Cyngor y Bugail iw Braidd.
SEF, Llythyr oddiwrth Eglwyswr, at ei BLWYFOLION; Yn Cynwys Annogaeth Ddifrifol IDDYNT, I ofalu am eu Heneidiau.
A Pharodtoad i'w cymhwyso i dderbyn Lleshad ac Adeiladaeth oddiwrth ei holl Athrawiaethau ef iddynt rhag llaw.
LLƲNDAIN, Argraphwyd gan J. B. i'r Awdwr. 1700.
GWYDDORION Penigol a Mân.
-
1. Rhufeinig.
A B C CH D DD E F FF G NG H I J K L LL M N O P PH Q R S T TH U V W X Y Z.
a b c ch d dd e f ff g ng h i j k l ll m n o p ph q r s s t th u v w x y z, &c.
Y Bogeiliaid. a e i o u w y.
-
2. Italic.
A B B CH D DD E F FF G NG H I J K L LL M N O P PH Q R S T TH U V W X Y Z.
a b c ch d dd e f ff g ng h i j k l ll m n o p ph q r s s t th u v w x y z, &c.
Y Bogeiliaid. a e i o u w y.
Annogaeth Ddifrifol Gweinidog iw Blwyfolion i Ofalu am eu Heneidiau.
DYmuniad fy Nghalon a'm gweddi ar Dduw trosoch, yw eich bod yn Gadwedig; ac mi a Ymegniaf byth yn ddiragrith, trwy bôb Moddion Cristnogol a fedrwyf feddwl am danynt, ar hyfforddio eich Iechydwriaeth. A chan nad oes llê i mi obeithio y gallaf, trwy Ddysceidiaeth, neu Argyhoeddiad neu Athrawiaeth mewn Cyfiawnder, annog y cyfryw ac na ddeallant mor werthfawr i'u Heneidiau yw, iddynt eu hymddwyn eu hunain yn gyfattebol i'r Hyfforddiadau a osodwyf o'u blaen er daioni i'r unrhyw; Yr wyf yn gweled yn anghenrhaid i mi osod ger eich bron gyfryw Ystyriaethau ac a'ch gwnelo yn wîr ystyriol o anrhaethadwy odidowgrwydd eich Eneidiau anfarwol, er mwyn eich cymhwyso i dderbyn mwy lleshâd oddiwrth fy Llafurau o hyn allan.
Nid wyf yn ammeu, nad ydych yn credu fôd gennych Eneidiau. Fy Swydd i yw eich cyffroi a'ch cynhyrfu i Ofalu yn ddifrifol am eu Dedwyddwch tragwyddol hwynt, y Gofal angenrheitiaf yn y byd: ac etro, 'r wyf yn ofni nad oes ond ychydig feddwl am dano: canys ped fae Dynnion yn gyffredinol yn meddwl am ofalu dros eu Heneidiau, ni byddai bosibl i'rhan fwyaf o'r byd fyw fal y maent; Ni threuliaent mo'u holl Ofal [Page 2] a'u Llafurau er darparu Cynhaliaeth i'w Cyrph darfodedig, a llwyr esgeuluso y rhan odidogcaf o honynt eu hunain, sêf eu Heneidiau.
Yn wîr pe byddau Ddynnion yn meirw megis Anifeiliaid yscrublaidd, a bôd cwbl ddiben o honom pan ddiwerthid ein Cyrph i'r pridd; ped fae'r bêdd yn terfynu ein hôll Obaith a'n Hofn, a ninnau yn ymchwelyd i'r Llwch o'r hwn i'n defnyddiwyd, i aros yn yr unrhyw hyd dragywyddoldeb; yna ni a allem Fwytta, ac Yfed, a chymmeryd ein digonoldeb o Felyswedd yn y byd hwn megis y mae gormod yn gwneuthur: Eithr os yw'r Enaid yn ôl ei ymadawiad o'r Corph yn myned yn ddiattreg i gyflwr newydd o Ddedwyddwch neu Drueni; Os oes Adgyfodiad i'r Cyfiawn, a'r Anghyfiawn, megis yn ddiamai y mae; os gerfydd rhoddi Cyfrif am bôb pêth a wnaethpwyd yn y cnawd pa un bynnag a fyddo ai Da, ai Drwg; os trefnir ein Cyflwr tragywyddol i ni mewn Gwynfyd, neu Boenau, yn ôl ein hymddygiad yn y Bywyd hwn, megis yn ddiamai y gwneir; yna mi a dybygwn fod yn anghenrhaid i bawb o honom edrych yn ddyfal o'n hamgylch, ni a ddylaem ddwys-ystyried pâ bêth y buom yn ei wneuthur, pâ fodd y treuliasom ein hamser hyd yn hyn; a mynnu gwybod i bâ Lê y mae'r Llwybryr'ym ni arno yn ein harwain ni; a phâ bêth a fydd ein Cyflwr tragywyddol.
Er mwyn eich annog a'ch cynhyrfu i osod eich Meddyliau ar yr Ystyriaethau pwysfawr hyn, y Ffordd oraf, a chyffelypaf, yn ôl fy nhyb i (trwy gynorthwy Rhâd Duw) yw dwyn ar ddeall i chwi anrhaethawl Werthfawrowgrwydd eich Eneidiau, mor llwyr anghenrhaid ac mor berthynol [Page 3] yw i chwi Ofalu am eu Dedwyddwch; y mawr berigl y maent ynddo o Syrthio i Golledigaeth dragywyddol; Rhagorol Ragddarbodaeth ein Grasusaf Dduw er mwyn eu Cadw a'u diogelu; ac mor gyfiawn y gall ef eu barnu i eithaf Trueni, os chwi yn ewyllysgar a esgeuluswch Ofalu am danynt.
Yn Gyntaf gan hynny, yr wyf yn deisyf arnoch ystyried anfeidrol Odidawgrwydd a Gwerthfawrhydi'r Enaid. Cofiwch mai Hiliogaeth Duw ydyw, gwedi deilliaw yn ebrwydd oddiwrtho êf, descyn o honaw o'r Nef, oddiwrth Dâd yr Ysprydion; Duw a ysprydoliaethodd Ddyn âg Anadl Einioes, a'r Dyn a wnaethpwyd yn Enaid byw; Gen. 2. 7. Duw a wnaeth Ddyn yn ôl ei Lun a'i Ddelw ei hùn, (nid yn ôl Dull yr ûn o'r Creaduriaid eraill) ychydig îs na'r Angylion, ac a'i coronodd â Gogoniant ac Anfarwoldeb. Hyn yw ein Rhagorfraint priodol goruwch holl Greaduriaid y byd yma isod, sêf ein bôd yn gyffelyb i'n Gwneuthurwr, yr hwn yw'r Hanfod Odidogcaf yn y byd. Yr Uchelfraint yma a berthyn i'r rhan Ysprydol ac Anfarwol honno, yr Enaid; o herwydd pâ ham mae'n rhaid i ni ddeall fôd Enaid Dyn yn Hanfod dragwerthfawr o ragorol Ardderchawgrwydd.
Ein Cyrph ydynt Dai o Bridd a'u Seiliau a Sylfaenwyd yn y Llwch. Ac er eu bod (megis y dywed y Psalmydd) wedi eu gweithredu a'u llunio yn brydferth, etto ni Chywreiniwyd hwynt mor gelfyddgar, ond er mwyn eu gwneuthur yn addas i wasanaethu'n Heneidiau, ac yn Bebyll cymmwys i groesafu y rhanau Anfarwol hynny iddynt i breswylio. Nyni a ddeallwn yn eglurach Odidawgrwydd [Page 4] yr Enaid os ystyriwn mor Werthfawr, ac Anrhydeddus ydyw yngolwg Duw y sawl (fel y mae ini achos i feddwl) sydd oreu yn deall Gwir-werth Eneidiau.
Y mae Duw, y Tâd, yn Ymhyfrydu'n ddirfawr gael ei alw a'i gyfrif yn Garwr Eneidiau; ac o blegid hynny, yn Myfyrrio er tragywyddoldeb pa fódd iw dwyn atto ei hûn: fe a luniodd, ac a drefnodd ei holl Gynghoriadau, a'i Amcannion er tragywyddoldeb er eu mwyn hwynt, ac iw gwneu'd hwy yn Ddedwydd dros byth.
Ni thybiodd y Tâd ddim yn rhy ddrúd a dreulid er eu hachub a'u cadw, o herwydd pâ ham pan ragwelodd efe nad arhôsem ni yn y cyflwr hwnnw o Ddiniweidrwydd, a Dedwyddwch ym hâ un i'n crëuwyd ni ar y cyntaf, efe a ddychymmygodd ffordd i'n gwneuthur yn addas-gyfrannogion o Ddedwyddwch arall, er tywallt Gwaed ei Fâb Anwyl ei hun yn yrachos. Diai na chymmerasei Dduw y fâth ofal am berhau Gwael; Na wnaethei yn ddiamai. Mae 'n Heneidiau yn Dragwerthfawr yn ei Olwg êf, gan ddarparu o honaw êf iddynt gyfryw anfeidrol Ddedwyddwch, ac na thy biodd ddim yn ormod i'w wneuthud er Sicrhau yr unrhyw Ddedwyddwch iddynt.
Drachefen, Pan deilyngodd Mab Duw gymmeryd arno ei hun eu gwaredu oddiwrth Gaethiwed pechod a Llywodraeth y Cythrael; yr oedd hynny yn llawn ddigon o achos ganddo i ddescyn o'r Nefoedd i gymmeryd arno Agwedd Gwâs, i'w Ddibrisio ei hun, i fyw'n Druenus ac i ddioddef poenau a Marwolaeth felldigedig o'u plegyd. A diamai, nad oedd Mynwes ei Dâd, a'i nefol Ogoniant ei hun yn bethau cyn Waeled yn ei Olwg, [Page 5] ac yr ymadawsei efe a hwynt am Goeg-bethau: Na feddyliwch chwithau gan hynny mai pethau gwael ydyw eich Eneidiau, pan ddarfu i Fâb Duw weled y talaent sarw er eu mwyn. Ni phrynnasei efe bethau Sâl yn y byd â chyfryw Brydwerth anfeidrol ag oedd ei werthfawr Einioes; Ie, efe ei hun a hyspysodd i ni y gwirionedd hwn mor Sicr a diamai nad aliwn ni na'i wadu na'i wrthnebu; Sef, nad yw Ennill yr holl Fyd yn ddigon o Daledigaeth am Golled un unig Enaid.
Ac y mae'r Yspryd Glàn beunydd yn llafurio yn ddiwyd er hyfforddio Iechydwriaeth Eneidiau; Fr eu mwyn hwynt, y darfu iddo Ef yn fynych ac mewn amryw foddion Ddatcuddio Ewyllys Duw i'r Byd, ac y Sicrhaodd yr unrhyw tryw gynnifer o Ryfeddodau; Er eu mwyn hwynt y mae ef beunydd yn ein rhagflaenu, ac yn ein cynnorthwyo a'i Radau; y mae ef yn ein hysprydoliaethu â Meddyliau da; yn cynneu ynom ddeisyfiadau Duwiol, yn gwresogi ein Tueddiadau oeredd; ac yn ennyn Duwioldeb yn ein Calonnau: y mae ef yn ein ffrwyno ac yn ein hattal oddiwrth Bechod, yn ein ceryddu, ac yn ein hargyhoeddi pan droseddom; y mae ef beunydd drwy deirion erfyniadau yn ymgrefu, ac yn ymbil â ni, fel y gallo os yw bossibl ein deffro i ystyried ein perygl, ein cynhyrfu, a'n prysyro i ddilyn y Llwybrau a'n harweiniant i ddiogelwch a Dedwyddfyd. Mor Werthfawr gan hynny yw ein Heneidiau pan ydynt yn haeddu yr holl ofal a'r drafferth y mae'r Gwynfydedig Yspryd yn eu cymmeryd er mwyn eu cadwedigaeth a'u dedwyddwch!
Yr Angylion da ydynt Ysprydion gwasanaethgar [Page 6] er daioni Eneidiau; y mae'nt yn Gwersyllu o'u hamgylch, ac ni thybiant yn Sâl eu swydd i noddi ac ymgyfeilliach â hwynt, y mae'nt beunydd yn parod-ddisgwyl i dderbyn Eneidiau Dynnion Da, pan ymadawont a'r Cyrph; y mae'nt yn gorfoleddu o herwydd Ymchweliad Eneidiau; yr hyn sydd Siccr Arwydd o'u bôd yn eu hoffi yn ddirfawr.
Y Cythreuliaid hefyd a wyddant nad oes dim mor werthfawr yngolwg y Nêf ac yw Eneidiau dynion; ac o herwydd hynny, y mae'nt hyd eithaf eu gallu yn ceisio eu hudo, a'u dinistrio, fal y dangosont wrth hynny eu hechryslonaf ddryganiaeth, a'u cynddeiriogcaf falais yn erbyn Duw. Cenfigennus ydynt o blegid y Dedwyddwch y mae Dynion yn addas i'w dderbyn, ac o herwydd hynny y gwnânt eu gwaethaf er eu difetha, ac a orfoleddant pan gyflawnont eu bwriadau.
Chwi a welwch bellach, fôd yr Enaid yn Dragwerthfawr. Pa faint o ddyled gan hynny sydd arnoch i ofalu am dano? pa Wallsynwyr, ac ynfydrwydd yw i chwi dreulio eich holl ofalon a'ch myfyrdodau, eich holl lafur a'ch amser yn darparu i'r corph, ac esgeuluso y rhan Werthfawr anfarwol honno o'r eiddoch, sef yr Enaid, megis pêth na haeddai ddal sulw arno neu edrych atto! Yn enwedig os ystyriwch.
Yn Ail, Mai colled yr Enaid yw'r anhawsaf ei dioddef o'r holl golledion; Canys yn wir fe ellir colli'r Enaid, nid o herwydd y diddymmir, neu y paid efe a bôd, (da a fyddei i ddynion drygionus pê bae'r pêth felly) ond fe eill fôd yn gyfrgoll, yn annedwydd, ac yn druan, ac felly yn golleidg yn Dragywydd; fe ellir ei ddifeddiannu [Page 7] o'r Nefoedd honno o Dded wyddwch a ddarparodd Duw iddo; o'i fwynhànt Ef, Ger bron yr hwn y mae digonolrwydd Gorfoledd, ac ar Ddeheulaw yr hwn y mae llawenydd yn dragwydd: Ac nid hynny yw'r cwbl ychwaith; fe a ddichon yr Enaid nid yn unig golli anfesuredig, a diddiben wynfyd, ond hefyd Syrthio a syddo i ddyfnder eithaf Anobaith, a Thrueni, fe ellir ei draddodi a'i ddarostwng i ruthrau cynddeiriog-wyllt Cythreuliaid ac Ysprydion Cythreulig, a'i swrw i felldigedig Gyfeillach y creaduriaid annedwydd 'rheini a breswyliant, llê nid oes dim ond llíd, cenfigen, malais, a chynddaredd; a lle ni bydd byth na llawenydd, na heddwch, na chariad.
Mae'r Yspryd Glân yn datcan Trueni y cyflwr ofnadwy hwn, a'r cyfryw ymmadroddion ac a arwyddoccànt y Dychrynnedigaethau gerwinaf a'r poenau echryslonaf; megis ffrwd o dán a brwmstan, Tân tragywyddol, Pryf ansarwol, Tân anniffodadwy, &c.
Dyma'r cyflwr Dychrynadwy i'r hwn y bwrir Eneidiau, a Chyrph yr Annuwolion i'w cospi yn Dragywydd; lle y bydd rhaid iddynt ddioddef ddydd a nôs yn ddidorr, ac yn ddiorphwys. O gyflwr Ofnadwy! a hyn hefyd i ychwanegu dirdra eu poenau sef eu bôd heb derfyn na diben yn dragywydd: Fe fyddai ryw gyssyr i'r Eneidiau truain hynny ped fae iddynt ryw obaith o ymwared, eithr y mae hyn yn Dirfawr-chwerwi eu hanguriol Boenau, sef meddwl am barhâd Diddiben y Poenau i ddyfod, Gwedi eu cospi a'u cystuddio tros Fyrdd Myrddiwn o oesoedd yn Uffern, fôd iddynt drachefen Uffern dragywyddol o'u hol, a'u bô'd cyn belled oddiwrth ddiben eu Trueni ag yr oeddynt yr awr gyntaf y dechreuodd [Page 8] Mae hyn yn ddigon er suddo'r Adyn annedwydd i eithaf anobaith Anesgorol.
Yr ydym mewn mawr berygl o syrthio i'r cyflwr hwn; a pha fôdd y daethom i fôd felly, yw'r pêth nesaf a erfyniaf arnoch ei ystyried, a'ch ymddywn eich hunain yn gyfattebol i'r Ystyriaeth hon.
Yn Drydydd. Gan bynny ystyriwch y mawr berygl y mae eich Eneidiau ynddo o herwydd pechod. ‘Duw a greodd y Dyn cyntaf Adda yn ddibechod, ac a gynny sgaeddodd ei Enaid êf â chy flawn wybodaeth o'i ddyled-swydd, ac a chyfryw rym a nerth ac a gallasei, pe mynnasei gyflawni yr hyn oll a orchmynasid iddo: Gwedi ei grëu ef fal hyn, efe a wnaeth Gyfammod neu gyttundeb ag ef ar y perwyl yma; os arhosei êfe mewn ufudddod i Dduw heb bechu; yna, yn gyntaf perffaith rym yr Enaid (âr hwn yr oedd efe y pryd hynny yn gynny sgaeddol) a Siccrheid iddo ef yn wastadol; Ac yn ail ni byddei efe byth marw; eithr efe a gae aros mewn cyflwr o ddedwyddwch yn dragywyddol. Ond o'r tu arall os troseddai ac anufuddhae efe i Dduw, yna y collae efe a'i holl heppil ar ei ôl, yr Wybodaeth a'r Grym perffaith hynny y rhai a'i cynnorthwyant i gyflawni yr hyn oll yr oedd Duw yn ei ofyn ganddo; Ac yn ail, y gwneid ef yn ddarostyngedig iFarwolaeth; ac nid hynny yn unig, ond hefyd i ddamnedigaeth Dragywyddol yn Uffern.’
‘Dyma'r Cyttundeb a wnaethpwyd ag Adda, a holl ddynol ryw ynddo ef, (yr hwn a elwir yn gyffredinoly Cyfammod cyntaf:) ac ar hyn fe a roddes Duw i Adda Orchymmyn arbennig, [Page 9] yr hwn nid oedd ddim ychwaneg na hyn; sef ymgadw o honaw rhag Bwytta o un pren (yn unig) o'r Ardd, yr hon y gosodasid ef ynddi. Ond y dyn trwy hydoliaeth y Cythrael a fwyttaodd o'r pren hwnnw, ac a dorrodd orchymmyn Duw, ac felly a dynnodd y Felldith gyntaf honno ar ei Ben ei Hun a'i holl Hiliogaeth, ac felly hefyd trwy'r un pechod hwnnw efe a gollodd y gyflawn wybodaeth o'i Ddyledswydd a'r gallu iw chyflawni, oedd gantho ar y cyntaf. A ninneu gan ein bôd yn Hanfod o'i Lwynau ef, a chwedi ein geni ynghyffely biaeth ei Ddelw ef, ydym gyfranogion o'r un Golled; ac felly a wnaethpwyd yn anneallgar i ddirnad yr hyn a ddylaem ei wneuthur ac yn weiniad ac yn ddigynnorthwy i'w gyflawni; yr ym yn wrthnysig i wneuthur daioni, yn dueddol ac yn barod i bôb Drygioni; megis Cyllau clwyfus y rhai a ffieiddiant bôb lluniaeth iachus, ac a flyfiant y cyfryw Sothach afiach, ac a wasanaethant i faethu,neu gynnyddu'r Dolur.’
Dyma ffynnon, a dechreuad, ein holl Drueni, ac oddiwrth hyn y mae'n digwydd ein bôd yr awr hon, mewn perygl aneirif Brofedigaethau oddiwrth y Byd a'r Cythrael a'n Nhaturiaeth lygredig ein hunain; yr ym barod, ac yn dueddol i wrando arnynt hwy, ac i bechu yn erbyn ein Gwneuthurwr; ac felly mewn gwastadol berygl o Syrthio i'r Cyflwr gresynol hwnnw am yr hwn y crybwyllais uchod. A hyn, yr wyf yn gobeithio, sydd yr awr-hon yn ddigon i ddwyn ar ddeall i chwi fod eich Eneidiau mewn Cyflwr enbydus. Ond etto fel na esgeulusoch hwynt megis pethau heb ddim gobaith o honynt; eithr [Page 10] yn hytrach y cymeroch galon i ymosod o ddifrif i ofalu am danynt; Ystyriwch,
Yn Bedwerydd, Ragorol ragddarbodaeth a rhyfeddol Drugaredd Dduw yn darparu moddau iw rhyddhau a'u gwaredu o'r peryglon rhain; a phâ beth a osynnir gennym ninnau er cyfatteb i'r ddirfawr Drugaredd hon. Hyn a wnaeth Duw trwy roddi i ni ei Fab, a gwneuthur ail Gyfammod â nyni ynddo êf, wedi i ni droseddu'r cyntaf.
‘ Efe a roddes i ni ei Fab megis Pentywysog ein Hiechydwriaeth i'n prynnu a'n gwaredu odditan reolaeth a llywodraeth Satan; y Gwrth-ryfelwr mawr hwnnw yn erbyn Duw▪ canys wedi i Ddiafol wneu'd i ni ymadel oddiwrth Dduw drwy bechod, efe a'n caethgludai wrth ei ewyllys, gan gymmell cynnifer, ac a eill eu dal tan ei Faner, i ymladd yn erbyn eu Gwneuthurwr: Ond Duw, meddaf, a roddes i ni ei Fab i'n gwaredu a'n hadferu allan o'r cyfryw gyflwr ofnadwy o bechod, gwrthry felgarwch a thrueni.’
‘A hyn a wnaeth efe trwy wneuthur ail Gyfammod â ni yn ei Fâb, gwedi torri o honom y Cyntaf, hynny yw trwy gynnig i ni ammodau grasusol o Gymmod er ei fwyn a thrwyddo êf, yr hwn yw ein cadarn Gyfryngwr a'n Gwaredwr. A thrwy wneuthur bodlondeb i gyfiawnder Duw nid yn unig am droseddiad y Cyfammod Cyntaf ond hefyd am bechodau pawb a wîr edifarhaont am eu Camweddau tan yr Ail.’
‘Yr ail Cyfammod hwn a wnaethpwyd ag Adda, ac a ninnau ynddo ef, yn ebrwydd ar ôl ei Gwymp, ac a gynhwysir yn grynno yn y geiriau hyn, Gen. 3. 15. Lle y mae Duw yn addaw Yrysigei Hâdy Wraig Ben y Sarph; a hwn, megis y cyntaf, oedd yn cynwys ynddo rai Trugareddau [Page 11] a ganniatteid i ni gan Dduw, a rhai Dyledswyddau iw cyflawni ar ein rhan ninneu.’
‘Y mae Duw yn y Cyfammod hwn, yn addaw anfon i'r byd ei unig Fab, yr hwn sydd Dduw gogyfuwch ag êf ei hun, iw wneuthur yn Ddyn cyffelyb i ni ym hôb pêth ond pechod yn unig, ac i wneuthur trosom ni yr amryw bethau hyn.’
‘Yn gyntaf, I hyspysu i ni holl ewyllys ei Dad, trwy gyflawni pâ un y byddwn siccr o fod yn gymmeradwy, ac o gael ein gwobrwyo ganddo. A dyma un rhan o'i wasanaeth ef, yr hon a gyflawnodd ef, yn yr amryw Bregethau, yr Athrawiaethau, a'r Cynghorion hynny a osodir ar lawr yn yr Efengyl. Ac oblegyd hyn y mae efe yn Brophwyd i ni, gan mai Swydd Prophwyd gynt ydoedd, nid yn unig rhagddywedyd pethau i ddyfod, ond athrawiaethu hefyd: ein Dyledswydd ni o ran hynny yw dyfal wrando arno, bôd yn gwbl-barod ac yn awyddys i ddyscu ewyliys Duw gan iddo ef ddescyn o'r Nêf i'w ddadcuddio i ni.’
‘Yr ail pêth yr oedd efe i'w wneuthur erom ni, oedd bodloni Duw am ein pechodau, nid yn unig am bechod Adda; ond hefyd am holl bechodau dynol ryw a wir edifarhaont ac a wellhaont eu bucheddau; ac felly pwrcasu i ni faddeuant pechodau, fafr Duw, ac ymwared oddiwrth Uffern ac oddiwrth Farnedigaeth Dragwyddol, yr hyn oedd y Gospedigaeth ddyledys am ein Hanwireddan; hyn oll a wnaeth ef erom ni, trwy ei Farwolaeth: Efe a'i hoffrymmodd ei hun, yn Aberth tros Bechodau pawb, a ddwys-edifarhao o'u plegid ac a lwyr-ymadawo â hwynt. Ac o herwydd hyn y mae efe yn Offeiriad i ni, o blegid Swydd Offeiriad oedd, Aberthu tros bechodau'r Bobl. Ein d'ledswydd ni o'r achos yma yw, yn gyntaf, gwir-ddifrifol edifarhau o herwydd ein pechodau, ac ymwrthod a hwynt, heb yr hyn ni chawn byth faddeuant am danynt er darfod i Grïst farw. Yn Ail, credu yn ddiysgog, os gwnawn ni hynny, y derbynniwn holl leshâd a ffrwyth ei Aberth ef, y maddeuir i ni ein holl Bechodau er maint ac amled fyddont; ac y gwaredir ni rhag y Cospedigaethau Tragywyddol, oedd ddyledus i ni o'u plegid. Rhan arall o swydd Offeiriad oedd, Bendithio'r Bobl a Gweddio trostynt; hyn hefyd a gyflawna Christ erom ni. Ei Genadwri enwedigol ef oddiwrth ei Dâd oedd i'n bendithio ni, megis y dywed St. Pedr i ni Act 3. 26. Ansonodd Duw ei Fâb Iesu i'h bendithio; A'r geiriau a ganlynant ydynt yn dangos Sylwedd y Fendith honno, sef drwy droi pôb un o honoch ymaith oddiwrth eich drygioni; Ni a ddylem gyfrif y m [...]ddion hynny a arferodd ef [Page 12] i'n troi oddiwrth ein pechodau; yn fwyaf o'i holl Fendithion ef. Ac am y rhan arall o'i Swydd, sef Gweddie, efe a wnaeth hynny nid yn unig ar y Ddaiar, ond y mae ef etto yn dyfalbarhau, i wneuthur yr un peth yn y Nef: Y mae ef yn eistedd ar ddeheulaw Duw ac yn erfyn trosom ni. Rhuf. 8. 34. Ein d'led ni gan hynny yw; gochel gwrthwynebu ei Fendith anrhaethadwy hon, a bod yn ewyllysgar igael fal hyn ein bendithio, trwy ein hymchwelvd oddiwrth ein pechodau; a gwilio dirymmu a difuddio ei Weddiau a'i Gyfryngiadau trosom ni, canys ni thycciant ddim er lleshâd i ni, trâ yr arhosom ni yn ein Camweddau.’
‘Y Trydydd peth yr oedd Christ iw wneuthur erom, oedd ein cynnorthwyo, neu roddi nerth i ni, i wneuthur yr hyn y maeDuw yn ei orchymmyn i ni. Hyn y mae ef yn ei wneuthur; Yn gyntaf, trwy esmwythau caethder a chaled wch y Gyfraith, a roddwyd i Adda; yr hon a waharddai hyd yn oed y pechod lleiaf tan boen Damnedigaeth: a chan ofyn gennym, yn unig, gydwybodus, ddiragrith ymegniad, i wneuthur yr hyn a allom, a chan dderbyn diffuant edifeirwch lle y digwyddo i ni fod yn ddiffygiol. Yn Ail, trwy anfon ei Yspryd Glân'i'n Calonnau i'n llywiaw a'n rheoli, i roddi nerth i ni, i wrthlâdd profedigaethau i Bechu, ac i gyflawni yr hyn oll sydd ddyledus arnom yr awr-hon tan yr Efengyl. Ac o blegid hyn y mae ef yn Frenin i ni, o herwydd swydd Brenin yw Llywodraethu a Rheoli; a gorchfygu Gelynion. Ein dyled ni gan hynny yw, ymroddi i fôd yn Ddeiliaid ufudd iddo ef, i'n llywodraethu a'n rheoli ganddo, gwilied taro ym hlaid nêb-rhyw Wrthryfelwr, hynny yw, gochel llochi neb-rhyw bechod; eithr gweddio yn ddyfal am ei Rad ef, i'n nherthu i orchfygu'r cwbl, ac yna cymmeryd gofal am iawn-arferu ei Râd i'r perwyl hwnnw.’
‘Yn Ddiweddaf, Fe a bwrcasodd i'r sawl oll yn ffyddlon a ufuddhânt iddo, Etifeddiaeth dragywyddol ogoneddus, sêf Teyrnas Nefoedd; lle yr aeth ef o'n blaen i gymmeryd meddiant trosom ni. Ein d'ledswydd ni gan hynny yw, gwilied yn ofalus na chollom ein hawl ynddi. A diammen y collwn, os arhoswn yn ddiedifeiriol mewn neb-rhyw bechod. Yn Ail, Gochel Sefydlu ein Deisyfiadau ar y byd hwn, either eu derchafu tuag i fynu yn ol cyngor yr Apostol, Col. 3. 2. Rhoddwch eich serch a'r bethau sydd uchod, nid ar bethau ar y Ddaiar, gan hiraethu yn wastadol, am ddysod i feddiannu'n Hetifeddiaeth wynsydedig honne, sydd yn perthyn ini; mewn cyffelybiaeth [Page 13] i ba un ni ddylaem edrych ar y pethau yma isod, ond megis Sorod gwael, a sothach dielw.’
‘Hyn yw sylwedd yr ail Cyfammod, tan yr hwn yr ydym ni yr awr-hon; lle y gwelwch pâ bethau a wnaeth Christ, pa fodd y gwasanaetha ef y Tair Swydd uchel hynny, sef Swyddau Brenin, Offeiriad a Phropbwyd; a pheth hefyd a ddisgwilir ar ein rhann ninnau, yr hyn oni chyflawnwn yn ffyddlon, ni bydd y cwbl oll a wnaeth ef, ond anfuddiol a diles i ni; canys ni bydd ef byth yn Offeiriad i achub neb, ond y sawl a'i cymerant ef yn gystal yn Brophwyd iw hathrawiaethu, ac yn Frenin iw rheoli: nag ê, os esgeuluswn ni ein rhan o'r Cysammod hwn, fe a fydd ein cyflwr etto yn waeth, na phe buasei erioed heb ei wneuthur; canys fe a fydd rhaid i ni atteb nid yn unig am droseddu Cyfraith, megis yn y Cyfammod cyntaf, ond hefyd am gamarfer Trugaredd, yr hwn o'r holl bechodau yw'r cyffelypaf i annog Duw i ddirfawr Ddigofaint; O'r tu arall os cyflawn wn ni ein rhan yn ffyddion, hynny yw, os ymrown yn ddiragrithi ufuddhau i holl Orchmynnion Chrîst, heb fyned ymlaen yn ewyllysgar mewn unrhyw Bechod, ond galaru oblegid ein Camweddau, a chashau pôb un y buom euog o honaw o'r blaen; yna yn ddiammeu mae Lleshadau a Donniau Chrîst a grybwyllwyd yn perthyni ni. Chwi a welwch bellach leied achos syddichwi esgeuluso gofalu am eich Eneidiau, gan feddwl eu bôd mewn cyflwr diobaith, canys y mae'n eglur nad ydynt; nag e, maent yn ddiammeu yn yr unig gysiwr hwnnw, yr hwn yn anad un, sydd yn en gwneuthur gymhwysaf i ofalu am danynt. Pe buasei Grîst heb eu Prynnu hwynt, ni buasei mor gobaith o honynt, ac o herwydd hynny ni buasei ond gwaith ofer i ni edrych attynt: O'r tu arall, pe buasei'r Prynnedigaeth hwnnw, yn gyfryw agy cowsai Bawb fôd yn gadwedig trwyddo, er iddynt fyw yn ôl eu hewyllys eu hunain; ni a dybiasem na buasei ond afreidiol i ni gymmeryd gofal gyda hwynt, canys hwy a fuasent ddiogel heb hynny. Ond felly y rhyngodd bodd gan Dduw drefnu, mai'n gofalon ni a fyddau'r moddion, tryw bâ rai y derbynniau 'n Heneidiau leshâd, oddiwrth yr hyn oll a wnaeth Chrîst erddynt.’
Yn awr, os dwys ystyriwch y pethau hyn yn eich Calonnau; Yna Eich Rheswm, a'ch Budd hefyd, a'ch hyfforddiant, pâ fodd i'ch ymddwyn eich hunain. Mi a dybygwn sy môd yn clywed ymbell un o honoch megis Rhai a ddwys-bigid ac a gynhyrfid wrth synnied y pethau hyn gan ofalu yn ddifrifol a thosturio wrth eu Heneidiau, yn llefain yn grôch gyda gwrandawyr St. Petr, Pa beth a wnawn er bod yn gadwedig. Och Dduw! na bae [Page 14] bôb Dyn yn ymgynghori fel hyn ag ef ei hun! Yr hyn onis gwnânt; y mae'n arwydd rhy siccr o'u bôd yn credu, naill ai nad oes ganddynt Eneidiau anfarwol, ai bôd yn amhosibl, iddynt byth dramgwyddo.
Rhowch gennad i mi, fy Nghymmydogion anwyl i ymresymmu ychydig â chwychwiar yr achos yma, fel y gallwyf eich cynhyrfu a'ch annog, i gymmeryd gofal am eich Eneidiau. A wnaethpwyd hwynt yn ol Delw a Chyffelybiaeth Duw? Pa ham gan hynny y gadewch iddynt ymffurfio yn ôl Eulun Satan? A ragddarparodd Duw Nefoedd o Ddedwyddwch iddynt? Pa ham y byddwch mor greulon, ac mor anghyfiawn wrthynt; a'u taflu hwynt i annioddefiadwy Fwrnau Uffern? Gan i Dduw, y Tâd eu prisio cyn uched a datcan ei ddirfawr ofal am danynt: Pa ham yr esgeuluswch, ac y dibrisiwch chwi hwynt; megis pethau ni thalant ddim? ie, ni thybiai Duw y Mâb ei Waed ei hun, yn ormod taledigaeth am danynt; Pa-ham y chwenychwch chwi eu gwerthu hwynt am ofer-Wagedd y Byd hwn. Gan fôd Duw, yr Yspryd Glân beunydd yn llafurio er eu cadwedigaeth; Bêth sydd yn peri i chwi feddwl mai prin yr haeddant y lleiaf o'ch gofalon? Gan fôd yr Angylion bendigedig yn Weinidogion gwasanaethgar iddynt; Pa ham y difwynwch chwi ac y rhwystrwch eu holl ymegnion, a ymcenir er daioni i chwi? Gan eu bôd yn gorfoleddu, o herwydd Ymchweliad a Thröedigaeth Eneidiau; Paham y gommeddwch iddynt yr achos yma ô lawenydd, pan yw'r bydd a'r lleshâd mwyaf, yn digwydd i chwi eich hunain? Pâham y ceisiwch fodloni ein Gelyn ni oll, y Cythrael, cyn belled, a gadel iddo wradwyddo a diddymmu grasusol Amcannion Duw tuag attom? Oh! pâ fôdd y mae Pobl mor anystyriol ac mor ddigydwybod, ac edrych a eu Heneidiau yn syrthio i golledigaeth dragywyddol; heb unwaith dosturio wrthynt? pâ fôdd y mae'nt yn treulio eu hamser o ddydd i ddydd, heb unwaith geisio, ie, heb gymmaint a chynnig eu hachub.
Ystyriwch y bydd rhaid i chwi gael maddeuant, nid yn unig am bechod cynhwynol eich Rhieni cyntaf, ond hefyd am aneirif ô bechodau gwneuthurol, a wnaethoch chwi eich hunain, a hynny ondodid yn erbyn goleuni eich Cydwybodau, yn erbyn datcuddiedig orchymmynion Duw, yn erbyn cyhoeddiadau'r Yspryd Glân; yn erbyn mynych Rybuddiadau a Chynghorrion gan eraill, yn erbyn amryw Addunedau a Llawnfwriadau o'r eiddoch eich hunain. Dyma achwynion trymmion, digon er suddo Enaid i'r Pwll Diwaelod; Ond etto y mae gobaith; mae ymwared iw gael i'r cyfryw Bechaduriaid hefyd, os hwy a edifarhânt [Page 15] ac a ymchwel ant oddiwrth eu Pechodau, ac a ymroant yn ddiragrith i fod yn ufudd i Gyfreithiau a Deddfau Duw. Os cymmerant yr Arglwydd Iesu yn Frenin, yn Offeiriad ac yn Brophwyd iddynt, Duw er ei fwyn ef a'u derbyn nhwythau; Cofiwch nad â phethau llygredig megis Arian neu Aur i'ch prynnwyd eithr a gwerthfawr Waed Chrîst megis Oen difeus a difrycheulyd, 1 Pet. 1. 18. 19. Dyma'r prydwerth Eneidiau a ofynnodd Duw, ac os gwrthodwch hwn, ni chymmer ef yr un arall. A Duw a farna eich bôd yn ei wrthod, oni chymmerwch ef dan yr ammodau y mae ef ei hûn yn eu cynnig; oni ymrowch yn hollawl i Ghrîst, i'ch hyfforddio a'ch llywodraethu, yn gystal ac i'ch achub chwi; yr ydych yn ymwrthod a'ch cyfran ac a'ch hawl yn ei Waed êf; ac megis yn cyhoedd-ddatcan na byddwch chwi rwymmedig iddo: Ac yna yn ddiammeu, nid ellwch achwyn fôd Duw yn Anrhugarog, os deil efe chwi ar eich geiriau: os efe a gymmer y fforffeid, ac a euog-farna y sawl ni fynnant eu cadw ganddo. Addewidion, a Bygythion'r Efengyl, a'r holl Foddion eraill, a arferodd Duw er gwellhau, ac adgyweirio Pechaduriaid; a'u galw i Edifeirwch, ydynt Arwyddion o'i ddaioni a'i gariad ef tuag attom, ac o'i ofal am ein Dedwyddwch; ac os parhawn ni yn wastadol iw gwrthod, ac iw dibrisio, Oh! mor gyfion ac mor echryslon a fydd ein Damnedigaeth! A gymmerodd ef ofal anfeidrol er gosod rhwymedigaeth arnoch chwii fôd yn garedig i chwi eich hunain, ac i ffyddlon-geisio eich gwîr Ddedwyddwch, ac a wrthodwch chwithau er hynny y Trugareddau a berthynant i chwi? Os ceisiwch fel hyn yn ewyllysgar eich difetha eich hunain, mor gyfiawn y gall Duw dywallt arnoch eithaf creulondeb ei Gospedigaethau!
Gadewch i mi gan hynny ddeisyf arnoch, er mwyn pôb pêth sydd Sanctaidd, a Phwysfawr, er mwyn pôb peth sydd Anwyl a Gwerthfawr gennych, er mwyn goreuon eich Gobaith, er mwyn eich Cyflwr a'ch Tynghedfen dragywyddol, tosturiwch wrth eich Eneidiau truain: ystyriwch y Peryglon y mae'nt ynddynt, ymgynghorwch ynghylch y Moddion i'w Hachub, a bydded eich Ymarweddiad yn gyfattebol iddynt.
Dyscwch er mwyn Duw, gynhyrfu eich Calonnau i ddifrifol ystyried eich Cyflwr enbydus, i wîredifarhau am eich Pechodau a aethant heibio, ac i fwriadu yn ddiragrith bôd yn fwy Sanctaidd, yn fwy Gwiliadwrus a Gofalus rhag llaw: Gweddiwch yn ddifrifol am Radau Glan Yspryd Duw, Maethwch yn eich Eneidiau Ffydd fywiol yn Hrugareddau Duw trwy Grist, ac ymhôb môddion megis y cynnorthwyo Duw chwi, ac i'ch hathrawiaether o amser i amser o hyn allan, bydded eich [Page 16] Gweddiau a'ch Ymegnion, ar fôd o honoch yn Ddoethion i Iechydwriaeth. Duw a'ch lluosogo a phôb Ysprydol Ddoethineb, a Dealltwriaeth, ac a'ch derbynnio yn gymmeradwy yn Nydd mawr y Farn i ddyfod, megis Gweision ffyddlon i Dduw a'n Harglwydd Iesu Grîst, yr hyn yw difrifol Weddi, ac byth a fydd dyfal Egni.