ALMANAC Am y flwŷddŷn o oedran y Bŷd 5637. Crîst 1688.

(Yr hon sŷ flwŷddŷn naid,)

Yn Cynnwŷs Amrŷw o bethau newŷddion na bŷant Argraphedig yn gymraeg erioed or blaen.

O wneuthuriad THOMAS JONES.

Y nawfed ARGRAPHIAD.

Licensed

Robert Midgley.

Argraphwŷd 1687. Ac ar werth (dros yr Awdr) yng Haerludd.

  • Gan Mr. Lawrence Baskervile, tan Lun y Llew Côch yn yr Henadur Rewl.
  • Gan Mr. John Marsh, tan Lun y Llew Côch yn Rhewl Câth-fwŷtâad.
  • A Chan Mr. Charles Beard, tan Lun y trî Adar duon a'r fôr-forwŷn yn Rhewl Watling.

Printed 1687. And are to be sold (for the Author) in London.

  • By Mr. John Marsh at the Red Lion in Cateaton-street.
  • By Mr. Lawrence Baskervile at the Red Lion in Alder­manbury.
  • And by Mr. Charles Beard in Watling-street.

Y RHAG-YMADRODD.

Yr anwŷl Gymrŷ,

YR annheilynga o'ch gwasanaethwŷr a ryfygodd yrru attoch unwaith mwŷ, i ddwŷn a'r ddeall i chwi mae bŷw etto iw 'r hwn a laddwŷd yn eich mŷsg fîl o weithiau er Calanmai diweddaf, am i'r haul dywynnu arnoch trwŷ 'r dŷdd hwnnw.

Os ysgrifennais attoch y byddeu diffyg ar yr haul, ar ddŷdd Calanmai, nid fi fyhun yn unig a ysgrifennodd hynnŷ: os edrychwch yn yr holl Almanaccau Saesnaeg a ysgri­fennwŷd am yr un flwŷddŷn, ni chewch weled un o honŷnt (ar a fyddeu arfer a 'sgrifennu am ddeffygiadau) na bô yn darogan diffŷg ar yr haul yr un diwrnod, a'r un amser o'r diwrnod ag i'r ysgrifennais inneu.

Hôll hên Awdwŷr sywedyddiaeth (y rhain a ddysgasant y gelfyddŷd drwŷ fŷw chwech, saith, neu wŷth gant o flynyddoedd,) a gyttunnasant a byddeu diffŷg ar yr haul pan ddigwŷddeu newid y lleuad o fewn saith neu lai o Raddau i'r deheuig, neu'r gogleddig nodau, y rhain a elwir, Pen y ddraig, a chynffon y ddraig: Ac wrth y Rheol honno dylaseu fôd diffŷg mawr ar yr haul ddŷdd Calanmai 1687. oblegŷd digwŷddodd newidiad y lleuad y dŷdd hwnnw o fewn llai nag un grâdd i ben y ddraig os gellir Coelio 'r Ephemerides a wnaed am y blynyddoedd hŷn.

Pa le (wrth hyn) y mae'r bai a wnaeth y fâth gam­gymmeriad a rhag-ddamwain diffŷg y prŷd na welwŷd dim oddiwrtho?

A ydiw'r bai ar yr hên Awdwŷr gŷnt, am iddynt gam­seilio 'r gelfyddŷd yn y dechreu? fe alleu na'd ydiw.

A ydiw'r bai ar y diweddarach Awdwŷr a gyfansodda­sant yr Ephemerides am y blynyddoedd hyn? fe alleu na'd ydiw.

Onid ydiw'r bai ar yr un o'rhain, Rhaid iddo fôd ar ys­grifennyddion [Page] yr Almannaccau? fe alleu nad iw'r bai ar ysgrifennyddion yr Almannaccau chwaith!

Pa le ynteu y mae'r bai? ai ar siomigarwch Celfyddŷd sywedyddiaeth? os nid iw'r gelfyddŷd honno ond Twŷll ac ofer hudoliaeth na heuddeu mo'i 'styried, na'i chadw mewn Cossadwriaeth: Nid iw sywedyddiaeth yn ofer chwaith, nag etto yn gwbl dwŷllodrus, oblegŷd amriw bethau a ddigwŷddasant fel ag i'r rhag ddaroganwŷd hwŷnt drwy sywedyddiaeth, megis y mae yn hyspŷa iawn hynnŷ i drigolion y deŷrnas hon sy 'n fŷw 'r dŷdd heddiw.

Mae 'r ysgrythŷr Lân hefŷd yn Tystiolaethu fôd y sêr iw styried mewn ffordd sywedyddol, ac onid ê paham y mae Debora a Barac yn dywedŷd fôd y sêr yn eu graddau yn ymladd yn erbŷn Sisera; Barn-wŷr 5. 20.

Pa lê wrth hŷn y geill y bai fôd? rhaid iddo fôd yn rhŷwfan, agonid ê buasseu'r diffyg fel ag i'r ysgrifenwŷd y byddeu ef.

Er bôd deffygiadau yn dyfod drwŷ Annian Achlysurau neu wrth gwrs naturiaeth y planedau etto pan ddigwŷ­ddont i maent yn rhag-ddangos rhŷw dramgwŷdd neu gyfnewidiad i rŷw fan a'i gilŷdd o'r Bŷd, naill ai yn y gw­ledŷdd lle bônt weledig, ai 'r gwledŷdd a fo dan Lyfo­draethiad yr Arwŷddion lle a digwŷddont ynddŷnt.

Gwelwch fôd Crîst yn dywedŷd y byddeu Arwŷddion mawrion o'r nefoedd (ymhylith amriw ryfeddodau eraill) o flaen dinistr y Deml a dinas Jerusalem, Luc. 21. 11.

Drachefen o flaen y dŷdd diweddaf bŷdd arwŷddion yn yr haul, a'r lleuad, a'r sêr, &c. Luc. 21. 25.

Ac os i ragrybŷddio'r bobl o farnedigaethau Duw y mae'r sâth arwŷddion, neu'r deffygiadau yn dyfod, Duw weithieu (er gogoniant iddo ei hun) a oeda 'r fâth bethau, fel ag i mae ef yn dywedŷd, Esay 48. 9. er mwŷn fy enw' [...] oedaf fy llîd, ac er fy mawl yr ymmattaliaf oddiwrthit, rhag dy ddifetha.

A phan wellâtho pobl eu buchodd, yr Arglwŷdd a drŷ yn ôl y gosbedigaeth a amcanaseu ef arnynt, fel ag i mae es yn dywedŷd, Jeremi 18. 8, os y genedl honno y dywedais yn [Page] ei herbŷn, a drŷ oddiwrth ei drygioni, mysi a edifarhâf am y drŵg a amcendis ei wneuthur iddi.

Pwŷ a eill ddywedŷd nad ydiw 'r hôll alluog dduw y prŷd ymma yn oedi Cospi rhŷw Deyrnas am eu beiau, ac na alwodd ef yn ôl arwyddion ei ddigofaint.

Trwŷ etriau Moses gwnaeth yr Arglwŷdd gynt i ryfeddodau beidio, Ecclesiasticus 45. 3.

Pan welodd Duw yn ddâ estŷn enioes Hezeciah bymtheg o flynnyddoedd, efe a drôdd yr haul ddêg o raddau yn ei ôl, i arwŷddo i Hezeciah fôd yr Arglwŷdd yn chwanegu at ei ddŷddiau ef bymtheng mhylynedd, 2 Brenhinoedd 20. Esay 38. 8.

Onid oedd Cynhawsed i Dduw droi heibio ddiffŷg yr haul, a throi'r haul yn ei ôl?

Yr Hôll-alluog Dduw a wnaeth yr haul ar lleuad a'r pla­nedau, ac a roes eu Cwrs, a'u naturiaeth iddynt, efe a eill pan fynno newid eu Cwrs, ac attal eu gyrfa wrth ei Ewŷllŷs a'i feddwl ei hun.

Nid eill sywedŷdd drwŷ reol ei gelfyddŷd ond datcan tueddiad y planedau wrth eu Cwrs a'u naturiaeth; ac nid ydŷnt yn Cymmerŷd arnŷnt mo ragddangos ewŷllŷs Duw fel ag i mae rhai (drwŷ gam gymerŷd) yn tybied eu bôd.

Ped faseu'r planedau y llynedd yn Cael eu Cyffredinol gwrs, baseu diffŷg ar yr haul fel ag i'r ysgrifennwŷd y by­ddeu, ond gan weled o Dduw yn ddâ ei droi heibio (drwŷ newidio Cwrs y planedau) gobeithio y Cyfeddwch fod sy­wedyddion yn Esgusodus.

Os edrychwch etto dros yr ymadrodd a yrais attoch y llynedd ynghŷlch y diffŷg a ddisgwiliwŷd ar ddŷdd Calan­mai, Cewch weled fy môd yn dywedŷd yno, onid oeddwn yn Camgymmerŷd y byddeu diffŷg dros yr haul, ac a byddeu dywŷllwch o'i herwŷdd êf.

Os Camgymerais unwaith, a ydiw hynnŷ yn ddi fa­ddeuol; nid iw'r saethŷdd goreu mo'r gyfarwŷdd a tharo'r nôd ar bôb ergŷd.

Rwi 'n tybbied nad ellwch wadu na ysgrifennais Cŷn ne­sed i'r gwîr ag odid o rai eraill er pan ddechreuais, yn en­wedig [Page] os ystyriwch yr hŷn a ysgrifennais yn fy Almanace am y flwŷddŷn 1685, yn yr hon a digwŷddodd Cythryfwl yn Scotland a gorllewin Lloegr.

I roedd 24. o ddalennau yn fy Almanacc am y llynedd, ac nid oedd ond un ddalen o honnŷnt yn sôn am y Deffygia­dau os Cafodd y darllennydd y 23. dalennau eraill yn gywir (am ei dair Ceiniog) ni Chogied arno ef mor llawer.

Ped faseu'r diffŷg yn digwŷdd fel a disgwiliwyd, ni baseu raid ir bobl rwŷstro mo'u ffeiriau na'u marchnadoedd, na hel mo'u henifeiliaid i dai fel ag i mae 'r gair ddarfod iddŷnt mewn rhai mannau ynghymru: ni chynghores i monŷnt i wneuthur y fàth betheu.

Mae 'r Arlgwŷdd yn dywedŷd wrthŷm, nag osnwch ar­wŷddion y nefoedd, Canŷs y Cenhedloedd a'u hofnant hwŷ Jeremi 10. 2.

Er annedwŷdded wŷf o fethu vch bodloni, etto ni fedrai orflywŷs ond ymboeni i'ch gwasanaethu ymhellach: Ac nid wi'n ammeu (pan foch gydnabyddus am gwaith) na Chyfeddwch ei fôd yn amg [...]i gwasanaeth nag a wneuthum erddoch erioed o'r blaen: Yn y llythŷr at y darllennŷdd yn fy Almanacc am 1682. sôniais am y gwaith hwnnw yn y geiriau hŷn, Dechreuais er ys blynyddoedd wneuthŷr llyfr Cymraeg i ddwŷn ar deall yn Eglur i bôb Cymro yr hŷn oll a ddarllenno yn ei Iaith ei hun, ag os rhŷdd Duw amser, a Che­ [...]ad i mi iw orffen, Cewch ffordd hwyŷlus ddisiomgar i ddiall yn hylaw bôb gair ar sŷdd ddieithrol i chwi yn y gymraeg. Ac yr awron (i dduw 'bo'r diolch) galla ddywedŷd gael am­ser a Chennad gan yr Arglwŷdd iw orphen; Cewch helaethach hanes o hono yn niwedd yr Almanacc, hwn, ac o'r llyfrau eraill a Argraphwŷd dros

eich Gwasanaethwr THOMAS JONES.

Yr Wyddor Gymraeg.

A B C CH D DD E F FF G H I L LL M N NG O P PH R S T TH U W Y a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n ng o p ph r s t th u w y.

DI a weli fôd saith ar hugain o lythyrenau yn y Gymraeg: a saith o honynt a elwir, Bogei­liaid, y rhain ydynt; a e i o u w y.

A'r ugain eraill a elwir Cydseiniaid, y rhain ydynt; b c ch d dd f ff g h l ll m n ng p ph r s t th.

Un o'r Bogeiliaid, ag un o'r Cydseiniaid hyn a wna sylaft fer; megis Ab eb ib ob ub wb yb. ac ec ic oc uc wc yc. ach ech ich och uch wch ych. ad ed id od ud wd yd. add edd idd odd udd wdd ydd. af ef if of uf wf yf. aff eff iff off uff wff yff. ag eg ig og ug wg yg. al el il ol ul wl yl. all ell ill oll ull wll yll. am em im om um wm ym. an en in on un wn yn. [Page] ang eng ing ong ung wng yng. ap ep ip op up wp yp. aph eph iph oph uph wph yph. ar er ir or ur wr yr. as es is os us ws ys. ath eth ith oth uth wth yth. aw ew iw ow uw yw. Ba be bi bo bu bw by. Ca ce ci co cu cw cy. cha che chi cho chu chw chy. Da de di do du dw dy. dda dde ddi ddo ddw ddy. Fa fe fi fo fu fw fy. ffa ffe ffi ffo ffu ffw ffy. Ga ge gi go gw gy. Ia ie io iw. La le li lo lu lw ly. lla lle lli llo llu llw lly. Ma me mi mo mu mw my. Na ne ni no nu nw ny. nga nge ngi ngo ngu ngw ngy. Pa pe pi po pu pw py. pha phe phi pho phu phw phy. Ra re ri ro ru rw ry. Sa se si so su sw sy. Ta te ti to tu tw ty. tha the thi tho thu thw thy. Wa we wi wo wu wy.

[Page] Bydd hyddysc ar yr hyn a eist drosdo, cyn y meiddiech ym mhellach; ac yno dŷsc gyssylltu 'r llythyrennau yn sylaftau hwŷ, a geiriau cyflawn, fel y canlyn.

Geiriau o un Sylaft.

Am, bâs, bâr, cam, cap, car, câr, câs, câth, cî, cô, cû, dâ, dû, dûr, dwl, dŵr, dŷn, llâdd, llen, llô, llu, llw, llŷm, mam, mêr, môr, mûr, mŵg, myn, nâdd, nê, nôs, nudd, pam, pêth, pûr, pwn.

Geiriau o ddwŷ Sylaft.

Ac-cen accen, ach os achos, ad-re adre, add-ŷsc addŷsc, af-al afal, af-on afon, ang-or angor, an-os anos, as-en asen, ba-bi babi, ba-chog bachog, ca­lon calon, ce-fen cefen, co-ffor coffor, cu-ro curo, cw-pan, cwpan, cy-bydd cybydd, da-ngos dangos, e-win ewin, do-len dolen, dûr-io dûrio, dw-yn dwyn.

Geiriau o dair Sylaft.

Af-on-ŷdd afonŷdd, an-rhy-dedd anrhydedd, as en-au asenau, at-eb-odd atebodd, ba-sce-ded ba­sceded, be-rw-i berwi, ca-lon-au calonau, ce-rw-ŷn cerwŷn, co-rw-en corwen, da-io-ni daioni.

Geiriau o bedair Sylaft.

Add-ol-i-aeth addoliaeth, add-e-wid-ion adde­widion, co-lle-di-on colledion, gor-chym-myn-ion gorchymmynion, go-gon-edd-us gogoneddus, me­ddy gin-iaeth meddyginiaeth, me-ddi-an-ol meddi­anol, per-chen-no-gi perchennogi:

Geiriau o bum Sylaft.

Go-di-ne-brw-ŷdd godinebrwŷdd, ym-gy-foe­tho-gi ymgyfoethogi, ym-ry-so-nol-deb ymryso­noldeb, ym-ry-fu-se-ddu ymryfuseddu, eth-ol-ed­ig-ion etholedigion, go-ddi-we-ddi-ad goddiwe­ddiad.

Gwŷbŷdd mai sylaft iw cymmaint o lythrennau ag a wnelo un sŵn mewn gair, sef, heb newid dy lais, megis, fel y gweli fôd yn y gair go-di-ne brw ŷdd pump o sylaftau, ac yn y gaîr ym-gy-foe­tho-gi y gweli fòd pum sylaft.

Etto ith gyfarwŷddo; i ddarllen yn hytrach, pan gyfarfyddech a nodau uwch ben y bogeiliaid, megis â ê î ô û ŵ ŷ, gwybydd mae rhaid iti ystŷn y bogail yn hirllacs, megis hyn o esamplau, yr aelwyd sydd Tan y Tân. mewn man y gwelais adar mân. rhostio ber ar y bêr. mae yn fy mer asgwrn mêr. rhowch halen ir Cîg îr. gw­neud gwelu ir Cor yn y Côr. Twr neu Swp, Tŵr neu Gastell. dal yn dyn yn erbyn dŷn.

Englynnion ar ddysgu darllen Cymraeg.

BOgeiliaid a gaid i'r gwŷdd, a'u gorchwŷl
Wna gyrchu gair Celfŷdd,
Cydsain gywrain yn Geurŷdd,
Llythrennau elfennau fŷdd.
Os ti a flini heb flŷs i'r weithred,
Yr Athro a ddengŷs,
Dŷsg rwŷdd brif dâsg a rôdd brŷs,
Iw dealliad Ewyllŷs.
Cymmer waith fwŷniaith i fyned ymlaen,
Moliannus ŷw 'r weithred,
Rhag Cwŷmpo rhaid Croppio Crêd,
Cwŷn Cywirddoeth Cyn Cerdded.
Athrylith fendith yn fwŷnder Enaid,
I ynnill uchelder
Trwsiodd ymmadrodd a'i meder,
I'r Iaith bŷth Athrawiaeth bêr.
Dau fâth o ffigurau rhifyddiaeth, a henw pôb rhîf ar ei gyfer yn gyflawn air
I   1 Uu.
II   2 dau.
III   3 trî.
IV   4 pedwar.
V   5 pump.
VI   6 chwech.
VII   7 saith.
VIII   8 wŷth.
IX   9 naw.
X   10 dêg.
XI   11 un ar ddeg.
XII   12 deu-ddeg.
XIII   13 tri ar ddeg.
XIV   14 pedwar ar ddeg.
XV   15 pymtheg.
XVI   16 un ar bymtheg.
XVII   17 dau ar bymtheg.
XVIII   18 trî ar bymtheg.
XIX   19 pedwar ar bymtheg.
XX   20 ugain.
XXI   21 un ar ugain.
XXII   22 dau ar ugain.
XXIII   23 tri ar ugain.
XXIV   24 pedwar ar ugain.
XXV   25 pump ar ugain.
XXVI   26 chwech ar ugain.
XXVII   27 saith ar ugain.
XXVIII   28 wŷth ar ugain.
XXIX   29 naw ar ugain.
XXX   30 deg ar ugain.
XXXI   31 un ar ddeg ar ugain.
XXXII   32 deu-ddeg ar ugain.
XXXIII   33 tri ar ddeg ar ugain
XXXIV   34 pedwar ar ddeg ar ugain.
XXXV   35 pymtheg ar ugain.
XL   40 deugain.
XLI   41 un a deugain.
L   50 deg a deugain.
LII   52 deuddeg a deugain.
LX   60 tri-ugain.
LXIII   63 tri a thriugain.
LXX   70 deg a thrigain.
LXXIV   74 pedwar ar ddeg a thriugain
LXXX   80 pedwar ugain.
LXXXV   85 pump a phedwar ugain.
XC   90 deg a phedwar ugain.
XCVI   96 un ar bymtheg a phedwar ugain.
C   100 cant.
CVII   107 saith a chant.
CX   110 deg a chant.
CXVIII   118 tri ar bymtheg a chant.
CXX   120 ugain a chant.
CXXIX   129 naw ar hugain a chant.
CXXX   130 cant a deg ar hugain.
CXL   140 cant a deugain.
CL   150 cant a dêg a deugain.
CLX   160 cant a thri ugain.
CLXX   170 cant a deg a thri ugain.
CLXXX   180 cant a phedwar ugain.
CXC   190 cant a deg a phedwar ugain.
CC   200 dau-cant.
CCL   250 dau-cant a deg a deugain.
CCC   300 tri chant.
CD   400 pedwar cant.
D   500 pum cant.
DC   600 chwe chant.
DCC   700 saith gant.
DCCC   800 wŷth cant.
CM. CM. 900 naw cant.
IM. M. 1000 mîl.
IMC. MC. 1100 mîl a chant.
IMD. MD. 1500 mîl a phum cant.
IIM. MM 2000 dwŷ fil.
VM   5000 pum mîl.
XM   10000 deng-mîl.
XXM   20000 ugain mîl.
LM   50000 dêg a deugain mîl.
LLM   100000 can mîl.
DM   500000 pum can mîl.
MM   1000000 buna, neu fil o filoedd.

Di a weli nad oes yn y Golofn gyntaf ond wŷth o Ffigurau, y rhain ydynt, I. V. X. L. C. D. M. M.

Ag yn y Golofn ddiweddaf onid naw o Ffigurau, y rhain ydynt, 1, 2, 3, 4, 5, 6, 7, 8, 9.

[Page] Y rhain wrth eu cysyltu mewn trefn arferol ym­hlith y nodau hyn 000. a arwyddant bôb rhifedi: y nesaf at dy law ddehau sy'n sefyll am unau, a'r nesaf at honno am ddegau, a'r drydŷdd am ganto­edd, a'r bedwaredd am filoedd, a'r bumed am ddegau o filoedd, a'r chweched am gantau o filo­edd, a'r saithfed am filoedd o filoedd, &c.

Dechreu a diwedd y Tympau Cyfraith, yn y gor­llewinawl fynachlŷs yn y flwŷddŷn, 1688.

  • Tymp Elian sŷ'n
    • Dechreu, Jonawr y 23 dŷdd.
    • Diweddu, Chwefror y 12 dŷdd,
  • Tymp y Pasg sŷ'n
    • Dechreu, Mai yr ail dŷdd.
    • Diweddu, Mai yr 28 dŷdd.
  • Tympy Drindod sŷ'n
    • Dechreu, Mehefin y 15 dŷdd.
    • Diweddu, Gorphennaf y 4 dŷdd.
  • Tymp Mihangel sŷ'n
    • Dechreu, Hydref y 23 dŷdd.
    • Diweddu, Tachwedd yr 28 dŷdd.
Y nodau Cyffrednawl, a'r symmudawl ymprydian yn y flwŷddŷn, 1688.
Y Prîf, neu'r Euraid rifedi ŷw 17
Y serrit, neu'r Epact ŷw 7
Llythyrennau'r sûl ŷw A. G.
O suliau gwedi 'r ystwŷll i mae 5
Sûl septuagesima, chwefror y 12
Y dŷdd Cyntaf o'r Grawŷs, mîs mawrth y 1
Sûl y Pasg, Ebrill y 15
Sûl y gweddiau, neu'r Erfŷniad, Mai yr 20
Derchafiad Crîst i'r nêf, neu dŷdd-Iou derchafael, Mai y 24
Y Sul-gwŷn, mehefin y 3
Sûl y Drindod, mehefin y 10
O suliau gwedi 'r drindod i mae 24
Sûl yr Adfent, neu ddyfodiad Crîst, Rhagfŷr yr 2

Am y Diffygiadau a ddigwyddant ar yr haul, a'r lleuad yn y flwŷddŷn, 1688.

PEdwar diffŷg a fŷdd yn y flwŷddŷn hon, (os dilŷn y sêr gwrs eu naturiaeth,) dau ar yr haul, a dau ar y lleuad.

Y Cyntaf o honŷnt a fŷdd ar y Lleuad, ar y pummed dŷdd o Ebrill ynghŷlch chwêch o'r prŷdnawn, ac ni we­lir mono gyda ni o herwŷdd ei fôd cŷn Codi 'r lleuad.

Yr ail diffŷg a fŷdd ar yr haul, ar yr ugeinfed dŷdd o Ebrill ynghŷlch un ar y glôch y boreu, ac am hynnŷ ni welir mono gyda ni.

Y trydŷdd a fŷdd ar y lleuad, ar y nawfed dŷdd ar hugain o fîs medi, ynghŷlch dêg ar y glôch y boreu ac ni welir mono gyda ni.

Y pedwaredd diffyg a fŷdd ar yr haul, y pedwaredd dŷdd ar ddêg o hydref, ynghŷlch saith y boreu, ac ni bŷdd ond bychan, ac ni welir mono gyda ni o herwŷdd ei fôd ar godiad yr haul.

Heblaw'r diffygiadau hŷn, bŷdd diffygiadau eraill y leni mewn llawer o wledŷdd, ac ond odid mewn rhai mannau ynghymru: Lle y bo merched yn ddeg ar hugain oed Cŷn eu priodi, diammeu y bŷdd arnŷnt ddiffyg naill a'i Cyn­hysgaeth a'i glendid.

Egluriad dalennau'r misoedd yn yr Almanac hwn.

Y Flwŷddŷn a ranwŷd yn ddeuddeg o fisoedd, ac i bôb mîs o honŷn i mae dau du dalen yn perthŷn, a'r tu dalen Cyntaf or ddau a ranwŷd yn wŷth o golofnau.

1. Y golofn gyntaf o honŷnt, neu'r nesa at y llaw asw sŷn dangos dyddiau 'r mîs, lle y gwelwch. 1, 2, 3, 4, 5, &c.

2. Yr ail golofn sŷ'n dangos dyddieu'r wŷthnos, lle y gwelwch A. b. c. d. e. f. g. gwŷbyddwch mae 'r llythyren­nau [Page] mawrion yn y golofn ymma sŷ'n sefŷll am y suliau, sef A. G. am y leni, A am y suliau yn Jonawr, a'r trî suliau Cynta yn chwefror, ac G am yr hôll suliau eraill yn y flwŷ­ddŷn,

3. Y drydŷdd golofn sŷ'n dangos y dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod, a gwŷlmabsanctaû Cymru, a'r dyddiau a rhoddwŷd llawer o gristionogion i farwolaeth am eu Crefŷdd, ond gwŷbyddwch fôd yr hôll ddyddiau sŷdd orchymmŷne­dig iw Cadw yn ŵŷlion gwedi eu hargraphu a llythyrennau duach a mwŷ na'r lleill.

4. Y bedwaredd golofn sŷ'n dangos pa lê y bŷdd yr ar­wŷddion ynghorph dŷn ac enifail ar bôb dŷdd, fel y gwe­lwch yn y golofn hono gyferbŷn a'r dŷdd Cynta a'r ail o Jo­nawr, gwddw, yn dangos i chwi fôd yr arwŷdd y dyddiau hynny yn y gwddw.

5. Y bummed golofn a ddengus godiad y lleuad o'i llawn­lloned iw newidiad; a'i machludiad o'i newidiad iw llawn lloned, yr awr tan A, ar mynudŷn tan m, wrth ac ar ôl n sŷ'n arwŷddo nos neu cyn hanner nos, wrth ac arôl b sŷ'n ar­wŷddo boreu neu rhwng hanner nôs a hanner dŷdd.

6. Y chweched golofn sŷ'n dangos pen llanw 'r môr bôb dŷdd a nôs yn y flwŷddŷn 1688. o ddeutu Cymru, gyferbŷn ar dŷdd a fynnoch Cewch yr awr tan A, a'r mŷnud tan m, a hynnŷ a wasanaetha ddŷdd a nôs, neu foreu a hwŷr, heb fawr fai.

7. Y seithfed golofn sŷ'n dangos Codiad yr haul bôb dŷdd drwŷr flwŷddŷn, yr awr tan A, a'r mŷnud tan m.

8. Yr wythfed golofn, neu'r golofn nesa at y llaw ddeheu sŷ'n dangos machludiad yr haul beunŷdd, Cewch yr awr tan A, ar mŷnud tan m.

Yr ail tu dalen am bôb mîs sŷ mor eglur na bô raid ymma mo' u hegluro.

Yr ymmadrodd ynghŷlch ysmonnaeth sŷdd wrth ysmon­naeth y Saeson, lle y bo tîr Cymru yn oerach na thîr Lloegr rhaid iw heu ŷd a phethau eraill yn ddiweddarach na'r amse­roedd a hennwŷd ymma.

[Page]

JONAWR. 1688.
dyddieu 'r mîs dyddieu'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r ddydiau hynod. Yr arwŷ­ddion yng­horph dŷn ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y Lleuad. Pen llanw|'r môr. Haul yn Codi Haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        lleuad yn mach            
1 A Enwaediad Crist. Gwddw. 2   34 6 50 8 9 3 51
2 b Bodfan, ac Abel. Gwddw. 3   27 7 43 8 8 3 52
3 c Seth, Enoch. ysgwŷddau. 4   14 8 36 8 7 3 53
4 d Methusalem. breichiau. 5   7 9 29 8 6 3 54
5 e Seimon. bronnau, 6   0 10 18 8 4 3 56
6 f Dydd ystwyll. sefnig, 6   55 11 9 8 3 3 57
7 g Cêd Esgob. Cylla. 12 0 8 1 3 59
        lleuad yn Codi            
8 A 1 Sul gwedi'r ystw. Cefen. 4 N 10 12 45 8 0 4 0
9 b Mercel. Calon. 5   38 1 30 7 58 4 2
10 c Paul Erem. y bol a'rperfedd, 7   16 2 15 7 56 4 4
11 d Hygin. 8   44 3 0 7 55 4 5
12 e Llwchaern. Ceudod. 9   33 3 45 7 54 4 6
13 f Elian Esgob. Clunniau, 10   22 4 30 7 52 4 8
14 g Ffelics. pedrain. 11   11 5 15 7 51 4 9
15 A 2 Sul gwedi'r ystw. yr Arffed a'r dirgel­wch. 12   0 6 0 7 50 4 10
16 b Marchell. 12 B 50 6 45 7 48 4 12
17 c Anthony. 1   45 7 30 7 46 4 14
18 d Prisca. morddwŷ­dŷdd. 2   40 8 15 7 44 4 16
19 e Wastan. 3   36 9 0 7 43 4 17
20 f Ffabian. gliniau a garrau. 4   30 9 45 7 41 4 19
21 g Annes, neu Agnes. 5   26 10 30 7 39 4 21
22 A 3 Sul gwedi'r ystw. Goesau neu Esgeiriau. 7   20 11 15 7 37 4 23
23 b Tymp yn dechreu. 12 0 7 35 4 25
        lleuad yn machl            
24 c Câttwg. Traed, 4   30 12 46 7 34 4 26
25 d Troead St. Paul. Traed. 5   50 1 33 7 32 4 28
26 e Polycarpus. Pen ac wŷneb. 7   10 2 21 7 30 4 30
27 f Joan, Aeron. 8   30 3 10 7 28 4 32
28 g Oenig. gwddw. 10   00 4 00 7 26 4 34
29 A 4 Sul gwedi'r ystw. gwddw. 11   20 4 51 7 24 4 36
33 b merthyr. B. Charl. I ysgwŷddau, 12 B 40 5 43 7 22 4 38
31 c Mihangel. breichiau. 1   50 6 36 7 20 4 40

JONAWR. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawnlloned y 7 dŷdd, 12 mŷnud gwedi un o'r prŷdn
  • 3 charter oed y 15 dŷdd, 10 mŷnud Cyn 5 o'r prŷdn
  • newidio y 22 dŷdd, 12 mŷnud gwedi 10 o'r nos.
  • un chwarter oed y 29 dŷdd, gwedi haner dŷdd.

Pôb Hwnsman dâ a ddyleu yn y mîs hwn ysgythru pôb Cang­hennau gormodedd oddiar ei brennau toreth, a datguddio eu gwraidd hwŷnt, A phlannu pôb mâth a'r siettus a Choed to­reth ar y Chwarter Cyntaf o'r Lleuad, a phan fyddo 'r Tywŷdd yn dymherus ac yn glaear a'r gwŷnt yn y deheu neu 'r gorllewin, plennwch ffâ a ffŷs gerddi a llysiau gwŷddelig pan fo'r Tywŷdd yn glaear, a'r lleuad yn lleihau; Pelwch eich gerddi y mîs hwn.

Na ollynged nêb waed yn y mîs hwn, ac na Chymmered bysygwriaeth o ddigerth bôd yn Angenrheidiol iddo: Goche­lwch gael Anwŷd yn y mîs hwn, oblegŷd i mae yn magu pôb mâth ar Lysnafedd a Glofoerion, sef Riwms a fflêms. Drŵg i chwi ymprydio neu gadw eich Cythlwn yn hîr y boreu. Y fed gwîn gwŷn ar gythlwn sŷ ddâ. Bydded eich bwŷd mewn gweddeidd-dra o frydaniaeth, o herwŷdd goreu pysygwriaeth yn y mîs hwn ŷw bwŷd a dillad Cynnes, a Thân dâ, a Chywe­lu nwŷfus. Nid ŷw 'r sêr yn bygwth y bŷdd rhaid bôd ar nêb eisien 'r pathau hynnŷ os bŷdd ganthynt ddigon o Arian, ond y nêb a fô diariannog a geiff wŷbod bêth ŷw eisieu pôb un o ho­nŷnt. Y bôbl ddâ o herwŷdd y 'ch bôd chwi yn brin gw­newch yn fawr o honoch eich hunnain.

Os bŷdd pêth Rhew ar ddechreu 'r mîs, ni pheru ond ychy­dig amser; Amla tywŷdd a ddisgwilir yr hanner Cynta or mîs hwn, ŷw ymbell gafod o ôd neu wlaw oer, ac awŷr gymmylog a gwŷnt llŷm: Ond yr hanner diwedda o'r mîs a fŷdd tebŷg i fôd yn rhewlŷd, ac ondodid bŷdd pêth eira Cŷn diwedd y mîs.

CHWEFROR. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng horph dŷn ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y Lleuad. Pen llan­w'r môr Haul yn Codi Haul yn ma­chlud
        A.   M A. M. A. M. A. M.
        Machlud            
1 d Bridget. dwŷlo. 2 B 0 8 29 7 10 4 48
2 e Gwyl fair y Canh bronnau, 3   0 9 17 7 17 4 43
3 f Llywelyn. brwŷden. 4   0 10 5 7 15 4 45
4 g Gilbart. Cefen, 5   0 10 53 7 13 4 47
5 a 5 Sul gwedir ystw▪ Calon. 6   0 11 40 7 11 4 49
6 b Cyhoeddwyd y Bre. y bol a'r perfedd. 7   0 12 30 7 9 4 51
7 c Romwald. 1 20 7 7 4 53
      Lleuad yn Codi            
8 d Solome. 5 N 0 2 10 7 5 4 55
9 e Apollon. pedrain neu Cluniau. 6   8 3 0 7 3 4 57
10 f Alexander. 7   16 3 50 7 1 4 59
11 g Euphrod. 8   24 4 40 6 59 5 1
12 A Sul septuagesima. Arphed, 9   32 5 30 6 57 5 3
13 b nôs tynnŷ falandein. dirgelwch. 10   40 6 20 6 54 5 6
14 c dŷdd g. falandein. morddwŷd. 11   48 7 10 6 52 5 8
15 d Faustin. morddwŷd. 12 B 56 8 0 6 50 5 10
16 e Polychran. glinniau, a garrau, 1   40 8 50 6 48 5 12
17 f Diascordia. 2   40 9 40 6 46 5 14
18 g Undebyst. Coesau, 3   40 10 30 6 44 5 16
19 A Sul sexagesima. Coesau. 4   40 11 20 6 42 5 18
20 b Eucharyst. Traed, 5   40 12 10 6 40 5 20
21 c y 69 merthyron. Traed. 1 50 6 38 5 22
        Lleuad yn mach.            
22 d Cadair Peter. pen ac wŷneb. 5 N 40 2 37 6 36 5 24
23 e Egbert Frenin. 6   40 3 28 6 34 5 26
24 f Intercal. gwddw, 7   46 4 0 6 32 5 28
25 f Gwyl S. Matthias gwddw, 8   52 4 40 6 30 5 30
26 G Sul ynŷd. gwddw. 9   58 5 20 6 29 5 31
27 a Dŷdd llun ynŷd. ysgwyddau, 11   6 6 16 6 27 5 33
28 b Dŷdd mawrth ynŷd. breichiau. 12   10 7 0 6 24 5 36
29 c mercher y lluwd. bronnau. 1   17 7 32 6 22 5 38

CHWEFROR. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawn lleuad y 6 dŷdd. 4 mŷnud gwedi 7 y boreu.
  • 3 chwarter oed y 14 dŷdd. gwedi 10 y boreu.
  • newidio yr 21 dŷdd. 24 mŷnud gwedi 8 y boreu.
  • un chwarter ocd yr 28 dŷdd han. awr Cyn un y boreu.

Y mîs hwn hefŷd sŷdd amser dâ i ddadwreiddio, ac i blannu sietus îrion, a rhôswŷdd, a gwinwŷdd, a hops, a phôb mâth ar dympathau ar a ddygo ffrwŷth, ac i hau pŷs, a ffâ, a win­wŷns, a phôb mâth ar Salet a llysiau Crochon erbŷn yr hâ. Tocciwch bôb blegurŷn gormodedd ar eich prennau toreth, a diswsoglwch a glânhewch hwŷnt oddiwrth bôb llygredigaeth, symmŷdwch eich plannhigion, a 'ch Coed Ieuaingc ar y chw­arter diweddaf o'r Lleuad, a phan fo'r Arwŷdd yn y pen, y Cluniau, neu 'r Arffed.

Gellir gollwng gwaed os bŷdd angenrhaid yn y mîs hwn, na chymmerwch bysygwriaeth yn y mis ymma o ddigerth bôd yn angenrhaid i chwi. Gochelwch gael yr anwŷd pan ddigwŷddo diwrnod Claear drwŷ esgeulustra, o blegŷd nid parrhaus ŷw'r Awel glaear yn y mîs hwn. Pôb mâth ar fwŷd llymrig megis pysgod, a llaeth, sy'n Caethiwo'r gwŷthennau, a'r Asu neu'r ys­gyfent, ac yn Tewychŷ'r gwaed, ac am hynnŷ nid ydŷnt am­gen na gelynnion i'r Iechŷd yn y mîs hwn.

Tua diwedd y mîs hwn, byddwch tebŷgi glywed pêth newŷdd ynghylch dyrnu ieir, a gwneuthur Crempogau: ond os dig­wŷdd i nêb dori eu boliau wrth fwŷta Crempogau, bŷdd hyn­nŷ newŷdd drŵgiawn.

Os bŷdd Rhew ar ddechreu'r mîs hwn, ni pheru ond ychy­dig amser, mae'r planedau yn addo oerni a gwŷnt Cyffroes ar y dechreu. Ynghŷlch yr wŷthfed neu'r nawfed dŷdd bŷdd tebŷg i dori yn deg ag yn glaear. Tua chanol y mîs ond odid bŷdd oe­rach drachefen, a rhai Cafodŷdd o wlaw neu ôdwlaw. A thua'r diwedd pôb mâth ardywŷdd anwadal, a phêth rhew.

MAWRTH. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r Dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llanw|'r môr Haul yn Codi Haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M
        machludo            
1 d Gwyl Ddewi. Brwŷden. 4 B 12 8 20 6 20 5 40
2 e Siad, mawthwl. Y Cefen a'r galon. 4   48 9 9 6 18 5 42
3 f Noe fam ddewi. 5   24 9 52 6 16 5 44
4 G 1 Sul o'r grawŷs. Y bol ar perfedd. 5   56 10 35 6 14 5 46
5 a Theophilus. 6   12 11 15 6 11 5 49
6 b Pryden. Cluniau, 12 0 6 8 5 52
        lleuad yn Codi.            
7 c Thomas, a sannan. Cluniau. 6 N 20 12 59 6 6 5 54
8 d Philomen. Arphed a dirgelwch, 7   40 1 48 6 4 5 56
9 e Pryden. 9   0 2 37 6 2 5 58
10 f dŷdd a nôs un hŷd. dirgelwch. 10   20 3 26 6 0 6 0
11 G 2 Sul o'r grawŷs. morddwŷd, 11   40 4 15 5 51 6 2
12 a Gregory. norddwŷd, 1 B 0 5 4 5 56 6 4
13 b Tudur, Edward. mordd▪ŷd. 2   21 5 53 5 54 6 6
14 c Candŷn myrthyri. glinniau a garrau. 2   40 6 42 5 52 6 8
15 d Wŷnebog. 3   0 7 31 5 50 6 10
16 e Cyfodiad Lazerus. 3   20 8 20 5 48 6 12
17 f Padrig wŷddel. Coesau. 3   40 9 9 5 46 6 14
18 G 3 Sul o'r grawŷs. Coesau. 4   0 9 52 5 44 6 16
19 a Cymbrŷd. Traed. 4   40 10 35 5 42 6 18
20 b Twthert. Traed. 5   20 11 15 5 40 6 20
21 c Bened. Pen ac wŷneb. 12 0 5 38 6 22
      lleuad yn machl.            
22 d Benediged. 6 N 40 12 48 5 36 6 24
23 e Godfridus. gwddw. 7   42 1 36 5 34 6 26
24 f Rwirinus. gwddw. 8   44 2 14 5 32 6 28
25 G Beichiogiad mair ysgwŷddau. 9   46 3 2 5 30 6 30
26 a Castulus. breichiau. 10   48 3 50 5 28 6 32
27 b Jo. Erem. bronnau, 11   50 4 38 5 26 6 34
28 c Gideon. bronnau, 12 B 50 5 26 5 24 6 36
29 d Eustachius. brwŷden. 1   54 6 14 5 22 6 38
30 e Guido. Cefen, 2   26 7 2 5 20 6 40
31 f Balbina. Calon. 3   8 7 50 5 18 6 42

MAWRTH. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawnlloned y 7 dŷdd, ynghŷlch 2 y boreu.
  • 3 chwarter oed y 15 dŷdd, gwedi un y boreu.
  • newidio yr 21 dŷdd, arôl 5 o'r prŷdnawn.
  • un chwarter oed yr 28 dŷdd, rhwng 2 a 3 or prŷdnawn.

Yn y mîs hwn (gan ddewis y tywŷdd) plennwch a thaclus­wch siettus Ieuaingc, a gorchguddiwch wraidd eich Coed ffrw­ŷthlawn y rhain a ddatguddiasoch yn Rhagfŷr a Ionawr, Heu­wch Gŷrch, a Haidd, a moron Gwnnion a Chochion, win­wŷns, Melonau, Cucummers, a phôb mâth ar Lysiau Cro­chon. Plennwch Hartichôcs a Saeds, A heuwch bôb mâth ar hâd gerddi.

Yngynghorwch yn y mîs hwn (os bŷdd achos) a Rhŷw gly­fyddgar bysygwr. Dymma'r amser goreu yn y flwŷddŷn i ill­wng gwaed, ac i gymmerŷd Pysygwriaeth os bŷdd achos. Na fwŷtaed nêb ond gweddiedd-dra yn y mîs hwn, a hynnŷ o'r bwŷd a ddygymmyddo oreu a'r Corph, ac a fyddo ffrwŷth­lawn a mwŷthus-fwŷd. Gochelwch bôb pêth hallt, Purweh eich gwaed drwŷ gymmerŷd pysygwriaethawl ddiod, a gollwng gwaed. Bwŷd a diod melusion sŷdd oreu yn y mîs hwn. Na esgeulused nêb fwŷtta ar foreu Cynyfed.

Iachach iw ymlenwi ar gawl neu bottes pŷs nag ar lîd a Chynfigen yn y mîs hwn. Os gwnewch gawl neu bottes naw­rhŷw ar y dŷdd Cyntaf o'r mîs, er dim ar a fo rhowch gennin peder ynddo, gwell ŷw gadel yr hôll lysiau eraill allan o hono na'r un llysieuŷn hwnnw.

Têg a sŷch ac eglur ar ddechreu'r mîs, A rhew ar foreuau. Anwadal o'r nawfed dŷdd hŷd ddiwedd y mîs, weithiau glaw, weithiau odwlaw, weithiau Cenllŷsg, weithi au gwŷntiog, wei­thiau ebrwŷdd gafodŷdd.

EBRILL. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau'r wŷthnos. Y dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. Pen llanw|'r môr. Haul yn Codi. Haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        mach            
1 G 5 Sul or grawŷs. Y bol a'r perfedd. 2 B 20 8 38 5 16 6 44
2 a mynediad Mair i'r Aipht. 3   40 9 26 5 14 6 46
3 b Richard. 4   56 10 14 5 12 6 48
4 c Tyrnog, Ambros. Clunniau, 5   20 11 2 5 10 6 50
5 d Derfel gadarn. Clunniau. 11 50 5 8 6 52
        lleaud yn Codi.            
6 e Llywelŷn. yr Arphed a'r dirgelwch. 7 N 0 12 38 5 6 6 54
7 f Ethelwal Frenin. 8   7 1 26 5 5 6 56
8 G Sul y Blodau. 9   14 2 14 5 3 6 58
9 a Albinus. morddwŷd. 10   21 3 2 5 2 6 59
10 b y saith gwŷryfon. morddwŷd. 11 B. 28 3 50 5 0 7 00
11 c Liberws. glinniau a garrau. 12   35 4 8 4 58 7 2
12 d Hugh Esgob. 1   40 4 56 4 56 7 4
13 e gwener y Croglith. Coesau, 2   11 5 40 4 54 7 6
14 f Tiburtius. Coesau. 2   42 6 40 4 52 7 8
15 G Sul y Pasc. Traed, 3   13 7 42 4 50 7 10
16 a Padarn. Traed. 3   44 8 44 4 48 7 12
17 b Anticetus. pen ac wŷneb. 4   10 9 45 4 46 7 14
18 c Oswŷn. 4   30 10 56 4 44 7 16
19 d Timothy. gwddw, 4   50 12 0 4 42 7 18
20 e Cadwalad Frenin. gwddw. 12 55 4 40 7 20
        lleuad yn mach            
21 f Seimon. ysgwyddau, 7 N 40 1 50 4 38 7 22
22 G Dul y Pasc. bychan breichian, 8   54 2 45 4 36 7 24
23 a Siorsŷn sais. Coroni. dwŷlo. 9   48 3 40 4 34 7 26
24 b Albertus. (y Brenin. bronnau, 10   40 4 35 4 32 7 28
25 c Gwyl St. Matt. brwŷden. 11   30 5 30 4 30 7 30
26 d Clari, Cletus. Cefen, 12   0 6 25 4 28 7 32
27 e Walburg Frenin. Calon. 12 B 40 7 20 4 26 7 34
28 f Fitalus Ferthŷr. y bol a'r perfedd. 1   18 8 15 4 24 7 36
29 G 2 Sul gwedi'r pasc. 1   50 9 10 4 22 7 38
30 a Josua. 2   25 10 5 4 20 7 40

EBRILL. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawnlloned y 5 dŷdd, 4 mŷnud gwedi 6 o'r prydnawn.
  • 3 chwarter oed y 13 dŷdd, 4 mŷnud arôl hanner dŷdd.
  • newidio yr 20 dydd, hanner awr gwedi 3 y boreu:
  • un Chwarter oed y 27 dŷdd, rhwng 6 a 7 y boreu.

Yn y mîs hwn heuwch gywarch a llîn. A gosodwch bolion i'ch Hops, heuwch bôb mâth ar hâd gerddi, helaethwch gy­fyngder y Gwenŷn drwŷ egorŷd drws eu Cychau, a'u gillwng i gasglu eu Cyfreidiau erbŷn gauaf arall: Dirisclwch rîscl i'r Barcwŷr yn y mîs hwn. Edryched pôb hwswi ddâ at eu ger­ddi, a meddylied mewn amser am Lyfodraeth eu buches. Pôb trînŷdd gerddi a ddylent hau ar sychder, a phlannu ar lybaniaeth.

Pysygwriaeth yn y mîs hwn sŷ brydlawn iawn, ac ymddisba­ddu neu yrloesi'r Corph, a gollwng gwaed: A garo ei Jechŷd ymgadwed heb yfed gwîn yn y mîs hwn, oblegŷd i fôd yn gwrei­ddio amriw o ddoluriau ynghorph y sawl a'i hyfo yn Ebrill, ac yn dinistrio enioes llawer glanddŷn oddiar wŷneb y ddaiar. Yn y mîs hwn bŷdd pôrs y Corph yn egored, ac yn gymwŷs i dder­bŷn pysygwriaeth; ac am hynnŷ dymma 'r amser Cyfleusaf a hawsaf i ymwared oddiwrth bôb afiechŷd, ac i Jachau y nêb a fo yn gofidio dan gaethiwed eu doluriau.

Os digwŷdd y mîs hwn yn dêg bŷdd yr adar pluog yn llawer dedwyddach na'r merched boneddigion, oblegŷd pan godo'r Adar y boreu byddant drwsiadus yn ddi drafferth, a bŷdd rhaid i'r merched boneddigion gael dwŷ awr neu dair i wisgo amda­nŷnt: ac heblaw hynnŷ mae'r adar yn daclus iawn heb gôst, y prŷd y bo gwchder, y gwragedd yn magu Consymsiwn ym mho­ccedau eu gwŷr.

Mae'r plannedau yn addo tywŷdd Cymhedrol i'r tymmor yr hanner Cyntaf or mis hwn, hynnŷ ydiw, Claear a thymherus, ag ymbell gafod o wlaw; A Thua 'chanol y mîs bŷdd tebŷg i oeri, ac i biccio ymbell gafod ddicllon o wlaw neu ôdwlaw, a pheth rhew ar forenau yn diflannu blodeuau'r Coedŷdd. Pôth Teccach tua'r diwedd.

MAI. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llanw|'r môr. haul yn Codi haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        mach.            
1 b St. Philip, a St. Iago. Cluniau, 3 B 10 10 05 4 19 7 41
2 c Anthonasius. Cluniau. 3   50 11 00 4 17 7 43
3 d Dyfais y groes. Arphed a dirgelwch, 4   10 11 30 4 15 7 45
4 e Melangell. 4   20 12 00 4 13 7 47
5 f Gothard. Arphed, 12 49 4 12 7 48
        lleuad yn Codi            
6 G 3 Sul gwedi'r pasc. morddwŷd, 8 N 36 1 41 4 11 7 49
7 a Stanislos. morddwŷd 9   0 2 33 4 10 7 50
8 b Infental. glinniau, 9   36 3 25 4 8 7 52
9 c Nicholas. garrau. 10   20 4 17 4 7 7 53
10 d Pencrat. Coesau, 11   0 5 9 4 6 7 54
11 e Cristian. Coesau, 12 B 27 6 1 4 4 7 56
12 f Penusus. Coesau. 12   54 6 53 4 3 7 57
13 G 4 Sul gwedi'r pasc. Traed, 1   20 7 45 4 2 7 58
14 a Boniffas. Traed. 1   43 8 37 4 0 8 0
15 b Sophia. pen ac wŷneb. 2   10 9 29 3 59 8 1
16 c Granog. 2   36 10 21 3 57 8 3
17 d Dynstan. gwddwf, 3   0 11 13 3 56 8 4
18 e Sewel Esgob. gwddwf. 12 00 3 54 8 6
        lleuad yn machlŷd.            
19 f Sarah. ysgwŷddau, 8 N 30 12 45 3 52 8 8
20 G 5 Sul gwedi'r pasc. breichiau. 9   00 1 30 3 51 8 9
21 a Collen. bronnau, 9   30 2   3 50 8 10
22 b Helen Frenhines. brwŷden. 10   00 3 00 3 49 8 11
23 c Wiliam. y Cefen a'r galon. 10   30 3 45 3 48 8 12
24 d Dydd Jou derchaf. 11   00 4 20 3 47 8 13
25 e Urbanws. 11   30 4 15 3 46 8 14
26 f Edward. y bol a'r perfedd. 12 B 02 5 00 3 45 8 15
27 G 6 Dul gwedi'r pasc. 12   33 5 45 3 45 8 15
28 a Jonas. Cluniau, 1   00 6 36 3 44 8 16
29 b Gwyl y Brenin. Cluniau, 1   30 7 13 3 43 8 17
30 c Wigand. Cluniau. 2   00 8 20 3 42 8 18
31 d Petronel. Arphed. 2   30 9 00 3 42 8 18

MAI. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawnlloned y 5 dŷdd, Rhwng. 9 a 10 y boreu.
  • 3 chwarter oed y 12 dŷdd, ynghŷlch 7 o'r prŷdnawn.
  • newidio y 19 dŷdd, ar ôl 4 y boreu.
  • un chwarter oed y 26 dŷdd, Cŷn 11 o'r nôs.

Y mîs hwn sŷ'n gwahadd yr hwswi Lwŷddiannus, a'r gwŷr penigamp, (sef y pysygwŷr a'r pothecaris) i osod eu stiliau ar waith. Yn nechreu y mîs hwn heuwch a phlennwch bôb llysiau hâf tyner, y rhain na ddygymmyddant ag oerdra'r hîn yn gŷnt o'r flwŷddŷn. Chwynnwch Erddi eich Hops, a thorwch bôb ofer ganghennau. Difwsoglwch eich Coed, a'ch gerddi: A chwŷnnwch eich ydau.

Codwch yn foreu, a rhodiwch y meusŷdd a'r gerddi, a hynnŷ ar lan afon os Cewch y fâth gyfleuŷstra, pôb gardd a gwrŷch yn y mîs hwn a wasanaetha am bysygwriaeth. Ymmenŷn mai, a sage neu sâeds sŷdd enllŷn iachus ar foreu, A Glouw faidd sum­mel sŷdd well na gwîn; Cwrw ysgyrfi, A Bîr wermod sŷ ddiod iachus. Bwŷtta ac yfed yn foreu sŷ ddâ er mwŷn iechŷd. Ond pôb bwŷdŷdd a fônt wresog eu naturiaeth, A phôb hâllt fwŷd sŷdd afiachus yn y mîs hwn.

Y mîs hwn sŷ fîs Carwriaeth, ac am hynnŷ Cynghorwn y gwŷr ifaingc i edrŷch attŷnt eu hŷnain, o blegŷd sôd y mer­ched yn debŷg i ffidil a fae a phedwar o linynnau neu dannau iddi, yr rhain ydŷnt, gweddeidd-dra, Cywirdeb, hyswiaeth, a morwŷndod; pan fô ar ffidil eisiau un o'i phedwar tant ni thiwnnia hi yn hyfrŷd; Ac fellu am y merched, os bŷdd ar­nŷnt eiseu un o'r pedwar priodolderau a henwŷd uchod, ni wnant fwŷ hysrŷdwch i ŵr nag a wnae ffidil ddi dannau.

Disgwilir tegwch ar ddechreu'r mîs hwn, ac ymbell ga­fod o wlaw tua'r Cauol, a thêg drachefen tua'r diwedd ac anwadal.

MEHEFIN. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llanw|'r môr haul yn Codi haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        m.            
1 e Tegla. Arphed 3 B 00 10 0 3 42 8 18
2 f Gwŷfen. morddwŷd, 3   30 11 0 3 42 8 18
3 G y Sul Gwyn. morddwŷd. 12 0 3 42 8 18
        lleuad yn Codi.            
4 a Hedrog. gliniau, a garrau. 8 N 30 12 55 3 41 8 19
5 b Nichodemus, 9   0 1 50 3 41 8 19
6 c Narbert. 9   30 2 45 3 41 8 19
7 d Paul. Coesau, 10   0 3 40 3 41 8 19
8 e Wiliam Esgob. Coesau, 10   30 4 35 3 41 8 19
9 f Barnim. Traed, 11   16 5 30 3 41 8 19
10 G Sul y Orindod. Traed. 11   50 6 25 3 41 8 19
11 a St. Barnab. y dŷdd hwŷaf. pen ac wŷneb. 12 B 20 7 20 3 41 8 19
12 b Blandin. 12   40 8 15 3 41 8 19
13 c Sannan. gwddwf, 1   10 9 10 3 41 8 19
14 d Valerius. gwddwf. 1   40 10 05 3 41 8 19
15 e Trillo ysgwŷdd. 2   10 11 3 3 41 8 19
16 f Elidan, Curig. breichiau. 3   0 12 0 3 41 8 19
17 G 1 Sul gwedi'r drin. bronnau, 12 48 3 41 8 19
        lleuad yn machlud.            
18 a Homer. bronnau, 8 N 30 1 36 3 41 8 19
19 b Lenard. bronnau. 9   0 2 24 3 42 8 18
20 c Regina. Cefen, 9   30 3 12 3 42 8 18
21 d Alban. Calon. 10   0 4 0 3 42 8 18
22 e Gwen frewi. y bol a'r perfedd. 10   30 4 48 3 43 8 17
23 f Basilius. 10   56 5 36 3 43 8 17
24 G Gwyl St. Ioan fed. Cluniau, 11   10 6 24 3 44 8 16
25 a Elogius. Clunniau, 11   36 7 12 3 45 8 15
26 b Tyrnog, Twrog. Clunniau. 12 B 6 8 0 3 46 8 14
27 c y 7 Cyscaduriaid. Arphed 12   50 8 48 3 47 8 13
28 d Leo. dirgelwch. 1   20 9 36 3 48 8 12
29 e Gwyl S. Pet. a Paul morddwŷd, 1   50 10 24 3 49 8 11
30 f Ymchwel Paul. morddwŷd. 2   45 11 12 3 50 8 10

MEHEFIN. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawnlloned y 3 dŷdd, Cŷn 10 o'r nôs.
  • 3 chwarter oed y 10 dŷdd. Cyn 6 o'r prŷdnawn.
  • newidio y 17 dŷdd, arôl 8 o'r prŷdnawn.
  • un chwarter oed y 25 dŷdd, rhwng 3 a 4 o'r prŷdnawn.

Ar y llawn lloned yn y mîs hwn a'r nesaf, Cesclwch y llysiau a gadwoch yn sŷch drwŷ'r flwŷddŷn, Gosodwch eich Rhôsmari, a'ch Gilifflowers, Heuwch eich Lettus, a'ch Redis 3 neu 4 diwrhod o flaen y llawnlloned, ac yna nî hâdant yn wŷllt: Cneifiwch eich delaid Cŷn y llawnlloned. Gwiliwch dori lly­fiau, neu bwŷsîau a Chyllell neu arf, ond a'ch bysedd.

Nid niwed iw chwŷs a ddêl drwŷ weithio mewn gweddeidd­drao boen. Arferwch ysgafnder neu weddeidd-dra o fwŷd yn y mîs hwn, ac na ddioddefwch i'ch meddyliau redeg ar anlladrwŷdd. Peryglus iw Cysgu neu orwedd yn hîr ar y ddaiar. Ysed diod oer pan fo'r Corph yn wresog, sŷdd lawer afiachach na nofio dros afon ar Rew ac Eira. Yr amser hwn sŷ brydlawn i hel Rhosau, a phôb mâth ar lysiau, ac iw distilio hwŷnt. Bydded eich lluniaeth yn fychan ei sylwedd, o her­wŷdd ni ddygymmŷdd a'r Corph mo'r llawndra o fwŷd fel yn misoedd oerach. Maidd glâs lle' berwer ynddo lysiau oer o naturriaeth sŷdd iachus.

Cariad a phottes pŷs sŷdd bethau peryglus i ymhel a hwŷnt yn y mîs ymma, rhag osn i'r naill dorri'r galon, ac i'r llall do­rri'r bol, ni pheru pottes pŷs trwŷ'r flwŷddŷn; ond Ca­rriad, megis Cwrrw a thybacco sŷdd bôb amser mewn ffasiwn.

Tywŷdd tymherŷs, a pheth gwlaw ar y dechreu; a gwrês mawr a ddisgwilir Cŷn yr ail sûl o'r mîs. A thua diwedd y mîs bŷdd bêth oerach, ac ymbell gafod ar rŷw ddy­ddiau.

GORFENNAF. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r lyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llanw|'r môr haul yn Codi haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
1 G 3 Sul gwedi'r drin morddwŷd, 3 B 40 11 12 3 51 8 9
2 a gwŷl fair. glinniau, 12 0 3 52 8 8
        lleuad yn Codi.            
3 b Marthin, Pebling. garrau. 8 N 45 12 48 3 53 8 7
4 c Ulricus. Coesau, 9   10 1 36 3 53 8 7
5 d Auselm. Coesau. 9   35 2 24 3 54 8 6
6 e Ersull, Esaias broph. Traed, 10   0 3 12 3 55 8 5
7 f Thomas, Child. Traed. 10   25 4 0 3 56 8 4
8 G 4 Sul gwedi'r drin. pen ac wŷneb. 10   40 4 48 3 56 8 4
9 a ganedigaith mair fag. 11   10 5 36 3 57 8 3
10 b gwŷl gywer. gwddwf, 11   40 6 24 3 58 8 2
11 c y saith frodur. gwddwf. 12 B 20 7 12 3 59 8 1
12 d Harri. ysgwyddau. 1   0 8 0 3 59 8 1
13 e Doewan. breichiau. 1   40 8 48 4 0 8 0
14 f Garmon, banaf. dwŷlo. 2   20 9 36 4 2 7 58
15 G 5 Sul gwedi'r drin. dwŷfron, 3   10 10 24 4 3 7 57
16 a Cynllo. dwŷfron. 4   0 11 12 4 4 7 56
17 b Alexius. Cefen, 12 0 4 6 7 54
        lleuad yn machl.            
18 c Edwart. Calon. 8 N 0 12 48 4 7 7 53
19 d dyddiau'r Cŵnyn dechreu. bol, 8   20 1 36 4 8 7 52
20 e Joseph. perfedd. 8   40 2 24 4 10 7 50
21 f Daniel. Cylla. 9   0 3 12 4 11 7 49
22 G 6 Sul gwedi'r drin. Cluniau, 9   20 4 0 4 12 7 48
23 a Apolinarus. Clunniau. 9   50 4 48 4 14 7 46
24 b Christina. Arphed, 10   6 5 36 4 15 7 45
25 c Gwyl St. Iago. Arphed 10   55 6 24 4 17 7 43
26 d Ann mam mair. dirgelwch. 11   24 7 12 4 18 7 42
27 e Martha. morddwŷd, 12 B 23 8 0 4 20 7 40
28 f Samson. morddwŷd. 1   20 8 48 4 22 7 38
29 G 7 Sul gwedi'r drin. glinniau, 2   21 9 36 4 23 7 37
30 a Abdon. garrau. 3   20 10 24 4 25 7 35
31 b Germon. Coesau. 4   20 11 12 4 27 7 33

GORFENNAF. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • llawnlloned y 3 dŷdd, rhwng 8 a 9 y boreu.
  • 3 chwarter oed y 10 dŷdd, ar 3 y boreu.
  • newidio y 17 dŷdd, Cŷn 8 y boreu.
  • un chwarter oed y 25 dŷdd, rhwng 8 a 9 boreu.

Os mynnech gael eich tai yn ddi chwain, tenwch lyfiau Rue, a wermod, a bumlust rhŷd eich lloriau, ag yno ni ddawnsia 'r chwain pa Cênt fiwsicc. Ar y llawn lloned heliwch eich llysi­au, a'ch hadau: gwŷfwch eich llysiau mewn Cysgod ac nid yn yr haul, o blegŷd fôd naturiaeth yr haul i lwŷr sugno pôb lleithdra, etto iw Cadw rhag llygru gadewch i'r haul dywŷnnu ychydig arnŷnt ymbell waith.

Gochelwch frydaniaeth mawr ac oeri yn fŷan ar ôl bryda­niaeth, o blegŷd drwŷ'r achos hwnnnw bŷdd amriw ddoluriau y mîs hwn. Gwiliwch yfed gormod, bwŷttewch yn-ddiymmei­riach, a bwŷd oer sŷdd oreu, ymgedwch fwŷa galloch oddiwrth bysygwriaeth yn y mîs hwn. Iachach iw dŵr yr Afonŷdd na dŵr y ffynhonnau y mîs hwn. Yn amser Clefydon Cedwch eich ffynestri yn gaead nes llewyrchu o'r haul. Mŵgderthwch eich ystafellau a phûg ar dân glô bôb boreu drwŷ 'r mîs hwn yn amser Clefydon. Cymmerwch gardum benedictum, berrwch hwynt, ac yfwch o'r berwad bôb boreu ar eich Cyth­lwng.

O'r hôll fisoedd yn y flwŷddŷn, y mis gwresog hwn sŷdd oreu i briodi ynddo i dreio Carriad gwraig, oblegid os gor­wedd hi yn glos wrth ei gŵr y mîs ymma, nag amheued êf na wnelo hi hynnŷ ar hîn oer.

Os gelli 'r Coel ar y plannedau bŷdd gwresog iawn ar ddechreu'r mis hwn. Tua'r pummed dŷdd bŷdd beth oerach. A thua chanol y mîs bŷdd Tymmherus a llariaidd. A rhai Cafodŷdd Tua'r diwedd.

AWST. 1688.
dydiau 'r ms. dyddiau 'r wythnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llan­nw'r môr. haul yn Codi. haul yn ma­chlu.
        A.   M A. M. A. M. A. M.
        lleuad yn Codi.            
1 c Dŷdd Awst. Coesau. 7 N 40 12 0 4 35 7 25
2 d Moses. Traed, 8   10 12 48 4 36 7 24
3 e Pendefig. Traed. 8   40 1 36 4 38 7 22
4 f Aristarcus. y pen a'r wyneb. 9   10 2 24 4 40 7 20
5 G 8 Sul gwedi'r drin. 9   40 3 12 4 41 7 19
6 a gwêdd newid Jesu. 10   10 4 0 4 43 7 17
7 b Afra. gwddwf, 10   40 4 48 4 45 7 15
8 c illog o hîrnant. gwddwf. 11   10 5 36 4 47 7 13
9 d Julian. ysgwyddau. 11   40 6 24 4 48 7 12
10 e Lawrence. breichiau. 12 B 10 7 12 4 50 7 10
11 f Gilbart. bronnau, 1   0 8 0 4 52 7 8
12 G 9 Sul gwedi'r drin. bronnau. 1   50 8 48 4 54 7 6
13 a Hippolitus. y Cefen a'r galon. 2   40 9 36 4 56 7 4
14 b Betram. 3   30 10 24 4 58 7 2
15 c gwŷl fair. 11 12 5 0 7 0
        lleuad yn machlud.            
16 d Rochws. y bôl a'r perfedd. 7 N 0 12 0 5 2 6 58
17 e Hart fford. 7   30 12 48 5 4 6 56
18 f Helen. Clunniau, 8   0 1 36 5 6 6 54
19 G 10 Sul gwedi'r dri. Clunniau, 8   26 2 24 5 8 6 52
20 a Barnard. Clunniau. 8   50 3 12 5 10 6 50
21 b Anthanasius. Arphed, 9   8 4 0 5 12 6 48
22 c Gwŷddelan. dirgelwch. 9   35 4 48 5 14 6 46
23 d Zachews. morddwŷd, 10   40 5 36 5 16 6 44
24 e Sr. Bartholomews. morddwŷd, 11   50 6 24 5 18 6 42
25 f Lewis frenin. morddwŷd. 1 B 0 7 12 5 20 6 40
26 G 11 Sul gwedi'r dri. glinniau, 2   5 8 0 5 22 6 38
27 a dyddiau'r Cŵn yn diwedd garrau. 3   10 8 48 5 24 6 36
28 b Augustin. Coesau, 4   15 9 36 5 26 6 34
29 c Jefan y Coed. Coesau. 5   2 10 24 5 28 6 32
30 d gwŷl deilo. Traed, 11 12 5 30 6 30
31 e Adrian Esgob. Traed. 6 N 04 12 0 5 32 6 28

AWST. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • Llawnlloned y dŷdd cyntaf, Cŷn 6 o'r prŷdnawn.
  • 3 chwarter oed yr 8 dŷdd, Cyn 9 y boreu.
  • newidio y 15 dŷdd, arol 9 or nôs.
  • un chwarter oed y 24 dŷdd, Cŷn un y boreu.
  • llawnlloned yr 31 dŷdd, rhwng 2 a 3 y boreu.

Yn y mîs hwn (os rhŷdd eich Cynhauaf gennad i chwi) heuwch eich llysiau gauaf ar y chwarter Cyntaf o'r lleuad, heliwch eich hâd gerddi ychydig Cyn y llawnlloned.

Gweddeidd-dra neu ysgafnder o fwŷd sŷdd oreu yn y mîs hwn, drŵg iw Cysgu yn fŷan ar ôl bwŷb, Gochelwch oeri yn fŷan ar ôl Twmniad. Gochelwch gymmerŷd pysygwriaeth na gollwng gwaed pan fyddo'r hîn yn wresog yn nyddiau'r Cwn, ond os bŷdd yr hîn yn oer gellwch feiddio pysygw­riaeth a gollwng gwaed (os bŷdd achos yn peri) fel amser arall. Gwiliwch bôb ymloddeth neu Syrffet drwŷ dwŷmno ac oeri, o blegŷd i maent yn magu amriw ddoluriau. Nag arferwch gysgu llawer, yn enwedig ar brŷdnawn, o blegŷd i mau yn magu Caethiwed i'r Afu neu'r Iau, doluriau pen, y Crŷd poeth, ac amriw ddoluriau eraill o'r fath hynnŷ. Gwîn Côch, a chlaret sŷdd odidawg i blant rhag y llynger.

Os digwŷdd i neb ei làdd ei hun wrth weithio yn y mîs hwn, ni cheif glywed neb yn Cwŷno iddo yn y mîs nesaf. Os dygîr Ceffŷl oddiarnoch yn y mîs hwn, dymmunwch i'r lleidr gael [...] tennŷn gydo'r Ceffŷl, oblegŷ arferol yn y wlàd iw i'r Cefful gyfarfod a rheffŷn.

Yr ydis yn ofni mwŷ o wlaw yn y mîs hwn dag a ryngo fôdd i rai, yn enwedig tua channol y mis; Ac o'r 20 dŷdd hŷd ddiwedd y mîs bŷdd Tebŷg i fôd yn dêg, ac yn sŷch.

MEDI. 1688.
dyddiau'r mîs. dyddiau 'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad a mach­ludiad y lleuad. pen llan­w'r môr. haul yn Codi haul yn mach­ludo.
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        lleuad yn Codi.            
1 f Silin. Pen. 7 N 00 12 48 5 35 5 25
2 G 12 Sul gwedi'r drin. wŷneb. 7   30 1 38 5 37 6 23
3 a Gregory. gwddw. 8   00 2 28 5 39 6 21
4 b Erddul. gwddw. 8   30 3 18 5 41 6 19
5 c Marchell. ysgwŷddau. 9   00 4 08 5 43 6 17
6 d Idlos. breichiau. 9   30 5 58 5 45 6 15
7 e Dynstan. bronnau. 10   40 6 48 6 47 6 13
8 f Ganedigaeth mair. browŷden. 11   56 7 38 5 49 6 11
9 G 13 Sul gwedi'r drin. y Cefen a'r galon. 1 B 09 8 28 5 51 6 9
10 a Nicholas. 2   50 9 18 5 53 6 7
11 b Daniel. 4   19 10 08 5 56 6 4
12 c Dŷdd a nôs o'r un hŷd. y bol a'r perfedd. 5   05 10 58 5 58 6 2
13 d Telemog. 6   00 11 26 6 0 6 0
14 e Gwŷl y grôg. Cluniau. 12 00 6 2 5 58
        lleuad yn machlud.            
15 f Nicodemus. Cluniau. 6 N 00 12 45 6 4 5 56
16 G 14 Sul gwedi'r drin. Cluniau. 6   30 1 30 5 6 5 54
17 a Lambert. Arphed. 7   00 2 15 6 8 5 52
18 b Fferiolus. Arphed. 7   30 3 00 6 10 5 50
19 c Theodor. morddw­ŷdŷdd. 8   06 4 45 6 12 5 48
20 d Eustachus. 8   40 5 30 6 14 5 46
21 e Gwyl St. Matth. morddwŷd. 9   18 6 15 5 16 5 44
22 f Maurus. glinniau. 10   04 7 00 6 18 5 42
23 G 15 Sul gwedi'r drin. garau. 11   30 7 45 6 20 5 40
24 a Tecla forwŷn. Coesau. 1 B 00 8 30 6 22 5 38
25 b Samuel ganed y fren­hines. Coesau. 2   30 9 15 6 24 5 36
26 c Cyprian. Traed. 4   00 10 00 6 26 5 34
27 d Judeth. Traed. 5   15 10 45 6 28 5 32
28 e Lioba. y pen, a'r wŷneb. 6   30 11 23 6 30 5 30
29 f Gwyl St. Mihan. 12 00 6 32 5 28
30 G 16 Sul gwedi'r drin. gwddwf. 5 N 30 12 50 6 34 5 26

MEDI. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • 3 chwarter oed 6 dŷdd. rhwng 4 a 5 o'r prŷdnawn
  • newidio 14 dŷdd cŷN 1 o'r prŷdNawn.
  • 1 chwarter oed 22 dŷdd, cŷn 4 o'r prŷdnawn.
  • llawnlloned 29 dŷdd, 11 y boreu.

Yn nechreuad y mîs hwn heliwch eich Hops, os bŷdd, eu lliw wedi rhŷdd-felynu, a hynnŷ pan fo'r hîn yn dêg, ac heb ddim Gwlîth ar y ddaear. Lleddwch eich Gwenŷn. gwnewch ferdus yn y mis hwn. Symudwch a gosodwch bôb math ar Rofwŷdd, a llŷsiau gerddi eraill rhwng y ddwŷ wŷl fair. Symydwch Goed yr amser a fynoch o hŷn hŷd Chwefror, ond bydded yn fuan ar ôl newid y Lleuad, a phan fo'r hin yn glaear, ar gwynt o'r Gorllewin neu'r Deheu. torwch Siettŷs. Disgynwch a heliwch ffrwŷthau addfed eich Perllanoedd. Heuwch Rûg a Gwenith a Moron Gauaf. Plennwch Goed Rhôs-cochion, a Gwnion, a Choed Eirin Mair, a Gwŷdd Bar­beries.

Yrowan gan fôd y flwŷddŷn yn oeri, parodhewch i chwi ddillad Gauaf, a Gwisgwch hwŷ am danoch yn rhyddion i'ch amddiffŷn rhag y pêth a alleu ar ôl hŷn eich gwneuthur yn edifarŷs. Amser Dâ i gymerŷd Pysygwriaeth, ac i ollwng gwaed.

Pwŷ bynnag sŷ 'n amcanu bŷw dros y gauaf, gofaled oreu 'gallo ar gynhauafu ei ŷd mewn dâ drefn: Ac nag ymyf­yried ar oferedd na gwagedd pan ddyleu ef roddi ei holl-frŷd ar achŷb yr hŷn a 'i Cadwo yn fŷw ar drymder gauaf.

Os gellir hyderu ar dueddiad y planedau Ceir hîn neu dywŷdd têg y rhan fwŷaf o'r mîs hwn, yn enwedig ar ddech­reu'r mîs; Rhai dyddiau Cymmylog ac ymbell gafod o wlaw tua chonol y mis; Tèg a Thymherŷs drachefen. Ac ar ddiwedd y mîs anwadal a rhai Cafodŷdd.

HYDREF. 1688.
dyddiau 'r mîs. dyddiau 'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llan­w'r môr. haul yn Codi haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        lleuad yn Codi.            
1 a Germon. Gwddwf. 6 N. 00 1 30 6 38 5 22
2 b Henffordd. ysgwydd. 6   30 2 20 6 40 5 20
3 c Gerdard. breichiau. 7   00 3 10 6 42 5 1 [...]
4 d Ffrancis. bronnau, 7   30 4 00 6 44 5 16
5 e Cynhafal. bronnau, 8   00 4 50 6 46 5 14
6 f Fflÿdd. bronnau. 8   30 5 40 6 48 5 12
7 G 17 Sul gwedi'r drin. y Cefen ar galon. 9   06 6 30 6 50 5 10
8 a Cynon, Cammar. 9   43 7 20 6 52 5 8
9 b Denus. y bôl a'r perfedd. 11   00 8 10 6 54 5 6
10 c Triffon. 12 B 20 9 00 6 56 5 4
11 d Pritsiard. 1   40 9 50 6 58 5 2
12 e Edward. Cluniau. 3   00 10 40 7 0 5 0
13 f Telemach. Cluniau. 4   20 11 20 7 2 4 58
14 G Ganed. ein Brenin. Arffed neu'r dirgelwch. 6   00 12 00 7 4 4 56
      lleuad yn machludo.            
15 a Mihangel fechan. 5 N. 00 12 50 7 6 4 54
16 b Gallus. 5   50 1 40 7 8 4 52
17 c Etheldred. morddwŷd­dŷdd. 6   44 2 30 7 10 4 50
18 d Gw. St. Luc Efeng. 7   30 3 20 7 12 4 48
19 e Ptolomy. glinniau. 8   28 4 10 7 14 4 46
20 f Gwendolina. Garrau. 9   20 5 00 7 16 4 44
21 G 19 Sul gwedi'r drin. Coesau, 10   13 5 50 7 18 4 42
22 a Mari Sala. Coesau, 11   00 6 40 7 20 4 40
23 b Gwŷnog, maethan. Coesau. 12 B 50 7 30 7 22 4 38
24 c Cadfarch. Traed. 2   00 8 20 7 24 4 36
25 d Crispin. Traed. 3   30 9 10 7 26 4 34
26 e Amandus. y Pen a'r wŷneb. 5   00 11 00 7 28 4 3 [...]
27 f Ymprŷd. 6   10 11 30 7 30 4 30
28 G St. Sim. a St. Jud. gwddwf 7   20 12 00 7 32 4 28
        Cod.            
29 a Narcustus. gwddwf. 4 N. 40 12 50 7 34 4 26
30 b Barnard Esgob. ysgwyddau 5   27 1 40 7 36 4 24
31 c Dogfael. breichiau. 6   14 2 30 7 38 4 22

HYDREF. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • 3 chwarter oed y 6 dŷdd, ar 5 y boreu.
  • newidio y 14 dŷdd, ynghŷlch 7 y boreu.
  • 1 chwarter oedd 22 dŷdd, ar 5 ar y glôch y boreu.
  • llawnlloned yr 28 dŷdd ar ol 8 o'r nôs.

Heuwch wenith a Rhûg, Symŷdwch blanhigion a choed ieuaingc ynghŷlch newidiad y Lleuad, Ond nodwch hŷn o ddirgelwch dewisol, yr hŷn iw, pan blannoch Blanhigion, byddwch ofalus i osod yr un ystlŷs tuagat y Deheu ac oedd cŷn ei ddadwreiddio, ac oni wnewch hynnŷ ni thyfant bŷth cystal. Yrwan llwŷr heliwch ffrwŷth eich Perllanoedd, plenwch bôb mâth ar Gnau a Mês. Os ewŷllysiwch gael llawer o Rôsau na thorwch mo'u gwŷdd hwŷ ond ûn waith bôb Dwŷ flynedd.

Y Dillad a wisgasoch yn esgeulus, ac yn rhyddion y Mîs Diweddaf, Byttymwch hwŷ y Mîs hwn o ddifrif; ym wisgwch y prŷd hwn glytta ag alloch i'ch ymddiffyn rhag yr oerfel sŷ'n dyfod yn ddirgel. Niwliau yn y Mîs hwn sŷdd chwanog i fagu yr Anwŷd, Pesychu, a chaethiwed; am hynnŷ ymgyngh­rwch a'ch Taeliwr fel a'ch Pysygwr.

Er maint a chwiliais o'r sêr, ac a fyfyriais yn sywedyddiaeth, ni fedrais etto wŷbod paham y maer merched boneddigion yn gwisgo siobŷn o Rŷbanau yn eu talcennau. Pan oedd gwŷr boneddigion yn gwisgo Rŷban ar un ysgwŷdd heb ddim ary llall, galleu hynnŷ fôd er mwŷn dynabod yr ysgwŷdd ddeheu oddiwrth yr aswf.

Am ddim ag i rwŷf fi yn ei ddeall, ni bŷdd dim rhew tra 'pyrhatho'r mîs hwn. Onid wŷfi'n Cam gymmerŷd bŷdd amlder o wŷnt mawr iawn, a mynŷch gafodŷdd o wlaw, yn enwedig ar ddechreu'r mîs. Pêth tegrach tua'r Canol, oer ac anwadal tua'r diwedd.

TACHWEDD. 1688.
dyddiau 'r mîs. dyddiau 'r wŷthnos. Y Dyddiau gwŷlion, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llan­nw'r môr. haul yn Codi haul yn mach­ludo.
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        lleuad yn Codi.            
1 d Gwŷl yr holl Saintc. bronnau. 7 N. 0 3 20 7 39 4 21
2 e Gwŷl y meirw. bronnau. 7   47 4 10 7 40 4 20
3 f Christiolus. Clŷdog. Cefen. 8   34 5 00 7 41 4 19
4 G 21 Sul gwedi'r drin. Calon. 9   21 5 50 7 42 4 18
5 a Brad y pow. gw. y bol a'r perfedd. 10   10 6 40 7 44 4 16
6 b Lenard. 11   00 7 30 7 46 4 14
7 c Cyngor Cynsar. 12   30 8 20 7 47 4 13
8 d Tysilio. Cluniau 2   00 9 10 7 49 4 11
9 e Post Brydain. Cluniau. 3   30 10 00 7 51 4 9
10 f Agoleth. Arffed neu'r dirgelwch. 5   00 10 50 7 52 4 8
11 G 22 Sul gwedi'r drin. 6   30 11 10 7 54 4 6
12 a Cadwalad, Padarn. 8   04 11 40 7 56 4 4
13 b Brisius. morddwŷd­ŷdd, 12 00 7 58 4 2
      lleuad yn machlud.            
14 c Cadfrael. 4 N. 00 12 50 8 0 4 0
15 d Neileg. gliniau a garrau, 5   08 1 40 8 1 3 59
16 e Edmund Esgob. 6   15 2 30 8 2 3 58
17 f Hugh Esgob. garrau. 7   23 3 20 8 3 3 57
18 G 23 Sul gwedi'r drin. Coesau, 8   31 4 10 8 4 3 56
19 a Elizabeth. Coesau. 9   38 5 00 8 5 3 55
20 b Amos. Traed, 10   46 5 50 8 6 3 54
21 c Digain. Traed. 12   00 6 40 8 8 3 52
22 d Dyniolen. y pen ar wŷneb. 1 B 15 7 30 8 9 3 51
23 e Clement. 2   36 8 20 8 10 3 50
24 f Crysogon. gwddwf, 3   50 9 10 8 11 3 49
25 G 24 Sul gwedi'r drin. gwddwf. 5   10 10 00 8 12 3 48
26 a Lins ferth ŷr. ysgwŷddau 6   30 11 00 8 12 3 48
27 b Allgof. ysgwyddau 7   40 12 00 8 13 3 47
        Cod.            
28 c Oda, Ruffus. bronnau 4 N. 00 12 50 8 14 3 46
29 d Saturnun. bronnau. 5   03 1 40 8 14 3 46
30 e Gwyl St. Andrew. Cefen. 6   06 2 30 8 15 3 45

TACHWEDD. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • 3 chwarter oed y 4 dŷdd, Cŷn 3 o'r prŷdnawn.
  • newidio y 13 dŷdd, ynghŷlch 1 y boreu.
  • 1 chwarter oed yr 20 dŷdd, arol 4 o'r prŷdnawn.
  • llawnlloned y 27 dŷdd, ar ol 7 y boreu.

Gosodwch fonion Afall i blannŷ ynddŷnt ar y chwarter diweddaf o'r Lleuad: Plennwch ffa, a phŷs. heuwch foron gwnion a chochion, Teilwch, a branerwch, eich Gerddi. Dinoethwch wraidd eich Coed Afalau, a gadewch hwŷ fellŷ tan fis Mawrth. Lleddwch eich Môch o flaen ac yn agos ir llawnlloned, ac yna bŷdd ei cîg yn well iw ferwi.

Goreu Pysygwriaeth yn y Mîs hwn iw gweithio yn ddisre­gedd, a chynhesrwŷdd, a digonedd o fwŷd a diod iachus: ond os bŷdd amgen nag iechŷd yn cystŷddio 'r corph, gorphenwch eich Pysygwriaeth yn y Mîs hwn, ac yna ymgedwch oddiwrtho tan Fawrth o ddigerth bod angenrhaid yn ei ofŷn, bw ŷtewch fwŷdŷdd dâ, ac yfwch ddiod iachus i borthi ac i chwanegu'r gwaed yn y Mîs hwn. byddwch ofalus na wlychoch mo'ch traed, y sawl a wlycho ei Draed y Mîs hwn o ddigerth ei fod yn gynefin iddo, diammeu y bŷdd edifar iddo drwŷ ddioddeu amriw ddoluriau, megis Llysnafedd, Glofoerion, sef Riwms, fflêms, Pesychu a'r Anwŷd.

Mae'r planedau yn dangos y bŷdd y nôs▪ y mis ymma Cud ag y byddeu arfer o fôd ar gyfen i'r mîs hwn, Ac y bŷdd rhai yn Codi Cŷn dŷdd i dori gwŷthi gwaed y lleill, llawr o fòch a gŷll eu bywŷd, wrth hynnŷ. Y Cyfreithwŷr ymhôb gwlad sŷn myfyrio ar ddarparu bol deilad erbŷn y gwilieu, Arian y bobl gwmbrŷs sŷ'n brashau Ceginau'r Cyfreithwŷr: pan elo pawb yn gywir' ac yn eirwir, gwae'r Cyfrithwŷr, o herwŷdd amdwŷa hynnŷ hwŷnt.

Rwisi'n ofni hîn glettach y mîs hwn nag a fŷ er y Rhew mawr, ac yr ymddengus hynnŷ ar ddechreu'r mîs; ondodid rhew ac eira, ac oerfel mawr iawn, heb fawr obaith Tywŷdd tegcach tra 'pyrhatho'r mîs hwn.

RHAGFYR. 1688.
[...]yddiau 'r mîs. [...]yddiau 'r wŷthnos. Y dyddiau gwŷlon, a'r dyddiau hynod. Yr Arwŷ­ddion yng­horph dŷn, ac Enifail. Codiad, a mach­ludiad y lleuad. pen llanw|'r môr. haul yn Codi haul yn ma­chlud
        A.   M. A. M. A. M. A. M.
        lleuad yn Codi.            
1 f Grŵst. Cefen. 7 N. 9 03 20 8 16 3 44
2 G Sul Adfent. Calon. 8   12 04 10 8 16 3 44
3 a Castianus. y bol ar perfedd. 9   15 05 00 8 17 3 43
4 b Barbara. 10   19 05 50 8 17 3 43
5 c Cowrda. Cluniau 11   22 06 40 8 18 3 42
6 d Nicholas Esgob. Cluniau 12 B. 40 07 30 8 18 3 42
7 e Ambros. Cluniau. 2   00 08 20 8 18 3 42
8 f Ymddwŷn mair. Arffed, 3   20 09 10 8 19 3 41
9 G 2 Sul o'r Adfent. Arffed. 4   40 10 00 8 19 3 41
10 a Miltiades. marddw­ŷdŷdd. 6   00 10 50 8 19 3 41
11 b Troead y rhôd. 7   05 11 40 8 19 3 41
12 c Llywelŷn. morddwŷ. 8   10 12 30 8 19 3 41
        lleuad yn machludo.            
13 d Lucia. Gliniau. 3 N. 50 01 20 8 19 3 41
14 e Nicasius. garrau. 5   10 02 10 8 19 3 41
15 f Annan. Asar. Coesau 6   30 03 00 8 19 3 41
16 G 3 Sul o'r Adfent. Coesau. 8   00 03 45 8 18 3 42
17 a Tydecho. Traed, 9   30 04 30 8 18 3 42
18 b Christopher. Traed. 11   00 05 15 8 18 3 42
19 c Nemel. y pen ar wŷneb. 12 B 16 06 00 8 17 3 43
20 d Amon. 1   14 06 45 8 17 3 43
21 e Dŷdd gw. St. Tho. gwddwf, 2   12 07 30 8 16 3 44
22 f y 30 merthyron. gwddwf, 3   10 08 15 8 16 3 44
23 G 4 Sul o'r Adfent. gwddwf. 4   8 09 00 8 15 3 45
24 a Adda ac Efa. ysgwŷdd. 5   6 09 45 8 14 3 46
25 b Natalic Crist. breichian. 6   4 10 30 8 14 3 46
26 c Dŷddgw. St. Step. bronnau, 7   2 11 15 8 13 3 47
27 d Dŷddgw. St. Joan. bronnau. 8   0 12 00 8 12 3 48
        Codi.            
28 e Dŷddy fil teibion. Cefen. 4 N. 0 [...] 12 45 8 12 3 48
29 f Jonathan. Calon. 4   30 01 30 8 11 3 49
30 G Dafŷdd frenin. y bol ar perfedd. 5   00 02 15 8 10 3 50
31 a Silfester. 6   30 03 00 8 09 3 51

RHAGFYR. 1688.

  • Y Lleuad sŷdd yn
  • 3 chwarter oed y 4 dŷdd, ar ol 6 o'r prŷdnawn.
  • newidio y 12 dŷdd, ynghŷlch 7 o'r nôs.
  • 1 chwarter oed yr 20 dŷdd, ar ôl 1 y boreu.
  • llawnlloned y 26 dŷdd, Cŷn 8 o'r nôs.

Ar y chwartea diweddaf o'r Lleuad y Mîs hwn a'r nesaf, sŷdd amser dà i dorri pôb mâth ar Goed Teiladaeth. Cylhyned yr adar-wŷr ar eu difyrwch. Gorchguddiwch bôb llyfiau blodeuog, a phôb gwŷrdd lysiau daionŷs (oddiwrth oerfel a Themhestl) a Thail braenllŷd Cyffylau. Edrychwch yn fanwl at eich Enifeiliaid, a gwaedwch eich Cyffylau. Hela­ethdra o ddiod Grêf wrth Dân dâ sŷdd fwŷ dewisol nag ymdrochi y Mîs hwn; yn lle Trysordŷ y Pothecari, dewis­wch y Gegin, ac yn lle Pysygwriaeth dewiswch Gîga Chawl sef Pottes brâs, bydded llawnder eich Bryddau yn Dystiolaeth o'ch syberwŷd wrth eich Cymydogion tylodion.

Y sawl a fo'n dylawd heb allu rhoi syberwŷd,
Dymŷned galon lân i bawb fŷ'n berchen Golud.

A Ddymŷ no gadw ei Gorph o'i Enaid yn ddi friw, dilyned y Cyngor a roddais iddo uchod, sef, ymborthi yn ddi ymeiriach ac yn ddiolchgar, Gan roddi luseni lle byddo ei eisiau, a'r nêb a wnelo fellŷ y flwŷ ddyn yma, a ganmolaf y flwyddyn nesaf.

Bŷdd mwŷ o waith i gygod ac i gerddorion, nag i fedelwŷr a chweirwŷr gwair yn y mîs ymma. Ac yn ei arferol amser ymddengus y Campŷdd gwilieu'r Natalic, gwedi ei Arfogi a bêrau a gobedau, a bwŷdŷdd dâf a diod grêf, yn herrio'r boliau gweigion, a'r Cybyddion i godi yn ei Erbŷn ef os llefa­sant.

Gobeithio pêth tegcach Tywŷdd y mîs hwn nar mîs diwe­ddaf, ond nid ar y dechreu; Cyn hanner y mîs disgwilir y llini­ara'r tywŷdd bêth, ac os oedd rhew o'r blaen, y bŷdd peth meiriol ynghŷlch Canol y mîs; ac ondodid rhew drachefen ar ddiwedd y flwdŷddŷn.

Gofynniad Cynghor ynghylch medd-dod.

GWeld y rwif o rodio 'r bŷd,
er rhoi fy mrŷd ar sobri,
Na 'dallai lai bŷd gwaeth bŷd gwell,
Na mynd i ymbell gwmnhi.
Hawdd iw denu nattur flôl,
A'i dynnŷ arôl y dynnion
Drŵg eu buchedd, dreigiau'r bŷd,
Sŷ 'gŷd ar frŷd afradlon.
Dymma Gystwm rhŷ drwm rhŵth,
Pôb gwlâd fforsŵth a'i ffansi,
Rhaid gwario am gwrrw, a bôd yn hael,
Os mŷn dŷn gael ei gyfri.
Ac os meddwi a wneiff dŷn,
Mae hynnŷ yn wrthŷn hefŷd,
Pawb a weliff arno fai,
Ni cheif gan rai mo'i gymrŷd.
A chasa gair drwŷ ffair yn ffel,
Gan bôb Cydafel difoes,
Iw enw Cerlŷn gyndŷn gott,
Nad yfo bott er ei Enioes.
Ac os gochelŷd meddwi a wna,
Mis gwn pwŷ gynta o gantoedd,
A 'm geilw yn gybŷdd siwrl di râdd,
A llawer a'm llâdd mewn lluoedd.
Dymma 'r arfer sŷ 'n ein mŷfg,
Chwenychwn ddŷsg yn wisgi:
Rhag ymrôi fellŷ 'n ddŷn rhŷ fair,
Wrth galŷn angall gwmnhi.

Atteb i'r ymofynniad ynghylch medd-dod.

GWn fôd rhŷw demptasiwn tôst,
(A arlwŷ gôst ar lawer)
Yn y Cwrrw och o'i drîn,
A gwaeth iw'r gwîn o'r hanner.
Er dim ni ddylid mynd mewn Côst,
I wrando ar fôst ynfydion:
Gogan, Cwilŷdd, Clwŷf, a gwall
A geir drwŷ fall gyfeillion.
Er bôd ymbell feddwŷn hên,
Yn dal ei ben i fynu,
Llawer mwŷ yn llwŷr eu môdd,
Wrth hŷn a fethodd fythu.
Ni chieff gŵr dâ o werthu ei dîr,
A'i wario yn glîr am gwrrw,
Dori ei syched gwedi'r daith,
Na chlôd y chwaith wrth farw.

Gwna yn llawen ŵr Ieuangc yn dy Ieuangctid, a llawenyched dy [...]lon yn nyddiau dy Ieuengctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac [...]golwg dy Lygaid; ond gwybydd y geilw Duw di i'r farn am hyn [...]l. pregeth-wr. 11. 9.

Englynion ar ystyriaeth am dragwyddoldeb.

Y Cymro, gwrando gywreindeb wastad,
Ystŷr tragwŷddoldeb,
Ystŷr feithrin ddoethineb,
Ystŷr ni wna rwŷstŷr i nêb.
Gwîr 'styriaeth ffraeth, o'r ffrwŷthaw, gair Duw
Goreu dim ei wrandaw;
Ystyriaeth i dŷst wiriaw,
Oedd ddâ i ddŷn ddŷdd a ddaw.
Ffordd hyfrŷd, a rhŷd angenrheidiol, i fŷw
I fywŷd Tragwŷddol:
Ffordd i Lu'r Jesu rasol,
Hon a'i nêf awn yn ôl.
Ffordd ddà yn gyfa, ffordd i gŷd Jachus
I ochel ffŷrdd enbŷd;
Fford heb gêl ddâ i ddychwelŷd
Ffŷrdd Ceimion beilchion y bŷd.
Cerdd hon yn gyfion, bŷdd gall, Gwêl y fan,
Gwilie fôd yn angall;
Na châr un groes-ffordd arall
A ledio i fynd i wlâd y fall.
Dedwŷdd a orfŷdd ei yrfa, ollawl
Allan o'r bŷd ymma:
A chael nêf i gartrefa,
Wŷneb tragwŷddoldeb ddâ.
Yn fŷw pa gyfrŷw gyfran a drwsiech,
Gwna drosot dy hunnan;
O'r sut sŷ'ngharchar Sattan,
A'r nofio i wlâd y nêf Lân.
Dedwŷddol foddol a fŷ, a'i gyffes,
A gaffo feddiannu,
Tragwŷddoldeb Cudeb Cu,
Oes oesoedd yn llŷs Iesu.
Ystŷr gadarn farn a fŷdd, er penŷd
A'r poenau tragywŷdd,
Flined pôb aflawenŷdd:
Dan yr haul gwna d'enaid yn rhŷdd.
Edrŷch yn fynŷch fannau, Cywirdeb
Cordiad ysgrythyrau;
A ffŷdd Grîst, rhâd dâ i gryffau,
Lle bo'r nôd, llwŷbr eneidiau.
Ystyriaeth ddâ Cŷn ei fêdd, I ddŷn
I'w ddwŷn i'r drugaredd,
Yn ddrŷch i'r union fuchedd,
A gwîr farn y gŵr a fêdd.
Ofna, na phecha yn ffôl, sŷ ar fai,
Cofia'r farn dragwŷddol,
Hŷd dy fêdd bŷdd fucheddol,
A llâth aur i eraill i'th ôl.
Llwŷbrau o'r goreu a gerwch, ŷw 'rhain
Rhinwedd edifeirwch,
Adolwg arnŷn deliwch,
I'w rhodio Cŷn llithro yn llŵch.
Dôd weithiau oriau euraid, A chalon,
A chwilia vn ddibaid,
A thŷn yr hŷn a fo rhaid,
O ddoethineb ddâ i'th enaid.
Calŷn ŷ llinnin, ddarllennŷdd mwŷn,
O mynni iawn grefŷdd;
Ac fel gwlîth, y fendith fŷdd,
I ti fŷth ettof sedŷdd.
Gwŷn ei fŷd rŷw brŷd gar bron y gwîr Dduw,
A gerddo ffordd union,
A gochel fel ffel a'i ffon,
Y Camwedd, a'r llwŷbrau Ceimion.
Dyddiau, a nosau anwesol, pechais
Ym mhôb buchedd farwol,
Dôd im râs, rhygas ŷw 'rheol,
Duw i farw'n Edifeiriol.

Llyfrau Cymraeg (heblaw'r Almanacc hwn) Ar werth gan Thomas Jones, yn ei ef wrth ben yr Hwylfa hîr, ym maes y fywnog yng Haerludd, 1688.
Welch Books (besides this Almanack) Sold by Tho­mas Jones, at his House by the End of Long Al­ley in Moorfields, London, 1688.

Y Gymraeg yn ei Disgleirdeb, neu helaeth Eirlyfr Cym­raeg a Saesnaeg, yn Cynwŷs llawer mwŷ o eiriau Cymraeg, nag sŷdd yngeirlyfr y Dysgawdr Siôn Dafŷdd o Gymraeg a La­ding.

Yn gyntaf, yn hyfbysu meddwl y gymraeg ddieithr, drwŷ gym­raeg mwŷ Cynnefinol: yr hŷn sŷ gyfleus, a deunyddiol iawn i bawb a ewŷllysiont ddeall a ddarllonnont yn gymraeg.

[Page] Yn ail, yn dangos y gwîr saesnaeg i bôb gair Cymraeg; ac yn ddylynol, y môdd i gy­sylltu, sef i (ysbelio) pôb gair yn gywir yn y Gymraeg a'r saesnaeg.

Ac a helaethwŷd ag Argraph­yddol henwau Gwledŷdd, Gos­gorddau, Dinasoedd, Trefŷdd, a mannau (ym Myrydain fawr, a rhai dros y môr) yn yr hên Gymraeg, a'r bresenol saes­naeg.

At yr hyn a chwanegwŷd, Eglur a hylaw athrawiaeth (i'r Cymrŷ) am gywir Adro­ddiad y Saesnaeg, drwŷ fŷr hyfforddiad yn yr Iaith gym­raeg.

Gyda phrîodor ddeunŷdd neu Arwŷddoccad yr hôll or­ddiganau, a'r Attalion sŷ'r Awron yn Arferedig yn y gymraeg a'r saesnaeg; Ac yn angenheidiol eu deall gan bôb darllennŷdd.

Er bôd y geirlyfr yn fychan, na thybiwch i fôd yn Ddrŷd, o herwŷdd mawr iawn a fŷ'r boen a'r gôst o'i wneuthŷr ef.

[Page] THe British Langnage in its Lustre, or a Cipious Dicti­onary of Welch and English, Containing many more British Words than are in Doctar Da­vies's Antiquæ Linguæ Britanicæ.

First, Explaining the hard British Words, by other more familiar words in the same Tongue; very useful to all such as desire to understand what they read in that Language.

[Page] Secondly, Shewing the pro­per English to every Bri­tish word: And consequent­ly, the true way of Spelling all words in both Lan­guages.

Amplified with the Geogra­phical Names of Countries, Counties, Cities, Towns, and Places (in Great Britain, and some beyond Sea) in the Antient British and present English.

Whereunto are added plain and easie Directions (to Welch People) for the true pro­nouncing of the English Tongue, by a short Introduction in the British Language.

With the proper Use or Signification of all Accents, Points, or Stops, as now used in the British and English Tongues: Being necessary to be understood by every Rea­der.

Although the Dictionary be but little, think it not Dear, for the Labour of making it hath been very great, and the Charges eonsiderable.

LLyfr gweddi gyffredin, gwedi ei gyflawni a'r gweddiau newŷddion iw harfer ar y 30. o Ionawr, y 6. o chwefror, a'r 29. o fai drwŷ orchymmŷn y Brenin. At yr hwn a chwanegwŷd y Psalmau darllen, a'r Psalmau Canu, i gîd yn llythrennau Têg, etto o sylwedd bychan a phrîs Isel, A chwedi eu Cyryddu o lawer o feiau a ddiengaseu yn y rhai a Argraphesid o'r blaen.

[Page] Y Llŷfr gweddi gyffredin, yn fawr ei sylwedd, ac yn llythrennau mawr iawn, yn gymwŷs iw ddarllon mewn Eglwŷsŷdd, ac mewn Teuluoedd lle bo'r darllennŷdd yn [...]edrannus, neu yn dywŷll ei olwg.

Y Llyfr plygain, yn Cynwŷs boreuol, a phrŷdnawnol weddiau, a Chatechism yr Eglwŷs, a diolchgarwch o [...]en ac ar ôl bwŷd. At yr hwn a chwanegwŷd Athrawiaeth ddysgu darllain. a Chywir hanes ffeiriau Cymru.

Gochelwch gael eich twŷllo pan eloch i brynnu plygain [...]ymraeg, oblegid fôd amrŷw o fàn Lyfrau eraill ar lêd rhŷd Cymru tan henw plygeiniau, neu prif lyfrau. Os mynnech [...]ael y gwîr gyfreithlawn blygain, A gwîr Gatechism yr Eglwŷs, mynnwch weled yn ei ddechreu henw Thomas Jones, [...]c yno ni thwŷllir monoch.

YR Ennaint gwerth fawr (a Soniais am dano yn fy llyfrau flynyddoedd eraill) sŷdd etto iw gael ar werth.

Er gwneuthŷr yn ddiystŷr o hono llê na wnaed erioed ddeunŷdd o hono. Llê a gwnaed deunŷdd o hono llawer sŷdd yn ei ganmol, drwŷ wŷbod yn hysbŷs ei fôd (yn ddi [...]iomgar) yn Iachau pôb tardd ac ymgosi (ar bobl a phlant o bôb oedran) a ddelo drwŷ wrês y gwaed, neu trwŷ gam ymborth.

Yr Enaint hwn a fŷdd ar werth y leni (mewn blychau bychain) gyda'r amriw lyfrau a henwaid eusus, ac yn rhatach nag eriod or blaen, ac a geidw yn berffeithiol heb lygru dim o flwŷddŷn bwŷgilŷdd.

Un o'r blychau hynnŷ a wasanaetha I Iachau un dŷn, o ddigerth fôd y tardd yn iwŷn dros ei gorph ef; ac os bŷdd fellu Cymmered a gwnaed ddeunŷdd o Ddau neu drî fel y gwelo'r achos yn gofŷn.

Pwŷbynnag a brynno o'r blychau Enaint, Ceiff gyda hwŷnt bapurau preintiedig, i ddangos iddo yn gymraeg a saesuaeg pa fôdd a gwneiff ddeudŷdd o honŷnt.

Yr Amriw Lyfrau a henwaed ymma, a'r Blychau Ennaint, a fyddant ar werth fel y Canlŷn.

ER dywedŷd o honof eusus fy môd i yn gwerthu'r lly frau a'r enaint, I rwŷf yn yspysu i farchnadwŷr y wlâd adel o honofi heibio ddelio i'r wlâd fy hun, Ac rwif yn eu Cyng­hori hwŷnt nad ysgrifennant atta if am ddim o honŷnt, pwŷbŷnag o farchnadwŷr y wlâd a ewŷllysio gael o'm llyfrau, neu'r Ennaint, os gwe­lant yn ddâ ysgrifennû am danŷnt at eu. Cydnabyddiaeth ynghaerludd sŷn gwerthu iddŷnt bethu eraill, a rhoddi iddŷnt Athrawiaeth yn saesnaeg i yrru am danŷnt i'm Tŷ i▪ yr hwn sydd wrth ben yr hwŷlfa hîr yn maes y sywnog, o fewn llai na chwarter milltîr i ganol y ddinas; mi a'u gwertha Cyn rhatted i wŷr llundain, fel y gallo'r wlad eu Cael Bôb amser am brîs gweddaidd Iawn. Os tybiff gwŷr Llundain yn fawr yrru Cymhelled a'm Tŷ, gallant eu Cael yn y ddinas, tan Lun y 3 adar duon a'r fôrforwŷn yn Rhewl wat­ling, neu gan Mr. Marsh tan lun y llew Côch yn Rhewl Câth-fwŷtâad. Ac yn ffeirau Caerlleon, a chaerodar, byddant ar worth gan rai o siopwŷr Llundain, yn enwedig gan Mr. John Marsh.

The several Books and Boxes of Oyntments aforementioned, will be Sold as followeth.

ALthoug I have already mentioned that the Books and Boxes would be Sold by me, I do acquaint the Country Chapmen, that I have left off dealing into the Countrey, & do advise them not to write to me for any to their own disappointment. Those Country Chapmen that desire to have of my Books or Oyntments, if they please to write to their Correspondents in London, that furnish them with other Goods, & give them directions (in English) to send to my House (for the Books, &c.) which is by the End of Long-Alley in Moor-Fields, not a quarter of a Mile from the middle of the City; I shall use the London­ers so well, that the Countrey may have then always at very reasonable Rates. If the Londoners think much of sending so far as my House, they may have them in the City, at the three Black Birds and Mearmaid in Watling-Street: Or of Mr. Marsh at the Red-Lyon in Cateaten-Street. And at Chester and Bristol Faire They will be Sold by some of the London. Shopkeepers, especially of Mr. John Marsh.

Rhai o'r amriw Lyfrau▪ ar blychau Ennaine, a syddant ar werth ynghaerfyrddin gan Mr. Goff. Ganddo ef hefŷd i mae amriw o lyfrau Cymraeg eraill ar werth, a Rhai o'r biblau Cymraeg yn gyflawn 'am 10s. y Bibl.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.