[Page] NEWYDDION MAWR Oddiwrth y Ser.

Neu ALMANACC Am y Flwyddyn o oedran Y Bŷd, 5647, Crist, 1698.

Yn Cynwŷs Pôb pêth ar a Berthyno i Almanacc;

At yr hwn a chwanegwŷd Ffeiriau Cymru, a rheini o ffeiriau Lloeger ar sŷdd yn agos i Gymru: A Charol; a Dyriau [...]ewŷddion.

Y Pedwaredd-ar-bymtheg o wneuthuriad Tho. Jones

AT Y DARLLENYDD

Y Cymru mwynion.

NId wŷf yn ammeu nad oedd rhai yn Teuru wrthŷch ddarfod i mi yn fy Almanacc y llynedd edliw i Chwi i gŷd eich diystyrwch o'r Gymraeg, a'ch difenwi oll drwŷ eiriau diflas anweddaidd yn y Saesnaeg oedd yn niwedd yr Almanacc hwnnw; Ni feiais if ar neb yno ar oedd yn Caru Cymraeg, ac yn hoffi gonestrwŷdd; Ond y llythŷr hwnnw a yscrifennais at y Cymru sŷdd yn diystyru, ac yn casau yr Iaith Gymraeg; Ac yn ffiaidd Ganddŷnt bawb a'i trino: Ond cywilyddus i neb wrthwŷnebu iaith eu Mam? A ffieiddio yr hwn a'i hymgleddo? a dyfeisio pôb anwiredd cywilyddus yn ei erbŷn? Dymma'r Achosion a wnaeth i mi yrru y llythŷr Saesnaeg hwnnw at y Cymru saisnigaidd, sŷdd yn eu tybiaid eu hunain yn rhŷ foneddigaidd i ddarllain cymraeg, I dalu'r fâth ddiolch i rheini am eu cariad ag a hauddent.

Heblaw y rheini, i mae llawer o Siopwŷr Cymru yn ceisio mygu a diddymmu'r Gymraeg, drwŷ nagcau prynnu y llyfrau a ddêlont allan i wasanaethu eu cym­ydogion a hwŷnt am eu harian: Ac am hynnŷ Dymuno yr wifi ar y Cymru (a ewŷllysio gael y llyfrau Cymraeg a henwir yn niwedd y llyfr hwn &c.) Geryddu y Siopwŷr a adawont ar y wlâd eu heisiau, drwŷ esgeuluso eu prynnu pan allont eu cael ar bris gweddaidd, fel a byddant bob Blwŷddŷn ar gynnig iddŷnt (yn y ffeiriau, a'r mannar a henwir ar y ddalen ddiweddaf o'r llyfr hwn;) drwŷ Arlwŷad neu ddarpariad

Eich Gwasanaethwr Gostyngedig Thomas Jones.

Y Rhyfeddodau, a'r Troiadau a ddigwŷddasant yn y Bŷd Rh [...]ng yr amser yr Yscrifennais yr Almanacc am y Flwŷddŷn 1697, a'r amser yr yscrifennais yr Almanac hwn.
Y dŷdd o'r mîs sŷdd wrth ddechreu y chwedlau.

MAI. 1696.

7. Bŷ Farw y Frenhines weddw o Spaŷn, yn spaŷn. 18. Mêllt a nynnodd dân yn y Ddinas fawr a elwir Novograd, yngwlâd Muscovy; Ac a Losgodd o dai ynddi ynghŷlch 19000. Ac a laddodd o bobl ynghŷlch 1700. Ac efrŷdd o ddodren a golud a losgodd hefŷdd.

22. Digwŷddodd Tân wrth Rissiau Wapin yn Llundain, yr hwn a losgodd o Dai 41. Ac un Llong.

23. Mêllten a dorodd y Ceiliog gwŷnt ar Glochdŷ Newport, yn Sîr y Mwŷthig; ac a nynnodd Dân yn y to plwm oedd ar yr Eglwŷs. A pha mwŷa a fwrieu'r bobl o ddŵr iw ddiffodd, mwŷa a nynneu'r tân; Ac yn y diwedd (drwŷ gyngor rhŷwun) Tywallted llaeth i ddiffodd y tân: a hynnŷ a'i diffoddodd yn fŷan.

30. Bŷ farw Arglwŷdd Capel, Debuty y Werddon. Y Cornwŷd oedd yn wŷllt yng-wlâd yr Aipht, or hwn a bu farw mewn un dŷdd, yn Ninas Grancaero ynghŷlch 3000, o bobl, ac yn Ninas Alexandria ynghŷlch 100, yn y dŷdd.

MEHEFIN. 1696.

2. Brenin Ffraingc a gynygiodd heddwch i'r Dûc o Savoy.

7. Bŷ farw Brenin Poland, arol hanner blwŷddỿn o afiechŷd.

19. Bŷ Daiar Crŷn yn Waymouth, a thros lawer o Filltyroedd yng-orllewŷn Lloeger, ac a fwriodd i lawr Ddasau o fawn, a rhai Tai.

GORPHENNAF. 1696.

1. Brenin ffraingc ar Dûc o Savôy a Gytunasant i roddi eu harfau i lawr dros 30. o ddyddiau.

Llongau Lloeger a diriasant filwŷr mewn 4 neu 5 o [Page] ynŷsoedd yn ffraingc, ac a losgasant ynghŷlch 20. o Bentrefŷdd, yn cynwŷs ynddŷnt ynghŷlch 15 Cant o Dai, a llawer o ŷd a Gwair: Ac a laddasant, ac a gym­erasant 1600. o enifeiliaid; Ac yn fŷan ar ol hynnŷ llosgasant hefŷd Ddinas Saint Martŷn yn ffraingc.

Brenin ffraingc y drydedd waith a gynygiodd heddwch i'r Aliwns.

AWST. 1696.

Cododd cynwrf mewn trêf a elwir ffrŵm, yngorllewŷn Lloeger, rhwng y Cigyddion a'r milwŷr, ynghŷlch gwrthod yr hên Arian; Ac yn yr ymrafael lladdwŷd un Canwriad, ac ynghŷlch 60. o wŷr eraill.

Bŷ ymladdfa Rhwng yr Emprwr o Germani, a'r Tyrkied, yn agos i Ddinas Tameswâr: yn yr ymladdfa hon lladdwŷd o'r Tyrkiaid ynghŷlch naw mil, ac o'r Germŷn ynghŷlch pum mil; A'r Tyrkiaid a Gollasant y maes

31. Cyhoeddwŷd heddwch yn ffraingc, rhwng Brenin ffraingc ar Duc o Savoy.

MEDI, 1696.

Digwŷddodd Tân yn Wolverhamton, yn Sir y Mwŷthig, ac a Losgodd ynghŷlch 100. o Dai: y Tân a fagodd mewn dâs o Glover a wneuthbwŷd i fynu yn rhŷ wlŷb.

Morfarch o ddau-naw llâth o hŷd, a ddaeth i'r lan yn Scotland.

Brenin Spain a syrthiodd yn Glâf o'r Crud; a thrwŷ gymerŷd y Jesuits Powder, cadd ymwared a'i ddolur dros amser.

Gwŷr ffraingc, a'u llongau Rhyfel, a gymerasant 33. o longau Lloeger, wrth Newfound-land yn y West-indias, Ac a losgasant lawer o drefŷdd yno a berthyneu i Loeger.

HYDREF, 1696.

Brenin spaŷn a syrthiodd yn glâf drachefen.

TACHWEDD, 1696.

4. Parliament Lloeger a ddymunasant ar y Brenin, yspysu iddŷnt pa faint o Arian a wasanaetheu i Ganlŷn y Rhyfel dros un Flwŷddŷn ymhellach yn erbŷn ffraingc. A'r Brenin a yspysodd iddŷnt pa Gost a fuaseu iddo y Flwŷddŷn o'r blaen; Ac a ddywedodd wrthŷnt, mae'r [Page] un faint o Arian a wasanaetheu iddo y Flwŷddŷn oed [...] yn dyfod; A hynnŷ fel a canlŷn.

i Gadw 40000. o Forwŷr dros 13. o Fisoedd, (ynol 4 l. a 5 s. y mis i bob un) 2210000. o bunodd.

i ordinary y Navy 85740. o bunoedd.

i swŷddogion y ddwŷ-fil o filwŷr ar y môr. 16972. o bunau.

Am gadw cyfri o'r morwŷr, a'u perthŷnaseu 59485. o bunnau.

i dalu i 87440. o Filwŷr Tir, yn wŷr meirch, a gwŷr traed, drwŷ gyfri'r swŷddogion a'r cyfan sŷdd dan daledigaeth y Brenin yn Lloeger, a thros y môr. 2007882 o bunnau.

i dalu am amrŷw o bethau eraill a ddigwŷddo wrth ganlŷn y Rhyfel. 500000. o bunnau.

Y Milwŷr sŷdd dan daledigaeth y Brenin ar fôr a thîr ydŷnt 127440, o wŷr.

Yr Arian (a ddywedodd y Brenin) a wasanaetheu i ganlŷn y Rhyfel dros un Flwŷddŷn ŷw 4880079. o Bunnoedd.

Y Parliament arol i'r Brenin yspysu iddŷnt pa faint o Arian a wasanaetheu, A ymroesant, ac a addawsant roddi i'r Brenin i ganlŷn y Rhyfel yn erbŷn ffraingc dros y Flwŷddŷn 1697. o Bunnau 4880079.

Brenin spaŷn a glafychodd y drydedd waith.

Llong a 82. o bobl ynddi (yn myned o Loeger i'r Werddon) a suddodd wrth Ddulŷn, a boddodd yr holl bobl onid 2.

RHAGFYR, 1696.

6. Bŷ farw Arglwŷdd Canghellwr y Werddon, Sr. James Porter.

27. Digwŷddodd Temhestl fawr, o Fêllt a thyranau, a Gwŷnt, a Gwlaw, yn cyrrudd o orllewŷn Lloeger i eithaf spaŷn: y mêllt a doddasant rai o'r Gynnau Canans yn y drêf a elwir Pendenis yngorllewŷn Lloeger; A'r Gwŷnt a ddinistrodd ac a suddodd lawer o Longau 'rhŷd ochor ffraingc; Ac a fwriodd i lawr lawer o Adeiladaeth Cryfion yn spaŷn.

JONAWR, 1697.

15. Yr Afon Jarroline yn Scotland a sychodd yn hesp, dros badair Awr.

21. Cododd llu o Wehyddion sidan yn Llundain, ynghŷlch Dêg-mîl o rifedi, a'u gwragedd▪ Ac a aethant yn unol at y Parliament, i ddymuno arnŷnt wneuthur Gweithred o gyfraith yn erbŷn y Marsiandwŷr oedd yn dyfod a sidanau wedi eu gweu i'r Deŷrnas hon: ac yn erbŷn dyfod a Chalico brîth i'r Deŷrnas, yr hŷn oedd yn anrheithio Crefft y Gwehyddion hŷnnŷ: Ar Parliament a wnaethont eu dymuniad hwŷnt.

22. Arian Lloeger a wastadlwŷd yn Scotland wrth bwŷsau: yr hên Arian am 5s. a 4d. yr Owns. Ar Arian newŷdd am 5s. a 5d. yr Owns.

24 Cododd Temhestl o Wŷnt Rhyfeddol ynghŷlch Llundain, ac a daflodd Rai o'r Llongau o'r afon i'r lan.

30. Digwŷddodd Temhestl fawr o Wŷnt a Gwlaw, a Mellt a Thyranau yn Rhufain; yr hŷn a daflodd i lawr lawer o Adeiladaeth, ac a ddadwreiddiodd 600, o Goed, gan eu taflu 30. o lathennau o'u llê.

CHWEFROR, 1697.

O Ganol y mîs diweddaf, i ganol hwn, bŷ farw o bobl (yn Livonia yngwlâd Poland) 18000. drwŷ newŷn ac eisieu.

Gwŷr ffraingc a Gymerasant ar y môr 28 o Longau Lloeger, a 19 o Longau Holand, y rhain oedd yn myned o'r Werddon i fflanders ag ymborth i'r mîlwŷr.

MAWRTH, 1697.

Llongau Spaŷn a ddaethant adref, a Mŵn Arian ynddŷnt werth 2000000 o Bunnoedd,

Y Gwehyddion a godasant drachefen yn Llundain, ac a osodasant ar rai o wŷr y Parliament, ac ar eu tai, Ar Parliament a ddymunasant ar y Brenin eu gostegu, ac fellu a gwnaeth ef, drwŷ yru y mîlwŷr a'r Traŷn band yn eu herbŷn; Rhai o honŷnt a ladded, a rhai a friwed, a llawer a ddalied ac a yrwŷd ir môr i ymladd yn erbŷn ffraingc.

Pump o Longau marsiandwŷr Lloeger, ac wŷth o Longau marsiandwŷr Holand, (a thair o Longau Rhyfel gyda hwŷnt) [Page] wrth ddyfod adref yn llwŷthog, o Bilbo yn Spaŷn, Cyfarfodasant a 9 o Longau Rhyfel ffraingc; y naw hynnŷ a'u cymmerasant oll, ac a'u dygasant i ffraingc.

Bŷ farw Arglwŷdd Berkley, Admiral neu benswŷddog y môr dan y Brenin Wiliam.

Brenhines Poland a syrthiodd yn glâf.

EBRILL, 1697.

Pedair o Longau Rhyfel Lloeger, a gymmerasant, ac a suddasant ynghŷlch 40. o Longau ffraingc, y rhain oeddŷnt yn llwŷthog o ŷd a Halen, yn myned adref i ffraingc.

Tarddodd tân yn Westminster yn Llundain: yr hwn a losgodd 22. o dai, Ac a golledodd y bobl wŷth mil o bunnau.

11. Bŷ Temestl anferth o Fêllt a Thyranau, a gwlaw, yn Luxenburgh, yn Germany; trwŷ yr hŷn a boddodd 50. o Filwŷr, a 2000 o Ddefaid, o fewn 2 filltir i Laroche; A thaflodd i lawr amrŷw o Gestill, ac Eglwŷsŷdd a thai.

15. Bŷ farw Brenin Swedland, Charles yr XI. yr hwn a aned Rhagfŷr 4, 1655. A Goronwŷd 1660. Ac a adawodd y goron iw unig Fâb Charles, yr hwn a anwŷd y 27. o Fehefin 1682.

Y bobl gyffredin yn Livonia yngwlâd Poland, (o achos newŷn ac eisieu) a godasant; ac a yrasant i ffoi 3000. o wŷr a yresid iw gostegu.

Brenin spaŷn a glafychodd drachefen.

MAI, 1697.

4. Daeth y newŷdd fod y newŷn yn chwanegu yn Livonia, ac yn Finland yn Swedland; Ac na welodd y neb a dramwŷodd y wlâd honno, mewn 40. o Filltyroedd neb yn fŷw, ond mewn un pentref un gŵr a'i blant yn ymborthi ar furgŷn, A phlentŷn bâch yn cnoi bron ei fam farw.

5, Pedair o Longau Rhyfel ffraingc, a osodasant ar lawer o Longau marsiandaeth Lloeger, (y rhain oedd yn myned o Loeger i Barbados) ac a gymerasant 14, o honŷnt ac a'u dygasant i ffraingc, ac a ddinistriasant amrŷw eraill o honŷnt, ac a Laddasant o wŷr Lloeger 150, ac a friwasant lawer mwŷ.

5. Gwŷr ffraingc a amgŷlchasant drêf gadarn yn fflanders a elwid Aeth, ac a'i cymmerasant mewn 3 wŷthnos o amser.

[Page] 6. Gwŷr ffraingc a gynŷgiasant roddi yr arfau i lawr, a'u gwrthwŷnebwŷr a nagcausant gydtuno i hynnŷ.

Brenhines Spaŷn a galfychodd drachefen o'r crŷd.

Clafychodd ein Brenin Wiliam ar ôl iddio dirio yn Holand, ac a wellhadd yn fŷan drwŷ ollwng gwaed.

10. Digwŷddodd Tân mewn trêf a elwir Segedin, yn Germany, (drwŷ ddiofalwch y mîl-wŷr yn Cymerŷd Tabacco) ac a Losgodd mewn tair awr y Castell a llawer o dai, a naw mîl sachaid o ŷd a blawd, a llawer o wair, a chyfreidiau eraill i'r mîlwŷr a'u meirch.

17. Digwŷddodd Tân yn Stockholm, ac a Losgodd Lŷs Brenin Swedland, a llawer o'r Ddinas hefŷd.

25. Ennynnodd tân drachefen yn Stockholm mewn 3 o fannau ar unwaith, ac a losgodd y Ddinas agos i gŷd, a daliwŷd amrŷw o ddieithred yn y Ddinas, ymhylîth y rheini i roedd amrŷw o wŷr ffraingc, Ac i'r oeddid yn credu mae hwŷnt a wnaetheu y direidi.

26. Y Frenhines weddw o Spaŷn, a syrthiodd yn glâf.

28. Daeth y newŷdd drachefen fod y newŷn yn chwanegu [...]n ffinland a Livonia, a bod farw o hono Gan-mîl o [...]obl.

MEHEFIN, 1697.

Yr ail dŷdd. 33000. o wŷr ffraingc a amgylchasant Ddinas Barcelona yn Spaŷn, arfeder ei chymmerŷd wrth nerth eu harfau.

Gwnaed y Duc o Luxenburgh yn Frenin Poland.

Rhai o Longau Lloeger a gyfarfodasant a llongau ffraingc ymhell oddiwrth dir, ac a ymladdasant; y Saeson a gymerasant 5, ac a suddasant 2 o Longau ffraingc; ac a wnaethant i'r lleill oll ddiangŷd.

Daeth y newŷdd i Loeger ddarfod i wŷr ffraingc ymadel a New-found-land, yr hon a gymerasent oddiar y Saeson yn y Westindia yn mîs Medi 1696.

O Ganol mîs Ebrill i ganol y mîs ymma, bu llawer o Demhestlau mawr (mewn amrŷw o fannau yn Lloeger a Chymru) o Eêllt a thyrannau, a Gwlaw a chenllŷsg anferth o faint; Rhai o'r Cenllŷsg oedd naw neu ddeg o fodfeddau o amgŷlch; yn lladd defaid a gwŷddau, ac yn dinistrio'r ydau.

[Page] Ni bu odid o wŷthnos yn y Flwŷddŷn nad oedd Gwŷr Lloeger yn colli rhai llongau, ac yn Cymmerŷd rhai eraill oddiar wŷr ffraingc, feswl un neu ddwŷ neu dair ar unwaith; ped faswn yn ysgrifennu y cwbl ymma, buaseu yn llenwi y llyfr hwn i gŷd.

Y Newŷddion hŷn, a llawer mwŷ a gyhoeddwŷd 'rhŷd Lloeger yn Brintiedig bob wŷthnos yn eu cwrs, fel a digwŷddasant.

Y nodau Cyffredinol am y Flwŷddŷn 1698.

Y Prîf, neu'r Euraid Rifedi, ŷw
8.
Yr Epact, neu'r Serrit, ŷw
28.
Llythyren y Sul ŷw
B.

Dechreu a diwedd y Tympau Cyfraith yn Llundain yn y Flwŷddŷn 1698.

  • Tymp Elian sŷ'n dechreu Jonawr 24. Diweddu Chwefror 12
  • Tymp y Pasc sŷ'n dechreu Mai 10. Diweddu Mehefin, 6.
  • Tymp y Drindod sŷ'n dechreu Mehefin 24. Diweddu Gorph. 13.
  • Tymp Mihangel sŷ'n dechreu Hydref 24. Diweddu Tachwedd 29

Y Diffŷgiadau a ddigwŷddant yn y Flwŷddŷn 1698.

YN y Flwŷddŷn hon bŷdd dau o ddiffŷgiadau, a rheini ar yr Haul.

Y cyntaf a fŷdd y dŷdd diweddaf o Fîs Mawrth, ynghŷlch machlud Haul, ac am hynnŷ ni welir mono gyda ni. Ond bŷdd yn ddiffŷg mawr iawn.

Yr ail diffŷg a fŷdd y 24. dŷdd o Fedi, ynghŷlch pedwar y boreu, ac am hynnŷ ni welîr mono yn y Gwledŷdd ymma, ond bŷdd Diffŷg mawr iawn.

Esponiad dalennau'r mîsoedd, a'u Deunŷdd

Y Flwŷddŷn a ranwŷd yn 12 o fisoedd, ac i bôb mîs ☉ honŷnt i mae un tu dalen yn perthŷn. A'r tu dalen hwnnw a ranwŷd yn saith o golofnau neu resau.

1. y golofn gyntaf (neu'r nesaf at y llaw aswŷf) sŷ'n dangos dyddiau'r mis yn eglur ffigurau.

2. yr ail golofn sŷ'n dangos dyddiau'r wŷthnos yn gyflawn eiriau.

3. y drydedd golofn sŷ'n Cynwŷs y dyddiau Gwŷlion, a'r dyddiau hynod: a Thremiadau 'r planedau; ac ymha Arwŷddion, a graddau or Arwŷddion a bônt yn cael eu tremiadau. Y Dyddiau Gwŷlion a argraphwŷd a llythyrennau duach a mwŷ na'r lleill. Lle na bo lle i roddi tremiad y planedau gyferbŷn ar dŷdd a digwŷddont; Gosodais ffigur o flaen y tremiad i nodi'r dŷdd a bo'r tremiad yn digwŷdd arno; megis a gwelwch gyferbŷn a'r 3 dŷdd o Jonawr, 1. ⚹ ☉ ♃. ♑ ♏ 22, yn dangos i chwi fod y Tremiad hwnnw yn syrthio ar y dŷdd cyntaf o Jonawr; A bod yr ☉ yn y 22 gradd o ♑. a ♃ yn y 22 gradd o ♏.

4. Y bedwaredd golofn sŷ'n dangos symmudiad yr Arwŷddion ynghorph dŷn ac anifail; fel a gwelwch y leni gyferbŷn ar Cyntaf, a'r ail o ddyddiau Jonawr y Gliniau a'r Garrau yn y bedwaredd Golofn, yn dangos i chwi fôd yr Arwŷdd y dyddiau hynnŷ yn y Gliniau a'r Garau: Y deunŷdd a wneir o symmudiad yr Arwŷddion, ŷw, i ddangos

Yr amser cyfleus i gweirio, ac i ollwng gwaed fel a canlŷn.

Os cweirir anifeiliaid pan fo'r arwŷdd yn yr arphed, y Galon neu'r Cefen, neu yn y Cluniau; diameu a bŷdd rhai o honŷnt feirw; ond pan fo'r Arwŷdd mewn rhŷw fan arall, bŷdd Cyfleus i gweirio neu dori ar anifail.

[Page] Peryglus ŷw gollwng gwaed ar ddŷn, neu anifail (yn enwedig ar ddŷn) pan fo'r Arwŷdd yn yr aulod neu'r man a Gollynger gwaed o hono; o herwŷdd fôd yr arwŷdd yn Cŷdlifo sûg a lleithder y Corph i'r aelod neu'r man a bô ynddo, ac yn peryglu pydru r man a dorrer, neu a friwer pan fo'r arwŷdd ynddo.

5. Y bumed golofn sŷ'n dangos oed y Lleuad bôb dŷdd; Gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch o Fîs, Cewch (yn y bumed golofn) pesawl dŷdd oed a fo'r Lleuad y dŷdd hwnnw.

6. Y chweched Golofn sŷ'n dangos yr Awr a'r Munŷd a Codo yr Haul bôb dŷdd trwŷ'r Flwŷddŷn; gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch cewch yr awr tan A. a'r munŷd tan M. megis a gwelwch (yn y chweched golofn honno) gyferbŷn ar 22 dŷdd o Jonawr 7 tan A, a 30 tan M. yn dangos i chwi fôd yr Haul yn Codi 30. munŷd (neu hanner awr) wedi saith y 22. dŷdd o Jonawr.

7. Y seithfed Golofn sŷ 'n dangos machludiad yr Haul beunŷdd: ac yn yr un drefn a chodiad yr Haul cewch yr awr tan A. a'r munŷd tan M. gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch.

Oed y Lleuad bôb mîs a gewch ar ben ucha'r dal­ennau; a hynnŷ mo'r eglur a hawdd ei ddeall na bo raid mo'i ddatguddio yn eglurach i chwi. Ond am y munŷd a bo'r newid neu'r Llawn-lloned, neu chwarterau'r Lleuad; i roedd y llê yn rhŷ brin iw roddi ar lawr; Ac heblaw hynnŷ afreidiol i chwi gael y munŷd; Ond y dŷdd, a'r awr nesaf at y munŷd (pa un bynnag ai o'i ôl, ai o'i flaen) a gewch yn gywir bôb amfer.

JONAWR, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
oed y lleuad. dŷdd. awr.
newidio 02. 09. Bore
1. chwarter 09. 10. Bore
Llawn-lleuad 16. 06. Bore
3. chwarter 24. 06. Bore
oed lleuad bob dŷdd Haul yn Codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. symud yr Arwŷdd. A. M A. M
1 Sadwrn Enwaediad Crist. Gliniau 30 8 1 3 59
2 Sul. 2. Sul wedi'r natalic. garrau 1 8 0 4 0
3 Llun. 1. * ☉ ♃. ♑ ♏ 22. Coesau 2 7 59 4 1
4 Mawrth Mathusalem. coesau 3 7 57 4 3
5 Mercher Simon. Traed 4 7 56 4 4
6 Jou. Dydd Ystwyll. Traed 5 7 55 4 5
7 Gwener Cêd. Pen. ac 6 7 54 4 6
8 Sadwrn ☌ ♄ ☿. ♒ 9. wŷneb 7 7 52 4 8
9 Sul. 1. Sul wedi'r ystwŷll Gwddw 8 7 51 4 9
10 Llun. 9. △ ♂ ☿. ♎ ♒. 11. Gwddw 9 7 50 4 10
11 Mawrth Haul yn ♒. gwddw. 10 7 48 4 12
12 Mercher □ ♂ ♀. ♎ ♑. 12 Ysgwŷdd 11 7 47 4 13
13 Jou. Hilary. Elien. Braich 12 7 45 4 15
14 Gwener llar. Bronne 13 7 43 4 17
15 Sadwrn Morus. Dwŷfron 14 7 42 4 18
16 Sul. 2. Sul wedi'r ystwŷll Y cefen 15 7 40 4 20
17 Llun. □ ♃ ☿. ♏ ♒ 24. a'r galon 16 7 38 4 22
18 mawrth Prisca. y Bol, a'r 17 7 36 4 24
19 mercher ☌ ☉ ♄. ♒ 10. Perfedd 18 7 35 4 25
20 Jou. ffabian. Cluniau 19 7 33 4 27
21 Gwener Agnes. cluniau 20 7 31 4 29
22 Sadwrn * ♃. ♀. ♏ ♑ 25. cluniau 21 7 30 4 30
23 Sul. 3. Sul wedi r ystwŷll Arphed 22 7 28 4 32
24 Llun. 23. △ ☉ ♂. ♒ ♎ 14. Arphed 23 7 26 4 34
25 Mawrth Troiad St. Paul. Morddw 24 7 25 4 35
26 Mercher Polycarpus. -ŷdŷdd. 25 7 23 4 37
27 Jou. Joan. Crisostom Morddw. 26 7 21 4 39
28 Gwener Henry. Gliniau. 27 7 20 4 40
29 Sadwrn Valerius. Garrau 28 7 18 4 42
30 Sul. Merthŷr Charles. I. Coesau. 29 7 16 4 44
31 Llun. Mihangel. Coesau. 30 7 14 4 46

CHWEFROR, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
oed y lleuad. dŷdd. arw.
newidio 01. 01. Boreu
1. chwarter 07. 07. Nôs
llawn-lleuad 14. 10. Nôs
3. chwarter 22. 22. 12 Nôs
oed lleuad beunŷdd Haul yn codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Mawrth St. ffraid. Seiriol. Traed 1 7 12 4 48
2 Mercher Puredigaeth Mair. Traed 2 7 10 4 50
3 Jou. Blasti. Llywelŷn. Traed 3 7 9 4 51
4 Gwener □ ☉ ♃. ♒ ♏ 26. Pen, ac 4 7 7 4 53
5 Sadwrn ☌ ♄ ♀. ♒ 12. wŷneb 5 7 5 4 55
6 Sul. 5. Sul wedi'r ystwŷll Gwddw 6 7 3 4 57
7 Llun. △ ♂ ♀. ♎ ♒ 16. Gwddw 7 7 1 4 59
8 Mawrth ☌ ☉ ☿ ♓. 1. Ysgwŷdd 8 6 59 5 1
9 Mercher Einion Braich 9 6 57 5 3
10 Jou. Alexander Bronne 10 6 55 5 5
11 Gwener □ ♃ ☿. ♏ ♒ 27. Dwŷfro [...] 11 6 53 5 7
12 Sadwrn Cyhoedded Bren. Wiliam Cefen 12 6 51 5 9
13 Sul. 6. Sul wedi'r ystwŷll Calon 13 6 49 5 11
14 Llun. Valanteine. Y Bol, ar 14 6 47 5 13
15 Mawrth □ ♃ ♀. ♏ ♒ 27. Perfedd 15 6 45 5 15
16 Mercher Polychran Y Bol. 16 6 43 5 17
17 Jou. Hugo Cluniau 17 6 41 5 19
18 Gwener Undebŷst cluniau 18 6 39 5 21
19 Sadwrn Sabin Arphed 19 6 37 5 23
20 Sul. Sul Septuagesima. Arphed 20 6 35 5 25
21 Llun. 69. Merthyron. Arphed 21 6 33 5 27
22 Mawrth △ ♄. ♂. ♒ ♎ 14. Morddw 22 6 31 5 29
23 Mercher Egbert Frenin. -ŷdŷdd. 23 6 29 5 31
24 Jou. Gwyl St. Matthias Gliniau 24 6 28 5 32
25 Gwener 22. Peder gadeiriog a 25 6 26 5 34
26 Sadwrn Tyfaelog Garrau 26 6 24 5 36
27 Sul. Sul Sexagesima. Coesau 27 6 22 5 38
28 Llun. Libia. Coesau. 28 6 20 5 40

MAWRTH, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
newidio. 02. 08. Boreu
1. chwarter 09. 03. Boreu
llawn-lleuad 16. 03. prŷdnawn
3. chwarter 24. 06. prŷdnawn
newidio 31. 06. prŷdnawn
oed lleuad beunŷdd Haul yn codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud-Arwŷdd. A. M A. M
1 Mawrth Gwyl Ddewi. Traed 29 6 18 5 42
2 Mercher Cêd neu chad. Traed 1 6 16 5 44
3 Jou. Nou mam Dewi. Pen, ac 2 6 14 5 46
4 Gwener □ ♃ ☿. ♏ ♒ 27. Wŷneb 3 6 12 5 48
5 Sadwrn 6 △ ☉ ♃. ♓ ♏ 27. Gwddw 4 6 10 5 50
6 Sul. Sul Quinquagesima Gwddw 5 6 8 5 52
7 Llun. (neu Sul ynŷd. Ysgwŷdd 6 6 6 5 54
8 Mawrth Nôs ynŷd. Philemon Braich 7 6 4 5 56
9 Mercher Mercher y Lludw Bronne 8 6 2 5 58
10 Jou. Lazarus yn glâf Bronne 9 6 0 6 0
11 Gwener Grugor Y cefen 10 5 58 6 2
12 Sadwrn Gregory a'r 11 5 56 6 4
13 Sul. Sul Quadragesima. Galon 12 5 54 6 6
14 Llun. 13. △ ♃ ♀. ♏ ♓ 27 Bol, ar 13 5 52 6 8
15 Mawrth Wŷnebog Perfedd 14 5 50 6 10
16 Mercher ☍ ☉ ♂. ♈ ♎ 7. Cluniau 15 5 48 6 12
17 Jou. Padaric wŷddel Cluniau 16 5 46 6 14
18 Gwener Edward cluniau 17 5 44 6 16
19 Sadwrn ☍ ♂ ♀. ♎ ♈ 5 Arphed 18 5 42 6 18
20 Sul. 2 Sul o'r grawŷs Arphed 19 5 40 6 20
21 Llun. Benedict Mordd- 20 5 38 6 22
22 Mawrth Paulinus wŷdŷdd 21 5 36 6 24
23 Mercher Godffri Morddw. 22 5 34 6 26
24 Jou. Agapitus Gliniau 23 5 32 6 28
25 Gwener Cenadwri Mair. Garrau 24 5 30 6 30
26 Sadwrn * ☉ ♄. ♈ ♒ 17. Coesau 25 5 29 6 31
27 Sul. 3 Sul o'r grawŷs Coesau 26 5 27 6 33
28 Llun. 27. △ ♃ ☿. ♏ ♓ 26 Traed 27 5 25 6 35
29 Mawrth ⚹ ♄ ♀. ♒ ♈ 17 Traed 28 5 23 6 37
30 Mercher ☍ ♂ ☿. ♎ ♈ 2. Pen, ac 29 5 21 6 39
31 Jou. ☉. tan ddiffŷg. ♈ 21 Wŷneb. [...]1 5 19 6 41

EBRILL, 1698.

Dyddiau'r Mî Dyddiau'r wŷthnos
Oed y lleuad dŷdd awr.
1. chwarter 07. 11. Boreu
Llawn-lleuad 15. 10. Boreu
3. chwarter 23. 09. Boreu
Newidio 30. 01. Boreu
oed lleuad beunŷdd Haul. yn Codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Gwener Dychweliad Mair i'r Aipht. Gwddwf 2 5 17 6 43
2 adwrn   Gwddwf 3 5 15 6 45
3 Sul 4. Sul o'r grwŷs- Ysgwŷdd 4 5 13 6 47
4 Llun. Ambros. Tyrnog. Braich 5 5 11 6 49
5 Mawrth Derfel gadarn Bronnau 6 5 9 6 51
6 Mercher Llywelŷn Bronnau 7 5 7 6 53
7 Jou. ☌ ☉ ♀. ♈ 27. Bronnau 8 5 5 6 55
8 Gwener ⚹ ♄ ☿. ♒ ♈ 18. Y cefen 9 5 3 6 57
9 Sadwrn Haul yn ♉. Ar galon 10 5 1 6 59
10 Sul. 5. Sul o'r grawŷs. Y bol 11 5 0 7 0
11 Llun. Coroned y Brenin, W. Perfedd 12 4 58 7 2
12 Mawrth Hughe Esgob. Cluniau 13 4 56 7 4
13 Mercher Justin Cluniau 14 4 54 7 6
14 Jou. Tubirtious. Cluniau 15 4 52 7 8
15 Gwener Oswald Arphed 16 4 50 7 10
16 Sadwrn Barnard Arphed 17 4 49 7 11
17 Sul. Sul y Blodau. Morddw 18 4 47 7 13
18 Llun. 22. ☌ ♀ ☿. ♉ 16. mordd- 19 4 45 7 15
19 Mawrth ☌ ☉ ☿. ♉ 10. wŷdŷdd. 20 4 43 7 17
20 Mercher Mercher y brâd. Gliniau 21 4 41 7 19
21 Jou. Dŷdd Jou Cablud. A garrau 22 4 40 7 20
22 Gwener Gwener y Croglith. Coesau 23 4 38 7 22
23 Sadwrn □ ♄. ♀ ☿. ♒ ♉ 19. Coesau 24 4 36 7 24
24 Sul. Sul y Pasc. Coesau 25 4 35 7 25
25 Llun. Gwyl St Marc. Traed 26 4 33 7 27
26 Mawrth ☍ ♃. ☿ ♀. ♏ ♉ 23. Traed 27 4 32 7 28
27 Mercher △ ♂ ☿. ♍ ♉ 26. Pen, ac 28 4 30 7 30
28 Jou. □ ☉ ♄. ♉ ♒ 29. Wŷneb 29 4 29 7 31
29 Gwener Pedro. milain. Gwddwf 30 4 27 7 33
30 Sadwrn △ ♃ ♀. ♍ ♉ 27. Gwddwf [...]1 4 25 7 35

MAI, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
oed y lleuad dŷdd awr.
1. chwarter 06. 10. Nôs
Llawn-lleuad 14. 11. Nôs
3. chwarter 22. 08. Nôs
Newidio 29. 08. Boreu
oed lleuad beunŷdd Haul yn Codi. Haul yn machludo
Dyddie gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd A. M. A. M.
1 Sul. Gwyl St. Philip, a Iago Ysgwŷdd 2 4 23 7 37
2 Llun. ☍ ☉ ♃. ♉ ♏ 22. Braich 3 4 21 7 39
3 Mawrth Caffael y Groes Bronne 4 4 20 7 40
4 Mercher Dŷdd melangell Bronnau 5 a 19 7 41
5 Jou. Aeth Crîst i'r Nêf Y Cefen, 6 4 17 7 43
6 Gwener St. Joan yn yr olew. a'r galon 7 4 16 7 44
7 Sadwrn △ ☉ ♂. ♉ ♍ 27 Y Bol 8 4 15 7 45
8 Sul. 2 Sul wedi'r Pasc. A'r 9 4 13 7 47
9 Llun. Nicholas Perfedd 10 4 12 7 48
10 mawrth △ ♄ ☿. ♒ ♊ 19. Cluniau 11 4 10 7 50
11 mercher Dŷdd Anthoni cluniau 12 4 8 7 52
12 Jou. Haul yn ♊. Arphed 13 4 7 7 53
13 Gwener Sulian. mael. Arphed 14 4 5 7 55
14 Sadwrn Bonifface Arphed 15 4 4 7 56
15 Sul. 3 Sul wedi'r Pasc. morddw­ŷdŷdd 16 4 3 7 57
16 Llun. granog   17 4 2 7 58
17 mawrth □ ♂ ☿. ♍ ♊ 29 gliniau 18 4 1 7 59
18 mercher Diliw yn dechreu a 19 4 0 8 0
19 Jou. △ ♄ ♀. ♒ ♊ 19 garrau 20 3 59 8 1
20 gwener Annue Coesau 21 3 58 8 2
21 Sadwrn Collen Coesau 22 3 57 8 3
22 Sul. 4 Sul wedi'r Pasc. Traed 23 3 56 8 4
23 Llun. Wiliam Traed 24 3 55 8 5
24 mawrth □ ♄ ♃, ♒ ♏ 19. Pen, ac 25 3 54 8 6
25 mercher Urban Denŷs. Wŷneb 26 3 53 8 7
26 Jou. August. Beda Gwddwf 27 3 53 8 7
27 gwener Armon, Mihangel gwddwf 28 3 52 8 8
28 Sadwrn Jonas Ysgwŷdd 29 3 51 8 9
29 Sul. Ganed Charles 2. a Braich 1 3 50 8 10
30 Llun Sul y gweddiau Bronnau 2 3 50 8 10
31 mawrth □ ♂ ♀. ♎ ♋ 4. Bronnau 3 3 50 8 10

MEHEFIN, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
Oed y lleaud. dŷdd. awr.
1 chwarter 05. 10. Boreu
Llawn-lleuad 13. 02. Prŷdn.
3 chwarter 21. 04. Boreu.
Newidio 27. 05. Nôs.
oed lleuad beunŷdd Haul. yn Codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a Thremiadau'r planedau. Symud. Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Mercher △ ☉ ♄. ♊ ♒ 20. Cefen 4 3 49 8 11
2 Jou. Dydd Iou Derchafel Calon 5 3 49 8 11
3 Gwener 1. ☌ ☿ ♀. ♋ 6. Y Bol 6 3 49 8 11
4 Sadwrn Pedrog. a'r 7 3 48 8 12
5 Sul. □ ♂ ☿. ♎ ♋ 5. Perfedd 8 3 48 8 12
6 Llun. Llosced Teml Diana Cluniau 9 3 48 8 12
7 Mawrth Paul Cluniau 10 3 47 8 13
8 Mercher Wiliam. Arphed 11 3 47 8 13
9 Jou. Barnim Arphed 12 3 47 8 13
10 gwener 11. △ ♃ ♀. ♏ ♋ 18 Arphed 13 3 47 8 13
11 Sadwrn Gwyl St. Barnabas mordd­wŷdŷdd 14 3 47 8 13
12 Sul. Y Sul-Gwynn.   15 3 47 8 13
13 Llun. 12. ☌ ☉ ☿. ♋ 1. Gliniau 16 3 47 8 13
14 Mawrth Basil. a 17 3 47 8 13
15 Mercher Trillo Garrau 18 3 47 8 13
16 Jou. Curic. Elidan. Coesau 29 3 48 8 12
17 gwener St. Alban. mylling. Coesau 20 3 48 8 12
18 Sadwrn Homer Traed 21 3 48 8 12
19 Sul. Sul y Drindod. Traed 22 3 49 8 11
20 Llun. Edward Pen 23 3 49 8 11
21 Mawrth Alban. ac 24 3 50 8 10
22 Mercher Gwenfrewi. Wŷneb 25 3 50 8 10
23 Jou. Basilus Gwddw 26 3 51 8 9
24 Gwener Ganed St. Joan. Gwddw 27 3 51 8 9
25 Sadwrn □ ☉ ♂. ♋ ♎ 14. Ysgwŷdd 28 3 52 8 8
26 Sul. 1. Sul wedi'r drindod Braich 29 3 52 8 8
27 Llun. Y 7. gysgaduriaid Bronnau 1 3 53 8 7
28 Mawrth △ ♃ ☉. ♏ ♋ 17 Bronnau 2 3 54 8 6
29 Mercher Gwyl St. peter. Y Cefen 3 3 55 8 5
30 Jou. Paul yn ymchwel. A'r galon 4 3 56 8 4

GORPHENNAF, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
oed y lleuad dŷdd awr.
1. chwarter 05. 01. Boreu
Llawn-lleuad 13. 04. Boreu
3. chwarter 20. 08. Boreu
Newidio 27. 01. Boreu
oed lleuad beunŷdd Haul yn Codi. Haul yn machludo
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd A. M A. M.
1 Gwener Aaron. Bol. 5 3 57 8 3
2 Sadwrn Ymweliad Mair. Perfedd 6 3 58 8 2
3 Sul. 2. Sul wedi'r drindod Cluniau 7 3 59 8 1
4 Llun. 3 △ ♄ ♂. ♒ ♎ 18. Cluniau 8 4 0 8 0
5 Mawrth Esaias brophwŷd. Cluniau 9 4 1 7 59
6 Mercher □ ♃ ♀. ♏ ♌ 17. Arphed 10 4 3 7 57
7 Jou. ☍ ♄ ♀. ♒ ♌ 18. Arphed 11 4 4 7 56
8 Gwener Grimbald. Morddw­ŷdŷdd. 12 4 5 7 55
9 Sadwrn ⚹ ♂ ♀. ♎ ♌ 21.   13 4 6 7 54
10 Sul. 3. Sul wedi'r drindod morddw. 14 4 7 7 53
11 Llun. Gowair. A Bened. Gliniau 15 4 9 7 51
12 mawrth □ ♄ ♃. ♒ ♏ 17. Garrau 16 4 10 7 50
13 mercher Doewan. Coesau 17 4 12 7 48
14 Jou. Garmon. Bonaf. Coesau 18 4 13 7 47
15 Gwener Swithin. Traed 19 4 15 7 45
16 Sadwrn △ ♃ ☿. ♏ ♋ 17. Traed 20 4 16 7 44
17 Sul. 4. Sul wedi'r drindod Traed 21 4 18 7 42
18 Llun. St. Edward. Pen, ac 22 4 19 7 41
19 mawrth Dyddier Cŵn dechreu Wŷneb 23 4 21 7 39
20 mercher Margred. Gwddwf 24 4 23 7 37
21 Jou. Mair Fagdalen. Gwddwf 25 4 24 7 36
22 gwener □ ♂ ☿. ♎ ♋. 28. Ysgwŷdd 26 4 25 7 35
23 Sadwrn Apolin. Braich 27 4 27 7 33
24 Sul. 5. Sul wedi'r drindod Bronnau 28 4 28 7 32
25 Llun. Gwyl St. Iaco. Bronnau 29 4 29 7 31
26 mawrth Ann Mam Mair. Cefen 30 4 30 7 30
27 mercher 29. ☍ ☉ ♄. ♌ ♒ 16. Calon 1 4 32 7 28
28 Jou. 31. □ ☉ ♃. ♌ ♏ 18 Y Bol 2 4 33 7 27
29 gwener 31. ⚹ ♃ ♀. ♏ ♍ 18. A'r 3 4 35 7 25
30 Sadwrn 31. ☍ ♄ ☿. ♒ ♌ 16 Perfedd 4 4 36 7 24
31 Sul. 6. Sul wedi'r drindod Cliniau 5 4 38 7 22

AWST, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
oed y lleuad. dŷdd. awr.
1 chwarter 03. 06. prŷdnawn
llawn-lleuad 11. 03. prŷdnawn
3 chwarter 18. 02. prŷdnawn
newidio 25. 01. prŷdnawn
oed lleuad beunŷdd Haul yn codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Llun. □ ♃ ☿. ♏ ♌ 18. Cluniau 6 4 39 7 21
2 Mawrth ☌ ☉ ☿. in ♌ 20. Arphed 7 4 40 7 20
3 Mercher Pendefig. Arphed 8 4 42 7 18
4 Jou. Aristarcus. Arphed 9 4 44 7 26
5 Gwener Oswallt Frenin Morddw-ŷdŷdd. 10 4 46 7 14
6 Sadwrn Ymrithiad Iesu.   11 4 48 7 12
7 Sul. 7 Sul wedi'r drindod Gliniau 12 4 49 7 11
8 Llun. Illog o hirnant. Garrau 13 4 51 7 9
9 Mawrth Julian. Coesau 14 4 53 7 7
10 Mercher Laurence. Coesau. 15 4 55 7 5
11 Jou. Gilbert. Coesau. 16 4 57 7 3
12 Gwener ⚹ ♂ ☿. ♏ ♍ 11. Traed 17 4 58 7 2
13 Sadwrn Haul yn ♍. Traed 18 5 0 7 0
14 Sul. 8 Sul. wedi'r drindod Pen, ac 19 5 2 6 58
15 Llun. Gwŷl Fair gyntaf. wŷneb 20 5 4 6 56
16 Mawrth Rochus. Gwddw 21 5 6 6 54
17 Mercher ⚹ ♃ ☿. ♏ ♍ 20. Gwddw 22 5 8 6 52
18 Jou. □ ♄ ♂. ♒ ♏ 15. Ysgwŷdd 23 5 10 6 50
19 Gwener Sabaldus. Braich 24 5 12 6 48
20 Sadwrn Barnard. Bronne 25 5 14 6 46
21 Sul. 9 Sul wedi'r drindod Dwŷfron 26 5 16 6 44
22 Llun. △ ♄ ♀. ♒ ♎ 14. Y Cefen 27 5 18 6 42
23 Mawrth Zacheus. A'r 28 5 20 6 40
24 Mercher Gwyl St. Bartholome. galon 29 5 22 6 38
25 Jou. Ganed Lewis 14. 1638 Y Bol, ar 1 5 24 6 36
26 Gwener Dyddie'r cŵn diweddu Perfedd 2 5 26 6 34
27 Sadwrn G. Feddwid. Cluniau 3 5 27 6 33
28 Sul. 10 Sul wedi'r drindod Cluniau 4 5 29 6 31
29 Llun. ☌ ♃ ♂. ♏ 22. Arphed 5 5 31 6 29
30 Mawrth Joan. Arphed 6 5 33 6 2 [...]
31 Mercher Adrian. B 2 Arphed 7 5 35 6 2 [...]

MEDI, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
oed y lleuad. dŷdd. awr.
1 chwarter, 02. 01. prŷdnawn
Llawn-lleuad 10. 01. Boreu.
3 chwarter, 16. 08. Nôs.
Newidio, 24. 04. Boreu.
oed lleuad bob dŷdd Haul yn Codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Jou. Silin. Morddw. 8 5 37 6 23
2 Gwener △ ♄ ☿. ♒ ♎ 14 ŷdŷdd. 9 5 39 6 21
3 Sadwrn Gregory. Gliniau 10 5 41 6 19
4 Sul. 11 Sul wedi'r drindod a 11 5 43 6 17
5 Llun. ⚹ ☉ ♃ ♍ ♏ 23. Garrau 12 5 45 6 13
6 Mawrth Idlos. Coesau 13 5 47 6 15
7 Mercher Enurchus. Coesau 14 5 49 6 11
8 Jou. Ganedigaeth Mair. Traed 15 5 51 6 9
9 Gwener Y Ddelw fŷw. Traed 16 5 53 6 7
10 Sadwrn Nicholas. Pen. ac 17 5 55 6 5
11 Sul. 12 Sul wedi'r drindod wŷneb 18 5 57 6 3
12 Llun. Cyhŷd nôs a dŷdd Gwddw 19 5 59 6 1
13 Mawrth Haul yn ♎. Gwddw 20 6 1 5 59
14 Mercher Dŷdd y grôg neu groes Ysgwŷdd 21 6 3 5 57
15 Jou. □ ♄ ♀. ♒ ♏ 13. Braich 22 6 5 5 55
16 Gwener Edŷth, Llaw. 23 6 7 5 53
17 Sadwrn ⚹ ☉ ♂. ♎ ♐ 6. Bronne 24 6 9 5 51
18 Sul. 13 Sul wedi'r drindod Dwŷfron 25 6 11 5 49
19 Llun. Gwenfrewŷ. Cefen 26 6 13 5 47
20 mawrth Eustachus. Calon 27 6 15 5 45
21 mercher Gwyl St. Matthew Bol, 28 6 17 5 43
22 Jou. Morus. Perfedd 29 6 19 5 41
23 Gwener ☉ dan ddiffŷg yn ♎. Cluniau 30 6 21 5 39
24 Sadwrn Tecla. cluniau 1 6 23 5 37
25 Sul. 14 Sul wedi'r drindod cluniau 2 6 25 5 35
26 Llun. △ ☉ ♄. ♎ ♒ 13 Arphed 3 6 26 5 34
27 Mawrth ♂ ♃ ♀. ♏ 26. Arphed 4 6 28 5 32
28 Mercher ⚹ ♄ ♂. ♒ ♐ 13 Morddw 5 6 30 5 30
29 Jou. Gwyl St. Michael. ŷdŷdd. 6 6 32 5 28
30 Gwener Jerom. Morddw. 7 6 34 5 26

HYDREF, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
1. chwarter 02. 08. Boreu
Llawn-lleuad 09. haner Dŷdd
3. chwarter 16. 03. Boreu
Newidio 23. 09. Nos.
1. chwarter 31. 11. nôs.
oed lleuad beun ŷdd Haul. yn Codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a thremiadau'r planedau. Symud Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Sadwrn Silin a Garmon Gliniau 8 6 36 5 24
2 Sul. St. Thomas o henffordd Garrau 9 6 38 5 22
3 Llun. 15 Sul wedi'r drindod Coesau 10 6 40 5 20
4 Mawrth Ffrancis. Coesau 11 6 42 5 18
5 Mercher Cynhafal. Coesau 12 6 44 5 16
6 Jou. Ffŷdd. Traed 13 6 46 5 14
7 Gwener Marcell. Traed 14 6 48 5 12
8 Sadwrn Carmarch. Pen, ac 15 6 50 5 10
9 Sul. 16 Sul wedi'r drindod Wŷneb 16 6 52 5 8
10 Llun. ♂ ☉ ☿. ♎ 27. Gwddwf 17 6 54 5 6
11 Mawrth ⚹ ♄ ♀. ♒ ♐ 13. Gwddwf 18 6 56 5 4
12 Mercher ⚹ ♂ ☿. ♐ ♎ 23. Ysgwŷdd 19 6 58 5 2
13 Jou. St. Edward. Braich 20 7 0 5 0
14 Gwener Talemoc. Bronnau 21 7 1 4 59
15 Sadwrn Tudŷr. Dwŷfron 22 7 3 4 57
16 Sul. 17 Sul wedi'r drindod Cefen 23 7 5 4 55
17 Llun. ⚹ ♀ ☿. ♐ ♎ 20. Calon 24 7 7 4 53
18 Mawrth Gwyl St Luc, Efeng. Y bol 25 7 9 4 51
19 Mercher Ptolomy Sywedŷdd A'r 26 7 10 4 50
20 Jou. Gwendolina. Perfedd 27 7 12 4 48
21 Gwener 11000 Gwŷryfod. Cluniau 28 7 14 4 46
22 Sadwrn mari Sala. Cluniau 29 7 16 4 44
23 Sul. 18 Sul wedi'r drindod Arphed 1 7 18 4 42
24 Llun. Cadfarch. Arphed 2 7 20 4 40
25 Mawrth □ ☉ ♄. ♏ ♒ 13. Mordd- 3 7 22 4 38
26 Mercher Amandus. wŷdŷdd. 4 7 24 4 36
27 Jou. Ursula. morddw. 5 7 25 4 35
28 Gwener St. Simon, a St. Iud Gliniau 6 7 27 4 33
29 Sadwrn Narcustus. Garrau 7 7 29 4 31
30 Sul. 19 Sul wedi'r drindod Coesau 8 7 30 4 30
31 Llun. Dagfael. Coesau 9 7 32 4 28

TACHWEDD, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
Oed y lleuad, dŷdd. awr.
llawn-lleuad 07. 09. Nôs.
3. chwarter 14. 03. prŷdnawn
newidio 22. 03. prŷdnawn
1 chwarter, 30. 04. prŷdnawn
oed lleuad beunŷdd Haul yn codi. Haul yn machludo.
Dyddiau gwŷl, a hynod. a threniadau'r planedau. Symud, Arwŷdd. A. M. A. M.
1 Mawrth Gwyl yr holl Saint. Coesau 10 7 34 4 26
2 Mercher Gwŷl y Meirw. Traed 11 7 35 4 25
3 Jou. Christiolus. clŷdog. Traed 12 7 37 4 23
4 Gwener Ganed y Frenin Wil. Pen, ac 13 7 39 4 21
5 Sadwrn Grad y powdwr gwn Wŷneb 14 7 40 4 20
6 Sul. 20 Sul wedi'r drindod Gwddw 15 7 42 4 18
7 Llun. ♂ ♂ ♀. ♑ 12. Gwddw 16 7 43 4 17
8 Mawrth □ ♄ ☿. ♒ ♏ 14. Ysgwŷdd 17 7 44 4 16
9 Mercher ⚹ ♀ ☿. ♑ ♏ 15. Braich 18 7 46 4 14
10 Jou. ⚹ ♂. ☿. ♑ ♏ 15. Bronnau 19 7 47 4 13
11 Gwener Marthin, Haul yn ♐ Bronnau 20 7 49 4 11
12 Sadwrn Cadwaladr. Padarn, Y cefen 21 7 50 4 10
13 Sul. 21 Sul wedi'r drindod a'r Galon 22 7 51 4 9
14 Llun. Meilic. Cadfrael, Y Bol, 23 7 53 4 7
15 Mawrth Machudd. a'r 24 7 54 4 6
16 Mercher Edmund. Perfedd 25 7 56 4 4
17 Jou. Huw. Cluniau 26 7 57 4 3
18 Gwener galasins. Cluniau 27 7 59 4 1
19 Sadwrn ♂ ☉ ♃. ♐ 8. Arphed 28 8 0 4 0
20 Sul. 22 Sul wedi'r drindod Arphed 29 8 1 3 59
21 Llun. Digain. Arphed 30 8 2 3 58
22 Mawrth Sisilia. Dyniolen. Mordd- 1 8 3 3 57
23 Mercher Clement. wŷdŷdd 2 8 4 3 56
24 Jou. ♂ ♃ ☿. ♐ 9. Gliniau 3 8 5 3 55
25 Gwener Catherine. a 4 8 6 3 54
26 Sadwrn ⚹ ☉ ♄, ♐ ♒ 15. Garrau 5 8 7 3 53
27 Sul. 1. Sul o Advent. Coesau 6 8 7 3 53
28 Llun. ⚹ ♄ ☿. ♒ ♐ 15. Coesau 7 8 8 3 52
29 Mawrth Sadwrn, Traed 8 8 9 3 51
30 Mercher Gwyl St. Andrews. Traed 9 8 9 3 51

RHAGFYR, 1698.

Dyddiau'r Mîs Dyddiau'r wŷthnos
Oed y lleuad, dŷdd, awr.
Llawn-lleuad 07, 09. Boreu
3 chwarter 14, 07. Boreu
Newidio 22, 11. Boreu
1 chwarter 30, 04. Boreu
oed lleuad beunŷdd Haul yn Codi. Haul yn machludo
Dyddiau gwŷl, a hynod. a [...]hremiadau'r planedau Symud Arwŷdd. A. M. A. M
1 Jou. Grwst. Llechid. Y Pen 10 8 10 3 50
2 Gwener ♂ ☉ ☿. ♐ 21 a'r 11 8 10 3 50
3 Sadwrn Castianus. Wŷneb 12 8 11 3 49
4 Sul. 2. Sul o Adfent, Gwddw 13 8 11 3 49
5 Llun. Gowrda. Gwddw 14 8 12 3 48
6 Mawrth Nicholas. Ysgwŷdd 15 8 12 3 48
7 Mercher Ambros. Braich 16 8 12 3 48
8 Jou. Ymddwŷn Mair, Dwŷfron 17 8 13 3 47
9 Gwener Joachim. Ciprian. Bronnau 18 8 13 3 47
10 Sadwrn Troead y rhôd, Y cefen 19 8 13 3 47
11 Sul. 3 Sul o Adfent a'r galon 20 8 13 3 47
12 Llun. fflewŷn. Y Bol a'r 21 8 13 3 47
13 Mawrth ⚹ ♃ ♀. ♐ ♒ 13. Perfedd 22 8 13 3 47
14 Mercher Nicasious. Cluniau 23 8 13 3 47
15 Jou. Falerian. Cluniau 24 8 12 3 48
16 Gwener Anan. Azar. misael, Arphed 25 8 12 3 48
17 Sadwrn ⚹ ♃ ♂. ♐ ♒ 14. Arphed 26 8 12 3 48
18 Sul. 4 Sul o Adfent. Arphed 27 8 11 3 49
19 Llun. Leonard. morddw 28 8 11 3 49
20 Mawrth Amon. ŷdŷdd 29 8 10 3 50
21 Mercher Gwyl St. Thomas. morddw 30 8 10 3 50
22 Jou. ♂ ♄ ♂ ♀. ♒ 17, Gliniau 1 8 9 3 51
23 Gwener Fictoria, a garrau 2 8 8 3 52
24 Sadwrn Grugor, Coesau 3 8 8 3 52
25 Sul. Gwyl Natolic Crist. Coesau 4 8 7 3 53
26 Llun. G. St. Stephen Mer. Traed 5 8 6 3 54
27 mawrth G. St. Ioan Apostol Traed 6 8 6 3 54
28 mercher G. y Fil Feibion. Traed 7 8 5 3 55
29 Jou. Thomas o gaint. Pen, ac 8 8 4 3 56
30 Gwener Dafŷdd Frenin. Wŷneb 9 8 3 3 57
31 Sadwrn. Silvester. Gwddw. 10 8 2 3 58

SYWEDYDDOL FARNEDIGAETH, AM Y FLWYDDYN. 1698.

GAn Ystyried nad oes fawr or bobl yn deall figurau neu Addurnau Sywedyddiaeth; na nodau'r planedau a'r Arwŷddion, na'r geiriau Sywedyddawl chwaith sŷdd arferedig i ddatcan y gelfyddud; Gadewais y pethau hynnŷ (nesaf a gellais) allan o'm Llyfr y leni; Ac ysorifen­nais yr hŷn a ganffyddir wrthŷnt, yn gymraeg groew esmwŷth a hawdd ei deall, fel a canlŷn.

Y Barnedigaeth Cyntaf (am y Chwarter cyntaf o'r Flwŷddŷn 1698) a dynwŷd wrth fynediad yr Haul i Arwŷdd yr Afr, yr unfedarddeg dŷdd o Fîs Rhagfŷr, 1697. 39 munŷd cŷn un ar y glôch y Boreu: Ar y cyfamser hwnnw cyfrifir (yn y ffordd Sywedyddol) fôd y Flwŷddŷn 1698. yn dechreu.

Ac wrth yr Addurn hwnnw a osodais ar fynediad yr Haul i Arwŷdd yr Afr, deallaf a bŷdd Lloeger a Chymru yn fwŷ llwŷddiannus na'u gelynnion y chwarter cyntaf o'r Flwŷddŷn; Ac a bŷdd y bobl gyffredin yn amlach eu harian nac a buont yn ddiweddar; y Trethi sŷ'n dechreu gwareiddio; Ar bobl yn unol sŷ'n myfyrio eu hesgusodi eu hunain oddiwrth bôb dwŷs draul; Y dwfr a redodd i'r pant y llynedd, a ddychwel i'r brynniau y leni; y bobl a'r anifeiliaid a fyddant iachus y gaiaf hwn yn amlaf. Etto 'rwifi'n ofni a bŷdd y bobl anesmwŷth yn myfyrio rhŷw ddrygioni yn erbŷn eu gwaredŷdd; a hynnŷ a bâr gythryfwl mewn rhai mannau; a cholli gwaed yn y diwedd; Ac fellu a diweddaf y barnedigaeth am y chwarter cyntaf o'r flwŷddŷn 1698.

YR ail Barnedigaeth (am yr ail chwarter o'r flwŷddŷn 1698) a dynnais yn gyntaf oddiwrth yr Addurn a osodais ar ddyfodiad yr Haul i arwŷdd yr Hwrdd, y degfed dŷdd o fis Mawrth, drimunŷd cŷn dau ar'y glôch [Page] y boreu; Ar yr amser hwnnw cyfrifir (yn y ffordd Syw yddol) fôd yr ail chwarter o'r flwŷddŷn 1698 yn dechr [...]

Ac wrth yr Addurn hwnnw a osodais ar fynedia [...] yr Haul i arwŷdd yr Hwrdd, gwelaf a bŷdd y bobl yn ddiwŷd i lenwi eu Cydau a wagheusant y llynedd, ac nid wif yn ammeu na wellha llawer y leni o rhai [...] waethygwŷd y llynedd, Tybiwn fy môd yn gweled gwragedd y Tafarnau yn dechreu codi eu pennau drach­efen; pêth o'r gronnŷnnau rhyddion a syrthiant ymhylîth y rheini; ond y gwŷr sŷ'n deilio dros y môr a gant golledion mawr; Rhai o'r Cyfreithwŷr ac o'r gwŷr llen hefŷd a anfoddlonir y leni; Llyfrau sŷdd ddiystŷr gan lawer etto; y Trethi sŷ'n llosgi ar ddwŷfron y bobl anfoddog, A rhai o'r gwŷr mawr a safant ar y dibin; y llwŷnogod sŷ'n chwareu ymhlîth y defaid; Ar Defaid mo'r wirion heb ddeall mo ddichellion y llwŷnogod iw difa pan gaffont gyfleu: Y cigŷdd sŷ'n llochi ac yn cosi'r eidion a'r naill law, ar fwŷall ar gyllell yn y llaw arall iw ddibennu:

Drachefen yn ail, wrth yr Addurn a osodais ar y llawn-lloned yr 16 dŷdd o Fawrth, ar dri or prŷdnawn; Rhag-welaf a Bŷdd colledion mawr ar y môr i wŷr Lloeger; a hynnŷ drwŷ ladron a'u goddiweddo tua'r gogledd. Rhai o'r trethi sŷdd etto yn blino meddyliau'r bobl; Y llyfrau, a'r llyfrwŷr sŷdd gasa pêthau gan y bobl. Mae'r amser yn siomgar i ddeilio ar goel etto.

Drachefen yn drydŷdd, wrth yr Addurn a osodais ar ganol y diffŷg a fŷdd ar yr Haul, yr 31 dŷdd o Fawrth, 35 mŷnud wedi 5 awr o'r prŷdnawn, (os bŷdd yr awŷr yn eglur ynghŷlch yr Haul, ceir gweled hwn yn amlwg cŷn machludo Haul,) Ei mae yn dangos a bŷdd llawer o aflwŷdd yn y bŷd, Afiechŷd a marwolaeth i ddefaid mewn rhai mannau. Cynwrf ac ymladd ymhylîth y mîlwŷr, marwolaeth i wŷr mawr, ac i rŷw Frenin; [...]mryfusedd ac ymrafael rhwng y Cyffredin a'u penad­ [...]riaid; Rhagrithio a gwenheithio rhwng y gelynnion gleision; llofruddiaeth a lladrataf; a phob distriw aspriol: Doluriau poethion mewn amrŷw o fannau ar bobl a defaid; Sêr cynffonnog a welir mewn rhai mannau; prinder o [Page] wlaw a hŷsp afonŷdd; ffrwŷthudd y Coed a lygrant, ac a fethant yn aml; hŷdd ymrafael, ffwdan a thraffaeth dan esgus gwastadlu Crefŷdd; ac ymddadlu ynghŷlch arallu neu altrio Cyfreithiau; Cyfŷd Temhestl a ysgwŷd yn dost, ac a ysiga y pren Cadarnaf yn y llwŷn, ac os dadwreiddir ef amrŷw o'r prennau mawr eraill o'i gwm­pas a ddiflanant; ac yno bŷdd llawer o siarad ynghŷlch y demhestl honno, peth gwir a pheth anwir; ar bobl a sisial y naill wrth y llall, heb ond rhai yn dywedŷd eu meddwl yn benuchel: Taer a Ceisir troi gŵr mawr allan o'i feddiannau. Fellu a diweddaf fy marnedigaeth am yr ail chwarter o'r Flwŷddŷn 1698.

Y Trydŷdd Barnedigaeth (am y trydŷdd chwarter or Flwŷddŷn 1698) a dynais oddiwrth yr Addurn a osodais ar ddyfodiad yr Haul i Arwŷdd y Crangc, yr unfedarddeg dŷdd o Fehesin, naw mŷnud cŷn tri ar y glôch y boreu; ar y cyfamser hwnnw cyfrifir (yn y ffordd sywedyddawl) fod y trydedd chwarter or Flwŷddŷn 1698 yn dechrau.

Ac wrth yr Addurn hwnnw a osodais ar fynediad yr Haul i arwŷdd y Crangc, gwelaf a bŷdd y bobl mewn rhai mannau yn gwadu yr eiddo eu hunain, neu yn cuddio peth o'u cyfoeth; bŷdd angen arian ar y gwŷr mwŷaf, a rhŷw helbul arall i rai o honŷnt; y Penaethiaid mewn rhŷw Deŷrnas a fyddant greulon wrth y Cyffredin, drwŷ osod arnŷnt drethi anrhugarog, a beichiau rhŷ drymion iw dioddef; A phôb llawenŷdd a difyrrwch a droir heibio; Rhai o'r gwŷr mwŷaf a Symmudir o'u lle. Fellu di­weddaf y Barnedigaeth am y Trydŷdd chwarter o'r Flwŷddŷn 1698.

Y Pedwaredd Barnedigaeth, (am y pedwaredd chwarter o'r Flwŷddŷn 1698) a dynais yn gyntaf oddiwrth yr Addurn a osodais ar fynediad yr Haul i Arwŷdd y Fantol, y 12 dŷdd o Fedi, 46 mŷnud wedi pedwar o'r prŷdnawn; ar y cyfamser hwnnw cyfrifir (yn y ffordd Sywedŷddol) fod y pewaredd chwarter o'r Flwŷddŷn 1698 yn dechreu.

[Page] Wrth yr Addurn hwnnw a osodais ar fynediad yr Haul i arwŷdd y Fantol, Barnaf a bŷdd amser, clwŷfus mewn amrŷw o fannau y chwarter diweddaf o'r flwŷddŷ [...] hon, o ddoluriau a fegir drwŷ gael yr anwŷd yn Sydun; a thrwŷ fwŷdtaf crabas ac afalau gleision: Bŷdd caeth­iwed ar lawer ynghŷlch eu dwŷfron, ac yn eu boliau; a rhai a gyddfau dolurus: a llawer a fyddant farw mewn rhai mannau or doluriau hynnŷ mewn ychydig amser; Ac amrŷw eraill a nŷchant yn hîr yn eu clefŷd; Ac am hynnŷ cynghoraf bawb i fod yn ofalus o'u hiechŷd y chwarter diweddaf or flwŷddŷn hon, drwŷ ochel glychu eu Traed, na myned yn rhŷ deneuon eu dillad; ac ymwared oddiwrth ymborth afiachus, a phob anewŷn diaddfed; a Gochelud ymprydio yn hîr, yn enwedig ar gythlwn; Perŷglus hefŷd ŷw bwŷdtaf bwŷd oer yn y chwarter hwn.

Drachefen (yn ail) wrth yr Addurn a osodais ar Ganol yr amser a bŷdd y Diffŷg ar yr Haul, y 24 dŷdd o fedi, chwarter awr cŷn pedwar ar y gloch y boreu, deallaf a bŷdd lladradtaf mawr ar Fôr a thîr; Ac amser pruddaidd a galarus i'r bobl yn aml o herwŷdd y dol­uriau a fo 'rhŷd y Gwledŷdd; Llawer a gleddir mewn rhai mannau o Lycheden wŷllt a fo yn eu plîth: y diffŷg hwn sŷdd hefŷd yn darparu temhestlau creulon o wŷnt uchel iawn ymbell waith; yr hwn a lygriff rŷw hadau a llysiau'r ddaiar; a bŷdd rhŷw Lygredigaeth ymhylith rhai o'r gwŷr llen neu bregethwŷr; yr ydau addfed a fo allan yn ddiweddar a ddyhidla yn aml iawn; llawer o wŷr Eglwŷsig a newidir mewn rhŷw Deŷrnas; pôb ffrwŷthudd Coed, a phôb pêth o ffrwŷth y ddaiar a dyfo ar ol y diffŷg hwn, a fyddant afiachus mewn rhai mannau dros fwŷ na dau fîs o amfer; A thrwŷ anghrediniaeth y bobl bŷdd drudaniaeth ar ydau heb eisieu; a rhŷw Emprwr neu Frenin mawr a fŷdd farw. Rhai trefŷdd a losgir; rhai gwŷr mawr a gollant eu Tiroedd a'u tai; Ac amrŷw o bobl eraill a adnewŷddant hên gydnabyddiaeth a'u gilŷdd, ac aml a fŷdd yr ymweled rhwng y rheini. Fellu diweddaf y Barnedigaeth am y chwater diweddaf o'r Flwŷddŷn 1698.

[Page] N [...] welais yn wiw i mi y leni rannu y Barnedigaethau Sywedyddol yn ddeuddeg o rannau, iw Cymhwŷso i'r mîsoedd; o blegŷd anodd ŷw gwŷbod weithieu ymha fîs a digwŷdd y peth ar peth; ond neilltuais y barnedigaeth yn bedair o rannau, cymwŷs i bedwar Chwarterau'r Flwŷddŷn.

Bŷr Farnedigaeth am y Flwŷddŷn 1698, Oll i'r un-ffordd.

NId wŷf yn disgwŷl ond ychydig ryfel ac ymladd y leni, nac mo'r heddwch yn iawn chwaith; Etto bŷdd y bobl yn drafferthus yn wastadol, ac yn anghenus am arian tua diwedd y Elwŷddŷn. Llawer o Gŷdfrad­wriaethau a fŷdd mewn rhŷw Deŷrnas. Y Flwŷddŷn a ddechreu yn Iachus, ac a ddiweddiff yn afiachus iawn. Bŷdd y Gaiaf ar ddechreu'r flwŷddŷn yn oer, a rhewlud yn o aml; ar gwŷnt yn uchel yn o fynŷch; Ac eiraf parhaus. Y Gwanwŷn hefŷd a fŷdd yn oer iawn, a rhew ac eiraf yn aml. Yr Hâf a fŷdd yn Sŷch, ac yn wresog yn gynnar ymbell waith. Y Cynhaiaf a fŷdd yn o Sŷch, ac yn wŷntiog tua'r diwedd; a llawer o bobl a glafychant ar Syrthiad y dail. Y Gaiaf yn ni­wedd y flwŷddŷn a fŷdd afiachus, ac yn ystormus weithiau ar ei ddechreu, ac oer iawn ar ddiwedd y flwŷddŷn. Ac os gwîr ŷw rheol Sywedyddiaeth bŷdd y farchnad yn uchel yn yr hanner diweddaf or Flwŷddŷn ar ydau, Baraf ac enllŷn a fyddant ddrudion: Blwŷddŷn dôst a fŷdd hon i bob mâth ar ddynnion. Pôb tywŷdd allan o'u hamser ymbell waith; glybaniaeth pan ddymunid sych­der, a Sychder amseroedd eraill pan ewŷllysid Gwlaw; A hîn fewd neu fwll weithiau yn amser hîn oer, ac oer iawn weithiau yn amser gwrês; A rhai glasrew foreuan ynghanol yr Hâf.

Sywedyddawl amcan am y Tywŷdd yn y Flwŷddŷn 1698.

JONAWR. 1698.

Bŷdd Tebŷg iawn i fôd yn rhew ac eiraf ar ddechreu'r Flwŷddŷn, heb ddim amgen tywŷdd tra parhatho Mîs Jonawr ond tua chanol y mîs bŷdd tebŷg i chwanegu'r eiraf, a Rhewlud iawn tua'r Diwedd.

CHWEFROR. 1698.

Y Rhew ar eira fŷdd debŷg i barhau hŷd ynghŷlch Canol yr ail wŷthnos, ac yno bŷdd tebŷg i feirioli, ac i liniaru y tywŷdd. Ac ondodid Sŷrth yn Rhew ac eiraf drachefen tu'r trydŷdd Sul, ac o hynnŷ hŷd ddiwedd y mîs.

MAWRTH. 1698.

EIraf a rhew ynghŷlch y Sul cyntaf. Têg tua'r ail Sul, Rhew drachefen ac eiraf ynghŷlch y llawn-lleuad, ac fellu peru yn oer ac aml gofodŷdd o eiraf ac o [...] ­wlaw hŷd ddiwedd y mîs.

EBRILL. 1698.

Y Mîs hwn a fŷdd tebŷg i fod yn Sŷch o'i ddechreu hŷd ynghŷlch y Pasg, ac o'r pasg i ddiwedd y mîs bŷdd aml gafodŷdd, a llifeiriant mewn afonŷdd.

MAI. 1698.

Y Mîs hwn a fŷdd sŷch a theg, o ddigerth un dŷdd neu ddau o wlaw ar ei ddechreu, a dau neu dri o ddŷddiau gwlawog ar ei ddiwedd.

MEHEFIN. 1698.

Sŷch a disgwiliaf y mîs hwn igŷd, o ddigerth dau ddŷdd neu dri o Lybaniaeth ar ei ddechreu, a pheth gwlaw mewn ymbell fan lle a digwŷddo mellt a thyranau ar ol gwŷl Joan.

GORPHENNAF. 1698.

NI bŷdd eisieu gwlaw yn y mîs ymma, ond amlach a bŷdd y bobl yn gweiddi am sŷchder. Tua'r ail Sul bydd Cymylog a rhai cafodŷdd o wlaw mân, a chafodŷdd dwŷsion mewn rhai mannau drwŷ fêllt a thyranau mawr. Ac fellu aml a bŷdd mêllt a thyranau, a chafodŷdd dwŷsion yn y mîs hwn, Sycha amser ynddo a fŷdd ynghŷloh y pedwaredd Sul.

AWST. 1698.

CYmylog a gwlaw mân yn aml yn y mîs hwn hefŷd, sŷcha amser ynddo a fŷdd ynghŷlch y llawn-lloned, Mêllt a thyranau anferth o faint a fŷdd yn aml mewn rhai mannau y mîs hwn, yn enwedig tua ei ddiwedd; a gwlaw a chenllŷsg anferth o faint ymbell waith mewn rhai mannau, yn enwedig tua diwedd y mîs.

MEDI. 1698.

RHysymol têg a fŷdd y mîs hwn, cymylog yn aml a pheth gwlaw yr wŷthnos gyntaf, a thyranau a mellt a chenllusg mawr mewn rhai mannau, ac ar ol newid y lleuad bŷdd gwlawog.

HYDREF. 1698.

TEg iawn a disgwŷliaf y mîs hwn o'i ddechreu hŷd ynghŷlch newid y lleuad, Ac o hynnŷ i ddiwedd y mis bŷdd cafodŷdd oerion a dwŷsion, a phêth rhew ymbell noswaith. A gwŷnt uchel weithiau.

TACHWEDD. 1698.

GO Dêg ar ddechreu mis, Glaw neu odwlaw tua'r llawn-lleuad, Ac o ganol y mîs iw ddiwedd bŷdd tebŷg i fôd yn rhew ac eiraf.

RHAGFYR, 1698.

ANwadal ar ddechreu'r mîs, Rhew y naill ddŷdd a meiriol y llall; Teg a llariaidd tua 'r ail Sul; peth rhew drachefen tua'r trydŷdd Sul; Ac ondodid bŷdd eiraf mawr, neu wlaw dwŷs cŷn diwedd y Flwŷddŷn.

Prophwŷdoliaeth Gronw Ddu, o Sîr Fôn; Yr hwn a Brophwŷdodd ef ynghŷlch y Flwŷddŷn o oed Jesu 1400.
Y Prophwŷdoliaeth hwn sŷ'n Prophwŷdo Dyfodiad y Brenin Wiliam, Ac yn dangos pa beth a fŷdd yn ei amser ef, ac ar ei ol ef yn y Deŷrnas hon. Megis isod.

CYfŷd un i fynu i ddibennu y gelynnion gwibiog, y [...] hwn a fŷdd lydan ei Gleddŷf, ac o dylwŷth Enwog, yr hwn a una Gymdeithas a'i eiddof ei hun; Efe a ddaw i ostwng uchder gelynnion Lloeger, ac a'u chwal ar wasgar feswl y cantoedd; y prŷd a daw llongau i'r Werddon: a dau fath o amrŷw bobl ynddŷnt; Pan ddel y Gŵr hael o hîl llywelŷn o'i wlad o bwrpas i orthrechu, a'i faner o Gôch a Melŷn, efe a feddianna yr Ynus: yn yr amser hwnnw bŷdd dynion yn gwiso gwallt Gosod, a merched yn gwisgo gwisg megis esgill o ddeutu eu▪ Clistiau, a gwallt Crŷch neu gwrliedig, A gwŷr-wrth-gerdd yn ddi-gystog, ac yn weigion eu dwŷlo, mynwentau yn ddi barchedig, Tenantiaid mewn cyfyngder, Delwau yn ddi­ystyrus, y mynnyddoedd yn iselhau, ar brynniau lleiaf yn Codi, yr Aur ynghyrôg, ar arian ynghlâdd, cymdeithas yn dwŷllodrus. Marwolaeth heb alar, a drudaniaeth heb eisieu, a Bŷd blîn i bawb.

Yn ol hynnŷ bŷdd dyddiau gwŷl i'r Gwauw-ffŷn a'r arfau Rhyfel:

Ac yno y Cymru a Godant eu pennau, ac a ddisgwiliant am addewidion Merlŷn a Thaliesŷn.

Hefŷd cofiwch yr hên ddiharebion, megis isod.

Pan ddigwŷddo'r Pasg ar Fai,
Gwŷn ei fŷd y Cymro a fae.
Bŷdd Gwragedd gwŷnedd Gain,
Yn hau llîn yn nhîr Llundain.

Taflen o ben llanw'r môr. mewn 22. o Borthau o ddeutu Cymru.

Oed 7 Lleuad or naill newid i'r llall Tŷ Ddewi ne pen dewi. Aber­dau­gle­ddef. Aber-Teifi. Aber-Tawy Caer­lionar ŵŷsg. Beat­slay. ac Awst. Brŷsto Aber Ystw­ŷth. Traeth mawr. Pwll Heli. caergy bi. bar caern arfon.
A. M. A. M. A. M. A. M. A. M. A. M. A. M. A. M.
1 16 5 00 5 20 5 30 6 00 6 40 7 00 9 20 9 30
2 17 5 48 6 8 6 18 6 48 7 28 7 48 10 8 10 18
3 18 6 36 6 56 7 6 7 36 8 16 8 36 10 56 11 6
4 19 7 24 7 44 7 54 8 24 9 4 9 24 11 44 11 54
5 20 8 12 8 32 8 42 9 12 9 52 10 12 12 32 12 42
6 21 9 0 9 20 9 30 10 00 10 40 11 00 1 20 1 30
7 22 9 48 10 8 10 18 10 48 11 28 11 48 2 8 2 18
8 23 10 36 10 56 11 6 11 36 22 16 12 36 2 56 3 6
9 24 11 24 11 44 11 54 12 24 1 4 1 24 3 44 3 54
10 25 12 12 12 32 12 42 1 12 1 52 2 12 4 32 4 42
11 26 1 0 1 20 1 30 2 00 2 40 3 00 5 20 5 30
12 27 1 48 2 8 2 18 2 48 3 28 3 48 6 8 6 18
13 28 2 36 2 56 3 6 3 36 4 16 4 36 6 56 7 6
14 29 3 24 3 44 3 54 4 24 5 4 5 24 7 44 7 54
15 30 4 12 4 32 4 42 5 12 5 52 6 12 8 32 8 42
Oed y Lleuad o newid i newid aberme ne caer narfon Bôl y Donn. Porth-Aeth­wŷ. Bewm­ares. Aber­conwŷ Most­ŷn. Trê 'r Fflint. nesson. Caerll­eon gawr.
A. M. A. M. A. M. A. M. A. M. A. M. A. M. A. M.
1 16 10 00 10 30 10 40 10 45 11 00 11 10 11 30 11 54
2 17 10 48 11 18 11 28 11 33 11 48 11 58 12 18 12 42
3 18 11 36 12 6 12 16 12 21 12 36 12 46 1 6 1 30
4 19 12 24 12 54 1 4 1 9 1 24 1 34 1 54 2 18
5 20 1 12 1 42 1 52 1 57 2 12 2 22 2 42 3 6
6 21 2 0 2 30 2 40 2 45 3 00 3 10 3 30 3 54
7 22 2 48 3 18 3 28 3 33 3 48 3 58 4 18 4 42
8 23 3 36 4 6 4 16 4 21 4 36 4 46 5 6 5 30
9 24 4 24 4 54 5 4 5 9 5 24 5 34 5 54 6 18
10 25 5 12 5 42 5 52 5 57 6 12 6 22 6 42 7 6
11 26 6 0 6 30 6 40 6 45 7 00 7 10 7 30 7 54
12 27 6 48 7 18 7 28 7 33 7 48 8 58 8 18 8 42
13 28 7 36 8 6 8 16 8 21 8 36 7 46 9 6 9 30
14 29 8 24 8 54 9 4 9 9 9 24 9 34 9 54 10 18
15 30 9 12 9 42 9 52 9 57 10 12 10 22 10 42 11 6

Y môdd i gael llanw'r môr wrth oed y Lleuad ar Daflen yma.

MAe'r Môr yn llenwi ddwŷ waith mewn diwrnod a noswaith: y llanw a ddigwŷddo y dŷdd a geir yn gy­wir yn y daflen hon. Ond pan ddigwŷddo y Llanw ddwŷ waith ar liw dŷdd, (fel a bŷdd weithie ar hîr ddŷdd Hâf) Ceisiwch y llanw cyntaf o honŷnt yn y Daflen hon, sef hwnnw a ddigŷddo y boreu; os mynnech gael amser y llanw arall brŷdnawn, cewch êf 12 Awr, a 24 mŷnud ar ôl y llanw boreuol.

Pa ddŷdd bynnag (or flwŷddŷn) a mynnech wŷbod yr amser o ben llanw'r Môr, mewn rhŷw un or mannau a hen­wir yn y Daflen hon; Edrychwch beth ŷw oed y lleuad y dŷdd hwnnw, yn y ddalen a berthyno i'r mîs: A phan gaff­och oed y lleuad yno, chwiliwch am yr un dŷdd o oed y lleuad yn y daflen hon; (A hynnŷ a gewch mewn un o'r ddwŷ Golofn sŷdd dan y gair oed y Lleuad) A chyferbŷn a hynnŷ dan henw'r Porth a fynnoch cewch yr Awr tan A. a'r mynudŷn tan M. o ben llanw'r môr y dŷdd hwnnw, yn y Porth neu'r porthau a henwir uwchben.

Deallwch yn Eglurach wrth yr Esamplau isod.

Os mynech yr amser o ben llanw'r môr yn Ab [...]augleddŷf yr 21 dŷdd o Ionawr y leni? Edrychwch yn gyntaf pesawl dŷdd oed ŷw y Lleuad y dŷdd hwnnw, yn y tu dalen am Fis Ionawr; Ac yno cewch weled fôd y lleuad yn 20 dŷdd oed. Yn ail edrychwch yn y Daflen hon am yr 20 dŷdd o oed y lleuad, a hynnŷ a gewch yn yr ail golofn: A chyferbŷn ar 20 hwnnw, yn y bedwaredd golofn (dan enw Aberdaugleddŷf) cewch weled 8 tan A, a 32 tan M. Sef wŷth awr, a 32 mŷnud, yn dangos i chwi a bŷdd pen llanw'r môr yn Aber­daugleddŷf yr 21 dŷdd o Ionawr y leni 32 mŷnud wedi wŷth ar y glôch y boreu. Goreu amser i dramwŷ dros y traeth mawr. Tros draeth y Bewmares, a thros draeth Caerlleon ŷw ar ddistill trai; hynŷ ydŷw o 6 awr i 7 cŷn, neu gwedi pen­llanw. Goreu amser i dramwŷ rhwng Awst a Beatslay ŷw 2 awr neu 3 cŷn pen llanw pan fô'r gwŷnt or dwŷrain i'r gogledd▪ A 2 awr neu 3 wedi pen llenw pan fôr gwŷnt o'r Gorllewŷn ir deheu. Goreu amser i dramwŷ dros borth Aber-Conwey ŷw Tair awr cŷn neu gwedi pen llanw. Am y porthau eraill igŷd, pen llanw sŷdd oreu iw Tramwy

Taflen yn dangos yr amser o'r nôs yn gywir, (wrth Lewŷrch y Lleuad ar ddeiol Haul.) trwŷ'r Flwŷddŷn.

Oed y lle­uad bôb dŷdd o'r naill new­id i'r llall. Amser iw chw­anegu at lew­ŷrch y lleuad.
A. M.
1 16 00 00
2 17 00 48
3 18 1 36
4 19 2 24
5 20 3 12
6 21 4 00
7 22 4 48
8 23 5 36
9 24 6 24
10 25 7 12
11 26 8 00
12 27 8 48
13 28 9 36
14 29 10 24
15 30 11 12

PA nôs bynnag a mynnech wŷbod yr amser o'r nôs wrth lewŷrch y lleuad; yn gyntaf edrychwch (pan fo'r lleuad yn llewyrchu) pa lê a bŷdd ei phenŷd ar y Deiol Haul; A phan gaffoch yr awr neu'r amser a ddangoso ei llewŷrch ar y Deiol, Cerriwch hynnŷ yn eich meddwl, neu yscrifenwch êf i lawr. Yn ail edrychwch pesawl dŷdd oed ŷw y lleuad y dŷdd hwnnw o'r mis. Ac yno chwiliwch am yr un dŷdd hwnnw o oed y Lleuad yn y daflen hon; A phan gaffoch hynnŷ yn y golofn gyntaf neu'r ail o'r Daflen hon, Edrychwch bêth sŷdd o oriau a mynud­iau gyferbŷn a hynnŷ yn y drydŷdd gol­ofn dan A. M. Yn y daflen hon. A rhodd­wch yr oriau a'r mynudiau hynnŷ a ga­ffoch yn y drydedd golofn dan A. M. At yr amser yr oedd llewŷrch y lleuad yn ei ddangos ar y Deiol Haul: A bwriwch i fynu y ddau Rifedi i'r unffordd; ar Cy­fan ŷw yr amser o'r nôs. Ac os bŷdd y Swm yn uwch na 12 o oriau, bwriwch ymaith 12 o oriau, ar gweddill ŷw yr amser o'r nôs.

Deallwch yn Eglurach wrth yr Esamplau isod.

Os digwŷdd i'r lleuad lewŷrchu ar wŷth or nôs y 7 neu'r 22 dŷdd o Jonawr y leni, ei phelŷdr neu lewŷrch a ddengŷs 4 ar y deiol, edrychwch y dyddiau hynnŷ o Jonawr bêth ŷw oed y Lleuad yn y bumed Golofn ar y ddalen am fis Jonawr, ac yno cewch 6. 21. Ac yno edrychwch am 6 ac 21 yn y ddwŷ golofn gyntaf or daflen hon, a chyferbŷn a hwŷnt yn y drydŷdd golofn, cewch 4 tan A, a 00 tan M. Sef pedair awr union: Gosodwch y pedair awr hynnŷ wrth y pedair awr a ddangosodd penŷd y Lleuad ar y deiol, a hynnŷ a wnant wŷth, Sêf yr amser o'r nôs. Gwŷbyddwch mae 60 o fynudiau fŷ mewn awr bôb amser.

FFEIRIAU CYMRU.

Yn Sîr Fôn.

ABerffraw, Mercher y Drindod, Gorphenaf 31. Hydref 12. Tachwedd 30.

Bewmares, Chwefror 2. Dŷdd Jou Derchafael, Medi 8. Rhagfŷr 8.

Llanerch y mêdd, Mawrth 24. Ffeiriau Cyffylau a'r y ddau fercher nessaf i'r 22 dŷdd o'r Gorphenaf, Awst 14. Medi 21. Tachwedd 2.

Newborough, Ebrill 30. Mehefin 11. Awst 10. Medi 14. Hydref 31.

Porthaethwŷ, Awst 15. Medi 15. Hydref 13. Tachwedd 3.

Yn Sîr Gaernarfon.

Aberconwŷ, Awst 24. Medi 29. Hydref 28.

Abergarthgelŷn neu gwŷn-gregin, Awst 7. Hydref 14. Tachwedd 10.

Bangor, Mehefin 14. Hydref 17.

Bettws, Mai 5. Tachwedd 22.

Y Borth, Awst 15. Hydref 13.

Caernarfon, Mai 5. Gorphennaf 24. Tachwedd 24.

Cricceth, Mai 12. Mehefin 20. Hydref 7.

Nefŷn, Mawrth 24. Noswŷl y Sulgwŷn. Awst 14.

Penmorfa, Medi 14. Tachwedd 1.

Pwllheli, Mai 2. Awst 8. Medi 13. Hydref 31.

Trê-rhiw, Awst 23. Hydref 27.

Yn Sîr Ddimbŷch.

Abergeleu, noswŷl y Derchafael, Awst 9. Medi 28.

Cerrigydrudion, Ebrill 16. Awst 16.

Dimbŷch, Sadwrn y Blodau, Mai 3. Gorphennaf 7. medi 14.

Gwrecsam, mawrth 12. Dŷdd y Derchafael, Mehefin 5. Medi 8.

Holt, Mehefin 11. Hydref 6.

Llan-deglaf yn Iâl, Mehefin 12. Hydref 15.

[Page] Llangollen, Mawrth 6. Mai 20. Awst 10. Tachwedd 11.

Llanrhaiad ymochnant, Gorphennaf 13. Hydref 28.

Llan-rwst, Mehefin 1. a'r 10. Gorphenaf 31. Rhagfŷr 1.

Rhuthŷn, y Gwener o flaen y Sulgwŷn, Gorphenaf 29. Medi 20. Hydref 31.

Yspyttŷ Ifan, Mehefin 22. Medi 12. Hydref 12.

yn Sîr y fflint.

Caergwrleu, Awst 1. Hydref 16.

Caerwŷs, mîs Mawrth 25. Y dŷdd Jou nesaf ar ôl y Drindod. Y dŷdd Mawrth Cyntaf ar ôl y 7 dŷdd o'r Gorphennaf. Awst 29.

Y Fflint, Awst 10.

Llan-Elwŷ, dŷdd mawrth y Pasg, Gorphennaf 9. Hydref 5. Rhagfŷr 16.

Llan-Urgain, Mawrth 14. Mehefin 26.

Rhŷddlan, Chwefror 2. mis Mawrth 25. Gorphenaf 2. Medi 8.

Yr Wŷrgrig, Gorphennaf 22. Tachwedd 11.

yn Sîr Feirionedd.

Bala, Mai 3. Mehefin 29. Medi 17. Hydref 15. a'r 28.

Bettws gwerfŷl-gôch, Mehefin 11. Awst 1. Rhagfŷr 10.

Corwen, mis Mawrth 1. Mai 13. Medi 29. Rhagfŷr 15

Dinas Ymowddwŷ, Mai 22. Awst 30. Tachwedd 2.

Dôlgelleu, Ebrill 30. Mehefin 23. Medi 28. Tachwedd 11. Rhagfŷr 5.

Harlech, Dŷdd Jou nesaf ar ôl y Drindod. Awst 10.

Llan-drillo, Mehefin 24. Awst 17. Tachwedd 13.

yn Sîr Drefaldwŷn.

Llan-fylling, Dŷdd mercher o flaen y Pasg, Mai 13. Mehefin 17. Medi 24.

Llan-Idloes, Ebrill 30. Gorphennaf 6. Hydref 16.

Machynlleth, Mai 5. Mehefin 28. Medi 29. Tachwedd 15.

Trallwngc, Mai 25. medi 1. Tachwedd 5. a marchnad rŷdd ar ddŷdd llun y blodau.

[Page] Trefaldwŷn, Mawrth 15. Mai 27. Awst 24. Tachwedd 1

Tref-newŷdd, Mehefin 13. Hydref 13. Rhagfŷr 5.

yn Sîr Faesyfedd.

Castell-maen, Gorphennaf 7. Tachwedd 2.

Llan-Andrews, Mehefin 24. Tachwedd 30.

Maesyfedd, Dŷdd mawrth y Drindod, Awst 3. Hydref 18.

Rhaiad ar Gwŷ, Gorphennaf 26. Awst. 15. Medi 15.

Tref y clawdd, Mai 6. Medi 21.

yn Sîr Aberteifi.

Aberteifi, Chwefror 2. mis mawrth 25. Awst. 15. Medi 8. Rhagfŷr 8.

Aberath, Mehefin 24. Tachwedd 30,

Cappel-cynnon, dŷdd y Derchafael. Yr ail dŷdd Jou yn Hydref.

Cappel Crîst, y mercher ar ôl Sul y Drindod.

Cappel St. Silin, Jonawr 27.

Llanbadern fawr, sadwrn y Blodau. Y sadwrn diweddaf cŷn Natalic, ond pan fo ar nôs natalic.

Llanwenog, Jonawr 2.

Llan-gyranog, Mai 16.

Llanbeder pont Stephen, mercher y Sulgwŷn. Mehefin 29. Hydref 10.

Llanrhustŷd, Rhagfŷr 18.

Llandysul, dŷdd Jou cŷn Sul y Blodau. Medi 8.

Llanwnnen, Rhagfŷr 25.

Llanwŷddalus, Ebrill 26.

Rhôs, Gorphenaf 25. Awst 10. Medi 14.

Tal y sarn grîn, Awst 28. Hydref 29.

Trêf hedŷn wrth Emlŷn, Gorphenaf 7.

Tregaron, mîs Mawrth 5.

Ystrad meirigc, Mehefin 21.

Yn Sîr Fercheinog.

Aberhonddu, Ebrill 23, 24, 25. Mehefin 24. Awst 29, 30, 31. Tachwedd 6, 7, 8.

[Page] Cerig-howel, Mai 1. Awst 10, Rhagfŷr 21.

Y Gelli, Mai 6. Awst 1. Medi 29.

Llanfair-ymmuallt, Mehefin 16. Medi 21. Tachwedd 25.

Yn Sîr Gaerfyrddin.

Abercynnen, Tachwedd 11.

Abergwili, Medi 21.

Caerfyrddin, Mai 23, 24, 25. Awst 1. a'r 29. Medi 28. Tachwedd 3.

Cappel-Jago, Gorphenaf 25.

Cappel St. Silin, Jonawr 27.

Castell newŷdd yn Emlŷn, Mehefin 11. Gorphenaf 7. Tachwedd 11.

Castell newŷdd yn 'Rhôs, Mehefin 11.

Cŷdweli, Gorphenaf 21. Hydref 18.

Cynwŷlgaro, Mehefin 11.

Dryslwŷn, Mehefin 20. Awst 24.

Eglwŷs Alcha, Awst 10.

Lacharn, Ebrill 25.

Llandebio, Dŷdd mercher y Sulgwŷn.

Llandeilo fawr, Chwefror 9. Dŷdd llun y Blodau. Mehe­fin 10. Rhagfŷr 28.

Llandeilo fechan, Mehefin 10.

Llan-dysel, Jonawr 30.

Llan-elli, dŷdd Jou Derchafael. Medi 20.

Llanfihangel Abercowŷn, medi 29.

Llanfihangel Euroth, mai 1. medi 29.

Llan-gadog, mîs Mawrth 1. Jou y Derchafael. Mehe­fin 28. Tachwedd 30.

Llan-gydeŷrn, Gorphenaf 25.

Llan-gynŷch, Hydref 12.

Llan y Byddar, Mehefin 10. Gorphenaf 6. Hydref 21. Tachwedd 10.

Llanddyfri, dŷdd mawrth y Sulgwŷn. Gorphenaf 20 Tachwedd 15.

Mydrim, Mawrth 7.

Pen y bont ar Sali, Tachwedd 24.

[Page] Pen y bont, Rhagfŷr 22.

Y Tŷ Gwŷn ar Daf, Chwefror 2. Mawrth 25. Awst 15. medi 8. Rhagfŷr 8.

Yn Sîr Benfro.

Arberth, Mehefin 24. Tachwedd 30.

Castell newŷdd bach ynghemŷs, Mehefin 29.

Cilgeran, Awst 10.

Castell-gwŷs, Hydref 29.

Crisŷl, Dŷdd llun y Drindod.

Eglwŷs wrw ynghemŷs, Dŷdd y Derchafel. Y llun cyntaf ar ôl yr 11 o Dachwedd.

Ffair Gyrig yn rhewdraeth, Mehefin 11.

Hwlffordd, Mai 1. Gorphenaf 7.

Llan-haiadan, Hydref 18.

Matherŷ, Medi 29.

Mwncton wrth Benfro, Mai 3. Medi 4.

Marberth, Tachwedd 30.

Merthŷr, Medi 29.

Newport, mehefin 16.

Penfro, mai 3. medi 14.

Saint Meugan ynghemŷs, Medi 15. Y dŷdd llun nesaf ar ôl yr 11 dŷdd o Dachwedd.

Winston, Hydref 28.

Yn Sîr Forganog.

Abertawŷ, Yr ail Sadwrn o Fai. Gorphenaf 2. Awst 15. Hydref 8.

Brogior wrth Wenni, medi 29.

Caerdŷf, Mehefin 29. Awst 15. medi 8. Tachwedd 30.

Caerffili, mîs mawrth 25. Dŷdd Jou ar ôl Sul y Drindod. Gorphenaf 19. Awst 14. medi 28. Tachwedd 5. Y Dŷdd Jou nesaf o flaen dŷdd Natalic.

Castell nêdd, mehefin 15. Gorphenaf 20. medi 2.

Dŷffrŷn Golluch, Awst 10.

Eglwŷs Fair y mynŷdd, Awst 15.

Llandaff, Chwefror 9. Dŷdd llun y Sulgwŷn.

[Page] Llan-gyfelach, mîs mawrth 1.

Llan-Ridian, Y dŷdd llun diweddaf o flaen y Pasg.

Llan-Trissiant, Mai 1. Awst 1. Hydref 17.

Llychwr, Medi 29.

Merthŷr-Tudfŷl, Mai 3. a phôb dŷdd llun o hynnŷ hŷd wŷl mihangel.

Penrhŷn, Tachwedd 30.

Penrhŷs, Mai 6. Mehefin 6. Medi 6. Tachwedd 30.

Pen y bont, Dŷdd Jou Derchafel, Mai 15. Tachwedd 6.

Pont ar Lai, Gorphenaf 22.

Pont-faen, Ebrill 23. Mai 3. Mehefin 24.

Saint Nicholas, Rhagfŷr 8.

Y Waun, Mai 2. 22. Llun y Drindod. Mehefin 20. Awst 22. Medi 12. Yr ail Llûn ar ôl Dŷdd Mihangel. Tachwedd 9.

Yn Sîr Fynwŷ.

Abergafeni, Mai 3. Mawrth y Drindod, Medi 14.

Brŷn Bŷga, Dŷdd llun y Drindod. Hydref 18.

Caerlion ar Wŷsg, Mai 1. Gorphenaf 20. Medi 21.

Castell bychan, Mehefin 13.

Castell Gwent, Y gwener cyntaf ar ôl y Sulgwŷn, Awst 1. Yr ail Gwener ar ôl dŷdd mihangel.

Castell newŷdd ar Wŷsg, Dŷdd y Derchafael. Awst 15. Medi 8. Tachwedd 6.

Mynwŷ, dŷdd mawrth y sulgwŷn. Awst 24. Tachwedd 11.

Pont y Pwl, Ebrill 11. Mehefin 24. Medi 29.

Stow ymhlwŷf Gwinlliw, Dŷdd Jou ar ôl y Sulgwŷn.

Y rheini o Ffeiriau Lloeger, ar sydd yn agos i Gymru.

Yn Sîr Gaerfrangon.

BEwdleu, Chwefror 5. Ebrill 23. Gorphenaf 26. Tachwedd 20.

Caerfrangon, Dŷdd llun y Blodau, Medi 8.

Kiderminster, Dŷdd y Derchafael. Dŷdd Jou ar ôl Sul y Drindod. Awst 24.

Styrbrids, Mawrth 18. Awst 28.

[Page] Tenburi, Ebrill 25. Gorphenaf 7. Medi 15.

Todington, Awst 24. Medi 29. Tachwedd 23.

Upton, Mehefin 24.

Yn Sîr Gaerloŷw.

Caerloŷw, Mawrth 25. Mehefin 24. Awst 24.

Caerodor neu Brŷsto, Jonawr 25 Gorphenaf 25.

Marsffield, mehefin 29.

Michael Dean, Medi 29.

Newent, Noswŷl y Sulgwŷn. Awst 1. 25.

Tewgsburi, Chwefror 24. Gorphennaf 22. Awst 24.

Wotton, Medi 14.

Yn Sîr Gaerlleon.

Caerlleon, Mehefin 24. Medi 29.

Heledd, Dŷdd y Derchafael. Gorphennaf 22. Awst 23. Hydref 18. Rhagfŷr 6.

Malpas, mîs Mawrth 25. Gorphennaf 25. Rhagfŷr 8.

Yn Sîr Henffordd.

Bromyard, Mai 3. Dŷdd llun y Sulgwŷn.

Kington, Dŷdd llun y Sulgwŷn. Gorphennaf 22. Medi 8.

Henffordd, Y pummed Llun ar ôl▪ Sul ynŷd. Y mercher Cyntaf ar ôl y Pasg, mîs Mawrth 25. Mehefin 20. Hydref 8. a'r 12.

Llanllieni, Mehefin 29. Hydref 28.

Ross, Dŷdd Jou Derchafael. Dŷdd Jou ar ôl y Drindod. Gorphennaf 25. Awst 15. medi 14.

Yn Sîr y Mwŷthig.

Batlfield, Gorphennaf 22.

Bridsinorth, dŷdd mawrth ynŷd, mehefin 29. Gorphen­naf 22. Tachwedd 18.

Croesyswallt, mawrth 4. mai 1. Awst 4. Tachwedd 29.

Eglwys-men, Dŷdd llun y Sulgwŷn. Hydref 23.

Elsmer, Dŷdd mawrth y Sulgwŷn. Awst 15. Tachwedd 1.

Llwdlo, Y llun, mawrth, a'r mercher nesaf i'r Pasg, [Page] o'i flaen, mercher y Sulgwŷn, Awst 10. medi 15. Tachwedd 25.

Mwŷthig, Y mercher ar ôl y Pasg bychan. Y mercher o flaen y Sulgwŷn, mehefin 22. Awst 1. medi 21. Rhagfŷr 1.

Trêf Esgob, Gwener y Croglith, mehefin 24. Tachwedd 2.

Wem, Ebrill 25. Dŷdd Jou Derchafael. mehefin 26. Tachwedd 10.

Wenloc, Mehefin 24.

Carol Duwiol, o Ystŷr ar Einioes Dŷn.

1.
O Fuchedd dŷn bychan o'm mebŷd yn faban▪
Cyfflybwn fy oedran yn beder rhan rhi,
I'r Flwŷddŷn fer fyroes, pôb tri mis yn un-oes,
Yn beder oes einioes iw henwi.
2.
I'w henwi mi ranna i gyfri yr oes gynta,
Gwanwyn.
Y gwanwŷn oedd wana, a hwŷa yn parhau:
Yn sâl fy nechreuad ar deall heb ddywad,
Na siarad trwŷ gariad mo'r geiriau.
3.
Fy ngeiriau oedd fyrion, a doeth-wych nid aethon,
Yn wan fy amcanion o foddion difudd,
Cael moethe i'm maethu, dda ddigon im magu,
A'm dysgu i'm gyru tan gerŷdd.
4.
Drwŷ gariad roedd gerŷdd dan ofon Duw'n ufudd,
A minne yn aflonŷdd a'm hawŷdd yn hŷ;
Saith oedran cymhedrol cael trwsiad pyrthnasol,
A'm danfon i'r ysgol i ddysgu.
5.
'Roedd yno blant finte ar fynwent fel finne,
A mwŷ chwant i chware na llyfre mewn llaw:
A minne yn gyfanedd yn fawr fy oferedd,
Nes dilin o'r dialedd i'm dwŷlaw.
6.
Bum naw mlynedd union yn dysgu pob tasgion,
Nes dirnad gorchmynnion da tirlon Duw tri,
Er bod o wŷbodaeth o gyfran ei gyfraeth,
Roedd daerach naturiaeth iw tori.
7.
Af weithian i draethu, yr ail oes sŷ'n nesu,
Haf.
Hirddŷdd ha yn harddu, a llawennu wna llangc;
Cyfeillach oedd f'wllus i'r Bŷd sŷdd enbŷdus,
Trosseddus a nwŷfus yn ifangc.
8.
Yn ifangc llawn afiaeth, brŷd oedd ar brydyddieth,
A chan [...] i lân eneth wŷch odieth mewn chwant;
Pôb rhi in fwyneiddgu, mynd attŷn o'm deutu:
A ffaelu mwŷ trechu mom trachwant.
9.
Pôb Sul yn amharod anufudd i ddyfod,
I wrando'r gair Duwdod, mwŷ pechod ŷw'r pêth;
Prŷnhoniau yn ol hanner chwaryddfa oedd yr arfer:
Y pader ar gosper oedd gasbêth.
10.
Y Drydŷdd oes wedi, rhaid ydoedd priodi,
Cynhaiaf.
Maith amod daeth i mi iw gyfri dan go:
A minne oedd yn myned or gwaetha fy ngweithred;
I dori yr addunedd oedd yno.
11.
Cael tir a thretadeth, a gwisgi gynhysgeth,
Cynhaia an-howeth ar draffeth iw drin;
Mewn gofal a gofud drwŷ boen ar bôb enŷd:
I ymeulŷd a golud, a'i galŷn.
12.
Pôb bore er oered, i'r mynŷdd rhaid myned,
I'r golwg i weled y Defed a'r da;
Troi weithian i weithio bôb un ag oedd yno:
A'u hwŷlio i lafurio am fara.
13.
Pêth awŷdd cwmnhieth at arwŷdd naturieth,
Balchio wnae'r coweth mewn afieth er nêb;
Cael atta o'm deutu fŷd llawn i'm llawenu:
A hynnŷ i'm denu i odineb.
14.
Yrowan daeth Gaia, a henaint a'm huna,
Gaiaf.
I'm dilŷn, a'm dala, yn llwŷra ymhôb lle:
Arwŷddion yn genad, ysbysol ddangosiad,
I ddirnad diweddiad i'm dyddie.
15.
Fy muchedd sŷ'n pechu, a'm dyddie yn diweddu,
Fy oes sŷdd yn nesu i'm barnu heb wâd;
Gofyna yn gyfanedd, i Dduw cŷn i'm ddiwedd;
Ei buredd drugaredd drwŷ gariad.
16.
Mae'r pen wedi gwnu, ar golwg yn pallu,
Ar Clowed yn dylu i'm synnu yn o sŷn;
A rhwŷm o hîr amod yn dilŷn pôb aelod:
I orfod cyfarfod a therfŷn.
17.
Weithian yn ddiwaetha tro'r wŷneb truana,
At Dduw y gorucha Jehova ei hun:
A'i gofio mewn gofal, cŷn dyfod y dial;
Am dori ei Arch amal orchymmŷn.
18.
I'r ydwŷf yn credu drwŷ wîr edifaru,
I'r grasol Dduw Iesu fy-mhrynnu mewn prŷd;
A bŷth 'rwi'n obeithiol gael bôd yn gymodol:
Dragwŷddol yn fŷwiol i fywŷd.
19.
Dy gariad trugarog, Dduw'r Llowŷdd galluog,
Er mwŷn dy Fâb enwog, Eneiniog o'r Nêf;
Rhoes ei einioes oen unig, o'i fôdd yn dda feddig,
Drwŷ ddirmŷg yn ddiddig i ddioddef.
20.
Bu ddiddig i ddioddeu, heb angen loes angeu.
I'm cadw am bechode a'm beie mawr bwŷs;
Yn gwhwl mae'ng obeth o'i filen farwolaeth,
Gael perffeth bûr odieth Baradwŷs.
21.
Pûr odieth Baradwŷs, drwŷ gymod Duw yn gymwŷs,
I'm henaid, a'i gynwŷs iw Eglwŷs lwŷs lân;
Dy râs yn gymhwŷsedd, fy Nuw ar fy niwedd,
Un agwedd a buchedd dŷn bychan
22.
Pôb Ceraint am caro, pôb dŷn a'm adwaeno,
Pôb cyfaill a'm cofio, pawb ero yn bûr;
Dymunwch i minne ar Dduw a'ch gweddie,
Gael madde ymhechode bechadur.
23.
Duw dyro drugaredd, a'th gymod diomedd,
Am bechod fy muchedd i ddiwedd yn dda;
O'm hir-waith i'm harwen, drwŷ wîr ffŷdd i orphen,
Yn llawen, Amen a ddymuna.

Dyriau Newŷdd, o ffarwel i'r Cwrw. ar y Dôn a elwir Diniweidrwŷdd.

1.
Y Tafarn wragedd hyddŷsg hafedd, glân arafedd gwaredd gwŷch
Fy mrud a weles yn anghynes pan edryches yn y drŷch,
Wrth drin y cwrw a helffio hwnnw mi wn mae'n feddw a ceid y fi
Mae mrud ymadel yn ddi'mrafel, gwir ŷw'r chwedel garw i chwi
Ffarwel bellach ffôl gyfeddach, rhodiai'n sobrach rhŷd y sarn,
Rhag fy ngalw o faingc y cwrw, am cael yn feddw i fynd i'r farn
2.
Nid gwiw dilin moŷthe meithrin ir gwael gorŷn briddŷn brau
Ail ddyfodiad Crîst ein ceidwad rydwi'n syniad sŷ'n nesau,
Yr hwn an geilw i'r farn yn groiw, fŷw a meirw ar dîr a môr,
Bôd yn feddw yr amser hwnnw, hŷn sŷdd arw fatter sôr;
Lle mae 'n rhaid atteb am ffolineb i'r tragwŷddoldeb heb le i droî
Nid all bygythion gadw'r crysion nai hesgusion bŷth mo'u 'sgoi.
3.
Rhaid iw dofi rhediad afieth, mawr iw'r barieth sŷdd yn body
A garo gwrw ni rŷdd hwnnw fawr i gadw yn i gôd;
Ond gwario yn ofer flode ei amser mewn gwag bleser hyder hud,
Gyda meddwon ofer ddynnion, yn afradlon iawn ei frŷd;
Fe all mewn henaint ddwŷn anhunedd, am ei oferedd mawr ai fai
Ar ol llifeiriant nofiad nwŷfiant nerth a llwŷddiant eiff yn llai.
4.
Rydwi yn deall hŷn or diwedd nad ŷw oferedd ond rhŷw fâr
Sŷdd yn calŷn pôb oferddŷn, a gymro yn sydun hwn iw siâr
Y fi o ddifri a faria ei gwmnhi, a'i fawr wegi ofer waith,
Rho iddo yn gynar lythŷr ysgar, mae yn edifar geni'r daith,
Ffarwel fflagen mameth cynnen, at y faeden nid a Fi;
Rwi yn gwllysio yn dradwŷs droedio y ffordd i mado heno a hi.
5.
Gan fod yscryrhur lân yn gorafun dyna ddychrŷn dygun dwŷs
Am cydwŷbod inne yn canfod ysdod pechod penod pwŷs,
Ni nai bellach mo'r ysbleddach, na chyfeddach o'ch y Fi,
[...] wna ngweddie at Dduw y duwie Arglwŷdd madde fy meie i mi
Rwi mewn bwriad di derfyniad drwŷ iawn alwad i droi'n ôl,
At Dduw Sanctedd mewn gwirionedd oddiwrth wagedd ffiedd ffol
6.
Os gofyner pwŷ sŷ ar feder rhoi ei hôll hyder ar wellau,
Dyweda yn grouwedd am wirionedd yn ddifregedd i chwi yn frau
Nid a fe i galŷn cwrs oferddŷn rhag yn rhydŷn droi yn y rhwŷd
Ei henw yn eglur lle'r argrephir fe a'i darllenir Robert Lloyd.
Duw an gwnelo ni ôll yn gymwŷs i Baradwŷs wiwlwŷs wen
Dywedwch chwithe lân galone gŷda mine igŷd Amen.
Thomas Grŷffudd a'u Cant.

Llyfrau cymraeg yn Brintiedig, ac ar werth Gan Thomas Jones, ac eraill, fel a canlyn.

Y Llyfr Plygain sŷdd newŷdd Breintio, yn helaethach nag erioed o'r blaen; Ac yn cynwŷs ynddo, Yn gyntaf ymadrodd at y darllennŷdd yn dangos yr achos paham a Gwnaed y llyfr, ac a chwanegwŷd atto yn helaethach. Yn ail yn dangos geiriau Duw (yn yr Scrythŷr lân) yng­hŷlch dwŷn plant i fynu, ac ynghŷlch Dysgu darllain. Yn drydŷdd yn Dangos geiriau Duw ynghŷlch gweddio. Yn bedwaredd pôb mâth ar Egwŷddorion Cymraeg. Yn bume [...] y môdd i synnio y llythyrennau ac iw cydio yn sylaftau a Geiriau. Yn chweched y Pader a'r Credo ar Dêg Gor­chymmynnion. Yn seithfed Catechism yr Eglwŷs wrth [Page] drefn a Gorchymmŷn Eglwŷs Loeger. Yn wyt [...] [...] rhâd ar Fwŷd iw dywedŷd cŷn bwŷdtaf, A D [...] dywedŷd arol bwŷdtaf. Yn nawfed Gweddiau iw [...] ar amrŷw ddyddiau yr wŷthnos. Yn ddegfed Deg [...] o amrŷw weddiau iw dywedŷd ar ddegarhugain o [...] achosion ac amseroedd. Yn unfedarddêg chwech o ddiol [...] am ddaionus roddion Duw iw dywedŷd pan fôm dyle [...] i Dduw am yr amrŷw ddonniau. Yn ddeuddegfed y gwa [...] aeth boreu neu'r boreuol weddiau fel ag eu maent yn llyfr gweddi gyffredin. Yn drydeddarddeg y Letani n [...] ymbiliad cyffredinol iw ddywedŷd ar ddiwedd y Gwasanaeth boreu. Yn bedwararddêg y Gosper neu'r Prŷdna [...] nol weddiau fel ag eu maent yn y llyfr gweddi gyffredi [...] yn bymthegfed yscol cymraeg neu Athrawiaeth hyfford [...] hyfforddi'r hwn a ddysgodd ddarllain Cymraeg yn rhysym [...] i ddeall yr Iaith yn amgenach, ac iw darllain a'i hysgrifenn yn gywir. Yn unfedarbymtheg▪ Addŷsg i'r Cymru saisnigaid [...] i ddysgu iddŷnt hwŷthau ddarllain Cymraeg yn gywir drwŷ gynorthwŷad y Saesnaeg, yr hŷn a elwir yn Saesnaeg fel hŷn. British orthography, or the true sound of t [...] Letters in the British Language (nicnamed welch or welsh whereby an English scholar may by help of the English pronounciations readily learn to raed the British Language perfectly. Yn ddeufedarbymtheg ac yn ddiweddaf Taflen [...] Gynwŷsiadau y llyfr yn dangos ar ba du dalen a ceir dech reu pôb pêth ar sŷdd ynddo.

Llyfr newŷd Brintio o Garolau a Dyriau duwiol igŷd, yn cynwŷs ynddo un cant a thriugain o garolau a dyriau, a rhan fwŷaf o honŷnt yn Newŷddion: A henwau'r pryd­yddion (a wnaethant y caniadau) mewn taflen ar ei ddiwedd; a ffigurau wrth eu henwau i gyfeirio'r darllenŷdd at waith pôb un o'r prydyddion yn y llyfr. Gwŷbyddwch fôd 64 mwŷ o Garolau a Dyriau yn y llyfr hwn, nag oedd yn y llyfr Carolau a Dyriau a Argraphwŷd o'r blaen, ac a gyhoeddwŷd y llynedd.

Dictionary Cymraeg a Saesnaeg, yn dangos y môdd i yspelio'r hôll eiriau yn y ddwŷ Iaith yn gywir. Ac yn

[Page] [...]dwl y geiriau dieithrol. Ac yn enwedig yn [...]y gair Saesnaeg i bob gair Cymraeg.

[...] Ysponiad ar Gatechism yr Eglwŷs, o wneuthuriad Esgob [...]ddon, yn dangos yn Eglur wreiddŷn neu sylfaen y wîr [...]refŷdd Gristionogol; heb geisio hynnŷ nid eill nêb ddis­gwŷl Teŷrnas Nêf.

Catechism yr Eglwŷs ar ei ben ei hun, Ac er mwŷn [...]enu'r bobl i brynnu hwnnw, ac iw ddysgu iw plant, gwerthaf, y llyfrau hynnŷ cŷn rhadted i Shopwŷr y wlad, fel a gallont eu gwerthu drachefen am ddimeu y llyfr. Ac rhag ofon na chaffoch mo'r gwir gywir gatechism hwn­nw, mynnwch weled ar waelod y tu dalen cyntaf o hono, henw eich Gwasanaethwr Thomas Jones.

Articlau, neu Erthyglau Crefŷdd Eglwŷs Loeger, yn dangos hôll gyfreithlawn byngciau y Grefŷdd hono. Am un Geiniog y Llyfr.

Ac Amrŷw o Faledau Cymraeg, ar amrŷw Destŷnau.

YLlyfrau Cymraeg a henwŷd ymma, a fyddant ar werth (gyda'r Almanac Cymraeg) gan Thomas Jones, neu gan ei weinidogion ef drosto, fel a canlŷn, bob blwŷddŷn.

Yn ffair Gaer-lleon, ar wŷl Mihangel.

Yn ffair Aberhonddu y 6 dŷdd o Fis Tachwedd.

Yn y Mwŷthig gan Mr. Gabriel Rogers.

Yng-wrexham gan Mr. Thomas Jones, yn Heol Abad, wrth Arwŷdd yr Haul.

Yn Sir Fôn gan Mr. Rowland Hughs yn Llan-ddaniel.

Yn Nhowŷn meirionedd gan Rowland Owen.

BY Mr. John Richardson, Herauld-painter in Shrewsbury, you may be Furnished with British, and English, Pedegrees, and Funerall Escotcheons, as well as any can perform them, and all at Reasonable Rates.

I mae Rhai o'r llyfrau a elwid y gwîr er gwaethed ŷw, heb werthu etto, yn llaw Mr. John Minshall, Ynghaerlleon.

DIWEDD.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.