Sywedyddawl, A chyffredinawl farnedigaeth, am y Flwyddyn o oed Jesu, 1690.
Gan dybied nad yw hôff gan ond ychydig o 'r Cymry ddarllain geiriau dieithrol, (ac hefyd eisieu mwy o Lê) gyrais ymma attynt fy sywedyddawl farnedigaeth, heb ddim addurnau, nac ond lleia ag a ellais o Alweiriau sywedyddiaeth, i ddatgan Tremmiadau 'r Planedau, a thystiolaethau 'r Tramgwyddiadau: Ond mewn geiriau Cynefinawl rhoddais ar lawr yn gynwys, onidodid gymmaint o wîr droeadau a Sîawnsau ac a roddo rhai eraill yn eu hirion draethiadau.
Medraswn y llynedd fôd yn Eglurach ar yr hyn a ddigwyddodd, er bôd y llygaid yn egored, i roedd y Tafod a 'r llaw yn gaethion dan blant lleian; y Leni, Geill pawb yn ddiarswyd fynegu 'r gwîrionedd; byd hir a parhatho y Rhydd-did hwnnw dan Lyfodraethiad ein Cywir frenin, a 'n Brenhines, Wiliam a Marî.
AR fynediad yr haul i Arwydd yr Afr, (yr unfed arddêg o rhagfŷr, 1689. 5 mŷnud gwedi un y boreu;) y nefoedd sŷ 'n dangos y bŷdd mawr ymgynghori mewn amrŷw deyrnasoedd ynghylch rhyfel ac ymladd; Ac ynghŷlch heddwch mewn rhai Teyrnasoedd eraill; Bŷdd pê [...]h ymgais am heddwch, ond ni bŷdd hynnŷ ond ofer etto. Cymmeriaeth ein Brenin Wiliam sŷ 'n Tuccio yn llwyddianus; a dichellion brenin arall sŷ 'n digwŷdd yn helbul a chythrudd deb Calon arno▪ Dinistriad mawr, a Chaethiwed a fŷdd ar drigolion y gwledŷdd sŷ dan lyfodraethiad Arwŷddion y Tarw ar Sarph, y rhain ydŷnt, y Werddon, Loraine, Persia, Russia, Italy, ac amrŷw eraill. Bŷdd pêth ymdrech ynghŷlch dechreu mîs mawrth, yn y Teyrnasoedd sŷ dan yr hwrdd, a'r fantol, y rhain ydŷnt, Germany, Fraingc, Denmarcc, Lisbon, a [...] amrŷw eraill
* Bŷdd llawer o ddirgel fyfŷriadau, ac ymddarpariadau Tuagat Ryfel yn J nawr, chwefror, a mawrth.
[Page]Ar fynnediad yr haul i arwŷdd yr hwrdd, (y degfed dŷdd o fawrth, 1690. bum munŷd ar hugain gwedi Trî y boreu.) Y sêr sŷ 'n rhagddangos a gwneiff rhai ddrŵg weithredoedd mewn dirgelwch tan esgus Crefŷdd a chydwŷbod; Ond eu bwriad fŷdd ar godî Cythryfwl a Chydfradwriaeth yn erbŷn eu Brenin: Rhai gwŷr eglwŷsig a fŷdd yn euog or drygioni, a rhai o honŷnt yn gyhoeddus i golli gwaed; A rhai eraill (sŷ 'n Tybbied mae Cammwedd mawr ŷw Cymerŷd eu llŵ ar fôd yn gywir iw Cyfreithlawn frenin) a fyddant yn brysŷr yn y drŵg weithredoedd o ddyfeisio blînder heb achos: Etto llwŷddiant a dedwŷddwch a fŷdd i frydain fawr a'i phen llywŷddau er gwaetha 'r fâth rai drygionus. Disgwilir pêth ymladd ar fôr a Thîr, ŷnghŷlch dechreu Ebrill, a diwedd mai, ond ni bŷdd hynnŷ ond ychydig.
* Bŷdd melldigedig ddialleddau ar yr anghenfil o ffraingc, ac ar ei deŷrnas a 'i dylwŷth, yn gymaint a bôd yn anodd iddo ef fŷw i weled blwŷddŷn arall, neu or lleia ei deŷrnas a anrheithir. Brenin Hysbaen, a Geiff afiechŷd, Colledion a blinfŷd, a'i ddeiliaid ef a gystuddir, yn enwedig yn Fflanders. Y bobl gyffredin a fyddant mewn mawr ddychryndod, ac wrth hynnŷ a rwgnachant at eu llyfodraethwŷr: Rhai brenhinoedd a gwŷr enwog a gânt Ardderchawgrwŷdd mawr, a llwŷddiant, yn enwedig yn nheŷrnas Loeger. Bŷdd (Tua'r Cynhaeaf) aml ŷmladdfau, a marwolaeth mawr ar ddynion; Lladratta ar foroedd, a cholledion mawr drwŷ demhestlau o wŷnt, ac ymladd. [...]ŷdd rhŷw gyfnewidio ar byngciau Crefŷdd, ac ymddadlu mawr ynghylch hynnŷ; Troir allan rai o benaethiaid yr Eglwŷs, a gosodir eraill yn eu lle hwŷnt; Bŷdd hefŷd aml newidio swŷddogion a gwŷr o uchel ymddiried. Gwae 'r gwŷr Taerddrwg a amdwŷasant y Werddon, oblegid Cŷn diwedd y flwŷddŷn ymma byddant debŷg i gael eu haeddedigol gyflog. Y Twrc a anrhefnusa Boland, ond y Myscofiaid a▪r Fenesiaid a wnant iddo ef Ruso. Gocheled Denmarc wenwŷn ffreinig, a Sicrhaed ei chymmod a Swedland, ac yno bŷdd ddedwŷdd.
Ar fynediad yr haul i Arwŷdd y Crangc, (yr unfedarddeg dŷdd o fihefin, 1690, un mŷnud a deugien gwedi pedwar y boreu.) Rhagwelir y bŷdd peth ymrafael rhwng y bobl Gyffredin yn eu plîth eu hunain▪ Rhŷw ŵr maw [...] [Page] a ddelir, a garcharir ac a fernir. Bŷdd llawer o ddirgel ymgynghori, a chŷd fwriadu i blottio a chydfradwriaethu; A rhai am y Cyfrŷw achosion a ymwelant a'r Crocpren yn hydref neu dachwedd. Aml Ladratta ac yspeilio, ac afreoldeb ar ddynion a fŷdd lle bŷddo lluoedd o filwŷr yn Tramwŷ ynghylch mîs Gorphennaf. Ymrafael ac ymryson ymhylîth gwyr Enwog, ac hefŷd ymhylîth y bobl gyffredin; fforio ac yspeilio dinasoedd a Threfŷdd, Carcharu llawer, a llawer o golli gwaed mewn lluoedd.
Ar fynediad yr haul i arwŷdd y fantol, (y deuddegfed dŷdd o fedi, 1690, ynghŷlch pedwar munŷd arddeg gwedi chwêch o'r prŷdnawn.) Y nefoedd sŷ 'n dangos y bŷdd ymgyfeillach rhwng rhai ynghŷlch Clippio arian, neu rŷw anghyfreithlawn gastiau ynghylch Arian neu fettel; fe alle mae brenin ffraingc a wna rŷw ddrŵg ddichellion am arian; ond pwŷbynag a'i gwnelo Cânt Cŷn nemawr ddioddeu am eu gwaith. Bŷdd pêth ymrafael ymhylîth Cynghor-wŷr Brenin ynghŷlch Teŷrnasawl bethau. Mawr ymdrechu a chelenaddu a fŷdd yn y dwŷreinawl wledŷdd, ac mewn rhai mannau eraill.
Datguddiad, ac Affaithiolaeth y deffygiadau a ddigwŷddant ar yr haul a'r lleuad, yn y flwŷddŷn o oed Jesu, 1690.
1. Y Diffŷg Cyntaf a fŷdd ar yr haul, yr wŷthfed arhugain dŷdd o chwefror, ynghŷlch unarddêg ar y glôch or nôs: Ar diffŷg hwnnw a niweidia, ac a afiachâ ddyfroedd afonŷdd a ffynhonnau, a'r Creaduriaid a fo 'n bŷw ynddŷnt: Ac a Lygra hefŷd ffrwŷthau Cynnar y ddaiar, sef y rhain a flodeuant yn y Gwanwŷn: I mae yn dangos hefŷd y bŷdd Terfŷsg a Chythryfwl, a chreulondeb ymhylîth milwŷr.
2. Yr Ail Diffyg a fŷdd ar y Lleuad, ar y pedwaredd dŷdd arddêg o fawrth, ynghŷlch dêg or nôs, ac a fŷdd yn weledig ynghymru os bŷdd yr awŷr yn eglur; y Diffŷg hwn sŷ 'n bygwth aflwŷdd a dialedd amrŷw o ffŷrdd.
3. Y Trydŷdd diffŷg a fŷdd ar yr haul, ar y pedwaredd dŷdd arhugain o Awst, ynghylch un ar y Glôch y boreu. [Page] Ar diffŷg hwn sŷ 'n bygwth y bŷd a drudaniaeth a newŷn, Cornwŷdau, ac ymgwerylu, a dinistriad ar bobl y bŷd.
4. Y pedwaredd diffŷg a fŷdd ar y Lleuad, yr wŷthfed dŷdd o fîs medi, ynghŷlch dau o'r prŷdnawn. Y diffŷg ymma sŷ 'n bygwth prydyddion, ac yscrifennyddion llyfrau, sef y Ceiff rhŷw rai o'r galwedigaethau hynnŷ eu▪ holi am rŷw ryfigrwŷdd a wnaethant. Ac hefŷd i mae yn rhagddangos yr Alltudir rhai, ac a bŷdd lladdfaoedd mawr mewn rhai mannau.
Wrth anedigaeth y diweddar frenin Siammas mae 'r haul yn dyfod i gyfyrbell Jou yn mis gorphennaf a thachwedd, 1690. Hynnŷ sŷ 'n arwŷddo os bŷdd ef bŷw y Ceiff ef ddirmŷg ac anglod oddiwrth wŷr Crefyddol a Chyfreith-wŷr, ac y Tylodir a diystyrir ef yn ddi'meiriach, ei gyweth a'i glôd a'i barch a eiff yn gwitt i'r gwêllt.
Wrth anedigaeth Lewsyn y gorthymmwr o Ffraingc, yr haul sŷ 'n dyfod i bedrogledd a Sadwrn ynghylch Canol yr hâf hwn. Hynnŷ sŷ 'n dangos a Ceiff yr anghenfil ei wala o bôb aflwŷdd y leni, bŷdd gwaew yn ei esgŷrn, a gwewŷr yn ei gêst, a thrymder ar ei galon, ac ondodid yr hên afiechŷd yn ei falog; ac os meiddia ei gorph ar geffŷl, bŷdd Tebyg i gael Codwm a doro neu a sigo ei esgŷrn pudrŷd; Ei: ddeiliaid ef ei hun a godant yn ei erbŷn, i ddwŷn ar gô iddo ei anghristionogawl Lyfodraethiad arnŷnt gŷnt; ei fwriad ef a groesir ar fôr a thîr; ei Gyfoeth a lithra oddiwrtho; ei barch a ddiffoddiff, a'i glôd a ddîflanna fel llyssiau 'r ddaear, a'i glol a amhwŷlla o herwŷdd ei gystuddiadau.
- Tymp Elian sŷ 'n
- Dechreu, Jonawr y 23 dŷdd.
- Diweddu, Chwefror y 12 dŷdd.
- Tymp y Pasc sŷ 'n
- Dechreu, Mai y seithfed dŷdd.
- Diweddu, Mehefin yr 2 dŷdd.
- Tymp y Drindod sŷ 'n
- Dechreu, Mehefin yr 20 dŷdd.
- Diweddu, Gorphenaf y 9 dŷdd.
- Tymp Mihangel sŷ 'n
- Dechreu, Hydref y 23 dŷdd.
- Diweddu, Tachwedd yr 28 dŷdd▪
Y nodau Cyffredinawl, a'r Symmŷdawl ymprydiau yn y flwŷddŷn, 1690.
- Y Prif, neu 'r Euraid Rifedi ŷw— 19
- Y Seritt, neu 'r Epact ŷw— 29
- Llythyren y Sul ŷw— E
- O sulîau gwedi 'r ystwŷll i mae— 5
- Sul Septuagesima ŷw Chwefror yr— 16
- Y dŷdd Cyntaf or grawŷs yw mawrth y— 5
- Sul y Pasg ŷw Ebrill yr— 20
- Sul y gweddiau, neu 'r Erfŷniad, ŷw mai y— 25
- Dŷdd y derchafael, neu dderchafiad Crîst, i'r nêf ŷw mai y— 29
- Y Sul gwŷn, ŷw Mehefin, yr— 8
- Sul y Drindod ŷw Mehefin y— 15
- O Suliau gwedi 'r Drindod i mae— 23
- Sul yr advent, neu ddyfodiad Crîst, Tachwedd— 30
Egluriad dalennau 'r misoedd yn yr Almanacc hwn.
Y Flwŷddŷn a Ranwŷd yn ddeuddeg o fisoedd, ac i bôb mîs o honŷnt i mae dau du dalen yn perthŷn; a'r tu dalen Cyntaf or ddau (neu'r nesaf at y llaw aswf) a ranwŷd yn chwêch o golofnau.
1. Y Golofn Gyntaf o honnŷnt, neu 'r nesaf at y llaw aswf, sŷ 'n dangos dyddiau 'r mîs, lle y gwelwch 1, 2, 3, 4, 5▪ &c.
2. Yr ail golofn sŷ 'n dangnos dyddiau 'r wŷthnos, lle y gwelwch a. b. c. d. E. f. g. Gwŷbyddwch mae 'r llythyren fawr, fef E. sŷ 'n sefŷll am y Suliau y Leni.
3. Y drydedd golofn sŷ 'n dangos y dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod, a Gwŷlmabsanctau Cymru; a Gwŷbyddwch sôd yr hôll ddyddiau sŷdd orchymmŷnedig iw Cadw yn ŵŷlion gwedi 'hargraphu a llythyrennau duach neu fwŷ na 'r lleill.
[Page]4. Y badwaredd golofn sŷ 'n dangos pâ lê y bŷdd yr Arwŷddion ynghorph dŷn ac anifail ar bôb dŷdd, fel a gwelwch yn y Golofn hono gyferbŷn a'r dŷdd Cyntaf o Jonawr Coesau, yn dangos fôd yr Arwŷdd y dŷdd hwnnw yn y Coesau, &c.
5. Y bummed golofn a ddengus godiad y lleuad o'i llawn lloned iw newidiad; a'i machludiad o'i newidiad iw llawnlloned; Cewch yr awr tan A, a'r mynudŷn tan M. Wrth ac arol N. sŷ 'n Arwŷddo nôs neu Cŷn hanner nôs: Wrth ac arol B. sŷ 'n Arwŷddo boreu, neu rhwng hanner nôs a hanner dŷdd.
6. Y chweched golofn sŷ 'n dangos pen llanw 'r môr bôb dŷdd a nôs (yn y flwŷddŷn 1690.) o ddeutu Cymru; Gyferbŷn a'r dŷdd a fynnoch cewch yr Awr tan A, a'r mŷnud tan M.; a hynnŷ a wasanaetha ddŷdd a nôs, neu foreu a hŵŷr, heb fawr fai.
Yr ail Tu dalen, neu 'r nesaf at y llaw ddeheu, sŷ mor hawdd ei deall, nad ŷw reidiol gwneuthur egluriad arni.