TESTAMENT NEWYDD EIN HARGLWYDD A'N HIACHAWDR JESV GRIST.
Nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Christ, oblegid gallu Duw yw hi, er Iechydwriaeth i bob vn a'r sydd yn credu.
Printiedig yn Llundain gan Matthew Symmons yml y llew goreurog yn heol Aldersgat. 1646.
YR EFENGYL YN OL SANCT MATTHEW.
PENNOD. I.
LLyfr cenhedliad Jesu Grist, fâb Dafydd fâb Abraham.
2. Abraham a genhedlodd Isaac, ac Isaac a genhedlodd Jacob, ac Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr.
3 A Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar, a Phares a genhedlodd Esrom, ac Esrom a genhedlodd Aram.
4 Ac Aram a genhedlodd Aminadab, ac Aminadab a genhedlodd Naasson, a Naasson a genhedlodd Salmon.
5 A Salmon a genhedlodd Boos o Rachab, a Boos a genhedlodd Obed o Ruth, ac Obed a genhedlodd Jesse.
6 A Jesse a genhedlodd Ddafydd frenin, a Dafydd frenin a genhedlodd Solomon, o'r hon [a fuasei wraig] Vrias.
7 A Salomon a genhedlodd Roboam, a Roboam a genhedlodd Abia, ac Abia a genhedlodd Asa.
8 Ac Asa a genhedlodd Josaphat, a Josaphat a genhedlodd Joram, a Joram a genhedlodd Ozias.
9 Ac Ozias a genhedlodd Joatham, a Joatham a genhedlodd Achaz, ac Achaz a genhedlodd Ezekias.
10 Ac Ezekias a genhedlodd Manasses, a Manasses a genhedlodd Amon, ac Amon a genhedlodd Josias.
11 A Josias a genhedlodd Jeconias a'i frodyr ynghylch amser y symmudiad i Babylon.
12 Ac wedi y symmudiad i Babylon Jechonias a genhedlodd Salathiel, a Salathiel a genhedlodd Zorobabel.
13 A Zorobabel a genhedlodd Abiud, ac Abiud a genhedlodd Eliakim, ac Eliakim a genhedlodd Azor.
14 Ac Azor a genhedlodd Sadoc, a Sadoc a genhedlodd Achim, ac Achim a genhedlodd Eliud.
15 Ac Eliud a genhedlodd Eleazar, ac Eleazar a genhedlodd Matthan, a Matthan a genhedlodd Iacob.
16 Ac Jacob a genhedlodd Joseph, gŵr Mair, o'r hon y ganed Jesu, yr hwn a elwir Christ.
17 Felly yr holl genhedlaethau o Abraham hyd Ddafydd sydd bedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o Ddafydd hyd y symmudiad i Babylon pedair cenhedlaeth ar ddêg, ac o'r symmudiad i Babylon hyd Grist, pedair cenhedlaeth ar ddêg.
18 A genedigaeth yr Jesu Grist oedd fel hyn: wedi dyweddio Mair ei fam ef â Joseph, cyn eu dyfod hwy ynghŷd, hi a gafwyd yn feichiog o'r Yspryd glân.
19 A Joseph ei gŵr hi, gan ei fôd yn gyfiawn, ac heb chwennych ei gwneuthur hi yn siampl, a ewyllysiodd ei rhoi hi ymmaith yn ddirgel.
20 Ac efe yn meddwl y pethau hyn, wele, angel yr Arglwydd a ymddangosodd iddo mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Joseph mab Dafydd, nac ofna gymmeryd Mair dy wraig, oblegid yr hyn a genhedlwyd ynddi, sydd o'r Yspryd glân.
21 A hi a escor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Jesu, oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau.
22 (A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid yr hyn a ddywetpwyd gan yr Arglwydd trwy 'r prophwyd, gan ddywedyd.
23 Wele, Morwyn a fydd feichiog, ac a escor ar fâb, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn, o'i gyfieithu, yw, Duw gyd â ni.)
24 A Joseph pan ddeffroes o gwsc, a wnaeth megis y gorchymynasei Angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig.
25 Ac nid adnabu efe hi, hyd oni escorodd hi ar ei mâb cyntaf-anedig, a galwodd ei henw ef Jesu.
PEN. II.
AC wedi geni 'r Iesu ym-Methlehem Iudæa, yn nyddiau Herod frenin, wele doethion a ddaethant o'r dwyrain i Ierusalem;
2 Gan ddywedyd, pa le y mae 'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli ef.
3 Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Ierusalem gyd ag ef.
4 A chwedi dwyn ynghŷd yr holl Archoffeiriaid, ac scrifennyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Christ.
5 A hwy a ddywedasant wrtho, Ym-Methlehem Iudæa, canys felly 'r scrifennwyd trwy 'r prophwyd.
6 A thitheu Bethlehem tir Iuda, nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Iuda, canys ô honot ti y daw tywysog Iuda yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel.
7 Yna Herod wedi galw y doethion yn ddirgel, a'u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasei y seren.
8 Ac wedi eu danfon hwy i Bethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynnŵch yn fanwl am y mâb bychan, a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finneu ddyfod a'i addoli ef.
9 Hwythau wedi clywed y brenin, a aethant ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain, a aeth o'u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mâb bychan.
10 A phan welsant y seren, llawenhasant â llawenydd mawr dros ben.
11 A phan ddaethant i'r tŷ, hwy a welsant y mâb bychan gyd â mair ei fam, a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, offrymmasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrrh.
12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freudwddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn iw gwlad ar hyd ffordd arall.]
13 [Ac wedi iddynt ymado, wele Angel yr Arglwydd yn ymddangos i Ioseph mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymmer y mab bychan a'i fam, a ffo i'r Aipht; a bydd yno hyd [Page 5] oni ddywedwyf i ti; canys ceisio a wna Herod y mab bychan, i'w ddifetha ef.
14 Ac ynteu pan gyfododd a gymmerth y mâb byhcan a'i fam o hŷd nos, ac a giliodd i'r Aipht.
15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd, gan yr Arglwydd trwy 'r prophwyd gan ddywedyd, O'r Aipht y gelwais fy mâb.
16 Yna Herod pan weles ei siommi gan y doethion, a ffrommodd yn aruthr, ac a ddanfonodd ac a laddodd yr holl fechgyn oedd yn Bethlehem, ac yn ei holl gyffiniau o ddwyflwydd oed, a than hynny, wrth yr amser yr ymofynnasei efe yn fanwl â'r doethion.
17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Ieremias y prophwyd, gan ddywedyd,
18 Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain ac ochain mawr, Rachel yn ŵylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oeddynt.
19 Ond wedi marw Herod, wele Angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Ioseph yn yr Aipht.
20 Gan ddywedyd, Cyfod a chymmer y mâb bychan a'i fam, a dôs i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio enioes y mâb bychan a fuant feirw.
21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymmerth y mâb bychan a'i fam, ac a ddaeth i dir Israel.
22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Judæa, yn lle ei dâd Herod, efe a ofnodd fyned yno, ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea.
23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas [Page 6] a elwyd Nazareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy y prophwydi, y gelwid ef yn Nazarêad.
PEN. III.
AC yn y dyddiau hynny y daeth Joan Fedyddiwr, gan bregethu yn niffaethwch Judæa.
2 A dywedyd, Edifarhewch, canys nessaodd teyrnas nefoedd.
3 Oblegid hwn yw efe, yr hwn y dywedwyd am dano gan Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Llef vn yn llefain yn y diffaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn vniawn ei lwybrau ef.
4 A'r Ioan hwnnw oedd ai ddillad o flew camel, a gwregys o groen ynghylch ei lwynau: a'i fwyd oedd locustiaid, a mêl gwyllt.
5 Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem, a holl Judæa, a'r holl wlâd o amgylch yr Jorddonen.
6 A hwy a fedyddiwyd ganddo ef yn yr Jorddonen, gan gyffesu eu pechodau.
7 A phan welodd efe lawer o'r Pharisæaid, ac o'r Saducæaid yn dyfod iw fedydd ef, efe a ddywedodd wrthynt hwy, O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd i ffoi rhag y llid a fydd?
8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch.
9 Ac na feddyliwch ddywedyd ynoch eich hunain, y mae gennym ni Abraham yn dâd i ni; canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw, ie o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.
10 Ac yr awrhon hefyd y mae y fwyall wedi [Page 7] ei gosod ar wreiddyn y prennau: pôb pren gan hynny yr hwn nid yw yn dwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
11 Myfi yn ddiau ydwyf yn eich bedyddio chwi â dwfr i edifeirwch: eithr yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, sydd gryfach nâ myfi, yr hwn nid ydwyf deilwng i ddwyn ei escidiau, efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd glân, ac â thân.
12 Yr hwn [y mae] ei wyntill yn ei law, ac [efe] a lwyr lanhâ ei lawr dyrnu, ac a gascl ei wenith i'w yscubor, eithr yr vs a lysc [efe] a thân anniffoddadwy.
13 Yna y daeth yr Jesu o Galilæa i'r Jorddonen at Ioan, i'w fedyddio ganddo;
14 Eithr Joan a orafunod iddo ef gan ddywedyd, y mae arnaf fi eisieu fy medyddio gennit ti; ac a ddeui di attaf fi?
15 Ond yr Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho ef, Gâd yr awrhon, canys fel hyn y mae yn weddus i ni gyflawni pôb cyfiawnder; yna efe a adawodd iddo.
16 A'r Jesu wedi ei fedyddio a aeth yn y fan i fynu o'r dwfr: ac wele, y nefoedd a agorwyd iddo, ac [efe] a welodd Yspryd Duw yn descyn fel colommen, ac yn dyfod arno ef.
17 Ac wele lef o'r nefoedd, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd.
PEN. IIII.
YNa yr Jesu a arweiniwyd i fynu i'r anialwch gan yr Yspryd, iw demptio gan ddiafol.
2 Ac wedi iddo ymprydio ddeugain nhiwrnod [Page 8] a deugain nôs, yn ol hynny efe a newynodd.
3 A'r temptiwr pan ddaeth atto, a ddywedodd, Os mâb Duw wyt ti, arch i'r cerrig hyn fôd yn fara.
4 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Scrifennwyd, Nid trwy fara yn vnig y bydd byw dŷn, ond trwy bôb gair a ddaw allan o enau Duw.
5 Yna y cymmerth diafol ef i'r ddinas sanctaidd, ac a'i gosododd ef ar binacl y deml;
6 Ac a ddywedodd wrtho, Os mâb Duw wyti, bwrw dy hun i lawr; canys scrifennwyd, y rhydd efe orchymmyn i'w angelion am danat, a hwy a'th ddygant yn eu dwylo, rhag taro o honot vn amser dy droed wrth garreg.
7 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Scrifennwyd drachefn, Na themptia yr Arglwydd dy Dduw.
8 Trachefn y cymmerth diafol ef i fynydd tra vchel, ac a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y bŷd, a'u gogoniant.
9 Ac a ddywedodd wrtho, Hyn oll a roddaf i ti, os syrthi i lawr a'm haddoli i.
10 Yna yr Jesu a ddywedodd wrtho, ymmaith Satan: canys scrifennwyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnig a wasanaethi.
11 Yna y gadawodd diafol ef, ac wele, angelion a ddaethant, ac a weinasant iddo.
12 A phan glybu 'r Jesu draddodi Ioan, efe a aeth i Galilæa.
13 A chan ado Nazareth, efe a aeth ac a arhosodd yn Capernaum, yr hon sydd wrth y môr, ynghyffiniau Zabulon a Nephthali:
14 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedpwyd trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd.
15 Tir Zebulou, a thir Nephthali, [wrth] ffordd y môr, o'r tu hwnt i'r Jorddonen, Galilæa y cenhedloedd.
16 Y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch, a welodd oleuni mawr: ac i'r rhai a eisteddent ymmro a chyscod angeu, y cyfododd goleuni iddynt.
17 O'r prŷd hynny y dechreuodd yr Jesu bregethu, a dywedyd, Edifarhewch: canys nessaodd teyrnas nefoedd.
18 Ar Jesu yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu ddau frodyr, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd i'r môr; (canys pyscod-wŷr oeddynt,)
19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dowch ar fy ôl i, ac mi a'ch gwnaf yn byscod-wŷr dynion.
20 A hwy yn y fan, gan adel y rhwydau, a'i canlynasant ef.
21 Ac wedi myned rhagddo oddi yno, efe a welodd ddau frodyr eraill, Jaco [fâb] Zebedaeus, ac Ioan ei frawd, mewn llong gydâ Zebaedeus eu tâd, yn cyweirio eu rhwydau: ac a'u galwodd hwy.
22 Hwythau yn ebrwydd gan adel y llong a'u tâd, a'i canlynasant ef.
33 A'r Jesu a aeth o amgylch holl Galilæa, gan ddyscu yn eu Synagogau, a phregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pôb clefyd a phôb afiechyd ymmhlith y bobl.
24 Ac aeth sôn am dano ef trwy holl Syria; a hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai yr oedd amryw glefydau a chnofeydd yn eu dala, a'r rhai cythreulig, a'r rhai lloerig, a'r sawl [Page 10] oedd a'r parlys arnynt, ac efe a'u hiachaodd hwynt.
25 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef o Galilæa, a Decapolis, a Jerusalem, a Judæa, ac o'r tu hwnt i'r Jorddonen.
PEN V.
A Phan welodd [yr Jesu] y tyrfaodd, efe a escynnodd i'r mynydd: ac wedi iddo eistedd, ei ddiscyblion a ddaethant atto.
2 Ac efe a agorodd ei enau ac a'u dyscodd hwynt, gan ddywedyd,
3 Gwyn eu bŷd y tlodion yn yr yspryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
4 Gwyn eu bŷd y rhai sydd yn galaru: canys hwy â ddiddenir.
5 Gwyn eu bŷd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaiar.
6 Gwyn eu bŷd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
7 Gwyn eu bŷd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
8 Gwyn eu bŷd y rhai pûr o galon: canys hwy a welant Dduw.
9 Gwyn eu bŷd y tangneddyf-wŷr: canys hwy a elwir yn blant i Dduw.
10 Gwyn eu bŷd y rhai a erlidir o achos cyfiawnder: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
11 Gwyn eich bŷd pan i'ch gwradwyddant, ac i'ch erlidiant, ac y dywedant bob dryg-air yn eich erbyn, er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog.
12 Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw [Page 11] eich gwobr yn y nefoedd: oblegid felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi.
13 Chwi yw halen y ddaiar: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim onid i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion.
14 Chwi yw goleuni y bŷd: dinas a osodir ar fryn ni ellir ei chuddio.
15 Ac ni oleuant ganwyll, a'i dodi dan lestr, ond mewn canhwyll-bren: a hi a oleua i bawb sy yn y tŷ.
16 Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
17 Na thybiwch fy nyfod i dorri 'r gyfraith, neu 'r prophwydi, ni ddaethym i dorri, ond i gyflawni.
18 Canys yn wir meddaf i chwi, Hyd onid êl y nef a'r ddaiar heibio, nid â vn iot nac vn tippyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwplaer oll.
19 Pwy bynnag gan hynny a dorro vn o'r gerchymyninion lleiaf hyn, ac a ddysco i ddinion felly, lleiaf y gelwir ef yn nheyrnas nefoedd: ond pwy bynnag [a'i] gwnelo, ac [a'i] dysco [i eraill, hwn a elwir yn fawr yn nheyrnas nefoedd.
20 Canys meddaf i chwi, oni bydd eich cyfiawnder yn helaethach nâ [chyfiawnder] yr Scrifennyddion, a'r Pharisæaid, nid ewch i mewn i deyrnas nefoedd.
21 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na ladd: a phwy bynnag a laddo, euog fydd o farn.
22 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pôb vn a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd euog o [Page 12] farn: a phwy bynnag a ddywedo wrth ei frawd, Raca, a fydd euog o gyngor: a phwy bynnag a ddywedo, ô ynfyd, a fydd euog o dân vffern.
23 Gan hynny, os dygi dy rodd allor, ac yno dyfod i'th gof fod gan dy frawd ddim yn dy erbyn.
24 Gâd yno dy rodd ger bron yr allor, a dos ymmaith: yn gantaf cymmoder di a'th frawd, ac yno tyred, ac offrwm dy rodd.
25 Cytuna a'th wrthwyneb-ŵr ar frys, tra fyddech ar y ffordd gyd ag ef: rhag vn amser i'th wrthwyneb-ŵr dy roddi di yn llaw 'r barn-ŵr, ac i'r barn-ŵr dy roddi at y swyddog, a'th daflu yngharchar.
26 Yn wir meddaf i ti, ni ddeui di allan oddiyno hyd oni thalech y ffyrling eithaf.
27 Clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na wna odineb.
28 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fod pob vn sydd yn edrych ar wraig, i'w chwennychu hi, wedi gwneuthur eusys odineb â hi yn ei galon;
29 Ac os dy lygad dehau a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit, canys da i ti golli vn o'th aelodau, ac na thafler dy holl gorph i vffern.
30 Ac os dy law ddehau a'th rwystra, torr hi ymmaith, a thafl oddi wrthit, canys da i ti golli vn o'th aelodan, ac na thafler dy holl gorph i vffern.
31 A dywetpwyd, Pwy bannag a ollyngo ymmaith ei wraig, rhoed iddi lythyr yscar.
32 Ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, fôd pwŷ bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ond o achos godined, yn peri iddi wneuthur godined: a phwy [Page 13] bynnag a briodo yr hon a yscarwyd, y mae efe yn gwneuthur godineb.
33 Trachefn, clywsoch ddywedyd gan y rhai gynt, Na thwng anudon: eithr tâl dy lwon i'r Arglwydd.
34 Ond yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, Na thwng ddim: nag i'r nef, canys gorseddfa Duw ydyw.
35 Nac i'r ddaiar, canys troed-fainc ei draed ydyw: nac i Jerusalem, canys dinas y brenin mawr ydyw.
36 Ac na thwng i'th ben, am na elli wneuthur vn blewyn yn wynn, neu yn ddu.
37 Eithr bydded eich ymadrodd chwi, Je, Je, nag ê nag ê: oblegid beth bynnag sydd tros ben hyn, o'r drwg y mae.
38 Clywsoch ddywedyd, Llygad am lygad, a dant am ddant.
39 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, Na wrthwynebwch ddrwg, ond pwy bynnag a'th darawo ar dy rudd ddehau, tro 'r llall iddo hefyd.
40 Ac i'r neb a fynno ymgyfreithio â thi, a dwyn dy bais, gâd iddo dy gochl hefyd.
41 A phwy bannag a'th gymmhello vn filltir, dos gyd ag ef ddwy.
42 Dyro i'r hwn a ofynno gennit: ac na thro oddiwrth yr hwn sydd yn ewyllysio echwyna gennit.
43 Clywsoch ddywedyd, Câr dy gymydog, a chasâ dy elyn.
44 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd wrthych chwi, Cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: gwnewch dda i'r sawl a'ch casant, a [Page 14] gweddiwch tros y rhai a wnêl niwed i chwi, ac a'ch erlidiant.
45 Fel y byddoch blant i'ch tâd yr hwn sydd yn y nefoedd: canys y mae efe yn peri i'w haul godi ar y drwg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anglyfiawn.
46 Oblegid os cerwch y sawl a'ch caro, pa wobr sydd ichwi? oni wna 'r Publicanod hefyd yr vn peth.
47 Ac os cyferchwch well i'ch brodyr yn vnig, pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? onid ydyw y Publicanod hefyd yn gwneuthur felly.
48 Byddwch chwi gan hynny yn berffaith, fel y mae eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, yn berfaith.
PEN. VI.
GOchelwch rhag gwneuthur eich elusen yngwŷdd dynion, er mwyn cael eich gweled ganddynt, os amgen, ni chewch dâl gan eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
2 Am hynny pan wnelych elusen, na ydcana o'th flaen, fel y gwna 'r rhagrithwŷr yn y synagogau, ac ar yr heolydd, fel y molianner hwy gan ddynion: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.
3 Eithr pan wnelych di elusen, na wyped dy [law] asswy pa beth a wna dy [law] ddehau:
4 Fel y byddo dy elusen yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, efe a dâl i ti yn yr amlwg.
5 A phan weddiech, na fydd fel y rhagrithwŷr, canys hwy a garant weddio yn sefyll yn y synagogau [Page 15] ac ynghonglau yr heolydd, fel yr ymddangosont i ddynion: yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr.
6 Ond tydi pan weddiech, dôs i'th stafell, ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dâd yr hwn [sydd] yn y dirgel: a'th Dâd yr hwn a wêl yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.
7 A phan weddioch na fyddwch siaradus, fel y cenhedloedd: canys y maent hwy yn tybied y cânt eu gwrandaw am eu haml eiriau.
8 Na fyddwch gan hynny debyg iddynt hwy: canys gwŷr eich Tâd pa bethau sy arnoch eu heisieu, cyn gofyn o honoch ganddo.
9 Am hynny gweddiwch chwi fel hyn, Ein Tâd yr hwn [wyt] yn y nefoedd, sancteiddier dy Enw.
10 Deled dy deyrnas: gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, [felly ar y ddaiar hefyd.
11 Dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol.
12 A maddeu i ni ein dyledion, fel y maddeuwn ninnau i'n dyled-wŷr.
13 Ac nac arwain ni i brofedigaeth, eithr gwared ni rhag drwg: canys eiddot ti yw 'r deyrnas, a'r nerth, a'r gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
14 Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tâd nefol a faddeu hefyd i chwithau.
15 Eithr oni faddeuwch i ddynion eu camweddau, ni faddeu eich Tâd eich camweddau chwithau.
16 Hefyd pan ymprydioch, na fyddwch fel y rhagrith-wŷr, yn wyneb-drist: canys anffursio eu hwynebau y maent, fel yr ymddangosont i ddynion eu bôd yn ymprydio, yn wir meddaf i chwi y maent yn derbyn eu gwobr.
17 Eithr pan ymprydiech di, enneinia dy ben, a golch dy wyneb,
18 Fel nad ymddangosech i ddynion dy fôd yn ymprydio, ond i'th Dâd yr hwn sydd yn y dirgel; a'th Dâd yr hwn sydd yn gweled yn y dirgel, a dâl i ti yn yr amlwg.
19 Na thryssorwch i'wch dryssorau ar y ddaiar, lle y mae gwyfyn a rhwd yn llygru, a lle y mae lladron yn cloddio trwodd, ac yn lladratta.
20 Eithr tryssorwch i'wch dryssorau yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle ni's cloddia lladron trwodd, ac ni's lladrattânt.
21 Canys lle y mae eich tryssor, yno y bydd eich calon hefyd.
22 Canwyll y corph yw'r llygad: am hynny o bydd dy lygad yn syml, dy holl gorph fydd yn oleu.
23 Eithr os bydd dy lygad yn ddrwg dy holl gorph fydd yn dywyll. Am hynny os bydd y goleuni sydd ynot, yn dywyllwch, pa faint [fydd] y tywyllwch?
24 Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd, canys naill ai efe a gasâ y naill, ac a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill, ac a esceulusa 'r llall. Ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon.
25 Am hynny meddaf i chwi, na ofelwch am eich bywyd, pa beth a fwytaoch, neu pa beth a yfoch: nac am eich corph, pa beth a wiscoch; onid yw 'r bywyd yn fwy nâ'r bwyd, a'r corph [yn fwy] nâ 'r dillad?
26 Edrychwch ar adar y nefoedd: oblegid nid ydynt yn hau, nac yn medi, nac yn cywain i yscuboriau, ac y mae eich Tâd nefol yn eu porthi hwy: [Page 17] onid ydych chwi yn rhagori llawer arnynt hwy?
27 A phwy o honoch gan ofalu a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faintioli?
28 A pha ham yr ydych chwi yn gofalu am ddillad? ystyriwch lili 'r maes, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt nac yn llafurio nac yn nyddu;
29 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd Solomon yn ei holl ogoniant fel vn o'r rhai hyn.
30 Am hynny os dillada Duw felly lysieun y maes, yr hwn sydd heddyw, ac y foru a fwrir i'r ffwrn: oni [ddillada efe] chwi yn hytrach o lawer, ô chwi o ychydig ffydd?
31 Am hynny na ofelwch, gan ddywedyd, Beth a fwytawn, neu beth a yfwn, neu â pha beth yr ymddilladwn?
32 (Canys yr holl bethau hyn y mae y cenhedloedd yn eu ceisio) oblegid gwyr eich Tâd nefol fôd arnoch eisieu yr holl bethau hyn.
33 Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl-bethau hyn a roddir i chwi yn ychawneg.
34 Na ofelwch gan hynny tros drannoeth: canys trannoeth a ofala am ei bethau ei hun, digon i'r diwrnod ei ddrwg ei hun.
PEN. VII.
NA fernwch, fel na'ch barner.
2 Canys â pha farn y barnoch, i'ch bernir: ac â pha fesur y mesuroch, yr adfesurir i chwithau.
3 A pha ham yr wyt yn edrych ar y brycheuyn [sydd] yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst [sydd] yn dy lygad dy hun?
4 Neu pa fodd y dywedi wrth dy frawd, Gâd i mi fwrw allan y brycheuyn o'th lygad: ac wele drawst yn dy lygad dy hun?
5 Oh ragrithiwr, bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun, ac yna y gweli yn eglur fwrw y brycheuyn allan o lygad dy frawd.
6 Na roddwch y peth [sydd] sanctaidd i'r cŵn, ac na theflwch eich gemmau o flaen y môch: rhag iddynt eu sathru dan eu traed, a throi, a'ch rhwygo chwi.
7 Gofynnwch, a rhoddir i chwi: ceisiwch, a chwi a gewch: curwch, ac fe agorir i chwi.
8 Canys: pob vn sy 'n gofyn sy 'n derbyn, a'r neb sy 'n ceisio sy 'n cael, ac i'r hwn sydd yn curo yr agorir.
9 Neu a oes vn dŷn o honoch yr hwn os gofyn ei fab iddo fara, a rydd iddo garreg?
10 Ac os gofyn efe byscodyn, a ddyry efe sarph iddo.
11 Os chwy-chwi gan hynny, a chwi yn ddrwg a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy, y rhydd eich Tâd yr hwn [sydd] yn y nefoedd, bethau da i'r rhai a ofynnant iddo?
12 Am hynny pa bethau bynnag oll a ewyllysioch eu gwneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy: canys hyn yw 'r gyfraith a'r prophwydi.
13 Ewch i mewn trwy 'r porth cyfyng: canys ehang [yw] 'r porth, a llydan [yw] 'r ffordd sydd yn arwain i ddestryw, a llawer yw y rhai sydd yn myned i mewn trwyddi.
14 Oblegid cyfyng [yw] 'r porth, a chul [yw] 'r ffordd sydd yn arwain i'r bywyd, ac ychydig yw y rhai sydd yn ei chael hi.
15 Ymogelwch rhag y gau brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwiscoedd defaid, ond oddimewn bleiddiaid rheipus ydynt hwy.
16 Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwynt. A gascl rhai rawn-win oddiar ddrain, neu ffigys oddiar yscall?
17 Felly pôb pren da sydd yn dwyn ffywythau da, ond y pren drwg sydd yn dwyn ffrwythau drwg.
18 Ni ddichon pren da ddwyn ffrwythau drwg, na phren drwg ddwyn ffrwythau da.
19 Pôb pren heb ddwyn ffrwyth da, a dorrir i lawr, ac a deflir yn tân.
20 O herwydd pa ham, wrth eu frwythau yr adnabyddwch hwynt.
21 Nid pob vn sydd'yn dywedyd wrthif, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhâd, yr hwn [sydd] yn y nefoedd.
22 Llawer a ddywedant wrthyf yn y dydd hwnnw, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ac oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ac oni wnaethom wyrthiau lawer yn dy enw di?
23 Ac yna yr addefaf iddynt Ni's adnabûm chwi erioed: ewch ymmaith oddi wrthif, chwi weithred-wŷr anwiredd.
24 Gan hynny pwy bannag sy'n gwrando fy ngeiriau hyn, ac yn eu gwneuthur, mi a'i cyffelybaf ef i ŵr doeth, yr hwn a adeiladodd ei dy ar y graig.
25 A'r glaw a ddescynnodd, a'r llifeiriaint a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a [Page 20] ruthrasant ar y tŷ hwnnw, ac ni syrthiodd, oblegid sylfaenesid ef ar y graig.
26 A phôb vn ar sydd yn gwrando fy ngeiriau hyn, ac heb eu gwneuthur, a gyffelybir i ŵr ffol, yr hwn a adeiladodd ei dŷ ar y tywod.
27 A'r glaw a ddescynodd, a'r llif-ddyfroedd a a ddaethant, a'r gwyntoedd a chwythasant, ac a gurasant ar y tŷ hwnnw, ac [efe] a syrthiodd, a'i gwymp a fu fawr.
28 A bu, wedi i'r Jesu orphen y geiriau hyn, y torfeydd a synnasant wrth ei ddysceidiaeth ef.
29 Canys yr oedd efe yn eu dyscu hwynt, fel [vn] ag awdurod ganddo, ac nid fel yr Scrifennyddion.
PEN. VIII.
AC wedi ei ddyfod ef i wared o'r mynydd, torfeydd lawer a'i canlynasant ef.
2 Ac wele, [vn] gwahan-glwyfus a ddaeth, ac a'i haddolodd ef gan ddywedyd, Arglwydd, os mynni, ti a elli fy nglanhau i.
3 A'r Jesu a estynnodd [ei] law ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Mynnaf, glanhaer di. Ac yn y fan ei wahan-glwyf ef a lanhawyd.
4 A dywedodd yr Jesu wrtho. Gwêl na ddywedych wrth neb: eithr dôs dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma y rhodd a orchymynnodd Moses, er tystiloaeth iddynt.
5. Ac wedi dyfod yr Jesu i mewn i Capernaum, daeth atto ganwriad, gan ddeisyfu arno,
6 A dywedyd, Arglwydd y mae fy ngwas yn gorwedd gartref yn glaf o'r parlys, ac mewn poen ddir-fawr.
7 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Mi a ddeuaf, ac a'i hiachâf ef.
8 A'r canwriad a attebodd, ac a ddywedodd, Arglwydd nid ydwyfi deilwng i ddyfod o honot tan fy nghronglwyd: eithr yn vnig dywed y gair, a'm gwâs a iachêir.
9 Canys dŷn ydwyf finneu tan awdurdod, a chennif filwŷr tanaf: a dywedaf wrth hwn cerdda, ac efe â: ac wrth arall: Tyred, ac efe a ddaw: ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
10 A'r Jesu pan glybu a ryfeddodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn canlyn, Yn wir meddaf i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, naddo yn yr Israel.
11 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin. ac a eisteddant gyd ag Abraham, ac Isaac, a Jacob, yn nheyrnas nefoedd:
12 Ond plant y deyrnas a deflir i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd
13 A dywedodd yr Jesu wrth y canwriad, dôs ymmaith, a megys y credaist bydded i ti. A'i wâs a iachawyd yn yr awr honno.
14 A phan ddaeth yr Jesu i dŷ Petr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o'r crŷd.
15 Ac [efe] a gyffyrddodd â'i llaw hi: a'r crŷd a'i gadawodd hi: a [hi] a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16 Ac wedi ei hwyrhau hi hwy a ddygasant atto lawer o rai cythreulig: ag [efe] a fwriodd allan yr ysprydion [â'i] air, ac a iachaodd yr holl gleision:
17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd, Efe a gymmerodd ein gwendid ni, ag a ddug ein clefydau
18 A'r Jesu, pan welodd dorfeydd lawer o'i amgylch, a orchymynnodd fyned trosodd i'r lan arall.
19 A rhyw Scrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
20 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffaeau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythodd: ond gan fab y dŷn nid oes le i roddi ei ben i lawr.
21 Ac vn arall o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd i mi yn gyntaf, fyned, a chladdu fy nhâd.
22 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, canlyn fi, a gâd i'r meirw gladdu eu meirw.
23 Ac wedi iddo fyned i'r llong, ei ddiscyblion a'i canlynasant ef.
24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hŷd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cyscu.
25 A'i ddiscyblion a ddaethant atto, ac a'i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni, darfu am danom.
26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ofnus, ô chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a'r môr; a bu dawelwch mawr.
27 A'r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw vn yw hwn, gan fôd y gwyntoedd hefyd a'r môr yn vfyddhau iddo?
28 Ac wedi ei ddyfod ef i'r lan arall i wlâd y Gergesid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o'r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno.
29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Jesu fâb Duw, beth sydd i ni [a wnelom] â thi, a ddaethost ti ymma i'n poeni ni cyn yr amser?
30 Ac yr oedd ym-mhell oddi wrthynt genfaint o fôch lawer yn pori.
31 A'r cythreuliaid a ddeisyfiasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniadhâ i ni fyned ymmaith i'r genfaint fôch.
32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch, A hwy wedi myned allan, a aethant i'r genfaint fôch. Ac wele, yr holl genfaint fôch a ruthrodd tros y dibyn i'r mor, ac a fuant feirw yn y dyfroedd.
33 A'r meichiaid a ffoesant: ac wedi, eu dyfod hwy i'r ddinas, hwy a fynegasant bôb peth, a pha beth a ddarfuasei i'r rhai dieflig.
34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod a'r Jesu: a phan ei gwelsant, attolygasant [iddo] ymadel o'u cyffiniau hwynt.
PEN. IX.
AC efe a aeth i mewn i'r llong, ac a aeth trosodd, ac a ddaeth iw ddinas ei hun.
2 Ac wele, hwy a ddygasant atto [wr] claf o'r parlys, yn gorwedd mewn gwely: a'r Jesu yn gweled eu ffydd hwy, a ddywedodd wrth y claf o'r parlys. Ha fâb, cymmer-gyssur, maddeuwyd i ti dy bechodau.
3 Ac wele, rhai o'r Scrifennyddion a ddywedasant ynddynt eu hunain, y mae hwn yn cablu.
4 A phan welodd yr Jesu eu meddyliau efe a ddywedodd, Pa ham y meddyliwch ddrwg yn eich calonnau.
5 Canys pa vn hawsaf, ai dywedyd, maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, cyfod a rhodia?
6 Eithr fel y gwypoch fôd awdurdod gan fâb y dŷn ar y ddaiar i faddeu pechodau, (yna y dywedodd efe wrth y claf o'r parlys) cyfod, cymmer dy wely i fynu, a dôs i'th dŷ.
7 Ac efe a gyfodes, ag a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun.
8 A'r torfeydd pan welsant, rhyfeddu a wnaethant, a gogoneddu Duw, yr hwn a roesei gyfryw awdurdod i ddynion.
9 Ac fel yr oedd yr Jesu yn myned oddi yno, efe a gyfarfu ŵr yn eistedd wrth y dollfa, a elwid Matthew: ac a ddywedodd wrtho, canlyn si. Ac efe a gyfodes, ac a'i canlynodd ef.
10 A bu ac efe yn eistedd i fwytta yn y tŷ, wele hefyd, publicanod lawer a phecaduriaid a ddaethant, ac a eisteddasant gyd a'r Jesu a'i ddiscyblion.
11 A phan welodd y Pharisæaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, Pa ham y bwytty eich Athro chwi gyd a'r pablicanod a'r pechaduriaid?
12 A phan glybu 'r Jesu, efe a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhai iach wrth feddyg ond i'r rhai cleifion.
13 Ond ewch, a dyscwch pa beth yw [hyn,] [Page 25] Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ag nid aberth: canys ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
14 Yna y daeth discyblion Ioan atto gan ddywedyd, Pa ham yr ydym ni a'r Pharisæaid yn ymprydio yn fynych, ond dy ddiscyblion di nid ydynt yn ymprydio?
15 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, A all plant yr ystafell briodas alaru tra fo y priod-fâb gyd a hwynt? ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priod-fâb oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant,
16 Hefyd, ni ddŷd neb lain o frethyn newydd at hên ddilledyn: canys y cyflawniad a dynn oddi wrth y dilledyn, a'r rhwyg a wneir yn waeth.
17 Ac ni ddodant win newydd mewn costrelau hên: os amgen, y costrelau a dyrr, a'r gwin a rêd allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd a ddodant mewn costrelau newyddion, ac [felly] y cedwir y ddau.
18 Tra oedd efe yn dywedyd hyn wrthynt, wele, daeth rhyw bennaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Bu farw fy merch yr awr hon: eithr tyred a gosod dy law arni, a byw fydd hi.
19 A'r Jesu a godes, ac a'i canlynodd ef a'i ddiscyblion.
20 (Ac wele, gwraig y buasei gwaed-lif arni ddeuddeng mhlynedd, a ddaeth o'r tu cefn iddo, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef.
21 Canys hi a ddywedasei ynddi ei hun, Os câf yn vnig gyffwrdd â'i wisc ef, iach fyddaf.
22 Yna 'r Jesu a drôdd, a phan ei gwelodd hi, efe a ddywedodd, Ha ferch bydd gyssurus, [Page 26] dy ffydd a'th iachaodd. A'r wraig a iachawyd o'r awr honno.)
23 A phan ddaeth yr Jesu i dŷ 'r pennaeth, i gweled y cerddorion, a'r dyrfa yn terfyscu,
24 Efe a ddywedodd wrthynt, Ciliwch: canys ni bu farw 'r llangces, ond cyscu y mae hi. A hwy a'i gwatwarasant ef.
25 Ac wedi bwrw y dyrfa allan, efe a aeth i mewn, ac a ymaflodd yn ei llaw hi: a'r llangces a gyfodes.
26 A'r gair o hyn a aeth tros yr holl wlâd honno.
27 A phan oedd yr Jesu yn myned oddi yno, dau ddeillion a'i canlynasant ef, gan lefain a dywedyd, Mâb Dafydd, trugarhâ wrthym.
28 Ac wedi iddo ddyfod i'r tŷ, y deillion a ddaethant atto, a'r Jesu a ddywedodd wrthynt, A ydych chwi yn credu y gallafi wneuthur hyn? Hwy a ddywedasant wrtho, Ydym Arglwydd.
29 Yna y cyffyrddodd efe â'u llygaid hwy, gan ddywedyd, Yn ôl eich ffydd bydded î chwi.
30 A'u llygaid a' agorwyd, a'r Jesu a orchymynnodd iddynt trwy fygwth, gan ddywedyd, Gwelwch na's gwypo neb.
31 Ond wedi iddynt ymado, hwy a'i clodforasant ef trwy 'r holl wlâd honno.
32 Ac a hwy yn myned allan, wele rhai a ddygasant atto ddyn mud cythreulig.
33 Ac wedi bwrw y cythrael allan, llefarodd y mudan: a'r torfeydd a ryfeddasant, gan ddywedyd, Ni welwyd y cyffelyb erioed yn Israel.
34 Ond y Pharisæaid a ddywedasant, Trwy bennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
35 A'r Jesu a aeth o amgylch yr holl ddinasoedd a'r trefydd, gan ddyscu yn eu synagogau hwynt, a chan bregethu Efengyl y deyrnas, ac iachau pôb clefyd, a phob afiechyd ymmhlith y bobl.
36 A phan welodd efe y torfeydd, efe a dosturiodd wrthynt, am eu bôd wedi blino, a'u gwascaru fel defaid heb ganddynt fugail.
37 Yna y dywedodd efe wrth ei ddiscyblion, y cynhaiaf yn ddiau [sydd] fawr, ond y gweithwŷr yn anaml.
38 Am hynny attolygwch i Arglwydd y cynhaiaf anfon gweith-wŷr i'w gynhaiaf.
PEN. X.
AC wedi galw ei ddeuddeg discybl atto efe a roddes iddynt awdurdod yn erbyn ysprydion aflan, i'w bwrw hwynt allan, ac i iachau pôb clefyd a phôb afiechyd.
2 A henwau y deuddeg Apostolion yw y rhai hyn: y cyntaf, Simon yr hwn a elwir Petr, ac Andreas ei frawd: Jaco [mâb] Zebedaeus, ac Ioan ei frawd:
3 Philip, a Bartholomaeus: Thomas, a Matthew y publican: Jaco [mâb] Alphaeus, a Lebbaeus yr hwn a gyf-enwid Thadaeus:
4 Simon y Cananead, a Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef.
5 Y deuddeg hyn a anfonodd yr Jesu, ac a orchymynodd iddynt, gan ddywedyd, Nag ewch i ffordd y cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn.
6 Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel.
7 Ac wrth fyned pregethwch, gan ddywedyd, fod teyrnas nefoedd yn nessau.
8 Jachewch y cleision, glanhewch y rhai gwahan-glwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhâd, rhoddwch yn rhâd.
9 Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau:
10 Nac yscrepan i'r daith, na dwy bais, nac escidiau, na ffonn: canys teilwng i'r gweithi-ŵr ei fwyd.
11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi: ac yno trigwch hyd onid eloch ymmaith.
12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo.
13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangneddyf arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangneddyf attoch.
14 A phwy bynnag ni'ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o'r tŷ hwnnw, neu o'r ddinas honno, escydwch y llwch oddl'wrth eich traed.
15 Yn wir meddaf i chwi, esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a'r Gomorriaid yn nydd farn, nag i'r ddinas honno.
16 Wele, yr ydwyfi yn eich danfon fel defaid ynghanol bleiddiaid: byddwch chwithau gall fel y seirph, a diniwed fel y colomennod.
17 Eithr ymogelwch rhag dynion: canys hwy a'ch rhoddant chwi i fynu i'r cyngor, ac a'ch ffrewyllant chwi yn eu Synagogau.
18 A chwi a ddygir at lywiawdwŷr a brenhinoedd o'm hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy, ac i'r cenhedloedd.
19 Eithr pan i'ch rhoddant chwi i fynu, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno, pa beth a lefaroch.
20 Canys nid chwy-chwi yw 'r rhai sy yn llefaru, onid Yspryd eich Tâd yr hwn sydd yn llefaru ynoch,
21 A brawd a rydd frawd i fynu i farwolaeth, a thâd ei bletyn: a phlant a godant i fynu yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt.
22 A châs fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig:
23 A phan i'ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i vn arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, na orphennwch ddinasoedd Israel nês dyfod Mâb y dŷn.
24 Nid yw 'r discybl yn vwch nâ'i athro na'r gwàs yn vwch nâ'i arglwydd.
25 Digon i'r discybl fod fel ei athro, a'r gwàs fel ei arglwydd: os galwasant berchen y tŷ yn Beelzebub, pa faint mwy ei dŷlwyth ef?
26 Am hynny nac ofnwch hwynt: o blegid nid oes dim cuddiedig a'r nas datcuddir, na dirgel, ar nas gwybyddir.
27 Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthych chwi yn y tywyllwch, dywedwch yn y goleuni: a'r hyn a glywch yn y glust, pregethwch ar bennau y tai.
28 Ac nac ofnwch rhag y rhai a laddant y corph, ac ni allant ladd yr enaid: eithr yn hytrach ofnwch yr hwn a ddichon ddestrywio enaid a chorph yn vffern.
29 Oni werthir dau aderyn y tô er ffyrling? ac ni syrth vn o honynt ar y ddaiar heb eich Tâd chwi.
30 Ac y mae, iê holl wallt eich pen wedi eu cyfrif.
31 Nac ofnwch gan hynny; chwi a delwch fwy nâ llawer o adar y tô.
32 Pwy bynnag gan hynny a'm cyffeso i yngwydd dynion, minneu a'i cyffesaf ynteu, yngŵydd fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd:
33 A phwy bynnag a'm gwado i yngŵydd dynion, minneu a'i gwadaf ynteu yngŵydd fy Nhâd yr hwn sydd yn y nefoedd.
34 Na thybygwch fy nyfod i ddanfon tangneddyf ar y ddaiar: ni ddaethym i ddanfon tangneddyf, onid cleddyf.
35 Canys mi a ddaethym i ofod dŷn i ymrafaelio yn erbyn ei dâd, a'r ferch yn erbyn ei mam, a'r waudd yr erbyn ei chwegr.
36 A gelynion dŷn, [fydd] tŷlwyth ei dŷ ei hun.
37 Yr hwn sydd yn caru tâd neu fam yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi: a'r neb sydd yn caru mâb neu serch yn fwy nâ myfi, nid yw deilwng o honofi.
38 A'r hwn nid yw yn cymmeryd ei groes, ag yn canlyn ar fy ôl i, nid yw deilwng o honofi.
39 Y neb sydd yn cael ei einioes, a'i cyll: a'r neb a gollo ei einioes o'm plegid i a'i caiff hi.
40 Y neb sydd yn eich derbyn chwi, sydd yn fy nerbyn i: a'r neb sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.
41 Y neb sydd yn derbyn prophwyd yn enw prophwyd, a dderbyn wobr prophwyd; a'r neb sydd yn derbyn [vn] cyfiawn yn enw [vn] cyfiawn, a dderbyn wobr [vn] cyfiawn.
42 A phwy bynnag a roddo i'w yfed i vn o'r rhai bychain hyn, phioleid o [ddwfr] oer yn vnic, yn enw discybl, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe ei wobr.
PEN. XI.
A Bu, pan orphennodd yr Jesu orchymyn i'w ddeuddeg discybl, efe a aeth oddi yno i ddyscu ac i bregethu yn eu dinasoedd hwy.
2 Ac Ioan, pan glybu yn y carchar weithredoedd Christ, wedi danfon dau o'i ddiscyblion,
3 A ddywedodd wrtho, Ai tydi yw 'r hwn sy'n dyfod, ai vn arall yr ydym yn ei ddisgwil?
4 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ewch, a mynegwch i Joan y pethau a glywch ac a welwch.
5 Y mae 'r deillion yn gweled eilwaith a'r cloffion yn rhodio, a'r cleifion gwahanol wedi eu glanhau, a'r byddariaid yn clywed: y mae y meirw yn cyfodi, a'r tlodion yn cael pregethu yr Efengyl iddynt.
6 A dedwydd yw 'r hwn ni rwystrir ynofi.
7 Ac a hwy yn myned ymmaith, yr Jesu a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Pa beth yr aethoch allan i'r anialwch [Page 32] i edrych am dano? a'i corsen yn yscwyd gan wynt?
8 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai dŷn wedi ei wisco â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn gwisco dillad esmwyth, mewn tai brenhinoedd y maent.
9 Eithr pa beth yr aethoch allan i'w weled? ai prophwyd? ie meddaf i chwi, a mwy nâ phrophwyd.
10 Canys hwn ydyw efe am yr hwn yr scrifennwyd, Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a barotoa dy ffordd o'th flaen.
11 Yn wir meddaf i chwi, ym-mlith plant gwragedd ni chododd neb, mwy nag Ioan Fedyddiwr: er hynny yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd, sydd fwy nag ef.
12 Ac o ddyddiau Ioan Fedyddiwr hyd yn awr, yr ydys yn treisio teyrnas nefoedd, a threiswyr sy yn ei chippio hi.
13 Canys yr holl brophwydi a'r gyfraith a brophwydasant hyd Ioan.
14 Ac os ewyllysiwch [ei] dderbyn, efe yw Elias yr hwn oedd ar ddyfod.
15 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando gwrandawed.
16 Eithr i ba beth y cyffelyba fi y genhedlaeth hon? cyffelyb yw i blant yn eistedd yn y marchinadoedd, ac yn llefain wrth eu cyfeillion:
17 Ac yn dywedyd, Canasom bibell i chwi; ac ni ddawnsiosoch: canasom alar-nâd i chwi, ac ni chwynfanasoch.
18 Canys daeth Ioan heb na bwytta, nac [Page 33] yfed, ac meddant, y mae cythrael ganddo.
19 Daeth mâb y dŷn yn bwytta ac yn yfed, ac meddant, Wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill publicanod a phechaduriaid. A doethineb a gyfiawnhawyd gan ei phlant ei hun.
20 Yna y dechreuodd efe edliw i'r dinasoedd, yn y rhai y gwnaethid y rhan fwyaf o'i weithredoedd nerthol ef, am nad edifarhasent.
21 Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sydon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynoch chwi, hwy a edifarhasent er ys talm mewn sachliain a lludw.
22 Eithr meddaf i chwi, esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn nydd farn, nag i chwi.
23 A thydi Capernaum, yr hon a dderchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn vffern: canys pe gwnaethid yn Sodom y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd ynot ti, hi a fuasai yn aros hyd heddyw.
24 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y bydd esmwythach i dir Sodom yn nydd farn, nag i ti.
25 Yr amser hynny yr attebodd yr Jesu, ac y dywedodd, i ti yr ydwyf yn diolch, o Dâd, Arglwydd nef a daiar, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datcuddio o honot i rai bychain
26 Je o Dâd, canys felly y rhyngodd bodd i ti.
27 Pob peth a roddwyd i mi gan fy Nhâd: ac nid edwyn neb y Mâb, ond y Tâd: ac nid edwyn neb y Tâd, ond y Mâb, a'r hwn yr ewyllysio y Mâb, [ei] ddatcuddio iddo.
28 Dewch attafi bawb ac y sydd yn flinderog, ac yn llwythog; ac mi a esmwythaf arnoch.
29 Cymmerwch fy iau arnoch, a dyscwch gennif, canys addfwyn ydwyf, a gostyngedig o galon: a chwi a gewch orphywystra i'ch eneidiau.
30 Canys fy iau [sydd] esmwyth, a'm baich sydd yscafn.
PEN. XII.
YR amser hynny yr aeth yr Jesu ar y [dydd] Sabbath trwy 'r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddiscyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwytta.
2 A phan welodd y Pharisæaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddiscyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Sabbath.
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarliennasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai [oedd] gyd ag ef,
4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwyttaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwytta, nac i'r rhai [oedd] gyd ag ef, ond yn vnic i'r offeiriaid?
5 Neu oni ddarllennasoch yn y gyfraith, fôd yr offeiriaid ar y Sabbathau yn y Deml yn halogi y Sabbath, a'u bôd yn ddigerydd?
7 Ond pe gwybasech beth yw [hyn,] Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed.
8 Canys Arglwydd ar y Sabbath hefyd yw Mâb y dŷn.
9 Ac wedi iddo ymadell oddi yno, efe a aeth i'w synagog hwynt.
10 Ac wele, yr oedd dŷn a chanddo law wedi gwywo: a hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedydd, Ai rhydd iachau ar y Sabbathau? fel y gallent achwyn arno.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddŷn o honoch fydd a chanddô vn ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y [dydd] Sabbath, nid ymeifl ynddi, a'i chodi allan?
12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dŷn nâ dafad? felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabbathau.
13 Yna y dywedodd wrth y dŷn, Estyn dy law. Ac efe a'i hestynnnodd: a hi a wnaed yn iach fel y llall.
14 Yna 'r aeth y Pharisæaid allan, ac a ymgynghorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef.
15 A'r Jesu gan wybod, a giliodd oddi yno: a thorfeydd lawer a'i canlynasant ef, ac efe a'u hiachâodd hwynt oll;
16 Ac a orchymynnodd iddynt na wnaent ef yn gyhoedd.
17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Esaias y prophwyd, gan ddywedyd,
18 Wele fy nghwasanaethwr, yr hwn a ddewisais, fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy Yspryd arno, ac efe a draetha farn i'r cenhedloedd.
19 Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd.
20 Corsen yssig ni's tyrr, a llin yn mygu ni's [Page 36] diffydd: hyd oni ddygo efe allan farn i [...]ddugoliaeth.
21 Ac yn ei enw ef y gobeithia y cenhedloedd.
22 Yna y ducpwyd atto vn cythreulig, dall, a mûd: ac efe a'i hiachaodd ef, fel y llefarodd, ac y gwelodd y dall ar mud.
23 A'r holl dorfeydd a synnasant, ac a ddywedasant, Ai hwn yw mâb Dafydd?
24 Eithr pan glybu y Pharisæaid, hwy a ddywedasant, Nid yw hwn yn bwrw allan gythreuliaid, onid trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid.
25 A'r Jesu yn gwybod eu meddyliau, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir: a phôb dinas neu dŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni saif.
26 Ac os Satan a fwrw allan Satan, efe a ymrannodd yn ei erbyn ei hun: pa wedd gan hynny y saif ei deyrnas ef.
27 Ac os trwy Beelzebub yr ydwyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnŵyr arnoch chwi.
28 Eithr os ydwyfi yn bwrw allan gythreuliaid trwy Yspryd Duw, yna a daeth teyrnas Dduw attoch.
29 Neu pa fodd y dichon nêb fyned i mewn i dŷ vn cadarn, a llwyr yspeilio ei ddodrefn ef, oddieithr iddo yn gyntaf rwymo y cadarn, ac yna yr yspeilia efe ei dŷ ef?
30 Y nêb nid yw gyd â mi, sydd yd fy erbyn: [Page 37] â'r nêb nid yw yn casclu gyd â mi, sydd yn gwascaru.
31 Am hynny y dywedaf wrthych chwi, pôb pechod a chabledd a faddeuir i ddynion: onid cabledd yn erbyn yr Yspryd, ni faddeuir i ddynion.
32 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mâb y dŷn, fe a feddeuir iddo: ond pwy bynnag a ddywedo yn erbyn yr Yspryd glan, ni's maddenir iddo, nac yn y bŷd hwn, nac yn y bŷd a ddaw.
33 Naill ai gwnewch y pren yn dda, a'i ffrwyth yn dda: ai gwnewch y pren yn ddrwg, a'i ffrwyth yn ddrwg: canys y pren a adwaenir wrth ei ffrwyth.
34 Oh eppil gwiberod, pa wedd y gellwch lefaru pethau da, a chwi yn ddrwg? canys o helaethrwydd y galon y llefara y genau.
35 Y dŷn da, o dryssor da y galon, a ddwg allan bethau da: a'r dŷn drwg, o'r tryssor drwg, a ddwg allan bethau drwg.
36 Eithr yr ydwyf yn dywedyd wrthych, mai am bob gair segur a ddywedo dynion, y rhoddant hwy gyfrif yn-nydd farn.
37 Canys wrth dy eiriau i'th gyfrawnheir, ac wrth dy eiriau i'th gondemnir.
38 Yna 'r attebodd rhai o'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid, gan ddywedyd, Athro, ni a chwennychem weled arwydd gennit.
39 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Cenhedlaeth ddrwg a godinebus sydd yn ceisio arwydd: ac arwydd ni's rhoddir iddi, onid arwydd y Prophwyd Jonas.
40 Canys fel y bu Jonas dridiau a thair nôym-mol y mor-fil, felly y bydd Mâb y dŷn dridiau a thair nôs ynghalon y ddaiar.
41 Gwyr Ninife a gyfodant yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condenmant hi: am iddynt hwy edifarhau wrth bregeth Jonas: ac wele fwy nâ Jonas ymma.
42 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon; ac a'i. condemna hi: am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaiar, i glywed doethineb Solomon: ac wele fwy nâ Solomon ymma.
43 A phan êl yr Yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia ar hŷd lleoedd sychion, gan geisio gorphwysdra, ac nid yw yn ei gael.
44 Yna medd efe, Mi a ddychwelaf i'm tŷ, o'r lle y daethym allan. Ac wedi y delo, y mae yn ei gael yn wâg, wedi ei yscubo, a'i drwsio.
45 Yna y mae efe yn myned, ac yn cymmeryd gyd ag ef ei hun saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun: ac wedi iddynt fyned i mewn, hwy a gyfanneddant yno: ac y mae diwedd y dŷn hwnnw yn waeth nâ 'i ddechreuad. Felly y bydd hefyd i'r genhedlaeth ddrwg hon.
46 Tra ydoedd efe yn llefaru wrth y torfeydd, wele, ei fam a'i frodyr oedd yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan ag ef.
47 A dywedodd vn wrtho, Wele, y mae dy fam di a'th frodyr yn sefyll allan, yn ceisio ymddiddan â thi.
48 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrth yr hwn a ddywedasei wrtho, Pwy yw fy mam i? a phwy yw fy mrodyr i?
49 Ac efe a estynnodd ei law tu ag at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd, Wele fy mam i, a'm brodyr i.
50 Canys pwy bynnag a wna ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd, efe yw fy mrawd i, a'm chwaer, a'm mam.
PEN. XIII.
Y Dydd hwnnw yr aeth yr Jesu allan o'r ty, ac yr eisteddodd wrth [lan] y môr.
2 A thorfeydd lawer a ymgynnullasant atto ef, fel yr aeth efe i'r llong, ac yr eisteddodd: a'r holl dyrfa a safodd ar y lan.
3 Ac efe a lefarodd wrthynt lawer o bethau drwy ddamhegion; gan ddywedyd, Wele; yr hauwr a aeth allan i hau.
4 Ac fel yr oedd efe yn hau, peth a syrthiodd ar fin y ffordd: a'r adar a ddaethant, ac a'i difasant.
5 Peth arall a syrthiodd ar greig-leoedd, lle ni chawsant fawr ddaiar: ac yn y man yr eginasant can nad oedd iddynt ddyfnder daiar.
6 Ac wedi codi 'r haul y poethasant, ac am nad oedd ganddynt wreiddyn, hwy a wywasant.
7 A pheth arall a syrthiodd ym-mhlith y drain: a'r drain a godasant, ag a'u tagasant hwy.
8 Peth arall hefyd a syrthiodd mewn tîr da ac a ddygasant ffrwyth, peth ar ei ganfod [...]all ac ei driugeinfed, arall ar ei ddegfed ar hugain.
9 Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10 A daeth y discyblion, ac a ddywedasant [Page 40] wrtho, Pa ham yr wyti yn llefaru wrthynt trwy ddamhegion?
11 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Am roddi i chwi wybod dirgelion teyrnas nefoedd, ac ni roddwyd iddynt hwy.
12 Oblegid pwy bynnag sydd ganddo, i hwnnw y rhodir, ac efe a gaiff helaethrwydd: eithr pwy bynnag nid oes ganddo, oddi arno ef y dygir, ie yr hyn sydd ganddo.
13 Am hynny yr ydwyf yn llefaru wrthynt hwy ar ddamhegion, canys a hwy yn gweled nid ydynt yn gweled, ac yn clywed, nid ydynt yn clywed, nac yn deall.
14 Ac ynddynt hwy y cyflawnir prophwydoliaeth Esaias, yr hon sydd yn dywedyd, Gan glywed y clywch, ac ni ddeellwch: ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.
15 Canys brassawyd calon y bobl hyn, a hwy a glywsant â'u clustiau yn drwm, ac a gauasant eu llygaid: rhag canfod â'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a throi, ac i mi eu hiachau hwynt.
16 Eithr dedwydd yw eich llygaid chwi, am eu bôd yn clywed.
17 O blegid yn wir y dywedaf i chwi, chwennychu o lawer o brophwydi, a rhai cyfiawn, weled y pethau a welwch chwi, ac ni's gwelsant: a chlywed yr hyn a glywch chwi, ac ni's clywsant.
18 Gwrandewch chwithau gan hynny ddammeg yr hauŵr.
19 Pan glywo nêb air y deyrnas, ac heb [ei] ddeall, y mae y drwg yn dyfod, ac yn cippio 'r hyn a hauwyd yn ei galon ef: dymma yr hwn a hauwyd ar fin y ffordd.
20 A'r hwn a hauwyd ar y creig-leoedd, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn ebrwydd drwy lawenydd yn ei dderbyn.
21 Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo ei hun, eithr dros amser y mae: a phan ddelo gorthrymder neu erlid oblegid y gair, yn y fan efe a rwystrir.
22 A'r hwn a hauwyd ym-mhlith y drain, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair: ac y mae gofal y bŷd hwn, a thwyll cyfoeth, yn tagu y gair, ac y mae yn myned yn ddiffrwyth.
23 Ond yr hwn a hauwyd yn y tîr da, yw 'r hwn sydd yn gwrando y gair, ac yn ei ddeall: sef yr hwn sydd yn ffrwytho, ac yn dwyn peth ei ganfed, arall ei dringeinfed, arall ei ddegfed ar hugain.
24 Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan dywedyd, Teyrnas nefoedd sydd gyffelyb i ddŷn a hauodd hâd da yn ei faes.
25 A thra yr oedd y dynion yn cyscu, daeth ei elyn ef, ac a hauodd efrau ymhlith y gwenith, ac a aeth ymmaith.
26 Ac wedi i'r eginyn dyfu, a dwyn ffrwyth, yna 'r ymddangosodd yr efrau hefyd.
27 A gweision gŵr y tŷ a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Arglwydd, oni hauaist ti hâd da yn dy faes? o ba le gan hynny y mae 'r efrau ynddo?
28 Yntef a ddywedodd wrthynt, Y gelyn ddŷn a wnaeth hyn. A'r gweision a ddywedasant wrtho, A fynni di gan hynny i ni fyned, a'u casclu hwynt.
29 Ac efe a ddywedodd, na fynnaf: rhag i [Page 42] chwi wrth gasclu 'r efrau, ddiwreiddio 'r gwenith gyd â hwynt.
30 Gadewch i'r ddau gŷd-tyfu hyd y cynhaiaf ac yn amser y cynhayaf y dywedaf wrth y medel-wŷr, Cesclwch yn gyntaf yr efrau, a rhwymwch hwynt yn yscubau, i'w llwyr-losci, ond cesclwch y gwenith i'm yscubor.
31 Dammeg arall a osodes efe iddynt, gan ddywedyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ronyn o hâd mwstard, yr hwn a gymmerodd dŷn, ag a'i hauodd yn ei faes.
32 Yr hwn yn wîr sydd leiaf o'r holl hadau▪ ond wedi iddo dyfu, mwyaf yn o'r llysiau ydyw, ac y mae efe yn myned yn bren: fel y mae adar y nef yn dyfod, ac yn nythu yn ei gangau ef.
33 Dammeg arall a lefarodd efe wrthynt, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i sur-does, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri phecceid o flawd, hyd oni surodd y cwbl.
34 Hyn oll a lefarodd yr Jesu trwy ddamhegion wrth y torfeydd: ac heb ddammeg ni lefarodd efe wrthynt:
35 Fel y cyflawnid yr hyn a ddwedpwyd trwy y prophwyd, gan ddywedyd, Agoraf fy ngenau mewn damhegion: mynegaf bethau cuddiedig er pan seiliwyd y bŷd.
36 Yna yr anfonodd yr Jesu y torfeydd ymmaith, ac yr aeth i'r tŷ: a'i ddiscyblion a ddaethant atto, gan ddywedyd, Eglura i ni ddammeg efrau y maes.
37 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd yn hau yr hâd da, yw Mâb y dŷn.
38 A'r maes yw 'r bŷd: a'r hâd da, hwynt hwy yw plant y deyrnas: a'r efrau yw plant y drŵg.
39 A'r gelyn yr hwn a'u hauodd hwynt yw diafol: a'r cynhayaf yw diwedd y bŷd: a'r medel-ŵyr yw 'r angelion.
40 Megis gan hynny y cynhullir yr efrau, ae a'u llwyr loscir yn tân, felly bydd yn niwedd y bŷd hwn.
41 Mâb y dŷn a ddenfyn ei angelion, a hwy a gynhullant allan o'i deyrnas ef yr holl dramgwyddiadau, a'r rhai a wnant anwiredd.
42 Ac a'u bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhingcian damnedd.
43 Yna y llewyrcha y rhai cyfiawn fel yr haul, yn nheyrnas eu Tâd. Yr hwn sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
44 Drachchefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i dryffor wedi ei guddio mewn maes, yr hwn wedi i ddŷn ei gaffael, a'i cuddiodd, ag o lawenydd am dano, sydd yn myned ymmaith, ac yn gwerthu yr hyn oll a fedd, ac yn prynu y maes hwnnw.
45 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i farchnatta-ŵr, yn ceisio perlau têg:
46 Yr hwn wedi iddo gaffael vn perl gwerthfawr, a aeth, ac a werthodd gymmaint oll ac a feddei ac a'i prynodd ef.
47 Drachefn, cyffelyb yw teyrnas nefoedd i fwyd a fwriwyd yn y môr, ac a gasclodd o bôb rhwy beth:
48 Yr hon, wedi ei llenwi, a ddygasant i'r lan, ac a eisteddasant, ac a gasclasant y [Page 44] rhai da mewn llestri, ac a fwriasant allan y rhai drwg.
49 Felly y bydd yn niwedd y bŷd: yr angelion a ânt allan, ac a ddidolant y rhai drwg o blith y rhai cyfiawn:
50 Ac a'i bwriant hwy i'r ffwrn dân: yno y bydd wylofain a rhincian dannedd.
51 Jesu a ddywedodd wrthynt, A ddarfu i chwi ddeall hyn oll? Hwythau a ddywedasant wrtho, Do Arglwydd.
52 A dywedodd yntau wrthynt, Am hynny pob Scrifennydd wedi ei ddyscu i deyrnas nefoedd sydd debyg i ddŷn o berchen tŷ, yr hwn sydd yn dwyn allan o'i dryssor [bethau] newydd a hên.
53 A bu, wedi i'r Jesu orphen y dammhegion hyn: efe a ymadawodd oddi yno.
54 Ac efe a ddaeth i'w wlâd ei hun, ac a'u dyscodd hwynt yn eu Synagog: fel y synnodd arnynt, ac y dywedasant, O ba le y daeth y doethineb hyn, a'r gweithredoedd nerthol, i'r [dyn] hwn?
55 Ond hwn yw mab y saer? ond Mair y gelwir ei fam ef, ac Iaco, a Ioses, a Simon, a Judas, ei frodyr ef?
56 Ac onid yw ei chwiorydd ef oll gyd â ni? o ba le gan hynny y mae gan hwn y pethau hyn oll?
57 A hwy a rwystrwyd ynddo ef. A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Nid yw prophwyd heb anrhydedd, ond yn ei wlâd ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
58 Ac ni wnaeth efe nemmor o weithredoedd nerthol yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt [Page 45] yno, oblegid eu hanghrediniaeth hwynt.
PEN. XIIII.
Y Pryd hynny y clybu Herod y Tetrarch sôn am yr Jesu.
2 Ac efe a ddywedodd wrth ei weision, Hwn yw Ioan Fedyddi-ŵr: efe a gyfodes o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
3 Canys Herod a ddaliasei Ioan, ac a'i rhwymasei, ac a'i dodasei yngharchar, oblegid Herodias gwraig Philip ei frawd ef.
4 Canys Ioan a ddywedodd wrtho, Nid cyfreithlawn i ti ei chael hi.
5 Ac efe yn ewyllysio ei roddi ef i farwolaeth, a ofnodd y dyrfa, canys hwy a'i cymmerent ef megis prophwyd.
6 Eithr pan gadwyd dydd genedigaeth Herod, dawnsiodd merch Herodias ger eu bron hwy, ac a ryngodd fodd Herod.
7 O ba herwydd efe addawodd drwy lŵ, roddi iddi beth bynnag a ofynnei.
8 A hithau wedi ei rhag ddyscu gan ei mam, a ddyweddodd, dyro i mi ymma ben Ioan Fedyddi ŵr mewn dyscl.
9 A'r brenin a fu drist ganddo: eithr o herwydd y llw, a'r rhai a eisteddent gyd ac ef wrth y ford, efe a orchymmynodd i roi ef [iddi.]
10 Ac efe a anfonodd, ac a dorrodd ben Ioan yn y carchar.
11 A ducpwyd ei ben ef mewn dyscl, ac a'i rhoddwyd i'r llangces: a hi a'i dug ef i'w mam.
12 A'r ddiscyblion ef a ddaethant, ac a gymerasant [Page 46] ei gorph ef, ag a'i claddasant; ac a aethant, ac a fynegasant i'r Jesu.
13 A phan glybu 'r Jesu, efe y ymadawodd oddi yno mewn llong, i anghyfannedd le o'r naill tu: ac wedi clywed o'r torfeydd, hwy a'i canlynasant ef ar draed allan o'r dinasoedd.
14 A'r Jesu a aeth allan, ac a welodd dyrfa fawr: ac a dosturiodd wrthynt, ac efe a iachaodd eu clefioni hwynt.
15 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth ei ddiscyblion atto, gan ddywedyd, Y lle sydd anghyfannedd, a'r awr a aeth weithian heibio: gollwng y dyrfa ymmaith, fel yr elont i'r pentrefi, ac y prynont iddynt fwyd.
16 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid iddynt fyned ymmaith: rhoddwch chwi iddynt beth iw fwytta.
17 A hwy a ddywedasant wrtho, Nid oes gennym ni ymma, onid pum torth, a dau byscodyn.
18 Ac efe a ddywedodd, Dygwch hwynt ymma i mi.
19 Ac wedi gorchymmyn i'r torfeydd eistedd at y gwellt glas, a chymmeryd y pum torth a'r ddau byscodyn, efe a edrychodd i fynu tu a'r nêf, ac a fendithiodd, ac a dorrodd, ac a roddes y torthau i'r discyblion, a'r discyblion i'r torfeydd.
20 A hwynt oll a fwytâsant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briw-fwyd oedd yngweddill, ddeuddeg bascedaid yn llawn.
21 A'r rhai a fwytasent, oedd ynghylch pummil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.
22 Ac yn y fan y gyrrodd yr, Jesu ei ddiscyblion [Page 47] i fyned i'r llong, ac i fyned i'r lan arall o'i flaen ef, tra fyddai efe yn gollwng y torfeydd ymmaith.
23 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymmaith, efe a escynnodd i'r mynydd wrtho ei hun, i weddio, Ac wedi ei hwyrhau hi, yr oedd ef yno yn vnig.
24 A'r llong oedd weithian ynghanol y môr yn drallodus gan donnau. Canys gwynt gwrthwynebus ydoedd.
25 Ac yn y bedwaredd wylfa o'r nôs, yr aeth yr Iesu attynt, gan rodio ar y môr.
26 A phan welodd y discyblion ef yn rhodio ar y môr, dychrynasant, gan ddywedyd, Drychiolaeth ydyw: a hwy a waeddasant rhag ofn.
27 Ac yn y man y llefarodd yr Iesu wrthynt, gan ddywedyd, Cemmerwch gyssur: myfi ydyw, nag ofnwch.
28 A Phetr attebodd, ac a ddywedodd, ô Arglwydd, os tydi yw, arch i mi ddyfod attat ar y dyfroedd.
29 Ac efe a dywedodd, Tyred. Ac wedi i Petr, ddescyn o'r llong, efe a rodiodd ar y dyfroedd, i ddyfod at yr Iesu.
30 Ond pan welodd efe y gwynt yn grŷf, efe a ofnodd: a phan ddechreuodd suddo, efe a lefodd, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw fi.
31 Ac yn y man yr estynnodd yr Jesu ei law, a ymaflodd ynddo ef ac a dywedodd wrtho, tydi o ychydig ffydd, pa ham y petrusaist?
32 A phan aethant hwy i mewn i'r llong, peidiodd y gwynt.
33 A daeth y rhai oedd yn y llong, ac a'i [Page 48] haddolasant ef, gan ddywedyd, Yn wîr Mâb Duw ydwyti.
34 Ac wedi iddynt fyned trosodd, hwy a ddaethant i dîr Gennesaret.
35 A phan adnabu gwŷr y fan honno ef, hwy a anfonasant i'r holl wlâd honno o amgylch, ac a ddygasant atto y rhai oll oedd mewn anhwyl.
36 Ac a attolygasant iddo gael cyffwrdd yn vnic ag ymyl ei wisc ef: a chynnifer ac a gyffyrddodd, a iachawyd.
PEN. XV.
YNa 'r Scrifennyddon a'r Pharisæaid, y rhai oedd o Jerusalem, a ddaethant at yr Jesu, gan ddywedyd,
2 Paham y mae dy ddiscyblion dy yn troseddu traddodiad yr hynafiaid? canys nid ydynt yn golchi eu dwylo pan fwyttâont fara.
3 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, A pha ham yr ydych chwi yn troseddu gorchymyn Duw, trwy eich traddodiad chwi.
4 Canys Duw a orchymmynodd, gan ddywedyd, Anrhydedda dy dâd, a'th fam: a'r hwn a felldithio dâd neu fam, lladder ef yn farw:
5 Eithr yr ydych chwi yn dywedyd, Pwy bynnag a ddywedo wrth ei Dâd neu ei fam, Rhodd [yw] pa beth bynnag y [...] lês oddi wrthifi, ac ni anrhydeddo ei dâd neu ei fam, [di-fai fydd.]
6 Ac [fel hyn] y gwnaethoch orchymmyn Duw yn ddi-rym, trwy eich traddodiad eich hun.
7 Oh ragrith-wŷr, da y yprophwydodd Esaia am danoch chwi, gan ddywedyd,
8 Nesau y mae y bobl hyn attaf â'i genau, a'm anrhydeddu a'u gwefusau: a'u calon sydd bell oddiwrthif.
9 Eithr yn ofer i'm anrhydeddant i, gan ddyscu gorchymynion dynion yn dysceidiaeth.
10 Ac wedi iddo alw y dyfra atto, efe a ddywedodd wrthynt, Clywch a deellwch.
11 Nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau, sydd yn halogi dŷn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan o'r genau, hynny sydd yn halogi dŷn.
12 Yna y daeth ei ddiscyblion atto, ac a ddywedasant wrtho, A wyddosti ymrwystro o'r Pharisæaid wrth glywed yr ymadrodd hyn?
13 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd Pôb planhigyn yr hwn ni's plannodd fy Nhâd nefol a ddiwreidir.
14 Gadewch iddynt: tywysogion deillion i'r ddeillion ydynt. Ac os y dall a dywys y dall, y ddau a syrthiant yn y ffos.
15 A phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Eglura i ni y ddammeg hon.
16 A dywedodd yr Jesu, A ydych chwithau etto heb ddeall?
17 Onid ydych chwi yn deall etto fôd yr hyn oll sydd yn myned i mewn i'r genau yn cilio i'r bola, ac y bwrir ef allan i'r gau-dŷ?
18 Eithr y pethau a ddeuant allan o'r genau, sy yn dyfod allan o'r galon, ar [pethau] hynny a halogant ddŷn.
19 Canys o'r galon y mae meddyliau drwg yn dyfod allan, lladdiadau, tor-priodasau, godinebau, lladradau, cam-destiolaethau, cablau.
20 Dymma y pethau sy yn halogi dŷn eithr [Page 05] bwytta â dwylo heb olchi, ni haloga ddŷn:
21 A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a giliodd i dueddau Tyrus a Sidon.
22 Ac wele, gwraig o Ganaan a ddaeth o'r parthau hynny, ac a lefodd, gan ddywedyd wrtho, Trugarhâ wrthif, o Arglwydd, Fâb Dafydd, y mae fy merch yn ddrwg ei hwyl gan gythrael.
23 Eithr nid attebodd efe iddi [vn] gair, A daeth ei ddiscyblion atto, ac a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Gollwng hi ymmaith, canys y mae hi yn llefain ar ein hol.
24 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Ni'm danfonwyd i ond at ddefaid colledig ty Israel.
25 Ond hi a ddaeth, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, cymmorth fi.
26 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Nid da cymmeryd bara y plant, a'i fwrw i'r cwn.
27 Hitheu a ddywedodd, Gwîr [yw] Arglwydd: canys y mae 'r cŵn yn bwytta o'r briwsion sy'n syrthio oddi ar fwrdd eu harglwyddi.
28 Yna yr attebodd yr Iesu, ac a ddywedodd wrth. Ha wraig, mawr yw dy ffydd: bydded i ti fel yr wyt yn ewyllysio. A'i merch a iachawyd o'r awr honno allan.
29 A'r Iesu a aeth oddi yno, ac a ddaeth ger llaw mor Galilæa; ac a escynnodd i'r mynydd, ac a eisteddodd yno.
30 A daeth atto dorfeydd lawer, a chanddynt gyd â hwynt gloffion, deillion, mudion, ânafusion, ac eraill lawer: a hwy a'u bwriasant i lawr wrth draed yr Iesu, ac efe a'u hiachaodd hwynt.
31 Fel y rhyfeddodd y torfeydd, wrth weled y mudion yn dywedyd, y rhai anafus yn iach, y cloffion yn rhodio, a'r deillion yn gweled: a hwy a ogoneddasant Dduw Israel.
32 A galwodd yr Iesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd, yr ydwyt yn tosturio wrth y dyrfa, canys y maent yn aros gyd â mi dri-diau weithian, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta: ac nid ydwyf yn ewyllysio eu gollwng hwynt ymmaith ar eu cythlwng, rhag eu llewygu ar y ffo [...].
33 A'i ddiscyblion a ddywedent wrtho, O ba le y caem ni gymmaint o fara yn y diffaethwch, fel y digonid tyrfa gymmaint?
34 A'r Iesu a ddywedei wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? A hwy a ddywedasant Saith, ac ychydig byscod bychein.
35 Ac efe a orchymynnodd i'r torfeydd eistedd ar y ddaiar.
36 A chan gymmeryd y saith dorth a'r pyscod, a diolch, efe a'u torrodd, ac a'u rhoes iw ddiscyblion, a'r discyblion i'r dyrfa.
37 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant eu digon: ac a godasant o'r briw-fwyd oedd yngweddill saith fascedaid yn llawn.
38 A'r rhai a fwyttasent, oedd bedair mil o wŷr, heb law gwragedd a phlant.
39 Ac wedi iddo ollwng y torfeydd ymmaith, efe a aeth i long, ac a ddaeth i barthau Magdala.
PEN. XVI.
AC wedi i'r Pharisæaid a'r Saducæaid ddyfod atto, a'i demptio, hwy a attolygasant iddo ddangos iddynt arwydd o'r nef.
2 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Pan fyddo yr hwyr y dywedwch, Tywydd têg, canys y mae 'r wybr yn gôch.
3 A'r boreu, Heddyw dryg hîn: canys y mae 'r wybr yn gôch, [ac] yn bruddaidd. O rhagrithwyr, chwi a fedrwch ddeall wyneb yr wybren, ac oni fedrwch arwyddion yr amserau?
4 Y mae cenhedlaeth ddrwg a godinebus yn ceisio arwydd, ac arwydd ni's rhoddir iddi, onid arwydd y prophwyd Jonas. Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth ymmaith.
5 Ac wedi dyfod ei ddiscyblion ef i'r lan arall, hwy a ollyngasent tros gof gymmeryd bara [centhynt.]
6 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Edrychwch ac ymogelwch rhag sur-does y Pharisæaid, a'r Saducæaid.
7 A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, [Hyn sydd] am na chymmerasom fara [cennym.]
8 A'r Jesu yn gwybod, a ddywedodd wrthynt, Chwy-chwi o ychydig ffydd, pa ham yr ydych yn ymresymmu yn eich plith eich hunain, am na chymmerasoch fara [gyd â chwi?
9 Onid ydych chwi yn deall etto, nac yn cofio pum torth y pum-mil, a pha sawl bascedaid gymmerasoch [i fynu?
10 Na saith dorth pedeir-mîl, a pha sawl cawelleid a gymmerasoch [i fynu?]
11 Pa fodd nad ydych yn deall nad am fara y dywedais wrthych, yr ymogelyd rhag sur-does y Pharisæaid, a'r Saducæaid?
12 Yna y deallasant na ddywedasei efe am ymogelyd rhag surdoes bara, ond rhag athrawiaeth y Pharisæaid, a'r Sadusæaid.
13 Ac wedi dyfod yr Jesu i dueddau Cæsarea Philippi, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, gan ddywedyd. Pwy y mae dynion yn dywedyd fy môd, Mâb y dŷn?
14 A hwy a ddywedasant, Rhai mai Ioan Fedyddi-ŵr, a rhai mai Elias, ac eraill mai Jeremias, neu vn o'r prophwydi.
15 Efe a ddywedodd wrthynt, Ond pwy meddwch chwi ydwyfi?
16 A Simon Petr a attebodd, ac a ddywedodd, Ti yw Christ, Mâb y Duw byw.
17 A'r Jesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Gwyn dy fŷd ti Simon mâb Iona: canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd [hyn] i ti, ond fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.
18 Ac yr ydwyf finneu yn dywedyd i ti, mai ti yw Petr, ac ar y graig hon yr adeiladaf fy Eglwys: a phyrth vffern ni's gorchfygant hi.
19 A rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd: a pha beth bynnag a rwymech ar y ddaiar, a fydd rhwymedig yn y nefoedd: a pha beth bynnag, a ryddhaech ar y ddaiar, a fydd wedi ei ryddhau yn y nefoedd.
20 Yna y gorchymynnodd efe i'w ddiscyblion na ddywedent i nêb mai efe oedd Jesu Grist.
21 O hynny allan y dechreuodd yr Jesu ddangos i'w ddiscyblion fôd yn rhaid iddo fyned i Jerusalem, a dioddef llawer gan yr Henuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, a chyfodi y trydydd dydd.
22 A Phetr, wedi ei gymmeryd ef atto, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Arglwydd trugarhâ wrthit dy hun; ni's bydd hyn i ti.
23 Ac efe a drôdd, ac a dywedodd wrth Petr; Dos yn fy ol i, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi: am nad ydwyt yn synnied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.
24 Yna y dywedodd yr Jesu wrth ei ddiscyblyon, os myn nêb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun, a chysoded ei groes a chanlyned fi.
25 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei fywyd, a'i cyll: a phwy bynnag a gollo ei fywyd o'm plegit i, a'i caiff.
26 Canys pa lesâd i ddŷn os ynnill efe yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid am ei enaid?
27 Canys Mâb y dŷn a ddaw yngogoniant ei Dâd gyd a'i Angelion, ac yna y rhydd efe i bawb yn ol ei weithred.
28 Yn wir y dywedaf wrthych, y mae rhai o'r sawl sydd yn sefyll ymma, a'r nî phrofant angeu, hyd oni welont Fâb y dŷn yn dyfod yn ei frenhiniaeth.
PEN. XVII.
AC yn ôl chwe diwrnod, cymmerodd yr Jesu Petr, ac Jaco, ac Ioan ei frawd, ac a'u dug hwy i fynydd vchel, o'r naill-tu.
2 A gwedd newidwyd ef ger eu bron hwy a'i wyneb a ddiscleiriodd fel yr haul, a'i ddillad oedd cyn wynned a'r goleuni.
3 Ac wele, Moses ac Elias a ymddangosodd iddynt, yn ymddiddan ag ef.
4 A Phetr a attebodd, ac a ddywedodd wrth yr Jesu, O Arglwydd, da yw i ni fod ymma: os ewyllysi, gwnawn ymma dair pabell: vn iti, ac vn i Moses, ac vn i Elias.
5 Ac efe etto yn llefaru, wele, cwmwl goleu a'u cyscododd hwynt: ac wele lef o'r cwmwl, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl sab, yn yr hwn i'm bodlonwyd: gwrandewch arno ef.
6 A phan glybu y discyblion [hynny,] hwy a syrthiasant ar eu hwyneb, ac a ofnasant yn ddirfawr.
7 A daeth yr Jesu, ac a gyffyrddodd â hwynt, ac a ddywedodd. Cyfodwch, ac mae ofnwch.
8 Ac wedi iddynt dderchafu eu llygaid, ni welsant neb ond yr Jesu yn vnic.
9 Ac fel yr oeddynt yn descyn o'r mynydd, gorchymynnodd yr Jesu iddynt, gan dywedyd, Na ddywedwch y weledigaeth i neb, hyd oni adgyfodo Mâb y dŷn o feirw.
10 A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ham gan hynny y mae 'r Scrifennyddion yn dywedyd, fod yn rhaid dyfod o Elias yn gyntaf.
11 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn wir a ddaw yn gyntaf, ac a edfryd bob peth.
12 Eithr yr ydwyfi yn dywedyd i chwi ddyfod O Elias eusys, ac nad adnabuant hwy ef, ond gwneuthur o honynt iddo beth bynnag a fynnasant: felly y bydd hefyd i Fâb y dŷn ddioddef ganddynt hwy.
13 Yna y deallodd y discyblion mai am Ioan Fedyddiŵr y dywedasei efe wrthynt.
14 Ac wedi eu dyfod hwy at y dyrfa, daeth atto ryw ddŷn, ac a ostyngodd iddo ar ei liniau.
15 Ac a ddywedodd, Arglwydd trugarhà wrth fy mâb, oblegid y mae efe yn lloerig, ac yn flin arno: canys y mae efe yn syrthio yn y tân yn fynych, ac yn y dwfr yn fynych.
16 Ac mi a'i dugym ef at dy ddiscyblion di, ac ni allent hwy ei iachau ef.
17 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hyd y byddaf gyd â chwi? pa hyd y dioddefaf chwi? dygwch ef ymma attafi.
18 A'r Jesu a geryddodd y cythrael, ac efe a aeth allan o honaw: a'r bachgen a iachawyd o'r awr honno.
19 Yna y daeth y discyblion at yr Jesu o'r nailltu, ac y dywedasant, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?
20 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Oblegid eich anghrediniaeth: canys yn wir y dywedaf i chwi, pe bai gennych ffydd megis gronyn o hâd mwstard, chwi a ddywedech wrth y mynydd hwn, Symmud oddi ymma draw, ac efe a symmudai: [Page 57] ac ni bydd dim amhossibl i chwi.
21 Eithr nid â y rhywogaeth hyn allan, onid trwy weddi ac ympryd.
22 Ac fel yr oeddynt hwy yn aros yn Galilæa, dywedodd yr Jesu wrthynt, Mâb y dŷn a draddodir i ddwylo dynion:
23 A hwy ai lladdant, a'r trydydd dydd y cyfyd efe. A hwy a aethant yn drist iawn.
24 Ac wedi dyfod o honynt i Capernaum, y rhai oedd yn derbyn arian y deyrn-ged, a ddaethant at Petr, ac a ddywedasant, Onid yw eich athro chwi yn talu teyrn-ged?
25 Yntef a ddywedodd, Ydyw. Ac wedi ei ddyfod ef i'r tŷ, yr Jesu a achubodd ei flaen ef, gan ddyweddyd, Beth yr wyt ti yn ei dybied, Sîmon? gan bwy y cymmer brenhinoedd y ddaiar deyrn-ged, neu dreth? gan eu plant eu hun, ynteu gan estroniaid?
26 Petr a ddywedodd wrtho, Gan estroniaid. Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Gan hynny y mae y plant yn rhyddion.
27 Er hynny, rhag i ni eu rhwystro hwy, dôs i'r môr, a bwrw fach, a chymmer y pyscodyn a ddêl i fynu yn gyntaf: ac wedi i ti agoryd ei safn, ti a gei ddarn o arian: cymmer hwnnw, a dyro iddunt drosofi a thitheu.
PEN. XVIII.
AR yr awr honno y daeth y discyblion at yr Jesu, gan ddywedyd, Pwy sydd fwyaf yn nheyrnas nefoedd?
2 A'r Jesu a alwodd atto fachgennyn, ac [Page 58] a'i gosodes yn eu canol hwynt.
3 Ac a ddywedodd, Yn wîr y dywedaf i chwi, o ddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fel plant bychain, nid ewch chwi ddim i mewn i deyrnas nefoedd.
4 Pwy bynnag gan hynny a'i gostyngo ei hunan fel y bachgennyn hwn, hwnnw yw'r mwyaf yn nheyrnas nefoedd.
5 A phwy bynnag a dderbynio gyfryw fachgennyn yn fy enw i, a'm derbyn i.
6 A phwy bynnag a rwystro vn o'r rhai bychain hyn a gredant ynofi, da fyddai iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yn eigion y môr.
7 Gwae 'r bŷd oblegid rhwystrau: canys angenrhaid yw dyfod rhwystrau: er hynny gwae y dŷn hwn drwy 'r hwnw y daw y rhwystr.
8 Am hynny, os dy law, neu dy droed a'th rwystra, torr hwynt ymmaith, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, neu yn anafus, nag â chennit ddwy law neu ddau droed, dy daflu i'r tân tragywyddol.
9 Ac os dy lygad a'th rwystra, tynn ef allan, a thafl oddi wrthit: gwell yw i ti yn un llygeidiog fyned, i mewn i'r bywyd, nag à dau lygad gennit, dy daflu i dân vffern.
10 Edrychwch na ddirmygoch yr vn o'r rhai bychain hyn: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod eu hangelion hwy yn y nefoedd, bôb amser yn gweled wyneb fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd.
11 Canys daeth Mâb y dŷn i gadw yr hyn a gollasid.
12 Beth dybygwch chwi? o bydd-gan ddŷn gant o ddefaid, a myned o vn o honynt ar ddisperod, oni âd efe yr am yn vn cant, a myned i'r mynyddoedd, a cheisio yr hon a aeth ar ddisperod?
13 Ac of bydd [iddo] ei chael hi, yn wir meddaf i chwi, y mae yn llawenhau am honno, mwy nag am yr amyn vn cant, y rhai nid aethant ar ddisperod.
14 Felly nid yw ewyllys eich Tâd, yr hwn sydd yn y nefoedd, gyfrgolli 'r vn o'r rhai bychain hyn.
15 Ac os pecha dy frawd i'th erbyn, dôs, ac argyoedda ef rhyngot ti ac ef ei hun: os efe a wrendy arnat, ti a ennillaist dy frawd.
16 Ac os efe ni wrendy, cymmer gyd â thi etto vn neu ddau, fel yngenau dau neu dri o dystion, y byddo pob gair yn safadwy.
17 Ac os efe ni wrendy arnynt hwy, dywed i'r Eglwys: ac of efe ni wrendy ar yr Eglwys, chwaith, bydded ef i ti megis yr ethnic a'r Publican.
18 Yn wîr meddaf i chwi, pa bethau bynnag a rwymoch ar y ddaiar, fyddant wedi eu rhwymo yn y nef: a pha bethau bynnag a ryddhaoch ar y ddaiar, a fyddant wedi eu rhyddhau yn y nef.
19 Trachefn meddaf i chwi, os cydsynnia dau o honoch ar y ddaiar, am ddim oll, beth bynnag a'r a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy Nhâd, hwn sydd yn y nefoed.
20 Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt.
21 Yna y daeth Petr atto ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pa sawl gwaith y pecha fy mrawd i'm herbyn, ac y maddeuaf iddo? a'i hyd seith-waith?
22 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Nid ydwyf yn dywedyd wrthit, hyd seith-waith, onid hyd ddeng-waith a thrugain seith-waith.
23 Am hynny y cyffelybir teyrnas nefoedd i ryw frenin, a fennei gael cyfrif gan ei weision.
24 A phan ddechreuodd gyfrif, fe a ddugpwyd atto vn a oedd yn ei ddylêd ef o ddengmil o dalentau.
25 A chan nad oedd ganddo [ddim] i dalu, gorchymynnodd ei arglwydd ei werthu ef, a'i wraig, a'i blant, a chwbl a'r a feddei, a thalu ['r ddylêd.]
26 A'r gwas a syrthiodd i lawr, ac a'i haddolodd ef, gan ddywedyd, Arglwydd, bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.
27 Ac Arglwydd y gwâs hwnnw a dosturiodd [wrtho;] ac a'i gollyngodd, ac a faddeuodd iddo y ddylêd.
28 Ac wedi myned o'r gwas hwnnw allan, efe a gafodd vn o'i gyd weision, yr hwn oedd yn ei ddylêd ef o gan ceiniog: ac efe a ymaflodd ynddo, ac a'i llyndagodd, gan ddywedyd, Tâl i mi yr hyn sydd ddyledus arnat.
29 Yna y syrthiodd ei gyd-wâs wrth ei draed ef, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd Bydd ymarhous wrthif, a mi a dalaf i ti y cwbl oll.
30 Ac ni's gwnai efe: ond myned, a'i fwrw ef yngharchar, hyd oni thalei yr hyn oedd ddyledus.
31 A phan weles ei gyd-weision y pethau a wnelsid, bu ddrwg dros ben ganddynt: a hwy a ddaethant, ac a fynegasant i'w harglwydd yr holl bethau a fuasei.
32 Yna ei arglwydd, wedi ei alw ef atto, a ddywedodd wrtho, Ha wâs drwg, maddeuais i ti yr holl ddyled honno, am i ti ymbil â mi:
33 Ac oni ddylesit titheu drugarhau wrth dy gyd-wâs, megis y trugarhêais inneu wrthit ti?
34 A'i arglwydd a ddigiodd, ac a'i rhoddes ef i'r poen-wŷr, hyd oni thalei yr hyn oll oedd ddyledus iddo.
35 Ac felly y gwna fy Nhâd nefol i chwithau, oni faddeuwch o'ch calonnau bôb vn i'w frawd eu camweddau.
PEN. XIX.
A Bu, pan orphennodd yr Jesu yr ymadroddion hyn, efe a ymadawodd o Galilæa, ag a ddaeth i derfynau Judæa, tu hwnt i'r Jorddonen.
2 A thorfeydd lawer a'i canlynasant ef: ac efe a'u hiachaodd hwynt yno.
3 A daeth y Pharisæaid atto gan ei demptio, a dywedyd wrtho, Ai cyfraithlawn i ŵr yscar a'i wraig am bôb achos?
4 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt Oni ddarllennasoch i'r hwn a'u gwnaeth o'r dechreu eu gwneuthur hwy yn wrryw a benyw.
5 Ac efe a ddywedodd, Oblegid hyn y gâd dŷn dâd a mam, ac y glŷn wrth ei wraig: a'r ddau fyddant yn vn cnawd.
6 O herwydd pa ham, nid ydynt mwy yn ddau, [Page 62] onid yn vn cnawd, Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, nac yscared dŷn.
7 Hwythau a ddywedasant wrtho, Pa ham gan hynny y gorchymynnodd Moses roddi llythr yscar, a'i gollwng hi ymmaith?
8 Yntef a ddywedodd wrthynt, Moses o herwydd caledrwydd eich calonnau a oddefodd i chwi yscar â'ch gwragedd: eithr o'r dechreu nid felly yr oedd.
9 Ac meddaf i chwi, pwy bynnag a yscaro â'i wraig, ond am odineb, ac a briodo vn arall, y mae efe yn torri priodas: a y mae yr hwn a briodo yr hon a yscarwyd, yn torri priodas.
10 Dywedodd ei ddiscybl on wrtho, Os felly y mae 'r achos rhwng gŵr a gwraig; nid da gwreica.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Nid yw pawb yn derbyn y gair hwn, ond y rhai y rhoddwyd iddynt.
12 Canys y mae Eunuchiaid a aned felly o groth [eu] mam: ac y mae Eunuchiaid a wnaed gan ddynion yn Eunuchiaid: ac y mae Eunuchiaid a'u gwnaethant eu hun yn Eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Y neb a ddichon [ei] dderbyn derbynied.
13 Yna y dygpwyd atto blant bychain, fel y rhoddei ei ddwylo arnynt, ac y gweddiei: a'r discyblion a'n ceryddodd hwynt.
14 A'r Jesu a ddywedodd, Gadewch i blant bychain, ac na waherddwch iddynt ddyfod attafi: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.
15 Ac wedi iddo roddi ei ddwylo arnynt efe a aeth [ymmaith] oddi yno.
16 Ac wele, vn a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro da, pa beth da a wnaf, fel y caffwyf fywyd tragywyddol?
17 Yntef a ddywedodd wrtho, Pa ham y gelwi fi yn dda? nid da neb ond vn, [sef] Duw: ond os ewyllysi fined i mewn i'r bywyd, cadw 'r gorchymynion.
18. Efe a ddywedod wrtho yntef, Pa rai? A'r Jesu a ddywedodd, Na ladd, na odineba, na ledratta, na ddwg gam dystiolaeth.
19 Anrhydedda dy dâd a'th fam, a Châr dy gymmydog fel di dy hun.
20 Y gŵr ieuangc a ddywedodd wrtho, Mi a gedwais y rhai hyn oll o'm hieuengtid: beth sydd yn eisieu i mi etto.
21 Yr Iesu a dywedodd wrtho, Os ewyllysi fôd yn berffaith, dos; gwerth yr hyn sydd gennit, a dyro i'r tlodion: a thi a gei dryssor yn y nef: a thyred, canlyn fi.
22 A phan glybu y gŵr ieuangc yr ymadrodd, efe a aeth i ffordd yn drist: canys yr oedd yn berchen da lawer.
23 Yna y dywedodd yr Iesu wrth ei ddiscyblion, Yn wîr y dywedaf i chwi, mai yn anhawdd yr â goludog i mewn i deyrnas nefoedd.
24 A thrachefn meddaf i chwi, Haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
25 A phan glybu ei ddiscybliod ef [hyn,] synnu a wnaethant yn ddirfawr, gan ddywedyd, Pwy gan hynny a all fôd yn gadwedig?
26 A'r Iesu a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Gyd a dynion ammhossibl yw [Page 64] hyn, onid gyd â Duw pôb peth sydd bossibl.
27 Yna Petr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganlynasom di beth gan hynny a fydd i ni?
28 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt. Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi y rhai a'm canlynasoch i, yn yr adenedigaeth pan eisteddo Mab y dŷn ar orsedd ei ogoniant, eistedd chwithau ar ddeuddeg gorsedd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel.
29 A phôb vn a'r a adawodd dai, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cymmaint, a bywyd tragywyddol a etifedda efe.
30 Ond llawer o'r rhai blaenaf a fyddant yn olaf: a'r rhai olaf yn flaenaf.
PEN. XX.
CAnys teyrnas nefoedd sydd debyg i ŵr o berchen tŷ, yr hwn a aeth allan a hi yn dyddhau, i gyflogi gweith-wŷr i'w win-llan.
2 Ac wedi cytuno a'r gweith-wŷr er ceiniog y dydd, efe a'u hanfonodd hwy i'w winllan.
3 Ac efe a aeth allan ynghylch y drydedd awr, ac a welodd eraill yn sefyll yn segur yn y farchnadfa:
4 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a pha beth bynnag a fyddo cyfiawn, mi a'i rhoddaf i chwi.
5 A hwy a aethant ymmaith. [Ac] efe a aeth allan drachefn ynghylch y chweched a'r nawfed [Page 65] awr, ac a wnaeth yr vn modd.
6 Ac efe a aeth allan ynghylch yr vnfed awr ar ddêg, ac a gafas eraill yn sefyll yn segur, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y sefwch chwi ymma ar hŷd y dydd yn segur?
7 Dywedasant wrtho, Am na chyflogodd neb nyni. Dywedodd yntef wrthynt, Ewch chwithau i'r win-llan, a phan beth bynnag fyddo cyfiawn, chwi a'i cewch.
8 A phan aeth hi yn hwyr, arglwydd y win-llan a ddywedodd wrth ei oruchwiliŵr, Galw 'r gweith-wŷr, a dyro iddynt eu cyflog, gan ddechreu o'r rhai diweddaf, hyd y rhai cyntaf.
9 A phan ddaeth y rhai [a gyflogasid] ynghylch yr vnfed awr ar ddeg, hwy a gwasant bôb vn geiniog.
10 A phan ddaeth y rhai cyntaf, hwy a dybiasant y caent fwy: a hwythau a gawsant bôd vn geiniog.
11 Ac wedi iddynt gael, grwgnach a wnaethant yn erbyn gŵr y tŷ:
12 Gan ddywedyd, Vn awr y gweithiodd y rhai olaf hyn, a thi a'u gwnaethost hwynt yn gystal a ninneu, y rhai a ddygasom bwŷs y dydd a'r gwrês.
13 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrth vn o honnynt, Y cyfaill, nid ydwyf yn gwneuthur cam â thi: onid er ceiniog y cytunaist â mi?
14 Cymmer yr hyn sydd eiddot, a dôs ymmaith: yr ydwyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn, megis i titheu.
15 Ai nid cyfreithlawn i mi wneuthur a fynnwyf a'r eiddof fy hun? neu a ydyw [Page 66] dy lygad ti yn ddrwg, am fy môd i yn dda?
16 Felly y rhai olaf fyddant yn flaenaf, a'r rhai blaenaf yn olaf: canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
17 Ac a'r Jesu yn myned i fynu i Jerusalem, efe a gymmerth y deuddeg discybl o'r nailltu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt.
18 Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem, a mâb y dŷn a draddodir i'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion, a hwy a'i condemniant ef i farwolaeth:
19 Ac a'i traddodant ef i'r cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellu, ac i'w groeshoelio: a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
20 Yna y daeth mam meibion Zebedaeus atto, gyd â'i meibion, gan addoli, a deisyf rhyw beth ganddo.
21 Ac efe a ddywedodd wrthi, pa beth a fynni? Dywedodd hitheu wrtho, Dywed am gael o'm dau fâb hyn eistedd, y naill ar dy law ddehau, a'r llall ar dy law asswy, yn dy frenhiniaeth.
22 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd, Ni wyddoch chwi beth yr ydych yn ei ofyn, A ellwch chwi yfed o'r cwppan yr ydwyfi ar yfed o honaw, a'ch bedyddio a'r bedydd y bedyddir fi? Dywedasant wrtho, Gallwn.
23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch om cwppan, ac i'ch bedyddir a'r bedydd i'm bedyddir ac ef: eithr eistedd ar fy llaw ddehau, ac ar fy llaw asswy, nid eiddof [ei] roddi, ond i'r sawl y darparwyd gan fy Nhâd.
24 A phan glybu y dêg [hyn] hwy a sorrasant wrth y ddau frodyr.
25 A'r Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Chwi a wyddoch fod pennaethiaid y cenhedloedd yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'r rhai mawrion yn tra awdurdodi arnynt hwy.
26 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a fynno fod yn fawr yn eich plith bydded yn wenidog i chwi.
27 A phwy bynnag a fynno fôd yn bennaf yn eich plith, bydded yn wâs i chwi.
28 Megis na ddaeth Mab y dŷn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roddi ei einioes yn brid-werth dros lawer.
29 Ac a hwy yn myned allan o Iericho, tyrfa fawr a'i canlynodd ef.
30 Ac wele, dan ddeillion yn eistedd ar fin y ffordd, pan glywsant fod yr Jesu yn myned heibio, a efasant gan ddywedyd, Arglwydd, fâb Dafydd, trugarhâ wrthym.
31 A'r dyrfa a'u ceryddodd hwynt, fel y tawent hwythau a lefasant fwy-fwy, gan ddywedyd, Arglwydd, fab Dafydd, trugarhâ wrthym.
32 A'r Iesu a safodd, ac a'u galwodd hwynt, ac a ddywedodd, pa beth a ewyllysiwch ei wneuthur o honof i chwi?
33 Dywedasant wrtho, Arglwydd; agoryd ein llygaid ni.
34 A'r Iesu a dosturiodd wrthynt, ac a gyffyrddodd a'u llygaid: ac yn ebrwydd y cafodd eu llygaid olwg, a hwy a'i canlynasant ef.
PEN. XXI.
A Phan ddaethant yn gyfagos i Jerusalem, a'u dyfod hwy i Bethphage, i fynydd yr oleŵydd yna yr anfonodd yr Jesu ddau ddiscybl:
2 Gan ddywedyd wrthynt, Ewch i'r pentref sydd ar eich cyfer, ac yn y man chwi a gewch assyn yn rhwym ac ebol gyd â hi: gollyngwch [hwynt] a dygwch attafi.
3 Ac os dywed neb ddim wrthych, dywedwch Y mae 'n rhaid i'r Arglwydd wrthynt: ac yn y man efe a'u denfyn hwynt.
4 A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy 'r prophwyd, yn dywedyd,
5 Dywedwch i ferch Sion, Wele, dy frenin yn dyfod i ti yn addfwyn, ac yn eistedd ar assyn, ac ebol llwdn [assyn] arferol â'r iau.
6 Y discyblion a aethant, ac a wnaethant fel y gorchymynnasei 'r Jesu iddynt.
7 A hwy a ddygasant yr assyn a'r ebol, ac a ddodasant eu dillad arnynt, ac a'i gosodasant [ef] i eistedd ar hynny.
8 A thyrfa ddirfawr a danasant eu dillad ar y ffordd: eraill a dorrasant gangau o'r gwŷdd, ac a'u tanasant ar hyd y ffordd.
9 A'r torfeydd, y rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddyweded, Hosanna i fab Dafydd, Bendigedig yw 'r hwn fydd yn dyfod yn enw 'r Arglwydd, Hosanna yn y goruchafion.
10 Ac wedi ei ddyfod ef i mewn i Jerusalem, y [Page 69] ddinas oll a gynhyrfodd, gan ddywedyd, Pwy yw hwn?
11 A'r torfeydd a ddywedasant, Hwn yw Jesu y prophwyd o Nazareth yn Galilæa.
12 A'r Jesu a aeth i mewn i Deml Dduw, ac a daflodd allan bawb a'r oedd yn gwerthu ac yn prynu yn y Deml: ac a ddymchwelodd i lawr fyrddau y newidwŷr arian, a chadeiriau y rhai oedd yn gwerthu colommennod.
13 Ac a ddywedodd wrthynt, Scrifennwyd, Tŷ gweddi y gelwir fy nhy i; eithr chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
14 A daeth y deillion a'r cloffion atto, yn y Deml, ac efe a'u iachaodd hwynt.
15 A phan welodd yr Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion y rhyfeddodau a wnaethai efe, a'r plant yn llefain yn y Deml, ac yn dywedyd, Hosanna i fâb Dafydd, hwy a lidiasant:
16 Ac a ddywedasant wrtho, A wyt ti yn clywed beth y mae y rhai hyn yn ei ddywedyd? A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Ydwyf. Oni ddarllennasoch chwi erioed, O enau plant bychain, a rhai yn sugno, y perffeithiaist foliant?
17 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth allan o'r ddinas, i Bethania, ac a letteuodd yno.
18 A'r boreu, fel yr oedd efe yn dychwelyd i'r ddinas, yr oedd arno chwant bwyd.
19 A phan welodd efe ffigys-bren ar y ffordd, efe a ddaeth atto, ac ni chafodd ddim arno, onid dail yn vnig: ac efe a ddywedodd wrtho, Na thyfed ffrwyth arnat byth mwyach. Ac yn ebrwydd y crinodd y ffigys-bren.
20 A phan welodd y discyblion, hwy a ryfeddasant, [Page 70] gan ddywedyd, Mor ddisymmwth y crinodd y ffigys bren?
21 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, os bydd gennych ffydd, ac heb ammau, ni wnewch yn vnig hyn [a wnaethym] i i'r ffigys bren, eithr hefyd os dywedwch wrth y mynydd hwn, Coder di i fynu a bwrier di i'r mor, [hynny] a fydd.
22 A pha beth bynnag a ofynnoch mewn gweddi, gan gredu, chwi a'i derbyniwch.
23 Ac wedi ei ddyfod ef i'r Deml, yr Arch-offeiriaid a Henuriaid y bobl a ddaethant atto, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, gan ddywedyd, Trwy ba awdurdod yr wyti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon?
24 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Minneu a ofynnaf i chwithau vn 'gair, yr hwn os mynegwch i mi, minneu a fynegaf i chwithau drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
25 Bedydd Ioan, o ba le yr oedd? ai o'r nef, ai o ddynion? A hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O'r nef: efe a ddywed wrthym, Pa ham gan hynny na's credasoch ef?
26 Ond os dywedwn, O ddynion: y mae arnom ofn y bobl: canys y mae pawb yn cymmeryd Ioan megis prophwyd.
27 A hwy a attebasant i'r Jesu, ac a ddywedasant, Ni wyddom ni. Ac yntef a ddywedodd wrthynt, Nid wyf finneu yn dywedyd i chwi drwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fâb, ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedoddd, [fy] mâb, dôs, gweithia heddyw yn fy ngwinllan.
29 Ac yntef a attebodd, ac a ddywedodd, Nid âf. Ond wedi hynny efe a edifarhaodd ac a aeth.
30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr vn modd. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd yr vn modd. Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Myfi [a âf] Arglwydd, ac nid aeth efe.
31 Pa vn o'r ddau a wnaeth ewyllys y tâd? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Jesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr meddaf i chwi, yr â'r publicanod a'r putteinieid i mewn i deyrnas Dduw o'ch blaen chwi.
32 Canys daeth Joan attoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef: ond y Publicanod a'r putteiniaid a'i credasant ef: chwithau yn gweled nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
33 Clywch ddammeg arall. Yr oedd rhyw ddŷn o berchen tŷ, yr hwn a blannodd winllan, ac a osododd gae yn ei chylch hi, ac a gloddiodd ynddi win-wŷf, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-wŷr, ac â aeth oddi cartref.
34 A phan nessaodd amser ffrwythau, efe a ddanfonodd ei weision at y llafur-wŷr, i dderbyn ei ffrwythau hi.
35 A'r llafur-wŷr a ddaliasant ei weision ef, ac vn a gurasant, ac arall a laddasant, ac arall a labyddiasant.
36 Trachefn efe a anfonodd weision eraill fwy nà'r rhai cyntaf: a hwy a wnaethant iddynt yr vn modd.
37 Ac yn ddiweddaf oll efe a anfonodd attynt ei fab ei hun, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i.
38 A phan welodd y llafur-wŷr y mâb, hwy a ddywedasant yn eu plith eu hun, hwn yw'r etifedd; deuwch lladdwn ef, a daliwn ei etifeddiaeth ef.
39 Ac wedi iddynt ei ddal, hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac a'i lladdasant.
40 Am hynny pan ddêl arglwydd y winllan, pa beth a wna efe i'r llafurwyr hynny?
41 Hwy a ddywedasant wrtho, Efe a ddifetha yn llwyr y dynion drwg hynny, ac a esyd y winllan i lafur-wŷr eraill, y rhai a dalant iddo y ffrwythau yn eu hamserau.
42 Yr Jesu a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllennasoch chwi erioed yn yr Scrythyrau? Y maen a wrthododd yr adeiladwŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben congl: gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
43 Am hynny meddaf i chwi y dygir teyrnas Dduw oddi arnoch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau.
44 A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwilfriw.
45 A phan glybu 'r Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid ei ddamhegion ef, hwy a wybuant mai am danynt hwy y dywedai efe.
46 Ac a hwy yn ceisio ei ddala, hwy a ofnasânt y torfeydd, am eu bôd yn ei gy mmeryd ef fel prophwyd,
PEN. XXII.
A'R Jesu a attebodd, ac a lefarodd wrthynt drachefn mewn damhegion, gan ddywedyd,
2 Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw fren ina wnaeth briodas i'w fâb:
3 Ac a ddanfonodd ei weision i alw y rhai a wahoddasid ir briodas, ac ni fynnent hwy ddyfod.
4 Trachefn efe anfonodd weision eraill, gan ddywedyd, Dywedwch wrth y rhai a whahoddwyd, Wele, peratoais fy nghinio, fy ychen a'm pascedigion a laddwyd, a phob peth [fydd] barod, deuwch i'r briodas.
5 A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymmaith, vn i'w faes, ac arall i'w fasnach.
6 A'r llaill, a ddaliasant ei weision ef, ac a'u hammharchasant, ac a'u lladdasant.
7 A phan glybu y brenin, efe a lidiodd, ac a ddanfonodd eu luoedd, ac a ddinistriodd y lleiddiaid hynny, ac a loscodd eu dinas hwynt.
8 Yna efe a ddywedodd wrth ei weision, Yn wir y briôdas fydd barod, ond y rhai a wahoddasid nid oeddynt deilwng.
9 Ewch gan hynny i'r prif-ffyrdd, a chynnifer ac a gaffoch, gwahoddwch i'r briodas.
10 A'r gweision hynny a aethant allan i'r prif-ffyrdd, ac a gasclasant ynghŷd gynnifer oll ac a gawsant drwg a da: a llanwyd y briodas o wahoddedigion.
11 A phan ddaeth y brenin i mewn i weled y gwahoddedigion, efe a ganfu yno ddŷn heb wisc briodas âm dano.
12 Ac efe a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, pa fodd y daethost i mewn ymma, heb fod gennit wisc priodas? Ac yntef a aeth yn fud.
13 Yna ydywedodd y brenin wrth y gwenidogion, Rhwymwch ei draed a'i ddwylo, a chymmerwch ef ymmaith, a thesiwch i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain a rhingcian dannedd.
14 Canys llawer sy wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis.
15 Yna 'r aeth y Pharisæaid ac a gymmerasant gyngor pa fodd y rhwydent ef yn [ei] ymadrodd.
16 A hwy a ddanfonasant atto eu discyblion ynghŷd a'r Herodianiaid, gan ddywedyd, Athro ni a wyddom dy fôd yn eir-wir, ac yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd, ac nad oes arnat ofal rhag neb: oblegid nid wyti yn edrych ar wyneb dynion.
17 Dywed i ni gan hynny, beth yr wyt ti yn ei dybied: ai cyfreithlawn rhoddi teyrnged i Cæsar, ai nid yw?
18 Ond yr Jesu a wybu eu drigioni hwy, ac a ddywedodd, Pa ham yr ydych yn fy nhemptio i, [chwi] ragrîth-wŷr?
19 Dangoswch i mi arian y deyrn-ged. A hwy a ddygasant atto geiniog.
20 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw y ddelw hon a'r argraph?
21 Dywedasant wrtho, Eiddo Cæsar. Yna y dywedodd wrthynt, Telwch chwithau yr eiddo Cæsar i Cæsar a'r eiddo Duw i Dduw.
22 A phan glywsant hwy [hyn,] rhyfeddu a wnaethant, a'i adel ef a myned ymmaith.
23 Y dydd hwnnw y daeth atto y Saducæaid, y rhai sy 'n dywedyd nad oes adgyfodiad, ac a ofynnasant iddo,
24 Gan ddywedyd; Athro, dywedodd Moses, Os bydd marw neb heb iddo blant, prioded ei frawd ei wraig ef, a chyfoded hâd i'w frawd.
25 Yr oedd gyda ni saith o frodyr: a cyntaf, a briododd wraig, ac a fu farw: ac efe heb hiliogaeth iddo, a adawodd ei wraig i'w frawd.
26 Felly hefyd yr ail, a'r trydydd, hyd y seithfed.
27 Ac yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd.
28 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy o'r saith fydd hi? canys hwynt-hwy oll a'i cawsant hi.
29 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydych yn cyfeiliorni, gan na wyddoch, yr Scrythyrau, na gallu Duw.
30 Oblegid yn yr adgyfodiad nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra: eithr y mâent fel angelion Duw yn y nef.
31 Ac am adgyfodiad y meirw, oni ddarllennasoch yr hyn a ddywedpwyd wrthych gan Dduw, yn dywedyd,
32 Myfi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Jacob? nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw.
33 A phan glybu y torfeydd [hynny,] hwy a synnasant wrth ei athrawiaeth ef.
34 Ac wedi clywed o'r Pharisæaid ddarfod [i'r Jesu] ostegu y Saducæaid, hwy a ymgynnullasant ynghyd i'r vn lle.
35 Ac vn o honynt, yr hwn oedd gyfreithiwr, a ofynnodd [iddo] gan ei demtio, a dywedyd.
36 Athro, pa vn [yw] 'r gorchymyn mawr yn y gyfraith?
37 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Ceri yr Arglwydd dy Dduw à'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac a'th holl feddwl.
38 Hwn yw 'r cyntaf, a'r gorchymyn mawr.
39 A'r ail [sydd] gyffelyb iddo, Car dy gymydog fel ti dy hun.
40 Ar y ddau orchymmyn hyn, y mae 'r holl gyfraith a'r prophwydi yn sefyll.
41 Ac wedi ymgasclu o'r Pharisæaid ynghŷd, yr Jesu a ofynnodd iddynt,
42 Gan ddywedyd, Beth a dybygwch chwi am Grist? mâb i bwy ydyw? dywedent wrtho, [Mâb] Dafydd.
43 Dywedai yntef wrthynt, Pa fodd gan hynny y mae Dafydd yn yr Yspryd yn ei alw ef yn Arglwydd? gan ddywedyd,
44 Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd Eistedd ar fy neheu-law, hyd oni osodwyf dy elynion yn droed-faingc i'th draed ti.
45 Os yw Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, pa fodd y mae efe yn fâb iddo?
46 Ac ni allodd, neb atteb gair iddo: ac ni feiddiodd neb o'r dydd hwnnw allan ymofyn ac ef mwyach.
PEN. XXIII.
YNa y llefarodd yr Jesu wrth y torfeydd a'i ddiscyblion.
2 Gan ddywedyd, Ynghadair Moses yr eistedd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid.
3 Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch, eithr ar ôl eu gweithredoedd na wnewch, canys dywedant ac ni's gwnânt.
4 Oblegid y maent yn rhwymo beichiau trymion, ac anhawdd eu dwyn, ac yn eu gosod ar yscwyddau dynion: ond ni ewyllysiant eu syflyd hwy, ag [vn] o'i bysedd.
5 Ond y maent yn gwneuthur eu holl weithredoedd er mwyn eu gweled gan ddynion: canys y maent yn gwneuthur yn llydain eu phylacterau, ac yn gwneuthur ymyl-waith eu gwiscoedd yn helaeth.
6 A charu y maent y lle vchaf mewn gwleddoedd, a'r prif-gaddeiriau yn y Synagogau.
7 A chyfarch yn y marchnadoedd, a'u galw gan ddinion Rabbi, Rabbi.
8 Eithr na'ch galwer chwi Rabbi: canys vn yw eich athro chwi [sef] Christ: chwithau oll brodyr ydych.
9 Ac na elwch neb yn dad i chwi ar y ddaiar: canys vn Tâd fydd i chwi, yr hwn [sydd] yn y nefoedd.
10 Ac na'ch galwer yn athrawon: canys vn yw eich athro chwi, [sef] Christ.
11 A'r mwyaf o honoch, a fydd yn weini [...]opchwi.
12 A phwy bynnag a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a phwy bynnag a'i gostyngo ei hun, a dderchefir.
13 Eithr gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, canys yr ydych yn cau teyrnas nefoedd o flaen dynion: canys chwi nid ydych yn myned i mewn, a'r rhai sy yn myned i mewn, ni's gadewch i fyned i mewn.
14 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrithwŷr, canys yr ydych yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, a hynny yn rhith hir weddio: am hynny y derbyniwch farn fwy.
15 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, canys amgylchu yr ydych y môr a'r tir, i wneuthur vn proselyt: ac wedi y gwneler, yr ydych yn ei wneuthur ef yn fâb vffern, yn ddau mwy nâ chwi eich hunain.
16 Gwae chwi dywysogion deillion, y rhai ydych yn dywedyd, Pwy bynnag a dwng ir Deml, nid yw ddim: ond pwy bynag a dwng i aur y Deml, y mae efe mewn dylêd.
17 Ffyliaid a deillion: canys pa vn sydd wyaf? yr aur, ai'r Deml sydd yn sancteiddio r aur?
18 A Phwy bynnag a dwng i'r allor, nid yw ddim: ond pwy bynnag a dyngo i'r rhodd sydd arni, y mae efe mewn dyled.
19 Ffyliaid a deillion: canys pa vn fwyaf? y rhodd, ai'r allor sydd yn sancteiddio y rhodd?
20 Pwy bynnag gan hynny a dwng i'r allor, sydd yn tyngu iddi, ac i'r hyn oll sydd arni.
21 A phwy bynnag a dwng i'r Deml, sydd [Page 79] yn tyngu iddi, ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi:
22 A'r hwn a dwng i'r nef, sydd yn tyngu i orsedd-faingc Duw, ac i'r hwn sydd yn eistedd arni.
23 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, canys yr ydych yn degymmu y mintys, a'r anys, a'r cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymmach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd: rhaid oedd wneuthur y pethau hyn, ac na adewid y lleill heibio.
24 Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyngcu camel.
25 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrithwŷr, canys yr ydych yn glauhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ac o'r tu mewn y maent yn llawn o drawsedd, ac anghymedroldeb.
26 Ti Pharisæaid dall, glanhâ yn gyntaf yr hyn sydd oddi fewn i'r cwppan a'r ddyscl, fel y byddo yn lân hefyd yr hyn sydd oddi allan iddynt.
27 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, canys tebyg ydych chwi i feddau wedi eu gwynnu, y rhai sydd yn ymddangos yn dêg oddi-llan, ond oddi mewn sydd yn llawn o escyrn y meîrw, a phôb aflendid.
28 Ac felly chwithau oddi allan ydych yn ymddangos i ddynion yn gyfiawn, ond o fewn yr ydych yn llawn rhagrith, ac anwiredd.
29 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wŷr, canys yr ydych yn adeiladu beddau i'r prophwydi, ac yn addurno beddau y rhai cyfiawn:
30 Ac yr ydych yn dywedyd, Pe buasem in [Page 80] y nyddiau ein tadau, ni buafem ni gyfrannogi noî hwynt yngwaed y prophwydi.
31 Felly yr ydych yn tystiolaethau am danoch eich hunain, eich bôd yn blant i'r rhai a laddasant y prophwydi.
32 Cyflawnwch chwithau hefyd fesur eich tadau.
33 Oh seirph, hiliogaeth gwiberod, pa fodd y gellwch ddiangc rhag barn vffern?
34 Am hynny wele yr ydwyf yn anfon attoch prophwydi, a doethion, ac Scrifennyddion: a rhai o honnynt a leddwch; ac a groes-hoeliwch, a rhai o honynt a ffrewyllwch yn eich Synagogau, ac a erlidiwch o dref i dref:
35 Fel y delo arnoch chwi yr holl waed cyfiawn, a'r a ollyngwyd ar y ddaiar, o waed Abel gyfiawn, hyd waed Zacharias fab Barachias, yr hwn a laddasoch rhwng y Deml a'r allor.
36 Yn wir meddaf i chwi, daw hyn oll ar y genhedlaeth hon.
37 Jerusalem, Jerusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a ddanfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant ynghŷd, megis y cascl iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech?
38 Wele, yr ydys yn gadel eich tŷ i chwi yn anghyfannedd.
39 Canys meddaf i chwi, Ni'm gwelwch yn ôl hyn hyd oni ddywedoch. Bendigedig [yw] yr hwn fydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
PEN. XXIIII.
A'R Jesu a aeth allan, ac a ymadawodd o'r deml: a'i ddiscyblion a ddaethant atto, i ddangos iddo adeiladau y Deml.
2 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Oni welwch chwi hyn oll, ni adewir ymma garreg ar garreg, a'r ni ddattodir.
3 Ac efe yn eistedd ar fynydd yr olewydd, y discyblion a ddaethant atto o'r naill-tu, gan ddywedyd, Mynega i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd [fydd] o'th ddyfoddiad, ac o ddiwedd y bŷd.
4 A'r Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Edrychwch rhag i neb eich twyllo chwi.
5 Canys daw llawer yn fy enw i, gan ddywedyd, myfi yw Christ; ac a dwyllant lawer.
6 A chwi a gewch glywed am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd: gwelwch na chyffroer chwi; canys rhaid yw bôd [hyn] oll: eithr nid yw y diwedd etto.
7 Canys cyfyd cenedl yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: ac fe fydd newyn, a nodau, a daiar-grynfaau, mewn mannau.
8 A dechreuad gofidiau yw [hyn oll.
9 Yna i'ch traddodant chwi i'ch gorthrymu, ac a'ch lladdant, a chwi a gaseir gan yr holl genhedloedd, er mwyn fy enw i.
10 Ac yna y rhwystrir llawer, ac y bradychant ei gilydd, ac y casânt ei gilydd.
11 A gau-brophwydi lawer a godant, ac a dwyllant lawer.
12 Ac o herwydd yr amlhâ anwiredd, fe a oera cariad llawer.
13 Eithr y neb a barhâo hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 A'r Efengyl hon [am] y deyrnas a bregegethir trwy 'r holl fŷd, er tystiolaeth i'r holl genhedloedd: ac yna y daw y diwedd.
15 Am hynny pan weloch y ffieidd-dra anghyfanneddol, a ddywedpwyd trwy Ddaniel brophwyd, yn sefyll yn y lle sanctaidd, (y neb a ddarllenno ystyried.)
16 Yna y rhai a fyddant yn Judæa, ffoant i'r mynyddoedd.
17 Y neb [a fyddo] a'r ben y tŷ, na ddiscynned i gymmeryd dim allan o'i dŷ.
18 A'r hwn [a fyddo] yn y maes, na ddychweled yn ei ôl, i gymmeryd ei ddillad.
19 A gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dydddiau hynny.
20 Eithr gweddiwch na byddo eich ffoedigaeth y gaiaf, nac ar y [dydd] Sabbath.
21 Canys y prŷd hynny y bydd gorthrymder mawr, y fath ni bu o ddechreu y bŷd hyd yr awr hon, ac ni bydd chwaith.
22 Ac oni bai fyrrahau y dyddiau hynny ni buasei gâdwedig vn cnawd oll: eithr er mwyn yr etholedigion fe fyrrheir y dyddiau hynny.
23 Yna os dywed nêb wrthych. Wele llymma Grist, neu llymma: na chredwch.
24 Canys cyfyd gau Gristiau, a gau-brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion, a rhyfeddodau, hyd oni thwyllant, pe byddei bossibl, e yr etholedigion.
25 Wele, rhag-ddywedais i chwi.
26 Am hynny os dywedant wrthych, Wele, y mae efe yn y diffaethwch, nac ewch allan. Wele, yn yr stafelloedd: na chredwch.
27 Oblegid fel y daw y fellten o'r dwyrain, ac y tywynna hyd y gorllewin, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.
28 Canys pa le bynnag y byddo y gelain, yno 'r ymgascl yr eryrod.
29 Ac yn y fan, wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a'r lleuad ni rydd ei goleuni, a'r sêr a syrth o'r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
30 Ac yna yr ymddengys arwydd Mâb y dŷn yn y nef: ac yna y galara holl lwythau'r ddaiar, a hwy a welant Fâb y dŷn yn dyfod ar gymmylau'r nef, gyd â nerth a gogoniant mawr.
31 Ac efe a ddenfyn ei Angelion â mawr sain vdcorn: a hwy gasclant ei etholedigion ef ynghŷd, o'r pedwar gwynt, o eithafoedd y nefoedd, hyd eu heithafoedd hwynt.
32 Ond dyscwch ddammeg oddiwrth y ffigysbren: pan yw ei gangen eusys yn dyner, a' i ddail yn torri allan, chwi a wyddoch fôd yr hâf yn agos:
33 Ac felly chwithau, pan weloch hyn oll, gwybyddwch [ei] fôd yn agos, wrth y drysau.
34 Yn wir meddaf i chwi, nid â y genhedlaeth hon heibio, hyd oni wneler hyn oll.
35 Nef a daiar a ânt heibio, eithr fy ngeiriau nid ânt heibio ddim.
36 Ond am y dydd hwnnw a'r awr, ni's gŵyr nêb, nac Angelion y nefoedd, onid fy Nhâd yn
37 Ac fel yr oedd dyddyiau Noe, felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.
38 Oblegid fel yr oeddynt yn y dyddiau ymmlaen diluw, yn bwytta, ac yn yfed, yn priodi, ac yn rhoi i briodas, hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch:
39 Ac ni wybuant hyd oni ddaeth y diluw, a'u cymmeryd hwy oll ymmaith: felly hefyd y bydd dyfodiad Mâb y dŷn.
40 Yna y bydd dau yn y maes: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
41 Dwy [a fydd] yn malu mewn melin: vn a gymmerir, a'r llall a adewir.
42 Gwiliwch gan hynny, am na wyddoch pa awr y daw eich Arglwydd.
43 A gwybyddwch hyn, pe gwybasei gŵr y tŷ pa wiliadwriaeth y deuai y lleidr, efe a wiliasei, ac ni adawsei gloddio ei dŷ trwodd.
44 Am hynny byddwch chwithau barod: canys yn yr awr ni thybioch, y daw Mâb y dyn.
45 Pwy gan hynny sydd wâs ffyddlon a doeth yr hwn a osododd ei arglwydd, are i deulu, i roddi bwyd iddynt mewn pryd?
46 Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pan ddelo, yn gwneuthur felly.
47 Yn wîr meddaf i chwi, ar ei holl dda y gesyd efe ef.
48 Ond os dywed y gwâs drwg hwnnw yn ei galon, Y mae fy arglwydd yn oedi dyfod.
49 A dechreu curo ei gŷd-weision, a bwytta ac yfed gyd â'r meddwon:
50 Arglwydd y gwâs hwnnw a ddaw yn y dydd nid yw efe yn disgwil am dano, ac mewn awr ni's gwyr efe:
51 Ac efe e'i gwahana ef, ac a esyd ei ran ef gyd â'r rhagrithwyr: yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd.
PEN. XXV.
YNa tebyg fydd teyrnas nefoedd i ddêg o forwynion, y rhai a gymmerasant eu lampau, ac a aethant allan i gyfarfod â'r priod-fâb.
2 A phump o honynt oedd gall, a phump yn ffôl.
3 Y rhai[oedd]ffôl a gymmerasant eu lampau, ac ni chymmerasant olew gyd â hwynt:
4 A'r rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri, gŷd â'u lampau.
5 A thra 'r oedd y priod-fâb yn aros yn hir, hepiasant oll, ac yr hunasant.
6 Ac ar hanner nôs y bu gwaedd, Wele, y mae y priod-fâb yn dyfod, ewch allan i gyfarfod ag ef.
7 Yna y cyfododd yr holl forwynion hynny, ag a drwsiasant eu lampau.
8 A'r rhai ffôll a ddywedasant wrth y rhai call, Rhoddwch i ni o'ch olew chwi, canys y mae ein lampau yn diffoddi.
9 A'r rhai call a attebasant, gan ddywedyd, Rhag na byddo digon i ni ac i chwithau: ond ewch yn hytrach at y rhai sydd yn gwerthu, a phrynwch i chwi eich hunain.
10 A thra 'r oeddynt yn myned ymmaith i brynu, daeth y priod-fâb: a'r rhai oedd barod a aethant i mewn gyd ag ef i'r briodas, a chaewyd y drŵs.
11 Wedi hynny y daeth y morwynion eraill hefyd) gan ddywedyd, Arglwydd, Arglwydd, agor i ni.
12 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Yn wîr meddaf i chwi, nid adwaen chwi.
13 Gwiliwch gan hyuny, am na wyddoch na'r dydd na'r awr y daw Mab y dŷn.
14 Canys fel dŷn yn myned i wlad ddieithr, yr hwn a alwodd ei weision, ac a roddes ei dda attynt.
15 Ac i vn y rhoddes efe bum talent, ac i arall ddwy, ac i arall vn: i bob vn yn ôl ei allu ei hun: ac yn y fan, efe a aeth oddi cartref.
16 A'r hwn a dderbyniasei y pum talent, a aeth, ac a farchnattaodd â hwynt, ac a wnaeth bum talent eraill.
17 A'r vn modd yr hwn [a dderbyniasei] y ddwy, a ennillodd yntef ddwy eraill.
18 Ond yr hwn a dderbyniasei vn, a aeth, ac a gloddiodd yn y ddaiar, ac a guddiodd arian ei arglwydd.
19 Ac wedi llawer o amser, y mae arglwydd y gweision hynny yn dyfod, ac yn cyfrif â hwynt.
20 A daeth yr hwn a dderbyniasei bum talent, ac a ddug bum talent eraill, gan ddywedyd, Arglwydd, pum talent a roddaist attaf: wele, mi a ennillais bum talent eraill attynt.
21 A dywedodd ei Arglwydd wrtho, Da, was da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th osodaf ar lawer: dôs i mewn i lawenydd dy arglwydd.
22 A'r hwn a dderbyniasei ddwy dalent, [Page 87] a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, dwy dalent a roddaist attaf: wele, ddwy eraill a ennillais attynt.
23 Ei arglwydd a ddywedodd wrtho, Da, wâs da a ffyddlon: buost ffyddlon ar ychydig, mi ath osodaf ar lawer: dôs i mewn i lawenydd dy arglwydd.
24 A'r hwn a dderbyniasei 'r vn talent, a ddaeth, ac a ddywedodd, Arglwydd, mi a 'th adwaenwn di, mai gŵr caled ydwyt, yn medi lle ni's hauaist, ac yn casclu lle ni wasceraist:
25 Ac mi a ofnais, ac a aethym, ac a guddiais dy dalent yn y ddaiar: wele, yr wyt yn cael yr eiddot dy hun.
26 A'i arglwydd a atebodd, ac a ddywedodd wrtho, O wâs drwg, a diog, ti a wyddit fy môd yn medi lle ni's hauais, ac yn casclu lle ni's gwascerais:
27 Am hynny y dylesit ti roddi fy arian at y cyfnewid-wŷr, a mi pan ddaethwn, a gawswn dderbyn yr eiddof fy hun, gyd â llôg.
28 Cymmerwch gan hynny y talent oddi wrtho, a rhoddwch i'r hwn fydd ganddo ddeg talent.
29 (Canys i bob vn y maê ganddo y rhoddir, ac efe a gaiff helaethrwydd: ac oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie yr hyn sydd ganddo.)
30 A bwriwch allan y gwâs anfuddiol i'r tywyllwch eithaf: yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd.
31 A Mâb y dŷn pan ddêl yn ei ogoniant a'r holl Angelion sanctaidd gŷd ag ef, yna yr [Page 88] eistedd ar orseddfaingc ei ogoniant.
32 A chyd-gesclir ger ei fron ef yr holl genhedloedd: ac efe a'u didola hwynt oddi wrth ei gilydd, megis y didola y bugail y defaid oddiwrth y geifr:
33 Ac a esyd y defaid ar ei ddeheu-law, ond y geifr ar yr asswy.
34 Yna y dywed y Brenin wrth y rhai ar ei ddeheu-law, Deuwch chwi fendigedigion fy-Nhâd, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y bŷd.
35 Canys bum newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, a rhoesoch i mi ddiod: bum ddieithr, a dygasoch fi gŷd â chwi.
36 Noeth, a dilladasoch fi: bum glaf, ac ymwelsoch â mi: bum yngharchar, a daethoch attaf.
37 Yna yr ettyb y rhai cyfiawn iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i'th welsom yn newynog, ac i'th borthasom? neu yn sychedig, ac y rhoesom i ti ddiod?
38 A pha brŷd i'th welsom yn ddieithr, ac i'th ddygasom gyd â ni? neu yn noeth, ac i'th ddilladasom?
39 A pha brŷd i'th welsom yn glaf, neu yngharchar, ac y daethom attat?
40 A'r Brenin a ettyb, ac a ddywed wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint a'i wneuthur o honoch i vn o'r rhai hyn fy mrodyr-lleiaf, i mi y gwnaethoch.
41 Yna y dywed efe hefyd wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, Ewch oddi wrthif rai melldigedic i'r tân tragwyddol, yr hwn a [Page 89] baratowyd i ddiafol, ac iw angylion.
42 Canys bum newynog, ac ni roesoch i mi fwyd: bu arnaf syched, ac ni roesoch i mi ddiod:
43 Bum ddieithr, ac ni'm dygasoch gyd â chwi: noeth, ac ni'm dilladasoch: yn glâf, ac yngharchar, ac ni ymwelsoch â mi.
44 Yna yr attebant hwythau hefyd iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, pa brŷd i'th welsom yn newynog, neu yn sychedig neu yn ddieithr, neu yn noeth, neu yn glaf, neu yngharchâr, ac ni weinasom i ti?
45 Yna 'r ettyb efe iddynt, gan ddywedyd, Yn wir meddaf i chwi, yn gymmaint ac na's gwnaethoch i'r vn o'r rhai lleiaf hyn, ni's gwnaethoch i minneu.
46 A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.
PEN. XXVI.
A Bu wedi i'r Jesu orphen geiriau hyn oll, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion.
2 Chwi a wyddoch mai gwedi deu-ddydd y mae 'r Pâsc, a Mâb y dŷn a draddodir i'w groeshoelio.
3 Yna yr ymgasclodd yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddiod, a Henuriaid, y bobl, i lŷs yr Arch-offeiriad, yr hwn a elwid Caiaphas:
4 A hwy a gyd-ymgynghorasant fel y dalient 'yr Jesu trwy ddichell, ac y lladdent [ef]
5 Eithr hwy a ddywedasant, Nid ar yr ŵyl, rhag bôd cynnwrf ym mhlith bobl.
6 Ac a'r Jesu yn Bethania, yn nhŷ Simon y gwahan-glwyfus,
7 Daeth atto wraig a chenddi flŵch o ennaint gwerth-fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben, ac efe yn eistedd wrth y ford.
8 A phan welodd ei ddiscyblion, hwy a sorrasant, gan ddywedyd, I ba beth [y bu] y golled hon.
9 Canys fe a allasid gwerthu yr ennaint hwn or llawer, a'i roddi i'r tlodion.
10 A'r Jesu a wybu, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn gwneuthur blinder i'r wraig? canys hi a weithiodd weithred dda arnaf.
11 Oblegid y mae gennych y tlodion bôb amser gŷd â chwi: a mi nid ydych yn ei gael bôb amser.
12 Canys hi yn tywallt yr ennaint hwn ar fy nghorph, a wnaeth [hyn] i'm claddu i.
13 Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efeyngil hon yn yr holl fŷd, mynegir yr hyn a wnaeth hi hefyd, er coffa am dani hi.
14 Yna 'r aeth vn o'r deuddeg, yr hwn a elwid Judas Iscariot, at yr Arch-offeiriaid.
15 Ac a ddywedodd [wrthynt,] Pa beth a roddwch i mi, ac mi a'i traddodaf ef i chwi? A hwy osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.
16 Ac o hynny allan y ceisiodd efe amser cyfaddas i'w fradychu ef.
17 Ac ar y [dydd] cyntaf o wŷl y bara croyw, y discyblion a ddaethant at yr Jesu, gan ddywedyd wrtho, Pa le y mynni i ni baratoi i ti fwytta 'r Pasc.
18 Ac yntef a ddywedodd, Ewch i'r ddinas at y cyfryw vn, a dywedwch wrtho, Y mae 'r Athro yn dywedyd, Fy amser sydd agos: gyd à thi y cynhaliaf y Pâsc, mi a'm discyblion.
19 A'r discyblion a wnaethant y modd y gorchymynnasei 'r Jesu iddynt, ac a baratoesant y Pasc.
20 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, efe a eisteddodd gyd â'r deuddeg.
21 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, efe a ddywedodd, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, mai vn o honoch chwi a'm bradycha i.
22 A hwythau yn drist iawn, a ddechreuasant ddywedyd wrtho, bôb vn o honynt, Ai myfi yw, Arglwydd?
23 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd, Yr hwn a wlŷch ei law gyd â mi yn y ddyscl, hwnnw a'm bradycha i.
24 Mab y dŷn yn ddiau sydd yn myned, fel y mae yn scrifennedig am dano: eithr gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da a suaseî i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid ef.
25 A Judas yr hwn a'i bradychodd ef a attebodd, ac a ddywedodd, Ai myfi yw [efe,] Athro? Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist.
26 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Jesu a gymmerth y bara, ac wedi iddo fendithio, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddodd i'r discyblion, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph.
27 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a diolch, ef a'i rhoddes iddynt, gan ddwywedyd, Yfwch bawb o hwn.
28 Canys hwn yw fy ngwaed o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer, er maddeuant pechodau.
29 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o hyn allan o ffrwyth hwn y win-wydden, hyd y dydd hwnnw pan yfwyf ef gyd â chwi yn newydd, yn nheyrnas fy Nhâd.
30 Ac wedi iddynt ganu hymn, hwy a aethant i fynydd yr Olewydd.
31 Yna y dywedodd yr Jesu wrthynt, Chwychwi oll a rwystrir heno o'm plegid i: canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a defaid y praidd a wascerir.
32 Eithr wedi fy adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.
33 A Phetr â attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Pe rhwystrid pawb o'th blegîd ti, [etto] ni'm rhwystrir i byth.
34 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Yn wir yr wyf yn dywedyd i ti, mai 'r nôs hon, cyn canu o'r ceiliog, i'm gwedi deir gwaith.
35 Petr a ddwywedodd wrtho, Pe gorfyddei i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. Yr vn modd hefyd y dywedodd yr holl ddiscyblion.
36 Yna y daeth yr Jesu gyd â hwynt i fan a elwid Gethsemane, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma, tra'r elwyf, a gweddio accw.
37 Ac efe a gymmerth Petr, a dau fab Zebedaeus, ac a ddechreuodd dristâu, ac ymofidio.
38 Yna efe a ddywedodd wrthynt, Trist iawn yw fy enaid hyd angeu, arhoswch ymma, a gwiliwch gyd â mi.
39 Ac wedi iddo fyned ychydig ym-mlaen, efe a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio, a dywedyd, Fy Nhâd, os yw bossibl, aed y cwppan hwn heibio oddi wrthif: etto nid fel yr ydwyfi yn ewyllysio, ond fel yr ydwyt ti.
40 Ac efe a ddaeth at y discyblion, ac a'u cafas hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Felly, oni ellych chwi wilied vn awr gŷd â mi?
41 Gwiliwch a gweddiwch, fel nad enoch i brofedigaeth. Yr yspryd yn ddiau [sydd] yn barod, eithr y cnawd sydd wann.
42 Efe a aeth drachefn yr ail waith, ac a weddiodd, gan ddywedyd, Fy Nhâd, oni's gall y cwppan hwn fyned heibio oddi wrthif, na byddo i mi yfed o hono, gwneler dy ewyllys di.
43 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafas hwy yn cyscu drachefn: canys yr oedd eu llygaid hwy wedi trymhau.
44 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac aeth ymmaith drachefn, ac a weddiodd y drydydd waith, gan ddywedyd yr vn geiriau.
45 Yna y daeth efe at ei ddiscyblion, ac a ddwywedodd wrthynt, Cyscwch bellach, a gorphwyswch: wele y mae 'r awr wedi nessau, a Mâb y dŷn a draddodir i ddwylo pechaduriaid.
46 Codwch, awn: wele, nessaodd yr hwn sydd yn fy mradychu.
47 Ac efe etto yn llefaru, wele, Judas vn o'r deuddeg, a ddaeth, a chŷd ag ef dyrfa fawr a chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl.
48 A'r rhwn a'i bradychodd ef, a roesei arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pa vn bynnag a gusanwyf, hwnnw yw efe: deliwch ef.
49 Ac yn ebrwydd y daeth at yr Jesu, ac a ddywedodd, Henffych well Athro, ac a'i cusanodd ef.
50 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Y cyfaill, i ba beth y daethost? Yna y daethant, ac y rhoesant ddwylo ar yr Jesu, ac a'i daliasant ef.
51 Ac wele, vn o'r rhai oedd gŷd â'r Jesu, a estynnodd ei law, ac a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ei glust ef.
52 Yna y dywedodd yr Jesu wrtho, Dychwel dy gleddyf i'w le: canys pawb a'r a gymmerant gleddyf, a ddifethir a chleddyf.
53 A ydwyt ti yn tybied na's gallaf yr awr hon ddeisyf ar fy Nhâd, ac efe a rydd yn y fan i mi fwy nâ deuddeg lleng o Angelion?
54 Pa fodd ynteu y cyflawnid yr Scrythyrau, mai felly y gorfydd bôd.
55 Yn yr awr honno y dywedodd yr Jesu wrth y torfeydd, Ai megis at leidr y daethoch chwi allan, â chleddyfau a ffynn i'm dal i? yr oeddwn i beunydd gŷd a chwi yn eistedd yn dyscu yn y Deml, ac ni'm daliasoch.
56 A hyn oll a wnaethpwyd fel y cyflawnid Scrythyrau y Prophwydi. Yna 'r holl ddiscyblion a'i gadawsant ef, ac a ffoesant.
57 Air rhai a ddaliasent yr Jesu a'i dygasant ef ymmaith at Caiphas yr Arch offeiriad, lle 'r oedd yr Scrifennyddion a'r Henuriaid wedi ymgasclu ynghŷd.
58 A Phetr a'i canlynodd ef o hir-bell, hyd yn llŷs yr Arch offeiriad; ac a aeth i mewn ac a eistddodd gŷd â'r gweision, i weled y diwedd.
59 Ar Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid a'r holl gyngor, a geisiasant gau dystiolaeth yn erbyn yr Jesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.
60 Ac ni's cawsant: ie er dyfod [yno] gaudystion lawer, ni chawsant: eithr o'r diwedd fe a ddaeth dau gau-dyst.
61 Ac a ddywedasant, Hwn a ddywedodd, Mi a allaf ddinistrio Teml Dduw, a'i hadeiladu mewn tri diwrnod.
62 A chyfododd yr Arch-offeiriad, ac a ddywedodd wrtho, A attebi di ddim? Beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn.
63 Ond yr Jesu a dawodd. A'r Arch-offeiriad gan atteb a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf yn dy dynghedu di trwy 'r Duw byw, ddywedyd o honot i ni ai tydi yw y Christ Mab Duw.
64 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Ti a ddywedaist: eithr meddaf i chwi, ar ôl hyn y gwelwch Fâb y dŷn yn eistedd ar ddehulaw 'r gallu, ac yn dyfod ar gymmylau'r nef.
65 Yna y rhwygodd yr Arch-offeiriad ei ddillad, gan ddywedyd, efe a gablodd. Pa raid i ni mwy wrth dystion? wele, yr awron clywsoch ei gabledd ef.
66 Beth dybygwch chwi? Hwythau gan atteb a ddywedasant, Y mae efe yn euog o farwolaeth.
67 Yna y poerasant yn ei wyneb, ac a'i cernodiasant: eraill a'i tarawsant ef â gwiail,
68 Gan ddywedyd, Prophwyda i ni, ô Christ, pwy yw'r hwn a'th darawodd.
64 A Phetr oedd yn eistedd allan yn y llys: a daeth morwynig atto, ac a ddywedodd, A thitheu oeddit gŷd ar Jesu y Galilæad.
70 Ac efe a wadodd ger eu bron hwy oll, ac a ddywedodd, Ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd.
71 A phan aeth efe allan i'r porth, gwelodd vn arall ef: a hi a ddywedodd wrth y rhai oedd yno, Yr oedd hwn hefyd gŷd â'r Jesu o Nazareth.
72 A thrachefn efe a wadodd trwy lw, Nid adwaen i y dŷn.
73 Ac ychydig wedi, daeth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, ac a ddywedasant wrth Petr, Yn wîr yr wyt titheu yn vn o honynt, canys y mae dy leferydd yn dy gyhuddo.
74 Yna y dechreuodd efe regu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn. Ac yn y man y canodd y ceiliog.
75 A chofiodd Petr air yr Jesu, yr hwn a ddywedasei wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, ti a'm gwedi deir-gwaith. Ac efe a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
PEN. XXVII.
A Phan ddaeth y boreu, cyd-ymgynghorodd yr holl Arch-offeiriaid, a Henuriaid y bobl, yn erbyn yr Jesu, fel y rhoddent ef i farwolaeth.
2 Ac wedi iddynt ei rwymo, hwy a'i dygasant [Page 97] ef ymmaith, ac a'i traddodasant ef i Pontius Pilat y rhaglaw.
3 Yna pan weles Judas, yr hwn a'i bradychodd ef, ddarfodd ei gondemnio ef, bu edifar ganddo, ac a ddug drachefn y deg ar hugain arian i'r Arch-offeriaid, a'r Henuriaid,
4 Gan ddywedyd, Pechais, gan fradychu gwaed gwirion. Hwytheu a ddywedasant, Pa beth yw hynny i ni? edrych di.
5 Ac wedi iddo daflu 'r arian yn y Deml, efe a ymadawodd, ac a aeth, ac a ymgrogodd.
6 Ar arch-offeiriaid a gymmerasant yr arian, ac a ddywedasant, Nid cyfreithlawn [î ni] eu bwrw hwynt yn y drysor-fa: canys gwerth gwaed ydyw.
7 Ac wedi iddynt gyd-ymgynghori, hwy a brynasant â hwynt faes y crochenydd, yn gladdfa dieithraid.
8 Am hynny y galwyd y maes hwnnw, Maes y gwaed, hŷd heddyw.
9 (Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedpwyd trwy Jeremias y prophwyd, gan ddywedyd, A hwy a gymmerasant y deg ar hugain arian, pris y prisiedig, yr hwn a brynasant gan feibion Israel,
10 Ac a'u rhoesant hwy am faes y crochenydd, megis y gosodes yr Arglwydd i mi.)
11 A'r Jesu a safodd ger bron y rhaglaw: a'r rhaglaw a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
12 A phan gyhuddid ef gan yr Arch-offeiriaid a'r Henuriaid, nid attebodd efe ddim.
13 Yna y dywedodd Pilat wrtho, Oni chlywi di faint o bethau y maent hwy yn eu tystiolaethu yn dy erbyn di?
14 Ac nid attebodd efe iddo vn gair: fel y rhyfeddodd y rhag-law yn fawr.
15 Ac ar yr ŵyl [honno] yr arferei y rhaglaw ollwng yn rhydd i'r bobl vn carcharor, yr hwn a fynnent.
16 Ac yna yr oedd ganddynt garcharor hynod, a elwid Barabbas.
17 Wedi iddynt gan hynny ymgasclu ynghŷd, Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa vn a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Barrabbas, ai yr Jesu, yr hwn a elwir Christ?
18 Canys efe a wyddei mai o genfigen y traddodasent ef.
19 Ac efe yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ei wraig a ddanfonodd atto, gan ddywedyd, Na fydded i ti a wnelych â'r cyfiawn hwnnw: canys goddefais lawer heddyw mewn breuddwyd oi achos ef.
20 Ar arch-offeiriaid a'r Henuriaid, a berswadiasant y bobl, fel y gofynnent Barabbas, ac y difethent yr Jesu.
21 A'r rhaglaw a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Pa vn o'r ddau a fynnwch i mi ei ollwng yn rhydd i chwi? Hwytheu a ddywedasant, Barrabbas.
22 Pilat a ddywedodd wrthynt, Pa beth gan hynny a wnaf i'r Jesu, yr hwn a elwir Christ? Hwythau oll a ddywedasant wrtho, Croes-hoelier ef.
23 A'r rhaglaw a ddywedodd, Ond pa [Page 99] ddrwg a wnaeth efe? Hwytheu a lefasant yn fwy, gan ddywedyd, Croes-helier ef.
24 A Philat, pan welodd nad oedd dim yn tyccio, ond yn hytrarch bôd cynnwrf, a gymmerth ddwfr, ac a olchodd ei ddwylo ger bron y bobl, gan ddywedyd, Di-euog ydywfi oddi wrth waed y cyfiawn hwn: edrychwch chwi.
25 A'r holl bobl a attebodd, ac a ddywedodd, [Bydded] ei waed ef arnom ni, ac ar ein plant.
26 Yna y gollyngodd efe Barrabbas yn rhydd iddynt: ond yr Jesu a fflangellodd efe, ac a'i rhoddes i'w groes-hoelio.
27 Yna mil-wŷr y rhaglaw a gymmerasant yr Jesu i'r dadleu dŷ, ac a gynnullasant atto yr holl fyddin.
28 A hwy a'i dioscasant ef, ac a roesant am dano fantell o scarlat:
29 A chwedi iddynt blethu coron o ddrain, hwy a'i gosodasant ar ei ben ef, a chorsen yn i law ddehau, ac a blygasant gliniau ger ei fron ef, ac a'i gwatwarasant, gan ddywedyd Henffych well, brenin yr Iddewon.
30 A hwy a boerasant arno, ac a gymmerasant y gorsen, ac a'i tarawsant ar ei ben.
31 Ac wedi iddynt ei watwar, hwy a'i dioscasant ef o'r fantell, ac a'i gwiscasant a'i dillad ei hun, ac a'i dygasant ef ymmaith yw groes-hoelio.
32 Ac fel yr oeddynt yn myned allan, hwy a gawsant ddŷn o Cyrêne, a'i enw Simon, hwn a gymmhellasant i ddwyn ei groes ef.
33 A phan ddaethant i le a elwid Golgotha, yr hwn a elwir Lle 'r benglog.
34 Hwy a roesant iddo iw yfed finegr yn gymmyscedig â bustl: ac wedi iddo ei brofi, ni fynnodd efe yfed.
35 Ac wedi iddynt ei groes-hoelio ef, hwy a rannasant ei ddillad, gan fwrw coelbren: er cyflawni y peth a ddywetpwyd trwy 'r prophwyd, Hwy a rannasant fy nillad yn eu plith, ac ar fy ngwisc y bwriasant goel-bren.
36 A chan eistedd hwy a'i gwiliasant ef yno.
37 A gosodasant hefyd vwch ei ben ef, ei achos yn scrifendedig, HWN YW JESV, BRENIN YR IDDEWON.
38 Yna y croes-hoeliwyd gyd ag ef ddau leidr, vn ar y llaw ddehau, ac vn ar yr asswy.
39 A'r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu pennau.
40 A dywedyd, Ti yr hwn a ddinistri 'r Deml, ac a'i hadeiledi mewn tridiau, gwared dy hun: os ti yw Mâb Duw, descyn oddi ar y groes.
41 A'r vn modd yr Arch-offeiriaid hefyd, gan watwar, gŷd â'r Scrifennyddion â'r Henuriaid, a ddywedasant,
42 Efe a waredodd eraill, ei hunan ni's gall efe ei waredu: os brenin Israel yw, descynned yr awron oddi ar y groes, ac ni a gredwn iddo.
43 Ymddiriedodd yn Nuw: gwareded efe ef yr awron, os efe a'i mynn ef: canys efe a dywedodd, Mâb Duw ydwyf.
44 A'r vn peth hefyd a edliwiodd y lladron iddo, y rhai a groeshoeliasid gyd ag ef.
45 Ac o'r chweched awr y bu tywyllwch ar 'r holl ddaiar, hyd y nawfed awr.
46 Ac ynghylch y nawfed awr y llefodd yr Jesu [Page 101] â llef vchel gan ddywedyd, Eli, Eli, Lama Sabachthani? hynny yw, Fy Nuw, fy Nuw, pa ham i'm gadewaist?
47 A rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno, pan glywsant, a ddywedasant, Y mae hwn yn galw am Elias.
48 Ac yn y fan, vn o hônynt a redodd, ac a gymmerth yspwrn, ac a'i llanwodd o finegr, ac a'i rhoddes ar gorsen, ac a'i diododd ef.
49 Ar llaill a ddywedasant, Paid, edrychwn a ddaw Elias iw waredu ef.
50 A'r Jesu, wedi llefain drachefn â llef vchel, a ymadawodd â'r yspryd.
51 Ac wele, llen y Deml a rwygwyd yn ddau, oddi fynu hyd i wared: a'r ddaiar a grynodd, a'r main a holltwyd.
52 A'r beddau a agorwyd: a llawer o gyrph y sainct a hunasent, a gyfodasant.
53 Ac a ddaethant allan o'r beddau ar ôl ei gyfodiad ef, ac a aethant i mewn i'r ddinas sanctaidd, ac y ymddangosasant i lawer.
54 Ond y canwriad a'r rhai oedd gŷd ag ef yn gwilied yr Jesu, wedi gweled y ddaiar-gryn a'r pethau a wnaethid, a ofnasant yn fawr, gan ddywedyd, yn wir Mâb Duw ydoedd hwn.
55 Ac yr oedd yno lawer o wragedd yn edrych o hir-bell, y rhai a ganlynasent yr Jesu o Galilæa, gan weini iddo ef:
56 Ym-mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Jaco a Joses, a mam meibion Zebedaeus.
7 Ac wedi ei myned hi yn hwyr, daeth gŵr [Page 102] goludog o Arimathæa, a'i enw Joseph, yr hwn a fuasei ynteu yn ddiscybl i'r Jesu:
58 Hwn a aeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Jesu. Yna y gorchymynnod Pilat roddi 'r corph.
59 A Joseph wedi cymmeryd y corph, a'i hamdôdd â lliain glân:
60 Ac a'i gosododd ef yn ei fedd newydd ei hun, yr hwn a dorrasei efe yn y graig, ac a dreiglodd faen mawr wrth ddrws y bedd, ac a aeth ymmaith.
61 Ac yr oedd yno Mair Magdalen, a Mair arall, yn eistedd gyferbyn a'r bedd.
62 A thrannoeth, yr hwn sydd ar ôl y darparwyl yr ymgynhullodd yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid at Pilat.
63 Gan ddywedyd, Arglwydd, y mae yn gôf gennym ddywedyd o'r twyllwr hwnnw, ac efe etto yn fyw, Wedi tri-diau y cyfodaf.
64 Gorchymmyn gan hynny gadw y bedd yn ddiogel hyd y trydydd dydd, rhag dyfod ei ddiscyblion o hŷd nos, a'i ladratta ef, a dywedyd wrth y bobl, efe a gyfododd o feirw: a bydd yr amryfusedd diweddaf yn waeth nâ'r cyntaf.
65 A dywedodd Pilat wrthynt, Y mae gennych wiliadwriaeth, ewch, gwnewch mor ddiogel ac y medroch.
66 A hwy a aethant, ac a wnaethant y bedd yn ddiogel, ac a seliasant y maen, gŷd â'r wiliadwriaeth.
PEN. XXVIII.
AC yn niwedd y Sabbath, a hi yn dyddhau y dydd cyntaf o'r wythnos, daeth Mair Magdalen, a'r Fair arall, i edrych y bedd.
2 Ac wele, bu daiargryn mawr: canys descynnodd Angel yr Arglwydd o'r nef, ac a ddaeth, ac a dreiglodd y maen oddi wrth y drws, ac a eisteddodd arno.
3 A'i wyneb-pryd oedd fel mellten, a'i wisc yn wen fel eira.
4 A rhag ei ofn ef y crynodd y ceidwaid, ac aethant megis yn feirw.
5 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrth y gwragedd, Nac ofnwch: canys mi a wn mai ceisio 'r ydych yr Jesu, yr hwn a groes-hoeliwyd.
6 Nid yw efe ymma: canys cyfododd, megis y dywedodd. Deuwch, gwelwch y fan lle y gorweddodd yr Arglwydd.
7 Ac ewch ar ffrwst, a dywedwch i'w ddiscyblion gyfodi o hono o feirw. Ac wele, y mae efe yn myned o'ch blaen chwi i Galilæa: yno y gwelwch ef: wele, dywedais i chwi.
8 Ac wedi eu myned ymmaith ar frys oddi wrth y bedd, gyd ag ofn a llawenydd mawr, rhedasant i fynegi i'w ddiscyblion ef.
9 Ac fel yr oeddynt yn myned i fynegi i'w ddiscyblion ef, wele yr Jesu a gyfarfu à hwynt, gan ddywedyd, Henffych well. A hwy a ddaethant, ac a ymafaelâsant yn ei draed ef ac a'i haddolasant.
10 Yna y dywedodd yr Jesu wrthynt, Nac ofnwch? ewch, mynegwch i'm brodyr, fel yr elont i Galilæa, ac yno i'm gwelant i.
11 Ac wedi eu myned hwy, wele, rhai o'r wiliadwriaeth a ddaethant i'r ddinas, ac a fynegasant i'r Arch-offeiriaid yr hyn oll a wnaethid.
12 Ac wedi iddynt ymgasclu ynghŷd gŷd â'r Henuriaid, a chŷd-ymgynghori, hwy a roesant arian lawer i'r mil-wŷr,
13 Gan ddywedyd, Dywedwch, ei ddiscyblion a ddaethant o hŷd nos, ac a'i lladrattasant ef a nyni yn cyscu.
14 Ac os clyw y rhaglaw hyn, ni a'i perswadiwn ef, ac a'ch gwnawn chwi yn ddiofal.
15 A hwy a gymmerasant yr arian, ac a wnaethant fel yr addyscwyd hwynt: a thanwyd y gair hwn ymmhlith yr Iddewon, hyd y dydd heddyw.
16 A 'r vn discybl ar degg a aethant i Galilæa, i'r mynydd lle 'r ordeiniasei 'r Jesu iddynt.
17 A phan welsant ef, hwy a'i haddolasant ef: ond rhai a amheuasant.
18 A'r Jesu a ddaeth, ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Rhoddwyd i mi bôb awdurdod, yn y nef, ac ar y ddaiar.
19 Ewch gan hynny, a dyscwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw 'r Tâd a'r Mâb, a'r Yspryd glân:
20 Gan ddyscu iddynt gadw pôb peth a'r a orchymynnais i chwi: ac wele, yr ydwyfi gŷd â chwi bôb amser, hyd ddiwedd y bŷd. Amen.
YR EFENGYL YN ol Sanct MARC.
PENDOD. I.
DEchreu Efengyl Jesu Grist, fâb Duw:
2 Fel yr scrifennwyd, Wele, yr ydwyfi yn anfon fy nghennad o' flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.
3 Llef vn yn llefain yn y diffaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch yn vniawn ei lwybrau ef.
4 Yr oedd Ioan yn bedydio yn y diffaethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau.
5 Ac aeth allan atto ef holl wlâd Judæa, a'r Hierosolymitiaid, ac a'u bedyddiwyd oll ganddo yn afon yr Iorddonen, gan gyffessu eu pechodau.
6 Ac Ioan oedd wedi ei wisco â blew camel, a gwregys croen ynghylch ei lwynau, ac yn bwytta locustiaid a mêl gwyllt
7 Ac efe a bregethodd, gan ddywedyd, Y mae yn dyfod ar fy ôl i vn cryfach nâ myfi, carrai escidiau yr hwn nid wyfi deilwng i ymostwng, ac iw dattod.
8 Myfi yn wir a'ch bedyddiais chwi â dwfr, eithr efe a'ch bedydd a chwi a'r Yspryd glân.
9 A bu yn y dyddiau hynny, ddyfod o'r Jesu o Nazareth yn Galilæa, ac efe a fedyddiwyd gan Ioan yn yr Iorddonen.
10 Ac yn ebrwydd wrth ddyfod i fynu o'r dwfr, efe a welodd y nefoedd yn agored, ar Yspryd yn descyn arno, megys colommen.
11 A llef a ddaeth o'r nefoedd, Tydi yw fy anwyl fâb, yn yr hwn i'm bodlonwyd.
12 Ac yn ebrwydd y gyrrod yr Yspryd ef i'r diffaethwch.
13 Ac efe a fu yno yn y diffaethwch ddeugain nhiwrnod, yn ei demptio gan Satan: ac yr oedd efe gŷd a'r gwylltfilod, a'r Angelion a weinasant iddo.
14 Ac yn ôl traddodi Ioan, yr Jesu a ddaeth i Galilæa, gan bregethu Efengyl teyrnas Dduw:
15 A dywedyd, Yr amser a gyflawnwyd, a theyrnas Dduw a nessaodd: edifarhewch, a chredwch yr Efengyl.
16 Ac fel yr oedd efe yn rhodio wrth fôr Galilæa, efe a ganfu Simon ac Andreas ei frawd, yn bwrw rhwyd yn y môr: (canys pyscodwyr oeddynt.)
17 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch ar fy ôl i, a gwnaf i'wch fôd yn byscod-wŷr dynion.
18 Ac yn ebrwydd gan adel eu rhwydau, y canlynasant ef.
19 Ac wedi iddo fyned rhagddo ychydig oddi yno, efe a ganfu Jaco fâb Zebedaeus, ac Ioan ei frawd ef, a hwy yn y llong yn cyweirio y rhwydau:
20 Ac yn y man efe a'u galwodd hwynt: a hwy a adawsant eu tâd Zebedeus yn y llong gyd â'r cy flog-ddynion, ac a aethant ar ei ôl ef.
21 A hwy a aethanr i mewn i Capernaum: ac yn ebrwydd, ar y dydd Sabbath, wedi iddo fyned i mewn i'r Synagog, efe a athrawiaethodd.
22 A synnasant wrth ei athrawiaeth ef: canys yr oedd efe yn eu dyscu hwy, megis vn ac awdurdod ganddo, ac nid fel yr Scrifennyddion.
23 Ac yr oedd yn eu Synagog hwy ddyn ac ynddo yspryd aflan, ac efe a lefodd,
24 Gan ddywedyd, Och, beth sydd i ni [a wnelom] â thi, Jesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? mi a'th adwaen pwy ydwyt: Sanct Duw.
25 A'r Jesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Taw, a dôs allan o honaw.
26 Yna wedi i'r yspryd aflan ei rwygo ef a gwaeddi â llef vchel, efe a ddâeth allan o honaw.
27 Ac fe â aeth ar bawb fraw, fel yr ymofynnasant yn eu mysc eu hun, gan ddywedyd, Beth yw hyn? pa athrawiaeth newydd yw hon, canys trwy awdurdod y mae efe yn gorchymmyn, ie yr ysprydion aflan, hwy yn vfyddhâu iddo?
28 Ac yn ebrwydd yr aeth sôn am dano tros yr holl wlâd o amgylch Galilæa.
29 Ac yn y man wedi iddynt fyned allan o'r Synagog, hwy aethant i dŷ Simon ac Andreas, gŷd ag Jaco, ac Ioan.
30 Ac yr oedd chwegr Simon yn gorwedd yn glaf o'r crŷd: ac yn ebrwydd y dywedant wrtho âm dani hi.
31 Ac efe a ddaeth, ac â'i cododd hi i fynu, gan ymaflyd, yn ei llaw hi: a'r crŷd a'i gadawodd hi yn y man, a hi a wasanaethodd arnynt hwy.
32 Ac wedi iddi hwyrhau, pan fachludodd yr haul, hwy a ddygasant atto yr holl rai drwg eu hwyl, a'r rhai cythreulig.
33 A'r holl ddinas oedd wedi ymgasclu wrth y drws
34 Ac efe a iachaodd lawer o rai drwg eu hwyl o amryw heintiau, ac a fwriodd allan lawer o gythreuliaid, ac ni adawodd i'r cythreuliaid, ddywedyd yr adwaenent ef.
35 A'r boreu, yn blygeiniol iawn, wedi iddo godi, efe a aeth allan, ac a aeth i le anghyfannedd ac yno y gweddiodd
36 A Simon, a'r rhai oedd gŷd ag ef, a'i dilynasant ef.
37 Ac wedi iddynt ei gael ef, hwy a ddywedasant wrtho, Y mae pawb yn dy geisio di.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Awn i'r trefydd nessaf, fel y gallwyf bregethu yno hefyd: canys i hynny y daethym allan.
39 Ac yr oedd efe yn pregethu yn eu Synagogau hwynt, trwy holl Galilæa, ac yn bwrw allan gythreuliaid.
40 A daeth atto ef [vn] gwahan-glwyfus, gan ymbil ag ef, a gostwng ar ei liniau iddo, a dywedyd wrtho, Os mynni, ti a elli fy nglânhau.
41 A Jesu gan dosturio, a estynnodd ei law ac a gyffyrddodd ag ef, ac a ddywedodd wrtho, Mynnaf, bydd lân.
42 Ac wedi iddo ddywedyd [hynny,] [Page 109] ymadawodd y gwahan-glwyf ag ef yn ebrwydd, a glanhawyd ef,
43 Ac wedi gorchymmyn iddo yn gaeth, ef a'i hanfonodd ef ymmaith yn y man;
44 Ac a ddywedodd wrtho, Gwêl na ddywedych ddim wrth neb: eithr dôs ymmaith, dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrymma dros dy lanhâd y pethau a orchymynodd Moses, er tystiolaeth iddynt hwy.
45 Eithr efe a aeth ymmaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi llawer, a thanu 'r gair ar lêd: fel na allei 'r Jesu fyned mwy yn amlwg i'r ddinas: eithr yr oedd efe allan mewn lleoedd anghyfannedd, ac o bôb parth y daethant atto ef.
PEN. II.
AC efe a aeth drachefn i Capernaum, wedi [rhaî] dyddiau, a chlybuwyd ei fôd efe yn tŷ.
2 Ac yn y man, llawer a ymgasclasant ynghyd, hyd na annent, hyd yn oed yn y lleoedd ynghylch y drws: ac efe a bregethodd y gair iddynt hwy.
3 A daethant atto, gan ddwyn vn claf o'r parlys, yr hwn a ddygid gan bedwar:
4 A chan na allent nesau atto gan y dyrfa, didoi y to a waethant lle 'r oedd efe, ac wedi iddynt dorri trwodd, hwy a ollyngasant i wared y gwely, yn yr hwn y gorweddei y claf o'r parlys.
5 A phan welodd yr Jesu eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrth y claf o'r parlys, Ha fâb, maddeuwyd i ti dy bechodau.
6 Ac yr oedd rhai o'r Scrifennyddion yn eistedd yno, ac yn ymresymmu yn eu calonnau.
7 Beth a wna hwn fel hyn yn dywedyd cabledd? pwy a all faddeu pechodau, onid Duw yn vnig?
8 Ac yn ebrwydd, pan wybu 'r Jesu yn ei Yspryd eu bôd hwy yn ymresymmu felly ynddynt eu hunain, efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn ymresymmu am y pethau hyn yn eich calonnau?
9 Pa vn sydd hawsaf, ai dywedyd wrth y claf o'r parlys, Maddeuwyd i ti dy bechodau: ai dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a rhodia?
10 Eithr fel y gwypoch fôd gan fâb y dŷn awdurdod i faddeu pechodau ar y ddaiar, (eb efe wrth y claf o'r parlys.)
11 Wrthit ti yr wyf yn dywedyd, Cyfod, a chymmer i fynu dy wely, a dôs i'th dŷ.
12 Ac yn y man cyfododd efe, ac y cymmerth i fynu ei wely, ac a aeth allan yn eu gwydd wwynt oll: hyd oni synnodd pawb, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, Ni welsom ni erioed fel hyn.
13 Ac efe a aeth allan drachefn wrth lan y môr: a'r holl dyrfa a ddaeth atto, ac efe a'u dyscodd hwynt.
14 Ac efe yn myned heibio, efe a ganfu Lefi [fâb] Alphaeus yn eistedd wrth y dollfa, ac a ddywedodd wrtho, Canlyn fi, Ac efe a gododd, ac a'î canlynodd ef.
15 A bu, a'r Jesu yn eistedd i fwytta yn ei dŷ ef, i lawer hefyd o Bublîcanod a phechaduriaid eistedd gyd â'r Jesu, a'i ddiscyblion: canys llawer oeddynt, a hwy a'i canlynasent ef.
16 A phan welodd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid ef yn bwytta gŷd â'r Publicanod a'r pechaduriaid, hwy a ddywedasant wrth ei ddiscyblion ef, pa ham y mae efe yn bwytta ac yn yfed gŷd â'r Publicanod a'r pechaduriaid?
17 A'r Jesu pan glybu, a ddywedodd wrthynt, Y rhai sy iach nid rhaid iddynt wrth y meddyg, ond y rhai cleifion: ni ddaethym i alw y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
18 A discyblion Ioan a'r Pharisæaid oeddynt yn ympridio: a hwy a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Pa ham y mae discyblion Ioan a'r Pharisæaid yn ympridio, ond dy ddiscyblion di nid ydynt yn ympridio?
19 A dywedodd yr Jesu wrthynt, A all plant yr stafell briodas ymprydio, tra fyddo y priodasfâb gŷd a hwynt? tra fyddo ganddynt y priodfâb gŷd â hwynt, ni allant ymprydio:
20 Eithr y dyddiau a ddaw pan ddyger y priod fâb oddi arnynt, ac yna 'r ymprydiant, yn y dyddiau hynny.
21 Hefyd ni wnia neb ddernyn o frethyn newydd ar ddilledyn hên: os amgen, ei giflawniad newydd ef a dynn oddi wrth yr hên, a gwaeth fydd y rhwyg.
22 Ac ni rydd neb win newydd mewn hên gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia 'r costrelau, a'r gwin a rêd allan, a'r costrelau a gollir: eithr gwin newydd sydd raid ei roi mewn costrelau newyddion.
23 A bu iddo fyned trwy 'r ŷd ar y Sabbath: a'i ddiscyblion a ddechreuasant ymdâith tan dynnu 'r tywys.
24 A'r Pharisæaid a ddywedasant wrtho, Wele pa ham y gwnânt ar y Sabbath yr hyn nid yw gyfreithlawn?
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllennasoch erioed beth a wnaeth Dafydd, pan oedd angen a chwant bwyd arno, efe a'r rhai oedd gŷd ag ef?
26 Pa fodd yr aeth efe i dŷ Dduw tan Abiathar yr Arch-offeiriad, ac y bwyttaodd y bara gosod, y rhai nid cyfreithlon eu bwytta, ond i'r offeiriaid yn vnig, ac au rhoddes hefyd i'r rhai oedd gŷd ag ef.
27 Ac efe a dywedodd wrthynt; y Sabbath a wnaethpwyd er mwyn dŷn, ac nid dŷn er mwyn y Sabbath.
28 Am hynny y mae Mâb y dŷn yn Arglwydd hefyd ar y Sabbath.
PEN. III.
AC efe aeth i mewn drachefn i'r Synagog: ac yr oedd yno ddŷn a chanddo law wedi gwywo.
2 A hwy â'i gwiliasant ef a iachae efe ef ar y dydd Sabbath, fel cyhuddent ef.
3 Ac efe a ddywedodd wrth y dŷn yr oedd ganddo y llaw wedi gwywo, Cyfod i'r canol.
4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Sabbath, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai llad? A hwy a dawsant â son.
5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddigllon, gan ddrîstau am galedrwydd eu calon [Page 113] hwynt, efe a ddywedodd with y dŷn, Estyn allan dy law, ac efe a'i hestynnodd: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
6 A'r Pharisæaid a aethant allan, ac a ymgymghorasant yn ebrwydd gŷd â'r Herodianiaid, yn ei erbyn ef, pa fodd y disethent ef.
7 A'r Jesu gŷd â'i ddiscyblion a giliodd tu a'r môr, a lliaws mawr a'i canlynodd ef, o Galilæa, ac o Judæa.
8 Ac o Jerusalem, ac o Idumæa, ac o'r tu hwnt i'r Iorddonen: a'r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymmaint a wnaethei efe, a ddaethant atto.
9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion am fôd llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wascu ef.
10 Canys efe a iachasei lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynnifer ac oedd a phlaau arnynt.
11 A'r ysprydion aflan pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mâb Duw.
12 Yntef a orchymynnodd iddynt yn gaeth na chyhoeddent ef.
13 Ac efe a escynnodd i'r mynydd, ac a alwodd atto y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant atto.
14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gŷd ag ef, ac fel y danfonnei efe hwynt i bregethu.
15 Ac i fôd ganddynt awdurdod, i iachau clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid.
16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Petr.
17 Ac Iaco [fâb] Zebedaeus, ac Ioan brawd Iaco: (ac efe a roddes iddynt henwau Boanerges, yr hyn yw, meibion y daran.)
18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomaeus, a Matthew, a Thomas, ac Jaco [fâb] Alphaeus, a Thadaeus, a Simon y Cananêad,
19 A Judas Iscariot, yr hwn hefyd a'i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dy.
20 A'r dyrfa a ymgynnullodd drachefn, fel na allent gymmaint a bwytta bara.
21 A phan glybu yr eiddo ef, hwy a aethant i'w ddal ef: canys dywedasant, y mae efe allan o'i bwyll.
22 A'r Scrifennyddion, y rhai a ddaethent i wared o Jerusalem, a ddywedasant fôd Beelzebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid.
23 Ac wedi iddo eu galw hwy atto, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan?
24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun ni ddichon y deyrnas honno sefyll.
25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll:
26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd.
27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ y cadarn, ac yspeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo 'r cadarn, ac yna yr yspeilia ei dŷ ef.
28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant.
29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Yspryd glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd.
30 Am iddynt ddywedyd, Y mae yspryd aflan ganddo.
31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a'i fam: a chan sefyll allan hwy a anfonasant atto, gan ei alw ef.
32 Ar bobl oedd yn eistedd o'i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele y mae dy fam di a'th frodyr, allan yn dy geisio.
33 Ac efe a'u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i.
34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i a'm brodyr i,
35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i a'm chwaer, a'm mam i.
PEN. IIII.
AC efe a dechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasclodd atto, hyd oni bu iddo fyned i'r llong, ac eistedd ar y môr: a'r holl dyrfa oedd wrth y môr ar y tîr.
2 Ac efe a ddyscodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysceidiaeth ef.
3 Gwrandewch, Wele, hau-wr a aeth allan î hau:
4 A darfu wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant, ac a'i difasant.
5 A pheth a syrthiodd ar greig-le, lle ni chafodd fawr ddaiar: ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daiar.
6 A phan gododd yr haul y poethwyd ef, ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd.
7 A pheth a syrthiodd ym-mhlith drain: a'r drain a dyfasant, ac a'i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth.
8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchol, ac a ddug vn ddeg ar hugain, ac vn driugain, ac vn gant.
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y nêb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
10 A phan oedd efe wrtho ei hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gŷd â'r deuddeg, a ofynnasant iddo am y ddammeg.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw; eithr i'r rhai sy allan, ar ddamhegion y gwneir pôb peth:
12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant: ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant: rhag iddynt ddychwelyd, a maddeu iddynt eu pechodau.
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi y ddammeg hon a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion.
14 Yr hau-wr, sydd yn hau y gair:
15 A'r rhai hyn yw y rhai ar fin y ffordd lle 'r hauir y gair, ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymmaith y gair a hauwyd yn eu calonnau hwynt.
16 A'r rhai hyn yr vn ffunyd yw y rhai a hauir ar y creigle: y rhai wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen:
17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr tros amser y maent: yna pan ddêl blinder, neu erlid, o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt.
18 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd ym-mysc y drain, y rhai a wrandawant y gair.
19 Ac y mae gofalon y bŷd hwn, a hudoliaeth golud a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu 'r gair, a myned y mae yn ddi ffrwyth.
20 A'r rhai hyn yw y rhai a hauwyd mewn tir da, y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, vn ddeg ar hugain, ac vn driugain, ac vn gant.
21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, a ddaw canwyll iw dodi tan lestr, neu tan wely? ac nid iw gosod ar ganhwyll-bren.
22 Canys nid oes dim cuddeidig a'r ni's amlygir, ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delei i eglurdab.
23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch: â pha fesur y mesuroch, [Page 118] y mesurir i'chwithau, a chwanegir i chwi y rhai a wrandewch.
25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a'r hwn nid oes ganddo, ie yr hyn sydd nddo a ddygir oddi arno.
26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaiar.
27 A chyscu, a chodi nôs a dydd, a'r hâd yn egino, ac yn tyfu, y modd ni's gwŷr efe.
28 Canys y ddaiar a ddwg ffrwyth o honî ei hun, yn gyntaf yr eginyn, yn ôl hynny y dywysen, yna 'r ŷd yn llawn yn y dywysen.
29 A phan ymddangoso 'r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y crymman ynddo, am ddyfod y cynhayaf.
30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddammeg y gwnaem gyffelybrwydd o honi?
31 Megys gronyn o hâd mwstard ydyw: yr hwn pan hauer yn y ddaiar, sydd leiaf o'r holl hadau sydd ar y ddaiar.
32 Eithr wedi 'r hauer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy nâ'r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion, fel y gallo ehediaid yr awyr ny hu tan ei gyscod ef.
33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando.
34 Ond heb ddammeg ni lefarodd wrthynt: ac o'r nailtu i'w ddiscyblion efe a eglurodd bôb peth.
35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dythwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i'r tu draw.
36 Ac wedi iddynt ollwng ymmaith y dyrfa, hwy a'i cymmerasant ef, fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gyd ag ef.
37 Ac fe a gyfodes tymestl fawr o wynt, a'r tonnau a daflasant i'r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian.
38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i'r llong, yn cyscu ar obennydd: a hwy a'i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difatter gennit ein colli ni?
39 Ac efe a gododd i fynu, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A'r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr.
40 Ac efe a ddywedodd wrthynt, pa ham 'r ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd?
41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fôd y gwynt a'r môr yn vfyddhau iddo?
PEN. V.
A Hwy a ddaethant i'r tu hwnt i'r môr, i wlàd y Gadareniaid.
2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o'r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddŷn ac yspryd aflan ynddo,
3 Yr hwn oedd a'i drigfan ym-mhlith y beddau, ac ni allei nêb, ie â chadwynau ei rwymo ef:
4 O herwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio o hono 'r cadwynâu, a dryllio y llyffetheiriau: ac ni allei nêb ei ddofi ef.
5 Ac yn oestad nôs a dydd, yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ym-mhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun à cherrig.
6 Ond pan ganfu efe yr Jesu o hir-bell, efe a redodd, ac a'i haddolodd ef:
7 A chan waeddi â llef vchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi [a wnelwyf] â thi Jesu Fâb y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi.
8 (Canys dywedasei wrtho, yspryd aflân, dôs allan o'r dŷn.)
9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntef a attebodd gan ddywedyd, Lleng yw fy enw: am fôd llawer o honom.
10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrei efe hwynt allan o'r wlâd.
11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoed genfaint fawr o foch yn pori.
12 A'r holl gythreuliaid a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i'r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt.
13 Ac yn y man y caniattaodd yr Jesu iddynt. A'r ysprydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i'r moch: a rhuthrodd y genfaint tros y dibyn i'r môr, (ac ynghylch dwy-fil oeddynt) ac a'u boddwyd yn y môr.
14 A'r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlâd. A hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid.
15 A hwy a ddaethant at yr Jesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasei y lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll, ac a ofnasant.
16 A'r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasei i'r cythreulig, ac am y moch.
17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymmaith o'u goror hwynt.
18 Ac efe yn myned i'r llong, yr hwn y buasei y cythrael ynddo, a ddymunodd arno gaêl bôd gŷd ag ef.
19 Ond yr Jesu ni adawodd iddo, eithr dywedodd wrtho, dôs i'th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthit.
20 Ac efe a aeth ymmaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethei 'r Jesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21 Ac wedi i'r Jesu drachefn fyned mewn llong i'r lan arall, ymgasclodd tyrfa fawr atto: ac yr oedd efe wrth y môr.
22 Ac wele, vn o bennaethiaid y Synagog a ddaeth, a'i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef.
23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar drangc: [attolwg i ti] ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi, a byw fydd.
24 A 'r Jesu a aeth gŷd ag ef: a thryfa fawr a'i canlynodd ef, ac a'i gwascasant ef.
25 A rhyw wraig, yr hon a fuasei mewn difer [...]f gwaed ddeuddeng mhlynedd,
26 Ac a oddefasei lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasei gymmaint ac oedd ar ei [...]elw, ac ni chwasei ddim llessàd, eithr yn hytrarch fyned waeth-waeth.
27 Pan glybu hi am yr Jesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o'r tu ôl, ac a gyffyrddodd â'i wisc.
28 Canys hi a ddywedasei, Os cyffyrddaf â'i ddillad ef, iach fyddaf.
29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: â hi a wybu yn ei chorph ddarfod ei hiachau o'r pla.
30 Ac yn y fan, yr Jesu yn gwybod ynddo ei hun fyned rhinwedd allan o honaw, efe a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â'm dillad?
31 A'i ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli y dyrfa yn dy wascu, ac a ddywedi di, Pwy a'm cyffyrddodd?
32 Ac yntef a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wneathei hyn.
33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo 'r holl wirionedd.
34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a'th iachaodd, dôs mewn heddwch, a bydd iach o'th bla.
35 Ac efe etto yn llefaru, daeth rhai o [dy] Pennaeth y Synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth etto 'r aflonyddi 'r Athro?
36 A'r Jesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y Synagog Nac ofna, crêd yn vnig.
37 Ac ni adawodd efe nêb i'w ddilyn, ond Betr, ac Jaco, ac Ioan brawd Iaco.
38 Ag efe a ddaeth i dŷ pennaeth y Synagog [Page 123] ac a ganfu y cynnwrf, a'r [rhai] oedd yn wylo, ac yn ochain llawer.
39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, pa ham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw yr eneth, eithr cyscu y mae.
40 A hwy a'i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymmerth dâd yr eneth a'i mam, a'r rhai oedd gŷd ag ef, ac a aeth i mewn lle 'r oedd yr eneth yn gorwedd.
41 Ac wedi ymaflyd yn llaw 'r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Tali [...]ha cumi: yr hyn o'i gyfiethu yw, Yr eneth, (yr wyf yn dywedyd wrthit) cyfod.
42 Ac yn y fan y cyfodes yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng-mlwydd oed ydoedd hi: a synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr.
43 Ac efe a orchymynnodd iddynt yn gaeth, na chai nêb wybod hyn: ac a ddywedodd am roddi [peth] iddi i'w fwytta.
PEN. VI.
AC efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a ddaeth i'w wlâd ei hun: a'i ddiscyblion a'i canlynasant ef.
2 Ac wedi dyfod y Sabbath, efe a ddechreuodd athrawiaethu yn y Synagog: a synnu a wnaeth llawer a'i clywsant, gan ddywedyd, O ba le y daeth y pethau hyn i hwn? a pha ddoethineb yw hon a roed iddo fel y gwneid y cyfryw nerthoedd trwy ei ddwylo ef?
3 Ond hwn yw 'r saer, mâb Mair, brawd Iaco, a Ioses, a Judas, a Simon? ac onid yw [Page 124] ei chwiorydd ef ymma yn ein plith ni? A hwy a rwystrwyd o'i blegid ef.
4 Ond yr Jesu a ddywedodd wrthynt, nad yw prophwyd yn ddibris ond yn ei wlâd ei hun, ac ym-mhlith ei genedl ei hun, ac yn ei dŷ ei hun.
5 Ac ni allei efe yno wneuthyd dim gwyrthiau, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion, a'i hiachau hwynt.
6 Ac efe a ryfeddodd o herwydd eu hangrhediniaeth: ac a aeth i'r pentrefi oddi amgylch, gan athrawiaethu.
7 Ac efe a alwodd y deuddeg, ac a ddechreuodd eu danfon hwynt bôb yn ddau a dau, ac a roddes iddynt awdurdod ar ysprydion aflan,
8 Ac a orchymynnodd iddynt na chymmerent ddim i'r daith, ond llaw-ffon yn vnig: nac yscreppan, na bara, nac arian yn eu pyrsau.
9 Eithr eu bôd a sandalau am eu traed, ac na wiscent ddwy bais.
10 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba le bynnag yr eloch i mewn i dŷ, arhoswch yno hyd onid eloch ymmaith oddi yno.
11 A pha rai bynnag ni' ch derbyniant, ac ni'ch gwrandawant, pan eloch oddi yno, escydwch y llwch a [sydd] tan eich traed, yn dystiolaeth iddynt. Yn wir meddaf i chwi, y bydd esmwythach i Sodoma a Gomorrha, yn nydd y farn, nac i'r ddinas honno.
2 A hwy a aethant allan, ac a bregethasant ar iddynt edifarhau.
13 Ac a fwriasant allan lawer o gythreuliaid, [Page 125] ac a eliasant ag olew lawer o gyleifion, ac a'u hiachasant.
14 A'r brenin Herod a glybu, (canys cyhoedd, ydoedd ei enw ef) ac efe a ddywedodd, Ioan Fedyddiwr a gyfodes o feirw, ac am hynny y mae nerthoedd yn gweithio ynddo ef.
15 Eraill a ddywedasant. Mai Elias yw: ac eraill a ddywedasant Mai prophwyd yw, neu megis vn o'r prophwidi.
16 Ond Herod pan glybu, a ddywedodd Mai 'r Ioan a dorrais i ei ben yw hwn, efe a gyfodes o feirw.
17 Canys yr Herod hwn a ddanfonasai, ac a ddaliasai Ioan, ac a'i rhwymasai ef yn y carchar, o achos Herodias gwraig Philip ei frawd, am iddo ei phriodi hi.
18 Canys Ioan a ddywedasei wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd.
19 Ond Herodias a ddaliodd ŵg iddo, ac a chwennychodd ei ladd ef, ac ni's gallod.
20 Canys Herod oedd yn ofni Ioan, gan wybod ei fôd ef yn ŵr cyfiawn, ac yn sanctaidd, ac a'i parchei ef: ac wedi iddo ei glywed ef efe a wnai lawer o bethau, ac a'i gwrandawai ef yn ewyllysgar.
21 Ac wedi dyfod diwrnod cyfaddas, pan wnaeth Herod, ar ei ddydd genedigaeth, swpper i'w benaethiaid, a'r flaenoriaid, a goreugwŷr Galilæa:
22 Ac wedi i ferch Herodias honno ddyfod i mewn, a dawnsio, a boddhau Herod, a'r rhai oedd yn eistedd gydag ef, y brenin a ddywedodd wrth y llangces, Gofyn i mi y peth a fynnech, ac mi a'i rhoddaf i ti.
23 A efe a dyngodd iddi, Beth bynnag a ofynnech i mi, mi a'i rhoddaf i ti, hyd hanner fy nheyrnas.
24 A hitheu a aeth allan, ac a ddywedodd wrth ei mam, Pa beth a ofynnaf? A hîtheu a ddywedodd, Pen Ioan Fedyddiwr.
25 Ac yn y fan hi a aeth i mewn ar frys at y brenin, ac a ofynnodd, gan ddywedyd, Mi a fynnwn i ti roi i mi allan o law, ar ddyscl, ben Ioan Fedyddiwr.
26 A'r brenin yn drist iawn, ni chwennychei ei bwrw hi heibio, o herwydd y llwon, a'r rhai oedd yn eistedd gyd ag ef.
27 Ac yn y man y brenin a ddanfonodd ddienyddwr, ac a orchywynnodd ddwyn ei ben ef.
28 Ac yntef a aeth ac a dorrodd ei ben ef yn y carchar, ac a ddug ei ben ef ar ddyscl, ac a'i rhoddes i'r llangces, a'r llangces a'i rhoddes ef i'w mam.
29 A phan glybu ei ddiscyblion ef, hwy a ddaethant, ac a gymmerasant ei gôrph ef, ac a'i dodasant mewn bedd.
30 A'r Apostolion a ymgasclasant at yr Jesu, ac a fynegasant iddo yr holl bethau, y rhai a wnaethent hefyd, a'r rhai a athrawiaethasent.
31 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch eich hunain i le anghyfannedd o'r nailltu, a gorphwyswch encyd. Canys llawer oedd yn dyfod, ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael ennyd, cymmaint ac i fwytta.
32 A hwy a aethant i le anghyfannedd, mewn llong o'r nailltu.
33 A'r bobloedd a'u gwelsant hwy yn myned [Page 127] ymmaith, a llawer a'i hadnabuant ef, ac a redasant yno ar draed o'r holl ddinasoed, ac a'u rhag flaenasant hwynt, ac a ymglasclasant atto ef.
34 A'r Jesu wedi myned allan a welodd dyrfa fawr, ac a dosturiodd wrthynt, am eu bôd fel defaid heb ganddynt fugail: ac a ddechreuodd ddyscu iddynt lawer o bethau.
35 Ac yna wedi eî myned hi yn llawer o'r dydd, y daeth ei ddiscyblion atto ef gân ddywedydd, Y lle sydd anial, ac weithian y mae hi yn llawer o'r dydd.
36 Gollwng hwynt ymmaith, fel yr elont i'r wlâd oddi amgylch, ac i'r pentrefi ac y prynont iddynt eu hunain fara: canys nîd oes ganddynt ddim i'w fwytta.
37 Ond efe a attebodd, ac ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddynt [beth] i'w fwytta. A hwy a ddywedasant wrtho, A awn ni a phrynu gwerth deu-can ceiniog o fara, a'i roddi iddynt iw fwytta.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sydd gennych? ewch ac edrychwch. Ac wedi iddynt wybod, hwy a ddywedasant, Pump, a dau byscodyn.
39 Ac efe a orchymynnodd iddynt beri i bawb eistedd yn fyrddeidiau, ar y glaswellt.
40 A hwy a eisteddasant yn finteioedd a finteioedd, o fesur cannoedd, ac o fesur dêg a deugeiniau.
41 Ac wedi cymmeryd y pum torth a'r ddau byscodyn, gan edrych i fynu tu a'r nef, efe a fendithiodd, ac a dorrodd y bara, ac a'i rhoddes [...] ei ddiscyblion, i'w gosod ger eu bronnau [Page 128] hwynt: a'r ddau byscodyn a rannodd efe rhyngddynt oll.
42 A hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon.
43 A chodasant ddeuddeg bascedaid yn llawn o'r briw-fwyd, ac o'r pyscod.
44 A'r rhai a fwyttasent o'r torthau, oedd ynghylch pum mil o wŷr.
45 Ac yn y man, efe a gymmhellodd ei ddiscyblion i fyned ir llong, a myned o'r blaen i'r lan arall i Bethsaida, tra fyddei efe yn gollwng ymmaith y bobl.
46 Ac wedi iddo eu danfon hwynt ymmaith, efe aeth i'r mynydd i weddio.
47 A phan aeth hi yn hwyr, yr oedd y llong ar ganol y môr, ac yntef ei hun ar y tir.
48 Ac efe a'u gwelei hwynt yn flin arnynt yn rhwyfo, (canys y gwynt oedd yn eu herbyn:) ac ynghylch y bedwaredd wŷlfa o'r nôs efe a ddaeth attynt, gan rodio ar y môr, ac a fynnasai fyned heibio iddynt.
49 Ond pan welsant hwy ef yn rhodio ar y môr, hwy a dybiasant mai drychiolaeth ydoedd: a hwy a waeddasant.
50 (Canys hwynt oll a'i gwelsant ef, ac a ddychrynasant) ac yn y man yr ymddiddanodd efe â hwynt, ac y dywedodd wrthynt, Cymmerwch gyssur, myfi yw, nac ofnwch.
51 Ac efe a aeth i fynu attynt i'r llong, a'r gwynt a dawelodd: a hwy a synnasant ynddynt eu hunain yn fwy o lawer, ac a ryfeddasant.
52 Oblegid ni ddeallasant am y torthau hynny: canys yr oedd eu calon hwynt wêdi caledu.
53 Ac wedi iddynt ddyfod trosodd, hwy a ddaethant i dir Genesareth, ac a laniasant.
54 Ac wedi eu myned hwynt allan o'r llong, hwy a'i hadnabuant ef yn ebrwydd.
55 Ac wedi iddynt redeg trwy gwbl o'r goror hwnnw, hwy a ddechreuasant ddwyn oddi amgylch mewn gwelâu rai cleifion, pa le bynnag y clywent ei fôd ef.
56 Ac i ba le bynnag yr elaî efe i mewn i bentrefi, neu ddinasoedd, neu wlâd, hwy a osodent y cleifion yn yr heolydd, ac a attolygent iddo gael o honynt gyffwrdd cymmaint ac ag ymyl ei wisc ef: a cynnifer ac a gyffyrddasant ag ef, a iachawyd.
PEN. VII.
YNa yr ymgasclodd atto 'r Pharisæaid, a rhai o'r Scrifennyddion, a ddaethei o Jerusalem.
2 A phan welsant rai o'î ddiscyblion ef â dwylo cyffredin [hynny ydyw heb olchi] yn bwytta bwyd, hwy a argyoeddasant.
3 Canys y Pharisæaid, a'r holl Iddewon, oni bydd iddynt olchi eu dwylo yn fynych, ni fwyttânt, gan ddal traddodiad yr hynafiaid.
4 A [phan ddelont] o'r farchnad, oni bydd iddynt ymolchi, ni fwyttant. A llawer o bethau eraill y sydd, y rhai a gymmerasant iw cadw, [megis] golchi cwppanau, ac ystenau, efyddennau, a byrddau.
5 Yna y gofynnodd y Pharisæaid a'r Scrifennyddion iddo, Pa ham nad yw dy ddiscyblion di yn rhodio yn ôl traddodiad yr hynafiaid, [Page 130] ond bwytta eu bwyd a dwylo heb olchi?
6 Ond efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Da y prophwydodd Esaias am danoch chwi ragrithwŷr: y mae yn scrifennedig, Y mae y bobl hyn yn fy anrhydeddu i â'u gwefusau, ond eu calon sydd bell oddi wrthif.
7 Eithr ofer y maent yn fy addoli, gan ddyscu [yn lle] dysceidiaeth, orchymynion dynion.
8 Canys gan adel heibio orchymmyn Duw, yr ydych yn dal traddodiad dynion, sef golchiadau stenau a chwppanau: a llawer eraill o'r cyffelyb bethau yr ydych yn eu gwneuthur.
9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwych yr ydych yn rhoi heibio orchymmyn Duw, fel y cadwoch eich traddodiad eich hunain.
10 Canys Moses a ddywedodd, Anrhydedda dy dâd a'th fam, a'r hwn a felldigo dâd neu fam, bydded farw 'r farwolaeth.
11 Ac meddwch chwithau, Os dywed dŷn wrth i ei dâd, neu ei fam, Corban, (hynny yw, rhodd) trwy ba beth bynnag y ceit lês oddi wrthi fi [difai fydd.]
12 Ac nid ydych mwyach yn gadel iddo wneuthur dîm i'w dâd neu i'w fam.
13 Gan ddirymmu gair Duw â'ch tradoddiad eich hunain, yr hwn a draddodasoch chwi: a llawer o'gyffelyb bethau a hynny yr ydych yn eu gwneuthur.
14 A chwedi galw atto yr holl dyrfa efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandeŵch chwi oll arnaf, a deellwch.
15 Nid oes dim allan o ddŷn yn myned i [Page 131] mewn iddo, a ddichon ei halogi ef: eithr y pethau sy yn dyfod allan o honaw, y rhai hynny yw 'r pethau sy yn halogi dŷn.
16 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed.
17 A phan ddaeth efe i mewn i'r tŷ, oddi wrth y bobl, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo am y ddammeg.
18 Yntef a ddywedodd wrthynt, Ydych chwithau hefyd mor ddi-ddeall? oni wyddoch am bob peth oddi allan a êl i mewn i ddŷn, na all hynny ei halogi ef?
19 Oblegid nid yw yn myned i'w galon ef, ond i'r bol: ac yn myned allan i'r gau-dŷ, gan garthu yr holl fwydydd.
20 Ac efe a ddywedodd, yr hyn sydd yn dyfod allan o ddŷn, hynny sydd yn hologi dŷn.
21 Canys oddi mewn, allan o galon dynion y daw drwg feddyliau, torr-priodasau, putteindra, llofruddiaeth.
22 Lledradau, cybydd-dod, drygioni, twyll, anlladrwydd, drwg lygad, cabledd, balchder, ynfydrwydd.
23 Yr holl ddrwg bethau hyn sydd yn dyfod oddi mewn, ac yn halogi dŷn.
24 Ac efe a gyfodes oddi yno, ac a aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon: ac a aeth i mewn i dŷ, ac ni fynnasei i nêb wybod: eithr ni allei efe fod yn guddiedig.
25 Canys pan glybu gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ac yspryd aflan ynddi, son am dano, hi a ddaeth, ac a syrthiodd wrth ei draed ef.
26 (A Groeges oedd y wraig, Syrophaeniciad o genedl) a hi a attolygodd iddo fwrw 'r cythrael allan o'i merch.
27 A'r Jesu a ddywedodd wrthi, Gâd yn gyntaf i'r plant gael eu digoni: canys nid cymmwys yw cymmeryd bara 'r plant, a'i daflu i'r cenawon cŵn.
28 Hithau a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Gwîr ô Arglwydd: ac etto y mae y cenawon tan y bwrdd, yn bwytta o friwsion y plant.
29 Ac efe a ddywedodd wrthi, Am y gair hwnnw dôs ymmaith, aeth y cythrael allan o'th ferch.
30 Ac wedi iddi fyned i'w thŷ, hi a gafodd fyned o'r cythrael allan, a'i merch wedi ei bwrw ar y gwely.
31 Ac efe a aeth drachefn ymmaith ô dueddau Tyrus a Sydon, ac a ddaeth hyd fôr Galilæa, trwy ganol terfynau Decapolis.
32 A hwy a ddygasant atto vn byddar ag attal dywedyd arno, ac a attolygasant iddo ddodi ei law arno ef.
33 Ac wedi iddo ei gymmeryd ef o'r nailltu allan o'r dyrfa, efe a estynnodd ei fysedd yn ei glustiau ef, ac wedi iddo boeri, efe a gyffyrddodd a'i dafod ef:
34 A chan edrych tua 'r nef, efe a ocheneidiodd, ac a dywedodd wrtho, Ephphatha, hynny yw, ymagor.
35 Ac yn ebrwydd ei gustiau ef a agorwyd, a rhwym ei dafod a ddattodwyd, ac efe a lefarodd yn eglur.
36 Ac efe a waharaddodd iddynt ddywedyd [Page 133] neb: ond pa mwyaf y gwaharddodd efe iddynt, mwy o lawer y cyhoeddasant.
37 A synnu a wnaethant yn anfeidrol, gan ddywedyd, Da y gwnaeth efe bob peth: y mae efe yn gwneuthur i'r byddair glywed, ac i'r mudion ddywedyd.
PEN. VIII.
YN y dyddiau hynny, pan oedd y dyrfa yn fawr iawn, ac heb ganddynt ddim i'w fwytta y galwodd yr Jesu ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt,
2 Yr wyfi yn tosturio wrth y dyrfa, oblegid y maent hwy dridiau weithian yn aros gyd â mi, ac nid oes ganddynt ddim i'w fwytta:
3 Ac os gollyngaf hwynt ymmaith ar eu cythlwng, i'w teiau eu hunain, hwy a lewygant ar y ffordd: canys rhai o honynt a ddaeth o bell.
4 A'i ddiscyblion ef a'i hattebasant, O ba le y gall nêb ddigoni y rhai hyn â bara, ymma yn yr anialwch?
5 Ac efe a ofynnod iddynt, Pa sawl torth fydd gennwch? A hwy a ddywedasant, Saith.
6 Ac efe a orchymynodd i'r dyrfa eistedd ar y llawr, ac a gymmerodd y saith dorth, ac a ddiolchodd, ac a'u torrodd [hwynt] ag a'u rhoddes i'w ddiscyblion, fel y gosodent hwynt ger eu bronnau: a gosodasant hwynt ger bron y bobl.
7 Ac yr oedd ganddynt ychydig byscod bychain: ac wedi iddo fendithio, efe a barodd ddodi y rhai hynny hefyd ger eu bronnau [hwynt.]
8 A hwy a fwyttasant, ac a ddigonwyd: a hwy a godasant o'r briw-fwyd gweddill, saith fascedaid.
9 A'r rhai a fwyttasent oedd ynghylch pedair mil: ac ef a'u gollyngodd hwynt ymmaith.
10 Ac yn y man wedi iddo fyned i long gyd â'i ddiscyblion, efe a ddaeth i barthau Dalmanutha.
11 A'r Pharisæaid a ddaethant allan, ac a ddechreuasant ymholi ag ef, gan geisio ganddo arwydd o'r nef, gan ei demtio.
12 Yntef gan ddwys ocheneidio yn ei yspryd, a ddywedodd, Beth a wna 'r genhedlaeth ymma yn ceisio arwydd? yn wir meddaf i chwi, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth ymma.
13 Ac efe a'u gadawodd hwynt, ac a aeth i'r llong drachefn, ac a dynnodd ymmaith i'r lan arall.
14 A'r [discyblion] a adawsent yn angof gymmeryd bara, ac nid oedd ganddynt gŷd a hwynt onid vn dorth yn y llong.
15 Yna y gorchymynnodd efe iddynt, gan ddywedyd, Gwiliwch, ymogelwch rhag surdoes y Pharisæaid, a surdoes Herod.
16 Ac ymresymmu a wnaethant y naill wrth y llall, gan ddywedyd, [Hyn sydd] oblegid nad oes gennym fara.
17 A phan wybu 'r Jesu efe a ddywedodd wrthynt, Pa ymresymmu i'r ydych, am nad oes gennwch fara? ond ydych chwi etto yn ystyried, nac yn deall? ydyw eich calon etto gennwch wedi caledu?
18 A chennych lygaid, oni welwch? a chennych glustiau, oni chlywch? ac onid ydych yn cofio?
19 Pan dorrais y pum torth hynny, ym mysc y pum mîl, pa sawl bascedaid yn llawn o friwfwyd a godasoch i fynu? Dwyedasant wrtho, Deuddeg.
20 A phan [dorrais] y saith ymmhlith y pedair mîl, lloneid pa sawl basced o friwfwyd a godasoch i fynu? A hwy a ddywedasant. Saith.
21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd nad ydych yn deall?
22 Ac efe a ddaeth i Bethsaida: a hwy a ddygasant atto vn dall, ac a ddeisyfiasant arno, ar iddo gyffwrdd ag ef.
23 Ac wedi ymaflyd yn llaw y dall, efe a'i twysodd ef allan o'r dref: ac wedi iddo boeri ar ei lygaid ef, a dodi ei ddwylo arno, efe a ofynnodd iddo, a oedd efe yn gweled dim.
24 Ac wedi edrych i fynu efe a ddywedodd, yr ydwyf yn gweled dynion megis prennau yn rhodio.
25 Wedi hynny y gosodes efe i ddwylo drachefn ar ei lygaid ef ac a barodd iddo edrych i fynu: ag efe a gafodd ei olwg, ac efe a welai bawb o bell, ac yn eglur.
26 Ac efe a'i hanfonodd ef adref i'w dŷ, gan ddywedyd, Na ddôs i'r dref, ac na ddywed i neb yn y dref.
27 A'r Jesu a aeth allan efe a'i ddiscyblion, i drefi Cæsaræa Philippi: ac ar y ffordd, efe a ofynnodd iw ddiscyblion, gan ddywedyd [Page 136] wrthynt, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy môd i?
28 A hwy a attebasant, Ioan Fedyddiwr: a rhai, Elias: ac eraill, vn o'r prophwydi.
29 Ac efe a dywedodd wrthynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy mod i? A Phetr a attebodd, ac a ddywedod wrtho, Ti yw 'r Christ.
30 Ac efe a orchymmynnodd iddynt na ddywedent i nêb am dano.
31 Ac efe a ddechreuodd eu dyscu hwynt, fôd yn rhaid i Fab y dŷn oddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, ac wedi tridiau adgyfodi,
32 A'r ymadrodd hwnnw a ddywedodd efe yn eglur. A Phetr a ymaflodd ynddo, ac a ddechreuodd ei geryddu ef.
33 Eithr wedi iddo droi, ac edrych ar ei ddiscyblion, efe a geryddodd Petr, gan ddywedyd, Dôs ymmaith yn fy ôl i Satan: am nad wyt yn synnied y pethau sy o Dduw, ond y pethau sy o ddynion.
34 Ac wedi iddo alw atto y dyrfa gŷd â'i ddiscyblion, efe a ddywedodd wrthynt, Y neb a fynno ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a chyfoded ei groes, a dilyned fi.
35 Canys pwy bynnag a fynno gadw ei enioes, a'i cyll hi: ond pwy bynnag a gollo ei enioes er fy mwyn i a'r Efengyl, hwnnw a'i ceidw hi,
36 Canys pa lesâd i ddŷn os ennill yr holl fyd, a cholli ei enaid ei hun?
37 Neu pa beth a rydd dŷn yn gyfnewid [am] ei enaid?
38 Canys pwy bynnag a fyddo cywilydd ganddo fi a'm geriau, yn yr odinebus a'r bechadurus genhedlaeth hon bydd cywilydd gan Fâb y dŷn yntef hefyd, pan ddêl yngogoniant ei Dâd, gyd a'r Angelion sanctaidd.
PEN. IX.
AC efe a ddywedodd wrthynt, Yn wîr yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd rhai o'r rhai sy yn sefyll ymma, ni phrofant angeu, hyd oni welont deyrnas Dduw wedi dyfod mewn nerth.
2 Ac wedi chwe diwrnod y cymmerth yr Jesu Betr, ac Jaco, ac Ioan; ac a'u dug hwynt i fynydd vchel, eu hunain o'r nailltu; ac efe wedd-newidiwyd yn eu gŵydd hwynt.
3 A'i ddillad ef a aethant yn ddisclair, yn gannaid iawn fel eira, y fath ni fedr vn pannwr ar y ddaiar eu cannu,
4 Ac ymddangosodd iddynt Elias gŷd â Moses: ac yr oeddynt yn ymddiddan â'r Jesu.
5 A Phetr a attebodd ac a dywedodd wrth yr Jesu, Rabbi, da yw i ni fôd ymma: gwnawn dair pabell, i ti vn, ac i Foses vn, ac i Elias vn.
6 Canys ni's gwyddei beth yr oedd yn ei ddywedyd: canis yr oeddynt wedi dychrynu.
7 A daeth cwmmwl yn cyscodi trostynt hwy: a llef a ddaeth allan o'r cwmmwl gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl Fâb, gwrandewch ef.
8 Ac yn ddisymmwth, pan edrychasant o amgylch, ni welsant neb mwy, ond yr Jesu yn vnig gyd â hwynt.
9 A phan oeddynt yn dyfod i wared o'r [Page 138] mynydd, efe a orchymynnodd iddynt na ddangosent i neb y pethau a welsent, hyd pan adgyfodei Mâb y dŷn o feirw.
10 A hwy a gadwasant y gair gŷd à hwynt eu hunain, gan gŷd-ymholi beth yw'r âdgyfodi o feirw.
11 A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ham y dywed yr Scrifennyddion, fôd yn rhaid i Elias ddyfod yn gyntaf?
12 Ac efe a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Elias yn ddiau gan ddyfod yn gyntaf, a edfryd bôb peth a'r modd yr scrifennwyd am Fâb y dŷn, y dioddefai lawer o bethau, ac y dirmygid ef.
13 Eithr yr wyf yn dywedyd i chwi, ddyfod Elias yn ddiau, a gwneuthur o honynt iddo 'r hyn a fynnasant, fel yr scrifenwyd am dano.
14 A phan ddaeth efe at ei ddiscyblion, efe a welodd dyrfa fawr yn eu cylch hwynt, a'r Scrifennyddion yn cyd-ymholi â hwynt.
15 Ac yn ebrwydd yr holl dyrfa, pan ganfuant ef, a ddychrynasant, a chan redeg atao, a gyfarchasant, iddo.
16 Ac efe a ofynnodd, i'r Scrifennyddion, Pa gŷd-ymholi yr ydych yn eich plith?
17 Ac vn o'r dyrfa a attebodd, ac a ddywedodd, Athro, mi a ddugym fy mâb attat, ac yspryd mud ynddo.
18 A pha le bynnag y cymmero ef, efe a'i rhwyga; ac yntef a fwrw ewyn, ac a yscyrnyga ddanned, ac y mae yn dihoeni: ac mi a ddywedais wrth dy ddiscyblion, ar iddynt ei fwrw ef âllan, ac ni's gallasant.
19 Ac efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon, pa hŷd y byddaf gŷd â chwi? pa hŷd y goddefaf chwi? dygwch ef attafi.
20 A hwy a'i dygasant ef atto: a phan welodd ef, yn y man yr yspryd a'i drylliodd ef, a chan syrthio ar y ddaiar, ef a ymdreiglodd tan falu ewyn.
21 A gofynnodd [yr Jesu] i'w dâd ef, Beth sydd o amser, er pan ddarfu fel hyn iddo? Yntef a ddywedodd, Er yn fachgen.
22 A mynych y taflodd efe ef yn tân, ac i'r dyfroedd, fel y difethai efe ef; ond os gelli di ddim, cymmorth ni, gan dosturio wrthym.
23 A'r Jesu a ddywedodd wrtho, Os gelli di gredu, pôb peth a all fod i'r neb a gredo.
24 Ac yn y fan tâd y bachgen, tan lefain ag wylofain, a ddywedodd; Yr wyfi yn credu o Arglwydd: cymmorth fy anghrediniaeth i.
25 A phan welodd yr Jesu fôd y dyrfa yn cŷd-redeg atto, efe a geryddodd yr yspryd aflan, gan ddywedyd wrtho, [Tydi] yspryd mud a byddar, yr wyf fi yn gorchymmyn i ti, Tyred allan o honaw, ac na ddôs mwy iddo ef.
26 Ac wedi [i'r yspryd] lefain a dryllio llawer arno ef, efe a aeth allan: ac yr oedd efe fel [vn] marw, fel y dywedodd llawer ei farw ef.
27 A'r Jesu a'i cymmerodd ef erbyn ei law, ac a'i cyfoddodd: ac efe a safodd i fynu.
28 Ac wedi iddo fyned î mewn i'r tŷ, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo o'r nailltu, Pa ham na allem ni ei fwrw ef allan?
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y rhwy [Page 140] hwn ni all er dim ddyfod allan, ond trwy weddi ac ympryd.
30 Ac wedi ymadel oddi yno, hwy a ymdeithiasant trwy Galilæa: ac ni fynnai efe wybod o nêb.
31 Canys yr oedd efe yn dyscu ei ddiscyblion, ac yn dywedyd wrthynt, Y traddodir Mâb y dŷn i ddwylo dynion, ac y lladdent ef, ac wedi ei ladd, yr adgyfodai y trydydd dydd.
32 Ond nid oeddynt [...]y yn deall yr ymadrodd, ac ofni yr oeddynt [...] iddo.
33 Ac efe a ddaeth i Capernaum: a phan oedd efe yn y tŷ, efe a ofynnodd iddynt, Beth yr oeddych yn ymddadleu yn eich plith eich hunain ar y ffordd?
34 Ond hwy adawsant à sôn: canys ymddadleuasent â'u gilydd ar y ffordd, pwy [a fyddei] fwyaf.
35 Ac efe a eisteddodd, ac a alwodd y deuddeg, ac a ddywedodd wrthynt, Os myn neb fôd yn gyntaf, efe a fydd olaf o'r cwbl, a gwenidog i bawb.
36 Ac efe a gymmerth fachgennyn, ac a'i gosododd ef yn eu canol hwynt, ac wedi iddo ei gymmeryd ef yn ei freichiau, efe a ddywedodd wrthynt,
37 Pwy bynnag a dderbynio vn o'r cyfryw fechgyn, yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyn i, nid mifi y mae yn ei dderbyn, ond yr hwn a'm danfonodd i.
38 Ac Ioan a'i hattebodd ef, gan ddywedyd, Athro, ni a welsom vn yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, yr hwn nid yw yn ein dilyn ni, [Page 141] ac ni a waharddasom iddo, am nad yw yn ein dylin ni.
39 A'r Jesu a ddywedodd, Na waherddwch iddo: canys nid oes nêb a wna wyrthiau yn fy enw i, ac a all yn y fan roi dryg-air i mi.
40 Canys y neb nid yw i'n herbyn, o'n tu ni y mae,
41 Canys pwy bynnag a roddo i chwi i'w yfed gwppaneid o ddwfr yn fy enw i, am eich bôd yn perthyn i Grist, yn wîr meddaf i chwi, ni chyll efe ei obrwy.
42 A phwy bynnag rwystro vn o'r rhai bychain hyn sy yn credu ynofi, gwell oedd iddo osod maen melin o amgylch ei wddf, a'i daflu i'r môr.
43 Ac os dy law a'th rwystra, torr hi ymmaith: gwell i'w i ti fyned i mewn i'r bywyd yn anafus, nag a dwy law gennit, fyned i vffern, i'r tân anniffoddadwy:
44 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
45 Ac os dy droed a'th rwystra, torr ef ymmaith: gwell yw i ti fyned i mewn i'r bywyd yn gloff, nag a dau droed gennit dy daflu i vffern, i'r tân anniffoddadwy,
46 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw, na'r tân yn diffodd.
47 Ac os dy lygad a'th rwystra, bwrw ef ymmaith, gwell yw i ti fyned î mewn i deyrnas Dduw yn vn-llygeidiog, nag â dau lygad gennit dy daflu i dân vffern:
48 Lle nid yw eu pryf hwynt yn marw na'r tân yn diffodd,
49 Canys pôb vn â helltir â thân, a phôb aberth a helltir â halen.
50 Da yw 'r halen: ond os bydd yr halen yn ddihallt, a pha beth yr helltwch ef? Bid gennwch halen ynoch eich hunain, a byddwch heddychlawn a'i gilydd.
PEN. X.
AC efe a gyfododd oddi yno, ac a aeth i dueddau Judæa, trwy 'r tu hwnt i'r Iorddonen: a'r bobloedd a gŷd-gyrchasant atto ef drachefn: ac fel yr oedd yn arferu, efe a'u dyscodd hwynt drachefn.
2 A'r Pharisæaid wedi dyfod atto, a ofynnasant iddo, ai rhydd i ŵr roi ymmaith ei wraig? gan ei demptio ef.
3 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Beth a orchymynnodd Moses i chwi?
4 A hwy a ddywedasant, Moses a ganhiadodd scrifennu llythyr yscar, a'i gollwng hi ymmaith.
5 A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, O achos eich calon-galedwch chwi, yr scrifennodd efe i chwi y gorchymmyn hwnnw.
6 Ond o ddechreuad y creadigaeth, yn wr-ryw a benyw y gwnaeth Duw hwynt.
7 Am hyn y gâd dŷn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig.
8 A hwy ill dau a fyddant vn cnawd, fel nad ydynt mwy ddau, onid vn cnawd.
9 Y peth gan hynny a gyssylltodd Duw, nâ wahaned dŷn.
10 Ac yn y tŷ drachefn, ei ddiscyblion a ofynnasant iddo am yr vn peth.
11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a roddo ymmaith ei wraig, ac a briodo vn arall, y mae yn godinebu yn ei herbyn hi.
12 Ac os gwraig a ddyry ymmaith ei gŵr, a phriodi vn arall, y mae hi yn godinebu.
13 A hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe â hwynt: a'r discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt.
14 A'r Iesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gedwch î blant bychaîn ddyfod attafi, ac na waherddwch iddynt: canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
15 Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bach, nid â efe i mewn iddi.
16 Ac efe a'u cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes [ei] ddwylo arnynt, ac a'u bendithiodd.
17 Ac wedi iddo fyned allan i'r ffordd, rhedodd vn atto, a gostyngodd iddo, ac a ofynnodd iddo, O athro da, beth a wnaf fel yr etifeddwyf fywyd tragwyddol.
18 A'r Iesu a ddywedodd wrtho. Pa ham y gelwi fi yn dda? nid [oes] neb da ond vn, [sef] Duw.
Ti a wyddost y gorchymmynion, Na odineba; Na ladd, Na ledratta, Na cham dystiolaetha, Na cham-golleda; Anrhydedda dy dâd aith fam.
20 Yntef a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Athro, y rhai hyn i gŷd a gedwais o'm hieuencgtid.
21 A'r Iesu gan edrych arno, a'i hoffodd, ac a ddywedodd wrtho, Vn peth fydd ddyffigiol i ti: dôs, gwerth yr hyn sydd gennit, a dyro i'r tlodion, a thi a gei drysor yn y nef: a thyred, a chymmer i fynu y groes, a dilyn fi.
22 Ac efe a bruddhaodd wrth yr ymadrodd, ac a aeth ymmaith yn athrist: canys yr oedd ganddo feddiannu lawer.
23 A'r Iesu a edrychodd o'i amgylch, ac a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Mor anhawdd yr â y rhaî y mae golud ganddynt, i deyrnas Dduw.
24 A'r discyblion a frawychasant wrth ei eiriau ef. Ond yr Iesu a attebodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, O blant, mor anhawdd yw i'r rhai sy a'u hymddiried yn eu golud, fyned i deyrnas Dduw.
25 Y mae yn haws i gamel fyned trwy grau 'r nodwydd, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw.
26 A hwy a synnasant yn ddirfawr, gan ddywedyd wrthynt eu hunain, A phwy a all fôdd yn gadwedig?
27 A'r Iesu wedi edrych arnynt, a ddywedodd, Gyd a dynion ammhossibl yw, ac nid gid â Duw: canys pob beth sydd bossibl gyd â Duw.
28 Yna y dechreuodd Petr ddywedyd wrtho, Wele, nyni a adawsom bob peth, ac a'th ddilynasom di.
29 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn Yn wir meddaf i chwi nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu frodyr, neu chwiorydd, neu dâd, neu [Page 145] fam, neu wraig, neu blant, neu diroedd, o'm hachos i a'r Evengyl.
30 Ar ni dderbyn y can cymmaint, yr awron y pryd hyn, dai, a brodyr, a chwiorydd, a mammau, a phlant, a thiroedd, ynghŷd ag erlidiau, ac yn y byd a ddaw fywyd tragywyddol.
31 Ond llawer rhai cyntaf, a fyddant ddiweddaf: a'r diweddaf [fyddant] gyntaf.
32 Ac yr oeddynt ar y ffordd, yn myned i fynu i Ierusalem: ac yr oedd yr Iesu yn myned o'u blaen hwynt; a hwy a frawychasant, ac fel yr oeddynt yn canlyn yr oedd arnynt ofn. Ac wedi iddo drachefn gymmeryd y deuddeg, efe a ddechreuodd fynegi iddynt y pethau, a ddigwyddent iddo ef.
33 Canys wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem, a Mâb y dŷn a draddodir i'r Archoffeiriaid, ac i'r Scrifennyddion, a hwy a'i condemnant ef i farwolaeth, ac a'i traddodant ef i'r cenhedloedd:
34 A hwy a'i gwarwarant ef ac a'i fflangellant, ac a boerant arno, ac a'i lladdant: a'r trydydd dydd yr adgyfyd.
35 A daeth atto laco ac Ioan meibion Zebedaeus, gan ddywedyd, Athro, ni a fynnem wneuthur o honnot i ni yr hyn a ddymunem.
36 Yntef a ddywedodd wrthynt, Beth a fynnech i mi ei wneuthur i chwi?
37 Hwythau a ddywedasant wrtho, canhiadhâ i ni eistedd, vn ar dy ddeheu-law, a'r llall ar dy asswy yn dy ogoniant.
38 Ond yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Ni wyddoch pa beth yr ydych yn ei ofyn: ac ellwch [Page 145] chwi yfed o'r cwppan yr wyfi yn ei yfed, a'ch bedyddio a'r bedydd i'm bedyddir i ag ef?
39 A hwy a ddywedasant wrtho, Gallwn. A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Diau yr yfwch o'r cwppan yr yswy fi; ac i'ch bedyddir â'r bedydd y bedyddir finneu:
40 Ond eistedd ar fy neheu-law a'm hasswy, nid eiddo fi ei roddi, ond i'r rhai y darparwyd.
41 A phan glybu y dêg, hwy a ddechreuasant fôd yn ansodlon ynghylch Iaco ac Ioan:
42 A'r Iesu a'i galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch fôd y rhai a dybir eu bôd yn llywodraethu ar y cenedloedd, yn tra-arglwyddiaethu arnynt, a'u gwŷr mawr hwynt, yn tra awdurdodi arnynt.
43 Eithr nid felly y bydd yn eich plith chwi: ond pwy bynnag a ewyllysio fôd yn fawr yn eich plith, bydded wenidog i chwi;
44 A phwy bynnag o honoch a fynno fôd yn bennaf bydded wâs i bawb.
45 Canys ni ddaeth Mâb y dŷn i'w wasanaethu, ond i wasanaethu, ac i roi ei enioes yn bridwerth tros lawer.
46 A hwy a ddaethant i Iericho: ac fel yr oedd efe yn myned allan o Iericho, efe, a'i ddiscyblion, a bagad o bobl, Bartîmaeus ddall mâb Timaeus, oedd yn eistedd ar fin y ffordd, yn cardotta.
47 A phan glybu mai'r Iesu o Nazareth ydoedd, efe a ddechreuodd lefain, a dywedyd, Iesu fâb Dafydd, trugarhâ wrthîf.
48 A llawer a'i ceryddasant ef (ei geisio ganddo dewi:) ond efe a lefodd yn fwy o lawer [Page 147] Mâb Dafydd, trugarhâ wrthif.
49 A'r Iesu a safodd, ac a archodd ei alw ef: a hwy a alwasant y dall, gan ddywedyd wrtho, Cymmer galon, cyfod, y mae efe yn dy alw dî.
50 Ond efe wedi taflu ei gochl ymmaith, a gyfododd ac a ddaeth at yr Iesu.
51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Beth a fynni i mi ei wneuthur i ti? A'r dall a ddywedodd wrtho, Athro, caffael o honof fy ngolwg.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd. Ac yn y man y cafodd efe ei olwg, ac efe a ddilynodd yr Iesu ac hŷd y ffordd.
PEN. XI.
AC wedi eu dyfod yn agos i Ierusalem, i Bethphage a Bethania, hyd fynydd yr Olewydd, efe a anfones ddau o'i ddiscyblion.
2 Ac a ddywedodd wrthynt, Ewch ymmaith i'r pentref sydd gyferbyn â chwi, ac yn y man wedi y deloch i mewn iddo, chwi a gewch ebol wedi ei rwymo, ar yr hwn nid eisteddodd neb: gollyngwch ef yn rhydd, a dygwch ymma:
3 Ac os dywed neb wrthych, Pa ham y gwnewch hyn? dywedwch, Am-fôd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho: ac yn ebrwydd efe a'i denfyn ymma.
4 A hwy a aethant ymmaith, ac a gawsant yr ebol yn rhwym, wrth y drws oddi allan [Page 148] mewn croes-ffordd, ac ai gollyngasant ef yn rhydd.
5 A rhai o'r rhai oedd yn sefyll yno a ddywedasant wrthynt, Beth a wnewch chwi yn gollwng yr ebol yn rhydd?
6 A hwy a ddywedasant wrthynt fel y gorchymynnasei 'r Iesu: a hwy a adawsant iddynt fyned ymmaith.
7 A hwy a ddygasant yr ebol at yr Iesu, ac a fwriasant eu dillad arno: ac efe a eisteddodd arno.
8 A llawer a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd: ac eraill a dorrasant gangau o'r gwydd, ac a'u tanasant ar y ffordd.
9 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen, a'r rhai oedd yn dyfod ar ôl, a lefasant, gan ddywedyd, Hosanna, bendigedig [fyddo] yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd.
10 Bendigedig yw y deyrnas sydd yn dyfod yn enw Arglwydd ein tâd Dafydd: Hosanna yn y goruchaf.
11 A'r Iesu a aeth i mewn i Ierusalem, ac i'r Deml, ac wedi iddo edrvch ar bob peth o'i amgylch, a hi weithian yn hwyr, efe a aeth allan i Bethania gyd â'r deuddeg;
12 A thrannoeth wedi iddynt ddyfod allan o Bethania yr oedd arno chwant bwyd
13 Ac wedi iddo ganfod o hirbell ffigysbren, ac arno ddail, efe a aeth [i edrych a gaffai ddim arno: a phan ddaeth atto, ni chafodd efe ddim ond y dail, canys nid oedd amser ffigys.
14 A'r Iesu a atrebodd ac a ddywedodd wrtho, Na fwyttaed neb ffrwyth o honot byth [Page 149] mwy. A'i ddiscyblion ef a glywsant.
15 A hwy a ddaethant i Ierusalem: a'r Iesu aeth i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai a werthent ac a brynent yn y Deml: ac a ymchwelodd drestelau 'r arian-wŷr a chadeiriau y gwerth-wŷr colommennod.
16 Ac ni adawai efe i neb ddwyn llestr trwy 'r Deml.
17 Ac efe a'u dyscodd gan ddywedyd wrthynt, Onid yw yn scrifennedig, Y gelwir fy nhŷ i, yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd, ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
18 A'r Scrifennyddion, a'r Arch-offeiriaid a glywsant hyn, ac a geisiasant pa fodd y difethent ef: canys yr oeddynt yn ei ofni ef, am fôd yr holl bobl yn synnu oblegid ei athrawiaeth ef.
19 A phan aeth hi yn hŵyr, efe a aeth allan o'r ddinas.
20 A'r boreu wrth fyned heibio, hwy a welsant y ffigys-bren wedi crino o'r gwraidd.
21 A Phetr wedi atgofio, a ddywedodd wrtho, Athro, wele y ffigys-bren a felldithiaist, wedi crino.
22 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Bydded gennych ffydd yn Nuw.
23 Canys yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, pwy bynnag a ddywedo wrth y mynydd hwn, Tynner di ymmaith, a bwrier di i'r môr; ac nid amheuo yn ei galon, ond credu y daw i ben y pethau a ddywedo efe; beth bynnag a ddywedo a sydd iddo.
24 Am hynny meddaf i chwi, beth bynnag oll a geisioch wrth weddio, credwch y derbyniwch, [Page 150] ac fe fydd i chwi.
25 A phan safoch i weddio, maddeuwch o bydd gennych ddim yn erbyn neb: fel y maddeuo eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd i chwithau eich camweddau.
26 Ond os chwi ni faddeuwch, eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, ni faddeu chwaith eich camweddau chwithau.
27 A hwy a ddaethant drachefn i Ierusalem: ac fel yr oedd efe yn rhodio yn y Deml, yr Archoffeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'r Henuriaid, a ddaethant atto:
28 Ac a ddywedasant wrtho, Trwy ba awdurdod yr wyti yn gwneuthur y pethau hyn? a phwy a roddes i ti yr awdurdod hon, i wneuthur y pethau hyn?
29 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minnau a ofynaf i chwithau yn gair, ac attebwch fi, ac mi a dddywedaf i chwi trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn:
30 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr oedd, ai o ddynion? attebwch fi.
31 Ac ymresymmu a wnaethant wrthynt eu hunain, gan ddywedyd, os dywedwn, o'r nef, efe a ddywed, Pa ham gan hynny na chredech iddo.
32 Eithr os dywedwn, o ddynion, yr oedd arnynt, ofn y bobl: canys pawb oll a gyfrifent Ioan, mai prophwyd yn ddiau ydoedd.
33 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrth yr Iesu, Ni wyddom ni. A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt hwythau, Ac ni ddyweddaf [Page 151] finneu i chwithau trwy ba awdurdod yr wyf yn gwneuthur y pethau hyn.
PEN. XII.
AC efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt ar ddamhegion, Gŵr a blannodd win-llan, ac a ddodes gae o'i hamgylch, ec a gloddiodd le i'r gwin-gafn, ac a adeiladodd dŵr, ac a'i gosododd hi allan i lafur-ŵyr, ac a aeth oddi cartref.
2 Ac efe a anfonodd wâs mewn amser at y llafur-wŷr, i dderbyn gan y llafur-wŷr o ffyrwyth y win-llan.
3 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i baeddasant, ac a'i gyrrasant ymmaith yn waglaw.
4 A thrachefn yr anfonodd efe vn arall; a hwnnw y taflasant gerrig atto, ac yr archollasant ei ben, ac a'i gyrrasant ymmaith yn amharchus.
5 A thrachefn yr anfonodd efe vn arall; a hwnnw a lladasant: a llawer eraill, gan faeddu thai, a lladd y lleill.
6 Am hynny etto, a chanddo vn mâb, ei anwylyd, efe a anfonodd hwnnw hefyd attynt yn ddiweddaf, gan ddywedyd, Hwy a barchant fy mâb i.
7 Ond y llafur-ŵyr hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, Hwn yw 'r etifedd, deuwch, lladdwn ef, a'r etifeddiaeth fydd eiddom ni.
8 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i lladdasant, ac a'i bwriasant allan o'r win-llan.
9 Beth gan hynny a wna arglwydel y winllan? efe a ddaw, ac a ddifetha y llafur-wŷr, ac a rydd y win-llan i eraill.
10 Oni ddarllennasoch yr Scrythur hon? Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl.
11 Hyn a wnaethpwyd gan yr Arglwydd, a rhyfedd yw yn ein golwg ni.
12 A hwy a geisiasant ei ddala ef: ac yr oedd arnynt ofn y dyrfa: canys hwy a wyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedasai efe y ddammeg: a hwy a'i gadawsant ef, ac a aethant ymmaith.
13 A hwy a anfonasant atto rai o'r Pharisæaid ac o'r Herodianiaid, i'w rwydo ef yn [ei] ymadrodd.
14 Hwythau pan ddaethant a ddywedasant wrtho, Athro, ni a wyddom dy fôd ti yn eir-wir, ac nad oes arnat ofal rhag neb: canys nid wyti yn edrych ar wyneb dynion, ond yr wyt yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirionedd: ai cyfreithlawn rhoi teyrn-ged i Cæsar, ai nid yw? a roddwn, ai ni roddwn [hi?]
15 Ond efe, gan wybod eu rhagrith hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pa ham y temtiwch fi? dygwch i mi geniog, fel y gwelwyf [hi.]
16 A hwy a'i dygasant, Ac efe a ddywedodd wrthynt, Eiddo pwy yw 'r ddelw hon a'r argraph? A hwy a ddywedasant, eiddo Cæsar.
17 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw. A rhyfeddu a wnaethant o'i blegid.
18 Daeth y Saducæaid hefyd atto, y rhai a [Page 153] ddywedant nad oes adgyfodiad: a gofynnasant iddo, gan ddywedyd,
19 Athro, Moses a scrifennodd i ni, o bydd marw brawd neb, a gadu [ei] wraig, ac heb adu plant, am gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd i'w frawd.
20 Yr oedd gan hynny saith o frodyr: a'r cyntaf a gymmerth wraig, a phan fu farw, ni adawodd hâd.
21 A'r ail a'i cymmerth hi, ac a fu farw, ac ni adawodd yntef hâd: a'r trydydd yr vn modd.
22 A hwy ai cymmerasant hi eill saith, ac ni adawsant had: yn ddiweddaf o'r cwbl, bu farw y wraig hefyd.
23 Yn yr adgyfodiad gan hynny, pan adgyfodant, gwraig i ba vn o honynt fydd hi? canys y saith a'i cawsant hi yn wraig.
24 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ond am hyn yr ydych yn cyfeiliorni, am nad ydych yn gwybod yr Scrythyrau na gallu Duw?
25 Canys pan adgyfodant o feirw, ni wreiccant, ac ni wrant: eithr y maent fel yr angelion sydd yn y nefoedd.
26 Ond am y meirw, yr adgyfodir hwynt, oni ddarllenasoch chwi yn llyfr Moses, y modd y llefarodd Duw wrtho yn y berth, gan ddywedyd, Mifi yw Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob?
27 Nid yw efe Dduw 'r meirw, ond Duw y rhai byw: am hynny yr ydych chwi yn cyfelliorni yn fawr.
28 Ac vn o'r Scrifennyddion a ddaeth, wedi [Page 154] eu clywed hwynt yn ymresymmu, a gwybod atteb o honaw iddynt yn gymmwys, a ofynnodd iddo, Pa vn yw 'r gorchymmyn cyntaf o'r cwbl?
29 A'r Iesu a attebodd iddo, Y cyntaf o'r holl orchymmynion [yw] Clyw Israel, yr Arglwydd ein Duw, yn Arglwydd yw:
30 A châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl, ac â'th holl nerth: hwn yw 'r gorchymmyn cyntaf.
31 A'r ail [sydd] gyffelyb iddo, Câr dy gymmydog fel ti dy hun: nid oes orchymmyn arall mwy nâ'r rhai hyn.
32 A dywedodd yr Scrifennydd wrtho, Da, athro, mewu gwirionedd y dywedaist, mai vn Duw sydd, ac nad oes arall ond efe:
33 A'i garu ef â'r holl galon, ac â'r holl ddeall, ac â'r holl enaid, ac â'r holl nerth, a charu [ei] gymmydog megis ei hun, sydd fwy nâ'r holl boeth-offrymmau a'r aberthau.
34 A'r Iesu pan welodd iddo atteb yn synhwyrol, a ddywedodd wrtho, Nid wyt ti bell oddi wrth deyrnas Dduw. Ac ni feiddiodd neb mwy ymofyn ag ef.
35 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, wrth ddyscu yn y Deml, Pa fodd y dywed yr Scrifennyddion fôd Crist yn fâb Dafydd?
36 Canys Dafydd ei hun a ddywedodd trwy 'r Yspryd glân, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i'th droed.
37 Y mae Dafydd ei hun gan hynny yn ei [Page 155] alw ef yn Arglwydd: ac o ba le y mae efe yn fâb iddo? A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt yn ei athrawiaeth, Ymogelwch rhag yr Scrifennyddion, y rhai a chwennychant rodio mewn gwiscoedd llaesion, a chael cyfarch yn y marchnadoedd,
39 A'r prif-gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif-eisteddleoedd mewn swpperau.
40 Y rhai sydd yn llwyr-fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio, y rhai hyn a dderbyniant farnedigaeth fwy.
41 A'r Iesu a eisteddodd gyferbyn a'r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i'r dryfor-fa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer.
42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling.
43 Ac efe a alwodd ei ddiscyblion atto, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn, mwy nâr rhai oll a fwriasant i'r drysor-fa.
44 Canys hwynt hwy oll a fwriasant o'r hyn a oedd yngweddill ganddynt: ond hon o'i heisieu a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddei, sef ei holl fywyd.
PEN. XIII.
AC fel yr oedd efe yn myned allan o'r Deml, vn o i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Athro, edrych pa ryw feini, a pha fath adeiladau [sy ymma.]
2 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A weli di yr adeiladau mawrion hyn? ni edir maen ar farn a'r ni's dattodir.
3 Ac fel yr oedd efe yn eistedd ar fynydd yr Olewydd gyferbyn a'r Deml, Petr, ac laco, ac Ioan, ac Andreas, a ofynnasant iddo o'r nailltu:
4 Dywed i ni pa bryd y bydd y pethau hyn, a pha arwydd [fydd] pan fo y pethau hyn oll at ddibennu.
5 A'r Iesu a attebodd iddynt, ac a ddechreuodd ddywedyd, Edrychwch rhag twyllo o neb chwi.
6 Canys llawer vn a ddaw yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw: ac a dwyllant lawer.
7 Ond pan glywoch am ryfeloedd, a sôn am ryfeloedd, na chyffroer chwi: canys rhaid [i hynny] fôd, ond nid [yw] y diwedd etto.
8 Canys cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas yn erbyn teyrnas: a daiar grynfâu fyddant mewn mannau, a newyn a thrallod fyddant.
9 Dechreuad gofidiau yw y pethau hyn: eithr edrychwch chwi arnoch eich hunain: canys traddodant chwi i'r cyngoreu, ac i'r Synagogau: chwi a faeddir, ac a ddygir ger bron-rhaglawiaid [Page 157] a Brenhinoedd, o'm hachos i er tystiolaeth iddynt hwy.
10 Ac y mae yn rhaid yn gyntaf bregethu yr Efengyl ym mysc yr holl genhedloedd.
11 Ond pan ddygant chwi a'ch traddodi, na ragofelwch beth a ddywettoch, ac na fyfyriwch: eithr pa beth bynnag a rodder i chwi yn yr awr honno, hynny dywedwch: canys nid chwy-chwi sy yn dywedyd, ond yr Yspryd glân.
12 A'r brawd a ddyry frawd i farwolaeth, a thâd ei blentyn: a phlant a gyfyd yn erbyn ei rhieni: ac a'u rhoddant hwy i farwolaeth.
13 A chwi a fyddwch gâs gan bawb, er mwyn fy enw i: eithr y neb a barhâo hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.
14 Ond pan weloch chwi y ffieidd-dra anghyfanneddol, yr hwn a ddywetpwyd gan Ddaniel y prophwyd, wedi ei osod lle ni's dylid, (y neb a ddarllenno dealled) yna y rhai fyddant yn Iudæa, ffoant i'r mynyddoedd.
15 A'r neb a fyddo ar ben y tŷ, na ddescynned i'r tŷ, ac nac aed i mewn i gymmeryd dim o'i dŷ.
16 A'r neb a fyddo yn y maes, na throed yn ei ôl, i gymmeryd ei wisc.
17 Ond gwae y rhai beichiog, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny.
18 Ond gweddiwch na byddo eich ffoedigaeth yn y gayaf.
19 Canys yn y dyddiau hynny y bydd gorthrymder, cyfryw ni bu y fath o ddechreu y creaduriaeth a greodd Duw, hyd y pryd hwn, ac ai bydd chwaith,
20 Ac oni bai fôd i'r Arglwydd fyrhau y dyddiau, ni chadwesid vn cnawd: eithr er mwyn, yr etholedigion a etholodd, efe a sythaodd y dyddiau.
21 Ac yno os dywed neb wrthych, Wele, llymma y Christ, neu wele accw, na chredwch.
22 Canys gau Gristiau, a gau brophwydi a gyfodant, ac a ddangosant arwyddion a rhyfeddodau, i hudo ymmaith, pe byddai bossibl, ie yr etholedigion.
23 Eithr ymogelwch chwi: wele, rhagddywedais i chwi bôb peth.
24 Ond yn y dyddiau hynny, wedi 'r gorthrymder hwnnw, y tywylla 'r haul, a'r lloer ni rydd ei goleuni,
25 A sêr y nef a syrthiant, a'r nerthoedd sydd yn y nefoedd a siglir.
26 Ac yna y gwelant Fab y dŷn yn dyfôd yn y cwmmylau, gydd â gallu mawr, a gogoniant.
27 Ac yna yr enfyn efe ei Angelion, ac y cynnull ei etholedigion, oddi wrth y pedwar gwynt, o eithaf y ddaiar hyd eithaf y nef.
28 Ond dyscwch ddammeg oddi wrth y ffigys-bren, pan fo ei gangen eusys yn dyner, a'r dail yn torri allan, chwi a wyddoch fôd yr hâf yn agos:
29 Ac felly chwithau, pan weloch y pethau hyn wedi dyfod, gwybyddwch ei fod yn agos, wrth y drysau.
30 Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi nad â yr oes hon heibio, hyd oni wneler y pethau hyn oll.
31 Nef a daiar a ânt heibio, ond yngeiriau maufi nid ânt heibio ddim.
32 Eithr am y ddydd hwnnw a'r awr, ni ŵyr neb, na 'r angelion sydd yn y nef, na 'r Mâb ond y Tâd.
33 Ymogelwch, gwiliwch, a gweddiwch: canys ni wyddoch pa bryd y bydd yr amser.
34 [Canys mâb y dŷn sydd] fel gŵr yn ymdaith i bell, wedi gadel ei dŷ, a rhoi awdurdod i'w weision, ac i bôb vn ei waith ei hun, a gorchymmyn i'r drysor wilio.
35 Gwiliwch gan hynny, (canys ni's gwyddoch pa brŷd y daw meistr y tŷ, yn yr hŵyr, ai hanner nôs, ai ar ganiad y ceiliog, ai 'r boreuddydd.)
36 Rhag iddo ddyfod yn ddisymmwth, a'ch cael chwi yn cyscu.
37 A'r hyn yr wyf yn eu ddywedyd wrthychwi, yr wyf yn eu ddywedyd wrth bawb, Gwiliwch.
PEN. XIIII.
AC Wedi deu-ddydd yr oedd y Pasc, a [gwyl] y bara croyw: a'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a geisiasant pa fodd y dalient ef trwy dwyll, ac y lladdent ef.
2 Eithr dywedasant, Nid ar yr wŷl, rhag bôd cynnwrf ym-mhlith y bobl.
3 A phan oedd efe yn Bethania, yn nhy Simon y gwahan-glwyfus, ac efe yn eistedd y fwytta, daeth gwraig a chanddi flwch o ennaint, o nard glwyb gwerth-fawr, a hi a dorrodd y blwch, ac a'i tywalltodd ar ei ben ef.
4 Ac yr oedd rhai yn anfodlon ynddynt eu hunain, ac yn dywedyd, I ba beth y gwnaethpwyd y golled hon o'r ennaint?
5 Oblegid fe a allasid gwerthu hwn vwchlaw trychan ceiniog, a'u rhoddi i'r tlodion. A hwy a ffrommasant yn ei herbyn hi.
6 A'r Iesu a ddywedodd, Gedwch iddi; pa ham y gwnewch flinder iddi? hi a wnaeth weithred dda arnafi.
7 Canys bôb amser y cewch y tlodion gyd â chwi a phan fynnoch y gellwch wneuthur da iddynt hwy: myfi ni chewch bob amser.
8 Hyn a allodd hon, hi a'i gwnaeth: hi a achubodd y blaen i eneinnio fy nghorph erbyn y claddedigaeth.
9 Yn wir meddaf i chwi, pa le bynnag y pregether yr Efengyl hon, yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd, a adroddir er coffa am deni.
10 A Iudas Iscariot, vn o'r deuddeg, a aeth ymmaith at yr Arch-offeiriaid, i'w fradychu ef iddynt.
11 A phan glywsant, fe fu lawen ganddynt, ac a addawsant roi arian iddo. Yntef a geisiodd pa fodd y gallai yn gymmwys ei fradychu ef.
12 A'r dydd cyntaf o-[ŵyl] y bara croyw, pan aberthent y Pasc, dywedodd ei discyblion wrtho; I ba le yr wyt ti yn ewyllysio i ni fyned i baratoi i ti, i fwyttâ y Pasc?
13 Ac efe a anfonodd ddau o'i ddiscyblion, ac a dywedodd wrthynt, Ewch i'r ddinas, a chyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: dilvnwch ef.
14 A pha le bynnag yr êl i mewn, dywedwch wrth ŵr y tŷ, Fod yr Athro yn dywedyd, Pa le y mae 'r llettŷ, lle y gallwyf, mi a'm discyblion, fwytta 'r Pasc?
15 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-stafell fawr wedi ei thanu yn barod: yno paratowch i ni.
16 A'i ddiscyblion a aethant, ac a ddaethant i'r ddinas, ac a gawsant megis y dywedasei efe wrthynt, ac a baratoesant y Pasg.
17 A phan aeth hi yn hwyr, efe a ddaeth gid â'r deuddeg.
18 Ac fel yr oeddynt yn eistedd, ac yn bwytta, yr Iesu a ddywedodd, Yn wir meydaf i chwi, vn o honoch, yr hwn sydd yn bwytta gyd â myfi, a'm bradycha i.
19 Hwythau a ddechreuasant dristâu, a dywedyd wrtho bôb yn vn ac vn, Ai mifi? ac arall, Ai mfi?
20 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Vn o'r deuddeg, yr hwn sydd yn gwlychu gyd â mi yn y ddyscl [yw efe.]
21 Mab y dŷn yn wir sydd yn myned ymmaith, fel y mae yn scrifennedig am dano: ond gwae 'r dŷn hwnnw trwy 'r hwn y bradychir Mâb y dŷn: da fuasai i'r dŷn hwnnw pe na's ganesid.
22 Ac fel yr oeddynt yn bwytta, yr Iesu a gymerodd fara, ac ai bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt, ac a ddywedodd. Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph.
23 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoi diolch, efe a'i rhoddes iddynt: a hwynt oll a yfasant o honaw.
24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hwn yw fy ngwaed i o'r Testament newydd, yr hwn a dywelltir tros lawer.
25 Yn wir yr wyf yn dywedyd wrthych, nad yfaf mwy o ffrwyth y win-wŷdden, hyd y dydd hwnnw, pan yfwyf ef yn newydd yn nheyrnas Dduw.
26 Ac wedi iddynt ganu mawl, hwy a aethant allan i fynydd yr Olewydd.
27 A dywedodd yr Iesu wrthynt, Chwi a rwystrir oll o'm plegid i, y nos hon: canys scrifennedig yw, Tarawaf y bugail, a'r defaid a wascerir.
28 Eithr wedi i mi adgyfodi, mi a âf o'ch blaen chwi i Galilæa.
29 On Petr a ddywedodd wrtho, Pe byddai bawb wedi eu rhwystro, etto ni byddaf fi.
30 A dywedodd yr Iesu wrtho, Yn wir yr ydwyf yn dywedyd i ti, heddyw o fewn y nos hon, cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, y gwedi fi deir-gwaith.
31 Ond efe a ddywedodd yn helaethach o lawer, Pe gorfyddai i mi farw gyd â thi, ni'th wadaf ddim. A'r vn modd y ddywedasant oll.
32 A hwy a ddaethant i le yr oedd ei enw Gethsemane: ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Eisteddwch ymma tra fyddwyf yn gweddio.
33 Ac efe a gymmerth gyd ag ef Petr, ac Iaco, ac Ioan, ac a ddechreuodd ymofidio, a thristau yn ddirfawr.
34 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae fy [Page 163] enaid yn athrist hyd angeu: arhoswch ymma, a a gwiliwch,
35 Ac efe a aeth ychydig ym-mlaen, ac a syrthiodd ar y ddaiar, ac a weddiodd, o bai bossibl, ar fyned yr awr honno oddi wrtho.
36 Ac efe a ddywedodd, Abba Dad, pob peth sydd bossibl i ti; tro heibio y cwppan hwn oddi wrthif: eithr, nid y peth yr ydwyfi yn ei ewyllysio, ond y peth yr ydwyt ti.
37 Ac efe a ddaeth, ac a'u cafodd hwy yn cyscu, ac a ddywedodd wrth Petr, Simon, ai cyscu yr wyti? oni allit wilio vn awr?
38 Gwiliwch, a gweddiwch, rhag eich myned mewn temtasiwn: yr yspryd yn ddiau sydd barod; ond y cnawd sydd wan.
39 Ac wedi iddo fyned ymmaith drachefn, efe a weddiodd, gan ddywedyd yr vn ymadrodd.
40 Ac wedi iddo ddychwelyd efe a'u cafodd hwynt drachefn yn cyscu, (canys yr oedd eu llygaid hwynt wedi trymhau) ac ni wyddent beth a attebent iddo.
41 Ac efe a ddaeth y drydedd waith, ac a ddywedodd wrthynt, Cyscwch weithian, a gorphwyswch: digon yw, daeth yr awr: wele, yr ydys yn bradychu Mab y dŷn i ddwylo pechaduriaid.
42 Cyfodwch, awn; wele, y mae yr hwn sydd yn fy mradychu yn agos.
43 Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, daeth Iudas, vn o'r deuddeg, a chyd ag ef dyrfa fawr â chleddyfau a ffynn, oddi wrth yr Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion a'r Henuriaid.
44 A'r hwn a'i bradychodd ef a roddasai [Page 164] arwydd iddynt, gan ddywedyd, Pwy bynnac a gusanwyf, hwnnw yw; deliwch ef, a dygwch ymmaith yn siccr.
45 A phan ddaeth, yn ebrwydd efe a aeth atto, ac a ddywedodd, Rabbi, Rabbi? ac a'i cusanodd ef.
46 A hwythau a roesant eu dwylo arno, ac a'i daliasant ef.
47 A rhyw vn o'r rhai oedd yn sefyll ger llaw, a dynnodd ei gleddyf, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ef.
48 A'r Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Ai megis at leidr y daethoch allan, a chleddyfau, ac a ffynn i'm dala i?
49 Yr oeddwn i beunydd gyd â chwi yn athrawiaethau yn y Deml, ac ni 'm daliasoch: ond rhaid yw cyflawni 'r Scrythyrau.
50 A hwynt oll â'i gadâwsant ef, ac a ffoesant.
51 A rhyw ŵr ieuangc oedd yn ei ddilyn ef, wedi ymwisco â lliain main ar [ei gorph] noeth a'r gŵyr ieuaingc a'i dalîasant ef.
52 A hwn a adawodd y lliain, ac a ffôdd oddiwrthynt yn noeth.
53 A hwi a ddygasant yr Iesu at yr Archoffeiriad: a'r holl Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid, a'r Scrifennyddion, a ymgasclasant gyd ag ef.
54 A Phetr a'i canlynodd ef o hirbell, hyd yn llys yr Arch-offeiriad: ac yr oedd efe yn eistedd gyd a'r gwasanaeth-wŷr, ac yn ymdwymno wrth y tân.
55 A'r Arch-offeiriaid, a'r holl gyngor a geisiasant dystiolaeth yn erbyn yr Iesu, i'w roi ef i'w farwolaeth, ac ni chawsant.
56 Canys llawer a ddygasant gan tystiolaeth yn ei erbyn ef, eithr nid oedd eu tystiolaethau hwy yn gysson.
57 A rhai a gyfodasant, ac a ddygasant gamdystiolaeth yn ei erbyn ef, gan ddywedyd.
58 Ni a i clywsom ef yn dywedyd, Mi a ddinistriaf y Deml hon o waith dwylo, ac mewn tridiau yr adeiladaf arall, heb fôd o wâith llaw.
59 Ac etto nid oedd eu tystiolaeth hwy felly yn gysson.
60 A chyfododd yr Arch-offeiriad, yn y canol, ac a ofynnodd i'r Iesu, gan ddywedyd, oni attebi di ddim? beth y mae y rhai hyn yn ei dystiolaethu yn dy erbyn?
61 Ac efe a dawodd, ac nid attebodd ddim. Drachefn yr Arch-offeiriad a ofynnodd iddo, ac a ddywedodd wrtho, Ai tydi yw Christ, Mâb y Bendigedig?
62 A'r Iesu a ddywedodd, Myfi yw: a chwi a gewch weled Mab y dŷn yn eistedd ar ddeheulaw y gallu, ac yn dyfod yng-hwmmylau y nef.
63 Yna 'r Arch-offeiriad, gan rwygo ei ddillad, a ddywedodd, Pa raid i ni mwy wrth dystion?
64 Chwi a glywsoch y gabledd: beth dybygwch chwi? A hwynt oll a'i condemnasant ef, ei fôd yn euog o farwolaeth.
65 A dechreuodd rhai boeri arno, a chuddio ei wyneb, a'i gernodio, a dywedyd wrtho, Prophwyda. A'r gweinidogion a'i tarawsant ef â gwiail.
66 Ac fel yr oedd Petr yn y llys i wared [Page 116] daeth vn o forwynion yr Arch-offeiriad:
67 A phan ganfu hi Petr yn ymdwymno, hi a edrychodd arno, ac a ddywedodd. Titheu hefyd oeddit gyd â'r Iesu o Nazareth.
68 Ac efe a wadodd, gan ddywedyd, Nid adwaen i, ac ni wn i beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac efe a aeth allan i'r porth: a'r ceiliog a ganodd.
69 A phan welodd y llangces ef drachefn, hi a ddechreuodd ddywedyd wrth y rhai oedd yn sefyll yno, Y mae hwn yn vn o honynt.
70 Ac efe a wadodd drachefn. Ac ychydig wedi, y rhai oedd yn sefyll ger llaw a ddywedasant wrth Petr drachefn, Yn wir yr wyti yn vn o honynt, canys Galilæad wyt, a'th leferydd sydd debyg.
71 Ond efe a ddechreuodd regu, a thyngu, Nid adwaen i y dŷn ymma yr ydych chwi yn dywedyd [am dano.]
72 A'r ceiliog a ganodd yr ail waith: a Phetr a gofiodd y gair a ddiwedasei 'r Iesu wrtho. Cyn canu o'r ceiliog ddwy-waith, ti a'm gwedi deir-gwaith. A chan ystyried hynny efe a wylodd.
PEN. XV.
AC yn y fan y boreu, yr ymgynghorodd yr Arch-offeriaid gyd â'r Scrifennyddion, a'r holl gyngor, ac wedi iddynt rwymo 'r Iesu, hwy a'i dygasant ef ymmaith, ac a'i traddodasant at Pilat,
2 A gofynnodd Pilat iddo, Ai ti yw Brenin yr Iddewon? Yntef a attebodd, ac a ddywedodd [Page 167] wrtho, Yr wyt ti yn dywedyd.
3 A'r Arch-offeiriaid a'i cyhuddasant ef o lawer o bethau.
4 A Philat drachefn a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Onid attebi di ddim? wele faint o bethau y maent y eu tystiolaethu yn dy erbyn.
5 Ond yr Iesu etto nid attebodd ddim; fel y rhyfeddodd Pilat.
6 Ac ar yr wyll [honno] y gollyngai efe yn rhydd iddynt vn carcharor, yr hwn a ofynnent iddo.
7 Ac yr oedd vn a elwid Barrabbas, yr hwn oedd yn rhwym-gyd â'u gyd-terfysc-wŷr, y rhai yn y derfysc a wnaethent lofruddiaeth.
8 A'r dyrfa gan groch-lefain, a ddechreuodd ddeisyf [arno wneuthur] fel y gwnaethai bôb amser iddynt.
9 A Philat a attebodd iddynt, gan ddywedyd, A fynnwch chwi i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iddewon?
10 (Canys efe a wyddai mai o gynfigen y traddodasai yr Arch-offeiriaid ef.)
11 A'r Arch-offeiriaid a gynhyrfaseu y bobl, fel y gollyngai efe yn hytrarch Barabbas yn rhydd iddynt.
12 A Philat a attebodd, ac a ddywedodd drachefn wrthynt, Beth gan hynny a fynnwch i mi ei wneuthur i'r hwn yr ydych yn ei alw Brenin yr Iddewon?
13 A hwythau a lefasant drachefn, Croeshoelia ef.
14 Yna Pilat a ddywedodd wrthynt, Ond pa ddrwg a wnaeth ef? A hwythau a lefasant fwyfwy, Croes-hoelia ef.
15 A Philat yn chwennych bodloni 'r bobl, a ollyngodd yn rhydd iddynt Barrabbas, a'r Iesu wedi iddo ei fflangellu, a draddododd ef i'w groes-hoelio.
16 A'r milwŷr a'i dygasant efe i fewn y llys, a elwir Praetorium: a hwy a alwasant yng hŷd yr holl fyddin.
17 Ac a'i gwis asant ef â phorphor, ac a blethasant goron o ddrain, ac a'i dodasant am ei [ben:]
18 Ac a ddechreuasant gyfarch iddo, Hanffych well, Brenin yr Iddewon.
19 A hwy a gurasant ei ben ef â chorsen, ac a boerasant arno, a chan ddodi eu gliniau [i lawr,] a'i haddolasant ef.
20 Ac wedi iddynt ei watwar ef, hwy a ddioscasant y porphor oddi am dano, ac a'i gwiscasant ef â'i ddillad ei hun, ac a'i dygasant allan iw groes-hoelio.
21 A hwy a gymmellasant vn Simon 'o Cyrene, yr hwn oedd yn myned heibio, wrth ddyfod o'r wlâd, sef tâd Alexander a Rufus, i ddwyn ei groes ef.
22 A hwy a'i harweiniasant ef i le [a elwid] Golgotha: yr hyn o'i gyfieithu yw, lle 'r benglog:
23 Ac a roesant iddo i'w yfed win myrhllyd; eithr efe ni's cymmerth.
24 Ac wedi iddynt ei groes-hoelio, hwy a rannasant ei ddillad ef, gan fwrw coel-bren arnynt, beth a gai bob vn.
25 A'r drydedd awr oedd hi, a hwy a'i croeshoeliasant ef.
26 Ac yr oedd yscrifen ei achos ef wedi ei hargraphu, BRENIN YR IDDEWON.
27 A hwy a groes-hoeliasant gyd ac ef ddau leidr; vn ar y llaw ddeheu, ac vn ar yr asswy iddo.
28 A'r Scrythur a gyflawnwyd, yr hon a ddywed, Ac efe a gyfrifwyd gyd a'r rhai anwir.
29 A r rhai oedd yn myned heibio a'i cablasant ef, gan yscwyd eu penneu, a dywedyd, Och, tydi yr hwn wyt yn dinistrio y Deml, ac yn ei hadeiladu mewn tridiau;
30 Gwared dy hun, a descyn oddi ar y groes.
31 Yr vn ffunyd yr Arch-offeiriaid hefyd yn gwatwar, a ddywedasant wrth ei gilydd, gyd â'r Scrifennyddion, Eraill a waredodd, ei hun ni's gall ei wared.
32 Descynned Christ Brenin yr Israel, yr awr hon oddi ar y groes, fel y gwe om, ac y credom, A'r rhai a groes-hoeliesid, gyd ag ef, a'i difenwasânt ef.
33 A phan ddaeth y chweched awr, y bu tywyllwch ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr.
34 Ac ar y nawfed awr y dolefodd yr Iesu â llef ychel, gan ddywedyd, Eloi, Eloi, lamma sabachthani? yr hyn o'i gyfieithu yw; Fy Nuw fy Nuw; pa ham i'm gadewaist?
35 A rhai o'r rhai a safent ger llaw, pan glywsant a ddywedasant, Wele, y mae efe yn galw ar Elias.
36 Ac vn a redodd, ac a lanwodd yspwrn yn llawn o finegr, ac a'i dododd ar gorsen, ac a'i diododd ef, gan ddywedyd, Peidiwch, edrychwn a ddaw Elias i'w dynnu ef i lawr.
37 A'r Iesu a lefodd â llef vchel, ac a ymadawodd â'r yspryd.
38 A llen y Deml a rwygwyd yn ddwy, oddi fynu hyd i wared.
39 A phan welodd y Canwraid, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw gyrferbyn ag ef, ddarfod iddo yn llefain felly ymado â'r yspryd, efe a ddywedodd, Yn wir, Mab Duw oedd y dŷn hwn.
40 Ac yr oedd hefyd wragedd, yn edrych o hir-bell: ym-mhlith y rhai yr oedd Mair Magdalen, a Mair mam Iaco fychan, a Iose, a Salôme.
41 Y rhai hefyd pan oedd efe yn Galilæa, a'i dilynasant ef, ac a weinasant iddo: a [gwragedd] eraill lawer, y rhai a ddaethent gyd ag ef i fynu i Ierusalem.
42 Pan ydoedd hi weithian yn hwyr, (am ei bôd hy yn ddarpar-ŵyl, sef y dydd cyn y Sabbath.)
43 Daeth Ioseph o Arimathæa, cynghorwr pendefigaidd, yr hwn oedd yn-tef yn disgwil am deyrnas Dduw; ac a aeth yn hŷ i mewn at Pilat, ac a ddeisyfodd gorph yr Iesu.
44 A rhyfedd oedd gan Pilat o buasei efe farw eusys: ac wedi iddo alw y Canwraid atto, efe a ofynnodd iddo a oedd efe wedi marw er ysmeityn.
45 A phan wybu gan y Canwraid, efe a roddes y corph i Ioseph.
46 Ac efe a brynodd liain main, ac a'i tynnodd ef i lawr, ac a'i hamdôdd yn y lliain main, ac a'i dodes ef mewn bedd a naddasid o'r graig; ac a dreiglodd faen ar ddrws y bedd.
47 A Mair Fagdalen a Mair [mam] Iose, a edrychasant pa le y dodid ef.
PEN. XVI.
AC wedi darfod y dydd Sabbath, Mair Fagdalen, a Mair [mam] Iaco, a Salôme, a brynasant ber-aroglau, i ddyfod i'w enneinio ef.
2 Ac yn foreu iawn, y dydd cyntaf o'r wythnos, y ddaethant at y bedd, a'r haul wedi codi.
3 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy a dreigla i ni y maen ymmaith oddi wrth ddrws y bedd?
4 (A phan edrychasant, hwy a ganfuant fôd y maen wedi ei dreiglo ymmaith:) canys yr oedd ef yn fawr iawn.
5 Ac wedi iddynt fyned i mewn i'r bedd, hwy a welsant fab ieuangc yn eistedd o'r tu dehau, wedi ei ddilladu â gwisc wen-llaes, ac a ddrychynasant.
6 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na ddychrynwch: ceisio yr ydych yr Iesu o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliwyd: efe a gyfodes, nid yw efe ymma: wele 'r man y dodasant ef.
7 Eithr ewch ymmaith, dywedwch i'w ddiscyblion ef, ac i Petr, ei fôd ef yn myned o'ch blaen chwi i Galilæa: yno y cewch ei weled ef, fell y dywedodd i chwi.
8 Ac wedi myned allan ar frys, hwy a ffoesant oddi wrth y bedd; canys dychryn a syndod oedd arnynt: ac ni ddywedasant ddim wrth neb: canys yr oeddynt wedi ofni.
9 A ['r Iesu] wedi adgyfodi y boreu, y dydd cyntaf o'r wythnos, efe a ymddangosodd yn gyntaf i Mair Fagdalen, o'r hon y bwriasei efe allan saith o gythreuliaid.
10 Hitheu a aeth ac a fynegodd i'r rhai â fuasent gyd ag ef, ac oeddynt mewn galar ac wylofain.
11 A hwytheu pan glywsant ei fôd ef yn fyw, ac iddi hi ei weled ef, ni chredent.
12 Ac wedi hynny yr ymddangosodd efe mewn gwedd arall, i ddau o honynt, [a hwynt] yn ymdeithio, ac vn myned i'r wlâd.
13 A hwy a aethant ac a fynegasant i'r lleill: ac ni chredent iddynt hwythau.
14 Ac yn ôl hynny, efe a ymddangosodd i'r vn ar ddêg, a hwynt yn eistedd i fwytta, ac a ddannododd iddynt eu hanghrediniaeth, a'u calon-galedwch: am na chredasent y rhai a'i gwelsent ef wedi adgyfodi.
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch i'r holl fŷd, a phregethwch yr Efengyl i bob creadur.
16 Y neb a gredo, ac a fedyddier a fydd cadwedig: eithr y neb ni chredo a gondemnir.
17 A'r arwyddion hyn a ganlynant y rhai a gredant, Yn fy enw i y bwriant allan gythreuliaid: ac a thafodau newyddion y llefarant:
18 Seirph a godant ymmaith, ac os yfant ddim marwol, ni wna iddynt ddim niwed: ar y cleifion y rhoddant eu dwylo, a hwy a fyddant iach.
19 Ac felly yr Arglwydd, wedi llefaru wrthynt, a gymmeryd i fynu i'r nef, ac a [Page 173] eisteddodd ar ddeheu-law Dduw.
20 A hwythau a aethant allan, ac a bregethasant ym-mhôb man, a'r Arglwydd yn cydweithio, ac yn cadarnhau 'r gair, trwy arwyddion y rhai oedd yn canlyn. Amen.
YR EFENGYL YN ol Sanct LUC.
PENNOD. I.
YN gymmaint a darfod i lawer gymeryd mewn llaw osod allan mewn trefn draethawd am y pethau a gredir yn ddiammeu yn ein plith.
2 Megis y traddodasant hwy i ni, y rhai oeddynt eu hunain or dechreuad yn gweled, ac yn weinidogion y gair;
3 Minneu a welais yn dda, wedi i mi ddilyn pob peth yn ddyfal o'r dechreuad, scrifennu mewn trefn attat, o ardderchoccaf Theophilus.
4 Fel y ceît wybod siccrwydd am y pethau i'th ddyscwyd ynddynt.
5 YR oedd yn nyddiau Herod frenin Iudæa, ryw offeiriad a'i enw Zacharias, o ddydd gylch [...]bia: a i wraig [oedd] o ferched Aaron, a'i henw Elizabeth.
6 Ac yr oeddynt ill dan yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orchymmynion a deddfau 'r Arglwydd, yn ddiargyoedd.
7 Ac nid oedd plentyn iddynt, am fôd Elizabeth yn am-mhlantadwy, ac yr oeddynt wedi myned ill dau mewn gwth o oedran.
8 A bu, ac efe yn gwasanaethu swydd offeiriad ger bron Duw, yn nhrefn ei ddyddgylch ef,
9 Yn ôl arfer swydd yr offeiriad, ddyfod o ran iddo arogldarthu, yn ôl ei fyned i Deml yr Arglwydd.
10 A holl liaws y bobl oedd allan yn gweddio, ar awr yr arogl-darthiad.
11 Ac ymddangosodd iddo Angel yr Arglwydd, yn sefyll o'r tu dehau i allor yr arogldarth.
12 A Zacharias pan ganfu, a gythryblwyd, ac ofn a syrthiodd arno.
13 Eithr yr Angel a ddywedodd wrtho, Nac ofna Zacharias, canys gwrandawyd dy weddi a'th wraig Elizabeth a ddwg i tî fab, a thi a elwi ei enw ef Ioan.
14 A bydd i ti lawenydd a gorfoledd; a lawer a lawenychant am ei enedigaeth ef.
15 Canys mawr fydd efe yngolwg yr Arglwydd, ac nid ŷf na gwin na diod gadarn, ac efe a gyflawnir o'r Yspryd glân, ie o groth ei fam:
16 A llawer o blânt Israel a drŷ efe at yr Arglwydd eu Duw.
17 Ac efe â o'i flaen ef yn yspryd a nerth Elias, i droi calonau y tadau at y plant, a'r anufydd i ddoethineb y cyfiawn: i ddarparu i'r Arglwydd bobl barod.
18 A dywedodd Zacharias wrth yr Angel, [Page 175] Pa fodd y gwybyddafi hyn? canys henaf-gŵr ŵyfi, a'm gwraig hefyd mewn gwth o oedran.
19 A'r Angel gan atteb a ddywedodd wrtho, Myfi yw Gabriel, yr hwn wyf yn sefyll ger bron Duw, ac a anfonwyd i lefaru wrthit, ac i fynegi i ti y newyddion da hyn.
20 Ac wele, ti a fyddi fud, ac heb allu llefaru, hyd y dydd y gwneler y pethau hyn, am na chredaist i'm geiriau i, y rhai a gyflawnir yn eu hamser,
21 Ac yr oedd y bobl yn disgwil am Zacharias: a rhyfeddu a wnaethant ei fôd ef yn aros cyhyd yn y Deml.
22 A phan ddaeth efe allan, ni allai efe lefaru wrthynt: a hwy a wybuant weled o honaw weledigaeth yn y Deml, ac yr oedd efe yn gwneuthur amnaid iddynt: ac efe a arhosodd yn fud.
23 A bu, cyn gynted ac y cyflawnwyd dyddiau ei weinidogaeth ef, fyned o hono i'w dŷ ei hun.
24 Ac yn ôl y dyddiau hynny y cafodd Elizabeth ei wraig ef feichiogi, ac a ymguddiodd bum mis, gan ddywedyd,
25 Fel hyn y gwnaeth yr Arglwydd i mi, yn y dyddiau'r edrychodd arnaf i dynnu ymmaith fy ngwradwydd ym-mhlith dynion.
26 Ac yn y chweched mis, yr anfonwyd yr Angel Gabriel oddiwrth Dduw, i ddinas yn Galilæa, a'i henw Nazareth.
27 At forwyn wedi ei dyweddio i ŵr a'i enw Ioseph, o dŷ Ddafydd: ac enw'r forwyn [oedd] Mair.
28 A'r Angel a ddaeth i mewn atti ac addywedodd, [Page 176] Hanffych well, yr hon a gefaist râs, yr Arglwydd sydd gyd â thi: bendigaid wyt ymmhlith gwragedd.
29 A hitheu pan [ei] gwelodd, a gythryblwyd wrth ei ymadrodd ef: a meddylio a wnaeth, pa fath gyfarch oedd hwn.
30 A dywedodd yr Angel wrthi, Nac ofna, Mair: canys ti a gefaist ffafor gyd a Duw.
31 Ac wele, ti a gei feichiogi yn dy groth, ac a escori ar fab, ac a elwi ei enw ef Iesu.
32 Hwn sydd mawr, ac a elwir yn Fab y Goruchaf, ac iddo y rhydd yr Arglwydd Dduw orseddfa ei Dad Dafydd.
33 Ac efe a deyrnasa ar dŷ Iacob yn dragywydd, ac ar ei frenhiniaeth ni bydd diwedd.
34 A Mair a ddywedodd wrth yr Angel, Pa fodd y bydd hyn gan nad adwaen i ŵr?
35 A'r Angel a attebodd, ac a ddywedodd wrthi, Yr Yspryd glân a ddaw arnat ti, a north y Goruchaf a'th gyscoda di: am hynny hefyd, y peth sanctaidd a aner o honoti, a elwir yn Fab Duw.
36 Ac wele, Elizabeth dy gares, y mae hithau wedi beichiogi ar fab yn ei henaint: a hwn yw'r chweched mis iddi hi, yr hon a elwid yn am-mhlantadwy.
37 Canys gyd â Duw ni bydd dim yn ammhossibl.
38 A dywedodd Mair, Wele wasanaethyddes, yr Arglwydd, bydded i mi yn ol dy air di. A'r Angel a aeth ymmaith oddi wrthi hi.
39 A Mair a gyfododd yn y dyddiau hynny, ac a aeth i'r mynydd-dir ar frys, i ddynas o Iuda:
40 Ac a aeth i mewn i dŷ Zacharias, ac a gyfarchodd well i Elizabeth.
41 A bu, pan glybu Elisabeth gyfarchiaid Mair, i'r plentyn yn ei chroth hi lammu: ac Elizabeth a lanwyd o'r Yspryd glân.
42 A llefain a wnaeth â llef vchel, a dywedyd, Bendigedig wyt ti ym mhlith gwragedd, a bendigedig yw ffrwyth dy groth di.
43. Ac o ba le y mae hyn i mi, fel y delai mam fy Arglwydd attafi.
44 Canys wele, er cynted y daeth lleferydd dy gyfarchiad di im clustiau, y plentyn a lammodd o lawenydd yn fy nghroth.
45 Bendigedig yw 'r hon a gredodd: canys bydd cyflawniad o'r pethau a ddywetpwyd wrthi gan yr Arglwydd.
46 A dywedodd Mair, Y mae fy enaid yn mawrhau yr Arglwydd.
47 A'm hyspryd a lawenychodd yn Nuw fy Iachawdr.
48 Canys efe a edrychodd ar waeledd ei wasanaethyddes: obleg'd wele, o hyn allan yr holl genhedlaethau a'm geilw yn wynfydedig:
49 Canys yr hwn sydd alluog a wnaeth i mi fawredd, a sanctaidd yw ei enw ef.
50 A'i drugaredd [sydd] yn oes oesodd, ar y rhai a'i hofnant ef.
51 Efe a wnaeth gadernid â'i fraich: efe a wascarodd y rhai beilchion ym mwriad eu calon.
52 Efe a dynnodd i lawr y cedyrn o'u heisteddfau, ac a dder hafodd y rhai iselradd.
53 Y rhai newynog a lanwodd efe â phethau da, ac efe a anfonodd ymmaith y rhai goledog yn weigion.
54 Efe a gynnorthwyodd ei wâs Israel, gan gofio ei drugaredd.
55 Fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham a'i hâd, yn dragywydd.
56 A Mair a arhosodd gyd â hi ynghylch tri mis, ac a ddychwelodd i'w thŷ ei hun.
57 A chyflawnwyd tymp Elizabeth i escor, a hi a escorodd ar fab.
58 A'i chymydogîon a'i chenedl a glybu fawrhau o'r Arglwydd ei drugaredd arm: a hwy a gyd-lawenychasant â hi.
59 A bu, ar yr wythfed dydd, hwy a ddaethant i enwaedu ar y dŷn bach, ac a'i galwasant ef Zacharias, ar ôl enw ei dâd.
60 A'i fam a attebodd ac a ddywedodd, Nid felly: eithr Ioan y gelwir ef.
61 Hwythau a ddywedasant wrthi, Nid oes neb o'th genedl a elwir ar yr enw hwn.
62 A hwy a wnaethant amnaid ar ei dâd ef, pa fodd y mynnei efe ei henwi ef.
63 Yntef a alwodd am argraph-lech, ac a scrifennodd, gan ddywedyd, Ioan yw ei enw ef. A rhyfeddu a wnaethant oll.
64 Ac agorwyd ei enau ef yn ebrwydd, a'i dafod ef, ac efe a lefarodd, gan fendithio Duw.
65 A daeth ofn ar bawb oedd yn trigo yn eu cylch hwy: a thrwy holl fynydd-dir Iudæa y cyhoeddwyd y geiriau hŷn oll.
66 A phawb a'r a'u clywsant a'u gosodasant yn eu calonneu, gan ddywedyd, Beth fydd y bachgennyn hwn? A llaw 'r Arglwydd oedd gyd ag ef.
67 A'i dâd ef Zachârias a gyflawnwyd o'r [Page 179] Yspryd glân, ac a brophwydodd-gan ddywedyd,
68 Bendigedig [fyddo] Arglwydd Dduw Israel, canys efe a ymwelodd ac a wnaeth-ymwared i'w bobl.
69 Ac efe a dderchafodd gorn iechydwriaeth i ni, yn-nhŷ Ddafydd ei wasanaethŵr:
70 Megis y llefarodd trwy enau sanctaidd brophwydi, y rhai oedd o [ddechreuad] y byd,
71 [Fel y byddai i ni] ymwared rhag ein gelynion, ac o law pawb o'n caseion.
72 I gwplau y drugaredd â'n tadau, ac i gofio ei sanctaidd gyfammod:
73 Y llw a dyngodd efe wrth ein tad Abraham, ar roddi i ni,
74 Gwedi ein rhyddhau o law ein gelynion, ei wasaenaethu ef yn ddiofn,
75 Mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder ger ei fron ef, holl ddyddiau ein bywyd.
76 A thitheu fachgennyn, a elwir yn brophwyd i'r Goruchaf: canys ti a ei o flaen wyneb yr Arglwydd, i baratoi ei ffyrdd ef;
77 I roddi gwybodaeth iechydwiaeth i'w bobl, trwy faddeuant o'u pechodau,
78 O herwydd tiriondeb trugaredd ein Duw, trwy yr hon yr ymwelodd â ni godiad haul o'r vchelder,
79 I lewyrchu i'r rhai sy yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angeu, i gyfeirio eîn traed i ffordd tangneddyf.
80 A'r bachgen-a gynnyddodd, ac a gryfhawyd yn yr yspryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd ef i'r Israel.
PEN. II.
BV hefyd yn y dyddiau hynny, fyned gorchymmmyn allan oddiwrth Augustus Cæsar, i drethu yr holl fyd.
2 (Y trethiad ymma a wnaethpwyd gyntaf, pan oedd Cyrenius yn rhaglaw ar Syria.)
3 A phawb a aethant i'w trethu, bôb vn i'w ddinas ei hun.
4 A Ioseph hefyd a aeth i fynu o Galilæa o ddinas Nazareth, i Iudæa, i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem, (am ei fôd o dŷ a thŷlwyth Dafydd.)
5 Iw drethu gŷd â Mair yr hon a ddyweddiasid yn wraig iddo, yr hon oedd yn feichiog.
6 A bu, tra 'r oeddynt hwy yno, cyflawnwyd y dyddiau i escor o honi.
7 A hi a escorodd ar ei mab cyntafanedig, ac a'i rhwymodd ef mewn cadachau, ac a'i dodes ef yn y preseb: am nad oedd iddynt le yn y lletty.
8 Ac yr oedd yn y wlad honno fugeiliaid yn aros yn y maes, ac yn gwilled eu praidd liwnos.
9 Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd ger llaw iddynt, a gogoniant yr Arglwydd a ddiscleiriodd o'u hamgylch, ac ofni yn ddirfawr a wnaethant.
10 A'r Angel a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch; canys wele yr wyfi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl:
11 Canys ganwyd i chwî heddyw geidwad yn ninas Dafydd, (yr hwn yw Christ yr Arglwydd.)
12 A hyn [fydd] arwydd i chwi, Chwi a gewch y dŷn bach wedi ei rwymo mewn cadachau, a'i ddodi yn y preseb.
13 Ag yn ddisymmwth yr oedd gyd a'r Angel liaws o lu nefol, yn moliannu Duw, ac yn dywedyd.
14 Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ac ar y ddaiar tangneddyf, i ddynion ewyllys da.
15 A bu, pan aeth yr Angelion ymmaith oddi wrthynt i'r nef, y bugeiliaid hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Awn hyd Bethlehem, a gwelwn y peth hyn a wnaethpwyd, yr hwn a yspysodd yr Arglwydd i ni.
16 A hwy a ddaethant ar frys, ac a gawsant Mair a Ioseph, a'r dŷn bach yn gorwedd yn y preseb.
17 A phan welsant, hwy a gyhoeddasant y gair a ddywedasid wrthynt am y bachgen hwn.
18 A phawb a'r a'u clywsant, a ryfeddasant am y pethau a ddywedasid gan y bugeliaid wrthynt.
19 Eithr Mair a gadwodd y pethau hyn oll, gan eu hystyried yn ei chalon.
20 A'r bugeiliaid a ddychwelasant, gan ogoneddu a moliannu Duw, am yr holl bethau a glywsent ac a welsent, fel y dywedasid wrthynt
21 A phan gyflawnwyd wyth niwrnod i enwaedu ar y dŷn bach, galwyd ei enw ef Iesu, yr hwn a henwasid gan yr Angel, cyn ei ymddwyn ef yn y groth.
22 Ac wedi cyflawni dyddiau ei phuredigaeth hi, yn oll deddf Moses, hwy a'i dygasant ef i Ierusalem, iw gyflwyno i'r Arglwydd,
23 (Fel yr scrifennwyd yn neddf yr Arglwydd Pob gwr ryw cyntaf-anedig, a elwir yn sanctaidd i'r Arglwydd.)
24 Ac i roddi aberth, yn ôl yr hyn a ddywetpwyd yn neddf yr Arglwydd, pâr o durturod, neu ddau gyw colommen.
25 Ac wele, yr oedd gŵr yn Ierusalem, a'i enw Simeon, a'r gŵr hwn oedd gyfiawn a duwiol, yn disgwyl am ddiddanwch yr Israel: a'r Yspryd glân oedd arno.
26 Ac yr oedd wedi ei yspysu iddo gan yr Yspryd glân, na welai efe angeu, cyn iddo weled Christ yr Arglwydd.
27 Ac efe a ddaeth trwy'r Yspryd i'r Deml: a phan ddûg ei rieni y dŷn bach Iesu, i wneuthur trosto yn ôl defod y gyfraith;
28 Yna efe a'i cymmerth ef yn ei freichiau, ac a fendithiodd Dduw, ac a ddywedodd,
29 Yr awrhon Arglwydd, y gollyngi dŷ wâs mewn tangneddyf, yn ol dy air:
30 Canys fy llygaid a welsant dy iechydwriaeth,
31 Yr hon a baratoaist ger bron wyneb yr holl bobloedd:
32 Goleuni i oleuo y cenhedloedd, a gogoniant dy bobl Israel.
33 Ac yr oedd Ioseph a'i fam ef, yn rhyfeddu am y pethau a dydwedyd am dano ef.
34 A Simeon a'u bendithiodd hwynt, ac a ddywedodd wrth Fair ei Fam ef, Wele, hwn a osodwyd yn gwymp, ac yn gyfôdiad i lawer yn Israel, ac yn arwydd yr hwn y dywedir yn ei erbyn:
35 A thrwy dy enaid di dy hun hefyd yr â cleddyf fel y datcuddier meddyliau llawer o galonnau.
36 Ac yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser: hon oedd oedrannus iawn, [Page 183] ac a fuasai fyw gyd â gŵr saith mlynedd, o'i morwyndod.
37 Ac a fuasai yn weddw ynghylch pedair a phedwar vgain mhlynedd, yr hon nid ai allan o'r Deml, ond gwasanaethu [Duw] mewn ymprydiau a gweddiau, ddydd a nôs.
38 A hon hefyd yn yr awr honno, gan sefyll ger llaw, a foliannodd yr Arglwydd, ac a lefarodd am dano ef wrth y rhai oll oedd yn disgwil ymwared yn Ierusalem.
39 Ac wedi iddynt orphen pôb peth, yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilæa, i'w dinas eu hun Nazareth.
40 A'r bachgen a gynnyddodd, ac a gryfhaodd yn yr Yspryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.
41 A'i rieni ef a aent i Ierusalem bôb blwyddyn, ar ŵyl y Pasc.
42 A phan oedd efe yn ddeuddeng-mlwydd oed, hwynt hwy a aethant i fynu i Ierusalem, yn ôl defod yr ŵyl.
43 Ac wedi gorphen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Ierusalem, ac ni wyddai Ioseph a'i fam ef.
44 Eithr gan dybied ei fôd ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod, ac a'i ceisiasant ef ymmhlith eu cenedl a'i cydnabod.
45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gan ei geisio ef.
46 A bu, yn ôl tri-diau, gael o honynt hwy ef yn y Deml, yn eistedd ynghanol y Doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt.
47 A synnu a wnaeth ar bawb a'r a'i clywsant [Page 184] ef, o herwydd ei ddeall ef a'i attebion.
48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt: a'i fam a ddywedodd wrtho, Fy mâb, pa ham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dâd a minneu yn ofidus a'th geisiasom di.
49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham y ceisiech fi? oni ŵyddech fôd yn rhaid i mi fôd ynghylch y pethau a berthyn i'm Tâd?
50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasei efe wrthynt.
51 Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a ddaeth i Nazareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A'i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon.
52 A'r Iesu a gynnyddodd mewn doethineb, a chorpholaeth, a [...]or gyd a Duw a dynion.
PEN. III.
YN y bymthegfed flwyddyn o ymmerodraeth Tiberius Cæsar, a Phontius Pilat yn rhag-law Iudæa, a Herod yn detrarch [...]ræa, a gwlâd Trachonitis, a Lysanias yn detrarch Abilene,
2 Tan yr Arch-osteiriaid Annas, a Chaiphas, y daeth gair Duw at Ioan fab Zacharias, yn y diffaethwch.
3 Ac efe a ddaeth i bob goror ynghylch yr Iorddonen, gan bregethu bedydd edifeirwch, er maddeuant pechodau:
4 Fel y mae yn scrifennedig yn llyfr ymadroddion Esaias y prophwyd, yr hwn sydd yn dywedyd, Llef vn yn llefain yn y dinaethwch, Paratowch ffordd yr Arglwydd, gwnewch ei lwybrau ef yn vniawn.
5 Pôb pant a lenwir, a phob mynydd a bryn [Page 185] a ostyngir a'r gŵyr-geimion a wneir yn vniawn, a'r geirwon yn ffyrdd gwastad.
6 A phob cnawd a wêl iechydwriaeth Duw.
7 Am hynny efe a ddywedodd wrth y bobloedd yn dyfod i'w bedyddio ganddo. O genhedlaeth gwiberod, pwy a'ch rhagrybuddiodd chwi, i ffoi oddi wrth y dygofaint fydd ar ddyfod?
8 Dygwch gan hynny ffrwythau addas i edifeirwch, a na ddechreuwch, ddywedyd ynoch eich hunain, Y mae gennym ni Abraham yn dâd: canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y dichon Duw o'r cerrig hyn godi plant i Abraham.
9 Ac yr awrhon y mae'r fwyall wedi ei gosod ar wreiddyn y prennau: pob pren gan hynny a'r nid yw yn dwyn ffrwyth da, a gymmynir i lawr, ac a fwrir yn tân.
10 A'r bobloedd a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa beth gan hynny wnawn ni?
11 A efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo ddwy bais, rhodded i'r neb sydd heb yr vn: a'r neb sydd ganddo fwyd, gwnaed yr vn modd.
12 A'r Publicanod hefyd a ddaethant i'w bedyddio, ac a ddywedasant wrtho, Athro, beth a wnawn ni?
13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na cheisiwch ddim mwy nag sydd wedi ei osod i chwi.
14 A'r milwŷr hefyd a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, A pha beth a wnawn ninnau? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na fyddwch draws wrth neb, ac na chamachwynwch ar neb, a byddwch fodlon i'ch cyflogau.
15 Ac fel yr oedd y bobl yn disgwil, a phawb [Page 186] yn meddylied yn eu calonneu am Ioan, ai efe oedd y Christ;
16 Ioan a attebodd, gan ddywedyd wrthynt oll, Myfi yn ddiau ŵyf yn eich bedyddio chwi â dwfr, ond y mae vn cryfach nâ myfi yn dyfod, yr hwn nid ŵyfi deilwng i ddattod carrei e escidiau, efe a'ch bedyddia chwi â'r Yspryd glan, ac a thân.
17 Yr hwn y mae ei wyntyll yn ei law, ac efe a lŵyr-lanhâ ei lawr dyrnu. ac a gascl y gwenith i'w yscubor, ond yr vs a lŷsc efe â thân anniffoddadwy.
18 A llawer o bethau eraill a gynghorodd efe, ac a bregethodd i'r bobl.
19 Ond Herod y tetrarch, pan geryddwyd ef ganddo am Herodias gwraig Philip ei frawd, ac am yr holl ddrygioni a wnaethai Herod.
20 A chwanegodd hyn hefyd, heb law'r cwbl, ac a gaeodd ar Ioan yn y carchar.
21 A bu, pan oeddid yn bedyddio yr holl bobl, a'r Iesu yn ei fedyddio hefyd, ac yn gweddio, agoryd y nef:
22 A descyn o'r Yspryd glân mewn rhith corphorawl, megis colommen, arno ef: a dyfod llef o'r nef, yn dywedyd, Ti yw fy anwyl Fab, ynot ti i'm bodlonwyd.
23 A'r Iesu ei hun oedd ynghylch dechreu ei ddeng-mlwydd ar hugein oed, mab (fel y tybîd) i Ioseph [fab] Eli.
24 [Fab] Matthat, [fab] Lefi, [fab] Melchi, [fab] Ianna, [fab] Ioseph,
25 [Fab] Mattathias, [fab] Amos, [fab] Naum, [fab] Naggai,
26 [Fab] Maath, [fab] Mattathias, [fab] Semei, [fab] Ioseph, [fab] Iuda,
27 [Fab] Ioanna, [fab] Rhesa, [fab] Zorobabel, [fab] Salathiel, [fab] Neri,
28 [Fab] Melchi, [fab] Adi, [fab] Cosom, [fab] Elmodam, [fab] Er,
29 [Fab] Iose, [fab] Eliezar, [fab] Iorim, [fab] Matthat, [fab] Lefi,
30 [Fab] Simeon, [fab] Iuda, [fab] Ioseph, [fab] Ionan, [fab] Eliacîm,
31 [Fab] Melea, [fab] Mainan, [fab] Mattatha, [fab] Nathan, [fab] Dafydd.
32 [Fab] Iesse, [fab] Obed, [fab] Booz, [fab] Salmon, [fab] Naasson,
33 [Fab] Aminadab, [fab] Aram, [fab] Efrom, [fab] Phares, [fab] Iuda,
34 [Fab] Iacob, [fab] Isaac, [fab] Abraham, [fab] Thara, [fab] Nachor,
35 [Fab] Saruch, [fab] Ragau, [fab] Phalec, [fab] Heber, [fab] Sala,
36 [Fab] Cainan, [fab] Arphaxad, [fab] Sem, [fab] Noe, [fab] Lamech,
37 [Fab] Mathusala, [fab] Enoch, [fab] Iared, [fab] Maleleel, [fab] Cainan,
38 [Fab] Enos, [fab] Seth, [fab] Adda, [fab] Duw.
PEN. IIII.
A'R Iesu yn llawn o'r Yspryd glân, a ddychwelodd oddi wrth yr Iorddonen, ac a arweinwyd gan yr Yspryd i'r anialwch:
2 Yn cael ei demptio gan ddiafol ddeugain nhiwrnod: ac ni fwyttaodd efe ddim o fewn y dyddiau hynny: ac wedi eu diweddau [Page 188] hwynt, yn ôl hynny y daeth arno chwant bwyd.
3 A dywedodd diafol wrtho, Os mab Duw ydwyti, dywed wrth y garreg hon, fel y gwneler hi yn fara.
4 A'r Iesu a attebodd iddo, gan ddywedyd, Scrifennedig yw, nad ar fara yn vnic y bydd dŷn fyw, ond ar bôb gair Duw.
5 A diafol wedi ei gymmeryd ef i fynu i fynydd vchel, a ddangosodd iddo holl deyrnasoedd y ddaiar mewn munyd awr.
6 A diafol a ddywedodd wrtho, I ti y rhoddaf yr awdurdod hon oll, a'u gogoniant hwynt, canys i mi y rhoddwyd, ac i bwy bynnag y mynnwyf, y rhoddaf finneu hi.
7 Os tydi gan hynny a addoli o'm blaen, eiddo ti fyddant oll.
8 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dos ymaith Satan yn fy ôl i: canys scrifennedig yw, Addoli yr Arglydd dy Dduw, ac efe yn vnic a wasanaethi.
9 Ac efe a'i dug ef i Ierusalem, ac a'i gosodes ar binacl y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Os Mâb Duw ydwyt, bwrw dy hun i lawr oddi ymma.
10 Canys scrifennedig yw, Y gorchymmyn efe i'w Angelion o'th achos di, ar dy gadw di:
11 Ac y cyfodant di yn eu dwylo, rhag i ti vn amser daro dy droed wrth garreg.
12 Ar Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Dywedpwyd, Na themptia'r Arglwydd dy Dduw.
13 Ac wedi i ddiafol orphen yr holl demtasiwn, efe a ymadawodd ag ef tros amser.
14 A'r Iesu a ddychwelodd trwy nerth yr [Page 189] Yspryd i Galilæa: a sôn a aeth am dano ef trwy 'r holl fro oddi amgylch.
15 Ac yr oedd efe yn athrawiaethau yn eu Synagogau hwynt, ac yn cael anrhydedd gan bawb.
16 Ag efe a ddaeth i Nazareth, lle y magesid ef: ac yn ol ei arfer efe a aeth i'r Synagog ar y Sabbath, ac a gyfododd i fynu i ddarllen.
17 A rhodded atto lyfr y prophwyd Esaias: ac wedi iddo agoryd y llyfr, efe a gafodd y lle yr oedd yn scryfennedig,
18 Yspryd yr Arglwydd arnafi, o herwydd iddo y eneinio i: i bregethu ir tlodion yr anfonodd fi, iachau y drylliedig o galon; i bregethu gollyngdod i'r caethion, a chariaeliad golwg i'r deillion, i ollwng y rhai ysug mewn rhydd-deb;
19 I bregethu blwyddyn gymmeradwy 'r Arglwydd.
20 Ac wedi iddo gau'r llyfr, a'i roddi i'r gweinidog, efe a eisteddodd: a llygaid pawb oll yn y Synagog oedd yn craffu arno,
21 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd wrthynt, Heddyw y cyflawnwyd yr Scrythur hon yn eich clustiau chwi.
22 Ac yr oedd pawb yn dwyn tystiolaeth iddo, ac yr oeddynt yn rhyfeddu am y geiriau grasusol a ddae allan o i enau ef, a hwy a ddywedasant, Onid hwn yw mab Ioseph?
23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn hollawl y dywedwch y ddihareb hon wrthif, Y meddyg, iachâ di dy hun: y pethau a glywsom ni eu gwneuthur yn Capernaum, gwna ymma hefyd yn dy wlâd dy hun.
24 Ac efe a ddywedodd, Yn wir meddaf i [Page 190] chwi, nad yw vn prophwyd yn gymmeradwy yn eu wlâd ei hun.
25 Eithr mewn gwirionedd meddaf i chwi, llawer o wragedd gweddwon oedd yn Israel yn nyddiau Elias, pan gaewyd y nef dair blynedd â chwe mis, fel y bu newyn mawr trwy 'r holl dir:
26 Ac nid at yr vn o honynt yr anfonwyd Elias, ond i Sarepta yn Sydon, at wraig weddw.
27 A llawer o wahan-gleifion oedd yn Israel yn amser Elisaeus y prophwyd, ac ni lanhawyd yr vn o honynt, ond Naaman y Syriad.
28 A'r rhai oll yn y Synagog, wrth glywed y pethau hyn, a lanwyd o ddigofaint,
29 Ac a godasant i fynu, ac a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i dygasant ef hyd ar ael bryn, yr hwn yr oedd eu dinas wedi ei hadeiladu arno, ar fedr ei fwrw ef bendramwnwgl i lawr.
30 Ond efe, gan fyned drwy eu canol hwynt, a aeth ymmaith:
31 Ac a ddaeth i wared i Capernaum, dinas yn Galilæa: ac yr oedd yn eu dyscu hwynt ar y dyddiau Sabbath.
32 A bu aruthr ganddynt wrth ei athrawiaeth ef, canys ei ymadrodd ef oedd gyd ag awdurdod.
33 Ac yn y Synagog yr oedd dŷn a chanddo yspryd cythrael aflan, ac efe a waeddodd â llef vchel.
34 Gan ddywedyd, Och, beth [sydd] i ni [a wnelom] a thi, Iesu o Nazareth? a ddaethost ti i'n difetha ni? myfi a'th'adwaen pwy ydwyt, Sanct Duw.
35 A'r Iesu a'i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Distawa, â dôs allan o honaw. A'r cythrael, wedi [Page 191] ei daflu ef i'r canol, a aeth allan o honaw, heb wneuthur dim niwed iddo.
36 A daeth braw arnynt oll: a chŷdymddiddanasant â'i gilydd, gan ddywedyd, Pa ymadrodd yw hwn, gan ei fôd ef, trwy awdurdod a nerth, yn gorchymmyn yr ysprydion aflan, a hwythau yn myned allan?
37 A son am dano aeth allan i bôb man ô'r wlâd oddi amgylch.
38 A phan gyfododd [yr Jesu] o'r Synagog, efe a aeth i mewn i dŷ Simon: ac yr oedd chwegr Simon yn glaf o grŷd blin; a hwy a attolygasant arno trosti hi.
39 Ac efe a safodd vwch [ei phen] hi, ac a geryddodd y crŷd: a ['r crŷd] a'i gadawodd hi, ac yn y fan hi a gyfodes, ac a wasanaethodd arnynt hwy.
40 A phan fachludodd yr haul, pawb a'r oedd ganddynt rai cleifion, o amryw glefydau, a'u dygasant hwy atto ef: ac efe a roddes ei ddwylo ar bob vn o honynt, ac a'u hiachaodd hwynt.
41 A'r cythreuliaid hefyd a aethant allan o lawer, dan lefain a dywedyd, Ti yw Christ Mab Duw. Ac efe a'u ceryddodd hwynt, ac ni adawai iddynt ddywedyd y gwyddent mai efe oedd y Christ.
42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaeth, a'r bobloedd a'i ceisiasant ef, a hwy a ddaethant hyd atto, ac a'i hattaliasant ef rhag myned ymmaith oddiwrthynt.
43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd, canys i hyn i'm danfonwyd.
44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn Synagogau Galilæa.
PEN. V.
BU hefyd a'r bobl yn pwyso atto i wrando gair Duw, yr oedd yntef yn ymyl llyn Genesareth;
2 Ac efe a welai ddwy long yn sefyll wrth y llyn: a'r pyscodwŷr a aethent allan o honynt, ac oeddynt yn golchi eu rhwydau.
3 Ac efe a aeth i mewn i vn o'r llongau, yr hon oedd eiddo Simon, ac a ddymunodd arno wthio ychydig oddî wrth y tir: ac efe a eisteddodd, ac a ddyscodd y bobloedd allan o'r llong.
4 A phan beidiodd â llefaru, efe a ddywedodd wrth Simon, Gwthia i'r dwfn, a bwriwch eich rhwydau am helfa.
5 A Simon a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, O feistr, er i ni boeni ar hŷd y nôs, ni ddaliasom ni ddim: etto ar dy air di, mi a fwriaf y rhwyd.
6 Ac wedi iddynt wneuthur hynny, hwy a ddaliasant liaws mawr o byscod: a'u rhwyd hwynt a rwygodd.
7 A hwy a amneidiasant ar eu cyfeillion oedd yn y llong arall, i ddyfod iw cynnorthwyo hwynt: a hwy a ddaethant, a llanwasant y ddwy long, onid oeddynt hwy ar soddi.
8 A Simon Petr pan welodd hynny, a syrthiodd wrth liniau 'r Jesu, gan ddywedyd, Dôs ymmaith oddi wrthif, canys dŷn pechadurus wyfi, o Arglwydd.
9 O blegid braw a daethai arno ef, a'r rhai oll oedd gyd ag ef, o herwydd yr helfa byscod a ddaliasent hwy.
10 A'r vn ffunyd ar Iaco ac Ioan hefyd, meibion Zebedaeus, y rhai oedd gyfrannogion â Simon. A dywedodd yr Jesu wrth Simon, Nac ofna: o hyn allan y de [...]i ddynion.
11 Ac wedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy a adawsant bob peth, ac a'i dilynasant ef.
12 A bu fel yr oedd efe mewn rhyw ddinas, wele ŵr yn llawn o'r gwahan-glwyf: a phan welodd efe yr Jesu, efe a syrthiodd ar ei wineb, ac a ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, O Arglwydd, os ewyllyssi, ti a elli fynglânhau.
13 Yntef a estynnodd ei law, ac a gyffyrddodd ag ef, gan ddywedyd, Yr ŵyf yn ewyllyssio, bydd lân. Ac yn ebrwydd y gwahan-glwyf a aeth ymmaith oddi wrtho.
14 Ac efe a orchymmynnodd iddo na ddywedei i neb: eithr dôs ymmaith a dangos dy hun i'r offeiriad, ac offrwm tros dy lanhâd, fel y gorchymmynodd Moses, er tystiolaeth iddynt.
15 A'r gair am dano a aeth yn fwy ar lêd: a llawer o bobloedd a ddaethant ynghŷd i'w wrando ef, ac i'w hiachau ganddo o'u clefydau.
16 Ac yr oedd efe yn cilio o'r nailltu yn y diffaethwch, ac yn gweddio.
17 A bu ar ryw ddiwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, fôd Pharisæaid, a Doctoriaid y gyfraith yn eistedd [yno] y rhai a ddaethent o bôb pentref yn Galilæa, a Judæa, a Jerusalem: ac yr oedd gallu yr Arglwydd i'w hiachau hwynt.
18 Ac wele wŷr yn dŵyn mewn gwely ddŷn a oedd glaf o'r parlys: a hwy a geisiasant ei ddwyn ef i mewn, a'i ddodi ger ei fron ef.
19 A phan na fedrent gael pa ffordd y dygent ef i mewn, o achos y dyrfa, hwy a ddringasant ar nen y tŷ, ac a'i gollyngasant ef i wared yn y gwely, trwy y pridd-lechau, yn y canol, ger bron yr Jesu.
20 A phan welodd efe eu ffydd hwynt, efe a ddywedodd wrtho, Y dŷn, maddeuwyd i ti dy bechodau.
21 A'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid, a ddechreuasant ymresymmu, gan ddywedyd, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cabledd? pwy a ddichon faddeu pechodau ond Duw yn vnig.
22 A'r Jesu yn gwybod eu hymresymmiadau hwynt, a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Pa resymmu yn eich calonnau yr ydych?
23 Pa vn hawsaf, ai dywedyd Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia?
24 Ond fel y gwypoch fôd gan Fab y dŷn awdurdod ar y ddayar i faddeu pechodau, (eb efe wrth y claf o'r parlys) Yr ŵyf yn dywedyd wrthit, Cyfod, a chymmer dy wely, a dôs i'th dŷ.
25 Ac yn y man y cyfodes efe i fynu yn eu gwydd hwynt, ac efe a gymmerth yr hyn y gorweddai arno, ac a aeth ymmaith i'w dŷ ei hun, gan ogoneddu Duw.
26 A syndod a ddaeth ar bawb, a hwy a ogoneddasant Dduw; a hwy a lanwyd o ofn, gan ddywedyd, Gwelsom bethau anhygoel heddyw.
27 Ac yn ôl y pethau hyn yr aeth efe allan, ac a welodd Bublican a'i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa, ac efe a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
28 Ac efe a adawodd bôb peth, ac a gyfodes i fynu, ac a'i dilynodd ef.
29 A gwnaeth Lefi iddo wledd fawr yn ei dŷ: ac yr oedd tyrfa fawr o Bublicanod, ac eraill, yn eistedd gyd â hwynt ar y bwrdd.
30 Eithr eu Scrifennyddion a'u Pharisæaidhwynt, a furmurasant yn erbyn ei ddiscyblion ef, gan ddywedyd, Pa ham yr ydych chwi yn bwytta ac yn yfed gyd â Phublicanod a phechaduriaid?
31 A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Nid rhaid i'r rhaî iach wrth feddyg, ond i'r rhai cleifion.
32 Ni ddaethym i alw rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch.
33 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa ham y mae discyblion Ioan yn ymprydio yn fynych, ac yn gwneuthur gweddiau, a'r vn modd yr eiddo y Pharisæaid: ond yr eiddo ti yn bwytta ac yn yfed?
34 Yntef a ddywedodd wrthynt, A ellwch chwi beri i blant yr ystafell briodas ymprydio tra fyddo 'r priodaf-fâb gyd â hwynt?
35 Ond y dyddiau a ddaw, pan ddyger y priodas-fâb oddi arnynt, ac yna yr ymprydiant yn y dyddiau hynny.
36 Ac efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, Ni rydd neb lain o ddilledyn newydd mewn hên ddilledyn: os amgen, y mae y newydd yn gwneuthur rhwygiad, a'r llain o'r newydd ni chydûna â'r hên.
37 Ac nid yw neb yn bwrw gwin newydd i hên gostrelau: os amgen, y gwin newydd a ddryllia 'r costrelau, ac efe a rêd allan, a'r costrelau a gollir.
38 Eithr gwin newydd sydd raid ei fwrw mewn costrelau newyddion: a'r ddau a gedwir.
39 Ac nid oes neb gwedi iddo yfed [gwin] hên, a chwennych y newydd yn y fan: canys efe a ddywed, Gwell yw 'r hên.
PEN. VI.
A Bu ar yr ail prif Sabbath, fyned o honaw trwy 'r ŷd: a'r discyblion a dynnasant y tywys, ac a'u bwyttasant, gwedi eu rhwbio a'u dwylo.
2 A rhai o'r Pharisæaid a ddywedasant wrthynt, Pa ham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabbathau?
3 A'r Jesu gan atteb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllennasoch hyn ychwaith, yr hyn a wnaeth Dafyddd pan oedd chwant bwyd arno ef, a'r rhai oedd gyd ag ef?
4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymmerth, ac y bwyttaodd y bara gosod, ac a'u rhoddes hefyd i'r rhai oedd gyd ag ef: yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwytta, ond i'r offeiriaid yn vnig?
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, y mae Mab y dŷn yn Arglwydd ar y Sabbath hefyd.
6 A bu hefyd ar Sabbath arall, iddo fyned i mewn i'r Synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddŷn, a'i law ddehau wedi gwywo.
7 A'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid a'i gwiliasant ef, a iachâi efe ef ar y [dydd] Sabbath: fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef.
8 Eithr efe a ŵybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dŷn oedd â'r llaw wedi gwywo, Cyfod i fynu, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fynu, ac a safodd.
9 Yr Jesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabbathau; gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw enioes, ai colli?
10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch efe a ddywedodd wrth y dŷn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a'i law ef a wnaed yn iach fel y llall.
11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i'r Jesu
12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned o honaw ef allan i'r mynydd i weddio: a pharhau ar hŷd y nôs yn gweddio Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd atto ei ddiscyblion: ac o honynt efe a etholes ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn Apostolion:
14 (Simon, yr hwn hefyd a henwodd efe Petr, ac Andreas ei frawd, Iaco ac Ioan, Philip a Bartholomeus,
15 Matthew a Thomas, Iaco [fab] Alphaeus, a Simon a elwir Zelôtes,
16 Iudas [brawd] Iaco, a Iudas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.)
17 Ac efe a aeth i wared gyd â hwynt, ac a safodd mewn gwastattir: a'r dyrfa o'i ddiscyblion, a lliaws mawr o bobl, o holl Judæa a Jerusalem, ac o duedd mor Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i'w hiachau o'u clefydau.
18 A'r rhai a flinid gan ysprydion aflan: a hwy a iachawyd.
19 A'r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag [Page 298] ef: am fôd nerth yn myned o honaw allan, ac yn iachau pawb.
20 Ac efe a dderchafodd ei olygon ar ei ddiscyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich bŷd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw.
21 Gwyn eich bŷd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awrhon, canys chwi a ddigonir. Gwyn eich bŷd y rhai ydych yn wylo yr awrhon, canys chwi a chwerddwch.
22 Gwyn eich bŷd pan i'ch casâo dynion, a phan i'ch didolant oddiwrthynt, ac i'ch gwradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dŷn.
23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemmwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr vn ffunyd y gwnaeth eu tadau hwynt i'r Prophwydi.
24 Eithr gwae chwi 'r cyfoethogion, canys derbyniasoch eich diddanwch.
25 Gwae chwi y rhai llawn: canys chwi, a ddygwch newyn. Gwae chwi y rhai a chwerddwch yr awrhon: canys chwi a alerwch, ac a wŷlwch.
26 Gwae chwi pan ddywedo pob dŷn yn dda am danoch: canys, felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau-brophwydi.
27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi, y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt.
28 Bendithiwch y rhai a'ch melldithiant: a gweddiwch tros y rhai a'ch drygant.
29 Ac i'r hwn a'th darawo ar y [naill] gern, cynnyg y llall hefyd: ac i'r hwn a ddygo ymmaith [Page 199] dy gochl, na wahardd dy bais hefyd.
30 A dŷro i bob vn a geisio gennit; a chan y neb a fyddo yn dwyn yr eiddot, na chais eilchwel.
31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr vn ffunyd.
32 Ac os cerwch y rhai a'ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru y rhai au câr hwythau.
33 Ac os gwnewch dda i'r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae 'r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr vn peth.
34 Ac os rhoddwch echwyn i'r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi: oblegid y mae 'r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb.
35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a roddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a'ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i'r Goruchaf: canys daionus yw efe i'r rhai anniolchgar a drwg.
36 Byddwch gan hynny drugarogion, megis ac y mae eich Tâd yn drugarog.
37 Ac na fernwch, ac ni'ch bernir: na chondemnwch, ac ni'ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau:
38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi: mesur da, dwysedig, ac wedi ei yscwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â'r vn mesur ac y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.
39 Ac efe a ddywedodd ddammeg wrthynt, [Page 200] A ddichon y dall dwyso 'r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd?
40 Nid yw 'r discybl vwch law ei athro: eithr pob vn perffaith a fydd fel ei athro.
41 A pha ham yr wyti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun?
42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, [fy] mrawd, gâd i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o'th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd.
43 Canys nid yw pren da, yn dwyn ffrwyth drwg: na phren drwg yn dwyn ffrwyth da.
44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casclant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawn-win.
45 Y dyn da o ddaionus dryssor ei galon, a ddwg allan ddaioni: a'r dŷn drwg o ddrygionus dryssor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei eneu yn llefaru.
46 Pa ham hefyd yr ydych yn fy ngalw i Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd?
47 Pwy bynnag a ddêl attafi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a'u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb.
48 Cyffelyb yw i ddŷn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeîriant, [Page 201] y llif-ddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allal ei siglo: canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig.
49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddŷn a adeiladai dŷ ar y ddaiar, heb sail; ar yr hwn y curodd y llif-ddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd, a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.
PEN. VII.
AC wedi iddo orphen ei holl ymadroddion, lle y clywei y bobl, efe a aeth i mewn i Capernaum.
2 A gwâs rhyw Ganwraid, yr hwn oedd anwyl ganddo, oedd yn ddrwg ei hwyl, ym mron marw.
3 A phan glybu efe sôn am yr Jesu, efe a ddanfonodd atto henuriaid yr Iddewon, gan attolwg iddo ddyfod ag iachau ei wâs ef.
4 Y rhai pan ddaethant at yr Jesu, a attolygasant arno yn daer, gan ddywedyd oblegid y mae efe yn haeddu cael gwneuthur o honot hyn iddo.
5 Cans y mae yn caru ein cenedl ni, ac efe a adeiladodd i ni Synagog.
6 A'r Jesu a aeth gyd a hwynt. Ac efe weithiau heb fôd neppell oddi wrth y tŷ, y Canwriad a anfonodd gyfeillion atto, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, na phoena, canys nid wyfi deilwng i ddyfod o honnot tan fy nghronglwyd.
7 O herwydd pa ham ni'm tybiais fy hun yn deilwng i ddyfod attat: eithr dywed y gair, ac iach fydd fy ngwâs.
8 Canys dŷn wyf finneu wedi fy ngosod tan awdurdod, a chennif filwŷr tannaf, ac meddaf. wrth hwn, dôs, ac efe a â: ac wrth arall, Tyred, [Page 202] ac efe a ddaw; ac wrth fy ngwâs, Gwna hyn, ac efe a'i gwna.
9 Pan glybu 'r Jesu y pethau hyn, efe a ryfeddodd wrtho, ac a drôdd, ac a ddywedodd wrth y bobl oedd yn ei ganlyn, yr ydwyf yn dywedyd i chwi, ni chefais gymmaint ffydd, naddo yn yr Israel.
10 A'r rhai a anfonasid, wedi iddynt ddychwelyd i'r tŷ, a gawsant y gwâs a fuasei glaf, yn holliach.
11 Abu drannoeth, iddo ef fyned i ddinas a elwid Naim: a chyd ag ef yr aeth llawer o'i ddiscyblion, a thyrfa fawr.
12 A phan ddaeth efe yn agos at borth y ddinas, wele vn marw a ddygid allan, [yr hwn oedd] vnig fab ei fam, a honno yn weddw: a bagad o bobl y ddinas oedd gyd â hi.
13 A'r Arglwydd pan y gwelodd hi, a gymmerodd drugaredd arni, ac a ddywedodd wrthi, Nac wŷla.
14 A phan ddaeth [attynt,] efe a gyffyrddodd a'r elor: (a'r rhai oedd yn ei dwyn safasant) ac efe a ddywedodd, Y mab ieuangc, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod.
15 A'r marw a gyfododd yn ei eistedd, ac a dechreuodd lefaru: ac efe a'i rhoddes i'w fam.
16 Ac ofn a ddaeth ar bawb: a hwy a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, prophwyd mawr a gyfododd yn ein plith: ac Ymwelodd Duw a'i bobl.
17 A'r gair hwn a aeth allan am dano drwy holl Iudæa, a thrwy gwbl o'r wlâd oddi amgylch.
18 A'i ddiscyblion a fynegasant i Ioan hyn oll.
19 Ac Ioan wedi galw rhyw ddau o'i ddiscyblion atto, a anfonodd at yr Jesu, gan ddywedyd, Ai ti yw 'r hwn sy 'n dyfod, ai vn arall yr ŷm yn ei ddisgwil?
20 A'r gwyr pan ddaethant atto, a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr a'n danfonodd ni attat ti, gan dywedyd, Ai ti yw 'r hwn sy 'n dyfod, ai arall yr ŷm yn ei ddisgwil?
21 A'r awr honno efe a iachâodd lawer oddi wrth glefydau, a phlaau, ac ysprydion drwg: ac i lawer o ddeillion y rhoddes ef eu golwg.
22 A'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Ewch a mynegwch i Ioan y pethau a welsoch, ac a glywsoch: fôd y deillion yn gweled eilwaith, y cloffion yn rhodio, y gwahanglwyfus wedi eu glanhau, y byddariaid yn clywed, y meirw yn cyfodi, y tlodion yn derbyn yr Efengyl.
23 A gwyn ei fyd y neb ni rwystrir ynofi.
24 Ac wedi i gennadau Ioan fyned ymmaith, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth y bobloedd am Ioan, Beth yr aethoch allan i'r diffaethwch iw weled? Ai corsen yn siglo gan wynt?
25 Ond pa beth yr aethoch allan i'w weled? Ai dŷn wedi ei ddilladu â dillad esmwyth? wele, y rhai sy yn arfer dillad anrhydeddus a moethau, mewn palasau brenhinoedd y maent.
26 Eithr beth yr aethoch allan i'w weled Ai prophwyd? yn ddiau meddaf i chwi, a llawer mwy nâ phrophwyd.
27 Hwn yw efe am yr vn yr scrifennwyd, Wele, yr wyfi yn anfon fy nghennad o flaen dy wyneb, yr hwn a baratoa dy ffordd o'th flaen.
28 Canys meddaf i chwi, ym mhlith y rhai a aned o wragedd nid oes brophwyd mwy nag Ioan Fedyddiwr: eithr yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas Dduw, sydd fwy nag ef.
29 A'r holl bobl a'r oedd yn gwrando, a'r Publicanod, a gyfiawnhasant Dduw, gwedi eu bedyddio â bedydd Ioan.
30 Eithr y Pharisæaid a'r cyfreithwŷr, yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant gyngor Duw, heb eu bedyddio ganddo.
31 A dywedodd yr Arglwydd, I bwy gan hynny y cyffelybaf ddynion y genhedlaeth hon? ac i ba beth y maent yn debyg?
32 Tebyg ydynt i blant yn eistedd yn y farchnad, ac yn llefain wrth ei gilydd, ac yn dywedyd, Canasom bibau i chwi, ac ni ddawnsiasoch: cwynfanasom i chwi, ac nid wylasoch.
33 Canys daeth Ioan Fedyddiwr, heb na bwytta bara, nac yfed gwin: a chwi a ddywedwch, Y mae cythrael ganddo.
34 Daeth Mâb y dŷn yn bwytta ac yn yfed, ac yr ydych yn dywedyd, Wele ddŷn glwth, ac yfwr gwin, cyfaill Publicanod a phechaduriaid.
35 A doethineb a gyfiawnhawyd gan bawb o'i phlant.
36 Ac vn o'r Pharisæaid a ddymunodd arno fwytta gyd ac ef: ac yntef a aeth i dŷ 'r Pharisæad, ac a eisteddodd i fwytta.
37 Ac wele, gwraig yn y ddinas, yr hon oedd bechadures, pan wybu hi fôd yr Jesu yn eistedd ar y bwrdd yn nhŷ 'r Pharisæad, a ddug flwch o ennaint
38 A chan sefyll wrth ei draed ef o'r tu ôl, ac [Page 205] wylo, hi a ddechreuodd olchi ei draed ef â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen: a hi a gusanodd eî draed ef, ac a'u hirodd a'r ennaint.
39 A phan welodd y Pharisæad, yr hwn a'i gwahoddasai, efe a ddywedodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Pe bai hwn brophwyd, efe a wybasei pwy, a pha fath wraig yw 'r hon sydd yn cyffwrdd ag ef: canys pechadures yw hi.
40 A'r Jesu gan atteb a ddywedodd wrtho, Simon, y mae gennif beth i'w ddywedyd wrthit, Yntef a ddywedodd, Athro, dywed.
41 Dau ddyledwr oedd i'r vn echwynwr: y nâill oedd arno bum can ceiniog o ddylêd, a'r llall ddêg a deugain.
42 A phryd nad oedd ganddynt ddim i dalu, efe a faddeuodd iddynt ill dau. Dywed gan hynny, pwy o'r rhai hyn a'i câr ef yn fwyaf?
43 A Simon a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyfi yn tybied mai 'r hwn y maddeuodd efe iddo fwyaf. Yntef a ddywedodd wrtho, Vniawn y bernaist.
44 Ac efe a drodd at y wraig, ac a ddywedodd wrth Simon, A weli di y wraig hon? mi a ddaethym i'th dŷ di, ac ni roddaist i mi ddwfr i'm traed: ond hon a olchodd fy nhraed â dagrau, ac a'u sychodd â gwallt ei phen.
45 Ni roddaist i mi gusan: ond hon, er pan ddaethym i mewn, ni pheidiodd â chusanu fy nhraed.
46 Fy mhen ag olew nid iraist: ond hon a irodd fy nhraed ag ennaint,
47 O herwydd pa ham, dywedaf wrthit, maddeuwyd ei haml bechodau hi: oblegid hi a [Page 206] garodd yn fawr. Ond y neb y maddeuer ychydig iddo, a gâr ychydig.
48 Ac efe a ddywedodd wrthi, Maddeuwyd i ti dy bechodau.
49 A'r rhai oedd yn cyd-eistedd i fwytta, a ddechreuasant ddywedyd ynddynt eu hunain, Pwy yw hwn sydd yn maddeu pechodau hefyd?
50 Ac efe a ddywedodd wrth y wraig, dy ffydd a'th gadwodd: dôs mewn tangneddyf.
PEN. VIII.
A Bu wedi hynny, iddo fyned trwy bôb dinas a thref, gan bregethu, ac efangylu teyrnas Dduw: a'r deuddegg [oedd] gyd ag ef.
2 A gwragedd rai, ar a iachesid oddi wrth ysprydion drwg a gwendid, Mair yr hon a elwid Magdalen, o'r hon yr aethau saith gythrael allan:
3 Ioanna, gwraig Chufa, goruchwiliwr Herod: a Susanna, a llawer eraill, y rhai oedd yn gweini iddo o'r pethau oedd ganddynt.
4 Ac wedi i lawer o bobl ymgynnull ynghŷd, a chyrchu atto o bôb dinas, efe a ddywedodd ar ddammeg,
5 Yr hauwr a aeth allan i hau ei hâd: ac wrth hau, peth a syrthiodd ar ymyl y ffordd, ac a sathrwyd, ac ehediaid y nef a'i bwyttaodd.
6 A pheth arall a syrthiodd ar y graig, a phan eginodd y gwywodd, am nad oedd iddo wlybwr.
7 A pheth arall a syrthiodd ym mysc drain, a'r drain a gyd tyfasant, ac a'i ragasant ef.
8 A pheth arall a syrthiodd ar dir da, ac a eginodd, ac a ddug ffrwyth ar ei ganfed, Wrth ddywedyd y pethau hyn efe a lefodd, y neb sydd [Page 207] â chlustiau ganddo i wrando, gwrandawed.
9 A'i ddiscyblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Pa ddammeg oedd hon?
10 Yntef a ddywedodd, I chwi y rhoddwyd gwybod dirgeloedd teyrnas Dduw, eithr i eraill ar ddamhegion, fel yn gweled na welant, ac yn clywed na ddeallant.
11 Ac dymma 'r ddammeg, Yr hâd yw gair Duw.
12 A'r rhai ar ymyl y ffordd, ydyw y rhai sy yn gwrando: wedi hynny y mae diafol yn dyfod, ac yn dwyn ymmaith y gair o'u calon hwynt, rhag iddynt gredu a bôd yn gadwedig.
13 A'r rhai ar y graig, [yw] y rhai pan glywant, a dderbyniant y gair yn llawen: a'r rhai hyn nid oes ganddynt wreiddyn, y rhai sydd yn credu tros amser, ac yn amser profedigaeth yn cilio.
14 A'r hwn a syrthiodd ym mysc drain, yw y rhai a wrandawsant, ac wedi iddynt fyned ymmaith, hwy a dagwyd gan ofalon, a golud, a melyswedd buchedd, ac nid ydynt yn dwyn ffrwyth i berffeithrwydd.
15 A'r hwn ar y tir da, yw y rhai hyn, y rhai â chalon hawddgar a da, ydynt yn gwrando y gair, ac yn ei gadw, ac yn dwyn ffrwyth trwy amynedd.
16 Nid yw neb wedi goleu canwyll, yn ei chuddio hi â llestr, neu yn ei dodi tan wely: eithr yn ei gosod ar ganhwyllbren, fel y caffo y rhai a ddêl i mewn weled y goleuni.
17 Canys nid oes dim dirgel, a'r ni bydd amlwg: na dim cuddiedig, a'r ni's gwybyddir, ac na ddaw i'r goleu.
18 Edrychwch am hynny pa fodd y clywoch [Page 208] canys pwy bynnag y mae ganddo y rhoddir iddo a'r neb nid oes ganddo, ie yr hyn y mae yn tybied ei fôd ganddo, a ddygir oddi arno.
19 Daeth atto hefyd ei fam a'i frodyr, ac ni allent ddyfod hyd atto gan y dorf.
20 A mynegwyd iddo [gan rai] yn dywedyd, Y mae dy fam a'th frodyr yn sefyll allan, yn ewyllysio dy weled.
21 Ac efe attebodd ac a ddyweddodd wrthynt, Fy mam i, am brodyr i, yw y rhai hyn sy 'n gwrando gair Duw, ac yn ei wneuthur.
22 A bu ar ryw ddiwrnod, ac efe a aeth i long, efe a'i ddiscyblion: a dywedodd wrthynt, Awn trosodd i'r tu hwnt i'r llynn. A hwy a gychwynnasant.
23 Ac fel yr oeddynt yn hwylio, efe a hunodd: a chafod o wynt a ddescynnodd ar y llynn: ac yr oeddynt yn llawn [o ddwfr,] ac mewn enbydrwydd.
24 A hwy a aethant atto ac a'i deffroesant ef, gan ddywedyd, O feistr, feistr, darfu am danom. Ac efe a gyfododd, ac a geryddodd y gwynt a'r tonnau dwfr: a hwy a beidisant, a hi a aeth yn dawel.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le y mae eich ffydd chwi? A hwy wedi ofni a ryfeddasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan ei fôd yn gorchymyn i'r gwyntoedd ac i'r dwfr hefyd, a hwynteu yn vfyddhau iddo?
26 A hwy a hwyliasant i wlad y Gadareniaid, yr hon sydd o'r tu arall, ar gyfer Galilæa.
27 Ac wedi iddo fyned allan i dir, cyfarfu ag ef ryw ŵr ddinas, yr hwn oedd ganddo gythreuliaid, [Page 209] er ys talm o amser; ac ni wiscai ddillad, ac nid arhosai mewn tŷ, ond yn y beddau.
28 ([Hwn] gwedi gweled yr Jesu, a dolefain, a syrthiodd i lawr ger ei fron ef, ac a ddywedodd â llef vchel, Beth sydd i mi â thi, o Jesu fâb Duw goruchaf? yr wyf yn attolwg i ti na'm poenech.)
29 Canys efe a orchymynnasei i'r yspryd aflan ddyfod allan o'r dŷn, canys llawer o amserau y cippiasai ef: ac efe a gedwid yn rhwym â chadwynau, ac â llyffetheiriau; ac wedi dryllio y rhwymau, efe a yrrwyd gan y cythrâel ir diffaethwch.
30 A'r Jesu a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Beth yw dy enw di? Yntef a ddywedodd, Lleng; canys llawer o gythreuliaid a aethant iddo ef.
31 A hwy a ddeisyfiasant arno, na orchymynnai iddynt fyned i'r dyfnder.
32 Ac yr oedd yno genfaint o foch lawer, yn pori ar y mynydd: a hwynt hwy a attolygasant iddo adel iddynt fyned i mewn i'r rhai hynny. Ac efe a adawodd iddynt.
33 A'r cythreuliaid a aethant allan o'r dŷn, ac a aethant i mewn i'r moch: a'r genfaint a ruthrodd oddi ar y dibyn i'r llyn: ac a foddwyd.
34 A phan welodd y meichiaid yr hyn a ddarfuasai, hwy a ffoesant, ac a aethant, ac a fynegasant yn y ddinas, ac yn y wlad.
35 A hwy a aethant allan, i weled y peth a wnelsid, ac a ddaethant at yr Jesu, ac a gawsant y dŷn, o'r hwn yr aethai y cythreu-liaid allan, yn ei ddillad a'i iawn bwyll, yn eistedd wrth draed yr Jesu: a hwy a ofnasant.
36 A'r rhai a welsent a fynegasant hefyd iddynt, pa fodd yr iachaesid y cythreulig.
37 A'r holl liaws o gylch gwlad y Gadareniaid, a ddymunasant arno fyned ymmaith oddi wrthynt, am eu bôd mewn ofn mawr: ac efe wedi myned i'r llong, a ddychwelodd,
38 A'r gŵr o'r hwn yr aethai y cythreuliaid allan, a ddeisyfiodd arno gael bôd gyd ag ef: eithr yr Jesu a'i danfonodd ef ymmaith, gan ddywedyd,
39 Dychwel i'th dŷ, a dangos faint o bethau a wnaeth Duw i ti. Ac efe a aeth tan bregethu trwy gwbl o'r ddinas faint a wnaethai 'r Jesu iddo.
40 A bu, pan ddychwelodd yr Jesu, dderbyn o'r bobl ef: canys yr oeddynt oll yn disgwil am dano ef.)
41 Ac wele, daeth gŵr a'i enw Iairus, ac efe oedd lywodraethŵr y Synagog, ac efe a syrthiodd wrth draed yr Jesu, ac a attolygodd iddo ddyfod i'w dŷ ef:
42 O herwydd yr oedd iddo ferch vnicanedig ynghylch deuddeng-mlwydd oed, a hon oedd yn marw. (Ond fel yr oedd efe yn myned, y bobloedd a'i gwascent ef.)
43 A gwraig, yr hon oedd mewn diferlif gwaed er ys deuddeng mhlynedd, yr hon a dreuliasai ar pysygwyr ei holl fywyd, ac ni's gallai gael gan neb i hiachau,
44 A ddaeth o'r tu cefn, ac a gyffyrddodd ag ymyl ei wisc ef: ac yn y fan y safodd diferlif ei gwaed hi.
45 A dywedodd yr Jesu, Pwy yw a gyffyrddodd [Page 211] â mi? Ac a phawb yn gwadu, y dywedodd Petr, a'r rhai oedd gyd ag ef, O feistr, y mae y bobloedd yn dy wascu, ac yn dy flino, ac a ddywedi, Pwy yw a gyffyrddodd â mî?
46 A'r Jesu a ddywedodd. Rhyw vn a gyffyrddodd â mi: canys mi a wn fyned rhinwedd allan o honof.
47 A phan welodd y wraig nad oedd hi guddiedig, hi a ddaeth tan grynu, ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a fynegodd iddo yngwŷdd yr holl bobl, am ba achos y cyffyrddasai hi ag ef, ac fel yr iachasid hi yn ebrwydd.
48 Yntef a ddywedodd wrthi, Cymmer gyssur ferch, dy ffydd a'th iachâodd: dôs mewn tangneddyf.)
49 Ac efe yn llefaru, daeth vn o [dŷ] llywodraethwr y Synagog, gan ddywedyd wrtho, Bu farw dy ferch: na phoena mo'r Athro.
50 A'r Jesu pan glybu hyn, a'i attebodd ef, gan ddywedyd, Nac ofna: cred yn vnig, a hi a iacheir.
51 Ac wedi ei fyned ef i'r tŷ, ni adawodd i neb ddyfod i mewn, ond Petr, ac Iaco, ac Ioan, a thâd yr eneth a'i mam.
52 Ac wŷlo a wnaethant oll, a chwynfan am dani: eithr efe a ddywedodd, Nac wŷlwch: nid marw hi, eithr cyscu y mae.
53 A hwy a'i gwatwarasant ef, am iddynt wŷbod ei marw hi.
54 Ac efe a'u bwriodd hwynt oll allan, ac a'i cymmerth hi erbyn ei llaw ac a lefodd, gan ddywedyd, Herlodes, cyfod.
55 A'i hyspryd hi a ddaeth drachefn, a hi a [Page 212] gyfododd yn ebrwydd: ac efe a orchymynodd roi bwyd iddi,
56 A synnu a wnaeth ar ei rhieni hi: ac efe a orchymynnodd iddynt na ddywedent i neb y peth a wnaethid.
PEN. IX.
AC efe a alwodd ynghyd ei ddeuddeg discybl; ac a roddes iddynt feddiant ac awdurdod ar yr holl gythreuliaid, ac i iachau clefydau.
2 Ac efe a'u hanfonodd hwynt i bregethu teyrnas Dduw, ac i iachau y rhai cleifiôn.
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Na chymmerwch ddim i'r daith, na ffyn, nac yscreppan, na bara, nac arian: ac na fydydded gennych ddwy bais bob vn.
4 Ac i ba dy bynnag yr eloch i mewn, arhoswch yno, ac oddi yno ymadewch.
5 A pha rai bynnag ni'ch derbyniant, pan eloch allan o'r ddinas honno, escydwch hyd yn oed y llwch oddiwrth eich traed, yn dystiolaeth yn eu herbyn hwynt.
6 Ac wedi iddynt fyned allan, hwy a aethant trwy 'r trefi, gan bregethu 'r Evengyl, ac iachau ym mhob lle.
7 A Herod y tetrarch a glybu y cwbl oll a wnaethid ganddo: ac efe a betrusodd, am fôd rhai yn dywedyd gyfodi Ioan o feirw:
8 A rhai eraill, ymddangos o Elias: a rhai eraill, mai prophwyd, vn o'r rhai gynt, a adgyfodasai.
9 A Herod a ddywedodd, Ioan a dorrais i ei ben: ond pwy ydyw hwn yr wyf yn clywed y cyfryw bethau am dano? Ac yr oedd efe yn ceisio ei weled ef.
10 A'r Apostolion wedi dychwelyd, a fynegasant iddo y cwbl a wnaethent. Ac efe a'u cymmerth hwynt, ac a aeth o'r nailltu, i le anghyfannedd [yn'perthynu] i'r ddinas a elwir Bethsaida.
11 A'r bobloedd pan wybuant, a'i dilynasant ef: ac efe a'i derbyniodd hwynt, ac a lefarodd wrthynt am deyrnas Dduw, ac a iachaodd y rhai oedd arnynt eisieu eu hiachau.
12 A'r dydd a ddechreuodd hwyrhau: a'r deuddeg a ddaethant, ac a ddywedasant wrtho, Gollwng y dyrfa ymmaith, fel y gallont fyned i'r trefi ac i'r wlad oddi amgylch i letteu ac i gael bwyd: canys yr ydym ni ymma mewn lle anghyfannedd.
13 Eithr efe a ddywedodd wrthynt, Rhoddwch chwi iddyut [beth] i'w fwytta. A hwythau a ddywedasant, Nid oes gennym ni ond pum torth a dau byscodyn, oni bydd i ni fyned a phrynu bwyd i'r bobl hyn oll.
14 Canys yr oeddynt ynghylch pum-mil o wŷr. Ac efe a ddywedodd wrrh ei ddiscyblion, Gwnewch iddynt eistedd yn fyrddeidiau, bôb yn ddeg a deugain.
15 Ac felly y gwnaethant, a hwy a wnaethant, iddynt oll eistedd.
16 Ac efe a gymmerodd y pum torth, a'r ddau byscodyn, ac a edrychodd i fynu i'r nef, ac a'u bendithiodd hwynt, ac a'u torrodd, ac a'u rhoddodd i'r discyblion, i'w gosod ger bron y bobl.
17 A hwynt hwy oll a fwyttasant, ac a gawsant ddigon: a chyfodwyd a weddillasai iddynt [Page 214] o fryw-fwyd, ddeuddeg bascedaid.
18 Bu hefyd, fel yr oedd efe yn gweddio ei hunan, fôd ei ddiscyblion gyd ag ef: ac efe a ofynnodd iddynt, gan dywedyd, Pwy y mae 'r bobl yn dywedyd fy mod i?
19 Hwythau gan atteb a ddywedasant, Ioan Fedyddiwr: ond eraill, mai Elias; ac eraill mai rhyw brophwyd o'r rhai gynt a adgyfododd.
20 Ac efe a ddywedodd wrchynt, Ond pwy yr ydych chwi yn dywedyd fy môd i? A Phetr gan atteb a ddywedodd, Christ Duw.
21 Ac efe a roes orchymmyn arnynt, ac a archodd iddynt na ddywedent hynny i neb.
22 Gan ddywedyd, Mae yn rhaid i Fab y dŷn oddef llawer, a'i wrthod gan yr Henuriaid, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scrifennyddion, a'i ladd, a'r trydydd dydd adgyfodi.
23 Ac efe a dywedodd wrth bawb, Os ewyllysia neb ddyfod ar fy ôl i, ymwaded ag ef ei hun, a choded ei groes beunydd, a dilyned fi.
24 Canys pwy bynnag a ewyllysio gadw ei enioes, a'i cyll, ond pwy bynnag a gollo ei enioes o'm hachos i, hwnnw a'i ceidw hi.
25 Canys pa lesâd i ddŷn er ennîll yr holl fŷd, a'i ddifetha ei hun, neu fôd wedi ei golli?
26 Canys pwy bynnag fyddo cywilydd ganddo fi a'm geiriau, hwnnw fydd gywilydd gan Fab y dŷn, pan ddelo yn ei ogoniant ei hun, a'r Tâd, a'r Angelion sanctaidd.
27 Eithr dywedaf i chwi yn wîr, y mae rhai o'r sawl sy yn sefyll ymma, a'r ni archwaethant angeu, hyd oni welont deyrnas Dduw.
28 A bu ynghylch wyth niwrnod wedi y [Page 215] geiriau hyn, gymmeryd o honaw ef Petr, ac Ioan, ac Iaco, a myned i fynu i'r mynydd i weddio.
29 Ac fel yr oedd efe yn gweddio, gwedd ei wyneb-pryd ef a newidiwyd, a'i wisc oedd yn wenn ddisclair.
30 Ac wele dau ŵr a gŷd-ymddiddanodd ag ef, y rhai oedd Moses, ac Elias.
31 Y rhai a ymddangosasant mewn gogoniant, ac a ddywedasant am ei ymadawiad ef, yr hwn a gyflawnai efe yn Ierusalem.
32 A Phetr a'r rhai oedd gyd ag ef, oeddynt wedi trymhau gan gyscu: a phan ddihunasant, hwy a welsant ei ogoniant ef, a'r ddau ŵr, y rhai oedd yn sefyll gyd ac ef.
33 A bu, a hwy yn ymadaw oddi wrtho ef, ddywedyd o Petr wrth yr Iesu, O feistr, da yw i ni fôd ymma: gwnawn dair pabell, vn i ti, ac vn i Moses, ac vn i Elias: heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd.
34 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, daeth cwmwl ac a'i cyscododd hwynt: a hwynt hwy a ofnasant wrth fyned o honynt i'r cwmwl.
35 A daeth llef allan o'r cwmwl, gan ddywedyd, Hwn yw fy Mab anwyl, gwrandewch ef.
36 Ac wedi bôd y llef, cafwyd yr Iesu yn vnic: a hwy a gelâsant, ac ni fynegasant i neb y dyddiau hynny, ddim o'r pethau a welsent.
37 A darfu drannoeth, pan ddaethent i wared o'r mynydd, i dyrfa fawr gyfarfod ag ef.
38 Ac wele gwr o'r dyrfa a ddolefodd, gan ddywedyd, O Athro, yr wyf yn attolwg i ti, edrych ar fy mab, canys fy vnic-anedig yw.
39 Ac wele, y mae yspryd yn ei gymmeryd ef, ac yntef yn ddisymmwth yn gwaeddi, ac y mae yn ei ddryllio ef, hyd oni falo ewyn: a braidd yr ymedy oddi wrtho, wedi iddo ei ystigo ef.
40 Ac mi a ddeisyfiais ar dy ddiscyblion di ei fwrw ef allan, ac ni's gallasant.
41 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, O genhedlaeth anffyddlon a throfaus, pa hŷd y byddaf gyd â chwi, ac i'ch goddefaf? dwg dy fâb ymma.
42 Ac fel yr oedd efe etto yn dyfod, y cythrael a'i rhwygodd ef, ac a'i drylliodd: a r Iesu a geryddodd yr yspryd aflan, ac a iachaodd y bachgen, ac a'i rhoddes ef iw dad.
43 A brawychu a wnaethant oll gan fawredd Duw: ac a phawb yn rhyfeddu am yr holl bethau a wnaethai yr Iesu, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion.
44 Gosodwch chwi yn eich clustiau yr ymadroddion hyn: canys Mab y dŷn a draddodir i ddwylo dynion.
45 Eithr hwy ni wybuant y gair hwn, ac yr oedd yn guddiedig oddi wrthynt, fel na's deallent ef: ac yr oedd arnynt arswyd ymofyn ag ef am y gair hwn.
46 A dadl a gyfododd yn eu plith, pwy a fyddei fwyaf o honym.
47 A'r Iesu wrth weled meddwl eu calon hwynt, a gymmerth fachgennyn, ac a i gosododd yn ei ymyl,
48 Ac a ddywedodd wrthynt, Pwy bynnag a dderbyniô y bachgennyn hwn yn fy enw i, sydd yn fy nerbyn i: a phwy bynnag a'm derbyniô i, sydd yn derbyn yr hwn a'm anfonodd i: canys yr [Page 217] hwn sydd leiaf yn eich plith chwi oll, hwnnw a fydd mawr.
49 Ac Ioan a attebodd ac 'a ddywedodd, O feistr ni a welsom ryw vn yn dy enw di yn bwrw allan gythreuliaid, ac a waharddasom iddo, am nad oedd yn canlyn gyd â ni.
50 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Na waherddwch iddo canys y neb nid yw i'n herbyn, trosom ni y mae.
51 A bu, pan gyflanwyd y dyddiau y cymmerid efe i fynu, yntef a roddes ei fryd ar fyned i Ierusalem.
52 Ac efe a ddanfonodd gennadau o flaen ei wyneb: a hwy wedi myned, a aethant i mewn i dref y Samariaid, i barotoi iddo ef.
53 Ac ni's derbyniasant hwy ef, oblegid fôd ei wyneb ef yn tueddu tu a Ierusalem.
54 A'i ddiscyblion ef, Iaco, ac Ioan, pan welsant, a ddywedasant, Arglwydd, a fynni dî ddywedyd o honom am ddyfod tan i lawr o'r nef, a'u difa hwynt, megis y gwnaeth Elias?
55 Ac efe a drôdd, ac a'u ceryddodd hwynt, ac a ddywedodd, ni ŵyddoch o ba yspryd yr ydych chwi.
56 Canys ni ddaeth Mâb y dŷn i ddestrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw. A hwy a aethant i dref arall.
57 A bu, a hwy yn myned, ddywedyd o ryw vn ar y ffordd wrtho ef, Arglwydd, mi a'th ganlynaf i ba le bynnag yr elych.
58 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae gan y llwynogod-ffanau, a chan adar yr awyr nythod, ond gan Fab y dyn nid oes lle y rhoddo ei ben i lawr.
59 Ac efe a ddywedodd wrth vn arall, Dilyn fi. Ac yntef a ddywedodd, Arglwydd; ond gâd i mi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad.
60 Eithr yr Iesu a ddywedodd wrtho, Gâd i'r meirw gladdu eu meirw, ond dôs di a phregetha deyrnas Dduw.
61 Ac vn arall hefyd a ddywedodd, Mi a'th ddilynaf di, ô Arglwydd; ond gâd i mi, yn gyntaf ganu yn iach i'r rhai sy yn fy nhŷ.
62 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Nid oes neb ac sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o'i ôl, yn gymmwys i deyrnas Dduw.
PEN. X.
Wedi y pethau hyn yr ordeiniodd yr Arglwydd ddêg a thrugain eraill hefyd, ac a'u danfones hwynt bob yn ddau, o flaen ei wyneb, i bob dinas a man, lle 'r oedd efe ar fedr dyfod.
2 Am hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y cynhayaf yn wir sydd fawr, ond y gweithwŷr yn anaml: gweddiwch gan hynny ar Arglwydd y cynhayaf am ddanfon allan weithwŷr i'w gynhayaf.
3 Ewch: wele, yr wŷfi yn eich danfon chwi fel wŷn yn mysc bleiddiaid.
4 Na ddygwch gôd, nac yscreppan, nac escidiau: ac na chyferchwch well i neb ar y ffordd
5 Ac i ba dŷ bynnag yr eloch i mewn, yn gyntaf dywedwch, Tangneddyf i'r tŷ hwn.
6 Ac o bydd yno fab tangneddyf, eich tangneddyf a orphywys arno: os amgen, hi a ddychwel attoch chwi.
7 Ac yn y ty hwnnw arhoswch, gan fwytta ac yfed, y cyfryw bethau ac [a gaffoch] ganddynt: canys teilwng yw i'r gweithwr ei gyflog. Na threiglwch o dŷ i dŷ.
8 A pha ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy yn eich derbyn, bwyttewch y cyfryw bethau ac a rodder ger eich bronnau:
9 Ac iachewch y cleifion a fyddo ynddi, dywedwch wrthynt, Daeth teyrnas Dduw yn agos attoch.
10 Eithr pa ddinas bynnag yr eloch iddi, a hwy heb eich derbyn, ewch allan i'w heolydd, a dywedwch,
11 Hyd yn oed y llwch, yr hwn a lynodd wrthym o'ch dinas, yr ydym yn ei sychu ymmaith i chwi: er hynny gwybyddwch hyn, fôd teyrnas Dduw wedi nesau attoch.
12 Eithr dywedaf wrthych, mai esmwythach fydd i Sodom yn y dydd hwnnw, nag i'r ddinas honno.
13 Gwae di Chorazin, gwae di Bethsaida: canys pe gwnaethid yn Tyrus a Sidon y gweithredoedd nerthol a wnaethpwyd yn eich plith chwi, hwi a edifarhasent er ys talm, gan eistedd mewn sachliain, a lludw.
14 Eithr esmwythach fydd i Tyrus a Sidon yn y farn, nag i chwi.
15 A thitheu Capernaum yr hon a dderchafwyd hyd y nef, a dynnir i lawr hyd yn vffern.
16 Y neb sydd yn eich gwrando chwi, sydd yn fy ngwrando i, a'r neb sydd yn eich dirmygu chwi, sydd yn fy nirmygu i, a'r neb sydd yn fy nirmygu i sydd yn dirmygu yr hwn a'm hanfonodd i.
17 A'r deg a thrugain a ddychwelasant gyd a llawenydd, gan ddywedyd, Arglwydd, hyd yn oed y cythreuliaid a ddarostyngir i ni, yn dy enw di.
18 Ac efe a ddywedodd wrthynt, mi a welais Satan megis mellten, yn syrthio o'r nef.
19 Wele, yr ydwyfi yn rhoddi i chwi awdurdod i sathru ar seirph, ac vscorpionau, ac ar holl gryfder y gelyn: ac nid oes dim iawn a ddim niwed i chwi.
20 Eithr yn hyn na lawenhewch, fôd yr ysprydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawenhewch yn hytrarch, am fôd eich henwau yn scrifennedig yn y nefoedd.
21 Yr awr honno yr Iesu a lawenychodd yn yr yspryd, ac a ddywedodd, Yr wyf yn diolch i ti ô Dad, Arglwydd nef a dayar, am guddio o honot y pethau hyn oddi wrth y doethion a'r deallus, a'u datcuddio o honot i rai bychain: yn wîr ô Dad, oblegid felly y gwelyd yn dda yn dy olwg di.
22 Pôb peth a roddwyd i mi gan fy Nhad: ac ni ŵyr neb pwy yw 'r Mâb, ond y Tâd; na phwy yw'r Mâb, a'r neb y mynno 'r Mâb ei ddatcucuddio iddo.
23 Ac efe a drodd at ei ddiscyblion, ac a ddywedodd o'r nailltu, Gwyn fyd y Ilygaid sy yn gweled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled.
24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi ewyllysio o lawer o brophwydi a brenhinoedd, weled y pethau yr ydych chwi yn eu gweled, ac ni's gwelsant; a chlywed, y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac ni's clywsant.
25 Ac wele, rhyw gyfrithiwr a gododd, gan ei demptio ef, a dywedyd, Athro, pa beth a wnaf i gael etifeddu bywyd tragwyddol?
26 Yntef a ddywedodd wrtho, Pa beth sydd scrifennedig yn y gyfraith? pa fodd y darllenni?
27 Ac efe gan atteb a ddywedodd, Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac a'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl a'th gymmydog fel di dy hun.
28 Yntef a ddywedodd wrtho, Ti a attebaist yn vniawn: gwna hyn, a byw fyddi.
29 Eithr efe, yn ewyllysio ei gyfiawnhau ei hun, a ddywedodd wrth yr Iesu, A phwy yw fy nghymmydog?
30 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Rhyw ddŷn oedd yn myned i wared o Ierusalem i Iericho, ac a syrthiodd ym mysc lladron, y rhai wedi ei ddiosc ef a'i archolli, a aethant ymmaith, gan ei adael yn hanner marw.
31 Ac ar ddamwain, rhyw offeiriad a ddaeth i wared y ffordd honno, a phan ei gwelodd, efe a aeth o'r tu arall heibio.
32 A'r vn ffunyd Lefiad hefyd, wedi difod i'r fan, a'i weled ef, a aeth o'r tu arall heibio.
33 Eithr rhyw Samariad wrth ymdaith, a ddaeth atto ef, a phan ei gwelodd, a dosturiodd:
34 Ac a aeth atto, ac a rwymodd ei archo [...]sion ef, gan dywallt ynddynt olew a gwin: ac a'i gosododd ef ar ei anifail ei hun, ac a'i dug ef i'r lletty, ac a'i ymgleddodd.
35 A thrannoeth wrth fyned ymmaith efe a dynnodd allan ddwy geiniog, ac a'u rhoddes i'r lletteu-wr, ac a ddywedodd wrtho, Cymmer [Page 222] ofal trosto: a pha beth bynnag a dreuliech yn ychwaneg, pan ddelwyf drachefn mi a'i talaf i ti.
36 Pwy gan hynny o'r tri hyn yr ydwyt ti yn tybied ei fôd yn gymmydog i'r hwn a syrthiasai ym-mhlith y lladron?
37 Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd ag ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dôs a gwna ditheu yr vn modd.
38 A bu, a hwy yn ymdeithio, ddyfod o honaw i ryw dref, a rhyw wraig a'i henw Martha, a'i derbyniodd ef i'w thŷ.
39 Ac i hon yr oedd chwaer a elwid Mair, yr hon hefyd a eisteddodd wrth draed yr Iesu, ac a wrandawodd ar ei ymadrodd ef.
40 Ond Martha oedd drafferthus ynghylch llawer o wasanaeth: a chan sefyll ger llaw, hi a ddywedodd, Arglwydd, onid oes ofal gennit am i'm chwaer fy ngadael i fy hun i wasanaethu; dywed wrthi gan hynny am fy helpio.
41 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi Martha, Martha, gofalus, a thrafferthus wyt, ynghylch llawer o bethau.
42 Eithr vn peth sydd angenrheidiol, a Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddi arni.
PEN. XI.
A Bu, ac efe mewn rhyw fan yn gweddio, pan beidiodd, ddywedyd o vn o'i ddiscyblion wrtho, Arglwydd, dysc i ni weddio, megis ac y dyscodd Ioan i'w ddiscyblion.
2 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddioch, dywedwch, Ein Tâd yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw: deued dy deyrnas: [Page 223] gwneler dy ewyllys, megis yn y nef, felly ar y ddaiar hefyd.
3 Dyro i ni o ddydd i ddydd ein bara beunyddiol.
4 A maddeu i ni ein pechodau canys yr ydym ninnau yn maddeu i bawb sy yn ein dyled. Ac nac arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg.
5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pwy o honoch fydd iddo gyfaill, ac a atto hanner nos, ac a ddywed wrtho, O gyfaill, moes i mi dair torth yn echwyn.
6 Canys cyfaill i mi a ddaeth attaf wrth ymdaith, ac nid oes gennif ddim i'w ddodi ger ei fron ef.
7 Ac yntef oddi mewn a ettyb ac a ddywed, Na flina fi: yn awr y mae 'r drws yn gaead, a'm plant gyd â mi yn y gwely: ni allaf godi a'u rhoddi i ti.
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi, er na chyfyd efe a rhoddi iddo, am ei fôd yn gyfaill iddo, etto o herwydd ei daerni, efe a gyfyd ac a rydd iddo gynnifer ac y sydd arno eu heisieu.
9 Ac yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Gofynnwch a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch: curwch, ac fe a agorir i chwi.
10 Canys pôb yn sydd yn gofyn, sydd yn derbyn, a'r neb sydd yn ceisio, sydd yn cael: ac i'r hwn, sydd yn curo, yr agorir.
11 Os bara a ofyn mab i vn o honoch chwi fy dâd, a ddyry efe garreg iddo? ac os pyscodyn, a ddyry efe iddo sarph yn lle pyscodyn?
12 Neu os gofyn efe wŷ, a ddyry efe scorpion iddo.
13 Os chwy-chwi gan hynny, y rhai ydych ddrwg, a fedrwch roi rhoddion da i'ch plant chwi, pa faint mwy y rhydd eich Tâd or nef yr Yspryd glân, i'r rhai a ofynno ganddo?
14 Ac yr oedd efe yn bwrw allan gythrael, a hwnnw oedd fud: a bu wedi i'r cythrael fyned allan, i'r mudan lefaru: a'r bobloedd a ryfeddasant.
15 Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Trwy Beelzebub pennaeth y cythreuliaid y mae efe yn bwrw allan gythreuliaid.
16 Ac eraill gan ei demtio, a geisiasant ganddo arwydd o'r nef.
17 Yntef yn gwybod eu meddyliau hwynt, a ddywedodd wrthynt, Pob teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, a anghyfanneddir: a thŷ yn erbyn tŷ, a syrth:
18 Ac os Satan hefyd sydd wedi ymrannu yn ei erbyn eî hun, pa fodd y saif ei deyrnas ef? gan eich bôb yn dywedyd, mai trwy Beelzebub yr wifi yn bwrw allan gythreuliaid.
19 Ac os trwy Beelzebub yr wyfi yn bwrw allan gythreuliaid, trwy bwy y mae eich plant chwi yn eu bwrw hwynt allan? am hynny y byddant hwy yn farnwŷr arnoch chwi.
20 Eithr os myfi trwy fŷs Duw, ydwyf yn bwrw allan gythreuliaid, diammau ddyfod teyrnas Dduw attoch chwi.
21 Pan fyddo vn cryf yn cadw ei neuadd, y mae yr hyn sydd ganddo mewn heddwch.
22 Ond pan ddêl vn cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymmaith ei holl arfogaeth ef, yn yr hon yr oedd yn dmddiried, ac a ran ei anrhaith ef.
23 Y neb nid yw gyd â mi, sydd yn fy erbyn: a'r neb nid yw yn casclu gŷd a mi, sydd yn gwascaru.
24 Pan êl yr yspryd aflan allan o ddŷn, efe a rodia mewn lleoedd sychion, gan geisio gorphywysdra: a phryd na chaflo, efe a ddywed, Mi a ddychwelaf i'm tŷ o'r lle y daethum allan.
25 A phan ddêl, y mae yn ei gael wedi ei yscubo a'i dresnu:
26 Yna yr â efe ac y cymmer atto saith yspryd eraill, gwaeth nag ef ei hun, a hwy a ânt i mewn, ac a arhossant yno: a diwedd y dŷn hwnnw fydd gwaeth na'i ddechreuad.
27 A bu fel yr oedd efe, yn dywedyd hyn, rhyw wraig o'r dyrfa a gododd ei llêf, ac a ddywedodd wrtho, Gwyn fŷd y groth a'th ddug di, a'r bronnau a sugnaist.
28 Ond efe a ddywedodd, Yn hytrach gwyn fŷd y rhai sydd yn gwrando gair Duw, ac yn ei gadw.
29 Ac wedi i'r bobloedd ymdyrru ynghyd, efe a ddechreuodd ddywedyd, Y genhedlaeth hon sydd ddrwg: y mae hi yn ceisio arwydd, ac arwydd ni roddir iddi, ond arwydd Ionas y prophwyd.
30 Canys fel y bu Ionas yn arwydd i'r Ninifeaid, felly y bydd Mâb y dŷn hefyd i'r genhedlaeth hon.
31 Brenhines y dehau a gyfyd yn y farn gyd â gwŷr y genhedlaeth hon, ac a'u condemna hwynt: am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaiar i wrando doethineb Solomon: ac wele, vn mwy nâ Solomon ymma.
32 Gwŷr Ninife a godant i fynu yn y farn gyd â'r genhedlaeth hon, ac a'i condemnant hi: am iddynt edifarhau wrth bregeth Ionas: ac wele, vn mwy nâ Ionas ymma.
33 Ac nid yw neb wedi goleu canwyl, yn ei gosod mewn lle dirgel, na than lestr: eithr ar ganhwyll-bren, fel y gallo y rhai a ddelo i mewn weled y goleuni.
34 Canwyll y corph yw 'r llygad: am hynny pan fyddo dy lygad yn syml, dy holl gorph hefyd fydd oleu: ond pan fyddo [dy lygad] yn ddrwg, dy gorph hefyd fydd tywyll.
35 Edrych am hynny rhag i'r goleuni sydd ynot, fôd yn dywyllwch.
36 Os dy holl gorph gan hynny [sydd] oleu, heb vn rhan dywyll ynddo, bydd y cwbl yn oleu, megis pan fo canwyll â'i llewyrch yn dy oleuo di.
37 Ac fel yr oedd efe yn llefaru, rhwy Pharisæad a ddymunodd arno giniawa gyd ag ef, ac wedi iddo ddyfod i mewn, efe a eisteddodd i fwytta.
38 A'r Pharisæad pan welodd, a ryfeddodd nad ymolchasai efe yn gyntaf o flaen ciniaw.
39 A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho yn awr chwychwi'r Pharisæaid ydych yn glânhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ond eich tu mewn sydd yn llawn o drais a drygioni.
40 O ynfydion, ond yr hwn a wnaeth yr hyn sydd oddi allan, a wnaeth yr hyn sydd o fewn hefyd?
41 Yn hytrach rhoddwch elusen o'r pethau sy gennych: ac wele, pôb peth sydd lân i chwi.
42 Eithr gwae chwi 'r Pharisæaid, canys yr [Page 227] ydych chwi yn degymmu y mintys, a'r ryw, a phôb llysieuyn, ac yn myned heibio i farn a chariad Duw. Y pethau hyn oedd raid eu gwneuthur, ac na adewid y lleill heb wneuthur.
43 Gwae chwi 'r Pharisæaid, canys yr ydych yn caru y prif-gadeiriau yn y Synagogau, a chyfarch yn y marchnadoedd.
44 Gwae chwi Scrifennyddion a Pharisæaid ragrith-wyr, am eich bôb fel beddau anamlwg, a'r dynion a rodiant arnynt heb wybod [oddi wrthynt.]
45 Ac vn o'r cyfreithwŷr a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Athro, wrth ddywedyd hyn yr witi yn ein gwradwyddo ninnau hefyd.
46 Yntef a ddywedodd, Gwae chwithau hefyd y cyfreith-wŷr, canys yr ydych yn llwytho dynion â beichiau anhawdd eu dwyn, a chwi nid ydych yn cyffwrdd â'r beichiau, ac vn o'ch bysedd.
47 Gwae chwy-chwi, canys yr ydych yn adeiladu beddau 'r prophwydi, a'ch tadau chwi a'u lladdodd hwynt.
48 Yn wîr yr ydych yn tystiolaethu, ac yn gyd-fodlon i weithredoedd eich tadau: canys hwynt hwy yn wîr, a'u lladdasant hwy, chwithau ydych yn adeiladu eu beddau hwynt.
49 Am hynny hefyd y dywedodd doethineb Duw, Anfonaf attynt brophwydi, ac Apostolion, a [rhai] o honynt a laddant, ac a erlidiant.
50 Fel y gofynner i'r genhedlaeth hon, waed yr holl brophwydi, yr hwn a dywalltwyd o ddechreuad y bŷd,
51 O waed Abel hyd waed Zacharias, yr [Page 228] hwn a laddwyd rhwng yr allor a'r Deml. Diau, meddaf i chwi-gofynnir ef i'r genhedlaeth hon.
52 Gwae chwy-chwi y cyfreith-wŷr, canys chwi a ddygasoch ymmaith agoriad y gwŷbodaeth: nid aethoch i mewn eich hunain, a'r rhai oedd yn myned a waharddasoch chwi.
53 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn wrthynt, y dechreuodd yr Scrifennyddion a'r Pharisæaid, fod yn daer iawn arno, a'i annog i ymadrodd am lawer o bethau:
54 Gan ei gynllwyn ef, a cheisio hela rhyw beth o'i ben ef, i gael achwyn arno.
PEN. XII.
YN y cyfamser, wedi i fyrddiwn o bobl ymgasclu ynghŷd, hid oni ymsathrai y naill y llall, efe a ddechreuodd ddywedyd wrth ei ddiscyblion yn gyntaf, gwiliwch arnoch rhag surdoes y Pharisæaid, yr hwn yw rhag-rith.
2 Canys nid oes dim cuddiedîg a'r na's datcuddir: na dirgel, a'r ni's gwŷbyddir.
3 Am hynny pa bethau bynnag a ddywedasoch yn y tywyllwch, a glywir yn y goleu: a'r peth a ddywedasoch yn y glust mewn stafelloedd, a bregethir ar bennau tai.
4 Ac yr wyf yn dywedyd wrthych, fy nghyfeillion, Nac ofnwch y rhai sy yn lladd y corph, ac wedi hynny heb ganddynt ddim mwy iw wneuthur.
5 Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn wedi y darffo iddo ladd, sydd ac awdurdod ganddo i fwrw i vffern, ie meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch.
6 Oni werthir pump o adar y tô er dwy ffyrling, ac nid oes vn o honynt mewn angof ger bron Duw?
7 Ond y mae hyd yn oed blew eich pennau chwi yn gyfrifedig oll, am hynny nac ofnwch: yr ydych chwi yn well nâ llawer o adar y tô.
8 Ac meddaf i chwi, Pwy bynnag a'm haddefo i ger bron dynion Mab y dŷn hefyd a'i haddef ynteu ger bron Angelion Duw.
9 A'r hwn a'm gwado i ger bron dynion, a wedir ger bron Angelion Duw.
10 A phwy bynnag a ddywedo air yn erbyn Mab y dŷn, fe a faddeuir iddo: eithr i'r neb a gablo yn erbyn yr Yspryd glân, ni faddeuir.
11 A phan i'ch dygant i'r Synagogau, ac at y llywiawdwŷr, a'r awdurdodau, na ofelwch pa fodd, neu pa beth a atteboch, neu beth a ddywedoch.
12 Canys yr Yspryd glân a ddŷsc i chwi yn yr awr honno, beth sydd raid ei ddywedyd.
13 A rhyw vn o'r dyrfa a ddywedodd wrtho, Athro, dywed wrth fy mrawd am rannu â myfi 'r etifeddiaeth.
14 Yntef a ddywedodd wrtho, Y dŷn, pwy a'm gosododd i yn farn-wr, neu yn rhann-wr arnoch chwi?
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch, ac ymogelwch rhag cybydd-dod: canys nid yw bywyd neb yn sefyll ar amlder y pethau sydd ganddo.
16 Ac efe a draethodd wrthynt ddammeg, gan ddywedyd, Tir rhyw ŵr goludog a gnydiodd yn dda.
17 Ac efe a ymresymmodd ynddo ei hun, gan ddywedyd, Beth a wnaf, am nad oes gennif le i gasclu fy ffrwythau iddo?
18 Ac efe a ddywedodd, Hyn a wnaf: mi a dynnaf i lawr fy yscuborriau, ac a adeiladaf rai mwy: ac yno y casclaf fy holl ffrwythau, a'm da:
19 A dywedaf wrth fy enaid, fy enaid, y mae gennit dda lawer wedi eu rhoi i gadw tros lawer o flynyddoedd: gorphywys, bwyrtta, ŷf, bydd lawen.
20 Eithr Duw a ddywedodd wrtho, o ynfyd, y nos hon y gofynnant dy enaid oddi wrthit, ac eiddo pwy fydd y pethau a baratoaist?
21 Felly y mae 'r hwn sydd yn tryssori iddo ei hun, ac nid yw gyfoethog tu ag ar Dduw.
22 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion, Am hyn yr wyf yn dywedyd wrthych, Na chymmerwch ofal am eich bywyd, beth a fwyttaoch nac am eich corph, beth a wiscoch.
23 Y mae 'r bywyd yn fwy nâ'r ymborth, a'r corph yn fwy nâ'r dillad.
24 Ystyriwch y brain: canys nid ydynt yn hau, nac yn medi: i'r rhai nid oes gell, nac yscubor, ac mae Duw yn eu porthi hwynt: o bâ faint mwy yr ydych chwi yn well nâ'r adar?
25 A phwy o honoch gan gymeryd gofal a ddichon chwanegu vn cufydd at ei faintioli?
26 Am hynny, oni ellwch wneuthur y peth lleiaf, pa ham yr ydych yn cymmeryd gofal am y lleill?
27 Ystyriwch y lili, pa fodd y maent yn tyfu: nid ydynt yn llafurio, nac yn nyddu: ac yr wyf yn dywedyd i chwi, na wiscwyd Solomon yn ei holl [Page 231] ogoniant, fel vn o'r rhai hyn.
28 Ac os yw Duw felly yn dilladu y llysieuyn, yr hwn sydd heddyw yn y maes, ac y foru a deflir i'r flwrn, pa faint mwy [y dillada efe] chwy-chwi, ô rai o ychydig ffydd?
29 Chwithau na cheisiwch beth a fwyttaoch, neu pa beth a yfoch: ac na fyddwch amheus.
30 Canys y pethau hyn oll, y mae cenhedloedd y bŷd yn eu hargeisio: ac y mae eich Tad chwi yn gwŷbod fôd arnoch chwi eisieu 'r pethau hyn.
31 Yn hytrach ceisiwch deyrnas Dduw, a'r pethau hyn oll a roddir i chwi yn ychwaneg.
32 Nac ofna, braidd bychan: canys rhyngodd bodd i'ch Tad roddi i chwi y deyrnas.
33 Gwerthwch yr hyn sydd gennych, a rhoddwch elusen. Gwnewch i chwi byrsau, y rhai ni heneiddiant, tryssor yn y nefoedd yr hwn ni dderfydd: lle ni ddaw lleidr yn agos, ac ni lygra prŷf.
34 Canys lle y mae eich tryssor chwi, yno y bydd eich calon hefyd.
35 Bydded eich lwynau wedi eu hamwregysu, a'ch canhwyllau wedi eu goleu:
36 A chwithau yn debyg i ddyniou yn disgwil eu harglwydd, pa brŷd y dychwel o'r neithior; fel pan ddelo a churo, yr agoront iddo yn ebrwydd.
37 Gwyn eu bŷd y gweision hynny, y rhai a gaiff eu harglwydd pan ddêl, yn neffro: yn wîr meddaf i chwi, efe a ym-wregysa, ac a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta ac a wasanaetha arnynt hwy.
38 Ac os daw efe ar yr ail wiliadwriaeth ac [os] ar y drydedd wiliadwriaeth y daw, a'u [Page 232] cael [hwynt] felly, gwyn eu bŷd y gweision hynny.
39 A hyn gwybyddwch, pe gwybasai gŵr y tŷ pa awr y deuai 'r lleidr, efe a wiliasai, ac ni adawsai gloddio ei dŷ trwodd.
49 A chwithau gan hynny, byddwch barod: canys yr awr ni thybioch, y daw Mâb y dŷn.
41 A Phetr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, aî wrthym ni yr wyti yn dywedyd y ddammeg hon, a'i wrth bawb hefyd?
42 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pwy yw y goruchwiliwr ffyddlawn, a phwyllog, yr hwn a esyd ei arglwydd ar ei deulu, i roddi cyflyniaeth [iddynt] mewn prŷd?
43 Gwyn ei fŷd y gwâs hwnnw, yr hwn y caiff ei arglwydd ef pan ddêl, yn gwneuthur felly.
44 Yn wîr meddaf i chwi, efe a'i gesyd ef [yn llywodraethwr] ar gwbl ac sydd eiddo.
45 Eithr os dywed y gwâs hwnnw yn ei galon, y mae fy arglwydd yn oedi dyfod: a dechreu curo y gweision a'r morwynion, a bwytta, ac yfed, a meddwi:
46 Daw arglwydd y gwâs hwnnw mewn dydd nad yw efe yn disgwil, ac ar awr nad yw efe yn gwŷbod, ac a'i gwahana ef, ac a efyd ei ran ef gyd â'r anffyddloniaid.
47 A'r gwas hwnnw, yr hwn a ŵybu ewyllys ei arglwydd, ac nid ymbaratôdd, ac ni wnaeth yn ôl ei ewyllys ef, a gurir â llawer [ffonnod:]
48 Eithr yr hwn ni ŵybu, ac a wnaeth bethau yn haeddu ffonnodiau, a gurir ag ychydig [ffonnodiau:] ac i bwy bynnag y rhoddwyd llawer, llawer a ofynnir ganddo: a chyd â'r neb [Page 233] y gadawsant lawer, ychwaneg a ofynnant ganddo.
49 Mi a ddaethym i fwrw tân ar y ddaiar, a pheth a fynnaf os cynneuwyd ef eusus?
50 Eithr y mae gennif fedydd i'm bedyddio ac ef, ac mor gyfyng yw arnaf, hyd oni orphenner.
51 Ydych chwi yn tybied mai heddwch y daethym i i'w roddi ar y daiar? nag ê, meddaf i chwi, ond yn hytrach ymrafael.
52 Canys bydd o hyn allan, bump yn yr vn tŷ wedi ymrannu, tri yn erbyn dau, a dau yn erbyn tri.
53 Y tâd a ymranna yn erbyn y mâb, a'r mâb yn erbyn y tâd: y fam yn erbyn y ferch, a r ferch yn erbyn y fam: y chwegr yn erbyn ei gwaudd, a'r waudd yn erbyn ei chwegr.
54 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth y bobloedd, Pan weloch gwmwl yn codi o'r gorllewin yn y fan y dywedwch, y mae cafod yn dyfod: ac, felly y mae.
55 A phan [weloch] y deheu-wynt yn chwythu, y dywedwch, Y bydd gwrês: ac fe fydd.
56 O ragrith-wŷr chwi a fedrwch ddeall wyneb-prŷd y ddaiar a'r wybr: ond yr amser hwn, pa fodd nad ydych yn ei ddeall?
57 A pha ham nad ydych, îe o honoch eich hunain, yn barnu yr hyn sydd gyfiawn?
58 Canys tra fyddech yn myned gyd â'th wrthwynebwr at lywodraeth-wr, gwna dy oreu ar y ffordd i gael myned yn rhydd oddi wrtho: rhag iddo dy ddwyn at y barnwr ac i'r barnwr dy roddi at y swyddog, ac i'r swyddog dy daflu yn gharchar.
59 Yr wyf yn dywedyd i ti, nad ai di ddim oddi yno, hyd oni thelych, ie'r hatling eithaf.
PEN. XIII.
AC yr oedd yn bresennol y cyfamser hwnnw, rai yn mynegi iddo am y Galilæaid, y rhai y cymmyscasei Pilat eu gwaed ynghyd â'u haberthau.
2 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt, Ydych chwi yn tybied fôd y Galilæaid hyn, yn bechaduriaid mwy nâ'r holl Galilæaid, am iddynt ddioddef y cyfryw bethau?
3 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr onid edifarhewch; chwi a ddifethir oll yn yr vn modd
4 Neu 'r deu-naw hynny, ar y rhai y syrthiodd y tŵr yn Siloam, ac a'u lladdodd hwynt; ydych chwi yn tybied eu bôd hwy yn bechaduriaid mwy nâ'r holl ddynion oedd yn cyfanneddu yn Ierusalem?
5 Nac oeddynt, meddaf i chwi: eithr onid edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr vn modd.
6 Ac efe a ddywedodd y ddammeg hon, Yr oedd gan vn ffigys-bren wedi ei blannu yn ei win-llan, ac efe a ddaeth i geisio ffrwyth arno, ac ni's cafodd.
7 Yna efe a ddywedodd wrth y gwin-llannudd, Wele, tair blynedd yr ydwyf yn dyfod, gan geisio ffrwyth ar y ffigysbren hwn, ac nid ydwyf yn cael [dim:] torr ef i lawr: pa ham y mae yn diffrwytho 'r tir?
8 Ond efe gan atteb a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gâd ef y flwyddyn hon hefyd, hyd oni ddarffo i mi gloddio o'i amgylch, a bwrw tail
9 Ac os dwg efe ffrwyth, [da:] onid ê, gwedi hynny torr ef i lawr.
10 Ac yr oedd efe yn dyscu yn vn o'r Synagogau ar y Sabbath.
11 Ac wele, yr oedd gwraig ac ynddi yspryd gwendid, ddeu-naw, mlynedd: ac oedd wedi cyd-grymmu, ac ni allai hi mewn modd yn y byd ym-vniawni.
12 Pan welodd yr Iesu hon, efe a'i galwodd hi atto, ac a ddywedodd wrthi, Ha wraig, rhyddhawyd ti oddi wrth dy wendid.
13 Ac efe a roddes ei ddwylo arni: ac vn ebrwydd hi a vniawnwyd, ac a ogoneddodd Dduw
14 A'r Arch-synagogydd a attebodd yn ddigllon, am i'r Iesu iachau ar y Sabbath, ac a ddywedodd wrth y bobl, Chwe diwrnod sydd yn y rhai y dylid gweithio: ar y rhai'n gan hynny, deuwch, ac iachâer chwi, ac nid ar y dydd Sabbath.
15 Am hynny yr Arglwydd a'i attebodd ef, ac a ddywedodd, O ragrithiwr, oni ollwng pôb vn o honoch ar y Sabbath ei ŷch neu ei assyn o'r preseb, a'u harwain i'r dwfr?
16 Ac oni ddylei hon, a hi yn ferch i Abraham, yr hon a rwymodd Satan, wele ddeunaw mlynedd, gael ei ryddhau o'r rhwym hwn, ar y dydd Sabbath.
17 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn, ei holl wrthwyneb-wŷr ef a gywilyddiasant a'r holl bobl a lawenychasant am yr holl bethau gogeneddus a wnaid ganddo.
18 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y mae teyrnas Dduw yn debyg? ac i ba beth y cyffelybaf hi?
19 Tebyg yw i ronyn o hâd mwstard, yr hwn [Page 236] a gymmerodd dŷn, ac a'i hauodd yn ei ardd, ac efe a gynnyddodd, ac a aeth yn bren mawr, ac adar yr awyr a nythasant yn ei ganghennau ef.
20 A thrachefn y dywedodd, I ba beth y cyffelybaf deyrnas Dduw?
21 Cyffelyb yw i surdoes, yr hwn a gymmerodd gwraig, ac a'i cuddiodd mewn tri mesur o flawd, hid oni surodd y cwbl oll.
22 Ac efe a dramwyodd drwy ddinasoedd a threfi, gan athrawaithu, ac ymdeithio tuâ Ierusalem.
23 A dywedodd vn wrtho, Arglwydd, ai ychydig yw y rhai câdwedig? Ac efe a ddywedodd wrthynt:
24 Ymdrechwch am fyned i mewn trwy 'r porth cyfyng: canys llawer, meddaf i chwi, a geisiant fyned i mewn, ac ni's gallant.
25 Gwedi cyfodi gŵr y tŷ, a chau y drws, a dechreu o honoch sefyll oddi allan, a churo 'r drws, gan ddywedyd, Arglwydd, arglwydd, agor i ni: ac iddo yntef atteb a dywedyd wrthych, Nid adwaen ddim o honoch o ba le yr ydych:
26 Yna y dechreuwch ddywedyd, Ni a fwyttasom ac a vfasom yn dy ŵydd di, a thi a ddyscaist yn ein heolydd ni.
27 Ac efe a ddywed, Yr wyf yn dywedyd i chwi, nid adwaen chwi o ba le yr ydych: ewch ymmaith oddi wrthif, chwi holl weithred-wyr anwiredd.
28 Yno y bydd wylofain, a rhingcian dannedd, pan weloch Abraham, ac Isaac, ac Iacob, a'r holl brophwydi, yn nheyrnas Dduw, a chwithau wedi eich bwrw allan.
29 A daw rhai o'r dwyrain, ac o'r gorllewin. ac o'r gogledd, ac o'r dehau, ac a eisteddant yn nheyrnas Dduw.
30 Ac wele, olaf ydyw y rhai a fyddant ffaenaf, a blaenaf ydyw y rhai a fyddant olaf.
31 Y dwthwn hwnnw y daeth atto ryw Pharisæaid, gan ddywedyd wrtho, Dôs allan a cherdda oddi ymma: canys y mae Herod yn ewyllysio dy ladd di.
32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, ewch a dywedwch i'r cadnaw hwnnw, Wele, yr wyf yn bwrw allan gythreuliaid, ac yn iachâu, heddyw ac y foru, a'r trydydd dydd i'm perffeithir.
33 Er hynny, rhaid i mi ymdaith heddyw, ac yforu, a thrennydd: canys ni all fôd y derfydd am brophwyd allan o Ierusalem.
34 O Ierusalem, Ierusalem, yr hon wyt yn lladd y prophwydi, ac yn llabyddio y rhai a anfonir attat, pa sawl gwaith y mynnaswn gasclu dy blant ynghŷd, y modd y cascl yr iâr ei chywion tan ei hadenydd, ac ni's mynnech?
35 Wele, eich tŷ a adewir i chwi yn anghyfannedd. Ac yn wîr yr wyf yn dywedyd wrthych, na welwch fi, hyd oni ddêl yr amser pan ddywettoch, Bendigedig [yw] yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
PEN. XIIII.
BU hefyd, pan ddaeth efe i dŷ vn o bennaethiaid y Pharisæaid ar y Sabbath, i fwytta bara, iddynt hwythau ei wilied ef.
2 Ac wele, 'r oedd ger ei fron ef ryw ddŷn yn glaf o'r dropsi.
3 A'r Iesu gan atteb a lefarodd wrth y cyfreith-wŷr, [Page 238] a'r Pharsæaid, gan ddywedyd, Ai rhydd iachâu ar y Sabbath?
4 A thewi a wnaethant. Ac efe a'i cymmerodd atto, ac a'i iachaodd ef, ac a'i gollyngodd ymmaith:
5 Ac a attebodd iddynt hwythau, ac a ddywedodd, Assyn neu ŷch pa vn o honoch a syrth i dwll, ac yn ebrwydd n'is tynn ef allan ar y dydd Sabbath?
6 Ac ni allent roi atteb yn ei erbyn ef am y pethau hyn.
7 Ac efe a ddywedodd wrth y gwahoddedigion ddammeg, pan ystyriodd fel yr oeddynt yn dewis yr eisteddleoedd vchaf: gan ddywedyd wrthynt,
8 Pan i'th wahodder gan neb i neithior, nac eistedd yn y lle vchaf, rhag bôd vn anrhydeddusach nâ thi, wedi wahodd ganddo.
9 Ac i hwn a'th wahoddodd di ac yntef, ddyfod a dywedyd wrthit, Dyro le i hwn, ac yna dechreu o honot ti trwy gywilydd gymmeryd y lle isaf.
10 Eithr pan i'th wahodder, dôs ac eistedd yn y lle isaf, fel pan ddelo 'r hwn a'th wahoddodd di, y gallo efe ddywedyd wrthit, Y cyfaill, eistedd yn vwch i fynu: yna y bydd i ti glôd yngwŷdd y rhai a eisteddant gŷd â thi ar y bwrdd.
11 Canys pôb vn a'i derchafo ei hun, a ostyngir: a'r hwn sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchesir.
12 Ac efe a ddywedodd hefyd wrth yr hwn a'i gwahoddasei ef, Pan wnelych ginio neu swpper, na alw dy gyfeillion, na'th frodyr, na'th geraint, na'th gymmydogion goludog; rhag [Page 239] iddynt hwythau eilchwel dy wahodd ditheu, a gwneuthur taledigaeth i ti.
13 Eithr pan wnelych wledd, galw y tlodion, yr efryddion, y cloffion, y deillion:
14 A dedwydd fyddi, am nad oes ganddynt ddim i dalu i ti: canys fe a delir i ti yn adgyfodiau y rhai cyfiawn.
15 A phan glywodd rhyw vn o'r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd, y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fŷd y neb a fwyttao fara yn nheyrnas Dduw.
16 Ac yntef a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swpper mawr, ac a wahoddodd lawer:
17 Ac a ddanfonodd ei wâs brŷd swpper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch, canys weithian y mae pôb peth yn barod.
18 A hwy oll a ddechreuasant yn vn-fryd ymescusodi, Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae yn rhaid i mi fyned a'i weled: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol.
19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i'w profi hwynt: attolwg i ti, cymmer fi yn escusodol.
20 Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig ac am hynny ni's gallafi ddyfod.
21 A'r gwâs hwnnw, pan ddaeth [adref,] a fynegodd y pethau hyn i'w arglwydd. Yna gŵr y tŷ wedi digio, a ddywedodd wrth ei wâs, dôs allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn ymma y tlodion, a'r cloffion, a'r deillion.
22 A'r gwâs a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchymynnaist, etto y mae lle.
23 A'r Arglwydd a ddywedodd wrth y gwâs, Dôs allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, a chymmell [hwynt] i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ.
24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr vn o'r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o'm swpper i.
25 A llawer o bobl a gyd-gerdodd ag ef: ac efe a droes, ac a ddywedodd wrthynt.
26 Os daw neb attafi, ac ni cha [...]o ei dâd, a'i fam, a'i wraig, a'i blant, a'i frodyr, a'i chwiorydd, ie a'i enioes ei hun hefyd ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.
27 A phwy bynnag ni ddycco ei groes, a dyfod ar fy ol i, ni all efe fôd yn ddiscybl i mi.
28 Canys pwy o honoch chwi a'i frŷd ar adeiladu tŵr, nid eistedd yn gyntaf, a bwrw 'r draul, a oes ganddo a'i gorphenno?
29 Rhac wedi iddo osod y sail, ac heb allu ei orphen, ddechreu o bawb a'i gwelant, ei watwar ef,
30 Gan ddywedyd, Y dŷn hwn a ddechreuodd adeiladu, ac ni allodd ei orphen.
31 Neu pa frenin yn myned i ryfel yn erbyn brenin arall, nid eistedd yn gyntaf, ac ymgynghori a all efe â deng mil, gyfarfod â'r hwn sydd yn dyfod yn ei erbyn ef, ac vgain mil?
32 Ac os amgen, tra fyddo efe ym mhell [oddi wrtho,] efe a enfyn gennadwri, ac a ddeisyf ammodau byddwch
33 Felly hefyd, pob vn o honoch chwithau, nid ymwrthodo â chymmiant oll ac a feddo, ni all fôd yn ddiscybl i mi.
34 Da [yw] 'r halen: eithr o obydd yr halen [Page 241] yn ddiflas, â pha beth yr helltir ef?
35 Nid yw efe gymmwys nac i'r tir, nac i'r dommen, ond ei fwrw ef allan y maent. Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed.
PEN. XV.
AC yr oedd yr holl Bublicanod a'r pechaduriaid yn nessau atto ef i wrando arno.
2 A'r Pharisæaid a'r Scrifennyddion a rwgnachasant, gan ddywedyd, Y mae hwn yn derbyn pechaduriaid, ac yn bwytta gyd a hwynt.
3 Ac efe a adroddodd wrthynt y ddammeg hon, gan ddywedyd,
4 Pa ddŷn o honoch a chanddo gant o ddefaid, ac os cyll vn o honynt, nid yw yn gadel yr amyn vn pum vgain yn yr anialwch, ac yn myned ar ol yr hon a gollwyd, hyd oni chaffo efe hi?
5 Ac wedi iddo ei chael, efe a'i dyd hi ar ei yscwyddau ei hun yn llawen.
6 A phan ddêl adref, efe a eilw ynghŷd ei gyfeillion a'i gymmydogion, gan ddywedyd wrthynt, Llawenhewch gyd â mi, canys cefais fy nafad a gollasid.
7 Yr wyf yn dywedyd i chwi, mai felly y bydd lawenydd yn y nêf am vn pechadur a edifarhao, mwy nag am onid vn pum vgain o rai cyfiawn, y rhai nid rhaid iddynt wirh edifeirwch.
8 Neu pa wraig, a chanddi ddêg dryll o arian, os cyll hi vn dryll, ni oleu ganwyll, ac yscubo 'r rŷ, a cheisio yn ddyfal, hyd onis caffo [ef?]
9 Ac wedi iddi ei gael, hi a eilw ynghŷd ei chyfeillesau a'i chymydogesau, gan ddywedyd, Cyd-lawenhewch â mi, canys cefais y dryll a gollaswn.
10 Felly, meddaf i chwi, y mae llawenydd yngwydd Angelion Duw am vn pechadur a edifarhao.
11 Ac efe a ddywedod, Yr oedd gan ryw ŵr ddau fab:
12 A'r ieuangaf o honynt a ddywedodd wrth ei dâd, Fy nhâd, dyro i mi y rhan a ddigwydd o'r da. Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd.
13 Ac yn ôl y chydig ddyddiau y mab ieuangaf a gasclodd y cwbl vnghŷd, ac a gymmerth ei daith i wlad bell: ac yno efe a wascarodd ei dda, gan fyw yn afradlon.
14 Ac wed iddo dreulio 'r cwbl, y cododd newyn mawr trwy 'r wlâd honno: ac yntef a ddechreuodd fôd mewn eisieu.
15 Ac efe a aeth, ac a lynodd wrth vn o ddinas-wŷr y wlâd honno, ac efe a'i anfonodd ef iw faesydd i borthi môch.
16 Ac efe a chwenychai lenwi ei fol â'r cibau a fwyttai'r môch, ac ni roddodd neb iddo.
17 A phan ddaeth atto ei hun, efe a ddywedodd, Pa sawl gwâs cyflog o'r eiddo fy nhâd sydd yn cael eu gwa [...] a'i gweddill o fara, a minneu yn marw o newyn?
18 Mi a godaf, ac a âf at fy nhâd; ac a ddywedaf wrtho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen dithau;
19 Ac mwyach nid ydwyf deilwng i'm galw yn fâb i ti: gwna fi fel vn o'th weision cyflog.
20 Ac efe a gododd, ac a aeth at ei dâd. A phan oedd efe etto vm-mhell oddi wrtho, ei dâd a'i canfu ef, ac a dosturiodd, ac a redodd, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a'i cusanodd.
21 A'r mab a ddywedodd wrtho, Fy nhâd, pechais yn erbyn y nef, ac o'th flaen ditheu, ac nid ydwyf mwy deilwyng i'm galw yn fâb i ti.
22 A'r tâd a ddywedodd with ei weision Dygwch allan y wisc oreu, a gwiscwch am dano ef, a rhoddwch fodrwy ar ei law, ac escidiau am ei draed.
23 A dygwch y llo pascedig, a lleddwch ef: a fwyttawn, a byddwn lawen.
24 Canys fy mâb hwn oedd farw, ac aeth yn fyw drachefn ac efe a gollesid, ac a gaed. A hwy a ddechreuasant fôd yn llawen.
25 Ac yr oedd ei fâb hynaf ef yn y maes, a phan ddaeth efe a nesâu at y tŷ, efe a glywai gynghanedd, a dawnsio:
26 Ac wedi iddo alw vn o'r gweision, efe a ofynnodd beth oedd hyn.
27 Yntef a ddywedodd wrtho, Dy frawd a ddaeth, a'th dâd a laddodd y llo pascedig am iddo ei dderbyn ef yn iâch.
28 Ond efe a ddigiodd, ac nid ai i mewn. Am hynny y daeth ei dâd allan, ac a ymbiliodd ag ef.
29 Yntef a attebôdd ac a ddywedodd wrth ei dâd. Wele, cynnifer o flynyddoedd yr ydwyf yn dy wasanaethu di, ac ni throsddais i vn amser dy orchymmyn, ac ni roddaist fynu erioed i mi, i fod yn llawen gyd â'm cyfeillion:
30 Eithr pan ddaeth dy fâb hwn, yr hwn a ddifaodd dy fywyd ti gyd â phutteiniaid, ti a leddaist iddo ef y llô pâscedig.
31 Ac efe a ddywedodd wrtho, Fy mâb, yr wyt ti yn oestadol gŷd â mi, a'r eiddof fi oll ydynt eiddot ti.
32 Rhaid oedd lawenychu a gorfoleddu, oblegid dy frawd hwn oedd yn farw, ac a aeth yn fyw drachefn, ac a fu golledig, ac a gafwyd.
PEN. XVI.
AC efe a ddywedodd hefyd wrth ei ddiscyblion, yr oedd rhyw ŵr goludog, yr hwn oedd ganddo oruchwiliwr, a hwn a gyhuddwyd wrtho, ei fod efe megis yn afradloni ei dda ef.
2 Ac efe a'i galwodd ef, ac a ddywedodd wrtho, Pa beth yw hyn yr wyf yn ei glywed âm danat? dyro gyfrif o'th oruchwiliaeth: canys ni elli fôd mwy yn oruchwiliwr.
3 A'r goruchwiliwr a ddywedodd ynddo ei hun, Pa beth a wnaf, canys y mae fy arglwydd yn dwyn yr oruchwiliaeth oddi arnaf, cloddio ni's gallaf, [a] chardotta sydd gywilyddus gennif.
4 Mi a wn beth a wnaf, fel pan i'm bwrier allan o'r oruchwiliaeth, y derbyniont fi i'w tai.
5 Ac wedi iddo alw atto bôb vn o ddyled-wŷr ei arglwydd, efe a ddywedodd wrth y cyntaf, Pa faint sydd arnati o ddyled i'm harglwydd?
6 Ac efe a ddywedodd, Can mesur o olew. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac eistedd ar fryn, ac scrifenna ddeg a deugain.
7 Yna y dywedodd wrth [vn] arall, A pha faint o ddyled sydd arnat tithau? Ac efe a ddywedodd, Can mesur o wenith. Ac efe a ddywedodd wrtho, Cymmer dy scrifen, ac scrifenna bedwar vgain.
8 A'r Arglwydd a ganmolodd y goruchwiliwr anghyfiawn, am iddo wneuthur yn gall: oblegid y mae plant y bŷd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth, nâ phlant y goleuni.
Ac yr wyf yn dywedyd i chwi, Gwnewch i chwi gyfeillion o'r Mammon angyfiawn: fel pan fo eisieu arnoch, i'ch derbyniont i'r tragwyddol bebyll.
10 Y neb sydd ffyddlon yn y lleiaf, sydd ffyddlon hefyd mewn llawer; a'r neb sydd anghyfiawn yn y lleiaf, sydd anghyfiawn hefyd mewn llawer.
11 Am hynny, oni buoch ffyddlon yn y Mammon anghyfiawn, pwy a ymddiried i chwi am y gwir [olud?]
12 Ac oni buoch ffyddlon yn yr eiddo arall, pwy a rydd i chwi yr eiddoch eich hun?
13 Ni ddichon vn gwâs wasanaethu dau arglwydd: canys naill ai efe a gasâ y naill, ag a gar y llall; ai efe a lŷn wrth y naill, ac a ddirmyga 'r llall: ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon.
14 A'r Pharisæaid hefyd; y rhai oedd ariangar, a glywsant y pethau hyn oll, ac a'i gwatwarasant ef.
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwy-chwi yw y rhai sydd yn eich cyfiawnhau eich hunain ger bron dynion; eithr Duw a wŷr eich calonnau chwi: canys y peth sydd vchel gyd â dynion, sydd ffiaidd ger bron Duw,
16 Y gyfraith a'r prophwydi [oedd] hyd Ioan er y prŷd hynny y pregethir teyrnas Dduw, a phôb dŷn sydd yn ymwthio iddi.
17 A haws yw i nêf a daiar fyned heibio, nag i vn tippyn o'r gyfraith ballu.
18 Pwy bynnag a ollyngo ymmaith ei wraig, ac a briodo vn arall, y mae efe yn godinebu, a [Page 246] phwy bynnag a briodo yr hon a ollyngwyd ymmaith oddi wrth ei gŵr, y mae efe yn godinebu.
19 Yr oedd rhyw wr goludog, ac a wiscid â phorphor a lliain main, ac yr oedd yn cymmeryd bŷd da yn helaeth-wych beunydd:
20 Yr oedd hefyd ryw gardottyn, a'i enw Lazarus, yr hwn a fwrid wrth ei borth ef yn gornwydlyd:
21 Ac yn chwennychu cael ei borthi â'r briwsion a syrthiei oddi ar fwrdd y gwr cyfoethog, ond y cwn a ddaethant, ac a lyfasant ei gornwydydd ef.
22 A bu, i'r cardottyn farw, a'i ddwyn gan yr Angelion i fynwes Abraham: a'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd.
23 Ac yn vffern, efe a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau, ac a ganfu Abraham o hirbell, a Lazarus yn ei fynwes.
24 Ac efe a lefodd, ac a ddywedodd, O dîd Abraham, trugarhâ wrthif, a danfon Lazarus, i drochi pen ei fŷs mewn dwfr, ac i oeri fy nhafod: canys fe a'm poenir yn y fflam hon,
25 Ac Abraham a ddywedodd, Hâ fâb, coffa i ti dderbyn dy wynfyd yn dy fywyd, ac felly Lazarus ei adfyd, ac yn awr y diddenir ef, ac y poenir ditheu.
26 Ac heb law hyn oll, rhyngom ni a chwithau y sicrhawyd gagendor mawr: fel na allo y rhai a fynnent, drammwy oddi yma attoch chwi, na'r rhai oddi yma drammwy attom ni.
27 Ac efe a ddywedodd, Yr wyf yr attolwg i ti, gan hynny, o dâd, ddanfon o honot ef i dŷ fy nhâd:
28 Canys y mae i mi bump o frodyr; fel y tystiolaetho iddynt hwy, rhag dyfod o honynt hwythau hefyd i'r lle poenus hwn.
29 Abraham a ddywedodd wrtho. Y mae ganddynt Moses a'r Prophwydi; gwrandawant arnynt hwy.
30 Yntef a ddywedodd, Nag ê, y tâd Abraham; eithr os a vn oddi wrth y meirw attynt, hwy a edifarhânt.
31 Yna [Abraham] a ddyweddodd wrtho, Oni wrandawant ar Moses a'r prophwydi, ni chredant chwaith, pe codei vn oddi wrth y meirw.
PEN. XVII.
AC efe a ddywedodd wrth y discyblion, Ni all na ddêl rhwystrau, ond gwae efe trwy 'r hwn y deuant.
2 Gwell fyddei iddo pe rhoddid maen melin o amgylch ei wddf ef, a'i daflu i'r môr, nac iddo rwystro vn o'r rhai bychain hyn.
3 Edrychwch arnoch eich hunain. Os pecha dy frawd yn dy erbyn, cerydda ef, ac os edifarhâ efe, maddeu iddo.
4 Ac os pecha yn dy erbyn seith-waith yn y dydd a seith-waith yn y dydd droi attat, gan ddywedyd, y mae yn edifar, gennif, maddeu iddo.
5 A'r Apostolion a ddywedasant wrth yr Arglwydd, Anghwanega ein ffyddd ni.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Pe byddei gennych ffydd gymmaint a gronyn o hâd mwstard, chwi a ellych ddywedyd wrth y sycamôrwydden hon, Ymddadwreiddia, a phlanner di yn y môr; a hi a vfuddahae i chwi.
7 Eithr pwy o honoch chwi ac iddo wâs [Page 248] yn aredig, neu yn bugeilio, a ddywed wrtho yn y man pan ddêl o'r maes, dôs ac eistedd i lawr i fwytta?
8 Ond yn hytrach a ddywed wrtho, Arlwya i mi i swpperu, ac ymwregysa, a gwasanaetha arnafi, nes i mi fwytta ac yfed, ac wedi hynny y bwyttei, ac yr yfi ditheu.
9 Oes ganddo ddiolch i'r gwâs hwnnw, am wneuthur o hono y pethau a orchymmynnasid iddo? nid wyf yn tybied.
10 Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ac a orchymynnwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym: oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom.
11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Ierusalem, fyned o hono ef trwy ganol Samaria a Galilæa.
12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ac ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell.
13 A hwy a godasant eu llêf, gan ddywedyd, Iesu feistr, trugarhâ wrthym.
14 A phan welodd efe [hwynt,] efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i'r offeiriaid. A bu fel yr oeddynt yn myned, fe a'i glânhâwyd hwynt.
15 Ac yn o honynt, pan welodd ddarfod i iachâu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llêf ychel.
16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef gan ddiolch iddo: a Samariad oedd ef.
17 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd, Oni lânhawyd dêg? ond pa le [y mae] 'r naw?
18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant, [Page 249] i Dduw, ond yr estron hwn.
19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dôs ymmaith, dy ffydd a'th iachaodd.
20 A phan ofynnodd y Pharisæaid iddo pa brŷd i deuei deyrnas Dduw, efe a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwil.
21 Ac ni ddywedant, Wele ymma, neu, wele accw: canys wele, teyrnas Dduw o'ch mewn chwi y mae,
22 Ac efe a ddywedodd wrth y discyblion, Y dyddiau a ddaw, pan chwennychoch weled vn o ddyddiau Mâb y dŷn, ac ni's gwelwch.
23 A hwy a ddywedant wrthych, wele ymma, neu, wele accw: nac ewch, ac na chanlynwch [hwynt,]
24 Canys megis y mae y fellten a felltenna o'r naill ran tan y nêf, yn disclairio hyd y rhan arall tan y nêf; felly y bydd Mâb y dŷn hefyd yn ei ddydd ef.
25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a'i wrthod gan y genhedlaeth hon.
26 Ac megis y bu yn nyddia Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mâb y dŷn.
27 Yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra; hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i'r arch, a daeth y diluw, ac a'u diferhodd hwynt oll,
28 Yr vn modd hefyd ac y bu yn nyddiau Lot; yr oeddynt yn bwytta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu:
29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodoma, y glawiodd tan a brwmstan o'r nêf, ac a'u difethodd hwynt oll.
30 Fel hyn y bydd yn y dydd y dadcuddir Mâb y dŷn
31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, ai ddodresn o fewn y tŷ, na ddescynned iw cymmeryd hwynt: a'r hwn [a fyddo] yn y maes, yr vn ffunyd nad dychweled yn ei ôl.
32 Cofiwch wraig Lot.
33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a'i cyll; a phwy bynnag a'i cyll, a'i bywhâ hi.
34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, y nos honno y bydd dau yn yr vn gwely: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
35 Dwy a fydd yn malu yn yr vn lle: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
36 Dau a fyddant yn y maes: y naill a gymmerir, a'r llall a adewir.
37 A hwy a attebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y [byddo 'r] corph, yno yr ymgasgl yr ervrod.
PEN. XVIII.
AC efe a ddywedodd hefyd ddammeg wrthynt, fôd yn rhaid gweddio yn wastad, ac heb ddeffygio:
2 Gan ddywedyd, Yr oedd ryw farn-ŵr mewn rhyw ddinas yr hwn nid ofnei Dduw, ac ni pharchei ddŷn.
3 Yr oedd hefyd vn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth atto ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwyneb-ŵr.
4 Ac efe n'is gwnai dros amser: eithr wedi hynny, efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na parchaf ddŷn:
5 Etto am fôd y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a'i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a'm syfrdanu i.
6 A'r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barn-ŵr anghyfiawn:
7 Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sy yn llefain arno ddydd a nos, er ei fôd yn hir oedi trostynt?
8 Yr wyf yn dywedyd i chwi y dial efe hwynt ar frŷs: eithr Mâb y dŷn pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaiar?
9 Ac efe a ddywedodd y dammeg hon hefyd, wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bôd yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill,
10 Dau ŵr a aeth i fynu i'r Deml i weddio: vn yn Pharisæad, a'r llall yn Bublican.
11 Y Pharisæad o'i sefyll a weddiodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn, O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyfi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwŷr; neu fel y Publican hwn chwaith.
12 Yr wyf yn ympridio ddwy-waith yn yr wyth-nos, yr wyf yn degymmu cymmaint oll ac a feddaf.
13 A'r Publican gan sefyll o hirbell, ni fynnei cymmaint a chodi ei olygon tu a'r nêf, eithr efe a gurodd ei dwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthif bechadur.
14 Dywedaf i chwi, aeth hwn i wared iw dŷ, wedi ei gyfiawnhau [yn fwy] nâr llall: canys pôb vn ac sydd yn ei dderchafu ei hun, a ostyngir: a phôb vn ac sydd yn ei ostwng ei hun, a dderchefir.
15 A hwy a ddygasant atto blant bychain hefyd, fel y cyfferddei efe â hwynt: a'r discyblion pan welsant, a'u ceryddasant hwy.
16 Eithr yr Iesu a'u galwodd hwynt atto, ac a ddywedodd, Gadewch i'r plant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch hwynt; canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas Dduw.
17 Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dŷn bâch, nid â efe i mewn iddi.
18 A rhyw Lywodraeth-wr a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Athro da, wrth wneuthur pa beth yr etifeddafi fywyd tragwyddol?
19 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Pa ham i'm gelwi yn dda? nid oes neb yn dda ond vn, [sef] Duw.
20 Ti a wyddost y gorchymynion, Na odineba, Na ladd, Na ledratta, Na ddwg gam dystiolaeth, Anrhydedda dv dad a'th fam.
21 Ac efe a ddywedodd, Hyn oll a gedwais o'm ieuengtid.
22 A'r Iesu pan glybu hyn, a ddywedodd wrtho, Y mae vn peth etto yn ôl i ti: gwerth yr hyn oll sydd gennit, a dyro i'r tlodion, a thi a gai drysor yn y nêf: a thyred, canlyn fi.
23 Ond pan glybu efe y pethau hyn, efe a aeth yn athrist: canys yr oedd efe yn gyfoethog iawn.
24 A'r Iesu, pan welodd ef wedi myned yn athrist, a ddywedodd, Mor anhawdd yr â y rhai y mae golud ganddynt i mewn i deyrnâs Dduw.
25 Canys haws yw i gamel fyned trwy grau y nodwydd ddur, nac i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw,
26 A'r rhai a glywsent a ddywedasant, A phwy a all fôd yn gadwedig?
27 Ac efe a ddywedodd, Y pethau sy ammhossibl gyd â dynion, sydd bossibl gyd â Daw.
28 A dywedodd Petr, Wele, nyni a adawsom bôb peth, ac a'th ganlynasom di.
29 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, nid oes neb a'r a adawodd dŷ, neu rieni, neu frodyr, neu wraig, neu blant, er mwyn teyrnas Dduw.
30 A'r ni's derbyn lawer cymmaint yn y pryd hwn, ac yn y bŷd a ddaw fywyd tragwyddol.
31 Ac efe a gymmerodd y deuddeg atto, ac a dywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Ierusalem, a chyflawnir pôb peth a'r sydd yn scrifennedig trwy'r prophwyd, am Fâb y dŷn.
32 Canys efe a draddodir i'r cenhedloedd, ac a watwerir, ac a amherchir, ac a boerir arno:
33 Ac wedi iddynt ei fflangellu y lladdant ef, a'r trydydd dydd efe a adgyfyd.
34 A hwy ni ddeallasant ddim o'r pethau hyn, a'r gair hwn oedd guddiedig oddi wrthynt, ac ni wybuant y pethau a ddywetpwyd.
35 A bu, ac efe yn nesau at Iericho, i ryw ddŷn dall fod yn eistedd yn ymyl y ffordd yn cardotta.
36 A phan glybu efe y dyrfa yn myned heibio, efe a ofynnodd pa beth oedd hyn.
37 A hwy a ddywedasant iddo mai Iesu o Nazareth oedd yn myned heibio.
38 Ac efe a lefodd, gan ddywedyd, Iesu fâb Dafydd trugarhâ wrthif.
39 A'r rhai oedd yn myned o'r blaen a'i ceryddasant [Page 254] ef i dewi: eithr efe a lefodd yn fwy o lawer, Mâb Dafydd trugarhâ wrthif.
40 A'r Iesu a safodd, ac a orchymynnodd ei ddwyn ef atto: a phan ddaeth yn agos, efe a ofynodd iddo,
41 Gan ddywedyd, Pa beth a fynni di i mi ei wneuthur i ti? Yntef a ddywedodd, Arglwydd, cael o honof fy ngolwg.
42 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Cymmer dy olwg; dy ffydd a'th iachaodd.
43 Ac allan o law y cafodd efe ei olwg, ac a'i canlynodd ef, gan ogoneddu Duw: a'r holl bobl pan welsant, a roesant foliant i Dduw.
PEN. XIX.
A'R [Iesu] a aeth i mewn, ac a aeth trwy Iericho,
2 Ac wele ŵr a elwid wrth ei enw Zacchaeus; ac efe oedd Ben-publican, a hwn oedd gyfoethog.
3 Ac yr oedd efe yn ceisio gweled yr Iesu, pwy ydoedd: ac ni allei gan y dyrfa, am ei fôd yn fychan o gorpholaeth.
4 Ac efe a redodd o'r blaen, ac a ddringodd i sycomorwydden, fel y gallei ei weled ef: oblegid, yr oedd efe i ddyfod y ffordd honno.
5 A phan ddaeth yr Iesu i'r lle, efe a edrychodd i fynu, ac a'i canfu ef, ac a ddywedodd wrtho, Zacchaeus, discyn ar frŷs; canys rhaid i mi heddyw aros yn dy dŷ di.
6 Ac efe a ddescynnodd ar frŷs, ac a'i derbyniodd ef yn llawen.
7 A phan welsant, grwgnach a wnaethant oll, gan ddywedyd, Fyned o hono ef i mewn i letteua at ŵr pechadurus.
8 A Zachaeus a safodd, ac a ddywedodd wrth yr Arglwydd, Wele, hanner fy na, o Arglwydd, yr ydwyf yn ei roddi i'r tlodion ac os dugym ddim o'r eiddo neb drwy gamachwyn, yr ydwyf yn ei dalu ar ei bedwerydd.
9 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Heddyw y daeth iechydwriaeth i'r tŷ hwn, o herwydd ei fôd yntef yn fâb i Abraham.
10 Canys Mâb ŷ dŷn a ddaeth i geisio, ac i gadw yr hyn a gollasid.
11 Ac a hwy yn gwrando ar y pethau hyn, efe a chwanegodd ac a ddywedodd ddamneg, am ei fôd efe yn agos at Ierusalem, ac am iddynt dybied yr ymddangosei teyrnas Dduw yn y fan.
12 Am hynny y dywedodd efe, Rhyw ŵr bonheddig a aeth i wlâd bell, i dderbyn teyrnas iddo ei hun, ac i ddychwelyd.
13 Ac wedi galw ei ddeg gwâs, efe a roddes iddynt ddêg punt, ac a ddywedodd wrthynt, Marchnattewch hyd oni ddelwyf.
14 Eithr ei ddinas-wŷr a'i casasant ef, ac a ddanfonasant gennadwri ar ei ôl ef, gan ddywedyd, Ni fynnwn ni hwn i deyrnasu arnom.
15 A bu, pan ddaeth efe vn ei ôl wedi derbyn y deyrnas, erchi o hono ef alw y gweision hyn atto, i'r rhai y rhoddasei efe yr arian; fel y gwybyddei beth a elwasei bôb vn wrth farchnatta.
16 A daeth y cyntaf, gan ddywedyd, Arglwydd, dy bunt a ynnillodd ddêg punt.
17 Yntef a ddywedodd wrtho, Da wâs da, am i ti fôd yn ffyddlon yn y lleiaf, bydded i ti awdurod ar ddêg dinas.
18 A'r ail a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd; dy bunt di a wnaeth bum punt.
19 Ac efe ddywedodd hefyd wrth hwnnw, Bydd ditheu ar bum dinas.
20 Ac vn arall a ddaeth, gan ddywedyd, Arglwydd, wele dy bunt, yr hon oedd gennif wedi ei dodi mewn napkyn.
21 Canys mi a'th ofnais, am dy fôd yn ŵr tôst: yr wyt ti yn cymmeryd i fynu y peth ni roddaist i lawr, ac yn medi y peth ni henaist.
22 Yntef a ddywedodd wrtho, O'th enau dy hun i'th farnaf, tydi wâs drwg: ti a wyddit fy môd i yn ŵr tost, yn cymmeryd i fynu y peth ni heuais:
23. A pha ham na roddaist fy arian i i'r bwrdd [cyfnewid,] fal pan ddaethwn, y gallaswn ei cael gyd â llôg?
24 Ac efe a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger llaw, Dygwch oddi arno ef y bunt, a rhoddwch i'r hwn sydd a dêg punt ganddo.
25 A hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, y mae ganddo ef ddeg punt.
26 Canys yr wyfi yn dywedyd i chwi, Mai i bôb vn y mae ganddo y rhoddir iddo: eithr oddi ar yr hwn nid oes ganddo, y dygir oddi arno, ie yr hyn fydd ganddo.
27 A hefyd, fy ngelynion hynny, y rhai ni fynnasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt ymma, a lleddwch ger fy mron i.
28 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth o'r blaen, gan fyned i fynu i Ierusalem.
29 Ac fe a ddigwyddodd pan ddaeth efe yn agos at Bethphage a Bethania, i'r mynydd a elwir Oliwydd, efe a anfonodd ddau o'i ddiscyblion.
30 Gan ddywedyd, Ewch i'r pentref ar eich cyfer: yn vr hwn gwedi eich dyfod i mewn, chwi a gewch ebol yn rhwym, ac yr hwn nid eisteddodd dŷn erioed: gollyngwch ef, a dygwch ymma.
34 Ac os gofyn neb i chwi, Pa ham yr ydych yn ei ollwng? fel hyn y dywedwch wrtho, Am fôd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho.
32 A'r rhai a ddanfonasid a aethant ymmaith, ac a gawsant fel y dywedasei efe wrthynt.
33 Ac fel yr oeddynt yn gollwng yr ebol, ei berchennogion a ddywedasant wrthynt, Pa ham yr ydych yn gollwng yr ebol?
34 A hwy a ddywedasant, mae yn rhaid i'r Arglwydd wrtho ef.
35 A hwy a'i dygasant ef at yr Iesu: ac wedi iddynt fwrw eu dillad ar yr ebol, hwy a ddodasant yr Iesu arno.
36 Ac fel vr oedd efe yn myned, hwy a danasant eu dillad ar hŷd y ffordd.
37 Ac weithian, ac efe yn nesau ar ddescynfa mynydd yr Oliwydd, dechreuodd yr holl liaws discyblion lawenhau, a chlodfori Dduw â llef vchel, am yr holl weithredoedd nerthol a welsent.
38 Gan ddywedyd, Bendigedig [yw] 'r brenin sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd: tangneddyf yn y nef, a gogoniant yn y goruchaf.
39 A rhai o'r Pharisæaid o'r dyrfa a ddywedasant wrtho, Athro, cerydda dy ddiscyblion.
40 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yr ydwyf yn dywedyd i chwi, pe tawai y rhai hyn, y llefei y cerrig yn y fan.
41 Ac wedi iddo dyfod yn agos, pan welodd [Page 258] efe y ddinas, efe a wylodd trosti,
42 Gan ddywedyd, Pe gwybasit ditheu, ie yn dy ddydd hwn, y pethau [a berthynent] i'th heddwch: eithr y maent yn awr yn gudddiedig oddi with dy ligaid.
43 Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ac a'th amgylchant, ac a'th warchaeant o bob parth:
44 Ac a'th wnânt yn gyd-wastad â'r l'awr, a'th blant o th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
45 Ac efe a aeth i mewn i'r Deml, ac a ddechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu ynddy, ac yn prynu:
46 Gan ddywedyd wrthynt, Y mae yn scrifennedig, Fy nhŷ i, tŷ gweddi yw: either chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
47 Ac yr oedd efe beunydd yn athrawiaethu yn y Deml: a'r Arch-osteiriaid, a'r Scrifennyddion, a phennaethiaid y bobl, a geisient ei ddifetha ef:
48 Ac ni fedrasant gael beth a wnaent: canys yr holl bobl oedd yn glynu wrtho, i wrando arno.
PEN. XX.
A Digwyddodd ar vn o'r dyddiau hynny, ac efe yn dyscu y bobl yn y Deml, ac yn pregethu yr Efengyl, ddyfod arno yr Arch-ofieiriaid a'r Scrifennyddion, gyd a'r Henuriaid,
2 A llefaru wrtho, gan ddywedyd, Dywed i ni drwy ba awdurdod yr wyt yn gwneuthur y pethau hyn; neu pwy yw yr hwn a roddodd i ti yr awdurdod hon.
3 Ac efe a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, A minneu a ofynnaf i chwithau vn gair: a dywedwch i mi
4 Bedydd Ioan, ai o'r nef yr ydoedd, ai o ddynion?
5 Eithr hwy a ymresymmasant yn eu plith eu hunain, gan ddywedyd, Os dywedwn, O r nef, efe a ddywed, Pa ham gan hynny na chredech ef?
6 Ac os dwedwn, O ddynion, yr holl bobl a'n llabyddant n: canys y maent hwy yn cwbl gredu fôd Ioan yn brophwyd.
7 A hwy a attebasant na's gwyddent o ba le.
8 A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Ac nid wyf finneu vn dywedyd i chwi trwy da awdurdod yr wyf yn gwne [...]thur y pethau hyn.
9 Ac efe a ddechreuodd ddywedyd y ddammeg hon wrth y bobl; Rhyw ŵr a blannodd winllan, ac a'i gosododd i lafurwŷr, ac a aeth oddi cartref tros dalm o amser.
10 Ac mewn am er efe a anfonodd wâs at y llafur-wŷr, fei y rhoddent iddo o ffrwyth y winllan: eithr y llasur-wŷr a i curasant ef, ac a'i hanfena ant ymmaith vn wâg-law.
11 Ac efe a chwanegodd anfon gwâs arall; eithr hwy a gurasant, ac a amharchasant hwnnw hefyd, ac a'i hanfonasant ymmaith yn wag law.
12 Ac efe a chwanegodd anfon y trydydd: a hwy a glwyfasant hwn hefyd, ac a i bwraiasant ef allan.
13 Yna y dywedodd arglwydd y win-llan, [Page 260] Pa beth a wnâf? mi a anfonaf fy anwyl fâb: fe allai pan-welant ef y parchant ef,
14 Eithr y llafur-wŷr, pan welsant ef a ymresymmasant a'u gilydd, gan ddywedyd, Hwn yw yr etifedd: deuwch, lladdwn ef, fel y byddo yr etifeddiaeth yn eiddom ni.
15 A hwy a'i bwriasant ef allan o'r winllan, ac ai lladdasant. Pa beth gan hynny a wna arglwydd y winllan iddynt hwy?
16 Efe a ddifetha y llafur-wŷr hyn, ac a rydd ei winllan i eraill. A phan glywsant hyn, hwy a ddywedasant, Na atto Duw.
17 Ac efe a edrychodd arnynt, ac a ddywedodd, Beth gan hynny yw hyn a scrifennwyd, Y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwn a wnaethpwyd yn ben y gongl?
18 Pwy bynnag a syrthio ar y maen hwnnw, a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a'i mâl ef.
19 A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion, a geisiasant roddi dwylo arno yr awr honno: ac yr oedd arnynt ofn y bobl: canys gwybuant mai yn eu herbyn hwynt y dywedasei efe y ddammeg hon.
20 A hwy a'i gwiliasant ef, ac a yrrasant gynllwynwŷr, y rhai a gymmerent arnynt eu i bôd yn gyfiawn; fel y dalient ef yn ei ymadrodd, iw draddodi ym-meddiant ac awdurdod y rhaglaw.
21 A hwy a ofynnasant iddo ef, gan ddywedyd, Athro, ni wyddom mai vniawn yr ydwyt ti yn dywedyd, ac nad wyt yn derbyn wyneb, eithr yn dyscu ffordd Dduw mewn gwirioned.
22 A'i cyfraithlon i ni roi teyrnged i Cæsar, ai nid yw?
23 Ac efe a ddeallodd eu cyfrwystra hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham y temtiwch fi?
24 Dangoswch i mi geiniog? llun ac ar-graff pwy sydd arni? A hwy a attebasant ac a ddywedasant, Yr eiddo Cæsar.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Rhoddwch chwithau yr eiddo Cæsar i Cæsar, a'r eiddo Duw i Dduw.
26 Ag ni allasant feio ar ei eiriau ef ger bron y bobl: 'a chan ryfeddu wrth ei atteb ef, hwy a dawsant â sôn.
27 A rhai o'r Saducæaid, (y rhai sy yn gwadu nad oes adgyfodiad) a ddaethant atto ef, ac a ofynnasant iddo,
28 Gan ddywedyd, Athro, Moses a scrifennodd i ni, Os byddei farw brawd neb, ac iddo wraig, a marw o hono yn ddi blant ar gymmeryd o'i frawd ei wraig ef, a chodi hâd iw frawd.
29 Yr oedd gan hynny saith o frodyr; a'r cyntaf a gymmerodd wraig ac a fu farw yn ddi-blant.
30 A'r ail a gymmerth y wraig, ac a fu farw yn ddi blant.
31 A'r trydydd a'i cymmerth hi: ac yr vn ffunyd y saith hefyd, ac ni adawsant blant, ac a fuant feirw.
32 Ac yn ddiweddaf oll, bu farw y wraig hefyd.
33 Yn yr adgyfodiad gan hynny, gwraig i bwy vn o honynt yw hi? canys y saith a'i cawsant, hi yn wraig.
34 A'r Iesu gan atteb a ddywedodd wrthynt. Plant y bŷd hwn sydd yn gwreica, ac yn gwra.
35 Eithr y rhai a gyfrifer yn deilwng i gael y bŷd hwnnw, a'r adgyfodiad oddi wrth y meirw nid ydynt nac yn gwreica, nac yn gwra.
26 Canys ni's gallant farw mwy: oblegid cyd-stâd ydynt a'r Angelion: a phlant Duw ydynt, gan eu bod yn blant yr adgyfodiad.
37 Ac y cyfyd y meirw, Moses hefyd a yspysodd wrth y berth, pan yw ef yn galw yr Arglwydd yn Dduw Abraham, ac yn Dduw Isaac, ac yn Dduw Iacob.
38 Ac nid yw efe Dduw y meirw, ond y byw: canys pawb sydd fyw iddo ef.
39 Yna rhai o'r Scrifennyddion, gan atteb a ddywedasant, Athro, da y dywedaist.
40 Ac ni feiddiasant mwyach ofyn dim iddo ef.
41 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa fodd y maent yn dywedyd fôd Christ yn fâb i Ddafydd?
42 Ac y mae Dafydd ei hun yn dywedyd yn llyfr y Psalmau. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw.
43 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i'th draed ti.
44 Y mae Dafydd gan hynny yn ei alw ef yn Arglwydd, a pha fodd y mae efe yn fâb iddo?
45 Ac a'r holl bobl yn clywed, efe a ddywedodd wrth ei ddiscyblion,
46 Ymogelwch rhag yr Scrifennyddion, y rhai a ewyllysiant rodio mewn dillad lleision, ac a garant gyfarchiadau yn y marchnadoedd, a'r prif-gadeiriau yn y Synagogau, a'r prif-eisteddleoedd yn y gwleddoedd.
47 Y rhai sydd yn llwyr fwytta tai gwragedd gweddwon, ac mewn rhith yn hir weddio, [Page 293] y rhai hyn a dderbyniant farn fwy.
PEN. XXI.
AC wedi iddo edrych i fynu, efe a ganfu y rhai goludog yn bwrw eu rhoddion i'r drysorfa.
2 Ac efe a ganfu hefyd ryw wraig weddw dlawd yn bwrw yno ddwy hatling.
3 Ac efe a ddywedodd, yn wir meddaf i chwi, fwrw o'r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy nâ hwynt oll.
4 Canys y rhai hyn oll o'r hyn oedd weddill ganddynt a fwriasant at offrymmau Duw: eithr hon o'i phrinder a fwriodd i mewn yr holl fywyd a oedd ganddi.
5 Ac fel yr oedd rhai yn dywedyd am y Deml, ei bôd hi wedi ei harddu â meini têg a rhoddion, efe a ddywedodd,
6 Y pethau hyn yr ydych yn edrych arnynt, daw y dyddiau yn y rhai ni adewir maen ar faen a'r ni's dattodir.
7 A hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Athro, pa brŷd gan hynny y bydd y pethau hyn, a pha arwydd fydd pan fo 'r pethau hyn ar ddyfod?
8 Ac efe a ddywedodd, Edrychwch na thwyller chwi: canys llawer a ddeuant yn fy enw i, gan ddywedyd, Myfi yw [Christ,] a'r amser a nesaodd: nac ewch gan hynny ar eu hol hwynt.
9 A phan glywoch son am ryfyloedd a therfyscoedd, na chymmerwch fraw: canys rhaid i'r pethau hyn fod yn gyntaf: ond ni [ddaw] y diwedd yn y man.
10 Yna y dywedodd efe wrthynt, Cenedl a gyfyd yn erbyn cenedl, a theyrnas, yn erbyn teyrnas.
11 A daiar-grynfau mawrion a fyddant yn [Page 294] amryw leoedd, a newyn, a heintiau, a phethau ofnadwy, ac arwyddion mawrion a fydd o'r nêf.
12 Eithr o flaen hyn oll, hwy a roddant eu dwylo arnoch, ac [a'ch] erlidiant, gan eich traddodi i'r synagogau, ac i garcharau, wedi eich dwyn ger bron brenhinoedd a llywodraeth-wŷr, o achos fy enw i.
13 Eithr fe a ddigwydd i chwi yn dystiolaeth.
14 Am hynny rhoddwch eich brŷd, ar na ragfyfyrioch beth a atteboch.
15 Canys myfi a roddaf i chwi enau, a doethineb, yr hon ni's gall eich holl wrthwyneb-wŷr na dywedyd yn ei herbyn, na'i gwrth-sefyll.
16 A chwi a fradychir, ie gan rieni, a brodyr, a cheraint, a chyfeillion; ac i rai o honoch y parant farwolaeth.
17 A châs fyddwch gan bawb o herwydd fy enw i,
18 Ond ni chyll blewyn o'ch Pen chwi.
19 Yn eich amynedd meddiennwch eich eneidiau.
20 A phan weloch Ierusalem wedi ei hamgylchu gan luoedd, yna gwybyddwch fôd ei anghyfannedd-dra hi wedi nesau.
21 Yna y rhai [fyddant] yn Iudæa, ffoant i'r mynyddoedd: a'r rhai [a fyddant] yn ei chanol hi, y madawant: a'r rhai [a fyddant] yn y meusydd, nac elont i mewn iddi:
22 Canys dyddiau dial yw y rhai hyn, i gyflawni yr holl bethau a scrifennwyd.
23 Eithr gwae y rhai beichiogion, a'r rhai yn rhoi bronnau, yn y dyddiau hynny: canys bydd angen mawr yn y tîr, a digofaint ar y bobl hyn.
24 A hwy a syrthiant drwy fin y cleddyf, a chaeth-gludir hwynt at bôb cenhedlaeth: a Ierusalem a fydd wedi ei mathru gan y cenhedloedd, hyd oni chyflawner amser y cenhedloedd.
25 A bydd arwyddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, ac ar y ddaiar ing cenhedloedd gan gyfyng-gyngor; a'r môr a'r tonnau yn rhuo.
26 A dynion yn llewygu gan ofn, a disgwil am y pethau sy yn dyfod ar y ddaiar: oblegid nerthoedd y nefoedd a yscydwir.
27 Ac yna y gwelant Fâb y dŷn yn dyfod mewn cwmmwl, gydâ gallu a gogoniant mawr.
28 A phan ddechreuo 'r pethau hyn ddyfod, edrychwch i fynu, a chodwch eich pennau: canys y mae eich ymwared yn nesau.
29 Ac efe a ddywedodd ddammeg iddynt, Edrychwch ar y ffigys-bren, a'r holl brenau;
30 Pan ddeiliant hwy weithian, chwi a welwch, ac a wŷddoch o honoch eich hun, fôd yr haf yn agos.
31 Felly chwithau, pan weloch y pethau hyn yn digwydd, gwybyddwch fôd teyrnas Dduw yn agos.
32 Yn wir meddaf i chwi, nid â yr oes hon heibio, hyd oni ddêl y cwbl i ben.
33 Y nêf a'r ddaiar a ânt heibio, ond fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.
34 Ac edrychwch arnoch eich hunain, rhag i'ch calonnau vn amser drymhau drwy lothineb, a meddwdod, a gofalon y bywyd [hwn,] a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth.
35 Canys efe a ddaw fel magl, ar wartha pawb oll a'r sy yn trigo ar wyneb yr holl ddaiar.
36 Gwiliwch gan hynny a gweddiwch bôb amser, ar gael eich cyfrif yn deilwng i ddiangc rhag y pethau hyn oll sy ar ddyfod, ac i sefyll ger bron Mab y dŷn.
37 A'r dydd yr ydoedd efe yn athrawiaethu yn y Deml, a'r nôs yr oedd efe yn myned ac yn aros yn y mynydd, a elwid yr Oliwydd.
38 A'r holl bobl a foreu-gyrchent atto ef yn y Deml, iw glywed ef.
PEN. XXII.
A Nessaodd gwyl y bara croyw, yr hon a elwir y Pasc.
2 A'r Arch-offeiriaid a'r Scri fennyddion a geisiasant pa fodd y difethent ef: oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl.
3 A Satan a aeth i mewn i Iudas, yr hwn a gyfenwid Iscariot, yr hwn oedd o rifedi 'r deuddeg.
4 Ac efe a aeth ymmaith, ac a ymddiddanodd a'r Arch offeiriaid, a'r blaenoriaid, pa fodd y bradychei efe ef iddynt.
5 Ac yr oedd yn llawen ganddynt: a hwy a gyttunasant ar roddi arian iddo.
6 Ac efe a addawodd: ac a geisiod amser cyfaddas iw fradychu ef iddynt, yn absen y bobl.
7 A daeth dydd y bara croyw, ar yr hwn yr oedd rhaid lladd y Pasc.
8 Ac efe a anfonodd Petr ac Ioan, gan ddywedyd, Ewch, paratowch i ni'r Pasc, fel y bwyttaom.
9 A hwy a ddywedasant wrtho, Pa le y mynni barratoi o honom?
10 Ag efe a ddywedodd wrthynt, Wele, pan ddeloch i mewn i'r ddinas, cyferfydd â chwi ddŷn yn dwyn steneid o ddwfr: canlynwch ef i'r tŷ lle yr êl efe i mewn.
11 A dywedwch wrth ŵr y tŷ, Y mae 'r Athro yn dywedyd wrthit, Pa le y mae 'r lletty, lle y gallwyf fwytta 'r Pasc gyd â'm discyblion.
12 Ac efe a ddengys i chwi oruwch-ystafell fawr, wedi ei thanu: yno paratowch.
13 A hwy a aethant, ac a gawsant fel y dywedasei efe wrthynt, ag a baratoesant y Pasc.
14 A phan ddaeth yr awr, efe a eisteddodd i lawr a'r deuddeg Apostol gŷd ag ef.
15 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Mi a chwennychais yn fawr fwytta 'r Pasc hwn gyd â chwi, cyn dioddef o honof.
16 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, Ni fwyttâf fi mwyach o honaw, hyd oni chywflaner yn nheyrnas Dduw.
17 Ac wedi iddo gymmeryd y cwppan, a rhoddi diolch, efe a ddywedodd, Cymmerwch hwn, a rhennwch yn eich plith.
18 Canys yr ydwyf yn dywedyd i chwi, nad yfaf o ffrwyth y winwydden, hyd oni ddêl teyrnas Dduw.
19 Ac wedi iddo gymmeryd bara, a rhoi diolch, efe a'i torrodd, ac a'i rhoddes iddynt gan ddywedyd Hwn yw fy nghorph, yr hwn yr ydys yn ei roddi trosoch; gwnewch hyn er coffa am danaf.
20 Yr vn modd y cwppan hefyd wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed i, yr hwn yr ydys yn ei dywallt trosoch.
21 Eithr wele law 'r hwn sydd yn fy mradychu, gŷd â mi ar y bwrdd.
22 Ac yn wir, y mae Mab y dŷn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu: eithr gwae 'r [Page 298] dŷn hwnnw, trwy 'r hwn y bradychir ef.
23 Hwythau a ddechreuasant ymofyn yn eu plith eu hun, pwy o honynt oedd yr hwn a wnai hynny.
24 A bu ymryson yn eu plith, pwy o honynt a dybygid ei fôb yn swyaf.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae brenhinoedd y cenhedloedd yn arglwyddiaethu arnynt: a'r rhai sy mewn awdurdod arnynt, a elwir yn bendefigion.
26 Ond na [fyddwch] chwi felly: eithr y mwyaf yn eich plith chwi, bydded megis yr ieuangaf, a r pennaf, megis yr hwn sydd yn gweini.
27 Canys pa vn fwyaf, ai 'r hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd, ai 'r hwn sydd yn gwasanaethu? ond yr hwn sydd yn eistedd ar y bwrdd? eithr yr ydwyfi yn eich mysc fel vn yn gwalanaethu.
28 A chwy-chwi yw y rhai a 'arhosasoch gŷd â mi yn fy mhrofedigaethau.
29 Ac yr wyfi yn ordeinio i chwi deyrnas, megis yr ordeiniodd fy Nhâd i minneu,
30 Fel y bwyttaoch ag yr yfoch ar fy mwrdd i yn fy nheyrnas, ac yr eisteddoch at orseddfeydd, yn barnu deuddeg-llwyth Israel.
31 Ar Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a'ch ceisiodd chwi, i'ch nithio fel gwenith:
32 Eithr mi a weddiais trosot, na ddiffygiei dy ffydd di: ditheu pan i'ch droer cadarnhâ dy frodyr.
33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyfi yn yn barod i fyned gyd â thi i garchar, ac i angeu.
34 Yntef a ddywedodd, Yr wyf yn dywedyd i ti Petr, Na chân y ceiliog heddyw, nes i ti wadu dair gwaith yr adweini fi.
35 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan i'ch anfonais heb na phwrs na chôd, nac escidiau; a fu arnoch eisieu dim? A hwy a ddywedasant, Na ddo ddim.
36 Yna y ddywedodd wrthynt, Ond yn awr, y neb sydd ganddo bwrs, cymmered a'r vn modd gôd: a'r neb nid oes ganddo, gwerthed ei bais, a phryned gleddyf.
37 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, fôd yn rhaid etto gyflawni ynofi y peth hyn a scrifennwyd, sef, A chyd â'r anwir y cyfrifwyd ef. Canys y mae diben i'r pethau am danafi.
38 A hwy a ddywedasant, Arglwydd, wele ddau gleddyf ymma. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Digon yw.
39 Ac wedi iddo fyned allan, efe a aeth, yn ôl ei arfer, i fynydd yr Olewydd: a'i ddiscyblion hefyd a'i canlynasant ef.
40 A phan ddaeth efe i'r man, efe a ddywedodd wrthynt, Gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
41 Ac efe a dynnodd oddi wrthynt tu ag ergyd carreg, ac wedi iddo fyneb ar ei liniau, efe a weddiodd.
42 Gan ddywedyd, O Dâd, os ewyllysi droi heibio y cwppan hwn oddi wrthif: er hynny nid fy ewyllys i, ond yr eiddot ti a wneler.
43 Ac Angel o'r nef a ymddangosodd iddo yn ei nerthu ef.
44 Ac efe mewn ymdrech meddwl, a weddiodd [Page 300] yn ddyfalach, a'i chwys ef oedd fell defnynnau gwaed, yn descyn ar y ddaiar.
45 A phan gododd efe o'i weddi, a dyfod at ei ddiscyblion, efe a'u cafodd hwynt yn cyscu gan dristwch:
46 Ac a ddywedodd wrthynt, Pa ham yr ydych yn cyscu? codwch a gweddiwch nad eloch mewn profedigaeth.
47 Ac efe etto yn llefaru, wele dyrfa, a hwn a elwir Iudas, vn o'r deuddeg, oedd yn myned o'i blaen hwynt, ac a nesaodd at yr Iesu, iw gusanu ef.
48 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Iudas ai â chusan yr wyti yn bradychu Mab y dŷn?
49 A phan welodd y rhai oedd yn ei gylch ef, y peth oedd ar ddyfod, hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, a darawn ni â chleddyf?
50 A rhyw vn o honynt a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef.
51 A'r Iesu a attebodd ac a ddywedodd, Goddefwch hyd yn hyn, Ac efe a gyffyrddodd â'i glust, ac a'i iachaodd ef.
52 A'r Iesu a ddywedodd wrth yr Arch offeiriaid, a blaenoriaid y Deml, a'r henuriaid, y rhai a ddaethent arto, A'i fel at leidr y daethoch chwi allan â chleddyfau, ac â ffyn?
53 Pan oeddwn beunydd gyd â chwi yn y Deml, nid estynnasoch ddwylo i'm herbyn: eithr hon yw eich awr chwi, a gallu 'r tywyllwch.
54 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i harweiniasant, ac a'i dygasant i mewn i dŷ 'r Arch-offeiriad. A Phetr a ganlynnodd o hirbell.
55 Ac wedi iddynt gynneu tân ynghanol y neuadd, a chyd-eistedd o honynt, eisteddodd Petr yntef yn eu plith hwynt.
56 A phan ganfu rhyw langces ef yn eistedd wrth y tân, a dal sulw arno, hi a ddywedodd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef.
57 Yntef a'i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef.
58 Ac ychydig wedi, vn arall a'i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt titheu hefyd yn vn o honynt. A Phetr a ddywedodd, O ddŷn, nid ydwyf.
59 Ac ar ôl megis yspaid vn awr, rhyw vn arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd, yr oedd hwn hefyd gyd ag ef: canys Galilæad yw.
60 A Phetr a ddywedodd, y dyn, ni's gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe etto yn llefaru, canodd y ceiliog.
61 A'r Arglwydd a drôdd, ac a edrychodd ar Betr: a Phetr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasei efe wrtho, Cyn canu o'r ceiliog, y gwedi fi deir-gwaith.
62 A Phetr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw-dost.
63 A'r gwŷr oedd yn dal yr Iesu a'i gwatwarasant ef, gan ei daro.
64 Ac wedi iddynt guddio ei lygaid ef, hwy a'i tarawsant ef ar ei wyneb, ac a ofynnasant iddo, gan ddywedyd Prophwyda Pwy yw 'r hwn a'th darowodd di?
65 A llawer o bethau eraill gan gablù, a ddywedasant yn ei erbyn ef.
66 A phan aeth hi yn ddydd, ymgynnullodd [Page 302] Henuriaid y bobl, a'r Arch-offeiriaid, a'r Scryfennyddion, ac a'i dygasant ef iw Cyngor hwynt.
67 Gan ddywedyd, Ai ti yw Christ? dywed i ni. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Os dywedaf i chwi, ni chredwch ddim:
68 Ac os gofynnaf hefyd [i chwi,] ni 'm hattebwch, ac ni 'm gollynwch ymmaith.
69 Yn ôl hyn y bydd Mâb y dŷn yn eistedd ar ddeheu-law gallu Duw.
70 A hwy oll a ddywedasant, Ai Mâb Duw gan hynny ydwyti? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yr ydych chwi yn dywedyd fy môd.
71 Hwythau a ddywedasant, Pa raid i ni mwyach wrth dystiolaeth? canys clywsom ein hunain o'i enau ef ei hun.
PEN. XXXIII.
A'r holl liaws o honynt, a gyfodasant, ac a'i dygasant ef at Pilat;
2 Ac a ddechreuasant ei gyhuddo ef gan ddywedyd, Ni a gawsom hwn yn gwŷrdroî 'r bobl, ac yn gwahardd rhoi teyrnged i Cæsar, gan ddywedyd mai efe ei hun yw Christ frenin.
3 A Philat a ofynnodd iddo, gan ddywedyd, Ai ti yw brenin yr Iddewon? ac efe a attebodd iddo ac a ddywedodd, Yr wyt ti yn dywedyd.
4 A dywedodd Pilat wrth yr Arch-offeiriaid a'r bobl, Nid wyfi yn cael dim bai ar y dŷn hwn.
5 A hwy a fuant daerach, gan ddywedyd, Y mae efe yn cyffroi 'r bobl, gan ddyscu trwy holl Iudæa, wedi dechreu o Galilæa hyd ymma.
6 A phan glybu Pilat sôn am Galilæa, efe a ofynnodd ai Galilæad oedd y dŷn.
7 A phan wŷbu efe ei fod ef o lywodraeth ô Herod, [Page 203] efe a'i hanfonodd ef at Herod, yr hwn oedd yntef yn Ierusalem y dyddiau hynny.
8 A Herod, pan welodd yr Iesu, a lawenychodd yn fawr: canys yr oedd efe yn chwennych er ystalm ei weled ef, oblegid iddo glywed llawer am dano ef: ac yr ydoedd yn gobeithio cael gweled gwneuthur rhyw arwydd ganddo ef.
9 Ac efe a'i holodd ef mewn llawer o eiriau: eithr efe nid attebodd ddim iddo.
10 A'r Arch-offeiriaid a'r Scrifennyddion a safasant gan ei gyhuddo ef yn haerllyg.
11 A Herod a'i filwŷr, wedi iddo ei ddiystyru ef, a'i watwar, a'i wisco â gwisc glaerwen a'i danfonodd ef drachefn at Pilat.
12 A'r dythwn hwnnw yr aeth Pilat a Herod yn gyfeillion: canys yr oeddynt o'r blaen mewn gelyniaeth â'i gilydd.
13 A Philat, wedi galw ynghŷd yr Arch-offeiriaid, a'r llywiawd-wŷr, a'r bobl,
14 A ddywedodd wrthynt, Chwi a ddygasoch y dŷn hwn attafi, fel yn a fyddai yn gŵyrdroi 'r bobl: ac wele, myfi a'i holais ef yn eich gwŷdd chwi, ac ni chefais yn y dŷn hwn ddim bai, o ran y pethau yr ydych chwi yn ei gyhuddo ef am danynt:
15 Na Herod chwaith: canys anfonais chwi atto ef, ac wele, dim yn haeddu marwolaeth ni's gwnaed iddo.
16 Am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf ymmaith.
17 Canys yr ydoedd yn rhaid iddo ollwng vn yn rhydd ar yr wŷl.
18 A'r holl liaws a lefasant ar vnwaith, gan [Page 304] ddywedyd, Bwrw hwn ymmaith, a gollwng i ni Barrabbas yn rhydd.
19 (Yr hwn, am ryw derfysc a wnelsid yn y ddinas, a llofruddiaeth, oedd wedi ei daflu i garchar.)
20 Am hynny Pilat a ddywedodd wrthynt drachefn, gan ewyllysio gollwng yr Iesu yn rhydd.
21 Eithr hwy a lefasant arno, gan ddywedyd, Croes-hoelia ef.
22 Ac efe a ddywedodd wrthynt y drydedd waith, Canys yn ddrwg a wnaeth efe? ni chefais i ddim achos marwolaeth ynddo: am hynny mi a'i ceryddaf ef, ac a'i gollyngaf yn rhydd.
23 Hwythau a fuant daerion â llefau vchel gan ddeisyfu ei groes-hoelio ef: a'u llefau hwynt a'r Arch-offeiriaid a orfuant.
24 A Philat a farnodd wneuthur eu deisyfiad hwynt.
25 Ac efe a ollyngodd yn rhydd iddynt yr hwn am derfysc a llofruddiaeth a fwriasid yngharchar, yr hwn a ofynnasant: eithr yr Iesu a draddododd efe iw hewyllys hwynt.
26 Ac fel yr oeddynt yn ei arwain ef ymmaith, hwy a ddaliasant vn Simon o Cyrene, yn dyfod o'r wlâd, ac a ddodasant y groes arno ef, iw dwyn ar ôl yr Iesu.
27 Ac yr oedd yn ei ganlyn ef liaws mawr o bobl, ac o wragedd: y rhai hefyd oedd yn cwynfan, ac yn galaru o'i blegid ef.
28 A'r Iesu wedi troi attynt, a ddywedodd, Merched Ierusalem, nac wŷlwch o'm plegid i, eithr wŷlwch o'ch plegid eich hun, ac oblegid eich plant:
29 Canys wele, y mae 'r dyddiau yn dyfod, [Page 305] yn y rhai y dywedant, Gwyn eu bŷd y rhai amhlantadwy, a'r crothau ni heppiliasant, a'r bronnau ni roesant sugn.
30 Yna y dechreuant ddywedyd wrth y mynyddoedd, Syrthiwch arnom: ac wrth y bryniau, Cuddiwch ni.
31 Canys os gwnant hyn yn y pren ir, pa beth a wneir yn y crin?
32 Ac arweinwyd gyd ag ef hefyd ddau ddrwgweithred-wŷr eraill, iw rhoi iw marwolaeth.
43 A phan ddaethant i'r lle a elwir Caluaria, yno y croes-holiasant ef a'r drwg-weithred-wyr: vn ar y lla ddehau, a'r llall ar yr asswy.
34 A'r Iesu a ddywedodd, O Dâd, maddeu iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a rannasant eî ddillad ef, ac a fwriasant goelbren.
35 A'r bobl a safodd yn edrych, a'r pennaethiaid hefyd gŷd â hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe, gwareded ef ei hun, os hwn yw Christ, etholedig Duw.
36 A'r milwŷr hefyd a'i gwatwarasant ef, gan dyfod atto, a chynnyg iddo finegr,
37 A dywedyd, Os tydi yw brenin yr Iddewon, gwared dy hun.
38 Ac yr ydoedd hefyd arscrifen wedi ei scrifennu vwch ei ben ef, â llythyrennau Groeg, a Lladin, ac Ebrew, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.
39 Ac vn o'r drwg-weithred-wŷr a grogasid, a'i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Christ, gwared dy hun a ninnau.
40 Eithr y llall a attebodd, ac a'i ceryddodd [Page 306] ef, gan ddywedydd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr vn ddamnedigaeth?
41 A nyni yn wir yn gyfiawn: (canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddei y pethau a wnaethom) eithr hwn ni wnaeth ddim allan o'i le.
42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi, pan ddelych i th deyrnas.
43 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wîr meddaf i ti, Heddyw y byddi gŷd â mi ymmharadwys.
44 Ac yr ydoedd hi ynghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaiar hyd y nawfed awr.
45 A'r haul a dywyllwyd, a llen y Deml a rwygwyd yn ei chanol.
46 A'r Iesu gan lefain â llef vchel a ddywedodd, O Dìd, i'th ddwylo di y gorchymynnaf fy yspryd. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a drengodd.
47 A'r Canwriad pan welodd y peth a wnaethpwyd, a ogoneddodd Dduw, gan ddywedyd, Yn wîr yr oedd hwn yn wr cyfiawn.
48 A'r holl bobloedd, y rhai a ddaethent ynghŷd i edrych hyn, wrth weled y pethau a wnaethpwyd, a ddychwelasant, gan guro eu dwyfronnau.
49 A'i holl gydnabod ef a safasant o hirbell, a'r gwragedd, y rhai a'i canlynasent efe o Galilæa, yn edrych ar y pethau hyn.
50 Ac wele, gŵr a'i enw Ioseph, [yr hwn] oedd gynghôrwr, gwr da a chyfiawn.
51 (Hwn ni chyttunasei a'u cyngor ac a'u gweithred hwynt,) o Arimathæa dinas yr Iddewon, [Page 307] (yr hwn oedd yntef yn disgwil hefyd am deyrnas Dduw.)
52 Hwn a ddaeth at Pilat, ac a ofynnodd gorph yr Iesu.
53 Ac efe a'i tynnodd i lawr, ac a'i hamdôdd mewn lliain main, ac a'i rhoddes mewn bedd wedi ei naddu mewn carreg, yn yr hwn in roddasid dŷn erioed.
54 A'r dydd hwnnw oedd ddarparwyl, a'r Sabbath oedd yn nesau.
55 A r gwragedd hefyd, y rhai a ddaethent gyd ag ef o Galilæa, a ganlynasant, ac a welsant y bedd, a pha fodd y dodwyd ei gorph ef.
56 A hwy a ddychwelasant, ac a baratoesant bêr-aroglau ac ennaint, ac a orphwysasant ar y Sabbath, yn ôl y gorchymmyn.
PEN. XXIIII.
A'R dydd cyntaf o'r wythnos, ar y cynddydd, hwy a ddaethant at y bedd, gan ddwyn y pêraroglau a baratoesent, a rhai gŷd â hwynt.
2 A hwy a gawsant y maen wedi ei dreiglo ymmaith oddi wrth y bedd.
3 Ac wedi iddynt fyned i mewn, ni chawsant gorph yr Arglwydd Iesu.
4 A bu, a hwy yn petruso am y peth hyn, wele, dau ŵr a safodd yn eu hymyl mewn gwiscoedd disclair.
5 Ac wedi iddynt ofni, a gostwng eu hwynebau tu a'r ddaiar, hwy a ddywedasant wrthynt, Pa ham yr ydych yn ceisio y byw ym mysc y meirw?
6 Nid yw efe ymma, ond efe a gyfododd Cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, ac efe etto yn Galilæa,
7 Gan ddywedyd, Rhaid yw rhoi Mâb y dŷn yn nwylo dynion pechadurus, a'i groes-hoelio, a'r trydydd dydd adgyfodi.
8 A hwy a gofiasant ei eiriau ef,
9 Ac a ddychwelasant oddi wrth y bedd, ac a fynegasant hyn oll i'r vn ar ddeg, ac i'r lleill oll.
10 A Mair Fagdalen, a Ioanna, a Mair [mam] Iaco, a'r lleill gŷd â hwynt, oedd y rhai a ddywedasant y pethau hyn wrth yr Apostolion.
11 A'u geiriau a welid yn eu golw hwynt, fel gwegi, ac ni chredasant iddynt.
12 Eithr Petr a gododd i fynu, ac a redodd at y bedd: ac wedi ymgrymmu efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod o'r nailltu, ac a aeth ymmaith, gan ryfeddu rhyngddo ac ef ei hun, am y peth a ddarfuasei.
13 Ac wele, dau o honynt oedd yn myned y dydd hwnnw i dref a'i henw Emmaus, yr hon oedd ynghylch trugain stâd oddi wrth Ierusalem:
14 Ac yr oeddynt hwy yn ymddiddan, a'i gilydd, am yr holl bethau hyn a ddigwyddasent.
15 A bu, fel yr oeddynt yn ymddiddan, ac yn ymofyn â'i gilydd, yr Iesu ei hun hefyd a nesaodd, ac a aeth gyd â hwynt.
16 Eithr eu llygaid hwynt a attallwyd, fel na's adwaenent ef.
17 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at ei gilydd, dan rodio, ac yn wynebdrist?
18 Ac vn [o honynt] a'i enw Cleophas, gan atteb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn vnig yn ymdeithydd yn Ierusalem, ac ni wybuost y pethau a [Page 309] wnaethpwyd ynddi hi, yn y dyddiau hyn.
19 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa bethau? Hwythau a ddywedasant wrtho, Y pethau ynghylch Iesu o Nazareth, yr hwn oedd ŵr o brophwyd, galluog mewn gweithred a gair, ger bron Duw a'r holl bobl.
20 A'r modd y traddodes yr Arch-offeiriaid a'n llywodraeth wŷr ni ef, i farn marwolaeth, ac a'i croes-hoeliasant ef.
21 Ond yr oeddym ni yn gobeithio mai efe oedd yr hwn a waredei 'r Israel: ac heb law hyn oll, heddyw yw 'r trydydd dydd, er pan wnaethpwyd y pethau hyn.
22 A hefyd rhai gwragedd o honom ni, a'n dychrynasant ni, gwedi iddynt fod yn foreu wrth y bedd:
23 A phan na chawsant ei gorph ef, hwy a ddaethant, gan ddywedyd weled o honynt weledigaeth o Angêlion, y rhai a ddywedent ei fôd efe yn fyw.
24 A rhai o'r rhai oedd gyd â nyni, a aethant at y bedd, ac a gawsant felly, fel y dywedasei y gwragedd; ond ef ni's gwelsant.
25 Ac efe a ddywedodd wrthynt, O ynfydion, a hwyr-frydig o galon, i gredu 'r holl bethau a ddywedodd y prophwydi.
26 Ond oedd raid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn iw ogoniant?
27 A chan ddechreu ar Moses, a'r holl brophwydi, efe a esponiodd iddynt yn yr holl Scrythyrau, y pethau am dano ei hun.
28 Ac yr oeddynt yn nesau i'r dref lle yr oeddynt yn myned: ac yntef a gymmerth arno ei fod yn myned ym-mhellach.
29 A hwy a'i cymmellasant ef, gan ddywedyd, Aros gŷd â ni, canys y mae hi yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod. Ac efe a aeth i mewn i aros gŷd â hwynt.
30 A darfu, ac efe yn eistedd gyd â hwynt efe a gymmerodd fara, ac a'i bendithiodd, ac a'i torrodd, ac a'i rhodde iddynt.
31 A'u llygaid hwynt, a agorwyd, a hwy a'i hadnabuant ef: ac efe a ddiflannodd allan o'i golwg hwynt.
32 A hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Onid oedd ein calon ni yn llosci ynom, tra ydoedd efe yn ymddiddan â ni ar y ffordd, a thra 'r ydoedd efe yn agoryd i ni 'r Scrythyrau?
33 A hwy a godasant yr awr honno, ac a ddychwelasant i Ierusalem, ac a gawsant yr vn ar ddêg wedi ymglasclu yn ynghŷd, a'r sawl [oedd] gŷd â hwynt,
34 Yn dywedyd, Yr Arglwydd a gyfododd yn wir, ac a ymddangosodd i Simon.
35 A hwythau a adroddasant y pethau [a wnaethesid] ar y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt, wrth dorriad y bara.
36 Ac a hwy yn dywedyd y pethau hyn, yr Iesu ei hun a safodd yn eu canol hwynt, ac a ddywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi.
37 Hwythau wedi brawychu, ac ofni, a dybiasant weled o honynt yspryd.
38 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ham i'ch trallodir, a pha ham y mae meddyliau yn codi yn eich calonnau?
39 Edrychwch fy nwylo a'm traed, mai myfi fy hun ydyw: teimlwch fi, a gwelwch, canys nid [Page 311] oes gan yspryd gnawd ac escyrn, fel y gwelwch fod gennifi.
40 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo a'i draed.
41 Ac a hwy etto heb gredu gan lawenydd, ac yn rhyfeddu, efe a dywedodd wrthynt, A oes gynnych chwi ymma ddim bwyd?
42 A hwy a roesant iddo ddarn o byscodyn wedi ei rostio, ac o ddill mêl.
43 Yntef a'i cymmerodd, ac a'i bwyttaodd yn eu gwŷdd hwynt.
44 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Dymma 'r geiriau a ddywedais i wrthych, pan oeddwn etto gŷd â chwi, bôd yn rhaid cyflawni pôb peth a scrifennwyd ynghyfraith Moses, a'r Prophwydi a'r Psalmau, am danafi.
45 Yna yr agorodd efe, eu deall hwynt, fel y deallent yr Scrythyrau.
46 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Felly yr scrifennwyd, ac felly yr oedd raid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd:
47 A phregethu edifeirwch, a maddeuant pechodau yn ei enw ef, ym-mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Ierusalem.
48 Ac yr ydych chwi yn dystion o'r pethau hyn.
49 Ac wele, yr ydwyfi yn anfon addewid fy Nhâd arnoch: eithr arhoswch chwi yn ninas Ierusalem, hyd oni wiscer chwi â nerth o'r vchelder
50 Ac efe a'u dug hwynt allan hyd yn Bethania; ac a gododd ei ddwylo, ac a'i bendithiodd hwynt.
51 Ac fe a ddarfu, tra 'r oeddd efe yn eu bendithio hwynt, ymadel o honaw ef oddi wrthynt, [Page 312] [...] [Page 313] [...] [Page 312] [...] [Page 313] [...] [Page 312] [...] [Page 313] [...] [Page 312] ac efe a ddugpwyd i fynu i'r nêf.
52 Ac wedi iddynt ei addoli ef, hwy a ddychwelasant i Ierusalem, gyd â llawenydd mawr.
53 Ac yr oeddynt yn wastadol yn y Deml, yn moli, ac yn bendithio Duw. Amen.
YR EFENGYL YN ol Sanct IOAN.
PENNOD. I.
YN y dechreuad yr oedd y Gair, a'r Gair oedd gŷd â Duw, a Duw oedd y Gair.
2 Hwn oedd yn y dechreuad gŷd â Duw.
3 Trwyddo ef y gwnaethpwyd pôb peth; ac hebddo ef, ni wnaethpwyd dim a'r a wnaethpwyd.
4 Ynddo ef yr oedd bywyd, a'r bywyd oedd oleuni dynion:
5 A'r goleuni sydd yn llewyrchu yn y tywyllwch a'r tywyllwch nid oedd yn ei amgyffred.
6 Yr ydoedd gŵr wedi ei anfon oddi wrth Dduw, a' i enw Ioan:
7 Hwn a ddaeth yn dystiolaeth, fel y tystiolaethei am y goleuni.
8 Nid efe oedd y goleuni, eithr [efe a anfonasid] fel y tystiolaethei am y goleuni.
9 Hwn ydoedd y gwir oleuni, yr hwn sydd yn goleuo pôb dŷn a'r y sydd yn dyfod i'r bŷd.
10 Yn y byd yr oedd efe, a'r bŷd a wnaethpwyd trwyddo ef; a'r bŷd nid adnabu ef.
11 At ei eiddo ei hun y daeth, a'r eiddo ei hun nis dderbyniasant ef.
12 Ond cynnifer ac a'i derbyniasant ef, efe a roddes iddynt allu i fôd yn feibion i Dduw, [sef] i'r sawl a gredant yn ei enw ef.
13 Y rhai ni aned o waed, nac o ewyllys y cnawd, nac o ewyllys gŵr, eithr o Dduw.
14 A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd, ac a drigodd yn ein plith ni, (ac ni a welsom ei ogoniant ef, gogoniant megis yr vniganedig oddiwrth y Tâd) yn llawn grâs a gwirionedd.
15 Ioan a dystiolaethodd am dano ef, ac a lefodd, gan ddywedyd, Hwn oedd yr vn y dywedais am dano, Yr hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
16 Ac o'i gyfiawnder ef y derbyniasom ni oll, a grâs am ras.
17 Canys y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y grâs a'r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist.
18 Ni welodd neb Dduw erioed: yr vniganedig Fâb, yr hwn sydd ym-monwes y Tâd, hwnnw a'i hyspysodd [ef.]
19 A hon yw tystiolaeth Ioan, pan anfonodd yr Iddewon o Ierusalem offeiriaid a Lefiaid, i ofyn iddo, Pwy wyt ti?
20 Ac efe a gyffesodd, ac ni wadodd, a chyffesodd, Nid myfi yw 'r Christ.
21 A hwy a ofynnasant iddo, Beth ynteu? ai Elias wyt ti? Yntef a ddywedodd, Nagê. Ai 'r Prophwyd wyt ti? Ac efe a attebodd, Nagê.
23 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? [Page 314] fel y rhoddom atteb i'r rhai a'n danfonodd. Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am danat dy hun?
23 Eb efe. Myfi [yw] llêf vn yn gwaeddi yn y diffaethwch, Vniawnwch ffordd yr Arglwydd; fel y dywedodd Esay y Prophwyd.
24 A'r rhai a anfonasid, oedd o'r Pharisæaid.
25 A hwy a ofynnasant iddo, ac a ddywedasant wrtho, Pa ham gan hynny yr wyt ti yn bedyddio, onid ydwyt ti na'r Christ, nac Elias, na'r Prophwyd?
26 Ioan a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Myfi sy yn bedyddio â dwfr, ond y mae [vn] yn sefyll yn eich plith chwi, yr hwn nid adwenoch [chwi:]
27 Efe yw'r hwn sydd yn dyfod ar fy ôl i, yr hwn a aeth, o'm blaen i: yr hwn nid ydwyfi deilwng i ddattod carreî ei escid.
28 Y pethau hyn a wnaethpwyd yn Bethabara, y tu hwnt i'r lorddonen, lle yr oedd Ioan yn bedyddio.
29 Trannoeth, Ioan a ganfu yr Iesu yn dyfod atto, ac efe a ddywedodd, Wele oen Duw, yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r bŷd.
30 Hwn yw efe am yr hwn y dewedais i, Ar fy ôl i y mae gŵr yn dyfod, yr hwn a aeth o'm blaen i: canys yr oedd efe o'm blaen i.
31 Ac mifi nid adwaenwn ef: eithr fel yr amlygid ef i Israel, i hynny y daethym i, gan fedyddio â dwfr.
32 Ac Ioan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Mi a welais yr Yspryd yn descyn megis colommen o'r nêf, ac efe a arhosodd arno ef.
33 A myfi nid adwaenwn ef, eithr yr hwn [Page 315] a'm hanfonodd i fedyddio â dwfr, efe a ddywedodd wrthif. Ar yr hwn y gwelych yr Yspryd yn descyn ac yn aros arno, hwnnw yw 'r vn sy'n bedyddio â'r Yspryd glan.
34 Ac mi a welais, ac a dystiolaethais, mai hwn yw Mâb Duw.
35 Trannoeth drachefn y safodd Ioan, a dau o'i ddiscyblion:
36 A chan edrych ar yr Iesu yn rhodio, efe a ddywedodd, Wele oen Duw.
37 A'r ddau ddiscybl a'i clywsant ef yn llefaru ac a ganlynasant yr Iesu,
38 Yna yr Iesu a droes, a phan welodd hwynt yn canlyn, efe a ddywedodd wrthynt, Beth yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant wrtho ef, Rabbi (yr hwn o'i gyfieithu yw, Athro) pa le yr wyt ti yn trigo?
39 Efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch a gwelwch. A hwy a ddaethant ac a welsant lle yr oedd efe yn trigo, ac a arhosasant gŷd âg ef y diwrnod hwnnw, ac yr oedd hi ynghylch y ddegfed awr.
40 Andreas brawd Simon Petr, oedd vn o'i ddau a glywsent [hynny] gan Ioan, ac a'i dilynasent ef.
41 Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd ei hun Simon, ac a ddywedodd wrtho, Nyni a gawsom y Messias, yr hyn o'i ddeongl yw, y Christ.
42 Ac efe a'i dug ef at yr Iesu. A'r Iesu wedi edrych arno ef a ddywedodd, Ti yw Simon mab Iona, ti a elwir Cephas, yr hwn a gyfieithir, carreg.
42 Trannoeth yr ewyllysiodd yr Iesu fyned allan i Galilæa, ac efe a gafodd Philip, ac a ddywedodd wrtho, Dilyn fi.
44 A Philip oedd o Bethsaida, o ddinas Andreas a Phetr.
45 Philip a gafodd Nathanael, ac a ddywedodd wrtho, Cawsom, yr hwn yr scrifennodd Moses yn y gyfraith, a'r prophwydi am dano, Iesu o Nazareth mâb Ioseph.
46 A Nathanael a ddywedodd wrtho, A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Philip a ddywedodd wrtho, Tyred a gwêl.
47 Iesu a ganfu Nathaniel yn dyfod atto, ac a ddywedodd am dano, Wele Israeliad yn ŵîr, yn yr hwn nid oes dwyll.
48 Nathanael a ddywedodd wrtho, Pa fodd i'm hadwaenost? Iesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, Cyn i Philip dy alw di, pan oeddit tan y figys-bren, mi a'th welais di,
49 Nathanael a attebodd ac a ddywedodd wrtho ef, Rabbi, ti yw Mab Duw, ti yw brenin Israel.
50 Iesu a attebodd, ac a dywedodd wrtho ef, O herwydd i mi ddywedyd i ti, Myfi a'th welais di tan y ffigys-bren, a ydwyt ti yn credu? ti a gei weled pethau mwy, nâ'r rhai hyn.
51 Ac efe a ddywedodd wrtho, Yn wir, yn wîr, meddaf i chwi, Ar ol hyn y gwelwch y nef vn agored, ac Angelion Duw yn escyn, ac yn descyn, ar Fab y dŷn.
PEN. II.
A'R trydydd dydd yr oedd priodas yn Cana Galilæa: a mam yr Iesu oedd yno.
2 A galwyd yr Iesu hefyd a'i ddiscyblion i'r briodas.
3 A phan ballodd y gwin, mam yr Iesu a ddywedodd [Page 317] wrtho efe, Nid oes ganddynt môr gwin.
4 Jesu a ddywedodd wrthi, Beth sydd i mi [a wnelwyf] â thi wraig? ni ddaeth fy awr i etto.
5 Ei fam ef a ddywedodd wrth y gwasanaethwŷr, Beth bynnag a ddywedo efe wrthych gwnewch.
6 Ac yr oedd yno chwech o ddyfr-lestri meini, wedi eu gosod, yn ôl defod puredigaeth yr Iddewon, y rhai a ddalient bôb vn, ddau ffircyn neu dri.
7 Iesu a ddywedodd wrthynt, Llenwch y dyfr-lestri o ddwfr. A hwy a'u llanwasant hyd yr ymyl.
8 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch yn awr, a dygwch at lywodraeth ŵr y wledd. A hwy a ddygasant.
9 A phan brofodd llywodraeth ŵry wledd y dwfr a wnaethid yn wîn, (ac ni wyddei o ba le yr ydoedd, eithr y gwasanaeth wŷr, y rhai a ollyngaseu y dwfr, a wyddent) llywodraeth-wr y wledd a alwodd ar y priod-fab.
10 Ac a ddywedodd wrtho, Pôb dŷn a esyd y gwin da yn gyntaf, ac wedi iddynt yfed yn dda, yna vn a fo gwaeth: titheu a gedwaist y gwin da hyd yr awr hon.
11 Hyn o ddechreu gwyrthiau a wnaeth yr Jesu yn Cana Galilæa, ac a eglurodd ei ogoniant, a'i ddiscyblion a gredasant ynddo.
12 Wedi hyn, efe a aeth i wared i Capernaum efe a'i fam, a'i frodyr, a'i ddiscyblion; ac yno nid arhosasant nemmor o ddyddiau.
13 A Phasc yr Iddewon oedd yn agos, a'r Jesu a aeth i fynu i Jerusalem.
14 Ac a gafodd yn y Deml rai yn gwerthu ychen, a defaid, a cholomennod, a'r newid-wŷr arian yn eistedd:
15 Ac wedi gwneuthur fflangell o fân reffynnau, efe a'i gyrrodd hwynt oll allan o'r Deml; y defaid hefyd a'r ychen, ac a dywalltodd allan arian y newid-wŷr, ac a ddymchwelodd y byrddau,
16 Ac a i lywedodd wrth y rhai oedd yn gwerthu colomennod, Dygwch y rhai hyn oddi ymma, na wnewch dŷ fy Nhâd i, yn dŷ marchnad.
17 A'i ddiscyblion a gofiasant fod yn scrifennedig, Zêl dy dŷ di a'm hysodd i.
18 Yna'r Iddewon a attebasant, ac a ddywedasant wrtho ef, Pa arwydd yr ydwyt ti yn ei ddangos i ni, gan dy fôd yn gwneuthur y pethau hyn?
19 Yr Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Dinistriwch y Deml hon, ac mewn tridiau y cyfodaf hi.
20 Yna'r Iddewon a ddywedasant, Chwe blynedd a deugain y buwyd yn adeiladu y Deml hon, ac a gyfodi di hi mewn tri-diau?
21 Ond efe a ddywedasei am Deml ei gorph.
22 Am hynny, pan gyfododd efe o feirw, ei ddiscyblion ef a gofiasant iddo ddywedyd hyn wrthynt hwy: a hwy a gredasant yr Scrythur, a'r gair a ddywedasei yr Jesu.
23 Ac fel yr oedd efe yn Jerusalem, ar y Pasc, yn yr wŷl, llawer a gredasant yn ei enw ef, wrth weled ei arwyddion a wnaethei efe.
24 Ond nid ymddiriedodd yr Jesu iddynt am dano ei hun, am yr adwaenei efe hwynt oll;
25 Ac nad oedd raid iddo dystiolaethu o neb [iddo] am ddŷn o herwydd yr oedd efe yn gwybod beth oedd mewn dŷn.
PEN. III.
AC yr oedd dŷn o'r Pharisæaid, a'i enw Nicodemus, pennaeth yr Iddewon.
2 Hwn a ddaeth at yr Jesu liw nôs, ac a ddywedodd witho, Rabbi, nyni a wŷddom mai dyscawdur ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Dduw: canys ni allei neb wneuthur y gwrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fôd Duw gyd ag ef.
3 Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddi eithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.
4 Nichodemus a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon dŷn ei eni, ac efe yn hen? a ddichon efe fyned i groth ei fam eilwaith, a'i eni?
5 Jesu a attebodd ac a ddywedodd, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, oddi eithr geni dŷn o ddwfr ac o'r Yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i deyrnas Dduw.
6 Yr hyn a aned o'r cnawd, sydd gnawd: a'r hyn a aned o'r Yspryd, sydd yspryd.
7 Na ryfedda ddywedyd o honofi wrthit, Y mae yn rhaid eich geni chwi drachefn.
8 Y mae 'r gwynt yn chwythu lle y mynno: a thi a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le ŷ mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned. Felly y mae pôd vn a'r a aned o'r Yspryd.
9. Nicodemus a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Pa fodd y dichon y pethau hyn hyn fôd?
10 Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, A [Page 320] wyt ti yn ddyscawdur yr Israel, ac ni wŷddost y pethau hyn?
11 Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, mai yr hyn a wyddom yr ydym yn ei lefaru, a'r hyn a welsom yr ydym yn ei dystiolaethu; a'n tystiolaeth ni nid ydych yn ei derbyn.
12 Os dywedais i chwi bethau daiarol, a chwithau nid ydych yn credu; pa fodd, os dywedaf i chwi bethau nefol, y credwch?
13 Ac ni escynnodd nêb i'r nêf, oddi eithr yr hwn a ddescynnodd o'r nêf, [sef] Mâb y dŷn, yr hwn sydd yn y nêf.
14 Ac megis y derchafodd Moses y sarph yn y diffaethwch, felly y mae yn rhaid derchafu Mâb y dŷn:
15 Fel na choller, pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragwyddol.
16 Canys felly y carodd Duw y bŷd, fel y rhoddodd efe ei vnig anedig Fâb, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, onid caffael o honaw fywyd tragywyddol.
17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fâb i'r bŷd, i ddamnio 'r bŷd, ond fell yr achubid y byd trwyddo ef.
18 Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamnwyd eusys: o herwydd na chredodd yn enw vniganedig Fâb Duw.
19 A hon yw 'r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r bŷd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na 'r goleuni: canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrŵg.
20 O herwydd pôb vn a'r sydd yn gwneuthur [Page 321] drŵg sydd yn casâu y goleuni, ac nid yw yn dyfod i'r goleuni, fel nad argyoedder ei weithredoedd ef:
21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i'r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
22 Wedi y pethau hyn, daeth yr Jesu a'i ddiscyblion i wlâd Judæa; ac arhosodd yno gŷd â hwynt, ac a fedyddiodd.
23 Ac yr oedd Ioan hefyd, yn bedyddio yn Ainon, yn agos i Salim, canys dyfroedd lawer oedd yno: a hwy ddaethant, ac a'u bedyddiwyd.
24 Canys ni fwriasid Ioan etto yngharchar.
25 Yna y bu ymofyn rhwng rhai o ddiscyblion Ioan a'r lddewon, ynghylch puredigaeth:
26 A hwy a ddaethant at Ioan, ac a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr hwn oedd gŷda thi y tu hwnt i'r Iorddonen, am yr hwn y tystiolaethaist di, wele y mae hwnnw yn bedyddio a phawb yn dyfod atto ef.
27 Ioan a attebodd ac a ddywedodd, Ni ddichon dŷn dderbyn dim, oni bydd wedi ei roddi iddo o'r nef.
28 Chwy chwi eich hunain ydych dystion i mi ddywedyd o honofi, Nid myfi yw y Christ, eithr fy mod wedi fy anfon o'i flaen ef.
29 Yr hwn sydd ganddo y briod-ferch, yw 'r priod-fab: ond cyfaill y priod-fab, yr hwn sydd yn sefyll ac yn ei glywed ef, sydd yn llawenychu yn ddirfawr oblegid llef y priod fab; y llawenydd hwn maufi gan hynny a gyflawnwyd.
30 Rhaid ydyw iddo ef gynyddu, ac i minneu leihau.
31 Yr hwn a ddaeth oddi vchod, sydd goruwch pawb oll: yr hwn sydd o'r ddayar, sydd o'r ddayar, ac am y ddayar y mae yn llefaru: yr hwn sydd yn dyfod o'r nef, sydd goruwch pawb.
32 A'r hyn a welodd efe ac a glywodd, hynny y mae efe yn ei dystiolaethu: ond nid oes neb yn derbyn ei dystiolaeth ef.
33 Yr hwn a dderbyniodd ei dystiolaeth èf, a seliodd mai geirwir yw Duw.
34 Canys yr hwn a anfonodd Duw, sydd yn llefaru geiriau Duw: oblegid nid wrth fesur y mae Duw yn rhoddi [iddo ef] yr Yspryd.
35 Y mae y Tâd yn caru y Mâb, ac efe a roddodd bôb peth yn ei law ef.
36 Yr hwn sydd yn credu yn y Mâb, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wêl fywyd eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
PEN. IIII.
PAn wybu 'r Arglwydd gan hynny, glywed o'r Pharisæaid fôd yr Jesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddiscyblion nag Ioan:
2 (Er na fedyddiasei yr Jesu ei hun, eithr ei ddiscyblion ef.)
3 Efe a adawodd Iudæa, ac a aeth drachefn i Galilæa.
4 Ac yr oedd yn rhaid iddo fyned trwy Samaria.
5 Efe a ddaeth gan hynny i ddinas yn Samaria a elwid Sichar, ger llaw y rhandir a roddasei Iacob iw fab Ioseph.
6 Ac yno yr oedd ffynnon, Yr Jesu gan hynny yn ddeffygiol gan y daith, a eisteddodd felly ar y ffynnon: ac ynghylch y chweched awr ydoedd hi.
7 Daeth gwraig o Samaria i dynnu dwfr: a'r Jesu a ddywedodd wrthi, Dyro i mi i yfed.
8. Canys ei ddiscyblion ef a aethent i'r ddinas i brynu bwyd.)
9. Yna 'r wraig o Samaria a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd yr ydwyt ti, a thi yn Iddew, yn gofyn diod gennifi, a myfi yn wraig o Samaria? oblegid nid yw'r Iddewon yn ymgyfeillach â'r Samariaid.
10 Yy Jesu a attebodd ac a ddywedodd whthi, Ped adwaenit ti ddawn Duw, a phwy yw'r hwn sydd yn dywedyd wrthit, Dyro i mi i yfed tydi a ofynnasit iddo ef, ac efe a roddasei i ti ddwfr bywiol.
11 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid oes genniti ddim i godi [dwfr,] a'r pydew sydd ddwfn: o ba le gan hynny y mae genniti y dwfr bywiol hwnnw?
12 A'i mwy wyt ti nâ'n Tâd Iacob, yr hwn a roddodd i ni y pydew, ac efe ei hun a yfod o honaw, a'i feibion, a'i anifeiliaid?
13 Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthi, Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn.
14 Ond pwy bynnag a yfo o'r dwfr a roddwyfi iddo, ni sycheda yn dragywydd: eithr y dwfr a roddwyfi iddo, a fydd ynddo yn ffynnon o ddwfr, yn tarddu i fywyd tragywyddol.
15 Y wraig a ddywedodd wrtho, Arglwydd, dyro i mi y dwfr hwn, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf ymma godi [dwfr.]
16 Jesu a ddywedodd wrthi, Dôs, galw dy ŵr, a thyred ymma.
17 Y wraig a attebodd, ac a ddywedodd, Nid oes gennif ŵr. Jesu a ddywedodd wrthi, Da y dywedaist yn wîr.
18 Canys pump o wŷr a fu i ti, a'r hwn sydd gennit yr awron, nid yw ŵr i ti: hyn a ddywedaist yn wîr.
19 Y wraig a ddywedodd wrtho ef, Arglwydd Mi a welaf mai Prophwyd wyt ti.
20 Ein tadau a addolasant yn y mynydd hwn, ac yr ydych chwi yn dywedyd mai yn Jerusalem y mae 'r man lle y mae 'n rhaid addolî.
21 Jesu a ddywedodd wrthi hi, O wraig, crêd fi, mae 'r awr yn dyfod, prŷd nad addoloch y Tâd, nac yn y mynydd hwn, nac yn Jerusalem.
22 Chwy chwi ydych yn addoli y peth ni wyddoch, ninnau ydym yn addoli y peth a wyddom: canys iechydwriaeth sydd o'r Iddewon:
23 Ond dyfod y mae 'r awr, ac yn awr y mae hi, pan addolo y gwir addol-wŷr y Tâd mewn yspryd a gwirionedd; canys y cyfryw y mae 'r Tâd yn eu ceisio iw addoli ef.
24 Yspryd [yw] Duw; a rhaid i'r rhai a'i haddolant ef, addoli mewn yspryd a gwirionedd.
25 Y wraig a ddywedodd wrtho, Mi a wn fôd y Messias yn dyfod, yr hwn a elwir Christ: pan ddelo hwnnw, efe a fynega i ni bob peth.
26 Jesu a ddywedodd wrthi hi, Myfi, yr hwn wyf yn ymddiddan â thi, yw hwnnw.
27 Ac ar hyn y daeth ei ddiscyblion, a bu ryfedd ganddynt ei fod ef yn ymddiddan â gwraig: er hynny ni ddywedodd neb, Beth a geisi? neu, pa ham yr ydwyt yn ymddiddan â hi?
28 Yna 'r wraig a adawodd ei dwfrlestr, ac a [Page 325] aeth i'r ddinas, ac a ddywedodd wrth y dynion.
29 Deuwch, gwelwch ddŷn, yr hwn a ddywedodd i mi yr hyn oll a wneuthum, onid hwn yw'r Christ?
30 Yna hwy a aethant allan o'r ddinas, ac a ddaethant atto ef.
31 Yn y cyfamser, y discyblion a attolygasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, bwytta.
32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae gennifi fwyd iw fwytta, yr hwn ni wyddoch chwî oddi wrtho.
33 Am hynny y discyblion a ddywedasant wrth ei gilydd, a ddug neb iddo [ddim] iw swytta?
34 Jesu a ddywedodd wrthynt, Fy mwyd i yw gwneuthur ewyllys yr hwn a'm hanfonodd, a gorphen ei waith ef.
35 Onid ydych chwi yn dywedyd, Y mae etto bedwar mis, ac [yna] y daw'r cynhayaf? Wele, yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, Derchefwch eich llygaid ac edrychwch ar y meusydd: canys gwynion ydynt eusus i'r cynhayaf.
36 A'r hwn sydd yn medi, sydd yn derbyn cyflog, ac yn casclu ffrwyth i fywyd tragwyddol: fel y byddo i'r hwn sydd yn hau, ac i'r hwn sydd yn medi lawenhau ynghyd.
37 Canys yn hyn y màe 'r gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yr hwn sydd yn medi.
38 Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch: eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn iw llafur hwynt.
39 A llawer o'r Samariaid o'r ddinas honno [Page 326] a gredasant ynddo, o herwydd gair y wraig, yr hon oedd yn tystiolaethu, efe a ddywedodd i mi'r hyn oll a wneuthum.
40 Am hynny pan ddaeth y Samariaid atto ef, hwy a attolygasant iddo aros gyd a hwynt: ac efe a arhosodd yno ddeuddydd.
41 A mwy o lawer a gredasant ynddo ef, oblegid ei air ei hun.
42 A hwy a ddywedasant wrth y wraig, Nid ydym ni-weithian yn credu oblegid dy ymadrodd di: canys ni a'i clywsom [ef] ein hunain, ac a wyddom mai hwn yn ddiau yw 'r Christ, Iachawdur y bŷd.
43 Ac ym mhen y ddeu-ddydd, efe a aeth ymmaith oddi yno, ac a aeth i Galilæa.
44 Canys yr Jesu ei hun a dystiolaethodd nad ydyw Prophwyd yn cael anrhydedd yn ei wlâd ei hun.
45 Yna pan ddaeth efe i Galilæa, y Galilæaid a'i derbyniasant ef, wedi iddynt weled yr holl bethau a wnaeth efe yn Jerusalem ar yr wŷl: canys hwythau a ddaethant i'r wŷl.
46 Felly yr Jesu a ddaeth drachefn i Cana yn Galilæa, lle y gwnaeth efe y dwfr yn win. Ac yr oedd rhyw bendefig yr hwn yr oedd ei fab yn glâf yn Capernaum.
47 Pan glybu hwn ddyfod o'r Jesu o Iudæa i Galilæa, efe a aeth atto ef, ac a attolygodd iddo ddyfod i wared, ac iachau ei fab ef: canys yr oedd efe ym-mron marw.
48 Yna Jesu a ddywedodd wrtho ef, oni welwch chwi arwyddion a rhyfeddodau, ni chredwch.
49 Y pendefig a ddywedodd wrtho ef, O Arglwydd, tyred i wared cyn marw fy machgen.
50 Jesu a ddywedodd wrth o ef, Dôs ymmaith; y mae dy fab yn fyw. A'r gŵr a gredodd y gair a ddywedasei Jesu wrtho, ac efe a aeth ymmaith.
51 Ac fel yr oedd efe yr awron yn myned i wared, ei weision a gyfarfuant ag ef, ac a fynegasant, gan ddywedyd, Y mae dy fachgen yn fyw.
52 Yna efe a ofynnodd iddynt yr awr y gwellhasei arno. A hwy a ddywedasant wrtho, Doe, y seithfed awr y gadawodd y crŷd ef.
53 Yna y gwybu 'r Tâd mai yr awr honno oedd, yn yr hon y dywedasei Jesu wrtho ef, Y mae dy fâb yn fyw. Ac efe a gredodd, a'i holl dŷ.
54 Yr ail arwydd ymma drachefn a wnaeth yr Jesu, wedi dyfod o Iudæa i Galilæa.
PEN. V.
WEdi hynny yr oedd gwŷl yr Iddewon, a'r Jesu a aeth i fynu i Jerusalem.
2 Ac y mae yn Jerusalem, wrth [farchnad] y defaid, lynn a elwir yn Hebreaeg Bethesda, ac iddo bum porth:
3 Yna y rhai y gorweddei lliaws mawr o rai cleifion, deillion, cloffion, gwywedigion, yn disgwil am gynnhyrfiad y dwfr.
4 Canys Angel oedd ar amserau yn descyn i'r llynn, ac yn cynnhyrfu 'r dwfr: yna yr hwn a elei i mewn yn gyntaf ar ôl cynhyrfu y dwfr, a ai yn iach o ba glefyd bynnag a fyddei arno.
5 Ac yr oedd rhyw ddŷn yno, yr hwn a fuasei glâf namyn dwy flynedd deugain:
6 Yr Jesu pan welodd hwn yn gorwedd, a gwybod ei fôd ef felly yn hìr o amser bellach, a [Page 328] ddywedodd wrtho, A fynnidi dy wneuthur yn iach?
7 Y clâf a attebodd iddo, Arglwydd, nid oes gennif ddŷn i'm bwrw i'r llyn, pan gynhyrfer y dwfr: ond tra fyddwyfi yn dyfod, arall a ddescyn o'm blaen i.
8 Yr Jesu a ddywedodd wrtho, Cyfod, cymmer dy wely i fynu, a rhodia.
9 Ac yn ebrwydd y gwnaed y dŷn yn iach: ac efe a gododd ei wely, ac a rodiodd: a'r Sabbath oedd y diwrnod hwnnw.
10 Am hynni yr Iddewon a ddywedasant wrth yr hwn a wnaethid yn iach, y Sabbath yw hi: nid cyfraithlon i ti godi dy wely.
11 Efe a attebodd iddynt, Yr hwn a'm gwnaeth i yn iach, efe a ddywedodd wrthif, Cyfod dy wely, a rhodia.
12 Yna hwy a ofynnasant iddo, Pwy yw'r dŷn a ddywedodd wrthit ti, Cyfod dy wely a rhodia?
13 A'r hwn a iachasid ni wŷddei pwy oedd efe: canys yr Jesu a giliasei o'r dyrfa oedd yn y fan honno.
14 Wedi hynny 'r Jesu a'i cafodd ef yn y Deml, ac a ddywedodd wrtho, Wele, ti a wnaethpwyd yn iach: na phecha mwyach, rhag digwidd i ti beth a fyddo gwaeth.
15 Y dŷn a aeth ymmaith, ac a fynegodd i'r Iddewon mai'r Jesu, oedd yr hwn a'i gwnaethei ef yn iach.
16 Ac am hynny yr Iddewon a erlidiasant yr Jesu, ac a geisiasant ei ladd ef, oblegid iddo wneuthur y pethau hyn ar y Sabbath.
7a Ond yr Jesu a'u hattebodd hwynt, Y mae [Page 329] fy Nhâd yn gweithio hyd yn hyn, ac yr ydwyf finneu yn gweithio.
18 Am hyn gan hynny yr Iddewon a geisiasant yn fwy ei ladd ef, oblegid nid yn ynig iddo dorri 'r Sabbath, ond hefyd iddo ddywedyd fôd Duw yn Dâd iddo, gan ei wneuthur ei hun yn gystal a Duw.
19 Yna'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi ni ddichon y Mâb wneuthur dim o honaw ei hunan. eithr yr hyn a welo ef y Tâd yn ei wneuthur: canys beth bynnag y mae efe yn ei wneuthur, hynny hefyd y mae y Mâb yr vn ffunyd en ei wneuthur.
20 Canys y Tâd sydd yn caru y Mâb; ac yn dangos iddo yr hyn oll y mae ef yn ei wneuthur, ac efe a ddengys iddo ef weithredoedd mwy nâ'r rhai hyn, fel y rhyfeddoch chwi.
21 Oblegid megis y mae y Tâd yn cyfodi y rhai meirw, ac yn eu bywhau, felly hefyd y mae 'r Mab yn bywhau y rhai a fynno.
22 Canys y Tâd nid yw yn barnu neb, eithr efe a roddes bob barn i'r Mab:
23 Fel yr anrhydeddei pawb y Mab, fel y maent yn anrhydeddu y Tâd, Yr hwn nid yw yn anrhydeddu y Mab, nid yw yn anrhydeddu y Tâd, yr hwn a'i hanfonodd ef.
24 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i'r hwn â'm hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol: ac ni ddaw i farn, eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
25 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, y mae 'r [Page 330] awr yn dyfod, ac yn awr y mae pan glywo y meirw lef Mab Duw: a'r rhai a glywant a fyddant byw.
26 Canys megis y mae gan y Tad fywyd ynddo ei hunan, felly y rhoddes efe i'r Mab hefyd fôd ganddo fywyd ynddo ei hun:
27 Ac a roddes awdurdod iddo i wneuthur barn hefyd, o herwydd ei fôd yn fab dŷn.
28 Na ryfeddwch am hyn: canys y mae 'r awr yn dyfod, yn yr hon y caiff pawb a'r sydd yn y beddau glywed ei leferydd ef.
29 A hwy a ddevant allan, y rhai a wnaethant dda, i adgyfodiad bywyd, ond y rhai a wnaethant ddrwg, i adgyfodiad barn.
30 Ni allaf fi wneuthur dim o honof fy hunan: fel yr ydwyf yn clywed, yr ydwyf yn barnu: a'm barn i sydd gyfiawn: canys nid ydwyf yn ceisio fy ewyllys fy hunan, ond ewyllys y Tad, yr hwn a'm hanfonodd i.
31 Os ydwyfi yn tystiolaethu am danaf fy hunan nid yw fy nhystiolaeth i wir.
32 Arall sydd yn testiolaethu am danafi, ac mi a wn mai gwîr yw y dystiolaeth y mae efe yn ei dystiolaethu am danafi.
33 Chwy chwi a anfonasoch at Ioan, ac efe a ddug dystiolaeth i'r gwirionedd.
34 Ond myfi nid ydwyf yn derbyn tystiolaeth gan ddŷn: eithr y pethau hyn yr ydwyf yn eu dywedyd, fel y gwareder chwi.
35 Efe oedd ganwyll yn llosci, ac yn goleuo: a chwithau oeddych ewyllys-gar i orfoleddu tros amser yn ei oleuni ef.
36 Ond y mae gynnyfi dystiolaeth fwy nag [Page 331] Ioan: canys y gweithredoedd a roddes y Tad i mi iw gorphen, y gweithredoedd hynny, y rhai yr ydwyfi yn eu gwneuthur, sy 'n tystiolaethu am danafi, mai 'r Tâd a'm hanfonodd i.
37 A'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i, efe a dystiolaethodd am danafi. Ond ni chlywsoch chwi ei lais ef vn amser, ac ni welsoch ei wedd ef.
38 Ac nid oes gennych chwi mo'i air ef yn aros ynoch: canys yr hwn a anfonodd efe hwnnw nid ydych chwi yn credu iddo.
39 Chwiliwch yr Scrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol: a hwynt hwy yw y rhai sy 'n tystiolaethu am danafi
40 Ond ni fynnwch chwi ddyfod attafi, fel y caffoch fywyd.
41 Nid ydwyfi yn derbyn gogoniant oddi wrth ddynion:
42 Ond myfi a'ch adwaen chwi, nad oes gennych gariad Duw ynoch.
43 Myfi a ddaethym yn enw fy Nhâd, ac nid ydych yn fy nerbyn i: os arall a ddaw yn ei enw ei hun, hwnnw a dderbyniwch.
44 Pa fodd y gellwch chwi gredu, y rhai ydych yn derbyn gogoniant gan ei gilydd, ac heb geisio y gogoniant sydd oddi wrth Dduw yn vnig?
45 Na thybiwch y cyhuddafi chwi wrth y Tâd: y mae a'ch cyhudda chwi, [séf] Moses, yn yr hwn yr ydych yn gobeithio.
46 Canys pe credasech chwi i Moses, chwi a gredasech i minneu: oblegid am danafi yr yscrifennodd efe.
47 Ond os chwi ni chredwch iw Scrifennadau ef, pa fodd y credwch i'm geiriau i?
PEN. VI.
WEdi y pethau hyn yr aeth yr Jesu tros fôr Galilæa, [hwnnw yw môr] Tiberias.
2 A thyrfa fawr a'i canlynodd ef, canys hwy a welsant ei arwyddion, y rhai a wnaethei efe ar y cleifion.
3 A'r Jesu a aeth i fynu i'r mynydd, ac a eisteddodd yno gyd â'i ddiscyblion.
4 A'r Pasc, gwŷl yr Iddewon, oedd yn agos.
5 Yna 'r Jesu a dderchafodd [ei] lygaid, ac a welodd fôd tyrfa fawr yn dyfodd atto, ac a ddywedodd wrth Philip, O ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwytta?
6 (A hyn a ddywedodd efe iw brofi ef: canys efe a wyddei beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur.)
7 Philip a'i hattebodd ef, Gwerth dau can ceiniog o fara nid yw ddigon iddynt hwy, fel y gallo pôb vn o honynt gymmeryd ychydig.
8 Vn o'i ddiscyblion a ddywedodd wrtho, Andreas brawd Simon Petr,
9 Y mae ymma ryw fachgennyn, a chanddo bum torth haidd, a dau byscodyn: ond beth yw hynny rhwng cynnifer?
10 A'r Jesu a ddywedodd, Perwch i'r dynion eistedd i lawr. Ac ir oedd glaswellt lawer yn y fan [honno.] Felly y gwŷr a eisteddasant i lawr, ynghylch pum mîl o nifer.
11 A'r Jesu a gymmerth y torthau ac wedi iddo ddiolch efe a'u rhannod i'r discyblion ar discyblion ir rhai oedd yn eistedd: felly hefyd o'r pyscod cymmaint ac a fynnasant.
12 Ac wedi eu digoni hwynt, efe a ddywedod wrth ei ddiscyblion, Cesclwch y briwfwyd gweddill, fel na choller dim.
13 Am hynny hwy a'i casclasant, ac â lanwasant ddeuddeg bascedaid o'r briwfwyd, o'r pum torth haidd, a weddillasei gan y rhai a fwittasent
14 Yna y dynion, pan welsant, yr arwydd a wnaethei 'r Jesu, ddywedasant, Hwn yn ddiau yw y Prophwyd oedd ar ddyfod i'r bŷd.
15 Yr Jesu gan hynny, pan wŷbu eu bôd hwy ar fedr dyfod, a'i gippio ef i'w wneuthur yn frenin, a giliodd drachefn i'r mynydd, ei hunain yn vnig.
19 A phan hwyrhaodd hi, ei ddiscyblion a aethant i wared at y môr.
17 Ac wedi iddynt ddringo i long, hwy a aethant tros y môr i Capernaum: ac yr oedd hi weithian yn dywyll: a'r Jesu ni ddaethei attynt hwy.
18 A'r môr, gan wynt mawr yn chwythu, a gododd.
19 Yna, wedi iddynt rwyf o ynghylch pump a'r hugain neu ddeg a'r hugain o stadiau hwy a welent yr Jesu yn rhodio ar y môr, ac yn nesau at y llong; ac a ofnasant.
20 Ond efe a ddywedodd wrthynt, Myfi yw nach ofnwch.
21 Yna y derbyniasant ef yn chwannog i'r llong: ac yn ebrwydd yr oedd y llong wrth y tîr yr oeddynt yn myned iddo.
22 Trannoeth pan welodd y dyrfa oedd yn sefyll y tu hwnt, i'r môr, nad oedd vn llong arall yno, ond yr vn honno, î'r hon yr aethei ei ddiscyblion [Page 334] i'r llong, ond myned o'i ddiscyblion ymmaith ei hunain:
23 Eithr llongau eraill a ddaethent o Tiberias yn gyfagos i'r fan, lle y bwyttasent hwy fara, wedi i'r Arglwydd roddi diolch:
24 Pan welodd y dyrfa gan hynny nad oedd yr Jesu yno, na'i ddiscyblion, hwythau a aethant i longau, ac a ddaethant i Capernaum, dan geisio 'r Jesu.
25 Ac wedi iddynt ei gael ef y tu hwnt i'r môr, hwy a ddywedasant wrtho, Rabbi, pa bryd y daethost i ymma?
26 Yr Jesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, ŷr ydych chwi yn fy ngheisio i, nid o herwydd i chwi weled y gwyrthiau, eithr o herwydd i chwi fwytta o'r torthau, a'ch digoni.
27 Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery î fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mâb y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Tâd.
28 Yna y dywedasant wrtho, Pa beth a wnawn ni, fel y gweithredom weithredoedd Duw?
29 Yr Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd efe.
30 Dywedasant gan hynny wrtho ef, Pa arwyd yr ydwyt ti yn ei wneuthur, fel y gwelom, ac y credom i ti? pa beth yr wyt ti yn ei weithredu?
31 Ein tadau ni a fwyttasant y Manna yn yr anialwch; fel y mae yn scrifennedig, Efe a roddodd iddynt fara o'r nêf i'w fwytta.
32 Yna 'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, nid Moses a roddodd i chwi y bara o'r nêf: eithr fy Nhâd sydd yn rhoddi i chwi y gwîr fara o'r nef.
33 Canys bara Duw ydyw yr hwn sydd yn dyfod i wared o'r nêf, ac yn rhoddi bywyd i'r bŷd.
34 Yna hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, dyro i ni y bara hwn yn oestadol.
35 A'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw bara 'r bywyd: yr hwn sydd yn dyfod attafi, ni newyna: a'r hwn sydd yn credu ynofi, ni sycheda vn amser.
36 Eithr dywedais wrthych, i chwi fy ngweled, ac nad ydych yn credu.
37 Yr hyn oll y mae 'r Tâd yn ei roddi i mi, a ddaw attafi: a'r hwn a ddêl attafi, ni's bwriaf ef allan ddim.
38 Canys myfi a ddescynnais o'r nêf, nid i wneuthur fy ewyllys fy hun, ond ewyllys yr hwn a'm hanfonodd.
39 A hyn yw ewyllys y Tâd a'm hanfonodd i, o'r cwbl a roddes [efe] i mi, na chollwn ddim o honaw, eithr bod i mi ei adgyfodi ef yn y dydd diweddaf.
40 A hyn yw ewyllys, yr hwn a'm hanfonodd i, cael o bob vn sydd yn gweled y Mâb, ac yn credu ynddo ef, fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaf.
41 Yna yr Iddewon a rwgnachasant yn ei erbyn ef, o herwydd iddo ddywedyd, Myfi yw 'r bara a ddaeth i wared o'r nêf.
42 A hwy a ddywedasant, Ond hwn yw Jesu mâb Ioseph, tâd a mam yr hwn a adwaenom ni? [Page 336] pa fodd gan hynny y mae efe yn dywedyd, O'r nêf y descynnais?
43 Yna 'r Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Na furmurwch wrth ei gilydd.
44 Ni ddichon neb ddyfod attafi, oddieithr i'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd, ei dynnu ef: a myfi a'i hadgyfodaf ef y dydd diweddaf.
45 Y mae yn scrifennedig yn y prophwydi, A phawb a fyddant wedi eu dyscu gan Dduw. Pôb vn gan hynny a glywodd gan y Tâd, ac a ddyscodd, sydd yn dyfod attafi.
46 Nid o herwydd gweled o Neb y Tâd, ond yr hwn sydd o Dduw, efe a welodd y Tad.
47 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credo ynofi, sydd ganddo fywyd tragwyddol.
48 Mifi yw bara 'r bywyd.
49 Eich tadau chwi a fwyttasant y Manna yn yr anialwch, ac a fuant feirw.
50 Hwn yw 'r bara sydd yn dyfod i wared o'r nêf, fel y bwyttao dŷn o honaw, ac na byddo marw.
51 Myfi yw 'r bara bywiol, yr hwn a ddaeth i wared o'r nef: os bwytty nêb o'r bara hwn, efe a fydd byw yn dragywydd: a'r bara a roddafi, yw fy nghnawd i, yr hwn a roddafi tros fywyd y bŷd.
52 Yna 'r Iddewon a ymrysonasant â 'i gilydd, gan ddywedyd, Pa fodd y dychon hwn roddi i ni [ei]gnawd iw fwytta?
33 Yna 'r Jesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, meddaf i chwi, oni fwyttewch gnawd Mâb y dŷn, ac [oni] yfwch ei waed ef, nid oes gennych fywyd ynoch.
54 Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac [Page 337] yn yfed fy ngwaed i, sydd ganddo fywyd tragwyddol: ac myfi a'i hadgyfodaf ef yn y dydd diweddaff.
55 Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wîr, a'm gwaed i sydd ddiod yn wyr.
56 Yr hwn sydd yn bwytta fy nghnawd i, ac yn yfed fy ngwaed i, sydd yn aros, ynofi, a minneu ynddo yntef.
57 Fel yr anfonodd y Tâd byw fi, ac yr ydwyfi yn byw drwy 'r Tâd: felly yr hwn sydd yn fy mwytta i, yntef a fydd byw trwofi.
58 Dymma 'r bara a ddaeth i wared o'r nêf: nid megis y bwyttaodd eich tadau chwi y Manna, ac y buant feirw: y neb sydd yn bwytta 'r bara hwn, a sydd byw yn dragywydd.
59 Y pethau hyn a ddywedodd efe yn y Synagog, wrth athrawiaethu yn Capernaum.
60 Llawer gan hynny o'i ddiscyblion, pan glywsant, a ddywedasant, Caled yw 'r ymadrodd hwn: pwy a ddichon wrando arno?
61 Pan wŷbu 'r Jesu ynddo ei hun fôd ei ddiscyblion yn grwgnach am hyn, efe a ddywedodd wrthynt, A ydyw hyn yn eich rhwystro chwi?
62 [Beth] gan hynny os, gwelwch Fâb y dŷn yn derchafu, lle 'r oedd efe o'r blaen?
63 Yr Yspryd yw 'r hyn sydd yn bywhau, y cnawd nid yw yn llesau dim: y geiriau yr ydwyfi yn eu llefâru wrthych, Yspryd ydynt, a bywyd ydynt.
64 Ond y mae o honoch chwi rai nyd ydynt yn credu. Canys yr Jesu a wŷddei o'r dechreuad, pwy oedd y rhai nid oedd yn credu, a phwy oedd yr hwn a'i bradychei ef.
65 Ac efe a ddywedodd, Am hynny y dywedais wrthych, na ddichon neb ddyfod attafi, oni bydd wedi ei roddi iddo oddi wrth fy Nhâd.
66 O hynny allan, llawer o'i ddiscyblion ef a aethant yn eu hôl, ac ni rodiasant mwyach gyd ag ef.
67 Am hynny yr Jesu a ddywedodd wrth y deuddeg, A fynnwch chwithau hefyd fyned ymmaith?
68 Yna Simon Petr a'i hattebodd ef, O Arglwydd, at bwy yr awn ni? gennit ti y mae geiriau bywyd tragwyddol.
69 Ac yr ydym ni yn credu, ac yn gwybod, mai tydi yw y Christ, Mâb y Duw byw.
70 Jesu a'u hattebodd hwynt, Oni ddewisais i chwy-chwi y deuddeg, ac o honoch y mae vn yn ddiafol?
71 Eithr efe a ddywedasei am Iudas Iscariot, [mab] Simon: canys hwn oedd ar fedr ei fradychu ef: ac efe yn vn o'r deuddeg.
PEN. VII.
AR Jesu a rodiodd, ar ôl y pethau hyn, yn Galilæa: canys nid oedd efe yn chwennych rhodio yn Iudæa, oblegid bôd yr Iddewon yn ceisio ei ladd ef.
2 A gwŷl yr Iddewon, [sef] gwŷl y Pebyll oedd yn agos.
3 Am hynny ei frodyr ef a ddywedasant wrtho, Cerdda ymmaith oddi ymma, a dôs i Iudæa, fel y gwelo dy ddiscyblion dy weîthredoedd di, y rhai yr ydwyt yn eu gwneuthur.
4 Canys nid oes neb yn gwneuthur dim yn ddirgel, ac yntef yn ceisio bôd yn gyhoedd: od wyt ti yn gwneuthur y pethau hyn, amlyga dy hun i'r byd.
5 Canys nîd oedd ei frodyr yn credu ynddo.
6 Yna'r Jesu a ddywedodd wrthynt hwy, Ni ddaeth fy amser i etto: ond eich amser chwi sydd yn wastad yn barod.
7 Ni ddichon y byd eich casau chwi, ond myfi, y mae yn ei gasâu, o herwydd fy môd i yn tystiolaethu am dano, fôd ei weithredoedd ef yn ddrwg.
8 Ewch chwi i fynu i'r wŷl hon: nid wyfi etto yn myned i fynu i'r wŷl hon, oblegid ni chyflawnwyd fy amser i etto.
9 Gwedi iddo ddywedyd y pethau hyn wrthynt, efe a arhosodd yn Galilæa.
10 Ac wedi myned o'i frodyr ef i fynu, yna yntef hefyd a aeth i fynu i'r wŷl nid yn amlwg, ond megis yn ddirgel.
11 Yna yr Iddewon a'i ceisiasant ef yn yr wŷl, ac a ddywedasant, Pa le y mae efe?
12 A murmur mawr oedd am dano ef ymmysc y bobl: canys rhai a ddywedent, Gŵr da yw: ac eraill a ddywedent, Nagê, eithr twyllo y bobl y mae;
13 Er hynny ni lefarodd neb yn eglur am dano ef, rhag ofn yr Iddewon.
14 Yr awron ynghylch canol yr wŷl, yr Jesu a aeth i fynu i'r Deml, ac a athrawiaethodd.
15 A'r Iddewon a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa fodd y meidr hwn ddysceidiaeth, [ac ynteu] heb ddyscu.
16 Yr Jesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd Fy nysceidiaeth, nid eiddo fi yw, eithr eiddo, yr hwn a'm hanfonodd i.
17 Os ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, [Page 340] efe a gaiff wŷbod am y ddysceidiaeth, pa'vn ai o Dduw y mae hi, ai myfi o honof fy hun sydd yn llefaru.
18 Y mae 'r hwn sydd yn llefaru o honaw ei hun, yn ceisio ei ogoniant ei hun: ond yr hwn sydd yn ceisio gogoniant yr hwn a'i hanfonodd, hwnnw sydd eir wîr, ac anghyfiawnder nid oes ynddo ef.
19 Oni roddes Moses i chwi y gyfraith, ac nid oes neb o honoch yn gwneuthur y gyfraith? pa ham yr ydych yn ceisio fy lladd i?
20 Y bobl a attebodd, ac a ddywedodd, Y mae gennit ti gythrael: pwy sydd yn ceisio dy ladd di?
21 Yr Jesu a attebodd ac a ddywedodd wrthynt, Vn weithred a wneuthum, ac yr ydych oll yn rhyfeddu.
22 Am hynny y rhoddes Moses i chwi yr enwaediad, (nid o herwydd ei fôd o Moses, eithr o'r tadau) ac yr ydych yn enwaedu ar ddŷn, ar y Sabbath
23 Os yw dŷn yn derbyn enwaediad ar y Sabbath, heb dorri cyfraith Moses, a ydych yn llidiog wrthifi, am i mi wneuthur dŷn yn holliach ar y Sabbath?
24 Na fernwch wrth y golwg eithr bernwch farn gyfiawn.
25 Yna y dywedodd rhai o'r Jerosolymitaniaid, Ond hwn yw 'r vn maent hwy yn ceisio ei ladd?
26 Ac wele, y mae yn llefaru ar gyhoedd, ac nid ydynt yn dywedyd dim wrtho ef: a wŷbu y Pennaethiaid mewn gwirionedd, mai hwn yw Christ yn wyr?
27 Eithr nyni a adwaenom hwn, o ba le y mae; eithr pan ddêl Christ, ni's gwŷr neb o ba le y mae.
28 Am hynny yr Iesu, wrth athrawiaethu yn y Deml a lefodd, ac a ddywedodd, Chwi a'm hadwaenoch i, ac a wŷddoch o ba le yr ydwyfi; ac ni ddaethym i o honof fy hun, eithr y mae yn gywir yr hwn a'm hanfonodd i, yr hwn nid adwaenoch chwi.
29 Ond myfi a'i hadwen, oblegid o honaw ef yr ydwyfi, ac efe a'm hanfonodd i.
30 Am hynny hwy a geisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddaethei ei awr ef etto.
31 A llawer o'r bobl a gredasant ynddo, ac a ddywedasant, Pan ddelo Christ, a wna efe fwy o arwyddion, nâ'r rhai hyn a wnaeth hwn?
32 Y Pharisæaid a glywsant fod y bobl yn murmur y pethau hyn am dano ef; a'r Pharisæaid, a'r Arch offeiriaid, a anfonasant swyddogion iw ddal ef.
33 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Yr ydwyfi ychydig amser etto gyd â chwi, ac yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd.
34 Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle yr ydwyfi, ni ellwch chwi ddyfod.
35 Yna y dywedodd yr Iddewon yn eu mysc eu hun, I ba le y mae hwn ar fedr myned, fel na chaffom ni ef? ai at y rhai sy ar wascar ymmhlith y Groegiaid y mae efe ar fedr myned, a dyscu 'r Groegiaid?
36 Pa ymadrodd yw hwn a ddywedodd efe, Chwi a'm ceisiwch, ac ni'm cewch: a lle 'r ydwyfi, ni ellwch chwi ddyfod.
37 Ac ar y dydd diweddaf, y [dydd] mawr o'r wŷl, y safodd yr Iesu, ac a lefodd, gan ddywedyd, Od oes ar neb syched, deued attafi, ac yfed.
38 Yr hwn sydd yn credu ynofi, megis y dywedodd yr Scrythyr, afonydd o ddwfr bywiol a ddylifant o'i groth ef.
39 (A hyn a ddywedodd efe am yr Yspryd, yr hwn a gai y rhai a gredent ynddo ef ei dderbyn: canys etto nid oedd yr Yspryd glân [wedi ei roddi,] o herwydd na ogoneddasid yr Iesu etto.
40 Am hynny llawer o'r bobl, wedi clywed yr ymadrodd [hwn,] a ddywedasant, Yn wir, hwn yw'r prophwyd.
41 Eraill a ddywedasant, Hwn yw Christ: eraill a ddywedasant, Ai o Galilæa y daw Christ?
42 Oni ddywedodd yr Scrythyr mai o hâd Dafydd, ac o Bethlehem, y dref lle y bu Ddafydd, y mae Christ yn dyfod?
43 Felly yr aeth ymrafael ym-mysc y bobl o'i blegid ef.
44 A rhai o honynt a fynnasent ei ddal ef: ond nî osododd neb ddwylo arno.
45 Yna y daeth y swyddogion at yr Arch-offeiriaid, a'r Pharisæaid: a hwy a ddywedasant wrthynt hwy, Pa ham na ddygasoch chwi ef?
46 A'r swyddogion a attebasant, Ni lefarodd dŷn erioed fel y dŷn hwn.
47 Yna y Pharisæaid a attebasant iddynt, A hudwyd chwithau hefyd?
48 A gredodd neb o'r pennaethiaid ynddo ef, neu o'r Pharisæaid.
49 Eithr y bobl hyn, y rhai ni wŷddant y gyfraith, melldigedig ydynt.
50 Nichodemus (yr hwn a ddaethei at yr Iesu o hŷd nos, ac oedd vn o honynt) a ddywedodd wrthynt,
51 A ydyw ein cyfraith ni yn barnu dŷn, oddieithr clywed ganddo ef yn gyntaf, a gwŷbod beth a wnaeth efe?
52 Hwythau a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, A ydwyt titheu o Galilæa? chwilia a gwêl, na chododd prophwyd o Galilæa.
53 A phob vn aeth iw dŷ ei hun.
PEN. VIII.
A'R Iesu a aeth i fynydd yr Oliwydd:
2 Ac a ddaeth drachefn y boreu i'r Deml, a'r holl bobl a ddaeth atto ef: yntef a eisteddodd, ac a'u dyscodd hwynt.
3 A'r Scrifennyddion a'r Pharisæaid, a ddygasant atto ef wraig, yr hon a ddaliasid mewn godineb; ac wedi ei gosod hi yn y canol.
4 Hwy a ddywedasant wrtho, Athro, y wraig hon a ddaliwyd ar y weithred yn godinebu.
5 A Moses yn y gyfraith a orchymynnodd i ni labyddio y cyfryw: beth gan hynny yr wyt ti yn ei ddywedyd?
6 A hyn a ddywedasant hwy gan ei demtio ef, fel y gallent ei gyhuddo ef. Eithr yr Iesu, wedi ymgrymmu tu a'r llawr, a scrifennodd a'i fys ar y ddayar, heb gymmeryd arno [eu clywed.]
7 Ond fel yr oeddynt hwy yn parhau yn gofyn iddo, efe a ymvniawnodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yr hwn sydd ddi-bechod o honoch, tafled yn gyntaf garreg atti hi.
8 Ac wedi iddo eilwaith ymgrymmu tua 'r llawr, efe a scrifennodd ar y ddaiar.
9 Hwythau pan glywsant hyn, wedi hefyd eu hargyoeddi gan eu cydwybod, a aethant allan o vn i vn, gan ddechreu o'r hynaf, hyd yr olaf: a gadawyd yr Iesu yn vnig, a'r wraig yn sefyll yn y canol.
10 A'r Iesu wedi ymvniawni-ac heb weled neb, ond y wraig, a ddywedodd wrthi, Ha wraig, pa le y mae dy gyhudd-wyr di? oni chondemnodd neb di?
11 Hitheu a ddywedodd, Na ddo neb, Arglwydd. A dywedodd yr Iesu wrthi, Nid wyf finneu yn dy gondemno di: dôs, ac na phecha mwyach.
12 Yna y llefarodd yr Iesu wrthynt drachefn, gan ddywedyd, Goleuni y bŷd ydwyf fi: yr hwn a'm dilyno i, ni rodia mewn tywyllwch, eithr efe a gaiff oleuni y bywyd.
13 An hynny y Pharisæaid a ddywedasant wrtho, Tydi sydd yn tystiolaethu am danat dy hun, nid yw dy dystiolaeth di wîr.
14 Yr Iesu o attebodd, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Er fy mod i yn tystiolaethu a'm danaf fy hun, y mae fy nhystiolaeth i yn wir: oblegid mi a wn o ba le y daethym, ac i ba le yr ydwyf yn myned, chwithau ni's gwyddoch o ba le yr wyf fi yn dyfod, nac i ba le yr wyfi yn myned.
15 Chwy-chwi sydd yn barnu yn ôl y cnawd, nid ydwyf fi yn barnu neb.
16 Ac etto os wyf fi yn barnu, y mae fy marn i yn gywir: oblegid nid wyfi yn vnig, ond myfi a'r Tad, yr hwn a'm hanfonodd i.
17 Y mae hefyd yn scrifennedig yn eich cyfraith chwi, mai gwir yw tystiolaeth dau ddŷn.
18 Myfi yw 'r hwn sydd yn tystiolaethu am danaf fy hun, ac y mae 'r Tâd, yr hwn a'm hanfonodd i, yn tystiolaethu am danafi.
19 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae dy dâd ti? Yr Iesu a attebodd, Nid adwaenoch na myfi na'm Tad; ped adnabuasech fi, chwi a adnabuasech fy Nhad i hefyd.
20 Y geiriau hyn a lefarodd yr Iesu yn y tryssor-dy, wrth athrawiaethu yn y Deml: ac ni ddaliodd neb ef, am na ddaethei ei awr ef etto.
21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy drachefn, Yr wyf fi y myned ymmaith, a chwi a'm ceisiwch i, ac a fyddwch feirw yn eich pechod: lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
22 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, A ladd efe ef ei hun? gan ei fod yn dywedyd, lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod.
23 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Chwychwi sydd oddisod, minneu sydd oddi vchod, chwy-chwi sydd o'r bŷd hwn, minneu nid wyf o'r bŷd hwn.
24 Am hynny y dywedais wrthych, y byddwch chwi feirw yn eich pechodau: oblegid oni chredwch chwi mai myfi yw [efe,] chwi a fyddwch feirw yn eich pechodau.
25 Yna y dywedasant wrtho, Pwy wyt ti? A'r Iesu a ddywedodd wrthynt, Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd hefyd wrthych o'r dechreuad.
26 Y mae gennifi lawer o bethau iw dywedyd, ac iw barnu am danoch chwi: eithr cywir yw 'r hwn a'm hanfonodd i: a'r pethau a glywais i ganddo, y rhai hyn yr ydwyfi yn eu dywedyd i'r bŷd.
27 Ni wyddent hwy mai am y Tad yr oedd efe yn dywedyd wrthynt hwy.
28 Am hynny y dywedodd yr Iesu wrthynt, Pan dderchafoch chwi Fab y dŷn, yna y cewch wybod mai myfi yw [ef,] ac nad wyfi yn gwneuthur dim o honof fy hun, ond megis y dyscodd fy Nhad fi, yr wyf yn llefaru y pethau hyn.
29 Ar hwn a'm hanfonodd i sydd gyd â myfi: ni adawodd y Tâd fi vn vnic, oblegid yr wyfi yn gwneuthur bob amser, y pethau sy fodlon ganddo ef.
30 Fel yr oedd efe yn llefaru y pethau hyn, llawer a gredasant ynddo ef.
31 Yna y dywedodd yr Iesu wrth yr Iddewon a gredasent ynddo, Os arhoswch chwi yn fy ngair i, discyblion i mi ydych yn wir:
32 A chwi a gewch wybod y gwirionedd a'r gwirionedd a'ch rhyddhâ chwi.
33 [Hwythau a] attebasant iddo, Had Abraham ydym ni, ac ni wasanaethasom ni neb erioed: pa fodd yr wyt ti yn dywedyd, Chwi a wneir yn rhyddion?
34 Yr Iesu a attebodd iddynt, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, pwy bynnag sydd yn gwneuthur pechod, y mae efe yn wâs i bechod.
35 Ac nid yw y gwâs yn aros yn tŷ byth: y mab sydd yn aros byth.
36 Os y mab gan hynny a'ch rhyddhâ chwi, rhyddion fyddwch yn wîr.
37 Mi a wn mai hâd Abraham ydych chwi: ond yr ydych chwi yn ceisio y lladd i, am nad yw fy ngair yn genni ynoch chwi.
38 Yr wyfi yn llefaru yr hyn a welais gyd a'm [Page 347] Tad i: chwitheu sydd yn gwneuthur yr hyn a welsoch gyd â'ch tâd chwithau.
39 Hwythau a attebasant, ac a ddewedasant wrtho, Ein tâd ni yw Abraham. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe plant Abraham fyddech, gweithredoedd Abraham a wnaech.
40 Eithr yn awr yr ydych chwi yn ceisio fy lladd i, dŷn a ddywedais i chwi y gwirionedd, yr hwn a glywais i gan Dduw: hyn ni wnaeth Abraham.
41 Yr ydych chwi yn gwneuthur gweithredoedd eich tad chwi. Am hynny y dywedasant wrtho, Nid trwy butteindra y cenhedlwyd ni: vn Tâd sydd gennym ni, [sef] Duw.
42 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt hwy, Pe Duw fyddei eich Tad, chwi a'm carech i: canys oddiwrth Dduw y deilliais, ac y daethym i, oblegid nid o honaf fy hun y daethym i, ond efe a'm hanfonodd i.
43 Pa ham nad ydych yn deall fy lleferydd i? am na ellwch wrando fy ymadrodd i.
44 Och tad diafol yr ydych chwi, a thrachwantau eich tad a fynnwch chwi eu gwneuthur: lleiddiad dyn oedd efe o'r dechreuad, ac ni safodd yn y gwirionedd, oblegid nid oes gwirionedd ynddo ef. Pan yw yn dywedyd celwydd, o'r eiddo ei hun y mae yn dywedyd: canys y mae yn gelwyddog, ac yn dad iddo.
45 Ac am fy môd i yn dywedyd y gwirionedd nid ydych yn credu i mi.
46 Pwy o honoch a'm argyoedda i o bechod? ac od wyfi yn dywedyd y gwir, pa ham nad ydych yn credu i mi?
47 Y mae yr hwn sydd o Dduw, yn gwrando geiriau Duw; am hynny nid ydych chwi yn eu gwrando, am nad ydych o Dduw.
48 Yna 'r attebodd yr Iddewon, ac y dywedasant wrtho ef, Ond da yr ydym ni yn dywedyd, mai Samaritan wyt ti, a bod gennit gythrael?
49 Yr Iesu a attebodd, Nid oes gennif gythrael ond yr wyfi yn anrhydeddu fy Nhâd, ac yr ydych chwithau yn fy ni anrhydeddu inneu.
50 Ac nid wyfi yn ceisio fy ngogoniant fy hun: y mae a'i cais, ac a farn.
51 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceidw neb fy ymadrodd i, ni wel efe farwolaeth yn dragywydd.
52 Yna y dywedodd yr Iddewon wrtho, Yr awron y gwyddom fod gennit gythrael: bu Abraham farw, a'r Prophwydi, ac meddi di, Os ceidw neb fy ymadrodd i, nid archwaetha efe farwolaeth yn dragywydd.
53 Ai mwi wyt ti nag Abraham ein tad ni, yr hwn a fu farw? a'r prophwydi a fuant feirw: pwy yr wyt ti yn dy wneuthur dy hun.
54 Yr Iesu a attebodd, Os wyfi yn fy ngogoneddu fy hun, fy ngogoniant i nid yw ddim: fy Nhâd yw 'r hwn sydd yn fy ngogoneddu i, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd mai eich Duw chwi yw.
55 Ond nid adnabuoch chwi ef: eithr myfi a'i hadwaen ef: ac os dywedaf nad adwaen ef, myfi a fyddaf debyg i chwi, yn gelwyddog: ond mi a 'i hadwaen ef, ac yr wyf yn cadw ei ymadrodd ef.
56 Gorfoledd oedd gan eich tad Abraham [Page 349] weled fy nydd: ac efe a'i gwelodd hefyd, ac a lawenychodd.
57 Yna y dyewedodd yr Iddewon wrtho, Nid wyt ti ddeng-mlwydd a deugain etto, ac a welaist ti Abraham?
58 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi cyn bod Abraham, yr wyf fi.
59 Yna hwy a godasant gerrig iw taflu atto ef. A'r Iesu a ymguddiodd, ac a aeth allan o'r Deml, gan fyned trwy eu canol hwynt: ac felly yr aeth efe heibio.
PEN. IX.
AC wrth fyned heibio, efe a a ganfu ddyn dall o'i enedigaeth.
2 A'i ddisciblion a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall?
3 Yr Iesu a attebodd, Nid hwn a bechodd, na 'i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef.
4 Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a'm hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae y nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio.
5 Tra yr ydwyf yn y bŷd, goleuni y byd ydwyf.
6 Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o'r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall:
7 Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, anfonedig) Am hynny efe a aeth ymmaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
8 Y cymmydogion gan hynny a'r rhai a'i gwelsent ef o'r blaen, mâi dall oedd efe, a ddywedasant, [Page 350] Onid hwn yw 'r vn oedd yn eistedd, ac yn cardotta?
9 Rhai a ddywedasant, Hwn yw [efe:] ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntef a ddywedodd, Myfi yw [efe.]
10 Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di?
11 Yntef a attebodd ac a ddywedodd, Dŷn a elwir Iesu a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i, ac a ddywedodd wrthif, Dôs i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg.
12 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntef a ddywedodd, Ni wn i.
13 [Hwythau] ai dygasant ef, at y Pharisæaid, yr hwn gynt [a fuasei] yn dall.
14 A'r Sabbath oedd hi, pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef.
15 Am hynny y Pharisæaid hefyd a ofynnasant iddo drachefn, pa fodd y cawsei efe ei olwg. Yntef a ddywedodd wrthynt, clai a osododd efe ar fy llygaid i, ac mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled.
16 Yna rhai o'r Pharisæaid a ddywedasant, Nid yw y dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw y Sabbath. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith.
17 Hwy a ddywedasant drachefn with y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd am dano ef, am agoryd o honaw dy lygaid di? Yntef a ddywedodd, Mai Prophwyd yw [efe,]
18 Am hynny ni chredei yr Iddewon am dano [Page 351] ef, mai dall fuasei, a chael o honaw ef ei olwg nes galw o honynt ei rieni ef, yr hwn a gawsei ei olwg.
19 A hwy a ofynnasant iddynt, gan ddywedyd Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr.
20 Ei rieni ef a attebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn dall y ganwyd ef:
21 Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, n'is gwyddom ni, neu pwy a agorodd eu lygaid ef, ni's gwyddom ni: y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef, efe a ddywed am dano ei hun:
22 Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni yr Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eusys, os cyfaddesei neb ef yn Grist, y bwrid ef allan or Synagog.
23 Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran, gofynnwch iddo ef.
24 Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasei yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro'r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw y dŷn hwn.
25 Yna yntef a attebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, ni's gwn i; vn peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyfi yn awr yn gweled.
26 Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di?
27 Yntef a attebodd iddynt, mi a ddywedais i chwi eusys, ac ni wrandawsoch: pa ham yr ydych [Page 352] yn ewyllysio clywed trachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddiscyblion iddo ef?
28 Hwythau a'i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddiscybl iddo ef, eithr discyblion Moses ydym ni.
29 Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses; eithr hwn ni's gwyddom ni o ba le y mae efe.
30 Y dŷn a attebodd, ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i.
31 Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addol-wr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando.
32 Ni chlybvwyd erioed agoryd o neb lygaid vn a anesid yn ddall.
33 Oni bai fôd hwn o Dduw, ni allei efe wneuthur dim.
34 Hwy a attebasant, ac a ddywedasant wrtho. Mewn pechodau y ganwyd ti oll, ac a wyt ti yn ein dyscu ni? A hwy a'i bwriâsant ef allan.
35 Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym-Mab Duw.
36 Yntef a attebodd ac a ddywedodd, Pwy yw [efe] o Arglwydd, fel y credwyf ynddo?
37 A'r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a'i gwelaist ef, a'r hwn sydd yn ymddiddan a thi, hwnnw ydyw efe.
38 Yntef a ddywedodd, Yr wyfi ŷn credu, o Arglwydd, ac efe a'i haddolodd ef.
39 A'r Iesu a ddywedodd, I farn y daethym i'r bŷd hwn: fel y gwelei y rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elei y rhai sy yn gweled, yn ddeillion.
40 A rhai o'r Pharîsæaid a oedd-gyd ag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion?
41 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddei arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled: am hynny y mae eich pechod yn aros.
PEN. X.
YN wîr, yn wîr, maddaf i chwi, yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy 'r dwrs î gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac yspeiliwr yw.
2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy 'r drws, bugail y defaid ydyw.
3 I hwn y mae y dryssor yn agoryd, ac y mae y defaid yn gwrando ar ei lais er: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan.
4 Ac wedi îddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hwy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef.
5 Ond y dieithr ni's canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid.
6 Y ddammeg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt.
7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt [Page 354] drachefn, Yn wîr, yn wîr meddaf i chwi, myfi yw drws y defaid.
8 Cynnifer oll ac a ddaethant o'm blaen i, lladron ac yspeil-wŷr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt.
9 Myfi yw y drws: os â neb i mewn drwofi, efe a fydd cadwedig: ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa.
10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ledratta, ac i ddestrywio, myfi a ddaethym fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach.
11 Myfi yw 'r bugail da: y bugail da sydd yn rhoddi ei enioes dros y defaid.
12 Eithr y gwâs cyflog, a'r hwn nid yw fugail yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadel y defaid, ac yn ffoi: a'r blaidd sydd yn ei sclyfio hwy ac yn gwascaru y defaid.
13 Y mae 'r gwâs cyflog yn ffoi, oblegid mai gwâs cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid.
14 Myfi yw y bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a'm hadweinir gan yr eiddo fi.
15 Fel yr edwyn-y Tad fyfi, [felly] yr adwaen inneu y Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy enioes dros y defaid.
16 A defaid eraill sy gennif, y rhai nid ŷnt ô'r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sy raid i mi eu cyrchu, a'm llais i a wrandawant, a bydd vn gorlan, [ac] vn bugâil.
17 Am hyn y mae y Tâd yn fy ngharu i am fy mod i yn dodi fy enioes fel y cymmerwyf hi drachefn.
18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnafi: ond [Page 355] myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun: y mae gennif feddiant iw dodi hi i lawr, ac y mae gennif feddiant iw chymmeryd hi drachefn: y gorchymmyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhâd.
19 Yna y bu drachefn ymrafael ym mysc yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn.
20 A llawer o honynt a ddywedasant, Y mae cythrael ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: pa ham y gwrandewch chwi arno ef?
21 Eraill a ddywedasant, Nid yw y rhaî hyn eiriau vn a chythrael ynddo: a all cythrael agoryd llygaid y deillion?
22 Ac yr oedd y Gyssegr-wŷl yn Ierusalem, a'r gayaf oedd hi:
23 Ac yr oedd yr Iesu yn rhodio yn y Deml, ym-mhorth Solomon:
24 Am hynny y daeth yr Iddewon yn ei gylch ef, ac a ddywedasant wrtho, Pa hyd yr wyt yn peri i nî ammeu? os tydi yw y Christ, dywed i ni yn eglur.
25 Yr Iesu a attebodd iddynt, mi a ddywedais i chwi, ac nid ydych yn credu, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur yn enw fy Nhad, y mae y rhai hyn yn tystiolaethu am danafi.
26 Ond chwi nid ydych yn credu: canys nid ydych chwi o'm defaîd i, fel y dywedais i chwi.
27 Y mae fy nefaid i yn gwrando fy llais i, ac mi a'u hadwen hwynt, a hwy a'm canlynant i.
28 A minneu ydwyf yn rhoddi iddynt fywyd▪ tragwyddoll: ac ni chyfrgollant byth, ac ni ddwg neb hwynt allan o'm llaw i.
29 Fy Nhâd i, yr hwn a'u rhoddes i mi, sydd [Page 356] fwy nâ phawb: ac ni's gall neb eu dwyn hwynt allan o law fy Nhad i.
30 Myfi a'r Tâd vn ydym.
31 Am hynny y cododd yr Iddewon gerrig drachefn iw labyddio ef.
32 Yr Iesu a attebodd iddynt, Llawer o weithredoedd da a ddangosais i chwi oddi wrth fy Nhad: am ba vn o'r gweithredoedd hynny yr ydych yn fy llabyddio i?
33 Yr Iddewon a attebasant iddo, gan ddywedyd, Nid am weithred dda yr ydym yn dy labyddio, ond am gabledd, ac am dy fôd ti, a thitheu yn ddŷn, yn dy wneuthur dy hun yn Dduw.
34 Yr Iesu a attebodd iddynt, Onid yw yn scrifennedig yn eich cyfraith chwi? Mi a ddywedais, duwiau ydych.
35 Os galwodd [efe] hwy yn dduwiau, at y rhai y daeth gair Duw, a'r Scrythur ni's gellir ei thorri:
36 A ddywedwch chwi am yr hwn a sancteiddiodd y Tâd, ac a'i hanfonodd i'r byd, Yr wyti yn cablu; am i mi ddywedyd, Mab Duw ydwyf?
37 Onid wyfi yn gwneuthur gweithredoedd fy Nhâd, na chredwch i mi.
38 Ond os ydwyf yn eu gwneuthur, er nad ydych yn credu i mi, credwch y gweithredoedd fel y gwybyddoch ac y credoch, fôd y Tâd ynofi, a minneu ynddo yntef.
39 Am hynny y ceisiasant drachefn ei ddal ef: ac efe a ddiàngodd allan o'u dwylo hwynt.
40 Ac efe a aeth ymaith drachefn tros yr Iorddonen, i'r man lle y buasei Ioan ar y cyntaf yn bedyddio; ac a arhosodd yno.
41 A llawer a ddaethant atto ef, ac a ddywedasant, Ioan yn wîr ni wnaeth vn arwydd: ond yr holl bethau a'r a ddywedodd Ioan am hwn, oedd wîr.
42 A llawer yno a gredasant ynddo.
PEN. XI.
AC yr oedd vn yn glâf, Lazarus o Bethania, o dref Mair a'i chwaer Martha:
2 (A Mair ydoedd yr hon a enneinoidd yr Arglwydd ag ennaint, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt; yr hwn yr oedd ei brawd Lazarus yn glâf)
3 Am hynny y chwiorydd a ddanfonasant atto ef, gan ddywedyd, Arglwydd, wele, y mae yr hwn sydd hoff genniti yn glâf.
4 A'r Iesu pan glybu, a ddywedodd, Nid yw y clefyd hwn i farwolaeth, ond er gogoniant Duw, fel y gogonedder Mâb Duw trwy hynny.
5 A hoff oedd gan yr Iesu Fartha, a'î chwaer, a Lazarus.
6 Pan glybu ef gan hynny, ei fôd ef yn glâf, efe a arhosodd yn y lle yr oedd, ddau ddiwrnod:
7 Yna wedi hynny efe a ddywedodd wrth y disciblyon, Awn i Judæa drachefn.
8 Y disciblyon a ddywedasant wrtho, Rabbi, yr oedd yr Iddewon yn awr yn ceisio dy labyddio di, ac a wyt ti yn myned yno drachefn?
9 Yr Iesu a attebodd, Onid oes deuddeg awr o'r dydd? os rhodia neb y dydd, ni thramgwydda: am ei fôd yn gweled goleuni y bŷd hwn:
10 Ond os rhodia neb y nôs, efe a dramgwydda: am nad oes goleuni ynddo.
11 Hyn a lefarodd efe: ac wedi hynny efe a ddywedodd wrthynt, Y mae ein cyfaill Lazarus [Page 358] yn huno: ond yr wyfi yn myned i'w ddihuno ef.
12 Yna ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Arglwydd, os huno y mae efe a fydd iach.
13 Ond yr Iesu a ddywedasei am ei farwolaeth ef: eithr hwy a dybiasant mai am hun cwsc yr oedd efe yn dywedyd.
14 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt yn eglur. Bu farw Lazarus;
15 Ac y mae yn llawen gennif nad oeddwn i yno, er eich mwyn chwi (fel y credoch:) ond awn atto ef.
16 Yna y dywedodd Thomas, yr hwn a elwir Didymus, wrth ei gyd-ddiscyblion, Awn ninnau hefyd, fel y byddom feirw gyd ag ef.
17 Yna yr Iesu wedi dyfod, a'i cafodd ef wedi bôd weithian bedwar diwrnod yn y bedd.
18 A Bethania oedd yn agos i Ierusalem, ynghylch pymtheg stâd oddi wrthi:
19 A llawer o'r Iddewon a ddaethent at Martha a Mair, iw cyssuro hwy am eu brawd.
20 Yna Martha, cyn gynted ac y clybu hi fôd yr Iesu yn dyfod, a aeth iw gyfarfod ef; ond Mair a eisteddodd yn y tŷ.
21 Yna y dywedodd Martha wrth yr Iesu, Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni buasei farw fy mrawd.
22 Eithr mi a wn hefyd yr awron, pa bethau bynnag a ddymunech di gan Dduw, y dyry Duw i ti.
23 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Adgyfodir dy frawd drachefn.
24 Dywedodd Martha wrtho, Myfi a wn yr adgyfodir ef yn yr adgyfodiad, y dydd diweddaf.
25 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Myfi yw yr adgyfodiad a'r bywyd: yr hwn sydd yn credu ynofi, er iddo farw, a sydd byw.
26 A phwy bynnag sydd yn fyw, ac yn credu ynoti, ni bydd marw yn dragywydd. A wyt ti yn credu hyn?
27 Dywedodd hithau wrtho, Ydwyf Arglwydd: yr wŷfi yn credu mai ti yw y Christ, Mab Duw, yr hwn sydd yn dyfod i'r bŷd.
28 Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a aeth ymmaith, ac a alwodd yn ddirgel ei chwaer Mair, gan ddywedyd, Fe ddaeth yr Athro, ac y mae yn galw am danat.
29 Er cynted ac y clybu hi, hi a gododd yn ebrwydd, ac a ddaeth atto ef.
30 (A'r Iesu ni ddaethei etto i'r dref; ond yr oedd efe yn y man lle y cyfarfuasei Martha ag ef.)
31 Yna yr Iddewon, y rhai oedd gŷd â hi yn y tŷ, ac yn ei chyssuro hi, pan welsant Mair yn codi ar frŷs, ac yn myned allan, a'i canlynasant hi, gan ddywedyd, Y mae hi yn myned at y bedd, i wŷlo yno.
32 Yna Mair, pan ddaeth lle yr oedd yr Iesu, a'i weled ef, a syrthiodd wrth ei draed ef, gan ddywedyd wrtho, Arglwydd, pe buasit ti ymma, ni buasei fy mrawd farw.
33 Yr Iesu gan hynny, pan welodd hi yn wylo, a'r Iddewon y rhai a ddaethei gyd â hi, yn wŷlo, a riddfanodd yn yr yspryd, ac a gynhyrfwyd;
34 Ac a ddywedodd, Pa le y dodasoch chwi ef? Hwy a ddywedasant wrtho, Arglwydd, tyred a gwêl.
35 Yr Iesu a wylodd.
36 Am hynny y dywedodd yr Iddewon, Wele fel yr oedd efe yn ei garu ef.
37 Eithr rhai o honynt a ddywedasant, Oni allasei hwn, yr hwn a agorodd lygaid y dall, beri na buasei hwn farw chwaith?
38 Yna 'r Iesu drachefn a riddfanodd ynddo ei hun, ac a ddaeth at y bedd. Ac ogof oedd; a maen oedd wedi ei ddodi arno.
39 Yr Iesu a ddywedodd, Codwch ymmaith y maen. Martha chwaer yr hwn a fuasei farw, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, y mae efe weithian yn drewi: herwydd y mae [yn farw] er ys pedwar diwrnod.
40 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Oni ddywedais i ti, pes credit, cait ti weled gogoniant Duw?
41 Yna y codasant y maen lle yr oedd y marw wedi ei osod. A'r Iesu a gododd ei olwg i fynu, ac a ddywedodd, Y Tâd, yr wyf yn diolch i ti am i ti wrando arnaf.
42 Ac myfi a wyddwn dy fôd ti yn fy ngwrando bôb amser: eithr er mwyn y bobl sydd yn sefyll o amgylch, y dywedais, fel y credont mai tydi a'm hanfonaist i.
43 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a lefodd â llef vchel, Lazarus, tyred allan.
44 A'r hwn a fuasei farw a ddaeth allan, yn rhwym ei draed a'i ddwylo mewn amdo: a'i wyneb oedd wedi ei rwymo â napcin. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Gollyngwch ef yn rhydd, a gedwch iddo fyned ymmaith.
45 Yna llawer o'r Iddewon, y rhai a ddaethent at Mair, ac a welsent y pethau a wnaethei yr Iesu, a gredasant ynddo ef.
46 Eithr rhai o honynt a aethant ymmaith at y Pharisæaid, ac a ddywedasant iddynt, y pethau a wnaethei yr Iesu.
47 Yna yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaîd, a gasclasant gyngor, ac a ddywedasant, Pa beth yr ydym ni yn ei wneuthur? canys y mae y dŷn ymma yn gwneuthur llawer o arwyddion.
48 Os gadawn ni ef fel hyn, pawb a gredant ynddo, ac fe a ddaw y Rhufeiniaid, ac a ddifethant ein lle ni, a'n cenedl hefyd.
49 A rhyw vn o honynt, Caiaphas, yr hwn oedd Arch-offeriad y flwyddyn honno, a ddywedodd wrthynt, Nid ydych chwi yn gwybod dim oll:
50 Nac yn ystyried mai buddiol yw i ni farw o vn dŷn dros y bobl, ac na ddifether yr holl genedl:
51 Hyn ni ddywedodd efe o honaw ei hun, eithr ac efe yn Arch-offeriad y flwyddyn honno, efe a brophwydodd y byddei yr Iesu farw dros y genedl:
52 Ac nid tros y genedl yn vnic, eithr fel y casclei efe ynghyd yn vn, blant Duw hefyd y rhai a wascarasid.
53 Yna, o'r dydd hwnnw [allan,] y cydymgynghorasant, fel y lladdent ef.
54 Am hynny ni rodiodd yr Iesu mwy yn amlwg ym mysc yr Iddewon, ond efe a aeth oddi yno i'r wlâd yn agos i'r anialwch, i ddinas a elwir Ephraim; ac a arhosodd yno gyd â'i ddiscyblion.
55 A Phasc yr Iddewon oedd yn agos a llawer a aethant o'r wlâd î fynu i Ierusalem, o flaen y Pasc, i'w glanhau eu hunain.
56 Yna y ceisiasant yr Iesu, a dywedasant wrth ei gilydd, fel yr oeddynt yn sefyll yn y Deml, Beth a dybygwch chwi, gan na ddaeth efe i'r wŷl?
57 A'r Arch-offeiriaid, a'r Pharisæaid, a roesent orchymmyn, os gwyddei neb pa le yr oedd efe, ar fynegi o hono, fel y gallent ei ddal ef.
PEN. XII.
YNa 'r Iesu, chwe diwrnod cyn y Pasc, a ddaeth i Bethania, lle yr oedd Lazarus, yr hwn a fuasei farw, yr hwn a godasei efe o feirw.
2 Ac yna y gwnaethant iddo swpper, a Martha oedd yn gwasanâethu: a Lazarus, oedd vn o'r rhai a eisteddent gyd ag ef.
3 Yna y cymmerth Mair bwys o ennaint nard gwlyb gwerthfawr, ac a enneiniodd draed yr Iesu, ac a sychodd ei draed ef â'i gwallt: a'r tŷ a lanwyd gan arogl yr ennaint.
4 Am hynny y dywedodd vn o'i ddiscyblion ef, Iudas Iscariot [mab] Simon, yr hwn oedd ar fedr ei fradychu ef.
5 Pa ham na werthwyd yr ennaint hwn er trychan ceiniog, a'i roddi i'r tlodion?
6 Eithr hyn a ddywedodd efe, nid o herwydd bôd arno ofal dros y tlodion, ond am ei fôd yn lleidr, a bôd ganddo y pwrs, a'i fod yn dwyn yr hyn a fwrid ynddo.
7 A'r Iesu a ddywedodd, Gâd iddi: erbyn dydd fy nghladdedigaeth y cadwodd hi hwn.
8 Canys y mae gennych y tlodion gyd â chwi bôb amser, eithr myfi nid oes gennych bôb amser.
9 Gwybu gan hynny dyrfa fawr o'r Iddewon ei fôd efe yno: a hwy a ddaethant, nid er mwyn [Page 363] yr Iesu yn vnic, ond fel y gwelent Lazarus hefyd, yr hwn a godasei efe o feirw.
10 Eithr yr Arch-offeiriaid a ymgynghorasant, fel y lladdent Lazarus hefyd.
11 Oblegid llawer o'r Iddewon a aethant ymmaith o'i herwydd ef, ac a gredasant yn yr Iesu.
12 Trannoeth, tyrfa fawr, yr hon a ddaethei i'r wŷl, pan glywsant fôd yr Iesu yn dŷfod i Ierusalem,
13 A gymmerasant gangau o'r palmwŷdd, ac a aethant allan i gyfarfod ag ef, ac a lefasant, Hosanna, bendigedig yw brenin Israel yr hwn sydd yn dyfod yn enw yr Arglwydd.
14 A'r Iesu wedi cael assynnau, a eisteddodd arno, megis y mae yn scrifennedig,
15 Nac ofna, ferch Sion; wele y mae dy frenin yn dyfod, yn eistedd ar ebol assyn.
16 Y pethau hyn ni wybu ei ddiscyblion ef ar y cyntaf: eithr pan ogoneddwyd yr Iesu, yna y cofiasant fôd 'y pethau hyn yn scrifennedig am dano, ac iddynt wneuthur hyn iddo.
17 Tystiolaethodd gan hynny y dyrfa, yr hon oedd gyd ag ef, pan alwodd efe Lazarus o'r bedd, a'i godi ef o feirw.
18 Am hyn y daeth y dyrfa hefyd i gyfarfod ag ef, am glywed o honynt iddo wneuthur yr arwydd hwn.
19 Y Pharisæaid gan hynny a ddywedasant yn eu plith eu hunain, A welwch chwi nad ydych yn tyccio dim? wele, fe aeth y byd ar ei ôl ef.
20 Ac yr oedd rhai Groegiâid ym mhlith y rhai a ddaethei i fynu i addoli ar yr wŷl:
21 Y rhai hyn gan hynny a ddaethant at [Page 364] Philip, yr hwn oedd o Bethsaida yn Galilæa, ac a ddymunasant arno, gan ddywedyd, Syre, ni a ewyllysiem weled yr Iesu.
22 Philip a ddaeth, ac a ddywedodd i Andreas: a thrachefn Andreas a Philip a ddywedasant i'r Iesu.
23 A'r Iesu a attebodd iddynt, gan ddywedyd, Daeth yr awr y gogonedder Mab y dŷn.
24 Yn wîr, yn wir, meddaf i chwi, oni syrth y gronyn gwenith i'r ddaiar, a marw, hwnnw a erys yn vnic: eithr os bydd efe marw, efe a ddwg ffrwyth lawer.
25 Yr hwn sydd yn caru ei einioes, a'i cyll hi; a'r hwn sydd yn casâu ei ein oes yn y byd hwn, a'i ceidw hi i fywyd tragywyddol.
26 Os gwasanaetha neb fi, dilyned fi: a lle yr wyf fi, yno y bydd fy ngweinidog hefyd: ac os gwasanaetha neb fi, y Tâd a'i hanrhydedda ef.
27 Yr awron y cynhyrfwyd fy enaid: a pha beth a ddywedaf? O Dâd, gwared fi allan o'r awr hon: eithr o herwydd hyn y daethym i'r awr hon.
28 O Dâd, gogonedda dy enw. Yna y daeth llef o'r nef, Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn.
29 Y dyrfa gan hynny, yr hon oedd yn sefyll ac yn clywed, a ddywedodd mai taran oedd: eraill a ddywedasant, Angel a lefarodd wrtho.
30 Yr Iesu a attebodd, ac a ddywedodd, Nid o'm hachos i bu y llef hon, ond o'ch achos chwi.
31 Yn awr y mae barn y byd hwn: yn awr y bwrir allan dywysog y byd hwn.
32 A minneu, os dyrchefir fi oddi ar y ddaiar, [Page 365] a dynnaf bawb attaf fy hun.
33 (A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba angeu y byddei farw.)
34 Y dyrfa a attebodd iddo, Ni a glywsom o'r ddeddf, fôd Christ yn aros yn dragywyddol; a pha wedd yr wyt ti yn dywedyd fôd yn rhaid derchafu Mâb y dŷn? Pwy ydyw hwnnw Mab y dŷn.
35 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Etto ychydig ennyd y mae 'r goleuni gyd â chwi: rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio 'r tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni wŷr i ba le y mae yn myned.
36 Tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hyn ae ddywedod yr Iesu, ac efe a ymadawodd, ac a ymguddiodd rhagddynt.
37 Ac er gwneuthur o honaw ef gymmaint o arwiddion yn eu gwŷdd hwynt, ni chredasant ynddo:
38 Fel y cyflawnid ymadrodd Esaias y Prophwyd, yr hwn a ddywedodd efe, Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni? ac i bwy y datguddiwyd braich yr Arglwydd?
39 Am hynny ni allent gredu, oblegid dywedyd o Esaias drachefn,
40 Efe a ddallodd eu llygaid, ac a galedodd eu calon; fel na welent â'u llygaid, a deall a'u calon ac ymchwelyd o honynt, ac i mi eu hiachâu hwynt.
41 Y pethau hyn a ddywedodd Esaias, pan welodd ei ogoniant ef, ac y llefarodd am dano ef.
42 Er hynny llawer o'r pennaethiaid hefyd a gredasant ynddo: ond oblegid y Pharisæaid ni chyffesasant ef, rhag eu brwrw allan o'r Synagog.
43 Canys yr oeddynt yn caru gogoniant dynion, yn fwy nâ gogoniant Duw.
44 A'r Iesu a lefodd, ac a ddywedodd, Yr hwn sydd yn credu ynofi nid yw yn credu ynof fi, ond yn yr hwn a'm danfonodd i.
45 A'r hwn sydd yn fy ngweled i, sydd yn gweled yr hwn a'm danfonodd i.
46 Mi a ddaethym yn olêuni i'r byd, fel [y bo i] bôb vn sydd yn credu ynof fi, nad arhoso yn y tywyllwch.
47 Ac os clyw neb fy ngeiriau, ac ni chred, myfi nid wŷf yn ei farnu ef. Canys ni ddaethym i farnu 'r byd, eithr i achub y byd.
48 Yr hwn sydd yn fy nirmigu i, ac heb dderbyn fy ngeiriau, y mae iddo vn yn ei farnu: y gair a leferais i, hwnnw a'i barn ef yn y dydd diweddaf.
49 Canys myfi ni leferais, o honof fy hun, ond y Tad yr hwn a'm hanfonodd i, efe a roddes orchymmyn i mi beth a ddywedwn, a pheth a lefarwn.
50 Ac mi a wn fôd ei orchymmyn ef yn fywyd tragwyddol: am hynny y pethau yr wyfi yn eu llefaru, fel y dywedodd y Tâd wrthif, felly yr wyf yn llefaru.
PEN. XIII.
A Chyn gwŷl y Pasc, yr Iesu yn gwŷbod ddyfod ei awr ef i ymadel a'r bŷd hwn at y Tâd, efe yn caru yr eiddo, y rhai oedd yn y bŷd, a'u carodd hwynt hyd y diwedd.
2 Ac wedi darfod swpper, (wcdi i ddiafol eusus roi ynghalon Iudas Iscariot, [fab] Simon, ei fradychu ef.
3 Yr Iesu yn gwŷbod roddi o'r Tâd bôb peth oll yn ei ddwylo ef, a i fôd wedi dyfod oddiwrth Dduw, ac yn myned at Dduw.
4 Efe a gyfododd oddiar swpper, ac a roes heibio ei gochl-wisc, ac a gymmerodd dywel, ac a ymwregysodd.
5 Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i'r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y discyblion, a'u sychu â'r tywel, a'r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu.
6 Yna y daeth efe at Simon Petr; ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, wyt ti yn golchi fy nhraed i?
7 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost di yr awron: eithr ti a gei wybod yn ôl hyn.
8 Petr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a attebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyd â myfi,
9 Simon Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn vnic, eithr fy nwylo a'm pen hefyd.
10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll.
11 Canys efe a wyddei pwy a'i bradychei ef; am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll.
12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a [Page 268] chymmery di ei gochl-wisc, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wnaethum i chwi?
13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro a'r Arglwydd: a da y dywedwch: canys [felly] yr ydwyf.
14 Am hynny os myfi yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi, chwithau a ddylech olchi traed ei gilydd.
15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau, megis y gwneuthum i chwi.
16 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, nid yw 'r gwâs yn fwy nâ'i arglwydd, na'r hwn a ddanfonwyd, yn fwy nâ'r hwn a'i danfonodd.
17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich bŷd os gwnewch hwynt.
18 Nid wyfi yn dywedyd am danoch oll; mi a wn pwy a etholais, ond fel y cyflawnid yr Scrythur, yr hwn sydd yn bwytta bara gyd â mi, a gododd ei sodl yn fy erbyn.
19 Yr awr yr wyf yn dywedyd wrthych, cyn ei ddyfod, fel pan ddel, y credoch mai myfi yw [efe]
20 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn derbyn y neb a ddanfonwyfi, sydd yn fy nerbyn i: a'r hwn sydd yn fy nerbyn i, sydd yn derbyn yr hwn a'm danfonodd i.
21 Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, ef a gynhyrfwyd yn yr yspryd; ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wîr, dywedaf wrthych, y bradycha vn o honoch fi.
22 Yna y discyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan ammeu am bwy yr oedd efe yn dywedyd.
23 Ac yr oedd vn o'i ddiscyblion yn pwyso [Page 369] ar fonwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu.
24 Am hynny yr amneidiodd Simon Petr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd,
25 Ac yntef yn pwyso ar ddwyfron yr Iesu a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe?
26 Yr Iesu a attebodd, Hwnnw yw efe, i'r hwn y rhoddaf fi dammaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu y tammaid, efe a'i rhoddodd i Iudas Iscariot [fab] Simon.
27 Ac ar ôl y tammaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys.
28 Ac ni weiddei neb o'r rhai oedd yn eistedd, i ba beth y dywedasei efe hyn wrtho.
29 Canys rhai oedd yn tybied, am fôd Iudas a'r gôd ganddo, fôd yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sy arnom eu heisieu erbyn yr wŷl: neu ar roi o honaw beth i'r tlodion.
30 Ynteu gan hynny wedi derbyn y tammaid, a aeth allan yn ebrwydd: ac yr oedd hi yn nos.
31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mâb y dŷn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef.
32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a'i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a'i gogonedda ef yn ebrwydd.
33 O blant bychain, etto yr wyf ennyd fech an gyd â chwi, Chwi a'm ceisiwch; ac megis y dywedaîs with yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf [Page 370] yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron.
34 Gorchymmyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch ei gilydd: fel y cerais i chwi, ar garu o honoch chwithau bawb ei gilydd.
35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai discyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad iw gilydd.
36 A Simon Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, i ba le yr wyt ti yn myned? Yr Iesu a attebodd iddo, Lle yr ydwyfi yn myned, ni elli di yr awron fy nghanlyn: eithr yn ôl hyn i'm canlyni.
37 Petr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pa ham na allafi dy ganlyn yr awron? mi a roddaf fy einioes drosot.
38 Yr Iesu a attebodd iddo, A roddi di dy einioes drosof fi? Yn wîr, yn wîr meddaf i ti, ni chân y ceiliog nes i ti fy ngwadu dair gwaith.
PEN. XIIII.
NA thralloder eich calon: yr ydych yn credu yn Nuw, credwch ynof finneu hefyd.
2 Yn nhŷ fy Nhâd y mae llawer o drigfannau: a phe amgen, mi a ddywedawsn i chwi, yr wyfi yn myned i baratoai lle i chwi.
3 Ac os myfi a âf, ac a baratoaf le i chwi, mi a ddeuaf drachefn, ac a'ch cymmeraf chwi attaf fy hun: fel lle yr wyfi, y byddoch chwithau hefyd.
4 Ac i ba le yr wyfi yn myned, chwi a wŷddoch, a'r ffordd a wŷddoch.
5 Dywedodd Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned; a pha fodd y gallwn wŷbod y ffordd?
6 Yr Iesu a ddywedodd wrtho ef, Myfi yw 'r fford, a'r gwirionedd, a'r bywyd: nid yw neb yn dyfod at y Tâd, ond trwof fi.
7 Ped adnabasech fi, fy Nhad hefyd a adnabasech: ac o hyn allan yr adwaenoch ef, a chwi a'i gwelsoch ef.
8 Dywedodd Philip wrtho, Arglwydd, dangos i ni y Tâd, a digon yw i ni.
9 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, A ydwyf gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid adnabuost fi, Philip: y neb a'm gwelodd i, a welodd y Tâd: a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tad?
10 Onid wyt ti yn credu fy môd i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finneu? y geiriau yr wyfi yn eu llefaru wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru; ond y Tad yr hwn sydd yn aros ynof, efe sydd yn gwneuthur y gweithredoedd.
11 Credwch fi, fy môd i yn y Tad, a'r Tâd ynof finneu: ac onid ê, credwch fi er mwyn y gweithreoedd eu hun.
12 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynofi, y gweithredoedd yr wyfi yn eu gwneuthur ynteu hefyd a'u gwnâ, a mwy nâ'r rhai hyn a wnâ efe: oblegid yr wyf fi yn myned at fy Nhâd.
13 A pha beth bynnag a ofynnoch yn fy enw i, hynny a wnaf: fel y gogonedder y Tâd yn y Mâb.
14 Os gofynnwch ddim yn fy enwi, mi a'i gwnaf.
15 Os cherwch fi, cedwch fy ngorchymmynion.
16 A mi a weddiaf ar y Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddiddanudd arall, fel yr arhoso gyd a chwi yn dragywyddol:
17 Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei weled, nac yn ei adnabod ef: ond chwi a'i hadwaenoch ef, o herwydd y mae yn aros gyd â chwi, ac ynoch y bydd efe.
18 Nis gadawaf chwi yn ymddifaid: mi a ddeuaf attoch chwi.
19 Etto ennyd bach, a'r byd ni'm gwêl mwy: eithr chwi a'm gwelwch, canys byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd.
20 Y dydd hwnnw y gwybyddwch fy môd i yn fy Nhad, a chwithau ynofi, a minneu ynoch chwithau.
21 Ar hwn sydd am gorchimmynion i ganddo, ac yn eu cadw hwynt, efe yw 'r hwn sydd yn fy ngharu i: a'r hwn sydd yn fy ngharu i, a gerir gan fy Nhad i: a minneu a'i caraf ef, ac a'm hegluraf fy hun iddo.
22 Dywedodd Iudas wrtho, (nid yr Iscariot) Arglwydd, pa beth yw 'r achos yr wyt ar fedr dy eglurhau dy hun i ni, ac nid i'r byd?
23 Yr Iesu a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair, a'm Tâd a'i câr yntef, a nyni a ddeuwn atto, ac a wnawn ein trigfa gyd ag ef.
24 Yr hwn nid yw yn fy ngharu i, nid yw yn cadw fy ngeiriau: a'r gair yr ydych yn ei glywed, nid eiddofi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i.
25 Y pethau hyn a ddywedais wrthych, a mi yn aros gyd â chwi.
26 Eithr y Diddanudd, yr Yspryd glân, yr hwn a enfyn y Tâd yn fy enw i, efe a ddŷsc i chwi [Page 385] yr holl bethau, ac a ddwg ar gof i chwi yr holl bethau a ddywedais i chwi.
27 Yr wyf yn gadel i chwi dangnheddyf, fy nhangneddyf yr ydwyf yn ei rhoddi i chwi: nid fel y mae y bŷd yn rhoddi, yr wyfi yn rhoddi i chwi: na thralloder eich calon, ac nac ofned.
28 Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymmaith, ac mi a ddeuaf attoch, Pe carech fi, chwi a lawenhaech am i mi ddywedyd, Yr wyf yn myned at y Tâd: canys y mae fy Nhad yn fwy nâ myfi.
29 Ac yr awron y dywedais i chwi cyn ei ddyfod, fel pan ddel, y credoch.
30 Nid ymddiddanaf â chwi nemmawr bellach: canys tywysog y byd hwn sydd yn dyfod, ac nid oes iddo ddim ynofi.
31 Ond fel y gwypo 'r bŷd fy môd i yn caru y Tâd, ac megis y gorchymynnodd y Tâd i mi, felly yr wyf yn gwneuthur Codwch awn oddi ymma.
PEN. XV.
MYfi yw y wîr win-wydden, a'm Tad yw 'r llafurwr.
2 Pôb cangen ynofi heb ddwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thynnu ymmaith: a phôb vn a ddygo ffrwyth y mae efe yn ei glanhau, fel y dygo fwy o ffrwyth
3 Yr awron yr ydych chwi yn lân, trwy'r gair a leferais i wrthych.
4 Arhoswch ynofi, a mi ynoch chwi: megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi i hun onid erys yn y win-wydden: felly ni ellwch chwithau, onid arhoswch ynofi.
5 Myfi yw 'r win-wydden, chwithau yw 'r canghennau: yr hwn sydd yn aros ynofi, a [Page 374] minneu ynddo yntef, hwnnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid hebo fi ni ellwch chwi wneuthur dim.
6 Onid erys vn ynofi, efe a daflwyd allan megis cangen, ac a wywodd, ac y maent yn eu casclu hwynt, ac yn eu bwrw yn tân, a hwy a loscir.
7 Os arhoswch ynofi, ac aros o'm geiriau ynoch, beth bynnag a ewyllysioch, gofynnwch, ac fe a fydd i chwi.
8 Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhâd, ar ddwyn o honoch ffrwyth lawer; a discyblion fyddwch i mi.
9 Fel y carodd y Tâd fi, felly y cerais inneu chwithau: arhoswch yn fy nghariad i.
10 Os cedwch fy ngorchymynion, chwi a arhoswch yn fy nghariad: fel y cedwais i orchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef.
11 Hyn a ddywedais wrthych, fel yr arhosei fy llawenydd ynoch, ac y byddei eich llawenydd yn gyflawn.
12 Dymma fy ngorchymyn i, ar i chwi garu ei gilydd, fel y cerais i chwi.
13 Cariad mwy nâ hwn nid oes gan neb, sef bôd i vn roi ei einioes dros ei gyfeillion.
14 Chwy-chwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynnag yr wyf yn eu gorchymmyn i chwi.
15 Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision: oblegid y gwas ni wŷr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond mi a'ch gelwais chwi yn gyfeillion, oblegid pôb peth a'r a glywais gan fy Nhâd, a yspysais i chwi.
16 Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch [Page 375] dewisais chwi, ac a'ch ordeiniais chwi, fel y elech ac y dygech ffrwyth, ac yr arhose eich ffrwyth, megis pa beth bynnag a ofynnoch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi.
17 Hyn yr wyf yn ei orchymmyn i chwi, garu o honoch ei gilydd.
18 Os yw 'r bŷd yn eich casau chwi, chwi a wyddoch gasau o honaw fyfi o'ch blaen chwi.
19 Pe byddech o'r bŷd, y bŷd a garei 'r eiddo: ond oblegid nad ydych o'r bŷd, eithr i mi eich dewis allan o'r bŷd am hynny y mae 'r bŷd yn eich casâu chwi.
20 Cofiwch yr ymadrodd a ddywedais i wrthych, Nid yw 'r gwas yn fwy na'i Arglwydd: os erlidiasant fi, hwy a'ch erlidiant chwithau: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant.
21 Eithr hyn oll o wnânt i chwi er mwyn fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i.
22 Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron nid oes ganddynt escus am ei pechod.
23 Yr hwn sydd yn fy nghasâu i, sydd yn casâu fy Nhâd hefyd.
24 Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall, ni buasei arnynt bechod: ond yr awron hwy a welsant, ac a'm casasant i, a'm Tâd hefyd.
25 Eithr fel y cyflawnid y gair sydd scrifenneddig yn eu cyfraith hwynt, Hwy a'm casasant yn ddi achos.
26 Eithr pan ddêl y Diddanudd, yr hwn a [Page 376] anfonaf i chwi oddi wrth y Tâd, ([sef]) Yspryd y gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddi wrth y Tâd,) efe a distiolaetha am danafi.
27 A chwithau hefyd a dystiolaethwch, am eîch bôd o'r dechreuad gyd â mi.
PEN. XVI.
Y Pethau hyn a ddywedais i chwi, fel na rwystrer chwi.
2 Hwy a'ch bwriant chwi allan o'r Synagogau: ac y mae 'r awr yn dyfod, y tybia pwy bynnag a'ch lladdo, ei fôd yn gwneuthur gwnasanaeth i Dduw.
3 A'r pethau hyn a wnânt i chwi, oblegid nad adnabuant y Tâd, na myfi.
4 Eithr y pethau hyn a ddywedais i chwi, fel pan ddêl yr awr, y cofioch hwynt, ddarfod i mi ddywedyd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad, am fy môd gyd â chwi.
5 Ac yn awr yr wyf yn myned at yr hwn a'm hanfonodd, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I ba le yr wyt ti yn myned?
6 Eithr am i mi ddŷwedyd y pethau hyn i chwi, tristwch a lanwodd eich calon.
7 Ond yr wyfi yn dywedyd gwirionedd i chwi, buddiol yw i chwi fy myned i ymmaith: canys onid â fi, ni ddaw y Diddanudd attoch: eithr os mi a âf, mi a'i hanfonaf ef attoch.
8 A phan ddêl, efe a argyoedda y bŷd o bechod, ac o gyfiawnder, ac o farn.
9 O bechod am nad ydynt yn credu ynofi:
10 O gyfiawnder, am fy môd yn myned at fy Nhâd, ac ni'm gwelwch i mwyach:
11 O farn, oblegid tywysog y bŷd hwn a farnwyd.
12 Y mae gennif etto lawer o bethau iw dywedyd i chwi ond ni ellwch eu dwyn yr awron.
13 Ond pan ddêl efe, [sef] Yspryd y gwirionedd, efe a'ch tywys chwi i bôb gwirionedd: canys ni lefara o honaw ei hun, ond pa bethau bynnag a glywo, a lefara efe, a'r pethau sy i ddyfod a fynega efe i chwi.
14 Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymmer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi.
15 Yr holl bethau sy eiddo 'r Tâd, ydynt eiddofi; o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddofi y cymmer, ac y mynega i chwi.
16 Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch, a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch, am fy môd yn myned at y Tâd.
17 Am hynny y dywedodd rhai o'i ddiscyblion wrth ei gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig ennyd, ac ni'm gwelwch: a thrachefn ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch: ac, Am fy môd yn myned at y Tâd?
18 Am hynny hwy a ddywedasant, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig ennyd: ni wyddom ni beth y mae efe yn ei ddywedyd.
19 Yna y gwybu 'r Iesu eu bôd hwy yn ewyllysio gofyn iddo, ac a ddywedodd wrthynt, Ai ymofyn yr ydych â'i gilydd am hyn, oblegid i mi ddywedyd, Ychydig ennyd, a chwi a'm gwelwch?
20 Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, chwi a wylwch, ac a alerwch, a'r byd a lawenycha: eithr chwi a fyddwch dristion, ond eich tristwch a droir yn llawenydd.
21 Gwraig wrth escor, sydd mewn tristwch, [Page 378] am ddyfod ei hawr: eithr wedi geni y plentyn, nid yw hi yn cofio ei gofid mwyach, gan lawenydd geni dŷn i'r bŷd.
22 A chwithau am hynny ydych yr awron mewn tristwch: eithr mi a ymwelaf â chwi drachefn a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch.
23 A'r dydd hwnnw ni ofynnwch ddim i mi, Yn wîr, yn wîr, meddaf i chwi, pa bethau bynnag a ofynnoch i'r Tâd yn fy enw, efe a'u rhydd i chwi.
24 Hyd yn hyn ni ofynnasoch ddim yn fy enw i: gofynnwch, a chwi a gewch fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
25 Y pethau hyn a leferais wrthych mewn damhegion: eithr y mae yr awr yn dyfod, pan na lefarwyf wrthych mewn damhegion mwyach, eithr y mynegaf i chwi yn eglur am y Tâd.
26 Y dydd hwnnw y gofynnwch yn fy enw: ac nid wyf yn dywedyd i chwi, y gweddiafi ar y tad trosoch:
27 Canys y Tâd ei hun sydd yn eich caru chwi, am i chwi fy ngharu i, a chredu fy nyfod i allan oddi wrth Dduw.
28 Mi a ddaethym allan oddi wrth y Tâd, ac a ddaethym i'r bŷd: trachefn yr wyf yn gadel y bŷd, ac yn myned at y Tâd.
29 Ei ddiscyblion a ddywedasant wrtho, Wele, yr wyti yn awr yn dywedyd yn eglur, ac nid wyt yn dywedyd yn ddammeg.
30 Yn awr y gwyddom y gwyddost bôb peth, ac nad rhaid it ymofyn o neb â thi: wrth hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth Dduw.
31 Yr Iesu a'u hattebodd hwynt, A ydych chwi yn awr yn credu?
32 Wele, y mae yr awr yn dyfod, ac yr awron hi a ddaeth, y gwascerir chwi bôb vn at yr eiddo, ac y gadewch fi yn vnic: ac nid wyf yn vnic, oblegyd y mae y Tad gyd â myfi.
33 Y pethau hyn a ddywedais wrthych fel y caffech dangneddyf ynof. Yn y byd gorthrymder a gewch: eithr cymmerwch gysur, myfi a orchfygais y bŷd.
PEN. XVII.
Y Pethau hyn a lefarodd yr Iesu: ae efe a gododd ei lygaid i'r nef, ac a dywedodd, y Tâd, daeth yr awr; gogonedda dy Fâb, fel y gogoneddo dy fab ditheu.
2 Megis y rhoddaist iddo awdurdod ar bôb cnawd, fel am y cwbl a roddaist iddo, y rhoddei efe iddynt fywyd tragywyddol.
3 Am hyn yw 'r bywyd tragywyddol, iddynt dy adnabod di yr vnic wîr Dduw, a'r hwn a anfonaist i Iesu Grist.
4 Mi a'th ogoneddais di ar y ddaiar: my a gwplheais y gwaith a roddaist i mi iw wneuthur.
5 Ac yr awron, o Dâd, gogonedda dy fyfi gyd â thi dy hun, â'r gogoniant oedd i mi gyd â thi, cyn bôd y bŷd.
6 Mi a eglurais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r bŷd: eiddot ti oeddynt, a thi a'i rhoddaist hwynt i mi, a hwy a gadwasant dy air di.
7 Yr awron y gwybuant, mai oddi wrthit ti y mae 'r holl bethau a rhoddaist i mi:
8 Canys y geiriau a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy: a hwy a'u derbyniasant, ac a wybuant [Page 368] yn wîr mai oddi wrthyt ti y daethym i allan, ac a gredasant mai tydi a'm hanfonaist i.
9 Trostynt hwy yr wyfi yn gweddio: nid tros y bŷd yr wyf yn gweddio, ond tros y rhai a roddaist i mi; canys eiddoti ydynt.
10 A'r eiddofi oll sy eiddot ti a'r eiddot ti sy eiddo fi: ac mi a ogoneddwydd ynddynt.
11 Ac nid wŷf mwyach yn y bŷd, ond y rhai hyn sy yn y bŷd, a myfi sydd yn dyfod attat ti. Y Tâd sancteiddiol, cadw hwynt, trwy dy enw, y rhai a roddaist i mi: fel y byddont vn, megis ninnau.
12 Tra fum gyd â hwynt yn y bŷd, mi a'u cedwais yn dy enw: y rhai a roddaist i mi a gedwais, ac ni chollwyd o honynt ond mâb y golledigaeth: fel y cyflawnid yr Scrythur.
13 Ac yr awron yr wyf yn dyfod attat: a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y bŷd, fel y caffont fy llawenydd i yn gyflawn ynddynt eu hunain.
14 Myfi a roddais iddynt hwy dy air di: a'r bŷd a'u casaodd hwynt oblegid nad ydynt o'r bŷd, megis nad ydwyf finneu o'r bŷd.
15 Nid wŷf yn gweddio ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r bŷd, eithr ar i ti eu cadw hwynt rhag y drwg.
16 O'r bŷd nid ydynt, megis nad wŷf finneu o'r byd.
17 Sancteiddia hwynt yn dy wirionedd: dy air sydd wirionedd.
18 Fel yr anfonaist fi i'r bŷd, felly yr anfonais inneu hwythau i'r bŷd:
19 Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn fy sancteiddio [Page 381] fy hun, fel y bont hwythau wedi eu sancteiddio yn y gwirionedd.
20 Ac nid wŷf yn gweddio dros y rhai hyn yn vnic, eithr dros y rhai hefyd a gredant ynofi, trwy eu hymadrodd hwynt.
21 Fel y byddont oll yn vn: megis yr wyt ti y Tâd ynof fi, a minneu ynot ti, fel y byddont hwythau vn ynom ni: fel y credo y bŷd mai tydi a'm hanfonaist i.
22 A'r gogoniant a roddaist i mi, a roddais iddynt hwy, fel y byddont vn, megis yr ydym ni yn vn.
23 Myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, fel y bônt wedi eu perffeithio yn vn, ac fel y gwypo'r bŷd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt megis y ceraist fi.
24 Y Tâd, y rhai a roddaist i mi, yr wŷf yn ewyllysio, lle yr wŷf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â myfi: fel y gwelont fy ngogoniant a roddaist i mi, oblegid ti a'm ceraist cyn seiliad y bŷd
25 Y Tâd cyfiawn, nid adnabu y bŷd dydi: eithr mi a'th adnabûm, a'r rhai hyn a wŷbu mai tydi a'm hanfonaist i.
26 Ac mi a yspysais iddynt dy enw, ac a'i hyspysaf: fel y byddo ynddynt hwy y cariad, â'r hwn y ceraist fi, a minneu ynddynt hwy.
PEN. VIII.
GWedi i'r Iesu ddywedyd y geiriau hyn, efe a aeth allan, efe a'i ddiscyblion, tros afon Cedron, lle 'r oedd gardd, i'r hon yr aeth efe a'i ddiscyblion.
2 A Iudas hefyd yr hwn a'i bradychodd ef, a adwaenei y lle: oblegid mynych y cyrchasei yr Iesu a'i ddiscyblion yno.
3 Iudas gan hynny, wedi iddo gael byddin, a swyddogion, gan yr Arch-offeiriaid a'r Pharisæaid, a ddaeth yno â lanternau, a lampau, ac arfau.
4 Yr Iesu gan hynny yn gwybod pôb peth a oedd ar ddyfod arno, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthynt, Pwy yr ydych yn ei geisio?
5 Hwy a attebasant iddo, Iesu o Nazareth. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Myfi yw. A Iudas, yr hwn a'i bradychodd ef, oedd hefyd yn sefyll gyd â hwynt.
6 Er cynted gan hynny ac y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn wŷsc eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.
7 Am hynny efe a ofynnodd iddynt drachefn; Pwy yr ydych yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu o Nazareth.
8 Yr Iesu a attebodd, mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: am hynny os myfi yr ydych yn ei geisio, gedwch i'r rhai'n fyned ymmaith:
9 Fel y cyflawnid y gair a ddyweddasei efe, O'r rhai a roddaist i mi, ni chollaîs i'r vn.
10 Simon Petr gan hynny a chanddo gleddyf, a'i tynodd ef, ac a darawodd wâs yr Arch-offeiriad, ac a dorrodd ymmaith ei glust ddehau ef: ac enw y gwâs oedd Malchus.
11 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrth Petr, Dôd dy gleddyf, yn y wain: y cwppan a roddes y Tâd i mi, onid yfaf ef?
12 Yna 'r fyddin, a'r milwriad, a swyddogion yr Iddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a i rhwymasant ef,
13 Ac a'i dygasant ef at Annas yn gyntaf: canys chwegrwn Caiaphas, yr hwn oedd Arch-offeiriad [Page 383] y flwyddyn honno, ydoedd efe.
14 A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasei i'r Iddewon, mai buddiol oedd farw vn dŷn tros y bobl.
15 Ac yr oedd yn canlŷn yr Iesu Simon Petr, a discybl arall: a'r discybbl hwnnw oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â r Iesu, i lŷs yr Arch-offeiriad.
16 A Phetr a safodd wrth y drws allan, Yna y discybl arall yr hwn oedd adnabyddus gan yr Arch-offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddug Petr i mewn.
17 Yna y dywedodd y llangces oedd ddrysores wrth Petr, Onid wyt titheu o ddyscyblion y dŷn hwn? Dywedodd yntef, Nac wŷf.
18 A'r gweision a'r swyddogion gwedi gwneuthur tân glo, o herwydd ei bôd hi yn oer, oeddynt yn sefyll, ac yn yndwymno: ac yr oedd Petr gyd â hwynt yn sefyll ac yn ymdwymno.
19 A'r Arch-offeiriad a ofynnodd i'r Iesu am ei ddiscyblion, ac am ei athrawiaeth.
20 Yr Iesu a attebodd iddo, Myfi a leferais yn eglur wrth y byd: yr oeddwn bob amser yn athrawiathu yn y Synagog, ac yn y Deml, lle mae 'r Iddewon yn ymgynnull bob amser: ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim.
21 Pa ham yr wyti yn gofyn i mi? gofyn i'r rhai a'm clywsant, beth a ddywedais wrthynt: wele, y rhai hynny a wŷddant pa bethau a ddywedais i.
22 Wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, vn o'r swyddogion, a'r oedd yn sefyll ger llaw, a roddes gernod i'r Iesu, gan ddywedyd, Ai felly [Page 384] yr wyt ti yn atteb yr Arch-offeiriad?
23 Yr Iesu a attebodd iddo, Os drwg y dywedais tystiolaetha o'r drwg; ac os da, pa ham yr wyt yn fy nharo i?
24 Ac Annas a'i hanfonasei ef yn rhwym at Caiaphas yr Arch-offeiriad.
25 A Simon Petr oedd yn sefyll, ac yn ymdwymno: hwythau a ddywedasant wrtho, onid wyt titheu hefyd o'i ddiscyblion ef? Yntef a wadodd, ac a ddywedodd, nac wŷf.
26 Dywedodd vn o weision yr Arch-offeiriad, câr i'r hwn y torrasei Petr ei glust, Oni welais i di gŷd ag ef yn yr ardd?
27 Yna Petr a wadodd drachefn, ac yn y man y canodd y ceiliog.
28 Yna y dygasant yr Iesu oddi wrth Caiaphas, i'r dadleu-dŷ: a'r boreu ydoedd hi; ac nid aethant hwy i mewn i'r dadleu-dŷ, rhag eu halogi, eithr fel y gallent fwytta y Pasc.
29 Yna Pilat a aeth allan attynt, ac a ddywedodd, Pa achwyn yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dŷn hwn?
30 Hwy a attebasant, ac a ddywedasant wrtho, Oni bai fôd hwn yn ddrwg-weithredwr, ni thraddodasem ni ef attat ti.
31 Am hynny y dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ôl eich cyfraith chwi. Yna yr Iddewon a ddywedasant wrtho, Nid cyfraithlon i ni lâdd nêb:
32 Fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedasei ef gan arwyddoccau o ba angeu y byddei farw.
33 Yna Pilat a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac [Page 385] a alwodd yr Iesu ac a ddywedodd wrtho, Ai ti yw Brenin yr Iddewon?
34 Yr Iesu a attebodd iddo; Ai o honot dy hun yr wyti yn dywedyd hyn, ai eraill a dywedasant i ti am danafi?
35 Pilat a attebodd, Ai Iddew ydwyf fi? dy genedl dy hun, a'r Arch-offeiriaid, a'th draddodasant i mi: beth a wnaethost ti?
36 Yr Iesu a attebodd, Fy mrenhiniaeth i nid yw o'r byd hwn: pe o'r bŷd hwn y byddei fy mrenhiniaeth i fy ngweision i, a ymdrechent, fel na'm rhoddid i'r Iddewon: ond yr awron nid yw fy mrenhiniaeth i oddi ymma.
37 Yna y dywedodd Pilat wrtho, wrth hynny ai brenin wyti? Yr Iesu a attebodd Yr ydwyti yn dywedyd mai brenin wyf fi: er mwyn hyn i'm ganed, ac er mwyn hyn y daethym i'r bŷd fel y tystiolâethwn i'r gwirionedd: pôb vn a'r sydd o'r gwirionedd sydd yn gwrando fy llyferydd i.
38 Pilat a ddywedodd wrtho, Beth yw gwirionedd? ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iddewon, ac a ddywedodd wrthynt, Nid wyfi yn cael dim achos ynddo ef.
39 Eithr y mae gennwch chwi ddefod i mi ollwng i chwi vn yn rhydd ar y Pasc: a fynnwch chwi gan hynny i mi ollwng yn rhydd i chwi frenin yr Iddewon?
40 Yna y llefasant oll drachefn, gan ddywedyd, Nid hwnnw, ond Barabbas: a'r Barabbas hwnnw oedd leidr.
PEN. XIX.
YNa gan hynny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd ef.
2 A'r mil-wŷr a blethasant goron o ddrain, ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roesant wisc o borphor am dano:
3 Ac a ddywedasant, Henffych well, Brenin yr Iddewon, ac a roesant iddo gernodiau.
4 Pilat gan hynny a aeth allan drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, Wele yr wŷfi yn ei ddwyn ef allan i chwi, fel y gwypoch nad wŷfi yn cael ynddo ef yn bai.
5 Yna y daeth yr Iesu allan, yn arwein y goron ddrain, a'r wisc borphor. A Philat a ddywedodd wrthynt, Wele y dŷn.
6 Yna yr Arch-offeiriaid a'r swyddogion, pan welsant ef, a lefasant-gan ddywedyd, Croes-hoelia, cros-hoelia ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch chwi ef a chroes-holiwch: canys nid wŷfi yn cael dim bai ynddo.
7 Yr Iddewon a attebasant iddo, Y mae gennym ni gyfraith, ac wrth ein cyfraith ni, efe a ddylei farw, am iddo ei wneuthur ei hun yn Fâb Duw.
8 A phan glybu Pilat yr ymadrodd hwnnw, efe a ofnodd yn fwy:
9 Ac a aeth drachefn i'r dadleu-dŷ, ac a ddywedodd wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roes yr Iesu atteb iddo.
10 Yna Pilat a ddywedodd wrtho, Oni ddywedi di wrthif fi? oni wyddost ti fôd gennyf awdurdod i'th groes-hoelio di, a bod gennyf awdurdod i'th ollwng yn rhydd?
11 Yr Iesu a attebodd, Ni byddei i ti ddim awdurdod arnafi, oni bai ei fôd wedi ei roddi i ti oddi ychod: am hynny yr hwn a'm traddodes i ti sydd fwy ei bechod.
12 O hynny allan y ceisiodd Pilat ei ollwng ef yn rhydd: ond yr Iddewon a lefasant, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid wyt ti yn garedig i Cæsar: pwy bynnag a'i gwnelo ei hun yn frenin, y mae yn dywedyd yn erbyn Cæsar.
13 Yna Pilat pan glybu yr ymadrodd hwn, a ddug allan yr Iesu, ac a eisteddodd ar yr orseddfaingc, yn y lle a elwir y Palmant, ac yn Hebrew Gabbatha.
14 A darpar-wŷl y Pasc oed hi, ac ynghulch y chweched awr: ac efe a ddywedodd wrth yr Iddewon, wele eich Brenin.
15 Eithr hwy a lefasant, Ymmaith ag ef ymmaith ag ef, croes-hoeliaf ef. Pilat a ddywedodd wrthynt, A groes-hoeliaf fi eich Brenin chwi? A'r Arch-offeiriaid o attebasant, Nid oes i ni frenin ond Cæsar.
16 Yna gan hynny, efe a'i traddodes ef iddynt i'w groes-hoelio: a hwy a gymmerasant yr Iesu, ac a'i dygasant ymmaith.
17 Ac efe gan ddwyn ei groes, a ddaeth i le a elwid lle 'r Benglog, ac a elwir yn Hebrew Golgatha.
18 Lle y cros-hoeliasant ef, a dau eraill gyd ag ef yn o bôb tu, a'r Iesu yn y canol.
19 A Philat a scrifennodd diti, ac a'i dododd ar y groes. A'r scrifen oedd IESV O NAZARETH, BRENIN YR IDDEWON.
20 Y titl hwn gan hynny a ddarllennodd llawer o'r Iddewon: oblegid ago, i'r ddinas oedd y fan lle y croes-hoeliwyd yr Iesu, ac yr oedd wedi ei scrifennu yn Hebrew, Groeg, a Lladin.
21 Yna Arch-offeiriaid yr Iddewon a ddywedasant wrth Pilat, Na scrifenna, Brenin yr Iddewon, eithr dywedyd o hono ef, Brenin yr Iddewon ydwyfi.
22 Pilat a attebod, Yr hyn a scrifennais, a scrifennais.
23 Yna 'r mil-wŷr wedi iddynt groes-hoelio yr Iesu, a gymmerasant ei ddillad ef, (ac a wnaethant bedair rhan, i bôb milwr ran) a'i bais ef hefyd: a'i bais ef oedd ddi-wnîad, wedi ei gwau o'r cwrr vchaf trwyddi oll.
24 Hwythau a ddywedasant wrth ei gilydd, Na thorrwn hi, ond bwriwn goel-brennau am deni, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Scrythur sydd yn dywedyd, Rhannasant fy nillad yn eu mysc, ac am fy mhais y bwriasant goel-brennau. A'r mil-wŷr a wnaethant y pethau hyn.
25 Ac yr oedd yn sefyll wrth goes yr Iesu, ei fam ef, a chwaer ei fam, Mair [gwraig] Cleophas, a Mair Fagdalen.
26 Yr Iesu gan hynny pan welodd ei fam, a'r discybl, yr hwn a garei efe, yn sefyll ger llaw, a ddywedodd wrth ei fam, O wraig, wele dy fab.
27 Gwedi hynny y dywedodd wrth y discybl, Wele dy fam. Ac o'r awr honno allan, y cymmerodd y discybl hi iw gartref.
28 Wedi hynny yr Iesu yn gwŷbod fôd pôb peth wedi ei orphen weithian, fel y cyflawnid yr Scrythur, a ddywedodd, Y mae syched arnaf.
29 Yr oedd gan hynny lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: a hwy a lanwasant yspwrn o finegr, ac a'i rhoddasant ynghylch ysop, ac a'i dodasant wrth ei enau ef.
30 Yna pan gymmerodd yr Iesu y finegr, efe a ddywedodd, Gorphennwyd; a chan ogwyddo ei ben, efe a roddes i fynu yr yspryd.
31 Yr Iddewon gan hynny, fel nad arhoei y corph ar y groes ar y Sabbath, o herwydd ei bôd yn ddarpar-wŷl, (canys mawr oedd y dydd Sabbath, hwnnw) a ddeisyfiasant ar Pilat, gael torri eu hesceiriau hwynt, a'u tynnu i lawr.
32 Yna y mil-wŷr a ddaethant, ac a dorrasant esceiriau y cyntaf, a'r llall, yr hwn a groes-hoeliasid gyd ag ef:
33 Eithr wedi iddynt ddyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eusys, ni thorrasant ei esceiriau ef:
34 Ond vn o'r mil-wŷr a wanodd ei ystlys ef â gwaywffon, ac yn y fan daeth allan waed a dwfr.
35 A'r hwn a'i gwelodd a dystiolaethodd, a gwîr yw ei dystiolaeth: ac efe a wŷr ei fôd yn dywedyd gwîr, fel y credoch chwi.
36 Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr Scrythur, Ni thorrir ascwrn o honaw.
37 A thrachefn, Scrythur arall sydd yn dywedyd, Hwy a edrychant ar yr hwn a wanasant.
38 Ac yn ôl hyn, Ioseph o Arimathæa, (yr hwn oedd ddiscybl i'r Iesu, eithr yn guddiedig rhag ofn yr Iddewon) a deisyfiodd ar Pilat gael tynnu i lawr gorph yr Iesu. A Philat a ganiadhâodd iddo. Yna y daeth efe, ac a ddug ymmaith gorph yr Iesu.
39 A daeth Nichodemus hefyd, (yr hwn ar y cyntaf a ddaethei at yr Iesu o hyd nos) ac a ddug myrr ac aloes ynghymmysc, tua chan-pwys.
40 Yna y cymmerasant gorph yr Iesu, ac a'i rhwymasant mewn llieiniau gyd ag aroglau, fel y mae arfer yr Iddewon ar gladdu.
41 Ac yn y fangre lle y croes-hoeliasid ef, yr oedd gardd, a bedd newydd yn yr ardd, yn yr hwn ni ddodasid dŷn erioed.
42 Ac yno, rhag nesed oedd darpar-wŷl yr Iddewon, am fôd y bedd hwnnw yn agos, y rhoddasant yr Iesu.
PEN. XX.
Y Dydd cyntaf o'r wythnos, Mair Magdalen a ddaeth y boreu, a hi etto yn dywyll, at y bedd, ac a weles y maen wedi ei dynnu ymmaith oddi ar y bedd.
2 Yna y rhedodd hi, ac a ddaeth at Simon Petr, a'r discybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu, ac a ddywedodd wrthynt, Hwy a ddygasant yr Arglwydd ymmaith o'r bedd, ac ni wyddom ni pa le y dodasant ef.
3 Yna Petr a aeth allan, a'r discbl arall, a hwy a ddaethant at y bedd.
4 Ac a redasant ill dau ynghyd: a'r discybl arall, a rododd o'r blaen, yn gynt nâ Phetr, ac a ddaeth yn gyntaf at y bedd.
5 Ac wedi iddo grymmu, efe a ganfu y llieiniau wedi eu gosod: er hynny nid aeth efe i mewn.
6 Yna y daeth Simon Petr yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac a ganfu y llieiniau wedi eu gosod:
7 A'r napcin a fuasei am ei ben ef, wedi ei osod, [Page 391] nid gyd â'r llieiniau, ond o'r nailltu, wedi ei blygu mewn lle arall.
8 Yna yr aeth y discybl arall hefyd i mewn, yr hwn o ddaethei yn gyntaf at y bedd, ac a welodd, ac a gredodd.
9 Canys hyd yn hyn ni wŷddent yr Scrythur, fôd yn rhaid iddo gyfodi o feirw.
10 Yna y discyblion a aethant ymmaith drachefn, at yr eiddynt.
11 Ond Mair a safodd wrth y beth oddi allan, yn wylo: ac fel yr oedd hi yn wŷlo, hi a ymostyngodd i'r bedd;
12 Ac a ganfu ddau Angel mewn [gwiscoedd] gwynion yn eistedd, vn wrth ben, ac vn wrth draed y lle y dodasid corph yr Iesu.
13 A hwy a ddywedasant wrthi, O wraig, pa ham yr wyti yn wŷlo? Hithau a ddywedodd wrthynt, Am ddwyn o honynt hwy fy Arglwydd i ymmaith, ac nas gwn pa le y dodasant ef.
14 Ac wedi dywedyd o honi hyn, hi a droes drach ei chefn, a welodd yr Iesu yn sefyll: ac ni's gwyddei [hi] mai yr Iesu oedd efe.
15 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, O wraig pa ham yr wyti yn wŷlo? pwy yr wyti yn ei geisio? Hitheu yn tybied mai 'r garddwr oedd efe, a ddywedodd wrtho, Syre, os tydi a'i dygaist ef, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf ef ymmaith.
16 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Mair. Hitheu a droes, ac a ddywedodd wrtho, Rabboni, yr hyn yw dywedyd, Athro.
17 Yr Iesu a ddywedodd wrthi, Na chyffwrdd â mi: (oblegid ni dderchefais i etto at fy Nhâd) [Page 392] eithr dôs at fy mrodyr, a dywed wrthynt, Yr wŷf yn derchafu at fy Nhâd i, a'ch Tâd chwithau, a'm Duw i, a'ch Duw chwithau.
18 Mair Magdalen a ddaeth, ac a fynegodd i'r discyblion, weled o honi hi yr Arglwydd, a dywedyd o honaw y pethau hyn iddi.
19 Yna, a hi yn hwyr y dydd cyntaf hwnnw o'r wythnos, a'r drysau yn gaead, lle yr oedd y discyblion wedi ymgasclu ynghyd, rhag ofn yr Iddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd yn y canôl, ac a dywedodd wrthynt, Tangneddyf i chwi.
20 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylo, a'i ystlys. Yna 'r discyblion a lawenychasant, pan welsant yr Arglwydd.
21 Yna y dywedodd yr Iesu wrthynt drachefn, Tangneddyf i chwi: megis y danfonodd y Tâd fi, yr wŷf finneu yn eich danfon chwi.
22 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Derbyniwch yr Yspryd glân.
23 Pwy bynnac y maddeuoch eu pechodau, maddeuir iddynt: a'r eiddo pwy bynnac, a attalioch, hwy a attaliwyd.
24 Eithr Thomas, vn o'r deuddeg, yr hwn a elwir Didymus, nid oedd gyd â hwynt, pan ddaeth yr Iesu.
25 Y discyblion eraill gan hynny a ddywedasant wrtho, Ni a welsom yr Arglwydd. Yntef a ddywedodd wrthynt, Oni chaf weled yn ei ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ôl yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf fi.
26 Ac wedi wyth niwrnod, drachefn yr oedd ei ddiscyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt [Yna] yr Iesu a ddaeth a'r drysau yn gaead, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangneddyf î chwi.
27 Wedi hynny y dywedodd efe wrth Thomas, Moes ymma dy fŷs, a gwêl fy nwylo; ac estyn dy law, a dôd yn fy ystlys; ac na fydd anghredadyn, ond credadyn.
28 A Thomas a attebodd ac a ddywedodd wrtho, Fy Arglwydd, a'm Duw.
29 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Am i ti fy ngweled, Thomas, y credaist: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
30 A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwŷdd ei ddiscyblion y rhai nid ydynt scrifennedig yn y llyfr hwn.
31 Eithr y pethau hyn a scrifennwyd, fel y credoch chwi mai yr Iesu yw Christ, Mab Duw, a chan gredu, y caffoch fywyd yn ei enw ef.
PEN. XXI.
GWedi y pethau hyn yr Iesu a ymddangosodd drachefn iw discyblion wrth fôr Tiberias: ac fel hyn yr ymdangosodd.
2 Yr oedd ynghyd Simon Petr a Thomas, yr hwn a elwir Didymus, a Nathanael o Cana yn Galilæa, a [meibion] Zebedaeus, a dan eraill o'i ddiscyblion ef.
3 Dywedodd Simon Petr wrthynt, Yr wyfi yn myned i byscotta. Dywedasant wrtho, Yr ydym ninnau hefyd yn dyfod gyd â thi. A hwy a aethant allan, ac a ddringasant i long yn y man: ar nos honno ni ddaliasant ddim.
4 A phan ddaeth y boreu weithian, safodd yr Iesu ar y lan: eithr y discyblion ni wyddent mai'r Iesu ydoedd.
5 Yna yr Iesu a ddywedodd wrthynt, O blant, a oes gennwch ddim bwyd? Hwythau a attebasant iddo, Nac oes.
6 Yntef a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu dehau i'r llong, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hynny, ac ni allent bellach ei thynnu, gan y lliaws pyscod.
7 Am hynny y discybl hwnnw yr oedd yr Iesu yn ei garu; a ddywedodd wrth Petr, Yr Arglwydd yw. Yna Simon Petr pan glybu mai yr Arglwydd oedd, a wregyfodd ei amwisc, (canys noeth oedd ef) ac a'i bwriodd ei hun i'r môr.
8 Eithr y discyblion eraill a ddaethant mewn llong, (oblegid nid oeddent bell oddi wrth dir, ond megis dau can cufydd) dan lusco y rhwyd a'r pyscod,
9 A chyn gynted ac ac y daethant i dir, hwy a welent dân o farwor wedi ei osod, a physcod wedi eu dodi arno, a bara.
10 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Dygwch o'r pyscod a ddaliasoch yr awron.
11 Simon Petr a escynnod, ac a dynnodd y rhwyd i dir, yn llawn o byscod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bôd cymmaint, ni thorrodd y rhwyd.
12 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Deuwch, ciniewch. Eithr ni feiddiei nêb o'r discyblion ofyn iddo, pwy wyt ti? am eu bôd yn gwŷbod mai yr Arglwydd oedd.
13 Yna y daeth yr Iesu, ac a gymmerth fara, [Page 395] ac a'i rhoddes iddynt, a'r pyscod yn vn modd.
14 Y drydedd waith hyn yn awr, yr ymddangosodd yr Iesu iw ddiscyblion, wedi iddo gyfodi o feirw.
15 Yna gwedi iddynt giniawa, yr Iesu a ddywedodd wrth Simon Petr, Simon [mab] Iona, a wyt ti yn fy ngharu i yn fwy nâ'r rhai hyn? Dywedodd yntef wrtho, Ydwyf Arglwydd; ti a wŷddost fy môd yn dy garu di. Dywedodd ynteu wrtho, Portha fy wŷn.
16 Efe a ddywedodd wrtho drachefn yr ail waith, Simon [mâb] Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Dywedodd yntef wrtho, Ydwyf Arglwydd: ti a wŷddost fy môd yn dy garu di. Dywedodd ynteu wrtho, Bugeilia fy nefaid.
17 Efe a ddywedodd wrtho y drydedd waith, Simon [mâb] Iona, a wyt ti yn fy ngharu i? Petr a dristaodd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy ngharu i? ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bôb peth; ti a wŷddost fy môd i yn dy garu di. Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Portha fy nefaid.
18 Yn wîr, yn wîr meddaf i ti: yan oeddit ieuangach, ti a'th wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynnaist: eithr pan elech yn hên, ti a estynni dy ddwylo, ac arall a'th wregysa, ac a'th arwain lle ni fynnit.
19 A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo drwy ba fath angeu y gogoneddei efe Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddywedodd wrtho, Canlyn fi.
20 A Phetr a drôdd, ac a welodd y discybl yr oedd yr Iesu yn ei garu, yn canlyn: yr hwn hefyd [Page 396] a bwysasei ar ei ddyfron ef ar swpper, ac a ddywedasei, Pwy, Arglwydd, yw yr hwn a'th fradycha di?
21 Pan welodd Petr hwn, efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, ond beth a wna hwn?
22 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwyf, beth [yw] hynny i ti? canlyn di fy fi.
23 Am hynny yr aeth y gair ymma allan ym mhlith y brodyr, na fyddei y discybl hwnnw farw: ac ni ddywedasei yr Iesu wrtho, na fyddei efe farw: ond, Os mynnaf iddo aros hyd oni ddelwŷf, beth [yw] hynny i ti?
24 Hwn yw 'r discybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a scrifennodd y pethau hyn: ac ni a wyddom fôd ei dystiolaeth ef yn wîr.
25 Ac y mae hefyd lawer o bethau araill a wnaeth yr Iesu, y rhai pen yscrifennid hwy bôb yn vn ac vn, nid wŷf yn tybied y cynhwysei y bŷd y llyfrau a scrifennid. Amen.
ACTAV NEV WEITHREDOEDD YR APOSTOLION.
PENNOD. I.
Y Traethawd cyntaf a wnaethum, o Theophilus, am yr holl bethau a ddechreuodd yr Iesu eu gwneuthur a'u dyscu,
2 Hyd y dydd y derbyniwyd ef i fynu, wedi iddo trwy yr Yspryd glân roddi gorchymmynion i'r Apostolion a etholasei.
3 I'r rhai hefyd yr ymddangosodd efe yn fwy wedi iddo ddioddef, trwy lawer o arwyddion siccr gan fôd yn weledig iddynt tros ddeugain nhiwrnod, a dywedyd y pethau a berthynent i deyrnas Dduw.
4 Ac wedi ymgynnull gyd â hwynt, efe a orchymynnodd iddynt nad ymadawent o Ierusalem, eithr disgwyl am addewid y Tâd, yr hwn [eb efe] a glywsoch gennyfi.
5 Oblegid Ioan yn ddiau a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir â'r Yspryd glân, cyn nemmawr o ddyddiau.
6 Gan hynny wedi eu dyfod hwy ynghyd, hwy a ofynnasant iddo, gan ddywedyd, Arglwydd, a'i 'r pryd hyn y rhoddi drachefn y frenhiniaeth i Israel?
7 Ac efe a dywedodd wrthynt, Ni pherthyn i chwi wŷbod yr amseroedd, na'r prydiau, y rhai a osodes y Tâd yn ei feddiant ei hun:
8 Eithr chwi a dderbyniwch nerth yr Yspryd glân wedi y delo efe arnoch; ac a fyddwch dystion i mi yn Ierusalem, ac yn holl Iudæa, a Samaria, ac hyd eithaf y ddaiar.
9 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, a hwynt hwy yn edrych, efe a derchafwyd i fynu: a chwmmwl a'i derbyniodd ef allan o'u golwg hwynt.
10 Ac fel yr oeddynt yn edrych yn ddyfal tua 'r nêf, ac efe yn myned i fynu, wele dau ŵr a safodd gar llaw iddynt, mewn gwisc wen:
11 Y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wŷr o Galilæa, pa ham y sefwch yn edrych tu a'r nêf? yr Iesu hwn, yr hwn a gymmerwyd i fynu [Page 398] oddi wrthych i'r nêf, a ddaw felly yn yr vn modd ac y gwelsoch ef yn myned i'r nêf.
12 Yna y troesant i Ierusalem, o'r mynydd a elwir Olewydd, yr hwn sydd yn agos i Ierusalem, [sef] taith [diwrnod] Sabbath.
13 Ac wedi eu dyfod i mewn, hwy a aethant i fynu i oruch-stafell, lle yr oedd Petr ac Iaco, ac Ioan, ac Andreas, Philip, a Thomas, Bartholomew, a Matthew, Iaco [mab] Alphaeus, a Simon Zelotes, a Iudas [brawd] Iaco, yn aros.
14 Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gyrân mewn gweddi ac ymbil, gyd â'r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyd â'i frodyr ef.
15 Ac yn y dyddiau hynny Petr a gyfododd i fynu ynghannol y discyblion, ac a ddywedodd, (a llifer yr henwau yn yr vn man oedd ynghylch vgain a chant.)
16 Ha-wŷr frodyr, yr oedd yn rhaid cyflawni yr Scrythur ymma a rag-ddywedodd yr Yspryd glân trwy enau Dafydd, am Iudas, yr hwn a fu flaenor i'r rhai a ddaliasant yr Iesu:
17 Canys efe a gyfriswyd gyd â ni, ac a gawsei ran o'r weinidogaeth hon.
18 A hwn a bwrcasodd faes â gwobr anwiredd, ac wedi ymgrogi, a dorrodd yn ei ganol: a'i holl ymyscaroedd ef a dywalltwyd allan.
19 A bu hyspys hyn i holl bresswyl-wŷr Ierusalem, hyd oni elwir y maes hwnnw yn eu tafod priodol hwy, Aceldama, hynny yw, maes y gwaed.
20 Canys scrifennwyd yn llyfr, y Psalmau, Bydded ei drigfan ef yn ddiffaethwch, ac na bydded a drigo ynddi: A chymmered arall ei escobaeth ef.
21 Am hynny mae yn rhaid, o'r gwŷr a fu yn cyd-ymdaith â ni yr holl amser yr aeth yr Arglwydd Iesu i mewn ac allan yn ein plith ni,
22 Gan ddechreu o fedydd Ioan hyd y dydd y cymmerwyd ef i fynu oddi wrthym ni; bod vn o'r rhai hyn gyd a ni, yn dŷst o'i adgyfodiad ef.
23 A hwy a osadasant ddau ger bron, Ioseph yr hwn a henwid Barsabas, ac a gyfenwyd Iustus, a Matthias:
24 A chan weddio, hwy a ddywedasant, Tydi Arglwydd, yr hwn a wŷddost galonnau pawb, dangos pa vn o'r ddau hyn a etholaist,
25 I dderbyn rhan o'r weinidogaeth hon, a'r Apostoliaeth, o'r hon y cyfeiliornodd Iudas, i fyned iw le ei hun.
26 A hwy a fwriasant eu coel brennau hwynt: ac ar Matthias y syrthiodd y coel-bren, ac efe a gyfrifwyd gyd a'r vn Apostol ar ddeg.
PEN. II.
AC wedi dyfod dydd y Pentecost, yr oeddynt hwy oll yn gytûn yn yr yn lle.
2 Ac yn ddisymmwth y daeth sŵn o'r nef, megis gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dŷ, lle yr oeddynt yn eistedd.
3 Ac ymddangosodd iddynt dafodau gwahanedig megis o dan, ac efe a eisteddodd ar bôb vn o honynt.
4 A hwy oll a lanwyd a'r Yspryd glân, ac a ddechreuasant lefaru â thafodau eraill, megis y rhoddes yr Yspryd iddynt ymadrodd.
5 Ac yr oedd yn trigo yn Ierusalem, Iddewon, gwŷr bucheddol o bôb cenedl dan y nêf.
6 Ac wedi myned y gair o hyn, daeth y lliaws [Page 400] ynghyd, ac a drallodwyd, o herwydd bôd pod vn yn eu clywed hwy yn llefaru yn ei iaith ei hun.
7 Synodd hefyd ar bawb, a rhyfeddu a wnaethant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, wele onid Galilæaid yw y rhai hyn oll sy yn llefaru?
8 A pha fodd yr ydym ni yn eu clywed hwynt, bôb vn yn ein hiaith ein hun, yn yr hon i'n ganed ni?
9 Parthiaid, a Mediaid, ac Elamitiaid, a thrigolion Mesopotamia, a Iudæa, a Chappadocia, Pontus, ac Asia:
10 Phrygia, a Pamphilia, yr Aipht, a pharthau Libya, yr hon sydd ger llaw Cyrene: a dieithriaid o Rufein-wŷr, Iddewon a phroselytiaid,
11 Cretiaid, ac Arabiaid, yr ydym ni yn eu clywed hwynt yn llefaru yn ein iaith ni, fawrion weithredoedd Duw.
12 A synnasant oll, ac a ammheuasant, gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a all hyn fôd?
13 Ac eraill gan watwar a ddywedasant, llawn o wîn melus ydynt.
14 Eithr Petr yn sefyll gyd â'r vn ar ddeg, a gyfododd ei leferydd, ac a ddywedodd wrthynt, O wŷr o Iddewon, a chwi oll sydd yn trigo yn Ierusalem, bydded yspysol hyn i chwi, a chlust-ymwrandewch â'm geiriau.
15 Canys nid yw y rhai hyn yn feddwon, fel yr ydych chwi yn tybied, (oblegid y drydedd awr o'r dydd yw hi.)
16 Eithr hyn yw y peth a ddywedpwyd trwy y Prophwyd Ioel,
17 A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywalltaf o'm Hyspryd ar bob cnawd: [Page 402] a'ch meibion chwi, a'ch merched a brophwydant, a'ch gwŷr ieuaingc a welant weledigaethau, a'ch hynaf-gwŷr a freuddwydiant freuddwydion:
18 Ac ar fy ngweision, ac ar fy llaw-forwynion, y tywaltaf o'm Hyspryd yn y dyddiau hynny, a hwy â brophwydant.
19 Ac mi a roddaf ryfeddodau yn'y nef vchod, ac arwyddion yn y ddaiar isod, gwaed, a thân, a tharth mŵg.
20 Yr haul a droir yn dywyllwch, a'r lloer yn waed, cyn i ddydd mawr ac eglur yr Arglwydd ddyfod.
21 A bydd, pwy bynnac a alwo ar Enw yr Arglwydd, a fydd cadwedig.
22 Ha-wŷr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu o Nazareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd, a rhyfeddodau, ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ac y gwyddoch chwithau,
23 Hwn wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhag-wybodaeth Duw, a gymmerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groes-hoeliasoch, ac a laddasoch.
24 Yr hwn a gyfodes Duw, gan ryddhau gofidiau angeu: canys nid oedd bossibl ei attal ef ganddo.
25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, Rhag-welais yr Arglydd ger fy mron yn oestad, canys ar fy neheulâw y mae, fel na'm yscoger.
26 Am hynny y llawenhaodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a'm cnawd hefyd a orphywys mewn gobaith,
27 Am na adewi fy enaid yn vffern, ac na oddefi i'th Sanct weled llygredigaeth.
28 Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd y bywyd: ti a'm cyflawni o lewenydd â'th wyned-pryd.
29 Ha-wŷr frodyr, y mae yn rhydd i mi ddywedyd yn hŷ wrthych, am y Patriarch Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyd â ni hyd y dydd hwn.
30 Am hynny, ac efe yn Brophwyd, yn gwŷbod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodei efe Grist, i eistedd ar ei orseddfa ef.
31 Ac efe yn rhag-weled a lefarodd am adgyfodiad Christ, na adawyd ei enaid ef yn vffern, ac na's gwelodd eî gnawd ef lygredigaeth.
32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fynu, o'r hyn yr ydym ni oll yn dystion.
33 Am hynny wedi ei dderchafu ef drwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tâd, yr addewid o'r Yspryd glân, efe a dywalltodd y peth ymma yr ydych chwi yr awron yn ei weled, ac yn ei glywed.
34 Oblegid ni dderchafodd Dafydd i'r nefoedd: ond y mae efe y dywedyd ei hun, Yr Arglywdd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheu-law,
25 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i'th draed.
36 Am hynny, gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groes-hoeliasoch chwi.
37 Hwythau wedi clywed hyn a ddwys-bigwyd yn eu calon, ac a ddywedasant wrth Petr, a'r Apostolion [Page 403] eraill, Ha-wyr frodyr, beth a wnawn ni?
38 A Phetr, a ddywedodd wrthynt, Edifarhewch, a bedyddier pôb vn o honoch yn Enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau: a chwi a dderbyniwch ddawn yr Yspryd glân.
39 Canys i chwi y mae yr addewid, ac i'ch plant, ac i bawb ym-mhell, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni atto.
40 Ac â llawer o ymadroddion eraill y tystiolaethodd, ac y cynghorodd efe, gan ddywedyd, Ymghedwch rhag y genhedlaeth drofaus hon.
41 Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyllysgar, a fedyddiwyd: a chwanegwyd attynt y dwthwn hwnnw, ynghylch tair mil o eneidiau.
42 Ac yr oeddynt yn parhau yn athrawiaeth ac ynghymdeithas yr Apostolion, ac yn torri bara, ac mewn gweddiau.
43 Ac ofn a ddaeth ar bôb enaid: a llawer o ryfeddodau, ac arwyddion a wnaethpwyd gan yr Apostolion.
44 A'r rhai a gredent oll oedynt yn yr vn man, a phôb peth ganddynt yn gyffredin:
45 A hwy a werthasant eu meddiannau a'u da, ac a'u rhannasant i bawb, fel yr oedd yr eisieu ar neb.
46 A hwy beunydd yn parhau yn gytûn yn y Deml, ac yn torri bara o dŷ i dŷ, a gymmerasant eu lluniaeth mewn llawenydd a symledd calon:
47 Gan foli Duw, a chael ffafor gan yr holl bobl. A'r Arglwydd a chwanegodd beunydd at yr Eglwys, y rhai fyddent gadwedig.
PEN. III.
PEtr hefyd ac Ioan a aethant i fynu i'r Deml ynghyd, ar yr awr weddi, [sef] y nawfed:
2 A rhyw ŵr clôff o groth ei fam, a ddygid, yr hwn a ddodent beunydd wrth borth y Deml, yr hwn a elwid Prydferth, i ofyn elusen gan y rhai a elai i mewn i'r Deml.
3 Yr hwn, pan welodd ef Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ddeisyfiodd gael elusen.
4 A Phetr yn dal sulw arno gyd ag Ioan, a ddywedodd, Edrych arnom ni.
5 Ac efe a ddaliodd sulw arnynt, gan obeithio cael rhyw beth ganddynt.
6 Yna y dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes gennif; eithr yr hyn sydd gennif, hynny yr wŷf yn ei roddi i ti: Yn enw Iesu Grist o Nazareth, cyfod a rhodia.
7 A chan ei gymmeryd ef erbyn ei ddeheulaw, ef a'i cyfododd ef i fynu: ac yn ebrwydd ei draed ef a'i fferau a gadarnhawyd:
8 A chan neidio i fynu, efe a safodd, ac a rodiodd, ac a aeth gyd a hwynt i'r Deml, dan rodio, a neidio, a moli Duw.
9 A'r holl bobl a'i gwelodd ef yn rhodio, ac yn moli Duw.
10 Ac yr oeddynt hwy yn ei adnabod, mai hwn oedd yr vn a eisteddai am elusen, wrth borth prydferth y Deml: hwy a lanwyd o fraw a synnedigaeth am y peth a ddigwyddasei iddo.
11 Ac fel yr oedd y cloff a iachasid yn attal Petr ac Ioan, yr holl bobl, yn frawychus, a gydredodd attynt, i'r porth a elwir [porth] Solomon.
12 A phan welodd Petr, efe a attebodd i'r bobl, [Page 405] Ha wŷr Israeliaid, beth a wnewch chwi yn rhyfeddu am hyn? neu beth a wnewch chwi yn dal sulw arnom ni, fel pe trwy ein nerth ein hun, neu [ein] duwioldeb, y gwnaethem i hwn rodio?
13 Duw, Abraham, ac Isaac, ac Iacob, Duw ein tadau ni, a ogoneddodd ei Fâb Iesu, yr hwn a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch ger bron Pilat, pan farnodd efe ef iw ollwng yn rhydd.
14 Eithr chwi a wadasoch y Sanct a'r Cyfiawn, ac a ddeisyfiasoch roddi i chwi ŵr llofruddiog:
15 A thywysog y bywyd a laddasoch, yr hwn a godes Duw o feirw, o'r hyn yr ydym ni yn dystion.
16 A'i Enw ef, trwy ffydd yn ei Enw ef, a nerthodd y dyn ymma a welwch, ac a adwaenoch chwi: a'r ffydd yr hon [sydd] drwyddo ef, a roes iddo ef yr holl-iechyd hwn, yn eich gwydd chwi oll:
17 Ac yn awr frodyr, mi awn mai trwy anwybod y gwnaethoch, megis y gwnaeth eich pendefigion chwi hefyd.
18 Eithr y pethau a rag-fynegodd Duw trwy enau ei holl Brophwydi, y dioddefei Christ, a gyflawnodd efe fel hyn.
19 Edifarhewch gan hynny, a dychwelwch, fel y deleer eich pechodau, pan ddelo yr amseroedd i ôrphywys o olwg yr Arglwydd:
20 Ac yr anfono efe Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd o'r blaen i chwi.
21 Yr hwn sydd raid i'r nef ei dderbyn, hyd amseroedd adferiad pob peth, y rhai a ddywedodd [Page 406] Duw drwy enau ei holl sanctaidd Brophwydi, erioed.
22 Canys Moses a ddywedodd wrth y tadau, yr Arglwydd eich Duw a gyfyd i chwi Brophwyd och brodyr, megis myfi: arno ef y gwrandewch ymmhob peth a ddywetto wrthych.
23 A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnnw, a lwyr ddifethir o blith y bobl
24 A'r holl Brophwydi hefyd o Samuel, ac o'r rhai wedi, cynnifer ac a lefarasant, a rag-fynegasant hefyd am y dyddiau hyn.
25 Chwi-chwi ydych blant y Prophwydi, a'r cyfammod, yr hwn a wnaeth Duw â'n tadau ni, gan ddywedyd wrth Abraham. Ac yn dy had ti y bendithir holl dylwythau y ddaiar.
26 Duw gwedi cyfodi ei fab Iesu, a'i hanfonodd ef i chwi yn gyntaf, gan eich bendithio chwi trwy droi pob vn o honoch ymmaith oddiwrth eich drygioni.
PEN. IV.
AC fel fel yr oeddynt yn llefaru wrth y bobl, yr offeiriaid a blaenor y Deml, a'r Saducæaid, a ddaethant arnynt hwy:
2 Yn flin ganddynt am eu bôd hwy yn dyscu y bobl, ac yn pregethu trwy yr Iesu, yr adgyfodiad o feirw.
3 A hwy a osodasant ddwylo arnynt hwy, ac a'u dodasant mewn dalfa, hyd trannoeth, canys yr oedd hi yn awr yn hwyr.
4 Eithr llawer o'r rhai a glywsant y gair a gredasant, a rhifedi y gwŷr a wnaed ynghylch pum mil.
5 A digwyddodd drannoeth ddarfod i'w llywodraeth-wŷr hwy, a'r Henuriaid, a'r Scrifennyddion, [Page 407] ymgynnull i Ierusalem.
6 Ac Annas yr Arch-offeiriad, a Chaiaphas, ac Ioan, ac Alexander, a chymmaint ac oedd o genedl yr Arch-offeiriad,
7 Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy a ofynnasant; trwy ba awdurdod, neu ym mha enw y gwnaethoch chwi hyn?
8 Yna Petr, yn gyflawn o'r Yspryd glân, a ddywedodd wrthynt, [chwy-chwi] Bennaethiaid y bobl, a Henuriaid Israel:
9 Od ydys yn ein holi ni heddyw am y weithred dda i'r dŷn clâf, [sef] pa wedd yr iachawyd ef,
10 Bydded hyspys i chwi oll, ac i bawb o bobl Israel, mai trwy enw Iesu Grist o Nazareth, yr hwn a groes-hoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, trwy hwnnw y mae hwn yn sefyll yn iach ger eich bron chwi.
11 Hwn yw'r maen a lyswyd gennych chwi yr adeiladwŷr, yr hwn a wnaed yn ben i'r gongl.
12 Ac nid oes iechydwriaeth yn neb arall: canys nid oes enw arall tan y nef, wedi ei roddi ymmhlith dynion, drwy yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
13 A phan welsant hyfder Petr ac Ioan, a deall mai gwŷr anllythyrennog, ac annyscedig oeddynt, hwy a rhyfeddasant. A hwy a'i hadwaenent, eu bod hwy gyd â'r Iesu.
14 Ac wrth weled y dŷn a iachasid, yn sefyll gyd â hwynt, nid oedd ganddynt ddim i'w ddywedyd vn erbyn hynny.
15 Eithr wedi gorchymmyn iddynt fyned allan o'r gynghorfa, hwy a ymgynghorasant â'i gilydd,
16 Gan ddywedyd, beth a wnawn ni i'r dynion hyn? canys yn ddiau arwydd hynod a wnaed trwyddynt hwy, hyspys i bawb a'r sydd yn presswylio yn Ierusalem, ac nis gallwn nî ei wadu.
17 Eithr fel na's taner ymmhellach ŷmmhlith y bobl, gan fygwth bygythiwn hwy, na lefaront mwyach wrth vn dyn yn yr enw hwn.
18 A hwy a'u galwasant hwynt, ac'a orchymynnasant iddynt nad ynganent ddim, ac na ddyscent vn enw'r Iesu.
19 Eithr Petr ac Ioan a attebasant iddynt, ac a ddywedasant, Ai cyfiawn yw ger bron Duw, wrando arnoch chwi yn hytrarch nag ar Dduw? bernwch chwi.
20 Canys ni allwn ni na ddywedom y pethau a welsom, ac a glywsom.
21 Eithr wedi eu bygwth ymmhellach, hwy a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael dim i'w cospi hwynt, oblegid y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am yr hyn a wnaethid.
22 Canys yr oedd y dŷn vwch-law deugain oed, ar yr hwn y gwnaethid yr arwydd hwn o iechydwriaeth.
23 A hwythau wedi eu gollwng ymmaith, a ddaethant at yr eiddynt, ac a ddangosasant yr holl bethau a ddywedasei yr Arch-offeiriaid, a'r Henuriaid wrthynt.
24 Hwythau pan glywsant, o vn-frŷd a gyfodasant eu llef at Dduw, ac a ddywedasant, ô Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnaethost y nef, a'r ddaiar, ar môr, ac oll sydd ynddynt:
25 Yr hwn trwy yr Yspryd glân yngenau dy wâs Dafydd, a ddywedaist, Pa ham y tersycodd y Cenhedloedd, ac y bwriadodd y bobloedd bethau ofer?
26 Brenhinoedd y ddaiar a safasant i fynu, a'r llywodraethwŷr a ymgasclasant ynghŷd, yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef.
27 Canys mewn gwirionedd, yn y ddinas hon yr ymgynhullodd yn erbyn dy Sanct Fâb Iesu, yr hwn a enneiniaist i, Herod a Phontius Philat, gyd â'r Cenhedloedd, a phobl Israel:
28 I wneuthur pa bethau bynnag a ragluniodd dy law a'th gyngor di, eu gwneuthur.
29 Ac yn awr, Arglwydd, edrych ar eu bygythion hwy, a chaniadhâ i'th weision draethu dy air di gyd â phôb hyfder:
30 Trwy estyn o honot dy law i iachâu, ac fel y gwneler arwyddion a rhyfeddodau, trwy enw dy sanctaidd Fâb Iesu.
31 Ac wedi iddynt weddio, siglwyd y lle yr oeddynt wedi ymgynnull ynddo, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd glân; a hwy a lefarasant air Duw yn hyderus.
32 A lliaws y rhai a gredasent oedd o vn galon, ac vn enaid, ac ni dywedodd neb o honynt, fod dim ar a feddei, yn eiddo ei hunan eithr yr oedd ganddynt bôb peth yn gyffredin.
33 A'r Apostolion, trwy nerth mawr, a roddasant dystiolaeth o adgyfodiad yr Arglwydd Iesu; a gras mawr oedd arnynt hwy oll.
34 Canys nid oedd vn anghenus yn eu plith hwy, oblegid cynnifer ac oedd berchen tiroedd neu dai, au gwerthasant, ac a ddygasant werth y pethau a werthasid,
35 Ac a'i gosodasant wrth draed yr Apostolion: a rhannwyd i bôb vn megis yr oedd yr angel arno.
36 A Ioseph, yr hwn a gyfenwid Barnabas gan yr Apostolion, (yr hyn o'i gyfieithu yw, mâb diddanwch) yn Lefiad, ac yn Cypriad o genedl,
37 A thir ganddo, a'i gwerthodd, ac a ddug yr arian, ac a'i gosodes wrth draed yr Apostolion.
PEN. V.
EIthr rhyw ŵr, a'i enw Ananias, gyd â Sapphira ei wraig, a werthodd dîr,
2 Ac a ddarn-guddiodd beth o'r gwerth, a'i wraig hefyd o'r gyfrinach, ac a ddug ryw gyfran, ac ai gosododd wrth draed yr Apostolion.
3 Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, pa ham y llanwodd Satan dy galon di, i ddywedyd celwydd wrth yr Yspryd glân, ac i ddarn-guddio peth o werth y tîr?
4 Tra ydoedd yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd yn dy feddiant di? pa ham y gosodaist y peth hyn yn dy galon? ni ddywedaist di gelwydd wrth ddynion, onid wrth Dduw.
5 Ac Ananias pan glybu y geiriau hŷn, a syrthiodd i lawr, ac a drengodd: a daeth ofn mawr ar bawb a glybu y pethau hyn.
6 A'r gwŷr ieuaingc a gyfodasant, ac a'i cymmerasant ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant.
7 A bu megis yspaid tair awr, a'i wraig ef heb wybod y peth a wnaethid, a ddaeth i mewn.
8 A Phetr a attebodd iddi, dywet ti i mi, ai er cymmaint y gwerthasoch chwi y tîr? Hitheu a ddywedodd, ie; er cymmaint,
9 A Phetr a ddywedodd wrthi, pa ham y cyttunasoch i demptio Yspryd yr Arglwydd? wele draed y rhai a gladdasant dy ŵr di wrth y drws, a hwy a'th ddygant ditheu allan.
10 Ac yn y man hi a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a drengodd: a'r gwŷr ieuaingc wedi dyfod i mewn, a'i cawsant hi yn farw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant hi yn ymyl ei gŵr.
11 A bu ofn mawr ar yr holl Eglwys, ac ar bawb oll a glybu y pethau hyn.
12 A thrwy ddwy law yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer, ym-mhlith y bobl, (ac yr oeddynt oll yn gyttûn ym-mhorth Solomon.
13 Eithr ni feiddiei neb o'r lleill ymgyssylltu â hwynt, ond y bobl oedd yn eu mawrhau.
14 A chwanegwyd attynt rai yn credu yn yr Arglwydd, lliaws o wŷr a gwragedd hefyd.)
15 Hyd oni ddygent y rhai cleifion allan ar hŷd yr heolydd, a'u gosod ar welyau a glythau, fel o'r hyn lleiaf y cyscodei cyscod Petr, pan ddelei heibio, rai o honynt.
16 A lliaws a ddaeth hefyd ynghyd, o'r dinasoedd o amgylch Ierusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a rhai a drallodid gan ysprydion aflan y rhai a iachawyd oll.
17 A'r Arch-offeiriad a gyfododd, a'r holl rai oedd gyd ag ef (yr hon yw heresi y Saducæaid) a lanwyd o gynfigen.
18 Ac a ddodasant eu dwylo ar yr Apostolion, ac a'u rhoesant yn y carchar cyffredin.
19 Eithr Angel yr Arglwydd o hyd nôs, a agorodd [Page 412] ddrysau y carchar, a'u dûg hwynt allan; ac a ddywedodd,
20 Ewch, sefwch a lleferwch yn y Deml wrth y bobl, holl eiriau y fuchedd hon.
21 A phan glywsant, hwy a aethant yn foreu i'r Deml, ac a athrawiaethasant: eithr daeth yr Arch-offeiriad, a'r rhai oedd gyd ag ef, ac a alwasant ynghyd y Cyngor, a holl Henuriaid plant yr Israel, ac a ddanfonasant i'r carchar, iw dwyn hwy [ger bron.]
22 A'r swyddogion pan ddaethant, ni chawsant hwynt yn y charchar, eithr hwy a ddychwelasant, ac a fynegasant,
23 Gan ddywedyd; yn wîr ni a gawsom y carchar wedi ei gau o'r fath siccraf, a'r ceidwaid yn sefyll allan o flaen y drysau, eithr pan agorasom, ni chawsom neb i mewn.
24 A phan glybu yr Arch-offeiriad, a blaenor y Deml, a'r Offeiriaid pennaf, yr ymadroddion hyn, ammau a wnaethant yn eu cylch hwy, beth a ddoe o hyn.
25 Yna y daeth vn ac a fynegodd iddynt, gan ddywedyd, wele y mae y gwŷr a ddodasoch chwi yngharchar, yn sefyll yn y Deml, ac yn dyscu y bobl.
26 Yna y blaenor gyd â'r swyddogion, a aeth ac a'u dug hwy heb drais: (oblegid yr oedd arnynt ofn y bobl, rhag eu llabyddio.)
27 Ac 'wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen y Cyngor, a'r Arch-offeiriad a ofynnodd iddynt,
28 Gan ddywedyd, oni orchymynnasom ni, gan orchymmyn i chwi na athrawiaethech yn yr [Page 413] enw hwn? ac wele, chwi a lanwasoch Jerusalem a'ch athrawiaeth, ac yr ydych yn ewyllysio dwyn arnom ni waed y dŷn hwn.
29 A Phetr, a'r Apostolion, a attebasant, ac a ddywedasant: rhaid yw vfyddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion.
30 Duw ein tadau ni a gyfododd i fynu Jesu yr hwn a laddasoch chwi, ac a groeshoeliasoch ar bren.
31 Hwn a dderchafodd Duw â'i ddeheu-law, yn dywysog, ac yn Iachawdwr, i roddi edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau.
32 A nyni ydym ei dystion ef o'r pethau hyn, a'r Yspryd glân hefyd, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn vfyddhau iddo ef.
33 A phan glywsant hwy hynny, hwy a ffrommasant, ac a ymgynghorasant am eu lladd hwynt.
34 Eithr rhyw Pharisæad a'i enw Gamaliel, Doctor o'r gyfraith, parchedig gan yr holl bobl, a gyfododd i fynu yn y Cyngor, ac a archodd yrru yr Apostolion allan dros ennyd fechan;
35 Ac a ddywedodd wrthynt, Ha-wŷr, o Israel, edrychwch arnoch eich hunain, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur am y dynion hyn.
36 Canys o flaen y dyddiau hyn, cyfododd Theudas i fynu, gan ddywedyd, ei fôd ef yn rhyw vn, wrth yr hwn y glynodd rhifedi o wŷr, ynghylch pedwar cant, yr hwn a laddwyd, a chynnifer oll a vfyddhasant iddo a wascarwyd, ac a wnaed yn ddiddim
37 Yn ôl hwn y cyfododd Iudas y Galilæad, yn nyddiau y drêth, ac efe a drôud bobl lawer ar ei ôl, ac yntef hefyd a ddarfu am dano, a chynnifer [Page 414] oll a vfyddhasant iddo a wascarwyd.
38 Ac yr awron, meddaf i chwi, ciliwch oddiwrth y dynion hyn, a gadewch iddynt, oblegid os o ddynion y mae y cyngor hwn, neu'r weithred hon, fe a ddiddymmir:
39 Eithr os o Dduw y mae, ni ellwch chwi ei ddiddymmu, rhag eich cael yn ymladd yn erbyn Duw.
40 A chytuno ag ef a wnaethant; ac wedi iddynt alw yr Apostolion attynt, a'u curo, hwy a orchymmynnasant iddynt na lefarent yn enw yr Jesu, ac a'u gollyngasant ymmaith.
41 A hwy a aethant allan o olwg y Cyngor yn llawen, am eu cyfrif hwynt yn deilwng i ddioddef ammarch o achos ei enw ef.
42 A pheunydd yn y Deml, ac o dŷ i dy ni pheidiasant â dyscu, a phregethu Jesu Grist.
PEN. VI.
AC yn y dyddiau hynny, a'r discyblion yn amlhau, bu grwgnach gan y Groegiaid yn erbyn yr Hebræaid, am ddirmygu eu gwragedd gweddwon hwy, yn y weinidogaeth feunyddol.
2 Yna 'r deuddeg a alwasant ynghyd y lliaws ddiscyblion, ac a ddywedasant: nid yw gymhesur i ni adel gair Duw, a gwasanaethu byrddau.
3 Am hynny frodyr, edrychwch yn eich plith, am seithwŷr da eu gair, yn llawn o'r Yspryd glân, a doethineb, y rhai a osodom ar hyn o orchwyl.
4 Eithr nyni a barhawn mewn gweddi, a gweinidogaeth y gair.
5 A bodlon fu 'r ymadrodd gan yr holl liaws a hwy a etholasant Stephan, gŵr llawn o ffydd, ac [Page 415] o'r Yspryd glân, a Philip, a Phrochorus, a Nicanor, a Thimon, a Pharmenas, a Nicholas, proselyt o Antiochia:
6 Y rhai a osodasant hwy ger bron yr Apostolion, ac wedi iddynt weddio, hwy a ddodasant eu dwylo arnynt hwy.
7 A gair Duw a gynnyddodd, a rhifedi y discyblion yn Ierusalem a amlhaodd yn ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid a vfyddhasant i'r ffydd.
8 Eithr Stephan yn llawn ffydd, a nerth, a wnaeth ryfeddodau, ac arwyddion ym-mhlith y bobl.
9 Yna y cyfodes rhai o'r Synagog a elwir eiddo y Libertiniaid, a'r Cyreniaid, a'r Alexandriaid, a'r rhai o Cilicia, ac o Asia, gan ymddadleu ag Stephan.
10 Ac ni allent wrthwynebu y doethineb a'r Yspryd, drwy yr hwn yr oedd efe yn llefaru.
11 Yna y gosodasant wŷr i ddywedyd, nyni a'i clywsom ef yn dywedyd geiriau cablaidd yn erbyn Moses a Duw.
12 A hwy a gynhyrfasant y bobl, a'r henuriaid, a'r Scrifennyddion, a chan ddyfod arno, a'i dygasant i'r Gynghorfa.
13 Ac a osodasant gau dystion, y rhai a ddywedent: nid yw y dŷn hwn yn peidio â dywedyd cabl-eiriau, yn erbyn y lle sanctaidd hwn a'r gyfraith.
14 Canys nyni a'i clywsom ef yn dywedyd, y destrywiei yr Jesu hwn o Nazareth y lle ymma, ac y newidiei efe y defodau a draddododd Moses i ni.
15 Ac fel yr oedd yr oll rai a eisteddent yn y [Page 416] Cyngor yn dal sulw arno, hwy a welent ei wyneb ef, fel wyned Angel.
PEN. VII.
YNa y dywedodd yr Arch-offeiriad, A ydyw y pethau hyn felly?
2 Yntef a dywedodd; Ha-wŷr, frodyr a thadau, gwrandewch, Duw y gogoniant a ymddangosodd i'n tâd Abraham, pan oedd efe ym Mesopatamia, cyn iddo drigo yn Charran;
3 Ac a ddywedodd wrtho; Dôs allan o'th wlâd, ac oddi wrth dy dylwyth, a thyred i'r tîr a ddangoswyf i ti.
4 Yna y daeth efe allan o dir y Caldeaid, ac y presswyliodd yn Charran: ac oddi yno wedi marw ei dâd, efe a'i symmudodd ef i'r tîr ymma, yn yr hwn yr ydych chwi yn presswylio yr awr hon.
5 Ac ni roes iddo etifeddiaeth ynddo, na ddo lêd troed, ac efe a addawodd ei roddi iddo i'w feddiannu, ac i'w hâd yn ei ôl, pryd nad oedd, plentyn iddo.
6 A Duw a lefarodd fel hyn, Dy hâd ti a fydd ymdeithydd mewn gwlad ddieithr, a hwy a'i caethiwant ef, ac a'i drygant, bedwar can mlynedd.
7 Eithr y genedl yr hon a wasanaethant hwy, a farna fi, medd Duw, ac wedi hynny y dônt allan, ac am gwasanaethant i yn y lle hwn.
8 Ac efe a roddes iddo gyfammod yr enwaediad; felly [Abraham] a genhedlodd Isaac, ac a enwaedodd arno yr wythfed dydd: ac Isaac a genhedlodd Iacob, ac Iacob a genhedlodd y deuddec Patriarch.
9 A'r Patrieirch gan gynfigennu a werthasant Ioseph i'r Aipht: ond yr oedd Duw gyd ag ef,
10 Ac a'i hachubodd ef o'i holl orthrymderau, ac a roes iddo hawddgarwch a doethineb, yngolwg Pharao brenin yr Aipht: ac efe a'i gosododd ef yn llywodraethwr ar yr Aipht, ac ar ei holl dŷ.
11 Ac fe ddaeth newyn dros holl dir yr Aipht, a Chanaan, a gorthrymder mawr, a'n tadau ni chawsant lyniaeth.
12 Ond pan glybu Iacob fôd ŷd yn yr Aipht, efe a anfonodd ein tadau ni allan yn gyntaf.
13 A'r ail waith yr adnabuwyd Ioseph gan ei frodyr, a chenedl Joseph a aeth yn hyspys i Pharao.
14 Yna yr anfonodd Ioseph ac a gyrchodd ei dad Iacob, a'i holl genedl, pymthec enaid a thrugain.
15 Felly yr aeth Iacob i wared i'r Aipht, ac a fu farw, efe a'n tadau hefyd.
16 A hwy a symmudwyd i Sichem, ac a ddodwyd yn y bedd a brynasei Abraham er arian, gan feibion Emor [tâd] Sichem.
17 A phan nesaodd amser yr addewid, yr hwn a dyngasei Duw i Abraham, y bobl a gynnyddodd, ac a almhâodd yn yr Aipht,
18 Hyd oni chyfododd brenin arall, yr hwn nid adwaeni mo Ioseph.
19 Hwn a fu ddichellgar wrth ein cenedl ni, ac a ddrygodd ein tadau, gan beri iddynt fwrw allan eu plant, fel na heppilient.
20 Ar yr hwn amser y ganwyd Moses, ac efe oedd dlŵs i Dduw, ac a fagwyd dri mis yn-nhŷ ei dâd.
21 Ac wedi ei fwrw ef allan, merch Pharao a'i cyfodes ef i fynu, ac a'i magodd ef yn fâb iddi ei hun.
22 A Moses oedd ddyscedig yn holl ddoethineb yr Aiphtiaid, ac oedd nerthol mewn geiriau, ac mewn gweithredoedd.
23 A phan oedd efe yn llawn ddeugeinmlwydd oed, daeth iw galon ef ymweled â'i frodyr plant yr Israel.
24 A phan welodd efe vn yn cael cam, efe a'i hamddiffynnodd ef, ag a ddialodd gam yr hwn a orthrymmid, gan daro yr Aiphtŵr.
25 Ac efe a dybiodd fôd ei frodyr yn deall, fôd Duw yn rhoddi iechydwriaeth iddynt trwy ei law ef, eithr hwynt hwy ni ddeallasant.
26 A'r dydd nesaf yr ymddangosodd efe iddynt, a hwy yn ymrafaelio, ac a'i hannogodd hwynt i heddychu, gan ddywedyd, ha-wŷr, brodyr ydych chwi, pa ham y gwnewch gam â'i gilydd.
27 Ond yr hwn oedd yn gwneuthur cam â'i gymmydog, ai cilgwthiodd ef, gan ddywedyd, pwy a'th osododd di yn llywodraethŵr ac yn farnwr arnom ni.
28 A leddi di fi, y modd y lleddaist yr Aiphtiwr ddoe
29 A Moses a ffoawdd ar y gair hwn, ac a fu ddieithr yn nhîr Madian, lle y cenhedlodd efe ddau o feibion.
30 Ac wedi cyflawni deugain mhlynedd, yr ymddangosodd iddo, yn anialwch mynydd Sina, Angel yr Arglwydd, mewn fflam dân mewn perth.
31 A Moses pan welodd, a fu ryfedd ganddo y golwg, a phan nessaodd i ystyried, daeth llef yr Arglwydd atto, gan ddywedyd,
32 Myfi yw Duw dy dadau, Duw Abraham, a Duw Isaac, a Duw Iacob. A Moses wedi myned yn [Page 419] ddychrynnedig, ni feiddiai ystyried.
33 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrtho, Dattod dy escidiau oddi am dy draed, canys y lle yr wyt yn sefyll ynddo, sydd dir sanctaidd.
34 Gan weled y gwelais ddryg-fyd fy mhobl, y rhai sy yn yr Aipht, ac mi a glywais eu griddfan, ac a ddescynnais iw gwared hwy; Ac yn awr tyred, mi a'th anfonaf di i'r Aipht.
35 Y Moses ymma, yr hwn a wrthodasant hwy, gan ddywedyd, Pwy a'th osododd di yn llywodraethŵr, ac yn farnwr, hwn a anfonodd Duw yn llywydd, ac yn waredwr, trwy law yr Angel, yr hwn a ymddangosodd iddo yn y berth.
36 Hwn a'u harweiniodd hwynt allan, gan wneuthur rhyfeddodau ac arwyddion, yn nhîr yr Aipht, ac yn y môr côch, ac yn y diffaethwch, ddeugain mhlynedd.
37 Hwn yw'r Moses a ddywedodd i feibion Israel, Prophwyd a gyfyd yr Arglwydd eich Duw i chwi, o'ch brodyr, fel myfi, arno ef y gwrandewch.
38 Hwn yw efe a fu yn yr Eglwys yn y diffaethwch, gyd a'r Angel a ymddiddanodd ag ef ym mynydd Sina, ac â'n tadau ni, yr hwn a dderbyniodd ymadroddion bywiol iw rhoddi i ni.
39 Yr hwn ni fynnei ein tadau fod yn vfydd iddo, eithr cilgwthiasant ef, a throesant yn eu calonnau i'r Aipht,
40 Gan ddywedyd wrth Aaron, Gwna i ni dduwiau i'n blaenori, oblegid y Moses ymma, yr hwn a'n dûg ni allan o dîr yr Aipht, ni wyddom ni beth a ddigwyddodd iddo.
41 A hwy a wnaethant lô yn y dyddiau hynny, [Page 420] ac a offrymmasant aberth i'r eulyn, ac a ymlawenhasant yngweithredoedd eu dwylo ei hun.
42 Yna y trôdd Duw, ac a'u rhoddes hwy i fynu i wasanaethu llu y nef, fel y mae yn scrifennedic yn llyfr y Prophwydi: A offrymmasoch i mi laddedigion ac aberthau, ddeugain mhlynedd yn yr anialwch, chwi tŷ Israel?
43 A chwi a gymmerasoch babell Moloch, a seren eich Duw Remphan, lluniau y rhai a wnaethoch iw haddoli, minneu a'ch symmudaf chwi tu hwnt i Babilon.
44 Tabernacl y dystiolaeth oedd ymmhlith ein tadau yn yr anialwch, fel y gorchymynnasei yr hwn a ddywedei wrth Moses, am ei wneuthur ef yn ôl y portreiad a welsei.
45 Yr hwn a ddarfu i'n tadau ni ei gymmeryd, a'i ddwyn i mewn gyd ag Jesu i berchennogaeth y cenhedloedd, y rhai a yrrodd Duw allan o flaen ein tadau, hyd yn nyddiau Dafydd;
46 Yr hwn a gafodd ffafor ger bron Duw, ac a ddymunodd gael tabernacl i Dduw Iacob.
47 Eithr Solomon a adeiladodd dŷ iddo ef.
48 Ond nid yw y Goruchaf yn trigo mewn temlau o waith dwylo, fel y mae y Prophwyd yn dywedyd,
49 Y nef [yw] fy ngorsedd-faingc, a'r ddaiar yw troed-faingc fy nhraed. Pa dŷ a adeiledwch i mi, medd yr Arglwydd, neu pa le fydd im gorphwysfa i.
50 Ond fy llaw i a wnaeth hyn oll?
51 Chwi-rai gwar-galed, a dienwaededig o gaon, ac o glustiau, yr ydych chwi yn wastad yn gwrthwynebu yr Yspryd glân, megis eich tadau, felly chwithau.
52 Pa vn o'r Prophwydi ni ddarfu i'ch tadau chwi ei erlid? a hwy a laddasant y rhai oedd yn rhagfynegi dyfodiad y Cyfiawn, i'r hwn yr awron y buoch chwi fradwŷr a llofruddion.
53 Y rhai a dderbyniasoch y gyfraith drwy drefnid angelion, ac ni's cadwasoch.
54 A phan glywsant hwy y pethau hyn, hwy a ffrommasant yn eu calonnau, ac a yscyrnygasant ddannedd arno.
55 Ac efe yn gyflawn o'r yspryd glân, a edrychodd yn ddyfal tu a'r nef, ac a welodd ogoniant Duw, a'r Jesu yn sefyll ar ddeheu-law Dduw.
56 Ac efe a ddywedodd; wele, mi a welaf y nefoedd yn agored, a Mab y dŷn yn eistedd a'r ddeheu-law Dduw.
57 Yna y gwaeddasant â llef vchel, ac a gaeasant eu clustiau, ac a ruthrasant yn vnfryd arno.
58 Ac a'i bwriasant allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant, a'r tystion a ddodasant eu dillad wrth draed dŷn ieuangc a elwid Saul.
59 A hwy a labyddiasant Stephan, ac efe yn galw a'r Dduw, ac yn dywedyd, Arglwydd Jesu derbyn fy yspryd.
60 Ac efe a ostyngodd ar ei liniau, ac a lefodd â llef vchel, Arglwydd na ddod y pechod hyn yn eu herbyn. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a hunodd.
PEN. VIII.
A Saul oedd yn cyttûno iw lâdd ef. A bu yn y dyddiau hynny er lid mawr a'r yr Eglwys oedd vn Jerusalem: a phawb a wascarwyd ar hŷd gweledydd Iudæa a Samaria, ond yr Apostolion.
2 A gwŷr bucheddol a ddygasant Stephan [Page 422] [iw gladdu,] ac a wnaethant alar mawr am dano ef.
3 Eithr Saul oedd yn anrheithio yr eglwys, gan fyned i mewn i bôb tŷ, a llusco allan wŷr a gwragedd, efe a'u rhoddes yngharchar.
4 A'r rhai a wascarasid, a dramwyasant gan bregethu y gair.
5 Yna Philip a aeth i wared i ddinas Samaria, ac a bregethodd Grist iddynt.
6 A'r bobl yn gyttûn, a ddaliodd ar y pethau a ddywedid gan Philip, wrth glywed o honynt, a gweled yr arwyddiō yr oedd efe yn eu gwneuthur.
7 Canys ysprydion aflan, gan lefain â llêf vchel, a aethant allan o lawer a berchennogid ganddynt, a llawer yn gleifion o'r parlys, ac yn gloffion, a iachawyd.
8 Ac yr oedd llawenydd mawr yn y ddinas honno,
9 Eithr rhyw ŵr a'i enw Simon, oedd o'r blaen yn y ddinas, yn swyno, ac yn hudo pobl Samaria, gan ddywedyd ei [fod] ef ei hûn yn rhyw vn mawr.
10 Ar yr hwn yr oedd pawb, o'r lleiaf hyd ŷ mwyaf, yn gwrando, gan dywedyd, Mawr allu Duw yn hwn.
11 Ac yr oeddynt a'u coel arno, o herwydd iddo dalm o amser eu hudo hwy â swynion.
12 Eithr pan gredasant i Philip, yn pregethu y pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Jesu Grist, hwy a fedyddiwyd, yn wŷr ac yn wragedd.
13 A Simon yntef hefyd a gredodd, ac wedi ei fedyddio, a lynodd wrth Philip; a synnodd [Page 423] arno wrth weled yr arwyddion, a'r nerthoedd mawrion a wneid.
14 A phan glybu yr Apostolion yn Jerusalem, dderbyn o Samaria air Duw, hwy a anfonasant attynt Petr ac Ioan.
15 Y rhai wedi eu dyfod i wared, a weddiasant drostynt, ar iddynt dderbyn yr Yspryd glân.
16 Canys etto nid oedd efe wedi syrthio ar nêb o honynt, ond yr oeddynt yn vnic wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Jesu.
17 Yna hwy a ddodasant eu dwylaw arnynt, a hwy a dderbyniasant yr Yspryd glân.
18 A phan welodd Simon mai trwy osodiad dwylaw yr Apostolion y rhoddid yr Yspryd glân, efe a gynnygiodd iddynt arian.
19 Gan ddywedyd, rhoddwch i minneu hefyd yr awdurdodd hon, fel ar bwy bynnac y gosodwyf fy nwylo, y derbynio efe yr Yspryd glân.
20 Eithr Petr a ddywedodd wrtho, bydded dy arian gyd â thi i ddestryw, am i ti dybied y meddiennir dawn Duw trwy arian.
21 Nid oes i ti na rhan, na chyfran yn y gorchwyl hyn, canys nid yw dy galon di yn vniawn ger bron Duw.
22 Edifarhâ gan hynny am dy ddrygioni hyn, a gweddia Dduw a faddeuir i ti feddyl-fryd dy galon.
23 Canys mi a'th welaf mewn bustl chwerwder, ac mewn rhwymedigaeth anwiredd.
24 A Simon a attebodd ac a ddywedodd gweddiwch chwi drosofi at yr Arglwydd, fel na ddêl dim arnaf o'r pethau a ddywedasoch.
25 Ac wedi îddynt dystiolaethu, llefaru gair [Page 424] yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Jerusalem, ac a bregethasant yr Efengyl yn llawer o benrefi y Samariaid.
26 Ac Angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Philip, gan ddywedyd, Cyfot a dôs tu a'r deau, i'r ffordd sydd yn myned i wared o Jerusalem i Gaza: yr hon sydd anghyfannedd.
27 Ac efe a gyfododd ac a aeth, ac wele gŵr o Ethiopia, Eunuch galluog dan Candace brenhines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd a'r ei holl dryssor hi, yr hwn a ddaethei i Jerusalem i addoli:
28 Ac oedd yn dychwelyd, ac yn eistedd yn ei gerbyd, ac yn darllein y Prophwyd Esaias.
29 A dywedodd yr Yspryd wrth Philip, dôs yn nês, a glŷn wrth y cerbyd ymma.
30 A Philip a redodd atto, ac a'i clybu ef yn darllein y Prophwyd Esaias; ac a ddywedodd; A wyt ti yn deall y pethau yr wyt yn eu darllein?
31 Ac efe a ddywedodd, pa fodd y gallaf, oddieithr i ryw vn fy nghyfarwyddo i. Ac efe a ddymunodd ar Philip ddyfod i fynu, ac eistedd gyd ag ef.
32 A'r lle o'r Scrythur yr oedd efe yn ddarllein, oedd hwn, fel dafad i'r lladdfa yr arweinwyd ef, ac fêl oen ger bron ei gneifiwr yn fud, felly nid agorodd efe ei enau.
33 Yn ei ostyngiad, ei farn ef a dynnwyd ymmaith, eithr pwy a draetha ei genhedlaeth ef? oblegid dygir ei fywyd ef oddi ar y ddaiar.
34 A'r Efnuch a attebodd Philip, ac a ddywedodd Attolwg i ti, am bwy y mae 'r Prophwyd yn dywedyd hyn? am dano ei hûn, ai am ryw vn arall?
35 A Philip a agorodd ei enau, ac a ddechreuodd ar yr Scrythur honno, ac a bregethodd iddo yr Jesu.
36 Ac fel yr oeddynt yn myned ar hyd y ffordd, hwy a ddaethant at ryw ddwfr, a'r Efnuch a ddywedodd, wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio?
37 A Philip a ddywedodd, os wyti yn credu â'th holl galon, fe a ellir. Ac efe a attebodd ac a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Jesu Grist yn fab Duw.
38 Ac efe a orchymynnodd sefyll o'r cerbyd, a hwy a aethant i wared ill dau i'r dwfr, Philip a'r Efnuch, ac efe a'i bedyddiodd ef.
39 A phan ddaethant i fynu o'r dwfr, Yspryd yr Arglwydd a gippiodd Philip ymmaith, ac ni welodd yr Efnuch ef mwyach. Ac efe a aeth yr hyd ei ffordd ei hun yn llawen.
40 Eithr Philip a gaed yn Azotus; a chan dramwy, efe a efangylodd ym mhôb dinas, hyd oni ddaeth efe i Cæsarea.
PEN. IX.
A Saul etto yn chwythu bygythiau a chelanedd, yn erbyn discyblion yr Arglwydd a aeth at yr Archofferiad,
2 Ac a ddeisyfodd ganddo lythyrau i Ddamascus, at y Synagogau, fel os cai efe nêb o'r ffordd [hon,] na gwŷr, na gwragedd, y gallei efe eu dwyn hwy yn rhwym i Jerusalem.
3 Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, bu iddo ddyfodd yn agos i Ddamascus ac yn ddisymmwth llewyrchodd o'r amgylch oleuni o'r nef.
4 Ac efe a syrthiodd ar y ddaiar, ac a glybu lais [Page 426] yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid i.
5 Yntef a ddywedodd, pwy wyt ti, Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd; Myfi yw Jesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Caled yw i ti wingo yn erbyn y swmbylau.
6 Ynteu gan grynu, ac a braw arno, a ddywedodd, Arglwydd, beth a fynni di i mi ei wneuthur? A'r Arglwydd [a ddywedodd] wrtho, Cyfod, a dôs i'r ddinas, ac fe a ddywedir i ti pa beth sy raid i ti ei wneuthur.
7 A'r gwŷr oedd yn cyd teithio ag ef, a safasant yn fûd, gan glywed y llais, ac heb weled nêb.
8 A Saul a gyfododd oddi ar y ddaiar: a phan agorwyd ei lygaid, ni weilei efe nêb: eithr hwy a'i tywysasant ef erbyn ei law, ac a'i dygasant ef i mewn i Ddamascus.
9 Ac efe a fu dridiau heb weled, ac ni wnaeth na bwyta, nac yfed.
10 Ac yr oedd rhyw ddiscybl yn Damascus, a'i enw Ananias. A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef mewn gweledigaeth; Ananias. Yntef a ddywedodd, wele fi, Arglwydd.
11 A'r Arglwydd [a dywedodd] wrtho, Cyfod, a dôs i'r heol a elwir Vniawn, a chais yn nhŷ Iudas, vn a'i enw Saul, o Tharfus: canys wele y mae yn gweddio.
12 Ac ef a welodd mewn gweledigaeth, ŵr a'i enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei law arno, fel y gwelei eilwaith.
13 Yna yr attebodd Ananias, O Arglwydd, mi a glywais gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th Sainct di yn Ierusalem:
14 Ac ymma y mae ganddo awdurdod oddi wrth yr Arch-offeiriaid, i rwymo pawb sy'n galw ar dy enw di.
15 A dywedodd yr Arglwydd wrtho: dôs ymmaith, canys y mae hwn yn llestr etholedic i mi, i ddwyn fy enw ger bron cenhedloedd, a brenhinoedd, a phlant Israel.
16 Canys myfi a ddangosaf iddo pa bethau eu maint sydd raid iddo ef eu dioddef, er mwyn fy enw i.
17 Ac Ananias a aeth ymmaith, ac a aeth i mewn i'r tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno, efe a ddywedodd, Y brawd Saul, yr Arglwydd a'm hanfonod i, (Jesu yr hwn a ymddangosodd i ti ar y ffordd y daethost) fel y gwelych drachefn, ac i'th lanwer â'r Yspryd glân.
18 Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth ei lygaid ef, megis cenn, ac efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd.
19 Ac wedi iddo gymmeryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyd â'r discyblion oedd yn Damascus, dalm o ddyddiau.
20 Ac yn ebrwydd yn y Synagogau, efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mâb Duw.
21 A phawb a'r a'i clybu ef, a synnasant ac a ddywedasant, Ond hwn yw 'r vn oedd yn difetha yn Jerusalem, y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth ymma er mwyn hyn, fel y dygei hwynt yn rhwym at yr Arch-offeiriaid?
22 Eithr Saul a gynnyddodd fwy-fwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan gadarnhau mai hwn yw 'r Christ.
23 Ac wedi cyflawni llawer ô ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon, iw ladd ef.
24 Eithr eu cyd-fwriad hwy a wybuwyd gan Saul, a hwy a ddisgwiliasant y pyrth ddydd a nôs, iw ladd ef.
25 Yna y discyblion a'i cymmerasant ef o hŷd nôs, ac a'i gollyngasant i wared dros y mûr, mewn basced.
26 A Saul, wedi ei ddyfod i Ierusalem, a geisiodd ymwascu â'r discyblion, ac yr oeddynt oll yn ei ofni ef, heb gredu ei fod efe yn ddiscybl.
27 Eithr Barnabas a'i cymmerodd ef, ac a'i dug at yr Apostolion, ac a fynegodd iddynt, pa fodd y gwelsei efe yr Arglwydd ar y ffordd, ac ymddiddan o hônaw ag ef, ac mor hŷ a fuasei efe yn Damascus, yn enw yr Jesu.
28 Ac yr oedd efe gyd â hwynt, yn myned i mewn, ac yn myned allan, yn Jerusalem.
29 A chan fod yn hŷ yn enw 'r Arglwydd Jesu, efe a lefarodd, ac a ymddadleuodd yn erbyn y Groegiaid, a hwy a geisiasant ei lladd ef.
30 A'r brodyr pan wybuant, a'i dygasant ef i wared i Cæsarea, ac a'i hanfonasant ef ymmaith i Tharsus.
31 Yna 'r Eglwysi drwy holl Iudæa, a Galilæa, a Samaria, a gawsant heddwch, ac a adeiladwyd, a chan rodio yn ofn yr Arglwydd, ac yn niddanwch yr Yspryd glân, hwy a amlhawyd.
32 A bu, a Phetr yn tramwy drwy 'r holl [wledydd,] iddo ddyfôd i wared at y Sainct hefyd, y rhai oedd yn trigo yn Lyda.
33 Ac efe a gafodd yno ryw ddŷn a'i enw Aeneas, er ys wyth mlynedd yn gorwedd ar wely, yr hwn oedd glâf o'r parlys.
34 A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, y mae Jesu Grist yn dy iachau di, Cyfod a chyweiria dy wely. Ac efe a gyfododd yn ebrwydd.
35 A phawb a'r oedd yn presswylio yn Lyda, a Saron, a'i gwelsant ef, ac a ymchwelasant at yr Arglwydd.
36 Ac yn Ioppa yr oedd rhyw ddiscybles, a'i henw Tabitha, (yr hon, os cyfieithir, a elwir Dorcas,) hon oedd yn llawn o weithredoedd da, ac elusenau, y rhai a wnaethei hi.
37 A digwyddodd yn y dyddiau hynny, iddi fod yn glâf, a marw: ac wedi iddynt ei golchi, hwy a'i dodasant hi mewn llofft.
38 Ac o herwydd bod Lyda yn agos i Ioppa, y discyblion a glywsant fod Petr yno, ac a anfonasant ddau ŵr atto ef, gan ddeisyf nad oedei ddyfod hyd attynt hwy.
39 A Phetr a gyfodes, ac a aeth gyd â hwynt; ac wedi ei ddyfod, hwy a'i dygasant ef i fynu i'r llofft. A'r holl wragedd gweddwon a safasant yn ei ymyl ef, yn wylo, ac yn dangos y peisiau, a'r gwiscoedd a wnaethei Dorcas, tra ydoedd hi gyd â hwynt.
40 Eithr Petr wedi eu bwrw hwy i gyd allan, a dodi ei liniau [ar lawr,] a weddiodd, a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid, a phan welodd hi Petr, hi a gododd yn ei heistedd.
41 Ac efe a roddodd ei law iddi, ac a'i cyfododd hi i fynu. Ac wedi galw y Sainct, a'r gwragedd gweddwon, efe a'i gosododd hi ger bron yn fyw.
42 Ac yspys fu drwy holl Ioppa: a llawer a gredasant yn yr Arglwydd.
43 A bu iddo aros yn Ioppa lawer o ddyddiau, gyd ag vn Simon, Barcer.
PEN. X.
YR oedd rhyw ŵr yn Cæsarea, a'r enw Cornelius, Canwriad o'r fyddin a elwid yr Italaidd.
2 [Gŵr] defosionol, ac yn ofni Duw, ynghyd â'i holl dŷ, ac yn gwneuthur llawer o elusenau i'r bobl, ac yn gweddio Duw yn wastadol.
3 Efe a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn atto, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius.
4 Ac wedi iddo graffu arno, a myned yn ofnus, efe a dywedodd, Beth sydd, Arglwydd? ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau di, a'th elusenau a dderchafasant yn goffadwriaeth ger bron Duw.
5 Ac yn awr anfon wyr i Ioppa, a gyrr am Simon, yr hwn a gyfenwir Petr.
6 Y mae efe yn lleteua gyd ag vn Simon Barcer, tŷ 'r hwn fydd wrth môr: efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur.
7 A phan ymadawodd yr Angel oedd yn ymddiddan â Chornelius, efe a alwodd ar ddau o dylwyth ei dŷ, a milwr defosionol, o'r rhai oedd yn aros gyd ag ef.
8 Ac wedi iddo fynegi iddynt y cwbl, efe a'u hanfonodd hwynt i Ioppa.
9 A thrannoeth, fel yr oeddynt hwy yn ymdeithio, ac yn nessau at y ddinas Petr a aeth i fynu ar y tŷ i weddio, ynghylch y chweched awr.
10 Ac fe ddaeth arno newyn mawr, ac efe a chwennychei gael bwyd. Ac a hwynt yn paratoi iddo, fe syrthiodd arno lewyg.
11 Ac efe a welei y nef yn agored, a rhyw lestr yn descyn arno, fel llen-lliain fawr, wedi rhwymo ei phedair congl, a'i gollwng i wared hyd y ddaiar.
12 Yn yr hon yr oedd pôd rhyw bedwarcarnolion y ddaiar, a gwyllt-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nef.
13 A daeth llef atto; Cyfot Petr, lladd, a bwyta.
14 A Phetr a ddywedodd; nid felly, Arglwydd; canys ni fwyteais i erioed ddim cyffredin neu aflan.
15 A'r llef drachefn [a ddywedodd] wrtho yr ail waith; Y pethau a lanhâodd Duw, na alw di yn gyffredin.
16 A hyn a wnaed dair gwaith, a'r llestr a dderbyniwyd drachefn i fynu i'r nef.
17 Ac fel yr oedd Petr yn ammau ynddo ei hûn, beth oedd y weledigaeth a welsei: wele, y gwŷr a anfonasid oddiwrth Cornelius, wedi ymofyn am dŷ Simon, oeddynt yn sefyll wrth y porth.
18 Ac wedi iddynt alw, hwy a ofynnasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lleteua yno.
19 Ac fel yr oedd Petr yn meddwl am y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd wrtho; wele drywŷr yn dy geisio di.
20 Am hynny, cyfod, descyn, a dôs gyd â hwynt, heb ammau dim, o herwydd myfi a'u hanfonais hwynt.
21 A Petr wedi descyn at y gwŷr a anfonasid oddi wrth Cornelius atto, a ddywedodd, wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio; beth [Page 432] yw yr achos y daethoch o'i herwydd?
22 Hwythau a ddywedasant, Cornelius y Canwriad, gŵr cyfiawn, ac yn ofni Duw, ac a gair da iddo gan holl genedl yr Iddewon, a rybuddiwyd gan Angel sanctaidd, i ddanfon am danati i'w dŷ, ac i wrando geiriau gennit.
23 Am hynny efe a'u galwodd hwynt i mewn, ac a'u lletteuodd hwy. A thrannoeth yr aeth Petr ymmaith gyd â hwy: a rhai o'r brodyr o Ioppa a aeth gyd ag ef.
24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Caesarea, ac yr oedd Cornelius yn disgwil am danynt, ac efe a alwasei ei geraint a'i anwyl gyfeillion ynghyd.
25 Ac fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a'i haddolodd ef.
26 Eithr Petr a'i cyfododd ef i fynu, gan ddywedyd; Cyfod, Dŷn wyf finneu hefyd.
27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd.
28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlawn yw i ŵr o Iddew ymwascu, neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin, neu yn aflan.
29 O ba herwydd, iê yn ddi-nâg y daethym, pan anfonwyd am danaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch am danaf.
30 A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i'r awr hon [o'r dydd,] yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddio yn fy [Page 433] nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisc ddisclair.
31 Ac a ddywedodd; Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a'th elusenau a ddaethant mewn coffa ger bron Duw.
32 Am hynny anfon i Ioppa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Petr, y mae efe yn lleteua yn nhŷ Simon Ba [...]cer, ynglann y môr, yr hwn pan ddelo attat a lefara wrthit.
33 Am hynny yn ddioed myfi a anfonais attat, a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron gan hynny yr ŷm ni oll yn bresennol ger bron Duw, i wrando yr holl bethau a orchymynnwyd i ti gan Dduw.
34 Yna yr agorodd Petr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wŷf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb.
35 Ond ym-mhôb cenhedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymmeradwy ganddo ef.
36 Y gair yr hwn a anfonodd [Duw] i blant Israel, gan bregethu tangneddyf trwy Jesu Grist, efe yw Arglwydd pawb oll.
37 Chwy-chwi a wyddoch y gair a fu yn holl Iudæa, gan ddechreu o Galilæa, wedi y bedydd a bregethodd Ioan:
38 Y modd yr eneiniodd Duw Jesu o Nazareth â'r Yspryd glân, ac â nerth, yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iachau pawb a'r oedd wedi eu gorthrymmu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gyd ag ef.
39 A ninnau ydym dystion o'r pethau oll a wnaeth efe yngwlad yr Iddewon, ac yn Ierusalē, yr hwn [Page 434] a laddasant, ac a groes-hoeliasant, ar bren.
40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddes ef i'w wneuthur yn amlwg,
41 Nid i'r bobl oll, eithr i'r tystion etholedig o'r blaen gan Dduw, [sef] i ni, y rhai a fwytasom, ac a yfasom gyd ag ef, wedi ei ad-gyfodi ef o feirw.
42 Ac efe a orchymynnodd i ni bregethu i'r bobl oll, a thystiolaethu mai efe yw 'r hwn a ordeiniwyd gan Dduw, yn farn-wr byw a meirw.
43 I hwn y mae 'r holl Brophwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeyant pechodau, drwy ei enw ef.
44 A Phetr etto yn llefaru y geiriau hyn, syrthiodd yr Yspryd glân ar bawb a oedd yn clywed y gair.
45 A'r rhai o'r enwaediad a oeddynt yn credu, cynnifer ac a ddaethent gyd â Phetr, a synnasant, am dywallt dawn yr Yspryd glân ar y cenhedloedd hefyd.
46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr attebodd Petr.
47 A all nêb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd glân, fel ninnau.
48 Ac efe a orchymynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd: yna y deisyfiasant arno aros tros ennyd o ddyddiau.
PEN. XI.
A'R Apostolion a'r brodyr oedd yn Iudæa, a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn gair Duw.
2 A phan ddaeth Petr i fynu i Ierusalem, y rhai [Page 435] o'r enwaediad a ymrysonasant yn ei erbyn ef,
3 Gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wŷr dienwaededig, ac a fwyteaist gyd a hwynt.
4 Eithr Petr a ddechreuodd, ac a eglurodd [y peth] iddynt mewn trefn, gan ddywedyd,
5 Yr oeddwn i yn ninas Ioppa yn gweddio, ac mewn llewyg y gwelais weledigaeth, Rhyw lestr megis llenlliain fawr yn descyn, wedi ei gollwng o'r nef, erbyn ei phedair congl, a hi a ddaeth hyd attaf fi.
6 Ar yr hon pan edrychais, yr ystyriais, ac mi a welais bedwar-carnolion y ddaiar, a gwyllt-filod, ac ymlusciaid, ac ehediaid y nêf.
7 Ac mi a glywais lef yn dywedyd wrthif, Cyfod Petr, lladd, a bwyta.
8 Ac mi a ddywedais, nid felly Arglwydd, canys dim cyffredin neu aflan nid aeth vn amser i'm genau.
9 Eithr y llais a'm hattebodd i eilwaith o'r nef, Y pethau a lanhaodd Duw, na alw di yn gyffredin.
10 A hyn a wnaed dair gwaith: a'r holl bethau a dynnwyd i fynu i'r nef drachefn.
11 Ac wele, yn y man yr oedd trywyr yn sefyll wrth y tŷ yr oeddwn ynddo, wedi eu hanfon o Cæsarea attafi.
12 A'r Yspryd a archodd i mi fyned gyd â hwynt heb ammau dim. A'r chwe brodyr hyn a ddaethant gyd â mi, ac nyni a ddaethom î mewn i dŷ y gŵr.
13 Ac efe a fynegodd î ni pa fodd y gwellei efe Angel yn ei dŷ, yn sefyll ac yn dywedyd wrtho; Anfon wŷr i Ioppa, a gyrr am Simon a genfenwir Petr:
14 Yr hwn a lefara eiriau wrthit, trwy y rhai i'th iacheir di, a'th holl dŷ.
15 Ac a myfi yn dechreu llefaru, syrthiodd yr Yspryd glân arnynt, megis arnom ninnau yn y dechreuad.
16 Yna y cofiais air yr Arglwydd, y modd y dywedasei efe; Ioan yn wîr a fedyddiodd â dwfr, eithr chwi a fedy dir â'i Yspryd lân.
17 Os rhoddes Duw gan hynny iddynt hwy gyffelyb rodd ac i ninnau y rhai a gredasom yn yr Arglwydd Jesu Grist, pwy oeddwn i, i allu lluddias Duw.
18 A phan glwysant y pethau hyn, distawu a wnaethant, a gogoneddu Duw, gan ddywedyd, fe roddes Duw gan hynny i'r Cenhedloedd hefyd edifeirwch i fywyd.
19 A'r rhai a wascarasid o herwydd y blinder a godasei ynghylch Stephan, a dramwyasant hyd yn Phenice, a Cyprus, ac Antiochia, heb lefaru y gair wrth nêb, ond wrth yr Iddewon yn vnig.
20 A rhai o honynt oedd wŷr o Cyprus, ac o Cirene, y rhai wedi dyfod i Antiochia, a lefarasant wrth y Groegiaid, gan bregethu yr Arglwydd Jesu.
21 A llaw yr Arglwydd oedd gyd â hwynt, a nifer mawr a gredodd, ac a drôdd at yr Arglwydd.
22 A'r gair a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem, am y pethau hyn; A hwy a anfonasant Barnabas, i fyned hyd Antiochia.
23 Yr hwn pan ddaeth, a gweled grâs Duw, a fu lawen ganddo, ac a gynghorodd bawb oll, trwy lwyr-fryd calon i lynu wrth yr Arglwydd.
24 Oblegid yr oedd efe yn ŵr da, ac yn llawn o'r Yspryd glân, ac o ffydd: a llawer o bobl a chwanegwyd i'r Arglwydd.
25 Yna yr aeth Barnabas i Tharsus, i geisio Saul, ac wedi iddo ei gael, efe a'i dug i Antiochia.
26 A bu iddynt flwyddyn gyfan ymgynnull yn yr Eglwys, a dyscu pobl lawer, a bod galw y discyblion yn Gristianogion yn gy gyntaf yn Antiochia.
27 Ac yn y dyddiau hynny, daeth prophwydi o Ierusalem i wared i Antiochia.
28 Ac vn o honynt, a'i enw Agabus, a gyfododd, ac a arwyddocaodd drwy yr Yspryd, y byddei newyn mawr dros yr holl fyd; yr hwn hefyd a fu tan Claudius Cæsar.
29 Yna 'r discyblion, bob vn yn ôl ei allu, a fwriadâsant anfon cymmorth i'r brodyr oedd yn presswylio yn Iudæa.
30 Yr hyn beth hefyd a wnaethant, gan ddanfon at yr Henuriaid, drwy law Barnabas a Saul.
PEN. XII.
AC ynghylch y pryd hynny yr estynnodd Herod frenin [ei] ddwylo, i ddrygu rhai o'r Eglwys.
2 Ac efe a laddodd Iaco brawd Ioan â'r cleddyf.
3 A phan welodd fod yn dda gan yr Iddwon hynny, efe a chwanegodd ddala Petr hefyd: (A dyddiau y bara croyw ydoedd hi.)
4 Yr hwn wedi ei ddal a roddes efe yngharchar, ac a'i traddododd at bedwar pedwariaid o filwŷr, i'w gadw, gan ewyllysio a'r ôl y Pasc ei ddwyn ef allan at y bobl.
5 Felly Petr a gadwyd yn y carchar, [...] [Page 438] gweddi ddyfal a wnaethpwyd gan yr Eglwys at Dduw drosto ef.
6 A phan oedd Herod a'i fryd ar ei ddwyn ef allan, y nôs honno yr oedd Petr yn cyscu rhwng dau filwr, wedi ei rwymo â dwy gadwyn, a'r ceidwaid o flaen y drws oeddynt yn cadw y carchar.
7 Ac wele Angel yr Arglwydd a safodd ger llaw, a goleuni a ddiscleiriodd yn y carchar, ac efe a darawodd ystlys Petr, ac a'i cyfododd ef, gan ddywedyd; Cyfod yn fuan: a'i gadwini ef a syrthiasant oddi wrth ei ddwylo.
8 A dywedodd yr Angel wrtho, Ymwregysa, a rhwym dy sandalau, ac felly y gwnaeth efe; Yna y dywedodd, bwrw dy wisg am danat, a chanlyn fi.
9 Ac efe a aeth allan, ac a'i canlynodd ef, ac nis gwybu mai gwir oedd y peth a wnaethid gan yr Angel, eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd.
10 Ac wedi myned o honynt heb law y gyntaf a'r ail wiliadwriaeth, hwy a ddaethant i'r porth hayarn, yr hwn sydd yn arwain i'r ddinas, yr hwn a ymagorodd iddynt o'i waith ei hun: ac wedi eu myned allan, hwy a aethant ar hyd vn hoel, ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymmaith oddi wrtho.
11 A Petr, wedi dyfod atto ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir anfon o'r Arglwydd ei Angel a'm gwared i allan o law Herod, ac oddi wrth holl ddisgwiliad pobl yr Iddewon.
12 Ac wedi iddo gymmeryd pwyll, efe a ddaeth i dŷ Mair, mam Ioan, yr hwn oedd a'i gyfenw Marcus, lle yr oedd llawer wedi ymgasclu, ac yn gweddio.
13 Ac fel yr oedd Petr yn curo drws y porth, morwyn a ddaeth i ymwrando, a'i henw Rhode.
14 A phan adnabu hi lais Petr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn, ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth.
15 Hwythau a ddywedasant wrthi, yr wyt ti yn ynfydu. Hitheu a daerodd mai felly yr oedd, Eithr hwy a ddywedasant, Ei Angel ef ydyw.
16 A Phetr a barhâodd yn curo; ac wedi iddynt agori, hwy a'i gwelsant ef, ac a synnasant.
17 Ac efe a amneidiodd arnynt a llaw i dewi, ac a adroddodd iddynt pa wedd y dygasei yr Arglwydd ef allan o'r carchar: ac efe a ddywedodd, mynegwch y pethau hyn i Iaco, ac i'r brodyr. Ac efe a ymadawodd ac a aeth i le arall.
18 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, yr oedd trallod nid bychan ym mhlith y mil-wŷr, pa beth a ddaethei o Petr.
19 Eithr Herod pan ei ceisiodd ef, a heb ei gael, a holodd y ceidwaid, ac a orchymmmynnnodd eu cymmeryd hwy ymaith. Yntef a aeth i wared o Iudæa i Cæsarea, ac a arhosodd yno.
20 Eithr Herod oedd in llidiog iawn yn erbyn gwŷr Tyrus a Sidon; a hwy a ddaethant yn gyttûn atto, ac wedi ennill Blastus, yr hwn oedd stafellydd y brenin, hwy a ddeisyfiasant dangneddyf: am fôd eu gwlâd hwynt yn cael ei chynhaliaeth o wlâd y brenin.
21 Ac ar ddydd nodedig; Herod gwedi gwisco dillad brenhinol, a eisteddodd ar yr orseddfaingc, ac a araithiawdd wrthynt.
22 A'r bobl a roes floedd, Lleferydd Duw, ac nid dŷn ydyw.
23 Ac allan o law y tarawodd Angel yr Arglwydd ef, am na roesei y gogonedd i Dduw; a chan bryfed yn ei ysu, efe a drengodd.
24 A gair Duw a gynnyddodd, ac a amlhâodd.
25 A Barnabas a Saul, wedi cyflawni eu gwenidogaeth, a ddychwelasant o Iêrusalem, gan gymmeryd gyd â hwynt Ioan hefyd, yr hwn a gyfenwid Marc.
PEN. XIII.
YR oedd hefyd yn yr Eglwys ydoedd yn Antiochia, rai prophwydi ac athrawon. Barnabas, a Simeon, yr hwn a elwid Niger, a Lucius o Cirene, a Manaen brawd-maeth Herod y Tetrarch, a Saul.
2 Ac fel yr oeddynt hwy yn gwasanaethu yr Arglwydd, ac yn ymprydio, dywedodd yr Yspryd glân; Neillduwch i mi Barnabas a Saul, i'r gwaith y gelwais hwynt iddo.
3 Yna wedi iddynt ymprydio, a gweddio, a dodi eu dwylo arnynt, hwy a'u gollyngasant ymmaith.
4 A hwythau wedi eu danfon ymmaith gan yr Yspryd glân, a ddaethant i Seleucia ac oddi yno a fordwyasant i Cyprus.
5 A phan oeddynt yn Salamis, hwy a bregethasant air Duw yn Synagogau yr Iddewon, ac yr oedd hefyd ganddynt Ioan yn weinidog.
6 Ac wedi iddynt dramwy trwy 'r ynys hyd Paphos, hwy a gawsant ryw swynwr, gau brophwyd o Iddew, a'i enw Bariesu.
7 Yr hwn oedd gydâ'r Rhaglaw Sergius Paulus, gwr call: hwn wedi galw atto Barnabas a Saul, a ddeisyfiodd gael clywed gair Duw.
8 Eithr Elimas y swyn-wr (canys felly y cyfieithir ei enw ef) a'i gwrthwynebodd hwynt, gan geisio gŵyr-droi y Rhaglaw oddiwrth y ffydd.
9 Yna Saul, yr hwn hefyd [a elwir] Paul, yn llawn o'r Yspryd glân, a edrychodd yn graff arno ef.
10 Ac a ddywedodd, O gyflawn o bôb twyll, a phôb scelerder, [rydi] mâb diafol, a gelyn pôb cyfiawnder, oni pheidi di a gŵyro vniawn ffrydd yr Arglwydd?
11 Ac yn awr wele [y mae] llaw yr Arglwydd arnati, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser. Ac yn ddiameg y syrthiodd arno niwlen, a thywyllwch, ac efe a aeth oddiamgylch gan geisio rhai i'w arwain erbyn ei law.
12 Yna y Rhaglaw, pan welodd yr hyn a wnaethid, a gredodd, gan ryfeddu wrth ddysceidiaeth yr Arglwydd.
13 A Phaul a'r rhai oedd gyd ag ef, a aethant ymaith o Paphos, ac a ddaethant i Perga yn Pamphilia; eithr Ioan a ymadawodd oddi-wrthynt, ac a ddychwelodd i Ierusalem.
14 Eithr hwynt hwy, wedi ymado o Perga, a ddaethant i Antiochia yn Pisidia, ac a aethant i mewn ir Synagog ar y dydd Sabbath, ac a eisteddasant.
15 Ac yn ôl darllein y gyfraith a'r Prophwydi, llywodraethwyr y Synagog a anfonasant attynt, gan ddywedyd, Ha-wŷr frodyr, od oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch.
16 Yna y cyfododd Paul i fynu, a chan amneidio â'i law am osteg, a ddywedodd, O wŷr o Israel, a'r rhai ydych yn ofni Duw, gwrandewch.
17 Duw y bobl hyn Israel, a etholodd ein tadau ni, ac a dderchafodd y bobl, pan oedd yn ymdeithio yngwlâd yr Aipht, ac â braich vchel y dug efe hwynt oddi yno allan.
18 Ac yngylch deugain mhlynedd o amser, y goddefodd efe eu harferion hwynt yn yr anialwch.
19 Ac wedi iddo ddinistrio saith genedl yn nhir Canaan, â choel-bren y parthodd efe dir y rhai hynny iddynt hwy.
20 Ac wedi y pethau hyn, dros ysp id ynghylch pedwar cant a dêng mhlynedd a deugain, efe a roddes farn-wŷr [iddynt] hyd Samuel y prophwyd.
21 Ac yn ôl hynny y dymunasant gael brenin: ac fe a roddes Duw iddynt Saul fâb Cis, gŵr o lwyth Beniamin, ddeugain mhlynedd.
22 Ac wedi ei ddiswyddo ef, y cyfododd efe Ddasydd yn frenin iddynt, am yr hwn y tystiolaethodd, ac y dywedodd; Cefais Ddafydd fab Iesse, gwr yn ôl fy nghalon, yr hwn a gyflawna fy holl Ewyllys.
23 O hâd hwn, Duw yn ôl ei addewid a gyfododd i Israel [yr] Iachawdr Iesu.
24 Gwedi i Ioan rag-bregetho o flaen ei ddyfodiad ef i mewn, fedydd edifeirwch i holl bobl Israel.
25 Ac fel yr oedd Ioan yn cyflawni ei redfa, efe a ddywedodd, pwy yr vdych chwi yn tybied fy mod i? nid myfi yw [efe,] eîthr wele, y mae yn dyfod ar fy ôl i yr hwn nid wyfi deilwng i ddattod escidiau ei draed.
26 Ha-wŷr frodyr, plant o genedl Abraham, [Page 443] a'r rhai yn eich plith sydd yn ofni Duw, i chwi y danfonwyd gair yr iechydwriaeth hon.
27 Canys y rhai oedd yn presswylio yn Ierusalem, a'u tywysogion, heb adnabod hwn, a lleferydd y Prophwydi, y rhai a ddarllennid bob Sabbath, gan ei farnu ef, a'u cyflawnasant.
28 Ac er na chawsant [ynddo] ddim achos angeu, hwy a ddymunasant ar Pilat ei lladd ef.
29 Ac wedi iddynt gwblhau pôb peth a'r a scrifennasid am dano ef, hwy a'i descynnasant ef oddi ar y pren, ac a'i dodasant mewn bedd.
30 Eithr Duw a'i cyfododd ef oddiwrth y meirw.
31 Yr hwn a welwyd, dros ddyddiau lawer, gan y rhai a ddaethei i fynu gyd ag ef o Galilæa i Ierusalem, y rhai sydd dystion iddo wrth y bobl.
32 Ac yr ydym ni yn efangylu i chwi, yr addewid a wnaed i'r tadau, ddarfod i Dduw gyflawni hyn i ni eu plant hwy, gan iddo ad-gyfodi ir Iesu.
33 Megis ac yr yscrifennwyd yn yr ail Psalm, Fy mâb i ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais.
34 Ac am iddo ei gyfodi ef o'r meirw, nid i ddychweled mwy i lygredigaeth, y dywedodd fel hyn, Rhoddaf i chwi sicr drugareddau Dafydd.
35 Ac am hynny y mae yn dywedyd mewn [psalm] arall, Ni adewi i'th Sanct weled llygredigaeth.
36 Canys Dafydd wedî iddo wasanaethu ei genhedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd, ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.
37 Eithr yr hwn gyfodes Duw, ni welodd lygredigaeth.
38 Am hynny, bydded hyspys i chwi, Ha wŷr frodyr, mai trwy hwn yr ydys yn pregethu i chwi faddeuant pechodau.
39 A thrwy hwn y cyfiawnheir pob vn sydd yn credu, oddi wrth yr holl bethau, y rhai ni allech drwy gyfraith Moses gael eich cyfiawnhau oddi wrthynt.
40 Gwiliwch gan hynny, na ddel arnoch y peth a ddywedpwyd yn y Prophwydi.
41 Edrychwch, ô ddirmyg-wŷr, a rhyfeddwch, a diflennwch: canys yr wyf yn gwneuthur gweithred yn eich dyddiau, gwaith ni chredwch ddim, er i neb ei ddangos i chwi.
42 A phan aeth yr Iddewon allan o'r Synagog, y Cenhedloedd a attolygasant gael pregethu y geiriau hyn iddynt y Sabbath nesaf.
43 Ac wedi gollwng y gynnulleidfa, llawer o'r Iddewon, ac o'r proselytiaid crefyddol, a ganlynasant Paul a Barnabas y rhai gan lefaru wrthynt, a gynghorasant iddynt aros yngrâs Duw.
44 A'r Sabbath nesaf, yr holl ddinas agos, a ddaeth ynghŷd i wrando gair Duw.
45 Eithr yr Iddewon pan welsant y torfeydd, a lanwyd o genfigen, ac a ddywedasant yn erbyn y pethau a ddywedid gan Paul, gan wrth-ddywedyd a chablu.
46 Yna Paul a Barnabas a aethant yn hŷ, ac a ddywedasant, Rhaid oedd lefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf, eithr o herwydd eich bod yn ei wrthod, ac yn eich barnu eich hunain yn annheilwng o fywyd tragwyddol, wele yr [Page 445] ydym yn troi at y Cenhedloedd.
47 Canys felly y gorchymynnodd yr Arglwydd i ni, [gan ddywedyd,] mi a'th osodais di yn oleuni i'r Cenhedloedd, i fod o honot yn iechydwriaeth hyd eithaf y ddaiar.
48 A'r Cenhedloedd pan glywsant, a fu lawen ganddynt, ac a ogoneddasant air yr Arglwydd, a chynnifer ac oedd wedi eu hordeinio o fywyd tragywyddol a gredasant.
49 A gair yr Arglwydd a danwyd drwy 'r holl wlâd.
50 A'r Iddewon a annogasant y gwragedd crefyddol ac anrhydeddus, a phennaethiaid y ddinas, ac a godasant erlid yn erbyn Paul a Barnabas, ac a'u bwriasant hwy allan o'u terfynau.
51 Eithr hwy a escydwasant y llŵch oddi wrth eu traed yn eu herbyn hwy, ac a ddaethant i Iconium.
52 A'r discyblion a gyflawnwyd o lawenydd, ac o'r Yspryd glân.
PEN. XIV.
A Digwyddodd yn Iconium iddynt fyned ynghyd i Synagog yr Iddewon, a llefaru felly, fel y credodd lliaws mawr o'r Iddewon ac o'r Groeg-wyr hefyd.
2 Ond yr Iddewon anghredadyn a gyffroesant feddyliau y Cenhedloedd, ac a'u gwnaethant yn ddrwg yn erbyn y brodyr.
3 Am hynny hwy a arhosasant [yno] amser mawr, gan fôd yn hŷ yn Arglwydd, yr hwn oedd yn dwyn tystiolaeth i air ei râs, ac [Page 446] yn canhiadu gwneuthur arwyddion a rhyfeddodau trwy eu dwylo hwynt.
4 Eithr lliaws y ddinas a rannwyd, a rhai oedd gyd a'r Iddewon, a rhai gyd a'r Apostiolion.
5 A phan wnaethpwyd rhuthr gan y Cenhedloedd, a'r Iddewon, ynghŷd a'u llywodraeth-wyr, i'w hammerchi hwy, ac i'w llabyddio.
6 Hwythau a ddeallasant [hyn,] ac a ffoesant i Lystra a Derbe, dinasoedd o Lycaonia, ac i'r wlâd oddi amghylch.
7 Ac yno y buant yn Efangylu.
8 Ac yr oedd gŵr yn eistedd yn Lystra, yn ddiffrwyth ei draed, yr hwn oedd glôff o groth ei fam, ac ni rodiasei erioed.
9 Hwn a glybu Paul yn llefaru, yr hwn wrth edrych yn graff arno, a gweled fôd ganddo ffydd i gael iechyd,
10 A ddywedodd â llef vchel, Saf ar dy draed yn vniawn: ac efe a neidiodd i fynu, ac a rodiodd.
11 A phan welodd y bobloedd y peth a wnaethei Paul, hwy a godasant eu llef gan ddywedyd yn iaith Lycaonia, y Duwiau yn rhith dynion a ddescynnasant attom.
12 A hwy a alwasant Barnabas yn Iupiter, a Phaul yn Mercurius: oblegid efe oedd yr ymadrodd-wr pennaf:
13 Yna offeiriad Iupiter yr hwn oedd o flaen eu dinas, a ddug deirw a garlantau i'r pyrth, ac a fynnasei gŷd â'r bobl, arberthu.
14 A'r Apostolion Barnabas, a Phaul, pen glwysant hynny, a rwygasant eu ddillad, ac a [Page 447] neidiasant ymmhlith y bobl, gan lefain,
15 A dywedyd Ha wŷr pa ham y gwnewch chwi pethau hyn? dynion hefyd ydym ninnau, yn gorfod goddef fel chwithau, ac yn pregethu i chwi, ar i chwi droi oddiwrth y pethau gweigion ymma, at Dduw byw, yr hwn a wnaeth nêf a daiar, a'r môr, a'r holl bethau sydd ynddynt.
16 Yr hwn yn yr oesoedd gynt a oddefodd ir holl Genhedloedd fyned yn eu ffyrdd eu hunain.
17 Er hynny ni adawodd efe mo honaw ei hun yn ddi-dyst, gan wneuthur daioni, a rhoddi galw o'r nefoedd i ni, a thymhorau ffrwythlon, a llenwi ein calonnau ni â llynniaeth, ac â llawenydd.
18 Ac er dywedyd y pethau hyn, braidd yr attaliasant y bobl rhag aberthu iddynt.
19 A daeth yno Iddewon o Antiochia ac Iconium, a hwy a berswadiasant y bobl, ac wedi llabyddio Paul, a'i lluscasant ef allan o'r ddinas, gan dybieid ei fod ef wedi marw.
20 Ac fel yr oedd y discyblion yn sefyll o'i amgylch, efe a gyfododd, ac a aeth i'r ddinas: a thrannoeth efe a aeth allan, efe a Barnabas, i Derbe.
21 Ac wedi iddynt bregethu yr Efengyl i'r ddinas honno, ac ennill llawer o ddiscyblion, hwy a ddychwelasant i Lystra, ac Iconium, ac Antiochia,
22 Gan gadarnhau eneidiau y discyblion, a'u cynghori i aros yn y ffydd, ac mai trwy lawer o orthymderau y mae yn rhaid i ni fyned i deyrnas Dduw.
23 Ac wedi ordeinio iddynt Henuriaid ym mhôb Eglwys, a gweddio gyd ag ymprydiau, hwy a'u gorchymynnasant hwynt i'r Arglwydd, yr hwn y credasent ynddo.
24 Ac wedi iddynt darmmwy drwy Pisidia, hwy a ddaethant i Pamphilia.
25 Ac wedi pregethu y gair yn Perga, hwy a ddaethant i wared i Attalia.
26 Ac oddi yno a fordwyasant i Antiochia, o'r lle yr oeddynt wedi eu gorchymmyn i ras Duw, i'r gorchwyl a gyflawnasant.
27 Ac wedi iddynt ddyfod a chynnull yr Eglwys ynghyd, adrodd a wnaethant faint o bethau a wnaethei Duw gyd â hwy, ac iddo ef agoryd i'r Cenhedloedd ddrws y ffydd.
28 Ac yno yr arhosasant hwy, dros hîr o amser, gydâ 'r discyblion.
PEN. XV.
A Rhai wedi dyfod i wared o Iudæa, a ddyscasant y brodyr [gan ddywedyd] onid enwaedir chwi yn ôl defod Moses, ni ellwch fod yn gadwedig.
2 A phan ydoedd ymryson a dadlau nid bychan gan Paul a Barnabas, yn eu herbyn, hwy a ordeiniasant fyned o Paul a Barnabas, a rhai eraill o honynt, i fynu i Ierusalem, at yr Apostolion, a'r Henuriaid, ynghylch y cwestiwn ymma.
3 Ac wedi eu hebrwng gan yr Eglwys, hwy a dramwyasant drwy Phaenice, a Samaria, gan fynegi troad y Cenhedloedd. A hwy a barasant lawenydd mawr i'r brodyr oll.
4 Ac wedi eu dyfod hwy i Ierusalem, hwy a dderbyniwyd gan yr Eglwys, a chan yr Apostolion, a chan yr Henuriaid, a hwy a fynegasant yr holl bethau a wnaethei Duw gyd â hwynt.
5 Eithr cyfododd rhai o sect y Pharisæaid [...] [Page 449] y rhai oedd yn credu, gan ddywedyd, mai rhaid iddynt eu henwaedu, a gorchymmyn cadw Deddf Moses.
6 A'r Apostolion a'r Henuriaid a ddaethant ynghŷd, i edrych am y matter ymma.
7 Ac wedi bob ymddadleu mawr, cyfododd Petr ac a ddywedodd wrthynt, Ha-wŷr frodyr, chwi a wŷddoch ddarfod i Dduw er talm o amser yn ein plith ni, fy ethol i, i gael o'r Cenhedloedd drwy fy ngenau i, glywed gair yr Efengyl, a chredu.
8 A Duw, adnabydd-ŵr calonnau, a ddûg dystiolaeth iddynt, gan roddi iddynt yr Yspryd glân, megis ac i ninnau.
9 Ac ni wnaeth efe ddim gwahaniaeth rhyngomni a hwynt, gan buro eu calonnau hwy trwy ffydd.
10 Yn awr, gan hynny, pa ham yr ydych chwi yn temtio Duw, i ddodi iau ar warrau y discyblion, yr hon ni allodd ein tadau ni, na ninnau ei dwyn?
11 Eithr trwy râs yr Arglwydd Iesu Grist, yr ydym ni yn credu ein bôd yn gadwedig, yr vn modd a hwythau.
12 A'r holl liaws a ddistawodd, ac a wrandawodd ar Barnabas a Phaul yn mynegi pa arwyddion a rhyfeddodau eu maint, a wnaethi Duw ym mhlith y Cenhedloedd trwyddynt hwŷ.
13 Ac wedi iddynt ddi-stewi, attebodd Iaco, gan ddywedyd, Ha-wŷr frodyr, gwrandewch arnaf fi.
14 Simeon a fynegodd pa wedd yr ymwelodd Duw ar y cyntaf, i gymmeryd o'r Cenhedloedd bobl iw Enw.
15 Ac â hyn y cyttûna geiriau y Prophwydi megis y mae yn scrifennidig:
16 Yn ôl hyn y dychwelaf, ac yr adeiladaf drachefn Dabernacl Dafydd, yr hwn sydd wedi syrthio, a'i fylchau ef a adeiladaf drachefn, ac a'i cyfodaf eil-chwyl.
17 Fel y byddo i hyn a weddiller o ddynion, geisio yr Arglywdd, ac i'r holl genhedloedd, y rhai y gelwir fy enw i arnynt, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd yn gwneuthur yr holl bethau hyn.
18 Yspys i Dduw yw ei weithredoedd oll erioed.
19 O herwydd pa ham, fy marn i yw na flinom y rhai o'r cenhedloedd a droesant ar Dduw.
20 Eithr scrifennu o honom ni attynt, ar ymgadw o honynt oddiwrth halogrwydd delwau, a godineb, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth waed.
21 Canys mae i Moses, ym-mhôb dinas, er yr hên amseroedd, rai a'i pregethant ef, gan fôd yn ei ddarllen yn y Synagogau bôb Sabbath.
22 Yna y gwelwyd yn dda gan yr Apostolion a'r Henuriaid, ynghŷd ar holl Eglwys, anfon gwŷr etholedic o honynt eu hunain, i Antiochia, gyd â Phaul a Barnabas, [sef] Iudas a gyfenwir Barsabas, a Silas, gwŷr rhagorol ym-mhlith y brodyr.
23 A hwy, a scrifennasant gyd â hwynt fel hyn, Yr Apostolion, a'r Henuriaid, a'r brodyr, at y brodyr y rhai sy o'r Cenhedloedd yn Antiochia, a Syria, a Cilicia, yn anfon annerch.
24 Yn gymmaint a chlywed o honom ni, i rai a aethant allan oddi wrthym ni, eich trallodi [Page 451] chwi â geiriau, gan ddymchwelyd eich eneidiau chwi, a dywedyd [fod] yn rhaid enwaedu arnoch, a chadw y Ddeddf, i'r rhai ni roesem ni [gyfryw] orchymmyn.
25 Ni a welsom yn dda, wedi i ni ymgynnull yn gyttûn, anfon gwŷr etholedig attoch, gyd â'n hanwylyd Barnabas a Phaul.
29 Gwŷr a roesant eu heneidiau dros enw ein Harglwydd ni Iesu Grist.
27 Ni a anfonasom, gan hynny, Iudas a Silas, a hwythau ar air a fynegant i chwi yr vn pethau.
28 Canys gwelwyd yn dda gan yr Yspryd glân, a chennym ninnau, na ddodid arnoch faich ychwaneg nâ'r pethau angenrheidiol hyn.
29 Bod i chwi ymgadw oddi wrth yr hyn a aberthwyd i eulynnod, a gwaed, ac oddi wrth y peth a dagwyd, ac oddi wrth odineb, oddi wrth yr hyn bethau, os ymgedwch, da y gwnewch. Byddwch iach.
30 Felly, wedi eu gollwng hwynt ymmaith, hwy a ddaethant i Antiochia: ac wedi cynnull y lliaws ynghyd, hwy a roesant y llythyr.
31 Ac wedi iddynt ei ddarllen, llawenychu a wnaethant am y diddanwch.
32 Iudas hefyd a Silas, a hwythau yn Brophwydi, trwy lawer o ymadrodd, a ddiddansant y brodyr, ac a'u cadarnhasant.
33 Ac wedi iddynt aros [yno] dros amser, hwy a ollyngwyd ymaith mewn heddwch, gan y brodyr, at yr Apostolion.
34 Eithr gwelodd Silas yn dda aros [yno.]
35 A Phaul a Barnabas a arhosasant yn Antiochia, gan ddyscu ac efengylu gair yr Arglwydd, gyd â llawer eraill hefyd.
36 Ac wedi rhai dyddiau, dywedodd Paul wrth Barnabas dychwelwn, ac ymwelwn â'n brodyr, ym mhôb dinas y pregethasom air yr Arglwydd ynddynt, [i weled] pa fodd y maent hwy.
37 A Barnabas a gynghorodd gymmeryd gyd â hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marcus.
38 Ond ni welei Paul yn addas gymmeryd hwnnw gyd â hwynt, yr hwn a dynnasei oddi wrthynt o Pamphilia, ac nid aethei gyd â hwynt i'r gwaith.
39 A bu gymmaint cynhwrf [rhyngddynt] fel yr ymadawsant oddi wrth ei gilydd, ac y cymmerth Barnabas Marc gyd ag ef, ac y mordwyodd i Cyprus.
40 Eithr Paul a ddewisodd Silas, ac a aeth ymmaith, wedi ei orchymmyn i râs Duw gan y brodyr.
41 Ac efe a dramwyodd trwy Syria a Cilicia, gan gadarnhau y Eglwysi.
PEN. XVI.
YNa y daeth efe i Derbe ac i Lystra; ac wele, yr oedd yno ryw ddiscybl, a'i enw Timotheus, mab i ryw wraig, yr hon oedd Iddewes, ac yn credu, a'i dâd oedd Roegwr.
2 Yr hwn oedd yn cael gair da gan y brodyr oedd yn Lystra, ac yn Iconium.
3 Paul a fynnei i hwn fyned allan gyd ag ef, ac efe a'i cymmerth, ac a'i henwaedodd ef, o achos yr Iddewon oedd yn y lleoedd hynny: canys hwy a wyddent bawb, mai Groeg wr oedd ei dad ef.
4 Ac fel yr oeddynt yn ymdaith trwy y dinasoedd, [Page 453] hwy a roesant arnynt gadw y gorchymmynion a ordeiniasid gan yr Apostolion a'r Henuriaid, y rhai oedd yn Ierusalem.
5 Ac felly yr Eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynnyddasant mewn rhifedi beunydd.
6 Ac wedi iddynt dramwy trwy Phrygia a gwlad Galatia, a gwarafun iddynt gan yr Yspryd glân bregethu y gair yn Asia.
7 Pan ddaethant i Mysia, hwy a geisiasant fyned i Bithynia, ac ni oddefodd Yspryd yr Iesu iddynt.
8 Ac wedi myned heibio i Mysia, hwy a aethant i wared i Troas.
9 A gweledigaeth a ymddangosodd i Paul liw nôs: Rhwy ŵr o Macedonia a safai, ac a ddeisyfai arno, ac a ddywedai, Tyred trosodd i Macedonia, a chymmorth ni.
10 A phan welodd efe y weledigaeth, yn ebrwydd ni a geisiasom fyned i Macedonia, gan gwbl gredu alw o'r Arglwydd nyni, i efangylu iddynt hwy.
11 Am hynny, wedi myned ymmaith o Troas, ni a gyrchasom yn vniawn i Samothracia, a thrannoeth i Neapolis.
12 Ac oddi yno i Philippi, yr hon sydd brifddinas o barth o Macedonia, ddinas rydd; ac ni a fuom yn aros yn y ddinas honno ddyddiau rai.
13 Ac ar y dydd Sabbath, ni a aethom allan o'r ddinas i lan afon, lle y byddid arferol o weddio; ac ni a eisteddasom, ac a lefarasom wrth y gwragedd a ddaethant ynghyd.
14 A rhyw wraig a'i henw Lydia, vn yn gwerthu porphor, o ddinas y Thiatyriaid, yn hon oedd yn addoli Duw, a wrandawodd; yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul.
15 Ac wedi ei bedyddio hi, a'i theulu, hi a ddymunodd arnom, gan ddywedyd, os barnasoch fy mod i yn ffyddlawn i'r Arglwydd, dewch i mewn i'm tŷ, ac arhoswch yno. A hi a'n cymmhellodd ni.
16 A digwyddodd, a ni yn myned i weddio, i ryw langces, yr hon oedd ganddi yspryd dewiniaeth, gyfarfod â ni; yr hon oedd yn peri llawer o elw i'w meistraid, wrth ddywedyd dewiniaeth.
17 Hon a ddilynodd Paul a ninneu, ac a lefodd gan ddywedyd, Y dynion hyn ydynt weision y Duw goruchaf, y rhai sydd yn mynegi i chwi ffordd iechydwriaeth.
18 A hyn a wnaeth hi dros ddyddiau lawer, eithr Paul yn flin ganddo; a drodd; ag a ddywedodd wrth yr yspryd, Yr ydwyf yn gorchymmyn i ti, yn enw Iesu Grist, fyned allan o honi. Ac efe a aeth allan yr awr honno.
19 A phan welod ei meistred hi, fyned gobaith eu helw hwynt ymmaith, hwy a ddaliasant Paul a Silas, ac a'u lluscasant hwy i'r farchnadfa at y llywodraethwŷr.
20 Ac a'i dygasant hwy at y swyddogion, ac a ddywedasant, y mae y dynion hyn, y rhai ydynt Iddewon, yn llwyr gythryblio ein dinas ni.
21 Ac yn dyscu defodau, y rhai nid ydyw rydd i ni eu derbyn, na'u gwneuthur, y rhai ydym Rufein-wŷr.
22 A'r dyrfa a safodd i fynu ynghŷd yn eu herbyn hwy, a'r swyddogion gan rwygo eu dillad, a orchymynnasant eu curo hwy â gwiail.
23 Ac wedi rhoddi gwialennodiau lawer iddynt, hwy a'u taflasant i garchar; gan orchymmyn i geidwad y carchar, eu cadw hwy yn ddiogel.
24 Yr hun wedi derbyn y cyfryw orchymmyn a'u bwriodd hwy i'r carchar nesaf i mewn, ac a wnaeth eu traed hwy yn siccr yn y cyffion.
25 Ac ar hanner nôs, Paul a Silas oedd yn gweddio, ac yn canu mawl i Dduw, a'r carcharorion a'u clywsant hwy.
26 Ac yn ddisymmwth y bu daiar-gryn mawr, hyd oni siglwyd seiliau y carchar ac yn ebrwydd yr holl ddrysau a agorwyd, a rhwymau pawb a aethant yn rhyddion.
27 A phan ddeffrôdd ceidwad y carchar, a chanfod drysau y carchar yn agored, efe a dynnodd ei gleddyf ac a amcanodd ei ladd ei hûn; gan dybied ffoi o'r carcharorion ymmaith.
28 Eithr Paul a lefodd â llef vchel gan ddywedyd, na wna i ti dy hûn ddim niwed; canys yr ydym ni ymma oll.
29 Ac wedi galw am oleu, efe a ruthrodd i mewn ac yn ddychrynnedic ef a syrthiodd i lawr ger bron Paul a Silas.
30 Ac a'u dug hwynt allan, ac a ddywedodd, O feistred, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig.
31 A hwy a ddywedasant, Crêd yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu.
32 A hwy a draethasant iddo, air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dŷ ef.
33 Ac efe a'u cymmerth hwy yr awr honno o nôs, ac a olchodd eu briwiau, ac efe a fedyddiwyd, a'r eiddo oll, yn y man.
34 Ac wedi iddo eu dwyn hwynt i'w dŷ, efe a osododd fwyd ger eu bron hwy, ac a fu lawen, gan gredu i Dduw, efe a'i holl deulu.
35 A phan aeth hi yn ddydd, y swyddogion a anfonasant y ceisiaid, gan ddywedyd, gollwng ymmaith y dynion hynny.
36 A cheidwad y carchar a fynegodd y geiriau hyn wrth Paul, Y Swyddogion a anfonasant i'ch gollwng chwi ymmaith, yn awr gan hynny cerddwch ymmaith: ewch mewn heddwch.
37 Eithr Paul a ddywedodd wrthynt, wedi iddynt ei curo yn gyhoedd heb ein barnu, a ninnau yn Rhufein-wŷr, hwy a'n bwriasant ni i garchar, ac yn awr a ydynt hwy yn ein bwrw ni allan yn ddirgel? Nid felly: ond deuant hwy eu hunain, a dygant ni allan.
38 A'r ceisiaid a fynegasant y geiriau hyn i'r Swyddogion, A hwy a ofnasant, pan glywsant mai Rhufeiniaid oeddynt.
39 A hwy a ddaethant ac a attolygasant arnynt, ac a'i dygasant allan, ac a ddeisyfiasant arnynt fyned allan o'r ddinas.
40 Ac wedi myned allan o'r carchar, hwy a aethant i mewn at Lydia; ac wedi gweled y brodyr, hwy a'u cyssurasant, ac a ymadawsant.
PEN. XVII.
GWedi iddynt dramwy drwy Amphipolis, ac Apollonia, hwy a ddaethant i Thessalonica, lle yr oedd Synagog i'r Iddewon.
2 A Phaul, yn ôl ei arfer, a aeth i mewn attynt, [Page 457] a thros dri Sabbath a ymresymmodd â hwynt, allan o'r Scrythyrau.
3 Gan egluro, a dodi ger eu bronnau, mai rhaid oedd i Grist ddioddef, a chyfodi oddi wrth y meirw; ac mai hwn yw y Crist Iesu, yr hwn yr wyfi yn ei bregethu i chwi.
4 A rhai o honynt a gredasant, ac a ymwascasant â Phaul a Silas, ac o'r Groegwŷr crefyddol lliaws mawr, ac o'r gwragedd pennaf nid ychydig.
5 Eithr yr Iddewon, y rhai oedd heb gredu, gan genfigennu, a gymmerasant attynt ryw ddynion drwg o gyrwydriaid; ac wedi casclu tyrfa, hwy a wnaethant gyffro yn y ddinas, ac a osodasant a'r dŷ Iason, ac a geisiasant eu dwyn hwynt allan at y bobl.
6 A phan na chawsant hwynt, hwy a luscasant Iason, a rhai o'r brodyr, at bennaethiaid y ddinas, gan lefain Y rhai sydd yn aflonyddu y bŷd, y rhai hynny a ddaethant ymma hefyd.
7 Y rhai a dderbyniodd Iason, ac y mae y rhai hyn oll yn gwneuthur yn erbyn ordeiniadau Caesar, gan ddywedyd fod brenin arall, [sef] Iesu.
8 A hwy a gyffroesant y dyrfa, a llywodraethwŷr y ddinas hefyd, wrth glywed y pethau hyn.
9 Ac wedi iddynt gael siccrwydd gan Iason a'r llaill, hwy a'u gollyngasant hwynt ymmaith.
10 A'r brodyr yn ebrwydd o hŷd nôs, a anfonasant Paul a Silas i Beræa: y rhai wedi eu dyfod yno, a aethant i Synagog yr Iddewon.
11 Y rhai hyn oedd foneddigeiddrach na'r rhai oedd yn Thessalonica, y rhai a dderbyniasant y gair gyd â phôb parodrwydd meddwl, gan [Page 458] chwilio beunydd yr Scrythyrau, a oedd y pethau hyn felly.
12 Felly llawer o honynt a gredasant, ac o'r Groegesau parchedig, ac o wŷr nid ychydig.
13 A phan wybu yr Iddewon o Thessalonica fod gair. Duw yn ei bregethu gan Paul yn Beræa hefyd, hwy a ddaethant yno hefyd, gan gyffroi y dyrfa.
14 Ac yna yn ebrwydd, y brodyr a anfonasant Paul ymmaith, i fyned megis i'r môr, ond Silas a Timorheus a arhosasant yno.
15 A chyfarwydd-wŷr Paul a'i dygasant ef hyd Athen: ac wedi derbyn gorchymyn at Silas a Timotheus, ar iddynt ddyfod atto ar ffrwst, hwy a aethant ymmaith.
16 A thra ydoedd Paul yn aros am danynt yn Athen, ei yspryd a gynhyrfwyd ynddo, wrth weled y ddinas wedi ymroi i eulynnodd.
17 O herwydd hynny yr ymresymmodd efe yn y Synagog â'r Iddewon, â'r rhai crefyddol, ac yn y farchnad beunydd, â'r rhai a gyfarfyddent ag ef.
18 A rhai o'r Philosophyddion, o'r Epicuriaid, ac o'r Stoiciaid, a ymddadleuasant ag ef; a rhai a ddywedasant beth a fynnei y siaradwr hwn ei ddywedyd? a rhai, tebig yw ei fod ef yn mynegi duwiau dieithir, am ei fôd yn pregethu yr Iesu, a'r ad-gyfodiad, iddynt.
19 A hwy a'i daliasant ef, ac a'i dygasant i Areopagus, gan ddywedyd; A allwn ni gael gwyn bod beth yw y ddysc newydd hon, a draethir gennit?
20 Oblegid yr wyt ti yn dwyn rhyw bethau dieithr i'n clustiau ni: am hynny ni a fynnem [Page 459] wybod beth a allei y pethau hyn fod.
21 (Ar holl Atheniaid, a'r dieithriaid, y rhai oedd yn ymdeithio yno, nid oeddynt yn cymmeryd hamdden i ddim arall, ond i ddywedyd, neu i glywed rhyw newydd.)
22 Yna y safodd Paul ynghanol Areopagus ac a ddywedodd, ha wŷr Atheniaid, mi a'ch gwelaf chwi ym-mhob peth yn dra-choel grefyddol.
23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosionau, mi a gefais allor, yn yr hon yr scrifennasid; I'R DVW NID ADWAENIR. Yr hwn, gan hynny, yr ydych chwi heb i adnabod, yn ei addoli, hwnnw yr wyfi yn ei fynegi i chwi.
24 Y Duw a wnaeth y bŷd, a phôb peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daiar, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo.
25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisieu dim, gan ei fôd efe yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll.
26 Ac efe a wnaeth o vn gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaiar, ac a bennodd yr amseroedd rhag-osodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt.
27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalffalu am dano ef a'i gael er nad yw efe yn ddiau neppell oddi wrth bob vn o honom.
28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symmud, ac yn bôd: megis y dywedodd rhai o'ch Poetau chwi eich hunain: canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni.
29 Gan ein bod ni gan hynny, yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg [Page 460] i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd, a dychymmyg dyn.
30 A duw gwedi esceuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymmyn i bôb dŷn, ym-mhob man, edifarhau.
31 O herwydd iddo osod diwrnod, yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, drwy y gŵr a ordeiniodd efe, gan roddi ffydd i bawb, o herwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32 A phan glywsant sôn am adgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant, a rhai a ddywedasant, ni a'th wrandawn drachefn am y peth hyn.
33 Ac felly Paul a aeth allan o'u plith hwynt.
34 Eithr rhai gwyr a lynasant wrtho, ac a gredasant, ym mhlith y rhai yr oedd Dyonysius Areopagita, a gwraig a'i henw Damaris, ac eraill gyd â hwynt.
PEN. XVIII.
YN ôl y pethau hyn, Paul a ymadawodd ag Athen, ac a ddaeth i Corinth.
2 Ac wedi iddo gael rhwy Iddew, ai enw Aquila, vn o Pontus o genedl, wedi dyfod yn hwyr o'r Ital, ai wraig Priscilla, (am orchymmyn o Claudius i'r Iddewon oll fyned allan o Rufain) efe a ddaeth attynt.
3 Ac o herwydd ei fod o'r vn gelfyddyd, efe a arhoes gyd â hwynt, ac a weithiodd (canys gwneuthur-wŷr pebyll oeddynt wrth eu celfyddyd.)
4 Ac efe a ymresymmodd yn y Synagog bob Sabbath, ac a gynghorodd yr Iddewon, a'r Groegiaid.
5 A phan ddaeth Silas a Thimotheus o Macedonia, [Page 461] bu gyfyng ar Paul yn yr Yspryd, ac efe a dystiolaethodd i'r Iddewon, mai Jesu oedd Christ.
6 A hwythau gwedi ymosod yn ei erbyn, a chablu, efe a escydwodd ei ddillad, ag a ddywedodd wrthynt; Bydded eich gwaed chwi ar eich pennau eich hunain, glân [ydwyf] fi; o hyn allan, mi âf at y cenhedloedd.
7 Ac wedi myned oddi yno, efe a ddaeth i dŷ vna'i enw Justus, vn oedd ynaddoli Duw, tŷ yr hwn oedd yn cyffwrdd â'r Synagog.
8 A Chrispus yr Arch synagogydd a gredodd yn yr Arglwydd, a'i holl dy: a llawer o'r Corinthiaid wrth wrando, a gredasant, ac a fedyddiwyd.
9. A'r Arglwydd a ddywedodd wrth Paul trwy weledigaeth liw nôs, Nac ofna, eithr llefara, ac na thaw.
10 Canys yr wyfi gyd â thi, ac ni esyd neb arnat, i wneuthur niwed i ti: o herwydd y mae i mi bobl lawer yn y ddinas hon.
11 Ac efe a arhoes [yno] flwyddyn a chwemis, yn dyscu gair Duw yn eu plith hwynt.
12 A phan oedd Gal-lio yn rhaglaw yn Achaia, cyfododd yr Iddewon yn vn-fryd yn erbyn Paul, ac a'i dygasant ef i'r frawdle.
13 Gan ddywedyd; Y mae hwn yn annog dynion i addoli Duw yn erbyn y Ddeddf.
14 Ac fel yr oedd Paul yn amcanu agoryd ei enau, dywedodd Gal-lio wrth yr Iddewon; Pe buasei gam, neu ddrwg weithred, ô Iddewon, wrth reswm myfi a gyd ddygaswm â chwi.
15 Eithr os y qwestiwn sydd am ymadrodd, ac enwau, ar ddeddf sydd yn eich plith chwi, edrychwch eich hunain, canys ni fyddafi farnwr am y pethau hyn.
16 Ac efe a'u gyfodd hwynt oddiwrth y frawdle.
17 A'r holl Roeg-wŷr a gymmerasant Sosthenes yr-Arch synagogydd, ac a'i curasant o flaen y frawdle, ac nid oedd Gallio yn gofalu am'ddim o'r pethau hynny.
18 Eithr Paul wedi aros etto ddyddiau lawer, a ganodd yn iach i'r brodyr, ac a fordwyodd ymmaith i Syria, a chyd ag ef Priscilla ac Aquila, gwedi iddo gneifio ei ben yn Cenchrea, canys yr oedd arno adduned.
19 Ac efe a ddaeth i Ephesus, ac a'u gadawodd hwynt yno, eithr efe a aeth i'r Synagog, âc a ymresymmod â'r Iddewon.
20 A phan ddymunasant arno aros gyd â hwynt dros amser hwy, ni chaniattâ odd efe.
21 Eithr efe a ganodd yn iach iddynt, gan ddywedyd, Y mae yn anghenrhaid i mi gadw yr wŷl sy'n dyfod yn Jerusalem; ond os myn Duw, mi a ddeuaf yn fy ôl attochwi drachefn: ac efe a aeth ymmaith o Ephesus.
22 Ac wedi iddo ddyfod i wared i Caeserea, efe a aeth i fynu, ac a gyfarchodd yr Eglwys, ac a ddaeth i wared i Antiochia.
23 Ac wedi iddo dreulio talm o amser, efe a aeth ymmaith gan dramwy trwy wlâd Galatia, a Phrygia, mewn trefn, a chadarnhau yr holl ddiscyblion.
24 Eithr rhyw Iddew, a'i enw Apollos, Alexandriad o genedl, gŵr ymadroddus, cadarn yn yr Scrythyrau, a' ddaeth i Ephesus.
25 Hwn oedd wedi dechreu dyscu iddo ffordd yr Arglwydd, ac efe yn wresog yn yr Yspryd, [Page 463] a lefarodd, ac a athrawiaethodd yn ddiwyd y pethau a berthynent i'r Arglwydd, heb ddeall ond bedydd Joan yn vnig.
26 A hwn a ddechreuodd lefaru yn hŷ yn y Synagog: a phan glybu Aquila a Priscilla, hwy a'i cymmerasant ef attynt, ac a agorasant iddo ffordd Duw yn fanylach.
27 A phan oedd efe yn ewyllisio myned i Achaia, y brodyr gan annog, a scrifennasant at y discyblion i'w dderbyn ef. Yr hwn wedi ei ddy-fod, a gynnorthwyodd lawer ar y rhai a gredasent trwy râs.
28 Canys efe a orchfygodd yr Iddewon yn egniol, ar gyhoedd, gan ddangos trwy yr Scrythyrau mai Jesu yw Christ.
PEN. XIX.
A Digwyddodd tra fu Apollos yn Corinth, wedi i Paul drammwy trwy y parthau vchaf, ddyfod o honaw ef i Ephesus, ac wedi iddo gael rhyw ddiscyblion.
2 Efe a ddywedodd wrthynt, a dderbyniasoch chwi yr Yspryd glân, er pan gredasoch. A hwy a ddywedasant wrtho, Ni chawsom ni gymmaint a chlywed a oes Yspryd glân.
3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I ba beth gan hynny y bedyddiwyd chwi? hwythau a ddywedasant, I fedydd Ioan.
4 A dywedodd Paul, Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ôl ef, sef yn Grist Jesu.
5 A phan glywsant hwy [hyn,] hwy a fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Jesu.
6 Ac wedi i Paul ddodi ei ddwylaw arnynt, yr Yspryd glân a ddaeth arnynt, a hwy a draethasant â thafodau, ac a brophwydasant.
7 A'r gwŷr oll oeddynt ynghylch deuddec.
8 Ac efe a aeth i mewn i'r Synagog, ac a lefarodd yn hŷ dros dri mis, gan ymresymmu a chynghori y pethau a [berthynent] i deyrnas Dduw.
9 Eithr pan oedd rhai wedi caledu, ac heb gredu, gan ddywedyd yn ddrwg am y ffordd [honno,] ger bron y lliaws, efe a dynnodd ymmaith oddi wrthynt, ac a nailltuodd y discyblion, gan ymresymmu beunydd yn yscol vn Tyrannus.
10 A hyn a fu dros yspaid dwy flynedd, hyd oni ddarfu i bawb a oedd yn trigo yn Asia, yn Iddewon a Groegiaid, glywed gair yr Arglwydd Jesu.
11 A gwyrthiau rhagorol a wnaeth Duw drwy ddwylo Paul.
12 Hyd oni ddygid at y cleifion oddi wrth ei gorph ef, napkynnau neu foledau; a'r clefydau a ymadawei â hwynt, a'r ysprydion drwg a aent allan o honynt.
13 Yna rhai o'r Iddewon cyrwydraidd, [y rhai oedd] gonsur-wŷr, a gymmerasant arnynt henwi vwch ben y rhai oedd ac ysprydion drwg ynddynt, enw'r Arglwydd Jesu, gan ddywedyd, Yr ydym ni yn eich tynghedu chwi trwy yr hwn y mae Paul yn ei bregethu.
14 Ac yr oedd rhywo saith feibion i Scefa, Iddew [ac] arch-offeiriad, y rhai oedd yn gwneuthur hyn.
15 A'r Yspryd drwg a attebodd ac a ddywedodd, Yr Jesu yr wyf yn ei adnabod, a Phaul a adwaen, eithr pwy ydych chwi?
16 A'r dŷn, yr hwn yr oedd yr yspryd drwg, ynddo, a ruthrodd arnynt, ac a'u gorchfygodd, ac a fu drwm yn eu herbyn, hyd oni ffoesant hwy allan o'r tŷ hwnnw, yn noethion, ac yn archolledig.
17 A hyn a fu hyspys gan yr holl Iddewon a'r Groegiaid hefyd, y rhai oedd yn presswylio yn Ephesus, ac ofn a syrthiodd arnynt oll, ac enw yr Arglwydd Jesu a fawrygwyd.
18 A llawer o'r rhai a gredasant a ddaethant, ac a gyffessasant, ac a fynegasant eu gweithredoedd.
19 Llawer hefyd o'r rhai a fuasei yn gwneuthur rhodreswaith, a ddygasant eu llyfrau yngyd, ac a'u lloscasant yngwydd pawb, a hwy a swriasant eu gwerth hwy, ac a'u cawsant yn ddeng mîl a deugain [o ddarnau] arian.
20 Mor gadarn y cynyddodd gair yr Arglwydd, ac y cryfhaodd.
21 A phan gyflawnwyd y pethau hyn, arfaethodd Paul yn yr yrspryd, gwedi iddo drammwy trwy Macedonia ac Achaia, fyned i Jerusalem, gan ddywedyd, gwedi i mi fôd yno, rhaid i mi weled Rhufain hefyd.
22 Ac wedi anfon i Macedonia ddau o'r rhai oedd in gweini iddo, [sef] Timotheus ac Erastus, efe ei hun a arhosodd dros amser yn Asia.
23 A bu ar yr amser hwnnw drallod nid bychan ynghylch y ffordd honno.
24 Canys rhyw vn a'i enw Demetrius, gôf [Page 466] arian, ŷn gwnethur temlau arian i Ddiana, oedd yn peri elw nid bychan i'r crefftwŷr.
25 Y rhai a alwodd efe ynghyd â gweithwŷr y cyfryw bethau hefyd, ac a ddywedodd, Ha-wyr, chwi a wyddoch mai oddi wrth yr elw hwn y mae ein golud ni.
26 Chwi a welwch hefyd ac a glywch, nid yn vnig yn Ephesus, eithr agos tros Asia oll, ddarfod i'r Paul ymma berswadio a throi llawer o bobl ym-maith, wrth ddywedyd nad ydyw dduwiau y rhai a wnair â dwylo.
27 Ac nid yw yn vnyg yn enbyd i ni ddyfod y rhan hon i ddirmyg, eithr hefyd bod cyfrif Teml y ddawies fawr Diana yn ddiddim, a bôd hefyd ddestrywio ei mawrhydi hi, yr hon y mae Asia oll, a'r byd yn ei haddoli.
28 A phan glwysant, hwy a lanwyd o ddigofaint, ac a lefasant, gan ddywedyd, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
29 A llanwyd yr holl ddinas o gythryfwl, a hwy a ruthrasant yn vn-fryd i'r orsedd, gwedi cippio Gaius ac Aristarchus o Macedonia, cydymdeithion Paul.
30 O phan oedd Paul yn ewyllysio myned i mewn i blith y bobl, ni adawodd y discyblion iddo.
31 Rhai hefyd o bennaethiaid Asia, y rhai oedd gyfeillion iddo, a yrrasant atto i ddeisyf arno, nad ymroddei efe i fyned i'r orsedd.
32 A [rhai] a lefasant [vn peth,] ac eraill beth arall. Canys y gynnulleidfa oedd yn gymmysg: a'r rhan fwyaf ni wyddent o herwydd pa beth y daethent ynghŷd.
33 A hwy a dynnasant Alexander allan o'r dyrfa, a'r Iddewon yn ei yrru ef ym-malen. Ac Alexander a amneidiodd â'i law am osteg, ac a fynnasei ei amddiffyn ei hun wrth y bobl.
34 Eithr pan ŵybuant mai Iddew oedd efe, pawb ag vn llef a lefasant megis dros ddwy awr, Mawr yw Diana yr Ephesiaid.
35 Ac wedi i yscolhaig y [ddinas,] lonyddu y bobl, efe a ddywedodd, Ha-wŷr Ephesiaid, pa ddŷn sydd ni's gwyr fod dinas yr Ephesiaid yn addoli y dduwies fawr Diana, a'r [ddelw] a ddisgynnodd oddi wrth Jupiter?
36 A chan fod y pethau hyn heb allu dywedyd i'w herbyn, rhaid i chwi fod yn llonydd, ac na wneloch ddim mewn byr-bwyll.
37 Canys dygasoch ymma y gwŷr hyn, y rhai nid ydynt, nac yn yspeilwŷr temlau, nac yn cabiu eich duwies chwi.
38 Od oes, gan hynny, gan Ddemetrius a'r creftwŷr sy gyd ag ef, vn hawl yn erbyn nêb, y mae cyfraith i'w chael, ac y mae rhaglawiaid, rhodded pawb yn erbyn ei gilydd.
39 Ac os gofynnwch ddim am bethau eraill, mewn cynnulleidfa gyfraithlawn y terfynir [hynny.]
40 O herwydd enbyd yw rhag achwyn arnom am y derfysc heddyw, gan nad oes vn achos, trwy yr hwn y gallom roddi rheswm o'r ymgyrch hwn.
41 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ollyngodd y gynnulleidfa ymmaith.
PEN. XX.
AC ar ôl gostegu y cythryfwl, Paul wedi galw y discyblion atto, a'u cofleidio, a ymadawodd i fyned i Macedonia.
2 Ac wedi iddo fyned tros y parthau hynny, a'i cynghori hwynt â llawer o ymadrodd, efe a ddaeth i dir Groeg.
3 Ac wedi aros dri-mis, a gwneuthur o'r Iddewon gynllwyn iddo, fel yr oedd ar fedr morio i Syria, efe a arfaethodd ddychwelyd trwy Macedonia.
4 A chydymdeithiodd ag ef hyd yn Asia, Sopater o Berea, ac o'r Thessaloniaid Aristarchus, a Secundus, a Gaius o Derbe, a Thimotheus; ac o'r Asiaid Tychicus, a Throphimus.
5 Y rhai hyn a aethant o'r blaen, ac a arhosasant am danom yn Troas.
6 A ninnau a fordwyasom ymmaith oddi wrth Philippi, yn ôl dyddiau y bara croyw, ac a ddaethom attynt hwy i Troas mewn pum nhiwrnod, lle yr arhosasom saith niwrnod.
7 Ac ar y dydd cyntaf o'r wythnos, wedi i'r discyblion ddyfod ynghyd i dorri bara, Paul a ymresymmodd â hwynt, ar fedr myned ymmaith drannoeth, ac efe a barhaodd yn ymadrodd hyd hanner nôs.
8 Ac yr oedd llawer o lampau yn y llofft lle yr oeddynt wedi ymgasclu.
9 A rhyw ŵr ieuangc, a'i enw Eutychus, a eisteddai mewn ffenestr, ac efe â syrthiodd mewn trym-gwsg, tra yr oedd Paul yn ymresymmu yn hir, wedi ei orchfygu gan gwsc, ac a gwympodd i lawr o'r drydedd lofft, ac a gyfodwyd i fynu yn farw.
10 A Phaul a aeth i wared, ac a syrthiodd arno ef, a chan ei gofleidio, a ddywedodd, Na chyffroed arnoch; canys y mae ei enaid ynddo ef.
11 Ac wedi iddo ddyfod i fynu, a thorri bara, a bwyta, ac ymddiddan llawer hyd torriad y dydd; felly efe a aeth ymmaith.
12 A hwy a ddygasant y llangc yn fyw, ac a gyssurwyd yn ddirfawr.
13 Ond nyni a aethom o'r blaen i'r llong, ac a hwyliasom i Assos, ar fedr oddi yno dderbyn Paul: canys felly yr oedd efe wedi ordeinio, ar fedr myned ei hun ar ei draed.
14 A phan gyfarfu ef â ni yn Assos, nyni a'i derbyniasom ef i mewn, ac a ddaethom i Mitylene.
15 A morio a wnaethom oddi yno, a dyfod trannoeth gyferbyn â Chios, a thradwy y tiriasom yn Samos, ac a arhosasom yn Trogilium, a'r ail dydd y daethom i Miletus.
16 Oblegid Paul a roddasei ei fryd ar hwylio hebio i Ephesus, fel na byddet iddo dreulio amser yn Asia, Canys bryssio yr oedd, os bai bossibl iddo, i fod yn Jerusalem erbyn dydd y Sulgwyn.
17 Ac o Miletus efe a anfonodd i Ephesus, ac a alwodd atto Henuriaid yr Eglwys.
18 A phan ddaethant atto, efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wŷddoch er y dydd cyntaf y daethym i Asia, pa fodd y bum i gyd â chwi dros yr holl amser.
19 Yn gwasanaethu yr Arglwydd gŷd â phob gostyngeiddrwydd, a llawer o ddagrau, a phrofedigaethau; y rhai a ddigwyddodd [...] [Page 470] mi trwy gynllwynion yr Iddewon.
20. Y modd nad atteliais ddim o'r pethau buddiol heb eu mynegi i chwi, a'ch dyscu ar gyhoedd, ac o dŷ i dy.
21 Gan dystiolaethu i'r Iddewon, ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tu ag at Dduw, a'r ffydd sydd tu ag at ein Harglwydd Jesu Grist.
22 Ac yn awr, wele fi yn rhwym yn yr yspryd yn myned i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddigwydd i mi yno.
23 Eithr hod yr Yspryd glân yn tystio i mi ym-mhôb dinas, gan ddywedyd, fod rhwymau a blinderau yn fy aros.
24 Ond nid wyfi yn gwnethur cyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr gennif fy einioes fy hun, os gallaf orphen fy ngyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniais gan yr Arglwydd Jesu, i dystiolaethu efengyl grâs Duw.
25 Ac yr awron, wele, mi a wn na chewch chwi oll (ymmysc y rhai y bum i yn trammwy, yn pregethu teyrnas Dduw) weled fy wyneb i mwyach.
26 O herwydd pa ham, yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy môd i yn lân oddi wrth waed paub oll.
27 Canys nid ymmatteliais rhag mynegi i chwi holl gyngor Duw.
28 Edrychwch, gan hynny, arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd, ar yr hwn y gosododd yr Yspryd glân chwi yn olygwŷr, i fugeilio Eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briodwaed.
29. Canys myfi a wn hyn, y daw yn ôl fy ymadawiad i, fleiddiau blinion i'ch plith, heb arbed y praidd.
30 Ac o honoch chwi eich hunain y cyfyd gwŷr yn llefaru pethau gwyr-draws, i dynnu discyblion ar eu hôl.
31 Am hynny gwiliwch a chofiwch, dros dair blynnedd na pheidiais i nos a dydd â rhybuddio pob vn [o honoch] â dagrau.
32 Ac yr awr hon frodyr, yr ydwyf yn eich gorchymmyn i Dduw, ac i air ei râs ef, yr hwn a all adeiladu chwaneg, a rhoddi i chwi etifeddiaeth ym mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.
33 Arian, neu aur, neu wisg neb, ni chwennychais.
34 Ie chwi a wŷddoch eich hunain ddarfod i'r dwylo hyn wasanaethu i'm cyfraidiau i, ac i'r rhai oedd gyd â mi.
35 Mi a ddangosais i chwi bôb peth, mai wrth lafurio felly y mae yn rhaid cynnorthwyo y gwelniaid, a chofio geiriau yr Arglwydd Jesu, ddywedyd o honaw ef, mai dedwydd yw rhoddi yn hyttrach nâ derbyn.
36 Ac wedi iddo ddywedyd y pethau hyn, efe a roddodd ei liniau i lawr, ac a weddiodd gyd â hwynt oll.
37 Ac wylo yn dost a wnaeth pawb, a hwy a syrthiasant ar wddf Paul, ac a'i cusanasant ef.
38 Gan ofidio yn bennaf am y gair a ddywedasei efe, na chaent weled ei wyneb ef mwy. A hwy a'i hebryngasant ef i'r llong.
PEN. XXI.
A Digwyddodd wedi i ni osod allan, ac ymadel â hwynt, ddyfod o honom ag vniawngyrch i Coos, a thrannōeth i Rhodes, ac oddi yno i Patara.
2 A phan gawsom long yn hwylio trosodd i Phenice; ni a ddringasom iddi, ac a aethom ymmaith.
3 Ac wedi ymddangos o Cyprus i ni, ni a'i gadawsom hi ar y llaw asswy, ac a hwyliasom i Syria, ac a diriasom yn Tyrus; canys yno yr oedd y llong yn dadlwytho y llwyth.
4 Ac wedi i ni gael discyblion, nyni a arhosasom yno saith niwrnod; y rhai a ddywedasant i Paul, trwy yr Yspryd, nad elei i fynu i Jerusalem.
5 A phan ddarfu i ni orphen y dyddiau, ni a ymadawsom, ac a gychwynnasom: a phawb ynghyd, a'r gwragedd, a'r plant, a'n hebryngasant ni 'hyd allan o'r ddinas, ac wedi i ni ostwng ar ein gliniau ar y traeth, ni a weddiasom.
6 Ac wedi i ni ymgyfarch a'i gilydd, ni a ddringasom i'r llong, a hwythau a ddychwelasant i'w cartref.
7 Ac wedi i ni orphen hwylio o Tyrus, ni a ddaethom i Ptolemais: ac we i ni gyfarch y brodyr, ni a drig [...]som vn diwrnod gyd â hwynt.
8 A thranoeth y rhai oedd ynghylch Paul a ymadawsant, ac a ddaethant i Cæsarea. Ac wedi i ni fyned i mewn i dŷ Philip yr Efengylwr, (yr hwn oedd vn o'r saith) ni a arhosasom gyd ag ef.
9 Ac i hwn yr oedd pedair merched, o forwynion, yn prophwydo.
10 Ac fel yr oeddem yn aros yno ddyddiau lawer, daeth i wared o Judæa brophwyd a'i enw Agabus.
11 Ac wedi dyfod attom, a chymmeryd gwregys Paul, a rhwymo [ei] ddwylaw ef [a'i] draed, efe a ddywedodd, hyn a ddywed yr Ysprid glân, Y gŵr biau y gwregys hwn, a rwym yr Iddewon fel hyn yn Jerusalem, ac a'i traddodant i ddwylo y Cenhedloedd.
12 A phan glywsom y pethau hyn, nyni a'r rhai oedd o'r fan honno hefyd, a ddeisyfiasom nad elei efe i fynu i Jerusalem.
13 Eithr Paul a attebodd, beth a wnewch chwi yn wylo, ac yn torri fy nghalon i? canys parod wyfi, nid i'm rhwymo yn vnig, ond i farw hefyd yn Jerusalem, er mwyn Enw yr Arglwydd Jesu.
14 A chan na ellid ei berswadio, ni a beidiasom, gan ddywedyd; Ewyllys yr Arglwydd a wneler.
15 Hefyd, yn ô'l y ddydiau hynny, ni a gymmerasom ein beichiau, ac a aethom i fynu i Jerusalem.
16 A [rhai] o'r discyblion o Cæsarea a ddaeth gyd â ni, gan ddwyn vn Mnason o Cyprus, hên ddiscybl, gyd â'r hwn y lletteuem.
17 Ac wedi ein dyfod i Jerusalem, y brodyr a'n derbyniasant yn llawen.
18 A'r dydd nesaf yr aeth Paul gyd â ni i mewn at Iaco; a'r holl Henuriaid a ddaethant yno.
19 Ac wedi iddo gyfarch gwell iddynt, efe a fynegodd iddynt bob yn vn ac vn, bôb peth a wnaethei Duw ym-mlith y Cenhedloedd trwy ei weinidogaeth ef.
20 A phan glywsant, hwy a ogoneddasant yr Arglwydd, ac a ddywedasant wrtho, Ti a weli, frawd, pa sawl myrddiwn sydd o'r Iddewon y rhai a gredasant, ac y maent oll yn dwyn zel i'r Ddeddf.
21 A hwy a glywsant am danat ti, dy fod ty yn dyscu yr Iddewon oll, y rhai sydd ym mysc y Cenhedloedd i ymwrthod â Moses, ac yn dywedyd, na ddylent hwy enwaedu ar eu plant, na rhodio yn ôl y defodau.
22 Pa beth gan hynny? nid oes fodd na ddêl y lliaws ynghŷd: canys hwy a gânt glywed dy ddyfod ti.
23 Gwna gan hynny, yr hyn a ddywedwn wrthit, y mae gennym ni bedwar-gwyr a chanddynt adduned arnynt.
24 Cymmer y rhai hyn, a glanhaer di gyd â hwynt, a gwna draul arnynt, fel yr eilliont eu pennau, ac y gwŷpo pawb am y pethau a glywsant am dânat ti, nad ydynt ddim, ond dy fod di dy hun hefyd yn rhodio, ac yn cadw y Ddeddf.
25 Eîthr am y Cenhedloedd, y rhai a gredasant, ni a scrifennasom, ac a farnasom na bo yddynt gadw dim o'r cyfryw beth, eithr iddynt ymgadw oddi wrth y pethau a aberthwyd i eulynnod, a gwaed, a rhag peth tagedig, a rhag putteindra.
26 Yna Paul a gymmerth y gwŷr, a thrannoeth gwedi iddo ymlanhau gyd â hwynt, efe a eth i [Page 475] mewn i'r Deml; gan yspysu cyflawni dyddiau y glanhâd, hyd oni offrymmid offrwm dros bob vn o honynt.
27 A phan oedd y saith niwrnod ar ddarfod, yr Iddewon oeddent o Asia, pan welsant ef yn y Deml, a derfyscasant yr holl bobl, ac a ddodasant ddwylo arno,
28 Gan lefain, ha-ŵŷr Israeliaid, cynnhorthwywch, dymma 'r dŷn sydd yn dyscu pawb ym mhôb man yn erbyn y bobl, a'r gyfraîth, a'r lle ymma, ac ym mhellach, y Groegiaid hefyd a ddûg efe i mewn i'r Deml, ac a halogodd y lle sanctaidd hwn.
29 Canys hwy a welsent o'r blaen Trophimus yr Ephesiad yn y ddinas gyd ag ef, yr hwn yr oeddynt hwy yn tybied ddarfod i Paul ei ddwyn i mewn i'r Deml.
30 A chynnhyrfwyd y ddinas oll, a'r bobl a redodd ynghyd, ac wedi ymaelyd yn Paul, hwy a'i tynnasant ef allan o'r Deml; ac yn ebrwydd, caewyd y drysau.
31 Ac fel yr oeddynt hwy yn ceisio ei ladd ef, daeth y gair at pen-capten y fyddin, fôd Jerusalem oll mewn terfysc.
32 Yr hwn allan o law a gymmerodd filwŷr, a chanwriaid, ac a redodd i wared attynt: hwythau, pan welsant y pen-capten a'r milwŷr, a beidiasant a churo Paul.
33 Yna y daeth y pen-capten yn nês, ac a'i daliodd ef, ac a archodd ei rwymo ef â dwy gadwyn, ac a ymofynnodd pwy oedd efe, a pha-beth a wnaethei.
34 Ac amryw rai a lefent amryw beth yn y [Page 476] dyrfa: ac am nas gallei wybod yspysrwydd, o herwydd y cythryfwl, efe a orchymynnodd ei ddwyn ef i'r castell.
35 A phan oedd efe ar y grisiau, fe a ddigwyddodd gorfod ei ddwyn ef gan y milwŷr, o achos trais y dyrfa.
36 Canys yr oedd lliaws y bobl yn canlyn, gan lefain, Ymmaith ag ef.
37 A phan oedd Paul ar ei ddwyn i mewn i'r castell, efe a ddywedodd wrth y pen capten, Ai rhydd i mi ddywedyd peth wrthit? Ac efe a ddywedodd, A fedri di Roeg?
38 Ond tydi yw yr Aiphti-wr, yr hwn o flaen y dyddiau hyn, a gyfodaist derfysc, ac a arweiniaist ir anialwch bedair mîl o wŷr llofruddiog?
39 A Phaul a ddywedodd, gŵr ydwyfi yn wîr o Iddew, [vn] o Tharsus, dinesydd o ddinas nid anenwog, o Cilicia; ac yr wyf yn deisyf arnat ti, dyro gennad i mi i lefaru wrth y bobl.
40 Ac wedi iddo roi cennad iddo, Paul a safodd ar y grisiau, ac a amneidiodd â llaw ar y bobl; ac wedi gwneuthur distawrwydd mawr, efe a lefarodd wrthynt yn Hebrae-acc, gan ddywedyd.
PEN. XXII.
HA-wŷr, frodyr a thadau, gwrandewch fy amddiffyn wrthych yr awr hon.
2 A phan glywsant mai yn Hebrae-aec yr oedd efe yn llefaru wrthynt, hwy a roesant iddo osteg gwell, ac efe a ddywedodd:
3 Gŵr wyfi yn wîr o Iddew yr hwn a aned yn Tharsus yn Cilicia, ac wedi fy meithrin yn y ddinas hon, wrth draed Gamaliel, ac wedi fy athrawiaethu [Page 477] yn ôl manylaf gyfraith y tadau, yn dwyn zêl i Dduw, fel yr ydych chwithau oll heddyw.
4 A mi a erlidiais y ffordd hon hyd angeu, gan rwymo a dodi yngharchar wŷr a gwragedd hefyd.
5 Megis ac y mae yr Arch-offeiriaid yn dyst i mi, a'r holl henaduriaeth, gan y rhai hefyd y derbyniais lythyrau at y brodyr, ac yr aethym i Ddamascus, ar fedr dwyn y rhai oedd yno hefyd, yn rhwym i Jerusalem, iw cospi.
6 Eithr digwyddodd, a myfi yn myned, ac yn nesau at Ddamascus, ynghylch hanner dydd, yn ddisymmwth, i fawr oleuni o'r nef ddiscleirio o'm hamgylch.
7 A mi a syrthiais ar y ddaiar, ac a glywais lais yn dywedyd wrthif; Saul, Saul, pa ham yr wyt yn fy erlid?
8 A minnau a attebais, Pwy wyt ti, ô Arglwydd? Yntef a ddywedodd wrthif, myfi yw Jesu o Nazareth, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
9 Hefyd, y rhai oedd gyd â myfi a welsant y goleuni yn ddiau, ac a ofnasant, ond ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthif.
10 Ac myfi a ddywedais; Beth a wnaf, ô Arglwydd? A'r Arglwydd a ddywedodd wrthif, Cyfod, a dôs i Ddamascus, ac yno y dywedir i ti bob peth a'r a ordeiniwyd i ti eu gwneuthur.
11 A phryd nad oeddwn yn gweled gan ogoniant y goleuni hwnnw, a'r rhai oedd gyd â mi yn fy nhywys erbyn fy llaw, myfi a ddaethym i Ddamascus.
12 Ac vn Ananias, gŵr defosionol yn ôl y [Page 478] Ddeddf, ac iddo air da gan yr Iddewon oll, ar oeddynt yn presswylio [yno,]
13 A ddaeth attaf, ac a safodd ger llaw, ac a ddywedodd wrthif, Y brawd Saul, cymmer dy olwg, ac mi a edrychais arno yn yr awr honno.
14 Ac efe a ddywedodd, Duw ein tadau ni a'th rag-ordeiniodd di i wŷbod ei Ewyllys ef, ac i weled y Cyfiawn [hwnnw,] ac i glywed lleferydd ei enau ef.
15 Canys ti a fyddi dŷst iddo wrth bôb dŷn, o'r [pethau] a welaist, ac a glywaist.
16 Ac yr awron, beth yr wyt ti yn ei aros? Cyfod, bedyddier di, a golch ymmaith dy bechodau, gan alw ar Enw yr Arglwydd.
17 A darfu wedi i mi ddyfod yn fy ôl i Jerusalem, fel yr oeddwn yn gweddio yn y Deml, i mi syrthio mewn llewyg;
18 A'i weled ef yn dywedyd wrthif, Brysia, a dôs ar frŷs allan o Jerusalem; o herwydd ni dderbyniant dy destiolaeth am danaf fi.
19 A minneu a ddywedais, O Arglwydd, hwy a wŷddant fy mod i yn carcharu, ac yn baeddu ym-mhôb Synagog, y rhai a gredent ynot ti.
20 A phan dywalltwyd gwaed Stephan dy ferthyr di, yr oddewn i hefyd yn sefyll ger llaw, ac yn cydsynio i'w ladd ef, ac yn cadw dillad y rhai a'i lladdent ef.
21 Ac efe a ddywedodd wrthif, Dôs ymmaith, canys mi a'th anfonaf ym mhell at y Cenhedloedd.
22 A hwy a'i gwrandawsant ef hyd y gair hwn. A hwy a godasant eu llef, ac a ddywedasant, Ymmaith ä'r cyfwry vn oddi ar y ddaiar, canys nid cymmwys ei fod ef yn fyw.
23 Ac fel yr oeddent yn llefain, ac yn bwrw eu dillad, ac yn taflu llwch i'r awyr,
24 Y pen-capten a orchymmynnodd ei ddwyn ef i'r castell, gan beri ei holi ef trwy fflangellau, fel y gallei wybod am ba achos yr oeddynt yn llefain arno felly.
25 Ac fel yr oeddynt yn ei rwymo ef â charreiau, dywedodd Paul wrth y Canwriad, yr hwn oedd yn sefyll ger llaw, Ai rhydd i chwi fflangellu gŵr o Rufeinid, ac heb ei gondemno hefyd.
26 A phan glybu y Canwriad, efe a aeth ac a fynegodd i'r pen-capten, gan ddywedyd, Edrych beth yr wyt yn ei wneuthur; canys Rhufeiniad yw y dŷn hwn.
27 A'r pen-capten, a ddaeth ac a ddywedodd wrtho, dywed i'mi, ai Rhufeiniad wyt tî? Ac efe a ddywedodd, îe.
28 A'r pen-capten a attebodd, A swm mawr y cefais i y ddinas-fraint hon. Eithr Paul a ddywedodd, A minnau a anwyd [yn freiniol.]
29 Yn ebrwydd gan hynny yr ymadawodd oddi wrtho, y rhai oedd ar fedr ei holi ef. A'r pencapten hefyd a ofnodd, pan wŷbu ei fod ef yn Rhufeiniad, ac oblegid darfod iddo ei rwymo ef.
30 A thrannoeth, ac efe yn ewyllysio gwybod yspysrwydd am ba beth y cyhuddid ef gan yr Iddewon, efe a'i gollyngodd ef o'r rhwymau, ac a archodd i'r Arch-offeiriaid a'u cyngor oll ddyfod [yno,] ac efe a ddug Paul i wared, ac a'i gosododd ger eu bron hwy.
PEN. XXIII.
A Phaul yn edrych yn graff ar y Cynghor a ddywedodd, Ha-wŷr frodyr, mi a wasanaethais [Page 480] Dduw mewn pob cydwybod dda, hyd y dydd heddyw.
2 A'r Archoffeiriaid Ananias, a archodd i'r rhai oedd yn sefyll yn ei ymmyl ei daro ef ar ei enau.
3 Yna y dywedodd Paul wrtho, Duw a'th dery in bared wedi ei wyngalchu: canys a ydwyt ti yn eistedd i'm barnu i yn ôl y Ddeddf, a chan droseddu y Ddeddf yn peri fy nharo i?
4 A'r sefyl-wŷr a ddywedasant wrtho, A ddifenwi di Archoffeiriad Duw?
5 A dywedodd Paul, Ni wyddwn i, frodyr, mai yr Arch-offeriad oedd efe: canys scrifennedic yw, Na ddywaid yn ddrwg am bennaeth dy bobl.
6 A phan wybu Paul fod y naill ran o'r Saducæaid, a'r llall o'r Pharisæad, efe a lefodd yn y Cyngor, Hawŷr frodyr, Pharisæaid wyfi, mabi Pharisæad: am obaith ac adgyfodiad y meirw yr ydys yn fy marnu i.
7 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, bu ymryson rhwng y Pharisæaid a'r Saducæaid; a rhannwyd y lliaws.
8 Canys y Saducæaid yn wîr a ddywedant nad oes nac adgyfodiad, nac Angel, nac Yspryd: eithr y Pharisæaid sydd yn addef pôb vn o'r ddau.
9 A bu llefain mawr, A'r Scrifennydion o ran y Pharisæaid a godasant i fynu, ac a ymrysonasant, gan ddywedyd; Nid ydym ni yn cael dim drwg yn y dŷn hwn; eithr os yspryd a lefarodd wrtho, neu Angel, nac ymrysonwn â Duw.
10 Ac wedi cyfodi terfysc mawr, y pen-capten yn ofni rhac tynnu Paul yn ddrylliau ganddynt, a archodd i'r mil-wŷr fyned i wared, a'r gipio ef o'i plith hwynt, a'i ddwyn i'r castell.
11 Yr ail nos, yr Arglwydd a safodd ger llaw iddo, ac a ddywedodd, Paul, cymmer gyssur; canys megis y tystiolaethaist am danafi yn Jerusalem, felly y mae yn rhaid i ti dystiolaethu yn Rhufain hefyd.
12 A phan aeth hi yn ddydd; rhai o'r Iddewon, wedi llunio cyfarfod, a'i rhwymasant eu hunain â diofryd, gan ddywedyd; na fwytaent, ac nad yfent, nes iddynt ladd Paul.
13 Ac yr oedd mwy nâ deugain, o'r rhai a wnaethant y cyngrair hwn.
14 A hwy a ddaethant at yr Arch-offeiriaid â'r Henuriaid, ac a ddywedasant, Ni a'n rhwymasom ein hunain â diofryd, na archwaethem ddim, hyd oni laddem Paul.
15 Yn awr gan hynnny, yspyswch gyd a'r Cyngor i'r pen-capten, fel y dygo efe ef i wared yforu attoch chwi, fel pe byddech ar fedr cael gwybod yn fanylach ei hanes ef, a ninnau cyn y delo efe yn agos, ydym barod iw ladd ef.
16 Eithr pan glybu mab chwaer Paul y cynllwyn ymma; efe a aeth i mewn i'r castell, ac a fynegodd i Paul.
17 A Phaul a alwodd vn o'r Canwriaid atto, ac a ddywedodd; Dwg y gŵr ieuangc hwn at y pen capten; canys y mae ganddo beth iw fynegi iddo.
18 Ac efe a'i cymmerth ef, ac a'i dug at y pen-capten, ac a ddywedodd; Paul y carcharor a'm galwodd i atto, ac a ddymunodd arnaf, ddwyn y gŵr ieuangc ymma attati, yr hwn sydd ganddo beth i'w ddywedyd wrthit.
19 A'r pen-capten a'i cymmerodd ef erbyn ei law, ac a aeth ag ef o'r nailldu, ac a ofynnodd Beth yw yr hyn sydd genit i'w fynegi i mi,
20 Ac efe a ddywedodd, Yr Iddewon a gŷdfwriadasant ddeisyf arnat ddwyn Paul i wared yforu i'r Cyngor, fel pe baent ar fedr ymofyn yn fanylach yn ei gylch ef.
21 Ond na chyttuna di â hwynt; canys y mae yn cynllwyn iddo mwy nâ deugeinŵr o honynt, y rhai a roesant ddiofryd na bwyta nac yfed, nes ei ladd ef: ac yn awr y maent hwy yn barod yn disgwil am addewid gennit ti.
22 Y pen-capten, gan hynny, a ollyngodd y gŵr ieuangc ymmaith, wedi gorchymyn iddo na ddywedei i neb, ddangos o hono y pethau hyn iddo ef.
23 Ac wedi galw atto ryw ddau Ganwriad, efe a ddywedodd, paratowch ddau cant o fil-wyr, i fyned hyd yn Cæsarea, a dêc a thrugain o wŷr meirch, a deu-cant o ffynwewyr, ar y drydedd awr o'r nôs.
24 A pharattowch yscrubliaid iddynt i osod Paul arnynt, i'w ddwyn ef yn ddiogel at Phælix y Rhaglaw.
25 Ac efe a scrifennodd lythyr yn cynnwys yr ystyriaeth ymma.
26 Claudias Lysias at yr arderchoccaf Raglaw Phælix, yn anfon annerch.
27 Y gŵr hwn a ddaliwyd gan yr Iddewon, ac a fu agos a'i ladd ganddynt, ac a achubais i, gan ddyfod a llû arnynt, gwedi deall mai Rhufeiniad oedd.
28 A chan ewyllysio gwybod yr achos yr [Page 483] oeddyn yn achwyn arno, mi a'i dugym ef i wared i'w Cyngor hwynt.
29 Yr hwn y cefais fod yn achwyn arno am arholion o'u cyfraith hwy, heb fod vn cwyn arno yn haeddu angeu neu rwymau.
30 A phan fynegwyd i mi fod yr Iddewon ar fedr cynllwyn i'r gŵr, myfi a'i hanfonais ef allan o law attati: ac a rybuddiais y cyhuddwyr i ddywedyd y pethau oedd yn ei erbyn ef, ger dy fron di. Bydd iach.
31 Yna y milwŷr, megis y gorchymynnasid iddynt, a gymmerasant Paul, ac a'i dygasant o hyd nôs Antipatris.
32 A thrannoeth, gan adel i'r gwŷr meirch fyned gyd ag ef, hwy a ddychwelasant i'r castell.
33 Y rhai gwedi dyfod i Cæsarea a rhoddi y llythyr at y Rhaglaw, a osodasant Paul hefyd ger ei fron ef.
34 Ac wedi i'r Rhaglaw ddarllen [y llythr] ac ymofyn o ba dalaith yr oedd efe, a gwybod mai o Cilicia yr ydoedd,
35 Mi a'th wrandawaf, eb efe, pan ddelo dy gyhuddwyr hefyd. Ac efe a orchymynnodd ei gadw ef yn nadleu dŷ Herod.
PEN. XXIV.
AC yn ôl pum nhiwrnod y daeth Ananias yr Arch offeiriad i wared, a'r Henuriaid, ac vn Tertulus areithiwr, y rhai a ymddangosasant gerbron y Rhaglaw yn erbyn Paul.
2 Ac wedi ei alw ef ger bron, Tertulus a ddechreuodd ei gyhuddo ef, gan ddywedyd,
3 Gan ein bod ni yn cael trwot ti heddwch mawr, a bod pethau llwyddiannus i'r genedl hon trwy dy ragwelediad di, yr ydym ni yn gwbl, ac ym-mhôb man yn eu cydnabod, (o ardderchoccaf Phælix) gyd a phob diolch.
4 Eithr, fel na rwystrwyf di ym-mhellach, yr ydwyf yn deisyf arnat, o'th hynawsedd, wrando arnom ar fyrr eiriau.
5 Oblegid ni a gawsom y gŵr hwn yn blâ, ac yn cyfodi terfysg ym-mysc yr holl Iddewon drwy y byd, ac yn ben ar sect y Nazareniaid.
6 Yr hwn a amcanodd halogi y Deml; yr hwn hefyd a ddaliasom ni, ac a synnasem ei farnu yn ôl ein cyfraith ni.
7 Eithr Lysias y pen-capten a ddaeth, a thrwy orthrech mawr a'i dug ef allan o'n dwylo ni:
8 Ac a archodd iw gyhudd-wŷr ddyfod ger dy fron di, gan yr hwn wrth ei holi, y gelli dy hûn gael gwybodaeth o'r holl bethau am y rhai yr ydym ni yn achwyn arno
9 A'r Iddewon a gydsyniasant hefyd, gan ddywedydd, fôd y pethau hyn felly.
10 A Phaul a attebodd, wedi i'r rhaglaw amneidio arno i ddywedyd, Gan i mi wŷbod dy fod ti yn farn-ŵr i'r genedl hon, er ys llawer o flynyddoedd, yr ydwyf yn fwy cyssurus yn atteb trosof fy hûn.
11 Canys ti a elli wŷbod nad oes tros ddeuddec diwrnod er pan ddaethym i fynu i addoli yn Jerusalem:
12 Ac ni chawsant fi yn y Deml yn ymddadleu â neb, nac yn gwneuthur terfysc i'r bobl, nac yn y Synagogau, nac yn y ddinas.
13 Ac ni allant brofi y pethau y maent yn awr yn achwyn arnaf o'i plegid.
14 Ond hyn yr ydwyf yn ei gyffessu i ti, mai yn ôl y ffordd y maent hwy yn ei galw yn heresi felly yr wyf fi yn addoli Duw fy, nhadau, gan gredu yr holl bethau sy scrifennedic yn ŷ Ddeddf a'r Prophwydi.
15 A chennif obaith ar Dduw, yr hon y mae y rhai hyn eu hunain yn ei disgwyl, y bydd adgyfodiad y meirw, i'r cyfiawnion, ac a'i anghyfiawnion.
16 Ac yn hyn yr ydwyfi fy hûn yn ymarfer, i gael cydwybod ddirwystr tu ag at Dduw a dynion, yn wastadol.
17 Ac yn ôl llawer o flynyddoedd, y daethym i wneuthur elusenau i'm cenedl, ac offrymmau.
18 Ar hynny rhai o'r Iddewon o Asia a'm cawsant i wedi fy nglanhau yn y Deml, nid gyd â thorf na therfysc.
19 Y rhai a ddylasent fôd ger dy fron di ac achwyn, os oedd ganddynt ddim i'm herbyn.
20 Neu dyweded y rhai hyn eu hunain, os cawsant ddim camwedd ynof, tra fûm i yn sefyll o flaen y Cyngor,
21 Oddieithr yr vn llef hon a lefais pan oeddwn yn sefyll yn eu plith, Am adgyfodiad y meirw i'm bernir heddyw gennych.
22 Pan glybu Phælix y pethau hyn, efe a'u hoedodd hwynt, gan wybod yn yspysach y pethau a berthynent i'r ffordd hon, ac a ddywedodd, Pan ddêl Lysias y pen capten i wared, mi a gâf wybod eich matterion chwi yn gwbl.
23 Ac efe a archodd i'r Canwriad gadw Paul, a chael o hono esmwythdra, ac na leisteiriei neb o'r eiddo ef iw wasanaethu, nac i ddyfod atto.
24 Ac yn ôl ralm o ddyddiau, y daeth Phælix gyd â'i wraig Drusilla, yr hon ydoedd Iddewes, ac a yrrodd am Paul, ac a'i gwrandawodd ef ynghylch y ffydd ynghrist.
25 Ac fel yr oedd efe yn ymresymmu am gyfiawnder, a dirwest, a'r farn a sydd; Phælix a ddychrynodd, ac a attebodd; dôs ymaith ar hyn o amser: a phan gaffwyfi amser cyfaddas, mi a alwaf am danat.
26 A chan obeithio hefyd y rhoddid arian iddo gan Paul, er ei ollwng ef yn rhydd: o herwydd pa ham efe a anfonodd am dano yn fynychach, ag a chwedleuodd ag ef.
27 Ac wedi cyflawni dwy flynedd, y daeth Portius Ffestus yn lle Phaelix. A Phælix yn ewyllysio gwneuthur cymmwynas i'r Iddewon, a adawodd Paul yn rhwym.
PEN. XXV.
FFestus, gan hynny, wedi dyfod i'r dalaith, yn ôl tri diwrnod a aeth i fynu i Ierusalem, o Cæsarea.
2 Yna yr ymddangosodd yr Arch-offeiriad a phennaethiaid yr Iddewon, ger eî fron ef, yn erbyn Paul, ac a ymbiliasant ag ef,
3 Gan geisio ffafor yn ei erbyn ef, fel y cyrchei, efe ef i Ierusalem: gan wneuthur cynllwyn i'w ladd ef ar y ffordd.
4 A Ffestus a attebodd, y cedwid Paul yn Cæsarea, ac yr ai efe ei hun yno ar fyrder.
5 Y rhai gan hynny, a allant yn eich mysc, eb efe, deuant i wared gyd â ni, ac od oes dim [drwg] yn y gŵr hwn, cyhuddant ef.
6 A phryd ni thrigasei efe gyd â hwy dros ddêng nhiwrnod, efe a aeth i wared i Cæsarea, a thrannoeth efe a eîsteddodd yn yr orsedd, ac a archodd ddwyn Paul atto.
7 Ac wedi ei ddyfod, yr Iddewon a ddaethent o Ierusalem i wared, a safasant o'i amgylch, ac a ddygasant lawer o achwynion trymion yn erbyn Paul, y rhai ni's gallent eu profi.
8 Ac yntef yn ei amddiffyn ei hûn, Ni phechais i ddim, nac yn erbyn cyfraith yr Iddewon, nac yn erbyn y Deml, nac yn erbyn Cæsar.
9 Eithr Ffestus yn chwennych dangos ffafor i'r Iddewon, a attebodd Paul, ac a ddywedodd, A fynni di fyned i fynu i Ierusalem i'th farnu yno ger fy mron i, am y pethau hyn?
10 A Phaul a ddywedodd; O flaen gorsedd-faingc Cæsar yr wyfi yn sefyll, lle y mae yn rhaid fy marnu; ni wnaethum i ddim cam â'r Iddewon, megis y gwyddost ti yn dda.
11 Canys os ydwyf yn gwneuthur cam, ac [os] gwueuthym ddim yn haeddu angeu, nid wyf yn gwrthod marw: eithr onid oes dim o'r pethau y mae y rhai hyn yn fy nghyhuddo, ni ddichon neb fy rhoddi iddynt. Appeilio yr wyf at Cæsar.
12 Yna Ffestus, wedi ymddiddan â'r Cyngor, a attebodd, A appeliaist di at Cæsar? at Cæsar y cei di fyned.
13 Ac wedi talm o ddyddiau, Agrippa y brenin, a Bernice, a ddaethant i Cæsarea i gyfarch Ffestus.
14 Ac wedi iddynt aros yno lawer o ddyddiau, Ffestus a fynegodd i'r brenin hanes Paul, gan ddywedyd; Y mae [ymma] ryw ŵr wedi ei adel gan Phælix yngharchar:
15 Ynghylch yr hwn, pan oeddwn yn Ierusalem, yr ymddangosodd Arch-offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ger bron, gan ddeisyf cael barn yn ei erbyn ef.
16 I'r rhai yr attebais, nad oedd arfer y Rhufein-wŷr, roddi neb rhyw ddŷn iw ddifetha, nes cael o'r cyhuddol ei gyhudd-wŷr yn ei wyneb, a chael lle iw amddeffyn ei hûn rhag y cwyn.
17 Wedi eu dyfod hwy ymma gan hynny heb wneuthur dim oed, trannoeth mi a eisteddais ar yr orsedd-faingc, ac a orchymmynnais ddwyn y gwr ger bron.
18 Am yr hwn ni ddûg y cyhudd-wŷr [i fynu] ddim achwyn, o'r pethau yr oeddwn i yn tybied.
19 Ond yr oedd ganddynt yn ei erbyn ef, ryw ymofynion ynghylch eu coel-grefydd eu hunain, ac ynghylch vn Iesu a fuasei farw, yr hwn a daerei Paul ei fod yn fyw.
20 A myfi yn anhyspys i ymofyn am hyn, a ddywedais, a fynnei efe fyned i Ierusalem a'i farnu yno am y pethau hyn.
21 Eithr gwedi i Paul appelio i'w gadw i wybyddiaeth Augustus, mi a erchais ei gadw ef hyd oni allwn ei anfon ef at Cæsar.
22 Yna Agrippa a ddywedodd wrth Ffestus, minneu a ewyllysiwn glywed y dŷn. Yntef a ddywedodd, Ti a gei ei glywed ef y fori.
23 Trannoeth, gan hynny; wedi dyfod Agippa, [Page 489] a Bernice, a rhwysc fawr, a myned i mewn i'r orsedd, a'r pen-capteniaid, a phendefigion y ddinas, wrth orchymmyn Ffestus fe a ddugpwyd Paul ger bron.
24 A Ffestus a ddywedodd; O frenin Agrippa, a chwi wŷr oll sydd gyd â ni yn bresennol, chwi a welwch y dŷn hwn, o blegit pa vn y galwodd holl liaws yr Iddewon arnafi, yn Ierusalem ac ymma, gan lefain, na ddylei efe fyw yn hwy.
25 Eithr pan ddeellais na wnaethei efe ddim yn haeddu angeu, ac yntef ei hun wedi appelio at Augustus, mi a fernais ei ddanfon ef.
26 Am yr hwn nid oes gennif ddim siccrwydd iw scrifennu at [fy] Arglwydd; o herwydd pa ham, mi a'i dugym ef ger eich bron chwi, ac yn enwedic ger dy fron di, ô fren in Agrippa, fel wedi ei holi ef, y caffwyf ryw beth i'w scrifennu.
27 Canys allan o reswm y gwelaf fi anfon carcharor, heb yspysu hefyd yr achwynion a fyddo yn ei erbyn ef.
PEN. XXVI.
AC Agrippa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd trosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a'i hamddeffynnodd ei hun.
2 Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, ô frenhin Agrippa, gan fy mod yn cael fy amddeffyn fy hun ger dy fron di heddyw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon.
3 Yn bendifaddeu gan wŷbod dy fod di yn gydnabyddu
4 Fy muchedd i o'm mebyd, yr hon oedd or dechreuad, ym mhlith fy nghenedl yn Ierusalem, a wŷr yr Iddewon oll,
5 Y rhai am hadwaenent i o'r dechreu, (os mynnant dystiolaethu) mai yn ôl y sect fanylaf o'n crefydd ni, y bûm i fyw, yn Pharisæad.
6 Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i'n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i'm barnu.
7 I'r hwn [addewid] y mae ein deuddecllwyth ni, heb dorr yn gwasanaethu [Duw] nôs a dydd, yn gobeithio dyfod; am yr hon obaith yr achwynir arnaf, ô frenin Agrippa, gan yr Iddewon.
8. Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?
9 Minneu, yn wir a dybiais ynof fy hûn, fod yn rhaid [i mi] wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nazareth.
10 Yr hyn hefyd a wneuthym yn Ierusalem; a llawer or Sanct a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr Arch-offeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.
11 Ac ym mhob-Synagog yn fynych mi a'i cospais hwy, ac a'u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a'u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.
12 Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus, ag awdurdod a chennad oddi wrth yr Archoffeiriaid;
13 Ar hanner dydd, ô frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o'r nef, mwy nâ disclairdeb yr haul, yn disclairio o'm hamgylch, a'r rhai oedd yn ymdaith gyd â mi.
14 Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaiar, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthif, ac yn dywedyd yn Hebrae-aec, Saul, Saul, pa ham yr ydwyt yn fy erlid i? caled yw i ti wingo yn erbyn y, swmbylau.
15 Ac mi a ddywedais, Pwy wyti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.
16 Eithr cyfor, a saf ar dy draed, canys i hyn yr ymddangosais i ti, i'th osod ti yn weinidog, ac yn dyst o'r pethau a welaist, ac o'r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt:
17 Gan dy wared di oddi wrth y bobl a'r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron;
18 I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ym-mysc y rhai a sancteiddiwyd trwy y ffyd sydd ynof fi.
19 Am ba achos, ô frenin Agrippa, ni bûm anufydd i'r weledigaeth nefol.
20 Eithr mi a bregethais ir rhai yn Damascus yn gyntaf, ac yn Ierusalem, a thros holl wlad Iudæa, ac i'r Cenhedloedd: ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.
21 O achos y pethau hyn, yr Iddewon a'm daliasant i yn y Deml, ac a geisiasant fy lladd i a'u dwylô [eu hun,]
22 Am hynny wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim [Page 492] amgen nag a a ddywedasei y Prophwydi a Moses, y delent i ben:
23 Y dioddefei Christ, ac y byddei efe yn gyntaf o adgyfodiad y meirw, ac y dangosei oleuni i'r bobl, ac i'r Cenhedloedd.
24 Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef vchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu; llawer o ddysc sydd yn dy yrru di yn ynfyd.
25 Ac efe a ddywedodd, Nyd wyf i yn ynfydu, ô ardderchoccaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd, yr wyfi yn eu hadrodd.
26 Canys y brenin a wŷr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyfi yn llefaru yn hŷf; o herwydd nid wyf yn tybied fôd dim o'r pethau hyn, yn guddiedig rhagddo, oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.
27 Oh frenin Agrippa, A wyt ti yn credu i'r Prophwydi? mi a wn dy fôd yn credu.
28 Ac Agrippa a ddywedodd wrth Paul, yr wyri o fewn ychydig i'm hynnill i fôd yn Gristion.
29 A Phaul a ddywedodd; Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn vnic, ond pawb hefyd ar sydd yn fy ngwrando heddyw, yn gyfryw ac wyfi, ond y rhwymau hyn.
30 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a'r Rhaglaw, a Bernice, a'r rhai oedd yn eistedd gyd â hwynt.
31 Ac wedi iddynt fyned o'r neilltu, hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw 'r dŷn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angeu neu rwymau.
32 Yna y dywedodd Agrippa wrth Festus, fe allasid gollwng y dŷn ymma ymmaith, oni buasei iddo appelio at Cæsar.
PEN. XXVII.
A Phan gyttûnwyd forio o honom ymmaith i'r Ital, hwy a roesant Paul, a rhyw garcharorion eraill, at Ganwriad a'i enw Iulius, o fyddin Augustus.
2 Ac wedi dringo i long o Adramytrium, ar fedr hwylio i dueddau Asia, ni a aethom allan o'r porth-ladd, a chyd â ni yr oedd Aristarcus, Macedoniad o Thessalonica.
3 A thrannoeth ni a ddygpwyd i wared i Sidon, a Iulius a ymddûg yn garedigol tu ac at Paul, ac a roddes iddo gennad i fyned at ei-gyfeillion, i gael ymgeledd.
4 Ac wedi myned oddi yno, ni a hwyliasom tan Cyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus.
5 Ac wedi hwylio o honom tros y môr sydd ger llaw Cilicia a Phamphilia, ni a ddaethom i Myra, [dinas] yn Lycia.
6 Ac yno y Canwriad wedi cael llong o Alexandria, yn hwylio i'r Ital, a'n gosodes ni ynddi.
7 Ac wedi i ni hwylio yn anniben lawer o ddyddiau, a dyfod yn brin ar gyfer Gnidus, am na adawei y gwynt i ni; ni a hwyliasom is law Creta, at gyfer Salmone.
8 Ac wedi i ni yn brin fyned heibio iddo, ni a ddaethom i ryw le a elwir y porthladdoedd prydferth, yr hwn yr oedd dinas Lasæa yn agos iddo.
9 Ac wedi i dalm o amser fyned heibio a bôd [Page 494] morio weithian yn enbyd, o herwydd hefyd ddarfod yr ympryd weithian, Paul a gynghorodd.
10 Gan ddywedyd wrthynt, Ha-wŷr, yr wyf yn gweled y bydd yr hynt hon ynghyd â sarhâed a cholled fawr, nid yn vnic am y llwyth a'r llong, eithr am ein heinioes ni hefyd.
11 Eithr y Canwriad a gredodd i lywydd-ac i berchen y llong, yn fwy nag i'r pethau a ddywedid gan Paul.
12 A chan fôd y porthladd yn angyfleus i aiafu, y rhan fwyaf a roesant gyngor i ymado oddi yno hefyd, os gallent ryw fodd gerhaeddyd hyd Phaenice, i aiafu [yno;] yr hwn sydd borthladd yn Creta, ar gyfer y deau-orllewin, a'r gogleddorllewin.
13 A phan chwythodd y deheu-wynt yn araf, hwynt hwy yn tybied cael eu meddwl, gan godi [hwyliau] a foriasant heibio yn agos i Creta.
14 Ond cyn nemmawr, cyfododd yn ei herbyn hi wynt temhestlog, yr hwn a elwir Euroclydon.
15 A phan gippiwyd y llong, ac heb allu gwrthwynebu y gwynt, ni a ymroesom, ag a ddycpwyd [gyd â'r gwynt.]
16 Ac wedi i ni redeg goris ynys fach, a elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bâd:
17 Yr hwn a godasant i fynu, ac a wnaethant gynnorthwyon, gan wregysu y llong oddi dani a hwy yn ofni rhag syrthio a'r sugn-draeth, wedi gostwng yr hwyl, a dducpwyd felly.
18 A ni yn flin iawn arnom gan y demestl, trannoeth hwy a yscafnhasant y llong.
19 A'r trydydd dydd y bwriasom, â'n dwylo ein hunain, daclau y llong allan.
20 A phan nad oedd na haul na sêr yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymestl nid bychan yn pwyso arnom, pôb gobaith y byddem cadwedic a ddycpwyd oddi arnom o hynny allan.
21 Ac wedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwy, ac a ddywedodd, Ha wyr, chwi a ddylasech wrando arnafi, a bod heb ymadaw o Creta, ac ennill y syrhaed-ymma, a'r golled.
22 Ac yr awr hon yr wŷf yn eich cynghori chwi i fôd yn gyssurus; canys ni bydd colled am einioes [vn] o honoch, ond am y llong yn vnic.
23 Canys safodd yn fy ymyl y nôs hon Angel Duw yr hwn a'm piau, a'r hwn yr wyf yn ei addoli;
24 Gan ddywedyd, Nac ofna Paul, rhaid i ti sefyll ger bron Cæsar, ac wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll sydd yn morio gyd â thi.
25 Am hynny, Ha wyr, cymmerwch gyssur canys yr wyf fi yn credu i Dduw, mai felly y bydd, yn ôl y modd y dywedpwyd i mi.
26 Ond mae yn rhaid ein bwrw ni i ryw ynys.
27 Ac wedi dyfod y bedwaredd nôs ar ddec, fe a ddigwyddodd a ni yn morio yn Adria, ynghylch hanner nôs, dybied o'r morwŷr eu bod yn nessau i ryw wlâd.
28 Ac wedi iddynt blymmio, hwy a'i cawsant yn vgain gwrhyd, ac wedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy a'i cawsant yn bymtheg gwrhyd.
29 Ac a hwy yn ofni rhag i ni syrthio ar leoedd geirwon, wedi iddynt fwrw padair angor allan o'r llyw, hwy a ddeisyfiasant ei myned hi yn ddydd.
30 Ac fel yr oedd y llong-wŷr yn ceisio ffoi allan o'r llong, ac wedi gollwng y bâd i wared i'r môr, yn rhith, bod ar fedr bwrw angorau o'r pen blaen i'r llong,
41 Dywedodd Paul wrth y Canwriad â'r milwŷr, onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fôd yn gadwedig.
32 Yna y torrodd y milwyr raffau y bâd, ac a adawsant iddo syrthio ymmaith.
33 A thra 'r ydoedd hi yn dyddhau, Paul a eiriolodd ar bawb gymmeryd llyniaeth, gan ddywedyd; heddyw yw y pedwerydd dydd a'r ddec yr ydych chwi yn disgwil, ac yn aros ar eich cythlwng, heb gymmeryd dim.
34 O herwydd pa ham, yr ydwyf yn dymuno arnoch gymmeryd llyniaeth, oblegid hyn sydd er iechyd i chwi, canys blewyn i'r vn o honnoch ni syrth oddiar ei ben.
35 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a gymerodd fara, ac a ddiolchodd i Dduw yn eu gwŷdd hwynt oll, ac a'i torrodd, ac a ddechreuodd fwyta.
36 Ac yr oeddynt bawb wedi myned yn gyssurol, a hwy a gymerasant lyniaeth hefyd.
37 Ac yr oeddem yn y llong i gyd, yn ddau cant ac vn ar bymthec a thrugain o eneidiau.
38 Ac wedi eu digoni o lyniaeth, hwy a yscafnhasant y llong, gan fwrw y gwenith allan i'r môr.
39 A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tîr; ond hwy a ganfuant ryw gilfach, a glan iddi, i'r hwn y cynghorasant (os gallent) wthio y llong iddo.
40 Ac wedi iddynt godi yr angorau, hwy a [Page 497] ymollyngasant i'r môr, ac a ollyngasant hefyd yn rhydd rwymau y llyw, ac a godasant yr hwyl i'r gwynt, ac a geisiasant y lan.
41 Ac wedi i ni syrthio ar le deu-for-gyfarfod, hwy a wthiasant y llong, a'r pen blaen iddi a lynodd, ac a safodd yn ddi-yscog, eithr y pen ôl a ymddattododd gan nerth y tonnau.
42 A chyngor y milwyr oedd, lladd y carcharorion, rhag i neb o honynt nofio allan, a diangc ymmaith.
43 Ond y Canwriad yn ewyllysio cadw Paul, a rwystrodd iddynt eu hamcan, ac a archodd i bawb ar a fedrei nofio, ymfwrw yn gyntaf [i'r môr,] a myned allan i'r tîr:
44 Ac i'r lleill, rhai ar ystyllod, ac eraill ar ryw [ddrylliau] o'r llong. Ac felly y digwyddodd dyfod o bawb i dir yn ddiangol.
PEN. XXVIII.
AC wedi iddynt ddiangc, yna y gwybuant mai Melita y gelwid yr ynys.
2 A'r Barbariaid a ddangosasant i ni fwyneidddra nid bychan; oblegid hwy a gynneuasant dân, ac a'n derbyniasant ni oll, o herwydd y gafod gynnyrchiol, ac o herwydd yr oerfel.
3 Ac wedi i Paul gynnull ynghyd lawer o friwydd, a'i dodi ar y tân, gwiber a ddaeth allan o'r gwrês, ac a lynodd wrth ei law ef.
4 A phan welodd y Barbariaid y bwystfil yngrhog wrth ei law ef; hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, yn sicr, llawruddiog yw y dŷn hwn, yr hwn er ei ddiangc o'r môr ni adawodd dialedd iddo fyw.
5 Ac efe a yscydwodd y bwystfil i'r tân, ac ni oddefodd ddim niwed.
6 Ond yr oeddynt hwy yn disgwil iddo ef chwyddo, neu syrthio yn ddisymmwth yn farw. Eithr wedi iddynt hîr ddisgwil, a gweled nad oedd dim niwed yn digwydd iddo, [hwy] a newidiasant eu meddwl, ac a ddywedasant mai Duw oedd efe,
7 Ynghylch y man hwnnw yr oedd tiroedd i bennaeth yr ynys, a'i enw Publius, yr hwn a'n derbyniodd ni, ac a'n lletteuodd dridiau yn garedig.
8 A digwyddodd, fod tâd Publius yn gorwedd yn glâf o gryd a gwaedlif, at yr hwn wedi i Paul fyned i mewn, a gweddio, efe a ddododd ei ddwylo arno ef, ac a'i iachaodd.
9 Felly wedi gwneuthur hyn, y lleill hefyd y rhai oedd a heintiau arnynt yn yr ynys, a ddaethant atto, ac a iachawyd.
10 Y rhai hefyd a'n parchasant ni â llawer o vrddas, a phan oeddym yn ymadel, hwy a'n llwythasant ni â phethau angenrheidiol.
11 Ac wedi tri-mis yr aethom ymmaith mewn llong o Alexandria, yr hon a aifasei yn yr ynys: a'i harwydd hi oedd Castor a Phollux.
12 Ac wedi ein dyfod i Siracusa, ni a drigasom [yno] dridiau.
13 Ac oddiyno wedi myned oddi amgylch ni a ddaethom i Rhegium, ac yn ôl vn diwrnod y deheu-wynt a chwythodd, ac ni a ddaethom yr ail dydd i Puteoli.
14 Lle y cawsom frodyr, ac y dymunwyd arnom aros gyd â hwynt saith niwrnod: ac felly ni a ddaethom i Rufain.
15 Ac oddi yno pan glybu 'r brodyr am danom, hwy a ddaethant i'n cyfarfod ni hyd Appii fforum, a'r tair Tafarn; y rhai pan welodd Paul, efe a ddiolchodd i Dduw, ac a gymmerodd gyssur.
16 Eithr pan ddaethom i Rufain, y Canwriad a roddes y carcharorion at ben-capten y llu: eithr canhiadwyd i Paul aros wrtho ei hûn, gyd â milwr oedd yn ei gadw ef.
17 A digwyddodd yn ôl tridiau, alw o Paul ynghŷd y rhai oedd bennaf o'r Iddewon. Ac wedi iddynt ddyfod ynghŷd, efe a ddywedodd wrthynt, Ha-wŷr frodyr, er na wnaethym i ddym yn erbyn y bobl, na defodau y tadau, etto mi a roddwyd yn garcharor o Ierusalem i ddwylo y Rhufeinwŷr.
18 Y rhai wedi darfod fy holi, a fynnasent fy ngollwng-ymmaith, am nad oedd dim achos angeu ynof.
19 Eithr, am fôd yr Iddewon yn dywedyd yn erbyn hyn, mi a yrrwyd i appelio at Cæsar, nid fel pettei gennif beth i achwyn ar fy nghenedl.
20 Am yr achos hwn, gan hynny, y gelwais am danoch chwi, i'ch gweled, ac i ymddiddan â [chwi:] canys o achos gobaith Israel i'm rhwymwyd i â'r gadwyn hon.
21 A hwythau a ddywedasant wrtho, ni dderbyniasom ni lythyrau o Iudæa yn dy gylch di, ac ni fynegodd, ac ni lefarodd neb o'r brodyr a ddaeth oddi yno, ddim drwg am danat ti.
22 Ond yr ydym ni yn deisyf cael clywed gennit ti beth yr ydwyt yn ei synied, oblegid am y sect hon, y mae yn hyspys i ni fod ymmhôb [Page 500] man yn dywedyd yn ei herbyn.
23 Ac wedi iddynt nodi diwrnod iddo, llawer a ddaeth atto ef, i'w lettŷ, i'r rhai y tystiolaethodd ac yr eglurodd efe deyrnas Dduw, gan gynghori iddynt y pethau am yr Iesu, allan o gyfraith Moses, a'r Prophwydi, o'r boreu hyd yr hwyr.
24 A rhai a gredasant i'r pethau a ddywedasid, a rhai ni chredasant.
25 Ac a hwy yn anghyttûn â'u gilydd, hwy a ymydawsant, wedi i Paul ddywedyd vn gair, mai da y llefarodd yr Yspryd glân trwy Esaias y prophwyd wrth ein tadau ni,
26 Gan ddywedyd, Dôs at y bobl ymma, a dywed, Yn clywed y clywch, ac ni ddeellwch, ac yn gweled y gwelwch, ac ni chanfyddwch.
27 Canys brâs-hawyd calôn y bobl hŷn, a thrwm y clywsant â'u clustiau, a'u llygaid, a gaeasant, rhac iddynt weled a'u llygaid, a chlywed â'u clustiau, a deall â'r galon, a dychwelyd, ac i mi i hiachau hwynt.
28 Bydded hyspys i chwi gan hynny, anfon iechydwriaeth Duw at y Cenhedloedd, a hwy a wrandawant,
29 Ac wedi iddo ddywedyd hyn, ymadawodd yr Iddewon, a chanddynt ddadl mawr yn eu plith.
30 A Phaul a arhoes ddwy flynedd gyfan yn ei dŷ ardrethol ei hûn, ac a dderbyniodd bawb ar oedd yn dyfod i mewn atto.
31 Gan bregethu teyrnas Dduw, ac athrawiaethu y pethau am yr Arglwydd Iesu Grist, gyd â phob hyfder, yn ddiwahardd.
EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT Y RHVFEINIAID.
PENNOD. I.
PAul gwasanaeth'wr Iesu Grist, wedi ei alw i [fod] yn Apostol, ac wedi ei nailltuo i Efengyl Dduw.
2 (Yr hon a rag-addawsei efe, trwy ei Brophwydi, yn yr Scrythurau sanctaidd.)
3 Am ei fâb ef Iesu Grist ein Arglwydd ni, yr hwn a wnaed o hád Dafydd o ran y cnawd,
4 Ac a eglurwyd yn fâb Duw mewn gallu, yn ôl Yspryd sancteiddiad, trwy'r adgofodiad oddi wrth y meirw:
5 Trwy 'r hwn y derbyniasom râs ac apostoliaeth i vfydd-dod ffydd, ym-mhlith yr holl Genhedloedd, er mwyn ei enw ef.
6 Ym-mysc y rhai yr ydych chwithau yn alwedigion Iesu Grist.
7 At bawb sydd yn Rhufain, yn anwyl gan Dduw, wedi eu galw [i fôd] yn Sainct; Gras i chwi a thangneddyf oddiwrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
8 Yn gyntaf yr wyf yn diolch i'm Duw trwy Iesu Grist trosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd.
9 Canys tŷst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu yn fy yspryd, yn Efengyl ei fâb ef, fy mod i yn ddibaid yn gwneuthur coffa o honoch, bob amser yn fy ngweddiau.
10 Gan ddisyf a gawn ryw fôdd, rwy amser bellach, rwydd-hynt gyd ag ewyllys Duw, i ddyfod attoch chwi.
11 Ganys yr wyf yn hiraethu am eich gweled, fel y gallwyf gyfrannu i chwi ryw ddawn Ysprydol, fel i'ch cadarnhaer.
12 A hynny sydd i'm cyd-ymgyssuro ynoch chwi, trwy ffydd ei gilydd; yr eiddoch chwi, a'r eiddof finnau.
13 Eithr ni fynnwn i chwi fôd heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod attoch, (ond fo'm lluddiwyd i hyd yn hyn) fel y cawn ryw ffrwyth ynoch chwi hefyd, megis ac yn y Cenhedloedd eraill.
14 Dyledŵr ydwyf i'r Groegiaid, ac i'r Barbariaid hefyd, i'r doethion, ac a'r annoethion hefyd.
15 Felly, hyd y mae ynofi, parod ydwyf, i bregethu yr Efengyl i chwithau hefyd, y rhai ydych yn Rhufain.
16 Canys nid oes arnaf gywilydd o Efengyl Grist; oblegit gallu Duw yy hi er iechydwriaeth, i bôb vn ar sydd yn credu: i'r Iddew yn gyntaf, a hefyd i'r Groeg-wr.
17 Canys ynddi hi y datcuddir cyfiawnder Duw, o ffydd i ffydd, megis y mae yn scrifennedig, Y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
18 Canys digofaint Duw a ddatcuddiwyd o'r nef, yn erbyn pob annuwioldeb, ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd mewn anghyfiawnder.
19 O herwyd yr hyn a ellir ei ŵybod am Dduw sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a'i heglurodd iddynt.
20 Canys ei anweledig bethau ef, er creaduriaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg; sef ei dragwyddol allu ef, a'i Dduwdod, hyd onid ydynt yn ddiescus.
21 Oblegit a hwy yn adnabod Duw, ni's gogoneddasant ef megis Duw, ac na buant ddiolchgar iddo; eithr ofer fuant yn eu rhesymmau, a'u calon anneallus hwy a dywyllwyd.
22 Pan dybient eu bôd yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid.
23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw, i gyffelybiaeth llun dŷn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwar carnol, ac ymlusciaid.
24 O ba herwydd, Duw hefyd a'u rhoddes hwy i fynu yn nrachwantau eu calonnau, i aflendid, i ammherchi eu cyrph eu hun yn eu plith eu hunain.
25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ag a addolasant, ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na'r creawdr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.
26 Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fynu i wyniau gwarthus: canys eu gwragedd hwy a newidiasant yr arfer anianol, i'r hon sydd yn erbyn anian.
27 Ac yn gyffelyb y gwyr hefyd, gan adel yr arfer naturiol o'r wraig, a ymloscent yn yn hawydd i'w gilydd: y gwyr ynghŷd â gwyr eu gwneuthur brynti; ac yn derbyn ynddynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni, ag ydoedd raid.
28 Ac megis nad oedd gymmeradwy ganddynt gadw Duw yn eu gwybodaeth, Duw a'u rhoddes hwynt i fynu i feddwl anghymmeradwy, i wneuthur y pethau nid oedd weddaidd:
29 Wedi eu llenwi â phob anghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd-dod, drygioni: yn llawn cynfigen, llofruddiaeth, cynnen, twyll, drwganwydau:
30 Yn hustyng-wŷr, yn athrodwŷr, yn gâs ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddychymygwŷr drygioni, yn anufydd i rieni:
31 Yn anneallus, yn dorrwŷr ammod, yn angharedig, yn amgymmodlon, yn annhrugarogion:
32 Y rhai yn gwŷbod cyfiawnder Duw, (fod y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau, yn haeddu marwolaeth) [ydynt] nid yn vnig yn gwneuthur y pethau hyn, eithr hefyd yn cyd ymfodloni â'r rhai sy yn eu gwneuthur hwynt.
PEN. II.
O Herwydd pa ham diescus wyt ti, ô ddyn, pwy bynnag wyt yn barnu: canys yn yr hyn yr wyt yn barnu arall, yr wyt yn dy gondemnio dy hun: canys ti yr hwn wyt yn barnu, wyt yn gwneuthur yr vn pethau.
2 Eithr ni a wyddom fod barn Duw yn ôl gwirionedd, yn erbyn y rhai a wnânt gyfryw bethau.
3 Ac a wyt ti yn tybied hyn, ô ddyn yr hwn wyt yn barnu y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau, a thithau yn gwneuthur [Page 505] yr vn pethau, y diengi di rhag barn Duw?
4 Neu a wyt ti yn diystyru golud ei ddaioni ef, a'i ddioddefgarwch, a'i ymaros, heb wybod fod daioni Duw yn dy dywys di i edifeirwch?
5 Eithr yn ôl dy galedrwydd, a'th galon ddiedifeiriol, wyt yn trysori i ti dy hun ddigofaint, erbyn dydd y digofaint, a dadcuddiad cyfiawn farn Duw.
6 Yr hwn a dâl i bob vn yn ôl ei weithredoedd.
7 [Sef] i'r rhai trwy barhâu yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ac anrhydedd, ac anllygredigaeth, bywyd tragwyddol:
8 Eithr i'r rhai sy gynhennus, ac anufydd i'r gwirionedd, eîthr yn vfydd i anghyfiawnder, [y bydd] llid, a digofaint.
9 Trallod, ac ing, ar bôb enaid dŷn sydd yn gwneuthur drwg; yr Iddew yn gyntaf, a'r Grocgwr hefyd.
10 Eithr gogoniant, ac anrhydedd, a thang neddyf, i bôb vn ffydd yn gwneuthur daioni; i'r Iddew yn gyntaf, ac i'r Groegwr hefyd.
11 Canys nid oes derbyn wyneb ger bron Duw.
12 Oblegid cynnifer ac a bechasant yn ddiddeddf, a gyfrgollir hefyd yn ddiddeddf. A chynnifer ac a bechasant yn y Ddeddf, a fernir wrth y Ddeddf.
13 Canys nid gwranda-wŷr y Ddeddf [fydd] gyfiawn ger bron Duw, ond gwneuthur-wŷr [Page 506] y Ddeddf a gyfiawnheir.
14 Canys pan yw'r Cenhedloedd y rhai nid yw [y] Ddeddf ganddynt, wrth naturiaeth yn gwneuthur y pethau sydd yn y Ddeddf, y rhai hyn heb fod y Ddeddf ganddynt, ydynt ddeddf iddynt eu hunain.
15 Y rhai sydd yn dangos gweithred y Ddeddf yn scrifennedig yn eu calonnau, a'u cydwybod yn cyd-tystiolaethu, a'u meddyliau yn cyhuddo ei gilydd, neu yn escusodi.
16 Yn y dydd y barno Duw ddirgeloedd dynion, yn ol fy Efengyl i, trwy Iesu Grist.
17 Wele, Iddew i'th elwir di, ac yr wyt yn gorphwys yn y Ddeddf, ac yn gorfoleddu yn-Nuw.
18 Ac yn gŵybod ei ewyllys ef, ac yn darbod pethau rhagorol, gan fôd wedi dy addyscu o'r Ddeddf.
19 Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i'r deillion, yn llewyrch i'r rhai sydd mewn tywyllwch.
20 Yn athro i'r anghall, yn ddyscawdr i'r rhai bach, a chennit ffurf y gwybodaeth, a'r gwirionedd yn y Ddeddf.
21 Tydi, gan hynny, yr hwn wyt yn addyscu arall, oni'th ddysci dy hun? Yr hwn wyt yn pregethu, Na ladrattêr; a ladretti di?
22 Yr hwn wyt yn dywedyd, Na odineber; a odinebi di? yr hwn wyt yn ffieiddio delwau, a gyssegr-yspeili di?
23 Yr hwn wyt yn gorfoleddu yn y Ddeddf, drwy dorri y Ddeddf a ddianrhydeddi di Dduw,
24 Canys Enw Duw o'ch plegid chwi a geblir ym-mlith y Cenhedloedd; megis y mae yn scrifennedig.
25 Canys Enwaediad yr wir a wna lês, os cedwi y Ddeddf: eithr os trosseddwr y Ddeddf ydwyt, aeth dy Enwaediad yn ddienwaediad.
26 Os dienwaediad gan hynny a geidw gyfiawnderau y Ddeddf, oni chyfrifir ei ddienwaediad ef yn enwaediad?
27 Ac oni bydd i'r dienwaediad, yr hwn sydd o naturiaeth (os ceidw y Ddeddf) dy farnu di, yr hwn wrth y llythyren, a'r enwaediad, wyt yn troseddu y Ddeddf?
28 Canys nid yr hwn [sydd] yn yr amlwg, sydd Iddew: ac nid Enwaediad [yw] yr hyn sydd yn yr amlwg, yn y cnawd.
29 Eithr yr hwn sydd yn y dirgel sydd Iddew, ac enwaediad y galon sydd yn yr yspryd, nid yn y llythyren: yr hwn [y mae] ei glod nid o ddynion, ond o Dduw.
PEN. III.
PA ragoriaeth, gan hynny, sydd i'r Iddew? neu pa fudd sydd o'r Enwaediad?
2 Llawer ym mhôb rhyw fodd. Yn gyntaf o herwydd darfod ymddiried yddynt hwy am ymadroddion Duw.
3 Oblegit beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?
4 Na atto Duw. Eithr bydded Duw yn eirwîr, a phob dŷn yn gelwyddog: megis yr scrifennwyd, fel i'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan i'th farner.
5 Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn [Page 508] canmoll cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dŷn yr wyf yn dywedyd.)
6 Na atto Duw. Canys wrth hynny, pa fodd y barna Duw y byd?
7 Canys os bu gwirionedd Duw drwy fy nghélwydd i, yn helaethach i'w ogoniant ef, pa ham i'm bernir inneu etto megis pechadur?
8 Ac nid (megis i'n ceblir, ac megis y dywed rhaî ein bôd yn dywedyd) gwnawn ddrwg fel y dêl daioni; y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
9 Beth gan hynny? A ydym ni fwy rhagorol? Nac [ydym] ddim. Canys ni a brofasom o'r blaen fôd pawb, yr Iddewon, ar Groegwŷr, tan bechod,
10 Megis y mae yn scrifennedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes vn.
11 Nid oes [neb] yn deall; nid oes [neb] yn ceisio Duw.
12 Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes vn yn gwneuthur daioni, nac oes vn.
13 Bedd agored yw eu cêg; â'u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn aspiaid sydd tan eu gwefusau.
14 Y rhai y mae eu genau yn llawn melldith a chwerwedd.
15 Buan yw eu traed i dywallt gwaed.
16 Destryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:
17 A ffordd tangneddyf nid adnabuant.
18 Nid oes ofn Duw ger bron eu llygaid.
19 Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag [Page 509] y mae y Ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sy tan Ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y cauer pob genau, ac y byddo yr holl fyd tan farn Duw.
20 Am hynny trwy weithredoedd y Ddeddf ni chyfiawnheir vn cnawd yn ei olwg ef; canys trwy y Ddeddf [y mae] adnabod pechod.
21 Ac yr awr hon yr eglurwyd cyfiawnder Duw heb y Ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y Ddeddf a'r Prophwydi.
22 Sef cyfiawnder Duw, yr hon sydd trwy ffydd Iesu Grist i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth.
23 Oblegit pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am o goniant Duw.
24 A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei râs ef, trwy 'r prynedigaeth sydd yn Ghrist Iesu:
25 Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw:
26 I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hyn, fel y byddei efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.
27 Pa le gan hynny [y mae] yr gorfoledd? Ef a gaewyd allan. Trwy ba Ddeddf? Ai [Ddeddf] gweithredoedd? nag ê, eithr trwy Ddeddf ffydd.
28 Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dŷn, heb weithredoedd y Ddeddf.
29 Ai i'r Iddewon y mae efe yn Dduw yn vnig? Onid yw i'r Cenhedloedd hefyd? yn wir [y mae efe.]
30 Gan mai vn Duw [sydd,] yr hwn a gyfiawnhâ yr Enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.
31 Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y Ddeddf yn ddirym trwy ffydd? Na atto Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau y Ddeddf.
PEN. IIII.
PA beth, gan hynny, a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tâd ni ei gael, yn ôl y cnawd?
2 Canys os Abraham a gyfiawnhwyd trwy weithredoedd y mae iddo orfoledd, eithr nid ger bron Duw.
3 Ganys pa beth a ddywed yr Scrythur? Credodd Abraham i Duw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder
4 Eithr i'r neb sydd yn gweithio, ni chyfrifir y gwobr o râs, onid o ddyled.
5 Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, onid yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
6 Megis y mae Dafydd hefyd yn datcan dedwyddwch y dŷn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, [gan ddywedyd,]
7 Dedwydd [yw] y rhai y maddeuwyd eu hanwireddau, a'r rhai y cuddiwyd eu pechodau.
8 Dedwydd [yw] y gŵr nid yw yr Arglwydd yn cyfrif pechod iddo.
9 A [ddaeth] y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr Enwaediad [yn vnig,] ynteu ar y dienwediad hefyd? Canys yr ydym yn dywedyd [ddarfod] cyfrif ffydd i Abraham yn gyfrawnder.
10 Pa fodd gan hynny y cyfrifwyd hi? Ai pan oedd yn yr Enwaediad, ynteu yn y dienwaediad? Nid yn yr Enwaediad, ond yn y dienwaediad.
11 Ac efe a gymmerth arwydd yr Enwaediad yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon [oedd ganddo] yn y dienwaediad, fel y byddei efe yn dâd pawb a gredent yn y dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:
12 Ac 'yn dâd yr Enwaediad, nid i'r rhai o'r Enwaediad yn vnig, onid i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tâd ni, yr hon oedd [ganddo] yn y dienwaediad.
13 Canys nid trwy y Ddeddf [y daeth] yr addewid i Abraham, neu iw had, y byddei ef yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
14 Canys os y rhai sydd or Ddeddf, yw'r etifeddion, gwnaed ffydd yn ofer, a'r addewid yn ddirym.
15 Oblegit y mae y Ddeddf, yn peri digofaint, canys lle nid oes Deddf, nid oes ganwedd.
16 Am hynny o ffydd [y mae,] fel [y byddei] yn ôl grâs, fel y byddei yr addewid yn siccr i'r holl hâd: nid yn vnig i'r hwn sydd o'r Ddeddf; onid hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll,
17 (Megis y mae yn scrifennedig, Mi a'th wnaethym yn dâd llawer o Genhedloedd) ger bron y neb y credodd efe iddo, [sef] Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac sydd yn galw y pethau nid ydynt, fel pe byddent:
18 Yr hwn yn erbyn gobaith, a gredodd tan obaith, fel y byddei efe yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ôl yr hyn a ddywedasid felly y bydd dy had di
19 Ac efe yn ddie gwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorph ei hun, [yr hwn oedd] yr awron wedi marw eiddio, ac ef ynghylch can-mlwydd oed na marw-eidd-dra bru Sara.
20 Ac nid amheuodd efe addewid Duw drwy ang-rhediniaeth, eithr efe a nerthwyd yn y ffydd, gan roddi gogoniant i Dduw.
21 Ag yn gwbl siccr ganddo, am yr hyn a addawsei [efe,] ei fod ef yn abl i'w wneuthur hefyd
22 Ac am hynny y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
23 Eithr nid scrifennwyd hynny er ei fwyn ef yn vnig, ddarfod ei gyfrif iddo,
24 Ond er ein mwyn ninnau hefyd, i'r rhai y cyfrifir, y rhai ydym yn credu yn yr hwn a gyfodes Iesu ein Harglwydd ni o feirw.
25 Yr hwn a draddodwyd tros ein pechodau ni, ac a gyfodwyd i'n cyfiawnhau ni.
PEN. V.
AM hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tu ag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
2 Trwy yr hwn hefyd y cawsom ddyfodfa trwy ffydd, i'r grâs hyn, yn yr hwn yr ydym yn sefyll, ac yn gorfoleddu tan obaith gogoniant Duw.
3 Ac nid [felly] yn vnig, eithr yr ydym yn gorfoleddu mewn gorthrymderau, gan wybod fod gorthrymder yn peri dioddefgarwch:
4 A dioddefgarwch brofiad, a phrofiad obaith:
5 A gobaith ni chywilyddia, am fod cariad Duw wedi ei dywallt yn ein calonnau ni, trwy yr Yspryd glân, yr hwn a roddwyd i ni.
6 Canys Christ, pan oeddym ni etto yn weiniaid, mewn pryd, a fu farw dros yr anuwiol.
7 Oblegid braidd y, bydd neb farw dros vn cyfiawn, oblegid dros y da ys-gatfydd fe feiddiai vn farw hefyd.
8 Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tu ag attom, oblegid, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.
9 Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, i'n achubir rhag digofaint trwyddo ef.
10 Canys os pan oeddym yn elynion, i'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei fâb ef, mwy o lawer wedi ein heddychu, i'n achubir trwy ei fywyd ef.
11 Ac nid [hynny] yn vnig, eithr gorfoleddu [yr ydym] hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr-hon y derbyniasom y cymmod.
12 Am hynny, megis trwy vn dŷn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod, ac felly yr aeth marwolaeth ar bôb dyn, yn gymmaint a phechu o bawb.
13 Canys hyd y Ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes Ddeddf
14 Eithr teyrnasodd marwolaedd, o Adda hyd Moses, îe arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffellybiaeth canwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr vn oedd ar ddyfod.
15 Eithr nid megis y camwedd, felly y mae y dawn hefyd; canys os trwy gamwed vn y bu feirw l'awr, mwy o lawer yr amlhaodd grâs Duw, a'r dawn trwy râs yr vn dŷn Iesu Grist, i laweroedd.
16 Ac nid megis [y bu] drwy vn a bechodd, [y mae] 'r dawn; canys y farn a ddaeth o vn [camwedd] i gondemniad, eithr y dawn [sydd] o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.
17 Canys os trwy gamwedd vn y teyrnasodd marwolaeth trwy vn, mwy o lawer y caiff y rhai sydd [Page 514] yn derbyn lluosogrwyd o râs, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy vn Iesu Grist.
18 Felly gan hynny, megis trwy gamwedd vn [y daeth barn] ar bôb dŷn i gondemniad, felly hefyd trwy gyfiawnder vn [y daeth y dawn] ar bob dŷn i gyfianhâd bywyd.
19 Oblegit megis trwy anufydd-dod vn dŷn, y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid: felly trwy vfydd dod vn, y gwneir llawer yn gyfiawn.
20 Eithr y Ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhaai y camwedd: eithr lle 'r amlhaodd y pechod, y rhagor-amlhaodd grâs.
21 Fel megis y teyrnassodd pecod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasei grâs trwy gyfiawnder, i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd
PEN. VI.
BEth wrth hynny a ddywedwd ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao grâs?
2 Na atto Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn fyw etto ynddo ef?
3 Oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ac a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i'w farwolaeth ef?
4 Claddwydd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ac y cyfodwyd Christ o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd-deb-buchedd.
5 Canys os gwnaed ni yn gyd-blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn [i gyffelybiaeth ei] adgyfodiad [ef.]
6 Gan wŷbod hyn, ddarfod croes hoelio ein hên ddŷn ni gyd ag ef, er mwyn dirymmu corph pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod.
7 Canys y mae yr hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod.
8 Ac os buom feirw gyd â Christ, yr ydym ai yn credu y byddwn fyw hefyd gyd ag ef.
9 Gan wŷbod nad yw Christ yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach, nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach.
10 Canys fel y bu efe farw, a fu farw vnwaith i bechod: ac fel [y mae yn] byw, byw y mae i Dduw.
11 Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod, eithr yn fyw i Dduw, yn-Ghrist Iesu ein Harglwydd.
12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corph marwol, i vfyddhau o honoch iddo yn ei chwantau,
13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o ferw yn fyw a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, oblegid nid ydych chwi tan y Ddeddf, eithr tan râs.
15 Beth wrth hynny? A bechwn ni o herwydd nad ydym tan y Ddeddf eithr tan râs? Na atto Duw
16 Oni wŷddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i vfyddhau iddo, eich bod yn weision i'r hwn yr ydych yn vfydhau iddo, pa vn bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i vfydd-dod i gyfiawnder.
17 Ond i Dduw y bo 'r diolch, eich bod chwi [gynt] yn weision i bechod, eithr vfyddhau o honoch o'r galon ir ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi.
18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a'ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.
19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ac y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon, rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfawnder, i sancteiddrwydd.
20 Canys pan oeddych yn weision pechod, rhyddion oeddych oddiwrth gyfiawnder.
21 Pa ffrwyth, gan hynny, oedd i chwi y pryd hynny o'r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o'u plegid: canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth,
22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol.
23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth: eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
PEN. VII.
ONi wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sy'n gwybod y Ddeddf yr wyf yn dywedyd) sod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddŷn tra fyddo efe byw.
2 Canys y wraig y mae iddi ŵr, sydd yn rhwym wrth y Ddeddf i'r gŵr, tra fyddo efe byw: ond o bydd marw y gŵr, hi a ryddhawyd oddi wrth ddeddf y gŵr.
3 Ac felly, os a'r gŵr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gŵr arall, hi a elwir yn odinebus: eithr os marw fyd ei gŵr hi, y mae hi yn rhydd oddi wrth y ddeddf, [Page 517] fel nad yw hi odinebus, er bod yn eiddo gwr arall
4 Ac felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i'r Ddeddf trwy gorph Christ, fel y byddech eiddo vn arall, [sef] eiddo yr hwn a gyfodwyd o feirw, fel y dygem ffrwyth i Dduw.
5 Canys pan oeddym yn y cnawd, gwyniau pechodau, y rhai oedd trwy 'r Ddeddf, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth.
6 Eithr yn awr y rhyddhawydd ni oddi wrth y Ddeddf, wedi ein meirw i'r peth i'n attelid, fel y gwasanaethym mewn newyd-deb yspryd, ac nid yn hender y llythyren.
7 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? Ai pechod yw'r Ddeddf? Na atto Duw. Eithr nid adnabûm i bechod, ond wrth y Ddeddf. Canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o'r Ddeddf, Na thrachwanta.
8 Eithr pechod wedi cymmeryd achlysur drwy'r gorchymmyn, a weithiodd ynofi bôb trachwant.
9 Canys heb y Ddeddf, marw [oedd] bechod. Eithr yr oeddwn i gynt yn fyw heb y Ddeddf, ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minneu a fûm farw.
10 A'r gorchymyn yr hwn [ydoedd] i fywyd, hwnnw a gaed i mi i farwolaeth.
11 Canys pechod, wedi cymmeryd achlysur trwy 'r gorchymmyn, am twyllodd i, a thrwy hwnnw am lladdodd.
12 Felly yn wîr, [y mae] 'r Ddeddf yn sanctaidd, a'r gorchymmyn yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda.
13 Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd [Page 516] [...] [Page 517] [...] [Page 518] dda, yn farwolaeth i mi? Ni atto Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosei yn bechod, gan weithio marwolaeth ynofi, drwy'r hyn sydd dda, fel y byddei pechod drwy 'r gorchymmyn yn dra phechadurus.
14 Canys ni a wyddom fod y Ddeddf yn ysprydol, eithr myfi sydd gnawdol, wedi fy ngwerthu tan bechod.
15 Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, eid yw fodlon gennif. Canys nid y peth yr wyf yn ei ewyllysio, hynny yn wyf ei wneuthur, eithr y peth sydd gâs gennif, hyn yr ydwyf yn ei wneuthur.
16 Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, hynny yr wyf yn ei wneuthur, yr wyfi yn cyd-synio â'r Ddeddf, mai da ydyw.
17 Felly yr awron, nid myfi sydd mwy yn gwneuthur hynny, eithr y pechod yr hwn sydd yn trigo ynofi.
18 Canys mi a wn nad oes ynofi, hynny yw yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo: oblegit yr ewyllysio sydd barod gennif; eithr cwplau yr hyn sydd dda, nid wyf yn medru arno.
19 Canys nid wyf yn gwneuthur y peth da yr wyf yn ei ewyllisio, ond y drwg, yr hwn nid wyf yn ei ewyllisio, hynny yr wyf yn ei wneuthur.
20 Ac os ydwyfi yn gwneuthur y peth nid wyf yn ei ewyllysio nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond y pechod sydd yn trigo ynofi.
21 Yr ydwyfi gan hynny, yn cael deddf, a mi yn ewyllysio gwneuthur da, fôd drwg yn bresennol gydâ mi.
22 Canys ymhyfrydu yr wyf ynghyfraith Dduw yn ôl y dyn oddi mewn.
23 Eithr yr wyf yn gweled deddf arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn deddf fy meddwl, ac yn fynghaethiwo i ddeddf pechod, yr hon sydd yn fy aelodau.
24 Ys truan o ddŷn wyfi: pwy am gwared oddiwrth gorph y farwolaeth hon?
25 Yr wyfi yn diolch i Dduw trwy Iesu Grist ein Harglwydd. Felly, gan hynny, yr wyfi fy hun â'r meddwl yn gwasanaethu Cyfraith Dduw, ond â'r cnawd cyfraith pechod.
PEN. VIII.
NId oes gan hynny, yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sy yn Ghrist Iesu, y rhai sydd yn rhodio, nid yn ôl y cnawd, eithr yn ôl yr yspryd.
2 Ganys deddf yspryd y bywyd yn Ghrist Iesu, a'm rhyddhaodd i oddi wrth ddeddf pechod a marwolaeth.
3 Ganys yr hyn ni allai y Ddeddf o herwydd ei bôd yn wan drwy'r cnawd, Duw a ddanfonodd ei fâb ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, ac am bechod a gondemnodd bechod yn y cnawd.
4 Fel y cyflawnid cyfiawnder y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ôl yn cnawd, eithr yn ôl yr yspryd.
5 Canys y rhai sydd yn ôl y cnawd, am bethau 'r cnawd y maent yn syniaw: eithr y rhai sy yn ôl yr yspryd, am bethau yr yspryd.
6 Canys syniad y cnawd, marwolaeth yw, a syniad yr yspryd, bywyd a thangneddyf yw.
7 Oblegid synniad y cnawd [sydd] elyniaeth yn erbyn Duw; canys nid yw ddarostyngedic i Ddeddf Duw: oblegid ni's gall chwaith.
8 A'r rhai sydd yn y cnawd, ni allant ryngu bodd Duw.
9 Eithr chwy-chwi nid ydych yn y cnawd, ond yn yr yspryd; od yw Yspryd Duw yn trigo ynoch. Ac od oes neb heb Yspryd Christ ganddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef.
10 Ac os yw Christ ynoch, y mae 'r corph yn farw o herwydd pechod: eithr yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder.
11 Ac os Yspryd yr hwn a gyfododd Iesu o feirw, sydd yn trigo ynoch; yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywoccâ hefyd eich corph marwol chwi, trwy ei Yspryd, yr hwn sydd yn trigo ynoch
12 Am hynny, frodyr, dyled-wyr ydym, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd.
13 Canys os byw yr ydych yn ôl y cnawd meirw fyddwch; eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y corph trwy 'r Yspryd, byw fyddwch.
14 Canys y sawl a arweinir gan Yspryd Duw, y rhai hyn sydd blant i Dduw.
15 Canys ni dderbyniasoch yspryd caethiwed drachefn i [beri] ofn; eithr derbyniasoch yspryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd.
16 Y mae yr Yspryd hwn yn cyd-tystiolaethu â'n hyspryd ni, ein bod ni yn blant i Dduw.
17 Ac os plant, etifeddion hefyd, sef etifeddion i Dduw, a chyd-etifeddion â Christ; os ydym yn cyd-ddioddef [gydag ef,] fel i'n cydogonedder hefyd.
18 Oblegid yr ydwyf yn cyfrif nad yw dioddefiadu yr amser presennol hwn, yn haeddu [eu cyffelybu] i'r gogoniant a ddatcuddir i ni.
19 Canys awydd-fryd y creadur sydd yn disgwil am ddadcuddiad meibion Duw.
20 Canys y creadur sydd wedi ei ddarostwng i oferedd, nid o'i fodd, eithr oblegit yr hwn a'i darostyngodd.
21 Tan obaith y rhyddheir y creadur ynteu hefyd, o gaethiwed llygredigaeth, i rydd-did gogoniant plant Duw.
22 Canys ni a wyddom fod pôb creadur yn cyd ocheneidio, ac yn cyd-ofidio hyd y pryd hyn.
23 Ac nid yn vnic y [creadur,] ond ninnau hefyd, y rhai sydd gennym flaen ffrwyth yr Yspryd; yr ydym ninnau ein hunain hefyd yn ocheneidio ynom ein hunain, gan ddisgwil y mabwysiad, [sef] prynedigaeth ein corph.
24 Canys trwy obaith i'n hiachawyd: eithr y gobaith a welir, nid yw obaith: oblegid y peth y mae vn yn ei weled, i ba beth y mae etto yn ei obeithio?
25 Ond os ydym ni yn gobeithio yr hyn nid ŷm yn ei weled, yr ydym trwy amynedd yn disgwil amdano.
26 A'r vn ffunyd y mae'r Yspryd hefyd yn cynnorthwyo ein gwendid ni. Canys ni wyddom ni beth a weddiom, megis y dylem, eithr y mae 'r Yspryd ei hun yn erfyn trosom ni, ag ocheneidiau annhraethadwy.
27 A'r hwn sydd yn chwilio y calonnau, a wŷr beth yw meddwl yr Yspryd; canys y mae efe yn ôl [ewyllys] Duw yn erfyn tros y Sainct.
28 Ac ni a wyddom fod pôb peth yn cydweithio er daioni, i'r rhai sy yn caru Duw, [sef] i'r rhai sydd wedi eu galw yn ôl ei arfaeth ef.
29 Oblegid y rhai a ragwŷbu, a ragluniodd efe hefyd, i fod yn vn ffurf â delw ei fâb ef, fel y byddei efe yn gyntaf-anedig ymmhlith brodyr lawer.
30 A'r rhai a ragluniodd efe, y rhai hynny hefyd a alwodd efe; a'r rhai a alwodd efe; y rhai hynny hefyd a gyfiawnhaodd efe; a'r rhai gyfiawnhaodd efe, y rhai hynny hefyd a ogoneddodd efe.
31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? os [yw] Duw trosom; pwy [all fod] i'n herbyn?
32 Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gyd ag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth?
33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? [yw] 'r hwn sydd yn cyfiawnhau:
34 Pwy yw 'r hwn sydd yn damnio? Christ yw'r hwn a fu farw îe yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd: yr hwn hefyd sydd ar ddeheu-law Duw; yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni.
35 Pwy a'n gwahana ni oddi wrth gariad, Christ? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni neu enbydrwydd, neu gleddyf?
36 Megis y mae yn scrifennedig, Er dy fwyndi yr ydys yn ein lladd ni ar hŷd y dydd, cyfrifwyd ni fel defaid i'r lladdfa.
37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy nâ chwncwer-wyr trwy 'r hwn a'n carodd ni.
38 Canys mae yn ddiogel gennif na all nac angeu, nac einioes, nac Angelion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod,
39 Nac vchder, na dyfnder, nac vn creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Ghrist Iesu ein Harglwydd.
PEN. IX.
Y Gwirionedd yr wyfi yn ei ddywedyd yn Ghrist nid wyf yn dywedyd celwydd, am cydwybod hefyd yn cyd testiolaethu â mi, yn yr Yspryd glân
2 Fod i mi dristyd mawr, a gofid dibaid i'm calon.
3. Canys mi a ddymunwn fy mod fy hun yn anathema oddi wrth Grist, dros fy mrodyr, sef fy nghenedl yn ôl y cnawd:
4 Y rhai sydd Israelaid; eiddo y rhai yw y mabwysiad, a'r gogoniant, a'r cyfammodau, a dodiad y Ddeddf, a'r gwasanaeth, a'r addewidion:
5 Eiddo y rhai yw 'r tadau, ac o'r rhai [yr hanoedd] Christ yn ôl y cnawd, yr hwn sydd vwch-law pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesodd. Amen.
6 Eithr nid possibl yw myned gair Duw yn ddirym: canys nid Israel yw pawb ac sydd o Israel
7 Ac nid ydynt, oblegid eu bod yn hâd Abraham, i gŷd yn blant: eithr yn Isaac y gelwir i [...]i hâd.
8 Hynny ydyw, nid plant y cnawd, y rhai hynny sy blant i Dduw; eithr plant yr addewid a gyfrifir yn hâd.
9 Canys gair yr addewid yw hwn, Ar yr amser hwn y deuaf, a bydd mâb i Sara.
10 Ac nid hyn yn vnig, eithr Rebecca hefyd, wedi iddi feichiogi o vn, [sef] o'n Tâd Isaac,
11 Canys cyn geni [y plant] etto, na gwneuthur o honynt dda na drwg, fel y byddei i'r arfaeth [Page 524] yn ôl etholedigaeth Duw sefyll, nid o weithredoedd, eithr o'r hwn sydd yn galw,
12 Y dywedwyd wrthi, Yr hynaf a wasaenaetha yr ieuangaf.
13 Megis yr scrifennwyd, Iacob a gerais, eithr Esau a gaseais.
14 Beth gan hynny a ddywedwn ni? a oes anghyfiawnder gyd â Duw? Na atto Duw.
15 Canys y mae yn dywedyd wrth Moses, Mi a a drugarhâs wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf.
16 Felly gan hynny, nid o'r hwn sydd yn ewyllysio y mae, nac o'r hwn sydd yn rhedeg chwaith, ond o Dduw, yr hwn sydd yn trugarhau.
17 Canys y mae yr Scrythur yn dywedyd wrth Pharao, I hyn ymma i'th gyfodais di, fel y dangoswn fy ngallu ynot ti, ac fel y datcenid fy Enw trwy 'r holl ddaiar.
18 Felly gan hynny, y nêb y mynno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y mynno y mae efe yn ei galedu.
19 Ti a ddywedi gan hynny wrthif, Pa ham y mae efe etto yn beio? canys pwy a wrthwynebodd ei ewyllys ef?
20 Yn hytrarch, ô ddŷn, pwy wyt ti yr hwn a ddadleui yn erbyn Duw? A ddywed y peth ffurfiedic, wrth yr hwn a'i ffurfiodd, Pa ham i'm gwnaethost fel hyn?
21 Onid oes awdurdod i'r crochenydd ar y priddgist, i wneuthur o'r vn telpyn pridd, llestr i barch, ac arall i amharch?
22 [Beth] os Duw yn ewyllysio dangos ei ddigofaint, a pheri adnabod ei allu, a oddefodd [Page 525] drwy hir-ymaros, lestri digofaint, wedi eu cymhwyso i golledigaeth:
23 Ac i beri gwybod golud ei ogoniant a'r lestri trugaredd, y rhai a rag-baratoodd, efe i ogoniant?
24 [Sef] nyni y rhai a alwodd efe, nid o'r Iddewon yn vnig, eithr hefyd or Cenhedloedd.
25 Megis hefyd y mae efe yn dywedyd yn Hosea, Mi alwaf yr hwn nid yw bobl i mi, yn bobl i mi: a'r hon nid yw anwyl yn anwyl.
26 A bydd yn y fangre lle y dywedwyd wrthynt, nid fy mhobl i [ydych] chwi, yno y gelwir hwy yn feibion i'r Duw byw.
27 Hefyd, y mae Esaias yn llefain am yr Israel, cyd byddei nifer meibion Israel fel tywod y môr, gweddill a achubir.
28 Canys [efe] a orphen, ac a gwttoga y gwaith mewn cyfiawnder: oblegid byrr waith a wna yr Arglwydd ar y ddaiar.
20 Ac megis y dywedodd Esaias yn y blaen, Oni buasei i Arglwydd y Sabbath adel i ni hâd, megis Sodoma y buasem, a gwneuthid ni yn gyffelyb i Gomorra.
30 Beth gan hynny a ddywedwn ni? bod y Cenhedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, [sef] y cyfiawnder [sydd] o ffydd?
31 Ac Israel yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd Deddf cyfiawnder.
32 Pa ham? am nad [oeddynt yn ei cheisio] trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y Ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd,
33 Megis y mae yn scrifennidig: wele fi yn gosod yn Sion faen tramgwydd, a chraig rhwystr, a phôb vn a gredo ynddo ni chywilyddir.
PEN. X.
OH frodyr, gwir-ewyllys fynghalon, a'm gweddi ar Dduw dros yr Israel, sydd er iechydwriaeth.
2 Canys yr wyfi yn dyst iddynt, fod ganddynt zêl Duw, eithr nid ar ôl gwybodaeth.
3 Canys hwynt hwy heb wŷbod cyfiawnder Duw, ac yn ceisio gosod eu cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.
4 Canys Christ yw diwedd y Ddeddf, er cyfiawnder i bôb vn sy'n credu.
5 Canys y mae Moses yn scrifennu [am] y cyfiawnder sydd o'r Ddeddf, mai 'r dŷn a wnêl y pethau hynny a fydd byw trwyddynt.
6 Either y mae y cyfiawnder sydd o ffydd yn dywedyd fel hyn, Na ddywed yn dy galon, pwy a escyn i'r nêf? hynny yw dwŷn Christ i wared [oddi vchod.]
7 Neu pwy a ddescyn i'r dyfnder? hynny yw dwyn Christ drachefn i fynu oddi wrth y meirw.
8 Eithr pa beth y mae efe yn ei ddywedyd? Mae 'r gair yn agos attat, yn dy enau, ac yn dy galon; hwn yw gair y ffydd, yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu,
9 Mai os cyffessi â'th enau, yr Arglwydd Iesu a chredu yn dy galon, i Dduw ei gyfodi ef o feirw, cadwedig fyddi.
10 Canys â'r galon y credir i gyfiawnder, ac â'r genau y cyffessir i iechydwriaeth.
11 Oblegid y mae 'r Scrythur yn dywedyd, [Page 527] Pwy bynnag sydd yn credu ynddo ef, ni chywilyddir.
12 Canys nid oes gwahaniaeth rhwng Iddew a Groeg-wr, oblegid yr vn Arglwydd ar bawb, [sydd] oludog i bawb ac sydd yn galw arno.
13 Canys pwy bynnac a alwo ar Enw yr Arglwydd, cadwedig sydd.
14 Pa fodd gan hynny y galwant ar yr hwn ni chredasant ynddo? a pha fodd y credant yn yr hwn ni chlywsant am dano? a pha fodd y clywant heb bregeth-wr?
15 A pha fodd y pregethant, onis danfonir [hwynt?] megis y mae yn scrifennedig, Mor brydserth-yw traed y rhai sy yn efangylu tangneddyf, y rhai sydd yn efangylu pethau daionus.
16 Eithr nid vfyddhasant hwy oll i'r Efengyl; canys y mae Esaias yn dywedyd; O Arglwydd, pwy a gredodd i'n hymadrodd ni?
17 Am hynny ffydd sydd trwy glywed, a chlywed trwy air Duw.
18 Eithr meddaf; oni chlywsant hwy? Yn ddiau i'r holl ddaiar yr aeth eu sŵn hwy, a'u geiriau hyd derfynau y byd.
19 Eithr meddaf; oni wybu Israel? Yn gyntaf y mae Moses yn dywedyd, Mi a baraf i chwi wŷn-fydu trwy rai nid yw genedl; trwy genedl anneallus i'ch digiaf chwi.
20 Eithr y mae Esaias yn ymhŷf-hau ac yn dywedyd; Caffwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf.
21 Ac wrth yr Israel y mae yn dywedyd Ar hyd y dydd yr estynnais fy nwylo at bobl anufydd, ac yn gwrth-ddywedyd.
PEN. XI.
AM hynny meddaf, A wrthododd Duw ei bobl? Na atto Duw. Canys yr wyf finneu hefyd yn Israeliad, o hâd Abraham, o lwyth Beniamin.
2 Ni wrthododd Duw ei bobl, yr hwn a adnabu efe o'r blaen Oni wyddoch chwi pa beth y mae yr Scrythur yn ei ddywedyd am Elias? pa fodd y mae efe yn erfyn ar Dduw yn erbyn Israel gan ddywedyd:
3 Oh Arglwydd, hwy a laddasant dy Brophwydi, ac a gloddiasant dy allorau i lawr; ac myfi a adawyd yn vnic, ac y maent yn ceisio fy einioes inneu.
4 Eithr pa beth y mae atteb Duw yn ei ddywedyd wrtho? Mi a adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Baal.
5 Felly gan hynny, y prŷd hyn hefyd, y mae gweddill yn ôl etholedigaeth grâs.
6 Ac os o râs, nid o weithredoedd mwyach: os amgen nid yw grâs yn râs mwyach. Ac os o weithredoedd, nid yw yn râs mwyach: os amgen nid yw gweithred yn weithred mwyach.
7 Beth gan hynny? ni chafas Israel yr hyn y mae yn ei geisio: eithr yr etholedigaeth a'i cafas, a'r lleill a galedwyd.
8 Megis y mae yn scrifennedic; Rhoddes Duw iddynt yspryd trym-gwsc; llygaid fel na welent, a chlustiau fel na chlywent, hyd y dydd heddyw.
9 Ac y mae Dafydd yn dywedyd; Bydded eu bord hwy yn rhwyd, ac yn fagl, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt.
10 Tywyller eu llygaid hwy, fal na welant, a chyd grymma di eu cefnau hwy bob amser.
11 Gan hynny meddaf, a dramgwyddasant hwy fel y cwympent? Na atto Duw. Eithr trwy eu cwymp hwy [y daeth] iechydwriaeth i'r cenhedloedd, i yrru eiddigedd arnynt.
12 O herwydd pa ham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i'r byd, a'u lleihâd hwy yn olud ir Cenhedloedd, pa faint mwy [y bydd] eu cyflawnder hwy?
13 Canys wrthych chwi y Cenhedloedd yr wyf yn dywedyd, yn gymmaint a'm bôd i yn Apostol y Cenhedloedd, yr wyf yn mawrhau fy swydd:
14 Os gallaf ryw fodd yrru eiddigedd ar fy nghig [a'm gwaed fy hun,] ac achub rhai o honynt.
15 Canys os yw eu gwthodiad hwy yn gymmod i'r byd, beth [fydd] eu derbyniad hwy, ond bywyd o feirw?
16 Canys os fanctaidd y blaen-ffrwyth, y mae 'r clamp toes hefyd [yn sanctaidd.] Ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae 'r canghennau hefyd [felly.]
17 Ac os rhai o'r canghennau a dorrwyd ymmaith, a thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a'th wnaethpwyd yn gyfrannog o'r gwreiddyn, ac o frasder yr olewwydden:
18 Na orfoledda yn erbyn y canghennau. Ac os gorfoleddi, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.
19 Ti a ddywedi gan hynny, torrwyd y canghennau ymmaith, fel yr impid fi i mewn.
20 Da: trwy anghrediniaeth y torrwyd hwynt ymmaith, a thitheu sydd yn sefyll trwy ffydd, na fydd vchel-fryd, eithr ofna.
21 Canys onid arbedodd Duw y canghennau naturiol, [gwilia] rhag nad arbedo ditheu chwaith.
22 Gwêl am hynny, ddaioni a thoster Duw, sef i'r rhai a gwympasant, toster; eithr daioni i ti, os arhofi yn ei ddaioni ef: os amgen, torrir ditheu hefyd ymmaith.
23 A hwythau, onid arhosant yn angrediniaeth, a imppir i mewn, canys fe all Duw eu himpio hwy i mewn drachefn.
24 Canys os tydi a dorrwyd ymmaith o'r olewydden, yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, a'th impio yn erbyn naturiaeth mewn gwir olew-wydden: pa faint mwy y caiff y rhai hyn [sydd] wrth naturiaeth, eu himpio i mewn yn eu holewwydden eu hun?
25 Canys ni ewyllysiwn, frodyr, eich bôd heb wybod y dirgelwch hyn, (fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hun) ddyfod dallineb o ran i Israel, hyd oni ddêl-cyflawnder y Cenhedloedd i mewn.
26 Ac felly holl Israel a fydd cadwedig fel y mae yn scrifennedic, Y gwaredwr a ddaw allan o Sion, ac a dry ymmaith annuwioldeb oddiwrth Iacob.
27 A hyn yw 'r ammod sydd iddynt gennifi, pan gymmerwyf ymmaith eu pechodau hwynt.
28 Felly o ran yr Efengyl, gelynion [ydynt,] o'ch plegid chwi; eithr o ran yr etholedigaeth, caredigion [ydynt,] oblegid y tadau.
29 Canys diedifarus yw doniau, a galwedigaeth Dduw.
30 Canys megis y buoch chwithau gynt yn annufydd i Dduw, eithr yr awron a gawsoch drugaredd, drwy annufydd-dod y rhai hyn:
31 Felly hwythau hefyd yr awron a anufyddhasant, fel y caent hwythau drugaredd, drwy eich trugaredd chwi.
32 Canys Duw a'i caeodd hwynt oll mewn anufydd-dod, fel y trugarhaai wrth bawb.
33 O ddyfnder golud doethineb a gwybodaeth Duw; mor anchwiliadwy yw ei farnau ef! a'i ffyrdd mor anolrheinadwy ydynt!
34 Canys pwy a wŷbu feddwl yr Arglwydd? neu pwy a fu gynghorwr iddo ef?
35 Neu pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn.
36 Canys o honaw ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef [y mae] pôb peth: iddo ef [y byddo] gogoniant yn dragwydd. Amen.
PEN. XII.
AM hynny yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi o honoch eich cyrph yn aberth byw, sanctaidd, cymmeradwy gan Dduw; [yr hyn yw] eich rhesymmol wasanaeth chwi.
2 Ac na chyd-ymffurfiwch â'r byd hwn, eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl, fel y profoch beth yw daionus a chymmeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.
3 Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y grâs a roddwyd i mi, wrth bob vn sydd yn eich plith, na byddo i nêb vchel-synied yn amgen nag y [Page 532] dylid synied, eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob vn fesur ffydd.
4 Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn vn corph, ac nad oes gan yr holl aelodau yr vn swydd;
5 Felly [ninnau,] a ni yn llawer, ydym vn corph yn Grist, a phôb vn yn aelodau i'w gilydd.
6 A chan fôd i ni amryw ddoniau, yn ôl y grâs a roddwyd i ni, pa vn bynnac ai brophwydoliaeth, [prophwydwn] yn ôl cyssondeb y ffydd:
7 Ai gweinidogaeth [byddwn ddyfal] yn y weinidogaeth; neu 'r hwn sydd yn athrawiaethu yn yr athrawiaeth.
8 Neu 'r hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor; yr hwn sydd yn cyfrannu, [gwnaed] mewn symlrwydd: yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.
2 [Bydded] cariad yn ddiragrith: cassêwch y drwg, a glynwch wrth y da.
10 Mewn cariad brawdol byddwch garedig i'w gilydd, yn rhoddi parch yn blaenori ei gilydd.
11 Nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr Yspryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd,
12 Yn llawen mewn gobaith, yn ddioddefgar mewn cystudd, yn dyfal-barhau mewn gweddi.
13 Yn cyfrannu i gyfreidiau 'r Sainct, ac yn dilyd lletteugarwch.
14 Bendithiwch y rhai sy yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felldithiwch.
15 Byddwch lawen gyd â'r rhai sydd lawen, ac wylwch gyd â'r rhai sy 'n wylo.
16 Byddwch yn vn fryd â'i gilydd: heb roi eich [...] [Page] [Page] [Page] [...] yr ydych yn [...] yn eiddoch eich [...]
[...] gwerth y prynwyd chwi; gan [...] [...]ddwch Dduw yn eich corph, ac yn eich yspryd, y rhai sydd eiddo Duw.
PEN. VII.
AC am y pethau yr scrifennasoch attaf; da i ddyn na chyffyrddei â gwraig.
2 Ond rhag godineb, bydded i bôb gŵr ei wraig ei hun, a bydded i bôb gwraig ei gŵr ei hun.
3 Rhodded y gŵr i'r wraig ddyledus ewyllys da, a'r vn wedd y wraig i'r gŵr.
4 Nid oes i'r wraig feddiant ar ei chorph ei hun; ond i'r gŵr l ac yr vn ffunyd, nid oes i'r gwr feddiant ar ei gorph ei hun, ond i'r wraig.
5 Na thwyllwch ei gilydd, oddieithr o gydsyniad tros amser, fel y galloch ymroi i ympryd a gweddi: a deuwch drachefn ynghyd, rhag temptio o Satan chwi o herwydd eich anlladrwydd.
6 A hyn yr wyf yn ei ddywedyd o ganniadtad, nid o orchymmyn.
[...] Nad ymadawo [...]
11 Ac os ymedy [...] gymmoder hi â'i gŵr: ac na [...] wraig ymmaith.
12 Ac wrth y lleill, dywedyd y [...] [...] Arglwydd; Os bydd i vn brawd wraig ddigrêd, a hitheu yn fodlon i drigo gyd ag ef, na ollynged hi ymmaith.
13 A'r wraig, yr hon y mae iddi wr digred, ac yntef yn fodlon i drigo gyd â hi, na wrthoded hi ef.
14 Canys y gŵr di-grêd a sancteiddir trwy y wraig: a'r wraig ddigrêd a sancteiddir trwy y gŵr. Pe amgen aflan yn ddiau feiddei eich plant; eithr yn awr sanctaidd ydynt.
15 Eithr os yr anghredadyn a ymedy, ymadadawed; nid yw y brawd neu y chwaer gaeth yn y cyfryw [bethau;] eithr Duw a'n galwodd ni i heddwch.
16 Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy ŵr? a pheth a wyddost titheu ŵr, a gedwi di dy wraig?
17 Ond megis y darfu i Dduw rannu i bôb vn [Page 557] megis y darfu i'r Arglwydd alw pôb vn felly rhodied. Ac fel hyn yr wyf yn ordeinio yn yr Eglwysi oll.
18 A alwyd neb wedi ei enwaedu? nac adgeisied [ddienwaediad.] A alwyd neb mewn dienwaediad? nac enwaeder arno.
19 Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchymynion Duw.
20 Pob vn yn y galwedigaeth y galwyd ef, yn honno arhosed.
21 Ai yn wâs i'th alwyd? na fydded gwaeth gennit; etto os gelli gael bod yn rhydd, mwynha [hynny] yn hytrach.
22 Canys yr hwn, ac ef yn wâs, a alwyd yn yr Arglwydd, gŵr rhydd i'r Arglwydd ydyw. A'r vn ffunyd yr hwn, ac efe yn wr rhydd a alwyd, gwas i Ghrist yw.
23 Er gwerth i'ch prynwyd; na fyddwch weision dynion.
24 Yn yr hyn y galwyd pôb vn, frodyr, yn hynny arhosed gyd â Duw.
25 Eithr am wyryfon, nid oes gennif orchymmyn yr Arglwydd. Ond barn yr ydwyf yn ei roi fel vn a gafas drugaredd gan yr Arglwydd, i fod yn ffyddlon.
26 Am hynny yr wyf yn tybied mai da yw hyn o herwydd yr angenraid presennol; mai da [meddaf] i ddŷn fôd felly.
27 A wyt ti yn rhwym i wraig? na chais dy ollwng yn rhydd. A wyt ti yn rhydd oddiwrth wraig? na chais wraig.
28 Ac os priodi hefyd ni phechaist ac os prioda gwyryf, ni pechodd. Er hynny, y cyfryw [Page 558] rai a gânt flinder yn y cnawd: eithr yr wyf yn eich arbed chwi.
29 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, am fod yr amser yn fyrr. Y mae yn ol, fod o'r rhai sy a gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt:
30 A'r rhai a wŷlant, megis heb wŷlo; a'r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau; a'r rhai a brynant, megis heb feddu.
31 A'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gam-arfer. Canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio.
32 Eithr mi a fynnwn i chwi fôd yn ddiofal. Yr hwn sydd heb priodi, sydd yn gofalu am bethau yr Arglwydd, pa wedd y bodlona 'r Arglwydd:
33 Ond y ned a wreiccâodd, sydd yn gofalu am bethau y byd; pa wedd y bodlona ei wraig.
34 Y mae gwahaniaeth hefyd rhwng wraig a gwyryf. Y mae yr hon sydd heb briodi, yn gofalu âm y pethau sydd yn perthyn i'r Arglwydd, fel y byddo hi sanctaidd ynghorph, ac yspryd: ac y mae yr hon sydd wedi priodi, yn gofalu am bethau bydol; pa fodd y rhynga hi fodd i'r gŵr.
35 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd er llesad i chwi eich hunain: nid i osod magl i chwi, eithr er mwyn gweddeidddra, a dyfal lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahan.
36 Ond os yw neb yn tybied ei fod yn anweddaidd tu ag at ei wyryf, od a hi tros flodau ei hoedran, a bod yn rhaid gwneuthur felly: gwnaed a fynno; nid yw yn pechu; priodant.
37 Ond yr hwn sydd yn sefyll yn siccr yn ei galon, ac yn afraid iddo; ac a meddiant ganddo [Page 559] ar ei ewyllys ei hun; ac a rodd ei frŷd ar hynny yn ei galon, ar gadw o honaw ei wyryf; da y mae yn gwneuthur.
38 Ac am hynny, yr hwn sydd yn [ei] rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.
39 Y mae gwraig yn rhwym wrth y gyfraith, tra fyddo, byw ei gŵr: ond o bydd marw ei gŵr, y mae hi yn rhydd i briodi y neb a fynno; yn vnic yn yr Arglwydd.
40 Eithr dedwyddach yw hi, os erys hi felly yn fy marn i: ac yr ydwyf finneu yn tybied fôd Yspryd Duw gennif.
PEN. VIII.
EIthr am yr hyn a aberthwyd i eulynnod, ni a wŷddom fôd gan bawb o honom wŷbodaeth. Gwybodaeth sydd yn chwyddo, eithr cariad sydd yn adeiladu.
2 Eithr os yw neb yn tybyed ei fôd yn gwybod dim, ni wŷr efe etto ddim fel y dylei wŷbod.
3 Ond od oes neb yn caru Duw, hwnnw a adwaenir ganddo ef.
4 Am fwytta gan hynny, o'r pethau a aberthir i eulynnod, ni a wŷddom nad yw eulyn ddim yn y byd, ac nad oes vn Duw arall, onid vn.
5 Canys er bod rhai a elwir yn dduwiau, pa vn bynnag ai yn y nef ai ar y ddaiar, (megis y mae duwiau lawer, ac arglwyddi lawer)
6 Eithr i ni nid oes ond vn Duw, y Tâd, o'r hwn y mae pob peth, a ninnau ynddo ef; ac vn Arglwydd Jesu Ghrist, trwy yr hwn [y mae] pob peth, a ninnau trwyddo ef.
7 Ond nid yw yr wŷbodaeth [hon] gan bawb; canys rhai a chanddynt gyd-wybod o'r eulyn, hyd y pryd hyn, sydd yn bwyta fel peth a aberthwyd i eulynnod; a'u cyd wŷbod hwy, a hi yn wan, a halogir.
8 Eithr nid yw bwyd yn ein gwneuthur ni yn gymmeradwy gan Dduw, canys nid ydym os bwytawn, yn helaethach; nac onis bwytawn, yn brinnach.
9 Ond edrychwch rhag mewn vn-modd i'ch rhydd-did hwn, fôd yn dramgwydd i'r rhai sy weiniaid.
10 Canys os gwêl neb dydi sydd a gwybodaeth gennit, yn eistedd i fwyta yn nheml yr eulynnod; oni chadarnheir ei gydwybod ef, ac ynteu yn wan, i fwyta y pethau a aberthwyd i eulynnod?
11 Ac a ddifethir y brawd gwan, trwy dy wŷbodaeth di, tros yr hwn y bu Christ farw?
12 A chan bechu felly yn erbyn y brodyr, a chlwyfo eu gwan gydwybod hwy, yr ydych chwi yn pechu yn erbyn Christ.
13 O herwydd pa ham, os yw bwyd yn rhwystro fy mrawd, ni fwyttaf fi gig fyth, rhac i mi rwystro fy-mrawd.
PEN. IX.
ONid wyfi yn Apostol? Onid wyfi yn rhydd? Oni welais i Jesu Ghrist ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd.
2 Onid wŷf yn Apostol i eraill, etto yr wŷf i chwi: canys fêl fy Apostoliaeth i ydych chwi yn yr Arglwydd.
3 Fy amddiffyn i i'r rhai a'm holant, yw hyn.
4 Onid oes i ni awdurdod i fwyta ac i yfed?
5 Onid oes i ni awdurdodd i arwain o amgylch wraig [a fyddei] chwaer, megis ac [y mae] i'r Apostolion eraill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Cephas?
6 Ai myfi yn vnig a Barnabas nid oes gennym awdurdod i fôd heb weithio?
7 Pwy sydd vn amser yn rhyfela ar ei draul ei hun? Pwy sydd yn plannu gwinllan, ac nid yw yn bwyta o'i ffrwyth hi? Neu pwy sydd yn porthi praidd, ac nid yw yn bwyta o laeth y praidd?
8 Ai yn ôl dŷn yr wyfi yn dywedyd y pethau hyn? Neu onid yw y Ddeddf hefyd yn dywedyd hyn?
9 Canys scrifennedic yw yn Neddf Moses; Na chae safn yr ŷch sydd yn dyrnu. Ai tros ychen y mae Duw yn gofalu?
10 Ynteu er ein mwyn ni yn hollawl y mae yn dywedyd? Canys er ein mwyn ni yr scrifennwyd, mai mewn gobaith y dylei yr arddwr aredig a'r dyrnwr mewn gobaith, i fôd yn gyfrannog, o'i obaith.
11 Os nyni a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol:
12 Os yw eraill yn gyfrannogion o'r awdurdod hon arnoch; onid [ydym] ni yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hon: ond goddef yr ydym bôb peth, fel na roddom ddim rhwystr i Efengyl Grist.
13 Oni wŷddoch chwi fôd y rhai sy yn gwneuthur pethau cyssygredig, yn bwytta o'r cyssygr, a'r rhai sy yn gwasanaethu yr allor, [Page 562] yn gyd-gyfrannogion o'r allor.
14 Felly hefyd, yr ordeiniodd yr Arglwydd, i'r rhai sy'n pregethu yr Efengyl, fyw wrth yr Efengyl.
15 Eithr myfi nid arferais yr vn o'r pethau hyn: ac nid scrifennais y pethau hyn, fel y gwnelid felly i mi. Canys gwell yw i mi farw nâ gwneuthur o neb fy ngorfoledd yn ofer.
16 Canys os pregethaf yr Efengyl, nid oes orfoledd i mi. Canys angenrhaid, a osodwyd arnaf; a gwae fydd i mi, oni phregethaf yr Efengyl.
17. Canys os gwnaf hyn o'm bodd y mae i mi wobr: ond os o'm hanfodd, ymddireidwyd i mi am y gorchwyl.
18 Pa wobr sydd i mi gan hynny? Bod i mi pan efangylwyf, osod Efengyl Grist yn rhad; fel y cham-arferwyf fy awdurdod yn yr Efengyl.
19 Canys yr fy mod yn rhydd oddiwrth bawb, mi a'm gwneuthym fy hun yn wâs i bawb, fel yr ennillwn fwy.
20 Ac mi a ymwneuthym i'r Iddewon megis yn Iddew, fel yr ennillwn yr Iddewon. I'r rhai tan y Ddeddf, megis tan y Ddeddf; fel yr ennillwn y rhai sy tan y Ddeddf.
21 I'r rhai di ddeddf, megis di-ddeddf (a minnau heb fod yn ddi-ddeddf i Dduw, ond tan y Ddeddf i Ghrist) fel yr ennillwn y rhai diddeddf.
22 Ymwneuthym i'r rhai gweiniaid, megis yn wan, fel yr ennillwn y gweiniaid. Mi a ymwneuthym yn bob peth i bawb, fel y gallwn yn hollawl gadw rhai.
23 A hyn yr wyfi yn ei wneuthur er mwyn [Page 563] yr Efengyl: fel i'm gwneler yn gydgyfrannog o honi.
24 Oni wŷddoch chwi fod y rhai sy yn rhedeg mewn gyrfa, i gŷd yn rhedeg, ond bod vn yn derbyn y gamp. Felly rhedwch fel y caffoch afael.
25 Ac y mae pob vn a'r sydd yn ymdrechu, yn ymgadw ym mhob peth; a hwynt hwy yn wîr, fel y derbyniont goron lygredig, eithr nyni, vn anllygredig.
26 Yr wyfi gan hynny felly yn rhedeg, nid megis ar amcan; felly yr wyf yn ymdrechu, nid fel vn yn curo yr awyr.
27 Ond yr wyfi yn cospi fy nghorph, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag i mi mewn vn modd, wedi i mi bregethu i eraill, fod fy hun yn anghymmeradwy.
PEN. X.
AC ni fynnwn i chwi fod heb wŷbod, frodyr, fod ein tadau oll tan y cwmwl, a'u myned oll trwy y môr;
2 A'u bediddio [hwy] oll i Moses, yn y cwmwl, ac yn y môr;
3 A bwyta o bawb [o honynt] yr vn bwyd ysprydol,
4 Ac yfed o bawb [o honynt] yr vn ddiod ysprydol: (canys hwy a yfasant o'r graig ysprydol a oedd yn canlyn; a'r graig oedd Grist.)
5 Eithr ni bu Dduw fodlon i'r rhan fwyaf o honynt: canys cwympwyd hwynt yn y diffaethwch.
6 A'r pethau hyn a wnaed yn siamplau i ni, fel na chwennychem ddrygioni, megis ac y chwennychasant hwy.
7 Ac na fyddwch eulyn-addolwŷr, megis rhai [Page 564] o honynt hwy, fel y mae yn scrifennedic, Eisteddodd y bobl i fwyta, ac i yfed, ac a gyfodasant i chwareu.
8 Ac na odinebwn, fel y godinebodd rhai o honynt hwy, ac y syrthiodd mewn vn dydd dair mil ar hugain.
9 Ac na themtiwn Ghrist, megis ac y temtiodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd gan seirph.
10 Ac na rwgnechwch, megis y grwgnachodd rhai o honynt hwy, ac a'i destrywiwyd gan y dinîstrydd.
11 A'r pethau hyn oll a ddigwyddasant yn siamplau iddynt hwy, ac a scrifennwyd yn rhybydd i ninnau, ar y rhâi y daeth terfynau yr oesoedd.
12 Am hynny, yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio.
13 Nid ymaflodd ynoch demtasiwn onid vn dynol: eithr ffyddlon yw Duw, yr hwn ni ad eich temptio vwch-law yr hyn alloch, eithr a wna ynghŷd a'r temtasiwn ddiangfa hefyd, fel y galloch ei ddwyn.
14 O herwydd pa ham, fy anwylyd, ffowch oddiwrth eulyn addoliaeth.
15 Dywedyd yr wyf fel wrth rai synhwyrol: bernwch chwi beth yr wyf fi yn ei ddywedŷd.
16 Phiol y fendith yr hon a fendigwn, onid cymmun gwaed Christ ydyw? y bara yr ydym yn ei dorri, onid cymmun corph Christ yw?
17 Oblegid nyni yn llawer ydym vn bara, [ac] vn corph; canys yr ydym ni oll yn gyfrannogion o'r vn bara.
81 Edrychwch ar yr Israel yn ôl y cnawd: onid [Page 565] yw y rhai sy yn bwyta yr ebyrth, yn gyfrannogion o'r allor.
19 Beth gan hynny yr ydwyf yn ei ddywedyd? bôd yr eulyn yn ddim? neu 'r hyn a aberthwyd i eulyn yn ddim?
20 Ond y pethau y mae y Cenhedloedd yn eu haberthu, i gythreuliaid y maent yn eu haberthu, ac nid i Dduw. Ni fynnwn i chwi fôd yn gyfrannogion â'r cythreuliaid.
21 Ni ellwch yfed o phiol yr Arglwydd, a phiol y cythreuliaid. Ni ellwch fôd yn gyfrannogion o fwrdd yr Arglwydd, a bord y cythreuliaid.
22 Ai gyrru 'r Arglwydd i eiddigedd yr ydym? A ydym ni yn gryfach nag ef?
23 Pob peth sydd gyfreithlawn i mi, eithr nid yw pôb peth yn llesâu. Pôb peth sydd gyfreithlon i mi, eithr nid yw pob peth yn adeiladu.
24 Na cheisied neb yr eiddo ei hun, ond pob vn yr eiddo arall.
25 Beth bynnag a werthir yn y gigfa, bwytewch, heb ofyn dim er mwyn cydwybod.
26 Canys eiddo 'r Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder.
27 Os bydd i neb o'r rhai di-grêd eich gwahodd, ac os mynnwch fyned; bwytewch beth bynnag a rodder gen eich bron, heb ymofyn dim er mwyn cydwybod,
28 Eithr os dywed neb wrthych; peth wedi ei aberthu i eulynnod yw hwn: na fwytewch, er mwyn hwnnw, yr hwn a'i mynegodd, ac er mwyn cydwybod: canys eiddo 'r Arglwydd y ddaiar, a'i chyflawnder.
29 Cydwybod meddaf, nid yr eiddot ti, ond [Page 566] yr eiddo arall. Canys pa ham y bernir fy rhydddid i, gan gydwybod vn arall?
30 Ac os wyfi trwy ras yn cymmeryd cyfran, pa ham i'm ceblir am y peth yr wyf yn rhoddi diolch amdano?
31 Pa vn bynnag, gan hynny, ai bwyta, a'i yfed, ai beth bynnag a wneloch gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw.
32 Byddwch ddiachos tramgwydd i'r Iddewon ac i'r Cenhedloedd hefyd, ac i Eglwys Dduw.
33 Megis yr ydwyf finneu yn rhyngu bodd i bawb ym mhob peth, heb geisio fy llesâd fy hun, ond [llesâd] llaweroedd, fel y byddont hwy gadwedig.
PEN. XI.
BYddwch ddilyn-wŷr i mi, megis yr wyf finnau i Ghrist.
2 Yr ydwyf yn eich canmol, frodyr, eich bôd yn fy nghofio i ym-mhob peth, ac yn dal y traddodiadau, fel y traddodais i chwi.
3 Eithr mi a fynnwn i chwi wybod, mai pen pob gŵr yw Christ, a phen y wraig [yw] 'r gŵr, a phen Christ [yw] Duw.
4 Pob gŵr yn gweddio, neu yn prophwydo â pheth am ei ben, sydd yn cywilyddio ei ben.
5 Eithr pob gwraig yn gweddio, neu yn prophwydo, yn bennoeth, sydd yn cywilyddio ei phen; canys yr vn yw a phe byddei wedi ei heillio.
6 Canys os y wraig ni wisc [am ei phen,] oneisier hi hefyd: eithr os brwnt i wraig ei chneifio, neu ei heillio, gwisced.
7 Canys gŵr yn wir ni ddylei wisco am ei ben, am ei fôd yn ddelw a gogoniant Duw: a'r [Page 567] wraig yw gogoniant y gŵr.
8 Canys nid yw y gŵr o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.
9 Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, eithr y wraig er mwyn y gŵr.
10 Am hynny y dylei y wraig fôd ganddi awdurdod ar ei phen, o herwydd yr Angelion.
11 Er hynny nid [yw] na 'r gŵr heb y wraig, na'r wraig heb y gŵr, yn yr Arglwydd.
12 Canys vn wedd ac [y mae] y wraig o'r gŵr, felly [y mae] y gŵr drwy y wraig: a phob peth [sydd] o Dduw.
13 Bernwch ynoch eich hunain, ai hardd yw i wraig weddio Duw yn bennoeth?
14 Ond yw naturiaeth ei hun yn eich dyscu chwi, os gwallt-laes a fydd gŵr, mai ammharch yw iddo.
15 Eithr os gwraig a fydd gwallt-laes clôd yw yddi, oblegid ei llaes-wallt a ddodwyd yn orchudd iddi.
16 Od oes neb a fyn fod yn ymrysongar, nid oes gennym ni gyfryw ddefod; na chan Eglwysi Duw.
17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghŷd, nid er gwell, ond er gwaeth.
18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghŷd yn yr Eglwys, yr ydwyf yn clywed fod amrafaelion yn eich mysc chwi, ac o ran yr wyfi yn credu.
19 Canys rhaid yw bôd hefyd heresiau yn eich mysc; fel y byddo y rhai cymmeradwy yn eglur yn eich plith chwi.
20 Pan fyddoch chwi gan-hynny yn dyfod ynghŷd i'r vn lle, nid bwyta swpper yr Arglwydd ydyw [hyn.]
21 Canys y mae pôb vn wrth fwytta yn cymmeryd ei swpper ei hun o'r blaen, ac vn sydd a newyn arno, ac arall sydd yn feddw.
22 Onid oes gennych dai i fwytta ac i yfed? Ai dirmygu yr ydych chwi Eglwys Dduw? A gwradwyddo y rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf i chwi yn hyn? nid wyf yn eich canmol.
23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; bod i'r Arglwydd Jesu y nos y bradychwyd ef, gymmeryd bara.
24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a'i torrod, ac a ddywedodd, Cymmerwch, bwyttewch, hwn yw fy nghorph, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa am danaf.
25 Yr vn modd [efe a gymmerodd] y cwppan wedi swpperu, gan ddywedyd, Y cwppan hwn yw 'r Testament newydd yn fy ngwaed, gwnewch hyn cynnifer gwaith bynnac yr yfoch, er coffa am danaf.
26 Canys cynnifer gwaith bynnac y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwppan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.
27 Am hynny, pwy bynnac a fwytâo y bara hwn, neu a yfo gwppan yr Arglwydd yn annheilwng; euog fydd o gorph a gwaed yr Arglwydd.
28 Eithr holed dŷn ef ei hun, ac felly bwytaed o'r bara, ac yfed o'r cwppan.
29 Canys yr hwn sydd yn bwyta, ac yn [Page 569] yfed yn annheilwug; sydd yn bwytta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corph yr Arglwydd.
30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesc yn eich mysc, a llawer yn huno.
31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid.
32 Eithr pan i'n bernir, i'n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na'n damner gyd â'r bŷd.
33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwytta, arhoswch ei gilydd.
34 Eithr os bydd newyn ar neb, bwytaed gartref, fel-na ddeloch ynghyd i farnedigaeth. Ond y pethau eraill mi a'u trefnaf pan ddelwyf.
PEN. XII.
EIthr am ysprydol [ddoniau] frodyr, ni fynnwn i chwi fôd heb wŷbod.
2 Chwi a wyddoch mai Cenhedloed oeddych, yn eich arwain ymmaith at yr eulynnod mudion, fel i'ch tywysid.
3 Am hynny yr wyf yn yspysu i chwi, nad oes neb yn llefaru trwy Yspryd Duw, yn galw yr Jesu vn escymmun-beth: ac ni all neb ddywedyd yr Arglwydd Jesu, eithr trwy yr Yspryd glân.
4 Ac y mae amryw ddoniau, eithr yn yr Yspryd.
5 Ac y mae amryw weinidogaethau, eithr yr vn Arglwydd.
6 Ac y mae amryw weithrediadau, ond yr vn yw Duw yr hwn sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.
7 Eithr eglurhâd yr Yspryd â roddir i bob vn er lles-hâd.
8 Canys i vn trwy yr Yspryd y rhoddir ymadrodd doethineb, ac i arall ymadrodd gwybodaeth, trwy yr vn Yspryd.
9 Ac i arall ffydd, trwy yr vn Yspryd; ac i arall ddawn i iachau, trwy yr vn Yspryd.
10 Ac i arall wneuthur gwyrthiau, ac i arall Brophwydoliaeth, ac i arall wahaniaeth ysprydoedd; ac i arall amryw dafodau, ac i arall gyfieithiad tafodau.
11 A'r holl bethau hyn, y mae 'r vn a'r vnrhyw Yspryd yn eu gweithredu, gan rannu i bob vn o'r nailltu, megis y mae yn ewyllysio.
12 Canys fel y mae 'r corph yn vn, ac iddo aelodau lawer, a holl aelodau 'r vn corph, cyd bônt lawer, ydynt vn corph; felly [y mae] Christ hefyd.
13 O herwydd trwy vn Yspryd y bedyddiwydd ni oll yn vn corph, pa vn bynnag ai Iddewon ai Groegwŷr, ai caethion ai rhyddion, ac ni a ddiodwyd oll i vn Yspryd.
14 Canys y corph nid yw vn aelod, eithr llawer.
15 Os dywed y troed, am nad wyf law, nid wyf o'r corph; ai am hynny nid yw efe o'r corph.
16 Ac os dywed y glust, am nad wyf lygad, nid wyf o'r corph; ai am hynny nid yw hi o'r corph.
17 Pe yr oll gorph [fyddei] lygad, pa le y byddai 'r clywed? pe 'r cwbl [fyddei] glywed, pa le y byddai 'r arogliad.
18 Eithr yr awr hon, Duw a osododd yr aelodau, pob vn o honynt yn y corph, fel yr ewyllysiodd efe.
19 Canys pe baent oll vn aelod, pa le y byddai 'r corph.
20 Ond yr awron, llawer [yw] 'r aelodau, eithr vn corph.
21 Ac ni all y llygad ddywedyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthit; na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrthych.
22 Eithr yn hytrach o lawer, yr aelodau o'r corph y rhai a dybir eu bôd yn wannaf, ydynt angenrheidiol.
23 A'r rhai a dybiwm ni eu bôd yn ammharchediccaf o'r corph, ynghylch y rhai hynny y gosodwn yhchwaneg o barch: ac y mae ['n] aelodau] anhardd, yn cael ychwaneg o harddwch.
24 Oblegid ein [aelodau] hardd ni, nid rhaid iddynt [wrtho.] Eithr Duw a gydtymherodd y corph, gan roddi parch ychwaneg i'r hyn oedd ddeffygiol.
25 Fel na biddei anghyfodd yn y corph, eithr bod i'r aelodau ofalu 'r vn peth tros ei gilydd.
26 A pha vn bynnag ai dioddef a wna vn aclod, y mae 'r holl aelodau yn cyd-ddioddef; ai anrhydeddu a wneir vn aelod, y mae 'r holl aelodau yn cyd-lawenhau.
27 Eithr chwy chwi ydych gorph Christ, ac aelodau o ran.
28 A rhai yn wir a osododd Duw yn yr Eglwys, yn gyntaf Apostolion, yn ail Prophwydi, yn drydydd Athrawon, yna gwyrthiau, wedi hynny doniau i iachâu, cynhoathwyau, llywodraethau, rhywiog-gaethu tafodau.
29 Ai Apostolion pawb? ai Prophwydi pawb? Ai Athrawon pawb? ai gwneuthurwyr gwyrthiau pawb?
30 A oes gan bawb ddoniau i iachâu? A yw [Page 572] pawb yn llefaru â thafodau? A yw pawb yn cyfieithu.
31 Eithr deisyfiwch y doniau goreu. Ac etto yr wyf yn dangos i chwi ffordd dra rhagorol.
PEN. XIII.
PE llefarwn â thafodau dynion, ac Angelion, ac heb fôd gennif gariad, yr wyf fel efydd yn seinio, neu symbal yn tingcian.
2 A phe byddei gennif brophwydoliaeth, a gwybod o honof y dirgelion oll, a phob gwybodaeth; a phe bai gennif yr holl ffydd, fel y gallwn symmudo mynyddoedd, ac heb fod gennif gariad; nid wyfi ddim.
3 A phe porthwn y tlodion â'm holl dda; a phe rhoddwn fy nghorph i'm llosci, ac heb gariad gennif, nid yw ddim llesâd i mi.
4 Y mae cariad yn hir-ymaros, yn gymwynascar, cariad nid yw yn cynfigennu nid yw cariad yn ymffrostio, nid yw yn ymchwyddo.
5 Nid yw yn gwneuthur yn anweddaidd; nid yw yn ceisio yr eiddi ei hun; ni chythruddir; ni feddwl ddrwg.
6 Nid yw lawen am anghyfiawnder, onid cydlawenhau y mae â'r gwirionedd.
7 Y mae yn dioddef pob dim, yn credu pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim.
8 Cariad byth ni chwymp ymmaith: eithr pa vn bynnag ai prophwydoliaethu, hwy a ballant: ai tafodau, hwy a beidaint: ai gwybodaeth, hi a ddiflanna.
9 Canys o ran y gwyddom, ac o ran yr ydym yn Prophwydo.
10 Eithr pan ddelo yr hyn sydd berffaith, yna yr hyn sydd o ran a ddeleuir.
11 Pan oeddwn fachgen, fel bachgen y llefarwn, fel bachgen y deallwn, fel bachgen y meddyliwn: ond pan aethym yn ŵr, mi a rois heibio bethau bachgennaidd.
12 Canys gweled yr ydym yr awrhon trwy ddrych mewn dammeg, ond yna, wyneb yn wŷneb. Yn awr yr adwaen o ran, ond yna yr adnabyddaf megis i'm hadwaenir.
13 Yr awr hon y mae yd aros, ffydd, gobaith, cariad; y tri hyn, a'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad.
PEN. XIV.
DIlynwch gariad, a deisyfiwch [ddoniau] ysprydol, ond yn hytrach fel y prophwydoch.
2 Canys yr hwn sydd yn llefaru â thafod [dieithr,] nid wrth ddynion y mae yn llefaru, onid wrth Dduw: canys nid oes neb yn gwrando: er hynny yn yr yspryd y mae efe yn llefaru dirgeledigaethau
3 Eithr yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn llefaru wrth ddynion, [er] adeiladaeth, a chyngor, a chyssur.
4 Yr hwn sydd yn llefaru â thafod [dieithr,] sydd yn ei adeiladu ei hunain; eithr yr hwn sydd yn prophwydo, sydd yn adeiladu yr Eglwys.
5 Mi a fynnwn pettych chwi oll yn llefaru â thafodau [dieithr,] ond yn hytrarch brophwydo o honoch: canys mwy yw yr hwn sydd yn prophwydo, nâ'r hwn sydd yn llefaru â thafodau, oddi eithr iddo [ei] gyfieithu, fel y derbynio yr Eglwys adeiladaeth.
6 Ac yr awr hon frodyr, os deuaf attoch gan lefaru â thafodau, pa lesâd a wnaf i chwi; oni lefaraf wrthych naill ai trwy weledigaeth, neu trwy wŷbodaeth, neu trwy brophwydoliaeth, neu trwy athrawiaeth.
7 Hefyd, pethau di enaid wrth roddi fain, pa vn bynnag ai pibell ai telyn, oni roddant wahaniaeth yn y sain, pa wedd y gwyddir y peth a genir ar y bibell, neu ar y delyn?
8 Canys os yr vdcorn a rydd sain anhynod, pwy ymbaratoa i ryfel?
9 Felly chwithau, oni roddwch â'r tafod ymadrodd deallus, pa wedd y gwybyddir y peth a leferir? canys chwi a fyddwch yn llefaru wrth yr awyr.
10 Y mae cymmaint, ysgatfydd, o rywogaethau lleisiau yn y bŷd, ac nid oes vn o honynt yn aflafar.
11 Am hynny, oni wn i rym y llais, myfi a fyddaf Farbariad i'r hwn sydd yn llefaru: a'r hwn sydd yn llefaru a [fydd] i mi yn Farbariad.
12 Felly chwithau, gan eich bod yn awyddus i ddoniau ysprydol, ceisiwch ragori tu ag at adeiladaeth yr Eglwys.
13 O herwydd pa ham, yr hwn sydd yn llefaru â thafod [dieithr,] gweddied ar iddo allu cyfieithu.
14 Canys os gweddiaf â thafod [dieithr] y mae fy yspryd yn gweddio, ond y mae fy neall yn ddiffrwyth.
15 Beth gan hynny? mi a weddiaf â'r yspryd, ac a weddiaf â'r deall hefyd: canaf â'r yspryd, a canaf â'r deall hefyd.
16 Canys os bendithi â'r yspryd, pa wedd y dywed yr hwn sydd yn cyflawni lle 'r anghyfarwydd, Amen, ar dy ddodiad diolch, gan nas gwyr beth yr wyt yn ei ddywedyd.
17 Canys tydi yn ddiau ydwyt yn diolch yn dda, ond y llall nid yw yn cael ei adeiladu.
18 Yr ydwyf yn diolch i'm Duw, fy mod i yn llefaru â thafodau, yn fwy nâ chwi oll.
19 Ond yn yr Eglwys, gwell gennif lefaru pum gair trwy fy neall, fel y dyscwyf eraill hefyd, na myrddiwn o eiriau mewn tafod [dieithr.]
20 O frodyr, Na fyddwch fechgyn mewn deall, eithr mewn drygioni byddwch blant, ond mewn deall byddwch berffaith.
21 Yn y Ddeddf y mae yn scrifennedig, Trwy rai estroniaithus, a thrwy wefusu estronol y llefaraf wrth y bobl hyn; ac ni'm gwrandawant felly, medd yr Arglwydd.
22 Am hynny tafodau ydynt arwydd, nid i'r rhai sy yn credu, ond i'r rhai di-grêd; eithr prophwydoliaeth nid i'r rhai dirgrêd, ond i'r rhai sy yn credu.
23 Gan hynny, os daw yr Eglwys oll ynghŷd i'r vn lle, a llefaru o bawb â thafodau [dieithr,] a dyfod o rai annyscedig neu ddi-gred i mewn; oni ddywedant eich bôd yn ynfydu.
24 Eithr os prophwyda pawb, a dyfod o vn digrêd neu annyscedig i mewn, [efe] a argyoeddir gan bawb, a fernir gan bawb.
25 Ac felly y gwneir dirgelion ei galon ef yn amlwg, ac felly gan syrthio ar ei wyneb, [efe] a addola Dduw, gan ddywedyd fôd Duw yn wir ynoch.
26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bôb vn o honoch Psalm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatcuddiad, y mae ganddo gyfieithiad: gwneler pob peth er adeiladaeth.
27 Os llefara neb â thafod [dieithr, gwneler] bob yn ddau, neu o'r mwyaf [bob] yn dri, a [hynny] ar gylch, a chyfieithed vn.
28 Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr Eglwys; eithr llefared wrtho ei hun, ac wrth Dduw.
29 A llefared y prophwydi, ddau neu dri, a barned y llaill.
30 Ac os datguddir [dim] i [vn] arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf.
31 Canys chwi a ellwch oll brophwydo bob vn, fel y dysco pawb, ac y cyssurer pawb.
32 Ac y mae ysprydoedd y Prophwydi yn ddarostyngedic i'r Prophwydi.
33 Canys nid yw Duw [awdur] anghydfod, ond tangneddyf; fell yn holl Eglwysi y Sainct.
34 Tawed eich gwragedd yn yr Eglwysi, canys ni chaniadhawyd iddynt lefaru, ond bod yn ddarostyngedig, megis ac y mae y gyfraith yn dywedyd.
35 Ac os mynnant ddyscu dim, ymofynnant âu gwyr gartref, oblegid anweddaid yw i wragedd lefaru yn yr Eglwys.
36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw, allan? Neu ai attoch chwi yn vnig y daeth ef.
37 Os ydyw neb yn tybied ei fod yn Brophwyd neu yn ysprydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu scrifennu attoch, mai gorchymynion yr Arglwydd ydynt.
38 Eithr od yw neb heb wŷbod, bydded heb wŷbod.
39 Am hynny frodyr, byddwch awyddus i brophwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau [dieithr.]
40 Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.
PEN. XV.
HEfyd yr ydwyf yn yspysu i chwi (frodyr) yr Efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll.
2 Trwy yr hon i'ch cedwir hefyd, os ydych yn dal [yn eich côf] â pha ymadrodd yr efangylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer.
3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf, yr hyn hefyd a dderbyniais; farw O Grist tros ein pechodau ni, yn ôl yr Scrythyrau.
4 Ai gladdu, a'i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr Scrythyrau.
5 A'i weled ef gan Cephas, yna gan y deuddec.
6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar vn waith, o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant.
7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iaco, yna gan yr holl Apostolion.
8 Ac yn ddiweddaf oll y gwelwyd ef gennif finneu hefyd, megis gan vn an-nhymmig.
9 Canys myfi-yw 'r lleiaf o'r Apostolion, yr hwn nid wyf addas i'm galw yn Apostol, am i mi erlid Eglwys Dduw.
10 Eithr trwy râs Duw yr ydwyf yr hyn [Page 578] ydwyf; a'i râs ef, yr hwn [a roddwyd] i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach nâ hwynt oll; ac nid myfi chwaith, ond grâs Duw yr hwn [oedd] gyd â mi.
11 Am hynny pa vn bynnag, ai myfi ai hwynt hwy; felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
12 Ac os pregethir Christ, ei gyfodi [ef] o feirw, pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes adgyfodiad y meirw.
13 Eithr onid oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Christ chwaith.
14 Ac os Christ ni chyfodwyd, ofer yn wîr yw ein pregeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau.
15 Fe a'n ceir hefyd yn gau-dystion i Dduw: canys ni a dystiasom am Dduw, ddarfod iddo gyfodi Christ, yr hwn nis cyfododd efe, os y meirw ni chyfodir.
16 Canys os y meirw ni chyfodyr, ni chyfodwyd Christ chwaith.
17 Ac os Christ ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi: yr ydych etto yn eich pechodau.
18 Yna hefyd y cyfrgollwyd y rhai a hunasant yn Ghrist.
19 Os yn y byd ymma yn vnig y gobeithiwn yngrist, truanaf o'r holl ddynion ydym ni.
20 Eithr yn awr Christ a gyfodwyd oddiwrth y meirw, [ac] a wnaed yn flaenffrwyth y rhai a hunasant.
21 Canys, gan [fod] marwolaeth trwy ddŷn, trwy ddŷn hefyd y [mae] adgyfodiad y meirw.
22 Oblegit, megis yn Adda y mae pawb [Page 579] yn meirw, felly hefyd yn Ghrist y bywheir pawb.
23 Eithr pob vn yn ei drefn ei hun. Y blaenffrwyth yw Christ, wedi hynny y rhai ydynt eiddo Christ, yn ei ddyfodiad ef.
24 Yna [y bydd] y diwedd, wedi y rhoddo [efe] y deyrnas i Dduw a'r Tâd, wedi iddo ddelu pob pendefigaeth, a phob awdurdod a nerth.
25 Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed.
26 Y gelyn dyweddaf a ddinistrir yw yr angeu.
27 Canys efe a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef. Eithr pan yw yn dywedyd fod pob peth wedi eu darostwng, amlwg [yw] mai oddieithr, yr hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo.
28 A phan ddarostynger pob peth iddo, yna y Mab ei hun hefyd a ddarostyngir, i'r hwn a ddarostyngodd bôb peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.
29 Os amgen, beth a wna y rhai a fedyddir tros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? Pa ham ynteu y bedyddir hwy tros y meirw?
30 A pha ham yr ydym ninnau mewn pergyl bôb awr?
31 Yr ydwyf beunydd yn marw, myn eich gorfoledd yr hwn sydd gennif yn Grist Jesu ein Harglwydd.
32 Os yn ôl dull dŷn yr ymleddais ag anifeiliaid yn Ephesus, pa leshâd sydd i mi oni chyfodir y meirw? Bwytawn, ac yfwn, canys yforu marw yr ydym.
33 Na thwyller chwi, y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da.
34 Deffrowch yn gyfiawn, ac na phechwch, canys nid oes gan rai wybodaeth am Dduw, er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.
35 Eithr fe a ddywaid rhyw vn, Pa fodd y cyfodir y meirw? Ac a pha ryw gorph y deuant.
36 Oh ynfyd; y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw.
37 A'r peth yr wyt yn ei hau: nid y corph a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, yscatfydd o wenith, neu o ryw [rawn] arall.
38 Eithr Duw syd yn rhoddi iddo gorph, fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorph ei hun.
39 Nid [yw] pob cnawd vn rhyw gnawd; eithr arall yw cnawd dynion, ac arall yw cnawd anifeiliaid, [a chnawd] arall sydd i byscod, ac arall i adar.
40 Y mae hefyd gyrph nefol, a chyrph daiarol; ond arall yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol.
41 Arall [yw] gogoniant yr haul; ac arall [yw] gogoniant y lloer; ac arall [yw] gogoniant y sêr: canys y mae rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant.
42 Felly hefyd [y mae] adgyfodiad y meirw: efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth.
43 Efe a heuir mewn ammarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorph anianol, ac a gyfodir yn gorph ysprydol.
44 Y mae corph anianol, ac y mae corph ysprydol.
45 Felly hefyd y mae yn scrifennedig, Y dŷn [Page 581] cyntaf Addaf [a wnaed] yn enaid byw, a'r Adda diweddaf yn yspryd yn bywhau.
46 Eithr nid cyntaf yr ysprydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysprydol.
47 Y dŷn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol; yr ail dŷn yr Arglwydd o'r nef.
48 Fel y mae y daiarol, felly y mae y rhai daiarol; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd.
49 Ac megis y dygasom ddelw y daiarol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol.
50 Eithr hyn meddaf, o frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.
51 Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch; Ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr vdcorn diweddaf.
52 Canys yr vdcorn a gân, â'r meirw a gyfodir yn anllygredic, a ninnau a newidir.
53 O herwydd rhaid i'r llygradwy hwn wisco annllygredigaeth, ac i'r marwol hwn wisco anfarwoldeb.
54 A phan ddarffo i'r llygradwy hwn wisco anllygredigaeth; ac i'r marwol hwn wisco anfarwoldeb, yna y bydd yr ymadrodd a scrifennwyd, Angeu a lyngcwyd mewn buddugoliaeth.
55 O angeu pa le y mae dy golyn? O vffern pa le mae dy fuddugoliaeth?
56 Colyn angeu yw pechod, a grym pechod [yw] 'r gyfraith.
57 Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn fydd yn rhoddi i ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Jesu Grist.
58 Am hynny fy mrodyr anwyl, byddwch siccr, a diymmod, [a] helaethion yngwaith yr Arglwydd yn oestadol, a [chwi] yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
PEN. XVI.
HEfyd am y gascl i'r Sanct, megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia, felly gwnewch chwithau.
2 Y [dydd] cyntaf or wythnos, pob vn o honoch rhodded heibio yn ei ymyl, gan dryssori, fel y llwyddodd [Duw] ef, fel na byddo cascl pan ddelwyfi.
3 A phan ddelwyf, pa rai bynnag a ddangosoch eu bod yn gymmeradwy trwy lythyrau, y rhai hynny a ddanfonaf i ddwyn eich rhôdd i Jerusalem.
4 Ac os bydd y peth yn haeddu i minneu hefyd fyned, hwy a gânt fyned gyd â mi.
5 Eithr mi a ddeuaf attoch, gwedi yr elwyf trwy Macedonia: (canys trwy Macedonia yr wyf yn myned.)
6 Ac nid hwyrach yr arhosaf gydâ chwi, neu y gayafaf hefyd, fel i'm hebryngoch i ba le bynnag yr elwyf.
7 Canys nid os i'm bryd eich gweled yn awr ar fy hynt, ond yr wyf yn gobeithio 'r arhosaf ennyd gyd â chwi, os canhiada yr Arglwydd.
8 Eithr mi a arhosaf yn Ephesus hyd y Sulgwyn.
9 Canys agorwyd i mi ddrŵs mawr a grymmus ac [y mae] gwrthwynebwŷr lawer.
10 Ac os Timotheus a ddaw, edrychwch ar e [...] fod yn ddiofn gydâ chwi; canys gwaith yr Arglwydd y mae yn ei weithio, fel finneu.
11 Am hynny na ddistyred neb ef; ond hebryngwch ef mewn heddwch, fel y delo attafi: canys yr wyfi yn ei ddisgwil ef gyd â'r brodyr.
12 Ac am y brawd Apollos, mi a ymbiliais lawer ag ef am dyfodd attoch chwi gyd â'r brodyr, eithr dim nid oedd ei ewyllys ef i ddyfodd yr awron, ond efe a ddaw pan gaffo amser cyfaddas.
13 Gwiliwch, sefwch yn y ffydd, ymwrolwch, ymgryfhewch.
14 Gwneler eich holl bethau chwi mewn cariad.
15 Ond yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, (chwi a adwaenoch dŷ Stephanas mai blaenffrwyth Achaia ydyw, ac iddynt ymosod i weinidogaeth y Sainct.)
16 Fod o honoch chwitheu yn ddarostyngedig i'r cyfryw, ac i bôb vn sydd yn cydweithio, ac yn llafurio.
17 Ac yr ydwyf yn llawen am ddyfodiad Stephanas, a Fortunatus, ac Achaicus; canys eich diffyg chwi, hwy a'i cyflawnasant.
18 Canys hwy a esmwythasant ar fy yspryd i, a'r eiddoch chwithau: cydnabydwch gan hynny y cyfryw rai.
19 Y mae Eglwysi Asia yn eich annerch chwi. Y mae Aquila a Phriscilla, gyd â'r Eglwys sydd yn eu tŷ hwynt, yn eich annerch chwi yn yr Arglwydd, yn fynych.
20 Y mae y brodyr oll yn eich annerch. Anherchwch ei gilydd â chusan sancteiddiol.
21 Yr anderch a'm llaw i Paul fy hun.
22 Od oes neb nid yw yn caru yr Arglwydd Jesu Grist bydded Anathema Maranatha.
23 Grâs ein Arglwydd Jesu Grist a fyddo gŷd â chwi.
24 Fy serch inneu a fo gyd â chwi oll yn Ghrist Jesu. Amen.
AIL EPISTOL PAUL YR APOSTOL AT Y CORINTHIAID.
PENNOD I.
PAUL Apostol Jesu Grist, trwy ewyllys Duw, a'r brawd Timotheus, at Eglwys Duw, yr hon sydd yn Corinth, gyd a'r hol Seinctiau, y rhai sy yn holl Achaia,
2 Grâs fyddo i chwi, a thangneddyf oddiwrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Jesu Grist.
3 Bendigedig [fyddo] Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Jesu Grist, Tâd y trugareddau, a Duw pob diddanwch,
4 Yr hwn sydd yn ein diddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddiddanu y rhai sy mewn dim gorthrymder, trwy y diddanwch, â'r hwn i'n diddenir ni ein hunain gan Dduw.
5 Oblegid fel y mae dioddfiadau Christ yn amlhau ynom ni: felly trwy Grist y mae ein diddanwch ni hefyd yn amlhau.
6 A pha vn bynnac ai ein gorthrymmu yr ydys [Page 585] er diddanwch ac iechydwriaeth i chwi [y mae,] yr hon a weithir trwy ymaros tan yr vn dioddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dioddef: ai ein diddanu yr ydys, er diddanwch ac iechydwriaeth i chwi [y mae hynny.]
7 Ac [y mae] ein gobaith yn siccr am danoch, gan i ni ŵybod, mai megis yr ydych yn gyfrannogion o'r dioddefiadau, felly [y byddwch] hefyd o'r diddanwch.
8 Canys ni fynnem i chwi fod heb ŵybod, frodyr, am ein cystudd a ddaeth i ni yn Asia, bwyso arnom yn ddirfawr vwch ben [ein] gallu, hyd onid oeddem yn ammeu cael byw hefyd.
9 Eithr ni a gawsom ynom ein hunain farn angeu, fel na byddei i ni ymddiried ynom ein hunain, onid yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw.
10 Yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth gyfryw ddirfawr angeu, ac sy yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn gobeithio, y gwared ni hefyd rhag llaw:
11 A chwitheu hefyd yn cydweithio trosom mewn gweddi, fel, am y rhoddiad a rodded i ni o herwydd llawer, y rhodder diolch gan llawer trosō
12 Canys ein gorfoleddd ni yw hyn, [sef] tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy râs Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tu ac attoch chwi.
13 Canys nid ydym yn scryfennu amgen bethau attoch, nâg yr ydych yn eu darllein, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd.
14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni [yw] eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd, yn nydd yr Arglwydd Jesu.
15 Ac yn yr hyder hyn, yr oeddwn yn ewyllysio dyfod attoch o'r blaen, fel y caffech ail grâs:
16 A myned heb eich lla chwi i Macedonia, a dyfod trachefn o Macedonia attoch, a chael fy hebrwng gennwch i Iudæa.
17 Gan hynny pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i yscafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadau, ai ar ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu? fel y byddai gydâ mi, iê, iê, ac Nac ê, Nac ê.
88 Eithr ffyddlon [yw] Duw, a'n ymadrodd ni wrthych chwi, ni bu iê, a nagê.
19 Canys Mab Duw Jesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, [sef] gennifi a Silfanus, a Timotheus, nid ydoedd, iê, ac nagê, eithr ynddo ef, iê ydoedd.
20 Oblegid holl addewidion Duw ynddo ef [ydynt] ie, ac yntho ef Amen, er gogoniant i Duw trwom ni.
21 Ar hwn sydd yn ein cadernhau ni gyd â chwi yn Ghrist, ac a'n eniniodd ni, [yw] Duw.
22 Yr hwn hefyd a'n seliodd, ac a reos ernes yr Yspryd yn ein calonnau.
23 Ac yr wyf fi yn galw Duw yn dŷst ar fy enaid, mai er eich arbed chwi, na ddaethym etto i Corinth.
24 Nid am ein bôd yn arglwyddiaethu ar eich ffydd chwi, end yr ydym yn gydweithwŷr i'ch llawenydd: o blegit trwy ffydd yr ydych yn sefyll.
PEN. II.
EIthr mi a fernais hyn ynof fy hunain, na ddelwn drachefn mewn tristwch attoch.
2 Oblegit os myfi a'ch tristâf chwi, pwy yw 'r hwn a'm llawenhâ i, ond yr hwn a dristawyd gennifi?
3 Ac mi a scrifennais hyn ymma attoch, fal pan ddelwn na chawn dristwch oddi wrth y rhai y dylwn lawenhau: gan hyderu am danoch oll, fôd fy llawenydd i [yn llawenydd] i chwi oll.
4 Canys o orthrymder mawr, a chyfyngder calon yr scrifennais attoch â dagrau lawer, nid fel i'ch tristâid chwi, eithr fel y gwybyddech y cariad sydd gennif yn helaethach tu ag attoch chwi.
5 Ac os gwnaeth nêb dristau, ni wnaeth efe i mi dristau ond o ran, rhag i mi bwyso arnoch chwi oll.
6 Digon i'r cyfryw [ddŷn] y cerydd yma [a ddaeth] oddi wrth laweroedd.
7 Yn gymmaint ac y dylech yn y gwrthwyneb yn hytrâch faddeu [iddo,] a'i ddiddanu, rhag, llyngcu y cyfryw, gan ormod tristwch.
8 Am hynny yr ydwyf yn attolwg i chwi gadarnhau eich cariad tu ag atto ef.
9 Canys er mwyn hyn hefyd yr scrifennais, fel y gwybyddwn brawf o honoch, a ydych vfydd ym hob peth.
10 I'r hwn yr ydych yn maddeu dim iddo, [yr wyf] finneu: canys os maddeuais ddim, i'r hwn y maddeuais, er eich mwyn chwi [y maddeuais,] yn golwg Christ.
11 Fel na'n siommer gan Satan: canys nid ydym heb wŷbod ei ddichelion ef.
12 Eithr gwedi i mi ddyfod i Troas, i [bregethu] Efengill Grist, ac wedi agoryd i mi ddrws gan yr Arglwydd,
13 Ni chefais lonydd yn fy yspryd, am na chefais Titus fy mrawd, eithr gan ganu yn iach iddynt, mi a euthym ymmaith i Macedonia.
14 Ond i Dduw [y byddo'r] diolch, yr hwn yn oestad sydd yn peri i ni oruchafiaeth yn Ghrist, ac sydd yn eglurhau arogledd ei wŷbodaeth trwom ni, ym mhôb lle.
15 Canys per-arogl Christ yddym ni i Dduw, yn y rhai cadwedig, ac yn y rhai colledig.
16 I'r naill yr [ydym] yn arogl marwolaeth i farwolaeth, ac i'r llaill yn arogl bywyd, i fywyd; A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?
17 Canys nid ydym ni, megis llawer, yn gwneuthur masnach o air Duw, eithr megis o burdeb, eithr megis o Dduw, yngwydd Duw, yr ydym yn llefaru ynGhrist.
PEN. III.
AI dechreu yr ydym drachefn ein canmol ein hunain? Ai rhaid i ni, megis i rai, wrth lythyrau canmoliaeth attoch chwi, neu rai canmoliaeth oddi wrthych chwi?
2 Ein llythyr ni ydych chwi, yn scrifennedig yn ein calonnau, yr hwn a ddeellir, ac a ddarllennir gan bôb dyn.
3 Gan fôd yn eglur mai llythyr Christ ydych, wedi ei weini gennym ni, wedi ei scryfennu nid ag ingc, ond ag Yspryd y Duw byw, nid mewn llechau cerrig, eithr mewn llechau cnawdol y galō.
4 A chyfryw hyder sydd gennym trwy Grist ar Dduw:
5 Nid o herwydd ein bôd yn digonol o honom ein hunain, i feddwl dim megis o honom ein hunain, eithr ein digonedd ni sydd o Dduw.
6 Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymmwys y Testament newydd, nid i'r llythyren ond i'r Yspryd. Canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr Yspryd sydd yn bywhau.
7 Ac os bu gweinidogaeth angeu mewn llythyrennau wedi ei hargraphu ar gerrig, mewn gogoniant, fel na allei plant yr Israel edrych yn graff yn wŷneb Moses, gan ogoniant ei wynebpryd, yr hwn [ogoniant] a ddilewydd,
8 Pa fod hytrach na bydd gweinidogaeth yr Yspryd mewn gogoniant?
9 Canys os bu gweinidogaeth damnedigaeth [yn] ogoniant, mwy o llawer y mae gweinidogaeth cyfiawnder yn rhagori mewn gogoniant.
10 Canys hefyd ni ogonedwydd yr hyn a ogoneddwyd, yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant tra rhagorol.
11 O oblegid os bu yr hyn a ddeleuidd, yn ogoneddus; mwy o lawer [y bydd] yr hyn sydd yn aros, yn gogoneddus.
12 Am hynny, gan fôd gynnym gyfryw obaith, yr ydym yn arfer hyfder mawr.
13 Ac nid megis y gosododd Moses orchudd ar ei wŷneb, fel nad edrychei plant Israel yn graff ar ddiwedd yr hyn a ddeleuid.
14 Eithr dallwyd eu meddyliau hwynt. Ganys hyd y dydd heddyw y mae yr vn gorchudd, wrth ddarllen yr hên Destament, yn aros heb ei ddatcuddio, yr hwn yn Grist a ddileir.
15 Eithr hyd y dydd heddyw, pan ddarllennir [Page 590] Moses, y mae 'r gorchudd ar eu calon hwynt.
16 Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tynnir ymaith y gorchudd.
17 Eithr yr Arglwydd yw 'r Ysprydy: a lle [mae] Yspryd yr Arglwydd, yno [y mae] rhydd-did.
18 Eithr nyni oll, ag wyneb agored yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd, megis mewn drych, a newidir i'r vnrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Yspryd yr Arglwydd.
PEN. IIII.
AM hynny gan fôd i ni y weinidogaeth hon, megis y cawsom drugaredd, nid ydym yn pallu
2 Eithr ni a ymwrthodasom â chudiedig bethau cywilydd, heb rodio mewn cyfrwystra, na thrîn, gair Duw yn dwyllodrus; eithr trwy eglurhâd y gwirionedd, yr ydym yn ein canmol ein hun wrth bôb cydwybod dynion, yngolwg Duw.
3 Ac os cuddiedig yw ein Efengyl ni, yn y rhai colledig y mae yn guddiedig.
4 Yn y rhai a dallodd Duw y bŷd hwn feddyliau y rhai digrêd, fel na thywynnei iddynt lewyrch Efengyl gogoniant Christ, yr hwn yw delw Dduw.
5 Canys nid ydym yn ein pregethu ein hunain, ond Christ Jesu yr Arglwydd, a ninneu yn weision i chwi yr mwyn Jesu.
6 Canys Duw yr hwn a orchymynnodd i'r goleuni lewyrchu o dywyllwch, [yw] yr hwn a lewyrchodd yn ein calonnau, i roddi goleiuni gwybodaeth gogoniant Duw, yn wyneb Jesu Grist.
7 Eithr y mae gennym y tryssor hwn mewn llestri pridd, fel y biddei godidowgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni.
8 Yn mhob peth [yr ym] yn gystuddiol, ond nid mewn ing; [yr ydym] mewn cyfyng-gyngor, ond nid yn ddiobaith;
9 Yn cael ein herlyd, ond heb ynllwyr-adel; yn cael ein bwrw i lawr, eithr heb ein difetha.
10 Gan gylch-arwain yn y corph bôb amser farweiddiad yr Arglwydd Jesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Jesu yn ein corph ni.
11 Canys yr ydys yn ein rhoddi ni, y rhai ydym fyw, yn oestad i farwolaeth, er mwyn Jesu, fel yr eglurer hefyd fywyd Jesu yn ein marwol gnawd ni
12 Felly y mae angeu yn gweithio ynom ni, ac enioes ynoch chwîthau.
13 A chan fôd gennym yr yn yspryd ffydd, yn ôl yr hyn a scrifennwyd, Credais, am hynny y lleferais; yr ydym ninneu hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru.
14 Gan ŵybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Jesu, ein cyfodi ninneu hefyd trwy Jesu, a'n gosod ger bron gyd â chwi.
15 Canys pôb peth [sydd] er eich mwyn chwi, fel y byddo i râs wedi amlhâu, trwy ddiolchgarwch llaweroedd, ymhelaethu i ogoniant Duw.
16 O herwydd pa ham, nid ydym yn pallu, eithr er llygru ein dŷn oddi allan, er hynny y dŷn oddimewn a adnewyddir o ddydd i ddydd.
17 Canys ein byrr yscafn gystudd ni sydd vn odidog ragoral yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i ni:
18 Tra na bôm yn edrych ar y pethau a welir, ond ar y pethau ni welir: canys y pethau a welir sy tros amser, ond y pethau ni welir sy dragwyddol.
PEN. V.
CAnys ni a wyddom, os ein daiarol dŷ o'r babell [hon] a ddattodir, fôd i ni adeilad gan Dduw, [sef] tŷ nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd.
2 Canys am hynny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisco â'n tŷ sydd o'r nef.
3 Os hefyd wedi ein gwisco, nid yn noethion i'n ceir.
4 Canys ninnau hefyd y rhai ŷm yn y babell hon, ydym yn ochneidio, yn llwythog, yn yr hyn nid ŷm yn chwennych eîn diosc, ond ein harwisco, fel y llyngcer yr hyn sydd farwol gan fywyd.
5 A'r hwn a'n gweithiodd ni i hyn ymma, yw Duw, yr hwn hefyd a roddodd i ni ernes yr Yspryd.
6 Am hynny [yr ydym] yn hyderus bôb amser ac yn gwybod tra ydym yn gartrefol yn y corph, ein bod oddi cartref oddi wrth yr Arglwydd.
7 Canys wrth ffydd yr yddym yn rhodio, ac nid wrth olwg.
8 Ond yr ydym yn hŷ, ac yn gweled yn dda yn hytrach fôd oddi cartref o'r corph, a chartrefu gyd â'r Arglwydd.
9 Am hynny hefyd yr ydym yn ymorchestu, pa vn bynnag ai gartref y byddom, ai oddi cartref, ein bod yn gymmeradwy ganddo ef.
10 Canys rhaid i ni oll ymddangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pob vn y pethau a [wnaethpwyd] yn y corph, yn ôl yr hyn a [Page 692] wnaeth, pa vn bynnag ai da, ai drwg.
11 A ni gan hynny yn gwybod ofn yr Arglwydd, yr ydym yn perswadio dynion, eithr i Dduw i'n gwnaed yn hyspys; ac yr ydwyf yn gobeithio ddarfod ein gwneuthur yn hyspys yn eich cydwybodau chwithau hefyd.
12 Canys nid ydym yn ein canmol ein hunain drachefn wrthych, ond yn rhoddi i chwi achlysur gorfoledd o'n plegit ni, fel y [caffoch beth i atteb] yn erbyn y rhai sy yn gorfoleddu yn y golwg, ac nid yn y galon.
13 Canys pa vn bynnag ai amhwyllo yr ydym, i Dduw [yr ydym: [ai yn ein pwyll yr ydym, i chwi [yr ydym.]
14 Canys y mae cariad Christ yn ein cymhell, ni, gan farnu o honom hyn, os bu vn farw tros bawb, yna meirw oedd pawb.
15 Ac efe a fu farw tros bawb, fel na byddei i'r rhai byw, fyw mwyach iddynt eu hunain, ond i'r hwn a fu farw trostynt, ac a gyfodwyd.
16 Am hynny nyni o hyn allan nid adwaenom nêb yn ôl y cnawd, ac os buom hefyd yn adnabod Christ yn ôl y cnawd, etto yn awr nid ydym yn ei adnabod ef mwyach.
17 Gan hynny od oes nêb yn Ghrist, [y mae efe] yn greadur newydd. Yr hên bethau a aethant heibio; wele, gwnaethpwyd pob peth yn newydd.
18 A phob peth [sydd] o Dduw, yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Jesu Grist, ac a roddodd i ni weinidogaeth y cymmod.
19 Sef bôd Duw yn Ghrist, yn cymmodi y bŷd ag ef ei hun, heb gyfrif yddynt eu pechodau, ac wedi gosod ynom ni air y cymmod.
20 Am hynny, yr ydym ni yn gennadau tros Grist, megis pe byddei Duw yn deisyf arnoch trwyddom ni; yr ydym yn erfyn tros Grist, cymmoder chwi â Duw.
21 Canys yr hwn nid adnabu bechod, a wnaeth efe yn bechod trosom ni, fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef,
PEN. VI.
A Ninnau gan gydweithio, ydym yn attolwg i chwi, na dderbynioch râs Duw yn ofer:
2 (Canys y mae efe yn dywedyd, Mewn amser cymmeradwy i'th wrandewais, ac yn nydd iechydwriaeth i'th gynhorthwyais: wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr iechydwriaeth.
3 Heb roddi dim achos tramgwyd mewn dim, fel na feier ar y gweinidogaeth.
4 Eithr gan ein dangos ein hunain ymmhob peth, fel gweinidogion Duw, mewn ammynedd mawr, mewn cystuddiau, mewn anghenion, mewn cyfyngderau.
5 Mewn gwialennodiau mewn carcharau, mewn terfyscu, mewn poenau, mewn gwiliadwriaethau, mewn ymprydiau,
6 Mewn purdeb, mewn gwybodaeth, mewn hîr-ymaros, mewn tirioneb yn yr Yspryd glân, mewn cariad diragrith.
7 Yngair y y gwirionedd, yn nerth Duw, trwy arfau cyfiawnder, ar ddehau, ac ar asswy,
8 Trwy barch ac amharch, trwy anglod a chlôd, megis twyllwyr, ac [er hynny] yn eir-wir:
9 Megis anadnabyddus, ac er hynny] yn adnabyddus, megis yn meirw, ac wele byw ydym; [Page 595] megis wedi ein ceryddu, a heb ein lladd,
10 Megis wedi ein tristau, ond yn oestad yn llawen; megis yn dlodion, ond yn cyfoethogi llawer: megis heb ddim cennym, ond [etto] yn meddiannu pôb peth.
11 Ein genau ni a agorwyd wrthych chwi o Gorinthiaid, ein calon ni a agorwyd.
12 Ni chyfyngwyd arnoch ynom ni, eithr cyfyngwyd arnoch yn eich ymyscaroedd eich hunain.
13 Ond am yr vn tâl, yr ydwyf yn dywedyd megis wrth [fy] mhlant: ehenger chwithau hefyd.
14 Na iauer chwi yn anghymharus gyd â'r rhai di-grêd. Canys pa gyfeillach sydd [rhwng] cyfiawnder, ac anghyfiawnder, a pha gymmundeb [rhwng] goleuni a thywyllwch?
15 A pha gysondeb sydd rhwng Christ a Belial? neu pa ran sydd i gredadyn gŷd ag anghredadyn.
16 A pha gydfod [sydd] rhwng Teml Dduw ac eulynod; canys Teml y Duw byw ydych chwi; fel y dywedodd Duw; Mi a bresswyliaf ynddynt, h [...] a rodiaf yn [en mysc,] ac a fyddaf yn Dduw iddynt hwy, a hwy a fyddant yn bobl i mi.
17 O herwydd pa ham, denwch allan o'u canol hwy, ac ymddidolwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch, medd yr Arglwydd, ac na chyffyrddwch a dim aflan, ac mi a'ch derbyniaf chwi:
18 Ac a fyddaf yn Dâd i chwi, a chwithau a fyddwch yn feibion, ac yn ferched i mi; medd yr Arglwydd Holl-alluog.
PEN. VII.
AM hynny gan fôd gennym yr addewidion hyn (anwylyd) ymlanhawn oddiwrth-bob halogrwydd cnawd ac yspryd, gan berffeithio sancteiddrwydd yn ofn Duw.
2 Derbiniwch ni, ni wnaethom gam i nêb; ni lygrasom nêb; nid yspeiliasom nêb.
3 Nid i'ch condemnio yr wyf yn dywedyd; canys mi a ddywedais o'r blaen eich bod chwi yn ein calonnau ni, i farw ac i fyw gyd â [chwi.]
4 [Y mae] hyfder fy ymadrodd yn fawr wrthych. [mae gennif] orfoledd mawr o'th plegid chwi; yr wyf yn llawn o ddiddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd, yn ein holl orthrymder.
5 Canys wedi ein dyfod ni i Macedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ym mhob peth, cystuddiedig [fuom,] oddi allan [yr oedd] ymladdau, oddi fewn ofnau.
6 Eithr Duw yr hwn sydd yn diddanu y rhai cystuddiedig, a'n diddanodd ni wrth ddifodiad Titus.
7 Ac nid yn vnig wrth ei ddyfodiad ef, ond hefyd wrth y diddanwch â'r hwn y diddanwyd ef ynoch chwi, pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar chwi, eich zêl tuag attafi, fel y llawenheais i yn fwy.
8 Canys er i mi eich tristâu chwi mewn llythyr nid yw edifar gennif, er bôd yn edifar gennif; canys yr w [...] yn gweled dristâu o'r llythyr hwnnw chwi, er [nad oedd ond] tros amser.
9 Yn awr yr ydwyf yn llawen, nid am eich tristâu chwi, ond am eich tristâu i edifeirwch; canys [Page 597] tristâu a wnaethoch yn dduwiol, fel na chaech golled mewn dim oddi wrthym ni.
10 Ganys duwiol dristwch sydd yn gweithio edifeirwch, er iechydwriaeth ni bydd eifeîrwch o honi, eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angeu.
11 Canys wele hyn ymma, eich tristâu chwi yn dduwiol, Pa astudrwydd ei faint a weithiodd ynoch? ie pa amddiffyn; ie pa sorriant, ie pa ofn, ie pa awydd-fryd, ie pa zêl, ie pa ddial? ym mhob peth y dangosasoch eich bôd yn bur yn y peth hyn.
12 O herwydd pa ham, er scrifennu o honof attoch, ni [scrifennais] o'i blegid ef a wnaethei y cam, nac oblergit y hwn a gawsei gam, ond er mwyn bôd yn eglur i chwi ein gofal trosoch gerbron Duw.
13 Am hynny, ni a ddiddanwyd yn eich diddanwch chwi: a mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus oblegid esmwythâu ar ei yspryd ef gennych chwi oll.
14 Oblegid os bostiais ddim wrtho ef am danoch, ni'm cywilyddiwyd: eithr megis y dywedasom wrthych bob dim mewn gwirionedd, felly hefyd gwirionedd oedd ein bôst ni, yr hwn [a fu] wrth Titus.
15 Ac y mae ei ymyscaroedd ef yn halaethach tu ag attoch, wrth gofio o honaw eich vfydddod chwi oll, pa fôdd trwy ofn a dychryn, derbyniasoch ef.
16 Am hynny llawen wyf, am fôd i mi hyder arnoch ym mhôb dim
PEN. VIII.
YR ydym ni hefyd yn yspysu i chwi, frodyr, y grâs Duw a roddwyd yn Eglwysi Macedonia:
2 Ddarfod mewn mawr brofiad cystudd, i helaethrwydd eu llawenydd hwy, a'u dwfn dlodi, ymhelaethu i gyfoeth eu haelioni hwy.
3 Oblegid yn ôl eu gallu, (yr wyfi yn dŷst) ac vwch-law eu gallu, [yr oeddynt] yn ewyllysgar o honynt eu hunain.
4 Gan ddeisyfu arnom trwy lawer o ymbil, ar dderbyn o honom ni y rhôdd, a chymdeithas gweinidogaeth y Sainct.
5 A [hyn a wnaethant] nid fel yr oeddym ni yn gobeithio, ond hwy a'i rhoddasant eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninneu trwy ewyllys Duw.
6 Fel y dymunasom ni a'r Titus, megis y dechreuasei efe o'r blaen, felly hefyd orphen o honaw yn eich plith chwi y gras hwn hefyd.
7 Eithr, fel yr ydych ym-mhôb peth yn helaeth, mewn ffydd, a gair, a gwybodaeth, a phôb astudrwydd, ac yn eich cariad tu ag attom ni, [edrychwch] a'r fôd o honoch yn y gras hwn hefyd yn ehelaeth.
8 Nid trwy orchymmyn yr ydwyf yn dywedyd, ond oblegid diwydrwydd rhai eraill, a chan brofi gwirionedd eich cariad chwi.
9 Canys chwi a adwaenoch râs ein Harglwydd Jesu Ghrist, iddo ef, ac ynteu yn gyfoethog fyned er eich mwyn chwi yn dlawd, fel y cyfoethogid chwi trwy eî dlodi ef.
10 Ac yr ydwyf yn rhoddi cyngor yn hyn, canys hyn sy dda i chwi, y rhai a rag-ddechreuasoch, nid yn vnig wneuthnr, ond hefyd ewyllysio er y llynedd.
11 Ac yn awr, gorphennwch wneuthur hefyd, fel, megis ac yr oedd y parodrwydd i ewyllysio, felly [y byddo] i gwplau hefyd, o'r hyn sydd gennych.
12 Canys os bydd parodrwydd [meddwl] o'r blaen; yn ôl yr hyn sydd gan vn, y mae yn gymmeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.
13 Ac nid fel y byddai esmwythdra i eraill, a chystudd i chwithau,
14 Eithr o gymhwysdra: y pryd hyn [bydded] eich helaethrwydd chwi, yn [diwallu] eu diffyg hwy, fel y byddo eu helaethrwydd hwythau yn [diwallu] eich diffyg chwithau, fel y byddo cymhwysdra.
15 Megis y mae yn scrifennedig, Yr hwn [a gasclodd] llawer, nid oedd ganddo weddill, ac [a gasclodd] ychydig, nid oedd arno eisieu.
16 Eithr i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn a roddodd yr vn diwydrwydd trosoch ynghalon Titus.
17 Oblegid yn wir, efe a dderbyniodd y dymuniad, a chan fod yn fwy diwyd, a aeth attoch o'i wir-fodd eu hun.
18 Ni a anfonasom hefyd gyd ag ef, y brawd yr hwn [y mae] ei glôd yn yr Efengyl, trwy 'r holl Eglwysi:
19 Ac nid [hynny] yn vnic, eithr hefyd a ddewiswyd gan yr Eglwysi i gydymdaith â ni? âr grâs hyn, yr hwn a wasanaethir gennym, er gogoniant i'r Arhlwydd ei hun, ac [i amlygu] parodrwydd eich [meddwl] chwi.
20 Gan ochelyd hyn, rhag i neb feio arnom yn yr helaethrwydd ymma, yr hwna wasanaethir gennym.
21 Y rhai ydym yn rhag ddarpar pethau onest, nid yn vnig yngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yngolwg dynion.
22 Ac ni a anfonasom gyd â hwynt ein brawd, yr hwn a brofasom mewn llawer o bethau, lawer gwaith, ei fôd ef yn ddyfal, ac yn awr yn ddyfalach o lawer, am y mawr ymddiried y sydd gennif ynoch.
23 Os [gofynnir] am Titus fy nghydymaith [yw,] a chydweithydd tu ag attoch chwi; neu [am] ein brodyr, cennadau yr Eglwysi [ydynt,] a gogoniânt Christ.
24 Am hynny dangoswch iddynt hwy yspysrwydd o'ch cariad, ac o'n bôst ninneu am danoch chwi, yngolwg yr Eglwysi.
PEN. IX.
CAnys, tu ag at am y weinidogaeth i'r Saint, afraid yw i mi scrifennu attoch.
2 O herwydd mi a adwaen barodrwydd eich [meddwl] chwi, yr hwn yr ydwyf yn ei fostio wrth y Macedoniaid am danoch chwi, fod Achaiah wedi ymbaratoi er y llynedd, a'r zêl [a ddaeth] oddiwrthych chwi a annogodd lawer iawn.
3 A mi a ddanfonais y brodyr, fel na byddo ein bôst ni am danoch chwi yn ofer yn y rhan hon, fel, megis y dywedais, y byddoch wedi ymbaratoi.
4 Rhag, os y Macedoniaid a ddeuant gyd a mi, a'ch cael chwi yn ammharodd, bod i ni (ni ddywedaf, i chwi) gael cywilydd yn y fost hyderus ymma.
5 Mi a dybiais gan hynny, yn anghenrheidiol attolwg i'r brodyr, ar yddynt ddyfod o'r blaen [Page 601] attoch, a rhag-ddarparu eich bendith chwi, yr hon a fynegwyd, fel y byddo parod, megis bendith, ac nid megis o gybydddra.
6 A hyn [yr wyf yn ei ddywedyd,] yr hwn sydd yn hau yn brin, a fêd hefyd yn brin, a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fêd hefyd yn helaeth.
7 Pôb vn megis y mae yn rhag-arfaethu yn ei galon, [felly rhodded,] nid yn athrist, neu trwy gymmell, canys rhoddwr llawen y mae Duw yn ei garu.
8 Ac y mae Duw yn abl i beri i bôb grâs fôd yn helaeth tu ag attoch chwi, fel y byddoch chwi ym-mhôb peth, bôb amser, a chennych bôb digonoldeb, yn helaeth i bob gweithred dda:
9 (Megis yr scryfennwydd, Efe a wascarodd, rhoddodd i'r tlodion, ei gyfiawnder ef sydd yn aros yn dragywydd.
10 A'r hwn sydd yn rhoddi hâd i'r hauwr, rhodded hefyd fara yn ymborth, ac amlhaed eich hâd, a chwaneged ffrwyth eich cyfiawnder.)
11 Wedi eich cyfoethogi ymmhob peth, i bôb haelioni, yr hwn sydd yn gweithio trwom ni ddiolch i Duw.
12 Canys y mae gweinidogaeth y swydd hon, nid yn vnic yn cyflawni diffygion y Sainct, ond hefyd yn ymhelaethu trwy aml roddi diolch i Dduw.
13 Gan eu bôd trwy brofiad y weinidogaeth hon yn gogoneddu Duw o herwydd darostyngiad eich cyffes chwi i Efengyl Ghrist, ac [o herwydd] haelioni eich cyfrannad iddynt hwy, ac i bawb:
14 A thrwy eu gweddi hwythau trosoch chwi, [y rhai ydynt] yn hiraethu am danoch chwi, am y rhagar ol râs Dduw, [yr hwn sydd] ynoch.
15 Ac i Dduw y byddo 'r diolch am ei ddawn annrhaethl.
PEN. X.
A Myfi Paul wyf fy hun yn attolwg i chwi, er addfwynder a hynawsedd Christ, yr hwn, yn bresennol [wŷf] wael yn eich plith, ond yn absennol ydwyf yn hŷ arnoch.
2 Ac yr ydwyf yn dymuno na byddwyf yn bresennol yn hyf, â'r hyder yr wyf yn meddwl bôd tu ag at rai, y sy yn ein cyfrif ni megis rhai yn rhodio megis ar ôl y cnawd.
3 Canys er ein bod ni yn rhodio yn y cnawd, nid ydym yn milwrio yn ôl y cnawd.
4 Canys arfau ein milwriaeth ni, nid [ydynt] gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r lawr.
5 Gan fwrw dychymmygion i lawr, a phôb vchder ac sy yn ymgodi yn erbyn gŵybodaeth Dduw, a chan gaethiwo pob meddwl i vfydd-dod Christ:
6 Ac yn barod gennym ddial ar bob anufydddod, pan gyflawner eich vfydd-dod chwi.
7 Ai edrych yr ydych chwi ar bethau yn ôl y golwg? os ymddiried nêb ynddo ei hun, ei fôd efe yn eiddo Christ, meddylied hyn drachefn o honaw ei hun, megis ac [y mae] efe yn eiddo Christ, felly [ein bôd] ninnau hefyd yn eiddo Christ.
8 Oblegid pe bostiwn beth ychwaneg hefyd am ein hawdurdod, yr hon a roddodd yr Arglwydd [Page 605] i ni er adeilad, ac nid er eich dinistr chwi, ni'm cywilyddidd.
9 Fel na thybier fy mod megis yn eich dychrynu chwi trwy lythyrau.
10 Oblegid y llythyrau yn wir, meddant, [sy] drymion, a chryfion, eithr presennoldeb y corph sydd wan, a'r ymadrodd yn ddirmygus.
11 Y cyfrwy vn, meddylied hyn, mai y fath ydym ni ar air, drwy lythyrau yn absennol, yr vn fath hefyd [a fyddwn] a'r weithred yn bresennol.
12 Canys nid ŷm ni yn beiddio ein cydstadlu, neu ein cyffelybu ein hunain, i rai sy yn eu canmol eu hunain: eithr hwynt hwy gan eu mesur eu hunain wrthynt eu hunain, a'i cyffelybu eu hunain iddynt eu hunain, nid ydvnt yn deall.
13 Eithr ni fostiwn ni hyd at bethau allan [o'n] mesur, ond yn ôl mesur y rheol a rannodd Duw i ni, mesur, i gyrhaeddyd hyd attoch chwi hefyd.
14 Canys nid ydym, megis [rhai] heb gyrrhaeddyd hyd attoch chwi, yn ymystyn allan tu hwnt i'n mesur: canys hyd attoch chwi hefyd y daethom ag Efengyl Grist.
15 Nid gan fostio hyd at bethau allan [o'n] mesur, yn llafur [rhai] eraill, eithr gan obeithio pan gynnyddo eich ffydd chwi, gael ynoch chwi ein mawrygu yn ôl ein rheol, yn ehelaeth:
18 I bregethu yr Efengyl tu hwnt i chwi: ac nid i fostio yn rheol vn arall, am bethau parod eusys.
17 Eithr yr hwn sydd yn ymfrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.
18 Canys nid yr hwn sydd yn ei ganmol ei hun, sydd gymmeradwy, ond yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ganmol.
PEN. XI.
O Na chyd ddygech â myfi ychydig yn fy ffolineb, eithr hefyd cyd-ddygwch â myfi.
2 Canys eiddigus wyf trosoch, ac eiddigedd duwiol; canys mi a'ch dyweddiais chwi i vn gwr, i'ch rhoddi chwi megis morwyn bûr i Grist.
3 Ond y mae arnaf ofn, rhag mewn modd yn y bŷd, megis y twyllodd y sarph Efa, trwy ei chyfrwysdra, felly bôd eich meddyliau chwi wedi eu llygru oddi wrthy symlrwydd sydd yn Ghrist.
4 Canys yn wir os ydyw yr hwn sydd yn dyfod, yn pregethu Jesu arall, yr hwn ni phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn yspryd arall, yr hon ni's dderbyniasoch, neu Efengyl arall, yr hwn ni dderbyniasoch, têg y cyd-ddygech [ag ef.]
5 Canys yr ydwyf yn meddwl, na bum i ddim yn ol i'r Apostolion pennaf.
6 Ac os [ydwyf] hefyd yn anghyfarwydd ar ymadrodd, etto nid [wyf] felly mewn gwybodaeth, eithr yn eich plith chwi, nyni a eglurhawyd yn hollawl ym-mhôb dim.
7 A wneuthym i fai wrth fy ngostwng fy hun, fel y derchefid chwi; oblegid pregethu o honof i chwi Efyngyl Dduw yn rhad?
8 Eglwysi eraill a yspeiliais, gan gymmeryd cyflog ganddynt hwy, i'ch gwasanaethu chwi.
9 A phan oeddwn yn bresennol gyd â chwi, ac arnaf eisieu, ni ormesais ar neb, canys fy eisieu i a gyflawnodd brodyr a ddaethent o Macedonia: ac ym-mhôb dim i'm cedwais fy hun heb pwyso arnoch, ac mi a ymgadwaf.
10 Fel y mae gwirionedd Christ ynof, ni argaeir yr ymffrost hyn yn fy erbyn, yngwledydd Archaia.
11 Pa ham? [ai] am nad wyf yn eich caru chwi? Duw a'i gŵyr.
12 Eithr yr hyn yr ŵyf yn ei wneuthur, a wnaf hefyd: fel y torrwyf ymmaith achlysur oddi wrth y rhai sy yn ewyllysio cael achlysur; fel yn yr hyn y maent yn ymffrostio, y caer hwynt megis ninnau hefyd.
13 Canys y cyfryw gau Apostolion [sy] weithwŷr twyllodrus, wedi ymrithio yn Apostolion i Grist.
14 Ac nid rhyfedd, canys y mae Saran yntef yn ymrithio yn Angel goleuni.
15 Gan hynny nid mawr yw, er ymrithio ei weindogion ef fel gweinidogion cyfiawnder, y rhai y bydd eu diwedd yn ôl eu gweithredoedd.
16 Trachefn meddaf, na thybied neb fy môd i yn ffôl: os amgen, etto derbyniwch fi fel ffôl, fel y gallwyf finew hefyd ymffrostio ychydig.
17 Yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, nid ydwyf yn ei ddywedyd yn ôl yr Arglwydd, eithr megis mewn ffolineb, yn hyn o fôst hyderus.
18 Gan fôd llawer yn ymffrostio yn ôl y cnawd, minneu a ymffrostiaf hefyd.
19 Canys yr ydych yn goddef, ffyliaid yn llawen, gan fôd eich hun yn synhwyrol.
20 Cânys yr ydych yn goddef, os bydd vn i'ch caethiwo, os bydd vn i'ch llwyr-fwytta, os bydd vn yn cymmeryd [gennych,] os bydd vn yn ymdderchafu, os bydd vn yn eich taro chwi ar [eich] wineb.
21 Am amharch yr ydwyf yn dywedyd, megis pe buasem ni weiniaid: eithr ym mha beth bynnag y mae nêb yn hyf, (mewn ffolineb yr wyf yn dywedyd) hŷ wyf finneu hefyd.
22 Ai Hebræaid ydynt hwy? felly finneu. Ai Israeliaid ydynt hwy? felly finneu. Ai hâd Abraham ydyn hwy? felly finneu.
23 Ai gweinidogion Christ ydynt hwy? (yr ydwyf yn dywedyd yn ffôl) mwy [wyf] fi Mewn blinderau yn helaethach, mewn gwialennodiau tros fesur, mewn carcharau yn amlach, mewn marwolaethau yn fynych.
24 Gan yr Iddewon bum-waith y derbyniais ddeugain [gwialennod] onid vn.
25 Tair gwaith i'm curwyd â gwiail; vnwaith i'm llabyddiwyd; teir gwaith torrodd llong arnaf; noswaith a diwrnod y bum yn y dyfn-fôr.
26 Mewn teithian yn fyny h, ym mheryglon llif-ddyfroedd; ym mherygion lladron; ym mheryglon fy nghenedl [fy hun;] ym mheryglon gan y Cenhedloedd; ym mheryglon yn y ddinas; ym mheryglon yn yr anialwch; ym mheryglon ar y môr; ym mheryglon ym mhlith brodyr gau.
27 Mewn llafur a lludded: mewn anhunedd yn fynch; mewn mewyn â syched; mewn ymprydiau yn fynych; mewn anwyd a noethni.
28 Heb law y pethau [sy yn digwyd] oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf] beunydd, y gotal tros yr hôll Eglwysi.
29 Pwy sy wan, nad ŵyf finneu wan? pwy a dramgwyddir, nad wŷf finneu yn llosci?
30 Os rhaid ymffrostio, mi a ymffrostiaf am y pethau sy yn perthyn i'm gwendid.
31 Duw, a Thâd ein Harglwydd ni Iesu Grist, yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, a ŵyr nad wyf yn dywedyd celwydd.
32 Yn Damascus, y llywydd tan Aretas y brenin, a wiliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i.
33 A thrwy ffenestr mewn basced i'm gollyngwyd a'r hyd y mur, ac y diengais o'i ddwylaw ef.
PEN. XII.
YMffrostio yn ddiau nid yw fuddiōl i mi; canys myfi a ddeuaf at weledigaethu, a datcuddiedigaethau yr Arglwydd.
2 Mi a adwaenwn ddyn yn Ghrist, er ys rhagor i bedair blynedd ar dêc, (pa vn ar yn y corph, ni wn, ai allan o'r corph, ni wn i, Duw a ŵyr,) y cyfryw [vn] a gippiwyd i fynu hyd y drydedd nef.
3 Ac mi a adwaenwn y cyfryw ddyn (pa vn ai yn y corph, ai allan o'r corph ni wn i, Duw a ŵyr.)
4 Ei gippio ef i fynu i Baradwys, ac iddo glywed geiriau annhraethadwy, y rhai nid yw gyfreithlon i ddŷn eu hadrodd.
5 Am y cyfryw [vn yr ymffrostiaf, eithr am danaf fy hun nid ymffrostiaf, oddieithr yn fy ngwendid.
6 Canys os ewyllysiaf ymffrostio, ni byddaf ffôl; canys mi a ddywedaf y gwir eithr yr wyf yn arbed, rhag i neb wneuthyr cyfrif o honofi, vwch law y mae yn gweled fy mod, neu yn ei glywed gennif.
7 Ac fel nam tra derchafer gan odidowgrwydd [Page 608] y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, cennad Satan, i'm cernodio, fel na'm tra darchefid.
8 Am y peth hyn mi a attolygais i'r Arglwydd deir, gwaith, ar fod iddo ymadei â mi.
9 Ac efe a ddywedodd wrthif, Digon i ti fy ngrâs i; cayns fy nerth i a berffeithir mewn gwendid: yn llawen iawn gan hynny yr ymffrostiaff fi, yn hytrach yn fi ngwendid, fel y preswylio nerth Christ ynofi.
10 Am hynny yr wyf yn fodlawn mewn gwendid, mewn ammarch, mewn angehenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau er mwyn Christ: canys pan wyf wan, yna yr wyf gadarn.
11 Mi a euthym yn ffol wrth ymffrostio; chwychwi a'm gyrrasoch; canys myfi a ddylaswn gael fy nghanmol gennych chwi: canys ni bûm i ddim yn ôl i'r Apostolion pennaf, er nad yd wyfi ddim.
12 Arwyddion Apostol yn wir a weithredwyd yn eich plith chwi, mewn pôb amynedd, mewn arwyddion, a rhyfeddodau, a gweithredoedd nerthol.
13 Cayns beth yw yr hyn y buoch chwi yn ôl am dano, mwy, nâ'i Eglwysi eraill, oddieithr am na bûm i fy hun ormesol arnoch? Maddeuwch i mi hyn o gam.
14 Wele, y drydedd waith yr wyfi yn barod i ddyfod attoch, ac ni byddaf ormesol arnoch; cayns nid yd wyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chwy chwi; canys ni ddylei y plant gasclu tryssor i'r rhieni, ond y rhieni i'r plant.
15 A myfi yn ewyllysgar iawn a dreuliaf, ac [Page 609] a ymdreuliaf tros eich eneidia chwi, er fy môd yn eich caru yn helaethach, ac yn cael fy ngharu yn brinnach.
16 Eithr bid, Ni phwysais i arnoch: ond gan fod yn gyfrwys, mi a'ch deliais chwi, trwy ddichell.
17 A wneuthum i elw o honoch chwi drwy neb o'r rhai a ddanfonais attoch?
18 Mi a ddeisyfiais ar Titus, a chyd [ag ef] mi a anfonais frawd: a elwodd Titus ddim arnoch? Onid yn yr vn yspryd y rhodiasom? Onid yn yr vn llwybrau?
19 Drachefn, A ydych chwi yn tybied mai ymescusodi yr ydym wrchych? Ger bron Duw yn Ghrist yr ydym yn llefaru: a phôb peth, anwylyd, er adeiladaeth i chwi.
20 Canys ofni yr wyf, rhag pan ddelwyf, na'ch caffwyf yn gyfryw rai ac a fynnwn; a'm cael inneu i chwithau yn gyfryw ac nis mynnech, rhag [bôd] cynhennau, cenfigennau, llidiau ymrysonau, goganau, hustingau, ymchwyddiadau, anghydfyddiaethau.
21 Rhac pan ddelwyf drachefn, fôd i'm Duw fy narostwng yn eich plith, ac i mi ddwyn galar dros lawer, y rhai a bechasant eusys, ac nid edifarhasant am yr aflendid, a'r godineb, a'r anlladrwydd a wnaethant.
PEN. XIII.
Y Drydedd waith hon yr ydwyf yn dyfod attoch. Yngenau dau neu dri o dystion y bydd safadwy pob gair.
2 Rhag ddywedais i chwi, ac yr ydwyf yn rhagddywedyd, fel [pe bawn] yn bresennol, [Page 610] yr ail waith, ac yn absennol yr awron, yr ydwyf yn scrifennu at y rhai a bechasant eusys, ac at y lleill i gŷd, os deuaf drachefn, nad arbedaf:
3 Gan eich bôd yn ceisio profiad o Grist, yr hwn sydd yn llefaru ynof, yr hwn tu ag attoch chwi nid yw wan, eithr sydd nerthol ynoch chwi.
4 Canys er ei groes-hoelio ef o ran gwendid, etto byw ydyw drwy nerth Duw; canys ninnau hefyd ydym weiniaid ynddo ef, eithr byw fyddwn gyd ag ef, trwy nerth Duw tu ag attoch chwi.
5 Profwch chwychwi eich hunain, a ydych yn y ffydd; holwch eich hunain. Ai nid ydych yn eich adnabod eich hunain, [sef] bôd Iesu Grist ynoch, oddi eithr i chwi fôd yn anghymmeradwy?
6 Ond yr wyf yn gobeithio y gwybyddwch nad ydym ni yn anghymmeradwy.
7. Ac yr wyf yn gweddio ar Dduw na wneloch chwi ddim drwg, nid fel yr ymddangosom ni yn gymmeradwy, ond fel y gwneloch chwi yr hyn sydd dda, er bôd o honom ni megis rhai anghymmeradwy.
8 Canys ni allwn ni ddim yn erbyn y gwirionedd, ond tros y gwirionedd.
9 Canys llawn ydym, pan fyddom ni yn weiniaid, a chwithau yn gryfion. A hyn hefyd yr ydym yn ei ddymuno, [sef] eich perffeithrwydd.
10 Am hynny, myfi yn absennol ydwyf yn scrifennu y pethau hyn, fel pan fyddwyf bresennol nad arferwyf doster, yn ôl yr awdurdod a roes yr Arglwydd i mi, er adeilad, ac nid dinystr.
11 Bellach frodyr byddwch wych; byddwch berfaith; diddaner chwi; syniwch yr vn peth; byddwch heddychol. A Duw y cariad a'r heddwch a fydd gyd â chwi.
12 Anherchwch ei gilydd â chusan sanctaidd. Y mae 'r holl Sainct yn eich annerch chwi.
13 Gras ein Harglwydd Iesu Grist, a chariad Duw, a chymdeithas yr Yspryd glan, a fyddo gyd â chwi oll. Amen.
EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT Y GALATIAID.
PEN. I.
PAVL Apostol, nid o ddynion, na thrwy ddŷn, eithr trwy Iesu Ghrist, a Duw Tâd, yr hwn a'i cyfododd ef o feirw,
2 A'r brodyr oll, y rhai sy gyd â mi, at Eglwysi Galathia:
3 Gras fyddo chwi, a heddwch oddiwrth Dduw Tâd, a'n Harglwydd Iesu Grist:
4 Yr hwn a'i rhoddes ei hun tros ein pechodau, fel i'n gwaredei ni odi wrth y bŷd drwg presennol, yn ôl ewyllys Duw a'n Tad ni:
5 I'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
6 Y mae yn rhyfedd gennif eich symmud mor fuan oddi wrth yr hwn a'ch galwodd i râs Crist, at Efyngyl arall:
7 Yr hon nid yw arall: ond bôd rhai yn eich [Page 612] trallodi chwi, ac yn chwennych dattroi Efengyl Grist.
8 Eithr pe byddei i ni, neu i Angel o'r nef, efangylu i chwi, amgen na'r hyn a efangylasom i chwi, bydded anathema.
9 Megis y rhag-ddywedasom, felly yr ydwyf yr awron drachefn yn dywedyd, os efangyla neb i chwi amgen nâ'r hyn a dderbyniasoch, bydded anathema.
10 Canys yr awron, ai peri credu dynion yr wŷf, ynteu Duw? neu a ydwyfi yn ceisio rhyngu bodd ddynion: canys pe rhyngwn fodd dynion etto, ni byddwn was i Grist.
11 Eithr yr ydwyf yspysu i chwi, frod yr, [am] yr Efengyl a bregethwyd gennifi, nad yw hi ddynol.
12 Canys nid gan ddŷn y dderbyniais i hi, nac i'm dyscwyd: eithr trwy ddatcuddiad Iesu Grist.
13 Canys chwi a glywsoch fy ymarweddiad i gynt yn y Grefydd Iddewig, i mi allan o fesur erlid Eglwys Dduw, a'i hanrheithio hi.
14 Ac i mi gynyddu yn y Grefydd Iddewig, yn fwy na llawer o'm cyfoedion, yn fy nghenedl fy hun, gan fôd yn fwy awyddus i draddodiadau fy nhadau.
15 Ond pan welodd Duw yn dda, yr hwn a'm nailltuodd i o groth fy mam, ac â'm galwodd i trwy ei râs,
16 I ddatcuddio ei Fâb ef ynofi, fel y pregethwn ef ym mhlith y Cenhedloedd; yn y fan nid ymgynghorais â cig a gwaed:
17 Ac nid aethym yn fy ôl i Ierusalem ar y [Page 613] rhai oedd o'm blaen i yn Apostolion: ond mi a aethym i Arabia, a thrachefn y dychwelais i Ddamascus.
18 Yna yn ôl tair blynedd y daethym yn fy ôl i Ierusalem i ymweled â Phetr: ac a arhosais gyd ag ef bymtheng nhiwrnod.
19 Eithr [neb] arall o'r Apostolion ni's gwelais, ond laco, brawd yr Arglwydd.
20 A'r pethau yr wŷf yn eu scrifennu attoch, wele, ger bron Duw nad wyd yn dywedyd celwydd.
21 Wedi hynny y daethym i wledydd Syria a Cilicia;
22 Ac yr oeddwn heb fy adnabod wrth [fy] wyneb yn Eglwysi Iudæa, y rhai [doedd yn Grist.]
23 Ond yn vnic hwy a glwysent, fôd yr hwn oedd gynt yn ein henlid ni, yr awron yn pregethu y ffydd, yr hon gynt a anrheithiasei.
24 A hwy a ogoneddasant Dduw ynofi.
PEN. II.
YNa wedi pedair blynedd ar ddêc yr aethym drachefn i fynu i Ierusalem gyd â Barnabas, gan gymmeryd Titus hefyd gydâ [mi.]
2 Ac mi a aethym i fynu yn ôl datcuddiad, ac a fynegais iddynt yr Efyngyl, yr hon yr wŷf yn ei phregethu ym mhlith y Cenhedloedd: ond o'r nailtu, i'r rhai cyfrifol, rhag mewn un modd fy môd yn rhedeg yn ofer, neu ddarfod i mi redeg.
3 Eithr Titus yr hwn [oedd] gyd â mi, er ei fôd yn Roegwr, ni chymmhellwyd chwaith i enwaedu arno.
4 A [hynny] o herwydd y gau-frodyr a [Page 614] ddygasid i mewn, y rhai a ddaethent i mewn i yspio ein rhydd-did ni, yr hon sydd gennym yn Ghrist Iesu, fel i'n caethiwent ni;
5 I ba rai nid ymroesom trwy ddarostyngiad, na ddo tros awr: fel yr arhosai gwirionedd yr Efengyl gyd â chwi.
6 A chan y rhai a dybid eu bôd yn rhyw beth, (pa fath gynt oeddyt, yw ddim i mi, nid yw Duw yn derbyn wyneb dŷn: canys y rhai cyfrifol ni chwanegasant ddim i mi.
7 Eithr yn y gwrthwyneb, pan welsant ddarfod ymddiried i mi am Efengyl y dienwaediad, megis am [Efengyl] yr Enwaediad i Petr:
8 (Canys yr hwn oedd yn gweithredu yn nerthol yn Petr, i apostolaeth yr Enwadiad, a nerthol weithredoedd ynofinnau hefyd tu ac at y Cenhedloedd.)
9 A phan wŷbu Iaco, a Cephas, ac Ioan, y rhai a dybid eu bôd yn golofnau y grâs a roddwyd i mi, hwy a roddasant i mi ac i Barnabas, ddeheuddwylo cymdeithas: fel [yr elem] ni at y Cenhedloed, a hwythau at yr Enwaediad.
10 Yn vnic ar fod i ni gofio 'r tlodion: yr hyn hefyd y bûm i ddiwyd iw wyeuthur.
11 A phan ddaeth Petr i Antiochia, mi a'i gwrthwynebais yn ei wyneb, am ei fod iw feio.
12 Oblegid cyn dyfod rhai oddi wrth Iaco, efe a fwyttâodd gyd â'r Cenhedloedd: ond wedi iddynt dyfodd, efe a giliodd ac a'i nailltuodd ei hun oddi wrthynt, gan ofni y rhai oedd o'r Enwaediad.
13 A'r Iddewon eraill hefyd a gyd-ragrithiasant ag ef; yn gymmaint ac y dygwyd Barnabas hefyd iw rhagrith hwy.
14 Eithr pan welais i nad oeddynt yn iawndroedio at wirionedd yr Efengyl, mi a ddywedais wrth Petr yn eu gwŷdd hwy oll, Os wyt ti, a thi yn Iddew, yn byw fel y Cenhedloedd, ac nid fel yr Iddewon, pa ham yr wyti yn cymmell y Cenhedloedd i fyw yn Iddewaidd?
15 Nyni y rhai wrth naturiaeth ydym Iddewon, ac nid o'r Cenhedloedd yn bechaduriaid;
16 Yn gwŷbod nad ydys yn cyfiawnhau dŷn trwy weithredoedd y Ddeddf, ond trwy ffydd Iesu Grist: ninneu hefyd a gredasom yn Grist, ac nid trwy weithredoedd y Ddeddf: oblegid ni chyfiawnheir vn cnawd trwy weithredoedd y Ddeddf.
17 Ac os wrth geisio ein cyfiawnhau yn Ghrist, i'n caed ninneu hefyd yn bechaduriaid, a ydyw Christ am hynny yn wenidog pechod? Na atto Duw.
18 Canys os wyfi yn adeiladu drachefn y pethau a ddestrywiais, yr wŷf yn fy ngwneuthur fy hun yn drosseddwr.
19 Canys yr wyfi trwy y Ddeddf wedi marw i'r Ddeddf, fel y byddwn fyw i Dduw.
20 Mi a groes-hoeliwyd gyd â Christ: eithr byw ydwyf, etto nid myfi, ond Christ fydd yn byw ynofi: a'r hyn yr ydwyf yr awron yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw yr ydwyf trwy ffydd Mab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a'i dodes ei hun drosofi.
21 Nid wŷf yn dirymmu grâs Duw: canys os o'r Ddeddf [y mae] cyfiawnder, yna y bu Ghrist farw yn ofer.
PEN. III.
O Y Galatiaid ynfyd, pwy a'ch rheibiodd chwi, fel nad vfuddhaech i'r gwirionedd: i ba rai o flaen eu llygaid y portreiadwyd Iesu Grist, wedi ei groes-hoelio yn eich plith?
2 Hyn yn vnic a ewyllysiaf ei ddyscu gennwch: ai wrth weithredoedd y Ddeddf y derbyniasoch yr Yspryd, ynteu wrth wrandawiad ffydd?
3 A ydych chwi mor ynfyd? gwedi i chwi ddechreu yn yr Yspryd, a berffeithir chwi yr awron yn y cnawd?
4 A ddioddefasoch gymmaint yn ofer? os yw ofer hefyd.
5 Yr hwn gan hynny sydd yn trefnu i chwi yr Yspryd, ac yn gwneuthur gwrthiau yn eich plith, a'i o weithredoedd y Ddeddf, ynteu o wrandawiad ffydd [y mae?]
6 Megis y credodd Abraham i Dduw ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder.
7 Gwŷbyddwch felly mai y rhai sy o ffydd, y rhai hynny yw plant Abraham.
8 A'r Scrithur yn rhag-weled mai trwy ffydd y mae Duw yn cyfiawnhau y Cenhedloedd, a rhagefangylodd i Abraham, [gan ddywedyd,] Ynot ti y bendithir yr holl Genhedloedd.
9 Felly gan hynny, y rhai sy o ffydd a fendithir gyd ag Abraham ffyddlon.
10 Canys cynnifer ac y sy o weithredoedd y Ddeddf, tan felldith y maent: canys scrifennwyd, Melldigedig yw pob vn nid yw yn aros vn yr holl bethau a scrifennir yn llyfr y Ddeddf, i'w gwneuthur hwynt.
11 Ac na chyfiawnheir neb trwy 'r Ddeddf ger [Page 617] bron Duw, eglur [yw:] oblegid y cyfiawn a fydd byw trwy ffydd.
12 A'r Ddeddf nid yw o ffydd: eithr dŷn a wna y pethau hynny, a fydd byw ynddynt.
13 Christ a'n llwyr-brynodd oddi wrth felldith y Ddeddf, gan ei wneuthur yn felldith trosom: canys y mae yn scrifennedig, Melldegedig yw pôb vn [sydd] ynghrog ar bren:
14 Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd, trwy Grist Iesu: fel y dderbyniem addewyd yr Yspryd trwy ffydd.
15 Y brodyr, dywedyd yr wŷf ar wedd ddynol, Cyd na byddo ond ammod dŷn, wedi y cadarnhaer, nid yw neb yn ei ddirymmu, neu yn rhoddi atto.
16 I Abraham y gwnaethpwyd yr addewidion, ac yw hâd ef. Nid yw yn dywedyd, Ac iw hadau, megis am lawer; ond megis am vn, Ac i'th hâd ti: yr hwn yw Christ.
17 A hyn yr wŷf yn ei dywedyd: am yr ammod a gadarnhawyd o'r blaen gan Dduw yn Ghrist, nad yw y Ddeddf oedd bedwar cant a dêc ar hugain o flynyddoedd wedi, en ei ddirymmu, i wneuthur yr addewid yn ofer.
18 Canys os o'r Ddeddf [y mae] yr etifeddiaeth, nid yw hayach o'r addewid: ond Duw a'i rhâd-roddodd i Abraham drwy addewid.
19 Beth gan hynny [yw] 'r Ddeddf? oblegid trosseddau y rhoddwyd hi yn ychwaneg, hyd oni ddelei yr hâd, i'r hwn y gwnaethid yr addewid: a hi a drefnwyd trwy Angelion, yn llaw Cyfryngwr.
20 A chyfryngwr, nid yw i vn: ond Duw sydd vn.
21 [A ydyw] y Ddeddf gan hynny yn erbyn addeweddion Duw? Na atto Duw: canys pe rhoesid Ddeddf a allasei fywhau, yn wîr o'r Ddeddf y buasai cyfiawnder.
22 Eithr cyd-gaeodd yr Scrythur bôb peth tan bechod, fel y rhoddid yr addewid trwy ffydd Iesu Grist, i'r rhai sy yn credu.
23 Eithr cyn dyfod ffydd, i'n cadwyd tan y Ddeddf, wedi ein cyd-gau i'r ffydd, yr hon oedd iw dad-cuddio.
24 Y Ddeddf gan hynny oedd ein hathro ni at Grist, fel i'n cyfiawnhaid drwy ffydd.
25 Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym hayach tan athro.
26 Canys chwi oll ydych blant i Dduw, drwy ffydd yn Ghrist Iesu.
27 Canys cynnifer o honoch ac a fedyddiwyd yn Grist, a wiscasoch Grist.
28 Nid oes nac Iddew, na Groegwr: nid oes na chaeth, na rhydd: nid oes na gwrryw na benyw: canys chwi oll vn ydych yn Ghrist Iesu.
29 Ac oes eiddo Christ [ydych,] yna hâd Abraham ydych, ac etifeddion yn ôl yr addewid.
PEN. IV.
A [Hyn] yr wŷf yn ei ddywedyd: dros gymmaint o amser ac y mae 'r etifedd yn fachgen nid oes dim rhagor rhyngddola gwâs, er ei fôd yn Arglwydd ar y cwbl.
2 Eithr y mae efe tan ymgeledd wŷr a lywodraethwyr, hyd yr amser a osodwyd gad y tâd.
3 Felly ninnau hefyd, pan oeddym fechgyn, oeddym gaethion tan wyddorion y bŷd:
4 Ond pan ddaeth cyflawnder yr amser, y danfonodd [Page 619] Duw ei Fâb, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tan y Ddeddf:
5 Fel y prynei y rhai [oedd] tan y Ddeddf, fel y derbyniem y mabwysiad.
6 Ac o herwydd eich bôd yn feibion, yr anfonodd Duw Yspryd ei Fâb, i'ch calonnau chwi yn llefain, Abba Dâd.
7 Felly nid wyti mwy yn wâs, ond yn fab: ac os mab, etifedd hefyd i Dduw trwy Grist.
8 Eithr y pryd hynny, oeddych heb adnabod Duw, chwi a wasanaethasoch y rhai wrth naturiaeth nid ydynt dduwiau.
9 Ac yn awr, a chwi yn adnabod Duw, ond yn hytrach yn adnabyddus gan Dduw, pa fodd yr ydych yn troi drachefn at y gwyddorion llesc a thlodion, y rhai yr ydych yn chwennych drachefn o newydd eu gwasanaethu?
10 Cadw yr ydych ddiwrnodiau, a misoedd, ac amseroedd, a blynyddoedd.
11 Y mae arnaf ofn am danoch, rhag darfod i mi boeni wrthych yn ofer.
12 Byddwch fel fyfi, canys yr wyfi fel chwi, y brodyr, attolwg i chwi ni wnaethoch i mi ddim cam.
13 A chwi a wŷdoch may trwy wendid y cnawd yr efangylais i chwi y waith gyntaf:
14 A'm profedigaeth, yr hon [oedd] yn fy nghnawd, ni ddiystyrasoch, ac ni ddirmygasoch: eithr chwi a'm derbyniasoch megis Angel Duw, megis Christ Iesu.
15 Beth wrth hynny oedd eich dedwyddwch chwi? canys tystio yr wŷf i chwi, pe buasei bossibl, y tynnasech eich llygaid, ac a'u rhoesech i mi.
16 A aethym i gan hynny yn elyn i chwi wrth ddywedyd i chwi y gwîr?
17 Y maent yn rhoi mawr-serch arnoch, ond nid yn dda, eithr chwennych y maent eich cau chwi allan, fel y rhoddoch fawr-serch arnynt hwy.
18 Eithr da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol, ac nid yn vnic tra fyddwyf bresennol gyd â chwi.
19 Fy mhlant bychain, y rhai yr wyf yn eu hescor drachefn, hyd oni ffurfier Christ ynoch.
20 Ac mi a fynnwn pe bawn yn awr gyd â chwi a newidio fy llais, o herwydd yr wyf yn ammau danoch honoch.
21 Dywedwch i mi y rhai ydych yn chwennych bôd tan y Ddedf, onid ydych chwi yn clywed y Ddeddf?
22 Canys y mae yn scrifennedig fôd i Abraham ddau fab: vn o'r wasanaeth-ferch, ac vn o'r [wraig] rydd.
23 Eithr yr hwn [oedd] o'r wasanaeth-ferch, a aned yn ôl y cnawd: a'r hwn [oedd] o'r [wraig] rydd, trwy 'r addewid.
24 Yr hyn bethau ydynt mewn alegori: canys y rhai hyn yw y ddaw Destament, vn yn ddiau o fynydd Sina, yn cenhedlu i gaethiwed, yr hon yw Agar.
25 Canys yr Agar ymma, yw mynydd Sina yn Arabia; ac y mae yn cyf-atteb i'r Ierusalem [sydd] yn awr, ac y mae vn g [...]th [hi] a'i phlant.
26 Eithr y Ierusalem honno vchod, sydd rydd, yr hon yw eîn mam ni oll.
27 Canys scrifennedig yw, Llawenhâ di yr ammhlantadwy yr hon nid wyt yn heppilio: torr allan a llefa, yr hon nid wyt yn escor: canys i'r vnic y mae llawer mwy o blant nag i'r hon y mae iddi wr.
28 A ninneu, frodyr, megis [yr oedd] Isaac, ydym blant yr addewid,
29 Eithr megis y pryd hynny, yr hwn a anwyd yn ôl y cnawd a erlidiai yr hwn [a anwyd] yn ôl yr Yspryd: felly yr awrhon hefyd.
30 Ond beth y mae i'r Scrythur yn ei ddywedyd? Bwrw allan y wasanaethferch, a'i mab: canys ni chain mab y wasanaeth-ferch etifeddu gyd â mab y [wraig] rydd.
31 Felly, frodyr, did plant i'r wasanaeth-ferch ydym, ond i'r [wraig] rydd.
PEN. V.
SEfwch gan hynny yn y rhydd-did â'r hon y rhyddhaodd Christ ni, ac na ddalier chwi drachefn dan iau caethiwed,
2 Wele, myfi Paul wŷf yn ddywedyd wrthych, os enwaedir chwi, ni les-hâ Christ ddim i chwi.
3 Ac yr wŷf yn aystiolaethu drachefn i bôb dŷn a'r a enwaedir, ei fôd efe yn ddyledwr i gadw yr holl Ddeddf.
4 Chwi a aethoch yn ddifudd oddi wrth Grist, y rhai ydych yn ymgyfiawnhau yn y Ddeddf: chwi a syrthiasoch ymmaith oddi wrth râs.
5 Canys nyni yn yr Yspryd drwy ffydd ydym yn disgwil gobaith cyfiawnder.
6 Canys yn Ghrist Iesu ni all enwaediad ddim, na di enwaediad, ond ffydd yn gweithio trwy gariad.
7 Chwi a redasoch yn dda pwy a'ch rhwystrodd chwi, fel nad vfyddhaech i'r gwirionedd?
8 Y cyngor [hyn] nid yw oddi wrth yr hwn sydd yn eich galw chwi.
9 Y mae vchydig lefein yn lefeinio yr holl does.
10 Y mae gennifi hyder am danoch yn yr Arglwydd, na syniwch chwi ddim arall: ond y neb sydd yn eich trallodi a ddwg farnedigaeth, pwy bynnag fyddo.
11 A myfi, frodyr, os yr Enwaediad etto yr wŷf yn ei bregethu, pa ham i'm erlidir etto? yn wir tynnwyd ymmaith dramgwydd y groes.
12 Mi a fynnwn, iê pe torrid ymaith y rhai sy yn aflonyddu arnoch.
13 Canys i rydd-did i'ch galwyd chwi, frodyr: yn vnic nac [arferwch y rhydd-did yn chlysur i'r cnawd, ond trwy gariad gwasanaethwch ei gilydd.
14 Canys yr holl Ddeddf a gyflawnir mewn vn gair, [sef] yn hwn, Câr dy gymmydog fel ti dy hun.
15 Ond Os cnoi a thraflyngcu ei gilydd yr ydych, gwiliwch na ddifether chwi gan ei gilydd.
16 Ac yr wŷf yn dywedyd, Rhodiwch yn yr Yspryd, ac na chyflawnwch drachwant y cnawd
17 Canys y mae y cnawd y chwennychu yn erbyn yr Yspryd, a'r Yspryd yn erbyn y cnawd: a'r rhai hyn a wrth wynebant ei gilidd fell na alloch wneuthur beth bynnag a ewyllysioch.
18 Ond os gan yr Ysprŷd i'ch ar weinir, nid ydych tan y Ddeddf.
19 Hefyd amlwg yw gweithredoedd y cnawd, [Page 623] y rhai yw, tor-priodas, godineb, aflendid, anlladrwydd,
20 Delw-addoliaeth, swyn-gyfaredd, casineb, cynhennau, gwŷnfydau, llid, ymrysonau, ymbleidio, heresiau,
21 Cenfigennau, llofrdiaeth, meddwdod, cyfeddach; a chyffelyb i'r rhai hyn, [am] y rhai yr wŷfi yn rhag-ddywedyd wrthych, megis ac y rhag-ddywedais, na chaiff y rhai sy yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw.
22 Eithr ffrwyth yr yspryd, yw cariad, llawenydd, tangneddyf, hir-ymaros, cymmwynasgarwch, daioni, ffydd, addfwynder, dirwest.
23 Yn erbyn y cyfryw nid oes Ddeddf.
24 A'r rhai [sydd] yn eiddo Christ a groeshoeliasant y cnawd, a'i wyniau, a'i chwanthau.
25 Os byw yr ydym yn yr Yspryd, rhodiwn hefyd yn yr Yspryd.
26 Na fyddwn wâg-ogonedd-gar, gan ymannog ei gilydd, gan ymgenfigennu wrth ei gilydd.
PEN. VI.
Y Brodyr, os goddiweddir dŷn ar ryw fai, chwy-chwi y rhai ysprydol adgyweiriwch y cyfryw vn, mewn yspryd addfwynder: gan dy ystyried dy hun, rhag dy demptio ditheu.
2 Dygwch feichiau ei gilydd, ac felly cyflawnwch gyfraith Christ.
3 Oblegid os tybia ned ei fôd yn rhyw beth, ac yntef heb fôd yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun.
4 Eithr profed pôb vn ei waith ei hun: ac [Page 624] yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn vnic, ac nid mewn arall.
5 Canys pôb vn a ddwg ei faich ei hun.
6 A chyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair, â'r hwn sydd yn ei ddyscu, ym-mhôb peth da.
7 Na thwyller chwi: ni watworir Duw: canys beth bynnac a hauo dŷn, hynny hefyd a fêd efe.
8 Oblegid yr hwn sydd yn hau iw gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau i'r Yspryd, o'r Yspryd a fêd fywyd tragwyddol.
9 Eithr yn gwneuthur daioni na ddiogwn: canys yn ei iawn bryd y medwn, oni ddeffygiwn.
10 Am hynny tra ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i'r rhai sy o deulu 'r ffydd.
11 Gwelwch cyhyd y llythyr a scrifennais attoch, âm llaw fy hun.
12 Cynnifer ac sy yn ewyllisio ymdeccâu yn y cnawd, y rhai hyn sy yn eich cymmell i'ch enwaedu, yn vnic fel nad erlidir hwy oblegid croes Christ.
13 Canis nid yw y rhai a enwaedir, eu hunain yn cadw y Ddeddf: ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel y gorfoleddont yn eich cnawd chwi.
14 Eithr na etto Duw i mi ymffrostio, ond ynghroes ein Harglwydd Iesu Grist; drwy yr hwn y croes-hoeliwyd y bŷd i mi, a minneu i'r bŷd.
15 Canys yn Ghrist Iesu ni dichon Enwaediad ddim, na di-enwaediad, ond creadur newydd.
16 A chynnifer ac a rodiant vn ôl y rheol hon, [Page 625] tangneddyf arnynt a thrugared, ac ar Israel Duw.
17 O hyn allan, na flined neb fi: canys dwyn yr wwŷfi yn fy nghorph nodau 'r Arglwydd Iesu.
18 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist [a fyddo] gyd â'ch yspryd chwi frodyr. Amen.
EPISTOL PAVL YR Apostle at yr EPHESIAID.
PENNOD I.
PAVL Apostol Iesu Grist trwy ewylls Duw, at y Saint sydd yn Ephesus, a'r ffyddloniaid yn Ghrist Iesu.
2 Grâs [fyddo] i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 Bendigedig [fyddo] Duw, a Thâd ein Harglwydd Iesu Grist yr hwn a'n bendithiodd ni â phôb bendith ysprydol, yn y nefolion [leodd] yn-Ghrist.
4 Megis yr etholod, efe ni ynddo ef cyn seiliad y bŷd, fel y bŷddem yn sanctiaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad:
5 Wedi iddo ein rhagluniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Ghrist iddo ei hun, yn ôl bodlonwydd ei ewyllys ef.
6 Er mawl gogoniant ei râs ef, trwy yr hwn y gwnaeth ni yn gymmeradwy yn yr anwylyd:
7 Yn yr hwn y mae i ni brynediagaeth trwy ei waed ef, [sef] maddeuant pechodau, yn ôl cyfoeth ei râs ef:
8 Trwy yr hwn y bu efe helaeth i ni ym mhôb doethineb a deall:
9 Gwedi iddo yspysu i ni ddirgelwch ei ewyllys, yn ôl ei fodlonrwydd ei hun, yr hon a arfaethasei efe ynddo ei hun:
10 Fel yngorchwiliaeth cyflawnder yr amseroedd, y gallai grynhoi ynghyd yn Ghrist yr holl bethau sydd yn y nefoedd, ac ar y ddaiar, ynddo ef;
11 Yn yr hwn i'n dewiswyd hefyd, wedi ein rhagluniaethu yn ôl arfaeth yr hwn sydd yn gweithio pôb peth wrth gyngor ei ewyllys ei hun:
12 Felly y byddem ni er mawl iw ogoniant ef, y rhai o'r blaen a obeithiasom yn Ghrist.
13 Yn yr hwn [y gobeithiasoch] chwithau hefyd, wedi i chwi glywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iechydwriaeth, yn yr hwn hefyd, wedi i chwi gredu, i'ch seliwyd trwy lân Yspryd yr addewid:
14 Yr hwn yw ernes ein etifeddiaeth ni, hyd bryniad y pwrcas, i fawl ei ogoniant ef.
15 O herwydd hyn, minneu hefyd wedi clywed eich ffydd yn yr Arglwydd Iesu, a'ch cariad tu ac at yr holl Sainct,
16 Nid wyf yn peidio â diolch trosoch, gan wneuthur cofia am danoch yn fy ngweddiau:
17 Ar i Dduw ein Arglwydd Iesu Grist, Tâd y gogoniant, roddi i chwi yspryd doethineb, a datcuddiad, trwy ei adnabod ef:
18 Wedi goleuo llygaid eich meddyliau: fel y gwypoch beth yw gobaith ei alwedigaeth ef, a pheth [yw] golud gogoniant ei etifeddiaeth ef yn y Sainct:
19 A pheth yw rhagoral fawredd ei nerth ef, [Page 627] tu ac attom ni y rhai ŷm yn credu, yn ôl gweithrediad nerth ei gadernid ef:
20 Yr hon a weithredodd efe yn Ghrist, pan y cyfododd ef o feirw; ac a'i gosododd i eistedd ar ei ddeheu-iaw ei hun, yn y nefolion [leoedd,]
21 Goruwch pôb tywysogaeth, ac awdurdod, a gallu, ac arglwyddiaeth, a phôb enw a henwir, nid yn unic yn y bŷd hwn, ond hefyd yn yr hwn a ddaw;
22 Ac a ddarostyngodd bôb peth tan ei draed ef: ac a'i rhoddes ef yn ben, vwch law pob peth i'r Eglwys.
23 Yr hon yw ei gorph ef, ei gyflawnder ef, yr hwn sydd y cyflawni oll yn oll.
PEN. II.
A Chwithau [a fywhaodd efe,] pan oeddych feirw mewn camweddau, a phechodau,
2 Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y bŷd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr; yr yspryd sydd yr awron yn gweithio ym-mhlant anufydd-dod:
3 Yn mysc y rhai hefyd y bu ein ymarweddiad ni oll gynt yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd, a'r meddvliau: ac yr oeddym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.
4 Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, o herwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni,
5 Ie pan oeddym feirw mewn camweddau, a'n cyd-fywhaodd ni gyd â Christ: (trwy râs yr ydych yn gadwedig:)
6 Ac a'n cyd-gyfodod, ac a'n gosododd i gydeistedd yn y nefolion [leoed] yn Ghrist Iesu.
7 Fel y gallei ddangos yn yr oesedd a ddeueiragorol olud ei râs ef, trwy ei gymmwynascarwch i ni yn Ghrist Iesu.
8 Canys trwy râs yr ydych yn gadwedig trwy ffydd: a hynny nid o honoch eich hunain; rhodd Duw [ydyw:]
9 Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.
10 Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yn Ghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a rag-ddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.
11 Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad gan yr hyn a elwir Enwaediad o waith llaw yn y cnawd:
12 Eich bôd chwi y pryd hynny heb Grist, wedi eich dieithro oddi-wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth ammodau yr addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y bŷd:
13 Eithr yr awron yn Ghrist Iesu, chwy chwi rhai oeddych gynt ym-mhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Christ.
14 Canys efe yw ein tangneddyf ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn vn, ac a ddattododd ganolfûr y gwahaniaeth rhyngom ni:
15 Ac a ddirymmodd, drwy ei gnawd ei hun, y gelyniaeth, [sef] Deddf y Gorchymmynion mewn ordeiniadau: fel y creai y ddau ynddo ei hun yn vn dŷn newydd, gan wneuthur heddwch.
16 Ac fel y cymmodei y ddau â Duw, yn vn corph, trwy 'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.
17 Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangneddyf i chwi y rhai pell, ac i'r rhai agos.
18 Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn vn Yspryd at y Tâd.
19 Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddiethriaid a dyfodiaid, ond yn gydddinasyddion â'r Sainct, ac yn deulu Duw.
20 Wedi eich goruwch adeiladu ar sail yr Apostolion a'r Prophwydi, ac Iesu Grist ei hun yn ben-congl-faen:
21 Yn yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei chymmwys gyd gyssylltu yn cynnyddu yn Deml sanctaidd yn yr Arglwydd:
22 Yn yr hwn i'ch cŷd-adeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy yr Yspryd.
PEN. III.
ER mwyn hyn myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi y Cenhedloedd,
2 Os clywsoch am orchwiliaeth grâs Duw, yr hon a roddwyd i mi tu ac attoch chwi:
3 Mai twry ddatcuddiad yr yspysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr scrifenna is o'r blaen ar ychydig [eiriau:]
4 Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllennoch, wŷbod fy neall i yn nirgelwch Christ.)
5 Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i felbion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatcuddio iw sanctaidd Apostolion a'i Brophwydi trwy 'r Yspryd;
6 Y byddai y Cenhedloedd yn gyd etifeddion, ac yn gyd-gorph, ac yn gyd-gyfrannogion o'i addewid ef yn Ghrist, trwy'r Efyngyl:
7 I'r hon i'm gwnaed i yn weinidog, yn ol [Page 630] rhodd grâs Duw, yr hwn a roddwydd i mi, yn ôl grymmus weithrediad ei allu ef.
8 I mi y llai nâ'r lleiaf o'r holl Sainct y rhoddwyd y grâs hyn, i efangylu ym mysc y Cenhedloedd, anchwiliadwy olud Christ,
9 Ac i egluro i bawb beth [yw] cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y bŷd yn Nuw, yr hwn a greawdd bôb peth trwy Iesu Ghrist.
10 Fel y byddei yr awron yn hyspys i'r tywysogaethau, ac i'r awdurdodau, yn y nefolion [leoedd,] trwy 'r Eglwys; fawr amryw ddoethineb Duw:
11 Yn ôl yr arfaeth dragywyddol, yr hon a wnaeth efe yn Ghrist Iesu ein Harglwydd ni:
12 Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trww ei ffydd ef.
13 O herwydd pa ham yr ŵyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i trosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.
14 O herwydd hyn yr ŵyf yn plygu fy ngliniau at Dâd ein Harglwydd Iesu Grist,
15 O'r hwn yr henwir yr holl deulu yn y nefoedd, ac ar y ddaiar;
16 A'r roddi o honaw ef i chwi yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fôd wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Yspryd ef, yn y dŷn oddi mewn:
17 Ar fod Christ yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi;
18 Fel y galloch wedi eich gwreiddio, a'ch seilio mewn cariad, ymgyffred gyd â'r holl Sainct beth yw 'r llêd, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r vchder
19 A gwybod cariad Christ, yr hwn sydd vwch-law gŵybodaeth: fel i'ch cyflawner â holl gyflawnder Duw.
20 Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ol y nerth sydd yn gweithredu ynom ni.
21 Iddo efe [y byddo] y gogoniant yn yr Eglwys trwy Ghrist Iesu, tros yr holl genhedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.
PEN. IIII.
DEisyf gan hynny arnoch yr wyfi y carcharor yn yr Arglwydd, ar rodio o honoch yn addas i'r alwedigaeth i'ch galwyd iddi:
2 Gyd â phob gostyngeiddrwydd ac addfwynder, ynghŷd a hirymaros, gan oddef ei gilydd mewn cariad:
3 Gan fod yn ddyfal i gadw vndeb yr Yspryd, ynghwlwm tangneddyf.
4 Vn corph sydd, ac vn yspryd, megis ac i'ch galwyd yn vn gobaith eich galwedigaeth.
5 Vn Arglwyd, vn ffydd, vn bedydd.
6 Vn Duw a Thad oll, yr hwn sydd goruwch oll, a thrwy oll, ac ynoch oll.
7 Eithr i bob vn o honom y rhoed grâs, yn ol mesur dawn Christ.
8 O herwydd pa ham, y mae efe yn dywedyd, Pan dderchafodd, i'r vchelder, efe a gaethiwodd gaethiwed, ac a roddes roddion, i ddynion.
9 Eithr, Efe a dderchafeodd, beth yw ond darfod iddo hefyd ddescyn yn gyntaf i barthau isaf y ddaiar?
10 Yr hwn a ddescynnodd, yw yr hwn hefyd a escynnodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawnei bob peth.)
11 Ac efe a roddes rai yn Apostolion, a rhai yn Brophwydi, a rhai yn Efangylwŷr, a rhai yn Fugeiliaid ac yn Athrawon:
12 I berffeithio y Sainct, i waith y weinidogaeth, i adeilad corph Christ:
13 Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn vndeb ffydd, a gŵybodaeth Mâb Duw, yn ŵr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Christ.
14 Fel na byddom mwyach yn blantos, yn bwhwmman ac yn ein cylch-arwain â phob awel dysceidiaeth, trwy hocced dynion, trwy gyfrwysdra, i gynllwyn i dwyllo:
15 Eithr gan fod yn gywir mewn cariad, cynyddu o honom iddo ef ym-mhob peth, yr hwn yw 'r pen, [sef] Christ,
16 O'r hwn y mae yr holl gorph wedi ei gydymgynnull a'i gyd-gyssyltu, trwy bob cymmal cynhaliaeth, yn ôl y nerthol weithrediad ym mesur pob rhan, yn gwneuthur cynnydd y corph, iw adeilad ei hun mewn cariad.
17 Hyn gan hynny yr wyf yn ei ddywedyd, ac yn ei dystiolaethu yn yr Arglwydd, na rodioch chwi mwyach, fel y mae y Cenhedloedd eraill yn rhoddio yn oferedd eu meddwl:
18 Wedi tywyllu eu deall, wedi ymddieithio oddi wrth fuchedd Dduw, drwy'r anwybodaeth sydd ynddynt trwy ddalineb eu calon:
19 Y rhai wedi diddarbodi, a ymroesant i drythyllwch, i wneuthur pôb aflendid yn vn chwant.
20 Eithr chwy-chwi nid felly y dyscasoch Grist:
21 Os bu i chwi ei glywed ef, ac os dyscwyd chwi ynddo, megis y mae 'r gwirionedd yn yr Iesu.
22 Dodi o honoch heibio, o ran yr ymarweddiad cyntaf, yr hên ddŷn, yr hwn sydd lygredig yn ôl y chwantau twyllodrus:
23 Ac ymadnewyddu yn yspryd eich meddwl,
24 A gwisco y dŷn newydd yr hwn yn ôl Duw a grewyd mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrwydd.
25 O herwydd pa ham, gan fwrw ymmaith gelwydd, dywedwch y gwîr bob vn wrth ei gymmydog: oblegid aelodau ydym iw gilydd.
26 Digiwch, ac na phechwch: na fachluded yr haul ar eich digofaint chwi:
27 Ac na roddwch le i ddiafol.
28 Yr hwn a ledratâodd, na ledratted mwyach, eithr yn hytrach cymmered boen, gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu, i'r hwn y mae angen arno.
29 Na ddeued yn ymadrodd llygredig allan o'ch genau chwi: ond y cyfryw vn ac a fyddo da i adeiladu yn fuddiol, fel y paro râs i'r gwrandawŷr.
30 Ac na thristêwch lân Yspryd Duw, trwy 'r hwn i'ch seliwyd hyd ddydd prynedigaeth.
31 Tynner ymmaith oddi wrthych bôb chwerwedd, a llid, a dig, a llefain, a chabledd gyd â phôb drygioni.
32 A byddwch gymmwynasgar iw gilydd, [Page 634] yn dosturiol, yn maddeu iw gilydd, megis y maddeuodd Duw er mwyn Christ i chwithau.
PEN. V.
BYddwch gan hynny ddilynwŷr Duw, fel plant anwyl:
2 A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Christ ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun trosom ni yn offrwm ac yn aberth i Dduw, o argol peraidd.
3 Eithr godineb, a phôb aflendid, neu gyhydddra, na henwer chwaith yn eich plith, megis y gweddei i Sainct:
4 Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choegddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.
5 Canys yr ydych chwi yn gwŷbod hyn, am bôb puttein-ŵr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Christ a Duw.
6 Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod.
7 Na fyddwch gan hynny gyfrannogion a hwynt.
8 Canys yr oeddych chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni [ydych] yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni,
9 (Canys ffrwyth yr Yspryd [sydd] ym mhôb daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd.)
10 Gan brofi beth sydd gymmeradwy gan yr Arglwydd:
11 Ac na fydded i chwi gyd gyfeillach â gweithredoedd anffrwythlawn y tywyllwch, eithr yn hytrach argyoeddwch hwynt.
12 Ganys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.
13 Eithr pob peth, wedi 'r argyoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.
14 O herwydd pa ham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cyscu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.
15 Gwelwch gan hynny, pa fodd y rhodioch yn ddiesceulus: nid fel annoethion, ond fel doethion;
16 Gan brynu 'r amser, oblegid y dyddiau sy ddrwg.
17 Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth [yw] ewyllys yr Arglwydd.
18 Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd, eithr llanwer chwi â'r Yspryd.
19 Gan lefaru wrth ei gilydd mewn Psalmau, a Hymnau, ac odlau ysprydol: gan ganu a phyngcio yn eich calon i'r Arglwydd:
20 Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tâd, am bôb peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Ghrist:
21 Gan ymddarostwng iw gilydd yn ofn Duw.
22 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd:
23 Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ac [y mae] Christ yn ben i'r Eglwys, ac efe yw iachawdur y corph.
24 Ond fel y mae yr Eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd [bydded] y gwragedd iw gŵyr priod, ym mhôb peth.
25 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis [Page 636] ac y carodd Christ yr Eglwys, ac a'i rhoddes ei hun trosti:
26 Fel y sancteiddiei efe hi, a'i glânhau â'r olchfa ddwfr, trwy 'r gair.
27 Fel y gosodei efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn Eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw, ond fel y byddei yn sanctaidd, ac yn ddifeius.
28 Felly y dylei y gwŷr garu eu gwragedd megis eu cyrph eu hunain: yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun:
29 Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu, a'i feithrin y mae, megis ac [y mae] 'r Arglwydd am yr Eglwys:
30 Oblegid aelodau ydym o'i gorph ef, o'i gnawd ef, ac o'i escyrn ef.
31 Am hynny y gâd dŷn ei dâd a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn vn cnawd.
32 Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Ghrist, ac am yr Eglwys yr wyfi yn dywedyd.
33 Ond chwithau hefyd cymmain vn, felly cared pôb vn o honoch ei wraig, fel ef ei hunan: a'r wraig [edryched] ar iddi berchi ei gŵr.
PEN. VI.
Y Plant, vfyddhewch i'th rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.
2 Anrhydedda dy dâd a'th fam (yr hwn yw y gorchymmyn cyntaf mewn addewid.)
3 Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hirhoedlog ar y ddaiar.
4 A [chwithau] dadau, na yrrwch eich plant i ddigio, ond maethwch hwynt yn addysc ac athawiaeth yr Arglwydd.
5 Y gweision vfyddhewch i'r rhai [sydd] Arglwyddi [i chwi] yn ôl y cnawd, gŷd ag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist,
6 Nid a golwg-wasanaeth, fel bodlonwŷr dynion: ond fel gweision Christ, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon:
7 Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion.
8 Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pôb vn, hynny a dderbyn [efe] gan yr Arglwydd, pa vn bynnag ai caeth ai rhydd [fyddo.]
9 A [chwithau] feistred gwnewch yr vn pethau tu ac attynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wŷbod fôd eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd, ac nid oes derbyn wyneb gyd ag ef.
10 Heb law hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac ynghadernid ei allu ef:
11 Gwiscwch oll-arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.
12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol-lywiawdwŷr tywyllwch y bŷd hwn, yn erbyn drygau ysprydol yn y nefolion [leoedd.]
13 Am hynny cymmerwch attoch holl arfogaeth Duw, fell y galloch wrth sefyll yn y dydd drwg, ac wedi gorphen pôb peth sefyll.
14 Sefwch gan hynny wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisco dwyfronneg cyfiawnder:
15 A gwisco am eich traed escidiau paratôad Efyngyl tangneddyf.
16 Vwch law pob dim, wedi cymmeryd tarian y ffydd, â'r hwn y gellwch ddiffoddi holl biccellau tanllyd y drwg.
17 Cymmerwch hefyd helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Yspryd, yr hwn yw gair Duw:
18 Gan weddio bob amser, â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr yspryd, a bod yn wiliadurus at hyn ymma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad tros yr holl Sainct:
19 A trosof finneu, fel y rhodder i mi ymadrodd drwy agoryd fy ngenau yn hŷ, i yspysu dirgelwch yr Efengyl:
20 Tros yr hon yr ŵyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hŷ am deni, fel y perthyn i mi draethu.
21 Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr ŵyf yn ei wneuthur, Tychieus y brawd anwyl, a'r gwenidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a yspysa i chwi bob peth.
22 Yr hwn a anfonais attoch ei mwyn hyn ymma, fel y caech ŵybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi.
23 Tangneddyf i'r brodyr, a chariad gyd â ffydd oddi wrth Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Ghrist.
24 Grâs fyddo gyd â phawb sy yn caru ein Harglwydd Iesu Ghrist mewn purdeb. Amen.
EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT Y PHILIPPIAID.
PENNOD. I.
PAVL a Thimotheus gweision Iesu Ghrist, ar yr holl Sainct yn Ghrist Iesu, y rhai sy yn Philippi, gyd a'r Escobion a'r Diaconiaid:
2 Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 I'm Duw yr ydwyf yn diolch, ym mhob coffa am danoch.
4 Bob amser ym mhob deisyfiad o'r eiddof trosoch chwi oll, gan wneuthur fy neisefiad gyd â llawenydd:
5 Oblegid eich cymdeithas chwi yn yr Efengyl, o'r dydd cyntaf hyd yr awr hon:
6 Gan fod yn hyderus yn hyn, y bydd i'r hwn a ddechreuodd ynoch waith da, ei orphen hyd ddydd Iesu Grist:
7 Megis y mae yn iawn i mi syned hyn am danoch ôll, am eich bod gennif yn fy nghalon, yn gymmaint a'ch bod chwi oll, yn gystal yn fy rhwymau, ac yn fy amddiffyn, a chadarnhâd yr Efyngyl, yn gyfrannogion â mi o râs.
8 Canys Duw sydd dyst i mi, mor hiraethus wŷf am danoch oll yn ymyscaroedd Iesu Grist.
9 A hyn yr wŷf yn ei weddio, ar amlhau o'ch cariad chwi etto fwy-fwy, mewn gwybodaeth, a phob synwyr.
10. Fel y profoch y pethau sy a gwahaniaeth rhyngddynt: fel y byddoch bur a didramgwydd hyd ddyd Christ.
11 Wedi eich cyflawni â ffrwythau cyfiawnder, y rhai [sydd] trwy Iesu Grist, er gogoniant a moliant i Dduw.
12 Ac mi a ewyllysiwn i chwi ŵybod, frodyr, am y pethau a ddigwyddodd i mi, ddyfod o honynt yn hytrach er llwyddiant i'r Efengyl:
13 Yn gymmaint a bôd fy rhwymau i yn-Ghrist, yn eglur yn yr holl lys, ac ym mhôb [lle] arall:
14 Ac i lawer o'r brodyr yn yr Arglwydd fyned yn hyderus wrrh fy rhwymau i, a bôd yn hyfach o lawer i draethu y gair yn ddiofn.
15 Y mae rhai yn wîr yn pregethu Christ trwy genfigen ac ymryson: a rhai hefyd o ewyllys da.
16 Y naill sy 'n pregethu Christ o gynnen nid yn bur, gan feddwl dwyn mwy o flinder i'm rhwymau i:
17 A'r lleill o gariad, gan ŵybod mai er amddeffyn yr Efengyl i'm gosodwyd.
18 Beth er hynny? etto ym mhob modd, pa vn bynnag ai mewn rhith, ai mewn gwirionedd, yr ydys yn pregethu Christ: ac yn hyn yr ydwyfi yn llawen, ie a llawen fyddaf.
19 Canys mi a wn y digwydd hyn i mi er iechydwriaeth, trwy eich gweddi chwi, a chynnorthwy Yspryd Iesu Grist,
20 Yn ôl fy awydd-fryd a'm gobaith, na'm gwradwyddir mewn dim, eithr mewn pôb hyder, fel bôb amser, [felly yr awron hefyd, y mawrygir Christ yn fy nghorph i, pa vn bynnag ai trwy fywyd, ai trwy farwolaeth.
21 Canys byw i mi [yw] Christ a marw [fydd] elw.
22 Ac os byw fyddaf, yn y cnawd, hyn [yw] ffrwyth [fy] llafur; a pha beth a ddewisaf, ni's gwn.
23 Canys y mae yn gyfyng arnaf o'r ddeu-[tu,] gan fôd gennif chwant i'm dattod, ac i fôd gyd â Christ: canys llawer iawn gwell [ydyw:]
24 Eithr aros yn y cnawd, [sydd] fwy angenrheidiol o'ch plegid chwi.
25 A chennyf yr hyder hyn, yr ŵyf yn gŵybod yr arhosaf, ac y cyd-trygaf gyd â chwi oll, er cynnydd i chwi, a llawenydd y ffydd,
26 Fel y byddo eich gorfoledd chwi yn helaethach yn Ghrist Iesu ô'm plegid i, drwy fy nyfodiad i drachefn attoch.
27 Yn vnic ymddygwch yn addas i Efengyl Grist, fel pa vn bynnag [a wnelwyf] ai dyfod a'ch gweled chwi, ai bôd yn absennol, y clywyf oddiwrth eich helynt chwi eich bôd yn sefyll yn vn yspryd, ac vn enaid gan gyd-ymdrech gyd â ffydd yr Efengyl:
28 Ac heb eich dychrynu mewn vn dim gan eich gwrthwyneb-wŷr: yr hyn iddynt hwy yn wîr sydd arwydd siccr o golledi gaeth, ond i chwi o iechydwriaeth: a hynny gan Dduw.
29 Canys i chwi y rhoddwyd [bôd i chwi] er Christ, nid yn vnic gredu ynddô ef, ond hefyd dioddef erddo ef.
30 Gan fôd i chwi yr vn ymdrin ac a welsoch ynofi, ac yr awron a glywch ei [fôd] ynofi.
PEN. II.
OD [oes] gan hynny ddim diddanwch yn Grist, od oes dim cyssur cariad, od oes dim cymdeithas [Page 642] yr Yspryd, od oes dim ymyscaroedd a thosturiaethau;
2 Cyflawnwch fy llawenydd, fel y byddoch yn meddwl yr vn peth, a'r vn cariad gennych, yn gyttûn, yn synniedd yr vn peth.
3 Na [wneler] dim drwy gynnen, neu wâgogoniant, eithr mewn gostyngeiddrwydd, gan dybied ei gilydd yn well na chwi eich hunain.
4 Nac edrychwch bôb vn ar yr eiddoch eich hunain, eithr pôb vn ar yr eiddo eraill hefyd.
5 Canys bydded ynoch y meddwl ymma, yr hwn [oedd] hefyd yn Ghrist Iesu:
6 Yr hwn ac efe yn ffurf Duw, ni thybiodd yn drais fôd yn ogyfuwch â Duw;
7 Eithr efe a'i dibrisiodd ei hun, gan gymmeryd arno agwedd gwâs, ac a wnaed mewn cyffelybiaeth dynion:
8 A'i gael mewn dull fel dŷn, efe a'i darostyngodd ei hun, gan fôd yn vfydd hyd angeu, ie angeu 'r groes.
9 O herwydd pa ham Duw a'i tra-derchafodd yntef, ac a roddes iddo Enw, yr hwn [sydd] goruwch pob enw:
10. Fel yn Enw Iesu y plygei pob glîn o'r nefolion, a'r daiarolion, a than-ddaiarolion bethau:
11 Ac y cyffesei pob tafod fod Iesu Crist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Tâd.
12 Am hynny fy anwylyd, megis bob amser yr vfyddhasoch, nid fel yn fy ngwydd yn vnic, eithr yr awron yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iechydwriaeth eich hunain drwy ofn a dychryn.
13 Canys Duw yw 'r hwn sydd yn gweithio [Page 643] ynoch ewyllysio a gweithredu, o'i ewyllys da ef.
14 Gwnewch bôb dim heb rwgnach, ac ymddadleu:
15 Fel y byddoch ddiargyoedd, a diniwed, yn blant difeius i Dduw, ynghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus: ym mhlith y rhai yr ydych yn disclairio, megis goleuadau yn y bŷd;
16 Yn cynnal gair y bywyd; er gorfoledd i mi yn nŷdd Christ, na redais yn ofer, ac na chymmerais boen yn ofer.
17 Ie, a phe i'm hoffrymmid ar aberth a gwasanaeth eich ffydd, llawenhau 'r ŵyf, a chydlawenhau â chwi oll.
18 Oblegid yr vn [peth] hefyd, byddwch chwithau lawen, a chyd-lawenhewch â minneu.
19 Ac yr wŷf yn gobeithio yn yr Arglwydd Iesu, anfon Timotheus ar fyrder attoch, fel i'm cyssurer inneu hefyd, wedi i mi ŵybod eich helynt chwi.
20 Canys nid oes gennif neb o gyffelyb feddwl, yr hwn a wîr ofala am y pethau a berthyn i chwi.
21 Canys pawb sy yn ceisio yr eiddynt eu hunain, nid yr eiddo Crist Iesu.
22 Eithr y prawf o honaw ef, chwi â'i gŵyddoch, mai fel plentyn gyd â thâd, y gwasanaethodd efe gyd â myfi yn yr Efengyl.
23 Hwn gan hynny yr ydwyf yn gobeithio ei ddanfon, cyn gynted ac y gwelwyf yr hyn a fydd i mi.
24 Ac y mae gennif hyder yn yr Arglwydd, y deuaf finneu hefyd ar fyrder attoch.
25 Eithr mi a dybiais yn angenrheidiol ddanfon attoch Epaphrodi [...]us fy mrawd, a'm cydweithr, [Page 644] a'm cyd-filwr, ond eich cennad chwi, a gwenidog i'm cyfreidiau inneu.
26 Canys yr oedd efe yn hiraethu am danoch oll, ac yn athrist iawn, oblegid i chwi glywed ei fôd ef yn glaf.
27 Canys yn wîr efe a fu glaf, yn agos i angeu: ond Duw a drugarhaodd wrtho ef: ac nid wrtho ef yn vnic, ond wrthif finnau hefyd, rhac cael o honof dristwch ar dristwch.
28 Yn fwy ofalus gan hynny yr anfonais i ef, fel gwedi i chwi ei weled ef drachefn, y byddech chwi lawen, ac y byddwn inneu yn llai fy nhristwch.
29 Derbyniwch ef gan hynny yn yr Arglwydd, gyd â phôb llawenydd: a'r cyfryw rai gwnewch gyfrif o honynt.
30 Canys oblegid gwaith Christ y bu efe yn agos i angeu, ac y bu di-ddarbod am ei einioes fel y cyflawnei efe eich diffyg chwi, o'ch gwasanaeth tu ac attafi.
PEN. III.
WEithian, fy mrodyr, byddwch lawen yn yr Arglwydd: scrifennu yr vn pethau attoch, gennifi yn wîr nid [yw] flin, ac i chwithau [y mae] yn ddiogel.
2 Gochelwch g [...]n. Gochelwch ddrwgweith wŷr. Gochelwch y cyd-torriad.
3 Canys yr enwaediad ydymni y rhai ydym yn gwasanaethu Duw yn yr yspryd, ac yn gorfoleddu yn Ghrist Iesu, ac nid yn ymddiried yn y cnawd.
4 Ac er bôd gennif [achos i] ymddinied, [...] yn y cnawd: os yw neb arall yn tybied [y gall] ymddiried yn y cnawd, myfi yn fwy:
5 Wedi enwaedu arnaf yr wythfed dydd, o genedl Israel, o lwyth Beniamin, yn Hebraewr o'r Hebræaid, yn ôl y Ddeddf yn Pharisæad:
6 Yn ôl zêl, yn erlid yr Eglwys: yn ôl y cyfiawnder sydd yn y Ddeddf, yn ddiargyoedd.
7 Eithr y pethau oedd elw i mi, y rhai hynny a gyfrifais i yn golled er mwyn Christ.
8 Ie yn ddiammeu yr wŷf hefyd yn cyfrif pôb peth yn golled, o herwydd ardderchowgrwydd gwybodaeth Christ Iesu fy Arglwydd: er mwyn yr hwn i'm colledwyd ym mhôb peth, ac yr wŷf yn eu cyfrif yndom, fel yr ennillwyf Grist.
9 Ac i'm caer ynddo ef heb fy nghyfiawnder fy hun, yr hwn [sydd] o'r gyfraith, ond yr hwn [sydd] trwy ffydd Grist, [sef] y cyfiawnder [sydd] o Dduw trwy ffydd.
10 Fel yr adnabyddwyf ef, a grym ei adgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef, gan fôd wedi fynghŷd-ffurfio â'i farwolaeth ef:
11 Os mewn vn modd y gallwn gyrrhaeddyd adgyfodiad y meirw:
12 Nid fel pe bawn wedi ei gyrhaeddyd eusys, neu fod eusys wedi fy mherffeithio: eithr dilyn yr wŷf fel y gallwyf ymafled [yn y peth] hwn hefyd yr ymaflwyd ynof gan Grist Iesu.
13 Y brodyr, nid wyfi yn bwrw ddarfod i mi gael gafael; ond vn peth, gan anhofio y pethau sy o'r tu cefn, ac ymestyn at y pethau ofr tu blaen,
14 Yr ydwyf yn chyrchu at y nôd, am gamp vchel alwedigaeth Duw yn Ghrist Iesu.
15 Cynnifer gan hynny [ac ydym] berffaith, syniwn hyn: ac os ydych yn synied dim yn amgenach, hyn hefyd a ddatcuddia Duw i chwi.
16 Er hynny y peth y daethom atto, cerddwn wrth yr vn rheol, syniwn yr vn peth.
17 Byddwch ddilynwŷr i mi, frodyr, ac edrychwch ar y rhai sy yn rhodio, felly megis yr ydym ni yn siampl i chwi.
18 (Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y ddywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awron hefyd, tan wylo yn dywedyd, [mai gelynyon croes Christ [ydynt:]
19 Diwedd y rhai [yw] destryw; duw y rhai [yw] eu bol, a'u gogoniant yn eu cywilydd: y rhai [sydd] yn synied pethau daiarol.)
20 Canys ein hymarweddiad, ni sydd yn nefoedd, o'r lle hefyd yr ydym yn disgwyl yr Iachawdwr, yr Arglwydd Iesu Grist:
21 Yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler ef yr vn ffurf a'i gorph gogoneddus ef, yn ol y nerthol weithrediad trwy 'r hwn y dichon efe, ie ddarostwng pob beth iddo ei hun.
PEN. IV.
AM hynn, fy mrod yr anwyl â hoff, fy llawenydd a'm coron, felly sefwch yn yr Arglwydd 'anwyled.
2 Yr ydwyf yn attolwg i Euodias, ac yn attolwg i Syntyche synied yr vn peth yn yr Arglwydd:
3 Ac yr ydwyf yn dymuno arnat titheu fy ngwîr gymmar, cymmorth [y gwragedd] hynny, y rhai yn yr Efyngyl a gyd-lafuriasant â mi, ynghyd a Chlement hefyd, a'm cydweithwŷr eraill, y rhai [y mae] eu henwau yn llyfr y bywyd.
4 Llawenhewch yn yr Arglwydd yn wastadol: thrachefn meddaf, llawenhewch.
5 Bydded eich arafwch yn hys pys i bôb dŷn [Y mae] 'r Arglwydd yn agos.
6 Na ofelwch am ddim: eithr ym mhôb peth mewn gweddi ac ymbil, gyd â diolchgarwch gwneler eich deisyfiadau chwi yn hyspys ger bron Duw.
7 A thangneddyf Dduw yr hwn sydd vwch law pôb deall, a geidw eich calonnau a'ch meddyliau yn Ghrist Iesu.
8 Yn ddiweddaf, frodyr, pa bethau bynnag sydd wîr, pa bethau bynnag sydd onest, pa bethau bynnag sydd gyfiawn, pa bethau bynnag sydd bûr, pa bethau bynnag sydd hawddgar, pa bethau bynnag sydd ganmoladwy; od [oes] vn rhinwedd, ac od [oes] dim clôd; meddyliwch am y pethau hyn:
9 Y rhai a ddyscasoch, ac a dderbyniasoch, ac a glywsoch, ac a wellsoch ynof fi: y pethau hyn gwnewch, a Duw 'r heddwch a fydd gyd â chwi.
10 Mi a lawenychais hefyd yn yr Arglwydd yn fawr, oblegid i'ch gofal chwi am danafi, yr awrhon o'r diwedd, adnewyddu: yn yr hyn y buoch ofalus hefyd, ond eisieu amser cyfaddas oedd arnoch.
11 Nid am fy môd yn dywedyd o herwydd eisieu: canys myfi a ddyscais, ym mha gyflwr bynnag y byddwyf, fod yn fodlon [iddo.]
12 Ac mi a fedraf ymostwng, ac a fedraf ymhelaethu: ym mhob lle, ac ym mhob peth, i'm haddyscwyd, i fod yn llawn, ac i fod yn newynog, i fod mewn helaethrwydd, ac i fod mewn prinder.
13 Yr wŷf yn gallu pôb peth trwy Grist, yr hwn sydd yn fy nerthu i.
14 Er hynny da y gwnaethoch gyd-gyfrannu â'm gorthrymder i.
15 A chwithau Philippiaid hefyd, a wyddoch, yn nechreuad yr Efengyl, pan aethym i ymmaith o Macedonia, na chyfrannodd vn Eglwys â mi, o ran rhoddi a derbyn, ond chwy-chwi yn vnic.
16 Oblegid yn Thessalonica hefyd yr anfonasoch i mi vnwaith, ac eilwaith wrth fy anghenrhaid.
17. Nid o herwydd fy môd i yn ceisio rhodd, eithr yr ydwyf yn ceisio ffrwyth yn amlhau erbyn eich cyfrif chwi.
18 Ond y mae gennif bôb peth, ac y mae gennif helaethrwydd; mi a gyflawnwyd, wedi i mi dderbyn gan Epaphroditus, y pethau [a ddaethant] oddi wrthych chwi, [sef] argol peraidd, a berth cymeradwy, bodlon gan Dduw.
19 A'm Duw i a gyflawna eich holl raid chwi, yn ôl ei olud ef mewn gogoniant, yn Ghrist Iesu.
20 Ond i Dduw, a'n Tâd ni, [y byddo.] gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
21 Anherchwch yr holl Sainct yn Ghrist Iesu: y mae y brodyr sy gyd â mi, yn eich annerch.
22 Y mae y Sainct oll yn eich annerch chwi, ac yn bennaf y rhai sydd o deulu Cæsar.
23 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyd â chwi oll. Amen.
EPISTOL PAVL YR Apostol at y COLOSSIAID.
PENNOD I.
PAVL Apostle Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,
2 At y Sainct a'r ffyddlon frodyr yn Ghrist, y rhai [sydd] yn Colossa: gras i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thâd ein Arglwydd Iesu Grist, gan weddio trosoch chwi yn wastadol.
4 Er pan glywsom am eich ffydd yn Ghrist Iesu, ac am y cariad [sydd gennych] tu ac at yr holl Sainct.
5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o'r blaen yng a'r gwirionedd yr Efengyl,
6 Yr hon sydd weddi dyfod attoch chwi, megis ac [y mae] yn yr holl fŷd: ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ac yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch râs Duw mewn gwirionedd.
7 Megis ac y dyscasoch gan Epaphras ein hanwyl gyd-was, yr hwn sydd trosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Ghrist:
8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Yspryd.
9 O herwydd hyn, ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddio trosoch, a deisyf eich cyflawni chwi â gwybodaeth ei ewyllys ef, ym mhôb doethineb a deall ysprydol:
10 Fel y rhodioch yn addas i'r Arglwydd, i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynnyddu yngwybodaeth am Dduw:
11 Wedi eich nerthu a phob nerth, yn ol ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hîr ymaros, gyd â llawenydd:
12 Gan ddiolch i'r Tâd yr hwn a'n gwnaeth ni yn gymmwys i [gael] rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni:
13 Yr hwn a'n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a'n symmudodd i deyrnas ei anwyl Fâb:
14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei wad ef, [sef] maddeuant pechodau:
15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntafanedig pob creadur:
16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a'r [sydd] yn y nefoedd, ac [sydd] ar y ddaiar yn weledig, ac yn anweledig: [pa vn bynnag] ai thronau, ai arglwyddiethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau: pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.
17 Ac y mae cyn pob peth ac ydddo ef y mae pob peth yn cyd-sefyll.
18 Ac efe yw pen corph yr Eglwys, efe, yr hwn yw 'r dechreuad, y cyntaf-anedig oddiwrth y meirw, fel y byddei efe yn blaenori ym mhob peth.
19 Oblegid rhyngodd bodd [i'r Tâd] drigo o bob cyflawnder ynddo ef:
20 Ac (wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef) trwyddo ef gymmodi pob peth [Page 651] ag ef ei hun, trwyddo ef [meddaf,] pa vn bynnag ai pethau ar y ddaiar, ai pethau yn y nefoedd.
21 A chwithau y rhai oeddych ddieithraid, a gelynion mewn meddwl, trwy weithredoedd drwg, yr awron hefyd a gymmododd efe,
22 Ynghorph ei gnawd ef, trwy farwolaeth, i'ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddiargyoedd ger ei fron ef.
23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a'ch siccrhau, ac heb eich symmud oddi wrth obaith yr Efengyl, yr hon a bregthwyd ym mysc pôb creadur a'r sydd tan y nef: i'r hon i'm gwnaethpwyd i Paul yn wenidog:
24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau trosoch, ac yn cyflawni yr hyn [sydd] yn ol o gostuddiau Christ yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorph ef, yr hwn yw 'r Eglwys:
25 I'r hon i'm gwnaethpwyd i yn wenidog, yn ol gorchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tu ac attoch chwi, i gyflawni gair Duw.
26 [Sef] y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd, ac er cenhedlaethau, ond yr awrhon, a eglurwyd iw Sainct ef:
27 I'r rhai yr ewyllysiodd Duw hyspysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hyn, ymmhlith y Cenhedloedd: yr hwn yw Christ ynoch chwi, gobaith y gogoniant:
28 Yr hwn yr ydym ni yn [ei] bregethu, gan rybuddio pob dŷn, ym mhob doethineb, fel y cyflawnom bob dŷn yn berfaith yn Ghrist Iesu.
29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ol ei weithrediad ef, yr hon sydd yn gweithio ynofi yn nerthol.
PEN. II.
CAnys mi a ewyllysiwn i chwi wŷbod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a'r rhai yn Laodicea, arnaf er eich mwyn chwi, a'r neb i yn y cnawd:
2 Fel y cyssurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgyssylltu mewn cariad, ac i bôb golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a'r Tâd, a Christ:
3 Yn yr hwn y mae holl dryssorau doethineb a gwybodaeth yn guddieddig.
4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.
5 Canys er fy môd i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyd â chwi yn yr yspryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yn Ghrist.
6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, [felly] rhodiwch ynddo:
7 Wedi eich gwreiddio, a'ch adeiladu ynddo ef, a'ch cadarnhau yn y ffydd, megys i'ch dyscwyd, gan gynnyddu ynddi mewn diolchgarwch.
8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi, a gwâg dwyll, yn ol traddoddiad dynion, yn ôl gwyddorion y bŷd, ac nid yn ôl Christ.
9 Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorphorol.
10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pôb twysogaeth ac awdurdod:
11 Yn yr hwn hefyd i'ch enwaedwyd, ag Enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosc corph pechodau y cnawd, yn Enwaediad Christ;
12 Wedi eich cyd-gladdu ag ef yn y Bedydd, yn yr hwn hefyd i'ch cyd-gyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw, yr hwn a'i cyfodes ef o feirw.
13 A chwithau, pan oeddych yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhâodd efe gyd ag ef, gan faddeu i chwi yr holl gamweddau,
14 Gan ddileu yscrifen law yr ordeiniadau, yr hon [oedd] i'n herbyn ni, yr hon oedd yngwrthwyneb i ni, ac a'i cymmerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes:
15 Gan yspeilio y tywysogaethau, a'r awdurdodau, efe a'u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.
16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newydd-loer, neu Sabbathau:
17 Y rhai ydynt gyscod pethau i ddyfod: ond y corph [sydd] o Grist.
18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad Angelion, gan ruthro i bethau ni's gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun:
19 Ac heb gyfattal y pen, o'r hwn y mae yr holl gorph, trwy 'r cymmalau a'r cyssylltiadau, yn derbyn llyniaeth, ac wedi ei gyd gyssylltu, yn cynnyddu gan gynnydd Duw.
20 Am hynny os ydych wedi meirw gyd â Christ oddi wrth wyddorion y bŷd, pa ham yr ydych megis pettych yn byw yn y bŷd, yn ymroi i ordeiniadau?
21 Na chyffwrdd, ac na archwaetha, ac na theimla.
22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer, yn ôl gorchymmynion ac athrawiaethau dynion.
23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corph, nid mewn bri, i ddigoni y cnawd.
PEN. III.
AM hynny os cyd-gyfodasoch gyd â Christ, ceisiwch y pethau [sydd] vchod, lle mae Christ yn eistedd ar ddeheu-law Duw.
2 Rhoddwch eich serch ar bethau [sydd] vchod, nid ar bethau [sy] ar y ddaiar.
3 Canys meirw ydych, a'ch bywyd a guddiwyd gyd â Christ yn Nuw.
4 Pan ymddangoso Christ, ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gyd ag ef mewn gogoniant.
5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sy ar y ddaiar, godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eulynaddoliaeth:
6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod.
7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddych yn byw ynddvnt.
8 Ond yr awrhon rhoddwch chwithau ymmaith yr holl bethau [hyn,] digter, llid, drygioni, cabledd, [...]erthedd, allan o'ch genau.
9 Na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosc yr hên ddŷn, ynghyd a'i weithredoedd:
10 A gwisco'r newydd, yr hwn a adnewyddir [Page 655] mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a'i creawdd ef.
11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na di-enwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Christ sydd bôb peth, ac ym mhôb peth.
12 Am hynny megis etholedigion Duw, sanctaidd ac anwyl, gwiscwch amdanoch ymyscaroedd trugareddau, cymmwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros:
13 Gan gyd-ddwyn â'i gilydd, a maddeu iw gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ac y maddeuodd Christ i chwi, felly [gwnewch] chwithau.
14 Ac am ben, hyn oll, [gwiscwch] gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.
15 A llywodraethed tangneddyf Dduw yn eich calonnau, i'r hwn hefyd i'ch galwyd yn vn corph: a byddwch ddiolchgar.
16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth, ym mhob doethineb: gan ddyscu, a rhybyddio bawb ei gilydd, mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysprydol, gan ganu trwy râs yn eich calonnau i'r Arglwydd
17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, [gwnewch] bôb peth yn Enw 'r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a'r Tad trwyddo ef.
18 Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.
19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.
20 Y plant, vfyddhewch i'ch rhieni, ym mhôb [Page 656] peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i'r Arglwydd yn dda.
21 Y tadu, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.
22 Y gweision, vfyddhewch ym mhôb peth i'ch meistred yn ôl y cnawd, nid â llygad wasanaeth, fel bodlon-wŷr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw.
23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o'r galon, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:
24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Grist yr ydych yn ei wasanaethu.
25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn [am] y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
PEN. IV.
Y Meistred, gwnewch i'ch gweision yr hyn sydd gyfiawn, ac vniawn, gan ŵybod fôd i chwithau feistr yn y nefoedd.
2 Parhewch mewn gweddi, gan wilied ynddi gyd â diolchgarwch.
3 Gan weddio hefyd trosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Christ, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:
4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi [ei] draethu,
5 Rhodiwch mewn doethineb tu ac at y rhai [sy] allan, gan brynu 'r amser.
6 [Bydded] eich ymadrodd bôb amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch [Page 657] pa fodd y mae yn rhaid i chwi atteb i bôb dŷn.
7. Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd anwyl, a'r gwenidog ffyddlon, a'r cydwas yn yr Arglwydd:
8 Yr hwn a ddanfoniais attoch er mwyn hyn, fel y gwybyddei eich helynt chwi, ac y diddanei eich calonnau chwi:
9 Gyd ag Onesimus y ffyddlon a'r anwyl frawd, yr hwn sydd o honoch chwi: hwy a yspysant i chwi bob peth [a wneir] ymma.
10 Y mae Aristarchus fy nghyd-garcharor yn eich annerch, a Marcus nai Barnabas fâb ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchymmynion: os daw efe attoch, derbyniwch ef:
11 A Iesus, yr hwn a elwir Iustus, y rhai ydynt o'r Enwaediad: y rhai hyn yn vnic [yw] fy nghydweithwŷr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gyssur i mi.
12 Y mae Epaphras, yr hwn sydd o honoch, gwâs Christ, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol trosoch mewn gweddiau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn, ynghwbl o ewyllys Duw.
13 Canys yr ydwyf yn dŷst iddo, fôd ganddo zêl mawr trosoch chwi, a'r rhai o Laodicea, a'r rhai o Hierapolis.
14 Y mae Luc y pysygwr anwyl, a Demas yn eich annerch.
15 Anherchwch y brodyr [sydd] yn Laodicea, a Nymphas, a'r Eglwys [sydd] yn ei dŷ ef.
16 Ac wedi darllein yr Epistol [hwn] gyd â chwi perwch ei ddarllen hefyd yn Eglwys y Laodiceaid: a darllen o honoch chwithau yr vn o Laodicea.
17 A dywedwch wrth Archippus, edrych ar y wenidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi:
18 Yr annerch â'm llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Grâs fyddo gyd â chwi. Amen.
EPISTOL CYNTAF PAUL yr Apostol at y THESSALONIAID.
PENNOD. I.
PAVL a Siluanus a Thimotheus at Eglwys y Thessaloniaid, yn Nuw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist: grâs i chwi a thangneddyf, oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist.
2 Yr ydym yn diolch i Dduw yn wastadol trosoch chwi oll, gan wneuthur coffa am danoch yn ein gweddiau:
3 Gan gofio yn ddibaid waith eich ffydd chwi, a llafur [eich] cariad, ac ymaros [eich] gobaith yn ein Harglwydd Iesu Grist, ger bron Duw a'n Tâd:
4 Gan wybod, frodyr anwyl, eich etholedigaeth chwi gan Dduw.
5 Oblegid ni bu ein Efengyl ni tu ac attoch mewn gair yn vnic, eithr hefyd mewn nerth, ac yn yr Yspryd glân, ac mewn sicrwydd mawr, megis y gwyddoch chwi pa fath rai a fuom ni yn eich plith, er eich mwyn chwi,
6 A chwi a aethoch yn dilynwŷr i ni, ac i'r Arglwyd, wedi derbyn y gair mewn gorthrymder mawr, gyd â llawenydd yr Yspryd glan.
7 Hyd onid aethoch yn siamplau i'r rhai oll sydd yn credu ym Macedonia ac yn Achaia.
8 Canys oddi wrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd, nid yn vnic ym Macedonia ac yn Achaia, ond ym mhôb man hefyd eich ffydd chwi ar Dduw, a aeth ar lêd, fel nad rhaid i ni ddywedyd dim.
9 Canys y maent hwy yn mynegi am danom ni, pa ryw ddyfodiad i mewn a gawsom ni attoch chwi, a pha fodd y troesoch at Dduw oddi wrth eulynnod, i wasanaethu'r bywiol a'r gwir Dduw:
10 Ac i ddisgwyl am ei Fab ef o'r nefoedd, yr hwn a gyfododd efe o feirw, [sef] Iesu, yr hwn a'n gwaredodd ni oddi wrth y digofaint sydd ar ddyfod.
PEN. II.
CAnys chwii eich hunain a wyddoch, frodyr, ein dyfodiad n i mewn attoch, nad ofer fu:
2 Eithr wedi i ni ddioddef o'r blaen, a chael ammharch, fel y gwyddoch chwi, yn Philippi, ni a fuom hŷ yn ein Duw, i lefaru wrthych chwi Efengyl Duw tawy fawr ymdrech.
3 Canys ein cyngor ni nid [oedd] o hudoliaeth, nac o aflendid, nac mewn twyll.
4 Eithr megis i'n cyfrifwyd ni gan Dduw yn addas i ymddiried i ni am yr Efengyl, felly yr ydym yn llefaru: nid megys yn rhyngu bodd i ddynion, ond i Dduw, yr hwn sydd yn profi ein calonnau ni.
5 Oblegid ni buom ni vn amser mewn ymadrodd gweniaithus, fel y gwyddoch chwi, nac mewn rhith cybydd-dod: Duw yn dyst:
6 Nac yn ceisio moliant gan ddynion, na [Page 660] chennych chwi, na chan eraill: lle y gallasem bwyso [arnoch,] fel Apostolion Christ.
7 Eithr ni a fuom addfwyn yn eich mysc chwi, megys mammaeth yn maethu ei phlant.
8 Felly, gan eich hoffi chwi, ni a welsom yn dda gyfrannu â chwi, nid yn vnic Efengyl Dduw, ond yn heneidiau ein hunain hefyd, am eich bôd yn anwyl gennym.
9 Canys cof yw gennych, frodyr, ein llafur a'n lludded ni: canys gan weithio nôs a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch, ni a bregethasom i chwi Efengyl Dduw.
10 Tystion [ydych] chwi, a Duw [hefyd,] mor sanctaidd, ac mor gyfiawn, a diargyoedd yr ymddygasom yn eich mysc chwi, y rhai ydych yn credu.
11 Megis y gwŷddoch, y modd [y buom] yn eich cynghori, ac yn eich cyssuro bôb vn o honoch, fel tâd ei blant ei hun:
12 Ac yn ymbil ar rodio o honoch yn deilwng i Dduw, yr hwn a'ch galwodd chwi iw deyrnas a i ogoniant.
13 Oblegit hyn yr ydym ninnau hefyd yn diolch i Dduw yn ddibaid, o herwydd i chwi pan dderbyniasoch air Duw, yr hwn a glywsoch gennym ni, ei dderbyn ef nid [fel] gair dŷn, eithr (fel y mae yn wîr) yn air Duw, yr hwn hefyd sydd yn nerthol-weithio ynoch▪ chwi y rhai sydd yn credu.
14 Canys chwy-chi, frodyr, a wnaethpwyd yn ddilyn-wŷr i Eglwysi Duw, y rhai yn Iudæa sydd yn Ghrist Iesu; oblegid chwithau a ddioddefasoch y pethau hyn gan eich cydgenedl, [Page 661] megis hwythau gan yr Iddewon:
15 Y rhai a laddasant yr Arglwydd Iesu, a'i prophwydi eu hunain, ac a'n herlidiasant ninneu ymaith; ac [ydynt] heb ryngu bodd Duw, ac yn erbyn pôb dŷn:
16 Gan warafun i ni lefaru wrth y Cenhedloedd, sef yr iacheid hwy, i gyflawni eu pechodau hwynt yn wastadol: canys digofaint [Duw] a ddaeth arnynt hyd yr eithaf.
17. A ninnau, frodyr, wedi ein gwneuthur yn ymddi [...]a [...] am danoch dros ennyd awr, yngolwg, nid ynghalon; a fuom fwy astud i weled eich wyneb chwi mewn awydd mawr.
18 Am hynny 'r ewyllysiasom ddyfod attoch, (myfi Paul) yn ddiau, yn-waith a dwy-waith hefyd, eithr Satan a'n lluddiodd ni.
19 Canys beth [yw] e'n gobaith ni, neu ein llawenydd, neu goron ein gorfoledd? onid chwychwi, ger bron ein Harglwydd Iesu Grist, yn ei ddyfodiad ef?
20 Canys chwy-chwi yw ein gogoniant a'n llawenydd ni.
PEN. III.
AM hynny gan na allem ymmattal yn hwy, ni a welsō yn dda ein gadel ni ein hunain yn Athen.
2 Ac a ddanfonasom Timotheus ein brawd, a gwenidog Duw, n cyd-weithwr yn Efengyl Grist, i'ch cadarnhau chwi, ac i'ch diddanu ynghylch eich [...].
3 Fel na chynhyrfid neb yn y gorthrymderau hyn canys chwy-chwi eich hunain a wŷddoch, mae'r hyn [...] gosodwyd ni
4 Canys yn wir pan oeddym gyd â chwi, ni a [Page 662] rag-ddywedasom [i chwi] y gorthrymmid ni: megis y bu, ac y gwyddoch chwi.
5 O herwydd hyn, minneu heb allu ymattal yn hwy, a ddanfonais i [gael] gwŷbod eich ffydd chwi: rhag darfod i'r temtiwr eich temtio chwi, a myned ein llafur ni yn ofer.
6 Eithr yr awron wedi dyfod Timotheus attom oddi wrthych, a dywedyd i ni newyddion da am eich ffydd chwi a'ch cariad, a bôd gennych goffa da amdanom ni yn wastadol, gan hiraethu am ein gweled ni, megis [yr ydym] ninneu am [eich gweled] chwithau:
7 Am hynny y cawsom gyssur, frodyr, am danoch chwi, yn ein holl orthrymder a'n hangenoctid trwy eich ffydd chwi:
8 Oblegid yr awron byw ydym ni, os ydych chwi yn sefyll yn yr Arglwydd.
9 Canys pa ddiolch a allwn [ni] ei adtalu i Dduw am danoch chwi, am yr holl lawenydd, â'r hwn yr ydym ni yn llawen o'ch achos chwi, ger bron ein Duw ni.
10 Gan weddio mwy nâ mwy, nôs a dydd, ar [gael] gweled eich wyneb chwi, a chyflawni diffygion eich ffydd chwi?
11 A Duw ei hun, a'n Tâd ni, a'n Harglwydd Iesu Grist, a gyfarwyddo ein ffordd ni attoch chwi.
12 A'r Arglwydd a'ch lluosogo, ac a'ch chwanego ym mhob cariad iw gilydd ac i bawb, megis ac [yr ydym] ninnau i chwi:
13 I gadarnhau eich calonnau chwi yn ddiargyoedd mewn sancteiddrwydd, ger bron Duw a'n Tâd, yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist gyd â'i holl Sainct.
PEN. IV.
YM mhellach gan hynny, frodyr, yr ydym yn attolwg i chwi, ac yn deisyf yn yr Arglwydd Iesu, megis y derbyniasoch gennym pa fodd y dylech rodio a bodloni Duw, ar i chwi gynnyddu fwy fwy.
2 Canys chwi a wyddoch pa orchymmynion a roddasom i chwi trwy 'r Arglwydd Iesu.
3 Canys hyn yw ewyllys Duw, [sef] eich sancteiddiad chwi, ar ymgadw o honoch rhag godineb:
4 Ar fedru o bôb vn o honoch feddiannu ei lestr ei hun mewn sancteiddrwydd, a pharch:
5 Nid mewn gwŷn rrachwant, megis y Cenhedloedd y rhai nid adwaenant Dduw.
6 Na byddo [i neb] o'rthrymmu na thwyllo ei frawd mewn dim: canys dialudd [yw] 'r Arglwydd ar y rhai hyn oll, megis y dywedasom i chwi o'r blaen, ac y tystiasom.
7 Canys ni alwodd Duw nyni i aflendid, ond i sancteiddrwydd.
8 Am hynny, y neb sydd yn ddirmygu, nid dŷn y mae yn ei ddirmygu, ond Duw, yr hwn hefyd a roddes ei Yspryd glân ynom ni.
9 Ond am frawdgarwch, nid rhaid i chwi scrifennu [o honof] attoch: canys yr ydych chwi eich hunain wedi eich dyscu gan Dduw i garu ei gilydd.
10 Oblegid yr ydych yn gwneuthur hyn i bawb o'r brodyr, y rhai sy trwy holl Macedonia: ond yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, gynnyddu o honoch fwy fwy:
11 A rhoddi o honoch eich brŷd ar fod yn llonydd, [Page 664] a gwneuthur [eich gorchwylion] eich hunain, a gweithio â'ch dwylo eich hunain, (megis y gorchymynnasom i chwi:)
12 Fel y rhodioch yn weddaidd tu ac at y rhai [sy] oddi allan, ac na byddo arnoch eisieu dim.
13 Ond ni ewyllysiwn, frodyr, i chwi fôd heb wyhod am y rhai a hunasant, na tristaoch, megis eraill y rhai nid oes ganddynt obaith.
14 Canys os ydym yn credu farw Iesu a'i adgyfodi, felly y rhai a hunasant yn yr Iesu, a ddwg Duw hefyd gyd ag ef.
15 Canys hyn yr ydym yn ei ddywedyd wrthych yngair yr Arglwydd, na bydd i ni y rhai byw y rhai a adewir hyd dyfodiad yr Arglwydd, ragflaenu y rhai a hunasant.
16 Oblegid yr Arglwydd ei hun a ddescyn o'r nef gyd â bloedd, â llef yr Arch angel, ac ag vdcorn Duw: a'r meirw yn Ghrist a gyfodant yn gyntaf:
17 Yna ninnau y rhai byw, y rhai a adawyd, a gippir i fynu gyd â hwynt yn y cymmylau, i gyfarfod â'r Arglwydd yn yr awyr: ac felly y byddwn yn wastadol gyd â'r Arglwydd,
18 Am hynny diddenwch ei gilydd â'r ymadroddion hyn.
PEN. V.
Ethr am er amserau a'r prydiau, frodyr, nid rhaid i chwi scrifennu [o honof] attoch.
2 Oblegid chwi a wyddoch eich hunain yn hyspys, mai felly y daw dydd yr Arglwydd, fel llidr y nos.
3 Canys pan ddywedant, Tangneddyf, a diogelwch; yna y mae dinistr disymmwth yn dyfod [Page 665] ar eu gwartha, megis gwewyr escor ar vn a fo beichiog: ac ni ddiangant hwy ddim.
4 Ond chwy-chwi, frodyr, nid ydych, mewn tywyllwch, fel y goddiweddo y dydd hwnnw chwi megis lleidr.
5 Chwy-chwi oll plant y goleuni ydych, a phlant y dydd: nid ydym ni o r nôs, nac ô'r tywyllwch.
6 Am hynny na chyscwn, fel rhai eraill, eithr gwiliwn, a byddwn sobr.
7 Canys y rhai a gyscant, y nôs y cyscant: a'r rhai a feddwant, y nôs y meddwant.
8 Eithr nyni, gan ein bôd o'r dydd, byddwn sobr, wedi ymwisco â dwyfronneg ny [...]d a chariad, ac â gobaith iechydwriaeth yn lle helm.
9 Canys nid appwyntiodd Duw nyni i ddigofaint, ond i gaffael iechydwriaeth trwy ein Harglwydd Iesu Ghrist.
10 Yr hwn a fu farw trosom fel pa vn bynnag a wnelom ai gwilied, ai cyscu, y byddom fyw gyd ag ef.
11 O herwydd pa ham cynghorwch ei gilydd, ac adeiledwch bob vn ei gilydd, megis ag yr ydych yn gwneuthur.
12 Ac yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, adnabod y rhai sy yn llafurio yn eich mysc, ac yn eich llywodraethu chwi yn yr Arglwydd, ac yn eich rhybuddio:
13 A gwneuthur cyfrif mawr o honynt mewn cariad er mwyn eu gwaith: byddwch dangneddefus yn eich plith eich hunain.
14 Ond yr ydym yn deisyf attoch, frodyr, rhybuddiwch y rhai afreolus, diddenwch y gwan [Page 608] eu meddwl, cynheliwch y gweiniaid, byddwch ymarhous wrth bawb.
15 Gwelwch na thalo neb ddrwg dros ddrwg i neb: eithr yn wastadol dilynwch yr hyn sydd dda, tu ac attoch ei gilydd, a thu ac at bawb.
16 Byddwch lawen yn wastadol.
17 Gweddiwch yn ddibaid.
18 Ym mhob dim diolchwch: canys hyn [yw] ewyllys Duw yn Ghrist Iesu tu ac attoch chwi.
19 Na ddiffoddwch yr yspryd.
20 Na ddirmygwch brophwydoliaethu.
21 Profwch bob peth; deliwch yr hyn sy dda.
22 Ymgedwch rhac pob rhith drygioni.
23 A gwir Dduw y tangneddyf a'ch sancteiddio yn gwbl oll: a chadwer eich yspryd oll, ach enaid, a'ch corph, yn ddiargyoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Ghrist.
24 Ffyddlon [yw] 'r hwn a'ch galwodd, yr hwn hefyd a'i gwna.
25 O frodyr, gweddiwch drosom.
26 Anherchwch yr holl frodyr â chusan sancteiddiol.
27 Yr ydwyf yn eich tynghedu yn yr Arglwydd, ar ddarllen y llythr hwn i'r holl frodyr sanctaidd.
28 Grâs ein Harglwydd Iesu Christ fyddo gyd â chwi Amen.
AIL EPISTOL PAUL YR Apostol at y THESSALONIAID.
PEN. I.
PAUL, a Siluanus, a Thimotheus, at Eglwys y Thessaloniaid, yn Nuw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist:
2 Grâs i chwi, a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd ni, a'r Arglwydd Iesu Grist.
3 Diolch a ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bôd eich ffydd chwi yn mawr-gynnyddu, a chariad pôb vn o honoch oll tu ac at ei gilydd yn chwanegu:
4 Hyd onid ydym ni ein hunain yn gorfoleddu ynoch chwi yn Eglwysi Duw, o herwydd eich amynedd chwi a'ch ffydd, yn eich oll erlidiau, a'r gorthrymderau yr ydych yn eu goddef.
5 [Yr hyn sydd] argoel goleu, o gyfiawn farn Duw, fel i'ch cyfrifer yn deilwng i deyrnas Dduw, er mwyn yr hon yr ydych hefyd yn goddef:
6 Canys cyfiawn [yw] ger bron Duw, dalu cystudd i'r rhai sy yn eich custuddio chwi:
7 Ac i chwithau y rhai a gystuddir, esmwythdra gyd â ni, yn ymddangosiad yr Arglwydd Iesu o'r nef, gyd â'i angelion nerthol,
8 A thân fflamllydd, gan roddi dial i'r sawl nid adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn vfyddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu Grist:
9 Y rhai a ddioddefant yn gospedigaeth, ddinistr tragwyddol oddi ger bron yr Arglwydd, ac oddiwrth ogoniant ei gadernid ef:
10 Pan ddêl efe iw ogoneddu yn ei Sainct, ac i [Page 668] fôd yn rhyfeddol yn y rhai oll sy 'n credu (o herwydd i'n tystiolaeth ni yn eich mysc' chwi gael ei chredu) yn y dydd hwnnw.
11 Am ba achos yr ydym hefyd yn gweddio yn wastadol trosoch, ar fôd in Duw ni eich cyfrif chwi yn deilwng o'r alwedigaeth hon, a chyflawni holl fodlonrwydd [ei] ddaioni, a gwaith nydd, yn nerthol:
12 Fel y gogonedder Enw ein Harglwydd Iesu Grist ynoch chwi, a chwithau ynddo yntef, yn ôl grâs ein Duw ni a'r Arglwydd Iesu Grist.
PEN. II.
AC yr ydym yn attolwg i chwi, frodyr, er dyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist, an cydgynhulliad ninneu atto ef,
2 Na'ch sigler yn fuan oddiwrth [eich] meddwl, ac nach cynhyrfer, na chan yspryd, na chan air na chan lythyr megis oddi wrthym ni, fel pe bai dydd Christ yn gyfagos.
3 Na thwylled neb chwi mewn yn modd: oblegid [ni ddaw y dydd hwnnw] hyd oni ddêl ymadawiad yn gyntaf, a datcuddio dŷn pechod, mab y golledigaeth,
4 Yr hwn sydd yn gwrthwynebu, ac yn ymdderchafu goruwch pôb peth a elwir yn Dduw, neu a addolir; hyd onid yw efe megis Duw, yn eistedd yn-Nheml Dduw ac yn ei ddangos ei hun mai Duw ydyw.
5 Onid côf gennych chwi, pan oeddwn i etto gyd â chwi, ddywedyd o honof y pethau hyn i chwi?
6 Ac yr awron chwi a wyddoch yr hyn sydd yn attal, fel y datcuddier ef yn ei bryd ei hun.
7 Canys y mae dirgelwch yr anwired yn gweithio eusys: yn vnic yr hwn sydd yr awron yn attal, [a ettyl] nes ei dynnu ymmaith.
8 Ac yna y datcuddir yr anwir [hwnnw,] yr hwn a ddifetha 'r Arglwydd ag yspryd ei enau, ac a ddilea â discleirdeb ei ddyfodiad:
9 [Sef] yr hwn y mae ei ddyfoddiad yn ôl gweithrediad Satan gyd â phob nerth, ac arwyddion, a rhyfeddodau gau,
10 A phôb dichell anghyfiawnder, yn y rhai colledig: am na dderbyniâsant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig.
11 Ac am hynny y denfyn Duw iddynt hwy amryfusedd cadarn, fel y credont gelwydd:
12 Fel y barner yr holl rai nid oeddynt yn credu i'r gwirionedd, ond yn ymfodloni mewn anghyfiawnder.
13 Eithr nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr yspryd, a ffydd i'r gwirionedd:
14 I'r hyn y galwodd efe chwi trwy ein Efengyl ni, i feddiannu gogoniant ein Harglwydd Iesu Grist.
15 Am hynny, frodyr, sefwch, a deliwch y traddodiadau a ddyscasoch, [pa vn bynnag] ai trwy ymadrodd, ai trwy ein Epistol ni.
16 A'n Harglwydd Iesu Grist ei hun, a Duw a'n Tâd, yr hwn a'n carodd ni, ac a roddes [i ni ddiddanwch tragwyddol, a gobaith da trwy râs,
17 A ddiddano eich calonnau chwi, ac a'ch sicrhâo ym mhob gair, a gweithred dda.
PEN. III.
BEllach, frodyr, gweddiwch trosom ni, a fod i air yr Arglwydd redeg, a chael gogonedd, megis gyd â chwithau:
2 Ac ar ein gwared ni oddi wrth ddynion anhywaith a drygionus: canys nid [oes] flydd gan bawb.
3 Eithr ffyddlon yw 'r Arglwydd, yr hwn a'ch sicrhâ chwi, ac [ach] ceidw rhac drwg.
4 Ac y mae gennym hyder yn yr Arglwydd am danoch, eich bôd yn gwneuthur, ac y gwnewch, y pethau yr ydym yn eu gorchymmyn i chwi.
5 A'r Arglwydd a gyfawyddo eich calonnau chwi at gariad Duw, ac i ymaros am Grist.
6 Ac yr ydym yn gorchymmyn i chwi, frodyr, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, dynnu o honoch ymmaith oddi wrth bob brawd a'r sydd yn rhodio yn afreolus, ac nid yn ôl y traddodiad a dderbyniodd efe] gennym ni.
7 Canys [chwi] a wyddoch eich hunain, pa fodd y dylech ein dil n ni; oblegid ni buom afreolus vn eich plith chwi:
8 Ac ni fwyttasom fara neb yn rhâd: ond trwy weithio mewn llafur a [...]ludded, nôs a dydd, fel na phwysem ar neb o honoch chwi.
9 Nid o herwydd nad oes gennym audurdod, ond fel i'n rhoddem ein hunain yn siampl i chwi i'n dilyn.
10 Canys pan oeddym hefyd gyd â chwi, hyn a orchymynnasom i chwi, os byddai nêb ni fynnai weithio, na chai fwytta chwaith.
11 Canys yr ydym yn clywed fôd rhai yn rhodio [Page 671] yn eich plith cywi yn afreolus, heb weithio dim, ond bôd yn rhodresgar.
12 Ond i'r cyfryw gorchymmyn yr ydym, a'n hannog trwy ein Harglwydd Iesu Grist, ar [iddynt] weithio trwy lonyddwch, a bwytta eu bara eu hunain.
13 A chwithau, frodyr, na ddeffygiwch yn gweuthur daioni.
14 Ond od oes neb heb vfyddhau i'n gair, trwy 'r llythyr [ymma,] yspyswch hwnnw: ac na fydded i chwi gymdeithas ag ef, megis y cywilyddio efe.
15 Er hynny na chymmerwch [ef] megys gelyn, eithr cynghorwch [ef] fel brawd.
16 Ac Arglwydd y tangneddyf ei hun a roddo i chwi dangneddyf yn wastadol, ym mhôb modd. Yr Arglwydd a [fyddo] gyd â chwi oll.
17 Yr annerch a'm llaw i Paul fy hun: yr hyn sydd arwydd ym mhôb Epistol: fel hyn yr ydwyf yn scrifennu.
18 Grâs ein Harglwydd Iesu Grist gyd â chwi oll. Amen.
EPISTOL CYNTAF PAUL yr Apostol at TIMOTHEUS.
PENNOD. I.
PAUL Apostol Iesu Christ yn ôl gorchymmyn Duw ein Iachawdr, a'r Arglwydd Iesu Grist, ein gobaith:
2 At Timotheus [fy] mab naturiol yn y ffydd; grâs, trugaredd, [a] thangneddyf oddi wrth [Page 672] Dduw ein Tâd, a Christ Iesu ein Harglwydd,
3 Megis y deisyfiais arnat aros yn Ephesus, pan aethym i Macedonia, fel y gellit rybyddio, rhai na ddyscont ddim amgen:
4 Ac na ddaliont ar chwedlau, ac achau anorphen, y rhai sy'n peri cwestiwnau yn hytrach nag adeiladaeth dduwiol, yr hon fydd trwy ffydd; [gwna felly.]
5 Eithr diwedd y gorchymmyn yw cariad o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiragrith.
6 Oddi wrth yr hyn bethau y gwŷrodd rhai, ac y troesant heibio at ofer-siarad:
7 Gan ewyllysio bôd yn athrawon o'r Dddeddf, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent vn taeru.
8 Eithr [nyni] a wŷddom mai da yw 'r Gyfraith, os arfer dŷn hi yn gyfreithlon:
9 Gan wŷbod hyn, nad i'r cyfiawn y rhoddwyd y Gyfraith eithr i'r rhai] digyfraith ac anufydd, i'r rhai annuwiol, a phechaduriaid, i'r [rhai] disanctaidd a halogedig, i dâd-leiddiaid, a mam-leiddiaid, i leiddiaid dynion,
10 I butein-wŷr, i wryw-gydwŷr, i ladron dynion, gelwydd-wyr, i anudon-wŷr: ac os [oes] dim arall yn wrth wyneb i athrawiaeth iachus:
11 Yn ôl Efengyl gogoniant y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi.
12 Ac yr ydwyf yn diolch i'r hwn a'm nerthodd i, [sef] Christ Iesu ein Harglwydd, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlon, gan fy ngosod yn y weinidogaeth:
13 Yr hwn oeddwn o'r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahaus: eithr mi a gefais drugaredd, [Page 673] am i mi yn ddiarwybodd ei wneuthur trwy anghrediniaeth:
14 A grâs ein Harglwydd ni a dra-amlhâodd gyd â ffydd a chariad, yr hwn sydd yn Grist Iesu.
15 Gwîr [yw 'r] gair, ac yn haeddu pôb derbyniad, ddyfod Christ Iesu i'r bŷd i gadw pechaduriaid, o ba rai pennaf ydwyfi.
16 Eithr o achos hyn y cefais drugaredd, fel y dangosei Iesu Grist ynofi yn gyntaf, bôb hîroddef, er siampl i'r rhai a gredant rhag-llaw ynddo ef, i fywyd tragwyddol.
17 Ac i'r brenin tragwyddol, anfarwol, anweledig, i'r Duw vnic ddoeth, [y byddo] anrhydedd, a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
18 Y gorchymmyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, [fy] mab Timotheus, yn ôl y prophwydoliaethau a gerddasant o'r blaen am danat, ar filwrio o honot ynddynt filwiraeth dda:
19 Gan fôd gennir ffydd, a chydwybod dda, yr hon a wrthododd rhai, ac a wnaethant long ddrylliad am y ffydd.
20 O ba rai y mae Hymenaeus ac Alexander: y rhai a roddais i Satan, fel y dyscent na chablent.
PEN. II.
CYnghori yr ydwyf am hynny ym mlaen pôb peth fôd ymbiliau gweddiau, deisyfiadau, [a] thalu diolch, dros bôb dŷn:
2 Dros frenhinoedd, a phawb sy mewn goruchafiaeth: fel y gallom ni fyw yn llonydd ac yn heddychol, mewn pôb duwioldeb ac honestrwydd.
3 Canys hyn sydd dda a chymmeradwy ger bron Duw ein Ceidwad,
4 Yr hwn sydd yn ewyllysio bôd pôb dyn yn gadwedig, a'i dyfod i wŷbodaeth y gwirionedd.
5 Canys vn Duw [sydd,] ac vn cyfryngŵr hefyd rhwng Duw a dynion, y dŷn Christ Iesu.
6 Yr hwn a'i rhoddes ei hunan yn bridwerth dros bawb, iw dystiolaethu yn yr amseroedd priawd.
7 I'r hyn i'm gosodwyd i yn bregeth yr ac yn Apostol, (y gwîr yr wyf yn ei ddywedyd yn Ghrist, nid wyf yn dywedyd celwydd) yn Athro y Cenhedloedd, mewn ffydd a gwirionedd.
8 Am hynny yr wyf yn ewyllisio i'r gwŷr weddio ym mhôb man, gan dderchafu dwylo sanctaidd, heb na digter na dadl.
9 Yr vn môdd hefyd, bod i'r gwragedd eu trefnu eu hunain mewn dillad gweddus, gyd â gwylder a sobrwydd, nid â gwallt plethedid, neu aur, neu gemmau, neu ddillad gwerthfawr:
10 Ond (yr hyn sydd yn gweddu i wragedd a fo yn proffessu duwioldeb) â gweithredoedd da.
11 Dysced gwraig mewn distawrwydd gyd â phob gostyngeiddrwydd.
12 Ond nid wyf yn canhiadu i wraig athrawiaethu, nac ymawdurdodi ar y gŵr, eithr bôd mewn distawrwydd:
13 Canys Addaf a luniwyd yn gyntaf, yna Efa.
14 Ac nid Addaf a dwyllwyd: eithr y wraig wedi ei thwyllo, oedd yn y camwedd.
15 Etto cadwedig fydd, wrth ddwyn plant, os arhosant hwy mewn ffydd, a chariad, a sancteiddrwydd, ynghyd â sobrwydd.
PEN. III.
GWîr [yw] 'r gair, Od yw neb yn chwennych swydd Escob, gwaith da y mae yn ei chwennych.
2 Rhaid gan hynny i Escob fôd yn ddi-argyoedd, yn wr vn wraig, yn wiliadwrus, yn sobr, yn weddaidd, yn lletteugar, yn athrawaidd:
3 Nid yn win-gar, nid yn darawudd, nid yn budr elwa: eithr yn dirion, yn anymladdgar, yn ddi-arian gar:
4 Yn llywodraethu ei dŷ ei hun yn dda, yn dal ei blant mewn vfydd-dod, ynghyd â phob gonestrwydd:
5 (Oblegid oni feidr vn lywodraethu ei di ei hun, pa fodd y cymmer efe ofal dros Eglwys Dduw?)
6 Nid yn newyddian [yn y ffydd, rhag iddo ymchwyddo, a syrthio i ddamnedigaeth diafol.
7 Ac y mae yn rhaid iddo ef hefyd gael tystiolaeth dda gan y rhai oddi allan: rhag iddo syrthio i wradwydd, ac i fagl diafol.
8 [Rhaid] i'r Diaconiaid yr vn ffunyd, [fôd] yn honest, nid yn ddâu-eiriog, nid yn ymroi i win lawer, nid yn budr elwa:
9 Yn dala dirgelwch y ffydd mewn cydwybod bur.
10 A phrofer y rhai hynny hefyd yn gyntaf, yna gwasanaethant swydd Diaconiaid, os byddant ddiargyoedd
11 [Y mae yn rhaid iw] gwragedd yr vn modd [fôd] yn honest, nid yn enllibaidd, yn sobr, yn ffyddlon ym mhob peth.
12 Bydded y Diaconiaid yn wŷr yn wraig, yn llywodraethu eu plant, a'u rai eu hunain, yn dda.
13 Canys y rhai a wasanaethant swydd Diaconiaid yn dda, ydynt yn ennill iddynt eu hunain radd dda, a hyfder mawr yn y ffydd [sydd] yn Ghrist Iesu:
14 Y pethau hyn yr ydwyf yn eu scrifennu attat, gan obeithio dyfod attat ar fyrder.
15 Ond os tariaf yn hir fel y gwypech pa fodd y mae yn rhaid [i ti] ymddwyn yn nhŷ Dduw, ŷr hwn yw Eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.
16 Ac yn ddi-ddadl, mawr yw dirgelwch duwioldeb: Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd gan Angelion, a bregethwyd i'r Cenhedloedd, a gredwyd iddo yn y byd, a gymmerwyd i fynu mewn gogoniant.
PEN. IIII.
AC y mae 'r Yspryd yn eglur yn dywedyd yr ymedy rhai yn yr amseroedd diweddaf oddi wrth y ffydd, gan roddi coel i ysprydion cyfeiliornus, ac i athrawiaethau cythieuliaid,
2 Yn dywedyd celwydd mewn rhagrith, a'u cydwybod eu hunain wedi ei serio â haiarn poeth.
3 Yn gwahardd Priodi, [ac yn erchi] ymattal oddiwrth fwydydd, y rhai a greawdd Duw i'w derbyn trwy roddi diolch gan y ffyddloniaid, a'r rhai a adwaenant y gwirionedd.
4 Oblegid [y mae] pob peth a greodd Duw yn dda, ac nid [oes] dim iw wrthod, os cymmerir trwy dalu diolch.
5 Canys y mae wedi ei sancteiddio gan air Duw, a gweddi.
6 Os gosodi y pethau hyn o flaen y brodyr, ti a [Page 678] fyddi wenidog da i Iesu Grist, wedi dy fagu yngeiriau 'r ffydd, ac athrawiaeth dda, yr hon a ddilynaist.
7 Eithr gâd heibio halogedig, a gwrachiaidd chwedlau: ac ymafer dy hun i dduwioldeb.
8 Canys i ychydig y mae ymarfer corphorol yn fuddiol: eithr duwioldeb sydd fuddiol i bôb peth a chenddi addewid o'r bywyd y [sydd] yr awron, ac o'r hwn a fydd.
9 Gwir [yw] 'r gair, ac yn haeddu pôb derbyniad.
10 Canys er mwyn hyn yr ydym yn poeni, ac yn cael ein gwradwyddo, o herwydd i ni obeithio yn y Duw byw, yr hwn yw achubydd pôb dŷn, enwedig y ffyddloniaid.
11 Y pethau hyn gorchymmyn a dysc.
12 Na ddiystyred neb dy ieuengtid ti, eithr bydd yn esampl i'r ffyddloniaid, mewn gair, mewn ymarweddiad, mewn cariad, mewn yspryd, mewn ffydd, mewn purdeb.
13 Hyd oni ddelwyf, glŷn wrth ddarllein, wrth gynghori, wrth athrawiaethu.
14 Nac escaelusa y dawn sydd ynot, yr hwn a rodded i ti trwy brophwydoliaeth, gyd ag arddodiad dwylo yr Henuriaeth.
15 Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros: fel y byddo dy gynnydd yn eglur i bawb.
16 Gwilia arnat dy hun, ac ar yr athrawiaeth: aros ynddynt: canys os gwnei hyn, ti a'th gedwi dy hun, a'r rhai a wrandawant arnat.
PEN. V.
NA cherydda Henaf-gŵr eithr cynghora [ef] megis tâd, a'r rhai ieuaingc, megis brodyr:
2 Yr hên wragedd, megis mammau: y rhai ieuaingc, megis chwiorydd, gyd a phob purdeb.
3 Anrhydedda 'r gwragedd gweddwon, y rhai sy wîr weddwon.
4 Eithr o bydd vn weddw ac iddi blant neu wyrion, dyscant yn gyntaf arfer duwioldeb gartref, a thalu 'r pwyth iw rhieni: canys hynny sydd dda, a chymmeradwy ger bron Duw.
5 Eithr yr hon [sydd] wîr weddw ac vnic, sydd yn gobeithio yn Nuw, ac yn parhau mewn ymbiliau, a gweddiau, nôs a dydd.
6 Ond yr hon [sydd] drythyll, a fu farw, er ei bôd yn fyw.
7 A gorchymmyn y pethau hyn, fel y byddont ddiargyoedd.
8 Ac od oes neb heb ddarbod tros yr eiddo, ac yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di-ffŷdd.
9 Na ddewiser yn weddw [vn] a fo ran driugein-mlwydd oed, yr hon fu wraig i v gŵr:
10 Yn dda ei gair am weithredoedd da: os dygodd hi blant i fynu, os bu letteugar, o golchodd hi draed y Sainct, o chynhorthwyodd hi y rhai cystuddiol o dilynodd hi bôb gorchwyl da.
11 Eithr gwrthod y gweddwon ieuaingc: canys pan ddechreuont ymdrythyllu yn erbyn Christ, priodi a fynnant;
12 Gan gael barnedigaeth, a iddynt ddirmygu y ffydd gyntaf.
13 A hefyd y maent yn dyscu [bôd] yn segur, gan rodio o amgylch o dŷ i dŷ: ac nid yn segur yn vnic, ond hefyd yn wâg-siaradus, ac yn rhodresgar, gan adrodd pethau nid ŷnt gymmwys.
14 Yr wyf yn ewyllysio gan hynny i'r rhai ieuaingc briodi, planta, gwarchod y tŷ, heb roi dim achlysur i'r gwrthwynebŵr i ddifenwi.
15 Canys y mae rhai eusus wedi gwŷro ar ôl Satan.
16 Od oes gan ŵr neu wraig ffyddlon, [wragedd] gweddwon, cynnorthwyant hwynt, ac na phwyser ar yr Eglwys, fel y gallo hi ddiwallu y gwir weddwon.
17 Cyfrifer yr Henuriaid fy'n llywodraethu yn dda, yn deilwng o barch dau ddyblyg: yn enwedig y rhai sy yn poeni yn y gair a'r athrawiaeth.
18 Canys y mae yr Scrythur yn dywedyd, Na chae safn yr ŷch sydd yn dyrnu yr yd: Ac, Y mae'r gweithiŵr yn haeddu ei gyflog.
19 Yn erbyn Henuriad na dderbyn achwyn oddieithi tan ddau neu dri o dystion.
20 Y rhai sy'n pechu, cerydda yngwydd pawb, fel y byddo ofn ar y llaill.
21 Gorchymmyn yr ydwyf ger bron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig Angelion gadw o honot y pethau hyn heb rag-farn, heb wneuthur dim o gydbartiaeth.
22 Na ddôd ddwylo yn ebrwydd ar neb, ac na fydd gyfrannog o bechodau rhai eraill: cadw dy hun yn bur.
23 Nac ŷf ddwfr yn hwy: eithr farfer ychydig win, er mwyn dy gylla, a'th fynych wendid.
24 Pechodau rhyw ddynion sydd amlwg o'r blaen, yn rhag-flaenu i farn: eithr rhai sydd yn eu canlyn hefyd.
25 Yr vn ffunyd hefyd y mae gweithredoedd da yn amlwg o'r blaen: a'r rhai sy amgenach, ni's gellir eu cuddio.
PEN. VI.
CYnnifer ac sy wasanaethwŷr tan yr iau, tybiant eu meistred eu hun yn deilwng o bôb anrhydedd; fel na chabler Enw Duw, a'i athrawiaeth ef.
2 A'r rhai sy a meistred ganddynt yn credu, na ddiystyrant [hwynt,] o herwydd eu bôd yn frodyr: eithr yn hytrach gwasanaethant [hwynt,] am eu bôd yn credu, ac yn anwyl, yn gyfrannogion o'r llesâd. Y pethau hyn dysc, a chynghora.
3 Od oes neb yn dyscu yn amgenach, ac heb gyttûno ag iachus eiriau ein Harglwydd Iesu Grist, ac â'r athrawiaeth sydd ar ôl duwioldeb,
4 Chwyddo y mae, heb wŷbod dim, eithr ammhwyllo ynghylch cwestiwnau, ac ymryson ynghylch geiriau: o'r rhai y mae cenfigen, ymryson, cableddau, drwg dybiau yn dyfod.
5 Cyndyn ddadlau dynion llygredig eu meddwl, heb fôd y gwirionedd ganddynt; yn tybied mai elw yw duwioldeb: cilia oddi wrth y cyfryw.
6 Ond elw mawr yw duwioldeb gyd â bodlonrwydd.
7 Canys ni ddygasom ni ddim i'r bŷd, [ac] eglur [yw] na allwn ddwyn dim allad chwaith.
8 Ac o bydd gennym ymborth a dillad, ymfodlonwn ar hynny.
9 Ond y rhai [fydd] yn ewyllysio ymgyfoethogi, sydd yn syrthio i brofedigaeth a magl, a llawer o chwantau ynfyd, a niweidiol, y rhai sy yn boddi dynion i ddinistr a cholledigaeth.
10 Canys gwreiddyn pôb drwg yw ariangarwch: yr hon, a rhai yn chwannog iddi, hwy a gyfeiliornasant oddi wrth y ffydd, ac a'u gwanasant eu hunain â llawer o ofidiau.
11 Eithr tydi, gŵr Duw, gochel y pethau hyn: a dilyn gyfiawnder, duwioldeb, ffydd, cariad, ammynedd, addfwyndra.
12 Ymdrecha hardd-deg ymdrech y ffydd, cymmer afael ar y bywyd tragwyddol, i'r hwn hefyd i'th alwyd, ac y professaist broffes dda ger bron llawer o dystion.
13 Yr ydwyf yn gorchymmyn i ti ger bron Duw, yr hwn sydd yn bywhau pôb peth, a [cher bron] Christ Iesu yr hwn tan Pontius Pilat a dystiodd broffess dda:
14 Gadw o honot y gorchymmyn hwn,] yn ddifeius, yn ddiargyoedd, hyd ymddangosiad ein Harglwydd Iesu Grist.
15 Yr hwn yn ei amserau priod a ddengys y bendigedig a'r vnic Bennaeth, Brenin y brenhinoedd, ac Arglwydd yr arglwyddi.
16 Yr hwn yn vnic sydd ganddo anfarwoldeb, [sydd] yn trigo yn y goleuni ni ellir dyfod atto: yr hwn ni's gwelodd vn dŷn ac ni's dichon ei weled: i'r hwn [y byddo] anrhydedd, a gallu tragywyddol. Amen.
17 Gorchymmyn i'r rhai sy oludog yn y bŷd ymma, na byddont vchel-feddwl, ac na obethiont mewn golud anwadal, ond yn y Duw [Page 682] byw, yr hwn sydd yn helaeth yn rhoddi i ni bôb peth iw mwynhau:
18 A'r iddynt wneuthur daioni, ymgyfoethogi mewn gweithredoedd da, fôd yn hawdd ganddynt roddi [a] chyfrannu:
19 Yn tryssori iddynt eu hunain sail dda erbyn [yr amser] sydd ar ddyfod, fel y caffont afael ar y bywyd tragwyddol.
20 O Timotheus, cadw yr hyn a roddwyd iw gadw attat, gan droi oddi wrth halogedig ofersain, a gwrthwyneb gwybodaeth a gam-henwîr [felly:]
21 Yr hon tra yw rhai yn ei phroffessu, hwy a gyfeiliornasant o ran y ffydd, Grâs fyddo gyd â thi. Amen.
AIL EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT TIMOTHEUS.
PENNOD. I.
PAUL Apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, yn ol addewid y bywyd, yr hwn sydd yn Ghrist Iesu.
2 At Timotheus, [fy] mab anwyl; grâs, trugaredd, [a] thangneddf oddi wrth Dduw Tâd, a Christ Iesu ein Harglwydd.
3 Y mae gennif ddiolch i Dduw, yr hwn yr ydwyf yn ei wasanaethu o'm rhieni â chydwybod bur, mor ddibaid y mae gennif goffa am danat ti, yn fy ngweddiau, nôs a dydd:
4 Gan fawr ewyllysio dy weled, gan gofio dy ddagrau, fel i'm llanwer o lawenydd:
5 Gan alw i'm cof y ffydd ddiffuant sydd ynot ti, yr hon a drigodd yn gyntaf yn dy nain Lois, ac [Page 683] yn dy fam Eunice, a diammeu gennif [ei bod] ynot titheu hefyd.
6 O herwyd pa achos yr ydwyf yn dy goffau i ail ennyn dawn Duw, yr hwn sydd ynot trwy arddodiad fy nwylo i.
7 Canys ni roddes Duw i ni yspryd ofn, onid [yspryd] nerth, a chariad, a phwyll.
8 Am hynny na fid arnat gywilydd o dystiolaeth ein Harglwydd, nac o honof finneu ei garcharor ef: eithr cyd-oddef di gystudd â'r Efengyl, yn ôl nerth Duw:
9 Yr hwn a'n hachubodd ni, ac a'n galwodd â galwedigaeth sanctaidd; nid yn ôl ein gweithredoedd ni, ond yn ôl ei arfaeth ei hun a'i râs, yr hwn a roddwyd i ni yn Ghrist Iesu, cyn dechreu 'r bŷd:
10 Eithr a eglurwyd yr awron trwy ymddanigosiad ein Iachawdr Iesu Grist, yr hwn a ddiddymmodd angeu, ac a ddug fywyd ac anllygredigaeth oleuni, trwy 'r Efengyl.
11 I'r hon i'm gosodwyd i yn bregethŵr ac yn Apostol, ac yn athro y Cenhedloedd.
12 Am ba ochos yr ydwyf hefyd yn dioddef y pethau hyn: ond nid oes arnaf gywilydd; canys mi a wn i bwy y credais, ac y mae yn ddiammeu gennif ei fôd ef yn abl i gadw yr hyn a roddais atto erbyn y dydd hwnnw.
13 Bydded gennit ffurff yr ymaddroddion iachus, y rhai a glywaist gennif fi, yn y ffydd, a'r cariad [sydd] yn Ghrist Iesu.
14 Y peth da a rodded iw gadw attat, cadw trwy 'r Yspryd glân, yr hwn sydd yn preswilio ynom.
15 Ti a wŷddost hyn, ddarfod i'r rhai oll sy yn Asia droi oddi wrthifi: o'r sawl y mae Phygelus a Hermogenes.
16 Rhodded yr Arglwydd drugaredd i dŷ Onesiphorus: canys efe a'm llonnodd i yn fynych, ac nid oedd gywilydd ganddo fy nghadwyn i.
17 Eithr pan oedd yn Rhufain, [efe] a'm ceisiodd yn ddiwyd iawn, ac a'm cafodd.
18 Rhodded yr Arglwydd iddo gael trugaredd gan yr Arglwydd, [...] y dydd hwnnw: a maint a wnaeth efe o wasanaeth yn Ephesus, goreu y gwyddost ti.
PEN. II.
TYdi gan hynny, fy mâb, ymnertha yn y grâs sydd yn Ghrist Iesu:
2 A'r pethau a glywaist gennif trwy lawer o dystion, traddoda y rhai hynny i ddynion ffyddion, y rhai a fyddant gymmwys i ddyscu eraill hefyd.
3 Tydi gan hynny goddef gystudd, megys milŵr da i Iesu Grist
4 Nid yw neb ar sydd yn milwrio yn ymrwystro â negeseuau y bywyd hwn,] fel y rhyngo fodd i'r hwn a'i dewisodd yn fil-ŵr.
5 Ac od ymdrech neb hefyd, ni choronir ef, onid ymdrech yn gyfreithlon.
6 Y llafur-ŵr sydd yn llafurio, sydd raid iddo yn gyntaf dderbyn y ffrwythau.
7 Ystyria yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd a'r Arglwydd a roddo i ti ddeall ym mhôb peth.
8 Cofia gyfodi Iesu Grist o hâd Dafydd, o feirw, yn ôl fy Efengyl i:
9 Yn yr hon yr ydwyf yn goddef cystudd hyd rhwymau, fel drwg-weithred-wr, eithr gair Duw nis rhwymir.
10 Am hynny yr ydwyf yn goddef pôb peth, or mwyn yr etholedigion, fel y gallent hwythau [Page 68] gael yr iechydwriaeth sydd yn Ghrist Iesu, gyd â gogoniant tragwyddol.
11 Gwîr yw'r gair: canys os buom feirw [gyd ag ef,] byw fyddwn hefyd [gyd ag ef:]
12 Os dioddefwn, ni a deyrnaswn [gyd ag ef:] os gwadwn [ef,] ynteu hefyd a'n gwâd ninnau:
13 Os ŷm ni heb gredu, [etto] y mae efe yn aros yn ffyddlon: ni's gall efe ei wadu ei hun.
14 Dwg y pethau hyn ar gôf, gan orchymmyn ger bron yr Arglwydd na byddo iddynt ymryson ynghylch geiriau [yr hyn] nid yw fuddiol i ddim, [ond] i ddadymchwelyd y gwrandawyr.
15 Bydd ddyfal i'th osod dy hun yn brofedig gan Dduw, yn weithiwr digywiliddgar, yn iawngyfrannu gair y gwirionedd.
16 Ond halogedig ofer fain, gochell: canys cynnyddu a wnânt i fwy o annuwioldeb.
17 A'u hymadrodd hwy a yssa fel cancr: ac o'r cyfryw rai y mae Hymenaeus a Philêtus:
18 Y rhai o ran y gwirionedd a gyfeiliornasant, gan ddywedyd ddarfod yr adgyfodiad eusys: ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai:
19 Eithr y mae cadarn sail Duw yn sefyll, a chanddo y sel hon, Yr Arglwydd a edwyn y rhai sydd eiddo ef: a phôb vn sydd yn henwi Enw Christ, ymadawed oddi wrth anghyfiawnder.
20 Eithr mewn tŷ mawr nid oes yn vnig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd: a rhai i barch, a rhai i ammarch.
21 Pwy bynnag gan hynny a'i glanhao ei hun oddi wrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio ac yn gymmwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda.
22 Ond chwantau ieuengctid, ffo [oddi wrthyynt] a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, tangneddyf, gyd â'r rhai sy yn galw ar yr Arglwydd o galon bûr.
23 Eithr gochel ynfyd ac annyscedig gwestiwnau, gan wŷbod eu bod yn magu ymrysonau.
24 Ac ni ddylei gwâs yr Arglwydd ymryson, on bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddioddefgar:
25 Mewn addfwynder yn dyscu y rhai gwrthwynebus, [i edrych] a roddo Duw iddynt hwy ryw amser, edifeirwch i gydnabod y gwirionodd:
26 A bôd iddynt ddyfod i'r iawn allan o fagl diafol, y rhai a ddelid ganddo wrth ei ewyllys ef.
PEN. III.
GWybydd hyn hefyd, y daw amseroedd enbyd yn y dyddiau diweddaf.
2 Canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hunain, yn arian-gar, yn ymffrost-wyr, yn feilchion, yn gabl-wŷr, yn anufyddion i rieni, yn anniolchgar, yn anuwiol,
3 Yn angharedig, yn torri cyfammod, yn enllibaidd, yn anghymhesur, yn anfwyn, yn ddi-serch i'r rhai da.
4 Yn frâd-wŷr, yn waed-wyllt, yn chwyddedig, yn caru melys-chwant yn fwy nag yn caru Duw:
5 A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi: a'r rhai hyn gochel di.
6 Canys o'r rhai hyn y mae y rhai [sy] yn ymlusco i deiau, ac yn dwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau:
7 Yn dyscu bob amser, ac heb allu dyfod yn amser i ŵybodaeth y gwirionedd.
8 Eithr megis y safodd Iannes a Iambres yn erbyn Moses, felly y mae y rhai hyn hefyd yn sefyll yn erbyn y gwirionedd, dynion o feddwl llygredig, yn anghymmeradwy o ran y ffydd.
9 Eithr nid ânt rhafddynt ym mhellach: canys eu hynfydrwydd fydd amlwg i bawb, megis y bu yr eiddynt hwythau.
10 Eithr ti a lwyr-adwaenost fy nysceidiaeth, fy muchedd, fy arfaeth, ffydd, hirymaros, cariad, ammynedd:
11 Yr erlidiau, y dioddefiadau, y rhai a ddigwyddasant i mi yn Antiochia, yn Iconium, yn Lystra; yr erlidiau a ddioddefais: eithr oddi wrthynt oll i'm gwaredodd yr Arglwydd.
12 Ie, a phawb a'r sy yn ewyllysio byw yn dduwiol yn Ghrist Iesu, a erlidir.
13 Eithr drwg-ddynion a thwyllwŷr a ânt rhagddynt waeth-waeth, gan dwyllo a chael eu twyllo.
14 Eithr aros di yn y pethau a ddyscaist, ac a ymddiriedwyd i ti amdanynt, gan wŷbod gan bwy y dyscaist:
15 Ac i ti er yn fachgen wŷbod yr Scrythur lân, yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iechydwriaeth, trwy 'r ffydd sydd yn Ghrist Iesu.
16 Yr holl Scrythur [sydd] wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw, ac [sydd] fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder,
17 Fel y byddo dŷn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bod gweithred dda.
PEN. IIII.
YR ydwyfi gan hynny yn gorchymmyn ger bron Duw, a'r Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a farna y byw a'r meirw, yn ei ymddangosiad a'i deyrnas:
2 Pregetha 'r gair, bydd daer, mewn amser, allan o amser; argyoedda, cerydda, annog, gydâ phôb hir-ymaros ac athrawiaeth.
3 Canys daw yr amser pryd na ddioddefont athrawiaeth iachus: eithr yn ôl eu chwantau eu hunain, y pentyrrant iddynt eu hunain athrawon, gan fôd eu clustiau yn merwino:
4 Ac oddi wrth y gwirionedd y troant ymmaith eu clustiau, ac at chwedlau y troant.
5 Eithr gwilia di ym mhôb peth, dioddef adfyd: gwna waith Efengylŵr, cyflawna dy weinidogaeth.
6 Canys myfi yr awron a aberthir, ac amser fy ymddattodiad i a nesaodd.
7 Mi a ymdrechais ymdrech dêg, mi a orphennais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd.
8 O hyn allan rhoddwyd coron cyfiawnder iw chadw i mi, yr hon a rydd yr Arglwydd, y barnwr cyfiawn, i mi yn y dydd hwnnw: ac nid yn vnic i mi, ond hefyd i bawb a garant ei ymddangosiad ef.
9 Bydd ddyfal i ddyfod attaf yn ebrwydd:
10 Canys Demas a'm gadawodd, gan garu y bŷd presennol, ac a aeth ymmaith i Thessalonica, Crescens i Galatia, Titus i Dalmatia.
11 Lucas yn vnic sydd gyd â mi. Cymmer Marc, a dwg gyd â thi: canys buddiol yw [efe] i mi i'r weinidogaeth.
12 Tychicus hefyd a ddanfonais i Ephesus.
13 Y cochl a adewais i yn Troas gyd â Charpus, pan ddelych dwg [gyd â thi,] a'r llyfrau, yn enwedig y memrwn.
14 Alexander y gôf copr a wnaeth i mi ddrygau lawer: taled yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd.
15 Yr hwn hefyd gochel ditheu: canys efe a safodd yn ddir-fawr yn erbyn ein hymadroddion ni.
16 Yn fy atteb cyntaf ni safodd neb gyd â mi, eithr pawb a'm gadawsant, [mi a archaf i Dduw,] na's cyfrifer iddynt.
17 Eithr yr Arglwydd a safodd gyd â mi, ac a'm nerthodd: fel trwofi y byddei y pregethiad yn llawn hyspys, ac y clywei yr holl Genhedloedd: ac mi a waredwyd o enau y llew.
18 A'r Arglwydd a'm gwared i rhag pôb gweithred ddrwg, ac a'm ceidw iw deyrnas nefol: i'r hwn [y byddo] gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
19 Annerch Prisca, ac Aquila, a theulu Onesiphorus.
20 Erastus a arhosodd yn Corinth: Ond Trophimus a adewais ym Miletum yn glâf.
21 Bydd ddyfal i ddyfod cyn y gayaf. Y mae Eubulus yn dy annerch, a Phudens, a Linus, a Chlaudia, a'r brodyr oll.
22 Yr Arglwydd Iesu Grist [fyddo] gyd a'th yspryd di, Grâs [fyddo] gyd â chwi. Amen.
EPISTOL PAVL YR APOSTOL AT TITVS.
PEN. I.
PAVL gwâs Duw, ac Apostol Iesu Grist yn ol ffydd etholedigion Duw, ac adnabyddiaeth y gwirionedd, yr hon [sydd] yn ôl duwioldeb:
2 I obaith bywyd tragwyddol, yr hon a addawodd y di gelwyddog Dduw cyn dechreu 'r bŷd:
3 Eithr mewn amseroedd priodawl efe a eglurhaodd ei air trwy bregethu, am yr hyn yr ymddiriedwyd i mi, yn ôl gorchymyn Duw ein Iachawdur:
4 At Titus fy mab naturiol yn ol y ffydd gyffredinol, Grâs, thugaredd, a thangneddyf oddi wrth Dduw Tâd, a'r Arglwydd Iesu Grist ein Iachawdwr ni.
5 Er mwyn hyn i'th adewais yn Creta, fel yr iawn-drefnit y pethau sy yn ol, ac y gosodit henuriaid ym mhob dinas, megys yr ordeiniais i ti.
6 Os yw neb yn ddi-argyoedd, yn ŵr vn wraig, a chanddo blant ffyddlon, heb gael y gair o fod yn afradlon, neu yn anufydd.
7 Canys rhaid i Escob fod yn ddiargyoedd, fel gorchwyliwr Duw: nid yn gyn dyn, nid yn ddigllon, nid yn wîn-gar, nid yn darawudd, nid yn budr-elwa.
8 Eithr yn lletteugar, yn caru daioni, yn sobr, yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn dymmherus:
9 Yn dal yn lew y gair ffyddlon yn ôl yr addysc, fel y gallo gynghori yn yr athrawiaeth iachus, ac argyoeddi y rhai sy yn gwrth-ddywedyd.
10 Canys y mae llawer yn anufydd, yn ofersiaradus, ac yn dwyllwŷr meddyliau, yn enwedig, y rhai o'r Enwaediad.
11 Y rhai y mae yn rhaid cau eu safnau: y rhai sy yn dymchwelyd tai cyfan, gan athrawiaethu y pethau ni ddilyd, er mwyn budr-elw.
12 Vn o honynt hwy eu hunain, vn o'i prophwydi hwy eu hunain a ddywedodd, Y Cretiaid [sydd] bob amser yn gelwyddog, drwg fwyst-filod, boliau gorddiog.
13 Y dystiolaeth hon sydd wîr: am ba achos argyoedda hwy yn llym, fel y byddont iach yn y ffydd:
14 Heb ddal ar chwedlau Iddewaidd, a gorchymmynion dynion yn troi oddi wrth y gwirionedd.
15 Pur yn ddiau [yw] pôb peth i'r rhai pur: eithr i'r rhai halogedig a'r di-ffydd, nid pur dim, eithr halogedig yw hyd yn oed eu meddwl a'u cydwybod hwy.
16 Y maent yn proffessu yr adwaenant Dduw, eithr ar weithredoedd ei wadu y maent, gan fôd yn ffiaidd, ac yn anufydd, ac at bôb gweithred dda yn anghymmeradwy.
PEN. II.
EIthr llefara di y pethau a weddo i athrawiaeth iachus:
2 Bod o'r henaf-gwŷr yn sobr, yn honest, yn gymhesur, yn iach yn y ffydd, ynghariad, mewn ammynedd:
3 Bod o'r henaf-gwragedd yr vn ffunyd mewn ymddygiad, fel y gweddai i sancteiddrwydd, nid yn enllibaid, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaoni:
4 Fe y gallont wneuthur y gwragedd ieuaingc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant:
5 Yn sobr, yn bur, yn gwarchad gartref, yn dda, yn ddarostyngedic iw gwŷr priod, fel na chabler gair Duw.
6 Y gwŷr ieuaingc yr vn ffunyd, cynghora i fod yn sobr:
7 Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn esampl i weithredoedd da, [a dangos] mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd-dra, purdeb,
8 Ymadrodd iachus, yn hwn ni aller beio arno: fel y byddo i'r hwn [sydd] yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg iw ddywedyd am danoch chwi.
9 [Cynghora] weision i fod yn ddarostyngedig iw meistreid eu hun, ac i ryngu bodd [iddynt] ymmhob peth, nid yn gwrth-ddywedyd:
10 Nid yn darn guddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da: fel yr harddont athrawiaeth Dduw ein Iachawdur, ym mhob peth.
11 Canys ymddangosodd grâs Duw, yr hon sydd yn dwyn iechydwriaeth i bob dŷn:
12 Gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron;
13 Gan ddisgwil am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a'n Iachawdur Iesu Grist:
14 Yr hwn a'i rhoddes ei hun trosom, i'n prynu ni oddiwrth bob anwiredd, ac i'n puro ni iddo ei hun, yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da.
15 Y pethau hyn llefara, a chynghora, ac argyoedda gyd â phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.
PEN. III.
DWg ar gof iddynt fôd yn ddarostyngedig i'r tywysogaethau, a'r awdurdodau, fôd yn vfydd, fôd yn barod i bob gweithred dda:
2 Bod heb gablu neb, yn an ymladdgar, yn dirion, gan ddangos pob addfwynder tu ac at bob dŷn.
3 Canys yr oeddym ninneu hefyd gynt yn annoethion, yn anufydd, yn cyfeiliorni, yn gwasanaethu chwantau ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn ddigasog, yn casau ei gilydd.
4 Eithr pan ymddangosodd daioni a chariad Duw ein Achubwr tu ac at ddŷn.
5 Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, eithr yn ôl ei drugaredd yr achubodd efe nyni, trwy olchiad yr adenigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd glân,
6 Yr hwn a dywalltodd efe arnom ni yn helaeth, trwy Iesu Grist ein Iachawdwr:
7 Fel gwedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, i'n gwneid yn etifeddion yn ôl gobaith bywyd tragwyddol.
8 Gwîr [yw] 'r gair: ac am y pethau hyn yr ewyllysiwn i ti fod yn daer, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn [Page 694] gweithredoedd da: y pethau hyn sydd dda, a buddiol i ddynion.
9 Eithr gochel gwestiwnau ffôl, ac achau, a chynnhenneu, ac ymrysonau ynghylch y Ddeddf: canys anfuddiol ydynt, ac ofer.
10 Gochel y dyn a fyddo Hereric, wedi vn ac ail rhybydd:
11 Gan wŷbod fod y cyfryw yn wedi ei wŷrdroi, ac yn pechu, gan fod yn ei ddamnio ei hunain.
12 Pan ddanfonwyf Artemas attat, neu Tychicus, bydd ddyfal i ddyfod attaf i Nicopolis: canys yno yr arfaethais aiafu.
13 Hebrwng Zenas y cyfreithiŵr, ac Apollos yn ddiwyd, fel na byddo arnynt eisieu dim.
14 A dysced yr eiddom ninnau flaenori mewn gweithredoedd da i angenrheidiau, fel na byddont yn ddiffrwyth.
15 Y mae yr holl rai sy gyd â mi yn dy annerch. Annerch y rhai sy yn ein caru ni yn y ffydd, Grâs fyddo gyd â chwi oll. Amen.
EPISTOL S. PAUL AT PHILEMON.
PEN. I.
PAUL carcharor Christ Iesu, a'r brawd Timotheus, at Philemon ein hanwylyd, a'n cydweithiwr;
2 At ar Apphia [ein] hanwylyd, ac at Archippus ein cyd-filwr, ac at yr Eglwys sydd yn dy dŷ di.
3 Grâs i chwi a thangneddyf oddi wrth Dduw ein Tâd, a'r Arglwydd Iesu Ghrist.
4 Yr wyf yn diolch i'm Duw, gan wneuthur coff am danat yn wastadol yn fy ngweddiau,
5 Wrth glywed dy gariad, a'r ffydd sydd gennit tu ac at yr Arglwydd Iesu, a thu ac at yr holl Sainct.
6 Fel y gwneler cyfranniad dy ffydd di yn nerthol, trwy adnabod pôb peth daionus ar sydd ynoch chwi yn Ghrist Iesu.
7 Canys y mae gennym lawer o lawenydd, a diddanwch yn dy gariad ti, herwydd bod ymyscaroedd y Sainct wedi eu llonni trwot ti, frawd.
8 O herwydd pa ham, er bôd gennif hyfdra lawer yn Ghrist, i orchymmyn i ti y peth sydd weddus.
9 Etto o ran cariad yr ydwyf yn hytrach yn attolwg, er fy môd yn gyfryw vn a Phaul yr henaf-gŵr, ac yr awron hefyd yn garcharor Iesu Ghrist.
10 Yr ydwyf yn attolwg i ti dros fy mab Onesimus, yr hwn a genhedlais i yn fy rhwymau:
11 Yr hwn gynt [a fu] i ti yn anfuddiol, ond yr awron yn fuddiol i ti ac i minneu hefyd.
12 Yr hwn a ddanfonais drachefn: a derbyn ditheu ef, yr hwn yw fy ymys [...]roedd i.
13 Yr hwn yr oeddwn i yn ewyllysio ei ddal gyd â mi fel trosot i, y gwasanaethei efe fi yn rhwymau yr Efengyl.
14 Eithr heb dy feddwl di, ni ewyllysiais wneuthur dim; fel na byddei dy ddaioni di megis o anghenrhaid, onid o fodd.
15 Canys yscatfydd er mwyn hyn yr ymadawodd tros amser, fel y derbynnit ef yn dragywydd:
16 Nid fel gwâs bellach, eithr vwchlaw gwâs, yn frawd anwyl, yn enwedig i mi, eithr pa faint mwy i ti, yn y cnawd, ac yn yr Arglwydd hefyd?
17 Os wyti gan hynny yn fy nghymeryd i yn gydymmaith, derbyn ef fel myfi.
18 Ac os gwnaeth efe ddim cam â thi, neu [os] yw yn dy ddyled, cyfrif hynny arnafi.
19 Myfi Paul a'i scrifennais a'm llaw fy hun, myfi a'i talaf: fel na ddywedwyf wrthit dy fôd yn fy nyled i ym mhellach am danat dy hun hefyd.
20 Ie frawd, gâd i mi dy fwynhau di yn yr Arglwydd: llonna fy ymyscaroedd i yn yr Arglwydd.
21 Gan hyderu ar dy yfydd dod yr scrifennais attat, gan wŷbod y gwnei, îe mwy nag yr wyf yn ei ddywedyd.
22 Heb law hyn hefyd, paratoa i mi lettŷ: canys yr ydwyf yn gobeithio trwy eich gweddiau chwi, y rhoddir fi i chwi.
23 Y mae yn dy annerch Epaphras fy nghŷdgarcharor yn Ghrist Iesu.
24 Marcus, Aristarchus, Demas, Lucas, fy nghŷdweith-wŷr.
25 Grâs ein Harglwydd Iesu Ghrist gyd â'ch yspryd chwi. Amen.
YR EPISTOL AT YR HEBRÆAID.
PENOD. I.
DVw wedi iddo llefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn a lefarodd wrthym ni yn [ei] Fab,
2 Yr hwn ac wnaeth efe yn etifedd pôb peth, trwy 'r hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd.
3 Yr hwn ac efe yn ddisclairdeb ei ogoniant ef, ac yn wîr lun ei berson ef, ac yn cynnal pôb peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheu-law y mawredd, yn y goruwch-leoedd:
4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well nâ'r Angelion o gymmaint ac yr etifeddodd efe Enw mwy rhagorol nâ hwynt hwy.
5 Canys wrth bwy o'r Angelion y dywedodd efe vn amser? fy Mâb ydwyt ti, myfi heddyw a'th genhedlais di. A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dâd, ac efe a fydd i mi yn Fab.
6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y cyntaf-anedig i'r byd, y mae yn dywedyd, Ac, addoled holl Angelion Duw ef.
7 Ac am yr Angelion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei Angelion yn ysprydion, a'i weinidogion yn fflam dan:
8 Ond wrth y Mâb, Dy orseddfaingc di, o Dduw, [sydd] yn oes oesoedd: teyrnwialen vniondeb, yw] teyrn wialen dy deyrnas di.
9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd, am hynny i'th enciniodd Duw, [sef] dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i'th gyfeillion▪
10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaiar, a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd.
11 Hwynt y a ddarfyddant, ond tydi sydd yn parhau: a [hwynt-hwy] oll fel dilledyn a heneiddiant.
12 Ac megis gwisc y plygi di hwynt a [hwy] a newedir: ond tydi yr vn ydwyt, a'th flynyddoedd ni phallant.
13 Ond wrth ba un o'r Angelion y dywedodd efe vn amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfaingc i'th draed?
14 Onid ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy oll wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iechydwriaeth?
PEN. II.
AM hynny y mae yn rhaid i ni ddal yn well ar y pethau a glwysom, rhag vn amser i ni eu gollwng hwy i golli.
2 Canys os bu gadarn y gair a lefarwyd trwy Angelion, ac os derbyniodd pob trosedd ac anufydd-dod gyfiawn daledigaeth:
3 Pa fodd y diangwn ni, os esceuluswn iechydwriaeth gymmaint, yr hon wedi dechreu ei thraethu trwy 'r Arglwydd, a siccrhawyd i ni, gan y rhai a'i clywsant [ef:
4 A Duw hefyd yn cyd tystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd, a doniau yr Yspryd glan, yn ôl ei ewyllys ei hun?
5 Canys nid i'r Angelion y darostingodd efe y [Page 699] byd a ddaw, am yr hwn yr ydym yn llefaru.
6 Eithr vn mewn rhyw fan a dystiolaethodd, gan ddywedyd, Pa beth yw dŷn, i ti i ymweled ag ef.
7 Ti a'i gwnaethost ef dros ennyd fechan yn îs nâ'r Angelion: â gogoniant ac anrhydedd y coronaist i ef, ac a'i gosodaist ef ar weithredoedd dy ddwylo.
8 Ti a ddarostyngaist bob peth tan ei draed ef. Canys wrth ddarostwng pob peth iddo, ni adawodd efe ddim heb ddarostwng iddo: ond yr awron nid ydym ni etto yn gweled pob peth wedi eu darostwng iddo.
9 Eithr yr ydym ni yn gweled Iesu yr hwn a wnaed dros ennyd fechan yn îs nâ'r Angelion o herwydd dioddef marwolaeth: wedi ei goroni â gogoniant ac anrhydedd: fel trwy râs Duw y profei efe farwolaeth tros bob dŷn.
10 Canys gweddus oedd iddo ef, o herwydd yr hwn [y mae] pob peth, a thrwy 'r hwn [y mae] pob peth, wedi [iddo] ddwyn meibion lawer i ogoniant, berffeithio tywysog eu hiechydwriaeth hwy trwy ddioddefiadau.
11 Canys yr hwn sydd yn sancteiddio, a'r rhai a sancteiddir, o'r vn [y maent] oll: am ba achos nid yw gywilyddus ganddo eu galw hwy yn frodyr,
12 Gan ddywedyd, Mifi a fynegaf dy Enw di i'm brodyr, ynghanol yr Eglwys i'th fôlaf di.
13 A thrachefn, Myfi a fyddaf yn ymddiried ynddo. A thrachesn, Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi.
14 Oblegid hynny, gan fôd y plant yn gyfrannogion o gig a gwaed, vntef hefyd yr vn modd a fu gyfrannog o'r vn pethau: fel trwy farwolaeth [Page 700] y dinistriei efe yr hwn oedd â nerth marwolaeth ganddo, hynny yw diafol:
15 Ac y gwaredei hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt tros eu holl fywyd tan gaethiwed.
16 Canys ni chymmerodd efe naturiaeth] Angelion, eithr hâd Abraham a gymmerodd efe.
17 Am ba achos y dylei [efe] ym mhob peth fôd yn gyffelyb iw frodvr, fel y byddei drugarog, ac Arch-offeiriad ffyddlon mewn pethau yn perthyn i Dduw, i wneuthur cymmod tros bechodau 'r bobl.
18 Canys yn gymmaint a dioddef o honaw ef, gan gael ei demtio, efe a dichon gynnorthwyo y rhai a demtir.
PEN. III.
OHerwydd pa ham, frodyr sanctaidd, cyfrannogion o'r galwedigaeth nefol, ystyriwch Apostol ac Arch-offeiriad ein cyffes ni, Christ Iesu:
2 Yr hwn sydd ffyddlon i'r hwn a'i hordeiniedd ef, megis ac [y bu] Moses yn ei holl dŷ ef,
3 Canys fe a gyfrifwyd hwn yn haeddu mwy gogoniant nâ Moses, o gymmaint ac y mae 'r hwn a adeiladodd y tŷ, yn cael mwy o barch nâ'r tŷ.
4 Canys pob tŷ a adeiledir gan ryw vn: ond yr hwn a adeiladodd bob peth [yw] Duw.
5 A Moses yn wîr [a fu] ffyddlon yn ei holl dŷ ef, megis gwâs, er tystiolaeth i'r pethau oedd iw llefaru:
6 Eithr Christ, megis mab ar ei dŷ ei hun: tŷ yr hwn ydym ni, os nyni a geidw ein hyfder, a gorfoledd ein gobaith, yn siccr hyd y diwedd.
7 Am hynny megis y a mae yr Yspryd glân yn dywedyd, Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef,
8 Na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffaethwch:
9 Lle y temptiodd eich tadau fyfi, y profasant fi, ac y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mhlynedd.
10 Am hynny y dywedais, Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau: ac nid adnabuant fy ffyrdd i:
11 Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i' n gorphwysfa.
12 Edrychwch, frodyr, na byddo vn amser yn neb o honoch galon ddrwg o anghrediniaeth, gan ymado oddi wrth Dduw byw.
13 Eithr cynghorwch ei gilydd bob dydd, tra y gelwir hi heddyw: fel na chaleder neb o honoch trwy dwyll pechod.
14 Canys fe a' n gwnaed ni yn gyfrannogion o Christ, os daliwn ddechreuad ein hyder yn sicr hyd y diwedd
15 Tra y dywedir Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad.
16 Canys rhai wedi gwrando a'i digiasant ef, ond nid pawb a'r a ddaethant o'r Aipht trwy Moses.
17 Ond wrth bwy y digiodd efe ddeugain mhlynedd? onid wrth y rhai a bechasent, y rhai y syrthiodd eu cyrph yn y diffaethwch;
18 Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent hwy [Page 20] fyned i mewn iw orphewysfa ef, onid wrth y rhai ni chredasant?
19 Ac yr ydym ni yn gweled na allent hwy fyned i mewn o herwydd anghrediniaeth.
PEN. IV.
OFnwen gan hynny gan fod addewid wedi ei adel i ni i fyned i mewn iw orphwysfa ef, rhac bod neb o honoch yn debyg i fod yn ôl.
2 Canys i ninneu y pregethwyd yr Efengyl, megis ac iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-tymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant.
3 Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i'r orphywysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, os ânt i mewn i'm gorphyswyfa i: er bôd y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y bŷd.
4 Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed [dydd] fell hyn, A gorphywysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.
5 Ac ymma drachefn, Os ânt i mewn i'm gorphywysfa i.
6 Gan hynny gan fôd [hyn] wedi ei adel, fôd rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, o herwydd anghrediniaeth:
7 Trachefn y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gad ddywedyd yn Nafydd, Heddyw, ar ol cymmaint o amser; megis y dywedir, Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.
8 Canys pe dygasei Iesus hwynt i orphywysfa▪ [Page 703] ni soniasei efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.
9 Y mae gan hynny orphywysfa etto yn ôl i bobl Dduw.
10 Canys yr hwn a aeth i mewn iw orphywysfa ef, hwnnw hefyd a orphywysodd oddy wrth ei weirhredoedd ei hun, megis [y gwnaeth] Duw oddi wrth yr eiddo yntef.
11 Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i'r orphywysfa honno: fel na syrthio neb, yn ôl yr vn siampl o angrediniaeth.
12 Canys bywiol [yw] gair Duw a nerthol, a llmmach nag vn cleddyf dau-finiog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a'r yspryd, a'r cymmalau a'r mêr; ac yn barnu meddyliau, a bwriadau y galon.
13 Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef a eithr pob peth [sydd] yn noeth, ac yn agored iw lygaid ef, am er hwn yr ydym yn sôn.
14 Gan fod wrth hynny i ni Arch-offeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffess.
15 Canys nid oes i ni Arch-offeiriad, heb fedru gyd ddioddef gyd â'n gwendid ni, ond wedi eî demptio ym mhob peth yr un ffunyd [a ninneu, etto] heb pecod.
16 Am hynny, awn yn hyderus at orseddfaingc y grâs, fel y derbyniôm drugaredd, ac y ca [...]om râs, yn gymmorth cyfamserol.
PEN. V.
CAnys pob Arch offeiriad wedi ei gymmeryd o blith dynion a osodir tros ddynion yn y pethau sy tu ac at Dduw, fel yr offrymmo roddion ac aberthau tros bechodau.
2 Yr hwn a ddichon dosturio wrth y rhai sy mewn anwybodath ac amryfusedd: am ei fôd ynteu hefyd wedi ei amgylchu â gwendid:
3 Ac o achos hyn y dylei, megis tros y bobl, felly hefyd trosto ei hun offrymmu tros bechodau.
4 Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd [hwn] iddo ei hun, ond yr hwn a alwyd gan Dduw, megis Aaron:
5 Felly Christ hefyd ni's gogoneddodd ei hun i fod yn Arch-offeiriad; ond yr hwn a ddywedodd wrtho, Tydi yw fy Mab, myfi heddyw a'th genhedlais di.
6 Megis y mae yn dywedyd mewn [lle] arall, Offeiriad [wyt] ti yn dragywydd, yn ol vrdd Melchisedec.
7 Yr hewn yn nyddiau ei gnawd, gwedi iddo trwy lefain cryf a degrau, offrwm gweddiau ac erfyniau at yr hwn oedd. abl iw achub ef oddi wrth farwolaeth, a chael ei wrando yn yr hyn a ofnodd:
8 Er ei fod yn Fab, a ddyscodd vfydddod trwy y pethau a ddioddefodd:
9 Ac wedi ei berffaithio, efe a wnaethbwyd yn awdur iechydwriaeth dragwyddol, ir rhai oll a vfuddhânt iddo:
10 Wedi ei gyfenwy gan Dduw yn Archoffeiriad yn ôl vrdd Melchisedec.
11 Am yr-hwn y mae i ni lawer iw ddywedyd, ac anhawdd eu traethu: o achos eich bod chwi yn hwyr-drwm eich clustiau.
12 Canys lle dylech fod yn athrawon o ran [Page 705] amser, mae arnoch drachefn eisieu dyscu i chwi beth [ydyw] gwyddorion dechreuad ymadroddion Duw: ac yr ydych yn rhaid i chwi wrth laeth, ac nid bwyd crif.
13 Canys pob vn ac sy yn ymarfer â llaeth, [sydd] anghynefin â gair cyfiawnder: canys mâban yw.
14 Eithr bwyd cryf a berthyn i'r rhai perffaith, y rhai o herwydd cynnefindra y mae ganddynt synhwyr, wedi ymarfer i ddosparthu drwg a da.
PEN. VI.
AM hynny gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechreu rhai yn Ghrist, awn rhagom at berffeithrwydd: heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tu at Dduw:
2 I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol.
3 A hyn a wnawn, os caniadhâ Duw.
4 Canys amhossibl [yw] i'r rhai a oleuwyd vn-waith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethbwyd yn gyfrannogion o'r Yspryd glân.
5 Ac a brosesant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw;
6 Ac a syrthiant ymaith; ymadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn ail-croeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwor.
7 Canys y ddaiar, yr hon sydd yn yfed y glaw sy yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymmwys i'r rhai y llafurir hi ganddynt [Page 706] sydd yn derbyn bendith gan Dduw:
8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, [sydd] anghymmeradwy, ac agos i felldith, dîwed yr hon [yw] ei llosci.
9 Eithr yr ydynt ni yn coelio am danoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a [phethau] ynglŷn wrth iechydwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn.
10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a'r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tu ac at ei Enw ef, y rhai a weiniasoch i'r Sainct, ac ydych vn gweini.
11 Ac yr ydym yn chwennydd fod i bob vn o honoch ddangos yr vn diwydrwyd, er mwyn llawn siccrwydd gobaith hyd y diwedd:
12 Fel na byddoch fuscrell, eithr yn ddilynwyr i'r rhai, trwy ffyd ac ammynedd, sy, yn etifeddu yr addewidion.
13 Canys Duw wrrh wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allei dyngu i neb [oedd] fwy, a dyngodd iddo ei hun,
14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio i'th fendithiaf, a ch [...]d amlhau i'th amlaâf.
15 Ac felly wedi iddo hir-ymaros efe a gafodd yr addewid.
16 Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i vn a fo mwy; a llŵ er sicrwydd [sydd] derfyn iddynt ar bob ymryson.
17 Yn yr hun, Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid, ddianwadalweb ei gyngor ef, a gyfryngodd trwy lw:
18 Fel rwy ddau beth dianwadal yn y rhai [yr oedd] yn ammhossibl i Dduw fod yn gelwyddog, [Page 707] y gallem ni gael cyssur crŷf, y rhai a ffoesom i gymmeryd gafael yn y gobaith a osodwyd o'u blaen:
19 Yr hwn fydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn siccr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o'r tu fewn i'r llen:
20 I'r man aeth y rhag-flaenor trosom ni, [sef] Iesu, yr hwn a wnaethbwyd yn Arch-offeiriad yn dragwyddol, ar ôl vrdd Melchisedec.
PEN. VII.
CAnys y Melchisedec hwn, brenin Salem, Offeiriad y Duw Goruchaf, yr hwn a gyfarfu ag Abraham wrth ddychwelyd o ladd y brenhinoedd, ac a'i bendigodd ef:
2 I'r hwn hefyd y cyfrannodd Abraham ddegwm o bob peth: yr hwn yn gyntaf, o'i gyfeithu, [yw] breein cyfiawnder, ac wedi hynny hefyd brenin Salem: yr hyn yw brenin heddwch:
3 Heb dâd, heb fam, heb achau, heb fôd iddo na dechreu dyddiau, na diwedd enioes: eithr wedi ei wneuthur yn gyffelyb i fab Duw, sydd yn aros yn Offeiriad yn dragywydd.
4 Edrychwch faint oedd hwn, i'r hwn hefyd y rhoddodd Abraham y patriarch ddegwm o'r anrhaith.
5 A'r rhai yn wîr [sy] o feibion Lefi yn derbyn swydd yr Offeiriadaeth, y mae ganddynt orchymmyn i gymmeryd degwm gan y bobl, ar ôl y Gyfraith, sef gan eu brodyr, er eu bôd wedi dyfod o lwynau Abraham:
6 Eithr yr hwn nid [oedd] ei achau o honynt hwy, a gymmerodd ddegwm gan Abraham, ac a fendithiodd yr hwn yr oedd yr addewidion iddo.
7 Ac yn ddi ddadl, yr hwn [sydd] leiaf a fendithir gan ei well.
8 Ac ymma y mae dynion, y rhai sy yn meirw, yn cymmeryd degymmau: eithr yno, yr hwn y tystiolaethwyd am dano ei fôd efe yn fyw.
9 Ac (fel y dywedwyf felly) yn Abraham y talodd Lefi hefyd ddegwm, yr hwn oedd yn cymmeryd degymmau.
10 Oblegid yr ydoedd efe etto yn lwynau ei dad: pan gyfarfu Melchisedec ag ef.
11 Os ydoedd gan hynny berffeithrwydd trwy offeiriadaeth Lefi (oblegid tan honno y thoddwyd y gyfraith i'r bobl) pa raid oedd mwyach godi offeiriad arall ar ôl vrdd Melchisedec, ac na's gelwid ef ar ôl vrdd Aaron?
12 Canys wedi newidio yr Offeiriadaeth, angenrhaid [yw] bôd cyfnewid ar y gyfraith hefyd.
13 Oblegid am yr hwn y dywedir y pethau hyn, efe a berthyn i lwyth arall, o'r hwn nid oedd neb vn gwasanaethu yr allor.
14 Canys hyspys yw mai o Iuda y cododd ein Harglwydd ni: am yr hwn lwyth ni ddywedodd Moses ddim tu ag at offeiriadaeth.
15 Ac y mae yn eglurach o lawer etto, od oes rôl cyffelybrwydd Melchisedec, Offeiriad arall yn codi,
16 Yr hwn a wnaed, nid yn ôl cyfraith gorchymmyn cnawdol, eithr yn ôl nerth bywyd annherfynol.
17 Canys tystiolaethu y mae, Offeiriad wyt ti yn dragywydd, ar ôl vrdd Melchisedec.
18 Canys yn ddiau y mae dirymmiad i'r gorchymmyn [Page 709] sydd yn myned o'r blaen, o herwydd ei lescedd a'i afles
19 Oblegid ni pherffeithiodd y Gyfraith ddim, namyn dwyn gobaith gwell i mewn [a berffeithiodd,] trwy yr hwn yr ydym yn nesau at Dduw.
20 Ac yn gymmaint nad heb lw, [y gwnaethbwyd ef yn offeiriad.]
21 (Canys y rhai hynny yn wîr, ydynt wedi eu gwneuthur yn offeiriaid heb lw: ond hwn, trwy lw, gan yr hwn a ddywedodd wrtho, Tyngodd yr Arglwydd, ac ni bydd edifar ganddo, Ti [sydd] Offeiriad yn draagywydd ar ôl vrdd Melchisedec.)
22 Ar Destament gwell o hynny y gwnaethpwyd Iesu yn fachniudd.
23 A'r rhai hynny yn wîr, llawer sydd wedi eu gwneuthur yn offeiriad, o herwydd lluddio iddynt gan farewolaeth barhau:
24 Ond hwn, am ei fôd ef yn aros yn dragywydd, sydd ag offeiriadaeth dragwyddol ganddo.
25 Am hynny efe a ddichon hefyd yn gwbl iachau y rhai trwyddo ef sy yn dyfod ar Dduw gan ei fôd ef yn yw bob amser, i eiriol trostynt hwy.
26 Canys y cyfryw Arch-offeiriad sanctaidd, diddrwg, dihalog, didoledig oddi wrth bechaduriaid, ac wedi ei wneuthur yn vwch nâ'r nefoedd, oedd weddus i ni:
27 Yr hwn nid yw raid iddo beunydd, megis i'r offeiriaid [hynny,] offrymmu aberthau yn gyntaf tros ei bechodau ei hun, ac yna tros yr eiddo, i bobl: canys hynny a wnaeth efe vnwaith, pan offrymmodd efe ef ei hun.
28 Canys y gyfraith sydd yn gwneuthur dynion â gwendid ynddynt, yn Arch-offeiriaid, eithr gair y llw, yr hwn [a fu] wedi y gyfraith, [sydd yn gweneuthur] y Mab, yr hwn a berheithiwyd yn dragywydd.
PEN. VIII.
A Phen ar [y pethau] a ddywedwyd, [yw hyn:] y mae gennym y fath Arch offeiriad, yr hwn a eisteddodd ar ddheulaw gorseddfaingc y mawredd yn y nefoedd,
2 Yn wenidog y Gynegrfa, a'r gwir Dabernacl, yr hwn a osodes yr Arglwydd, ac nid dŷn.
3 Canys pôb Arch-offeiriad a osodir i offrvmmu rhoddion ac aberthau: o herwydd pa ham rhaid [oedd] bôd gan hwn hefyd yr hwn a offrymmei.
4 Canys yn wir pe bai efe ar y ddaiar, ni byddei yn offeiriad chwaith, gan fod offeiriaid, y rhai sydd yn offrymmu rhoddion yn ôl y Ddeddf.
5 Y rhai sy yn gwasanaethu i siampl a chyscod y pethu nefol, megis y rhybuddiwydd Moses gan Dduw, pan oedd efe ar fedr gorphen y babell. Canys gwêl, medd [efe,] ar wneuthur o honot bob peth ar ôl y portreiad a ddangoswyd i ty yn y mynydd.
6 Ond yn awr efe a gafodd weinidogaeth mwy rhagorol; o gymmaint ac y mae yn gyfryngŵr Cyfammod gwell, yr hwn sydd wedi ei osod ar addewidion gwell.
7 Oblegid yn wir pe buasei y cyuraf hwnnw yn ddifeius, ni cheisiasid lle i'r ail.
8 Canys yn beio arnynt hwy y dywed [efe,] [Page 711] Wele, y mae, y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, ac mi a wnaf â thŷ Israel ag a thŷ Iuda, gyfammod newydd:
9 Nid fel y cyfammod a wneuthum â'u tadau hwynt, yn y dydd yr ymafiais yn eu llaw hwynt, iw dwyn hwy o dîr yr Aipht: oblegid ni thrigasant hwy yn fy nghyfammod i, minneu a'u hesceulusais hwythau, medd yr Arglwydd.
10 Oblegid hwn [yw] y cyfammod a ammodafi a thŷ Israel ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac yn eu calonnau yr scrifennaf hwynt: a mi a fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwythau a fyddant i minneu yn bobl;
11 Ac ni ddyscant bob vn ei gymmydog, a phob vn ei frawd, gan ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd: oblegid hwynt hwy oll a'm hadnabyddant i, o'r lleiaf o honynt, hyd y mwyaf o honynt.
12 Canys trugarog fyddaf wrth eu hânghyfiawnderau, a'u pechodau hwynt, a'u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.
13 Wrth ddywedyd, [Cyfammod] newydd, efe a farnodd y cyntaf yn hên: eithr yr hyn aeth yn hên ac yn oedrannus, [sydd] agos i diflannu.
PEN. IX.
AM hynny yn wîr yr ydoedd hefyd i'r Tabernacl cyntaf ddefodau gwasanaeth Duw, a chyssegr bydol.
2 Canys yr oedd Tabernacl wedi ei wneuthur, y cyntaf, yn yr hwn yr oedd y canhwyllbren, a'r bwrdd, a'r bara gosod: yr hwn [Dabernacl] a elwyd y Cyssegr.
3 Ac yn ôl yr ail llen, [yr oedd] y Babell, yr hon a elwid y Cyssegr sancteiddiolaf:
4 Yr hwn yr oedd y thusser aur ynddo, ac Arch y Cyfammod wedi ei goreuro o amgylch: yn yr hon [yr oedd] y crochan aur a'r Manna ynddo, a gwialen Aaron, yr hon a flagurasei a llechau y Cyfammod.
5 Ac vwch ei phen Cherubiaid y gogoniant, yn cyscodi y Drugareddfa: am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn rhan.
6 A'r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i'r Tabernacl cyntaf yn ddiau yr ai bob amser yr offeiriaid, y rhai oedd yn cyflawni gwasanaeth Duw:
7 Ac i'r ail, vnwaith bob blwyddyn yr ai yr Arch-offeiriad yn vnic: nib waed, yr hwn a offrymmei efe trosto ei hun, a thros anwybodaeth y bobl.
8 A'r Yspryd glân yn yspysu hyn, nad oedd y ffordd i'r Cyssegr sancteiddiolaf yn agored etto, tra fyddei y Tapernacl cyntaf yn sefyll.
9 Yr hwn [ydoedd] gyffelybiaeth tros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymmid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran cydwybod berffeithio yr addoludd,
10 [Y rhai oedd yn sefyll] yn vnic ar fwydydd, a diodydd, ac amryw olchiadau, a defodau cnawdol, wedi eu gosod arnynt hyd amser y diwygiad.
11 Eithr Christ wedi dyfod yn Arch-offeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy Dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o'r adeiladaeth ymma,
12 Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, [Page 713] eithr trwy ei waed ei hun yr aeth efe vnwaith i mewn i'r Cyssegr, gan gael [i ni] dragwyddol ryddhâd.
13 Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, lludw anaer wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd,
14 Pa faint mwy y bydd i waed Christ, yr hwn trwy yr Yspryd tragwyddol a'i hoffrymmodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu y Duw byw?
15 Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y Cyfammod newydd, megis trwy fôd marwolaeth yn ymwared oddi wrth y trosseddau oedd tan y Cyfammod cyntaf, y cai y rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol.
16 Oblegid lle [byddo] Testament, rhaid [yw] digwyddo marwolaeth y Testament ŵr.
17 Canys wedi marw [dynion y mae] Testament mewn grym, oblegid nid oes etto nert ynddo, tra fyddo y testament ŵr yn fyw.
18 O ba achos ni chyssegrwyd y cyntaf heb waed.
19 Canys gwedi i Moses adrodd yr holl orchymmyn, yn ôl y gyfraeth, wrth yr holl bobl, ef a gymmerodd waed lloi a geifr, gyd â dwfr, a gwlân porphor, ac yssop, ac a'i taenellodd ar y llyfr, a'r bobl oll:
20 Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y Testament a orchymynnodd Duw i chwi.
21 Y Tabernacl hefyd, a holl lestri y gwasanaeth, a daenellodd efe â gwaed, yr vn modd,
22 A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth [Page 714] wrth y Gyfraith, ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
23 Rhaid [oedd] gan hynny i bortreiadau y pethau sy yn y nefoedd, gael eu puro a'r pethau hyn: a'r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwel na'r rhai hyn,
24 Canys nid i'r Cessegr o waith llaw, portreiad y gwir [Gyssegr,] yr aeth Christ i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr ger bron Duw trosom ni:
25 Nac fel yr offrymmei ef ei hun yn fynych, megis y mae yr Arch-offeiriad yn myned i mewn i'r Cyssegr bob blwyddyn, â gwaed arall.
26 Oblegid yna rhaid fuasei iddo yn fynych ddioddef er dechreuad y bŷd: eithr yr awron vnwaith yn ni wedd y bŷd yr ymddangoses efe, i ddeleu pechod, trwy ei aberthu ei hun.
27 Ac megis y gosodwyd i ddynion farw vnwaith, ac wedi hynny [bod] barn:
28 Felly Christ hefyd, wedi ei offrymmu vnwaith i ddwyn ymmaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith heb pechod, i'r rhai sy yn ei ddisgwyl, er iechydwriaeth.
PEN. X.
OBlegid y Gyfraith, yr hon sydd ganddi gyscod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, ni's gall trwy yr aberthau hynny, y rhaî y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymmu yn wastadol, bŷth berffeithio y rhai a ddêl atti.
2 Oblegid yna hwy a beidiasent â'u hoffrymmu, am na buasei gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau vnwaith:
3 Eithr yn [yr aberthau] hynny [y mae] adcoffa pechodau bob blwyddyn.
4 Canys amhossibl [yw] i waed teirw a geifr, dynnu ymmairh bechodau.
5 O herwydd pa ham y mae efe wrth ddyfod i'r bŷd, yn dywedyd, Aberth ac offtwm n'is mynnaist, eithr corph a gymmhwysaist i mi.
6 Offrymmau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt.
7 Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod (y mae yn scrifennedig yn nechreu y llyfr am danaf) i wneuthur dy ewyllys di, o Dduw.
8 Wedi iddo ddywedyd vchod, Aberth, ac offrwn, ac offrymmau poeth, a thros bechod ni's mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt, y rhai yn ôl y Gyfraith a offrymmit;
9 Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, ô Dduw: y mae yn tynnu ymmaith y cyntaf, fel y gosodei yr ail.
10 Trwy yr hwn ewyllys et ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymmiad corph Iesu Grist vnwaith.
11 Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymmu yn fynych yr vn aberthau, y rhai ni allant fyth ddeleu pechodau:
12 Eithr hwn, wedi offrymmu vn aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw:
13 O hyn allan yn disgwil hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfaingc iw draed ef.
14 Canys ag vn offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sy wedi eu sancteiddio.
15 Ac y mae yr Yspryd glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedid o'n blaen,
16 Dymma'r Cyfammod, yr hwn a ammodafi a hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd, Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a'u scrifennaf yn eu meddyliau:
17 A'u pechodau, a'u hanwireddau, ni chofiaf mwyach.
18 A lle [y mae [maddeuant am y rhai hyn, nid [oes] mwyach offrwm tros bechod.
19 Am hynny, frodyr, gan fôd i ni ryddid i fyned i mewn i'r Cyssegr trwy waed Iesu,
20 Ar hŷd ffordd newydd, a bywiol, yr hon a gyssegrodd efe i ni, trwy'r llen, sef ei gnawd ef:
21 A [bod i ni] Offeiriad mawr ar dŷ Dduw:
22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glânhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glân.
23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, (canys ffyddlon yw 'r hwn a addawodd▪)
24 A chyd-ystyriwn bawb ei gelydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da:
25 Heb esceuluso ein cyd-gynhulliad ein hunain, megis [y mae] arfer rhai, ond annog bawb ei gilydd, a hynny yn fwy, o gymmaint a'ch bod yn gweled y dydd yn nesau.
26 Canys os o'n gwîr-fodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth tros bechodau wedi ei adel mwyach.
27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa y gwrthwynebwŷr.
28 Yr vn a ddirmygaî Gyfraith Moses, fyddei farw heb dirgaredd, tan ddau neu dri o dystion.
29 Pa faint mwy cospedigaeth (dybygwch [Page 717] chwi) y bernir haeddu o'r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan, waed y Cyfammod, trwy'r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Yspryd y grâs?
30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, mifi pieu dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl.
31 Peth ofnadwy [yw] syrthio yn nwylo, y Duw bvw.
32 Ond gelwch i'ch cof y dyddiau o'r blaen, yn y rhai wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon;
33 Wedi eich gwneuthur weithieu yn wawd' trwy wradwyddadu, a chystuddiau: ac weithieu yn bôd yn gyfrannogion â'r rhai a drinid felly.
34 Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â'm rhwymau i hefyd, ac a gymmerasoch eich yspeilio am y pethau oedd gennych, yn llawen: gan wŷbod fôd gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac vn parhaus.
35 Am hynny na fwriwch ymmaith eich hyder, yr hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
36 Canys rhaid i chwi wrth ammynedd: fel wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.
37 Oblegid ychydig bachigyn etto, a'r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda.
38 A'r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thynn [neb] yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo.
39 Eithr nid ydym ni o'r rhai sy'n tynnu yn [Page 718] ôl i golledigaeth, namyn o ffydd i gadwedigaeth yr enaid.
PEN. XI.
FFydd vn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sicrwydd y pethau nid ydys yn eu gweled.
2 Oblegid trwyddi hi y cafodd yr Henuriaid air da.
3 Wrth ffydd yr ydym yn deall wneuthur y hydoedd trwy air Duw, yn gymmaint nad o bethau gweledig y gwnaed y pethau a welir.
4 Trwy ffydd yr offrymmodd Abel i Dduw aberth rhagorach nâ Chain, trwy 'r hon y cafodd efe dystiolaeth ei fôd yn gyfiawn, gan i Dduw ddwyn tystiolaeth iw roddion ef: a thrwyddi hi y mae efe wedi marw, yn llefaru etto.
5 Trwy ffydd y symmudwyd Enoch fel na welei farwolaeth: ac ni chaed ef, am ddarfodd i Dduw ei symmud ef: canys cyn ei symmud, efe a gwasei dystiolaeth, ddarfodd iddo ryngu bodd Duw.
6 Eithr heb ffvdd amhossibl [yw] rhyngu ei fodd ef: oblegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef.
7 Trwy ffydd Noe wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau ni's gwelsid etto, gydâ pharchedig ofn a ddarparodd arch i achub ei dŷ: trwy 'r hon y condemnodd [efe] y bŷd, ac a wnaethpwyd yn etifedd y cyfiawnder sydd o ffydd.
8 Trwy' ffydd Abraham pan ei galwyd a vfyddhaodd, gan fyned i'r man yr oedd efe iw [Page 719] dderbyn yn etifeddiaeth: ac a aeth allan heb wŷbod i ba le yr oedd yn myned.
9 Trwy ffydd yr ymdeîthiodd efe yn-nhir yr addewid, megis [mewn tir] dieithr, gan drigo mewn lluestai, gyd ag Isaac, ac Iacob, cyd-etifeddion o'r vn addewid.
10 Canys disgwyl yr ydoedd am ddinas ac iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon [yw] Duw.
11 Trwy ffydd, Sara hitheu yn ammhlantadwy, a dderbyniodd nerth i ymddwyn hid, ac wedi amser oedran a escorodd, oblegid ffyddlon y barnodd hi yr hwn a addawsei.
12 O herwydd pa ham hefyd y senhedlwyd o vn, a hwnnw yn gystal a marw, cynnifer a sêr y nef mewn lliaws, ac megis y tywod ar lan y môr, [y fydd] yn aneirif.
13 Mewn ffydd y bu farw y rhai hyn oll, heb dderbyn yr addewidion, eithr o bell eu gweled hwynt, a chredu, a chyfarch, a chyfaddef mai dieithriaid a phererinion oeddynt ar y ddaiar.
14 Canys y mae y rhai sy yn dywedyd y cyfryw bethau, yn dangos yn eglur eu bôd yn ceisio gwlâd.
15 Ac yn wir pe buasent yn meddwl am [y wlâd] honno, o'r hon y daethant allan, hwy a allasent gael amser i ddychwelyd:
16 Eithr yn awr [gwlâd] well y maent hwy yn ei chwennych, hynny ydyw [vn] nefol: o achos pa ham nid cywilydd gan Dduw ei alw yn Dduw iddynt hwy: oblegid efe a baratôdd ddinas iddynt.
17 Trwy ffyd yr offrymmod Abranam Isaac, [Page 720] pan ei profwyd, a'i vnic-anedig fab a offrymmodd [efe] yr hwn dderbyniasei yr addewidion.
18 Wrth yr hwn y dywedasid, Yn Isaac y gelwîr i ti hâd:
19 Gan gyfrif bôd Duw yn abl iw gyfodi [ef] o feirw: o ba le y cawsei efe ef hefyd mewn cyffelybiaeth.
20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Iacob ac Esau, am bethau a fyddent.
21 Trwy ffydd, Iacob wrth farw a fendithiodd bob vn o feibion Ioseph: ac a addolodd [ai bwys] ar ben ei ffon.
22 Trwy ffydd, Ioseph wrth farw a goffaodd am ymadawiad plant Israel, ac a roddodd orchymmyn am ei escyrn.
23 Trwy ffydd, Moses pan anwyd a guddiwyd drimis gan ei rieni, o achos eu bŷd yn ei weled yn fachgen tlws: ac nîd ofnasant orchymmyn y brenin.
24 Trwy ffydd, Moses wedi myned yn fawr, a wrthodes ei alw yn fab merch Pharao:
25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyd â phobl Dduw, nâ chael mwyniant pechod tros amser:
26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Christ, nâ thryssorau yr Aipht: canys edrych yr oedd efe a'r dalegiaeth y gobrwy.
27 Trwy ffydd y gadawod efe yr Aipht, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel vn yn gweled yr anweledig.
28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y Pasc a gollyngiad y gwaed, rhag i'r hwn ydoedd yn dinistrio y rhai cyntaf-anedig, gyffwrdd â hwynt.
22 Trwy ffydd, yr aethant trwy'r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Aiphtiaid, boddi a wnaethant.
30 Trwy ffydd y syrthiodd caerau Iericho, wedi eu hamgylchu tros saith niwrnod.
31 Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y buttain gyd â'r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi yr yspiwyr yn heddychol.
32 A pheth mwy a ddywedaf? canys amser a ballei i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Iephthae, am Ddafydd hefyd a Samuel, a'r Prophwydi:
33 Y rhai trwy ffydd a orescynnasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a ganasant safnau llewod:
34 A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddiangasant rhac min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio:
35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy adgyfodiad: ac eraill a areithiwyd, heb dderbyn ymwared, fel y gallent hwy gael adgyfodiad gwell.
36 Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie trwy rwymau hefyd a charchar.
37 [Hwynt hwy] a labyddiwyd, a dorrwyd â llife, demtiwyd, a labdwyd yn feirw â'r cleddyf, a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr, yn ddiddym, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr:
38 (Y rhai nid oedd y bŷd yn deilwng o honynt) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, [Page 722] a thyllau, ac ogofeydd y ddaiar.
39 A'r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant er addewid:
40 Gan fod Duw yn rhag-weled rhyw beth gwell am danom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.
PEN. XII.
OBlegid hynny, ninnau hefyd gan fôd cymmaint cwmwl o dystion wedi es osod o'n hamgylch, gan roi heibio bob dwys, a'r pechod sydd barod i'n hamgylchu, trwy ammynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o'n blaen ni.
2 Gan edrych ar Iesu pentywysog a pherffeithydd [ein] ffydd [ni,] yr hwn o herwydd y llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwradwydd, ac a eisteddodd ar ddehewlaw gorseddfaingc Duw.
3 Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbŷn gan bechaduriaid, fel na flinoch, ac nad ymoli yngoch yn eich eneidiau.
4 Ni wrthwynebasoch etto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod.
5 A chwi a ollyngasoch tros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gyrydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan i'th argyoedder ganddo.
6 Ganys y neb y mae yr Arglwydd yn ei garu, y mae yn ei geryddu: ac yn fflangellu pob mab a dderbynio.
7 Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tu ac attoch, megis tu ac at feibion; canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu?
8 Eithr os heb gerydd yr ydych, o'r hon y mae pawb yn gyfrannog, yna bastardiaid ydych, ac nid meibion.
9 Heb law hynny, ni a gwasom dadau ein cnawd i'n ceryddu, ac [a'u] parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysprydoedd, a byw?
13 Canys hwynt hwy yn wîr tros y chydîg ddyddiau a'n ceryddent, fel y gwelent hwy yn dda: eithr hwn er llesâd [i ni,] fel y byddem gyfrannogion o'i sancteiddrwydd ef.
11 Etto ni welir vn cerydd tros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi [hynny] y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i'r rhai sy wedi eu cynnefino ag ef.
12 O herwydd pa ham, cyfodwch i fynu y dwylo a laesasant, a'r gliniau a ymollyngasant:
13 A gwnewch lwybrau vniawn i'ch traed: fel na throer y cloff allan [o'r] [ffordd,] ond yr iachaer efe yn hytrach.
14 Dilynwch heddwch a phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd:
15 Gan edrych yn ddyfal na [bo] neb yn pallu oddi wrth râs Duw: rhac bod vn gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fynu, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw lygru llawer:
16 Na [bo] vn-putteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am vn saig o fwyd, a werthodd ei enedigaeth fraint.
17 Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu y fendith: oblegid ni chafodd efe le i [Page 724] edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer-geisio hi
18 Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy, sydd yn llosci gan dân a chwmwl a thywyllwch, a thymestl,
19 A sain vdcorn, a llef geiriau: yr hon pwy bynnac a'i clywsant, a ddeisyfiasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt.
20 Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchymynnasid. Ac os bwyst-fil a giffyrddei â'r mynydd, [efe] a labider, neu a wenir â phiccell.
21 Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ac y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.
22 Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Sion, ac i ddinas y Duw byw, y Ierusalem nefol, ac at fyrddiwn o Angelion,
23 I gymmanfa a chynnnulleidfa y rhai cyntafanedig, y rhai a scrifnnwyd yn y nefoedd, ac at Dduw barnwr pawb, ac at ysprydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd,
24 Ac at Iesu cyfryngwr y Testament newydd, a gwaed y taenelliad, yr hwn sydd yn dywedyd pethau gwell nâ'r eiddo Abel.
25 Edrychwch na wrthodoch yr hwn sydd [...] llefaru Oblegid oni ddiangodd y rhai a wrthodasnt, yr hwn oedd yn llefaru ar y ddaiar, mwy o lawer [ni's diangwn] ni, y rhai ydym yn troi ynmaith oddwrth yr hwn [sydd yn llefaru] o'r nef.
26 Llef yr hwn y pryd hynny a escydwodd y ddaiar: ac yn awr a addawodd, gan ddywedyd, Etto vnwaith yr wyf yn cynnhyrfu, nid yn vnic y ddaiar, ond y nef hefyd.
27 A'r Etto-vnwaith hynny, sydd yn yspysu symmudiad y pethau a yscydwir, megis pethau wedi eu gwneuthur, fel yr arhoso y pethau nid yscydwir.
28 O herwydd pa ham, gan ein bôd ni yn derbyn teyrnas ddisigl, bydded gennym râs, drwy 'r hwn y gwasanaethom. Dduw wrth ei fodd, gydâ gwylder, a pharchedig ofn.
29 Oblegid ein Duw ni sydd dân yssol.
PEN. XIII.
PArhaed brawd-garwch.
2 Nac anghofiwch leteugarwch: canys wrth hynny y lletteuodd rhai Angelion yn ddiarwybod.
3 Cofiwch y rhai sy yn rhwym, fel pettech yn rhwym gyd â hwynt: y rhai cystuddiol, megis yn bôd eich hunain hefyd yn y corph.
4 Anrhydeddus [yw] priodas ym mhawb, a'r gwelŷ dihalogedig: eithr putteinwŷr a godinebwŷr a farna Duw.
5 [Bydded] eich ymarweddiad yn ddiariangar: gan fôd yn fodlon i'r hyn sydd gennych. Canys efe a ddywedodd, Ni'th roddaf di i fynu, ac yn ddiammau ni'th adawaf chwaith.
6 Fel y gallom ddywedyd yn hy, Yr Arglwydd [sydd] gymmorth i mi, ac nid ofnaf beth a wnel dŷn i mi.
7 Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw: ffydd y rhai, dylynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt.
8 Jesu Grist ddoe, a heddywyr yr vn, ac yn dragywydd.
9 Na'ch arweinier oddi amgylch ag athrawiaethau [Page 726] amryw a dieithr: canys da yw bôd y galon wedi ei chryfhâu â grâs, nid â bwydydd, yn y rhai ni chafodd y sawl a rodiasant ynddynt, fudd.
10 Y mae gennym ni allor, o'r hon nid oes awdurdod i'r rhai sy yn gwasanaethu y Tabenacl i fwytta.
11 Canys cyrph yr anifeiliaid hynny, y rhai y dygir eu gwaed gan yr Arch-offeiriad i'r Cyssegr tros bechod, a loscir y tu allan i'r gwersyll.
12 O'herwydd pa ham Jesu hefyd, fel y sancteiddiei y bobl trwy ei waed ei hun, a ddioddefodd y tu allan i'r porth.
13 Am hynny awn atto ef o'r tu allan i'r gwersyll, gan ddwyn ei wradwydd ef.
14 Canys nid oes i ni ymma ddinas barhaus, eithr vn i ddyfod yr ŷm ni yn ei disgwil.
15 Trwyddo ef gan hynny, offrymmwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth gwefusau yn cyffessu iw Enw ef.
16 Ond gwneuthur daioni a chyfrannu nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir bodd Duw.
17 Vfyddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch: oblegid y maent hwy yn gwilio tros eich eneidiau chwi, megis rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif: fel y gallont wneuthur hynny yn llawen, ac nid yn drist: canys difudd i chwi yw hynny.
18 Gweddiwch trosom ni: canys yr ydym yn credu fôd gennym gydwybod dda, gau ewyllysio byw yn onest ym mhob peth.
19 Ond yr ydwyf yn helaethach yn dymuno [Page 727] gwneuthur o honoch hyn, i gael fy rhoddi i chwi drachefn yn gynt.
20 A Duw 'r heddwch, yr hwn a ddug drachefn oddi wrth y meirw ein Harglwydd Jesu, bugail mawr y defaid, trwy waed y Cyfammod tragywyddol,
21 A'ch perffeithio ym mhob gweithred dda, i wneuthur, ei ewyllys ef gan weithio ynoch yr hyn sydd gymmeradwy yn ei olwg ef, trwy Jesu Grist: i'r hwn [y byddo] y gogoniant yn oes oesodd, Amen.
22 Ac yr ydwyf yn attolwg i chwi, frodyr, goddefwch air cyngor: oblegid ar fyrr [eiriau] yr scrifennais attoch.
23 Gwybyddwch ollwng ein brawd Timotheus yn rhydd, gyd â'r hwn, os daw efe ar fyrder, yr ymwelaf â chwi.
24 Anherchwch eich holl flaenoriaid, a'r holl Sainct. Y mae y rhai o'r Ital yn eich annerch.
25 Gras fyddo gyd â chwi oll, Amen.
EPISTOL CYFFREDINOL JACO YR APOSTOL.
PEN. I.
IAco, gwasanaethwr Duw, a'r Arglwydd Jesu Grist, at y deuddeg-llwyth sydd ar wascar, annerch.
2 Cyfrifwch yn bobl lawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau:
3 Gan wŷbod fôd prosiad eich ffydd chwi yn gweithredu ammyned,
4 Ond câffed ammynedd ei perffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyfan, heb ddeffygio mewn dim.
5 O bydd ar neb o honoch eisieu doethineb, gofynned gan Dduw yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod: a hi a roddir iddo ef.
6 Eithr gofynned mewn ffydd, heb ammeu dim. Canys yr hwn sydd yn ammeu, sydd gyffelyb i donn y môr, a chwelir ac a deflir gan y gwynt.
7 Canys na feddylied y dŷn hwnnw, y derbyn efe ddim gan yr Arglwydd.
8 Gwr dau ddyblyg ei feddwl, [sydd] anwastad vn ei holl ffyrdd.
9 Y brawd o radd isel, llawenyched yn ei oruchafiaeth:
10 A'r cyfoethog, yn ei ddarostyngiad: canys megis blodeuyn y glâs-welltyn y diflanna efe.
11 Canys cyfododd yr haul gyd â gwres, a gwywodd y glâs welltyn, a'i flodeuyn a gwympodd, a thegwch ei brŷd ef a gollodd: felly hefyd y diflanna y cyfoethog yn ei ffrydd.
12 Gwyn eî fyd y gŵr sydd yn goddef profedigaeth: canys pan fyddo profedig, efe a dderbyn goron y bywyd, yr hon a addawodd yr Arglwydd i'r rhaî a'i carant ef.
13 Na ddyweded neb pan demptier ef, Gan Dduw i'm temptir: canys Duw ni's gellir ei demptio â drygau, ac nid yw efe yn temptio neb.
14 Canys yna y temptir pob vn, pan y tynner ef, ac y llithier, gan ei chwant ei hun:
15 Yna chwant wedi ymddwyn, a escor ar [Page 729] bechod: pechod hefyd pan orphenner, a escor ar farwolaeth.
16 Fy mrodyr anwyl, na chyfeiliornwch.
17 Pob rhoddiad daionus, a phôb rhodd berffaith, oddi vchod y mae, yn dyscyn oddiwrth Dâd y goleuni, gyd â'r hwn nid oes gyfnewidiad, na chyscod troedigaeth.
18 O'i wîr ewyllys yr ennillodd efe nyni, trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaen-ffrwyth o'i greaduriaid ef.
19 O achos hyn, fy mrodyr anwyl, bydded hôb dŷn escud i wrando, diog i lefaru, diog i ddigofaint.
20 Canys digofaint gŵr, nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw.
21 O herwydd pa ham, rhoddwch heibio bôb budreddi, a helaethrwydd malis, a thrwy addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn a ddichon gadw eich eneidiau.
22 A byddwch wneuthur-wŷr y gair, ac nid gwrandawŷr yn vnic, gan eich twyllo eich hunain.
23 Oblegid os yw neb yn wranda-ŵr y gair, a heb fod yn wneuthur-ŵr, y mae hwn yn debyg i ŵr yn edrych ei wyneb-pryd naturiol mewn drych.
24 Canys efe a'i hedrychodd ei hun, âc a aeth ymmaith, ac yn y man efe a anghofiodd pa fath ydoedd.
25 Eithr yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhydd dyd, ac a barhao [ynddi,] hwn heb fod yn wrandaŵr anghofus, ond gwneuthur-ŵr y weithred, efe a fydd ddedwydd yn ei weithred.
26 Os yw neb yn eich mysc yn cymmeryd [Page 730] arno fôd yn grefyddol, heb attal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer [yw] crefydd hwn.
27 Crefydd bur a dihalogedig ger bron Duw a'r Tâd, yw hyn, ymweled a'r ymddifaid, a'r gwragedd gweddwon, yn eu hadfyd, a'i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddi wrth y bŷd.
PEN. II.
FY mrodyr, na fydded gennych ffydd ein Harglwydd ni Jesu Grist, [sef Arglwydd] y gogoniant, gydâ derbyn wyneb.
2 Oblegid os daw i mewn i'ch cynnulleidfa chwi, ŵr â modrwy aur, mewn ddillad gwychion, a dyfod hefyd [vn] tlawd mewn dillad gwael,
3 Ac edrych o honoch ar yr hwn sydd yn gwisco y dillad gwychion, a dywedyd wrtho, Eistedd di ymma mewn lle da: a dywedyd wrth y tlawd, Saf di yna, neu eistedd ymma islaw fy stôldroed i:
4 Onid ydych chwi dueddol ynoch hunain, ac [onid] aethoch yn farnwŷr meddyliau drwg?
5 Gwrandewch, fy mrodyr anwyl, oni ddewisodd Duw dlodion y byd hwn, yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas, yr hon a addawodd efe i'r rhai sydd yn ei garu ef?
6 Eithr chwithau a ammharchasoch y tlawd. Onid yw y cyfoethogion yn eich gorthrymmu chwi, ac yn eich tynnu ger bron brawdleoedd?
7 Onid ydynt hwy yn cablu yr Enw rhagorol, yr hwn a elwir arnoch chwi?
8 Os cyflawni yr ydych y Gŷfraith frenhinol, yn ôl yr Scrythur, Câr dy gymmydog fel ti dy hun, da yr ydych yn gneuthur.
9 Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, ac yn cael eich argyoeddi gan y Gyfraith, megis trosedd-wŷr.
10 Canys pwy bynnag a gatwo 'r Gyfraith i gyd oll, ac a ballo mewn vn pwngc, y mae efe yn euog o'r cwbl.
11 Canys y neb a ddywedodd, Na odineba, a ddywedodd hefyd, Na ladd. Ac os ti ni odinebi, etto a lleddi, yr wyt ti yn troseddu y Gyfraith.
12 Felly dywedwch, ac felly gwnewch, megis rhai a fernir wrth Gyfraith rhydd did.
13 Canys barn ddi drugaredd, [fydd] i'r hwn ni wnaeth drugaredd, ac y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.
14 Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed nêb fôd ganddo ffydd, ac heb fôd ganddo weithredoedd? a ddichon ffydd ei gadw ef?
15 Eithr os bydd brawd neu chwaer yn noeth, ac mewn eisieu beunyddol ymboth,
16 A dywedyd o vn o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch, ymdwymnwch, ac ymddigonwch, etto heb roddi iddynt angenrheidiau 'r corph, pa lês [fydd?]
17 Felly ffydd hefyd, oni bydd genddi weithredoedd, marw ydyw, [a hi] yn vnic.
18 Eithr rhyw vn a ddywed, Tydi, ffydd sydd gennit, minneu, gweithredoedd sy gennif: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minneu wrth ngweithredoedd i a ddangosaf i ti fy ffydd inneu.
19 Credu yr wyt ti mai vn Duw sydd: da yr wyti yn gwneuthur: y mae y cythreuliaid hefyd yn credu, ac yn crynu.
20 Eithr a fynni di wŷbod, o ddŷn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw?
21 Abraham ein Tâd ni, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd ef, pan offrymmodd efe Isaac ei fab ar yr allor?
22 Ti a weli fôd ffydd yn cyd weithio â'i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd fôd fydd wedi ei pherffeithio.
23 A chyflawnwyd yr Scrythur, yr hon sydd yn dywedyd, Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder, a chyfaill Duw y galwyd [ef.]
24 Chwi a welwch gan hynny mai o weithredoedd y cyfiawnheir dŷn, ac nid o ffydd yn vnic.
25 Yr vn ffunyd hefyd, Rahab y byttain, onid o weithredoedd y cyfiawnhawyd hi, pan dderbyniodd hi y cennadau, a'u danfon ymmaith ffordd arall?
26 Canys megis y mae y corph heb yr yspryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.
PEN. III.
NA fyddwch feistred lawer, fy mrodyr, gan wŷbod y derbyniwn ni farnedigaeth fwy.
2 Canys mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro: od oes neb heb lithro ar air, gŵr perffaith [yw] hwnnw, yn gallu ffrwyno 'r holl gorph hefyd.
3 Wele, yr ydym [ni] yn rhoddi ffrwynau ymmhennau 'r meirch, i'w gwneuthur yn vfydd i ni, ac yr ydym yn troi eu holl gorph hwy oddi amgylch.
4 Wele, y llongau hefyd er eu maint, ac [Page 733] er eu gyrru gan wyntoedd creulon, a droir oddi amgylch â llyw bychan, lle y mynno 'r llywydd.
5 Felly hefyd y tafod, aelod bychan yw, ac yn ffrostio pethau mawrion: wele faint o ddefnydd y mae ychydig dân yn ei ennyn.
6 A'r tafod, tân [ydyw, bŷd o anghyfiawnder: felly y mae y tafod wedi ei osod ym-mhlith ein haelodau ni, fel y mae yn hologi 'r holl gorph, ac yn gosod troell naturiaeth yn fflamm, ac wedi wneuthur yn fflamm gan vffern.
7 Canys holl natur gwyllt-filod, ac adar, ac ymlusciaid, a'r pethau yn y môr, a ddofir, ac a ddofwyd gan natur dynol:
8 Eithr y tafod ni ddichon vn dŷn ei ddofi. Drwg anllywodraethus [ydyw:] yn llawn gwenwyn marwol.
9 Ag ef yr ydym yn bendithio Duw, a'r Tâd: ag ef hefyd yr ydym yn melldithio dynion a wnaethpwyd ar lun Duw.
10 O'r vn genau y mae yn dyfod allan fendith a melldith; fy mrodyr, ni ddylai y pethau hyn fod felly.
11 A ydyw ffynnon, o'r vn llygad, yn rhoi [dwfr] melus a chwerw?
12 A ddichon y pren ffigys, fy mrodyr, ddwyn olifaid? neu winwydden ffigys? felly ni [dichon] vn ffynnon roddi dwfr hallt a chroyw.
13 Pwy [sydd] ŵr doeth a deallus yn eich plith? dangosed drwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn mwyneidd dra doethineb.
14 Eithr od oes gennych genfigen chwerw; [Page 734] ac ymryson yn eich calon, na fyddwch ffrost-wŷr, a chelwyddog yn erbyn y gwirionedd.
15 Nid yw y doethineb hyn yn descyn oddi vchod: ond daiarol, anianol, cythreulig [yw]
16 Canys lle [mae] cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysc, a phob gweithred ddrwg.
17 Eithr y doethineb [sydd] oddi vchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychol, boneddigaidd, hawdd ei thrîn, llawn trugaredd a ffrwythau da, di-duedd, a di-ragrith.
18 A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch, i'r rhai sy 'n gwneuthur heddwch.
PEN. IIII.
O Ba le y mae rhyfeloedd, ac ymladdau yn eich plith chwi? oniodd di wrth hyn, [sef] eich melys-chwātau, y'rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau?
2 Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael: cenfigennu yr ydych, ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd: ymladd, a rhyfela yr ydych, ond nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn.
3 Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, o herwydd eich bôd yn gofyn ar gam, fel y galloch eu treulio ar eich meluschwantau.
4 Chwi odineb-wŷr, a god ineb-wragedd, oni ŵyddoch chwi fôd cyfeillach y bŷd, yn elyniâeth i Dduw? pwy bynnag gan hynny a ewyllysio fôd yn gyfaill i'r bŷd, y mae yn elyn i Dduw.
5 A ydych chwi yn tybied fôd yr Scrythur yn dywedyd yn ofer? At genfigen y mae chwant yr yspryd a gartrefa ynom ni:
6 Eithr rhoddi grâs mwy y mae: o herwydd pa ham y mae yn dywedyd, Y mae Duw yn [Page 735] gwrthynebu 'r beilchion, ond yn rhoddi grâs i'r [rhai] gostyngedig.
7 Ymddarostyngwch gan hynny i Dduw, gwrthwynebwch ddiafol, ac [efe] a ffŷ oddi wrthych.
8 Nessewch ad Dduw, ac efe a nessâ attoch chwi: glânhewch [eich] dwylo, chwi bechaduriaid, a phurwch [eich] calonnau, [chwi] â'r meddwl dau-ddyblyg.
9 Ymofidiwch, a galerwch, ac ŵylwch: troer eich chwerthin chwi yn alar, a'ch llawenydd yn dristwch.
10 Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd, ac [efe [a'ch derchafa chwi.
11 Na ddywedwch yn erbyn ei gilydd, frodyr: y neb sydd yn dywedyd yn erbyn [ei] frawd, ac yn barnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y Gyfraith, ac yn barnu 'r Gyfraith: ac od wyt [ti] yn barnu 'r Gyfraith, nid wyt [ti] wneuthur ŵr y Gyfraith, eithr barnwr.
12 Un Gosodwr cyfraith sydd, yr hwn a ddichon gadw a cholli: pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu arall?
13 Iddo yn awr, y rhai ydych yn dywedyd, Heddyw neu yforu ni a awn i gyfryw ddinas, ac a arhoswn yno flyddyn, ac a farchnattawn, ac a ennillwn:
14 Y rhai ni ŵyddoch beth [a fydd] y foru: canys beth [ydyw] eich enios chwi? canys tarth ydyw, yr hwn sydd tros ychydig yn ymddangos, ac wedi hynny yn diflannu.
15 Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd a'i mynn, ac [os] byddwn byw, ni a wnawn hyn neu hynny.
16 Eithr yn awr gorfoleddu yr ydych yn eich ymffrost: pôb cyfryw orfoledd, drwg ydyw.
17 Am hynny i'r neb a feidr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.
PEN. V.
IDdo yn awr, [chwi] gyfoethogion, wŷlwch ac vdwch am eich trueni sydd yn dyfod arnoch.
2 Eich cyfoeth a bydrodd, a'ch gwiscoedd a fwytawyd gan bryfed.
3 Eich aur a'ch arian a rydodd, a'u rhŵd hwynt a fydd yn dystiolaeth yn eich erbyn chwi, ac a fwytty eich cnawd chwi fel tân: chwi a gasclasoch dryffor yn y dyddiau diweddaf.
4 Wele, y mae cyflog y gweithwŷr a fedasant eich meusydd chwi, yr hwn a gamattaliwyd gennych, yn llefain: a llefain y rhai a fedasant a ddaeth i mewn i glustiau Arglwydd y lluoedd.
5 Moethus fuoch ar y ddair, a thrythyll: meithrin eich calonnau a wnaethoch, megis mewn dydd lladdedigaeth.
6 Condemnasoch, [a] lladdasoch y cyfiawn, ac ynteu heb sefyll i'ch erbyn.
7 Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae y llafur-ŵr yn disgwil am werth fawr frwyth y ddaiar, yn dda ei ammynedd am dano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a'r diweddar.
8 Byddwch chwithau hefyd dda eich ammynedd, cadernhewch eich calonnau, oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nessâodd.
9 Nawr gnechwch yn erbyn ei gilydd, frodyr, [Page 737] fel na'ch condemner: wele, y mae barnwr yn sefyll wrth y drŵs.
10 Cymmerwch, fy mrodyr, y Prophwydi, y rhai a lefarasant yn Enw, 'r Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hir ymaros.
11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadel y rhai sy ddioddefus. Chwi a glywsoch am ammynedd Iob, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd, oblegid tosturiol awn yw 'r Arglwydd, a thrugarog.
12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i'r nef, nac i'r ddaiar, nac vn llw arall: eithr bydded eich îe chwi, yn îe, a'ch nag-ê, yn nag-ê, fel na syrthioch i farnedigaeth.
13 A oes nêb yn eich plith mewn adfyd? gweddied. A oes nêb yn esmwyth arno? caned Psalmau.
14 A oes nêb yn eich plith yn glâf? galwed atto Henuriaid yr Eglwys, a gweddiant hwy trosto, gan ei eneinio ef ag olew yn Enw 'r Arglwydd:
15 A gweddi 'r ffydd a iachâ 'r claf, a'r Arglwydd a'i cyfyd ef i fynu: ac os bydd wedi gwneuthur pechodau, hwy a faddeuir iddo.
16 Cyffeswch eich camweddau bawb iw gilydd, a gweddiwch tros ei gilydd, fel i'ch iachaer: llawer a ddichon taer-weddi y cyfiawn.
17 Elias oedd ddŷn o'r vn fath wendyd naturiol a ninneu, ac mewn gweddi [efe] a weddiodd na byddei law; ac ni bu glaw ar y ddaiar dair blynedd a chwe mîs.
18 Ac [efe] a weddiodd drachefn, a'r nêf a roddes law, a'r ddaiar a ddug ei ffrwyth.
19 Fy mrodyr, od aeth nêb o honoch ar [Page 738] gyfeiliorn oddi wrth y gwirionedd, a throi o ryw vn ef.
20 Gwybydded y bydd i'r hwn a drôdd bechadur oddiwrth gyfeiliorni ei ffordd, gadw enaid rhag angeu, a chuddio lliaws o bechodau.
EPSTOL CYNTAF Cyffredinol PETR yr Apostol.
PENOD. I.
PETR, Apostol Jesu Ghrist, at y dieîthriaid sy ar wascar ar hyd Pontus Galatia Cappadocia, Asia, a Bithynia:
2 Etholedigion yn ôl rhag-wybodaeth Duw Tâd, trwy sancteiddiad yr Yspryd, i vfydd-dod a thaenelliad gwaed Jesu Ghrist: grâs i chwi a heddwch a amlhaer.
3 Bendigedig [fyddo] Duw a Thâd ein Harglwydd Jesu Grist, yr hwn yn ôl ei fawr drugaredd a'n hadgenhedlodd ni i obaith bywiol trwy adgyfodiad Jesu Grist oddi wrth y meirw,
4 I etifeddiaeth anllygredîg, a dihalogedig, a di-ddiflannedig, ac ynghadw yn y nefoedd i chwi.
5 Y rhai trwy allu Duw ydych gadwedig trwy ffydd, i iechydwriaeth parod iw datcuddio yn yr amser diweddaf.
6 Yn yr hyn yr ydych yn mawr lawenhau, er eich bôd ychydig yr awron (or rhaid yw) mewn tristwch, trwy amryw brofedigaethau:
7 Fe [...] y caffer profiad eich ffydd chwi, yr hwn sydd werth-fawrusach nâ'r aur colladwy, cyd profer ef trwy dân, er mawl, ac anrhydedd, a gogoniniant, yn ymddangosiad Jesu Grist.
8 Yr hwn, er na's gwelsoch, yr ydych yn ei garu: yn yr hwn heb fôd yr awron yn [ei] weled, ond yn credu, yr ydych yn mawr lawenhau â llawenydd annhraethadwy, a gogoneddus:
9 Gan dderbyn diwedd eich ffydd, [sef] iechydwriaeth eich eneidiau:
10 Am yr hon iechydwriaeth yr ymofynnodd, ac y manwl chwiliodd y Prophwydi, y rhai a brophwydasant am y grâs a [ddeuai] i chwi;
11 Gan chwilio pa [brŷd,] neu pa ryw amser, yr oedd Yspryd Christ ŷr hwn oedd ynddynt, yn ei yspysu, pan oedd efe yn rhag-dystiolaethu dioddefaint Christ, a'r gogoniant ar ôl hynny.
12 I'r rhai y dadcuddiwyd nad iddynt hwy eu hunain, ond i ni yr oeddynt yn gweini [yn] y pethau â fynegwyd ynawr i chwi gan y rhai a efangylasant i chwi trwy 'r Yspryd glân, yr hwn a ddanfonwyd o'r nêf, ar yr hyn [bethau] y mae 'r Angelion yn chwennychu edrych.
13 O herwydd pa ham, gan wregysu lwynau eich meddwl, [a] bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y grâs a ddygir i chwi yn natcuddiad Jesu Ghrist:
14 Fel plant vfydd-dod, heb gyd ymagweddu â'r trachwantau o'r blaen yn eich anwŷbodaeth:
15 Eithr megis y mae y neb a'ch galwodd chwi yn sanctaidd byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhôb ymarweddiad:
16 Oblegid y mae 'n scrifennedig, Byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyfi.
17 Ac os ydych yn galw ar y Tâd, yr hwn sydd, heb dderbyn wyneb, yn barnu yn ôl gweithred [Page 740] pôb vn, ymddygwch mewn ofn tros amser eich ymdeithiad:
18 Gan wŷbod nad â phethau llygredig, megis arian neu aur, i'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, [yr hon a gawsoch] trwy draddodiad y tadau:
19 Eithr â gwerthfawr waed Christ, megis oen difeius a difrycheulyd.
20 Yr hwn yn wîr a rag-ordeiniwyd cyn sylfaenu y bŷd, eithr a eglurwyd yn yr amseroedd diweddaf, er eich mwyn chwi,
21 Y rhai ydych trwyddo ef yn credu yn Nuw, yr hwn a'i cyfododd ef oddi wrth y meirw, ac a roddodd iddo ef ogoniant, fel y byddei eich ffydd chwi a'ch gobaith yn Nuw.
22 Gwedi puro eich eneidiau, gan vfyddhau i'r gwirionedd trwy 'r Yspryd, i frawdgarwch diragrith, cerwch ei gilydd o galon bur yn helaeth:
23 Wedi eich ail-eni nid o hâd llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd] yn byw, ac yn parhau yn dragywydd.
24 Canys pôb cnawd fel glâs-welltyn [yw,] a holl ogoniant dŷn fel blodeuyn y glâs-welltyn: gwywodd y glâs-welltyn, a'i flodeuyn a syrthiodd.
25 Eithr gair yr Arglwydd sydd yn aros yn dragywydd: a hwn yw 'r gair a bregethwyd i chwi.
PEN. II.
WEdi rhoi heibio gan hynny bôb drygioni, a phob twyll, a rhagrith, a chenfigen, a phob gogan-air,
2 Fel rhai bychain newydd eni, chwennychwch ddidwyll laeth y gair, fel y cynnydoch trwyddo ef:
3 Os profasoch fod yr Arglwydd yn dirion.
4 At yr hwn [yr ydych] yn dyfod [megis] at faen bywiol, a wrthodwyd gan ddynion, eithr etholedig gan Dduw, [a] gwerthfawr.
5 A chwithau megis meini bywiol ydych wedi eich adeiladu yn dŷ ysprydol, yn offeiriadaeth sanctaidd, î offrymmu aberthau ysprydol, cymmeradwy gan Dduw trwy Jesu Ghrist.
6 O herwydd pa ham y cynnwysir yn yr Scrythur, Wele yr wyf yn gosod yn Sion ben-conglfaen, etholedig, [a] gwerthfawr: a'r hwn a grêd ynddo, ni's gwradwyddis.
7 I chwi gan hynny y rhai ydych yn credu, [y mae] yn vrddas: eithr i'r anufyddyon, y maen a wrthododd yr adeilad-wŷr, hwnnw a wnaed yn ben y gongl,
8 Ac yn faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, i'r rhai sy yn tramgwyddo wrth y gaîr, gan fôd yn anufydd; i'r hwn beth yr ordeiniwyd hwynt hefyd.
9 Eithr chwy-chwi [ydych] rywogaeth etholedig, brenhinol offeiriadaeth, cenedl sanctaidd, pobl briodol [i Dduw] fel y mynegoch rinweddau yr hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch i'w ryfeddol oleuni ef.
10 Y rhai gynt nid [oeddych] bobl, ond yn awr [ydych] bobl i Dduw: y rhai ni chawsech drugaredd, ond yr awron a gawsoch drugaredd,
11 Anwylyd, yr wyf yn attolwg [i chwi] megis die thriaid a phererinion, ymgedwch oddi [Page 742] wrth chwantau cnawdol, y rhai sy yn rhyfela yn erbyn yr enâid:
12 Gan fôd a'ch ymarweddiad yn honest ymmysc y Cenhedloedd: fel, lle maent yn eich goganu megis drwg-weithredwŷr, y gallont o herwidd eich gweithredoedd da a welant, ogoneddu Duw yn nydd yr ymweliad.
13 Ymddarostyngwch oblegid hyn i bôb dinol ordinhâd, o herwydd yr Arglwydd: pa vn bynnag ai i'r brenin, megis goruchaf:
14 Ai i'r llywiawd wŷr, megis trwyddo ef wedi eu ddanfon er dial ar y drwg weithridwŷr, a mawl i'r gweithredwŷr da.
15 Canys felly y mae ewyllys Duw, fod i chwi trwy wneuthur daioni, ostegu anwybodaeth, dynion ffolion:
16 Megis yn rhyddion, ac nid â rhydd-did gennych megis cochl malis, eithr fel gwasanethwŷr Duw.
17 Perchwch bawb. Cerwch y brawdoliâeth. Ofnwch Dduw. Anrhydeddwch y brenin.
18 Y gweision, [byddwch] ddarostyngedig gydî phôb ofn, i'ch meistred, nyd yn vnic i'r [rhai] da a chyweithas, eithr i'r [rhai] anghyweithas hefyd.
19 Canys hyn sydd rasol, os yw neb o herwydd cydwybod i Dduw yn dwyn tristwch, gan ddioddef. ar gam.
20 Oblegid pa glôd [yw,] os pan bechoch a chael eich cernodio, y byddwch dda eich ammynedd? eithr os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich ammynedd, hyn [sydd] rasol ger bron Duw.
21 Canys i hyn i'ch galwyd hefyd, oblegid Christ yntef a ddioddefodd trosom ni, gan adel i ni esampl, fel y canlynech ei ôl ef.
22 Yr hwn ni wnaeth bechod, ac ni chaed twyll yn ei enau.
23 Yr hwn pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn, pan ddioddefodd ni fygythiodd: eithr rhoddodd ar y neb sydd yn barnu yn gyfiawn.
24 Yr hwn ei hun a ddûg ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren: fel gwedi ein marw i bechodau, y byddem byw i gyfiawnder: trwy gleisiau yr hwn yr iachawyd chwi.
25 Canys yr oeddych megis defaid yn myned ar gyfeiliorn: eithr yn awr chwi a ddychwelwyd at fugail ac escob eich eneidiau.
PEN. III.
YR vn ffunyd [bydded] y gwragedd] ostyngedig iw gwŷr priod: fel od oes rhai heb gredu i'r gair, y galler trwy ymarweddiad y gwragedd, eu hynnill hwy heb y gair.
2 Wrth edrych ar eich ymarweddiad diwair chwi ynghyd ag ofn.
3 Trwsiad y rhai bydded nid yr yn oddi allan, o blethiad gwallt, ac amgylch-ofodiad aur, neu wiscad dillad:
4 Eithr [byddedd] cuddiedig ddŷn y galon, mewn anllygredigaeth yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn sydd ger bron Duw yn werthfawr.
5 Canys felly gynt yr oedd y gwragedd sanctaidd hefyd, y rhai oedd yn gobeithio yn Nuw yn ymdrwsio, gan fôd yn ddarostyngedig iw gwŷr priod:
6 Megis yr vfyddhâodd Sara i Abraham, gan ei alw ef yn Arglwydd: merched yr hon ydych chwi, tra fyddoch yn gwneuthur yn dda, ac heb ofni dim dychryn.
7 Y gwŷr yr vn ffunyd, cyd-gyfanneddwch â hwynt yn ôl gwybodaeth, gan roddi parch i'r wraig, megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sy gydetifeddion grâs y bywyd, rhag rhwystro eich gweddiau.
8 Am ben hyn, [byddwch] oll yn vnfryd, yn cyd-oddef [â'i gilydd,] yn caru fel brodyr, yn drugarogion, yn fwynaidd:
9 Nid yn talu drwg am ddrwg, neu senn am senn: eithr yngwrthwyneb, yn bendithio: gan wŷbod mai i hyn i'ch galwyd, fel yr etifeddoch fendith.
10 Canys y neb a ewyllysio hoffi bywyd, a gweled dyddiau da, attalied ei dafod oddi wrth ddrwg, a'i wefusau rhag adrodd twyll.
11 Gocheled y drwg, a gwnaed y da: ceisied heddwch, a dilyned ef.
12 Canys [y mae] llygaid yr Arglwydd ar y rhai cyfiawn, a'i glustiau ef tu ac at eu gweddi hwynt: eithr [y mae] wyneb yr Arglwydd yn erbyn y rhai sy yn gwneuthur drwg.
13 A phwy a'ch dryga chwi, os byddwch yn dilyn yr hyn sydd dda.
14 Eithr o bydd i chwi hefyd ddioddef o herwydd cyfiawnder, dedwydd [ydych:] ond nac ofnwch rhac eu hofn hwynt, ac na'ch cynnhyrfer:
15 Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau: a [byddwch] barod bôb amser [Page 745] i atteb i bôb vn a ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch, gyd ag addfwynder ac ofn:
16 A chennych gydwybod dda: fel yn yr hyn y maent yn eich goganu megis drwgweithredwyr, y cywilyddio y rhai sydd yn beio ar eich ymarweddiad da chwi yn Ghrist.
17 Canys gwell [ydyw,] os ewyllys Duw a'i mynn, i chwi ddioddef yn gwneuthur daioni nag yn gwneuthur drygioni:
18 Oblegyd Christ hefyd vnwaith a ddioddefodd tros bechodau, y Cyfiawn tros yr anghyfiawn; fel y dygei ni at Dduw, wedi ei farwolaethu yn y cnawd, eithr ei fywhau yn yr Yspryd:
19 Trwy 'r hwn yr aeth efe hefyd ac a bregethodd i'r ysprydion yngharchar,
20 Y rhai a fu gynt anufydd, pan vnwaith yr oedd hir ammynedd Duw yn aros yn nyddiau Noe, tra y darperid yr arch, yn yr hon ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr.
21 Cyffelybiaeth cyf-attebol i'r hwn, sydd yr awron yn ein hachub ninnau, [sef] bedydd (nid bwrw ymmaith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tu ac at Dduw,) trwy adgyfodiad Jesu Grist,
22 Yr hwn sydd ar ddeheulaw Duw, wedi myned i'r nef, a'r Angelion, a'r awderdodau, a'r galluoedd, wedi eu darostwng iddo.
PEN. IIII.
AM hynny, gan ddioddef o Grist trosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â'r vn meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phecod,
2 Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, tros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd.
3 Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o'r enioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diotta, a ffiaidd eulyn-addoliad,
4 Yn yr hyn y maent yn ddiethr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cyd redeg gyd â hwynt i'r vn rhyw ormod gloddest:
5 Y rhai a roddant gyfrif i'r hwn sydd barod i farnu y byw a'r meirw.
6 Canys er mwyn hynny yr efangylwyd i'r meirw hefyd, fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr yspryd.
7 Eithr diwedd pôb peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwiliadwrus i weddiaw.
8 Eithr o flaen pôb peth [bydded] gennych gariad helaeth tu ac et ei gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau.
9 [Byddwch] leteugar y naill i'r llall, heb rwgnach.
10 Pôb vn megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch i'a gilydd, fel daionus orchwylwŷr amryw râs duw.
11 Os llefaru a wna neb, [llefared] megis geiriau Duw: os gweini y mae neb, [gwnaed[ megis o'r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhôb peth y gogonedder Duw trwy Jesu Grist, i'r hwn y byddo yr gogoniant a'r gallu, yn oes oesoedd, Amen.
12 Anwylyd, na fydded ddiethr gennwch am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn dygwydd i chwi:
13 Eithr llawenhewch, yn gymmaint a'ch bôd yn gyfrannogion o ddioddefiadau Christ, fel pan ddatcuddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen, ac yn gorfoleddu.
14 Os difenwir chwi er mwyn Enw Christ, gwyn eich bŷd: oblegid y mae Yspryd y gogoniant, ac [Yspryd] Duw yn gorphywys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir [efe] a geblir, ond ar eich rhan chwi [efe] a ogoneddir.
15 Eithr na ddioddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwg weithredŵr, neu fel vn yn ymmyrreth â matterion rhai eraill:
16 Eithr os fel Chrstion, na fydded gywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw yn hyn o ran.
17 Canys [daeth] yr amser i ddechreu o'r farn o dŷ Dduw: ac os [dechreu] hi yn gyntaf arnom ni, beth [fydd] diwedd y rhai nid ydynt yn credu i Efengyl Duw?
18 Ac os braidd y mae 'r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?
19 Am hynny y rhai hefyd sy yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchymmynnant eu heneidiau [iddo ef,] megis i greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.
PEN V.
YR Henuriaid sy yn eich plith, attolwg iddynt yr ydwyfi, yr hwn [wyf] gydhenuriad, a thŷst o ddioddefiadau Christ, yr hwn hefyd [wyf] gyfrannog o'r gogoniant a ddadcuddir,
2 Porthwch braidd Duw, yr hwn sydd yn eich plith, gan fwrw golwg arnynt, nyd trwy gymmell, eithr yn ewyllysgar, nid er mwyn budr-elw, eithr y barodrwydd meddwl:
3 Nid fel rhai yn tra-arglwyddiaethu ar etifeddiaeth [Dduw,] ond gan fôd yn esamplau i'r praidd.
4 A phan ymddangoso y Pen-bugail, chwi a gewch dderbyn anniflanedig goron y gogoniant.
5 Yr vn ffunyd yr ieuaingc, byddwch ostyngedig i'r Henuriaid: a [byddwch] bawb yn ostyngedig iw gilydd, ac ymdrwsiwch oddi fewn â â gostyngeiddrwydd: oblegid y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ac yn rhoddi grâs i'r rhai gostyngedig:
6 Ymddarostyngwch gan hynny tan alluog law Dduw, fel i'ch derchafo mewn amser cyfaddas:
7 Gan fwrw eich holl ofal arno ef, canys y mae efe yn gofalu trosoch chwi.
8 Byddwch sobr, gwiliwch: oblegid y mae eich gwrth-wynebwr diafol, megis llew rhuadwy, yn rhodio oddi amgylch, gan geisio y nêb a allo ei lyngcu.
9 Yr hwn gwrthwynebwch yn gadarn yn y ffydd, gan wŷbod fôd yn cyflawni yr vn blinderau yn eich brodyr, y rhai sydd yn y bŷd.
10 A Duw pôb grâs, yr hwn a'ch galwodd chwi iw dragwyddol ogoniant trwy Grist Jesu, wedi i chwi ddioddef ychydig; a'ch perffeithio chwi, a'ch cadarnhâo, a'ch cryfhâo, a'ch sefydlo.
11 Iddo ef [y byddo] y gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.
12 Gyd â Silvanus brawd ffyddlon i chwi (fel yr wyf yn tybied) yr scrifennais ar ychydig, [eiriau,] gan gynghori a thestiolaethu mai gwîr râs Duw yw yr hwn yr ydych yn sefyll ynddo.
13 Y mae 'r [Eglwys] sydd yn Babylon yn gyd-etholedig â chwi,] yn eich annerch a Marcus fy mab i.
14 Anherchwch ei gilydd â chusan cariad, Tangneddyf i chwi oll, y rhai ydych yn Ghrist Jesu. Amen.
AIL EPISTOL CYFFREDINOL PETR YR APOSTOL.
PENDOD. I.
SIMON Petr, gwasanaeth—ŵr ac Apostol Jesu Grist, at y rhai gawasant gyffelyb werth-fawr ffydd a ninnau, trwy gyfiawnder ein Duw ni, a'n Achubwr Jesu Grist.
2 Grâs i chwi, a thangneddyf a amlhaer, trwy adnabod Duw, ac Jesu ein Harglwydd ni.
3 Megis y rhoddes ei dduwiol allu ef i ni bob peth [a berthyn] i fywyd a duwioldeb, trwy ei adnabod ef, yr hwn a'n galwodd ni i ogoniant a rhinwedd.
4 Trwy 'r hyn y rhoddwyd i ni addewidion mawr iawn, a gwerthfawr, fel trwy y rhai hyn y byddech gyfrannogion o'r duwiol anian, wedi diangc oddi wrth y llygredigaeth [sydd] yn y bŷd trwy drachwant.
5 A hyn ymma hefyd, gan roddi cwbl diwydrwydd, chwanegwch at eich ffydd rinwedd, ac at rinwedd wŷbodaeth:
6 Ac at wŷbodaeth gymmedrolder, ac at gymmedrolder ammynedd, ac at ammynedd duwioldeb.
7 Ac at dduwioldeb garedigrwydd brawdol, [Page 750] ac at garedigrwydd brawdol, cariad.
8 Canys os yw y pethau hyn gennych, ac yn aml hwynt, y maent yn peri na bôch na segur na diffrwyth yngwybodaeth ein Harglwydd Jesu Grist.
9 Oblegid, yr hwn nid yw y rhai hyn ganddo, dall ydyw, heb weled ym-mhell, wedi gollwng tros gô [...] ei lanhâu oddiwrth ei bechodau gynt.
10 O herwydd pa ham yn hytrach, frodyr, byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn siccr: canys tra fôch, yn gwneuthur y pethau hyn, ni lithrwch chwi ddim byth.
11 Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i dragwyddol deyrnas ein Harglwydd a'n Achubwr Jesu Grist.
12 O herwydd pa ham, nid esceulusaf eich coffau bôb amser am y pethau hyn, er eich bôd yn eu gwybod, ac wedi eich siccrhau yn y gwirionedd presennol.
13 Eithr yr ydwyf yn tybied [fôd] yn iawn, tra fyddwyf yn y tabernacl hwn, eich cyffroi chwi, trwy ddwyn ar gôf [i chwi.]
14 Gan wybod y bydd i mi ar frŷs roddi fy nhabernacl hwn heibio, megis ac yr yspysodd ein Harglwydd Jesu Grist i mi.
15 Ac mi a wnaf fy ngoreu hefyd ar allu o honoch bôb amser, ar ôl fy ymadawiad i wneuthur coffa am y pethau hyn.
16 Canys nid gan ddilyn chwedlau cyfrwys yr yspysasom i chwi nerth a dyfodiad ein Harglwydd Jesu Grist, eithr wedi gweled fawredd ef â'u llygaid.
17 Canys efe a dderbyniodd gan Dduw Tâd barch a gogoniant, pan ddaeth y cyfryw lêf atto oddi wrth y mawr ragorol ogoniant, Hwn yw fy anwyl Fab i, yn yr hwn i'm bodlonwyd.
18 A'r llêf yma, yr hon a ddaeth o'r nef, a glywsom ni, pan oeddym gyd ag ef yn y mynydd sanctaidd.
19 Ac y mae gennym air sycrach y prophydi: yr hwn da y gwnewch fôd yn dal arno, megis ar ganwyll yn llewyrchu mewn lle tywyll, hyd oni wawrio 'r dydd, ac oni chodo 'r seren ddydd yn eich calonnau chwi:
20 Gan wŷbod hyn yn gyntaf, nad oes vn brophwydoliaeth o'r Scrythur, o ddeongliad priod.
21 Canys nid trwy ewyllys dŷn y daeth gynt brophwydoliaeth, eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynnhyrfwyd hwy gan yr Yspryd glân.
PEN. II.
EIthr bu gau-brophwydi hefyd ym-mhlith y bobl, megis ac y bydd gau-athrawon yn eich plith chwithau, y rhai yn ddirgel, a ddygant i mewn heresiau dinistriol, a chan wadu yr Arglwydd, yr hwn a'u prynodd hwynt, [ydynt] yn tynnu arnynt eu hunain ddinistr buan.
2 A llawer a ganlynant eu destryw hwynt, o herwydd y rhai y ceblir ffordd y gwirionedd:
3 Ac mewn cybydd-dod trwy chwedlau gwneuthur, y gwnant farsiandiaeth o honoch: barnedigaeth y rhai er ystalm nid yw segur, a'u colledigaeth hwy nid yw yn heppian.
4 Canys onid arbedodd Duw 'r Angelion a bechasent, eithr eu taflu [hwynt] i vffern, a'u [Page 752] rhoddi i gadwynau tywyllwch, iw cadw i farnedigaeth:
5 Ac onid arbedodd efe yr hên fyd, eithr Noe pregethwr cyfiawnder a gadwodd efe ar ei wythfed, pan ddug efe y Diluw ar fyd y rhai anwir:
6 A chan droi dinasoedd Sodoma a Gomorrha yn lludw a'u damnodd [hwy] â dymchweliad, gan eu gosod yn esampl i'r rhai a fyddent yn annuwiol:
7 Ac a waredodd Lot gyfiawn, yr hwn oedd mewn gofid trwy anniwair ymarweddiad yr anwirîaid.
8 (Canys y cyfiawn [hwnnw] yn trigo yn eu mysc hwynt, yn gweled ac yn clywed, ydoedd yn poeni ei enaid cyfiawn o ddydd i ddydd trwy eu hanghyfreithlon weithredoedd [hwynt])
9 Yr Arglwydd a fedr wared y rhai duwiol mag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn iw poeni:
10 Ac yn bennaf y rhai sy'n rhodio ar ôl y cnawd mewn chwant aflendid, ac yn diystyru llywodraeth: rhyfygus [ydynt,] cyndyn, nid ydynt yn arswydo cablu vrddas:
11 Lle nid yw'r Angelion, y rhai sy fwy mewn gallu a nerth, yn rhoddi cablaidd farn yn eu herbyn hwynt ger bron yr Arglwydd:
12 Eithr y rhai hyn, megis anifeiliaid anrhesymmol anianol, y rhai a wnaed iw dal ac iw difetha, a gablant y pethau ni wŷddant oddi wrthynt, ac a ddîfethir yn eu llygredigaeth eu hunain:
13 Ac] a dderbyniant gyflog anghyfiawnder a hwy yn cyfrif moetheu beunydd yn [Page 753] hyfrydwch, brycheu a meflau [ydynt,] yn ym ddigrifo yn eu twyll eu hunain, gan wledda gyd â chwi:
14 A llygaid ganddynt yn llawn godineb, ac heb fedru peidio â phechod: yn llithio eneidiau anwadal, a chanddynt galon wedi ymgynnefino â chybydd-dra, plant y felldith:
15 Wedi gadel y ffordd vniawn, [hwy] a aethant ar gyfeiliorn, gan ganlyn ffordd Balaam, [mab] Bosor, yr hwn a garodd wobr anghyfiawnder:
16 Ond efe a gafodd gerydd am ei gamwedd: [assyn] fud arferol à'r iau, gan ddyweydd à llef ddynol, a waharddodd ynfydrwydd y Prophwyd.
17 Y rhai hyn ydynt ffynhonnau diddwfr, cymmylau a yrrid gan dymestl, i'r rhai y mae niwl tywyllwch ynghadw yn dragywydd.
18 Canys gan ddywedyd chwyddedig [eiriau] gorwagedd, y maent hwy trwy chwantau 'r cnawd, [a] thrythyllwch, yn llithio y rhai a ddiangasei yn gwbl oddi wrth y rhai sy yn byw ar gyfeiliorn:
19 Gan addo rhydd-did iddynt, a hwythau eu hunain yn wasanaethwyr llygredigaeth: canys gan byw bynnag y gorchfygwyd neb, i hwnnw hefyd yr aeth efe yn gaeth.
20 Canys os wedi iddynt ddiangc oddiwrth halogedigaeth y bŷd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Jesu Ghrist, y rhwystrir hwy drachefn â'r pethau hyn, a'u gorchfygu, aeth diwedd y rhai hynny yn waeth nâ'i dechreuad.
21 Canys gwell fuasei iddynt, fôd heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag wedi ei hadnabod, troi oddiwrth y gorchymmyn sanctaidd, yr hwn a draddodwyd iddynt.
22 Eithr digwiddodd iddynt yn ôl y wîr ddihareb, Y cî a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun: a'r hŵch wedi ei golchi, iw hymdreiglfa yn y dom.
PEN. III.
YR ail Epistol hwn, anwylyd, yr ydwyf yn awr yn ei scrifennu attoch, yn yr hwn yr ydwyf yn cyffroi eich meddwl puraidd, trwy ddwyn ar gôf i [chwi:]
2 Fel y byddo cofus gennych y geiriau a ragddywedwyd gan y prophwydi sanctaidd, a'n gorchymmyn ninnau, Apostolion yr Arglwydd, a'r Jachawdwr:
3 Gan ŵybod hyn yn gyntaf, y daw yn y ddyddiau diweddaf watwar-wŷr, yn rhodio yn ôl eu chwantau eu hunain:
4 Ac yn dywedyd, Pa le y mae addewid ei ddyfodiad ef? canys er pan hunodd y tadau, y mae pôb peth yn parhau; fel yr oeddynt o ddechreuad y creaduriaeth.
5 Canys y mae hyn yn ddiarwybod iddynt o'u gwîr-fodd, mai trwy air Duw yr oedd y nefoedd er ystalm, a'r ddaiar yn cyd-sefyll o'r dwfr, a thrwy 'r dwfr.
6 O herwydd pa ham, y bŷd [a oedd] y pryd hynny, wedi ei orchguddio â dwfr a ddifethwyd.
7 Eithr y nefoedd a'r ddaiar [sy] yr awrhon, ydynt trwy 'r vn gair wedi eu rhoddi i gadw i dân, erbyn dydd y farn, a distryw yr anwir ddynion.
8 Eithr yn vn peth hyn na fydded yn ddiarwybod i chwi, anwylyd, fôd vn dydd gyd â'r Arglwydd megis mîl o flynyddoedd, a mîl o flynyddoedd megis vn dydd.
9 Nid ydyw 'r Arglwydd yn oedi ei addewid, (fel y mae rhai yn cyfrif oed) ond hirymarhous yw efe tu ac attom ni, heb ewyllysio bôd neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch.
10 Eithr dydd yr Arglwydd a ddaw megis lleidr y nôs, yn yr hwn y nefoedd a ânt heibio gydâ thwrwf, a'r defnyddian gan wîr wres a doddant, a'r ddaiar a'r gwaith [a fyddo] ynddi a loscir.
11 A chan fôd yn rhaid i hyn i gŷd ymollwng, pa ryw fath ddynion a ddylech chwi fôd, mewn sanctaidd ymarweddiad a duwioldeb,
12 Yn disgwil ac yn bryssio at ddyfodiad dydd Duw, yn yr hwn y nefoedd gan losci a ymollyngant, a'r defnyddiau gan wir wres a doddant?
13 Eithr nefoedd newydd, a daiar newydd yr ydym [ni,] yn ôl ei addewid ef, yn eu disgwil, yn y rhai y mae cyfiawnder yn cartrefu.
14 O herwydd pa ham, anwylyd, gan eich bôd yn dysgwyl y pethau hyn, gwnewch eich goreu ar eich cael ganddo ef mewn tangneddyf, yn ddi-frycheulyd, ac yn ddi-argyoedd:
15 A chyfrifwch hir-ammynedd ein Harglwydd, yn iechydwriaeth: magis ac yr scrifennodd ein hanwyl frawd Paul attoch chwi, yn ôl y doethineb a rodded iddo ef:
16 Megis yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn: yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai y [Page 756] mae rhyw bethau ar hawdd eu deall, y rhai y mae r annyscedig a'r anwastad yn eu gwŷr-droi, megis yr Scrythurau eraill, iw dinistr eu hunain.
17 Chwy chwi gan hynny, anwylyd, a chwi yn gwybod [y pethau hyn] o'r blaen, ymgedwch rhag eich arwain ymmaith trwy amryfusedd yr annuwiol, chwympo o honoch oddiwrth eich siccrwydd eich hun.
18 Eithr cynnyddwch mewn grâs a gwŷbodaeth ein Harglwydd a'n Iachawdwr Jesu Grist. Iddo ef [y byddo] gogoniant yr awr hon, ac yn dragwyddol. Amen.
EPISTOL CYNTAF Cyffredinol IOAN yr Apostol.
PENDOD. I.
YR hyn oedd o'r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom an llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am air y bywyd:
2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi y bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyd â'r Tâd, ac a eglurhawyd, i ni,)
3 Yr hyn a welsom ac a glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyd â ni: a'n cymdithas ni yn wîr [sydd] gyd â'r Tâd, a chyd â'i Fab ef Jesu Grist:
4 A'r pethau hyn yr ydym yn eu scrifennu attoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
5 A hon yw 'r gennadwri a glywsom [Page 757] ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi, mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch.
6 Os dywedwn fôd i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd.
7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â'i gilydd, a gwaed Jesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glânhau ni oddi wrth bôb pechod.
8 Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom.
9 Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac i'n glanhâo oddi wrth bob anghyfiawnder.
10 Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, â'i air ef nid yw ynom.
PEN. II.
FY mhlant bychain, y pethau hyn yr wyf yn eu scrifennu attoch, fel na phechoch: ac o phecha neb, y mae i ni eiriolwr gyd â'r Tâd, Jesu Grist y Cyfiawn:
2 Ac efe, yw 'r iawn tros ein pechodau ni: ac nid tros yr eiddom ni yn vnig, eithr tros [bechodau] yr holl fŷd.
3 Ac wrth hyn y gwyddom yr adwaenom ef, os cadwn ni ei orchymmynion ef.
4 Yr hwn sydd yn dywedyd, Mi a'i hadwaen ef, ac heb gadw ei orchymmynion ef, celwyddog yw a'r gwirionedd nid yw ynddo.
5 Eithr yr hwn a gadwo ei air ef, yn y vn [Page 748] hwn y mae cariad Duw yn berffaith: wrth hyn y gŵyddom ein bôd ynddo ef.
6 Yr hwn a ddywed ei fôd yn aros ynddo ef, a ddylei yntef felly rodio, megis ac y rhodiodd ef.
7 Y brodyr, nid gorchymmyn newydd yr wyf yn ei scrifennu attoch, eithr gorchymmyn hên, yr hwn oedd gennych o'r dechreuad: yr hên orchymmyn yw 'r gair a glywsoch o'r dechreuad.
8 Trachefn, gorchymyn newydd yr wyf yn ei scrifennu attoch, yr hyn sydd wîr ynddo ef, ac ynoch chwithau: oblegyd y tywyllwch a aeth heibio, a'r gwïr oleuni sydd yr awron yn tywynnu.
9 Yr hwn a ddywed ei fôd yn y goleuni, ac a gasào ei frawd, yn y tywyllwch y mae hyd y prŷd hyn.
10 Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni, ac nid oes rhwystr ynddo.
11 Eithr yr hwn sydd yn casau ei frawd, yn y tywyllwch y mae, ac yn y tywyllwch y mae yn rhodio: ac ni wŷr i ba le y mae yn myned, oblegid y mae y tywyllwch wedi dallu ei lygaid ef.
12 Scrifennu yr wyf attoch chwi, blant bychain, oblegid maddeu i chwi eich pechodau, er mwyn ei Enw ef.
13 Scrifennu yr wyf attoch chwi, dadau, am adnabod o honoch yr hwn [sydd] o'r dechreuad: scrifennu yr wyf attoch chwi, wŷr ieuaingc, am orchfygu o honoch yr vn drwg: scrifennu yr wyf attoch chwi, rai bychain, am i chwi adnabod y Tâd.
14 Scrifennais attoch chwi, dadau, am adnabod o honoch yr hwn [sydd] o'r dechreuad: scrifennais attoch chwi, wŷr ieuaingc, am eich bôd yn gryfion, a bôd gair Duw yn aros ynoch, a gorchfygu o honoch yr vn drwg.
15 Na cherwch y bŷd, na'r pethau [sy] yn y byd: o châr neb y bŷd, nid y cariad yw Tâd ynddo ef.
16 Canys pôb peth a'r y sydd yn y bŷd [megis] chwant y cnawd, a chwant y llygaid, a balchder y bywyd; nid yw o'r Tâd, eithr o'r bŷd y mae.
17 A'r bŷd sydd yn myned heibio, a'i chwant hefyd: ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys Duw, sydd yn aros yn dragywydd.
18 O blant bychain, yr awr ddiweddaf ydyw: ac megis y clywsoch y daw Anghrist, yr awron hefyd y mae Anghristiau lawer: wrth yr hyn y gwŷddom mai yr awr ddiweddaf ydyw.
19 Oddi wrthym ni yr aethant hwy allan, eithr nid oeddynt o honom ni: canys pe buasent o honom ni, hwy a arhosasent gyd a ni: eithr [hyn a fu] fel yr eglurid nad ydynt hwy oll o honom ni.
20 Eithr y mae gennych chwi enneiniaid oddi wrth y Sanctaidd hwnnw, a chwi a wyddoch bôb peth.
21 Ni scrifennais attoch oblegid na wŷddech y gwirionedd, eithr oblegid eich bod yn ei wŷbod ac nad oes vn celwydd o'r gwirionedd.
22 Pwy yw 'r delwyddog▪ ond yr hwn sydd yn gwadu nad Jesu yw 'r Christ? Efe vw 'r Anghrist, yr hwn sydd yn gwadu y Tâd â'r Mâb▪
23 [...] ac sydd yn gwadu y Mâb, nid oes [Page 750] ganddo y Tâd chwaith: [yr hwn sydd yn cyffesu y Mâb, y mae y Tâd ganddo hefyd.]
24 Arhosed gan hynny ynoch chwi, yr hyn a glywsoch o'r dechreuad: od erys ynoch yr hyn a glwysoch o'r dechreuad, chwithau hefyd a gewch aros yn y Mâb, ac yn y Tâd.
25 A hwn yw 'r addewid a addawodd efe i ni, [sef] bywyd tragwyddol.
26 Y pethau hyn a scrifennais attoch ynghylch y rhai sy yn eich hudo.
27 Ond y mae yr enneiniad a dderbyniasoch ganddo ef, yn aros ynoch chwi, ac nid oes arnoch eisieu dyscu o neb chwi: eithr fel y mae yr vn enneiniad yn eich dyscu chwi am pôb peth, a gwîr yw, ac nid yw gelwydd: ac megis i'ch dyscodd chwi, yr arhoswch ynddo.
28 Ac yr awron, blant bychain, arhoswch ynddo: fel pan ymddangoso efe, y byddo hyder gennym, ac na chywilyddiom ger ei fron ef, yn ei ddyfodiad.
29 Os gwŷddoch ei fôd ef yn gyfiawn, chwi a wyddoch fod pôb vn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, wedi ei eni o honaw ef.
PEN. III.
GWelwch pa fath gariad a roes y Tâd arnom, fel i'n gelwid yn feibion i Dduw: oblegid hyn nid edwyn y bŷd chwi, oblegid nad adnabu efe ef.
2 Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd etto beth a fyddwn: eithr ni a wyddom pan ymddangoso ef, y byddwn gyffelyb iddo: oblegid ni a gawn ei weled ef megis ac y mae.
3 Ac y mae pôb vn sydd ganddo y gobaith [Page 751] hyn ynddo ef, yn ei buro ei hun, megis y mae yntef yn bûr.
4 Pôb vn ac sydd yn gwneuthur pechod, sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith: oblegid anghyfraith yw pechod.
5 A chwi a wŷddoch ymddangos o honaw ef, fel y deleai ein pechodau ni: ac ynddo ef nid oes pechod.
6 Pôb vn ac sydd yn aros ynddo ef, nid yw yn pechu: pôb vn ac sydd yn pechu, ni's gwelodd ef, ac ni's adnabu ef.
7 O blant bychain, na thwylled nêb chwi: yr hwn sydd yn gwneuthur cyfiawnder, sydd gyflawn, megis y mae yntef yn gyfiawn.
8 Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad: i hyn yr ymddangosodd Mâb Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol.
9 Pôb vn a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod: oblegid y mae ei hâd ef yn aros ynddo ef, ac ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw.
10 Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a phlant diafol: pôb vn ac sy heb wneuthur cyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd.
11 O blegid hon yw 'r gennadwri a glywsoch o'r dechreuad, bôd i ni garu ei gilydd.
12 Nid fel Cain, [yr hwn] oedd o'r drwg, ac a laddodd ei frawd: a pha ham y lladdodd ef? Oblegid bôd ei weithredoedd ef yn ddrwg, ar eiddo ei frawd yn dda.
13 Na ryfeddwch, fy mrodyr, os yw'r bŷd yn eich casâu chwi.
14 Nyni a wŷddom ddarfod ein symmud ni o farwolaeth i fywyd, oblegid ein bôd yn caru y brodyr: yr hwn nid yw yn caru ei frawd, y mae yn aros ym marwolaeth.
15 Pôb vn ac sydd yn casau ei frawd, lleiddiad dŷn yw: a chwi a wŷddoch nad oes i vn lleiddiad dyn fywyd tragwyddol yn aros ynddo.
16 Yn hyn yr adnabuom gariad Duw, oblegid dodi o honaw ef ei einioes drosom ni: a ninnau a ddylem ddodi ein heinioes tros y brodyr.
17 Eithr yr hwn sydd ganddo dda 'r bŷd hwn, ac a wêlo ei frawd mewn eisieu, ag a gaeo ei dosturi oddi wrtho, pa fodd y mae cariad Duw yn aros ynddo es?
18 Fy mhlant bychain, na charwn ar air, nac ar dafod [yn vnic,] eithr mewn gweithred a gwirionedd.
19 Ac wrth hyn a gwŷddom ein bôd o'r gwirionedd, ac y siccrhawn ein calonnau ger ei fron ef.
20 Oblegid os ein calon a'n condemna, mwy yw Duw nâ'n calon, ac efe a wŷr bôb peth.
21 Anwylyd, os ein calon ni'n condemna, y mae gennym hyder ar Dduw:
22 A pha beth bynnag a ofynnom, yr ydym yn ei dderbyn ganddo ef, oblegid ein bôd yn cadw ei orchymynion ef, ac yn gwneuthur y pethau sy yn rhyngu bodd yn ei olwg ef.
23 A hwn yw ei orchymyn ef, gredu o honom yn Enw ei Fab ef Jesu Grist, a charu ei gylydd, megis y rhoes efe orchymmyn i ni.
24 A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntef [...] yntef [...] [Page 763] wrth hyn y gwyddom ei fôd ef yn aros ynom, [sef] o'r Yspryd a roddes efe i ni.
PEN. IIII.
ANwylyd, na chredwch bôb yspryd, eithr profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent: oblegid y mae gau brophwidi lawer wedi myned allan i'r bŷd.
2 Wrth hyn adnabyddwch Yspryd Duw: pôb yspryd ac sydd yn cyffesu ddyfod Jesu Grist yn y cnawd, o Dduw y mae.
3 A phob yspryd a'r nid yw yn cyffesu ddyfod Jesu Grist yn y cnawd, nid yw o Dduw: eithr hwn yw [yspryd] Anghrist, yr hwn y clywsoch ei fôd yn dyfod, a'r awron y mae [efe] yn y bŷd eusus.
4 Chwy-chwi ydych o Dduw, blant bychain, ac a'u gorchfygasoch hwy: oblegid mwy yw 'r hwn sydd ynoch chwi, nâ'r hwn sydd yn y bŷd.
5 Hwynt-hwy o'r bŷd y maent: am hynny y llefarant am y bŷd, a'r bŷd a wrendy arnynt.
6 Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrando ni: yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrando ni: wrth hyn yr adwaenom yspryd y gwirionedd, ac yspryd y cyfeiliorni.
7 Anwylyd, carwn ei gilydd: oblegid cariad o Dduw y mae: a phob vn ac fydd yn caru, o Dduw y ganwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw.
8 Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw: oblegid Duw cariad yw.
9 Yn hyn yr eglurwyd cariad Duw tuac attom ni, oblegid danfon o Dduw ei vnic-anedig [Page 764] Fab i'r bŷd, fel y byddem fyw trwyddo ef.
10 Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab [i fôd] yn iawn dros ein pechodau.
11 Anwylyd, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd a ddylem garu ei gilydd.
12 Ni welodd neb Dduw erioed: os carwn ni ei gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom.
13 Wrth hyn y gwyddom ein bôd yn trigo ynddo ef, ac yntef ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o'i Yspryd.
14 A ninnau a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ddarfod i'r Tad ddanfon y Mab, [i fod] yn Iachawdwr i'r bŷd.
15 Pwy bynnag a gyffeso fod Jesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntef yn Nuw.
16 A nyni a adnabuom, ac a gredasom y cariad sydd gan Dduw tu ac attom ni. Duw cariad yw: a'r hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntef.
17 Yn hyn y perffeithiwyd ein cariad ni, fel y caffom hyder ddydd farn: oblegid megis ac y mae efe, yr ydym ninnau hefyd yn y bŷd hwn.
18 Nid oes ofn mewn cariad, eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn: oblegid y mae i ofn boenedigaeth: a'r hwn sydd yn ofni ni pherffeithiwyd mewn cariad.
19 Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.
20 Os dywed nêb, Yr wyf yn caru Duw, ac efe [Page 765] yn casau ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd yr hwn a welodd, pa fodd y gall efe garu Duw yr hwn ni's gwelodd?
21 A'r gorchymmyn hwn sydd gennym oddi wrtho ef, bôd i'r hwn sydd yn câru Duw, garu ei frawd hefyd.
PEN. V.
POb vn ac sydd yn credu mai Jesu yw 'r Christ, o Dduw y ganed ef: a phôb vn ac sy yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd hefyd yn caru yr hwn a genhedlwyd o honaw.
2 Yn hyn y gwŷddom ein bôd yn caru plant Duw, pan fôm yn caru Duw, ac yn cadw ei orchymynion ef:
3 Canys hyn yw cariad Duw, bôd i ni gadw ei orchymynion: a'i orchymynion ef nid ydynt drymion.
4 Oblegid beth bynnag a aned o Dduw, y mae yn gorchfygu 'r bŷd; a hon yw 'r ornchasiaeth sydd yn gorchfygu y bŷd, [sef] ein ffydd ni.
5 Pwy yw 'r hwn sydd yn gorchfygu 'r bŷd, onid yr hwn sydd yn credu mai Jesu yw Mâb Duw?
6 Dymma yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed, [sef] Jesu Grist: nid trwy ddwfr yn vnic, ond trwy ddwfr a gwaed: a'r Yspryd yw 'r hwn sydd yn tystiolaethu, oblegid yr Yspryd sydd wirionedd.
7 Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nêf, y Tâd, y Gair, a'r Yspryd glân: a'r tri hyn vn ydynt.
8 Ac y mae tri yn tystiolaethu ar y ddaiar, yr Yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed: a'r tri hyn, yn vn y maent [yn cyttûno.]
9 Os tystiolaeth dynion yr ydym yn ei dderbyn, y mae tystiolaeth Duw yn fwy: canys hyn yw tystiolaeth Duw, yr hon a dystiolaethodd efe am ei fâb.
10 Yr hwn sydd yn credu ym Mâb Duw, sydd ganddo y dystiolaeth ynddo ei hun: hwn nid yw yn credu i Dduw, a'i gwnaeth ef yn gelwyddog, oblegid na chredodd y dystiolaeth a dystiolaethodd Duw am ei Fâb.
11 A hon yw 'r dystiolaeth, roddi o Dduw i ni fywyd tragywyddol: a'r bywyd hwn sydd yn ei Fâb ef.
12 Yr hwn y mae y Mâb ganddo, y mae y bywyd ganddo: a'r hwn nid yw ganddo Fâb Duw, nid oes ganddo fywyd.
13 Y pethau hyn a scrifennais attoch chwi, y rhai ydych yn credu yn Enw Mâb Duw: fel y gwypoch fôd i chwi fywyd tragywyddol, ac fel y credoch yn enw Mâb Duw.
14 A hyn yw 'r hyfder sydd gennym tu ac atto ef, ei fod ef yn ein gwrando ni, os gofynnwn ddim yn ol ei ewyllys ef.
15 Ac os gwyddom ei fôd ef yn ein gwrando ni, pa [beth] bynnag a ddeisyfom, ni a wŷddom ein bôd yn cael y deisyfiadau a ddeisyfiasom ganddo.
16 Os gwêl neb ei frawd yn pechu pechod nid yw i farwolaeth, efe a ddeisyf, ac efe a rydd iddo fywyd, i'r rhai sy 'n pechu nid i farwolaeth, nid am hwnnw yr wyf yn dywedyd ar ddeisyf o honaw.
17 Pôb anghyfiawnder pechod yw: ac y mae pechod nid [yw] i farwolaeth.
18 Ni a wyddom nad yw 'r neb a aned o Dduw, yn [Page 767] pechu: eithr y mae yr hwn a aned o Dduw yn ei gadw ei hun, a'r drwg hwnnw nid yw yn cyffwrdd ag ef.
19 Ni a wyddom ein bôd o Dduw, ac y mae yr hôll fŷd yn gorwedd mewn drygioni.
20 Ac a wŷddom ddyfod Mâb Duw, ac efe a roes i ni feddwl, fel yr adnabyddom yr hwn sydd gywir: ac yr ydym yn y Cywir hwnnw, [sef] yn ei Fâb ef Jesu Grist. Hwn yw y gwîr Dduw, a'r bywyd tragwyddol.
21 Y plant bychain, ymgedwch oddi wrth eulynnod. Amen.
AIL EPISTOL IOAN YR APOSTOL.
YR Henuriad at yr etholedig Arglwyddes, a'i phlant, y rhai yr wyfi yn eu caru yn y gwirlonedd, ac nid myfi yn vnic, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd.
2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyd â ni yn dragywydd.
3 Bydded gyd â chwi râs, trugaredd, a thangneddyf, oddi wrth Dduw Tâd, ac oddi wrth yr Arglwydd Jesu Grist, Mâb y Tâd, mewn gwirionedd a chariad.
4 Bu lawen iawn gennif i mi gael o'th blant di [rai] yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymmyn gan y Tâd.
5 Ac yn awr yr wyf yn attolwg i ti, Arglwyddes, nid fel [vn] yn scrifennu gorchymmyn newydd [Page 768] i ti, eithr yr hwn oedd gennym o'r dechreuad, garu o honom ei gilydd.
6 A hyn yw 'r cariad, bod i ni rodio yn ól ei orchymynion ef. Hwn yw 'r gorchymmyn, megis y clywsoch o'r dechreuad, fôd i chwi rodio ynddo.
7 Oblegid y mae twyll-wŷr lawer wedi dyfod i mewn i'r bŷd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Jesu Grist yn y cnawd. Hwn yw 'r twyll-wr a'r Anghrist.
8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr.
9 Pôb vn ac sy yn trosseddu, ac heb aros yn nysceidiaeth Christ, nid yw Duw ganddo ef; yr hwn sydd yn aros yn nysceidiaeth Christ, hwnnw y mae y Tâd a'r Mâb ganddo.
10 Od oes neb yn dyfod attoch, ac heb ddwyn y ddysceidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch Duw yn rhwydd wrtho.
11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o'i weithredoedd drwg ef.
12 Er bôd gennif lawer o bethau iw scrifennu attoch, nid oeddwn yn ewyllysio [scrifennu] â phapir ac ingc: eithr gobethio 'r ydwyf ddyfod attoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd vn gyflawn.
13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.
TRYDYDD EPISTOL IOAN YR APOSTOL.
YR Henuriad at yr anwyl Gaius, yr hwn yr wyf vn ei garu mewn gwirionedd.
2 Yr anwylyd, yr yd [...] yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo, ac yn iach, fel y mae dŷ enaid yn llwyddo.
3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ac yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
4 Mwy llawenydd nâ hyn nid oes gennif, sef cael clywed bôd fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd.
5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur, tu ac at y brodyr, a thu ac at ddieithriaid:
6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di, ger bron yr Eglwys: y rhai os hebryngi, fel y gweddei i Dduw, da y gwnei.
7 Canys yr mwyn ei Enw ef yr aethant allan, heb gymmeryd dim gan y Cenhedloedd.
8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynhorthwy-wŷr i'r gwirionedd.
9 Mi a scrifennais at yr Eglwys: eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim o honom.
10 O herwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gôf ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, [Page 770] gan wâg-siarad i'n herbyn à geiriau drygionus: ac heb fôd yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, a'r rhai sy yn ewyllisio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o'r Eglwys.
11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw.
12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirioned ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu, a chwi a wŷddoch fôd ein tystiolaeth ni yn wîr.
13 Yr oedd gennif lawer o bethau iw scrifennu, ond nid wyf yn chwennych scrifennu ag ingc a phin attat ti:
14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb.
15 Tangneddyf i ti. Y mae y cyfeillion i'th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
EPISTOL CYFFREDYNOL IUDAS YR APOSTOL.
IUDAS, gwasanaethwr Jesu Grist, a brawd Iaco, at y rhai a sācteiddiwyd gan Dduw Tâd, ac a gadwyd [yn] Jesu Grist, [ac] a alwyd:
2 Trugared i chwi, a thangneddyf, a chariad a luosoger.
3 Anwylyd, pan roddais bôb diwydrwydd ar [Page 771] scrifennu atoch, am yr iechydwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi scrifennu attoch, gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded vn waith i'r Sainct.
4 Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusco i mewn, y rhai a rag-ordeiniwyd er ystalm i'r farnedigaeth hon, annuwiolion, yn troi grâs ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu yr vnic Arglwydd Dduw, a'n Harglwydd Jesu Grist.
5 Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffâu chwi, gan eich bôd vn waith yn gwŷbod hyn, i'r Arglwydd wedi iddo waredu y bobl o dîr yr Aipht, ddestrywio eilwaith y rhai ni chredasant.
6 Yr Angelion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol tân dywyllwch, i farn y dydd mawr.
7 Megis y mae Sodoma a Gomorrha, a'r dinasoedd o'u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt wedi putteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol.
8 Yr vn ffunyd hefyd y mae y breuddwyd-wŷr hyn, yn halogi'r cnawd, diystyru llywodraeth, ac yn cablu y rhai sy mewn awdurdod.
9 Eithr Michael yr Arch-angel, pan oedd efe wrth ymddadleu â diafol, yn ymresymmu ynghylch corph Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi.
10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu y pethau ni's gwyddant; a pha bethau bynnag y maent yn anianawl, fel anifeiliaid di-reswn, yn [eu] gwybod, [Page 772] yn y rhai hynny ymlygru y maent.
11 Gwaenay [...] hwy: oblegid hwy a gerddasant yn ffyrdd Cam ac a'u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a'u difethwyd yngwrthddywediad Co [...]e.
12 Y rhai sydd frychau yn eich cariad wleddoedd chwi, yn cyd-wledda â chwi, yn ddiofn yn eu pesci eu hunain: cwmylau diddwfr ydynt, a gylch arweinir gan wyntoedd: preniau diflannedig, heb ffrwyth, dwy-waith yn feirw, wedi eu diwreiddio.
13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywylydd eu hunain: sêr gwibiog i'r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd.
14 Ac Enoch hefyd y seithfed o Addaf, a brophwydodd am y rhai hyn gan ddywedyd, wele, y mae 'r Arglwydd yn dyfod gyd â myrddiwn o'i Sainct,
15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyoeddi yr holl rai annuwiol o honynt, am holl weithredoedd eu hanuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl [eiriau] caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.
16 Y rhai hyn sydd rwgnach-wŷr, tuchan-wŷr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain: ac y mae eu genau yn llefaru [geiriau] chwyddedig, yn mawrygu wynebau [dynion,] er mwyn bûdd.
17 Eithr chwi, o rai anwyl, cofiwch y geiriau a rag-ddywedpwyd gan Apostolion ein Harglwydd Jesu Grist:
18 Ddywedyd o honynt i chwi y bydd yn yr [Page 773] amser diweddaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain.
19 Y rhai hyn yw y rhai sy yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Yspryd ganddynt.
20 Eithr chwy-chwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddio yn yr Yspryd glân.
21 Ymgedwch ynghariad Duw, gan ddisgwil trugaredd ein Harglwydd Jesu Grist, i fywyd tragwyddol.
22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor:
23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan [eu] cippio hwy allan o'r tân, gan gasâu hyd yn oed y wisc a halogwyd gan y cnawd.
24 Eithr i'r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi gwymp, a'ch gosod ger bron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd,
25 I'r vnic ddoeth Dduw, ein Iachawdwr ni, [y byddo] gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awrhon ac yn dragywydd. Amen.
DADCUDDIAD IOAN. Y DIFINYDD.
DAdcuddiad Jesu Grist, yr hon a roddes Duw iddo ef, i ddangos iw wasanaethwŷr y pethau sy raid eu dyfod i ben ar fyrder: a chan ddanfon trwy ei Angel, [efe a'i] hyspysodd iw wasanaethwr Ioan:
2 Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Jesu Grist, a'r holl bethau a welodd.
3 Dedwydd [yw] 'r hwn sydd yn darllen, a'r rhai sy 'n gwrando geiriau y brophwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sy yn scrifennedig ynddi: canys [y mae] 'r amser yn agos.
4 Joan at y saith Eglwys [sydd] yn Asia; Grâs fyddo i chwi a thangneddyf, oddi wrth yr hwn sydd, a'r hwn a fu, a'r hwn sydd ar ddyfod: ac oddi wrth y saith yspryd sydd ger bron ei orsedd-faingc ef:
5 Ac oddi wrth Jesu Grist, [yr hwn yw] y tŷst ffyddlon, y cyntaf anedig o'r meirw, a thywysog brenhinoedd y ddaiar: [iddo ef] yr hwn a'n carodd ni, ac a'n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun:
6 Ac a'n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw, a'i Dâd ef, iddo ef [y byddo] y gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd. Amen.
7 Wele, y mae efe yn dyfod gyd â'r cwmmylau, a phôb llygad a'i gwêl ef, îe y rhai a'i gwanasant ef: a holl lwythau y ddaiar a alarant o'i blegid ef: felly. Amen.
8 Mi yw Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a'r hwn oedd, ar hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog.
9 Myfi Joan, yr hwn [wyf] hefyd eich brawd, a'ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac ammynedd Jesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Jesu Grist.
10 Yr oeddwn i yn yr Yspryd a'r ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o'r tu ôl i mi, lêf fawr, fel [llais] vdcorn,
11 Yn dywedyd, Mi yw Alpha ac Omega, y cyntaf a'r diweddaf: a'r Hyn yr wyt yn ei [Page 775] weled, scrifenna mewn llyfr, a danfon i'r saith eglwys; y rhai sy 'n Asia: i Ephesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelphia, a Laodicea.
12 Ac mi a droais i weled y llêf a lefarai wrthif: ac wedi i mi droi, mi a welais saîth ganhwyllbren aur,
13 Ac ynghanol y saith ganhwyllbren, [vn] tebyg i Fâb y dŷn, wedi ymwisco â gwisc laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur.
14 Ei ben ef a'i wallt, [oedd] wynion fel gwlân cyn wynned a'r eira: a'i lygaid fel fflamm dàn,
15 A'i draed yn debyg i brês coeth, megis yn losci mewn ffwrn: a'i lais fel fel sŵn llawer o ddyfroedd.
16 Ac [yr oedd] ganddo yn ei law ddehau saith seren: ac o'i enau yr oedd cleddau llym dau-finiog yn dyfod allan: a'i wyneb-pryd fel yr haul yn discleirio yn ei nerth.
17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw: ac efe a osododd ei law ddehau arnafi, gan ddywedyd wrthif, Nac ofna: myfi yw y cyntaf a'r diweddaf,
18 A'r hwn [wyf] fyw, ac a fûm farw: ac wele byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen: ac y mae gennif agoriadau uffern a marwolaeth.
19 Scrifenna y pethau a welaist, a'r pethau sydd, a'r pethau a sydd ar ôl hyn.
20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddehau, a'r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, Angelion y saith Eglwys ydynt: a'r saith ganhwyllbren a welaist, y saith Eglwys ydynt.
PEN. II.
AT Angel yr Eglwys sydd yn Ephesus, scrifenna. Y pethau hyn y mae yr hwn sydd yn dal y saith seren yn ei law ddehau, yr hwn sydd yn rhodio ynghanol y saith ganhwyll-bren aur, yn eu ddywedyd:
2 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th lafur, a'th ymmynedd, ac na elli oddef y rhai drwg: a phrofi o honot y rhai sy 'n dywedyd eu bôd yn Apostolion, ac nid ydynt: a chael o honot hwynt yn gelwyddog.
3 A thi a oddefaist, ac y mae ymmynedd gennit, ac à gymmeraist boen er mwyn fy Enw i, ac ni ddiffygiaist.
4 Eithr y mae gennif [beth] yn dy erbyn, am i ti ymadel â'th Gariad cyntaf.
5 Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf: ac onid ê, yr wyfi yn dyfod attati ar frŷs, ac mi a symmudaf dy ganhwyllbren di allan o'i le, oni edifarhei di.
6 Ond hyn sydd gennit, dy fôd ti yn casâu gweithredoedd y Nicolaiaid, y rhai yr wŷfi hefyd yn eu casâu.
7 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed pa beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi: I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwytta o bren y bywyd, yr hwn sydd ynghanol Paradwŷs Dduw.
8 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Smyrna, scrifenna, Y pethau hyn y mae y cyntaf, a'r diweddaf, yr hwn a fu farw, ac sydd fyw, yn eu dywedyd:
9 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, eithr cyfoethog wŷt: ac [mi a adwaen] gabledd y rhai sy yn dywedyd eu bôd yn Jddewon, ac nid ydynt ond Synagog Satan.
10 Nac ofna ddim o'r pethau yr ydwyt iw dioddef: wele, y cythraul a fwrw rai o honoch chwi i garchar, fel i'ch profer: a chwi a gewch gystudd ddeng-nhiwrnod. Bydd ffyddlon hyd angeu, ac mi a roddaf i ti goron y bywyd.
11 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, Yr hwn sydd yn gorchfygu ni chaiff ddim niwed gan yr ail farwolaeth.
12 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Pergamus, scrifenna, Y pethau hyn y mae yr hwn sydd ganddo y cleddyf llym daufiniog, yn eu dywedyd.
13 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a pha le yr wŷt yn trigo, sef lle [mae] gorsedd-faingc Satan: ac yr wŷr yn dal fy Enw i, ac ni wedaist fy ffydd i, îe yn y dyddiau [y bu] Antipas yn ferthyr ffyddlon i mi yr hwn a laddwyd yn eich plith chwi lle y mae Satan yn trigo.
14 Eithr y mae gennif y ychydig bethau yn dy erbyn di, oblegid bôd gennit yno [rai] yn dal athrawiaeth Balaam, yr hwn a ddyscodd i Balac fwrw rhwystr ger bron meibion Israel, i fwytta pethau wedi eu haberthu i eulynnod, ac i odinebu.
15 Felly y mae gennit titheu hefyd [rai] yn dal athrawiaeth y Nicolaiaid: yr hyn beth yr wyfi yn ei gasâu.
16 Edifarhâ: ac os amgen, yr wyfi yn dyfod [Page 778] attat ar frys, ac a ryfelaf yn eu herbyn hwynt â chleddyf fy ngenau.
17 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi, I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwyta o'r Manna cuddiedig, ac a roddaf iddo garreg wen, ac ar y garrec henw newydd wedi ei scrifennu, yr hwn nid edwyn nêb, ond yr hwn sydd yn ei dderbyn.
18 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Thyatira, scrifenna, Y pethau hyn y mae Mab Duw yn eu dywedyd, yr hwn sydd a'i lygaid fel fflam dân, a'i draed yn debyg i brês coeth:
19 Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gariadd, a'th wasanaeth, a'th ffydd, a'th ammynedd di, a'th weithredoedd: a [bôd] y rhai diwedda yn fwy nâ'r rhai cyntaf,
20 Eithr y mae gennif ychydig bethau yn dy erbyn, oblegid dy fod yn gadel i'r wraig honno, Iezabel, yr hon sydd yn ei galw ei hun yn brophwydes, ddyscu, a thwyllo fy ngwasanaeth-wŷr, i odinebu, ac i fwyta pethau wedi eu haberthu i eulynnod.
21 Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb; ac nid edifarhaodd hi.
22 Wele, yr wŷfi yn ei bwrw hi ar wely, a'r rhai sydd yn godinebu gyd â hi, i gystudd mawr, onid edifarhant am eu gweithredoedd.
23 A'i phlant hi a laddaf a marwolaeth: a'r holl Eglwysi a gânt wŷbod mai myfi yw yr hwn sydd yn chwilio yr arennau a'r calonnau: ac mi a roddaf i bôb vn o honnoch yn ôl eich gweithredoedd.
24 Eithr wrthych chwi yr wŷf yn dywedyd, ac wrth y lleill yn Thyatira, y sawl nid oes ganddynt y ddysceidiaeth hon, a'r rhai ni adnabuant ddyfnderau Satan, fel y dywedant: ni fwriaf arnoch faich arall:
25 Eithr, yr hyn sydd gennwch, deliwch hyd oni ddelwyf.
26 A'r hwn sydd yn gorchfygu, ac yn cadw fy ngweithredoedd hyd y diwedd, mi a roddaf iddo awdurdodd ar y Cenhedloed:
27 (Ac [efe] a'u bugeilia hwy â gwialen haiarn: fel llestri pridd y dryllir hwynt;) fel y derbyniais inneu gan fy Nhâd:
28 Ac mi a roddaf iddo y seren foreu.
29 Yr hwn sydd ganddo glust, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi.
PEN. III.
AC at Angel yr Eglwys sydd yn Sardis, scrifenna, Y pethau hyn y mae yr hwn sydd a saith Yspryd Duw, a'r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; mi a adwen dy weithredoedd di: oblegid y mae gennit enw dy fôd yn fyw, a marw ydwyt.
2 Bydd wiliadwrus, a sicrhâ y pethau sy yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn ger bron Duw.
3 Cofia gan hynny pa fodd y derbyniaist ac y clywaist; a chadw, ac edifarhâ Os tydi gan hynny ni wili, mi a ddeuaf arnati fel lleidr, ac ni chei di wŷbod pa awr y deuaf arnat.
4 Eithr y mae gennit ychydig enwau, îe yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad, a [hwy] a rodiant gyd â mi mewn [dillad] gwynion: oblegid teilwng ydynt.
5 Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wiscir mewn dillad gwynion: ac ni ddeleuaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei Angelion ef.
6 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi.
7 Ac at Angel yr Eglwys sydd yn Philadelphia, scrifenna, Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd;
8 Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrŵs agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennit ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair: ac ni wedaist fy Enw.
9 Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bôd yn Iddewon, ac nid yddynt, ond dywedyd celwydd y maent: wele meddaf, gwnaf iddynt ddyfod, ac addoli e flaen dy draed, a gwŷbod fy môd i yn dy garu di.
10 O achos cadw o honot air fy ymmynedd i, minneu a'th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fŷd, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar.
11 Wele, yr wŷf yn dyfod ar frŷs: dal yr hyn sydd gennit, fel na ddygo neb dy goron di.
12 Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf yn golofn yn Nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a scrifennaf arno ef henw fy Nuw i, a henw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Ierusalem [Page 781] newydd, yr hon sydd yn descyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i, ac [mi a scrifennaf arno ef] fy Enw newydd i.
13 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrāndawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi.
14 Ac at Angel Eglwys y Laodiceaid, scrifenna, Y pethau hyn y mae Amen yn eu dywedyd, y tŷst ffyddlon a chywir, dechreuad creaduriaeth Duw:
15 Mi a adwaen dy weithredoedd di, nad ydwyt nac oer, na brwd: mi a fynnwn pe bait oer, neu frŵd.
16 Felly, am dy fôd yn glayar, ac nid ynoer nac yn frŵd, mi a'th chwydaf di allan o'm gennau:
17 Oblegid dy fôd yn dywedyd, Goludog wŷf, ac y mi a gyfothogais, ac nid oes arnaf eisieu dim: ac ni wŷddost dy fôd yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth.
18 Yr wŷf yn dy gynghori i brynu, gennifi aur wedi eu buro trwy dân, fel i'th gyfoethoger: a dillad gwynion, fel i'th wiscer, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; îra hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech.
19 Yr wŷfi yn argyoeddi, ac yn ceryddu y sawl yr wŷf yn eu caru: am hynny bydded zêl gennit, ac edifarhâ.
20 Wele, yr wŷf yn sefyll wrth y drws ac yn curo: os clyw nêb fy llais i, ac agoryd y drŵs, mi a ddeuaf i mewn atto ef, ac a swpperaf gyd ag ef, ac yntef gyd â minneu.
21 Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyd â mi ar fy ngorsedd-faingc, megis [Page 782] y gorchfygais inneu, ac yr eisteddais gyd a'm Tad ar ei orseddfaingc ef.
22 Yr hwn sydd ganddo glûst, gwrandawed beth y mae 'r Yspryd yn ei ddywedyd wrth yr Eglwysi.
PEN. IIII.
YN ôl y pethau hyn yr edrychais ac wele ddrŵs wedi ei agoryd yn y nêf, a'r llais cyntaf a glywais, [oedd] fel [llais] vdcorn yn ymddiddan â mi; gan ddywedyd, Dring i fynu ymma, a mi a ddangosaf i ti y pethau sy raid eu bôd ar ôl hyn.
2 Ac yn y man yr oeddwn yn yr yspryd: ac wele, yr oedd gorsedd-faingc wedi ei gosod yn y nêf, ac [vn] yn eistedd ar yr orsedd-faingc:
3 A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen Iaspis a Sardin: ac [yr oedd] enfys o amgylch yr orsedd faingc, yn debyg yr olwg arno i Smaragdus.
4 Ac ynghylch yr orsedd faingc [yr oedd] pedair gorsedd-faingc ar hugain: ac ar y gorsedd-feingciau y gwelais bedwar Henuriad ar hugain yn eistedd, wedi eu gwisco mewn dillad gwynion: ac yr oedd ganddynt ar eu pennau goronau aur.
5 Ac yr oedd yn dyfod allan o'r orsedd-faingc, fellt, a tharanau, a lleisiau: ac [yr oedd] saith o lampau tân yn llosci ger bron yr orsedd faingc, y rhai yw saith Yspryd Duw.
6 Ac o flaen yr orsedd-faingc [yr ydoedd] môr o wydr, yn debyg i grystal: ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac ynghylch yr orsedd-faingc, [yr oedd] pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ôl.
7 A'r anifail cyntaf [oedd] debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dŷn, a'r pedwerydd anifail [oedd] debyg i eryr yn ehedeg.
8 A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bôb vn o honynt, chwech o adenydd o'u hamgylch, ac [yr oeddynt] oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorphywys ddydd a nôs, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfodd.
9 A phan fyddo yr aniseiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,
10 Y mae y pedwar Henuriad ar hugain yn syrthio ger bron yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac yn addoli yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd: ac yn bwrw ei coronau ger bron yr orsedd-faingc, gan ddywedyd,
11 Teilwng wŷt o Arglwydd i dderbyn gogoniant, ac anrhydedd, a gallu: canys ti a greaist bôb peth, ac o herwydd dy ewyllys di y maent, ac y crewyd hwynt.
PEN. V.
AC mi a wela's yn neheulaw yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfaingc, lyfr wedi ei scrifennu oddi fewn ac oddi allan, wedi ei selio â saith sêl.
2 Ac mi a welais Angel crŷf yn cyhoedd i â llêf vchel, Phy sydd deilwng i agoryd y llyfr, ac i ddatod ei seliau ef?
3 Ac nid oedd nêb yn y nêf, ac yn y ddaiar, na than y ddaiar, yn gallu agoryd y llyfr, nac edrych arno.
4 Ac mi a wŷlais lawer, o achos na chaed nêb yn deilwng i agoryd, ac i ddarllen y llyfr, nac i edrych arno.
5 Ac vn o'r Henuriaid a ddywedodd wrthif, Nac wŷla; wele, y Llew yr hwn sydd o lwyth Juda, gwreiddyn Dafydd, a orchfygodd i agoryd y llyfr, ac i ddattod ei saith sêl ef.
6 Ac mi a edrychais, ac wele, ynghanol yr orsedd-faingc a'r pedwar anifail, ac ynghanol yr Hemiriaid, [yr oedd] Oen yn sefyll, megis wedi ei ladd, a chanddo saith gorn, a saith lygad: y rhai ydyw saith Yspryd Duw, wedi eu danfon allan i'r holl ddaiar.
7 Ac efe a ddaeth, ac a gymmerth y llyfr o ddeheu-law yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc.
8 A phan gymmerth efe y llyfr, y pedwar anifail, a'r pedwar Henuriad ar hugain, a syrthiasant ger bron yr Oen, a chan bôb vn o honynt yr oedd telynau, a phialau aur, yn llawn o arogl-darth: y rhai ydyw gweddiau 'r Sainct.
9 A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wŷt ti i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei selau ef: oblegid ti a laddwyd, ac a'n prynaist ni i Dduw trwy dy waed, allan o bôb llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl:
10 Ac a'n gwnaethost ni i'n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaiar.
11 Ac mi a edrychais, ac a glywais lais Angelion lawer ynghylch yr orsedd-faingc, a'r anifeiliaid, a'r Henuriaid: a'u rhifedi hwynt oedd fyrddiwnau o fyrddiwnau, a miloedd o filoedd:
12 Yn dywedyd â llêf vchel, Teilwng yw 'r Oen, yr hwn a laddwyd, i dderbyn gallu, a chyfoeth a doethineb, a chadernid, ac anrhydedd, a gogoniant, a bendith.
13 A phôb creadur ac sydd yn y nêf, ac ar y ddaiar, a than y ddaiar, a'r pethau sydd yn y môr, ac oll ac sy ynddynt, a glywais i yn dywedyd, I'r hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Oen [y byddo] y fendith, a'r anrhydedd, a'r gogoniant, a'r gallu, yn oes oesoedd.
14 A'r pedwar anifail a ddywedasant, Amen. A'r pedwar Henuriad ar hugain a syrthiasant [i lawr,] ac a addolasant yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
PEN. VI.
AC mi a welais pan agorodd yr Oen vn o'r seliau, ac mi a glywais vn o'r pedwar anifail yn dywedyd, fel trŵst taran, Tyred a gwêl.
2 Ac mi a welais, ac wele farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo: a rhoddwyd iddo goron, ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu.
3 A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl.
4 Ac fe aeth allan farch arall, [vn] coch: a'r hwn oedd yn eistedd arno y rhoddwyd iddo gymmeryd heddwch oddi ar y ddaiar, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr.
5 A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl. Ac mi a welais, ac wele farch dû, a'r hwn oedd yn eistedd arno, â chlorian ganddo yn ei law.
6 Ac mi a glywais lais ynghanol y pedwar anifail yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog: a'r olew a'r gwîn, na wna niwed iddynt.
7 A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred a gwêl.
8 Ac mi edrychais, ac wele farch gwelwlas: a henw yr hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gyd ag ef: a rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd [ran] o'r ddaiar, i lâdd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwyst-filod y ddaiar.
9 A phan agorodd efe y bummed sêl, mi a welais ran yr allor eneidiau y rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt.
10 A hwy a lefasant à llêf vchel, gan ddywedyd, Pa hyd Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu, ac yn dial ein gwaed ni, ar y rhai sy yn trigo ar y ddaiar?
11 A gŷnau gwynion a roed i bôb vn o honynt, a dywedpwyd wrthynt ar iddynt orphywys etto ychydig amser, hyd oni chyflawnid [rhîf] eu cyd weision, a'u brodyr, y rhai oedd [i gael] eu lladd, megis ac [y cawsent] hwythau.
12 Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl, ac wele, bu daiargryn mawr: a'r haul a aeth yn ddû fel sachlen flew, a'r lleuad a aeth fel gwaed.
13 A er y nef a syrthiasant ar y ddaiar, fel y mae 'r ffigys-bren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hescydwer gan wynt mawr.
14 A'r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd, a phôb mynydd, ac ynys a symmudwyd allan o'u lleoedd.
15 A brenhinoedd y ddaiar, a'r gwŷr mawr, a'r cyfoethogion, a'r pen-capteniaid, a'r gwŷr cedyrn, a phob gwr caech, a phôb gwr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogfeydd, ac ynghreigiau y mynyddoedd;
16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau, Syrthiwch arnommi, a chaddiwch ni o wŷdd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac oddiwrth lîd yr Oen:
17 Canys daeth dydd mawr ei ddigter ef; a phwy a ddichon sefyll?
PEN. VII.
AC yn ôl y pethau hyn, mi a welais bedwar Angel yn sefyll ar bedair congl y ddaiar, yn dal pedwir gwynt y ddaiar, fel na chwythei 'r gwynt ar y ddaiar, nac ar y môr, nac ar vn pren.
2 Ac mi a welais Angel arall yn dyfod i fynu oddi wrth godiad haul, a sêl y Duw byw ganddo: ac efe a lefodd â llêf vchel ar y pedwar Angel, i'r rhai y rhoddasid [gallu] i ddrygu'r ddaiar a'r môr,
3 Gan ddywedyd, Na ddrygwch y ddaiar, na'r môr, na'r preniau, nes darfod i ni selio gwasanaeth-wŷr ein Duw ni yn eu talcennau.
4 Ac mi a glywais nifer y rhai a seliwyd: [yr oedd] wedi eu selio gant a phedair a deugain o filoedd, o holl lwythau meibion Israel.
5 O lwyth Juda, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Ruben, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Gad, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio:
6 O lwyth Aser, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Nephthali, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Manasses, yr oedd deuddeng mil wedi eu selio:
7 O lwyth Simeon yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Lefi, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Isachar, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio:
8 O lwyth Zabulon, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: O lwyth Joseph, yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio: o lwyth Benjamin yr oedd deuddeng-mil wedi eu selio.
9 Wedi hyn mi a edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allei neb ei rhifo, o bôb cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, yn sefyll ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron yr Oen, wedi eu gwisco mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo:
10 Ac yn llefain â llêf vchel, gan ddywedyd, Jechydwriaeth i'n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, ac i'r Oen.
11 A'r holl Angelion a safasant o amgylch yr orsedd-faingc, a'r Henuriaid, a'r pedwar anifail: ac a syrthiasant ger bron yr orsedd faingc ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
12 Gan ddywedyd, Amen: y fendith, a'r gogoniant, a'r doethineb, a'r diolch, a'r anrhydedd, a'r gallu, a'r nerth, [a fyddo] i'n Duw ni yn oes oesoedd. Amen.
13. Ac vn o'r Henuriaid a attebodd, gan ddywedyd wrthif, Pwy ydyw y rhai hyn sy wedi eu gwisco mewn gynau gwynion? ac o ba le y daethant?
14 Ac mi a ddywedais wrtho ef, Arglwydd, ti a wŷddost. Ac [efe] a ddywedodd wrthif, Y rhai hyn yw y rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr: ac a olchasant eu gŷnau, ac a'u cannasant hwy yngwaed yr Oen.
15 O herwydd hynny y maent ger bron gorsedd-faingc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nôs yn ei Deml: a'r hwn sydd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, a drîg yn eu plith hwynt.
16 Ni fydd arnynt na newyn mwyach, na syched mwyach: ac ni ddescyn arnynt na'r haul, na dim gwrès.
17 Oblegid yr Oen, yr hwn [sydd] ynghanol yr orsedd-faingc, a'i bugeilia hwynt, ac a'u harwain hwynt at ffynnhonnau bywiol o ddyfroedd: a Duw a sŷch ymmaith bôb deigr oddiwrth eu llygaid hwynt.
PEN. VIII.
A Phan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nêf, megis tros hanner awr.
2 Ac mi a welais y saith Angel, y rhai oedd yn sefyll ger bron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o vdcyrn.
3 Ac Angel arall a ddaeth, ac a safodd ger bron yr allor, a thusser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl darth lawer, fel yr offrymmei ef gyd â gweddiau yr holl Sainct ar y allor aur, yr hon [oedd] ger bron yr orsedd-faingc.
4 Ac fe aeth mŵg yr arogl darth gyd â gweddiau 'r Sainct, o law 'r Angel, i fynu ger bron Duw.
5 A'r Angel a gymmerth y thusser, ac a'i llanwodd hi o dân yr allor, ac a'i bwriodd i'r ddaiar: [Page 790] a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daiar-gryn.
6 A'r saith Angel, y rai oedd â'r saith vdcorn ganddynt, a ymbaratoesant i vdcanu
7 A'r Angel cyntaf a vdcanodd, a bu cenllysc, a thân, wedi eu cymmyscu â gwaed, a hwy a fwriwyd i'r ddaîar: a thraian y preniau a loscwyd, a'r holl lâswellt a loscwyd.
8 A'r ail Angel a vdcanodd, a megis mynydd mawr yn llosci gan dân a fwriwyd i'r môr: a thraian y môr a aeth yn waed.
9 A bu farw traian y creaduriad, y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt: a thraian y llongau a ddinistriwyd.
10 A'r trydydd Angel a vdcanodd, a syrthiodd o'r nêf seren fawr, yn llosci fel lamp, a hi a syrthiodd ar draian yr afonydd, ac ar ffynhonnau y dyfroedd:
11 A henw 'r seren a elwir Wermod, ac aeth traian y dyfroedd yn wermod, a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon.
12 A'r pedwerydd Angel a vdcanodd, a tharawyd traian yr haul, a thraian y lleuad, a thraian y sêr: fel y tywyllwyd eu traian hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draian, a'r nôs yr vn ffunyd.
13 Ac mi a edrychais, ac a glywais Angel yn ehedeg ynghanol y nêf, gan ddywedyd a llêf vchel, Gwae, gwae, gwae, i'r rhai sy 'n trigo ar y ddaiar, rhag lleisiau eraill vdcorn y tri Angel, y rhai sydd etto i vdcanu.
PEN. IX.
AR pummed Angel a vdcanodd, ac mi a welais seren yn syrthio o'r nêf i'r ddaiar; a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod.
2 Ac [efe] a agorodd y pydew heb waelod: a chododd mŵg o'r pydew fel mŵg ffwrnes fawr: a thywyllwyd yr haul, a'r awyr, gan fŵg y pydew.
3 Ac o'r mŵg y daeth allan locustiaid ar y ddaiar: a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan scorpionau 'r ddaiar awdurdod.
4 A dywedpwyd wrthynt na wnaent niwed i las-wellt y ddaiar, nac i ddim gwyrdd las, nac i vn pren: ond yn vnic i'r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau.
5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddei eu gofid hwy, fel gofid oddi wrth scorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dŷn.
6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac ni's cânt: ac a chwennychant farw, a marwolaeth a gilia oddi-wrthynt.
7 A dull y locustiaid [oedd] debyg i feirch wedi eu paratôi i ryfel: ac [yr oedd] ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a'u hwynebau fel wynebau dynion.
8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a'u dannedd oedd fel [dannedd] llewod.
9 Ac yr oedd ganddynt lurigau, fel llurigau haiarn: a llais eu hadenydd [oedd] fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel.
10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i scorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau [Page 792] hwy, a'u gallu [oedd] i ddrygu dynion bum mis.
11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt [sef] Angel y [pydew] di waelod: a'i henw ef yn Ebrew [ydyw] Abad-don, ac yn Roeg y mae iddo enw Apol-lyon.
12 Vn wae a aeth heibio, wele y mae yn dyfod etto ddwy wae yn ôl hyn.
13 A'r chweched Angel a vdcanodd, ac mi a glywais lêf allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd ger bron Duw,
14 Yn dywedyd wrth y chweched Angel, yr hwn oedd a'r vdcorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar Angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Euphrates.
15 A gollyngwyd y pedwar Angel, y rhai oedd wedi eu paratôi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent, y train o'r dynion.
16 A rhifedi y llu o wŷr meirch [oedd,] ddwy fyrddiwn o fyrddiwnau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt.
17 Ac fel hyn y gwelais i y meirch yn y weledigaeth, a'r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o [liw] hyacint a brwmstan: a phennau 'r meirch [oedd] fel pennau llewod, ac yr oedd yn myned allan o'u safnau dân, a mŵg, a brwmstan.
18 Gan y tri hyn y llâs traian y dynion, gan y tân, a chan y mŵg, a chan y brwmstan oedd yn dyfod allan o'u safnau hwynt
19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys eu cynffonnau [oedd] debyg i seirph, a phennau ganddynt: ac â'r rhai hynny y maent yn drygu.
20 A'r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plaau hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phrês, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio:
21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiath, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lledrad.
PEN. X.
AC mi a welais Angel crŷf arall yn descyn o'r nêf, wedi ei wisco â chwmwl: ac enfys [oedd] ar ei ben: a'i wyneb [ydoedd] fel yr haul, a'i draed fel colofnau o dân.
2 Ac yr oedd ganddo yn ei law lyfr bychan wedi ei agoryd: ac [efe] a osododd ei droed dehau ar y môr, a'i asswy ar y tîr,
3 Ac a lefodd â llêf vchel, fel y rhua llew: ac wedi iddo llefain, y faith daran a lefarasant eu llefau hwythau.
4 Ac wedi darfod i'r saith daran lefaru eu llefau, yr oeddwn ar fedr scrifennu; ac mi a glywais lêf o'r nêf yn dywedyd wrthif, Selia y pethau a lefarodd y saith daran, ac na scrifenna hwynt.
5 A'r Angel, yr hwn a welais i yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr, a gododd ei law i'r nêf,
6 Ac a dyngodd i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, yr hwn a greodd y nêf, a'r pethau sydd ynddi, a'r ddaiar a'r pethau sydd ynddi, a'r môr a'r pethau sy ynddo, na byddei amser mwyach.
7 Ond yn nyddiau llêf y seithfed Angel, pan ddechreuo efe vdcanu, gorphennir dirgelwch [Page 794] Duw, fel y mynegodd efe iw wasanaethwŷr y Prophwydi.
8 A'r llêf a glywais o'r nêf, a lefarodd drachefn wrthif, ac a ddywedodd, Dôs, cymmer y llyfr bychan sydd wedi ei agoryd yn llaw 'r Angel, yr hwn sydd yn sefyll ar y môr, ac ar y tîr.
9 Ac mi a aethym at yr Angel, gan ddywedyd wrtho, Moes i mi y llyfr bychan. Ac efe a ddywedodd wrthif, Cymmer a bwyta ef yn llwyr: ac [efe] a chwerwa dy fol di: eithr yn dy enau y bydd yn felys fel mêl.
10 Ac mi a gymmerais y llyfr bychan o law 'r Angel, ac a'i bwytêais ef, ac yr oedd efe yn fy ngenau megis mel yn felys; ac wedi i mi ei fwyta ef, fy mol a aeth yn chwerw.
11 Ac efe a ddywedodd wrthif, Rhaid i ti drachefn brophwydo i bobloedd, a chenhedloedd, ac ieithoedd, a brenhinoedd lawer.
PEN. XI.
A Rhoddwyd i mi gorsen, debyg i wialen: a'r Angel a safodd, gan ddywedyd, Cyfod, a mesura Deml Dduw, a'r allor, a'r rhai sy yn addoli ynddi.
2 Ond y cyntedd sydd o'r tu allan i'r Deml, bwrw allan, ac na fesura ef, oblegid [efe] a roddwyd i'r Cenhedloedd: a'r ddinas sanctaidd a sathrant hwy ddeu-fîs a deugain.
3 Ac mi a roddaf [allu] i'm dau dŷst: a hwy a brophwydant: fîl, a deu cant [a] trugain o ddyddiau, wedi ymwisco â sachliain.
4 Y rhai hyn yw y ddwy olewydden, a'r ddau ganhwyllbren sydd yn sefyll ger bron Duw 'r ddaiar.
5 Ac os ewyllysia neb wneuthur niwed iddynt, y mae tân yn myned allan o'u genau hwy; ac yn difetha eu gelynion: ac os ewyllysia neb eu drygu hwynt, fel hyn y mae 'n rhaid ei lâdd ef.
6 Y mae gan y rhai hyn awdurdod i gau y nef, fel na lawio hi yn nyddiau eu prophwydoliaeth hwynt: ac awdurdod sydd ganddynt ar y dyfroedd, iw troi hwynt yn waed, ac i daro 'r ddaiar â phôb plâ, cyn fynyched ac y mynnont.
7 A phan ddarfyddo iddynt orphen eu tystiolaeth, y Bwystfil, yr hwn sydd yn dyfod allan o'r [pwll] di waelod a ryfela â hwynt, ac a'u gorchfyga hwynt, ac a'u llâdd hwynt.
8 A'u cyrph hwynt [a orwedd] ar heolydd y ddinas fawr, yr hon yn ysprydol a elwir Sodoma, a'r Aipht: lle hefyd y croes hoelwyd ein Harglwydd ni,
9 A'r rhai o'r bobloedd, a'r llwythau, a'r ieithoedd, a'r Cenhedloedd, a welant eu cyrph hwynt dri-diau a hanner, ac ni oddesant roi eu cyrph hwy mewn beddau.
10 A'r rhai sydd yn trigo ar y ddaiar a lawenhânt o'u plegid, ac a ymhyfrydant, ac a anfonant roddion iw gilydd: oblegid y ddau brophwyd hyn oedd yn poeni y rhai oedd yn trigo ar y ddaiar.
11 Ac yn ôl tridiau a hanner, yspryd bywyd oddi wrth Dduw a aeth i mewn iddynt hwy: a [hwy] a safasant ar eu traed, ac ofn mawr a syrthyodd ar y rhai a'i gwelodd hwynt.
12 A [hwy] a glywsant lef vchel o'r nef, yn dywedyd wrthynt, Deuwch i fynnu ymma. A [hwy] a aethant i fynu i'r nef mewn cwmmwl: a'u gelynion a edrychasant arnynt.
13 Ac yn yr awr honno y bu daiar-gryn mawr, a degfed [ran] y ddinas a syrthiodd, a lladdwyd yn y ddaiar-gryn saith mil o wŷr: a'r lleill a ddychrynasant, ac a roddasant ogoniant Dduw 'r nef.
14 Yr ail wae a aeth heibio, wele, y mae y drydedd wae yn dyfod ar frys.
15 A'r seithfed Angel a vdcanodd, a bu llefau vchel yn y nef, yn dywedyd, Aeth teyrnasoedd y bŷd [yn eiddo] ein Harglwydd ni, a'i Grist ef: ac [efe] a deyrnasa yn oes oesoedd.
16 A'r pedwar Henuriad ar hugain, y rhai oedd ger bron Duw yn eistedd ar eu gorseddfeingciau, a syrthiasant ar eu hwynebau, ac a addolasant Dduw,
17 Gan ddywedyd, Yr ydym yn diolch i ti ô Arglwydd Dduw Holl-alluog, yr hwn wŷt, a'r hwn oeddit, a'r hwn wŷt yn dyfod: oblegid ti a gemmeraist dy allu mawr, ac a deyrnesaist.
18 A'r Cenhedloedd a ddigiasant, a daeth dy ddîg di: a'r amser i farnu 'r meirw, ac i roi gwobr i'th wasanaethwŷr y Prophwydi, ac i'r Sainct, ac i'r rhai sydd yn ofni dy Enw, fychain a mawrion: ac i ddifetha y rhai sydd yn difetha 'r ddaiar.
19 Ac agorwyd Teml Dduw yn y nef, a gwelwyd arch ei gyfammod ef yn ei Deml ef: a bu mellt, a llefau, a tharanau, a daiar-gryn, a chenllysc mawr.
PEN. XII.
A Rhyfeddod mawr a welwyd yn y nef: gwraig wedi ei gwisco â'r haul, a'r lleuad tan ei thraed; ac ar ei phen goron o ddeuddeg seren:
2 A hi yn feichiog, a lefodd gan fôd mewn gwewyr, a gofid î escor.
3 A gwelwyd rhyfeddod arall yn y nef, ac wele ddraig goch fawr, a saith ben iddi, a deg corn; ac ar ei phennau saith goron.
4 A'i chynffon hi a dynnodd draian sêr y nef, ac a'u bwriodd hwynt i'r ddaiar: a'r ddraig a safodd ger bron y wraig yr hon ydoedd yn barod i escor, i ddifa ei phlentyn hi, pan escorei hi arno.
5 A hi a escorodd ar fâb gwr-ryw, yr hwn oedd i fugeilio yr holl Genhedloedd â gwialen haiarn: a'i phlentyn hi a gymmerwyd i fynu at Dduw, ac at ei orseddfaingc ef.
6 A'r wraig a ffodd i'r diffaethwch, lle mae genddi le wedi ei baratoi gan Dduw, fel y porthent hi yno fîl, a deu-cant, [a] thrug ain o ddyddiau.
7 A bu rhyfel yn y nef: Michael a'i angelion a ryfelasant yn erbyn y ddraig, a'r ddraig a ryfelodd, a'i hangelion hithau.
8 Ac ni orfuant, a'u lle hwynt ni's cafwyd mwyach yn y nef.
9 A bwriwyd allan y ddraig fawr, yr hên sarph, yr hon a elwir diafol, a Satan, yr hwn sydd yn twyllo 'r holl fŷd, efe a fwriwyd allan i'r ddaiar, a'i angelion a fwriwyd allan gyd ag ef.
10 Ac mi a glywais lef vchel yn dywedyd yn y nef, Yr awron y daeth iechydwriaeth, a nerth, a theyrnas ein Duw ni, a gallu ei Grist ef: canys cyhuddwr ein brodyr ni a fwriwyd i'r llawr, yr hwn oedd yn eu cyhuddo hwy ger bron ein Duw ni, ddydd a nôs.
11 A hwy a'i gorchfygasant ef trwy waed yr Oen, a thrwy air eu tystiolaeth hwynt: ac ni charasant eu heinioes hyd angeu.
12 O herwydd hyn llawenhewch, y nefoedd, a'r rhai ydych yn trigo ynddynt. Gwae y rhai sydd yn trigo ar y ddaiar, a'r môr, canys diafol a ddescynnod attoch chwi, a chanddo lid mawr, o herwydd ei fôd yn gwŷbod nad oes iddo ond ychydig amser.
13 A phan welodd y ddraig ei bwrw i'r ddaiar hi a erlidiodd y wraig a escorasei ar y mâb.
14 A rhoddwyd i'r wraig ddwy o adenydd eryr mawr, fel yr ehedai hi i'r diffaethwch iw lle ei hûn: lle yr ydys yn ei maethu hi yno tros amser, ac amseroedd, a hanner amser, oddi wrth wyneb y sarph.
15 A'r sarph a fwriodd allan o'i safn, ar ôl y wraig, ddwfr megis afon: fel y gwnai ei dwyn hi ymaith gyd â'r afon.
16 Ar ddaiar a gynhorthwyodd y wraig, a'r ddaiar a agorodd ei genau, ac a lyngcodd yr afon, yr hon a fwriodd y ddraig allan o'i safn.
17 A llidiodd y ddraig wrth y wraig, ac a aeth i wneuthur rhyfel â'r lleill o'i hâd hi, y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw, ac sy a thystiolaeth Jesu Grist ganddynt.
PEN. XIII.
AC mi a sefais ar dywod y môr, ac a welais fwystfil yn codi o'r môr, a chanddo saith ben, a deg corn; ac ar ei gyrn ddeg coron, ac ar ei bennau henw cabledd.
2 A'r Bwystfil a welais i oedd debyg i lewpard a'i draed fel [traed] arth, a'i safn fel safn llew a'r ddraig a roddodd iddo ef ei gallu, a'i gorsedd-faingc, ac awdurdod mawr.
3 Ac mi a welais vn o'i bennau ef megis wedi [Page 719] ei ladd yn farw, a'i friw marwol ef a iachawyd, a''r holl ddaiar a ryfeddodd ar ôl y Bwystfil.
4 A hwy a addolasant y ddraig, yr hon a roes allu i'r Bwystfil, ac a addolasant y Bwyst fil, gan ddywedyd, Pwy sydd debyg i'r Bwystfil? Pwy a ddichon ryfela ag ef?
5 A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru [pethau] mawrion, a chabledd; a rhoddwyd iddo awdurdod i weithio ddau fîs a deugain.
6 Ac efe a agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei Enw ef a'i Dabernacl, a'r rhai sy yn trigo yn y nêf.
7 A rhoddwyd iddo wneuthur rhyfel â'r sainct, a'u gorchfygu hwynt. A rhoddwyd iddo awdurdod ar bôb llwyth, ac iaith, a chenedl.
8 A holl drigolion y ddaiar a'i haddolant ef, y rhai nid yw eu henwau yn scrifennedig yn llyfr bywyd yr Oen, yr hwn a laddwyd er dechreuad y bŷd.
9 Od oes gan neb glust, gwrandawed.
10 Os yw neb yn tywys i gaethiwed, efe a â i gaethiwed: os yw neb yn lladd â chleddyf, rhaid yw ei ladd ynteu â chleddyf: dymma ymmynedd a ffydd y Sainct.
11 Ac mi a welais fwyst-fil arall yn codi o'r ddaiar, ac yr oedd ganddo ddau gorn, tebyg i oen a llefaru yr oedd fel draig.
12 A holl allu y bwyst-fil cyntaf y mae efe yn ei wneuthur ger ei fron ef; ac yn peri i'r ddaiar, ac i'r rhai sy yn trigo ynddi, addoli y bwyst-fil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol.
23 Ac y mae efe yn gwneuthur rhyfeddodau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddescyn o'r nêf i'r ddaiar, yngolwg dynion.
14 Ac y mae efe yn twyllo y rhai sy yn trigo ar y ddaiar, trwy y rhyfeddodau y rhai a roddwyd iddo ef eu gwneuthur ger bron y Bwyst-fil: gan ddywedyd wrth drigolion y ddaiar, am iddynt wneuthur delw i'r Bwyst-fil, yr hwn a gafodd friw gan gleddyf, ac a fu fyw.
15 A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddêlw y bwyst-fil fel y llefarei delw y bwyst fil, hefyd ac y parei gael o'r sawl nid addolent ddelw y bwystfil, eu lladd:
16 Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thlodion, rhyddion a chaethion, dderbyn nôd ar eu llaw ddehau, neu ar eu talcennau:
17 Ac na allei nêb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn a fyddei ganddo nôd, neu henw y Bwyst fil, neu rifedi ei henw ef.
18 Ymma y mae doethineb, Yr hwn sydd ganddo ddeall, bwried rifedi y bwyst-fil: canys rhifedi dŷn ydyw: a'i rifedi ef [yw] chwechant, a thrugain, [a] chwech.
PEN. XIV.
AC mi a edrychais, ac wele Oen yn sefyll ar fynydd Sion, a chyd ag ef bedair mîl, a saithugein-mil, a chanddynt Enw ei Dâd ef yn scrifennedig yn eu talcennau.
2 Ac mi a glywais lêf o'r nêf, fel llêf dyfroedd lawer, ac fel llêf taran fawr: ac mi a glywais lêf telynorion yn canu ar eu telynau.
3 A hwy a ganasant megis caniad newydd ger bron yr orsedd-faingc, a cher bron y pedwar anifail, a'r Henuriaid: ac ni allodd nêb ddyscu y [Page 801] gân, ond y pedair mil a'r saithugein-mil, y rhai a brynwyd oddi ar y ddaiar:
4 Y rhai hyn yw y rhai ni halogwyd â gwragedd: canys gwyryfon ydynt: y rhai hyn yw y rhai sy 'n dilyn yr Oen, pa le bynnag yr elo: y rhai hyn a brynwyd oddi wrth ddynion, yn flaenffrwyth i Dduw ac i'r Oen:
5 Ac yn eu genau ni chaed twyll: canys difai ydynt ger bron gorsedd-faingc Duw
6 Ac mi a welais Angel arall yn ehedeg ynghanol y nef, a'r Efengyl dragywyddol ganddo, i efangylu i'r rhai sy yn trigo ar y ddaiar, ac i bôb cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl;
7 Gan ddywedyd â llef vchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch iddo ogoniant, oblegid daeth awr ei farn ef: ac addolwch yr hwn a wnaeth y nef, a'r ddaiar, a'r môr, a'r ffynhonnau dyfroedd.
8 Ar Angel arall a ddilynodd, gan ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babylon, y ddinas fawr honno, oblegid hi a ddiododd yr holl Genhedloedd, â gwin llid ei godineb.
9 A'r trydydd Angel a'u dilynodd hwynt, gan ddywedyd â llef vchel, Os addola neb y Bwystfil, a'i ddelw ef, a derbyn ei nôd ef yn ei dalcen, neu yn ei law,
10 Hwnnw hefyd a ŷf o wîn digofaint Duw, yr hwn yn ddi-gymmysc a dywalltwyd yn phiol ei lid ef: ac efe a boenir mewn tân brwmstan yngolwg yr Angelion sanctaidd, ac yngolwg yr Oen:
11 A mŵg eu poenedigaeth hwy sydd yn myned i fynu yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorphywysdra ddydd a nôs, y rhai sydd yn addoli y [Page 802] bwyst-fil a'i ddelw ef, ac os yw neb yn derbyn nôd ei enw ef.
12 Ymma y mae ymmynedd y Sainct: ymma [y mae] y rhai sy yn cadw gorchymmynion Duw, a ffydd Jesu.
13 Ac mi a glywais lêf o'r nêf, yn dywedyd wrthif, Scrifenna, Gwyn eu byd y meirw y rhai sy yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd yr Yspryd, fel y gorphywysont oddi wrth eu llafur: a'u gweithredoedd sy yn eu canlyn hwynt.
14 Ac mi a edrychais, ac wele gwmmwl gwyn, ac ar y cwmwl [vn] yn eistedd, tebyg i Fab y dŷn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law grymmân llym.
15 Ac Angel arall a ddaeth allan o'r Deml, gan lefain â llêf vchel, wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmmwl. Bwrw dy grymman i mewn, a meda: canys daeth yr amser i ti i fedi; oblegid addfedodd cynhaiaf y ddaiar:
16 A'r hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, a fwriodd ei grymman ar y ddaiar: a'r ddaiar a fedwyd.
17 Ac Angel arall a ddaeth allan o'r Deml sydd yn y nêf, a chanddo ynteu hefyd grymman llym.
18 Ac Angel arall a ddaeth allan oddi wrth yr allor, yr hwn oedd a gallu ganddo ar y tan, ac a lefodd a bloedd vchel ar yr hwn oedd â'r crymman llym ganddo, gan ddywedyd, Bwrw i mewn dy grymman llym, a chascl ganghennau gwinwydden y ddaiar, oblegid addfedodd ei grawn hi.
19 A'r Angel a fwriodd ei grymman ar y ddaiar, ac a gasclodd win-wydden y ddaiar, ac a'i bwriodd i gerwyn fawr digofaint Duw.
20 A'r gerwyn a sathrwyd o'r tu allan i'r ddinas, [Page 803] a gwaed a ddaeth allan o'r gerwyn hyd at ffrwynau y meirch, ar hŷd mil a chwechant o stadau.
PEN. XV.
AC mi a welais arwydd arall yn y nêf, mawr a rhyfeddol, saith Angel, a chanddynt y saith bla diweddaf, oblegid ynddynt hwy y cyflawnwyd llid Duw.
2 Ac mi a welais megis môr o wydr wedi ei gymmyscu â thân: a'r rhai oedd yn cael y maes ar y bwyst-fil, ac ar ei ddelw ef, ac ar ei nôd ef, ac ar rifedi ei enw ef; yn sefyll ar y môr gwydr, a thelynau Duw ganddynt;
3 A chanu y maent gân Moses gwasanaethwr Duw, a chân yr Oen, gan ddywedyd, Mawr a rhyfedd [yw] dy weithredoedd, ô Arglwydd Dduw Holl-alluog, cyfiawn a chywir [yw] dy ffyrdd di, Brenin y Sainct.
4 Pwy ni'th ofna di, o Arglwydd, ac [ni] ogonedda dy Enw? oblegid [tydi] yn vnic [wyt] sanctaidd: oblegid yr holl genhedloedd a ddeuant ac a addolant ger dy fron di: oblegid dy farnau di a eglurwyd.
5 Ac yn ôl hyn mi a edrychais, ac wele yr ydoedd Teml pabell y dystiolaeth yn ynêf, yn agored
6 A daeth y saith Angel, y rhai yr oedd y saith blâ gan-ddynt, allan o'r Deml, wedi eu gwisco mewn lliain pûr a disclair, a gwregysu eu dwyfronnau â gwregysau aur.
7 Ac vn o'r pedwar anifail a roddodd i'r saith Angel saîth phiol aur, yn llawn o ddigofaint Duw, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd.
8 A llanwyd y Deml o fŵg oddi wrth ogoniant Duw, ac oddi wrth ei nerth ef: ac ni allei neb fyned [Page 804] i mewn i'r Deml, nês darsod cyflawni saith blâ y saith Angel.
PEN. XVI.
AC mi a glywais lêf vchel allan o'r Deml, yn dywedyd wrth y saith Angel, Ewch ymaith a thywelltwch phiolau digofaint Duw ar y ddaiar.
2 A'r cyntaf a aeth, ac a dywalltodd ei phiol ar y ddaiar: a bu cornwyd drŵg, a blin, ar y dynion oedd â nôd y bwystfil arnynt, a'r rhai a addolasent ei ddelw ef.
3 A'r ail Angel a dywalltodd ei phiol ar y môr, ac efe a aeth fel gwaed dŷn marw: a phôb enaid byw a fu farw yn y môr.
4 A'r trydydd Angel a dywalltodd ei phiol ar yr arfonydd, ac ar y ffynhonnau dyfroedd: a hwy a aethant yn waed.
5 Ac mi a glywais Angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn, o Arglwydd, ydwyti, yr hwn ŵyt a'r hwn oeddit, a'r hwn a fyddi, oblegid barnu o honot y pethau hyn.
6 Oblegid gwaed Sainct a Phrophwydi a dywalltasant hwy, a gwaed a roddaist iddynt iw yfed: canys y maent yn ei haeddu.
7 Ac mi a glywais [vn] arall allan o'r allor yn dywedyd, Jê Arglwydd Dduw Holl-alluog, cywir a chyfiawn, [yw] dy farnau di.
8 A'r pedwerydd Angel, a dywalltodd ei phiol ar yr haul: a [gallu] a roed iddo i boethi dynion â thân.
9 A phoethwyd y dynion â gwrês mawr, a hwy a gablasant Enw, Duw yr hwn sydd ag awdurdod ganddo ar y plaau hyn: ac nid edifarhasant i roi gogoniant iddo ef.
10 A'r pummed Angel a dywalltodd ei phiol ar orsedd-faingc y bwystfil: a'i deyrnas ef aeth yn dywyll: a hwy a gnoesant eu tafodau gan ofid:
11 Ac a gablasant Dduw y nêf, o herwydd eu poennau, ac o herwydd eu cornwydydd: ac nid edifarhasant oddi wrth eu gweithredoedd.
12 A'r chweched Angel a dywalltodd ei phiol ar yr afon fawr Euphrates: a sychodd ei dwfr hi, fel y paratoid ffordd brenhinoedd y dwyrain.
13 Ac mi a welais dri yspryd aflan, tebyg i lyffaint, [yn dyfod] allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwyst-fil, ac allan o enau y gau-brophwyd.
14 Canys ysprydion cythreuliaid yn gwneuthur gwyrthiau ydynt, y rhai sy 'n myned allan at frenhinoedd y ddaiar, a'r holl fŷd, iw casclu hwy i ryfel y dydd hwnnw, [dydd] mawr Duw Holl-alluog.
15 Wele, yr wŷfi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fŷd yr hwn sydd yn gwilio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef.
16 Ac efe a'u casclodd hwynt ynghŷd i le a elwir yn Ebrew, Armaged-don.
17 A'r seithfed Angel a dywalltod ei phiol i'r awyr, a daeth llêf vchel allan o Deml y nêf, oddi wrth yr orsedd-saingc, yn dywedyd, Darfu.
18 Ac yr oedd lleisiau, a tharanau, a mellt: ac yr oedd daiar-gryn mawr, y fath ni bu er pan yw dynion ar y ddaiar, cymmaint daiargryn, [ac] mor fawr.
19 A gwnaethpwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y Cenhedloedd a syrthiasant: a Babylon fawr a ddaeth mewn côf ger bron Duw, i roddi iddi gwppan gwîn digofaint ei lid ef.
20 A phôb ynys a ffôdd ymmaith, ac ni chaf wyd y mynyddoedd.
21 A chenllysc mawr fel talentau a syrthiasant o'r nêf ar ddynion: a dynion a gablasant Dduw am blâ 'r cenllysc: oblegid mawr iawn ydoedd eu plâ hwynt.
PEN. XVII.
A Daeth vn o'r saith Angel, oedd a'r saith phiol ganddynt, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd wrthif, Tyred, mi a ddangosaf i ti farnedigaeth y Buttain fawr sydd yn eistedd ar ddyfroedd lawer:
2 Gŷd â'r hon y putteiniodd brenhinoedd y ddaiar, ac y meddwyd y rhai sy yn trigo ar y ddaiar gan wîn ei phuttteindra hi.
3 Ac efe a'm dygodd i i'r diffaethwch yn yr yspryd, ac [mi] a welais wraig yn eistedd ar fwystfil o liw scarlad, yn llawn o henwau cabledd, â saith ben iddo, a dêc corn.
4 A'r wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor ac yscarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, ac â main gwerth-fawr a pherlau, a chanddi gwppan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd-dra, ac aflendid ei phutteindra.
5 Ac ar e'u thalcen [yr oedd] henw wedi ei scrifennu, DIRGELWCH, BABYLON FAWR, MAM PVTTEINIAID, A FFIEIDD-DRA 'R D-DAIAR.
6 Ac mi a welais y wraig yn feddw gan waed y Sainct, a chan waed merthyron Jesu: a phan ei gwelais, mi a ryfeddais â rhyfeddod mawr.
7 A'r Angel a ddywedodd wrthif, Pa ham y rhyfeddaist? myfi a ddywedaf i ti ddirgelwch y [Page 807] wraig, a'r bwyst-fil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sy a'r saith ben ganddo, a'r dec corn.
8 Y bwyst-fil a welaist, a fu ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fynu o'r pydew heb waelod, a myned i ddestryw: a rhyfeddu a wna y rhai sy yn trigo ar y ddaiar, (y rhai ni scrîfennwyd eu henwau yn llyfr y bywyd er seiliad y bŷd) pan welont y bwyst-fil, yr hwn a fu, ac nid yw, er ei fod.
9 Dymma 'r meddwl sydd â doethineb ganddo, Y saith ben, saith fynydd ydynt, lle mae 'r wraig yn eistedd arnynt.
10 Ac y mae saith frenin: pump a gwympasant, ac vn sydd, a'r llall ni ddaeth etto; a phan ddêl, rhaid iddo aros ychydig.
11 A'r bwyst-fil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntef yw 'r wythfed, ac o'r saith y mae, ac i ddestryw y mae yn myned.
12 A'r dêc corn a welaist, dêc brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant frenhiniaeth etto, eithr awdurdod fel brenhinoedd, vn awr y maent yn ei derbyn gyd â'r bwyst-fil.
13 Yr vn meddwl sydd i'r rhai hyn, a [hwy.] a rhoddant eu nerth, a'u hawdurdod, i'r bwyst-fil.
14 Y rhai hyn a ryfelant i'r Oen, a'r Oen a'u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin brenhinoedd: a'r rhai [sy] gyd ag ef, [sydd] alwedig, ac etholedig, a ffyddlon.
15 Ac efe a ddywedodd wrthif, Y dyfroedd, a welaist, lle mae 'r Buttain yn eistedd, pobloedd a thorfeydd ydynt, a chenhedloedd, ac ieithoedd.
16 A'r dec corn a welaist ar y bwyst-fil, y rhai hyn a gasant y Buttain, ac a'i gwnant hi yn vnic [Page 808] ac yn noeth, a'i chnawd hi a fwyttânt hwy, ac a'i lloscant hi â thân.
17 Canys Duw a roddodd yn eu calonnau hwynt wneuthur ei ewyllys ef, a gwneuthur yr vn ewyllys, a rhoddi eu teyrnas i'r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw
18 A'r wraig a welaist, yw y ddinas fawr sydd yn teyrnasu ar frenhinoedd y ddaiar.
PEN. XVIII.
AC yn ôl y pethau hyn, mi a welais Angel arall yn dyfod i wared ô'r nēf, ac awdurdod mawr ganddo: a'r ddaiar a oleuwyd gan ei ogoniant ef.
2 Ac [efe] a lefodd yn groch, â llêf vchel gan ddywedyd, Syrthiodd, sŷrthiodd Babylon fawr honno, ac aeth yn drigfa cythreuliaid, ac yn gadwriaeth pôb aderyn aflan, ac atcas.
3 Oblegid yr holl Genhedloedd a yfasant o wîn digofaint ei godineb hi: a brenhinoedd y ddaiar a butteiniasant gyd â hi, a marchnattawyr y ddaiar a gyfoethogwyd gan amlder ei moetheu hi.
4 Ac mi a glywais lêf arall o'r nêf yn dywedyd. Deuwch allan o honi hi fy mhobl i, fel na byddoch gyd-gyfrannogion o'i phechodau hi, ac na dderbynioch o'i phlaau hi:
5 Oblegid ei phechodau hi a gyrhaeddasant hyd y nêf, a Duw, a gofiodd ei hanwireddau hi.
6 Telwch iddi fel y talodd hithau i chwi, a dyblwch iddi y dau cymmaint yn ôl ei gweithredoedd: yn y cwppan a lanwodd hi, llenwch iddi yn ddau ddyblyg:
7 Cymmaint ac yr ymogoneddodd hi, ac y [Page 809] bu mewn moetheu, y cymmaint arall rhoddwch iddi o ofid a galar: oblegid y mae hi yn dywedyd yn ei chalon, Yr wŷf yn eistedd yn frenhines, a gweddw nid ydwyf, a galar ni's gwelaf ddim.
8 Am hynny yn vn dydd y daw ei phlaau hi, [sef] marwolaeth, a galar, a newyn; a hi a lwyrloscir â than, oblegid crŷf [yw] 'r Arglwydd Dduw, yr hwn sydd yn ei barnu hi.
9 Ac wŷlo am dani, a galaru trosti a wna brenhinoedd y ddaiar, y rhai a butteiniasant, ac a fuant fyw yn foethus gyd â hi, pan welont fŵg ei llosciad hi:
10 Gan sefyll o hirbell, gan ofn ei gofid hi; a dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno Babylon, y ddinas gadarn, oblegid mewn vn awr y daeth dy farn di.
11 A marchnattawŷr y ddaiar, a wŷlant, ac a alarant trosti, oblegid nid oes nêb mwyach yn prynu eu marsiandiaeth hwynt.
12 Marsiandiaeth o aur, ac arian, a meini gwerth-fawr, a pherlau, a lliain main, a phorphor, a sidan, ac yscarlad: a phôb coed Thynon, a phôb llestr o Ifori, a phob llestr o goed gwerthfawr iawn, ac o bres, ac o haiarn, ac o faen marmor,
13 A cinamon, a phêr-aroglau, ac enaint, a thus, a gwîn, ac olew, a pheillieid, a gwenith; ac yscrybliaid, a defaid, a meirch a cherbydau, a caeth-weision, ac eneidiau dynion.
14 A'r aeron a chwenychodd dy enaid a aethant ymaith oddi wrthit, a phob peth dainteithiol a gwych a aethant ymaith oddi wrthit: ac ni chei hwynt ddim mwyach.
15 Marchnatawŷr y pethau hyn, y rhai a gyfoethogwyd ganddi, a safant o hirbell oddi wrthi, gan ofn ei gofid hi, gan wŷlo a galaru:
16 A dywedyd, Gwae, gwae, y ddinas fawr honno, yr hon oedd wedi ei gwisco â lliain main, a phorphor, ac yscarlad, ac wedi ei gwychu ag aur, a meini gwerthfawr, a pherlau:
17 Oblegid mewn vn awr yr anrheithiwyd cymmaint cyfoeth. A phôb [llong.] lywydd, a phob cwmpeini mewn llongau, a llong-wŷr, a chynnifer ac y sy a'u gwaith ar y mor, a safasant o hirbell.
18 Ac a lefasant, pan welsant fŵg ei llosciad hi, gan ddywedyd, Pa [ddinas] debyg i'r ddinas fawr honno?
19 A hwy a fwriasant lwch ar eu pennau, ac a lefasant gan wŷlo, a galaru, [a] dywedyd, Gwae, gwae▪ y ddinas fawr honno, yn yr hon y cyfoethogodd yr holl rai oedd ganddynt longau ar y môr, trwy ei chôst hi, oblegid mewn vn awr yr anrheithiwyd [hi.]
20 Llawenha o'i phlegid hi y nêf, a [chwi] Apostolion sanctaidd a Phrophwydi, oblegid dialodd Duw arni trosoch chwi.
21 Ac Angel cadarn a gododd faen, megis maen melin mawr, ac a'i bwriodd i'r môr, gan ddywedyd, Fel hyn gyda rhuthr y teflir Babylon y ddinas fawr, ac ni cheir hi mwyach
22 A llais telynorion, a cherddorion, a phibyddion, ac vdcanwŷr, ni chlywir ynot mwyach; ac vn crefft-wr o ba grefft bynnag y bo, ni cheir ynot mwyach, a thrŵst maen melin ni chlywir ynot mwyach:
23 A llewyrch canwyll ni welir ynot mwyach: [Page 811] a llais priodas-fab a phriodas-ferch ni chlywir ynot mwyach: oblegid dy farchnattawŷr di oedd wŷr mawr y ddaiar, oblegid trwy dy swŷn-gyfaredd di y twyllwyd yr holl Genhedloedd.
24 Ac ynddi y caed gwaed Prophwydi a Sainct, a phawb a'r a lladdwyd ar y ddaiar.
PEN. XIX.
AC yn ôl y pethau hyn mi a glywais megis llef vchel gan dyrfa fawr yn y nêf, yn dywedyd, Aleluia; iechydwriaeth a gogoniant, ac anrhydedd a gallu, i'r Arglwydd ein Duw ni:
2 Oblegid cywir a chyfiawn [yw] ei farnau ef: oblegid efe a farnodd y Buttain fawr, yr hon a lygrodd y ddaiar â'i phutteindra, ac a ddialodd waed ei weision ar ei llaw hi.
3 Ac eilwaith y dywedasant, Aleluia: A'i mŵg hi a gododd yn oes oesoedd.
4 A syrthiodd y pedwar Henuriad ar hugain, ar pedwar anifail i lawr, ac a addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, gan ddywedyd, Amen, Aleluia.
5 A llêf a ddaeth allan o'r orsedd faingc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni, ei holl weision ef, a'r rhai ydych yn ei ofni ef, bychain a mawriō hefyd.
6 Ac mi a glywais megis llêf tyrfa fawr, ac megis llêf dyfroedd lawer, ac megis llêf taranau cryfion, yn dywedyd, Aleluia: oblegid teyrnasodd yr Arglwydd Dduw Holl-alluog.
7 Llawenychwn, a gorfoleddwn, a rhoddwn ogoniant iddo ef: oblegid daeth priodas yr Oen, a'i wraig ef a'i paratôdd ei hun.
8 A chaniatawyd iddi gael ei gwisco à lliain main glân a disclair: canys y lliain main ydyw cyfiawnder y Sainct.
9 Ac efe a ddywedodd wrthif, Scrifenna, Bendigedig [yw] y rhai a elwir i swpper neithior yr Oen. Ac efe a ddywedodd wrthif, Gwir eiriau Duw yw y rhai hyn.
10 Ac mi a syrthiais wrth ei draed ef, iw addoli ef: ac efe a ddywedodd wrthif, Gwêl na [wnelych hyn:] cyd-was ydwyf i ti, ac i'th frodyr, y rhai sy ganddynt dystiolaeth Jesu: addola Dduw: canys tystiolaeth Jesu ydyw yspryd y brophwydoliaeth.
11 Ac mi a welais y nêf yn agored, ac wele farch gwyn, a'r hwn oedd yn eistedd arno a elwyd Ffyddlon a Chywir, ac mewn cyfiawnder y mae efe yn barnu, ac yn rhyfela.
12 A'i lygaid [oedd] fel fflam dîn, ac ar ei ben [yr oedd] coronau lawer: [ac] yr oedd ganddo henw yn scrifennedig, yr hwn ni wyddei neb ond efe ei hun.
13 Ac [yr oedd] wedi ei wisco â gwisc wedi ei throchi mewn gwaed: a gelwîr ei enw ef, Gair Duw.
14 A'r lluoedd [oedd] yn y nêf a'i canlynasant ef ar feirch gwynion, wedi eu gwisco â lliain main, gwyn, a glin.
15 Ac allan o'i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daro y Cenhedloedd ag ef: ac efe a'u bugeilia hwynt â gwialen haiarn: ac efe sydd yn sathru cerwyn wîn digofaint a llîd Duw Hollalluog.
16 Ac y mae ganddo ar ei wisc, ac ar ei forddwyd henw wedi ei scrifennu, BRENIN BRENHINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI.
17 Ac mi a welais Angel yn sefyll yn yr haul: ac efe a lefodd â llêf vchel, gan ddywedyd wrth yr holl adar oedd yn ehedeg trwy ganol y nêf, Deuwch ac ymgesclwch ynghŷd i swpper y Duw mawr,
18 Fel y bwytaoch gîg brenhinoedd, a chîg pen-capteniaid, a chîg y cedyrn, a chîg meirch, a'r rhai sy yn eistedd arnynt, a chîg holl ryddion a chaethion, a bychain a mawrion.
19 Ac mi a welais y bwyst-fil, a brenhinoedd y ddaiar, a'u lluoedd wedi ymgynnull ynghyd i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn oedd yn eistedd ar y march, ac yn erbyn ei lu ef.
20 A daliwyd y bwyst-fil, a chyd ag ef y gaubrophwyd, yr hwn a wnaeth wrthiau ger ei fron ef, trwy y rhai y twyllodd efe y rhai a dderbyniasent nôd y bwyst-fil, a'r rhaî a addolasant ei ddelw ef: yn fyw y bwriwyd hwy i'r llyn tân yn llosci â brwmstan:
21 A'r lleill a laddwyd â chleddyf yr hwn oedd yn eistedd ar y march, yr hwn oedd yn dyfod allan o'i enau ef: a'r holl adar a gawsant eu gwala o'u cîg hwynt.
PEN. XX.
AC mi a welais Angel yn descyn o'r nêf, a chanddo agoriad [y pydew] di-waelod, a chadwyn fawr yn ei law.
2 Ac [efe] a ddaliodd y ddraig, yr hên sarph yr hon yw diafol, a Satan: ac a'i rhwymodd ef [tros] fil o flynyddoedd,
3 Ac a'i bwriodd ef i'r [pydew] di-waelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllei efe y Cenhedloedd mwyach, nes cyflawni 'r [Page 814] mïl o flynyddoedd: ac yn ôl hynny rhaid yw ei ollwg ef yn rhydd [tros] ychydig amser.
4 Ac mi a welais orsedd-feingciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a [welais] eneidiau y rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Jesu, ac am air Duw, ar rhai ni addolasent y bwystfil, na'i ddelw ef: ac ni dderbyniasent ei nôd ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo: a hwy a fuant fyw, ac a deyrnasasant gyd â Christ fil o flynyddoedd.
5 Eithr y lleill o'r meirw ni fuant fyw drachefn nes cyflawni 'r mîl blynyddoedd. Dymma 'r adgyfodiad cyntaf.
6 Gwynfydedig a sanctaidd [yw] 'r hwn sydd a rhan iddo yn yr adgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw, ac i Grist, ac a deyrnasant gyd ag ef fil o flynyddoedd.
7 A phan gyflawner y mîl-blynyddoedd, gollyngir Satan allan o'i garchar.
8 Ac efe a â allan i dwyllo y Cenhedloedd sydd ym-mhedair congl y ddaiar, Gog a Magog, iw casclu hwy ynghŷd i ryfel, rhif y rhai [sydd] fel tywod y môr.
9 A hwy a aethant i fynu ar lêd y ddaiar, ac a amgylchasant wersyll y Sainct, a'r ddinas anwyl, a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i wared o'r nêf, ac a'u hysodd hwynt.
10 A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle [y mae] y bwyst-fil a'r gau-brophwyd: a hwy a boenir ddydd a nôs, yn oes oesoedd.
11 Ac mi a welais orsedd-faingc wen fawr, [Page 815] a'r hwn oedd yn eistedd arni, oddi wrth wŷneb yr hwn y ffôdd y ddaiar a'r nêf: a lle ni chafwyd iddynt.
12 Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll ger bron Duw, a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw [llyfr] y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu scrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
12 A rhoddodd y môr i fynu y meirw oedd ynddo, a marwolaeth ac vffern a roddasant i fynu y meirw oedd ynddynt hwythau: a [hwy] a farnwyd bôb vn yn ôl eu gweithredoedd.
14 A marwolaeth ac vffern a fwriwyd i'r llyn o dan: hon yw 'r ail farwolaeth.
86 A phwy bynnag ni chafwyd wedi ei scrifennu yn llyfr y bywyd, bwriwyd ef i'r llyn o dân.
PEN. XXI.
AC mi a welais nêf newydd, a daiar newydd: canys y nêf gyntaf, a'r ddaiar gyntaf a aeth heibio: a'r môr nid oedd mwyach.
2 A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerusalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i wared o'r nêf, wedi ei pharatoi fel priodas-ferch wedi ei thrwssio iw gŵr.
3 Ac mi a glywais lêf vchel allan o'r nêf yn dywedyd, Wele [y mae] pabell Duw gyd â dynion, ac efe a drîg gyd â hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyd â hwynt, [ac a fydd] yn Dduw iddynt.
4 Ac fe sŷch Duw ymmaith bôb deigr oddi wrth eu llygaid hwynt, a marwolaeth ni bydd mwyach; na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach, oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio.
5 A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd-faingc, Wele, yr ŵyf yn gwneuthur pôb peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthif Scrifenna: canys y mae y geiriau hyn yn gywir, ac yn ffyddlon.
6 Ac efe a ddywedodd wrthif, Darfu: myfi yw Alpha ac Omega, y dechreu, a'r diwedd: i'r hwn sydd sychedic y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhâd.
7 Yr hwn sydd yn gorchfygu a etifedda bôb peth, ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntef a fydd i minneu yn fâb.
8 Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puttein-wŷr, swyn-gyfareddwŷr, a'r eulyn-addolwŷr, a'r holl gelwydd-wŷr, [y bydd] eu rhan yn y llyn sydd yn llosci â than a brwmstan, hwn yw 'r ail farwolaeth.
9 A daeth attaf vn o'r saith Angel yr oedd y saith phiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diweddaf: ac ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti y briodas-ferch, gwraig yr Oen.
10 Ac efe a'm dûg i ymmaith yn yr yspryd i fynydd mawr ac vchel, ac a ddangosodd i mi y ddinas fawr, Jerusalem sanctaidd, yn descyn allan o'r nêf oddi wrth Dduw:
11 A gogoniant Duw ganddi: a'i goleu hi [oedd] debyg i faen o'r gwerthfawroccaf, megis maen Iaspis, yn loyw fel Grisial:
12 Ac iddi fûr mawr ac vchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg Angel, a henwau wedi eu scrifennu arnynt, y rhai yw [henwau] deuddeg-llwyth plant Israel.
13 O du y dwyrain, tri phorth: o du y gogledd, [Page 817] tri phorth: o du y dehau, tri phorth. o du y gorllewin, tri phorth.
14 Ac [yr oedd] mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt henwau deuddeg Apostol yr Oen.
15 A'r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro y ddinas, a'i phyrth hi, a'i mûr.
16 A'r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a'i hŷd sydd gymmaint a'i llêd; ac efe a fesurodd y ddinas â'r gorsen, yn ddeuddeng-mil o stadau: a'i hŷd, a'i llêd, a'i huchder, sydd yn ogymmaint.
17 Ac efe a fesurodd ei mûr hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dŷn, hynny yw, eiddo 'r Angel.
18 Ac adeilad ei mûr hi, oedd o faen Iaspis: a'r ddinas oedd aur pûr, yn debyg i wydr gloyw.
19 A seiliau mûr y ddinas [oedd] wedi eu harddu â phôb rhyw faen gwerthfawr: y sail cyntaf, [oedd] faen laspis: yr ail, Saphyr: y trydydd Calcêdon: y pedweredd, Smaragdus:
20 Y pummed, Sardonyx, y chweched, Sardius: y seithfed, Chrysolithus: yr ŵythfed, Beril: y nawfed, Topazion: y decfed Chrysophrafus: yr vnfed ar ddeg, Hyacinthus: y deuddegfed, Amethystus.
21 A'r deuddeg porth, deuddeg perl [oeddynt,] a phôb vn o'r pyrth oedd o vn perl: a heol y ddinas oedd aur pûr, fel gwydr gloyw:
22 A Theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hol-alluog, a'r Oen, yw ei Theml hi.
23 A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r llevad i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i [Page 818] goleuodd hi, a'i goleuni hi [ydyw] yr Oen.
24 A Chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaiar yn dwyn eu gogoniant a'u hanrhydedd iddi hi.
25 A'i phyrth hi ni cheuir ddim y dydd: canys ni bydd nôs yno.
26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y Cenhedloedd iddi hi.
27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu scrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.
PEN. XXII.
AC efe a ddangosodd i mi afon bûr o ddwfr y bywyd, disclair fel grisial, yn dyfod allan o orsedd-faingc Duw, a'r Oen.
2 Ynghanol ei heol hi, ac o ddau tu 'r afon, [yr oedd] pren y bywyd, yn dwyn deuddeg [rhyw] ffrwyth, bôb mîs yn rhoddi ei ffrwyth: a dail y pren [oedd] i iachau y Cenhedloedd.
3 A phôb melldith ni bydd mwyach: ond gorsedd-faingc Duw a'r Oen a fydd ynddi hi: a'i weision ef a'i gwasanaethant ef.
4 A hwy a gânt weled ei wŷneb ef, a'i Henw ef [a fydd] yn eu talcennau hwynt.
5 Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth ganwyll, na goleuni haul, oblegid y mae yr Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesodd.
6 Ac [efe] a ddywedodd wrthifi, Y geiriau hyn [sy] ffyddlon a chywir, ac Arglwydd Dduw y Prohwydi sanctaidd, a ddanfonodd ei Angel, i ddangos i'w wasanaethwŷr y pethau sy raid iddynt fôd ar frŷs.
7 Wele, yr wŷf yn dyfod ar frŷs. Gwyn ei fŷd yr hwn sydd yn cadw geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn.
8 A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac [a'u] clywais: a phan ddarfu i mi glywed, a gweled, mi a syrthyais i lawr i addoli ger bron traed yr Angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn.
9 Ac efe a ddywedodd wrthifi, Gwêl na [wnelych:] canys cydwas ydwyf i ti, ac i'th frodyr y Prophwydi, ac i'r rhai sy yn cadw geiriau y llyfr hwn: addola Dduw.
10 Ac efe a ddywedodd wrthifi, Na selia eiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn: oblegid y mae 'r amser yn agos.
11 yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn etto; a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt etto: a'r hwn sydd gyfiawn bydded gyfiawn etto, a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd etto.
12 Ac wele, yr wyf yn dyfod ar frŷs, am gwobr [sydd] gyd â mi, i roddi i bôb vn, fel y byddo ei waith ef.
13 Myfi yw Alpha ac Omega, y dechreu a'r diwedd, y cyntaf a'r diweddaf.
14 Gwyn eu byd y rhai sy yn gwneuthur ei orchymynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mrhen y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy 'r pyrth i'r ddinas.
15 Oddiallan y mae 'r cŵn, a'r sŵyngyfareddwŷr a'r putein-wŷr, a'r llofruddion, a'r eulynaddol-wŷr, a phôb vn ac sy yn caru, ac yn gwneuthur celwydd.
16 Myfi Jesu a ddanfonais fy Angel, i dystiolaethu i chwi y pethau hyn yn yr Eglwysi, myfi yw [Page 820] gwreiddyn o hiliogaeth Dafydd, a'r seren foreu eglur.
17 Ac y mae yr Yspryd a'r briodas-ferch yn dywedyd, Tyred: a'r hwn sydd yn clywed, dyweded; Tyred: a'r hwn sydd a syched arno, deued, a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd.
18 Canys yr wyfi yn tystiolaethu i bôb vn sydd yn clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn: Os rhydd nêb [ddim] at y pethau hyn, Duw a rydd atto ef y plàau sy wedi eu scrifennu yn y llyfr hwn.
19 Ac o thyn nêb ymmaith [ddim] oddi wrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw a dynn ymmaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sy wedi eu scrifennu yn y llyfr hwn.
20 Yr hwn sydd yn tystiolaethu hyn sydd yn dywedyd, Yn wîr yr wŷf yn dyfod ar frŷs: Amen. Yn wîr, tyred Arglwydd Jesu.
21 Grâs ein Harglwydd ni Jesu Grist fyddo gyd â chwi oll. Amen.