ALMAN [...] Am y Flwyddyn 16 [...] Yr hon iw 'r gyntaf ar ôl BISSEXTILE NEU FLWYDDYN-NAID.

Ac ynddo a cynhwyswyd, dyddiau 'r mis, a dyddiau 'r wythnos, a dyddiau Hynod a Gwylion: A summudiad yr Arwyddion, a chodiad a mach­ludiad yr Haul beunydd, ag amcan am yr Hîn, a newidiad ag oedran y Lleuad, wedi cymhwyso i Feridian, sef, i hanerdydd Cymru: A Chyfarchwyl­iad am Ysmonaeth, a Physegwriaeth.

Ac atto hefyd y chwanegwyd, hyfforddiad i ddyscu darllen Cymraeg, ac i fwro Cyfrifon, ag amryw bethau eraill sydd gyfleus iw deall. A rhai Caniadau newyddion.

O Waith Thomas Jones Carwr dysgeidiaeth, a Studiwr yn Sywedyddiaeth.

Yr ail Brintiad.

Printiedig yn Llundain, ac ar werth gan yr Awdwr yn unig, yn Black-Horse Alley yn Fleet-street. 1681.

AT Y DARLLENYDD.

Darllenydd Addfwyn,

GAn obeithio ddarfod im hymgais y flwydddyn ddi­weddaf, yspysu yn rhai mannau yng Hymru, y cariad a'r ewyllus da, sydd gennif im Gwlâd a'm Hiaith fy hun. A chan obeithio hefyd nad oes un Cymro, na fyddeu ddâ ganddo weled yr hên Iaith heudd-barch, sef, y Cymraeg, yn ail ddesgleirio yn enwog: yr hon sydd y pryd hwn yn gorwedd yn lly­gredig mewn tywyllwch, a hynnu o eisiau ei chael yn amlach yn Brintiedig: fel y mae cywilyddia i bawb or Cymru, ac a fu mor ddedwydd a chael cystal dys­ceidiaeth, a medru i chynnal. Ond bydd fy ngweddi i yn wastadol ar ei Dduw weled yn ddâ fy gwneuthur mor hyddysc ag ydwyf ewyllysgar, i dreilio hôll ddy­ddiau fy enioes, yn y gwasanaeth goreu ag a allwif, i fawrygu yr hên Iaith heudd-barch hon, er fy môd yn ofni, y byth yn wrthwynebus i rai, fel yr hyspyswyd i mi yn barod fôd rhai o'm cyd-Wladwyr yn chwyddo o lîd a chynfigen worthifi; a hynnu am imi geisio gwneuthur daioni im Gwlâd fy hun: ond yr achos oi digofaint wrthifi ni fedrai ddeall, o ddigerth i fôd am imi wneuthur y pêth ni fedrent hwy, neu fôd yn wrthwynebus ganddynt weled gwneuthur daioni iw Gwlâd eu hun.

Ond ni chyfarfum etto ag un Sais am dirmygodd am wneuthur y peth hyn; ond cyfarfum a llawer o Saeson, a ganmolasant fy ymgais yn y gwaith hwn, yn en­wedig Ardderchoccaf fawrhydi y BRENIN oedd yn ddâ iawn ganddo weled datguddiad y gwaith hwn yn Gumraeg: a hynnu er mwyn ei Ddeiliaid y Cumru. Gan fôd hefyd mor rasusol a gweled yn dda am imi [Page] seilio 'r [...] yn , roddi IMI yn unig, awdur [...] [...] [...] [...]rawiaeth hon, gan wahardd i bawb [...] [...] [...]uthur na rhoi allan fâth yn y byd a'r Alma [...] Gymraeg: ei Fawrhydi hefyd a welodd yn [...] [...]hymmyn i mi ei anrhegu ef ag un om Llyfrau [...]yddyn; ac am hynnu yr wif yn gobeithio na [...] [...]ff nêb oi Ddeiliaid yn waelach o hono ei hun [...] dderbyn yr hyn sydd mor gymmeradwy gydai Frenin.

Ar ôl i mi, drwy fawr boen, osod Enaid a Gwreid [...] y Gwaith ar Dîr goleu, nid iw lai na hyspys imi amryw eraill, yn blysio olrhen fy llwybrau er m [...] cael llyfu eu bysedd a'r bûdd: a hynnu drwy ail bren­tio neu gownterffaetio fy Rhagffurfiad, sef, fy Nghopi neu drwy Gyfiaithu gau draethiad rhuw Sais di siap na ddisgwilied nêb hyfrydwch nag afiaeth gan y f [...] Gybyddion rheibus a'r hain, yn enwedig os byd [...] mor Gwmbrys a thorri Gorchymmynion a Chyfraith Brenin: ag am hynnu yr wifi yn gobeithio pâ digw [...] ­ddau i chwi weled gweiniaeth rhodreslyd Troseddw [...] ar lêd, y byddwch mor ofalus a gochel pôb hudoliae [...] twyllodrus: ag y bydd naturioldeb pôb Cumro i dder­byn yn groesafus boen a gwaith yr hwn sydd yn ymegnio er ei fwyn, i wneuthur iddo lês; yr hyn a gewch y ddi siom, trafyddo byw,

Eich Gwasanaethwr gosdyngedig, Thomas Jones.

Yr Wyddor Gymraeg.

A B C CH D DD E F FF G H I L LL M N NG O P PH R S T TH U. W Y Z.

a b c ch d dd e f ff g h i l ll m n ng o p ph r s t th u w y z.

Di a weli fôd wyth ar hugain o lythyrenau yn y Cymraeg: a saith o honynt a elwir, Eogeiliaid, yr hain ydynt; a e i o u w y.

A 'r un ar hugain eraill a elwir, Cynseiniaid, yr hain dynt; b c ch d dd f ff g h l ll m n ng p ph r s t th z.

Un o'r Bogeiliaid, ag un o'r Cynseiniaid hyn a wna sylaft fer; megis,

Ab eb ib ob ub wb yb. ac ec ic oc uc wc yc. ach ech ich och uch wch ych. ad ed id od ud wd yd. add edd idd odd udd wdd ydd. af ef if of uf wf yf. aff eff iff off uff wff yff. ag eg ig og ug wg yg. al el il ol ul wl yl. all ell ill oll ull wll yll. am em im om um wm ym. an en in on un wn yn. ang eng ing ong ung wng yng. ap ep ip op up wp yp. aph eph iph oph uph wph yph. ar er ir or ur wr yr. as es is os us ws ys. at et it ot ut wt yt. ath eth ith oth uth wth yth. aw ew iw ow uw yw. [Page] az ez iz oz uz wz yz. ba be bi bo bu bw by. Ca ce ci co cu cw cy. cha che chi cho chu chw chy. Da de di do du dw dy. dda dde ddi ddo ddu ddw ddy. Fa fe fi fo fu fw fy. ffa ffe ffi ffo ffu ffw ffy. Ga ge gi go gu gw gy. Ha he hi ho hu hw hy. Ia ie io iw. La le li lo lu lw ly. lla lle lli llo llu llw lly. Ma me mi mo mu mw my. Na ne ni no nu nw ny. nga nge ngi ngo ngu ngw ngy. Pa pe pi po pu pw py. pha phe phi pho phu phw phy. Ra re ri ro ru rw ry. Sa se si so su sw sy. Ta te ti to tu tw ty. tha the thi tho thu thw thy. Wa we wi wo wu wy.

Bydd hyddysc ar yr hyn a eist drosdo, cyn y ddiech ym mhellach, ac yna dysc gussylltu 'r lly rennau yn sylaftau hwy, a geiriau cyflawn, canlyn.

Geiriau o un Sylaft.

Am, bâs, bâr, Cam, Cap, Car, Câr, Câs, Câth, Cô, Cû, dû, dû, dûr, dwl, dŵr, dŷn, llâdd, llen, [...], llw, llym, mam, mêr, môr, mûr, mŵg, my [...] [...] nôs, nudd, pam, pêth, pûr, pwn.

Geiriau o ddwy Sylaf [...]

[...]-cen accen, ach-os achos, ad-re adre, ad [...] [...]ysc, af-al afal, af-on afon, ang-or angor, an-os anos, as-en asen, ba-bi babi, ba-chog bachog, Ca-lon Calon, Ce-fen Cefen, Co-ffor Coffor, Cu-ro Curo, Cw-pan Cwpan, Cy-bydd Cybydd, da-ngos dangos, e-win ewin, do-len dolen, dûr-io dûrio, dw-yn dwyn.

Geiriau o dair Sylaft.

Af-on-ydd afonydd, an-rhy-dedd anrhydedd, as­ [...]-au asenau, at-eb-odd atebodd, ba-sce-ded basceded, [...]e-rw-i berwi, Ca-lon-au Calonau, Ce-rw-yn Ce­ [...]-yn, Co-rw-en Corwen, da-io-ni daioni.

Geiriau o bedair Sylaft.

Add-ol-i-aeth addoliaeth, add-e-wid-ion addewidion, [...]o-lle-di-on Colledion, Gor-chym-myn-ion Gorchym­ [...]ynion, Go-gon-edd-us Gogoneddus, me-ddy-gin-iaeth meddyginiaeth, me-ddi-an-ol meddianol, per-chen-no-gi perchenogi.

Geiriau o bum Sylaft.

Go-di-ne-brw-ydd Godinebrwydd, ym-gy-fae-tho-gi [...]mgyfoethogi, ym-ry-so-nol-deb ymrysonoldeb, ym­ [...]-fy-se-ddy ymryfyseddy, eth-ol-ed-ig-ion etholedig­ [...], Go-ddi-we-ddi-ad Goddiweddiad.

Gobeithio y gwasanaetha hyn i'th wneuthur yn hy­ddysc ar adnabod y llythrennau, ai cydio mewn sylaf­tau a geiriau: gwybydd may sylaft iw cymmaint o ly­thrennau ag a wnelo un sŵn mewn gair, sef, heb ne­wid dy lais, megis, fel y gweli fôd yn y gair go-di-ne­brw-ydd pump o sylaftau, ac yn y gair ym-gy-foe-th- [...] ­gi [Page] y gweli fôd pum sylaft. Etto ith gyfarwyddo i ddar llen yn hytrach, pan gyfarfyddech a nodau uwch ben y bogeiliaid, megis, â ê î ô û ŵ ŷ, gwybydd mae rhaid itti ystyn y bogail yn hirllaes, megis, hyn o esamplau, (yr aelwyd sydd Tan y Tân) mewn man y gwelais adar mân, (rhostio ber ar y bêr) (may yn fy mer asgworn mêr) rhowch halen ir Cîg îr, (gwneud gweu ir Cor yn y Côr) (Twr neu Swp, Tŵr neu Ga­stell,) dal yn dyn yn erbyn dŷn.

Gan gael o honot yma yr addysc eglyraf, a 'r ffordd hwylysaf ac a fedrais ddangos itti ith ddysgu i ddarllen Cymraeg: Yr ydwyf yn gobeithio y dichon hyn dy wneuthur mor hyddysc a medru darllen yr Englynion cellweurys diniwed syn canlyn.

ARûdd ei ffŷdd mewn grudd gwrâch,
Ai mîn mwyn gwna swyn iw sâch,
Cyn iddi gellwer fawr ymhellach,
Hi a syrth ai gwêdd iw bêdd fun bâch.
Bron brudd Crŷdd y Crwyn
O serch i ferch a llanerch ei llwyn,
Cryfa tyniad ar y twyn
Iw 'r gludfa grê symere morwyn.
Rhiain Llundain lawain lân
Dan dor fel dûr a deru dân,
Ni thei ai rhu am brŷ fel brân,
Ond gweryru ar wŷr yr arian.
ADdysc a ddysc ddŷn,
Ai dewis ag ewyllus iw canlyn;
A dŷsc o da i darren dŷn
Sydd well nag aur i wellhau ei goryn.
Gwcha gwîsc i harddu gwŷr,
Iw dysgeidiaeth berffaith bûr;
A chryfa ei nerth i ffrwyno natur,
Hyfryda miwsic iw sŵn synwyr.
[Page]Mudan os meder athronddysg
[...] doetha mewn tyref o wŷr terfysg;
[...]d ymrafel ê yn ymryfysg,
Nit dim iw 'r dŷn heb y dŷsg.
Trysor gwerthfawr pwy ai gwrthyd,
Tlysau 'r galon mwya golud;
Dŷsg lle bae iw bannau bywyd,
Cyfleidia yn glau giôd-fawr bŷd.

Carol cymwys iw ganu ar amser Natalic.

PAn
Gen. 1. 1.
greawdd Duw nefol y byd mor rhyfeddol,
O'r
2. 7.
priddin daiarol ordeiniodd y dyn;
Oi
2. 22.
assen oedd faswedd mewn hytrach anrhydedd,
Gwnaeth wraig yn ymgeleddiw ganlyn.
Gen. 2. 15.
Fe ai rhoes yngardd Eden ar ddyrys ddaearen,
Mewn cyflwr di angen os llwydden eu lle,
Gen. 2. 17.
Gan wahardd medleiaeth a ffrwyth pren gwybodaeth,
Gen. 2. 17.
Rhag marw yn boenydiaeth eu eneidiau.
Gen. 3. 1.
Y sarph yn ddi-chellgar ai hudodd ag afal,
Gen. 3. 16. 17.
Ai gofal yn anial a nynodd;
Rhuf. 5. 12.
Ai codwm cywilyddus mewn modd pechadurys.
Dros bawb yn anafus a nofiodd.
Gen. 4. 5.
Pan dorwyd gorchymynion y cadarn Dduw cyfiawn,
Pob uniawn o'r galon a giliodd;
Gen. 4. 8.
Mewn malais ymeulwyd yn llanw gollyngwyd,
Yn fwy nag y medrwy i ymadrodd.
Gen. 6. 5.
Rhoi eu buchedd i bechu gwaith hagar gwaethygu;
Heb gredu na medru llyfodraeth;
Duw nefol oi noddsa a
Gen. 6. 13.
roes ddiluw i ddifa,
Holl drigfa 'r byd yma i fynd ymaith.
Gen. 7. 1.
Ond Noah, oedd ddi niwaid, was ufydd a safiaid,
Ai deulu, ai anifeiliaid, arbedaid ir byd,
Gen. 9. 1.
Gan ddisgwyl, or diwedd i bawb mewn tyngnhefedd,
Ar Dduw yn ddi goegedd roi goglud.
Gen. 9. 21. 11. 4.
[...]lhaodd eilwaith y bobl heb obaith,
A wnaeth anllyfodraeth o sowaeth yn syn,
Gen. 18. 20.
Heb gofio 'n gyfanedd nai dechrau nai diwedd,
Ond ymdaith im goledd ai gelyn.
Eu camwedd oedd
Esay. 1. 4, 5, 6.
cimmin a'r caetha of fodd cethin,
Heb iddyn ymddiffyn iw ddeffol,
Na
Rhuf. 6. 21. 23.
haeddu na gobaith o neb well cynhysgaeth,
Na
Psal. 9. 17.
[ffoeni yn y ffwrnais Uffernol.
Bu Dduw mor gariadus a
Psal. 103. 3. 4.
styrio yn dosturus
Wrth euog wyr
Esay 1. 4, 5, 6.
clwyfys anafus ddi nerth,
Gan bwintio ei
Mat. 1. 21.
fab cyfiawn un gorph ag un galon,
I
[...]Rhuf. 5. 6. 8.
ddioddef dros filion farwoloaeth.
Eel buchedd dyn bychan
Mat. 1. 21. Luc. 2. 6. 7.
apiriau 'r mab purlan,
Y flwyddyn yn gyfan a gofir,
Sy er mil chechant a thrigain a thri saith ar gyfe [...]
Ir pumed ar hugain or Rhagfyr.
Maen deilwng Natalic iw
Luc. 2. 42.
gadw yn barchedig
Heb ddiffyg yn ddi ddig rhown
Rhuf. 14. 11, &c.
ddyddiau,
Psal. 22. 26.
Ei foli yn dragywyddol yn ufudd Dduw nefel,
Annuwiol rhai bydol y beidiau.
Llawenydd pob calon sy iw dreillio
Job 36. 11.
ffordd uniawn,
Heb wallgo mewn moddion iw meddwi;
Dih. 23. 21.
Na chwenych i chwarau ar ddisiau na chardiau,
Hydoliaeth hyd angau iw rhoi
Zech. 5. 3. 4.
i dyngu.
Psal. 86. 12.
Clodfored pob Christion o eigion ei galon,
Yr uniawn Dduw cyfiawn ai cofiodd.
Psal. 86. 13.
Rhag dymchwel i boeni ir tan byth a bery,
Ir nefoedd uwch obry fe ai chubodd▪
2 Cor. 5. 21.
Derbyn yn ufudd bechodau 'r holl wledydd,
A wnaeth ein gwaredydd gwir ydiw;
Roedd cimmin eu camwedd a
Luc. 23. 21.
rhoi yn y diwedd
Fab Duw am eu hoferedd i farw.
Doluried pob calon worth gofio mor greulon
A wnaeth yr Iuddewon afradlon ddi rol,
Mat. 27. 35.
Croeshoelio yn gythreilig Fab Duw bendigedig,
Aniddig wyr ffyrnig Uffernol.
Titus 2. 14.
Oi wir-fodd yn ffyddlon dioddefodd Duw cyfiawn
Imddiffyn ei elynion aflonydd,
Er pured ei ddwyfron tuagat ei gaseion,
Ioan 19. 34.
Tyllason ei galon heb gywilydd.
Ar ol ei fradychu, yn ddigywilydd iw gladdu,
Mat. 27. 60.
Tan garreg ei daflu a wnae 'r Diafoled;
Am y weithred anferthaf did pobl ai galwaf,
Ond creulonaf a gorthrymaf o gythreiliaid.
1 Cor. 15. 4.
Derchafu iw orychafiaeth y trydydd dydd eilwaith,
A wnaeth yn gwir odiaeth waredwr,
Mar. 16. 19.
A dychwel o choelir ir nefoedd uwch wybr,
I fod i ni 'n siccr dda
Hebr. 9. 15.
swccwr.
Rhuf. 15. 4.
A fo mor ddi-synwyr ag amau 'r Ysgrythur,
Sydd lwybr* pob cyssur mor ddifyr i ddyn,
Fel dall anghyfarwydd ymdreinglo mae i dramgwydd,
Ai ddialedd a
Ioan 3. 18.
ddigwydd yn ddygun.
A goelio yn ei galon farwolaeth Duw cyfiawn,
Ioan 6. 47
Daioni iddo ddigon a ddigwydd;
A gatwo ei orchymynion bydd ddifriw ei ddwyfron,
Iw ddysgyblion mae addewidion sy ddedwydd.
Y Bibl pan chwiliach cei hyn yn gyflawnach
Nag a ellais i gyfarch i garol;
Ioan 5. 39.
Gwnaed pawb hynnu yn ddiwyd os ceriff ei fywyd,
Ai ymddiffyn rhag gofid tragywyddol.

Gan wybod fod bagad Ynghymru heb gael mom Llyfr y flwyddyn ddiwethaf, ac ondoid fôd amryw o honynt heb ddysgu ffigurau rhifyddiaeth: a chan ystyried nad allant wneuthur iawn ddefnydd o Almanac nes ei medru hwy, etto yr unwaith hon myfi ai rhoddes ar lawr yn y môdd hawsaf iw dyscu, gan osod henw pôb rhîf ar ei gyfer yn gyflawn air.

[Page]

I   1 Un.
II   2 dau.
III   3 trî.
IV   4 pedwar.
V   5 pump.
VI   6 chwech.
VII   7 saith.
VIII   8 wyth.
IX   9 naw.
X   10 dêg.
XI   11 un ar ddêg.
XII   12 deu-ddeg.
XIII   13 tri ar ddeg.
XIV   14 pedwar ar ddeg.
XV   15 pymtheg.
XVI   16 un ar bymtheg.
XVII   17 dau ar bymtheg.
XVIII   18 tri ar bymtheg.
XIX   19 pedwar ar bymtheg.
XX   20 ugain.
XXI   21 un ar ugain.
XXII   22 dau ar ugain.
XXIII   23 tri ar ugain.
XXIV   24 pedwar ar ugain.
XXV   25 pump ar ugain.
XXVI   26 chwech ar ugain.
XXVII   27 saith ar ugain.
XXVIII   28 wyth ar ugain.
XXIX   29 naw ar ugain.
XXX   30 deg ar ugain.
XXXI   31 un ar ddeg ar ugain.
XXXII   32 deu-ddeg ar ugain.
XXXIII   33 tri ar ddeg ar ugain.
XXXIV   34 pedwar ar ddeg ar ugain.
XXXV   35 pymtheg ar ugain.
XL   40 deugain.
XLI   41 un a deugain.
L   50 deg a deugain.
LII   52 deu-ddeg a deugain.
LX   60 tri-ugain.
LXIII   63 tri a thrigain.
LXX   70 deg a thrigain.
LXXIV   74 pedwar ar ddeg a thrigain.
LXXX   80 pedwar ugain.
LXXXV   85 pump a phedwar ugain.
XC   90 deg a phedwar ugain.
XCVI   96 un ar bymtheg a phedwar ugain.
C   100 cant.
CVII   107 saith a chant.
CX   110 deg a chant.
CXVIII   118 tri ar bymtheg a chant.
CXX   120 ugain a chant.
CXXIX   129 naw ar hugain a chant.
CXXX   130 cant a deg ar hugain.
CXL   140 cant a deugain.
CL   150 cant a deg a deugain.
CLX   160 cant a thri ugain.
CLXX   170 cant a deg a thri ugain.
CLXXX   180 cant a phedwar ugain.
CXC   190 cant a deg a phedwar ugain.
CC   200 dau-cant.
CCL   250 dau-cant a deg a deugain.
CCC   300 tri chant.
CD   400 pedwar cant.
D   500 pumcant.
DC   600 chwechant.
DCC   700 saithcant.
DCCC   800 wyth cant.
CM CM 900 naw cant.
IM M 1000 mîl.
IMC MC 1100 mîl a chant.
IMD MD 1500 mîl a phumcant.
IIM MM 2000 dwy fil.
VM   5000 pum mîl.
XM   10000 deng-mîl.
XXM   20000 ugain mîl.
LM   50000 dêg a deugain mîl.
CM   100000 can mîl.
DM   500000 pum cant mîl.
MM   1000000 mîlmyrddiwn, neu fil o filoedd.

Di a weli nad oes yn y Golofn gyntaf ond wyth o Ffigurau, yr hain ydynt, I V X L C D M M.

Ag yn y Golofn ddiweddaf onid naw o Ffigurau, yr hain ydynt, 1 2 3 4 5 6 7 8 9.

Y rhain wrth eu cysylltu mewn trefn arferol ym­hlîth y nodau hyn 000. a arwyddant bôb rhifedi: y nesaf at dy law ddehau syn sefyll am unau, a'r nesaf at honno am ddegau, a'r drydydd am gantoedd, a'r bedwaredd am filoedd, a'r bumed am ddegau o fil­oedd, a'r chweched am gantau o filoedd, a'r saithfed am filoedd o filoedd.

Ith gyfarwyddo di yn hytrach i fwrw cyfrifon, cymmer hyn o esamplau syn canlyn;

Pellder y Ffurfafen oddiwrth y Ddaiar iw, naw a deugain mil-myrddiwn, a ac un cant a dêg a deugain o filoedd, a saith cant ag ugain o filldyrodd, y rhifedi hyn a ysgrifennir a Ffigurau fel hyn, 49150720.

Pellder y Planedau oddiwrth y Ddaiar.

Y Lloer, sef, y Lleuad, iw 'r leiaf or holl Blane­dau, ag a welir yn fwyaf, o herwydd i Dduw ei gosod hi yn nês ir Ddaear na'r lleill lawer miloedd o filldyr­oedd; Ei ffellder hi oddiwrth y Ddaear iw, wyth a deugain o filoedd a saith cant a thri ugain o filldyr­oedd; y rhyfedi hyn a wneir a Ffigurau fel hyn, 48760. A'r Lleuad sydd yn llai o faintiolaeth na 'r Ddaear ynghylch deugain waith.

[Page] Tair eraill o 'r Planedau sydd yr un bellder oddiwrth y Ddaear, yr hain a elwir, yr Haul, Mercuri a Fenws; pellder y tair hyn oddiwrth y Ddaear iw naw can mîl a naw a phedwar ugain mîl o filltiroedd; yn Ffigurau fel hyn, 989000.

Yr Haul iw 'r mwyaf o 'r hôll Blanedau, ac y mae ef yn fwy na 'r Ddaear gant a deugain o weithiau; yn Ffigurau, 140.

Mercuri sydd yn llai nar Ddaear bedair gwaith ar bymtheg.

Fenws sydd yn llai nar Ddaear naw gwaith.

Mars sydd oddiwrth y Ddaear, un myrddiwn, a phumcan mîl, a saith cant o filldyroedd; yn Ffigurau fel hyn, 1500700. ai maintiolaeth sydd dair gwaith ar ddêg yn llai nar Ddaear.

Jupiter sydd oddiwrth y Ddaear dri myrddiwn a phedwar can mîl, ag un mîl ar ddeg ar hugain a phed­war cant of filldyroedd: yn Ffigurau fel hyn, 3431400. a maintiolaeth Jupiter sydd bedwar gwaith ar ddêg mwy nar Ddaear.

Satwrn iw 'r bellaf or holl Blanedau, ac y mae hi oddiwrth y Ddaear, naw myrddiwn, a thair mîl ar ddeg a thrigain o filldyroedd; ag a scrifennir a Ffigurau fel hyn, 9073000. ag y mae hi yn fwy nar Ddaear ddeuddengwaith, ac nis gwelir ond fel Seren fechan o herwydd ei ffellder.

Bywiogrwydd edryd y Planedau, or Dwyrain ir Gorllewin.

Satwrn sydd yn edryd neu yn ymsymmud, yn un mynud o amser, 39604. o filldyroedd.

Jupiter mewn mynud o amser a symmud, 14978. o filldyroedd.

Mars syn symmud mewn mynud awr, 6551. o fill­dyroedd.

Yr Haul a symmud bob mynud, 4317. o filldyroedd.

Fenws a Mercuri sydd ai hedryd yn afreolus, sef, ai mynediad yn anwadal.

[Page] Y Lleuad syn symmud bob mynud, 213. o filldyr­oedd.

Os bydd neb mor fanylgais ag ymofyn pa fôdd y doed i ddeall yr ymadrodd a roed ymma or Planedau, bydded mor ddiwyd a chwilio tremiadau yr hên an­rhydeddus Philosephyddion, ag yna ceif yr un dysd­iolaethau ag a gefais inau.

Addysc ir Anneallus i wneuthyr Llên, sef, Byl Cyfrifon.

  l. s. d.
AM 7 Llathen a thri chwarter o forwyndod Merch, ar 7 s. 9 d. y llath— 03—00—00¾
Am 5 pwys a ½ o weddeiddra neu onestrawydd Puttain, ar 9 s. 7 d. y pwys— 02—10—00¾
Am 1 llathen a ½ o anlladrwydd Cleiriach, ar 11 d. y llâth— 00—01—04½
Am 3 Coded o lywenydd Cerlyn, ar 281 l. y Gôd— 843—00—00
Am 6 ffwys a 7 ownses o flew Malwod, ar 8 s. 3 d. y pwys— 02—13—01
Am 4 pwys o menydd Gwraint, ar 4 s. 9 d ½. y pwys— 00—19—02
Am 17 dysgled Wye Caseg, ar 2 s. 10 d. y ddyscled— 02—08—02
Yr holl swm iw— 854—11—11

Athrawiaeth i ddangos pa foddd i nifer y Llên hon, neu, pa fodd i swmio 'r Arian ir unlle.

Y nodau hyn, l. s. d. mewn Byl syn arwyddo y Ffigurau wrthynt i sefyll am; l. punnoedd, s. sylldau, d. ceinhiogau.

[Page] A 'r nodau hyn, ¼. ½. ¾. am ¼ chwarter, am ½ hanner, am ¾ dri chwarter o lathen, neu bwys, [...] geiniog.

Yr Arian a symi fel hyn, dechrau yn y Golofn nesaf at dy law ddehau tan, d. yr hain iw Ceinhiogau, yna y gweli, ½ Dimau, ¾ tair Ffyrling, a ¾ thair Ffyrling, yr hyn a wna ddwy Geinion, ag yn yr un Golofn y gweli, 02 ddwy Geiniog, ag 01 un Geiniog, a pheder 04 Ceiniog, yr hain oll iw un ar ddêg, gosod hwy a [...] [...]awr tan yr un Golofn rhwng dwy lain, fel y gweli uchod.

Y Golofn ganol tan s. iw Sylldau, yn honno y mae wyth s. Swllt, a phedwar ar bymtheg 19 Swllt, a thri ar ddeg 13 o Sylltau, ag un 01 Swllt, a dêg 10 Swllt, gâd y degau yn ddiweddaf, a chyfrif yn gyntaf y Sylltau nesaf at dy law ddehau, yr hain ydynt, 8. a 9. a 3. ag 1. yr hain oll ydynt un ar ugain, dyro 'r un ar lawr tan y Golofn honno a charia 'r ugain at y degau, yr hain ydynt dri o ddegau, y tri dêg hyn ar ugain eraill a wnant ddwy bunt a dêg Swllt: dôd y dêg Swllt i lawr wrth ag o ôl yr un Swllt a roddaist tan y Golofn ganol, a charia y y ddwy bunt at y Golofn nesaf at dy law aswy, dan l. yr hon iw punnoedd, fel y cyfrifaist y Sylltau cyfrif yr hain, gan gymmeryd yn gyntaf yr ystlys nesaf tuagat dy law ddehau or Golofn hon, ag yna y cei, 02. a 02▪ a 3. a 2. a 3. yr hain oll ydynt ddeuddeg punt, ar ddwy bunt a gariaist oddiwrth y Sylltau a wnant be­dair ar ddeg o bunau, dôd y pedair i lawr tan y Go­lofn, a charia y dêg at y degau o bunodd, yr hain a gei gyferbyn a llywenydd Cleiriach yn 43. y pedwar deg hyn ar un dêg a gariaist atynt iw pump: y pump­hyn dôd ar lawr wrth ag o ôl y 4. ag yno yr arwydda ddêg a deugain o bunodd, ar wyth a gei gyferbyn a llywenydd Celyn o herwydd ei fôd yn drydydd Ffigur tuagat dy law aswy sydd yn wyth cant o bunau, ar 8 hyn a roddi ar lawr wrth y 5. holl swm y Llên hon iw 854 l. 11 s. 11 d. sef, wyth cant a phedwar ar ddêg [Page] [...] o bunodd, ag un Swllt ar ddêg, ag u [...] [...] ddêg.

[...] [...]yn o Athrawiaeth, os byddi ewyllysgar a [...] [...] wasanaetha ith ddysgu i wneuthur Byl Cyfrifon amryw achosion eraill.

Yspysrwydd ith gyfarwyddo i ddeall yr Almanac sy 'n Canlyn.

YN y flwyddyn y mae deuddeg o fisoedd, a bôb un or misoedd hyn, y mae dau ystlys do [...] yn perthyn.

Ar ty dolen tuagat dy law aswy, a ranwyd yn sai [...] o golofnau neu resau.

Y Golofn gyntaf a nesaf at dy law aswy, lle [...] gweli y Ffigurau megis, 1. 2. 3. fydd yn dangos dy [...] y mîs, ar golofn nesaf ati lle y mae 'r llythrennau megis, a. b. c. sy 'n dangos dyddiau 'r wythnos, o [...] gwybydd maer llythyren fawr sydd am y Sûl, megis gweli yn mîs Ionawr gyferbyn ar ail, ar nawfed dyd [...] or mîs y llythyren fawr yn arwyddo mae Suliau iw dyddiau hynnu.

Ar drydydd golofn sydd yn datgan am y dyddiau Gwylion, ar dyddiau hynod, megis y gweli gyferbyn ar cyntaf o Ionawr, dydd Calan, a chyferbyn ar chweched o Ionawr, dydd Ystwyll, ac felly mewn trefn am y lleill.

Ar bedwaredd Golofn syn dangos pa le y ma [...] [...] Arwyddion ynghorph dŷn ag anifail beunydd, [...] y gwelwch gyferbyn ar dydd cyntaf o Ionawr, C [...] iau, a chyferbyn ar ail ar trydydd ar pedwaredd dydd­iau, Arennau ar Wialen, ag felly am y lleill mewn trefn.

Ar bumed Golofn syn dangos yr owr ar mynudyn o godiad yr Haul beunydd, megis y gweli gyferbyn [...] cyntof o Ionawr, 8. 10. yr hyn syn arwyddo [...] [Page] [...]ul y dydd hwnnw yn codi ar y 10 mynudyn gwed [...] [...]r y glôch, ag felly am y lleill mewn trefn.

Ar chweched Golofn syn dangos machludiad yr [...]aul beunydd, megis y mae gyferbyn ar cyntaf o [...]onawr, 3. 50. i ddangos fod yr Haul yn machludo ar y 50 mynudyn ar ol 3 ar yr Orlais y dydd hwnnw.

Ar saithfed Golofn syn datgan am yr hîn beunydd.

Ar tŷ dolen tuagat y llaw ddehau a ddengys newid [...] oedran y Lleuad: A Chyfarchwyliad am Ysmo­ [...]eth a Physegwriaeth, a hynnu gwedi roddi ar lawr [...]r eglur na raid iti bellach yspysrwydd o honaw.

Ionawr sydd iddo xxxi o ddyddiau.
dydd y mîs. dydd wythnôs. dyddiau hy­nod a gwyl­ion. symydiad yr arwyddion. codi yr haul. machlyd haul. newidiad yr hîn, neu 'r ty­wydd.
1 a Dydd Calan neu, Enwae­diad Christ. Clynia 8 10 3 50 y flwyddyn syn dechreu yn deg ag yn llariaidd ag a bery felly hyd ynghylch y deuddegfed dydd.
2 B   Arennau ar 8 9 3 51  
3 c     8 8 3 52  
4 d   Wialen 8 6 3 54  
5 e gwyl Edward. morddwy­dydd 8 4 3 56  
6 f D. Ystwyll.   8 3 3 57  
7 g   Gliniau a 8 1 3 59  
8 a   8 0 4 0  
9 B Sul Cynraf gwedi Ystwyll Garau 7 59 4 1 peth oerach a brith ga­fodydd.
10 c   Coesau 7 57 4 3  
11 d Haul yn dy­fewr. Esgeiria 7 56 4 4  
12 e   Traed 7 54 4 6  
13 f   Traed 7 53 4 7 Tebyg i fod yn wynt­iog a feth gwlaw cla­uar hyd yr 20 dydd.
14 g gwyl Elian Pen 7 52 4 8  
15 a Escob. Pen 7 51 4 9  
16 B 2 Sul gwedi Wyneb 7 49 4 11  
17 c Ystwyll. Gwddw 7 47 4 13  
18 d   Gwddf 7 45 4 15 Odlaw oer i gwynt mawr, hin y frowiog hyd yng­hylch y 26 dydd.
19 e   Ysgwyddau 7 43 4 17  
20 f   Breichiau 7 41 4 19  
21 g Annes. Bronau 7 39 4 21  
22 a   Dwyfron 7 36 4 24  
23 B 3 Sul g. Yst. Cefen ar 7 34 4 26  
24 c Term dechr. Galon 7 32 4 28  
25 d T. St. Paul. Bol ar 7 30 4 30 Peth claua­rach.
26 e   Perfedd 7 29 4 31  
27 f   Clyniau 7 28 4 32  
28 g   Pedrain 7 26 4 34 Oer a gwyntiog ag od ag eira y diw­edd y mis.
29 a   Folenau 7 24 4 38  
30 B B. Ch. I. S. Arffed 7 22 4 36  
31 c   Dirgelwch 7 20 4 40  
Cyfarchwyliad yn Ionawr.
  • Y Lleuad sydd yn
  • 3 chwarter oed y dydd cyntaf, ar 4 awr o bry dohawn.
  • Newidio 9 dydd, 8 awr o nos.
  • 1 chwarter oed yr 17 dydd, ar 3 ar gloch y borau.
  • Llawn Lleuad 23 dydd, 11 awr or nos.
  • 3 chwarter oed 31 dydd ar hauer dydd iniawn.

Pôb Hwsmon da a ddylau yn y mîs hwn, ysgythru pôb Canghenau gormodedd, oddiar ei Brenau toreth, a datgudd ei gwraidd hwy: a flanu pôb mâth ar sietus a Choed toreth, a hynny ar y chwarter cyntaf or Lleuad; a phan fyddo yr hîn yn dymmherus ac yn glauar, ar gwynt yn y Dehau neu Gorllewin, plenwch Ffa a Ffus gerddi a llysiau Gwyddelig, sef, Moron-Gwnion pan fo 'r hîn yn glauar, ar Lleuad yn lleihau, sef, ar ôl ei llawnlloned: pelwch eich Gerddi yn y mîs hwn.

Na ollynged nêb Waed yn y mîs hwn, ac na chy­mered Bysagwriaeth o ddigerth bôd yn angenrheidiol iddo: Gochelwch gael yr anwyd yn y mîs hwn, o legid y mae yn magu pôb mâth ar lysnafedd a gla­foerion, sef, riwms a flêms: drwg i chwi ymprydio [...]eu gadw eich Cythlwng yn hîr y boreu: yfed Gwîn Gwyn ar gythlwng sy ddâ: bydded eich bwyd mewn gweddeidd-dra o frydaniaeth, o herwydd goreu Pysag­wriaeth yn y mîs hwn iw Bwyd a Dillad cynnes, a Thân dâ, a Chywelu nwyfus.

Chwefror sydd iddo xxviii o ddyddiau.
dydd y mîs. dydd wythnôs. dyddiau hy­nod a gwyl­ion. symydiad yr arwyddion. codi yr haul. mach lyd haul. newidia yr hîn, neu 'r ty­wydd.
1 d gw. Sanffraid. Morddwy­dydd 7 18 4 42 Gwyntiog teg a chlau ar hyd y [...] hylch y deuddegf [...] dydd.
2 e g wyl Fair   7 17 4 43  
3 f y Cynhwyllau. Morddwyd. 7 15 4 45  
4 g Llywelyn blas. Gliniau 7 13 4 47  
5 a   Garau 7 11 4 49  
6 B 5 Sul g. Yst. Coesau 7 9 4 51  
7 c   Esgeiriau 7 7 4 53  
8 d   Traed 7 5 4 55  
9 e   Traed 7 3 4 57  
10 f   Traed 7 1 4 59  
11 g   Wyueb 6 59 5 11 Odlaw oer a hin gosto gedd hyd yng hylch yr unfed dydd ar ugain.
12 a Haul yn pysg. Wyneb 6 57 5 3  
13 B Sul ynyd. Gwddw 6 54 5 6  
14 c d. Falentein. Gwddf 6 52 5 8  
15 d Nôs ynyd. Ysgwyddau 6 50 5 10  
16 e Mercher llyd. Breichiau 6 48 5 12  
17 f   Bronau 6 46 5 14  
18 g   Dwyfron 6 44 5 16  
19 a   Cefen ar 6 42 5 18  
20 B Sul hefyd. Galon 6 40 5 20  
21 c y 69 Merthyr. y Bol ar 6 38 5 22 Hin anwa­dal hyd ddiwedd y mis.
22 d   Perfedd 6 36 5 24  
23 e   Bol 6 34 5 26  
24 f S. Matthi. Cluniau 6 32 5 28 Gwynt a gwlaw, teg a chlauar, gwynt ag od.
25 g   Pedrain 6 30 5 30  
26 a   Arffed y 6 28 5 32  
27 B Sul y ddaw. Dirgelwch 6 26 5 34  
28 c   Morddwy. 6 24 5 36  
Cyfarchwyliad yn Chwefror.
  • [...]euad [...]dd yn
  • Newidio yr 8 dydd, ar haner dydd iniawn.
  • Chwarter oed y 15 dydd, ar haner dydd.
  • Llawn lloned y 22 dydd, 11 ar Orlais, sef, Cloc bor.

Y mîs hwn hefyd sydd amser dâ i ddadwreiddio ag i blanu Sietyr irion a Rhos-wŷdd, a Gwînwydd, a Hops, [...] phôb mâth ar dwmpathau ar a ddygo ffrwyth, ac i [...]au Pus a Ffâ, a Winwyns, a phôb mâth ar Salet, [...] llysiau Crochon erbyn yr Hâ. Tocciwch bôb ble­guryn gormodedd ar eich Prenau toreth, a difwsog­wch a glânhewch hwy oddiwrth bôb llygredigaeth, symydwch eich Planhigion ach Coed ieuangc, ar y chwarter diwethaf or Lleuad, a phan fyddo hi yn yr Hwrdd, neu 'r Fantol, neu 'r Sarph, sef, pan fo 'r [...]rwyddion yn y Pen neu 'r Cluniau, neu 'r Dirge­wch.

Os bydd angenrhaid i chwi, gellwch feiddio gollwng Gwaed yn y mîs hwn, ond byddwch arafedd ac amharod i gymmeryd Pysegwriaeeh, oddigerth ang­anrhaid, a byddwch ofalus pan ddigwyddo diwrnod dauar imochel cael yr anwyd drwy esgeulusder, o herwydd nid parhaus iw 'r awel glauar yn y mîs hwn, ond twyllodrus a siomgar, a thebig i edifarhau y sawl a fyddo rhu hyderys arni: Yn y mîs hwn pôb mâth ar fwyd llymrig, megis, Pysgod, a Llaeth, sydd yn caeth-hau 'r gwythenau, ar afu, sef, ysgyfent, ac yn tewychu 'r gwaed, ac am hynny nid ydynt iw cyfri amgen na gelynion ir iechyd.

[...]
[...]
Mawrth sydd iddo xxxi o ddyddiau.
dydd y mîs. dydd wythnôs. dyddiau hy­nod a gwyl­ion. symydiad yr arwyddion. codi yr haul. mach lyd haul. newidiad yr hîn, neu 'r ty­wydd.
1 d dyg. Ddewi. Morddwy­dydd 6 20 5 40 Gwlaw a gwynt oer hyd y saith fed dydd.
2 e     6 17 5 43  
3 f Noufam dde­wi. Gliniau 6 14 5 46  
4 g   a Garau 6 12 5 48  
5 a   Coesau 6 10 5 50  
6 B Sul Garllaw. Esgeirau 6 8 5 52 Peth tec­cach, hin dymerus hyd yr un­fed ar ddeg
7 c   Berau 6 6 5 54  
8 d   Traed 6 4 5 56  
9 e   Traed 6 2 5 58  
10 f Haul yn yr Pen ar 6 0 6 0  
11 g Hwrdd. Wyneb 5 58 6 2  
12 a   Gwddw 5 56 6 4 Hin anwa­dal o wynt a gwlaw oer hyd yng hylch yr ugenfed dydd.
13 B Sul Meibion. Cêg 5 54 6 6  
14 c   Ysgwyddau 5 52 6 8  
15 d   Breichiau 5 50 6 10  
16 e   Bronau 5 48 6 12  
17 f gwyl Patric Dwyfron 5 46 6 14  
18 g Wyddel. Cefen ar 5 44 6 16  
19 a     5 42 6 18  
20 B Sul Gwrei. Galon 5 40 6 20 teg a chlau­ar a ffeth gwynt hyd y chweched ar ugain dydd.
21 c Bened abab. y Bol ar 5 38 6 22  
22 d   Perfedd 5 36 6 24  
23 e   Cluniau 5 34 6 26  
24 f   Pedrain 5 32 6 28  
25 g gwyl Fair gyhydydd. Arffed 5 30 6 30  
26 a   Dirgelwch 5 28 6 32 Gwlaw a gwynt clauar y diweddiff y mis.
27 B Sul blodau. Offer cydio 5 26 6 34  
28 c   Morddwy­dydd 5 24 6 36  
29 d   5 22 6 38  
30 e   Garau 5 20 6 40  
31 f   a Cliniau 5 18 6 42  

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.