[Page] [Page] PREGETH Ynghylch Godidawgrwydd a Defnyddiaeth, Neu, LESIOLDEB Llyfer y Gweddiau Cyffredin.

A BREGETHWYD Gynt yn Saesonaeg gan y Parchedig WILIAM BEFERIDS. D. D. Gweinidog Eglwys St. PEDER Ydfryn, Yng HAER-LƲDD; Ar yr Amser yr Agorwyd yr Eglwys honno gyn­taf wedi ei Hadeiladu, ar ôl y Tân Mawr, sef y 27 Dydd o Dachwedd, 1681. Ac a Gy­fieithwyd (ond bod ychydig Newidiadau a feddyliwyd yn anghenrhaid, neu gymwys eu Gwneuthur wrth ei Chyfieithu) yn Gymraeg.

A SERMON concerning the Excellency and Ʋsefulness of the COMMON PRAYER.

Argraphwyd gan J. R. Ac ar Werth gan S. Manship, tan Lun y Tarw Du yn Rheol yr Ydfryn, yn agos i'r Brenhinawl-Fersiandy, 1693.

At y gwir Barchedig Dad yn Nuw, Henri, Ar­glwydd Esgob Llan-Di­an, un o Anrhydeddusaf Gynghorwyr Mawrhy­di 'r BRENIN.

Fy Arglwydd,

GAN i'ch Anrhydedd hyspy­su eich Ewyllys, bod i'r Bregeth a glywsoch, pan wnaethoch i ni gymmaint Parch a bod gyd a ni wrth Agor Eglwys ein Plwyf, gael ei gwneuthur yn Gyhoeddus; er anhawsed gennif Argraphu dim yn Saesonaeg, er hynny, gan [Page] wybod fel y gweddai i mi yr Ufudd-dod sydd arnaf i chwi megis fy Esgob, a'r Mwynder a dderbynniais oddiwrthych, me­gis fyng Hynheiliad, mi yn awr a'i Hargrephais, ac a anturiais ei Chyflwyno i Chwi. Pa dda­ioni a weithia Ymadrodd o'r Na­tur hwn ar Feddylian y sawl a fo mor amyneddgar a'i Ddarllain ef, nis gwn ni: Ond gadael hynny sydd raid i mi arno E F, yn llaw yr hwn y mae Calon­nau pawb. Hyn a wn i, fod fy Nhestyn i yn dda ac yn ang­enrhaid. Am fyng waith i yn i drin ef mewn ffordd mor hawdd i'r symlaf o Ddyn ei deall a'i defnyddio, hynny yw yr hyn y mae fy Nhecst yn ei ofyn, wrth [Page] orchymmyn gwneuthur yn ein Cynnulleidfaoedd Cristianogol bob peth er Adeiladaeth. Ac am ben hyn, pe ni buaswn yn cym­hwyso fy Ymadrodd at Ddeall­twriaeth pawb yn y man a'r lle, a'i wneuthur ef mor Adeiladus iddynt ac y medrwn, fe fuasai fy Mrhegeth yn wrthwyneb i'm Tecst; a minnau a gollaswn fy Amcan wrth ei Phregethu hi, yr hyn oedd, gwneuthur yn dda i'r rheini yn enwedig, y rhai sydd a'u Heneidiau, tan ych Anrhydedd, wedi ei gorchym­myn i'm Gofal a'm Harweiniad i, pa mor Odidog a Defny­ddiol ydyw Llyfer y Gwe­ddiau Cyffredin, ac felly iw hannog hwynt iw arfer ef yn [Page] ddyfal, ac yn gydwybodus; nid yn unig am ei fod ef yn gyd­ffurfiol ag Athrawiaeth, A­ddysg, ac Ymarfer yr Eglwys Gyffredinol; nac yn unig am ei fod ef wedi ei sefydlu trwy Gy­freithiau ein Heglwys a'n Teyr­nas ni, (er bod y rheini yn Re­symmau cedyrn iawn) ond he­fyd o herwydd y mawr ragorol Leshad a'r Ynnill a dderbynnient oddiwrtho tuag at Adeiladu eu Heneidiau ym hob peth angen­rheidiol at eu Hiechadwriaeth dra­gwyddol.

Da y gwn i y gallesid dwe­dyd mwy o lawer ar y Testyn rhagorol yma: Ond gan nad oeddwn i yn amcanu rhagor na Phregeth hawdd i bawb ei deall [Page] ar yr achos hwnnw, fe orfu ar­naf adael heibio amryw bethau, a'm dal fy hun at y cyfryw rai yn unig ac oedd hawsaf eu canfod, ac a debygid yn angenrheitiaf eu gwybod a'u harfer gan y Gwerin, er ei dwyn hwynt i hoffi, ac i gael eu Hadeiladu gan ein Gweddiau Cyhoeddus. Ac os ar eich gwaith chwi yn holi yr ychydig a ddwedais, y cyfarfyddwch ac un peth nad yw yn cyttuno ag Athrawiaeth ein Heglwys ni, yr ydwyf yn ufudd yn darostwng hynny tan Farn a Diwigiad eich Anrhydedd: gan ddeisyf hyn yn unig arnoch, fod o honoch chwi mor barod i fa­ddeu, ac yr ydwyf i iw well­hau ef.

Fy Arglwydd,

Y mae gennif un Arch ychwaneg iw gofyn gennych; a hynny yw, mai megis ac y buoch yn achos i mi Argraphu'r Bregeth hon, felly bod yn wiw gennych ei derbyn hi yn gy­meradwy, a hithai yn awr yn Ar­graphedig. Ac os trwy Fendith y Go­ruchaf Dduw, y cyd-weithia hi beth i'r dibennion mawrion yr y­dych chwi yn eu dyfal-ymgais gyd a chymmaint Doethineb a Synwyr, gyd a'r fath Ofal ac Astudrwydd ar­bennig, wrth drin y Swydd uchel y galwodd ef Chwi iddi, sef Gogo­iant ei Enw Mawr, Daioni 'r E­glwys, ac Iechadwriaeth Eneidiau Dynion, hynny yw'r cwbwl a ddy­munir gan.

Ostyngeiddiaf ac Ufuddaf Wasanaethwr eich Anrhydedd WILIAM BEFERIDS.

PREGETH Ynghylch Godidawgrwydd a Defny­ddiaeth Llyfr y Gweddiau Cyffredin.

1 Cor. 14. 26. Diwedd yr Adnod. Gwneler pob peth er Adei­ladaeth.

PAN oedd Juwdas Maccabews wedi adeiladu 'r Allor yn newydd, a gwneuthur i fy­nu y Demmel yng Haersa­lem, a fuasai wedi ei halogi a'i han­rheithio dros dair Blynedd cyfain; [Page 2] Eglwys DDuw yn y lle a'r amser hwnnw a lawenychodd gymmaint am hynny, ac a wnaeth iddynt gadw Gŵyl y Cyssegriad dros ŵyth Niwr­nod. Ni­warnod, ac ordeinio bôd cadw yr ûnrhyw bôb Blwyddyn. 1 Maccab. 4. 59. Ac yr ydym yn deall mai felly y gwneid yn amser ein Jachawdwr: Canys efe ei hûn a fu wiw ganddo berchi yr ŵyl honno a'i Bresenol­deb ei hûn, er nad oedd hi wedi ei hordeinio onid gan Awdurdod yr Eglwys yn unig. Ioan 10. 22. Yn yr ûn môdd y mae gennym ni o'r Plŵyf hwn achos i orfoleddu a Ilawenydd mawr tros ben, ac i dreulio 'r dydd hwn yn Moliannu ac yn Addoli y Goruchaf DDuw, am fôd ein Heglwys ni, yr hon a fu Yn ang­hyfannedd yn Amharus tros chwaneg na phum tair Blynedd; yn awr o'r di­wedd wedi ei chyfodi drachefen, a'i gwneuthur yn addas iw A­ddoliad a'i Wasanaeth êf. Canys yr hyn oedd yr Allor a'r Demmel i'r Iddewon yr amser hwnnw, hynny [Page 3] a fŷdd ein Heglwys ni i ninnau yr awrhon. A oeddynt hwy yno yn offrwm eu Haberthau i Dduw megis Arwyddion o Farwolaeth Crîst? Ninnau yma a goffhawn y Farwo­laeth honno a arwyddoccêyd wrth yr Aberthau hynny. A oeddynt hwy yn cyrchu o hôll barthau Juw­dea i Addoli Duw yno? Felly y cyrchwn ninnau (yr wŷf yn gobei­thio) o bôb parth o'r Plwŷf hwn i Addoli Duw Ymma. yma. Ai Tŷ Gwe­ddi oedd y Demmel iddynt hwy? Felly y mae ein Heglwys ni i nin­nau. Ai hwnnw oedd y man a'r lle y deuai Duw, yn ôl i Addewid, at ei Bobol iw Bendithio hwynt? Diammeu y gwnâ 'fe. fo felly i nin­nau yn y lle hwn, os deuwn ni iddo, a'n ymddwyn ynddo fel y dylem ni. Ar fyr eiriau, Ai'r Demmel oedd y Y fan. man lle y cyflawnid pôb peth ar a allai mewn ûn môdd beri Adeila­daeth i Bobol Dduw, fel yr oedd pe­thau yn sefyll y prŷd hynny? Yr ûn peth a ellir i Ddywe­dyd. ddwedyd am ein He­glwysni; fel y mae pethau yn sefyll [Page 4] yn awr. Canys pa beth bynnag sŷdd, neu a ddichon. ddychon fôd yn ang­enrhaid tuag at Adeiladu ein Henei­diau ni ymma; ac felly iw hachub hwynt yn ôl hyn yn dragywydd, a gynhwysir yn oleu ac yn gyflawn yn yr amryw Weinidogaethau a gyflaw­nir weithian yn y lle hwn, yn ôlCyfrei­thiau'r Wlâd. A dim ni chynh wy­sir yn yr ûn o honynt, ond sŷdd yn cŷd-weithio yn gywir i'r dibennion a'r amcannion mawrion hynny.

Ond gan mai peth ydyw hwn a amheuir gan rai, ac ni ddeellir gan fawr yn ein plith ni, mi a ymegnîaf ei wneithur yn amlwg, ac yn oleu i bawb. A hynny a ddewisais ei wneuthur ar hyn o amser, o herwydd mai dymma'r Testyn mwyaf perthy­nasol at yr achos hwn, ar a ellwn i ei ddyfalu. Canys os yr hyn a wneir weithian yn yr Eglwys hon, nis ettyb y dibennion er mwyn pa rai y cyfodwyd hi; ofer a diffrwyth a fu 'r hôll draul a gymerwyd yn ei chylch hi. Ond os gellir gwneuthur yn oleu ddigon, fôd y Gwasanaeth [Page 5] a gyflewnir yma yn cŷd-weithio yn rhagorol i dderchafu Gogoniant Duw, a'n Dedwŷddwch ninnau, [y dibennion mawrion er mwyn pa rai y cyfodŵyd y cyfryw Leoedd] yno ni ellwch lai na chyfaddef, mai yr hyn a roesoch tuag at y lle hwn, yw 'r Arian goreu a dreuliasochchwi 'rioed; ac mai 'r dydd Heddyw, pan ddechreuer cyflawni y Gwasa­naeth hwnnw ynddo ef, yw ûn o'r Diwrno­diau. diwarnodau llawenaf ar a welodd y Plwŷf hwn erioed.

Hynny ynteu yw 'r peth a wnâf fyng oreu ar ei ei wîrio, neu ei eg­lyr-ddang­os yn wîr. bryfio ar hyn o am­ser. Ac i'r diben hynny, mi a dde­wisais y Geiriau hyn i fôd yn Sail ac yn Sylfaen i'r cwbwl a ddwed wyf ar y Testyn yma, Gwneler pôb peth er Adei­ladaeth. Er jawn ddeall y Geiriau hyn, rhaid i ni wŷbod, mai wedi darfod i'r Apostol draethu yn he­laeth yn y Bennod hon, yng hylch y FFord a'r Dull ar gynnal Cyman­sêydd Cristianogol, ac wedi iddo bryfio y dylai 'r cwbwl ar a draether yno, gael ei ddwedyd yn y cyfryw [Page 6] Iaith ac y bo pawb yn y Y fan. man a'r lle yn ei deall, ac felly yn cael eu Hadeiladu trwyddi, y mae êf o'r di­wedd yn crynbôi i fynu y cwbwl yn hyn o ymadrodd gosodedig; Beth gan hynny, Frodyr? Pan ddeloch yng hyd y mae gan bôb ûn o honoch Psal. y mae gan­ddo Athrawiaeth, y mae ganddo Dafodi­aith, y mae ganddo Ddadcuddiad, y mae ganddo Gyfieithiad: Gwneler pôb peth er Adeiladaeth. Fel pe buasai yn dwe­dyd, Pa ddonniau bynnag sŷdd gen­nych, neu yr ydych Yn hae­ru, neu yn cymeryd arnoch, eu bôd gen­nych. yn ymhonni o honynt, er hynny pan ymgyfarfy­ddoch ar uchaf-achos Crefyddol, i Addoli Duw ar Gyhoedd; Cyme­rwch ofal da, fôd gwneuthur pôb peth yno er Adeiladaeth i bawb a fo yno yn bresennol. Oddiwrth hyn y mae 'n amlwg, fôd yr Apostol yn gosod hyn ar lawr megis Rheol gy­ffredin, Anghen­rhaid. angenrhaid ei chynnal, ymhôb Cynnullheidfa Gristiano­gaidd. Ac am hynny, pa brŷd byn­nag y cyfarfyddom yng hŷd i Addo­li a Gwasnaethu Duw, os ûn peth a wneir yno nad yw er Adeiladaeth i [Page 7] ni, yr ŷm ni yn fŷr o ddilin y Rhe­ol hon: Ac felly yr ŷm ni hefyd, os ûn peth a adawir heb i wneuthur yno a allasai gŷd-weithio i'r diben hwnnw. Canys yn ôl y Rheol hon, megis ac nis dylid gwneuthur yno ddim ond a fo er Adeiladaeth; felly o'r ochor arall, pôb peth ar sŷdd, neu a ddichon fôd er Adeiladaeth a ddy­lai gael i wneuthur yno.

Ond er deall yn well gywir ystyr ac amcan y Rheol hon, y mae 'n anghenrhaid i ni ystyried pa bêth y mae 'r Apostol yn ei feddwl yma wrth Adeiladaeth. I hyn, rhaid i ni wybod mae gan fôd yr hôll Gristi­anogion; fel y dywaid yr ûn Apo­stol, Yn Deulu Duw, wedi eu goruwch-Adeiladu ar Sail yr Apostolion a'r Pro­phwydi, ac Iesu Grîst ei hûn yn Ben­congol-faen; Eph. 2. 19, 20. Oddi­wrth hyn (y mae 'n canlyn) mai pa bêth bynnag sydd yn gwasnaethu tuag at gadarnhâu, cynnal, rhwy­mo, neu Godi. gysodi yr Adeilad hwn yn uwch; pa beth bynnag sŷdd yn gwneuthur Dynion yn gryfach, ac [Page 8] yn gywirach Crîstianogion, yn San­cteiddiach, ac yn berffeiddiach Gwŷr, nag yr oeddynt o'r blaen, hynny yw 'r hyn y dwedir eu bôd hwy yn cael eu Hadeiladu trwyddo. Am hynny camgymeriad mawr y­dyw (fel y mae llawer o ddynion, yn) tybied eu bôd hvvy yn cael eu Hadeiladu vvrth yr hyn y maent yn ei glywed, yn unig am iddynt ddy­fod i wŷbod ysgatfydd ryw beth bychan nas gwyddent o'r blaen. Canys Gwybodaeth (fel y dywaid yr Apostol) Sydd yn chwyddo: Cari­ad yw yr hyn sy 'n Adeiladu. 1 Cor. 8. 1. Ac am hynny, pa wybo­daeth bynnag a ennillom, nis gellir Dywe­dyd. dwedyd ein bôd ni yn cael ein Hadeiladu ganddi ddim pellach, nag y bo hi yn gweuthio ar ein Me­ddyliau, yn cyffroi 'n Cariad, ac yn tueddu ein Calonnau ni at Dduw a Daioni. Ac mai hynny ydyw gwîr ystyr Adeiladaeth sŷdd amlwg wrth eiriau yr Apostol ei hûn, lle y mae êf yn dwedyd, Na ddeued ûn ymadrodd llygredic allan o'ch genau [Page 9] chwi; ond y cyfryw ûn ac y fyddo da i Adeiladu yn fuddiol, fel y paro Râs i'r Gwrandawyr. Eph. 4. 29. Canys oddiwrth hyn yr amlygir, mai dyna 'r peth yn unig a ellir dwedyd yn gymmwys am dano, ei fôd êf yn Adeiladu, (sêf y peth) a fo 'n peri i ni Râs trwy ba ûn ein gwneir yn lanach ac yn sancteiddiach, nag yr oeddym o'r blaen. Ac am hynny yr ydym yn darllain am Adeiladu ein hunain mewn Cariad. Eph. 4. 16. Ac am Adeiladu ein hunain ar ein Sancteiddiaf Ffydd. Iuwd. 20. Ac y rhain yw 'r gwîr Neu y Rhinwe­ddau a'r donniau ysbrydol. Radau sy 'n gwneuthur i fynu y gwîr a'r cywir Gristion. Ac nis gellir dwedyd fôd dim yn Adeiladu, ond a fo 'n dda i gynhyrfu ac i chwanegu y rheini ynom ni, Hyd onid ymgyfarfy­ddom (fel y dywaid yr Apostol) Yn undeb Ffydd a Gwybodaeth Mâb Duw, yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crîst. Eph. 4. 12, 13. Gan hynny, pan y mae 'r Apostol yn dwedyd, Gwneler pôb peth er A­deiladaeth, ei feddwl êf ar fur yw [Page 10] hyn; Yn ein hôll Gynnullheidfa­oedd Cristianogol, pan y bo 'm ni wedi ymgyfarfod i Addoli a Gwas­naethu Duw, bôd gwneuthur yno bôb peth yn y cyfryw fôdd, ac y gallom ni ddychwelyd adref yn gallach ac yn well, nag y daethom yno; a'n Gwybodaeth o Dduw a Chrîst wedi ei chwanegu, a'n Dy­muniadau wedi eu helaethu, a'n Cariad wedi ei ennyn, a'n Ffŷdd wedi ei chryfhâu, ac a phôb ûn o'n Rhinweddau da wedi eu gwneuthur yn fywiog; ac felly a'n hôll Enei­diau wedi myned yn ddifalchach, yn sancteiddiach, ac yn debyccach i Dduw, nag yr oeddynt o'r blaen.

Wedi rhoi'r eglurdeb byr hyn i'r Geiriau, mi yn awr a'u Neu a'u gosodaf adref. Cyfadda­saf hwynt at yr hyn sŷdd yn llaw gennym ni, ac a ddangosaf fôd y Môdd arferol. Ffurf honno o Addoliad Crefy­ddol a a ddysgir, neu a ddangosir. osodir gan ein Heglwys ni, a sefydlir gan Gyfreithiau 'r Wlâd, ac am hynny a arferir bell­ach yn y lle hwn, yn cyttûno 'n gymwys a'r Rheol hon a roes yr [Page 11] Apostol, sêf bôd pôb peth a wneler ynddi er Adeiladaeth.

Ond cyn Profi, neu dda­ngos yn eglur. pryfio fôd y Ffurf a osodir gan ein Heglwys ni wrth ei phen ei hûn yn cyttûno a Rheol yr Apostol, y mae 'n angenrhaid pryfio yn gyntaf, fôd Ffurf yn gyffredin­ol yn gwneuthur hynny. Canys os y Rheol hon nid yw yn cennadu Arferu un môdd yn y bŷd o Ffurf yng wasanaeth yr Eglwys ffurfio Gwasanaeth ôll; amhossi­b'l yw, fôd ûn Gwasanaeth ffurfie­dig wrth ei ben ei hûn yn cyttûno a hi. Ond yn awr, fôd y Rheol hon yn cennadu, îe, yn gofyn gosod rhyw Ffurf neu gilydd, sŷdd am­lwg wrth y Rheol ei hûn. Canys yr Apostol sŷdd yma yn gorchym­myn i Eglwys Corinth, ac felly i E­glwys pôb Neu Da­laeth. Gwlâd arall, gyme­ryd gofal bôd y cwbwl a wneler yn eu Cyfarfodydd Crefyddol hwy, er A­deiladaeth. Ond pa fôdd y mae 'n bossibl i Eglwys ûn-wlâd fynny gwneuthur felly, onis gesyd hi ryw Ffurf bennodol ar lawr i roddi cyfarwyddid ynghylch hynny? Os gadael a wneyd i Weinidog bôb [Page 12] Plwŷf Ryddid. rydd-did i wneuthur a fyn­nai yn ei Gynnulleidfa ei hûn; os rhai a fyddent ysgatfydd mor gall a synhwyrol a chanlyn y Rheol hon cystal ac y medrent; er hynny wrth ystyried llygredigaeth Natur dŷn, y mae 'n enbyd iawn y byddai eraill nas gwelent felly. O'r lleiaf, nis gallai 'r Eglwys fôd yn Yn ddi­ogel. ddibry­der y gwnae pawb felly; ac am hyn­ny, nis Dichyn. dychon hi lai na bôd yn rhwym i fyfyrio a Neu, o­sod. phwyntio rhyw Ffurf iw harfer yn ei hôll Gynnull­heidfaoedd, o'r cyfryw ddull ac a a­llow neuthur yn ddilys ac yn ddiogel ganddi fôd y Rheol yma a roes yr A­postol, yn cael ei chanlyn ym hôb lle, fel y gweddai iddi. Ac er bw­rw o honom yr hyn nis gellir byth ei ddisgwil, fôd yr hôll Weinidogion, ym hôb Neu ym hôb Ardal. Talaith cyn galled, ac mor ddaionus ac a dylent fôd; er hyn­ny, nis gallir tybied fôd pôb ûn o honynt (wrth ei ben ei hûn) yn de­all pa bêth sŷdd er Adeiladaeth i'r Bobol, yn gystal a phan y byddont hwy bawb yng hŷd. O herwydd pa [Page 13] ham, y mae 'n rhaid cyfaddef, mai 'r ffordd ddiogelaf i fynnu canlyn y Rheol hon, yw, bôd i Lywodrae­thwyr pôb Eglwys, a'r hôll Eglwys­wyr, gyfarfod yng hŷd trwy y rhai a ddewisont i sefyll trostynt, mewn Cymanfa, neu Gynnullheidfa Eglwys­ig; ac yno, ar ôl ymgynghori yn bwyllig a'u gilydd, gyttûno ar ryw ddull o Ffurf a dybiont hwy yn eu Synwyr a'u Cydwybodau ei bôd yn ôl y Rheol hon; yr hon y mae 'r A­postol yma yn ei gosod i lawr o'u blaen hwy.

Ac heblaw hyn, bôd gosod i lawr Ffurf yn gyffredin yn well er Adeila­daeth, na gadael pôb ûn i wneuthur yr hyn a fo da yn ei olwg ei hûn, y mae gennym Neu gyttunol. gydsain Dystiolaeth, Brawf, ac ymarfer, yr hôll E­glwys Gyffredinol. Canys nis dar­fu i ni erioed na darllain, na chly­wed sôn am ûn Eglwys yn y Bŷd, o ddyddiau 'r Apostolion hŷd yn hyn, nas cymerodd y ffordd honno. Er nad oedd pôb Eglwys yn arfer Yr ûn ûn. yr ûn, er hynny pôb Eglwys a arferai [Page 14] ryw Ffurf, neu gilydd. Ac am hyn­ny, bôd i ûn-dyn ddwedyd nad yw yn gyfreithlon, neu yn Neu yn llesiol. fuddi­ol, neu mor Adeiladus arfer Ffurf o Weddi wrth Addoli Duw ar gy­hoedd, ydyw dwedyd yn er­byn Barn a Meddwl hôll Grêd. bw­rw yn euog yr Eglwys Lân Gatho­lic, a'i wneuthur ei hûn yn gallach na'r hôll Gristianogion a fu erioed o'i flaen ef. A hynny (beth byn­nag a dybier am dano yn awr) a gyfrifid bôb amser gynt, yn ûn o'r beiau gwaethaf, a'r Ffolineb mwy­af ar a allai dŷn fôd yn euog o ho­now. Je, a mwy na hynny hefyd; canys hyn ydyw i ddŷn, nid yn u­nig wneuthur ei hûn yn gallach na'r hôll Gristianogion, ond hefyd yn ga­llach na Chrîst ei hûn. Canys y mae 'n amhossibl gosod i lawr Ffurf o Weddi mewn geiriau eglurach ac amlygcach, nag y gwnaeth êf, lle y mae êf yn dwedyd, Pan Weddi­och, Dywe­dwch. dwedwch, Ein Tâd yr hwn wyt yn y Nefoedd, &c. Luc 11. 2. Ac yr 'wyf yn gobeithio nad oes [Page 15] yma ûn yn bresennol, nas cyfaddefo fôd Crîst, gan yr hwn yn unig a gallwn ni gael ein Hadeiladu, yn gwybod yn well pa bêth sŷdd, a pha bêth nid ydyw er Adeiladaeth i ni, na nyni, ac na 'r hôll ddynion yn y Bŷd heblaw. Ac am hynny, gan weled iddo êf, nid yn unig wneu-thur Ffurf o Weddi iw harfer gan ei Ddysgyblion, ond hefyd roi Gor­chymmyn croŷw iddynt ei harfer hi; Nyni y rhai ydym yn proffessu ein hunain yn Ddysgyblion iddo, a ddylem orphwys a'n Meddyliau wedi eu cwbwl fodloni, fòd arfer Ffurf o Weddi, nid yn unig yn Gyfreith lawn. gyfreithlon, ond hefyd yn well o lawer er Adeiladaeth i ni, nag y mae 'n bosfibl i ûn ffordd arall ar weddio fôd.

Yr ûn pêth a ellir ei bryfio hefyd oddiwrth Natur y pêth ei hûn, trwy 'r fâth Resymmau ac sŷdd, nid yn unig yn dangos mai felly y mae 'n bôd, ond hefyd yn dangos pa fôdd y mae 'n dyfod i fôd felly. Canys yn gyntaf, er caffael y cyf­ryw [Page 16] Adeiladaeth ac a'n gwnelo ni yn well ac yn Sancteiddiach, pa brŷd bynnag y cyfarfyddom yng hŷd ar achos Crefyddol, y mae 'n angenrhaid i'r ûn pethau daionus, Sanctaidd, gael yn Wastad. oestad eu dirio arnom ni, a'u cûro yn ein pennau ni, ar ôl yr ûn a'r ûnrhyw ddull. Canys nis gallwn ni bawb lai na deall wrth ein prawf ein hu­nain, mor anhawdd ydyw gwneu­thur i ûn pêth ar a fo gwîr ddaio­nus lynu, nag wrythym ein hunain, nag wrth eraill; ac mai anammal jawn, neu anfynŷch. weithiau jawn, os ûn amser, y mae hynny yn bôd, Neu, heb ei fy­nych ail­adroedd. ond pan fynych rebyccer, (neu rybuddier) ni yn ei gylch ef. Y pethau daionus nas clywom ni ond ûnwaith, neu yn anfynych, a allant, ysgatfydd, ar ein gwaith ni yn eu clywed hwy; nofio tros drô y ein Ymhennyddiau ni; er hynny wei­thiau jawn y maent yn suddo cyn ddyfned i'n Calonnau ni, ac i gy­ffrôi a llywodraethu 'r Anwŷdau, megis y mae 'n angenrhaid iddynt wneuthur cyn y caffom ein Hadeila­du [Page 17] trwyddynt. Lle mewn Ffurf o­sodedig o Wasanaeth Cyhoeddus, wedi ei gwneuthur yn gymmwys, yr ŷm ni yn oestadol yn cael ein Dwyn ar gôf am bôb pêth. gosod mewn côf o bôb pêth angen­rhaid i ni ei wŷbod, neu ei wneu­thur; a hynny hefyd bôb trô yn yr ûn geiriau, ac yn yr ûn Yma­droddion; y rhai wrth eu manwl­arfer a A argrâ­phant. graffant y pethau [daionus] hynny eu hunian mor ddi-ysgog yn ein Meddyliau ni, na bŷdd hawdd eu dilêu, na 'u symmyd hwynt ymmaith; ond gwnelom a allom, hwy a fyddant yn oestad yn cyfarfod â ni ar bôb achos: A hyn nis dychon lai na bôd er mawr Adei­ladaeth Cristianogol i ni.

Ac ymhellach, yr hyn a fo 'n dda i fywioghau ein Eneidiau, ac i Neu, i gyfodi ein Hanwydau chwanegu ein serch yn ein Gwe­ddiau Cyhoeddus, hynny sŷdd raid cyfaddef eifôd yn dda iawn i'n Ha­deuladu ni. Ond amlwg yw, fôd Ffurf osodedig o Weddi yn Gym­morth mawr tros ben i ni i'r Neu, i'r pêrwyl. pwr­pas hwnnw. Canys os clywed ûn [Page 18] arall yn Gweddio y byddaf i, ac heb wŷbod ymlaenllaw, pa bêth y mae êf ar feder ei ddwedyd, fe or­fydd arnaf, yn gyntaf, Ym­wrando. wrando pa bêth a ddywaid êf nesaf; yno y mae 'n rhaid i mi ystyried bêth a wnâ yr hyn a ddywaid êf ai bôd yn gyttûn ag Athrawiaeth iachus; a phêth a wnâ ai bôd yn addas âc yn gyfreithlon i mi gyttûno ag êf yn yr Erfynniau y mae êf yn eu gwneuthur Neu, at. ar Dduw: Os tŷbiaf i fôd, yno y mae 'n rhaid i mi wneuthur felly: Ond cŷn y gallwyf ddarfod â hyn, y mae êf wedi myned ymlaen at ryw bêth arall. Ac yn y môdd hyn, y mae 'n anhawdd iawn, o­nid yw, heb Ryfeddod, yn amhos­sib'l i mi gŷd-weddio ag êf o hŷd mor drefnus ac y dylwn i. Ond mewn Ffurf osodedig o Weddi, yr hôll drafael hyn a Neu, a rag-achu­bir. rag-rwystrir: Canys lle y mae y Weddi ffurfiol yn oestad yn fy meddwl i, a min­nau yn gwbwl-gydnabyddus a hi, ac yn fodlon iawn i bôb pêth sŷdd ynddi, ni bŷdd gennif ddim arall [Page 19] iw wneuthur tra bo 'r geiriau yn Swnnio. seinio yn fyng Lhustiau, ond cy­ffrôi fyng Halon a'm Serch i fôd yn gyfryw ac a weddai iddynt; chwa­negu fy Awyddfryd am y pethau daionus a weddier am danynt; go­sod fy hôll feddwl yn grâff ar Dduw tra byddwyf yn i foliannu êf; ac felly rhoddi ar waith, bywioghâu, a derchafu fy hôll Enaid wrth wneu­thur fyng Weddiau arno êf. Nid oes ûn-dŷn ac a ymarferodd ei hûn â Ffurf osodedig tros ddim en­nyd o amser, nas dychon yn hawdd gaffael hyn yn wîr wrth ei brawf ei hûn, ac yn ganlynol, fôd y ffordd hon O we­ddio. ar Weddio yn rhagor-gym­morth i ni, nag a allant hwy ddy­chymmig, y rhai ni wnaethant erioed brofiad o honi.

At hyn y gellir chwanegu 'n rha­gor, mai os gwrando ûn arall a wn­awn ni yn gweddio Gweddi a wne­lo êf y prŷd hynny o'i ben ei hûn, fe fŷdd ein Meddyliau ni wedi eu cau i fynu yn hollawl, a'u cyfyngu o fewn ei eiriau a'i ymadroddion, [Page 20] o fewn ei Ddeisy­fiadau. Eirchion a'u Erfynniau êf, byd y rheini y pêth y fynnont; ac felly gwnawn ein goreu, ei We­ddi ef yn unig y byddwn yn ei gweddio. Lle pan y bo 'm ni yn gweddio yn ôl y Ffurf a osodwyd i ni gan yr Eglwys, yr ŷm ni 'n gwe­ddio Gweddiau 'r hôll Eglwys hon­no, y byddwn ni yn bŷw ynddi; Gweddiau sŷdd gyffredin i'r Offeiri­da ac i'r Bobol, i ni 'n hunain, ac i Aelodau'r ûn Eglwys; Ac se­lly y mae gen­nym. hŷd onid oes gennym bôb Enaid duwiol a defosi­onol a'r sŷdd oddimewniddiyncŷd­redeg, ac yn cŷd-weddio â ni yn­ddynt hwy. Ahyn yn ddiau ni ddy­chon lai na gweithio mwy Adeila­dâeth, nid yn unig i ni 'n hunain yn nailltuol, ond hefyd i'r hôll Eglwys yn gyffredinol, nag y dychon ûn We­ddi a wneloDŷn wrth ei ben ei hûn.

Yn ddiweddaf, fel y caffom ein Hadeiladu wrth ein Defosionau Cy­hoeddus, megis ac y mae'n angen­rhaid i ni wybod ymlaenllaw pa bêth yr ydym ar feder Gweddio am dano, selly gwedi ein Gweddi­au, [Page 21] y mae 'n angenrhaid i ni yn ôl­llaw wybod pa bêth y ddarfu i ni ei ofyn. Canys bwrw yr ydwyf, y cynniadhêwch chwi hyn bawb; fôd yr hôll Ddaioni a'r Lleshâd yr ŷm ni yn ei gael oddiwrth ein Gwe­ddiau, yn sefyll yn ddisgwiliadwy ar waith Duw yn rasol yn eu gw­rando a'u hatteb hwy, heb yr hyn, hwy a ânt i gîd yn ddiddim. Ond dau bêth a ofynnir i ni eu gwneu­thur er caffael atteb i'n Gweddiau: Yn gyntaf, Gofyn o honom yn daer Ac mewn purdeb. a diffuant y cyfryw bethau daionus ar ddwylo Duw; ac i hyn­ny y mae Ffurf osodedig o Weddi (fel y dangosais) yn dda rhagorol. Ac yno yn ail, se ofynnir i nî ym­ddiried a disgwyl ar Dduw am i­ddo eu Canniad­hâu. cynniadhâu hwynt i ni, yn ôl yr Addewidion a roes êf i ni yng Rhîst Iesu ein Harglwydd. Ac yr ydwyf yn credu 'n hollawl mai ûn achos mawr pa ham y mae Dynion cyn fynyched yn Gweddio 'n ofer, yw, eisiau cymeryd y ffordd hon; ond pan ddarfyddo eu Gweddiau, [Page 22] fe ddarfu iddynt â hwy, ac nid ydynt ymhellach yn ymorawl yn eu cylch hwy, mwy na phe buasent heb we­ddio ôll. Ond pa fôdd y gallwn ddis­gwil i Dduw atteb ein Gweddiau ni, pan nad ŷm ni'n hunain yn dal sulw bêth a wnelo êf a'u hatteb hwy, ai peidio? Nagyn credu, nag yn ym­ddiried ynddo am hynny? Canys yn ddiammeu, megis ac y mae Ymddi­ried ar Dduw yn ûn o'r Gweithre­doedd pennaf mewn Crefydd ar a a­llwn ni eu cyflawni; felly hynny yw'r pêth sŷdd yn rhoddi bywio­grwydd ac egni, grym a rhinwedd yn ein Gweddiau ni, heb yr hyn, nid oes gennym Sail yn y bŷd i ddisgwil iddynt gael eu hatteb. Canys gan fôd Duw wedi addaw atteb ein Gweddiau ni, oddieithyr i ni ymddiried arno am gyflawni ei Addewidion hynny, yr ŷm ni yn colli eu llês hwy, ac, yn ganly­nol, ein Gweddiau hefyd. Ac am hynny, os bŷth y chwenychem i­ddo êf roddi i ni yr hyn a weddi­om am dano, wedi i ni gyfeirio yn Gweddiau atto, y mae'n rhaid i ni [Page 23] yn oestad edrych i fynu; Psalm 5. 3. gan ddisgwil a gobeithio am ddy­chweliad o honynt.

Yn awr megis ac y mae y pêth hyn yn bêth o fwy cyfrif, felly y mae Ffurf osodedig o Weddi yn fwy cymmorth i ni ynddo, nag a tybir yn gyffredin. Canis os gw­rando a wnawn ni ûn yn dwedyd Gweddi Hynny yw, heb ei myfyrio ymlaen­llaw. ddi-fyfyr, nas dwedasai êf, ac nas clywsem ninnau erioed o'r blaen, na phyth drachefen, o­did iddo êf ei hûn allel cofio y ddeg­fed ran o'r hyn a ddwedodd êf; ac onid llai o lawer y gallwn ni, oeddym yn gwrando, wneuthur hyn­ny? Ac os nyni nis gallwn mewn môdd yn y bŷd gofio bêth a we­ddiasom am dano, pa fôdd y mae 'n bossib'l i ni ei ddisgwyl êf ar ddwylo Duw? Neu roi'n goglyd arno am dano? Ond yn awr y mae 'n gwbwl-amgenach, pan y b'om ni yn arfer Ffurf osodedig o We­ddi: Canys y môdd hynny we­di i ni weddio, ni a allwn ddyfod a ni'n hunain i gôf, ni a allwn edrych [Page 24] tros yn Gweddiau drachefen, naill ai yn y Llyfer, neu yn ein Me­ddwll, lle y maent yn argraphedig; ni a allwn ystyried yn Neu, bôb ûn wrth ei ben. wahan­rhedol pa bethau a ofynnasom ar ddwylo Duw, ac felly ymarfer ein Ffŷdd a'n Hymddiried ynddo êf am ganniadhau i ni bôb Arch ar a wnaethom arno êf, yn ôl yr Adde­widion a wnaeth êf i ni i'r Neu, i'r perwyl hwnnw. pwrpas hwnnw. Ac megis mai hon yw'r ffordd siccraf i gaffael yr hyn a we­ddiom am dano, felly nis dychon hi lai na bôd y ffordd oreu i we­ddio er Adeiladaeth, ac sŷdd bossib'l i ni ei harfer.

Wedi iawn-holi y pethau ymma, mi edrychaf bellach ar hyn megis pêth cyfaddefol, fôd arfer Ffurf yn gyffredin, wrth Addoli Duw ar Gyhoedd, yn gyttûn a'r Rheol ym­ma a roes yr Apostol, Gwneler pôb peth er Adeiladaeth. Ac felly mi âf ymlaen i ddangos fôd y Ffurf hon­no yn nailltuol, a Neu, a [...]odwyd. bwyntiwyd gan ein Heglwys ni iw harfer ar y cyfryw achosion, felly hefyd. I'r [Page 25] diben hynny, nid rhaid i mi holi'n nailltuol pôb Gair, Ymadrodd, a dull o Ddewediad a'r sŷdd yn Ffurf y Gweddiau Cyffredin; a llai o lawer sŷdd raid i mi sefyll o'i blaen hi, a'i hymddiffin hi yn erbyn pôb Amheuaeth bychan a ddychon dyn ion anwybodus neu faleisus roddi yn ei herbyn hi Canys ni bu hŷd yn hyn, ac ni bŷdd bŷth, ddim wedi ei ddwedyd, neu ei scrifennu, nas gellir dwedyd neu scrifennu rhyw bêth, cam neu gymmwys, yn ei erbyn êf. Ond fyng orchwyl i a fŷdd, pryfio fôd y Ffurf o Wasa­naeth Duw a gynhwysir yn Llyfer y Gweddiau Cyffredin, ac a arferir yn awr yn Eglwys Loeger yn cŷd-weithio cymmaint tuag at Adeiladu y Sawl a'i harferont hi, a'i bôd hi yn cyttûno 'n gywir a'r Rheol y mae 'r Apostol ymma yn ei gosod ar yr achos hynny. A hyn a ddango­saf yn eglur wrth bedair o Benno­dau; 1. VVrth ei Hiaith. 2. VVrth ei Defnydd, neu ei Sylwedd hi. 3. VVrth y Llwybreiddrwydd, neu'r Drefn [Page 26] a gynhelir ynddi. Ac yn bedwa­redd. VVrth y Dull ar ei chyflawni hi. Canys os ydyw hi 'n Adeiladu o ran pôb ûn o'r pethau hyn, nid oes lle lai na chyfaddefir ei bôd hi yn gwneuthur felly trwyddi ôll, gan nad oes ynddi ddim nas gellir ei ddwyn adref at ûn neu gilydd o'r Pennodau hyn.

Yn gyntaf ynteu am yr Iaith, chwi a wyddoch bawb fôd yr hôll Wasanaeth yn cael ei gyflawni yn [Gymraeg,] yr Iaith a arferir am­laf ymlhîth Pobol Gyffredin Cymru. Gwerin y Dywyso­gaeth ymma, yr hon y mae pôb ûn gan mwyaf yn ei deall, ac fe­lly yn gallu cael ei Adeiladu trwy­ddi. A hyn yn wîr ydyw Sail a Syl­faen yr hôll Leshâd sŷdd bossib'l i ni ei dderbyn oddiwrth ein Gwe­ddiau Cyhoeddus. Ac am hynny, yn Eglwys Rhufain y gosodir ana­llu ar y Cyffredin-Bobol i gael eu Hadeiladu wrth Weddiau'r Eglwys, gan mai yn Lladin i gŷd y gwneir hwy; Iaith nad ydynt hwy yn de­all 'mo honi. Yn gymmaint a phan [Page 27] ymgyfarfyddont hwy i Addoli Duw, weithiau iawn y mae ûn yn y Gyn­nullheidfa yn gwybod pa bêth a ddwedir yno, ond yr Offeiriad, yr hwn sy 'n darllain; ac yn fynych iawn, nis gwyr hwnnw chwaith. Ac yn y môdd hyn, nid oes mewn gwirionedd 'mo 'r fâth bêth a Gwe­ddiau Cyffredin yn eu plîth hwynt. Ac nid yw bossib'l chwaith i'r Cy­ffredin-Bobol gael eu Hadeiladu trwy yr hyn a ddwedir, neu a wneir yno, oddiethyr i hynny eu dwyn hwynt ûnwaith i ganfod y Cam anferthol y mae eu Heglwys yn ei wneuthur iddynt, wrth orchym­myn cyflawni ei hôll Wasanaeth Cy­hoeddus mewn Iaith nas deallir, yn gwbwl-wrthyneb, nid yn unig i'r Rheol yn fy Nhecst i, ond hefyd i hôll Amcan y Bennod hon.

Ond Clôd i Dduw am hynny, nid fellŷ y mae gŷd â ni: Gwe­ddiau gwîr-gyffredin yw'n Gweddi­au ni: Canys hwy a Scrifenwyd, ac a ddarllennir mewn Iaith a'r sŷdd Gyffredin i'r hôll Gynnullheidfa­oedd [Page 28] Pûr-Gymryig trwy'r Dywys­ogaeth hon, aci bôb Dŷn [o Gym­ro] ym hôb cyfryw Gynnullheidfa; Hyd oni ddichon Y Cym­ru i gid. hôll Bobol ein Gwlâd ni, o ba râdd neu gyflwr bynnag y byddont, gyttuno yng hŷd i arfer pôb pêth sydd ynddynt, ac felly gŷd â 'u gilydd gael eu Hadeiladu trwyddynt. Yn enwe­dig gan eu bôd hwy i gŷd, nid yn unig yn Gymraeg, ond hefyd yn Gymraeg loyw, arferedig, y fâth ac yr ŷm ni yn ei chwedleua y naill wrth y llall yn ein Siarad cy­ffredin. Yr 'wyf yn bwrw nad oes ûn gair hên anarferol; nad oes ûn Ymadrodd caled, dieithr ynddynt; ond bôd pôb pêth a draethir cyn oleued ac amlycced ac y dychon geiriau wneuthur hynny: Hyd o­ni ddichon y Dŷn gwaelaf yn y Gynnullheidfa, a ddeallo (Gym­raeg) Iaith ei Fam, gael eu Adei­ladu trwyddynt, yn gystal a'r Schol­haig mwyaf.

Ond yr hyn sŷdd bennaf iw y­styried yng hylch Iaith Ffurf y Gwe­ddiau [Page 29] Cyffredin, yw, ei bôd hi, nid yn unig yn Gyffredin, ond yn Addas hefyd. Er nad yw y geiriau a ar­ferir yno i gŷd ond geiriau Cyffre­din, er hynny hwy a arferir yn y cyfryw ystyr yn gymmwys, ac a amcanir ynddynt. Fe ddychon hyn, yr 'wyf yn cyfaddef, ymdda­ngos fel pe ni bae ond pêth bychan ar yr olwg gyntaf arno; er hyn­ny y mae yn fâth bêth, ac y ga­llwn ni hebddo gael ein disodlu gan yr hyn a amcanesid i'n Hadeiladu ni. Canys Anghyfaddasrwydd Ym­adrodd mewn pethau Crefydd a fu achos o'r hôll, neu o'r rhan fwyaf o'r Ymwahaniadau, Camgymeria­dau, a'r Camgrefyddau a fu erioed yn blino 'r Eglwys hon, neu ûn a­rall, fel y gellid dangos yn eglur ddigon. Am yr achos hyn y rhoes yr Apostol i Dimothi Ffurf o Yma­droddion iachus, ac a orchmynnodd yn gaeth iddo nad ymadawai a hi; Bydded gennyt (eb efe) Ffurf yr Ymadroddion iachus, y rhai a gly­waist gennif i. 2 Tim. 1. 13. Canys [Page 30] gwŷbod yr oedd êf, mai oni by­ddai 'r geiriau, ym ha rai yr arferai êf draethu Gwirioneddau Duw yn iachus ac yn addas, y by ddai yn amhossib'l iw Wybo­daeth. Wybyddiaeth a'i Farn êf am y pethau eu hunain fôd felly. Ac yn ddiau os erioed y bu Ffurf o Ymadroddion iachus wedi ei gwneuthur gan Ddynion, er amser yr Apostolion, y mae ein Gweddiau Cyffredin ni yn haeddu yn dda yr enw hwnnw. Canys y maent i gŷd wedi 'u gwneuthur i fy­nu o Eiriau mor addas a chym­mwys, mor llesiol ac iachus; ac os daliwn ein crâff ar y rheini, nid rhaid i ni ofni cwympo, nag i Gam­grêd, nag i Ymwahaniad. Canys hwynt hwy o'u dwys ystyried a ddygant ar gôf i'n Meddyliau ni wîr a chywir ddealltwriaeth o hôll Bynciau ein Crefydd Gristianogol; ac felly hwy nid yn unig a'n gwânt ni yn Uniawn-grêd, ond hefyd a'n Hadeiladant ni i fynu yn grysion, ac yn gedyrn yn ein Sancteiddiaf Efŷdd. Gan hynny, wrth ystyried [Page 31] mor blaen ac eglur, mor iachus a chyfaddas yw 'r Ymadrodd a arfe­rir ynddynt, y lleiaf ar a ellir ei ddwedyd am y Gweddiau Cyffre­din, yw, fôd y cwbwl ynddynt wedi ei draethu yn y cyfryw ei­riau ac sŷdd gymhwysaf i Adeiladu pawb a'u harferont hwy.

Ac megis ac y mae y geiriau yn Ffurf y Gweddiau Cyffredin yn A­deiladu cymmaint ac y dychon gei­riau; felly yn yr ail lle, y mae 'r Defnydd, neu'r pêth a draethir yn y Geiriau hynny. Canys nid oes dim yn y Ffurf honno, ond sŷdd angenrhaid er Adeiladaeth; a 'r cwbwl ar y sŷdd, neu a ddychon fôd er Adeiladaeth, sŷdd yn eglur yn­ddi. Yn gyntaf yr 'wyf yn dwe­dyd nad oes dim yn ein Gwasanaeth ni, ond sŷdd angenrhaid er Adei­ladaeth. Nid oes ynddo 'mo 'r Chwedlau a'r Achau anorphen, y rhai (fel y dywaid yr Apostol) sy'n pe­ri cwestiwnau, yn hytrach nag Adei­ladaeth dduwiol, yn hon sydd trwy Ffydd, 1 Tim. 1. 4. Nid oes ynddo [Page 32] ûn. nêb o'r gwâg-ymddadleuon, na 'r Ymrysonnau diffrwyth a gyfodwyd yn ddiweddar yn yr Eglwys er ei mawr Aflonyddwch, yn hytrach na 'i Hadeiladaeth. Nid oes ynddo ddim o'r Piniwnau Newyddion, ddim o'r Ddysgeidiaeth wâg, ddi­arfer sy 'n gwasnaethu yn unig i og­leisio Clustiau Dynion, neu i fôdd­hâu ei Ffansi hwy; ac felly i droi eu Meddyliau nhw' oddiwrth yr hyn a fo 'n llaw ganddynt. Edry­chwch êf i gŷd trosto yn ddi-rag­farn, ac yn ddi-duedd; ystyriwch o ddifrif bôb pêth oddimewn iddo, ac ni chyfarfyddwch â dim a haerer, ond a fo gyttûnol a Gair Duw; nag â dim a weddier am dano, ond a fo 'n ôl ei Addewid êf; nag â dim a ofynner megis dyledswydd, ond a fo 'n cŷd-gordio â'i Orchmyn­nion êf; nag â dim yn ei ddwe dyd, neu yn ei wneuthur, ond a fo pwyllig a phrysur, parchedig a phwysfawr; dim ond a weddai i Addolaid ein Creawdwr Mawr Hôllalluog: Ac am hynny, nid oes [Page 33] ynddo ddim nas gallwn gael ein Ha­deiladu trwyddo, ryw ffordd neu gilydd.

Ac megis nad oes ynddo ddim ond y sŷdd Adeiladus, felly pôb pêth a'r sŷdd, neu a ddychon fôd yn Adeiladus sŷdd ynddo êf. Ca­nys nid oes dim yn angenrhaid i'n Hadeiladu a'n gwneuthur yn Gristi­anogion dwys a pherffaith, ond yr hyn a fo 'n angenrhaid naill ai iw Gredu, neu iw wneuthur, neu iw Gaffael gennym. Ond nid oes dim a'r sŷdd angenrhaid iw Wybod, neu 'iw Gredu, nas dysgir i ni; dim angenrhaid iw Wneuthur, nas gorch­mynnir i ni; dim angenrhaid iw Gaffael, nad ydym yn Gweddio am dano, yn ein Ffurf Gyhoeddus o Wasanaeth Duw.

Canys yn gyntaf, am y pethau angenrhaid i ni eu gwybod, neu eu Credu, pôb Protestant a gyfaddef eu bôd nwy yn gwbwl gynhwyse­dig yn yr Scrythyrau Sanctaidd; a rheini sŷdd yn gwneuthur i fynu ran fawr, onid ydynt y rhan fwyaf o'n [Page 34] Gwasanaeth ni, ac yn oestad a ddarllennir, neu o'r lleiaf a ddy­lentgael (fel y mae 'n Eôd Gwasa­naeth y Boreu a'r Pryd­nhawn beynydd. orchmmyn­nedig) eu darllain trostynt; sêf y Psalmau ûnwaith bôb Mîs, yr Hên Destament ûnwaith, ar Newydd deirgwaith, bôb Blwyddyn. A chan fôd hôll Byngciau arbennig ein Ffŷdd Gristianogol a ddadcuddir yn y Scrythur Lân, wedi eu cryn­hôi Mewn ychydig Eiriau. yn gyrdo yng Rhedo yr Apo­stolion; fel y byddom siccyr o ga­dw y rheini bôb amser yn ein côf, fe orchmynnir i ni ddarllain ac adrodd y Gredo hon yn wastad ûnwaith, fynychaf ddwywaith, bôb Dydd trwy 'r Flwyddyn. A chan weled fôd Duwdod ein Iachawdwr Bendigedig, Sail ein hôll Grefydd ni, wedi cael gynt, a'i fôd etto yn cael ei wadu gan rai; fel na 'n har­weinier ymmaith gyd â Chyfeilior­ni y Drygionus, yr ydym bôb Sûl a Dydd Gwyl yn darllain y Gredo a wnaed yn Nicœa, ym ha ûn yr ym­ddiffynnir, ac yr amlygir Duwdod y Mâb a'r Yspryd Glân. A rhag [Page 35] lleteua o honom ûn mâth o Gam­dŷb yng hylch y Drindod Sanctei­ddiolaf, neu Gnawdoliaeth Mâb Duw, ond cadw o honom y wîr Ffydd Gatholic yn gyfan ac yn ddi­halog, yr ŷm ni ar ryw ddiwarno­dau bôb Blwyddyn yn darllain y Gredo a elwir yn gyffredin Credo Sanct Athanasiws, ym ha ûn yr ago­rir y Dirgeledigaethau mawrion hynny yn y geiriau cymhwysaf ac egluraf ar a allont eu dwyn.

Ac megis ac y cynhwysir yn gryn­no yn y tair Credo yr hôll bethau sŷdd raid eu Credu gennym, felly hwy yn fynych a eglurir mewn rhan­nau eraill o'n Gwasanaeth ni: Hyd onis gellid yn hawdd gyfansoddi Crynhoad perffaith-gwbwl o Ddi­finyddiaeth allan o'r geiriau a ar­ferir ynddo; o'r lleiaf, o'r cwbwl a'r y sŷdd angenrhaid i un-dyn yn y bŷd ei gredu neu'i wybod er ei Iechawdwriaeth dragwyddol.

Yr ûn pêth a ellir ei ddwedyd hefyd am yr hôll bethau a ddyllem eu gwneuthur. Canys megis ac y [Page 36] gwneir ymma ba bêth bynnag sŷdd angenrhaid iw wneuthur tuag at A­ddoli Duw yn y lle hwn; felly y da­ngosir i ni ymma hefyd pa bêth byn­nagsŷdd angenrhaid iw Ddysgu tu­ag at WasanaethuDuw ymhôb lle ar­all. Fal nas dychon un-dyn a fo'n my­nych gyrchu i'n Cynnullheidfaoedd Cyhoeddus ni, lle yr arferir Ffurf y Gweddiau Cyffredin, haeru Anwy­bodaeth o ûn Ddyledswydd pwy­bynnag. Canys oni bŷdd y bai arno ei hûn, fe ddychon yno gael ei gyfarwyddo ym hôb pêth, y mae yr hwn a'i gwnaeth êf, yn ei ofyn ganddo. Canys ymma (fel y dali­as sulw o'r blaen) yr ŷm ni yn wa­stadol yn darllain y Scrythur Lân, yr hon (fel y dywaid yr Apostol) Sydd fuddiol i Athrawiaethu, i Argy­hoeddu, i Geryddu, i Hyfforddi mewn Gyfiawnder: Fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bôb gweithred dda. 2 Tim. 3. 16, 17. A chanryngu bôddi'r Goruchaf Dduw amgyffred ei hôll Ewyllys êf, ac yn ganlynol, ein hôll Ddyledswydd [Page 37] ninnau yn y Dêg Gorchymmun; am yr achos hyn yr ŷm ni yn darllain y rheini yn wastad bôb Sûl, a phôb Dydd Gŵyl trwy 'r Flwyddyn. Trwy ba foddion y dychon pôb Dŷn, na chaeo ei olugon o'i wîr­fodd, weled yn amlwg, a deall yn oleu ei hôll Ddylêd at Dduw a Dŷn. Yn enwedig gan fôd yn y Gweddi­au eu hunain fynych-grybwyll am yr hôll Feiau a ddylid eu gochelud, ac am yr hôll Weithredoedd da a ddy­lent gael eu cyflawni gennym ni. Fel nas gallwn ni ûn amser ddyfod i'r Eglwys heb gael yn wastad ein Ein go­sod mewn côf, neu 'n rhybyddio rhybycco am yr hyn a ddylem, ac am yr hyn nis dylem ei wneuthur, fel y byddom Cadwedig.

A chwedi hyn, megis ac nad oes dim angenrhaid iw wybod, neu iw wneuthur nas dysgir i ni; felly nid oes dim chwaith angenrhaid iw Ga­ffael gennym, i'n gwneuthur ni'n Sanctaidd, neu yn ddedwydd, nad ydym yn gweddio am dano yn Ffurf y Gweddiau Gyffredin. Canys yno y mae gennym ni VVeddi 'r Ar­glwydd, Gweddi a wnaethpwyd gan [Page 38] Ddoethineb ei hunan, ac am hyn­ny nis dychon lai na bôd y Weddi gyflawnaf a duwiolaf ar a wnaeth­pwyd erioed. A honno yr ydym yn ei harfer nid ûnwaith yn unig, ond ym hôb Gwasanaeth gwahan­rhedol o eiddo'r Eglwys; Sêf yn ein Gweddiau cyn darllain yr Scry­thur Lân, ac yn ein Gweddiau Wedi hynny. we­din; tua diwedd y Letani, ac yn nechreu Gwasanaeth y Cymmun; ac felly hefyd ym hôb Swydd E­glwysig arall. A'r Rheswm yw, o­herwydd er nas gwaharddodd ein Iachawdwr i ni arfer ûn nêb Gweddi­au eraill, er hynny efe a orchym­mynnodd yn eglur i ni ddwedyd hon cyn fynyched ac y Gweddiom. Ac am hynny, o dra ufudd-dod iw orchymmyn êf, ein Heglwys ni a drefnodd yn ddoeth, bôd i ni bôb trô ac y cyfeiriom ar gyhoedd ein Hymadrodd at y Goruchaf Dduw, ddwedyd yn wastad y Weddi hon: rhag onid ê wrth ein gwaith yn tros­seddu ei Orchymmyn êf, trwy a­dael honno yn eisiau, i ni wneuthur [Page 39] ein hôll Weddiau eraill yn Neu, vn anne­ffeithiol. aflwy­ddianus. Ac heblaw, wrth arfer honno yn fanwl ym lhîth ein Gwe­ddiau eraill, yr ŷm ni yn wastad yn siccyr o ddwedyd ûn Weddi sŷdd gwbwl gyflawn ynddi ei hûn, ac yn dra chymeradwy ganddo êf, ar yr hwn yr ŷm ni yn gweddio, gan mai Gweddi ydyw hi a wnaeth êf ei hûn. Canys yr ydym felly, yn ymddiddan â Duw yn ei eiriau ei hûn; ac yno, ni a allwn hyderu, nad ŷm ni yn gofyn dim ganddo, ond yr hyn sŷdd wîr gyttunol a'i Ewyllys êf ei hûn.

Ac er bôd pôb pêth angenrhei­diol, o ran eu sylwedd, yn gynwys­edig yng Weddi'r Arglwydd; er hynny ein Heglwys ni, yn ôl arfer yr Eglwys Gatholic ac Aposto­laidd, a dybiodd yn dda chwane­gu rhai Gweddiau eraill, ym ha rai yr ydym yn mynegi ac yn gofyn yr ûn pethau yn fwy enwedigol ar ddwylo ein Cymmwynaswyr Mawr Trahaelionus. A'r hôll Weddiau hynny ydynt felly wedi eu cŷd­luniaethu, [Page 40] fel nad oes dim ar a w­nelo i ni ddrwg, neu niwed, nad ydym yn Gweddio yn ei erbyn êf; dim da, a defnyddiol i ni, nad y­dym yn gweddio am dano: Nid oes ûn Arfer ddrwg, neu Dra­chwant, nad ydym yn dymuno iddo gael ei ddarostwng tanom ni; nag ûn Grâs, neu Rinwedd dda, nad y­dym yn gweddio iddo gael ei blan­nu a thyfu ynom ni. Yn gymmaint ac os nyni yn ddi-ddyffygiol, ac yn ddi-ragrith a weddiwn yr hôll We­ddiau hyn trostynt, a chredu 'n sic­cer ac ymddiried yn Nuw am eu hatteb hwy, ac felly caffael yr hyn yr ŷm ni yno yn gweddio am dano, nis gallwn ni lai na bôd cyn gywîr­ed Seinctiau, cyn happused, cyn dde­dwydded Creaduriaid, ac y mae 'n bossib'l i ni fôd yn y bŷd hwn. Ac nid ŷm ni ymma yn gweddio tro­som ein hunain yn unig; ond yn ôl Cyngor yr Apostol, yr ŷm ni yn gwneuthur Ymbilian, Gweddiau, Dei­syfiadau, a Thalu Diolch tros bôb Dyn (1 Tim. 2. 1.) Ie, tros ein Gelynion, [Page 41] fel y gorchmynnodd ein Iachawdwr i ni Mat. 5. 44. A pha bêth rhagor na hyn a ellir ei ofyn tuag at wneu­thur y Defnydd sŷdd yn Ffurf y Gweddiau Cyffredin yn Adeiladus, naill ai i ni 'n hunain, neu i eraill? Yn ddiau dim ond Gwirionedd a Chywirdeb Calon wrth ei harfer hi.

Nid allaf ymadael a'r Pwngc hwn, cyn dal sulw i chwi ar ûn pêth chwaneg yng hylch y Gweddiau gyd a'u gilydd; a hynny yw nad ŷnt hwy ddim yn rhedeg ymlaen mewn ûn hîr-ymadrodd di-dor; ond wedi eu rhannu yn llawer o Weddiau byrrion, neu Golectau, cyffelyb i'r Weddi honno a wnaeth ein Iachawdwr ei hûn. A hynny a ddychon fôd yn ûn achos pa ham y trefnodd ein Heglwys ni'r pêth fe­lly; sêf, fel y gallai hi yn y môdd hynny, ganlyn Esamp'l ein Har­glwydd, yr hwn a ŵyddai oreu pa fâth Weddiau oedd gymhwysaf i ni eu harfer. Ac yn wîr nis gallwn ni lai bawb na deall wrth ein prawf ein hunain, mor anhawdd yw i ni [Page 42] yn hîr gadw ein Meddyliau yn ddyfal ar ûn pêth; yn enwedig ar bethau mor fawr ac yw yrhwn yr y­dym yn gweddio arno, a'r hyn yr ydym yn gweddio am dano: Ond gwnelom a allom, ein Meddyliau a fyddant hyblyg ar bôb trô i fyned ar ddisperod. Y mae ynteu fâth o Angenrheidrwydd i ni dorri ym­maith ein Gweddiau weithiau, a chael oed i gymeryd anad'l, fel y gallo ein Meddyliau, wedi llaesu y­chydig, fôd yn haws ganddynt, ac a llai enbydrwydd o ymwasgar, gymeryd ei rhwymo i fynu eilwaith, megis ac y mae 'n angenrhaid eu bôd, trwy 'r amser ac y byddom ar y weithred o Weddio arno êf, yr hwn yw Goruchaf Hanfod y Bŷd.

Heblaw hynny, er cyflawni ein Defosionau i'r Goruchaf Dduw yn gymmwys, angenrhaid yw, fôd dy­ledus Adnabyddiaeth o'i Fawredd a'i Ogoniant êf o hŷd yn meddi­annu ein Eneidiau ni. I'r Neu i'r pwrpas. per­wyl hwnnw, y mae 'n Gweddiau [Page 43] byrrion ni yn gynhorthwy mawr iawn. Canys gan fôd pôb ûn o ho­nynt yn dechreu â rhai o Briodoli­aethau, neu Enwau Godidaw­grwydd Duw, a thrwy hynny yn taro yn ein Meddyliau ni Adnyby­ddiaeth cymmwys o honaw êf ar y cyntaf, y mae 'n hawdd i ni gynnal yr Adnabyddiaeth hwnnw yn ein Meddyliau tros ennyd Gweddi fer, yr hwn mewn hîr Weddi a suasai enbyd i Ymwasgar a diflannu.

Ond yr hyn yr ydwyf yn edrych arno megis ûn o'r Rhesymmau pen­naf, pa ham y mae, ac y dylai fôd, ein Defosionau Cyhoeddus ni wedi eu rhannu yn Weddiau byrrion, y­dyw hyn; Ein Iachawdwr Bendi­gedig (fel y gwyddom) a ddwe­dodd i ni 'n fynych y derbynniem ba bêth bynnag a ofynnem yn ei Enw êf. Ac am hynny efe a ro­ddes i ni gyfarwyddid i arferu ei Enw êf yn ein hôll Weddiau, ac nasgofynnem ddim, ond er mwyn ei Haeddiant a'i Gyfryngdod êf tro­som ni. Canys ar hynny, yn gw­bwl [Page 44] ac yn unig, y mae 'n sefyll ein hôll Obaith a'n Disgwiliad ni ar Dduw. Am yr achos hyn gan hynny, megis ac a cyfrifwyd erioed, felly nis dychon lai na chael ei gyf­rif etto, yn angenrhaid, bôd i Enw Crîst gael yn fynych ei gymmysg yng hŷd a'n Gweddiau ni; fel y ga­llom felly dderchafu ein Calonnau atto êf, ac ymarfer ein Ffŷdd yn­ddo êf, er caffael ganddo y pe­thau daionus y byddom yn gwe­ddio am danynt, Ac ni a welwn mai felly y mae yn y Gweddiau Cy­ffredin: Canys bêth bynnag a o­fynnom [yno] gan Dduw yr ŷm ni yn y man yn chwanegu, Trwy Iesu Grîst ein Harglwydd, neu ryw bêth i'r defnydd hwnnw. Ac fe­lly nid ydym yn gofyn dim, ond yn ôl cyfarwyddiad ein Harglwydd, sêf yn ei Enw êf. A hyn yw 'r achos sy 'n gwneuthur ein Gweddi­au ni mor fyrrion. Canys tyn­nwch ymmaith ddibendod pôb Co­lect neu Weddi, [sêf yn Enw Crîst] a chwi a ellwch eu cydio hwynt i [Page 45] gŷd yng hŷd, a'u gwneuthur me­gis ûn Weddi ddi-dor. Ond hyn­ny a fyddai gwneuthur Cam cyhoe­ddus a'r Gweddiau, trwy dynnu ymmaith yr hyn sy'n rhoddi iddynt eu hôll rym a'u Rhinwedd, ac felly eu gwneuthur hwynt yn ddiffrwyth o ran y defnydd yr arferir hwy o'i blegid. Canys diammeu mai gofyn pôb pêth yn Enw Crîst, fel yr ydym yn y Gweddiau Cyffredin, ydyw 'r unig ffordd i ni gaffael yr hyn yr y­dym yn ei geisio, ac yn ganlynol, y ffordd oreu yn y bŷd i weddio er Adeiladaeth,

Y pêth nesafiw ystyried yn Ffurf y Gweddiau Cyffredin, yw'r Llwy­breiddrwydd, neu 'r Drefn a gynhe­lir ynddi. A honno sŷdd dda ry­feddol, ac yn Adeiladu cymmaint, pe bae bossib'l, ac y mae y Sylwedd ei hûn. Hyn nis dychon un-dyn ei wadu a fo'n ei chwbwl-ddeall, ac yn ei phryssur ystyried hi. Yr hyn fel y galloch chwi bawb ei wneuthur, mi a redaf ar fyr trwy'r cwbwl, ac a roddaf i chwi gymmaint ac a a­llaf [Page 46] i o oleuni yn ei chylch hi, fel y galloch chwi weled yn amlwg, nid yn unig pa mor Rhesymmol, ond hefyd pa mor Rhagorol ydyw hi o hŷd. I'r Neu, i'r pwrpas hwnnw. perwyl hwnnw, mi a grybwyllaf yn unig am y pethau sŷdd hawdd i canfod ar y golygiad cyntaf i un-dyn a wnelo ond bwrw ei olwg arni.

Bwriwn ninnau fôd Cynnulleidfa o Gristianogion prysur a duwiol (fel y dylem bawb fôd) wedi ymgyn­null yng hŷd ar feder gwneuthur eu Defosionau Cyhoeddus at Dduw Goruchaf, a phôb ûn o honynt eu­sys wedi derchafu ei Galon ei hûn yn nailltuol atto êf, gan ymbil am ei gymmorth a'i gynnorthwy êf wrth gyflawni cymmaint gorchwvl, ac felly ydynt barod weithian i fy­ned yn ei gylch êf. Y pêth cyntaf yr ŷm ni yn ei wneuthur ydyw dar llain rhai Gwersau o'r Scrythur Lân, fel y gallom ni wrth hynny ddechreu ein Defosionau at Dduw yn ei eiriau êf ei hûn. A rheini i gŷd sŷdd yn fâth Wersiau, ac sŷdd yn ein gosod [Page 47] ni mewn côf o'n Pechodau ni iw er­byn êf, ac o'i Addewid yntef iw maddeu hwy i ni, os edifarhâwn am danynt. A hyn a wneir i'n cym­hwyso ni i ymddangos, ac i'n ym­ddwyn gar ei fron êf gyd a'r fâth Wŷlder a pharchedig Ofn, ac a we­ddai i rai teimladwy o'u Gwaeledd a'u Hanheilyngdod i neshâu at gym­maint Mawrhydi: ac hefyd gyd a'r fâth Ffŷdd a Hyfder gostyngedig, ac a weddau i rai'n Credu y maddeu êf i ni ein Pechodau ar ein Hedifei­rwch, ac y derbyn êf nyni a'n Gwa­sanaeth, yn ôl yr Addewidion a wnaeth êf i ni.

Yno y mae'n canlyn Gynghoriad pwyllig yng hylch y diben yr ydym yno wedi ymgyfarfod o'i herwydd; yr hwn Gynghoriad sŷdd dra def­nyddiol, ac ni ddylid ûn amser ei adael heibio. Canys y mae dynion fynychaf yn rhy hawdd ganddynt ruthro i ŵydd Duw, heb ystyried ûnwaith pa bêth y maent yn myned iw wneuthur. Lle y mae y Cyng­horiad hwn yn ein gosod ni ar ystyri­ed [Page 48] maint y gorchwyl yr ŷm ni yn ei gylch, ac felly ar wastadhâu ein Meddyliau, ac ymbaratoi iw iawn­gyflawni êf.

Wedi dwyn ein Meddyliau felly i gyflwr a thymmer cymmwys, yr ydymbawb, Gweinidog a Phobol, yn ymostwng hŷd lawr gar bron y Goruchaf Dduw, gan gyffessu ar ein Gliniau yr ammal Bechodau, a'r An­wiredd a wnaethom iw erbyn êf. A'r Gyffes hon sŷdd wedi ei dyfalu felly, fel y gallo pawb a phôb ûn ym hôb Cynnullheidfa gyttûno iw dwedyd hi. Canys y mae hi yn rhedeg mewn geiriau Cyffredin; ac er hynny yn y cyfryw fôdd hefyd, ac y gallo, ac y dylai pôb Dŷn naill­tuol, yn ei feddwl ei hûn, gyffessu a a chyfaddef ei Bechodau priod, y rhai y gŵyr êf ei hûn yn euog o ho­nynt. Megis pan ddwedom, Ni adawsom heb wneuthur y pethau a ddy­lasem eu gwneuthur, ac a wnaethom y pethau ni ddylasem ni ei gwneuthur; wrth ddwedyd hyn, pôb ûn a ddy­lai goffhâu ei Bechodau ei hûn, pa [Page 49] d dyledswyddau a ŵyr êf iddo eu hesgeuluso, a pha Feiau a ŵyr êf i­ddo eu gwneuthur; ac yn gyfat­tebol eu cyflessu hwy wrth Dduw. Wedi i ni yn llyn gyfaddef ein Pe­chodau wrth Dduw, yr ydym yn ddi­oed yn ymbil ei Drugaredd êf iw ma­ddeu hwy i ni, a'i Râs êf i'n [cyfner­thu] niiw gochelid hwyrhag llaw.

Tra yr ydym Fal hyn. yn llyn ar ein Gliniau yn cyffessu yn ostyngedig, ac yn ymofidio am ein Pechodau gar bron yr Arglwydd ein Duw, y mae'r Gweinidog yn sefyll i fynu, ac yn Enw Duw yn dadcan ac yn my­negi i'r rhai ôll sŷdd wîr Edifeiriol, ac yn ddi-ffuant yn Credu iw E­fengil êf, Ollyngdod a Maddeuant am eu hôll Bechodau. A hyn, er ei fôd hefyd wedi ei ddwedyd mewn geiriau Cyffredin, etto pôb dŷn yn nailltuol a fo yno a ddylai ei Neu ei osod adref. gyfaddasu at­to ei hûn, a bôd yn ddiogel ganddo yn ei feddwl, mai os efe sŷdd yn gwîr edifarhau, ac yn credu'r Efengyl, fôd Duw ei hûn yn ei lwyr-ryddhau êf o­ddiwrth ei hôll Bechodau, yn ôl yr Adde­widion [Page 50] a wnaeth êf i Ddynol-Ryw yng Rhrîst Iesu ein Harglwydd.

Weithian, gan edrych arnom ein hunain, megis wedi ein rhyddhau o­ddiwrth ein Pechodau ar ein Hedi­feirwch a'n Ffŷdd yng Rhrîst, ac yn ganlynol, wedi ein Heddychu â Duw, yr ydym mor hŷ. eofn a'i alw êf yn Dâd, gan lefaru yn ostynge­dig wrtho êf yn y Ffurf dduwiol o Weddi a roes êf ei hûn i ni. Wedi darfod hynny, yr ydym yn dercha­fu ein Calonnau a'n llêf at Dduw am ei gymmorth êf yn ein gwaith, yng eiriau Dafydd, y Gweinidog yn lle­fain, Arglwydd agor ein Gwefusau; a'r Bobol yn atteb, A'n genau a fy­negant dy Foliant. Y Gweinidog eil­waith, Duw bryssia i'n cynnorthwyo; a'r Bobol, Arglwydd prysura i'n cym­morth. Ar hynny, yr ydym bawb yn Neu, yn ddiced. ddiattreg yn derchafu ein Cyrph, yn sefyll ar ein Traed, ac fe­lly yn ein gosod ein hunain mewn a­gwedd i Glôdfori a Moliannu y Tragwyddol Dduw, y Tâd, y Mâb a'r Yspryd Glân, am ei Ddaioni an­feidrol, [Page 51] a'i Drugaredd tuag attom ni. I'r I'r ar­faeth, neu 'r diben hwnnw. perwyl hwnnw y mae 'r Gweinidog yn dwedyd, neu yn canu [y Gloria Patri] Gogoniant i'r Tâd, ac i'r Mâb, ac i'r Yspryd Glân. A'r Bo­bol i ddangos eu cyttundeb, a At­tebant, Megis yr oedd yn y dechreu, y mae'r awr hon, ac y bydd yn wastad, yn oes Oesoedd. Amên. Ond heb gyfrif hyn yn ddigonol, y mae y Gweinidog yn Rhyby­ddio. rhybycco 'r Bobol drachefen, gan ddwedyd, Molwch yr Arglwydd; a'r Bobol yn Atteb, Moliannus fyddo Enw'r Arglwydd. Ac yno yr ydym yn myned ymlaen iw gŷd-foliannu êf, gan ddwedyd, neu ganu [y Venite exultemus Do­mino, sêf] y XCV. 95 Psalm; Deuwch canwn i'r Arglwydd, ymlawenhawn yn nerth ein Hiechyd, Ac felly trwyddi. &c. Ac fal hyn yn myned rhagom at y Psalmau go­sodedig i'r Dŷdd. Ar ôl pôb ûn o honynt, i dystio ein Crêd yn y Drindod Sancteiddiolaf, a'n bôd yn cydnabod yr anfeidrol Gariad a'r Daioni a ddanghoswyd i ni gan bôb ûn o'r Personau Duwawl hyn­ny, [Page 52] yr ydym yn ail-adrodd y Mawl­ganniad di-gymmar hwnnw, Gogo­niant i'r Tâd, Ac felly o hŷd. &c.

Pan fo'n Calonnau ni'n llyn we­di eu derchafu at Dduw gan ei Fo­liannu a'i Ryfeddu êf, yno yr ŷm ni mewn tymher a thuedd cymmwys i wrando pa bêth a ddy waid êf wr­thym ninnau. Ac am hynny y dar­llennir i ni Bennod allan o'r Hên Destament; a honno yn y drefn ar­ferol, oddieithyr ar Suliau a dy­ddiau Gŵylion, prŷd y mae mwy o Bobol yn dyfod i Addoliad Duw Goruchaf, nag a ddychon yn gym­hesur ddyfod ar Ddyddiau eraill; yna yr ydym yn darllain rhyw Ben­nod ddewisol, briodol i'r Dŷdd, y fâth ac a gyfrifir fôd er mwyaf A­deiladaeth i bawb a fo yn y man a'r lle. Ac wedi clywed Duw yn llyn yn llefaru wrthym ni yn ei Air, yr ym ninnau yn y man yn ymosod iw Foliannu êf drachefen am Drugaredd mor anrhaethawl, gan ddwedyd, neu ganu, yn y Boreu [y Te Deum] Ti Dduw a Folwn, Ac felly o hŷd. &c. ûn o'r [Page 53] Mawl-ganiadau mwyaf Nefolaidd, ac Angylaidd ar a wnaed erioed gan Ddynion: Neu ynteu Gân y trî Llangc, yr hyn nid yw amgen na Deongliad mewn rhagor eiriau o'r hyn a ganodd Dafydd cyn fynyched ar y Ddaiar, a'r hyn y mae 'r Ang­ylion Sanctaidd yn ei ganu yn ddi­baid yn y Nefoedd, sef, Haleluiah, Molwch yr Arglwydd. Yn y Gân honno yr ydym, a ninnau yn deim­ladwy pa cyn belled yn ôl yr ym ni o Foliannu Duw gymmaint ac y we­ddai i ni, yn galw ar yr hôll Grea­duriaid yn y Bŷd i wneuthur hynny, Bendithiwch yr Arglwydd, Molwch êf, a mawrhewch êf yn dragywydd. Yn y Prydnhawn, yr ydym yn canu naill ai [y Magnificat] Fy Enaid a fawrhâ yr Arglwydd, Ac felly o hŷd. &c. neu ynteu y 98 Psalm. A chan fôd pôb ûn o'r ddwy wedi ei thynnu allan o Air Duw ei hûn, ni allant lai na bôd yn foddhâus, ac yn gymmeradwy gan­ddo êf.

Yna wedi i'n Heneidiau hedeg i fynu drachefn ar Adenydd mysyr­dod, [Page 54] a dwys-ystyried godidawg Berffeiddrwydd Duw, yr ydym bellach yn addas i wrando a derbyn uchel Ddirgeledigaethau'r Efengyl. Ac am hynny y darllennir i ni Ben­nod allan o'r Testament Newydd. Ar ôl hyn, wedi i Newyddion da yr Efengyl roddi Bywio­grwydd. bywyd ynom, a'n llenwi o Ryfeddod am anfeidrol Ddaioni Duw a ddadcyd dir i ni yn­ddi; yr ydym yn torri allan dra­chefen iw Glodfôri a'i Addôli êf yng Hân Zacharias, neu yn y Gan­fed Psalm, ar y Boreu; ac naill ai yn y LXVII.67 Psalm, neu ynteu yng Hân Hên Simeon, ar y Prydnhawn, gan ddibennu yn oestad â, Gogoniant i'r Tàd, ac i'r Mâb, &c. fel or blaen.

Wedi clywed yn llyn ddarllain i ni ryw ran o AirDuw, ac wedi dang­os ein diollgarwch iddo am dano; er hyspysu ein Cydsynniad, nid yn unig i'r hyn a glywsom, ond hefyd i'r hôll Scrythur, yr ydym bawb ag ûn Galon a Genau yn dwedyd Credo 'r Apostolion, ym ha ûn y mae 'r Pyngciau pennaf o'r Scrythur yn [Page 55] gynhwysedig. Wrth wneuthur hyn, yr ydym yn professu ein bôd ni yn parhâu yn nifer Dysgyblion Crîst, ac megis ac y Bedyddiwyd ni ar y cyntaf, felly ein bôd ni yn wastad yn Credu yn Enw'r Tâd, a'r Mâb, a'r Yspryd Glân, y Duw Bendige­dig yn oes Oesoedd.

Hyd yn hyn y buom gan mwyaf yng hylch Cyfessu ein Pechodau wrth Dduw, erfyn ei Drugaredd êf iw maddeu hwynt, Gwrando ei San­cteiddiaf Air êf, Cydnabod ei dda­ioni êf tuag attom ni, a Chlodfôri a Mawrhâu ei Enw êf am dano. A thrwy 'r moddion hyn, oni bu bai anfeidrol arnom ein hunain, ni ddy­chon ein Calonnau ni lai na bôd we­di eu gosod ar Dduw, a'u cyssulltu ag êf yn y cyfryw fôdd, ac a'n rho­ddodd ni mewn brŷd a meddwl cymmwys i wneuthur ein Anghen­nion yn gydnabyddus iddo, a gosod ein Deisyfiadau gar ei from êf. Hyn­ny ynteu ydyw'r pêth nesaf yr yd­ym yn myned yn ei gylch. Ond gan nad yw bossib'l i Weinidog, na [Page 56] Phobol wneuthur hynny yn gym­mwys heb gymmorth Duw ei hûn, am hynny y mae y naill o honynt yn gweddio fôd ei Bresennoldeb ys­pysol êf gŷd â'r llall; yn naill yn dwedyd, Yr Arglwydd a fo gyd â chwi, a'r lleill yn Atteb, A chyd a'th Yspryd tithau. Ac ar hynny, gan gwympo bawb ar ein Gliniau, yr ydym yn Addoli ac yn attolwg i bôb Person yn y Drindod Fendi­gediccaf drugarhâu wrthym, Ar­glwydd trugarhâ wrthym, Crîst trugar­hâ wrthym, Arglwydd trugarhâ wr­thym. Wedi hynny yr ydym yn cyfeirio ein lleferydd atto êf yn y geiriau a osododd êf ei hûn yn ein Geneuau ni, gan ddwedyd Gwe­ddi'r Arglwydd. Pan ddarfyddo hynny, y mae'r Gweinidog a'r Bo­bol ar eu cylch yn derchafu eu Ca­lonnau at Dduw mewn rhai Ergy­diadau byrrion a Nefolaidd, fel pe baent yn Ymdre­chu. ymortrech i ynnill y blaen y naill 'ar y llall, i gael gan yr Hôllalluog dywallt ei Fendithion arnom ni. Yna yr ydym, mewn [Page 57] agweddParch a Gostyngeiddrwydd, yn cŷd-ymbil ar a Duwawl Fawr­hydi am ei Râs a'i Ffafor, ei Ach­les, a'i Ymgeledd, ei Drugaredd, a'i Fendith i ni 'n hunain, i'r Brenin, i'r Brenhinawl Deulu, i'r Eglwys, ac i hôll Ddynol Ryw. A hyn yr ydym fynychaf yn ei wneuthur yn y Colectau a Neu a osodwyd i'r perwyl hwnnw. ∥ Wasa­naeth Cre­fyddol. bwyntiwyd i'r ar­faeth honno. Ond ar ddyddiau Merchur a Gwener (Dyddiau yr ar­ferai y Brîf Eglwys gyflawni mwy o ∥ Ddefosionau na pheynydd) ac ar foreu Dŷdd yr Arglwydd, yr ydym yn gwneuthur hynny yn y Letani; a honno yn fâth Letani ac sŷdd yn cynwys ynddi y cwbwl a phôb pêth a'r a ddychon fôd yn rhaid i ni bŷth ei ofyn gan yr Hollalluog Dduw, naill ai i ni'n hunain, neu i eraill.

Wedi hyn ar y Suliau a'r Gwŷli­au, yr ydym yn myned ymlaen at Wasanaeth y Cymmun, ac am hynny gan neshâu at Fwrdd yr Arglwydd, yr ydym yn dechreu a'i Weddi êf ei hûn. A chwedi Gweddi fer arall [Page 58] ar i Dduw lanhâu Meddyliau ein Ca­lonnau trwy Ysprydoliaeth eiLân Ys­pryd, yr ydym yn darllain y Deg Gorchymmyn a gaeth-archodd êf i ni eu cadw. Ac ar ôl pôb Gor­chymmyn, yr ydym yn gofyn Tru­garedd Dduw am ein gwaith yn ei droseddu êf tros yr amser a aeth heibio, a Grâs iw gadw êf rhacllaw, gan ddwedyd, Arglwydd trugarhâ wrthym, a gostwng ein Calonnau i ga­dw y Gyfraith hon. Yna ar ôl Gwe­ddi tros y Brenin, a'r Colect tros y Dŷdd, yr ydym yn darllain yr E­pistol a'r Efengyl; hynny yw, rhyw ddernyn allan o'r Epistolau derbyn­niedig fynychaf, ac ûn arall allan o ûn o'r Efangylau Sanctaidd, yr hên ffordd ar ddarllain yr Scrythur cyn ei rhannu hi yn Bennodau. Y rhei­ni y byddwn y pryd hynny yn eu darllain i'n paratôi ni erbyn Cym­mun Corph a Gwaed Crîst, a ddad­cuddiwyd yno i ni: Ond gan nad ydym, ac nas gallwn ddarllain Yr hôll Efengylau. y cwbwl trosto, yr ydym yn adrodd Sylwedd y cwbwl yng Rhedo Nicœa; [Page 59] pêth angenrhaid i ni ei wneuthur y prŷd hyn, fel y gallom wrth hyn­ny hyspysu yn oleu ein bôd ni'n Gristianogion, ac felly yn dderbyn­niadwy i'r Cymmun Bendigedig.

Pwy bynnag a fu trwy hyn o am ser mor egnîol ac y dylai êf fôd yng Wasanaeth ein Heglwys ni, nis dychon lai nai gaffael ei hûn wedi ei Adeiladu yn anfeidrol trwyddo êf. Er hynny rhag bôd dim yn eisiau a allo mewn môdd yn y bŷd weithio Adeiladaeth i ni, ar ôl Cre­do Nicœa, ein Heglwys ni a Ordei­niodd. bwyn­tiodd Bregethu Pregeth; a honno os bydd hi iachus, ac eglur, a'r fâth ac a gyfarwydda 'n Buchedd, fel y dylai hi fôd, ni ddychon lai na 'n Hadeiladu ni 'n fawr hefyd.

Erbyn hyn, fe ellir bwrw yn ddi­fai ein bôd ni wedi ein Hadeiladu gymmaint, ac a'n derchafodd ni i'r grâdd uchaf o Dduwiolder meddwl, ar a allom ni gyrhaeddid iddo yn y bŷd hwn, ac felly ydym addas i gael ein derbyn i Ordinhâd pennaf yr Eglwys, y Sacrament o Swpper [Page 60] yr Arglwdd. Hwnnw ynteu yr y­dym yn myned nesaf yn ei gylch. Eithyr fel nad ymddangosom o flaen ein Harglwydd yn waglaw, yr y­dym yn gyntaf yn offrwm iddo ryw bêth o'r hyn a râd-roddodd êf i ninnau, iw ddosparthu i ddefny­ddion Duwiol ac Elusengar; gan Dystio­laethu. dystio wrth hynny ein bôd ni yn cydnabod ei Ddaioni êf tuag attom ni, ac nad oes gennym ddim; nad ydym yn ei dderbyn oddiwrtho êf. Ac er ein cyffrôi a'n hannog ni i wneuthur hynny, tra yr ydym yn offrwm, fe ddarllennir i ni rai Gw­ersiau dewisol o'r Scrythur; ym ha rai y mae Duw naill ai yn gorchym­myn i ni fôd yn Elysengar, neu yn addo Bendith i'r sawl a fo felly. We­di hynny yr ydym yn gweddio tros hôll Eglwys Grîst sy'n Hynny yw, yn Rhyfela yn erbyn y Bŷd, y Cnawd a'r Cythrael. Milwrio ymma ar y Ddaiar; ac wrth hyn yr ydym yn proffessu ein bôd ni'n hunain yn Aelodau di-ammeu o honi, ac yn dymuno cael Cymmundeb a hi yn nirgel Corph a Gwaed Crîst. Ac felly yr ydym yn myned ymlaen [Page 61] yng hylch Ministriad y Cymmun. ym ha ûn y mae'r drefn mor eglur, mor hynod am Adeiladu, nad yw raid i ni grybwyll mwy am dano; Yn unig mi a ddaliaf sulw ar ddau bêth yn gyffredinol yn ei gylch êf.

Yn gyntaf gan mai y Dirgelwch uchaf yn ein hôll Grefydd ni yw Sacrament Swpper yr Arglwydd, am ei fôd êf yn gosod allan i ni Far­wolaeth Mâb Duw, am yr achos hyn, y lle yr Neu y gwasnae­thir. Administrir y Sa­crament hwnnw ynddo, a wnaed ac a gyfrifid bôb amser y lle uchaf yn yr Eglwys. Ac am hynny he­fyd yr arferid ei wahanu êf oddiwrth y cwbwl arall o'r Eglwys âg Am­gae, neu Balis o Rwydwaith a el­wid yn Lladin Cancelli. A hyn a wnaed mor gyffredin, hyd oni cha­fas y lle ei hûn oddiwrth hynny ei alw yn Ganghell. Fôd cynnal hyn gynt wrth Adeiladu pôb Eglwys gyfrifol (Canys nid ydwyf yn sôn am Gappeli, neu Weddi-leoedd Priod, sêf y rhai a berthynant i Dai nailltuol yn unig) o fewn ych­ydig [Page 62] Gantoedd o Flynyddoedd ar ôl yr Apostolion eu hunain, ie yn Nyddiau Cystenyn Fawr, yn gystal ac ym hôb oes wedi 'n, mi allwn i yn hawdd ei ddangos yn eglur ddigon allan o Gôf-lyfrau yr Amseroedd hynny. Ond gan i mi o wîr fwri­ad adael heibio Hênafi­aeth. yr Awthuron He­nafaidd hŷd yn hyn, y mae 'n an­hawdd gennif yn awr beri blinder i chwi trwyddynt. Ond crybwyll hynny yr ydwyf ar hyn o amser yn unig o herwydd y dychon rhai ysgat­fydd ryfeddu, pa ham y cedwir hyn yn ein Heglwys ni, yn rhagor nag mewn 'r hôll Eglwysi eraill a gyfodwyd yn ddiweddar yn y Ddi­nas hon. Lle y dylent ryfeddu yn hytrach pa ham nas gwaeth­pwyd hynny ym hawb eraill yn gy­stal ac yn hon. Canys heblaw y Rhwymedigaeth sŷdd arnom i ym­debygu 'n nesaf ac y gallom at Ym­arfer yr Eglwys Gyffredinol, a go­chelyd amnewyddio, neu fôd yn Neu ym­nailltuo o­ddiwrth bawb. hynod ar bawb eraill ym hôb pêth a berthyno at Addoliad Duw, nis [Page 63] gallwn ni 'n hawdd ddyfalu y bua­sai 'r Eglwys Gyffredinol yn cyn­nal y fâth arfer a hyn ymhôb oes a lle tros drychant neu bedwar cant ar ddeg o Flyn yddoedd, hebacho­sion da 'n peri.

Pa rai oedd y rheini, nid yw angenrhaid i ni yn awr ymofyn; di­gon yw dal sulw ar hyn o amser, fôd y Ganghell yn ein Heglwysi Cri­stianogol ni yn cael ei chyfrif megis yn cyfatteb i'r Sanctaidd Sanctei­ddiolaf yn y Demmel, yr hwn, fel y gwyddoch, a wahenid oddiwrth y Cysseg'r, neu gorph y Demmel trwy Orchymmyn Duw ei hûn. A chwedi 'n, dan fôd y lle hwn wedi ei nailltuo megis ar helw Sacrament Swpper yr Arglwydd, fe ddylid fe­lly ei luniaethau êf, fel y byddo êf mwyaf cyflêus i'r sawl a fo 'n cyfran­nogi o'r Ordinhâd Bendigedig hwn­nw. Ond y rhai a fo ar feder mwyn­hâu Cymmundeb â Chrîst, ac yn­ddo êf, y naill â 'r llall yn y Sacra­ment Bendigedig hwn, ni ddychon lai na bôd yn fwy cyflêus iddynt gy­farfod [Page 64] yng hŷd megis ûn Corph yn yr ûn lle a nailltuesid i'r amcan hwnnw, na bôd ar wasgar, fel heb hyn. am­gen y gorfyddai arnynt fôd, rhai mewn ûn man, ac eraill mewn man­nau eraill o'r Eglwys. Neu ar fyr, y mae 'n well o lawerfôd y Lle wedi ei nailltuo, na bôd y Bobol felly.

Ymhellach, y mae nid yn unig yn weddus, ond ar ryw ystyriaeth yn angenrhaid hefyd, bôd i bôd Cym­munwr grâffu a dal fulw yspysol ar yr amryw Amgylchiadau a ordeini­odd ein Harglwydd eu harferu yn y Sacrament hwn; megis torriad y Bara, a'i gyssregriad êfa'r Gwîn, megis pethau yn gosod allan ei Far­wolaeth êf, rhwŷgiad ei Gorph, a thywalltiad ei Waed êf tros ein Pe­chodau ni; fel y gallo hynny fyned yn nês at ein Calonnau ni, ac yn ganlynol, Adeiladu mwy ar ein He­neidiau ni. Ond hyn nis gellir ei wneuthur yn iawn, oni bŷdd lle we­di ei nailltuo i hynny, lle y gallo pawb gael eu cyflêu, o gylch, neu yn agos at Fwrdd y Cymmun, ac [Page 65] felly ganfod yr hyn a wneler yno wrth Gyssegriad y Bara a'r Gwîn. Am yr achos hyn hefyd y mae, ac y dylai fôd yr Eistedd-leoedd yno wedi eu cyflêu felly, fel y gallo pawb a fyddont ynddynt fôd a'u Hwynebau tuag at 'r Allor, a my­fyrio ar eu Hiachawdwr Bendigedig, yr hwn yno a bortreiadir o flaen eu Llygaid, megis yn Groeshoeliedig trostynt.

Y pêth arall a 'wyllysiwn ddal fulw arno wrthych yng hylch y Cymmun Sanctaidd, yw hyn; fôd ein Heglwys ni yn gofyn, neu o'r llei­af yn bwrw ei fôd êf yn cael ei wa­sanaethu bôb Dŷdd yr Arglwydd, a phôb Dŷdd Gwŷl trwy'r Flwy­ddyn, megis yr oedd êf yn y Brîf Eglwys. Canys hynny yw y Rhe­swm pa ham yr Neu, y gosodŵyd ordeiniwyd arfe­ru Gwasanaeth y Cymmun ar bôb ûn o'r cyfryw ddiwarnodau, ai ddar­llain êf wrthFwrdd y Cymmun; sêf fel y gallo (hynny ddwyn yr hôll Gyn­nulleidfa ar gôf o'r Cymmun, a'u han­nog iw gymmeryd yn fynych, a'r) [Page 66] Gweinidog fôd yno (megis) yn ba­rod i'w finistrio êf i bawb a fo 'n cwennych bôd yn gyfrannogion o honaw. A hyn sy'n dangos y mawr ofal sŷdd gan ein Heglwys ni tros ei hôll Aelodau, ar gael o honynt eu Hadeiladu a'u cadarnhâu yn y Ffŷdd; i'r hyn nid oes dim yn cŷd-weithio mwy, na Chymmuno yn fynych wrth Fwrdd yr Arglwydd. Yr hyn pe cymerai Pobol unwaith eu hannog iddo, hwy yn ebrwydd a gaent mwy lleshâd oddiwrtho nag a alla fi ei fynegi, na hwythau eu hunain hyd hynny ei ddyfalu. Ni ddwe­daf ragor yng hylch hynny yn awr, na hyn; fy môd i mor deimladwy o'r hyn yr ydwyf yr awrhon yn ei ddwedyd, a phe byddwn sicc'r o gaffael rhifedi digonol o Gymmun­wyr, y Neu, y Gwasnae­thwn. ministriwn i yn dra lla­wen y Sacrament Sanctaidd hwn Ond hyn a wneir yn awr yn E­glwys yr Awdwr bôb Sûl, er ys lla­wer o fly­nyddoedd. bôb Dŷdd yr Arglwydd, yn gy­stal er eu mwyn hwy, a fy mwyn fy hûn.

Yn llyn y rhoddais i cwi Bortrei­ad byr o'r Drefn ragorol y cyflaw­nir [Page 67] ein Gwasanaeth Eglwysig ni yn­ddi. Yr hyn pwy bynnag a'i hy­styrio 'n gymmwys, ni bydd rhaid wrth ûn Rheswm arall i brofi 'n eg­lur iddo, fôd y Gwasanaeth hwn­nw yn ôl Rheol yr Apostol, yn A­deiladus iawn yn wîr. Y pêth di­weddaf iw ystyried ynddo yw'r Dull ar ei gyflawni êf. Wrth yr hyn yr ydwyf yn deall yn unig amryw Agweddau'r Corph a arferir ynddo, megis sefyll, a phenlinio; canys hyn­ny hefyd a wneir er Adeiladaeth.

Tra yr ydym yn dwedyd, neu yn canu y Mawl-ganiadau a'r Psal­mau, er Clôd a Gogoniant i Dduw, yr Gan mwyaf; neu, fe we­ddai yn o­reu i ni. ydym yn sefyll i fynu, nid yn unig i arwyddo, ond hefyd i gy­ffrôi derchafiad ein Meddyliau ar yr amser hwnnw. Canys megis, ar y naill law, os ein Heneidiau ni a fydddant yn ddiau wedi eu der­chafu i Glôdfori Duw, ein Cyrph wrth Natur a ymgyfodant i fyned gyd â hwy cyn belled ag y gallont tua'r Nefoedd; felly ar y llaw arall, derchafu ein Cyrph sŷdd yn ein [Page 68] cymmorth ni i dderchafu ein Henei­diau hefyd, wrth goffhâu i ni y gor­chwyl mawr Nefolaidd yr ydym yn awr yn ei gylch; Ym ha ûn, yn ôl ein hegwan allu, yr ydym yn gwneuthur yn awr, y pêth yr ydym yn gobeithio cael ei wneuthur yn dragywydd, sêf cŷd-glodfôri Duw â Chôr y Nefoedd. Am yr achos hyn, yr ydym yn sefyll ar ein Traed ar y [tair] Credo, o herwydd gan mai Cyfaddefiadau ydynt hwy o'n Ffŷdd yn Nuw, fel y maent felly, hwy allant yn gymmwys gael eu cy­meryd megis Caniadau o Fawl iddo êf. Canys ein hôll waith ni yn Clodfôri Duw, nid yw yn wîr ddim amgen na 'i gyffessu a'i gydnabod êf yn gyfryw ac y mae êf yndd o ei hûn, a thuag attom ninnau. Ac heblaw hynny, wrth sefyll i fynu ar y Gre­do a'r Efengyl, yr ydym yn hyspy­su ein bôd ni'n cydsynnied a hwy, ac yn barod iw hymddiffin hwy, hyd yr eithaf o'n gallu, yn erbyn pawb a'u gwrthwynebo. Am yr Efang­ylau yn nailltuol, y maent hwy yn [Page 69] cynwys y Gweithredoedd a wnaeth ein Harglwydd, a'r Geiriau a ddwe­dodd êf pan oedd êf ar y Ddaiar; ac am hynny (nyni, y rhai a'i ha­ddefwn êf yn Arglwydd, ac yn Athro i ni,) ni allwn lai y n ddiau na sefyll ar ein Traed pan glywom ni êf yn lle­faru, a gwrando yn ddi-esgeulus ar y Geiriau grasol a ddaeth allan o'i Enau Duwawl êf.

Ac megis ac yr ydym, wrth Fo­liannu Duw, yn ymgyfodi cyn uched. u­chled ac y gallom ni tua'r Nefoedd; felly pan y byddom yn Gweddio arno, yr ydym yn cwympo cyn ised. i­seled ac y gallom tua 'r Ddaiar, heb feiddio gosod ein Deisyfiadau gar bron Brenin, Penllywiawdwr yr hôll Fŷd, mewn ûn dull, ond ar ein Gliniau. A hynny sydd Agwedd mor addas, mor naturiol i Ymbi­lwyr gostyngedig, na buasai raid wrth Orchymmyn yr Eglwys i beri i Dd ynion fyned ar eu Gliniau, ped ystyrient yn ddyledus pa bêth y maent yn ei wneuthur pan y by­ddont yn Gweddio ar y Goruchaf [Page 70] Dduw: Canys ni allant lai na gwneu­thur felly o honynt eu hunain. Ie braidd y gallent lai, er Neu, er anghym­hwysed. anghyflêused y tybygid fôd eu lle hwynt i hynny. Ca­nys ni a gawn ein Iachawdwr Ben­digedig ei hûn yn Penlinio ar ei We­ddi yn yr Ardd ar y Llawr neu r Ddaiar noeth. St. Luwc. Luc 22. 41. a St. Pawl. Paul ar y Traeth, lle nis gallai êf gael ûn glystog, ond Cerrig neu Dy­wod. Act. 21. 5, Er hynny, i gy­meryd ymmaith yr hôll Esgision. Esguson bychain y mae Dynion yn barod iw rhoddi trostynt eu hunain yn hyn o achos, yr Eistedd-leoedd yn yr E­glwys hon a drefnwyd felly, a phôb pêth oddimewn iddynt sŷdd wedi ei baratôi yn y cyfryw fôdd, ac nas dychon fôd niwed yn y bŷd o Ben­linio; ond yn hytrach bôb Cym­hwysder tuag at hynny ar a ellir ei ofyn. Ac am hynny, os nêb-rhai o honoch a esgeulusa etto Benlinio tra y darllennir y Gweddiau, hwy a roddant i ni ormod achos i am­meu eu Cresŷ­ddoliaeth. Crefŷddgarwch hwy, neu i lêd-dybied nad oes dim o'r cy­fryw [Page 71] bêth yn eu helw hwynt. Canys pe bae, ni feiddient, ni fynnent gyn­nig y fâth ammarch hynod i Greaw­dwr Mawr y Bŷd, a'u hymddwyn wrth weddio arno êf ddim amge­nach, na phe baent yn siarad a'u Cŷd-greaduriaid. Ond pa ham y soniwn am eu gwaith hwy yn gwe­ddio ar Dduw? Y mae yn rhy en­byd nad ydynt yn gweddio ôll, nac yn dyfod i'r Eglwys er dim gwell Neu, well am­caniad. perwyl, nac i weled eraill, ac i gael eu gweled ganddynt. Siccir yw nad ydynt yn cyflawni ûn wei thred weledig o Addoliad ac Ur­dduniant i Dduw, nac yn dangos 'mo 'r Parch a'r Anrhy dedd sŷdd ddyledus iddo; ac felly y maent yn peri tramgwydd mawr iawn i bôb Cristion duwiol a chrefyddol.

Lle pe byddai pawb, a phôb ûn yn y Gynnulleidfa yn wastadol ar eu Gliniau tra byddent yn danfon i fynu eu Heirchion at y Goruchaf Dduw, pa leshâd anfeidrol a fyddai hyn, nid yn unig i bôb ûn wrth ei ben ei hûn, ond hefyd i'r hôll Gynnullheid­fa [Page 72] ynghŷd? Canys yn y môdd hyn, megis ac y cadwai pôb ûn ei Galon ei hûn yn fwy disig'l yng wîr ofn ac arswyd Duw, ac hefyd y byddai siccrach o gael y pethau daionus a weddiodd êf am danynt, fel y gwi­ria 'r Yr hên Dadau. Teidiau 'n fynych; felly yr hôll Gynnuliheidfa befyd a Adeile­dyd yn fawr iawn trwy hynny. Ca nys felly ni a gyffroem ac a ennyn­nem Dduwiolder y naill y llall, ac a grythaem, ac a gadarnhaem Ffŷdd eu gilydd, ac a wnaem yn dda yn gystal i ni'n hunain ac i bawb a'n gwelo ni, mai pêth pryssur yn wîr ywCrefydd; a'n bôd ni'n hunain yn credu ei bôd hi felly wrth ein gwaith yn Gwasa­naethu Duw gyd â chymmaint Gwylder a pharchedig Ofn, ac y mae'r Agwedd gostyngedig hynny o Ben­linio yn ei ddangos. Am hynny fel y disgwiliech Gariad Duw, parch. Brî Crefydd, neu Iechad wriaeth eich Eneidiau eich hunain, yr ydwyf yn attolwg arnoch ôll yn enw yr hwn a'c gwnaeth chwi, ar i chwi, pa brŷd bynnag y deloch ymma i we­ddio [Page 73] arno, wneuthur hynny yn y cyfryw fôdd arswydus, gostynge­dig a pharchus, ac a gorchmyn­nodd ein Heglwys ni, ac a gwe­ddai i chwi Greaduriaid wrth ym­ddiddan a'ch Creawdwr Mawr Holl­alluog; y môdd y galloch felly roddi gwîr Addoliad ac Anrhydedd iddo êf, a hefyd derbyn y Lleshâd a'r Adeiladaeth i chwi'ch hunain a addawodd êf, ac yr ydych chwi­thau yn disgwil am dano oddiwrth eich Gweddiau Cyhoeddus: gan mai hyn yn ddi-ammeu yw'r Ag­wedd fwyaf Adeiladus, a allwch chwi ei harfer ar y cyfryw achosion.

Wrth yr hyn a ddwedpwyd hyd yn hyn yng hylch yr Iaith, y Def­nydd, y Drefn, a'r Dull ar gyflawni Gwasanaeth Duw, megis y cynhwy­sir ac y dangofir yn blŷfer y Gwe­ddiau Cyffredin, ni a allwn osod hyn ar lawr megis pêth an-amheus, ei fôd êf yn cyttuno 'n gywir a'r Rheol yn y Tecst, sêf, Bôd y cwbwl ac sydd ynddo yn cael ei wneuthur er Adeiladaeth. A hynny yw'r pêth [Page 74] a gymerais arnaf ei bryfio. Mi a ŵn a gellid dwyn amryw Resym­mau eraill i ddangos mor Rhagorol a Mor lle­siol, neu, fuddiol. Defnyddiol ydyw Ffurf y Gwe­ddiau Cyffredin: Ond y rhain a ddugpwyd eusys sŷdd ddigonol i wîrio hynny i bôb Cristion Sobor. pryssur ac ystyriol. Ac od oes ymma nêb yn bresennol ac sŷdd etto heb eu bodlôni yn ei chylch hi wrth yr hyn a glywsont am dani, mi a ddeisyfaf yn unig ûn pêth arnynt; a hynny yw, bôd iddynt wneuthur profiad o'r pêth dros drô. Canys mae fyng Hariad yn fy annog i gredu, fôd yr hôll Y Zêl. wrês a 'r Gwŷn sŷdd mewn rhai yn erbyn y Gweddiau Cyffredin, a'r Neu, an­huedd­rwydd. oerni sŷdd mewn eraill tuag at­tynt, yn tarddu yn unig allan o ei­siau gwybod bêth ydynt, neu o'r llei­af o eisiau gwybod bêth ydynt wrth brawf ac Ymarfer. Canys ymosoded un-dyn aca fo o ddifrif yn amcanu A­ddoli Duw, ac achub ei Enaid ei bûn o flaen pôb pêth, ymosoded (meddaf) y cyfryw ûn mewn Sobrei­ddrwydd. pry­surdeb i arfer y Gweddiau Cyffredin, [Page 75] fel y dylai êf, tros ryw ennyd o am­ser, ac y mae yn ddiammeu gennyf y caiff êf trwy Fendith Dduw, gymmaint llês ac Adeiladaeth trwy­ddynt, ac a wnelo iw Brawf êf ei hûn wirio iddo 'r cwbwl ar a ddwe­dais i, yn well na 'r hôll Resym­mau a ellais i, neu a all un-dyn yn y Bŷd eu gosod ger ei fron êf. Fe ddychon rhai dybied hyn yn bêth Neu, an­hawdd ei goelio. Anhygoel. Ond di-ammeu gen­nif y dychon amryw o'r rai ac sŷdd ymma, dystio ei fôd yn wîr ar eu Gwybodaeth eu hunain, ac iddynt gaffael eu hunain yn gryfach yn eu Ffŷdd, yn fwy sefydlog yn eu Crefŷdd, yn fwy darostyngedig am eu Beiau, yn fwy cefnog tan eu Hadfyd, yn wressoccach eu Cariad at Dduw, ac yn fwy eu Hiraeth am y Nefoedd; mewn pôb ffordd wedi eu Hadeiladu yn fwy wrth eu gwaith yn arfer beunydd y Gweddiau Cy­ffredin, nac y gallasent bŷth gredu yn bossib'l iddynt fôd, oni buasai iddynt gaffael hynny yn wîr wrth eu Prawf eu hunain.

[Page 76] Yn awr wedi byr-ystyried y pe­thau hyn felly, mi a ddaliaf sulw yn unig ar ddau bêth sŷdd yn deilliaw oddiwrthynt. Y cyntaf ydyw mawr­ragorol Gallineb yn gystal a Duwi­older ein Prîf Diwy­gwyr y gelwyr y Gwŷr da, y rhai yn amser Har­ri yr Wŷthfed, ac Edwart y Chwe­ched, a daflasant ymmaith Babyddi­aeth, ac a ddugasant drachefen y Grefydd Gristiano­gol iw hên burdeb. A Diwyglad y gelwyr eu gwaith hwynt yn gwneuthur felly. Ddiwygwyr, y rhai ar y cyntaf a wnaethant Lyfer y Gweddiau Cyffredin mor gywir­gyttûnol â Gair Duw, ac â'r Rheol honno a osododd yr Apostol yn fy Nhecst i. Ac nis gallaf lai na chy­frif fôd yr ûn mawr gymmorth o­ddiwrth Dduw yn eu cynorthwyo hwynt yn y Gwaith hwnnw, ac a'u cyfnerthodd hwynt wedi hynny i ddioef Erlid, a Y rhai a wnaethant Lŷfer y Gwasanaeth yn amser y Bre­nin Edwart y Chweched oeddynt dri Gŵr ar ddeg: Ac o'r rheini, tri a losgwyd yn amser y Frenhines Mari, am eu bôd o'r ûn Grefydd, ac y mae y Llŷfer hwnnw yn ei dal; sêf, Arch-Esgob Cranmer, Esgob Ridley, a Doctor Cocs. Merthyrdod he­fyd, er ei fwyn êf, ac felly i gadarn­hâu yr hyn a wnaethant, â'u Gwaed eu hunain, yr hyn yn ddiau sŷdd Ganmoliaeth nid bychan iddo êf.

[Page 77] Y pêth arall a wyllysiwn ddal sulw arno wrthych, ydyw yr achos pa ham y mae gan y Diawl y fâth gilwg a drwg Ewyllys at Ffurf y Gweddiau Cyffredin, er pan wnaethpwyd hi gyntaf. Canys pa mwyaf Adeila­dus yw hi i Bobol Dduw, ni ddy­chon hi lai na bôd o gymmaint a hynny yn fwy dinistriol i Deyrnas y Cythra­el. Diawl. Acam hynny nid yw ry­feddod iddo êf, o hŷd, osod ei hôll allu, a'u gyfrwysder eithaf ar waith, iw dwyn hi mewn an-fri, er digalonni ac anghyngori Dynion rhag ei harfer hi. A thrwy oddefiad Duw, er cospi y Gened'l Anniolch­gar hon, efe a lwyddodd cyn bell­ed yn ei fwriad, a thaflu y Gwasa­naeth ddwywaith allan o'r Eglwys, er pan ddugesyd êf gyntaf i mewn; un-waith yn Nheyrnasiad y Frenhi­nes Mari, ac eil waith yn Nheyrnasiad Brenin Siarls y Cyntaf,

Yn Nheyrnasiad y Frenhines Mari chwi a wyddoch bawb pwy oedd ei Offer êf i wneuthur hynny; mai y Papistiaid. Canys yr oeddynt yn [Page 78] rhag-weled yn eglur, ac yn ddigon gwîr, nas gallai eu Piniwnau cyfei­liornus hwy gael byth mo'u credu, na'u Harferon Coeggrefyddol hwy eu cynnal yn y Wlâd yma, cŷd ac y byddau y Gweddiau Cyffredin yn cael eu harfer: Gan nad oes dim ynddynt, ond sŷdd iachus a chyttûn ag Athrawiaeth yr Efengyl, ac felly yn groes i'r Piniwnau di-sail a fynnai Eglwys Rhufain eu dirrio ar y Bŷd, yn lle Pyngciau 'r Ffŷdd. Ac heblaw hynny, y mae amryw Ymadroddion wedi eu gosod i mewn ynddynt o wîr-fwriad i'n har­fogi ni yn erbyn Uchel-Benyaeth y Päb, Maddeu­antau. Pardwnau, Gweddio ar Sein­ctiau, Neu, Drawssyl­weddiad. Newidiad Sylwedd y Bara a'r Gwîn yn y Sacrament, a'r cy­ffelyb Gam-grêd Babyddaidd. Hyd oni buasai yn amhossib'l i Grefydd Rhufain gael bŷth ei dwyn yn ôl i'r Wlâd hon, heb gael o'r Gweddiau Cyffredin yn gyntaf eu symmud o­ddiar y ffordd. Yr hyn bêth gan hynny a gymerasant ofal iw wneu­thur cyn gynted ac oedd bossib'l. [Page 79] Ond o fewn ychydig flynyddoedd wedi'n, sef, yn y Flwyddyn gyn­taf i'r Frenhines Elsbeth, efe a ddug­pwyd i mewn drachefen. Ac megis ac y dechreuasid y Diwygiad o'r blaen, felly o'r amser hwnnw allan efe a ddugpwyd rhagddo, ac a or­phennwyd yn bennaf trwy foddion y Gweddiau Cyffredin. Canys fe haeddai ein sulw ni, mai yn Nheyr­nasiad Brenin Edwart y Chweched, a thros amryw Flynyddoedd o'r Frenhines Elsbeth, nad oedd fawr, os oedd dim Pregethu tros y rhan fwyaf o'r Deyrnas; ac nid oedd ond ymbell ûn y prŷd hynny a fedrai ddarllain. Ac erhynny wrth feunydd­iol a chyffredin arfer y Gwasanaeth Cyhoeddus, a thrwy Fendith yr Ar­glwydd arno, yr hôll Wlâd a Adei­ladwyd felly yn y wîr Grefŷdd, nad oedd braidd ûn mewn cant heb a­dael a ffieiddio hôll Athrawiaethau a Choel-grefŷdd y Papistiaid. Yr hyn sydd ddanghosiad an-amhêus ei fôd êf, oherwydd hyn hefyd, cy­stal er Adeiladaeth ac y mae bossib'l [Page 80] i bêth o'r Natur hynny fôd; yn gymmaint a bôd heb ryfeddod yn amhossib'l i Babyddiaeth ynnill tîr yn ein plîth ni, cyhŷd ac y bo y Gweddiau Cyffredin yn cael eu har­fer a churchu attynt, fel y dylid. Ond os y Rhag-dwr hwn a dynnid unwaith heibio, (yr hyn na atto Duw) ein Gwrthwynebwr mawr a A gw­plâ. gwbwlhae yn ebrwydd ei Am­canion maleisus arnom ni, ryw ffordd neu gilydd.

Hyn a wŷr êf yn dda ddigon; ac am hynny nis gadawodd ûn ffordd heb ei chynnig i ddwyn ei waith i ben. Ond yr hyn a wnaethai êfo'r blaen trwy'r Papistiaid, efe wedihyn­ny a'i gorphennodd trwy foddion eraill, yn Nheyrnasiad Brenin Siarles y Cyntaf. Canys trwy ba fâth Ys­pryd y taflwyd allan y Gweddiau Cyffredin y pryd hynny, chwi a wy­ddoch bawb: a rhai o honoch y gawsant wybod hynny wrth brawf eirad. Y cwbwl a ddwedaf am da­no ydyw hyn; mai'r ûn Yspryd ac y gyffrôdd Pobol i fôd cyn daered [Page 81] yn erbyn y Gweddiau Cyffredin, a'u cyffrôdd hwy ar yr ûn amser i wrth­ryfela yn erbyn eu Brenin, i ddwyn Meddiannau a Bywyd Dynion o­ddiarnynt, yn erbyn pôb Cyffraith a Chyfiawnder; ac o'r diwedd i Lofryddioûn o'r Brenhinoedd duwi­olaf a fu erioed. A pha ûn ai Ys­pryd Crîst neu Angrhîst, Duw neu Ddiawl oedd hwnnw, bernwch chwi? Diai mai trwm ac alaethus a fu'r hyn a ganlynodd y prŷd hyn­ny ar waith taflu ymmaith y Llŷfer hwnnw. Canys Dynion wedi Neu, wedi eu difuddio. co­lli yr hyn y dylasent gael eu Hadeila­du trwyddo, yn ddi-oed â gylch­arweiniwyd gan bôb Awel Dysgeidi­aeth; hyd onis syrthioedd amryw o honynt o'r diwedd i'r Neu, i'r Herefiau, a phôb Cyfriw Gam­grediniaeth echryslonaf, a damne­diccaf a glybwyd sôn am dani e­rioed yn yr Eglwys. Ie yng hŷd a'r Gwasanaeth, hwy a roesant heibio bôb Gwahanieth rhwng pethau Cys­segredig a phethau Cyffredin; trwy ba foddion y bu enbyd iawn, i Ha­logrwydd ac Annuwioldeb oresgyn yr hôll Wlâd.

[Page 82] Ond Bendigedig fyddo Enw y Goruchaf Dduw am hynny, fe fu wiw ganddo ymddangos unwaith drachefn trosom ni, ac mewn môdd rhyfeddol edfryd eilwaith ein Gwe­ddiau Cyffredin iw Eglwys, yng hŷd a'n Grasusaf Frenin iw Deyr­nasoedd. Ond pa bêth a dalwn i i'r Arglwydd am gymmaint Bendith a hyn? Y cwbwl y mae êf yn ei ddisgwyl, neu a allwn ninnau ei ro­ddi iddo am dano, ydyw, gwneu­thur y defnydd goreu ac a fedrom ni o honow. Hyn gan hynny yw'r pêth yr ydwyf yn awr yn deisyf ac yn attolwg i chwi ei wneuthur rhag llaw. Na thybiwch yn ddigon i chwi fôd o blaid y Gweddiau Cyffre­din, a dyfod ymbell waith iw gw­rando hwy. Hyn a allwch chwi ei wneuthur, fel y mae amryw, ac er hynny bôd heb gaffael dim mwy llês oddiwrthynt, na phe ni byddai dim iw gael. A'r bai hwn ni ellir mewn môdd yn y bŷd ei osod ar y Gweddiau eu hunain, ond ar Esgeu­lysdra y sawlsy'n eu harfer.

[Page 83] Ni ddylech chwaith dybied yn ddigon i chwi Chwedleua 'n uchel trostynt, neu ymserthu a'r rhai nid ŷnt mor ddedwŷdd a bôd cystal eu gwybodaeth yn eu cylch hwy; ond yn hytrach cymeryd pôb odfa iw haddysgu hwynt, a thrwy bôb môdd a allo fôd, wirio iddynt mor Rhagorol a Defnyddiol ydynthwy. A hynny bŷth nisgallwch ei wneuthur mor Neu, gyflawn. llwyddiannus, ac wrth eich gwaith yn myned tuhwynt iddynt, a rhagori arnynt mewn Rhinwedd­au a Gweithredoedd da. Canys hyn sŷdd, ac a fŷdd bŷth yn ddang­osiad eglur fôd y Gweddiau Cyffre­din yn Adeiladu mwy o lawer, nac y mae y ffyrdd Newyddion hynny o Grefŷdd, y maent hwy ysweithe­roedd wedi eu hûdo iddynt. Fel y galloch ehwithau wneuthur hyn, ac felly deall wrth brawfynoch eich hunain, a gallu dangos yn eglur i e­raill, wîrionedd a sicrwydd yr hyn a glywsoch yn awryng hylch y Gwe­ddiau Cyffredin, mi ddeisyfafarnoch ganlyn yr chydig Reolau hyn wrth eu harfer.

[Page 84] Yn gyntaf, na ddeuwch i'r Gwa­sanaeth yn unig o ran defod ac arfer, fel y gwnâ rhai, ond o ran cywir Usudd-dod i Orchmynnion Duw, a chyd â hyder ac ymddiried siccir yn ei Addewidion êf am ei Fendith ar eich Gwaith. I'r diben hynny, se fyddai da i chwi, wrth fyned i'r Eglwys, feddylied i bae le yr ydych yn myned, a pha bêth sŷdd gennych iw wneuthur yno. Fel y galloch yn y môdd hynny, gan swrw hei­bio bôb Neu, fasnach. gwaith arall; osod eich hunain mewn tymher gymwys er­byn cymmaint Gorchwyl.

Yn ail, Cyrchwch i'r Gwasanaeth cyn fynyched ac y galloch yn gy­flêus. Pa fynychaf y byddoch ar­no, goreu i gîd yr hoffwch chwi êf, a mwyaf i gîd y cewch eich A­deiladu trwyddo. Am hynny, nac ymfodlonwch wrth ei wrando êf unwaith yn yr Wŷthnos, pan all­och yn fynychach. Yn Ninas Lun­dain, megis mewn amryw leoedd eraill o'r Deyrnas, yn enwedig Ile y mae Eglwysi Cadeiriol, neu Hynny yw, yn perthyn i Goleids. Go­legawl; [Page 85] ac (yr wŷf ynbwrw, o'r lleiaf) yn y cyfryw leoedd yn Nhywysogaeth Cymru; [a gresyn yw na bae mewn mwy o leoedd] fe eill Pobol yno gael ei lês êf ar Gy hoedd Ac felly yn Eglwys yr Awdwr. ddwy waith bôb Dŷdd, ac felly gadw eu Calonnau yn oesta­dol mewn tymher Sanctaidd a Ne­folaidd, a byw bôb amser fel y gweddai i Gristianogion. Ac os chwi a esgeuluswch yr odfâu a osodir yn awr, ac o hyn allan yn eich Dwylo chwi, chwi a ddy­munwch ryw amser na buasech yn gwneuthur felly: Ond ofer a fydd dymuno y prŷd hynny.

Yn drydydd, Os bydd bossib'l, deuwch yn wastad ar ddechreu'r Gwasanaeth. Onid ê, chwi yn ddi­ai a gollwch ryw bêth a allasai eich Adeiladu chwi; a hwnnw, ysgat­fydd yn gyfryw bêth, ac allasai ar hynny o amser wneuthur i chwi mwy o ddaioni na'r llall i gŷd. A chwi a gollwch, nid yn unig lês rhan o honow, ond mewn rhyw fesur lês y cwbwl hefyd; am fôd [Page 86] hôll rannau'r Gwasanaeth wedi eu cydio yng hŷd yn y fâth ddull a threfen ragorol, onid yw y naill yn cymmorth y llall; fel nas dychon dim gael ei adael heibio, na chan y Gweinidog na'r Bobol, heb gam­weddu 'r cwbwl, a gwneuthur iddo golli pêth o'r grym a'r rhinwedd a gaffent ynddo o'i gwbwl-gyflawni êf.

Yn bedwerydd, Trwy'r amser y byddoch yn Nhŷ Duw, ymddy­gwch megis yn ei ŵydd yspysol êf, ac fel y gweddai i'r Gwaith yr y­dych yn ei gylch: Yn fefyll tra fy­ddoch yn Moliannu Duw, yn Pen­linio tra fyddoch yn Gweddio arno; fel y mae'n Heglwys ni yn eich cyfarwyddo chwi. Canys er y dych­on y pethau hyn ymddangos yn fy­chain ynddynt eu hunain, er hynny y maent hwy o fawr gyfrif tuag at Addoli Duw yn gymwys; ac er i ninnau gael ein Hadeiladu wrth ein gwaith, fel y danghosais o'r blaen.

[Page 87] Yn ddiweddaf, Cymerwch ofal da o hŷd i gadw eich Meddyliau yn ddyfal yng hylch y pêth a fo yn llaw gennych. Pan fyddoch yn Cyffessu eich Pechodau wrth Dduw, gwnewch hynny gyd ag Edifeirwch calonnog, di-ragrith, am Gyfeilior­ni eich Buchedd a aeth heibio. Pan ddadcaner y Gollyngdod, derbyni­wch êf gyd â Ffŷdd siccyr, ddi-ys­gog, yng Rhîst eich Iachawdwr. Pan fyddoch yn dwedyd, neu yn canu y Mawl-ganiadau a'r Psalmau, cyfodwch i fynu eich Ysprydoedd cuwch ac y galloch chwi i gŷd-foli­annu, ac i gŷd-fawrhâu y Tragwy­ddol Dduw, â'r rhai sŷdd yn gwneu­thur hynny yn y Nefoedd. Pan ddarllennir Gair Duw, gwrandewch yn ddyfal arno êf, ac ystyriwch yn bryssur, pa bêth y mae yr hwn a'ch gwnaeth chwi yn ei ddwedyd wr­thych, ac yn ei ofyn gennvch; ac ymrowch trwy ei Fendith êf i gre­du ac i fyw yn ôl hynny. A thrwy 'r amser ac y byddoch ar eich Glin­iau yn gwneuthur eich Erfynniau ar [Page 88] y Goruchaf Dduw, bydded eich hôll Eneidiau ar waith, gan daer-er-fyn y pethau daionus y byddoch yn gweddio am danynt ar ei ddwylo grasol êf, a chan ymddiried yn o­styngedig ar ei gywir Addewidion êf, am eu cennadu hwynt i chwi. Yn y môdd hyn, chwi a gyflawn­wch Resymmol Wasanaeth i Dduw, ac yn ganlynol, y cyfryw ac a fo cymeradwy iawn ganddo êf, ac mor Ilesiol ac Adeiladus i chwi 'ch hu­nain. Lle nis gellir dwedyd yn gymwys am y rhai nis canlynant y Rheol hon, eu bôd hwy yn Gwe­ddio, neu yn Gwasnaethu Duw ôll. Ac am hynny nid rhyfedd eu bôd hwy yn dyfod i'r Eglwys, ac yn gwrando darllain y Gweddiau Cy­ffredin, ac er hynny heb gael dim Adeiladaeth oddiwrthynt. Nid yw bossib'l yn wîr iddynt gael: gan fôd yr hôll leshâd a'r Adeiladaeth sŷdd bossib'l i ni ei dderbyn o­ddiwrth nêb-rhai o'n Defosionau, yn sefyll gan mwyaf ar ddyfal­rwydd ein Meddyliau ni yn ei cy­flawni [Page 89] hwynt. I'r hyn, fell y dang­hosais i, y mae Fsurf o Weddi yn gyffredinol, a'r Ffurf honno sŷdd gennym ni yn nailltuol, yn gynorthwy mawr iawn.

Dilynwch y Rheolau hyn sŷdd eglur, ond angenrhaid wrth ar­fer y Gweddiau Cyffredin (ac heb hyn nis gellir dwedyd yn wîr eich bôd yn eu harfer, ond yn eu cam­arfer hwynt) a chwi yn ebrwydd a gewch weled yn wîr yr hyn a ddwedais yn eu cylch hwynt, sef, bôd pôb pêth ar a wneler ynddynt, er Adei­ladaeth. Ac am hynny mi a ddy­munwn ar Dduw fôd, nid yn u­nig i chwi-sŷdd yn fyng wrando ar hyn o amser, ond hefyd i bawb trwy'r Wlâd gymeryd unwaith eu hannog i wneuthur felly. Cyn Sancteiddied Gened'l, cyn Brio­doled Bobol [i Dduw] y gwnae hynny i ni fôd! Mor Grefyddgar yr aem tuag at Dduw! Mor gy­wir i'n Brenin! Mor Gyfiawn a Chariadus y naill i'r llall! Canys wrth ein gwaith yn manwl- Addo­li [Page 90] Duw Hollalluog yn y cyfryw ddull Parchedig a Defosiono lac y­dyw hwn, ein Calonnau ni a ged­wid mewn cymmaint ofn o Fawr­hydi Duw, nas beiddiem ûn amser o'n gwîrfodd ei anfodlôni êf. Ein Meddyliau ni a lenwyd yn gyflawn o'r cyfryw Deimlad o'i Allu a'i Oruchafiaeth êf, ac a wnae i ni an­rhydeddu a pherchi y rheini, yn y rhai hefyd a osododd êf yn [Lly wodraethwyr] arnom ni. Ein hôll Eneidiau ni a dderchefyd gymmaint uwchlaw 'r Bŷd, nas gwnaem ni ûn weithred ddrwg er ei ynnill êf yn gyfan i ni 'n hunain. Ar fyr, ni a Adeiladyd fwy-fwy beunydd mewn Ffŷdd, mewn Cariad, mewn Go­styngeiddrwydd, mewn Hynny yw, i wa­du ein hu­nain. Hûn-ym­wâd, mewn Cymhedrolder, mewn Amynedd, mewn pôb cywir Râs a Rhinwedd dda; ac felly ni a aem o rym i rym, o'r naill radd o Râs i'r llall, nes i ni o'r diwedd gyrhaeddid Gogoniant a Pherffei­ddrwydd yn y Nefoedd uchaf, lle y cawn ni dreulio Tragwy­ddoldeb [Page 91] ei hûn yn Moliannu ac yn Addoli y Goruchaf Dduw, megis am bôb Trugaredd arall a ganiad­haodd êf i ni, felly mewn môdd nailltuol am ein bôd ni yn Aelodau o'r cyfryw Eglwys Apostolaidd, ym ha ûn y gwneir pôb pêth er Adeila­daeth.

A hyn Duw o'i Drugaredd anfei­drol a wnelo i ni bawb ei wneuthur yn, a thrwy ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grîst, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Yspryd Glân y byddo'r hôll Anrhydedd a'r Gogoniant bŷth heb ddiwedd. Amên

TERFYN.

YPADER, NEU, Weddi 'r Arglwydd.

EIN Tâd yr hwn wyt yn y Ne­foedd. Sancteiddier dy Enw; Deued dy Deyrnas. Bid dy E­wyllus ar y Ddaiar megis y mae 'n y Nefoedd. Dyro i ni Heddyw ein Bara beunyddiol. A maddeu i ni yn Dyledion, fel y meddeuwn ni i'n Dyledwyr: Ac nac arwain ni i Bro­fedigaeth; Eithyr gwared ni rhag Drwg: Canys euddo ti iw'r Deyrnas, y Gallu a'r Gogoniant; yn Oes oe­soedd. Amên.

Y Gredo.

CRedaf yn Nuw Dâd ôll gyfoeth­awg, Creawdwr Nêf a Daiar. Ac yn Iesu Grîst ei ûn Mâb êf, ein Harglwydd ni: yr hwn a gâed trwy yr Yspryd glân, a Aned o Fair For­wyn: a ddioddefodd dan Bontiws Pilatws, a Groeshoeliwyd, a fu Farw ac a Gladdwyd, a ddescynnodd i Ʋfern, y Trydydd Dydd y cyfododd o feirw; a escynnodd i'r Nefoedd, ac y mae yn eistedd ar ddeheu-law Dduw Dâd ôll gyfoethawg; Oddi yno y daw i farnu byw a meirw. Cre­daf yn yr Yspryd glân, yr Eglwys lân Gatholic, Cymmun y Sainct, Maddeu­ant Pechodau, Cyfodiad y Cnawd, a'r bywyd Tragwyddol. Amên.

Y Deg Gorchymmyn.

YRhai hynny a lefarodd Duw yn yr ûgeinfed Bennod o Exodus, gan ddwedyd, Myfi yw'r Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddûg di ymmaith o dîr yr Aipht, o dy y Caethiwed.

I. Na fydded i ti dduwiau eraill onid myfi.

II. Na wna it dy hûn ddelw gerfie­dic, nallûn dim ac y sydd yn y nefoedd uchod, neu yn y ddaiar isod, nac yn y dwfr tan y ddaiar. Na ostwng i­ddynt, ac na addola hwynt: oblegit myfi yr Arglwydd dy Dduw wyf Dduw eiddigus, yn ymweled à Phechodau'r Tadau ar y Plant, hyd y drydedd a'r bedwaredd Genhedlaeth o'r rhai am casânt, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai am carant, ac y gad­want fyngorchmynnion.

III. Na chymmer Enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer, canys nid gwirion gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei Enw êf yn ofer.

[Page 95] IV. Cofia gadw yn sanctaidd y dydd Sabbath. Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy hôll waith: eithyr y seith­fed dydd yw Sabbath yr Arglwydd dy Dduw: ar y dydd hwnnw na wna ddim gwaith, tydi, na'th fâb, na'th ferch, na'th wâs, na'th forwyn, na'th anifail, na'r dyn dieithyr a fyddo o fewn dy byrth, canys mewn chme di­wrnod y gwnaeth yr Arglwydd nêf a daiar, y môr, a'r hyn ôll sydd ynddynt, ac a orphwysodd y seithfed dydd. O herwydd pa ham y bendithiodd yr Ar­glwydd y seithfed dydd, ac a'i sanctei­ddioddêf.

V. Anrhydedda dy Dâd a'th Fam, fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddai­ar, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

VI. Na Ladd.

VII. Na wna odineb,

VIII. Na Ledratta.

IX. Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy Gymmydog.

X. Na chwennych Dû dy Gymmy­dog, na chwennych Wraig dy Gymmy­dog, [Page 96] na'i Wâs, na'i Forwyn, na'i Ych, na'i Assyn, na dim ar sydd eiddo.

Arglwydd trugarhâ wyrthym, a scri­fenna yr holl ddeddfau hyn yn ein Ca­lonnau, ni attolygwn i ti.

2 Cor. 13. 14. ‘RHâd ein Arglwydd Iesu Grîst, a serch Duw, a chymdeithas yr Yspryd glân, a fyddo gydâ ni ôll bŷth bythoedd. Amên.’

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.