PSAL. 1. Dyma wynebni y psalmau: yn dangos tycciant y duwiol ac aflwydd y rhai annuwiol.
Y Sawl ni rodia, dedwydd yw
yn ol drwg ystryw gyngor,
Ni saif ar ffordd troseddwr stôl,
nid eiste 'n stôl y gwatwor.
verse 2 Ond ei holl serch ef fydd yn rhwydd,
ar ddeddf yr Arglwydd vchod:
Ac ar ei ddeddf, rhydd ddydd a nos,
yn ddiddos ei fyfyrdod.
verse 3 Ef fydd fel pren plan ar lan dôl,
dwg ffrwyth amserol arno:
Ni chrina 'i ddalen, a'i holl waith,
alwydda 'n berffaith iddo.
verse 4 Nid felly bydd y drwg di rûs,
ond fel yr ûs ar gorwynt:
Yr hwn o'r tir â'i chwyth a'i chwâl,
anwadal fydd ei helynt.
verse 5 Am hyn y drwg ni saif mewn barr▪
o flaen y cadarn vniawn:
Na'r pechaduriaid mawr eu bâr,
ynghynulleidfa'r cyfiawn.
verse 6 Canys yr Arglwydd Dduw, fel hyn,
a edwyn ffyrdd gwirioniaid:
Ac ef ni ad byth y barhau,
'mo lwybrau pechaduriaid.
PSAL. 2. Mae'r prophwyd Dafydd yn yr yspryd glan yn rhag weled gwrth wyneb mawr i eglwys Christ. Lle mae efe yn newid personau yn yr ymadrodd, mae'r yspryd yn gryfach na rheswm dyn.
PAham y terfyfc gwyr y byd,
a pham y cyfyd rhodres?
Pam y mae'r bobloedd yn cyn-wan,
yn eubwriadau diles:
verse 2 Codi y mae brenhinoedd byd,
a'i bryd yn gyd-gynghorol:
Yn erbyn Duw a'i Ghrist (ein plaid)
y mae pennaethiaid bydol.
verse 3 Drylliwn eu rhwymau, meddant hwy
ni wnawn ni mwy vfydd-dod:
Ac ymaith taflwn eu trom iau,
Ni chânt yn frau 'mo'n gorfod.
verse 4 Ond Duw'r hwn sydd vwch wybrollen
a chwardd am ben eu geiriau:
Yr Arglwydd nef a wel eu bâr,
efe a'i gwatwar hwythau.
verse 5 Yna y dywaid yn ei lid,
a hyn fydd rhybrid iddyn:
O'i eiriau ef y cyfyd braw,
a'i ddig a ddaw yn ddychryn.
verse 6 Gosodais innau (meddai ef)
âllaw gref yn dragywydd:
Fy mrenin i, yn llywydd llon,
ar sanctaidd Sion fynydd.
verse 7 Dyma'r ddwedf a yn rhwydd
hon gan yr Arglwydd clywais:
Ti yw sy' mab (o'm perffaith ryw)
a heddyw i'th genhedlais.
verse 8 Gofyn ym, a mi yt' a'i rhydd,
holl wledydd iw 'tifeddu:
Y cenedlaethau dros y byd,
i gyd a gai'meddiannu.
verse 9 Ti a'i briwi hwynt yn dy farn,
â gwialen hayarn hayach:
Ti a'i maluri, hwythau ân
mor fân a llestri priddach.
verse 10 Am hyn yn awr frenhinoedd coeth,
byddwch ddoeth a synhwyrol:
A chwithau farnwyr cymrwch ddysg,
i ostwng terfysg fydol.
verse 11 Gwasnaethwch chwi yr Arglwydd nef,
ac ofnwch ef drwy oglud:
A byddwch lawen yn Nuw cu,
etto drwy grynu hefyd.
verse 12 Cusenwch y mab rhag ei ddig,
a'ch bwrw yn ffyrnig heibio:
A gwyn ei fyd pob calon lân,
a ymddiriedan yntho.
PSAL. 3. Achwyn Dafydd wrth Dduw rhag Absalom ei fab, a'i blaid; a chysur i'r eglwys.
O Arglwydd, amled ydyw'r gwyr,
y sydd drallodwyr imi:
Allawer iawn i'm herbyn sydd,
o ddydd i ddydd yn codi.
verse 2 Dwedai lawer o'r gwrthgyrch blaid
yn drwm am f' enaid eisoes:
Nid oes iddo yn ei Dduw Ior,
chwaith mawr ystor o'i einioes.
verse 3 Tithau O Arglwydd ymhob man,
ydwyd in darian ymy:
Fy' ngogoniant wyt: tu a'r nen,
y codi 'ymhen i fyny,
verse 4 Ar Dduw yr Arglwydd a'm holl lais
y gelwais yn dosturaidd,
Ac ef a'm clybu i ar frys,
o'i vchel freinllys sanctaidd.
verse 5 Mi orweddais, ac a gysgais,
ac mi a godais gwedi:
Canys yr Arglwydd oedd i'm dal,
i'm cynnal, ac i'm codi.
verse 6 Nid ofnaf fi, o'r achos hwn,
'mo fyrddiwn sydd yn barod:
O bobloedd, o'm amgylch yn dyn,
i'm herbyn wedi dyfod.
verse 7 Cyfod ti Arglwydd, achub fi,
dwry gosby fy' ngelynion:
Trewaist yr ên torraist eu daint,
er maint yr annuwiolion,
verse 8 I'r Arglwydd byth (o achos hyn)
y perthyn iechydwriaeth:
Ac ar ei bobl y disgyn gwlith,
ei fendith yn dra helaeth.
PSAL. 4. Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag ei elynion.
DUw fy' nghyfiownder clywaist fi
i'm cyni pan i'th elwais:
Rhyddheaist fi, dod y'm un wedd,
drugaredd, clyw fy oerlais.
verse 2 O feibion dynion hyd ha hyd
y trowch trwy gyd ymgabledd.
Fy' mharch yn warth? a hynny sydd
drwy gelwydd a thrwy wagedd.
verse 3 Gwybyddwch ethol o Dduw cûn,
iddo 'i hûn y duwiolaf:
A phan alwyf arno yn hy,
efe a wrendy arnaf.
verse 4 Ofnwch, a thewch, ac na phechwch,
meddyliwch ar eich gwely.
verse 5 Aberthwch, gobeithiwch Dduw ner,
rhodd cyfiownder yw hynny.
verse 6 Pwy (medd llaweroedd) y pryd hyn,
a ddengys yn ddaioni?
O Arglwydd, dercha d'wyneb pryd,
daw digon iechyd ini.
verse 7 Rhoist i'n calon lawenydd mwy,
(a hynny trwy dy fendith:)
Nag a fyddai gan rai yn trin,
amlder o'i gwin a'i gwenith.
verse 8 Mi orweddaf ac a hunaf,
a hynny fydd mewn heddwch:
Cans ti Arglwydd o'th unic air,
a bair ym ddiogelwch.
PSAL. 5. Gweddi yn erbyn ei elynion, gan ddangos ei ymddygaid ei hûn tuag at Dduw, heb wneuthur cam â'i elynion.
ARglwydd clyw 'ngweddi yn ddiball,
Duw deall fy myfyrdod:
verse 2 Erglyw fy llais a'm gweddi flyn,
fy Nuw, a'm brenin hy glod.
verse 3 Yn forau gwrando fi fy Naf,
yn forau galwaf arnad:
verse 4 Cans nid wyd Dduw i garu drwg
ni thrig i'th olwg anfad.
verse 5 Ni saif ynfydion yn dy flaen,
na'r rhai a wnaen anwiredd:
Y thai hyn sydd gennyt yn gâs,
sef diflas yt bob gwagedd.
verse 6 Y rhai a ddwedant ffug a hud,
a phob gwyr gwaedlud creulon,
Ti a'i tynni hwynt wy o'r gwraidd,
fel ffiaith annuwiolion.
verse 7 Dof finnau tu a th dy mewn hedd,
am dy drugaredd galwaf:
Trwy ofn, a pharch, a gogludd dwys,
i'th sanctaidd egwys treiglaf.
verse 8 I'th gyfiownder arwain fi, Ner,
rhag blinder a chasineb.
Duw gwna dy gordd rhag ofn eu brâ
yn wastad rhag fy wyneb.
verse 9 Cans iw genau nid oes dim iawn,
mae llygredd llawn iw ceudod:
Eu gyddfau fel ceulannau bedd,
a gwagedd ar eu tafod.
verse 10 Dystrywia hwynt iw camwedd, Ion,
o'i holl hynghorion cwympant,
Hwnt a hwy, a'i holl ddrygioni,
i'th erbyn di rhyfelant.
verse 11 A'r rhai a'mddiried ynot ti
am yt' gysgodi drostynt:
(Llawen a fydd pob rhai a'th gâr)
cei fawl yn llafar gan hynt,
verse 12 Cans ti (Arglwydd) anfoni wlith
dy fendith ar y cyfion:
A'th gywir ferch fel tarian gref,
rhoi drosto ef yn goron.
PSAL. 6. Gweddi o drymder am ei bechodau: a phan gafas obaith, y mae yn dibrissio ei elyn, gan foli Duw.
O Arglwydd na cheridda fi,
ymhoethni dy gynddaredd:
Ac na chosba fi yn dy lid,
oblegid fy enwiredd.
verse 2 O Arglwydd dy drugaredd dod,
wyf lesg mewn nychdod rhybrudd:
O Arglwydd dyrd, iacha fi'n chwyrn,
mae f'esgyrn i mewn cystudd.
verse 3 A'm henaid i or llesgedd hyn,
y sydd mewn dychryn sceler:
Tithau O Arglwydd, paryw hyd?
rhoi arnaf ddybryd brudd-der.
verse 4 Duw gwared f'enaid, dychwel di,
iacha fi a'th drugaredd:
verse 5 Nid oes yn angau gof na hawl,
a phwy ath fawl o'r pridd-fedd,
verse 6 Diffygiais gan ochain bob nos,
mewn gwal anniddos foddfa:
Rwy'n gwlychu drwy y cystudd mau,
a'm dagrau fy' ngorweddfa.
verse 7 O ddig i'm cas a goddef drwg,
fy' ngolwg sy'n tywyllu:
A chan y dwfr a red yn rhaff,
ynt angraff ac yn pylu.
verse 8 Phob vn a wnelo, aed ymhell,
na dichell nac enwiredd;
Cans clybu yr Arglwydd fy llais,
pan lefais am drugaredd.
verse 9 Arglwydd clybu ef fy arch,
rhof finnau barch a moliant:
Fe dderbyn fy' ngweddi, a'm gwaedd,
am hyn yr haedd ogoniant.
verse 10 Fe wradwyddir, fe drallodir.
yn ddir fy' ngelynion:
Ac fo'i dychwelir drwy fefl glwth,
hwynt yn ddisymwth ddigon.
PSAL. 7. Erfyn ar Dduw ei gadw rhag cam gyhuddiad, a'i gydwybod yn lân.
O Achub fi fy Nuw, fy Ner,
cans mae fy hyder ynod:
Rhag sy erlidwyr gwared fi,
cans mae o'r rheini ormod.
verse 2 Rhag llarpio f'enaid fel y llew,
heb vn dyn glew a'm gweryd:
A'm rhwygo i yn ddrylliau mân,
fal dyna amcan gwaedlyd.
verse 3 O Arglwydd Dduw, os gwneuthym hyn,
os drwg y sy'n fy'nwylaw:
verse 4 Na thrwy ymddiried, dwyll i neb,
pe bawn wrthwyneb iddaw:
verse 5 I erlid f'oes y gelyn doed,
dalied, arhoed fi'n isaf.
A sathred f'urddas yn y llwch,
drwy'r diystyrwch eithaf.
verse 6 Cyfod o Dduw, cyfod i'th ddig,
a gostwng big pob gelyn:
A deffro drosof yn y farn,
sef cadarn yw d'orchymyn.
verse 7 Pan ddringych, yr holl bobl yn llu,
a ddaw o'th ddautu attad:
Duw dychwel i'th farn er eu mwyn,
a gwrando'n cwyn yn wastad.
verse 8 Duw dyro i'r bobl y farn dau,
a barn di finnau Arglwydd:
Ac fel yr haeddais dod farn iawn,
yn ol fy llawn berffeithrwydd.
verse 9 Derfid anwiredd y rhai drwg,
gwna'n amlwg ffordd y cyfion:
Cans vnion wyd, a chraff, Duw cu,
yn chwilio deutu 'r galon.
verse 10 Ac am fod Duw yn canfod hyn,
Duw yw f'amddiff yn innau:
Duw sydd iachawdwr i bob rhai,
sydd lân ddifai 'i calonnau.
verse 11 Felly mae Duw byth ar yr iawn,
a Duw yw'r cyfiawn farnydd:
Wrth yr annuwiol ar bob tro
mae Duw yn digio beunydd.
verse 12 Ac oni thry'r annuwiol râs,
fo lifa'i loywlas gleddau:
Ar ymyl y mae bwa'r Ion,
a'i barod lymion saethau.
verse 13 Sef arfau angau at y nod,
y maent yn bardd ddigon:
Ac ni saethau ef ergyd byrr
at yr elidwyr poethion.
verse 14 Wele hanes y gelyn drwg
efe a ymddwg ar draha:
O chwydd ar gamwedd, beichiog fydd,
ar gelwydd yr esgora.
verse 15 Cloddiodd ef bwll hyd eigion llawr,
o furiaid mawr i'r truan:
Ac ef syrthiodd ymron bawdd,
i'r dyfn iw glawdd ei hunan.
verse 16 E'i holl enwiredd ar ei ben.
o vchder nen a ddisgyn:
A Duw a ddymchwyl yr vn wedd,
ei gamwedd ar ei goryn.
verse 17 Im harglwydd Dduw rhof finnau glod,
câf ganfod ei gy fiownder.
A chanmolaf ei enw yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r vchelder.
PSAL. 8. Clod i Dduw, gan ryfeddu a diolch am gyflwr dyn.
O Arglwydd ein Ior ni a'n nerth,
mor brydferth wyd drwy'r holl fyd!
Dy enw, a'th barch, a roist vwch ben
dayar ac wybren hefyd.
verse 2 Peraist yt nerth a enau plant,
a rhai a sugnant beunydd,
Rhag d'elynion: tawed am hyn,
y gelyn a'r dialydd.
verse 3 Wrth edrych ar y nefoedd faith,
a gweled gwaith dy fysedd:
Ylloer, y ser, a threfn y rhod,
a'i gosod mor gyfannedd.
verse 4 Pa beth yw dyn yt' iw goffau,
o donniau ac anwylfraint?
Apheth yw mâb dyn yr vn wedd,
lle rhoi ymgeledd cymaint?
verse 5 Ti a wnaethost ddyn o fraint a phris,
ychydig îs Angylion:
Mewn mawr ogonient, parch, a nerth,
rhoist arno brydferth goron.
verse 6 Ar waith dy ddwylo is y nef,
y gwnaethost ef yn bennaeth:
Gan osod pob peth dan ei draed,
iddo y gwnaed llywodraeth,
verse 7 Defaid, gwartheg, a holl dda maes,
a'r adar llaes eu hesgyll:
Ehediaid nef, a'r pysg o'r don,
sy'n tramwy'r eigion erchyll.
verse 8 O Arglwydd ein Ior ni a'n nerth
mor brydferth wyd drwy'r hollfyd.
Dy enw a'th barch a roist vwchben,
daiar ac wybren hefyd.
PSAL. 9. Diolch am orfoledd, a deisyf ar Dduw ei ymddiffin rhag llaw.
CLodforaf fi fy' Arglwydd Ion,
o'm calon, ac yn hollawl:
Ei ryfeddodau rhof ar led,
ac mai'n ddyled eu canmawl.
verse 2 Byddaf fi lawen yn dy glod,
ac ynod gorfoleddaf:
I'th enw (o Dduw) y canaf glod,
wyd hynod, y Goruchaf,
verse 3 Tra y dychwelir draw'n ei hol,
fy holl elynol luoedd,
Llithrant o'th flaen, difethir hwy,
ni ddon hwy mwy iw lleoedd.
verse 4 Cans rhoist fy' marn yn fatter da,
gwnaethost eisteddfa vnion:
Eisteddaist ar y gwir, yn siwr,
tydi yw'r barnwr cyfion.
verse 5 Ceryddaist, a distrywiaist di
yn cenhedlaethi cyndyn:
Diwreiddiaist ynfyd yn y bon,
ni bydd byth son am danyn.
verse 6 Distrywiaist dithau (elyn glâs)
do lawer dinas hyfryd:
Darfu dy nerth byth, darfu hyn,
a'r cof o honyn hefyd.
verse 7 Ond yr Arglwydd iw nerth a fydd,
ac yn dragywydd pery:
A pharod fydd ein faingc i farn,
a chadarn ydyw hynny.
verse 8 Cans efe a farna y byd,
a'r bobl i gyd fydd yntho:
Trwy gyfiownder, heb ofni neb,
a thrwy vniondeb rhagddo.
verse 9 Gwna'r Arglwydd hefyd hyn wrth raid,
trueiniaid fo i hymddiffyn:
Noddfa a fydd i'r rhai'n mewn pryd,
pan fo caledfyd arnyn.
verse 10 A phawb a'th edwyn rhon eu cred,
a'i holl ymddiried arnad:
Cans ni adewaist (Arglwydd) neb,
a geisio'i wyneb attad.
verse 11 Molwch chwi'r Arglwydd, yr hwn sydd
yn sanctaidd fynydd Seion:
A dwedwch i'r bobl fal yr oedd
ei holl weithredoedd mowrion.
verse 12 Pan chwillo efe am waed neu drais,
fe gofia lais y truain:
Pan eisteddo a'r faingc y frawd,
fe glyw y tlawd yn germain.
verse 13 Dy nawdd Arglwydd, dydi ym'sydd
dderchafydd o byrth angau,
A gwel fy' mlinder gan' nghâs,
y sydd y'm cwmpas innau.
verse 14 Fel y mynegwyf dy holl wyrth,
a hyn ymhyrth merch Seion:
Ac fel y bwyf lawen a ffraeth,
i'th iechydwriaeth dirion.
verse 15 Y cenhedloedd cloddiasent ffos,
lle'i suddent, agos boddi:
I arall lle cuddiasant rwyd,
eu traed a faglwyd ynthi.
verse 16 Yr Arglwydd nef fal hyn yn wir,
adwaenir wrth ei farnau:
A'r annuwiol a wnaethai'r rhwyd,
yn hon y daliwyd yntau.
verse 17 Yr annuwiol i uffern aed,
ac yno gwnaed ei wely:
A'r rhai' ollyngant Dduw dros gof,
bydd yno fyth eu lletty,
verse 18 Cans byth y gwirion a'r dyn tlawd
hyd dyddbrawd nis anghofir:
Y gweiniaid a'r trueiniaid, hwy,
eu gobaith mwy ni chollir.
verse 19 O cyfod Arglwydd yn dy wyn,
na âd i ddyn mo'th orfod:
Barna'r cenhedloedd gar dy fron,
a'th farn yn vnion gosod.
verse 20 Gyrr arnynt Arglwydd ofn dy rym,
yn awchlym i'th elynion.
Fel y gwybyddont, pe baent mwy,
nad ydynt hwy ond dynion.
PSAL. 10. Achwyn rhag trais cedyrn bydol.
O Arglwydd pa'm y sefi di,
oddiwrthym ni cyn belled?
Pa'm yr ymguddi di i'th rym,
pan ydym mewn caethiwed?
verse 2 Y drygrai sydd yn blino'r tlawd,
gan drallawd, a chan falchder:
Yn y dichellion a wnai' rhai'n,
hwynt hwy eu hunain dalier.
verse 3 Hoff gan ddyn drwg ei chwant ei hun
pawb yn gytûn â'i bechod:
Bendithio mael ydyw eu swydd,
a'r Arglwydd maent iw wrthod.
verse 4 Yr annuwiol ni chais Dduw ner,
(mae ef iw falchder cyfuwch):
Ni chred ef, ac ni feddwl fod,
vn fâth awdurdod goruwch.
verse 5 Am fod ei ffyrdd mewn lwyddiant hir,
ni wyl mo'th wir gyfammod:
Bydd dordyn wrth elynion mân,
fel chwythu tân mewn sorod,
verse 6 Fe ddwedodd hyn â'i feddwl syth,
ni ddigwidd byth y'm adfyd:
Ni'm symudir o oes i oes,
ni chaf na gloes, na drygfyd.
verse 7 Yn ddichellgar, yn dwyllgar iawn,
a'i safn yn llawn melldithion:
Tan e'i dafod y mae camwedd,
a thraws enwiredd creulon.
verse 8 Mewn cilfechydd y disgwyl fan,
i lâdd y truan gwirion:
Ac ar y tlawd â llygad llym
yn dangos grym ei galon.
verse 9 Fe orwedd fel y llew iw ffau,
i fwrw ei faglau trowsion:
Y gwan a'r tlawd a dynn iw rwyd,
ac yno y daliwyd gwirion,
verse 10 Fe duchan, fe a'mgrymma ei hun,
fel un ar farw o wendid,
Ac ef yn gryf, â fel yn wael,
ar wan i gael ei ergyd.
verse 11 Yn ei galon, dwedodd am Dduw,
nad ydyw yn gofiadur:
Cuddiodd ei wyneb, ac ni wel
pa beth a wnel creadur,
verse 12 Cyfod Arglwydd, dercha dy law,
dy fod i'n cofiaw dangos:
Ac nag anghofia, pan fo rhaid,
dy weiniaid a'th werinos.
verse 13 Paham y cablant hwy wir Dduw,
yr enwir annuw lledffrom?
Pam y meddyliant arnat ti
nad ymofynni am danom?
verse 14 Gwelaist hyn: cans canfyddi drais,
a chospi falais anfad:
Tydi yw gobaith tlawd, a'i borth,
a chymorth yr ymddifad.
verse 15 Tor yr annuwiol rym
yn gyflym, a'r maleisus,
Cais allan eu hanwiredd hwy,
ni chai di mwy'n ddrygionus.
verse 16 Yr Arglwydd sydd yn frenin byth,
ef yw'r gwehelyth lywydd:
Distrywiwyd poh cenhedlaeth gref
o'i dir ef, yn dragywydd.
verse 17 Duw, gweddi'r gwan a glywaist di,
ac a gysuri i'r galon:
Tro eilwaith attom'y glust dau,
a chlyw weddiau ffyddlon.
verse 18 Tros yr ymddifaid y rhoi farn,
a'r gwan fydd cadarn bellach:
Megis nas gall daiarol ddyn
mo'r pwyso arnyn mwyach.
PSAL. 11. Aml brofedigaethau. Duw yn gwared allan o honynt, ac yn llywodraethu y da a'r drwg.
CRedaf i'r Arglwydd yn ddi-nam:
paham y dwedwch weithian
Wrth f'enaid, hwnt, a hed i'th fryn,
fel wrth aderyn bychan?
verse 2 Wele'rannuwiol a'i bwâu,
a'i cawell saethau'n barod,
Am wirioniaid yn llechu'n fain,
i saethu'r rhai'n o gysgod.
verse 3 Y seifain oll i lygredd aeth:
ond beth a wnaeth y gwirion?
verse 4 Mae'r Arglwydd yn ei ddinas gref,
fe weryd ef cyfion.
Yr Arglwydd o'i orseddfa fry
at y tlawd try ei olug,
Gweithredoedd holl hiliogaeth dyn,
iw lygaid ydyn amlwg.
verse 5 Mae'r Arglwydd o'r naturiaeth hon,
prawf gyfion er ymgeledd,
Ond câs yw gan ei enaid fo
ddyn drwg a hoffo wagedd.
verse 6 Ar bechaduriaid marwor, tân,
a brwmstan a ddaw'n gawod,
A gwynt ty mestlog vchel iawn,
fal dyna lawn wialennod.
verse 7 Cans cyfion ydyw' Arglwydd ner,
cyflownder mae'n ei garu;
A'i wyneb at yr vnion try,
a hynny iw ymgleddu.
PSAL. 12. Wrth weled anllywodraeth, y mae efe yn prophwydo, pen addfedo drygioni, y daw tro gwell.
O Achub bellach Arglwydd cu,
fe ddarfu'r trugarogion:
A'r holl wirionedd a'r ball aeth
o blith hiliogaeth dynion.
verse 2 A gwefus gweniaith dwedant ffug,
er twyll a hug i'r eiddyn:
A chalon ddyblyg yr vn wedd
y cair oferedd ganthyn.
verse 3 Yr Arglwydd torred o'i farn faith
wefusau'r gweniaith diles:
A'r holl dafodau ffrostus iawn
a fytho llawn o rodres.
verse 4 Gallwn orfod o nerth tafod,
dwy wefus y sydd eiddom:
Fal hyn y dwedant hwy yn rhwydd,
a phwy sydd Arglwydd arnom?
verse 5 Yntau ein Duw a ddwedodd hyn
rhag
[...]lethu'r gwaelddyn codaf:
Y dyn gofidus, tlawd, a'r caeth,
mewn iechydwriaeth dodaf.
verse 6 Pur iawn yw geiriau'r Arglwydd nef
a'i ddewid ef sydd berffaith,
Fel arian o ffwrn, drwy aml dro
wed'i goeth buro seithwaith.
verse 7 Ti Arglwydd, yn ôl dy air di,
a'i cedwi mewn hyfrydwch
Byth rhag y ddrwg genhedlaeth hon,
dy weision i gael heddwch.
verse 8 Pan dderchafer y trowsion blin,
da ganthyn drin anwiredd:
Felly daw dynion o bob parth
i fwyfwy gwarth o'r diwedd.
PSAL. 14. Yn erbyn traha ar Dduw, a dynion.
FE ddwedai'r ynfyd nad oes Duw,
ac felly byw drwy goegni;
Ymlygru'n ffiaidd, nichais gel:
nid oes a wnel ddaioni.
verse 2 O'r nef yr edrychodd yr Ion
ar holl drigolion daear,
A roddai neb ei goel a'r Dduw,
a cheisio byw'n ddeallgar.
verse 3 Fe giliodd pawb at lygredd byd,
ym droent i gyd mewn brynti:
Nid oes vn a wnel well nâ hyn,
nac vn a fyn ddaioni.
verse 4 Eu gwddf sy fedd agored cau
maent â thafodau 'strywgar.
A gwenwyn lindis sy'n parhau
dan eu gwefufan twyllgar.
verse 5 A'i genau llawn (fel gwenwyn llith)
o felldith, ac o fustledd:
Ac anian esgud yw eu traed,
i dywallt gwaed a dialedd.
verse 6 Distryw ac anhap sy'n eu ffyrdd
nidwaenant dryffyrdd heddwch:
Nid oes ofn Duw'n eu golwg hwy,
ni cheisiant mwy difeirwch.
verse 7 Pam? oni wyddant hwy eu bod
drwy bechod, y modd yma,
Yn ysu fy 'mhobl a'i cildroi,
vn wedd a chnoi y bara?
verse 8 Gweddi o'r Arglwydd hwy ni wnânt,
yn hyn dychrynant luoedd:
Am fod Duw'n dala gydâ'r iawn,
yn vn a'r cyfiawn bobloedd.
verse 9 Gwradwyddech gynt gyngor y tlawd
fal y gwnewch drallawd etto:
Am i'r tlawd gredu y doellwydd
oddiwth yr Arglwydd iddo.
verse 10 Pwy a all roi i Israel,
o Sion vchel iechyd?
Pwy ond ein Duw? yr hyn pan wnel,
bydd Iago ac Israel hyfryd.
PSAL. 16. Mae Dafydd yn enw'r eglwys yn ymroi i Dduw, yn coffau ei ddaioni, ac yn cydnadob fod ein holl ddedwddwch yntho ef, drwy Ghrist, a'i gyfodiad.
CAdw fi Duw, cans rhois fy 'mhwys
a'm coel yn dradwys arnad:
verse 2 Fy Arglwydd wyd: mae dan fy'mron,
y gyffes hon yn wastad.
Nad lles yt yw, na'm da, na'm rhin:
verse 3 ond i drin sanct daiarol,
I lesu'r rhai'n fy'wyllys yw,
y rhai sy'n byw'n rhinweddol.
verse 4 I'r rhai a redant at Dduw gau,
y daw gofidiau amlder:
Eu diod offrwm o waed, ni
offrymaf fi un amser.
verse 5 Ni henwaf chwaith, Yr Arglwydd yw
fy modd i fyw, a'm phiol:
A thydi Ior, sy'n rhoi'miran,
a chyfran yn ddigonol.
verse 6 A thrwy Dduw syrthiodd i mi ran,.
o fewn y fan hyfrydaf:
Digwyddodd ymy, er fy maeth,
yr etifeddiaeth lanaf.
verse 7 Bendithiaf finnau Dduw fy Ior,
hwn a roes gyngor ymmy,
F'arennau hefyd ddydd a nos,
sydd ym yn dangos hynny.
verse 8 Rhois fy Ner (bob awr) gar fy'mron,
o'r achos hon ni lithraf,
Cans mae ef ar fy' nehau law,
yma na thraw ni syflaf.
verse 9 O herwydd hyn, llawen a llon
yw fy'nghalon: ac eilwaith
Hyfryd yw fy'mharch a di-ddig,
a'm cnawd a drig mewn gobaith.
verse 10 Cans yn vffern ni edi di
mo'm henaid i, i aros:
Na'th anwyl sanct (drwy naws y bedd)
i weled llygredd ceuffos.
verse 11 Dangosi ym lwybr i fyw 'n iawn,
dy fron yw'r llawn llawenydd,
Cans yn dy nerth, nid yn y llwch,
mae digrifwch tragywydd.
PSAL. 17. Achwyn rhag brenin Saul, a dangos ei deilyngdod yn yr achos.
OClyw gyfiownder Arglwydd mâd
ystyr fy' nâd i'th grybwyll,
Clust ymwrando a'r weddi fau
sydd o wefusau didwyll.
verse 2 Disgwilia' marn oddiwrthyt ti,
cans da y gweli'r vnion:
Profaist a gwyddost ganol nos
mor ddiddos ydyw'nghalon.
verse 3 Pan chwiliaist fi (da yw dy gof)
ni chefaist ynof gamwedd,
Fy' myfyr mâd nam meddwl llaes,
na ddoed ymaes o'm dannedd.
verse 4 I ockel cydwaith dynion drwg,
drwy d'air a'th amlwg cyngor,
Fordd y dyn trawsgryf haerllyd llym,
fe ddysgwyd ym ei hepgor,
verse 5 Ond yn dy vnion lwybrau di,
Duw, cynal fi yn wastad,
Rhag llithro allan o'th iawn hwyl,
Duw disgwyl fy'ngherddediad.
verse 6 Galw yr wyf arnad, am dy fod
yn Dduw parod i wrando,
Gostwng'dy glust, a chlyw yn rhodd
fy holl ymadrodd etto.
verse 7 Cyfranna dy ddaionus râd,
(ti rhwn wyt geidwad ffyddlon)
I'r rhai sy'n ymroi dan dy law,
rhag broch, a braw y trowsion.
verse 8 Cadw fi'n anwyl rhag eu twyll,
os anwyl canwyll llygad:
Ynghysgod dy adenydd di,
o cadw fi yn wastad.
verse 9 Rhag yr annuwiol a'i mawr bwys,
a rhag fy 'nghyfwys elyn,
Y rhai a gais fy enaid i,
gan godi yn fy erbyn.
verse 10 Maent hwy mor dordyn ac mor frâs
ac yn rhy gâs eu geiriau:
Ac yn rhoi allan ffrost ar led,
gan falched eu parablau.
verse 11 Maent hwn yn amgylchu yn flin
y lle yr ym m'n cyniwer,
Ac â'i golygon tua'r llawr
mewn gwg a thramawr hyder.
verse 12 Maent hwy fel llew, dan godi gwrych
a fai'n chwennych ysglyfaeth:
Neu fel llew ifaingc (er i les)
a geisiai loches hyfaeth.
verse 13 Cyfod Arglwydd, o'i flaen ef saf,
dy help a gaf i'm henaid,
A tharo i lawr â'th gleddyf noeth
yr enwir fflamboeth tanbaid.
verse 14 Rhag gwyr dy law, rhag gwyr y byd.
sy'ai rhan i gyd oddiymma,
Gan lenwi eu boliau, a rhoi iw plant
yn fawr eu chwant a'i traha.
verse 15 Minnau mewn myfyr, fel mewn hun
a welaf lun d'wynebpryd,
A phan ddihunwyf o'r hun hon
y byddaf ddigon hyfryd.
PSAL. 18. Dafydd yn diolch i Dduw, am ei orfoledd a'i frenhiniaeth, gan ddatgan gwrthiau Duw, yn rheoli hinon; y mae yn prophwydo am Grist.
O Ior fy'ngrym caraf d' ynfawr
fy' nghreiglawr, twr f'ymwared.
verse 2 Fy Nâf, fy' nerth, fy' nawdd, fy Nuw,
hwn yw fy holl ymddiried.
verse 3 Pan alwyf ar fy Ior hynod,
i'r hwn mae clod yn gyfion,
Yna i'm cedwir yn ddiau
rhag drygan fy' nghaseion.
verse 4 Gofidion angau o bob tu
oeddynt yn cyrchu i'm herbyn,
A llifodd afonydd y fall
yn ddiball, er fy'nychryn.
verse 5 Pan ydoedd fwyaf ofn y bedd,
a gwaedlyd ddiwedd arnaf,
Ag arfau angau o bob tu,
am câs yn nesu attaf;
verse 6 Yna ygelwais ar fy Ner,
ef o'r vchelder clywodd,
A'm gwaedd a ddaeth hyd gar ei fron,
a thirion y croesafodd.
verse 7 Pan ddigiodd Duw, daeth dayargryn,
a sail pob bryn a siglodd:
A chyffro drwy'r wlad ar' ei hyd,
a'r holl fyd a gynhyrfodd.
verse 8 O'i enau tân, o'i ffroenau tarth,
yn nynnu pobparth wybren:
verse 9 A chan gymylau dan ei draed,
du y gwnaed y ffursafen.
verse 10 Ac fal yr oedd ein Ior fel hyn,
vwch Cherubyn yn hedeg:
Ac vwch law adenydd y gwynt,
mewn nefol helynt hoywdeg.
verse 11 Mewn dyfroedd a chymylau fry,
mae'i wely heb ei weled.
verse 12 Ac yn eu gyru'n genllysg mân,
a marwor tân i wared.
verse 13 Gyrrodd daranau, dyna 'i lef,
gyrrodd o'r nef gennadon.
verse 14 Cenllysg, marwor tân mellt yn gwan,
fal dyna'i saethau poethion.
verse 15 Distrywiwyd dy gas: felly gynt
gan chwythiad gwynt o'th enau:
Gwasgeraist di, y moroedd mawr,
gwelwyd y llawr yn olau.
verse 16 Felly gwnaeth Duw a mi' run modd,
anfonodd, o'r vchelder.
Ac a'm tynnodd, o'r lle yr oedd
i'm hamgylch ddyfroedd lawer.
verse 17 Fe a'm gwaredodd Duw fal hyn,
oddiwrth fy' ngelyn cadarn:
Yn rhy drwm imi am ei fod,
rhof finnau glod hyd dyddfarn,
verse 18 Safent o'm blaen ni chawn ffordd rydd
tra fum yn nydd fy' ngofid:
Ond yr Arglwydd ef oedd i'm dal,
a'm cynal yn fy' ngwendid.
verse 19 Fy naf ei hûn a'm rhoes yn rhydd,
fe fu waredydd imy:
Ac o dra serch i mi y gwnaeth,
na bawn i gaeth ond hynny.
verse 20 Yr Arglwydd am gobrwya'n ol,
fy' ngwastadol gyfiawnder:
Ac yn ol glendid fy' nwy law,
tal i'm a ddaw mewn amser.
verse 21 Cans ceisiais ffyrdd fy Arglwydd ner,
ni wneuthym hyder ormod,
Na dim sceler erbyn fy' Nuw,
gochelais gyfryw bechod.
verse 22 Cans ei ddeddfau, maent ger fy mren
ai hollawl gyfion farnau:
Ac ni rois heibio'r un or rhai'n,
hwy ynt fynghoelfain innau.
verse 23 Bum berffaith hefyd o'i flaen, ac
ymgedwais rhag byw'n rhyddrwg
verse 24 A'r Arglwydd gobrwyodd fi'n llawn
yr hyn fu'n iawn iw olwg.
verse 25 I'r trugarog trugatedd rhoi,
i'r perffaith troi berffeithwrydd:
verse 26 A'r glan gwnei lendid, ac i'r tyn,
y byddi gyndyn Arglwydd.
verse 27 Cans mawr yw dy drugaredd di,
gwared i'r truan tawel:
Ac a ostyngi gar dy fron,
rai a golygon vchel.
verse 28 Tia oleui 'nghanwill i,
am hynny ti a garaf,
Tydi a droi fy' nos yn ddydd,
a'm tywyll fydd golenaf.
verse 29 Oblegid ynot ti, fy Naf,
y torraf trwy y fyddin:
Ie yn fy Nuw y neidia'n llwyr,
be tros y fagwyr feinin.
verse 30 Ys perffaith ydyw ffordd Duw nef
a'i air ef sydd buredig:
Ac i bob dyn yntho a gred
mae'n fwccled bendigedi
[...].
verse 31 Cans pwy sydd Dduw? dwedwch yn rhwydd,
pwy ond yr Arglwydd nefol?
A phwy sydd graig onid ein Duw,
sef, disigl yw'n dragwyddol.
verse 32 Duw a'm gwregysodd i a nerth,
a rhoes ym brydferth lwybrau.
verse 33 Fo roes fy'nrhaed ar hy-lwybr da,
gorseddfa'r vchel fannau.
verse 34 Efe fy'n dysgu rhyfel ym'.
gan roi grym i'm pawennau:
Fel y torrir bwa o ddur
yn brysur rhwng fy'mreichiau.
verse 34 Daeth o'th ddaioni hyn i gyd,
rhoist darian iechyd ymy:
A'th law ddeau yr wyd im'dwyn,
o'th fwynder yr wy'n tyfy.
verse 36 Ehengaist ymy lwybraw teg,
i redeg buan gamrau:
Nid oes ynof vn cymal gwan,
ni weggian fy' mynyglau.
verse 37 Erlidiais i fy' nghas yn llym,
a daethym iw goddiwedd:
Ac ni throis vn cam i'm hol mwy
nes eu bod hwy 'n gesanedd.
verse 38 Gwnaethym arnynt archollion hyll
fel sefyll nas gallasant:
Ond trwy amarch iw cig, a'i gwaed,
i lawdran draed syrthiafant.
verse 39 Gwregysaist fi a gwregys nerth,
at wres ac angerth rhyfel.
A'r rhai a ddaeth i'm herbyn i,
a gwympaist di'n ddiogel.
verse 40 Fal hyn y gwnaethost imi gau
ar warrau fy'ngelynion,
A'm holl gas a ddifethais i,
rhois hwynt i weiddi digon.
verse 41 Ac er gweiddi drwy gydol dydd
ni ddoe achubydd attynt,
Erg alw'r Arglwydd: ni ddoe neb
a roddai atteb iddynt,
verse 42 Maluriais hwy fel llwch mewn gwynt,
fal dyna helynt efrydd;
Ac my a'i sethrais hwynt yn ffrom,
fel pridd neu dom hoelydd.
verse 43 Gwaredaist fi o law fy' nghas,
rhoist hawb o'm cwmpas danaf:
Doe rai ni welsent fi er ioed
allaw, a throed, hyd attaf.
verse 44 Addaw vfydd-dod, ond fo gaid
gan blant estroniaid gelwydd:
verse 45 A phlant estroniaid twyll a wnant,
ond crynant iw stafellydd.
verse 46 Eithr byw yr Arglwydd ar fymlaid,
fy' nghraig feddigaid hefyd,
Derchafer Duw: yntho ef trig
fy' nerth a'm vnig Iechyd.
verse 47 Fy Nuw tra fo a'i nerth i'm dal
rhoi dial hawdd y gallaf.
A rholi pobloedd: cans efo
sydd yn eu twyso attaf.
verse 48 Fy 'ngwaredydd, a'm derchafydd,
o chyfyd rhai i'm herbyn,
Wyt ti o Dduw: a'm dug ar gais
rhag drwg a thrais y gelyn.
verse 49 Am hyn canmolaf di yn rhydd
o Arglwydd, Dduw y lluoedd:
Canaf dy glod: a hyn fydd dysg,
ymysg yr holl genhedloedd.
verse 50 Duw sydd yn gwneuthyr (o'i fawr rad)
fawrhâd i frenin Dafydd,
Ac iw eneiniog ei wellâd,
ac im hâd yn dragywydd.
PSAL. 19. Dangos gogoniant Duw eu greaduriaid, a'i gyfraith, a'i râs.
DAtgan y nefoedd fowredd Duw,
yr vnrhyw gwna'r flurfafen.
verse 2 Y didd y ddyd, a'r nos i nos,
sy'n dangos cwrs yr wybren.
verse 3 Er nad oes ganthynt air nac iaith,
da y dywaid gwaith Duw lywydd,
Diau nad oes na mor, na thir,
na chlywir eu lleferydd.
verse 4 Aeth eu sain hwy drwy yr holl fyd,
a'i geiriau hyd eithafoedd.
Yr haul teg a'i gwmpas sydd bell,
a'i babell yn y nefoedd.
verse 5 O'r hon y cyfyd ef yn rhod,
fel priod o'i orweddfa.
Iw gwrs cyrch drwy lawenydd mawr,
fel cawr yn rhedeg gyrfa.
verse 6 O eithaf hyd eithafoedd nef
y mae ef a'i amgylchiad,
Ac ni all dim (lle rhydd ei dro)
ymguddio o'i oleuad.
verse 7 Dysg yr Arglwydd sydd berffaith ddawn
a dry i'r iawn yr enaid,
Felly rhydd ei wir dystiolaeth
wybodaeth i'r ffyddloniaid.
verse 8 Deddsau Duw Ion ydynt vnion,
llawenant galon ddiddrwg,
A'i orchymyn sydd bur diau,
a rydd olau i'r golwg.
verse 9 Ofn yr Arglwydd sydd lân: ac byth
y pery'n ddilyth hyfryd,
Barnau'r Arglwydd ynt yn wir, llawn
i gyd, a chyfiawn hefyd.
verse 10 Mwy deisyfedig ynt nac aur,
ie na choethaur lawer,
Melysach hefyd ynt na'r mel,
sef dagrau terfel tyner.
verse 11 Cans ynthynt dysgir fi, dy wâs
ar addasa, 'r vnionder:
A'r holl gamp sy o'i cadw nhwy,
felly cair gobrwy lawer.
verse 12 Er hynny i gyd, pwy a all
iawn ddeall ei gamweddau?
O gwna fi'n lân, (a bydd ddiddig)
o'm holl guddiedig feiau.
verse 13 Duw attal feiau rhyfig, chwant,
na thyfant ar fy' ngwarthaf:
Yno byddaf wedi 'nglanhau
o'm holl bechodau mwyaf.
verse 14 O Arglwydd, fy'mhrynwr a'm nerth
bydded yn brydferth gennyd.
Fy'madrodd, pan ddal gar dy fron,
a'm myfyr calon hefyd.
PSAL. 20. Y bobl yn bendithio eu brenin, ac yn gweddio yn erbyn eu gelynion, wrth fynd allan i ryfel.
GWrandawed di yr Arglwydd Ner
pan ddel cyfyngder arnad,
Enw Duw Iacob, ein Duw ni,
a'th gadwo di yn wastad.
verse 2 O'i gyseor rhoed yt help a nerth,
a braich o brydferth Scion:
verse 3 Cofied dy offrwm poeth a'th rodd,
bo'rhai'n wrth fodd ei galon.
verse 4 Rhoed ytty wrth dy fodd dy hûn,
dy ddynnmun a'th adduned:
Dy fwriad iach a'th arfaeth tau,
a'th weddiau gwrandawed.
verse 5 Yn enw ein Duw gorfoleddwn
yn hyf, a chodwn fener:
A'th ddeifyfiadau gwnaed yn rhwydd,
yr Arglwydd o'r uchelder.
verse 6 Yr Arglwydd gweryd (felly gwn)
o'i gyfegr drwn ei eneiniog:
Gwrendy ei arch, gyrr iddo rym,
yn gyflym ac yn gefnog.
verse 7 Rhai ar gerbydan rhont eu pwys,
rhai ar feirch ddwys ymddiried:
Minnau ar enw'r Arglwydd Dduw,
mai hwnnw yw'n ymwared.
verse 8 Hwy a'mroesant asyrthiasant,
yn eu nerth eisoes yno:
Codasom a safasom ni,
O Dduw, a thi i'n llwyddo.
verse 9 Cadw ni Arglwydd a'thlaw gref,
boed brenin y nef drosom:
Gwrandawed hwnnw arnom ni,
a'n gweddi pan y llefom.
PSAL. 21. Gorfoledd dros y brenin am orchfygu amryw dyrnasoedd a chenedloedd.
O Arglwydd, yn dy nerth a'th rin,
mae'r brenin mewn llawenydd:
Ac yn dy iechyd, yr un wedd,
mae ei orfoledd beunydd.
verse 2 Holl ddeisyfiad ei galon lân,
iddo yn gyfan dodaist:
Cael pob dymuniad wrth ei fodd,
ac o vn rhodd ni phellaist.
verse 3 Cans da'r achubaist ei flaen ef,
a doniau nef yn gyntaf:
Ac ar ei ben, (ddiaonus Ion,)
rhoist goron aur o'r puraf.
verse 4 Ef a ofynnodd gennyd oes,
arhoddaist hiroes iddo:
A hon dy rodd, dros byth y bydd,
nid a'n dragywydd heibio,
verse 5 I'th iechydwriaeth y mae'n byw,
a mawr yw ei ogoniant:
Gosodaist arno barch a nerth,
a phrydferth yw ei lwyddiant.
verse 6 Rhoist dysendithion vwch pob tawl,
yn rhydd dragwyddawl iddo:
A llewyrch d'wyneb byth a fydd,
yn fawr lawenydd arno.
verse 7 Am fod y breninn yn rhoi'i gred,
a'i'mddiried yn yr Arglwydd:
Dan nawdd y Goruchaf tra fo,
gwn na ddaw iddo dramgwydd.
verse 8 A thydi Arglwydd a'th law lân,
cei allan di elynion:
Rhag dy ddeheulaw (er a wnant)
ni ddiangant dy gascion.
verse 9 Di a'i gosodi 'n nydd dy ddigg,
fel ffwrnais ffyrnig danllyd:
Yr Arglwydd iw lid a'i difa,
a'rtân a'i hyfa'n enbyd.
verse 10 Diwreiddi di eu ffrwyth o'r tir,
a'i had yn wir ni thyccian:
verse 11 Am fwriadu yt ddrwg ddilen,
heb ddwyn i ben mo'i hamcan.
verse 12 Ti a'i gosodi hwy'r naill du,
a thi a'th lu iw herbyn:
Ac a lefeli dy fwau,
at eu hwynebau cyndyn.
verse 13 Ymddercha dithau f'Arglwydd, gûn,
i'th nerth dy hûn a'th erfid:
Ninnau a ganwn, o'n rhan ni,
i foli dy gadernid.
PSAL. 22. Prophwydoliaeth o ddioddefaint Christ, a'i weddi dros yr eglwys, a'i swyddau tragwyddol, yn brophwyd, yn offeiriaid, yn frenin.
DAngos fy Nuw, fy Nuw, a'm grym,
ba achos ym gadewaist:
Pell wyd o'm iechyd-ac o nâd,
fy'mloeddiad, llwyr i'm pellaist.
verse 2 Fy Nuw'rwy 'n llefain, tithau heb
roi ym' mor atteb etto,
Bob dydd a nos mae 'nghri 'n ddi-ffael,
a heb gael mo'm dihuddo.
verse 3 A thi wyd sanct, sanct i barhau,
lle daw gweddiau'n wastad:
A holl dy Israel a'i clod,
a'i pwys a'i hystod attad.
verse 4 Yno't gobeithiai'n tadau ni,
a thydi oedd eu bwccled:
Ymddiried ynot, Arglwydd hael,
ac felly cael ymwared.
verse 5 Llefasant drwy ymddiried gynt,
da fuost iddynt, Arglwydd:
Eu hachub hwynt a wnaethost di
rhag cyni a rhag gwradwydd.
verse 6 Fo'm rhifir innau megis pryf,
nid fel gwr cryf ei arfod:
Fel dirmyg dynion, a gwarth gwael,
a thybiant gael eu hystod.
verse 7 Pawb a'm gwelent, a'm gwatworent,
ac a'm min-gamment hefyd,
Ysgwyd eu pennau yn dra hy,
a chwedi hynny dwedyd,
verse 8 Ar yr Arglwydd rhoes bwys a chrêd,
doed ef iw wared allan,
Os myn ei ollwng ef ar lêd,
cymered iddo ei hunan.
verse 9 Duw tynnaist fi o groth fy mam,
rhoist ynof ddinam obaith,
Pan oeddwn i yn sugno hon,
ac o'i dwy fron am harchwaith.
verse 10 Arnat ti bwriwyd fi o'r bru,
arnat ti bu fy'mddiried:
Fy Nuw wyt ti o groth fy mam,
ffyddiais yt am fy'ng-wared.
verse 11 Oddiwrthif fi yn bell na ddos,
tra fo yn agos flinder,
I'm cymorth i', gan nad oes neb
a drotho'i wyneb tyner.
verse 12 Bustych lawer, a chrysion iawn▪
daethant yn-llawn i'm gogylch.
A theirw Basan o bob parth,
yn codi tarth o'm hamgylch.
verse 13 Egorant arnaf enau rhwth
i'm bygwth, fel y llewod,
A faent yn rhuo eisiau maeth,
o raib ysclyfaeth barod.
verse 14 Fel dwfr rwyfi nn diferu'n chwyrn,
a'm hesgyrn, sigla'r rhei'ni:
Fy'nghalon o'm mewn darfu'nllwyr,
fel cwyr a fai yn toddi.
verse 15 Fel priddlestr mae fy neth mor swrth,
ynglyn wrth fy 'ngorchfanau
Mae fy'nhafod, yr wyf mor drwch,
fy 'nghyfie yw llwch angau.
verse 16 Cans cwn cylchasant fir fy Nêr,
a chadfa sceler ddiffaith:
Cloddiasant fy nwy law a'm traed,
ac felly gwnaed fy artaith.
verse 17 A rhifo fy holl esgryn i,
gan gulni hawdd y gallaf,
Maent hwythau'n gweled hynny'n wych,
bob tro yn edrych arnaf.
verse 18 Rhyngthynt iw mysg y dillad mau
yn rhannau dosbarthasant,
A hefyd ar fy mrhif-wisc i
coelbrenni a fwriasant.
verse 19 Tithau fy nerth a'm harglwydd da,
nac ymbellâ oddiwrthy,
O bryssia, tydi yw fy mhorth,
a thyr'd, a chymorth ymy.
verse 20 O dyr'd, ac achub, er oes fau,
rhag ofn y cleddau ffyrnig,
A gwared o feddiant y ci
fy enaid i sy'n unig.
verse 21 Ymddiffyn fi rhag y llew glwth,
dwg o'i safn rhwth fy enaid,
Achub a gwrando fi yn chwyrn
rhag cyrn yr vnicorniaid.
verse 22 Mynegaf finnau d'enw ynbur
i'm brodur yn yr orsedd,
Lle mwya'r gynnulleidfa lân,
dy glod a wna'n gyfannedd.
verse 23 Hâd Iaco ac Israel, chywcwhi
rhai ych yn ofni'r Arglwydd,
Dwry ofn y rhowch iddo foliant,
a rhowch ogoniant ebrwydd.
verse 24 Cans ni'ch-llysodd, ni'ch dirmygodd,
ni chuddiodd ei wynebpryd,
Eithr gwrandawodd weddi y gwan,
a'i duchan yn ei adfyd.
verse 25 Honot ti bydd, ac i ti gwedd
mewn aml orfedd fy moliant.
I Dduw rhof f'addunedau'n llon
gar bron y rhai a'i hofnant.
verse 26 Diwellir y tlodion: a'r rhai
a geisiai at yr Arglwydd
A'i molant ef, fo gaiff (gwir yyw)
eich enaid fyw'n dragywydd.
verse 27 Trigolion byd a dront yn rhwydd
at yr Arglwydd pan gofiant:
A holl dylwythau'r ddaer hon
dônt gar ei fron, ymgrymant.
verse 28 Cans yr Arglwydd biau'a dyrnas.
a holl gwmpas y bydoedd:
Ac uwch eu llaw, ef unig sydd
ben llywydd y cenhedloedd.
verse 29 Y cyfoethogion a fwytânt,
addolant yn eu gwnfyd:
Rhai a ânt i'r llwch gar ei fron,
a rhai, braint meirwon hefyd,
verse 30 Y rhai'n oll a'i hâd, yn vn fryd
gwnânt iddo gyd wasanaeth:
A'r rhai'n ir Arglwydd drwy'r holl dir
a rifir yn genhedlaeth.
verse 31 Dont, dangosant ei vniondeb
y rhai sydd heb eu geni:
Hyn a addawodd, ef a'i gwnaeth,
hynny a ddaeth o ddifri.
PSAL. 24. Clôd i'r tabernacl, a dangos fod eglwys Dduw yma yn gyffelyb i'r eglwys nefol, a prophwydo am Ierusalem: cyneddfau y rhai a fydd cyfranogion o'r ddwy.
YR Arglwydd piau'r ddaiar lawr,
a'i llownder mawr sy'n eiddo:
Yr Arglwydd biauyr holl fyd,
a'r bobl i gyd sydd ynddo.
verse 2 Cans fo roes ei sail hi a'i gwedd
yn rhyfedd uwch y moroedd:
Ac a'i gosododd hi yn lân,
yn drigfan uwch llif-ddyfroedd.
verse 3 Er hyn: pwy a ddring a yn hy
i gysegr fry yr Arglwydd?
A phwy a saif, a theilwng wedd,
yng or sedd ei sancteid drwydd
verse 4 Dyn a llaw lân, a meddwl da,
ac yn ddidraha ei enaid,
Diorwag, ac ni roes ûn tro
er twyllo 'i gyfneseifiaid.
verse 5 Gan yr Arglwydd y caiff hwn wlith
ei raslawn fendith helaeth,
A chyfiawnder i bob cyfryw
gan Dduw yr iechydwriaeth.
verse 6 Hon sy gan dduw'n genhedlaeth gref,
a'i ceisiant ef yn effro,
A geisiant d'wyneb, dyma en maeth,
sef gwir genhedlaeth Iago.
verse 7 Derchefwch chwi byrth eich pennau,
a chwithau ddorau bythol,
Cans brenin mawr daw i'ch mewn chwi,
sef pen bri gogoneddol.
verse 8 Pwy yw'r brenin hwn gogonedd?
Arglwydd rhyfedd ei allu:
Yr Arglwydd yw, cyfion ei farn,
a chadarn i ryfelu.
verse 9 Derchefwch chwi byrth ych pennau,
ehengwch ddorau bythal,
Cans brenin mawr daw ich mewn chwi
brenin o fri gononol.
verse 10 Pwy meddwch ydyw'r brenin hwn,
a gofiwn ei ogoniant?
Ior y lluoedd yw, brenin hedd,
a gogonedd, a ffyniant.
PSAL. 25. Dafydd yn ei drallod yn cydnabod ei fai, a'i fod yn haeddu cospedigaeth: a thrwy amyrw fyfyrdod ysprydol, yn cael edifeirwch, a gobaith; ac yn rhoi diolch.
FArglwydd der
[...]hefais f'enaid i
hyd attad ti yn vnion.
verse 2 Fy Nuw, fy'ngobaith, gwarth ni châ
na lawen
[...]â 'ngelynion
verse 3 Sawl a obeithian ynot ti,
y rhe i'ni ni wradwyddir,
Gwarth i'r rhai a wnêl am i ham
ryw dwyll neu gam yn ddihir.
verse 4 Arglwydd dangos ym' dy fford di,
a phâr i mi ei deall:
Dysg ac arwain fi yr yn wedd
yn dy wirionedd diball.
verse 5 Cans tydi ydwyd Dduw fy maeth,
a'm iechydwriaeth vnig.
Dy ddisgwyl yr wyf rhyd y dydd,
a hynny fydd im diddig.
verse 6 O cofia dy nawdd a'th serch di,
a'th fawr dosturi Arglwydd,
Cofia fod ynot ti erioed,
lawn ddioed drugarogrwydd.
verse 7 Na chofia yr enwiredd mau,
na llwybrau fy iefenctyd:
Ond Arglwydd, coffa fy'nghûr i
er dy ddaioni hyfryd.
verse 8 Yr Arglwydd sydd vnion a da,
a'i ffyrth ym noddfa ydynt:
Fe arwain, (fel y mae yn rhaid)
y pechaduriaid ynthynt.
verse 9 Fe ddysg ei lwybrau mewn barn iawn,
i't rhai vfyddiawn ystig,
Hyddyfg yw ei ffyrdd i bob rhai
a fyddai ostyngedig.
verse 10 I'r sawl a gatwo ddeddfau'r Iôn,
a'i vnion dystiolaethau,
Guirionedd, a thrugaredd fydd
ei lywydd yn ei lwybrau.
verse 11 Er mwyn dy enw (o Arglwydd mau)
Duw maddau fy enwiredd,
Cans fy'nrhoseddiad i mawr yw,
mwy ydyw dy drugaredd.
verse 12 Mae, pa ryw wr yn ein mysg ni
sydd yn pûr ofni'r Arglwydd?
Fe ddengys y fforth iddaw fo,
hon a ddewiso'n ebrwydd.
verse 13 O hyn y caiff fy enaid cu
le i lettu'n esmwyth:
A'r holl ddaear hon a'i gwellâd,
a gânt ei hâd a'i dylwyth.
verse 14 Ei holl ddirgelwch a ddysg fo,
i'r sawl a ofno'r Arglwydd:
Ac oi' holl gyfanneddau glân,
efe a'i gwna'n gyfarwydd.
verse 15 Tueddu'r wyf fy, Arglwydd mâd,
yn wastad â'm golygon:
Cans ef yn vnic, (yn ddi oed)
rhydd fy nau droed yn rhyddion.
verse 16 Tro a
[...]taf, dod y'm nawdd diddig,
cans vnic wyf, a rhydlawd.
verse 17 Gofidiau 'nghalon ynt ar lêd,
Duw gwared fi o'm nychdawd.
verse 18 Duw, gwêl fy mlinder, a'm poen fawr,
a madde'n awr fy 'mhechod:
verse 19 Gwêl fy 'ngelynion a amlhânt,
ac a'm casânt yn ormod.
verse 20 Cadw f'enaid, ac achub fi,
na wnelo'r rheini 'm wradwydd:
Rhois fy mhwys arnat ti fy Nâf,
a rhodiaf mewn perffeithrwydd,
verse 21 Cadwed fi fy vniondeb maith,
cans rhois fy 'ngobaith ynod.
verse 22 Duw, cadw di holl Israêl,
gwared, a gwêl ei drallod.
PSAL. 26. Y mae Da
[...]ydd yn dangos ei ddiniweidrwydd: ac i ddangos nâd ffug, yw ei weddi, mae fe yn crio erbyn y rhai sydd yn arfer ffug sancteiddrwydd sef ei elynion.
BArnfi (o Dduw) a'chlyw fy llais,
mi a rodiais mewn perffeithrwydd
Ac ni lithraf'am ym'roi 'mhwys,
yn llownddwys ar yr Arglwydd.
verse 2 Prawf di fy muchedd Arglwydd da,
a hola dull fy mywyd,
A manwl chwilia'r galon fau,
a phrawf f'arennau hefyd.
verse 3 O flaen fy llygaid, wyf ar lêd
yn gweled dy drugaredd:
Gwnaeth dal ar hynny ar bob tro,
y'm rodio i'th wirionedd.
verse 4 Nid cyd eistedd gydâ gwagedd,
neu goegwyr yn llawn malais:
verse 5 Câs gennif bob annuwiol rith,
ac yn eu plith ni 'steddais.
verse 6 Mi olchaf fy nwy law yn lân,
cans felly byddyn, f'Arglwydd,
Ac a dueddaf t
[...]a'th gor,
ac allor dy sancteiddrwydd.
verse 7 Y modd hyn teilwng yw i mi,
luosogi dy folyant:
Sef, addas i mi fod yn lân,
i ddatcan dy ogoniant.
verse 8 Arglwydd cerais drigfan dy dy.
lle'a ery'dy anrhydedd:
verse 9 N'âd f'enaid i a'm hoes ynghyd
â'r gwaedlyd llawn enwiredd.
verse 10 Eu dwylaw hwynt sy sceler iawn,
y maent yn llawn maleisiau.
A dehau law yr holl rai hyn,
sy'n arfer derbyn gwobrau.
verse 11 Minnau'n ddiniwed, (felly gwedd)
ac mewn gwirionedd rhodiaf:
Gwared fi drwy dy ymgeledd,
cymer drugaredd arnaf.
verse 12 Fe saif fy nhroed i ar yr iawn,
ni syfl o'r uniawn droedfedd:
Mi a'th glodforaf, Arglwydd da,
lle bytho mwya'r orsedd.
PSAL. 27. Ffydd Dafydd tuag at Dduw, tra orfu arno fod allan o'r orsedd: a'i gysur i bawb yn eu blinder.
YR Arglwydd yw fy ngolau'gyd,
a'm iechyd: rhag pwy'r ofnaf?
Yr Arglwydd yw nerth fo'es: am hyn,
rhag pwy doe ddychryn arnaf?
verse 2 Pan ddaeth rhai anfad, sef fy'nghas,
o'm cwmpas er fy llyngcu,
Llithrasant a chwy npasant hwy,
ni ddaethont mwy i fynu.
verse 3 Ni ddoe ofn ar sy'nghalon gu,
pe cyrchai llu i'm herbyn:
Neu pe codai gâd y modd hwn,
mi ni wanffyddiwn ronyn.
verse 4 Un arch a erchais ar Dduw râf,
a hynny a archaf etto:
Cael dyfod i dy'r Arglwydd glân,
a bod a'm trigfan yntho:
I gael ymweled a'i Deml deg,
a hyfryd ostegynthi
Holl dyddaiau f'einioes: sef wyf gaeth
o fawr hiraeth am dani.
verse 5 Cans y dydd drwg fo'm cudd efe
iw Babell neu ddirgelfa:
Iw breswylfod, fel mewn craig gref,
caf gantho ef orphwysfa.
verse 6 Bellach fo'm codir uwch fy'nghâs,
sydd mewn galanas ymy;
Aberthaf-caraf, mola'r Ion
yn ffyddlon byth am hynny.
verse 7 Gwrando arnaf fy Arglwydd byw,
bryssia a chlyw fy oernâd:
Trugarhâ wrthif, gwyl fy'nghlwyf,
y pryd y galwyf arnad.
verse 8 Fel hyn mae 'nghalon o'm mewn i
yn holi ac yn atteb,
Ceisiwch fy wyneb ar bob tro:
fy Nuw rwy'n ceisio d'wyneb.
verse 9 Na chudd d'wyneb, na lys dy wâs,
fy mhorth a'm urddas fuost:
Duw fy iethyd na wrthod fi,
o paid a sorri'n rhydost.
verse 10 O gwrthyd fi fy'n hâd a'm mam
a'm dinam gyfneseifiad:
Gweddia'r Arglwydd, ef er hyn
o'i
[...]âs a dderbyn fenaid:
verse 11 Duw dysg i mi dy ffordd yn rhwydd
o lyrwydd fy' ngelynion,
Ac arwain fi o'th nawddol râd
yn wastad ar yr union.
verse 12 Ac na ddyro fi, er dy râs,
wrth fedd yr atcas elyn,
Cans ceisiodd fy'nghaseion mau
dystion gau yn fy erbyn,
verse 13 Oni bai gredu honof fi,
bum wrth fron torri'nghalon,
Y cawn i weled da Duw 'n rhâd
o fewn gwlâd y rhai bywion.
verse 14 Disgwyl di ar yr Arglwydd da,
ymwrola dy galon:
Ef a rydd nerth i'th galou di,
os iddo credi'n ffyddlon.
PSAL. 28. Gweddi trosto ei hûn, yn erbyn rhai trahaus
[...] Dduw a dyn: a bendithio'r eglwys.
ATtad (Ion fy nerth) y rho lef,
Duw nef na fydd di fyddar:
Os tewi, rhag fy myd mor drist,
a bod mewn cist dan ddaiar.
verse 2 O Arglwydd, erglyw fy llais i,
a derbyn weddi bruddaidd;
Pan gottwyf fy nwy law o bell,
Duw, tua'th gafell sanctaidd,
verse 3 Ac na ddarostwng fi, fy Ior,
dan ddwylo'r annuwolion
Y rhai sy'n arwain minau mel,
a rhyfel yn eu calon.
verse 4 Yn ol bwriad eu calon gau,
a'r twyll ddyfeifiau eiddynt,
Yn ol eu drwg weithredoedd hwy,
Duw tâl eu gobrwy iddynt.
verse 5 Am na 'styriant weithredoedd Duw,
ef a wna ddistrwy arnynt;
Am na welent ei wyrth a'r râd,
ni wna adeilad honynt.
verse 6 Bendigaid fytho'r Arglwydd nef,
fe glybu lef fy'ngweddi.
verse 7 Yr Arglwydd yw fy nerth, a'm rhan,
a'm tarian, a'm daioni.
Ymddiriedais iddo am borth
a chefais gymorth gantho:
Minnau o'm calon, drwy fawr chwant,
a ganaf foliant iddo.
verse 8 Yr Arglwydd sydd nerth i bob rhai,
a ymddiriedai'n hylyn:
A'i eneiniog ef a fydd maeth,
ac iechydwiraeth iddyn.
verse 9 Gwared dy bobl dy hun yn dda,
bendithia d'etifeddiaeth.
Bwyda, cysod hwy, am ben hyn
dod iddyn dragwyddolfaeth.
PSAL. 29. Erchi i gedyrn gydnabod a'r Arglwydd ei fod yn hollalluog: a dwyn y taranau a'i nerthoedd eraill, i arwyddo hynny.
RHowch i'r Arglwydd, a rhowch yn chwyrn,
chwi blant y cedyrn, foliant:
Cydnabyddwch ei barch, a'i nerth,
mor brydferth, a'i ogoniant.
verse 2 Rhoddwch i enw yr Arglwydd glod,
heb orfod mwy moch cymmell,
Addolwch Arglwydd yr hollfyd:
mor hyfryd yw ei Babell!
verse 3 Llais yr Arglwydd sydd vwch dyfroedd,
Duw cryf pair floedd y daran:
Uwch dyfroedd lawer mae ei drwn;
nid yw ei swn ef fychan.
verse 4 Llais yr Arglwydd, pan fytho llym,
a ddengys rym a chyffro:
A llais yr Arglwydd a fydd dwys,
fell y bo cymwys gantho.
verse 5 Llais yr Arglwydd a dyr yn fân
y Cedrwydd hirlan union,
Yr Arglwydd a dyr, yn uswydd,
y Cedrwydd o Libânon.
verse 6 Fel llwdn unicorn neu lo llon
fe wna'i Libanon lammu,
verse 7 A Sirion oll: llais ein Ior glân
a wna'i i fflam dân wasgaru.
verse 8 Llais yr Arglwydd, drwy ddyrys lyn,
a godai ddychryn eres:
Yr Arglwydd a wna ddychryn fflwch
drwy holl anialwch Cades.
verse 9 Lllais yr Arglwydd piau'r glod,
pair i'r ewigod lydnu:
Dinoetha goed: iw deml iawn yw
i bob rhyw ei foliannu.
verse 10 Yr Arglwydd gynt yn bennaeth oedd,
ar y llif-ddyfroedd cethrin:
Yr Arglwydd fu, ef etto sydd,
ac byth a fydd yn frenin.
verse 11 Yr Arglwydd a rydd iw bobl nerth,
dwry brydferth gyfanneddwch.
Yr Arglwydd a rydd ei bobl ymhlith
ei fendith, a hir heddwch.
PSAL. 30. Dafydd cyn cysegru ei dy i Dduw a aeth yn glaf,
[...]c wedi mynd yn iach mae fe yn diolch i Dduw, gan ddangos
[Page 25] i araill faint trugaredd Duw: addu
[...]ed i fod yn didiolchgar.
F'Arglwydd mi a'th fawrygaf di,
cans myfi a ddyrchefaist,
A'm gelynion i yn llawen
uwchlaw fy mhen ni pheraist.
verse 2 Fy Nuw, pan lefais arnat ti
y rhoddaist i mi iechyd,
verse 3 Cedwaist fy enaid rhag y bedd,
a rhag diwedd anhyfryd.
verse 4 Cenwch i'r Ion chwi ei holl sainct,
a maint yw gwrthiau'r Arglwydd;
A clodforwch'ef gar ei fron:
drwy gofion o'i sancteiddrwydd.
verse 5 Ennyd fechan y sai'n ei ddi'g,
o gael i fodd trig bywyd:
Heno brydnawn wylofain fydd,
y borau ddydd daw iechyd.
verse 6 Dywedais yn fy llwyddiant hir,
nim' syflir yn dragywydd:
O'th ddaioni dodaist, Dduw Ner,
sail cryfder yn fy mynydd.
verse 7 Cuddiaist dy wyneb ennyd awr,
a blinder mawr a gefais.
verse 8 Arnad (o Arglwydd) drwy lef ddir,
fy Arglwydd, i'r ymbiliais.
verse 9 Pa fudd (o Dduw) sydd yn fy ngwaed
pan fwyf dan draed yn gorwedd?
A phwy a gân yt, yn y llawr,
dy glod a'th fawr wirionedd?
verse 10 Clyw fi Arglwydd, a thrugarhâ,
dod gymorth da i'm bywyd,
verse 11 Can ys yn rhâd y trost fy mâr,
a'm ga
[...]ar, yn llywenfyd:
Am ytty ddattod fy sâch grys,
rhoist wregys o lawenydd:
verse 12 Molaf a chanaf â'm tafod,
i'm Arglwydd glod dragywydd.
PSAL. 31. Dafydd gwedi diangc o beryglon, yn dangos beth oedd ei fyfyrdod ef a'i ffydd pan oedd gaethaf arno: parod ddaioni Duw i'r fawl a'i hofnant. Cyngo
[...] i'r ffyddloniaid i ymddiried yn Nuw eu hymwaedydd.
MI a'mddiriedais ynod Ner,
fel na'm gwradwydder bythoed▪
Dvw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy'nghri hyd nefoedd.
verse 2 Gogwydd dy glust attaf ar frys,
o'th nefol lys i wared,
verse 3 A bydd ym' yn graig gadarn fiwr,
yn dy a thwr i'm gwared.
verse 4 Sef fy'nghraig wyd, a'm castell cryf,
wyf finau hyf o'th fowredd.
Er mwyn dy enw tywys fi,
ac arwain i drugaredd.
verse 5 A thynn fy fi o'r rhwyd i'r lann,
a roesan er fy maglu:
Cans fy holl nerth fydd ynot ti,
da gelli fy'ngwaredu.
verse 6 Dodaf fy yspryd yn dy law,
ac âf gar llaw i orwedd,
Da y gwaredaist fi yn fyw i
(Arglwydd Dduw'r gwirionedd)
verse 7 Llwyr y caseis y neb a sâg,
iw galon orwag aflwydd,
Ac mi a osodais yn llwyr faith
fy'ngobaith yn yr Arglwydd.
verse 8 Mi a'mhyfrydaf ynot ti,
canfuost fi mewn amser,
Ac adnabuost, wrth fy rhaid,
fy enaid mewn cyfyngder.
verse 9 Llawen fyddaf finnau am hyn,
i'm gelyn ni'm gwarcheaist;
Eithr fy'nrhaed i yn eang rydd
da beunydd y sefydlaist.
verse 10 O dangos dy drugaredd Dduw,
cans cyfyng ydyw arnaf,
Fy llygaid, f'enaid, a'm bol sydd
yn dioddef cyst ydd gwaelaf.
verse 11 Fy mywyd ym' gwir ofid oedd,
sy holl flynyddoedd, blinion,
verse 12 Fy nerth a ballodd o'm drwg cynt,
a'm esgrn ydynt bydron.
verse 13 A gwatuwor im' gelynion wyf,
fy'nghydblwyf a'm gwatworent:
Fy holl gym'dogon, a phob dyn,
gan ddychryn a'm gochelent.
verse 14 Fe a'm gollyngwyd 'i dros gof,
fal marw a fo esgeulus:
A hawdd yw hepgor y llestr twn,
o byddai hwn drwgflasus.
verse 15 Cans clywais ogan llawer dyn
o'm dautu, dychryn oerloes;
Hwy a'mgynghorent a'r bob twyn,
bwriadent ddwyn fy einioes.
verse 16 Ond yn fy'ngobaith (Arglwydd byw)
y dwedais fy N
[...]w ydwyd,
I mae f'amseroedd a'r dy law,
nid oes na braw nac arswyd,
verse 17 Dyred a gwared fi dy wâs,
oddiwrth fy'nghâs a'm herlid:
verse 18 A dangos d'wyneb ym'oth râ
[...]l,
rhag brâd y rhai sy'm hymlid.
verse 19 O Arglwydd, na wradwydder fi
a rois fy'ngweddi arnad:
Ond i'r annuwiol gwarth a wedd,
yn fud i'r bedd o lygriad.
verse 20 Cae gelwyddog wefusau y rhai'n
y sydd yn darffain crasder,
O ddiystyrwch, a thor tynn,
yn erbyn y cyfiawnder,
verse 21 O mor faw
[...] yw dy râd di-drai,
a roist i'r rhai a'th ofnant!
Cai o flaen meibion dynion glod,
ac y nod ymddiriedant.
verse 22 Oddiwrth syth-feilchion (o'th flaen di)
y cuddi hwynt yn ddirgel:
Cuddi yn dda i'r babell dau
rhag senn tafodau uchel.
verse 23 Mi a fendigaf Dduw yn hawdd:
dangosawdd y'm ei gariad,
A gwnaeth ryfeddod dros ei was,
mewn cadarn ddinas gaead.
verse 24 Ofnais i gynt o'm gobaith drwg
fy'nrhoi o'th olwg allan;
verse 25 Eithyr pan lefais arnat ti
y clywaist fi yn fuan.
verse 26 O cerwch Dduw ei hol sainct ef,
da y clyw lef ffyddloniaid:
Ac ef a dâl yn helaeth iawn,
i'r beilch anghyfiawn tanbaid.
verse 27 Cymerwych gy sur yn Nuw Ion,
ef a rydd galon ynoch:
Ac os gobeithiwch ynddo ef,
ei law yn gref bydd drosoch.
PSAL. 32. Dedwyddwch y sawl y maddeuwyd eu pechodau: cyfaddef ei bechodau y mae, a chael madde
[...]ant: cyngor i'r annuwiol i wellau, ae i'r duwiol i orfoleddu.
Y Sawl sy deilwng, gwyn ei fyd,
drwy fadde 'i gyd ei drosedd,
Ac y cysgodwyd ei holl fai,
a'i bechod, a'i anwiredd.
verse 2 A'r dyn (a gwnfyd Duw a'i llwydd)
ni chyfri'r Arglwydd iddo
Mo'i gamweddau: yr hwn ni châd
dim twyll dichell frâd yntho.
verse 3 Minnau, tra celwn i fy mai
yn hen yr ai' mhibellion:
A thrwy fy rhuad i bob dydd,
cystuddio y bydd fy'nghalon.
verse 4 Dy law dithau, y dydd a'r nos,
sydd drom drwy achos arnaf:
Troi ireidd-dra fy esgyrn mêr
fel sychder y gorphennaf.
verse 5 Yna y trois innau ar gais,
addefais fy enwiredd:
verse 6 Tyst yn fy erbyn fy hûn fûm,
maddeuaist y'm fy'nghamwedd,
verse 7 Amserol weddiau am hyn,
a rydd pob glanddyn arnad:
Rhag ofn mewn ffrydau dyfroedd maith,
na chaer mo'r daith hyd attad.
verse 8 Rhyw loches gadarn wyd i mi,
rhag ing i'm cedwi 'n ffyddlon:
Amgylchyni fy fi ar led
â cherdd ymwared gyson.
verse 9 Dithau (o ddyn) dysg geni fi
y ffordd y rhodi'n wastad,
Mi a'th gynghoraf di rhag drwg,
y mae fy ngolwg arnad.
verse 10 Fel y march neu y fûl na fydd,
y rhai y sydd heb ddeall:
Mae yn rhaid gen
[...]a new ffrwyn den,
i ddal eu pen yn wastad:
verse 11 Caiff annuwolion, a wnant gam,
fawr ofid am eu traha:
A ffyddloniaid Duw, da y gwedd,
trugaredd a'i cylchyna.
verse 12 Chwithau'r cyfion yn 'dirion ewch,
a llawenhewch yn hylwydd,
A phob calon fydd vnion syth,
clodforwch fyth yr Arglwydd.
PSAL. 33. Mae yn annog y duwiol i fod yn ddiolchgar i Dduw am ei amryw ddaioni, gan ddangos na eill un creadur gadw dyn, ond daioni Duw.
PArai bynnag, yn Nuw yr Ion,
sy gyfion, llawenychwch:
I bawb y sydd yn iawn yn byw
gueddus yw diolchgarwch.
verse 2 A thannau telyn molwch ef,
rhowch hyd y nef ogoniant
Ar y nabyl gywair ei thôn,
ac ar y gyson ddectant.
verse 3 Cenwych i'r Ion fawl a mawrhâd,
wiw gerdd o ganiad newydd:
Cenwch iddo yn llafar glod,
bid parod eich lleferydd.
verse 4 Am mai vnion ydyw ei air,
ffyddlon y cair ei weithred.
verse 5 Cyfiownder a barn ef a'i câr,
a'r ddaiar llawn o'i nodded.
verse 6 Gair yr Arglwydd a wnaeth y nef,
a'i Yspryd ef eu lluoedd:
verse 7 Casclai efe ynghyd y môr,
a'i drysor yw'r dyfnderoedd.
verse 8 Yr holl ddaiar ofned ein Duw,
a phob dyn byw a'i preswyl:
verse 9 Ei arch a saif, a'i air a fydd,
a hynny sydd i'w ddisgwyl.
verse 10 Ef a ddirymmodd, (fy Nuw Ior)
holl gyngor y cenhedloedd:
A thrwy lysiant gwnai yn ddi rym,
amcanion llym y bobloedd.
verse 11 Ond ei gyngor ei oddi fry,
a bery 'ndragwyddoliaeth:
A'i galon fryd efe ei hun,
vwch para vn genhedlaheth.
verse 12 A phob cenhedloedd, dedwydd ynt,
os Duw iddynt sydd Arglwydd:
A'i etholion, efe a'i gwnaeth
yn etifeddiaeth hylwydd.
verse 13 O'r nefoedd fry yr edrych Duw,
ar lwy brau pob rhyw ddynion,
Ac o'i breswylfa edrych ar,
y ddaiar a'i thrigolion.
verse 14 Yr hwn a luniodd galon dyn,
a edwyn ei weithredoedd:
verse 15 Ac ni chedwir vn bydol gûn,
o'i nerth ei hun na'i luoedd.
verse 16 A pheth palledig y dyw march,
i gael parch ac ymwared:
Ac ni all achub o law'r Ner,
mo'i farchog er ei gryfed.
verse 14 Wele lawn olwg Duw a'i wawl,
maent ar y sawl a'i hofno:
A'i dtugaredd ef sydd ar led,
i'r sawl a mddiried yntho.
verse 18 Er mwyn gwared, pan fo yn rhaid,
rhag angau enaid adyn:
Ac i borthi y tlawd yn glau,
rhag eisiau, a rhag newyn:
verse 19 Ein henaid gan yr Arglwydd hael,
sy'n disgwyl cael ei bywyd:
Efe a bytth ein henaid gwan,
efe yw'n tarian hefyd.
verse 20 Sef yn unig yn Nuw yr Ion,
mae'n calon yn llawenu:
Ac yn ei Enw sanctaidd ef.
mae hon yn gref yn credu.
verse 21 Duw dry drugarredd dod i ni,
sef ynot ti y credwn:
Dy dugaredd a'th nawdd i'n dod,
Cans ynod ymddiriedwn.
PSAL. 34. Dafydd wedi diangc rhag Achis, yn moli Duw, drwy roi addysg i ymddiried yn Nuw.
DIolchaf fi â chalon rwydd,
i'r Arglwydd bob amserau:
Ei foliant ef, a'i wir fawrhâd,
sy'n wastad yn fy'ngenau.
verse 2 Fy enaid sydd yn bostio'n rhwydd,
o'm Harglwydd, ac o'm perchen:
A phob difalch hynny a glyw,
ac a fydd byw yn llawen.
verse 3 Molwch fy Arglwydd gyd â mi,
cydfolwn ni ei enw ef:
verse 4 Criais arno yn fy ofn caeth,
a gwrando wnaeth fy ynglef,
verse 5 Y sawl a edrych arno ef,
â llewyrch nef eglurir:
Ni wradwyddir o honynt neb,
a'i hwyneb ni chwilyddir.
verse 6 Wele, y truan a roes lef,
a Duw o'r nef yn gwrando
A'i gwaredodd ef o'i holl ddrwg,
a'i waedd oedd amlwg iddo.
verse 7 Angel ein Duw a dry yn gylch,
o amgylch pawb a'i hofnant:
Ceidw ef hwynt: a llawer gwell
na chastell yw eu gwarant.
verse 8 O profwch, gwelwch, ddaed yw,
yr Arglwydd byw i'r eiddo:
A gwyn ei fyd pob dyn a gred,
roi ei ymddiried yntho.
verse 9 Ofnwch Ddduw ei holl sainct (heb gêl)
a'i gwnel ni bydd pall arnyn:
verse 10 Nag eisiau dim sydd dda: er bod,
ar gnawon llewod newyn.
verse 11 Chychwi feibion deuwch yn nes,
gwrandewch hanes ystyriol.
Dowch a dysgaf ichwi yn rhwydd,
ofni yr Arglwydd nefol.
verse 12 Y sawl a chwennych fywyd hir,
a gweled gwir ddaioni:
Cae dy enau rhag drwg di bwyll,
a'th safn rhag twyll a gwegi.
verse 13 Gwrthod ddrwg, gwna dda; a chais hedd,
hon hyd y diwedd dylyn:
A chadw'r heddwch wedi ei chael,
fal dyna ddiwael destyn.
verse 14 Y mae yr Arglwydd a'i olwg
ar y dyn diddrwg cyfion:
A'i glustiau ef o'i lawn wir fodd,
egorodd i'r thai gwirion.
verse 15 Wyneb yr Ion a'i guwch sy dynn,
yn erbyn gweithwyr diffaith:
Y coffa o honynt ef a'i tyrr;
ar fyrr o'r ddaiar ymaith,
verse 16 Hawdd y clybu fy Naf o'r nef,
leferydd llef y cyfion:
A thrâ buan (o'i râd a'i rodd)
y tynnodd o'i trallodion.
verse 17 Agos iawn yw ein Duw at gur
y galon bur ddrylliedig:
A da y ceidw ef bob pryd
yr yspryd cystuddiedig.
verse 18 Trwch, ie ac aflwyddiannus iawn,
a fydd gwr cyfiawn weithian:
Ei ddrygau oll, Duw oddi fry
a'i tyn, a'i try i'r gorau.
verse 19 Ceidw ei esgyrn ef ei hun
o honynt un ni ddryllir:
A drwg a laddo y drwg was,
â ffrwyth ei gas y lleddir.
verse 20 Either holl wasnaethwyr Duw ei hun,
yr Arglwydd gun a'i gwared:
I'r sawl a'mddiried yntho ef,
ni all llaw gref mor'r niwe
[...].
PSAL. 35. Dafydd yn gweddio am ddial ar weinieithwyr Saul, y rhai a'i herlidient; a thros ei gyfeillion ef. Ac yn addaw moli Duw yn dragywydd.
PLeidia (o Arglwydd) yn fy hawl,
â'r sawl a dery'n fer byn:
Lle'r ymrysonant â myfi,
ymwana di â'r gelyn.
verse 2 Mae dy gymorth? o moes ei gael,
ymafael yn y tarian:
O cyfod cais dy astalch gron,
a dwg dy waywffon allan.
verse 3 Argaua ar y rhai sy ar gam,
i'm herlid am fy mywyd:
Wrth fy enaid'dywaid fel hyn,
fy fi a fynn yt' iechyd.
verse 4 Gwarth, a gwradwydd a fo i bob gradd,
a geisio ladd fy enaid:
A thrwy gywilydd troed iw hol
y ffals niweidiol gablaid.
verse 5 Fel yr ûs o flaen gwynt y bon',
Angel yr Ior i'w chwalu:
verse 6 A rhyd ffordd dywyll lithrig lefn,
a hwn wrth gefn iw gyrru.
verse 7 Cloddio pwll, a chuddio y rhwyd,
a wnaethbwyd ym heb achos:
Heb achlysur, maglau a wnaid
i'm henaid yn y'cyfnos.
verse 8 O deued, cwymped yn ei rwyd,
yr hon a guddiwd allan:
Syrthied a glyned iw delm rhwyll,
a'i drapp o'i dwyll ei hunan.
verse 9 Eithr am fy enaid i (Amen)
bid llawen yn yr Arglwydd:
Fe a fydd hyfryd gantho hyn,
lle daw i'r gelyn aflwydd.
verse 10 O Arglwydd dywaid f'esgyrn i,
pwy sydd a thi un gyflwr?
Rhag ei drech yn gwared y gwan,
i'r truan rhag ei 'speiliwr.
verse 11 Tystion gau a godent yn llym,
a holent ym 'beth anfad:
verse 12 Drwg ym' dros dda talent heb raid,
a'm henaid braint ymddifad.
verse 13 Ond fi; tra fyddent hwy yn glâf,
rhown i'm nesaf liein-sach:
Drwy hîr ymostwng ac ympryd,
cymrais fy myd yn bruddach.
Yr un dosturiol weddi fau,
a ddaeth o'm genau allan,
A droes eilwaith (er fy lles)
i'm mynwes i fy hunan.
verse 14 Mi a ymddygais mor brudd dlawd,
fel am fy mrawd neu'nghymar:
Neu fel arwyl dyn dros ei fam,
ni cherdda'i gam heb alar.
verse 15 Hwythau yn llawen doent ynghyd,
pan bwysodd adfyd attaf.
Ofer ddynion, ac echrys lû
fyth yn mingammu arnaf.
verse 16 Rhai'n rhagrithwyr, rhai'n watworwyr,
torrent hwy eiriau mwysaidd:
Hwy a'sgyrn y gent arnaf fi,
bob daint, a'r rheini'n giaidd.
verse 17 Arglwydd edrych, ow pa ryw hyd
yw'r pryd y dof o'i harfod?
Gwared fy enaid rhag y bedd,
f'oes o ewinedd llewod.
verse 18 Minneu a gannaf i ti glod,
lle bo cyfarfod lluoedd:
Ac a folaf dy enw a'th ddawn,
wrth lawer iawn o bobloedd.
verse 19 Na fydded lawen fy'nghâs ddyn,
i'm herbyn heb achossion:
Ac na throed (er bwriadu 'mrâd)
mo gwr ei lygad digllon.
verse 20 Nid ymddiriedant ddim mewn hedd,
dychmygant ryfedd gelwydd:
Dirwyn dichell, a gosod cryw
i'r rhai sy'n byw yn llonydd.
verse 21 Lledu safnau, taeru yn dan,
a dwedydd hyn yn unblaid,
Fei ffei o honot, hwnt a thi,
ni a'th wolsom ni â'n llygaid.
verse 22 Tithau (o Atglwydd) gwelaist hyn,
mor daer yn f'erbyn fuon:
Ac na ddos oddiwr thif ymhell,
rhag dichell fy'nghaseion.
verse 23 Cyfod, deffro, fy Nuw i'm barn,
yn gadarn gydâ'm gofid:
verse 24 Dydi a fynni'r uniondeb,
ni watwar neb o'm plegid.
verse 25 Na âd i'r gelyn calon wael
ddiweddu cael i wynfyd:
Na rhodresu fy llyncu'n grwn,
llyncaswn hwn yn ddybryd.
verse 26 Gwarth a gwrad wydd iddynt a ddel
sy'n codi uchel chwerthin:
Gwisger hwynt â mefl ac â châs,
sydd ym alanas ryflin.
verse 27 Llawen fo'r llaill a llawn o glod,
sy'n coelio 'mod yn gyfion.
Dwedant, bid i'n Duw ni fawrhânt,
am roi llwyddiant iw weision.
verse 28 Minnau fy Arglwydd gyda'r rhain,
myfyriaf arwain beunydd
Dy gyfiownder di, a'th fawr glod,
â'm tafod yn dragywydd.
PSAL. 36. Cwyno rhag y drygionus, eithr (drwy gydnabed daioni Duw) y mae efe yn ymgysuro.
WRth gamwedd dyn annuwiol sur
mae'n eglur yn fy'nghalon,
Nad oes ofn Duw, na'i farn, na'i ddrwg
o flaen ei olwg trowsion.
verse 2 Mae yn cyd ddwyn â'i fai ei hun,
ni wyl mo'i wrthun drosedd:
Nes cael yn eglur i'r holl fyd
ei gâs wyd, a'i anwiredd.
verse 3 Os ei ymadrodd, mae heb wir,
ei enau dihir hydwyll,
Ni fyn wneuthur dim da ychwaith,
yr adyn diffaith dibwyll.
verse 4 Ef yn ei wely ni chais hûn,
ond gosod llun ar gelwydd:
Os yn effro, neu yn ei waith,
ni ochel daith ann edwydd.
verse 5 Dy drugaredd (fy Arglwydd Ion)
sydd hyd eithafon nefoedd:
A'th wirionedd di sydd yn gwau,
hyd y cymylau dyfroedd.
verse 6 Dy uniondeb fel mynydd mawr,
dy farn fel llawr yr eigion.
Dy nerth fyth felly a barhâ,
i gadw da, a dynion,
verse 7 O mor werthfawr (fy Arglwydd Dduw)
i bawb yw dy drugaredd!
I blant dynion da iawn yw bod
ynghysgod dy adanedd.
verse 8 Cyflawn o frasder yw'r ty tau,
lle lenwir hwythau hefyd.
Lle y cânt ddiod gennyt Ion,
o flasus afon hyfryd.
verse 9 Gyda thi mae y loywffrwd hon,
a darda o ffynnon einioes:
A'th deg oleuni, ac â'th râd,
y cawn oleuad eisoes.
verse 10 O ystyn etto i barhau,
dy drugareddau tirion:
Ni a'th adwacnom di, a'th ddawn,
i'r rhai sydd uniawn galon.
verse 11 O Dduw im 'herbyn i na ddoed,
na ffyrdd, na throed y balchffol,
A llestair attas, fel na ddaw
na gwaith, nallaw'r annuwiol,
verse 12 Fel y syrthiodd gynt, yn wir,
y rhai enwir a'i drygwaith,
Felly gwthiwyd i lawr hwynthwy,
heb godi mwy yr eilwaith.
PSAL. 37. Pob peth a roddir i'r nêb a garo ac a ofno Dduw, ond er i'r annuwiol lwyddo dros amser, etto hwy a ddarfyddant.
NA ddala ddryg dyb yn dy ben,
nac o gynfigen ronyn,
Er llwyddo'r enwir, a wnai gam:
cai weled llam yn canlyn.
verse 2 Sef hwy a dorrir fel gwellt glâs,
neu lysiau diflas gwywon:
A hwy a grinant yn ddilwydd,
a hynny 'n ebrwydd ddigon.
verse 3 Cred yn yr Arglwydd, a gwna dda,
gobeithia yr hyn gorau:
Bydd ymarhous yn y tir,
di a borthir yn ddiau.
verse 4 Bydd di gysurus yn dy Dduw,
di a gei bob gwiw ddymuniad:
verse 5 Dy ffyrdd cred iddo, yn ddilys
fe rydd d'ewyllys attad.
verse 6 Cred yntho ef, fo'th ddwg i'rlann,
myn allan dy gyfiownder:
Mor olau a'r haul hanner dydd,
fal hynny bydd d'egludder.
verse 7 Ymddiried i Dduw, disgwyl taw,
a heb ymddigiaw gronyn:
Er llwyddo'i ddrygddyn ei fawr fai,
yr hwn a wnai yn gyndyn.
verse 8 Paid â'th ddig, na ofidia chwaith:
gad ymaith wyllt gynddaredd:
Rhag i hynny dyfu i bod,
yn bechod yn y diwedd.
verse 9 O herwydd hyn, disgwil yr Ion,
gwyl ddiwedd dynion diffaith:
A disgwyl ef: meddianna'r tir,
a'r drwg f'oi torrir ymaith.
verse 10 Goddef y drygddyn dros drobâch,
ni welir mwyach honaw,
Ti a gai weled y lle y bu,
[...]eb ddim yn ffynnu ganthaw.
verse 11 Ond y rhai ufydd a hawddgâr,
y ddaiar a feddiannant:
Ar rhei'ni a thagnhefedd hir,
didd
[...]nir yn eu meddiant.
verse 12 Bwriada'r drygddyn o'i chwerwddaint
ar ddrygu braint cyfiownddyn:
verse 13 Duw yn ei watwar yn
[...]au a fydd,
sy'n gweled dydd ei derfyn:
verse 14 Ynnylu bwa, tynnu, cledd,
yw trowsedd yr annuwiol.
Er llâdd y truan: fell dydd brawd,
i'r tlawd a' defosionol.
verse 15 Ei fwa torrir yn ddellt mân,
a'i gledd a â'n ei galon:
verse 16 Mawr yw golud yr ysceler,
ond gwell prinder y cyfion.
verse 17 Yr Arglwydd a farn bob rhyw fai,
tyr freichiau'r rhai annuwiol,
Ac ef a gynnail yn doi ddig,
y cyfion, ystig, gweddol.
verse 18 Sef edwyn Duw ddyddiau, a gwaith,
pob rhai o berffaith helynt▪
Ac yn dragywydd Duw a wnaeth,
deg etifdediaeth iddynt.
verse 19 Efe a'i ceidw hwynt i gyd,
na chânt ar ddrygfyd wradwydd,
Amser newyn hwyn twy a gânt,
o borthiant ddigonolrwydd.
verse 20 Y rhai traws enwlr, heb ddi'n cwyn
fel brasder wyn r doddant:
Caseion Duw fydd dynion drwg,
hwy gyda'r mwg dislannent.
verse 21 Y gwr annuwiol a fyn ddwyn
yn echwyn, byth ni thalai:
A'r gwr cyfion trugarog fydd,
ac a rydd, nis gommeddai.
verse 22 Sawl asendigo Duw (yn wir)
y tir a etifeddan:
A'r rhai a felldithio, o'r tir
i gyd afwrir allan.
verse 23 Duw a fforddia, ac a hoffa,
hyfford y gwr calonnog:
verse 24 Er ei gwympo efe ni friw,
fo'i deil llaw Dduw'n sefydlog.
verse 25 Aethym i bellach yn yr hên,
bum fachgen' rwy'n cydnabod:
Ni welais adu hâd gwr da.
na cheisio'i bara'ngherdod.
verse 26 Echwyn a benthyg cair bob dydd,
trugarog fydd y cyfion:
A'i hâd ef drwy y nefol wlith,
a gaiff o'i fendith ddigon.
verse 27 Arswyda ddwrg, a gwna di dda,
a chyfannedda rhag llaw:
verse 28 Cans Duw a gâr y farn ddidwn,
ninnau a roddwn arnaw.
Nid ymedy efe â'i Saint,
ceidw heb haint y rhei'ni:
Ond hâd yr annuwolion gau
a ddont i angau difri.
verse 29 Y ddaear caiff y cyfion gwyl,
lle y preswyl byth mewn iawndeb:
verse 30 A'i enau mynaig wybodaeth,
a'i dafod traeth 'ddoethineb.
verse 31 Deddf ei Duw y sydd yn ei fron,
a'i draed (gan hon) ni lithrant:
verse 32 Dyn drwg a ddisgwyl lâdd y da,
ond ni chaiff yna ffyniant.
verse 33 Ni âd yr Arglwydd (er ei gais,
nac er ei falais lidiog▪)
Y gwirion yn ei waedlyd law,
i hwn ni ddaw barn euog.
verse 34 Gobeithia yn yr Arglwydd tau;
a chadw ei lwybrau 'n gywir:
Cei feddiannu, cei uwch o radd,
a gweled lladd yr enwir.
verse 35 Gwelais enwir yn llym ei big,
a'i frig fel gwyddbren lawri:
verse 36 Chwilais, a chefiais yr ail tro,
'r oedd efo wedi colli,
verse 37 Ystyria hefyd y gwr pûr
ac edrych du'r cofiownedd:
Di agei weled cyfrywd dyn,
ma'i derfyn fydd tangnhefedd.
verse 38 A gwyl y rhai drwy drais sy'n byw,
ynghy d'i ddistryw cwympant:
Fe a ddiwreiddir planty fall,
i ddiwedd gwall, a methiant.
verse 39 Iechyd y cyfion sy o Dduw Nêr,
a'i nerth mewn amser cyffro:
verse 40 Cymorth, ceidw, o ddrwg y tynn,
a hyn am gredu yntho.
PSAL. 38. Dafydd yn glâf yn cydnabod mai oddiwrth yr Arglwydd y mae hynny yn dyfod iddo am ei bechodau, ac yn dymuno ar Dduw droi ei law, ac yno drwy ffydd, ac ymroi i Dduw, y mae un gobeithio iechyd.
FY Arglwydd, na cherydda fi,
ym mhoethni dy gynddaredd;
Ac ne chosba fi yn dy lid
oblegid fy enwiredd,
verse 2 Cans glyn dy saethau ynof fi,
a phannau'r rheinni'n llymion:
A dodaist arnaf y llaw dau,
a rhoist ddyrnodiau trymion.
verse 3 Nid oes mo'r iechyd gan dy lid,
i'm cnawd, ond gofid creulon:
Ac nid oes (gan fy 'mhechod chwyrn)
mor hedd i'm hesgryn sychion.
verse 4 Cans fy 'nghamweddau aent i'r nen
a thros fy 'mhen tyfasant,
Un wedd a baich rhy drwm o bwys:
fal hyn mor ddwys i'm llethant.
verse 5 Fy 'nglheisiau sydd fal yn bwdr du
yn llygru gan f'ynfydrwydd:
verse 6 Crymais, a phellais beth bob dydd,
sef galar sydd ac aflwydd.
verse 7 Cans mae fy lwynau'n llawn o wres,
a'm cnawd heb les nac iechyd.
verse 8 Llesg wan ac ysig, yw fy mron,
lle gwaedda calon nychlyd,
verse 9 Clyw Arglwydd fi, herwydd o'th flaen
yn hollawl mae 'nymuniaid,
Ni chuddiwyd mo'm ochenaid i,
oddiwrthit di fy 'ngheidwad.
verse 10 Llamma'nghalon, palla fy nerth,
a'm golwg prydferth hefyd.
verse 11 Cyfnesaf, cyfaill, câr, nid gwell,
hwy aent ym mhell i'm hadfyd.
verse 12 A'm caseion i yn nessau,
a'i maglau ffug a'i dichell,
Safai fy 'ngheraint i yn synn,
i edrych hyn o hirbell.
verse 13 Minnau fel dyn byddar a awn
megis pe bawn heb glywed;
Neu fel y mudan (dan dristau)
heb enau yn egored.
verse 14 Yn fud fel hyn y gwn fy mod,
fel un a thafod efrydd;
Heb ddwedyd unwaith air o'm pen,
i dalu sen a cherydd.
verse 15 Gan ym'gredu i ti yn rhwydd,
o Arglwydd Dduw goruchaf,
Rhwydd a hysbys iawn gennif fi
yw y gwrandewi arnaf.
verse 16 Mi a ddymunais arnat hyn,
rhag bod i'm gelyn wowdio,
O llithrai fy nrhoed ronyn bach,
fo fydd llawenach gantho.
verse 17 Cloffi yn barod rwyf yn wir,
a dolur hir sy'm poeni:
verse 18 Addef yr wyf mai iawn ym' fod,
fy mhechod sy'n ei beri.
verse 19 A'm gelynion y sydd yn fyw
yn aml ei rhyw, a chryfion;
Sydd yn dwyn câs i mi ar gam,
sef am sy mod yn gyfion.
verse 20 Y rhai a dalant ddrwg dros dda
a'm gwrthwyneba'n efrydd,
A hyn am ddylyn honof i
y pur ddaioni beunydd.
verse 21 Duw, nac ymâd, na fydd ym'mhell,
pen ddelo dichell ffyrnig,
verse 22 Brysia, cymorth fi yn y byd,
fy Nuw, a'm iechyd unig.
PSAL. 39. Dafydd heb allu tewi gan ofid, yn gweddio, ac yn
[...]angos meddwl blin. Ei ymdrech yn erbyc marwolaeth ac anobaith.
ADdewais gadw 'ngenau'n gu,
rhag pechu yn fy'ngeiriau,
verse 2 Y dyn annuwiol lle y bo
bwriedais ffrwy no'ngenau.
verse 3 Tewais, tewais fel y dyn mud,
rhag dwedud peth daionus,
Pan y cyffroais o hir ddal,
ymattal oedd ofidus;
verse 4 Yn fy'nghalon y cododd gwres
a'm mynwes o'm myfyrdod,
Fel y tân ynynnu a wnaeth,
a rhydd yr aeth fy'nhafad,
verse 5 O dangos ym' (fy Arglwydd ner)
pa amser y diweddaf:
Rifedi'nyddiau: a pha hyd,
o fewn y byd y byddaf.
verse 6 Rhoddaist fy'nyddiau fel lled llaw,
i'm heinioes daw byr ddiwedd.
Diau yn d'olwg di (o Dduw)
fod pob dyn byw yn wagedd.
verse 7 Sef mewn cysgod y rhodia gwr,
dan gasclu pentwr ofer,
Odid a wyr wrth dyrru da
pwy a'i mwynha mewn amser.
verse 8 Beth bellach a obeithiaf fi,
Duw rhois i fy'nghalon.
verse 9 Tyn fi o'm camweddau yn rhwydd,
nâd fi'n wradwydd i ffolion.
verse 10 Yn fudan gwael yr aethym i,
a hyn tydi a'i parodd:
verse 11 O tyn dy gosp oddiwrthif swrn,
sef pwys dy ddwrn a'm briwodd,
verse 12 Pan gosbech di am bechod wr
fo wywa'n siwr ei fowredd,
Fel y gwyfyn: gwelwch wrth hyn
nad yw pob dyn ond gwagedd.
verse 13 Clyw fy'ngweddi o Dduw or nef,
a'm llef: a gwyl fy'nagrau
Dy wâs caeth wyf (o clyw fy mloedd)
ac felly'roedd fy'nheidiau.
verse 14 O paid a mi gâd ym gryfhau,
cyn darfod dyddiau 'mywyd.
verse 15 O gwna â mi sy'mron fy medd
drugaredd a syberwydd.
PSAL. 40. Diolchgarwch i Dduw am ei ddaioni i ddinion: addaw ymroi i wasanaethu Duw, ar modd i hynny: gwedi diolch y mae yn achwyn rhag ei elynion, ac yn mynd at Dduw am gymorth.
BUm yn dyfal ddisgwyl fy Ner,
ef o'r uchelder clybu,
Clustymwrandawodd ef fy llais
pan lefais ar i fynu.
verse 2 Cododd syfi or pydew blin,
a'r pridd tra gerwin tomlyd,
A rhoes ar graig fy'nrboed i wau,
a threfn fy'nghamrau hefyd.
verse 3 A newydd gerdd i'm genau rhoes,
clod iddo troes yn hylwydd,
verse 4 Pawb ofnant pan y gwelant hyn
a chredan yn yr Arglwydd.
verse 5 Pob gwr yn ddiau dedwydd yw
a rotho ar Dduw ei helynt:
A'r beilch, a'r ffeils a'r chwedlau tro
nid edrych efo arnynt.
verse 6 Am (o Duw) yw y gwrthiau tau.
fel dy feddyliau ynny,
A heb un dyn yn dysgu i ti,
nac yn blaenori hynny.
verse 7 Y rhai pe y ceifiwn i drwy gred,
eu rhoi ar led, a'i canu,
Mwy amlach ydynt nag y gall
un dyn heb pall eu traethu.
verse 8 Ni fynnaist offrwm rhodd, na gwerth
na chwaith un aberth cennyf;
Er hyn fy'nghlustiau i mewn pryd,
hwy a egoryd ymy.
verse 9 Hyn pan wrthodaist dwedais i
Duw wele fi yn dyfod.
verse 10 Megis o honof mae gwir pur
yn dy ysgrythur hynod.
verse 11 Y rhyngwn i dy fodd yn llawn,
(o Dduw) rwy 'n fodlawn ddigon,
Dy ewyllys di a'th lân ddeddf
sy'n greddf yn nautu'r galon.
verse 12 Mi a bregethais dy air cu
ynghanol llu mawr anian.
Ac nithawaf fy' Arglwydd gwyn)
ti wyddost hyn dy hunan.
verse 13 Dy iownder, iechyd, a'th air gwir
ni bum chwaith hir i'w celu,
Na'th drugaredd, na'th roddion da
rhag un gynlleidfa meithlu.
verse 14 Dithau (o Dduw) rhagof na chei
dy dawel drugareddau,
Dy nawdd a'th wir gosod ar led,
bont byth i'm gwared innau.
verse 15 Dagrau o'm hamgylch fydd uwch rhif,
a throso'n llif mae pechod,
Amlach ydynt nâ'm gwallt i'm brig,
a'm calon ddig sy'n darfod.
verse 16 Tyred (fy Arglwydd) helpa'n rhodd,
a rhynged bodd yt' hynny.
Bryssia i'm gwared, na thrig yn hwy,
a bydd gynhorthwy ymy.
verse 17 A chyd wradwydder hwynt ar gais
a syn drwy drais fy nifa:
A throer iw hol y rhai y sy
yn chwennych ymy ddirdra.
verse 11 Bont hwy annedd-wâg yn lee tâl
yrhai a dyfal dafod
Er gwrad wydd ym' a ddwedant hyn,
ffei, ffei, ar destyn dannod.
verse 19 Y rhai a'th geisiant di bob pryd
bont lawen hyfryd hylwydd,
A dweded a'th gâr di (Dduw ner)
mawryger enw'r Arglwydd.
verse 20 Cofia (o Dduw) fy mod yn wan,
ac yn druan, a dyred,
(O Dduw fynerth) na thrig yn hir,
dyrd rhag y dir i'm gwared.
PSAL. 41. Bendithio y rhai trugareg wrth eraill. Achwyn rhag anffyddlon gyfeillion. Diolchgarwch.
GWyn ei fyd yr ystyriol frawd,
a wnel a'r tlawd syberwyd.
Yr Arglwydd ystyriol o'r nef
a'i ceidw ef rhag drygfyd.
verse 2 Duw a'i ceidw, a byw a fydd
yn ddedwydd yn ddaiarol:
O na ddyro efo yn rhodd
wrth fodd y rhai gelynol.
verse 3 Yn ei wely pan fo yn glâf
rhydd y Goruchaf iechyd:
A Duw a gweiria oddi fry
ei wely yn ei glefyd.
verse 4 Dywedais innau yna'n rhwydd,
dod f'Arglwydd dy drugaredd,
Iachâ di'r dolur sy dan fais,
lle y pechais mewn anwiredd.
verse 5 Traethu y gwaethaf a wnai' nghâ;
amdanaf, atcas accen:
Pa bryd y bydd marw y gwan,
a'i enw o dan yr wybren?
verse 6 Os daw i'm hedrych, diwaid ffug,
dan gasglu crug iw galon,
Ac a'i traetha pan el ei ffwrdd
i gyfwrdd a'i gyfeillion.
verse 7 Fy holl gaseion doent ynghyd,
i fradu 'i gyd yn f'erbyn,
Ac i ddychmygn'i mi ddrwg,
a minneu'n ddiddrwg iddyn.
verse 8 Yna dywedent hwy yn rhwydd
tywalldwyd aflwydd arno,
Mae ef yn gorwedd yn ei nyth,
ni chysyd byth oddiyno.
verse 9 Fânwyl gyfaill rhwym y'm wrth gred
sy'mddiried a'm dewisddyn,
A fu yn bwyta' mara erioed,
a god ai'i droed yn f'erbyn.
verse 10 Eithyr dy hunan cyfod fi
o'th ddaioni Duw or nef;
Felly y gallaf fi ar hynt
gael talu iddynt adref.
verse 11 Da y gwn fy mod i wrth dy fodd,
wrth hyn, na chafodd casddyn,
Agwna na chaiff un gelyn glas
ddim urddas yn sy erbyn.
verse 12 Felly y gwn am danaf fi,
di a'm cynheli'n berfiaith:
Gan fy rhoi i byth gar dy fron
o fysg y dynion diffaith.
verse 13 I Dduw Israel boed yn flith
y fendith, (Ior goruchaf)
Yn oes oesoedd: a thrwy air llen,
Amen, Amen a draethaf,
PSAL. 42. Dafydd heb gael gan ei erlidwyr ddyfod i'r gynnulle
[...]dfa sanctaidd, yn dangos fod ei galon ef yn bresennol gydâ hwy, a bod ei holl ymddiried ef yn yr Arglwydd.
YP un wedd ag y bref yr hydd
am yr afonydd dyfroedd:
Felly y mae sy hiraeth i
am danat ti o'r nefoedd.
verse 2 Fy enaid i sychedig yw,
am sy Nuw byw, a'i gariad:
Pabryd y dof fi gar dy fron?
fy Nuw a'm cyfion ynad.
verse 3 Fy nagrau oeddynt ddydd a nos
yn fwyd ym', achos gofyn
Ym am sy Nuw bob pen awr bach,
ple ma fo bellach? meddyn.
verse 4 O gofio hyn wrthyf fy hûn
fel tywallt ffun fy enioes:
Ynghyd a theulu Duw yr awn,
be cawn fy meddul eisoes.
Hyd at dy Duw yn ystig iawn
yr awn dan ganu clodydd,
Fel tyrfa a fai'n cadw gwyl,
hyn bum iw ddisgwyl beunydd.
verse 5 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
verse 6 Disgwyl wrth Dduw, a dai gar bron
ei wyneb tirion crnnaid.
verse 7 Fy enaid o'm mewn pan fo prudd,
a â yn rhydd o'th gofion,
A chofio yr Iorddonen iâch,
ar mynydd bâ
[...]h o Hermon.
verse 8 Dyfnder is dyfuderau y sydd,
ac ar eu gylydd galwant;
A dwfr pob ffrwd, pob llif, pob ton,
hwy dros fy mron a aethant.
verse 9 Fy Nâf a roes y dydd ym'hedd,
a'r nos gyfannedd ganu,
I ganmawl fy Nuw, hwn a roes
ym'einioes iw foliannu.
verse 10 Paham im'gedyt dros gof cyd?
Duw, wrthyd yr achwynaf.
Er gorthymder y gelyn cam,
mewn galar pa'm y rhodiaf▪
verse 12 Trwy f'esgyrn taro cleddyf llym
mewn gwarthlid ym, oedd edliw▪
Ym'om gelynihn er fy'ngwae,
dy Dduw p
[...]le mae fo heddiw?
verse 13 Trwm wyd f'enaid o'm mewn: paham
y rhoi brudd lam ochenaid?
verse 14 Disgwyl wrth Dduw, a doi gar bron
ei wyneb tirion cannaid.
PSAL. 44. Gweddi y ffyddlon pan erlidiwyd, ar i Dduw faentymio ei achos cyfion.
CLywsom â'n clustiau (o Dduw cu)
a'n tadau fu'n mynegy
Ini, dy wyrthiau gynt a oedd
yn yr amserodd hynny.
verse 2 Sef y cenhedloedd tynnaist hwy,
a'th bobl yn fwyfwy plennaist.
Llâdd estroniaid heb ado un,
a'th bobl dy hun a gedwaist.
verse 3 Cans nid â'i cledd eu hun yn wir,
y cowsant dir na thyddyn,
Nid â nerth eu breichiau yn fflwch,
y cadwyd heddwch iddyn:
Ond dy law ddeau, a'th fawr nerth,
â'th olwg prydferth effro,
O herwydd yt'eu hoffi: hyn
a barodd iddyn lwyddo.
verse 4 Ti Dduw, f'mrenin ydwyd:
Duw, pâr i Iago lwyddiant.
verse 5 Lladdwn a sathrwn yn d'enw di
y rheini a'n casfaant.
verse 6 Nid yn fy'mwa mae fy'ngrym,
na'm cleddyf llym f'mddiffyn,
verse 7 Ond tydi Dduw, achubaist fi,
a rhoist warth fri i'r gelyn.
verse 8 Am hynny molwn di bob dydd,
cai yn dragywydd fowredd.
Canwn 'ith enw gerdd gan dant.
o glod â moliant ryfedd.
verse 9 Ond ti a giliaist ymaith beth,
daeth arnom feth a gwradwydd;
Nad ait ti allan gyd â'n llu,
cyfagos fu i dramgwydd.
verse 10 Gwnaethost i nyni droi heb drefn,
ein cefn at y gelynion.
Felly yr aeth ein da o'n gwlad
yn sclyfiad i'n caseion.
verse 11 Rhoist ni ynfwyd (fel defaid gwâr)
ar wasgar i'r cenbedloedd.
verse 12 A gwerthaist dy bobl ar bris bach,
nid hyttrach dy oludoedd,
verse 13 Rhoist ni yn watwar (o Dduw Ion)
i'n cymydogion gwrthrym,
A diystyrwch oll a gwarth,
i bawb o bobparth ydym.
verse 14 Dodaist ni yn ddihareb chwith
ymlhith yr holl genhedloedd,
Ac yn arwydd i ysgwyd pen,
a choeg gyfatcen pobloedd.
verse 15 Fy'ngwarth byth o'm blaen daw yn hawdd
fy chwys a dawdd fy rhagdal,
verse 16 Gan lais gwarthruddwr, cablwr câs
a gwaith galanas dial.
verse 17 Er dyfod arnom hynny i gyd
ni throes na'n bryd na'n cofion,
Ac ni buom i'th air (o Ner)
un amser yn anffyddlon.
verse 18 Ein calon yn ei hol ni throed,
ni lithrai'n troed o'th lwybrau;
verse 19 Er ein gyryu i ddreigiaidd gell
a'n toi a mantell angau.
verse 20 Os aeth enw ein Duw o'n co,
ac estyn dwylo'i arall.
verse 21 Oni wyl Duw y gaugred hon i
cin calon mae'n ei deall,
verse 22 O herwydd er dy fwyn yn wir
o Dduw i'n lleddir beunydd,
Fal y defaid ymron eu lladd,
fal dyna radd y llonydd.
verse 23 O deffro cyfod Dduw, mewn pryd
pi'm yr wyd cyd yn gorwedd?
A dihuna, a chlyw sy'nghri,
a chofia fi o'r diwedd.
verse 24 Paham y cuddi d'wyneb pryd?
o darbod hyd ein blinder,
Ein henaid maithrwyd yn y llwch.
gan dristwch a gorthrymder.
verse 25 Wrth y llwch mae ein bol ynglyn
fal dyna derfyn gwagedd.
verse 26 Duw, cyfod, cymorth, gwared ni
o egni dy drugaredd.
PSAL. 45. Anrhydedd, nerth, a phrydferthwch Solomon; bendithio ei briodas ef a'r Aiphtes, os hi a ymwrthodei â'i thylwy
[...]h, gan ddilyn ei gwr; a hyn yn arwydd o Ghrist a'r eglwys o'r cenhedloedd.
TRaethodd fy'nghalon bethau da,
i'r brenin gwn'fyfyrdod:
Fy'nhafod fel y pin, y sydd
yn llaw scrifennydd parod.
verse 2 Uwch meibion dynion tegach wyd
tywalldwyd rhâd i'th enau,
Herwydd i Dduw roi arnat wlith
ei fendith byth a'i radau.
verse 3 Gwisg dy gleddau yngwasg dy glu
[...].
o gadarn gun gogonedd
A hyn sydd weddol a hardd iawn,
mewn llwydd a llawn orfoledd.
verse 4 Marchog ar air y gwir yn rhwydd,
lledneisrwydd a chyfiownedd,
A'th law ddeau di a â drwy
bethau ofnadwy rhyfedd,
verse 5 A thanat ti pobloedd a syrth.
gan wyrth dy saethau llymion;
Briwant hwy, a glynant yn glau
ym mronnau dy elynion.
verse 6 Dy lân orseddfaingc (o Dduw fry)
a berry o dragwyddoldeb,
Awdurfaingc dy deyrnas y sydd
awdurol: rhydd uniondeb.
verse 7 Ceraist uniondeb, case'ist gam,
a achos pa'm; Duw lywydd,
Dy Dduw rhoes arnat ragor fraint,
sef ennaint y llawenydd.
verse 8 Aroglau myrh, ac aloes da,
a chasia sy ar dy ddillad,
Pan ddelych di o'th Ifyrn dai
lle i'th lawenai'r hollwlad.
verse 9 Sef merched brenhinoedd yn gwau
gyda'th garesau cywir,
O'th du deau'r frenhines doeth
mewn gwisg aur coeth o Ophir.
verse 10 Clyw hyn o ferch, a hefyd gwel,
ac a chlust isel gwrando:
Mae'n rhaid yt ollwng pawb o'th wlâd,
a thy dy dâd yn ango'.
verse 11 Yna'i bydd (gan y brenin)
gael edrych ar dy degwch:
Dy Arglwydd yw, gwna iddo foes,
i gael i'th oes hyfrydwch.
verse 12 Merched Tirus oedd â rhodd dda:
a'r bobloedd appla o olud,
Aymrysonent gar dy fron.
am roianrhegion hefyd.
verse 13 Ond merch y brenin, glân o fewn,
anrhydedd llawn sydd iddi,
A gwisg o aur a gemmau glân
oddiallan sydd am dani.
verse 14 Mewn gwaith gwe nodwydd y daw hon
yn wych gar bron ei harglwydd,
Ac a'i gwyryfon gyda hi
daw attad ti yn ebrwydd.
verse 15 Ac mewn llawenydd mawr a hedd
ac mewn gorfoledd dibrin,
Hwyntwy a ddeuant wrth eu gwys
i gyd i lys y brenin.
verse 16 Dy feibion yn attegion tau
yn lle dy dadau fyddant.
Tywysogaethau drwy fawrhâd,
yn yr holl wlâd a feddant.
verse 17 Coffâf dy enw di ymhob oes
tra caffwyf einioes ymy:
Am hyn y bobloedd a rydd fawl,
byth yn dragwyddawl ytty.
PSAL. 46. Diolch i Dduw am wared yr eiddo, ac annog y ffyddloniaid iw gorchymyn eu hunain i Dduw.
GObaith a nerth i'n yw Duw hael;
mae help iw gael mewn cyfwng▪
verse 2 Daia
[...], mynydd, aent hwy i'r mor:
nid ofnaf f'angor deilwng.
verse 3 Pe ymgym ysgai'r tir a'r dwfr,
nid ofnwn gynwfr rhuad,
Ped ai'r mynyddoedd i'r mor mawr
ar brynnnieu i lawr y gwastad.
verse 4 Dinas Duw lle llawen a sydd,
cyfagos glennydd afon,
Cyssegr preswylfa y rhad,
g
[...]n ddifal rediad Cedro
[...],
verse 5 Duw sydd yn trigo o'i mewn hi
ni âd hi scogi unwaith:
Duw a'i cymyrth ar wawr ddydd,
a phreswylfeydd perffaith.
verse 6 Y cenhedloedd pan fyddent ddig,
a ffyrnig y tyrnesydd,
Toddai y ddaiar o'i flaen ef
pan glywid llef Duw ddofydd,
Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri'y lluoedd:
Ymae Duw Iago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o'r nefoedd.
verse 8 Y wlad, o dowch i gyd yn rhwydd,
a gwaith yr Arglwydd gwelwch,
Y modd y gosododd ef ar
y dddaiar anniddanwch,
verse 9 Gwnai ryfeloedd beidio'n wâr
byd eitha'r ddaiarlych lyd:
Dryllia, y bwa, tyr y ffon,
llysg y cerbydon hefyd.
verse 10 Pe idiwch, gwyddwch mai si yw
eich unig Dduw ach gwanar,
Ymysg cenhedloedd mi'a gâf barch,
a'm cyfarch ar y ddaiar,
verse 11 Y mae yr Arglwydd gydâ ni,
Ior anifeiri y lluoedd,
Y mae Duw Iago yn ein plaid,
gyr help wrth raid o'r nefoedd.
PSAL. 47. Peri addoli Duw am ei drugaredd i had Iago: prophwydoliaeth am deyrnas Christ.
CEnwch, a churwch ddwylo'nghyd
holl bobl y byd cyfannedd,
A llafar-genwch i Dduw nef,
gan leisio â llef gorfoledd.
verse 2 Sef ofnir Duw uwch daiar gron,
ef fydd dros hon yn frenin,
verse 3 Dwg bobloedd danom, a phob gwaed,
a than ein traed fo'i dis gin.
verse 4 Fe a rydd ini feddiant siwr,
gwlad Iago, gwr a garai.
verse 5 Duw adderchafodd wrth y sain,
yr utgorn gain pan leisiai.
verse 6 O cenwch, cenwch, glod ein Duw,
ein brenin yw, o cenwch,
verse 7 Duw dros y byd sy frenin call,
drwy ddeall ymhyfrydwch.
verse 8 Brenin yw ef a da y gwnaeth
lywodraeth ar wyr bydol,
Ac y mae'n eistedd yn ei drwn,
gorseddfa swn sancteiddiol.
verse 9 Ymgasglant bendefigion byd:
ynghyd â llu Duw Abra'm,
Duw biau tariannau y tir,
drwy foliant hir yn ddinam.
PSAL. 48. Diolch i Dduw dros Ierusalem.
MAwr ei enw'n ninas ein Duw,
a hynod yw yr Arglwydd
A'i drigfan ef yno y sydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd.
verse 2 Tegwch bro, a llawenydd glwlâd,
yw Seion lathraid fynydd,
Yn ystlysau y gogledd lawr,
tre'r brenin mawr tragywydd.
verse 3 Adweinir Duw'mhalasau hon
yn gymorth digon hynod.
verse 4 Ac wele nerth brenhinoedd byd
doent yno i gyd gyfarfod.
verse 5 A phan welsant, rhyfedd a fu,
ar frys brawychu rhagor.
verse 6 Dychryn a dolur ar bob ffaig,
fel dolur gwraig wrth esgor.
verse 7 Ti â dwyreinwynt drylli'n frau
eu llongau ar y moroedd.
verse 8 Fel y clywsom y gwelsom ni,
yn ninas rhi' y lluoedd:
Sef hyn yn ninas ein Duw ni,
sicrha Duw hi byth bythoedd.
verse 9 Duw disgwyliasom am dy râs
i'th deml, ac addas ydoedd.
verse 10 Duw, fel yr aeth dy enw o hyd,
felly drwy'r byd i'th folir,
Dy law ddeau y sydd gyflawn,
a chyfiawn i'th adweinir.
verse 11 A bryn Sion a lawenhâ,
a merched Iuda hefyd;
A'i llawenydd hwy yn parhau
O ran dy farnau hyfryd.
verse 12 Ewch, cwch oddiamgylch Sion sail,
a'i thyrau adail rhifwch.
Ei chadarn fur a'i phlasau draw
i'r oes a ddaw mynegwch.
verse 13 Cans ein Duw ni byth yw'r Duw hwn
hyd angau credwn yntho,
A hyd angau hwnnw a fydd
yn dragywydd i'n twyso.
PSAL. 49. Yr Yspryd yn dangos nad y cyfoethoccaf y sydd ddedwyddaf, ond mai Duw sydd yn llywddo pob pêth.
GWrandewch chwi y bobloedd i gyd
trigolion byd deellwch,
verse 2 Gwerin, tlawd, bonheddig, a chryf
cyfoethog hyf ystyriwch.
verse 3 O'm genau daw doethair didwyll,
â m calon pwyll fyfyriaf,
verse 4 A'mclust gwrandawaf ddameg ddwys
â'm llais cerdd fwys a ganaf.
verse 5 Paham yr ofnaf ddrygau'r byd
yn amser adfyd atcas?
Pan fo anwiredd wedi can,
wrth fy sodlau o'm cwmpas.
verse 6 Mae llawer rhai o wyr y byd,
mewn golud a'mddiriedant,
A thrwy siarad am werth, a rhi
y rhei'ni y rhodresant,
verse 7 Ond ni wareda neb mo'i frawd,
ni thâl yn ddidlawd drosto,
Ac ni chymer Duw y fâth dâl,
nac iawn mor sâl am dano.
verse 8 Sef pryniad enaid dyn drud fydd,
a hyn byth gorfydd peidio,
verse 9 Fel y gallo efe fyw byth,
heb fynd i nyth yr amdo.
verse 10 Gwelir mai'r bedd yw lletty'r doeth
y ffol ar anoeth unwedd:
Marw yw'r naill, a marw yw'r llall,
i arall gâd ei annedd.
verse 11 Meddwl am ei hadeilad byth,
yn ddilyth y parhâ
[...]nt,
Am hyn wrth eu henwau yn wir
henwau eu tir a alwant.
verse 12 Ni phery dyn o gnawdol dras,
mewn urddas er ei adail,
Diau pob dyn, pan ddel ei ddydd,
a dderfydd fal anifail.
verse 13 Dyma eu ffordd, ffordd fioledd fydd,
na welant ddydd yn passio.
E'r hyn eu hil a ddel iw' hol
fydd yn eu canmol etto.
verse 14 Angeu yw terfyn pob dyn byw,
i hwn nid yw ond tamaid;
Myned sydd raid o'r ty i'r bedd;
yn rhwym un wedd ar'defaid.
verse 15 Daw dydd i'r cyfion dranoeth teg,
daw ym' ychwaneg ystyn:
Daw ym' o'r bedd godiad i fyw,
deheulaw Duw a'm derbyn.
verse 16 Er codi o wr mewn parch neu dda,
nac ofna di un gronyn:
Ei olud ef, na'ibarch, na'i dda,
i'r bedd nid â iw ddylyn.
verse 17 Hwn tra fu fyw yn rhodio llawr,
gwnai'n fawr hono'i hunan.
Gwna honot ti dy hun yn fwy,
a hwynt hwy a'th ganmolan.
verse 18 At oes ei dadau hwn pan ddel
â i'r bedd dirgel efryd,
verse 19 Dyn mewn anrhydedd heb ddeall
(fal llwdn o wâll) a dderfydd.
PSAL. 50. Prophwydoliaeth am alwedigaeth y cenhedloedd, ac na fyn Duw aberth ond diolchgarwch, yn erbyn y rhai a arferant Ceremoniau o flaen gair Duw.
DUw y duwiau, yr Arglwydd cu,
gan lefaru a alwodd,
O godiad haul hyd fachlud hwn,
yr hollfyd crwn cyffroodd.
verse 2 O fryn Sion y daeth Duw daf,
hon sydd berffeithiaf ddinas,
Mewn tegwch a goleuni mawr,
a llewych gwaw'r o'i gwmpas.
verse 3 Doed rhagddo'n Duw, na fid fel mud,
o'i flaen fflam danllud ysed,
A mawr dymestloedd iw gylch ef,
pan ddel o nef i wared.
verse 4 Geilw ef am y nefoedd fry,
a'r ddaiar obry isom,
I gael barnu ei bobloedd ef,
fal hyn rhydd lef am danom.
verse 5 O cesglwch attaf fi fy saint,
y rhai drwy ryddfraint brydferth,
A wnaethan ammod a myfi,
a'i rhwymo hi drwy aberth.
verse 6 A phan ddangoso mintai nef
ei farnau ef yn union,
Sef Duw fydd yn barnu ei hun,
yr unic gun sudd gyfion.
verse 7 Clyw di fy'mhobl, traethaf yn ffraeth
dystiolaeth yn dy erbyn.
Dithau Israel: ac iawn yw,
Duw, sef dy Dduw a'th ofyn.
verse 8 Ni chai di am yr ebyrth tau,
na'th boeth offrymau gerydd;
Nac am na baent hwy gar fy'mron,
y cyfryw roddion beunydd.
verse 9 Ni chymeraf o'th dy un llo,
na hyfr a fo'n dy gorlan,
verse 10 Mi biau'r da'n y maes sy'n gwau
ar fil o frynniau allan.
verse 11 Pob aderyn erbyn ei ben,
a adwen ar y mynydd,
Pob da maesydd, y lle y maen,
y maent o'm blaen i beunydd.
verse 12 Nid rhaid ym ddangos i ti hyn,
pe delai newyn arnaf,
Ac yn eiddo fi yr holl fyd,
a'i dda i gyd yn llownaf,
verse 13 A'i cig y teirw fydd fy'mwyd?
na thyb: nid wyd ond angall,
Ai gwaed hyfrod fydd fy'niod?
dysg o newydd ddeall.
verse 14 Dod dy oglud ar Dduw yn drwm,
a thal yr offrwm pennaf;
Cân ei fawl ef: a dod ar led
d'adduned i'r Goruchaf;
verse 15 Galw arnaf yn dy dydd blin,
yno cai fi'n waredydd.
Yna y ceni i'mi glod
am droi y rhod mor ddedwydd.
verse 16 Duw wrth yr enwir dywaid hyn:
ai ti perthyn fy' neddfau?
Paham y cym'ri di, na'm clod,
na'm hamed yn dy enau?
verse 17 Sef, cas fu gennyt ti iawn ddysg,
ac addysg ni chymeraist,
A'm geiriau i (fel araith ffol)
i gyd o'th ol a deflaist.
verse 18 A phan welaist leidr rhedaist
a rhwy daist ran oddiwrtho:
Ac os gordderchwr brwnt aflân,
mynnaist ty gyfran gantho.
verse 19 Gollyngaist ai dy safn yn rhydd
yn efrydd ar ddrygioni,
A'th dafod a lithrai ym mhell
at ddichell a phob gwegi.
verse 20 Eisteddaist di, dw edaist ar gam
ar fab dy fam er enllib.
verse 21 Pan wnaethost hyn, ni th gosbais di
a thybiaist fi'n gyffelyb.
verse 22 Ond hwy na hyn tewi ni wnaf,
mi a'th geryddaf bellach,
Mi a ddangosaf dy holl ddrwg
o flaen dy olwg hayach.
verse 23 Gwrandewch: a pheidiwch tra foch byw
a gollwng Duw yn angof;
Pan ni bo neb i'ch gwared chwi,
rhag ofn i mi eich rhwygo.
verse 24 Yr hwn a abertho 'i mi fawl
yw'r sawl a'm gogonedda,
I'r neb a drefno'i ffordd yn wiw
gwir iechyd Duw a ddysgaf.
PSAL. 51. Dafydd yn cyfaddef ei anwiredd, ac wrth ymgydnabod a brynti ei anian, yn dymuno cael gan Dduw faddeuan
[...], ac adnewyddu ei ddoniau: ac mae hefyd yn gweddio d
[...] yr eglwys.
TRugaredd dod i mi,
Duw, o'th ddaioni tyner;
Y maith tyn fy'enwiredd mau
o'th drugareddau lawer.
verse 2 A golch fi yn llwyr ddwys
oddiwrth fawr bwys fy'meiau:
Fy Arglwydd, gwna'n bur lân fyfi,
rhag brynti fy'nghamweddau.
verse 3 Cans adwen fy' ngham wedd,
a'm brwnt anwiredd yssig,
Sef beunydd maent gar fy' mron i.
verse 4 Yn derbyn di yn unig,
Y gwneuthym hyn oedd ddrwg,
yn dy lan olwg distrych,
Fel i'th gyfiownder yn ol da'ir.
yn burair pan y bernych.
verse 5 Mewn pechod lluniwyd fi,
ac mewn drygioni dygas,
Felly yr wyf o groth fy'mam
yn byw bob cam yn atgas.
verse 6 Ac wele ceri'r gwir
o fewn y gywir galon.
Am hyn disgaist ddoethineb iach
y'm o'th gyfrinach ffyddlon.
verse 7 Ag Isop golch fi'n lan.
ni byddaf aflan'mwyach.
Bydda fi o'm golchi mal hyn,
fel eira gwyn neu wynnach.
verse 8 Par i mi weled hedd,
gorfoledd a llawenydd,
I adnewyddu f' esgyrn i
a ddrylliaist di a cherydd,
verse 9 O cuddia d'wyneb-pryd
rhag fy' mhechodau i gyd,
Fy anwireddau tyn eu lliw,
o Arglwydd bid wiw gennyd.
verse 10 Duw, crea galon bur,
dod i mi gysur beunydd,
I fyw yn well tra fwy'n y byd,
dod ynof yspryd newydd.
verse 11 O Dduw na ddyro chwaith,
fi ymaith o'th olygon,
Ac na chymer dy Yspryd glân
oddiwrthif, druan gwirion.
verse 12 Gorfoledd dwg i mi,
drwy roddi ym dy iechyd,
A chynnal a'th ysprydol ddawn
fi, i fyw'n uniawn hefyd.
verse 13 A dysgaf dy fford wir
i'r enwir, a'th addoliad
A phob pechadur try i'r iawn,
a chyrch yn uniawn attad.
verse 14 Rhag gwaed gwared fi Dduw,
sef Duw fy iechydwriaeth,
A'm tafod o'th gyfiawnder di
a gân gerdd wisgi hyffraeth,
verse 15 Duw, egor y min mau,
â'm genau mi a ganaf,
O Arglwydd, gerdd o'th fawl a'th nerth
fal dyna'r aberth pennaf.
verse 16 Cans aberth ni's ceisi,
ac ni fynni offrwm poeth:
Pe y mynasyt cowsyt hyn,
nid rhaid yt dderbyn cyfoeth.
verse 17 Aberthau Duw i gyd,
yw yspryd pur drylliedig,
Ac ni ddistyri (o Dduw Ion)
y galon gystuddiedig,
verse 18 Bydd dda wrth Sion fryn,
o Arglwydd, hyn a fynni,
Ac wrth Gaersalem, dy dreiâd,
a gwna adeilad arni.
verse 19 Cei aberth iownedd coeth,
cei offrwm poeth yn rhagor,
Cei aberth llosg, a bodlon fych,
cei fustych ar dy allor.
PSAL. 52. Dangos dull gorthrymydd, ac am ei ddiwedd: cysur i'r ffyddlon yn Nuw. Mae y Psalm hon yn gosod allan yn eglur dyrnasiad yr Anghrist.
PA'm y rhodresi dy frâd,
a'th ddrwg fwriaid (o gadarn?)
A maint trugaredd Duw bob dydd,
ac felly bydd hyd dyddfarn.
verse 2 Dychymyg drwg yw'r fyfyrdawd,
a gwaith dy dafawd sceler,
Hwn sydd fel ellyn llym o ddur,
a'i swydd yw gwneuthur ffolder.
verse 3 Ni hoffaist dda, gwnait ddrwg yn haws
a'r traws, yn fwy nâ'r union,
verse 4 Hoffaist eiriau diftryw a bar,
ti golyn twyllgar, creulon.
verse 5 Duw a'th ddistrywia dithau byth,
fo dyn dy chwyth o'th gaban:
Ac a dyn dy wraidd di i gyd,
o dir y bywyd allan.
verse 6 Rhai a'i gwelant a arswydant,
cans hwy a ydynt gyfion,
A hwy a chwarddant am ei ben,
pan welon ddilen greulon.
verse 7 Gwelwch y gwr ni rodd yn ddwys
ar Dduw na'i bwys na'i oglud,
Ond ar ddrygioni yn rhoi nerth,
a rhif a gwerth ei olud.
verse 8 Minnau fel oliwydden werdd
yn nhy Dduw, cerdd a ganaf,
Ymddiriedaf iddo yn hawdd,
byth dan ei nawdd y byddaf,
verse 9 Mi a'th folaf, a'c obeithiaf,
bythoedd drwy ymddiried.
Da yw dangos garbron dy Saint
dy enw, a maint dy weithred.
PSAL. 53. Dangos drwg naturiaeth dyn, a chosbedigaeth y drygionys. Gweddi dros y duwiol.
DWedai'r ynfyd wrtho'i hun
nad oes un Duw na dial:
Ei ddrwg ffieidd-dra a'i drais tynn,
a ddengys hyn yn ddyfal.
Llygru yn ffiaidd maent drwy'r byd,
Ond neb a geisiai Dduw yn gall,
nac oedd yn deall gronyn,
verse 3 Ciliasai bawb yn ol ei gefn,
a hwy drachefn cydlygrynt:
Nid oedd neb a wnelai yr iawn,
nac un yn gyfiawn honyot.
verse 4 Pa'm na'styria gweithwyr traha
eu bod yn bwyta' mhobloedd;
Fel y bara? ac heb ddim bri;
ni alwent fi o'r nefoedd.
verse 5 Ofn heb achos arnynt a ddaeth
y rhai a'ch caeth warchaeodd:
Cans trwy eu gwasgar hwy i bob parth
mewn gwarth Duw a'i gwasgarodd.
verse 6 Och fi na roîd i Israel,
o Sion uchel iechyd:
Pan roddo Duw ei bobl ar led
o drom gaethiwed adfyd:
verse 7 Yna y bydd Iago yn iach,
ac Israel bâch yn hyfryd:
Yna y bydd Iago yn iach,
ac Israel bâch yn hyfryd.
PSAL. 55. Dafydd yn ofni Saul yn a ruthr, ac yn gweddio, ac yn achwyn faint ei greulondeb ef.
O Dduw gwrando fy'ngweddi brudd,
nac ymgudd rhag fy'nghwynfan,
verse 2 Erglyw a gwyl fy'ngwael ystâd,
a llais fy nâd a'm tuchan.
verse 3 Hyn rhag rhuadaidd lais fy'nghâs,
a phwys dyn llym-iâs enwir,
Y rhai a daerant arnaf ddrwg,
a'i llid yn amlwg gwelir.
verse 4 Gofid calon sy'n dwyn fy oes,
daeth angau loes hyd attaf.
verse 5 Mae ofn ac arswyd arnaf caeth,
a dychryn daeth ar f'uchaf.
verse 6 O dra ofn dwedwn yn fy'nghri,
gwae fi am esgyll clommen,
Yna'r ehedwn i le rhydd,
i gael ym'lonydd amgen.
verse 7 Wele, awn i gyrwydro ym mhell,
lle cawn ystafell fachog.
verse 8 Yna y bryssiwn ar fy hynt,
rhac rhuad gwynt tymestlog.
verse 9 Dinistria di hwynt, (Arglwydd da)
gwahana eu tafodau.
Sef yn y ddinas amlwg drais
a welais, a chynennau.
verse 10 Dydd a nos ei chylchu yn dro
a rhodio rhyd ei chaerau,
O'i mewn y mae enwiredd mawr,
ac ar ei llawer bechodau.
verse 11 Gan faint ei henwireddau hi,
a maint drigioni beunydd,
Nid ymâd twyll na dichell chwaith
fyth ymaith o'i heolydd.
verse 12 Ac ni wnaeth fy'nghâs y gwaith hyn:
pe'gelyn, goddefaswn:
A phe dyn atgas yn ei roch,
yn hawdd y gochelaswn.
verse 13 Ond tydi wr, fy'nghyfaill gwar;
fy'nghymmar a'm cydnabod,
verse 14 A fu mewn cyd-gyfrinach ddwys
yn eglwys Dduw'n cyfarfod.
verse 15 Terfysg angau arnaw y del,
i'r pwll yr el yn lledfyw:
Sef ymherfedd eu cartref cau
nid oes ond drygau distryw.
verse 16 Minnau gweddiaf ar Dduw byw,
yr hwn a'm clyw mewn amser,
verse 17 Hwyr a borau, a chanol dydd,
a hyn a fydd drwy daerder.
verse 18 Gwaredodd Duw yr enioes fau
mewn hedd yn nyddiau drygnaws,
Lle'r oedd or blaen yn ferbyn lu,
sef ar fy'nhu troes liaws.
verse 19 Duw a'i gostwng hwynt, ac a'm clyw,
sef brenin yw er cynnoes.
Hwythau heb ymado â'i chwant,
fy Nuw nid omant eisoes.
verse 20 Ef wedi cymmod, a rhoi llaw,
drwy godi braw a frochodd,
Ef a'r un llaw (yn erbyn hedd)
yr un glyfaredd torrodd.
verse 21 Ei eiriau fal ymenyn gwyrf,
a'i fwriad ffyrf am ryfel:
Pan fo oel ar ei dafod doeth
tyn gleddyf noeth yn ddirgel.
verse 22 Obwrw d'ofal ar dy Dduw,
a mynni fyw heb syrthio,
Duw a geidw y cyfion byth,
a'r drwg f'oi chwyth i gwympo.
verse 23 Sef pob dyn gwaedlyd bradog dro
nid oesa fo hyd hanner,
(Fy Arglwydd Dduw) ond ynot ti
mae'n gobath i bob amser.
PSAL. 56. Dafydd yn achwyn rhag ei elynion: ac yn gofyn cymorth, ac yn ymddiried yn Nuw. Ac yn addaw ei foli ef yn ei Eglwys.
DUw dy nawdd ym rhag marwol ddyn
hwn yn ei wyn a'm llyngcai;
Sef ymryfelu a mi bydd,
a beunydd i'm gorthrymmai.
verse 2 Llyngcent fi beunydd o dra câs,
(dy râs o Dduw goruchaf)
Rhai beilch rhy dynion maent yn llu
yn poeth ryfelu arnaf.
verse 3 Y dydd y bai mwyaf fy ofn
rhown ynot ddofn ymddiried.
verse 4 Molaf, credaf, nid ofnaf gnawd,
doi yn ddidlawd i'm gwared.
verse 5 Yn fy ymadrodd i fy hun,
y ceisiant lun i'm maglu;
Ac ar bob meddwl a phob tro
y maent yn ceisio'nrygu.
verse 6 Ymgasglu, llechu, dirgel hwyl,
a disgwyl fy holl gerdded,
Drwy ymfwriadu i mi loes,
a dwyn i'm heionioes niwed,
verse 7 A ddiangant hwy? Duw tâl y pwyth,
dod iddynt ffrwyth i'enwiredd:
Disgyn y bobloedd yn dy lid,
Duw felly bid eu diwedd.
verse 8 Duw rhifaist bob tro ar fy rhod,
fy'nagrau dod i'th gostrel:
Ond yw pob peth i'th lyfrau di
a wnecthym i yn ddirgel?
verse 9 Y dydd y llefwf, gwn yn wir
dychweler fy'nghlynion,
An fod drosof fy Nuw â'i law,
mi a wn y daw yn union.
verse 10 Gorfoleddaf yngair fy Nuw,
gair f' Arglwydd byw a folaf,
verse 11 Yn Nuw y rhof ymddiried siwr.
beth a wnel gwr nid ofnaf.
verse 12 O Duw mae arnaf fi yn ddled
lawer adduned ffyddlon,
Ac mi a'i talaf hwynt yn rhwydd
i ti fy Arglwydd cyfion.
verse 13 Am yt ludd dwyn fy oes a'm gwaed,
a llestair i'm traed lithro,
Fel y rhodiwyf fi gar dy fron
yngolau'r bywion etto.
PSAL. 57. Dafydd yn anialwch Ziph yn galw ar Dduw drwy
[Page] ymddiried yn ei addewid ef. Ac y dangosai ef ei ogoniant. Am hynny y mae ef yn rhoi diolch a mawl.
DY ras, dy nawdd (fy Nuw) ym'dod
sef ynod ymddiriedaf.
Nes myned heibio'r aflwydd hyn
dan d'edyn ymgyscodaf.
verse 2 Ymddiried f'enaid ar Dduw sydd,
ar Dduw drwy ffydd mi a alwaf,
Ac a gwblhâf ei air yn iawn,
sef cyfiawn yw'r Goruchaf.
verse 3 O'r nef yr enfyn geidwad y'm,
rhag nerth dyn llym a'm llyngcai:
Enfyn fy Nuw ei nawdd, a'i hedd,
a'i lân wirioned didrai.
verse 4 Ym mysg y llewod mae fy oes,
plant dynion poethfoes eiriau,
Eu danned sydd fel gwayw neu sacth,
a'i tafod gwaeth nâ'r cleddau.
verse 5 Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar, a'i thrigolion.
verse 6 O flaen fy'nhraed y rhoesant rwyd,
ac felly'm rhwmwyd weithian,
Ar fy ffordd y cloddiasant glawdd,
i'r hwn yn hawdd syrthiasan.
verse 7 Parod yw fy'nghalon (o Dduw)
o parod yw fy'nghalon.
Canaf yt' a ddatcanaf wawd
o fawl fy'nghafawd cyson.
verse 8 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Nabl a thelyn, eb ado un,
deffrof fy hûn ar laf-ddydd.
verse 9 Mawl yt (o Arglwydd) pan ddeffrof
a rof ymysg y bobloedd,
A chlodfori dy enw a wnâf
lle amlaf y cenhedloedd.
verse 10 Cans cyrhaeddyd y mae dy râs
hyd yn'nhyrnas y nefoedd,
A'th wirionedd di hyd at len
yr wybren, a'i thyrnasoedd.
verse 11 Ymddercha (Dduw) y nef uwchlaw,
oddiyno daw d'arwyddion,
A bydded dy ogoniant ar
y ddaiar a'i thrigolion.
PSAL. 58. Y mae efe yn gosod allan ddull ei elynion, y rhai yn ddirgel a geisient ei ddifa ef: ac y mae efe yn troi ar farn Duw, ac yn dangos y caiff yr union lawnydd pan gwymper y traws. A hyn er gogoniant i Dduw.
A I'r uniondeb (o bobloedd wych)
yr ydych yn ei ddwedyd?
A ydych chwi, o blant dynion,
yn barnn'r union hefyd?
verse 2 Hyttrach malais sy yn eich bron
ac ystryw calon dwyllgar:
A gwaith eich dwylo trowsder blin.
tra foch yn trin y ddaiar.
verse 3 Y rhai annuwiol aent ar gam,
o groth eu mam newidient,
Ac ar gyfeilorn mynd o'r bru,
a chelwydd fu a draerhent.
verse 4 Un wedd a gwenwyn y sarph yw
y gwenwyn byw sydd ynddyn.
Neu'r neidr fyddar yn trofau
dan gai ei chlustiau cyndyn:
verse 5 Yr hon ni wrendy ddim ar lais,
na'r wers a gais y rhinwyr,
Nac un gyfaredd ar a wna
y cyfarwydda'o syn-wyr.
verse 6 Duw, torr eu dannedd yn eu safn,
diwreiddia'r llafn o dafod:
Duw dryllia'r bonau, a gwna'n donn
bob grudd i'r c'nawon llewod.
verse 7 Todder hwynt fel dwr ar y tir,
felly distennir hwythau:
Os mewn bwa rhoesant saeth gron,
boed torri hon yn ddrylliau.
verse 8 Boent hwy mor ddiffrwith, ac mor hawdd
a malwen dawdd y todder:
Neu fel rhai bâch ni welai'r byd,
o eisiau pryd ac amser.
verse 9 Tâl Duw iddynt ffrwythau eu llid,
cynt nac y llosgid ffagldan:
Tynn hwynt wy ymaith yn dy ddig,
cyn twymnai cig mewn crochan.
verse 10 A phan weler y dial hyn,
fo chwardd y glanddyn cyfion.
Pan fo rhydd iddo olchi eu draed
yngwaed yr annuwolion.
verse 11 Yna dywaid dynion fod iawn,
a ffrwyth i gyfiawn bobloedd,
A bod ein Duw yn farnwr ar
y ddaiar a'r therfynoedd.
PSAL. 59. Dafydd yn ofni Saul, yn dangos ei ddiniweidrwydd
[...]
[Page 52] hun, a chreulondeb ei elynion: yn gweddio yn erbyn pechaduriad maleisius, ac yn moli Duw.
FY Nuw gwareda fi rhac brâd
a rhac twyll fwriad gelyn,
Derbyn di drosof rhac y rhai
a godai yn fy erbyn.
verse 2 Ac ymddiffyn fi yn bybyr
oddiwrth weithredwyr camwedd,
Achub fyfi rhac câs y byd,
a rhac gwyr gwaedlyd hygledd.
verse 3 Ac wele, maent hwy i'm cynllwyn,
amcanent ddwyn fy mywyd,
Nid ar fy mai yr haeddais hyn,
ond tynder gelyn gwaedlyd.
verse 4 Duw rhedent hwy yn barod iawn,
a dym ni wn awn iw herbyn.
Edrych dithau, fy Arglwydd rhed,
a thyred i'm hymddiffyn.
verse 5 Ti Dduw yllu: Duw Israel,
o deffro gwel enwiredd,
I'r cenhedloedd na âd di'n rhâd,
lle y gwnant drwy frâd eu trawsedd.
verse 6 Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr,
o'mdroi ar wyr o bobparth,
A thrwy y ddinas clywch eu swn,
un wedd a'r cwn yn cyfarth.
verse 7 Wele maent a thafodau rhydd,
awch ledd a sydd iw genau,
Pwy meddant hwy all glywed hyn?
ac a wna i'nherbyn ninnau.
verse 8 Ond tydi fy Arglwydd a'm Duw,
a'i gwel, ai clyw, a'i gwatwar,
Am ben eu gwaith y chwerddi di
y cenhedlaethi twyllgar.
verse 9 Ti a attebi ei nerth ef,
a'th law gref a'm hamddiffyn
verse 10 Duw a'm rhagflaena innau chwip,
caf weled trip i'm gelyn.
verse 11 Na lâdd hwynt rhag i'm pobloedd i
anghofi dy weithredoedd:
Gwasgar, gostwng hwy yn dy nerth
Duw darian prydferth lluoedd.
verse 12 Am bechod eu tafodau hwy,
a'i geiriau, mwyfwy balchedd,
Telir iddynt ni ront air teg
ond celwydd, rheg, a choegedd.
verse 13 Duw difa, difa hwynt i'th lid,
a byth na fid un 'mwyach,
Gwybyddant mai Duw Iago sydd
drwy'r byd yn llywydd hyttrach.
verse 14 Maent hwy yn arfer gydâ'r hwyr
o'mdroi yn llwyr o bobparth,
A thrwy y ddinas clywch ei swn,
un wedd a chwn yn cyfarth.
verse 15 I gael ymborth crwydro a wnant,
ac oni chânt eu digon,
Nes cael byddant ar hyd y nos
yn aros dan ymryson.
verse 16 Ninnau a ganaf o'r nerth tau,
a'th nawdd yn forau molaf:
Nerth ym' a nawdd buost (o Ner)
pan fu gorthrymder arnaf.
verse 17 I ti canaf, o Dduw fy' nerth.
a'm hymadferth rymusol,
Sef tydi yw, fy Nuw, fy Naf,
fy'nhwr, fy'noddfa rasol.
PSAL. 60. Dafydd pan oedd yn frenin ar Juda, yn dangos drwy
[...]rwyddion mai Duw a'i dewisasai, ac yn dangos hynny
[...]r bobl: dymuno ar Dduw orphen yr hyn a ddechreuasei.
O Dduw, dydi a'n gwrthodaist,
ar wasgar gyrraist ymaith,
O sorraist wrthym yn ddi gel,
tro attom, dychwel eilwaith.
verse 2 Dychrynaist di y ddaiar gron
a holltaist hon yn ddrylliau,
Cans o'th lid ti siglo ymae,
iachâ, a chae ei briwiau.
verse 3 Dangosaist i'th elynion di
o bwys caledi ormod,
A'r ddiod a roist yn eu min,
oedd megis gwin madrondod.
verse 4 Rhoddaist faner, er hyn i gyd,
i bawb o'r byd a'thofnant,
I faneru drwy dy air gwir,
dros lu y tir lle y trigant:
verse 5 Fel y gwareder drwy lân hwyl,
bob rhai o'th anwyl ddynion.
O achub hwynt â'th law ddeau.
a gwrando finnau'n ffyddlon.
verse 6 Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw fy'nghyfamod,
Miarannaf Sichem rhydd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
verse 7 Myfi biau y ddwy dref tad,
sef Gilead a Manasse,
Ephraim hefyd yw nerth fy'mhen,
a Juda wen f'anneddle.
verse 8 Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f'esgid,
A chawardded Palestina gaeth,
a'i chwerth in aeth yn rhybrid.
verse 9 Duw, pwy a'm dwg i'r ddinas gref?
pwy a'm dwg i dref Edom?
verse 10 Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw a'mleddi drosom?
Ynot unig mae'n coel ni,
perhon i ti a'n gwrthod,
Er nad aethost o flaen ein llu,
bydd ar ein tu-mewn trallod.
verse 11 O unig Dduw, bydd di' ni'n borth,
ofer yw cymorth undyn.
verse 12 Yn Nuw y gwnawn wroliaeth fawr
fo sathra'i lawr y gelyn.
PSAL. 62. Dafydd yn dangos fod yn rhaid i bob cenedl ymddiried yn Nuw. Ac na thâl dim heb Dduw.
FY unig Dduw ydyw fy'mlhaid,
mae f'enaid yn ei ddisgwyl,
O honaw ef, a thrwy ei ddisgwyl,
daw iechyd ym' o'm hanhwyl.
verse 2 Duw yw fy nghraig, a'm unig nerth
ac y madferth fy einioes,
Ac am hyn drwy ymddiffyn hir
mi ni'm ysgogir eisoes.
verse 3 Ba hyd y mae'n eich bryd barhau,
i fwrw eich maglau aflwydd,
Lleddir chwi oll; gwthir yn llwyr
fel magwyr ar ei gogwydd.
verse 4 Ymgasglent, llunient gelwydd mawr,
iw roi i lawr o'i fowredd,
Ar eu tafoda rhoi bendith
a melldeth dan ei dannedd.
verse 5 Fy enaid dod (er hyn i gyd)
ar Dduw dy fryd yn ddyfal,
Yntho gobeithiaf fi er byn,
efo a'm tyn o'm gofal.
verse 6 Sef craig ymddiffyn yw ef ym,
fy' nhwr, a grym fy my wyd,
Am hynny y credaf ynwir
na'm mawr ysgogir ennyd.
verse 7 Yn Nuw yn unig mae i gyd,
fy iechyd, a'm gogoniant,
Fy'nghraig yw, a'm cadernid maith,
a'm gobaith yn ddilyssiant.
verse 8 Gobeithiwch yntho: gar ei fron
tywelltwch galon berffaith,
Ac ymddiriedwch tra foch hyw:
a dwedwch, Duw yw'n gobaith.
verse 9 Plant Adda, gwagedd ynt i gyd,
plant gwyr sydd hud a gwegi,
Gwagach na gwygedd yn eu tawl,
mewn mantawl wrth eu codi.
verse 10 Na rowch eich coel ar gam na thrais
rhaid yw i falais drwccio:
Os cynnydda cyfoeth y byd
na rowch mo'ch goglyd arno.
verse 11 Duw a lefarodd hyn unwaith,
mia glywais ddwywaith hynny,
Sef, mai Duw biau'r nerth i gyd,
gostyngiad byd, neu ffynnu.
verse 12 O Arglwydd, ti hefyd a fedd
drugaredd a daioni,
I bawb dan gwmpas wybren faith,
yn ol ei waith y teli.
PSAL. 63. Dafydd wedi diangc o Ziph yn diolch i Dduw am ei waredu, yn prophwydo dinistr gelynion Duw, a dedwyddwch y rhai a ymddiriedant yntho.
TYdi o Dduw yw y Duw mau,
mi a geisiai'n foreu attad,
Y mae fy enaid yn drasych,
a'm cnawdd mewn nych amdanad.
verse 2 Mewn lle heb ddwfr, mewn crinder crâs,
ceisiais o'th ras dy weled,
Mal i'th welswn yn y Deml gynt,
ar helynt nerth gogoned.
verse 3 Cans dy drugaredd (o Dduw byw)
llawer gwell yw nâ'r bywyd,
A'm gwefusau y rhof yr fawl,
a cherdd ogonawl hyfryd.
verse 4 Felly tra fwyf fi fyw y gwnaf,
ac felly'th folaf etto,
Ac yn dy enw di sydd gu
y caf dderchafu'n wylo.
verse 5 Digonir f'enaid fel â mer
a chyfl
[...]wn f
[...]asder hefyd,
A'm genau a gâ
[...] y moliant tau,
â phur we
[...]usau hyfryd.
verse 6 Tra fwy fi yn fy'ngwely clyd,
caf yn fy'mryd dy gofio,
Ac y ngwiliadwr aethau r nos
caf achos i fyfyrio.
verse 7 Ac am dy fod yn gymmorth ym,
drwyfawr rym'dy drugaredd,
Fy holl orfoledd a gais fod
dan gysgod dy adanedd.
verse 8 Y mae f enaid wrthyd y nglyn
dy ddeau sy'n ynghynnal.
verse 9 Elont i'r eigion drwy drom loe
[...],
y rhai a'm rhoes mewn golaf.
verse 10 Syrthiant hwyntwy ar f'in eu harf,
sy' noeth er tarf i'r gwirion.
A chwedi eu meirw hwyntwy dod
yn fwyd llwynogod gwylltion.
verse 11 Ond y brenin yn enw ei Dduw
boed tra fo byw yn llawen.
A phawb a dyngo iw fowredd
a gaiff orfoledd amgen.
verse 12 Ond o'r diwedd y daw yn wir,
fe a dywell dir tywod,
I gau safnau y rhai y sydd
yn tywallt celwydd parod.
PSAL. 64. Dafydd yn gweddio'n erbyn celwydd a cham-gyhuddiad: er cysur i'r cyfion y mae yn dangos cospedi gaeth yr enwir.
O Arglwydd Dduw, erglyw fy llef,
a chlyw, o'r nef fi'n erfyn:
O Dduw cadw fy einioes i
y sydd yn ofni'r gelyn.
verse 2 A chuddia fi dros ennyd bach
rhag cyfrinach y rhai drwg,
A rhag terfysg y rhai sy'n gwau,
i wneuthur cammau amlwg.
verse 3 Hogi tafodau fel y cledd,
a dwedyd bustledd ddigon,
Saethant ergydion i'm syrhau,
a'r rhai'n oedd eiriau chwerwon.
verse 4 I saethu'n ddirgel bigau dur,
yn erbyn pur ei galon,
Yn ddisymwth heb ofni neb,
a thrwy gasineb creulon.
verse 5 Ymgryfhânt hwy yngwaith y fall,
gan guddio'n gall eu rhwydau,
Yna y dwedant pwy a'n gwel
yn bwrw dirgel faglau?
verse 6 Gan chwilio dyfnder drygau trwch,
o fewn dirgelwch eigion,
A phawb iw gilydd yn rhoi nod
o geuedd gwaelodd calon.
verse 7 Ond y mae Duw a'i saeth ynghudd,
rhydd yn ddirybudd ergyd,
Ef a dal adref yr hawl hon,
yn ddyfn archollion gwaedlyd.
verse 8 Gwaith y tafodau drwg lle y bo,
afynn lwyr syrthio arnynt,
Pob dyn a'i gwel a dybia'n well
gilio ymhell o ddiwrthynt.
verse 9 Yna y dywaid pawb a'i gwel
gwaith y Goruchel yw hyn,
Cans felly y deallant hwy
y cosbir fwyfwy'r gelyn.
verse 10 Ond yn yr Arglwydd llawenhâ,
ac y gobeithia'r cyfion,
A gorfoledda yntho'n iawn
pob dyn ag uniawn galon.
PSAL. 65. Y ffyddloniaid yn diolch i Dduw, am eu dewis a'i llywodraethu hwy, ac am ei fendithion i'r ddaiar.
I Ti (o Dduw) y gweddai mawl
yn y sancteiddiawl Sion,
I ti y telir drwy holl gred,
bob gwir adduned calon.
verse 2 lawb sydd yn pwyso attad ti,
a wrendy weddi dostur,
Ac attad ti y daw bob cnawd,
er mwyn gollyngdwad llafur.
verse 3 Pethau trowsion, a geiriau mawr,
myfi i'r llawr bwriasant,
Ond tydi Dduw rhoi am gamwedd
drugaredd a maddeuant.
verse 4 Dy etholedig dedwydd yw,
caiff nesnes fyw i'th Babell,
Trig i'th gynteddau, ac i'th lys,
a'th sanctaidd weddus gangell.
verse 5 Duw'n ceidwad attebi i ni
o'th ofni i'th gyfiownedd,
Holl obaith wyd drwy'r ddaiar hon,
a'r mor cynhyrfdon rhyfedd.
verse 6 Hwn a sicchrâ bob uchel fryn
â'i wregys yn gadernyd,
verse 7 Hwn a ostega'r mor, a'r don,
a rhuad eigion enbyd.
verse 8 A holl breswylwyr eithaf byd
sy'n ofni'gyd d'arwyddion,
I ti gan forau, a chan hwyr,
y canant laswyr ffyddlon.
verse 9 Dyfrhau y ddaiar sech yr wyd,
afon Duw llanwyd drosti,
Darperaist lif-ddyfr rhyd ei llwr
iw thramawr gyfoethogi.
verse 10 Pob rhych yr wyd yn ei ddyfrhau,
a'i chwysau'r wyd iw gostwng,
A'i rhoi ym mwyd mewn cafod wlith,
iw chwd rhoi fendith deilwng.
verse 11 Coroni'r ydwyd ti fal hyn
y flwyddyn â'th ddaioni,
Y ffordd hyn a'r modd (Duw fy' ner)
diferaist frasder arni.
verse 12 Ef a ddifera ffrwyth dy serch
ar bob rhyw lannerch ddyrys,
Pob mynydd sych yn uchder gwlâd
o ffrwyth dyrâd y dengys.
verse 13 Drwy dy fendith y gwastad dir
a guddir oll â defaid,
Crechwennant, cannant bawb ynghyd,
a'r wlâd ac yd ei llonaid.
PSAL. 66. Y mae'n annog pawb i foli Duw yn ei weithredoedd, ac yn dangos ei allu ef a'i drugaredd i Israel, ac yn dysgu i bawb ei ofni a'i foli ef.
YN Nuw ymlawenhewch i gyd,
yr hollfyd, a datcenwch
verse 2 Ogoniant ei enw hyd y nef,
a'i foliant gref a draethwch.
verse 3 Wrth Dduw dwedwch fo bair dy law
i'th elyn oerfraw anfad,
Rhag amled yw nerth y llaw hon
â dy gaseion danad.
verse 4 Felly'r holl fyd i gyd a'i rhi
i ti a ymostyngant,
Canant yt' fawl, ac ânt hyd lawr,
i'th enw mawr y canant.
verse 5 O dowch, edrychwch ofnus yw
gweithredoedd ein Duw cyfion,
Ofn ei weithredoedd a rydd ddysg
ymysg holl feibion dynion.
verse 6 Fo droes y mor coch yn dir sych,
ai wyr yn droed-sych drwyddo,
A thrwy yr afon: llawen fu,
ei bod heb wlychu yno.
verse 7 Ef byth bydd lywydd cadarn gwych
a'i olwg edrych beunydd
Ar y cenhedloedd drwy'r holl fyd,
ni chyfyd rhai anufydd.
verse 8 O bobloedd molwch Dduw ar gais
a moeswch lais ei foliant;
verse 9 Hwn sy'n dal bywyd yn y gwaed
a ddil ei traed na lithrant.
verse 10 O Dduw profaist a choethaist ni
un wedd a choethi arian.
verse 11 Yn gaeth y dygaist ni i'th rwyd,
ein cyrph a wasgwyd weithian.
verse 12 Aethom drwy ddwfr a thân yn gaeth
bu rai'n marchogaeth arnom:
O peraist hyn: ni bu chwaith hir,
i ddiwall dir y daethom.
verse 13 Ac offrwm poeth i'th dy yr âf
talaf fy addunedau,
verse 14 Y rhai mewn cyfwng, rhac mwy trais
addewais â'm gwefusau.
verse 15 Poeth ebyrth breision yt a rof,
aroglaeth cof cyfammod,
Ychen, hyrdd, offrymmu a wnaf,
ac etto rhoddaf fychod,
verse 16 O dowch yn nes, a gwrandewch chwi
sy'n ofni Duw tragfythoes,
My a fynegaf i chwi'n ffraeth
pa les a wnaeth i'm heinioes.
verse 17 Llefais i arno â'm genau,
a'r tafod mau a'i molawdd,
verse 18 Pe troeswn fy'nghalon at fai,
Duw a'm gwrandawsai'n anawdd,
verse 19 Diau Duw a'm clybu yn hawdd,
gwrandawawdd ar fy'ngweddi,
Bendigaid yw: fo a'm clywawdd,
ni throes mo'i nawdd oddiwrthi.
PSAL. 67. Gweddi om lewyrch wynebpryd Duw, fel yr adwaener ei farnedigaethau. A dangos mai Duw sy'n llywodraethu pob peth.
TRugaredd Duw i'n plith,
a rhoed ei fendith drosom,
A thywynned ei wynneb-pryd,
a'i nawdd, a'i iechyd arnom.
verse 2 Fel y gwyper dy ffyrdd
drwy'r ddaiar gydwyrdd gnydoedd,
A'th iechydwriaeth di (o Dduw)
y'mysg pob rhyw genhedloedd,
verse 3 Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bridrwy'r hollsyd.
verse 4 A'r holl genhedloedd is wybren,
byddant lawen a hyfryd.
Cans ti a ferni'n iawn
y bobl drwy lawn wybodaeth,
Ac a roi'r holl genhedloedd ar
y ddaiar mewn llywodraeth.
verse 5 Duw, moled pobloedd di,
rhoent fawl a bri trwy'r hollfyd.
verse 6 Yna rhydd y tir ffrwyth i'n plith,
a Duw ei fendith hefyd.
verse 7 A Duw, sef Duw ein tâd,
a rotho ei râd a thycciant,
A therfynau y ddaiar gron,
a phawb ar hon a'i hofnant.
PSAL. 68. Dafydd yn dangos trugareddau Duw iw bobl, a bod Eglwys Duw yn rhagori ar bob peth bydol.
YMgyfoded un Duw ein Ner,
gwasgarer ei elynion,
Un drygddyn honynt nac arhoed,
o'i flaen ffoed e'i gaseion.
verse 2 Os chwalu mwg mewn gwynt sy hawdd,
os tawdd cwyr wrth eiriasdan,
Fel hynny o flaen Duw (yn wir)
yr enwir a ddiflannan.
verse 3 Ond llawenycher ger bron Duw
y cyfion, im orfoledd;
A'i hyfrydwch hwyntwy a fydd
yn llawenydd cyfannedd.
verse 4 Cenwch, a molwch enw Duw,
sef hwn yw uwch y nefoedd
Yn marchogaeth, megis ar farch,
iw enw rowch barch byth bythoedd.
verse 5 A gorfoleddwch gar ei fron,
Duw tirion,
[...]âd ymddifaid,
Ac i'r gweddwon mae'n farnwr da
yn ei bryswylfa gannaid.
verse 6 Duw a wna rai mewn ty'n gytun,
ei hun mae'n gollwng gefyn,
Ac yn rhoi trigfan mewn tir crâs,
i ddynion atcas cyndyn.
verse 7 Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu,
dy daith a su drwy ddrysni,
verse 8 Y ddaiar crynodd o flaen Duw,
a'r nef rhoes amryw ddefni.
Ac felly Sinai o flaen Duw,
sef (unduw Israel howddgar.)
verse 9 Ar d'etifeddiaeth hidlaist law,
i ddiflinaw y ddaiar.
verse 10 Gwrteithiast hon, dy bobloedd di
sydd ynthi yn preswylio:
Oth râd darpera
[...]st Dduw i'r tlawd,
i gael digondawd yno.
verse 11 Yr Arglwydd Dduw a roddai'r gair
mawr mintai'r cantoressau:
verse 12 Cilient gedyrn: gweiniaid arhont,
yr ysbail rhont yn rhannau.
verse 13 Pes ymdroech mewn parddu allwch
chwi a fyddwch fel y glommen,
A'i phlu yn aur ac arian teg,
yn hedeg is yr wybren.
verse 14 Hon pan wasgarodd Duw yn chwyrn,
bob cedyrn o'i gaseion,
Oedd mor ddisgleirwych, ac mor wenn,
ac eira'ar ben bryn Salmon.
verse 15 Mynydd Duw (sef Sion) y sydd
fel Fasan fynydd tirion:
Mynydd Fasan uchel ei grib
cyffelib yw i Sion.
verse 16 Chwychwi fynyddoedd cribog pam
y bwriwch lam mewn cyffro?
Duw ar S
[...]ion
[...]i serch a roes,
lle myn ef eisoes drigo.
verse 17 Rhif ugain mil o filoedd yw
angylion Duw mewn cerbyd:
Ynghyssegr Sinai y bu ei wlith,
bydd Duw iw plith hwy hefyd.
verse 18 I'ruchelder y derchefaist,
a chaethludaist gaethiwed,
Cymraist, dodaist ddoniau, Duw Ion,
i ddynion oedd ddiniwed.
verse 19 Bendigaid fyth fo'r Arglwydd man
am ddoniau ei ddaioni.
A'i iechydwriaeth i ni'n llwyth
o beiffrwyth ei haelioni.
verse 20 Efe ei hun yw'n Duw ni i gyd,
sef Duw
[...]in iechyd helaeth,
Drwy'r Arglwydd Dduw cawn yn ddi swrth,
ddiangc oddiwrth farwolaeth.
verse 21 Duw yn ddiammau a dyrr ben,
a thalcen ei elynion,
A choppa walltog rhai a fo
yn rhodio mewn drwg creulon.
verse 22 Dygaf fy'mhobloedd (meddai ef)
hyd adref fel o Fasan,
A ddygaf hwynt iw hol drachefn,
fel o'r mor donlefn allan.
verse 23 Fel y gwlychech ditheu dy draed
yn llif gwaed dy ddigassau,
Ac y llyfo dy gwn heb gel
y gwaed a ddel o'i briwiau.
verse 24 Gwelodd pawb (o Dduw) dy ystâd,
yn dy fynediad sanctaidd,
Mynediad fy' Nuw frenin fry,
fel hyn iw dy cysegraidd.
verse 25 Y cantorion, aent hwy o'r blaen,
cerddorion aen ol ynol,
Yna'r gweryfon, beraidd gân,
ar tympan yn y canol.
verse 26 Clodforwch Dduw hynny sydd dda,
ym mhob cyn llifa ddiwael,
A chlodsorwch yr Arglwydd Ion,
chwi sydd o ffynnon Israel.
verse 27 Doed Benjamin y llywydd bach,
doed b
[...]llach dugia
[...]a Juda,
Doed Neputali, a Zabulon,
a
[...]ywysogion yna.
verse 28 Dy D
[...]uw a drefnodd i ti nerth,
a'i law sydd bry
[...]ferth geidwad,
Duw cadarn â etto yn faith
arnom ni waith dy gariad.
verse 29 Er mwyn Caersalem adail deg
rhydd cedyrn anrheg yty.
verse 30 Difetha dyrfa y gwaywffyn,
a'r rhai a syn ryfely.
Dewr fel teirw, nwyfus fel lloc,
y rhei'ni a roe yr arian:
Delont i'r iawn: tyn nerth a nwy
a gostwng hwy yn fuan.
verse 31 Y pendefigion o'r Aipht draw
a ddaw, ac Ethiopia,
At Dduw yn brysur i roi rhodd,
ac aberth gwirfodd yna.
verse 32 Holl dyrnasoedd y ddaiar lawr,
i Dduw mawr cenwch foliant,
Cenwch, cenwch ei glod yn rhwydd,
sef Arglwydd y ogoniant.
verse 33 Hwn a farchoggodd y nef fry,
a hynny o'r dechreuaid:
Wele, daw nerthol sain ei lef
o eitha'r nef i wastad.
verse 34 Rhoddwch gadernid i Dduw ner,
sef uchder ei ragoriaeth,
Y sydd ar Israel, a'i nerth
uwch wybrau pryddferth gywaeth.
verse 35 Duw, o'th gysegr i'th ofnir di
Duw Israel dodi nerthoedd,
A chadernid mawr wyd i'th blaid,
bendigaid sych oes oesoedd.
PSAL. 69. Serch Dafydd, a'i flinderau: creulondeb ei elynion, ei gysur, a'i glod i Dduw: y mae efe hefyd yn annog pob creadur i foli Duw, ac yn prophwydo am
[Page] dyrnas Christ: ac yn y psalm hon y mae Dafydd yn arwydd o Grist.
AChub fi Dduw (y gwr a'm gwnaeth)
tros f'enaid daeth llif-ddyfr-loes,
verse 2 Yr wyf mewn dyfnder tom ynglyn,
heb le i'mddiffyn f'einioes.
O'r dyfnder daethym fel ar fawdd,
a'r ffrwd alifawdd uchod:
verse 3 Sychodd fy'ngheg, blinodd fy llais,
â'm llygaid pellais ganfod.
verse 4 A hyn wrth ddisgwyl Duw a'i râs,
wele fy'nghâs yn amlach
Nâ'r gwallt ar ben fy'nghoppa fry,
a'r trowsion sy'n gadarnach.
Y rhai celwyddog, tâcrion ynt
rhois iddynt beth ni chelais.
verse 5 Adwaenost (Dduw) f'ynfydrwydd mau,
a'm beiau fi ni chuddiais.
verse 6 O'm plegid i dim gwarth ni chânt,
y rha
[...] a goeliant arnad,
Na âd (Dduw'r lluoedd) fefi na thrais
i'r rhai a ymgais attad.
verse 7 (Duw Israel) sef er dy fwyn,
yr wyf yn dwyn gwarthrudd-deb,
A thrwy gywilydd ymarhois,
mewn chwys y tois fy wyneb.
verse 8 I bobl dieithr wyfi, (gwn pa'm)
i blant fy' mam fel estron.
verse 9 A'm fod fy serch a'm zel i'th dy
i'm hysu hyd fy'nghalon.
Cans cabl y rhai a'th gablant di
ar f'ucha i mae'n disgyn.
verse 10 Fy' nagrau, cystudd, a'm hun-pryd,
ynt warth i gid i'm herbyn.
verse 11 A phan wisgwn i liain sâch,
bum ddiystyrach lawer,
verse 12 Bum chwedyl drws i gryf a thlawd
i'r meddw yn wawd iw harfer.
verse 13 Ond f'Arglwydd Dduw, gwnaf attad ti
fy'ngweddi yn amserol,
O gwrando fi i'th wirfawr hedd,
ac i'th wirionedd grasol.
verse 14 Du
[...], gwared fi, a gwna fi'n rhydd,
o'r dom y sydd i'm suddo,
Sef caseion, dyfroedd dyfnion,
a mi nid ofnaf gyffro.
verse 15 Na I fed dwfr drosof'yn ff
[...]wd,
na'm llynced amrwd ddyfnder
Na chaued pydew arnaf chwaith,
mo'i safn diffaith ysceler.
verse 16 Gwrando fi bellach Arglwydd
cans da yw dy drugaredd,
Yn amlder dy dosturi mawr
edrych i lawr rhag trowsedd,
verse 17 O'm cyfyngder oddiwrth dy wâs
na chudd mo râs dy wyneb,
Rwyf yn gweddio yn fy'ngloes,
Duw bryssia moes y'm atteb.
verse 18 N
[...]shâ at f'enaid Arglwydd mau,
er fy' rhyddhau a'm gwared,
Moes ymddiffyn rhag cael o hon
gan fy'ngelynion niwed,
verse 19 Duw di a
[...]elio bob parth
fy' ngwr
[...]dwydd, gwarth, a'm cwilydd
Oherwy
[...] rh
[...]dio gar dy fron
mae y'ngelynion beunydd.
verse 20 M
[...]wn gorthrwm ofid yr wyf fi
a gwarth yn torri'nghalon:
Disgwyl, cymhorthwyr, ni ddoe neb,
ni chawn gysurdeb tirion.
verse 21 Bustl a roesan yn fwyd i mi,
finegr o dorri syched.
verse 22 Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd,
a'i llwydd yn dramgwydd bydded.
verse 23 Ar eu llygaid dallineb doed,
iw lwynau boed crynfeydd.
verse 24 Tywallt arnynt dy ddig a'th lid,
doed iddynt ofid beunydd.
verse 25 Boed eu palasau'n wâg heb wedd,
ac anghyfannedd iddyn,
Na allo neb na dydd na nos
mo'r aros yn eu tyddyn.
verse 26 Cans yr hwn a darawsyd ti
mae' rhei'ni yn ei erlyd,
A'r doluarau y sydd o'th friw
ymaent iw hedliw hefyd.
verse 27 Dod gamwedd ar eu camwedd hwy
na ddont mwy 'ith gyfiownder
verse 28 Ymaith o lysr y bywyd-llawn,
o fysg y cyfiawn tynner.
verse 29 Finnau pan fwyf ofidus wan,
a phan fwyf druan hefyd,
Dy iechydwriaeth di (o Dduw)
eilchwyl i fyw a'm cyfyd.
verse 30 Moliannaf d'enw Dduw ar gân,
fal dynaf'amcan innau.
verse 31 A hyn sydd gwell gan Dduw deyrn
nag ych â chyrn a charnau.
verse 32 A phob truan, pan weler hyn,
a ennyn o lawenydd,
A'ch calon chwi sy'n ceisio Duw
cyfyd i fyw o newydd.
verse 33 Duw gwrendy dlawd, ni ddirmyg lef
ei gaethwas ef sy fethîant.
verse 34 Nef, a daiar, a mor, a hyn
a ymlysg ynthyn, molant.
verse 35 Cans Duw a geidw Sion deg,
a threfna'n chwaneg Juda,
A deilada ddinesydd hon,
i ddynion yn breswylfa.
verse 36 Ie ei weision ef a'i hil,
a'i heppil, a'i meddiannant,
A'r rhai a hoffa yn ei enw fo,
yn hynno a breswyliant.
PSAL. 71. Gweddi (drwy ffydd) ar i Dduw ei waredu ef rhac ei fâb Absalom greulon.
MI a'mddiriedais ynod (Ner)
na'm gwradwydder byth bythodd
verse 2 Duw o'th gyfiownder gwared fi,
a chlyw fy'nghri hyd nefoe
[...]d.
verse 3 Duw bydd yn graig o nerth i mi
i gyrchu atti'n wastad,
A phar fy'nghadw i yn well,
ti yw fy' nghastell caead.
verse 4 Duw gwared fi o law'r trahaus
a'r gwr trofaus, a'r trowsddyn.
verse 5 Ynot ti Dduw bu'ngoglud maith,
a'm gobaith er yn ronyn.
verse 6 O groth fy'mam y tannaist fi,
rhoist ynof egni etto,
I tithau fyth, am hyn o hawl,
y canaf fawl heb peidio.
verse 7 I lawer dyn bum anferth iawn,
ti yw fy' nerthlawn lywydd,
verse 8 Fy safn bydd lawn o'th fawl gan dant
ac o'th ogoniant beunydd.
verse 9 Nac esgeulusa fi na'm braint
yn amser henaint truan.
Er pallu'r nerth, na wrthod fi,
Duw edrych di r f'oedran:
verse 10 Medd fy'nghaseion r'wyf yn wann
hwy a ddis
[...]wiliant'a
[...]af:
Ymgy gho
[...]asant yn ddi synn,
gan ddwedyd hyn am danaf;
verse 11 Duw a'i gwrthododd, (meddant hwy)
erlidiwch fwyfwy bellach,
A deliwch ef, nid oes drwy'r byd
yr un a'i gweryd haiach.
verse 12 Er hyn o frad, (Duw) bydd di well,
na ddos ymhell oddiwrthy,
Fy Nuw prysura er fy'mhorth,
ac anfon gymmorth ymmy.
verse 13 Angau gwarthus pob rhai a gânt
a wrthwynebant f'einioes,
Gwradwydd a gwarth iddynt a drig,
a gynnig i mi ddrygloes.
verse 14 Fy'ngobaith innau a saif byth
yn ddilyth asafadwy.
Ymddiried ynot (Dduw) a wnaf,
ac a'th foliannaf fwyfwy.
verse 15 Dy iechydwriaeth sy i'm genau,
yr hwn ni thau funudyn,
A'th gyfiawnder, ac ni wn i
ddim o'r rhifedi arnyn.
verse 16 Ynghadernid yr Arglwydd Dduw
tra fwy fi byw y credaf.
A'th gyfiownder di hyd y brig,
yn unig hyn a gofi
[...]f.
verse 17 Duw, dia ddysgaist i mi hyn,
do, er yn blent yn bychan.
A hyd yn hyn r'wyf yn parhau
i osod d'wrthiau allan.
verse 18 O Duw na wrthod fi yn hen,
a'm pen, a'm gen yn llwydo,
Nes i'm ddangos i'r rhai sy'n ol
dy wrthiau nerthol etto.
verse 19 Dy gyfiownder yn uchel aeth,
yr hwn a wnaeth bob mowredd,
Duw pwy y sydd debyg i ti?
nid ydym ni ond gwagedd.
verse 20 Duw gwnaethost di ym'fyw yn brudd,
a gweled cystudd mynych,
Troist fi i fyw, dychwelaist fi,
drwy'nghodi o'r feddrod rych.
verse 21 Mwy fydd fy mawredd nag a fu,
troi i'm d
[...]ddanu innau.
verse 22 Yna y molaf dy air am hyn,
ar nabl offeryn dannau.
O Sanct Israel, canaf hyn,
ar delyn, ac â'm genau,
verse 23 Am ytty wared f'enaid i,
gwnâf i ti hyfryd leis
[...]u.
verse 24 Canaf y't hesyd gyfion glod
â'm tafod: wyt iw haeddu,
Am yt warthau a gwarthruddiaw,
fy'nghas sy'n ceisiaw 'nrygu.
PSAL. 72. Salomon a'i deyrnas yn y psalm hon yn arwydd ac y
[...] ffigur o Grist a'i ogoniant.
DUw dod i'r brenin farn o'r nef,
dod iw fâb ef gyfiowndeb,
verse 2 Yna y rhydd rhwng pobl iawn farn,
ac i'r dyn tlawd uniondeb.
verse 3 Hedd a chyfiownder yn ol hyn,
cair ym bob brin a mynydd.
verse 4 Y gwan a'r llesg achub a wna,
fe ddryllia y gor thrymmydd.
verse 5 Hwy a'thofnant byth ar bob tro,
tra treiglo haul a lleuad,
verse 6 Fo ddifgyn fel glaw ar wellt glâs,
neu gafod frâs ar wastad,
verse 7 Iw ddyddiau ef cerir yr iawn,
a'r cyfiawn a flodeua,
Ac aml fydd hedd ar ddaiar gron,
tra fo'r lloer hon yn para.
verse 8 Llwydda efe o sôr hyd fôr,
o'r ffrwd hyd oror tiredd,
verse 9 Ei gâs ymgrymmant, llysant lwch,
hyd yr anialwch cyrredd.
verse 10 Cdeyrn o Tharsus frenhinoedd,
ac o'r ynysoedd canol,
O Seba ac Arabia deg,
doe bawb â'i anrheg reiol.
verse 11 Yr holl frenhinoed doent yn llu,
a than ymgrymmu atto,
A'r holl genhedloedd, felyn gaeth,
a wnant wasanaeth iddo.
verse 12 Cans y dyn rheidus, a'r gwr gwan,
fo'i gweryd pan weddio,
Bydd i bob dyn yn nerthol dwr,
ar ni bo pleidiwr gantho:
verse 13 Ef a erbyd y tlawd mewn rhaid,
fo achub enaid glanddyn:
verse 14 Fo a'i gweryd rhag twyll a drwg,
gwerthfawr iw olwg ydyn.
verse 15 Felly bydd byw: roir iddo dda,
sef aur o Seba ddedwydd,
Hwy a weddiant arno fo,
gan ei fendithio bennydd,
verse 16 Rhyd pen y mynydd yd a gân,
fel brig coed Liban siglant,
A'r plant cyn amled ar gwellt glâs,
o'r ddinas a flagurant.
verse 17 Oshaul cylch wybren byth a dry,
byth pery enw iddaw,
Pawb a'i bendithia ef yn wir,
pawb a fendithir ynthaw.
verse 18 Bendigaid fo yr Arglwydd Dduw
(sef Duw yr Israel dirion)
Efe'n unig byth sy'n parhau,
i wneuthur gwrthiau mowrion.
verse 19 Bendigaid fytho i enw byth,
gogonedd dilyth iddo,
A'i glod llenwir y ddaiaren:
Amen, Amen, hyn fytho.
PSAL. 73. Dafydd yn dysgu i ddynion nad anghysurent er gweled llwyddiant yr enwir, neu aflwyddiant y cyfion, yn y byd hwn drwy ddangos mor ddisymmwth y diflanna y drwg, a maint gwobr y daionus.
YS da yw Duw i Israel,
wrth bawb a wnel yn union:
verse 2 Minnau lithrais, braidd na syrthiais
swrth wael fu f'amcanion.
verse 3 Cans cynfigennais wrth y ffol.
ar dyn annuwiol dihir,
Braidd na chwympais pan y gwelais
eu hedd a'i golud enwir.
verse 4 Can nad oedd arnynt rwymau caeth
i gael marwolaeth ddynol,
Lle maent yn byw yn heini hyf,
yn iraidd gryf ddigonol.
verse 5 Ac ni ddoe arnynt lafur blin
hyd y bawn i'n eu deall.
Na dim dialedd na dim gwyn,
fel y doe ar ddyn ara
[...]l.
verse 6 Am hynny syth maent yn ymddwyn,
fel o fewn cadwyn balchder,
A gwisgant am danynt yn dynn
(megis dilledyn) drowsder.
verse 7 A'i llygaid hwynt wy wrth dewhau
doent yn foglymmau drosodd,
A'i golud hwy, er hyn o wyn,
uwch meddwl dyn a dyfodd.
verse 8 Treuthu eu trowsder, bon yn dynn,
a bostio hyn ar wasgar;
verse 9 Egori safn at wybren fry,
a thafod cry' drwy'r ddaear.
verse 10 Am hyn rhai o'i bobl ef â chwant
a ymddychwelant yma,
Yn gweled y dwfr yn loyw lân,
a thybio y cân eu gwala.
verse 11 Cans ymresymmant hyn yn syw,
pa'm? ydyw Duw yn canfod
Pwy sydd yn ddrwg, a phwy sy'n dda?
ydyw'r gorucha'n gwybod?
verse 12 Wele y drygddyn mwya'i chwant
caiff fwyaf llwyddiant gwastad;
Yn casglu golud a mawr dda,
hwnnw sydd fwya'i godiad.
verse 13 Ofer iawn su i mi warhau,
a llwyr lanhau fy'nghalon:
Golchi fy'nwylo, caru gwir,
a bod yn hir yn gyfion:
verse 14 Cael fy'maeddu ar hyd y dydd:
ond trwstan fydd uniondeb,
Os borau, ac os pryd nawn,
myfi a gawn wrthwyneb.
verse 15 Hyn os dwedwn, a feddyliwn,
y ryw feddalaidd ammau,
Wele, a'th blant di y gwnawn gam,
i ddwyn un llam a minnau.
verse 16 Pan geisiwn ddeall hyn yn llwyr,
o nerth fy synwyr ddynol,
Hynny i'm golwg i oedd flin,
nes cael rhyw rin ysprydol.
verse 17 Ond pan euthym i gysegr Duw,
lle cefais amryw olau,
Yna deallais i pa wedd,
y bydd eu diwedd hwythau.
verse 18 Gwybum i ti eu gosod hwy,
lle caent lam mwy'n y diwedd,
Sef mewn lle llithrig rhwydd-gwymp trwch,
anialwch anghyfannedd:
verse 19 Ond gwedi dodaist iddynt wth,
disymmwth y pallasant,
Mynd o'r byd heb na lliw na llûn,
o'i hofn eu hun darsyddant.
verse 20 Fel breuddwyd pan ddihunai un,
y gwnai di iddun f'Arglwydd,
O'r newid hon y caiff fy'nghâs,
drwy yr holl ddinas wradwydd.
verse 21 Bum i ddig wrthyf fi fy hûn,
ac oerni fu'n fy'nghalon,
verse 22 Nas dd
[...]allaswn hyn yn gynt,
bum ffol un hynt ac eidion.
verse 23 Er hyn etto bum gydâ thi,
lle i'm twysi yn ddilysiant,
verse 24 Wrth sy llaw ddeau: wedi hyn
fy'nerbyn i gogoniant.
verse 25 Pa'm? pwy (o Dduw) sydd gennyf fi
ond tydi yn y nefoedd?
Dim ni ddymunwn gydâ thi,
wrth weini daiar leoedd.
verse 26 Fy'nghalon i, a'm nerth, a'm cnawd
y sydd mewn palldawd beunydd,
Ond tydi Dduw sydd ar fy rhan,
a'm tarian yn dragywydd.
verse 27 Aelo ymhell oddiwrthyd ti,
y rhei'ni gwnacnt yn ddiffaith:
Ac a buteiniant rhag ot ti,
y rhei'ni torrir ymaith.
verse 28 Ond mi a ddof nesnes at fy' Nuw,
fy'ngobaith yw i'm calon,
verse 29 Y traethaf fi ei nerth, a'i wyrth,
o fewn dy byrth, merch Sion.
PSAL. 74. Achwyn am fod yn distrywio'r Eglwys, a'r grefydd, a'r allorau: gofyn cymorth gan Dduw drwy ffydd o i gyfamod.
PAham (o Dduw) oddiwyrthym ni
y cili yn dragywydd?
Paham y digi mor danbaid
wrth ddefaid dy borfeydd?
verse 2 Cofia y bobl a brynaist gynt,
rhoist iddynt etifeddiaeth,
Mynydd Seion, dy breswylfa,
i'r rhai'n yn drigfa helaeth.
verse 3 Ymddercha (Arglwydd) taro'n drwm,
pob gelyn gorthrwm difa
Yn dragywydd, a wnaeth na thrais,
na defais i'th gysegrfa.
verse 4 Dy elynion daethant i'n mysg,
rhuasant derfysg greulon:
A gosodasant dan gryfhau,
fanerau yn arwyddion.
verse 5 Iw cherfio'r saeri gorau gynt,
a roesan wynt iw bwiyll.
verse 6 Drylliant i'r llawr gerfiadau hon
ag eirf, gyfeillion erchyll.
verse 7 Llosgasant oll dy eglwys lân,
a'i phyrth a thân yn ulw,
A halogasant mewn dull dig,
y noddfa'y trig dy enw.
verse 8 Awn, gwawn gyd-artaith meddant hwy,
a dinystr drwy yr hollwlad:
Llosgasant holl demlau y tir,
gwnaethant yn wir eu bwriad.
verse 9 Nid oes un arwydd in' iw gael,
na prophwyd diwael destyn,
Na gwybedydd, a wyr pa hyd,
y pery'r byd i n herbyn.
verse 10 Dywaid di pa hyd (o Dduw Ion)
y gwna d'elynion warthrudd?
A rydd dy gâs ei gabledd fri
arnat ti yn dragywydd?
verse 11 Paham y tynni'n ol dy law,
(sef dy ddeheulaw berffaith,
Hon sydd i'th fownes) allan tynn,
a difa d'elyn diffaith.
verse 12 Cans o'r dechreuad Duw ei hûn
ydyw fy'nghûn a'm brenin,
Fe a wnâ iechwydwriaeth hir,
i bawb trwy'r tir a'i dilin.
verse 13 Parthu a wnaethost di â'th nerth
y mor, a'i anferth donnau,
Gwahenaist, torraist, uwch y don,
bennau y blinion ddreigiau.
verse 14 Drylliaist di ben, (nid gorchwyl gwan)
y Lefiatban anferth,
I'th bobl yn fwyd dodaist efo,
wrth dreiglo yn y ddiserth.
verse 15 Holltaist y graig, tarddodd ffynnon,
ac aeth yn afon ffrwd-chwyrn.
Adisbyddaist yn dra sych
afonydd dyfr-grych cedyrn.
verse 16 Di biau'r dydd, di biau'r nos,
golau a haul-dlos geinwedd:
verse 17 Sciliaist y ddaiar, lluniaist hâf;
a gauaf, o'th ogonedd.
verse 18 Fy Arglwydd bellach cofia hyn,
i'r gelyn gynt dy gablu,
Ac i'r ynfydion roi drwg fri,
a'th enw di dirmygu.
verse 19 Oes dy durtur na ddod ar gawdd,
dan nawdd anifail creulon.
Na âd o'th gof (o Arglwydd da)
dy dyrfa, y rhai tlodion.
verse 20 Duw, edrych ar dy gyfammod,
a gwyl waelod y gwledydd:
Mae ym-mhob man drigfa dyn traws,
mae honynt liaws efrydd.
verse 21 Na ddycheweled y truan tlawd
mewn difrawd ac mewn gwradwydd
Y dyn anghenus, llesg, a gwan,
a ddatcan dy enw, Arglwydd.
verse 22 Cyfod, dadlau dy ddadl (o Dduw)
dy enw yw yn dragywydd:
Coffa gabledd, yr hon drwy'r byd
a gayt gan ynfyd beunydd.
verse 23 Duw: nac anghofia lais a son
d'elynion y cenhedloedd,
Euswn, a'i rhodres, a'i dadwrdd
a ddring i gwrdd â'r nefoedd.
PSAL. 75. Mawl i Dduw, a dangos y daw ef i farnu, er codi
[...] cyfion a gostwng y drwg.
CLodforwn di (dragwyddol Dduw)
a'th enw yw yn agos.
Maint yw dy enw a'th nerth i'th hynt
dy wrthiau ynt iw ddangos.
verse 2 Dwedaist, pan dderbyniwyf y llu
mi a rof farn gu ac union.
verse 3 Fâl y nerthâis sylfeini'r byd
oedd rydd, a'i gyd-trigolion.
verse 4 Minnau a ddwedais hyn o'm bryd
wrth y rhai ynsyd, peidiwch,
Wrth annuwolion poethion chwyrn,
eich mebcyrn na dderchefwch.
verse 5 Och: na dderchefwch chwi mo'ch cyrn
na siglwch rychwyrn ragdal,
Ac na ddwedwch chwi yn warr-syth
nid rhaid yn' fyth mo'r gofal.
verse 6 O herwydd, nid o'r dwyrain draw
i'ddyn y'daw derchafiad,
Nid o'r gorllewin, na'r deau,
y daw i chwithau godiad,
verse 7 Cans ar law Duw y mae y farn,
na fid gwr cadarn rygry',
Gostwng heddyw y naill heb pall,
a chodi'r llall y fory.
verse 8 Cans yn llaw'r Arglwydd phiol sydd
cymysgwin hyd wydd ynthi,
Tywalldodd hwn: drwg ddynion byd,
yfant i gyd o honi.
verse 9 Mynegaf finnau, ac i'm cof,
ei gerdd (Duw Iagof) canaf:
[...]oraf gyrn yr annuwioliawn,
a phen y cyfiawn codaf.
PSAL. 76. Dangos gallu Duw, a'i ofal dros ei bobl. Cynghor i'r ffyddlon i fod yn ddiolchgar.
YN Juda ac Israel dir
adweinir ein Duw cyfion.
verse 2 Ei babell ef yn Salem sydd,
a'i breswylfydd yn Sion.
verse 3 Yno drylliod y a bwa a'r saeth,
a'r frwydr a wnaeth yn ddarnau:
A thorrodd ef yn chwilfriw mân
bob tarian, a phob cleddau.
verse 4 Trawsion fu cedyrn mynydd gynt,
mewn yspail helynt uchel,
Uwch a chryfach wyt na hwyntwy,
nid rhaid byth mwy mo'i gochel.
verse 5 Pob cadarn galon a ymroes,
ac ni dd
[...]ffroes o'i gyntyn.
Pawb a ddiffrwythodd pan ddaeth braw,
ni chae un llaw ei dderbyn.
verse 6 O'th waith (Duw Iagof) a'th amharch
cerbyd a'r march rhoi'i huno.
verse 7 Ofnadwy wyd pwy i'th lid wg,
a saif i'th olwg effro?
verse 8 Pan ddaeth o'r nefoedd dy farn di,
yr wyd yn peri' i chym'ryd,
Y ddaiar ofnodd, a'i holl lu,
rhoist i ostegu ennyd.
verse 9 I farnu pan gyfododd Duw
i gadw yn fyw y gwirion,
A'r rhai oedd lonydd yn y tir,
yr oeddyn gywir galon.
verse 10 Cans poethder dyn yw dy fawl di,
felly gostegi drallod:
Eu gwres, i'r da a fag gref ffydd,
i'r drwg a fydd yn ddyrnod.
verse 11 Eich rhydd i'r Arglwydd Dduw addewch,
a llawn gwblhewch eich gobrwy,
Pawb sydd o amgylch Sion deg,
rhowch anrheg i'r ofnadwy.
verse 12 Ef a ostyngodd uchel fryd,
ac yspryd gwyr rhyfelgar:
Fo a yr ofn ynghanol hedd,
ar holl frenhinedd daiar.
PSAL. 77. Dafydd yn cofio ar amryw brofedigaethau, a'r blind
[...] rau oedd arno: yn dangos mowredd Duw, ac yn ymg
[...] hau mewn ffydd.
Fy llais at Dduw, pan roddais lef,
fy llais o'r nef fo'i clybu;
A'm llais gweddiais ar Dduw Ner,
pan oedd blinder yn tarddu.
verse 2 Y dydd y rhedai'mriw, a'r nos
ni pheidia achos llafur,
Mewn blin gyfyngder gwn fy mod,
a'm hoes yn gwrthod cysur.
verse 3 Yna y cofiwn Dduw a'i glod,
pan syrthiai drallod enbyd:
Yna gweddiwn dros fy mai,
pan derfysgai fy yspryd.
verse 4 Tra fawn yn effro, ac mewn sann,
heb allel allan ddwedyd,
verse 5 Ystyriais yna'r dyddiau gynt,
a'r helynt hen o'r cynsyd.
verse 6 Cofiwn fy'ngherdd y nos fy hun,
heb gael amrantun, chwiliwn
A chalon effro, genau mud,
â'm hyspryd ymddiddanwn:
verse 7 Ai'n dragywydd y cilia'r Ion?
a fydd ef bodlon mwyach?
verse 8 A ddarfu byth ei nawdd a'i air?
a gair ei addaw bellach?
verse 9 Anghofiodd Duw drugarhau?
a ddarfu cau ei galon?
A baid efe byth (meddwn i)
fal hyn â sorri'n ddigllon?
verse 10 Marwolaeth yw'yw'r meddwl hwn:
a throis yn grwn i gofio
Ei fawr nerth gynt: cofio a wnaf,
waith y Goruchaf etto.
verse 11 Cofiaf dy weithredoedd (f'Arglwydd)
a'th wrthiau hylwydd cofiaf,
verse 12 Am bob rhyfeddod a phob gwaith,
â myfyr maith y traethaf.
verse 13 O Dduw, pa Dduw sydd fal ti Dduw?
dy ffordd di yw'n sancteiddiol:
verse 14 Dy waith dengys dy nerth i byd,
pair yn' i gyd dy ganmol.
verse 15 Dy nerth fawr hon a ro'ist ar led,
wrth wared yr hen bobloedd,
Iagof, a Joseph, a fu gaeth,
a'i holl hiliogaeth luoedd.
verse 16 Y deifr gwelfant, ofnasant hyn,
a dychryn cyn eu symmud.
verse 17 Cymylau dwfr cylch wybr yn gwau,
a mell
[...] saethau enbyd.
verse 18 Dy daran rhuodd fry'n y nen,
dy fellt gwnaent wybren olau,
Y ddaiair isod a gyffrodd,
ac a ddychrynodd hithau.
verse 19 Yn eigion mor m
[...]e y ffordd dau,
a'th lwybrau mewn deifr sugnedd,
Ac ni adweinir byth mo'th ol,
yn dy anfeidrol fowredd.
verse 20 Dy bobloedd a dywysaist di
drwy anial ddrysni efrydd,
Gan law Moses, a'i frawd Aaron,
fel defaid gwirion llonydd.
PSAL. 78. Dangos ddarf
[...]d i Dduw ddethol ei eglwys o had Abraham annog y plant i gydnabod trugaredd Dduw, ac i gywillyddio dros aml ddrygau eu tadau; dangos gweithredodd Duw.
FY' mhobl i gyd gwrandewch fy'neddf,
a boed fy' ngreddf i'ch calon
Clust ymostyngwch a'm genau,
i ystyr geiriau ffyddlon.
verse 2 Mewn diharehion, i barhau,
fy'ngenau a egoraf:
A hen ddamhegion oedd ar hyd
y cynfyd a ddangosaf.
verse 3 Y rhai a glywsom gynt eu bod,
ac ym yn gwybod hefyd,
Ac a fynegodd yn ddiau,
ein tadau er y cynfyd.
verse 4 Heb gel my negwn ninnau'n ffraeth,
hyn iw hiliogaeth hwythau:
Canmolwn Dduw i'r oes a ddel,
ei nerth a'i uchel wrthiau.
verse 5 Felly gorchmynnodd ef fod cof,
yn Iagof: ac i'r hynaf
Yn Israel ddysgu iw blant,
ogoniant y Goruchaf.
verse 6 Fel y gwypid o oes i oes,
y rhoes ef ei dystiolaeth:
O Dâd i fâb o fâb i wyr,
i gadw llwyr wybodaeth.
verse 7 Gobeithio'n Nuw, cofio ei waith,
y sydd mal rhaith eneidiol:
I gael cadw ei orchymmyn,
rhoes Duw'r wers hyn yn rheidiol.
verse 8 Rhag ofn mynd o'r genhedlaeth hyn
yn gyndyn ac anufydd:
A chalon wan ac yspryd gwael
heb afael gyd a i llywydd.
verse 9 Eu tadau, fel plant Ephraim,
yn arfog lym er sacthu,
Troesant eu cefnau yn y gâd,
ymroi â dadynylu.
verse 10 Cyfammod Duw a wrthodent,
ni rodient yn ei Gyfraith,
verse 11 Anghofio 'i wyrth a welsent gynt,
a'i ddeddfau oeddynt berffaith.
verse 12 Yn nhir Aipht: ym maes Zoen,
gwnaeth Duw gyflafau fwyfwy.
verse 13 Rhoi dwfr y mor yn ddau dwrr crych
a'r llawr yn sych i drammwy.
verse 14 Y dydd mewn niwl y nos a thân,
twysai'n lân ei bobloedd:
verse 15 Holldi'r cre-giau a'i troi'n llynnian,
a llenwi ei lu a dyfroedd.
verse 16 Er tynnu dwfr o'r garreg lâs,
er llithro 'n loyw lâs ffrydau:
verse 17 Yn yr anialwch digient Dduw,
chwanegent amryw feiau.
verse 18 Yn y diffaethwch prosent Dduw,
oes fwyd i fyw? meddylient:
verse 19 A all Duw gael 'n ymma fwyd,
mewn cyfryw lochwyd? dwedent.
verse 20 Er taro'r graig a rhedeg dwr,
yn ffrydau cyflwr diball:
A eill efe roi i'n fara 'a chig,
i'n cadw yn ddiddig ddiwall?
verse 21 Pan glybu Duw yr araith hon,
f
[...]l
[...]ân yn wreichion nynnydd,
Yn Iago ac yn Israel,
gan lid yn uchel digiodd.
verse 22 A'i ddig oedd am na chredent hwy,
i Dduw a'i fywiol fowredd,
Ac na welent pa iechyd oedd
yn ei weithredoedd rhyfedd.
verse 23 Gorchymmyn wybren, a'i gwarhau,
egoryd drysau'r nefoedd:
verse 24 A Manna'n fwyd, fel gwenith nef,
a lawiodd ef iw luoedd.
verse 25 Rhoi i ddyn gael rhyw luniaeth de,
sef bara yr Angylion:
verse 26 Gyrru rhyd wybren ddwyrain wynt
gydâ'r deheuwynt nerthlon.
verse 27 Fel y llwch y rhoes gig iw hel,
ac adar fel y tywod:
verse 28 Ynghylch eu gwersyll a'i trigfydd,
y glawiai beunydd gawod.
verse 29 Bwyta digon o wledd ddiwael,
a chael eu bwyd dymunnol:
verse 30 Ac heb ommedd dim ar eu blys,
nac mo'i hewyllys cnawdol.
verse 31 A'i tameidiau hwy iw safnau,
(ys ofnwn y Goruchaf:)
Yn Israel lladodd iw ddig
wyr etholedig brasaf.
verse 32 Er hyn pechent, ac ni chredent,
iw iach radau rhyfedd:
verse 33 Treuliodd Duw eu hoes hwy am hyn,
mewn dychryn ac oferedd.
verse 34 Tra fyddai Duw yn eu lladd hwy,
os ceisient dramwy atto:
Os doent drwy hiraeth at ei râs,
yn forau glâs iw geisio.
verse 35 Os cofient fod Duw iw holl hynt,
graig iddynt a gwaredydd:
verse 36 (Er ceifio sommi Duw'n y daith,
â'i gweiniaith, ac â'i celwydd:
verse 37 Er nad oedd eu calon yn iawn,
na ffyddlawn iw gyfammod:)
verse 38 Er hyn trugarhaei Duw o'r nef,
a'i nodded ef oedd barod.
Rhag eu difa, o'i lid y troes,
ac ni chyffroes iw hartaith:
verse 39 Cofiodd ddyn, os marw a wnai,
nas gallai ddychwyl eilwaith.
verse 40 Pa sawl gwaith y cyffroesant hwy
wrth fyned trwy'r anialwch?
Gan ddigio Duw a'i lwyr dristhau,
ynghreigiau y diffeithwch.
verse 41 Troesant, profasant Dduw â'i chwant,
gan demptio Sanct yr Israel:
verse 42 Anghofio eu cadw hwynt fal hyn,
rhag cael o'i casddyn afael.
verse 43 Rhoesai'n yr Aipht arwydd o'i râ
[...]
a'i wyrth yn ninas Zoan:
verse 44 Y modd y troes eu dwfr yn waed,
ni chaed dim glan-ddwfr allan.
verse 45 Rhoes Duw yngwlâd yr Aipht iw plau,
waed, gwybed, llau, a llyffaint:
verse 46 Lindys, locus, i ddifa'i ffrwyth,
a chenllysg lwyth, a mall-haint.
verse 47 Distrywiodd Duw eu byd, gwellt, gwydd
verse 48 Eu coedydd, a'i han'feiliaid:
A chenllysg cessair, mellt a roes,
bu wrth eu heinioes danbaid.
verse 49 Rhoes arnynt bwys ei lid, a'i fâr,
ac ing anghreugar digllon:
Ffrwyth ei lidiowgrwdd ef, a'i wg,
anfonodd ddrwg angylion.
verse 50 Rhyw ffordd a hon iwlid a droes
heb ludd iw heinoes angau,
Ond dwyn eu bywyd hwy drwy haint,
yn ei ddigofaint yntau.
verse 51 Yna y tarawodd un Duw Naf
y plant cyntaf anedig
Yn nhir yr Aipht, a phebyll Cam,
sef am ei fod yn llawnddig.
verse 52 Ond (gan droi at ei bobl yn hawdd)
foi twysawdd drwy'r anialfan,
Fel arwain defaid, lwybrau pell,
yn wael ddiadell fechan.
verse 53 Arweiniodd hwyntwy yn ddiofn,
drwy'r mor (ffordd ddofn) heb wlychu
A'i holl elynion heb swy stor,
fe wnaeth i'th mor e
[...] llyngcu.
verse 54 Rhoes hwy i etifeddu'n rhydd,
ym mynydd ei sancteiddrwydd:
Yr hwn a ddarfu ei warhau,
â llawddeau yr Arglwydd.
verse 55 Rhoes ef y wlad i ddwyn pob ffrwyth
rhoes i bob llwyth ei gyfran
O Israel, ac yn eu plaid,
thoi'r hen drigoliaid allan.
verse 56 Er hyn temptient, a digient Dduw
hwn unic yw sancteiddiol:
Ac ni fynnent mo'r ufyddhau,
iw dystiolaethau nefol.
verse 57 Ond mynd ar gil, ac ymlaccau,
fel eu holl dadau twyll naws:
Megis bwa a fai mewn câd,
ac yntho dafliad gwyrdraws.
verse 58 Hwyntwy yn fynych a'i cyffroent,
mewn camwedd troent oddiwrtho
At wylfa nos, a delw o bren,
fal hyn y digien efo.
verse 59 Ond y Gorucha'n gweled hyn,
a ddigiodd wrthyn hwythau:
Felly dirmygodd Israel,
a gadel ei ammodau.
verse 60 Yna'r ymadawodd efo,
â chysegr Shilo dirion:
Ei bebyll a'i brifysgol ddysg,
lle' buasai' mysg ei ddynion.
verse 61 Ei nerth a roes i garchar caeth,
dan elyn daeth eu mowredd:
verse 62 Ei bobl ei hûn i'r cleddau llym',
(fal dyna rym' ei 'ddigedd:)
verse 63 Ei wyr ieuainc fo'i rhoes i'r tân,
gweryfon glân rhoes heibio:
verse 64 Ei offeiriaid i'r cleddyf glâs,
a'i waddw ni chafas wylo.
verse 65 Yr Arglwydd gwedi byn deffroe,
fal un a ddoe o gysgu:
Neu fal gwr cadarn wedi gwin,
yn erwin iw dychrynu.
verse 66 Taflodd y gelyn yn ei ol,
rhoes mewn tragwyddol wradwydd,
verse 67 Rhoes wyrion Joseph dan un pwyth
ac Ephraim lwyth i dramgwydd.
verse 68 Gwedi cwlio y rhai'n i gyd,
fo roes ei fryd ar Juda:
Ar fynydd Seion (ei dretâd).
o gariad yw breswylfa.
verse 69 Yna yr adeiladodd ef,
adeilad gref a howddgar,
Yn gysegr-lys byth i barhau,
fel hen seiliadau'r ddaiar.
verse 70 Etholodd ef Ddafydd ei was,
yr hwn oedd ddifas fugail:
Ac a'i dug ef ir maes yn lân,
o'i gorlan a'i ddefeid-gail,
verse 71 O borthi defaid mammau wyn,
iw ddwyn i borthi dynion:
Iagof, ac Israel, a'i plant,
dyna ei feddiant ffyddlon.
verse 72 Yntau a'i porthodd hwynt yn ol
ei berfaith reiol galon:
Ac a'i trinodd hwy yn brydferth,
o nerth ei ddwylaw cyfion.
PSAL. 79. Achwyn rhag y dinistra wnaethai Antiochus ar Deml Dduw a Jerusalem: a gofyn cymorth gan Dduw rhag ei orthrwm elynion.
LLawer cenedl (o Dduw) a ddaeth,
i'th etifeddiaeth unig:
Rhoed, Caerselem a'i chyssegr hi,
yn garneddi o gerrig.
verse 2 Rhoi cyrph dy weision, wrth eu rhaid
i hediaid y ffurfafen:
I'nfeiliaid maes rhoi cig dy saint,
fel dyma fraint aflawen.
verse 3 Fel ffrydau dwfr tywallt a wnaed,
eu gwaed o amgylch dinas
Caerselem, heb roi corph mewn bedd,
fel dyna ddiwedd atgas.
verse 4 Yn ddirmyg, gwradwydd, ac yn warth,
i bawb o'n pobparth ydym.
verse 5 O Dduw pa hyd? wyd byth yn ddig?
ai fel tân ffyrnig poethlym?
verse 6 Tywallt dy lid ar bobl estron,
thai nid adwaenon m'onot:
Ac ar dyrnasoedd ni eilw,
(Duw) ar dy enw hynod.
verse 7 Cans wyrion Iagof (bobl oedd gu)
y maent iw hysu'n rhyfedd:
Ac a wnaethant i'r rhei'ni fod
preswylfod anghyfannedd.
verse 8 Na chofia'n camwedd gynt i'n hoes,
Duw bryssia moes drugaredd:
Dy nodded a'n rhagfla
[...]no ni
fy' mewn trueni'n gorwedd.
verse 9 O Dduw ein iechyd cymorth ni,
er mwyn dy fri gogonol:
A gwared er mwyn dy enw tau,
ni rhag pechodau marwol.
verse 10 Pan y gofynnant ple mae'n Duw,
dod arnynt amryw ffonnod:
I ddial gwaed dy ddwyfol blant,
ac yno cânt hwy wybod,
verse 11 Duw, doed ochenaid ger dy fron
dy garcharorion rhygaeth:
Ac yn dy ddirfawr ogoniant,
ymddiffyn blant marwolaeth.
verse 12 Ein cymdogion a'th gablodd di,
tâl i'r rhei'ni yn gwbl ol
Eu cabledd iw mynwesau'i hun,
o Arglwydd gun gorchestol.
verse 13 Ninnau dy bobl a'th ddefaid mân,
a wnawn yt gân ogonawl,
O oes i oes byth i barhau,
ac i'th fawrhau'n dragwyddol.
PSAL. 80. Gweddi at Dduw dros yr Eglwys, ar iddo barhau ei ddaioni a ddechreuasei ef ynthi.
CLyw di fuga
[...]l i Israel,
sy'n arwain vel y defaid,
Hil Iagof, allewycha di,
a'steddi ar Gerubiaid.
verse 2 Fel y gwelo Ephraim hyn,
Benjamin a Manasses:
Cyfod, cymorth a gwared ni,
o'th fawr ddaioni cynnes.
verse 3 Llewycha d'wyneb, dychwel ni,
Duw di a'n cedwi'n gyflym:
Duw y lluodd, clyw ein gweddi,
pa hyd y sorri wrthym?
Llewea'i bara, drwy wylo yn dost,
a wnaethost di i'r eiddod:
A rhoi iddynt ddagrau bob awr,
drwy fesur mawr yn ddiod.
verse 6 Duw i'n gelynion o bob parth
rhoist ni yn warth i'n gwatwar:
verse 7 Llewycha d'wyneb, dychwel ni,
felly i'n cedwi'n gynnar.
verse 8 Dugost o'r Arpht winwydden ir,
rhoist iddi dir i dyfu:
A'r holl genhedloedd o bob man,
troist allan cyn ei phlannu.
verse 9 Arloesaist y tir o'i blaen hi,
a pheraist iddi wreiddio:
verse 10 Llanwodd, cuddiodd bob bryn a llawr
fel cedrwydd mawr yn brigo.
verse 11 A'i hiraidd frig ysthyn yr oedd
hyd foroedd ac afonydd:
verse 12 Pam y rhwygaist gae'r fâth berlwyn
i bawb i ddwyn ei ffrwythydd?
Pawb ai heibio yn tynnu ei grawn,
pan oedd hi'n llawn ffrwyth arni:
verse 13 A'r baedd o'r coed yn tirio 'i llawr,
a'r bwystfil mawr iw phori.
verse 14 O Dduw y lluoedd, edrych, gwyl,
a dychwyl i'mgleddu
Y winllan hon a blennaist di,
â'th law, a'i rhoddi 'dyfu.
verse 15 Lle cadarnheist i ti dy hun,
dy brif blanhigyn dedwydd:
verse 16 Llygrwyd â'r cledd, a'r tân yn faith,
a hyn o waith dy gerydd:
verse 17 I gryfhau gwr dy ddehau law,
boed drostaw dy fraich nerthol:
Hwn a sicchreist i ti dy hun,
sef dros fab dyn dewisol.
verse 18 Tros hwn tra rhoddych di dy law,
oddiwrthaw ni ddy
[...]hwelwn:
O Dduw, dadebra, bywha ni,
ar d'enw di y galwn.
verse 19 A dadymchwel nyni i fyw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd:
Ty wynna arnom d'wyneb-pryd,
ni a gawn iechyd bythoedd.
PSAL. 81. Cyngor i foli Duw am ei ddaioni, ac i gydnabod â'n anniolchgarwch.
O Cenwch fawl i Dduw ein nerth,
cerdd brydferth cenwch iddo:
A llafar lais, a genau ffraeth,
gerddwriaeth i Dduw Iago.
verse 2 Cymerwch gathl y psallwyr lân,
a moeswch dympan hefyd:
A cheisiwch ganu gydâ hyn
y nabl a'r delyn hyfryd.
verse 3 Cenwch udcyrn ar loer newydd,
y pryd sydd nodol iddo:
verse 4 Sef deddf yw hon ar wyl uchel,
Duw Israel ac Iago.
verse 5 Yn Joseph clymmodd hyn yn ddysg,
pan ddaeth o fysg yr Aipht wyr:
Lle clywais iaith oedd ddieithr im',
heb ddeall dim o'i hystyr.
verse 6 Dwedodd fy Nuw: drwy nerth fy mraich
tynnais faich eich ysgwyddau:
Ac felly tynnais eich dwy law,
i'madaw a'r ffwrneisiau.
verse 7 I'th flinder gelwaist arnaf fi,
gwaredais di fut yma:
Wrth lais taran fy mrhofiad oedd,
ynglan dyfroedd Meribba.
verse 8 Fy mhobl Israel gwrando fi,
os yftyri yn ffyddlon:
verse 9 Na fid ynot arall yn Dduw,
na chrymma i gaudduw estron.
verse 10 Myfi yr Arglwydd Dduw a'th ddug
o'r Aiphtir caddug allan:
Llanwaf dy fol heb ddiffyg dafn,
lleda dy safn yn llydan.
verse 11 Ni choeliai Israel fy rhybudd,
ni fyddent ufudd ymy:
verse 12 Gollyngais hwynt iw ffyrdd eu hun,
iw cyngor cyndyn hynny.
verse 13 Och na wrandawsai Israel,
gan rodio'n ffel fy llwybrau:
verse 14 A phwys fy llaw llethaswn fron
eu holl elynion hwythau.
verse 15 Caseion ein Duw, yn ei lid,
a ostyngesyd iddaw.
Ac ef a roesai yn y tir
ammodau hir i'r eiddaw.
verse 16 Ein Duw a roesai iddynt borth,
drwy frasder cymorth rhadol:
Rhoi mel o'r graig, rhoi llaeth yn flith,
a gwenith yn ddigonol.
PSAL. 82. Yn erbyn tuedd ac anghyfiownder barnwyr: a dymuno cyfiownder ar law Duw ei hun.
HOll farnwyr byd mae Duw'n eu myfg,
pe cymrent addysg gantho:
Duw yw ymysg y duwiau mân,
a'i farn sy lân heb wyro.
verse 2 Pa hyd y rhoddowch farn ar dro,
gan bleidio gydâ'r trowsion?
verse 3 I'r tlawd, ymddifad, rheidus trwch,
paham na fernwch union.
[...]
[...]
verse 4 Gwrandewch chwi ar y gwan a'r gwael,
a'r tlawd heb gael mo'i gyfraid:
(Pan ddel y rhei'ni gar eich bron)
o ddwylo'r trowsion diriad.
verse 5 Gwyr heb wybod heb ddeall chwaith
sy'n rhodio taith tywyllni:
Ny syslent hwy, pe siglai'nghyd,
yr hollfyd a'i sylfeini.
verse 6 Dwedais mai duwiau ych yn siwr,
a phlant i'r Gwr goruchaf:
Er hyn mal dyn marw a wnewch,
un gwymp a gewch a'ch hynaf.
verse 7 Duw cyfod, a dyro farn ar
y ddayar a'i thyrnasoedd:
Cans mawr yw d'etifeddiaeth, di
a feddi'r holl genhedlocdd.
PSAL. 83. Plant Israel yn gweddio, ar i Dduw eu gwared rhag eu gelynion: ac ar iddo gosbi rhai drwg fel yr ofnent ef.
NA ostega, na thaw, na fydd
di lonydd Duw y lluoedd:
verse 2 Wele, d'elynion yn cryfhau,
gan godi 'pennau i'r nefoedd.
verse 3 Ymgyfrinachu dichell ynn',
y lle mae ganthyn fwriad,
A dychymygu dilen brudd,
i ni sy'n ymgudd danad.
verse 4 Dwedasant, dewch difeithwn hwynt
na byddo honwynt genhedl:
Ac na byddo byth (meddant hwy)
am Israel mwy mor chwedl.
verse 5 Ymgynghorasant bawb ynghyd,
ac yn un fryd i'th erbyn,
verse 6 E dom, Ismael, Moab blaid,
a'r holl Hagariaid cyndyn.
verse 7 Gebal, Ammon, Amalech
[...]aid,
Philistiaid a gwyr Tirus:
verse 8 Assur, yn gydfraich â phlant Lot,
fal dyna gnof maleisus.
verse 9 Tâ dithau adref yn y man,
megis i Madian greulon,
I Sisera, ne'i Jabin swrth,
a laddwyd wrth lan Cizon.
verse 10 Yn Endor gynt bu laddfa fawr,
ar hyd y llawr ar wasgar:
Gwna honynt hwythau laddfa ail,
a'i cyrph yn dail i'r ddaiar.
verse 11 Gosod eu bonedd hwy fel Zeb,
ac Oreb yr un diwedd:
A'i twysogion fel Zeba,
a Salmunna i orwedd.
verse 12 Dwedent y 'mynnent yn eu byw
gysegrfa Duw i'w meddiant:
verse 13 Fel troad rhod, neu wellt mewn gwynt,
dyna yr hynt a gaffant.
verse 14 Fal y llysg tân bob pren crin,
a'r ffl
[...]m yr eithin mynydd;
verse 15 Felly â'th 'storm, ymlid hwy'n gynt
na dychrn corwynt efrydd.
verse 16 Llanw en tâl o warth a chwys,
ceisiant ar frys yr Arglwydd.
verse 17 Ac yn dragwyddol iddynt bydd,
gywilydd, mefl, a gwradwydd.
verse 18 Difether hwynt: gwyped dyn byw
mai d'enw di yw Jehovah:
Ac mai ti unic Dduw sydd ar
y ddair yn oruchaf.
PSAL. 84. Dafydd yn hiraethu am Deml Dduw, ac am gynulleidfa y Sainct: a chlod y bobl a ymwelant â Sion.
DY Babell di mor hyfryd yw
(o Arglwydd byw y lluoedd)
verse 2 Mynych chwenychais weled hon,
rhag mor dra-thirion ydoedd.
Mae f'enaid i (fy Ion) mewn blys,
i'th gyflegr lys duedu:
Fy'nghalon i, a'm holl gnawd yw,
yn Nuw byw'n gorfoleddu.
verse 3 Aderyn y to cafodd dy,
a'r wennol fry iw chywion
Le wrth dy allor di iw trin,
fy Nuw a'm brenin tirion.
verse 4 Gwyn ei fyd a drig yn dy dy,
caiff dy folianny ddigon:
verse 5 Ac ynot ti sy'n cadarnhau,
a'th lwybrau yn eu calon.
verse 6 Pe rhon a gorfod ar y rhai'n
rhyd glyn wylofain dramwy:
Gosodant ffynnon iddyn nhw,
a'r glaw a leinw fwyfwy.
verse 7 Ant rhagddynt bawb o nerth i nerth
nes cael yn brydferth ddyfod:
I'mddangos i Dduw gar ei fron,
yn Sion ei breswylfod.
verse 8 Arglwydd Dduw y lluoedd clyw fi,
a'mgweddi o Dduw Iagof:
verse 9 Gwel wyneb d'eneiniog, ai stâd,
Duw'n tarian nâd fi'n angof.
verse 10 Gwell yw nâ mil, un dydd i'th dy,
am hynny mwy dewisol.
Ym sod ar riniog y drws tau,
nâ phlasau yr annuwiol.
verse 11 Sef, haul a tharian yw Duw mâd,
a rydd rad a gogoniant
Ni lestair ef ddaioni maith,
i'r rhai a berffaith rodiant.
verse 12 O Arglwydd Dduw y lluoedd mawr
anfon i lawr dy gymmod:
Dedwydd yw'r dyn a rotho'i gred,
a'i holl ymddiried ynod.
PSAL. 85. Er mwyn nad oedd Duw yn tynnu mo 'i wialen oddiar ei Eglwys gwedi ei dyfod adref o Babel, maent hwy yn gyntaf iw goffau ef i orphen arnynt waith ei ras. Ac yn achwyn rhag eu hir gystudd, ac yn olaf, yn ymlawenychu yn eu gobaith o addewidion Duw.
DA wyd i'th dir (Jehova Ner)
dychwelaist gaethder Iago:
verse 2 Maddeuaist drowsedd dy bobl di,
mae'i camwedd wedi 'i guddio.
verse 3 Tynnaist dy lid oddiarnom ni,
troist di ddiglloni awchlym:
verse 4 (O Dduw ein nerth) tro ninnau'n well,
a'th lid bid bell oddiwrthym.
verse 5 Ai byth y digi wrthym ni?
a sorri di hyd ddiwedd?
A saif dy lyd o oes i oes?
Duw gwrando, moes drugaredd.
verse 6 Pam? oni throi di a'n bywhau,
allawenhau yr eiddod?
verse 7 O dangos in dy nawdd mewn pryd
felly cawn iechyd ynod.
verse 8 Beth a ddywaid Duw am danaf,
mi a wrandawaf hynny:
Fe draetha hedd iw bobl, a'i Sainct,
rhag iroi ym mraint ynfydu.
verse 9 I'r rhai a ofnant Arglwydd nef,
mae i iechyd ef yn agos:
Felly y caiff gogoniant hir,
o fewn ein tir ni aros.
verse 10 Ei drugaredd, a'i wirionedd,
ar unwaith cyfarfuant:
Ei uniondeb, a'i hedd ynghyd,
dwy'r tir a'mgydgusanant.
verse 11 Gwirionedd o'r ddaiar a dardd,
uniondeb chwardd o'r nefoedd:
verse 12 Duw a ddenfyn yn' ddaioni,
a'n tir i roddi cnydoedd.
verse 13 Uniondeb oedd o flaen Duw nef,
a'r cyfion ef aed rhagddo:
A Duw a rodia yn ei waith,
fel i'r un daith ac efo.
PSAL. 86. Dafydd yn gweddio ar Dduw am gymmorth, ac yn dymuno ar Dduw ei ddysgu ef. Ac y mae efe yn achwyn rhag ei elynion.
GOstwng o Arglwydd y glust dau,
clyw fy'ngweddiau trymion:
Gwrando fi sy'druan a thlawd,
o'th barawd drugareddion.
verse 2 Cadw fy oes, gwr cynnwys wy,
ac ytti'r ydwy'n credu:
Duw bydd achubwr da i'th wâs,
o'th râs dyrd i'm gwaredu.
verse 3 Trugarha wrthif Arglwydd mâd,
cans arnad llefa'n ddibaid:
verse 4 Einioes dy wâs Duw llawenhâ,
cans attad coda t'enaid:
verse 5 Cans ti o Arglwydd ydyw yd dda
i'th bobloedd a thrugarog,
I'r rhai a alwant arnat ti,
mae dy ddaioni'n bleidiog.
verse 6 O Arglwydd clyw fy llais mor llym,
a'm gweddi y'm myfyrdod:
verse 7 Clywi fy llais, gweli fy'nglwyf,
y dydd y bwyf i'm trallod.
verse 8 Ymysg y duwiau nid oes un,
fel dydi gun gogonedd:
Mysg gweithredoedd cymmain hûn,
nid oes yr un un-weithred.
verse 9 Y bobloedd oll a wnaethost (Ion)
o'th flaen don ac addolant:
A pha le bynnag ar y bont
i'th enw rhont ogoniant.
verse 10 Cans tydi ydwyd fawr a phur
yn gwneuthur rhyfeddodau:
A thydi'n unig wyd yn Dduw,
ni cheisiwn amryw dduwiau.
verse 11 Disg imi dy ffordd (o Arglwydd)
câf yn rhwydd dy wirionedd:
Gwna fy nghalon yn un â thi,
ac ofnaf fi dy fawredd.
verse 12 Fy Arglwydd Dduw moliannaf di
â holl egni fy nghalon:
Ac i'th fawr enw byth gan dant,
y rhof ogoniant cyson.
verse 13 Cans mawr yw dy drugaredd di,
tu ac attaf fi yn barod,
Gwaredaist f'enaid i o'r bedd,
ac o'r gorddyfnedd isod.
verse 14 Duw, daethant arnaf fi wyr beilch,
fel llu o weilch ewin-ddrud:
Ceisient ddwyn f'einioes o'r byd hwn,
iw golwg gwn nad oeddud.
verse 15 Ond tydi'n unig wyd hawddgâr,
a chlaear dy drugaredd.
Hwyr i'th lid, ac i gymmod hawdd,
llawn o nawdd a gwirionedd.
verse 16 O edrych arnaf, moes dy râs
i'th wâs y sydd i'th orllwyn:
Dod ym'dy nerth, cadw fal hyn
fi, plentyn dy lawforwyn.
verse 17 O Dduw dod o'th serth ym'arwydd,
er gwradwydd i'm caseion:
Pan welant dy fod yn rhoi nerth
ym', ac ymadferth ddigon.
PSAL. 87. Yr Yspryd glân yn prophwydo am ryddhâd yr eglwys a'r cysur sydd o fod yn un o honi.
SAilfeini hon (sef Sion) sydd,
ar gyssegr fynydd ucho:
verse 2 Ac ar dy byrth rhoes Duw ei serch,
uwch pob trig-lannerch Iago.
verse 3 O ddinas Duw, preswylfa'r Ion,
mawr ydyw'r son am danad:
A gogoneddus air yt' sydd,
uwch trigfennydd yr holl-wlad.
verse 4 Rahab, Babel, a Phalestin,
a Thirus flin, a'r Mwriaid,
A fu i'th blant elynion gynt,
mae rhai o honynt unblaid.
verse 5 Ond dwedir hyn am Sion ber,
fo anwyd llawer ynthi,
Nid ymbell un: cans swccwr da
yw Duw gorucha' iddi.
verse 6 Fe rydd yr Arglwydd yn ei rif,
y neb fo cyfrif hono:
Efe a esyd hyn ar led
sef, Hwn a aned yno.
verse 7 Cantor tafod, a cherddor tant,
pob rhai yt' cannant fawr-glod
A thrwy lawenydd mae'n parhau,
fy holl ffyn honnau ynod.
PSAL. 88. Y ffyddloniaid yn eu cystudd yn galw ar Dduw drwy ffydd.
O Dduw fy Iechyd, nos a dydd,
mae 'ngweddi 'n ufydd arnad,
verse 2 Gostwng dy glust, o Arglwydd nef,
a doed fy llef hyd attad.
verse 3 Cans mae fy enaid mewn dull caeth,
a'm heinioes aeth i'r beddrod:
verse 4 Fel gwr marw y rhifwyd fi,
a'm nerth oedd wedi darfod.
verse 5 Mor farw a rhai wedi eu llâdd,
a'i taflu 'nglhâdd mewn angof,
A laddyt di mor siwr a hyn,
na bai byth honyn atgof.
verse 6 Gosodaist fi mewn dyfnder trwch,
ac mewn tywyllwch eithaf.
verse 7 Rhoist bwys dy ddig ar y corph man,
a'th holl for-donnau arnaf.
verse 8 Pellheist fy holl gydnabod da,
t'wyf yn ffieidd-dra iddyn:
Ni chaf fi fyned at un car,
yr wyf mewn carchar rhydyn.
verse 9 Y mae fy 'ngolwg (gan dy lid)
mewn gofid o faw gystydd.
Duw llefais arnad yn fy mraw,
gan godi nwylaw beunydd.
verse 10 Ai i'r meirw dangosi wyrth?
a ddônt i'th byrth i'th foli?
verse 11 A draethir dy fawl yn y bedd,
a'th lân wirionedd heini?
verse 12 Ai mewn tywyll y mae dy râd?
a'th iowndeb yngwlâd angof?
verse 13 Fal hyn (Duw) llefais arnat ti,
o clyw fy'ngweddi etto.
verse 14 Pam (o f'Arglwydd a'm Duw) i'm rhaid
y rhoi f'enaid ar wrthod?
Ac y cuddi dy wyneb-pryd?
fy'nghoel i gyd sydd ynod.
verse 15 Truan ymron marwolaeth wyf,
mewn trymglwyf o'm ieuenctyd:
A'th ofni bum yn 'nychbeth gwael,
gan ammau cael mo'r iechyd.
verse 16 Dy ddig a lifodd drosof fi,
d'ofn sydd i'm torri'n efrydd,
Fel deifry daethant yn fy'nghylch,
do, do, o'm hangylch beunydd.
verse 17 Ymhell oddiwrthyf rhoist bob câr,
pob cyfaill hygar heibio,
A'm holl gydnabod afu gynt,
yr ydynt yn ymguddio.
PSAL. 89. Dafydd yn moli Duw am ei gyfammod ac yn achwyn wacced oedd ei dyrnas: ac yn olaf y mae efe yn
[Page 80] gweddio am ei wared o'i flinderau, ac yn dangos byrred
[...]es dyn.
MYsyriaf gerdd byth i barhau,
o drugareddau'r Arglwydd:
A'i wirionedd i'm genau fydd,
hyd dragywydd yn ebrwydd.
verse 2 Sef dwedais hyn: cair byth yn wir,
adeiledir trugaredd:
I barhau byth cair yn y nef
dy gadarn gref wirionedd.
verse 3 Fal hyn (o Dduw) attebaist ym',
mi a wneuthym rwym gan dyngu
I Dda ydd f'etholedig wâs,
a'r gair o'm grâs yn rarddu.
verse 4 Fal hyn sicrhâ dy hâd di byth,
a gwnaf wehelyth drefniad.
l'th gadarn faingc o oed i oed,
mi a rof bob troed yn wastad.
verse 5 Am hyn ysiccrwyd tragwyddawl
y n
[...]f o fawl dy wyrthiau:
Yngorsedd Sainct, ynghyrchfa hedd,
am hur wirioned d'eiriau.
verse 6 Pwy sydd cystal â'n harglwydd cu,
pechwilid llu'r wybrennau?
Ymvsg Angylion pwy mal Ion,
sef ymhlith meibion duwiau?
verse 7 Drwy gynulleidfa ei Sainct ef,
Duw o'r nef sydd ofnadwy:
A thrwy'r hollfyd o'n hamgylch ni,
i ofni sydd ddyladwy.
verse 8 Pwy sydd debig iti Dduw byw,
o Arglwydd Dduw y lluoedd?
Yn gadarn Ior, a'th wir i'th gylch,
o amgylch yr holl nefoedd.
verse 9 Ti a ostyngi y mor mawr,
a'r don hyd lawr yn ystig:
verse 10 A nerth dy fraich curi dy gâs,
yr Aipht, fal gwâs lluddedig,
verse 11 Eiddod nef a daiar i gyd,
seiliaist y byd a'i lanw:
verse 12 Gogledd, deau, Tabor, Hermon,
sy dirion yn dy enw.
verse 13 I'th fraich mae grym', mae nerth i'th law,
a'th gref ddeheulaw codi:
verse 14 Nawdd a barn yw dy orsedd hir,
a nawdd a gwir a geri.
verse 15 Eu gwnfyd i'r holl bobl a fydd,
a fo'illawenydd ynod:
Ac yn llewych dy wyneb glân
y rhoddian i gyfarfod.
verse 16 Yn d'unig enw di y cânt,
fawl a gogoniant beunydd,
Yn dy gyfiownder codi'a wnânt,
ac felly byddant ddedwydd.
verse 17 Cans ti wyd gryfder eu nerth hwy▪
lle y caffent fwy o dycciant:
Dydi a ddarchefi eu cyrn,
ac felly cedyrn fyddant.
verse 18 Cans o'r Arglwydd a'i ddaioni,
y daw i ni amddiffin:
O Sanct Israel drwy ei law,
oddiyno daw ein brenin.
verse 19 I'th sanct y rhoist gynt wybodaeth,
drwy weledigaeth nefol:
Gosodais gymorth ar gryf gun,
derchefais un dewisol.
verse 20 Cefais (eneiniais ef yn ol)
fy'ngwâs dewisol Dafydd
Ag olew sanct: 21 Brach a llâw gref,
[...]hoist gyd ag ef yn llywydd.
verse 22 Ni chaiff gelyn ei orthrymmu,
na'i ddrygu un mab enwir:
verse 23 O'i flaen y coetha'i elynion,
a'i holl gaseion dihir.
verse 24 Fy'ngwirionedd, a'm trugaredd,
rhof fi trwy gariad iddo,
Ac yn fy enw fi 'yn ddi orn,
dychrefir ei gorn efo.
verse 25 Gosodaf ei law ar y mor,
ac o'r goror bwygilydd:
A gosodaf ei law ddeau,
hyd terfynau'r afonydd.
verse 26 Ef a weddia arnaf fi
iw galedi, gan ddwedyd,
Ti yw fynhad fy Nuw, fy'ngharn,
yn gadarn o'm ievenctyd.
verse 27 Minnau gwnaf yntau im yn fab,
yn gynfab ac etifedd,
At frenhinoedd y ddaiar las,
yn uwch ei ras a'i fowredd.
verse 28 A chadwaf iddo (yr un wedd)
drugaredd yn dragwyddol:
A'm cyfammod iddo yn llawn,
yn ffyddlawn, ac yn uerthol.
verse 29 Gosodaf hefyd byth i'w had,
nertha mawrhâd uwch bydoedd
A'i orsedd-faingc ef i barhau,
un wedd a dyddiau'r nefoedd.
verse 30 Ond os ei blant ef (drwy afrol)
nid ânt yn ol fy ngbyfraith,
Os hwy ni rodiant, gan barhau,
i'm beirn a'm llwybrau perffaith.
verse 31 Os fy neddfau a halogant,
ni chadwant fy holl eirchion,
verse 32 Yna ymwelaf a'i cam gwrs,
â gwiadl scwrs, neu goedffon.
verse 33 Ond ni thorraf ag ef un nod,
o
[...] hammod a'm trugaredd:
Ac ni byddaf fi ddim yn ol,
o'm ystyriol wirionedd.
verse 34 N
[...] thorraf fy nghyfammod glân,
a ddaeth allan o'm genau,
Ac ni newidiaf air o'm llw,
mi a rois hwnnw'n ddiau.
verse 35 Yn fy sancteiddrwyd tyngais im
na phallwn ddim i Ddafydd,
verse 36 Bydd ei had a'i drwn, yn ddi draul
o'm blaen fel haul tragywydd.
verse 37 Yn dragywydd y sic
[...]rheir ef,
fel cwrs (is nef) planedau
Haul neu leuad, felly y bydd
ei gwrs tragywydd yntau.
verse 38 Ond ti a'n ffieiddaist ar fyrr,
ac yn ddiyst yr lidiog
Di a gyffroaist yn drablin,
wrth dy frenin eneiniog.
verse 39 Diddymaist di dy air i'th was,
a'th râs, a'th addewidion:
Ac a'i halagaist ef yn fawr,
gad daflu'i lawr ei goron.
verse 40 A drylliaist ei fagwytydd ef,
a'i gaer gref rhoi'st yn adwy,
verse 41 Yn egored felly y mae
yn brae i bawb sy'n tramwy.
verse 42 Iw gym 'dogion gwarthrudd yw ef,
a than law gref ei elyn,
A llawen iawn y codent floedd,
bob rhai a oedd i'w erbyn.
verse 43 Troist hefyd fin ei gleddau ef,
a'i law oedd gref a blygaist:
verse 44 Darfu ei lendid ef a'i wawr,
a'i drwn i'r llawr a fwriaist.
verse 45 Pryd ei ieuenctyd heibio'r aeth,
a thi a'i gwnaeth cyn fyrred,
Abwriaist drosto wradwydd mawr,
o nen hyd lawr y torred.
verse 46 Pa hyd 'y Nuw y byddi'nghudd?
ai byth, fy llywydd nefol?
A lysg dy lid ti fel y tân
yn gyfan yn dragwyddol?
verse 47 O cofia f'oes ei bod yn ferr,
ai'n ofer gynt y gwnaethost
Holl blant dynion? o dal dy law,
ac yn' ni ddaw yn rhydost.
verse 48 Pa wr y sydd a'i oes dan sel,
na ddel marwolaeth atto?
Pwy a all ddiangc, ac ni ddaw
y caib a'r rhaw i'w guddio?
verse 49 O mae dy nodded Arglwydd gynt?
mae helynt dy drugaredd?
Mae dy lyw, o ystyriol ffydd,
i Ddafydd i'th wirionedd?
verse 50 Cofia Arglwydd yn wradwydd llym
lle'r y dym ni, dy weision.
Yr hwn a dawdd i'm monwes i,
gan ffrost y Cowri mowrion.
verse 51 Yr hwn warth'r oedd d'elynion di
yt' yn ei roddi'n eidiog,
(Fy Arglwydd Dduw) a'r un syrrhâd
i droediad dy eneiniog.
verse 52 Moler yr Arglwydd byth, Amen,
a byth Amen, hyn fytho.
Moler yr Arglwydd byth, Amen,
a byth Amen, hyn fytho.
PSAL. 90. Moesen wrth weled y bobl heb ystyrled dim o ddaioni Duw, na'i gosb, yn gweddio ar Dduw a'm droi eu calonau hwy o'i drugaredd.
DUw! buost in yn Arglwydd da,
ac yn breswylfa i drigo,
O bryd i bryd, felly yr aeth
pob rhyw genhedlaeth heibio,
verse 2 Er cyn rhoi sail y mynydd mawr,
cyn llunio llawr cwmpas-fyd,
Duw! o dragwyddol wyd cyn neb,
hyd dragwyddoldeb hefyd.
verse 3 Weithiau i ddinistr y troi ni,
troi dithau wedi'n rhydda,
A dwedi cyn ein mynd i'r llwch,
dychwelwch meibion Adda.
verse 4 Cans dec can mlynedd fel doe ynt,
pan elo 'i helynt heibio,
Oth flaen di, megis gwylfa nos,
ni chaiff ym ddangos etto.
verse 5 Nid yw dyn ond fel hûn, neu ail
i addail, neu lifeiriant.
Neu megys glâs lysieun gwan,
mor fuan y newidiant.
verse 6 Yr hwn y borau gwyrddlas fydd,
a gwawr o newydd arno:
Ond pan y torrer ef brydnawn,
yn fuan iawn mae'n gwywo.
verse 7 Cans yn dy lid difethwyd ni
gan ofni di ddigofaint,
verse 8 Rhoist di ein beiau gar dy fron,
a'n holl ddirgolion dryghaint:
verse 9 Cans drwy dy ddig mae'n dyddiau
a'n tegwch gwedi darfod,
A'n holl flynyddoedd ynt ar ben,
fel gorphen hen-chwedl gorfod.
verse 10 Ein holl flynyddoedd yw saith ddeg,
dau bump chwaneg os bydd grym:
Yna ein nerth ai'n boen blin iawn,
i ffordd yr awn yn gyflym.
verse 11 Ond pwy a edwyn nerth dy lid?
mawr ofid sydd o'th sorri:
Sef fel y mae dy ofn di'n fawr,
dy ddig sydd ddir fawr inni.
verse 12 Dysg felly 'n rifo'n dyddiau gwael,
i'n calon gael doethineb.
verse 13 Duw ba hyd? dyrd a dod yn hawdd
i'th weision nawdd ac undeb.
verse 14 Yn forau iawn diwalla ni
â'th fawr ddaioni eisoes,
Fel y caffom ni lawen fyd
yn hyfryd droes yn heinioes.
verse 15 Gwna ni yn llawen, buom brudd
ban oedd yn' gystudd dybryd:
A chwedi llawer blwyddyn drom,
y rhai y gowsom adfyd.
verse 16 O Dduw, gwna weled dy fawr waith
a'th wrthiau maith i'th weision,
A'th odidowgrwydd, a'th ffyniant,
ymysg eu plant a'i hwyrion.
verse 17 Arnom ni doed rhâd Duw a'i nerth,
i pallu prydserth weithiaw,
Duw dod ein gwaith mewn trefnid dda,
Duw trefna waith ein dwylaw.
PSAL. 91. Dyma sicrhâd o ddedwyddwch y dyn a fo yn rhoi ei hyder ar Dduw rhag pob profedigaeth. Addewid Duw i'r rhai a'i hofnant ac a i carant ef, o ddiogelrwydd, a gogoniant tragwyddol.
Y Sawl a drigo, doed yn nes,
yn lloches y Goruchaf,
Ef a ymerys i gael bod
yngbysgod hwn sydd bennaf.
verse 2 Fy holl ymddiffyn wyd a'm llwydd,
wrth fy Arglwydd y dwedaf,
A'm holl ymddiried tra fwy fyw
sydd yn sy Nuw Goruchaf.
verse 3 Cans ef a weryd yr oes dau,
oddiwrth faglau yr heliwr,
A hefyd oddiwrth bla, a haint,
echrysaint, ac anghyflwr.
verse 4 Ei
[...]sgyll drosod ef a rydd,
dan ei adenydd byddi
Yn ddiogel: a'i weredd gred
fydd gylch a bwccled itti.
verse 5 Ni ddychryni er twrf y nos,
na'r dydd o achos hedsaeth,
verse 6 Er haint, neu blâ, mewn tywyll fydd,
neu hanner dydd marwolaeth.
verse 7 Wrth dy ystlys y cwympa mil,
a dengmil o o'th law ddeau:
Ac ni ddaw drwg yn dy gyfyl,
a thi a'i gwyl yn ddiau.
verse 8 A'th lygaid y gweli di dâl
i'r enwir gwammal anian,
verse 9 Sef fy holl obaith wyd (o Dduw)
ac uchel yw dy drigfan.
verse 10 Ni ddigwydd niwed yt', ond da,
na phla, na dim' echrysion,
l'th eglwys a'th gynlleidfa nawdd,
verse 11 cans archawdd iw Angylion.
I'th ffyrdd dy gadw, a'th gynllwyn,
a'th ddwyn â'i dwylaw hardd-deg,
verse 12 Rhag digwydd yt ddrwg (hyd yn oed)
taro dy droed wrth garreg.
verse 13 Dy sangfa fydd ar y llew dig,
a'r asp wenwynig sethri:
Ar greulon genau'r llew o'r graig,
ac ar yr ddraig y sengi.
verse 14 Mi a'i gwaredaf ef rhag brâd,
am roi ei gariad arnaf,
Am adnabod fy enw mau,
yn ddiau y derchafaf.
verse 15 G
[...]ilw arnaf, mi' ai gwrandawaf,
mewn ing y byddaf barod,
Gwaredaf hefyd rhag ei gâs,
a chaiff drwy urddas fowrglod.
verse 16 Fo gaiff fyw yn ddigon o hyd,
caiff yn y byd hir ddiddiau.
Dangosaf iddo radlawn faeth,
a'm iechydwriaeth innau.
PSAL. 92. Psalm i gynhyrfu y bobl i gydnabod ac i foliannu Duw yn ei weithredoedd. Diwedd disymwth yr enwir: a dedwyddwch y cyfion yn cael moli Duw yn ei Deml.
MOlia
[...]'r Arglwydd da iawn yw,
a chyfarch Duw yn bennaf:
A chanu i'th enw di fawl,
a'th ganmawl (y Goruchaf.)
verse 2 Y borau am dy drugaredd,
a'th wirionedd son y nos,
verse 3 Ar ddectant, nabyl, a thelyn,
myfyrio hyn a'i ddangos.
verse 4 Sef drwy dy weithred llawen wyf,
ynnyn nwyf yn fy' Nuw Naf:
Yngwaith dy ddwylaw fy Nuw Ior,
beunydd y gorfoleddaf.
verse 5 Dy weithredoedd ond mowrion ynt?
verse 6 Dy helynt nis gwyr anghall:
Dy feddyliau o ddyfn iawn fryd,
hyn nis gwyr ynfyd ddeall.
verse 7 Pan flodeuo yr enwir ddyn,
megis llyseuyn iraidd,
Pan fo drygweilch yn gref eu plaid,
Duw yno rhaid eu diwraidd.
Y drwg flagur uchel yrânt,
a hwy a syrthiant beunydd:
verse 8 Tithau yr Arglwydd yn ddigel,
wyt uchel yn dragywydd.
verse 9 O Arglwydd wele d'elynion,
dy gaseion difethir;
A holl weithredwyd trais a cham,
yn ddinam a wasgerir.
verse 10 Tydi a dderchefi fy'nghorn,
fel yr unicorn perffaith.
Hefyd â gwerthfawr olew ir,
i'm taenellir i eilwaith.
verse 11 Fy llygaid a welant hefyd,
fy'ngwynfyd a'm gelynion.
A'm clustiau y glywant ar frys
f'ewyllys am ddrwg ddynion.
verse 12 Y cyfion blodeua i'r nen,
fal y balm wydden union,
Cynnyddu yn iraidd y bydd,
fel cedrwydd yn Libanon.
verse 13 Y rhai a blannwyd yn nhy Dduw,
yn goedwydd byw y tafant,
Ac ynghynteddau ein Duw ni
y rhei' ni a flodeuant.
verse 14 A dwyn eu ffrwyth a wnant o faint
yn amser henaint etto,
Tirfion, iraidy, a phrofadwy
a fyddant hwy yn hilio.
verse 15 I ddangos nad traws, ac nad cam
yw f' Arglwydd a'm cadernyd,
Ac nad oes yntho na chamwedd,
na dim anwiredd hefyd.
PSAL. 94. Gweddi at Dduw yn erbyn y gorthrymwyr, a chysur i'r gorthrymedig.
O Arglwydd Dduw, Duw mawr ei rym,
dialwr llym pob traha,
O Dduw y nerth, ti biau'r tâl,
a'r dial, ymddisgloi
[...]ia.
verse 2 Ymddercha di farnwr y byd,
a t
[...]â
[...] gyd
[...]u gobrwy,
I'r beilchion a'r
[...]rahaus dod,
y tâl a
[...]ody adwy.
verse 3 Ba hyd? (Arglwydd) o ba hyd,
y chwardd gwyr
[...]y drygionus?
verse 4 Yr ymfalch ant yn eu d
[...]wg,
gan sygwth amlwg ffrostus?
verse 5 A'th bobl di (Arglwydd) a faeddant,
a chystuddiant dy dr
[...]âd,
verse 6 Y weddw, a'r dieithr a laddant,
lliasant yr amddifad.
verse 7 Dwedasant hyn heb geisio cel,
ein gwaith ni wel
[...]r Arglwydd,
Ac ni ddeall Duw Iago hyn,
ynny ni ddisgy aflwydd.
verse 8 Ymys
[...] bo
[...]loedd difraw don,
ystyri
[...]ch ddynion angall,
Chw
[...]thau ynfydion, o ba bryd
y rhowch eich bryd ar ddeall?
verse 9 Hwn a wnaeth y glust i bob byw,
oni chlyw ef yn amlwg?
Ac oni wyl hwnnw yn hawdd
a luniawdd i ni olwg?
verse 10 Oni cherydda hwnnw chwi
sy'n cosbi pob cenhedlaeth?
Ac eni wyr hwnnw y sy'n
dysgu i ddyn wybodaeth?
verse 11 Gwyr yr Arglwydd feddyliau dyn
mai gwagedd ydyn diffaith,
verse 12 Duw, dedwydd yw a gosbech di,
a'i fforddi yn dy gyfraith:
verse 13 Yr hon a ddisg i ddyn warhau,
i fwrw dyddiau dibir.
Tra foer yn darparu y clawdd,
y fan y bawdd yr enwir.
verse 14 Cans ein Ior ni ei bobl ni âd,
a'i wir dretâ ni wrthyd,
verse 15 Ef at iawn farn a gadarnhâ,
a phob dyn da a'i dilyd.
verse 16 Pwy a gyfyd gyda myfi,
yn erhyn egni trowsedd?
Pa rai a safant ar fy nhu
yn erbyn llu anwiredd?
verse 17 Oni bai f'od Duw imi yn borth,
ac ystyn cymorth imi,
Braidd fu na ddaethai ym' y loes
a roesai f'oes i dewi.
verse 18 Pan fawn yn chwyno d
[...]n drymhau,
rhag hod i'm camrau lithro.
Fy Arglwydd, o'th drugaredd drud,
di a'm cynhelud yno.
verse 19 Pan fo ynof amlaf yn gwau,
bob rhyw feddyliau trymion,
Doe dy ddiddanwch di ar dro,
i gysuro fy'nghalon.
verse 20 A oes gyfeillach i ti Dduw,
a maint yr annuwolion?
Hwn a lunia enwiredd maith,
yn lle y gyfraith union.
verse 21 Y rhai sy'n ymdyrru ynghyd,
ar fryd dwyn oes y cyfion:
Ac yn eu cyngor yr ymwnaed
i geisio gwaed y gwirion.
verse 22 Ond yr unic Ior sydd er hyn,
yn llwyr amddiffyn f'enaid:
Efe yw fy' nerth o'm hol a'm blaen,
a seilfaen fy ymddiriaid.
verse 23 Efe a dâl i bob dyn drwg,
yn amlwg am ei gamwedd:
Y maleisus tyn Duw o'r byd,
am ei chwyd o enwiredd.
PSAL. 95. Y mae'n annog i foli Duw am lywodraethu y byd, a dewis yr eglwys: ac i ochel cyfeilorni ein tadau, y rhai am demptio Duw, ni chawsant ddyfod i dir y bywyd.
O Dowch a chanwn i'r Arglwydd,
efe yw llwydd ein bywyd:
Ac ymlawen hawn yn ei nerth,
ef yw ein prydferth iechyd.
verse 2 O down yn un fryd ga
[...] ei fron,
â chalon hur ddiolchgar:
Bryssiwn a
[...] Dduw dan lawenhau,
a chanwn psalmau'n llafar.
verse 3 Herwydd yr Arglwydd nef a llawr,
y sy Dduw mawr yn ddiau:
Tywysog mawr yw ef mewn trin,
a brenin yr holl dduwiau.
verse 4 Efe biau 'rholl ddaiar gron,
a'r dyfnder eigion danaw:
Uchelder hefyd, eithafoedd,
mynyddoedd sydd yn eiddaw.
verse 5 Ef biau'r moroedd uwch pob traeth,
ac ef a'i gwnaeth i ruo:
Ei ddwylaw ffurfiasant yn wir
y sych-dir ac sydd yntho.
verse 6 O dowch, addolwn, cyd-ymgrym mwn,
ac ymostyngwn iddaw:
Ef yw ein Arglwydd un-ben rhi,
ef a'n gwnaeth ni â'i ddwylaw.
verse 7 Cans ef i ni y sydd Dduw da,
a phobl ei borfa ydym:
A'i ddefaid ym, os chwi a glyw
ei air ef heddyw'n gyflym.
verse 8 Meddyliwch fod eich bai ar led'
na fyddwch galed galon:
Fel yn nydd prawf, mewn anial dir,
lle cofir bod ymryson.
verse 9 Y lle temtiodd eich tadau fi,
a'm profi i'm adnabod:
Faint ydoedd y gweithredoedd mau,
yn ddiau cawsant wybod.
verse 10 Dros ddeugain mlynedd â'r llin hon
drwy fawr ymryson, dwedais,
Pobloedd ynt cyfeiliornus iawn,
a'i calon yn llawn malais.
Cans nid adwaenent y ffyrdd mau,
onid amlhau eu tuchan:
verse 11 Wrthynt i'm llid y tyngais hyn,
na ddelyn i'm gorphwysfan.
PSAL. 96. Cyngor i bod cenhedlaeth i foli Dum am ei drugaredd
O Cenwch glod i'r Arglwydd mâd,
a moeswch ganiad newydd:
Yr holl ddaiar dadcenwch fawl,
yr Arglwydd nefawl beunydd.
verse 2 Cenwch chwi glod ir Arglwydd nef,
a'i enw ef bendigwch,
A'i iechydwriaeth drwy grefydd,
o ddydd i ddydd cyhoeddwch.
verse 3 Datcenwch byth i glod a'i râd,
yngwlad y cenhedlaethoedd,
A'i ryfeddodau ef ym mhlith,
pob amryw, amrith bobloedd.
verse 4 Cans ein Arglwydd ni sydd Dduw mawr
a roagawr canmoladwy,
Uwch yr holl dduwiau y mae ef,
yn frenin nef ofnadwy.
verse 5 Duwiau y bobl culynnod ynt,
ni ellynt mwy na chysgod:
A'n Duw ni a wnaeth nef a llawr'
fal dyna ragawr gormod.
verse 6 Cans mawr ydyw gogoniant nef,
ac o'i flaen ef mae harddwch,
Yn ei gyssegr ef y mae nerth,
a phrydferth yw'r hyfrydwch.
verse 7 Chwi dylwythau y bobloedd, trowch,
yn llawen rhowch i'r Arglwydd,
I'r Arglwydd rhowch ogonedd fry,
a nerth, a hynny'n ebrwydd.
verse 8 Rhowch ogoniant iw enw ef,
yr Arglwydd nef byth bythoedd.
A bwyd offrwm iddo a rowch,
a chwi dowch iw gynteddoedd.
verse 9 Addolwch f'Arglwydd gar ei fron,
iw gyssegr, digon gweddol:
A'r ddaiar rhagddo, hyd, a lled,
dychryned yu aruthrol.
verse 10 I'r holl genhedloedd dwedwch hyn,
yr Arglwydd sy'n teyrnasu:
Nid ysgog y byd sy'n sicr iawn,
ef a wyr uniawn farnu.
verse 11 O llawenhaed nefolaidd do,
i'r ddaiar bo gorfoledd:
Rhued y mor a'i donnau llawn,
a'r pysg sy'mewn ei annedd.
verse 12 A gorfoledded y maes glâs,
ei dwf, a'i addas ffyniant:
A phob pren gwyrdd sydd yn y coed,
i'r Arglwydd rhoed ogoniant.
verse 13 Am ei ddyfodd, am ei ddyfod,
a'i farn sydd hynod iownwedd:
Barna yn gyfion yr holl fyd,
a'r bobl, â'i gyd-wirionedd.
PSAL. 97. Dafydd yn conghori pawb i lawenychu am ddyfod teyrnas Christ, yn ofnadwy i'r anwir, ac yn llawenydd i'r cyfion.
YR Arglwydd ydyw ein pen rhaith,
bo perffaith y ddaiaren:
Ynysoedd cedyrn yr hollfyd,
bont hwy i gyd yn llawen.
verse 2 Niwl a thywyllwch sy iw gylch ef,
hyfrydwch nef gyfannedd:
Iawnder a barn ydynt yn sail,
ac adail maingc ei orsedd.
verse 3 Tân â o'i flaen ef, ac a lyfg
ym mysg ei holl elynion:
verse 4 A'i fellt yn fflamio trwy'r holl fyd,
oedd olwg enbyd ddigon.
verse 5 O flaen Duw fel y tawdd y cwyr,
y bryniau'n llwyr a doddent:
O flaen hwn (sef yr Arglwydd) ar
y ddaiar y diflannent.
verse 6 Yr holl nefoedd yn dra hysbys
a ddengys ei gyfiownedd,
A'r holl genhedloedd a welsant
ei fawr ogoniant rhyfedd.
verse 7 Gwradwydd i'r rhai a wasnaethan,
y delwau mân cerfiedig:
Addolwch ef (nid eulun cau)
holl dduwiau darfodedig.
verse 8 Dy farnedigaeth (o Dduw Ion)
a glybu Sion ddedwydd;
Merched Juda (o herwydd hyn)
sy'n ynnyn o lawennydd.
verse 9 Cans ti (o Arglwydd) yw fy Naf,
oruchaf dros y ddaiar:
Rhagorol yw'r derchafiad tau
uwchlaw'r holl dduwiau twyllgar.
verse 10 Pob drigioni chwi a gasewch,
caru a wnewch yr Arglwydd.
Hwn sydd yn cadw oes i Sainct,
i'w dwyn o ddrygfraint afrwydd.
verse 11 Mewn daier yr egina 'i hâd,
goleuad daw i'r cyfion,
Yn ol tristwch fo dry y rhod,
i lân gydwybod union.
verse 12 Yn yr Arglwydd, o'r achos hon,
chwi gyfion llawcnychwch,
Drwy goffa ei sancteiddrwydd ef,
â llais hyd nef molicnnwch.
PSAL. 98. Annog pob creadur i foli Duw, am ei allu, a'i druga
[...]edd, a ffyddlondeb ei gyfammod ynghrist, drwy r hwn y
[...]ae ein cadwedigaeth ni.
CEnwch i'r Arglwydd newydd gân,
ei waith fu lân ryfeddod:
Ei law ddeau a'i fraich a wnaeth,
i'n iechydwriaeth parod.
verse 2 Yr Arglwydd bysbys in'y gwnaeth
ei iechydwriaeth gyhoedd.
A'i gyfiownder ef yn dra hawdd
darguddiawdd i'r cenhedloedd.
verse 3 Fe gofiodd ei drugaredd hir,
a'i wir i dy Israel,
Fel y gwelodd terfynau'r byd
ei iechyd yn ddiymgel.
verse 4 I'r Arglwydd â chaniad llafar,
chwi yr holl ddaiar cenwch,
A llafar lais, ac eglur lef,
fry hyd y nef y lleisiwch.
verse 5 Cenwch i'r Arglwydd Dduw fal hyn
â'r delyn, a chywirdant:
A chidâr delyn lais a thôn,
rhowch iddo gyson foliant.
verse 6 Canu yn llafar ac yn rhwydd,
o flaen yr Arglwydd frenin:
Ar yr udcyrn, a'r chwythgyrn pres,
fal dyna gyffes ddibrin.
verse 7 A rhued y mor mawr i gyd,
a'r byd, ac oll sydd ynthynt,
verse 8 Y llif-ddyfroedd, a'r mynyddoedd,
y mae yn addas iddynt.
verse 9 Curant, canant, o flaen Duw cu,
yr hwn sy'n barnu'r bydoedd.
I'r byd y rhydd ei farn yn iawn,
ac yn uniawn i'r bobloedd.
PSAL. 99. Mawl teyrnas Christ d
[...]o
[...] yr
[...]ddewon a'r cenhedloedd: gan eu hannog i foli ac i wasanaethu Duw, ac i weddio arno.
YR Arglwydd Dduw yw ein brenin
er maint yw trin y bobloedd:
Mae'n eistedd thwng d
[...]u gerubyn,
fe
[...]ryn' pob daiar leoedd.
verse 2 Canys breoin mawr ydyw'r Ion
yn Seion o'i dderchatel:
Ac uwchlaw pobloedd yr holl fyd,
y sydd o rydyd uchel.
verse 3 Cydfoliannant o'r nef i'r llawr
dy enw mawr rh
[...]gorol:
Ofnadwy, sanctaidd, vw iw drin,
verse 4 tithau (o frenin n
[...]r
[...]hol)
A geri farn, darperi iawn:
yn gyfiawn heb draws osgo,
A barnedigaeth bur ddidost,
a wnaethost di yn Iago.
verse 5 Derchefwch yr Arglwydd ein Duw,
sef sanctaidd yw i'w fawredd:
Ymgrymmwch o flaen ei stol draed,
felly parchaed ei fowledd.
verse 6 Moses, ac Aaron sanctaidd blaid,
ymhlith offeiriaid gyrrodd:
Samuel gal wai ei enw ef,
yntau o'r nef attebodd.
verse 7 Mewn colof
[...] o niwl y bu wiw,
gan Dduw lefaru wrthynt,
Tra fuant hwy yn cadw ei fodd,
a'r ddeddf a roddodd iddynt.
verse 8 Gwrandewaist a
[...]nynt, dodaist ged,
a'i harbed, gan y nattal:
Duw ein Nâ, dynawdd parod fu,
a hwythau'n harddu d
[...]al.
verse 9 Derchefwch ein Duw Ior am hyn,
yn Sion f
[...]yn cyssegraidd,
Ymgrymmwch iddo yn eich byw,
sef unig Dduw sydd sanctaidd.
PSAL. 102. Gweddi y ffyddloniaid yn amser caethiwed Babel.
O Arglwydd, erglyw fy'ngweddi,
a doed fy' ngbri hyd attad:
verse 2 Na chudd d'wyneb mewn ing tra fwyf,
clyw, clyw, pan alwyf arnad.
verse 3 Fy' nyddiau aethant achos hyn,
sef cynddrwg im cystuddiwyd:
Fy esgyrn poethant achos hyn,
fal tewyn ar yr aelwyd.
verse 4 Fy' nghalon trawyd â chryn iâs,
ac fel y gwellt-glas gwywodd:
Fel yr anghofiais fwyta 'mwyd
dirmygwyd fi yn ormodd.
verse 5 Glynodd fy esgyrn wrth fy' nghroen
gan faint fy' mhoen a'm tuchan.
verse 6 Fel un o'r anialwch, lle y trig
y pelig, neu'r dylluan.
verse 7 Neu fel un o adar y to,
a fai yn gwilio 'i fywyd,
Yn rhodio'n unic ben y ty:
wyf an hy ac anhyfryd.
verse 8 Fy' ngelynion â thafod rhydd,
hwy beunydd a'm dif'enwant:
A than ynfydu yn ei gwyn,
i'm herbyn y tyngasant.
verse 9 Fel llwcha lludw yn fy' mhla,
fu'r bara a fwyteais:
Yr un wedd yn y ddiod fau
fy' nagrau a gymysgais.
verse 10 A hyn fu o'th ddigofaint di,
am yt' fy' nghodi unwaith:
Ac herwydd bod dy ddig yn fawr,
i'r llawr i'm teflaist eilwaith.
verse 11 Fy' nyddiau troesant ar y rhod,
ac fel y cysgod ciliant;
A minnau a wywais achos hyn,
fel y glaswelltyn methiant.
verse 12 Ond tydi Dduw, fy Arglwydd da,
a barhei yn dragwyddol,
O oes i oes dy Enw a aeth
mewn coffadwriaeth grasol.
verse 13 O cyfod bellach trugarhâ,
o Dduw bydd dda wrth Sion:
Mae'n fadws wrthi drugarhau,
fel dyma 'r nodau 'n union:
verse 14 Cans hoff iawn gan dy weision di
ei meini a'i magwyrau,
Maent yn tosturio wrth ei llwch,
a'i thristwch, a'i thrallodau.
verse 15 Yno yr holl genhedloedd byw
yr Arglwydd Dduw a ofnant,
A'r holl frenhinoedd trwy y byd,
a ront yt gyd ogoniant.
verse 16 Pan adeileder Sion wych,
a hon yn ddrych i'r gwledydd;
Pan weler gwaith yr Arglwydd nef,
y molir e'n dragywydd.
verse 17 Edrychodd hwn ar weddi'r gwael,
rhoes iddynt gael ei harchau:
verse 18 Scrifennir hyn: a'r oes yn ol
gaiff ei ganmol yntau.
verse 19 Cans Duw edrychodd o'r nef fry,
ar ei gyssegrdy, Sion:
verse 20 Clybu ei griddfan er rhyddhau;
plant angau 'i garcharorion.
verse 21 Fel y cydleisient hwy ar gân
yn Seion lân, ei foliant;
Ac ynghaer-Salem yr un wedd,
ei fowredd a'i ogoniant.
verse 22 Hyn sydd pan gasglo pawb ynghyd,
yn unfryd iw foliannu:
A'r holl dyrnasoedd dont yngwydd
yr Arglwydd, iw wasnaethu.
verse 23 Duw ar y ffordd lleihâdd fy'nerth,
byrrhâdd fy' mrhydferth ddiddiau,
A mi'n disgwyl rhyddhâd ar gais,
verse 24 yno y dywedais innau:
O Dduw na thorr fy oes yn frau,
ynghanol dyddiau f'oedran:
Dy flynyddoedd di sydd erioed,
o oed i oed y byddan.
verse 25 Di yn y dechrau dodaist sail,
odd isod adail daiar:
A chwmpas wybren uwch ein llaw,
yw gwaith dy ddwylaw hawddgar.
verse 26 Darfyddant hwy, parhei di byth,
treuliant fel llyth trwssiadau.
verse 27 Troi hwynt fel gwisg, llygru a wnant
felly newidiant hwythau:
Titheu Arglwydd, yr un wit ti,
a'th flwyddau ni ddarfy ddant.
verse 28 Holl blant dy weision gar dy fron,
a'i hwyrion a bresswyliant.
PSAL. 103. Y mae'n cynghori pob creadur i foli yr Arglwydd am ei aneirif d
[...]ugareddau, a'i ymwared i'r ffyddloniaid.
FY enaid mawl sanct Duw yr Ion,
a chwbl o'm eigion ynof.
verse 2 Fy enaid n'âd fawl f'Arglwydd nef,
na'i ddoniau ef yn angof.
verse 3 Yr hwn sy'n maddau dy holl ddrwg,
yr hwn a'th ddwg o'th lesgedd;
verse 4 Yr hwn a weryd d'oes yn llon,
drwy goron o'i drugaredd.
verse 5 Hwn a ddiwalla d'enau di
â'i lawn ddaioni pybyr:
Drwy adnewyddu yt' dy nerth,
mor brydferth a'r hen eryr.
verse 6 Yr Ion cyfiawnder, barn a wnai
i'r rhai sydd orthrymedig.
verse 7 Dangos a wnaeth ei brif ffyrdd hen
i Foesen yn nodedig:
Ac i Israel ei holl ddawn.
verse 8 Duw llawn yw y drugaredd:
Hwyr yw ei lid, parod ei râd,
fal dyna gariad rhyfedd.
verse 9 Nid ymryson ef â ni byth,
nid beunyd chwyth digofaint,
verse 10 Nid yn ol ein drygau y gwnai
â ni: ni'n cosbai cymmaint.
verse 11 Cybyd a cyw'r ffurfafen fawr
oddi ar y llawr o uchder,
Cymaint i'r rhai a'i hofnant ef,
fydd nawdd Duw nef bob amser.
verse 12 Os pell yw'r dwyrain olau hin
oddiwrth orllewin fachlud;
Cyn belled ein holl bechod llym,
oddiwrthym ef a'i symmud.
verse 13 Ac fel y bydd nawdd, serch, a chwant,
tâd da iw blant naturiol,
Felly cawn ein tâd o'r nef,
os ofnwn ef yn dduwiol.
verse 14 Efe a'n hedwyn ni yn llwyr,
fe wyr mai llwch yw'n defnydd:
verse 15 Oes dyn fel gwellt-glas sy'n teghau
neu ddail, neu flodau maesydd.
verse 16 Yr hwn, cyn gynted ac y del
y gwynt â'i awel drosodd,
A chwythir ymaith felly o'i le,
na wyddis ple y tyfodd.
verse 17 Ond graslawn drugaredd a fydd,
yn lân dragywydd feddiant,
O oes i oes heb drangc, heb drai,
gan Dduw i'r rhai ai' hofnant.
verse 18 A'i gyfiownder i blant y plant
a gadwant ei gyfammod:
O chofiant ei orchmynion ef,
mae tyrnas nef yn barod.
verse 19 Yno mae ei orseddfa ef,
sef yn y nef tragwyddol:
A llywio y mae ef bob peth,
drwy ei frenhinieth nefol.
verse 20 Bendithiwch chwi yr Arglwydd Ion,
angylion, a'i holl gedyrn.
Ei lân orchymmyn ef a wnewch,
a'i lais gwrandewch yn drachwyrn.
verse 21 Bendithiwch chwi yr Arglwydd ner
ei luoedd tyner tirion.
Ei wyllys gwnewch, canlynwch wir
chwychwi ei gywir weision.
verse 22 Bendithiwch chwi yr Arglwydd nef
ei hollwaith ef sy hylwydd:
Ym mhob mân oll o'i drefn a'i hawl,
O f'enaid mawl di'r Arglwydd.
PSAL. 104. Diolch am wneuthuriad, a llywodraethiad y byd, drwy ryfedd ragluniaeth Duw.
FY' enaid mola'r Arglwydd byw,
o f' Arglwydd Dduw y mawredd,
Mawr wyt, gogoniant a gai di,
ymwisgi ag anrhydedd.
verse 2 Megis ei ddillad y gwysg fo
am dano y goleuad:
Rhydd yn ei gylch yr wybr ar dân,
yn llydan, fel llen wastad.
verse 3 Ar ddeifr rhoes sail ei stefyll cau,
gwnaeth y cymylau iddo
Yn drwn olw
[...]nog: mae ei hynt
uwch esgyll gwynt yn rhodio.
verse 4 Gwnaeth bob chwythad iddo'n gennad,
gogonedd y ffurfafen:
A'i weinidogion o ffl
[...]m dân,
a wibion rhyd yr wybren.
verse 5 Cref y rhoes sail y ddaiar gron,
fel na syfl hon oddiyno:
Yr hon abery fel y rhoes,
o oes i oes, heb siglo.
verse 6 Tydi (Dduw) a ddilledaist hon
â'r eigion yn fantellau;
Ac oni bai dy ddehau law,
air deifr uwchlaw y bryniau.
verse 7 Gan dy gerydd maent hwy yn ffo,
fel pan y synio taran:
Drwy fraw a brys ar hyd y ddol,
y deifr iw hol a lithran.
verse 8 Weithiau y codai'r deifr yn fryn:
weithiau fel glyn panhelynt,
Lle trefnaist iddynt bannwl cau,
ac weithiau y gorphwysent.
verse 9 Gosodaist derfyn lle yr arhont,
ac fel nad elont drosto:
Ac na ddelont hwy fyth dros lawr
y ddaiar fawr, iw chuddio.
verse 10 Rhoes Duw ffynnon i bob afon,
a phawb a yfant beunydd:
A rhed y ffrydau rhyd y glynn,
a rhwng pob bryn a'i gilydd.
verse 11 Yfant yno anfeiliaid maes,
assynnod myng-laes gwylltion,
Heb ymadael a llawr y nant,
hyd onid yfant ddigon.
verse 12 Ac adar awyr dont gar llaw,
i leisiaw rhwng y coedydd:
Yn can uei fawl o bren i bren,
cethlyddiaeth lawen ufydd.
verse 13 Dwfr ar fynyddoedd lle ni ddaw,
fo wlych â glaw oddiarno:
A'r gwastad tir efe a'i gwlych,
bob grwm a rhych i ffrwytho.
verse 14 Parodd i'r gwellt dyfu wrth raid
anifeiliad: a'r llysiau,
Er da i ddyn: Lle rhoes o'r lawr,
ymborthiant mawr rhag angau.
verse 15 A gwin llawena calon dyn,
ag olew tywyn wyneb.
A bara nerthir calon gwr,
mewn cyflwr digonoldeb,
verse 16 Preniau'r Arglwydd o sugn llawn,
o'i unlc ddawn y tyfan.
Sef y coed cedrwydd brigog mawr,
a roes e'n llawr y Liban.
verse 17 Lle y mae nythod yr adar mân,
mewn preniau glân cadeir-ir:
Lle mewn ffynnidwydd glwyswydd glyn
mae ty'r aderyn trwynhir.
verse 18 Y r, ynydd uchel a'r bryn glâs,
yw llwybr y danas fychod:
Ogof y doll-graig a wna les,
yn lloches i'r cwningod.
verse 19 Fe roes i'r lleuad i chwrs clan,
a'i chyfnewidiau hefyd:
A'r haul o amgylch y byd crwn,
fo edwyn hwn ei fachlyd.
verse 20 Tywyllwch nos a roed wrth raid
i fwystfiliaid y coedydd.
verse 21 Y llewod rhuant am gael maeth,
gan Dduw, ysclyfaeth beunydd.
verse 22 A chwedi cael yr ymborth hyn,
pan ddel haul attyn unwaith,
Ymgasglant hwy i fynd iw ffau,
at iw llochesau ailwaith.
verse 23 Y pryd hwn cyfyd dyn iw waith,
ar iw orchwyliaith esgyd;
Ac felly yr erys tan yr hwyr,
lle y caiff yn llwyr ei fywyd.
verse 24 O Dduw, mor rhyfedd yw dy waith
o'th synwyr berffaith dradoeth!
Gwnaethost bob peth â doethder dawn,
a'r tir sy lawn o'th gyfoeth.
verse 25 A'r llydan for, y deifer ymmysg,
lle aml yw pyscyn llemmain:
Lle yr ymlusgant, rif yr od,
bwystfilod mawr a bychain.
verse 26 Yno yr â y llongau glân
dros y Leviathan heibio,
Yr hwn a osydaist di lle y mae
yn cael ei chwrae yntho.
verse 27 Hwynt oll disgwiliant yn ei bryd
am gael oddiwrthyd borthiant:
I gael dy rodd ymgasglu ynghyd,
ie am ei bywyd byddant.
verse 28 Duw, pan agorech di dy law,
oddi yno daw daioni:
Pob anifail a phob rhyw beth,
a ddaw yn ddifeth ini.
verse 29 Pan guddiech di dy wyneb pryd,
a chasglu d'yspryd allan,
Crynant, tregnant, ac ant iw llwch,
mewn diwedd trwch a thwrstan,
verse 30 Duw, pan ollyngech di dy râd,
fel rhoddi cread newydd,
Y modd hyn wyneb yr holl dir
a adnewyddir beunydd.
verse 31 Ir Arglwydd gogoneddus fydd
drwy fawr lawenydd bythoedd.
Yr Arglwydd yn ddiau a fedd,
orfoledd yn y nefoedd.
verse 32 Ein Duw o'r nef a edrych ar
y ddayar, a hi a ddychryn.
Os cyffwrdd a'r mynyddoedd draw,
y mwg a ddaw o honyn.
verse 33 Canaf i'r Arglwydd yn fy myw,
canaf i'm Duw tra sythwyf:
verse 34 Mi a lawenhaf yn fy Ion,
bydd ffyddlon hyn a wnelwyf.
verse 35 Y trawfion oll o'r tir ânt hwy,
ni bydd mwy annuwolion.
Fy enaid, mola Dduw yn rhodd:
mae hyn wrth fodd fy nghalon,
PSAL. 105. Mae fe yn canmol daioni Duw, am ei dewis hwy yn bobl iddo, gan wneuthur iddynt ddaioni er mwyn ei addewid.
CLodfored pawb yr Arglwydd nef,
ar ei enw ef y gelwch,
A'i weithredoedd ymmysc pobloedd,
yn gyhoedd a fynegwch.
verse 2 Cenwch ei gerdd, clodforwch hwn,
a'i ddidwn ryseddodau.
verse 3 Y rhai a gais ei enw, (y Sant)
llawenant yn eu calonnau.
verse 4 Ceisiwch yr Arglwydd a'i nerth mawr,
a'i fodd bob awr yn rhadlon,
verse 5 Cofiwch ei holl ryfeddodau,
a barn ei enau cyfion.
verse 6 O bâd Abraham ei wâs fo,
o feibion Iaco'r ethol:
verse 7 Ef yw'n Duw, a'i sarn ef aeth
dros holl diriogaeth fyddol.
verse 8 Bob amser cofiodd ei gyn-grair,
ei air, a'i rwym ammodau
verse 9 Ag Abraham, Isaac, a'i hil,
a mil o genhedlaethau.
verse 10 Fe roes i Iaco byn yn ddeddf,
cyn rwym greddf dragwyddol,
verse 11 Ac i Israel y rhoes lân
wlâd Canaan yn gaitrefol.
verse 12 Pan oedd yn anaml iawn eu plaid,
a hwy 'n ddieithriaid ynddi;
verse 13 Ac yn rhodio o'r wlad i'r llall,
yn dioddef gwall a chyni:
verse 14 Llesteiriodd iddynt gam yn dynn:
o'r achos hyn brenhinoedd
A geryddodd ef yn eu plaid:
a'i air a gaid yn gyhoedd.
verse 15 A'm eneiniog na chyffyrddwch;
na ddrygwch fy'mrhophwydi.
verse 16 Gal wodd am newyn ar y tir,
yn wir dug fara' honi.
verse 17 O flaen ei blant y gyrrodd
[...]âs,
Joseph yn wâs a werthyd.
verse 18 Ar ei draed y rhoed hayarn tyn,
mewn gefyn y cystuddiwyd.
verse 19 Gwisgodd y gefyn hyd y byw,
nes i air Duw amseru:
Drwy Dduw y cafas ef ryddhâd,
a phrifiad er ei garu.
verse 20 Yna y gyrrwyd iw gyrchu fo
gar bron hen Pharo frenin:
Ac y gollyngwyd ef ar led,
o'i gam gaethiwed ryflin.
verse 21 O hyn ei osod ef a wnaeth
yn bennaeth ar ei deuly,
Ac o'i holl gyfoeth ef a'i wlâd,
ys da fawr-hâd oedd hynny.
verse 22 I ddyscu'i reolwyr ei lys,
ei wllys a'i fodlondeb:
I fforddio henuriaid y wlâd,
yn wastad mewn doethineb.
verse 23 Daeth Israel i'r Aipht tir Cham,
lle'r oedd yn ddinam estron;
verse 24 Lle llwyddodd Duw hil Iago bach
yn amlach nâ'i caseion.
verse 25 Yna y troes ei calon gau,
i lwyr gasau ei bobloedd:
Iw weision i wneuthur twyll,
a llid (nid amwyll) ydoedd.
verse 26 Duw gyrrodd Foesen ei was hen,
ac Aaron llen dewisol.
verse 27 Yn nhir Ham i arwyddoccau
ei nerth a'i wrthiau nodol.
verse 28 Rhoes Duw dywyllwch dros y wlâd,
er hyn ni châd ufydd-dod.
verse 29 Eu dyfroedd oll a droed yn waed,
a lladd a wnaed eu pysgod.
verse 30 Iw tir rhoes lyffaint, heidiau hyll,
yn stefyll ei brenhinoedd:
verse 31 Daeth ar ei air wybed, a llau,
yn holl fannau eu tyraedd.
verse 32 Fe lawiodd arnynt genllysc mân,
a'i tir â thân a ysodd;
verse 33 Eu gwiniwydd a'i ffigyswydd mâd,
a ceoed y wlâd a ddrylliodd.
verse 34 Ceiliog rhedyn, a lindys brwd,
yn difa cnwd eu meusydd,
verse 35 Uwchlaw rhif, drwy yd, gwellt, a gwair,
a byn drwy air Duw ddofydd.
verse 36 Cyntaf-anedig pob pen llwych,
a'i blaenffrwyth ef a drawodd:
Ym hob mân drwy holl dir ei gâs,
a'i bobl o'i râs eu gwared.
verse 37 Ac a'i dug hwynt yn rhydd mewn hedd,
o'winedd eu caseion:
Heb fod o honynt un yn wan,
ac aur ac arian ddigon.
verse 38 A llawen fu gan wyr y wlad,
o'r Aipht pan gâd eu gwared:
Daeth arnynt arswyd y llaw gref,
a ddaeth o'r nef i wared.
verse 39 Rhoes Duw y dydd gwmwl uwchben,
fel mantell wen y toodd,
A'r nos goleuodd hwynt â thân,
fal hyn yn lân y twysodd.
verse 40 Fo a roes iddynt ar y gair
gig sofli-air iw bodloni:
A bara, o'i or orchymmyn ef,
a ddaeth o'r nef iw porthi.
verse 41 Holltodd y graig, daeth deifr yn llif,
fel be baent brif afonydd:
Cerddodd yr hedlif, a rhoes wlych
rhyd pob lle sych o'r gwledydd.
verse 42 Cofio a wnaeth ei air a'i râs,
i Abram ei wâs ffyddlon.
verse 43 A thrwy nerth yn rhydd o gaeth
y gwnaeth ei ddewisolion.
verse 44 Tir y cenhedloedd iddynt rhoes,
a'i llafur troes iw meddiant:
verse 45 Er cadw ei air a'i gyfraith ef,
rhowch hyd y nef ei foliant.
PSAL. 106. Y bobl (wedi i tanu dan Antiochus) yn datcan daioni Duw i'r edifeiriol, ac yn dymuno ar Dduw eu casglu ynghyd, er mwyn ei enw.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliennwch Dduw y llywydd:
O blegyd ei drugaredd fry
a berry yn dragywydd.
verse 2 Yr Arglwydd pwy all draethu ei ner
[...]h
a'i holl dirionferth foliant?
verse 3 A wnel gyfiownder gwyn eu byd,
ei farn i gyd a gadwant.
verse 4 O Arglwydd, cofia fi dy wâs,
yn ol dy râ, i'r eiddod:
Ymwel â mi i'm cystudd caeth,
â th iechydwriaeth barod.
verse 5 Fel y gwelwyf, ac y chwarddwyf,
wych urddas d'etifeddiaeth.
Ac y cydganwyf fawl un don,
a'th ddewisolion odiaeth.
verse 6 Pechod, camwedd, ac annoethedd,
gwnaethom gyda'n tadau:
Ef a gaed arnom ormod gwall,
heb ddeall dy fawr wyrthiau.
verse 7 Yngwlâd yr Aipht wrth y mor coch,
yn gyndyn grochanusydd:
Heb gofio amled fu dy râs
haeddasom atgas gerydd.
verse 8 Etto er mwyn ei enw ei hun,
Duw cun a ddaeth i'n gwared:
I beri i'r byd gydnabod hyn,
ei fod ef cyn gadarned.
verse 9 Y dyfnfor coch a'i ddyfrllyd wlych,
a wnaeth e'n sych â i gerydd:
Trwy ddyfnder eigion aent ar frys,
fel mynd rhyd ystlys mynydd.
verse 10 Fel hyn y dug hwynt trwodd draw,
o ddwylaw eu caseion:
Ac y tywysodd ef ei blant
o feddiant eu gelynion.
verse 11 Y deifr a guddiodd yr Aipht ryw,
nid oedd un byw heb foddi:
verse 12 Yna y credent iw air ef,
a'i gerdd hyd nef ai'n wisgi.
verse 13 Er hyn, tros gof mewn amser hyrr,
y rhoent ei bybyr wrth'au:
Heb sefyll wrth air un Duw Ior,
na'i gyngor, na'i ammodau.
verse 14 Ond cododd arnynt chwant ar blys,
yn nyrys yr anialwch:
Gan demptio Duw â rheibus fol,
ynghanol y diffeithwch.
verse 15 Rhoes iddynt lenwi ei holl flys,
rhoes an nhycciannys aflwydd.
verse 16 Lle digient Foses wrth eu chwant,
ac Aron Sant yr Arglwydd:
verse 17 Egorai'r ddayar yn y man,
a llyngcai Ddathan ddybryd;
Ac a gynhullodd i'r un llam,
holl lu Abiram hefyd.
verse 18 Ac yn ei ddig enynnodd tân,
yn fuan yn eu canol:
Llosgi y rhai'n, eu terfyn fu,
vn ulw, y llu annuwiol.
verse 19 Yn Horeb gwnaethant dawdd-lun llo
ac iddo ymgrymmasant:
verse 20 I lun llo a borai wellt mân'
a troesant eu gogoniant.
verse 21 Anghofient wrthiau Duw ar hynt,
(a fuasai gynt achubwr.
Yngwlâd yr Aipht. 22 Mor coch, tir Ham)
heb feddwl am eu cyflwr.
verse 22 Dwedodd mai eu difetha wnai
oni bai iw was Moesen
Drwy s
[...]fyll o'i blaen iw lid maith
droi ymaith eu drwg ddilen.
verse 23 Dirmygent hwy y prydferth dir,
ac air iw gwir ni chredent:
verse 24 Ond yn eu pebyll grwgnach tro,
ac arno ni wrandawent.
verse 26 Yno y derchafodd Duw ei law,
iw cwympiaw drwyr anialwch:
verse 27 Rhyd tiroedd a phobloedd anghu,
iw tanu mewn distyrwch.
verse 28 A Baal-Peor aent ynghyd,
ymgredu i gyd ag
[...]fo:
Ebyrth y meirwon a swytent,
a Duw a roddent heibio.
verse 29 Fal hyn digiasant f' Arglwydd Dduw,
â chyfryw goeg ddyrhmygion:
Yntau anfonodd bla'n eu mysg,
fal dyna derfysg greulon.
verse 30 Yna cyfododd Phinehes,
mewn cyfiawn wres i ddial:
A phen roes hwn ei farn yn dda,
Duw ar y pla rhoes attal.
verse 31 A chyfrifwyd y weithred hon,
yn weithred gyfion yntho,
O oes, i oes (dwry air Duw Ion)
pan ddelai son am dano.
verse 32 Ac wrth lan dwfr Meribbah gynt,
yno 'y cyffroynt gynnen,
Lle 'y digient Dduw â'i crasder ffraeth,
am hyn bu'n waeth i Foesen,
verse 33 Wrth gyrthruddo yspryd y Sanct,
hwy a b
[...]rasant hefyd
Iw enau draethu gair ar fai,
ar na ph
[...]rthynai'i ddwedyd.
verse 34 Ni laddent chwaith bobloedd y wlâd
wrth archiad Duw y lluoedd,
verse 35 Ond ymgymyscu â hwynt yn gu,
a dysgu eu gweithredoedd.
verse 36 Gwasancthu eu d
[...]wiau gau,
y rhai fu faglau iddyn.
verse 37 Aberthu eu plant, yn fâb, yn ferth,
o serch i r cythraul eulyn.
verse 38 A thywalltasant wirion waed,
dan draed gau-dduwiau Canaan.
Y tir (wrth aberthu eu plant)
â gwaed llygrasant weithian.
verse 39 Felly o'i gweithredoedd eu hûn,
yn un ymhalogasant.
Putteinio wrth ei cwrs a'i bryd,
ac felly cyd-lygrasant,
verse 40 Wrthynt enynnod Duw mewn dig
am hyn â ffyrnig gyffro.
Câs a ffiaidd felly yr aeth
ei etifeddiaeth gantho.
verse 41 O'r achos hyn eu rhoddi a wnaeth
dan bob cenhedlaeth gyndyn,
Mewn cyflwr câs dan estron blaid,
a'i câs yn fcistraid arnyn.
verse 42 Eu gelynion aethant yn ffrom,
a'i llaw fu drom a ffyrnig,
Felly y darostyngwyd hwy,
a mwyfwy fu eu dirmig.
verse 43 Mynych-waredodd Duw ei blant,
hwy a'i digiasant yntau
A'i cwrs eu hun: daeth cystudd hir,
am waith eu henwir feiau.
verse 44 Pan welai arnyn ing na thrais,
fo glywai lais eu gweddi,
verse 45 Gan gofio'i air troi nawdd a wnaeth
o'i helaeth fawr ddaioni,
verse 46 A throi yn drugarog a wnaeth,
y gwyr yn gaeth a'i cludynt,
Y rhai y buasai'n fawr eu câs:
cael mwy cymwynas ganthynt.
verse 47 Achub ninnau o blith y rhai'n
i arwain d'enw hyglod,
O Arglwydd Dduw, cymell ni'n gu
i orfoleddu ynod.
verse 48 Duw Israel bendigaid fydd,
yn dragywydd Jehova:
A dweded yr holl bobl Amen,
molwch Duw llen gorucha.
PSAL. 107. Dafydd yn cynghori y rhai a gasglodd ac a waredod Duw i diolch iddo. Yr hwn (gan roi daioni i'r cyfion) sydd yn cau safn yr enwir.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliennwch Dduw ein llywydd,
O blegid ei drugaredd fry
a bery yn dragywydd.
verse 2 Y gwaredigion canent fawl,
i Dduw gerdd nodawl gyson:
Y fawl a'achubwyd, caned hyn,
o law y gelyn creulon.
verse 3 A gasglodd o bedwar-rhan byd,
dowch chwi i gyd-ganenau.
O dir y dwyrain dowch mewn hedd,
gorllewin, gogledd, deau.
verse 4 Drwy yr anialwch, wyrdraws hynt,
y buasent gynt yn crwydro
Allan o'r ffordd: heb dref na llan,
lle caent hwy fan i drigo.
verse 5 Drwy newyn, syched bu'rdaith hon,
a'i calon ar lewygu:
verse 6 Ar Dduw y galwent y pryd hyn,
pan oeddyn ymron trengu.
Yna eu gwared hwynt a wnaeth,
o'i holl orthrym-gaeth foddion,
verse 7 Rhyd yr iawn ffordd fe'i dug mewn hedd,
i dref gyfannedd dirion,
verse 8 Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac er plant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau:
verse 9 Ddiwallu honaw einioes dyn,
rhag newyn a rhag syched:
Ac o'i fawr râs en cadw i gyd,
pan oedd y byd yn galed.
verse 10 Y rhai mewn tywyllwch a drig,
ynghysgod llewyrch angau,
Yn rhwym mewn nychdod, ac mewn bâr,
a heyrn ar eusodlau.
verse 11 A hyn o herwydd iddynt fod,
mewn anufydd-dod eithaf,
A llwyr ddirmygu gair Duw lor,
a chyngor y Goruchaf.
verse 12 A thrymder calon cwympiwyd hwy
nid oedd neb mwy a'i cododd.
verse 13 Ar Dduw mewn nychdod, ac mewn bâr
ac yntef a'i gwaredodd.
verse 14 Ef a'i gwaredodd hwynt o'i drwg,
sef o dywyllwg caeth glud,
O gysgod angau eu rhyddhau,
a thorri eu rhwymau hefud.
verse 15 Addefent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
verse 16 Cans y pyrth pres torrodd yn chwyrn
a'r barriau heyrn hefyd:
verse 17 Am eu bai a'i camwedd yn wir,
y poenir y rhai ynfyd.
verse 18 A hwynt yn laru ar bob bwyd,
fe'i dygwyd at byrth angau.
verse 19 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
achubodd ef hwynt hwythau,
verse 20 Gan yrru ei air iw iachau,
ac iw rhyddhau yn fuan,
A hwynt â'i air tynnu a wnaeth
o'i methedigaeth allan.
verse 21 Addefant hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau:
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
verse 22 Aberthant hefyd aberth mawl,
iw ogoneddawl fowredd,
A mynegant ei waith a'i wyrth,
yn ei byrth mewn gorfoledd.
verse 23 Y rhai a ânt mewn llongau i'r don,
a'i taith uwch mowrion ddyfroedd,
verse 24 A welsant ryfeddodau'r Ion,
a hyn mewn eigion moroedd.
verse 25 A'i air cyffroe dymestloedd gwynt,
y rhai'n a godynt donnau
verse 26 Hyd awyr fry, hyd eigion llawr,
ac ofn bob awr rhag angau.
verse 27 Gan ysgwyd a phendroi, fal hyn,
dull meddwyn, synnai arnynt.
verse 28 Ar Dduw mewn ing y rhoesant lef,
daeth ef a chymorth iddynt,
verse 29 Gwnaeth e'r y storm yn dawel deg,
a'r tonnau'n osteg gwastad.
verse 30 Yn llawen ddistaw doen i'r lan,
i'r man y bai 'i dymuniaid.
verse 31 Cyffesent hwythau gar ei fron,
ei fwynion drugareddau,
Ac i blant dynion fel y gwnaeth
yn helaeth ryfeddodau.
verse 32 Holl gynulleidfa ei bobl ef,
clod Duw hyd nef dyrchafant:
Holl eisteddleydd pennaethiaid hen,
yn llawen a'i moliannant.
verse 33 Y ffrydau'n ddyrys dir a wnai,
fe sychai ddwfr lle tarddo.
verse 34 A thir ffrwythlawn a wnai'n ddiffrwyth,
lle trig drwg dylwyth yntho.
verse 35 Troes yr anialwch yn llyn glâs,
a'r tir cras yn ffynnhonnydd,
verse 36 Lle y gwnai ef drigfan i'r gwael ddyn,
i dorri ei newyn beunydd.
verse 37 Lle yr hauasant faesydd glân,
a llawer gwinllan dyner,
Y rhai a rhoddant lawnder ffrwyth
a chnydlwyth yn ei amser.
verse 38 Cans cynyddasant hwy gan wlith
grasol fendith un Duw cun,
A'i hanifeiliaid hysb a blith,
rhoes yr un fendith arnun.
verse 39 Daeth caethder gwedi hyn i gyd,
a drygfyd er eu gostwng.
Gadawodd eu gorthrymmu a'i plau,
cawsant flinderau teilwng.
verse 40 Eu dirmyg ar y beilchion troes,
ac ef a'i rhoes i grwydro
Mewn drysni heb lun ffordd i'w chael,
lle buant wael eu gortho.
verse 41 Yna rhoes y tlawd i well fri,
dug o'r trueni allan,
Gan llwyddo ei deulu, a'i holl blaid,
fel defaid wrth y gorlan.
verse 42 Y rhai cyfiawn a welant hyn,
a chanthyn bydd yn hyfryd,
A'r enwir ceuir ei ddwy ên
ar ei gynfigen fowlyd.
verse 43 Pa rai sy ddoeth i ddeall hyn,
fe roddir iddyn wybod
Faint yw daioni f'Arglwydd yn'
wrth hyn y cân gydnabod.
PSAL. 108. Dafydd yn clodfori yr Arglwydd: gan ymsiccerhau yn ei addewidion ef, yr hwn yn y diwedd a deifl y gelynion i'r llawr, pe rhon i ni ac ofni ddarfod iddo yn esceuluso dros amser.
PArod yw fy'nghalon (o Dduw)
o parod eu fy' nghalon,
Canaf-yt a datcanaf wawd,
o fawl fy nhafawd ffyddlon.
verse 2 Deffro dafod, a deffro dant,
a chân ogoniant beunydd,
Y nabl ar delyn yn gytun,
deffrof fy hun ar las-ddydd.
verse 3 Mawl ytty f'Arglwydd, pan ddeffrof,
a rof ymmysc y bobloedd:
A chlodfori dy enw a wnaf,
lle amlaf y cenhedloedd.
verse 4 Cans cyrhaeddyd y mae dy râs,
hyd yn n'hyrnas nefoedd.
A'th wirionedd di hyd at len
yr wybren a'i therfynoedd.
verse 5 Ymddercha Dduw y nef uwchlaw,
oddiyno daw d'rwyddion.
A bydded dy ogoniant ar
y ddayar a'i thrigolion.
verse 6 Fal y gwareder drwy hon hwyl,
bob rhai o'th anwyl ddynion.
O achub hwynt â'th law ddehau,
a gwrando finnau'n ffyddlon.
Yn ei sancteiddrwydd dwedodd Duw
llawen yw sy' nghyfamod,
Mi a rannaf Sichem rhyd y glyn,
mesuraf ddyffryn Succod.
verse 8 Myfi piau y ddwy dretâd,
sef Gilead a Manasse.
Ac Ephraim eu nerth fy' mhen,
a Juda wen sy' neddf-le.
verse 9 Ym Moab ymolchi a wnaf,
dros Edom taflaf f'esgid
A chwardded Palestina gaeth,
ei chwerthin aeth yn rhybrid.
verse 10 Duw pwy a'm dwg i'r ddinas gref,
pwy a'm dwg i dref Edom?
verse 11 Er yt ein gwrthod, pwy ond ti,
o Dduw, a'mleddi drosom?
verse 12 O unic Dduw, bydd i'n yn borth,
mae'n ofer cymorth undyn.
verse 13 Yn Nuw y gwawn wrolaeth fawr
fe sathr lawr ein gelyn.
PSAL. 109. Dafydd, wedi ei gyhuddo ef ar gam gan weineithwyr Saul, yn gweddio ar Dduw am help i ddinistrio ei elynion.
O Dduw fy'moliant i na thaw,
verse 2 cans genau'r annuwiolion:
A'i tafod twyllgar, a'i safn rhwth,
anaf sy'n bygwth digon.
verse 3 Daethant i'm cylch â geiriau câs,
rhoent ddiflas sen anynad.
verse 4 Fal hyn i'm talent ddrwg dros dda,
verse 5 a chas a gaf am gariad.
Ac fel yr oeddynt hwy fal hyn,
i'm herbyn wedi codi,
Fy wyneb attad ti a drois,
ac arnat rhoes fy' ngweddi.
verse 6 Bid Sathan ar ei ddehau law,
i'r swydd y daw yn barod,
verse 7 A phan roer barn, yn euod boed,
a'i weddi troed yn bechod.
verse 8 Bo ei oes yn fer, ac yn ddilwydd,
a'i swydd arall iw chymryd.
verse 9 Poed yn ymddifaid y bo ei blant,
a'i weddw yn fethiant hefyd.
verse 10 A boed ei blant yn crwydro byd,
i gymryd mân gerdodau:
A cheisiant hyn rhyd dyrys dir,
lle y bytho hir eu prydiau.
verse 11 Yn rhwyd y ceisiad eidda syrth
ai lafur pyrth ddieithriaid:
verse 12 Na ddel iddo nawdd am ei fai,
na chwaith i'w rai ymddifaid.
verse 13 Doed distryw dial ar ei hil,
a'i eppil a ddileer,
verse 14 Am bechodau ei dâd a'i fam
y caiff ef lam ryw amser.
verse 15 A bydded hyn i gyd gar bron
yr Arglwydd gyfion farnwr,
Ar hwn a'i torro, fel na bo
mwy gofio eu anghyflwr.
verse 16 Erioed ni cheisiodd wneuthur hedd,
na thrugaredd i ddyn gwan,
Ond erlid tlawd ar isel radd,
a cheisio lladd y truan.
verse 17 Hoffodd felldith a hi a ddaeth,
ac fel y gwnaeth bid iddo
Casâodd fendith, ac ni chai,
ond pell yr ai oddiwrtho.
verse 18 Gwisgodd felldith fel dillad gwr,
a daw fel dwr iw galon,
Fel olew doed iw esgyrn fo,
hyd oni chaffo ddigon.
verse 19 A'r felldith bid iw gylch yn dyn,
fel yn ddilledyn iddo:
A'i gwisgo hi bid iddo'n d
[...]sg,
fel gwregys gwasg am dano.
verse 20 A hyn g
[...]n Dduw a gaf yn dâl,
i'r gelyn gwamal enbyd,
Addwero neu a wnelo gam,
neu
[...]iwed am fy' mywyd.
verse 21 D
[...]h
[...]u Dduw er mwyn d'enw gwna,
herwydd mai da d'ymwared;
Gwna dy d
[...]ugaredd a myfi,
a bryssi
[...] di i'm gwared.
verse 22 O herwydd tlawd a rheidus wyf,
a dit fawr glwyif i'm calon,
verse 23 Symudiad cyscod a fai'n ffo,
hyn er na welo dynion:
Mor ansefydlog yw fy'stad:
a'r m
[...]d ad geiliog rhedyn,
verse 24 Fy'ng hnawd yn gul, fy'ngliniau'n wan
a
[...]iglan o dra newyn,
verse 25 Gwarth wyf i'm câs yn fy' ngwael ddrych,
a hwynt wrth edrych, arnaf
A'm diystyrent dan droi tro,
a than bensiglo attaf.
verse 26 Cymorth di fi Arglwydd fy Nuw,
cadw fi'n fyw â'th nodded:
verse 27 Fel y gwyper mai gwaith dy law,
yw'r lles addaw i'w gwared.
verse 28 Melldithiantnac eiriechant hwy,
dod fendith fwy i minnau,
Bid gwarth i'm gwrthwynebwyr câs,
gorfoledd i'th wâs dithau.
verse 29 A gwarth a gwradwydd gwisger hwy
ac fwyfwy y del attynt:
A mantell laes o gwilydd mawr,
gwisg di hyd lawr am danynt.
verse 30 Ond fi, gan ddiolch i'm Ior mau,
â'm genau mawl a ganaf:
Ac a rof glod iw enw cu,
lle bytho'r llu yn amlaf.
verse 31 O herwydd ar dde heulaw'r tlawd
y saif ddydd brawd yn gefnog;
I gadw ei enasd ef yn gu,
rhag ei farnu yn euog.
PSAL. 110. Dafydd yn prophwydo am allu a theyrnas Christ, ac am ar offeiriadaeth a dynnai ymmaith offeriadaeth Lefi.
DWedai'r Arglwydd wrth f'Arglwydd mau,
ar fy llaw ddeau eistedd:
Nes rhoddi rhai a gais dy waed
yn faingc draed yt, i orwedd,
verse 2 'R Arglwydd denfyn ffrewyll dy nerth
o ddinas fowrwerth Seion,
Pan lywodraethech yn eu mysg,
gwna derfysg ar d'elynion.
verse 3 Yn nydd dy nerth dy bobl a ddaw,
ag aberth llaw'n wyllysgar,
Yn sanctaidd hardd daw'r cynnyrch tau
o wlith y borau hawddgar.
verse 4 Yr Arglwydd tyngodd, ac ni wâd,
ti sy'n offeiriad bythol,
Wrth urdd Melchisedech odd' fry
a bery yn dragwyddol.
verse 5 Yr Arglwydd ar dy ddehau law,
brenhinoedd draw a friwa,
Yn nydd ei ddig gwna'n archollion
fr
[...]nhinoedd cryfion, meddaf.
verse 6 Ar y cenhedloedd rhydd farn iawn,
a'i gwlad gwna'n llawn celanedd
A llawer pen dros wledydd mawr,
a dyrr ei lawr yn unwedd,
verse 7 O wir frys i'r gyffafan hon,
fe yf o'r afon nesaf,
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd,
a'r Arglwydd a'i derchafa.
PSAL. 111. Y mae efe yn y psalm hon yn diolch i Dduw am ei am
[...] weithredoedd da i'r eglmys, gan ddangos beth yw iawn ddoethineb a gwybodaeth.
CLodforaf fi fy Arglwydd Ion,
o wyllys calon hollawl,
Mewn cynnulleidfa gar eu bron,
mewn tyrfa gyfion rasawl.
verse 2 Mawr iawn yw gwrthiau'n Arglwydd nef
hysbys i bawb a'i hoffaint.
verse 3 Ei waith a'i iownder pery byth,
a'i wehelyth ogoniant.
verse 4 Yr Arglwydd a wnaeth ei goffau,
am ryfeddodau nerthol.
Cans Arglwydd nawdd fawr yw i ni,
llawn o dosturi grasol.
verse 5 Ef i bob rhai a'i hofnant ef,
rhydd gyfran gref at fywyd:
Ac yn dragywydd y myn fod
cof o'i gafammod hefyd.
verse 6 Mynegodd ef iw bobl i gyd,
gadernyd ei weithredoedd:
A rhoddi iddynt hwy a wnaeth
'tifeddiaeth y cenhedloedd.
verse 7 Gwirionedd a barn ydyw gwaith
ei ddwy law berffaith efo:
A'i orchmynion sy ffyddlon iawn,
a day gwnawn eu gwrando.
verse 8 Y rhai'n sy gwedi eu sicrhau,
dros byth yn ddeddfau cyfion:
Gwedi eu gwneuthur hwy mewn hodd
a thrwy wirionedd union.
verse 9 Anfonordd gymmorth iw bobl ef,
cyfammod gref safadwy,
Archodd hyn: bo iw enw fawl,
sancteiddiawl ac ofnadwy.
verse 10 Dechreuad pod doethineb ddofn
i bawb yw ofn yr Arglwydd,
Da yw ddeall y sawl a'i gwnai,
a'i ofn a sai'n dragywydd.
PSAL. 112. Mawl dedwyddwch y rhai a ofnant Dduw. A dango
[...] melldith iw ddirmygwyr ef.
DEdwyddol yw mewn buchedd dda
y sawl a ofna'r Arglwydd,
A'i orchmynion anwyl ynt,
bydd iddo helynt hylwydd.
verse 2 Ei hâd fydd nerthol yn y tir,
bendithir hil rhai union:
verse 3 Golud a chyfoeth yn ei dy,
tros byth y pery'n gyfion.
verse 4 Yr union yn y tywyll cau
caiff fodd i olau weled:
Ystyriol, a thosturiol iawn.
a chyfiawn fydd ei weithred.
verse 5 Gwr da a fydd trugarog fwyn,
rhydd echwyn a chymwynas,
A'i air mewn pwyll a barn a rydd,
a'i weithred sydd yn addas.
verse 6 Ni 'sgogir byth y cyfiawn gwna,
ei coffa yn dragywydd;
verse 7 A chalon ddisigl, ddwys, ddiof
[...],
a sail ddosn yn yr Arglwydd.
verse 8 Hwn yn nerth Duw d
[...]ofnog fydd,
ac atteg sydd iw galon:
Hyd oni chaffo drwy lawn wys,
ei wyllys o'i elynion.
verse 9 Rhannodd a rhoes i'r tlawd yn hy,
byth pery ei gyfiownedd,
A chryfder ei goron yn wir,
dyrchefir mewn gogonedd.
verse 10 Yr anwir edrych, ffromma o ddig,
drwy ffyrnig ysgyrnygiaid:
Yr annuwiol a dawdd: fal hyn
fydd terfyn eu dymunaid.
PSAL. 113. Cyngor i foli Duw am ei ddaioni iw bobl.
CHwi weision Duw molwch yr Ion,
Molwch ei enw â llafer don
verse 2 Bendigaid fytho ei enw ef.
verse 3 O godiad haul hyd fachlud dydd,
Mawr enw yr Ion moliannus fydd,
yn y byd hwn, ac yn y nef.
verse 4 Derchafodd Duw uwch yr holl syd,
A'i foliant aeth uwch nef i gyd,
verse 5 pwy sy gyffelyb i'n Duw ni?
Yr hwn a breswyl yn y nef,
verse 6 I'r ddaiar hon darostwng ef,
gwyl ef ein cam clyw ef ein cri.
verse 7 Yr hwn sy'n codi'r tlawd o'r llwch,
A'r rheidus o'i ddiystyrwch,
verse 8 iw gosod uwch pennaethiaid byd.
verse 9 I'r ammlhantadwy mae'n rhoi plant,
Hil teg, a thylwyth, a llwyddiant;
am hyn moliennwch Dduw i gyd.
Gogoniant fyth a fytho i'r Tâd,
A byd gogoniant i'r Mb rhad,
i'r Yspryd glân gogoniant fo;
Megis gynt yn y oes oesoedd;
Ac y bydd byth yn oes oesoedd;
dwedwn Amen, poed felly y bo.
PSAL. 114. Y mae mynediad Israel o gaethiwed yn dwyn ar gof i ni faint yw trugaredd Duw iw blant, a maint ein anniolchgarwch ninnau iddo ef.
PAn ddaeth Israel o'r Aipht faith,
A thy Iaco o estron iaith,
verse 2 Juda oedd ei sancteiddtwydd ef,
Israel oedd benaethiaeth Ior,
verse 3 Gwelodd hyn a chiliodd y mor,
a throes iw hol Jordonnen gref,
verse 4 Neidiai'r mynyddoedd megis hyrdd,
A'r bryniau mal wyn llament ffyrdd,
cawfant wastad megis llawr dol.
verse 5 Ciliaist (o for) dywaid pa ham?
Tithau Jordonen lathraidd lam,
pa'm y dadredaist dithau'n d'ol?
verse 6 Chwychwi fynyddoedd p'am y ffoech,
Fel hyrddod? a ph'am nad arhoech?
a chwithau fryniau fal wyn man?
verse 7 Am mai rhaid ofni Duw Iago,
verse 8 Yr hwn sy'n troi'r graig yn llyn tro,
a'r callestr yn ffynnon ddwfr glân.
Gogoniant fyth, &c. fel yn y Psal. 113.
PSAL. 115. Y bobl a orthrymid gan dywysogion annuwiol, yn addo bod yn ddiolchgar, os Duw a wrandawai ei gweddiau, ac a'i gwaredai hwynt.
NId ini Arglwydd, nid i ni,
y dodi y gogonedd:
Ond i'th enw dy hun yn hawdd,
er mwyn dy nawdd a'th wiredd.
verse 2 Pa'm y dwedant am danat ti
y cenhedlaethi eftron:
A thrwy edliw hynny yn fwy,
ple'y mae'eu Duw hwy yr awron.
verse 3 Sef ein Duw ni mae yn y nef,
lle y gwnaeth ef a fynnodd.
verse 4 Eu delwau hwy, aur, arian yn,
a dwylo dyn a'illuniodd.
verse 5 Safn heb draethu: llun llygaid glân,
y rhai'n ni welan ronyn:
verse 6 Trwyn heb arogl, clustiau ar lled
heb glywed, y sydd ganthyn.
verse 7 Ac i bob delw y mae dwy law
heb deimlaw, traed heb symyd:
Mae mwnwgl iddynt heb roi llais,
fal dyna ddyfais ynsyd.
verse 8 Fel hwyntwy ydyw rhai a'i gwnant
a'r rhai a gredant iddynt:
Am hyn ni ddylai neb drwygred
roi mo'i ymddiried arnynt.
verse 9 O Israel, dod ti yn rhwydd
ar yr Arglwydd dy hollfryd.
Ef yw nerth a'i dwg i'r lan,
eich porth a'ch tarian hefyd.
verse 10 O
[...]y Aron, dod tithau'n rhwydd,
ar yr Arglwydd dy hollfryd:
Ef yw eu nerth a'i dwg i'r lan,
cu porth a'i tarian hefyd.
verse 11 Rhaia ofnwch yr Arglwydd Ion,
rhowch arno'ch union hollfryd:
Efe yw'r neb a'ch dwg i'r lan,
eich porch a'ch tarian hefyd.
verse 12 Duw naf a'n cofiodd, ac i'n plith
fo roes ei fendith rhadlon:
I dy Israel rhydd ei hedd,
ac unwedd i dy Aaron.
verse 13 Sawl a'i hofnant bendithiant ef,
yr Arglwydd nef canmolan,
A'i enw sanct o'r nef i'r llawr,
bendithied mawr a bychan:
verse 14 Yr Arglwydd arnoch, arnoch chwi,
a wna ddaioni amlach:
Ac a chwanega ar eich plant
ei fwyniant yn rymusach.
verse 15 Y mae ywch fendith a mawr lwydd
gan y gwir Arglwydd cyfiawn,
Yr hwn a wnaeth y ne foedd sry,
a'r ddayar obry yn gyflawn.
verse 16 Y nef, ie'r nefoedd uwchlaw,
sy yn eiddaw Duw yr Ion,
A'r ddaiar, lle y preswyliant,
a roes ef i blant dynion.
verse 17 Pwy a folant yr Arglwydd? pwy?
gwn nad hywyntwy y meirwon,
Na'r rhai a ânt i'r bedd yn rhwydd,
lle y mae distawrwydd ddigon.
verse 18 Ond nyni daliwn yn ein cof
fyth fyth fendithio'r Arglwydd.
Molwch yr Arglwydd yn un wedd,
â mawl gyfannedd ebrwydd.
PSAL. 116. Diolch Dafydd i Dduw am ei fawr ga
[...]iad tu ag atto ef pan oedd Saul yn ei erlid ef yn niffeithwch Maon.
DA gennif wrando' or Arglwydd nef
ar lais fy llef a'm gweddi:
verse 2 Am iddo fy' nghlywed i'n hawdd,
byth archaf ei nawdd imi.
verse 3 Mae maglau angau i'm cynllwyn,
ym mron fy nwyn i'm beddrod:
Cefais ing. 4. Ond galwaf fy Ner
i'm hoes, moes dyner gymmod.
verse 5 Cyfion yw'r Ion trugarog iawn,
ein Duw sy lawn o nodded.
verse 6 Duw a geidw'r gwirion: bum i,
m
[...]wn cyni, daeth i'm gwared,
verse 7 O f'enaid dadymchwel o'r llwch;
dyrd i'th lonyddwch bellach:
Am i'r Arglwydd fod i ti'n dda,
saf i'th orphwysfa hauach.
verse 8 O herwydd i Dduw wared f'oes,
a'm cadw rhag gloes angau,
Fy' nrhaed rhag llithro i lam ddrwg,
a'm golwg i rhag dagrau.
verse 9 Yn y ffydd hen o flaen fy Nuw,
ym mysg gwyr byw y rhodiaf.
verse 10 Fel y credais felly y tystiais,
ar y testyn ymma.
verse 11 Yn fy ffrwst dwedais i fal hyn,
mae pob dyn yn gelwyddog,
verse 12 Ond o Dduw, beth a wnaf i ti,
am dy ddaioni cefnog?
verse 13 Mi a gymmeraf, gan roi mawl,
y phiawl iechyd wriaeth,
Ac a alwaf, er mwyn fy llwydd,
ar enw yr Arglwydd bennaeth.
verse 14 I'r Arglwydd talaf yn forau,
fy addunedau ffyddlon,
Y pryd hyn o flaen ei holl lu,
y modd y bu'n fy' nghalon.
verse 15 Marwolaeth ei sainct gwerth fawr yw
yngolwg Duw: 16 O cenfydd,
Dy wâs, dy wâs wyf, mewn dirmyg,
mab dy forwynig ufydd.
verse 16 Dattodaist fy' rhwyman yn rbydd,
fy offrwm fydd dy foliant,
verse 17 Enw r Arglwydd nid â o'm co,
i hwnnw bo gogyniant.
verse 18 I'r Arglwydd bellach tala'n frau
fy addunedau cyfion.
verse 19 Yngaher Selem dy sanctaidd dy,
o flaen dy deulu ffyddlon.
PSAL. 118. Dafydd (wedi ei Saul ei erlid ef a chael o honaw y frenhiniaeth gan Dduw) yn erchi i bawb o'r ffyddloniaid fod yn ddiolchgar.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugareddau,
sydd yn parhau'n dragywydd.
verse 2 Dweded Israel da yw ef,
a'i nawdd o nef ni dderfydd,
verse 3 Dweded ty Aaron mai da yw,
trugaredd Duw'n dragywydd.
verse 4 Y rhai a'i hofnant ef yn lân,
a ganau yr un cywydd,
Rhon iw drugaredd yr un glod,
sef ei bod yn dragywydd.
verse 5 Im hing gelwais ar f'Arglwydd cu
hawdd gantho fu fy' nghlywed;
Ef a'm gollyngodd i yn rhydd
o'i lân dragywydd dodded.
verse 6 Yr Arglwydd sydd i'm gyda'mi,
nid rhaid ym ofni dynion.
verse 7 Yr Arglwydd sydd ynghyd â mi,
er cosbi fy' ng
[...]lynion.
verse 8 Gwell yw gobeithio yn Nuw cun,
nag mewn un dyn o'r aplaf:
verse 9 Gwell yw gobeithio yn yr Ion,
nâ'r tywysogion penat.
verse 10 Doed y cenhedloedd arna'i gyd,
a'i bryd ar wneuthur artaith:
Ond yn enw y gwir Arglwydd Naf,
myfi a'i torraf ymaith.
verse 11 Daethant i'm cylch ogylch i'm cau,
ac ar berwylau d
[...]ffaith,
Ond yn enw'r Arglwydd Naf,
myfi a'i toraf ymaith.
verse 12 Daethant i'm cylch fel gwenyn mân:
fal diffodd tân mewn godaith,
Yn enw yr Arglwydd yr wyf fi
yn eu diffoddi ymaith.
verse 13 Fy nghas-ddyn gwthiaist atta'n gryf
i geisio gennyf syrthio.
Duw a'm cadwodd, 14 sef Ion sy'ngrym,
sy iechyd i'm ac etto.
verse 15 Am orfoledd Duw y bydd son
yn nhai rhai cyfion dwyfol,
Mai'r Arglwydd Duw a'i law ddehau,
a wnaeth y gwrthiau nerthol.
verse 16 Deheulaw 'r Arglwydd drwy ei nawdd
ef a'i derchafawdd arnom,
A dehaulaw yr Arglwydd ner,
a wnaeth rymusder dro
[...]om.
verse 17 Nid marw onid byw a wnaf'
mynegaf waith yr Arglwydd,
verse 18 Hwn a'm cospodd, ond nim lladdodd
yn hyttrach lluddi
[...]dd afiwydd.
verse 19 Agorwch ym byrth cyfiownder,
o'i mewn Duw ner a folaf.
verse 20 Porth yr Arglwydd fal dyma fo,
ânt iddo'r rhai cyfiownaf.
verse 21 Minnau a'th folaf yn dy dy,
o herwydd ytty 'nghlywed,
Yno y canaf nefol glod
yt, am dy fod i'm gwared.
verse 22 Y maen sy ben congl-faen i ni,
a ddarfu i'r seiri ei wrthod.
verse 23 O'r Arglwydd Dduw y tyfodd hyd
sy g
[...]nddyn yn rhyfeddod.
verse 24 Yr Arglwydd a'i gwnaeth, dyma'r dydd,
er mawr lawenydd ynny,
Yntho cymrwn orfoledd llawn,
ymlawenhawn am hynny.
verse 25 Attolwg Arglwydd y pryd hyn
yr ym yn erfyn seibiant:
Adolwyn Arglwydd Dduw pâr yn',
y pryd hy gaffael llwyddiant.
verse 26 Bendigaid yw y sawl a ddel
yn Enw yr uchel Arglwydd.
O dy Dduw bendithiasom chwi,
drwy weddi a sancteiddrwydd.
verse 27 Yr Arglwydd sydd yn Dduw i ni,
rhoes i'n oleuni ragor.
Deliwch yr oen a
[...]howch yn chwyrn
yn rhwym wrth gyrn yr allor.
verse 28 Tydi o Dduw wyt Dduw i mi,
am hyn tydi a folaf;
(Da gwedd it fawl, fy Nuw mau fi)
a thydi a ddyrchafaf.
verse 29 Molwch yr Arglwydd, cans da yw
moliannu Duw y llywydd,
O herwydd ei drugaredd fry,
a bery yn dragywydd.
PSAL. 124. Y ffyddloniaid wedi eu gwaredu o'i peryglon, yn
[...]yfaddef i ad o'i nerth eu hun, eithr d
[...]wy drugaredd y diangasant.
DYma'r amser yn ddi ymgel,
gall Israel, fynegi,
Yr Arglwydd nef on i bai ei fod,
a'i arfod gydâ nyni.
verse 2 Gydâ ni oni bai ei fod,
pan ddaeth gwrth drafod dynion:
verse 3 Pan gododd llid i'n, a phoeni,
llyngascent ni yn fywion.
verse 4 Y dyfroedd a'n boddasent ni,
an hoes dan gefn lli buan:
verse 5 Chwyddasent drosom, fel chwydd dwr
fal dyna gyflwr truan.
verse 6 Bendigaid Ior ei law a droes:
ac ef ni roes mo honom
Yn ysglyfaeth i'n rhwygo'n frau,
iw gwâg efeiliau llymion.
verse 7 Ein hemid aeth yn rhydd o lyn,
fal yr aderyn gwirion,
Rhwyd yr adarwr torri a wnaeth,
a ninnau aeth yn rhyddion,
verse 8 Ein holl gynnorthwy ni, a'n llwydd,
sy'n nerth yr Arglwydd howddgar,
Yr hwn drwy waith ei ddwyiaw ef,
a greawdd nef a daiar.
PSAL. 126. Y Psalm hon sydd yn dangos ryfedded fu gwarediad y bobl allan o gaethiwed Babylon, ac mai yr Arglwydd a'i gwnaethei.
PAn ddychwelodd ei gwir Dduw Ion,
gaethiwed Seion sanctaidd;
Mor hyfryd gennym hyn bob un,
a rhai mewn hun nefolaidd.
verse 2 Nyni â'n genau yn dda'n gwedd,
gorfoledd ar ein tafod,
verse 3 Ymlhith cenhedloedd dwedynt yn wir,
fe wnaeth Duw drostyn ystod.
verse 4 Ystod fawr a wnaeth Duw yn wir,
ein dwyn i'n tir cynnefin.
O gaethiwed y gelyn llym,
am hyn yr ym yn chwerthin.
verse 5 O cynnull ein gweddillion ni,
tro adre' rhei'ni cilwaith,
Gan dy lif-ddyfroedd fel y gwlych
y dehau sych a diffaith.
verse 6 Y rhai sy'n hau mewn dagrau blin,
hwyntwy dan chwerthin medant.
Felly f' Arglwydd dan droi y byd,
dwg ni i gyd i'r meddiant.
verse 7 Y rhai dan wylo aeth o'r wlâd,
fel taflu hâd rhyd gryniau;
Drwy lawenydd y dont ynghyd,
fel casglu yd yn dyrrau.
PSAL. 129. Cynghori y mae i'r eglwys ymlawenhau, er bod erlidwyr ym mhob oes. Duw a'i gweryd hi, ac a sathr ei chaseion.
LLawer gwaith cefais gystudd mawr
Israel yn awr dyweded,
O'm hievenctyd hyd yr awr hon,
fe wyr fy mron eu trymed.
verse 2 A llawer gwaith y cesais lid,
o'm gwan ievenctid allan,
A bi'm gystudd ar lawer tro,
ac etto ni'm gorfuan'.
verse 3 Yr arddwyr arddent y cefn mau,
drwy rwygo cwysau hirion:
verse 4 Y cyfion Ner torrodd yn frau,
bleth didau'r annuwolion.
verse 5 Pa rai bynnag a roesant gâs
ar degwch dinas Seion,
Gwradwydder hwynt, cilient iw hol,
y rhai annuwiol creulon.
verse 6 Byddant fel y glas wellt a fai
ar bennau tai yn tyfu,
Yr hwn fydd, cyn y tynner fo,
yn gwywo, ac yn methu.
verse 7 Ni leinw'r medelwr ei law,
ni chair o honaw ronyn:
I'r casclwr nis tal ddim mo'i droi,
na'i drin, na'i roi mewn rhwymyn:
verse 8 Fel na bai byth gwiw gan y rhai
ar a dramwyai heibio,
Ddwedyd unwaith Duw a ro llwydd,
neu'r Arglwydd a'ch bendithio.
PSAL. 130. Gweddi am drugaredd a meddeuant o'n pechodeu, ac o'r diwedd am gael ein gwareda o bob drwg.
O'R dyfnder gelwais arnat Ion,
verse 2 O Arglwydd tirion gostwng
Dyglust, ystyria y llais mau,
clyw fy' ngweddiau teilwng.
verse 3 Duw, pwy a saif yn d'wyneb di,
os creffi ar anwiredd?
verse 4 Ond fel i'th ofner di yn iawn,
yr wyd yn llawn trugaredd.
verse 5 Disgwyliais f'Arglwydd, wrth fy rhaid,
disgwyliodd f'enaid arno.
Rhois fy holl obaith yn ei air,
verse 6 f'enaid a gair yn effro.
Ac am yr Arglwydd gwilio'y dydd,
fwy nâ gwiliedydd difri,
A edrych blygain bob pen awr,
a welo'r wawr yn codi.
verse 7 Un wedd disgwylied Israel,
yn ddirgel am yr Arglwydd:
Cans mae nawdd gydâ'r Arglwydd nef
mae yntho ef rywiowgrwydd.
Ei drugareddau ânt ar led,
fe rydd ymwared ini.
verse 8 Fe weryd Israel: fal hyn,
fo'i tyn o'i holl ddrygioni.
PSAL. 132. Y ffyddlon yn ymddiried i addewidion Duw. Dafydd yn dymuno ar Dduw sicrhau yr unrhyw.
O Cofia Ddafydd, fy Nuw Ner,
a'i holl wrth flinder hefyd;
verse 2 Pa lw adduned a roes fo
i Dduw Iaco, gan ddwedyd,
verse 3 Nid âf o fewn pabell fy' nhy,
a'm gwely mwy nis dringaf;
verse 4 Ni roddaf i'm dau lygad hun,
amrantun chwaith ni chysgaf:
verse 5 Nes caffwyf gyfle yn ddi rus,
i Arglwydd grymus Iaco.
verse 6 Wele'n Ephrata clywson fod
lle o breswylfod iddo.
Cawsom hi ym meusydd y coed.
verse 7 Pawb doed iw bebyll tirion,
Awn, ymgrymwn, pawb ufyddhaed,
wrth ei faingc draed yn union.
verse 8 F'arglwydd, cyfod i'th esmwyth lys,
a'th arch o rymmus fowredd.
verse 9 Gwisged d'offeiriaid gyfion fraint,
gwisged dy Sainct wirionedd.
verse 10 Er mwyn Dafydd dy ffyddlon wâs,
na thyn dy râs yn llidiog:
Ac na wrthneba di er neb,
mo wyneb dy enneiniog.
verse 11 I Ddafydd rhoes yr Ion lw gwir,
a chedwir hwn heb wyredd:
O ffrwyth dy gorph rhof ar dy saingc,
yt iraidd gaingc i eistedd.
verse 12 Fy'neddfau a'm cyfammod i,
dy feibion di os cadwant;
O blan i blann o gaingc i gaingc,
hwy ar dy faingc a farnant.
verse 13 Cans fy Arglwydd, o serch a bodd,
a rag-ddewisodd Seion;
I drigo ynthi rhoes ei fryd,
gan ddwedyd geiriau tirion;
verse 14 Hon fyth fydd fy' ngoryhysfa i,
o hoffder ynthi trigaf.
verse 15 Bend
[...]thiaf hi a bwyd di ball,
a'i thlawd diwall o fara.
verse 16 Ag iechydwriaeth, medd Duw naf
y gwilgaf ei heglwyswyr,
A rhoddaf yngenau pob Sanct
o'i mewn, ogoniant psallwyr.
verse 17 Paraf hyn oll, ac felly y bydd,
corn Dafydd yn goronog:
Felly darperais, gan fy'mhwyll,
brif ganwyll i'm eneiniog.
verse 18 Am ei ely ion, o bob parth,
y gwiscaf warth a gwradwydd,
Paraf hefyd iw goron fo
flodeuo: medd yr Arglwydd.
PSAL. 135. Cyngor i'r ffyddloniaid i foli'r Arglwydd am ei ddaioni yn gwradwyddo addolwyr eulynnod.
O Molwch enw'r Arglwydd nef,
ei weision ef moliannwch,
verse 2 Y rhai a saif iw dy a'i byrth,
i'n Duw a'i fawrwyrth cenwch.
verse 3 Molwch yr Arglwydd, cans da yw,
clod i'r Ior byw a berthyn;
Cenwch ei glod dros yr holl fyd,
a hyfryd yw y destyn.
verse 4 Oblegid yr Arglwydd, a'i nawdd,
ef a etholawdd laco,
Ac Israel, iw mysg y trig,
yn deulu unic iddo.
verse 5 Cans mawr yw'r Arglwydd yn ei lys
mi a wn yn hysbys hynny:
Ym mhell uwchlaw'r holl dduwiau mân,
mae'r Arglwydd glân a'i allu.
verse 6 Hyn oll a fynnodd a wnaeth ef,
yn uchder nef eithafon:
Ar ddaiar, ac yn y mor cau,
a holl ddyfnderau'r digion.
verse 7 O eithaf daiar cyfyd tarth,
daw'r mellt o bobparth hwythau,
Ac oer dymestloedd, glaw, a gwynt,
a godynt o'i drysorau.
verse 8 Yn nhir yr Aipht dynion, a da,
â llawer pla y trawodd,
Cyntaf-anedig o bob un,
a'i law ei hûn a laddodd.
verse 9 I'th ganol di, o Aipht greulon,
rhoes Duw arwyddion rhyfedd,
Ar Pharo' a'i holl weision i gyd:
dug drwy'r holl fyd orfoledd.
verse 10 O nerth ei fraich efe a wnaeth,
lawer cenhedlaeth fcirwon:
A lladdodd lawer yr un wedd
o ben brenhinoedd cryfion.
verse 11 Sef o'r Amoriaid Sehon fawr,
ac Og, y cawr o Fasan:
A'r un ddinystriad arnynt aeth,
a holl frenhiniaeth Canan.
verse 12 A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
gyd â'i holl fywyd bydol,
I Israel i roi a wnaeth
yn etifeddiaeth nerthol.
verse 13 Dy Enw (o Arglwydd) a'th nerth cry',
a bery yn dragywydd,
Ac o genedl i genedlaeth
dy goffadwriaeth, lywydd.
verse 14 Cans ar ei bobl y rhydd ef farn,
yr Arglwydd cadarn cyfion,
Ac yn ei holl lywodraeth bur,
bydd dostur wrth ei weision.
verse 15 Y Delwau oll, gwaith dwylaw yn,
a dyfais dyn anffyddlon;
O aur ac arian dyn a'i gwnaeth,
o hil cenhedlaeth weigion.
verse 16 O waith dyn, genau rhwth y sydd,
heb ddim llyferydd iddyn:
Ac mae llun llygaid mawr ar led,
a'r rhai'n heb weled gronyn.
verse 17 Dwy glust dynion sydd i bob un,
heb glywed mymryn etto,
Eu safn yn ehang, ac ni chaid
na chwyth, nag enaid yntho.
verse 18 Un fodd a'r delwau fydd y rhai
a'i gwnelai hwynt â'i dwylo,
Ac nid yw well nâ'r rhai'n yr un,
ynthyn a ymddirietto.
verse 19 Ty Israel na choeliwch chwi:
ty Aron: Lefi ufydd,
verse 20 I'r rhai'n ddim, ond i'r Arglwydd nef,
bendithiwch e'n dragywydd.
verse 21 Bendithier fyth mawr Enw'r Ion,
o Seion hen a barchem,
Bendithier moler ei enw fo,
sy'n trigo ynghaer S
[...]lem.
PSAL. 136. Mawr ddiolch i Dduw am wneuthur a llywodraethu pob peth.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
verse 2 Molwch chwi Dduw y duwiau'n rhwydd,
verse 3 ac Arglwydd yr arglwyddi,
verse 4 Hwn unic a wnaeth wrthiau mawr,
drwy ei ddirfawr ddaioni.
verse 5 Gwnaeth â'i ddoethineb nef wchben,
verse 6 a'r ddaiaren a'r dyfredd,
Y thai yw prif sylwedd y byd,
ac i gyd o'i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd,
Cans ei drugaredd oddi fry,
a bery yn dragywydd.
verse 7 R' hwn a wnaeth oleuadau mawr,
o'r nef hyd lawr a'i fowredd.
verse 8 Haul y dydd, 9 â'r lleuad y nos,
i ddangos ei drugaredd.
verse 10 'Rhwn a drawodd yr Aipht iw ddig
a'r blaen-anedig ynthi,
verse 11 Ac a ddug Israel i'r daith,
ac ymmaith o'i holl gyni.
verse 12 A hyn drwy law gref a braich hir,
o rym ei wir ogonedd:
verse 13 A hollti'r mor coch yn ddwy ran,
o anian ei drugaredd.
verse 14 Dug Israel i'r lan yn wych,
fel dyna ddrych gorfoledd:
verse 15 Yscyttian Pharo, a'i holl lu,
a hyn a fu'i drugaredd.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd, &c.
verse 16 A dwyn ei bobloedd yn ddichwys,
drwy wledydd dyrys anian:
verse 17 Taro brenhinoedd er eu mwyn,
ac felly eu dwyn hwy allan.
verse 18 Lladd llawer brenin cadarn llon,
verse 19 sef S
[...]hon yr Amoriaid:
verse 20 Ac Og o Fasan yn un wedd,
a'i sawr drugaredd dibaid.
verse 21 A'i holl diroedd hwyntwy i gyd,
eu rhoi yn fywyd by dol
verse 22 I Israel ei was a wnaeth,
yn etifeddiaeth nerthol.
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch, &c.
verse 23 Hwn i'n cystudd a'n cofiodd ni,
o'i fawr ddaioni tirion.
verse 24 Ac a'n achubodd yn ddiswrth
oddiwrth ein holl elynion.
verse 25 Yr hwn a ymbyrth bob rhyw gnawd
yn ddidlawd o'i drugaredd.
verse 26 Clodforwch Dduw brenin y nef,
rhowch iddo ef ogonedd.
verse 27 Molwch Arglwydd yr arglwydi,
uwchben pob rhi o fowredd,
D
[...]w'r duwiau, Ion uwchben pob Ion,
a ffynnon y drugaredd.
verse 28
Molwch yr Arglwydd (cans da yw)
moliennwch Dduw y llywydd, &c.
PSAL. 137. Yr Israeliaid yn eu caethiwed (wrth glywed y Chaldeaid yn cablu Duw) sydd yn dymmuno ar Dduw gosbi yr Edomiaid, y rhai a barasent i wyr Babel greuloni wrthynt: a prophwydoliaeth am ddinistr Babel.
PAn oeddym gaeth yn Babilon,
ar lan prif afon groyw,
Mewn coffadwriaeth am Seion,
hidlason ddagrau'n loyw.
verse 2 Rhoddasom ein telynau 'nghrog,
ar goed canghennog irion.
Lle yr oedd preniau helîg plan,
o ddeutu glann yr afon.
verse 3 Y rhai a'n dug i garchar caeth,
ini yn ffraeth gofynnen,
A ni'n bruddion, gerdd i Seion,
sywaeth peth nis gallen.
verse 4 O Dduw pa fodd y canai neb,
(rhoem atteb yn ystyriol)
I chwi o gerdd ein Harglwydd Dâd,
a ni mewn gwlad estronol?
verse 5 Os â Caersalem o'r cof mau,
anghofied dehau gany;
verse 6 Na throed fy' nhafod, oni bydd,
hi'n ben llawenydd ymy.
verse 7 Cofia di Dduw, blant Edom lemm,
yn nydd Caersalem howddgar:
Noethwch dynoethwch (meddei rhain)
ci mur a'i main i'r ddaiar.
verse 8 Bydd gwyn eu byd i'r sawl a wnel
iti, me rch Babel rydost.
Yr unrhryw fesur, gan dy blau,
i ninnau fel y gwnaethost.
verse 9 Y sawl a gymro dy blant di,
bo'r rhei ni fendigedig,
Ac a darawo'r eppil tau,
a'i pennau wrth y cerrig.
PSAL. 138. Dafydd ym canmol daioni Duw tu ag atto ef, ac yn gweled drwy ei ffydd y cai efe gymaint daioni gan Dduw rhag llaw, ac o'r blaen.
RHof fawrglod iti, sy' Nuw Ion,
o ddyfnder calon canaf:
Yngwydd holl Angylion y nef,
â'm hosl
[...]f i'th foliannaf.
verse 2 Ymgrymmaf tua'th sanctaidd dy,
dan ganu o'th drugaredd,
A'th enw mawr uwchlaw pob peth,
a'th air difeth wirionedd.
verse 3 Y dydd y gelwais arnat ti,
gwrandewaist fi yn fuan:
Yno y nerthaist â chref blaid,
fy enaid i oedd egwan.
verse 4 Doed brenhinoedd y ddaiar hon,
a rhoen yt union foliant:
Addolent oll ein gwir-dduw ni,
cans d'eiriau di a glawsant.
verse 5 Yn ffyrdd yr Arglwydd yr un wedd,
ac am ei fowredd canant:
Gan ddangos drwy'r hollfyd ei fraint,
a maint yw ei ogoniant.
verse 6 Uchel yw'r Ion, etto fe wel
yr ufydd isel ddynion:
A gwyl o hirbell, er eu plau,
y beilch a'r gwarrau sythion.
verse 7 Pe bai yn gyfyng arna'r byd,
ti a'm byw-heyd eilwaith:
Gan ystyn llaw i ddwyn dy wâs
oddiwrth rai atcas ymaith.
verse 8 Yr Arglwydd a gyflowna â mi,
Duw dy ddaioni rhag llaw,
Ac yn dragywydd imi dod:
na wrthod waith dy ddwylaw.
PSAL. 139. Dafydd er mwyn ei lanhau ei hun, yn dangos nad oes dim yn guddiedig rhag Duw: a thrwy ddangos ei serch tu ag at Dduw, y mae efe yn ymroi i fod yn elyn i'r rhai a wrthynebant Dduw.
ARglwydd, manwl y chwiliaist fi,
da i'm adwaeni hefyd:
verse 2 Eisteddiad, codiad, gwyddost hyn,
a'm meddwl cyn ei ddwedyd.
verse 3 Yr wyd ynghylch fy lloches i,
a'm ffyrdd sydd itti'n hysbys:
verse 4 Nid oes air nas gwyddost ei fod
ar flaen fy 'nhafod ofnys.
verse 5 O'm hol ac o'm blaen i'm lluniaist,
dy law a ddodaist arnaf:
verse 6 Gwybodaeth ddieithr yw i mi,
a'i deall hi nis medraf.
verse 7 I ba le r'af fi i roi tro,
i'mguddio rhag dy Yspryd?
I ba le ffoaf rhag dy wydd,
drwy gael ffordd rwydd i lathlyd?
verse 8 Os dringaf tua'r nefoedd fry,
wyd yno i'th dy perffaith:
Os tua'r dyfndwr, gostwng tro
yr wyd ti yno eilwaith.
verse 9 Pe cawn adenydd borau wawr,
a mynd i fôr mawr anial,
verse 10 Yno bydd dy ddeheu-law di,
i'm tywys i a'm cynnal.
verse 11 A phe meddyliwn, yr ail tro,
ymguddio mewn tywyllwg,
Canol y nos fel hanner dydd,
mor olau fydd yn d'olwg.
verse 12 Nid dim tywyllach nos i ti
nag yw goleuni haf-ddydd:
A'r ddau i ti maent yr un ddull,
y tywyll a'r goleu-ddydd.
verse 13 Da y gwyddost y dirgelwch mau,
farennau a feddiennaist,
Ynghrôth fy'mam pan oeddwn i,
yno dydi a'm cuddiaist.
verse 14 Cans rhyfedd iawn y gwnaethbwyd fi,
a'th waith di fy ryfeddod,
A'm henaid a wyr hynny'n dda:
a hon a wna yr fowrglod:
verse 15 Ni chuddiwyd fy'ngrym rhagot ti,
pan wn
[...]ethost fi yu ddirgel,
Fel llunio dyn o'r ddaiar hon,
o fewn pridd eigion isel.
verse 16 Dy lygaid gwelsant fy' nhrefn wael,
cyn imi gael perffeith-lun:
Roedd pob peth yn dy lysr yn llawn,
cyn bod yn iawn un gronun.
verse 17 Mor anwyl dy feddyliau ym,
mor fawr yw sum y rhei'ni:
verse 18 Wrth fwrw, amlach gwn eu bod
nâ'r tywod o rifedi.
Myfyrio pan ddeffrowyf fi,
'r wyf gyd'â thi yn gwblol.
verse 19 O Dduw, ba achos yn dy lid,
na leddid yr annuwiol?
O Dduw pe cospid rhai o'r rhai'n
y fydd yn arwain traha;
Wrth y gwaedlyd fo gaid dwedyd,
dydi dos oddiymma.
verse 20 Y rhai am danad f'Arglwydd cu,
sy'n treuthu pethau sceler,
A'th elynion dibrys eu llw,
cymrasant d'enw'n ofer.
verse 21 Ond câs yw gennif, o Dduw Ion,
dy holl gascion gwaedlyd?
Ond ffiaidd gennyf fi bob dyn,
a ai yn d'erbyn hefyd?
verse 22 A llawn gâs y caseais hwynt,
ynt sel ar hwynt gelynion.
verse 23 O chwilia fi o Dduw yn hy,
cei hynny yn sy' nghalon.
Duw prawf fy' meddwl i'n fy'mol.
verse 24 Oes ffordd annuwiol genny;
Gwel fi, tywys, dwg fi yn f'ol,
dod ffordd dragwyddol ymy.
PSAL. 140. Dafydd yn achwyn wrth Dduw rhag dichellion ei elynion: a chan ei siccrhau ei hun o gymorth Duw, mae efe yn annog y cyfion i foli Duw eu helpwr.
RHag y gwr drwg gwared fi (Ner)
rhag gwr y trowsder efrydd,
verse 2 Rhai sy'n bradychu yn ddirgel,
a chasglu rhyfel beunydd.
verse 3 Fel collyn sarph yn llithrig wau,
yw eu tafodau llymion:
Gwenwyn yr asp sydd yn parhau
dan eu gwefusau creulon.
verse 4 Rhag y dyn drwg, rhag y gwr traws
sy'n myfyr lliaws faglau,
Duw gwared fi, rhag gosod brâd,
ynghylch f' ngwastad lwybrau.
verse 5 Y beilch cuddiasant fagl a rhwyd,
wrth hon gosodwyd tannau;
Ar draws fy ffyrdd i ddal fy' nrhoed,
ynghudd, y rhoed llinynnau.
verse 6 Dwedais wrth f'Arglwydd fy Nuw wyd,
tyn fi o'i rhwyd a'i maglau:
O gwrando'n fuan Arglwydd nef,
ar brudd lef fy'ngweddiau.
verse 7 Fy Arglwydd yw fy nerth i gyd,
a'm coel a'm iechyd calon;
Ti a roist gudd tros fy' mhen mau,
yn nydd yr arfau gloywon.
verse 8 I'r dyn annuwiol, Duw, na âd
ddymuniaid drwg ei'wllys;
Rhag ei wneuthur efo yn gry,
a'i fynd yn rhy drahâus.
verse 9 A'i holl ddymuniad drwg i mi,
a'i rhegen weddi greulon,
Y rhai'n yn llwyr a ddont ymmhen
y capten o'm caseion.
verse 10 Syrthied arnynt y marwor tân,
ac felly llosgan ymaith.
Bwrier hwynt mewn cau ffosydd nant
fel na chyfodant eilwaith.
verse 11 Dyn llawn siarad fydd anwastad,
ni eistedd ef yn gryno:
A drwg a ymlid y gwr traws,
o hyn mae'n haws ei gwympo.
verse 12 Da y gwn y rhydd yr Arglwydd dâl
i ddial cam y truan;
Ac yr iawn farna y dyn tlawd
sy'n byw ar gerdawd fechan.
verse 13 Y rhai cyfiawn drwy yr holl fyd,
dy enw a gyd-foliannant.
A'r holl rai union, heb ofn neb,
o flaen dy wyneb trigant.
PSAL. 141. Dafydd pan oedd Saul yn ei erlid, yn dymuno help gan Dduw: a dioddefgarwch, nes passio'r erlid hwnnw.
O Bryssia Arglwydd, clyw fy llais,
o brysur gelwais arnad;
O'r man lle'y bwyf gwrando fy llef,
a doed i'r nef hyd attad.
verse 2 Fy'ngweddigar dy fron a ddaw,
gan godi dwylaw'n uchel,
Yn arogl darth ac aberth hwyr,
fel union ddiwyr lefel.
verse 3 O Arglwydd gofod, rhag gair ffraeth,
gadwriaeth ar fy' ngenau,
Rhag i'm gam-ddwedyd, gosod ddor
ar gyfor fy'ngwefusau.
verse 4 Na phwysa 'nghalon at ddrwg beth,
ynghyd-bleth â'r annuwiol:
Nag mewn cydfwriad gwaith neu wedd,
rhag twyll eu gwledd ddaintethol.
verse 5 Boed cosp a cherydd y cyfiaw n,
fel olew gwerthlawn arnaf;
Ni friw fy' mhen, bo mwyaf fy,
mwy trosto a weddiaf.
verse 6 Eu barnwyr pe bwrid i'r llawr,
ar greigiau dirfawr dyrys:
Gwrandawent ar f'ymadrodd i,
a chlywent hi yn felys.
verse 7 Fel darnau cynnyd o goed mân,
afwrian rhyd y ddaiar,
Mae'n hesgyrn ninnau yr un wedd,
ym mron y bedd ar wasgar.
verse 8 Mae 'ngolwg a'm holl obaith i,
Duw, arnat ti dy hunan:
Duw bydd di'n unic yn fy'mhlaid,
na fwrw f'enaid allan.
verse 9 Cadw fi Arglwydd rhag y rhwyd,
hon a osodwyd ymy,
Telm yr annuwiol, 'hoenyn main,
rhag ofn i'r rhai'n fy magly.
verse 10 Yr anwiredwyr b'ado un,
cwympant eu hûn iw rhwydau,
Ymddiried ynot ti a wnaf,
ac felly diangaf innau.
PSAL. 142. Dafydd, er nrg ofn na dig, yn arbed Saul, ac yn gweddio ar Dduw ei geidwad.
RHois wed di ar yr Arglwydd nef,
yn llym fy llef ymbiliais;
verse 2 A'm holl fyfyrdod gar ei fron,
o'm calon y tywelltais.
verse 3 Ond pan fynegais it fy' nghur,
a'm dolur o'm meddyliau,
Da gwyddit ti bob ffordd a'r man,
y rhoesan i mi faglau.
verse 4 O'r tu deau nid oedd ym' neb,
trown f'wyneb, a'm hadwaenai,
Na nawdd, na neb, o d'n y byd,
fy' my wyd a'mgeleddai.
verse 5 Arnad llefais, wrthyt dwedais,
Duw, di a ydwyd union:
Fy' nghwbl obaith wyt ti yn wir,
a'm rhan yn nhir y bywion.
verse 6 O ystyr Arglwydd 'faint fy'nghri,
wyf mewn truenni digllon:
Rhag fy erlidwyr gwared fi,
mae thei'ni yn rhy gryfion.
verse 7 O garchar caeth fy enaid tynn,
dy enw am hyn a folaf:
Pan weler dy fod ar fy rhan,
y cyfion twysgan attaf.
PSAL. 143. Gweddi am faddeuant pechodau. Dymuno cael ei dderbyn i drugaredd, a chael Yspryd Duw iw gadw hyd ddiwedd ei fywyd.
ERglyw fy arch, o Arglwydd mâd,
wyf arnad yn gweddio:
O'th wirionedd, a'th gyfiownedd,
gofynnaf yt fy' ngwrando.
verse 2 Ac na ddos i'r farn â'th wâs gwael,
(pa les i'm gael cyfiownder?)
Am nad oes dyn byw gar dy fron
yn gyfion pan ei teimler.
verse 3 Y gelyn a erlidiodd f'oes,
mewn llwch i'm rhoes i orwedd:
Fal y rhai meirwon a fai'n hir,
is tywyll dir a'i hannedd,
verse 4 Yna fy ysbryd, mewn blin ing,
a fu mewn cyfing-gyngor:
verse 5 Ac ar fy' nghalon drom daeth braw:
ond wrth fyfyriaw rhagor.
Mi a gofiais y dyddiau gynt,
a helynt gwaith dy ddwylo,
Am hyn myfyriais, fy' Nuw Nâf,
am hyn myfyriaf etto.
verse 6 Fy'nwylaw attad rhois ar led,
lle y mae f'ymddiried unig,
Am danad f'eniad sydd yn wir,
un wedd â'r tir sychedig.
verse 7 Yn ebrwydd gwrando fi yn rhodd,
o Arglwydd, pallodd f'yspryd:
Rhag imi fyned i'r pwll du,
fel rhai a ddarfu eu bywyd.
verse 8 Par i'm ar frys glywed dy nawdd,
cans ynot hawdd y credais:
A dysg i'm rodio dy ffyrdd rhâd,
cans f'enaid attad codais.
verse 9 A gwared fi fy' Nuw, a'm Ion,
rhag fy' ngelynion astrys,
Am fod fy lloches gydâ thi:
verse 10 o dysg i mi d'ewyllys:
Cans tydi ydwyt y Duw mau,
boed d'Yspryd tau i'm tywys
Ar yr uniondeb yn y tir,
dyna dy wir ewyllys.
verse 11 Duw, er mwyn d'enw fi bywhâ,
a helpa f'enaid tyner,
Allan o ing Duw cair ei ddwyn,
ac er mwyn dy gyfiownder.
verse 12 A gwna ar yr elynol blaid,
caseion f'enaid, gerydd:
Difetha hwynt er mwyn dy râs,
cans mi wyf dy was ufydd.
PSAL. 144. Dafydd yn moli Duw am iddo ynnill ei dyrnas, ac y mae fe yn dymuno eu tâl i'r annuwiol: ac yn dangos beth yw happus-rwydd cenedl.
BEndigaid fo'r Arglwydd fy' nerth,
mor brydferth yr athrawa
Fy' nwylo' i ymladd, a'r un wedd,
fy' mysedd i ryfela.
verse 2 Fy'nawdd, fy' nerth, fy' nug, fy nghred
fy'nhwr, f'ymwared unig:
Cans trwyddo ef fy' mhobl a gaf
tanaf yn ostyngedig.
verse 3 Pa beth yw dyn, dywaid o Dduw,
pan fyddyt iw gydnabod?
A mab dyn pa beth ydyw fo,
pan fych o honno'n darbod?
verse 4 Pa beth yw dyn? peth yr un wedd
a gwagedd heb ddim hono;
A'i ddyddiau'n cerdded ar y rhod,
fal cysgod yn mynd heibio.
verse 5 Gostwng y nefoedd, Arglwydd da,
ac edrych draha dynion:
Duw cyffwrdd a'r mynyddoedd fry,
gwna iddynt fygu digon.
verse 6 Iw gwasgar hwynt gyrr fellt i wau,
iw lladd gyrr saethau tanbaid.
verse 7 Discyn, tyn fi o'r dyfroedd mawr:
hyn yw, o law'r estroniaid.
Duw gwared fi. 8 Genenau 'rhai'n,
a fydd yn arwain gwegi:
A'i dehau-law sy yr un bwyll,
ddeheu-law twyll, a choegni.
verse 9 I ti Dduw, canaf o fawrhâd,
yn llafar ganiad newydd,
Ar nabl, ac ar y deg-tant,
cei gerdd o foliant beunydd.
verse 10 Duw i frenhinoedd rhoi a wnaeth,
ei swccraeth at iawn reol:
Dan ymwared Dafydd ei was,
rhag cleddyf câs niweidiol.
verse 11 Duw gwared, achub fi wrth raid,
rhag plant estroniaid digus,
A'i safn yn llawn o ffalsder gau,
a'i dehau yn dwyllodrus.
verse 12 Bydd ein meibion mal plan wydd eu
o'rn bon yn tyfu'n iraidd:
A'n merched ni fel cerrig nadd,
mewn conglau neuadd sanctaidd.
verse 13 A'n conglau'n llawnion o bob peth,
a'n defaid, difeth gynnydd,
Yn filoedd (mawr yw'r llwyddiant hwn)
a myrddiwn i'n heolydd.
verse 14 A'n hychen cryfion dan y wedd,
yn hywedd, ac yn llonydd:
Heb dorr na soriant i'n mysg ni,
na gweiddi i'n heolydd.
verse 15 Dedwydd ydyw y bobl y sy,
a phob peth felly ganthynt:
Bendigaid yw'r bobl y rhai'n yw,
a'r Arglwydd yn Dduw iddynt.
PSAL. 145. Dafydd yn dangos daioni Duw yn llywodraethu pob creadur. Mawl i Dduw am ei gyfiownder, ai ras, ai ferch i bob dyn a'i hofno, ac a'i caro.
MIa'th fawrygaf di, fy Nuw,
cans tydi yw fy llywydd:
Bendithio dy enw byth a wnaf,
mi a'i molaf yn dragywydd.
verse 2 Dy enw a folaf fi bob dydd,
a'th glod a fydd heb orphen.
verse 3 Yr Arglwydd sydd glod-fowr heb wedd,
a'i fowredd sydd heb ddiben.
verse 4 Cenedl wrth genedl a ront fawl
i'th ogoneddawl wrthiau;
Gan danu dy nerth rhyd y byd,
a dwedyd dy gynneddfau.
verse 5 Am dy ogonedd mawr, fy Naf,
mynegaf, a'th gadernyd.
verse 6 Son am dy bethau ofnadwy,
gwnant hwy a minnaw hefyd.
verse 7 Llwyr goffadwriaeth honot ti,
a th fawr ddaioni traethant;
Ac o'th gyfiownder, fy Nuw Ion,
a llafar don y canant:
verse 8 Sef graslawn yw ein Arglwydd ni,
ac o dosturi rhyfedd:
Hwyr ac anniben yw i ddig:
llawn frydig i drugaredd.
verse 9 Da yw yr Arglwydd i bob dyn,
a'i nodded sy'n dycciannol:
Ac ar ei holl weithredoedd ef
daw nawdd o'r nef yn rasol.
verse 10 Dy holl weithredoedd di i'th lwydd
o Arglwydd a th glodforant:
Dy wyrth pan welo dy Sanct di,
y rhei'ni a'th fendithiant:
verse 11 Gan son am drugaredd a grâs
dy dyrnas, ai chadernyd:
Fal dyner gerdd sydd yn parhau,
yn eu genenau hyfryd.
verse 12 Fel y parent drwy byfryd glod,
gydnabod â'th dyrnassiad,
A'th nerth ym mysg holl ddynol blant,
a'th lawn ogoniant gwastad.
verse 13 Brenhiniaeth dy dyrnas di fry,
a bery yn wastadol,
A'thlywodraeth o oed i oed,
hon a roed yn dragwyddol.
verse 14 Yr Arglwydd cynnal ef yn llonn,
y rhai sy' mron eu cwympod.
Ac ef a gyfyd bawb yn wir,
ar a ostyngir isod.
verse 15 Wele, mae llygaid yr holl fyd
yn disgwyl wrthyd Arglwydd,
Dithau a'i porthi hwynt i gyd,
bawb yn ei bryd yn ebrwydd.
verse 16 A phan agorech di dy law,
o honi daw diwall-faeth:
D'ewyllys da yw ymborth byw,
a hynny yw eu llyniaeth.
verse 17 Holl ffyrdd yr Arglwydd cyfion ynt
a'i wrthiau ydynt sanctaidd:
verse 18 Agos iawn i bawb ydyw fo,
a eilw arno'n buraidd.
verse 19 Sef ar y gwyr a'i hofnant ef,
so glyw eu llef iw gwared,
Fo rydd eu wyllys hwnt a'i harch,
o'i wir barch, Ion gogoned.
verse 20 Pob dyn a garo'r Arglwydd nef,
caiff gantho ef ei 'mddiffyn:
A chan ddifetha rhydd oes ferr,
i bob ysceler cyndyn.
verse 21 Fy enaid traethed fendith rhwydd,
a mawl yr Arglwydd nefol:
A phob cnawd rhoed iw enw, y Sanct,
ogoniant yn dragwyddol.
PSAL. 146. Na all neb ymddiried i ddyn, ond yn Nuw hollalluog, yr hwn a weryd y cystuddiedig, a byrthy tilodion, a ryddhâ y carcharorion, a gyssura yr ymddifad, y weddw, a'r dieithr: ac sydd frenin yn dragywydd.
FY enaid mola'r Arglwydd nef,
verse 2 Mi'ai molaf ef i'm bywyd;
Dangosaf glod i'm Harglwydd Dduw
tra gallwyf fyw na symmyd.
verse 3 Na wnewch hyder ar dwysogion,
nac ar'blant dynion bydol:
Am nad oes ynthynt hwy i gyd,
na help nac iechyd nerthol.
verse 4 Pan el y ffun o'r genau gwael,
a'r corph i gael daiar-lan;
Fel y dychwyl, fel dyna'r dydd
y derfydd ei holl amcan.
verse 5 Y pryd
[...]wn gwyn ei fyd efo
a rotho
[...]i holl obaith
Ar Dduw Iaco yn gymorth da,
pan el oddi yma ymaith.
verse 6 Hwn Dduw a wnaeth nef, dayar, mor.
a'r holl ystor sydd ynthynt:
Hwn a saif yn ei wir ei hun,
pryd na bo un o honynt.
verse 7 Yr hwn i'r gwael a rydd farn dda,
a bara i'r newynllyd,
Fe ollwng Duw y rheidus gwâr,
o'i garchar ac o'i gaethfyd.
verse 8 Yr Arglwydd egyr lygaid dall,
ef a dyr wall gwael ddynion:
Ymgleddu'r gwan mae'n Harglwydd ni
a hoffi y rhai cyfion.
verse 9 Diethraid, a'r ymmdifad gwan,
a'r weddi druan unig,
Duw a'i pyrth: ond dyrysu wnai
holl ffyrdd pob rhai cythreulig:
verse 10 Yr Arglwydd yn teyrnafu a fydd,
dy Dduw tragywydd Seion:
O oes i oes pery dy lwydd:
molwch yr Arglwydd tirion.
PSAL. 147. Mae'r prophwyd yn moli amryw ddaioni Duw tu ag a
[...] ei greaduriaid, ac ynwedig eu eglwys, yr hon a gasclwyd, ac a gafas ragor ddaioni rhagor
[...]n bobl eraill.
MOlwch yr Arglwydd, cans da yw,
canu i Dduw yn llafar:
O herwydd hyfryd, yw ei glod,
a da yw bod yn ddiolchgar.
verse 2 Caersalem dinas gyflawn fydd,
yr Arglwydd sydd iw darpar:
Gan gasglu Israel ynghyd,
a fu drwy'r byd ar wasgar.
verse 3 Yr unic Arglwydd sy'n iachâu,
yn rhydd o friwia i'r galon;
Yr Arglwydd rhwym 'eu briwiau'n iawn
y rhai dolur-lawn cl
[...]ifion.
verse 4 Yr Arglwydd sydd yn rhifo'r ser,
a phob rhyw nifer honynt:
Ef a'i geilw hwynt oll yn glau,
wrth briod enwau eiddynt.
verse 5 Mawr yw ein Arglwydd ni o nerth
a phrydferth o rasoldeb;
Ac mae'n bell iawn uwch ben pob rhif,
son am ei brif ddoethineb.
verse 6 Yr Arglwydd unic sydd yn dal
i gynnal y rhai gweiniaid,
Ac ef a ostwng hyd y llawr
y dorf fawr annuwoliaid.
verse 7 Cenwch i'r Arglwydd mal y gwedd
clodforedd iddo a berthyn:
O cenwch, cenwch gerdd i'n Duw,
da ydyw gydâr delyn.
verse 8 Hwn â chymylau toes y nen,
â glaw'r ddayaren gwlychodd,
I wellt gwnaeth dyfu ar y fron,
a llysiau'i ddynion parodd.
verse 9 Hwn i'r anifail ar y bryn
a rydd yr hyn a'i portho:
Te bortha gywion y cigfrain,
pan fon yn llefain arno.
verse 10 Nid oes gantho mewn grym un march 3
na serch na pharch, na phleser:
Nac mewn esgair, neu forddwyd gwr,
fal dyna gyflwr ofer.
verse 11 Yr Arglwydd rhoes ei serch ar ddyn
yr hwn y sy'n ei ho
[...]fi:
Ac sydd yn disgwyl cael ei nawdd,
caiff hwn yn hawdd ddaioni.
verse 12 O Caersalem gyslawn o lwydd,
molianna'r Arglwydd eiddod;
O Seion sanctaidd, dod un wedd
i'th Dduw glodforedd barod;
verse 13 Herwydd yr Arglwydd â'i fawr wyrth
a wnaeth dy byrth yn gryfion;
A rhoes i fendith, a thycciant,
ymlhith dy blant a'th wyrion.
verse 14 Hwn a roes heddwch yn dy fro,
fel y cynnyddo llwyddiant,
Ac a ddiwallodd yn eich plith,
o frasder gwenith, borthiant.
verse 15 Ei orchymmyn ef a ddenfyn,
o'i ddown-fawr air cymhesur,
Hwn ar y ddaiar â ar lêd,
ac yno rhêd yn brysur.
verse 16 Eirch i'r eira ddisgyn fel gwlân:
eirch rew, fe'l tân, fel lludw,
verse 17 Eirch ia, fe ddaw yn defyll eri;
pwy'erys oerni hwnnw?
verse 18 Wrth ei air eilwaith ar ei hynt,
fe bair i'r gwynt ochneidio
I doddi'r rhai'n, ac fell y bydd
i'r holl afonydd lifo.
verse 19 Grym ei air, a'i ddehau-law gref,
a ddengys ef i Iaco,
A'i ffyrdd a'i farn i Israel,
a'r rhai a ddel o hono.
verse 20 Ni wnaeth efe yn y dull hwn,
â neb rhyw nassiwn arall;
Ni wyddent farnau'r Arglwydd nef,
O molwch ef yn ddiball.
PSAL. 148. Mae efe yn annog pob creadur, o bob lle i foli Duw, yn enwedig am ei ddaioni i Israel.
O Molwch yr Arglwydd o'r nef,
rhowch lef i'r uchel-leoedd.
verse 2 Molwch hwn holl angylion nef,
molwch ef ei holl luoedd,
verse 3 Yr haul, a'r lleuad, a'r holl ser,
y gloywder, a'r goleuni,
verse 4 Nef y nefoedd, a'r ffurfafen;
a'r deyfr uwch ben y rhei'ni.
verse 5 Moliannant enw'r Arglwydd nef,
hwynt â'i air ef a wnaethbwyd.
Ddwedodd y gair, a hwy fal hyn
ar ei orchymmyn crewyd.
verse 6 Rhoes reol iddynt i barhau,
fel ddeddfau byth iw dilyn:
Rhoes bob peth yn ei le'n ddi os,
nad elo dros ei derfyn.
verse 7 Molwch yr Arglwydd o'r ddayar,
chwychwi ystrywgar ddreigiau,
verse 8 Y tân, a'r cenllysg, eira, a tharth,
a'r gwynt o bob parth yntau,
verse 9 Mynyddoedd, bryniau, ffrwythlonwydd,
a'r tirion gedrwydd brigog,
verse 10 An'feiliaid, ac ymlusgiaid maes,
ac adar llaes asgellog.
verse 11 Brenhinoedd daiar, barnwyr byd,
swyddwyr ynghyd â'r bobloedd,
verse 12 Gwyr ievaint, gwyr yfon, gwyr hen,
pob bachgen ym mhob oesoe
verse 13 Molant ei enw ef ynghyd,
uchel a hyfryd ydoedd,
Ei enw ef sydd uchel ar
y ddaiar oll, a'r nefoedd.
verse 14 Cans corn ei bobl a dderchafawdd,
yn fawl a nawdd i'r eiddo,
I Israel ei etholedig,
a drig yn agos atto.
PSAL. 149. Cyngor i'r eglwys i foli Duw am oruchafieth y Sanct.
CEnwch i'r Arglwydd, ac iawn fydd
ryw ganiad newydd rhyfedd:
A chlywer ynghynlleidfai'r Sainct,
ei fawr fraint a'i orfoledd.
verse 2 Boed Israel lawen a ffraeth,
yn Nuw a'i gwnaeth yn ddibrin:
A byddant hyfryd blant Seion,
yn Nuw eu tirion frenin.
verse 3 Molant ei Enw ar y bibell,
a thympanell, a thelyn;
verse 4 Cans bodlon yw iw bobl i gyd,
rhydd iechyd i'r lledneis-ddyn.
verse 5 Iw Sanct ef doed gorfoledd iawn,
a hon yn llawn gogoniant,
Yn eu gwelau, (yn llawen ddull)
ac en eu stefyll canant.
verse 6 Yn eu genau bydd cerdd bob awr,
ein Duw a'i fawr ryfeddod,
Ac yn eu dwylaw bydd iw drin,
y cleddyf deufi'n parod;
verse 7 Ar estroniaid i'n dial ni,
ac i gosb boeni'r bobloedd:
verse 8 I roi mewn caethder gadwyn dro,
i rwymo ei brenhinoedd.
I roi eu pendefigion chwyrn,
mewn gefyn heyrn ffyrnig.
verse 9 I wneuthur arnynt union farn,
yn gadarn scrifennedig.
Dymma'r glan ardderchowgrwydd fydd
iw Sanct y sydd yn credu;
Clodforwch oll yr Arglwydd nef,
o molwch ef am hynny.