wnaeth y blinder hwnnw ddim llesâd iddynt, ond i­ddynt ddychwelyd at eu hên bechodau: am hynny y gwasanaethasant Eglon Bre­nin Moab ddeunaw mlynedd, Barn 3.14:

Yn ôl hynny am eu pechodau, a'u ffieidd-dra adnewyddol, yr Arglwydd a'u rhoes hwynt i fynu i ddwylo Midian tros saith mlynedd ychwaneg, Barn 6.1.

Gwedi hyn, am adnewyddu eu pecho­dau, yr Arglwydd a'i gwerthodd hwynt i ddwylaw y Philistiaid, ar Ammoniaid, Barn. 10.7, 8. y rhai a'u cystuddiasant yn dôst, ac a'u gor­thrymmasant ddeunaw mlynedd. Ac yn olaf i gyd, pan nad ymchwelent atto, er na newyn, na nodau, yna y rhoes efe hwynt i fynu i gleddyf eu gelynion, ac a'u dallodd tan gaethiwed, a chaeth-glud ddeg mlynedd, a thrugain. Wedi hyn ol [...], pan ryddbauwyd hwyar o'u caethiwed, a­dychwelyd [Page 236]o honynt adref yn ddiogel at eu cenedl eu hûn, a chael heddwch, a llo­nyddwch tros amser hir: etto syrthiasant ar hynt i adnewyddu eu pechodau, ac am hynny y custuddiodd yr Arglwydd hwynt yn ddirfawr, drwy wahanu emerodraeth y Groegiaid, Ezec. 38. sef Magog, a'r Aipht, Se­lucidae, a Lagidae: a hynny tros yspaid yn­ghylch trychant o flynyddoedd.

Ac dymma'r peth a ddywed y Proph­wyd Hosea: Llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, ac heb dwysog, ac heb aberth, ac heb ddelw, ac heb Ephod, na Theraphim, Hos. 3.4.

Phila.

Helaeth tros ben yr amlygasoch yr arwydd olaf hwn o ddialedd: sef fod Duw ar y cyntaf, megis yn ein curo ni, ar ein dillad y tu allan yn vnig: eithr os parhawn ni mewn pechod, i aros ynddo yn hwy, efe a'n fflangella yn dôst ar ein crwyn noeth: Ac oni fyn dynion ymroi ar y gwialennodau yscafn cyntaf, yna y ter [...] efe yn ddwysach, ddwysach, hyd oni thynno ein pennau i lawr yn issel, ac y paro i ymchwydd ein calonnau laesu, a llarieiddio.

Ac am hynny da yw ymroi iddo ar y cyntaf: Oblegid nid ynnillwn ni ddim o fod yn donnog yn ei erbyn ef. Nid yw hynny ond peri iddo amlhau ei ddyrno­diau, a'n curo ni waethwaeth: Canys ni [Page 237]ddichon efe oddef grwgnach, a grwmmial yn ei erbyn, a gŵg, neu gilwg, afrywiog, a childynnus: ond bellach deuwn at y matter.

Gan fod cynnifer o rag arwyddion yn arddangos digofaint Duw, mynegwch i ni, attolwg, beth sy yn attal, nad yw hwnnw yn descyn i lawr, ac yn syrthio arnom.

Theol.

Gweddiau, a dagrau y ffyddlo­niaid yw'r modd enwedigol i attal llaw Dduw rhag ein taro.

Oblegit gweddiau y cyfiawn ydynt mewn grym, ac o gyfrif mawr gyd ag ef: ie yn alluog i w [...]euthur pob peth: S. Iago a ddywed, Jag. 5.16 Mai llawer â ddichon gweddi y cyfiawn, os ffrwythlon fyddhi. Ac i bro­fi hyn y dengys i ni siampl Elias: Canys (medd efe) Elias dyn ydoedd vn sut a nin­nau, ac etto drwy ei weddiau y caeodd efe, ac yr agorodd y nefoedd: Gen. 18.32. Felly Abraham a gafodd gan Dduw wrando ei weddiau cyn belled, a phe buasai iw cael yn Sodom ddêg o wŷr cyfiawn, yr arbedasid y ddi­nas. Yr Holl-Alluog Dduw â ddywed yn Ieremi Pe safai Moses, Jer. 15 1. a Samuel ger fy mron, etto ni byddei fy serch ar y bobl ymma. Yr hyn â ddengys yn eglur, y gallasai Moses, a Samuel dyccio llawer gyd ag ef: yr attaliasent lawer arno, oni buasei ei fod efe wedi ymroi, ac ymosod eusys mor [Page 238]llwyr ddiattal, yn erbyn y bobl hyn am eu pechodau.

Felly y dywed efe hefyd ym mhroph­wydoliaeth Ezeciel: Ezec. 14.14. Pe bai y try-wyr hyn, Noah, Daniel, a Iob yn eu plith hwynt, ni waredent ond eu heneidiau eu hunain drwy eu cyfiawnder. Yr hyn eriau â ddengys, pe buasai bossibl drwy ymbil gael ganddo arbed y wlâd, y try-wyr hyn a gawsent y neges hwnnw: ond yr awr'hon yr oedd efe wedi bwriadu yn diatteg, wneuthur y gwrthwyneb.

Gan hynny, o herwydd bod y Pregeth­wyr duwiol, a gwir Broffesswyr yr Efengyl mewn cymmaint cymmeriad gyd â Duw, drwy eu gweddiau, y dywedir eu bod yn ymddeffyn, ac yn gadernid i deyrnasoedd, a Gwledydd, ac Eglwysi, a Thywysogae­thau: megis y dywedir am Elias, mai cerbyd Israel ydoedd, a'i marchogion, 2 Brenh. 2.12.

Eliseus oedd wedi ei amgylchu â my­nydd yn llawn o wŷr meirch a cherbydau tanllyd, 2 Bren. 6.17.

A diogel yw fod Elias, ac Eliseus nid yn vnig yn wŷr meirch, ac yn gerbydau Israel: ond hefyd drwy eu gweddiau, yn peri i Dduw ei hun fod yn fur tanllyd o'i amgylch: fel y dywed Y Prophwyd.

Yr Arglwydd Dduw â ddywed: Cei­siais hefyd ŵr o honynt yn caen cae, ac yn [Page 239]sefyll ar yr adwy o'm blaen dros'y wlàd, rhag ei dinistrio, ac nis cefais, Ezec. 22.30.

Yr hyn â ddengys, pe buasai ychydig a safasei ar yr adwy, yr arbedasai yr holl wlâd.

A hyn sydd amlygach hefyd ym mhro­phwydoliaeth Ieremi. Lle y dywed yr Arglwydd fel hyn: Chwiliwch ar hyd heo­lydd Ierusalem, ac edrychwch yr awr'hon, mynnwch wybod hefyd, a cheisiwch yn ei heolydd hi, o chewch ŵr, ac o chewch a wnel barn, ac â gais wirionedd, ac my fi a'i har­bedaf hi, Jer. 5.1.

Gan hynny, deliwch sulw, ac ystyriwch beth a ddichon gŵr: ie beth a ddichon vn gŵr, Un Abraham, vn Moses, vn Elias, vn Daniel. Beth a ddichon vn Samuel, vn Noah, vn Job.

Rhyw vn gŵr (o herwydd ei fawr gym­meriad gyd a'r Goruchaf) a ddichon ryw amser drwy ei weddiau, ai ddagrau, wneuthur mwy gorchest tros wlâd, na llawer o wŷr call drwy eu cynghorion, neu wyr cedyrn nerthol a'u cleddy­fau.

Ie y mae i'w weled yn amlwg ynghy­ssegr lân lyfr yr yspryd glân, fod rhyw vn Pregethwr gwael yr olwg arno, eithr yn llawn yspryd, a nerth Elias, yn gwneu­thur mwy gorchest, ac yn digoni yn well, [Page 240]yn ei stafell gartref, ym mhlith ei lyfrau (pa vn bynnag ai i ddrygy gel yn, ai i ym­ddeffyn gwlâd, ai i droi heibio ddigo­faint, ai i beri cael trugaredd) na llu Bren­hinol, sef deugain-mil o wyr cedyrn ner­thol yn ymladd mewn maes: Neu fel y dywed yr yspryd: Er bod pob vn a'i gle­ddyf ar ei glùn, a'u bod ôllo gedyrn Israel, Can. Sol. 3.7.

A hyn a brofir yn eglur mewn vn wers o lyfr y Psalmau: Lle y mae 'r Prophwyd wedi iddo wneuthur manwl-goffa o becho­dau y bobl, yn chwanegu dywedyd: Ac efe a ddywedasai am eu dinistrio hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig ef sefyll ar yr adwy o'i flaen ef, i droi ei lidiawgrwydd rhag eu dinistrio, Psal. 106.23.

Gwelwch wrth hyn, beth a ddichon vn gŵr ei wneuthur gyd à Duw: Rhyw vn gŵr sy'n rhwymo dwylo Duw, fel nad oes ganddo nerth i daro pan fynnei. Megis y dywedir am Lot; Ni allaf wneuthur dim­nes dy ddyfod yno. Gen. 19.22.

Ysty riwch pa wedd y dywed yr Argl­wydd, na allei efe wneuthur dim, o her­wydd na fynnei wnenuthur dim: o'r waith oddef, ac yn ewyllysgar y mae yn gadael, megis gefynnu ei ddwylo, ai rhwymo ar ei gefn, er mwyn ychydig ddynion, o ba rai y mae yn gwneuthur mwy cyfrif, nac o'r holl fyd heb ei llaw hwynt,

[Page 241]

Mor hôff ydynt ganddo, ac mor werth­fawr yn ei olwg ef. Yr vn ffunyd scrifen­nedig yw, fod yr Arglwydd yn ddigllon tros ben wrth yr Israeliaid am y llôaur â wnaethant yn Horeb: Er hynny, ni allei efe wneuthur dim, o herwydd na adawei Moses iddo: Ac am hynny y mae efe yn ymbil a Moses ar adael iddo lonydd, ac nad eiriolei mwyach dros y bobl. Yn awr (medd yr Arglwydd wrth Moses) gad i mi lonydd fel yr enynno fy llêd yn eu herbyn, ac i difethwyf hwynt, Exod. 32.10.

Felly ni â welwn, onid â Lot allan o'r ddinas, ac oni âd Moses iddo lonydd, nad yw efe yn gallu gwneuthur dim.

O ddyfnder, ac vchder trugaredd Dduw tu ag at ddyn: O vchder, a dyfnder, hŷd, a llêd ei gariad ef tu ag at rai.

Oh pan wnai y Gogoneddus, ar Anwe­ledig Dduw gymmaint cyfrifo feibion dy­nion. Canys pa beth yw dyn iddo ef i'w goffau? neu fâb dyn pan wnai gyfrif o ho­naw?

Moeswch i ni, y rhai ydym gofiad-wyr yr Arglwydd, ymroi na adawon iddo na gorphwys, na llonyddwch, hyd oni cha­flom ganddo ryw siccrwydd diymmod, y trŷ efe ymmaith oddiwrthym y digofaint, yr hwn o wir gyfiawnder â haeddasom; yr arbed efe nyni, ac y trugarhâ wr­thym.

[Page 242]

Je. ac fel y dywed y Prophwyd: Na roddwch ddist awrwydd iddo, hyd oni siccr­hao, Esay 62.7. ac hyd oni osodo Ierusalem yn foliant ar y ddaiar. Rhag o ddiffyg hyn, rhoddi i'n herbyn ni, y peth â roddwyd yn erbyn rhai or Prophwydi yn Israel: eu bod yn gyffelyb i'r llwynogod yn y diffaethwch, na chodasant i fynu yr adwyau, ac na chauasant y cae i dŷ Isracl, Ezec. 13.4.5.

Eithr yn y dyddian hyn, sywaeth, y mae llawer yn torri adwyan, ond nid oes nemmawr yn cau adwyau: Llawer yn agoryd adwyau, i ollwng i mewn lifeiriant digofaint Duw ar ein gwarthaf, eithr ychy­dig yn ceisio drwy wir edifeirwch, cau yr adwy, a gostwng y fflodiard, i attal oddiwr­thym lif-ddyfroedd dialedd Duw, fel na 'n goddiwedder ganddynt.

Phila.

Yr awrhon yr wyfi yn gweled yn amlwg fod rhai mewn cymmeriad mawr gyd â Duw; ac fel y dywedwn, ym mhell yn ei lyfrau ef, lle y mae ganddo gymmaint cariad tu ag attynt a'i fod er eu mwyn hwynt yn arbed miloedd.

Theol.

Scrifennedig yw yn Niharebion Salomon: Mai y cyfiawn mewn gwlâ, â gadarnhânt orseddfaingc y Brenin: Ond y drygionus ai gwanhâ: Y geiriau yw y rhai hyn. O dynnu yr amhuredd eddi­wrth yr arian, y daw i'r gof-arian lest [...]: felly wrth dynnu yr annuwiol o olwg y Bre­nin, [Page 243]y cadarnheir drwy gyfiawnder ei orse­ddfa of, Dihar. 25.4, 5.

Ac mewn man arall y dywed y gŵr do­eth, fod y cyfiawn yn gadernid, ac yn am­ddeffynfa dinasoedd. trefi, a chaerau: Ond y drygionus sy yn gwanhau, ac yn anrheithio y cwbl. Dynion gwatworus (eb efe) a ddifethant ddinas; ond y doe­thion â droant ymmaith ddigofaint, Dihar. 29 8.

Godidog ir ystur hwn yw ymadrodd Eliphas yn Job. Y diniwed ei ddwylo â warcda yr ynys, Job. 22.30. a thrwy lendid dy ddwylo di, y gwaredir hi. Darllain yr ydym yn llyfr y Cronicl: Pan fwriodd Ieroboam allan y Lefiaid, ar Offeiriaid, hwy â dda­ethant i Ierusalem: A'r rhai ôll â osoda­sant eu calonnau i geisio Arglwydd Dduw Israel, a ddaethant gyd a hwynt. Ac yna yn ôl hynny y dywedir: Hwy a gadarn­hausant frenhiniaeth Iuda, ac a nerthasant Rehob [...]am mab Salomon, 2 Cronic. 11.14, 16, 17.

Wrth yr holl destiolaethau hyn y mae yn eglur fod. Tywysogion, dinasoedd, Trefi, a Phentrefi yn cael cadernid, a chryfder oddiwrth y cyfiawn a drigant ynddynt, ac er eu mwyn hwynt hefyd, yr attelir dia­leddau mawrion oddiwrthynt. Yr hyn beth â ganfu vn or cenedloedd, fel y mae yn amlwg wrth ei eiriau: Sef Pan fwriado [Page 244]Duw ddaioni i ddinas, a gwneuthur llesâd iddi, yna y gesyd efe wŷr da ynddi: Ond pan osodo efe ei frŷd ar gospi dinas, neu wlâd, a gwneuthur iddi ddrŵg, yna y tynn efe ymmaith y rhai da o honi.

Phila.

Digon eglur yw'r cwbl â ddy­wedasoch, fod yn well i'r drygionus bob dydd yn y flwyddyn, er mwyn y du­wiol a drigant yn eu plith.

Theol.

Ny ni â welwn hynny wrth ein adnabyddiaeth ein hunain, a'r Scrythyrau sy hefyd yn cadarnhau y peth yn ddiogel. Canys oni bu well i'r taiog Laban er mwyn ei nai Iacob? Gen. 30.29. Oni chydnabu efe ddarfod i'r Arglwydd ei fendithio ef er mwyn Ia­cob? Oni chafodd Potiphar well llwy­ddiant ar bob peth â feddei er mwyn Io­seph dduwiol? Onid yw'r Scrythyrau yn tystio i'r Arglwydd fendithio tŷ yr Aipht­ŵr er mwyn Ioseph? Ac i'r Arglwydd beri i bob peth a wnelei, lwyddo tan ei law ef? Gen. 39.5.

Oni chafodd Obed-Edom fwy llwyddi­ant, a ffynniant ar bob peth a feddei er mwyn yr Arch? a Sam. 6.11. Oni achubwyd er mwyn Paul, yr vn ar bymtheg a thrugain a daucant o eneidiau, y rhai oeddent yn y llong gyd ag ef? Oni ddywedodd Angel yr Arglwydd wrtho o hyd nos, roddi o Dduw iddo ef y rhai oll oeddent yn y llong gyd ag ef? Act. 27.24.37. Canys oni buasai hynny mîli vn [Page 245]y boddasid hwynt oll. Am hynny, cym­mwys y gellir cyffelybu plant Duw i ddarn mawr o gorc, yr hwn er ei daflu i'r môr, a llawer o hoelion wedi eu taro ynddo, etto a gynnal i fynu ar wyneb y dwfr, y cwbl oll fel na suddont, y rhai oni bai'r corc, a bwysent i'r gwaelod o honynt eu hunain.

Gan hynny pa beth á ddywedwn, a pha beth a gasclwn oddi ymma, ond bod yr annuwiol yn fwy rhwymedig i'r cyfiawn, nac y maent yn gwybod.

Phila.

Yr wyfi yn meddwl y bydde caled iawn ar y drygionus oni bai blant Duw. Oblegit pe baent wedi eu didoli a'u holîo allan o'u mysc hwynt, ac wedi eu go­sod ar y naill du arnynt eu hunain, beth â allent hwy ei ddisgwyl am dano, ond digofaint ar ddigofaint, a dialedd ar ddia­ledd, hyd oni lwyr ddifethei yr Arglwydd hwynt, a'u yscubo ymmaith fel llwch oddiar wyneb y ddaiar.

Theol.

Diau y cuchiei yr holl greadu­riaid arnynt: yr haul a fyddei anfodlon i lewyrchu, ar lleuad i roddi goleuni iddynt. Y sêr a ymguddient rhagddynt, ac nid ymddangosai y planedau iddynt. Y bwystfilod a'u difethent, ar ehediaid a dynnent eu llygaid: Y pŷsc a ryfelent iw herbyn, a'r holl greaduriaid yn y Ne­foedd, ac ar y ddaiar a gyfodent yn ar­fogion [Page 246]iw gwrthwynebu. Ie yr Arglwydd ei hûn o'r Nefoedd â lawiei dân, a brwm­stan arnynt.

Phila.

Etto er hyn i gyd, peth rhyfedd yw ystyried pa ddygn gâs sydd gan y dry­gionus i'r cyfiawn; a pha fodd y maent ym mhôb peth yn ymosod yn eu herbyn; a hynny yn llidiog tros ben, ac yn atcas. Ymgeinio, ac enllibio a wnânt; eu gw­awdio, a'u gwatwor, eu diystyru, a'u min­gammu megis pe na baent deilwng i fyw ar y ddaiar. Hwy a wnânt fwy cyfrif o bob coegwr diflas, ac a gymmerant bob gwael diffeithwas o'u blaen hwynt. Ac er eu bod yn cael eu bywyd, a'u rhydd­did, eu hanadl, a'u diogelwch a pheth bynnac arall a feddant, drwyddynt hwy: etto er hyn i gyd, hwy a glywent arnynt eu bwytta yn fyw; mor gynnwynol, mor danllyd, mor frŵd, ac mor burboeth yw eu cynddaredd, a'u drwg-fwriad i'w herbyn.

Theol.

Cymmwys y gellid eu cyffelybu hwynt i'r gwyfyn yr hwn a fradwya yn dy­llau, y brethyn y mager ef ynddo: Neu i ryw bryfyn sy'n tyll-gnoi, ac yn yssu trwy galon y pren y mager ef ynddo, ac sydd yn ei borthi.

Neu i ddyn yn sefyll ar gangen ym mrîg pren, lle nid oes ond honno yn vnig; ac e [...] hynny â yscythrei honno a bwyall, ac [Page 247]ar hynny, a gwympiei i'r llawr gyd â hi, ac a dorrei ei wddf: yr vn ffunyd, ffyliaid y byd yma â wnânt eu goreu i dorri i lawr y gangen a'u cynhalio, ond hawdd iddynt wybod beth a ddaw yn ôl hynny.

Phila.

Mi a welaf yn amlwg eu bod yn elynion iddynt eu hunain, ac yn sefyll yn eu goleu eu hunain; a diau na wyddant beth y maent arno. Canys tra rhagorol yw y llesad a dderbynniant oddiwrth y cyfryw. Ac am hynny, o'u dirmygu hwynt, beth amgen a wnânt onid dal y warthafl i'w destruw eu hunain.

Theol.

Bellach i gymhwyso y pethau hyn attom ein hunain, ac i ddychwelyd yn ôl at y cwestiwn cyntaf o'r ym resymmiad yma; onid oes le i ryfeddu fod ein gw­ladwyr ni yn cael eu harbed cyhyd o amser, wrth synnied fod ein pechodau ni mor anguriol, ac mor gynhwynol ac y maent?

Phila.

Da y gallwn ryfeddu am anfei­drol ammynedd Duw, ac fe ellir tybied yn hydda, fod rhai yn y wlâd yn sefyll ar yr adwy, drwy fod mewn cymmeriad nid bychan gyd a'i fawredd ef, ger bron yr hwn y maent yn cael eu gwrando.

Theol.

Trugarog ymddeffynniad ein grasufaf frenin (yr hwn yw megis anadl ein ffroenau) cynhaliad hîr heddwch, a'r Efengyl yn ein plîth: Attal oddiwrthym [Page 248]allan o'n gwlâd y cleddyf (sef rhyfel) yr hwn y mae ein pechodau yn ei dynnu ar­nom: Afrwyddo llawer o ddrwg-fwria­dau, a chynllwynion ystrywgar, y rhai a ddychymygwyd yn fynych yn erbyn ein teyrnogaeth, ie ac yn erbyn enioes Maw­rhydi ein Brenin, dymma'r pethau a bair i ni dybied fod rhai dadleuwyr taerion yn ymbil a Duw dros ein cyffredin ddaioni ni bawb oll.

Phila.

Iawn y gellwch dybied hynny. Canys nyni a haeddasom (ac yr ydym yn haeddu beunydd (o herwydd ein pechodau golli ein Brenin, ein gwlâd, ein heddwch, ein efengyl, ein enioes, ein da, ein tiroedd, ein bywyd, ein, gwragedd, ein plant, a phob peth a feddwn: eithr y cyfiawn yn vnig (y rhai ydynt cyn nessed at y Brenin nefol ac mewn cymmeriad nid bychan gyd ag ef) hwynt hwy ydynt yn taro i mewn, ac yn taer-eiriol trosom am faddeuant o'r peth­au a haeddasom eu colli, ac ar gael o ho­nom aêd am danynt drachefn, neu o'r hyn lleiaf addewid o amser hwy iw mwynhau.

Eithr attolwg Syr, oni allwn ni fwrw, fod llawer o'n llwyddiant ni yn digwyddo drwy gyfrwys-bwyll ein gwlâd, a'n cyfrei­thiau gosodedig, a thrwy ddoethineb a chy [...]gor ein Rheol-wyr synhwyrol-gall.

Theol.

Gallwn yn dda iawn, megis mo­ddion cyffredin, a chyfryngau oddiallan, [Page 249]y rhai á drefnodd Duw er mwyn ein cad­wedigaeth ni.

Canys er cael or Apostol Paul gêd gan Dduw am ddiogelwch ei enioes ei hûn, ac am y sawl oll oedd ynt gyd ag ef yn y llong; etto efe a ddywedodd: Act. 27.31. O nid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gad­wedig. Gan ddangos i nî wrth hynny, fod yn rhaid cyssylltu y moddion goreu, ar cyfryngau deheuaf at ffydd, a gweddiau.

O herwydd hyn, ar dâl ein gliniau y dylem ni roddi diolch i Dduw bob dydd, am y cyfryw foddion cymmwys o'n dioge­lwch, ac â roddes efe i ni.

Phila.

Gan hynny, megis hyd yn hyn y bu gweddiau y cyfiawn yn gyfryngau godidog i rwystro attom, ac i droi heibio oddiwrthym ddigofaint Duw, ie ac i'n cynnal mewn cymmeriad gyd a Duw: felly dangoswch, adolwyn, pa ffordd gym­mwysaf a gymmerir, a pha beth mewn iawn synnwyr a wneir, yn gystal i ochelyd peryglon cyffelybus i ddigwyddo, ac i gyn­nal ffafor, a thrugaredd Dduw i barhau rhag llaw tu ag attom.

Theol.

Y ffordd ddeheuaf, a diogelaf a fedrafi ei dirnad i hyn, yw edifeirwch o'n calonnau am ein pechodau o'r blaen, a gwellhau ein buchedd o hyn allan: Ceisio yr Arglwydd tra y caffer ef, galw arno tra ŷddo yn agos.

[Page 250]

Ymwrthod a'n ffyrdd ein hunain, ac a'n dychymmygion ein hunain, ac ymchwelyd atto ef a'n holl galonnau, mewn wylofain ympryd, a galar, fel y cynghora y Proph­wyd Joel: Canys graslawn, a thrugarog yw ein Duw ni, hwyr-frydig i ddigofaint, ac aml o drugaredd, ac edifeiriol am ddrwg. Joel 2.

Yr holl Brophwydi a'n cynghorant i ganlyn y ffordd hon, ac a'n dyscant yn hys­pys, os nyni oll (or mwyaf hyd y lleiaf) a ddeuwn at yr Arglwydd ag edifeirwch di­ledrith gennym: os offrymmwn iddo ef a­berth yspryd drylliedig, yna nid rhaid ammeu na chymmoda efe a ni, ac efe a drugarhâ wrth ein camweddau.

Dymma'r peth a osodir i lawr yn eglur yn y seithfed o Jeromi, lle y dywed yr Ar­glwydd fel hyn wrth ei bobl. Os gan well­hau y gwellewch eich ffyrdd, a'ch gweithre­doedd: Os gan wneuthury gwnewch farn rhwng gŵr ai gymmydog, Jer. 7.5, 6. ac na orthrym­mwch y dieithr yr ymddifad, a'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y fan hon, ac na rodiwch ar ôl duwiau dieithr i'ch niwed eich hûn, yno y gadawaf i chwi drigo yn y fan hon, yn y tîr â roddais i'ch tadau chwi yn oes oesoedd.

Felly hefyd y dywed yr un Prophwyd Gwnewch farn a chyfiawnder, â gwaredwc y gorthrymmedig o law y gorthrymwr, n [Page 251]thristewch, ac na threisiwch y dieithr, yr ymddifad, na'r weddw, ac na thywelltwch waed gwirion yn y lle hwn. Canys os gw­newch y pethau hyn, daw drwy byrth y tŷ hwn frenhinoedd yn eistedd ar deyrn­gadair Dafydd, yn marchogaeth ar gerby­dau, ac ar feirch, efe ai weision, a'i bobl. Jer. 22.3, 4, 5.

Drachefn, Ymchwelwch feibion gwrth­nyssig, Jer. 3.22. ac iachaf eich gwrthnyssigrwydd chwi: Hefyd yr Arglwydd a ddywed drwy 'r Prophwyd Esay: Os mynnwch, ac os gwrandewch, daioniy tîr a fwyttewch, ond os gwrthodwch, ac os anvfyddhewch, a chleddyf i'ch yssir, canys genau yr Arglwydd a lefarodd, Esay 1.19.

Y Prophwyd Hosea a ddywed. Deu­wch a dychwelwch at yr Arglwydd, canys efe a sclyfaethodd ac efe a'n iachà ni: efe a darawodd, ac a'n meddiginiaetha ni. Hos. 6.1.

Drachefn: Dychwel Israel at yr Argl­wydd dy Dduw, canys ti a syrthiaist drwy dy anwired dy hûn. Meddiginiaethaf eu ymchweliad hwynt, car af hwynt yn ewyllys­gar, canys trôdd fy nîg oddiwrtho. Byddaf fel gwlîth i Israel, efe a flodeua fellili, ac a leda ei wraidd megis prennau libanus: ei geingciau a gerddant, bydd ei degwch fel [...]r olewydden, ai arogl fel Libanus. Hosea 13.13.

[Page 252]

Y Prophwyd Micah â dywed: Beth sydd dda i ni, a pha helynt orau i ni. A pheth y mae yr Arglwydd yn ei ofyn gennym, sef y pedwar peth hyn. Gwneuthur barn, hoffi trugaredd, ymostwng, a rhodio gyd a Duw. Mic. 6.8.

Yr vn fâth gyngor a ddyry y Prophwyd Amos. Ymgeisiwch a daioni, ac nid a drygioni, fel y byddoch byw: Casewch ddrygioni, a hoffwch ddaioni, a gosodwch farn yn y porth: Amos. [...]. 3.14.15. gallei Arglwydd Dduw y lluoedd fod yn raslawn i weddill Joseph. Ar Arglwydd ei hûn à ddywed: Os y genhedlaeth hon yn erbyn yr hon y lleferais, a drŷ oddiwrth ei drygioni, myfi à edifarhà am y dialedd a fwriedais ddwyn i'w her­byn. Ier. 18.1.

Mal hyn nyni â welwn yn amlwg pa rybuddion, pa gynghorion a rŷdd y Prophwydi, a gwŷr sanctaidd Duw. Ystyriaeth y cwbl yw hyn; os nyni a wir edifarhawn, ac a ddychwelwn atto ef a'n holl galonnau, (gan wneuthur egni i vfy­ddhau iddo, ac i rodio yn ei ffyrdd ef) yna y dengis efe bob caredigrwydd a ddy­munem ar ei ddwylaw ef.

Canys megis y bydd sachau gwlân, a'r cyffelib ddefnyddiau ymrôus, a meddal, yn tagu, ac yn gwrth-droi dyrnodiau, neu ergydion gynnau nerthol: Felly y mae calonnau edifeiriol drwy doddi [Page 253]oddifewn, ac ymroi yn hynaws, yn curo, ac yn gyrru yn ei wrth-gefn, ergyd digo­faint Duw, gan droi yn ôl ei ddialedd ef oddiwrthym.

Heb law hyn, nyni â allwn weled mai peth arferol yw: Pan ddigio pendefig, neu pan sorro rhyw ŵr mawr wrth ddy­nan tlawd, rhaid yw i'r truan redeg a mar­chogaeth, danfon anrhegion, a gwneuthur cyfeillion ar ei blaid; colli ei gyscu, ac er dim na orphywyso nes cael ei gymmod: Ac felly y mae yn rhaid i ninnau wneuthur a'n Duw, gan iddo ddigio wrthym. Oh na wnaem ni ein gorau ym mhôb modd, a hynny ar frŷs, ac yn ddioed iw ddiddigio ef. O nad ymostyngei pob vn o honom (or mwyaf hyd y lleiaf) ac ymroi bawb ag vn galon, ac ag vn genau oflaen ein Duw: Gan ymadael a'n ffyrdd anwire­ddus o'r blaen. O na thristaem am yr hyn a wnaethom, ac na fwriadem yn ddiyscog ymgadw yn ofalus rhag gwneu­thur y cyffelyb byth mwy drachefn. O na ddwys-bigid ein calonnau am ddarfod i ni cyn fynyched, ac mor ddirfawr anfodloni Duw mor garedig, a Thâd mor drugarog ac ydyw ein Duw ni. Oh na dd [...]ffroem ni o'r diwedd, drwy gyfodi i fynu ein calonnau cyscadur, a chwalu ein cydwy­bodau hwyrdrymmion, gan lefain yn grôch yn erbyn ein pechodau, fel na [Page 254]lefei ein pechodau i'n herbyn ni, byth mwyach.

O na baem ni yn ein cyhuddo ein hunain, ein [...]itio ein hunain, ein barnu ein hunain, ac yn ein condemnio ein hunain, fel na'n cyhuddid, na'n titid, na'n ber­nid, ac na'n condemnid byth gan yr Argl­wydd.

O na bai pob calonnau yn ochneidio, pob eneidiau yn griddfan, pob lwynau wedi eu taro a thristwch, pob wynebau yn casclu parddu, a phob dyn yn ei daro ei hûn ar ei forddwyd, gan ddywedyd, pa beth a wneuthym? O na bai y llywodraeth­wyr, yr Eglwyswyr, a'r cyffredin wyr, yn bwriadu, ac yn addunedu, ie yn ymosod, ac yn ymwneuthur o'r dydd heddyw allan, i geisio yr Arglwydd au holl galonnau, gan ymroi yn gwbl i ddangos iddo bob vfydd­dod.

O na bai yr holl wyr, a'r gwragedd a'r plant, yn ofni Duw, ac yn cadw ei orchy­mynnion, yn cilio rhag drŵg, ac yn gw­neuthur da; yn gofalu am fodloni Duw ym mhôb peth, gan wneuthur cydwybod o gyflawni dyled-swydd eu galwedigaeth neillduol: Dylêdion y llêch gyntaf or gyfraith, a dylêdion yr ail llêch: M [...]l felly y ♀ wasanaethid Duw yn ddiragrith, y perchid ei enw ef yn ddiffuant, y cedwid ei Sabothau yn grefyddol.

[Page 255]

Ac oh na wnai pob dŷn garedigrwydd, trugaredd, cyfiawnder, ac vniondeb a'i gymmydog, fel na bai na chwynfan, na llefain yn ein heolydd: O meddaf dra­chefn, a thrachefn na baem ni oll (o ba r [...]dd, neu gymmeriad, neu gyflwr bynnac y baem) yn rhodio yn llwybrau ein Duw, yno diau y caem fyw, a gweled dyddiau da, y caem ddiangc rhag pob enbydrwydd i ddy fod; y caem hir fyw mewn heddwch, cadarnhau ein llywodraeth, mwynhau ein Brenin yn iach-lawen, a'r E [...]engyl i bar­hau rhag llaw gyd â ni. Yno y caem estyn ein henioes, ffyniant ar ein da, ein tiroedd, ein cynhaliaeth, ein teiau, ein tyddynnod, ein gerddi, ein perllannau: Y caem lawe­nydd o'n gwragedd, a'n plant, ac fel y dywed y Prophwyd, ni a gaem fwytta bra­ster y tîr, gan dreulio ein dyddiau mewn mawr ddiddanwch, heddwch, a llonydd­wch, a gadael bendithion helaeth, a di­andlawd ar ein hôl i'n plant, a'n hwy­rion, o oes i oes, o genedlaeth i gened­laeth.

Phila.

Chwi â attebasoch yn helaeth i'm gofyn i, ac am bodlonasoch am hynny allan o'r Scrythyrau, yn dda dros ben: er hynny rhoddwch i mi gennad, attolwg, i chwanegu vn peth at yr hyn â adrodda­soch chwi yn helaeth.

Yr Arglwydd a ddywed drwy'r Proph­wyd [Page 256] Amos: Mai am eu pechodau, a'u cyndynrhwydd y rhoddes efe iddynt len­did dannedd, sef drudaniaeth, a phrinder, ac er hynny na ddychwelasant atto ef: Hefyd efe a luddiodd iddynt gael glaw, [...]os 4.7. ac a'u cospodd a sychder, ac etto ni ddychwe­lasant atto ef. Hefyd efe a darawodd eu hŷd, a'u haml erddi, eu perllenni, eu gwinllannoedd, eu ffigus-wydd, a'u ole­wydd, a diflanniad, ac a mallder, a'r lindis a'i hyssodd hwynt, ac etto ni ddych­welasant atto ef. Yn ddiweddaf efe a'i tarawodd hwynt a haint, ac a chleddyf, ac a'i dinistriodd, fel y dinistriodd Sodom, a Gomorrah, ac yr oeddynt fel pentewyn wedi ei achub o losci, etto er hyn ni throe­sant atto ef, nid ymchwelasant attaf fi medd yr Arglwydd.

Eithr bellach ar y pwngc. O'r cwbl oll yr wyfi yn casclu hyn: Sef os ryni a amlhauwn ein camweddau, Duw ynteu â amlhà ei ddialeddau: Eithr yn y gwrth­wyneb, os trown ni yn ddiledrith at yr Arglwydd ein Duw a'n holl galonnau, pob dialeddau â attelid oddiwrthym, pob enbydrwydd â ragflaenid, a dim niwed ni ddigwyddei i ni. Pe dychwelasent ni tharawsei efe hwynt, ond o herwydd na ddychwelent efe ai tarawodd.

E thr bellach adolwyn, diweddwch y pwngc hwn, a mynegwch ar ychydig eriau, [Page 257]ar ba beth y mae ein heddwch, a'n llwydd­iant cyffredin ni yn sefyll arno yn bennaf.

Theol.

I'm tŷbi i, yr ychydig bethau hyn sy'n canlyn a berthyn i'n heddwch, ac nid amgen.

Dlaled Salomon ar Ioab, a Simei.

Lladded Ahab, ac Elias Brophwydi, ac offeiriaid Baal.

Gwasanae [...]h [...]d Aaron, ac Eleazar o flaen yr Arglwydd yn ffyddlon.

Bwrier Ionas allan o'r llong.

Safed Meses ar yr adwy, ac na ostynged ei ddwylo.

Llywodraethed Iosuah yn ei lê ef.

Ofned Cornelius Dduw ynghyd ai holl deulu.

Bydded Tabitha yn llawn o weithredo­edd da, ac elusenau.

Bydded Debora tros hir amser yn barnu Israel, llwyddianned, a buddugo­liaethed.

Gweddiwn bawb na ddiffodder cannwyll Israel.

A hyn yn fy meddwl i, yw crynodeb y pethau a berthynant i'n heddwch a'n flyn­niant ni.

Phila.

Y styriaeth ein holl ymddiddan ni hyd yma, a ellir ei grynhoi, hyd yr wyfi yn cofio, i'r ychydig byngciau hyn.

Yn gyntaf, naturiol lygredigaeth dŷn a yspyswyd.

[Page 258]

Yn ail, y ffrwythau gwenwynig fy yn [...]yfu oddiwrtho.

Yn drydydd, drŵg ddigwyddiadau y rheini: Au gweithrediadau halogedig yn erbyn ein eneidiau, ein cyrph, ein cyfo­eth, ein geirda, ac yn erbyn ein hell wlâd.

Yn olaf, yr ymwared, neu 'r cyphyriau meddiginiaeth yn erbyn y cwbl. Bellach mi â ewyllysiwn dynnu at ryw ddiben am y peth y soniasoch am dano ar y ffordd, fef arwyddion iechydwriaeth, a damnedi­gaeth. Mynegwch i ni yn hyspys, à ellir dirnad yn eglur yn y byd ymma, wrth arwyddion ansiommedig, ac argoelion hy­nod, gyflwr enaid dyn o flaen Duw?

Theol.

At y rhai â grybwyllwyd or blaen, nyni â allwn chwanegu y naw hyn fy'n canlyn.

Parch ar enw Duw.
Naw ar­wydd o enaid holliach.
Cadw ei Sabothau.
Gwirionedd.
Sobrwydd.
Diwydrwydd.
T [...]sturi.
Gostyngeiddrwydd.
Diweirdeb.
Bodlonrhwydd.
Phila.

Cyfaddef yr wyf am y rhain, eu bod yn arwyddion da, ond er hynny nid [Page 259]ydynt oll yn sicer: Canys fe ddichon rhai o honynt fod mewn dynion gwrthodedig.

Theol.

Beth a ddywedwch chwi wrth arwyddion Saint Petr: 2 Petr. 1.5.6.7. Y rhai a osodir yn y bennod gynt af or eilfed Epistol: Sef, yr wyth hyn.

Ffydd.
Rhinwedd.
Gwybodaeth.
Cymmedroldeb.
Ammynedd.
wyrh ar wydd St Petro iechyd­wriaeth.
Duwioldeb.
Caredigrwydd brawdol.
Cariad.

Saint Petr â ddywed, os byddwn ar pethau hynny cennym, ac yn aml hwynt, 2 Pet. 1 8. peri a wnànt na bòm na diffrwyth, na segur yngwybodaeth ein Harglwydd Iesu Grift: yr hyn sy gymmaint a phe dywe­dasei: hwy a'n gwnánt ni yn gwbl-iachus, ac yn ddiragreithus Broffesswyr yr Efen­gyl.

Phila.

Yr wyf yn cyfaddeu fod y rhain oll yn arwyddion didwyll, ac yn siccrwydd anhybus o iechydwriaeth dŷn: Ond etto fe ddichon rhai o'r rhain ein twyllo: Am hyn­ny myfi á ewyllysiwn glywed gennych sic­crwydd anwrtheb, ac ansiommedig, y cyfr­yw ac nas gallo vn cyfreithwr gael twll yn­ddo, na lle i feio arno. Canys yr wyf fi yn [Page 260]meddwl y dichon y Pregeth-wr duwiol­ddysc iawn-farnu am siccrwydd yr etife­ddiaeth Nefol; yn gystal ac y dichon y cyfreith wr deddfol-ddysc roddi barn am scrifennadau, a meddianau vchelwriaeth fydol.

Theol.

Gwir yw hynny. Ac myfi á fynnwn pe dygei holl bobl yr Arglwydd siccrwydd eu iechydwriaeth ger bron iw gweled fel y gallem eu adnabod.

Phila.

Moeswch glywed gan hynny pa rai yw yr arwyddion diamheuaf, ac ansi­ommediccaf o iechydwriaeth dyn: yn erbyn y rhai nid oes le i ddadleu, ac ni ellir eu hybu.

Theol.

Yr wyf fi yn cymmeryd y rhai hyn yn arwyddion difregusaf, a diamheu­af: nid amgen:

Ffydd ddiogel yn addewidion Duw.
Arwy­ddion ie­chydwr [...] ­aeth.
Purdeb calon.
Y spryd mabwysiad.
Adenedigaeth gwbl-iach, a sanctei­ddiad.
Heddwch cydwybod.
Cadarn-wraidd mewn gwirionedd.
Parhau hyd y diwedd.
Phila.

Yr awr'hon y daethoch yn agos at y byw: Canys, yn fy marn i, ni ellir cael yr vn o'r rhai hyn mewn vn-dŷn gwrthodedig. Ac am hynny yr wyfi yn tybied, na ddichon vn Pregethwr lysu yr vn or arwyddion hyn.

Theol.

Na ddichon yn wir: mwy nac y dichon cyfreith-wr feio ar fraint tîr, ac vchelwriaeth, pan fyddo 'r cyfiawnder yn dda, ac yn ddichlin wrth gyfraith, a'r siccrwydd wedi ei selio, a gosod henwau wrtho, ei dderbyn gan y pwrcaswr, a di­gon o dystion wrtho, pan fyddo meddiant wedi ei roddi, a phôb perthynas am ben hyn wedi ei gyfiawni wrth rêol, a threfn cyfraith.

Canys pwy bynnac sydd ganddo y rhinweddau vchod, sydd ddigon da, a diogel [...]i hawl, ai fraint i'r nefoedd, wrth gyfraith Moses a'r Prophwydi, Act. 16 31. Jo. 1.41. Rhuf. 8 14. ac 5 1 1 Thes 4 15. Col. 1.23. Mat. 24 13. sef gwir air Duw. Duw ei hùn a roes ei law wrth ei siccrwydd ef: Crist Iesu ai traddododd megis ei weithred ei hûn: yr yspryd glan a'i seliodd: ie ar tri thŷst mawrion yn testiolaethu ar y ddaiar, (sef y dwfr, ar gwaed, a'r yspryd) ydynt gyd-tystion o'r peth.

Phila.

Fo'm bodlonwyd i yn helaeth am y pwngc hwn: Eithr yr wyfi yn casclu vn peth etto oddiwrth eich ymadrodd chwi: sef eich bod chwi yn tybied, y di­chon dyn yn y bywyd yma, fod yn gwbl siccr o'i iechydwriaeth.

Theol.

Hynny yw fy meddwl: Canys pwy bynnac ni wypo yn y byd yma, y bydd cadwedig, ni chaiff hwnnw byth fod yn gadwedig, yn ôl y bywyd yma: Canys [Page 262]medd Ioan Sanct: Yr awr hon meibion i Dduw ydym. 1 Io. 3.2.

Phila.

Etto o herwydd bod rhai yn ammeu hyn, a'r Papist yn ei wadu yn hollawl, attolwg, cadarnhewch yr athra­wiaeth hon, allan o'r Scrythyrau.

Theol.

Yr Apostol á ddywed. Nyni a wyddom, os daiarol dŷ y babell hon a ddattodir, fod i ni adeilad gan Dduw, sef tŷ, 2 Cor. 5.1. nid o waith llaw, ond tragwyddol yn y nefoedd: Deliwch sulw ar y peth á ddy­wed, sef ei fod efe ei hûn, a phawb eraill o bobl Dduw yn gwybod yn ddiogel, fod y nefoedd wedi ei pharatoi iddynt.

Canys y mae yspryd mabwysiad yn cyd­testiolaethu a'n hyspryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw. Rhuf. 8.15.16.

Drachefn yr vn Apostol á ddywed. O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder i'w­chadwi mi, yr hon â rydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn i mi yn y dydd hwnnw; ac nid yn vnic i mi, ond i bawb hefyd a garant ei ymddanggosiad ef. 2 Tim. 4 8.

Yma y gelwn ei fod efe yn gwybod, fod coron wedi ei pharatoi iddo, ac ir holl etholedigion. A'r vn-rhyw yspryd á siccr­haodd hyn i Paul, ai siccrhâ hefyd i holl blant Duw: Canys y mae ganddynt oll yr vn yspryd, er nad yw gan bawb yn yr vn mesur. S. Ioan hefyd á ddywed. Wrth [Page 263]hyn y gwyddom yr adwaenom ef, 1 Io. 2.3. os cadwn ni ei orchymynion ef. Yn yr hyn eiriau y mae Ioan S. yn dangos i ni hyn, sef os gwnawn ein goreu yn ddiragrith i vfydd­hau i Dduw, y mae ynom wir wybodaeth ac ofn Duw, ac yn ddilynawl ni á allwn fod yn siccr y byddwn cadwedig.

S. Petr â ddywed. 2 Pet. 1.10. Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth, a'ch etholedi­gaeth yn siccr. O ba herwydd y cynghorei yr Apostol i ni wneuthur ein etholedgaeth yn siccr, oni allai neb fod yn siccr o honi? Yn yr allfed at yr Ephesiaid y dywaid yr Apostol yn ddiammeu, ein bod eusys yn Ghrist Jesu yn eistedd gyd ag ef yn y nefo­lion leoedd. Ei feddwl ef yw, nid ein bod ni yno eusys mewn meddiant, ond ein bod ni mor siccr o honaw, a phe baem yno eusys

Y rhesymmau yw y rhai hyn. Io. 12.32. Y mae Christ ein pen ni yno mewn meddiant, am hynny efe a dynn ei holl aelodau atto megis y dywedodd. Io. 14.13.

Yn ail, y mae cyn siccred i ni gael y peth yr ydym yn ei obeithio, ar peth yr ydym yn ei feddiannu; eithr yr ydym yn siccr or peth a feddiannwn, sef gweithrediad grâs, am hynny yr ydym yn siccr or peth a ddisgwyliwn, yr hyn yw coron y gogoniant. Llawer o fannau eraill or Scrythyrau sanctaidd â ellid eu dwyn i'r [Page 264]perwyl yma, ond yr wyf yn tybied mai digon yw hyn.

Phila.

Fel y dangosasoch hyn or Scry­thyrau: felly dangosw [...]h yn eglurach etto wrth reswm, allan o honynt.

Theol.

A ddichon dyn mewn gwirio­nedd alw Duw yn dâd iddo, (pan ddywedo, ein Tad yr hwn wyt yn y nefoedd) ac er hynny ammeu â ydyw efe yn dâd iddo, ai nad yw? Canys os yw Duw yn dâd i ni, â ninneu yn blunt iddo ynteu, pa fodd y byddwn colledig? pa fodd y gellir e [...]n condemnio? A gondemnia Tâd ei blant ei hûn? Na wna, na wna. Rhuf. 8.1.33, 34.

Nid oes damnedigaeth ir rhai ydynt yng-Hrist Iesu. A phwy a rŷdd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r hwn sydd yn cyfiawnhau, pwy yw'r hwn sydd yn damnio? Gan hynny siccr, a diolegel yw y bydd cadwedig pawb ar â alwant Dduw yn dâd iddynt mewn gwirionedd, pawb ar â gymmerant Dduw yn dâd.

Drachefn, pa fodd y gall dyn ddywedyd mewn gwirionedd ei fod yn credu ma­ddeuaint pechodau, ac etto ammeu a fydd efe cadwedig? Ymhellach cyn siccred ac y gwydd [...]m ei'n bod wedi ein galw, a'n cyfiawnhau, a'n sancteiddio, y gwyddom hefyd y cawn ein gogeneddu: Ond nyni â wyddom y naill yn ddiammeu, am hynny y gwyddom y llall.

Antil.

Ni choeliaf fi byth y dichon neb wybod yn siccr, yn y byd yma, pa vn â fydd efe, ai cadwedig, ai colledig: Eithr rhaid i bawb obeithio'r goreu, a bod o grediniaeth dda.

Theol.

Nagê, rhaid yw myned ym mhellach na gobeithio 'r goreu. Ni wa­sanaetha i ni osod sail ein iachawdwriaeth ar obeithion ansiccr.

Megis pe gobeithiei vn, y bydd y foru yn ddiwrnod têg, ond ni ŵyr yn hyspys. Nagê rhaid i ni yn yr achos yma, ac ynteu or cyfryw bwys anfeidrol ag y mae, gael rhyw siccrwydd, ac yspysrwyd ddiymmod. Nyni a welwn, mai anhawdd gan ddynion bydol-feddwl ddal eu tiroedd, a'u cym­meriadau, a gwan-afael heb ganddynt ddim i ddangos am danynt.

Nid ymddiriedant i rywiogeiddrwydd [...]u meistred-tîr, gan aros, a disgwylyn vnig wrth eu ewyllys da hwynt. Ni-rônt mo [...] hyder ar obaith ansiccr. Na wnânt ddim, y maent yn gallach na hynny. Oble­git y mae plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth, na phlant y goleuni. Luc. 16.8. Hwy â synnant yn ddigellwair ryw beth iw ddan gos, ac ai mynnant tan sel. Nid ymddi­riedant ir cyllidwyr duwiolaf, a gonestaf. Ni fedrant ymlonyddu na bod yn esmwyth nes cael siccrwydd mewn dû a gwyn, a hynny drwy'r cyngor goreu â fedro'r cy­freithwr [Page 266]cyfarwyddaf ynghyfraith y deyr­nas, ei dynnu iddynt.

A ydyw plant y byd hwn cyn galled yn y pethau gwael hyn, ac oni byddwn ni mor gall â hwythau mewn materion mwy o bwys, a mîl o weithiau yn rhagori ar­nynt? A ydynt hwy mor gall am y ddaiar, ac oni byddwn ni callach am y Nefoedd? A yddynt hwy cyn galled am eu cyrph, ac oni byddwn ni call am ein eneidiau? A ddaliwnni fraint ein etifeddiaeth anfar­wol, wrth ein gobaith dda, ac heb gynnym, nac scrifennadau, na siccrwydd, na sêl, na thystion, na dim iw ddangos am dano? Och fi, nid yw hyn ond hawl wan, braint ser­syll, a gafael ansiccr.

Asune.

Etto er hyn ei gyd, ni ddichon dyn fod yn siccr.

Theol.

Dichon, fe â ddywaid Ioan Sant y gallwn fod yn siccr. 1 Joan 4.13. Canys medd efe? Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntef ynom ninneu, am ddar­fod iddo roddi i ni o'i yspryd. Nid yw efe yn dywedyd, yr ym ni yn gobeithio, ond nyni â wydd [...]m yn hyspys. Oblegit pwy by­n [...]ac sydd ganddo Yspryd Duw, â ŵyr yn hyspys ei fod ef ganddo. A'r nêb sydd gan­ddo ffydd â ŵyr fod ganddo ffydd. A' [...] neb a fyddo cadwedig a ŵyr y bydd cadwedig.

Canys nid ydyw Duw yn gweithio yn­ghalonnau dynion drwy ei Yspryd mor [Page 267]ddirgel, ac na allant wybod yn hawdd â ydynt o honaw ef, a'i nad ydynt, os myn­nant wneuthur prawf o hynny. Drachefn, yr vn Apostol â ddywed, 1 Io. [...].10. Yneb à gredo ym màb Duw, sydd ar destiolaeth ynddo ei hûn. Hynny yw, y mae ganddo yn ei gydwybod ei hun destiolaeth ddiymmod y bydd efe cadwedig. Oblegit rhaid yw i ni gyrchu siccrwydd ein iachawdwriaeth, allan o honom ein hunain, sef oddiw [...]th waith Duw ynom.

Canys pa mŵ yaf â glywo dynynddo ei hûn o gynnydd gwybodaeth, vfydd-d [...]d, a duwioldeb: O hynny y mae ganddo fwy o siccrwydd y bydd efe cadwedig. Cydwybod dŷn ei hûn â weithia lawer tu ag at hynny, yr hon ni ddichon na dywe­dyd celwydd, na siommi.

Canys felly y dywed y gŵr doeth: Dihar. 27.19. Megis mewn dwfr y mae wyneb yn atteb i wyneb: Felly y mae dyn i ddyn. Hynny yw, medd­wl a chydwybod dyn â ddengys iddo yn vnicn (er na ddengys iddo yn berffaith) pa fâth ydyw. Oblegit ni thwylla'r gydwy­bod: Eithr hi â wna naill, ai cyhuddo, ai escusodi dyn, megis pet fai fîl o dystion.

Yr Apostol hefyd â ddywed, Pa ddyn à edwyn bethau dyn, ond Yspryd dyn yr hwn sydd ynddo ef. Ac eilchwel. Can­nwyll yr Arglwyddyw Yspryd dyn yn chwi­lio holl gelloeddy bol. 1 Cor. 2.11. Di­har 20 27.

[Page 268]

Felly peth amlwg yw, fod yn rhaid i ddyn gyrchu at weithrediad gràs Duw yn­ddo ei hûn, sef yn ei enaid. Canys oddi yno y caiff siccrwydd diogel ryw ffordd neu ei gilydd. Oblegid megis y gwybu Rebecca yn hyspys, wrth ymryson, ac ymwthio y gefelliaid yn ei chrôth, ei bod yn feichiog fyw: Felly y gŵyr plant Duw yn hyspys wrth gynhyrfiadau, ac ymsymmudiadau Yspryd Duw ynddynt, eu bod megis yn feichiog ar Grist, ac y cânt yn ddiau fod yn gadwedig.

Phila.

Attolwg gedwch i ni ddyfod at sylfaen y siccrwydd hwn o iechydwriaeth, a lleferwch ychydig am hwnnw.

Theol.

Sylfaen ein iachawdwriaeth ni â osodwyd ar dragwyddol etholedigaeth Duw, ac o herwydd hynny sefyll y mae yn gadarn, ac yn ddisigl. Megis y mae yn scrifennedig. 1 Thes. 5.24. Y mae sail Duw yn sefyll yn gadarn. A thrachefn, Fyddlon yw'r hwn â addawodd, 2 Tim 2.13, 19. os ym ni heb gredu, etto y mae efe yn aros yn ffyddlon.

Felly megis yr ŷm ni yn ei adnabod Sef ein iechydw­riaeth. ef yn hyspys ynom ein hunain, wrth ei fod yn canlyn etholedigaeth: Yn yr un modd, y mae yn sefyll yn ddiogel o herwydd Duw, ai dragwydol orhinhâd, yr hwn sydd anghyfnewidiol. Ac nis gall mîloedd o wendid, a deffygion (nagê holl bechodau 'r byd, na holl gythreuliaid vffern) ddad­ymchwel etholedigaeth Duw.

[Page 269]

Oblegid ein Harglwydd Iesu a ddy­waid. Yr hyn oll y mae'r Tad yn ei roddi i mi, a ddaw attafi, A thrachefn. Jo. 6.37. Hyn yw ewyllys y Tad a'm hanfonodd i, o'r cwbl a roddes efe i mi, na chollwn ddim o honaw, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd di­weddaf. Ac mewn man arall y dywed ein Achubwr Crist. Joan 10.27. Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i, ac mi ai hadwaen hwynt, â hwy a'm canlynant i; a minneu ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd tragwyddol, ac ni chyfrgollant byth: ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i. Fy Nhâd i yr hwn a'u rhoddes i mi s [...]dd fwy na phawb, ac nis gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhâd i. Wrth hyn nyni â ddylem fod mor siccr o'n iachawdwriaeth, ac o beth bynnag arall â addawodd Duw, neu yr ydym rwymedig iw gredu. Canys ammeu o honaw, o her­wydd gwirionedd Duw, sydd gabledigaeth yn erbyn anghyfnewidioldeb dianwa­dalwch ei wirionedd ef.

Phila.

Eithr, oni chair weithiau beth ammeu a gwan ymddiried o ran y siccr­wydd hwn, ie yn yr etholedigion, ar rhai cadarnaf eu ffydd?

Theol.

Ceir yn wir. Canys y neb nid amhenodd erioed, ni wir-gredodd erioed. Oblegit pwy bynnac sydd yn gwir-gredu a glyw weithiau ynddo ei hûn amheuon, ac anhyder, megis y clyw corph iachus [Page 270]lawer achraeth doluriau, yr hyn beth nis clywei oni bai ei fod yn iachus.

Oblegit nid wrth lygredigaeth yr ydym ni yn dirnad llygredigaeth, ond wrth râs yr ydym ni yn adnabod llygredigaeth; ac pa mwyaf a gaffom o râs, mwyaf o gwbl yr ymwrandawn a'n llygredigaeth. Y mae rhai mor grwyn-dene [...]on, ac mor dyner eu modiad, ac y medrant ddirnad pwys y bluen yscafnaf, er esmwythed y gosoder hi ar gledr eu dwylo: Yr hyn beth nis di­chon eraill a fyddont cro [...]n-dewion, a chaled eu cnawd, cyn hawsed ei ddirnad: felly diogel yw er bod plant Duw ar am­serau, yn petruso, ac yn ammeu o'u iachawdwriaeth, etto nid yw hynny yn dadymchwel siccrwydd eu hiechydwri­aeth, ond yn hytrach yn arwydd hygoel o iachusrwydd, a bywiogrwydd eu henei­diau.

Canys pan glywer yn yr enaid y cyfryw achreth, ac iasau, yna y mae plant Duw yn gosod yn eu herbyn, megis i dorri'r gwres, siccrwydd gwirionedd Duw, a'i addewidion, ac felly yn eu gorchfygu yn esmwyth iw mawr ddiddanwch. Oblegid nid rhaid i bobl Dduw ofni yr amheuon hyn, yn taro weithiau arnynt, mwy nac yr ofnei gŵr ar farch heini, a'i gleddyf ar ei glûn, wrth farchogaeth drwy'r heo­lydd, [Page 271]glywed corgŵn yn ei gyfarth o'i ddeutu.

Phila.

Dangoswch etto yn eglurach, pa fodd, ac ar ba achosion y dichon plant Duw wanffyddio, ac ammeu, ac er hynny bod yn ddiogel ddigon.

Theol.

Megis dŷn ar ben cloch-dŷ o'r fâth vchaf, ac wedi ei rwymo yn dynn wr­tho, fel na allei syrthio pes mynnei, er hynny pan edrychei tu ag i wared a of­nei, oblegit nad yw naturiaeth dyn gyn­nefin, ac arferol a dringo cyfuwch yn yr awyr, a chraffu ar y ddaiar, cyn issed oddi tano: Ond pan edrychei i fynu, a gweled ei fod yn rhwym, ac allan o enbydrwydd: Yno ni byddei arno nac ofn, nac arswyd: felly ninnau pan edrychom i wared arnom ein hunain, yna yr ydym yn ofni, ac yn ammeu o'n iechydwriaeth: ond pan edry­chom i fynu ar Grist, ac ar wirionedd ei addewidion ef, ni a'n cawn ein hunain yn gwbl siccr, drwy fôd ynglŷn wrtho ef, ac yna y gwelwn nad rhaid i ni ammeu dim mwyach.

Phila.

Mynegwch i ni, beth yw prif­achos yr amheuon, yr ofn, y petrusedd, ar gwanffyddio yma, ac o ba le y maent yn tarddu allan ym mhlant Duw?

Theol.

Tarddu y maent oddiwrth am­herffeithrwydd ein adenedigaeth, ac oddi­wrth yr ymdrech, a'r ymryson sydd rhwng [Page 272]ffydd, ac anghrediniaeth, ym meddyliau yr etholedigion.

Canys y ddau hyn ydynt yn ym­geccreth, ac yn ymaflyd a'u gilydd yn anguriol yn y rhai duwiolaf, gan ymor­chestu i geisio meistroli, a gorthrechu, y naill y llall: Ac o herwydd hyn y mae yn digwyddo ar amserau, drwy fod anghre­dinaeth yn cael y llaw vchaf, fod y rhai godidoccaf o weision Duw, a mwyaf eu athrylith ar dduwioldeb, yn ofidus mewn llewygon, a ffeintiadau annobaith: megis y digwyddodd i Job, a Dafydd yn eu pro­fedigaethau.

Ac yn y dyddiau hyn, y mae rhai o blant Duw, yn cael llawer maethgen drom, a'u trîn yn erwyn yn yr achosion hyn; ie a'u tynnu i lawr yn issel hyd at ddrŵs marwolaeth: Ond etto y mae yr Argl­wydd o'i fawr drugaredd yn eu cynnal hwynt ai law, gan eu hachub rhag llwyr syrthio, yn hollawl, na chwaith yn drag­wyddawl: yn vnig hwy a ostyngir, ac a brofir tros amser drwy yr iasau tostion hyn, a hynny er mawr lesâd, a daioni iddynt.

Oblegid megis yr arferwn o ddywedyd, pan fo'r crŷd ar ŵr ieuangc, mai argoel iechyd ydyw: Felly yr iasau brydion hyn o brofedigaethau yn yr etholedigion ydynt fynychaf arwyddion hygoel o râs, [Page 273]a charedigrwydd Duw.

Oblegit oni bai fod y ffeintiadau, a'r llewygon hyn oddiwrth Dduw, ni byddei'r cythraul mor bryssur, ac mor daer-ddrŵg, yn gweithio arnynt.

Phila.

Onid gwir ryfig, a gormod hyder arnom ein hunain fyddei bod yn gwbl-siccr o'n iachawdwriaeth?

Theol.

Nagê. Oblegid sail y siccrwydd yma, nid arnom ein hunain y mae wedi ei osod, nac ar ddim sydd gennym oddi­fewn, nac oddiallan i ni, ond yn vnig yngh­yfiawnder Crist, ac ar addewidion Duw o drugaredd.

Canys nid rhyfig yw credu'r peth â addawodd Duw, â bwrcasodd Crist, ac â seliodd yr Yspryd glân: Nagê yn ddiau, nid gormod hyder arnom ein hunain: Ond y peth yr ydym ni bawb yn rhwy­medig iw gredu, ac i sefyll wrtho, fel yr attebom yn ofnadwy ddydd y farn. Am danom ein hunain, cyfaddeu yr ydym yn hyrwydd, nad ŷm ni ddim amgen yngo­lwg Duw, ond megis telpynau, a swppiau o bechod, a phob vn o honom megis clamp o drueni, ac na allwn o honom ein hunain gymmaint a symmud llaw, na throed i osod dim ym mlaen o waith ein iachawdw­riaeth: Eithr wedi ein cyfiawnhau drwy ffydd y mae heddwch rhyngom a Duw, a ninnau yn hyderus gennym, y dengys efe [Page 274]i ni garedigrwydd, a ffafor yng-Hrist.

Phila.

A pheth â ddywedwch chwi am y rhai anghymmeradwy, ac annuwiol, oni ddichon y rheini fod yn siccr o'u iachaw­dwriaeth?

Theol.

Na allant ddim. Canys y Pro­phwyd a ddywed: Ni bydd heddwch medd fy nuw i'r rhai annuwiol. Esay 57.21. Or geiriau yma yr ymresymmaf fel hyn: Y rhai nid oes ganddynt ddim heddwch oddimewn, ni allant fod yn siccr o'u iechydwriaeth: Ond gan yr annuwiol nid oes dim hedd­wch oddimewn, am hynny ni allan hwy fod yn siccr. Ffydd ddiymmod yn yr addewidion sydd yn siccrhau, eithr nid oes gan yr annuwiol ddim ffydd ddiym­mod, a disigl yn yr addewidion, am hynny ni allant fod yn siccr. Yspryd mabwy­siad sydd yn siccrhau, ond nid oes gan y drygionus yspryd mabwysiad; am hynny ni allant fod yn siccr.

I benglymmu hyn, pan glywo dyn yn­ddo ei hùn gydwybod ddrŵg, dallineb me­ddwl, buchedd aflân, ac anvfydd-dod, fe bair hynny iddo (heb ddiolch yn ei ddan­nedd) ganu y marwnad hwn, sef ni wn pa vn â fyddaf a'i cadwedig, ai colledig.

Phila.

Onid yw yr athrawiaeth hon am siccrwydd iachawdwriaeth, yn athrawiaeth ddiddanus, a chyssurus?

Theol.

Y dyw yn wir. Canys oddiei­thr [Page 275]bod yn siccr o ffafor Duw, a maddeu­ant pechodau, ac yn ddilynawl i hynny, o'i iechydwriaeth ei hûn, pa gyssur a all fod ganddo mewn dim? Heb law hyn, bod yn siccr o gariad Duw tu ag attom, yw gwreiddin ein cariad ninnau, a'n ufydd­dod digymmell tu ag atto yntef.

Oblegid am hynny yr ydym ni yn ei garu ef, ac yn vfyddhau iddo, o herwydd ein bod yn gwybod iddo ef yn caru ni yn gyntaf; ac scrifennu ein henwau yn llyfr y bywyd. Eithr yngwrthwyneb i hyn, athrawiaeth gwŷr Rhufain yn dyscu y dy­lei ddynion ammeu, ac ofni yn oestadol, ag ofn caeth, athrawiaeth gythreulig ydyw, ac anghyssurus: Canys tra y dalio dŷn honno, pa galondid a ddichon bod ganddo i wasanaethu Duw? Pa gariad tu ag at ei fawrhydi ef? pa obaith yn ei addewi­dion? Pa gyssur mewn trallod? Ac pa ammynedd mewn adfydwch.

Antil.

Am y pwngc yma, yr wyfi o'ch meddwl chwi yn vnion: Canys tybied yr wyf y dylei ddŷn fod yn gwbl-siccr o'i iechydwriaeth. Ac o'm rhan fy hûn nid wyf yn ammeu dim o honaw; ond go­beithio yr wyf fod yn gadwedig yn gystal ar goreu o honynt: Nid oes arnaf mor ofn am hynny.

Oblegid y mae gennif y cyfryw ffydd ddiogel yn Nuw, a phe na bai ond dau [Page 276]ddŷn yn y bŷd i fod yn gadwedig, go­beithio yr wyf y byddwn i vn or ddau hynny.

Theol.

Yr ydych chwi yn hyderus tros ben. Ac yn siccr ddiogel cyn gwybod. Myfi a fynnwn pe bai eich sail mor ddi­sigl, ac y mae eich hyder yn ofer-wag. Pwy mwy ei ffrosd o'i grefydd, na'r hwn nid edwyn iawn grefydd? Pwy hyfach nar dall? Nid yw eich gobaith ond tŷb, ac megis breuddwyd dŷn clâf; Gobeithio, ni wyddoch am ba beth.

Nid oes gennych ddim rheswm iw ro­ddi trosoch am yr hyn â ddywedwch: Oblegit pa obeithio â ellwch chwi eich bod yn gadwedig, gan nad ydych yn rho­dio yn llwybrau iachawdwriaeth: Pa obeithio â wna dŷu allu dyfod i Lun­dain ar frŷs, ac yntef heb gerdded ffordd Lundain? Ond yn y gwir wrthwyneb.

Pa obaith cael cnŵd o ŷd da, heb arfer y moddion, sef heb aredig, a llyfnu, a hau. Pa obeithio a wna neb o fod yn bwyntys, ac yn olygus, heb gymmeryd bwyd vn amser. Pa obaith i ddiangc rhag boddi, i'r hwn a neidio yn waed­wyllt ir môr? Felly yr vn ffunyd, pa obaith a ellwch chwi gael y byddwch cadwedig, a chwithau yn gwrthod, neu yn esceuluso rhodio yr iawn ffordd, ac ymarfer ar moddion, ond yn hytrach yn gwneuthur [Page 277]pob peth yngwrthwyneb i iechydwriaeth.

Canys nid oes ynoch chwi, sywaeth, ddim o'r pethau â ddywed yr Scrythur eu bod yn angenrheidiol i'r cadwedig. Nid oes ynoch chwi yr vn o'r arwyddion, a'r argoelion, a grybwyllwyd or blaen.

Yr ydych [...]n anwybodus, yn fydol, yn ddifraw. Nid oes dim gwasanaethu Duw tan eich cronglwyd, dim ofn Duw nac ynoch chwi, nac yn eich te [...]lu. Anfynych y gwrandewch chwi ar bregethu'r gair. Ymfodloni yr ydych ag eglwyswr heb wybodaeth ganddo.

Nid oes yn eich teulu na gweddio, na darllain, na chanu psalmau, nac athrawia­ethu, na chyngori, na cheryddu, na dim ymarfer Gristiannogawl. Nid oes gennych gydwybod o gadw y Sabothau, nac o arfer enw Duw yn barchedig: Torri allan a wnewch i dyngu yn anguriol, ac i regu yn sceler.

Peth cynnefin gyd â chwi yw tyngu i'ch ffydd, ac i'ch gwirionedd: y mae eich gwraig yn anghrefyddol, a'ch plant yn anllywodraethus, ac yn anraslawn, eich gwasanaeth-ddynion yn ddrygionus, ac yn ddifraw. Yn eich tŷ yr ydych yn esampl o annuwdeb. Allan yr ydych yn chwa­rydd mawr, yn rhodres-wr, yn afradlon, yn ŷfwr, yn drammwy-wr tafarneu, ac yn [Page 278]buttein-wr; Ac i fyrhau, yn ymroi i bob dihirwch, a drygioni.

Gan hynny, attolwg dywedwch, neu yn hytrach gadewch i'ch cydwybod ddywe­dyd i mi, pa obeithio a ellwch chwi fod yn gadwedig tra fyddoch yn rhodio, ar ôl yr helynt yma, ac y parhaoch yn dilyn hir­ddrŵg? Onid yw S. Joan yn dywedyd: Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym. Onid yw yr vn Apostol yn dywedyd, am y rhai a ddywedant eu bod yn adnabod Duw, 1 Jo. 1.6, ac 2.4. ac 3.8. ac heb gadw ei orchymynnion, mai celwyddog ydynt? Onid yw efe yn dywe­dyd drachefn: Yr hwn sydd yn gwneu­thur pechod, o ddiafol y mae. A phob vn sy heb wneuthur cyfiawnder nid yw o Dduw.

Onid yw ein Harglwydd Jesu yn dy­wedyd wrth yr Juddewon (y rhai a ym­ffrostient mai Abraham oedd eu tâd) eu bod or tâd diafol, am eu bod yn gwneu­thur ei weithredoedd ef? Oni ddywed yr Apostol Paul: Rhuf. 6.16. Ein bod yn weision i'r hwn yr vfyddhaom iddo, pa vn bynnag, ai i bechod i farwolaeth, ai i vfydd-dod i gyfiawnder? Oni ddywed yr Scrythur: Yr hwn a wnel gyfiawnder sydd gyfiawn. 1 Jo. 3.7. Onid yw ein Harglwydd Jesu yn dyscu, Nad pob vn a ddywedo, Math. 7.21. Arglwydd, Ar­glwydd a ddaw i deyrnas nefoedd, ond yr [Page 279]hwn a wnêl ewyllys fy nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd? Am hynny, bwrw yr wyf, gan fod holl ystod eich buchedd yn gnawdol, yn ddifraw, ac yn afreolus, na all fod gen­nych obaith ddichlin-gwbl, a safadwy y byddwch cadwedig.

Phila.

Yr wyf fi yn tybied fod cyflwr y gŵr yma (megis yr eglurasoch yr awr­hon) yn gyflwr miloedd o bobl eraill, yn [...]ystal ag yntef.

Theol.

Je yn ddiau: dyna gyflwr mil­fyrddiwn o ddynion fel y mae fwyaf gre­syndod.

Asune.

Yn araf dêg Syr. Yr ydych chwi yn rhŷ bryssur. Tân araf a wna frâg melus. Gobeithio y gwyddoch mai drwy drugaredd, ac nid drwy haeddedigaeth y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig. Pe gallwn i wneuthur y cwbl fy hún, beth a wneid a Christ? Gobeithio y gwna efe tro­sof fi, yr hyn ni allwyf fy hûn ei wneuthur. A gobeithio yr wyf y byddaf cadwedig [...]rwy Grist Jesu yn gystal ar goreu o honoch chwi oll.

Theol.

O, myfi a welaf yr awr-hon i ba le y mae y chwareu yn tueddu. Chwi a chwennychech wneuthur Crist yn farch­gynfas i guddio eich pechodau; Chwi a fynnech bechu fel yr amlhao grâs. Chwi a fynnech yn ddi-rûs, ac yn ddiymmattal, ro [...] Crist i atteb am y cyfan. Yn wir y [Page 280]mae llawer or vn-rhyw feddwl a chwithau, y rhai wrth glywed sôn am fawr druga­redd Dduw yng-Hrist, â wneir yn hyfach i bechu.

Eithr hwy a gânt wybod, ryw ddydd, iw dialedd ei hunain, beth yw cam-arfer tru­garedd Dduw.

Yr Apostol â ddywed: [...]uf. 2.4. y dylei truga­redd a daioni Duw ein tywys i edifeirwch. Eithr nyni a welwn ei fod yn tywys llawer i fwy o galedrwydd calon. Y Prophwyd â ddywed: [...]sal. 130. [...] ond y mae gyd â thi feddeu­ant fel i'th ofner: Eithr y mae llawer, o hyder ar faddeuant yn ymddiofalhau, ac yn diddarbodi. Ond i saethu yn nes at y nôd, chwi a ddywedwch eich bod yn gobeithio y byddwch gadwedig drwy Jesu Grist.

Ac yr wyfi yn atteb; o cheir ynoch chwi y pethau y mae yr Scrythyrau yn dan­gos eu bod ym-mhawb ar â achubir gan­ddo, yna y gellwch chwithau fod yn hy­derus, ac yn llwyr obeithiol; os amgen; na ellwch.

Yr Scrythyrau ydynt yn ordeinio, ac yn yspysu y matter fel hyn. Os bydd dŷn yng-Hrist, [...]w peth [...] ofynnir [...]n bawb a achu­ [...]r drwy [...]rist. ac yn disgwyl bod yn gadwedig drwyddo ef, rhaid iddo fod ganddo y ce­neddfau hyn sy'n canlyn.

  • 1. Yn gyntaf, rhaid iddo fod yn greadur newydd. 1 Cor. 5.17.
  • [Page 281]2. Yn ail, rhaid iddo fyw nid ar ôl trach­wantau dynion, ond yn ôl ewyllys Duw. 1 Petr. 4.2.
  • 3. Yn drydydd, rhaid iddo fod yn awy­ddus i weithredoedd da. Tit. 2.14.
  • 4. Yn bedwerydd, rhaid iddo farw i bechod, a byw i gyfiawnder. Rhuf. 6.14.
  • 5. Yn bummed, rhaid iddo fod yn san­ctaidd, ac yn ddifeius. Col. 1.22.
  • 6. Yn chweched, rhaid iddo rodio felly, f [...]l y rh [...]diodd Crist. 1 Joan 2▪6.
  • 7. Yn seithfed, rhaid iddo groeshoelio y cnawd yng-hyd ai wyniau, ai drach­wantau. Gal. 5.24.
  • 8. Yn wythfed, rhaid iddo rodio nid ar ôl y cnawd, ond ar ól yr yspryd. Rhuf. 8.1.
  • 9. Yn ddiweddaf, rhaid iddo wasanae­thu Duw mewn cyfiawnder, a sanctei­drwydd holl ddyddiau ei fywyd. Luc. 1.75.

Wele, pa bethau â ofynnir gan bawb a gadwer drwy Grist. Yn awr gan hynny, os yw y pethau hyn ynoch chwi yn ddiffûg ac mewn rhyw fesur o wirionedd, yna y mae eich gobaith chwi yn ddilis, yn gwbl-iach, ac yn dda: os amgen, ni thâl hi ddim. Canys ofer y dywed dynion eu bod yn gobeithio cael eu hachub d [...]wy [Page 282]Grist, â hwythau yn rhodio yn afreolus. Y rheswm am hyn yw, o herwydd mai rhaid ir aelodau fod yn gysson ar pen: eithr Crist ein pen ni sy sanctaidd, am hynny rhaid i ninnau, ei aelodau ef fod yn sanctaidd.

Fel y mae yn scrifennedig: [...] Petr. 1. [...]6. byddwch sanctaidd, canys sanctaidd wyfi. Eithr os nyni á gyssylltwn aelodau aflan, ac amhur ynghyd a'n pen sanctaidd Crist, dyna ni yn gwneuthur Crist yn anghenfil: megis pe cyssylltei ddŷn at ben llew, wddf arth, a chorph blaidd, a choesau llwynog. Oni byddei y fâth beth yn anghenfil an­ferth? Y cyffelyb beth a hyn â ddychym­mygant hwy, y rhai â fynnant fod tyn­gwyr, meddwon, putteinwyr, ar cyffelyb yn aelodau Crist, ac y cànt fywyd, ac ia­chawdwriaeth trwyddo ef. Eithr gan eich bod chwi yn rhyfygu cymmaint o Grist, attolwg, gadewch i mi ofyn i chwi vn peth.

Antile.

Beth yw hwnnw?

Theol.

Pa fodd y gwyddoch ddarfod i Grist farw trosoch chwi yn bendant, yn neillduol, ac yn enwedig?

Antil.

Crist â fu farw tros bawb, ac am hynny trosof finnau hefyd.

Theol.

Eithr ni bydd pawb cadwe­dig trwy Grist: pa▪fodd gan hynny y gwyddoch chwi eich bod yn vn or rhai sy [Page 283]ganddynt hawl enwedigol i Grist, ac â achubir ganddo, drwy ei farwolaeth?

Antil.

Hyn á wn i, ein bod ni oll yn bechaduriaid, ac na allwn fod yn gadwedig drwy fodd arall, ond drwy Grist.

Theol.

Attebwch yn vnion i'm cwestiwn i; pa fodd y gwyddoch chwi ynoch eich hûn, ac am danoch eich hùn, eich bod yn vn or etholedigion, ac yn vn or rheini tro [...] ba rai y bu farw Crist?

Antil.

Mi â wn hynny wrth fy ffydd dda yn Nuw, am fy mod yn rhoddi fy holl ymddiried ynddo ef, ac nid mewn neb arall.

Theol.

Ond pa fodd y gwyddoch fod gennych ffydd? Neu pa fodd yr edwyn dyn ei ffydd ei hûn?

Antil.

Mi ai hadwaen wrth hyn, sef am fod gennif bob amser feddwl da, a chystal ffydd tu ag at Dduw, ac vn gŵr o'm galwedigaeth; ar nad yw lythyren­nog. Mi â ofnais Dduw erioed, am holl galon, ac a'i gwasanaethais am gwe­ddiau.

Theol.

Beth felly? Pa ymdroi fel hyn o amgylch y berth? Attebwch i'm gofyn. Pa fodd y gwyddoch chwi yn hyspys, ac yn ddiammeu, farw o Grist drosoch chwi yn neilltuol, ac yn enwedig?

Antile.

Chwi à yrrech ddyn yn ynfyd▪ [Page 284]Chwi a'm tynnwch oddiwrth fy ffydd. Ac am gyrrwch oddiwrth G [...]st. Os ydych ar fedr fy nhynnu oddiwrth Grist, ni choelias byth i C [...]wi. Canys myfi â wn mai rhaid yw ein hachub trwyddo ef.

Theol.

Nid wyfi yn amcanu eich gyrru chwi oddiwrth Grist. Oblegit pa fodd y gallaf eich tynnu oddiwrth Grist, gan na ddaethoch erioed i fod ynddo ef. Ond hyn yw'r peth sy'n eich siommi chwi, a llawer eraill, nid amgen, eich bod yn tybied eich bod yn credu yng-Hrist, o herwydd eich bod yn dywedyd eich bod yn credu yng-Hrist. Megis pe bai ffydd yn sefyll mewn geiriau, neu fel pe ba [...] gan ddyn ffydd, am ei fod yn dywedyd hynny.

Od oes gan bob dyn ffydd, am ei fod yn dywedyd fod ganddo ffydd, ac od yw pob dyn â ddywedo ei fod yn credu yng-Hrist, am hynny yn credu yng-Hrist: Y na pwy ni bydd ganddo ffydd? Pwy nid yw yn cre­du? Ond mewn gwirionedd nid yw eich ffydd chwi, a ffydd llawer eraill ddim amgen ond tŷb, a dychymmig. Eithr etto er hyn ei gid, nid attebasoch mo'm cwestiwn [...]nghylch eich gwybodaeth neill­tuol o Grist.

Antile.

Ni fedraf fi eich atteb mewn amgen môdd nac i'ch attebais, ac i'm [Page 285]tŷb i, mi ach attebais yn ddigon dâ.

Theol.

Na ddo, na ddo: Y mae bliscin ar eich tafod. Ni thâl eich atteb well­tyn. S [...]arad yr ydych, ni wyddoch pa beth: Y cwestiwn hwn a'ch pendafadodd. E [...]thr pe bai yn eich calon wir wybodaeth, a bywiol synnied o Dduw, yno diogel fy­ddei gennif y rhoech atteb arall, amgenach â gwell na hyn. Yna y dywedasech ryw­beth oddiwrth ymwrandawiad, a theim­lad eich calon, ac oddiwrth wa [...]th grâs Duw ynoch: Ond oherwydd na fedrwch roddi trosoch, vn rheswm didripiedig, farw o Grist trosoch chwi yn neilltuol, ac yn enwedig:

Am hynny yr wyf fi yn eich drŵg-dy­bio, am nad ydych yr vn or rhai hynny, ar s [...] ganddynt hawl ddiledpai, a didwyll ynddo ef, ac iba rai y mae ei farwolaeth ef yn wir fuddiol.

Phila.

Yr wyfr yn tybied y gallei y cwestiwn ymma gau safnau, a gyrru taw ar lawer o ddynnion: ac nad oesnem­mawr a fedrei atteb iddo yn gywir, ac yn vnion.

Theol.

Diammeu yw hynny. Nid yw anwybod i mi, wrth brawf, ac adnabyddia­eth gresynol, na fe [...]r vn dyn ym mhlîth cant wneuthur atteb tacclus, ac vniawn­wir i'r cwestiwn hwo. Je ni wyr neb ei atteb, oddieithr y rheini yn vnig, ym [...] [Page 286]rai y gweithir y gwaith newydd; a thrŵy ddirgel weithrediad yr Yspryd, ydynt yn gwbl-siccr ganddynt, ac yn diammeu fod Crist yn eiddynt hwy. Myfi â ymddi­ddenais a rhai o synnwyr, a deall, a dy­sceidiaeth canmoladwy, ac er hynny pan ddaethant at hyn o derfyn, a phennod, o ran y pwngc hwn, a synnasant yn aruthr, heb wybod yn dda pa beth a attebent: Ac er medru o honynt wrth eu synnwyr a'u dysc ymresymmu yn drwyadl a dan­gos lliw, a bwrw hùd ar bethau, wrth ym­ddadleu, drwy ddirio rhyw fâth ar resym­mau lledchwelan, a gweniaid: Er hynny nid oeddynt yn clywed ynddynt eu hunain ddim gwrês, na dim cynnwrf or peth yr ymddadleuent am dano: Ac am hynny nid oedd ganddynt ddim iawn siccrwydd, na dim diddanwch iw heineidiau oddiwr­tho. Sancteiddiol Yspryd Duw yw'r hwn sy'n peri dirnad y siccrwydd ymma; ae heb glywed ynom y dirgel-waith hwn o­ddiwrth yr Yspryd, ni allwn byth roddi at­teb dichlin-gwbl, a dilippa ir cwestiwn hwn.

Gan hynny, dymma'r modd y pen-der­fynnaf yr holl fatter hwn. Megis na ddi­chon cangen y win-wydden dyfu, a dwyn ffrwyth, onid erys yn y winwydden: Felly ni allwn ninnau gael bywyd ysprydol, onid arhoswn yng-Hrist, a bod gwedi ein gwir impio ynddo ef, drwy ffydd fywiol. Nis [Page 287]gall neb gael dim llesâd oddiwrtho ond y rheini yn vnig â arhosant ynddo. Ni all neb fyw drwy Grist, oddieithr y rhai â newidwyd yng-Hrist. Nid oes neb yn gyfrannogion o'i gorph ef, ond y rhai y­dynt yn ei gorph ef: Ni ddichon neb fod yn gadwedig drwy Grist groeshoeliedig, ond y rhai a groeshoeliwyd gyd â Christ. Ac nis gall neb gael byw gyd â Christ. yn ôl marw, ond y sawl-ydynt yn meirw y­ma gyd ag ef, tra fyddont etto yn fyw. Am hynny cymmerwn wraidd i wared mewn marwhâd, fel y gallom flaguro i fvnu, a thyfu mewn sancteiddiad. Byddwn feirw i bechod fel y gallom fyw i gyfiawnder: Byddwn farw yr awr-hon tra ydym etto yn byw, fel y gallom fyw yn ôl y bywyd yma, pan fyddom meirw.

Asune.

Oni bydd neb cadwedig drwy Grist; ond y cyfryw rai yn vnig a fyddo yn­daynt y rhinweddau a ddywedasoch chwi? Duw a drugarhao wrthym. Wrth hynny y mae'r ffordd i'r Nefoedd yn gyfyng iawn. Ac ychydig fydd cadwedig: Canys nidd oes yn y byd, ond ychydig or fâth.

Theol.

Nid ydych yn camsynnied dim yn hynny: Canys pan ystyrier y cw [...]l, di­ddadl yw, mai ychydig fydd cadwedig, yr hyn beth a ddangosaf i chwi, wrth yr Scrythyrau, wrth resymmau, ac wrth si­amplau.

Asune.

Moeswch glywed brofi y peth yn gyntaf wrth yr Scrythyrau.

Theol.

Ein Harglwydd Jesu Grist a ddywed: Mat. 7.13. Ewch i mewn trwy'r porth cy­fyn, canys ehang yw 'r porth, a llydan yw'r ffordd sydd yn arwain i ddestryw, a llawer wy'r rhai sydd yn myned i mewn trwyddi. Oblegid cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi. Dra [...]hefn d dywed efe. Llawer â alwyd, ac ychy­dig a ddewiswyd. Mat. 20.16.

Mewn man arall yr ydym yn darllain am ryw ddyn a ddaeth at ein Achu [...]wr Crist, ac â ofynnodd iddo: Ai ychydig â fyddant cadwedig? Ir hwn attebodd yr Arglwydd Jesu: Luc. 13.24. Ymdrechwch am fy­ned i mewn i'r porth cyfyng, canys meddaf i chwi llawer a geisiant fyned i mewn, ac nis gallant. Yn yr hwn atteb, er nad yw ein Achubwr Crist yn atteb yn vnion i'r cwestiwn, na thrwy ddywedyd yn erbyn, na thrwy ddywedyd gyd a'r peth a ofyn­nasid iddo: Etto ei eiriau ef sy yn dangos yn eglur mai ychydig o rifedi a fydd cadwedig.

Oblegid y mae yn annog i ymdrechu yn orchestol, gan fwrw amnaid fod achos dirfyng i ymryson yn erbyn y byd, a'r cnawd, ar cythraul. Yn ail efe a ddywed fod y porth yn gyfyng, gan arwyddocau, [Page 289]na all neb fyned i mewn yno heb ymwthio, ac ymhy [...]ddu yn grŷf, a dryllio ei yscwy­ddau gan mwyaf.

Yn drydydd efe â ddywed mai llawer a geisiant fyned i mew, ac nis gallant: gan feddwl wrth hyn y bydd llawer yn aros yn ôl, or sawl a geisiant fyned yno, am na cheisiant fel y dylent.

Esay a ddywed hefyd: Esay 1.9. Oni buasei i Arglwydd y lluoedd adael i ni ychydig iawn weddill, fel Sodoma y buasem, a chyffelyb fuasem i Gomorrah: Yr Apostol fydd yn adrodd allan or Prophwyd: Yr Arglwydd a orphen, Rhuf. 9.28. Esay 10.22. ac a gwttoga y cyfrif mewn cyfiawnder, oblegid byrr gyfrif â wna yr Arglwydd ar y daiar. Yr Scrythyrau hyn i'm tŷb i sy ddigon i brofi mai ychy­dig a fydd cadwedig.

Asune.

Bellach, gadewch glywed eich rhesymmau.

Theol.

Os at reswm y deuwn, nyni â allwn ryfeddu yn hytrach y bydd neb cadwedig, na bod ychydig yn gadwedig. O [...]legid y mae (wedi eu gosod i gynllwyn i ni ar y ffordd) yr holl rwystrau, a'r lluddias a'r a ddichon bod: a'r rheini yn gystal oddi mewn i ni ein hunain, ac oddi allan. Y mae genym rwysc y byd ei gyd i'n herbyn. Y mae yn sefyll i'n herbyn, holl gythreuliaid vffern, a'u holl gyrn, a'u ponnau, a'u nerth anguriol, a'u ystrywiau [Page 290]anfeidrol, eu cyfrwysdra cnoccellus, eu dichellion twyllodrus, a'u profedigaethau hoccedus.

Dymma ffrŵd grêf yn rhedeg yn chwy­rn i'n herbyn. Yna y mae i'n herbyn, y byd presennol hwn, a chyd ag ef nifer an­neirif o amryw fâth ar abwyd, hoenyunau, rhwydau, maglau, a hualau, i'n dala, i'n lleffetheirio, i'n maglu. Yn y naill fan y daw budd, a meluswedd, a golud, ac an­rhydedd, cyfoeth, a goruchafiaeth, swydd­ymgais, a chybydd-dod.

Mewn man arall y daw llu Brehinol o elynion ysprydol, ac anweledig. Yn ddi­weddaf y mae ein cnawd ein hunain, sef ein naturiaeth lygredig i'n herbyn: Je nyni ein hunain yn ein herbyn ein hu­nain.

A chyn beryccled gelynion i'n iechydw­riaeth ydym ni ein hunain, ac ydyw y byd, neu'r Cythraul: Canys ein deall, an rheswm, ein ewyllys, a'n gwyniau ydyn [...] oll i'n herbyn. Ein synwyr anianol sydd elyn i ni. Ein trachwantau, a'n nwydau afreolus ydynt yn cryfhau, ac yn cyfner­thu profedigaethau Satan.

Ac y maent oll wedi gwneuthur cyn­grair ag ef yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein iechydwriaeth. Ymladd y maent oll tan ei faner ef, a derbyn eu cyflog ganddo. A hyn sydd galed, a thôst arnom ni, fod, [Page 291]gan y cythraul, oddimewn i ni ein hunain, blaid i'n herbyn, a'n bod ninnau yn dwyn ynom beunydd ein gelyn pennaf: yr hwn sydd barod, ar bob tro ddydd a nôs, i'n bradychu i ddwylo Satan: ie i agoryd y drŵs, ac iw ollwng ef i mewn i dorri ein gyddfau: yma gan hynny y gwelwn fod llu mawr o elynion ofnadwy, ac megis lleng o Angelion yn gwneuthur cynllwyn yn er­byn ein eneidiau.

O [...] [...]id ydym ni druein mewn cyflwr gre­synol, y rhai mal hyn â fradychir, ac a warcheir o bob parth? Gan hynny wrth ystyried y cwbl, [...]nid oes i ni achos cyfiawn i ryfeddu, y bydd neb yn gadwedig? O­blegid pwy ni wêl, pwy ni wŷr fod mil­fyrddiwn yn myned ben-dramwnwgl i dde­stryw, naill ai drwy brofedigaethau y byd, ai'r cnawd, ai'r cythraul? Ond etto ym­hellach, mi â ddangosaf wrth reswm arall hynod, ac amlwg, fod rhifedi etholedigion Duw ar wyneb y ddaiar yn ychydig wrth gyffelybrwydd, yr hyn bêth â ellir ei ddir­nad mal hyn.

Yn gyntaf tynner ymmaith oddiwr­thym, y Papistiaid, a'r Atheistiaid, a'r Hereticiaid. Yn ail yscuber allan yr holl [...]ai afreolus, a drygionus eu buchedd, nid [...]mgen, tyngwyr, meddwon, putteinwyr, [...]ybyddion, twyllwyr, hoccedwyr, beil­chion, [Page 292]chion, gloddestwyr, chwaryddion, ar holl giwdod anghrefyddol honno.

Yn drydydd, neillduer, à didoler allan yr holl ragreithwyr, Protestwyr cnawdol, crefyddwyr ofer, gwrthlithr-wyr, gogwy­ddwyr, a Christianogion llygoer. Tyn­ner, meddaf y rhai hyn oll, ar neilldu, ac yno dywedwch i mi pa-sawl vn yn gwa­sanaethu Duw yn bur, yn ffyddlen, ac yn wir grefyddol, a geir yn ein plith? Yr wyfi yn ty bied nad rhaid i ni wrth gelfy­ddyd Rhifyddiaeth iw cyfrif hwynt.

Canys yr wyf yn meddwl na byddei nemmawr lawn ym mhòb pentref, trêf, a dinas: tybied yr wyf mai an-aml y by­ddynt yn rhodio'r heolydd, fel y gallei ddŷn yn havdd eu rhifo wrth g [...]rdded. Ein Harglwydd Jesu sy'n gofyn cwestiwn yn Efengyl S. Luc: gan ddywedyd, Mâb y dŷn pan ddel, à gaiff efe ffydd ar y ddaiar? I'r hwn y gallwn atteb; diau ychydig iawn. Luc. 18 8.

Asune.

Bellach yn ol eich addewid, eglur­wch y peth hyn drwy siamplau.

Theol.

Yn yr oes gyntaf or byd, pôb cnawd â lygrasai ei ffyrdd, fel na allai Dduw gyd ddwyn yn hwy gyd ag hwynt, ond efe â fwriadodd eu difetha a diruw. Pan ddaeth y diluw, leied o nifer â gaed yn ffyddlon, ŵyth nŷn yn vnig â achub­wyd yn yr Arch. Leied nifer o rai cyfiawn [Page 293]a gafwyd yn Sodom, ar dinasoed cyfagos iddi? Un dynan truan Lot, ai deulu. Ni chaed yn Jerico ond vn creda dyn, sef Rahab. Nid aeth i mewn i wlâd yr addewid o'r hên Israeliaid, ond dau yn vnig, sef Caleb, a Josuah. Ni allei y lleill fyned i mewn o herwydd eu hanghredinaeth. Heb. 3.19.

Bechan cedd y wir eglwys anweledig yn amser llywodraeth y barnwyr, fel y gwelir yn amlwg yn y llyfr hwnnw. Yn amser Elias yr oedd yr eglwys mor fechan, ac na ŵelid mo honi. Tan lywodraeth b [...]enhinoedd Israel, a Juda, an-aml iawn oedd y gwir addolwyr, megis y mae yn am­lwg wrth y prophwydi oll. 1 Prenh. 20.27. Yn amser y gaethglud, yr oedd yr eglwys fel y lleuad ran gwmwl, wedi ei gyrru ir anialwch, ac yno yr oedd yn ymguddio. Yn amser erlid emerodraeth y Groegiaid, tan Gog, Magog, ar Aipht, yr oedd hi yn lleiaf or cw [...]l ei nifer. Yn amser Crist, leied oedd y gynnulleidfa y dechreuasei efe a [...]i? Fel y llygrasid pôb peth gan yr offeiriaid, yr scrifennyddion, ar phari­seaid? Pan ddechreu [...]dd yr Apostolion bregethu nid oedd memmawr or bobl yn credu. Yn ôl y chwechant mlynyddoedd cyn [...]af, pa lewygfa oedd ar yr eglwys? tra [...]n Angr [...]st yn cael ei [...]wysc yn ddiwrth­wyneb mor anaml yn y byd oedd y rhai â [Page 294]wasanaethent Dduw mewn gwirionedd, tros yspaid agos i seithgant o flynyddoedd? Ac er pan ddechreuwyd Pregethu'r Ef [...]n­gyl ar gyoedd, leied o bobl sy'n credu : ac fel y dywed y Prophwyd, Esay 53.1. Arglwydd pwy a gredodd i'n hymadrodd? Mal hyn chwi â welwch mai eglur yw (wrth yr Scrythur, wrth reswm, ac wrth esampla [...] yr holl oesoedd) mai ychydig iawn yw ni­fer yr etholedigion: ac darfyddo bwrw'r cwbl, ychydig a fydd cadwedig.

Phila.

Dywedwch i ni attolwg pâcyn Heied fydd ei rhifedi, ac o fewn pa derfyn y dygwch chwi hwynt? ai vn ym mysc cant, ynteu vn o fîl fydd cadwedig?

Theol.

Ni ŵyr neb mo hynny. Ac ni fedraf finnau atteb hyn yn vnion, ac yn hyspys. Ond hyn â ddywedaf, mai y­chydigion wrth eu cyffelybu ir gŵrthode­dig, a fŷdd cadwedig.

Canys nid yw pawb or sawl â gyfadde­fant yr Efengyl, or wir eglwys ger brou Duw. Y mae llawer yn yr Eglwys y rhai nid ydynt or eglwys.

Phila.

Pa fodd y profwch chwi hyn­ny?

Theol.

Allan or nawfed at y Rhufeini­aid, lle y dywed yr Apostol; nid Israel pawb, ac sydd o Israel. A thrachefn: y mae Esaias yn llefain am yr Israel: cyd byddei nifer meibion Israel fel tywod y [Page 295]mir, gwedill â achubir. Rhuf. 9.27.

Phila.

Pa fodd yr ydych chwi yn bwrw y pethau hyn yn yr eglwys weledig, neu wrth ba gyffelybrwydd yr ydych yn eu cymmeryd; gedwch glywed ryw amcan. Rhai â dybiant mai vn o gant, eraill mai vn o fil â fydd cadwedig.

Theol.

Yn wir myfi à glywais rai gwyr dyscedig, a Phregethwyr duwiol yn bwrw y fâth amcan. Eithr am y matter, ni fedraf ddywedyd dim: Ond yn vnig ystyriwn gyffelybiaeth yr yspryd glân rhwng gweddill, a thywod y môr, ac fe â rŷdd hyn beth goleuni ir achos.

Phila.

Onid yw gwybodaeth or athra­w [...]aeth hon yn peri i ddynion lwfrhau, a rhufo ymgais a Duw?

Theol.

Nac ydyw. Ond yn hytrach hi â ddylei ein deffroi a'n cyffroi ni, i gymmeryd mwy gofal am ein iachawdw­riaeth, fel y byddom o nifer praidd by­chan Crist, y rhai â orphennant eu iechy­dwri [...]eth drwy ofn a dychryn. Philip. 2. [...]2.

Phila.

Llawer â wnant gyfrif bychan or pethau hyn: eraill â ddywedant; Tu ag at y byd a ddaw, vn o'r pethau lleiaf yw i ofalu am dano. Nyni, meddant, a adawn hynny ar Dduw fel y rhyngo bodd iddo ef, nid ymmyrwn ni arno: Canys, me­ddant, Duw yr hwn a'n gwnaeth achubed [Page 296]efe ni. Gobeithio y maent allu ymdaro yn gystal ac eraill, a myned drwy'r ffrŵd mor droed-sŷch, ac y diengo eu cymydo­gion.

Theol.

Gressyndod yw fod dynion mor ddifraw, ac yn gwneuthur mor yscafn or peth sydd (yn anad dim) fwyaf ei bwys, a defnydd-fawr. Canys nid yw ddim llesâd i ddŷn er ennill yr holl fŷd, a cholli ei enaid, megis y tystia Athro pôb doethineb. Mat. 16.26.

Asune.

Attolwg Syr, rhoddwch gen­nad i minneu i ddywedyd fy meddwl yn y pwngc hwn. Nid wyf fi ond gŵr annwy­bodus: maddeuwch i mi, os dywedaf ar fai: Canys annoeth llithrig ei dafod.

Theol.

Dywedwch eich meddwl.

Asune.

Yr wyf fi yn tybied yn ddiau, fod Duw yn drèch na diafol. Ac am hynny ni allafi goelio y gàd Duw ir cythraul gael mwy nac ef ei hun. Ni chymmer mo hynny ganddo. Canys y mae yn well gan­ddo daŷn nag y dioddef hynny.

Theol.

Tybied yr ydych yn gnawdol, yr ymdrecha Duw, ac yr ymme [...]fl efe gwymp ar cythraul am y peth. Tu ag ar am allu Duw, nid yw vn amser yn er­byn ei ewyllys. Canys ni ddichon Duw wneuthur dim yngwrthwyneb iw ewyllys, ai drefnid, o herwydd na fyn.

Asune.

Ond y mae'r Scrythur yn dy­wedyd, [Page 297]y myn Duw fod pawb yn gadwe­dig.

Theol.

Nid ydys yn deall hynny am bob dyn yn neillduol, ond rhai o bob mâth; rhai Juddewon, rhai cenhedloedd, rhai cyfoethogion, rhai tlodion, rhai vchel-radd, rhai issel-radd, &c.

Asune.

Crist â fu farw tros bawb: am hynny pawb fydd cadwedig.

Theol.

Crist a fu farw tros bawb o ran bod ei farwolaeth yn ddigonol, ond etto nid yw hi yn ffrwythlon i bawb, iw dwyn hwynt i fywyd. Oblegit yr etholedigion yn vnig â fydd cadwedig trwy ei farwo­laeth ef, megis y mae yn scrifennedig:

Hwn yw'r Testament newydd yn fyng­waedi, L [...]c. 22.20. yr hwn yr ydys yn ei dywallt tro­soch: gan ddeall ei ddiscyblion a'i blant etholedig. Hefyd, Crist wedi ei berffei­thio â wnaethpwyd yn-awdur iechydwriaeth dragwyddol i'r rhai oll â vfyddhant iddo. Heb. 5.9.

Asune.

Y mae Duw yn drugarog, ac am hynny gobeithio yr achub efe y rhan fwyaf, er mwyn ei drugaredd.

Theol.

Y rhan fwyaf â fydd colledig, eithr y rhai oll ac a achubir, a achubir drwy ei drugaredd ef. Megis y mae yn scrifennedig, Mi â drugarhâf wrth yr hwn y trugarhawyf: y neb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae [Page 298]efe yn ei galedu. Ac eilchwel; nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith, Rhuf. 9.18. ond o Dduw yr hwn sydd yn trugarhau. Am hynny er bod Duw yn anfeidrol ei drugaredd, a Christ yn anfeidrol ei haeddedigaeth, etto ni chaiff neb drugaredd, ond llestri trugaredd yn vnig.

Antile.

A wyddoch chwi pwy â fydd cadwedig? A phwy yn golledig? â wy­ddoch chwi gyfrinach Duw? Pa brŷd y buoch chwi yn y nefoedd? Pa bryd y buoch chwi yn ymddiddan a Duw? Yr wyf fi yn meddwl y bydd pawb yn gadwe­dig: Canys y mae trugaredd Dduw tu hwynt iw holl weithredoedd, ac yn helae­thach na hwynt oll. Dywedwch chwi yr hyn â fynnoch, a pha beth bynnag â alloch: ni wnaeth Duw ni i'n condemnio.

Theol.

Yr ydych chwi yn hyderus yn siccr, ac yn fwy eich hyfder, na'ch synwyr: Canys Crist a ddywed, ychydig fydd cad­wedig, chwithau a ddywedwch, pawb a fydd cadwedig. Pa vn gan hynny a gre­dwn, ai Crist, ai chwy-chwi?

Antile.

Pe rhôn â dyfod dau enaid, vn o'r'nef, ar llall o vffern i ddwyn i ni gopinod hyspys, pa fodd y mae'r peth yn sefyll, yna mi ai credwn yn ddiammeu.

Theol.

Pe digwyddai ddyfod dau enaid oddiwrth y meirw, vn o'r nef, a'r llall o [Page 299]vffern: myfi â fedraf ym mlaen-llaw ddy­wedyd i chwi yn hyspys, pa beth â ddy­wedent, ac pa gopinod, a newyddion a ddygent.

Antile.

Pa beth adolwyn.

Theol.

Hwynt hwy â ddywedent, fod ychydig yn y nefoedd, a llawer yn v­ffern: fod y nefoedd yn wâg, ac vffern yn llawn.

Antil.

Pa fodd y gwyddoch chwi hynny? pa fodd y gwyddoch chwi y dy­wedent felly?

Theol.

Y mae yn ddiogel gennif, os dy­wedent y gwirionedd, mai rhaid oedd i­ddynt ddywedyd hynny?

Antil.

Ai rhaid? pa ham, adolwyn, y mae yn rhaid iddynt?

Theol.

Am fod gair Duw yn dywedyd felly: am fod Moses ar Prophwydi yn dy­wedyd felly. Oni chredwch chwi Moses ar prophwydi ni chredwch chwaith pe bai vn, be bai ddau, pe bai gant yn dyfod oddi­wrth y meirw.

Antil.

Ond myfi â gredwn.

Theol.

Attolwg, gadewch i mi ofyn i chwi vn peth: Pa vn i'ch tŷb chwi, y dylid rhoddi mwy coel amo, Duw ai air, ynteu eneidieu y meirw?

Antil.

Pe gwyddwn yn ddigon hyspys ddywedyd o Dduw felly: yna myfi ai cre­dwu.

Theol.

Os dywed ei air ef felly, onid efe sy'n dywedyd felly? Onid yr vn yw efe ai air?

Antil.

Etto er hyn ei gŷd, pe cawn glywed Dduw ei hûn yn dywedyd hynny, fe â gynhyrfei hynny lawer arnaf.

Theol.

Yr ydych chwi yn eich dangos eich hûn yn anghredadyn hynod. Ni chredwch air Duw heb arwyddion, a rhy­feddodau, a gwrthiau oddiwrth y meirw.

Antil.

Yr ydych chwi yn siarad megis pe gwyddech yn hyspys fod vffern yn llawn. Nid ŷch ond siarad ar eich am­can: ni wyddoch ddim, ni buoch erioed yno yn gweled. Ond o'm rhan fy hûn yr wyf fi yn credu nad oes yr vn vffern, ond yn vnig vffern cydwybod dyn.

Theol.

Yr awr-hon yr ydych yn ym­ddangos yn eglur wrth eich lliw a'ch ar­wydd. Ni chredwch (meddwch chwi) fod yr vn vffern. Ac yr wyf yn meddwl, pe holid chwi yn fanwl, na chredwch chw­aith fod yr vn nef, na Duw, na diafol.

Antil.

Nagê, mi a gredaf fod nefoedd, oblegit mi ai gwelaf hi am llygaid.

Theol.

Y mae yn dybygol na chredwch chwi ddim ond à weloch: Eithr bendigedig yw'r hwn à gredo, ac ni wel. Yr ydych chwi yn vn or rhai an-nuw dygnaf y bum mi erioed yn ymddiddan ag ef. Jo. 20.29 Atheist dyn-di­dduw.

Antil.

Ni ddylych chwi farnu. Ni wyddoch chwi galonnau dynion.

Theol.

O gyflawnder y galon y llefara y genau. Chwi a ddangosasoch eich calon yn ddigon eglur, wrth eich geiriau. Canys agoriad y meddwl yw'r tafod. Ac am farnu, wrth eich ffrwyth yn vnig yr wyf fi yn eich barnu, yr hyn beth sydd gyfreith­lawn. Oblegit nyni â allwn yn hydda ddywedyd, mai drŵg yw 'r pren â ddygo ffrwyth drŵg, a'r neb â wnel ddrygioni sydd ddyn drygionus. Eithr chwychwi, a'ch cyffelyb chwithau ydych yn cymmeryd arnoch farnu calonnau dy­nion.

Canys er bod gweithredoedd dŷn oddi­allan yn grefyddol, ac yn ônest, etto chwi ai heuog-fernwch ef. Ac o bydd dyn yn ymroi i air Duw, ac i weddio, i ddiwygio ei deulu, ac i ymgadw rhag y pechodau dygnaf yn y byd, chwychwi yn y fân, a ddywedwch mai rhagrithwr yw. Ac mal hyn yr-ydych chwi yn cymmeryd arnoch famu calonnau dynion, megis pe baech yn gwybod, ar ba galondid, a meddylfryd y gwneir y pethau hyn.

Antil.

Cyfaddef yr wyf fy môd yn be­chadur, ac felly y mae pawb eraill, am â wn i. Nid oes neb nad oes iddo ddigon o le i wellhau. Mi â archaf i Dduw roddi i ni oll gyfran o'i râs, fel y gallom ei fod­loni [Page 302]ef, a myned i'r Nefoedd ar y diwedd.

Theol.

Chwi â fynnech drwy gydgym­myscu pawb a'i gilydd, gael eich gadael eich hûn yn gystal ar goreu. Megis pe na bai rhagor rhwng y naill bechadur, ar llall:

Ond y mae yn rhaid i chwi ddyscu ad­nabod, fod rhagoriaeth mawr rhwng pe­chaduriaid.

Oblegit y mae pechadur edisarus, a diedifarus: Y pechadur gofalus, a'r dio­fal: Y pechadur yr hwn ni chyfrifir iddo bechod, ar hwn y cyfrifir iddo bechod: Y pechadur â fydd cadwedig, a'r hwn â gon­demnir. Oblegit vn peth yw pechod o wendid, a pheth arall yw byw, a thrigo ynddo, a gwneuthur celfyddyd o honaw: Ac (fel y dywed yr Yspryd glân) ei ŷsed fel yr ŷs y pyscod ddwfr, a'i dynnu à rhe­ffynnau oferedd, ac megis â rhaffau menn: Esay 5.18.

I fyrrhau, y mae cymmaint rhagor rhwng pechadur a phechadur, ac sy rhwng goleuni a thywyllwch.

Canys er bod plant Duw yn bechadu­riaid, o herwydd gweddillion pechod yn aros ynddynt, etto yr Scrythyrau a'u gei­lw hwynt yn gyfiawn, ac yn vnion, oblegit eu bod wedi eu cyfiawnhau trwy Grist, a'u sancteiddio drwy ei râs ef, ai Yspryd Glân. Ac o herwydd hyn y dywed St [Page 303] Joan. Yr hwn â aned o Dduw, ni phecha. 1 Joan 4.6.

Antil.

Pa beth, adolwyn, â bechasoch chwi crioed?

Theol.

Dô, â pheth am hynny? beth ydych chwi nês?

Antil.

Chwychwi y Pregeth-wyr ni fedrwch gyttuno yn eich plîth eich hunain. Y naill sy'n dywedyd vn peth, ar llall, â ddywed beth arall. Ac felly yr ydych yn pendafadu y bobl annyscedig, fel na wy­ddant wrth ba blaid y glynant.

Theol.

Y Pregethwyr, i Dduw bo'r di­olch, a gytrunânt a'i gilydd or goreu, yn holl brifbyngciau crefydd, a sylfein iechy­dwriaeth: eithr os anghyttunant mewn rhyw achosion eraill, chwychwi â ddylech brofi yr ysprydion, á ydynt o Dduw. Rhaid i chwi brofi pob peth, a chadw'r hyn sydd dda.

Antil.

Pa fodd y dichon dynion gwi­rion, anwybodus brofi ysprydion, ac addysc y Pregeth-wyr?

Theol.

Gallant. Oblegit yr Apostol â ddywed: 1 Cor. 2.15. Y dyn ysprydol sy'n dirnad (neu yn barnu) pob peth. A Sant Joan â ddy­wed: Ond y mae yr eneiniad a dderby­niasoch ganddo ef yn aros ynoch chwi, ac chwi a wyddoch bob peth. Sef bob peth angenrheidiol i iechydwriaeth. Gan hynny y rhai sy ganddynt Y spryd Duw â fedrant [Page 304]farnu, a dirnad athrawiaethau, â ydynt o Dduw, ai nid ydynt.

Antil.

Nid wyfi lythyrennog, am hynny ni fedraf fi farnu am yr achosion hynny. Ac am wrando Pregethau nid wyf yn cael ennyd i redegan iddynt. Y mae gennif rywbeth arall iw wneuthur. Y rhai sy'n medru darllain ar lyfrau, ac yn gwrando cymmaint o bregethau, bar­nant hwy am yr achosion hyn. Ni bydd i mi â wnelwyf à hwynt; ni perthynant i mi.

Theol.

Etto er hyn ei gyd chwi â ddy­lech ddarllain yr Scrythyrau, a gwrando Pregethu gair Duw, er mwyn gallu o ho­noch farnu rhwng gwirionedd, a ffalsedd mewn achosion Crefydd.

Antil.

Y mae yn debig eich bod yn ty­bied nas gall neb fod yn gadwedig heb Pre­gethu, a bod pawb yn rhwymedig i gynni­wair at bregethau, eithr nid wyfi o'ch me­ddwl chwi yn hynny.

Theol.

Ein Harglwydd Jesu â ddywed. Fy nefaid i a edwyn fy lleferydd: A thra­chefn y dywed. Yr hwn sydd o Dduw â wrendu eiriau Duw, am hynny ni wran­dewch chwi, am nad ydych o Dduw. Felly chwi â welwch pa fodd y mae Crist Jesu yn gwneuthur hynny yn arwydd hynod o blentyn i Dduw, sef gwrando Pregethu ei air. Joan. 10.16. ac 8.47.

Antil.

Ond yr wyfi yn tybied y gellir gwasanaethu Duw yn dda ddigon heb Pregethwr. Oblegit beth yw'r Pregeth­wyr ond dynion. A pha beth â allan hwy? Gwr da yw Pregethwr tra fyddo yn y pul­pyt, ond os bydd allan o'r pulpit nid yw efe ond fel gŵr arall.

Theol.

Trahâus yr ydych yn dywedyd am gennadon Duw, ac am Sanctaidd ordin­had Duw, eithr y maê'r Apostol yn atteb hyd adref ich dadleuon chwi, gan ddy­wedyd. Rhuf. 10.17. Ffydd sydd trwy glywed, a chly­wed trwy air Duw: A pha fodd y cly­want heb Pregethwr. Yn yr hyn eriau y mae'r Apostol yn dywedyd yn eglur, na ellwch byth gael ffydd, na gwasanaethu Duw yn vnion heb Pregethu.

Antil.

Darfyddo i chwi bregethu eich eithaf, ni ellwch wneuthur gair Duw ddim gwell nac ydyw: A rhai ydynt yn chwa­negu atto, ac yn tynnu oddiwrtho yr hyn â fynnont. Nid yw'r Scrythyrau ond dy­chymmygion dynion: a dynion â wnae­thant yr Scrythyrau.

Theol.

Pregethu ir ydym, nid i wneu­thur y gair yn well, ond i'ch gwneuthur chwi yn well. Ac am chwanegu atto, a thynnu oddiwrtho, nid yw hynny ond an­wir dybryd. Ac lle yr ydych yn dywedyd mai dynion â wnaethant yr Scrythyrau, cabledd yw vnwaith meddwl hynny, ac yr [Page 306]ŷch yn deilwng o gael eich atteb wrth Neu wrth y crogbren. Tibwin.

Antil.

Mi á welaf yn awr, eich bod yn frŵd; yr wyf yn deall, er eich duwioled, y medrwch fod yn Siom­gar. dán-baid.

Theol.

Nid wyfi yn tybied fod yn be­chod ddigio yn erbyn pechod, canys eich pechod chwi fydd anguriol, a phwy á all ei oddef.

Antil.

Ar hyd yr amser yr ydych yn dadleu ynghweryl Pregethu: eithr nid ydych yn yngan vnwaith am weddio: yr wyfi yn meddwl fod cyn rheitied gweddio, â phregethu. Canys yr wyf yn cael yn yr Scrythyrau: Gweddiwch yn ddibaid: ond nid wyf yn cael yno, Pregethwch yn ddibaid.

Theol.

Nid yw neb yn gwadu, nad yw gweddio yn dra-angenrheidiol, ac iw gys­sylltu at bregethu, ac at bob ymarfer arall ar dduwioldeb: Canys gweddio yw'r llaw­forwyn i'r cwbl. Ond etto mwy cyfrif â wnown o bregethu, oblegit ei fod yn cyfar­wyddo, ac yn cymmell i weddio: ie Pre­ge [...]hu sydd yn dadebru, ac yn gosod dyn ar yr iawn ffordd ym mhob gweithred, a gwasanaeth ysprydol, hebddo ni allwn ni gadw dim iawn drefn yn ddi-draill, ond bod yn hylichr beunydd i I ogwy­ddo. ystlysu ar ddidro, ac i gyfeiliorni ar y naill law, neu ar y llall.

[Page 307]

Ac lle yr ydych yn dywedyd eich bod yn cael, Gweddiwch yn ddibaid; chwi â allech (oni bai eich bod yn ddall o'r waith oddef) gael hefyd, Pregethwch yn ddibaid.

Oblegit yr Apostol a ddywed wrth Ti­mothi: Bydd daer: 2 Tim. 4.2. Pregetha'r gair mewn amser, ac allan o amser. Hynny yw bob amser, fel y bo'r amser, ac achlysur yn gwasanaethu.

Antil.

Canmol Pregethu yr ydych: ond nid ŷch yn yngan am ddarllain, yr wyf yn meddwl eich bob yn condemnio darllain.

Theol.

Yr hwn sydd yn rhoddi mawr­glod i aur, a yw hwnnw yn anghanmol a­rian? Yr wyfi yn cyfaddeu yn hyrwydd fod darllain gair Duw, yn y dirgel, ac yn y goleu, yn neillduol, ac yn gyhoe­ddus, yn beth angenrheidiol, a buddiol; ac mi â ddamunwn ar Dduw pe baid yn ei ddarllain yn fynnychach nac yr ydys.

Canys hynny â fyddei lessol iawn i chwa­negu gwybodaeth, a deall, ac â wnai ddy­nion hefyd yn gymhwysach i wrando Pre­gethu'r gair. Oblegit ni all y rhai ydynt lwyr anghydnabyddus ag ystori, ac ystyri­aeth y beibl gasclu wrth wrando nemmawr gyssur oddiwrtho.

Phila.

Cyffelybus yw nad yw 'r gŵr yma yn gwneuthur fawr gyfrif o'r naill, nac or llall, nac o bregethu, nac o ddar­llain. [Page 308]Oblegit am â welaf fi, ni bydde i arno ronyn cyffro pe bai'r Scrythyrau wedi eu llosci yn vlw.

Antil.

Oh Syr, chwerw-ddwys yw'r geiriau yna: Siaredwch pan i'ch cymhe­ller. Pwy a'ch gwnaeth chwi yn farnwr? Vn o'i ddiscyblion ef ydych; a hynny â wna i chwi ddadleu yn ei blaid.

Phila.

Nagê Syr: gobeithio fy mod yn ddiscybl i Grist, ac nid i ddŷn. Ond yn wir ni allaf ymattal wrth glywed eich coeg ymgeccreth, a'ch cabl-eiriau.

Antil.

Eich nawdd, attolwg Syr: Te­bygol mai vn o'r Scrythyr-wyr ydych: yr ydych chwi or Yspryd: ac mor llawn o honaw, hyd onid yw yn rhedeg allan ich ffroenau.

Phila.

Yr ŷch chwi yn dangos yn eglur pa fath ydych, nid amgen gwatworwr ffroenwawdus, fel Ismael gynt.

Antil.

A chwithau yn eich dangos eich hûn yn vn or bobl dduwiol hynny, a ad­waenant eu heistedd-leoedd yn y nef.

Phila.

Mi â attolygaf i Dduw fod yn drugarog wrthych, á rhoddi i chwi galon well: Canys mi a'ch gwelaf mewn bustl chwerwedd, ac mewn rhwymedigaeth an­wiredd.

Antil.

Tybied yr ydych chwi, nad oes vn-dyn da, ond eich cyffelyb chwi, a 'r cy­fryw ac á ddilynant eich helynt: chwi â [Page 309]fynnwch, os da gan Dduw, fod ei gyd yn bur: Ond myn Duw, y mae o honoch fagad o gymdeithion pur gnafaidd.

Theol.

Nagê, yn awr y mae yn amlwg o ba Yspryd yr ydych; canys tyngu, a difenwi â wnaethoch ar vn anadl.

Antil.

Duw â faddeuo i mi: Pa ham y parodd i mi ddigio? Y mae bagad yn y byd or fâth gostwy-wyr ac ynteu, na chaiff neb lonyddwch ganddynt.

Theol.

Mi á welaf mai Ne hawdd yw eich digio. ychydig a'ch digia chwi, gan eich bod yn digio wrtho am ddywedyd y gwirionedd.

Antil.

Pa beth sydd iddo ef â wnêl a myfi: y mae efe yn bryssurach nac y by­ddei raid iddo. Paham y dywed fy mod i mewn cyflur drŵg? Ni ddeuaf atto ef i ddyscu beth â ddylwn ei wneuthur. Od oes arnaf feiau, ni cheisiaf ganddo ef atteb trostynt. Myfi á attebaf tros fy meiau fy hûn, â safed pob llestr ar ei waelod ei hûn: ac aed ynteu i ymgymmyrredd ai bethau ei hûn.

Theol.

Yr ydych chwi yn rhŷ anodde­fus: ac yn cymmeryd pethau ar y gwae­thaf: ein dylêd ni yw rhybuddio, a chyng­hori eu gilydd yn fwynaidd, ac yn garedig: Canys rhaid i ni ofalu am iachawdwriaeth eu gilydd. Mi á allaf ddywedyd yn hŷf trosto ef, mai o gariad ac o dosturi tu ag attoch y mae efe yn llefaru.

Antil.

Nid gwaeth gennifi am ei gariad ef: cadwed ei gariad iddo ei hûn, pa beth y mae efe yn ei dybied am danaf? ydyw efe yn meddwl nad oes gennifi enaid iw ga­dw yn gystal ag yntef? Neu nad oes arnaf ddim gofal am fy iechydwriaeth? Mi â fynnwn pes gwypei fy mod i yn gofalu am fy enaid yn gystal ag yntef, er nad wyf yn gymmaint fy rhodres i ddangos golwg têg oddiallan. Oblegit nid aur yw pob peth a ddiscleirio. Y mae gennif gystal meddwl ag yntef, er na fedrwyf ei dreuthu allan.

Theol.

Hawdd y gellid hepcor y geiriau hyn. Gobeithio y llarieiddiwch ac y gwell­hewch eich buchedd, ac y nessewch at Dduw o hyn allan.

Antil.

Yn wir Syr, chwi â ellwch dy­bied o honof fel y gweloch yn dda: Ond bydded hyspys i chwi, fod arnaf fwy gofal am fy enaid nag y gŵyr y byd. I Dduw yr wyf yn diolch amdano, yr wyf yn dy­wedyd fyngweddi bob nôs hwyn gyntaf yr elwyf i'm gwely.

Ac oni wna gweddiau da i ni ddim dai­oni, Duw a'n helpio. Mi â wasanaethais Dduw erioed yn vnion, ac yn gywir, ac ai cedwais yn fy meddwl. Yr wyf yn gw­neuthur i eraill fel y mynnwn wneuthur i minneu: Yr wyf yn cyrchu i'm heglwys, ac yn ddiwyd mewn gweddi tra fyddwyf yno. A gobeithio nad wyf cynddrŵg ac y [Page 311]mynnei y gwr-da yma fyngwneuthur; a diogel gennif os ydwyf ddrŵg nad myfi yw'r gwaethaf, y mae rhai cyn-ddrwg a minneu: os i vffern yr àf; y mae i mi gy­feillion ddigon, ac mi â ymdarawaf yn gystal a rhai o honynt hwythau.

Theol.

Tybied yr ydych fod eich y mad­rodd yn ddoeth. Ond nid wyfi yn gweled fod eich atteb yn dda: Oblegit y mae ar eich geiriau ryw arwynt crŷf o anwybo­daeth, balchder, ac anghredinaeth. Canys yr ŷch yn eich cyfiawnhau eich hûn yn eich gwasanaeth i Dduw, heb na ffydd, na gwy­bodaeth. Ac yn ail, drwy ymgyffelybu ag eraill, y rhai, meddwch chwi, ydynt [...]ynddrwg â chwithau, ac nad chwychwi yw'r gwaethaf yn y byd.

Antil.

Gwn yr awr hon mai o ddrŵg ewyllys yr ydych yn llefaru: Canys ni thybiasoch erioed yn dda o honof.

Theol.

Mi â ewyllysiwn fod i mi achos i dybied o honoch yn gystal ac y dymu­nwn; a chael o honof weled y cyfryw waith ysprydol wedi ei weithio ynoch, ac a yn­nillei fynghariad i, am bodlonrhwydd tu ag attoch.

Ac am ddrwg ewyllys, fe â ŵyr Duw nad oes gennifi ddim tu ag attoch: Ewylly­sio yr wyf eich edifeirwch, a'ch iechydw­riaeth, a hynny am holl galon, Ac mi â dybiwn fy mod yn ddedwydd, pe gallwn [Page 312]achub eich enaid, ie â cholled fy mraich dehau fy hûn.

Antil.

Gobeithio y gallaf edifarhau; canys fe ddywaid yr Scrythur, pa prŷd bynnag yr edifarhao pechadur, y maddeu Duw iddo: Am hynny os gallaf gael hamdden, a grâs, ac amser i gymmeryd edifeirwch cyn fy marw, ac i ofyn i Dduw faddeuant, ac i ddywedyd fyngweddiau, ac i lefain ar Dduw am drugaredd, go­beithio yr wyf y bydd digon da sy he­lynt.

Theol.

Dywedyd yr ydych megis pe bai edifeirwch yn eich meddiant eich hùn, ac wrth eich gorchymyn: ac fel pe me­drech ei ddwyn i'ch calon pan fynnech: A hyn â wna i chwi, ac i lawer eraill, ry­fygu o honaw deir-awr cyn marw. Eithr rhaid i chwi wybod mai rhagorol rôdd Duw yw edifeirwch; ac nas rhoddir ond i rai. Canys fe fyn Duw adnabod yn hyspys y neb y rhoddo efe edifeirwch iddo, gan mai priodol ydyw ir etholedi­gion yn vnig. Nid peth yn sefyll ar ei­riau; ac ni cheir mo honaw heb lawer o weddiau taer difrifol, a llawer o wran­do, a darllain, a myfyrio ar air Duw, Nid cyn hawsed dyfod iddo, ac y [...]ybia 'r byd. Ni chaist neb afael arno ond ai ceisio yn ddyfal, ac ai gofynno yn daer; Nid achos cyffredin ydyw iw drân tros [Page 313]deirawr. Llefain ar Dduw am druga­redd tros ychydig, i fwrw cêl tros gyffion fel Ahab, ni wna ddim llesâd.

Mai dar ar frŷs tros swrn o weddiau y chydig cyn marw, ni thyccia. Oblegit er nad yw gwir edifeirwch ryhwyr vn am­ser, etto hwyr a diweddar edifeirwch sydd yn anfynych yn wir.

Yn hyn o beth, enbaid yw pob oed. Canys pa hwyaf yr oeder, waethwaeth yw ein cyflwr. Pa bellaf y tarawer yr hoel a morthwyl, anhawsaf fydd ei thynnu allan yn ei hôl. Pa hwyaf y gadawer i'r afiechyd gerdded yn y corph, anhawsaf fydd ei feddiginiaethu. Pa ddyfnaf y gwreiddio y pren, anhawsaf yw ei ddad­wreiddio: A pha hwyaf yr oeder amser edifeirwch, anhawsaf fydd edifarhau: ac am hynny, peth peryglus yw oedi hyd yr eithaf.

Canys medd vn o'r hên dadau gynt. Nid ydym yn darllain ond am vn à edi­farhaodd ar y diwedd, rhag i neb ryfygu: ac etto am vn rhag i neb anobeithio. Av­stin.

Gan hynny, i ddibennu y pwngc yma, mi â fynnwn i chwi wybod, mai yr amser presennol yw amser yr edifeîrwch.

Oblegit yr amser á aeth heibio ni ellir ei gael eilwaith; a'r amser i ddyfod sydd ansiccr.

Antil.

Syr, i'm tŷb i chwychwi â adro­ddasoch ryw bethau tra peryglus, ar cy­fryw, ac â fyddei ddigon i beri i ddyn a­nobeithio.

Theol.

Beth yw'r rheini, adolwyn?

Antil.

Y mae o honynt lawer. Ond vn peth anad dim sy'n fwrn ar fyngha­lon, nid amgen, leied nifer â fydd cad­wedig fel y dywedwch. Eithr anhawdd yw genif goelio wneuthur o Dduw gyn­nifer o filoedd, iw bwrw yn golledig wedi darfod iddo. A ydych chwi yn tybied i Dduw ein gwneuthur i'n condemnio? A wnewch chwi ef yn awdur damnedigaeth.

Theol.

Na wnaf ddim. Oblegit nid Duw yw achos damnedigaeth dynion, ond hwynthwy eu hunain. Colledigaeth pob dyn sydd oddiwrtho ei hûn. Megis y mae yn scrifennedig: Hos. 13.9. ô Israel tydi a'th ddinistriaist dy hûn. Ac am Dduw, cym­meryd ac arfer y mae efe (mewn mawr drugaredd) pob moddion possibl i achub eneidiau. Megis y dywaid drwy'r Pro­phwyd: Esay 5.4. Beth oedd iw wneuthur ychwaneg i'm gwinllan, nac â wneuthum ynddi? Ond i ddyfod yn nês at y cwestiwn.

Gwadu yr wyf ddarfod i Dduw wneu­thur y rhân fwyaf o ddynion yn vnig, ac yn benffettur i golledigaeth, megis y diben priodol yr oedd efe yn cyfeirio at­to, wath ei gwneuthur hwynt: Eithr efe â [Page 315]greawdd bob peth er mawl ei egoniant ei hûn, fel y mae yn scrifennedig: Yr Ar­glwydd â wnaeth bob peth er ei fwyn ei hun, ar annuwiol hefyd erbyn y dydd drŵg. Dihar. 16.4.

Wrth hynny y mae yn canlyn mai yr achos, ar pennod o herwydd pa vn y creawdd Dduw y drygionus, nid oedd, ac nid yw yn vnig er mwyn dinistrio ei greadur, ond er mwyn ei fawl, ai ogoniant ei hun, fel y gallei hwnnw yn vnig, sef ei am hydedd ef ymddangos, ac ymegluro yn ei holl weithredoedd. Er hynny diammeu ydyw, ddarfod i Dduw o herwydd rhyw achosion cyfiawn (er bod y rheini yn guddiedig i ni) wrthod nifer mawr o ddynion: Yr achosion, meddaf, y gwrthododd Duw rai, ydynt yn guddiedig yn nhragwyddol gyngor Duw, ac yn hyspys iw dduwiol ddoethi­neb ef yn vnig. Dirgel ydynt, a chuddie­dig oddiwrthym ni, ac wedi eu rhoddi i gadw yn ei dragwyddol ddoethineb ef, iw datcuddio yngogoneddus ymddan­gosiad ein Harglwydd Jesu. Psal. 36.6. Rhuf. 11.33. Dyfnder mawr yw ei farnedigaethau, ai ffyrdd ef ydynt anolrheinadwy. Cyn Cyn dy­yceed. bossibled i ni allu cynwys y mòr mawr mewn phiol fe­chan â gallu dirnad rheswm cyngor Duw, yn yr achosion hyn.

Antil.

Pa reswm, pa gyfiawnder, pa vniondeb yw rhoddi barn marwolaeth yn erbyn dynion cyn eu geni, a chyn iddynt wneuthur na da, na drŵg?

Theol.

Mi a ddywedais i chwi or blaen, na allwn ni byth gyrhaeddyd dirnad rhe­swm Duw yn y gorchwyl hwn. Gwybod sydd raid i ni, mai ei ewyllys ef yw rheol pob cyfiawnder, ac mai yr ewyllys hwn sy raid iddo sefyll i ni, yn lle mîl o re­symmau. Oblegit pa beth bynnag â e­wyllysio Duw, â ddylid ei gyfrif yn gy­fiawn, am iddo ef ei ewyllysio. Ni fedrwn ni ddirnad rhefwm llawer peth naturiol, â phethau o fewn ein golwg, megis sym­mudiad y cyrph nefol, eu cyflymdra an­nealladwy, eu defnydd, a'u sylwedd, eu maintioli, eu huchder, a'u llêd. Ni fe­drwn ni gael allan yn hyspys, achosion y taranau, y mêllt, y gwyntoedd, y diar­grynfau, y trai, a'r llanw yn y môr, a lla­wer o bethau eraill tan yr haul: pa fodd gan hynny y byddei bossibl i ni allu drin­go i ddirgelfa cynghordŷ Duw, i chwilio allan ddyfnderoedd ei ddirgelion ef, y rhai ni ddichon synwyr, a deall dyn mewn modd yn y byd, eu cyrhaeddyd. Dyscwn gan hynny yn ofn Duw, fawrygu y peth ni allwn yn y bywyd yma ei ymgy­ffred. Yr vn peth hyn sydd yn rhaid i mi ei ddywedyd wrthych.

[Page 317]

Beth bynnag â ordeiniodd Duw, etto nid yw efe yn rhoddi neb i ddioddef am­dano, nes iddo ddeng-mîl o weithiau ei haeddu: Canys rhwng yr ordinhâd ar cyflawniad, y daw pechod ynom ni, yn achos gwir gyfiawn o ddamnedigaeth.

Antil.

Os ordinhâd Duw yw colledi­gaeth dynion, beth â allant hwy wrth hynny? Pwy â ddichon wrth-sefyll ei e­wyllys ef? A pha ham y digia efe wr­thym? Oblegit rhaid yw digwyddo pob peth yn ôl ei ordinhâd ef, a'i drefnid

Theol.

Yn gyntaf, atteb yr wyf gyd a'r Apostol. Pwy wyt ti, Rhuf. 9.20. yr hwn â ddadleui yn erbyn Duw? A ddywed y peth ffurfie­dig wrth yr hwn ai ffurfiodd, paham i'm gwnaethost fel hyn? Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur or vn telpyn pridd un llestr i barch, ac arall i amharch? Heb law hyn, atteb yr wyf, nad yw ordeinhâd Duw yn Yn di­rio ar. trais­gymmell ewyllys dyn o'i anfodd: ond yr ewyllys sy'n gweithio, ac yn ymgynhyrfu o honaw ei hûn.

Ac y mae ganddo ynddo ei hûn achos dechreu ol pob drŵg-gynnwrf, ac â becha yn ewyllysgar. O herwydd hyn, er bod ordinhâd Duw yn gosod angenrhaid ar bob ail-achosion (yn gymmaint â bod yn rhaid eu ffurfio, au cymmwyso wrth hwnnw) etto nid yw yn dirio, ac yn [Page 318]peri: Canys hwynt hwy oll (sef yr ail-achosion) â gynhyrfir, ac â ânt rhagddynt, wrth bwyseu hewyllysgar symmudiadau en hunain.

Megis y gwelwn mewn clocc, y pwy­sau, y rhai sy'n symmud gyntaf, a barant i'r holl rodau eraill symmud, A'u go­sodant ar gerdded i droi. a cher­dded: ond nid symmud, neu droi yma, ac accw: oblegit yn gymmaint a'u bod yn ymsymmud, rhai y naill ffordd, ac eraill ffordd arall, hynny a ddigwydda oddiwr­thynt eu hunain: sef eu ffurfiad a'u gw­neuthurdeb eu honain: Felly ordinhâd Duw sy'n cynhyrfu pôb ail-achosion, ond nid yn tynnu ymmaith eu cynnwrf priodol hwy eu hunain. Oblegit Duw yw awdur pob gweithred, eithr nid yw efe awdur y drŵg sydd yn y weithred. Megis mai e­na [...]d dyn yw achos dechreuol o bôb cyn­nwrf mewn dyn fel y mae 'r Philosophy­ddion yn ymresymmu, ond nid or cloff­ni, neu'r gwendid sydd yn y cynnwrf: Canys hynny sydd oddiwrth achos arall, nid amgen, rhyw ddiffyg neu wendid yn y corph: Felly, meddaf, ordinhâd Duw yw 'r gwreiddin, a'r achos cyntaf o gynnwrf, ond nid o ddiflyg y cynnwrf, hwnnw sydd o honom ni.

Hefyd fod clôch yn seinio, yr achos sydd yn yr hwn ai cano: ond o fod y glôch [Page 319]yn anghyssain neu yn ddrygsain, yr achos sydd ynddi ei hûn. Drachefn fod offeryn cerdd yn rhoddi sain, yr achos sydd yn y Cerddor: Ond ei anghywir-sain sydd o ho [...]aw ei hûn, eisieu bod yn gywair. Felly i ddibennu y pwngc yma: pob cyfryngau, ac achosion cannolig â gynhyrfir gan Dduw, yr hwn yw y prif-gynhyrfudd yn y cyfryw fodd, ai fod efe yn gwneuthur yn dda, yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, bob am­ser yn ei gynnwrf.

Eithr y cyfryngau, neu 'r peiriannau y rhai â gynhyrfir, a dynnir i symmudiadau gwrthwyneb, yn ôl eu naturiaeth briodol, a'u ffurf eu hunain. Os da a fyddant, hwy â dynnant at yr hyn fyddo da: ond os drŵg fyddant, tynnu, a gogwyddo a wnânt at y peth â fyddo drwg. Yn gym­maint ac yn ôl deu-ryw ddecrheuad cyn­nwrf, ac ewyllys dyn, y mae deublyg, ac ymrafael waith, ac effaith yn goferu, ac yn dyfod oddiwrtho.

Antil.

Ond o ba le y mae yn digwy­ddo fod dyn, o honaw ei hûn, sef oi rwydd gynnwrf, ai athrylith ei hûn, yn ewyllysio yr hyn sy ddrŵg?

Theol.

Oddiwrth gwymp Adda, drwy'r hwn y llygrwyd ei ewyllys ef.

Antil.

Beth oedd yr achos o gwymp Adda?

Theol.

Y Cythraul, a Llygri­ad. neu halo­giad. diswyni­ad, Drwg­driniad. cham arfer ei ewyllys ei hûn.

Antil.

Pa fodd y gallai ei ewyllys ef ogwyddo at ddrŵg gan ei wneuthur yn dda, ac yntef ei hûn hefyd wedi ei wneuthur yn dda?

Theol.

Efe, ai ewyllys â wneuthid yn dda, ond yn dda gyfnewidiol: Canys bod yn dda yn anghyfnewidiol, sydd beth priodol i Dduw yn ynig. Ac Adda oedd yn sefyll yn y cyfryw gyflwr, ac y gallai syrthio fel y dengys y digwydd.

Antil.

Onid oedd ordinhâd Duw yn achos o gwymp Adda?

Theol.

Nac oedd: eithr hyrwydd dueddiad ei ewyllys ef i ddrŵg. Oble­git nid cymmell ewyllys Adda a wnaed oi anfodd, drwyddir orfod, neu drais arfaeth Duw, i gydsynnio â drŵg: eithr efe oi hyrwydd ewyllys, a pharodrwydd me­ddwl, â wrthododd Dduw, ac â gydsynni­odd a'r Cythraul.

Gan hynny, mal hyn y dibennaf; o ran yr ordinhâd, neu 'r digwydd, Adda â be­chodd o angenrhaid; ac ni allai amgen: ond o ran y prif-gynbyrfudd, a'r achos oddi mewn, yr hwn oedd ei ewyllys ei hûn, yna o'i wirfodd, ac yn ddamweiniol y pe­chodd.

Oblegid nid oedd ordinhâd Duw yn [Page 321]tynnu ymmaith ei ewyllys ef, na damwain ei ewyllys, ond yn vnig yn ei drefnu, ai ddodrefnu.

Am hynny fel y dywed gŵr dyscedig: Beza. Volens peccavit & proprio metu. Efe a bechodd o'i wirfodd ac oi ewyllys ei hun, ac o hynni ddylid bwrw ar Dduw, nac ar ei ordinbad ef ddim drŵg.

Antil.

Pa fodd, gan hynny, yr ydych chwi yn ystyried, ac yn dirnad o arfaeth Duw yn yr holl bethau?

Theol.

Fel hyn: ddarfod i Dduw or­deinio rhyngddo ag ef ei hûn vno actu, ar vnwaith.

Y byddei fŷd.
Y crêid Adda yn berffaith.
Y cwympei o honaw ei hûn.
Y cwympei pawb gyd ag ef.
Yr achubei
Sef Duw.
efe rai or heppil co­lledig.
Y gwnai hynny o drugaredd, drwy ei fàb.
Yr euog-farnei efe eraill am be­chod.
Antil.

Ond pa fodd y profwch chwi or­dinhâd gwrthodedigaeth? sef ddarfod i Dduw fwriadu damnedigaeth miloedd cyn bod y byd?

Theol.

Yr Scrythur sy'n galw y gwr­thodedig, Rhuf. 9.22. Llestri digofaint wedi eu cym­hwyso [Page 322]i golledigaeth. Yr Scrythur â ddy­wed: Nid appwyntiodd Duw nyni i ddigo­faint. Am hynny y canlyn fod rhai we­di eu appwyntio i ddigofaint: [...] Thes. 5.9. Yr Scry­thur â ddywed am y gwrthodedig: Eu bod wedi eu hor deinio i dramgwyddo wrth y gair. 1 Petr 2.8.

Yr Scrythur â ddywed, Eu bod wedi eu rhag- [...]rdeinio er ystalm ir farnedigaeth hon, Jud. 4.

Antil.

Eithr pa fodd yr attebwch i hyn▪ Ni ewyllysia Duw farwolaeth pechadur: EZech. 18.32. Am hynny ni ddewisodd efe neb i golledi­gaeth.

Theol.

Nid yw Duw yn ewyllysio mar­wolaeth pechadur yn bendant, ac yn ben­ffettur, fel y mae yn ddestruw ar y crea­dur: ond megis y mae yn fodd i hyspysu ei gyfiawnder, ac i osod allan ei ogoniant ef.

Antil.

A oedd Duw yn rhagweled, ac yn rhagwybod y cyfrgollid y drygionus drwy eu pechod eu hun: ac etto ni raglu­niodd efe hwynt i hynny.

Theol.

Rhag-olygiad, a rhag-wyboda­eth Duw, ni ellir eu gwahanu oddiwrth ei ordinhâd ef.

Oblegid beth bynnag â rag-welodd, ac â rag-ŵybu Duw yn ei dragwyddol gyagor, hynny a fwriadodd efe ei ddwyn i ben.

[Page 323]

Canys megis mai peth perthynol iw ddoethineb ef yw rhagwybod, a rhagweled pob peth: Felly peth perthynol iw allu ef yw rheoli, a llywodraethu pob peth wrth ei ewyllys ei hûn.

Antil.

Pa beth yw'r hyn â elwch chwi rhag-olygiad yn Nuw?

Theol.

Rhag-olygiad yn Nuw, yw'r peth trwy'r hwn y mae pôb peth yn aros yn bre­sennol o flaen ei lygaid ef, yn gymmaint ac iw dragwyddol wybodaeth ef, nid aeth dim heibio, nid oes dim i ddyfod; ond pob peth sydd bresennol, bob amser. Ac y maent felly yn bresennol, fel nad ydynt ddychymmygion, meddyliau, lluniau, a chynhyrfau: ond pob peth sydd bresennol ger bron Duw, yn wastadol yn y cyfryw fodd, a'i fod efe yn eu gweled hwynt yn eu gwirionedd, a'u perffeithrwydd.

Antil.

Pa fodd y dichen Duw wrth gyfiawnder, fwriadu colledigaeth dynion cyn iddynt bechu?

Theol.

Y gwrtheb yma â attebwyd or blaen mewn rhan: Oblegid mi â ddywe­dais i chwi, nad ydyw Duw yn euog-farnu neb oddieithr am bechod, naill ai am be­chod gwreiddiol yn vnig; neu am bôb vn or ddau, gwreiddiol, a gweithredol.

Canys pa fodd bynnag y mae Duw yn­ddo ei hûn, cyn pob amser, yn bwriadu gwrthod llawer, er hynny nid yw efe yn [Page 324]dwyn dim dialedd arnynt, nes cael ynddynt achosion hynod, eu bod yn gwir haeddu y peth â fwriedir i'w herbyn.

Am hynny Anghy­wir. anghymmwys, ac annoeth y maent hwy yn trîn eu pethau, y rhai â gymmyscant ordinhâd gwrthodedigaeth ynghyd à damnedigaeth, Ewyllys Duw. yw achos gw­rthode­digaeth: ond pe­chod dyn yw achos damnedi­gaeth. gan mai pechod yw achos y naill, ac ewyllys Duw yn vnig yw achos y llall.

Phila.

Gan fyned o honom cyn belled a hyn yn y cwestiwn yma, drwy achlyssur gwrthattebion, a checcreth y gŵr yma, atto­lwg i chwi bellach, megis yr adroddasoch lawer am wrthodedigaeth, ar achosion o ho­naw: felly gedwch i ni glywed rhyw-beth am etholedigaeth ai achosion, ac eglurwch i ni allan or Scrythyrau ddarfod i Dduw, er cyn seiliad y byd ddewis rhai i fywyd tra­gwyddol.

Theol.

Ynghylch ordinhâd etholedigaeth, nid oes nemmawr yn ammeu o honaw: O herwydd hynny, ychydig brawf â wasa­naetha i'r pwngc hwnnw. Yn vnig mi ai cadarnhâf ag vn testiolaeth, neu ddau or Scrythyrau.

Yn gyntaf fe â ddywed yr Apostol: Eph. 1.3, 4. Ben­digedig fyddo Duw, a Thâd ein Hargl­wydd Iesu Grist, yr hwn a'n bendithiodd ni â phob bendith ysprydol yn y nefolion leoedd yng-Hrist: Megis yr etholodd efe ni ynddo of cyn seiliad y byd, fel y byddem yn san­ctaidd [Page 325]ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad. Chwi â welwch fod y geiriau yn eglur, ac yn hyspys ir perwyl yma.

Prawf cadarn arall a dynnir or ŵythfed at Y Rhufeniaid. Y rhai â ragwybu a raglu­niodd efe hefyd i fod yn vn ffurf a delw ei fab ef, fel y byddei efe yn gyntaf-anedig ym mhlith brodyr lawer. Rhuf. 8.29.

Phila.

Pa rai yw achosion etholedi­gaeth?

Theol.

Achosion etholedigaeth â geir yn vnig yn Nuw ei hûn. Oblegid ei drag­wyddol etholedigaeth ef nid o ddŷn y mae, nac o ddim sy mewn dŷn, ond wedi ei fw­riadu ynddo ef ei hun, ai gadarnhau yng-Hrist, yn yr hwn i'n e [...]holwyd.

A hynny â brofir yn helaeth yn y geiriau hyn. Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hûn, Eph. 1.5.6. yn ôl bodlonrhwydd ei ewyllys ef: er mawl, a go­goniant ei râs ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr anwylyd. Ni a we­lwn yma fod yr Apostol yn dangos i ni, mai ei ras anhaeddianus ef, a bodlonrh­wydd ei ewyllys yw'r achosion cynhyrfol, [...]eu cymhellig o'n etholedigaeth.

Phila.

Eithr y mae gwŷr Rhufain yn cyrchu achos cynhyrfol ein etholedigaeth ni oddiwrth haeddedigaethau dŷn, ai [...]ag­weledig weithredoedd. Canys meddant hwy, Duw oedd yn rhagweled pwy a edifa­rhaei, [Page 326]a gredai, ac a fucheddei yn dda: ac am hynny yr etholodd efe hwynt.

Theol.

Eithr y maent hwy yn camgym­meryd ym mhell. Oblegid yr wyf fi yn dywedyd drachefn, a thrachefn, nad oedd dim ynom ni, â allai gynnyrfu Duw, a phe­ri iddo osod ei gariad arnom, a'n dewis iddo ei hun, ond yr achos a gafodd ynddo ei hunan; Megis y mae yn scrifennedig: Y mae efe yn trugarhau wrth yr hwn y trugarhao, ar neb y mynno â galeda efe. Rhuf. 9 18.

Ac eilchwel, Nid or hwn sydd yn ewylly­sio y mae, Rhuf. 9.16. nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith, ond o Dduw yr hwn sydd yn trugarhau. Yr Arglwydd ei hûn hefyd â destiolaetha felly, sef iddo ddewis ei bobl, nid o herwydd dim a oedd ynddynt hwy: ond yn vnig o herwydd iddo eu caru, Deu 7.7. a bod yn hôff ganddo hwynt. Ac felly gwir ddiammeu ydyw fod trag­wyddol ragluniaeth Duw yn cau allan hôll haeddedigaethau dyn, a holl nerth, a gallu ei ewyllys ef i yunill drwyddynt fywyd tra­gwyddol: ac mai ei râd-drugaredd ef, ai ffa­for anhaeddiannus, yw dechreuad, a cha­nol-waith, a diw [...]dd ein hiechydwriaeth ni.

Phila.

Gan hynny, pa vn ai, ffydd sydd yn gobennyddu ar etholedigaeth, ai etho­ledigaeth ar ffydd: Hynny yw, a ddewi­sodd Duw nyni am ein bod yn credu, neu a ydym ni yn credu am i Dduw ein dewis?

Theol.

Yn ddiddadl, ffydd, â holl flrwy­thau [Page 327]ffydd ydynt yn gobwyso ar etholedi­gaeth: Canys am hynny yr ydym yn credu, o herwydd ein bod wedi ein dewis, ac nid am hynny i'n dewiswyd o herwydd ein bod yn credu: Fel y mae yn scrifennedig: A chynnifer ac oedd wedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol, a gredasant. Act 13.48.

Antil.

Os rhagluniwyd dynion cyn eu geni, i ba beth y rhoddir gorchymynnion, cynghorion, cyfreithiau, &c. Nid gwaeth pa fodd y byddom byw: Oblegid ni ddi­chon, n [...]'n buchedd dduwiol, na'n hannu­wiol newidio arfaeth Duw.

Theol.

Ymadrodd sceler, a chnawdol yw hwn, ac yn dangos fod yn y sawl sydd yn ei arfer, feddwl ofer-wael, ac afreolus.

Ond mi a ewyllysiwn ir cyfryw rai ysty­ried diwedd ein etholedigaeth, yr hwn yw, fod i ni fyw yn dduwiol. Megis yr eglur­wyd yn hyspys yn y gyntaf at yr Ephesiaid; lle y dywed yr Apostol. Ephe. 1.4. Ddarfod i Dduw ein ethol ni cyn seiliad y byd. Ond i ba beth? Ai i fyw o honom fel y mynnem ein hunain? Nagê medd efe: Ond fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef. Drachefn y dywaid: Rhuf. 8.29. Duw a'n rhagluniodd i fod yn vn-ffurf a delw ei Fab ef; sef yn sanctaidd ac yn gyfiawn. Canys diammeu ydyw, na allwn ni far­nu o ragluniaeth, oddieithr wrth y pe­thau sy'n ei ganlyn, nid amgen, wrth ein [Page 328]galwedigaeth, ein cyfiawnhâd, a'n san­cteiddiad.

Oblegid pan glywom vnwaith waith grâs yn gweithio ynom (hynny yw, pan alwer ni drwy ein geni o newydd, ac i'n hadnewy­dder drwy'r Yspryd Glân, a ninneu yn cael ynom ein hunain gasineb diragrith [...] bechod, a chariad i gyfiawnder) Yna y dichon fod yn siccr gennym, ac yn ddiam­meu ddarfod ein rhaglunio ni i fywyd. O­blegit y rhai â ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd à alwodd efe: a'r rhai a alwodd efe, y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe: a'r rhai a gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe. Rhuf. 8.30.

Am hynny hyd oni chlywom y nodau, neu yr arwyddion hyn o etholedigaeth wedi eu gweithio ynom, ni allwn ni gael dim sic­crwydd diogel yn y peth yma. Ac ni ddylem ni ymorol am dano, nac ymgymmyrredd ag ef: Ond ymegnio yn ôl y gallu, ar grym a fyddo gennym, i fyw yn rhinwe­ddol, ac yn grefyddol, gan ddisgwyl pa brŷd y trugarhao Duw wrthym, ac y rhoddo i ni allu i wir ddirnad ein cyflwr. Ac am y rhai sy ddiofal, ac afreolus, heb ymwrando a'u cyflwr, deled â ddêl: Nid oes ond gobaith wan a llesc eu bod hwy wedi eu hethol, neu y gwir elwir hwynt byth.

Antil.

Yr wyfi yn tybied ddyfod drŵg mawr o bregethu, a chyhoeddi yr athrawi­aeth [Page 329]hon o ragluniaeth Duw. A da fuasai, pe nas gwybuasai y bobl erioed ddim oddi­wrthi, ond ei fod yn llwyr guddiedig. Canys fe a yrrodd rai i annobeithio, ac a wnaeth era [...]ll yn ddifrawach, ac yn ddiofalach.

Theol.

Yr ydych chwi mewn amryfusedd d [...]bryd: Canys yr athawiaeth hon, rhan ydyw o egluredig wirionedd Duw, Yr hwn â fyn fod ei bobl ef yn ei gwybod. Ac yn wir ddigelwydd y mae cyssur rhagorol yn goferu oddiwrthi, buddiol i hôll blant Duw, yn erbyn holl gynllwynion diafol, a phrofedigaethau anobaith.

Oblegit pan gaffo dyn wybod ynddo ei hun drwy arwyddion hynod, fod Duw wedi ei ddewis ef i fywyd, yna er bod y cythraul yn gosod yn daer arno, a chydwybod pechod a'i wendid ei hùn yn ei ruthr-gyrchu yn anguriol; etto efe a ŵyr yn hyspys fod tragwyddol arfaeth, a chyngor Duw yn an­ghyfnewidiol, ac o herwydd bod ei iachaw­dwriaeth wedi ei sylfaenu nid arno ei hûn, nac ar ei nerth ei hûn, ond ar anghyfnewi­diol ordinhâd Duw, yr hwn sydd sail ddiym­mod, ac yn sefyll byth yn ddiogel, ac yn gadarn: Am hynny gwneled Diafol, a phechod eu heithaf, a'u gwaethaf, etto efe à gynhelir mewn cyfiawnder, a gwirionedd, ac megis a ddygir ym mreichiau Duw i barhâu, ie hyd y diwedd.

Canys y sawl y mae Duw yn ei garu, [Page 330]hyd y diwedd y câr. efe hwynt. Hefyd pan wypo pobl yr Arglwydd vnwaith (wrth eu sancteiddiad a'u genedigaeth o newydd) ddarfod ir Arglwydd wrthod, a bwrw ymmaith gynnifer mîl-filoedd, a'u dewis hwynt i fod yn etifeddion o'i deyrnas ogoneddus, a hwythau ynddynt eu hu­nain or vnrhyw ddefnydd, a gwneuthu­riad, ac ydoedd eraill; a gwneuthur o honaw hyn oll erddynt, o'i hyrâd [...]ás, a'i anhaeddiannus drugaredd tu ag attynt: Oh mor rymmus, ac mor egniol, y gorch­fyga, yr ynnill, ac y dŵg yr ystyriaeth yma eu calonnau hwynt iw hoffi a'i garu­ef! Ac mor rhwydd galon, a llawen y gwasanaethant ef? Mor ewyllysgar, a ffyddlon yr vfyddhánt iddo? Ie, pa wre­sogi a wnant mewn awydd iddo? Oble­git coelio, a ffyddio fôd Duw yn ein catu ni, yw peth sy'n tynnu i fynu ein ca­riad ni tu ag atto ef eilwaith: Megis y dywaid Sant Ioan: Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. 1 Ioan 4.19.

Ym mhellach, fe â ddywedir am Fair Fagdalen, faddeu llawer iddi, oblegit hi a garodd yn fawr. [...]uc. 7.7. Canys pan wybu hi fod ei haml, ai herchyll bechodau wedi eu maddeu yn rhâd iddi, ei nwydau a ennynwyd yn­ddi o gariad, ac vfydd-dod tu ag at Grist. Felly hefyd yr eglwys yn y Canniadau wedi [Page 331]bod yngwîn-dŷ pôb rhâd ysprydol, a chael bwrw trosti faner o gariad Crist, Can. Sol 2.5. a gyffrôdd yn ebrwydd ar hynny, gan lefain (megis mewn llewyg) ei bod yn glâf o gariad. Felly eilchwel, Cant. 5.4. Pan estynnodd Crist ei law drwy dwll y ddor (hynny yw, a gynhyrfodd ai Yspryd ddirgellon ei chalon hi) yna y cyffrôdd ei chalon, ai hymyscaroedd a ser­chodd ynddo.

Dymma'r peth y mae St Paul ar ei li­niau yn gweddio, ar ei roddi ir Ephesiaid; Allu o honynt ymgyffred gyd a'r holl Saint, Ephe. 3 18, 19. beth yw'r lled, a'r hŷd, a'r dyfnder, a'r vch­der, a gwybod cariad Crist, yr hwn sydd vwch law pob gwybodaeth, a'u cyflawni a holl g [...]flawader Duw. Mal hyn, chwi a welwch y llesad mawr, ar cyssur sy'n dyfod o athrawiaeth yr etholedigaeth, yn gystal am ei fod yn rhoddi nerth, a chymmorth yn erbyn profedigaethau, ac o herwydd ei fod vn ein cymmell i garu Duw, ac o wir gariad arno iw ofni ef, ac i vfyddhau iddo.

Phila.

Hyd yn hyn, i'm tŷb i, chwi a gymmerasoch ddigon o amser yn atteb trawsddadleuon, ac ymgeccreth Antilegon: am yr hyn oll yr wyfi yn dal sûlw ar vn peth; nad oes dd [...]ben ar ymryson, ac ym­ddadleu yn erbyn y gwirionedd, ac y dichon vn gŵr ddwyn mewn un awr fwy o ymo­fyni [...]n, nac a allai gŵr dyscedig yn hawdd eu hatteb mewn diwrnod.

Theol.

Gwir a ddywedwch. A'r rheswm am hynny yw hwn, sef o herwydd bod pe­chod mewn dynion allan o fesur, [...]eithr bod yspryd Duw ynddynt mewn mesur: o hyn y medrant drwy'r naill ddychymmig, a dadleu mwy yn erbyn y gwirionedd, nac a allant drwy'r llall ei atteb, ai ddywedyd ynghweryl y gwirionedd.

Phila.

Amlwg yw yn siccr, fod am­ryfusedd yn anfeidrol, a gwrth ddadleuon yn anneirif; ac nad oes diben ar goeg­ddadl dynion yn erbyn cyssegr-lan wirio­nedd Duw. Am hynny da yw i ni fod wedi Dyfn­wreiddio ymsefydlu yn y gwirionedd, fel na'n rhwyder, ac na'n magler a dadleuon twyllo­drus, neu resymmau dichellgar.

Ond yr wy fi yn tybied yn ddiau, er ei holl draws-ymofynion, ai wrthebau, ei fod efe fel Balaam yn ei gydwybod, yn dymuno marw marwolaeth y cyfiawn, a bod fel vn o honynt hwy, y rhai a dybygid ei fod yn eu diystyru.

Theol.

Yr wyf finnau or meddwl hwn­nw hefyd: Canys dymma'r gorfolaeth fydd gan rinwedd dda ar ddrygioni, mai lle yr ydys fwyaf yn ei chasau, yno y dy­mnnir hi, ac y deisyfir. Ac dymma 'r dialedd mawr y mae Duw yn ei ddwyn ar y drygionus,

Fely dywed y Poet:

[Page 333]
Virtutem vt videant intabescantque re­lictâ.
Edwyn dryg-was anrhinweddol
Lle bo rhinwedd, ac ai canmol:
Ond nid ymgais ar ffordd vnion,
Er bod hyn yn clwyfo ei galon.
Phila.

Eithr bellach dychwelwn at y peth oedd gennym yn llaw cyn syrthio o homom at y dadleuon, a'r ymgeccreth yma. Yr hyn oedd ynghylch leied fydd nifer, y rhai fyddant cadwedig. Ac megis y dan­gosasoch i ni resymmau lawer ynghylch hynny: felly ewch rhagoch i ymmadrodd etto ychwaneg am y pwngc hwnnw.

Theol.

Megis y dangosais i chwi fwrn o rwystrau yn gystal oddi mewn i ni, ac o­ddi-allan, yn ein battal oddiwrth Dduw, ac yn ein caethiwo yn dynn mewn pecho­dau: felly yr awr-hon, at y cwbl a ddywet­pwyd o'r blaen, myfi a ychwanegaf naw o rwystrau mawrion, yn lluddias myned i fywyd tragwyddol.

Y rhai a ellid yn gymmwys eu galw naw o Dros lion. farrau i gau allan o'r nefoedd, a naw porth i fyned i vffern.

Phila.

Pa rai ydynt?

Theol.
Anghrediniaeth.
Rhyfygu o drugaredd Dduw,
Naw porth vffern
Esampl y lliaws.
Hir arfer o bechu.
[Page 334]
Hir-ddiangc rhag cospedigaeth.
Gobaith o fyw yn hîr, neu gobaith hir hoedl.
Tybied yn dda o honaw ei hun.
Drŵg-gymdeithas
Drŵg siampl y Gweinidigion.
Phila.

Y rhai hyn yn wir ydynt farrau cryfion i gau allan or nefoedd, a phyrth ehang i vffern. Attolwg i chwi gan hynny, profwch hwynt allan or Scrythyrau, ac eglurwch yn helaethach.

Theol.

Y cyntaf yr hwn yw anghredin­iaeth, â brofir or bedwaredd bennod at yr Hebreaid, adn. 2. I ninnau y Pregethwyd yr Efengyl megis ac iddynt hwythau, eithr y gair â glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymheru a ffydd yn y rhai ai clywsant. Heb. 3.19. A thrachefn: Ni allent fyned, i mewn o herwydd anghrediniaeth. Y ma y gwelwn fod angrediniaeth yn cau allan y bobl hynny, rhag myned i wlâd yr addewid, yr hon oedd rag-arwydd o dia­gwyddol deyrnas Dduw.

A diogel yw fod yr un fâth anghredin­iaeth yn cau allan filoedd o honom ninnau, Oblegid llawer ni chredant ddim ond eu dychymmygion eu hunain. Ni chredant air Duw, yn enwedig pan fyddo yngwrthwy­neb iw trachwantau hwynt, a'u gwyniau, a'u budd, a'u digrifwch. Er profi pethau [Page 335]yn amlwg o flaen eu hwynebau, a dangos iddynt y bennod, ar adnod, etto ni chredant: Neu er dywedyd o honynt, eu bod yn credu, er hynny nid amcanant ymaffer a dim, ond gwrtheb yn erbyn Duw yn eu gweithre­doedd.

Ac fynychaf, pan ddywedo Duw y naill beth, hwy à ddw [...]dant beth arall. Pan ddywedo Duw ie, hwythau a ddywedant nagê, ac felly rhoddi iddo y celwydd. Dra­chefn rhai â ddywedant os gwir pob peth â ddywed y Pregethwyr, yna Duw a'n cymmortho. Fel hyn chwychwi á welwch pa fodd y mae anghrediniaeth yn cau dynion allan o'r Nefoedd, ac yn eu bwrw i v­ffern.

Phila.

Moeswch glywed am yr ail porth yr hwn yw rhyfig, neu gnawdol hyder 'ar drugaredd Dduw.

Theol.

Hwn a hyspysir yn Deuteronomi, lle dywaid yr Arglwydd mal hyn. Pan gly­wo dyn eiriau y felldith hon, ac etto ymfen­dithio honaw yn ei galon ei hun gan ddy­wedyd, heddwch fydd i mi, er i mi rodio yn­ghyndynrhwydd fynghalon i chwanegu me­ddwdod at s ched (nid amgen, y naill bechod at y llall.) Ni fyn yr Arglwydd faddeu iddo: canys yna y myga digllonedd yr Arglwydd ai eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw: a'r h [...]ll felldithion sydd scrifennedig yn y llvfr [Page 336]hwn a orwedd arno ef, a'r Arglwydd a ddi­lea ei enw ef oddi tan y Nefoedd. Deut. 29.19, 20.

Yma y gwelwn fod y Duw cadarn yn taranu i lawr yn erbyn y rhai a ânt rhag­ddynt yn eu pechodau, gan ryfygu o dru­garedd Dduw, a dywedyd yn eu calonnau, os gallaf gael hamdden i lefain, Arglwydd trugarhà wrthif, deir-awr cyn fy marw, digon yw hynny: ond peth cyfiawn ydyw gyd a Duw, pan ddèl y teir-awr hynny, gwarchau y cyfryw ddynion mewn dalli­neb, a chalon-galedwch, megis dialedd dy­ledus iddynt am eu rhyfig: Am hynny y Prophwyd Dafydd wrth ganfod aruthredd ei bechod, â weddiodd am gael ei waredu rhagddo. Psal. 19.13. Attal hefyd dy wâs oddiwrth bechodau rhyfygus, na arglwyddiaethant arnaf. Gan hynny ymogeled pawb rhag pechodau rhyfygus. Canys er bod Duw yn llawn trugaredd, etto ni ddengys efe ddim trugaredd i'r rhai â ryfygant o'i dru­garedd ef. Eithr hwynt-hwy a gânt ar hynt wybod iw dialedd, fod cyfiawnder yn dy­fod oddiwrtho ef, yn gystal a thrugaredd.

Phila.

Deuwn at y trydydd porth yr hwn yw esampl y lliaws.

Theol.

E brofir hwn yn Exodus, lle y mae 'r Arglwydd yn dywedyd yn ddisrifoh Na ddilyn liaws i wneuthur drŵg. Exod 23 2. Mewn man arall y dywaid yr Arglwydd: Na [Page 337]waewch yn òl gweithredoedd gwlàd yr Aipht, yr hon y trigasoch ynddi, ac na wnewch yn ôl gweithredoedd gwlàd Ca­naan, yr hon yr ydwyf yn eich dwyn chwi iddi, ac na rodiwch yn eu deddfau hwynt. Lev. 18.3.

Yn erbyn y gyfraith hon y troseddodd plant yr Israel, pan ddywedasant ynghyn­dynrhwydd eu calon wrth y Prophwyd Ieremi. Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw 'r Arglwydd, ni wrandawn ni arnat. Onid gan wneuthur y gwnawn ni bob peth ar addelo allan o'n genau, megis y gwnaethom, nyni a'n tadau, ein brenhinoedd a'n tywysogion yn ninasoedd Juda ac yn heolydd Jerusalem. Jer. 44.16.

Deliwch sulw pa fodd y maent yma yn llwyr wrthod gair yr Arglwydd ac yn di­lyn esampl y lliaws. Nyni a welwn yn y dyddiau hyn wrth resynol adnabyddiaeth, fod y ffrŵd hon yn dwyn ganddi i wared fi­loedd o ddynion; ac i ymddeffyn y bai hwn rhai a ddywedant, gwnewch fel y gwnelo y rhan fwyaf, ac fe fydd llai siarad am da­noch: yr hwn sydd ymadrodd sceler.

Oblegit os nyni a ddilynwn helynt y rhan fwyaf, ninneu a gawn wobr y rhan fwyaf, yr hon yw colledigaeth dragwy­ddol. Gochelwn gan hynny ddilyn y llwyr-rwysc. Canys rhwysc y byd sy'n mantoli pob peth ar â ellir ei adrodd [Page 338]allan o air Duw, ac yn agoryd ffordd lydan i vffern.

Phila.

Ewch rhagoch at y pedwerydd porth i vffern, yr hwn yw hîr arfêr o bechu.

Theol.

Hwn â nodir gan y Prophwyd Ieremi, i fod yn beth tra peryglus. Canys efe á ddywaid. A newidia yr Ethiopiad ei groen? Neu'r llewpard ei frychni? felly chwithau à ellwch wneuthur da, y rhai â gynnefinwyd a gwneuthur drŵg. Jer. 13.23.

Dangos y mae wrth hyn mai cyn anhaw­sed yw ymadel a hên arfer o bechu, ac â fy­ddei golchi Ethiopiad yn wyn, neu newidio brychni y llewpard; yr hyn bethau, oblegid eu bod iddynt hwy yn naturiol, ydynt am­hóssibl eu new idio Felly darfyddo i ddynion drwy gynnefindod wneuthur tyngu, dywe­dyd celwydd, godineb, a meddwdod megis yn naturiol iddynt eu hunain, o mor an­hawdd ydyw eu gadael ymmaith! Canys arfer â wna ail naturiaeth, ac â bair i ddyn fod heb ymwrando ag ef ei hun, na synni­ed o bechod, ond pechu yn ddichwith.

Phila.

Moeswch glywed am y pummed porth, yr hwn yw hir ddiangc rhag cospe­digaeth.

Theol.

Hwn â brawf y gŵr doeth yn y gei [...]iau hyn. Pr [...]g. 8.11. O herwydd na wneir barn yn fuan yn erbyn gweithred ddrŵg: am hynny [Page 339]calon plant dynion sydd yn llawn ynddynt i wneuthur drŵg. Lle y dengys, mai vn achos, paham y mae dynion yn caledu yn eu pe­chodau yw, o herwydd bod Duw yn goddef iddynt, ac yn eu gadael yn llonydd, heb eu cospi yn ebrwydd yn ôl iddynt bechu.

Oblegit pe bai Duw yn ddi aros yn taro i lawr y naill, ac yn glawio tân a brwmstan ar y llall, ac yn peri ir ddaiar lyngcu y try­dydd, yna yr ofnei ddynion yn ddiau. Eithr fe à ddangoswyd or blaen, nad ydyw Duw yn cymmeryd y ffordd honno: Ond er ei fod yn dial ar rai yn y byd ymma, etto y mae yn gollwng miloedd i ddiangc, a hyn­ny ai gwna hwynt yn hyfach yn eu diŵg; gan dybied nad rhaid iddynt byth ddyfod iw hatteb. Megis y bydd hên leidr wedi diangc tros hîr amser rhag y carchar, ar crogbten▪ yn tybied y caiff ddiangc rhag­llaw; ac am hynny y mae efe yn parhau i ledratta yn ddiofn.

Ond ymogeled dynion: Oblegit fel y dy­wed y ddihareb. Er bod yr stèn yn tramwy ir ffynnon er ystalm, etto ar y diwedd hi a ddaw adref wedi ei thori: Felly er i ddynion gael diangc dros amser, ni allant ddiangc tros byth: fe ddaw y dydd cyfrif, dydd â dal hyd adref am y cwbl. Felly chwi â welwch fod Diffyg cospedi­gaeth. anghospedigaeth yn dwyn llaweroedd i ddestryw: Sef pan gaffo dynion lonydd heb [Page 340]nai taro a llaw Dduw, nai cospi wrth gy­fraith y llywodraethwr.

Phila.

Gedwch ddyfod at y chweched porth, sef gobaith hir enioes.

Theol.

Dyna beth â brawf Christ J [...]su ynghylch y goludog bydawl, yr hwn pan ganfu fod y bŷd yn chwerthin arno, ac yn llwyddo ganddo ym mhôb cyflawnder, a ddywedodd, y tynnei efe i lawr ei yscubo­riau, ac yr adeiladei rai mwy, ac y dywedei wrth ei enaid: Fy enaid y mae gennit dda lawer wedi eu rhoi i gadw tros lawer o fly­nyddoedd, gorphywys, bwytta, ŷf, bydd lawen. Luc. 12.19, 20.

Ond ein Achubwr ai geilw ef yn ynfyd, am wenheithio iddo ei hûn mewn difrâwch gan addo iddo ei hun hir hoedl. Heb law hyn fe a ddywedodd wrtho yn eglur, mai'r nôs honno y deuai efe i ddiwedd amhar­chus. Deliwch sulw, attolwg, pa fodd y mae Jesu Grist ffynnon pob doethineb yn galw y dyn hynnw yn ynfyd, ac efe a rŷdd reswm am hynny, nid amgen, am ei fod yn tryssori iddo ei hûn, ac nad oedd gyfoethog tu ag at Dduw.

Gofal mawr oedd ganddo am y bywyd yma, ond nid oedd dim gofal am yr hwn sydd i ddyfod. Felly canlyn y mae, fod pawb oll yn wir ffyliaid, ac â ellir eu rhoi mewn chronicl am ffyliaid (er called y cymmerir hwynt yn y byd) y rhai ydynt yn dirfawr [Page 341]ofalu am eu cyrph, ac yn ddiofal am eu he­neidiau: gofal mawr am y bywyd hwn, ac ychydig am yr vn fydd i ddyfod. Eithr by­dded esampl y gŵr hwn yn rhybudd i bob dyn bydol-feddwl anghrefyddol, â fo'n breuddwydio cael hir hoedl (ac am hynny yn oedi edifarhau, ac ymchwelyd at Dduw) i ymogelyd rhag iddynt gam-gymmeryd eu cyfrif, a'u cippio ymmaith yn ddisymwth ynghanol eu digrifwch, a'u llawenydd; fel y dywed Job: Job. 21.23, 24. Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth, ac yn he­ddychol yn gwbl: ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth: a'i escyrn yn iraidd gan fêr: Nyni â welwn wrth hyn mor beryglus o beth ydyw i ddynion eu siommi, a'u twyllo eu hunain â gobaith o hir hoedl

Phila.

Ewch rhagoch at y seithfed porth, yr hwn yw tyb dda o honaw ei hun.

Theol.

Porth ehang iawn yn ddiau, yw hwn i fyned i vffern: Canys yr Scrythur â ddywaid. Diha 26, 12. A weli di ŵr doeth yn ei olwg ei hún? gwell yw'r gobaith am ffôl, nag am hwnnw. Ac eilchwel Doethach yw'r diog yn ei olwg ei hun nâ seith wyr yn adrodd rhe­swm. Diha. 26.16. Nyni a welwn fod yr yspryd glân yn tystio am y rhai sydd yn ymchwyddo gan dybied yn rhy-dda o'u doniau ei hunain, y rhai hynny sydd bellaf o'r cwbl oddiwrth deyrnas nesoedd.

Canys hwynt hwy ydynt yn diystyru [Page 342]doethineb Duw iw destruw eu hûn, ac yn ddlrmygus ganddynt ddyscu. Hwy â ddy­wedant, y gwyddant gymmaint ac à fedro'r holl bregethwyr ei ddangos iddynt.

Canys pa beth â ddichon yr holl bregeth wŷr ei ddywedyd wrthynt mwy na hyn. Pechaduriald ydym oll, rhaid yw ein ha­chub drwy Grist. Rhaid i ni wneuthur, fel y mynnem wneuthur i ninnau: nid oes ond hyn, os da y gwnewch, da y cewch.

Och y druein! y maent yn edrych yn v­chel, ac yn tybied yn wŷch tros ben o hon­ynt eu hunain, Dat. 3.17. heb ystyried eu bod yn dlo­dion, yn noethion, yn ddeillion ac yn druein. Y cyfryw ddynion â rônt eu holl ymddiri­ed yn eu synwyr eu hunain, eu dŷsc, eu cyffwystra, eu golud a'u cymmeriad yn y byd. Ac oblegid bod pawb yn eu mawrygu, ac yn eu canmol, am hynny y maent yn chwyddo fel ceiliogod Twrci, yn castellu eu adenydd, gan eu llusco ar hŷd y llawr, drwy osod pawb eraill ar ddirmig, a diystyrwch, megis pe hwynt hwy fyddei odiaeth-be­thau y byd. Heb law hyn pan ganmoler hwynt am eu doniau, a gwnethur yn fawr o honynt, peth rhyfedd yw gweled pa ym­gymhwyso a wnânt, fel pe baent ar fedr ymgodi ar frŷs, ac ehedeg ir cymmylau.

Pob dyn meddylfalch vchel fryd gwran­dawed ar y gwae â dreuthir yn eu herbyn gan dragwyddol frenin y gogoniant, gan ddywedyd:

[Page 343]

Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hûn: Esai. 5.21. Drachefn, gwrandawant ar gyngor Duw yn dywedyd wrthynt. Diha. 3.5.7. Gobeithia yn yr Arglwydd âth holl galon, ac nac ymddiried i'th ddeall dy hun. Na fydd ddoeth yn dy olwg dy hun, ofna yr Arglwydd, a thynn ymmaith oddiwrth ddrygioni.

Y ffol-feilch truein hyn, oblegid bod gan­ddynt gyfrwystra y byd, ac y medrant yn gyfarwydd gyrhaeddyd pethau y bywyd yma, a'u trîn hyd yr eithaf; â dybiant y gal­lant hefyd ynnill y nefoedd drwy eu syn­wyr gyfrwys-gall, a dyfndereu dychymmy­gion. Eithr druein gwerin, ymaent yn eu siommi eu hunain yn aruthr: Canys doethi­neb y byd sydd ffolineb gyd â Duw, 1 Cor. 3.19. ac y mae ef [...] yn dal y doethion yn eu cyfrwystra. A thrachefn y dywed yr Arglwydd. 1 Cor. 1.19. Mi à ddifethaf ddoethineb y doethion, a deall y rhai deallus a ddileaf.

Gan hynny na safed y gwŷr hyn ormod yn eu goleuni eu hunain, ac na hyderant yn eu deallgarwch: Canys nid ydynt oll ond megis ià vn nos, yr hwn â dwylla y neb â ym­ddiriedo gerdded arno. Byddant ffyliaid ynddynt eu hunain fel y gwnelo Duw hwynt yn ddoethion, gwadant eu hunain fel y cydnabyddo Duw hwyn [...]. Ymostyn­gant ynddynt eu hunain fel y derchafo Duw hwynt.

Oblegit yn wir nid oes yn ôl y bywyd [Page 344]yma ddim ymarfer o ddoethineb cnawdol, er maint fyddo. Preg. 2.16. Pa fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth; medd yr yspryd Glân. Ac lle y diweddo pob doethineb bydol, yno y dechreu pob doethineb nefol. Mal hyn nyni a welwn pa borth llydan i v­ffern yw calon meddyl-falch, a maint o ni­fer a ânt i mewn drwyddo.

Phila.

Eglurwch i ni yr wythfed porth i vffern: yr hwn yw drŵg gyfeillach.

Theol.

Yr yspryd glân yn rhag-weled mor enbaid yw hwn, ac yn gwybod mor hy­lithr ydym ni i ddilyn drŵg gymdeithas, a rŷdd i ni rybudd difrifol i yingadw rhag­ddo, megis peth tra-pheryglus. Na ddos i lwybr yr annuwolion, Dihar. 4.14.15. ac na rodia ar hyd ffordd y drygionus. Gochel hi, na ddòs ar hyd-ddi; cilia oddiwrthi hi, a dôs heibio. Y rheswm am hyn a roddir mewn lle arall: lle y dy­wedir: Dihar. 13.20. Yr hwn sydd gyfaill i ynfydion a gystuddir. Gan hynny gocheler gyfeillach ddrŵg. Oblegid llawer drwy hynny a ae­thant ir crogbren, ac â ddarfu iddynt gyfaddef ar yr yscol, mai drŵg gymdei­thas ai dygasai ir dihenydd hwnnw: Ac a gynghorasant bawb wrth eu siampl hwy i ymogelyd, a gochel cymdeithas ddrygionus.

Ym mhellach yr Scrythur â ddywaid. Y neb a ganlyno oferwyr, Dihar. 28.7, 19. a gaiff ddigon o dlodi. Ac eilchwel yn yr vn b [...]nnod. Y neb a fyddo [Page 345]cydymaith i loddestwŷr a gywilyddia ei dad. Gan hynny moeswch i ni ddywedyd gyd a Dafydd: Psal. 119.63. ac 26 4, 5. Cyfaill ydwyf fi ir rhai oll a'th ofnant ac a gadwant dy orchymynion. Ac or gwrthwyneb dywedwn gyd ag ef: Nid eisteddais gyd a dynion coegion, ac gyd a'r trofaus nid af. Casèais gynnulleidfa y drygionus, a chyd a'r annuwolion nid eiste­ddaf. Am hynny, Wrth siampl Dafydd, ymogelwn rhag cymdeithas y drygionus, cyfei [...]lach yw'r argoel hynottaf i adnabod dyn wrtho. Oblegit megis y mae pob àn­ghyffelyb yn anghyfeilladwy: felly pob cy­ffelyb a ymgais.

Yma gochelwn ein twyllo ein hunain a geiriau ofer, ac a thŷb hygoel on nerth ein hunain, fel pe baem cyn gryfed â Christ, ac na ellid ein llithio â neb rhyw fâth ar gym­deithas. Nac ydym ddim: yr ydym ni yn hyfforddach i'n denu, nac i ddenu: i'n denu i ddrŵg gan eraill, nac i ddenu eraill i dda. Am hynny y dywed Duw drwy ei Broph­wyd. Dychwelant hwy attat ti, Ier. 15.19. eithr na ddychwel di attynt hwy. Diau mai dŷn rhyfedd yw efe yr hwn nis gwaethyger drwy gymdeithas ddrŵg.

Oblegit a ddichon dyn deimlo pŷg, ac na lyno wrtho? Neu ddwyn marwor yn ei fonwes, a bod heb losci? Gressyndod mawr yw gweled beunydd llawer o'r rhai a'u tybiant eu hunain yn gryfion, yn ymhalogi, [Page 346]ac yn ymddifwyno ffordd honno. Am hynny ystyried dyn, nad yw efe byth yn ymwrthod á drŵg, hyd onid ymadawo â chyfelliach y drygionus. Canys ni chyttunir ar ddim daioni yn y parliament hwn. Oblegid [...]ym­deithas ddrŵg yw megis pentref vffern. Heb law hyn, peth iw ystyried yw, fod rhai wrth gael rhybudd, ac eraill wrth gyffro cydwy­bod oddi mewn, yn ymadael a'u pechodau hyd oni ddelont eilwaith ym mhlith eu hên ddrŵg-gymdeithion, ac y cymmeller hwynt drachefn i ddychwelyd iw hên gynnefin ffolineb, megis cî yn dychwelyd at ei chwd­fa: Oblegid ni á welwn rai o naturiaeth, ac athrylith ragorol, wedi eu hudo yn resynol, a'u tynnu megis o drais gyd â chymdeith­ion drŵg.

Megis y mae Tan­wydd. cynnyd irion o honynt eu hunain yn anhawdd ganddynt losci, eithr o'u gosod a'r dân ynghyd a sych wydd, hwy â loscant yn gystal a hwythau; felly llawer o ddynion ieua [...]ngc cyneddfol, er nad ydynt o honynt eu hunain mor hylithr i ddrygioni à rhai eraill, etto â ddygir ymmaith gyd â chefn-lli, a rhyferthwy chwyrn-ffrwd cyfeillion drŵg i wneuthur annuwiol­deb.

Phila.

Deuwn bellach at y portth o­laf, yr hwn yw drŵg siampl yr eglwys­wŷr.

Theol.

Y mae yn ddrŵg gennif, ac yn [Page 347]gywilyddus ymadrodd am y pwngc hwn: o­blegid tosturus, a gresynol ydyw bod neb or cyffelyb iw cael ym mysc meibion Lefi. Onid gofid calon yw bod gweinidogion Crist yn eu ymarweddiad yn dramgwydd i eraill? Canys o bydd y llygad yn dywyll, faint yw y tywyllwch hwnnw? Os hwynt hwy â fyddant yn esamplau o bôb dry­gioni iw praidd, y rhai á ddylent fod iddynt yn battrymmau, yn gannwyllau, ac yn esamplau o ddaioni: à ddichon amgen na bo hynny yn cryfhau dwylo y drygionus, fel na allant ddychwelyd oddi­wrth eu drygioni? Eithr hên afiechyd yw hwn, a chlefyd blîn yn glynu erioed yn yr eglwys.

Y Prophwyd Ieremi sydd yn cwynfan yn dôst rhagddo yn ei amser ef gan ddyw­edyd, Ac ar Brophwydi Ierusalem y gwelais beth erchyll; Iere. 23.14. torri priodas a rho­dio mewn celwydd; cynnorthwyant hefyd ddwylo y drygionus, fel na ddychwel neb o­ddiwrth ei ddrygioni; y mae y rhai hyn oll i mi fel Sodoma, a'i thrigolion fel Gomor­rha. Ac yn y nawed adnod or vn rhyw bennod, y dengys nad oedd ganddo lawe­nydd yn y byd orfod iddo eu ceryddu mor gyhoeddus, eithr ei fod yn gwneu­thur hynny drwy drymder mawr, ac na allai amgen yn gystal o ran gogoniant Duw, a llesâd ei eglwys.

[Page 348]

Ei eiriau ef ŷnt y rhai hyn. O herwydd y Prophwydi y torrodd fynghalon ynof, fy holl escyrn a grynant. Ym mhellach yn yr vn rhyw bennod yr yspysir pa wedd y bwy­dei yr Arglwydd hwynt â wermod, ac a'u diodei â dwfr bustl, ac y dygei arnynt lawer o ddialeddau eraill, am eu gwe­niaith, a'u hudoliaeth, au gau-athra­wiaeth, a drŵg-siampl eu buchedd.

Phila.

Diddadl ydyw, fod esampl ddrŵg y gweinidogion, ac yn enwedig y Pregethwŷr yn beryglus tros ben, ac yn dramgwyddus; oblegid drwy hynny y caledir miloedd yn eu pechodau. Canys fe â ddywedir, y cyfryw Eglwyswr, ar cyfryw Bregeth-ŵr á wna mal hyn, a hyn, a phaham na allwn ni wneuthur felly hefyd? Y maent hwy yn ddyscedig, ac yn gyfarwydd yngair Duw, am hynny pe bai'r peth yn ddrŵg, gobeithio na wnaent hwy mo honaw. Oblegid hwynt hwy a ddylent fod yn oleuni i ni, a rhoi esam­plau da. Gan eu bod hwy yn gwneuthur y fâth bethau, ni wyddom ni beth a fe­ddyliwn, na pha beth â ddywedwn yn yr achos: Y maent yn peri ir cyfryw ddynion gwirion a nyni, ymbendafadu.

Theol.

Oh na allwn gyd a'r Prophwyd gynhyrfu, a chrynu o feddwl am y matteri­on hyn. Oh na allwn gwynfan fel colom­men wrth ei scrifennu! Oh n [...] bai gennif [Page 349]fŵth yn yr anialwch, ac na allwn gyd à Iob, fod yn frawd i'r ddraig, ac yn gyfaill I'r Estrys, tra y meddyliwyf am y pethau hyn. Oh na fedrwn wylofain, a galaru yn ddibechod yn rhoddi i chwi atteb. Canys wylofain yn ddiau â allaf, ond eich atteb ni fedraf. Gwae fi, (y mae yn drwm ar fynghalon orfod ei ddywedyd) y mae'r cwbl à ddywedasoch yn rhŷ wir.

Ac yn hyn y mae gan y bobl fantais arnom, os gellir ei alw yn fantais: Ond cymmerwch hyn yn atteb: Os y dall a dy­wysa y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos. Mat. 1 [...].14. Cyfarwydd-wyr deillion, a phobl ddeillion a gydgollir. Os o herwydd ein bod ni yn ddrŵg, y byddant hwythau yn waeth, yna hwynt hwy a ninnau a gydloscir yn Nhân vffern. yno cyfrifant eu mantais, ac edrychant pa faint a ynnillant. Bychan yw'r achos iddynt i ymfawrygu i'n her­byn. Oblegit nid yw eu marchnad ddim gwell er hynny. Cymmerant hyn yn lle atteb.

A moeswch i ninneu Gweinidogion Crist, a phregethwŷr ei air ef, edrych yn graff arnom ein hunain, a gwneu­thur llwybrau vnion i'n traed. Oblegid os sangwn ni ar gam, er lleied fyddo hyn­ny, ni â gawn weled fod llawer o lygaid yn edrych arnom. Gan hynny gweddiwn yn wastadol gyd â Dafydd: Psal. 17.5. ac 13.4. Vniawna [Page 350]fyngherddediad o Arglwydd fel na lithrwyf: Canys pan lithrodd fynhroed, y llaweny­chasant i'm herbyn. Ac am y bobl, dilynant hwy esamplau y sawl â rodiant yn ddifeius (megis i Dduw bo'r diolch y mae rhai or cyffelyb) ac ymogelant esamplau y trosedd­wyr: felly y bydd mwy gogoniant i Dduw, a mwy heddwch yn eu cydwybodau hwythau.

Mal hyn nyni â glywsom mor ehang yw'r porth â agorir i vffern drwy esampl yr Eglwyswŷr; ac yn enwedig Pregeth­wyr.

Phila.

Gedwch iddo: Gan fod cynnifer o farrau yn cau allan or Nefoedd, a chynni­fer porth i fyned i vffern; peth anhawdd tro [...] ben yw torri drwy'r holl sarrau hyn, ac felly myned i fywyd: ac mor anhawdd yw myned heibio i'r holl byrth hyn, a diangc rhag vffern; â wnelo hyn, y mae yn gwneu­thur gorchest.

Theol.

Gwir yw hynny: Ac megis y mae hyn yn anhawdd, felly cyn anhawsed a hyn yw i gîg, a gwaed fyned i deyrnas nef. Ac etto y rhan fwyaf, a wnânt gyfrif bychan o honaw, ac a dybiant ei fod yn beth or hawsaf.

Asune.

Er anhawsed ydyw, etto gobei­thio yr wyf drwy ras Duw y byddaf fi un or rhai a ant i mewn i'r nef. Canys tra y gw­nelwyf fel y mynnwn wneuthur i minneu, [Page 351]ac na ddywedwyf ddrŵg am neb, ac na wne­lwyf ddrwg i neb, Duw a fydd trug arog wrth fy enaid. Ac nid oes ammen gennif na bydd fyngweithredoedd da, yn rhagori ar fyngweithredoedd drŵg, ac y gwnaf vnion gyfrif a Duw yn fy nydd diwedd.

Oblegit i Dduw y diolchaf am dano, mi a fum fyw bob amser yn ei ofn ef, ac ai gwasana [...]thais a chalon vnion. Am hynny myfi a wnn tra y cadwyf ei orcymynnion ef, ac y byddwyf byw fel y mae fynghymmydogi­on, ac fel y gweddai i Gristion, na chyll efe mo'm henaid.

Theol.

A ellwch chwi gan hynny gadw gorchymynion Duw?

Asune.

Cyn nessed ac y rhoddo Duw i mi ras.

Theol.

Gofyn yr wyf fi i chwi â ydych yn eu cadw hwynt, a'i nad ydych?

Asune.

Yr wyf yn ceisio eu cadw cyn nes­sed, ac y gallwyf: yr wyf yn bwriadu hynny yn ffyddlon: Er nad wyf yn eu cadw oll, etto y mae yn ddiogel gennif fy mod yn cadw rhai.

Theol.

Oblegid eich bod yn dywedyd e [...]ch bod yn cadw rhai o honynt, gadewch i mi attolwg, fod cyn hyfed arnoch, a'ch holi ym mhôb vn o honynt. Chwi â wyddoch, y gorchymyn cyntaf yw hwn: na fydded it dduwiau eraill [Page 352]ger fy mron i: beth meddwch, â ydych yn cadw hwn?

Asune.

Nid oes arnaf mor vnon am hwn. Oblegid nid addolais i erioed un Duw ond vn: y mae yn gwbl siccr gennif nad ô [...]s ond vn Duw.

Theol.

Beth â ddywedwch chwi am yr ailfed gorchymmyn: Na wna it dy hun ddelw gerfiedig.

Asune.

Nid addolais i ddim delwau erioed er pan i'm ganed. Nid oes gennif goel arnynt: mi â wnn na allant help i mi: canys nid ydynt ond prennau, a main.

Theol.

Pa beth â ddywedwch wrth y trydydd gorchymyn, yr hwn yw, na chym­mer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, &c.

Asune.

Nagè yn wir; ni'm cyfrifwyd i [...]rioed yn dyngwr; eithr myfi â ofnais Dduw o'm mebyd, a chennif ffydd dda ynddo er pan ddaw còf gennif. Pe amgen, e fyddei ddr ŵg gennif.

Theol.

Beth â ddywedwch gan hynny am y pedwerydd gorchymyn: Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabboth, &c.

Asune.

Am hynny-o beth, yr wyf yn cyr­chu i m heglwys mor ddyfal ac vn-gwr̄ yn y plwyf, yr wyf yn trigo ynddo, ac yn ar­fer o weddio pan fyddwyf yno. I Dduw yr wyf yn diolch am dano (nid er dywedyd am danaf fy hûn) mi à fûm erioed yn dwyn [Page 353]meddwl da, ac yn caru gair Duw am holl galon: ac y mae yn odiaeth gennif wrando ar ein Ficar ni, yn darllain yr Epistolau, ac Efangyhon-bob sul.

Theol.

Dywedwch i mi, beth meddwch am y pummed gorchymyn, Anrhydedda dy Dâd, a'th fam, &c. a ydych chwi yn cadw hwn?

Asune.

Erioed y cerais fy nhad, a'm mam ac a vfyddheais iddynt o'm calon. Gobeithio na ddichon neb roddi dim i'm her­byn am hynny: ac yn wir od wyf yn cadw yr vn or gorchymynion, hwn yr wyf yn ei gadw. Canys pan oeddwn yn fachgen, pob dŷn a ddywedai fy mod yn blentyn gra­slon, a rhinweddol. Am hynny oni chadwn y gorchymyn yma, fe a fyddei ddrŵg tros ben gennif.

Theol.

Beth â ddywedwch am y chwe­ched gorchymyn: na lâdd?

Asune.

Peth rhyfedd, oni chadwn hwn­nw.

Theol.

Beth am y seithfed: na wna odi­neb?

Asune.

I Dduw yr wyf yn diolch, ni bûm mi erioed yn ymlid budrogod; fe am cadwodd Duw fi erioed rhag hynny, a gobei­thio i'm ceidw rhagllaw.

Theol.

Beth am yr wythfed: Na le­dratta?

Asunet.

Nid wyf na phutteinwr na lleidr.

Theol.

Beth a ddywedwch wrth y naw­fed: na ddwg gam dystiolaeth?

Asune.

Myfi a ffieiddiais o'm calon bob gau destiolaeth?

Theol.

Beth a ddywedwch wrth yr claf: na chwennych, &c.

Asune.

I Dduw yr wyf yn diolch am da­no, ni chwenychais dda vn-gŵr, ond yr ei­ddof fy hun.

Theol.

Yn awr yr wyf yn deall, eich bod chwi yn ŵr rhyfedd: chwi â ellwch gadw yr hôll orchymynion. A thebyg ydych ir llywodraethŵr coeg ddall a ddy­wedod wrth Grist: Yr holl bethau hyn a gedwais o'm hieuengtid. Matth. 19.20. Yr awr-hon yr wyf yn deall, mai dirysedd eich bod yn di­brisio Pregethu: Oblegid nid rhaid i chwi wrtho. Yr ydych chwi yn holl-iach, nid yw raid i chwi wrth feddig:ni clywch oddiwrth drueni, ac nid yw raid i'wch geis [...]o truga­redd. Canys lle ni wyper oddiwrth drueni, yno nid oes gyfrif o drugaredd: ond mi a wel [...]f nid rhaid i chwi wrth Iachawdwr.

Asune.

Nid da y dywedwch yn hynny. Y mae yn rhaid i mi wrth Iachawdwr, a'm Harglwydd Iesu yw'r hwn am hachub, canys efe a'm gwnaeth.

Theol.

Pa raid i chwi wrth iachawdwr, gan nad ydych yn bechadur?

Asunet.

Ydwyf yn wir, yr wyfi yn becha­dur, yr ydym bawb yn bechaduriaid, nid oes neb ar nas pecha.

Theol.

Pa fodd y gellwch fod yn be­chadur, a chwithau yn cadw yr holl orchy­mynnion?

Asunet.

Gallaf, yr wyf yn bechadur er hynny ei gyd.

Theol.

A ellwch chwi fod yn becha­dur, a bod yn ddi-bechod hefyd? Oble­gid y neb â gadwo'r gorchymmynion sydd ddi-bechod. Yr hwn beth meddwch chwi, yr ydych yn ei wneuthur; Ond myfi a welaf fel y mae'r matter yn sefyll, nid am­gen, fod llaweroedd or fâth ddynion ag ydych chwi, annwybodus, a lled-chwelan, a ddywedant yn gyffredinol eu bod yn be­chaduriaid, o herwydd bod eich cydwybod yn dangos i chwi hynny; Ond pan ddeloch bawb attoch eich hunain yn neillduol, ni wyddoch pa fodd yr ydych yn pechu, n [...]c ym mha beth.

Attolwg, gan hynny, gadewch i mi eich arwain vnwaith etto trwy'r gorchymynion, ac ymwrando a chwi ynghylch pethau neill­tuol; i edrych a allwyf eich dwyn i weled eich pechodau.

Pa beth â ddywedwch gan hynny, ydych chwi ar eich gliniau bob borau a hwyr, yn diolch i Dduw am ei ymgeledd neillduol, ai a [...]l drugareddau t [...]ag-attoch? ac a ydych [Page 356]yn galw arno yn fynych ar eich pen eich hûn, ac yn fynych hefyd gyd a'ch teulu? Attebwch fi yn ddi-ymdro ac mewn gwi­rionedd.

Asunet.

Ni allaf ddywedyd mo hynny.

Theol.

Chwithau a dorrasoch y gorchym­myn cyntaf, yr hwn sydd yn gofyn gennym roddi i Dduw ei wir addoliant; o ba vn y mae gweddi a thál-diolch yn rhan: felly yma ar y dechreuad fe a'ch ceir yn euog. Ymmhellach y gofynnaf i chwi, a gododd ynoch erioed wrth weddio, ddim traws­feddyliau, ac onid oedd syn-feddylfryd eich calon yn taro, ac yn rhedeg weithiau at ryw achosion eraill, a hynny tra fyddech yn bryssur ar eich gweddi?

Asune.

Ni allaf wadu mo hynny. Oble­git peth anhawdd tros ben yw gweddio heb draws-feddyliau.

Theol.

Gan hynny (wrth eich cyfadde­fiad eich hûn) chwi â dorrasoch yr ail gor­chymmyn, yr hwn sy'n gorchymmyn yr iawn ddull, ar agwedd ar addoli Duw, nid amgen, megis y mae yn rhaid i ni addoli Duw; felly y mae yn rhaid gwneuthur hynny mewn ffydd, carriad, zêl, a phur­deb: felly yma yr ydych yn euog hefyd; o herwydd pan weddioch fod eich meddwl ar bethau eraill, ac nad ydych yn gweddio mewn diragrithrwydd, a gwirionedd.

Heb law hyn: mi a fynnwn gael gwybod [Page 357]gennych a dyngasoch chwi erioed i'ch ffydd, neu i'ch gwirionedd, neu ir Arglwyddes Fair, a'r cyfryw lwon eraill.

Asune.

Do myn Mair, mi a'i gwneu­thum: y mae yn rhaid i mi gyfaddeu.

Theol.

Nid rhaid amgen tystiolaeth: eich atteb eich hûn a brawf hynny, canys llw yw eich atteb: yma gan hynny yr ydych chwi yn euog, oblegid eich bod yn tyngu i eu lynnod. Ymhellach gofyn yr wyf i chwi, a ymdeithiasoch erioed i ffeiriau, neu i farchnadoedd ar y dydd Sabboth, neu a wnaethoch ddim masnach, na theithiau, na chwedleua am achosion bydol, drwy esceu­luso pethau cryfyddol?

Asune.

Do, Duw a faddeuo i mi; mi ai gwneuthum.

Theol.

Yna euog ydych o dorri y ped­werydd gorchymmyn, yr hwn sydd yn go­fyn gennym tan boen marwolaeth, dreulio y dydd Sabboth mewn dlêd-swyddau san­ctaidd, a chrefyddol yn gyffredin, ac yn neil duol, yn yr eglwys, a chartref. He­fyd gofyn yr wyf, â ydych yn addyscu eich gwraig, eich plant, a'ch gwasa [...]aeth-ddy­nion mewn gwir wybodaeth o Dduw, ac yn gw [...]ddio gyd ag hwyn [...], a'i nad y­dych?

Asune.

Mi a wn y mynnech i mi ddywe­dyd y gwirionedd; rhaid i mi g [...]faddeu nad ydwyf, ac na fedraf ei wneuthu [...].

Theol.

Yna yr ydych chwithau yn euog o dorri y pummed gorchymmyn, yr hwn sy 'n gofyn pob math ar ddyledion gan y rhai goruchaf, tu ag at y rhai isaf, a chan y rhai isaf tuag at y rhai goruchaf. Ac or dyled-swyddau hyn, gweddi ac addysc ŷnt ran, a pherthynas. Ym mhellach yr wyf yn gofyn, a fuoch erioed yn ddig, a'i na buoch.

Asune.

Bûm, ganwaith yn fy nŷdd, ac yr wyf yn meddwl nad oes neb na ddigia ryw amser, neu ei gilydd, yn enwedig pan rodder iddynt achos.

Theol.

Chwithau yn hynny, â drose­ddasoch y chweched gorchymmyn, yr hwn sydd yn gofyn gennym ymogelyd rhag llid, digter, drwg-fwriad, awydd i ddial, a phòb rhyw fâth ar rag-cennadon llofru­ddiaeth. Etto gofyn yr wyf, a edrychasoch erioed ar wraig gan ei chwennychu yn eich calon?

Asune.

Do, canys yr wyf yn tybied, nad oes neb yn ddiangol oddiwrth ddrwg feddy­liau ffordd honno. Mi a dygaswn fod yn rhŷdd i ddyn feddwl y peth a fynnai, ac nad oedd hynny bechod.

Theol.

Nac ydyw: Nid yw meddyliau yn rhŷdd o flaen Duw; oblegid fe a edwyn Duw ein meddyliau, ac a'n cospa, a'n hola, ac a'n condemnia am feddyliau. Ni ŵyr dynion feddyliau ei gilydd, ac am hynny [Page 359]ni allant wneuthur cyfreithiau yn erbyn meddyliau; Eithr y mae Duw yn gwybod ein amcanion dirgelaf, o herwydd hynny y gwnaeth efe gyfreithiau yn eu herbyn, ac a'u barna hwynt.

O hyn y casclaf, os meithrinasoch yn eich calon feddyliau godinebus, chwi a dorras­och y seithfed gorchymmyn, yr hwn sydd yn gwahardd pob meddyliau dirgel, yn cym­mell ac yn annog i odineb. Eithr etto mi â fynnwn wybod â ddarfu i chwi erioed chwilenna, a darnguddio, neu ledratta rhyw fàn bethau oddiar eich cymmydog, megis porfa, iair, gwyddau, cwnningod, afalau, a'r cyffelyb?

Asune.

Ni allaf ymddiheuro oddiwrth y pethau hyn: Oblegid mi a dygaswn nad oedd y rhain yn bechod, nac y craffei cyfraith Dduw arnynt.

Theol.

Yna, chwi a dorrasoch yr wythfed gorchymmyn, ac ydych yn euog o farwo­laeth dragwyddol. Oblegid y mae Duw yn y gorchymmyn hwn yn rhoi arnom siars i gymmeryd cymmaint gofal am dda ein cymmydogion, ac am yr eiddom ein hu­nain, ac na bo i ni wneuthur cam ag hwynt mewn ffordd yn y byd, ar feddwl, gair, neu weithred.

Am hynny y condemnir yma bob mâth ar dwyll, lledrat, trais, a phôb camwedd [Page 360]ynghylch da ein cymmydog. Ym mhel­lach gadewch i mi ofyn i chwi a ddyweda­soch erioed gelwydd, neu ragrith.

Asune.

Do, yn wir.

Theol.

Wrth hynny chwi â droseddasoch y nawfed gorchymyn: yn yr hwn y mae Duw yn gofyn gennym wrth ddwyn testio­laeth, ac ar achosion eraill, adrodd y gwir yn ddiragrith, o'n calonnau, heb na chel­wydd, na choluro.

Yn ddiweddaf oll, moeswch glywed, a ddeisyfiasoch eirioed yn eich calon ddim ar nad oedd eiddoch eich hûn: megis tŷ eich cymmydog, neu dîr, neu wartheg, neu ddefaid, gan ddatcuddio wrth hynny anfod­lonrhwydd eich calon i'r hyn a oedd ei­ddoch eich hûn?

Asune.

Yr wyf mor feius yn hyn, ac mewn dim arall. Oblegid (Duw a fa­ddeuo i mi) mynych y deisyfiais, ac y chwe­nychais hyn neu'r llall, ar nad oedd yn eiddof fy hun, ac felly a ddangosais fy anfodlon­rhwydd.

Theol.

Wrth hyn, yr wyf yn deall (a­chwi eich hun yn cyfaddef) eich bod yn euog o dorri yr holl orchymynion.

Asune.

Y mae yn rhaid i mi gyfaddef hynny. Oblegid yr wyf yn gweled yr awr­hon ynghylch yr achosion hynny, mwy nac a welai [...] erioed o'r blaen. Ni chlywais i gymmaint a hyn erioed er pan i'm ganwyd, [Page 361]ac ni ofynwyd i mi y fath gwestiwnau, ac yr ydych chwi yn eu gofyn. Mi a dygaswn nad oedd lawer or pethan yr ydych chwi yn eu gofyn, yn bechodau.

Theol.

Myfi a allaswn eich gorchfygu chwi mewn llawer o bethau neilltuol eraill, ym mhâ rai yr ydych chwi bôb dydd, a phôb awr yn torri cyfraith Dduw: Eithr fy mwriad i oedd yn vnig rhoddi i chwi brawf or troseddau hyn, ac wrth hynny dangos i chwi beth goleuni tu ag at ddalltwriaeth y gyfraith. Mal y gallech wrth hynny eich adnabod eich hûn yn well, a dirnad eich cyflwr o flaen Duw, a thrwy yr ychydig hynny fwrw amcan ar fwy o lawer.

Asunet.

Yn awr y gwelaf yn eglur gael o honof fy nhwyllo, ac nad wyf yn gystal fynghyflwr o flaen Duw, ag ydygaswn: yr wyf yn gweled hefyd fod miloedd oddi ar y ffordd, y rhai a'u tybiasant eu hunain yn dda eu helynt o flaen Duw: ond mewn gwirionedd y maent mewn dallineb, ac an­wiredd. Eithr Duw a gymmero druga­redd arnom. Mi a welaf yr awr-hon yn amlwg fy mod ym mhell oddiwrth gadw 'r gorchymynion. Ac yr wyf yn tybied, nad oes neb yn eu cadw.

Theol.

Chwi a ellwch dyngu hynny, mi â attebaf. Oblegid ni allodd erioed na S. Paul, na Dafydd, neu'r Fair forwyn gadw vn or gorchymynnion.

[Page 362]

Y mae yn dda gennif eich gweled yn cra­ffu ar gyfraith Dduw, ac yn blasu peth ffordd honno. Oblegid cyn belled ag y mae dyn yn gwybod y gyfraith, a chanddo gy­farwyddyd ynddi, hyd hynny y mae yn ad­nabod ei gyflwr ei hûn: ond y neb nid ed­wyn y gyfraith, nid edwyn mo honaw ei hûn.

Canys y gyfraith yw'r drŷch yn yr hwn y gwelwn pa sut ydym o flaen Duw. Yr A­postol â dywed: Trwy'r gyfraith y mae ad­nabod pechod: Rhuf. 7.7. o herwydd hyn y rhai nid oes ganddynt wybodaeth o'r gyfraith, ac nid ydynt yn eu canfod eu hunain yn y drŷch hwn, a bechant ganwaith yn y dydd, heb wybod eu bod yn pechu, ac am hynny nid ydynt yn ymofidio am eu pechodau: Canys pa fodd yr ymofidia neb am y peth nis gŵyr oddiwrtho.

Ond etto rhoddwch gennad i mi attolwg i ofyn i chwi rai chwestiwnau y chwaneg, ynghylch prif-byngciau gwir Grefydd: er mwyn gallu o honoch drwy ymwrando a'ch anwybodaeth, a'i adnabod, ymddarostwng am dano, ymofidio mewn prŷd, a cheisio gwir wybodaeth o Dduw.

Eithr yn gyntaf mi â ofynnaf beth, neu ddau i Antilegon; o herwydd fy môd yn ewy­llysio adnabod pa fesur gwybodaeth sydd ganddo ef yngwyddorion y ffydd. Dywed­wch i mi Antilegon, o ba-herwydd y [Page 363]cnawdiwyd Crist (neu y beichiogodd ei fam arno) drwy'r yspryd glân?

Antil.

Myfi â fedrwn eich atteb, eithr ni wnaf ond peidio: pa awdurdod sydd gen­nych i'm holi? Dangoswch eich warant, a phan ei gwelwyf mi a'ch attebaf: hyd hynny nid oes i chwi a wneloch i'm holi i; ymbrysurwch ynghylch eich matterion eich him.

Theol.

Myfi â welaf eich bod chwi nid yn yn'g heb wybodaeth, ond yn Neu yn siomgar. liêd-ffrom, ac yn gyndyn hefyd, ac yn gwrthod eich a­ddyscu. Am hynny mi a'ch gadawaf i Dduw, ac i'ch cydwybod lygredig eich hûm. Eithr attolwg i chwi Asunetus attebwch chwi i'r cwestiwn hwnnw. Beth dybygwch: pa ham y caed Crist trwy'r yspryd Gl [...]n?

Asunet.

Coeliwch fi Syr, cwestiwn caled yw hwnnw; gofynnwch hwnnw i ryw ŵr call. Canys ni fedraf fi eich atteb.

Theol.

Beth â ddywedwch am hyn: pwy yd [...]edd fam Crist?

Asunet.

Y fendigedig Fair forwyn.

Theol.

Pwy oedd Pontius Pilat?

Asunet.

Nid oes gennif fawr wybodaeth, gwr anllythyrennog ydwyf, Ond os mynnwch I mi ddywedyd fy meddwl, tybied yr wyf mai'r Cythraul ydoedd. Oblegid pwy, oni byddei Gythraul, a fwriei ein Achubwr Crist i farwolaeth?

Theol.

Beth yw 'r Eglwys lán Ga­tholic, yr hon a ddywedwch eich bod yn ei chredu?

Asunet.

Cymmun y Saint, maddeuant pechodau.

Theol.

Pa beth a weddiwch am dano, pan ŷch yn dywedyd, deued dy deyrnas.

Asunet.

Erfyn yr wyf gael o bawb o ho­nom o'i râs ef, iw wasanaethu fel y dy­lem, a'n cadw ar feddwl da tu ag at Dduw; a chofio Duw yn fynych: Canys y mae rhai (Duw a'n cadwo ni) heb ganddynt ddim ond diafol, ar eu tafodau ac yn eu me­ddwl beunydd: nid ydynt yn gwneuthur dim yn enw Duw.

Theol.

Pa beth yw Sacrament?

Asunet.

Swpper yr Arglwydd.

Theol.

Pa sawl Sacrament sydd?

Asunet.

Dau, bara a gwîn.

Theol.

I ba beth yr ydych chwi yn der­byn y Sacrament?

Asunet.

I dderbyn fy mrhynwr.

Theol.

Beth yw iawn-arfer y Sacra­ment?

Asunet.

Corph, a gwaed Crist.

Theol.

Pa lesâd, a chyssur, a geir oddi­wrth y Sacrament?

Asunet.

Arwydd yw farw o Grist drosom.

Theol.

Ni fedrafi amgen na gressynu trosoch o herwydd eich annwybodaeth. Mor ddiwin anguriol ydyw. Eich attebion [Page 365]ydynt ddireswm, ac yn arwyddocau fod y­noch ddallineb rhyfedd, ac an-neall mewn perthynas crefydd.

Y mae yn ddrŵg gennif nad wyf yn cael ennyd yn awr, a hamdden i ddangos i chwi eich ffolineb a'ch dygn annwybodaeth, ac i osod o'ch blaen synwyr, a dalltwriaeth pyngciau y ffydd, Gweddi yr Arglwydd, y Sacramentau, ar holl sylfeini eraill o gre­fydd Gristianogawl.

Asunet.

Pa ffordd a welych chwi yn dda i mi ei chymmer yd i ymadael ag anwybodaeth, ac i gyrhaedd gwir wybodaeth o Dduw?

Theol.

Yn wir, mi a ewyllysiwn i chwî fod yn ddyfal i wrando Pregethau, ac i ddarllaîn yr Scrythyrau ynghyd a gweddi, a gostyngeiddrwydd. Hefyd ymarfer a llyfrau gwyddorion y ffydd, ar cyffelib ly­frau da, a fedroch eu cael, a'u deall, drwy ymofyn am danynt yn chwannog, a'u chwi­lio yn ddiwid pan eu caffer. Os yr helynt yma a gymmerwch, chwi â ellwch drwy râs Duw o fewn ychydig amser, gasclu mesur­syrn helaeth o wybodaeth yn y pyngciau pennaf o Grefydd gristianogawl.

Phila.

Ni choeliaswn byth fod neb cyn belled oddiwrth wybodaeth, ac y gwelaf yr awr-hon fod y gŵr yma.

Theol.

Oes yn ddiau. Y mae llawer mîl o'r un cyflwr ac yntef. Ac myfi a adwaen lawer o'm cydnabyddiaeth a rônt yr vn­rhyw [Page 366]attebion: neu o'r hyn lleiaf, heb nemmawr ragoriaeth rhyngddynt.

Phila.

Mi a attebaf i chwi, pe gofynna­sech iddo ynghylch gwartheg, neu ddefaid, neu brynu tîr, neu gymmeriadau ar dir, neu ryw beth bydol arall, chwi ai cawsech ef yn ddigon adrybelydr, trwyadl, a pha­rod yn ei attebion.

Theol.

Yr wyf finneu yn coelio hynny. Canys ymddiddenwch a dynion bydol, am achosion bydol, a'u hattebion a fydd digon hyfedr, hwy a ymgommiant ynghylch y matterion hynny yn gymmen, ac yn ffraeth ac hyd cydol y dydd.

Oblegid y mae ganddynt stremp fawr o gyfarwyddyd mewn pethau bydol: a'u di­ [...]yrrwch mwyaf yw siaradach am danynt, yn ddi flin, ac yn ddiludded, canys dyna eu llawenydd, eu bwyd, a'u diod. Ond deuwch i chwedleua a hwynt am fatterion Duw, megis am ffydd, am edifeirwch, [...] adenedigaeth, ar cyffelyb, ac chwi ai c [...]n hwynt yn fwyaf pobl yn y byd eu han­neallgarwch, a'u hansynwyroldeb. Oble­gid pan sonier am y pethau hyn, pen­dafadu a synnu a wnânt, fel na wyddant beth y maent arno, na pha beth a ddywe­dant.

Phila.

Yn fy marn i, y mae cyflwr y cyffelyb ddynion yn ressynol, ac yn en­baid, ac felly y mae helynt y dyn-hwn [Page 367]hefyd, os Duw nis tynn ef allan o honaw ar fyrder.

Theol.

Diammeu yw hynny. Canys Duw â ddywaid. Hosea 4.6. Ey mhobl a ddifethir o eisieu gwybodaeth. Ein Harglwydd Jesu a ddywed mai annwybodaeth yw achos pob amryfusedd. Mat. 22.29. Yr ydych yn cyfeiliorni gan na wyddoch yr Scrythyrau, Yr Apostol a ddywaid fod anwybodaeth yn dieithro o­ddiwrth fuchedd Dduw:

Oblegit (medd efe) y Cennedloedd a dy­wyllwyd eu deall, Eph. 4.18. wedi ymddieithro oddi­wrth fuchedd Dduw, trwy'r annwybodaeth sydd ynddynt, trwy ddallineb eu calon. Felly amlwg yw nad mam dwywolder yw anwybodaeth megis y taera y Papistiaid, ond mam cyfeiliorni, amryfusedd, mar­wolaeth, a destryw, fel y dywaid yr Scry­thur. Ein Harglwydd yn rhag-weled y peryglon tramawr a ddeuai o anwybo­daeth (pa fodd yr ydoedd yn dwyn gan­ddo filoedd i vffern) sydd yn cynghori pawb i chwilio yr Scrythyrau, Ioan 5: 39. y rhai a de­stiolaethant o honaw ef, mal y gallont ddi­angc allan o enbeidus lyngcllyn anwybo­daeth, lle y mae llaweroedd yn boddi.

Am hynny y gwŷr beneddigaidd hynny o Berea a ganmolir gan yr Yspryd Glan, o herwydd iddynt dderbyn y gair a phob parodrwydd meddwl, Act 17.11. a clowilio yr Scrythy­rau beunydd a oedd y pethau hynny felly. [Page 368]Oh g [...]n hynny nad ymgeisiai dynion yn ddifrifol, a hynny mewn prŷd, a gwybo­daeth o Dduw: Ac fel y dywed y Prophwyd: Ceisio yr Arglwydd tra y caffer ef, galw ar­no pan fai yn agos attynt. Esay. 55.6.

Phila.

Ma a welaf fod pob anwybodaeth ym matterion y ffydd yn beryglus; ond yr wyf yn tybied fod anwybodaeth gildynnus yn berycclaf or cwbl.

Theol.

Diddadl yw fod anwybodaeth gildynnus, ac anhydyn yn argoel hynod, ac yn brawf anwrtheb o farwolaeth dragwy­ddol. Canys peth dychrynllyd, ac ofnadwy ydyw i ddynion wrthod addysc, diystyru cynghorion, caledu eu calonnau, a chau eu clystiau, a'u llygaid yn erbyn Duw. Dym­ma y râdd eithaf o'n han-niwyg a'n afreo­laeth ni.

Phila.

Adolwyn, pa beth â elwch chwi yn galedrwydd calon?

Theol.

Calon galed yw'r hon ni chyn­hyrfo a thrugareddau Duw, ni ddychry­no rhag ei farnedigaethau. Nid ofno ei gyfraith, ac ni wnelo gyfrif o'i Efengyl: Nid attelir á bygythion, ac ni feddalhao â cheryddon; yr hon nid yw ddiolchus am fendithion Duw, nac vfydd iw gyng­horion; â greulono tan ei gerydd, ac â fyddo afreolus tan ei garedigr­wydd: digywilydd mewn brynti, á diarswyd mewn perigl: Anfwyn wrth [Page 369]ddynion, ac anwir tu ag at Dduw: anghofus am â fu, esceulus am sydd, a diddarbodus ac esceulus am a ddêl.

Phila.

Mynegwch etto yn eglurach gy­flwr dynion anwybodus, a chalon-galed, a dangoswch mor resynol yw.

Theol.

O bydd dyn ai lygaid yn ddei­llion, ni â dosturiwn wrtho, ac â ddywe­dwn: dyna ddynan dall: ond os bydd efe yn ddall ac yn fyddar, ni â dosturiwn wrtho yn fwy o lawer, gan ddywedyd, Och y druan flined yw ei gyflŵr: eithr o bydd efe yn ddall, yn fyddar, ac yn fûd, oni bydd gennym mwy etto o dosturi wrtho? Oh daccw'r dyn mwyaf ei ofid yn y byd, pwy ne byddei flîn ganddo ei weled?

Pa faint mwy tosturi a ddylid ei gym­meryd tu ag at y rhai o ran eu heneidiau y­dynt ddeillion, a byddair, a mûd. Oblegid clefydau yr enaid sy fwy peryglus, a mwy tosturus na chlefydau y corph. Oni byddei ddrŵg gan galon dyn weled oenyn truan yn safn y llew, ac ynteu yn ei larpio, ac yn ei ddryllio, ac yn tynnu allan ei berfedd? Dyna gyflwr dynion heb wybodaeth gandd­ynt. Y maent ynghrafangau Diafol, ac yn­teu yn eu baeddu, ac yn rhwygo eu henei­diau hwynt megis yn llarpiau, fel y mynno ei hûn. Oh na bai genny n [...] lygaid i weled y pethau hyn, a chalonnau i ymwrando â hwynt, a A cha­londid. nwydau i dosturio am danynt, ie drwy alar, a dagrau.

Phila.

Nid oes nemmawr yn tybied fod dynion anwybodus yn gynddrŵg eu cyflwr, ac y dywedwch. Canys meddwl y maent eu bod yn escusodol o herwydd eu hanwybodaeth. A rhai a ddywedant mai dâ ganddynt leied yw eu gwybodaeth: Oblegid pe baent yn gwybod llawer o ew­yllys eu Harglwydd, ac heb ei wneuthur, hwy à gurid â mwy o ffonnodiau. ond yr awr hon gan na wyddant, meddwl y maent fod pôb peth ar y gorau.

Theol.

Duw â orchymynnodd iw bobl offrymmu aberth tros eu pechodau o anwy­bodneth: Lev 4.2.13, 14. Am hynny pechod yw anwyboda­eth, ac nid yw yn escusodi neb. Ac am gyflwr eu heneidiau o flaen Duw tra gressynol yw, pe gallem ganfod eu heneidiau, fel y canfy­ddwn eu cyrph.

Canys yn ddiddadl, y mae llaweroedd yn ymhoiwi mewn melfed, a sidan, yn wy­chion, ac yn yn ddillin mewn golwg, ond o­ddi-mewn y maent yn llawn budreddi, a phechod. Y mae ganddynt gyrph glândeg, a hardd-wych, ond eneidiau anferth, duon, a sothachlyd. Pe gallai ddyn graffu ar eu e­neidiau fel y gellir craffu ar eu cyrph, efe â gauei ei ffroenau rhag arwynt eu dryg­saw yr. Oblegid y maent yn drewi o bechod, yn ffroenau Duw, ac Angelion, a dynion dâ.

Phila.

Wrth hynny, deall yr wyf wrth [Page 371]eich ymadrodd, mai ofnadwy yngolwg Duw yw cyflur dynion anwybodus, ac an­ghrefyddol; ac mai rhan pob dyn da yw gressynu, a gweddio trostynt.

Theol.

Pe bai deu-ddyn dall, a byddeir yn rhodio ar hyd ffordd sathredig, a honno yn tueddu tu ag ryw ddyfn-bwll mawr, yn yr hwn y byddent dybygol i foddi, os aent rhagddynt: A bod deu-wr o hirbell yn llefain arnynt, nad âent yn eu blaen rhag [...]u boddi: Er hynny hwynt hwy heb na gweled, na chlywed vn-dyn, a âent rhag­ddynt, ac a foddid; oni byddei hyn olwg tosturus edrych arno? Yr vn ffunyd y mae yn digwyddo i bob enaid diwybod, dall, a byddar yn y byd: y rhai nid ydynt yn bwrw eu peryglon, ond yn cerdded rhag­ddynt yn hyf iw destryw.

Ac er vched y mae Pregethwyr yr E­fengyl yn gweiddi arnynt yn grôch, er mynyched y rhônt iddynt rybudd, a chyn­gor i ymogelyd; etto gan eu bod yn ddei­llion oddimewn ni welant ddim, ac yn fy­ddariaid ysprydol ni chlywant, ac am hyn­ny yr ânt ymlaen yn eu pechodau, au han­wybodaeth, hyd oni syrthiont yn ddisym­mwth i bwll vffern.

Beth. pe bai ddwy fyddin yn gosod câd [...]r faes yn erbyn eu gilydd ar wastadedd; a bod rhyw ddyn yn sefyll ar goppa bryn vchel yn gyfagos attynt, ac yn gweled y [Page 372]cwbl; a bod yn canfod miloedd, a myr­ddiwn yn cael y gwaethaf, ac yn cwympo or ddeu-tu cyn amled ar cenllysc ar y ddaiar, ar holl wastadedd yn nofio, ac yn ffrydio o waed, ai fod hefyd yn clywed griddfan y milwyr briwedig, a chwynfa­nus ocheneidion, ac ebychau llawer Cap­ten, a phen-ciwdod yn trengu: oni byddei yr olwg hon yn ddolur yn ei galon ef? Yn yr un modd pan welom ni Satan yn clwyfo, ac yn llâdd mîl filoedd o eneidiau, onid yw hynny yn olwg mwy erchyll, a gala­rus? Ac oni ddylei bod gofid yn ein calon­nau o edrych arno? Eithr sywaeth nid oes gan ddynion lygaid i grâff-synied y pethau hyn.

Ac etto diogel yw fod Satan beunydd mewn dull ofnadwy yn llâdd anneirif o eneîdiau. Mal hyn y dangosais i chwi gy­flwr tosturus dynion annwybodus, ac an­ghrefyddol.

Phila.

Os felly y mae'r peth: Chwy-chwi gwenidiglon a phregethwyr yr Efengyl, y rhai a gymmerasoch arnoch ofal, a siars eneidiau, rhaid oedd i chwi edrych arnoch eich hunain, a gwneuthur eich goreu i a­chub eneidiau. ac megis bugeiliaid da mewn mawr dosturi, ymegnio iw tynnu hwynt allan oddi tan balfau y llew rhua­dwy hwn, sy 'n myned beunydd oddi­amgylch, [Page 373]gan geisio pwy a allo ei lyngcu.

Theol.

Fe berthyn i ni yn siccr ofalu am y peth hyn yn ddyfal ac yn ddyfrifol, fel y bo i ni atteb yn ofnadwy ddydd y farn: Canys nid peth yscafn a gymmerasom yn llaw, sef gofalu am y praidd â brynodd Crist ai waed. O Dduw na pheidiem ag ymryson ynghylch matterion eraill, ond ymryson o honom bawb yn­ghylch hyn, nid amgen pwy â ddichon dynnu mwyaf, allan o deyrnas Satan, pe­chod, ac annwybodaeth: pwy a ddichon ynnill mwyaf o eneidiau, a phwy a ddi­chon wneuthur mwyaf gwasanaeth i'r egl­wys.

Hyn yn wir a fyddei ymryson odieth, ac mi a ddymunwn ar Dduw pe gallem vn­waith yn gyttun a'u gilydd, ddechreu ar hynny, ac ag vn galon ac egni ymwascu ynghyd i adeiladu tŷ Dduw. Os trwy ein ffoledd ein hunain y rhwystrwyd y gwaith, neu o gwnaed vn adwy ynddo, moeswch i ni mewn doerhineb, a chariad ei chau i fynu drachefn: o bu dim gogwydd, a diofalwch, moeswch i ni ddadebru, a'n cyffroi ein hunain, fel y gallom gyffroi e­raill hefyd.

Byddwn awyddus, a gwresog yn yr yspryd, fel y gallom trwy râs Duw fyw­ioghau [Page 374]eraill, a deffrown yr oes farwaidd a chyscadur hon yr ydym yn byw ynddi; felly y caiff Duw ei ogoneddu, ei eglwys ei hadeiladu, ei Saint eu cyssuro, ei bobl eu hachub, ei orseddfa ei mawrygu, a theyrnas y Cythraul ei gorthrechu.

Phila.

Pa ffordd oreu dybygwch chwi i ddwyn i ben y peth a ddywedasoch.

Theol.

Peth yw hwn sy raid i ni Gweini­dogion, a Phregethwyr yr Efengyl gym­meryd poen ynddo. Oblegid yma y go­fynnir gennym fod yn ddyfal, ie ac yn dra dyfal: Canys ymae'r bobl ym mhob man, heb ddim gwybodaeth ganddynt.

Rhai sy fel cerrig mor bengaled, nid a dim addysc ynddynt: eraill sy yn gildyn­nas, ac yn anynad: rhai â dderby [...]iant yr athrawiaeth, ond ni fynnant ymarfer à hi: eraill a ymroant i ymryson, ac ymgeccru: yn gymmaint ac mai gwell fyddei i ddŷn gymmeryd arno gadw bleiddiau, ac eirth, na gofal eneidiau.

Canys anhawsaf peth yn y byd yw di­wygio an-niwig, ac afreol dynion, a'u dwyn i fewn trefn; tynnu eineidiau dynion allan o deyrnas Satan, a'u dwyn at Dduw; gwaith anorphen yw, a thrafferth an­feidrol, a ffwdan boenus, yr wyf yn crynu feddwl am dano.

Oblegid y mae dynion mor gyndyn, ac anystowallt, ac nad ymrônt iw haddyscu [Page 375]mewn dim trefn dda: ni fynnant fod wrth lywodraeth Dduw, nai ffrwyno ai air ef. Dilyn a wnânt eu rhwysc eu hunain, a rhe­deg ar ôl eu trachwantau, a'u digrifwch: gwingo, a thassu os argyoeddir: ffrommi, a chynddeiriogi o cheisir eu hattal, a llu­ddias iddynt, eu hywyllys, eu meddylfryd, a'u rhydd-did.

Hwy a fynnant gael eu meddwl a dilyn eu hên arfer, dywedwch chwi a fynnoch, a gwnewch a alloch.

Onid gwaith llafurus, dybygwch chwi, yw cymmynu, a naddu y cyfryw ddef­nydd-goed, mor llawn o fôn-geinciau, a chwarennau? Ond blin gan y saer feddwl am dano? Ac onid gofid calon fyddei fy­ned ynghylch y gwaith? Canys mor an­hawdd yw diwygio y fath beth ac sydd mor anniwygus.

Phila.

Gadewch i hynny fod, ni ellwch chwi ond gwneuthur eich goreu a gadael ar Dduw y llwyddiant oddiwrth y gwaith. Ni ellwch chwi ond plannu, a dwfrhau, a rhodded Duw y cynnydd. Chwychwi Gweinidogion y llythyren, ac nid yr yspryd ydych. Bedyddio yr ydych a dwfr, ac nid ar Yspryd Glân.

Gan hynny os pregethwch chwi yn ddy­fal, drwy gynghori, rhybuddio, ac argyoe­ddi, ar gyoedd, ac yn neillduol: gan fwria­du [Page 376]drwy bob esampl o fuchedd dda, a chei­sio a phob awyddfryd, gofal, a chydwybod wneuthur eich goreu, am a alloch, iw dych­welyd hwynt oddiar eu ffyrdd drygionus; yn fy meddwl i yr ydych chwi yn ddiangol, ac yn rhŷdd ddieuog oddiwrthynt, er par­hau o honynt hwy yn wargaled, ac yn wrthnyssig.

Oblegit chwi â wyddoch yr hyn a ddy­wed yr Arglwydd drwy ei Brophwyd: os chwi ai cynghorwch, ac ai rhybuddiwch, yna yr achubwch eich hunain, a'u gwaed hwynt a ofynnir ar eu dwylo eu hunain. Ezec. 33.4, 9.

Theol.

Chwi a ddywedasoch y gwir. A chan fod yn rhaid i ryw rai gymmeryd ar­nynt y gofal trwm hwnnw, y ffordd oreu i ni, yw ceisio ru haddyscu hwynt yngwy­ddorion y ffydd, a gwneuthur hynny mewn môdd eglur a hawdd ei ddeall.

Oblegid llesâd mawr a wnaed yn fynych, ac a wneir rhag llaw, lle y cymmerer y ffordd honno: dyna'r modd enwedigol i weithio ar annwybodaeth y gwerin bobl.

Ac i hyn y mae yn rhaid i ni gweinido­gion Crist ymfodloni i ymostwng, ac i ddys­cu y bobl gyffredin truein yn y dull rhwy­ddaf, a hawsaf iw dwyn hwynt i gael peth pereidd flâs, a melus-chwaith ar brif byngciau Cristianogawl grefydd, ni wasa­naetha [Page 377]i ni fod yn wladaidd gennym ail-a­drodd, a mynych ddywedyd, a manwl smalhâu iddynt yr vn peth vgainwaith tro­sto a throsto drachefn yn boenus, a daw budd o ooen. Dihar. 14.23.

Llin ar lin, llin ar lin, ychydig yma, ac ychydig accw, gorchymmyn ar orchymmyn, Fel y dywaid y Prophwyd. Esay 28.10.

Mi â wnn yn ddigon da, nad oes dim mor wrthwynebus gan vn â ffyddo yn yscol­haig trwyddo, ac yn ŵr o ddŷsc difethedig, na gwneuthur felly; fel [...]e troid vn yn ôl i ddyscu ei a [...]si, ni ddichen rhai mewn modd ybyd ei oddef.

Ond yn wir ddigelwydd myfi â welaf yr awr-hon, yn ôl hir brawf, o mynnwn weithio dim llesâd ar yr eneidiau difedr, anwybodus hyn, mai rhaid yw i ni gymme­ryd poen ffordd honno. Oblegid ein co­ron, a'n gogoniant ni yw ynnill eneidiau, pa fodd bynnag yr ymostyngom i hynny.

Gan hynny byddwn ni fodlon i ymddaro­stwng, fel y derchafer Grist. Gwnawn bob peth mewn gwir gariad i Grist, yr hwn â ddywedodd deirgwaith ôl yn ôl: Ioan 21.25. Os wyt yn fyngharu i, portha, portha, portha, fy nefaid, dangoswn destiolaeth o'n cariad tu ag atto drwy borthi ei braidd ef. Gw­nawn bob peth mewn gwir gariad, a mawr dosturi tu ag at yr eneidiau cyfeiliornus [Page 378]truein. Fe â ddywedir dosturio o'n Har­glwydd Iesu wrth y bobl, pan eu canfu me­gis defaid ar wascar heb fugail arnynt. Math. 9.36.

Ymdosturiwn ninneu yn yr vn ffunyd, ac ymofidied ein calonnau weled cym­maint o ddefaid Crist yn crwydro ar fyn­nyddoedd, ac yn anialwch y byd hwn, yn ymgrippio a phob mieri, ac ynglŷn ym mhôb perth, yn enbeidus rhag eu llarpio gan y blaidd. Mal hyn y dangosais i chwi, pa ffordd yn fy marn i, sydd oreu ei chymmeryd i ryddhau eneidiau anwybo­dus allan o gaethiwed Satan, a phechod.

Phila.

Megis yr adroddasoch pa drefn oreu ei dilyn o'ch rhan chwi y Gwe [...]nidogi­on, a Phregethwŷr yr Efengyl, felly dan­goswch attolwg i chwi, beth sydd oreu i ninneu ei wneuthur, y rhai ydym bobl Dduw.

Theol.

Y cyngor goreu â fedraf fi ei roddi i chwi, pe bai am fy enioes, yw ymar­fer llawer a gair Duw, yn gystal ei wrando, ei ddarllain, a myfyrio ynddo, a cheisio byw hefyd tan weinidogaeth yr Efengyl, lle y bo traethu y gair yn bur: A gwneu­thur cydwybod o fyw yn y cyfryw fan: gan eich cyfrif eich hùn yn ddedwydd o'i gael, er bod arnoch eisieu pethau eraill: ac yn annedwydd o byddwch hebddo, er cael o honoch bob pethau eraill.

[Page 379]

Oblegid y gair yw'r perl gwerthfawr, y tlŵs nid oes ei gyffelyb. I brynu yr hwn y cynghora yr Arglwydd Iesu werthu cym­maint oll ac a feddwn, yn hyttrach na bod hebddo. Math. 13.44.46.

Drachefn yr vn rhyw gyngòr â ddyry ein lachawdwr Crist i Eglwys Laodicea yn y geiriau hyn. Yr wyf yn dy gynghori i bry­nu gennuf aur wedi ei buro trwy dân fel i'th gyfoethoger, Dat. 3.18. a dillad gwynion fel i'th w [...] [...]er, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noeth­der di: îra hefyd dy lygaid ag eli llygaid fel y gŵelech. Lle y gwelwch fod gair Duw wedi ei gyffelybu i'r aur gwerthfawroccaf, a't hwn i'n gwneir yn gyfoethogion yspry­dol: ac i wiscoedd disclair, ar rhain y gwiscir ein eneidiau noethion: ac i eli lly­gaid, ar hwn yr iacheir ein dallineb yspry­dol. Fe a ddŵg Crist Iesu hefyd ar gôf i ni (ai gyngor ef sydd oreu) brynu o ho­nom y pethau hyn, beth bynnag â orfyddo ei dalu am danynt. Y cyffelyb gyngor â rŷdd Salomon hefyd gan ddywedyd: Dih. 23.23. Pryn y gwirionedd, ac nawerth ef. Felly chwi a welwch y cyngor yr wyfi yn ei roddi i chwi, nid eiddof fy hûn ydyw, ond cynghor Iesu ei hûn, a Salomon ddoeth: a phwy a [...]di­chon, 'neu â feiddia roi dim yn erbyn eu cyngor hwynt.

Asune.

Ai eich meddwl chwi ydyw fod [Page 380]yn angenrhaid ymarfer â gwr ando Prege­thu y gair, oni wasanaetha ei ddarllain yn vnig?

Theol.

Mi à ddywedais i chwi or blaen fod darllain yn dda, yn fuddiol, ac yn an­genrheidiol, ond er hynny nid yw ddigo­nol. Ni ddylem ni ymfodloni a hynny yn vnig: eithr y mae yn rhaid myned ym mhellach, a cheisio i ni ein hunain iawn bregethiad yr Efengyl, megis y môdd, ar cyfrwng mwyaf, a phennaf â ordeiniodd, ac a sancteiddiodd Duw i achub dynion. Fel yr yspyssir yn eglur at y Corinthiaid. O herwydd yn noethineb Duw nad adnabu y byd trwy ddoethineb mo Dduw: 1 Cor. 1.21. fe we­lodd Duw yn dda trwy ffolineb Pregethu ga­dw y rhai sy'n credu. Y dalltwriaeth yw hyn. Pan na allai ddynion na thrwy ddoethineb naturiol, na thrwy ystyriaeth or creaduriaid, iawn gyrhaeddyd gwir­ddigonol wybodaeth o Dduw; yr Arglwydd yn ôl ei ddoethineb Nefol, ac anfeidrol, a [...] osododd fôdd, a chyfrwng arall; nid amgen nac achub dynion drwy Bregethu: Yr hyn â gyfrif y byd yn ffolineb.

Ac wrth fyned rhagom, deliwch sulw nad dychymmig dynol yw Pregethiad y gair, ond dyfais Duw ei hûn, ac a ddaeth gyntaf allan o'i synwyr ef ei hûn, megis y ffordd nessaf, a chymhwysaf i achub e­neidiau [Page 381]dynion. Salomon ddoeth yn llyfr ei ddiharebion â ddywed wrthym fod Pre­gethiad gair Duw (yr hwn y mae efe yn ei alw gweledigaeth, drwy arfer gair y Pro­phwydi, y rhai â alwant eu Pregethau yn weledigaethau) nid yn beth â ellid ei hep­cor, neu á fai yn ein dewis ni, pa vn a wnaem ai ei fynnu, ai peidio: eithr efe â ddywed ei fod yn beth angenrheidiol, ac anhepcor i fywyd tragwyddol.

Canys medd efe, Lle ni byddo gweledi­gaeth y noethir y bobl: Felly y darllenir yn yr iaith dadogawl: Ond yr hên gyfieithi­ad ai trŷ fel hyn: Diha [...] 18. Lle ni Pregether gair Duw yno y metha'r bobl: Neu y collir y bobl. Felly chwi â welwch fod prawf Sa­lomon yn ddinam, yr hwn a ddywed i ni, fod y rhai oll nid oes ganddynt Bregethu, mewn perigl mawr o golli eu eneidieu. Oh na cheid gan ddynion-goelio hyn. S. Paul hefyd a ddywed fod ffydd yn dyfod drwy glywed Pregethu y gair: Rhuf. [...].14, 1 Canys medd efe: Pa fodd y clywant heb Prege­thwr? Os drwy glywed y gair y mae ffydd yn dyfod, yna myfi â ymresymma fel hyn: dim pregethu, dim ffydd: dim ffydd heb Grist: heb Grist, heb fywyd tragwy­ddol, oblegit ynddo ef yn vnig y mae bywyd tragwyddol.

C [...]sclwn y cwbl yughyd mal hyn, Cym­merwch [Page 382]ymmaith y gair, a chymmerwch ymmaith ffydd; cymmerwch ymmaith ffydd a chymmerwch ymmaith Grist: cym­merwch ymmaith Grist, a chymmerwch ymmaith fywyd tragwyddol. Felly y mae yn canlyn: cymmerwch ymmaith y gair, a chymmerwch ymmaith fywyd tragwyddol.

Neu, nyni a allwn eu darllain yn eu gwrthgefn mal hyn. Os mynnwn gael y Nefoedd, rhaid i ni gael Crist: Os myn­nwn gael Crist rhaid yw cael ffydd: O myn­nwn gael ffydd, rhaid yw cael Pregethu'r gair: yna fel hyn y canlyn: O mynnwn ga [...]l y nefoedd, rhaid yw cael Pregethu 'r gair. Felly mi â benglymmaf fy rheswm, fod Pregethu yn gyffredinol, a chan mwyaf yn llwyr angenrheidiol, ac yn anhepcor i fywyd tragwyddol. Fel y mae bwyd yn anhepcor angenrheidiol i gynhaliaeth ein cyrph: fel y mae porthiant yn anhepcor angenrheidiol i gynal bywyd anifeiliaid: A dwfr yn anhepcor angenrheidiol i achub bywyd pyscod.

Gan fod y pethau hyn felly, fe ddylid gwrando Pregethu'r Efengyl yn ofalus, ac yn gydwybodus. Y marfer o fyned yn fynych i dŷ Dduw: a dywedyd gyd a Dafydd. Vn peth a ddeisyfi [...]is ar yr Arglwydd, sal. 27. [...] hynny a ofynnaf: Sef cael trigo yn nhŷ yr Arglwydd holl ddyddiau fy mywyd, i edrych ar bryd­ferthwch yr Arglwydd, ac i ymweled ai deml [Page 383]sanctaidd ef. A dywedyd, Vn peth sydd angenrhaid, ac felly dewis y rhan oreu, gyda Mair sanctaidd: Luc. 10.42.

Gyd â'r clôff truan wrth Bethesda, Ioan 5.7. dis­gwyl yr Angel i gynhyrfu y llyn, i gael ei iachau o'i glefyd. Nid amgen, disgwyl â ddylem am gynhyrfiad cyntaf Ysprydol ddyfroedd y bywyd, gan Bregethwyr yr Elengyl, fel yr iachaer ein afiechyd Yspry­dol ni.

Oblegid gwenidogaeth yr Efengyl yw'r b [...]bell aur drwy'r h [...]ny trosglwyddir i ni holl ddaioni Duw, holl brydferthwch Crist, a phob rhadau Nefol. Yr hyn beth â ar­wyddoceid gynt yn y gyfraith wrth y pom­granadau yn ymy [...]au gwiscoedd Aaron: Ac wrth y clŷch aur rhyngddynt gylch ogylch, s [...]f clòch aur a phomgranat, clòch aur a phomgranat. Exod. 2 [...].33. Y clŷch aur â arwyddocaent Bregethiad yr Efengyl: ar pomgranadau bêr-arogl marwolaeth Crist, gan arddangos wrth hynny y gwascerid ar lêd berarogl marwolaeth Crist, a'r holl lesâd o'i ddio­ddefaint ef, drwy Bregethiad yr Efengyl.

Mal hyn chwi â welwch os yw dynion ar fedr bod yn gadwedig, y mae yn [...]haid iddynt wneuthur mwy cyfrif o Bregethiad yr Efengyl, nac y maent yn ei wneuthur, ac nid tybied (fel y gwn [...] y [...]han fwyaf) y ga­llant ei hepcor, a bod yn ddiogel [...] dy­ [...]r.

[Page 384]

Ac nid gwaeth gan rai fod hebddo na'i gael: Oblegid nid yw Pregethu ond eu cy­thryblu, ac aflonyddu ar eu cydwybodau: eithr gwae y cyfryw rai.

Phila.

Er hynny nyni â welwn fod lla­wer o bobl ddrygionus, lle y Pregether yr Efengyl yn ddyfalaf; ar rhesymmau am hynny yn fy nhŷb i, ydynt ddau; Y cyntaf am fod Duw yn tynnu ymmaith ei Yspryd oddiwrth lawer pan fônt yn gwrando y gair, hyd [...]nid yw eu gwrandawiad hwy yn an­ffrwythlawn, a hynny am eu gwargaledwch, Gen. 6.3.

Y rheswm arall yw, am fod gan y Cy­thraul gant o ystrywiau i rwystro buddiol, ac iachwyawl weithrediad y gair, fel na wnêl ddim llesâd, ac na thyccia i laweroedd o bobl. Eithi chwy chwi Mr Theologus á fedrwch yn well na myfi, egluro y peth ym­ma: Attolwg i chwi gan hynny, adrodd eich meddwl am dano.

Theol.

Dichellion y cythraul yn yr a­chos ymma sydd fwy o rifedi, a mwy cy­frwysddrŵg nac y byddo possibl i mi, nac i vn-gŵr arall allu eu datcuddio. Canys pwy a ddichon chwilio allan, neu yn llwyr­gwbl an-nirgelu aml ddichellion Satan yn­ghyd [...]i ddirgel, ac ai bechadurus ystry­wiau ef ynghalonnau dynion? Y mae ef [...] mor gelfyddus, ac mor gywrain [...] yn hynny, [Page 385]ac nad oes neb á fedr llwyr ddirnad ei lwy­brau ef. Ei waith ef ynghalonnau dynion sydd mor guddiedig, a dirgel, ac wedi ei goluro ar fâth hoccedion, a hudoliaeth, fel nad oes neb â olrhain ôl ei droed ef.

Ond etto cymmaint ac â adwaen i, o'i gyfrwystra ef yn erbyn y sawl á wr [...]nda­want y gair, iw gippio o'u calonnau hwynt, a'i wneuthur yn anffrwythlon, ac yn anfu­ddiol, myfi a'i mynegaf i chwi.

Yn gyntaf, y mae yn gwneuthur egni mawr i suo dynion i gyscu yn eu pechodau, fel na byddo arnynt ddim gofal, am eu ie­chydwriaeth: ac am hynny efe â gais eu gwneuthur yn ddifraw am wrando, a dar­llain y gair, rhag iddynt ddeffroi. Os metha ganddo yrru hyn ymlaen fel na fyn­nant amgen na wrandawant y gair, yna ei ddichell nessaf ef yw ceisio gwneu­thur y gair a wrandawant yn anfuddiol iddynt, drwy bendwmpian o gyscu, syrthni, traws-feddyliau, coeg-ddychymmygion, a mîl or cyffelyb. Oni thyccia hyn, eithr eu bod yn derbyn y gair iw calonnau, ac yn­teu yn gweithio ynddynt (nes eu bod yn cynnyddu mewn gwybodaeth, a dalltwri­aeth o'r gwirionedd) yna efe â gymmer ffordd arall, nid amgen, peri iddynt ym­fodloni i wybod yn vnig beth â ddylent ei [Page 386]wneuthur, ac etto bod heb ei wneuthur, a myned yn ddigydwybod. Oni bydd hyn ddigon, eithr bod o ddynion yn ofalus am wneuthur ewyllys Duw, drwy ymmadel a rhyw bechodau, yn enwedig y pechodau dygnaf, y rhai y mae y byd yn eu ffieiddio, a gwneuthur peth da; yna efe á bair iddynt ymddiried yn eu gweithredoedd da, gan ys­cilio Crist, ai adel ef heibio, ac i dybied yn ddigon da o honynt eu hunain, o herwydd iddynt wneuthur peth da, ac ymwrthod â pheth drŵg.

Oni bydd hyn yn gwasanaethu'r trô, ond bôd dynion yn cyrhaeddyd ffydd fu­ddiol yn cyfiawnhau drwy gymmeryd ga­fael yng Hrist, a rhoddi eu goglud ar ei haeddedigaethau ef: Yna efe a ddychym­mig pa fodd y gallo dywyllu prydferthwch eu ffydd, a gwanhau eu cyssur o herwydd llawer o wendid, a deffygion, ie hyd yn oed cwympiau trymmion, a drygau cywi­lyddus: fel na byddant-ond Cristiano­gion brycheulyd, yn llawn beiau, ac ana­fau.

Oni thyccia hyn o ystryw, ond bod Cristianogion yn cyssylltu pob rhinwedd dda ynghyd a'u ffydd, ac yn discleirio yn amlwg ym mhôb ffrwyth cyfiawnder, yna y dychymmig efe ffordd arall: Nid am­gen, peri-iddynt ddigalonni, a llwfrhau [Page 387]gan rwystrau: megis tlodi, angen, afie­chyd, enllib, dirmig, erlid, ar cyffelyb.

Oni bydd yr vn or rhain a wna'r weithred, ond bod o ddynion yn gef [...]og, ac y [...] ddianwadal yn credu Yng-Hrist, ac yn dioddef pob cystudd yn llawen, ac m [...]wn ammynedd: Yna ei ymddeffyn di­waethaf ef yw eu chwythu hwynt i fynu a phowdr gwn: Nid amgen, eu chwyddo o f [...]lchder o'u doniau, a'u rhadau, a'u cryf­der, ac yn y modd hwnnw rhoddi iddynt gwymp anescorol, prŷd na byddont yn [...]yw yn ostyngedig, ac yn rhoddi i Dduw y mo­liant am eu doniau,

Mal hyn mi a roddais i chwi ychydig brawf o gelfyddyd Satan yn gwneuthur y gair yn anffrwythlon yn ein plith.

As [...]ne.

Attolwg i chwi Syr (o her­wydd fy mód i heb wybodaeth gennif, ac yn annyscedig) roddi i mi beth cyfarwy­ddyd manylach allan o air Duw, wrth yr hwn y gallwyf hyfforddi, a threfnu fyngweithredoedd neilltuol yn y cy­fryw fodd, ac y gallwyf ogoneddu Dùw ar y ddaiar, a chael fyngogoneddu gan Dduw ar ôl y bywyd ymma yn y Ne­foedd.

Theol.

Gwaith anorphen fyddei teimlo pob peth yn neillduol: Ond ar fyrr eiriau gwnewch hyn. Ceisiwch Dduw yn ddiwyd yn ei air: Gweddiwch yn fynych: Ymhôb [Page 388]peth rhoddwch ddiolch: gochelwch ddrŵg, a gwnewch dda: ofnwch Dduw, a chedwch ej orchymynion: gwellhewch eich buchedd eich hûn, à diwygiwch feiau eich teulu: Cerwch rinwedd dda, a phôb dyn rhinwe­ddol. Dilynwch gymdeithas y Duwiol, ac na fydded i chwi gyfeillach ar annuwiol, Ymddygwch yn sobr, yn vnion, ac yn sanc­taidd yn y byd drŵg presennol hwn.

Bydded eich ymadrodd bob amser yn raslawn, a gochelwch serthedd; na thelwch i neb ddrŵg, ond gwnewch dda tros ddrŵg. Byddwch addfwyn, a chym­mwynasgar i bawb: Gochelwch dyngu, a rhegu a melldithio. Gwiliwch rhag. digter, llid, a chwerwedd.

Canmolwch eich anwyl ddyn ar ost­eg, a cheryddŵch ef yn ddirgel: Na ddywedwch ddrŵg am rai absennol, nac am y marw, ie na ddywedwch ddrŵg am neb, ond y goreu am bawb bôb amser, or hyn lleiaf na ddywedwch y gwaethaf. Perchwch enw Duw, a chedwch ei Sab­bothau: Gochelwch bob argoelion bar­nedigaeth, a cheisiwch yn ddyfal bôb arwyddion iachawdwriaeth: O flaen pob peth, ymogelwch rhag pechod; canys hwnnw yw torgêg yr enaid, a dinistrudd pob daioni. Arswydwch gan hynny, ac na [Page 389]phechwch, canys os ymrowch i bechu, edry­chwch beth sy'n canlyn: y mae

  • 1. Duw yn gweled.
  • 2. Yr Angelion yn tystiolaethu.
    Chwe pheth pe­ryglus mewn pe­chod.
  • 3. Y gydwybod yn dwys-demmigo.
  • 4. Angeu yn bygwth.
  • 5. Y cythraul yn cyhuddo.
  • 6. Ac vffern yn difetha.

Chwi à welwch wrth hyn nad bwbach, neu peth i gellwair ag ef yw pechod. Pob pechod a wnelo dyn sydd megis bràth draen, wedi myned yn ddyfn ir enaid, yr hwn ni ellir ei dynnu allan cddiyno, ond à llawer cchenaid, a llawer o drymder. Pob pechod à scrifennir a phin o haiarn, ac ag ewin o adamant ar lêch y gydwybod, Ie, 17.1. ac yn y dydd diweddaf (pan agorer y llyfrau) a'n cyhudda, ac a ddŵg destiolaeth i'n herbyn.

Os pecha dyn drwy ddigrifwch, y digrif­wch à ddiflanna ymmaith, eithr y gydwy­bod, a cholyn pechod à erys, ac ai poena yn angerddol: eithr os gwna dyn dda, er bod hynny trwy lafur, a phoen, y boen a dderfydd, ond y gydwybod dda o wneuthur yn dda, à erys yn llawn cyssur, a diddan­weh.

Eithr y diwedd goreu ar bechod bob am­ser, yw edifeirwch, naill ai mewn prŷd [Page 390]yn y byd ymma, neu drwy wae, ac ochain pan fyddo rhy-hwyr, yn y byd arall. Gan hynny ymogelwch mewn prŷd, ymogelwch, meddaf, rhag pechod. Oblegit pechod sydd:

Yn caledu y galon, Heb. 3.13.

Yn cnoi y gydwybod 1 Sam. 25.31.

Yn ymladd yn erbyn yr enaid: Effeithi­au pe­chod. 1 Pet. 2.11.

Yn escor ar farwolaeth. Iag. 1.15.

Yn gwradwyddo y neb ai gwnel. Rhuf. 6.21.

Yn dwyn pob dialedd ar gorph, ac enaid. Deut. 28.

Gwelwch gan hynny, wenwynig ffrwy­thau pechod; ac or achos hwnnw y mae Zophary Naamathiad yn llefaru yn ddoeth tros ben wrth Iob gan ddywedyd. Os oes drygioni yn dy law bwrw ef ymmaith ym mhell, ac na ddioddef i anwiredd drigo yn dy luestai: Canys yna y codi dy wyneb yn ddi­frychau, ie byddi safadwy, ac nid ofni: Oblegit ti â ollyngi dy ofid tros gof: fel dy­froedd y rhai à aethant heibio y cofi ef. Iob. 11.14.

Yn yr hyn eiriau y dengys Zophar yn o­leu mai bwrw ymmaith bechod ydyw ein cadernid ni, a dilyn pechod yw ein gwan­hau ni: Diah. 10.29. yn ôl yr hyn â ddywed Salomon: Ffordd yr Arglwydd yw ffyrdd yr Argl­wydd, a gochelwch lwybrau pechod.

[Page 391]

Oblegid yr Arglwydd à gospa bob pe­chod, ryw fodd neu ei gilydd: ac ni ddi­angc vn pechod yn ddigosp. Canys cyfiawn yw Duw, a rhaid iddo gospi pechod ym mhôb dyn, er bod hynny mewn amryw foddion: Nid amgen y drygionus a gospir ynddynt eu hunain, a'r duwiol a gospir yng-Hrist. Ymoeglwch gan hynny, ac na siom­mwch eich hunain yn eich pechodau.

Cofiwch pa wedd y cafodd pob anyfydd­dod, a phob camwedd eu cyfiawn, Ymodd y cospodd Duw ym mhob oes drosedd­wir ei gyfraith. a'u dyle­dus wobr. Duw ym mhob oes, a gymhwy­sodd yr achosion, ar achosedig; sef y pechod, a chospedigaeth y pechod. Yr Israeliaid am wneuthur duwiau dieithr drwy dorri y gorchymyn cyntaf à geryddwyd yn fynych gan law Dduw. Exod. 32. 4, 28.

Nadab ac Abihu meibion Aaron am dro­seddu yr ailfed gorchymmyn drwy offrwm tan dieithr ar allor Duw, Levit. 10.2. Lev. 24.14. a ddifethwyd a thân. Cablwr a throseddwr y trydydd gor­chymyn a labyddiwyd yn farw. Num. 15.32. Yr hwn a dorrod y pedwerydd gorchymyn drwy gas­clu briwydd ar y dydd Sabboth, a labyddiwyd hefyd. Absalon, am droseddu y pummed gorchmyn, 2 Sam. 18.9. â grogwyd gerfydd ei wallt ei hûn. Cain am dorri y chweched gan lâdd ei frawd Abel, a ddûg amo ei hûn byth nòd digofaint Duw. Gen. 4.15 ac 34.26. Sichem mab Hemor am dor­ri y seithfed drwy halogi Dina ferch Iacob, â laddwyd gan Simeon, a Levi meibion Iacob. [Page 392]Achan am bechu yn erbyn yr wythfed gor­chymmyn drwy ledratta y cŷn aur, Ios. 7.25. ar wisc Babilonaidd a labyddiwyd yn farw. Ana­nias â Saphira am bechu yn erbyn y nawfed gorchymyn drwy gelwydd, Act. 5.10. a rhagrith, a da­rawyd yn feirw yn ddisymmwth. Ahab am droseddu yn erbyn y degfed gorchy­myn drwy chwanogrwydd, 1 Brenh: 21.19, 24. ac anfodlor­rhwydd a ddifethwyd, ai waed a lyfwyd gan gŵn. Neu os tybiwch mai pechod gwrei­ddiol yn vnig â waherddir yn y gorchym­myn hwnnw, yna y cospir am dano blant by­chain á; marwolaeth. Rhuf. 5.14.

Mal hyn nyni a welwn nad oes mor cell­wair à Duw: Ond os ni â bechwn, bydded cyn siccred i ni gael ein talu am dano, â bod ein crysau am danom. Am hynny na thwyllwn ein hunain, ac na wnawn gyfrif bychan o bechu.

Canys nid bwbach yw pechod i yrru ofn yn vnig, ac heb ddim ond hynn: Nyni a gawn weled amgen, ddydd a ddaw. A pha fodd bynnag y gwnawn ni yn scoewan, ac yn yscafn o ryw fâth ar bechodau, er hynny mewn gwirionedd pôb pechod sydd ffiaidd yngolwg Duw, ie pob pechod sydd ddybryd, ac echryslawn o herwydd hyn, sef am ei fod yn erbyn vn anfeidrol ei hanfod: Yn er­byn Duw ei hun; yn erbyn y mawrhydi goruchaf. Canys mawredd yr hwn y pe­cher [Page 393]yn ei erbyn sydd yn mwyhau, ac yn cynyddu mawredd y pechod.

I yspyssu hyn: o chabla neb Ustûs o heddwch, efe à darewir yn y cyffion: os dy­wed gabl-eiriau yn erbyn vn o gynghoriaid y brenin, efe â garcherir: Ond os difenwa efe Fawrhydi y Brenin ei hûn, ei grogi a wneir.

Felly chwi á welwch fod pechod yn my­ned yn fwy, ac yn waeth wrth deilyngdawd yr bwn y pechir iw erbyn. Yn awr gan nad yw'r holl dywysogion bydol ond llwch yn­golwg Duw (ac ynteu o anfeidrol Fawrhy­di, ac yn ddigyffelyb) mor ffiaidd, mor ddrygionus yw mewn modd yn y byd, tro­seddu yn erbyn ei Ardderchog fawredd ef?

Gan hynny, i gymhennu hyn o beth, fyng­hyngor i chwi yw hyn, gochel drygioni, a mawrhau pob rhinwedd dda; megis i ddiosc yr hên ddyn, felly i wisco y dyn newydd. Cofiwch yn fynych, a phôb amser beth a ddaw o honoch ar òl y bywyd yma, ac ym mhâ le y byddwch am ben y deugain mhly­nedd, pa vn ai yn vffern, ai yn y Nefoedd. Edrychwch yn ofalus am hynny mewn prŷd: A byddwch fyw yn y cyfryw fodd, ac y galloch fyw bŷth. Y styriwch yn fyn­ych yneich dirgel fyfyrdod.

Pa beth â fuoch.
Pa beth ydych.
Pa beth â fyddwch.
Pa beth a wnaeth Duw eroch.
Pa beth y mae yn ei wneuthur.
Naw yst­yriaeth buddiol.
Pa beth a wna.
Farnedigaethau Duw or blaen.
Farnedigaethau Duw yr awrhon.
Farned gaethau Duw etto i ddyfod.

Deffroŵch, os madws, a gofelwch am eich iachawdwriaeth, nac ymroddwch i gyscu yn hwy mewn pechod, rhag eich di­fetha yn dragywydd. Psal. 58.11. Canys diau fod gwobr i'r rhai cyfiawn, a bod Duw yr hwn a farna y ddaiar. Ac dymma'r cyngor goreu a fedrafi ei roddi i chwi.

Asunet.

Da iawn yw eich cyngor: At­tolygaf i Dduw roddi i mi ràs iw ddilyn: Ac i fyw yn y cyfryw fodd ac y gallwyf ei fodloni ef, a myned i'r nef ar y diwedd.

Theol.

Gwiliwch rhag bod yn adrodd y geiriau hyn o arfer, ac er mwyn dangos lliw, heb fwriad safadwy yn eich calon i ddilyn y cynghorion hyn.

Canys y mae llaweroedd â fedrant yn gyfarwydd ddywedyd yn dda, ond ni wnant ddim da: meddwl y maent eu bod yn bod­loni Duw yn odiaeth a'u geiriau hygoel, ac na ofyn Duw ar eu dwylo ond hynny, fel pe gwnai efe gyfrif o eiriau.

[Page 395]

Hwy a ewyllysient yn chwannog fyned ir nef, ond ni chymmerant ddim poen, ni fynnant ymadel a'u pechodau, ni chollant mo'i trachwantau a'u melyswedd: hwy â fynnent gael gwobr plant Duw, ond ni fynnant wneuthur gweithredoedd plant Duw. Hwy â fynnent gael y melus, ond ni fynnant mo'r chwerw: hwy â fynnent ga­el y goron, ond ni fynnant daro vn dyr­nod. Hwy â fynnent fyned i Canaan, ond anhawdd ganddynt ymdeithio ar hyd y ffordd faith â pheryglus, sydd yn arwain yno.

Am hynny y gwŷr hyn, gan mai mei­bion seguryd ŷnt, â fetha ganddynt yn y diwedd gyrhaedd y peth y maent yn ei geisio. Oblegid yr Yspryd â ddywed. Diha. 13.4. Enaid y diog a ddeisyf, ac ni chaiff ddim.

O herwydd hyn y mae yn rhaid i ni y­madel â geiriau, a dyfod at weithredoedd. Canys ein Harglwydd Jesu â ddywaid: Mat. 7.21. Nid pob vn a ddywed Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i deyrnas nef, ond yr hwn a wnel ewyllys fy Nhad yr hwn sydd yn y nef.

Yn yr hwn eiriau y gwelwn yn eglur fod Crist yn cau allan o'i deyrnas bawb ôll ar sydd a'u crefydd yn sefyll ar eiriau yn vnig, ac ar ymadroddion hygoel, ac heb wneuthur cydwybod o gadw gor­chymmynion Duw.

Y Brenin Dafydd wedi gwneuthur dar­par [Page 396]â pharodrwydd mawr tu ag at adeila­du y deml, ac yn gweled, fod gan ei fab Salomon ddigon o ddefnyddiau, a pharodr­wydd iw gweithio, ac iw gorphen, sydd trwy fawr synwhyroldeb yn eiriol arno fyned ynghylch y gwaith, yn y geiriau hyn: Ymgryfha ac ymegnia, 1 Chron. 28.20. a gweithia, nac ofna, ac na arswyda: Canys yr Arglwydd Dduw, fy Nuw i fydd gyd a thi.

O na bai ddynion yn-dilyn cyngor Da­fydd: Nad ymgryfhaent, a gweithio: ac nid eistedd yn segur, a pheidio â gwei­thio: na adawent ymmaith eiriau, a mu­nudiau, a myned ynghylch cadw cyfraith Dduw, ac ymegnio yn ofalus, ac yn gyd­wybodus i ddangos gwir vfydd-dod iw ewyllys ef: yna yn ddiammeu y byddei Duw gyd â hwynt, y bendithiei hwynt, a llawer o ddaioni â ddeuai o hynny. Ob­legid fe ddywaid yr Scrythur: ym mhob llafur y mae elw: ond o eiriau gwefusau nid oes dim ond tlodi. Dihar. 14.23.

Phila.

Meddyliau y rhan fwyaf ydynt wedi eu boddi ynghariad y byd hwn mor llwyr-gwbl, ac nad oes ganddynt galonnau i vfyddhau i Dduw, na dim digrifwch yn ei orchymynion ef.

Theol.

Y rhan fwyaf o ddynion ŷnt de­big ir Gadareniaid, y rhai a wnaent mwy cyfrif o'u môch, nac o Grist. Megis y gwelwn yn ein dyddiau hyn, pa sawl rhai [Page 397]a wnant fwy cyfrif o'u gwartheg, ac o'u defaid, nac o ogoneddus Efengyl Grist, O dom, nac o berlau. Gofalus fyddant am goeg-bethau, a difraw am y pethau mwyaf rhagorol. Ac am hyn y gellid yn gymmwys eu cyffelybu i ŵr a fai ei wraig ai blant yn drymglâf, ac ynteu er hynny nid edrychei am danynt, ond bod yn brys­sur, ac yn ddiwyd ynghylch meddiginiae­thu clustiau ei fôch.

Phila.

Nyni â giliasom beth ar ddidro, oddiwrth y destyn oedd gennym yn llaw, attolwg i'wch gan hynny, od oes gennych ddim cynghorion ychwaneg â roddoch i Asunetus eu hadrodd o honoch yn ddioed.

Theol.

Nid oes gennif ond ychydig iw ddywedyd ychwaneg: oddieithr yn vnig eiriol arno am gofio, a myfyrio yn fynych y naw peth hyn, nid amgen

  • 1. Pa ddrŵg â wnaeth.
  • 2. Pa ddâ â adawodd heb ei wneuthur.
  • 3. Pa amser â gam-dreuliodd.
  • 4. Fyrred yw'r bywyd yma.
  • 5. Oferedd y byd hwn.
  • 6. Godidowgrwydd y byd â ddaw.
  • 7. Dychryn marwolaeth.
  • 8. Dydd y farn ofnadwy.
  • 9. Uffern-dân annloddefadwy.
Phila.

Da iawn yw hyn, a chryno. Chwi a soniasoch or blaen am rai o'r pyngciau hyn, Eithr yr wyfi yn ewyllysio cael cly­wed [Page 398]peth y chwaneg am y ddau olaf, y rhai ni chrybwyllwyd etto am danynt.

Theol.

Gan eich bod yn ewyllysio, mi a adroddaf i chwi ar fyrr, yr hyn a derby­niais gan yr Arglwydd.

Yn gyntaf, am ddydd y farn yr wyf yn cael yn llyfr Duw, y bydd y dydd hwn­nw, yn ofnadwy, ac yn ddychrynnedig: Canys mab y dŷn a ddaw yn wybrennau'r nef, Mat. 24.30. 2 Pet. 3.7, 10. gyd a nerth, a gogoniant mawr. A Saint Petr a ddywed. Dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nos. Yn yr hwn y ne­foedd a ant heibio mewn trŵst, ar defnyddiau gan wir wres a doddant, a'r ddaiar, a'r gwaith a fyddo ynddi a loscir.

Yr Apostol a ddywed i ni, y bydd yr hollfyd yn dan-llwyth o dan goleu ar ddy­fodiad Crist, ac yr yssir yn vlw, ac yn lludw yr hôll gestill, tyrau, adeilad gwy­chio [...], aur, arian, melfed, sidan, a hôll ddis­clair brydferthwch, gogoniant, a thegwch y byd hwn. Oblegit dywedyd yn eglur y mae: Y nefoedd a'r ddaiar sy yr awr-hon trwy'r vn gair a roddwyd i gadw i dan erbyn dydd y farn, a destryw yr anwir ddynion. 2 Pet. 3.7.

Ym mhellach profi y mae yn gadarn mai megis ac y difethwyd y bŷd vn-waith trwy ddwfr: felly ail-waith yn ei ddiwedd y destrywir ef a than.

[Page 399]

Yr Apostol Paul a destiolaetha yr vn peth: Canys efe a ddywed, 2 Thes. 1.7, 8. Y daw yr Ar­glwydd or nefoedd gyd a'i Angelion nerthol yn dan fflamllyd.

Ac mewn man arall y mae efe yn dangos ddychrynnedigaeth ei ddyfodiad ef ir farn, gan ddywedyd: y daw efe gyd a bloedd, 1 Thes. 4.16. a llef yr Archangel, ac ag vtcorn Duw. Ny­ni a welwn wrth brawf, fod dyfodiad Tywysogion bydol i ryw le, gyda rhwysc mawr, a gogoniant. Y mae ganddynt finteioedd, a thyrfaoedd mawrion ym mlaen, ac yn ôl: Yn eu cymdeithas y bydd llawer o bennaethiaid, Arglwyddi Ardderchog, ac Arglwyddesau hoiw sydd yn wasanaethgar lddynt. Y Cledd-glu­dudd, yr Utcan-wyr, a'r Rhag-arlwywyr fyddant or blaen. Llawer o wŷr gwychion, ac vchelfawr yn dyfod yn ôl. Gan hynny os dyfodiad dynion daiarol fydd mor Ar­dderchog, a gogoneddus, pa faint mwy gogoneddus fydd dyfodiad mab y dyn, yngolwg yr hwn, nid yw Tywysogion daiarol ond llŵch? Yr Scrythyrau a ddy­wedant y bydd ei ail ddyfodiad ef i'r farn yn y cyfryw ddisglairwych, ac anrhaethol ogoniant, hyd oni bydd, hyd yn oed y creaduriaid godidoccaf, yn synnu am da­no. Canys yr haul a dywyllir, ar lleuad ni rydd ei goleuni, Mat. 24.29 a sêr y nefoedd a syrthiant: gan arwyddocau wrth hyn y tywyllir, ac [Page]y di-brydferthir y creaduriaid gogonedd­usaf, a mwyaf eu discleirdeb gan eglurdeb annealladwy ei ddyfodiad ef. Hefyd fe nodir i ni ddychryn dyfodiad Crist yn hyn, sef yn ebrwydd o flaen hynny yr Cynhyr­fa. ymsigla, ac y cryna'r môr, ac yn ei ryw ei hun a lefa yn grôch: oblegit fe ddywe­dir, Y mor, a'r rhyferthwy a ddatseinia (ac mewn dull galarus, Luc. 21.25. a phruddaidd a rua) a bydd calonnau dynion yn llewygu gan ofn, a disgwyl am y pethau a ddeuant ar y byd: oblegit nerth y nefoedd a siglir. O Neu beth a dder­fydd. beth a ddaw o dyng-wyr, meddwon, puttein­wyr ar cyffelyb yn y dydd hwnnw? hwy a geisiant ymlusco i dwll ebill, i ym­guddio.

Hwy a lefant gwae ni, ac ôch erioed ein geni: hwy â ddamunent nas ganesid erioed, neu escor o'u mammau arnynt yn llyffaint. Ac fel y dywedir yn y Datcuddiad, Hwy a ddywedant wrth y mynyddoedd, Dat. 6.16. a'r crei­giau, syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o wydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd­faingc, ac oddiwrth lid yr oen. Canys y mae dydd mawr ei ddigter wedi dyfod, a phwy a ddichon sefyll. Nyni a welwn gan hynny na fydd ei ail dyfodiad ef yn wael; ac yn ddiystur megis ei ddyfodiad cyntaf, ond yn ddychrynadwy, yn Arderchog, ac yn ogo­neddus: Ac fel y dywed yr Scrythyrau e fydd ei ddyfodiad ef mewn ofn mawr, a [Page 401]dychryn: felly hefyd y dangosant y bydd yn ddisymwth, ac heb ei ddisgwyl.

Oblegit dydd yr Arglwydd a ddaw fel lleidr y nos: 2 Pet. 3.10. 1 Thes. 5.2, 3. Luc. 21.35 fel gofid gwraig feichiog wrth escor: fel magl y daw ar wartha pawb oll a'r sydd yn trigo ar wyneb y ddaiar. Nid am­gen fe â ddeil yn ddisymwth, ac a fagla bawb oll, pa le bynnag yn y bŷd y bydd­ont.

Megis y daeth y daiar-gryn, â fu yn­ghylch er ys deugain mlynedd eusys, yn ddisymwth ar y bŷd, ac ynteu heb ddis­gwyl dim or fâth beth: felly dyfodiad mâb y dŷn i'r farn â ddeil y byd ar y gwtta, ac yn amharod: Canys ni bydd nemmawr yn meddwl am y fâth beth.

Yn gymmaint gan hynny, ag y bydd ail-ymddangosiad Crist mor ddisymmwth; ofnwn, a dychrynwn, oblegit pôb peth di­symmwth sydd iw arswydo.

Phila.

Bellach Syr, fel y dangosasoch i ni y daw Grist yn ofnadwy, ac yn ddi­symmwth, felly dangoswch i ni gyngyd, a diwedd-bennod ei ddyfodiad ef.

Theol.

Y diwedd-achos pennaf o'i ddy­fodiad ef fydd i gynnal Cyfrif-lys, i alw pawb iw Cyfrif am weithredoedd neullt­ [...]ol pôb dyn, ac i dalu iddynt yn ôl eu gweithredoedd, fel y mae yn scrifennedig. Mab y dŷn a ddaw yngogoniant ei dad, gyd a'i Angelion, Mat. 16.27 ac yna y rhydd efe i bob dyn yn [Page 402]ol ei weithredoedd. Drachefn yr Apostol â ddywed at y Corinthiaid. Rhaid yw i ni oll ymddangos ger bron brawdle Crist, fel y derbynio pob vn y pethau a wnaethpwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa vn bynnag a'i da, a'i drŵg. 2 Cor. 5.10.

Ymma y gwelwn yn eglur mai diwedd­bennod dyfodiad Crist fydd i farnu pôb dyn yn ol ei weithredoedd, nid amgen fel y byddo ei weithredoedd yn dangos ei fôd, ac yn tystiolaethu o honaw, ac o'i ffydd.

Mewn man arall y dywed yr Apostol: Mai diwedd ei ddyfodiad ef fydd i roddi di­al i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid vfyddhant i Efengyl ein Harglwydd Jesu Grist, y rhai a ddioddefant yn gospedigaeth ddinistr tragwyddol, oddi ger bron yr Argl­wydd, ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef. 2 Thes. 1.8.9.

Gwae gan hynny ddau fâth ar ddyn, yr anwybodus, ar anvfydd: Oblegit yr A­postol a ddywed yn ddi-os y condemnir hwynt eill dau.

Myfi â dybygwn y dylei yr anwybodus, ar anvfydd, a phob mâth arddynion dry­gionus eraill grynu wrth feddwl am hyn: sef y daw Crist i roddi dial arnynt. Pe gwyddem ni yn siccr y deuai yr Yspaen­wyr i orchfygu ein gwlad, i'w gwasarnu, ac i wneuthur buddugoliaeth o honi, y ty­walltent i'n gwaed, i'n dinistrio, a gwneu­thur [Page 403]difrod arnom; ie y caem weled o fla­en ein llygaid ladd ein gwragedd, a'n plant, ein cenhedl, a'n caredigion, hyd o­ni byddei eu gwaed yn llifeirio yn yr he­olydd, pa ofn ei faint, pa ddychryn a da­rawei hynny ynom? ni â grynem wrth feddwl am dano.

Oni bydd-arnom mwy ofn o lawer rhag damnedigaeth ein eneidiau? oni chrynwn wrth feddwl y daw Crist i roddi dial? Os y llew a rua, hôll anifeiliaid y maes a of­nant, ac onid ofnwn ni ruad y llew o lwyth Juda? Eithr y sywaeth y mae ein ca­lonnau ni cyn galetted, a ninnau gwedi ein suo i gyscu ynghrud diofalwch, fel nad oes dim a'n cynnyrfa, dim a ddichon ein deffroi.

Phila.

Yn awr megis y dangosasoch ddychryn, a diwedd-achos dyfodiad Crist: felly mynegwch hefyd i ni, ym mha ddull y daw efe.

Theol.

Dull ei ddyfodiad fydd fel hyn, nid amgen: y byd oll a ddyfynnir i ymddan­gos, bawb yn bresennol yn yr eisteddfod cyffredin honno gerbron y Barnwr mawr. Ni chaiff nêb gennad i atteb drwy ddad­leuwr.

Ond rhaid i bawb atteb trosto ei hûn: Ni chaniadheir i neb roi meichiau, eithr rhaid i bawb ddyfod eu hunain, yn ddi-fach fel yr scrifennir, 2 Cor. 5.10. Rhaid i ni oll ymddangos: [Page 404]vchelradd, ac issel-radd, cyfoethog, a thlawd. Brenhin a chardottyn, y naill, ar llall: fel y dangosir yn amlwg yn yr vgeinfed ben­nod o'r Datcuddiad, lle y dywed yr Ys­pryd. Mi a welais y meirw oll, mawrion a bychain yn sefyll o flaen Duw, Date. 20. [...]2, 13. ar mor a rodd­es i fynu y meirw a oeddent ynddo, a mar­wolaeth, ac vffern a roesant i fynu eu meirw. Felly y mae yn eglur fod yn rhaid i bawb yn ddi-escus ymddangos yn y Sessiwn fawr ofnadwy.

O pa ddiwrnod mawr fydd y dwthwn hwnnw pan ymddangoso'r hôll fyd ynghyd ar vnwaith? Pe priodei Brenhin ei fab, a gwahodd Brenhinoedd eraill, Emerodron, Duciaid, a Phennaethiaid ir briodas, a'u hôll rwysc a'u dilynwyr, ein harfer yw dy­wedyd, ô pa briodas, pa gynnulleidfa, pa drafferth, pa ddiwrnod mawr fydd hwn­nw? Ond pan ymgynnullo yr hôll fyd ynghyd, nid yn vnig yr hôll Fonarchiaid, Brenhinoedd, a Thywysogion, ond pawb eraill ar a fuant erioed o ddechreuad y byd, ar y sydd, ac a fyddant, pa ddiwrnod fydd hwnnw? Diryfedd gan hynny fod yr Scrythyrau yn ei alw, dydd Duw, a dydd mawr yr Arglwydd.

Pan ddel pôb cnawd ynghyd i ymddan­gos yn gorphorol, yna yr ymdderchafa mab y dyn iw orseddfaingc mewn mawrhydi, a gogoniant rhagorol. Dan. 7.10. Canys afon danllyd [Page 405]a red, ac a ddaw allan oddi ger ei fron ef, mil filoedd a'u gwasanaethent, a myrdd fyrdd­iwn a safent ger ei fron ef: eisteddwyd ar y farn; ac agorwyd y llyfrau. Yr holl Saint hefyd: a gwir addolwyr Duw au gwasa­naethant ef, ac a ddeuant gyd ag ef ir frawdle. Ac nid hynny yn vnig, eithr hwy a eisteddant ar y faingc, ar orseddfa gyd ag ef, fel y mae yn scrifennedig: 1 Cor. 6.2. Y Saint a farn y byd, hwy a farnant yr Angelion, nid amgen y Cythreuliaid, ac Angelion y ty­wyllwch. Ein Harglwydd Jesu ei hûn a ficcrha yr vn peth: pan ddywedodd wrth el ddiscyblion, ac ynddynt hwy wrth bôb gwir Gristion: Yn wir meddas i chwi, Math. 19.28. pan eisteddo mab y dyn ar orsedd ei ogoniant, chwy­chwi y rhai a'm dilynasoch i yn yr adenedi­gaeth, ie chwychwi a eisteddwch ar ddeuddeg gors [...]dd, ac a fernwch dd udec-llwyth Isra­el. Hynny yw, Saint Duw a destiolaethant, mai cyfiawn, ac vnion fydd y farn a ddat­can Crist yn erbyn yr holl rai anghreda­dwy.

Felly nyni a welwn pa wedd yr hebryn­gir Crist hyd at ei orseddfaingc; Ac a pha ogoniant, a mawrhydi yr escyn efe yno. Defod ein gwlad ein hûn a ddysc ini hyn: sef pan fyddo Barn-wyr bydol yn cynnal eu Sessiwnau, a'u heisteddfodau cyffredin, yr hebryngir hwynt i'r faingc, ac ir frawdle mewn rhwysc, ac mewn dychryn.

[Page 406]

Oblegit Siri y sîr, ai wŷr arfog, a bagad o Ustusiaid o heddwch, a llawer eraill a ânt gyd â hwynt at y faingc: Pa faint mwy fydd gogoniant, ac Ardderchawgrwydd mab Duw, pan hebrynger ef iw orsedd­faingc frenhinol.

Mal hyn, wedi yr eisteddo Crist ar ei or­seddfaingc, y cesclir ger ei fron ef, yr holl rai annuwiol: Ac efe a saif vwch eu llaw hwynt, a chleddyf noeth yn ei law, Ar y naill du iddynt y saif y Cythraul ger llaw iw cyhuddo: ar y tu arall y bydd eu cyd­wybodau eu hunain.

Oddi tanynt y bydd sybwll vffern yn agored, yn barod i'w llyngcu: yna yr agorir y llyfrau, nid llyfrau o bappur, neu femrwn, ond llyfrau cydwybodau dynion. Canys ynghydwybod pob dyn megis mewn llyfr coffadwriaeth y bydd ei bechodau yn scrifennedig. Yna y dŵg duw bob gweithred i'r farn, a phob meddwl dirgel, Preg. 12.14. ac ai gesyd yn eu trefn ger bron yr holl rai gwrthodedig: [...] Cor. 4.5. Yna y goleua Duw ddirgelion y tywyllwch, ac yr eglura feddyliau y galon.

Y pryd hynny y cyfyd yr annuwolion oll eu dwylo ar farr gorseddfaingc Crist, ac y dywedant, euog. Arglwydd: yna y cy­hoeddir yn eu herbyn farn ofnadwy o far­wolaeth, a damnedigaeth, a rydd y Barn­wr cyfiawn yn eu herbyn, sef, Ewch chwi [Page 407]felldigedig i dân tragwyddol, Math. 2 [...].41. yr hwn a ddar­parwyd i ddiafol, ac i'w Angelion.

O farn dosturus; oh ymadrodd cethin, a thrwm ei glywed: Pwy ni chrynei ei galon wrth feddwl am y pethau hyn? Pwy ni safei ei wallt yn ei sefyll? y pryd hwnnw y collir yn dragwyddol filoedd o bobl, y rhai yn y byd ymma a gynnyddant fel y Cedar yn Lebanon: Ac yna yr yfant (megis cyfiawn daledigaeth am eu hanwi­redd) o phiol chwerw llîd, a digofaint Duw, yn Nheyrnas y tywyllwch, ac yn­gwydd Satan, a hôll felldigedig elynion Gras Duw.

Phila.

Megis y mynegasoch i ni, y dychryn, y diwedd-achos, a dull dyfodiad Crist, ac mor ddisymmwth y daw efe ir farn: Felly bellach yn ddiwaethaf dangoswch i ni pa iawn-ddefnydd a wneir or pethau hyn.

Theol.

Saint Petr a ddywed, ac a ddysc i ni iawn ddefnydd y cwbl: Canys (eb efe) Gan fod yn rhaid i hyn ei gyd ymollwng, 2 Pet. 3.11. pa fath ddynion a ddylech chwi fod mewn sanctaidd ymarweddiad, a duwiolleb. Fel pe dywedasai, gan fod y Nefoedd yn my­ned heibio mewn trŵst, ar defnyddiau o wîr wrês yn toddi, ar ddaiar, a'r gwaith a fyddo ynddi yn rhaid ei llosci: Hefyd gan fod dyfodiad Crist iw ddisgwyl mewn dychryn mawr, i ddiwedd ofnad wy, a dull [...]rswyddus, pa egni a ddylem ni ei wneuthur [Page 408]i geisio cynnyddu, a rhagori mewn daioni? Felly Saint Petr a ddengys i ni, mai'r gwir ddefnydd, a'r addysc o'r cwbl yw hyn: Sef, mal drwy ystyriaeth or pethau hynny y galler ein dwyn yn nês at Dduw, i fod yn vfyddach iw ewyllys ef, ac i rodio yn ei holl orchymynnion, gan wneuthur cyd­wybod o'n holl ffyrdd: A bwriadu bod­loni Duw ym mhôb peth: bod yn ffrwy­thlon ym mhôb gweithred dda, drwy fyw yn sobr, yn gyfiwn, ac yn sanctaidd yn y byd presennol drygionus hwn: A chan ddangos allan rinweddau yr hwn a'n gal­wodd o dywyllwch i'r rhyfedd [...]l oleuni hwn: fel y gallom ym baratoi erbyn dydd ei ym. ddangosiad ef, fel na'n goddiweddo ar y gwaethaf.

Canys ein bywyd ni a ddylei fod yn fy­fyrdod gwastadol am farw. Nyni a ddylem fyw beunydd, fel pe baem yn marw beu­nydd, neu fel pe byddei ein gwely yn fêdd i ni. Ein rhan ni yw byw beunydd megis pe deuai Crist i'r farn yn ebrwydd. Fel yr a­droddir am ŵr duwiol gynt yn amser y Brifeglwys: nid amgen Beth hynnac a wnai, ai bwyta, ai yfed, ai beth bynnac a­rall, fe dybygei ei fod yn clywed vtcorn yr Arglwydd yn datseinio beunydd yn ei glu­stiau, gyd a'r geiriau hyn: Cyfodwch y meirro, a deuwch i'r farn. Beth pe gwyby­ddid yn siccr y deuai Crist i'r farn ŵyl Joan [Page 409]nessaf: Pa gyfnewid a wnai hynny ar y byd, pa ddiwygio a wneid ar feddyliau, a chyneddfau? Pwy a gymmerei ofal am y byd hwn? Pwy a osodei ei fryd, ai serch ar olud? Pwy a wnai gyfrif o ddillad gwychi­on? Pwy a lefasei neu a feiddiei dwyllo gor­thrymu a meddwi? Pwy fyddei mor hyf a thyngu, dywedyd celwydd, a godinebu? Nagê, onid ymroddai pob dyn i vfyddhau i Dduw? Oni wasanaethei pawb ef yn ddiwyd? Oni redai gwyr, gwragedd a phlant yn finteioedd i wrando ar Brege­thau? Onid ymroent i weddio, a darllain? Onid edifarhaent am eu pechodeu? Oni le­fent am drugaredd a maddeuant? Gwelwch wrth hyn, faint a weithiei gwybodaeth siccr o fod y farn yn dyfod yn agos. Ac oni ddylei fod gennym ni gymmaint gofal, ac awydd i wneuthur y pethau hyn o her­wydd bod y dydd vn annwybod i ni?

Pwy a ŵyr a ddaw Crist y mis ymma? y flwyddyn ymma, neu'r flwyddyn nesaf? Efe ei hûn a ddywed: Math. 24.44. Byddwch barod, gwiliwch, canys yn yr awr nis tybioch y daw mab y dyn. Tybied yr ydym ni, na ddaw dydd y farn y leni, na'r flwyddyn nes­saf, na'r can mlynedd hyn; nid hwyrach er hynny y daw efe yn ddisymwth arnom, ni wyddwn pa cyn gynted: Canys mewn awr ni ddisgwyliom am dano, y daw efe. Am hyn­ny y dywed ein Achubwr: Ymogelwch, gwi­liwch [Page 410]a gweddiwch, canys ni wyddoch pa­bryd y bydd yr amser. Mar. 13.33.

Ac yn Efengyl Saint Luc y dywed. E­drychwch arnoch eich hunain rhag gorchfy­gu eich calonnau, Luc. 21.34.35. a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Canys fe ddaw fel magl ar wartha pawb oll ar sydd yn trigo ar wyneb y ddaiar.

Mal hyn ni a glywn faint o rybuddion, ac amneidiau a ddyry ein Achubwr i ni, pan yw yn dywedyd: Byddwch barod, deffrowch, ymogelwch, gwiliwch, a gwedd­iwch, ac edrychwch o'ch amgylch rhag dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisym­mwth, ach dal ar y gwtta. Wrth hyn ang­enrhaid i ni fod yn barod bôb amser, tan boen marwolaeth, ac fel yr attebom i'r gwrthwyneb tan ein perigl.

Phila.

Ewch rhagoch i ymadrodd am boenau vffern.

Theol.

Am boenau vffern yr wyf yn ysty­ried tri peth: am ba rai y llefaraf fy medd­wl ar fyrr: y rhai hyn ydynt.

  • 1. Toster.
  • 2. Tragwyddoldeb.
  • 3. Anghyfaredd, neu ddiymwared.

Yn gyntaf, am doster poenau vffern, ar dri pheth yn bennaf y mae hynny yn sefyll.

[Page 411]

Yn gyntaf, gwahaniaeth, a didolaeth oddiwrth bob llawenydd, a chyssur, o fod yngwydd Duw.

Yn ail, cymdeithas dragwyddol gyd a Diafol, ai Angelion.

Yn drydydd, dolur-glyw ofnadwy oddi­wrth ddigofaint Duw yn ymaflyd yn y corph ar enaid, ac yn ymborthi arnynt, fel tan ar byg a brwmstan byth bythoedd.

Yr Scrythyrau a arwyddocant doster poenau vffern, pan eu galwant: Date. 21.8. Ypwll yn llosci a than, a brwmstan yn dragywydd: ac mai yno y bydd wylofain, a rhingcian dan­nedd; A siccrhau, Luc. 13.28 Mat. 8.12. Na bydd marw eu pryf, (sef pryf eu cydwybod gnofaus, neu eu penyd­gydwybod.) Ac na ddiffyddy tan; Mar. 9.44. wrth ei gyfenwi ef Tophet, yr hwn sydd ddyfn, ac ehang, a'i gynneuad o dan, a choed lawer, Esa. 30.33. ac anadl yr Arglwydd megis afon o frwmstan yn ei hennyn hi.

Ofnadwy i'n synhwyrau ni yw'r pe­thau hyn, ac etto ni ellir wrth y pethau hyn lwyr-ddirnad neu ddeall toster poenau vffern, fel y maent mewn gwirionedd, a gŵeithred. Oblegid ni dichon calon ddeall, na thafod draethu faint yw angerdd poe­nau vffern.

Megis nad aeth i galon dyn erioed faint yw llawenydd y nef: Felly nid aeth chwaith faint yw poenau vffern. Nid yw'r holl benydiau, a'r blinderau a ddigwyddant [Page 412]ar ddynion yn y byd ymma, ond megis gwreichion bychain yn taflu o ffwrn digo­faint Duw. Nid yw'r hôll dân ymma, ond dynwared tân, o'i gyffelybu i dân vffern. Y mae tan vffern (medd vn) mor anger­ddol, ac y dichon losci dyn yn vlw, saith milldir oddiwrtho.

Ac etto y gwrthodedig yn penydio ynddo beunydd, ni lwyr-yssir byth gan­ddo. Megis y mae y Salamander yn tán bob amser, ac heb ei ddifa ganddo: felly y bydd y drygionus yn Nhân vffern bob amser: Ac etto byth nis yssir, byth ni ellir eu difa: Canys marwolaeth yn byw beu­nydd yw vffern, a diwedd yn dechreu o ne­wydd bob amser.

Peth blîn i ddyn trym-glâf yw gorwedd mewn gwely plû, pa faint blinach ar y gri­dil purboeth; ond pa faint mwy na hyn ei gyd, yw llosci bennydd yn vffern, a bod byth heb ei ddifa.

Math arall ar doster poenau vffern yw hyn, sef, eu bod yn hollawl ym mhôb aelod ar vnwaith; y pen, y llygaid, y [...]a­fod, a'r dannedd, y gwddf, y cylla, y cefn, ar bol, y galon ar ystlysau. Holl ddolu­riau y bywyd ymma ydynt rannol, neu neillduol: Canys ar rai y mae dolur o'r pen, ar eraill o'r cefn, ar rai o'r cylla, ar eraill o'r gliniau. Etto y mae rhyw fath ar ddo­luriau, na ddioddefai ddyn hwynt er yn­nill [Page 413]yr holl fyd: Ond gorfod i ddyn ddolu­rio, a phenydio ym mhôb rhan, ac aelod ar vnwaith, pa olwg mor resynol? Pwy ni thosturiai wrth gî a fai yn y cyfryw gy­flwr? Felly nyni a welwn fod toster, ac an­gerdd poenau vffern yn fwy nac y gellir eu dirnad, a'u hadrodd.

Oblegid pwy a ddichon fynegi y peth sydd anfesurol: ni all neb fyned ym mhel­lach i ddirnad yr hyn sydd anfesurol, na gwybod ei fod yn anfesurol.

Phila.

Megis y dangosasoch i ni mor dôst yw poenau vffern, felly ewch rhagoch bel­lach at y tragwyddoldeb arnynt.

Theol.

Yr Scrythyrau a amlygant dra­gwyddoldeb poenau vffern, wrth ddywe­dyd y parhant byth by thoedd: Y drygio­nus a fwrir i'r pwll sy'n llosci a than a brwmstan yn dragywydd. Y tan byth ni ddiffydd. Pan el heibio gynnifer can-mîl o flynyddoedd, ac y mae cerrig ar lan y môr, etto y mae cymmaint arall iddo i ddy­fod.

Canys ni ddichon y peth hwnnw byth ddiweddu yr hwn nid oes diwedd arno. Pe bai holl gyfrifyddion y byd wedi eu gosod ar waith holl ddyddiau eu bywyd, i rifo y rhifedi mwyaf, a'r a allent hwy ei osod ar lawr, a phe crynhoent yn y diwedd eu holl gyfrifon ynghyd; er hynny, ni chyr­haeddent ddyfod yn agos, nac ynghyf [...]l at y [Page 414]mesur amser, tros yr hwn y poenir y dryg­ionus.

Pei bai holl amgylchiadau y Nefoedd wedi eu scrifennu trostynt a rhif-luniau Cyfrifyddiaeth, or dwyrain ir Gorllewin, ac or Gorllewin ir dwyrain eilwaith: er hyn­ny ni allai y cwbl gynnwys yr amser an­herfynol, a'r anneirif flynyddoedd yn yr rhain y dioddef yr anghredadwy benydiau tragwyddol. Oblegit mewn pethau anher­fynol nid oes le i amser.

Canys mewn cylch a therfyn amser y mae mesur y pethau hynny y rhai ydynt tan fesur. Am hynny o herwydd bod poe­nau vffern yn anherfynol, ni ellir eu mesur wrth amser: ac ni ddichon chwaith peth anherfynol ymleihau. Oblegit os tynnwch oddiwrth beth anherfynol, ddeng mîl mîl fyrddiwn o filoedd, er hynny ni leihauwyd dim arno.

Pe'i bai ddyn vnwaith mewn can-mîl o flynyddoedd yn cymmeryd llwyaid o ddwfr allan o'r mor mawr, pa hyd a fy­ddei hyd oni ddiyspyddid ef felly? Etto cynt y diyspyddid y môr trwy gymmeryd allan o honaw lwyaid vnwaith mewn can mîl o flynyddoedd, nac y caiff yr enaid damnedig ddim esmwythyd.

Am hynny y dywed hen athro: pe poenid enaid colledig yn vffern tros fil o fly­nyddoedd, ac yno cael o honaw beth ham­dden [Page 415]neu amser o esmwythad, fe fyddei peth cyssur yn hynny: (Canys fe fyddei peth gobaith o gael diwedd) eithr (medd efe) y gair hwn byth sydd yn lladd y galon.

Oh ystyriwch hyn y rhai ydych yn ang­hofio Duw. Oh chwychwi fydolion cnawdol, meddyliwch am hyn mewn pryd, ac amser: Oblegit oni chynyrfir chwi yr awr-hon wrth glywed, fe a'ch rhwygir yn ddrylliau wrth ddioddef. Beth â dyccia byw ym mhob digrifwch, a chnawdol ddifyrrwch ymma tros ynghylch trugain mlynedd, ac yna ddi­oddef y poenau hyn tros byth: Pa lesad i ddyn er ynnill yr holl fyd, a cholli ei enaid? Gwaeth ydynt na chynddeiriog, y rhai a beryglant eu eneidiau am dippin buchan o fudd, am ychydig felyswedd drewedig.

Eithr dymma naturiaeth dynion, hwy a fynnant y melus presennol (dêl a ddêl) er drutted y talont am dano, er myned o honynt ir prîs vchaf: er colli o honynt eu eneidiau. Oh ddallineb anrhaethol, ac ynfy­drwydd dynion y byd hwn: Diafol a dyn­nodd allan eu llygaid, ac am hynny a'i ty­wys hwynt lle y mynno.

Canys pwy ni ddichon dywyso dyn dall lle mynno? 1 Sa. 11.2. Nahash yr Ammoniad ni wnai gyngrair a'r Israeliaid, ond tan ammod ca­el o honaw dynnu ymmaith eu holl lygaid dehau.

[Page 416]

Felly y mae diafol yn gwneuthur cyngrair a'r drygionus, o dynnu eu dau lygaid, fel y gallo efe eu harwain yn vnion i vffern.

Phila.

Bellach Syr, gair ychwaneg am an­ghyfaredd tan vffern.

Theol.

Yr Scrythyrau a'i hyspysant fel hyn, megis y mae poenau vffern yn dôst, felly eu bod hefyd heb obaith esmwythyd. Fel y mae yn Scrifennedig: Ni ddichon neb waredu ei frawd: Psal. 49.7, 8. Na thalu iawn tro­sto ef i Dduw: Canys gwerthfawr yw pryni­ad ei enaid fel y gorfyddo peidio a hynny byth.

Ir deall ymma y dywedodd Abraham wrth y gŵr Goludog, yn poeni yn vffern, Y mae gagen-dorr wedi ei gosod rhyngom ni a chwi, Luc. 16.26 fel na allo y rhai a fynnent dram­mwy oddi-ymma attoch chwi, na dyfod oddi yna ymma.

Ein Harglwydd Jesu hefyd a ddywed. Pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei ena­id? Math. 16.26. Lle y mae ein Achub-wr yn dangos yn eglur nad oes na thal na gwerth, er maint fyddo, iw roi tros enaid colledig: Canys pan êl yr enaid i vffern ni ellir byth ei ryddhau; nid oes fodd byth iw gael allan drachefn: er nac arian, nac aur, na cha­redigion, na chyfoeth, na chryfder na chyfr­wystra, nid oes na gweniaith, na gwobr, na chyrrhaedd, na ffull, na dychymmig a dyccia [Page 417]ewinfedd: Canys nid oes gan ddyn vn­waith yn vffern ddim Cyfrwng ymadferth. cyfaredd, a chy­morth; y mae mewn carchar caead, mewn caethiwed byth bythol.

Nid oes mor dyfod allan drachefu, rhaid yw dioddef carchar tragwyddol. Ni ddi­chon efe godi scrifen o gam-garchar. Oble­git ei roddi i mewn gan yr hwn sydd far­nudd vnion a chyfiawn, yr hwn ni ddichon wneuthur cam, ond rhaid yw sefyll wrtho. Canys pan êl vnwaith yno, yno yr erys yn dragywydd.

Pe bai hôll Angelion y nefoedd yn ymbil tros enaid colledig: pe damunei Abraham, Isaac, a Jacob: pe bai'r hôll Brophwydi, Apostolion, a merthyri yn gwneuthur ym­bil beunydd at Crist am ryddhad; Pe bai'r tad yn damuno tros y mab, ar fam tros y ferch, er hynny ni wrandewir ar neb: rhaid yw necau pawb.

Canys barn Crist ni ellir ei gwrth-droi. Ei ordinhad ef sydd anghyfnewidiol. Jawn ystyriaeth or pethau hyn a ddi­chon beri i bob calonnau ddychrynu, ac i bob gliniau grynu. Yn nhrallodau, a blinderau y byd hwn, er maint fyddo'r anghyflwr y syrthio dyn ynddo, etto efe a ddichon ymddirwydo allan drachefn drwy ryw fodd neu gilydd, drwy arian, neu gyfeillach, neu werth, neu ryw gyffelyb fodd: ond yn nhan vffern dymma'r wascfa [Page 418]a bair ir galon anobeithio, nid amgen, nad oes mor Amddi­ffyn. help iw gael.

Pe gofynnem i enaid colledig, neu i gydwybod gystuddiedig, pa bêth a roent am esmwythyd, a rhyddhâd eu heneidiau: hwy â attebent, yr holl fyd: pa fodd byn­nag y mae byd-ddynion difraw, a drygio­nus (y rhai ni wnant na gweled, na chly­wed) heb wneuthur cyfrif o honaw.

Ac ymma, ar ein ffordd ystyriwn faint yw'r golled am enaid dyn; yr hyn beth e fydd haws ei ddeall, ai ddirnad, os medrwn osod iawn werth, ac vnion bris ar yr enaid. Os gofynnir gan hynny beth yw prîs yr en­aid, a pha faint a dal: Ein Harglwydd Je­su â ettyb Ei fod yn werth-fawrotach na'r holl fyd. Math. 16.26. y tal fwy nar hôll fyd: Canys medd ef. Pa lesad yw i ddyn er ennill yr holl fyd o chyll ei enaid ei hun.

Gan hynny y mae enaid y cardottyn tlottaf yn werth-fawroccach na'r holl fyd. Os yw yr enaid yn werth-fawroccach na'r hôll fyd, yna mwy yw'r golled am dano nac am yr holl fyd.

Oblegit mewn gwirionedd colled yw honno tu hwnt i bôb colledion. Colled an­escorol. Pe lloscai dŷ ddyn vwch ei ben, a bod y cwbl a feddai wedi ei ddifa mewn vn noswaith, colled fawr fyddei honno: Pe collei marsiand-ŵr vgein-mîl o bunnau ar vn antur mewn vn llong, ac fel y dywe­dant ar vn ergid, colled fawr iawn fyddei: [Page 419]Pe collei Brenhin ei goron, a'i deyrnas, hynny fyddai golled fawr dros ben: Eithr colled am yr enaid fyddei fil o weithiau mwy na'r rhai hyn ôll: Peth yw hyn o an­feidrol ystyriaeth.

Os bydd deiliad wedi myned yn Anffafor. ang­hymeradwy gyd ai feistr tîr, y mae hynny yn achos o bryder iddo. Os bydd gwas i ben­naeth wedi ei fwrw ymmaith ar sorriant o­ddiwrth ei Arglwydd, ac ynteu yn dal cilwg iddo: achos yw i ddrwg sirio. Os bydd pen­defig ei hunan wedi colli ei gymmeriad, ac allan o ffafor gyd a'i frenin, yngolwg yr hwn yr oedd efe gynt yn gymmeradwy, fe fydd drŵg gan ei galon: ond cael o ddŷn ei ddidoli oddiwrth Dduw yn dragwyddol, ei fwrw allan o'i ffafor ef, a'i droi ymmaith o'i ŵydd, ac o ŵydd ei Angelion, achos yw hynny o anfeidrol dristwch, a gofid, Edrych­wch gan hynny, a deliwch sulw, beth y­dyw i ddyn golli ei enaid.

Oh na byddai ddynion yn synhwyrol yn ofn Duw. Na chanfyddent mewn amser, ac na ddarparent dros eu eneidiau. Yr awr­hon gan hynny i ddibennu y pwngc hwn, Crynodeb y cwbl a ddywedpwyd yw hyn, fod poenau vffern yn an-niwedde­dig, yn ddiseibiaut heb orphwysfa, yn anescorol ac anorchfygol.

Asune,

Eglurhad yr athrawiaeth hon am dan vffern, a'r farn i ddyfod syn peri i mi ofni, [Page 420]a chrynu: E wnaeth hynny gythryfwl mawr ynof: mi â glywaf ddychryn creulon yn fy nghydwybod: yr wyf yn ofni fy môd yn go­lledig.

Antil.

Yn golledig wr! pa son a wne­wch chwi am fod yn golledig? y mae arnaf gywilydd eich clywed yn dywedyd felly. Oblegit fe wyddis yn dda eich bod yn ŵr ô­nest, yn byw yn llonydd, yn gymmydog da, ac yn gystal plwyfol ag vn-gŵr yn eich trêf. Ac chwi â gawsoch erioed eich cymmeryd, a'ch cyfrif felly: O byddech chwi colledig, nid adwaen i pwy â fydd cadwedig.

Asune.

Nid gwaeth gennifi am eich gwen­iaith. Credu i Dduw yr wyfi, a chredu iw air yr wyf.

Credu yr wyf yr holl bethau â adrodd­odd M. Theologus allan or Scrythyrau, gan hynodi i mi y bennod, ar adnod, â pha vn gymwysaf i mi gredu, a'i yr Scry­thyrau, ynteu eich gweniaith chwi, bern­wch eich hunan. Nagê, nagê; yr awr­hon gweled yr wyf yn eglur yn nrych cyfraith Dduw, fod fy helynt i yn resy­nol ac yn dosturus. Canys myfi â fûm fyw mewn pechod, ac anwybodaeth holl ddyddiau fy enioes, yn llwyr anghrefyddol, ac heb wîr wybodaeth o Dduw.

Nid wyf fi y Cyfryw ŵr ac yr ydych chwi, ac eraill yn tybied fy môd: Oblegit er byw o honof yn ônest oddi-allan yngolwg [Page 421]y byd, etto oddifewn ni bûm i yn byw felly tuag at Dduw.

Antil.

Twsh, twsh, mi â welaf yr awrhon eich bod mewn rhyw synfeddyliau trist. Os deuwch adref gyd am fi, mi â fedraf roi i chwi feddiginiaeth odidog: Canys y mae gennifi lawer o lyfrau digrif, a difyrr: y rhai pe clywech eu darllain, a dynnai yn y fan y synfed dyliau hyn o'ch pen.

Nid amgen; Chwedlau Arthur: Cerdd Taliesyn: daroganeu Merddin; Cywyddau Dafydd ap Gwilim: Araith Sion Tudr, a chant o garolau merched: A llyfrau Saeso­nec digrif, a brintiwyd ganwaith; sef Befys o Hampton, a Gei o Warwic: a llawer o chwedlau digrif.

Asuner.

Eich llyfrau ofer yn llawn gwe­gi, chwedleuach, co [...]gni a chelwyddd, a chwanegent y hytrach fyngofid i, ac a ba­rent fwy tristid i'm calon.

Antile.

Nagê os ydych or meddwl hwn­nw, ni bydd i mi â wnel wyf a chwi.

Phila.

Attolwg, os gellir bod mor hyf pa fodd y cawsoch chwi yr holl lyfrau da hyn­ny, mi â ddylaswn ddywedyd, gymmaint o sothach ac oferedd.

Antile.

Pa waeth i chwi pa fôdd? beth sy i chwi â ymmofynnoch; ond attolwg i'wch Syr pa feddwl sy gennych eu galw hwynt yn sothach, ac oferedd.

Phila.

Oblegit nad ydynt ddim gwell: war wychion ydynt, mi a attebaf; ffardial odiaeth, cymwys i gynneu tan, neu i yscubo ffwrn, Neu i gymmeryd Tobacco. Ac a fyn­nwch i mi ddywedyd fy meddwl am da­nynt? hyn yr wyf yn ei dybied: Eu dy­chymmig gan ddiafol, eu gweled, a'u cymeradwyo gan y Pâb: Eu printio yn vffern: Eu rhymo gan Ellyll: ac yn gyn­taf eu cyhoeddi, a [...] gwascaru yn Rhufain, Idal, ac Hyspaen, a'r cwbl ir perwyl hyn, nid amgen er mwyn cadw dynion ar waith oddi-wrth ddarllain yr Scrythyrau. Canys megis y bydd y Gornchwigl a'i mawr­nâd yn denu dynion ymmaith oddiwrth ei nyth: felly y mae y Genedlaeth Babaidd drwy'r dychymmygion celwyddog hyn yn denu dynion oddi-wrth yr Scrythyrau.

Antil.

Ha syr, mi â welaf yr awrhon mai buan y saetha ynfyd ei fôllt. Doeth yw ynfyd pan dawo. I ba beth yr yngenwch wrthif fi am eich meddwl: mi a fynnwn pes gwypech nad oes gennifi brîs, nac am danoch chwi, nac am eich meddwl: y mae gwŷr callach na chwy chwi, â ddarllenant, ac a ganmolant y llyfrau hynny, ac a gym­merant ddifyrrwch ynddynt.

Theol.

Gedwch iddo ef adolwyn, Phila­gathus; Canys chwi a welwch beth sydd ynddo. Nid oes diben ar ei geccreth ef. Eithr yr hwn sydd heb wybod, bydded heb wy­bod: [Page 423]ar neb sydd aflan bydded yn aflan rhag llaw. Datc. 22.11.

Ond bellach moeswch droi ein ymma­drodd at Asunetus: Canys mi â welaf ei fod efe yn drîst ei galon, ac yn gythryblus yn ei feddwl. Pa fodd yr ydych Asunetus. Pa fodd yr ymglywch? mi â dybygwn eich bod yn brûdd iawn.

Asunet.

Gwell wyf o'ch plegit chwi Syr, diolch i Dduw: ni wybum er ioed beth oedd bechod, hyd heddyw; Rhyngodd bodd i Dduw yr awr-hon agoryd fy llygaid i weled, ac ym­wrando ag ef; y mae cythryfwl mawr yn fyng­hydwybod wrth gofio beth a fum. Coffau fy mhechodau gynt fy'n peri dychryn ynof, pan ystyriwyf mor anwybodus, mor anghrefyddol, ac mor bell oddi-wrth Dduw y treuliais fy holl enioes: y mae hynny yn pigo, ac yn gwascu fynghalon.

Gweled yr wyfi yr awr-hon y peth nis gwelais erioed or blaen, a chlywed y peth ni chlywais erioed: Mi a welaf yn amlwg pe buaswn farw yn y cyflwr hwnnw y bum yn byw ynddo, yn ddiammeu mi a fuaswn dam­nedig, a cholledig yn dragwyddol yn fy mhe­chod, am hanwybodaeth.

Theol.

Y mae yn dda gan fynghalon a­goryd o Dduw eich llygaid, a pheri i chwi weled, ac ymwrando ach trueni, yr hwn yw y cam cyntaf i fywyd tragwyddol. Ca­redigrwydd, a thrugaredd enwedigol oddi­wrth [Page 424]wrth Dduw tu ag attoch yw gynnyrfu o honaw eich calon: Ni ellwch byth fod yn ddigon diolch-gar iddo am hynny. Mwy y­dyw, na phe rhoesid i chwi fyrddiwn o aur­ddarnau. Unig ragorfraint etholedigion Duw, yw cael llygaid eu eneidiau yn agored i ganfod pethau Nefol, ac ysprydol. Ac am y bŷd, cyfiawn yw gyd â Duw eu gadel yn eu dallineb.

Asune.

Yr wyf yn clywed baich fy mhe­chodau, y mae yn drwm dros ben arnaf tro­stynt. Yr wyf ynddeffygiol o honynt. Y mae yn ddrwg gennif bechu o honof erioed yn erbyn Duw: Neu fod o honof mor anhap­pus ai anfodloni ef, ac annog ei fawredd i'm herhyn. Ond attolwg i chwi Mr Theologus gan eich bod yn feddig ysprydol, a'm bod in­neu yn glwyfus o bechod, roddi o honoch, i mi, allan o air Duw, beth Ysprydol feddigini­aeth a chyssur.

Theol.

Yn wir, rhaid i mi dybied fod yr addewidion a wneir yn yr Efengyl o drugaredd, yn perthyn i chwi, a bôd Jesu Grist yn eiddochwi: Y mae i chwi wir gy­fiawnder a hawl ynddo ef.

Canys ni ddaeth efe i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch: Mar. 2.17. Yr ydych chwi yr awr-hon yn eich clywed eich hûn yn bechadur, ac yn ymofidio am eich pecho­dau, gan fod yn flîn o honynt, ain hynny y perthyn Jesu Grist i chwi, a holl lesâd ei [Page 425]ddioddefaint ef, chwi ai piau. Drachefn efe a ddywed. Nid rhaid ir iâch wrth y meddig, Mat. 9.12 ond ir rhai cleifion. Eithr yr ydych chwi yn cydnabod eich bod yn glâf o bechod: am hynny Crist Jesu fydd feddig i chwi: Efe â rwyma eich doluria [...], ai hymgeledda, ac ai hiachá: Efe a dywallt yn eich briwiau olew ei drugaredd: efe â chwardd arnoch, ac a ddengys i chwi wynepryd llawen: Efe a ddywed wrthych, maddeuwyd i ti dy be­chodau.

Ynddo efe y cewch lonyddwch a hedd­wch i'ch enaid. Trwyddo ef y cewch es­mwyth-dra, a chyssur. Canys tosturio a wna efe wrth bawb â alarant am eu pechodau fel yr ydych chwi. Eich gwahodd y mae a phawb o'ch cyflwr i ddyfod atto, er esmwy­thau arnoch. Math. 11 28. Deuwch attaf fi (medd efe) bawb sy'n trafaelu, ac yn llwythog, ac myfi a esmwy­thâf arnoch. Un ydych chwi or rhai a wa­hoddwyd i ddyfod: Canys llwythog y­dych o'ch pechodau, a blîn yw gennych eu baich. Y cyfryw ac ydych chwi piau Crist yn gwbl. Nid yw efe yn gwneuthur cyfrif or bŷd, sef o ddynion anghrefyddol â di-adenedig. Nid yw yn erchi iddynt hwy ddyfod, nid yw yn gweddio trostynt. Nid wyfi yn gweddio tros y byd, (medd efe) nid oes iddynt na rhan na hawl yn­ddo, Joa. 17. [...] nid oes iddynt a wnelont ag ef, nac ai haeddedigaethau, na'i gyfiawnder. Ir pe­chadur [Page 426]chadur edifeiriol yn vnig y mae efe yn Achu­bwr, ac ir sawl â alarant tros eu pechodau.

Clustog fan-blu yw efe i'r holl bennau dolurus, ac ir cydwybodau cythryblus. Ym­gyssurwch gan hynny, ac nac ofnwch: Canys yn ddiameu Crist, ai holl gyfiawnder sy ei­ddoch chwi, ac a hwn y gwisc efe chwi; ni ddyry efe byth eich pechodau i'ch erbyn: Er maint ydynt o nifer, er maint ydynt o bwys, efe a'i anghofia, ac a'i maddeu hwynt. Megis y dywed trwy'r Prophwyd: Pe byddei eich pechodau fel porphor, ant cyn wyn­ned ar eira: Esay. 1.18. Pe cochent fel scarlad byddant fel gwlan. A thrachefn efe a ddywed trwy'r vn Prophwyd. Esay 44.22. Dileais dy gamweddau fel cwmmwl, a'th bechodau fel niwl. Trwy Brophwyd arall y dywed. Efe a ddychwel, ac a drugarha wrthym ac a ddarostwng ein anwiredd, [...]ic. 7.19. ac a deifl ein holl bechodau i ddyfn­deroedd y mor. Drachefn y dywed drwy'r Prophwyd Esay: Esay 43. [...]5. Myfi, myfi yw'r hwn a ddi­lea dy gam-weddau er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau.

Ac etto yn garediccach y dywed wrthym drwy'r Prophwyd Jeremy: [...]er. 3.12. Dychwel attaf, ac ni adawaf i'm llid syrthio arnat, canys tru­garog ydwyfi, medd yr Arglwydd, ni dda­liaf lid yn drogywydd. Ac eilchwel drwy'r Prophwyd Hosea y dywed: [...]of. 11.9. Ni chyflawnaf angerdd fy llid, ni ddychwelaf i ddinistrio Ephraim, canys Duw ydwyfi, ac nid dyn. [Page 427]Byddwch lawen gan hynny, ymgyssurwch ar addewidion hyn: y mae i chwi achos i fod yn llawen, gan weithio o Dduw ynoch an­fodlonrhwydd, a galar am eich pechodau, yr hyn sydd argoel hynod, na wna eich pecho­dau i chwi byth ddim niwed. Canys pecho­dau or blaen ni allant i ni niwed os byddwn anfodlon i bechodau presennol. Chwi ae­thoch yn gâs gennych eich pechodau, galaru yr ydych tan eu baich, am hynny dedwydd ydych. Canys gwyn eu byd y rhai galarus: pa­ham gan hynny y byddwch chwi mor drist, ac mor brudd: Cofiwch yr hyn â ddywed S. Joan, Os pecha neb, 1 Jo. 2.1, 2 [...] y mae i ni ddadleu-wr gyd a'r Tad Jesu Grist y cyfiawn, ac efe yw yr aberth tros ein pechodau. S. Paul â ddywed: Rhu. 3.25 [...] fod Jesu Grist wedi ei osod yn iawn trwy ffydd yn ei waed ef. Heb. 7.25 [...] Drachefn yr Yspryd Glân â ddywed: Efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sy'n dyfod at Dduw, am ei fod efe yn byw bob amser i eiriol trostynt hwy. Yr Apostol a ddywed: 1 Cor. 1.3 [...] Yr hwn a ddarfu i Dduw ei wneuthur yn ddoethineb i ni, ac yn gyfiawnder, ac yn sancteiddrwydd, ac yn ym­wared.

Deliwch sulw ar yr hyn â ddywed, y cwbl sydd i ni, y cwbl iw eglwys ac i bob aelod o'i eglwys, ac am hynny i chwi. Crist a wnaed gan Dduw yn gyfiawnder, sancteidd­rwydd, ac ymwared i chwi. Eich cyfryng-wr chwi yw Crist, a'ch Arch-offeiriad, ac [Page 428]efe a offrymmodd yr aberth tragwyddol sef trosoch chwi, er mwyn talu eich prid­werth chwi, a'ch gwared oddiwrth bob an­wiredd. Trwy ei waed ei hûn yr aeth efe i mewn vnwaith ir cyssegr, Heb. 9.12. ac a gafas drag­wyddol ollyngdod o gaethiwed. Nid aeth Crist i'r cyssegr o waith llaw, yr hwn sydd bortrei­ad y gwir gyssegr: eithr efe a aeth ir Ne­foedd, i ymddangos yn awr ger bron Duw tro­som ni. Heb. 9.24. 2 Cor. 5.21. Gal. 3.13. Yr Apostol a ddywed: yr hwn nid ad­nabu bechod, a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef, Crist a wnaed yn felldith trosom ni, fel i'n gwaredei ni oddiwrth felldith y gyfraith: Oh gan hynny mor ddedwydd wyt ti yr hwn sydd gennit y cyfryw gy­fryng-wr, ac Arch-offeiriad.

Gollwng dy bwys yn gwbl arno ef, ac ar yr aberth peiffaith tragwyddol, a haedde­digol a offrymmodd efe vnwaith trosot: Cymhwysa Crist, cymhwysa ei haeddedi­gaethau, ai addewidion it dy hun, ac ith gydwybod; felly y caiff dy enaid lesâd, a di­ddanwch oddiwrthynt. Beth pe bai gennit eli gwerth-fawr rhagorol, yr hwn a iachae pa ddolur bynnag y gosodid arno; er hynny os cadwech ef tan glô yn eich cîd, heb ei o­sod vn amser wrth y briw, pa lesad a allai i chwi? Yr vn ffunyd cyfiawnder, a hae­ddedigaethau Crist ydynt eli Ysprydol, a iacha bob math ar afiechyd yr enaid, eithr [Page 429]oni chymhwyswn ef i ni ein hunain trwy ffydd, ni wna ddim llesad i ni. Rhaid i chwi gan hynny gymhwyso Crist, a holl addewi­dion yr Efengyl i chwi eich hunain trwy ffydd, a bod yn ddiammeu gennych, pa beth bynnag a wnaeth Crist ar y Groes, ei wneuthur o honaw trosoch chwi yn naill­tuol.

Oblegit beth yw y ffydd gyfiawnol ond crêd gyflawn gwbl-siccr o gariad enwedi­gol Duw tuag attom yng-Hrist. Gwybo­daeth gyffredin, ac an-siccr o Grist, ac o'i Efengyl ni thyccia ddim i fywyd tragwy­ddol. Gwnewch eich goreu gan hynny, i gyrrhaedd yr iawn ddefnydd or holl adde­widion gorchestol, a rhagorol hyn.

Glynwch yn dynn wrth Grist, canys trwyddo ef yn vnig y mae i ni faddeuant pe­chodau, a bywyd tragwyddol. Acts 10.43. Canys gyd a hwn y mae'r holl Broyhwydi yn testiolaethu (medd S. Petr) fod i bawb a gredo ynddo ef ga­el maddeuant am eu pechodau yn ei enw ef. Lle y mae'r Apostol yn dywedyd i ni, pe bai cwêst mawr wedi ei wneuthur o Brophwydi, i dy­stiolaethu am y ffordd, ar moddion i fywyd tragwyddol, hwynt hwy oll o vnfryd a ddy­gent i mewn eu dedryd fod maddeuant pe­chodau, a bywyd tragwyddol yng-Hrist yn vnig. Gwrandawn y Blaenor. Fformon yn dywedyd, ac vn, neu ddau or lleill; canys yngenau dau neu dri o dystion y bydd pob gair yn safadwy.

[Page 430]

Y Prophwyd Esay a ddywed. Efe a ar­chollwyd am ein camweddau ni, Esa. 53.5. ac a ddrylli­wyd am ein hanwireddau ni, cospedigaeth ein heddwch ni a roddwyd arno ef, a thrwy ei glei­siau ef yr iachauwyd ni. Ni a welwn fod y Prophwyd mawr hwn yn dadleu yn eglur, i Grist ddioddef tros ein pechodau, a thrwy ei ddioddefaint ef i'n achubir ni.

Y Prophwyd Jeremy â dystiolaetha yr vn peth, gan ddywedyd: Wele y dyddi­au yn dyfod (medd yr Arglwydd) fel y cyfodwyf i Ddafydd flagurun cyfiawn, Jer. 23.5.6 yr hwn a deyrnasa yn frenhin, ac a lwydda, ac a wna farn, a chyfiawnder yn y tir, yn ei ddyddiau ef yr Achubir Juda, ac Israel a breswylia yn ddiogel, a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef: Yr Arglwydd ein cy­fiawnder.

Y Prophwyd hwn â gyttuna ar llall, canys efe â ddywed mai Crist yw y blagu­run cyfiawn, ac mai efe yw ein cyfiawnder ni, yr hyn yw'r vn ffunyd â phe dyweda­sai, ein pechodau â faddeuwyd yn vnig trwyddo ef; a thrwyddo ef y cyfiawnheir ni. Ymhellach efe a ddywed yr achubir Ju­da, ac Israel, nid amgen, yr eglwys trwy­ddo ef.

Y Prophwyd Zachari a ddywed yr vn peth, air yngair, ag â ddywedasant y ddau Brophwydd eraill. [...]ac. 13.1. Y dydd hwnnw y bydd ffynnon agored i dy Ddafydd ac i breswyl­wyr [Page 431]Jerusalem, i olchi pechod, ac aflendid. Meddwl y Prophwyd yw, yr agorir yn nyddiau teyrnas Grist, ffynnon trugaredd Dduw yng-Hrist, ac y gollyngir hi i redeg allan i olchi ymmaith bechodau, ac aflendid yr eglwys. Felly ni â welwn fod y tri thŷst hyn yn cyttuno a'u gilydd yn hyn o beth, sef mai trwy Grist yn vnig i'n glanheir oddiwrth ein pechodau, a thrwyddo ef yn vnig i'n gwneir yn gyfiawn.

Gan fod bywyd tragwyddol yn vnig yn y mâb, 1 Jo. 3.12. pwy bynnag sydd ganddo y mab sydd ganddo fywyd. Ymgyssurwch gan hynny o Asunetus, canys yn ddiammeu, y mae gennych chwi y mab, ac am hynny fy­wyd tragwyddol. Nac ofnwch eich pecho­dau, canys ni allant wneuthur i chwi niwed.

Oblegit megis na ddichon holl gyfiawn­der Abraham, Isaac, a Jacob, ar holl rai cyfi­awnaf a fuant fyw erioed ar wyneb y ddai­ar, pe bai yn eiddoch, ddim llesad i chwi heb Grist; felly ni dichon holl bechodau y bŷd wneuthur niwed i chwi, a chwithau yng-Hrist. Rhuf. 8.1. Oblegit nid oes damnedigaeth i'r rhai sy yng-Hrist-Jesu. Cyfodwch i fynu eich calon gan hynny, na fyddwch mwyach yn drwm, ac yn drist.

Canys os ceir chwi yng-Hrist wedi eich dilladu a'i gyfiawnder perffaith ef, ac yntef wedi ei wneuthur yn eiddoch chwi trwy ffydd, beth a ddichon diafol ei ddywedyd [Page 432]wrthych? Beth a dichon y gyfraith? hawdd y gallant estyn eu colynnau tuag at­toch, ond ni allant eich briwo: Oblegit Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw'r hwn sydd yn cyfiawnhau, pwy a ddamna? Ruf. 8.33, 34. Crist yw'r hwn a fu farw, ie yn hytrach yr vn a gyfodwyd trachefn, yr hwn hefyd sydd ar ddeheu-law Duw, yr hwn hefyd sydd yn eiriol trosom ni. Phil. 4.4. Ymlawen­hewch gan hynny yn yr Arglwydd, a thra­chefn meddaf ymlawenhewch. Canys mwy yw'r hwn sydd ynoch chwi, na'r hwn sydd yn y byd.

Ein Harglwydd Jesu sydd gryfach na phawboll. Ni ddichon nêb eich tynnuchwi allan o'i ddwylaw ef. Cyfryngwr cadarn yw efe: Efe a orchfygodd ein holl el [...]nion ysprydol; Efe a orchfygodd farwolaeth, vffern, a damnedigaeth: Efe a gaethglu­dodd gaethiwed, Col. 2.15. a yspeiliodd y tywysogaethau, a'r galluoedd, ae ai herddangosodd hwy yn gyhoeddus, gan orfoleddu arnynt ynddo ei hun.

Efe yn dra-gorfoleddus a ddywe­dodd. Hos. 13.9. Byddaf angeu i ti, o angeu, byddaf drangc iti o vffern; O vffern pa le y mae dy golya, 1 Cor. 15, 55. O angeu pa le y mae dy fuddugo­liaeth?

Gan fod gennych y cyfryw Gyfryngwr, y cyfryw Arch-offeiriad yr hwn a orch­fygodd y llu vffernol, ac a ddarostyngodd [Page 433]yr holl allu cythreulig, pa raid i chwi ammeu, pa raid i chwi ofni mwyach?

Ymhellach rhaid i chwi ddeall, a chre­du fod trugaredd Dduw yn dra ehang tu­ag at bechaduriaid edifeiriol, ar rhai a alarant am eu troseddau, megis ac y dy­ŵed: Pa bryd bynnag yr edifarhao pecha­dur o'i bechod o ddyfnder ei galon, efe a ollwng tros gof yr holl anwiredd a 'wnaeth efe. Y Prophwyd Dafydd sydd yn portreiadu yn eglur, ac yn datcan yn helaeth, drugarog na­turiaeth Dduw yn y canfed ar trydydd Psal. Trugarog a graslawn yw'r Arglwydd: Psal. 103. hwyr­frydig i lid, a mawr o drugarogrwydd. Nid byth yr ymryson efe, ac nid byth y ceidw efe ei ddigofaint, nid yn ol ein pechodau y gwna­eth efe a ni, ac nid yn ol ein anwireddau y talodd efe i ni. Canys cyfuwch ac yw'r ne­foedd vwch law'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ef ar y rhai ai hofnant ef: Cyn belled ac yw'r dwyrain oddiwrth y gorllewin y pell­haodd efe ein camweddau oddi-wrthym. Fel y tosturia tad wrth ei blant, y tosturiodd yr Arglwydd wrth y rhai ai hofnant. Canys efe a adwaenei ein defnydd ni, cofiodd mai llwch oeddem.

Stori y mab colledig a ddengys yn odiaeth ryfeddol drugaredd Dduw tu ag at bechadu­riaid edifarus. Yno y dangosir pa wedd y mae' Arglwydd yn croesawy, yn c [...]fleidio, ac yn mawrhau y cyfryw bechaduriaid tru­ein, [Page 434]ac sydd ganddynt galonnau drylliog, cystuddiedig am eu pechodau. Canys fe a ddywedir, pan welodd y Tad ei fab edi­farus o hir-bell oddi-wrtho, iddo dosturio wrtho, Luc. 15.20. a rhedeg, a syrthio ar ei wdd ef, ai gussanu, a'i ddilladu a'r wisc oreu, a rhoi modrwy ar ei law, ac escidiau am ei draed, a pheri lladd y llo bras iddo: yn yr vn modd y llawenycha y Tad tragwyddol am ymch we­liad vn o'i feibion colledig. Ie y mae lla­wenydd yngŵydd Angelion Duw am vn pechadur a ymchwelo.

Ymhellach, yr Arglwydd sydd yn hyspysu yn draeglur, ei barodrwydd, a'i hynawsedd i drugarhau, am fod yn anhawdd dros ben ganddo, ac yn wrthwyneb mawr, ein goll­wng o'i fôdd i fyned yn golledig. Am hyn­ny mynych yn yr Scrythyrau y mae efe yn galaru drosom, ac yn cwynfan am ein tru­eni, drwy wneuthur llawer galarnad tostu­rus am danom, gan ddywedyd. O na wran­dawei fy mhobl arnaf, Psa. 81.13. ac na rodiasai Israel yn fy ffyrdd. Esa. 48.18 A thrachefn: Oh na wrandawsit ar fyngorchymymon, yna y buasai dylwyddiant fel afon, a'th gyfiawnder fel tonnau y mor. Dra­chefn y mae efe yn alarus yn achwyn drwy'r Prophwyd Hosea gan ddywedyd. Oh Ephra­im pa beth a wnaf it? Hosea 6.4. O Juda beth a wnaf i ti? Esay 5.4. Ac mewn lle arall: Beth oedd iw wneu­thur ychwaneg i'm gwinllan nag a wneu­thum iddi? Deliwch sulw ymma mor do­sturus [Page 435]y mae'r Arglwydd yn cwynfan tro­som, ac megis yn wylo ar ein briwiau.

Yr Apostol hefyd sy'n dal ar oludog dru­garedd Dduw, a'i ryfeddol gariad ef tu ag at ddyn, wrth ei fod yn ymbil a ni, ac yn attolwg drwy weinidogion yr Efengyl gymmodi o honom ag ef. Y geiriau ydynt y rhai hyn. Am hynny yr ydym ni yn Gennadon tros Grist, megis pe byddei Dduw yn ymbil a chwi trwyddom ni: 2 Cor. 5.20 yr ydym yn attolwg i chwi tros Grist, cymmodwch a Duw. Ond rhyfedd yw fod yr Holl-alluog dduw yn ym­bîl a ni drueiniaid gwael? Yr vn modd y­dyw a phe bai Brenhin yn ymbîl a chardot­dyn, yr hwn a allai ei orchymmyn. Eithr anfeidrol drugaredd Dduw tu ag at ddyn sydd fwyaf dim yn sefyll yn hyn, sef rhoddi o honaw ei Fab trosom pan oeddem yn elynion iddo.

Felly y carodd Duw y byd fel y rhoddes efe ei vnig-anedig fab, Joan. 3.16. fel na choller neb ar y sydd yn credu ynddo ef, eithr caffael o honaw ef fywyd tragwyddol. Drachefn: Rhuf. 5.8, 9, 10. Y mae Duw yn Canmol. eglurhau ei gariad tu ag attom, o­blegit (a ni etto yn bechaduriaid) marw o Grist trosom; mwy ynteu o lawer gan ein cyfiawn­hau ni trwy ei waed ef, i'n hachubir rhag digofaint trwyddo ef. Canys os pan oeddem elynion i'n heddychwyd a Duw trwy farwo­laeth ei fab ef, mwy o lawer wedi ein heddy­chu i'n achubir trwy ei fywyd ef. Yn hyn oll [Page 436]hi a allwn weled yn eglur, anfeidrol dru­garedd Dduw tu ag attom ni bechaduriaid truein.

Oblegit onid mawr oedd yr orchest, gymmeryd o Fab Duw ein naturiaeth ni ar­no? Phil. 2.8. ac ymddarostwng i angeu, sef i angeu'r gro­es? Canys megis yr aeth cyscod y deial ddêg o raddau yn ol, fel yr estynnid dyddi­au Ezechias, ac y cai lwyddiant mawr; Felly yr aeth Crist. Haul cyfiawnder, lawer gradd yn ôl fel y caem ni fywyd tragwyddol. Gan hynny ei ostyngiad ef yw ein derchafiad ni: ei ddioddefiadau ef yw ein llawenydd ni: a'l farwolaeth ef yw ein bywyd ni. Canys nid oes gennym ni ddim amgen ymwared, a chymmorth, ond yn vnig ei haeddedigae­thau ef, a'i gyfiawnder.

Efe yw ein noddfa ni, lle y mae yn rhaid i ni ffoi, ac lle y mae yn rhaid i ni gymme­ryd noddfa. Efe yw olew Gilead i iachau ein eneidiau ni. Joan. 5.2. Efe yw y llynn yn Bethesda lle yr iacheir pob dyn, o ba glefyd bynnag a fo arno.

Efe yw yr Afon Jorddonen, lle y gall Naaman olchi ymmaith ei holl wahangl­wyf: Efe yw y Pelican yr hwn drwy bi­go twll yn ei ddwyfron ei hûn, sy'n ad­fywhau ei gywion, ai waed ei hûn. Etto vn peth sydd raid i ni ddal sulw arno ar y ffordd, yr hwn y soniwyd am dano or blaen, sef y dylid cymhwyso holl haedde­digathau [Page 437]Crist, a holl drugaredd Dduw ir etholedigion yn vnig: Yn vnig i wir aelo­dau yr eglwys fel yr ymddengys yn oleu yn y 103 Psalm; lle y cyfrifir trugareddau Duw, y rhai a goffeir yn helaeth, yn vnig ir sawl ai hofnant ef, a gadwant ei gyfammod, ac a gofiant ei orchymmynion ef iw gwneuthur hwynt. Psa. 130.8 Ac am Grist, fe a ddywedir mai Tywysog yw efe, ac Achub-wr i Israel, Acts 5.31. ac y gwared efe Israel rhag ei holl an­wireddau.

Drachefn scrifennedig yw, fod Crist hwyn gyntaf y cyssegrwyd ef, wedi ei wneuthur, yn awdur iechydwriaeth tragwyddol ir rhai a vfyddant iddo. Heb. 5.9. Nid oes neb yn vfyddhau iddo ac nis gall, oddi eithr yn vnig yr etho­ledigion. Am hynny awdur iechydwriaeth yw efe yn vnig ir etholedigion. Ac yn ddilynawl y byd drygionus beth bynnag a ddywedant, beth bynnag a fostiant, ac a ymffrostiant, nid oes ganddynt ddim gwir hawl, neu gyfiawnder ynddo ef. Y peth yma a arwyddoceid gynt yn y gy­fraith wrth hyn, nid amgen, fod y dru­gareddfa yr hon oedd arwydd o druga­redd Dduw yng-Hrist, ar Arch yr hon oedd bortreiad or Eglwys, wrth orchymyn Duw wedi eu cydgymhwyso ai gilydd o ran hŷd a llêd. Exod. 25.10, 17. Canys megis yr oedd yr Arch yn ddau gufydd a hanner o hŷd, ac yn gufydd a hanner o lêd, yr vn faint oedd y [Page 438]drugareddfa: gan arwyddocau wrth hyn­ny y cymhwysid trugaredd Dduw yng-Hrist yn vnig ir eglwys, ac ir eglwys yn vnig y perthynei, fel na byddei gymmaint ag vn, allan or eglwys yn gadwedig.

Oblegit y neb nid oes ganddo yr eglwys iddo yn fam, ni all efe gael Duw iddo yn Dad. Yn ddiweddaf y mae yn rhaid i ni ddal sulw mai megis y mae Duw yn anfeid­rol ei drugaredd, ac yn fawr ei dosturi tu ag at bechaduriaid edifarus: felly y mae efe he­fyd yn ddianwadal wrth ddangos ei druga­redd iw blant. Ac am hynny y mae vn or Psalmeu yn odlu fel hyn: Psal. 136. ei drugaredd a beru yn dragywydd; ei drugaredd a beru yn dra­gywydd; ei drugaredd a beru yn dragywydd; gan bennodi wrth hynny ddianwadalwch a thragwyddoldeb trugaredd Dduw. Ir per­wyl ymma yr scrifennir fel hyn. Trugaredd yr Arglwydd yw na'n difethwyd: Gala. 3.22. o herwydd na phalla ei dosturiaethau ef. Gwybyddwn gan hynny fod Duw o herwydd ei dru­garedd iw blant yn ddianwadal, ac yn ang­hyfnewidiol ei naturiaeth. Megis y dywed, myfi wyf yr Arglwydd, Mal. 3.6. ac ni'm newidir. Ob­legit pe bai Dduw o naturiaeth gyfne­widiol fel yr ydym ni, a darostyngedig i wynniau, yna y byddem ni mewn cyflwr gresynol. Y na rhaid fyddei iddo ein cystu­ddio ni bob dydd, a dial arnom bob awr yn y dydd: o herwydd ein bod ni yn ei gyffroi [Page 439]ef bob dydd, a phôb awr yn y dydd: Eithr nid yw Duw Nefol yn debig i ddyn, yn ddarostyngedig i wynniau, ac anwydau: y mae efe yn dradianwadal, ac anghyfnewi­diol ei naturiaeth.

Oblegit er i ni ei gyffroi ef bob dydd a phechodau o newydd: etto y mae efe mor anhawdd ganddo ddial arnom, ai fod y dydd nesaf yn ein gwobrwyo ni a thruga­redd o newydd; ac yn torri ymlaen trwy bob angharedigrwydd i ddangos i ni gare­digrwydd. A thrwy ein holl ddrygioni i ddangos i ni ddaioni. Ni all ein hôll wendid ni beri iddo ef sorri wrthym, na pheidio a'n caru. Y mae efe yn fodlon i'n cymmeryd ni a'n holl feiau: ac i'n hoffi yn anwyl, er bod ein beiau yn fawr. Nid yw efe yn gwneuthur cyfrif o'n gwendid, er ein bod weithiau yn wrthnyssig, ac yn gyndyn; etto er hynny ei gŷd, nid anllai i'n car ni.

Megis mam anwyl er iw phlentyn le­fain ar hyd y nôs, a bod yn anynad, ac yn anhywaith hyd, pan na allo hi yn fynych huno amrant vn awr yn y nôs, ie er dioddef o honi lawer o anhyweithder, llu­dded, a gofid gyd ag ef: etto pan gyfodo hi y boreu, hi ai car ef gystal-cynt: a chwery ag ef, a wena, ac a chwardd arno: felly Duw yr hôll drugareddau, yr hwn a'n car ni yn fwy o lawer nag y car mammau eu plant, er ein [Page 440]bod ni yn ei ddigio ef beunydd drwy ein gwendid, an car ni er hynny nid dim llai: ac sydd fodlon ganddo roi heibio y cwbl, anghofio a maddeu y cyfan: Canys caru a wna efe yn dra dianwadal.

Lle y gosodo efe vnwaith, ac y sefydlo ei gariad, caru a wna yn ddiyscog, ni all dim ei newidio, ni all dim ei symmudo. Megis tad pan gwympo ei ddyn-bychan, a thorri ei grimmog, neu friwo ei wyneb, cyn belled ydyw oddiwrth gymmeryd anfodlonrhw­ydd, neu ddigio wrtho, ai fod yn hytrach yn gresynu, ac yn ddrwg ganddo trosto ef, ac yn ceisio meddiginiaeth iw friw: Felly ein tad trugarog ninnau ni ddigia er dim, ac nid an­fodlona am ein beiau ni o wendib, ond yn hytrach a dosturia wrthym, ac a resyna tro­som; megis gŵr call anwyl ganddo ei wraig, er bod ynddi hi lawer o wendid, etto efe yn gwybod fod yn anwyl ganddi ef, a bod ei chalon gyd ag ef, a ymfodlona i ollwng heibio lawer o feiau, eu celu, a chyd­ddwyn ag hwynt, ie ac i wneuthur ychy­dig cyfrif o honynt, ond ei charu hi nid dim llai o'u plegit.

Felly ein gŵr anwyl, an priod-fab Jesu Grist, o herwydd ei fod yn gwybod y carwn ni ef, a bod ein calonnau gyd ag ef, fydd fod­lon ganddo gyd-ddwyn a'n holl wendid, a gw [...]euthur cyfrif bychan o honynt. Or achos hyn y digwydda ei fod efe yn dywe­dyd [Page 441]wrth ei briod-ferch yn y Caniadau: cr ei bod yn dywyll, Can. Sol. 4.1, 7, 10. ac yn llawn o wen­did: Wele mor hyfryd wyt fy nyweddi, wele mor hyfryd wyt, wele yr wyt ti yn deg, yr wyt ti yn deg fy nyweddi, nid oes brycheun ynot ti. Deliwch sulw ei fod efe yn galw ei eglwys yn hyfryd, yn hyfryd oll, ac heb frychni, nid o herwydd ei bod hi felly ynddi ei hûn, ond o herwydd iddo ef ei gwneuthur hi felly. Ac yn ddiammeu y Tragwyddol Dduw yn craffu arni hi yn ei Fâb, ai cyfrif hi felly: Canys megis y mae'r hwn â edrycho ar ryw beth drwy wydr coch, yn tybied fod y'peth yn gôch fel y mae lliw y gwydr: Felly Duw Tâd, wrth graffu arnom yn ei fab, a'n cy­frif, ac a'n cymmer fel pe baem or vn na­turiaeth, a chynneddfau, ac yw ei fâb, nid amgen yn gyfiawn-berffaith. Or achos hon i'n carodd ni, ac y serchodd ynom, ac ni chilia efe oddiwrthym.

Canys ei gariad ef iw blant sydd beu­nydd yr vn, a'r vnrhyw; er nad ydym ni bob amser yn ei weled ac yn ei glywed ef yn yr vn môdd: megis y mae'r lleuad yr vn bob amser o ran sylwedd, a mantioli; er ei bod weithiau yn ein golwg ni wedi darfod, ac yn myned ar gîl: Gwybyddwn gan hynny i'n cyssur rhagorol, fod cariad Duw tu ag attom ni yn ei anwyl fâb yn ddiyscog, ac yn vnrhyw bob amser, ac na [Page 442]ddigalonna efe ni, ac na thry ni heibio er ychydig wendid, ie er llawer o wendid.

Oblegit y mae y trugarog Dduw yn gwneuthur cyfrif o'i blant, am fod eu ca­riad cyffredin hwynt yn dda, a bod y rhan fwyaf o ystod eu buchedd yn tueddu i gyfi­awnder, pa fodd bynnag y digwyddo idd­ynt dreillio ym mhell, a throi yma a thraw mewn gweithredoedd neilltuol.

Nid yw dwy, neu dair o iasau y cryd ar­goel diammeu fod y corph yn afiachus; na dau, neu dri o ddiwrnodau da, yn arwydd hynod fod y corph yn holl iach: yr vn ffu­nyd nid yw ychydig wendid yn arwydd o ddyn drygionus: neu ddwy, neu dair o weithredoedd da yn argoel o ddyn da: Ond rhaid i ni ddal sulw ar ystod cyffredin bu­chedd dyn, ac wrth hynny y gwir adwae­nir ef, pa fath ydyw.

Megis y dywedir fod dynion mewn gwirionedd yn rhodio mewn ffordd, pan fyddont yn cerdded ar hyd-ddi, er eu bod weithiau yn llithro, ac yn tramgwyddo ar­ni: felly y mae plant Duw yn rhodio ar ffordd cyfiawnder er eu bod weithiau yn llithro, ac yn treillio oddi-arni; neu wei­thiau yn cael eu llusco allan o honi drwy drais lladron.

Oblegit Satan, a thrais ein trachwan­tan, a'n tynnant yn fynych oddiar y ffordd, ond rhaid i ni ddychwelyd iddi trachefn [Page 443]hwyn gyntaf ac y gallom ddiangc. Bellach i dynnu at ddiben. Gan fod Duw yn anfei­drol o drugaredd, ac yn ddi-anwadal yn ei drugaredd: Gan fod y fâth addewidion rhagorol wedi eu gwneuthur i ni yng-Hrist: Gan nad yw Duw yn dal ar ein gwendid pan fyddo ein calonnau gyd ag ef. Am hynny o Asunetus, byddwch gyssurus, na chyffroer dim arnoch: nac ofnwch gynllwynion diafol, na wnewch gyfrif o'i brofedigaethau ef: Canys diau fod eich pechodau wedi eu maddeu.

Eiddo chwi yw Crist, eiddoch chwi yw'r nefoedd, a hôll addewidion bywyd, ac iechydwriaeth a berthyn i chwi: fel nad yw raid i chwi ammeu, ni ellwch fyn­ed ar y gwaethaf: eich enw sydd scrifen­nedig yn llyfr y bywyd.

Asune.

Yr wyf yn cael cyssur a diddanwch mawr oddi-wrth eich geiriau chwi. Eich gwaith chwi yn pregethu'r Efengyl, ac yn yspysu helaeth drugaredd Dduw yng-Hrist, ai addewidion ef, sydd yn fy adfywio i yn rhagorol, ac megis yn rhoddi bywyd o ne­wydd ynof: megis gwîn, a siwgwr ydynt i'm henaid, a melusach na'r mêl, ie na'r dil mêl. Megis meddiginiaeth ydynt i'm henaid clwy­fus, ac megis ennaint i'm doluriau yspry­dol.

Yn awr yr wyf yn gweled pa drueni fy mewn dyn, a pha drugaredd sydd yn Nuw. [Page 444]Ac mi a adwaen wrth brawf gresynol, lle na chlywir trueni, nad oes yno gyfrif am druga­redd.

Oblegit i Dduw yr wyf yn diolch am dano, yn awr yr wyf yn dechreu cyrhaeddyd peth crediniaeth, fod addewidion Duw yn per­thyn i mi, fod fy mhechodau wedi eu ma­ddeu, a'm bodi yn vn or rhai a fyddant cad­wedig.

Theol.

Y mae yn dda gan fy-nghalon ddarfod i Dduw yn ôl golud ei drugaredd weithio ynoch chwi y daioni hwn: yr wyf o eigion fynghalon yn rhoddi iddo ef y moli­ant ar gogoniant am dano. Dedwydd ydych eich geni i weithio o Dduw ynoch waith mor raslawn. Ei ffafor ragorol ef ydyw hyn, a'i drugaredd enwedigol tuag attoch: Oblegit gwir edifarhau, a chredu yw vnig rhydd-did, a brenhinol ragor-fraint plant Duw.

Attolygaf i Duw gan hynny an-chwane­gu eich flydd, ach lle [...]wi o bôb cyflawnder llawenydd, a thangneddyf drwy gredu, fel y galloch amlhau mewn gobaith drwy allu yr Yspryd Glân.

Antil.

Y mae'r haul yn tynnu yn issel A­sunetus; madws yw i mi, ac i chwithau fod yn myned ymmaith.

Phila.

Yn siccr y nôs â ddaw yn fuan, ac am hynny anghenrhaid yw i ni fyned ym­maith.

Theol.

Gan ei bod hi felly, ni â beidiwn yma, ac nid awn ddim pellach.

Asune.

Sir, mi â gymmeraf fynghennad gyd â chwi dros hyn o amser, ni allaf fyth fod yn ddigon diolchgar am yr holl addysc daionus, ar cynghorion godidog a glywais gennych he­ddyw; Gobeithio y cofiaf rai o honynt tra fydd­wyf byw: yr wyf gan hynny yn moliannu Duw trosoch, ac am eich cyngorion, ac am y dydd heddyw, yr hwn yr wyf yn gobethio, ae fydd y dydd cyntaf o'm edifeirwch i ac o'm ym­chweliad a [...] Dduw.

Theol.

Yr Arglwydd er mwyn ei anfei­drol drugaredd ai caniadhao. Ac yr wyf yn attolwg i'r Goruchaf Dduw eich cadarn­hau chwi ai lân yspryd, fel y galloch gyn­nyddu, a myned rhagoch mewn helynt Gristianogaidd hyd y diwedd.

Phila.

Attolwg i chwi M. Theologus ma­ddeuwch i mi fod o honof yn dra hŷf i ofyn llawer o gwestiwnau, ym mhâ rai i'm bodlonasoch i yn helaeth i fawr lawenydd a diddanwch fynghalon: yr wyf am hynny yn diolch i Dduw trosoch: a gobeithio yr wyf na ollyngaf byth tros gof rai o'r pe­thau â adroddasoch. Ond yr awr-hon mi a'ch gorchymynnaf chwi i Dduw, ac i air ei râd ef, yr hwn â ddichon ein adeiladu ym mhellach.

Theol.

Byddwch iâch Philagathus. Yr Arglwydd a'ch bendithio, ac a'ch cadwo [Page 446]yn eich holl ffyrdd: Ar Duw nefol a'n cadwo oll, ac an coleddo yn ei ofn ef hyd y diwedd.

‘Rhodder yr holl ogoniant i Dduw. ’
TERFYN.

Boreuol weddi iw harfer mewn teuluoedd neill­duol.

O Aglwydd ein Duw, a'n Nefol Dad, nyni dy blant anheilwng ydym wedi dyfod ymma o fla­en dy sancteiddiaf, a'th Nefol bresennoldeb i roi it foliant, a gogoniant, am dy holl helaeth drugareddau, a'th am­ryw fendithion tu ag attom; yn bendifa­ddeu am i ti ein cadw y nôs hon a aeth hei­bio rhag ei holl beryglon, a'i hofn, a rhod­di esmwythdra i'n cyrph; ac am ein cadw yn ddiangol hyd ddechreu y dydd heddyw, ac wyt yn awr yn adnewyddu drachefn dy hôll drugareddau arnom, fel yr adnewy­dda yr eryr ei bîg, gan ddanfon i ni bôb [Page 447]peth yn helaeth iw mwynhau, megis ym­borth, dillad, iechyd, heddwch, rhydd-did a diogelwch oddiwrth lawer o drueni, afie­chyd, drŵg ddamweiniau, ac adfydwch, i ba rai yr ydym ni yn ddarostyngedig yn y bywyd ymma bob munyd awr; Ac nid hynny yn vnig, ond hefyd am fod yn wiw gennit roddi i ni lawer o bethau daionus, nid yn vnig wrth ein angenrhaid, ond i'n difyrrwch hefyd.

Eithr yn fwy na dim oll, (garediccaf Dâd) yr ydym yn moliannu dy enw am fendith bywyd sydd well, yn enwedig am dy Sancteiddiaf air a'th Sacramentau, ar hôll ddaioni yr ydym yn ei fwynhau oddi­wrthynt; am dy fod yn cynnal dy Efengyl yn ein plith, am farwolaeth dy fâb, ar hôll ddedwyddyd â dderbyniwn oddi wrtho. O Arglwydd, agor ein llygaid bob dydd fwyfwy i weled, ac i ystyried dy fawr, a'th ryfeddol gariad tu ag attom, yn yr holl be­thau hyn, fel drwy ddyledus ystyried o ho­nynt y tynner ein calonnau yn nês attat, i'th garu fwy-fwy, i'th ofni, ac i vfyddhau it: fel megis y mae dy drugaredd tuag at­tom wedi ymehangu, felly yr ymehan­gom ninneu tu ag attat mewn diolch­garwch, ac fel yr wyt ti yn amlhau tu ag attom mewn daioni, Felly yr amlha­om ninnau tu ag attat mewn vfydd-dod, a chariad.

Ac yn gymmaint (O garediccaf Dâd) ac nad wyt ti yn deffygio vn amser yn dan­gos i ni ddaioni, er maint ein anheilyng­dod, an drygioni. Am hynny bydded i ystyriaeth o'th fawr drugaredd, a'th da­dol garedigrwydd tu ag attom, megis or­chfygu ein calonnau, a'n cymmell i ddy­fod i'th ogoneddus wydd di a chaniad newydd o ddiolchgarwch yn ein geneu­au. Attolwg i ti o drugaroccaf Dâd fa­ddeu i ni ein hôll anniolchgarwch, angha­redigrwydd, aflendid, a'n mawr gam-ar­fer ar dy hôll drugareddau, yn enwedig ein cam-arfer a'n dirmig ar dy Efengyl, gyd â hôll bechodau eraill ein buchedd, y rhai yr ydym yn cyfaddeu eu bod yn anneirif, ac yn amlach nac y gellir eu cyfrif, yn gystal drwy adael heb wneuthur pethau daionus, a gwneuthur pethau drygionus. Nyni yn ostyngedig â attolygwn i ti eu trosglwyddo hwynt at y cyfrif a wnaeth dy Fâb Christ trostynt ar y groes, ac na roddech byth yr vn o honynt i'n herbyn, ond o'th raslon­deb anghofia, a maddeu y cwbl. Hoelia yn dynn ein hôll bechodau ni, wrth groes Crist, clâdd hwynt yn ei fedd ef, trocha hwynt yn ei waed, cûddia hwynt yn ei ar­chollion ef, na âd iddynt byth gyfodi mewn barn i'n herbyn.

Rhyddhâ ni oddiwrth y trueni a ddig­wydd i ni o'u plegit, ac attal y dialeddau i [Page 449]ddyfod, ar enaid, a chorph, y golud, ar enw da. Ymgymmoda â ni yn dy annwyl Fâb, am bob achosion â aeth heibio, heb vnwaith atgoffa, neu ail-sôn wrthym ein hên a'n ffiaidd anwireddau, eithr derbyn ni yn gyfiawn ynddo ef, gan gyfrif ei gyfi­awnder ef i ni, a'n pechodau ninnau iddo yntef. Bodloned ei gyfiawnder ef dy gy­fiawnder di am ein holl anghyfiawnder ni. Bydded ei vfydd-dod ef dros ein anvfydd-dod ni. Ei berffeithrwydd ef tros ein am­herffeithrwydd ni. Ym hellach nyni yn ostyngedig â attolygwn i'th ddaionus faw­redd roi i ni wir olwg, ac ymwrando an hamr yw bechodau, fel na'n daller gan­ddynt drwy ddigrifwch, ac na'n caleder ynddynt drwy hir arfer, fel y digwydda ir gwrthodedig: Ond bod o honom yn flin­derog o honynt, ac yn ymofidio am dan­ynt; gan ymnerthu, ac ymegnio i ymadel oddi-wrthynt. O Dâd daionus cynnyrfa ein calonnau ni a gwîr edifeirwch am bob pechod, na chymmerom ddim difyrrwch mewn neb rhyw fâth ar bechod: Ond er ein bod ni yn syrthio o wendid (megis yr ydym yn cwympio yn fynych) etto na âd i ni byth lwyr syrthio, na âd i ni orwedd nac aros mewn pechod, eithr cryf hâ ni i gyfodi ar ein traed eilwaith, ac i ddych­welyd attat ti an holl galonnau, ac i'th geisio di tra fyddych i'th gael, ac tra [Page 450]y cynnigiech i ni râd, a thrugaredd.

O Arglwydd anchwanega ynom wîr a bywiol ffydd drwy yr hon y gallom gym­meryd gafael siccr yn dy fâb Crist, a chwbl ymfodloni yn ei haeddedigaethau ef. Dyro i ni ffydd ddiymmod i gredu'r holl a­ddewidion rhagorol, a graslawn â wnaed yn yr Efengyl; a chryfhâ ni oddi-vchod i rodio ac amlhâu ym mhob gwir, a chwbl­iach ffrwythau ffydd: Rhodiwn nid ar ôl y cnawd, ond ar ôl yr Yspryd.

Pâr i ni glywed grym marwolaeth dy Fâb yn marwhau pechod yn ein cyrph marwol, a rhinwedd ei adgyfodiad ef i'n hadgyfodi ninnau i newydd-deb bu­chedd.

Pâr i ni gynnyddu bennydd yn sanc­teiddiad yr Yspryd, a marwhâd y cnawd, fel y byddom byw yn sanctaidd yn gyfiawn, ac yn sobr yn y byd presennol drygionus hwn, gan osod allan dy rinweddau di yn ein hôll weithredoedd neillduol, fel yr har­ddom ein sancteiddiolaf broffes, ac y dis­cleiri [...]m megis goleuadau ynghanol cened­laeth wrthnyssig, a throfaus, ymysc y rhai yr ydym ni yn byw, gan fod yn gynorthwyol i bawb yn ein buchedd a'n ymarweddiad, ac heb [...]oi achos tramgwydd i nêb.

Ac er mwyn hyn Attolŵg i ti ein llenwi ni a'th yspryd, ac a phôb rhadau y­sprydol, megis cariad, doethineb, dioddef­garwch, [Page 451]bodlonrhwydd, lledneisrhwydd, gostyngeiddrwydd, cymmedrolder, diweir­deb, caredigrwydd, a thiriondeb: A da­debra ni i arfer gweddi, ac i fod yn wili­adwrus, gan ddarllain, a myfyrio yn dy gyfraith, a phôb cyfryngau buddiol eraill i beri i ni dyfu, ac amlhau ym mhôb rhin­weddau nefol.

Bendithia ni yn yr ymarfer or moddion o ddydd i ddydd: gwna ni yn gyfryw, ac y mynnit ein bôd, ac yn gyfryw ac yr e­wyllysiem ninnau fod, gan weithio ynom yr ewyllysio a'r gweithredu, yr arfaeth ar gallu.

Oblegit tydi O Arglwydd wyt ôll yn ôll, Ti â drugarhei wrth y neb y trugarhaech, ar neb a fynnech a galedi. Trugarhâ wrthym ni gan hynny, Garedig dâd, ac na âd mo honom arnom ein hunain, i ddilyn ein e­wyllys ein hunain, na'n trachwantau na'n deisyfiadau, eithr cymmorth ni a'th yspryd daionus, fel y parhaom hyd y diwedd mewn ystod gyfiawn, megis felly or diwedd i'n derbynnier i ogoniant, ac y byddom cyfran­nogion or goron anfarwol honno a rodd­wyd i gadw i bawb ar a'th garant, ac a alwant ar dy enw mewn gwirionedd.

Ymhellach yr ydym yn deisyf arnat (o nefol Dâd) roddi i ni bôb peth an­genrheidol ir bywyd yma, megis ymborth, dillad, iechyd, heddwch, rhydd-did a­diogelwch [Page 452]oddiwrth amryw drueni i ba rai yr ydym bôb dydd yn ddarostyngedig, fel y gwelych di yn addas.

Bendithia i ni yr hôll foddion a roddaist tan ein dwylaw tu ag at gynhaliaeth y by­wyd darfodedig hwn. Bendithia ein try­ssor, an digonedd, ein lluniaeth, a'n ha­nifeiliaid, ein celfyddodau, a'n crefftydd, a hôll weithredoedd ein dwylo: Canys dy fendith di yn vnig a gyfoethoga, ac ni ddŵg ddim tristid gyd ag ef. Dyro gan hynny i ni y fâth gyfraid, a digonoldeb or bendithion bydol hyn, ac a welych di yn dy ddoethineb nefol yn angen-rheidiolaf i ni.

Heb law hyn yn ostyngedig attolygwn i ti, o nefol Dâd, edrych i lawr or nefoedd yn dy ddirfawr drugaredd ar dy eglwys gyffredin, ac ar bôb aelod o honi. Bydd dda wrth Sion, ac adeilada furiau Jerusa­lem.

Cenfydd a llygad dy dosturi ddifrod, ac anghyfannedd dra dy eglwys. Iachâ ei briwiau, a chae ei adwyau ym mhôb ce­nedl. Gofala am dani, megis dy braidd dy hun, ymgeledda hi megis dy deulu dy hûn.

Coledda hi megis dy winllan dy hûn; hoffa hi megis dy briodferch dy hûn Bw­riada iddi fwriadau heddwch, ac edrych ar­ni beunydd mewn mawr dosturi. Bendi­thia [Page 453]hi a'th râs; cyfarwydda hi a'th ysp­ryd, ac ymddeffyn hi bôb amser a'th ga­darn allu. Gwascara ddychymmygion, gwradwydda gynghorion a diddymma ga­dernid pawb a ymosodo iw herbyn.

Yn bendifaddeu nyni â attolygwn i ti, garediccaf D d, ymosod yn erbyn yr Angrist o Rufain, dyn y golledigaeth, yr hwn sy'n dy wrthwynebu di, a'th bobl oll. Dyro iddo pan welych yn dda, atto­lwg, ei gwymp anescorol.

Diddymma ei nerth, ai awdurdod ef fwyfwy beunydd: Dyro rydd-did i'th E­fengyl ym mhôb teyrnas, fel y cwympo Babilon, ac na chyfodo byth mwyach. Pa fwyaf y ceisio annwyliaid, a charedigion Rhufain gynnal eu Teyrnas goel-fuche­ddol, mwyaf fyddo ei chwymp, megis da­gon o flaen dy Arch: Tywallt i lawr phio­lau cyflawnder dy ddigofaint ar deyrnas y bwystfil, a syched ymmaith eu golud, a'u cyfoeth, a'u cymmeriad, a'u hawdurdod fwy fwy bob dydd, fel yr afon Euphrates.

Bydded tostur gennit o anwyl Dâd we­led dy briodferch dy hûn yn eistedd ymma i wared megis gwraig anhawddgar, a diymgeledd yn wylofain, ac yn galaru ai gwallt tros ei yscwyddau, wedi colli ei thegwch, ai phrydferthwch.

Diddana hi, Garedig Dad: llawenha hi a llawenydd dy wynebpryd, ac felly har­dda, [Page 454]a thrwssiada hi, fel yr ymfodlonech ynddi megis priodfab yn ei ddyweddi. Yn enwedig yr erfyniwn arnat gymmeryd trugaredd ar dy eglwys yn y deyrnas yma: darpara i ni ddaioni, ac nid drygioni.

Na ddyro ni heibio yn nwylaw yr Ys­paen wyr gwaedlyd fel y mae ein pechodau yn haeddu: Gwascara, ni attolygwn i ti o Arglwydd, ddychymmygion, a diddym­ma gydfwriadau pawb oll a fwriadasant orchfygu, a Diwin anghyfanneddu yr egl­wys hon ar deyrnas.

Bendithia yr Eglwys hon fwyfwy, drwy gynnal gwir grefydd i'n plith.

Er mwyn dy enw mawr, ac er mwyn dy anfeidrol drugaredd, bydd raslawn a thrugarog wrthym ni, a'n hiliogaeth.

Tro oddi-wrthym y dialedd sydd ddyle­dus i ni am ein pechodau. Oblegit ti â weli fod anwiredd yn cael y llaw vchaf, ar dry­gionus yn ynnill y maes, annuwiaeth sy'n gorescyn pob man, a phabyddiaeth sy'n cynnyddu eilwaith.

Gan hynny garedig Dâd, yn ostyngedig yr attolygwn i ti beri diwygio ar frŷs, ac attal yr amryw anrhefn, ar dirfawr amry­fusedd sy'n ein plith. Caniattâ i'th blant truein fod o honot yn ddaionus ir wlâd hon: gwrando lefain dy etholedigion: Clyw waedd y rhai â alarant yn Sion.

Gâd i lefain dy blant wrthlefain hôll [Page 455]waedd pechodau y wlâd ymma, ac ymgym­moda a ni, yn lluosogrwydd dy dosturiae­thau, mal felly y parhaech rhag llaw yn ymddeffynwr trugarog i'th frytanaidd win­llan. Attolwg i ti ein Tâd daionus, ddangos trugaredd rhagorol i'n Ardderchoccaf a'n grasusaf frenin Charles, dy eneiniog wasa­naeth-wr: Bendithia, a chadw ef yn ei holl ffyrdd Bendithia ei deyrnasiad ef i ni. Castelled dy Angelion o'i amgylch, a by­dded dy law sanctaidd drosto ef iw gadw rhag brâd, a gwared ef rhag ystrywiau ei e­lynion, canniadhâ iddo allu dirnad y pethau â berthynant iw heddwch, a dyro iddo ga­lon awyddus i ymarfer ar vn rhyw. Dyro iddo bôb rhadau angenrheidiol iw hedd­wch, ac angenrheidiol iw iechydwria­eth. Pâr iw lywodraeth ef arnom ni bar­hau yn dangnheddefus, ac yn llwyddian­nus, ac megis y gosodaist ef yn anadl ein ffroenau ni, ac yn ermig i achub llawer mi­loedd o eneidiau, felly bydded ei enaid ef cadwedig yn nŷdd dŷ Fâb Crist.

Bendithia anrhydeddus ddirgel gyn­gorwyr ei fawrhydi ef, a chaniadha y fâth lwyddiant iw cyngorion, ac iw pwyll-fw­riadau hwynt mewn achosion y deyrnas, fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddych­lawn ym mhôb duwioldeb, a gonestrwydd. Bendithia yr hôll Bennaethiaid, gweithia ynddynt hwy ofal i anrhydeddu dy enw [Page 456]di yn eu galwedigaethau; gwna hwynt yn ffyddlon i ti ac yn ffyddlawn iw gwlâd. Cyfarwydda a'th Yspryd daionus bawb ôll â ddygant gleddyf cyfiawnder, fel y tyn­nant ef allan, i gospi y drygionus, ac i amddeffyn y Duwiol, ac fel y gallont a phob gofal, a chydwybod dda gyflawni dyled-swyddau eu galwedigaethau. Ych­wanega nifer y gweinidogion ffyddlon, a gwir dduwiol yn yr eglwys ymma. An­fon dy Efengyl ir mannau hynny lle nid ydyw, a bendithia hi lle y mae.

Cofia yn dy drugaredd, O Arglwydd, y­rhai ydynt tan nêb rhyw groes, neu gy­studd: Cyssura hwynt, Iachâ eu briwiau, rhwym eu doluriau, derbyn eu hôll dda­grau yn dy gostrel, a chyweiria eu gwelau yn eu holl glefyd. Dyro y cyfryw ddiben daionus iw hôll drallodau, fel y tueddont ith ogoniant ti, ac i ffynniant eu iachawd­wriaeth hwythau. Yn y cyfamser dyro iddynt ddioddefgarwch, a chefnogrwydd i ddwyn beth bynnag a ryngo bodd i'th drugarog law di ei osod arnynt. Yn ddi­weddaf oll attolygwn i ti fendithio y lly­wodraeth-wyr, y gweinidogion, ar cy­ffredin.

Bendithia dy holl bobl, bydd ddaionus î bawb ar sy'n gywir, ac yn vniawn o galon. Ac felly (garedig Dâd) gorchym­myn yr ydym ein hunain, ein eneidau, [Page 457]a'n cyrph i'th ddwylaw di dros y dydd hwn, a'n hôll enioes, gan ddamuno arnat ofalu am danom, a'n cadw rhag pôb drŵg, gwilio drosom er daioni, Gosoded dy An­gelion eu pebyll o'n hamgylch, bydded dy law sanctaidd drosom i'n cadw yn ein hôll ffyrdd, fel y byddom byw i'th foliant a'th o­goniant di yma ar y ddaiar, gan gadw ffydd, a chydwybod dda yn ein holl wei­thredoedd, fel yn ôl y fuchedd hon i'n cor­oner gennit yn dragwyddol yn y Nefoedd.

Caniatta (ddaionus Dâd) y pethau hyn i ni ymma yn bresennol, ac i bawb o'r ei­ddot yn absennol; gan attolwg i ti mewn caredigrwydd enwedigol gofio ein cyfne­seifiaid, a'n ceraint yn ôl y cnawd, ein hôll gymmydogion, a'n ewyllyswyr da, a phawb ôll dros ba rai yr ydym yn rhwy­medig i weddio wrth naturiaeth, wrth haeddedigaeth, neu fâth yn y byd ar ddylêd: Er mwyn Iesu Grist ein vnig Gyfryngwr, i'r hwn gyd a thi, ar Yspryd Glan y rho­dder pôb moliant, a gogoniant, yr awr­hon a byth bythoedd, Amen.

Prydnawnol weddi iw harfer mewn teuluoedd neillduol.

O Dragwyddol Dduw, a'n ca­rediccaf, a'n hanwylaf Dâd, nyni dy blant anheilwng y­dym yn ymddarostwng yma wrth droedfaingc dy fawredd di, gan gydnabod o eigion ein calonnau ein bod ni yn llwyr anaddas i nessau attat, neu i edrych tuag attat, o herwydd dy fod ti yn Dduw o anfeidrol ogoniant, a nin­nau ydym bechaduriaid gwael, a ffiaidd, y cyfryw ac â luniwyd, ac â anwyd mewn pechod, a llygredigaeth, ac yn ein gw­eithredoedd â droseddasom dy holl far­nedigaethau a'th gyfreithiau, ar feddwl, gair, a gweithred, cyn, i ni dy adnabod, ac er hynny yn dywyll ac yn oleu, ar­nom ein hunain, a chyd ag eraill: Ein pechodau neillduol ydynt amlach nac y gellir eu rhifo: Canys pwy a edwyn ni­fer ei bechodau? Ond rhaid i ni gyfa­ddeu hyn yn ein herbyn ein hunain, fod ein calonnau ni yn llawn balchder, cy­bydd-dra, a serch ir byd hwn, yn llawn llîd a digter, ac annioddefgarwch; yn [Page 459]llawn celwydd, rhagrith, a thwyll: Yn llawn gwagedd, cyndynrhwydd, ac aflen­did: yn llawn anghrediniaeth, anymddi­ried, a serch arnom ein hunain: yn llawn trachwant, brynti, a phôb ffiaidd ddeisyfi­adau: Ie y mae ein calonnau yn byll­au pechod, ac yn domennau o bob bu­dreddi.

Ac heb law hyn oll, yr ydym yn esceu­luso y pethau daionus â ddylem eu gw­neuthur: oblegit y mae ynom ni ddiffig mawr o ffydd, cariad, a zêl; o ammynedd, bodlonrhwydd, ac o bôb rhâd daionus; yn gymmaint â bod i ti achos cyfiawn i roddi barn i'n herbyn megis damnedig drosedd­wyr dy holl orchymynion sanctaidd, ie y cyfryw ydym ni ac sy wedi foddi yn ein gwrthryfelgarwch; ac a wnaethom yn fynych deyrnfradwriaeth yn erbyn dy fawredd di, ac am hynny y gellit ein taflu ni ôll i wared i dan vffern, yno i'n penydio gyd â Diafol, a'i Angelion byth bythoedd

Ac nid oes gennym ddim i roi yn er­byn dy fawrhydi am wneuthur felly: O herwydd yn h [...]nny ti a wneit â ni yn ôl vniondeb, ac yn ôl ein cyfiawn haeddedi­gaethau.

O herwydd paham (garediccaf Dâd) ymwrthod yr ydym a'th gyfiawnder di, ac ymroi i'th drugaredd, gan attolwg i ti [Page 460]yn ostyngeiddiaf drugarhau wrthym, a chwbl-faddeu i ni ein pechodau a aethant heibio yn gystal hên, a newydd, dirgel, ac amlwg, adnabyddus, ac anadnabyddus, a hynny er mwyn Jesu Grist ein vnig Gy­fryngwr.

Ac yr ydym yn attolwg i ti gynnyrfu ein calonnau a gwir dristid, ac edifeirwch diragrith am danynt, fel y byddont yn gweithio ynom ferwindod calon, fel na byddo dim trymmach gennym na darfod i ni dy anfodloni di ein ymgeleddwr, an Tad daionus. Par i ni gan hynny (ga­redig Dad) fwyfwy bôb dydd rhagor ei gilydd weled a chlywed ein pechodau, a gwir ymostwng am danynt. Dyro i ni wir a bywiol ffydd drwy yr hon y cymme­ron afael siccr yn dy Fab Crist, ai hôll haeddedigaethau, drwy eu cymhwyso i'n heneidiau ein hunain, fel y gallom fod yn gwbl siccr gennym, fôd pa beth bynnag a wnaeth efe ar y groes, wedi iddo ei wneu­thur yn enwedigol drosom ni, yn gystal a thros eraill.

Dyro i ni ffydd o Dad daionus, i gre­du yn ddisigl hôll gyssurus addewidion yr Efengyl a wnaed yn dy Fab Crist am fa­ddeuant pechodau, a bywyd tragwydd­awl.

O Arglwydd ychwanega ein ffydd fel y gallom roi cwbl o'n goglud ar dy addewi­dion [Page 461]y rhai ydynt ôll ie, ac Amên. Ie fel y gallom ymsefydlu arnynt a chwbl a fe­ddwn, ein eneidiau, a'n cyrph, ein cyfoeth a'n enw da, ein gwragedd, a'n plant, a'n hôll gyflwr, gan wybod fod pôb peth yn sefyll wrth dy addewidion a'th allu, a'th ragluniaeth, ac mai dy air di sy'n cynnal, ac yn dal i fynu hôll drefn naturiaeth.

Ym mhellach yr ydym yn attolwg i ti O Arglwydd, ein nerthu ni oddi-vchod i rodio ym mhôb ffordd ddaionus, ac i ddwyn ffrwyth gwir ffydd yn ein hôll weithredo­edd neillduol, gan ofalu am dy fodloni di ym mhôb peth, a bod yn ffrwythlawn ym mhôb gweithred dda, fel yr hyspysom i bob dyn wrth ein ymarweddiad da, plant i bwy ydym, ac fel y byddom yn addurno, ac yn harddu ein crefydd Sanctaidd drwy rodio yn Gristianogaidd, ac ym mhôb ia chus ffrwythau, ac ymarfer o dduwioldeb, a gwir grefydd.

Ir perwyl yma attolwg i ti sancteiddio ein calonnau ni a'th Yspryd Glân, yn er­byn cyffredin lygrediaethau y bŷd, megis balchder, putteindra, cybydd-dod, dirmig ar dy Efengyl, tyngu, dywedyd celwydd, rhag-reithio, a thwyllo.

O Dâd caredig, na âd ir ffiaidd bechodau hyn ein gorchfygu, nac i neb rhyw becha­durus ddigrifwch, neu ffôl ddifyrrwch a­rall, drwy ba rai y mae miloedd yn rhedeg [Page 462]bendramwnwgl i ddestryw. Arfoga ein eneidiau yn erbyn hôll brofedigaethau y byd, y cnawd, ar cythraul, fel y gallom eu gochfygu hwynt ôll drwy dy gymmorth di, a dal ar y ffordd vnion i fywyd; fel y gallom fyw yn dy ofn di, a marw yn dy ga­riad, fel y byddo ein dyddiau olaf yn ddy­ddiau llawenaf, ac y diweddom mewn mawr heddwch cydwybod.

Ymhellach (Anwylaf Dâd) yr ydym yn erfyn arnat, nid yn vnig drosom ein hu­nain, ond dros ein holl frodyr daionus dy blant anwyl di, ar wascar ar hyd wyneb yr holl ddaiar; gan attolwg i ti yn ostynge­dig, eu bendithio hwynt ôll, a'u cyssuro, a'u llawenychu a llawenydd dy wyne­pryd, yr awr-hon a phob amser. Cyn­nal hwynt ôll yn dy ofn, a chadw hwynt rhag drwg fel y moliannant dy enw. Yn y dyddiau enbydus hyn, ar amserau lli­thrig, attolwg yr ydym i ti gyfodi Tad­maethod, a mammaethod i'th eglwys, fel y gosoder ymlaen dy achosion, ac y llwy­ddo gwrionedd, y caffo gwîr grefydd rwydd hynt a ffynniant, y gosoder allan dy enw di yn vnig ar y ddaiar, y derchafer teyrnas dy Fâb, ac y cyflawner dy ewyllys. Gwrthladd di gadernid pôb gwrthwyneb­wyr: yn bendifaddeu hwnnw o Rufain, a delw-addoliant Angrist, ac annuwiaeth: Melidithia, a rhwystra eu hôll gynghorion: [Page 463]diddymma eu dychymmygion, gwascara eu byddinoedd, a gorchfyga eu lluoedd. Troer eu doethineb yn ffoledd, a'u cadernid yn wendid. Gwybyddant nad oes dim doethineb, na chyngor, na gallu, na chy­frwystra yn dy erbyn di Arglwydd y lluo­edd Gwybyddant fod Duw i Israel, a'th fod ti yr hwn a elwir Iehofa yn vnig Reolwr ar yr hôll fŷd.

Cyfod gan hynny O Dduw galluoccaf, a maentumia dy achos dy hûn yn erbyn dy hôll elynion; Taro trwy eu hôll arennau, a chrymma eu cefnau, ie gwadwydder, a throer yn ôl bawb oll a ewyllysiant ddrŵg i Sion.

Bydded hir ymaros y cyfiawn yn llawen­ydd: Ac na chaffo y drygionus eu gobaith: Eithr o flaen pôb caredigrwydd, Attolwg i ti ddangos trugaredd enwedigol i'th eglwys yn y deyrnas ymma yr ydym ni yn byw ynddi. Cynnal rhagllaw dy Efen­gyl yn ein plith yn fwy llwyddiannus. Glânhâ dy dŷ beunydd fwyfwy; tynn ymmaith bob rhwystr. Bydded y genedla­eth hon y lle y galwer ar dy enw di ynddo, ac yn amddeffynfa i'th Saint. Dangos dru­garedd i'n hiliogaeth ni, Annwylaf Dâd, a gofala am danynt, fel y gadawer dy E­fengyl iddynt hwy yn etifeddiaeth San­ctaidd. Amddeffyn ni rhag cynllwynion estronol, a gormesoedd. Cae allan oddi [Page 464]wrthym gaudduwiaeth, a phabaeth: Trô ymmaith y dialeddau y mae ein pechodau ni yn gweiddi am danynt. Canys pecho­dau y wlâd hon ydynt dramawr, ffiaidd, a chynhwynol, ac a rônt i ti achos ddigon i'n gwneuthur ni yn spectalau o'th ddia­ledd i bôb cenedlaeth: Fel pa mwyaf y derchefaist ni mewn mawr drugaredd, a hîr heddwch, o hynny yn fwy y gellit ein tan-sangu mewn llid mawr, a hîr ryfel.

Am hynny, o garediccaf Dâd, yn ostyn­gedig yr attolygwn i ti er mwyn dy enw mawr, ac er dy anfeidrol drugareddau gymmodi o honot ar wlâd hon, a rhyddhâ hi o'i holl ffiaidd bechodau. Bawdd hw­ynt O Arglwydd yn dy anfeidrol druga­redd trwy Grist megis mewn diffwys di­waelod, fel na chyfodant byth yn y farn i'n herbyn. Oblegit er bôd ein pechodau ni yn llawer-iawn, ac yn ofnadwy: etto mwy o lawer yw dy drugaredd di.

Canys yr wyt ti yn anfeidrol dy druga­redd, eithr ni allwn ni fod yn anfeidrol ein pechodau. Na ddyro ni i fynu i ddwy­law delw-addol-wyr rhag iddynt gablu dy enw di gan ddywedyd; pa le y mae eu Duw hwynt, yn yr hwn yr ymddiriedent. Ond yn hytrach garedig Dâd cymmer ni i'th ddwylaw dy hûn, a cherydda ni yn ôl dy ddoethineb, canys gyd â thi y mae trugaredd, ac aml dosturi. Ymhellach, [Page 465]yr ŷm yn attolwg ith ddaionus fawredd di fendithio ein Grasufaf frenhin Charles, a dangos iddo drugaredd mawr ym mhob pêth. Coledd et yn dy ofn di, a chadw ef yn ei hôll ffyrdd, drwy weithio yn ei galon dristid diragrith am bechod, gwir ffydd yn yr addewidion, a gofal mawr i'th fodloni di ym mhôb pêth, ac i gyflawni dyled-swydd ei vchel-fraint ym mhôb a­wydd-chwant i osod allan dy ogoniant, ac i ddangos ffyddlondeb i'th fawrhydi: Fel megis y coronaist ef ymma ar y ddaiar: felly y caffo (drwy dreulio ei ddyddiau ymma yn dy ofn di) yn ôl y fuchedd hon ei goroni gennit yn dragywydd yn y Nefoedd. Atto­lygwn i ti hefyd fendithio anrhydeddus ddirgel gynghoriaid ei fawredd ef. Cyng­hora hwynt oddi-vchod, ymgynghorant â thydi ym mhôb peth, fel y gallant ymgyng­hori, ac ymroi i ddilyn y cyfryw helyntiau, ac a fyddo yn fwyaf i'th ogoniant di, a dai­oni i'r eglwys, a heddwch i hon ein gwlâd ni. Bendithia y Pennaethiaid, a hôll ly­wodraeth wŷr y deyrnas drwy roddi i­ddynt ôll rad i rannu cyfiawnder a barn, a chynnal gwrionedd, ac vniondeb. Ben­dithia hôll ffyddlon weinidogion yr Efen­gyl, amlha eu rhifedi hwynt, cynhyrcha dy ddoniau ynddynt, ac felly bendithia eu llafur-waith hwynt yn eu lleodd, a'u cyn­nulleidfaoedd neillduol: fel y byddont [Page 466]ôll yn offerau dy law di i helaethu teyrnas dy Fâb, ac i ynnill llawer i ti. Cymmorth y rhai digymmorth a phôb angenrheidiol gymmorth: Nac anghofia nêb or eiddot ti ar a gystuddir, eithr megis y mae eu blin­derau yn dôst, felly bydded llawenydd, a diddanwch dy Yspryd yn gyssur iddynt.

Ac felly Sancteiddia i bawb or eiddot eu cystuddiau a'u gofidiau, fely tueddont ôll i'th ogoniant ti, ac iw daioni hwy­thau. Dyro i ni galonnau diolchgar am dy holl drugareddau Ysprydol, a chor­phorol: Canys yr wyt yn dra thostu­rus wrthym ym mhethau y bywyd hwn, ac yn fwy anfeidrol dy drugaredd ym mhethau sydd well. Pâr i ni ddwys ystyried dy holl garedigrwydd neillduol tu ag attom: Megis drwy iawn synnied o honynt yr enniller ein calounau i nessau attat, ac felly y gallom dy garu, ac vfydd­hau i ti am dy fod mor garedig bôb am­ser, ac mor gariadus i ni; fel y gallo dy gariad ti tu ag attom ni, dynnu ein cariad ninnau tu ag attat tithau: Ac am fod tru­garedd gyd â thi am hynny i'th ofner. Can­niadhâ y pethau hyn y Tâd daionus, a phob rhadau eraill angenrheidiol i'n eneidiau an cyrph, neu i neb or eiddot drwy'r holl fyd er mwyn Jesu Grist: Yn enw yr hwn y galwn arnat ymmhellach fel in dyscodd yn ei E­fengil, gan ddywedyd: Ein Tâd yr hwn wyr &c.

Gweddi iw harfer yr am­ser a fynner, gan vn dyn ar­no ei hun yn neillduol.

O Arglwydd fy Nuw am Nefol Dâd, myfi dy blentyn anhei­lwng ydwyf ymma yn dy ŵydd di yn cyfaddeu o eigion fynghalon fy môd yn greadur pechadu­rus, ac yn drosedd wr aruthrol ar dy hôll Sanctaidd gyfreithiau di, a'th orchymy­nion: Fel megis ac i'm ganed, ac i'm magwyd mewn pechod, ac i'm halogwyd yn y grôth, felly y dygum beunydd lygre­dig, a dybryd ffrwyth y llygredigaeth, ar mallhaint hwnnw ym mha vn yr ymddy­gwyd arnaf, ar feddyliau, geiriau, a gwei­thredoedd. Ped amcanwn fwrw cyfrif o'm holl gamweddau neillduol, ni wnn na pha le y dechreuaf, na pha le y diwe­ddaf.

Canys amlach ydynt na gwallt fy mhen, ie mwy o lawer nac y mae possibli mi allu eu clywed, na'i gwybod. Canys pwy a edwyn vchder, a dyfnder ei lygredigaeth? [Page 468]pwy a ŵyr pa cyn fynyched y mae yn pe­chu? Ti yn vnig o Arglwydd a adwaenost fy mhechod, yr hwn a adwaenost fyng­halon, nid oes dim yn guddiedig rha­got. Ti a adwaenost beth a fûm, a pheth ydwyf. Ie y mae fynghydwybod i'm cy­huddo o ddrygau lawer, a thrymion: ac yr wyf beunydd yn ymglywed drwy re­synol brawf mor egwan ydwyf, mor du­eddol i ddrwg, ac mor anhyrwydd i bob daioni. Fy meddwl sy'n llawn o wa­gedd, fynghalon yn llawn o aflendid, fy nwydau yn llawn o farweiddra, syndod, a syrthni yn achosion dy wasanaeth di.

Ie fy enaid ôll sy'n llawn o ysprydol ddallineb, calon-galedwch, anfuddioldeb, difraŵch, a diofalwch: Ac mewn gwirio­nedd yr wyf yn gwbl-oll yn glamp o be­chod a thommen pob trueni, ac am hynny yr haeddais golli dy ffafor, y tynnais arnaf dy ddigofaint, y roddais i ti achos cyfiawn i gyffroi, i'm troi heibio, ac i'm gadael i'm hewyllys llygredig fy hun, am drwg­nwydau: Eithr o fyngharedig Dâd, mi a ddyscais o'th enau di dy fod ti yn Dduw llawn trugaredd hwyr-frydig i lîd, a mawr dy dosturi a'th garedigrwydd tu ag bawb ar ydynt yn griddfan tan faich eu pecho­dau. Am hynny estyn dy ddirfawr druga­redd tu ag attaf fi bechadur truan, a cha­niattâ i mi gwbl faddeuant o'm pecho­dau [Page 469]ôll: sêlia ef yngwaed dy fâb, a sêlia ef i'm cydwybod drwy siccrhau i mi fwy­fwy dy gariad a'th ffafor tu ag attaf, a'th fod yn Dâd cymmodol a mi.

Caniadha i mi allu dy garu di yn fawr bôb amser o hyn allan, ac o garaid arnat dy ofni, ac vfyddhau i ti. O Arglwydd chwa­nega fy ffydd fel y credwyf yn ddiammeu hôll addewidion yr Efengyl, a wnaed yn dy fâb Crist, ac y rhoddwyf fynghwbl oglud arnynt.

Cryfhâ fi i ddwyn iachus ffrwythau ffydd, ac edifeirwch, yn fy hôll weithre­doedd neill-duol. Llanw fy enaid yn llawn o lawenydd, a thangnheddyf yn credu. Llanw fi yn llawn o gyssur oddifewn, a nerth ysprydol yn erbyn pôb profedi­gaethau.

Dyro i mi etto rhag llaw ychwaneg gydnabyddiaeth o'th gariad, a'th amryw drugareddau tu ag attaf. Gweithia yn fy e­naid gariad i'th fawredd, a zêl i'th ogoniant, casineb i ddrwg, a chwant i bôb pethau daionus.

Dyro i mi y fuddugoliaeth ar y pechodau hynny y rhai â wyddost eu bôd yn gryfion ynof. Nertha fi vnwaith o'r diwedd i orchfygu y byd, ar cnawd. Marwhâ ynof beth bynnag sydd gnawdol. Santeiddia fi yn gwbl oll drwy dy Yspryd: Cysyllta fyng­halon a thi yn dragywydd, fel yr ofn wyf dy enw.

Adnewydda ynof beunydd fwyfwy dde­lw dy fâb Crist. Pâr i mi ymddigrifo yn darllain, a myfyrio dy air. Pâr i mi lawe­nychu yn y weinidogaeth gyffredin o ho­naw. Pâr i mi garu, a pherchi hôll ffyddlon wenidogion yr Efengyl. Sancteiddia eu athrawiaethau hwynt i'm cydwybod, Selia hwynt yn fy enaid, ac Scrifenna hwynt yn fynghalon, dyro i mi galon rywiogaidd a thoddedig, i grynu wrth dy air di, ac i hoffi bôb amser bregethau duwiol.

Na chaffed fy mhechodau attal dy dru­gareddau odi wrthif, nam anheilyngdod gau allan lwybr dy râs. Agor fy llygaid i weled pethau rhyfedd yn dy gyfraith di.

Dadcuddia i mi dy ddirgeloedd, a bydd caredig i mi dy wâs anheilwng.

Na chuddia oddi wrthif ddim a fyddo buddiol i'th ogoniant di, a daionus i'm henaid.

Bendithia i mi yr hôll gyfryngau a oso­daist er daioni i mi. Bendithia i'm henaid bob athrawiaeth sanctaidd.

Bendithia fi bôb amser wrth wrando, a darllain dy air. Dyro i mi yr iawn fwyniant o'th drugareddau, a'th geryddon, fel y by­ddwyf gwell o'u plegit. Amlhaed ynofi ga­riad tu ag dy blant di.

Cylymma fynghalon wrthit; mal lle y carech di, yno y carwyf finneu hefyd. Gwi­liwyf, a gweddiwyf nad elwyf mewn pro­fedigaeth. [Page 471]Dyro i mi ddioddefgarwch, a bodlonrhwydd ym mhôb peth.

Par i mi dy garu di fwyfwy, ar bŷd leilai. Felly tynn fy enaid i fynu, fel y dibrisiwyf bôb pethau darfodedig. Pâr i mi serchu, ac ymddifyrru mewn pethau nefol, fel y gwnelwyf gyfrif bychan o be­thau daiarol.

Pâr i mi arfer y byd hwn megis pe bawn heb ei arfer. Ei arfer er mwyn angenrhaid megis bwyd a diod, Na chymmerwyf ddi­grifwch yn ei wâg-feluswedd ai ffôl ddi­fyrrwch. Y Tâd daionus gweithia dy waith daionus ynof fi: Na âd, ac na wrthod fi byth hyd oni ddygech fi i wir ddedwyddwch. O Dâd annwyl, gwna fi yn ffyddlon yn fyngalwedigaeth, fel y gwasanaethwyf di ynddo; ac y byddwyf gofalus beunydd am wneuthur pa ddaioni bynnag a allwyf ym mhôb peth. Bendithia fi yn fynghy­flwr oddi allan. Bendithia fy enaid, am corph, syngolud a'm enw da. Bendithia gwbl ôll ar a berthyn i mi. Bendithia fy myne­diad allan, am dyfodiad i mewn. Der­cher dy wynepryd arnaf yr awr-hon a phôb amser, llawenhâ fi a llawenydd, ac â diddanwch dy yspryd: gwna fi yn ddiolch­gar am dy holl drugareddau.

Canys rhaid i mi gyfaddeu dy fod yn dra caredig i mi ym mhôb peth. Oblegit ynot ti yr wyf yn byw, yn bod, ac yn ym­symud. [Page 472]Oddi wrthit ti, yr wyf yn cael fy llwyddiant, a'm bôd daionus.

Cyfaill beunyddiol ydwyt a chymwy­naswr enwedigol i mi. Byw yr ydwyf ar dy draul di, a'th gôst, dal yr ydwyf y cwbl a feddaf oddi-wrthit ti. Ac nid wyt vn amser yn blino yn gwneuthur i mi ddaioni. Dy ddaioni tu ag attaf sydd ddianwadal. Oh ni allaf byth fod yn ddigon dioch­gar it am dy hôll drugareddau yn gystal ysprydol a chorphorol. Eithr yn y cy­fryw fesur ac y gallwyf yr ŵyf yn mo­liannu dy enw am y cwbl oll: gan at­tolwg i ti dderbyn yn gymeradwy fyn­hâl-diolch yn dy fab Crist, a rhoddi i mi fwyniant buddiol o'th hôll garedi­grwydd, mal felly y cwbl dynner fyngha­lon attat ti. Caniadhâ i mi o Dâd, fôd or cyfryw naturiaeth, ac athrylith, fel yr ynniller fi drwy rywiogeiddrwydd, a chlaiarwch, yn gystal a phe roddit i mi lawer gwialennod. Maddeu sy hôll an­niolchgarwch, angharedigrwydd, ar cam­arfer dirfawr ar dy drugareddau di. A dyro i mi râs iw harfer yn fwy i'th ogoni­ant beunydd o hyn allan.

Nertha fi, garedig Dad, i barhau fel hyn i foliannu, ac i anrhydeddu dy enw yma ar y ddaiar, mal yn ôl y by­wyd Hwn i'm coroner gennit ti yn dra­gywydd yn dy deyrnas. Canniadha yr [Page 473]erfynniau hyn drugaroccaf Dduw nid yn vnig i mi, ond hefyd i'th hôll blant anwyl trwy'r holl fŷd er mwyn Jesu Grist. Yn enw'r hwn y galwaf arnat ymhellach, gan ddywedyd megis i'm dys­codd. Ein Tad yr hwn wyt yn y ne­foedd, &c.

TERFYN.
‘Laus Deo.’

Dywygiwr y Preintwasg at y Darllennydd.

Y Cymro anwyl, yn y blynyddoedd diwe­ddaf aeth heibio rhoddes Duw ewyll­ys mewn rhai gwyr enwog yn Llundain ac o'i hamgylch, i wneuthur diioni i'n gwlad ni wrth drefnu llyfrau da iddi, ac hyfforddi bagad iw dyseu. Ac wedi iddynt wneu­thur cynnorthwy nid bychan i beri ir Biblau [Page 474]cymraeg liosogi yn ein plith, rhoddes rhaglu­nieth derfyn i fywyd y gwr parchedig ydo­edd yn cyniwer i Gymru ar y cyfryw nege­sau. A thro yr oedd rhai yn tybied pan ddarfu'r pen hwnw, y darfuasai'r ammod cymmwynascar yr oedd efe yn olugwr arno, wele y gwyr da eraill y rhai oeddent gyfran­nogion ag ef yn ei orchwylion elusengar, yn amlygu fod mwy o gynhesrwydd cariad yn eu plith nag yr oeri wrth ddiffodd o vn pen­tewyn: am hynny dewisasant vn arall cyffelyb iddo, i wneuthur yr vn cymwynas i'r gwen­iaid yn ein cenedl ni, ac a wnaeth yntef: o'r hyn y mae ysbysrwydd printiedig yn saesoneg a henwau cyfrifol wrtho. Ac i destiolaethu ffrwythlondeb eu bwriad, dyma nhw yn ail­preintio yn ein iaith ni y Llyfr godidog na phreintied mono er ys rhagor i ddeg a deugain o flynyddoedd, ac a elwir y Llwybr Hyffordd ir nefoedd, fel y caffo'r tlawd fara yn rhôdd, a phawb eraill yn isel-bris. Na fychana'r cymmorth, eithr bendithia Dduw am yr adei­ladaeth.

Yma daliwn sulw ar hyn yn ofalus, sef ddarfod i'r Arglwydd gynhyrfu y pregethwr duwiol a scrifennodd y llyfr hwn, a bagad o'i fath a scrifennasant lyfrau seisnig eraill, yn yr oes ddiweddaf, i destiolaethu'r gofid a'r ofn oedd yn eu heneidiau wrth weled pobl mor gyffredinol yn byw yn anaddas ir efen­gyl a breffessent. A chan na chanlynodd [Page 475]edifeirwch a dywygaid ar ol y cyfryw rybuddi­on ffyddlon, digwyddodd farnedigaethau try­mion yn y byd drwy ryfeloedd a chlefydau, ac ni ddiangodd ein gwlad ni rhag clywed peth o'u pwys. Ynteu heddyw gwrandewch ar leferydd Duw yn y llyfr hwn, ac na cha­ledwch eich calonnau megis yn y cyffroad, yn amser ein tadau diweddar a'n hen deidiau gynt.

Am yr argraphiad yma gallaf dy siccrhau ei fod yn ofalus o'm rhan i. Ac er na che­fais hamdden i holi'r cyfieithad wrth y Sacso­neg mor fanwl ac y gwneuthum wrth brintio'r Ymarfer o Dduwioldeb y waith ddiwedd­af, etto rhwng fy mhoen fy hun a'm cydwei­thwr o ddeheu-barth, y mae llawer o eiriau ac Yscrythyrau wedi eu rboddi i mewn yn hwn, a ddiangasai yn y llall. Ac o her­wydd bod y llyfr hwn yn saesoneg ac yn Gymraeg heb ei rannu yn bennodau, ac yn anhawdd ir darllennydd droi yn barodol at brif-bennau'r athrawiaeth sydd ynddo, yr awrhon yscrifennais Dablen yn ei ddiwedd yn ol trefn llythrennau'r egwyddor, i ddan­gos y dalennau lle ceir dechreuad yr yma­droddion ynghylch y pyngciau rheitiaf. Ac fel na chwyno neb rhag gerriau dieithr, y mae'n canlyn ddeongliad o'r rheini hefyd.

Bellach gweddia ar ir Arglwydd nefol drwy gyfarwyddyd ei air, a gwaith ei râs ynot, wneuthury ffordd gul sydd yn arwain [Page]ir bywyd yn hyffordd iti, fel na chyfeili­orn [...]ch oddiarni ar y llaw ddeheu na'r aswy, a gwna hynny yn daerach, oblegyd ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi. A chofia­dy wasnaethydd dyfal C. E.

Yr vn cyfarwyddyd ir anllythrennog i ddys­cu darllain Cymraeg, ac a breintwyd yn Hanes y ffydd.

  • Y llythy­rennau. sengl. a b c d e f g h i l m n o p r s t u y.
  • Y llythy­rennau. dyblyg. ch dd ff ll ng ph th w.

A B C Ch D Dd E F Ff G H I L Ll M N Ng O P Ph R S T Th V W Y.

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n ng o p ph r s t th u w y.

A B C Ch D Dd E F Ff G H I L Ll M N Ng O P Ph R S T Th V W Y.

Cynefin yn y Saesonaec yw'r ddwy ly­thyren yma, sef XZ. craffwn arnynt er mwyn darllen y bibl. Ond afraid fyddai eu benthyccio, ped arferid CS yn lle'r gyn­taf, ac S fain-Sain yn lle'r ail.

Y bogeiliaid, a e i o u w y.

Cydseiniaid y gelwir y lleill eu gyd. Un bogail ac un gydsain neu angwaneg, oi ha­drodd ar unwaith, a wnant Sylaft, fal hyn, ab eb ib ob ub wb yb. Ac ec ic oc uc wc yc. Ach ech ich. Ad ed id od ud wd yd. Add edd idd odd udd wdd ydd. Af ef iff off wff yff. Ag eg ig og wg yg. Ah eh: il ol wll yll. Am em im: on un wn yn. Ang eng ing. Op up wp yp. Ap eph. Ir or: us ws ys. At et it: oth uth wth yth.

Ba be bi bo bu bw by. Ca ce ci: do du dw dy. Dda dde: fi fo fu ffw ffy. Ga ge: hi ho, lu lw. My, na ne, pi po phu, tw ty. Sa se: ti to thu thw thy.

Y geiriau byrraf o un sylaft y maent, megis byd, tad. Y geiriau hwyaf a wneir wrth adrodd amryw sylaftau ar un anadl, megis dar-llen, edifar-ha, creda.

Cyssylltiad o amryw eiriau mewn syn­wyr yw adroddiad. Yy hyn fel y byddo iti ei ddarllen yn ddeallus, rhaid iti lywo­draeth [...]dy leferydd wrth y rheolau hyn, Sef yw hynny, os bydd y nod hwn (?) yn calyn ymadrodd, darllen ef ar Sain [Page 478]ymofyn. Os hwn (,) neu hwn (:) gwybydd na orphenwyd mor ymadrodd; eithr bod ychwaneg perthynawl iddo yn ôl. Ond pan welech hwn (.) attal dy leferydd, am ddyfod hynny o ddywedi­ad ir pen. A phan welech eiriau wedi cau arnynt ymlaen ag yn ol (fal hyn) ymsang mewn rheswm ydynt: a chyssyllta yn dy ddeall, y pethau o'r blaen, ac o'r ol, megis na buasai ddim arall yn taro rhyngthynt. A llefara y sylaft yn hirllaes a syddo a'r nod hwn ( ) vwch ei ben. A phan f [...] bogeiliaid yn diweddu'r naill air, ac yn de­chreu'r llall, torrir ymmaith vn o honynt, i ochelyd drygsain, a bydd y nod hwn (') uwchben ei lle.

Nodau rhifyddiaeth. 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9, 10, 11, 12, 13, 14, 15, 16, 17, 18, 19, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26, 27, 28, 29, 30, 31, 32, 33, 34, 35, 36, 37, 38, 39, 40, 41, 42, 43, 44, 45, 46, 47, 48, 49, 50, 51, 52, 53, 54, 55, 56, 57, 58, 59, 60, 61, 62, 63, 64, 65, 66, 67, 68, 69, 70, 71, 72, 73, 74, 75, 76, 77, 78, 79, 80, 81, 82, 83, 84, 85, 86, 87, 88, 89, 90, 91, 92, 93, 94, 95, 96, 97, 98, 99, 100, 101, 102, 103, 104, 110, 111, 112, 119, 120, 140, 150, 160. &c. Arferir yn y bibl y nodau hyn i ddan­gos [Page]rhifedi'r pennodau. I. II. III. IV. V. VI. VII. VIII. IX. X. XI. XII. XIII. XIV. XV. XVI. XVII. XVIII. XIX. XX. XXI. XXII. XXIII. XXX. XXXV. XXXIX. XL. XLI. L Dêg a deugain. LX triugain. XC pedwar ugain a dêg. C cant. CX cant a dêg.

Pan gyffyrddech a ffigurau sy'n dan­gos oed y byd neu oedran yr Arglwydd, neu ryw rifon eraill, gwybydd os bydd pedwar o honynt ynghyd, fod y nesaf at dy law ddehau di yn arwyddoccau u­nau, a'r ail ddegau, ar trydydd gan­toedd, ar pedwerydd filoedd, megis yn rhifedi y flwyddyn hon, 1682: Y nesaf ar dy law ddeheu di, yw dau, a'r nesaf atto yntef yw Wyth o ddegau, sef pedwar vgain, a'r nesaf ar hwnw yw chwechant, a'r olaf yw vn mîl. Wedi bwrw yn ôl tyred eilwaith ym mlaen, a chei vn mîl, a chwechant, a phedwar vgain a dau.

Pregeth am Edifeirwch.

Luc. 13.5.

Nac oeddynt meddaf i chwi: Eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr vn modd.

EDifeirwch yw tristwch, a galar gwstadol yn y galon, a'r gydwybod oddifewn am bechod, ynghyd a ffydd, a gwellhad oddi mewn, ac oddi allan. Oddi mewn (medd­af) drwy newidio meddyliau, a nwydau'r galon; ac oddiallan drwy newidio y gei­riau, a'r gweithredoedd o ddrŵg i dda. Dymma'r edifeirwch yn ddiammeu oedd yn Nafydd; yr hwn pan g [...]ryddwyd ef yn gyfrwysgall gan y Prophwyd Nathan, drwy ddangos iddo ei bechodau o flaen ei ly­gaid, Ni safodd efe yn ystyfnig ar ei wâd, gan ymoryscwyddo a Duw, ac nid escu­sododd hwynt chwaith yn ddirgel drwy eu coluro, ond efe a lefodd yn chwerwder ei galon, Myfi a bechais; Ac ar hynny a wnaeth 51 Psalm; Psalm yn ddiau yn llawn gala [...] a thrymder, yn yr hwn y mae 'r Prophwyd yn cwynfan am ei bechodau [Page 481]ac yn ymofidio tros ei feiau, ac yn gweddio am galon newydd, ac yspryd newydd, meddyliau newyddion, nwydau newyddi­on, a bwriadau newyddion i wellhau ei fuchedd; felly yn Nafydd nyni a welwn fod tristwch, a gofid gwastadol (megis ym mhob man y dengys llyfr y Psalrnau, yr hwn ai gesyd ef yn amlwg megis yn ei lun ei hun) ie a d [...]wygiad mawr ar becho­dau oddi mewn, ac oddi allan.

Gwelwch ymma gan hynny beth yw edifeirwch. Felly S. Petr, wedi darfod iddo drwy wendid wadu ei Arglwydd ai feistr Crist, pan ei dwysbigwyd gan ei gydwy­bod ei hun, ac y destrowyd gan ddiaspod ceiliog yn canu, a aeth allan o lŷs Pilat, a chalon drom, gan wylo yn chwerwdost, ac byth yn ol hynny a gyffesodd Grist yn gef­nog, ie hyd angeu. Gwelwch gan hyn­ny pa beth yw edifeirwch.

Y Prophwydi yn yr hên destament, wrth gynghori yr Iddewon gwrthnyssig i edifarhau, a arferant fynychaf air yn ar­wyd locau yn yr Hebre-aec, trowch, neu ddychwelwch, a deuwch yn ol drachefn. Wrth yr hon drawsymddwyn neu gyffe­lybiaeth y deellir mai megis y mae yn rhaid ir dyn a gyfeiliorno ym-mhell all­an oi ffordd, ddychwelyd yn ol eilwaith ar hyd ei wrthol: felly y rhai a gyfeilior­nasant o ffordd dduwioldeb i ffordd pe­chod, [Page 482]rhaid iddynt ddychwelyd yn ol eil­waith cyn gynted ac yr aethent ymlaen, a newidio yn hollawl helynt ac ystod eu buchedd: Felly edifeirwch yw difrifol ddych­weliad ar Dduw a'r holl galon, enaid, a me­ddwl.

Joan Fedyddiwr, a'r Apostolion yn y Te­stament newydd, wrth annog i edifeirwch, a arferant Roeg air yn arwyddoccau ne­widio'r meddwl, neu cyfnewid fryd syn­hwyrol o'r diwedd; i arddangos fod y rhai a ddarfu iddynt ar y cyntaf trwy eu ffoledd, ac eisieu synwyr lithro i ddyfn-bwll, ac enbydus drochlyn pechod, pan ddelont i wybod oddiwrthynt eu h [...] ­n in, ac i gasclu eu synwyr ynghyd, yn synwyroli eilwaith, ac yn cymmeryd gofal [...]hag syrthio yno drachefn, yn ôl y ddi­hareb, Y plentyn a loscer ei sŷs a ochel rhag y rân.

Eithr bellach ar yr ail pwngc, ynghylch cynheddfau a ffrwth edifeirwch: vn rhin­wedd enwedigol o wir edifeirwch, yw dwyn ganddo bob amser faddeuant pe­chodau. Oblegid lle yr elo gwir edifeirwch o'r blaen, ni ddichon amgen na bo maddeu­ant pechodau yn canlyn: Nid o herwydd bod edifeirwch yn haeddu maddeuant pechodau, ond o herwydd lle y mae Duw yn gweithio edifeirwch, yno y mae efe yn maddeu pechodau oblegit ei addewid. [Page 483]Megis yn Act. 3.19. Edifarhewch, a dy­chwelwch fel y deleer eich pechodau. Ac Ezek. 18.27. Pan ddychwelo y drygionus o­ddiwrth ei ddrygioni a wnaeth efe, a gwneu­thur yr hyn fyddo cyfiawn ac vnion, efe a geidw ei enaid yn fyw. Ac eilchwel, Esa. 55.7. Ymwrthoded y drygionus ai ffyrdd, a'r anghyfiawn ai amcanion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a dosturia wrtho. Ac Act. 5.31. Hwn a dderchafodd Duw, i roddi edifeirwch a maddeuant pechodau i Israel. Felly nyni a welwn ymma i bwy y mae maddeuant pechodau, a thrugaredd Dduw yn perthyn: Sef ir pechaduriaid edifeiriol, i'r rhai a ymadawant â phechod, ac a gofleidiant yr hyn sydd dda, i'r rhai a ymadawant a'u ffyrdd eu hunain, ac a'u dychymmygion, ac a droant at yr Argl­wydd (sef, trwy ei Fab Jesu Ghrist.)

Prif-bennau athrawiaeth y llyfr hwn, a'r dalennau lle y ceir hwynt.

Ailanedigaeth yw'r môdd i gael gwa­rediad oddiwrth lygredigaeth na­tur. dal. 11 a'r rhai dilynawl.

Anwybodaeth o'r Yscrythyrau sydd bery­glus. dalen 367, a 368, a'r rhai dilynawl.

Arwyddion yn pennu 'r dŷn wedi ei ail­eni, a'i enaid mewn cyflwr iachusol dal 34 ac 258 ar dil.

Arwyddion o ddŷn a'i enaid mewn cyflwr enbydus. dal. 35.

Balchder yn ddrygionus dal. 37 a'r rhai dil. Cyfarwyddyd yn ei erbyn. dal. 55.

Barn gyffredin a fydd yn y diwedd. dal 398 a'r dil. y defnydd o'i athrawiaeth. dal. 407. a'r dil.

Barnedigaethau a dialeddau yn fynych yn digwydd yn y byd yma i bodloedd a theyrnasoedd, pan amlhao pechodau erchill yn eu plith, dal. 227 a'r dil. A rhagfynegiad o farnedigaeth a ddescy­nai ar y teyrnasoedd hyn. dal. 230 a'r dil. y môdd iw troi ymmaith. dal. 249 a'r dil.

Celwydd yn beryglus. dal. 167 a'r dil.

C [...]rist a'i ddoniau yn ymgynnig i'r gwir edifeiriol. dal. 224 a'r dil.

Cystuddiau plant Duw yn y bŷd hwn, a'r achosion o honynt. dal. 119 a'r dil.

Cybydd-dra yn ddrwg. dal. 73. a'r rhai dil. Meddiginiaeth rhagddo. dal. 107 a'r dil.

Edifeirwch, dal. 480 a'r rhai dilynawl.

Efengyl Christ a ddylai gael derbyniad, ei dirmygu sy beryglus. dal. 133 a'r dil.

Etholedigaeth, o Dduw y mae. dal. 324 a'r dil.

Gorthrymmu yn ddrygionus. dal. 199 a'r dil.

Gweddiau pobl Dduw yn attal dialeddau oddiwrth eu gwledydd dros ennyd. dal. 237 a'r dil.

Llygredigaeth natur, a'r trueni perthynol iddo. dal. 3 a'r dil.

Meddwdod a'i ddrygioni. dal. 180 a'r dil.

Pechod yn dwyn ffrwyth chwerw. dal. 388 a'r dil.

Pregethiad gair Duw yn rheidiol. dal. 379 a'r dil. a buddiol ei wrando. dal. 304 a'r dil.

Putteindra yn ffiaidd. dal. 59 a'r dil.

Rhwystrau yn lludias pobl i geisio iechy­dwriaeth. dal. 333. a'r dilynawl.

Rhyfyg a gau obaeth y drygionus. dal. 276 a'r dilynawl.

Segurud yn seius. dal. 187 a'r dil.

Siccrwydd o iechydwriaeth yn y byd yma i rai grasol. dal. 261 a'r dil.

Tyngu yn arferol sydd arwydd o ddamne­digaeth. dal. 153 a'r dil.

Ʋffern a'i phoenau. dal. 410 a'r dil.

Ychyd [...]g a fydd cadwedig. dal. 287. a'r dil.

Deongliad rhai geiriau yn y llyfr hwn a allant fod yn anhawdd eu deall mewn rhai mannau, yn enwedig yn neheubarth Cymru.

AChles, cyscod, amddiffyn. Adry­belydr, medrus, yn enwedig mewn arfau, a dry belydr, neu bladur. Adyn, truenus. amdo, amwisc. Amrafael, gwa­haniad. amrysus, cyfeiliornus. Anfad, an­fadynedd, drwg. Angerdd, llosg. anger­ddol, tanbaid. Anguriol, ofnadwy. An­hydyn, cyndyn. Anianol, naturiol. An­turio mentro. Areilio, edrych at dde­faid. ardreth, rhent. Arfod, tarawiad. Arswydo, ofni. Athrylith, tu [...]dd naturiol, a synwyr. Athrugar, ffiaidd, tosturus. Aruthr, mawr, rhyfeddol. Attegu, dai i fynu.

Bendant, Bendifaddeu, yn bennaf peth. Benffettur, bennaf ar fedr. Blys, hiraeth [Page 487]am beth. Buddiol, llesol. Budron, brwnt. Budrog, puttain. Bugeilrhês, chwareu. Braint, hawl. Brochi creuloni.

Catberth dyrysle. Cad, byddin, ymladdfa. Ced, cymwynas. Cellwair, ymddigrifo, iesto. Ceulo, tewychu. Cel­fyddyd, crefft. Cethin, ofnadŵy. Clôs, gwisc y morddwydydd, britshys. Ciw­dod, turfa. cilwg, digofaint. Copinod ys­bysrwydd. Cornwyd, chwarren. Chwa­rennau, cygneu, clapieu. Chwilenna, chwiwo, lledratta. Coluro, lliwio. Co­lereu, bondeu. Coryn, coppa. Costwyo ceryddu. Crybwyll, sôn. Croes, blinder. Cu, hoff, cariadus. Cut, twlc. Cribddei­lio, treisio golud. Crintach, cybydd. Cy­phyriau, defnyddiau physygwriaeth. Cur­rith, caled. Cyngrair cyttundeb. Cu­thruddo cyffroi. Cyfansoddi, cyssylltu. Cymerwr, tenant, deiliad. Cymmyr­redd, cyffwrdd. Cyllid, rhent. Cymme­droldeb, gweddeidd-dra wrth ymborthi. Cyfryngau, offerynnau, moddion. Cyd­synnio, cyttuno. Cyweithas, mwyn, cy­weithasrwydd, mwynder.

Distadlu, gwradwyddo. Dygymmod, cyttuno. Diwygio, adgyweirio. Dirnad, deall. Dygn, blin. Dybryd, anferth. Di­frawch, diofalwch. Diymmod, diysgog. Dwys trwm. dueg, y botten ludw. Dio­fryd, megis llŵ. dedryd, ferdyd. Dichlin, [Page 488]gofalus, dirwest, ympryd. Dilachr, diarbed, diofn. dihir, drwg. dyfalu, gwawdio, llysen­wi. Difrif, prudd. Dichwen, damwain. direi­di, twrn drwg. Dirio cymell, gwascu. Difrod, destryw. Diweirdeb, purdeb. Di­ddarbodus, esceulus. Denu tynnu, llithio. Dillin, disclair. Dynwared, tebygu. Dade­bru, adfywio. Dyfyn, wys.

Erchyll, gwrthun, ofnadwy. Ellyll, coblyn. Eheng, llydan, helaeth. Egnl, nerth, ymorchest. Eiriol, gweddio. Er­fyn deisyf. Escor, cael gwared. anescorol, nad aller cael ei wared.

Ffuantwyr, twyllwyr. Ffug, twyll.

Gefyn, rhwym, llyffether. Gerwin, garw. Gogan, anglod. Gorafun, gwa­hardd. Gweinidog, gwas: gwladeiddio, cywilyddio. Gweliau, briwiau, clwyfeu. Gormes, pryfed rheibus. gwrtheb, dywe­dyd yn erbyn. Gwrthnyssig, cyndy [...] Gosgedd, dull. Gresynol, tôst, anedwydd. Gwarrogaeth, ieuad, rheolaeth gaeth. Gwrthladd, gwrthwynebu. Gwarhau, dofi. Gosteg, ar gyhoedd. Gwrthun hagr.

Hawl, cwyn, pridolaeth. Haint, dolur, chwarren. Hamdden, amser, ennyd. hoedl enioes. Hynaws, hawdd, rhwydd. Hyf, eon. Hudol, iwgler. Hywir, siccr. Heinus, diriaid. Hygoel, credadwy, têg. Hybu, rhwystro. Hyffordd, rhwydd.

Llednais, gostyngedig, pwyllog. Lled­chwelan, ynfyd. Lliasu, lladd. lluddias, rhwystro, attal. Llysu, gwrthod.

Mantoli, pwyso i lawr. Methel, gwall. Medrusrwydd, gwybodaeth dda. Meithrin, magu, dugiad i fynu. Mellt, llyched. Mwy­do, gwlychu. Munudiau, amneidiau, ar­wyddion o feddwl wrth ymddygiad cor­phorol. Mur, wal. Murddunau amharus, gwelydd drylliog.

Nwydau, gwyniau, serch. Nawdd, ffa­for. Noddfa amddeffynfa.

Olrhain, dilyn ar ol arogl neu gerdde­diad, chwilio. Pendafadu, synnu, dottio.

Periglorion, gwyr eglwysig, peiriannau, offerynnau. Portreiadu, llunio, gosod all­an. Pryf copyn corryn. Pubyr, nerthol. Pwyntus, tew, cnawdig.

Rhagddarbodaeth, rhagddarparwch. Rhodres, ymffrost, golwg têg. Rhuso, cilio yn ol. Petruso, ammeu. dirus heb gilio. Rhwysc, llywodraeth, gwychder. Rhyfedd, gormodedd. Rhyferthwy, llif­ddwfr.

Siommedigaeth, twyll. Serthedd, geiri­au aflan. Sisial, sibrwd, dywedyd yn isel. Suo, canu i ddyhuddo dyn bychan. Scoe­wan, balch, dibris. Serfyll, sigledig. Swrn, bagad. Swydd-gyneddfau, galluoedd yr enaid.

Taith, siwrne. Talaith, ardal. Taran, trwst. Temmigo, pigo. terfysc, trwbl. Ton­nog, cyndyn, gwydyn, Trawstiau, tylatheu. Tremio, edrych. Trwyadl, parodol. Trec­cyn, offeryn. Traha, balchder, cam, di­ystyrwch. Tyccio, ffynnu, llesau. Teyrn­fradwriaeth, brâd yn erbyn v brenin. Trychineb, drwg ddigwydd.

Vrddasol, anrhydeddus.

Ymadferth, ymddiffyn. ynad, Justus. Ymddiheuro, ymlanhau oddiwrth fai. Yscilio, marchogaeth o flaen vn, gwthio o le. Ymsechu, ymbesgi. Yssu, llosci, difa. Ystrywgar, dichellgar. Ynghyfwng, ynghanol. Ystod cwrs. Ymodiad teim­lad.

Zêl, gwresogrwydd, awydd-fryd.

Y Mae'r awrhon Briflyfr Newydd wedi dyfod allan, yn cynwys Gwyddo­rion Ysprydol a Naturiol, gyd ag ysbysr­wydd o'r amser, a Ffeiriau Cymru, fel yr oedd yn y llyfr Plygain gynt, lw dyscu i'r ieuaingc, ac iw hystyried gan bawb.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.