[Page] [Page] Pregethau a osod­wy [...] allan trwy awdur­dod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob ca­pel er adailadaeth i'r bobl anny [...]dig.

Gwedi eu troi i'r iaith Gymeraeg [...]rwy waith Edward Iames.

Robert Barker prin­tiwr i odidawgaf fawr­hydi y Brenin a'i Printiodd yn Llundain.

Anno Dom. 1606.

[...]

¶ Y rhag-ymadrodd.

MAe 'r Apostol S. Pawl yn testiolaethu yn oleu na all neb alw neu weddio ar Dduw heb gredu ynddo, na all neb gredu heb wrando, na neb wrando, heb fod rhai ac a bre­getho gair Duw iddynt: am hynny pan ystyriodd y brenin ieuangc duwiol Ed­ward y chweched pa mor ambell oedd gwir bre­gethwyr gair Duw o fewn ei deyrnas ef, y rhai a fe­dre addyscu'r bobl i gredu yn-Nuw, i alw arno ac i gadw ei orchymynion sanctaidd ef, er iechyd eu he­neidiau a gogoniant i enw Duw, fe a barodd wrth gyngor ei Gynghoriaid i wyr duwioll dyscedig cy­farwydd yngair Duw gynull ac scrifennu allan o'r scruthyrau sanctaidd (vnig ffynnon pob doethineb, vnig ymborth yr eneidiau, vnig dywysog ac arwei­nudd i wir wybodaeth, rhinwedd a duwioldeb, vnig ddiwreiddudd pob chwyn gwenwynig, vnig wrth­laddud pob anwybodaeth, ac vnig gyferbyn yn er­byn pob gauathrawaeth dwyllodrus, yr hon sydd yn tywys i ofergoel trawsopinionau a delw-addo­liad) [Page] yr homiliau duwiol ymma: yn y rhai y cyn­hwysir y prif byngciau o'n ffydd ni ac o'n dlyed tu âg at Dduw a'n cymydogion: fel y galle yr offei­riaid a'r curadiaid annyscedig, y rhai ni fedrent yn amgen etto wrth adrodd datcan a darllen yr homi­liau hyn, bregethu i'w pobl wir athrawaeth, ac fel y galle bawb o'r bobl wrth wrando, ddyscu 'n inion ac yn iawn anrhydeddu ac addoli 'r holl-alluog Dduw a'i wasanaethu 'n ddiwyd. Yr homiliau hyn hefyd am eu bod mor fuddiol y orchymynnodd yr ardderchog frenhines Elizabeth eu printio ailwaith, ac hi a rhoddodd yr vn gorchymmyn am eu dar­llen hwy ac a rhoesai eu brawd duwiol hi yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd fod ar y ddayar er ioed dywysog ac a ddangosodd ymhob peth a­rall fwy o zeal at Dduw nac o ofal dros ei ddeiliaid, n'ar brenin godidawg, ardderchawg duwiol Iames ein grasusaf frenin a'n llywydd: felly yn y peth hyn ni ddangosodd ef ddim lai o'r fath zeal a gofal nac y ddangosase y brenin Edward a'r frenhines Eliza­beth o'i flaen ef. O herwydd yntef trwy gyfraith E­glwysig (fel y gallir gweled yn 46. Canon a wnaeth y Gymanfa Escobion ac Eglwyswyr a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain fawr, Ffrainc ac Iwerddon, yr hon y gadarnhaodd ei fawrhydi ef a'i awdurdod goruchel brenhinawl) a rhoes orchymmyn caled ar fod i bob Person, Vicar a Churat ddarllen yr Homiliau hyn bob sul a gwyl (o [Page] ddiffig pregeth) ymhob Eglwys blwyf a chapel o­fewn y deyrnas: fal y galle y rhai ni chlywant lafar pregethwyr ond yn ambell, wrth arfer o glywed darllen y pregethau duwiol dyscedig hyn yn fy­nych, ddyscu mewn amser gredu yn-Nuw yn inion ac yn ffyddlon, galw arno yn ddifrif ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dlyed at Dduw a'u cymydo­gion ac ymddw yn felly yn y byd hwn yn ol gwy­bodaeth, fel y beddai iddynt fwynhau bywyd trag­wyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr IE­SV GRIST. Etto er nad oedd rheitiach i vn wlad wrth y fath gynhorthwy nac i wlad Gymru am fod pregethwyr mor ambell ynddi, ni ewylly­siodd Duw ini gael neb o'r Homiliau hyn na'r fath eraill yn y iaith Gymeraeg hyd yr amser hyn. Ond wele y Cymro hwy yn awr yn dy iaith di dy hun, fel y medrich dithau wrth eu gwrando eu deall hwy. Duw a wnelo iddynt wneuthur iti fawrles ac a'th wnelo dithau yn ddiolchus i Dduw am ei fawr ddaioni.

AMEN.

¶ Rhybydd i bob gweinidog Eglwysig.

OBlegid bod yr Arglwydd yn gofyn gan ei wâs, a osododd ef goru­wch ei deulu, ddangos ffyddlondeb a challineb yn ei swydd: anghenrhaid fydd i chwi o flaen pawb eraill eich ymddwyn eich hunain yn ffyddlonaf ac yn ddiesceulusas o gwbl, yn eich vchel alwedigaeth: hynny yw, yn gymmwys, yn eglur ac yn llawn llythyr, darllein yr Scrythu­rau sanctaidd, addyscu ieuengctyd yn ddyfal yn ei Catechism, gwasanaethu y Sacramentau bendigedig yn weddaidd ac yn barchedig: dewis yn synwyrol y cyfryw Homiliau ac a fyddo cymmesuraf i'r amser, ac yn gwasanaethu yn oreu er addyse i'r bobl a orchymmynnwyd i'ch gofal, a hynny gydâ chyfryw bwyll, megis pan dybyger bod yr Homili yn rhyhir i'w darllein ar vnwaith, yna ei rhannu hi i'w darllein, peth y boreu a pheth bryd nawn. A lle y digwyddo bod rhyw bennod o'r hên Destament wedi appwyntio ei darllein ar Sul neu wyl, yr hon a ellir yn well ei chyfnewid am ryw bennod arall o'r Te­stament newydd a fo gwell i adeiladaeth: da y gwnewch os chwi a dreulia eich amser yn myfyrio yn dda ary cyfryw ben­nodau ym-mlaen llaw, fel yr ymddangoso eich callineb a'ch diwydrwydd yn eich swydd, ac fel y gallo eich pobl gael a­chos i ogoneddu Duw o'ch plegid chwi, a bod yn barot­tacb i [...]esawu eich trafael chwi a'ch poen, er ychwaneg clod i chwi, ac er cyflawni dlêd eich cydwybodau chwi a nhwythau.

[Page] ER na rannasid y llyfr hwn ond yn ddwy ran yn y Saesonaeg etto o herwydd wrth brintio y rhan gyntaf ddarfod imi beri nodi rhifedi y dalennau fal y gallid yn hawdd gyfarfod a dechreu pob Homili, pan gosodwyd wrth ddcchreu printio yr ail rhan ddau bres ar waith, ni allwn ni ganlyn y trefn hwnnw, oni byddai i mi rhannu y rhan ddiwethaf yn ddwy rhan: mi a feddyliais mai gwell oedd imi wneuthur felly na bod y rhan gyntaf gwedy nodi rhifedi ei dalennau, a rhifedi dalennau y rhan arall heb ei nodi: am hynny fel y gelli weled mae 'r cwbl gwedi i mi ei rhannu yn dair rhan. Fe a ddengys y Tabul sydd yn canlyn iti pa Homiliau y sydd ymmhob rhan o'r llyfr ac ar pa dda­len y mae pob vn o honynt yn dechreu.

¶ Tabul y rhan gyntaf.

1 ANnogaeth i ddarllen yr Scruthyr lân, 2. rhan. dalen 1
2 Am drueni dyn, 2. rhan. d 12
3 Am gadwedigaeth dyn, 3. rhan. d. 24
4 Am wirffyd, 3. rhan. d. 40
5 Am weithredoedd da, 3. rhan. d. 58
6 Am gariad perffaith, 2. rhan. d. 79
7 Am dyngu anudon, dwy rhan. d. 89
8 Am gwympo oddiwrth Dduw, 2. rhan. d. 101
9 Am ofn angau, 3. rhan. d. 115
10 Am vfydd-dod i swyddogion, 3. rhan. d. 136
11 Am butteindra ac aflendid, 3. rhan. d. 153
13 Am ymryson ac ymdaeru, 3. rhan. d. 176

Tabul yr ail rhan.

1 PRegeth am iawn arfer yr Eglwys, 2. rhan. dalen. 1
2 Am ddelw-addoliad, 3. rhan. d. 21
3 Am gyweirio 'r Eglwys a'i chadw 'n lân. 3. 157
4 Am weithredoedd ac yn gyntaf am ymprydio, 2. rh. d. 165
5 Yn erbyn glothineb a meddwdod. d. 189
6 Yn erbyn dillad rhy-wychion. d. 205
7 Ynghylch gweddi, 3. rhan. d. 221
8 Am le ac amser gweddi, 2. rhan. d. 248
9 Am finistrio gweddi a'r Sacrament mewn iaith a ddeallir. dalen. 165
10 Am amryw leoedd o'r Scruthyrau, 2. rhan. d. 284

Tabul y drydydd rhan.

1 PRegeth am elusenau, 3. rhan. dalen. 1
2 Am enedigaeth Christ. d. 27
3 Am angau a dioddeifeint Christ, 2. rhan. d. 43
4 Am adgyfodiad Christ. d. 72
5 Am y Sacrament, 2. rhan. d. 86
6 Am ddiscynniad yr Yspryd glan ar dydd y sulgwyn, dwy rhan. d. 104
7 Ar wythnos y derchafael, 4. rhan. d. 124
8 Am stat priodas. d. 165
9 Yn erbyn seguryd. d. 184
10 Am etifeirwch a gwir gymodi a Duw, 3. rhan. d. 197
11 Yn erbyn anufydd-dod a gwrthryfel, 6. rhan. d. 234

¶ Annogaeth ffrwythlon i ddarllen ac i wybod yr Scrythyr lan.

NI ddichon bod vn peth mor anghenrhaid, ac mor fuddiol i Gristion, a gwybodaeth yn yr Scrythyr lan: yn gym­maint a' i bod [...] cynnwys ynddi wir air Duw, yn gosod allan ei ogoniant ef, a dlyed dyn hefyd tuag atto ef. Ac nidoes na gwirionedd, nac athra­wiaeth anghenrheidiol i gyfiawnhâd, a thra­gwyddol Iechydwriaeth, nad ydyw o fewn neu na ellir ei dynnu allan o'r ffrwd [...] ffynnon hon­no o wirionedd. Cynnifer am hynny ac a chwen­nycho fyned at Dduw ar hyd y fford inion ber­ffaith, rhaid iddynt roddi eu meddyliau a'u bwri­adau i wybod yr Scrythyr sanctaidd, heb yr honni allant nac yn ddigonol adnabod Duw a'i ewy­llys, na'u swydd a'u dlyed eu hunain: Ac megis y mae diod yn flasus i'r sych [...]dig a bwyd i'r rhai newynog, felly y mae darllen, gwrando, chwilio, a myfyrio ar yr Scrythyr sanctaidd i'r rhai a [Page 2] chwennychant adnabod Duw, neu hwynt eu hu­nain: a gwneuthur ei ewyllys ef. A'u cyllau hwy yn vnic sydd yn gwrthwynebu, ac yn cashau nefol adnabyddiaeth ymborth gair Duw, y rhai ydynt gwedy eu boddi felly mewn oferedd bydol, fal nad ydynt yn caru na Duw, na duwioldeb: o blegid dyna'r achos y chwennychant y fath ofe­redd, yn rhagorach nâ gwir wybodaeth o Dduw. Megis am y rhai a fônt glaf o'r Cryd. ddeirton, pa beth bynnag a fwyttaont neu a yfont, y maent er me­lysed a fytho, yn ei flassu cyn chwerwed ac yw' r wermot: nid am fod chwerwder yn y bwyd, ond o blegid yr huwmor neu'r chwaith chwerw, lly­gredig sydd yn eu tafodau a'u geneuau hwy: felly y mae melysdra gair Duw yn chwerw, nid o ha­no ei hun, ond yn vnic i'r rhai a lygrwyd eu meddyliau drwy hir arfer pechod, achariad y byd hwn. Am hynny gan ym wrthod a barn lygredig dynion cnawdol, y rhai ni ofalant ond am eu cyrph gwrandawn a darllen wn yn barchedig yr Scry­thyr lan, yr hon yw ymborth yr enaid. Chwiliwn, yn ddiescaelus, am ffynnon y bywyd yn llyfrau yr hên destament a'r newydd, ac na redwn i by­lleu a llacca drewllyd traddodiadau dynion, a Matth. 4. 4. luniwyd trwy ddychymygion dyn, i geisio i ni gyfia wnhad, a Iechydwriaeth. O herwydd bod yr Scrythyr lan ym cwblgynnwys yr hyn a ddlyē ni ei wnenthyr a'r hyn ddlyem ni ei wachelyd, pa beth a ddlyem ni ei gredu: a pha beth sydd ini i edrych am dano ar law Dduw yn y diwedd. Yn y llyfrau hynny y cyfarfyddwn a'r Tad o'r hwn, a'r Mab trwy'r hwn, ac a'r Yspryd glan yn yr hwn y mae i bob peth eu bod, au para: ac yno a gwelwnnad ydyw y tri pherson hynny onid vn Duw as [Page 3] vn sylwedd. Yn y llyfrau hyn y cawn ddyscu ein adnabod ein hunain, mor waelion ac mor druain ydym, ac adnabod Duw mor ddaionus ydyw o hano ei hun, a pha fodd y mae ef yn ein gwneuth­urni, a'i holl greaduriaid, yn gyfrannogion o'i ddaioni. Nyni a allwn ddyscu hefyd yn y llyfrau ymma wybod bodd ac ewyllys Duw, mor gyf­lawn ac y mae yn weddus ini ar hyn o amser ei wybod. Ac fal y dywaid yr yscolhaig mawr a'r pregethwr duwiol S. Ioan aur enau, beth bynnac Chrysost. sydd anghenraid i Iechydwriaeth dyn, fe a gyn­hwysir yn gyflawn yn scrythyrau Duw. Yr hwn sydd heb wybodaeth efe a ddichon ddyscu yno, a chael gwybodaeth: fe gaiff yr hwn sydd galon galed, a phechadur Cyndyn. gwrthgas, gyfarfod yno a'r tragwyddol boenau a ddarparodd cyfiawnder Duw i'w ofni ef, ac i feddalhau, ac i nawseiddio ei galon ef, fe gaiff yr vn a orthrymmir gan flin­derau yn y byd hwn, yno nerth yn addewidion tragwyddol fywyd i'w fawr gynfford ai ddidda­nwch, fe gaiff yr vn y glwyfwyd gan ddiafol hyd angau, feddiginiaeth yno i'w adferu i iechyd ailwaith. Os bydd anghenrhaid athrawiaethu gwirionedd, argyoeddi gauathrawaeth, ceryddu beieu, na chanmol rhinwedd, rhoddi cyngor da, diddanu neu annog, neu wneuthur vn peth arall anghenrhaid i'n Iechydwriaeth ni, Nyni a allwn (medd S. Chrysostome) ddyscu y pethau hyn yn halaeth yn yr Scrythyr lân. Mae yno (medd. Fulgentius) lawn-ddigon o bethau i wyr i'w bwy­ta, ac i blant i'w sugno. Mae yno bob peth ac y sydd addas i bob oedran, i bob gradd, ac i bob math ar ddynion. Nyni a ddylaem wrth hynny fod ar llyfrau hynny n dra mynych yn ein dwy­law, [Page 4] yn ein clystiau, ac yn ein geneuau, ond yn fynychaf oll yn ein calonnau. O herwydd Scry­thyr Duw yw nefol fwyd ein eneidiau ni, gwran­dawiad yr hon a'u chadw sydd yn ein gwneuthur Matth. 4. 4. Ioan. 17. 17. Psal. 19. 7, 10. yn wynfydedig, yn ein sanctaiddio, ac yn ein glan­hau, ac yn troi ein eneidiau megis llusern in traed a diogel safadwy a thragwyddol offeryn ein iechydwriaeth, mae hi yn rhoddi doethineb i'r gostyngedig a'r isel galon, yn diddanu yn llawen­hau, yw llonni ac yn eyscafnhau ein cydwybod: trysor gwell yw nag aur, a maini gwerthfawr: melysach nâ'r mel a'r diliau mel: hon a elwir y rhan orau, yr hon a ddewissodd Mair, O herwydd Luc. 10. 42. ynddi y mae tragwyddol ddiddanwch. Yr ydis yn galw gairiau'r Scrythyr lân yn airiu y bywyd Ioan. 6. 68. tragwyddol: o herwydd offer Duw ydynt a osod­wyd i hynny. Mae ynddynt allu i droi drwy ad­dewid Duw, a ffrwythlō ydynt trwy nerth Duw Coloss, 1. 6. a chwedŷ eu derbyn i galon ffyddlon mae o ha­nynt Heb. 4. 12. yn dyfod yn wastad orchwylion nefol yspry­dol. Maent yn fywiol yn fywiog, ac yn alluog mewn gweithrediad, ac yn llymmach na chledd dau finiog, ac yn cyrhaeddid hyd wahaniad yr, enaid ar yspryd, a'r cymhalau, a'r mêr. Mae Christ yn ei alw ef yn adailadydd call yr hwn a Matth. 7. 24. Fuldo. adailado ar ei air ef, megis ar sylfaen siccr, dio­gel. Gan air Duw y'n bernir ni o blegid Y gair Ioan. 12. 48. (medd Crist) a ddywedais, hwnnw a farn yn y dydd diwethaf. Ac i'r hwn a gadwo air Crist yr addewir cariad a ffafor Duw, ac y caiff ef fod yn deml, ac yn drigle i'r drindod sanctaid. Pwy byn­nag sydd yn ddiwall yn darllen y gair hwn ac yn Ioan. 14. 3. printio yn ei galon yr hyn y mae ef yn i ddarllen, fe leihair ynddo fe y mawr frydd ar bethau darfod­adwy [Page 5] y byd hwn; ac fe gynydda ynddo fawr chw­ant ar bethau nefol, a addewir gan Dduw yn y gair hwnnw. Ac nid oes dim a gadarnhâ ein ffydd ni a'n ymddiried yn-nuw yn gymaint, ac a gaidw i fynu ddiniweidrwydd a phurder calon, aduwiol fywyd ac ymddygiad oddi allan hefyd, megis gwastadol ddarllen, a myfyrio ar air Duw. O herwydd yn y diwedd fe droir gan mwyaf i anian a naturiaeth, beth bynnac wrth wastadol ddar­llen a dyfal chwilio yr Scrythyr lân, a brinter ac a argrapher yn y galon. Ac hefyd ffrwyth a rhin­wedd gair Duw yw, Llewyrchu. goleuannu y diwybod, a rhoi rhagor o oleu i'r rhai a'i darllenant ef yn ffyddlon ac yn ddyfal, er diddanwch i'w calonnau, ac er eu Hyfhau. eofnhau hwy i gyflawni y peth y mae Duw yn ei orchymmyn. Mae hwn yn dangos goddefgarwch mewn adfyd, mewn hawddfyd gostyngeidrwydd, pa anrhydedd sydd ddyledus i Dduw, pa drugaredd a charedigrwydd i'n cym­mydog: hwn sydd yn rhoddi cyngor da mewn pob peth anhygoel ammheus: hwn sydd yn dangos gan bwy y mae ini edrych am nerth achymmorth ym-mhob enbeidrwydd, ac mai Duw ym vnic roddwr pob buddugoliaeth ym-mhob rhyfeloedd a phrofedigaethau gan ein gelynion, corphorol ac ysprydol. Ac nid hwnnw sydd yn ennill fwyaf 1. Sam 14. 12, 23. 2. Chro. 20. 6, 7, 27. 1. Cor. 15. 57. wrth ddarllein gair Duw, yr hwn sydd barottaf i droi dolennau'r llyfr, neu adrodd heb lyfr y peth sydd ynddo, onid yr hwnn sydd gwedy ei lwyr droi iddo, yr hwn y mae'r Yspryd glân gwedy ei gyn­nhyrfu fwyaf; a chalon yr hwn a'i fywyd sydd gwedy ei symmud, a'i newid i'r peth y mae ef yn ei ddarllen: yr hwn sydd yn myned beunydd yn ddifalchach, yn ddiddicciach, yn llai ei drachwant, [Page 6] ac yn chwennychu llai ar wag hoffderau bydol: yr hwn (gan ymwrthod â'i hên fywyd drygionus) sydd yn cynnyddu fwyfwy mewn rhinweddau da. Ac ar ychydig o airiau, nid oes dim yn maenteinio y'n well dduwioldeb meddwl, nac yn gyrru ym­maith anuwioldeb, nag y mae gwastadol darrllen a gwrando gair Duw, os cydsylltir hynny â me­ddwl duwiol a daionus fwriad ar ddyscu achan­lyn ewyllys Duw. O herwydd heb lygad dysyml pur fwriad, a meddwl da, nid oes dim cymme­rad wy ger bron Duw. Ac o'r ystlys arall, nid oes dim yn tywyllu Christ agogoniant Duw yn fwy Esal. 5. 29. Matth. 22. 29. nag yn dwyn mwy o ddallmeb, a phob drygioni, nag anwybodaeth yngair Duw.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch yr Scrythyr lân.

FE ddangosswyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth, yr hon sydd yn ein hannog i wybodaeth yn yr Scrythyr lan, pa­ham y mae yr wybodaeth honno yn anghenrhaid, ac yn fuddiol, i bob dyn: Ac mai drwy adnabyddiaeth a gwir ddeall yr Scrythyr, yr adwaenir y rhannau anghen­rheidiaf o'n dlyed ni tuag at Dduw, a'n cymydo­gion. Yn awr ynghylch yr vn peth, chwi a gewch glywed beth a ganlyn. Os ydym yn addef Christ paham na bydd arnom gywilydd fod heb wybod ei athrawiaeth ef? lle y mae yn gywilyddus i bob dyn, fod yn anghydnabyddus yn y ddysc a'r gel­fyddyd a gymmero efe arno ei gwybod. Mae 'n gywilyddus i ddyn os gelwir efe yn philosophydd, fod heb ddarllen llyfrau philosophiaeth, neu i alw [Page 7] yn gyfraithiwr, yn affronomydd, neu yn feddyg, yr hwn a sydd anghyfarwydd yn llyfrau 'r gyfra­ith, astronomi, neu feddyginiaeth. Pa fodd y Dywaid neb am hynny, i fod ef yn cyffefu Christ ai grefydd, onid ymddyrŷ ef, (gymanit ag y gallo yn gymhessur) i ddarllen ac i wrando, ac felly i wybod llyfrau Efengyl Christ a'i athrawaeth. Er bod celfyddydon eraill yn dda ac yn rhaid eu dyscu, etto ni ddichonvndyn ammau fod y gelfyddyd hon yn bennaf, ac vwchlaw pob celfyddyd arall yn ddigyffilybaeth. Pa escus wrth hynny a wnawn ni (ar y dydd diwethaf ymlaen Christ) y rhai a o­sodwn ein ewyllys ar ddarllen dychmygion a thraddoddiadau dynion, yn fwy nâ'i sanctaidd e­fengyl ef? ac na aliwn gael vn amser i wneuthur y peth a ddlyem ei wneuthur yn bennaf uwch law pob peth? ac a ddarllenwn yn gynt bethau eraill, nâ 'r peth y dlyem adel heibio ddarllen pob peth arall o' i blegid? Cynifer am hynny o honom ni ac sydd yn addef Duw, a thrwy wir ffydd yn ym­ddiried ynddo, ymrown tra y caffom ennyd ac amser i wybod gair Duw, trwy ei wrando a'i ddarllen yn ddyfal. Ond y rhai nad oes ganthynt serch ar air Duw, i guddio eu beiau a roddant yn arferol drostynt eu hunain, ddau escus ofer gwai­gion. Rhai sydd yn eu hescuso eu hunain o her­wydd eu gwendid au hofn, gā ddywedyd na feiddi­ant ddarllen yr Scrythyr lan rhag iddynt trwy anwybod gwympo i amryfysedd; Eraill a hae­rant ei bod hi mor anhawdd ac mor galed iw de­all nad yw weddus i neb ei darllen, onid i yscol­heigion a gwyr dyscedig. Ond o blegid y cyntaf: anwybodaeth yngair Duw yw achos pob cam­synnaeth ac amryfysedd fal y dywaid Christ ei [Page 8] hun wrth y Saducęaid, gan ddwedyd, eu bod hwy mewn Camsyn­naiaeth. amryfysedd o eisiau gwybod yr Scrythy­rau. Matth. 22. 29. Pa fodd am hynny y gall y sawl a fynnont fod fyth mewn anwybod, ymgadw rhag amryfy­sedd? a pha fodd y dawant allan ou hanwybo­daeth oni fynnant ddarllen a gwrando y peth a ddichon roddi gwybodaeth iddynt? fe fu yr hwn sydd yn awr a mwyaf o wybodaeth gantho, ar y cyntaf heb wybodaeth; etto ni pheidiodd ef a dar­llen rhag cwympo meŵn amryfysedd, ond fe ddar­llenodd yn ddyfal rhag iddo aros mewn anwy­bod, athrwy anwybod mewn amryfysedd. Ac oni ddyscwch chwi wirionedd Duw, yr hwn sydd anghenrhaid i chwi ei ddyscu, rhag i chwi gwym­po mewn amryfysedd, wrth yr vn rheswn y ge­llwch orwedd yn wastad, heb gyfodi vn amser ar eich traed i gerdded, rhag wrth gerdded i chwi gwympo yn y dom; a pheidio a bwyta vn bwyd, da rhag ichwi wrthwynebularu; a pheidio a hau eich llafur, na thrafaelu yn eich celfyddyd, nac arfer vn farch­nadaeth, rhag ichwi golli eîch hâd, eîch trafael, eîch golyd; Ac felly wrth yr vn rheswm, gorau oedd i chwi fyw yn segur, heb gymmeryd yn llaw vn peth daionus, rhag i ryw ddrwg ddigwyddo i chwi o hynny. Ond os ydych yn ofni cwympo i amryfysedd wrth ddarllen yr Scrythyr lan, mi a ddangossaf i'wch pafodd y mae i chwi ei darllen hi, heb enbeidrwydd, na phęrigl amryfysedd; Dar­llenwch hi yn ostyngedig, âchalon isel, trwy fw­riad gogoneddu Duw, ac nid eich humain, â 'r­gwybodaeth a goffoch ynddi. Ac na ddarllenwch hi heb weddio beunydd ar dduw ar iddo ef gyfei­rio eîch darlleniad chwi i ddiwedd da: ac na chymmerwch arnoch ei deongl hi ai hagoryd ym­mhellach [Page 9] nag y byddoch yn ei deall hi yn oleu. O herwydd (fal y dy waid S. Austin) mae gwyboda­eth yr Scrythyr lân yn fawr, yn halaeth, ac me­gis neuadd vchel, ond mae ' r drws yn isel iawn, fal na ddichon yr vchel rhyfygus rhedeg i mewn iddi, ond mae ' n rhaid i'r vn a elo i mewn, ostwng yn isel a bod yn ostyngedig. O her wydd balchedd a rhyfyg yw mam pob amryfysedd, ond nid rhaid i ostyngeiddrwydd ofni byth gamsynnaid. O her­wydd gostyngeiddrwydd a chwilia, yn vnic i wy­bod y gwirionedd. Hi a chwilia, ac a ddwg y naîll le, ynghyd a'r llall, a pha le byn̄ac ni chyrha­eddo hi yr yst yr hi a weddia, hi a ymofyn â'r rhai a wypont, ac ni therfyna hi ddim nas gwypo yn rhyfygus ac yn ddibwyll. Am hynny fe ddichon y gostyngedig yn eofn chwilio am y gwirionedd yn yr Scrythyr, heb berigl o amryfysedd. Ac os ydyw ef heb wydbodaeth gantho, mwy o lawer y dyle chwilio a darllen yr Schrŷthyr lân i'w ddwyn a­llan 'o anwybodaeth. Nid ydwyf yn dywedyd, na all gwr lwyddo wrth wrando yn vnic, ond fe all lwyddo yn fwy a lawer wrth wrando, ac wrth ddarllen. Hyn a ddywedais am ofn darllen o ble­gid anwybod y darllenydd. O blegid anhy weith­dra a chaledrwydd 'r Scrythyr, pwy bynnac sydd mor wan ac nad ydyw yn abl i dreulio bwyd cryf, etto fe ddichon er hynny sugno y llaeth melys es­mwyth, ac oedi dyfod at ychwaneg, hyd oni chryf­hao, ac hyd oni ddelo i fwy o wybodaeth; O her­wydd mae Duw yn derbyn y dyscedig a'r annysce­dig, heb wrthod neb, gan fod yn Diymmer, dineilltuol indysterent. ddiduedd i bawb oll. Ac mae 'r Scrythyr mor llawn o ddyffryn­noedd isel a llwybrau gwastad esmwyth i bob dyn i'w harfer, a rhodio ynddynt, ac o dwynau a my­myddoedd [Page 10] vchel, y rhai ni ddichon nymmor ddrin­go iddynt. A phwy bynnag a roddo ei feddwl i ddarllen yr Scrythyrau sanctaidd â myfyrdod di­wall, a chwant gwresog nid possibl (medd S. Ioan aur enau) gadel hwnnw heb gymmorth. Ond Chrysostom. y naill ai fe ddenfyn Duw ryw athro duwiol, i'w ddyscu ef, megis y danfonodd i ddangos i'r Eunuch. dis­paidd, pendefig o Ethiopia, a thrysorwr bren­hines Candace yr hwn ac yntef a bryd mawr gan­tho ar ddarllen yr Scrythyr, (er nad ydoedd yn ei deall,) etto am y bryd oedd gantho ar air Duw, fe ddanfonodd Duw ei Apostol Philipp atto i agoryd iddo wir ystyr yr Scrythyr yr ydoedd ef yn ei darllen: neu os bydd arnom eisiau gwr dy­scedig i'n haddyscu ac i'n cyfarwyddo, etto fe * o­leuonna Duw ein meddyliau ni oddi vchod, ac a ddengys ini bob peth anghenraid ar na byddom yn ei wybod. Ac fe ddywaid Chrysostom mewn man arall, nad rhaid wrth ddoethineb gwybo­daeth dynawl bydol, i ddeall yr Yscrythyr, ond dadguddiad yr Yspryd glan, yr hwn sydd yn tywallt ei gwir ystyr hi i'r rhai a chwileant am dano mewn gostyngeiddrwydd, dyfalwch ac a­studrwydd. I'r hwn a ofynno y rhoddir, a'r hwn a geisio a gaiff, i'r hwn a guro yr agorir y porth. Os darllenwn vnwaith, dwywaith, tair, heb ddeall, na pheidwn, ond parhawn yn darllen yn wastad, gan weddio, a gofyn i eraill, ac felly wrth guro yn wastadol, yn y diwedd fe a agorir y porth ini, fal y dywaid S. Awstin; Er bod yn dywedyd llawer o bethau yn yr Scrythyr mewn dirgelion tywyll, etto nid ydys yn dywedyd dim mewn dirgelion tywyll, yn vn lle nad ydys yn ei adrodd yn oleu ac yn eglur mewn lle arall; [Page 11] megis y gallo y dyscedig a'r annyscedig ei ddeall ef. Ac am y pethau ydynt, yn yr Scrythyr yn hawdd eu deall ac anghenrhaid i Iechydwriaeth, dylyed pob dyn yw eu dyscu hwy, eu argraphu hwy yn ei gôf, au harfer hwy yn Frwythlon. Ac am ddirgelion tywyll fe ddyle fod yn fodlon i fod heb eu gwybod, hyd oni ewyllysio Duw egluro y pethau hynny iddo. Hyd hynny, os bydd diffyg medr, neu amser cyfaddas arno▪ ni chyfrif Duw hynny yn ffolineb iddo: etto nid gweddus i'r rhai sydd yn medru beidio a darllen, am fod eraill yn anaddas i ddarllen: ac etto ni ddylauid gadel y cwbl oll heb ddarllen o blegid bod rhyw fannau yn dywyll. Ac i ddiweddu a'r ychydig airiau: fal y dywaid S. Austin fe wellhair pawb oll wrth ddarllen yr Scrythyr, fe a gadarnhair y gweinaid, ac a ddiddenir y cedyrn: fal yn siccr nad oes neb yn gwrthwynebu darllen gair Duw, ond naill ai y rhai diwybod, ni wyddont mor iachus yw, neu y rhai ydynt mor gleifion, ag y maent yn cashau, y cysurusaf feddyginni­eth i'w iachau hwynt: neu ynte mor anuwiol, ag yr ewyllyssient i'r bobl aros yn wasted mewn tywyllwch, ac heb adnabod Duw. Fal hyn y traethais a'r ychydig eiriau, ran or budd, ar en­nill y sydd yn dyfod oddi wrth sanctaidd air Duw, vn or Daionus roddion dewisaf, a braintusaf, a hyspyswyd ac a roddwyd i ddynawl ryw, ymma ar y ddaear. Diolchwn i Dduw ân calonnau am ei rhodd fawr ardderchawg hon, am ei Ddaionus ffafor, a'i dadawl ragddarbodaeth. Bydded lawen gennim adfywhau gwerthfawr rodd ein tad nefol, gwrandawn; darllenwn a gwyby­ddwn reolau sanctaidd gorchymmynion, ac or­deiniadau [Page 12] ein Christionogawl grefydd, ar y rhai y gwnaethon ein addewidion i Dduw yn ein be­dydd. Gossodwn i fyny yn Yngheudod. llogeliau ein calono­nau mewn ofn a gostyngeiddrwydd y gwersau anghenrheidiol ffrwythlon ymma. Meddyliwn am danynt nos a dydd, bydded ein myfyrdod an cydsyniaid ynddynt. Cilgnown hwy, fal y gallom gael y Sugn. sudd melys, y ffrwyth ysprydol, y mer, y mel, y knewyll, y blas, y cysur, ar diddanwch o hanynt. Sefydlwn, a siccrhawn ein cydwybod, ac anhwyllodrus siccrwydd gwirionedd, a thra­gwyddol ddiogelrwydd y pethau hyn. Gweddiwn ar Dduw vnig awdur y myfyrdodau nefol hyn, ar ini allel chwedleua, meddwl, credu, byw, a myned oddiymma yn ol eu gwir athrawaeth, aî gwirio­nedd hwy. A'r modd hyn y cawn ymddissyn Duw, ai rad ai ffafor yn y byd ymma, gyda diddanwch, heddwch, ac esmwythder annhraethadwy in cyd­wybod. Ac yn ol y blinfyd hwn, y cawn feddiannu didrangc fendith, a gogoniant nefol: yr hyn a ga­niatao Iesu Grist ini oll, yr hwn a oddefodd an­geu drossom ni oll, i'r hwn gyda 'r Tâd, a'r Ys­pryd glân y byddo anrhydedd, a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

Pregeth am drueni dyn a'i ddam­nedigaeth i farwolaeth dragwyddol trwy ei bechod ei hun.

NId ydyw yr Yspryd glân yn ddyfa­lach mewn dim, wrth scrifennu yr Scrythyr lân, nag am dynny i lawr wag ogoniant a balchedd dyn, yr hyn o bob beiau eraill, sydd gwedy [Page 13] ei blannu yn gyffredinaf ym-mhob dyn, ie er lly­gredigaeth ein cyntaf dad ni Addaf. Ac am hyn yr ydym ni yn darllen yn amryw fannau yn yr Scry­thyr, lawer o wersau gwych yn erbyn yr hên fai gwreiddiedig ymma, er dangos ini ganmolediccaf rinwedd gostyngeiddrwydd, ein adnabed ein hu­nain, a chofio pa beth ydym ni o hanom ein hu­nain. Yn llyfr Genesis mae yr holl-alluog Dduw yn rhoddi ini deitul neu enw ein hên dâd Addaf, yr hwn enw a ddylei ein rhybyddio ni, i gyd, i ysty­riaid pa beth ydym ni, o ba beth yr ydym, ac o ba le y daethon, ac î ba le yr awn ni, gan ddywedydd fel Gen. 3. 19. hyn, Yn chwys dy wyneb y bwytai dy fara, nes dy ddychwelyd ir ddayar, o herwydd o heni hi y daythost, o achos mai pridd ydwyd, ac i'r pridd y dychweli. Ymma gan hynni y gallwn megis mewn drych weled mai daiar, pridd a lludw ydym ni, ac mai yn bridd, a lludw y'n troir ni ailwaith. Ac yr ydoedd yr hen Batriarch Abraham yn cofio yn ddifai yr cnw, a'r teitul ymma llethrod, pridd, llwch, a lludw, a apowyntiodd ac a osododd Duw ar holl rywogaeth dŷn: ac am hyn pan ydyw fe yn gweddio 'n ddifrif ac yn daer dros So­dom a Gomorrah, mae fe 'n ei alw ei hun wrth yr Gen. 18. 27. enw hyr. Ac yr ydym ni yn darllen yn yr hên de­stament fod Iudith, Hester, Iob, Ieremi, a gwyr Iud. 4. 21. at 9. 1. Ier. 6. 26. at 25. 34. a gwragedd duwiol eraill, yn arfer sachliain, ac o daflu llwch, a lludw ar eu pennau, pan fyddent yn galaru am eu buchedd bechadurus, hwy a alwent ac a waeddent ar Dduw, am nerth a thrugaredd â'r fath ceremoni o sachliain, llwch, a lludw, fal wrth hynny, y manegent i'r holl fyd, pa dyby­gaeth a bri gostyngedig issel oedd gāthynt am da­nynt eu hunain, a Daied. pha gystadl yr oeddynt yn [Page 14] cofio yr enw a'r titul a ddywedassom ni o'r blaen, eu gwradwyddus, lygredig, egwan anian, llwch, pridd, a lludw. Mae lifr y doethineb gan ewylly­sio tynnu ein calonnau beilchion ni i lawr, yn ein hannog ni i gofio yn ddiwall yn cenhedlaeth farwol briddlyd, yr hon sydd genym ni oddiwrth yr hwn a wnaê thpwyd gyntaf: a bod pawb bren­hinoedd, Doeth. 7. 1. a deiliaid, yn dyfod i'r byd hwn, ac yn myned o hano, yn yr vn modd a sut dull: hyny yw o hanom ein hunain yn flin, ac yn llawn trueni, megis yr ydym yn gweled beunydd. Ac fe orchy­mynnodd y goruwchaf Duw i'r prophwyd Esai waeddi ar y byd i gyd, a phan ofynnodd Esai pa Esai 40. 7. beth a waeddei, fe attebodd yr Arglwydd, mai glaswellt yw pob cnawd, a'i ogoniant megis blo­dau 'r maes: gwywodd y gwelltyn a syrthiodd y blodauyn, pan chwythodd Yspryd yr Argiwydd arno: gwellt yn ddiau yw 'r bobl, yr hwn a gri­na, a'i flodau a wywa. Ac mae 'r prophwyd san­taidd Iob yr hwn abrofasau ynddo ei hun yn ha­laeth flin a phechadurus gyflwr dyn, yn agoryd hyn i'r byd yn y geiriau ymma, dyn (medd ef) a aned o wraig, sydd a byr amser iddo i fyw, ac yn Iob 14, 1. llawn trueni, mae fe 'n cyfodi megis llysewyn, ac yn gwywo, ac yn difannu megis gwyscod, ac nid ydyw yn hir aros yn yr vn dull. Ac a ydwyt ti o Arglwydd, yn tybied fod yn gymhessur agoryd dy lygaid ar y fath vn, a'i ddwyn ef i farn gydâ thi? pwy a ddichon lanhau yr hwn a enillwyd o hâd allan. Mae pawb yn gyffredinol o'u hyblygedd naturiol, mor hollol gwedy ymroi i bechod, hyd (fal y dywaid yr Scrythyr) oni etifarodd Duw iddo wneuthyr dyn er ioed. A thrwy bechod yr enynnodd digofaint Duw yn erbyn yr holl fyd, Gen. 6. 6. at 7. 2. [Page 15] megis y boddodd ef â llif Noah yr holl fyd, ond Noah ei hun a'i ychydig dylwyth. Nid heb acho­sion mawrion y mae Scrythyr Duw yn fynych iawn yn galw dynnion ymma yn y byd hwn, a'r enw daear: oh tydi ddayar, ddayar, ddayar, medd y Prophwyd. Ieremi, gwarando air yr Arglwydd. Ier. 14. Mae ein iawn ditul, enw, a galwedigaeth ni pridd, pridd, pridd, a gyhoeddwyd d [...]wy y pro­phwyd, yn dangos pa beth ydym ni yn wir: pa enw bynnag, pa ditul, pa fraint, new orvwcha­fiaeth bynnag a roddo dynnion ini, fal hyn yr enwodd efe ni, yr hwn a wyddei orau pa beth y­dym ni, a pha fodd y dylyem gael ein galw: fal hyn y gossod ef ni allan, gan ddywe dyd drwy enau ei Apostol S. Paul, fod pawb oll dan bechod, Iddewon, a Groegwyr, ac nad oes vn cyfiawn, Ruf. 3. 12. nag oes vn, nid oes neb yn deall, nac yn ymofyn am dduw, gwyrasant oll hwy aethant oll yn an­fuddiol, nid oes vn yn gwneuthur daioni nac oes vn; Mae eu geneuau hwy megis bedd agored, an tafodau y maent yn arfer twyll, gwenwyn lyn­dys sydd dan eu gwefusau, mae eu geneuau, yn llawn melldith a chwerwedd, buan yw eu traed i ollwng gwaed. Distryw ac aflywdd sydd yn eu ffyrdd: ffordd heddwch nid adnabuont: nid oes ofn Duw oflaen eu llygaid. Ac mewn man arall, yr scrifenna S. Pawl fal hyn, mae Duw gwedy cau pob cenedl mewn angrhedyniaeth, fal y gallau Ruf. 1. 32. Gal. 3. 22. drugarhau with bawb mae 'r Scrythyr yn cau pawb dan bechod, fal y gallid rhoi yr addewidion drwy ffydd Iesu Grist i bawb a gredant. Mae Pawl mewn aml fannau yn ein peintio ni yn ein lliw ein hunain, gan ein galw yn blant digofanit Duw, ie pan y'n ganed: a chan ddywedyd hefyd Ephes. 5. 3. [Page 16] na allwn feddwl vn meddwl da, o hanom ein hu­nain, llai o lawer y gallwn ddywedyd neu wneu­thur yr hyn sydd dda o honom ein hunain. Ac mae 'r gwr doeth yn dywedyd yn llyfr y diarhebion, y cwymp y gwr cyfion saith-waith yn y dydd. Ac Dihar 24. 16. yr ydoedd Iob, yr hwn a brofwyd hyd yr eithaf, yn ofni ei holl weithredoedd. Ac er sancteiddio Ioan fedyddiwr ym-mol ei fam, a'i ganmol cyn ei eni, er ei alw ef yn angel, ac yn fawr ger bron yr Arglwydd, gwedy ei lanw o 'i anedigaeth a 'r Yspryd glân, darparydd Fordd yr Arglwydd ein Iachawdwr Christ. Er i Grist ei ganmol ef gan Luc. 1. 76. ddywedyd, ei fod yn fwy nâ phrophwyd, ac yn fwy­af a aned o wraig, etto mae fe yn caniatau yn eglur, fod yn anghenrhaid iddo gael gan Grist ei olchi, mae fe 'n deilwng yn derchafu ei Ar­glwydd a'i feistir Christ; mae fe 'n ymostwng me­gis annheilwng i ddattod carrei ei escid ef, ac yn Math. 3. 11. rhoddi i Dduw yr holl anrhydedd a'r gogoniant; Felly y mae S. Pawl ei hun yn cyffessu yn fyny­ch am dano ei hun, pa beth oedd o hono ei hun, gan roddi megis ffyddlonaf wâs, yr holl glod a'r mawl i'w feistr a'i Iachawdwr. Felly y mae S. Ioan Efengylwr yn ei enw ei hun, ac yn enw yr holl Dduwiolion (er mor gyfion faent) yn gwneuthur y gyffes gyhoaddus hon: Os dyweddwn ein bod heb bechod, yddŷm yn ein twyllo 'n hunain, Ioan. 1. 9. 10. and 2. 2. ac nid oes gwirionedd ynom: os cydnabyddwn ein pechodau, mae Duw yn gyfion, ac yn ffyddlon 'i faddau ini ein pechodau, ac i' n glanhau ni oddiwrth ein holl anwiredd: os ni a ddywedwn na phechason yr ydym yn ei wneuthur ef yn gel­wyddog, a'i wirionedd nid yw ynom. Am hyn mae 'r gwr doeth yn llyfr y pregethwr yn gwneu­thur [Page 17] y gyffes gywir gyffreadinol hon, nid oes vn dyn cyfion ar yddayar, yn gwneuthur daioni, ac Pregethwr 7. 21. heb bechu. Ac mae Dafydd yn cywilyddio am ei bechod, ac er hyn heb gywilidd gantho gyffessu ei bechod. Mor fynych, mor chwannog, ac mor druan y mae fe 'n deisif mawr drugaredd Duw Psal. 51. 1. am ei feiau mawrion, ac nad elai Dduw i farn ag ef? Ac ailwaith, mor gymmwys y mae 'r gwr duwiol ymma yn pwyso ei bechodau, pan ydyw ef yn cyffessu eu bod hwy cy amled mewn rhifedi, ac mor guddiedig, ac mor anodd eu deall, megis y mae 'n ammhossibl eu hadnabod, eu cyhoeddi neu eu rhifo hwy? Am hynny a chantho ddifri a gwir a dyfn ystyried a myfyrdod am ei bechodau, ac etto heb allel dyfod hyd y gwaelod, mae fe 'n gw­neuthur ei weddi 'ar Dduw am faddau iddo ei bechodau cuddiedig dirgel, i wybodaeth y rhai ni Psal. 19. 12. ddichon ef ei hunan ddyfod. Mae fe 'n iawn y­styried ei bechodau o'r gwraidd dechreuol a llygad y ffynnon, gan ddeall fod eu gogwddiadau, eu cymmelliadeu, eu cynnyrfiadau, eu brathau, eu cyntefin, eu blodau, eu caingciau eu sothach, eu lly­gredigaetheu blaendardd eu blas, eu chwaith eu naws, a'u ha­roglau hwy yn aros ac yn para yn wastad ynddo. Ac am hynny y dywaid, wele mewn anwiredd y'm lluniwyd, nid ydyw yn dywedyd mewn pe­chodau Psal. 51. 5. megis am lawer, ond mewn pechod me­gis am vn, o herwydd mai o vn ffynnon y mae y lleill oll yn tarddu ac yn ffrydio. Mae 'n Iachaw­dwr Chryst yn dywedyd nad oes vn da onid Duw, Mark. 10▪ 18. Math. 10. 18. Luc. 18. 19. Ioan. 15. ac hebddo ef na allwn wneuthur daioni, ac na­ddichon neb ddyfod at y Tâd ond trwyddo ef. Ac mae fe yn gorchymmyn gwedy darfod ini wneu­thur y cwbl oll ini addef nad ydym ni onid gweisiō Luc. 17. 10. [Page 18] anfuddiol. Mai fe 'n gosod y Publican etifarus ymmlaen y Pharisai sanctaidd balch clodforus. Luc. 18. 14. Mae fe yn ei alw ei hun yn feddyg nid i'r iach, ond i'r cleifion a fyddont ac eisiau ei eli ef arnynt. Math. 9. Mae efe yn ein dyscu ni yn ein gweddiau in cyd­nabod ein hunain yn bechaduriaid ac i ofyn cy­fiawnder a rhyddhâd oddiarlaw ein tâd nefol. Mae fe'n dangos mae pechodau eyn colonnau ni ein hunain sydd yn ein halogi ni. Mae fe 'n dan­gos fod gair neu feddwl drwg yn haeddu damne­digaeth: Matth. 11. 36. gan siccrhau y gorfydd arnom roi cyfrif am bob gair ofer. Mae fe yn dywedyd na ddaeth ef i gadw ond y defaid oedd gwedy eu colli, a'u taflu Math. 18. 11. ymmaith. Herwydd pa ham ni chadwodd ef ond ambell vn o'r Pheriseaid beilchion, cyfiawnion, dyscedig, call synhwyrol, sanctaidd, am eu bod hwy yn eu cyfiawnhau eu hunain ger bron dyni­on â'u ffugsanct eidrwydd yn vnig. Am hynny, fyngharedigion bobl, gochelwn y fath ragrith, gwâg-ogoniant a chyfiawnhâd ein hunain.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am wael­der, a thrueni dyn.

YN gymmaint a bod yn anghen­rhaid ini ein gwir adnabod ein hun, i'n dwyn i iawn wybodaeth am Dduw: chwi a glywsoch yn yr hyn a ddarllenwyd ddiwethaf, mor ostyngedig yr oedd pawb o 'r duwiolion, yn meddwl amd a­nynt eu hunain, a'u bod hwy gwedy dyscu me­ddwl felly gan Dduw eu creawdwr yn ei sanc­taidd air. O herwydd o hanom ni ein hunain nid [Page 19] ydym ond afaill surion; ac ni allwn ddwyn dim a­falau. Nid ydym ni o hanom ein hunain onid tir drwg, yr hwn ni ddichon ddwyn dim onid chwyn danadl, mieri gwŷg, a Llær. graban. Yr ydys yn amlygu ein ffrwythau ni yn y bummed bennod at y Galathiaid. Nid oes gennym na ffydd, na cha­riad, na gobaith, na goddefgarwch, na diweir­deb, na dim arall ac y sydd ddaionus, onid o Dduw: ac am hyn y gelwir y rhinweddau hynny yno, yn ffrwythau yr Yspryd glan, ac nid ffrwy­thau dŷn. Cydnabyddwn am hynny ein bod ni ein hunain, fal yr ydym yn siccr, yn bechaduriaid truain, gwaelion: etifarhawn yn ddifrif ac ymo­styngwn yn ein calonnau, a gweddiwn ar Dduw am drugaredd: cyffeswn oll a'n calonnau a'n ge­neuau ein bod ni yn llawn ammherffeiddrwydd. Cydnabyddwn ein gorchwylion, mor ammher­ffaith ydynt: ac yno 'ni safwn ni yn ynfyd ac yn rhyfygus yn ein meddyliau ein hunain, ac nid ymhonnwn ni o vn rhan o'n cyfiawnhâd trwy'n haeddedigaeth, a'n gweithredoedd ein hunain. O herwydd yn wir mae ammherffeiddrwydd yn ein gweithredoedd gorau ni: nid ydym ni yn caru Duw yn gymmaint ac y dylyem, â'n holl galon, â'n holl feddwl, ac â'n holl allu. Nid ydym ni yn ofni Duw megis y dylyem, nid ydym yn gweddio a'r Dduw ond mewn diffyg, ac anghyflawnder mawr. Yr ydym yn rhoddi, yn maddau, yn credu, yn byw, ac yn gobeithio yn anghyflawn: yr ydym yn dywedyd, yn meddwl ac yn gwneuthur yn am­mherffaith: yr ydym yn ymladd yn erbyn diafol, y byd, a'r cnawd, yn am-mherffaith. Am hynny na fydded arnom gywilydd gydnabod ein am­mherffeithrwydd yn ein gweithredoedd gorau. [Page 20] Na fyddedd arnom gywilydd ddywedyd fal y dy­wedai Petr sanct, dŷn pechadurus ydwyf. Dy­wedwn Luc. 5. 8. oll gydâ'r prophwyd sanctaid Dafydd, ni a bechasom ni a'n tadau, ni a wnaê thon yn feius, Psal. 106. 16. ni a weithiassom yn a'nnuwiol: Gwnawn oll ein cyhoeddus gyffes gydâ'r mab afradlon wrth ein tâd, gan ddywedyd, ni a bechasom yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di, o dad nid ydym deilwng Luc. 15. 18. i'n galw yn blant iti. Dywedwn oll gydâ Baruc sanctaidd, oh Arglwydd ein Duw ni, yn iniawn y rhoddir cywilydd a gwrad wydd ini, a chyfiawn­der ac iniondeb i tithau: ni a bechasom, ni a wna­ethon Barnc. 2. 6. yn ddrygionus, ni a ymddygasom yn an­nuwiol, yn dy holl gyfiawnderau di. Dywedwn gydâ'r prophwyd sanctaidd Daniel, o Arglwydd Daniel 9. 7. i ti y perthyn cyfiawnder, ac i ninnau wradwydd. Nyni a bechasom, ni a wnaethon yn ddrwg, ni a'th ddigiasom di, ni a giliasom oddiwrthy ti, ni a aethom yn ein hol oddiwrth dy holl orchymmy­nion a'th farnedigaethau, llymma fal yr ydym ni yn dyscu ymostwng gan bob rhai o'r duwiolion yn yr scrythyr lân: a derchafu, gogoneddu, canmol, clodfori, mawr hau ac anrhydeddu Duw: fal hyn y clywsoch mor ddrwg ydym ni o hanom ein hu­nain, ac megis ynom ein hunain, neu o hanom ein hunain, nad oes na daioni, na nerth, na Ia­chawdwriaeth: ond o'r gwrthwyneb, pechod, damnedigaeth, ac angau tragwyddol. Yr hwn beth os ni a'i dwfn bwyswn, ac a'i hystyriwn yn inion, fe fydd haws ini ddeall, mawr drugaredd Duw, a pha fodd y mae 'n Iechydwriaeth ni yn dyfod oddiwrth Grist yn vnic. O herwydd ynom ein hunain, megis o hanom ein hunain, nid ydym ni yn caffel dim drwy 'r hyn y gallwn gael ymwa­red [Page 21] o'r blin gaethiwed i'r hwn y'n taflwyd trwy genfigen diafol wrth dorri gorchymmyn Duw yn ein tâd cyntaf Addaf: yr ydym ni oll gwedy myned yn aflan, ond nid ydym ni oll yn abl' in glanhau ein hunain, nac vn o hanom a all lanhau vn arall. Yr ydym i gyd oll wrth anian, a naturiaeth yn blant digofaint Duw, ac nid oes neb o hanom a all ein gwneuthur ein hunain yn blant, ac yn eti­feddion gogoniant Duw. Yr ydym yn ddefaid gwedy mynd ar ddidro, ac o'n nerth ein hunain, ni allwn ni ddyfod i'r gorlan ailwaith, gan faint yw ein am-mherffeithrwydd ni a'n gwendid. Gan hynny ynom ein hunain, ni allwn ni orfoleddu, y rhai ynom ein hunain nid ydym ddim onid pe­chadurus, ac ni allwn lawenhau mewn dim gweithredoedd ac a wneuthon, y rhai ydynt oll mor ammherffaith ac mor amhur, fel na allant sefyll ger bron cyfiawn orseddfanigc Duw, fal y dywaid y prophwyd Dafydd, Na ddos i'r farn â'th Psal. 143. 2. wâs o Arglwyd, can nad byw neb cyfion yn dy olwg di. At Dduw am hynny y dylyem gilio, ac onid ê, byth ni chawn ni na heddwch na gor­phwsfa, na llonyddwch i'n cydwybod yn ein ca­lonnau. O herwydd efe yw Tâd y trugareddau a Duw 'r holl ddidanwch. Efe yw yr Arglwydd, 2. Cor. 1. 3. Psal. 130. 7. gydâ'r hwn y mae aml ymwared: Efe yw y Duw yr hwn o'i drugaredd ei hun sydd yn ein cadw ni, ac yn gosod allan ei garedigrwydd ai odidawg ga­riad tuag attom ni, am iddo o'i ewyllys da ei hun ein cadw ni pan oeddym golledig, a darparu bren­hiniaeth dragwyddol ini. A'r holl drysor nefol ymma yr ydys yn eu rhoddi ini, nid am ein hae­ddiant a'n dylyed a'n gweithredoedd da ein hu­nain (y rhai o hanom ein hunain nid oes gen­nym) [Page 22] onid yn vnic o'i drugaredd râd ei hun. Ac er inwyn pwy? yn wir er mwyn Christ Iesu, pur a difrychaulyd oen Duw. Ef yw 'r an wyl garedig fab, er mwyn yr hwn y mae Duw gwedy ei ddi­ddigio, Ioan. 1. 29. ei foddloni, a'i wneuthur yn vn a dŷn. Efe Pet. 2. 22. Ioan. 1. 47. yw oen Dnw, sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r bŷd, am yr hwn yn vnic y gellir mewn gwirio­nedd ddywedyd iddo wneuthur pob peth yndda, ac na chafad twyll yn eu enau, nid oes neb onid efe a ddichon dywedyd, daeth tywysog y hŷd hwn, ac yno fi ni chafas ddim. Ac ef yn vnic a ddichon dy­wedyd, pa vn o hanoch am argyoedda fi o bechod? Efe yw yr Archoffeiriad tragwyddol, yr hwn a'i Ioan. 8. 46. offrymmodd ei hun vnwaith drossom oll ar allor y groes, ac â'r vn offrwm hwnnw a berffeithiodd Haeb. 81. ar 10. 13. dros fyth y rhai a sancteiddiwyd. Efe yn vnic sydd gyfryngwr rhwng Duw a dyn, yr hwn a dalodd Gysryngwr 1. Ioan. 2. 1. 2. ein dylyed ni i Dduw, âi waed eihun: â'r hwn y glanhaodd ef ni oll oddiwrth ein pechodau. Efe yw 'r meddyg sydd yn iachau ein holl glefydau ni. Math. 1. 21. Efe yw 'r gwaredydd sydd yn gwared ei bobl oddi­wrth ei holl bechodau. Ac ar ychydig eiriau, efe yw 'r ffynnon fawr-ffrŵd gyflawn, o gyflawnder yr hon y dderbyniasom ni oll. O herwydd ynddo ef yn vnic y cuddiwyd holl drysor doethineb a gwybodaeth Duw. Ac ynddo ef, a thrwyddo efe yr ydym ni yn cael oddiwrth Duw dâd, bob peth da ac a berthyn i'r corph, a'r enaid. Oh morrh wy­medig ydym ni i'r Tâd nefol hwnnw, am ei fawr drugaredd, yr hon a amlygodd ef mor aml ini ynghrist Iesu ein harglwydd ni a'n Ceidwad? Pa ddiolch sydd wiw a digonol ddigon ini ei rhoddi iddo ef? Torrwn allan yn gyttun ag vn meddwl a llaferydd llawen, gan foliannu, a mawrhau yr [Page 23] Arglwydd hwn o drugaredd am ei dirion fwyn­der a ddangosodd ef ini, yn ei anwyl garedig fab Christ Iesu ein harglwydd.

Hyd hyn y clywsoch pa beth ydym ni o hanom ein hunain, gwaelion, pechadurus, damnedig. Hefyd ni a glywsom nad ydym ni o hanom ein hu­nain yn abl i wneuthur vn weithred dda, nac i feddyliaid vn meddwl da: fal na allwn gael ynom ein hunain ddim gobaith Iechydwriaeth, ond yn hytrach y pethau ydynt yn dwyn distryw arnom. Ni a glywsom dirion fwynder, a mawr druga­redd Duw Dâd tuag attom, ac mor ddaionus yw efe tuag attom er mwyn Christ, heb yn rhygly­ddau na 'n haeddedigaetheu ni, ond o'i vnig dru­garedd a'i dirion ddaioni ef. O herwydd paham bellach y manegir ichwi drwy nerth Duw, yn halaethach yn y bregeth nessaf pa fodd y gellir mwynhau y godidog drugareddau mawrion ym­ma a hysyyswyd ini ynghrist Iesu, a pha fodd y'n gwaredir ni oddiwrth gaethiwed pechod, angau, ac yffern.

O hyn hyd hynny, a phob amser, dyscwn ein ad­nabod ein hunain, ein eiddilwch, gwaeledd a gwendid, heb fostio na ffrostio am ein gweithre­doedd da, a'n haeddiant ein hunain. Cydnaby­ddwn odidawg drugaredd Duw tuag attom, a chyffeswn mai o hanom ein hunain, y mae 'n dy­fod bob drygioni, a damnedigaeth, ac felly o ha­naw fe y daw pob daioni ac Iechydwriaeth, me­gis y dywaid Duw ei hun drwy enau y prophwyd Osee. O Israel, o honot i dy hun y mae dy ddi­stryw, Ose. 13. 9. ond yno fi y mae dy nerth di, a'th ddidda­nwch. Os ni fal hyn yn ostyngedig a ymmostyn­gwn yngolwg Duw, yn ddiammau yn amser ei [Page 24] ymweliad, fe a'n derchafa ni i dernas ei anwyl fâb Iesu Grist, ein harglwydd, i'r hwn gydâ'r Tâd, a'r Yspryd glân, y byddo anrhydedd a goni­ant yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am gadwedigaeth dy­nawl ryw, yn vnic drwy Grist ein Cei­dwad, oddiwrth bechod ac an­gau tragwyddol.

OHerwydd bod pawb yn becha­duriaid gwedy digio Duw a thorri ei gyfraithiau a'i orchymy­nion, am hynny ni ellir cyfiawn­hau vn dyn ger bron Duw drwy ei weithredoedd neu ei or­chwilion ei hun er cystadl a fy­tho 'r olwg arnynt: ond mae yn anghenraid i bob dyn geifio cyfiawnder neu gyfiawnhâd arall, yr hwn a dderbynnir oddi ar law Dduw, hynny yw maddauant o'i bechodau a'i droseddau, yn y rhai y pechodd, ac y trosoddodd efe. A'r cyfiawn­hâd a'r cyfiawnder ymma yr hwn ydym yn ei gael drwy drugaredd Duw a haeddiant Christ, ac yn ei dderbyn drwy ffŷdd, y mae Duw yn ei gymme­ryd ac yn ei dderbin yn lle perffaith a chyflawn gyfiawnhâd ini.

Er cyfiawn ddeall yr hyn beth, ein rhan an dy­lyed ni yw cofio mawr drugaredd Duw yn wasta­dol, pa fodd pan oedd yr holl fyd gwedy eu rhwy­mo oll mewn pechod, o waith torri y gorchym­myn, y danfonodd Duw ei vnig anedig fab, ein Ceidwad Christ, i'r byd hwn i gyflawni 'r gy­fraith drosom; ac wrth dywallt ei werthfawr [Page 25] waed i wneuthur offrwm a thal a iawn i Dduw dâd am ein pechodau ni, i esmwytho ei lid ef a'r di­gofaint a gymmerth ef yn ein herbyn. Yn gym­maint a thrwy yr offrwm ymma, y golchwyd o'i pechodau, y dygpwyd i ffafor Duw, y gwneuth­pwyd yn blant iddo ef, ac yn etifeddion o deyrnas nef, y plant bychain a fedyddiwyd, er iddynt feirw yn fychain, ac ynddiweithredoedd: A thrwy yr vn offrymmiad y golchir hefyd y rhai mewn gwei­thred a bechant yn ol bedydd, os hwy a droant at Dduw ailwaith yn ddiragrith oddiwrth eu holl bechodau, yn y fath ddull, nad oes dim o frychi pechod yn aros nac yn parhau, yr hwn a gyfrif Duw i'w damnedigaeth hwy. Llymma 'r cyfi­awnder y mae Pawl yn son am dano, pan yw yn dywedyd na chyfiawnhair neb drwy weithre­doedd Gal. 1. 15, 16. y ddeddyf, onid yn rhâd drwy ffŷdd yn Iesu Grist. Ac ailwaith y dywaid, Yr ydym ni yn cre­du yn Iesu Grist, y cyfiawnhair ni yn rhâd, trwy ffydd Grist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf. O herwydd na chyfiawnheir neb trwy weithre­doedd y gyfraith.

Ac er bod y cyfiawnhâd hyn yn rhâd ini, etto nid ydyw yn dyfod mor rhâd, megis pe byddid heb dalu vn rhyw daledigaeth drosto. Ond ym­ma y diharffa ac y synna rheswn dŷn, gan ymre­symmu fal hyn. Os ydys yn rhoddi iawn am ein prynedigaeth ni, nid ydys yn ei rhoddi i ni yn rhâd. O herwydd os carcharwr a dâl iawn, nyd ydyw ef yn myned yn rhâd: oblegid os ydyw efe yn myned yn rhâd, nid ydyw yn talu vn iawn. O achos beth yw▪mynd yn rhâd, onid cael rhy­ddhâd heb dalu iawn?

Fe attebodd mawr ddoethineb Duw i'r ddadl [Page 26] hon ynnirgelwch ein prynidigaeth ni, yr hwn a dymmherodd ei gyfiawnder, a'i drugaredd felly ynghŷd, fal na wnai fe na 'n barnu ni yn ei gyfion farn i dragwyddol gaethiwed diafol a'i ddiym­wared garchar vffern yn dragywydd yn ddidru­garedd, na 'n rhydhau ni yn rhyddion heb gyfi­awnder, ac heb dalu cyflawn ac inion iawn a tha­ledigaeth: Ond ynghŷd â'u drugaredd ddiderfy­nol, fe a gydiodd ac a gyffylltodd ei gymmwys; a'i iniawn gyfiawnder. Fe ddangossodd ini ei fawr drugaredd wrth ein rhyddhau ni o'n caethi­wed, heb geifio o'n rhan ni gennem dalu, na thâl, Nac iawn, yr hyn beth a fuasai ammhossibl ini ei wneuthur: Ac o herwydd nad eodd yn ein gallu ni wneutbur iawn ein hunain, efe a ddarparodd iawn drosom ni, yr hwn oedd gorph a gwaed ei anwylaf garedig fab Iesu Grist, yr hwn (heb law yr iawn a'r taledigaeth ymma) a gyflaw­nodd y ddeddyf drosom ni yn gwbl: Ac felly y bracheidiodd cyfiawnder a thrugaredd Duw bob vn ei gilydd, ac a gyflawnasant ddirgelwch ein prynedigaeth ni▪ Am yr hwn gyfiawnder a thru­garedd Duw, gwedy eu clymmu fal y clywchwi ynghŷd, y mae Pawl yn sôn yn ydrydedd bennod at y Rufeimaid, Pawb a bechasont, ac ydynt yn Ruf. 3. 23, 24. ol am ogoniant Duw, ond hwy a gyfiawnhair yn rhâd drwy ei râs ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Iesu Grist, yr hwn a osododd Duw yn iawn drwy ffŷdd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawn­der. Ac yn y ddegfed, Christ yw diwedd y gy­fraith, Ruf. 10. 4. er cyfiawnder i bob dyn a gretto. Ac yn yr wythfed Bennod, Yr hyn oedd yn am-mhossibl i'r Ruf. 8. 3. gyfraith, yn gymmaint a'i bod yn egwan oblegid y cnawd, Duw gan ddanfon ei fab ei hun yn­ghyffelybiaeth [Page 27] cnawd pechadurus, a hynny am bechod a gondemnodd bechod yn y cnawd, fal y cy­flawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai y­dym yn rhodio, nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd.

Yn yr hyn leoedd y mae 'r Apostol yn dangos tri pheth enwedigol, y rhai sydd rhaid iddynt gyd­gerdded yn ein cyfiawnhâd ni; o ran Duw, grâs a mawr drugaredd; o ran Christ cyfiawnder, hynny yw taledigaeth i gyfiawnder Duw, neu bridwerth eîn prynedigaeth ni, trwy offrymmiad ei gorph, a thywalltiad ei waed ef, gan gyflawni 'r gyfraith yn gwbl, ac yn gyflawn: ac o'n rhan ninnau, ffydd wir fywiol yn haeddiant Iesu Grist: yr hon ffydd er hynny nid ydyw eiddom ni, onid drwy weithrediad Duw ynom. Megis nad ydyw trugaredd a gras Duw, yn vnic, onid hefyd ei gyfiawnder ef yn ein cyfiawnhâd ni: yr hyn y mae 'r Apostol yn ei alw yn gyfiawnder Duw: yr hwn sydd yn sefyll mewn taledigaeth iawn drosom ni, a chyflawnad y gyfraith. Megis nad ydyw grâs neu râd Duw, yn cau allan gyfiawnder Duw, yn ein cyfiawnhâd ni ond yn vnic yn cau allan ein cyfiawnder ni'hynny yw cyfiawnder ein gwei­thredoedd ni, fal na byddont yn haeddu ein cyfi­awnhad: Ac am hyn ni son Pawl ymma, am ddim o ran dyn, tuac at gyfiawnhâd, onid gwir a bywiol ffydd yn vnig, yr hon er hynny yw rho­ddsad Duw, ac nid gweithred dŷn ei hun heb Dduw.

Ac etto nid ydyw y ffŷdd hon yn cau allan eti­feirwch, gobaith, cariad, echryd, ac ofn Duw, fal na chydsyllter hwy â ffydd ymhob dyn a gyfiawn­hair: ond mae hi yn eu cau allan oddiwrth swydd [Page 28] cyfiawnhâd: megis er eu bod hwy oll yn bre­sennol yn yr hwn a gyfiawnhair, etto nid ydynt yn cyfiawnhau ynghŷo; Ac nid ydyw ffydd yn cau allan gyfiawnder ein gweithredoedd da ni, y rhai sydd raid eu gwneuthur ar ol hynny, megis ein dylyed ni at Dduw (o herwydd yr ydym yn rhwy­medig i wasanauthu Duw mewn gweithredo­edd da a orchymmynnodd ef yn ei sanctaidd scry­thyr holl ddyddiau ein heinioes:) ond yr ydys yn eu cau hwy allan, fal nas gwnelom ni hwy o fw­riad cael ein gwneuthur trwyddynt yn ddaionus. O herwydd mae 'r holl weithredoedd da a allom ni eu gwneuthur, yn anghwbl ac yn anghyflawn: ac am hynny ni allant haeddu ein cyfiawnhâd ni: ond mae 'n cyfiawnhâd ni yn dyfod drwy vnic dru­garedd Duw yn rhâd: a thrwy gymmaint druga­redd, ac mor rhâd megis pan nad oedd yr holl fŷd yn abl i dalu vn rhan tuag at yr iawn a'r taledi­gaeth ymma, fe fu fodlon gan ein tâd nefol o'i anei­rif drugaredd, heb ein haeddiant ni, ddarparu gwerthfawroccaf dlws, corph a gwaed ein Ia­chawdwr Christ, trwy'r hwn y cwbldelid yr iawn, y cyflawnid y gyfraith, ac y bodlonid cyfiawnder Duw; fal yn awr y mae Christ yn gyfiawnder i'r cwbl oll ac a wir gredant ynddo. Fe a dalodd dro­stynt iawn trwy ei angan ei hun. Fe a gyflaw­nodd drostynt hwy y gyfraith yn y bywyd hwn: megis bellach ynddo fe, a thrwyddo fe, y gellir ga­lw pob Christion yn gyflawnwr y ddeddyf: yn gymmaint a darfod i gyfiawnder Christ gyflaw­ni, yr hyn oedd ddyffygiol yn eu gwendid hwy.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gadwedigaeth dyn.

CHwi a glywsoch oddiwrth bwy y dlye bawb geisio cyfiawnder a chyfiawnhâd, a pha food y mae 'r cyfiawnder hwn yn dyfod i ddyni­on drwy angau a haeddiāt Christ: Chwi a glywsoch fod yn rhaid wrth dri pheth i fwynhau y cyfiawnder hwn: hynny yw, trugaredd Duw, cyfiawnder Christ a gwir a bywiol ffydd, o'r hon ffydd y tardda, y ffry­dia, neu y tŷf gweithrewdoedd da. Fe fanegwyd o'r blaen yn halaeth na chyfiawnhair neb drwy ei weithredoedd da ei hun, na chyflawna vn dyn y gyfraith mor gyflawn ag y mae hi yn gofyn ei chyflawni. A hyn y mae S. Pawl yn ei bru­fo yn ei epistol at y Galathiaid gan ddywedyd, Pe rhoesyd cyfraith a allasai roddi bywyd yn wir fe fuassai gyfiawnder o'r gyfraith. Ac fe ddywaid Gal 3. 21. ailwaith, Os bydd cyfiawnder trwy 'r gyfraith, fe fu farw Christ yn ofer. A thrachefn, Chwi y rhai a gyfiawnhair drwy 'r gyfraith, a gwympa­soch oddiwrth râd; Ac hefyd fe scrifenna at yr Ephesiaid yn y modd ymma, O râs yr ydych yn gadwedig twy ffydd, a hynny nid o hanoch chwi, rhodd Duw ydyw, nid o weithredoedd, rhag i neb orfoleddu; Ac ar ychydig eiriau, y cwbl o Ephes. 2. 8. 9. ddadlewad Pawl yw hyn, Os yw cyfiawnder yn dyfod yn rhad, nid yw yn dyfod o weithredoedd: os o weithredoedd, nid yw yn dyfod yn rhad.

At hyn y cyrchai yr holl prophwydi, fal y dywed Petr yn y ddegfed o'r Ac tau, Am Grist medd S. Petr y mae 'r holl prophwydi yn testiolaethu, Act. 10. 433. [Page 30] mai drwy ei enw ef, y caiff pawb a gredo ynddo faddauant o'u pechodau.

Ac yn y modd ymma am gyfiawnhâd yn vnic drwy wir a bywiol ffydd ynghrist, y sonnia yr holl hen awdyron, Groegwyr a lladingwyr, ymmysc y rhai yr enwaf yn enwendig dri, Hilari Basil, ac Ambros. S. Hilari sydd yn dywedyd fal hyn yn eglur yn y nawfed canon ar Mathew, ffydd yn v­nic a gyfiawnhà; Ac S. Basil Awdur Groeg a scrifenna fal hyn, llymma lawenychu perffaith cyfan yn nuw, pan fytho vn nid yn ei fawrygu ei hun am ei gyfiawnder: ond yn cydnabod fod ei hun a diffyg cyfiawnder a chyfiawnhâd arno, a­bod yn ei gyfiawnhau ef drwy ffydd ynghrist yn v­nic. Ac mae Pawl (medd ef) yn gorfoleddu mewn bychander a di-ystyrwch ei gyfiawnder ei hun, ac yn edrych am gyfiawnder Duw trwy ffydd. Lly­na Phil. 3. 9. airiau Basil: A S. Ambros awdur lladin a ddy­waid y geiriau hyn, Llymma ordeiniaeth Duw, ar ini y sawl y sydd yn credu ynghrist, gael bod yn gadwedig heb weithredoedd drwy ffydd yn vnic, gan dderbyn yn rhâd faddeuant o'n pechodau.

Ystyriwch yn ddiescaelus y geiriau hyn, Heb weithredoedd, Trwy ffydd yn vnig, Yn rhâd y der­byniwn faddeuant o'n pechodau. Pa beth a ellir ei ddywedyd yn oleuach na dywedyd yn rhâd, heb weithredoedd, trwy ffydd yn vnic yr ydym yn cael maddauant o'n pechodau? Yr ymmaddroddion ymma ac eraill o'r fath ymma, fod yn ein cyfia wn­hau ni drwy ffydd yn vnic, yn rhad, heb weithre­doedd, yr ydym ni yn eu darllen yn fynych yn scri­fennadau y rhan fwyaf o'r hên scrifenyddion go­rau. Megis heblaw Hilari, Basil, ac Ambros, y rhai a gyfrifasom ni o'r blaen, yr ydym yn darllen [Page 31] yr vn peth yn Origen, S. Chrysostom, S. Cypri­an, S. Augustin, Prosper, Oecumenius, Proco­pius, Bernardus, Anselmus, a llawer eraill o awduron groeg a lladin. Etto nid felly y maent yn deall yr ymadrodd hwn, Trwy ffydd y vnic, fal pe byddai y ffydd honno sydo yn cyfia wnhau, yn vnic mewn dyn, heb wir etifeirwch, gobaith, cariad, echryd, ac ofn Duw, dros vn amser nac ennyd. A phan ydynt yn dywedyd, fod yn ein cyfiawnhau ni yn rhad, nid ydynt yn meddwl y dlyem, nac y gallwn fod ar ol hynny yn segur, megis pe byddid o hynny allan heb edrych yn ol dim o'n rhan ni. Ac nid ydynt hwy yn meddwl y cyfiawnhair ni fe­lly hcb weithredoedd da, fal y gallom fod yn holiol heb wneuthur vn weithred dda, fal y manegwn yn halaethach ar ol hyn. Ond yr ydys yn dywe­dyd hyn, fod yn ein cyfiawnhau ni drwy ffydd yn vnig, yn rhâd, heb weithredoedd y ddeddyf, i gwbl dynnu ymmaith haeddiant ein gweithre­doedd ni, megis pethau analluog i haeddu ein cyfiawnhâd ar ddwylaw Duw, ac felly i gyhoeddi yn eglur wendid dyn, a daioni Duw, ein mawr wendid ni ein hunain, a mawr nerth a gallu Duw, am-mherpheiddrwydd ein gwethredoedd ni ein hunain, ac aml rhad ein Iachawdwr Christ. Ac am hynny yn hollawl i ganniatau haeddiant ein cyfiawnhâd ni i Grist yn vnic a'i werthfawroccaf waed-dywalltiad ef. Dymma 'r ffŷdd y mae 'r Scrythur lân yn ei dangos, dym­ma 'r graig gadarn, a sylfaen athrawaeth Chri­stionogawl. Mae holl dadau eglwys Grist yn cyd­nabod yr athrawaeth hon: dymma 'r athrawaeth fydd yn mawrygu, ac yn gosod allan wir ogoni­ant Christ, ac yn ffusto i lawr wagogoniant dyn: [Page 32] Pwy bynnag a amheuo hyn, niddlyid ei gyfrif ef yn Gristion, nac yn osodydd allan o ogoniant Christ, ond yn wrthwynebwr i Grist, a'i efengyl, ac yn osodydd allan o wagogoniant dyn.

Ac er gwired ydyw yr athrawaeth hon (megis yn siccr y mae hi yn wiraf ag a ddichon bod) fod yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb haeddiant ein gweithredoedd da ein hunain, megis y manega S. Pawl, neu yn rhâd trwy 'r fywiol a'r berffaith ffydd hon ynghrist yn vnig, megis yr arfer yr hên dadau o ddywedyd: etto fe ddyleid gwir ddeall y wir athrawaeth hon, a'i hamlygu hi yn eglur iawn, rhag i ddynion cnawdol o'i phlegid hi gymmeryd achos i fyw yn gnawdol, yn ôl chwant ac ewyllis, y byd, y cnawd, a'r cythrel. Ac er mwyn na chaffo neb gamsynaid trwy gamgymeryd yr athrawaeth hon, mi amlygaf yn eglur, ac yn fyrr ei huniawn ystyr hi, fal na allo neb feddwl y dichon ef wrth hyn gymmeryd achos o rydd-did cnawdol, i ddilyn chwantau y cnawd, neu trwy hyn y gellur gwneuthur vn rhyw o bechod, neu arfer o fyw yn anuwiol.

Yn gyntaf deallwch, yn ein cyfiawnhâd ni drwy Grist, nad yr vn peth yw swydd Duw tuag at ddŷn, a swydd dŷn tuag at Dduw. Nid gorch­wyl dyn ond gorchwyl Duw yw cyfiawnhâd, o herwydd ni ddichon vn dŷn ei wneuthur ei hu­nan yn gyfiawn nac yn gwbl, nag mewn rhan, drwy ei weithredoedd da ei hun: o herwydd mw­yafrhyfyg a allai Antichrist i osod yn erbyn Duw oedd ddywedyd ŷ gallai ddŷn trwy ei weithred ei hun dynnu ymmaith ac arllwys ei bechodau, a'i gyfiawnhau ei hunan. Ond gorchwyl Duw yn vnic yw cyfiawnhau, ac nid peth yr ydym ni yn ei [Page 33] roi iddo ef, onid peth yr ydym ni yn ei dderbyn oddiwrtho ef: nid peth yr ydym ni yn ei offrwn iddo ef, ond peth yr ydym ni yn ei gaffael gantho ef, trwy ei drugaredd râd ef, a thrwy vnic haeddi­ant ei anwyl garedig fab ef, ein vnic brynwr a'n ceidwad, a chysiawnydd, Iesu Grist.

Megis nad hyn yw gwir ystyr yr athrawaeth ymma: yr ydys yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb weithredoedd, neu fe'n cyfiawnhau'r ni trwy ffydd ynghrist yn vnic: nid yw yr ystyr, meddaf, mai 'n gorchwyl ni yn credu ynghrist, neu ffydd Grist yr hon sydd ynom ni, sydd yn ein cyfiawnhau ni, ac yn haeddu ini gyfiawnhâd (o herwydd ni byddai hynny onid ein cyfrif ein hunain yn gyfiawn drwy ryw weithred neu rinwedd ynom ni ein hunain. Ond gwir ystyr a meddwl yr athrawaeth hon, yw, er ein bod ni'n gwrando gwir air Duw, ac yn ei gredu, er bod ynom ffydd, gobaith, cariad, eti­feirwch, ac ofn Duw ac er ein bod ni yn gweuthyr llawer o weithredoedd da, etto rhaid ini ym wr­thod a holl haeddiant y rhinweddau ymma, ffydd, gobaith, a chariad, a phob rhinweddau a daionus weithredoedd eraill ar a wnauthom, a wnawm, neu a allon eu gwneuthur, megis pethau o lawer yn rhy weinion, yn rhy analluog, ac yn rhy anghyflawn i haeddu ini ollyngdod o'n pech­odau, a chyfiawnhâd, ac am hynny rhaid ini ymddiried, yn vnic ynnhrugaredd Duw, a'r ab­erth a wnaeth ein Archoffeiriad, a'n ceidwad Christ Iesu mâb Duw a offrymmodd ef vnwaith drosom ni ar y groes, i hebrwng ini trwy hynny râd Duw a gollyngdod, cystadl o'n dechreuol be­chodau, cyn bedydd, ac o'n pechodau gweithredol, y rhai a wnaethom ar ol bedydd, os ni a wir eti­farhawn, [Page 34] ac a drown yn ddiragrith atto fe. Fal er rhinweddoled, ac er duwioled oedd Ioan fedy­ddiwr, etto yn hyn o beth, am faddeuant pecho­dau, fe ddanfonodd y bobl oddiwrtho ei hun, ac âu danfonodd hwy at Grist, gan ddywedyd, wele oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymmaith becho­dau 'r Ioan. 1. 29. byd: felly er maint ac er duwioled rhin­wedd yw bywiol ffŷdd, etto mae hi yn ein danfon oddiwrthem ein hunain, ac yn ein gollwng, ac yn ein gyrru ni at Grist, i gael yn vnic gantho fe o­llyngdod o'n pechodau neu gyfiawnhâd: fal y mae ein ffydd ni ynghrist, megis yn dywedyd wrthym ni fal hyn, Nid myfi sydd yn tynnu eich pechodau chwi ymmaith, onid Christ yn vnic ac atto ef yn vnic y danfonaf chwi er mwyn hynny, gan ym­wrthod mewn hyn o beth â'ch holl rhinweddau da, gairiau, meddyliau, a gweithredoedd, a chan osod a dodi eich ymddiried ynghrist yn vnic.

¶ Y trydydd ran o'r bregeth am Gadwedigaeth.

FE a ddangoswyd i chwi yn amlwg na all neb gyflawni cyfraith Dduw, ac am hynny fod pawb oll trwy 'r gy­fraith yn golledig. O'r hyn beth y mae 'n rhaid canlyn fod yn gofyn rhyw beth heb law 'y gyfraith i'n Iechydwriaeth ni, hynny yw gwir a bywiol ffydd ynghrist, yn dwyn allan weithredoedd da, a bywyd yn ôlgor­chymmynion Duw. Chwi a glywsoch hefyd ystyr yr hên dadau ar y geiriauymma, ffydd yn vnig a'n cyfiawnhâ, gwedy ei amlygu mor eglur, megis y gwelwch mai ystyr yr ymadrodd ymma (fe a'n cyf­iawnheir [Page 35] ni trwy ffydd yngrhist yn vnig) yn ôl me­ddwl yr hên dadau yw hyn, Yr ydym ni yn dodi ein ffydd ynghrist, fod yn ein cyfiawnhau ni yn vnig trwyddo ef: fod yn ein cyfiawnhau ni trwy dru­garedd Duw yn rhâd, a thrwy haeddiant ein Cei­dwad Christ yn vnig, ac nid trwy vn rhinwedd neu weithred dda o'r eiddom ni ein hunain, sydd y­nom ni, neu a allwn ni ei gael, neu ei wneuthur i haeddu hynny: lle mae Christ yn vnig yn achos haeddiannol o hono.

Ymma y gellwch weled arfer llawer o eiriau er gwagelyd ymrysson ynghylch gairiau, gan y rhai sy ewyllysgar i ymdaeru ynghylch gairiau, ac he­fyd i ddangos y gwir ystyr, er gwagelyd drwg chwedleua, a cham-ddeall: ac etto fe allai na wa­sanauthai 'r cwbl i'r rhai ydynt ymryssongar, o herwydd fe lunia'r ymryssengar achos o ymrysson, er na bydder yn roi vn achos iddo i wneuthur felly. Etto ni ddylyid gormodd ofalu am y fath ddyni­on, os gellir lleshau y rhai ydynt chwannoccach i wybod y gwirionedd, nag (pan fytho ef goleu ddi­gon) i ymrysson yn ei gylch, a thrwy ymrysson­gar ac ymddalus ddadl, i'w Gwymmylu gwmlo a'i dywyllu ef. Gwir ydyw, os ni a chwedleuwn yn briodol ac yn inion am gyfiawnhâd, nad ydyw ei'n gwei­thredoedd ni yn haeddu maddauant o'n pecho­dau, ac yn ein gwneuthur ni o rai anghyfion, yn gyfiawn ger bron Duw: ond Duw o'i vnic druga­redd, trwy vnic haeddiant a rhyglyddau ei fab Ie­su Grist, sydd yn ein cyfiawnhau ni. Etto am fod ffydd yn ein danfon ni yn inion at Grist am fadda­uant o'n pechodau, ac mai trwy 'r ffydd a rodd Braicheidio Duw ini yr ydym ni yn cofleidio addewidiō truga­redd Duw, a maddauant o'n pechodau: yr hwn [Page 36] beth nid ydyw neb o'n rhinweddau, na' n gwei­thredoedd yn ei wneuthur yn briodol: am hynny yr arfer yr Scrythur ddywedyd, fod ffydd yn cyfi­awnhau heb weithredoedd. Ac yn gymmaint ac mai 'r vn peth mewn ffrwyth yw dywedyd, ffydd heb weithredoedd a ffydd yn vnic sydd yn ein cy­fiawnhau ni: am hynny ycyhoeddodd hên dadau 'r eglwys, o amser i amser, ein cyfiawnhad ni yn y geiriau hyn, ffŷdd yn vnic a'n cyfiawnha ni: heb feddwl dim arall ond yr hyn a feddyliodd S. Pawl, pan ddywad yntef, ffydd heb weithredoedd a'n cyfiawn ni.

Ac o herwydd bod yn dwyn hyn oll i ben trwy vnic haeddiant ein Iachawdwr Christ, ac nid drwy ein haeddiant ni ein hunain, na thrwy hae­ddiant vn rhinwedd ag y sydd ynom, nac vn wei­thred ag a ddaw oddiwrthym. O herwydd pa­ham o ran haeddiant yr ydym megis yn ymwrth­od ailwaith â ffydd a gweithredoedd a phob rhin­weddau eraill. O herwydd mor fawr ydyw yn amherffeiddwch ni drwy lygredigaeth pechod de­chreuol, megis y mae 'r holl bethau sydd ynom ni yn amherffaidd: ffydd, gobaith, a chariad, ofn, me­ddyliau, geiriau, a gweithredoedd: ac er mwyn hynny, anaddas ydynt i hadeddu vn rhan o'n cy­fiawnhad ni. A'r ymmadroddion hynny y rydym yn ei arfer wrth ymostwg i Duw, a rhoddi yr holl ogoniant i'n Iachawdwr Christ yr hwn a ddyly ei gael ef orau.

Ymma y clywsoch orchwyl Duw yn ein cyfi­awnhâd ni, yr hwn y rydym ni yn ei dderbyn yn rhâd gantho ef, trwy ei drugaredd ef heb ein hae­ddiant ni, trwy wir a bywiol ffydd. Weithian chwi a gewch glywed swydd adylyed Christion [Page 37] tuag at Dduw a pha beth a ddylyem ninnau ei rhoddi i Dduw ailwaith am ei fawr drugaredd, a'i ddaioni. Ein swydd a'n dlyed ni yw, nid treu­lio 'n hamser yn y bywyd presennol hwn yn a'n­ffrwythlon, ac yn segurllyd, heb ofalu yn ôl ein bedydd a'n cyfiawnhâd, mor ambell weithre­don da a wnelom, i ogoniant Duw, a budd i'n cymydogion: pellach o lawer 'on swydd a'n dlyed ni yw (yn ol ein gweuthur vnwaith yn aelodau Christ) byw yn wrthwyneb ac yn erbyn hynny, gan ein gwneuthur ein hunain yn aelodau dia­fol, wrth rhodio yn ol ei hudad ef, ac yn ol llithiad y byd, a'r cnawd: drwy 'r hyn y gwyddom ein bod ni yn gwasanauthu y byd a'r cythrel, ac nid Duw. O achos nid ydyw y ffydd honno yr hon heb etifeirwch sydd yn dwyn allan naill ai gweithre­doedd drwg ai yntau heb ddwyn gweithredoedd da, yn ffydd iniawn, bur, fywiol, ond ffydd farw ddiawlig, mewn ragrith neu liw yn vnic, fal y galw S. Pawl a S. Iaco hi. O herwydd fewyr y diafol, ac mae fe 'n credu eni Christ o forwyn, iddo ymprydio dd'eugain diwarnod a de'ugain nos heb fwyd na diod, iddo wneuthur pob 'r hyw wrthiau, gan ei amlygu ei hyn yn Dduw: maent yn credu hefyd i Grist er ein mwyn ni ddioddef poenedig angau er ein prynu ni o angau tragwyddol, ei ailgyfodi ef y trydydd dydd o angau. Maent hwy yn credu ei escyn ef i'r nefoedd, a'i fod ef yn eistedd ar ddehaulaw y tâd, ac y daw ef yn niwedd y byd i farnu byw a meirw. Mae 'r diawlaid yn credu y pynciau hyn 'on ffydd ni, ac felly maent yn cre­du hefyd fod yr holl bethau 'n wir, ac sydd scrifen­nedig yn yr hên destament, a'r testament newydd, ac etto er yr holl ffŷdd hon, nid ydynt onid diaw­liaid, [Page 38] yn aros fyth yn eu stât ddamnedig, ac heb wir ffydd Gristionogawl ganthynt.

O herwydd vniawn a gwir ffŷdd Gristiono­gawl yw, nid yn vnic credu 'r Scrythur lân, a bod holl byngciau ein ffydd ni yn wir onid hefyd bod a diogel obaith ac ymddiried yn-nhrugarog addewidion Duw, ar gael eu cadw oddiwrth ddamnedigaeth tragwyddol, trwy Grist: o'r hon ffydd y canlyn calon garedig barod i gadw ei or­chymmion ef. A'r ffŷdd Gristionogawl hon, nid oes na chan y diawl, nag Chwaith. affeith gan vn dyn, yr hwn yn ei gyffes oddiallan, yn ei enau, neu mewn derbyniad y sacramentau oddifaes, yn ei ddyfodi­ad i'r eglwys, ac wrth bob argoel oddiallan, a dy­bygir ei fod yn wir Gristion, ac etto sydd yn ei fy­wyd a'i weithredoedd yn ymddangos i'r gwrth­wyneb.

O herwydd pa fodd y dichon bod gan wr wir ffydd, diogel obaith, a siccr ddiogelrwydd ac ymddi­red yn Nuw y maddauir ei bechodau trwy hae­ddiant Christ, ac yr heddychir rhyngtho â Duw, ac ygwnair ef trwy Grist yn gyfrannog o deyrnas nêf, pan fytho ef yn byw yn annuwiol, ac yn gwadu Christ yn ei weithredoedd? siccr yw ni ddichon bod gan y fath ddyn, obaith, a ffydd yn-Nuw. O herwydd fal y gwyddont mai Christ yn vnig yw Ceidwad y byd, felly y gwyddont hefyd na feddianna dynion drwg deyrnas Dduw. Hwy a wyddont fod Duw yn cashau pob anghyfia wn­der, y distrywa ef bawb a ddywedant gelwydd, y caiffy rhai a wnaethōt weithredoedd da, (y rhai ni ellir heb fywiol ffydd yn ghrist eu gweuthur) ddy­fod i'r ail gyfodiad i fywyd, a'r rhai a wnaethont ddrwg i ailgyfodiad barn; difai y gwyddant y [Page 39] daw i'r rhai ymryssongar, ac i'r rhai na fyddant vfydd i'r gwirionedd, onid a vfyddhânt i anghyfi­awnder, ddigter, llid, a blinder, &c.

I orphen am hynny gan ystyriaid aneirif ddo­niau Duw, a ddangosswyd ac a roddwyd ini yn drugarog heb ein haeddiant, yr hwn nid yn vnic an creodd ni o ddim, ac o ddryll o glai, ac o ran ein eneidiau o'i anfeidrol ddaioni a'n cyfododd ni yn debyg ac yn gyffelib iddo ei hun: ie ac lle yr oe­ddym hefyd gwedy 'n barnu i vffern, ac i dragwy­ddol angau a roddodd ei fab anianol yr hwn oedd Dduw tragwyddol, anfar wol, gogyfuwch ag ef mewn nerth a gogoniant i'w gnawdoli ac i gym­merid arno ein annian farwol ni, ynghyd a'n gwendid, ac yn yr anian honno, i oddef am ein drygioni angau tost, cywilyddus o fwriad ein cy­siawnhau ni, an adferu i fywyd tragwyddol, gan ein gwneuthur felly iddo i hun yn anwyl garedig blant, yn frodyr i'w vnic fâb ein Ceidwad Christ, ac yn etifeddion tragwyddol gydag ef o'i frenhi­niaeth nef.

Nid ydyw doniau Duw mawrion trugarog ymma, (os y styrir hwy yn dda) yn rhoddi ini a­chos i fod yn segur, nac i fyw heb wneuthur gweithredoedd da: nac yn ein gyrru trwy fodd yn y byd, i wneuthur pethau drwg, ond o'r gwrth­wyneb os ni nid ydym yn ddiobaith, a'n calon­nau cy galetted ac yw'r garreg maent yn ein han­nog ni, i'n rhoddi ein hunain i Dduw yn hollol, â'n holl ewyllys, â'n holl galonnau, â'n holl allu, â'n holl nerth, ac i'w wasanaethu â'n holl weith­redoedd: gan vfyddhau i'w orchmynion ef trwy 'n hoes, gan geisio 'n wastad ym-mhob peth ei ogoniant a'i anrhydedd ef, ac nid ewyllys ein syn­hwyrau, [Page 40] a'n gwag-ogoniant ein hunain: gan ofni yn wastadol yn ewyllysgar ddigio Duw, mor drugarog, ac mor garedig brynydd, mewn me­ddwl, gair, neu weithred.

Ac mae donniau Duw ymma os cwbl ystyrir hwy, yn ein hannog ni er ei fwyn ef i fod yn ba­rod hefyd i'n rhoddi ein hunain i'n cymydogion, ac i ymroi cy belled ag y gallom â'n holl nerth i wneuthur i bawb ddaioni. Ffrwythau gwir ffydd yw y rhai ymma: gwneuthur daioni i bawb, yn nessaf ag y gallom, ac vwchlaw pob peth, ac ymmhob peth, derchafu gogoniant Duw, oddi­wrth yr hwn yn vnic ymae ini yn sancteiddr wydd, cyfiawnhâd, Iechawdwriaeth, a phrynedigaeth: i'r hwn y byddo holl ogoniant, mawl ac anrhy­dedd, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Deongliad byrr am wir a bywiol a Christionogawl ffydd.

Y Dyfodiad cyntaf at Dduw, bobl dda Gristionogawl, sydd trwy ffydd, trwy 'r hon fal y mane­gwyd yn y bregeth ddiwethaf, yn cyfiawnhair gerbron Duw. A rhag i neb gamsynnaid eisiau i hiniawn ddeall hi, fe ddylyed no­di yn ddiescaulus fod yn yr Scrythur lân yn cym­meryd ffydd mewn dwy ffordd. Mae vn ffydd, yr hon yn yr Scrythur a elwir yn ffydd farw, yr hon ni ddwg allan ddim gweithredoedd da, am ei bod yn segur, yn hesb, ac yn anffrwythlon. A'r ffydd hon a gyfflyba 'r sanctaid Apostol Iaco i ffydd y Iac, 2. 19. diawliaid, y rhai a gredant fod Duw yn gywir ac [Page 41] yn gyfion, ac a grynant rhag ofn, ac ni wnant ddim er hynny yn dda, onid pob peth yn ddrwg. Y ffydd hon sydd gan Gristionogion melldigedig drwg, y rhai a gyffesāt (fal y dywaid Pawl) Dduw â'u geneuau, onid a ymwadant ag ef yn eu gwei­thredoedd, gan fod yn atgas, heb iniawn ffydd, ac Tit. 1. 16. yn barodol i bob gweithred drwg ceryddus. A hon yw dirgel grêd yn y galon, trwy 'r hon y mae fe 'n gwybod fod Duw, ac yn cyduno â gwiri­onedd sancteiddiaf air Duw, a gynhwysir yn y sanctaidd Scrythur. Megis y saif hon yn vnic mewn credyniaeth fod gair Duw yn wir. A hon ni elwir yn briodol ddim honi yn ffydd: ond megis y dichon yr vn a ddarlleno comentariau Caesar, gre­du fod y commentariau hynny yn wir, a thrwy hynny fod gantho wybodaeth o fywyd Caesar, a'i weithredoedd godidawg, am ei fod yn credu stori Caesar. Etto ni ddywedir yn inion ei fod ef yn cre­du yn Caesar, oddiwrth yr hwn nid ydyw 'n edrych, am na nerth, na daioni.

Felly yr vn a gredo fod pob peth a adroddir am Dduw yn y beibl yn wir, ac y fytho er hynny yn hyw mor annuwiol, ac na ddichon ef edrych, am fwynhau addewidion a daionus ddoniau Duw: er dywedyd fod gan hwnnw ffydd a chred i air Duw, etto ni ellir dywedyd yn iawn ei fod ef yn credu yn nuw, na bod gātho y fath ffydd a gobaith yn nuw, trwy 'r hon y dichon ef yn ddiogel edrych am rhâd trugaredd, a bywyd tragwyddol oddiar ddwylaw Duw, ond yn hytrach llid, a chosp, yn ol haeddiant ei ddrwg fywyd. O herwydd fal yr scrifennir yn y llyfr a elwir yn eiddo didymus A­lexandrinus, yn gymmaint a bod ffŷdd yn farw heb weithredoedd, nid ffŷdd ydyw hi yn awr, mwy [Page 42] nag y mae gŵr marw yn ŵr. Am hynny nid y ffydd farw hon yw 'r ddiogel ar anianol ffŷdd a geidw pechaduriaid. Mae ffydd arall yn yr Scrythur, yr hon nid yw (fal honno) yn segur, yn anffrwyth­lon, ac yn farw, ond yn gweithio drwy gariad (fal y manega S. Pawl) ac fal y gelwir y ffydd wâg arall yn ffydd farw, felly y gellir galw hon yn Gal 5. 6. ffydd fyw, fywiol.

Ac nid cyffredinawl gred yn vnic yw hon o byn­ciau ein ffydd ni: onid hefyd diogel, siccrwydd ac ymddired ynnhrugaredd Duw, trwy ein harglw­ydd Iesu Grist, a diogel obaith cael derbin pob peth da ar law Duw. Ac er ein bod ni trwy wen­did, a thrwy brofedigaeth ein gelyn ysprydol, yn cwympo oddiwrtho ef trwy bechod, etto os ni a drown drachefn atto trwy etifeirwch, y pardyna ef ni, ac y gollwng dros gôf ein holl gamweddau, er mwyn ei fab ein Ceidwad Iesu Grist, ac i gwna ef ni yn etifeddion gydag ef o'i deyrnas dragwy­ddol: ac hyd oni ddelo 'r deyrnas honno, y bydd ef Ceidwad ac ymddiffynnydd ini yn ein holl beriglau ac enbeidrwydd, pa beth bynnac a ddi­gwyddo, ac er ei fod ef yn danfon ini weithiau adfyd tost, etto y bydd ef yn wastadol yn dâd ca­redig ini, gan ein ceryddu am ein pechodau, ac er hynny heb dynnu ei drugareddau dros fyth oddi­wrthym, os ni a ymddiredwn ynddo, ac a ymro­ddwn yn hollol iddo, ac a orbwyswn yn vnic ar­no, ac a alwn arno, gan fod yn barod i vfyddhau iddo, ac i'w wasanauthu ef.

Dymma 'r ffydd gywir, fywiol, ddidwyll, yr hon nid ydyw yn y genau a'r gyffes oddifaes yn vnic, ond mae hi yn byw, ac yn cyffroi yn y galon oddi­fewn. Ac nid ydyw y ffydd hon heb obaith ac ym­ddiried [Page 43] yn nuw, nac heb gariad Duw a'n cymy­dogion, nac heb ofn Duw a chwant grwando ei air ef a'i ganlyn, wrth wagelyd y drygioni a gw­neuthur yn llawen bob daioni.

Y ffydd hon (fal y Deffinia. geilw Pawl hi) yw sail y don­niau yr ydym ni yn edrych amdanynt, ac yn gobei­thio eu derbyn oddiar law Dduw: a siccrwch a Heb. 11. 1. diogel edrych am danynt, er nad ydynt etto yn ymddangos i'n synhwyrau cnawdol ni. Ac yn ol hynny mae fe 'n dywedyd, fod yn rhaid i'r hwn a ddelo at Dduw, gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr trugarog i'r rhai a wnânt ddaioni. Ac nid oes dim yn canmol gwyr da yn fwy gerbron Duw, na bod y ddiogel ffydd a'r gobaith ymma ynddynt. Am y ffydd hon, y mae tri pheth enwedigol i'w nodi.

Y cyntaf nad ydyw y ffydd hon yn gorwedd yn farw yn y galon: onid mai hi yn fywiol, yn ffrw­ythlon, yn dwyn allan weithredoedd da.

Yn ail na ellir hebddi wneuthur gwethredoedd da cymmeradwy ger bron Duw.

Yn drydydd, pa fath weithredoedd da y mae 'r ffydd hon yn eu dwyn allan.

Yn gyntaf, megis na ellir cuddio 'r golau, nad ymddangoso fe mewn rhyw le neu ei gilydd: fe­lly ni ellir cadw gwir ffydd yn ddirgel, canys pan fo'r achos yn gofyn, hi a dyrr allan, ac a'i den­gys ei hunan trwy weithredoedd da. Ac megis y mae corph bywiol dŷn yn wastadol yn arfer pe­thau a berthynant at gorph naturiol bywiol, er ei ymborth a'i gadwedigaeth, megis y byddo rhaid, cyfaddas, ac achos iddo: felly y bydd enaid dŷn yr hwn sydd a ffydd fywiol yndo yn wastadol yn gwneuthur rhyw weithredoedd da; y rhai a fane­gant ei fod ef yn fyw ac na bydd ef segur. Pan­glywo [Page 44] dynnion am hynny yn yr Scrŷthur vchel glod ffŷdd, ei bod hi yn gweuthur ini fodloni Duw, fyw gydâ Duw, a bod yn blant i Dduw, os hwy a dybygant am hyn eu bod hwy gwedy eu rhyddhau oddiwrth wneuthur gweithredoedd da, ac y gallant fyw yn y modd y mynnont, maent hwy yn cellwair a Duw ac yn eu twyllo eu hu­nain. Ac mae hynny yn arwydd eglur eu bod hwy ymmhell oddiwrth feddiannu gwir abywiol ffydd, ac heb wybod beth ydyw hi.

O herwydd gwir a bywiol ffydd Gristiono­gawl yw, nid yn vnic credu pob peth am Dduw a gynhwysir yn yr Scythyr lân, ond hefyd, gobaith ac ymddiried ynnuw, ei fod ef yn pryderu, ac yn gofalu drosom ni, megis y gofala 'r tâd am ei blen­tyn yr hwn y mae fe yn ei garu: y bydd ef trugarog ini e'r mwyn ei vnig fâb, a bod gennym ni ein Ia­chawdwr Christ yn dragwyddol offeiriad a dad­leuwr, yn haeddiannau, offrwm a dioddeifaint yr hwn yr ydym yn ymddiried, fod yn golchi ac yn ar­llwys ein beiau ni yn wastadol, pa bryd bynnag trwy wir etifeirwch y trothom ni atto â'n holl ga­lonnau, gan fwriadu ynom ein hunain yn safa­dwy drwy ei râd ef vfyddhau iddo, ai wasanae­thu trwy gadw ei orchymmynion ef, ac heb droi byth yn ein hôl at bechod.

O'r fath hon yw 'r wir ffydd y mae 'r Scrythur yn ei chanmol, yr hon pan welo ac ystyrio pa beth a wnaeth Duw drosom, a annogir hefyd trwy nerth gwastadol Yspryd Duw i'w wasanaethu a'i fodloni ef, i gadw ei ewyllys ef tuag attom, ac i of­ni ei sorriant ef, i barhau yn wastadol yn blant vfy­ddgar, i ddāgos ein diolchgarwch iddo, trwy gadw a chanlyn ei orchmynion ef, a hynny yn rhâd, o [Page 45] wir gariad, ac nid rhag ofn cosp na chariad go­brwyau bydol: gan ystyriaid pa mor eglur heb ein haeddiant ni y derbyniasom yn rhâd faddauant a thrugaredd.

Fe ddengys y wir ffydd hon ei hun, ac ni ddi­chon hi fod yn hir yn segur. O herwydd scrifenne­dig ydyw, trwy ffydd y bydd y cyfiawn byw. Nid Abac. 2. 4. ydyw nac yn cyscu nag yn segur pan ddyle fod yn neffro ai yn gweuthur daioni. Ac mae Duw trwy Ieremi yn dywedyd ei fod ef yn wynfydedig ac yn fendigedig, yr hwn sydd a ffydd a siccr obaith Ierem. 17. 8. gantho yn Nuw. Canys fe fydd megis pren gwe­dy ei blannu a'r lan y dwfr, yr hwn a danna ei wra­idd a'r lled tuar irder, ac ni ofna wres pan delo, fe fydd ei ddalen ef glâs, ac ni phaid a dwyn ffrw­yth felly y bydd y gwyr duwiol (gan ddodi heibio bob ofn adfyd) yn dangos ffrwyth eu gweithre­doedd da bob amser ac y bo cyfaddas eu gwneu­thur.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am ffyd.

CHwi a glywsoch yn y rhan gyn­taf o'r bregeth hon fod dau ryw o ffydd, ffydd farw anffrwythlon, a ffydd fyw yn gweithio drwy ga­riad; Fod y gyntaf yn brophidiol, a'r ail yn anghenrhaid i gyrhae­ddyd Iachawdwriaeth, yr hon ffydd sydd yn wastad a chariad yn gydsylldedig â hi, ac sydd yn ffrwythlon yn dwyn pob gweithre­doedd da.

Yn awr o blegid yr vn peth gwrandewch beth sydd yn canlyn, fe ddywaid y gwr call fod yr hwn [Page 44] [...] [Page 45] [...] [Page 46] sydd yn credu yn nuw yn gwrando a'r ei orchymi­nion ef. Eccl. 32. 27. Canys os ni nid ymddangoswn yn ffy­ddlon yn ein ymddygiad, nid ydyw 'r ffydd yr hon yr ydym yn ei chymeryd arnom, onid mewn lliw yn vnic. O herwydd y dangosir gwir ffydd Gri­stionogawl drwy fywyd da, ac nid wrth airiau yn vnig, fal y dywaid S. Augustin. Ni wahenir Cib. de fide & operibus ca. 2. bywyd da oddiwrth ffydd yr hon a weithia trwy gariad. A S. Chrysostom a ddywaid, ffydd o honi ei hunan sydd yn llawn gweithredoedd da, er cyn­ted y Sermone de fide & Lege. credo dyn fe a herddir o honynt. Mae S. Pawl yn dangos yn halaeth yn yr 11. Benod at yr Hębręaid, mor llawn yw 'r ffydd hon o weithre­doedd da, a pha fodd y gwnâ hi weithredoedd vn yn gymmeradwysach ger hron Duw, na gwei­thred Heb. 11. 4. vn arall, gan ddywedyd i ffydd wneuthur offrwm Abel yn well nag offrwn Cain. Hon a Gen. 4. 4. wnaeth i Noah wneuthur yr Arch. Hon a wnaeth Gen. 6. 12. i Abraham ymadel â'i wlad a'i holl geraint, a my­ned Eccl. 44. 17. Gen. 12. 1. i wlad bell i daring ymmlhith diaithriaid. Felly y gwnaeth Isaac a Iaco hefyd, gan orbwyso a gorwedd yn vnic ar y Nerth a'r gobaith oedd ganthynt yn Nuw. A phan ddaethont i'r wlad a ddaroedd i Dduw ei haddo iddynt, nid adailadent ac ni wnaent ddinasoedd, trefydd, na thai, onid byw fal dieithriaid mewn pebyll a ellid eu sym­mud beunydd. Y ddoedd eu hymddiried hwy cym­maint ynnuw, nad oeddynt yn priso ar vn peth bydol, am fod Duw gwedy darparu iddynt drigle­oedd gwell yn y nef, o'i osodiad a'i wneuthurdeb ei hun.

Dymma 'r ffydd a baratôdd Abraham ar orch­ymyn Duw i offrwm ei fab a'i etifedd Isaac, yr Gene. 20. [...]. hwn a garodd ef yn fawr, a thrwy 'r hwn yr a­ddawsai [Page 47] Dduw iddo eppil aneirif: ym mysc y rhai y genid vn yn yr hwn y bendigid yr holl genhed­laethau: Eccl. 44. 21. yr ydoedd ef yn ymddiried cymaint yn Nuw fal pe lladdesid ef, etto fod Duw yn abl trwy ei holl-alluog nerth i'w ailgyfodi ef o angau, ac i gyflawni ei addewid. Ni wanobeithiodd ef am a­ddewidion Duw, er bod rheswm i'r gwrthwy­neb. Fe a gredodd yn ddiogel ddigon na wrthodai Dduw ef mewn prinder a newyn yr hyn oedd yn y wlad. Ac mewn pob periglau eraill y dygesid ef iddynt, fe a ymddiredodd y byddai Dduw iddo ef yn Dduw, yn wascodydd ac yn ymddiffynnydd, pa beth bynnag a welai ef i'r gwrthwyneb. Dym­ma 'r ffydd a weithiodd felly ynghalon Moses hyd oni wrthododd ef ei gymmeryd yn fàb merch bre­nin Pharao, a meddiannu etifeddiaeth fawr yn Exod. 1. 11. yr Aipht: gan dybaid mai gwell oedd goddef blin­der a thrymder gydâ phobl Dduw, na byw dros ennyd bychan mewn melysder pechod, gyda dy­nion drwg. Trwy ffydd ni phrisiodd efe ar fygy­lau brenin Pharao, o herwydd yr ydoedd ef yn ymddiried yn-Nuw yn gymmaint nad ydoedd ef yn prisio am lwyddiant y byd hwn, onid edrych yr ydoedd am wobr yn y nef, gan osod ei galon ar yr anweledig Dduw, megis pe buasei yn ei weled ef yn wastad yn gydrychiol ymlaen ei lygaid. Exod. [...] 4. 22. Trwy ffydd yr aeth plant yr Israel trwy 'r môr côch. Trwy ffydd y cwympodd caerau Iericho, Iosua. 6. 20. hebroddi vn ergyd iddynt, ac y gweithiwyd lla­wer o wrthiau eraill.

Yn yr holl wyr da a fuont er ioed o'r blaen, ffydd a ddygodd allan eu gweithredoedd da hwy, ac a fwynhaodd addewidion Duw.

Ffydd a gauodd geneuau llewod, ffydd a ddiffo­dodd Dan. 6. 22. [Page 48] rym y tân, ffyd a waredodd rhag min y cle­ddyf, A'r. 3. 27. ffydd a roddodd gryfder i wyr gweinion, a orchfygodd mewn ryfel, a gwympodd luoedd o'r anghredadwy ac a gyfododd y meirw i fywyd. ffydd a wnaeth i wŷr da oddef yn esmwyth adfyd. Rhai a watwarwyd, a fflangellwyd, a glym­mwyd, ac a dafiwyd i garchar: llawer a gollassont eu da ac a fuont fyw mewn tlodi mawr. Rhai a grwydrasont ar frynnau, mynyddau, ac anialwch. Rhai a Rhaccwyd, ddirdynnwyd, rhai a laddwyd, rhai a labyddiwyd, rhai a lifiwyd, rhai a dorrwyd yn ddrylliau, rhai a dorrwyd eu pennau, rhai a los­cwyd heb drugaredd, ac ni fynnent eu rhyddhau, am eu bod yn edrych am gyfodi ailwaith i stat oedd well.

Yr oedd yr holl dadau, merthrwyr, a gwyr san­ctaid eraill, y rhai y mae S. Pawl yn son am da­nynt, a'u ffydd gwedy ei siccrhau yn-Nuw, pan oedd yr holl fyd yn eu herbyn hwy. Nid oeddynt hwy yn adnabod yn vnic fod Duw yn Arglwydd, yn wneuthurwr ac yn llywodraethwr ar holl wyr y byd, ond yr oedd ganthynt hefyd ddiogel obaith a hyder y byddai fe yn Dduw iddyn hwy, yn ddi­ddanydd, yn helpwr, yn nerthwr, yn ymborthwr ac yn ymddiffynnwr. Hon ydyw 'r ffydd Gristiono­gawl yr hon oedd gan y gwyr sanctaidd ymma, a'r hon a ddlye fod gennym ninnau hefyd.

Ac er na enwed hwy yn Gristionogion, etto yr oedd ganthynt ffydd Gristionogawl, canys hwy a edrychent am holl ddoniau Duw dad drwy ha­eddiant ei fâb Iesu Grist, fal yr ydym ninnau yn edrych. Dymma 'r holl wahaniaeth rhyngthynt hwy a ninnau, eu bod hwy yn edrych pa bryd y dawai ef, a'n bod ninnau yn yr amfer y daeth ef. [Page 49] Am hyn y dywaid S. Awstin, fe a newidiwyd ac In Ioan. tract. 45. a symmudwyd yr amfer, ac nid y ffydd. O achos mae gan bob vn o honom yr vn ffydd yn vn Christ, yr vn Yspryd glan ac sydd gennym ni oedd gan­thynt hwythau, medd S. Pawl. Cans fal y dysc­odd 1. Cor. 8. 6. yr Yspryd glan nyni i ymddiried yn-Nuw, ac ialw arno fal ein Tad, felly y dyscodd hwyntau i ddywedyd fal yr scrifennir, tydi yw ein Tad ni a'n prynwr, dy enw di sydd heb ddechreuad ac yn dra­gwyddol. Esai. 63. 16.

Duw a roddodd iddynt hwythau ras i fod yn blant iddo megis y rhydd ef yn awr i ninnau. Ond yn awr trwy ddyfodiad ein Ceidwad Christ y derbynniasom yn halaethach Yspryd Duw i'n calonnau, drwy 'r hwn yr ydym ni yn derbyn rha­gor ffydd a diogelach obaith nag oedd gan lawer o honynt hwy. Ond mewn defnydd, yr vn ydynt hwy a ninnau. Mae gennym ni yr vn ffydd yn-Nuw ac oedd ganthynt hwy, ac yr oedd ganthynt hwy yr vn ffydd ac sydd gennym ninnau. Ac mae S. Pawl yn canmol eu ffydd hwy yn fwy, er mwyn nad ymroem ni ddim llai, ond yn rhagor i Grist mewn cyffes ac mewn bywyd yn awr ac yn­tef gwedy dyfod, nag yr ymroe yr hên dadau cyn ei ddyfod ef.

Ac mae 'n eglur wrth holl ymadroddion Paul nad ydyw gwir fywiol a Christionogawl ffydd beth marw, anffrwythlon, ofer, ond yn beth o rinwedd berffaith, ac o ffrwyth rhyfedd, ac o rym i ddwyn pob cynhyrfiadau a gweithredoedd da. Mae 'r holl sanctaidd Scrythyrau yn gytun yn testiolaethu fod gwir ffydd fywiol ynghrist yn dwyn allan weithredoedd da, ac am hynny y dlye bob dyn ei brofi a'i holi ei hun yn ddiescaelus, er [Page 50] mwyn gwybod pa vn a wna gwir ffydd fywiol ddigellwair, ai bod yn ei galon ai nid ydyw: yr hyn a ddichon ef ei wybod wrth ei ffrwythau hi. Yr oedd llawer ac oedd yn cyffesu ffydd Grist yn y camsyniaeth a'r amryfysedd ymma, gan dybaid eu bod yn adnabod Duw ac yn credu ynddo, a hwythau yn eu bywyd yn cyhoeddi y gwrthwy­neb: yr hwn gamsynniaeth y mae S. Ioan yn ei 1. Ioan. 2. 3. Epistol cyntaf yn ei argyoeddi, gan scrifennu fal hyn, Trwy hyn y gwyddom ein bod yn adnabod Duw, os ni a gadwn ei orchymmynion ef. Yr vn a ddywedo ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw 1. Ioan. 2. 4. ei orchymynion, sydd gelwyddog ac nid oes gwi­rionedd ynddo. Ac yn y man y dyweid, yr vn sydd yn pechu nid ydyw yn gweled nac yn adnabod Duw. Na thwylled neb ni fy anwyl blant. Ac eilwaith y dywaid, trwy hyn y gwyddom ein bod o'r gwirionedd, ac y bydd i ni ddiogelwch ein calonnau, os ein calonnau a'n cyhuddant mwy yw Duw nâ 'n calonnau, ac efe a ŵyr bob 1. Ioan. 3. 19, 20. peth. Fy anwyl os ein calonnau ni 'n cyhuddant mae i ni hyder ar Dduw y cawn gantho bob peth ac a ofynom am ein bod yn cadw ei orchymyni­on ac yn gwneuthur y pethau sy fodlon yn ei olwg. Ac fe ddywaid etto, Pob vn a gretto mai Iesu yw Christ a aned o Dduw: ac ni a wyddom nad oes neb a aned o Dduw yn pechu, eithr hwn a 1. Ioan. 5. 1, 18. genhedlwyd o Dduw a'i ceidw ei hun, a'r drwg ni chyfwrdd ag ef. Ac yn ddiwethaf i gau ar y cwbl, gan ddangos yr achos yr scrifennodd ef yr Epistol ymma, y mae yn dywedyd▪ Am hyn yr scrifennais attoch er mwyn i chwi wybod eich bod yn meddiannu tragwyddol fywyd, y rhai y­dych yn credu ym-Mah Duw. Ac yn y drydydd [Page 51] mae fe 'n cadarnhau y cwblam ffydd a gweithre­doedd 1. Ioan. 3. da ar ychydig o airiau, gan ddywedyd, Yr vn a wnêl yn dda ei fod ef o Duw, a'r hwn a wnel yn ddrwg nid ydyw yn adnabod Duw. Ac fe ddy­waid Ioan, fal y dwg abnabyddiaeth fywiol, a ffydd Duw weithredoedd da, felly y mae fe 'n dy­wedyd na ddichon gobaith a chariad sefyll gydâ bywyd drwg. Am obaith yr scrifenna fe fal hyn.

Ni a wyddom pan ymddangoso Duw y bydd­wn cyffelyb iddo, o blegid ni a gawn ei weled ef fal y mae ef. A phwy bynnac sydd a'r gobaith hwn ynddo, mae fe yn ei burhau ei hun megis y mae Duw yn bur.

Ac am gariad fal hyn y dywaid, Pwy bynnag 1. Ioan. 3. 32. a gatwo air neu orchymyn Duw, yn hwn y mae per ffaith gariad Duw yn trigo. A thrachefn, Ca­riad 1. Ioan. 2. 5. Duw yw hyn, ini gadw ei orchmynion. Ac ni ddywad Ioan hyn megis ymadrodd dichellgar 1. Ioan. 5. 3. a ddychmygodd ef o'i ffansi ei hun, onid megis gwirionedd anghenrhaid diogel a ddangoswyd iddo gan Grist ei hun, y gwirionedd tragwyddol annhwyllodrus: yr hwn sydd yn traethu yn e­glur yn llawer lle, na all ffydd, gobaith achariad sefyll heb weithredoedd duwiol da.

Am ffydd fe a ddywaid, Yr hwn sydd yn credu ym-mâb Duw sydd a bywyd tragwyddol ynddo: yr hwn nid ydyw yn credu yn y Mab, ni chaiff we­led Ioan. 3. 36. Ioan. 5. 24. bywyd, ond mae llid Duw yn aros arno. Ac mae fe 'n cadarnhau hynny a llw dauddyblyg: Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, mae gan yr hwn sydd yn credu ynofi fywyd tragwyddol.

Yn gymmaint abod bywyd tragwyddol gan yr hwn sydd yn credu ynghrist, mae 'n rhaid o hyn ganlyn fod gan yr vn a fytho a ffydd gantho, wei­thredoedd [Page 52] da hefyd: a'i fod ef yn ymegnio i gadw gorchymynion Duw yn vfyddgar. O herwydd nid bywyd tragwyddol, onid diderfynol angau a berthyn i ddrwg weithredwyr, y rhai ydynt yn byw yn anufydd ac yn troseddu ac yn torri gorchy­mynion Duw yn ddietifeirwch, fal y dywaid Christ ei hun, Y rhai a wnant dda a ant i fywyd Mat. 25. 34. tragwyddol, a'r rhai a wnant ddrwg a ânt i dân annherfynol. Ac ailwaith, Myfi ydyw r llythy­ren gyntaf a'r diwethaf, myfi yw y dechrau a'r di­wedd. I'r vn a fyddo sychedig y rhoddaf yn rhad Gwele. 2. 6. ddwfr o ffynnon y bywyd. Yr vn a orchfygo a gaiff bob peth. Myfi a fyddaf Dduw iddo ac yn­tef a fydd yn fâb i minnau. Ond i'r rhai ofnus sydd yn gwanobeithio yn Nuw, ac ar-nynt eifiau ffydd, t'r dynion melldigedig, llofryddion, goddi­nebwyr, swynwyr, addolwyr eulynod, a'r rhai celwyddog, hwy a gânt eu rhan yn y pwll sydd yn llosci a thân a brymston, yr hwn ydyw yr ail angau.

Ac megis y dywaid Christ fod ffydd yn ddiam­mau yn dwyn gweithredoedd da, felly hefyd y dy­waid ef am gariad, Pwy bynnag sydd a'm gor­chymmynion gantho ac a'u ceidw, mae fe yn fyng­haru i. Ac a'r ol hynny, Yr hwn am car i a geidw Ioan. 14. 23. fyngair, a'r neb ni char fi ni cheidw fyngairiau. Ac megis y profir cariad Duw wrth weithredoedd da, felly hefyd y profir ofn Duw, fal y dywaid y gwr call, Ofn Duw sydd yn dodi ymmaith be­chod. Eccl. 1. 21. a'r. 15. 1. Ac fe ddywaid ailwaith, Y neb a ofna Dduw a wna weithredoedd da.

¶ Y drydydd rhan o'r bregeth am ffydd.

CHwi a glywsoch yn yr ail rhan o'r bregeth hon, na ddylai neb feddy­liaid fod gantho fywiol ffydd, yr hon a ganmol yr Scrythur lan, yr hyd ybytho efeyn byw yn a'nufydd i gyfraithiau Duw. O herwydd mae pob gweithredoedd da yn tyfu oddiar y ffydd honno. Ac megis y manegwyd i chwi wrth siam­plau, fod ffydd yn gneuthur dynnion yn ddiogel, yn llonydd, ac yn oddef-gar ymhob cyfyngder. Yn awr gwrādewch ynghylch yr vn peth, pa beth a ganlyn.

Fe ddichon dyn yn ebrwydd ei dwyllo ei hun, a thybied yn ei fewddwl ei fod ef trwy ffydd yn ad­nabod Duw, yn ei garu ef, ac yn ei ofni ef, ac yn perthyn atto, er ei fod ef ymmhell oddiwrth wneu­thur a bod felly. O herwydd barnudd yr holl be­thau hyn yw duwiol a Christionogawl fywyd; Yr vn a glywo ei galon yn ceisio anrhydedd Duw, ac a fyfyrio a'r gael gwybod ewyllys a gorchymy­nion Duw, ac a'i gosodo ei hun at hynny, ac a fytho 'n arwain ei fywyd nid yn ol chawntau 'r cnawd i wasanaithu diawl trwy bechod, ond a osodo ei feddwl i wasanaithu Duw, er mwyn Duw ei hun, ac er ei fwyn ef hefyd i garu ei holl gymmydogion, pa vn bynnag a font a'i ei geraint a'i ei wrthwynebwyr, gan wneuthur daioni i bob dyn pan fytho lle ac amser yn gwasanaethu, ac heb wneuthur o'i fodd ddrwg i neb, y fath ddyn a ddichon yn ddifai lawenhau yn Nuw, gan wy­bod [Page 54] wrth ei fywyd fod gantho yn ddiffuant wir ac vniawn wybodaeth o Dduw, ffydd fywiol, go­baith diogel, a gwir ac vniawn gariad ac ofn Duw.

Ond yr hwn a daflo ymmaith iau gorchymyni­dn Duw oddiar ei wddf, ac a'i rhoddo ei hun i fyw yn ddietifeiriol yn ol ei gnawdol feddwl a'i ewy­llys, ac heb ofalu am wybod gair Duw, chwae­thach byw yn ei ol ef: Mae 'r fath ddyn yn eglur yn ei dwyllo ei hun, ac nid ydyw yn gweled ei ga­lon ei hun, os ef sydd yn meddwl ei fod yn adna­bod Duw, yn ei garu ef neu yn ei ofni neu yn ym­ddiried ynddo. Fe allai y tybygai rhai eu bod yn perthyn at Dduw er ei bod yn byw mewn pe­chod: ac felly hwy a ddawant i 'r eglwys ac a'u dangosant eu hunain megis pe byddent anwyl blant Duw. Ond fe ddywaid Ioan yn eglur, os ni a ddywedwn fod ini gymdeithas ag ef, a rho­dio 1. Ioan. 1. 7. yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym a'r y gwir.

Eraill sydd yn ofer feddwl eu bod yn adnabod ac yn caru Duw er na ofalant am ei orchymynni­on ef. Ond fe ddywaid Ioan yn oleu ddigon; Yr hwn a ddywaid, mi a'i hadwen ef, ac ni cheidw ei orchymynion celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. 1. Ioan. 2. 4.

Mae rhai yn credu eu bod yn caru Duw er eu bod yn cashau eu cymmydogion. Ond amlwg y dywaid Ioan, Os dywaid neb ei fod yn caru Duw ac yntef yn cashau ei frawd, celwyddog yw. Yr 1. Ioan. 4. 20. hwn a ddywaid ei fod yn y goleuni ac a gashao ei frawd yn y tywyllwch y mae fe hyd hyn. Yr hwn 1. Ioan. 2. 9. 10. 11. a gar ei frawd sydd yn aros yn y goleini ond yr hwn a gashâo ei frawd yn y tywyllwch y mae le [Page 55] 'n rhodio, ac ni wyr i ba le y mae yn myned, gan ddarfod i'r tywyllwch ddallu ei lygaid ef. Ache­fyd ef a ddywaid, wrth hyn yr adwaenir plant 1. Ioan. 3. 10. Duw a phlant diawl: pwy bynac ni wna gyfi­awnder, nid yw o Dduw, na'r hwn ni char ei frawd.

Na thywllwch am hynny eich hunain, gan dy­bied eich bod a ffydd yn-Nuw, neu yn caru Duw neu yn ymddiried ynddo ac yn ei ofni, yr hyd y byddoch byw mewn pechod. O herwydd mae eich by wyd annuwiol pechadurus chwi yn cyho­eddi y gwrthwyneb, pa beth bynnag a dybygoch neu a ddywedoch chwi eich hunain. Dylyed Chri­stion yw bod a'r wir a'r Gristionogawl ffydd hon ynddo, ei chwilio a'i holi ei hun, pa vn a wna hi ai bod gantho ai nad ydyw, a gwybod pa bethau a berthynant iddi, a pha fodd y mae hi yn gwei­thio yndo. Nid i'r byd y gallwn ymddiried, oferedd yw y byd a phob peth ac sydd ynddo. Duw sydd raid bod yn ymddiffynnwr ac yn nawddwr i ni yn erbyn pob profedigaeth anwiredd a phechod, yn erbyn pob amryfysedd, ofergoel, delwaddoliad, a phob drygioni. Pe byddai 'r holl fyd o'n rhan ni, a Duw yn ein herbyn, pa elw a allai 'r byd ei ddwyn i ni? Dodwn am hynny ein holl ffydd a'n gobaith yn-Nuw ac ni ddichon y byd na diafol a'i holl nerth orchfygu yn ein herbyn.

Chwiliwn am hynny Gristionogion da a ho­lwn ein ffydd, pa beth ydyw hi: na wenheithiwn ein hunain, onid edrychwn ar ein gweithredoedd, ac felly barnwn pa fath ffydd sydd gennym.

Oblegyd y peth hyn y mae Christ ei hun yn dy­wedyd yr Math. 7. 8. adwaenir y pren wrth ei ffrwyth. Gw­nawn am hynny weithredoedd da, a thrwy hyn­ny [Page 56] dangoswn fod ein ffydd yn fŷwiol ac yn Gristi­onogawl. Dangoswn fod ein etholedigaeth yn ddiogel ac yn safadwy, drwy 'r rhinweddau a ddy­lei darddu o ffydd fal y dywaid Petr, Byddwch [...]. Pe [...]. 1. 10. ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etho­ledigaeth yn siccr. Ac fe orchymmyn ini gyssylltu ynghŷd â ffŷdd rhinwedd, ynghyd a rhinwedd gwybodaeth, ynghŷd à gwybodaeth gymmedrol­der, ynghŷd â chymmedrolder ammynedd, ynghŷd âg ammynedd Dduwioldeb, ynghŷd â Duwiol­deb Vers. 6. 7. garedigrwydd brawdol, ynghŷd â charedi­grwydd brawdol gariad. Felly y gallwn yn wiri­onedd ddangos fod gennym fywiol a Christiono­gawl ffydd: siccrhau ein cydŵybod yn well ein bod yn yr iniawn ffydd, a thrwy y moddion ymma gadarnhau eraill hefyd. Os y ffrwythau hyn ni chanlynant nid ydym onid cellwair â Duw, ein twyllo 'n hunain ac eraill hefyd. Difai y gallwn fod yn dwyn enw Christionogion, ond mae ar­nom eisiau gwir ffydd, heb yr hon nid oes neb yn Gristion.

O herwydd mae gwir ffydd yn dwyn gweithre­doedd da yn wastadol, am hyn y dywaid Iaco, dangos i mi dy ffydd trwy dy weithredoedd. Rhaid i'th orchwylion a'th weithredoedd fod yn dystion Iac. 2. 18. eglur o'th ffydd: os amgen os dy ffydd a fydd heb weithredoedd da, nid ydyw onid ffydd y diawl, ffydd yr anuwiol, llun neu ddynwarediad ffydd, ac nid y wir a'r Gristionogawl ffydd.

Ac megis nad ydyw diafol a phobl ddrwg yn well o herwydd eu ffydd dwyllodrus, ond ei bod hi yn chwaneg o achos damnedigaeth iddynt: felly y rhai a fedyddiwyd, ac a dderbynniasont wy­bodaeth am Dduw, ac am haeddiant Christ: ac [Page 57] etto o fwriad byw yn segurllyd heb weithredoedd da (gan dybied fod ffydd Noeth yn ddigon iddynt, neu gan ossod eu meddwl ar wag-hoffderau 'r byd) ydynt yn byw mewn pechod ac yn ddietifeiriol, heb ddwyn y ffrwythau a berthynant at y fath vchel alwedigaeth. Ar vcha 'r fath rhyfygus ddynion ac ewyllysgar bechaduriaid mae 'n rhaid cwympo mawr ddigofaint Duw a chosp tragwy­ddol yn vffern a ddarparwyd i'r rhai ydynt yn byw yn anghyfion ac yn ddrwg.

Am hynny fal yr ydych yn dwyn enw Christ (Gristionogion daionus) na thwylled cam-dyb am ffydd chwi vn amser, ond byddwch siccr o'ch ffydd a holwch hi wrth eich bywyd, edrychwch ar y ffrwythau sydd yn dyfod o honi, synnwch ar­gynnydd cariad a charedigrwydd o honi, tuag at Dduw a'ch cymmydogion: yno y gellwch ddeall ei bod hi yn wir ffydd fywiol. Os byddwch yn deall ac yn ystyriaid fod y fath ffydd ynoch llawen­hewch am dani hi, byddwch ddiescaelus i'w phor­thi hi, megis yr arhosso hi yn wastad ynoch, cy­nydded beunydd a thyfed fwyfwy yn wastadol trwy wneuthur yn dda. Felly y byddwch siccr i fodloni Duw trwy eich ffydd: ac yn y diwedd (megis yr aeth gwyr ffyddlon eraill yn y blaen) felly yr ewch chwithau atto ef hefyd, pan fytho ei ewyllys ef, ac y derbynnwch ddiwedd a gwobr diwethaf eich ffydd, yr hwn (fal y gailw S. Pe­ter ef) yw Iachawdwriaeth eich eneidiau, yr hyn Duw a'i canniatao ini yr hwn a'i haddawodd ef i'w ffyddloniaid, i'r hwn y bytho anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth am weithredoedd da a gyssyllter â ffydd.

YN y bregeth ddiwethaf y maneg­wyd i chwi pa beth yw gwir a bywiol ffydd Gristionogawl, yr hon y sydd yn gwneuthur i ddyn na byddo segurllydd, onid yn ei waith yn wastad yn gwneuthur gweithredoedd da megis y gwa­sanautho 'r lle, ar amser. Yn awr trwy nerth Duw y manegir yr ail peth a nodwyd o'r blaen am ffydd, na ellir hebddi wneuthur vn weithred dda gymeradwy a hoff gan Dduw.

O herwydd fal y dywaid ein Iachawdwr Christ, ni all canghen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, sef onid erys yn y winwydden: felly ni ell­wch Ioan. 15. 4. 5. chweithau onid arhoswch ynosi. Myfi yw 'r winwydden chwithaw yw 'r canghennau, yr hwn a arhosso ynofi a minnau ynddo yntef, hwn­nw a ddwg ffrwyth lawer: cans hebof fi ni ell­wch chwi wneuthur dim. Ac mae S. Pawl yn profi fod gan Enoch ffydd, am iddo fodloni Duw: O herwydd heb ffydd ni ellir bodloni Duw. Ac Heb. 11. 5. 6. ail waith mae fe 'n dywedyd at y Rufeiniaid, Pa beth bynnag nid yw o ffydd pechod yw. Ruf. 14. 23.

Ffydd sydd yn rhoddi goleum i'r enaid. Ac mae y rhai a sydd heb ffydd mor feirw gerbron Duw, ac yw celanedd heb eneidiau gerbron y byd. Er tecced ac er mor ogoneddus ymmlaen dynion a fytho 'r gwaith a wnelom ni heb ffydd, etto nid yw ymmlaen Duw onid Marw. Megis nad y­dyw delw gwedy ei charfio neu' ei pheintio onid [Page 59] rhith neu lun marw o'r peth ei hun, heb naby­wyd nac vn gallu i yscog ynddo, felly y mae gwei­thredoedd yr holl anffyddloniaid ymmlaen Duw. Maent yn ymddangos yn weithredoedd bywiol ac etto yn wir nid ydynt onid meirw heb fûdd yn­ddynt i fywyd trag wyddol. Nid ydynt ond llun a lledrith pethau bywiol da, ac nid pethau bywi­ol da ei hunain. Cans gwir ffydd sydd yn rhoddi bywyd i'r gweithredoedd, ac ond o'r ffydd honno ni Ddaw gweithredoedd daionus da, o herwydd heb ffydd nid oes vn weithred yn dda ger bron Duw, fal y dywaid S. Awstin, Nid oes ini ddodi In prefatio Psal. 31. gweithredoedd da ymmlaen ffydd, na thybied y dichon dŷn cyn byddo ffydd gantho wneuthur vn weithred dda: O herwydd er bod y fath weithre­doedd yn ymddangos ger bron dynnion yn gan­moladwy etto nid ydynt ymmlaen Duw onid o­fer ac anghymmeradwy. Hwy a gyffelybir i red­fa ceffyl a redo oddiar y iawnffordd gan gymme­ryd poen fawr yn ofer. Na chyfrifed neb (medd ef) am hynny ei weithredoedd da ymmlaen ffydd. Lle nid oedd ffydd nid oedd gweithredoedd da; Y bw­riad medd ef sydd yn gwneuthur y weithred yn dda, ond rhaid yw bod ffydd yn arwain ac yn cy­farwyddo bwriad dyn.

Ac mae Christ yn dywedyd, Os dy lygad di a fydd drwg, fe fydd dy holl goph di yn dywyll. Mae Math. 6. 23. In prefatio Psal. 31. 'r llygad medd S. Awstyn yn arwyddoccau y bwri­ad trwy 'r hwn y mae dyn yn gwethur peth. Me­gis yr hwn ni wna weithredoedd da â duwiol fw­riad a gwir ffydd yr hon a weithia trwy gariad, Mae 'r holl gorph heblaw hynny (hynny yw) holl rhifedi ei weithrydoedd ef yn dywyll, ac nid oes goleuni ynddynt. O herwydd nid ydys yn me­sur [Page 60] gorchwylion da wrth y gweithredoedd no­ethion, ac nid felly yr ydys yn eu adnobod hwy oddiwrth faiau, onid wrth y bwriad a'r diwedd er mwyn yr hwn y gwnaethpwyd hwy. Os cenhedlddyn a ddillatta 'r Noeth, a bortha y ne­wynog, ac a wna y fath weithredoedd eraill, etto can nad ydyw ef yn gwneuthur y pethau hyn o ffydd, er anrhydedd a chariad Duw, nid ydynt iddo ef onid gweithredoedd meirw anffrwythlon ofer. Ffydd sydd yn canmol y weithred at Dduw. Oble­gid fal y dywaid Awstin na drwg na da fo gen­nym, mae 'r weithred ni ddaw o ffydd yn ddrwg: lle nid ydyw ffydd Christ yn sylfaen, nid oes vn waithred dda, pa adailadaeth bynnag a wnelont arno. Mae vn weithred yn yr hon y mae pob gweithred dda, hynny yw ffydd yr hon a weithia trwy gariad. Os ydyw honno gennym mae gem­nym sylfaen yr holl weithredoedd da. O herwydd yr ydys yn rhoi rhinweddau nerth, synwyr, cym­medrolder, cyfiawnder, oll i gyd at ffydd.

Heb ffydd nid oes gennym vn o'r rhinweddau ymma, ond eu llun au henwau hwy yn vnic, fal y dywaid S. Awstin, Mae holl fywyd y rhai sydd heb ffydd yn bechod, ac nid oes dim da heb yr hwn a sydd awdur pob daioni, lle nid ydyw efe nid oes yno onid lledrith rhinwedd yn y gweithredoedd gorau.

Ac fal y dywaid S. Awstin wrth agoryd y vers Psal, 84. 3. hon o'r Psalm, fe gafodd y golommen nŷth lle caidw hi ei chywon) fod Iddewon anffyddlonion a Hereticiaid yn gwneuthur gweithredoedd da. Maent yn dillatta 'r noeth, yn porthi 'r tlawd, ac yn gwneuthur gweithredoedd y drugaredd: ond o herwydd nad ydynt yn eu gwneuthur â gwir [Page 61] ffydd, maen hwy yn coll ieu cywon. Ond os hwya arhosant yn y ffydd fe fydd ffydd nyth a noddfa i'w cywon hwy, hynny yw nawddfa i'w gweithredo­edd hwy fal na chollant eu holl wobr.

A'r hyn y mae Awstin mewn llawer o lyfrau yn ei ddadleu yn halaeth, mae S. Ambros yn ei gynnwys mewn ychydig o eiriau, gan ddywedyd, yr hwn trwy annian a fynnei wrthwynebu be­iau naill ai trwy ei naturiol ewyllys, ai drwy reswn, ofer y mae fe 'n harddu amser y bywyd ymma, ac nid ydyw yn gallu meddiannu gwir rinweddau, o herwydd heb addoli y gwir Dduw nid ydyw yr hyn a dybygir ei fod yn rhinwedd, onid bai.

Ac etto yn eglurach i'r defnydd ymma yr scri­fenna In sermone de fide, Lege & Spiritu sancto. S. Chrysostom yn y geiriau hyn, Chwi a ellwch weled llawer heb wir ffydd ganthynt, ac heb fod o gorlan Christ, ac etto fal y gwelir, maent yn hoyw mewn daionus weithredoedd y druga­redd. Chwi a'u cewch hwynt yn llawn trugaredd, tiriondeb, a chwedy ymroi i gyfiawnder, e'r hyn­ny nid oes iddynt ddim ffrwyth o'u gweithredo­edd, am fod arnynt eisiau y weithred bennaf. Cans pan ofynnodd yr Iddewon i Grist pa beth a wnaent i wneuthur gweithredoedd da, fe a atte­bodd, hon yw gweithred Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd ef, fal y galwodd ef ffydd yn waith Duw. Ac er cynted y bytho ffydd gan ddyn, mae fe yn y fan yn ym hoywi mewn gwei­thredoedd da. O herwydd mae ffydd o honi ei hun yn llawn gweithredoedd da, ac heb ffydd nid oes dim yn dda.

Yn lle cyffelybaeth mae fe 'n dywedyd fod y rhai sydd yn discleirio ac yn Llewyrchu. goleuannu mewn gwei­thredoedd [Page 62] da heb ffydd yn-Nuw, yn debyg i wyr meirw yn gorwedd mewn beddau gwerthfawr gwych, ac etto heb fuddio iddynt. Ni ddichon ffydd fod yn noeth heb weithredoedd da, o herwydd yno nid yw hi wir ffydd: a phan gydsylltir hi â gweithredoedd, etto mae hi vwchlaw 'r gweithre­doedd. O herwydd megis yn gyntaf y mae bywyd mewn dynnion y rhai ydynt wir ddynion, ac yn ol bod bywyd yr ydys yn eu hymborth hwynt: felly mae yn rhaid i ffydd ynghrist fyned o'r blaen, ac yn ol hynny rhaid yw ei phorthi â gweithredoedd da. Fe ddichon bod bywyd heb ymborth, ond ni ddi­chon bod ymborth heb fywyd.

Rhaid i ddyn gael ei ymborth trwy weithre­doedd da, ond rhaid yw bod ffydd gantho yn gyn­taf. Yr hwn a wna weithredoedd da, ac heb ffydd, nid oes bywyd ynddo. Mi a fedraf ddangos vn heb weithredoedd a fu fyw, ac a ddaeth i'r nef, ond heb ffydd ni bu fywyd mewn dyn er ioed. Fe a gredodd y lleidr yn vnic yr hwn a grogwyd pan di­oddefodd Christ, ac fe a gyfiawnhaodd y trugaroc­caf Dduw ef. A rhag dywedyd o neb ailwaith fod arno eisiau amser i wneuthur gweithredoedd da, ac oni buase hynny y gwnelsai fe hwy. Gwir yw, nid ymrysonaf ddim yn hynny: ond hyn a ddy­wedaf yn siccr ddigon, i ffydd yn vnic ei gadw ef. Pe buasei fe yn byw ac heb ofalu am ffydd a'i gwei­thredoedd, fe a gollasai ailwaith ei gadwediga­eth. Ond hyn yw 'r cwbl yr ydwyf yn ei ddywe­dyd, i ffydd o honi ei hunan ei gadw ef, ac na chyfi­awnhaodd gweithredoedd o honynt eu hunain ddyn er ioed.

Ymma y clywsoch feddwl S. Chrysostom gan yr hwn yr ydych yn deall nad ydyw ffydd heb wei­thredoedd, [Page 63] os bydd lle ac amser i'w gwneuthur hwy, ac na ddichon gweithredoedd heb ffydd les­hau i fywyd tragwyddol.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am weithredoedd da.

FE fanegwyd i chwi eisioes ddau beth o'r tri a nodasid yn enwedig ynghylch ffydd yn y bregeth ddiwethaf.

Y cyntaf yw nad ydyw ffydd vn amser yn segur heb weithredoedd da pan fo pryd ac amser i'w gwneuthur hwy.

Yr ail, na ellir gwneuthur gweithredoedd da cymmeradwy ger bron Duw heb ffydd.

Weithian awn at y trydydd, Lle y dangosir pa fath weithredoedd ydyw y rhai a darddant o wir ffydd, ac a hebryngant ddynion duwiol i dragwy­ddol fywyd. Hyn ni ellir ei ddyscu yn well na chan Grist ei hun, i'r hwn y gofynnodd rhyw ŵr mawr yr vn pwngc, Pa weithredoedd a wnafi, eb rhyw ly wodraethwr, i ddyfod i dragwyddol fywyd? i'r hwn yr attebodd Iesu,

Os mynni ddyfod i fywyd tragwyddol, cadw y gorchymynion. Ond y llywodraethwr heb ei fod­loni trwy hyn, a ofynodd ymhellach, Pa orchy­mynion? Fe wnelse yr scrifenyddion a'r Pharisę­aid gymmaint o gyfraithiau a thraddodiadau o'r eiddynt eu hunain i hebrwng dynion i'r nef, heb­law gorchymynion Duw, na wyddai y gwr ym­ma trwy ba vn y dawai ef i'r nef, ai trwy y cyfrai­thiau a'r traddodiadau hynny, ai trwy orchymy­nion Duw.

Ac am hyn y gofynnodd, pa orchymynion yr ydo­edd [Page 64] Christ yn eu meddwl. I'r hwn y gwnaeth Christ atteb golau, gan gyfrif iddo orchmynion Duw, a dywedyd, Na ladd, na wna odineb, na le­dratta, na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dâd a'th fam, Car dy gymmydog fal dy hun. Trwy 'r hyn airiau y dangosodd Christ mai gorchymy­nion Duw ac nad traddodiadau a chyfraithiau dynion yw 'r vniawn ffordd sydd yn ein hebr­wng ni i fywyd tragwyddol: fal y dyleid cymme­ryd hon yn gywiraf gwers a ddangoswyd trwy e­nau Christ ei hunan, mai gweithredoedd cyfraith foesawl Dduw yw gwir weithredoedd ffydd, y rhai a dywysant i'r bendigedig fywyd sydd ar ddy­fod. Ond yr ydoedd dallineb a chenfigen dyn o'r dechreuad yn barod i gwympo oddiwrth orchy­mynion Duw. Megis Adda y gwr cyntaf yr hwn er nad oedd gantho orchymmyn onid vn, na fwy­tae o'r ffrwyth gwaharddedig, etto er gorchym­myn Duw fe a gredodd y wraig yr hon drwy ddi­chell y sarph a dwyllasid: ac felly a ganlynodd ei ewyllys ei hun, gan adel heibio orchymmyn Duw.

Ac er yr amser hynny etto fe ddallwyd pawb oll a ddaethont o hono, trwy ddechreuol bechod, hyd onid oeddynt barod i gwympo oddiwrth Dduw ai gyfraith, ac i ddychymmygu ffordd newydd i Ga­dwedigaeth trwy weithredoedd o'u ddychymmyg eu hun: hyd oni chrwydrodd haychen yr holl fyd ynghylch amcanion eu calonnau eu hunain, gan ymwrthod a gwir anrhydedd yr vnic a bythfywiol Dduw, gan addoli, rhai yr haul, y lleuad, y ser, rhai Iupiter, rhai Diana, rhai Iuno, Saturn, Apollo, Neptun, Ceres, Bacchus, a gwyr a gw­ragedd meirw.

[Page 65] Rhai ni allid a hyn eu digoni, a addolasant am­ryw anifeiliaid, adar, pyscod, ehediaid, a gwibe­rod, pob gwlad, tref, a thy haychen gwedy eu rhannu, gan osod ac adoli delwau y pethau a'u bodlonent.

Mor ynfyd oedd y bobl gwedy iddynt gwympo at eu hamcanion eu hunain, a rhoi i fynydd y tra­gwyddol a'r bywiol Dduw a'i orchmynion, ac y dychmygasont iddynt eu hunain aneirif ddelwau a Duwiau.

Yn yr hwn gamsynnaeth a thywyllwch yr o­eddynt yn aros nes i'r holl-alluog Dduw gan dos­turio wrth ddallineb dyn, ddanfon i'r byd ei gy­wir brophwyd Moeses i argyoeddi ac i geryddu yr anfad ynfydrwydd ymma, ac i ddyscu 'r bobl i adnabod yr vnic fywiol Dduw, a'i wir anrhydedd a'i addoliad. Ond mae llygredig duedd dyn gwe­dy ymroi mor gwbl i ddilyn ei feddwl ei hun, ac fal y oywedwn, i fawrhau 'r aderyn Fagodd. a faethri­nodd ef ei hun, nad ydyw yr holl rybyddiau, anno­giaethau, daionus ddoniau na bygythiau Duw, yn abl i'w gadw ef oddiwrth y fath ddychymmy­gion.

O herwydd er holl ddoniau Duw a dywallt­wyd ar blant yr Israel, etto pan aeth Moeses i fynydd i ymddiddan â'r holl-alluog Dduw, nid arhosasai yno ond ychydig ddyddiau, nes i'r bobl wneuthur Duwiau newydd. Ac fal y daeth yn eu pennau, hwy a wnaethant lo o aur ac a benli­nasant i lawr ac a'i had dolasant ef. Ac yn ol hyn Exod. 32. hwy a ddilynasant y Moabiaid, ac a addolasant Beel phegor Duwy Moabiaid.

Darllenwch lyfr y Barnwyr, llyfrau y brenhi­noedd a'r prophwydi, ac yno y cewch weled mor [Page 64] [...] [Page 65] [...] [Page 65] anwadal oedd y bobl, mor llawn o amcanion, a pharotach i ddilyn eu ffansiau eu hunain nâ sanc­teiddiaf orchymmynion Duw. Yno y gellwch ddarllen am Baal, Moloch, Chamos, Melchom, Baal-peor, Astaroth, Bel, y ddraig, Priapus, y sarph bres, y dauddeg arwydd, a llawer o bethau eraill. I ddelwau y rhai mewn gostyngeiddrwydd mawr y gosodai 'r bobl bererindodau, gan eu trwsio 'n werthfawr, arogldarthu, penlinio ac offrwm iddynt, gan dybied fod hynny yn haeddi­ant vchel ym-mlaen Duw: ac y cyfrifid hynny vwchlaw holl gyfraithiau a gorchymyniō Duw.

Ac lle daroedd i Dduw orchymmyn na wnaid vn aberth ond yn Ierusalem, hwyntau o'r gwrth­wyneb a wnaethant allorau ac aberthau ym­mhob man, yn y mynyddoedd, yn y coedydd, ac yn y tai, heb wneuthur cyfrif o orchymmynion Duw, gan dybied fod eu hamcanion a'u crefydd eu hunain yn well nâ hwy. Ac fe wascarwyd y camsynnaeth hynny cyfled, fel y llygrwyd nid yn vnic y cyffredin annyscedig bobl, ond yr offeiriaid a'r dyscawdwyr hefyd, trwy drachwant, gwago­goniant, ac anwybod i wneuthur yr vn rhyw ffi­eidd-dra. Yn gymmaint a phan nad oedd gan fre­nin Ahab onid vn Elias yn wir ddyscawdr a gw­enidawg Duw, yr oedd wythcant a deg a deigain o brophwydi yn ei annog ef i addoli Baal, ac i a­berthu yn y coedydd a'r llwyni.

Ac fe a barhaodd y blin gamsynniaeth hynny, nes i'r tri brenin godidawg, Iosaphat, Ezechias, a Iosias, dewisol wenidogion Duw, ddinistrio y pethau hynny yn gwbl: a dwyn ailwaith y bobl oddiwrth eu gwâg amcanion, at orchmynion Duw. Am yr hwn beth mae eu hanfarwol wobr, [Page 66] a'u gogoniant hwy yn aros gyda Duw yn dra­gywydd.

Ac heb law y traddodiadau a soniasom ni am­danynt eisioes, fe wnaeth tuedd dyn (er cael ei sanctaidd addunedau ei hun) sectau, a chrefyddau newydd, a elwid Pharisaeaid, Saducaeaid, ac scri­fenyddion, a llawer (fal y tybygid oddifaes, ac wrth ymddangosiad têg eu gweithredoedd) o dra­ddodiadau ac ordeiniadau sanctaidd duwiol, ond mewn gwirionedd yr ydoedd y cwbl oll yn arwain at ddelw-addoliad, ofergoel a rhagrith, gan fod eu calonnau oddifewn yn llawn cenfigen, balch­edd, trachwant a drygioni.

Yn erbyn y sectau hynny a'u sancteiddrwydd ragrithiol y gwaeddodd Christ yn danbeitach nag yn erbyn vn rhyw ddynion eraill, gan ddywedyd a mynych adrodd y geiriau hyn, gwae chwi scri­fenyddion a Pharisęaid ragrithwyr, canys yr y­dych Matth. 23. 25. yn glanhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ac o'r tu mewn llawn ydych o yspail a brynti. Tydi Pharisęad dall, glanha yn gyntaf y tu mewn i'r Phiol. cwppan a'r ddyscl. O herwydd er eu holl wych draddodiadau, ac ymddangosiadau eu gweithredoedd da oddiallan, y rhai a wnelsent o'u meddylfryd eu hunain, trwy y rhai yr ymddango­sent i'r byd yn grefyddgaraf ac yn sancteiddiaf o wyr y byd, etto fe wyddiai Grist yr hwn a welodd eu calonnau hwy eu bod oddifewn ger bron Duw, yn ansanteiddiaf yn ddiffeithiaf ac ym-mhellaf oddiwrth Dduw o holl wyr y byd, ac am hynny y dywaid wrthynt, O ragrithwyr, da y prophwy­dodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd, Math. 15. 8, 9. Nesau y mae 'r bobl hyn attaf â'u genau a'm an­rhydeddu au gweusau, onid eu calon sydd bell Esai. 29. 13. [Page 68] oddiwrthyf: ofer y'm anrhydeddant i gan ddyscu gorchymmynion dynnion yn ddysceidiaeth, yr y­dych Mat. 15. 3. yn torri gorchymmyn Duw trwy eich tra­ddodiad chwi.

Ac er bod Christ yn dywedyd eu bod hwy yn a­ddoli Duw yn ofer, trwy ddyscu athrawiaethau a gorchymmynion dynnion, etto nid oedd Christ trwy hyn yn meddwl distry wio holl orchymmy­nion dynion, o herwydd ef ei hun a fu vfydd i dy­wysogion a'u cyfraithiau a wnaeth pwyd er tref­nu a llywodraethu 'r bobl. Onid fe a argyoeddai y cyfraithiau a'r traddodiadau a wnaethai 'r scri­fenyddion a'r Pharisaeaid, y rhai ni wnaethpwyd yn vnig er daionus drefnu 'r bobl, (megis y gw­neuthpwyd cyfreithiau moesol) onid hwy a osoda­sid cyfuwch fal y gwneuthpwyd hwy yn bur ac yn iawn addoliad Duw, megis pe buasent gogy­fuwch â chyfraithiau Duw, neu vwch eu llaw hwy.

O herwydd ni ellid cadw llawer o gyfraithiau Duw, ond gorfod arnynt roddi lle i'w cyfreithiau hwy. Dymma 'r rhyfyg yr oedd Duw yn ei gas­hau yn fawr, i ddyn dderchafu ei gyfraithiau ei hun, a'u gwneuthur yn ogyfuwch â gorchymyn­nion Duw, yn y rhai y mae anrhydedd ac iawn addoliad Duw yn sefyll, a pheri gadu heibio er mwyn y rhai hynny ei gyfraithiau ef ei hun.

Fe a ossododd Duw ei gyfraithiau ei hun trwy y rhai y mynn ei anrhydeddu. Ei ewyllys ef he­fyd yw cadw o'r bobl ac vfyddhau i bob cyfrai­thiau dynion drwy na wrthwynebant ei gyfrai­thiau ef, megis daionus ac anghenraid i bob dai­oni cyffredinawl: ac er hyn nid megis yn y rhai yn bennaf y mae anrhydedd Duw yn sefyll. Ond [Page 69] se wnair neu fe ddylid gwneuthur holl foesawl gyfraithiau dynnion er dwyn dynnion yn well i gadw gorchymmynion Duw, fal o hyn yr anrhy­deddid Duw drwyddynt hwy yn well.

Etto nid oedd fodlon gan yr scrifennyddion a'r Pharisaeaid na chyfrifasid eu cyfraithiau hwy yn v wch nâ chyfraithiau gosodedig moesawl eraill, ac ni fynnent eu galw hwy wrth enwau cyfrai­thiau bydol eraill, ond hwy a'u galwent yn dra­ddodiadau sāctaidd, duwiol, ac a fynnynt eu cyfrif hwy nid yn vnic yn iawn ac yn wir addoliad Duw (megis yn wir y mae cyfraithiau Duw) onid hefyd vn vchel anrhydedd Duw, i'r hwn y dylyei orchymyniō Duw roi lle. Dymma 'r achos y dywedai Grist mor llym yn eu herbyn hwy, gan ddywedyd, mae eich traddodiadau sydd mor frain­tus ger bron dynion, yn gasineb ger bron Duw. O herwydd fynychaf o'r fath draddodiadau y can­lyn troseddu neu dorri gorchymynion Duw, a mwy o ddefosiwn i gadw y fath bethau, ac yn fwy yn erbyn cyd wybod eu torri hwy, nâ thorri gor­chymynion Duw. Megis y cadwe yr scrifeny­ddion a'r Pharisęaid y Sabaoth yn y fath ofer­goel, ac mor arswydus, hyd oni ddigient wrth Grist am iddo ar y Sabaoth iachau y cleifion: ac Mat. 12. 2, 13. wrth ei Apostolion am iddynt ar y dydd hwnnw, a hwyntau yn newynog gynnull tywys ŷd i'w v wyta, ac am na byddai ddyscyblon Christ yn golchi eu dwylaw cy fynyched ac y gorchymyn­ne eu traddodiadau hwy, y cweryle yr scrifenyddi­on a'r Pharisęaid ar Grist gan ddywedyd, paham y mae dy ddiscyblon di yn torri traddodiadau yr he­nuriaid ond fe a attebodd Christ hwy gan ddan­gos eu bod hwy trwy eu traddodiadau eu hunain Mat. 15. 2, 3. [Page 70] yn torri gorchymmynion Duw.

O herwydd hwy a ddyscent i'r bobl y fath gre­fydd ar fod iddynt offrwm eu da i drysordŷ 'r deml, yn rhith anrhydeddu Duw, gan adel eu tadau a'u mammau y rhai yr oeddynt yn rhwymedig i'w cymmorth, heb ymwared; Ac felly y torrasont orchymynion Duw, i gadw eu traddodiadan eu hunain. Yr oeddynt hwy yn cyfrif yn fwy y llw a wnaid i'r aur neu 'r offrwm yn y deml, nâ 'r llw a wnaid yn enw Duw ei hun, neu i'r deml; Yr oeddynt yn gyflymmach i dalu eu degymmau o bethau bychain, nag i wneuthur pethau mwy a orchymmynnasai Dduw megis gweithredoedd y drugaredd, gwneuthur cyfiavonder, a gweu­thur Math. 23. v. 23. yn ddihocced, yn vniawn, ac yn ffyddlon â Duw a dyn.

Y pethau hyn medd Christ sydd raid eu gwneu­thur, ac na a dawer y llaill heb wneuthyd. Ac i ddiweddu, yr oeddynt mor ddeillion ac y tramg­wyddwent wrth welltyn, ac y neident dros gŷff. Hwy a fyddent fanol i dynu gwybedyn fach o'u diod, ac er hynny hwy a lyngcent gammel. Am hynny y galwodd Christ hwy yn dywyswyr deilli­on, gan rybyddio ei ddyscyblon o amser i amser i wagelyd eu athrawaeth hwy. O herwydd er eu bod hwy yngolwg y byd yn wyr perffaith yn eu bywyd a'u hathrawaeth, etto nid ydoedd eu by­wyd onid rhagrith, na'u hathrawaeth onid sur­does, gwedy ei gymyscu ag ofergoel, delwaddo­liad a chamfarn, gan osod i fynydd draddodiadau ac ordeiniadau dŷn yn lle gorthymmynion Duw.

¶Y trydydd ran o'r bregeth am weithredoedd da.

FAl y gallai bawb iawn ystyriaid gweithredoedd da, fe fanegwyd yn yr ail rhā o'r bregeth hon, pa fath weithredoedd da yw y rhai a fynnai Douw i'w bobl rodio yndynt: hynny yw y rhai a or­chymmynnodd ef yn ei sanctaidd scrythur, ac nid y fath weithredoedd a ddychym­mygodd dynnion o'u ymmenyddau eu hunain, o zêl ddall a defosiwn, heb air Duw. Ac wrth gam­gymmeryd annian gweithredoedd da, fe a anfod­lonodd dŷn Dduw yn fawr, ac aeth oddiwrth ei orchymynion ef a'i ewyllys.

Ac fal hyn y clywsoch mor barod oedd y byd o'r dechrau hyd amser Christ i gwympo oddiwrth orchymmynnion Duw, ac i geisio moddion eraill i'w anrhyddeddu a'i wasanaethu ef yn ol y defo­siwn a wnelsent o'u pennau eu hunain. A pha fodd y gosodasant eu traddodiadau eu hunain go­gyfuwch, neu vwchben gorchymynion Duw.

Yr hyn beth a ddigwyddodd yn ein amseroedd ninnau, mor gyflawn ac ymmlhith yr Iddewon: a hynny trwy lygredigaeth neu ar y lleiaf trwy escaelusdra y rhai a ddylasent fwyaf dderchafu gorchymynnion Duw, a chadw ei bur a'i nefol a­thrawaeth ef a adawodd Christ ini. Pa wr ac yn­ddo na barn, na dysc, gwedy ei chyssylltu a gwir zêl tuag at Dduw, na wyla ac na alara ddyfod i mewn i greddyf Grist y fath gau-athrawaeth, ofergoel, delwaddoliad, a rhagrith, ac anafus fa­iau, [Page 72] a chamarferon eraill, hyd oni rwystrwyd bob ychydig, ac oni ddodwyd heibio fara melys sanctaidd air Duw trwy surdoes y pethau hyn­ny. Ni bu gan yr Iddewon er ioed yn eu da­llineb mwyaf cyunifer pererindod at ddelwau mudion, ac ni arferwyd gymmaint o benlinio, o gusanu ac o offrwm, ac a arferwyd yn ein ham­ser ni.

Ni bu er ioed y ddeugeinfed ran o'r sectau a'r gaugrefyddau ymlith yr Iddewon, ac nid arfer­wyd hwy yn annuwiolach nac mewn mwy o o­fergoel, nag yr arferwyd hwy yn hwyr yn ein mysc ni. Yr hyn sectau a chrefyddau oedd ganthynt y sawl ragrithiedig gau-weithredoedd yn ei cre­fydd (megis yn rhyfygus y galwent hi) fal yr ydo­edd eu llusernau (meddent) yn rhedeg drosodd yn wastad, yn abl i wneuthuriawn nid yn vnig dros eu pechodau eu hunain, onid hefyd dros bawb eraill o'u cymwynaswyr, brodyr, a chwi­orydd mewn crefydd. Megis yn annuwiol ac yn ddichellgar yr hudasent y bobl annyscedig, gan ga­d w mewn llawer mann megis ffeiriau a march­nodoedd o'u haeddedigaethau, y rhai oeddent yn llawn o greiriau sanctaidd, o ddelwau, ac o wei­thredoedd gweddill, yn rhedeg drosodd yn barod i'w gwerthu. Pob peth ac oedd ganthynt a el­wid yn sanctaidd, peisiau sanctaidd, gwregysau sanctaidd, pardynau sanctaidd, padreuau sanc­taidd, escidiau sanctaidd, rheolau sanctaidd, a phob peth yn llawn sancteiddrwydd.

Pa beth a ddichon bod yn ffolach yn annuwio­lach neu yn llawnach o ofergoel nag i wyr, gwra­gedd, a phlant wisco pais manach i'w gwared o­ddiwrth y Cryd neu'r nodau. dderton neu 'r cowyn: a phan fyddent [Page 73] farw a phan gladdid hwy, peri taflu hwnnw ar­nynt, gan obeithio twy hwnnw gael bod yn ga­dwedig? Yr hyn ofergoel er nad arferwyd (i Dduw y bytho 'r diolch,) ond yn ambell o fewn y deyrnas hon, etto mewn llawer o deyrnasoedd eraill fe arferwyd, ac a arferir etto, ymhlith dys­cedig ac annyscedig.

Ond i adel heibio 'r ofergoel aneirif a su gan­thynt mewn trwsiadau dieithr, mewn gwybo­daeth, mewn hun-deiau, mewn closterau, mewn Capidylau, mewn dewis-swydau, diodydd, a'r fath bethau, ystyriwn pa anferthrwydd a fu yn y tri phwngc pennaf o'u cresydd hwy, y rhai a alwent yn dri anianol neu yn dri sylfaen diogelaf o gre­fydd: hynny yw vfydd-dod, di weirdeb, ac ewyll­ysgar dlodi.

Yn gyntaf yn rhith vfydd-dod i'w tâd enaid, yr hwn vfydd-dod a wnaethont hwy eu hunain, hwy a ryddhawyd trwy eu rheolau a'u canonau oddiwrth vfydd-dod i'w tadau a'u mammau cnawdol, oddiwrth vfydd-dod i'r yinherodr, i'r brenin a phob gallu bydol, y rhai a ddylent ac wrth gyfraithiau Duw yr oeddent rwymedig i vfyddhau iddynt. Ac felly fe wnaeth cymmeryd arnynt vfydd-dod annyledus iddynt wrthod eu dyledus vfydd-dod.

Ac yn wir honestach yw distewi na son am y modd y cadwent broffes eu diweirdch, a gadu i'r bydfarnu y peth a W. [...]. wyddys yn dda, na thrwy eiri­au serth bryntion wrth fanegu eu brwnt fywyd hwy, digio clustiau duwiol glân.

Ac am eu ewyllysgar dlodi hwy, y cyfryw ydo­edd, fal pan oeddynt mewn meddiannau tlyssau arian a chyfoeth yn ogyfuwch, neu vwchlaw [Page 74] marsiandwyr, boneddigion, barwniaid, iairll a duwciaid, etto wrth y term twyllodrus dichell­gar hwnnw proprium in communi, hynny yw pri­odol mewn cyffredinolrwydd, y gwatwarent yr holl fyd, gan beri iddynt gredu er eu holl gyfoeth a'u meddiannau, eu bod hwy yn cadw eu llw a'u hadduned, ac yn byw mewn ewyllysgar dlodi. Ond er eu holl gyfoeth ni allent nerthu na thâd na mam na neb eraill ac oedd wir anghenus dlo­dion, heb gennad eu tâd Abad, prior, neu warden.

Etto hwy allent gymmeryd gan bawb, ond ni allent roi dim i neb, na allent i'r rhai yr oeddynt rhwymedig wrth gyfraithiau Duw i'w cym­morth. Ac felly trwy eu traddodiadau a'u rheo­lau hwy, ni chae gyfraithiau Duw reoli yn eu mysc hwy.

Ac am hynny y gallid yn ddifai ddywedyd am danynt yr hyn a ddywedodd Christ wrth y Phari­sęaid, Yr ydych yn torri gorchymmynion Duw Math. 15. 3. 8. â'ch traddodiadau, yr ydych yn anrhydeddu Duw â'ch gwefusau, a'ch calonnau ydynt bell oddiwr­tho: a pha hwyaf oedd y gweddiau a arferent ddydd a nos mewn lliw a rhith o'r cyfryw sanctei­ddrwydd, i ennill ewyllys da gwragedd anwadal, a dynion anddichelgar eraill, fal y gallent ganu offerennau a gwasanaeth dros eu gwŷr a 'u cera­int, a'u gollwng hwy, au derbyn i'w gweddiau, cyfiawnach a gwirach y dywedir am danynt y­madrodd Christ, Gwae chwi scrifenyddion a Pha­risęid ragrithwyr, canys yr ydych yn difa tai gw­ragedd gweddwō yn rhith hir weddio, am hynny y derbynniwch farn fwy: gwae chwi scrifenyddi­on a Pharisęaid ragrithwyr, canys amgylchu yr Math. 23. 14. 15. ydych y mor a'r tir i wneuthur vn proselyt neu [Page 75] frawd newydd, a chwedy darffo i chwi eu der­byn hwy i mewn au cymeryd i'ch sect, yr ydych yn eu gwneuthur yn blant vffern yn waeth nâ chwi eich hunain.

Moliant i Dduw a osododd ei oleuni yngha­lon ei ffyddlon was a'i wenidawc cywir brenin Harri 8. o goffaduriaeth glodforus, ac a roddes iddo wybodaeth ei air, ac ewyllys difri i geisio ei ogoniant ef, ac i ddodi heibio bob sectau Phari­saiaidd coelfucheddol, y rhai a osodasai Anghrist yn erbyn gwir air Duw a gogoniant ei sanctaidd enw ef, fal y rhoddodd ef yr vn rhyw Yspryd i'r ardderchoccaf a'r clodforusaf frenhinoedd Iosa­phat, Iosias ac Ezechias. Duw a ganiatâo i ni oll ffyddlon a gwir ddeiliaid goruwchelder y bre­nin, ymborth a'r felus a blasus fara gair Duw ei hunan, ac megis y gorchymynnodd Christ wage­lyd surdoes rhith grefydd Pharisęaid a phapisti­aid. Yr hwn er ei fod gan Dduw yn gas, ac yn wyrthwyneb i gyfraithiau Duw, ac i bur grefydd Grist, etto fe ganmoled i fod yn dduwiolaf by­wyd, ac yn stât vchaf o berffeiddrwydd. Fal pe gallai ddŷn fod yn dduwiolach ac yn berffeiddiach, wrth gadw rheolau, traddodiadau, a chyffesau dy­nion, nag wrth gadw sancteiddiaf orchymmyni­on Duw.

Ac ar ychydig airiau i adel heibio y rhywiau eraill ar grefydd, adroddwn ryw fathau o ofer­goel a chamarferon papistiaid, megis padereuau, fallwyreu Mari, gwersau saint Bernard, llythy­rau S. Agathi o'r purdan, offerennau iawn, safi­adau, Iubilęau, gau-greiriau, padereuau sanc­taidd, clych, bara, dwfr, palmwydd, canwyllau, tân bendigaid, a'r fath bethau coelfucheddol, ympry­diau, [Page 76] ffrieriaethau, brawdoliaethau, pardynau a'r fath farchnadiaethau: y rhai a wnaed gym­maint o honynt, ac a gamarfered er anferth ddir­mygu gogoniant Duw a'i orchymynion: gan dy­bied eu bod hwy yn odidawgaf a sancteiddiaf pe­thau a allai fod, i gael bywyd tragwyddolitrwy­ddynt, a maddauant o bechodau.

Ie hefyd fe dderchafed felly wag-amcanion, ce­remoniau anffrwythlon, cy freithiau anuuwiol, gosodiadau a chynghorau Rufain, yn y fath fodd nad oeddid yn cyffelybu dim iddynt mewn awdur­dod, synwyr, dysc a duwloldeb, hyd oni ddywedent y dylyei bawb dderbyn cyfraithiau Rufain, me­gis y pedwar efangylwr, i'r rhai y dylyei holl gy­fraithiau tywysogion roddi lle. Ie ac yr oeddynt o ran hefyd yn gadel heibio ac yn dibriso cyfrei­thiau Duw, fal y gellid cadw yn dduwiolach, ac anrhydeddu a mwy ostyngeiddrwydd y cyfrai­thiau, gosodiadau, cynghorau, y traddodiadau a'r ceremoniau hynny. Fal hyn y dallwyd y bobl trwy wedd deg y pethau ymma, fal y tybygent fod vfydd-dod iddynt yn fwy sancteiddrwydd, ac yn berffeiddach gwasanaeth ac anrhydedd i Dduw ac yn bodloni Duw yn fwy nag vfydd­dod i orchymynion Duw.

Or fath hyn y bu lygredig agwedd dyn, yn ymrhoi yn ofer i wneuthur o'i ben ei hun newydd anrhyddedd i Dduw, ac i fod gwedy hynny yn well ei ewyllys a'i ddefosiwn i gadw hynny nag i chwilio allan am orchymynion Duw, a'i cadw. Ac hefyd i gymmeryd gorchymynion dynion yn lle gorchymynion Duw, a gorchymynion Duw yn lle gorchymynion dynion. Ie gorchymynion dynion yn lle y rhai vchaf, sancteiddiaf a pherffei­ddiaf [Page 77] o holl orchmynion Duw. Ac felly yr oedd y cwbl oll yn gymmysc ddigon, fal yr ydoedd yn a­nodd i wyr dyscedig wybod, ac nid oedd honynt nemmor a wyddai neu a gymerai arno wybod, neu ar y lleiaf a feiddiai ddywedyd y gwirionedd, a gwahanu a dosparthu gorchymynion Duw o­ddiwrth orchymynion dynion. O hyn y tyfodd llawer o gamsyniaeth, ofergoel, delw-addoliad, gwâg-grefydd camfarn, mawr ymryson a phob anuwiol fywyd.

Am hyn megis y mae gennych zêl at iniawn a phur anrhydedd Duw, fal yr ydychwi yn priso am eich eneidiau eich hunain, ac am y bywyd a ddaw, yr hwn sydd heb na phoen na diwedd, rhoddwch eich hunain vwchlaw pobpeth i ddar­llen ac i wrando gair Duw: ystyriwch yn ddi­wyd ynddo pa beth a ewyllysia ef i chwi ei wneu­thur, ac a'ch holl egni ymhyderwch i ddilyn hynny.

Yn gyntaf rhaidyw bod gennych ddiogel ffydd yn-Nuw, a'ch rhoi eich hunain yn hollol iddo ef, ei garu ef mewn hawddfyd ac mewn adsyd, ac ofni ei odigio ef bob amser. Ac er ei fwyn ef cerwch bawb, ceraint a gelynion, am eu bod yn greadu­riad ac yn ddelw iddo, a chwedy i Grist eu prynu megis chwithau. Bwriwch yn eich calonnau pa fodd y gellwch wneuthur daioni i bob dyn yn ol eich gallu, ac na ddrygwch neb, vfyddhewch eich goruwch a'ch llywodraethwyr, gwasaneu­thwch eich meistred yn ffyddlon ac yn ddyfal, yn gystadl yn eu gwydd ac yn eu absen, nid rhag ofn cosp yn vnic, ond er mwyn cydwybod, gan wybod eich bod yn rhwymedig i wneuthur felly, trwy orchynmyn Duw.

[Page 78] Nac anufyddhewch eich tadau a'ch mammau, onid anrhydeddwch hwy, cynorthwywch a bodlo­nwch hwy yn ol eich gallu. Na orthrymmwch, na leddwch, na ffustwch, nac sclawndyrwch neb. Na chashewch neb, onid cerwch bawb, dywedwch yn dda am bawb, cynorthwywch a nerthwch bawb hyd y galloch, ie eich gelynion a'ch cashant chwi, a ddywedant yn ddrwg am danoch, ac a'ch eneiweidiant chwi. Na chymerwch dda neb, na thrachwentwch dda neb yn anghysion, ond by­ddwch fodlon i'r peth a ennilloch yn gywir, a rhowch eich da eich hunain yn garedigol pan fo rhaid ac achos.

Gwagelwch bob delwaddoliad, swyngyfaredd ac anudon. Na wnewch odineb, anniweirdeb nac vn aflendid, mewn meddwl nac mewn gwei­thred gydâ gwraig gwr arall, gydâ gweddw, na chydâ merch, neu mewn moddion eraill. Ac wrth drafaelu fal hyn yr hyd y byddoch byw, i gadw gorchmynion Duw (yn y rhai y saif pur odidawg ac iawn anrhydedd Duw, yr hyn os gwnair mewn ffydd yr hon a ordeiniodd Duw i fod yn vniawn ffordd a llwybr i'r nef) ni ffaelwch chwi ddyfod fal yr addawodd ef i'r by wyd didranc ben­digedig lle y cewch fyw mewn gogoniant, allaw­enydd gyda Duw dros fyth▪ I'r hwn y byddo moliant, gogoniant ac ymherodraeth dros fyth ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am gariad perffaith a charedigrwydd Christianogawl.

O' R holl bethau ar ydynt dda eu dangos i Gristionogion, nid oes vn peth mor anghenrhaid son a galw am dano beunydd, ac yw cariad perffaith: cystadl am fod holl weithredoedd cyfiawnder yn gynhwysedig ynddo, ac hefyd am fod diffyg cariad yn wradwydd ac yn gwymp ir byd, yn aethwladaeth rhinwedd, ac yn achos o bob drygioni. Ac yn gymmanit a bod pob dyn haechen yn gwneuthur ac yn llunio cariad per­ffaith iddo ei hun, yn ol ei ewyllys ei hunan: ac er cased fytho ei fywyd ger bron Duw a dyn, etto fe debyg yn wastadol fod cariad ynddo. Erwydd pa­ham yn awry cewch glywed dosparth ac yspysrw­ydd goleu cywir o gariad perffaith, nid o ddy­chymmyg dyn, onid o airiau a siampl ein Iachaw­dwr Iesu Ghrist: yn yr hwn ddosparth ac hyspys­rwydd y dichon pob dyn megis mewn drych ysty­riaid, a gweled yn oleu heb gamsyniaeth pa vn yw ai bod mewn gwir gariad perffaith ai nad ydyw.

Cariad perffaith yw caru Duw a'n holl galon, a'n holl fywyd, a'n holl nerth, ac a'n holl rym a'n gallu. A'n holl galon, hynny yw, fod ein calonnau a'n meddyliau a'n myfyrdodau gwedy ymroi i gre­du ei air ef, i ymddired ynddo ac i'w garu vwch­law pob peth a garom orau, yn y nef neu ar y ddaear.

A'n holl fywyd, Hynny yw bod ein llawenydd a'n gorfoledd pennaf gwedy ymroi iddo a'i an­rhydedd, a bod ein holl fywyd gwedy ymroi i'w [Page 80] wasanaethu ef vwchlaw pob peth, i fyw ac i farw gydag ef. Ac i ymwrthod a phob peth arall yn gynt nag efe: Canys yr hwn a garo ei dad neu ei fam, ei fab neu ei ferch, ty neu dir yn fwy nâ my­fi medd Christ, nid ydyw deilwng o honofi. Math. 10.

A'n holl nerth, hynny yw â'n dwylaw, â'n tra­ed, â'n llygaid, â'n clustiau, â'n geneuau, â'n tafo­dau ac â holl rym ac a phob rhan o'n cyrph a'u e­neidiau y dlyem ymroi i gadw ac i gyflawni ei orchmynion ef. Dymma 'r rhan gyntaf a'r ben­naf o gariad, ond nid hyn yw y cwbl.

O herwydd cariad hefyd yw caru pob dyn, da a drwg, car a gelyn, pa achos bynnac a rodder i'r gwrthwyneb, a dwyn ewyllys a chalon dda at bawb, ymddwyn yn dda tu ag at bawb mewn gei­riau a golwg, ac ymhob gweithred oddiallan. O herwydd hyn a ddyscodd Christ ei hun ini, a hyn a wnaeth ef yn ei weithredoedd. Dymma fal y dys­codd ef gariad Duw i ddoctor o'r gyfraith yr hwn a ofynnodd iddo pa vn oedd y gorchymmyn mwy­af a'r pennaf yn y gyfraith.

Car dy Arglwydd Dduw medd Christ, â'th holl galon, â'th holl einioes ac â' th holl feddwl. Ac fal Math. 22. hyn y dysc ef ni am y cariad a ddlye fod yn ein plith y naill tuag at y llall; Chwi a glywsoch ddywe­dyd, Cardy gâr a chashâ dy elyn, ond yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, cerwch eich gelynion, bendi­thiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel eniwed i chwi ac a'ch erlidiant, fal y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, canys mae fe yn peri i'w haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn danfon glaw ar y cyfion a'r anghyfion: canys os Math. 5. 43. 44. &c. chwi a gar y rhai a'ch carant, pa wobr a fydd i [Page 81] chwi? onid ydyw y Publicanod yn gwneuthur yr vn modd? Os chwi a gyferchwch well i'ch bro­dyr a'ch anwyl geraint pa rogoriaeth yr ydych yn ei wneuthur; onid ydyw y cēhedloedd yn gwneu­thur yr vn peth.

Dymma airiau ein Iachawdwr Christ ei hun ynghylch caru ein cymmydogion. Ac yn gymma­int a darfod i'r Pharisęaid â'u melltigedig draddo­diadau â'u cam-ddeongliadau, lygru a haŷchen Attal. groni pur ffynnon bywiol air Duw, gan ddyscu bod y cariad perffaith a'r caredigrwydd ymma yn perthyn at geraint gŵr yn vnic, a bod yn ddigon i ddyn garu y sawl a'i câr yntef, a chashau ei elyni­on. Am hyn fe agorodd Christ ailwaith y ffynnon hon, fe a'i glanhaodd ac a'i carthodd hi, gan roddi i'w wir a'i dduwiol gyfraith cariad, wir ac eglur ddeongliad, yr hon yw, y dlyem ni garu pob dyn, câr a gelyn, gan ddangos hefyd pa fudd a gawn ni o hynny a pha afles o'r gwrthwyneb.

Pa beth a allwn ei ddymuno cystadl ar ein lles a chael gan ein tad nefol ein cyfrif a'n cymeryd yn blant iddo ei hun? A hyn, medd Christ, y byddwn siccr o hono os ni a garwn bob dyn yn ddiwaha­nol. Ond os ni a wnawn amgen, medd ef, nid y­dym well nâ Pharisęaid, Publicanod a chenhed­loedd, ac ni a gawn ein gwobr gydâ hwy; hynny yw ein cau allan o rifedi etholedig blant Duw, ac o dragwyddol etifeddiaeth teyrnas nef.

Fal hyn y dyscodd Christ ni am wir gariad, fod pob dyn yn rhwymedig i garu Duw vwchlaw pob peth, ac i garu pob dyn car a gelyn. Ac fal hyn yr ymddug ef ei hun gan gynghori ei elynion, a cheryddu baiau ei gasogion, a phan nas gallai eu gwella hwy, fe a weddiodd drostynt.

[Page 82] Yn gyntaf, fe a garodd Dduw dad vwchlaw pob peth yn gymmaint ac na cheisodd ef na'i ogo­niant ei hun na'i ewyllys, onid gogoniant ac e­wyllys ei Dad. Nid ydwyf, medd ef, yn ceisio fy Ioan. 5. 3. ewyllys fy hunan, onid ewyllys yr hwn am dan­fonodd. Ac ni wrthododd ef farw i gyflawni e­wyllys Math. 26. 3. ei Dad gan ddywedyd, Os gellir aed y cw­ppā hwn oddiwrthyf, ac onid ê bydded dy ewyllys di ac nid fy ewyllys i.

Ni charodd ef ei geraint yn vnic, ond ei elynion hefyd, y rhai a ddygent yn eu calonau gasineb an­ferth yn ei erbyn ef, ac â'u tafodau a ddywedent bob drygioni am dano, ac a'i herlidient ef hyd an­gau â'u holl allu â'u nerth. Er hynny ni thyn­nodd ef ei ewyllys da oddiwrthynt, ond fe a'u ca­rodd hwy yn wastad, gan bregethu am gariad idd­ynt, eu ceryddu am eu camathrawaeth a'u drwg­fywyd, fe wnae les a daioni iddynt, gan gymeryd yn oddefgar bob peth ac a ddywedent ac a wna­ent yn ei erbyn ef. Pan roddent iddo airiau drwg ni roddod ef iddynt ddrwg airiau ailwaith, pan darawent ef ni tharawodd ef hwy drachefn, a phan oddefodd angau ni laddodd ac ni fygythiodd hwynt. Ond fe a weddiodd drostynt ac a ossododd y cwbl ar ewyllys da ei dad nefol. Ond megis na chyffro y ddafad a ddyger i'r lladdfa, ac megis na wrthwyneba 'r oen a ddyger i'w gneifio, felly yr aeth yntef i'w farwolaeth heb wrthwynebu ac Esai. 53. 7. heb a goryd ei enau i ddywedyd dim drygioni. Act. 8. 32.

Fal hyn y dangosais i'wch pa beth yw cariad, yn gystadl wrth athrawaeth ac wrth siampl Christ ei hun: trwy 'r hyn y dichon pob dyn ei ad­nabod ei hun yn ddigamsynniaeth, pa stat a chy­flwr y mae 'n sefyll ynddo, pa vn a wna ai bod [Page 83] mewn cariad ac felly yn blentyn i'r Tâd o'r nef, ai nad ydyw.

O herwydd er bod pob dyn haychen yn credu ei fod mewn cariad, etto na holed ef neb arall ond ei galon ei hun, a'i fywyd a'i ymddygiad, ac ni thwyllir ef, onid fe a adnebydd ac a farna yn gy­wir, pa vn a wna ai bod mewn cariad perffaith ai nad ydyw. O herwydd yr vn ni ddilyno ei chwant a'i ewyllys ei hun, ond a ymroddo yn ddifri i Dduw i wneuthur ei holl ewyllys ef a'i orchy­mynion, siccr yw ei fod ef yn caru Duw yn fwy nâ dim: os amgen, diogel yw nad ydyw yn ei garu ef, pa beth bynnag a gymmero arno: fal y dywaid Christ, Os cerwch fi, cedwch fyngorchymynion: O Ioan. 13. 35. herwydd yr hwn sydd yn gwybod fyngorchymyni­on ac yn eu cadw, medd Christ, hwnnw a'm car i.

Ac fe a ddywaid ail-waith, Yr hwn a'm car i a gaidw fyngair, a'm tad a'i car yntef, ac ni a ddawn ein dau atto ef, ac a arhoswn gydag ef. A'r hwn ni'm car i, ni cheidw fyngairiau. Ac felly yr hwn a ddygo galon a meddwl da at bawb, ac a arfero ei dafod a'i weithredoedd yn dda at bob dyn, câr a gelyn, fe a ddichon wybod fod cariad yn aros ynddo. Ac yno fe a ddichon fod yn siccr gan­tho fod yr holl-alluog Dduw yn ei gymmeryd ef yn lle anwyl blentyn, fal y dywaid S. Ioan, Fal hyn yr adwaenir yn eglur blant Duw oddiwrth blant diafol: pwy bynnag ni char ei frawd ni pher­thyn Ioan. 4. 7. 8. i Dduw.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gariad perffaith.

CHwi a glywsoch eglur a ffrwy­thlawn yspysrwydd am gariad, ac mor fuddiol ac mor anghen­rheidiol ydyw: pa fodd y mae yn cyrhaeddyd at Dduw a dyn, câr a gelyn, a hynny trwy athraw­aeth a siampl Christ: a hefyd pwy a ddichon gwy­bod am dano ei hun a ydyw ef mewn cariad, ai nad yw. Bellach y canlyn ynghylch yr vn peth.

Mae gwrthgas annian dyn, gwedy ei llygru drwy bechod, a'i nailltuo oddiwrth air Duw a'i ras, yn tybied fod yn erbyn rheswn i ddyn garu ei elynion, ac mae gantho lawer o resymmau yn ei annog i'r gwrthwyneb. Ond yn erbyn yr holl resymmau hynny, y dlyem osod athrawaeth a bywyd ein Iachawdur Christ: yr hwn gan ein caru ni pan oeddem elynion, a ddyscodd ini garu ein gelynion; fe a gymerodd yn oddefgar lawer o dditenwad ac a oddefodd yn ewyllysgar lawer o watwar, ffusto, ac angau creulon hefyd er ein mwyn ni.

Am hynny nid ydym ni aelodau iddo fe, oni chanlynwn ni ef. Fe oddefodd Christ, medd S. Petr, drosom ni gan adel ini siampl i'w ganlyn ef. Hefyd mae 'n rhaid ini ystyriaid nad ydyw ca­ru ein 1. Pet. 2. 20, 21. ceraint ddim amgen nag a wna y lladron, y goddinebwyr, y lladdiaid, a phob rhai drygionus eraill: yn gymmaint a bod yr holl Iddewon, y Twrciaid, yr anghredadwy, ie yr holl anifeiliaid gwylltion yn caru y sawl a'u carant, y rhai y [Page 85] derbyniant eu bywyd neu gymwynasau eraill ganthynt. Ond caru eu gelyn yw cynneddf brio­dol plant Duw, a discyblon a chanlynwyr Christ yn vnig.

Er bod gwrthgas a llygredig annian dyn yn pwyso yn fynych yn rhy-drwm y drygioni a'r syr­had a wnel ei elyn iddo, ac yn tybied mai baich rhy anrhaith ei oddef yw bod yn rhwym i garu y sawl a'u cashant, ond fe fyddai eu baich hwy esmwyth ddigon, ped ystyriai bob dyn o'r ystlys arall pa niwed a wnaeth ef i'w elyn, a pha ddai­oni a dderbyniodd ef oddiwrth ei elyn. Ac os ni ni fedrwn gael cyflawn daledigaeth, nac wrth dder­byn daioni gan ein gelyn, nac wrth dalu drygioni iddo ailwaith: yno pwyswn yr holl ddrygioni a wnaethon ni yn erbyn yr holl-alluog Dduw, mor fynych ac mor dost y digiasom ef: am yr hynn os ni a ewyllysiwn gael gan Dduw faddauant, nid oes ini ymwared oni faddauwn y camweddau a wnaethpwyd yn ein herbyn ni, y rhai nid ydynt ond ychydig a bychain iawn wrth y camweddau a wnaethom ni yn erbyn Duw.

Ac os ystyriwn na haedda yr hwn a wnaeth i ni gamwedd gael maddauant gennym, ystyriwn ailwaith mai llai o lawer yr haeddem ni faddeu­ant ar law Duw.

Ac er na haedda ein gelyn faddeuant er ei fwyn ei hun, etto ni a ddylyem faddau iddo er cariad ar Dduw, gan ystyriaid pa sawl a pha faint o ddoni­au heb ein haeddiant a dderbyniasom ni gantho ef, a bod Christ yn haeddu arnom ninnau er ei fwyn ef faddau iddynt hwy eu camweddau a wnaethant yn ein herbyn ni. Ond ymma y cyfyd cwestiwn anghenrhaid ei atteb. Os ydyw cariad [Page 86] yn gofyn bod i ni dybied a dywedyd, a gwneuthur daioni i bob dyn, da a drwg; pa fodd y gwna lly­wodraethwyr gyfiawnder ar ddrwg-weithred­wyr, a hynny trwy gariad? Pa fodd y gallant daflu dynion drwg i garchar, a dwyn eu da a'u by­wyd oddiarnynt, yn ol cyfraithiau, os cariad nis goddef iddynt wneuthur felly?

I hyn y mae atteb eglur byr, Nad ydyw cosp a dial o honynt eu hunain yn ddrwg, os y dieniwed au cymmer hwy yn oddefgar. Ac i'r dyn drwg y maent yn dda ac yn anghenrheidiol, ac fe a ellir mewn cariad, ac fe a ddlyid trwy gariad eu gosod hwy arno.

Er mwyn egluro 'r hyn beth, deallwch fod dwy swydd i gariad, y naill yn wrthwyneb i'r llall, ac etto pob vn o'r ddwy yn anghenrheidiol eu gw­neuthur i ddau ryw o ddynnion.

Vn o swyddau cariad yw diddanu gwyr daio­nus dieniwed, nid gan eu gorthrymmu hwy a cham-achwynion, ond eu dewrhau a'u canmol au cyffro a gobrwyon i wneuthur daioni ac i bara mewn daioni; gan eu amddiffyn hwy â'r cleddyf rhag eu gwrthwynebwyr. A swydd Es­cobion a bugeiliaid yw canmol gwyr da am y dai­oni y maent yn ei wneuthur, er mwyn iddynt ba­ra mewn daioni, a cheryddu a chospi trwy air Duw gamweddau a beiau dynion beius drwg.

O herwyd y swydd arall i gariad yw argyoeddi, ceryddu, a chospi pob drygioni, heb edrych ar ber­son neb: ac fe ddlyid arfer hon yn erbyn pob dyn drwg, a drwgweithredwyr yn vnic. A swydd ca­riad yw cystadl y naill a'r llall, argyoeddi, ceryddu a chospi y rhai drwg, a chysuro a gobrwyo y dai­onus dieniwed.

[Page 87] Mae S. Pawl yn manegi wrth scrisennu at y Rhufeiniad gan ddywedyd, fod y galluoedd go­ruchaf gwedy eu hordeinio gan Dduw, nid i fod yn ofnadwy i'r rhai a wnant dda, onid i'r drwg­weithredwyr, Ruf. 13. 13. i dynnu y cleddyf i ddial ar y rhai a wnant bechod. Ac mae S. Pawl yn erchi i Ti­mothi geryddu pechod yn eofn ac yn ddifri trwy air Duw. Fal y dlyid gwneuthur y ddwy swydd yn ddiwall, er ymladd yn erbyn teyrnas diafol, y pregethwr â'r gair, a'r llywodraethwr â'r cleddyf. 1. Timot. 5. 10. Ac onis gwnant nid ydynt yn caru na Duw na 'r rhai y maent yn eu llywodraethu, os hwy ei­siau cospi a oddefant ddigio Duw, neu ddifa eu deiliaid.

O herwydd megis y mae pob tad naturiol yn cospi ei fab pan fytho baius, ac onid ê ni char ef mo hono, felly pob rheolwyr teyrnasoedd, gwle­dydd, trefi a thai a ddylyent yn garedigol gospi y rhai a bechont o fewn eu rheol hwy, a chysuro y rhai a fyddont fyw yn ddieniwed, os hwy a edry­chant ar Dduw, neu ar eu swydd, neu a garant y rhai y maent yn eu llywodraethu.

Ac fe ddlyid mewn amser cyfaddas, wneuthur y fath gerydd a chosp yn erbyn y rhai a droseddāt, rhag o hir oedi i'r troseddwyr gwympo lwyr eu pennau i bob rhyw ddrygioni: ac nid yn vnic bod yn ddrwg eu hunain, onid hefyd gwneuthur drwg i lawer o ddynion eraill gan eu tynnu ar eu hol, wrth roddi iddynt siamplau drwg i wneuthur pe­chod ac anwiredd ar eu hol hwy. Megis y dichon vn lleidr yspeilio llawer, a gwneuthur llawer yn lladron hefyd, ac vn dyn cynhennus hudo llawer ac anrheithio trefn eu gwlad yn hollol.

Ac mae cariad yn gofyn torri ynmaith o gorph [Page 88] y wlad y fath ddynion drwg sydd gyfryw drosedd­wyr mawrion yn erbyn Duw a'r wlâd, rhag i­ddynt lygru dynnion honest da. Megis y torr y meddig da ymmaith aelod pwdr, a fytho gwedy methu, o gariad ar y corph i gyd, rhag i'r aelod hwnnw lygru yr aelodau nesaf atto.

Fal hyn y dangoswyd i'wch pa beth yw gwir Gristionogawl gariad perffaith, neu garedigrw­ydd, mor oleu ac na bytho rhaid i neb gymmeryd ei dwyllo. Yr hwn gariad pwy bynnag a'i cadwo, nid yn vnic tuag at Dduw yr hwn a ddylei ei ga­ru vwchlaw pob dim, ond tuag at ei gymydog he­fyd, cystal câr a gelyn, fe a'i ceidw ef yn ddiammau oddiwrth holl lid Duw, a chyfiawn ddigofaint dyn. Dygwch am hynny y wers ferr bon gyda chwi yn dda, Y dlyid trwy wir Gristionogawl gariad garu Duw vwchlaw pob peth, a charu pob dyn, drwg a da, câr a gelyn, ac i bob vn y dy­lyid gwneuthur daioni yn orau ac y gallom: i'r rhai ydynt ddaionus, o gariad i'w Hyfhau. eofnhau ai sirio hwy, am eu bod yn ddaionus, ac i'r rhai drwg, o gariad annog a cheisio cael eu cospi hwy a'u ce­ryddu: fal trwy hynny y geller naill ai eu heb­rwng hwy i ddaioni, ai ar y lleiaf na ddigier Duw ac na waethyger y wlad drwyddynt.

Ac os ni fal hyn a vniawnwn ein bywyd trwy gariad perffaith a charedigrwydd Christiono­gawl, yno mae Christ yn addo i ni, ac yn ein siccr­hau ei fod ef yn ein caru ni, y cawn ni fod yn blant ei'n tad nefol, wedi ein derbyn eilwaith i'w ffa­for ef, ac yn aelodau i Grist, ac yn ol y bywyd byr presennol marwol hwn, y cawn fyw gydag ef yn dragywydd, yn ei dragwyddol deyrnas nefol ef. Am hynny iddo fe gyda'r Tâd a'r Yspryd glan, [Page 89] y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oe­soedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn tyngu anudon.

MAe 'r holl-alluog Dduw, er mw­yn bod ei sancteiddiaf enw ef mewn anrhydedd a chael gan y bobl ei fawrhau ef, yn gorchym­myn na chymerai neb ei enw ef yn ofer yn ei enau, gan fy­gwth cosp ar y rhai a'i camarfero ef yn ddirmygus trwy dyngu anudon a chabledd.

An hyn fal y gwybydder ac y cadwer y gorchym­myn hyn yn well, fe a fanegir i'wch pa fodd y mae 'n gyfraithlon i Gristionogon dyngu, a pha berigl sydd o dyngu 'n ofer neu yn anudon.

Yn gyntaf pan fo barnwyr yn gofyn llw i'r bobl er mwyn manegi ac agoryd y gwirionedd, neu er gwneuthur cyfiawnder, mae 'r cyfryw lw yn gyfraithlon.

Hefyd, pan fo gwyr yn gwneuthur addewidion ffyddlon, gan alw enw Duw yn dyst i gadw cy­fammodau ac addewidion honest, statudau, cy­fraithiau, defodau daionus, megis y gwna tywy­sogion Christionogawl yn eu cyfvndebau hedd­wch, er cadwedigaeth eu gwledydd, ac megis y gwna pob rhyw o ddynion addewidion ffyddlon mewn priodasau y naill i'r llall mewn honestr­wydd a gwir gymdeithas: a phawb pan font yn tyngu cadw cyfraithiau cyffredinawl, ordeinia­dau a defodau daionus, er cadw a chynnal trefn ymhlith dynnion; pan dyngo deiliaid ar fod yn gywir ac yn ffyddlon i'w brenhinioedd a'u har­glwyddi. [Page 90] Pan fo barnwyr, llywodraeth-wyr a swyddogion yn tyngu gwneuthur eu swyddau yn gywir: a phan fytho gwr yn dywedyd gwir er go­sod allan ogoniant Duw, ac er Iechydwriaeth i'r bobl, wrth bregethu 'r efangyl yn gyhoeddus, neu wrth rhoddi yn ddirgel gyngor er iechyd e­neidiau.

Mae 'r holl fatheu hyn a'r lwaint a thyngu mewn pethau honest anghenrheidiol yn gyfraith­lon. Ond pan fytho rhai yn tyngu o arfer wrth re­symmu, wrth brynu, gwerthu, a phob ymddiddan beunyddol arall, megis y mae llawer yn dyngwyr mawr arferol, mae'r fath dyngu yn annuwiol, yn anghyfraithlon, ac yn waharddedig wrth orchym­myn Duw. O herwydd nid ydyw y fath dyngu ddim amgen nâ chymmeryd enw Duw yn ofer.

Ac ymma ni a ddylyem weled na waharddwyd llw cyfraithlon, eithr ei orchymmyn ef gan yr holl-alluog Dduŵ. O herwydd mae gennym si­ampl ein Iachawdwr Christ, a gwyr duwiol e­raill yn yr Scrythur sanctaidd, y rhai eu hunain a dyngasont, ac a ofynasont lwau gan rhai er­aill hefyd. A gorchymyn yr arglwydd yw, Ti a ofni dy Arglwyd Dduw ac a dyngi i'w enw ef. Deut. 10. 20.

Ac mae 'r holl-alluog Dduw yn dywedyd trwy ei brophwyd Dafydd, fe a ganmolir pawb a dyn­go Psal. 63. 11. iddo ef. Fal hyn y tyngodd ein Iachawdwr Christ yn fynych gan ddywedyd, Yn wir, yn wir. Ioan. 3. 11. Ac mae S. Pawl fal hyn yn tyngu, Yr ydwyf yn 3. Cor. 1. 23. galw Duw yn dyst. A phan ydoedd Abraham yn heneiddio fe a ofynnod gan ei was lw ar fynnu gwraig i'w fab Isaac yr hon fyddai o'i genedl ef Gene. 24. 3. ei hun: ac fe a dyngodd y gwas yn ebrwydd ar gy­flawni ewyllys ei feistr. A phan geisiwyd gan A­braham, [Page 91] fe a dyngodd wrth Abimelec brenin Ge­rar, Genes. 21. 23. na wnai fe eniwed iddo nac i'w eppil. Ac felly y tyngodd Abimelec i Abraham hefyd. Ac fe dyngodd Dafydd y parhae fe yn gyfaill ffydd­lon i Ionathan, ac a dyngodd Ionathan a'r fod yn gydymmaith ffyddlon i Ddafydd hefyd.

Fe a orchymynnod Duw os gwystlid vn peth i neb, neu adel peth ynghadw, os y peth hwnnw a ledrattid neu a gollid, y dlyid tyngn y ceidwad hwnnw ger bron barnwyr, na ledrattasai fe mo hono, ac na wnelsai fe dwyll, gan beri i neb ei ddwyn ef ymmaith, trwy ei gyfvndeb neu ei gyd­nabyddiaeth ef. Ac mae S. Pawl yn dywedyd, Heb. 6. 16. ymmhob ymryson rhwng dwy blaid, lle bytho vn yn dywedyd ie, ar llall nag êf, fal na ellir gwybod y gwirionedd, llw a roddo barnwr a ddlyei ddi­weddu y fath ymryson. Ac hefyd Duw a ddywaid trwy y prophwyd Ieremi, Ti a dyngi byw yw yr Ier. 4. 2. Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder.

Fal pwy bynnac a dyngo pan fytho 'r barnwr yn gofyn iddo lw, bydded a chydwybod siccr fod y tri pheth hyn yn ei lw ef, ac nid rhaid iddo ofni byth Anudon­rwydd. anudon.

Yn gyntaf rhaid i'r hwn a dyngo, dyngu mewn gwirionedd, hynny yw gan ddodi heibio bob ffa­fwr a phob ewyllys nerthu vn o'r ddwy blaid, rhaid iddo osod y gwirionedd yn vnic ymmlaen ei lygaid, ac o gariad ar hwnnw rhaid iddo ddywe­dyd y peth a ŵyr ef ei fod yn wir, ac heb ddywedyd dim ymhellach.

Yn ail, mae 'n rhaid i'r neb a gymero llw, ei wneuthur mewn barn, nid yn yscafn heb synna­id beth a wnelo, onid yn ystyriol gan ystyriaid pa [Page 92] beth yw llw. Yn drydydd, mae 'n rhaid i'r neb a dyngo dyngu mewn cyfiawnder, hynny yw er mwyn y zêl a'r cariad y mae ef yn ei ddwyn i ym­ddiffyn y dieniwed, i faentaeno 'r gwir ac i gyfi­awnder yr achos, gan roi heibio bob ennill a cholled, pob cariad a ffafwr, er cyfeillach neu ga­rennydd i'r vn o'r ddwy blaid.

Fal hyn y mae llw os ydyw ynddo y tri pheth hyn, yn rhan o ogoniant Duw, yr hon yr ydym ni rhwymedig wrth orchymmyn Duw i'w rhoddi iddo. O herwydd mae fe 'n gorchymmyn ini dyn­gu yn vnic i'w enw ef. Nid am ei fod ef yn chwe­nychu ini dyngu, onid megis y gorchymynnodd ef i'r Iddewon offrwm aberthau iddo, nid am ei fod yn hoffi offrymmau, onid i gadw yr Iddewō rhag delw-addoliad. O blegid wrth orchymmyn ini Esai 42. 8. Psal. 115. 1. dyngu i'w enw sanctaidd ef, nid ydyw yn ein dyscu fod yn hoff gantho lw, onid trwy hynny mae fe 'n gwahardd rhoddi ei ogoniant ef i vn creadur yn y nef yn y ddaear neu 'r dwfr. Hyd hyn y clywsoch i Dduw orchymmyn llwon cyfraithlon, i'r pa­triarchau, y prophwydi, Christ ei hun, a'i Apostol Pawl arfer llw. Ac am hyn y dlyei Gristionogion dybied fod llwau cyfraithlon yn dduwiol, ac yn anghenrheidiol. O herwydd trwy addewidion a chyfammodau gwedy eu cadarnhau trwy lw, mae tywysogion a gwledydd yn cael eu cadarn­hau mewn llonyddwch a heddwch. Trwy adde­widion sanctaidd a galw enw Duw yn dyst, y'n gwnair ni yn aelodau bywiol i'n Iachawdwr Christ, pan addefom ei grefydd wrth dderbyn sa­crament y bedydd. Trwy y cyffelyb addewid san­ctaidd y mae dirgelwch priodas yn rhwymo gŵr a gwraig mewn cariad an-nherfynol, fal nad yd­ynt [Page 93] yn chwennych yscar er vn gwrthwyneb ac a ddichon ar ol hynny gwympo.

Trwy lwau y rhai a dwng brenhinoedd, tywy­sogion, barnwyr a llywodraethwyr, yr ydys yn ca­dw cyfraithiau cyffredinawl heb halogi, yr ydys yn gwneuthur cyfiawnder i bawb yn ddiwaha­niaeth, yr ydys yn gwared y dieniwed, y plant ymddifaid, y gwragedd gweddwon, a'r tlodion, oddiwrth lofryddwyr, gorthrymwyr a lladron, rhag iddynt gael cam neu eniwed.

Trwy lwau cyfraithlon y cedwir yn wastadol mewn trefn dda gyfeillach a chariad rhwng y naill a'r llall, ymhob gwlad a dinas a thref a phentref.

Trwy lw cyfraithlon y chwilir allan ddrwg weithredwyr, y cospir y camweddus, ac yr adferir y rhai a oddefant gam i'w cyfiawnder ailwaith. Am hynny ni ddichon llw cyfraithlon fod yn ddrwg, yr hwn sydd yn dwyn gydag ef cymmaint o gymmwynasau daionus anghenrheidiol.

Am hyn, lle mae Christ mor ddifrif yn gwahardd tyngu, ni ddlyid deall dim o hano fal pe byddai yn gwahardd pob rhyw lw, ond mae fe 'n gwahardd pob ofer dyngu i Dduw, neu greaduriaid, a phob tyngu anudon, fal y mae yr arfer o dyngu yn gyffredinol wrth brynu a gwerthu, ac yn ein beunyddol ymddiddan, er dangos y dylaid cym­meryd gair pob Christion yn y fath bethau cystadl a phe byddai gwedy cadarnhau ei ymddiddan â llw.

O herwydd medd S. Ierom, fe ddlyei air pob Christion fod mor wir ac y gellid i gymeryd ef me­gis llw. A Chrysostom a destiolaetha yr vn peth, ac a ddywaid, Nid gweddus ini dyngu, o herwydd [Page 94] pa raid tyngu gan nad yw gyfraithlon i vn o ha­nom ddyweddyd celwydd wrth y llall?

Fallai y dywedai vn, yr ydys yn fynghymmell ac yn fyngyrru fi i dyngu, o herwydd oni wnafi felly, ni chred y rhai a ymddiddanant â mi, a'r rhai a brynant ac a werthant gydâ mi ddim ho­nofi. I hyn y mae Chrysostom yn atteb fod yr hwn sydd yn dywedyd felly, yn dangos ei fod ei hun yn ddŷn anghyfiawn twyllodrus. O herwydd pe byddai fe cyfiawn, a'i airiau a'i weithredoedd yn cyduno, ni byddai raid iddo dyngu byth. O herwydd yr hwn a arfero gwirionedd a chyfiawn­der yn ei ymddiddan a'i fargennon, nid rhaid iddo trwy: ofer dyngu wneuthur i'w gymydogion i gredu, ac ni wan-ymddired ei gymmydog ddim ei eiriau ef. Ac os bydd gwedy myned heb goel arno mor llwyr ac na choelia neb o hano heb dyngu, gwybydded yntef ei fod ef gwedy myned yn llwyr heb goel arno.

O herwydd gwir yw, fal yr scrifenna Theophy­lactus, nad ymddiredir llai i neb nag i'r vn arfero mynych dyngu. Ac mae 'r holl-alluog Dduw yn dywedyd trwy 'r gŵr call, y bydd y gŵr a dyngo llawer yn llawn o bechod, ac nad ymâd gwialen Duw oddi vwch ben ei dŷ ef.

Ond fe ddywaid rhai er escuso ei haml lwau yn eu beunyddol ymadroddion, pa ham na thyn­gafi a minuau yn tyngu 'r gwir? Etto er eu bod yn tyngu 'r gwir, nid ydynt hwy heb fai am eu bod yn tyngu yn fynych, yn ddiystyr, am bethau diff­rwyth, heb fod yn rhaid, a phan na ddlyent dyn­gu, ond y maent yn cymmeryd fancteiddiaf enw Duw yn ofer. Annuwiolach ac anghallach o la­wer ydyw y rhai a gamarferant sancteiddiaf enw [Page 95] Duw, nid yn vnic wrth brynu a gwerthu pethau gwael diffrwyth baunydd ymhob lle, onid hefyd wrth fwyta, yfed, chware, chwedleua, ac ymdda­dleu; megis pe na allid gwneuthur vn o'r pethau hyn onis gwneid trwy arfer a chamarfer enw Duw, trwy son am dano yn ofer, ac yn amhar­chus, ie trwy dyngu a thyngu anudon iddo, er torri ei orchymmyn ef a thynnu arnom ei ddigo­faint ef.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am dyngu.

FE ddangoswyd i'wch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn tyngu ac Anudon­rwydd. anudon, pa berigl mawr y sydd o gymmeryd enw Duw yn ofer: ac nad yw pob llw yn anghyfraithlon, nac yn erbyn gorchymmyn Duw: a bod tri pheth yn anghenraid ymmhob llw cyfraithlon.

Yn gyntaf, tyngu o honom er maenteinio 'r gwir.

Yn ail tyngu honom mewn barn, nid yn ddi­bris, ac yn ddiofal.

Yn drydydd er cariad ar gyfiawnder.

Chwi a glywsoch pa leshâd a ddaw o lwau cy­fraithlon, a pha enbeidrwydd sydd o lwau anghy­fraithlon: bellach ynghylch chwaneg o'r vn peth, deallwch, fod y rhai a wnant addewidion cy­fraithlon o bethau da honest ac heb eu cyflawni, yn cymmeryd enw Duw yn ofer, cystal â'r rhai a wnant addewidion o bethau drwg anghyfraith­lon, ac a'u cyflawnant.

[Page 96] Yr ydym yn darllen yn yr Scrythur lân am ddau gosp cyhoeddus ar y rhai ni ofalant gadw addewidion duwiol, ond a'u torrant hwy trwy wybod ac yn ewyllysgar, er eu bod hwy yn rhwy­medig trwy lw i'w cadw hwy.

Yn gyntaf, fe wnaeth Iosua a phobl Israel gyf­vndeb ac a ddewid ffyddlon o gariad a chyfeillach Iosua. 9. 3. tragwyddol â'r Gibioniaid, etto yn ol hynny yn amser Sawl felldigedig fe laddwyd llawer o'r Gibioniaid ymma, yn erbyn yr addewid ffyddlon honno. Am hynny y digiodd Duw mor greulon fal y danfonodd ef newyn cyffredinol ar yr holl wlad, yr hwn a barhaodd dros dair blynedd. Ac ni thynne Duw ei gosp nes iddo ddial y camwedd hynny trwy farwolaeth saith meibion neu gera­int nesaf Sawl.

A phan wnaeth Zedechias brenin Ierusalem addewid o ffyddlondeb i frenin Chaldea. Pan wrthryfelodd Zedechias yn erbyn brenin Nabu­cadnezar yn wrthwyneb i'w lw a'i vfydd-dod, trwy fod Duw yn goddef fe a orchfygodd y bre­nin 2. Bren. 24. 17. A'r. 25. 1. anghredadwy hwnnw wlad Iudęa, fe a war­chaodd y ddinas Ierusalem, ac a yrrodd frenin Zedechias i gilio, ac wrth gilio a'i daliodd ef yn garcharwr, a laddodd ei feibion ef ymmlaen ei wyneb, ac a dynnodd ei ddau lygad ef, a'i rhwy­modd ef â chadwynau, ac mewn modd gresynol a'i dug ef yn garcharwr i Babilon.

Fal hyn y dengys Duw yn eglur mor gas gan­tho y rhai a dorrant eu haddewidion honest a rw­ymer trwy lw, ac a wnaer yn ei enw ef. Ac o'r rhai a wnant trwy lw addewidiou drwg ac a'u cy­flawnant, mae ini siamplau yn yr Scrythur lân am Herod, am yr Iddewon melldigedig, ac am [Page 97] Iephthah. Herod a addawodd trwy lw i'r llances a ddawnsiodd ger ei fron ef, y rhoddai iddi beth bynnac a ofynnai: a hithe wedi ei haddyscu gan ei mam a ofynnodd ben S. Ioan fedyddiwr. He­rod Math. 14. 7. fal y daroedd iddo wneuthur llw drwg, a gy­flawnodd ei lw yn waeth, ac yn greulon a laddodd y prophwyd sanctaidd.

Felly y gwnaeth yr Iddewon cenfigennus lw, gan eu rhegi eu hunain os hwy a fwytaent neu a Act. 23. 12. yfent hyd oni laddent Pawl.

Ac fe wnaeth Iephthah yn ol i Dduw roddi iddo orvwchafiaeth ar feibion Ammon, adduned ynfyd, ar offrymmu i Dduw yn aberth y peth cyn­taf a Barn. 11. 30, 31, 35, 39. gyhwrddai ag ef o'i dŷ ei hun, yn ôl ei ddyfod adref. Trwy rym yr hwn lw ynfyd byrbwyll y lladdodd ef yn ansynhwyrol ac yn ynfyd ei vnic ferch ei hun, yr hon a ddaethai o'i dy ef allan mewn llawewydd a gorfoledd i'w groesewi ef a­dref. Fal hyn y cyflawnodd ef yn dra chreulon yr adduned a wnaethai ef yn ynfyd, yn erbyn trag­wyddol ewyllys Duw a chyfraith natur, gan dro­seddu yn erbyn Duw yn ddau-ddyblyg.

An hynny pwy bynnac a wnelo addewid trwy lw, synned fod y peth y mae yn ei addo yn dda, yn honest ac heb fod yn erbyn gorchymmyn Duw, ac y gall ef ei hun ei gwblhau ef yn gyfiawn. A'r fath addewidion da mae 'n rhaid i bawb eu cadw byth yn siccr.

Ond os gwna neb lw vn amser, naill ai o an­wybod ai o genfigen ar wneuthur peth a fyddo yn erbyn cyfraith yr holl-alluog Dduw, neu 'r peth ni all ef ei gyflawni ei hun, gwybydded fod y llw hwnnw yn llw annuwiol anghyfraithlon.

Ac bellach i ddywedyd peth am dyngu anudon [Page 98] er mwyn i chwi gael gwybod faint a blined bai yw anudon ewyilysgar yn erbyn Duw, mi a ddangosaf i'wch pa beth yw cymmeryd llw ar lyfr ger bron barnwr.

Yn gyntaf, pan font yn tyngu gan ddodi eu dwylaw ar lyfr yr efangyl, i ymofyn ac i bresen­tio yn gywir y pethau a ofynnir iddynt, ac na rwystrer hwy i ddywedyd gwirionedd, ac i wneu­thur iniawnder, nac er ffafor nac er cariad, nac er ofn nac er cenfigen at vn dyn mwy nâ'i gilydd, fal yr helpo Duw hwy a'r pethau a gynhwyser yn y llyfr hwnnw: rhaid iddynt y styriaid y cynhwy­sir yn y llyfr hwnnw dragwyddol wirionedd Duw, ei sancteiddiaf a'i anherfynol air ef, trwy 'r hwn y derbyniwn faddauant o'n pechodau, ac y'n gwneir yn etifeddion tyrnas nef, i fyw gydag angylion a saint Duw dros fyth mewn didrange lawenydd a gorfoledd.

Yn llyfr yr efengyl hefyd y cymhwysir tost fy­gythau Duw yn erbyn pechaduriaid ystyfnig, y rhai ni wellant eu bywyd, ac ni chredant wirio­nedd sanctaidd air Duw, a'r tragwyddol boenau a baratowyd yn vffern i ddelw-addolwyr, rhag­rithwyr, celwyddog ac oferdyngwyr, anudonwyr, gau-dystion, condemnwyr y difeius, dieniwed, ac i'r rhai o ffafwr a guddiant faiau drwg-weithre­dwyr rhag iddynt gael eu cospi.

Megis pwy bynnac yn ewyllysgar a dyngo a­nudon ar sanctaidd efengyl Ghrist, maent hwy yn hollol yn ymwrthod â thrugaredd Duw, ei ddai­oni ef, a'i wirionedd, haeddiant ganedigaeth, by­wyd, dioddeifaint, marwolaeth, ailgyfodiad, ac escyniad ein Iachawdwr Christ: maent yn gwrthod maddauant o'u pechodau a addawyd i [Page 99] bob pechadur etifarus, llawenydd nef a thragwy­ddol gyfeillach sainct ac angylion. Yr hyn ddoni­au a diddanwch a addawyd yn yr efengyl i wir Gristianogion, ac wrth dyngu felly anudon ar yr efengyl, maent yn ymroi i wasanaethu diawl, meistr pob celwydd, ffalster, twyll, ac Thyngu anvdon. anudon, gan annog mawr lid a melldith Dduw yn eu her­byn yn y byd hwn, Echrydus. erchyll ddigofaint a barn ein Iachawdwr Christ a 'r ddydd y farn ddiwethaf, pan farno ef yn gyfiawn y byw a'r meirw, yn ol eu gweithredoedd.

O herwydd pwy bynnac a ymwrthodo â'r gwi­rionedd er cariad neu genfigen i vn dyn, neu er elw ac ennill iddo ei hun, mae fe 'n ymwrthod â Christ, ac megis Iudas yn ei fradychu ef. Ac er bod yn awr yn ddirgel geudod y fath anudonwyr, etto fe a gyhoeddir yn y dydd diwethaf, pan gyho­edder dirgelion calonnau pawb i'r holl fyd. Ac yno yr ymddengys y gwirionedd ac a'u cyhudda hwynt, a'u cydwybod eu hun, a holl gwmpeini nef yn dwyn testiolaeth yn eu herbyn hwy. Ac fe a'u barna Christ y barnwr cyfion hwy yn gyfiawn y pryd hynny i ddidranc gywilydd, fal y mae 'r holl-alluog Dduw drwy enau y Prophwyd Ma­lachi Mal. 3. 5. yn bygwth cospi y pechod hwn o dyngu anudon yn dost, gan ddywedyd wrth yr Iddew­on, mi a ddauaf i'r farn ac a fyddaf dyst ebrwydd, a barnwr llym, yn erbyn dewinion, goddineb­wyr, ac a nudonwyr.

Yr hwn beth a ddangosodd Duw mewn gwe­ledigaeth i'r Prophwyd Zachari, pan welodd efe Zach. 5. 3. yr hedfanog lyfr, yr hwn oedd vgain cufydd o hŷd, a deg o led, gan ddywedyd wrtho, dymma 'r fell­dith a aiff allan ar wyneb y ddayar am anghy­weirdeb, [Page 100] gau lwaint, a thyngu anudon. A'r fenll­tith hon a aiff i mewn i dy y twyllwr ac i dŷ 'r anu­donwr, ac a erys ynghenol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a choed a cherrig ei dŷ ef. Fal hyn y clywch gym­maint y mae Duw yn cashau Anudôf [...] ­rwydd. anudon, a pha gosp a ddarparodd Duw i gamdyngwyr, ac anu­donwyr.

Fal hyn y clywfoch pa fodd, ac ar ba achosion y mae 'n gyfraithlon i Gristionogion dyngu: chwi a glywsoch pa gynheddfau a champau a ddylei fod mewn llw cyfraithlon, ac fel y mae llyau cyfraith­lon yn dduwiol ac yn anghenrhaid eu cadw.

Chwi a glywsoch nad cyfraithlon tyngu yn o­fer, hynny yw nid mewn vn modd onid ar yr a­chosion, ac yn y modd y manegwyd i'wch.

Yn ddiwethaf chwi a glywsoch mor ddamne­dig yw tyngu anudon, neu gadw llw a wneler mewn byrbwyll neu yn anghyfraithlon. Am hyn­ny galwn am rad Duw yn ddifrif fal y gallom o­sod heibio bob ofer dyngu, a thyngu anudon, ac ar­fer yn vnic lwau cyfraithlon duwiol, a chadw y rhai hynny yn ddihocced yn ol bodd ac ewyllys Duw: i'r hwn gydâ 'r Mâb a'r Yspryd glân y by­ddo anrhydedd a gogoniant. Amen.

¶ Pregeth yn dangos mor enbaid yw cwympo oddiwrth Dduw.

MAe 'r gwr call yn dywedyd mai bal­chedd Eccl. 10. 13, 14. oedd ddechreuad ein mynedi­ad ni oddiwrth Dduw. O herwydd trwy falchedd y troed calon dŷn o­ddiwrth Dduw ei wneuthurwr. Balchedd medd ef yw dechreuad pob pechod: fe fydd yr hwn sydd a hi gantho yn llawn o regau, ac yn y diwedd hi a'i Difa. difetha ef. Ac megis trwy falchedd a phechod yr ydym ni yn myned oddiwrth Dduw, felly y mae Duw a phob daioni yn myned oddiwrthym ninnau.

Ac mae 'r prophwyd Osee yn dangos yn oleu ac yn eglur eu bod hwy yn trafaelu yn ofer, y rhai sy yn myned oddiwrth Dduw trwy fywyd drwg, ac etto er hynny a geisiant ei lonyddu a'i fodloni ef ag offrymmau. O herwydd er eu holl offrym­mau hwy, mae ef yn myned fyth oddiwrthynt. Yn gymmaint medd y prophwyd, ac nad ydynt yn go­sod eu meddiliau i droi at Dduw, er eu bod hwy yn ceisio 'r Arglwydd â Diadellau. praiddiau. llocceidiau o ddefaid, a gyrfae o wartheg, etto ni chyhwrddant ddim ag ef, o blegid fe aeth y mmaith oddiwrthynt.

Ond am ein troad ni at Dduw neu oddiwrth Dduw, deallwch y gellir gwneuthur hynny mewn llawer o ffyrdd. Weithiau yn vniawn trwy ddelwaddoliad, megis y gwnaeth Israel a Iudah y tro hynny. Weithiau yr aiff dynion oddi­wrth Dduw o eisiau ffydd, ac o achos gwan-ym­ddired yn-Nuw: am y rhai y dywaid Esai yn y modd ymma, Gwae y rhai a ânt i wared i'r Aipht [Page 102] i geisio nerth, gan ymddiried mewn cephylau a Esai. 31 1. gobeithio mewn rhifedi cerbydau, ac mewn nerth a gallu marchogion: nid oes ganthynt obaith yn sanctaidd Dduw yr Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd. Ond pa beth a ganlyn? fe a âd yr Ar­glwydd ei law i gwympo arnynt, a'r cynorth­wywr a'r hwn a gynorthwyir a ddinistrir yng­hyd.

Weithiau yr à dynnion oddiwrth Dduw trwy Ver. 3. escaeuluso gorchymmyn Duw tuag at eu cymy­dogion, y rhai a orchymynant iddynt ddangos ca­riad o'u calonnau at bob dyn, fal y dywaid Zacha­ri wrth y bobl o blaid Duw. Rhowch inion farn, Zach▪ 7. 9, 10. dangoswch drugaredd a thosturi bob vn i'w frawd, na feddyliwch dwyll i'r weddw, i'r plant ymddifaid, i'r dieithriaid neu i'r tlodion: na luni­ed neb ddrygioni yn ei galon yn erbyn ei frawd.

Ond m phrisasont ar y pethau hyn, hwy a dro­esant eu calonnau ac aethōt ymmaith, hwy a gae­sant eu clustiau fel na clywent, hwy a galedasant eu calonnau megis carreg adamant, fal na wran­dawent air yr Arglwydd yr hwn trwy ei Yspryd sanctaidd a ddanfonasai ef gydâ 'r hên brophwy­di: am hyn y dangosodd yr Arglwydd ei fawr ddi­gofaint arnynthwyntau. Fe ddaeth, medd y pro­phwyd Iere. 9. 16. Ieremi, fal y dywedais wrthynt, fal na wrandawsant hwy, felly pan weddiasant hwy ni warandawyd hwyntau: ond hwy a wascarwyd i'r holl ddinasoedd, y rhai nid adwaenent, gw­naethpwyd eu tir hwy yn anialwch.

Ar ychydig airiau, cynnifer ac na allant aros gair Duw, ond a ddilynant ryfyg ac ystyfnigrw­ydd eu calonnau eu hunain, a ânt yn eu hol ac nid yn eu blaen: (fal y dywaid Ieremi) maent yn Ierer [...]. 7. [Page 103] myned ac yn troi ymmaith oddiwrth Dduw. Ac fe ddywaid Origen, mai hwnnw sydd yn troi at Dduw yr hwn â'i feddwl, a'i astudrwydd, a'i wei­thredoedd â bwriad ac â gofal a'i rhoddo eu ei hun i air Duw, ac a feddylio am ei gyfraith ef ddydd a nos: a'i rhoddo ei hun yn hollol i Dduw, ac a y­marfero yn ei ddeddfau ai orchymmynion ef. Ac o'r rhan arall fe ddywaid, Pwy bynnag a ymar­fero a chwedleu ofer, pan draether gair Duw, mae hwnnw yn troi oddiwrth Dduw. Pwy byn­nag pan darllenir gair Duw sydd yn gofalu yn ei feddwl am bethau bydol, am arian, neu am ennill, fe a droed hwnnw oddiwrth Dduw yn gwbl. Pwy bynnag a rwyder a gofalon am feddian­nau, a lenwer a thrachwant cyfoeth: pwy byn­nag a fyfyrio am ogoniant ac anrhydedd y byd hwn, hwnnw sy wedi troi oddiwrth Dduw.

Megis, yn ei dŷb ef, pwy bynnac nid yw a'i fe­ddwl yn vnig ar y peth y mae Duw yn ei orchym­myn, ac yn ei ddangos, y sawl ni wrandawo ar hynny, nas braicheidio hynny, ac nis printio yn ei galon, o lwyr fwriad ar drefnu ei fywyd yn ol hynny, fe a drodd hwnnw yn llwyr oddiwrth Dduw, er ei fod yn gwneuthur pethau eraill o'i ddefosiwn a'i feddwl ei hun, y rhai yn ei olwg ef sydd well, ac yn dwyn i Dduw fwy o anrhydedd.

Mae 'r sanctaidd Scrythur yn dangos ini fod hyn yn wir wrth siampl brennin Sawl, yr hwn 1. Sam. 15. 1. pan ddaroedd i Dduw trwy Samuel orchym­myn iddo, ladd yr holl Amaleciaid a'u dinistrio 'n gwbl, a'u da, a'u hanifeiliaid, etto o ran truga­redd, ac megis yr ydoedd ef yn tybied, o ran defo­siwn at yr Arglwydd Dduw, fe a gadwodd y bre­nin Agag, a holl oreuon eu hanifeiliaid hwy i [Page 104] wneuthur o honynt aberth i'r Arglwydd Dduw.

Am yr hwn beth fe ddigiodd Duw yn greulon ac a ddywad wrth y prophwyd Samuel, Yr y­dwyf yn etifaru imi wneuthur Sawl yn frenin, o herwydd fe a'm gwrthododd i ac ni chanlynodd fyngairiau. Ac fe a orchmynnodd i Samuel ddan­gos hynny iddo: a phan ofynnodd Samuel iddo paham yn erbyn gair yr Arglwydd y cadwasai fe yr anifeiliaid, fe escusodd y peth, o ran o herwydd ofn, gau ddywedyd na feiddiai wneuthur amgen, o blegid y bobl a fynnai wneuthur felly: ac mewn rhan fe a feddyliodd y byddai Dduw bodlon am ei bod hwy yn anifeiliaid teg ac yntef yn eu cadw hwy o feddwl a bwriad da i anrhydeddu Duw â'r aberthau a wnaid o honynt.

Ond Samuel, gan geryddu y fath fwriadau a defosionau er maint y tybyger eu bod yn anrhy­deddu Duw, oni chytunant â'i air ef, trwy 'r hwn yn vnig y gallwn wybod ei ewyllys ef, fe a ddy­waid fal hyn, A fynnai Dduw offrymmau ac ab­erthau, V. 22. ai ynte vfydd-dod i'w air? vfydd hau sydd well nag aberth, a gwrando arno sydd well na brasder hyrddod: ie mae gwrthwynebu ei lafe­rydd ef megis pechod dewiniaeth, a bod heb gytu­no â'i air ef yn debyg i gas ddelwaddoliad. Ac yn awr yn gymmaint ac iti daflu ymmaith air yr Ar­glwyddl, y'th daflodd yntef dithau ymmaith fal na byddych brenin.

Trwy 'r holl siamplau hyn o'r Scrythur lân y gallwn weled, os gadwn ni Dduw, y gad yntef ninnau. Ac fe ddichō dyn yn hawdd ystyriaid wrth fygythiau Duw pa flinderau a ganlynant yn ddi­ogel ddigon ar ol hynny.

Ac er nad ystyrio ef yr holl flinderau hyn hyd yr [Page 105] eithaf, y rhai sydd gymmaint ac nas gall vn dyn eu hystyriaid hwy yn gwbl ddigon: etto fe ddeall yn hawdd gymmaint o honynt ac a bair iddo ofni a chrynu ac echrydio wrth eu cofio hwy, oni bydd ei galon ef yn galettach nâ'r garreg Adamant.

Yn gyntaf yr ydys yn dangos digofaint Duw tuag attom ni yn yr Scrythur lân wrth y ddau beth hyn, wrth ddangos ei wedd ef a'i wyneb yn ofnadwy arnom, ac wrth droi neu guddio ei wy­neb oddiwrthym.

Wrth ddangos ei wyneb yn ofnadwy yr arwy­ddocair ei ddirfawr lid ef.

Wrth droi neu guddio ei wyneb, yr arwyddocair yn fynych ei fod ef yn hollol yn ein gwrthod ni ac yn ein rhoi ni i fynydd.

Yr ymadroddion hyn a ddywedir wrth gyffely­biaeth cynheddfau dynnion. O herwydd mae dynnion fynychaf yn dwyn gwedd ddaionus siri­ol garedig tuag at y rhai y maent yn eu caru, me­gis wrth y wedd neu 'r wyneb yr ymddengys ond odid pa ewyllys a meddwl a ddwg ef at eraill.

Wrth hynny pan yw Duw yn dangos ei wedd yn ofnadwy tuag attom, hynny yw pan fytho 'n danfon ei ofnus blaau, cleddyf, newyn neu Nodau. go­wyn arnom, mae 'n eglur ei fod ef gwedy digio 'n greulon wrthym. Ond pan fytho ef yn tynnu oddiwrthym ei air, iawn athrawaeth Christ, ei ra­sol nerth a'i gynhorthwy (yr hwn a gydsylltir yn wastad â'i air ef) ac yn ein gadel ni i'n synhwyrau a'n ewyllys a'n gallu ein hunain, mae fe y pryd hynny yn dangos ei fod yn dechrau ein gwrth­od ni.

Cans lle dangosodd Duw i bawb a wir gredant ei efengyl ef wyneb ei drugaredd yn Iesu Grist, yr [Page 106] hwn sydd felly yn goleuo eu calonnau fal (os edry­chant arno megis y dlyent) y mae fe yn ei troi hwy yn rhith ei ddelw ei hun, yn eu gwneuthur yn gy­frannogion o'r goleuni nefol, ac o'i Yspryd glân, ac yn eu cyd-ffurfio hwy ag ef ei hun ymmhob dai­oni anghenrhaid i blant Duw: felly os hwy ar ol hynny a esceulusant hynny, os byddant anni­olchgar iddo, oni threfnant eu bywyd yn ol ei si­ampl a'i athrawaeth ef, ac i osod allan ei ogoniant ef, fe a dyn ymmaith oddiwrthynt ei deyrnas, ei sanctaidd air, trwy yr hwn y dlye dyrnasu yn­ddynt, am nad ydynt yn dwyn y ffrwyth y mae fe yn disgwyl am dano. Etto mae fe mor drugarog ac mor oddefgar ac nad ydyw yn dangos ei fawr­lid arnom yn ddisymmwth.

Ond pan dechreuom ni laesu oddiwrth ei air ef, heb gredu iddo, neu heb ei ddangos yn ein bywyd, yn gyntaf mae fe 'n danfon ei genhadon, gwir bregethwyr ei sanctaidd air, i 'n rhybyddio ac i ddangos ini ein dlyed: megis y mae efe o'i ran ef o'i fawr drugaredd tuag attom, gwedi rhoi ei vnic fab i oddef angau er ein gwared ni o angau, trwy ei angau ef, a'n hadferu i fywyd tragwyddol, i aros gydag ef yn dragywydd ac i fod yn gyfranno­gion ac yn etifeddion gydag ef o'i ogoniant trag­wyddol a'i deyrnas nef. Felly ailwaith y dlyem ninnau o'n rhan ni rodio mewn duwiol fywyd, fal y gweddai i'w blant ef.

Ac os hyn ni wasanaetha, os ni fyth a barhawn yn anufydd i'w air ef a'i ewyllys, heb ei adna­bod ef, na'i garu, na'i ofni, na dodi ein cwbl ym­ddiried a'n gobaith ynddo: ac o'r ystlys arall os ni a ymddygwn yn angharedigol tuag at ein cy­mydogion trwy ddirmyg, cenfigen, malais, neu [Page 107] llofryddiaeth, yspail, goddineb, glothineb, twyll, celwydd, tyngu, a'r fath weithredoedd câs, ac an­nuwiol ymddygiad: yno mae fe yn ein bygwth a bygylau creulon gan dyngu yn ei lid na ddawe y rhai a wnaent y fath weithredoedd byth i'w or­phwysfa ef, yr hon yw tyrnas nef.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gwympo oddiwrth Dduw.

CHwi a glywsoch yn y rhan gyn­taf o'r bregeth hon pa sawl ffordd y cwymp dyniō oddiwrth Dduw.

Rhai trwy ddelw-addoliad, rhai o eisiau ffydd, rhai wrth es­caeluso eu cymydogion, rhai o eisiau gwrando gair Duw, rhai wrth ymhoffi mewn oferedd pethau bydol.

Chwi a ddyscasoch hefyd pa flinder sydd i'r dŷn sydd wedi myned oddiwrth Dduw: a pha fodd y mae Duw o'i aneirif ddaioni ar y cyntaf yn arfer trwy ei bregethwyr roddi rhybyddion mwynion i alw dyn ailwaith o'r blinderau ymma: ac y go­sod ef ar ol hynny fygythau creulon.

Yn awr oni wasanaetha na 'r rhybydd mwyn, na'r fygythfa greulon hynny: yno y dengys Duw ei greulon wedd arnom, ac a Dywallt. arllwys ar ein pen­nau anrhaith blagau, ac yn ol hynny fe a dynn oddiwrthym ei nerth a'i gynhorthwy, trwy 'r hyn yr ymddiffynnai ni oddiwrth bob rhyw flin­der. Fal y dŷsc yr efangylol Brophwd Esai ni, yn gytun â chyffelybaeth Christ, gan ddywedyd, ddar­fod Esai. 5. 2. 6. i Dduw wneuthur gwinllan deg i'w anwyl blant, a'i chau, a'i Gwalo [...]. murio hi, o bobparth, iddo [Page 108] blannu ynddi ddewisol winwydd, a gwneuthur Matth. 20. 33. tŵr a gwinwasc yn ei chanol hi. A phan edrychodd ef am rawn-win, hi a ddygodd iddo rawn-win gwylltion.

Ar ol hyn y canlyn, Yn awr medd yr Arglwydd mi addangosaf i'wch pa beth a wnaf i'm gwin­llan, mi a dynnaf i lawry cauau fal y crinont, mi a dorraf i lawr y gwelydd y fal y Dannely [...]. methrer hwy dan draed, mi a'i gadawaf hiyn anial, ni thorrir ac ni chloddir hi, drain Mieri. drysi a dyfant drosti, ac mi a orchymynnaf i'r cymmylau na lawiant mwy arni.

Wrth y bygythau hyn y rhybyddir ni, os ni y rhai ydym ddewisol winllan Duw, ni ddygwn rawn-win da, hynny yw gweithredoedd da, y rhai a fydd hoff yn ei olwg ef, pan edrycho am da­nynt yn ol iddo ddanfō ei genhadon i alw arnom ni am danynt: ond a ddygwn yn hytrach rawn­win gwylltion, hynny yw gweithredoedd surion anffrwythlou diflas, yno y tynn ef ymmaith ein holl ymddyffynfaudd, ac a oddef i gwympo ar­nom flin blagau o brinder, rhyfel, newyn ac angau.

Ac yn ddiwethaf os hyn ni wasanaetha, fe a'n gad ni yn hoeth, fe a'n rhydd ni i fynydd, fe a drŷ oddiwrthym ni, ni cheibia ac ni chloddia mwy o'n hamgylch, fe a'n gâd ni yn llonydd ac a oddef ini ddwyn y fath ffrwythau ac a fynnom, ie ddwyn gwyddeli, drain, a drysi; pob drygioni a brynti, yn y fath gyflawnder hyd oni thyfont drosom ni yn gwbl, ie hyd oni chegont, oni thagont ac oni ddi­nistriont ni yn hollol.

Ond ni ddeall y rhai sydd yn y byd hwn, heb fyw yn ol Duw, ond yn ol eu rhydd-did cnawdol, [Page 109] fawr ddigofaint Duw tuag attynt: na chaua ef ac na chloddia ef mwy o'u hamgylch, y gadef hw­ynt iddynt eu hunain. Ac maent hwy yn tybied mai rhodd wych ddaionus yw hon gan Dduw, cael pob peth yn ol eu ewyllys eu hun, ac maent felly yn byw, fal pe byddai rhydd-did cnawdol wir rhydd-did yr efengil.

Ond na atto Duw, bobl dda, ini byth chwen­nychu y fath rydd-did. O her wydd er bod Duw weithiau yn goddef i'r drygionus gael pob peth wrth eu bodd yn y byd hwn, etto diwedd bywyd annuwiol yn y diwedd yw dinistr tragwyddol.

Fe gafodd yr Israeliaid grwgnachus y peth yr oeddynt yn ei chwennych, hwy a gawsant sofliair Rifedi. 11. 33. ddigon, do hyd onid oeddynt yn dyffygio o honynt. Ond pa beth fu y diwedd? Fe gafas eu bwyd me­lus hwy saws sur chwerw. Pan ydoedd y bwyd yn eu geneuau, fe gwympodd plâg Duw arnynt, ac a'u lladdodd hwy yn ddisymmwth.

Felly os ni a fyddwn byw yn annuwiol, a Duw yn goddef ini ddilyn ein ewyllys ein hu­nain, a chael y peth sydd hoff ac anwyl gennym, ac heb ein cospi â rhyw blagau: yn ddiddau mae ef yn ddig annial wrthym. Ac er ei fod ef yn hir heb daro, etto fynychaf pan darawo ef y fath ddynnion, mae yn eu taro hwy dan vn dros fyth.

Felly pan na bytho fe yn ein taro, pan beidio fe â'n blino ni ac a'n ffusto, a phan fytho yn ein go­ddef ni i redeg lwyr ein pennau i bob rhyw annu­wioldeb, a hoffderau 'r byd, yn y rhai yr ydym yn ymhoffi, heb na chosp na chystudd, mae hynyn ar­wydd ofnus ddarfod iddo ein rhoddi ni i fynydd i ni ein hunain, ac na char ef ni, ac na ofala drosom ni ymhellach.

[Page 110] Yr hyd y bytho gwr yn Yscythru. yscathru ei winwydd, yn cloddio ynghylch y gwraidd, ac yn dodi pridd ne wydd attynt, mae gantho seddwl arnynt, mae fe 'n gweled arwydd o ffrwythlonder i'w gael o­ddiwrthynt. Ond pan na osodo ef na chost na thrafael arnynt, mae hynny yn arwydd ei fod ef yn tybied na byddant byth da.

A'r hyd y bytho 'r tâd yn caru ei blentyn, mae fe yn edrych arno yn ddigllon, ac yn ei gospi pan wnelo ar fai: ond pan na bytho hynny yn gwasa­naethu, pan beidio ef â'i gospi fe, a goddef iddo wneuthury peth a fynno, mae hynny yn arwydd ei fod ef yn medd wl ei ddietifeddu ef a'i daflu ym­maith dros fyth.

Felly yn siccr ni ddlye ddim bigo ein calonnau ni yn dostach, a'n dodi mewn anferthach ofn, na bod ein cydwybod yn ein cyhuddo ddarfod ini ddi­gio Duw yn ddirfawr, a'n bod ni fyth yn para yn gwneuthur felly: ac nad ydyw Duw yn taro dim o hanom, ond yn ein gadel ni yn llonydd yn ein drygioni yr ydym yn ei hoffi.

Yno yn enwedigy mae 'n oed gweiddi, a gweiddi ailwaith fal y gwaeddodd Dafydd, Na thafl fi ymmaith oddiwrth dy wyneb, ac na chymmer dy Yspryd glan oddiwrthyf. Arglwydd na thro dy wyneb oddiwrthyf, na thafl fi ymmaith yn dy lid. Psal. 51. IX. Na chuddia dy wyneb oddiwrthyf, rhag fy mod Psal. 27. 9. yn debyg i'r rhai a ânt i waered i vfsern. Psal. 143 7.

Y gweddian galarus hyn sydd yn dangos ini pa enbeidrwydd anferth y maent hwy ynddo, y rhai y mae Duw yn troi ei wyneb oddiwrthynt; yr hyd y bytho fe yn gwneuthur felly: felly y dly­ent ein cyffroi a'n hannog ninnau i weddio ar Dduw, ân holl galonnau, na hebrynger mo ho­nom [Page 111] i'r cyflwr hwnnw, yr hwn yn ddiammau sydd mor drwm, mor flin ac mor ofnadwy, ac na ddichon na thafod ei draethu na chalon ei ddeall yn gyflawn.

O herwydd pa drymder angheuol a dybygai ddyn yw bod mewn digofaint Duw, gwedy i Dduw ei wrthod, gwedy tynnu yr Ysyryd glân a wdur pob daioni oddiwrtho, wedy ei hebrwng i gyflwr mor warthus, na wasanaetha ef i ddef­nydd yn y byd, ond i'w ddamno yn vffern yn dra­gwyddol? O herwydd nid yn vnic y lleoedd hyn o'r Prophwyd Dafydd sydd yn dangos y bydd ar droad wyneb Duw oddiwrth neb, y gade wir efyn hoeth o bob daioni, ac ym-mhell oddiwrth obaith ym wared.

Ond hefyd mae 'r lle o Esai a goffasom ni o'r blaen yn dangos yr vn peth: yr hwn a fynegodd fod Duŵ yn y diwedd yn ymwrthod âi anffrw­ythlon winllan, na oddef ef yn vnic iddi ddwyn chwyn, drain a drysi, ond y cospa ef ei hanffrwyth­londer hi ymmhellach. Mae fe 'n dywedyd na yscathra efe, ac na chloddia fe hi, ac y gorchymmyn ef i'r cymmylau na lawiont arni. Trwy 'r hyn yr arwyddocair athrawiaeth ei sanctaidd air ef. Yr hyn mewn cyffely [...] fodd a ddangosodd S. Pawl wrth enw plannu a dwfrhau, gan feddwl y tynn ef hynny oddiwrthynt, na chaent fod mwy o'i deyr­nas ef, ac na thy wysid hwy mwy byth gan Yspryd Duw, y dodid hwy ymmaith oddiwrth ei râd ef, ac oddiwrth y doniau oedd ganthynt gynt; ac a allasent trwy Grist eu meddianu byth; y dynoe­thir hwy o'r goleuni nefol a'r by wyd oedd ganth­ynt ynghrist, pan oeddynt yn aros ynddo: hwy a fyddant fal y buant vn waith, megis dynnion heb [Page 112] Dduw yn y byd hwn, neu etto mewn cyflwr gwaeth.

Ac ar ychydig airiau, hwy a roddir dan allu di­awl, yr hwn a deyrnasa ymhawb oll ac a defler o­ddiwrth Dduw: megis y gwnaeth ef i Sawl a Iudas ac yn gyffredinawl i bawb oll ac a weithi­ant [...]. Sam. 15. yn ol eu meddyliau eu hunain, plant angre­dadwy a gwanobaith.

Gwagelwn gan hynny, Gristionogion daionus, rhag ini trwy daflu ymmaith ac ymwrthod â gair Duw, trwy 'r hwn yr ydym yn cael ac yn cadw gwir ffydd yn-nuw, gael ein taflu ar y diwedd ym­maith a'n gwneuthur yn blant anghredyniaeth, y rhai ydynt o ddau ryw, pell bob vn oddiwrth ei gilydd, ie haychen yn wrthwyneb i'w gilydd, ac etto mae pob vn o'r ddau ymmhell oddiwrth droi at Dduw.

Mae 'r naill ryw gan bwyso eu bywyd pecha­durus câs, ynghŷd ag iniawn farn a chysyngder cyfiawnder Duw, cy belled oddiwrth gyngor a di-ddanwch, (fal y mae yn rhaid bod pawb yr aeth Yspryd cyngor a diddanwch oddiwrthynt) na chymmerant hwy gan neb eu perswadio yn eica­lonnau y gall Duw eu cymmeryd, neu os gall y cymmer ef hwynt i'w ffafor a'i drugaredd ailwa­ith. Y rhyw arall wrth glywed caredig a halae­thion addewidion Duw, ac felly heb gyrhaeddyd gwir ffydd o'r addewidion hynny, ydynt yn gw­neuthur yr addewidion ymma yn halae thach nag y gwnaeth Duw hwy erioed, gan ymddired, er hyd yr arhosont yn eu bywyd cas pechadurus, etto yn-niwedd eu hoes y dengys Duw ei druga­redd iddynt, ac y cânt hwy ymchwelyd atto ef ailwaith.

[Page 113] Ac mae 'r ddau ryw hyn o bobl mewn cyflwr damncdig, ac etto mae Duw (yr hwn ni syn far­wolaeth pechadur) gwedy gosod ffordd (os hwy mewn amser a ymwagelant) i bob vn o honynt i ddiangc.

Y cyntaf, fal y maent yn ofni iniawn farn Duw yn cospi pechaduriaid, trwy 'r hyn y dlyent Synnu. ddi­harffu, a gwanobeithio yn siccr oblegid vn goba­ith ac a all bod ynddynt hwy eu hunain; felly pe byddyn hwy yn ddiogel ac yn ddisigl yn credu mai trugaredd Duw yw yr vnic gynhorthwy yn er­byn gwanobaith ac anymddired, nid yn vnig i­ddynt hwy, ond yn gyffredinawl i bawb oll a fo drwg ganthynt ac a wir etifarant am eu holl be­chodau, a chydâ hynny a lynant wrth drugaredd Duw, hwy allant fod yn siccr o drugaredd, ac y cânt hwy fyned i Aber. borthladd diogelwch ac ym­wared; i'r hon pwy bynnac a ddelo er Drycced. cyn­ddrwg a fu ef o'r blaen, fe fydd allan o berigl dam­nedigaeth tragwyddol, fal y dywaid Duw drwy enau Ezechiel, Pa bryd bynnac yr etifaro pecha­dur Ezech. 18. 27. o ddyfnder ei galon mi a ellyngaf dros gôf ei holl enwiredd ef. Am y rhyw arall fal y maent hwy yn barod i gredu addewidion Duw, felly y dlyent fod mor barod i gredu bygythau Duw, hwy a ddlyent gredu y gyfraith cystal a'r efengyl; bod vffern a thân tragwyddol yn gystadl a bod nef a didranc lawenydd: hwy a ddlyent gredu cystal fod yn bygwth damnedigaeth i'r pechadurus a'r drwgweithredwyr, ac yr ydys yn addo Iachydw­riaeth i'r ffyddlon mewn gair a gweithred: hwy a ddlyent gredu fod Duw yn gywir cystal yn y naill ac yn y llall.

Ac fe ddlye y pechaduriaid y rhai sydd yn parhau [Page 114] mewn drwg fywyd, feddwl na pherthyn adde­widion trugaredd Duw a'r efengyl iddynt hwy, yr hŷd y bônt yn y cyflwr hwnnw, ond yn vnic y gyfraith a'r scrythyrau a gynhwysant ynddynt lid, digofaint a bygythfae Duw: y rhai a ddlye eu siccrhau hwy, megis y maent hwy yn rhy Hyf. eofn yn rhyfygu ar drugaredd Duw ac yn byw yn ben­rhydd ac yn anllywodraethus, felly fod Duw yn tynnu fwyfwy ei drugaredd oddiwrthynt, y cyff­roir ef o'r diwedd i ddigofaint a'i fod ef yn arfer weithiau o ddinistr yn ddisymmwth y fath ry­fygwyr.

Am y cyfryw ddynion y dywaid S. Pawl fal hynn, Pan ddywedont mae heddwch, nid oes en­beidrwydd, 1. Thess. 5. 3. yno yn ddisymmwth y daw distryw arnynt. Gwagelwn am hynny y fath Hyfder. eofnder drwg i bechu. O herwydd er i Dduw addo ei drugaredd i'r rhai a wir etifarhant (a hynny ar y diwedd) etto nid addawodd ef na bywyd hir, na gwir etifeirwch yn y diwedd i bechaduriaid rhy­fygus. Ond i'r defnydd hynny fe a wnaeth amser angau pob dŷn yn anhyspys, rhag i neb osod eu gobaith ar y diwedd, a byw hyd hynny i ddigio Duw wewn annuwioldeb.

Canlynwn gan hynny gyngor y gwr call, nac oedwn droi at yr Arglwydd: na Ddyhiriwn. ohiriwn o ddydd i ddydd, o herwydd yn ddisymmwth y daw llid yr Arglwydd ac mewn amser llid fe a ddinistria y drygionus.

Trown gan hynny yn ebrwydd at yr Arglwydd, a phan drothom gweddiwn ar Dduw megis y gweddiodd Osee gan ddywedyd, maddeu ein pe­chodau, Oze. 4. 2. derbyn ni yn rasol. Ac os ni a drown at­to â chalon ostyngedig etifeiriol, fe a'n derbyn ni [Page 115] i'w drugaredd a'i râd, er mwyn ei enw sanctaidd, er mwyn ei addewid, er mwyn ei wirionedd, a'i drugaredd a addawodd ef i bawb ac a gredent yn ffydolon yn Iesu Grist ei vnic naturiol fab ef. I'r hwn vnic Iachawdwr y byd gydâ 'r tâd a'r Ys­pryd glàn y bô holl anrhydedd, gogoniant a nerth yn oes oefoedd. Amen.

¶ Annogaeth yn erbyn ofn angau.

NId yw ryfeddod fod ar ddynnion bydol ofn marw, o herwydd mae angau yn eu difuddio hwy o bob anrhydedd, cyfoeth a meddian­nau bydol, wrth feddiannu y rhai y mae 'r bydol yn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd, yr hyd y gallo fe eu mwynhau hwy yn ol ei ewyllys, ac os efe a ddi­feddiannir o hanynt heb obaith eu cael ailwaith, yno ni ddichon feddwl amgen am dano ei hun na'i fod yn annedwydd, am iddo golli ei hoffder a'i lawenydd bydol,

Och, ôch, a feddwl y gwr cnawdol ymma, a ymadawafi dros fyth â'm holl anrhydedd, a'm holl drysor a'm gwlad a'm cenedl a'm meddian­nau, a'm cyfoeth a'm holl hoff-ddigrifwch bydol, y rhai yw llawenydd a bodlonrwydd fynghalon? och ddyfod y dydd hwnnw fyth, pan orffo imi ga­nu yn iach i'r pethau hynn i gyd ar vnwaith, heb allel eu meddiannu mwy byth. Am hyn nid heb achos mawr y dywaid y gwr call, O angau mor chwerw ac mor sur yw 'r côf am danati i'r hwn a fytho 'n byw yn esmwyth yn cael ei fyd yn ol ei ewyllys heb ddim trallod, ac sydd gwedy ei [Page 116] lenwi a'i frashau trwy hynny? Mae eraill ar y rhai nid ydyw y byd yn chwerthin mor gwbl, onid yn eu blino ac yn eu gorthrymmu hwy â thlo­di â chlefyd, neu ryw wrthwyneb arall: etto ma­ent hwy yn ofni angau, mewn rhan am fod y cnawd yn cashau yn anianol ei drist ymddattodi­ad, yr hwn y mae angau yn bygwth ei hebrwng arnynt: mewn rhan o blegid afiechyd a phoene­dig glefydau, y rhai ni all na byddont loesion tost ac anfeidrol ing yn y cnawd, y rhai ydynt arfere­dig fynychaf o ddyfod cyn angau i wyr cleifion, neu ar y lleiaf, o ddyfod ynghwmpni angau, pan ddelo.

Er bod y ddau achos ymma yn edrych yn fawri­on ac yn bwysig yngolwg gwr bydol, trwy y rhai y cyffroir ef'i ofni angau, etto mae achos arall y sydd fwy nâ'r vn o'r a chosiō a soniasom ni am da­nynt, am yr hwn yn siccr y mae achos da i ofni an­gau: a'r achos hwnnw yw 'r stât a'r cyflwr i'r hwn yn y diwedd y dwg angau bawb a osodant eu calonnau ar y byd hwn, heb etifaru na gwel­lau eu bywyd; yr hwn stat a chyflwr a elwir yr ail angau, yr hwn a ganlyn ar bawb o'r fath ddyni­on yn ol yr angau corphorol ymma.

Ac yn wir dymma 'r angau a ddylyid ei o fni ac echrydio ragddo yn ddirfawr, o herwydd hwn yw colled dros fyth yn ddiymwared o râd a ffafor Duw, o dragwyddol lawenydd, llwyddiant a ded­wyddwch. Ac nid yw hwn yn vnic yn golled o'r holl dragwyddol hoffderau ymma, ond mae fe hefyd yn ddamnedigaeth corph ac enaid (heb le i apelio at orvwch na gobaith ymwared) i drag­wyddol boenau vffern. Ac i'r stat hwn y dan­fonodd angau y gwr goludog an-nrhugarog, yr [Page 117] hwn y mae Luc yn son am dano yn ei efengyl, yr hwn gan fyw ymmhob cyfoeth a digrifwch yn y Luc. 16. 19. &c. byd hwn, a chan ymddigrifo beunydd mewn da­inteiddiol fwydau a dillad gwychion, a ddibrisodd Lazarus dlawd, a orweddai yn druan wrth ei horth ef, gwedy ei blago yn flin, ac yn llawn dolu­riau, ac yn dyddfu o newyn.

Fe arestiwyd y ddau hyn gan angau, yr hwn a ddanfonodd Lazarus, y gwr truan hwnnw gy­dag angylion yn y man i fonwes Abraham, lle o orphwysfa, o ddedwyddwch ac o ddiddanwch. Ond fe ddiscynnodd y goludog an-nhrugarog i vffern, a phan ydoedd mewn poenau, fe a wae­ddodd am ddiddanwch, gan gwyno 'n druan rhag ei boen Anrheith ei oddef. anescorol, yr ydoedd ef yn ei oddef yn y fflam dân honno, ond yr ydoedd yn rhy hwyr.

Felly i'r lle hwn y mae 'r angau corphorol yn danfon pawb oll a osodant eu llawenydd, a'u de­dwyddwch ar y byd hwn: a phawb oll ac ydynt yn y byd hwn anffyddlon i Dduw ac angharedig i'w cymydogion, gan feirw felly mewn anetifeir­wch, ac heb obaith trugaredd Duw.

Am hyn nid yw ryfeddod fod y gwr bydol yn of­ni angau, o herwydd mae iddo ef fwy o achos i wneuthur felly nag y mae fe ei hun yn ei ysty­riaid.

Fal hyn y gwelwn fod tair achos i wyr bydol i ofni angau: vn am eu bod hwy trwyddo yn colli eu holl anrhydedd bydol, eu holl gyfoeth, a'u me­ddiannau, a pha beth bynnag a chwennycho eu calonnau.

Yr ail, o herwydd y clefydau tostion, a'r poenau chwerwon, y rhai fynychaf y mae gwyr yn eu go­ddef, naill ai cyn, ai yntau yn amser angau.

[Page 118] Ond yr achos fwyaf vwchlaw pob achos arall yw, ofn y cyflwr echryslon o drag wyddol ddamne­digaeth y corph a'r enaid, yr hwn y maent yn ofni ei gwympo arnynt yn ol iddynt ymadel â hoffde­rau bydol y bywyd presennol hwn.

Am yr achosion hyn y mae pob dyn ar a ymroes i gariad y byd hwn mewn ofn, ac yn yr stât hon o angau (fal y dywaid yr Apostol) trwy bechod, yr hyd y byddont byw yn ybyd hwn.

Ond, tragwyddol ddiolch i'r tragwyddol Dduw yn dragywydd, nid oes vn o'r achosion ymma, na hwynt oll ynghyd, a ddichon wneuthur i vn gwir Gristion ofni marw, yr hwn sydd wir aelod i Grist, teml yr Yspryd glân, a mâb Duw, ac etifedd trag­wyddol 1. Cor. 3. 16. teyrnas nefoedd. Ond yn y gwrthwyneb y mae fe 'n gweled llawer o achosion mawrion gwedy eu gwreiddio yn ddiammau ar an-nhwy­llodrus a thragwyddol wirionedd gair Duw, y rhai a'i cyffroant ef nid yn vnic i ddodi ymmaith ofn corphorol angau, onid hefyd o blegid yr aml ddoniau a'r godidawg enuill y rhai trwy angau a ddaw i bawb o'r ffyddloniaid, i chwennychu, i ddeisyf a hiraethu am angau.

O herwydd ni bydd angau iddo ef yn angau, o­nid rhyddhâd oddiwrth angau, poenau, gofalon, tristwch, trueni a blinderau y byd hwn: a myne­diad i mewn i esmwythder, dechreuad llawenydd tragwyddol, mwynhâd digrifwch nefol, y rhai ydynt cymmaint na ddichou tafod eu traethu, na llygaid eu gweled, na chlust eu clywed, na chalon vn gwr daiarol eu deall: mor fawr odi­dawg yw y donniau y rhai o'i vnic drugaredd a chariad ar ei Fab Iesu Grist, a ddarparodd Duw ein tad nefol, ac a osododd ef i gadw i'r rhai yn o­styngedig [Page 119] a ymostyngant i'w ewyllys ef: ac a'i carant ef yn wastadol, yn ddiffuant o ddyfnder eu calonnau.

Ac ni a ddlyem gredu na ddichon marwolaeth yr hon a laddwyd gan Grist, attal neb a'r a ymddi­redo yn ddisigl ynghrist, tan ei dragwyddol greu­londeb a'i gaethiwed. Ond fe a gyfyd o farwola­eth i ogoniant ar y dydd diwethaf, a osodwyd gan yr holl-alluog Dduw, fal y cyfododd Christ ein pen ailwaith y trydydd dydd, wrth ordeiniad Duw. O herwydd, medd S. Awstin, lle 'dd aeth Christ y pen mae 'r aelodau yn gobeithio y cânt hwythau ganlyn a dyfod ar ol. Ac mae S. Pawl 1. Cor. 15. 12. 15. yn dywedyd, Os cyfodwyd Christ oddiwrth y mei­rw, y cyfodir ninnau hefyd.

Ac er rhagor ddiddanwch i bob Cristion yn hyn o beth, mae 'r Scrythur lân yn galw y farwola­eth gnawdol hon yn gwsc, trwy 'r hwn y tynnir mewn cyffelybiaeth, synhwyrau dŷn dros amser oddiwrtho, ac etto pan ddihuno mae fe 'n llon­nach ac yn hoywach nâ phan aeth ef i'w wely. Fel­ly er bod yn gwahanu ein eneidiau ni oddiwrth ein cyrph dros ennyd, etto ar yr ail-gyfodiad cy­ffredinol ni a fyddwn hoywach, harddach a pher­ffeiddiach nag ydym ni yn awr.

O herwydd yn awr yr ydym yn farwol, y pryd hwnnw ni a fyddwn yn anfarwol: yn awr wedi ein llygru gan lawer o wendid, yno y byddwn rhyddion oddiwrth bob gwendid marwol: yn awr yr ydym yn gaethion i bob chwantau cnawdol, y­no y byddwn yn hollawl yn ysprydol, heb chwen­nychu dim onid gogoniant Duw a phethau trag­wyddol.

Fal hyn nid yw marwolaeth gnawdol o­nid [Page 120] drws a mynediad i fywyd: ac am hynny nid ydyw mor ofnadwy (os ystyrir hi yn iawn) ac y mae hi yn ddiddanus; nid dial ond ymwared yn erbyn pob dialedd: nid gelyn onid cyfaill; nid gorthrymmydd creulon, onid tywysog tirion i'n harwain ni o farwolaeth i fywyd, o dristwch a phoen i lawenydd a digrifwch, yr hwn a bery byth yn dragwyddol, os derbynnir ef yn ddiolch­gar megis cennad Duw, ac os goddefwn ef yn o­ddefgar er cariad ar Grist, yr hwn a oddefodd ddo­lurus angau er cariad arnom ni, ac er ein rhy­ddhau ni o dragwyddol angau.

Yn gyttun â hyn y dywaid S. Pawl, y mae ein bywyd ni yn guddiediedig gydâ Christ yn-nuw: onid pan ymddangoso 'n bywyd ni yno 'r ymddan­goswn Coloss. 3. 4. ninnau hefyd mewn gogoniant gydag ef.

Paham gan hynny yr ofnwn farw, gan ystyri­aid aml a diddanus addewidion yr efengyl, a'r Scrythyrau sanctaidd? Rhoddodd Duw ini fy­wyd tragwyddol, medd Ioan Sant, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fâb ef. Yr hwn y mae y Mâb gan­tho Ioan. 6. 40. mae bywyd gantho, a'r hwn nid oes ganddo Fâb Duw nid oes gantho fywyd. Y pethau hyn, 1. Ioan. 5. 1 [...]. medd S. Ioan, a scrifennais attoch y rhai ydych yn credu yn enw Mâb Duw: fal y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, a'ch bod yn credu yn e­nw Mâb Duw. Ac fe ddywaid ein Iachawdwr Christ, yr hwn sydd yn credu ynofi sydd iddo fywyd Ioan. 6. 4. tragwyddol, ac mi a'i hadgyfodaf ef y dydd diwe­thaf. Ac mae S. Pawl yn dywedyd ddarfod i 1. Cor. 1. 3 [...]. Dduw ordeinio a gwneuthur Christ yn ddoethi­neb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd, ac yn ym­wared ini, er mwyn bod i'r hwn a orfoleddo orfo­leddu yn yr Arglwydd.

[Page 121] Ac yr oedd S. Pawl yn dibriso, yn dirmygu, ac yn cyfrif megis tom y pethau oedd fawr gantho am danynt o'r blaen, fal y galle o'r diwedd gael bywyd tragwyddol, gwir sancteiddrwydd, cyfi­awnder, a thrugaredd ynghrist Iesu. Yn ddiwe­thaf, Coloss. 3. mae S. Pawl yn gwneuthur dadl oleu yn y modd ymma, Os ein Tâd nefol nid arbedodd Coloss. 8. 31. ei fab naturiol, onid ei roddi i farwolaeth drosom, pa fodd na rydd ef bob peth ini gydag ef?

Am hynny os yw Christ gennym, y mae gen­nym gydag ef a thrwyddo ef bob peth ac a allo ein calonau ei ddeifyf neu ei chwenychu: megis goruwchafiaeth yn erbyn angau, pechod ac v­ffern; mae gennym ffafor Duw, heddwch ag ef, sancteidrwydd, doethineb, cyfiawnder, nerth, bywyd ac ymwared; mae ini trwyddo ef dragwy­ddol Iechyd, cyfoeth, llawenydd ac annherfynol fendith.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am ofn angau.

FE ddangoswyd i'wch o'r blaen fod tri achos pa ham y mae dyn­nion yn ofni marw.

Y cyntaf yw trist ym-adel a'u golud a'u hoffderau bydol.

Yr ail yw ofn y gloesion a'r po­enau a ddawant gydag angau.

Yr achos mwyaf a'r diwethaf yw Echrydys. erchyll ofn trneni Cas. echryslon a thragwyddol ddamnedigaeth yn yr amser a ddaw. Ac etto nid oes vn o'r acho­sion ymma yn cyffro neb o'r gwyr daionus, am eu bod hwy yn eu cadarnhau eu hunaim trwy wir [Page 122] ffydd, cariad perffaith, a diogel obaith o'r llawe­nydd didranc a thragwyddol fendith.

Mae gan yr holl rai hyn am hynny achosion mawrion i fod yn llawn llawenydd, am eu bod hwy gwedy eu cyssylltu â Christ trwy wir ffydd, diogel obaith, a chariad perffaith, ac i fod heb ofni nac angau na thrgwyddol ddamnedigaeth. O herwydd ni ddichon angau eu gwahanu hwy o­ddiwrth Grist, nac vn pechod ddamno y rhai a ddi­ogelwyd ynddo ef, yr hwn yw eu hunig lawenydd, eu trysor a'u bywyd hwy.

Etifarhawn am ein pechodau, gwellhawn ein bywyd, ymddiredwn yn ei drugaredd ef a'i haeddi­ant, ac ni ddichon angau na'i dynnu ef oddiwr­thym, na ninnau oddiwrtho yntef. O herwydd yno (medd S. Pawl) pa vn bynnac a wnelom ai byw ai marw yr ydym ni yn eiddo 'r Arglwydd. Ac fe ddywaid ailwaith, Christ a fu farw ac a gy­fododd drachefn, fal y byddai ef Arglwydd ar y byw a'r meirw. Wrth hynny os ydym ni eiddo 'r Arglwydd, pan fythom feirw, ni ddichon na chan­lyno, nid yn vnic nad ydyw y fath farwolaeth gnawdol yn abl i'n drygu, onid hefyd y bydd hi e­lw ac ennill i ni, ac y cydsyllta hi ni â Duw yn gyflawnach.

Ac o hyn y dichon pob Christionogaidd galon fod yn siccr ddiogel, trwy ddidwyll wirionedd yr Scrythyr lân. Canys Duw, fal y dywaid S. Pawl, a adeiladodd ini dŷ tragwyddol yn y nefo­edd, ac a roddodd ini wystl o'i Yspryd. Am hynny [...]. Cor. 5. 1. 5. byddwn bob amser ddiddanus, o herwydd ni a wyddom yr hyd y bythom yn y cnawd, ein bod ni oddigartref ymhell oddiwrth Dduw, ac megis mewn gwlâd ddieithr, mewn llawer o enbeidrw­ydd, [Page 123] yn rhodio heb gyflawn olwg, na gwybodaeth am yr holl-alluog Dduw, ac yn ei weled ef yn vnic trwy ffydd yr Scrythyrau sanctaidd: ond mae 'n ewyllys ni a'n chwant ar fod gartref gydâ Duw a'n Iachawdwr Christ ym-mhell oddiwrth y corph, lle y gallom weled Duw yn y modd y mae ef, wyneb yn wyneb, i'n diddanwch an-nher­fynol.

Dymma sûm gairiau S. Pawl, trwy y rhai y gallwn ystyriaid fod yn cyffelybu ac yn tebygu ein bywyd ni yn y byd hwn i bererindod mewn gwlâd ddieithr, ym-mhell oddiwrth Dduw: a bod angau yn ein gwared ni o'n cyrph ac yn ein dan­fon ni yn iniawn adref i'n gwlad ein hunain, ac yn gwneuthur ini aros yn bresennol gydâ Duw yn dragwyddol, mewn tragwyddol orphwysfa a llonyddwch, megis nad ydyw marw yn golled, ond yn fudd ac yn ennill i'r holl Gristionogion.

Pa beth a gollodd y lleidr a groshoelwyd gydâ Christ trwy angau co phorol? Ie pa ennill a ga­fas ef oddiwrthi? oni ddywad ein Iachawdwr Christ wrtho, heddyw y byddi gydâ mi ym-mhar­adwys? Luc. 23. 43.

Ac oni leshaodd ac oni dderchafodd angau yn rhyfedd Lazarus ofidus hefyd, yr hwn a orwe­ddodd yn hir gan ddolur, ac yn druan gan newyn, Luc. 16. 22. wrth borth y gwr goludog pan ddygpwyd ef trwy wenidogaeth angylion i fonwes Abraham, lle o orphwyffa, o lawenydd a diddanwch nefol.

Na thybygwn am hynny, Gristionogion da, na ddarfu i Grist ddarparu a pharatoi yn y blaen, yr vn llawenydd a dedwyddwch i ninnau hefyd, ac a ddarparodd ef i Lazarus a'r lleidr. Glynwn gan hynny wrth ei Iechydwriaeth a'i brynedigaeth [Page 124] grasawl ef, credwn ei air ef, gwasanaethwn ef â'n holl galonnau, carwn ef ac vfyddhawn iddo: a pha beth bynnac a wnaethom ni o'r blaen yn erbyn ei sanctaidd ewyllys ef, etifarhawn yn awr mewn amser: myfyriwn o hyn allan wellau ein bywyd, a byddwn siccr y bydd ef mor drugarog wrthym ni, ac a fu ef wrth Lazarus neu 'r lleidr: siampsau y rhai a scrifennwyd yn yr Scrythur sanctaidd er diddanwch i'r holl bechaduriaid, y rhai ydynt yn gorfod arnynt dreulio eu hoes mewn tristwch, mewn blinderau, a chyfyngde­rau y hyd hwn: fel na byddo iddynt wanobaithio am drugaredd Duw, ond ymddired yn wastadol trwy ei drugaredd ef gael maddauant o'u pecho­dau, a thragwyddol fywyd, fal y cafodd Lazarus a'r lleidr.

Fal hyn yr ydwyf yn gobeithio fod pob Christion yn deall weithion trwy ddidwyll air Duw, na ddichon corphorol angau na gwaethu na drygu y rhai a wir gredant ynghrist Iesu. Ond o'r gwrth­wyneb y lleshâ ac y derchafa ef yr holl eneidiau Cristionogawl y rhai yn wir etifeiriol am eu ba­iau ydynt yn myned oddi ymma mewn cariad perffaith a diogel obaith y bydd Duw trugarog iddynt, y maddau fe eu pechodau hwynt er hae­ddiant ei vnig naturiol fab Iesu Christ.

Yr ail achos pa ham y mae rhai yn ofni marwo­laeth yw clefydau tostion, a phoenau trymmion, y rhai a ddawant naill ai ym-mlaen angau, ai yn­tau gydag angau pan ddelo. Yr ofn hwn yw ofn cnawd gwael, a gwendid naturiol, a berthyn at annian dyn marwol. Ond mae gwir ffydd yn addewidion Duw, a dyfal feddw▪ am y poenau a'r ing a oddefodd Christ ar y groes drosom ni be­chaduriaid [Page 125] truain, ynghŷd ag ystyriaeth am y llawenydd a'r tragwyddol fywyd sydd ar ddyfod yn y nefoedd, yn esmwytho ac yn llonyddu y poe­nau, ac yn lleihau 'r ofn ymma, fal na allo ortre­chu y chwant a'r llawenydd calonnog, y sydd gan enaid Christion, i gael ei wahanu oddiwrth y corph llygradwy hwn, fal y gallo ddyfod i rasol bresenolder ein Iachawdwr Iesu Grist.

Os ni a gredwn yn gadarn air Duw, ni a gawn weled nad yw y fath glefydon corphorol, a'r do­luriau a'r poenau tost yr ydym yn eu goddef naill ai cyn ai gydag angau, onid gwialen ein nefol a'n caredig dâd, trwy 'r hon y mae fe yn drugarog yn ein ceryddu ni, naill ai er mwyn profi a chyhoeddi ffydd ei oddefgar blant, fal y ceffer hwy yn gan­moladwy yn anrhydeddus ac yn ogoneddus yn ei olwg ef, pan ddangosser yn oleu fod Iesu Grist yn farnwr yr holl fyd: ai yntau i gospi ac i wella yn­dynr bob peth ac sydd yn anfodloni ei dadawl ddaioni ef, rhag eu colli hwy yn dragywydd. Ac mae y wialen gerydd hon yn gyffredinol i bawb ac ydynt yn wir eiddo ef.

Taflwn am hynny ymmaith faich pechod, sydd yn gorwedd yn rhy drwm ar ein Gyddfau. gyddygau, a thrown at Dduw trwy wir etifeirwch a gwell­hâd bywyd, rhedwn yn oddefgar yr yrfa a osod­wyd i ni, gan oddef er ei fwyn es a oddefodd er ein Iachawdwriaeth ni, bob poenau, a phob tri­stwch angau, ie ac angau ei hun, yn llawen pan danfono Duw ef attom, gan fod ein llygaid gwe­dy Phil. 3, 8. eu gosod, a'u diogelhau ar ein pen, a thywysog ein ffydd Iesu Grist, yr hwn gan ystyriaid y llaw­enydd a ddawai iddo, ni phrisodd nac ar gywilydd nac ar boenau angau, ond efe a gydffurfiodd ac a Heb. 12. 2. [Page 126] gydweddodd ei ewyllys ei hunan ag ewyllys ei dâd ac er ei fod yn ddifai ac yn ddieniwed, etto fe a oddefodd wradwyddusaf, a phocnediccaf angau 'r groes. Yn awr am hynny mae fe gwedy ei gy­fodi i'r nefoedd ac yn eistedd yn dragwyddol ar dde­heulaw gorseddfaingc Duw dâd.

Cofiwn am hynny y bywyd a'r llawenydd ne­fol sydd ynghadw i bawb ac a oddefant ymma yn oddefgar gydâ Christ, ac ystyriwn i Grist ddioddef y cwbl o'i ddioddeifaint gan bechaduriaid, ac er mwyn pechaduriaid, ac yno y goddefwn yn haws ac yn esmwythach y gofidiau a'r poenau hynny pan ddelont.

Na Ddiystyrwn. fychanwn am hynny gerydd yr Arglwydd, ac na Ymwhith­nachwn. rwgnachwn yn ei erbyn ef, ac na chw ym­pwn oddiwrtho, pan y'n cerydder gantho. O her­wydd mae 'r Arglwydd yn ceryddu pob vn a garo, Heb. 1 [...]. 6, 7, 8. ac yn ffusto pob vn ac a gymmero yn blentyn iddo. Pa fab sydd, medd S. Pawl, nas cospo ei dad ef? eithr os heb gospedigaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb o'i blant a'i garedigion ef yn gyfranogion, yno bastardiaid ydych ac nid meibion o briod. Am hynny gan fod ein tadau daiarol cnawdol yn ein cospi ni, a ninnau yn eu hofni ac yn derbyn eu cosp hwy yn barchus: oni ddlyem ni fod yn fwy ein gostyngeidrwydd i Dduw Tâd yr ysprydoedd, trwy 'r hwn y mae ini fywyd tragwyddol? Ac mae 'n tadau cnawdol yn ein cospi ni weithiau fal y byddo bodlon ganthynt heb ddim achos: ond mae 'n Tâd hwn yn ein ceryddu ni yn gyfiawn naill ai am ein pechodau, o fwriad ar ein gwell­hau, neu er budd a lleshad ini, i'n gwneu­thur trwy hynny yn gyfranogion o'i sancteidd­rwydd.

[Page 127] Hefyd fe dybygid nad oes yn yr holl gosp y mae Duw yn ei ddanfon yn y byd presennol hwn, na llawenydd, na diddanwch, onid poen a thri­stwch: etto mae 'n dwyn gydag ef flas o druga­redd a daioni Duw tuag at y rhai y mae fe yn eu cospi, a siccr obaith o dragwyddol ddiddanwch Duw yn y nefoedd.

Am hynny onid ydyw y gofidiau a'r afiechyd a'r clefydau ymma, ie ac angau ei hun, ddim onid gwialen ein tad nefol, trwy 'r hon y mae fe yn ein nitho ac yn ein puro ni, trwy 'r hwn y rhydd ef i ni sancteiddrwydd ac y siccrha ef ni ein bod yn blant iddo ef, ac yntef yn drugarog dâd i ninnau. Oni chusanwn ninnau yn llawen ac yn ewyllys­car â phob gostyngeiddrwydd megis vfydd blant caredig, wialen ein Tad nefol, gan ddywedyd yn wastad yn ein calonnau gydâ ein Iachawdwr Iesu Grist, y Tad oni all yr ing a'r gofid yr ydwyf yn ei oddef a'r angau yr ydwyf yn ei weled yn ne­sau Mat. 16. 39. attaf, fyned heibio, ond bod dy ewyllys imi eu goddef hwy, bydded dy ewyllys di.

¶ Y trydydd ran o'r bregeth am ofn angau neu farwolaeth.

FE ddangoswyd yn y bregeth hon yn erbyn ofn angau ddau achos y rhai sydd yn peri i wyr bydol ofni marw, etto nid ydyw y rhai hyn yn cyffroi dim o'r ffyddloniaid, na'r rhai sydd yn byw yn dda, pan ddelo angau, ond maent yn rho­ddi iddynt hwy achosion i lawenhau yn fawr, gan ystyriaid y cânt eu rhyddhau ar fyrder oddiwrth ofn a thrueni y byd hwn, a'u dwyn i fawr lawe­nydd [Page 128] a dedwyddwch y byd a ddaw.

Yn awr y trydydd achos a'r hyspysaf, paham y mae angau yn wir ofnadwy, yw gofidus gyflwr ac stât y bydol a'r annuwiol yn ôl angau.

Ond nid ydyw hyn achos yn y byd i'r duwiol a'r ffyddloniaid i ofni angau, ond o'r gwrthwyneb fe ddlyai eu hymddygiad duwiol hwy yn y byd hwn, a'u cred hwy ynghrist, a'u gwastadol ymlyn wrth ei drugaredd ef, wneuthur iddynt hwy hi­raethu yn fawr am y bywyd hwnnw, yr hwn yn ddiammau sydd yn eu haros hwy yn ol yr angau corphorol hwn.

Ac o blegid yr stât anfarwol ymma yn ol y by­wyd trāgedig hwn, lle y cawn fyw byth yngwydd Duw mewn llawenydd a llonyddwch, yn ol goruchafiaeth pob clefyd, gosid, pechod ac angau, mae llawer o leoedd goleu yn yr Scrythyr lân i gadarnhau cydwybod wan yn erbyn ofn y fath o­fidiau, clefydon, pechod, a chorphorol angau: i es­mwytho y fath echryd ac annuwiol ofn, ac i'n cy­suro ni â gobaith stât fēdigaid yn ol y bywyd hwn.

Mae S. Pawl yn chwennych ar i Dduw Tâd y gogoniant roddi i'r Ephesiaid Yspryd doethi­neb a dat guddiad i'w adnabod ef, trwy oleuo go­lwg eu calonnau, fal y gwypent obaith ei alwedi­gaeth Ephes. 1. 17, 18. ef, a pha beth yw golud ei etifeddiaeth ef yn ei saint: a pha beth yw rhagorol nerth ei faw­redd ef yn y rhai ydynt yn credu. Mae S. Pawl ei hun yn dangos deisyfiad ei galon, yr hyn oedd cael ei ollwng oddiwrth y corph a bôd gydâ Christ, yr hyn (eb efe) sydd orau dim i mi, er bod yn ang­henrheidiol Phil. 1. 23. o'u rhan hwynt iddo aros yn y cnawd, yr hyn er eu mwyn hwy ni wrthododd ef ei wneuthur, megis y dywad saint Marthin, Oh [Page 129] Arglwydd daionus os byddaf anghenrhaid i'th bobl di i wneuthur daioni iddynt, ni wrthodaf ddim poen: os amgen, o'm rhan fy hun mi atoly­gaf iti gymmeryd fy enaid attat.

Am y tadau oll o'r hên gyfraith a chynifer oll o wyr ffyddlawn cyfiawn, ac a ymadawsant ym­mlaen Derchafel. escynniad ein Iachawdwr Christ i'r nef, hwy aethant trwy angau a gofid i esmwythder, o ddwylaw eu gelynnion i ddwylaw Duw, o dri­stwch a chlefydon i hyfrydwch ym-monwes A­braham, lle o gysur a diddanwch, fal y mae 'r Scrythur lân yn tystiolaethu yn oleu, trwy airi­au eglur ddigon.

Mae llyfr y doethineb yn dywedyd fod eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw, ac na chyfwrdd cy­studd â Doeth. 3. 1, 2, 3. hwy, y rhai angall oeddynt yn tybied he­fyd eu bod hwy yn marw, a blin hefyd y cyfrifid eu diwedd hwy, a'u mynediad oddiwrthym ni yn ddinistr, ond maent hwy mewn heddwch. Ac fe ddywaid lle arall, fod y cyfiawn yn byw byth a'u Doeth. 5. 16. &c. gwobr hwy gydâ 'r Arglwydd, a chan y goru­chaf y mae gofal am danynt, am hynny y cânt deyrnas hardd a choron dêg. Ac mewn man arall y dywaid yr vn llyfr, Er rhagflaenu y cyfion trwy Doeth. 5. angau dysyfyd etto fe fŷdd lle caffo gyssur. Mae geiriau Christ mor eglur am Ascre. fonwes Abraham nad rhaid i vn Christion geisio eu cadarnhau hwy yn fwy.

Yn awr gan hynny os dymma gyflwr y tadau sanctaidd a'r gwyr cyfiawn cyn dyfodiad ein Ia­chawdwr, a chyn ei ogoneddu ef: mwy o lawer y dlye fod gennym ni ffydd safadwy a siccr obaith yn yr stât a'r cyflwr ymma yn ôl angau, gan ddar­fod i'n Iachawdwr Christ gyflawni eisoes gyfan [Page 130] waith ein prynedigaeth ni, a'i fod ef gwedy escyn i'r nefoedd yn ogoneddus, i baratoi trigleoedd ini gydag ef: ac iddo ddywedyd hefyd wrth ei Dâd, Y Tâd yr wyf yn ewyllysio fod fyngwasanaeth­wyr Ioan 7. 24. gydâ ini lle byddwyf finnau. Ac ni a wyddom fod y Tâd yn ewyllysio beth bynnag a ewyllysio y Mâb.

Am hynny yn o l ini ymadel â'r bywyd presen­nol hwn, os ni a fyddwn ffyddlon weision iddo ef, ni ddichon na bo ein eneidiau gydag ef. Pan la­byddiwyd S. Stephan i farwolaeth, ynghenol ei boen a'i gystudd, beth yr oedd ef yn ei feddwl fwy­af? pan ydoedd ef medd yr Scrythur lân yn llawn o'r Yspryd glân fe a edrychodd yn ddyfal tu a'r ne­foedd, Act. 7. 55. ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Yr hwn wirionedd yn ôl iddo ei gyffessu yn Hyf. eofn, yngwydd gelynion Christ, hwy a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant ef, ac ef yn galw ar Dduw gan ddywedyd, Arglwydd Iesu derbyn fy Yspryd.

Ac onid ydyw Christ yn dywedyd yn eglur yn Vers. 59. efengyl Ioan, Yn wir, yn wir meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy-ngair ac yn credu i'r hwn Ioan. 5. 14. a'm anfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn: eithr ef aeth trwyodd o farwolaeth i fywyd? Ac oni chyfrifwn ni y farwolaeth honno yn werthfawr trwy 'r hon yr ydym yn myned i fywyd? gwir gan hynny yw gairiau y Prophwyd Dafydd, fod marwolaeth y rhai duwiol yn Psal. 116. 15. werthfawr yngolwg yr Arglwydd. Aphan dda­roedd i Simeon sanctaidd gael cyflawni deifyfiad Luc. 2. 28, 29. ei galon, wrth weled ein Iachawdwr Christ, yr hyn beth a ddeisyfai trwy ei oes, fe a'i cofleidiodd, ac a'i braicheidiodd ef yn ei freichiau, gan ddywe­dyd, [Page 131] Yr awr hon Arglwydd y gollyngi dy was mewn tangneddyf yn ol dy air, cans fy llygaid a welsant dy Iachawdwriaeth, yr hon a baratoaist yngwydd yr holl bobl.

Inion am hynny yr ydys yn galw angau y cy­fion yn heddwch ac yn fendith yr Arglwydd, me­gis y dywaid yr eglwys yn enw y rhai cyfiawn a ymadawsont o'r byd hwn, fy enaid tro i'th es­mwythder, yr Arglwydd a fu dda wrthyd, ac a'th obrwyodd di.

Ac yr ydym ni yn gweled wrth yr Scrythyr lân a hên storiau y merthyri, nad oedd neb o'r sanctaidd, o'r ffyddloniaid, na'r rhai cyfiawn, er pan escynnodd Christ i'r nef, yn Dowtio. ammau nad oe­ddynt yn yr yspryd yn myned at Ghrist, yr hwn yw ein bywyd, ein iechyd, ein cyfoeth ni a'n iechydw­riaeth. Fe welodd Ioan yn ei weledigaeth bedair mil a saith vgain o wyryfon sanctaidd, am y rhai y dywedai, mae y rhai hyn yn dilyn yr oen Iesu Grist i ba le bynnag yr êl efe. Ac yn y man a'r ol Gwel. 14. 1. hynny y dywaid Ioan, Mi a glywais lais o'r nef yn dywedyd wrthyf, scrifenna, gwyn eu byd y mei­rw weithian y rhai ydynt yn meirw yn yr Ar­glwydd, felly y dywaid yr Yspryd, cans maent yn gorphwys oddiwrth eu poen, ac mae eu gweithre­doedd V. 13. yn eu canlyn hwy. Fal wrth hyn y cânt hwy fedi mewn cyssur a llawenydd, yr hyn a hauasont hwy mewn trafael ac mewn poen.

Y rhai a hauant yn yr Yspryd a fedant yn yr Gal. 6. 8. Yspryd fywyd tragwyddol. Na ddyffygiwn gan hynny yn gwneuthur daioni, o herwydd pan delo amser gwobr a medi, ni a fedwn yn ddiddyffygiol dragwyddol lawenydd. Am hynny yr hŷd y caffon Vers. 11. amser gwnawn dda i bawb, (fal y dywaid S. [Page 132] Pawl.) Ac na chasclwn ini drysor ar y ddaear, lle mae gwyfon a rhwd yn llygru, a lladron yn torri trwyodd ac yn lledratta, eithr casclwn ini dryso­rau Math. 6. 19. yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwyodd ac nis lle­drattânt. O herwydd rhŵd trysorau y byd hwn, fal y dywaid S. Iaco, a dystiolaethant yn ein her­byn ni Iac. 5. 1. i'n barn ar ddydd mawr yr Arglwydd, ac a ysant ein cnawd ni megis tân lloscedig.

Gwagelwn am hynny (os carwn ein llwyddi­ant ein hunain) na byddom ni yn rhifedi y blin a'r annedwydd gybyddion hynny, y mae S. Iaco yn erchi iddynt wylo ac vdo am y trueni a ddêl ar­nynt, Iac. 5. 1. am eu trachwantus gasclu ac annuwiol ga­dw eu golud bydol. Byddwn am hynny gall mewn pryd a dyscwn ganlyn synhwyrol siampl yr anghyfiawn orvwchwiliwr: trefnwn yn synh­wyrol ein golud a'n meddiannau, y rhai a fenth­yccodd Duw ini ymma dros amser, fal y gallom wir wrando ac vfyddhau gorchymmyn ein Ia­chawdwr Christ.

Yr ydwyf (medd ef) yn dywedyd wrthych gw­newch gyfeillion i chwi o'r golud twylloddrus, fal pan fo eisiau arnoch y'ch derbyniant i'r tra­gwyddol bebyll neu drigfae. Luc. 16. 9.

Yr ydys yn galw cyfoeth yn dwyllodrus, am fod y byd yn eu camarfer hwy i bob twyll a dry­gioni, y rhai o honynt eu hunain ydynt ddaionus roddion Duw a moddion trwy y rhai y mae gw­eision Duw yn ei wasanaethu ef wrth eu harfer hwy yn weddus. Nid ydyw ef yn gorchymmyn iddynt wneuthur y cyfoethogion yn gyfeillion, a mynnu iddynt eu hunain vchelfraint a dercha­fiaeth bydol, rhoddi rhoddion mawrion i wyr cy­foethogion, [Page 133] nad oes eisiau arnynt, ond gwneu­thur cyfeillion o'r tlodion a'r anghenus, i'r rhai pa beth bynnac a roddant mae Christ yn ei gym­meryd megys pe rhoddid hynny iddo ef ei hun.

Ac i'r cyfeillion hyn y mae Christ yn yr efengyl yn rhoddi y fath anrhydedd a gorvwchafiaeth, hyd onid ydyw yn dywedyd y derbyniant hwy y rhai a wnelont ddaioni iddynt i dai tragwyddol. Nid am y bydd dynion yn obrwywyr ini am y dai­oni a wnelom, ond o herwydd y gobrwya Christ ni, ac y cymmer ef bob peth a wnelom i'r fath gyfeillion, megis pe gwnelsem hynny iddo ef ei hun.

Fal hyn wrth wneuthur y tlodion truain yn gyfeillion ini, yr ydym yn gwneuthur ein Ia­chawdwr Christ yn gyfaill, aelodau yr hwn ydynt hwy. Y rhai fal y mae fe yn cymmeryd eu gofidi­on yn ofid iddo ei hun, felly y mae fe yn cymmeryd eu cynnorthwyad, eu cysurhad, a'u diddanwch hwy, yn gynorthwyad, yn gysurhad, ac yn ddi­ddanwch iddo ei hunan, ac fe rydd ini gymmaint o wobr a diolch, am y daioni a ddangosom iddynt hwy, a phe byddai fe ei hun gwedy derbyn y fath roddiō oddiar ein dwylaw, fal y tystiolaetha ef yn yr efengyl, gan ddywedyd, Pa beth bynnac a wnaethoch i vn o'r rhai lleiaf o'm brodyr hyn, i Math. 25. 40. myfi y gwnaethoch.

Am hynny synnwn yn ddiwall na ddyffygio 'n ffydd ni a'n gobaith, y rhai a osodasom ni ar y goruchaf Dduw a'n Iachawdwr Christ: ac nad oero y cariad yr ydym yn cymmeryd arnom ein bod yn ei ddwyn tuag atto. Ond myfyriwn beu­nydd yn ddiwall ar ddangos ein bod yn gwir an­rhydeddu ac yn caru Duw, trwy gadw ei orchy­mynion [Page 134] ef, a thrwy wneuthur daioni i bawb o'n cymydogion anghenus, gan gynnorthwyo ym­mhob modd ac y gallom eu tlodi hwy â'n cyfoeth ac â'n halaethrwydd, eu hanwybodaeth hwy â'n doethineb ac â'n dysc; a chan gysuro eu gwendid hwy â'n nerth ac â'n hawdurdod: gan alw pawb yn eu hol oddiwrth eu drygioni trwy gyngor du­wiol, a siampl dda: gan barhau yn wastad yn gweuthur daioni yr hyd y bythom byw.

Ac felly ni bydd rhaid ini ofni angau am vn o'r tri achos a soniasom ni o'r blaen am danynt, nac etto am vn achos arall ac a ellir ei feddyliaid. Ond o'r gwrthwyneb gan ystyriaid aml glefydon, tra­llod, a thristwch y bywyd persennol hwn, a phe­riglau yr enbaid bererindod ymma, a'r llwyr rw­ystr y mae ein hyspryd yn ei gael trwy 'r cnawd pe­chadurus, a'r corph egwan yr hwn sydd gaeth i angau: gan ystyriaid hefyd ofidiau ac enbaid dwyll y byd hwn o bob ystlys: anescorol falchedd, trachwant, a goddineb yn amser hawddfyd: a­nioddefau a grwgnach y rhai bydol yn amser ad­fyd, y rhai ni orphwysant yn ein cymmell, ac yn ein tynnu ni oddiwrth Dduw, ac oddiwrth ein Iachawdwr Christ, oddiwrth ein bywyd, ein cy­foeth, ein tragwyddol lawenydd a'n Iachawdw­riaeth: gan ystyriaid hefyd aneirif gyrchau diafol y gelyn ysprydol, a'u holl Saethau. biccellau tanllyd, vchel­fwriad, balchedd, godineb gwag-ogoniant, cenfi­gen, malis, gogan ac enllib gydâ thwyllau, rhwy­dau a maglau aneirif eraill, i ddala pawb dan ei arglwyddiaeth: ŷr hwn y sydd bob amser fal llew rhuadus, yn rhodio oddiamgylch gan geisio y neb a allo ei lyngcu.

Y Christion ffyddlon sydd yn ystyriaid yr holl 1. Pet. 5. 8. [Page 135] flinderau, enbeidrwydd ac afles ymma, i'r rhai y mae fe yn gaeth yr hydy bytho fyw ar y ddayar hon; ac yn ystyrio hefyd o'r ystlys arall fendige­dig diddanus stât y bywyd nefol, sydd ar ddyfod, a melus gyflwr y rhai a ymadawsant yn yr Ar­glwydd: pa fodd y maent gwedy eu ryddhau oddi­wrth wastadol rwystrau eu cyrph marwol pecha­durus, oddiwrth holl falis, twyll a rhwystrau y byd hwn, oddiwrth holl gyrchau diafol eu gelyn ysprydol, i fyw mewn heddwch a gorphwisfa a didrangc esmwythder, ynghyfeillach aneirif o angylion ac ynghynlleidfa gwyr cyfiawn perffa­ith, Patriarchau, Prophwydi, Merthyri a Chy­ffeswyr, ac yn ddiwethaf yngwydd yr holl-alluog Dduw a'n Iachawdwr Iesu Grist.

Yr hwn sydd yn ystyriaid yr holl bethau hyn, ac yn eu credu yn ddiammau (megis y dlyid eu credu hwy) o ddyfnder ei galon, gwedy ei siccr­hau yn-Nuw yn y wir ffydd hon, a chantho gyd­wybod esmwyth ynghrist, a chadarn obaith a di­ogel ymddired yn-hrugaredd Duw, trwy haeddi­ant Iesu Grist, ar gael o hono lonydd wch esmw­ythder a thragwyddol lawenydd: fe fydd nid yn vnic heb ofn angau corphorol pan ddelo, onid he­fyd yn ddiau (megis y gwnaeth S. Pawl) felly Phil. 1. 23. yntef yn llawen (yn ol ewyllys Duw pan welo Duw yn dda ei alw ef o'r byd hwn) a chwenycha yn ei galon gael ymadel â'r holl achosion hyn o ddrygioni, a byw yn dragywydd gydâ Christ Iesu ein Iachawdur wrth fodd Duw mewn vfydd­dod perffaith i'w ewyllys ef. At yr hwn Iesu Grist, Duw o'i fawr râd a'i drugaredd a'n dycco ni, i deyrnasu gydag ef yn y bywyd tragwyddol▪ [Page 136] I'r hwn gydâ 'r Tâd nefol, a'r Yspryd glân y by­tho gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Annogaeth ynghylch trefn dda ac vfydd-dod i swyddogion a Lly­wodraeth-wyr.

FE greodd ac a osododd yr Holl­alluog Dduw bob peth ac y sydd yn y nef, yn y ddayar ac yn y dwfr, mewn trefn berffaith odidog. Fe a osododd yn y nefoedd wahanol ac amryw drefnau a galwediga­ethau o Angelion ac Archangeli­on. Ar y ddayar fe a ddododd ac a osododd frenhi­noedd, tywysogion, a llywiawdwyr eraill danynt hwythau, ym-mhob trefn ddaionus angenrhei­diol. Yr ydys yn cadw y dwfr oddi vchod, ac mae fe yn glawio i lawr mewn dyladwy a chyfa­ddas amser. Mae 'r haul, y lleuad, y ser, yr Bwa 'r drin­dod. en­fys, y Trysau. taranau, y Lluched. mellt, y cwmmylau a holl adar yr awyr yn cadw eu trefn. Mae 'r ddayar, y coed, yr hadau, y plannigion, y llysiau, yr ŷd, y glaswellt a phob rhyw anifeiliad yn eu cadw eu hunain mewn trefn. Mae pob rhan o'r flwyddyn, megis gauaf, haf, misoedd, nosweithiau a dyddi­au yn arhos yn eu trefn. Mae holl byscod y môr, afonydd a dyfroedd, holl ffynhonnau a ffrydiau, ie y moroedd eu hunain hefyd yn cadw eu gwe­ddaidd a'u harferedig gylch a'u trefn.

Ac mae dŷn ei hunan hefyd ym-mhob rhan o hono, oddifewn ac oddiallan, megis enaid, calon, meddwl, côf, deall, rheswn, ymadrodd, a phob rhan ac aelod o'r corph hefyd, mewn trefn hardd, [Page 137] angenrheidiol, fuddiol. Fe a osodwyd i bob grâdd o bobl yn eu swyddau a'u galwedigaethau, eu dy­lyed a'u trefn: rhai mewn graddau vchel, rhai mewn graddau isel, rhai yn frenhinoedd ac yn dywysogion, rhai yn iselwyr ac yn ddeiliaid, yn offeiriaid ac yn wŷr llŷg, yn feistri ac yn wasana­ethwŷr, yn dadau ac yn blant, yn wyr ac yn wra­gedd, yn gyfoethogion ac yn dlodion: a phob vn yn rhaid iddo wrth ei gilydd: megis y mae daio­nus drefnid Duw i'w glodfori ym-mhôb peth, heb yr hwn ni ddichon vn tŷ, vn ddinas na gw­ladwriaeth sefyll nac arhos na pharhau.

O herwydd lle nid oes iawn drefn yno y gw­ladycha camarfer, rhydd-did cnawdol, traha, pe­chod a Babyloniaidd gymmysc. Tynnwch ym­maith frenhinocdd, tywysogion, llywodraeth­wyr, rheolwyr, barn-wyr a'r cyfryw raddau o drefnio Duw, ni ddichon neb na cherdded na mar­chogaeth y ffordd fawr heb ei yspeilio: ni ddichon neb gyscu yn ei dŷ ei hun a'i wely heb ei ladd, ni ddichon vn dyn gadw ei wraig a'i blant a'i feddi­annau mewn llonyddwch. Fe fydd pob peth yn gyffredinol: ac o hyny mae yn rhaid canlyn pob anffawd ac echrys, a llwyr a chwbl ddistryw ar eneidiau a chyrph, golud a gwladwriaeth.

Ond bendigedig fo Duw nad ydym ni yn yr Ynys hon o Brydain fawr yn gorfod i ni oddefyr Echrydus. erchyll flinderau, cyfyngderau a'r trueni, y rhai yn ddiammau y maent hwy yn eu goddef y rhai sy a diffyg y drefn ddaionus hon arnynt. A moli­ant fyddo i Dduw ein bod ni yn adnabod godi­dawg rodd Duw a ddangosodd efe i ni yn y peth ymma. Fe a ddanfonodd Duw i ni rodd arben­nig, ein daionns Arglwydd frenhin Iames, y [Page 138] frenhines Ann, tywysog Henri, ac eppil frenhi­nol eraill o'u cyrph hwy ill dau, a chyngor du­wiol, anrhydeddus doeth; ac ycheliaid ac isseli­aid eraill mewn trefn dduwiol hardd.

Gwnawn ni am hynny sy ddeiliaid ein rhwy­medig ddlyed gan ddiolch i Dduw â'n holl galon­nau, a gweddio arno ef ar gadw y dduwiol drefn hon. Vfyddhawn bawb o waelodion ein calon­nau i'w holl dduwiol gynghorau, cyfreithiau, cyhoeddiadau a gorchymmynion, a phob trefn dduwiol arall. Ystyriwn scrychyrau yr Yspryd glân, y rhai a'n hannog ac a'n gorchymmyn i fod yn vfydd-ostyngedig, yn gyntaf ac yn enwedig i oruchelder y brenhin, llywydd goruchaf pawb. Yn ail i'r cyngor anrhydeddus, ac eraill bendefi­gion, llywodraeth-wŷr a swyddogion, y rhai trwy ddaioni Duw a osodwyd ac a drefnwyd arnom. O blegid yr Holl-alluog Dduw yw aw­dur a pharotoydd y dull a'r drefn ymma. Megis y dywaid Duw ei hûn yn llyfr y diarhebiō, drwy­ddofi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna y pen­naethiaid Diar. 8. 15. gyfiawnder: drwyddofi y rheola tywy­sogion a phendefigion, a holl farnwyr y ddayar. Y neb a'm caranti, mi a'u caraf hwynt.

Ystyriwn yn dda a chofiwn vchel allu ac aw­durdod brenhinoedd a'u cyfreithiau, a'u barnau, a'u swyddau, nad ydynt ordeiniaethau dŷn, ond ordeiniaethau Duw: ac am hynny yr ydys mor fynych yn adrodd y gair ymma Trwyddofi. Ym­ma hefyd y dlyem gofio ac ystyried mai Duw o'i ddoethineb, o'i ddaioni ac o'i gariad a osododd y drefn ddaionus ymma i'r rhai a garant Dduw, ac am hynny y dywaid, y neb a'm carant i, mi a'u caraf hwynt.

[Page 139] Yn llyfr y doethineb y gallwn weled yn eglur mai daionus rodd Duw yw gallu, cadernid ac aw­durdod brenhin, ac mai Duw o'i fawr drugaredd a'i rhoddes er diddanu ein mawr drueni ni. Canys fel hyn y darllenwn ni yno ddywedyd wrth fren­hinoedd, Gwrandewch frenhinoedd, a deallwch farnwyr eithafoedd y ddayar, clustymwrādewch Doeth. 6. lywodraeth-wyr y dyrfa: oblegid y cryfoer a gaw­soch chwi gan yr Arglwydd, a'r gallu gan y goru­chaf. Dyscwn ymma hefyd gan anghelwyddog a didwyll air Duw, fod brenhinoedd a goruchel bennaethiaid eraill gwedi eu hordeinio gan Dduw, yr hwn sydd vchaf i gŷd. Ac am hynny y dyscir hwy ymma yn ddiwall, i ymosod ac i ymroi i wybodaeth a deall angenrheidiol i drefnu pobl Dduw a roddwyd tan eu llywodraeth hwy, neu y rhai a orchymmynnasai Dduw iddynt eu rheoli. Ac ymma y dyscir hwy gan yr holl-alluog Dduw, i gydnabod iddynt dderbyn eu holl allu a'u cryf­der, nid o Rufain, onid yn ddigyfrwng oddiwrth Dduw goruchaf.

Yr ydym ni yn darllen yn llyfr Deuteronomi­um Deut. 32. 35. fod pob cosp yn perthynu i Dduw, wrth yr ymadrodd hyn Myfi piau dialedd, ac mi a'i talaf. Ond rhaid ini ddeall fod yr ymadrodd hwn yn perthyn i lywodraeth-wyr hefyd, y rhai sy yn lle Duw yn gwneuthur barn, ac yn cospi trwy gy­freithiau daionus duwiol ymma ar y ddayar. A'r lleoedd o'r Scrythyr lân, y rhai a ellir tybied eu bod yn tynnu ymmaith o blith Christianogion, farn, cosp a lladd, a ddlyid eu deail fel hyn, Na ddlyai neb o 'i vnig awdurdod eu hun gymmeryd arno farnu eraill neu eu cospi neu eu lladd.

Ond mae yn rhaid i ni adel yob barn i Dduw, i [Page 140] frenhinoedd, i lywodraeth-wŷr, a'r barnwŷr da­nynt hwy, y rhai ydynt swyddogion Duw i wneuthur cyfiawnder, ac ydynt wrth eglur dy­stiolaeth yr Scrythyr a'u hawdurdod a'r cleddyf wedi ei ganiattau iddynt gan Dduw, fel y dyscodd Paul ni, anwyl a dewisol Apostol ein Iachawdwr Christ, i'r hwn y dlyem vfyddhau mor ddiescaclus ac yr vfyddhaem i'n Iachawdwr Christ pe bai ef yn bresennol. Fal hyn yr scrifenna Paul at y Rhu­feiniaid, Rom. 13. 1. Ymddarostynged pob perchen enaid i'r awdurdodau goruchaf, am nad oes awdurdod o­nid o Dduw, a'r awdurdodau ydynt, gan Dduw y maent gwedi eu hordeinio. Am hynny pwy byn­nag sydd yn ymosod yn erbyn awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wrth­wynebant a dderbyniant iddynt eu hunain far­nedigaeth: canys tywysogion nid ydynt ofnus i weithred-wŷr da, onid i'r rhai drŵg. A fynni di fod heb ofn y gallu, gwna'r hyn sydd dda ti a gai glod gantho; canys gwasanaethwr Duw yw efe er lles i ti: Ond os gwnai yr hyn sydd ddrŵg, of­na, am nad yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer, ca­nys gwasanaethwr Duw yw efe i ddial llid ar yr hwn a wnelo ddrŵg. O herwydd paham angen­rhaid yw ymddarostwng, nid yn vnig o herwydd llid, ond er mwyn cydwybod. Am hynny y telwch deyrn-ged, oblegid gwasanaeth-wyr Duw ydynt, yn gwasanaethu i'r peth ymma.

Dyscwn ymma gan S. Paul, dewisol lestr Duw, fod ar bob perchen enaid (nid yw efe yn diei­thro neb, nac Apostol nac offeiriad na phrophwyd fel y dywaid S. Chrysostom,) o'u rhwymedig ddy­led, ac er mwyn cydwybod vfydd-dod a gwaroga­eth i'r awdurdodau goruchaf, y rhai ydynt gwedy [Page 141] eu danfon mewn awdurdod oddiwrth Dduw, yn gymmaint a'u bod hwy yn rhaglawiaid i Dduw, yn fugeiliaid i Dduw, yn swyddogion i Dduw, yn weinidogion i Dduw, yn farn-wyr i Dduw, we­di eu hordeinio gan Dduw ei hunan, oddiwrth yr hwn yn vnig y mae iddynt eu holl allu, a'u holl awdurdod. Ac nid yw yr vn S. Paul yn bygwth dim llai cosp nâ thragwyddol farnedigaeth i'r holl anufyddion a wrthwynebant y gyffredinol awdur­dod ymma: am nad ydynt hwy yn gwrthwynebu dŷn, onid Duw: nid dychymmyg ac amcani­on dŷn, ond doethineb, trefn, gallu ac awdurdod Duw.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am vfydd-dod.

YN gymmaint a darfod i Dduw greu a gosod pob peth mewn trefn weddaidd, fe a ddangoswyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth am drefn ac vfydd-dod, y dylyem ni hefyd ym-mhob gwladwriaeth, gadw a chynnal trefn gyfaddas, a bod yn vfydd i bob galluau, a'u hordeiniaethau a'u cyfreithiau: a bod pob llywodraeth-wyr gwe­dy eu hordeinio gan Dduw, er mwyn cynnal trefn ddaionus yn y bŷd: a hefyd a dylyai y llywodraeth­wyr ddyscu llywodraethu a rheoli yn ôl cyfreithi­au Duw: a bod eu holl ddeiliaid yn rhwymedig i vfyddhau iddynt, megis gwasanaeth-wyr Duw, Bei rhan. pe rhôn a'u bod yn ddrŵg, nid yn vnig rhag ofn; onid er mwyn cydwybod hefyd.

Ac ymma, bobl dda, ystyriwn yn ddiwall nad [Page 142] cyfraithlon i iseliaid, a deiliaid, mewn vn achos wrthwynebu a gwrthsefyll y galluau goruchaf. O herwydd eglur ydyw geiriau Paul, fod pob vn a wrthwynebo yn ennill damnedigaeth iddo ei hûn. O herwydd pwy bynnag a wrthwynebo a wrthwyneba ordinhâd Duw. Fe gafodd ein Ia­chawdwr Christ ei hûn a 'i Apostolion lawer o gammau oddiar ddwylaw gwŷr drŵg anffydd­lon oeddynt mewn awdurdod. Etto ni ddarllen­som ni erioed iddynt hwy nac i vn o honynt wneuthur nac anghyfundeb na gwrthryfel yn er­byn y rhai oedd mewn awdurdod. Yr ydym yn darllen yn fynych iddynt oddef yn ddyoddefgar bob trallod, blinder, sclawndyrau, ing, poenau ac angau ei hun yn vfydd heb na therfyscu na gwrthwynebu. Hwy a roesant y cwbl arno ef sydd yn barnu yn gyfiawn, ac a weddiasant yn ddwys ac yn ddifrif dros eu gelynion. Hwy a wy­ddent mai ordinha▪d Duw oedd awdurdod y gallu­oedd, ac am hynny yn eu geiriau a'u gweithredo­edd hwy a ddyscent i bawb vfyddhau iddynt, ac erioed ni ddyscasant y gwrthwyneb. Fe ddywe­dodd yr anghyfiawn farnwr Pilat wrth ein Ia­chawdwr Christ, Oni wyddost ti fod gallu ynofi i'th groeshoelio di, a gallu i'th ollwng di yn rhydd: Iesu a attebodd, Ni bydde i ti awdurdod arnafi, oni bai ei roddi i ti oddi-uchod.

Trwy 'r hyn y dangosodd Christ yn oleu fod gallu ac awdurdod y rheolwyr drwg oddiwrth Dduw, ac am hynny nad yw gyfreithlon i'w dei­liaid sefyll yn eu herbyn hwynt, er eu bod hwynt yn camarfer eu gallu. Anghyfraithlonach gan hynny o lawer yw i ddeiliaid sefyll yn erbyn eu duwiol a'u Christianogol dywysogion, y rhai ni [Page 143] chamarferant eu hawdurdod, ond a'i harferant i ogoniant Duw, ac er bûdd a lles i bobl Dduw.

Ac y mae 'r Apostol sanctaidd Petr yn gor­chymmyn i wasanaeth-ddynion fod yn ostynge­dig 1. Pet. 2. 18. & 21. i'w meistred, nid yn vnig i'r rhai daionus mwynion, ond i'r rhai drŵg gwrthgas hefyd: gan ddywedyd, mai galwedigaeth pobl Dduw yw bod yn oddefus, ac o'r blaid orthrymmedig. Ac yno y mae efe yn datcan ammynedd a dioddef­garwch ein Iachawdwr Christ, er mwyn ein hannog ni i fod yn vfydd i 'n llywodraeth-wŷr, ie er eu bod hwy yn annuwiol ac yn ddrwg-wei­thred-wyr.

Yn awr gwrandawn S. Petr yn ei eiriau ei hûn, o herwydd ei eiriau ef ei hûn a siccrhâ 'n cydwybod ni orau. Fel hyn y dywaid ef yn ei Epi­stol cyntaf, Y gweinidogion, ymostyngwch mewn pob ofn i'ch meistred, nid yn vnig os hwy fyddant dda a mwynion, ond os hwy a fyddant ddrŵg ac anghyweithas hefyd. Canys hyn sydd rasol os dŵg neb gystudd o herwydd cydwybod i Dduw, gan ddioddef yn ddiachos: o herwydd pa glod sydd er bod yn dda eich ammynedd, pan gerno­dier chwi am eich beiau: eithr pan wneloch dda, ac er hynny yn dda eich ammynedd yn goddef, hyn sydd rasol ger bron Duw: canys i hyn y'ch galwyd chwi. Oblegid Christ hefyd a ddioddefodd trosom ni gan adel i ni siampl, fal y gallech chwi ganlyn ei ôl ef. Geiriau S. Petr ydyw 'r holl ei­riau hyn.

Mae Dafydd hefyd yn dangos i ni wers dda yn hyn o beth, yr hwn a erlidiwyd lawer gwaith yn greulon ac yn gamweddus, ac a ddodwyd yn fynych iawn mewn enbeidrwydd a pherigl o'i fy­wyd [Page 144] gan frenhin Saul a'i bobl, etto ni wrthwy­nebodd ef erioed, ac nid arterodd na grym nac ar­fau yn erbyn brenhin Saul, ei elyn hyd angau: ond fe wnai yn wastad i'w Arglwydd a't feistr brenhin Saul wasanaeth cywir, diwall, ffyddlon: yn gymmaint a phan ddaroedd i 'r Arglwydd Dduw roddi brenhin Saul yn ei ogof eihun, yn­nwylaw Dafydd, ni wnai efe eniwed iddo, pan 1. Sam. 18. 19. 10, 23, 24, 26. allasai yn hawdd heb ddim enbeidrwydd corpho­rol ei ladd ef: ie ni oddefai ef i vn o'i weision ddodi ei ddwylaw ar frenhin Saul, ond fe a we­ddiodd ar Dduw yn y geiriau hyn, Na atto 'r Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i 'm meistr, enneiniog yr Arglwydd, gan estyn fy llaw yn ei erbyn ef, oblegid enneiniog yr Arglwydd yw efe.

Ac y gallasai Ddafydd ladd brenhin Saul ei elyn, mae yn eglur ddigon yn llyfr cyntaf Sa­mwel, cystal wrth dorriad cwrr ei fantell ef, ac 1. Sam. 24. 5, 7, 19. wrth gyffes eglur Saul ei hunan. Ac mewn man arall hefyd yn yr vn llyfr, pan ydoedd yr annhru­garog a'r afrywog frenhin Saul yn erlid Dafydd ddiddrwg, fe a roddodd Duw frenhin Saul eil­waith i ddwylaw Dafydd, gan daflu brenhin Saul a'i holl lû i gŵsc marwol, fel y daeth Da­fydd ac vn Abisai gydag ef o hyd nôs i wersyllfa Saul, lle yr ydoedd Saul yn cyscu, a'i wayw­ffon wrth ei ben, gwedy ei gwân yn y ddayar. Yna y dywedodd Abisai wrth Ddafydd, Duw a roddes heddyw dy elyn yn dy law di: yn awr gâd i mi ei daro ef, adolwg, â gwaywffon hyd y dda­yar 1. Sam, 26. 7, 8, 9. vnwaith, ac nis ail tarawaf ef: gan feddwl y lladdai efe ef ar vn ergyd, ac na byddei raid byth ei bryder ef.

A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifa [Page 145] ef, canys pwy a estynnai ei law yn erbyn ennei­niog yr Arglwydd, ac a fyddai dieniwed. Adywe­dodd Dafydd hefyd, fel y mae 'r Arglwydd yn fyw naill ai 'r Arglwydd a'i tery ef, neu ei ddydd ef a ddaw i farw, neu ef a ddescyn i 'r rhyfel, ac a ddi­fethir. Yr Arglwydd, a'm cadwo i rhac estyn fy llaw yn erbyn enneiniog yr Arglwydd. Ond cymmer yn awr attolwg y waywffon yr hon sydd wrth ei obennydd ef, a'r phioled ddwfr, ac awn ymmaith: ac ef a wnaeth felly. Ymma y gwelir yn eglur na ddlyem ni wrthwynebu, na drygu mewn modd yn y bŷd enneiniog frenhin, yr hwn yw rhaglaw a rhaglywydd Duw, a'i swyddog ef yn y wlâd y mae efe yn frenhin.

Ond fe a ddywaid rhyw vn ond odid, y gallasai Ddafydd er ei amddiffyn ei hûn, yn gyfraithlon ac â chyd wybod dda ladd brenhin Saul. Ond fe wyddai Ddafydd sanctaidd na allai fe mewn modd yn y byd wrthwynebu, eniweidio neu lâdd ei oruchaf Arglwydd frenhin. Fe wyddai nad ydoedd ef ond deiliad i Saul, ac er ei fod yn an­wyl gan Dduw, a'i elyn ef brenhin Saul allan o ffafor Duw: ac am hynny er maint a annogid ar­no, etto fe a wrthodai yn hollawl eniweidio en­neiniog yr Arglwydd. Ni feiddiai fe rhac gwneu­thur yn erbyn Duw a'i gydwybod (er cael o ho­no le ac achos) ddodi ei ddwylo vnwaith ar y brenhin, vchel swyddog Duw: yr hwn a wyddai ef ei fod yn ddŷn a gedwid ac a oedid (er mwyn ei swydd) i'w gospi ac i'w farnu gan Dduw ei hun yn vnig. Am hynny y mae fe yn gweddio mor fynych ac mor ddifrif, na bai iddo ef ddodi ei ddwylaw ar enneiniog yr Arglwydd.

Trwy y ddwy siampl ynima, y mae Dafydd [Page 146] (yr hwn a elwir yn yr Scrythyr, yn ŵr wrth fodd calon Duw ei hûn) yn rhoddi rheol a gwers i ddeiliaid yr holl fyd na safont hwy yn erbyn eu goruchel Arglwydd frenhin: ac na chymmeront gleddyf drwy eu priodol awdurdod eu hunain yn erbyn eu brenhin enneiniog Duw, yr hwn yn v­nig drwy awdurdod Duw sydd yn dwyn y cle­ddyf, er maentaenio daioni, a chospi drygioni: yr hwn yn vnig trwy gyfraith Dduw sydd a'r cle­ddyf ar ei orchymmyn, ac i'r hwn hefyd y mae yn perthyn pob gallu, rheolaeth, llywodraeth, cerydd a chosp, megis goruchaf lywodraethwr ar ei holl deyrnasoedd, gwledydd ac arglwyddiaethau, a hynny trwy awdurdod ac ordeinhâd Duw.

Mae etto athrawiaeth ac histori wŷch yn ail llyfr Samwel, yr hon sydd i'r defnydd ymma. Wedi darfod i Amaleciad wrth gytundeb a gor­chymmyn 2. Sam. 1. 9. Saul ei hûn, lâdd-brenhin Saul, fe a aeth at Ddafydd, gan dybiaid y cai ddiolch mawr gan Ddafydd am ei newyddiau, am ddarfod iddo lâdd gelyn câs Dafydd: ac am hynny fe a ddaeth yn ebrwydd i ddywedyd wrth Ddafyd yr hyn a ddigwyddasai, gan ddwyn gantho y goron oddi­ar ben brenhin Saul, a'r fraichled yr hon oedd ar ei fraich ef, er siccrhau fod y newyddiau yn wir.

Ond yr ydoedd Dafydd dduwiol mor bell oddi wrth lawenychu am y newyddiau ymma, hyd oni rwygodd ef yn y man ei ddillad, y galarodd ef ac yr wylodd, ac y dywedodd wrth y gennad, Pa fodd nad ofnaisti estyn dy law ar enneiniog yr Arglwydd i'w ddifetha ef? Ac yn y man fe wnaeth Dafydd i vn o'i weision ladd y gennad, gan ddy­wedyd, Bydded dy waed di ar dy ben dy hûn, canys tystiolaethodd dy enau dy hûn yn dy erbyn, [Page 147] gan ddywedyd, myfi a leddais enneiniog yr Ar­glwydd.

Am hynny, gan fod y siamplau hyn mor oleu ac mor eglur, fe wŷl pawb nad ydyw ond dygyn anwybod, gwall-gôf ac anwiredd, i ddeiliaid rwgnach, gwrthryfelu, gwrthwynebu, gwrth­sefyll, ymgyffroi neu gyfodi yn erbyn eu hanwyl a'u hofnadwy vchel Arglwydd frenhin, a osododd ac a ordeiniodd Duw o'i fawr ddaioni, er lleshâd a heddwch ac esmwythder iddynt hwy. Er hynny credwn yn ddiammau (bobl Gristionogawl ddai­onus) na ddlyem ni vfyddhau brenhinoedd, lly­wodraeth-wŷr na neb arall, pe bai 'n tadau cnaw­dol, os hwy a orchymmynnant i ni wneûthur dim yn erbyn gorchymmyn Duw. Yn y fath bethau ni a ddlyem ddywedyd gydâ'r Apostolion, Rhaid i ni vfyddhau Duw yn fwy nâ dŷn.

Ond er hynny ar y fath achosion ni ddylêm ni sefyll yn erbyn, na gwrthryfelu, na chyfodi, nac ymderfyscu, nac ymgyffroi yn erbyn ein llywo­draeth-wŷr ac enneiniog yr Arglwydd, na neb o'i swyddogion, na thrwy rym arfau nac yn vn ffordd arall. Ond yn y fath achosion ni a ddylêm yn esmwyth oddef pob cam a drygfyd, gan adel i Dduw farnu 'r cwbl. Ofnwn ofnus gosp y go­ruchaf Dduw yn erbyn brad-wyr gwrthryfelgar, a hynny wrth siampl Chore, Dathan ac Abiram, y rhai a gyfodasant ac a rwgnachasant yn erbyn llywodraeth-wŷr a swyddogion Duw: ac am hynny yr agorodd y ddayar eu genau, ac a'u llyng­codd hwynt yn fyw. Fe ddifethwyd eraill yn ddi­symmwth â than a ddanfonodd Duw am eu melldigedig a'u gwrthryfelgar rwgnach. Eraill a darawyd â gwahanglwyf brwnt am eu dirras [Page 148] ymddygiad yn erbyn eu rheolwyr a'u llywodra­eth-wyr, gweinidogion Duw. Eraill a Rwygwyd. frath­wyd i angau gan seirph tanllyd. Eraill a blag­wyd yn dôst, megis y lladdwyd mewn vn diwr­nod bedair mil ar ddeg a saith gant o rifedi, am wrthryfelu yn erbyn y rhai a osodasai Duw mewn awdurdod. Absolon hefyd a gospwyd am wrthryfela yn erbyn ei dâd, trwy angau dieithr rhyfeddol.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth am vfydd-dod.

CHwi a glywsoch o 'r blaen yn y bregeth hon am drefn ac vfydd­dod, brofi yn amlwg wrth yr Scrythyr lân a siamplau, fod pob deiliaid yn rhwymedig i v­fyddhau i'w llywodraeth-wŷr, ac na ddylai neb wrthwynebu, wrthryfelu, na therfyscu yn eu herbyn hwynt, Bei rhan. pe rhon a'u bod yn wyr drwg. Ac na thybyged neb y diangc ef yn ddigosp, ar a wnel brâd, cyd­fradwriaeth, traeturiaeth, a gwrthryfel yn erbyn ei oruchel Arglwydd frenhin, er dirgeled y gw­nelo ef hynny, pa vn bynnag ai mewn meddwl, ai mewn gair, ai mewn gweithred, er Rhined. cyfrina­choled fytho hynny yn ei stafell ddirgel wrtho ei hûn, ai yn gyhoeddus wrth ymddiddan ac ym­gynghori ag eraill.

O herwydd ni ellir celu traeturiaeth, na ddêl ef i oleuni yn y diwedd. Fe fyn Duw gyhoeddi a chospi y dygyn fai câs hwnnw, am ei fod mor [Page 149] iniawn yn erbyn ei ordeiniaeth ef, ac yn erbyn ei oruchel arbenning farnwr ef, a'i enneiniog ar y ddayar. Fe fyn Duw gyhoeddi a chospi yn ôl ei haeddiant, mewn rhyw ffordd neu ei gilydd, y trais a'r cam a wneler yn erbyn Duw, yn erbyn gwlad wriaeth ac yn erbyn yr holl deyrnas. Ca­nys gwych yr scrifennodd y gŵr call yn yr Scry­thyr lân, yn y llyfr a elwir Ecclesiastes, neu lyfr y Pregethwr. Na felldithia y brenhin yn dy ga­lon, Preg. 10. 20. ac yn dy ddirgel stafell na ddywed ddrŵg am dano: canys ehediaid yr awyr a gyhoeddant dy lais, a'r aderyn a ddatguddia dy laferydd. Yrydys gwedi scrifennu y gwersi a'r siamplau hyn, er dysc i ni.

Ofnwn am hynny bawb o honom atcas a dy­gyn fai gwrthry felgarwch, gan wybod a chofio yn wastadol, am yr hwn a wrthwynebo neu a safo yn erbyn cyffredinol awdurdod, ei fod ef yn gwrthwynebu ac yn sefyll yn erbyn Duw ei hûn a'i ordeiniaeth: fel y gellir ei brofi wrth lawer o leoedd o'r Scrythyr lân. Ac ymma edrychwn na ddeallom ni y lleoedd hyn a lleoedd eraill o 'r Scrythyr lân (y rhai ydynt mor gaeth yn gor­chymmyn vfydd-dod i 'r pennaethiaid, ac a gos­pasant mor dwys wrthryfelgarwch ac anufydd­dod) na ddeallom (meddaf) mo honynt am y ga­llu y mae Escob Rhufein yn ei gymmeryd arno. O herwydd yn wir nid yw Scrythyr Duw yn cynnwys y drahaus awdurdod honno, yr hon sydd yn llawn o bob traha, camarferon a chab­ledd. Ond gwir ystyr y lleoedd hynny a'r fath leoedd yw clodfori a gosod allan wir ordinhâd Duw, ac awdurdod brenhinoedd enneiniog Duw, a'u swyddogion a osodwyd danynt.

[Page 150] Ac am y gallu y mae Escob Rhufein yn ei gym­meryd arno, yr hwn y mae ef yn ei sialens yn rhy anghyfiawn, megis canlynydd Christ a Phetr: ni a allwn yn hawdd weled mor ffalst, anghywir ac anwireddus yw: a hynny nid yn vnig am nad oes iddo sail diogel yn yr Scrythur lân, ond hefyd wrth ei ffrwythau a'i athrawiaeth. O herwydd mae ein Iachawdwr Christ a S. Petr yn ddifri ac yn gytûn yn dyscu vfydd-dod i frenhinoedd me­gis i'r adderchoccaf a'r goruchaf lywodraeth-wyr yn y byd hwn yn nefaf dan Dduw. Ond mae Es­cob Rhufain yn dyscu fod y rhai ydynt dano efyn rhyddion oddiwrth bob baich a chost gyffredin, ac o vfydd-dod tuag at eu tywysogiō, yn eglur ddigon yn erbyn athrawiaeth Christ a S. Petr.

Gwell am hynny y gellid ei alw ef yn Ang­hrist, ac yn ganlynwr i'r Scrifennyddion a'r Pha­risaeaid, nag yn Vicar Christ, ac yn ganlynydd Petr. O herwydd nid yn vnig yn y peth hyn, ond mewn matterion trymion eraill o Gristiono­gawl greddyf, megis mewn materion o ollyng­dod a maddeuant pechodau ac Iechydwriaeth, mae efe yn dyscu yn iniawn yn erbyn Petr, ac yn erbyn ein Iachawdwr Christ, y rhai nid yn vnig a bregethasant ar eiriau vfydd-dod i frenhinoedd, ond a arferasant hefyd yr vnrhyw vfydd-dod yn eu bywyd a'u hymddygiad.

O herwydd yr ydym ni yn darllen dalu o hon­ynt hwy ill dau deyrnged i'r brenhin: ac yr ydym Math. 17. 17. yn darllein i'r sanctaidd forwyn fair, mam ein Ia­chawdwr Christ, a Ioseph yr hwn a dybid ei fod yn dâd iddo, ar orchymmyn yr Ymmerodr fyned ill dau i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethle­hem i'w trethu ym mysc eraill, ac i ddangos eu [Page 151] hufydd-dod i'r llywodraeth-wŷr, er mwyn ordin­hâd Duw. Ac ymma nac anghofiawn vfydd-dod Luc. 2. 4, 5. y sanctaidd forwyn fair: o herwydd er ei bod hi yn anwyl iawn gan Dduw, ac yn fam naturiol i Ghrist Iesu, ac yn feichiog fawr yr amser hynny, a chyn nessed i'w hamser ac y cafas hi escor yn ei thaith: etto hi a gymmerth y pryd hynny yn llaw­en y daith honno (er mwyn cydwybod) a hynny yn oerfel gauaf, heb nac escus na grwgnach: a hi mor dlawd ac y gorweddodd hi mewn stabl ac yr escorodd hi yno ar Ghrist.

Ac yn yr vn modd y mae S. Petr yn scrifennu â geiriau eglur yn ei epistol cyntaf, Ymddarostyng­wch i 1. Pat. 2. 18. bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arglwydd, ac i'r brenhin fel i'r goruchaf, ac i'r llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir, er dialedd i'r rhai drwg, ac er mawl i'r rhai da: canys felly y mae ewyllys Duw. Nid rhaid i mi agoryd ystyr y geiriau hyn, maent hwy o honynt eu hunain mor eglur ac mor oleu. Nid ydyw S. Petr yn dy­wedyd, ymostyngwch i mi megis pen goruchaf yr Eglwys, ac nid yw efe yn dywedyd, ymostyng­wch i'm canlynwyr i yn Rhufain, ond y mae fe yn dywedyd, ymostyngwch i'ch brenhin megis i'ch pennadur vchaf, ac i'r rhai y mae efe yn eu gosod mewn awdurdod dano, o herwydd ewyllys Duw yw i chwi ddangos felly eich gostyngeiddrwydd, ewyllys Duw yw i chwi fod mewn gostyngei­ddrwydd i'ch pennadur a'ch brenhin.

Ordeinhâd Duw, a gorchymmyn Duw, a san­ctaidd ewyllys Duw yw hyn, fod holl gorph pob teyrnas, a phob dŷn ac aelod o honi, yn ostynge­dig i'w pennadur a'u brenhin, a hynny, fel y dy­waid Petr, er mwyn yr Arglwydd, ac fel y dywed [Page 152] Pawl, nid rhac ofn yn vnig, ond er mwyn cyd­wybod. Rom. 13. 5.

Fel hyn y dyscŵn gan air Duw roddi i'n bren­hin y peth sydd ddyledus i'r brenhin, hynny yw, anrhydedd, vfydd-dod, trethau, defodau, teyrnged, cymmorthau, cariad ac ofn. Fel hyn y gwyddom Math. 22. 21. mewn rhan, ein rhwymedig ddlyed i'r awdurdod cyffredinol, dyscwn weithion gyflawni hynny: a Rom. 13. 6. gweddiwn yn ddifrif ac yn wastadol ar Dduw vnig roddwr pob awdurdod, dros y rhai sydd mewn awdurdod megis y mae S. Pawl yn erchi, gan scrifennu fal hyn at Timotheus yn ei epistol 1. Tim. 2. 1, 2. cyntaf, Cynghori yr ydwyf am hynny ym-mlaen pob peth fod ymbil, gweddiau, deisyfiadau, a diolch dros bob dŷn, dros frenhinoedd, a phawb a osodw­yd mewn awdurdod, fel y gallom fyw yn llonydd ac yn hoddychol, trwy bob duwioldeb ac hone­strwydd: canys hyn sydd dda a chymmeradwy gar bron Duw ein Ceidwad. Fel hyn y mae S. Paul yn ddifrif ac yn hyspysol yn cynghori ac yn annog pawb i roddi diolch ac i weddio dros frenhinoedd a llywodraeth-wŷr, gan ddywedyd, Vwch law pob peth, megis pe dywedai, Er dim, ac yn ben­nafdim, gwnewch eich gweddi dros frenhinoedd.

Rhoddwn fawr ddiolch i Dduw am ei fawr a'i odidog rôdd, a 'i ragddarbodaeth ynghylch stât brenhinoedd, Gweddiwn drostynt, ar fod ewyllys da Duw a'i ymddifyn tu ag attynt. Gweddiwn ar iddynt bob amser osod Duw ger bron eu lly­gaid. Gweddiwn ar fod ganthynt ddoethineb, cyfiawnder, llaryeidd-dra, a zêl tu ag at ogoniant Duw, gwirionedd Duw, eneidiau Christiano­gion, a'u gwlâd. Gweddiwn ar iddynt hwy arfer eu cleddyf au' hawdurdod yn iniawn ac yn gym­mwys [Page 153] er maenteinio ac ymddiffyn y ffydd Gatho­lig a gynhwysir yn yr Scrythur lân, a'u deiliaid honest, da: ac er ofn a chosp i'r bobl ddrŵg afreo­lus. Gweddiwn ar iddynt yn ffyddlon ganlyn llwybrau y brenhinoedd a'r blaenoriaid y mae sôn am danynt yn y Beibl, Dafydd, Ezechias, Iosias a Moses, ac eraill o'r cyffelyb. A gweddiwn dro­som ein hunain ar i ni fyw yn dduwiol mewn ymddygiad Christianogawl, sanctaidd.

Felly y cawn ni Dduw ar ein hystlys, ac yno nid rhaid i ni ofni dim a ddichon dŷn ei wneuthur yn ein herbyn. Felly y byddwn byw mewn gwir vfydd-dod i'n trugarog frenhin nefol, ac i'n Chri­stianogawl frenhin dayarol. Felly y rhyngwn fodd Duw, y cawn ddawn odidog, heddwch cydwy­bod, a llonyddwch ymma yn y byd hwn, ac yn ôl y byd hwn ni a gawn fwynhau bywyd a fo gwell mewn heddwch, a llonyddwch, a thragwyddol ddedwyddwch yn y nef. Yr hyn beth a ganiattao efe i ni igŷd, yr hwn a fu vfydd hyd angau 'r groes drosom ni i gŷd, Iesu Christ: i'r hwn gydâ 'r tâd a'r Yspryd glân, y byddo holl anrhydedd a gogoni­ant yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn putteindra ac aflendid.

ER bod aml heidiau o bob drygioni a ddlyent eu ceryddu) bobl Gristi­anogol ddaionus) mae gwir ddu­wioldeb, a rhinweddol fywyd gwedi myned mor Anim. [...]. ambell, etto vwch law pob drygioni arall, mae anllywodraethus foroedd [Page 154] godineb neu dor-priodas, putteindra, anlladrw­ydd, ac afsendid, nid yn vnig gwedi torri i mewn, ond hefyd gwedy llifeirio ganmwyaf dros yr holl fyd, er mawr ddianrhydedd Duw, ac anfeidrol gabledd enw Christ, er cyhoeddus ddistryw gwir grefydd, a llwyr ddinistr daionus gyffredinolrw­ydd, a hynny mor halaeth, megis trwy fynych ar­fer o hono, y mae y drygioni hwn gwedy tyfu i'r fath vwchder, megis haychen ym-mhlith llawer o bobl ni chyfrifir ef yn bechod: onid yn hytrach yn ddigrifwch, yn gellwair a nwysiant ieuengtid, yr hwn ni cheryddir, ond a ddifrawir, yr hwn ni chospir, ond a chwerddir o'i blegid.

Am hyn anghenrhaid ydyw ar hyn o bryd dra­ethu wrthych am bechod putteindra a godineb, a dangos i chwi faint y pechod ym-ma, ac mor gâs, mor ddigasog, ac mor ffiaidd ydyw ac y cyfrifwyd ef bob amser ger bron Duw a phob dŷn daionus, ac mor ddwys y cospwyd ef gynt, trwy gyfraith Dduw a chyfraithiau llawer o dywysogion: ac hefyd i ddangos i'wch ryw gyfarwyddyd, fel y galloch (trwy râs Duw) wachelyd erchyll bechod putteindra a goddineb, a byw mewn glendid ac honestrwydd. Ac er mwyn bod i chwi ystyried fod putteindra a godineb yn bechodau ffiaidd yngo­lwg Duw, chwi a gosiwch orchymmyn Duw, Nawna odineb. Yr hwn air, Godineb, er bod yn ei ddeall ef yn briodol am ymgymmysc ac anghy­fraithlō gysylltiad gŵr priodol â rhyw wraig arall heb law ei wraig ei hun: neu wraig gydâ gŵr heb law ei gŵr ei hun: etto trwy 'r gair hwn he­fyd yr arwyddocceir pob arfer anghyfraithlon o'r aelodau a osodwyd i genhedlu. Ac mae 'r vn gor­chymmyn hwn, yr hwn sydd yn gwahardd godi­neb, [Page 155] yn paentio yn gyflawn, ac yn gosod ger bron ein llygaid ni faint pechod putteindra: ac yn dan­gos yn oleu mor ffiaidd y dylyai fod y pechod ym­ma gan bob dŷn honest ffyddlon.

A rhac i neb o honom feddwl fod gwedy ei ddi­eithro ef a'i ddosparth oddiwrth y gorchymmyn hwn: pa vn bynnag fythom ai hên ai ieuangc, ai priodol ai am-mhriodol, ai gŵr ai gwraig, gwran­dawn pa beth a ddywaid Duw Dâd trwy ei odi­dawg brophwyd Moses, Na fydded puttain ym­mhlith merched Israel, na phutteinwr ym­mhlith Deut. 23. 7. meibion Israel. Ymma y gwaherddir pob putteindra, godineb ac aflendid, bob rhyw o bobl, i bob grâdd, i bob oedran yn ddiddieithrad.

A rhac i ni frith-dybied na pherthyn yr arch neu y gorchymmyn hwn attom ni yn wir, gwran­dawn beth a ddywaid Christ (perffaith ddyscaw­dwr pob gwirionedd) yn y Testament newydd: Mat. 5. 57, 28. Chwi a glywsoch (medd Christ) ddywedyd wrth y rhai gynt, Na wna odineb: ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pwy bynnag a edrycho ar wraig gan ei chwennychu, a wnaeth odineb â hi eisioes yn ei galon, Ymma y mae ein Iachawdwr Christ, nid yn vnig yn cryfhau ac yn cadarnhau ygyfraith yr hon a roddase Dduw dâd yn yr hên destament, trwy ei wasanaethwr Moses yn erbyn godineb, ac yn ei gwneuthur hi o gyflawn rym i barhau dros fyth ym-mhlith proffeswyr ei enw ef yn y Testa­ment newydd: ond mae fe hefyd (gan ddamnio angh y faddas ddeongliadau y Pharisę aid a'r scri­fennyddion, y rhai a ddyscent fod y gorchymmyn hwn yn peri i ni yn vnig ymgadw rhag godineb oddi allan, ac nid rhag chwantau aflan a gwy­niau ammhur) yn dyscu i ni gyfan a chyflawn [Page 156] berffeithrwydd, purder a glendid buchedd, i gadw ein cyrph yn ddihalog a'n calonnau yn bur, ac yn rhydd oddiwrth bob chwantau drŵg, cnawdol ddeisyfiadau a chyfundebau.

Pa fodd gan hynny y gallwn fod yn rhyddion oddiwrth y gorchymmyn hwn: lle mae cymmaint siars ŵedi ei osod arnom? a ddichon gwâs wneu­thur y peth a fynno, a'i feistr yn gorchymmyn y gwrthwyneb iddo? Onid Christ yw ein meistr, a ninnau iddo ef yn weision? Pa fodd gan hynny yr esceuluswn ni fodd ac ewyllys ein meistr, a chā ­lyn ein ewyllys a'n ffanfi ein hunain? Fynghyfei­llon i ydych chwi, medd Christ, os gwnewch y pethau yr wyfi yn eu gorchymmyn i chwi. Yn Ioan. 15. 14. awr fe a orchymmynnodd ein meistr Christ i ni ymwrthod a▪ phob aflendid yngorph ac Yspryd. Hyn, wrth hynny, sy raid i ni ei wneuthur, os cei­siwn fodloni Duw.

Yr ydym ni yn darllein yn Efangel S. Mat­thew, i'r Pharisæaid a'r Scrifennyddion ddigio Mat. 15. [...]. wrth Christ yn anial, am nad oedd ei ddiscyblon ef yn cadw traddodiadau yr henafiaid; canys ni ol­chent eu dwylo cyn cyniawa neu swpperu. Ym­mhlith pethau eraill fe a attebodd Christ ac a ddywedodd, Gwrandewch a deellwch, nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau sydd yn halogi dŷn, ond y pethau a ddauant allan o'r genau sydd yn dyfod o 'r galon, a hwynt hwy a halogant ddŷn. Canys o 'r galon y mae meddyliau drŵg yn dyfod, llofruddiaeth, tor-priodas, godinebau, lledrad, camdystiolaeth, cabledd. Dymma y pe­thau sy yn halogi dŷn. Ymma y gallwn weled nad llofruddiaeth, lledrad, cam-dystiolaeth a chabledd yn vnig sydd yn halogi dŷn, ond hefyd [Page 157] meddyliau drŵg, tor-priodas, godineb a phut­teindra.

Pwy sydd yn awr mor wan ei synwyr ac y ty­bia fod putteindra a goddineb yn bethau bychain yscafn ger bron Duw. Mae Christ yr hwn yw 'r Ioan. 14▪ 6. gwirionedd ac ni ddichon ddywedyd celwydd, yn dywedyd fod meddyliau drŵg, tor-priodas, put­teindra a godineb yn halogi dŷn; hynny yw, yn llygru corph ac enaid dŷn, ac yn ei wneuthur ef o deml yr Yspryd glân, yn dommen front ac yn dderbynfa holl ysprydion aflân: o dŷ Dduw yn drigle sathan.

Trachefn yn Efangel Ioan pan ddygpwyd y Ioan. 5. 11. wraig a ddaliasid mewn godineb, ger bron Christ, fe a ddywad wrthi hi dôs, ac na phecha mwyach. Onid ydyw ef ymma yn galw putteindra yn be­chod? a pha beth yw gwobr pechod, ond tragwy­ddol angau? Os yw putteindra yn bechod, nid Rom. 6. 23. yw gyfreithlon i ni ei wneuthur, o herwydd fel y dywaid Ioan, Yr hwn a wna bechod oddiafol 1. Ioan. 3. 6. y mae. Ac fe a ddywed ein Iachawdwr fod pob Ioan. 8. 34. vn a wnel bechod yn gaethwas i bechod. Oni bai fod putteindra yn bechod, diau na buasai Io­an fedyddiwr yn ceryddu Herod am gymmeryd gwraig ei frawd: ond fe a ddywedodd wrtho yn oleu, Nid cyfraithlon yw i ti gymmeryd gwraig Mar. 6. 18. dy frawd. Nid arbedodd ef butteindra Herod, er ei fod ef yn frenhin cadarn, ond fe a'i ceryddodd ef yn Hyf. eofn am ei fywyd melldigedig, drwg, er iddo ef golli ei ben am hynny. Ond gwell oedd gantho oddef angau nâ gweled dianrhydeddu Duw, drwy dorri ei sanctaidd airch a'i orchym­mynion ef, ie nâ goddef mewn brenhin buttein­dra heb geryddu.

[Page 158] Pe na buasai putteindra ddim ond digrifwch a chellwair heb achos ei wneuthur cyfrif o hono (megis y tybia llawer am dano yn y dyddiau ym­ma) yn wir fe fuasai Ioan yn fwy nâ dwbl allan o'i bwyll, os ai ef tan anfodd brenhin, os godde­fai ei daflu i garchar, a cholli ei ben am beth gwael dibris. Ond fe a wyddai Ioan yn dda ddi­gon mor frwnt, mor ddrewllyd, mor ffiaid yw pe­chod putteindra yngolwg Duw, ac am hynny ni oddefai ef mo hono heb geryddu; na wnai, mewn brenhin.

Onid ydyw putteindra gyfreithlon mewn brenhin, nid yw gyfreithlon mewn deiliad. Onid yw putteindra gyfraithlon mewn dŷn cyhoedd, a fyddo a swydd gyhoedd gantho, yn wir nid yw gyfraithlon mewn vn diswyddau. Onid yw gy­fraithlon nac mewn brenhin nac mewn deiliad, nac mewn cyhoedd swyddog, nac mewn vn diswy­ddau: yn wir nid yw gyfraithlon nac mewn gŵr nac mewn gwraig, o ba râdd neu oedran bynnac y bônt.

Hefyd yr ydym ni yn darllein yngweithredo­edd yr Apostolion, pan gasclodd yr Apostolion yr henuriaid a'r holl gynnulleidfa ynghyd, i lonyddu calonnau y ffyddloniaid y rhat oedd yn arhos yn Antiochia (y rhai a aflonyddasid trwy gauathra­wiaeth rhyw Iuddewaidd bregethwyr) hwy a ddanfnasant air i'r brodyr, weled yn dda gan yr Yspryd glân a hwyntau, na ddodent arnynt faich Act. 15. 28. amgenach nâ'r pethau anghenrheidiol hyn: ym­mhlith pethau eraill hwy a orchymmynnasant iddynt ymgadw rhag delw-addoliad a godineb, oddiwrth y rhai (eb y hwynt) os chwi a ymge­dwch, da y gwnewch.

[Page 159] Edrychwch ymma fal nad ydyw y tadau sanc­taidd bendigaid ymma o Eglwys Ghrist, yn go­sod ar y gynnulleidfa ddim ond pethau anghen­rheidiol. Ystyriwch hefyd fod yn cyfrif puttein­dra a godineb ym-mhlith y pethau a orchymmyn­nir i'r brodyr o Antiochia ymgadw oddiwrthynt. Anghenrhaid am hynny yw, wrth gyfundeb a therfyniad yr Yspryd glân a'r Apostolion a'r henu­riaid a'r holl gynnulleidfa, fod im felly ymgadw oddiwrth odineb a phutteindra, megis oddiwrth ddelw-addoliad ac ofergoel. Mae yn anghenrhaid er Iachawdwriaeth, ymgadw rhag delw-addo­liad, felly y mae ymgadw rhag putteiudra. Oes ffordd sydd nes a dywys i ddamnedigaeth, nâ de­lw-addoliad? nag oes. Felly hefyd nid oes ffordd nes a dywys i ddistrw corph ac enaid, nâ godineb a phutteindra.

Pa le weithian y mae y bobl a wnânt mor fy­chan o dor-priodas, putteindra godineb ac aflen­did? Mae yn anghenrhaid, medd yr Yspryd glân, medd y bendigedig Apostolion, medd yr henuri­aid a holl gynnulleidfa Ghrist; mae yn anghen­rhaid, meddant, er Iachawdwriaeth ymgadw oddiwrth butteindra. Os yw anghenrhaid i Ie­chyd wriaeth, gwae y rhai gan esceuluso eu hiechy­dwriaeth, a roddant eu meddyliau i bechod mor frwnt, ac mor ddrewllyd, i fai cynddrŵg, ac i ffieidd-dra mor erchyll.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn goddineb.

FE a ddangoswyd i chwi yn y rhan gyntaf o'r bregeth yn erbyn go­ddineb, fel y mae y bai hwnnw ar hyn o amser, yn teyrnasu vwch law pob bai arall: a pha beth yw ystyr y gair, Godineb: a pha fodd y mae 'r Scrythur lân yn ein hannog ac yn ein cynghori ni i wachelyd y bai brwnt ymma: ac yn ddiwethaf, pa lygredigaeth sydd yn dyfod ar enaid dŷn, oddiwrth y pcchod ym­ma, godineb.

Awn rhagom ym-mhellach a gwrandawn pa beth a ddywaid y sanctaidd Apostol S. Paul am y peth ymma: yr hwn yn scrifennu at y Rhufeini­aid, Rom. 13. 12. sydd gantho y geiriau hyn, Bwriwn ymmaith weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus megis wrth liw dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen, eithr gwiscwch am danoch yr Arglw­ydd Iesu Ghrist: ac na fydded eich gofal dros y cnawd er mwyn porthi ei chwantau.

Ymma y mae 'r Apostol yn ein hannog i daflu­ymmaith weithredoedd y tywyllwch, y rhai, ym­mhlith eraill, y mae fe yn galw cyfeddach, meddw­dod, cydorwedd ac anlladrwydd, y rhai ydynt oll wasanaeth-wyr i'r bai ymma, a darpariaethau i dywys ac i arwain i'r brwnt bechod cnawdol ymma.

Mae fe yn eu galw hwy yn weithredoedd y ty­wyllwch, nid yn vnig am fod yn arfer o'u gwneu­thur [Page 161] mewn tywyllwch, yn amser nôs, (o herwydd Ioan. 3. 20. pob vn ar y sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn ca­shau y goleuni, ac niddaw i'r goleuni, rhag argy­oeddi ei weithredoedd) ond am eu bod yn ein ty­wys ac yn ein harwain ar hyd yr vniawn ffordd i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain a rhinci­an dannedd.

Ac mae fe yn dywedyd mewn man arall yn yr vn Epistol, na all y rhai ydynt yn y cnawd foddlo­ni Rom. 8. 8. 12. &c. Duw: am hynny yr ydym, medd ef, yn ddyled­wyr, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd; canys os byw a fyddwn yn ôl y cnawd, meirw fyddwn. A thrachefn y dywaid, Gwachelwch odineb. Pob pechod a wnelo dŷn, oddi allan ei gorph y mae; ond yr hwn a wnel odineb sydd yn pechu yn erbyn ei 1. Cor. 6. 18. gorph ei hunan. Oni wyddoch fod eich corph yn deml i'r Yspryd glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych eiddoch chwi eich hunain? canys er gwerth y'ch prynwyd chwi, am hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph &c. Ac ychydig o'r blaen y dywaid, Oni wyddoch fod Vers. 15. eich cyrph yn aelodau i Grist. Am hynny a gym­merasi aelodau Christ, a'u gwneuthur yn aelodau puttein? Na atto Duw. Oni wyddoch fod yr hwn sydd yn cydio â phuttain yn vn corph â hi? Canys y ddau, eb efe, a fyddant vn cnawd: ond yr hwn a gyssylltir â'r Arglwydd, vn yspryd yw.

Pa eiriau duwiol y mae S. Paul yn ei hadrodd ymma, er mwyn ein hannog a'n cynghori oddi­wrth butteindra a phob aflendid? Teml, medd ef, yr Yspryd glân ydyw eich aelodau chwi, yr hon pwy bynnag a'i halogo, fe a'i dinistria Duw ef, medd S. Pawl. Os teml yr Yspryd glân ydym, onid anghymmhesur yw i ni yrru y sanctaidd Y­pryd [Page 162] hwn oddiwrthym trwy butteindra, a gosod yn ei le ef ddrŵg ysprydion godineb ac aflendid, ac ymgyssylltu â hwynt a'u gwasanaethu. Fe a'ch prynwyd chwi, medd ef, yn brid: am hynny gogo­neddwch Dduw yn eich cyrph.

Fe brynodd Christ yr oen dieniwed hwnnw ni, 1. Pet. 1. 18. o gaethiwed diafol, nid â phethau llygredig, megis arian neu aur, ond â gwerthfawr waed ei galon. I baddefnydd y gwnaeth efe hynny? ai er mwn bod i ni gwympo eilwaith i'n hên affendid an ffiaidd fywyd? Nag ê yn wir, onder mwyn bod i ni ei wa­sanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes: er mwyn bod i ni ei Luc. 1. 75. ogoneddu ef yn ein cyrph, trwy burder a glendid buchedd. Mae fe yn dangos hefyd fod ein cyrph ni yn aelodau i Grist. Mor anweddaidd, wrth hynny, yw i ni beidio a bod yn gydcorph a'n gwneuthur yn vn â Christ, a thrwy butteindra ymgyssylltu a'n gwneuthur yn vn â phuttain? Pa ammarch, neu pa gam goleuach a allwn ni ei wneuthur i Ghrist, nâ chymmeryd aelodau ei gorph ef oddiwrtho, a'u cyssylltu hwynt â phuttai­niaid, â diawliaid ac ag ysprydion drŵg? A pha ddianrhydedd swy a allwn ni ei wneuthur â ni ein hunain, nâ thrwy affēdid colli y fath odidog fraint a rhydd-did, gan ein gwneuthur ein hunain yn gaethweision ac yn druain garcharorion i yspry­dion y tywyllwch?

Ystyriwn gan hynny yn gyntaf ogoniant Christ: yn ail ein stât, ein braint a'n rhydd-did ein hunain, yn yr hwn y gosododd Duw ni, gan roddi i ni ei sanctaidd Yspryd: ac ymddiffynnwn hwnnw yn gefnog yn erbyn sathan a'i holl fachellion twy­llodrus: felyr anrhydedder Christ, ac na chollom­ninnau [Page 163] ein rhydd-did, ond arhos yn wastadol yn vn yspryd ag ef.

Hefyd yn ei epistol at yr Ephesiaid, mae 'r Apo­stol sanctaidd yn gorchymmyn i ni fod mor bûr ac mor rhydd oddiwrth odineb, anlladrwydd a phob aflendid, fal na enwer hwy yn ein plith, megis y Ephes. 5. 3. gwedde i sainct, na serthedd, na geiriau ffôl, na choeg-ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus, eithr yn hytrach diolchgarwch: canys yr ydych yn gwy­bod hyn, am bob putteinwr, neu aflan, neu gybydd yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etife­ddiaeth yn-nheyrnas Christ a Duw. Ac er mwyn cofio o honom fod yn sanctaidd, yn bur ac yn rhydd oddiwrth bob aflendid, mae 'r Apostol sanctaidd yn ein galw ni yn sainct, am ein bod gwedy ein 1. Cor. 6. 9. sancteiddio a'n gwneuthur yn sanctaidd trwy waed Christ, a thrwy r' Yspryd glan.

Gan hynny os ydym sainct, pa beth sydd i ni a wnelom ag arferion y cenhedloedd. Megis (medd S. Petr) y mae 'r hwn a'ch galwodd chwi yn sanc­taidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym­mhob ymarweddiad: o herwydd scrifennedig yw, 1. Pet. 1. 15. Le. 11. 44. Am hynny byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyfi. Hyd hyn y cly wsoch orthrymmed pechod yw godineb a phutteindra, ac mor ffiaidd gan Dduw ef trwy r' Scrythur. Apha fodd nad y pe­chod ffiaiddiaf ac a ddichon bod, yw yr hwn ni ellir vnwaith ei enwi ym-mhlith Christianogion? llai o lawer y dlyid mewn modd yn y byd ei wneu­thur ef.

Ac yn siccr os ni a bwyswn faint y pechod ym­ma, ac a'i hystyriwn ef yn ei iawn rywogaeth, ni a gawn weled mai pechod putteindra yw'r Ylling. llynn diffaithiaf, a'r pwll bryntaf, a'r soddfa ddre wllyd, [Page 164] i'r hwn y llifeiria ac y rhêd pob pechod, a phob dry­gioni arall, lle hefyd y mae iddynt drigfa a phres­wylfod.

O blegid onid yw y godinebwr yn falch o'i but­teindra? fel y dywaid y gŵr call, Maent hwy yn llawen darffo iddynt wneuthur yr hyn sydd ddrŵg, ac yn llawenychu mewn pethau drŵg ani­anol. Onid ydyw y godinebwr yn ddiog, ac heb ymhoffi mewn vn ymarfer dduwiol, ond yn vnig yn ei hoffddigrifwch brwnt anifeiliaidd hynny? Onid ydyw ei feddwl ef wedy ei lusco a'i dynnu ymmaith oddiwrth bob amcanion rhin weddol, ac oddiwrth bob trafael ffrwythlon, a chwedy ym­roi yn vnig i ddychymmygion cnawdol? Onid yw y putteinwr yn rhoddi ei feddwl ar lothineb, er mwyn bod yn barottach i wasanaethu ei wyniau a'i hoffderau cnawdol? Onid ydyw y godinebwr yn rhoddi ei feddwl a'r gybydd-dod, ac i grafu ac i gasclu oddiar eraill, er mwyn bod yn aplach i faentaenio ei butteiniaid, a'i ordderchadon, ac i barhau yn ei serch brwnt anghyfraithlon? O­nid ydyw ef yn chwyddo mewn cenfigen yn er­byn eraill, gan ofni hudo ei ysclyfaeth ef, a'i thyn­nu hi ymmaith oddiwrtho? Hefyd onid ydyw efe yn llidiog ac yn llawn o ddigofaint ac anfodlon­rwydd, ie yn erbyn y rhai anwylaf gantho, os rhwystrir vn amser ei ddamuniad cnawdol diaw­ledig ef? Pa bechod, neu pa ryw o bechod ni chys­sylltir â godineb a phutteindra?

Rhyw anghenfil yw efe a llawer o bennau iddo: mae fe yn derbyn pob rhyw feiau, ac yn gwrthod pob rhyw rinweddau. Os ydyw vn pechod yn dwyn damnedigaeth, pa beth a dybygir am y pe­chod a gyssylltir ac a gyfeillechir a phob drygioni: [Page 165] yr hwn y mae pob peth sydd gâs gan Dduw, dam­nedig i ddŷn, a hôff gan sathā yn ei ganlyn. Mawr yw 'r ddamnedigaeth sydd ynghrog vwch - ben godinebwyr a phutteinwyr.

I ba beth y sonniaf am aflesau eraill a dyfant ac a lifant o Dom. lacca drewllyd putteindra? Oni chollir trwy odineb a phutteindra enw da gŵr neu wraig, yr hwn yw'r trysor y mae pob dŷn ho­nest yn gwneuthur mwyaf cyfrif o hono? Pa dref­tadaeth neu fywyd? pa olud? pa dda? pa gyfoeth nas difa putteindra, ac nas dŵg yn ddiddim mewn ychydig amser? Pa ddewrder a pha gryfder ni wanheir yn fynych ac ni ddistrywir trwy but­teindra? Pa synwyr cyn barotted na ddotier ac na ddeleir trwy butteindra? Pa degwch (er mor odidog fo) nad anffurfir trwy butteindra?

Onid ydyw putteindra yn elyn i brydferth flo­deuyn ieuengctid? Ac onid yw yn dwyn pen­llwydni a henaint cyn yr amser? Pa ddawn na­turiol (er mor werthfawr fo) na lygrir trwy but­teindra? Onid yw y frêch fawr a llawer o glefydō eraill yn dyfod o butteindra? O ba le y daw cym­maint o fastardiaid a phlant ordderch, i fawr an­fodlonrwydd Duw, a thorriad priodas sanctaidd, onid o butteindra? Pa faint sydd yn difa eu da a'u golud, ac yn cwympo yn y diwedd i ddygyn dlodi, ac yn ôl hynny yn lledratta ac yn cael eu crogi, trwy butteindra? Pa ymryson a lladdfâu a ddaw o butteindra? Pa sawl merch a Dreisir, anwy­ryfir? Pa sawl gwraig a lygrir? Pa sawl gwe­ddw a wradwyddir trwy butteindra? Pa faint y tlodir ac y trallodir y cyfoeth - cyffredin trwy butteindra? Pa faint y dirmygir ac y ceblir gair Duw trwy butteindra a phutteinwyr?

[Page 166] O 'r pechod hwn y daw llawer o 'r yscaroedd, y rhai a arferir yn y dyddiau hyn mor arferedig, trwy awdurdod gwŷr diswyddau, er mawr ddi­gofaint Duw, a thorriad sancteiddiaf gwlwm a rhwym priodas: o herwydd pan ddarffo i'r pe­chod ffiaidd ymma ymlusco vnwaith i Fonwes. ascre y godinebwr, fel y rhwydir ef mewn cariad aflan anghyfraithlon, fe a ddiystyra yn y man ei wir a'i gyfraithlon wraig, fe a gashâ ei phresennoldeb hi, mae ei chwmpeini ni yn drewi ac yn wrthwy­nebus gantho: pa beth bynnag a wnêl hi, a oge­nir: nid oes llonyddwch yn y tŷ yr hyd y bytho hi mewn golwg: am hynny, i wneuthur chwedl byrr, rhaid iddi fyned ymmaith, o blegid ni ddi­chon ei gŵr ei haros hi ym-mhellach. Fel hyn trwy butteindra y troir ymmaith y wraig honest ddiemwed, ac y derbynir puttain yn ei lle hi.

Yn yr vn modd y digwydda yn fynych o ran y wraig tuag at ei gŵr. Dymma ffiaidd-dra anferth. Pan ddaeth ein Iachawdwr Christ Duw a dŷn i adferu cyfraith ei nefol dâd i iawn ystyr, meddwl a deall y gyfraith honno, ym-mhlith pethau eraill fe a Iniawnodd. ddiwygiodd gam-arfer y gyfraith hon. O herwydd lle daroedd i 'r Iuddewon arfer hir odde­fiaeth trwy ddefod ddodi o 'r gwŷr eu gwragedd ymmaith wrth eu hewyllys am bob achos: fe a geryddodd Christ y drŵg arfer hynny, ac a ddys­codd, pwy bynnag a wrthotto ei wraig, onid am odineb (yr hwn yr amser hynny wrth gyfraith oedd yn haeddu angau) ei fod yn torri priodas, ac yn gwneuthur i'w wraig hefyd yr yscarid ef â hi, odinebu, os hi a gyssylltid â gŵr arall, ac i'r gŵr hefyd a gyssylltid â hi, odinebu.

Ym-mha gyflwr gan hynny y mae y godineb­wyr [Page 167] ymma, y rhai o gariad ar buttain a wrtho­dant eu gwir a'u cyfraithlon wragedd, yn erbyn cyfraith, vniondeb, rheswn a chydwybod? Oh mor ddamnedig yw 'r stât y maent yn aros ynddi. Distryw ebrwydd a gwymp arnynt os hwy ni edifarhânt ac ni wellhânt. O herwydd ni oddef Duw byth ddianrhydeddu, a chashâu, a diystyru sanctaidd briodas. Fe a gospa ryw brŷd y bywyd cnawdol anllywodraethus ymma, ac a wna bod y sanctaidd ordinhâd ymma mewn parch ac an­rhydedd. O herwydd, medd yr Apostol, Anrhy­deddus Heb. 13. 4. yw priodas ym-mhawb, a'r gwely diha­logedig: eithr putteinwyr a'r godinebus a far­na Duw: hynny yw, fe a'u cospa ac a'u damna hwynt.

Ond i ba beth y cymmerir y boen ymma yn datcan ac yn gosod allan faint pechod yw puttein­dra, a'r afles a dŷf ac a lifeiria o hono: lle y pallai anadl a thafod dŷn yn gynt nag y gallai gwbl gy­hoeddi y pechod hwn yn ôl ei ddiffeithwch a'i anferthrwydd? Er hynny hyn a ddywedwyd er mwyn bod i bawb wachelyd putteindra a byw mewn ofn Duw. Duw a wnêl nas dywedpwyd yn ofer.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn godineb.

CHwi a ddyscasoch yn yr ail rhan o'r bregeth am odineb, a ddarllen­nwyd i chwi ddiwethaf, mor ddif­rif y mae 'r Scrythur lân yn ein rhybyddio ni i wachelyd pechod godineb, ac i gofleidio glendid bu­chedd: [Page 168] a'n bod ni yn cwympo trwy odineb i bob rhyw bechod, ac yn myned yn gaeth-weision i ddi­afol: ac o 'r ystlys arall y'n gwneir trwy lendid buchedd yn aelodau i Grist: ac yn ddiwethaf mor bell y dŵg godineb ddŷn oddiwrth bob duwiol­deb, ac y denfyn ef yngwysc ei ben i bob beiau, drygioni ac aflwydd.

Mi a fynegaf i 'wch yn awr mewn trefn â pha gospedigaethau trymion y plagodd Duw odineb yn yr amseroedd gynt, a pha fodd y cospodd llawer o dywysogion bydol y pechod ymma, fel y galloch weled fod putteindra a godineb yn bechodau mor echryslon yngolwg Duw a phob dŷn daionus, ac y dangosais eisoes.

Yn llyfr cyntaf Moses yr ydym yn darllen, pan ddechreuodd dynion amlhau ar y ddayar, i wŷr a gwragedd osod eu meddyliau mor gwbl ar chwantau cnawdol a choeg-ddigrifwch, hyd oni fuont fyw yn ddiofn Duw. Pan welodd Duw eu bywyd ffiaidd anifeiliaidd hwynt, a deall nad oeddynt yn gwellhâu, ond yn hytrach eu bod yn cynnyddu fwyfwy beunydd yn eu pechodau a'u harferon aflan; fe a edifarhaodd Duw iddo w­neuthur dŷn: ac er dangos mor ffiaidd oedd gan­tho odineb, putteindra, anlladrwydd a phob a­flendid, fe a wnaeth i holl ffynhonnau y dyfnde­roedd dorri allan, ac a egorodd ffenestri 'r nefoedd, fel y glawiodd hi ar y ddayar dros ddeugain diwr­nod a deugain nôs: ac felly y distrywiodd ef yr holl fyd a holl ddynawl ryw, oddieithr wythnŷn o bobl yn vnig: y rhai hynny oedd Noah pregethwr cy­fiawnder (fel y geilw Petr ef) a'i wraig, a'i dri­mab a'u gwragedd.

Oh pa anial blâ a daflodd Duw ymma ar holl [Page 169] greaduriaid bywiol y bŷd, am bechod puttein­dra? Am yr hwn y dialodd Duw nid ar ddŷn yn Gen. 6. 7. vnig, onid hefyd ar yr holl anifeiliaid, ehediaid, a'r holl greaduriaid byw. Fe a laddesid dynion ar y ddayar o 'r blaen, etto ni ddystrywiwyd y bŷd am hynny: ond am butteindra fe a orchguddiwyd Gen. 4. 8. yr holl fŷd â dwfr, ac a ddifethwyd oddieithr ychy­dig. Siampl wiw ei chofio er ein dyscu ni i ofni Duw.

Yr ydym yn ddarllein eilwaith ddinystr So­doma Gen. 19. 24. a Gomorhah a dinasoedd eraill cyfagos iddynt, trwy dân a brwmstan o'r nef, am frwnt bechod aflendid, fel na adawyd na gŵr na gw­raig, na phlentyn nac anifail, na dim ar a dyfodd ar y ddayar heb ddinistr. Calon pwy nid Chryna. echry­dia wrth glywed yr histori ymma? Pwy sy weddi soddi mor ddwfn mewn putteindra ac aflendid, na adawo weithian dros fyth heibio y fath gâs a ffiaid fywyd, gan fod Duw yn cospi aflendid mor dôst a glawio tân a brwmstā o'r nef, i ddistrywio dinasoedd cyfain, i ladd gwŷr a gwragedd a phlant, a'r holl greaduriaid byw oedd yn aros yno, ac i ddifa â thân bob peth a dyfai yno. Pa arwyddion a ddichon bod eglurach, o ddigofaint Duw a'i lid, yn erbyn aflendid ac am-mhurder bywyd? Ystyriwch yr histori hon (ddaionus bobl) ac ofnwch ddialedd Duw.

Onid ydych yn darllein hefyd i Dduw daro Pharao a'i holl dŷ â phlagau mawrion, am iddo yn annuwiol chwennychu Sarah gwraig Abra­ham? Gen. 20. 3. Felly yr ydym yn darllein am Abimelech brenhin Gerar, er na chyhyrddasai â hi trwy gyd­nabyddiaeth cnawdol. Dymma 'r plagau a 'r cospedigaethau a daflodd Duw ar ddynion bryn­tion [Page 170] aflan, cyn rhoddi y gyfraith (pan oedd cyfra­ith naturiaeth yn vnig yn teyrnasu ynghalon­nau dynion) er dangos faint y cariad oedd gan­tho ef at briodas: ac eilwaith faint y cashae efe odineb, putteindra a phob aflendid.

Ac wedy rhoddi y gyfraith, sydd yn gwahardd putteindra, trwy Foses, i'r Iuddewon, oni or­chymmynnodd Duw ddodi i farwolaeth y sawl a'i torrai hi? Dymma eiriau y gyfraith, Y gŵr Le. 20. 10. yr hwn a odinebo gydâ gwraig ei gymmydog, lla­dder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig, am iddo dorri priodas gydâ gwraig ei gymmydog. Fe a orchymmynnir yn y gyfraith hefyd, Os de­lir Num. 25. 4. llangces a gŵr ynghŷd mewn putteindra, eu llabyddio hwy ill dau hyd angau. Yr ydym ni yn darllein mewn man arall i Dduw orchymmyn i Moses gymmeryd y pennaethiaid, y rheolwyr a thywysogion y bobl, a'u crogi ar grogbrennau yn amlwg, am iddynt naill ai gwneuthur godi­neb eu hunain, ai am nas cospasent ef mewn eraill. Trachefn, oni ddanfonodd Duw y fâth blâ ym-mhlith y bobl am odineb ac aflendid, hyd oni laddodd o honynt mewn vn diwrnod bedair inil ar hugain.

Eisiau amser mi a adawaf heibio lawer o hi­storiau eraill o 'r Beibl sanctaidd, y rhai a ddan­gosant i ni fawr ddialedd a thrwm lid Duw yn erbyn putteinwyr a godinebwyr. Siccr yw fod y greulon gosp a osododd Duw, yn dangos yn eglur ddigon mor gâs gan Dduw butteindra. Ac nac amheuwn fod Duw yn yr amser hwn yn cashâu aflendid, cymmaint ac yr ydoedd ef yn yr hên gyfraith: ac nas cospa ef y pechod ymma yn ddiammau yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw: [Page 171] o herwydd Duw yw efe na ddichon arhos dry­gioni.

Am hynny y dlye bawb wachelyd y drygioni Psal 5. 4. hwn, ac sy yn gofalu am ogoniant Duw ac Ie­chydwriaeth eu heneidiau eu hunain.

Mae S. Paul yn dywedyd ddarfod scrifennu pob peth ar a scrifennwyd er siampl i ni, i ddyscu ini dfni Duw, ac vfyddhau i'w sanctaidd gyfraith ef. O herwydd os Duw nid arbedodd y can­ghennau 1. Cor. 10. 11. naturiol, nid arbed ef nyni y rhai nid ydym ond impiau, os gwnawn y cyfryw drose­ddau. Rom. 11. Os distrywiodd Duw lawer mil o bobl, lawer o ddinasoedd, ie a'r holl fŷd, am buttein­dra, na wenhieithiwn mo honom ein hunain, ac na thybygwn y diangwn ni yn rhyddion, ac yn ddigosp. O herwydd fe a addawodd yn ei gyfra­ith sanctaidd ddanfon plau tostion ar y trosedd­wyr, neu y rhai a dorrant ei sanctaidd orchym­mynion ef.

Fel hyn y clywsoch pa fodd y mae Duw yn cos­pi pechod godineb, gwrandawn weithian ryw gy­freithiau a osododd llywodraethwyr bydol, mewn amryw wledydd er ei gospi: fel y caffom wybod fod aflendid yn ffiaidd ym-mhob dinas a gwladwri­aeth hydrefn, ac ymmhlith dynion honest.

Hyn oedd y gyfraith ym-mhlith y lepreaid, Hwy a rwyment yr hwn a ddelid mewn godineb, ac a'i dygent ef dros dri diwrnod trwy 'r ddinas: yn ôl hynny yr hŷd y byddai byw, fe a ddibrisid, a thrwy gywilydd a gwradwydd, a gyfrifid yn ddŷn heb ddim honestrwydd ynddo.

Ym-mhlith y Locriaid yr ydys yn tynnu dau ly­gad y godinebwr.

Y Rhufeiniaid gynt a gospent odineb, weithiau [Page 172] â thân, weithiau â'r cleddyf. Os delid neb mewn godineb ym-mhlith yr Aiphtiaid, y gyfraith oedd iddo gael ei chwippio yngwydd y bobl, hyd fîl o wialennodiau: a'r wraig a ddelid mewn godineb gydag ef, a dorrid ei thrwyn, fel y gellid gwybod byth o hynny allan ei bod hi yn buttain, ac y ffiei­ddid hi gan bawb.

Ym-mhlith yr Arabiaid y torrid pennau y rhai a ddelid mewn godineb, oddiar eu cyrph.

Yr Atheniaid a gospent butteindra ag angau, yn yr vn modd. Felly y gwnai y Tartariaid di­ddysc, difedr.

Ac hyd heddyw ym-mhlith y Twrciaid y llaby­ddir i angau yn ddidrugaredd, y gwr a'r wraig a ddalier mewn godineb. Fel hyn y gwelwn pa gy­freithiau duwiol a wnaethpwyd gynt gan aw­durdodau goruchel, er tynnu ymmaith buttein­dra, ac er maentaenio priodas sanctaidd, a phûr ymddygiad.

Ac etto nid oedd gwneuthurwyr y cyfreithiau ymma yn Gristianogion, onid cenheloedd; etto hwy a garent honestrwydd a phurdeb buchedd cymmaint, fel y gwnaent gyfreithiau daionus, duwiol, er maentaenio y pethau hynny, heb oddef o fewn eu teyrnasoedd, odineb a phutteindra i deyrnasu yn ddigosp.

Fe a ddywedodd Christ wrth yr Iuddewon an­ffyddlō, y cyfode y Ninifiaid ddydd y farn yn erbyn Matth. 12. 41. y genhedlaeth honno, i'w chondemno, am iddynt hwy etifarhau ar bregethiad Ionas, ac wele (medd efe) vn mwy nâ Ionas ymma, (gan feddwl am dano ei hûn) ac etto nid edifarhasant.

Oni chyfyd (dybygŵch chwi) yn gyffelyb y Lo­criaid, Arabiaid, Atheniaid ac eraill o'r fâth hyn­ny, [Page 173] i'r farn yn ein herbyn ni i'n condemno; yn gymmaint ac iddynt hwy ymgadw rhag puttein­dra ar orchymmyn dŷn, ac mae gennym ni gy­fraith ac eglur orchymmyn Duw, ac er hynny nid ydym yn ymadel â'n haflan ymddygiad. Yn wir, yn wir fe fydd esmwythach yn-nydd y farn i'r cen­hedloedd hynny nag i ni, onid edifarhawn ni a gwellhau. O herwydd, er bod angau corphorol, yn ein golwg ni, yn gosp drom, dost, yn y bŷd hwn am butteindra: etto nid yw y gosp honno ddim wrth y blinedig boenau a orfydd ar odinebwyr, puttein­wyr a dynion aflan, eu goddef yn ôl y bywyd hwn.

O herwydd fe a geuir yr holl rai hynny o deyr­nas nefoedd, fel y dyweid S. Paul; Na thwyller 1. Cor. 6. 9. Gal. 5. 21. Ephes. 5. 5. chwi, ni chaiff na godinebwyr, nac addolwyr de­lwau, na thorwyr priodas, na drythyllwyr, na'r rhai Sodomiaidd, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr etifeddu teyrnas Dduw. Ac y mae Ioan yn dywedyd yn ei weledi­gaeth, y caiff y putteinwyr eu rhân gyd â lladd­wyr, Gwel. 21. 8. cyfareddwyr, a'r delw-addolwyr, a'r rhai cel­wyddog, yn y pwll sydd yn llosci â thân a brwm­stan, yr hwn yw'r ail angau.

Er bod cosp y corph yn angau, etto mae iddo ddi­wedd, ond mae cosp yr enaid, yr hwn y mae Ioan yn sôn am dano, yn dragywydd. Yno y bydd tân a brwmstan, yno y bydd wylofain ac scyrnygu dan­nedd, Luc. 3. 9. Matth. 13. 30. yno y prŷf a gno gydwybod y rhai a ddam­nier, ni bydd marw byth. Oh, calon pwy ni ddi­fera ddafnau gwaed wrth wrando ac ystyried y pe­thau hyn.

Os yscrydiwn ac os Echrydiwn. crynwn wrth glywed enwi y pethau hyn, pa beth a wnawn wrth eu clywed hwy au goddef, ie a'u goddef byth ac yn dragy­wydd. [Page 174] Duw a drugarhao wrthym.

Pwy sydd bellach wedi Suddo. *foddi mewn pechod cyn ddyfned, a chwedy ymadel â phôb duwioldeb cyn llwyred; ac y gwnel yn fwy o'i hoffder a'i ddigrif­wch drewllyd brwnt (yr hwn a aiff yn ebrwdd heibio) nag o golli gogoniant tragwyddol? Pwy ailwaith a'i rhydd ei hunan i chwantau cnawdol cyn belled, ac nad ofno ef Rhag▪ poenau. *am boenau tân vffernol? Ond gwrandawn bellach pa fodd y gwachelwn butteindra a godineb, fel y rhodiom mewn ofn Duw, ac y byddom ryddion oddiwrth yr holl ar­taithiau a'r poenau anescorol trymmiō y rhai sydd ar fedr pob dŷn aflan.

Er gwachelyd godineb, putteindra, a phob a­flendid, cadwn ein calonnau yn bur ac yn lân o­ddiwrth bob meddwl drwg a chwantau cnaw­dol: o herwydd os y galon a lygrir ni a gwym­pwn lwyr ein pennau i bob rhyw annuwioldeb. Hyn a wnawn ni yn esmwyth, os ni pan gly­won ein hên elyn Sathan yn ein temptio, ni chy­tunwn mewn ffordd yn y byd â'i dwyllodrus ddichellion ef, gan ei wrthwynebu ef yn ddewri­on, trwy ffydd gadarn yngair Duw, a chan osod yn ei erbyn ef yn wastadol yn ein calonnau, y gorchymmyn hwn, a roddodd Duw i ni, Na wna odineb, scrifennedig yw, Na wnâ butteindra.

Da fydd i ni hefyd fyw yn wastadol mewn ofn Duw, a gosod gar bron ein llygaid dôst fygythiau Duw, yn erbyn annuwiol bechaduriaid: ac ysty­ried yn ein calonnau mor frwnt, mor anifeiliaidd ac mor fyrr yw 'r digrifwch a'r hoffder, i'r hwn y mae Sathan yn ein hûdo ac yn ein llithio ni yn wastad: ac eilwaith fod y gosp a osodwyd am y pechod hwnnw yn anescorol ac yn dragwyddol.

[Page 175] Hefyd arferwn sobredd, a chymmedrolder a thymmer dda wrth fwytta ac yfed, a gwachelwn bob chwedleu aflan, ac ymgadwn oddiwrth bob cwmpniaeth drŵg, Gwachelwn seguryd, ymho­ffwn o ddarllen yr Scrythur la▪u; gwiliwn mewn gweddiau duwiol, a myfyriadau rhinwe­ddol; a phob amser ymarferwn o ryw boen a thrafel duwiol; a'r pethau hyn a'n cynnorthwy­ant ni yn fawr i ymgadw rhag putteindra.

Ac ymma y rhybyddir pob grâdd o ddynion, priodol ac am-mhriodol, i garu purdeb a glendid buchedd. O herwydd mae 'r priodol yn rhwym wrth gyfraith Dduw, i garu ei gilydd yn bur ac yn glau, heb i vn o honynt geisio cariad dieithr.

Mae yn rhaid i'r gŵr lynu wrth ei wraig yn vnig, ag ir wraig lynu wrth ei gŵr yn vnig. Mae yn rhaid iddynt ill dau ymhoffi ynghym­deithas ei gilydd: na chwennycho yr vn o ho­nynt neb arall. Ac fel y maent hwy yn rhwy­medig i fyw inghŷd mewn duwioldeb a phob ho­nestrwydd, felly eu swydd hwy hefyd a'u dlêd yw dwyn eu plant i fynu yn rhinweddol, a darbod na bo iddynt gwympo i Faglau. lindagau Sathan, nac i vn aflendid, ond bod o honynt yn bur ac yn honest mewn priodas sanctaidd, pan ddelo'r amser.

Felly hefyd y dylyai feistred a rheolwyr ddarbod nad arferer na phutteindra nac aflendid ym­mhlith eu gwasanaeth ddynion.

A thrachefn os y rhai sydd heb priodi a ym­glywant ynddynt eu hunain, na allant fyw heb gwmpeini gwraig, priodāt, a byddāt fyw ynghŷd yn dduwiol, o herwydd gwell yw priodi nâ llos­ci. I ochel godineb (medd yr Apostol) cymered pob 1. Cor. 7. 2. gŵr ei wraig ei hûn, a phob gwraig ei gŵr ei hun.

[Page 176] Yn ddiwethaf, y rhai sydd yn clywed ynddynt eu hunain, y gallant (trwy weithrediad Yspryd Duw) fyw yn vnig, ac yn Ddiweir. ymattalus, clodfo­rant Dduw am eu rhoddiad, a cheisiant bob ffordd ac a allont i gadw ac i gynnal y cyfryw roddiad: megis trwy ddarllein yr Scrythur lân, trwy fyfyriadau duwiol, a gweddiau dyfal, a'r fâth rinweddol arferon eraill.

Os ceisiwn oll yn y modd ymma ymgadw rhag godineb, putteindra a phob aflendid, a dwyn ein bywyd mewn duwioldeb ac honestrwydd, gan wasanaethu Duw â chalonnau glân pûr, a'i o­goneddu ef yn ein cyrph, drwy ddwyn ein bywyd yn ddiddrwg ac yn ddieniŵed, siccr y gallwn fod o rifedi y rhai y mae ein Iachawdwr Christ yn yr Efengyl yn dywedyd fel hyn am danynt, Gwyn Merth. 5. 8. eu bŷd y rhai glân o galon, canys hwy a welant Dduw: I'r hwn yn vnig y bô pob gogoniant anrhydedd, rheolaeth a gallu yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn ymryson ac ymdaeru.

HEddyw y cyhoeddir i 'wch (bobl ddaionus Gristianogawl) afles a chywilyddus anhonestrwydd ymryson, cynhennau, ac anghy­fundebau, er mwyn gwedi i chwi weled megis wedi ei baen­tio ym-mlaen eich llygaid, an­harddwch ac anweddeidd-dra y bai atcas ymma, y troer eich calonnau i gyfodi yn ei erbyn, ac i gashau, ac i ffiaiddio y pechod hwnnw, yr hwn [Page 177] sydd mor gâs, ac mor ofidus, ac mor ddrygionus gan bawb.

Ond ym-mhlith pob ymryson, nid oes vn mor ddrygionus ac yw ymryson mewn Christiano­gawl greddyf. Gâd heibio (medd S. Paul) chwe­dlau 1. Tim. 1. 4. ac achau anorphen, y rhai a barant gwestio­nau, yn fwy nag adailadaeth dduwiol. Niddaw ar wasanaethwr Duw ymladd ac ymryson, ond bod yn dirion tuag at bob dŷn.

Y cynhennau a'r ymrysonau ymma oedd yn amser S. Paul ym-mhlith y Corinthiaid, ac y sydd yr amser ymma yn ein plith ninnau y Bru­taniaid: o herwydd gormodd sydd o ddynion, y rhai ar eu meingciau cwrw, a'r fath leoedd eraill, a ewyllysiant ymbyngcio, ac ymgwestiwnu, nid er adailadaeth, ond er gwag-ogoniant, ac er ym­ffrostio o'u cyfarwyddyd; a hynny gan ymresym­mu a chan ymddadleu mor ansyber; fel pan nad ymroddo y naill i'r llall, y maent hwy yn tyfu wei­thiau o eiriau twymon i chwaneg o anwe­ddeidd-dra.

Ni allai Paul ym-mhlith y Corinthiaid oddef gwarando y geiriau hyn o anghyfundeb ac ymry­son, Eiddo Paul wyfi, Eiddo Apollos wyfi, min­nau 1. Cor. 3. 4. eiddo Cephas. Pa beth a ddywede ef, wrth hynny, pe cly wai y geiriau hyn o ymryson, y rhai sydd ganmwyaf yngenau pob vn o honom, Pha­risai yw hwn accw, Efangylwr yw hwn; mae hwn o'r ffordd newydd, hwn o'r hên ffordd: hwn accw yn frawd newydd, hwn yn dâd Catholic da: hwn yn Bapist, hwn yn heretic?

Oh, pa fodd y rhannwyd yr Eglwys? oh pa fodd y torrir ac y rhwygir, y carpiwyd ac y drylliwyd ein dinasoedd! oh pa fodd y Dattodwyd. myscwyd ac y chwa­lwyd [Page 178] pais Christ, oedd ryw amser yn ddi-wniad? oh ddirgeledig corph ein Iachawdwr Christ? pa le y mae 'r vndeb llwyddiannus sanctaidd, allan o'r hwn pwy bynnag y sydd, nid oes mo hono yn­ghrist? Os tynnir vn aelod oddiwrth y llall, pa le y bydd y corph? Os tynnir y corph oddiwrth y pen, pa le y bydd bywyd y corph? Ni ellir ein cys­sylltu ni â Christ ein penn oddieithr ein gludio ni ynghŷd â chyfundeb a charedigrwydd bob vn tu ag at ei gilydd. O herwydd y neb nid yw o'r vndeb ymma nid yw o Eglwys Ghrist, yr hon yw cyn­nulleidfa a chŷd-vndeb, ac nid dosparthiad ac anghyttundeb.

Mae S. Paul yn dywedyd yr hŷd y byddo i'n plith ni genfigen, ymryson, a chynhennau, ein bod 1. Cor. 3. 4. ni yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol. Ac mae S. Iaco yn dywedyd os bydd gennym ni genfigen Iac. 3. 4. chwerw, ac ymryson yn ein calonnau, nad ym­lawenhaom ynddo. O herwydd lle mae ymryson mae anwadalwch a phob gorchwylion drŵg.

A pha ham na wrandawn ar S. Paul, yr hwn sydd yn deisyf arnom lle gallai orchymmyn i ni, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn deisyf arnoch yn enw 'r Arglwydd Iesu Ghrist, ddywedyd o bawb o ho­noch yr 1. Cor. 1. 10. vn peth, ac na byddo anghy fundeb yn eich plith, ond bod o honoch yn vn farn. Os ydyw ei ddeisyfiad ef yn rhesymmol ac yn honest, pa ham nad ydym yn ei ganniatau? Os ydyw ei ddamu­niad ef i'n budd ni, pa ham yr ydym yn ei wrthod? Oni chwennychwn wrando ei arch a'i ddeisyfiad ef, gwrandawn er hynny ei annogaeth ef, lle y mae fe yn dywedyd, Yr ydwyf yn attolwg arnoch rodio o honoch yn deilwng o'r galwedigaeth y'ch Ephe. 4. galwyd iddi, ym-mhob lledneisrwydd ac addfw­yndra, [Page 179] ynghŷd ag ymaros gan oddef ei gilydd mewn cariad, gan ymroi i gadw vndeb yr Yspryd ynghwlwm tangnheddyf: o herwydd vn corph sydd ac vn yspryd, vn ffydd, vn bedydd.

Nid oes (medd ef) ond vn corph, o'r hwn ni ddi­chon ef fod yn aelod byw, yr hwn sydd mewn anghyttun deb â'r aelodau eraill. Nid oes ond vn yspryd, yr hwn sydd yn cyssylltu ac yn clymmu y cwbl yn vn. A pha fodd y teyrnasa yr vn yspryd hwn ynom, pan fythom gwedi ymrannu yn ein plith ein hunain? Nid oes ond vn ffŷdd. Pa fodd y gallwn ninnau ddywedyd, Mae fe o'r hên ffŷdd, ac yntef o'r newydd? Nid oes ond vn bedydd, ac oni fyddant hwy oll a fedyddiwyd, yn vn?

Mae anghyttundeb yn gwneuthur dosparth, am hynny ni ddyle hi fod ym-mhlith Christiano­gion, y rhai y mae vn ffydd ac vn bedydd yn eu cys­sylltu ynghŷd mewn vndeb. Ond os diystyrwn ddamuniad ac annogaeth S. Paul, etto ar y lleiaf meddyliwn am ei ymbil taer ef, yn yr hwn y mae fe yn gorchymmyn i ni yn ddifrif iawn, ac (fel y gallwn ddywedyd) yn ein tynghedu ni yn y dull a'r Phil. 2. 1. modd ymma, Os oes gan hynny ddim diddanwch yn Ghrist, os oes cyssur cariad, os oes dim cymdei­thas a'r Yspryd, os oes dim tosturi a thrugaredd, cyflawnwch fy llawenydd ar i chwi fod yn vn fryd, a chennych yr vn rhyw galon, ac yn meddwl yr vn peth, fel na wneler dim trwy gynnen neu wâg-ogoniant.

Pwy sydd ac yntho ddim ymyscaroedd tosturi, na chyffroir â 'r geiriau hyn (y rhai ydynt lym­mach nag vn cleddyf dau-finiog) i beidio ag ym­ryson ac ymgynhennu?

Am hynny ymegnîwn i gyflawni llawenydd [Page 180] S. Paul yn y man ymma, yr hwn yn y diwedd a fydd llawenydd mawr i ninnau mewn man arall. Darllenwn felly 'r Scrythur, fel y 'n gwne­ler yn well ein bywyd, ac nid yn ddadleuwyr ym­rysongar.

Os bydd anghenrhaid mewn dim ddyscu, neu ymresymmu neu ymddadleu, gwawn hynny yn fwyn, yn dirion ac yn llednais. Os digwydd i neb ddywedyd dim yn anweddaidd, cyd-ddyged y naill â gwendid y llall. Yr hwn a fyddo ar y bai, gwellha▪ed, ac nac ymddiffynned yr hyn a ddywe­dodd dros y ffordd: rhag iddo wrth ymddadleu gwympo o Amryfysedd. gamsynnaid lledffrom i wrthgas he­resi gyndyn: canys gwell yw ymroi yn lledneis, nâ gorchfygu trwy dorri cariad perffaith, yr hyn a ddigwydd yn fynych, pan fô pob vn yn wrthnysig yn ymddiffyn ei opinion ei hûn.

Os ydym ni Gristianogion, pa ham na chan­lynwn ni Grist, yr hwn a ddywaid, Dyscwch gen­nifi, Matt. 11. 29. am fy môd yn llaryaidd ac yn ostyngedig o ga­lon. Rhaid i'r discybl ddyscu ei wers gan ei athro, ac i'r gwâs vfyddhau gorchymmyn ei feistr.

Yr hwn (medd S. Iaco) sy ddoeth a dyscedig, Iac. 3. 13. dangosed ei ddoethineb wrth ymddygiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra. O herwydd lle bytho cenfigen ac ymryson, nid yw y doethineb hynny yn dyfod oddiwrth Dduw, eithr dayarol, a­nifeiliaidd a chythreulig yw hi: o herwydd mae 'r doethineb sydd yn dyfod oddiuchod, yn bûr, yn he­ddychol, yn foneddigaidd, yn hawdd ei thrin, heb chwennych ymryson, yn vfydd yn dyscu, yn ddi­rwgnach, yn rhoi lle i'r rhai a ddyscont yn well er eu huniawni hwy. O herwydd byth ni bydd diben ar ymryson, os ymryssonwn ni pwy wrth ymry­son [Page 181] a gaiff y llaw uchaf: os pentyrrwn amryfysedd ar amryfysedd, ac amddiffyn yn wrthnyssig yr hyn a ddywedasom yn ansynhwyrol.

O herwydd gwir yw, fod gwrthnysigrwydd i faentaenio rhyw opinion yn ennynnu cynnen, ymryson ac ymdaeru, yr hwn yw 'r bai echry [...]af a llygrediccaf ac a ddichon bod yn erbyn cyffredi­nol heddwch a llonyddwch.

Ac fel y mae yn sefyll rhwng dwy blaid (oblegid odid yw cael neb a ymdaeru ag ef [...]i [...]un felly y mae fe yn amgyffred dau fai gwrthwynebus: vn yw cwerylu mewn geiriau tanbaid ymrysongar, y llall a saif mewn attebion gwrthgas, ac aml­hâd geiriau drŵg.

Y naill sy mor ffiaidd, megis y dywed Paul, Os bydd neb ac a elwir yn frawd yn ddelw-addolwr, 1. Cor. 5. yn ymdaerwr, neu gablwr, neu gridddeilwr, neu yn lleidr, gyd â'r cyfryw vn ni ddylaech fwytta.

Ymma ystyriwch fod S. Paul yn cyfrif ymda­erwr ac ymsennwr a chwerylwr ym-mhlith lla­dron a delw-addolwyr: ac fe ddaw yn fynych lai o ddrŵg oddiwrth leidr nag oddiwrth dafod drŵg. O her wydd mae'r naill yn dwyn enw da dŷn, ac nid yw 'r llall yn dwyn ond ei olud ef, yr hwn nid ydyw mor werthfawr ac yw cymmeriad, ac enw da. Nid yw y lleidr yn drygu ond yr hwn y mae efe yn dwyn oddiarno; ond mae 'r hwn sydd a tha­fod drŵg gantho yn blino 'r holl dref, ac weithiau 'r hol wlâd.

Ac y mae tafod drŵg yn blâ mor llygredig, fel y mae S. Paul yn gorchymmyn gwachelyd cwm­peini y fath ddynion, ac na wneler na bwytta nac yfed gyd â hwy. Ac er ei fod ef yn erchi i wraig Gristianogaidd nad ymadawo â'i gŵr, er ei fod ef [Page 182] yn anghredadwy, ac i was Christianogaidd nad ymadawo â'i feistr, er ei fod yn anghredadwy ac yn genedl-ddyn: ac er ei fod ef felly yn goddef i Gristiō gadw cymdeithas ag anghredadwy, etto mae efe yn gwahardd cadw cwmpeini gydâ 'r ymdaerwr a'r cwerylwr, ac na wneid na bwytta nac yfed gy­dag ef. Ac yn y chweched bennod o'r gyntaf at y Corinthiaid y mae efe yn dywedyd fel hyn, Na thwyller chwi, ni chaiff na godinebwyr, na delw­addolwyr, 1. Cor. 6. na lladron, na chablwyr neu ddifenwyr feddiannu teyrnas Dduw. Mae 'n rhaid bod y bai yn fawr, a baro i'r tâd ddietifeddu ei fâb naturiol. A pha fodd nad yw difenwi a chablu yn ddamne­diccaf pechod, ac yntef yn peri i Dduw ein truga­roccaf a'n carediccaf dâd ein difuddio ni o fendige­dig deyrnas nef.

Yn erbyn y pechod arall, yr hwn yw talu senn dros senn, y mae Christ ei hûn yn dywedyd, Yr y­dwyf yn dywedyd wrthych, na wrthwynebwch Matt. 5. 39 44. ddrŵg, ond cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi ac a'ch erlidiant; fel y byddoch blant i'ch tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, canys mae ef yn goddef i'w haul godi ar y drŵg a'r da, ac yn glawio ar y cy­fiawn a'r anghyfiawn. A 'r athrawiaeth ymma a ddyscodd Christ y cyttuna dysceidiaeth S. Paul, etholedig lestr Duw, yr hwn ni orphwys yn ein hannog, ac yn ein galw, gan ddywedyd, Bendithi­wch y rhai fy yn eich ymlid, bendithiwch, meddaf, ac na felldithiwch, na thelwch i neb ddrŵg am ddrŵg: os bydd possibl (hyd y mae ynochwi) by­ddwch Rom. 12. 14. 17. heddychlon â phob dŷn.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn ymryson.

FE ddangoswyd i chwi yn y bre­geth hon yn erbyn cynhennu ac ymryson, pa anghyfaddasrwydd sydd yn dyfod o hynny, yn enwe­dig pan fytho 'r ymryson yn tyfu ynghylch ffydd a chrefydd: a pha fodd nad oes diwedd ar ymryson ac anghyttundeb, pan nad ymroddo y naill i'r llall: a bod trwy hynny yn escauluso ac yn torri 'r vndeb y mae Duw yn ei ofyn gan Gristiano­gion: a bod yr ymryson hwn yn sefyll yn enwe­dig mewn dau beth, cwerylu yn danbaid, ac atte­bion atcas.

Yn awr chwi a gewch glywed geiriau S. Paul, yn dywedyd, Rai anwyl, nac ymddielwch, Rom. 12. 19. ond rhowch le i ddigofaint; canys scrifennedig yw, I mi y mae dial, ac mi a'i talaf, medd yr Ar­glwydd. Deut. 32. 35. Am hynny os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dod iddo ddiod. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga ddrygioni trwy ddaioni. Geiriau S. Paul ydyw yr holl eiriau hyn. Onid fe alle ond odid y dywed y rhai sy yn llawn o falchedd, ac na allant oddef vn gair garw, A geblir fi, ac a safaf fi fel gŵydd nen yn­fyd a'm bŷs i'm genau? A fyddaf fi cyn ynfytted ac mor wirionffol a goddef i bawb ddywedyd a fynno amdanafi, a'm cablu fel y mynno, a bwrw ei holl wenwyn arnaf? Onid gweddus atteb ta­fodau drŵg yn ôl eu geiriau? Os byddaf fi mor esmwyth ac mor llednais, mi a chwanegaf atcas­rwydd [Page 184] fy-ngwrthwynebwr, ac a annogaf eraill i wnenthur y cyffelyb.

Y fath resymmau y maenthwy yn eu gwneu­thur (y rhai ni allant oddef dim) er amddiffyn eu hanoddefgarwch. Ac etto pe byddai obaith trwy atteb atca▪s iniawni atcasrwydd y dŷn atcas, fe fyddai lai o fai ar y neb a rodde atteb atcas, ond iddo wneuthur hynny nid o lid a chenfigen, ond o fryd a bwriad ar iniawni'r atcas a'r cenfigennus. Ond y neb ni allo wellhau bai dŷn arall, neu na allo ei wellhau heb ei fai ei hunan, gwell yw my­ned vn i golledigaeth nâ dau.

Am hynny oni all ei lonyddu ef â geiriau tyner, na chanlyned mo hono â geiriau serth angharia­dus. Os gall ei lonyddu ef wrth oddef, godde­fed, ac onis gall, gwell yw goddef drŵg nâ gw­neuthur drŵg, gwell yw dywedyd da nâ dywedyd drŵg. O herwydd mae dywedyd da yn erbyn drwg yn dyfod o Yspryd Duw: ond mae talu drŵg ani ddrŵg yn dyfod o'r yspryd drŵg.

Nid yw 'r hwn ni allo dymmheru a llywodrae­thu ei anwydau ond gwan a dirym, tebyccah i wraig neu blentyn nag i ŵr crŷf. O herwydd gwir gadernid a gwroldeb yw gorchfygu llid, di­ystyru camwedd a ffolineb dynion eraill.

Hefyd fe a wybydd pawb pan welont ŵr yn di­ystyru y camwedd a wnêl ei elyn iddo, i'w elyn ef ddywcdyd neu wneuthur yr hyn a ddywad neu a wnaeth, yn ddiachos: ac yn y gwrthwyneb y mae 'r hwn a ddigio ac a ffrommo yn gwneuthur a­chos ei elyn yn well, ac yn rhoi achos i bawb i dy­bied fod y peth yn wir. Ac felly wrth fyned yng­hylch dial drwg, yr ydym yn dangos ein bod yn ddrygionus: ac wrth geisio cospi a dial ffolineb [Page 185] dŷn arall, yr ydym yn dyblu ac yn chwanegu ein ffolineb ein hunain.

Ond y mae gan y rhai gwrthgas lawer o Escuson i escuso. escusodion i escusodi eu hanoddefgarwch. Nid yw fyngelyn i (meddant hwy) deilwng i dderbyn geiriau neu weithredoedd tirion, ac yntef mor llawn o genfigen ac atcasrwydd. Po an-nheilyn­ga fyddo efe, bodlonaf fydd Duw i tithau, a mwy fydd y glôd a rydd Christ i ti, er mwyn yr hwn y dylit ti dalu da am ddrwg, am iddo orchymmyn i ti, a haeddu hefyd arnat ti wneuthur felly.

Fc ddigiodd dy gymmydog dydi ond odid ar air; cofia dithau fynyched a thrymmed mewn geiriau a gweithredoedd y digiaist di dy Arglwydd Dduw.

Pa beth oedd dŷn pan fu farw Christ drosto ef? Ond ei elyn ef ydoedd, ac an-nheilwng o'i ewy­llys da ef a'i drugaredd? Felly â pha dirionder a dioddefgarwch y mae efe yn goddef ac yn dwyn gydâ thydi, er dy fod ti beunydd yn ei ddigio ef? Maddeu dithau i'th gymmydog gamwedd by­chan, fel y maddeuo Christ i titheu filoedd o gam­weddau, gan dy fod di yn pechu beunydd. O her­wydd os dydi a faddeu i'th frawd y camweddau a wnaeth â thi, fc fydd hynny arwydd ac argoel di­ogel y maddau Duw i tithau, yr hwn y mae pawb yn ddyledwyr iddo, ac y mae pawb yn pechu yn ei erbyn.

Pa fodd y mynnit ti fod Duw yn drugarog wr­thit ti, os tydi a fyddi greulon wrth dy frawd? Oni chlywi di ar dy galon wneuthur i'th gydym­maith yr hyn a wnaeth Duw i ti, yr hwn nid wyt ond gwâs iddo? Oni ddyle y naill bechadur faddeu i'r llall, a Christ yr hwn nid oedd bechadur yn gweddio ar ei dâd dros y rhai yn ddidrugaredd, [Page 186] ac yn drahaus a'i dodasant ef i angau? Yr hwn pan ddirmygwyd ni ddirmygodd eilwaith, pan ddioddefodd yn gamweddus ni fygythiodd eithr 1. Pet. 2. 23. rhoddodd y dial ar y neb sy yn barnu yn gyfiawn: a pha beth a wnai di yn ymffrostio o'th ben, onid ymegnii ar fod yn y corph. Ni elli di fod yn aelod i Ghrist, oni chanlyni di ôl troed Christ: yr hwn (fel y dywed y Prophwyd) a arweniwyd fel oen Es. 53. 7. i'r lladdfa, fel dafad o flaē y rhai a'i cneifiai y tawe, ac nid agorai ei enau i gablu, ond i weddio tros y rhai a'i croeshoelient ef, gan ddywedyd, y Tâd, maddeu iddynt o herwydd ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.

Y siampl ymma, yn y man ar ôl Christ, a ganly­nodd Stephan, ac yn ei ôl yntef Paul, Pan y'n Luc. 23. Act. 7. 60. 1. Cor. 4. 12, 13. difenwer, medd ef, yr ydym yn bendithio, pan y'n herlidier yr ydym yn goddef, pan y'n ceblir yr y­dym yn gweddio. Fel hyn yr addyscodd Paul yr hyn a arferodd, ac yr arferodd yr hyn a addyscodd. Rom. 12. 14. Bendithiwch (medd ef) y rhai sy yn eich ymlid, bendithiwch, meddaf, ac na felldithiwch.

Ai peth mawr i ti ddywedyd yn dêg wrth dy wrthwynebwr, a Christ yn gorchymmyn i ti w­neuthur daioni iddo. Ni chablodd Dafydd pan ddifenwodd Simei ef, ond dywedyd yn oddefgar, [...]. Sam. 16. 12. Gedwch iddo, a melldithied, ond odid yr Ar­glwydd a ddyry i mi ddaioni am ei felldith ef.

Mae 'r historiau yn llawn o siamplau am rai o'r cenhedloedd anghredadwy, y rhai a gymmc­rasant yn esmwyth eiriau diystyr, trahaus, a gweithredoedd traws, camweddus.

Ac a gaiff y cenhedloedd anghredadwy hynny ein blaenori ni mewn goddefgarwch, y rhai ydym yn proffessu Christ, dyscawdwr a siampl pob di­oddefgarwch? [Page 187] Lysander pan ddifenwai vn ef a'i gablu, ni chyffroe ronyn, ond dywedyd, Cerdda, cerdda, dos a dywed yn fy erbyn gymmaint ac a fynnych, a chyn fynyched ac y mynnych, ac na âd ddim heb ddywedyd, os gelli di felly Arloesi. arllwys y pethau drŵg hynny allan o honot, o 'r rhai y mae yn debyg dy fod ti yn llawn: llawer a ddywe­dant yn ddrŵg ambawb, eisiau medru dywedyd yn dda am neb. Dyna 'r modd yr ymgadwodd y gwr doeth hwnnw rhag y geiriau trahaus a ddy­wedpwyd wrtho, gan wneuthur cyfrif eu bod hwy yn dyfod oddiwrth glefyd naturiol ei wrth­wynebwr.

Pericles pan y difenwodd rhyw gablwr ac ym­sennwr ef, nid attebodd ef vn gair, ond myned i ryw Dreiglfa. rodfa ddirgel: a thu â'r nôs wrth fyned ad­ref, yr ymsennwr hwnnw a'i canlynodd ef ac a'i difenwodd fwyfwy, wrth weled fod y llall yn ei ddiystyru: ac wedi ei ddyfod ef hyd at ei borth ef, a hi yn nos tywyll, Pericles a archodd i vn o'i weision oleu canwyll, a hebrwng yr ymsennwr adref i'w dŷ ei hûn. Ni oddefodd ef yn vnig yr ymdaerwr ymma yn esmwyth, ond hefyd talu da am ddrwg, a hynny i'w elyn.

Ond yw gywilydd i ni fy 'n proffessu Christ, fod yn waeth nâ 'r cenhedloedd anghredadwy, a hyn­ny mewn peth a berthyn at ffydd a chrefydd Grist? A annog philosophyddiaeth fwy arnynt hwy, nag a annog gair Duw arnom ni? A weithia rheswn naturiol fwy ynddynt hwy, nag a wna gwir greddyf ynom ni? A dywysa doethineb dŷn hwynt hwy i 'r peth nis gall yr athrawiaeth nefol ein tywys ni? Pa ddallineb, pa gyndynrwydd, apha ymfydrwydd yw hyn?

[Page 188] Pericles pan annogwyd ef i ddigofaint â llaw­er o eiriau chwerwon atcas, nid attebodd ef vn gair. Ond os cyffroir ni â'r gair lleiaf, pa fŷd a wnawn ni? Pa fodd y ffrommwn ni, y gwyll­tiwn ni, y ffustwn ni ein traed wrth y llawr, ac y rhythwn lygaid fel dynion ynfyd? Fe a wna llawer dŷn ddefnydd mawr o beth gwael dibris, ac o wreichionen y gair lleiaf y cynner tân mawr, pan gymmerer pob peth yn y rhan waethaf.

Ond pa faint gwell, a thebyccach i siampl ac athrawiaeth Christ, fyddai wneuthur o fai mawr yn ein cymmydog, fai bychan, gan ymresymmu ynom ein hunain fel hyn, Fe a ddywedodd y gei­riau hyn am danafi, ond yn ei lid a'i frydaniaeth y dywad ef hwynt, neu y ddiod a'u dywad hwynt ac nid efe, neu efe a'u dywad hwy wrth archiad vn arall, neu fe a'u dywad hwy eisieu gwybod y gwirionedd, neu fe a'u dywad hwy nid yn fy er­byn i, ond yn erbyn y cyfryw vn ac y tybiodd ef fy mod i.

Ond am ddywedyd drŵg, pwy bynnag sydd yn barod i ddywedyd drwg am eraill, holed ef ei hu­nan yn gyntaf, beth yw ef ai bod yn ddifai ac yn lân oddiwrth y bai y mae efe yn ei weled mewn dŷn arall, ai nad yw. O herwydd mae 'n gywi­lydd i ddŷn feio ar arall, a bod yn euog o 'r vn bai ei hun, neu o fai a fytho mwy. Mae 'n gywilydd i ddŷn dall alw dŷn arall yn ddall, a mwy cywi­lydd i vn a fô cwbl ddall alw y coegddall yn lly­gatgam: Canys hyn yw gweled brycheuyn yn llygad arall, ac heb weled y trawst yn ei lygad ei hun.

Ystyried hefyd am y neb a arfero ddywedyd drwg, y dywedir fynychaf ddrŵg am dano yntef.

[Page 189] Yneb a ddywetto yr hyn a fynno, er ei foddlo­ni ei hunan, a gaiff glywed yr hyn ni fynnai, er ei anfoddloni.

Cofied hefyd yr ymadrodd ymma, Y gorfydd Mat. 12. 36. arnom roddi cyfrif am bob gair ofer. Pa fodd gan hynny na orfydd arnom roddi cyfrif o'n gei­riau llymmion, chwerwon, cynnhennus, y rhai a gyffroant ein brawd i ddigllonedd a thor-cari­ad? Ac am attebion atcas, er maint y'n cyffroer ni trwy ddrŵg eiriau rhai eraill, etto ni ddylêm ni ganlyn eu hafrywiogrwydd hwynt drwy ddrŵg attebion, os nyni a ystyriwn mai mâth ar ynfydrwydd a gwallgof yw digllonedd, a bod yr hwn sy ddig, tros hynny o amser allan o'i bwyll. Am hynny gwacheled rhag iddo ddywedyd yn ei ymfydrwydd, y peth a orfydd arno ar ôl hynny e­difaru am dano.

A'r neb a ymddiffynno nad yw digllonedd yn ynfydrwydd, ond bod gantho reswm pan fytho diccaf, ymresymmed ag ef ei hun pan fytho dig: yr ydwyfi yn awr wedi fy-nghyffroi a'm digio, mi a fyddaf yn y man o feddwl arall: pa ham gan hynny y dywedaf yn awr yn fy-niglonedd y peth ar ôl hyn, er i mi ewyllysio, ni allaf ei newid? Paham y gwnaf sinnau ddim yn awr, a minnau allan o'm côf, am yr hyn pan ddelwyf eilwaith attaf fy hûn, y byddaf trwm a thrist? Pa ham na ddichon rheswm, paham na ddichon duwiol­deb, pa ham na ddichon Christ ei hunan gael hyn­ny yn awr ar fy llaw i, yr hyn o 'r diwedd a gaiff amser gennif?

Os gelwir vn yn odinebwr, yn occrwr, yn fe­ddwyn, neu ar enw cywilyddus arall, ystyried yn ddifrif pa vn yw hynny ai gwir ai celwydd: os [Page 190] gwir, gwellhaed ei feiau, fel na allo ei wrthwy­nebwr gael achosion ar ôl hynny i Edliw. ddannod iddo y fath feiau: os ar gam y dywedir hynny arno, ystyried pa vn a wnaeth ef ai rhoddi achosion i dy­bied y fath bethau am dano, ai nas rhoddes: ac felly y gall dorri ymmaith y dyb. dybygaeth honno, o'r hon y mae 'r Sclawndr. enllib ymma yn tyfu, a byw yn ddiesceu­lusach. wageloccah mewn pethau eraill.

Ac wrth ein harfer ein hunain yn y modd hyn, ni allwn ni gaeleniwed yn y byd, ond yn hytrach lles mawr oddiwrth geryddau ac Sclawndy­rau. enllibiau ein gelyn. O herwydd fe ddichon trahausdra gelyn fod yn llymmach yspardun i'n cymmell ni i we­llhau ein bywyd, nâ rhybyddiau tyner ein care­digion.

Philip brenhin Macedonia, pan geblid ef gan bennaduriaid dinas Athen, a ddiolchodd iddynt yn fawr, am ddarfod ei wellhau ef oddiwrthynt yn ei eiriau a'i weithredoedd: o herwydd yr ydwyf yn myfyrio, eb efe, yn fy-ngeiriau a'm gweithre­doedd, ar ei gwneuthur hwy yn gelwyddog.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn ymryson.

CHwi a glywsoch yn y rhan ddiwe­thaf o'r bregeth yn erbyn cynnen ac ac ymryson, pa fodd y gallwn atteb i'r rhai sy yn ymddiffyn eu geiriau afrywiog mewn ymry­son, ac a ddialant â geiriau y drŵg a wnelo eraill iddynt: ac yn ddi­wethaf, pa fodd y mae i ni yn ôl ewyllys Duw ein trefnu ein hunain a pha beth sy raid i ni ei ystyried [Page 191] tuag attynt hwythau, pan y'n cyffroer â geiriau tanbaid i gynnen ac ymryson.

Yn awr, i fyned ym-mlaen yn yr vn peth, chwi a gewch wybod y ffordd i orfod ac i orchfygu eich gwrthwynebwr a'ch gelyn. Dymma'r ffordd o­rau i ddŷn i orfod ei wrthwynebwr, byw felly, fel y tystiolaetho pawb ac sydd yn adnabod ei hone­strwydd ef, fod yn ei Sclawndyre. enllibio ef yn ddiachos. Os bydd y bai a haerir arno, o'r fath ac y bô rhaid iddo atteb, er mwyn ymddiffyn ei honestrwydd, atte­bed yn esmwyth ac yn Araf. arafaidd, yn y modd ym­ma, fod yn haeru y beiau hynny arno ef yn gam­weddus.

O herwydd gwir yw yr hyn a ddywaid y gwr doeth, Atteb araf a ddettrŷ lid, ond gair garw a Dihar. 15. 1. gyffry ddigofaint. Atteb afrywiog Nabal a gy­ffrôdd 1. Sam. 25. 13. Ddafydd i ddial creulon, ond geiriau tyner Abigail a ddiffoddodd y tân eilwaith, oedd o'r blaen yn fflammychu yn anial.

Ac nid oes Rhwymedi. cyferbyn well yn erbyn tafodau drŵg, na 'n harfogi ein hunain a goddefgarwch, llaryaidd-dra a distawrwydd, rhag wrth amlhau geiriau a'n gelyn, ein gwneuthur ni mor ddrŵg ac yntef.

Ond fe alle y gosode y rhai ni allant oddef vn gair drŵg, yn lle escus drostynt eu hunain, yr hyn sydd scrifennedig, Yr hwn a esceuluso ei enw Diarh. 26. 5. da sydd greulon. Ac eilwaith, Atteb yr ynfyd fel yr haeddo ei ynfydrwydd. Ac er i'n Iachaw­dwr Christ am ryw bethau a ddywedid am da­no, dewi a sôn: etto fe a attebodd rai yn ddifrif. Fe a glywodd rai yn ei alw yn Samaritan, yn fab y saer, yn gyfeddachwr gwin, ac nid attebodd ddim: ond pan glywodd ef bwynt yn dywedyd, [Page 192] mae cythraul gennitti, fe a attebodd yn ddifrif. Ioan. 7. 20.

Gwir yw fod amfer i atteb yr ynfyd yn ôl ei yn­fydrwydd, rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun: ac weithiau nid yw iawn atteb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd, rhac myned o'r doeth yn gyffe­lyb i'r ynfyd.

Pan fo'r cywilydd a'r syrhâd a wnaer â ni yn gyssylltedig â pherigl i lawer o ddynion, yna anghenrhaid yw bod yn ebrwydd ac yn barod i atteb. O herwydd yr ydym yn darllen i lawer o wŷr duwiol mewn zêl dda, wrtheb ac atteb tyran­niaid creulō a gwyr drw▪g, yn danbaid ac yn chwe­rw. Etto nid oedd y geiriau llymion hyn yn dy­fod o ddigofaint, llid, censigen a chwant ymddial, ond o wir chwant i'w dwyn hwy i adnabod gwi­rionedd Duw, ac i'w tynnu oddiwrth eu hannu­wiol fywyd, trwy geryddfa ac argyoeddfa ddifri lemdost.

Yn y zêl hon y galwodd Ioan fedyddiwr y Pha­risaeaid Matt. 3. 7. yn genhedlaeth gwiberod, ac y galwodd S. Pauly Galathiaid yn angall, a'r Cretiaid yn Gal. 3. 1. gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddiog: ac y galwodd ef y gau-apostolion yn gŵn, ac yn Tit. 1. 12. ddrwgweithredwyr. Phil. 3. 2.

Ac y mae ei zêl ef yn dduwiol, yn ddiargyoedd, ac wedi ei phrofi yn eglur wrth siampl Christ, yr hwn er ei fod ef yn ffrŵd ac yn ffynnon pob llary­eidd-dra, tynerwch ac arafwch, etto fe a alwodd y Pharisaeaid a'r Scrifennyddion gwrthnyssig yn Matt. 23. 11. V. 24. v. 27. dywysogion deillion, yn feddau gwedy eu gwyn­galchu, yn hypocritiaid, yn seirph, yn hiliogaeth gwiberod, yn genhedlaeth felldigedig ddrŵg. He­fyd fe a geryddodd Petr yn dost, gan ddywedyd, Matt. 16. 23. Dôs yn fy ôl Sathan.

[Page 193] Y mae S. Paul hefyd yn ceryddu Elymas y swynwr, gan ddywedyd, Oh vn llawn o bob di­chell, Act. 13. 10. a phob drygwaith, mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, yr hwn ni pheidi â gŵyro iniawn ffyrdd yr Arglwydd, yn awr wele mae llaw 'r Ar­glwydd arnat, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser.

Ac mae S. Petr yn argyoeddi Ananias yn ga­led iawn, gan ddywedyd, Ananias, paham y llan­wodd Act. 5. 3. Sathan dy galon, i beri i ti ddywedyd cel­wydd wrth yr Yspryd glân.

Fe fu y zêl hon mor wresog mewn llawer o wŷr da, hyd oni chyffrôdd hi hwynt nid yn vnig i ddy­wedyd geiriau llymdost, chwerwon; ond i wneu­thur llawer o bethau hefyd, a dybyge rai eu bod yn greulon, ond mewn gwirionedd ydynt yn gyfi­awn, yn gariadus ac yn dduwiol: am na wnaeth­pwyd hwynt o lid, o genfigen neu chwant ymry­son, ond o feddwl gwresog i ogoneddu Duw a chospi pechod, gan y rhai a alwyd i'r swydd honno.

O herwydd y zêl hon yr ymlidiodd ein Iachaw­dwr Ioan. 2. 14. Christ â fflangell neu chwip, y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml. O herwydd y zêl hon y torrodd Moses y ddwy lêch a dderbyniasai ef gan yr Arglwydd, pan welodd ef blant yr Israel Exo 32. [...]9. Vers. 28. yn dawnsio ger bron y llo, fe a'i torrodd ef yn ddry­lliau ac a barodd ladd o'i bobl ei hū dair mil o wyr. Nid ydyw y fi am [...] ond i' [...] rh [...]i a [...] ­sodwyd mewn swydd ac aw [...] ­dod. Yn y zêl hon y gwanodd Phinees mab Eleazar, â' gwaywffon trwyddynt Zimri a Chosbi, pan ddaliodd hwynt mewn godineb.

I ddychwelyd gan hynny at eiriau ymryson­gar, Num. 25. 8. yn enwedig ynghylch ffydd a chrefydd, a gair Duw (yr hwn a ddylid ei arfer mewn lledneisrw­ydd, sobredd a diweirdeb) fe a ddylid synneid yn [Page 194] dda ar eiriau S. Iaco, a'u cofio, lle mae fe yn dy­wedyd mai o ymryson y tŷf pob drygioni. A'r bren­hin Iac. 3. 16. doeth Salomon a ddywaid hefyd, Anrhydedd yw i wr beidio ag ymryson, ond pob ffol a fyn ym­myrraeth. Diarh. 20. 3.

Ac o herwydd bod y bai hwn yn ddrwg ar les pob cyfeillach a chyffredinwolrwydd, yr ydys ym­mhob dinas hydrefn yn cospi cyffredin ymsen­wyr ac ymdaeriaid â rhyw gospedigaeth gy­hoedd, megis trwy eu gosod ar stôl-drochi, ar y pilwri ueu 'r cyfrw.

Ac ni haeddant hwy fyw mewn gwlâd, y rhai, hyd y gallant, sydd trwy ymsennu ac ymryson, yn aflonyddu heddwch a thangnheddyf y wlâd. Ac o ba le y daw y cynhennau, yr ymrysonau, a'r anghyfundebau ymma, ond o falchedd a gwâg-o­goniant. Ymostyngwn gan hynny, tan alluog 1. Pet. 5. 6. law Dduw, yr hwn a addawodd edrych ar ostyn­geiddrwydd y rhai o yspryd isel. Osydym ni Gri­stianogion Luc. 1. 48. llonydd, da, ymddangosed hynny yn ein geiriau a'n tafodau.

Os ymwrthodasom ni â diafol, nac arferwn mwy dafodau dieflig. Yr hwn a fu ymsennwr ac ymdaerwr, bydded bellach gynghorwr araf. Yr hwn a fu enllibiwr cenfigennus, bydded bellach ddiddanudd cariadus. Yr hwn a fu wâg-ymsen­nwr, bydded bellach athro ysprydol. Yr hwn a gamarferodd ei dafod yn melldithio, bellach iawn­arfered ef yn bendithio. Yr hwn a gamarferodd ei dafod yn dywedyd drŵg, bellach iawnarfered ef yn dywedyd daioni.

Bwriwch ymmaith oddiwrthych bob llid, ym­ryson a chabledd. Os gellwch ac os bydd possibl, na ddigiwch mewn modd yn y bŷd. Ond os chwi [Page 195] ni ellwch fod yn ddiangol oddiwrth y gwyniau hyn, etto tymmherwch a ffrwynwch hwy fel na allont eich cyffroi i ymryson ac ymsennu. Os cy­ffroir chwi â drŵg eiriau, ymarfogwch â dioddef­garwch, tiriondeb a distawrwydd, naill ai trwy fod heb ddywedyd dim, ai trwy fod yn arafaidd, yn llaryaidd, ac yn fwynaidd wrth atteb.

Gorchfyga dy wrthwynebwr â chymmwyna­sau ac â thiriondeb. Ac vwch law pob peth ce­dwch vndeb a thangnheddyf: ac na fyddwch dor­wyr heddwch ond gwneuthurwyr heddwch. Ac yno yn ddiammau fe a ganiattâ awdur pob didda­nwch a heddwch, i ni heddwch cydwybod, a'r fath gydgordiad a chyttundeb, megis ag vn genau ac vn meddwl y gogoneddom Dduw Tâd ein harglwydd Iesu Ghrist, i'r hwn y byddo pob gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

¶ Yr ail rhan o Lyfr yr Ho­miliau neu'r Pregethau.

¶ Pregeth am iawn arfer eglwys neu deml Dduw a'r parch sydd ddyledus iddi.

MAe 'n ymddangos llaw­er iawn o bobl yn yr amser hyn escaelusrw­ydd a gwall mawr am fyned i'r eglwys i wa­sanaethu Duw eu tad nefol yno, yn ol eu rhwymediccaf ddyly­ed: ac hefyd ymddygi­ad anweddaidd ano­styngedig llawer o ddynion yn yr amser y byddont gwedy ymgynull: ac am y dichon yn gyfi­awn gyfodi ofn digofaint Duw a'i Arswydus erchyll. echrydus blaau sydd vwch ein pennau am ein beiau trym­mion yn hyn o beth, ymhlith llawer a mawr be­chodau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur bob dydd a phob awr ger bron yr Arglwydd.

[Page 2] Am hynny er mwyn cyflawni dlyed ein cydwy­bodau, a diangc oddiwrth yr Perigl. enbeidrwydd, cy­fredinol a'r plaau sydd vwch ein pennau, ystyriwn pa beth a ellir i ddywedyd allan o sanctaidd lyfr Duw am hyn o beth.

Ar yr hyn beth y deisyfaf arnoch wrando 'n ddiescaelus, am ei fod yn beth pwysig ac yn per­thyn i chwi oll. Er na ellir cynwys tragwyddol ac anymgyffred fawrhydi Duw, Arglwydd nef a dayar, yr hwn y mae ei orseddfaingc yn y nef, a'r ddaear yn faingc i'w draed, mewn temlau neu dai a wnaer â dwylo, megis mewn trigfau a allant dderbyn neu gynnwys ei fawrhydi ef, me­gis y dangoswyd yn eglur trwy y Prophwyd E­saias, a thrwy athrawaeth S. Stephan a S. Esal. 66. 1. Act. 7 48. Pawl yngweithredoedd yr Apostolion. Ac lle mae y brenhin Salomon yr hwn a adailadodd i'r Ar­glwydd y deml brydferthaf ac a fu er ioed, yn dy­wedyd, Pwy a all adail ty addas teilwng iddo ef? Act. 17. 24. Os y nefoedd a nefoedd y nefoedd ni chynhwy­sant ef, llai o lawer y ty yr hwn a adeiledais i? Ac mae fe yn cyfaddef etto ym-mhellach, Pa beth 1. Bren. 8. 27. 2. Cro. 2. 6. ydwyfi fal y gallwn adailadu ty itio Arglwydd? Ond etto er mwyn hyn y gwneuthpwyd ef, iti wrando gweddi a gostyngeiddiaf ddeisyfiad dy was.

Pellach o lawer ydyw ein eglwysi ni oddiwrth fod yn drigfau addas i dderbyn anfesurol fawr­hydi Duw.

Ac yn wir godidawgaf ac yspysawl demlau Duw, yn y rhai y mae fe yn ymhoffi fwyaf, ac yn chwennych trigo ac aros ynddynt, yw cyrph a meddyliau gwir Gristionogion a dewisol bobl Dduw, yn ol athrawaeth y sanctaidd Scrythur, [Page 3] addangostr yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid. Oni wyddoch, medd yr Apostol, mai teml Dduw 1. Cor. 3. 16, 17 ydych, a bod Yspryd Duw yn aros ynoch? Os llygra neb deml Dduw Duw a lygra hwnnw, canys sanctaidd yw teml Dduw, yr hon ydych chwi. Ac ailwaith yn yr vn Epistol, Oni wyddoch 1. Cor. 6. 19. chwi fod eich cyrph yn deml i'r Yspryd glan y­noch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddochwi eich hunain, canys er gwerth y prynwyd chwi, gan hynny gogone­ddwch Dduw yn eich corph ac yn eich yspryd y rhai ydynt eiddo Duw.

Ac am hynny fal y dywaid ein Iachawdwr Christ yn Efengyl S. Ioan, Maent hwy yn a­ddoli Duw Dad yn inion, y rhai a'i addolant ef mewn Yspryd a gwirionedd pa le bynnac y gw­nelont hynny. O herwydd y fath addolwyr y mae Duw Dad yn edrych am danynt. Duw sydd Y­spryd Ioan. 4. 24. a'r sawl a'i haddolant ef rhaid yw iddynt ei addoli ef mewn Yspryd a gwirionedd, medd ein Iachawdwr Christ.

Etto er hyn mae 'r eglwys neu 'r deml ddefny­ddiol yn lle gwedy ei osod a'i appwyntio wrth ar­fer a siamplau gwastadol yr hên Destament a'r newydd, i bobl Dduw i ymgynull iddo, i wran­do sanctaidd air Duw, i alw ar ei sanctaidd enw ef, i roi diolch iddo am ei aneirif a'i an-nhrae­thawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, ac yn ddy­ledus ac yn gywir i wasanaethu ei sanctaidd Sa­cramentau ef, wrth wneuthur a chyflawni yr hyn bethau y saif gwir ac iniawn addoliad Duw, a soniasom o'r blaen am dano. A'r eglwys neu 'r deml hon a elwir yn scrythyrau yr hên Destament a'r Testament newydd yn dŷ neu deml yr Ar­glwydd, [Page 4] o herwydd yr enwedigawl wasanaeth a wna ei bobl i'w fawrhydi ef yno, a ffrwythlon bresenolder ei nefol ras ef, â'r hwn trwy ei sanc­taidd air y cynyscaedda ef ei bobl a fyddont gwedy ymgynull yno.

Ac i'r tŷ a'r deml Dduw hynny y mae pawb o'r gwir dduwiolion yn rhwymedig i ddyfod bob amser yn ddyfal, trwy gyffredinol drefn, oni rwy­strir hwy trwy glefyd neu ryw achos anghenrhei­diol arall. Ac fe ddlyei bawb ac a arferant o ddy­fod yno, ymddwyn yn llonydd ac yn ostyngedig, gan wneuthur eu rhwymedig ddlyed a'u gwasa­naeth i'r holl-alluog Dduw ynghynnulleidfa ei saint.

Yr holl bethau hyn a ellir eu prosi yn eglur trwy sanctaidd air Duw, fal yr agorir yn oleu ar ol hyn. Ac mi a ddangosaf wrth yr scrythurau fod yn ei alw ef (fal y mae fe yn wir) yn dŷ Dduw, ac yn deml yr Arglwydd. Pwy bynnag a dyngo Ioan. 18. 10. i'r deml sydd yn tyngu iddi ac i'r hwn sydd yn pres­wylio ynddi, hynny yw Duw Dad: yr hyn y mae Matth. 23. 21. fe yn ei ddangos yn eglur yn Efengyl S. Ioan, Ioan. 2. 16. gan ddywedyd, na wnewch dŷ fy-nhad yn dŷ mar­chnad. Ac mae'r Prophwyd Dafydd yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Minnau a ddauaf i'th dŷ di Psal. 5. 7. yn amlder dy drugaredd ac a addolaf tu a'th deml sanctaidd yn dy ofn di. Ac fe a elwir mewn anei­rif fannau o'r Scrythur lân yn dŷ Dduw neu dŷ yr Arglwydd, yn enwedig yn y Prophwydi a llyfr y Psalmau. Weithiau y gelwir yn babell yr Ar­glwydd, Psal. 132. 7. weithiau yn gyssegrfa, hynny yw tŷ neu fangre sanctaidd yr Arglwydd. Ac hi a elwir he­fyd Exod. 7. Leu. 19. 30. 1. Bren. 8. 63. yn dŷ gweddi, megis y geilw Salomon hi, yr hwn a adailadodd deml Dduw yn Ierusalem, yn [Page 5] dŷ yr Arglwydd yn yr hwn y gelwid ar enw'r Ar­glwydd. Ac Esaias yn yr 56. bennod, fy-nhŷ fi a el­wir Esai. 56. 7. yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd. Yr hwn dert y mae 'n Iachawdwr Christ yn son am dano yn y Testament newydd fal y mae 'n eglur yn-nhri o'r Math. 21. 13. Marc. 11. 17. Luc. 19. 46. efangylwyr, ac yn-nammeg y Pharisei a'r Pub­lican a aethant i weddio, yn yr hon ddammeg mae 'n Iachawdwr Christ yn dywedyd eu myned hwy Luc. 18. 10. i'r deml i weddio. Ac fe wasanaethai Anna y we­ddw a'r Brophwydes sanctaidd honno yr Ar­glwydd Luc. 2. 37. yn y deml, mewn ympryd a gweddi nos adydd. Ac yr ydys yn stori yr Actau yn son fyned Petr ac Ioan i fynu i'r deml ar yr awr weddi. Ac Act. 3. 1. fel yr ydoedd S. Paul yn y deml yn Ierusalem yn gweddio fe gymmerwyd i fynu yn yr yspryd ac Act. 22. 18. fe a welodd Iesu yn dywedyd wrtho.

Ac megis ym-mhob lle addas y gall y duwiol arfer gweddi ddirgel nailltuol: felly diammau yw mai 'r Eglwys yw 'r lle dyledus gosodedig i weddi gyhoedd gyffredinol. Ac bellach mai hwn yw 'r lle i roddi diolch i'r Arglwydd am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau a rôdd ef ini, mae 'n eglur ddigon yn-niwedd Efengyl S. Luc, ac yn­nechrau Luc. 14. 53. Act. 2. 46. stori 'r Actau, lle mae 'n scrifennedig, Yn ol escynniad yr Arglwydd, barhau o'r Aposto­lion a'r Discyblon yn gytun beunydd yn y deml, gan glodfori a bendithio Duw yn wastad.

Ac fe fanegir hefyd yn yr Epistol cyntaf at y Co­rinthiaid mai 'r eglwys yw 'r lle gosodedig i arfer 1. Cor. 11. 18, 22. y Sacraméntau. Mae bellach yn rhaid ini ddan­gos mai 'r Eglwys, neu 'r deml yw 'r lle y dylyid darllen a dyscu bywiol air Duw, ac nid dychym­mygion dynion, a bod y bobl yn rhwymedig i ddy­fod yno yn ddiescaelus, a ellir ei brofi wrth yr [Page 6] Scrythyrau fal y dangosir ar ol hyn. Yr ydyin yn darllen yn histori Actau 'r Apostolion i Pawl a Barnabas bregethu gair Duw yn-nhemlau 'r Iddewon yn Salamis. A phan ddaethant i An­tiochia hwy a aethant i mewn i'r Synagog neu 'r Eglwys ar y dydd Sabaoth, ac a eisteddasant: ac Act. 13. 14. yn ol llith o'r ddeddf a'r prophwydi, rheolwyr y Synagog a anfonasont attynt gan ddywedyd, hawyr frodyr, os oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch. Yna Pawl a gyfododd i fynu a chan amneidio â'i law am osteg a ddywedodd, O wyr o Israel a'r sawl sydd yn ofni Duw, gw­randewch. Ac felly fe a bregethodd bregeth o'r Scrythyrau iddynt, megis y dangosir yn halaeth yno.

Ac yn y ddwyfed bennod ar bymtheg o'r vn hi­stori y tystiolaethir pa fodd y pregethodd Pawl Christ allan o'r Scrythur yn Thessalonica. Ac yn Act. 17. 22. Act. 15. 21. y 15. bennod y dywaid Iaco 'r Apostol yn y Cyngor a'r gynnulleidfa sāctaidd o'i gyd-apostolion, mae i Moeses ym-mhob dinas er yr hên amseroedd rai a'i pregethant ef yn y Synagogau a'r eglwysydd, lle darllenir ef bob Sabaoth.

Fal hyn y gwelwch wrth y lleoedd hyn, arfer darllein 'r hên destament ymmhlith yr Iddewon yn eu synagogau bob dydd Sabaoth, ac y gwnaid pregethau yn arferedig ar y dydd hwnnw.

Pa faint cymhesurach gan hynny yw darllen ac agoryd Scrythyrau Duw ac yn enwedig efen­gylein Iachawdwr Christ ini sydd Gristionogion, yn ein eglwysydd, yn hytrach am fod ein Iachaw­dwr Christ a'i Apostolion yn foddlon i'r arfer dduwiolaf anghenrheitiaf honno, ac yn ei cha­darnhau hi trwy eu samplau eu hunain?

[Page 7] Mae 'n scrifennedig mewn llawer lle o histori▪ au 'r Mat. 4. 23. Mar. 1. 14. Luc. 4. 14. Math. 12. 9. 20. v. 9. Mar. 6. 2. Luc. 13. 10. efengyl i'r Iesu fyned o amgylch holl Gali­laea a dyscy yn eu Synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas. Yn yr hyn leoedd y gosodir allan yn oleu ei fawr ddiwydrwydd ef yn gwasta­dol bregethu a dyscu y bobl.

Yr ydych yn darllen yn S. Luc ddyfod o'r Iesu Luc. 4. 6. Luc. 19. 47. i'r deml yn ol ei arfer, pa fodd y rhodd wyd iddo lyfr y Prophwyd Esaias, pa fodd y darllenodd ef dext ynddo ac y gwnaeth ar hwnnw bregeth. Ac yn y 19. bennod y dangosir ei fod ef yn dyscu beu­nydd yn y deml. Ac yn yr 8. o Ioan y dywedir ddy­fod Ioan. 8. 2. o'r Iesu yn forau i'r deml a dyfod o'r holl bobl atto es ac iddo yntef eistedd a'u dyscu hwy. Ac yn y 18. o Efengyl Ioan mae Christ yn testiolaethu Ioan. 18. 10. gerbron yr arch-offeiriaid iddo ef ddywedyd ar gy­hoedd wrth y byd, a'i fod ef yn athrawiaethu yn wastadol yn y Synagog ac yn y deml, lle y cyrchai yr holl Iddewon, ac na ddywedodd ef ddim yn guddiedig. Ac yn S. Luc yr Iesu a ddyscodd yn y Luc. 21. 37, 38. deml a'r holl bobl a ddauent y borau atto ef i'w glyweb yn y deml.

Ymma y gwelwch ddiwydrwydd ein Iachaw­dwr yn dyscu gair Duw yn y deml beunydd, yn en wedig ar y dyddiau Sabaoth, apharodrwydd y bobl hefyd yn dyfod ynghyd, a hynny yn forau ddydd i'r deml i wrando arno.

Yr vn fath siampl o ddiwydrwydd yn pregethu gair Duw yn y deml a gewch chwi yn yr Aposto­lion, a'r bobl yn dyfod attynt Act. 5. A'r Aposto­lion Act. 5. v. 21. er darfod eu chwippo a'u fflangellu hwy y dydd o'r blaen, ac er darfod i'r Archoffeiriaid or­chymmyn iddynt na phregethent in wy yn enw 'r Iesu, etto hwy a ddaethant drannoeth yn forau [Page 8] i'r deml, ac ni phaidiasan a dyscu a chyhoeddi Iesu Act. 13. 26. 18. a'r 15. 35. a'r 17. 3. Grist. Ac mewn llawer o leoedd eraill o histori 'r Actau y cewch yr vn fath ddiwydrwydd yn yr Apo­stolion i ddyscu ac yn y bobl i ddyfod i'r deml i wrando gair Duw. Ac fe a destiolaethir yn y ben­nod gyntaf o Luc pan ydoedd Zachari y sanctaidd offeiriad a thâd Ioan fedyddiwr yn aberthu o fewn y deml, fod yr holl bobl yn sefyll oddiallan yn gweddio dros hir amser. Cyfryw ydoedd eu gwrês hwy a'u zêl yr amser hynny. Ac yn yrail o Luc y dangosir pa daithiau a siwrneiau a gymmerai Luc. 1. 10. gwyr, gwragedd a phlant i ddyfod i'r deml i wasa­nauthu 'r Arglwydd yno ar yr wyl: ond yn enwe­dig siampl Ioseph a'r fendigaid forwyn fair mam ein Iachawdwr Iesu Grist, a siampl ein Iachaw­dwr Christ ei hunan ac ef etto 'n blentyn, siamplau y rhai sydd wiw ini eu canlyn; Megis, pe cyffely­bem ni ein escaelusrwydd i ddyfod i dŷ yr Arglw­ydd i'w wasanaethu ef yno, a diescaelusrwydd yr Iddewon y rhai a ddoent bennydd yn forau iawn Luc. 2. 42. i'r deml, weithiau trwy deithiau hirion, a phan na weddai y lliaws yn y deml, fe ddangosir y zêl wres­sog oedd yndynt wrth eu gwaith yn hir aros allan i weddio. Ni a allwn yn gyfiawn yn y gyffelyba­eth hon ddamnio 'n diogi a'n escaelusder, ie a'n di­ystyrwch goleu yn dyfod i dy yr Arglwydd mor anfynych, ac yntef cyn nesed attom, ie a phrin dy­fod iddo vn amser.

Mor bell yw llawer o honom ni oddiwrth ddy­fod yn forau ddydd, neu hir aros oddiallan, ac y diystyrwn ddyfod oddifewn i'r deml. Ac etto cas gennym glywed enw 'r Iddewon megis pobl ddrwg annuwiol. Ond yr wyfi yn ofni yn hyn o beth ein bod ni yn waeth o lawer nâ 'r Iddewon, [Page 9] ac y cyfodant hwy ddydd y farn i'n damnedigaeth ni, y rhai os cyffelybir ni iddynt, ydym yn dangos y fath ddiogi a dibrisrwydd am ddyfod i dŷ yr Ar­glwydd i'w wasanaethu ef yno yn ol ein rhwyme­dig ddlyed.

Ac heblaw Erchyll. echrydus ofn barn Duw yn y dydd diwethaf, ni ddiangwn ni yn y bywyd hwn rhag ei law drom a'i ddial ef, am ddibriso a diystyru tŷ yr Arglwydd, a'i ddyledus wasanaeth ef yntho, me­gis y mae 'r Arglwydd ei hunan yn bygwth yn y bennod gyntaf o brophwydoliaeth Aggeus yn y Aggeus 1. 9. 10. modd hyn, Am fod, medd ef, fy-nhŷ i yn anghyfan­nedd a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun: am hynny y gwaharddwyd i'r nefoedd wlitho ar­noch, ac y gwaharddwyd i'r ddaear ddwyn ffrw­yth: gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd ac ar yr ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew ac ar yr hyn a ddŵg y ddaear allan, ar ddŷn hefyd ac ar amfail, ac ar holl lafur dwylo dŷn.

Mele, os byddwn ni mor fydol ac nad gwaeth gennym am dragwyddol farnedigaethau Duw, y rhai etto ydynt Erchyllaf. echrydusaf ac arswydusaf oll, ni ddiangwn ni rhag cospedigaeth Duw yn y byd hwn trwy sychder a newyn, a thrwy dynnu oddi­wrthym bob budd a dawn bydol, am y rhai yr y­dym ni megis gwŷr bydol yn gofalu ac yn pryderu fwyaf.

Ond o'r gwrthwyneb pe gwellaem ni y bai, yr escaelusdra, y diogi, a'r diystyrwch ymma ar dŷ yr Arglwydd a'i ddyledus wasanaeth ef yno, ac yn ddiwyd ymarfer o ddyfod ynghŷd yno i wasana­ethu 'r Arglwydd yn vn ac yn gyttun, mewn sanc­teiddr wydd a chyfiawnder ger ei fron ef, mae ini addewidion o ddonian nefol a bydol.

[Page 10] Pa le bynnag, medd ein Iachawdwr, y bytho dau neu dri gwedy ymgynull ynghyd yn fy enw fi Matth. 18. 20. myfi a fyddaf yn ei mysc hwy. Pa beth a ddichō bod mor fendigaid a chael ein Iachawdwr Christ i'n mysc? a pha beth a ddichon bod mor annedwydd ac mor eniweidiol a gyrru ein Iachawdwr Christ o'n mysc, a chynnwys lle i'n hên angheuol elyn ni ac yntef, yr hên ddraig, y sarph sathan diawl, yn ein plith.

Mae yn scrifennedig yn yr ail o Luc gwedi i Luc. 20. 46. fair fam Christ ac i Ioseph ei ymofyn ef yn hir, a phan na fedrent ei gael ef yn vn lle, hyd oni thybi­ent ei golli ef, y modd yn y diwedd y cawsant ef yn y deml yn eistedd ym-mŷsc y doctoriaid.

Felly os bydd arnom eisiau Christ Iesu yr hwn yw Iachawdwr ein heneidiau a'n cyrph, ni chy­farfyddwn ddim ag ef yn y farchnad, neu yn y dad­leudy, llai o lawer yn y dafarn ym-mhlith cwmp­niwyr neu gyfeillion da (fal y gelwir hwy) mor Fuan. ebrwydd ac y cyhyrddwn ag ef yn y deml yn-nhŷ yr Arglwydd, ym-mŷsg dyscawdwyr a phregeth­wyr ei air, lle mae ef i'w gael yn ddiau.

Ac am ddoniau bydol mae gennym addewid ein Iawchawdwr Christ, Ceifiwch, medd ef, yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder a'r holl be­thau Matth. 6. 33. byn a roddir i chwi yn ychwaneg.

Fal hyn y dangosasom trwy air Duw yn y rhan gyntaf o'r traethawd ymma mai tŷ yr Arglwydd y dyw'r deml neu'r Eglwys, am fod yn arfer yno o wasanaethu Duw, sef gwrando a dyscu ei san­taidd air ef, galw ar ei santaidd enw ef, a rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif drugaredd, a mi­nistro ei Sacramentau ef yn ddyledus.

Fe a ddangoswyd hefyd trwy yr Scrythyrau y [Page 11] dylai yr holl dduwiol gristionogion yn wŷr ac yn wragedd ar amseroedd gosodedig ddyfod yn ddi­wyd i dŷ 'r Arglwydd i' w wasanaethu a 'i folian­nu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rh wymediccaf: i'r hwn y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am iawn arfer yr Eglwys.

FE a ddangoswyd yn y rhan gyn­taf o'r bregeth hon trwy air Duw mai tŷ yr Arglwydd yw 'r deml neu 'r Eglwys, am fod yn arfer o wasanaethu 'r Arglwydd yno, hynny yw dyscu a gwrando et santaidd air ef, galw ar ei san­taidd enw ef, rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif ddoniau, a dyledus finistrio ei Sacramen­tau.

Ac fe a ddangoswyd eisioes trwy 'r scrythyrau y dylyem ni yr holl dduwiol Gristionogion ar amserau gosodedig yn ddiwyd ymarfer o ddyfod i dŷ 'r Arglwydd i'w wasanaethu ac i'w ogone­ddu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rhwymediccaf.

Mae yn aros bellach yn yr ail rhan o 'r bregeth am iawn arfer teml Dduw, bod dangos hefyd trwy air Duw â pha lonyddwch a distawrwydd a pharch a gostyngeiddrwydd y dyle y rhai a ddelo i dŷ Dduw ymddwyn ac ymarwedd. Digon o addysc ini i wybod Ddaied. gystal y gweddai i ni Gristio­nogion arfer yn barchedig yr Eglwys a thŷ san­ctaidd ein gweddiau, ped ystyriem ym-mha fawr [Page 12] barch ac amrhydedd yr oedd eu teml gan yr I­ddewon yn yr hên gyfraith, fel y gwelir drwy lawer o leoedd o 'r rhai y dewissaf i chwi am­bell vn.

Yr ydys yn rhoi yn erbyn ein Iachawdwr Christ garbron barnwr bydol yn Efengyl Mathew trwy ddau gau dyst fegis peth yn haeddu angau, Matt. 26. 61. iddo ddywedyd y gallei ef ddistrywio teml Dduw a'i hadeiladu mewn tri diwrnod, heb ddim am­mau os hwy a ellent beri i'r bobl gredu iddo ddy­wedyd dim yn erbyn anrhydedd a mawrhydi yr deml, y byddai ef yngolwg pawb yn haeddu an­gau.

Ac yn yr 21. o'r Actau pan gafodd yr Iddewon Act. 21. 28. S. Paul yn y deml, hwy a roesant ddwylo ar­naw gan lefain, hawyr o Ifrael cynorthwywch, dymma yr dyn sydd yn dyscu ym-mhob man yn er­byn y bobl a'r gyfreith a'r lle ymma: hefyd mae fe wedi dwyn Groegiaid i mewn i'r deml i halogi y lle hwn.

Gwelwch fel y tybygent mai yr vn fath fai oedd ddywedyd yn erbyn teml Dduw a dywedyd yn erbyn cyfraith Dduw, a pha fodd y barnent yn gyfaddas na chaffai neb ddyfod i deml Dduw ond rhai duwiol a gwir addolwyr Duw.

Yr vn peth y mae Tertullus yr areithiwr Ffraeth. hy­awdl hwnnw a'r Iddewon Act. 24. 6. yn ei ddodi yn erbyn Paul ger bron barnwr bydol megis peth yn ha­eddu angau, iddo geisio halogi teml Dduw. A phan dderbyniodd yr arch-offeiriaid eilwaith y drylliau arian o law Iudas hwy a ddywedasant, Matth. 27. 6. nid cyfreithlon ini eu bwrw hwynt i'r Corban, yr hwn oedd drysordŷ 'r deml, o herwydd mai gwerth gwaed ydynt.

[Page 13] Megis na ellent aros nid yn vnig ddyfod vn dŷn aflan ond hefyd ddyfod vn peth marw, yr hwn a fernid yn aflan, i mewn i'r deml nac i vn lle a berthynai atti.

Ac i'r deall hyn y dylid cymmeryd yr hyn a ddy­waid S. Pawl, pa gytundeb sydd rhwng cyfi­awnder 2. Cor. 6. 14. ac anghyflawnder? a phâ gyfeillach sydd rhwng goleuni a thywyllwch? a pha gysondeb sydd rhwng Christ a Belial? neu pa ran sydd i'r credadwy ac i'r anghredadwy? a pha gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eulynnod?

Yr hyn eiriau er bod yn eu deall yn bennaf am deml calon y duwiol, etto o herwydd bod yn cym­meryd y gyffelybiaeth a Sum. syrth y rheswn oddiwrth y deml ddefnyddiol, mae yn canlyn na ddylid go­ddef dim anuwioldeb, yn enwedig o ddelwau neu elynnod, o fewn Teml Dduw, yr hon yw 'r lle i addoli Duw, ac am hynny nid gwell y gellir eu goddef hwy i aros yno nag y dichon goleuni gy­tuno â thywyllwch neu Grist a Belial: o her­wydd bod gwir addoliad Duw ac addoliad del­wau mor wrthwynebus i'w gilydd ac a all fod.

Ac mae eu gosod hwy i fynydd yn y lle y byddir yn addoli yn achos mawr o'u haddoli hwyntau.

Ond i ddychwelyd at y parch a roe 'r Iddew­on i'w teml, chwi a ddywedwch eu bod hwy yn ei hanrhydedduhi yn ormod ac yn goelfucheddol, gan lefain, Teml yr Arglwydd, Teml yr Ar­glwydd, a'u bywyd hwy er hynny yn ddrwg dros ben, ac am hynny yr argyhoeddir hwy yn gyfi­awn gan Ieremi Prophwyd yr Arglwydd. Iere. 7. 4.

Gwir yw eu bod hwy yn ymroi yn goelfuche­ddol i anrhydeddu eu teml, ond mi a fynwn na byddem ni yn rhy fyrr yn rhoi dyledus barch i dŷ [Page 14] yr Arglwydd gymmaint ac yr elsent hwythau yn rhybell.

Ac os ceryddodd y Prophwyd hwy yn gysion, gwrandewch pa beth y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn ar ein dwylo ninnau, fel y gallom wybod pa vn a wnawn ai bod yn feius ai nad ydym. Mae yn scrifennedig yn y 4. bennod o Lyfr y Prege­thwr gwilia ar dy droed pan fythech yn myned i Eccles. 4. 17. dŷ Dduw a bydd barottach i wrando nag i roi aberth ffyliaid, canys ni wyddont hwy eu bod yn gwneuthur drygioni. Na fydd ry ebrwydd o'th enau, ac na fydded dy galon ry fywiog i draethu Preg. 5. 1. dim ger bron Duw. Canys Duw sydd yn y ne­foedd a thithau sydd ar y ddayar, ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.

Ystyriwch fy-ngharedigion pa lonyddwch mewn ymddygiad ac ymarweddiad, pa ddistaw­rwydd geiriau ac ymadroddion sy ddyledus yn­nhŷ Dduw, o herwydd felly y mae fe yn galw yr Eglwys. Edrychwch ydynt hwy yn gwilied ar eu traed fal y rhybyddir hwy ymma, y rhai ni pheidiant â'u hanweddaidd dreiglo a rhodio i fy­nu ac i fy­nu ac i waered ar hŷd ac ar draws yr Eglwys, gan ddangos arwydd eglur fychaned gantynt am Ddum ac am yr holl wŷr da sydd bresenol yno.

A pha wilied y maent hwy ar eu tafodau a'u hymadroddion, y rhai nid yn vnig a ddywedant eiriau yn fywiog ac yn ebrwydd ger bron yr Ar­glwydd, yr hyn yr ydys ymma yn ei wahardd iddynt, ond hefyd weithiau dywedyd yn frwnt, yn gybyddus ac yn annuwiol, gan chwedleua am bethau ni bônt ond braidd onest na gweddaidd i'w dywedyd mewn tafarn, yn-nhŷ yr Arglwydd, heb ystyried ond rhyfychan eu bod hwy ger bron [Page 15] Duw yr hwn sydd yn aros yn y nefoedd, fal y my­negir ymma, lle nid ydynt ond pryfed yn ymlusgo ymma ar y ddayar wrth ei dragwyddol fawrhydi ef, ac yn meddwl yn llai o lawer y gorfydd ar­nynt ar y dydd mawr roddi cyfrif am bob gair ofer ac a ddywedasant hwy er ioed pa le bynnag y dy­wedasant, Mat. 12. 36. mwy o lawer am eiriau bryntion, a­flan, drwg a dyweder yn-nhŷ 'r Arglwydd, er di­anrhydeddu ei fawrhydi ef, a rhwystr a thram­gwydd i bawb a'u clywant.

Ac yn wir, am y dyrfa a'r lliaws werin, fe a ddarparwyd y deml iddynt hwy i fod yn wran­dawŷr ac nid yn siaradwŷr, os ystyriwn fod yno yn arfer ddarllen a dyscu gair Duw, yr hwn y maent yn rhwymedig i'w wrando yn ddiesceu­lus, yn barchus ac yn ddistaw, a hefyd yn adrodd gweddiau cyffredinol a rhoddi diolch gan y gwe­nidawg cyffredinawl yn enw yr bobl a'r holl dyrfa bresennol, â'r hyn, gan wrandaw yn ba­rodol y dylent gytuno gan dywedyd, Amen, megis y dyweid S. Paul at y Corinthiaid, ac 1. Cor. 14. 16. mewn man arall, Gan roddi gogoniant i Dduw ag vn tafod ac ag vn Yspryd; yr hyn ni ddichon bod pan fytho pob gŵr a gwraig yn llunio. rhithio de­fosiwn neilltuol iddo ei hun, yn gweddio o'r neill­du; vn yn gofyn, arall yn roddi diolch, arall yn darllen athrawiaeth, heb ofalu am wrando ar we­ddi gyffredinol y gwenidawg.

Ac mae yr vn S. Paul at y Corinthiaid yn dys­cu pa barch a ddylid ei arfer wrth finistrio 'r Sa­cramentau yn y deml, gan geryddu y rhai a'i har­ferent yn amharchus. Onid oes gennych dai i 1. Cor. 11. fwyta ac y yfed ynddynt? ai dirmygu yr ydych yr Eglwys a chynnulleidfa Dduw? ac a ydych chwi [Page 16] yn gwradwyddo y rhai nid oes genthynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? na chanmolaf.

Ac nid ydyw Duw yn gofyn yn vnig y parch hwn oddiallan mewn ymddygiad a distawrwydd yn ei dŷ, ond pob gostyngeiddrwydd oddifewn mewn glanhad meddyliau ein calonnau, gan fy­gwth drwy y Prophwyd Osee, Am ddrygioni eu Osea. 9. 30. gweithredoedd y bwrid hwynt allan o'i dŷ ef. Trwy yr hyn yr arwyddoceir eu tragwyddol da­fliad hwy allan o'r tŷ a'r dyrnas nefoedd, yr hyn sydd erchyll aruthrol.

Ac am hynny y dywaid Duw yn Leuiticus, Perchwch fy-nghysegrfa, canys yr Arglwydd y­dwyfi. Leu. 19. 30. Ac am hynny y dywaid y Prophwyd Da­fydd. Mi a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy druga­redd, ac a addolaf yn dy deml santaidd yn dy ofn di: gan ddangos pa barch a gostyngeiddrwydd a ddylae fod ym meddyliau dynion dwiol yn-nhŷ yr Arglwydd.

Ac i ddangos peth i chwi oblegid y peth hyn allan o'r Testament newydd, ym-mha barch y myn Duw gadw ei dŷ a'i deml a hynny drwy si­ampl ein Iachawdwr Christ, yr hon trwy resswm da a ddylae fod yn bwysig ac yn gyfrifawl ei aw­durdod gydâ phob Cristion da. Mae yn scrifen­nedig ym-mhob vn o'r pedwar Efangylwr megis Mat. 21. 12. Mar. 11. 15. Luc. 19▪ 45. Ioan. 2. 15. peth godidawg yn heuddu tystioleth llawer o dy­stion santaidd, am ein Iachawdwr Iesu Grist yr Arglwydd trugarog tirion hwnnw yr hwn o ble­gid ei ostyngeiddrwydd a gyffelybir i ddafad yr hon a oddef yn ddistaw gneifio ei chnu oddi-arni, ac i'r oen yr hwn yn ddiwrthwyneb a arweinid i'r lladdfa, er iddo roddi ei gorph i'r cûrwyr a'i Esai. 53. 7. Act. 8 32. [Page 17] gernau i'r cernodwyr, er nad attebod i't rhai a'i dirmygent ac ni thrôdd ei wyneb oddiwrth wrad­wydd a phoeredd, ac er iddo yn ôl ei siampl ei hun Esa. 5. 6. Mat. 5. 36. roddi i'w ddiscyblon orchymmynion o oddefga­rwch ac addfwyndra, etto pan welodd ef an­nhrefnu, anharddu a halogi y deml santaidd tŷ ei Dâd nefol, fe a arferodd dostrwydd a llymdra mawr, fe a ymchwelodd fyrddau y newidwyr arian ac a daflodd i lawr feingciau y rhai oedd yn gwerthu colommennod, fe a wnaeth fflangell o reffynnau ac a fflangellodd ac a chwipiodd ym­maith y melldigedig gamarferwyr a'r halogwyr hynny ar deml Dduw, gan ddywedyd, Tŷ gwe­ddi y gelwir tŷ fy-nhad, ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.

Ac yn yr ail o Ioan, Na wnewch dŷ fy-nhâd yn Ioan. 2. 16. dŷ marchnad. O herwydd megis y mae ef yn dŷ i Dduw pan wneler gwasanaeth i Dduw yn ddy­ledus yntho, felly pan fythom ni yn annuwiol yn ei gamarfer a'n hannuwiol ymsiarad am farge­nion cybyddus, yr ydym yn ei wneuthur yn dŷ marchnad ac yn ogof lladron.

Ie a'r fath barch a fynnai Grist ei fod i'r deml, Mar. 11. 16. na allai fe arhos gweled cymmaint a dwyn llestr trwyddi. Ac fal y dywedpwyd o'r blaen allan o saint Luc, pan na fedrid cael Grist yn vnlle arall ar y ceisid ef, ond yn vnig yn y deml, ym-mhlith y doctoriaid; ac yn awr mae fe yn dangos ei allu a'i awdurdod, nid mewn cestyll neu frenhindai ym-hlith milwyr, ond yn y deml. Chwi a ellwch weled wrth hyn ym-mhale y gellir cyfarfod gyn­taf â'i deyrnas ysprydol ef, yr hon y mae yn dy­wedyd nad yw o'r byd hwn, ac ym-mhale y gellir ei hadnabod hi yn orau o leoedd yr holl fyd.

[Page 18] Ac yn ol'siampl ein Iachawdwr Christ, yn y brif-Eglwys gynt yr hon oedd santeiddiolaf a duwio­laf oll, ac yn yr hon yr arferid dyledus lywodra­eth a thost inio wndeb yn erbyn pob rhai drygio­nus, ni ddioddefid pechaduriaid cyhoedd i ddyfod i dŷ 'r Arglwydd, ac ni dderbynid hwy i weddiau cyffredinawl nac i arfer y santaidd sacramentau gydâ gwir Gristianogion eraill nes iddynt wneu­thur penyd cyhoedd ger bron yr holl Eglwys.

Ac nid oeddid yn gwneuthur hynny yn vnig i'r rhai iselradd, ond hefyd i'r cyfoethogion, i'r pen­defigion a'r galluogion, ie i Theodosius yr ym-me­rodr mawr galluog hwnnw, yr hwn am iddo wneuthur lladdfa greulon fe a geryddodd Am­bros Escob Mediolanum ef yn dost, ac a escymynodd hefyd yr ym-merodr hwnw, ac a'i dug ef i benyd cyhoedd.

A phwy bynag oedd wedi eu troi heibio ac me­gis eu deol o dŷ yr Arglwydd, hwy a gyfrifid oll (megis yn wir y maent hwy) yn ddynion gwedy eu gwahanu a'u dosparthu oddiwrth Eglwys Ghrist, ac mewn cyflwr tra enbaid, ac fel y dywaid Pawl, gwedi eu rhoddi i sathan y diafol dros 1. Cor. 5. 5. amser: ac fe a ochelid eu cymdeithas hwy gan yr holl wyr a gŵragedd duwiol, hyd oni ddarffai eu cymmodi hwy trwy edifeirwch a chyhoedd be­nyd. Cyfryw oedd anrhydedd tŷ 'r Arglwydd ynghalonau dynion, a'i barch oddi allan hefyd yn yr amseroedd hyny, ac mor ofnadwy oedd gau dŷn allan o'r Eglwys a thŷ 'r Arglwydd yn y dy­ddiau hynny pan oedd grefydd yn bur ac yn anlly­gredig a heb fod mor llygredig ac yn hwyr o amser.

Ac etto yr ydym ni wrth ein neilltuo 'n hunain allan o dŷ 'r Arglwydd, o'n gwirfodd yn ein escy­muno [Page 19] 'n hunain, neu yn ein anghyfaillachu yn hunain o'r Eglwys ac o geifeillach saint Duw: neu gwedy dyfod yno yr ydym ni trwy ein anwe­ddaidd a'n amharchus ymddygiad, trwy ynfyd ac am-mhwyllus, ie ac aflan a drygionus feddyliau a geiriau ger bron yr Arglwydd Dduw, yn dian­rhydeddu Duw ac yn am-mherchi yn aruthr ei sanctaidd dŷ ef, Eglwys Duw, a'i sanctaidd enw a'i fawrhydi ef, i fawr Berigl. enbeidrwydd ein eneidiau, ie a'n ficor ddamnedigaeth hefyd os ni nid etifar▪ hawn yn ebrwydd ac yn ddifrif am y drygioni ymma.

Fal hyn y clywsoch, fyngharedigion, allan o air Duw pa barch sydd ddyledus i fanctaidd dŷ 'r Ar­giwydd, fal y dlye yr holl dduwiolion yn ddiescae­lus, ar yr amser gosodedig ymarfer ddyfod yno: fal y dlyent ymddwyn yno mewn gostyngeiddrw­ydd a pharch ger bron yr Arglwydd: pa blagau a chospedigaethau bydol, a thragwyddol y mae 'r Arglwydd yn ei sanctaidd air yn eu bygwth ar y rhai a fythont yn escaeluso dyfod i'w sanctaidd dŷ ef, a'r rhai gwedŷ eu dyfod yno, ydynt yn ym­ddwyn yn anostyngedig, naill ai mewn gweithred ai mewn geiriau.

Am hynny os chwennychwn gael tywydd Ardymhe­rus. tym-mherus, ac felly mwynhau ffrwythau y ddayar: os ni a ddymunwn ddiangc oddiwrth sychder ac anffrwythlonrwydd, syched a newyn, a'r plagau eraill a fygythir ar bawb ac a redant i'w tai eu hunain, neu i'r tafarnau, ac a adawant dŷ yr Arglwydd yn wâg ac yn anghyfanedd: os câs gennym ein fflangellu a'n chwippio, nid â fflangellau neu chwippiau a wnair o reffynnau, allan o'r deml ddefnyddiol yn vnig, megis y gw­naeth [Page 20] ein Iachawdwr Christ i halogwyr tŷ Dduw yn Ierusalem, ond ein ffusto hesyd a'n gyrru allan o dragwyddol deml a thŷ 'r Arglwydd, yr hon yw ei deyrnas nefol ef, â gwialen hayarn tragwyddol ddamnedigaeth, a'n taflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain ac yscyrnygu dannedd: os bydd ar­nom ofn ac os cas gennym hyn, megis y mae ini achos mawr, gwellhawn ninnau ein escaelusrw­ydd a'n diystyrwch am ddyfod i dŷ yr Arglwydd, a'n ham-mharchus ymddygiad yn-nhŷ yr Ar­glwydd, a chan ddyfod yno ynghŷd yn ddiescaulus, gwrandawn yno yn barchus sanctaidd air yr Ar­glwydd, gan alw ar sanctaidd enw 'r Arglwydd, gan roddi i'r Arglwydd ddiolch â'n holl galon­nau, am ei aml an nhraethawl ddoniau, y rhai y mae fe bob dydd a phob awr yn eu rhoddi ini, a chan gyfrannu a derbyn ei sanctaidd Sacramen­tau yn barchus, a gwasanaethu'r Arglwydd yn ei dŷ sanctaidd, fel y gwedde i weision yr Arglwydd, mewn sancteiddrwydd ac vniondeb ger ei fron ef holl ddyddiau 'n heinioes.

Ac yno y byddwn siccr yn ol y bywyd hwn, o orphywys yn ei sanctaidd fynydd ef a thrigo yn ei babell, yno i foliannu ac i fawrhau ei sanctaidd enw ef ynghynulleidfa ei saint ef, yn sanctaidd dŷ ei drag wyddol deyrnas nefol ef, yr hon a brynodd ef ini trwy angau a thy walltiad gwerthfawr waed ei fâd ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn Ephe. 3. 18. gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân, vn tragwyddol fawrhydi Duw, y bytho holl anrhydedd, gogoni­ant, moliant a diolch yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn enbei­drwydd addoliad eulynod, neu ddelw-addoliad, a rhy ofer drwsio Eglwysydd.

Y rhan gyntaf.

FE a ddangoswyd i chwi ym-mha byngciau y mae gwir harddwch ac addurn Eglwys neu deml Dduw yn sefyll yn y ddwy ho­mili ddiwethaf, y rhai a ddango­sant iawn arfer teml neu dŷ Dduw, a'r dyledus barch y mae 'r holl Gristionogawl bobl yn rhwymedig i'w roddi iddo: syrth a chynhwysiad y rhai, yw, bod Eglwys neu dŷ Dduw gwedi i'r sanctaidd Scrythyrau ei osod yn lle, yr hwn y dylid darllen, dyscu a gwran­do gair Duw ynddo, a galw ar enw Duw trwy weddiau cyffredinol, rhoddi diolch i'w fawrhydi ef am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, a ministro ei sanctaidd Sacra­mentau ef yn ddyledus, ac yn barchus: ac am hyn­ny y dlyei bawb o'r gwir dduwiolion, yn ddiwyd, ar yr amseroedd gosodedig, ddyfod ynghŷd i'r E­glwys, ac ymarwedd ac ymddwyn yno 'n bar­chus ger bron yr Arglwydd: a bod yn galw yr Eglwys hon (yr hon a arfer duwiol weision yr Arglwydd yngwir wasanaeth yr Arglwydd am ffrwythlon bresenolrwydd rhâd Duw, â'r hwn, y mae fe trwy ei sanctaidd air a'i adde widion yn cynnyscaeddu ei bobl a fyddant yno yn bresennol gwedy ymgynull, er mwynhau doniau bydol [Page 22] anghenrheidiol ini, a holl roddion nefol a thrag­wyddol fywyd) yngair Duw (megis yn wir y mae hi) yn deml yr Arglwydd ac yn dŷ Dduw, ac am hynny fod yn cynnhyrfu ei wir barch ef ynghalon­nau 'r duwiol wrth ystyriaid y gwir harddwch ymma ar dŷ Dduw, ac nid wrth vn ceremoni o­ddi-allan neu drwsiad gwerthfawr gwŷch ar dŷ neu deml yr Arglwydd.

Yn erbyn yr a thrawaeth eglur hon o'r Scry­thyrau, ac yn erbyn arfer y brif-eglwys gynt, yr hon oedd bur a dilwgr ac yn erbyn meddwl a barn hên ddoctoriaid dyscedig duwiol yr Eglwys, fal y dangosir ar ol hyn, fe ddug llygredigaeth y dy­ddiau diwethaf ymma i mewn i'r Eglwys anei­rif liaws o ddelwau, ac a drwsient y rhai hynny a rhannau eraill o'r deml hefyd, ag aur ac arian, ac a'u peintiasont a lliwiau, a'u gosodasont allan a main ac a pherlau, a'u dilladasont â sidan ac a dillad gwerthfawr, gan feddwl a dychymmig yn anghywir, mai hynny oedd yr odidawgafdrwsiad neu harddwch ac addurn ar deml neu dŷ Dduw, ac y cyffroid yr holl bobl yn gynt i 'w ddyledus berchi ef, os byddai bob cornel o hono yn wych ac yn discleirio ag aur, a main gwerth-fawr. Er na allasant hwy yn wir trwy 'r fath ddelwau, a'r fath wych drwsio a'r y deml, wneuthur lles yn y byd i'r synhwyrol deallus: ond hwy a ddrygasont yn fawr wrth hyn y diddrwg angall, gan roddi i­ddynt achos i wneuthur Erchyll. echrydys ddelwaddoli­ad: a'r cybyddion wrth yr vn achos megis yn a­ddoli, ac oddifewn yn gwir addoli nid yn vnig y delwau, ond eu defnydd hwy hefyd, yr aur a'r ari­an, fal y gelwir y bai hynny yn yr Scrythyr lân yn hytrach nag vn bai arall, yn eulyn-addoliad Ephe. 5. Coloss. 2. [Page 23] neu ddelw-addoliad. Yn erbyn y camarferon diffaith a'r mawr anferthwch hwn mi a ddango­saf i chwi yn gyntaf awdurdod sanctaidd air Duw, cystadl o'r hên destament a'r newydd.

Ac yn ail destiolaeth y sanctaidd a'r hên dadau dyscedig, a'r doctoriaid allā o'u scrifennadau hwy eu hunain a hên storiau eglwysig fal y galloch ar vnwaith wybod eu meddwl hwy, ac hefyd ddeall pa fath harddwch oedd yn y temlau yn y brif-e­glwys gynt yn yr amseroedd puraf a dilygraf.

Yn drydydd yr argyhoeddir ac yr attebir y rhe­symmau a'r dadleuau a wnair i amddiffyn delw­au ac eilynod ac anrhesymmol drwsio temlau ac eglwysydd, ag aur ac arian a thlyssau ac â main gwerthfawr ac felly cau ar y cwbl.

Ond rhag i neb trwy airiau neu enwau gyme­ryd achos i ammau, fe dybygwyd fod yn orau ddangos yn gyntaf dim, er ein bod ni yn arfer yn ein ymadroddion arferedig o alw diwgad neu lun dynnion neu bethau eraill yn ddelwau, ac nid yn eilynnod: etto fod yr Scrythyr lân yn arfer y ddau air hyn, delwau ac eulynod, am yr vn peth bob amser yn ddiwahaniaeth. Maent hwy yn airiau o iaithiau a lleisiau amryw, ond yn vn mewn ystyr a deall yn yr scrythyrau. Y naill a dynnir o'r gair Groeg Eidolon eilyn, ar llall o'r gair lladin Imago delw, ac felly pob vn o'r ddau a ar­ferir ynghymraeg wrth gyfiaithu 'r scrythyrau yn ddiwahaniaeth, megis yr arfere y deg-a-thri­ugain yn eu cyfiaithiad Groeg Eidola, a S. Ierom yn yr vn lleoedd Simulachra, ynghymraeg delwau.

A'r peth y mae Ioan yn ei alw yn y Testament newydd Eidolon, mae S. Ierom yn ei gyfiaithu Ioan. 5 21. Simulachrum megis ym-mhob lle arall o'r Scry­thyr [Page 24] y mae fe 'n arfer o wneuthur. A hefyd Ter­tulian hên Ddoctor dyscedig iawn yn y ddwy Lib. de Coro. mil. iaith, Groeg a Lladin, wrth gyfiaithu y lle hwn o S. Ioan, Gwagelwch eulynod, hynny yw medd Tertulian, y delwau eu hunain: ar geiriau lla­din y mae ef yn eu harfer ydynt effigies ac Imago, hynny yw delw.

Ac am hynny yn y traethawd hwn nid gwaeth pa vn o'r ddau air a arferom ni, neu os arferwn hwy ill dau gan eu bod hwy ill dau (er nad ydynt yn y iaith gymraeg, etto) yn yr scrythyrau yn ar­wyddocau yr vn peth.

Ac er bod cyn hyn i ryw lygaid deillion, yn ddi­chellgar geisio eu gwneuthur hwy yn airiau o ystyr gwahanol, ac arwyddocâd dosparthedig mewn materion ffydd a chrefydd, ac am hynny iddynt arfer enwi y lluniau a'r diwgadau a'r cyff­elybiaethau a osodid i fynu gan y cenhedloedd yn eu temlau neu mewn lleoedd eraill i'w haddoli, yn Eulyn neu Idol; ond y llun a osodir i fynydd yn yr Egiwys yr hwn yw 'r lle i addoli a alwant hwy yn ddelw: megis pe byddai yn yr Scrythyr lân wahaniaeth mewn ystyr a deall rhwng y ddau air ymma, eulyn, a delw, y rhai fal y dywedpwyd o'r blaen a wahanir yn vnic mewn llais ac iaith, ac ydynt yn siccr mewn ystyr a gwirionedd yr vn peth, yn enwedig yn yr Scrythyrau a materion ffydd a chrefyd.

Ac fe arferwyd o addoli ein delwau ni ac yr y­dys etto yn ei haddoli, ac os goddefir hwy yn gy­hoeddus yn yr egiwysydd a'r temlau hwy a addo­lir byth, ac felly fe wnair delwaddoliad iddynt, megis y dangosir ac y profir yn halaeth yn y rhan ddiwethaf o'r bregeth hon.

[Page 25] Am hynny nid ydyw ein delwau ni, sydd yn y temlau a'r eglwysydd, ddim amgen nag eulynod, neu Idolau, i'r rhai y gwnaethpwyd eulyn-addo­liad ac y gwnair fyth.

Ac yn gyntaf mae scrythyrau 'r hên Destament gan ddamnio a ffieiddio pob eulyn-addoliad, neu addoliad delwau, a'r eulynod a'r delwau eu hu­nain hefyd, yn enwedig mewn temlau; mor aml ac mor halaeth ac y byddai waith anniben, ni ellid ei gynwys mewn llyfr o faint bychan gyfrif yr holl leoedd a berthynant at hyn o beth. O her­wydd wedy darfod i Dduw ddewis vn bobl neill­tuol yn vnic iddo ei hun, o blith yr holl genhedlo­edd eraill, y rhai nid adwaenēt Dduw, ond a addo­lent ddelwau a gaudduwiau, fe a rodd iddynt or­deiniaethau a chyfraithiau i'w cadw ac i'w cyn­nal: ond ni roddodd ef i'w bobl hynny gyfraithiau difrifach nac eglurach am ddim arall nag a ro­ddod ef am ei wir addoliad ei hun, ac am ymwa­chelyd ac ymgadw rhag eulynod, delwau a delw­addoliad, am fod y delwaddoliad hynny yn wrthwynebussaf peth ac a ddichon bod i'w iawn addoliad ef a'i wir ogoniant, yn hytrach nag vn drygioni arall: ac am ei fod ef yn gwybod hybly­gedd a pharodrwydd llygredig naws dyn i'r bai cas ffiaidd hwnnw.

O'r cyfraithiau a'r ordeiniaethau hynny a ro­ddodd Duw i'w bobl ynghylch y peth hyn, mi a adroddaf i 'wch rai o'r rhai enweddiccaf i'r def­nydd hyn▪ fal y galloch wrth y rhai hynny farnu am y llaill. Mae y bedwaredd bennod o lyfr Deu­teronomium yn hynod, ac hi a haeddai ei hystyried yn ddiescaelus, ac mae 'n dechreu fal hyn, Bellach gan hynny o Israel gwrando ar y deddfau a'r [Page 26] barnedigaethau y rhai yr ydwyf yn eu dyscu i chwi i'w gwneuthur, fal y byddoch byw ac yr e­loch ac y gorescynnoch y wlad yr hon y mae 'r Ar­glwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi, na Deut. 4. 1. chwanegwch at y gair hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi, ac na laihewch ddim o hanaw ef, gan ga­dw gorchymmynion yr Arglwydd eich Duw y rhai yr ydwyf yn eu rhoddi i chwi.

Ac yn y mann ar ol hynny mae fe yn adrodd yr vn gairiau dair gwaith neu bedair, cyn ei ddy­fod ef at y peth y mae ef yn enwedig yn eu rhyby­ddio hwy am dano, megis mewn rhag-ddywediad i wneuthur iddynt ystyried yn wagelusach, Go­chel arnad (medd ef) a chadw dy enaid yn ddyfal rhag anghofio o honoti y pethau y rhai a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes: ond yspysa hwynt i'th blant Vers. 9. Vers. 12. ac i blant dy blant. Ac yn y man ar ol hynny, A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o genol y tân, a chwithau nid oeddych yn gweled llun dim heb law llais. Ac etto yn y man, Gwiliwch gan hynny Vers. 15. yn ddyfal ar eich eneidiau, o blegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wr­thych yn Horeb o ganol y tân, rhag ymlygru o ho­noch Vers. 16. a gwneuthur i'wch ddelw gerfiedig, cyffely­brwydd vn ddelw, llun gwryw neu fenyw, llun vn anifail yr hwn sydd a'r y ddayar llun aderyn ascellog yr hwn a eheda yn yr awyr, llun vn ym­lusciad ar y ddayar, llun pyscodyn ar y sydd yn y dyfroedd tan y ddayar: hefyd rhag derchafu o honot dy lygaid tua 'r nefoedd, a gweled yr haul a'r lleuad a'r ser, sef holl lu 'r nefoedd, ac iti trwy gamsynniaeth ymgrymmu iddynt a'u haddoli hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw [Page 27] i'r holl bobloedd dan y nefoedd.

Ac ail waith, Gochelwch ac ymgedwch arnoch rhag i'wch angofio cyfammod yr Arglwydd eich duw yr hwn a ammododd ef â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll ac a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, o her­wydd yr Arglwydd dy Dduw sydd dân yfsol, a Duw eiddigus; pan genhedloch feibion ac wyri­on a heneiddio o honoch yn y wlad ac ymlygru o honoch a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, fal y gwneloch ddryganniaeth yng­olwg yr Arglwydd dy Dduw i'w ddigio ef: galw 'r ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi nefoedd a dayar, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddiar y tir yr hwn yr ydych yn myned dros yr Iorddonen i'w oresgyn; nid ystynnwch ddyddiau ynddo, Canys gan eich difa y'ch difeir, a'r Ar­glwydd ach gwascara chwi ym-mhlith y boblo­edd, a chwi a denir yn ddynion anaml ymhlith y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwyd chwi at­tynt, ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen y rhai ni welant ac ni chlywant, ni fwytant ac nid aroglant, &c.

Pennod odidawg ydyw honn ac nid ydyw yn son haechen am ddim ond y peth hyn. Ond o her­wydd bod yn rhy hir scrifenu'r cwbl, myfi a ddewi­sais i'wch ryw brif-byngriau o honi.

Yn gyntaf mor ddifrif ac mor fynych y mae ef yn galw ar nynt i wilied dan bôen ei heneidiau ar y peth y mae yn ei orchymmyn iddynt.

Yn ail pa fodd y mae ef yn ei gwahardd drwy hîr a chyhoeddus gyfrif o'r holl bethau yn y nef, yn y ddaiar, yn y dwfr, na bo gwneuthyr delw neu lun dim yn y byd.

[Page 28] Yn drydedd pa gospedigeth erchyll a pha ddi­nystr, gan alw nêf a daiar yn dystion, y mae ef yn ei gyhoeddi ac yn bygwth ei ddwyn arnynt hwy ar eu plant a'u heppil, os hwy yn erbyn y gorchy­myn hwn a wnaent neu a addolent vn ddelw neu lun, yr hyn a waharddod ef mor galed iddynt. A phan gwympasant hwy i wneuthur ac i addoli delwau, er y gorchymmyn caled hwn, mewn rhan o achos parodrwydd llygredig anian dŷn, ac mewn rhan am fod y cenhedloedd a'r paganiaid oedd yn trigo o'u hamgylch ac oedd yn addoli delwae, yn rhoddi achosion i ddynt, fe a ddug Duw arnynt yn ol ei air yr holl blâu a'r rai y bygythiase hwynt, megis y mae yn eglur yn helaeth yn llyfrau y brenhinoedd a'r croniglau, a llawer o leoedd hy­nod eraill or hên destament y sydd yn gyfun â hyn. Dewt. 27. melldigedig yw 'r gwr yr hwn a wnelo Deut. 27. 15. ddelw gerfiedig, neu ddelw doddedig sef ffieidd-dra i'r Arglwydd gwaith dwylo 'r saer ac a 'i gysodo mewn lle dirgel a'r holl bobl a'i hattebant ac a ddywedant, Amen.

Darllenwch y drydedd ar bedwaredd benod ar ddeg o lyfr y doethineb ynghylch eulynnod a del­wau pa Doeth. 13. & 14. fodd yr ydys yn eu gwneuthur hwy, yn eu gosod hwy i fynydd, yn galw arnynt ac yn offrwm iddynt, a pha fodd y mae fe yn canmol y pren â'r hwn y gwnaid y crogpren megis dedwydd wrth y pren yr hwn y gwneir y ddelw ag ef, yn y geiriau hyn, Bendigedig medd ef yw 'r pren trwy o'r hwn y daw cyfiawnder, hwnnw yw y crogbren, ond melldigedig yw y ddelw a llaw'r hwn a'i gwnelo, o herwydd yr hyn a wnaed ynghŷd â'r hwn a'i gwnaeth a gystuddir, &c.

Ac yn y man mae ef yn dangos fod y pethau [Page 29] oedd ddaionus greaduriaid Duw o'r blaen (me­gis coed neu gerrig) pan newidier hwy a'u llunio yn ddelwae i 'w haddoli yn myned yn ffiaidd ger bron Duw ac yn dramgwydd i eneidiau dynion ac yn fagl i draed y rhai angall. A phaham? Canys dechreuad godineb oedd ddychymmygu delwau, a'u caffaeliad hwynt oedd lygredigaeth buchedd, o herwydd nid oeddynt o'r dechreuad, ac ni by­ddant yn dragywydd. Cyflawnder a seguryd dŷn a'u dychymygodd hwy yn y byd, ac am hynny y bydd eu diwedd yn fyr, ac felly hyd ddiwedd y ben­nod, yn cynwys y pyngciau ymma, pa fodd y dy­chymygwyd delwau yn y cyntaf, ac yr offrym­mwyd iddynt, pa fodd y sicrhawyd drwy ddefodau anraslon, a pha fodd y cym-mhellodd tyranniaid creulon rai i'w haddoli hwynt, pa fodd y twyllir y gwirion a'r gyffredin bobl trwy gyfarwyddyd a chywreinrwydd y crefftwr a thegwch y ddelw i'w hanrhydeddu hi, ac felly i gyfeliorni oddiwrth adnabyddieth Dduw, a llawer o afradau eraill, ac a ddaw oddiwrth ddelwau.

Ac yn lle crynhodeb ar y cwbl mae fe yn dywe­dyd mai achos a dechreuad a diwedd pob drygioni yw anrhydeddu ffiaidd ddelwau, a bod y rhai a'u haddolant hwy naill ai allan o'u pwyll ai yn wae­thaf dynion ac all fod. Gwyl ac edrych yn ddyfal ar yr holl bennod trosti, o herwydd hi a dâl ei hy­styried, yn enwedig yr hyn a scrifennir am dwy­llo y gwirion a'r bobl gyffredinol angall drwy eulynod a delwau, yr hyn a adroddir ddwy­waith neu dair rhag ei hangofio.

Ac yn y bennod nessaf y cewch y geiriau hyn, Golwg llun gwedi ei fritho ag am ryw liwiau sy'n peri chwant ar rai angall i ddymuno dieneidiol Doeth. 15. 5. [Page 30] lun delw farwol i'w hoffi, ac i goelio'r fath bethau. Eithr am y rhai a'u gwnant, a'u coeliant, a'u dy­munant, a'u gwasanaethant, y maent oll yn hoffi pethau drygionus.

Mae y prophwyd yn llawer lle yn llyfr y Psal­meu yn melldithio anrhydeddwyr delwau, Gw­radwydder pawb ar a wasanaethant ddelw ger­fiedig a'r rhai a orfoleddant mewn eulynnod, y Psal. 97. 7. Psal. 115. 8. Psal. 135. 18. rhai a'u gwnânt y sydd fel hwyntau a phob vn a ymddiriedo ynddynt. Ac ym-mhrophwydolieth Esai y dywaid yr Arglwydd, Myfi ydwyf yr Ar­glwydd, Es. 42. 8. dymma fy enw, a 'm gogoniant ni ro­ddaf i arall, na 'm mawl i ddelw gersiedig. Ac yn y man, Troer yn eu hol a llwyr-wradwydder y rhai a ymddiriedant mewn delw gerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y ddelw dawdd, chwi y­dych ein duwiau ni. Ac yn y 40. bennod gwedi iddo osod allan anymgyffred fawrhydi Duw, mae fe yn gofyn, I bwy gan hyny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch i fynu iddo? a lu­nia y saer gerfiedig ddelw, ac a oreura yr euryrh hi ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian, ac a dde­wis hwn sydd arno eisieu offrwm bren heb bydru? a gais ef saer cywraint i baratoi cerfddelw hefyd? Es. 40. 18. Ac yn ol hyn y mae fe 'n gweiddi, Oni wyddoch, oni chlywsoch, oni fynegwyd ichwi o'r dechreuad; ac felly mae yn dangos drwy wneuthurdeb y byd, a thrwy faint y gwaith, y gallant ddeall fod mawrhydi Duw, creawdwr a gwneuthurwr y cwbl oll, yn fwy, nac y gellid na'i bortreio, na'i o­sod allā drwy vn ddelw neu gyffelybiaeth gorpho­rol. Ac heblaw y pregethiad hynn, yr ydys ynghy­fraith Dduw ei hun, yr hon fel y dywaid yr Scry­thyr a scrifenodd Duw â'i fŷs ei hun, a hynny yn [Page 31] y llech gyntaf yn y dechreuad, nid yn vnig yn a­drodd yn fyr yr athrawieth hon yn erbyn delwau, ond yn ei gosod hi allan ac yn ei phregethu yn he­laeth, a hynny, gydâ chyhoeddiad distryw i'r sawl Exod. 20. 4, 5. a ddiystyrant, ac a dorrant y gyfraith hon, a'u hep­pil ar ei hol hwy.

A rhag na ystyrier arno ac na chofier, yr ydys yn ei scrifenu nid mewn vn man ond mewn llaw­er o leoedd yngair Duw, megis trwy ei ddarllen a'i glywed yn fynych y gallem yn y diwedd ei ddys­cu Leu. 19. 4. Deut. 5. 8, 9. a'i gofio, fal yr ydych hefyd yn clywed darllen beunydd yn yr Eglwys, Duw a lefarodd y geiriau hynn ac a ddywad, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, na fydded itti dduwiau eraill onid myfi. Na wna i ti dy hun ddelw gerfiedig na llun dim ac y sydd yn y nefoedd vchod neu yn y ddaiar issod nac yn y dwfr dan y ddaiar, na ostwng iddynt ac na a­ddola hwynt, o herwydd myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phe­chodau y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bed­waredd genhedlaeth o'r rhai a'm casant, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm ca­rant ac a gadwant fyng-orchymmynion.

Er hynny i gyd ni allodd na godidawgrwydd y lle hwn, ac yntef yn ddechreuad cyfraith yr Ar­glwydd cariadus, wneuthur i ni ei ystyried, na'r mynegiad golau wrth gyfrif pob rhyw luniau, beri i ni ei ddeall; na'r son am dano mor fynych mewn cynnifer o leoedd, na'i ddarllen a'i glywed ef mor fynych, wneuthur i ni ei gofio ef; nac ofn yr erchyll gospedigaeth arnom ni, a'n plant, a'n heppil ar ein hol, ein hofn-ni rhag ei droseddu ef; na maint y gwobr ini a'n plant ar ein hol, ein cy­ffroi i vfyddhau ac i gadw y fawr gyfraith hon [Page 32] eiddo yr Arglywdd: ond megis pe buasai gwedi ei scrifenu mewn rhyw gornel, ac heb ei chyhoeddi yn helaeth ond gwedi ei thwtsio yn fyr ag yn dy­wyll: megis pe buasid heb gyssylltu ag hi vn gospe­digaeth i'r troseddwyr, nac vn gwobr i'r vfyddion, Megis gwyr deillion heb gydnabyddieth ac heb ddeall, megis anifeiliaid anrhesymmol heb ofn cosp na gobaith am wobr, ni a leihasom ac a ddi­anrhydeddassom vchel fawrhydi y bywiol Dduw, trwy waeledd a Salwineb. * salwedd amryw a bagad o ddelwau o goed, cerrig a mettelau meirwon.

Ac megis na ellir traethu ac adrodd mawrhydi Duw yr hwn a wrthodasom ac a ddianrhydedda­som ni, na'n pechod a 'n troseddau ninau am hyn­ny yn erbyn i fawrhydi ef: felly y traethwyd yn he­laeth yn yr yscrythur lan waeledd a gwendid a ffolineb dychymygiaeth delwau, trwy 'r rhai y dianrhydeddasō ni ef, yn enwedig yn y Psalmau, llyfr y doethineb, y Prophwyd Esaias, Ezechiel a Barwc, ond yn enwedigol yn y lleoedd, a'r pen­nodau ymma, Psal. 115. 45. &c. 135. 15. Esai 40. 18. 44. 9▪ Ezechiel 6. 4. 6. Doeth. 13. 14, 15. Barwc o'r 3. hyd y diwedd. Yr hyn leoedd fel yr ydwyf yn eich annog i'w darllen yn fynych ac yn ddyfal, felly y maent yn rhy hîr ar hyn o amser i'w hadrodd mewn homili. Er hynny mi a dynnaf i'wch ryw brif-nodau byrrion er dangos beth y maent yn ei ddywedyd am ddelwau ac eulynod.

Yn gyntaf yr ydys yn eu gwneuthur hwy a dry­lliau bach o goed a cherrig neu fettel ac er mwyn hynny ni allant fod yn gyffelybieth i anfeidrol fawrhydi Duw, gorseddfanigc yr hwn yw yr nef a'r ddaiar yn faingc i'w draed.

Yn ail maent hwy yn feirw, a llygaid iddynt ac [Page 33] heb weled, a dwylo iddynt ac heb deimlaw, traed heb gerdded &c. ac am hyny ni allant fod yn gyffe­lybiaethau addas i'r bywiol Dduw.

Yn drydedd, nid oes ynddynt allu i wneuthur lles nac afles i neb o'r byd er bod gan rai honynt fwyall, gan rai gleddyf a chan rai waywffon yn eu dwylaw, etto mae 'r lladron yn dyfod i'w tem­lau ac yn eu hyspeilio hwy, ac ni allant vnwaith yscog i'w hymddiffyn eu hunain rhag y lladron: ie a phe byddai eu temlau neu eu heglwysydd yn cymeryd tân er i'w hoffeiried allel diange a'u ca­dw eu hunain, etto ni allant hwy yscog ond aros megis cyffion meirw (megis y maent hwy) i'w llosgi, ac am hynny ni allant fod yn arwyddion cymhessur o'r Duw mawr galluog, yr hwn yn vnig a all gadw ei weision a distrywio ei elynion yn dragwyddol, yr ydys yn trwssio yn wych mewn aur ac arian a cherig gwerthfawr ddelwau gwyr a gwragedd megis llangcesau neu fachgenesau drythyll a fytho'n hoffi gwychder, y rhai, meddy Prophwyd Barwch, y mae cariadon iddynt, ac Baruch. 6. 8. er mwyn hynny ni allant ddyscu i ni na 'n gwra­gedd na 'n merched, na sobrwydd na lledneisrw­ydd na diwairdeb.

Ac er bod yn awr yu eu galw hwy yn llyfrau gwyr llŷg, etto ni a welwn na allant ddangos vn wers dda nac am Dduw nac am dduwioldeb, ond pob am-mryfyssedd ac anwiredd. Am hynny fal y mae Duw yn ei air yn gwahardd gwneuthur a gossod i fynu na delwau nac elynnod, felly y mae ef yn gorchymmyn tynnu i lawr, dryllio a distrywio y rhai a gaffont gwedy eu gossod i fynu.

Mae yn scrifennedig yn llyfr y nifeiri nad oes eulyn yn Iacob na delw yn Israel, a bod yr Ar­glwydd [Page 34] Dduw gydâ ei bobl. Yno ystyriwch nad oes gan y gwir Israelieid, hynny yw gwir bobl Dduw, ddelwau yn eu mysg, ond bod Duw gydâ hwy, ac am hynny na all eu gelynion niwed iddynt, fal y mae yn eglur wrth yr hyn a ganlyn yn y bennod honno.

Ac fal hyn y dywaid yr Arglwydd yn Deutero­nomium am ddelwau a osodwyd i fynu eisoes, di­nystrwch eu hallorau a thorrwch eu colofnau Deut. 7. 5. hwynt, cwympwch eu llwynau a llosgwch eu delwau cerfiedig hwynt yn y tan, o herwydd pobl santaidd i'r Arglwydd ydych chwi. Ac fe a ail draethir yr vn peth etto yn ddifrifach yn y ddeu­ddegfed bennodo'r vn llyfr. Yna ystyriwch beth a ddylei bobl Dduw ei wneuthur i ddelwau lle y cyhyrddont â hwy.

Ond rhag i wyr diswyddau yn rhith distry wio delwau wneuthur terfysc yn y wlad, rhaid yw cofio ynwastad fod inia wnhâd y fath anferch wch cyffredinol yn perthyn yn vnig i ly wiavod wyr a'r rhai sydd mewn awdurdod, ac nid i wyr diswy­ddau, ac am hynny yr ydys yn canmol yn fawr dros ben Asa, Ezechias, Iosaphat a Iosias, daio­nus 1. Reg. 15. 11. 2. Par. 14, 15. & 24. 31. frenhinoedd Iuda, am dorri i lawr a diny­strio a llorau Idolau, a delwau. Ac mae 'r Scry­thyr yn manegi iddynt wneuthur y peth oedd ini­on, yn enwedig yn hynny o beth, gerbron yr Ar­glwydd.

Ac o'r gwrthwyneb yr ydys yn adrodd trwy air Duw i Ieroboam, Ahab, Ioas, a thy wysogion eraill y rhai naill ai a osodosant i fynydd, ai yntau a oddefasant heb eu tynnu i lawr a'u distrywio, allorau a delwau yn eu plith, wneuthur yn ddrwg yngolwg yr Arglwydd.

[Page 35] Ac os bydd neb yn erbyn gorchymmyn yr Ar­glwydd yn mynnu gossod i fynu allorau neu ddel­wau neu eu goddef yn eu plith heb ddinistrio, mae yr Arglwydd ei hunan yn bygwth yn llyfr y Rhifedi, a thrwy ei Brophwydi santaidd, Eze­chiel, Michaeas, a Barwch, y daw ef ei hun i'w tynnu hwy i lawr, a pha fodd y chwala y cospa ac y difa ef y bobl a'u gosodant i fynydd, neu a odde­fant allorau delwau ac Idolau heb eu dinystro.

Mae ef yn cyhoeddi trwy 'r Prophwyd Eze­chiel yn y modd ymma, wele fi (ie) myfi yn dwyn cleddyf arnoch ac mi a ddinystriaf eich vchelfeudd, eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul-ddelwau a ddryllir, a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eulynnod▪ a rhoddaf gelanedd meibion Isra­el Eze. 6. 4, 5, 6. ger bron eu heulynod, a thannaf eich escyrn o flaen eich allorau yn eich holl drigfeudd, eich di­nasoedd a anrheithir, eich vchelfannau a ddifwy­nir, fal yr anrheithir ac y difwynir eich allorau ac y torrir ac y peidio eich eulynod, ac y torrir ym­maith eich haul-ddelwau ac y deleir eich gwei­thredoedd: yr archolledig hefyd a sŷrth yn eich mŷsc fal y gwypoch mai myfi ydwyf yr Arglwydd. Ac felly hyd ddiwedd y bennod, yr hyn a dâl ei ddarllen yn ddyfal, y difethir y rhai agos â'r cle­ddyf, y rhai pell â'r Nodau. cowyn, y rhai a gilient i'r ce­styll, neu 'r anialwch â newyn, ac os diangai neb, ydygid hwy yn garcharorion i gaethiwed.

Megis felly pe byddai amledd neu eglurder y lleoedd yn abl i wneuthur ini ddeall, neu pe ga­llai y gorchymmyn caled y mae Duw yn ei roi yn y lleoedd hynny ein cyffroi ni i ystyrio, neu pe by­ddai y plaau a'r cospedigaethau creulon a'r Erchyll. e­chrydus ddinistr a fygythir i'r cyfryw addolwyr [Page 36] belwau neu eulynod, i'r rhai a'u gosodant hwy i fynydd neu a'u maenteiniant hwy, yn gallel ma­gu yn ein calonnau ni ddim ofn, ni a adawen vn­waith ac a ym wrthodem á'r drygioni hyn, gan ei fod yngolwg yr Arglwydd yn gymmaint trosedd Ruf. 15. 4. a ffiaithbeth. Fe a ellid adrodd aneirif leoedd hae­chen allan o'r hên Destament ynghylch hyn o beth, ond gwasanaethed yr ambell rai hyn dros y cwblar hyn o ennyd.

Chwi a ddy wedwch ond odid fod y pethau hyn yn perthyn at yr Iddewon, a pha beth sydd ini a wnelom a hwynt? Yn wir ni pherthynant ddim llai attom ni 'r Christionogion nag attynt hwy­thau. O herwydd os pobl Dduw ydym ni pa fodd na perthyn gair a chyfraith Duw attom ni? Mae S. Paul wrth adrodd vn lle o 'r hên Destament yn rhoi 'r vn farn am gwbl o scrythyrau 'r hên Destament yn gyffredinol, cystadl ac am y lle hwn, gan ddywedyd: Y pethau a scrifennwyd ym­laen llaw (hynny yw yn yr hên Destament) a scrifennwyd er addysc ini. Yr hyn sydd wir yn enwedig am y cyfryw scrythyrau o'r hên Desta­ment ac a gynhwysant yndynt anghyfnewidiol gyfraithiau ac ordeiniaethau Duw: y rhai ni ddy­lid eu newid vn amser, ac ni ddylei vn dŷn nac vn oes, nac vn genedl anvfyddhau iddynt. Cyfryw yw 'r lleoedd oll a adroddwyd o'r blaen. Er hynny er eich bodloni chwi ym-mhellach am hyn o beth yn ol fy addewid, mifi a Brwfaf. brofaf yn ddiogel yr a­thrawaeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, a'n dlyed ninnau o'u plegid hwy allan o scrythyrau y Testament newydd, ac Efengyl ein Iachawdwr Christ.

Ac yn gyntaf mae scrythyrau 'r Testament ne­wydd [Page 37] yn son yn llawen mewn amrafael fannau, megis dawn a rhodd odidawg Duw, eu bod hwy y rhai a dderbyniasant ffydd Grist, gwedy eu troi Act. 14. 15, 17, 29. Ruf. 11. 12. 1. Cor. 12. 2. Gal. 4 8. oddiwrth ddelwau mudion meirwon at y gwir a'r bywiol Dduw yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, yn enwedig yn y lle oedd hyn y 14. a'r 17. o Actau neu weithredoedd yr Apostolion: 11. at y Rufeiniaid, y 12. o'r Epistol cyntaf at y Corinthi­aid. Galath. 4. 1. Thessalon. 1. Ac yn gyffelyb y mae Yspryd Duw yn scrythyrau y Testament newydd yn ffeieiddio ac yn Tragash [...]. dygyn gashau ac yn gwahardd eulynod neu ddelwau a'u haddoliad, fal y mae yn eglur wrth y lleoedd hyn, a llawer eraill megis yn y 7. a'r 15. o▪ Actau 'r Apostolion a'r cyntaf at y Act▪ 7. 41. a'r. 15. 29. Ruf. 1. 26. Rufeiniaid, lle y cyhoeddir plagau ofnadwy delw­addolwyr, y rhai a rodd Duw i fynydd i wyniau gwarthus, ac i wneuthur pob aflendid affiaidd­bethau, y rhai ni ddleid eu henwi, megis yn gyn­nefin yr â goddineb Ysprydol a chnawdol ill dau ynghŷd.

Yn y cyntaf at y Corinthiaid a'r bummed ben­nod y'n gwaharddir ni i gadw cyfeillach nac i fwyta nac i yfed gydâ 'r rhai a elwir yn frodyr, neu yn Gristionogion, ac ydynt yn addoli delwau. Yn 1. Cor. 5. Gal. 5. 20. y 5. at y Galath. yr ydys yn cyfrif delw-addoliad ym-mhlith gweithredoedd y cnawd; ac yn y cyn­taf at y Corinth. a'r 10. yr ydys yn ei alw ef yn wa­sanaeth 1. Cor. 10. 14. cythreuliaid ac yn bygwth y dinistrir y rhai a'i harferant. Ac yn y chweched bennod o'r vn Epistol, ac yn y bummed at y Galathiaid y cy­hoeddir na ddaw y fath ddelw addolwyr byth i deyrnas nef. Ac mewn llawer o leoedd eraill y 1. Cor. 6. 9. Gal. 5. 20, 21. bygythir y daw llid Duw ar bawb o'r fath ddyn­nion. Ac am hynny y mae Ioan yn ei Epistol 1. [Page 38] yn ein hannog ni megis plant anwyl i wachelyd delwau. Ac mae S. Paul yn ein rhybyddio i wa­chelyd 1. Ioan. 21. 1. Cor. 10. 14. addoli delwau os byddwn call, hynny yw os gofalwn am ein Iechydwriaeth ac os ofnwn ddinistr, os gofalwn am deyrnas Dduw a bywyd tragwyddol, os ofnwn lid Duw a thragwyddol ddamnedigaeth.

O herwydd nid yw bossibl ini fod yn addolwyr delwau ac yn wir weision Duw, fal y dengys S. Paul yn yr ail at y Corinthiaid, a'r 6. Bennod, 2. Cor. 6. 16. ganddywedyd yn oleu na ddichon bod mwy cys­sondeb na chymdeithas rhwng teml Duw, y rhai ydyw gwir Gristionogion, a delwau, nag sydd rhwng cysiawnder ac anghysiawnder, goleuni 2. Cor. 6. 14. a thywyllwch, rhwng y credadwy a'r anghredad­wy, rhwng Christ a'r diawl. Yr hwn le fydd yn profi na ddlyem ni addoli delwau, na'u mynnu yn ein temlau, rhag ofn eu haddoli hwynt, er eu bod o hanynt eu hunain yn ddieniwed. O her­wydd sanctaidd deml Dduw a bywiol ddelw Dduw yŵ 'r Christion, fal y mae 'r lle hwnnw yn dangos yn eglur i'r sawl a'i darllenont ac a'i ysty­riantef yn dda.

A lle 'r oedd yr holl dduwiolion yn Tragashau. dygyn ga­shau penlinio, addoli neu offrwm iddynt eu hu­nain, pan oeddynt fyw yn y byd, o herwydd bod hynny yn anrhydedd dyledus i Dduw yn vnic, fal y dangosir yn Actau 'r Apostolion yn S. Petr yrhwn a waharddodd hynny i Cornelius, ac yn S. Pawl a Barnabas a waharddasant yr vn peth i ddinaswyr Lystra. Etto yr ydym ni megis dynnion ynfyd, yn arfer o gwympo i lawr ym­mlaen eulynod a delwae meirwon Petr a Pawl, Act. 10. 26. Act. 14. 15. ac yn rhoddi i goed a cherrig yr anrhydedd a dyby­gent [Page 39] hwy Nad oedd iawn. fod yn ffiaidd ei roddi iddynt eu hu­nain, pan oeddynt fyw.

Ac fe a wrthododd daionus Angel Duw, fal y mae 'n eglur yn llyfr gweledigaeth Ioan benlinio iddo, pan gynnygodd Ioan yr anrhydedd hwnnw Gwel. 19. 10. iddo. Gwachel, medd yr Angel, wneuthur hynny, o herwydd dy gydwasanaethwr di wyfi.

Ond nid yw 'r drwg angel sathan yn chweny­chu dim yn gymmaint a chael penlinio iddo, a thrwy hynny ar vnwaith yspeilio Duw o'i ddy­ledus anrhydedd a dwyn damnedigaeth ar y rhai a ostyngont mor issel iddo, fal y gwelir yn histori 'r efengyl mewn llawer lle. Ie fe gynnygodd i'n Ma [...]th. 4. 9, 10. Iachawdwr Christ bob golud bydol os efe a ben­linie i lawr a'i addoli ef. Ond mae 'n Iachaw­dwr Luc. 4. 6, 7. 8. Christ yn argyoeddi Sathan trwy 'r Scry­thyrau gan ddywedyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnic a wasanaethi.

Ond yr ydym ni wrth beidio ac addoli a gwasa­naethu Duw yn vnic, fal y mae 'r Scrythyr yn ein dyscu ni, a thrwy addoli delwau yn erbyn yr Scrythyrau, yn tynnu sathan attom, ac yn barod heb vn gwobr i ganlyn ei ddeisyfiad ef, ie yn gynt nac y ffaelo gennym, ni a gynnygwn iddo ef roddi­on ac aberthau er derbyn ein gwasanaeth.

Ond canlynwn frodyr yn hytrach gyngor dai­onus Angel Duw, o flaen cyngor dichellgar sa­than, yr angel drygionus a'r hên sarph, yr hwn yn ol y balchedd trwy 'r hwn y cwympodd ar y cyn­taf, sydd yn ceisio fyth trwy 'r fath gyssegr-ladrad ddifuddio Duw, yr hwn y mae ef yn cenfigennu wrtho, o'i ddyledus anrhydedd, ac o herwydd fod ei wyneb ef ei hunan yn Anferth. erchyll ac yn ofnadwy, mae fe 'n ceisio dwyn anrhydedd Duw atto ei [Page 40] hun, trwy gyfryngiad coed a cherrig, a'n gwneu­thur ni gydâ hynny yn elynion i Dduw ac yn erfynwyr ac yn gaethweision iddo ei hun, ac yn y diwedd i dynnu arnom yn lle gwobr ddinistr a damnedigaeth tragwyddol.

Gan hynny vwchlaw pob peth os ydym yn ty­biaid ein bod yn wir Gristionogion (fal y 'n henwir ni) credwn y gair, vfyddhawn y gyfraith, canlynwn athrawaeth a siampl ein Iachawdwr a'n meistr Christ: trown heibio hudoliaeth sathan, sy 'n ceisio ein hudo i wasanaethu eulynod ac a­ddoli delwau, yn ol y gwirionedd a ddangoswyd ac a addyscwyd allan o destament ac efengyl ein dyscawdwr a'n hathro nefol Iesu Grist: yr hwn sydd Dduw bendigedig yn dragywydd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn enbeidrwydd delw-addoliad.

CHwi a glywsoch, fyngharedigion, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, yn erbyn eulyn-addoliad a delwa­ddoliad, athrawaeth gair Duw, a dynnwyd allan o Scrythyrau 'r hên destament a'r testament newydd, gwedy ei gadarnhau trwy siampl yr A­postolion a Christ ei hunan. Yn awr er nad ydyw ein Iachawdwr Christ yn derbyn nac yn rhaid iddo wrth dystiolaeth dyn, ac er nad rhaid i'r hyn a gadarnhair vnwaith trwy siccrwydd ei wirio­nedd ef, ddim chawneg siccrwydd gan athrawaeth ac scrifenadau dyn, mwy nac y mae 'n rhaid i'r haul gannaid ar hanner dydd wrth oleu canwyll [Page 41] fach i droi tywyllwch heibio ac i chwanegu ei o­leuni: etto er eich bodloni chwi ym-mhellach fe ddangosir i chwi yn yr ail rhan hon, megis yr a­ddawyd yn y dechreuad, fod yr hên dadau sāctaidd, a'r hen athrawon dyscedig yn credu ac yn dyscu yr athrawaeth hon, ynghylch gwahardd delwau a'u haddoliad, (yr hon a dynnwyd allan o Scry­thyrau 'r hên dadau sanctaidd or hên destament a'r testament newydd) a bod y brif-eglwys gynt yr hon oedd buraf ac an-llygrediccaf yn ei chynwys ac yn ei derbyn. A hynny a ddangosir allan o scrife­nadau 'r hên athrawon sanctaidd hynny, ac allan o'r hen historiau eglwysig a berthynan iddynt.

Mae Tertulian hên scrifennydd ac athro o'r E­glwys, yr hwn oedd yn y byd ynghylchwyth-iga­in Libro contra coronandi morem. mlynedd yn ol dioddeifaint ein Iachawdwr Christ, mewn llawer o leoedd, ond yn enwedig yn y llyfr a scrifennodd ef yn erbyn y modd yr arferid o goroni: ac mewn traethawd bychan arall, yr hwn y mae fe yn ei enwi, Coron y milwr, yn llym ac yn ddifrifol yn scrifennu yn erbyn delwau neu eulynod ac yn eu Goganu. dychanu.

Ac a'r airiau Ioan Sant yn ei epistol cyntaf 1. Ioan. 5. 21. a'r bummed bennod: mae 'n dywedyd yn y modd ymma, mae Ioan sant gan gwbl ystyriaid y peth hyn yn dywedyd yn y modd ymma, fymhlant by­chain ymgedwch oddiwrth ddelwau neu euly­nod: nid ydyw fe yn dywedyd yn awr ymgedwch oddiwrth ddelw-addoliad, megis oddiwrth eu gwasanaeth hwy a'u haddoliad, onid oddiwrth y delwau a'r eulynod eu hunain, hynny yw oddi­wrth eu llun a'u cyffelybiaeth. O herwydd peth annheilwng yw i ddelw Duw byw fyned yn llun delw farw.

[Page 42] Onid ydych chwi yn tybaid fod y rhai fy yn go­sod delwau ac eulynod mewn eglwysydd a them­lau, ie ac yn eu dodi mewn Cistau. pallau vwchben bord yr Arglwydd, megis o lwyr feddwl eu haddoli a'u anrhydeddu hwy, yn ystyried yn dda gyngor S. Ioan a Thertulian? O herwydd pa vn yw gosod i fynu ddelwau ac eiddolau yn y modd hynny, ai ymgadw oddiwrthynt ai yntau eu derbyn a'u co­fleidio?

Mae Clemens yn dywedyd yn ei lyfr at Iaco brawd yr Arglwydd; Pa beth a ddichon bod mor Clem. li. 5. ad Iacob fratrem Domini. ddrwg, ac mor anniolch-gar, a derbyn dawn gan Dduw, a rhoddi diolch am dano i goed a cherrig? Am hynny dihunwch, a deallwch eich Iechyd, o herwydd nid rhaid i Dduw wrth vn dŷn, nid yw yn gofyn dim ac ni ddryga dim ef: Ond nyni yw y rhai yr ydys yn eu cymmorth, neu eu drygu, am ein bod yn ddiolchgar i Dduw neu yn anddi­olchgar.

Mae Origen yn ei lyfr yn erbyn Celsus yn dy­wedyd fal hyn, Mae Christionogion, ac Iddewon pan glywont y geiriau hyn o'r gyfraith, Ti a ofni yr Arglywydd dy Dduw, ac na wna ddelw, nid yn vnic yn ffieiddio temlau, allorau, a delwau 'r duwi­au, ond os bydd rhaid hwy a fyddant feirw 'n gynt nag yr halogont eu hunain ag vn annuwioldeb. Ac yn y man ar ol hynny fe a ddywaid, fe daflwyd ym - mhell ac a waharddwyd cerfwr eulynod a gwneuthurwr delwau allan o wlad yr Iddewon, rhag iddynt gael achos i wneuthur delwau, y rhai a allai dynnu rhyw ddynion ffoliaid oddiwrth Dduw, a throi llygaid eu heneidiau i edrych ar be­thau dayarol.

Ac mewn man arall o'r vn llyfr, nid yw, medd ef, [Page 43] ddoli delwau 'n vnic yn beth ynfyd gwallgofus, onid hefyd dwyn gydâ hynny heb gymeryd arnom ei weled. Fe ddichon dŷn adnabod Duw a'i vnic fab wrth y rhai a gawsont y fath râd gan Dduw, ac y gelwid hwy yn dduwiau: ond nid possibl i neb wrth addoli delwau gael dim gwybodaeth am Dduw.

Mae 'r geiriau hyn gan Athanasius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, Dywedant attolwg pa fodd yr adwaenir Duw wrth ddelw? oni bydd hynny trwy ddefnydd y ddelw, yno ni bydd rhaid wrth vn llun na diwgad, o herwydd i Dduw ymddan­gos ym-mhob creadur defnyddiol, y rhai a dystio­laethant ei ogoniant ef. Yn awr os dywedant mai trwy 'r pethau byw eu hunain y rhai y mae 'r delwau 'n dangos eu llun, o herwydd yn siccr fe adnabyddid gogoniant Duw yn eglurach o law­er o'i ddangos trwy greaduriaid rhesymmol na thrwy ddelwau meirwon anghy ffroedig. Ac am hynny pan ydych yn cerfio neu yn peintio delwau, er mwyn adnabod Duw wrthynt, yn wir, yn wir, yr ydych yn gwneuthur peth an-nheilwng anweddaid. Ac fe a ddywaid mewn lle arall o'r vn llyfr, Ni ddaeth dychymmyg delwau o ddaio­ni, ond o ddrwg, a pha beth bynnag y sydd iddo ddechrau drwg, ni ellir mewn dim ei farnu yn dda, am ei fod yn ddrwg hollawl. Hyd yn hyn y clyw­soch Athanasius hên Athro ac escob dyscedig sanc­taidd, yr hwn sydd yn barnu am ddelwau, fod ei dechreuad a'u diwedd, a chwbl o honynt yn ddrwg.

Mae gan Lactantius hefyd hên scrifennydd Lib. 2. cap. 16. dyscedig, yn ei lyfr am ddechreuad amryfysedd, y geiriau hyn, Mae Duw oddiar ddyn, ac ni osod­wyd [Page 44] ef isod, ond rhaid yw ei geisio ef yn y wlad vchaf. Am hynny diammau nad oes crefydd lle mae delw. O herwydd os yw ffydd a chrefydd mewn pethau duwiol, ac nad oes duwioldeb ond mewn pethau nefol, y mae delwau heb na ffydd na chrefydd ynddynt. Dymma airian Lactanti­us, yr hwn oedd er ys mwy nâ thrychant ar ddeg o flynyddoedd, ac o fewn trychant mlynedd ar ol ein Iachawdwr Christ.

Mae gan Cyrillus hen Ddoctor sanctaidd, ar Efengyl Ioan sant y gairiau hyn, fe ymadawodd llawer â'r creawdwr ac a addolasont y creadur, ac ni chywilyddiasant ddywedyd wrth bren ti yw fy-nhâd, ac wrth garreg ti a'm cenhedlaist i. O herwydd llawer ie haychen y cwbl oll (ôch gan alar) a gwympasant i'r fath ffolineb ac y rhoesant ogoniant y duwdod i bethau heb na synwyr na theimlad ynddynt.

Mae Epiphanius escob Salamis yn Cyprus, gwr sanctaidd dyscedig, yr hwn oedd fyw yn am­ser yr Ymherodr Theodosius, ynghylch trychant mlynedd a deg a phedwar vgain yn ol escynniad ein Iachawdwr Christ, yn scrifennu fal hyn at Ioan Patriarch Ierusalem, Mi aethym, medd Epiphanius, i mewn i ryw Eglwysi weddio, yno y cefais liain ynghrog yn-nrws yr Eglwys, ac ar­no gwedi ei beintio megis delw Ghrist neu ryw sant, (o herwydd nid ydwyf yn cofio 'n dda llun pwy ydoedd) am hynny pan welais lun dyn, gwe­dy ei grogi yn Eglwys Ghrist, yn erbyn awdur­dod yr Scrythyrau mi a'i torrais, ac a gyngho­rais geidwaid yr Eglwys ar iddynt Amdoi. amwisco gwr tlawd a fuase farw, yn y lliain hwnnw, a'i gladdu.

[Page 45] Ac yn ol hyn mae 'r vn Epiphanius, gan ddan­fon lliain arall heb ei beintio, yn lle yr hwn a do­rassai, at y Patriarch hwnnw, yn scrifennu fal hyn, perwch, adolwg, i henuria'd y lle hwnnw, dderbyn y lliain hwn yr ydwyf yn ei ddanfon gy­dâ 'r gennad ymma, a gorchymmynnwch iddynt o hyn allan nad arferont mwy grogi y fath liain paentiedig yn Eglwys Grist yngwrthwyneb i'n crefydd ni. O herwydd gweddus yn hytrach yw i'ch daioni chwi, gymmeryd y gofal hwn, ar i chwi dynnu ymmaith bob Trangwydd. petrusder sydd an­weddus i Eglwys Ghrist, ac yn drangwydd i'r bobl a roddwyd yn eich cadwedigaeth chwi.

Ac fe a gyfiaithodd S. Ierom ei hun y llythyr hwn i'r iaith ladin, megis peth yn haeddu ei ddarllen gan lawer. Ac er mwyn i chwi wybod fod yr escob dyscedig sanctaidd hwn Epiphanius mewn cymmeriad mawr gan S. Ierom, ac er mwyn hynny iddo gyfiaithu y llythyr hwn megis scrifen fawr ei hawdurdod, Gwrādewch pa destio­laeth y mae S. Ierom yn ei roddi iddo mewn lle arall, yn ei draethawd yn erbyn amryfysedd Ioan Escob Ierusalem, lle mae gantho y geiriau hyn, Mae iti, medd ef, Epiphanius Bab ar gyhoedd Pob escob a elwid yr am­scr hynny yn Bab. yn ei lythyrau yn dy alw di yn heretic. Yn siccr nid ydwyd ŵr i'th roi o'i flaen ef, nac am oedran, nac am ddysc, nac am dduwioldeb bywyd, nac wrth dystiolaeth yr holl fyd. Ac yn y mann ar ol hynny yn yr vn traethawd, medd S. Ierom, Yr ydoedd Escob Epiphanius yn y fath barch ac anrhydedd, na chyffyrddodd Valens yr Ymherodr yr herlidiwr creulon, ag ef. O herwydd yr ydoedd y tywysogi­on oedd hereticiaid, yn tybaid fod yn gywilydd iddynt erlid y fath ŵr godidawg.

[Page 46] Ac yr ydys yn yr histori eglwysig dair-rhan, yn y nawfed llyfr a'r 48. bennod yn tystiolaethu i Tripart. hist. lib. 9. cap. 48. Epiphanius ac yntef yn fyw, wneuthur llawer o wrthiau, ac yn ol ei farw ef fod cythreuliaid gwe­dy eu bwrw allan wrth ei fedd ef yn llefain ac yn rhuo. Fal hyn y gwelwch pa awdurdod y mae S. Ierom a'r hên histori honno yn ei rhoddi i'r Escob sanctaidd dyscedig Epiphanius, barn yr hwn am ddelwau mewn eglwysyddd a themlau, a hwy yr amser hynny yn dechreu lledrad-ymlus­cio iddynt, a dâl ei ystyriaid.

Yn gyntaf, mae fe 'n barnu fod yn wrthwyneb i Gristionogawl grefydd ac awdurdod yr Scrythy­tau, fod delwau yn Eglwys Grist.

Yn ail fe a daflodd nid yn vnic ddelwau cerfie­dig a thoddedig, ond rhai peintiedig hefyd allan o Eglwys Grist.

Yn drydydd nad oedd fatter gantho pa vn a fy­ddai ai delw Christ, ai delw vn sant arall, ond os delw a fyddai, ni oddefai ddim o honi yn yr E­glwys.

Yn bedwerydd, ni symmudodd ef hi yn vnic allan o'r Eglwys ond ei dryllio hefyd â zêl gadarn wressog, a pheri amwisco corph marw a'i gladdu ynddi, gan farnu nad ydoedd hi yn weddus i w­neuthyd dim o honi onid i bydru yn y ddaear, gan ganlyn yn hyn o beth sampl y brenin daionus E­zechias, yr hwn a dorrodd y sarph bres yn ddrylli­au, ac a'i lloscodd hi yn lludw, am fod yn gwneu­thur delw-addoliad iddi.

Yn ddiwethaf oll mae Epiphanius yn dangos fod yn ddlyed ar escobion gwialiadwrus synneid na bydder yn goddef vn ddelw yn yr Eglwys, am eu bod yn achos petrusder a thrangwydd i'r bobl [Page 47] a roddwyd yn eu cadwedigaeth hwy. Ac o her­wydd na scrifennodd S. Ierom yr hwn a gyfiai­thiodd yr Epistol hwnnw, nac awdyrau yr hên histori eglwysig dair-rhan (y rhai fal y dangos­wyd a ganmolant Epiphanius yn fawr) nac vn escob duwiol dyscedig arall cyn yr amser hynny nac ennyd ar ol hynny, ddim yn erbyn barn Epi­phanius ynghylch delwau: eglur yw, na chyn hwysasid yn y dyddiau hynny, yr hyn oedd yn­ghylch pedwar cant o flynyddoedd ar ol Christ, ac nad arferid dim delwau yn gyhoeddus yn E­glwys Ghrist, yr hon oedd yr amser hynny anlly­grediccach a phurach o lawer nac yw hi yn awr.

Ac lle ddechreuai ddelwau yr amser hynny ledrad ymluscio 'n ddirgel o dai gwŷr i'r eglwysydd, a hynny yn gyntaf gwedy eu peintio ar lieiniau a pharwydydd, panwele 'r escobion gwialiadwrus duwiol hwynt, hwy a'u tynnent ymmaith megis pethau anghyfraithlon gwrthwynebus i ffydd a chrefydd Ghrist, fal y gwnaeth Epiphanius ymma.

A barn yr hwn y mae yn cordio ac yn cyttuno, nid yn vnic S. Ierom cyfiaithydd ei Epistol ef, ac scrifennydd yr histori dair-rhan, ond hefyd yr holl escobion, ac yscolheigion dyscedig duwiol, ie a'r holl Eglwys yn yr amser hynny, ac er amser ein Iachawdwr Christ dros bedwar cant oflynydd­oedd.

Fe scrifennwyd hyn yn halaeth am Epiphani­us, am fod ymddiffynwyr delwau yn yr amser ymma wrth weled ei gwascu mor galed trwy e­glur draethawd a gweithred Epiphanius, Escob a doctor o 'r fath henaint, yn ymegnio ym-mhob ffordd (ond yn ofer yn erbyn y gwirionedd) naill [Page 48] ai i brofi nad ydoedd yr epistol hyn o waith Epipha­nius, na 'r cyfiaithiad o waith Ierom: ac os y­dynt meddant, nid mawr y grym, o herwydd, me­ddant, Iddew oedd yr Epiphanius hwn, a chwe­dy ei droi i ffydd Christ, a'i wneuthur yn escob, fe a gadwodd yn ei feddwl y casineb oedd gantho pan ydoedd yn Iddew yn erbyn delwau, ac felly fe a scrifennodd yn eu herbyn, megis Iddew, ac nid megis Christion. Oh ddigywilydd-dra Iddew­aidd a chenfigen y cyfryw dychymmygwyr: nhwy addlyent brofi ac nid dywedyd yn vnic mai Iddew oedd Epiphanius.

Hefyd am y rheswn y maent yn ei wneuthur ni a 'i derbyniwn ef yn llawen, o herwydd oni ddlyid cynnwys barn Epiphanius yn erbyn delwau, am ei fod gwedy ei eni o Iddew gelyn i ddelwau, y rhai sydd elynion Duw gwedy ei droi i ffydd Grist, yno y canlyn na ddylai vn yma­drodd na gair yn yr hên ddoctoriaid, a'r tadau ac sydd o blaid delwau, fod mewn dim awdurdod, o herwydd fod y rhan fwyaf o scrifennyddion dys­cedig yr Eglwys gynt, megis Tertulian, Cypri­an, Ambros, Austin, a rhifedi anerif eraill yn ba­ganiaid, y rhai oeddynt yn ffafrio ac yn addoli delwau, gwedy eu troii ffydd Grist, ac felly fe allai iddynt oddef rhyw beth i lithro o'u pennau ym­mhlaid delwau, megis cenhedloedd, ac nid megis Christionogion.

Fal hyn y mae Eusebius yn ei histori eglwysig a S. Ierom yn dywedyd yn oleu, mai oddiwrth y cenhedloed y daeth delwau gyntaf attom ni y Christionogion, mwy o lawer y canlyn fod holl sothach y babaidd Eglwys yn amddiffyn delwau i'w cyfrif o awdurdod bychan, neu heb ddim aw­durdod. [Page 49] O herwydd nad yw rhyfedd fod y rhai a ddygwyd i fynydd o'u mebyd ym-mhlith delwau, ac a yfasont ddelw-addoliaeth agos gydâ llaeth eu mammau, yn dala gydâ delwau, ac yn dywe­dyd ac yn scrifennu yn eu plaid hwy.

Ond yn wir ni ddyleid ystyriaid gymmaint pa vn a'i vn gwedi ei droi i ffydd Grist o Iddew neu o genhedl-ddŷn a fyddai 'r scrifennydd, er ei gredu neu ei anghredu, ond mor gytun neu anghytun â gair Duw y mae fe 'n scrifennu. A pha beth y mae gair Duw yn ei ddywedyd am ddelwau, neu eulynod, a'u haddoliad, chwi a glywsoch yn ha­laeth, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon.

Mae S. Ambros yn ei draethawd am farwo­laeth yr Ymherodr Theodosius yn dywedyd fal­hyn, fe gafas Helen y groes a'r tieitl arni, hi addo­lodd y brenin yn ddiau ac nid y pren (o herwydd cy­feiliorn y cenhedloedd ydoedd hynny, ac oferedd yr annuwiol) ond hi addolodd yr hwn a grogafid ar y groes, enw yr hwn a'i deitloedd yn scrifene­dig arni, &c.

Edrychwch weithred yr Ym-herodres sancta­iadd, a barn S. Ambros oll ynghŷd: yr oeddynt hwy yn tybied mai cyfeiliorn y cenhedloedd, ac o­feredd yr annuwiol, oedd addoli 'r groes, ar yr hon y gollyngasid gwerthfawroccaf waed ein Ia­chawdwr Christ: ninnau a gwympwn i lawr ger bron pob dryll croes o goed, yr hwn nid yw onid delw 'r groes honno.

Mae S. Awstin y dyscediccaf o'r holl hên athra­wō yn dywedid yn 44. Epistol at Maximus, Gwy­byddwch nad oes vn o'r Christionogion catholic i'r rhai y mae Eglwys yn eich tref chwi yn addoli neb marw nao vn peth a wnaeth Duw megis [Page 50] Duw▪ Ystyriwch wrth airi au Awstin, nad ydyw y rhai a addolant bethau meirwon neu greaduri­aid yn Gristionogion catholic. Mae 'r vn S. Aw­stin yn dangos yn y 22. Llyfr o ddinas Duw a'r 10. bennod, na ddylaid adeiladu na themlau nac eglwysydd i ferthyron neu saint, ond i Dduw yn vnic, ac na ddyleid appoyntio offeiriaid i ferthyrō neu saint onid i Dduw yn vnic. Mae gan yr vn Awstin yn ei lyfr o arferon yr Eglwys gatholic, y gairiau hyn, Mi a wnn fod llawer yn addoli be­ddau a lluniau, mi a wn fod llawer yn cwmpnio yn afradlon a'r feddau 'r meirwon, a chan roddi eu bwyd i gyrph meirwon, ydynt yn eu claddu eu hunain ar y rhai a gladdwyd, ac yn bwrw eu glo­ddineb a'u meddwdod ar eu ffydd a'u crefydd. We­lwch, mae fe 'n cyfrif addoli beddau'r saint a'u llu­niau, yn gystadl crefydd a meddwdod a gloddineb, ac nid yn well. Mae S. Awstin yn fodlon iawn i Marcus Varro, yr hwn a ddywad fod crefydd yn buraf oll heb ddelwau. Ac fe ddywaid ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wyrdroi enaid anne­dwydd, nag i'w ddyscu a'i gyfarwyddo: ac fe a ddy­waid ymhellach fod pob plencyn, ie pob anifail yn gwybod, nad yw yr hyn y maent yn ei weled ddim yn Dduw: pa ham gan hynny y mae 'r Yspryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am y peth y mae pawb yn ei wybod? I'r hyn beth mae S. Aw­stin ei hunyn atteb fal hyn: O herwydd, medd ef, pan osodir delwau mewn temlau, a phan ddodir hwy mewn vwchelder anrhydeddus, a phan de­chreuer eu haddoli hwy, yno y mae gwyniau en­baid amryfysedd yn magu. Dymma farn S. Aw­stin De ciuitate Dei. In Psal. 36. & 113. am ddelwau mewn eglwysydd, eu bod hwy yn y man yr magu amryfysedd a delw-addoliad.

[Page 51] Fe fyddai ry hir adrodd yr holl leoedd eraill a ellid eu dangos allan o'r hen ddoctoriaid, yn er­byn delwau a delw-addoliad. Am hyn ni a ymfod­lonwn â'r ambell vn ymma ar hyn o amser.

Bellach am historiau eglwysig mewn hyn o beth, fel y galloch wybod paham, pa bryd, a chan bwy yr arferwyd delwau gyntaf yn ddirgel, ac ar ol hynny nid yn vnic eu derbyn i eglwysydd a themlau Christionogawl, ond yn y diwedd eu ha­ddoli hefyd, a pha fodd y gwaharddwyd, y dywe­dwyd ac y safwyd yn eu herbyn gan escobion du­wiol, doctoriaid dyscedig, a chan dywysogiō Chri­stionogaidd, mi a gynullaf yn fyrr stori gryno, o'r hyn a scrifennwyd yn halaeth, mewn llawer o le­oedd, gan lawer o hên scrifenyddion a historiawyr yn hyn o beth.

Megis y bu i'r Iddewon er bod ganthynt or­chymmyn Duw yn oleu ac yn eglur na byddai i­ddynt wneuthur nac addoli delw, megis y dan­goswyd o'r blaen yn halaeth, gwympo er hynny wrth siampl y cenhedloedd a'r bobloedd a drigent o'u hamgulch i wneuthur delwau ac i'w haddoli hwynt, ac felly i wneuthur ffiaiddiaf ddelwaddo­liad: am yr hyn y mae Duw trwy ei brophwydi sanctaidd yn eu ceryddu ac yn eu bygwth hwy yn dost, ac yn ol hynny a gyflawnodd ei fygythau hynny gan eu cospi hwy yn dôst, fal y dangoswyd vchod: felly gwedy troi rhai o'r Christionogion yn yr hên amseroed oddiwrth addoliad delwau a gaudduwiau, at y gwir Dduw byw a'n Iachaw­dwr Iesu Grist, o zêl ddall ddiwybod, ac megis gwyrgwedy ymarfer delwau yn hir o amser, hwy beintiasont ac a gerfiasont ddelwau o'n Iachaw­dwr Christ, Mair ei fam ef, a'i Apostolion, dan dy­bied [Page 52] fod hyn yn bwngc o ddiolchgarwch a chare­digrwydd tuag at y rhai y derbyniassent hwy wir wybodaeth am Dduw, ac athrawaeth yr e­fengil ganthynt.

Ond ni ddaethe y lluniau a'r delwau hyn etto i'r eglwysydd, ac ni addōlwyd hwy dros hir amser ar ol hynny.

Ac rhag i chwi dybied fymod i yn dywedyd hyn a'm pen fy hun yn vnic, heb awdurdod gennyf, mi a osodaf drosof Eusebius escob Cesarea yr awdur hynaf o'r histori eglwysig, yr hwn oedd fyw yng­ghylch y 330. flwyddyn o oedran yr Arglwydd, yn nŷddiau Constantinus fawr a Chonstantius ei fab ef, Ymherodron, yn y 7. lyfr o'i stori eglwy­sig, a'r bedwaredd bennod a'r ddeg, a S. Ierom ar y 10. bennod o brophwydoliaeth Ieremi, y rhai a ddywedant ill dau yn eglur, i amryfysedd am ddelwau (o herwydd felly y mae S. Ierom yn ei alw) ddyfod i mewn at y Christionogion oddiwrth y cenhedloedd, trwy ddefod ac arfer baganaidd.

Mae Eusebius yn dangos y modd a'r achos, gā ddywedyd, nid rhyfedd a hwyntau o'r blaen yn genhedloedd, gwedy iddynt gredu iddynt offrwm hynny ein Iachawdwr Christ, am y donniau a dderbynasent gantho, ie (medd ef) ac yr ydym yn gweled yn awr fod yn gwneuthur delwau Petr a Phawl a'n Iachawdwr Christ ei hun gwedy eu peintio mewn tablennau, yr hwn yr ydwyf yn ty­bied ddarfod ei gadw a'i gynnal megis peth di­drwg trwy arfer baganaidd. O herwydd felly yr arfer ai y cenhedloedd o anrhydeddu y rhai a dy­bygent eu bod yn haeddu anrhydedd, o herwydd y dylaid cadw rhyw arwyddion am hen wyr, o a­chos fod caffadwriaeth y rhai olaf yn arwydd o [Page 53] anrhydedd y rhai a fu o'r blaen, ac o gariad y rhai a ddel a'r ol.

Hyd hyn yr adroddais airiau Eusebius, ac yno ystyriwch fod S. Ierom ac yntef yn hyn o beth yn cytuno, ddyfod y delwau ymma i blith Christiono­gion gan rai oedd o'r blaen yn Baganiaid, ac a ar­ferasent ddelwau, a chwedi eu troi i ffydd Grist a gadwasant weddillion o'u paganeidd-dra heb ei gwbl lanhau: o herwydd mae S. Ierom yn ei a­lw ef yn eglur yn gyfeilioru ac amryfysedd.

Yr vn fath sampl a welwn ni yn Actau 'r Apo­stolion Act. 15. 1. am yr Iddewon, y rhai yn ol eu troi at Grist a fynnasent ddwyn i mewn yr enwaediad, (yr hwn a arferasent hwy yn hir,) gydâ hwy i ffydd a chrefydd Christ: gydâ 'r rhai y bu ar yr Apostoli­on, yn en wedig S. Pawl, waith mawr i attal hyn­ny o beth.

Ond am yr enwadiad yr ydoedd llai rhyfeddod, am ei ddyfod ef i mewn yn gyntaf trwy orchym­myn Duw. Ond fe ddichon dyn ryfeddu 'n gyfi­on o blegid delwau, pa fodd y daethont hwy i mewn, mor inion yn erbyn sanctaidd air Duw a'i orchymmyn cyhoedd. Ond nid oeddid etto'n amfer Eusebius yn addoli delwau, nac yn eu gosod yn gyhoeddus mewn eglwysydd a themlau, a'r rhai a'u cadwent hwy yn ddirgel, a gyfeiliornent nid o genfigen, ond o ryw zêl.

Ond yn ol hynny hwy a ymluscasont o dai dir­gel i eglwysydd, ac felly a fagasont yn gyntaf go­elfuchedd, ac yn ddiwethaf ddelw-addoliad ym­mhlith Christionogion, fal y cair gweled ar ol hyn.

Yn amser yr Ymherodron Theodofius a Mar­tian, y rhai a deyrnasent ynghylch y 460. o oedran yr Arglwydd, ac er ys 1140. mlynedd pan oedd [Page 54] pobl y ddinas Nola vnwaith yn y flwyddyn yn ca­dwdydd ganedigaeth S. Phelix yn y deml ac yn arfer o gwmpnio yno yn halaeth, fe a barodd Pon­tius Paulinus escob Nola beintio parwydydd y deml ag historiau a dynnasid allan o'r hên desta­ment, fal y gallai'r bobl wrth weled ac wrth ysty­ried y lluniau hynny, ymgadw'n well oddiwrth loddineb ac oferdraul.

Ynghylch yr amser hynny y mae Aurelius Pru­dentius bardd Christionogawl discedig yn mane­gi iddo fe weled mewn eglwys gwedy ei pheintio histori dioddefaint S. Cassian, merthyr a meistr yscol, yr hwn a laddasei ei yscolheigion ei hun yn greulon annial â mil o glwyfau gan ei frathu ef â'u pinniau scrifennu o bres, ar orchymmyn y ty­rant, medd Prudentius. Ac fal dymma'r peinti­adau cyntaf mewn eglwysydd ac sydd hynod am eu henaint. Ac felly wrth y siampl hyn y daeth peintio, ac ar ol hynny delwau o goed a cherig a defnyddion eraill, i eglwysydd Christionogawl.

Yn awr os ystyriwch y dechreuad ymma, nid y­dyw dynnion mor barod i addoli llun ar bared neu mewn ffenestr a delw fraisc orauraid, wedy ei thrwsio â cherig gwerthfawr. Ac mae mewn cy­flawn stori gwedy ei pheintio, ac actau a gweithre­doedd llawer o ddynnion, ac ond odid summ yr Stori gwedy scrifennu wrthi, ddefnydd arall am­gen nag sydd mewn eulyn, neu ddelw fud, a fytho 'n sefyll wrthi ei hun, ond wrth ddyscu trwy histo­riau peintiedig, fe ddaethpwyd bob ychydig i ddelw-addoliaeth. Yr hyn beth pan ddeallodd gwyr duwiol (megis ymmerodron ac escobion dyscedig eraill) hwy a orchymmynnasont nad ar­ferid y fath luniau, delwau ac Idolau mwy.

[Page 55] Ac er dangos hynny i chwi mi a ddechreuaf ar ordeiniaeth yr hên ymherodron Christionogawl Valens a Theodosius yr ail, y rhai a deyrnasa­sant ynghylch pedwar cant mlynedd yn ol escyn­niad ein Iachawdwr Christ, y rhai a waharddasāt wneuthur na pheintio delwau, na lluniau 'n ddir­gel: o blegid siccr yw nad oedd dim o honynt etto yn gyhoeddus yn yr eglwysydd yr amser hynny.

Mae 'r Ymmerodron ymma yn scrifennu yn y modd hyn, Valens a Theodosius yr Ymmero­dron at bennaeth y llu, Am fod gennym ofal ar faenteinio crefydd Dduw vwchlaw pob peth, ni chaniatawn i neb, osod allan, gerfio, neu beintio delw ein Iachawdwr Christ, mewn lliwiau, mewn cerrig, nac vn defnydd arall: ond pa le byn­nac y cyhwrdder ag ef, yr ydym yn gorchymmyn ei dynny ef ymmaith, a chospi pawb yn galed ac a amcanant wneuthur dim yn erbyn yr ordei­niaeth a'r gorchymmyn ymma. Mae 'r ordeini­aeth hon yn scrifennedig yn y llyfr a a elwir libri Augustales y rhai a gasclodd Tribunianus, Basi­lides, Theophilus, Dioscorus a Satyra, gwyr o awdurdod a dysc fawr, ar orchymmyn yr Ymme­rodr Iustinian, ac mae Petrus Erinius gwr dys­cedig godidawg yn son am yr ordeiniaeth hon yn y nawfed bennod o'i nawfed llyfr yr hwn y mae 'n ei enwi De honesta disciplina, hynny yw, am ddysceidiaeth honest. Ymma y gellwch weled pa beth a ordeiniodd tywysogion Christionogaidd o'r amseroedd henaf yn erbyn delwau, y rhai yr amfer hynny a ddechreuasant ymlusco i blith Christionogion. O herwydd siccr yw dros amser trychant o flynyddoedd a rhagor yn ol dioddefaint ein Iachawdwr Christ, a chyn i'r Ymmerodron [Page 56] sāctaidd ymma deyrnasu, nid oedd dim delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd neu demlau. Pa fodd y gorfoledde y delw-addolwyr pe byddai ganthynt gymmaint awdurdod a hynafiaeth dros ddelwau ac sydd ymma yn eu herbyn hwy?

Am ben ennyd fychan ar ol hyn fe dorrodd y Go­thiaid, Vandaliaid, Huniaid a chenhedloedd far­baraidd annuwiol eraill i mewn i'r Ital, ac i bob rhan o wledydd gorllewin Ewrop, a lluoedd mawrion grymmus, ac a anrheithiasont bob lle, a ddinistrasont ddinasoedd, ac a loscasant y llyfrau, fal y lleihawyd ac y llescawyd gwir grefydd yn amgen nag y credaiddyn. Ac felly gā fod Escobion y dyddiau diwethaf hynny, yn llai eu dysc, ac yn­ghenol rhyfeloedd yn gofalu llai na 'r escobion o'r blaen am hynny o beth, trwy anwybodaeth gair Duw, ac esceulusdra 'r escobion ac yn enwe­dig o herwydd bod tywysogion diwybod heb eu dyscu yn iawn yn-gwir grefydd, yn rheoli, fe a ddaeth delwau i Eglwys Grist yn y rhan orllewin honno, lle rheole y bobl farbaraidd hynny, nid yn vnig mewn lluniau gwedi eu peintio, ond gwe­di eu gweithio mewn cerrig, coed, neu fettel, a'r fath ddefnydd; ac ni ossodwyd hwynt i fynydd yn vnic ond fe ddechreuwyd eu haddoli hefyd.

Pan welodd Serenus gwr discedig duwiol Es­cob Massil y dref bennaf o Galia Narbonensis, (yr hyn a elwir yn awr prouins) yr hwn oedd yn­ghylch cwechcant o flynyddoedd yn oll ein Ia­chawdwr Christ, y bobl trwy achos delwau yn cwympo i ffieidiaf ddelw-addoliad; fe a dorrodd yn ddrylliau holl ddalwau Christ a'i saint y rhai oeddynt yn y ddinas honno, ac am hynny yr ach­wynwyd arno wrth Gregori Escob Rufain, y [Page 57] cyntaf o'r enw hwnnw: yr hwn oedd yr Escob dys­cedig cyntaf ac a oddefodd osod delwau yn gyho­edd mewn eglwysydd, er dim ac a ellir ei wybod trwy vn scrifen na hên histori. Ac ar y Gregori hwn y mae 'r holl addolwyr delwau y dydd he­ddyw yn gosod sail eu hymddiffynfa.

Ond megis ac y mae pob peth ac sydd ar fai, o ddechreuad a ellid ei oddef wedi tyfu waethwa­eth, nes eu myned o'r diwedd yn anrhaith oddef: felly yr aeth delwau.

Yn gyntaf fe arferodd dynnion historiau neill­tuol gwedy eu peintio mewn llechau, lliainiau a pharwydydd. Yn ol hynny delwau breiscon, gwychion, yn ddirgel yn eu tai eu hunain.

A chwedy hynny y dechreuodd lluniau yn gyn­taf, ac yn eu hol hwy delwau breiscon gwychion ymlusco i eglwysydd, er bod gwŷr dyscedig duwiol yn dywedyd yn eu herhyn hwy.

Yno trwy arfer, yr ymddiffynnwyd yn gyho­edd, y gallent hwy fod mewn eglwysydd, etto fe waharddwyd eu haddoli hwy.

O'r meddwl ymma yr ydoedd Gregori ei hun, fal y mae 'n eglur wrth lythyr y Gregori hwnnw at Serenus escob Massil, yr hwn a enwed o'r blaē, yr hwn lythyr a ellir ei gael yn llyfr llythyrau Gregori neu 'r register yn y ddegfed ran o'r ped­werydd llythyr, lle mae fe 'ndywedyd y gairiau hyn, Yr ydym yn canmol ddarfod iti wahardd addoli delwau, ond yr ydym ni yn anghanmol iti eu torri hwy. O blegid vn peth yw addoli'r llun, peth arall wrth lun yr histori yno, yw dyscu pa beth sydd i'w addoli. O achos, y peth yw 'r Scru­thyr i'r rhai a ddarllenant, hynny y mae 'r llun yn ei gyflawni i'r annyscedig wrth edrych arno, &c.

[Page 58] Ac yn ol ychydig o airiau, Am hynny ni ddylasid torri y peth a osodwyd yn yr Eglwys, nid i'w a­ddoli, ond i addyscu meddyliau 'r diwybod. Ac ychydig bach ar ol hynny ailwaith, fal hyn y dyla­sech ddywedyd, os mynnwch gael delwau yn yr eglwys er mwyn yr addysc y gwnaethpwyd hwy gynt, yr ydwyf yn goddef eu gwneuthur a'u cadw hwy, a'u dangos hwy, ac nad gweledigaeth yr hi­stori yr hon a hyspysa 'r llun, ond yr addoliad yr hwn a roddir yn anweddus i'r llun, sydd yn eich anfodloni: ac nid gwahardd y neb a fynnent wneuthur delwau, ond gwachelyd ym-mhob ffordd addoli delw.

Wrth yr ymadroddion hyn a dynnwyd ymma ac accw allan o lythyr Gregori at Serenus (o ble­gid fe fyddai ry-hir adrodd y cwbl) y gellwch ddeall hyd ym-mhale yr ydoedd y peth hyn gwedy tyfu chwechcant o flynyddoedd ar ol Christ, fod yn y gorllewin (o blegid nid oeddynt etto mor ba­rod yn Eglwys y dwyrain) yn maenteinio fod delwau neu luniau yn yr Eglwys, ond bod yn gwahardd yn hollol eu haddoli hwy. Ac chwi ellwch weled hefyd gan nad oes vn sail am addoli delwau yn scrifennad Gregori, ond ei fod yn eu dā ­nio hwy yn hollol, fod y rhai a addolant ddelwau yn gosod Gregori drostynt yn anghyfiawn. A hefyd oni chyfarwydda delwau yn yr Eglwys ddynion, megis y tebyg Gregori, ond yn hytrach eu dallu hwy, yno y canlyn na ddlyei ddelwau fod yn yr Eglwys, a hynny wrth ei farn ef, yr hwn a fynnai eu gosod hwy yno 'n vnic fal y gallent ddys­cu yr anwybodus.

Am hynny os dangosir addoli gynt, a bod etto 'n addoli delwau, a hefyd nad ydynt yn dyscu [Page 59] dim ond amryfysedd a chelwyddau (yr hyn trwy ras Duw a wnair ar ol hyn) yr ydwyf yn gobei­thio wrth farn Gregori ei hun y gorchfygir holl ddelwau a delw-addolwyr. Ond yr amser hyn­ny yr ydoedd awdurdod Gregori cymmaint yn yr Eglwys orllewin, megis trwy ei annogaeth ef y gosode dynnion ddelwau ym-mhob lle. Ond nid ydoedd eu synhwyrau hwy cystadl ac y me­drent ystyriaid paham y mynnai efe eu dodi hwy i fynydd, ond hwy a gwympasont oll yn gadau (trwy eu haddoli hwy) i ddelw-addoliad, yr hwn beth (nid heb achos da) a ofnodd Escob Serenus a ddigwydde.

Yn awr pe buasai farn Serenus yr hwn a dy­byge fod yn weddus dinistr delwau, yn cym­meryd lle, fe fuasid wedi dinistr delw-addoliad hefyd; o blegid i'r hyn nid ydyw ni wna neb ddelw-addoliad. Ond pa ddistryw ar grefydd, a pha flinder a ganlynodd ar holl gred, o farn Gre­gori, yr hwn a fynnai oddef delwau mewn eglw­sydd, ond dangos na ddlyid eu haddoli hwy, fe a ddangosodd amser eisoes i'n mawr niwed ni a'n tristwch. Yn gyntaf yn y schism a'r ymryson a fu rhwng yr Eglwys ddwyrain a'r eglwys orllewin ynghylch delwau.

Yn ail yn rhanniad yr Ymmerodraeth yn ddwy-ran, o achos delwau, i fawr wanhâd holl Gred, trwy 'r hyn yn ddiwethaf oll y canlynodd llwyr ddinistr crefydd Gristionogol, a'r Ymme­rodraeth ardderchawg yngwlad Roeg, ac yn yr holl ddwy-rain, a chynnydd gau-grefydd Maho­met, a chreulon lywodraeth a theyrnasiad y Sa­raseniaid, a'r Twrciaid y rhai sydd yn awr vwch ein pennau ninnau sydd yn trigo yn y gollewin, [Page 60] yn barod am bob achos i ddyfod am ein pennau. A'r achos o hyn oll yw ein delwau, a'n delw-addoliad yn eu haddoli hwy.

Ond yn awr gwrandewch orphen yr histori, yn yr hon yr ydwyf yn canlyn fwyaf historiau Paulus Eutropius de rebus Rom. 23. Diaconus, ac eraill a gydsylldir gydag Eutropius hên scrifennydd. O achos er bod rhai o'r scrifen­nyddion ymma yn mawrhau delwau, etto maent hwy yn oleu ac yn halaeth yn canlyn histori yr am­seroedd hynny. Y rhai y mae Baptist Platina he­fyd yn histori y pabiaid, ac ym-mywyd Constantin a Gregori dau o Escobion Rufain, a lleoedd eraill Platina ni vitis Con­stantini & Greg. 2. (lle mae fe 'n son am y peth hyn) yn eu canlyn yn enwedig.

Yn ol amser Gregori fe alwodd Constantin es­cob Rufain gym-manfa o escobion yr eglwys or­llewin, ac a gondemnodd Philippicus Ymmerodr y pryd hwnnw a Ioan escob Constantinoplo he­resi y Monothelitiaid, a hynny yn wir nid heb a­chos, ond yn gyfiawn iawn. Wedy iddo wneuthur felly trwy gyfundeb y gwyr dyscedig oedd yn ei gylch ef, fe barodd yr vn Constantin Escob Ru­fain beintio lluniau yr hên dadau, a fuase yn y chwe Chyngor y mae pawb yn eu cynwys ac yn eu derbyn, a'u gosod yn y mynediad i mewn i E­glwys S. Petr yn Rufain.

Pan wybu y Groegiaid hyn, hwy a ddechreua­sant ymddadleu ac ymresymmu ynghylch del­wau, â'r lladin wyr, ac a ddaliasant na ddlyai del­wau gael lle yn Eglwys Christ, a'r lladinwyr a ddaliasant y gwrthwyneb, ac a darawsant ym­mlhaid y delwau. Felly ar yr ymrysson hyn yng­hylch delwau y cwympodd eglwysydd y dwy­rain, ac eglwysydd y gorllewin, a hwy yn cytuno [Page 61] yn ddrwg o'r blaen, i lwyr elynniaeth, ac byth ni chymmodwyd rhynghynt.

Ond yn hyn o amser y gorchymmynnodd Phi­lippicus ac Arthenius neu Anastasius yr Ymme­rodron dynnu delwau a lluniau i lawr, au' crafu allan o bob lle yn eu teyrnasoedd hwy.

Yn eu hol hwy y daeth Theodosius y trydydd, efe a barodd beintio ailwaith y lluniau a anffur­fiasid, a'u gosod eilwaith yn eu lle, ond ni theyrna­sodd y Theodosius hwnnwond vn flwyddyn.

Ar ei ol ef y daeth Leo y 3. o'r enw hwnnw yr hwn oedd Syriad o anedigaeth, gwr call iawn, duwiol, trugarog, a thywysog gwrol. Fe barodd y Leo hwn trwy gyhoeddiad dynnu i lawr ac an­ffurfo 'r holl ddelwau a osodasid yn yr Eglwys i'w addoli, ac fe orchmynnodd yn enwedig i Es­cob Rufain wneuthur felly, ac yn yr ennyd hynny fe barodd gynull yr holl ddelwau oedd yn y ddi­nas Ymmerodraidd Constantinopol, a'u gosod yn Bentwr. grug ynghenol y ddinas, a'u llosci yno yn lludw yn gyhoedd: ac a wyngalchodd ac a grafodd ym­maith bob lluniau a beintiasid ar barwydydd temlau, ac a gospodd yn dost lawer o ymddiffyn wyr delwau.

A phan ddywedai rai am hynny ei fod efyn dy­rant, fe attebodd, o bawb oll fod yn eu cospi hwy yn gyfiawnaf, y rhai nid addolēt Dduw yn iawn, ac ni o falent am fawrhydi'r Ymmerodr a'i aw­durdod, ond a wrth ryfelent yn gynfigennus yn erbyn cyfraithiau llesol iachus.

Pan glywodd Gregori y trydydd o'r enw hwn­nw Escob Rufain, weithredoedd yr Ymmerodr yn Grecia ynghylch delwau, fe a gynnullodd Gyngor o escobion Itali yn ei erbyn ef, ac a wnaeth yno [Page 62] ordeiniaethau o ran delwau, ac am roddi mwy o barch ac anrhydedd iddynt nag a roddid o'r blaen, ac felly fe a gyffrôdd yr Italiaid i godi ac i wrth­rhyfelu yn erbyn yr Ymmerodr, a hynny yn gyn­taf yn Rafenna. Ac fal y testiolaetha Aspurgensis ac Antonius Escob Fflorens, fe a barodd i Rufain a holl Itali o'r lleiafballu o'u vfydd-dod a'u teyrn­ged i'r Ymmerodr. Ac felly fe a fainteiniodd eu delw-addoliad hwy trwy frâd a gwrthrhyfel. Yr hon siampwl a ganlynodd Escobion Rufain yn wastadol ac a aethont trwyodd yn ddigō trawsion.

Yn ol y Leo hynny yr hwn a deyrnasodd 34. mlynedd y canlynodd ei fab ef Constantin y pum­med, yr hwn yn ol siampl ei dad a gadwodd ddel­wau allan o'r temlau. A chan fod y Cyngor a gy­nullasai Gregori yn Itali o rhan delwau yn er­byn ei dad ef yn ei gyffroi ef, fe a gynullodd yntef Gyngor o holl wyr dyscedig ac escobion Asia, a Grecia, er bod rhai yn gosod y Cyngor hwn yn amser ddiwethaf Leo Isauricus ei dad ef.

Yn y gynnulleidfa fawr hon, hwy a eisteddasant mewn cyngor o'r bedwaredd o Idiau Chwefror, hyd y chweched o Idiau Awst, ac a wnaethant ynghylch arfer delwau yr ordeiniaeth hon, nid cy­fraithlon i neb a gredant yn nuw trwy Iesu Grist osod delwau y creawdwr, na'r creadur, yn eu tem­lau i'w haddoli: ond yn hytrarch y dlyeid wrth gy­fraith Dduw, a rhag trangwydd, dynnu pob delwau allan o'r Eglwys. Ac fe gyflawnwyd yr ordeiniaeth hon ymmhob man lle ceffid delwau yn Asia neu yn Grecia.

Ac fe ddanfonodd yr Ymmerodr y gyfraith hon a wnaethai'r Cyngor yn Constantinopol at Pawl escob Rufain, ac a orchymynnodd iddo fwrw 'r [Page 63] holl ddelwau allan o'r eglwysi: ac yntef gan ym­ddiried ynghyfeillach Pipin tywysog cadarn, a wrthododd wneuthur hynny. Ac efe ac Stepha­nas y trydydd yr hwn a'i canlynodd ef, a gynnu­llasant Gyngor arall yn Itali o ran delwau, ac a gondemniasont yr Ymmerodr a'r Cyngor o Gon­stantinopol o heresi, ac a wnaethant ordeiniaeth fod delwau sanctaidd Christ fal y galwent hwy, a'r fendigaid forwyn, a saint eraill yn wir yn haeddu anrhydedd ac addoliad.

Yn ol marw Cōstantin y teyrnasodd Leo y ped­werydd ei fab ef, yr hwn a briododd wraig o ddi­nas Athen a'i henw Theodora, yr hon hefyd a el­wid Hyrene, o'r hon y bu iddo fab a enwid Con­stantin y chweched, ac ef a fu farw a'i fab etto 'n ieuangc ac a adawodd lywodraeth yr Ymherodra­eth a rheolaeth ei fab ieuangc i'w wraig Hyrene. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn yr Eglwys yng­hylch y 760. flwyddyn o oedran yr Arglwydd.

Ystyriwch ymma attolwg yn yr stori hon, nad oedd delwau yn gyhoedd yn eglwysydd Asia a Gre­cia, dros saithcant o flynyddodd. Ac nid oes am­mau nad oedd yr eglwysydd nesaf at amser yr Apo­stolion yn buraf oll.

Ystyriwch hefyd yn-nechreu yr ymryson ynghylch delwau na bu o chwech o'r Ymme­rodron Christionogaidd, y rhai oedd yn llywo­draethwyr vchaf, i'r rhai y dylyeid Vfyddhau wrth gyfraith Duw, onid vn yn vnic sef Theo­dosius, yr hwn ni theyrnasod onid vn flwyddyn, yn dala oblaid delwau. Fe a gondemniodd yr holl Ymherodron eraill hwy, a holl wyr dyscedig ac escobion Eglwys y dwyrain, a hynny gwedy ymgynnull ynghŷd mewn Cyngorau, heblaw [Page 64] y ddau Ymerodr a enwasom ni orblaen, Valens a Theodosius yr ail, y rhai oedd yn hîr cyn yr amser hynny, ac a waharddasant yn galed na wnaid dim delwau.

Ac ar ol hyn yn gyffredinol y dinistre holl Ym­merodron Grecia (oddiethr Theodosius yn vnic) bob delwau yn wastadol.

Yn awr o'r gwrthwyneb ystyriwch mai escobi­on Rufain y rhai nid oeddynt lywiawdwyr gwe­dy i Dduw eu appoyntio, ond yn vnic yn eu hesco­biathau hunain, ond eu bod yn cymmeryd arnynt awdurdod tywysogion, yn erbyn gair Duw, oedd yn ymddiffyn delwau yn erbyn gair Duw, ac yn cyffroi terfysc a gwrthryfel, ac yn gweitho brad bob amser yn erbyn eu pennaethiaid goruchaf, yngwrthwyneb i gyfraith Duw, ac ordeiniae­thau pob cyfraithiau dynawl, gan fod nid yn vnic yn elynion i Dduw, ond yn wrthrhyfelwyr ac yn fradwyr hefyd yn erbyn eu tywysogion. Dymma 'r rhai cyntaf a ddygasant delwau yn gyhoedd i'r eglwysydd, dymma 'r rhai sydd yn eu hymddiffyn hwy yn yr eglwysydd, a dymma 'r modd y dar fu iddynt eu hymddiffyn hwy, hynny yw trwy ddir­gel gydfwriadau, brad a gwrthrhyfel yn erbyn Duw au tywysogion.

Ond i fyned yn ein blaen yn yr histori'r hon sydd wiw ei gwybod. Ym-mabolaeth Constantin y chweched, Hyrene yr ymmerodres ei fam ef yn­llaw yr hon yr ydoedd llywodraeth ymmerodra­eth, a arweinid fwyaf gan gyngor Escob Theodor, a Tharasius patriarch Constantinopol, y rhai oe­dynt yn gweithio ac yn dala yn dynn gydag Escob Rufain, i fainteinio delwau: wrth gyngor ac ei­riol y rhai hynny hi a barodd yn annuwiol iawn, [Page 65] geibio y fynydd gorph ei thad yn y gyfraith Con­stantin y pummed, ac a orchmynnodd ei losci ef yn gyhoedd, a thaflu ei ludw ef i'r môr. Yr hon siampl fal y mae 'r son diammau, a arferasid ar gyrph ty­wysogion yn ein hamser ninnau, pe buasai aw­durdod y tadau sanctaidd hynny yn parhau ronyn bach yn hwy yn ein mysc ni.

Yr achos paham y gwnaeth yr Ymmeredores Hyrene hynny âi thâd yn y gyfraith, oedd am iddo ac yntef yn fyw, ddinistr delwau, a dwyn ymmaith drwsiadau gwerthfawr yr eglwysydd, gan ddywe­dyd fod Christ (temlau yr hwn oeddynt) yn fodlon gantho dlodi, ac nid tlyssau a meini gwerthfawr.

Yn ol hynny fe alwodd yr Hyrene honno, ar an­nogaeth Adrian escob Rufain a Phawl Patri­arch Constantinopol a Tharasius yr hwn a'i can­lynodd ef, Gyngor o Escobion Asia a Grecia ynni­nas Nicaea, ac yno gan fod cenhadon Escob Ru­fain yn bennaduriaid o'r Cyngor, ac yn trefnu pob peth megis y mynnent, fe a gondemnwyd y Cyn­gor a gynnullasid o'r blaen yn amser Constantin y pummed, ac a ordeiniase yn erbyn delwau ar eu dinistrio hwy, megis Cyngor a chynnulleidfa he­reticciaidd, ac a wnaed ordeiniaeth ar osod i fy­nydd ddelwau yn holl eglwsydd Grecia, a rhoddi anrhydedd ac addoliad hefyd i'r delwau hynny. Ac felly yr Ymerodres honno heb arbed Diwallrwydd dyfalwch yn y byd i osod delwau i fynydd, na chost i'w trw­sio hwy 'n yr holl eglwysydd, a wnaeth Constanti­nopol mewn amser byrr yn gyffelyb i Rufain ei hun am ddelwau.

Ac ymma y gwelwch ddigwyddo 'r hyn a of­nodd Escob Serenus, ac a waharddodd Gregori y cyntaf yn ofer, hynny yw na addolid delwau [Page 66] mewn vn modd. O blegid yn awr nid ydyw yn v­nic yr an-nyscedig angall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scrythyr yn dangos fod delwau yn faglau iddynt, ond yr Escobion a'r dyscedig hefyd yn cw­ympo i ddelw-addoliad trwy achos delwau, ie ac i wneuthur cyfraithiau ac ordeiniaethau i'w ma­enteinio hwy. Mor anhawdd yw, ie ac mor am­mhossibl bod delwau yn gyhoedd mewn eglwy­sydd a themlau nymor amfer heb ddelw-addo­liad, megis mewn ychydig mwy nâ chan mlynedd rhwng Gregori y cyntaf, yr hwn a waharddodd yn galed addoli delwau, a Gregori y trydydd a Phaul a Leo 'r trydydd Escobion Rufain, a 'r Cyngor hwn sydd yn gorchymyn ac yn ordeinio addoli delwau, fal y mae 'n eglur yn ymddangos.

Yn awr pan ddaeth Constantin ieuangc yr Ymmerodr ynghylch vgain mlwydd o oedran, fe aeth beunydd leilei ei gymmeriad. O achos fe a'i perswadodd rhai oedd ynghylch ei fam ef hi, fod Duw gwedy ei hordeinio hi ei hunan i deyr­nasu yn vnic, heb ei mâb gydâ hi. Yr hyn pan gredodd y wraig vchel-fryd honno, hi a ddifuddi­odd ei Mab o'i Ymmerodaidd fraint, ac a gym­mhellodd yr holl filwyr, a'r penaethiaid i dyngu na oddefent hwy ei mâb hi Constantin i deyrnasu yn ei bywyd hi.

Gwedy i'r tywysog ieuangc gyffro o herwydd yr an-nheilyngdod hyn, fe a orescynnodd lywo­draeth yr ymmerodraeth i'w law ei hū trwy rym­arfau, a chwedy ei ddwyn i fynydd mewn gwir grefydd yn amser ei dad, pan welodd ofergoel ei fam Hyrene, a'r delw-addoliad a wnaid i ddelwau, fe daflod i lawr ac a friwodd, ac a loscodd yr holl ddelwau a osodase ei fam i fynydd.

[Page 67] Ond yn ol ychydig o flynyddoedd, a Hyrene gwedy ei derbyn i ffafor ei mab ailwaith, gwedi iddi ei annog ef i dynnu llygaid ei ewythr Nice­phorus, a thorri tafodau ei bedwar ewythr eraill, a gwrthod ei wraig, trwy 'r hyn y dygodd hi ef mewn casineb gydâ ei ddeiliaid: weithian er mwyn dangos nad oedd hi gwedy newid, ond yr vn wraig ac ydoedd hi pan geibiasai hi gorph ei thad yn y gyfraith ai losci, ac y byddai hi mor na­turiol man, ac y buasai hi merch yn y gyfraith garedig, pan welodd hi ei mab yr Ymmerodr yn dinistr beunydd y delwau a garai hi yn gym­maint ac a osodasai hi i fynydd trwy gymmaint côst, trwy nerth rhyw gyfeillion da hi a ddiswydd­odd ei mâb o'i Ymmerodraeth, ac yn gyntaf, me­gis mam fwyn garedig, hi a dynnodd ei ddau ly­gad ef ac a'i taflod ef i garchar, ac yn ol llawer o boenedigaethau a'i lladdodd ef ag angau creulon.

Mae 'n scrifennedig yn yr histori a gyssilltir ac Eutropius, i'r haul dywyllu 'n rhyfedd ac yn of­nadwy dros ddau ddiwarnod ar bymtheg, a bod pawb yn dywedyd i'r haul golli ei oleu am aru­thredd gweithred greulon an-naturiol Hyrene, a thynnu allan lygaid yr Ymmerodr. Ond yn siccr ewyllys Duw oedd arwyddocau wrth dywylliad yr haul, i ba dywyllwch a dallineb o anwybod a delw-addoliad, y cwympai holl Gred o achos delwau, ac a tywyllid ac a duid eglur haul ei drag­wyddol wirionedd ef a goleini ei sanctaidd air ef trwy niwl a thywyllwch cymylau traddodiadau dynion, megis trwy lawer o ddayar grynfau a ddigwyddasent ynghylch yr amser hwnnw, yr ar­wyddocaodd Duw y siglid ac yr yscydwid ynaruthr esmwyth stat gwir grefydd, trwy ddelw-addoliad.

[Page 68] Ac ymma y gwelwch mor rassol a rhinweddol arglwyddes oedd yr Hyrene honno, mor garedig nith oedd hi i ewythredd ei gŵr, mor garedig mam yn y gyfraith i wraig ei mab, mor garedig merch i'w thâd yn y gyfraith, mor naturiol mam i'w mâb ei hun, a pha bennaethes ddewr-wych a ga­fas Escob Rhufain o honi i osod i fynydd ac i fa­entaeinio ei eulynod a'i ddelwau. Yn wir ni alla­sent byth gael gweddusach ymddiffynnydd i'r fath beth, nâ 'r Hyrene ymma, Vchelfryd yr hon a'i chwant teyrnasu ni allid ei ddigoni; yr hon yr oedd ei bradau, a weithiai ac a fyfyriai hi yn wa­stad, yn dra ffiaidd, yr hon yr aeth ei han-nuwiol ai han-naturiol greulondeb tuhwnt i Medea a Phrogne, y rhai y rhoes eu llofruddiaithiau Erchyll. e­chrydus ddefnydd, i'r bairdd i scifennu tragediau aruthrol. Ac etto mae rhai o'r scrifennydion a scrifennasant yr holl Echrydus. erchyll anwireddau ymma, o herwydd y cariad oedd ganthynt at ddelwau, y rhai yr ydoedd hi yn ei maenteinio, yn ei chanmol hi, megis ymmerodes dduwiol a ddanfonasid oddiwrth Dduw. Or cyfryw yw dallineb coelfu­chedd, ac ofergoel, o caiff vnwaith feddiant ar feddwl dyn, ac y cyhoedda feiai tywysogion drwg, ac a'u canmol hwy hefyd.

Ond ychydig ar ol hynny y drwgdybiodd tywy­sogion ac Arglwyddi Gręcia Hyrene, ac a honna­font arni fwriadu ceisio symmud yr Ymmerodra­eth at Charles brenin y Ffranconiaid, ac amcanu priodas ddirgel rhwngthi ei hun â'r brenin hwn­nw: gwedy gwneuthur hynny yn gyhoedd arni, hi a ddiswyddwyd ailwaith gan yr Arglwyddi hynny, ac a ddifuddiwyd o'r Ymmerodraeth ac a [Page 69] Deolwyd, aethwladwyd. afwladwyd i yn ys Lesbos, ac yno y diweddodd hi ei bywyd drygionus.

Yr hyd yr oeddid yn gweithio y tragediau ym­ma yngwlad Groeg ynghylch delwau, fe a dde­chreuwyd cyffroi yr vn questiwn ynghŷlch arfer delwau mewn eglwysydd yn Spaen hefyd. Ac yn Eliberi dinas ardderchog a elwir yn awr Garnat y casclwyd Cyngor o Escobion Hispaen a gwyr dyscedig eraill, a chwedy iddynt hir Ymmadrodd draethu ac ymgynghori ynghŷlch y peth hwnnw, fe a gyt­tnnwyd o'r diwedd gan yr holl Gyngor yn y modd ymma, yn yr articul 36.

Yr ydym ni yn tybied na ddylei fod lluniau mewn eglwysydd, rhag ofn bod pointio yr hyn a addolir neu a a'nrhydeddir, ar bared. Ac fal hyn yr scrifennir yn y 41. Canon o'r Cyngor hwnnw, Ni a welsom fod yn dda rhybyddio 'r ffyddloniaid gymmaint ac y mae ynddynt, na oddefont ddim delwau yn eu tai, ond os bydd arnynt ofn gor­threch eu gwasanaeth-ddynion ar y lleiaf ym­gadwant hwy yn bur oddiwrth ddelwau, ac os gwnant amgen, na chyfrifer hwy o'r Eglwys.

Ystyriwch adolwg ymma, fod holl wlad fawr yn-nhuedd y gorllewin a dehau Ewrop, nes i Ru­fain o lawer ei gosodiad nag i Gręcia yn cyfuno â'r Groegwyr yn erbyn delwau, ac nad ydynt yn eu gwahardd hwy yn vnic mewn eglwysydd, ond mewn tai dirgel hefyd, ac yn escymuno y rhai a wnant y gwrthwyneb.

Ac fe wnaeth Cyngor arall hefyd yr hwn a el­wir Cyngor Toletum y ddau-ddegfed, ordeinhâd a chyfraith yn erbyn delwau a delw-addolwyr. Ond pan wybu escob Rufain a'i blaid i'r Cyngor hwn o Spaen yn Eliberi wneuthur y fath gy­fraith [Page 70] yn erbyn delwau, hwy ofnasant yr ordei­niai yr holl Germaniaid hefyd yn erbyn delwau, ac y gwrthodent hwy: ac a feddylasont ragflaenu hynny, a thrwy gyfundeb a nerth tywysog y Ffrā ­coniaid, yr hwn oedd fwyaf ei gadernid yn-nhu­edd y gorllewin, a gynullasant Gyngor o Germa­niaid yn Ffrancfford, ac yno hwy a barasant gon­demnio y Cyngor a fuase yn Spaen yn erbyn delwau, ar enw Heresi Ffelix (o blegid mai Ffelix Escob Aquitania oedd bennaf yn y Cyngor hwn­nw) ac a gawsant yno dderbyn Actau yr ail Cyn­gor o Nicaea, a gasclesid trwy waith Hyrene yr Ym­merodes sainctaidd honno (am yr hon y clywsoch chwi sôn) a barn Escob Rufain o blaid delwau.

O herwydd yn gyffelyb i hyn y mae y papistiaid yn adrodd histori Cyngor Ffrancfford. Er hynny mae llyfr Charles Mayn a scrifennodd ef ei hun, (fal y dengis y teitl) yr hwn sydd yn awr gwedy ei brintio ac yn gyffredin ynnwylaw pawb, yn dan­gos fod barn y tywysog hwnnw a holl Gyngor Ffrancfford hefyd yn erbyn delwau, ac yn erbyn yr ail Cyngor o Nicaea, yr hwn a gynullasai Hy­rene o blaid delwau, ac yn galw y Cyngor hwn­nw yn Gyngor rhyfygus, ffol, annuwiol. Ac mae fe'n dangos ddarfod cynull y gynulleidfa hōno yn Ffrancfford yn vniawn yn erbyn Cyngor Nicaea a'i amryfysedd.

Fal y mae 'n rhaid canlyn naill ai bod dau Gyn­gor yn Ffrancfford, yn amser yr vn tywysog, y naill yn erbyn y llall, yr hyn ni ellir ei ddangos wrth vn histori, ai yntae ddarfod i'r pabiaid a'r papistiaid, yn ol eu harfer, lygru yn gwilyddus actau y Cyngor hwnnw, megis yr arferant hwy wneuthur nid yn vnic â Chyngorau, ond ag histo­riau [Page 71] ac scrifennadau 'r hen ddoctoriaid hefyd, gan eu hanghy wiro, a'u llygru hwy, er maenteinio eu defnyddion a'u bwriadau drwg eu hunain, fal y daeth i oleuni yn hwyr o amser, ac fal y mae yn ymddangos fwyfwy beunydd yn ein dyddiau ni. Bydded dychmygus rodd Constantin, a'r bwriad hynod hwnnw ar anghywiro y Cyngor cyntaf o Nicaea, am bennaduriaeth y Pab, yr hyn a amca­nodd y Pâb yn amser S. Awstin yn dystiolaeth o hyn. Yr hyn fwriad a gwblhaesid yr amser hynny oni buase i ddiwydrwydd a mawr ddoethineb S. Awstin, ac Escobion dyscedig duwiol eraill o A­ffrica, sefyll yn erbyn hynny ai rwystro.

Yn awr i ddyfod tuag at ddiwedd yr histori hon ac i adrodd i chwi y peth pennaf a ddigwyddodd o fainteinio delwau, lle yr ydoedd er amser Con­stantin fawr, hyd y dydd hwnnw yr holl awdurdod ymmerodrol, a rheolaeth dywysogol ymmero­draeth Rhufain, yn aros yn wastadol yn-ghyfi­awnder a meddiant yr ymmerodwyr y rhai yr oedd eu trigfa a'u ymmerodrol eisteddfa yn Con­stantinopol y ddinas frenhinawl.

Pan welodd Leo 'r trydydd, Escob Rhufain yr amser hwnnw, Ymmerodron y Groegiaid wedi ymroi yn gymmaint yn erbyn ei dduwiau ef o aur, ac arian, coed a cherrig, ac am fod gantho fre­nin Frainct a elwid Charls, gwr mawr ei allu yn y gorllewin, yn hyblyg wrth ei ewyllys, ac am a­chosion a geir eu gweled ar ol hyn: mewn lliw o fod gwyr Constantinopol dan felltith a reg y pab o blegid delwau, ac am hynny yn annheilwng i fod yn ymmerodron, nac i lywodraethu, ac o her­wydd hefyd nad oedd Ymmerodron Grecia gan eu bod mor bell, mor barod wrth Emmaid. amnaid i'w ym­ddiffyn [Page 72] ef yn erbyn ei elynion y Lumbardiaid, ac eraill oeddynt yn ymryson ag ef: fe aeth y Leo ym­ma meddaf ynghylch peth rhyfedd anferth, na chlywad son er ioed o'r blaen am y fath, a pheth o eofnder a rhyfyg anghredadwy: o herwydd wrth ei babaidd awdurdod fe a symmudodd lywodra­eth yr Ymmerodr oddiwrth y Groegiaid, ac a'i rhoddodd i Charles fawr brenin y Francod, a hyn­ny trwy gyfundeb yr Hyrene a ddywedasom ni o'r blaen, ymmerodes Grecia, yr hon hefyd a fw­riadodd i chydsylltu ei hun mewn priodas â'r Charles hwnnw: am yr hyn achos yr A fwladodd. deolodd. aethwla­dodd ac y diswyddodd Arglwyddi Grecia hi, megis vn a fradychysai yr ymmerodraeth fal y clywsoch chwi o'r blaen.

Ac yn ol diswyddo yr Hyrene honno, y dewisodd tywysogion Grecia, trwy gyfundeb cyffredin, me­gis yr arferent yn wastad, ac a wnaethont Ym­merodr a'i enw Nicaephorus, yr hwn ni chydna­byddai Escob Rufain na gwyr y gorllewin yn Ymmerodr arnynt, o herwydd yr oeddent eisioes gwedy dewis arall, ac felly y daeth dau Ymme­rodr: a'r ymmerodraeth yr hon oedd vn o'r blaen a rannwyd yn ddwy ran o achos delwau a'u haddo­liad, megis yn yr hên amser y rhannwyd brenhi­niaeth yr Israeliaid o blegid y cyffelyb achos, yn amser Rehoboam. Ac felly gwedi i Escob Rufain siccrhau tuag atto gariad Charles trwy y modd ymma, fe dderchafwyd yn rhyfedd mewn gallu ac awdurdod, ac a wnai yn holl Eglwys y gorllewin, yn enwedig yn Itali, y peth a fynnai, yn yr arta­loedd hynny y gosodwyd delwau i fynydd, yr har­ddwyd ac yr addolwyd hwy gan bawb oll.

Ond nid oeddid mor barod yn gosod delwau i [Page 73] fynydd, nac yn eu hanrhydeddu yn gymmaint yn Itali a'r gorllewin, nad oedd Nicęphorus Ymme­rodr Constantinopol, a'r rhai a ddaethont ar ei ol ef Scauratius, ar ddau Michael, Leo, Theophi­lus, ac ymmerodron eraill a'u canlynent hwy­thau yn ymmerodraeth Grecia, yn eu tynnu hwy i lawr, yn eu briwo, yn eu llosci, ac yn eu dinistr hwy cy gynted. A phan fynnasai ymmerodr Theo­dorus ynghyngor Lions gyfuno ag Escob Ru­fain, a gosod delwau i fynydd, fe a ddifeddiannwyd o'i ymmerodraeth gan oreugwyr Grecia, ac a dde­wiswyd arall yn ei le fe: ac felly fe gyfododd eiddi­gedd, gwg, casineb, a gelynniaeth rhwng Chri­stionogion ac ymmerodraethau y gorllewin, a'r dwyrain, yr hwn ni allwyd byth oi ddiffod na'i he­ddychu. Megis pan ryfelodd y Saraseniaid gyn­taf, a'r Twrciaid a'r ol hynny, yn erbyn y Christio­nogion, ni chynorthwye y naill ran o Gred ddim o'r llall. O blegid hyn yn y diwedd fe gollwyd ymmerodraeth y Groegiaid, a Chonstantinopol yr ymmerodraidd ddinas, ac a ddaethont i ddwylo yr anghredadwy, y rhai yn awr a oresnenasant y rhan fwyaf o holl Gred, a chwedy meddiannu mwy nâ hanner Hungari, yr hon sydd ran o ym­merodraeth y gorllewin, maent hwy vwch yn pennau ninnau, i fawr enbeidrwydd a pherigl holl Gred.

Fal hyn y gwelwn pa fôr o flinderau ac aflwydd a ddug maeinteiniaeth delwau gydâ hi, pa rwy­giad anferth rhwng yr Eglwys orllewin a'r E­glwys ddwyrain, pa gasineb rhwng y naill Gri­stion a'r llall, Cyngor yn erbyn Cyngor, Eglwys yn erbyn Eglwys, Christionogion yn erbyn Chri­stionogion, tywysogion yn erbyn tywysogion, [Page 74] gwrthrhyfelau, bradau, lladdiadau an-naturiol creulon, y ferch yn peri ceibio i fynydd gorph yn Ymmerodr ei thâd a'i losci, y fam o gariad ar ei delwau yn lladd ei mab ei hun, ac yntef yn Ym­merodr: yn ddiwethaf gwahanu, yr ymmerodra­eth a Chred yn ddwy ran, nes i'r anghredadwy y Saraseniaid a'r Twrciaid gelynion cyffredinol y ddwy ran, orchfygu ie dinistr a darostwng yn greulon y naill rhan, holl ymmerodraeth Grecia, Asia leiaf, Thracia, Macedonia, Epirus, a llawer o wledydd eraill, ac o daleithiau mawrion gwy­chion, a gorescyn rhan fawr o'r ymmerodraeth a­rall: a dodi'r cyfan mewn ofn anfeidrol, ac en­beidrwydd ofnadwy anferth.

O blegid nid heb achosion mawr yr ofnir rhag megis y rhannwyd ac y drylliwyd ymmerodra­eth Rhufain am ddelw-addoliad, fal y rhannwyd teyrnas Israel gynt, am yr vn fath ddelw-addo­liad: felly cwympo o'r cyffelyb gosp, am y cyffelyb fai arnom ninnau, ac a gwympodd ar yr Iddew­on: hynny yw rhag i'r tyrant creulon gelyn ein gwledydd ni a'n crefydd y Twrc, trwy gyfiawn ddial Duw ein lladd ni 'r Christionogion, a'n dwyn i gaethiwed, fal y lladdodd ac a caeth glu­dodd brenhiniodd yr Assiriaid a'r Babiloniaid yr Israeliaid, a rhag dwyn ymmerodraeth Rufain a gwir grefydd, dan draed yn llwyr, megis y dygwyd teyrnas yr Israeliaid a gwir greddyf Dduw, at yr hyn a mae 'r peth eisoes fal y dangosais o'n rhan ni yn gogwyddo 'n annial: gan fod eisoes y rhan fwyaf o holl Gred mewn llai nâ thrychant o slynyddoedd gwedy ei dwyn i flin gaethiwed a cha­ethglud dan y Twrc: ac ardderchog ymmerodra­eth Grecia gwedy ei hymchwelyd yn llwyr. Ond [Page 75] pe buasei 'r Christio nogion heb ymrannu fal hyn ynghylch delwau, ac yn dala ynghyd, ni allase 'r anghredadwy a drwg greaduriaid, fal hyn lwy­ddo 'n erbyn Cred, a'r holl flinderau a'r aflwydd hyn a ddaeth arnom o blegid ein galluog dduwiau o aur ac arian, coed a cherrig, yn nerth ac ymddi­ffyn y rhai a hwythau heb allel eu cynnorthwyo eu hunain, yr ymddiriedason ni, hyd oni ortrech­odd ein gelynnion anghredadwy ni a'n gorescyn agos yn gwbl.

Gobrwy cyfion i bawb ac a ymadawant â'r ga­lluog bywiol Dduw, Arglwydd y lluoedd, ac a ymostyngant, ac a roddant yr anrhydedd sydd ddy­ledus iddo ef, i goed a cherrig meirwon, y rhai y mae llygaid iddynt ac ni welant, traed ac ni cher­ddant, &c. ac sydd felltigedig gan Dduw, ynghyd â'r rhai a'u gwnant, a'r rhai a ymddiredont ynddynt.

Fal hyn y deallasoch, fyngharedigion yn ein Iachawdwr Christ, wrth farn hên ddyscedig a du­wiol athrawion yr Eglwys, a thrwy hên histo­riau eglwysig yn cyfuno â gwirionedd gair Duw, a dynnwyd allan o'r hen Destament a'r Testa­ment newydd fod yn yr hen Eglwys gynt yr hon oedd buraf a dilygraf oll, yn gwachelyd, yn ca­shau, ac yn ffieiddio delwau, a delw-addoliad, megis pethau ffiaidd gwrthwyneb i wir Gristio­nogawl grefydd, a phan ddechreuodd delwau ym­lusco i'r Eglwys, fod Escobion, athrawion ac ys­colheigion dyscedig duwiol, yn dywedyd ac yn scrifennu yn eu herbyn hwy, a bod Cynghorau cyfain o Escobion a gwyr dyscedig gwedy ymgyn­null ynghŷd yn eu condemnio hwy, ie a darfod i lawer o Ymmerodron ac Escobion Christiono­gawl, [Page 76] e'r es rhagor i saithcant ac wythcant o fly­nyddodd ddifwyno, a dryllio, a distrywio delwau: ac am hynny nid er ys ychydig ddyddiau (megis y mynne rhai i chwi gredu) y dechrauwyd dywe­dyd ac scrifennu yn erbyn delwau a delwaddoliad.

Yn ddiwethaf chwi a glywsoch pa ddialedd a pha flinder ac aflwydd a gwympodd o achos del­wau ar holl Gred heblaw colled aneirif o enei­diau yr hyn sydd Echryslonaf. echrydusaf oll. Attolygwn am hynny ar Dduw ar ini gan gymeryd rhybidd gan ei sanctaidd air ef, yr hwn sydd yn gwahardd pob delw-addoliad, a chan scrifennadau hên athraw­on duwiol, ac historiau eglwysig, a scrifennwyd ac a gadwyd trwy ordeinad Duw, er ein rhyby­ddio ni i wachelyd delwaddoliad ac i ddiangc rhag y gosp ar plaau bydol a thragwyddol a fygythir am hynny. Yr hyn beth Duw ein Tad nefol a'i canniatao ini, er mwyn ein vnic Iachawdwr a'n cyfryngwr Iesu Grist, Amen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn er­byn delwau a'u haddoliad, yn yr hon y cyn­hwysir atteb i'r rhesymmau dewisaf y rhai a ar­ferir ei faenteinio delwau, yr hon ran a ddichon wasanauthu i gyfarwyddo curadiaid eu hu­nain a gwyr deallus.

YN awr chwi a glywsoch mor oleu ac mor ddifrifol, a hynny mewn llawer o leoedd y mae gair Duw yn dywe­dyd, nid yn vnic yn erbyn delw-addo­liad, ond yn erbyn delwau hefyd: fy meddwl am hyn yn wastad yw, cy belled ac y'n [Page 77] cyffroir ac y'n annogir trwyddynt i'w haddoli hwy, ac nid megis pe gwaharddid hwy yn hollol yn y Testament newydd, heb y fath achosion ac enbeidrwydd: chwi a glywsoch hefyd allan o'r hi­storiau eglwysig ddechreuad, cynnydd a rhwydd­deb delw-addoliad trwy ddelwau: a'r mawr ym­ryson a fu yn eglwys Grist yn eu cylch hwy, i fawr drallod a cholled holl Gred. Chwi a glywsoch he­fyd ymadroddion yr hên dadau a'r athrawion a'r escobion dyscedig duwiol, y rhai a dynnwyd o'u scrifennadau hwy eu hunain, yn erbyn delwau a delw-addoliad.

Mae etto yn ol fod i ni atteb ac argyoeddi y rhe­symmau a wnair ym-mhlaid delwau, a'u gor­modd beintio a'u goreuro a'u trwsio hwy, ac Eg­lwysydd a themlau hefyd, yr hyn a wnair o ran, trwy ddodi y lleodd a osodwyd o'r blaen at eu rhe­symmau hwy: ac o ran wrth eu hatteb mewn moddion eraill. Yr hon ran sydd iddi y trydydd lle yn y traethawd hwn, am na all y cyffredin bobl ddeall y pethau hyn yn dda, ac na ellir atteb rhe­symmau y rhai sydd yn maenteinio delwau, heb ormod flinder a phoen, oni byddir yn gwybod y traethawd aeth o'r blaen.

Ac er bod yn ail sôn ymma am bethau a soniwyd o'r blaen am danynt, etto nid ydyw yr ail adrodd hyn yn ofer, ond gan mwyaf yn anghenrhaid, am na all yr annyscedig ddeall yn amgen pa fodd yr ydys yn agweddu y lleoedd hynny yn erbyn rhe­symmau y rhai sydd yn ymddiffyn delwau, a'r rhai oni bai hynny y gellid eu twyllo.

Yn gyntaf mae y rhai sydd yn ymddiffyn del­wau yn dywedyd am yr holl gyfraithau, gwahar­ddiadau a'r melldithion yr ydym ni yn eu rhoi [Page 78] drosom allan o'r Scrythyrau sanctaidd, ac o yma­droddion y doctoriaid yn erbyn delwau, a'u haddo­liad, eu bod hwy yn perthyn yn vnic i eulynod i Cenhedloedd a'r Paganiaid, Megis delw Iupi­ter, Mars, Mercuri a'r cyfryw rai, ac nid i ddel­wau Duw, Christ a'i saint. Ond fe a ddangosir allan o air Duw, acymadroddion yr hên ddocto­riaid, a barn yr hên Eglwys gynt, fod yn gwa­hardd pob delwau cystadl a delwau ac eulynod y cenhedloedd, a'u bod hwy yn anghyfraithlon, yn enwedig mewn eglwysydd a themlau.

Ac yn gyntaf hyn a wrth-attebir allan o air Duw, fod yr Scrythyrau 'n gwahardd yn oleu, ac yn condemnio 'n eglur, ddelwau y Tad, y Mab, a'r Yspryd glan, yn gystadl yn neilltuol: a delwau 'r drindod, y rhai oedd gennym ym­mhob Eglwys, megis y mae 'n eglur wrth y lle­oedd sydd yn canlyn, Ni Welsoch vn llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o ge­nol Dewt. 4. 15, 16. y tân, onid y llais neu 'r llaferŷdd, rhag ym­lygru o honoch a'ch twyllo a gwneuthur o ha­noch ddelw gerfiedig, neu lun neu gyffelybrw­ydd, &c. fal y dangoswyd o'r blaen yn halaeth yn y rhan gyntaf o'r traethawd hwn yn erbyn del­wau. Ac am hynny yn yr hên gyfraith yr ydoedd cenol y drugareddfa yr hon a arwiddocai eistedd­faingc Duw, yn wâg heb ddim ynddi, rhag i neb Exod. 25. 29. Esai. 40. 18, 19, 20, &c. gymmeryd achos i wneuthur llun neu gyffelyba­eth o hono ef.

Gwedy i Esai osod allan anymgyffred fawrhy­di Duw: Mae 'n gofŷn, i bwy am hynny y cyffe­lybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo? a lunia 'r saer gerf-ddelw? a oreura 'r eurych hi, ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian? ac a ddewis, [Page 79] yr hwn fytho arno eisiau aberth bren heb bydru, a gais ef saer cywraint i baratoi cerf-ddelw, fal y gallo yntef osod rhyw beth i fynydd? Ac ar ol hyn­ny mae fe 'n gwaiddi, O ddynnion blin oni wy­ddoch, oni chlywch oni fanegwyd i chwi o'r de­chreuad, oni ddeallwch seiliad y ddaer? fal trwy fawredd y gwaith y gallent ddeall fod mawrhy­di Duw gwneuthurwr a chreawdwr y cwbl oll, yn fwy nag y gallid ei amlygu a'i osod allan mewn delw neu gyffelybaeth gorphorol. Hyd hyn y clywsoch airiau y Prophwyd Esai, yr hwn nid y­dyw o'r 44. hyd y 49. yn ymadrodd am ddim am­gen haechen. Ac mae S. Pawl yn Actau 'r Apo­stolion Act. 17. 29. yn dangos yn oleu na ellir gwneuthur cyffelybaeth o Dduw nag mewn aur, nag mewn arian, nag mewn maen, nag mewn defnydd arall.

Wrth y lleoedd hyn a llawer o leoedd eraill o'r Scrythyrau, y mae 'n eglur na ddylid ac na ellir gweuthur i Dduw vn ddelw. O herwydd pa fodd y gellir arwyddocau llun Duw, yr hwn sydd buraf Yspryd, yr hwn ni welodd neb erioed mewn cyffelybaeth gorphorol weledig? Pa fodd y gellir dangos mewn delw fechan fawrhydi a mawredd Duw yr hwn ni ddichon meddwl dyn ei amgy­ffryd, llai o lawer y gellir ei gynwys a synwyr? Pa fodd y dengŷs delw farw, fud, lun y bywiol Dduw? Pa fodd y dichon delw, yr hon gwedy iddi gwympo ni ddichon gyfodi ailwaith, na chyn­northwyo ei chyfeillion, na drygu ei gelynnion, osod allan y cadarnaf a'r galluoccaf Dduw, yr hwn yn vnic a ddichon obrwyo y sawl a garo, a dinistrio ei elynion yn dragwyddol? Fe a ddichon dyn am hyn waiddi yn gyfiawn gydâ 'r prophwyd Habacuc, Na rydd y cyfryw ddelw ddysc, ac nad Habac. 2. 18, 19. [Page 80] ydyw onid athro celwydd. Am hynny y rhai a wnaethant ddelw i Dduw i'w anrhydeddu, a'i dianrhydeddasant ef yn ddirfawr, ac a leihausant ei fawrhydi ef, a wnaethont gam â'i ogoniant ef, ac a anghywirasant ei wirionedd ef. Ac am hynny y dywaid yr Apostol S. Pawl am y rhai a wnae­thant gyffelybaeth neu ddelw i Dduw, megis gwr Marwol mewn llun ar goed, cerrig, neu ryw ddefnydd arall, eu bod yn troi gwirionedd Duw yn gelwydd. O herwydd hwy a dybygasont nad Ruf. 1. 25. oedd y ddelw mwy yr hyn ydoedd hi o'r blaen, hynny yw pren neu garreg, ac a dybiasant ei bod yn beth nad ydoedd, hynny yw yn Dduw, neu yn ddelw Dduw.

Am hyn nid yw delw a wnair i Dduw, yn v­nic yn gelwydd ond yn gelwydd dauddyblyg. Ond diafol sydd gelwyddog ac yn dad celwyddau, ac am hyn y delwau celwyddog a wnair i Dduw i'w fawr ddianrhydedd ef, ac enbeidrwydd i'w Ioh. 8. 44. bobl ef, oddiwrth ddiafol y daethant.

Am hynny yr argyoeddir hwy o ffolineb ac an­nuwioldeb, am eu bod yn gwneuthur delwau i Dduw neu i'r drindod, o herwydd na ddylid ac na ellir gwneuthur llun Duw megis y mae 'n eglur wrth yr Scrythyrau a rheswn da, ie o anghre­diniaeth y mae gwneuthur llun neu ddelw yn dyfod, gan dybied nad ydyw Duw yn bresennol, oni chair rhyw arwydd neu ddelw o hono: fal y mae 'n eglur wrth yr Hebraeaid yn yr amalwch, y rhai a wnaent i Aaron wneuthur iddynt dduw­iau, y rhai a allent eu gweled yn myned o 'u blaen.

Ond maent yn dadleu gan fod rhyw ddango­siadau a phortreiadau am Dduw, megis yn ei­stedd [Page 81] a'r orseddfaingc vehel, yn scrifennadau Esai­as a Daniel, Paham gan hynny (meddant hwy) na ddichon peintiwr yn yr vn modd osod allan Dduw Dad mewn lliwiau i'w weled megis bar­nwr yn eistedd a'r ei orseddfaingc, fal yr ydys yn ei bartreio ef yn i Prophwydi, gan nad oes ond y­chydig wahaniaeth rhwng Scrythyr neu scrifen a pheintiad?

Yn gyntaf fe a ellir atteb, nad yr vn yw 'r pe­thau a waharddodd Duw megis peintio lluni­au Duw, a'r pethau y mae Duw yn eu goddef megis portreiadau a arfere y Prophwydi ac ni ddylai, ac ni ddichon rheswn dyn er tecced y bo 'n ymddangos ortrechu yn erbyn cyhoeddus air Duw a'i statutau (fal y gellir eu galw hwy.) Hefyd er bod yn yr Scrythyrau ryw bortreiadau o Dduw, etto os darllenwch beth yn eich blaen, y maent yn eu egluro ac yn dadguddio eu hunain, gan ddangos fod Duw yn Yspryd pur anfeidrol anfesuredig, anymgyffryd yr hwn sydd yn cyflaw­ni nef a dayar, a'r cwbl oll ac nid ydyw 'r llun yn cyflawni na nef na dayar, nac yn dangos beth y mae yn ei arwyddocau, ond yn hytrach darffo iddo osod allan Dduw mewn cyffelybaeth gor­phorol, mae fe 'n gadel dŷn ar hynny, ac yn ei ddwyn ef yn hawdd i heresi yr Anthropomor­phitiaid, ac i feddwl fod gan Dduw draed a dwy­lo, a'i fod ef yn eistedd megis dŷn, yr hyn pwy bynnac a'i gwnelo, medd S. Awstin yn ei Lyfr De Fide & Symbolo, Cap. 7. Mae fe 'n cwympo yn llwyr gwbl i'r annuwioldeb yr hwn y mae 'r Apostol yn ei ffieiddio yn y rhai a droesant ogo­niant Ruf. 1. 23. yr anllygredig Dduw, i gyffelybaeth dyn llygredig.

[Page 82] O herwydd annuwioldeb yw i Gristion osod i fynydd y fath ddelw i Dduw mewn teml, a mwy o annuwioldeb o lawer yw gosod y fath ddelw yn ei galon trwy gredu ynddi. Ond i hyn y maent yn atteb, y gellir wrth y rheswn hwn wneuthur de­lw Grist, am iddo ef gymeryd cnawd arno, a my­ned yn ddyn. Da fyddai pa cydnabyddent yn gyn­taf iddent wneuthur hyd yn hyn yn drwg, wrth wneuthur a maenteinio delwau Duw Dad, a'r Drindod ymmhob lle, am yr hyn y argyoeddwyd hwy yn gwbl trwy rym gair Duw a rheswn da, ac yno ymddadleu am ddelwau eraill.

Yn awram eu dadl hwy y gellir gwneuthur de­lw Grist, mae 'r atteb yn hawdd. O blegid yngair Duw a Christionogawl grefydd, ni ofynnir yn v­nic a ellir gwneuthur rhyw beth ai na ellir, ond hefyd pa vn a wna ai bod yn gyfraithlon ac yn gy­fun â gair Duw ai nad yw. O herwydd fe a ellir gwneuthur ac yr ydys beunydd yn gwneuthur pob annuwioldeb, ac etto ni ddylid ei wneuthur. A geiriau y rhesymmau a osodwyd o'r blaen allan o'r scrythyrau yw, na ddylid ac na ellir gwneu­thur delwau Duw. Ac am hynny, nid ydyw ddim amgen ddadleu y gellir gwneuthur lluni­au Christ, heb brofi hefyd y dylid eu gwneuthur hwy, ond dywedyd rhyw beth rhag tewi ason, ac er hynny bod heb ddywedyd dim i'r defnydd.

Ac etto mae 'n eglur na ellir gwneuthur i Grist vn ddelw ond delw gelwyddog, megis y gei­lw 'r Scrythur yn hyspysol ddelwau yn gelwy­ddau, Ruf. 1. 23. o blegid mae Christ yn Dduw ac yn ddyn, am hynny gan na ellir gwneuthur vn ddelw i Dduw, yr hon yw 'r rhan odidawgaf, ar gain y gelwir hi yn ddelw Grist. Am hynny nid ydyw [Page 83] delw Grist yn vnic yn ddyffygiol ond yn gelwy­ddog hefyd, ie yn gelwyddau. Yr vn rheswn a wasanautha yn erbyn delwau y saint y rhai ni ellir wrth vn ddelw arwyddocau eu heneidiau, yr hon yw y rhan odidawgaf o hanynt. Am hynny nid ydynt hwy ddelwau y saint y rhai y mae eu heneidiau yn teyrnasu mewn llawenydd gydâ Duw, ond lluniau cyrph y saint, y rhai sydd etto yn pydru yn y beddau.

Hefyd ni ellir gwneuthur yn awr vn ddelw o gorph ein Iachawdwr Christ, o herwydd nas gwyddys yn awr pa lun neu ddiwgad oedd arno ef. Ac hefyd mae yn Grecia ac yn Rufain, ac yn lleoedd eraill, lawer o ddelwan Christ, ac etto heb vn o hanynt yn debyg i'w gilydd, ac etto fe a ddy­wedir mai bywiol a gwir ddelw Grist yw pob vn o hanynt, yr hyn ni ddichon bod. Am hynny er cynted y gwnelir delw Grist, yr amser hynny y gwnair celwydd o hono ef, yr hyn a waharddir trwy air Duw.

Hyn hefyd sydd wir am ddelwau 'r saint oll, o herwydd ni wyddys pa lun neu ddiwgad oedd ar y saint. Am hynny o herwydd y dylaid seilio cre­fydd a'r y gwirionedd, ac na ellir gwneuthur del­wau heb gelwyddau, ni ddylid gwneuthur delwau na'u gosod i vn arfer o grefydd mewn eglwysydd a themlau, lleoedd a osodwyd yn briodol i wir gre­fydd a gwasanaeth Duw. A hynny a ddywedwyd ynghylch na ellir gwneuthur vn wir ddelw, nac o Dduw, nac o Grist, nac o'r saint y chwaith, trwy 'r hyn yr argyoeddir hefyd yr hyn a ddywedant hwy, mai llyfrau gwyr llyg yw delwau.

O herwydd eglur yw wrth yr hyn a ddywe­dwyd, nad ydynt yn dangos nac yn dyscu ini am [Page 84] Dduw, am Grist nac am y saint ond celwydd, ac amryfysedd. Am hynny naill au nid ydynt hwy lyfrau, neu os llyfrau ydynt, llyfran geu celwy­ddog ydynt, a dyscawdwyr pob cyfeiliorn.

Yn awr pe byddid yn addef neu yn canniatau, y gellid gwneuthur delw Grist yn gywir, etto mae 'n angyfraithlon i gwneuthur hi neu wneuthur delw vn o'r saint, yn enwedig i'w gosod mewn temlau neu eglwyfydd, i fawr ac i anwacheladwy enbeidrwydd delwaddoliad, fal y prosir ar ol hyn.

Ac yn gyntaf o blegid delw Grist, pe medrid ei gwneuthur hi yn gywir, etto fod yn anghyfraith­lon ei gosod hi yngyhoedd mewn eglwysydd, mae lle godidawg yn Ireneus yr hwn a argyoeddodd yr Hereticciaid a elwid Gnostici, am eu bod yn dwyn gyd â hwynt ddelw Grist, yr hon a wnelfid yn gywir yn ol ei wedd a'i wynepryd ef ei hun, yn amser Pilat (fal y dywedent hwy) ac am hynny a ddyleid gwneuthur mwy cyfrif o honi nag o'r del­wau celwyddog oedd yn ein myse ni iddo. Ac fe arferau 'r Gnostici hynny osod coronau ar ben y Li. 1. c. 4. ddelw honno, er mwyn dangos eu cariad iddi.

Ond i fyned at air Duw: onid ydyw adolwg, airiau 'r Scrythyr yn oleu, Gwachell rhag dy dwyllo gan wneuthur iti dy hun (hynny yw tu ag at grefydd) vn ddelw gerfiedig, na llun dim, &c. A melltigedig yw yr hwn a wnelo ddelw gerfie­dig, Leuit. 26. 1. Deut. 4. 8. Deut. 27. 15. neu ddelw doddedig, sef ffiaidd-beth i'r Ar­glwydd, &c. Ac onid cyffelyb yw 'n delwau ni? Onid ydyw ein delwau ni i Grist ac i'r saint gwe­dy eu cerfo neu eu toddi? onid ydynt gyffelyba­eth gwyr neu wragedd? mae 'n dda na chanlyna­som ni y cenhedloedd a gwneuthur delwau ani­feiliaid, pyscod a phryfed. Ac etto fe a ddygwyd [Page 85] llun ceffyl a delw 'r assen y marchogodd Christ ar ni i'r eglwysydd ac i'r temlau, mewn llawer lle.

Ac onid ydyw hyn a scrifennir ynnechreuad san­cteiddiaf gyfraith yr Arglwydd, ac a ddarllenir i chwi beunydd yn eglur ddigō, na wna lun dim ac y sydd yn y nef vchod, nac yn y ddaear isod, nac yn y dwfr dan y ddaear. A allasid gwahardd neu ddy­wedyd dim mwy nâ hyn, nac am y rhywiau del­wau, y rhai sydd naill ai gwedy eu cerfio, ai gwedy eu toddi, ai mewn vn modd arall yn gyffelybiae­thau? neu am y pethau y gwaharddir gwneu­thur delwau o honynt? Onid ydyw pop peth ac y sydd, naill ai yn y nef, ai yn y ddaear, ai yn y dwfr dan y ddayar? Ac onid ydyw delwau Grist a'i saint yn lluniau, naill ai pethau yn y nef, ai yn y ddayar, ai yn y dwfr? Os arhosant yn yr atteb aeth o'r blaen, fod y gwaharddiadau hyn yn per­thyn at eulynod y Paganiaid, ac nid at ein del­wau ni, fe argyoeddwyd yr atteb hynny eisoes ynghylch delw Dduw a'r Drindod yn halaeth, ac ynghylch delw Ghrist hefyd gan Irencus.

Ac mae 'n amlwg ym-mhellach wrth farn yr hên brif-Eglwys gynt fod yn rhaid deall cyfraith Dduw yn erbyn pob delwau mewn temlau ac E­glwysydd, ie yn erbyn delwau Christ a'i saint. Ac Awg. li. 4. c. 3. de ciuitate Dei. Idem In Psal. 36. & 113. fe farnodd Epiphanius wrth dorri 'r lliain pein­tiedig yn yr hwn yr ydoedd llun Christ, neu ryw sant, gan ddywedyd fod yn erbyn ein crefydd ni oddef yn y deml neu 'r Eglwys y fath ddelw (fal y dangoswyd o'r blaen yn halaeth) na waharddodd gair Duw a'n crefydd ni eulynod y cenhloededd yn vnic, ond delw Ghrist a'i saint hefyd.

Ac mae Lactantius gan ddy wedyd fod yn siccr na ddichon bod gwir grefydd lle bytho llun neu dde­lw [Page 86] (fal y manegwyd o'r blaen) yn barnu, fod yn gwahardd pob delwau a llunniau yn gystadl ac eulynod y cenhedloedd, ac oni bai hynny ni bua­sai fe 'n dywedyd ac yn cyhoeddi amdanynt mor gyffredinol. Ac mae S. Austin, fal y dywedais, yn canmol Marcus Varro am iddo ddywedyd fod cre­fydd yn buraf oll hêb ddelwau. Ac mae fe 'n dy­wedyd ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wŷr-droi enaid annedwydd, nac i'w ddyscu a'i gy­farwyddo. Ac mae 'n dywedyd ym-mhellach y gŵyr pob plentyn, ie a phob anifail, nad Duw yw 'r hwn y mae fe yn ei weled. Paham, medd ef, gan hynny y mae 'r Yspryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am yr hyn y mae pawb yn ei wybod? I hynny y mae S. Awstin yn atteb fal hyn, O herwydd, medd ef, pan osodir delwau mewn tem­lau, ac mewn vwchder anrhydeddus, a phan de­chrauer vnwaith eu haddoli hwy: yno, yn y man y megir gwyniau enbaid Camsynnaeth cyfeiliorn.

Dymma farn S. Awstin am ddelwau mewn eglwysydd, eu bod hwy yn y man yn magu cam­synniaeth a delwaddoliad. Mae 'r holl Ymmero­dron Christionogaidd, yr Escobion dyscedig a holl wyr dyscedig Asia, a Grecia, ac Spaen, gwedy ymgynnull mewn Cynghorau ynghostantino­pol, ac Hispaen, er ys saithcant ac er ys wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg, gan gondemnio a di­nistrio holl ddelwau Christ a 'i saint a osodase y Christionogion i fynydd, yn tystiolaethu eu bod hwy yn deall fod gair Duw yn gwahardd ein del­wau ni, cystadl ac eulynod y cenhedloedd.

Ac fal yr scrifennir yn llyfr y doethineb 14. nad oedd delwau o'r dechrauad, ac na pharhânt hwy Doeth. 14. hyd y diwedd: felly nid oedd ddelwau yn y dechre­auad [Page 87] yn yr hên brif-eglwys gynt, a Duw a gani­atao allu eu dinistr hwy yn y diwedd. O herwydd yr oeddid yn achwyn ac yn cwyno yn fawr ar yr Orig contr. Cellum. Arnob. lib. 4. & 8. Cypri. contra Demearium. hên Gristionogion o'r brif-Eglwys gynt, nad oedd ganthynt na delwau nac allorau, megis y tystio­lae tha Origen, Cyprian ac Arnobius.

Paham am hynny meddwch chwi nad oeddynt hwy yn cytuno â 'r cenhedloedd am wneuthur delwau, ond o eisiau delwau goddef eu digofaint hwy, pe buasent hwy yn tybied fod yn gy­fraithlon wrth air Duw gadw delwau? Mae 'n eglur gan hynny eu bod hwy yn tybied fod pob ryw ddelwau yn anghyfraithlon yn eglwys neu deml Dduw, ac am hynny nad oedd ganthynt hwy vn ddelw, er bod y cenhedloedd yn anfodlon iawn iddynt am hynny, gan ganlyn y rheol hon, Rhaid yw bodloni Duw yn fwy na dynnion.

Ac mae Zephirus, yn ei nodau ar ymddiffynni­ad Act. 5. 29. Tertulian, yn cynull mai oer a fuasai ei holl annogaethau difrifol ef, oni byddai ein bod ni yn gwybod hyn dros y cwbl oll, fod Christionogiō yn ei amser ef yn cashau delwau, a'u hardd-drwsiad yn fwyaf dynnion yn y byd. Ac mae Irenęus fal y clywsoch chwi yn ceryddu yr Hereticciaid a elwid Gnostici, am eu bod yn dwyn delwau Christ gydâ hwy. Ac am hyn nid oedd gan yr hên brif-Eglwys gynt (yr hon yn enwedig a ddylid ei chanlyn me­gis yr ânllygrediccaf, a'r buraf oll) nac eulynod y cenhedloedd, na dim delwau eraill, am fod gair Duw yn eu gwahardd hwy yn hollol. Ac fal hyn y dangoswyd trwy air Duw, ymadroddion yr hên a thrawon, a barn y brif-Eglwys yr hon oedd buraf a dilygraf oll, fod pob delwau cystadl ein delwau ni, ac eulynod y cenhedloedd yn wahar­ddedig [Page 88] trwy air Duw, ac am hynny yn anghy­fraithlon, ac yn enwedig mewn eglwysydd a themlau.

Bellach os ciliant, yn ol eu harfer, at yr atteb hwn, nad ydyw gair Duw yn gwahardd yn ho­llol wneuthur pob delwau, ond yn gwahardd eu gwneuthur i'w addoli, ac am hynny y dichon fod gennym ddelwau, trwy na addolom hwy, o her­wydd nad ydynt onid megis pethau didddrwg didda, y rhai a ellir eu harfer yn ddaionus, neu yn ddrygionus. Yr hyn ond odid oedd barn Damas­cen Damase. lib. 4. de orthodox fide. cap. 17. Greg. epist. ad Serenum Massil. a Gregori y cyntaf, fal y dywedwyd o'r blaen. A dymma vn o 'u hymddiffynniadau gorau hwy am faenteinio delwau, ac a roesant drostynt er yn amser Gregori y cyntaf.

Difai yr ydym gwedy dyfod at eu hail ymddi­ffyn hwy, yr hon o ran ni byddai fawr waeth gen­nym er ei chaniatai, o herwydd nid ydym ni nac mor goelfucheddol nac mor gyndyn ac y cashaom flodau a weithier mewn carpedau, ac mewn bre­thynnau, ac mewn arras, neu luniau tywysogi­on gwedy eu printio a'u hargraffu ar eu harian bath, yr hyn pan welodd Christ yn arian - fath Rhufein, nid ydym yn darllen iddo feio arni. Ac nid ydym yn condemnio celfyddydau peintio, a gwneuthuriad delwau megis pethau annuwiol o hanynt eu hunain: ond ni a allem gyfaddef a­chaniatau iddynt y gellir goddef delwau y rhai nid arferir mewn crefydd, neu yn hytrach mewn ofer­goel, y rhai nid addolir, ac nid oes tybygaeth neu enbeidrwydd yr addolir hwy. Ond nid possibl allel gosod delwau 'n gyhoedd mewn temlau heb enbeidrwydd eu haddoli, am hynny ni ddylid eu goddef yn gyhoedd mewn temlau neu eglwysydd.

[Page 89] Ac am hynny nid oedd gan yr Iddewon, i'r rhai y rhoddwyd y gyfraith hon gyntaf, yr hon, am nad oedd yn gyfraith cermonial, onid moesawl, sydd yn ein rhwymo ni cystadl a hwyntau, fal y mae 'r holl ddoctoriaid yn ei deongl hi; Nid oedd gan yr Iddewon, meddaf, gan y rhai y dylyai fod gwir ystyr a meddwl cyfraith Dduw, yr hon a roddwyd iddynt mor briodol, yn y dechrauad ddim delwau yn eu temlau yn gyhoedd, megis y dywed Ori­genes a Iosephus yn halaeth. Ac yn ol adferaeth y deml ni chytunent hwy mewn modd yn y byd â Herod, Pilat na Petronius i osod yn vnic ddelw­au Orig. contra Cels. lib. 4. Ios. ant. li. 17. cap 8. lib. 18. c. 5. lib. 18. 15. yn y deml yn Ierusalem, er nad oeddid yn cei­sio ganthynt eu haddoli hwy. Ond hwy a gynni­gent eu hunain yn gynt i angau nag y cyfunent vnwaith ar osod delwau ynnheml Dduw, ac ni oddefent vn gwneuthurwr delwau yn eu plith. Ac mae Origen yn rhoi y rheswn hwn yn y chwa­neg, rhag tynnu eu meddyliau hwy oddiwrth Dduw i Hylldremmu. lygadrythu ar bethau dayarol.

Ac yr ydys yn eu canmol hwy yn fawr am eu zêl ddifrifol i faenteinio gwir anrhydedd Duw a'i wir grefydd. A gwiryw naddaw na 'r Iddew­on na 'r Twrciaid (y rhai agashânt ddelwau me­gis pethau gwedy eu gwahardd yn iniawn wrth air Duw) byth i wirionedd ein crefydd ni, yr hyd ybo main trangwydd delwau yn aros yn ein mysc ni, ac ar eu ffordd hwy.

Os gosodant yn ein herbyn y sarph bres, yr hon y osododd Moses i fynydd, a delwau 'r cherubi­aid, neu ddelwau eraill oedd gan yr Iddewon yn eu teml, mae 'r atteb yn hawdd ddigon. Rhaid ini mewn crefydd vfyddhau i gyffredinol gyfraith Dduw, yr hon sydd yn rhwymo pawb, ac nid can­lyn [Page 90] siamplau neilltuol ganadiad, y rhai nid ydynt ymddiffyn ini. Os amgen ni a allem wrth yr vn rheswm dderbyn ailwaith yr enwaediad, aber­thau anifeiliaid, a deddfau eraill a oddeswyd i'r Iddewon. Ac ni all delwau y Caerubiaid y rhai a osodid mewn lle dirgel, lle na allai neb ddyfod attynt, na'i gweled, fod yn siampl ini i ossod del­wau i fynydd yn gyhoedd mewn Temlau ac Eg­lwysydd. Ond i adel yr Iddewon heibio. Lle y dy­wedant y gellir goddef delwau mewn eglwysydd a themlau, megis pethau diddrwg didda, trwy na addoler hwynt. O'r gwrthwyneb yr ydym ninnau yn dywedyd nad ydyw delwau Duw, ein Iachawdwr Christ a'r Saint, y rhai a osodir i fynydd, yn gyhoedd yn ein Temlau a'n Eglwy­sydd ni, y rhai ydynt leoedd gwedy eu hordeinio i wasanaethu Duw, nac yn bethau diddrwg di dda, nac yn bethau a ellid eu goddef, ond pethau yn erbyn cyfraith a gorchymmyn Duw, yn ol y cyfiaithiad hefyd y maent hwy eu hunain yn eu wneuthur.

Yn gyntaf fe addolwyd yr holl ddelwau a oso­dwyd i fynydd yn gyhoedd gan y rhai gwirion an­nyscedig yn y man a 'r ol eu gosod hwy i fynydd, ac mewn ychydig ennyd ar ol hynny, gan y rhai doeth a'r rhai dyscedig hefyd.

Yn ail, am fod yn eu haddoli hwy mewn llawer o leoedd yn ein hamser ni.

Yn drydedd am fod yn ammhossibl goddef del­wau Duw a Christ a'i saint yn enwedig mewn eglwysi, dros vn ennyd, heb eu haddoli hwy, ac na ellir gochelyd nac ymgadw rhag delwaddoliad (yr hwn sydd ffieiddiaf peth ac a ddichon bod ger bron Duw) heb ddinistr a distriwio delwau, a [Page 91] lluniau mewn temlau ac eglysydd. O herwydd bod delwaddoliad i ddelwau, yn enwedig mewn temlau ac eglwysydd, yn gyssylltyn diwahanedig (fal y dywedant) megis y mae delwau mewn e­glwysydd a delwaddoliad yn mynd ynghŷd, ac am hynny ni ellir ymgadw rhag y naill, oni ddi­nistrir y llall, yn enwedig mewn lleoedd cyhoedd. Ac am hynny gwneuthuriad delwau yn enwedig i'w gosod mewn temlau ac eglwysydd, y lleoedd a nailltuwyd yn briodol i wasanaeth Duw, nid yw ddim amgen nâ 'u gwneuthur i arfer crefydd ac nid yw yn vnic yn erbyn y gorchymmyn hwn, Na wna vn rhyw ddelw, onid hefyd yn erbyn hwn, na ostwng iddynt ac na addola hwynt. O herwydd gwedy eu gosod i fynydd hwy a addo­lwyd a addolir yn awr, ac ar ol hyn hefyd.

Ac ymma y profir yn gwbl ac yn gyflawn y peth a Ysonnwyd am dano. grybwyllwyd yn-nechrau y traethawd hwn, hynny yw mai 'r vn fath bethau yw ein delwau ni ac eulynod y cenhedloedd, cystadl yn y pethau eu hunain ac yn hyn hefyd, am fod o'r blaen ynarfer, yr arferir yn awr, ie ac byth, o addoli ein delwau ni, yn yr vn agwedd ac yr addolwyd eulynod y cenhedloedd, yr hyd y goddefir hwy mewn temlau ac eglwysydd. O hyn y canlyn nad ydyw ein del­wau ni, na buont er ioed, ac na byddant byth, onid eulynod ffiaidd: ac am hynny nid pethau diddrwg didda ydynt. Aphob vn o'r pethau hyn a brofir mewn trefn, megis y canlyn ar ol hyn.

Ac yn gyntaf mai yr vn fath bethau yw ein del­wau ni, ac eulynod y cenhedloedd o hanynt eu hu­nain, mae 'n eglur ddigon, gan mai aur, arian neu ryw fettel arall, cerrig, coed, clai neu bridd yw defnydd ein delwau ni, megis yr oedd defnydd [Page 92] eulynod y cenhedloedd, ac felly gwedy eu toddi, neu eu bwrw, neu eu cerfio, neu eu naddu, neu eu llunio a'u ffurfio mewn rhyw ffordd arall, yn ol llun neu gyffelybiaeth gŵr neu wraig, Nid ydynt onid meirwon a mudion, gwaith dwylo dyn, a geneuau iddynt ac heb ddywedyd, llygaid ac heb weled, dwylo ac heb deimlo, traed ac heb gerdded: ac felly cystadl mewn defnydd ac mewn llun ma­ent yn gyffelyb yn hollol i eulynod y cenhenloedd, yn gymmaint a bod yr holl enwau a roddir i'r eu­lynod yn yr Scrythyrau, yn wir yn ein delwau ni. Ac am hynny nid oes ammau na chwymp y melldithion a gynhwysir yn yr Scrythyrau, ar wneuthur-wyr ac addolwyr pob vn o honynt.

Yn ail y profir fod yn eu addoli hwy yn ein ham­ser ni, yn yr vn modd ac agwedd, ac yr addolid eulynod y cenhedloedd gynt. Ac o herwydd bod delw-addoliad yn sefyll yn bennaf yn y meddwl, fe a brofir mai 'r vn fath dŷb a barn a fu, ac y sydd gan ymddiffynwyr delwau yn ein hamser ni, am y saint y rhai y maent yn gwneuthur ac yn addoli eu delwau, ac oedd gan yr hên genhedloedd am eu duwiau. Ac ar ol hynny y dangosir fod amddiffyn­wyr ac addolwyr delwau yn ein plith ni, yn arfer gynt ac etto, yr vn deddfau ac arferon o anrhy­deddu ac addoli delwau, ac a arferai y cenhedlo­edd ger bron eu heulynod. Ac am hynny eu bod hwy yn gwneuthur delw-addoliad cystadl oddi­fewn, ac oddiallan, fal yr oedd y cenhedloedd yr annuwiol ddelwaddolwyr hynny.

Ac ynghylch y rhan gyntaf am dŷb ddelw-addo­laidd ein amddiffynwyr delwau ni, Pa beth ado­lwg ydyw y fath saintiau yn ein plith ni, i'r rhai yr ydym yn rhoddi ymdiffynniad rhyw wledydd, [Page 93] gan yspeilio Duw o'i anrhydedd, onid Dij tutela­res, gwarchad-dduwiau y cenhedloedd delw-addo­laidd? Cyfryw ac ydoedd Belus i'r Babiloniaid a'r Assyriaid, Osiris ac Isis i'r Aiphtiaid, Vulcan i'r Lemniaid, ac eraill o'r fath hynny. Pa beth ydyw y Saint i'r rhai yr appoyntir cad wedigaeth rhyw ddinassoedd, onid Dij pręsides, Goruwch­dduwiau. rhag-dduwiau y delwaddolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydoedd Apollo yn Delphos, Minerua yn Athen, Iuno yn Carthag, yn Rufain Quirinus? Pa beth yw 'r saint i'r rhai yn wrthwyneb i arfer y brif-eglwys gynt, yr adailadir Temlau ac Eglwysydd, ac y cyfodir allorau, onid Dij Patroni, Diffryd. differ-dduwiau y delw-addolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydo­edd Iupiter yn y Capitol, Venus yn-nheml Pa­phus, Diana yn-nheml Ephesus, a'r cyffelyb.

Och, ôch, fe dybygid wrth ein tŷb ni a'n gwei­thred, na ddyscasom ni yn crefydd o air Duw ond oddiwrth feirdd y Paganiaid, y rhai a ddywedant, Excessere omnes adytis arisque relictis, Dij quibus im­perium hoc steterat, &c. y duwiau a gadwent ein teyrnas a ddifannasant, hwy a adawsont y Tem­lau, ac a wrthodasont yr allorau.

Ac lle mae i vn sant lawer o ddelwau mewn llawer o leoedd, mae i'r sant hwnnw lawer o en­wau, yn dybyccaf ac y ddichon bod i'r cenhedloedd. Pan glywoch son am fair o Walsingam, Mair o Ipswich, Mair o Wilsdon, Mair o ben Rhys, Mair o Fargam a'r fath leoedd, pa beth yw hyn onid dynwared y Cenhedloedd delw-addolaidd? Diana Aegrotera, Diana Coryphoea, Diana Ephesia, & Venus Cypria, Venus Paphia, Venus Gnidia. Trwy 'r hyn y meddyliant yn eglur fod i'r saint er mwyn y delwau drigfae yn y lleoedd hynny, ie [Page 94] yn y delwau eu hunain, yr hyn yw gwreiddyn eu delw-addoliad hwy. O herwydd lle nad oes del­wau nid oes iddynt y fath gyfryngau.

Mae Terentius Varro 'n dangos fod trychant o Iupiterau yn ei amfer ef, ac nid anamlach oedd Ve­nus a Diana. Ac nid oedd gennym ninnau lai o rifedi o Gristophorau, arglwyddesau Mair, a Mair Fagdalen, a saint eraill. Mae Oenomaus a Hesiodus yn manegi fod yn eu hamser hwy ddeg­mil ar vgain o dduwiau. Yr ydwyf yn tybied nad oedd llai o saint gennym ninnau, i'r rhai y rho­ddwyd yr anrhydedd a ddylai Dduw ei gael. Ac nid yspeiliasant yn vnic y gwir fywiol Dduw o'i anrhydedd dyledus mewn Temlau, dinasoedd, gwledydd a thiroedd, trwy 'r fath ddychymm ygi­on ac y gwnaeth y delw-addolaidd Genhedloedd hynny yn y blaen: ond mae ganthynt saint naill­tuol hefyd i'r mor a'r dyfroedd, megis yr oedd gan y cenhedloedd dduwiau i'r mor ac i'r dyfroedd. Megis Neptun, Triton, Nereus, Castor, Pollux, Ve­nus, a'r fath hynny, yn lle y rhai y daeth S. Chry­sostom, S. Clement, a llawer eraill, ond yn enwe­dig yr Arglwyddes fair, i'r hon y cân y llongwyr Aue maris stella, hanphych-well seren y mor. Ac ni ddiangodd y tân hefyd rhag eu dychmygion delw-addolaidd hwy, o blegid yn lle Vulcan a Vesta duwiau 'r tân ym-mhlith y cenhedloedd, fe a osododd ein gwyr ni S. Agatha, ac y maent yn gwneuthur Llythyrennau. llythyrau ar ei dydd gwyl hi i ddiffod tân â hwy. Mae gan bob celfyddyd a chan bob galwedigaeth ei sant enwedigawl, megis Duw priodol. Mae gan Yscolheigion S. Nicholas, a S. Gregori, a chan beintwyr S. Luc, Ac nid oes ar filwyr ddiffyg eu Mars, nac ar gariadon eu Ve­nus [Page 95] ym-mhlith Christionogion. Mae sant neilltu­ol i bob clefyd, megis duwiau i'w iachau hwy. S. Roch a S. Anthoni i'r frech fawr. I'r Y clwyf dig­wydd. gloe­sion S. Cornelius, ac ir ddannwydd S. Apolin, &c. Ac nid oes ar anifeiliaid eisiau duwiau gydâ ni, S. Loe yn cadw 'r ceffylau, S. Anthoni yw bugail y moch, &c. A pha le y mae rhagluniaeth Duw a'u anrhydedd yn hynny o amser? Yr hwn a ddywaid mi piau 'r nefoedd, mi piau 'r ddayar, yr holl fyd a chymmaint oll ac sydd ynddo, myfi sydd yn-rhoddi goruwchafiaeth ac yn gorescyn, o hanofi y mae cyngor a chynhorthwy, &c. oni by­ddafi yn cadw 'r ddinas, ofer y mae y gwilwyr yn ei chadw hi, yr Arglwydd a geidw ddŷn ac anifail. Ond ni adawsom ni iddo na nef na dayar na dwfr, na glwad, na dinas, na heddwch na rhyfel i'w rheoli, a'u llywodraethu, na dynnion nac ani­feiliaid na chlefydon i'w iachau, fal y gallai wr duwiol weiddi mewn llid a zêl, Oh nef, dayar a moroedd, i ba ynfydrwydd ac annuwioldeb yn er­byn Duw y cwympodd dynion? Pa ddiystyrwch y mae 'r creaduriaid yn ei wneuthur i'w creaw­dwr, a'u gwneuthurwr. Ac os weithiau y cofiwn Dduw, etto am ein bod ni yn ammau naill ai ei allu ef, ai ei ewyllys i gynorthwyo, yr ydym yn cyssylltu ag ef ryw gynorthwywr arall, megis pe byddai yn Nomen adie­ctiuum. Enw gwan: gan arfer y gairiau hyn, Y rhai ydynt yn dechreu dyscu a ddywedant, Duw a S. Nicholas fytho cynorthwywr imi: wrth yr vn a fytho yn Distrewi. tisio. entrewi y dywedir Duw a saint Ioan: wrth geffyl, Duw a S. Loy a'th gadwo di. Fal hyn yr ydym ni gwedy myned fal ceffyl a mul, yn y rhai nid oes dim deall: O blegid nid oes vn Duw onid vn yn vnic, yr hwn trwy ei allu a'i [Page 96] ddoethineb awnaeth bob peth, a thrwy ei rag-lu­niaeth sydd yn eu llywodraethu hwy, a thrwy ei ddaioni yn eu maenteinio ac yn eu cadw hwy. O­nid ydyw pob peth yntho ef, o hano ef, a thrwy­ddo ef? Paham yr ydwyd yn troi oddiwrth y cre­awdwr at y creaduriaid? Arfer y cenhedloedd a'r delwaddolwyr yw hyn. Ond Christion ydwyti, ac am hynny trwy Grist yn vnic y mae iti ddyfo­diad at Dduw Dâd, a chynorthwy gantho fe yn vnic.

Nid ydys yn scrifennu hyn er gwradwydd i'r saint eu hunain, y rhai oeddynt wir wasanaeth­wyr Duw, ac a roesant bob anrhydedd iddo ef, heb gymmeryd dim anrhydedd iddynt eu hunain, y rhai hefyd ydynt eneidiau bendigedig gyd â Duw: Ond yn erbyn ein ffolineb a'n annuwiol­der ni, am ein bod yn gwneuthur o weision cywir Duw, gaudduwiau, gan roddi iddynt hwy allu Duw, a'r anrhydedd sydd ddyledus iddo ef yn v­nig. Ac am fod gennym y fath dŷb am allu a pha­rodol gynnorthwy y saint, mae 'n holl Legendę, hymnau, canlyniadau a'n offerennau ni yn cyn­wys yndynt eu historiau, eu canmolau a'u clod hwy a gweddiau arnynt, ie a phregethau hefyd am danynt, ac yn cynnwys eu clod hwy 'n hollol, gan osod gair Duw heibio yn llwyr. A hynny yr ydym ni yn ei wneuthur yn gwbl i'r saint yn gy­ffelyb ac y gwnai y cenhedloedd delw-addolaidd i'w gaudduwiau.

O blegid y fath opinionau y rhai oedd gan ddynnion am ddynnion marwol, er mor sanc­taidd oeddynt, yr scrifennodd yr hên dadau Chri­stianogaidd yn erbyn gaudduwiau y cenhedloedd: ac fe a ddinistrodd tywysogion Christionogawl [Page 97] eu delwau hwy, y rhai pe byddent byw yn awr a scrifennent yn ddiddau yn erbyn ein gauopinio­nau ni am y saint, ac a ddinistrent eu delwau hwy hefyd. O herwydd eglur yw fod gan ein hamddiffynwyr delwau ni yr vn dŷb am y saint, ac oedd gan y cenhedloedd gynt am eu gaudduw­iau, a hynny sydd yn peri iddynt hwy wneuthur delwau iddynt, megis y gwnai y cenhedloedd i'w duwiau. Os dywedant nad ydynt yn gwneuthur saint ond yn gyfryngwyr at Dduw, ac megis yn ddadleuwyr drostynt am y pethau y maent yn ei geisio gan Dduw. Mae hynny yn inion yn ol ar­fer delwaddolwyr y cenhedloedd, yn eu gwneu­thur hwynt o saint yn dduwiau y rhai a elwir Dij medioximi, i fod yn gyfryngwyr ac yn ddad­leuwyr, ac yn gynorthwywyr i Dduw, megis pe byddai fe heb glywed, neu rhag ei ddyffygio ef wrth wneuthur pob peth ei hunan. Felly y dys­cai y cenhedloedd fod vn gallu goruwchaf yr hwn a weithiau trwy eraill megis cyfryngwyr, ac felly y gwnaent yr holl dduŵiau yn ddarostynge­dig i'r dynghedfen: megis y mae Lucian yn dywe­dyd yn ei ymddiddanion, fod Neptun yn eiriol ar Mercuri gael o hono chwedlaua â Iupiter. Ac am hynny Yn hyn hefyd mae 'n eglur iawn fod ein ymddiffynwyr delwau ni yn vn mewn opinionau a delw-addolwyr y cenhedloedd.

Mae yn ol yn y drydedd ran, fod yr vn fath ce­remoniau a defodau ganthynt hwy, wrth addoli ac anrhydeddu delwau eu saint, ac y arfer delw-addolwyr y cenhedloedd wrth anrhydeddu eu heulynod.

Yn gyntaf beth a feddylir wrth fod Christiono­gion yn ol siampl y cenhedloedd delw-addolwyr, [Page 98] yn mynd i bererindodau i ymweled â delwau, a hwyntau â'r cyffelyb ganthynt gartref, ond am eu bod yn tybied fod mwy o sancteiddrwydd mewn rhai o'r delwau, nag mewn eraill, yn y modd yr ydoedd y delw-addolaidd genhedloedd yn tybied: yr hon yw 'r ffordd nesaf i'w dwyn hwy i ddelw-addoliad, wrth eu haddoli hwy, a hynny yn iniawn yn erbyn gair Duw, yr hwn a ddy­waid, Amos 5. 4, 5. Ceisiwch fi a byw fyddwch, ac nac ymgei­siwch a Bethel, ac nag ewch i Gilgal, ac na thra­mwywch i Beerseba.

Ac yn erbyn y rhai oedd ac ofergoel ganthynt mewn sancteiddrwydd y lle, megis pe clywid hwy yn gynt er mwyn y lle, gan ddywedyd, Yr oedd ein tadau 'n addoli ar y mynydd hwn, ac meddwch chwithau yn Ierusalem y mae y lle y dylaid addoli. Fe a gyhoeddodd ein Iachawdwr Christ, Cred fi fod yr awr yn dyfod y pryd nad Ioan. 4. 21, 13. addolwch y Tad yn y mynydd hwn, nac yn Ie­rusalem, ond y gwir addolwyr a'i addolant y Tad mewn Yspryd a gwirionedd. Ond yr ydys yn gwybod yn rhy dda fod wrth y fath bererin­dodau yn addoli yn fwy Arglwyddes Venus, a'i Mâb Cupid, yn bechadurus yn y cnawd: nag yr addolid y Tad a'n Iachawdwr Iesu Grist yn yr Yspryd.

A chymhessur iawn oedd (fal y dywaid Saint Pawl) i'r rhai a gwympasent i ddelw-addoliad yr hyn oedd odineb ysprydol, gwympo hefyd i Ruf. 1. 26. oddineb cnawdol a phob aflendid, trwy iniawn farn Duw, yn eu rhoi hwy i fynydd i wyniau gwarthus.

Pa beth a feddylir wrthweled Christionogion yn bennoethion ger bron delwau yn ol arfer de­lw-addolwyr [Page 99] y cenhedloedd? y rhai pe byddai yn­ddynt na synwyr na diolchgarwch a benlinient ger bron dynion, saeri, Go faint. gofion, Saermaen. maeswnnaid, toddwyr, ac eurychod eu gwneuthurwyr a'u llun­wyr hwy: trwy waith y rhai y cawsont hwy yr anrhydedd hwy: y rhai oni buasai hynny y fua­sent yn glampiau bryntion, anweddaidd o glai, neu bridd, neu yn ddrylliau o goed, cerrig, neu fettel, heb na llun na diwgad, ac felly heb na chymheriad nac anrhydedd: Megis y mae 'r eu­lyn hynny yn cyffessu ynghaniaid y bardd Paga­naidd gan ddywedyd. Vnwaith yr oeddwn yn Horotius. bren dibris ac fe a'm gwnaethpwyd yn awr yn Dduw.

Pa ynfydrwydd yw i ddyn yr hwn y mae rhe­swn a bywyd, ymostwng i ddelw farw ddisyn­wyr, gwaith ei ddwylo ei hun? onid yw yr ym­grymmiad Gene. 23. 7. a'r 33. 3. a'r penliniad hwn yn addoliad, yr hwn a waharddir mor ddifrif trwy air Duw. Gwy­bydded a chydnabydded y rhai a gwympant ger 1. Bren. 1. 16. bron delwau 'r saint, eu bod hwy yn rhoddi i gyffi­on a cherrig meirwon yr anrhydedd ni fynne y saint eu hunain, Petr, Pawl a Barnabas, ei roi iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw: a'r hwn y Act. 10. 25. Act. 14. 1. 4. Gwel Ioan. 19. 10▪ mae Angel Duw yn ei wahardd ei roddi iddo.

Ac os dywedant nad ydynt yn rhoddi yr anrhy­dedd hynny i'r ddelw, ond i'r sant, yr hwn y mae hi yn ei ar wyddoccau, fe a ellir eu argyoeddi hwy o ffolineb, am gredu eu bod yn bodloni 'r saint â'r anrhydedd hwnnw, yr hwn a gashant hwy megis yspail o anrhydedd Duw. O herwidd nid ydynt hwy yn anwadal, ond yn awr gan fod ganthynt fwy o ddeall a gwresoccach gariad tuag at Dduw, mae 'n gassach ganthynt ddwyn dyledus anrhy­dedd [Page 100] Duw oddiarno: ac yn awr pan ydynt me­gis angylion Duw, maent gyd ag angylion Duw 'n gwachelyd cymeryd iddynt eu hunain trwy gyssegrledrad, yr anrhydedd sydd ddyledus i Dduw.

Ac ymma hefyd yr argyoeddir eu hanwireddus gyfrannad hwy o anrhydedd i Latria a Dulia, lle y mae yn eglur na all saint Duw oddef rhoddi na chynnyg iddynt gymmaint ac addoliad oddiallan. Ond mae Sathan gelyn Duw, gan drachwantu lledratta anrhydedd Duw oddiarno, yn chweny­chu yn fawr gael yr anrhydedd hwnnw iddo ei hun. Am hynny nid ydyw y rhai a roddant i'r creadur yr anrhydedd sydd ddyledus i'r creawdwr, yn gwneuthur gwasanaeth cymmeradwy gan neb o'r saint, y rhai ydynt anwylion Duw; ond i Sathan gelyn tynghedig Marwol Duw a dŷn. Ac nid yw Haeru. honni a'r y saint eu bod hwy yn chwe­nych y fath dduwiol anrhydedd ddim amgen ond eu cyffeithio hwy â'r gwarth a'r gwaradw­ydd casaf a diawleiddiaf ac a ddichon bod: ac yn lle saint gwneuthur o honynt ddiawliaid a chy­thraulaid, cynheddfau y rhai yw ymarddel eu hu­nain a'r anrhydedd sydd ddyledus i Dduw yn v­nic. Ac hefyd lle maent yn dywedyd nad ydynt yn addoli y delwau, megis yr addole y cenhed­loedd eu heulynod, onid Duw a'i saint y rhai y mae y delwau yn eu harwyddoccau, ac am hynny nad ydyw eu gorchwylion hwy ym-mlaen y del­wau, yn gyffelyb i eulyn-addoliad y cenhedloedd ger bron eu heulynod, Mae S. Awstin, Lactan­tius a Chlemens yn prosi yn eglur eu bod hwy wrth yr atteb hwn yn vn yn hollol ac eulyn-addol wyr y cenhedloedd.

Mae 'r cenhedloedd a fynnant fod o'r grefydd [Page 101] buraf, medd S. Awstyn, yn dywedyd, nid ydym ni Awgust. in Psal. 135. yn addoli 'r delwau, ond wrth y ddelw gorphorol yr ydym yn edrych ar arwyddion y pethau a ddly­em ni eu haddoli. Ac mae Lactantius yn dywe­dyd, Lact. lib. 2. hist. fe a ddywed y cenhedloedd, nid ydym ni yn ofni 'r delwau ond y rhai y gwnaed y delwau ar eu llun, yn enwau y rhai y cyssegrwyd y delwau. hyd Hyn Lactantius.

Ac mae S. Clement yn dywedyd, mae 'r sarph Lib▪ 5. ad Ia­cobum Do­mini. hon y diafol yn adrodd y geiriau hyn trwy enau rhyw wyr, Yr ydym yn addoli delwau gweledig er anrhydedd i'r anweledig Dduw. Yr hyn, medd ef, yn siccr sydd gelwydd goleu. Welwch eu bod hwy wrth arfer yr vnescusson ac a osode y cenhedloedd drostynt, yn dangos eu bod hwythau yr vn fath a'r cenhedloedd mewn delw-addoliad. O her­wydd er yr escuson hyn, mae saint Awstin, Cle­mens a Lactantius, yn Profi. prwfo eu bob hwy yn ddelwaddolwyr. Ac mae Clemens yn dywedyd, mai 'r sarph y diawl sydd yn dodi 'r escuson hyn yngeneuau delw-addolwyr. Ac mae 'r Scrythy­rau er yr escus hynny, yn dywedyd eu bod hwy yn addoli coed acherrig, fal y mae ein ymddiffynwyr delwau ninnau 'n gwneuthur. Ac o blegid hyn­ny y mae Ezechiel yn galw Duwiau yr Assyriaid yn goed a cherrig, êr nad oeddynt onid delwau eu duwiau hwy.

Felly yr ydys yn galw ein delwae Dduw, a'n delwau saint ninnau ar enw Duw, a'i saint, yn ol arfer y cenhedloedd.

Ac mae Clement yn dywedyd fal hyn yn yr vn llyfr, ni feiddiant roddi enw yr Ymmerodr i neb arall, o herwydd fe a gospa ei droseddwr a'i fra­dychwr Lib. 5. ad Ia­cobum Do­mini. yn y man. Ond hwy a feiddiant roddi [Page 102] enw Duw i arall am ei fod ef er mwyn edifeir­wch yn goddef ei droseddwyr. Ac felly y mae 'n delwaddolwyr ninnau yn rhoddi enwau Duw a'i saint a'r anrhydedd hefyd sydd ddyledus i Dduw, i'w delwau, fal y rhoe eulyn - addolwyr y cenhed­loedd i'w eulynod.

Pa beth yw eu bod hwy fal y gwnaeth delwa­dolwyr y cenhedloedd yn ennynni canwyllau i'w delwau hanner dydd, neu am hanner nos, ond eu hanryddeddu hwy â hynny? O blegid, achos a­rall nid oes i wneuthur hynny. O herwydd byd y dydd nid rhaid wrthi: ond diaurheb o ynfydrw­ydd er ioed ydoedd, ennynnu canwyll am hanner dydd, a'r nos nid gwiw emynnu canwyll ger bron y dall: ac nid oes i Dduw nac angen nac anrhy­dedd o hynny.

Ond gwych yw 'r hyn a scrifennodd Lactanti­us er ys yngh ylch mil o flynyddoedd, am y fath en­nyn canwyllau, Ped edrychent hwy ar nefol oleu­ni 'r haul, medd ef, hwy ddeallent nad oedd rhaid i Dduw wrth eu canwyllau hwy, yr hwn i wa­sanaethu dyn a wnaeth y fath oleuni têg. Ac lle mae mewn angylch bach yr haul, yr hwn o ble­gid ei belled o ddiwrthym y dybygid nad yw fwy nâ phen gwr, cymmaint o oleuni, nad yw go­lwg llygad dŷn yn abl i edrych arno; ond os e­drych dyn arno gan hyll dremmu ennyd yn ddian­wadal, Lib. 6. Institu. ca. 2. fe a dywyllir ac a ddellir ei lygaid ef a thy­wyllwch; Pa faint oleuni, pa faint eglurwch a dybygwch ei fod gyd â Dduw, gyd â'r hwn nid oes na nos na thywyllwch, &c. Ac yn y mann ar ol hyn mae fe'n dywedyd, Am hynny a dybygid ei fod ef yn ei iawn gôf yr hwn a offrwm oleu can­wyll gŵyr i roddwr y goleuni?

[Page 103] Mae fe 'n gofyn goleu arall oddiwrthym ni yr hwn nid yw fyglyd onid eglur a goleu, hynny yw goleuni 'r meddwl a 'r deall. Ac yn y man ar ol hynn y mae fe 'n dywedyd, Ond mae 'n anghen­rhaid i'w Duwiau hwy am eu bod yn ddayarol, wrth oleu, rhag iddynt aros mewn tywyllwch, y rhai y mae eu haddolwyr am nad ydynt yn deall vn peth nefol yn tynnu'r grefydd a arferant i wa­ered i'r ddayar, yn yr hon am ei bod yn dywyll wrth naturiaeth y mae yn rhaid wrth oleuni. Wrth hynny nid ydynt yn haeru fod gan eu du­wiau ddim deall nefol, ond ystyr dayarol fal gan ddynnion. Ac am hynny y credant fod y pethau hynny yn anghenrheidiol iddynt ac yn he ffiawn ganthynt, megis y maent i ninnau, y rhai sydd rhaid ini wrth fwyd pan fytho newyn arnom, ac wrth ddiod pan fythom sychedig, ac wrth ddillad pan fythom anwydog, acwrth oleu canwyll i'n go­leuo gwedy machludo 'r haul.

Hyd hyn Lactantius, a llawer ychwaneg yr hyn a fyddai rhy hir ei scrifennu ynghylch enynnu can­wyllau mewn temlau gerbron eulynod neu ddel­wau er mwyn crefydd: trwy'r hyn yr ymddengys ynfydrwydd y pethau hyn, a'n bod ni hefyd mewn opiniwn a gorchwylion yn cyfuno 'n hollol a del­waddolwyr y cynhedloedd, yn ein canwyll gre­fydd. Pa beth yw eu bod hwy yn ol siampl del­waddolwyr y cenhedloedd yn arogl-darthu ac yn offrwm aur i ddelwau, yn crogi bagleu, cadwy­nau, llongau coesau, braichau a gwyr a gwragedd cyfain o gŵyr ger bron delwau, megis pe byddid yn ein gwared ni trwyddynt hwy neu'r saint (fal y dywedant) oddiwrth gloffni, clefyd, caethiwed neu dorrad llongau.

[Page 104] Onid hyn yw Colere imagines, addoli delwau, yr hyn a waharddir mor ddifrif yngair Duw? Os gwadant hyn, darllenant yr 11. o'r Prophwyd Daniel, yr hwn a ddywaid am yr Anghrist, Duw Daniel 11. 38. yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda ef, ag aur ac arian ac â meini gwerthfawr, ac ag anwyl bethau eraill: a'r gair lladin yn y man hynny yw Colit. Yn yr ail o'r Croniclau yr ydys yn galw 'r holl ddeddfau a'r Ceremoniau oddi allan, megis 2. Cro. 29. 28. arogl darthu a'r fath bethau trwy y rhai yr an­rhydeddir Duw yn ei deml, Cultus: hynny yw, addoliad, yr hwn a waharddir yn galed trwy air Duw ei roddi i ddelwau. Onid ydyw yr holl hi­storiau Eglwysig yn dangos i'n Merthyron san­ctaidd ni yn gynt nag yr ymostyngent, y penlini­ent, neu yr offrymment ronyn o arogldarth ger bron delw, neu eulyn, oddef mil o rywiau angau Erchyll. echrydus creulon? Ac er amled eu escuson hwy, etto eglur yw fod yn gwneuthur yr holl bererin­dodan ymma, yn arogldarthu, yn ennyn canwy­llau, yn crogi baglau, cadwynau, llongau, brai­chiau, coesau, gwŷr a gwragedd o gŵyr: yn pen­linio, yn cyfodi dwylo, a'r cwbl i'r delwau, o her­wydd lle nid oes delwau, neu lle ni bûont, a lle tynnmyd hwy ymmaith, nid ydys yn gwneuthur y fath bethau. Ond yr ydys yn awr, gwedy eu tynnu hwy ymmaith, yn gwrthod ac yn gadel yn wâg yr holl leoedd a fynnuch-gyrchid iddynt pan oedd delwau yno: ie yn awr maent yn ffieiddio ac yn cashau y lle yn farwol, yr hyn sydd arwydd eg­lur eu bod hwy yn gwneuthur y peth a wnae­thant o'r blaen, er mwyn y delwau.

Am hynny pan welom wyr a gwragedd yn my­ned yn fagadau i bererindodau at eulynod, yn [Page 105] penlinio o'u blaen hwy, ac yn cyfodi dwylo ger eu bronnau hwy, yn gosod canwyllau ac yn arogl­darthu yn eu gwydd hwy, yn offrwm aur ac ari­an iddynt, yn crogi i fynu longau, baglau, cadwy­nau, gwyr a gwraged o gŵyr, ger eu bron hwy, gan haeru fod eu iechyd a'u cadwedigaeth yn dy­fod oddiwrthynt hwy, neu 'r saint, y rhai y maent hwy yn eu harwyddoccau, fal y mynnent hwy i ni gredu: Pwy, pwy, meddaf, a ddichon ammau nad ydyw ein ymddiffynwyr delwau ni wrth gy­tuno a delw-addolwyr y cenhedloedd ym-mhob opinionau delwaddolaidd, delwau a ceremoniau oddi allan, yn cytuno a hwy hefyd mewn gwneu­thurdeb delw-addoliad ffiaiddiaf?

Ac ichwanegu yr ynfydrwydd hwn, yr adroddai, yr haerai, ac y gwascarai ddynnion melldigedig, drwg, y rhai yr ydoedd y delwau hyn yn eu cadwe­digaeth, er mwyn cael mwy o fudd ac ennill, yn ol siampl delwaddolwyr y cenhedloedd, trwy ai­riau celwyddog ac ofer chwedleu scrifennedig, lawer o wrthiau delwau, megis darfod danfon y ddelw honno trwy wrthiau o'r nef, megis Pala­dium neu Magna Diana Ephesiorum: darfod cael delw ar [...]ll yn rhyfedd yn y ddayar, fal y cafad pen y gwr yn y Capitol, neu ben y ceffyl yn Capua: darfod hebrwng rhyw ddelw arall gan angylion: dyfod o vn arall o bell o'r dwyrain i'r gorllewin, fal y symmudodd arglwyddes Ffortun i Rufain gynt: y cyfryw ddelw i'r arglwyddes fair a wna­eth S. Luc, yr hwn er mwyn hynny y wnaethont hwy o physigwr yn beintiwr: vn arall ni allai gant iau o ychen ei hyscog, megis Bona dea, yr hon ni allai long ei dwyn: neu Iupiter Olympius, yr hwn a chwarddodd watwar am ben y crefftwyr a [Page 106] geisiasant ei fymmud ef i Rufain: a rhai o honynt er eu bod yn gerrig, ac yn galed, a wylasant o wir dirionwch calon, a thosturi: rhai a chwysasant megis Castor a Pholux wrth gynorthwyo y rhai a garent, mewn rhyfeloedd, megis y gwna maen Marbl. mynor ar dywydd lled-wlyb: rhai o hanynt a ddywedasant yn rhyfeddach nag y dywad assen Balam yr hwn yr oedd bywyd ac anadlynddo: fe ddaeth y cryppul hwn a hwn ac a gyfarchodd i'r saint o dderwen ymma, ac fe a iachawyd yn y man, ac edrychwch ar ei faglau ef: fe addunedodd hwn a hwn ar dywydd creulon a thymestl, addu­ned i saint Christopher, ac se a ddiangodd, gwe­lwch ymma ei long ef o gŵyr: fe ddiangodd hwn a hwn o garchar trwy nerth S. Leonard, gwe­lwch lle mae ei gadwynau ef. Ac anneirifo filo­edd o wyrthiau eraill a adroddid trwy 'r cyffelyb neu etto ddigywilyddiach gelwyddau.

Dymma fal y mae ein hymddiffyn wyr delwau ni yn rhoi o ddifrif i'w holl ddelwau yr holl wyr­thiau a ddychymmygodd y cenhedloedd am eu heulynnod hwythau.

A phe cydnabyddid ddarfod gwneuthur rhyw weithredoedd rhyfedd, lle mae delwau yn aros, trwy dwyll diafol, (o herwydd eglur yw mai cel­wyddau a ddychymmygid, a dichellgar hudolia­eth dynion oedd y rhan fwyaf) etto ni chanlyn o hynny y dylid eu hanrhydeddu hwy na 'u goddef, yn fwy nag y goddefodd Ezechias y sarph bres heb ddinistr pan addolwyd hi, er ei gosod hi i fynu trwy orchymmyn Duw, a'i phrofi hefyd trwy wyrthiau cywir mawrion: o herwydd fe a ia­chawyd yn y man gynnifer ac a edrychodd arni: ac ni ddylei wyrthiau ein hannog ni i wneuthur [Page 107] yn erhyn gair Duw. O herwydd fe a ragryby­ddiodd yr Scrythyrau ni y bydd teyrnas Anghrist galluog mewn gwyrthiau a rhyfeddodau, i ga­darn dwyllo 'r holl rai gwrthodedig.

Ond yn hyn y maent yn rhagori ar ynfydrwydd ac annuwioldeb y cenhedloedd, am eu bod yn an­rhydeddu ac yn addoli creiriau ac escyrn y saint, y rhai sydd yn dangos nad oeddynt hwy ond gwŷr marwol, a chwedi meirw, ac am hynny nad y­dyntddu wiau i'w haddoli: yr hyn beth ni chyd­nabydde y cenhedloedd am eu duwiau rhag y gwir gywilydd. Ond rhaid i ni gusanu y creiriau hynny ac offrwm iddynt, yn enwedig ddie sul y creiriau.

A phan fythom ni yn offrwm rhag i ni ddiffygio neu edifaru am ein traul, mae 'r music a'r gerdd yn adseinio yn llawen tros holl amser yr offry­miad, gan glodfori a galwar y saint hynny y rhai y mae eu creiriau yno yn ein gwydd ni. Ie ac mae 'n rhaid cadw y dwfr yn yr hwn y gwlychwyd y ereiriau, megis peth sanctaidd ffrwythlon.

Ydyw hyn yn cytuno â S. Chrysostom yr hwn a scrifenna fal hyn am greiriau? Na wna gyfrif Homil. de septem Ma­chabeis. o ludw cyrph y saint, nac o weddillion eu cig hwy, a'u hescyrn, y rhai a draulia mewn amser: ond a­gor lygaid dy ffydd ac cdrych arnynt gwedy eu di­llatta â rhinweddau nefol, ac â rhad yr Yspryd glân, yn discleirio â discleirdeb goleuni nefol. Ond yr oedd ein delw-addolwyr ni yn cael gor­mod ennill oddiwrth greiriau, a dwfr y creiriau, i ddilyn cyngor S. Chryfostom. Ac am fod creiri­au 'r saint yn ennillfawr iddynt, nid oedd ond ambell le nad oeddynt gwedy darparu creiriau iddynt.

Ac er mwyn amlhau'r creiriau hynny, yr oedd [Page 108] i ryw saint lawer o bennau▪ vn mewn vn man, ac arall mewn mann arall: yr oedd i rai chwe braich a chwech ar vgain o fysedd. Ac er i Grist ei hun ddwyn ei groes, etto pe byddai holl ddrylliau ei gweddillion hi gwedy eu cynull ynghyd, fe fyddai anhawdd iawn i'r llong fwyaf yn lloegr eu dwyn hwy: ac etto hwy a ddywedant fod y rhan fwyaf o honynt yn aros etto heb eu cael yn-nwylo 'r an­ghredadwy: am y rhai y maent yn gweddio ar eu paderau ar eu cael i'w dwylo, er mwyn y cyfryw ddefnyddion duwiol a hynny.

Ac nid oedd escyrn y saint yn vnic, ond pob peth a berthyne iddynt, yn grair-weddill sanctaidd. Mewn rhyw leoedd maent yn cynnyg cleddyf, mewn rhyw le gwain, mewn rhyw le escid, mewn rhyw le cyfrwy a osodasid ar ryw geffyl sanctaidd: mewn rhyw le y glo ar y rhai a pob wyd S. Lawrens: mewn rhyw le cynffon yr assen, ar yr hon yr eisteddesai ein Iachawdwr Christ Ie­su a gynnygir i'w gusanu, ac i offrwm iddo, yn lle crair-weddill. O blegid yn gynt nag y bai ei­siau creiriau arnynt, hwy a gymmerent ascwrn ceffyl yn lle braich morwyn, neu gynffon yr assen i'w cusanu ac i offrwm iddynt, yn lle creiriau. O ddigywilydd-dra dynnion tra-digwilydd a ddy­chymmygant y pethau hyn? O ffoliaid difedr a chawciod ynfyd, ac anifeiliach nâ chynffon yr assen yr hon a gusanent, a gredent y pethau hyn. Yn awr Duw a drugarhao wrth y cyfryw Gristiono­gion truain gwirion, y rhai trwy dwyll a dichell y gwyr a ddylasent ddyscu idd ynt ffordd y gwirio­nedd, a wnaethpwyd nid yn vnic yn waeth nâ delw-addolwyr y cenhedloedd, ond heb fod ddim yn gallach nâ 'r assynnod, ceffylau a mulod yn y [Page 109] rhai nid oes deall.

O'r hyn a ddywetpwyd eisoes y mae'n eglur nad yw ein ymddiffynwyr delwau ni yn gwneu­thur delwau yn vnic, ac yn eu gosod yn eu tenilau, megis y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd eu heulynod, ond bod ganthynt hefyd yr vn dde­lw - addolaidd opinionau am y saint, i'r rhai a gwnaethont ddelwau, ac oedd gan y cenhedloedd delwaddolaidd am eu gaudduwiau: ac nad addo­lasant hwy eu delwau yn vnic â'r vn ddeddfau, ar­feron, a Caeremoniau o fergoel a gogylcheddau fal y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd a 'u heulynod: ond mewn llawer o bethau hefyd a'u ragorasont hwy ymhell ymhob annuwioldeb, ffolineb ac ynfydrwydd. Ac onid yw hyn ddigon i brofi eu bod hwy yn ddelw-addolwyr, hynny yw, yn addolwyr eulynod, wele chwi a gewch glywed eu cyffes gyhoedd hwy eu hunain.

Nid yd wyfi yn meddwl yn vnic ordeiniaethau r' ail Gyngor o Nicaea dan hyrene, na'r Cyngor yn Rufain dan Gregori y trydydd, yn y rhai y dys­cant y dylaid addoli ac anrhydeddu delwau, fal y dangoswyd or blaen: etto maent hwy yn gwneu­thur hynny yn wachelog ac yn ofnus, wrth y rhyfygus a 'r hygabl gyhoeddiad eilyn-addoliad amlwg a wnair i ddelwau, a osodwyd allan yn hwyr, ie yn ein dyddiau ni, pan ydyw goleuni gwirionedd gair Duw mor ddisclair, megis vwchlaw eu holl ffiaiddiaf weithredoedd a'u scri­fennadau, y rhyfeddai ddyn fwyaf am eu hannial anfeidrol ddigywilydd-dra a'u cywilyddus eondra hwy, na ddewisent iddynt eu hunain ryw amser a fuasai dywyllach i draethu eu herchyll gabledd, ond cymmeryd yn awr arnynt wyneb puttain, [Page 110] heb feddwl gwrido wrth osod allan hoywder eu puteindra ysprydol.

Gwrandewch gabledd y tad parchus Iacobus Naclantus Escob Clugium, a scrifennodd ef yn ei ddeongliad ar epistol S. Pawl at y Rufeiniaid y bennod gyntaf, yr hwn a brintiwyd yn hwyr yn Venis, a hynny a ddichon sefyll yn lle 'r cwbl: gei­riau yr hwn am addoliad delwau ydyw y rhai hyn yn lladin heb newid sillaf yndynt.

Ergo non solum fatendum est fideles in Ecclesia a­dorare coram imagine, vt nonnulli ad cautelam fortè loquuntur, sed & adorare imagmem, sine quo volueris scrupulo, quin & eo illam venerantur cultu quo & Prototypon eius, propter quod si illud habet adorare latria & illa latria: si dulia & hyperdulia, & illa pariter eiusmodi cultu adoranda est.

Ystyr yr hyn yn y iaith Gamberaeg yw hyn, Am hynny y mae 'n rhaid cyffessu fod y ffyddloniaid yn yr Eglwys yn addoli nid yn vnig ger bron delw, (fal ond odid y dywaid rhai yn wachelog) ond eu bod hwy hefyd yn addoli 'r ddelw ei hun heb nac ammau na phetrusoer, ie maent yn addoli 'r dde­lw ar vn rhyw addoliad ac yr addolir ei Prototupon cenddelw. siampl cyntaf hi, hynny yw y peth y gwnaethpwyd hi ar ei lun, am hyn o dylyid addoli 'r peth ei hun yr hwn y gwnaethpwyd hi ar ei lun, ag addoliad llai neu fwy, fe ddylyeid addoli ac anrhydeddu y dde­lw hefyd ar vn fath anrhydedd. Hyd hyn y dywad Naclantus.

Cablau yr hwn a argyoeddodd Gregori y cyn­taf, wrth awdurdod yr hwn y damned hwy i V­ffern, fal y twrddana ei ganlynwyr ef yn echrydus. O herwydd er bod Gregori yn goddef bod del­wau, etto mae fe 'n gwahardd eu haddoli hwy, ac [Page 111] yn canmol Escob Serenus am wahardd eu haddoli hwy, ac ŷn erchi iddo ddyscu 'r bobl ymhob ffordd i wachelyd addoli vn ddelw.

Ond mae Naclantus yn chwythu allan ei ddir­mygus ddelw-addoliad, gan erchi addoli del­wau â'r rhyw vchaf ar addoliad, ac anrhydedd. Ac rhag diffyg awdurdod i'r ddysceidiaeth iachus hon: Mae fe yn ei gwreiddio hi ar awdurdod Ari­stotl yn ei lyfr o gyscu a gwilio, fal y gellir ei weled gwedy ei nodi ar ledemyl y ddalen yn ei lyfr brith ef: digywilydd annuwioldeb yr hwn a 'i ddelw-addolaidd farn a osodais i allan yn halaethach, fal y gallech chwi, fal y dywaid Virgil am Si­non, wrth vn adnabod yr holl ddelw-addolwyr, ac addolwyr eulynod, ac y galloch ddeall i ba ben yn y diwedd y dug goddef delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd a themlau ni, gan gyffelybu amsero­edd ac scrifennadau Gregori y contaf, a'n dyddiau ni, ac â chablau yr anifail hwn o Belial a elwir Naclantus.

Am hynny fe a ddangoswyd ac a fanegwyd bellach trwy awdurdod yr hên dadau ac Ath­rawion duwiol, trwy gyhoeddus gyffes Escobion gwedy ymgynull ynghŷd mewn Cynghorau, trwy arwyddion a rhesymmau, opinionau, actau a gweithredoedd ac anrhydedd delw-addolaidd a wnaethpwyd in delwau ni, a thrwy eu cyhoedd gyffes a'u hathrawaeth hwy eu hunain, y rhai a osodwyd allan yn eu llyfrau printiedig hwy eu hunain: fod yn addoli 'r delwau gynt, bod fyth yn gyffredinol yn eu haddoli hwy, ie ac hefyd, os cre­dwn hwy, y dylyd eu haddoli hwy; myfi a wnaf allan o air Duw y ddadl gyffredinol hon, yn erbyn yr holl rai fy yn gwneuthur, yn gosod i fynu ac yn [Page 112] ymddiffyn delwau mewn lleoedd cyhoeddus.

Ac yn gyntaf mysi a ddechreuaf ar airiau ein Iachawdwr Christ, Gwae y dyn hwnnw o achos yr hwn y del rhwystran, pwy bynnac a rwystra vn o'r rhai bychain gweinion hyn a gredant yno Matth. 18. 6, 7. fi, gwell oedd iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yngwaelod y mor. Ac yn Dew­tronomi mae Duw ei hun yn cyhoeddi fod yn fell­digedig yr hwn a wnel i 'r dall fyned oddiar y Deut. 27. 18. ffordd. Ac yn Leuiticus, Na ddod drangwydd o flaen y dall. Ond fe fu ddelwau mewn eglwysydd Leuit. 19. 14. a themlau ac maent hwy etto, achwy a fyddant byth yr hyd yr arhosant yno, yn rhwystrau ac yn drāgwyddau yn enwedig i'r bobl gyffredinol, wei­nion, wirion, ddeillion, yn twyllo eu calonnau hwy trwy gywrainrwydd y creftwr fal y tystiola­etha yr Scrythyrau mewn llawer man, ac felly Doeth. 13. 14. yn eu dwyn hwy i ddelw-addoliad. Am hynny gwae'r hwn a wnelo, a'r hwn a osodo i fynn, a'r hwn a ymddiffynno delwau mewn temlau ac e­glwysydd: o herwydd mae cosp sydd fwy yn eu haros hwy nag angau 'r corph.

Os attebir y gellir tynnu ymmaith y rhwystr hwn trwy iawn athraweth a dyfal bregethiad gair Duw, a thrwy foddion eraill, ac nad ydyw delwau mewn eglwysydd a themlau, yn ddrwg hollol, ac o hanynt eu hunain, i bawb, er eu bod yn ddrwg i rai, ac am hynny y dlyeid dala fod eu goddef hwy yn yr Eglwys megis peth anghyfa­ddas enbaid, ac nid yn hallol megis peth anghy­ffraithlon, ac annuwiol.

Yno y canlyn y trydedd pwngc i'w brofi, a hwn yw ef. Nad ydyw bossibl os goddefir delwau mewn eglwysydd a themlau, cadw 'r bobl rhag eu [Page 113] haddoli hwy, ac felly gwachelyd delw-addoliad, na thrwy bregethu gair Duw, nac mewn vn modd arall.

Ac yn gyntaf ynghylch pregethu gair Duw, pe canniataid, er goddef delwau mewn eglwysydd, etto y gallid ymgadw rhag delw-addoliaeth trwy gywir a dyfal bregethu gair Duw: yno y canlynai yn ddiammau y gallid cael gwir a chywir athra­waeth yn wastadol i aros ac i barhau, cystal a del­wau: ac felly pa le bynnac y cyfodid delw yn rhw­ystr, yno hefyd wrth reswn da y dylaid ac y ge­llid cael a maenteinio pregethwr duwiol da. O herwydd rheswn yw fod y rhybydd mor gyffredi­nol a 'r trangwydd, y rhymedi mor halaeth a 'r rhwystr, y feddyginaeth mor gyffredinol ar gwen­wyn: ond ni ddichon hyn fod, fal y mae rheswn ac addysc amser yn dangos; Am hyny ni ddichon pregethu gadw rhag delw-addoliad, yr hyd y go­ddefer delwau yn gyhoedd. O herwydd fe a ellir prynu delw yr hon a bery gan mlynedd er ychy­dig, ond ni ellir maenteinio pregethwr da yn wastad heb gost fawr.

Hefyd os y tywysog a'u goddef, fe fydd yn y man lawer iawn, ie aneirif o ddelwau: ond ni bu erioed ac ni bydd byth bregethwyr da ond yn ambell ac anaml wrth rhifedi 'r bobl sydd i'w dyscu. Oblegid mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd fod y cynhauaf yn fawr a 'r gweithwyr yn an­aml: yr hyn a fu ddigon gwir hyd yn hyn, ac a fydd hyd ddiwedd y byd: ac yn ein gwlad a'n hamser ni mor wir, a phe byddid gwedy eu rhannu hwy, a­nodd fyddai gael vn i bob sir.

Yn awr fe bregetha delwau eu hathrawaeth hwy yn wastad, i'r rhai a font yn edrych arnynt, [Page 114] hynny yw delw-addoliaeth: yr hwn bregethiad y mae dynion yn barodol iawn yn wastad, ac yn agweddu: yn annial i wrando arno, ac i'w goelio, megis y mae digonol brawf ymmhob cenhedla­eth ac oes. Ond mae 'n odid clywed gwir brege­thwr i attal yr enbeidrwydd hwn, yn rhyw le­oedd vnwaith mewn bwyddyn gyfan, nac mewn rhwy le vnwaith mewn saith mlynedd, fal y ge­llir ei brofi yn eglur. Ac ni ellir yn ddisyfyd ar vn bregeth ddiwreiddio 'n llwyr yr opiniwn drwg a wreiddiwyd ynghalon dyn dros hir amser. Ac mae mor anaml y rhai sydd yn agweddu i gredu a­thrawaeth iachus, ac y mae llawer, ie haychen y cwbl oll yn barod ac yn hyblyg i ofergoel a delw-addoliad: megis y mae yn amlwg fod yn an­hawdd, ie haechen yn ammhossibl cael ymwared a rhwymedi yn hyn o beth.

Hefyd nid yw amlwg wrth vn histori greda­dwy, i gywir ac iniawn bregethi erioed barhau mewn vn lle vwchlaw can-mlywedd: ond mae 'n eglur i ddelwau, ofer-goel, a delw-addoliad barhau lawer cant o flynyddoedd. O blegid mae pob scrifennadau, ac addysc amser hefyd yn profi, fod pethau da yn myned bob ychydig waeth wa­eth, hyd oni ddifwyner hwy yn y diwedd yn ho­llol; ac o'r gwrthwyneb fod pethau drwg yn cy­nyddu fwyfwy, hyd oni ddelont i gwbl gyflawn­der ac annuwioldeb.

Ac nid rhaid ini fynd ymmhell i geisio samplau i brofi hyn; O herwydd fe aeth pregethiad gair Duw (yr hwn yn y dechreu oedd bur odidawg) bob ychydig mewn amser yn ammhurach beu­nydd, ac yn ol hynny yn llygredig, ac yn ddiwe­thaf oll, fe a osodwyd heibio 'n hollol, ac fe a ym­ly [Page 115] scodd i'w le ef bethau eraill, dychymygion dynnion.

Ac yn y gwrthwyneb ar y cyntaf fe benitiwyd delwau ymlhith Christionogion, a hynny mewn storiau cyfain, yn y rhai yr oedd peth arwyddocâd: yn ol hynny y gwneuthpwyd hwy o goed, cerrig, plastr a mettel: ac yn gyntaf hwy a gedwid yn neilltuol, ynnhai gwyr neilltuol, ac ar ol hynny yr ymluscasāt i eglwysydd a themlau, ond yn gyn­taf trwy beintio, gwedy hynny yn gyrph breiscon: ac etto ar y cyntaf ni addolwyd hwy yn vn lle. Ond yn ol hynny ychydig fe ddechrauwyd eu ha­ddoli hwy gan yr annyscedig, megis y mae 'n e­glur wrth yr epistol a scrifennodd Gregori Escob Rufain y cyntaf o 'r enw hwnnw at Serenus Escob Massil. Or ddau Escob hyn, Serenus a dorrodd y delwau ac a'u lloscodd hwy, am y delwa­ddoliaeth a wneaid iddynt: Gregori er ei fod yn tybied y gallid eu gado hwy i sefyll, etto fe farnodd mai peth ffiaidd oedd eu haddoli hwy, ac a dybi­odd, megis yr ydys yn awr yn dywedyd, y gallid rhwystro eu haddoli hwy wrth bregethu gair Duw, fal y mae fe 'n rhybyddio Serenus i gy­farwyddo 'r bobl, fal y manegir yn yr epistol hwnnw.

Ond pa vn ai opinion Gregori, ai barn Serenus oedd oreu yn hyn o beth, ystyriwch chwi adolwg? o herwydd yn y mann fe argyoeddodd amser opi­nion Gregori: o herwydd er bod Gregori yn scri­fennu, ac eraill yn pregethu, etto yn y mann yn ol goddef delwau yn gyhoedd mewn temlau ac eglwysydd, fe gwympodd gwyr a gwragedd gwi­rion yn y mann yn gadau i'w haddoli hwy: ac yn y diwedd fe ddygwyd y dyscedig hefyd ymmaith [Page 116] gyd â'r cyffredinol gyfeiliorn. megis gyd a▪'r ffrwd neu'r weilgi a'r cefullif gwyllt.

Ac yn ail Gyngor Nicaea fe a ordeiniodd y gwyr llen a'r escobion y dylaid addoli delwau, ac felly o achos y trangwyddau hyn y dallwyd yn y diwedd trwy hudolaeth delwau, nid yn vnic y gwirion a'r annyscedig, ond y call a'r dyscedig hefyd: nid yn vnic y bobl, ond yr Escobion hefyd: nid y defaid yn vnic, ond y bugailiaid hefyd (y rhai a ddylasent fod yn dywysogion i'w tywys hwy i'r iniawn ffordd, ac yn oleini i oleuo mewn tywyllwch) megis ar­weiniaid deillion yn arwain y deillion, hyd oni chwympodd y ddau i bwll damnedig delw-addo­liaeth. Yn yr hwn yr arhossodd yr holl fyd hyd ein hoes ni, dros saithcant neu wythcant o flynyddo­edd, heb fod neb haechen yn dywedyd yn erbyn hynny. A dymma'r ffrwyth a dyfodd o ordeinhad Gregori: yr hwn afiwydd ni ddigwyddasai byth pe buasid yn cymmeryd ffordd Escob Serenus, ac yn distrywo ac yn dinistr yr holl eulynod a'r del­wau: o herwydd nid addola neb y peth nid ydyw.

Ac fal hyn y gwelwch pa fodd a oddef delwau yn neilltuol y daethpwyd i'w gosod hwy i fynu mewn temlau ac eglwysydd yn gyhoedd, ac etto heb ddim drygioni ar y cyntaf (fal y tybiai wyr dyscedig call) ac o'u goddef hwy yno yn vnic, yn y diwedd fe ddaethpwyd i'w haddoli hwy: yn gyntaf gan y bobl annyscedig, y rhai yn anad neb fal y dywaid yr Scrythyr-lân sydd mewn Doeth. 13. 14. enbeidrwydd ofergoel a delw-addoliad: ac yn ol hynny gan yr Escobion, y dyscedig a'r holl wyr llen eglwysig, megis y boddwyd ar vnwaith y cwbl oll, y gwyr llyg a'r gwyr llen, y dyscedig a'r annyscedig, yr holl oesoedd, sectau, a graddau, [Page 117] o wyr, o wragedd, ac o blant, o holl gred, (peth of­nadwy Erchyll. echrydus i feddwl am dano) mewn ffia­idd ddelw-addoliaeth: yr hwn o bob bai arall sydd gasaf gan Dduw, a chollediccaf i ddyn; a hynny dros wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg.

Ac i'r diwedd hwn y daeth y dechreuad hwnnw o osodiad delwau i fynu mewn Eglwysydd, yr hwn a farned y pryd hynny yn beth dieniwed, ond a aeth yn y diwedd nid yn vnic yn llawn eniwed, ond yn ddistriw ac yn angheuol ddinistr i holl greddyf ddaionus yn gyffredinol. Fal yr ydwyfi yn cau 'r cwbl fel hyn, megis y gall fod yn bossibl mewn rhyw ddinas neu wlad fechan, fod delwau gwedy eu gosod mewn Temlau ac Eglwysydd, a gallel er hynny trwy ddifri a pharhaus bregethu gair Duw, a phur efengyl ein Iachawdwr Christ, gadw 'r bobl dros amser byrr oddiwrth ddelw­addoliaeth: felly y mae 'n amhossibl fod delwau gwedy eu gosod i fynn ac yn cael eu goddef mewn Temlau ac Eglwysydd mewn gwledydd mawr, ac amhossipplach o lawer fod yn eu goddef hwy yn yr holl fyd dros amser hîr, ac ymgadw rhag delw-addoliaeth.

Ac fe ofala y duwiol nid yn vnic am eu dinas a'u gwlad, ac iechydwriaeth gwyr o'u hoes eu hunain, ond hefyd am bob lle ac amser, ac am ie­chydwriaeth gwyr o bob oes; yn enwedig ni oso­dant hwy y tramgwyddau, a'r-maglau hynny dan draed gwledydd ac oesoedd eraill, y rhai yr ydys yn gweled eisoes eu bod yn ddistryw i'r holl fyd. Am hynny mi a wnaf gynull cyffredinol o'r cwbl oll a draethais hyd yn hyn.

Os bydd y trangwyddau▪ a gwenwyn eneidi­an dynnion trwy osod delwau i fynu, yn aml, ie [Page 118] yn anfeidrol os goddefir hwy: a'r rhybyddion yn erbyn y tramgwydd hynny, a'r ymwared yn erbyn y gwenwyn hynny trwy bregethu, yn ambell ac yn anaml, megis y dangoswyd eisoes: os bydd hawdd gosod y tramgwyddau, a hawdd darparu y gwenwyn, a'r rhybyddion a'r ym wared yn anodd eu hadnabod a'u cael: os bydd y tramgwyddau 'n wastad yn gorwedd ar ein ffyrdd ni, a'r gwenwyn yn barod ger ein llaw ni ym-mhob man, a'r rhy­byddiau a'r ymwared heb eu rhoi ond yn ânfy­nych: ac os bydd pawb o hanynt eu hunain yn barottach i dramgwyddo nag i gymmeryd rhy­bydd, pawb yn barottach i ŷ fed y gwenwyn nag i brofi yr ymwared iachus, (fal y dangoswyd o'r blaen o ran, ac y dangosir yn gyflawnach ar ol hyn) ac felly os bydd llawer yn yfed y gwenwyn yn wastadol ac yn ddwfn, a nymmor heb brofi yr ymwared onid weithiau, a hynny yn egwan: pa fodd na rwystrir llawer o'r gweiniaid diegni? Ie pa fodd na thyrr llawer eu gyddfau trwy gwym­po? ac na wenwynir yn angheuol eneidiau aneirif o bobl? A pha fodd y dichon cariad Duw, neu ga­riad ein cymmydogion fod yn ein calonnau ni: oni thynnwn ymmaith a ni yn gallel, y fath dramgwyddau enbaid, a gwenwyn mor wen­wynllydd?

Pa beth a ddyŵedaf am y rhai a osodant dram­gwyddau lle nad oedd yr vn o'r blaen, a maglau i draed, nag ê i eneidiau y rhai gwirion gweinion? ac a barant enbeidrwydd tragwyddol ddistryw i'r rhai y tywalltodd ein Iachawdwr Iesu Grist ei werthfawr waed drostynt, lle buasai well na ddychmygasid ac nad arferesid er ioed celfyddy­dau peintio, plastro, cerfio, neu doddi, na dinistr [Page 119] a cholli trwy achos delwau a llunniau vn o ha­nynt hwy, y rhai y mae eu eneidiau mor werth­fawr ger bron Duw. Fal hyn y dangoswyd nad yw bossibl i bregethu allel cadw rhag delwaddo­liaeth, os gosodir delwau 'n gyhoedd mewn Eg­lwysydd a themlau.

Ac mor wir yw nad oes nac scrifennu yn erbyn delw-addoliaeth, na chynull cynghorau, na gw­neuthur ordeiniaethau yn y gwrthwyneb, na chyfraithiau caled chwaith, na chyhoeddiadau tywysogion ac Ymmerodron, na Chosp tost. dygyn gosp, a phoenau creulon nac vn remedi ac a allwyd neu a ellir ei ddychymmyg yn abl i attal ac i gadw rhag delw-addoliaeth os gosodir neu os goddefir delw­au yn gyhoeddus.

O herwydd am scrifennu yn erbyn delwau a'r addoliad a wnair iddynt, fe adrodwyd i chwi yn yr ail rhan o'r traethawd hwn, lawer o leoedd allan o Tertulian, Origen, Lactantius, S. Awstin, E­piphanius, S. Ambros, Clemens, a llawer eraill o Escobion sanctaidd dyscedig ac athrawon yr Eg­lwys. Ac heblaw hyn mae 'r holl historiau Eg­lwysig a llyfrau Escobion ac athrawon dyscedig sanctaidd eraill, yn llawn o samplau ac ymadro­ddion godidawg yn erbyn delwau a'u haddolwyr. Ac megis yr scrifenasant hwy yn ddifri iawn, felly yn eu hamser y pregathasont hwy ac y dangosa­sont yn bur ac yn ddiescaelys yn gyfunol a'u siam­plau a'u scrifenadau.

O herwydd pregethwyr oedd escobion yr amser­oedd hynny, ac hwy a welid yn funychaf ynghen­nadwri yr hwn a ddywaid▪ ewch i'r holl fŷd, pre­gethwch i bawb yr Efengil; nag ynghennadwri a negaseu tywysogion y byd hwn: ac fal yr oe­ddynt [Page 120] yn llawn zêl a diwydrwydd, felly yr oeddynt o ddysc a bywyd duwiol godidawg ac am bob vn o'r ddau mewn awdurdod a chymeriad mawr gy­da 'r bobl, ac felly yn applach ac yn debyccach i berswado 'r bobl, a'r bobl yn debyccach i'w credu hwyntau ac i ganlyn eu hathrawaeth.

Ond ni alle eu pregethau hwy ddim help, llai o lawer y gallai eu scrifennadau hwy y rhai ni ddawent i gydnabyddiaeth onid rhai o'r dyscedig, mewn cyfflybaeth o'u gwastadol bregethau, o'r hyn y mae 'r holl dyrfa 'n gyfrannog.

Ac nid ydoedd yr hen dadau a'r Escobion a'r doctoriaid yn pregethu ac yn scrifennu yn neill­tuol yn vnig, ond hwy a wnaethant ynghŷd hefyd gwedy ymgynull mewn rhifedi mawr, mewn cymmanfau a chynghorau, ordeiniaethau a chy­fraithiau eglwysig yn erbyn delwau a delw-addo­liad: ac ni wnaethont felly vnwaith neu ddwy, ond llawer o amseroedd, ac mewn llawer o oeso­edd ac o wledydd, a gynnullasont gymanfau a chyngorau ac a wnaethont ordeiniaethau tost yn erbyn delwau a'u haddoli, megis y dangoswyd o'r blaen yn halaeth yn yr ail rhan o'r bregeth hon.

Ond nid oedd eu holl scrifennadau, eu prege­thau, a'u ymgynull mewn cynghorau, eu hordei­niadau a'u cyfraithiau, yn abl nac i dynnu delwau i lawr y rhai y gwnaid delw-addoliaeth iddynt, nac yn erbyn delw-addoliaeth yr hyd y safe 'r del­wau. O herwydd fe a orchfygodd y llyfrau deilli­on a'r athrawon mudion hynny (delwau ac eu­lynod yr wyfyn eu feddwl) o herwydd llyfrau ac athrawon gwyr llyg y galwant hwy, gan ddan­gos a phregethu delw-addoliaeth trwy eu scri­fennadau peintiedig a cherfiedig, yn erbyn eu holl [Page 121] lyfrau printiedig hwy a'u pregethu ar dafod la­ferydd.

Wele, oni allai bregethu ac scrifennu gadw dynnion rhag addoli delwau a delw-addoliaeth, oni allai ben a geiriau wneuthur hynny: chwi a dybygwch y gallai gosp a chleddyf ei wneuthur: fy meddwl yw y gallai dywysogion trwy gyfrai­thiau a chospedigaeth dost, attal anffrwynedig chwant pawb i ddelwaddoliaeth, er gosod delwau i fynu a'u goddef hwy. Ond mae amser gwedy dangos na ddichon hyn mwy help yn erbyn delw-addoliaeth nag scrifennu a phregethu.

O herwydd er i fwy nag wyth o Ymmerodron (awdurdod y rhai a ddylai fod fwyaf wrth gyf­raith Duw) o'r rhai y ternasodd chwech ol yn ol yn nessaf iw gilidd, fal y manegwyd yn yr histo­riau o'r blaen, wneuthur cyfraithiau tost a chy­hoeddiadau yn erbyn eilynod, ac eilyn-addoliaeth, delwau a delwaddoliad, gan osod cospedigae­thau trymmion, ie a phoen angau ar ymddiffyn­wyr delwau, ac ar eilyn-addolwyr ac addolwyr delwau: Etto ni allasont er hynny er ioed na chwbl ddinistr delwau a osodasid vnwaith i fynu, na chadw dynnion rhag eu haddoli hwy gwedy eu gosod i fynu.

Pa beth a dybygwch chwi wrth hyn a ddig­wyddai pettai wyr dyscedig yn dyscu i'r bobl eu gwncuthur hwy, ac yn maenteinio eu gosod hwy i fynu, megis pethau anghenreidiol i wir grefydd? I ddibennu mae 'n ymddangos yn eglur wrth holl hystoriau ac scrifennedau, ac wrth yr amser­oedd aethont heibio, na ddichon na phregethu nac scrifennu, na chyfundeb y dyscedig, nac awdur­dyd y duwiol, nac ordeiniaeth Cynghorau, na [Page 122] chyfraithiau tywysogion, na thost gospedigaeth y troseddwyr yn hynny o beth, nac vn modd na remedi arall help yn erbyn eilynaddoliad, os go­ddefir delwau yn gyhoeddus. A gwir iawn y dy­wedir fod yr amser aeth heibio 'n ddyscawdr doe­thineb i ni sydd yn dyfod ar ol.

Am hynny oni allae yr hen dadau Escobion a doctoriad rhinwedusaf dyscediccaf a diescaelusaf, a hwy haechen mewn rhifedi yn aneirif, wneu­thur dim yn yr amseroedd aeth heibio, a'u holl scri­fennadau, pregethau, poen, difritwch, awdurdod, cymynfau, a chyngorau, yn erbyn delwau a delw-addoliad, gwedy gosod delwau i fynu vnwaith: pa beth a allwn ni ei wneuthur y rhai nid ydym yn gyffelyb iddynt hwy, nac mewn dysc, nac mewn diwydrwydd, nac mewn sancteiddrwydd bywyd, nac mewn awdurdod, gan ein bod yn ddynnion dirmygus digymmeriad (fal y mae 'r byd yn awr yn myned) ac yn anaml mewn rhi­fedi ymmysc cymmaint lliaws a chensigen dyn­nion? pa beth meddaf allwn ni ei wneuthur neu ei gwblhau i attal eulyn-addoliad, neu addo­liad delwau, os goddefir hwy i sefyll yn gyhoe­ddus mewn Temlau ac Eglwysydd?

Ac oni alle gynifer o Ymmerodron galluog, trwy gyhoeddiadau a chyfraithiau mor dost, trwy gospedigaethau, a phoenau mor drymmion ac mor ddygyn, gadw 'r bobl rhag gosod i fynu ac addoli delwau, pa beth a ddigwydd, dybygwch chwi, pan fo dynnion yn eu canmol hwy megis llyfrau anghenreidiol gwyr llyg?

Dyscwn ni am hynny yn y dyddiau diwethaf ymma, y wers hon gan hen henafiaeth, nad yw bossibl dros vn amser hir wahanu delw-addoliad [Page 123] oddiwrth ddelwau, onid megis cyssyltyn diwaha­nedig, neu megis y canlyn y cyscod y corph, pan fytho 'r haul yn ty wynnu felly y mae delw-addo­liad yn canlyn ac yn glynu wrth oddefiaeth del­wau'n gyhoedd mewn Temlau ac Eglwysydd. Ac yn ddiwethaf megis y dylaid cashau a gwache­lyd delw-addoliaeth, felly y dylaid hefyd dinistr a dodi ymmaith ddelwau, y rhai ni allant fod yn hir heb ddelw-addoliad.

Heblaw addysc a phrawf yr amseroedd aeth heibio, mae naturiaeth a dechreuad delwau o ha­nynt eu hunain yn tynnu yn rhy nerthog i ddelw-addoliad, ac mae anian dynnion a'u paradrw­ydd yn gogwyddo mor drwm at ddelw-addoliad, nad yw bossibl wahanu a dosparthu delwau oddi­wrthto, na chadw dynnion rhag delw-addoliad os goddefir delwau yn gyhoeddus.

Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd am annian a dechrauad delwau yw hyn, fal y mae eu dechrau­ad hwy yn ddrwg ac ni ddichon dim daioni ddy­fod o beth a fo a'i ddechreuad yn ddrwg, am eu bod hwy oll yn ddrwg fal y dywaid Athanasius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, a S. Ierom ar y chweched bennod o'r Proyhwyd Ieremi: Ac mae Eusebius yn ei saithfed llyfr o'i histori E­glwysig a'r ddaunawfed bennod yn dywedyd, megis y daethont hwy ar y cyntaf attom ni oddi­wrth y cenhedloedd (y rhai ydynt ddelw-addol­wyr) ac fal y bu dychmygu delwau yn ddechre­uâd goddineb ysprydol, fal y testiolaetha gair Duw, Doeth. 14. felly megis wrth naturiaeth ac yn anghenreidiol, y dych welant i'r dechrauad o'r hwn y daethont, ac y tynnant ni trwy drais i ddelw-addoliad, ffiaidd gan Dduw a phob dyn [Page 124] duwiol. Ac fe ddaeth dechreuad delwau a'u ha­ddoliad, megis y dywedir yn yr wythfed bennod o lyfr y doethineb, o gariad dall oedd gan y tad anneallus, gan lunio i 'w ddiddanwch ddelw ei fab a fuasai farw, felly o'r diwedd y cwympodd dynnion i addoli delw yr hwn a wyddent ei fod wedy marw. Pa faint mwy y cwympe wyr a gwragedd i addoli delwau Duw Dâd, ein Ia­chawdwr Christ, a'i saint, os goddefir hwy i sefyll mewn eglwysydd a themlau yn gyhoeddus?

O herwydd po m wyaf o dŷb a fytho am fawr­hydi a sancteiddrwydd y neb y gwnelir delw iddo, cyntaf y cwymp y bobl i addoli y ddelw hon­no. Am hynny y mae delwau Dduw, ein Ia­chawdwr Christ, y fendigaid forwyn fair, yr apo­stolion, y merthyron ac eraill o'r rhai sanctaidd godidawg, yn beriglaf o gwbl rhag enbeidrwydd delwaddoliad, ac am hynny y dlyid gochelyd yn fwy rhag goddef yrvn o hanynt yn gyhoedd mewn temlau ac eglwysydd. O herwydd nid rhaid fawr ofni rhag cwympo neb i addoli delwau Annas, Caiphas, Pilat, neu Iudas fradwr, pe byddid yn eu gosod hwy i fynu: ond i'r llaill fe brwfwyd yn gyllawn eisoes ddarfod gwneuthur delw-addo­liad, fod yn ei wneuthur etto, ac yn debyg y gw­nair yn wastadol.

Yn awr, fel y sonniwyd o'r blaen ac y dangosir ymma yn halaeth, nid ydyw naturiaeth dyn yn tueddu yn amgenach i addoli delwau, os dichon ef eu cael hwy a'u gweled, nag y mae'n gogwyddo i oddineb a phuteindra ynghwmpniaeth putei­niaid. Ac megis na byddid ond ychydig nes er dy­wedyd wrth wr a fytho gwedy ymroi i chwan­tau'r cnawd, os bydd ef yn gweled puttain ddry­thyll, [Page 125] yn eistedd yn ei hymyl, ac yn ei bracheidio hi, Gwachel oddineb, fe farna Duw oddineb wyr a 1. Cor. 6. 16. 1. Thess. 4. 3. Heb. 13. 4. 1. Ioan. 5. 21. phuteiniaid. O herwydd gwedy ei orchfygu ef a hudoliaeth y buttein, ni wna ef na roi clust, na synnaid ar y fath rybyddiō duwiol, a chwedy ar ol hynny ei adel ef yn vnic gyda 'r buttain, ni all dim ganlyn onid brynti: felly os goddefwch ddodi i fynu delwau mewn temlau ac eglwysydd, ofer yr erchwch iddynt wachelyd delwau, fal y mae Ioan sant yn erchi, a chilio oddiwrth ddelw-addolia­eth, fal y rhybyddia 'r holl scrythyrau ni: ofer y pregethwch ac y dangoswch iddynt yn erbyn de­lw-addoliad. O herwydd llaweroedd er hyn a gwympant i'w haddoli hwy, naill ai trwy anni­an y delwau ai trwy dueddiad eu hannian lygre­dig eu hunain.

Am hynny megis mai temptio Duw yw, i'r hwn a fytho yn gogwyddo at chwantau cnawdol, eistedd wrth glun puttain: felly hefyd nid yw go­sod delw i fynu yn y parodrwydd hyn sydd mewn dŷn i ddelw-addoliad ddim onid temptio Duw.

Os dywaid neb nad ydyw y gyffelybaeth hon yn prufo dim, etto yr ydwyf yn deisyf arnynt adel i air Duw o'r hwn y tynnwyd y gyffelylbaeth, bru­fo peth. Onid ydyw gair Duw yn galw delw-addoliaeth yn oddineb ysprydol? onid ydyw ef yn galw delw gwedy ei goreuro, yn buttain gwedy peintio ei hwyneb? onid ydyw ysprydol ddrygi­oni Leuit. 17. 7. a'r 20. 5. Ruf 25. 5. Deu 31. 16. Baruc. 6. hudoliaeth delw, megis gwenniaith puttain drythyll? Onid ydyw gwyr a gwragedd mor ba­rodol i odineb ysprydol, hynny yw i ddelw-addo­liaeth, ac i odineb cnawdol? Os gwedir hyn pro­fed holl genhedlaethau y ddayar y rhai oll a fuont ddelw-addolwyr (fal y manegir ymmhob histori) [Page 126] ei fod yn wir. Profed yr Iddewon, pobl Dduw, y rhai a rybyddiwyd mor fynych ac mor ddifrif, ac a fygythwyd mor ofnadwy ynghylch delwau a de­lw-addoliad, ac a gospwyd mor dost am ddelw-addoliad, ac er hynny a gwympasont atto, fod hyn yn wir: fal y dangosir yn eglur ddigon yn holl lyfrau 'r hên Destament, yn enwedig yn llyfrau y brenhinioedd, y croniclau a'r prophwdi. Pro­fed holl oesoedd ac amseroedd, dynnion o bob oes ac amser, o bob gradd a galwedigaeth, gwyr call, gwyr dyscedig, tywysogion, dynnion annysce­dig a chyffredin, fod hyn yn wir.

Os mynnwch gael samplau am wyr call, cym­merwch yr Aiphtiaid a 'r Gymnosophistiaid y gwyr callaf o'r byd, cymmerwch Salomon y gwr callaf oll. Am wyr dyscedig, y Groegiaid, yn en­wedig yr Atheniaid, yn rhagori ar bob cenhedla­eth mewn ofergoel a delw-addoliad: megis y mae S. Pawl yn histori Actau 'r Apostolion yn dywe­dyd am danynt. Am dywysogion a llywodraeth­wyr Act. 17. 22, 23. cymmerwch y Rufeiniaid, y rhai oeddynt yn rheoli 'r cwbl. Brenin Salomon, a holl frenhi­nioedd Ruf. 1. Israel a Iuda ar ei ol ef, ond Dafydd, E­zechias, Iosias ac vn neu ddau ychwaneg, yr holl rai hyn, meddaf, ac aneirif o wyr call dyscedig, ty­wysogion, a llywiawdwyr y rhai oeddynt oll dde­lw-addolwyr, ydynt siamplau i chwi i ddangos fod pob dyn a 'i duedd a 'i ogwydd at ddelw­addoliad.

Er fymod heb son am aneirif liaws, a murdd o wirioniaid annyscedig, y bobl ddiwybod ddifedr, y rhai a gyffelybir i fulod ac i geffylau, yn y rhai nid oes deall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scry­thur yn rhagddangos ac yn rhagfanegi eu pe­rigl [Page 127] a'u henbeidrwydd i gwympo yn gadau idde­lw­addoliad, trwy achos delwau. Ac o ddywedyd gwir pa fodd y gall y bobl ddiddrwg, annyscedig, ffoliaid, ddiangc rhag rhwydau a maglau euly­nod a delwau, yn y rhai y rhwydwyd ac y maglw­yd y rhai callaf a gorau eu dysc?

Am hynny mae 'r ddadl yn dala y sail ymma yn ddiogel, fod dynnion mor hyblyg o'u naws llygre­dig i wneuthur goddineb ysprydol, ac ydynt i wneuthur godineb cnawdol.

Yr hyn beth yr oedd doethineb Duw yn ei ragweled, ac am hynny at y gwaharddiad cyffre­dinol hwn, Na wna ddelwau na lluniau, fe a gy­sylltodd achos, yr hon oedd yn sefyll ar lygredig anian dyn: rhag, medd ef, dy dwyllo drwy gamsyn­niaid ac iti eu hadoli hwy. Ac o'r sail hwn, sef Dew. 4. 16. hyblygedd naturiaeth lygredig dyn yn gystadl i oddineb ysprydol, ac i oddineb cnawdol, y canlyn: megis y mae yn ddlyed ar bob llywiawdr duwiol a garo honestrwydd ac a gashao buteindra, er mwyn gwachelyd godineb cnawdol, symmud ymmaith yr holl buteiniaid, a'r coegennod, yn en­wedig allan o'r lleoedd yr ydys yn eu drwgdybied yn gyhoeddus, y rhai yr arfer mursennod ddyfod iddynt: felly dlyed yr vn llywiawdr duwiol yw, yn ôl samplau y duwiol frenhinioedd Ezechias a Iosias, yrru ymmaith yr holl buteiniaid ysprydol (eulynod a delwau yr ydwyf yn ei feddwl) yn en­wedig allan o'r lleoedd drwgdybys, eglwysydd a­themlau, y rhai ydynt leoedd enbaid rhag gwneu­thur delw-addoliad i 'r delwau a osodir yndynt, megis pe byddent yn y lle apoyntiedig, ac mewn vwchder anrhydedd ac addoliad, fal y dywaid S. Aug. in Psal. 36. a'r 113. a lib. 4. de ciuit. Dei cap. 3. Awstin, lle y dylaid addoli yn vnic y bywiol Dduw [Page 128] ac nid coed a cherrig meirwon. Swydd llywi­awdwyr duwiol (meddaf) yw, yn yr vn modd sym­mud delwau o'r eglwysydd a'r temlau, megis pu­teiniaid ysprydol allan o leoedd tybus, er gochelyd delw-addoliaeth, yr hwn sydd odineb ysprydol.

Ac megis y byddai yn elyn i bob honestrwydd yr hwn a ddygai buteiniaid a choegennod o'u cor­nelau dirgel i'r marchnadleoedd goleu, i drigo yno, ac i arfer eu marchnadaeth brwnt, felly y mae fe'n elyn i wir addoliad Duw, yr hwn a ddygo euly­nod a delwau i'r eglwys, tŷ Dduw, i'w haddoli yno yn gyhoeddus, ac i yspeilio 'r Duw eiddigus o'i anrhydedd, yr hwn ni rydd ef i arall, nai ogo­niant i ddelwau cerfiedig, a'r hwn yr ymwrthodir yn gymmaint, ac y torrir rhwym cariad rhwng dyn ac ef yn gymmaint, trwy ddelw-addoliaeth, yr hwn yw goddineb ysprydol, ac y torrir cwlwm a rhwym priodas trwy odineb cnawdol. Cymme­rwch hyn oll yn lle celwydd, oni ddywaid gair Duw ei fod ef yn wir. Melldigedig, medd Duw Deut. 27. 15. yn Dewt, yw 'r hwn a wnelo ddelw gerfiedig ac a'i gosodo hi mewn lle dirgel, a'r holl bobl a ddy­wedant, Amen.

Fal hyn y dywad Duw, o herwydd yr amser hynny ni faiddiai neb feddu delwau, nau haddoli yn gyhoedd, ond mewn cornelai dirgel: ac lle mae 'r holl fyd yn deml halaeth i Dduw, pwy byn­nac mewn vn gornel o hono a yspeilio Dduw o'u ogoniant, ac a'i rhoddo i goed a cherrig, fe gyhoe­ddir hwnnw trwy air Duw yn felldigedig.

Yn awr pwy bynnac a ddygo 'r puteiniaid ys­prydol hyn o'u llochesau dirgel i gyhoeddus e­glwysydd a themlau, fal y gallo gwyr a gwragedd wneuthur puteindra ysprydol yno yn gyhoeddus [Page 129] heb ddim cywilydd, yn ddiammau mae hwnnw gwedy i Dduw ei felldithio yn ddauddyblyg: a phob gwr a gwraig dda dduwiol a ddywedant Amen: a'u Hamen hwy a sydd ffrwythlon. Ie mae hefyd vnfydrwydd yr holl fyd sydd yn addef gwir grefydd Grist, yn awr er yn amser llawer cant o flynyddoedd, ac hefyd llawer yn ein hamser ni mewn cymmaint goleuni 'r efengyl, yn rhedeg yn dyrfau dros fôr a thîr (gan golli eu hamser, treulio a difa eu golud, ymddifadu eu gwragedd a'u plant, a'u tylwyth, a dodi eu cyrph a'u bywyd mewn enbeidrwydd) i Rufain, i Gompostela, i Ierusalem ac i wledydd pell eraill, i ymweled â choed a cherrig mudion meirwon; mae hyn, me­ddaf, yn prufó yn gwbl barodrwydd llygredig an­nian dyn, i geisio eulynod a fyther gwedy eu gosod i fynu vn waith, ac i'w haddoli hwy.

Ac fal hyn y mae 'n eglur cystadl wrth ddechreu­ad a naturiaeth eulynod a delwau, ac wrth ba­rodrwydd a hyblygedd llygredig natur dyn i'w ha­ddoli hwy, na ellir na dosparthu delwau os go­sodir i fynu yn gyhoeddus, na chadw a chynnal dynnion os gwelant ddelwau gwedy eu gosod mewn temlau ac Eglwysydd, oddiwrth ddelw-addoliaeth.

Ac lle maent yn gosod drostynt ymmhellach, er darfod i'r bobl, tywysogion, gwyr call, a gwyr dyscedig, yn yr hên amseroedd, gwympo i ddelw-addoliad trwy achosion delwau, etto yn ein ham­ser ni nid ydyw y rhan fwyaf, yn enwedig y rhai dyscedig call, a'r rhai mewn awdurdod, yn der­byn na drwg na thramgwydd oddiwrth ddelwau, nac yn rhedeg attynt i wledydd pell ac yn eu addo­li hwy: ac y gwyddont hwy yn ddifai pa beth yw [Page 130] eulyn neu ddelw, a pha fodd yr arferir hwy, ac y canlyn ar hyn nad ydyw delwau mewn eglwy­sydd ond pethau diddrwg didda, y rai ni chamarfer rhai ddim o honynt: ac am hynny y gallant ddala yn gysion (megis y dechrauasont ddodi drostynt ynnechreuad y rhan hon) nad yw yn anghy­fraithlon nac yn ddrygionus hollol, fod delwau mewn eglwysydd a themlau, er na thybygir fod hynny yn gyfaddas, rhag perigl i'r rhai difedr.

Yn erbyn hyn y gellir atteb ailwaith, fod Sa­lomon hefyd, y callaf o'r dynnion, yn gwybod yn dda iawn, pa beth oedd eulyn neu ddelw, a thros hîr ennyd na chafodd ef ei hunan ddim drwg oddi­wrthynt: ac fe a arfogodd eraill hefyd a'i seri­fennadau duwiol yn erbyn eu henbeidrwydd hwy. Ac etto yn hyn pan oddefodd yr vn Salo­mon i'w buteiniaid drythyll ddwyn delwau i'w lys a'i balâs, fe annogwyd gan buteiniad cnaw­dol, ac a yrrwyd gyda hynny i wneuthur godineb ysprydol i eulynod, ac o'r tywysog duwiolaf a challaf fe aeth yn ffolaf ac yn annuwiolaf.

Gorau am hynny i'r callaf feddwl am y rhybydd Eccl. 3 26. hwn, Yr hwn a hoffo berigl a Ddifethir. ddifhair ag ef: A'r 1. Cor. 10. 12. hwn y sydd yn tybied ei fod yn sefyll synned na syr­thio, Ac na osoded trwy wybod ac yn ewyllysgar y fath faen tramgwydd i'w draed, ac i draed eraill hefyd, y rhai onid odid a'u dygant hwy yn y di­wedd i dorri eu Gyddygau. gyddfau.

Fe wyddai y brenin daionus Ezechias yn ddi­fai ddigon nad ydoedd y sarph bres onid delw fa­rw, ac am hynny ni chafodd ef ei hun ddim ani­wed oddiwrthi trwy addoli iddi. Ai gadawodd ef hi am hynny i sefyll, am na chafodd ef ddim drwg o'i hachos hi? Naddo, ond ac ef yn frenin duwiol, [Page 131] ac am hynny yn gofalu am iechyd ei ddeiliaid tru­ain a dwyllasid gan y ddelw honno i wneuthur delwaddoliaeth iddi, ni thynnodd ef hi i lawr yn 2. Bren. 18. 4. vnic ond fe a'i torrodd hi yn ddrylliau. A hyn a wnaeth ef i'r ddelw honno a osodasid i fynu trwy orchymmyn Duw, yngwydd yr hon y gwnelsid gwrthiau mawr, megis yngwydd vn oedd ar­wydd o'n Iachawdwr Christ a ddawai, yr hwn a'n gwaredai ni oddiwrth frath angheuol yr hên sarph Sathan. Ac nid arbedodd ef hi nac er ei henaint, ai hoedran, yr hon a barhaesai vwchlaw saithcant o flynyddoedd, nac er i lawer o frenhino­edd duwiol da ei goddef hi ai chadw cyn ei amser ef. Pa fodd, dybygwch chwi, y trwsiai y tywysog duwiol hwnnw pe byddai fe byw yn awr, ein del­wau ni, y rhai a osodwyd i fynu yn iniawn yn er­byn gorchymmyn Duw, ac heb fod yn arwyddi­on o ddim ond ffolineb, ac i ffoliad i edrych arnynt, nes eu bod hwy mor gall a'r cyffion y maent yn edrych arnynt, ac hyd oni chwympont i lawr me­gis hedyddion gwedy eu hofni, wrth lygadrythu arnynt, ac a hwy yn fyw eu hunain hwy a addo­lant bren neu garreg, aur neu arian marw: ac felly yr ânt yn ddelwaddolwyr ffiaidd melldigedig gan y bywiol Dduw, gan roddi yr anrhydedd sydd ddyledus i'r hwn a'u gwnaeth hwy pan nad oe­ddynt ddim, ac i'n Iachawdwr Christ yr hwn a'u prynodd hwy gwedy eu colli, i ddelw farw fud, gwaith dwylo dŷn, yr hon ni wnaeth er ioed ac ni ddichon wneuthur dim drostynt byth: ie yr hon ni all na symmud nac yscog, ac am hynny sydd waeth nâ phryfyn gwael yr hwn a all ymlusco ac ymsymmud.

Ni chafodd y brenin godidawg Iosias ddim [Page 130] [...] [Page 131] [...] [Page 132] eniwed hefyd gan ddelwau ac eulynnod, o her­wydd fe wyddai yn ddifai pa beth oeddynt hwy, a adawodd ef o blegid ei wybodaeth ei hun, eu­lynnod a delwau i sefyll, chwaethach eu gosod hwy i fynu? oni chynnorthwyodd ef yn hytrach trwy ei wybyddiaeth a'i awdurdod, y rhai ni wy­ddent pa beth oeddynt hwy, gan dynnu ymmaith yn llwyr yr holl faini tramgwydd ac a allent fod yn achosion distryw i'w bobl a'i ddeiliaid ef? Ac o blegid bod rhai o honynt heb gael eniwed oddi­wrth ddelwau ac eulynod, a dorrant hwy am hynny gyfraith Dduw, Na wna iti dy hun lun dim, &c. Hwy a allant resymmu yn gystadl fal hyn, O herwyd na hudwyd Moeses gan ferch Iethro, na Boos gan Ruth, y rhai oeddynt ddieithriaid, y galle 'r holl Iddewon dorri cyffredinol gyfraith Dduw, yr hon sydd yn gwahardd i'r bobl gyssyll­tu eu plant â dieithriaid, rhag iddynt hudo eu plant hwy i beidio â chanlyn Duw.

Am hynny y rhai a resymmant fal hyn, er nad ydyw gyfaddas etto mae 'n gyfraithlon fod del­wau 'n gyhoeddus, ac ydynt yn prufo fod hynny yn gyfraithlon trwy ambell siampl o wyr dichlyn dewisol: os dywedant hynny am bawb yn ddiwa­niaeth, yr hyn ni ddichon ond rhai ei gadw yn ddieniwed, ac yn ddidramgwydd, mae 'n debyg eu bod hwy yn cyfrif y cyffredin yn lle eneidiau di­bris (fal y dywaid hwnnw yn Virgil) am y rhai ni ddylai fod fawr gyfrif am eu colledigaeth neu eu cadwedigaeth y rhai er hyn y talodd Christ am danynt mor brid ac am y tywysog galluoccaf, ca­llaf, a gorau ei ddysc sydd a'r y ddaear. Ac pwy bynnac a fynnont gymmeryd hyn yn gyffredinol yn ddidrwg, o blegid bod ambell vn heb gymme­ryd [Page 133] aniwed oddiwrtho, er bod heblaw y rhai hyn­ny rifedi aneirif yn myned i ddistryw, maent yn dangos nad ydynt yn gwneuthur ond ychydig wahaniaeth rhwng cyffredin Gristionogion ac anifeiliaid mudion, y rhai y maent mor ddiofal am eu peryglu.

Ac heblaw hyn os Escobion, personaid, neu era­ill sydd a chur eneidiau arnynt, a ymresymmant fal hyn, mae 'n gyfraithlon fod delwau yn gyho­eddus er nad ydyw yn gyfaddas; pa fath fugeili­aid y maent yn dangos eu bod i'w cynulleidfaon, y rhai a wthiant arnynt y peth y maent hwy yn ei addef nad ydyw yn gyfaddas iddynt, i lwyr ddi­nistr eneidiau y rhai a orchmynnwyd i'w cadwe­digaeth hwy, am y rhai y gorfydd arnynt roddi iniawn gyfrif ger bron tywysog y bugeiliaid y dydd diwethaf? O herwydd nid ydyw yn vnic yn beth anghyfaddas, ond hefyd yn anghyfraithlon ac yn felldigedig, osod o flaen y gweiniaid a'r rhai sydd barod i gwympo o hanynt eu hunain, y fath fain tramgwydd. Am hyn, peth rhyfedd yw pa fodd y gallant alw delwau a osodir i fynu mewn eglwysydd a Themlau, heb na budd nac elw oddi­wrthynt, ond perigl ac enbeidrwydd mawr, ie e­niwed a distryw i lawer, neu yn hytrach i aneirif o eneidiau, yn bethau diddrwg? Onid yw eu gosod hwy i fynu yn fagl i'r holl ddynnion ac yn demptio Duw?

Yr ydwyf yn deifif ar y rhesymwyr ymma alw i'w cof eu hordeiniaethau a'u deddfau arferedig eu hunain, trwy y rhai yr ordeiniasont na ddarlle­nid yr Scrythyr (er i Dduw ei hun orchymmyn fod gwyr gwragedd a phlant yn ei gwybod hi) gan y bobl annyscedig ac na byddent yn yr iaith gyffre­din, [Page 134] o herwydd (fal y dywedent hwy:) fod yn en­baid hyn, rhag iddynt ddwyn y bobl i amryfysedd. Dew. 31. 12.

Ac ni waharddant hwy osod delwau mewn e­glwysydd a Themlau, y rhai ni orchmynnir ond y waharddir hefyd gan Dduw yn galed: ond eu gado hwy yno yn wastad, ie a'u maenteinio hefyd, gan eu bod hwy yn dwyn y bobl nid yn vnic i en­beidrwydd, ond yn wir i amryfysedd ffiaidd a de­lw-addoliad cas? Ac a gauir gair Duw, rhag fal y dywedant enbeidrwydd heresiau, er i Dduw or­chymmyn ei ddarllen ef i bawb, a bod pawb yn ei wybod ef? Ac a osodir er hynny ddelwau i fynu? a oddefir hwy ac a faentaenir hwy mewn eglwy­sydd a Themlau, er bod Duw yn eu gwahardd hwy, ac er maint enbeidrwydd delw-addoliad sydd oddiwrthynt? Oh ddoethineb fydol gnaw­dol gwedy ymroi i faeinteinio dychymygion a thraddodiadau dynnion trwy resymmau cnaw­dol, a thrwy yr vn rhyw i ddiddymmu ac i wra­dwyddo sanctaidd ordeiniaethau, cyfraithiau ac anrhydedd y tragwyddol Dduw, yr hwn a anrhy­deddir ac a glodforir yn dragywydd. Amen.

Bellach mae 'n aros ini ynniwedd y traethawd hwn ddangos yn gystadl gamarferiad eglwysydd a Themlau, wrth eu trwsio a'u harddu hwy yn rhy werthfawr ac yn rhy wychion, ac hefyd trwy annuwiol beintio goreuro a dilladu delwau: ac felly y diweddir yr holl draethawd.

Nid oedd gan Gristionogion yn amser Tertu­lian, drugain mlynedd a chant yn ol Christ, ddim Temlau, ond tai cysfredin i'r rhai yr arferent fy­ned fynychaf yn ddirgel: A chyn ei amfer ef yr oe­ddynt Tertul. apo­log. 139. mor bell oddiwrth fod ganthynt demlau gwedy eu trwsio 'n hardd, fal y gwnaethpwyd [Page 135] cyfraithiau yn amser Antonius Verus a Chomodus yr Ymmerodron na byddai i Gristionogion fod yn drigolion mewn tai, na dyfod i gymanfau cy­ffredinol, nac ymddangos yn yr heolydd nac yn Euseb. li. 5. cccl. hist. vn lle ymmysc pobl, ac os cyhuddid vnwaith eu bod hwy yn Gristionogion, na oddefid iddynt ddiangc mewn vn modd yn y byd, fal y gwnaeth­pwyd ac Apolonius senadur pendefigaidd o Ru­fain, gwedy i'w gaethwas ef ei hun gyhuddo ei fod ef yn Gristion, ni allai fe ei wared ei hun rhag Hyeronymus. angau, nac wrth yr ymddiffynniad yr hwn a scri­fennodd ef yn ddyscedig ac yn ymadroddus, ac a ddarllenwyd yn gyhoeddus yn y seneddr, nac er ei fod ef yn ddinasydd yn Rufain, nac o blegid gwae­ledd ac a'nghyfraithlonrwydd ei gyhuddwr, yr hwn oedd gaethwas iddo ef i hun, ac am hynny yn debyg o genfigen i lunio celwyddau yn erbyn ei arglwydd, na thrwy vn modd na chynhorthwy arall yn y byd, fal yr ydoedd yn gorfod ar Gristio­nogion drigo mewn ffauau a gogofau, mor bell o­eddynt hwy yr amser hwnnw oddiwrth fod gan­thynt demlau cyhoeddus, gwedy eu trwsio a'u harddu fal y maent yn awr.

Yr hyn a adroddir ymma i argyoeddi celwyddau digywilydd y rhai a ddywedant y fath chwedlau peintiedig têg am y deml wych odidawg oedd gan S. Petr, Linus, Cletus a'r deg ar vgain o Esco­bion eraill ar eu hol h wy, yn Rufain, hyd yn am­ser yr Ymmerodr Constantin, a'r hon oedd gan S. Policarp yn Asia, a'r hon oedd gan Irenaeus yn Ffrainc, er mwyn gallu wrth y fath gelwy­ddau yn wrthwyneb i'r holl hen historiau cywir, faenteinio gormod goreurad a thegwch ar dem­lau ac Eglwysydd, yn y dyddiau hyn: yn yr hyn y [Page 136] maent yn dodi haychen holl sum a syrth ein cre­fydd ni, ond fe a ennillodd yr amser hynny y byd i Gristionogaeth, nid wrth deg oreuro a pheintio temlau y Christionogion, y rhai nid oedd ond yn brin tai ganthynt i drigo ynddynt: ond trwy ddu­wiol ac megis goreurog feddyliau a ffydd gadarn, y rhai ym-mhob adfyd ac erlid, oeddynt yn cyssesu gwirionedd ein crefydd ni.

Ac yn ol yr amser hyn ynghyhoeddiaid Maxi­mian a Chonstantinus Ymmerodron y galwyd y lle yr oedd Christionogion yn arfer o ddyfod i weddi gyffredin, yn ymgynullfau. Ac yn llythyr yr Ymmerodr Galerius Maximinus y gelwir hwy Oratoria, dominica, hynny yw lleoedd gwedy Euseb. cap. 19. lib. 9. cap. 9. eu cyssegru i wasanaeth yr Arglwydd. Ac ymma ar y ffordd y gallwn weled nad oedd yn yr amser­oedd hynny, nac Eglwysydd na themlau gwedy eu cyfodi i vn sant, ond i Dduw ei hun, fal y mae S. Awstin yn adrodd hefyd gan ddywedyd, Nid De ciuita. Dei lib. 8. cap. 1. ydym yn gwneuthur dim temlau i ferthyron. Ac mae Eusebius yntef yn galw Eglwysydd yn dai gweddi, ac yn dangos fod pawb yn amser Con­stantin yr Ymmerodr yn llawennychu fod yn lle yr ymgynnull-fannau issel, y rhai a ddinistrasse tyroniaid, yn adail temlau vchel.

Welwch hyd amser Constantin dros gwedy try­chant mlynedd yn ol ein Iachawdwr Christ, pan oedd ffydd a chrefydd Christ buraf ac yn wir oreu­raid, nad oedd gan Gristionogion ond cynulleid­fannau issel, gwael, a thai gweddi bychain, ie go­gofau dan y ddayar, a elwir Cryptę, lle rhag ofn erlid yr ymgynullasont hwy ynghŷd yn ddirgel. Arwydd o'r hyn sydd yn aros etto yn y gogofau y rhai sydd etto dan eglwysydd, i ddwyn ar gôf ini [Page 137] hen stat a chyflwr y brif-eglwys gyntaf, ym­mlaen amser Constantin, lle yn amser Constan­tin ac ar ei ol ef yr adailadwyd temlau mawrion, gwych, têg i'r Christionogion, y rhai a elwid Basi­licae: naill ai am fod Groegwyr yn galw pob lle têg mawr Basilicas: ai am fod yn gwasanaethu ynddynt y tragwyddol frenin goruchel Duw, a'n Iachawdwr Christ. Ac er i Constantin a thywy­sogion eraill o zêl ddaionus i'n crefydd ni, drwsio a harddu yn wych odidawg demlau Christionogi­on, etto hwy a gyssegrent ar yr amser hynny eu holl Eglwysydd a'u Temlau i Dduw, ac i'n Ia­chawdwr Nouel Con. 3. & 47. Christ, ac nid i neb o'r saint, O herwydd fe ddechreuodd y camarfer hynny yn hîr a'r ol hynny, yn amser Iustinian. Ac fal yr arferwyd y gwychter hwnnw yr amser hynny, ac y cyd-ddyg­wyd ag ef megis peth yn dyfod o zêl dda, etto fe ddangosodd y dyscedig duwiol yr amser hynny, y gallasid treulio hynny yn well mewn moddion eraill.

Bydded S. Ierom (er ei fod mewn moddion yn rhy gu ac yn rhy hoff gantho 'r pethau hyn oddi­allan) yn dyst o hyn, gan yr hwn yn ei lythr at Demetriades y mae 'r geiriau hyn, Gedwch chwi i eraill adail Eglwysydd, a gorchguddio parwy­dydd a maini mynor, dwyn ynghyd golofnau mawrion a goreuro eu pennau hwy, y rhai ni chlywant ac ni ddeallant eu hoŷwad a'u har­ddad gwerthfawr hynny, harddent a thrwsient hwy y drysau ag Ifori ac ag arian, a gosodant i fynn allorau aur a meini gwerthfawr, nid ydwyf yn beio arnynt, bydded pob gwr lawn yn ei ystyr ei hun: gwell iddynt wneuthur felly nâ chadw eu cyfoeth yn ofalus: ond mae i ti ffordd arall gwedy [Page 138] ei aypoyntio i ti, dillada Christ yn y tlawd, ym­weled ac ef yn y claf, a'i borthi yn y newynog, ei letteua ef yn y rhai sydd ac eisiau lletty arnynt, ac yn enwedig y rhai ydynt o dolwyth y ffydd. Ac mae 'r vn Ierom yn Son. crybwyll am yr vn peth yn gwplach yn ei draethawd am fywyd gwyr Eg­lwysig at Nepotian, gan ddywedyd fal hyn, Mae llawer yn adail muriau, yn cyfodi colofnau Eg­lwysydd, mae 'r mynor llyfn yn discleirio, mae nen y tai yn goleuo gan aur, mae'r allor gwedy ei hamgylchu a meini gwerthfawr: ond ar wa­sanaethwyr Christ nid oes na dewis nac ethole­digaeth.

Ac na osoded neb yn fy erbyn y deml gyfoethog oedd yn Iudea, yr hon yr oedd ei bord a'i chanwy­llernau, ei gefeiliau, ei thusserau, ei chawgiau, ei phiolau a'i llwyau, a phob peth arall yn aur: Yr ydoedd yr Arglwydd yn fodlon i'r pethau hyn yr amser hynny, pan oedd yr offeiriaid yn offrwm aberthau, a phan gyfrifid gwaed anifeiliaid yn iawn am bechod. Ond y pethau hyn i gyd oedd yn myned o'r blaen mewn arwydd, ac a scrifennw­yd er ein mwyn ni ar y rhai y daeth diwedd y byd. Ac yn awr pan yw 'n Arglwydd ni ac ef yn dlawd gwedy cyssegru tlodi ei dy, cofiwn ei groes ef, ac ni a gyfrifwn gyfoeth megis llacca a thom. Paham yr ydym ni yn hoffi y byd hyn a alwodd Christ y mammon melldigedig? Paham yr ydym ni yn cyfrif cyfuwch, ac yn caru cymmaint, y pethau y mae S. Petr yn ymogoneddu nad oeddynt gan­tho? hyd yn hyn S. Ierom.

Fal hyn y gwelwch fod S. Ierom yn dangos nad ydoedd y gwychter ym-mhlith yr Iddewon onid arwydd i arwyddocau pethau a ddawent, [Page 139] ac nid siampl ini i'w canlyn, a bod yn goddef y pe­thau hyn oddiallan dros amser nes dyfod Christ ein harglwydd, yr hwn a drodd y pethau hynny oddi allan i Yspryd ffydd a gwirionedd.

Ac mae 'r vn S. Ierom yn dywedyd ar y saith­fed o Ieremi, fe orchymmynnod Duw i'r Idde­won yr amser hynny, ac yn awr i ninnau, y rhai a osodwyd yn yr eglwys, na byddo ini ymddired yn­gwycher yr adailad a'r nennau goreurog; a'r pa­rwydydd gwedy eu gorchgiddio â llechau mynor: gan ddywedyd Teml yr Arglwydd, Teml yr Ar­glwydd: honno yw Teml yr Arglwydd yn yr hon y mae gwir ffydd a duwiol ymddygiad a thyrfa pob rhinweddau yn trigo. Ac ar y Prophwyd Aggeus, mae fe 'n gosod allan wir ac iawn drwsi­ad a harddwch Teml yn y modd ymma, Yr ydwyf, medd S. Ierom yn tybied mai 'r arian yr hwn yr harddir ty Dduw ag ef, yw athrawaeth yr Scry­thyrau, am yr hyn y dywedir, Athrawaeth yr Ar­glwydd sydd athrawaeth bur, arian gwedy ei goe­thi yn y tân, gwedy ei garthu oddiwrth sothach, a'i buro saithwaith. Ac yr ydwyf yn tybied mai 'r aur ywr peth sydd yn aros yn ystyr cuddiedig y saint, ac ynnirgelwch y galon, ac yn discleirio gan wir oleu Duw: Yr hyn sydd eglur fod yr apostol yn ei ddeall hefyd am y saint a adailadant ar y syl­faen Christ, rhai arian, rhai aur, rhai faini gwerth­fawr: y gellir arwyddocae wrth yr aur yr ystyr a'r deall dirgel; wrth yr arian, ymmadroddion du­wiol; wrth y meini gwerthfawr, y gwaithredo­edd sydd yn bodloni Duw. A'r mettelau hyn y gwnair eglwys ein Iachawdwr Christ yn har­ddach ac yn yn deccach nag ydoedd y Synagog yn yr hên amser. A'r cerrig bywiol hynny yr adai­ladir [Page 140] eglwys a thŷ Grist, ac y rhoddir iddi he­ddwch yn dragywydd. Geiriau S. Ierom ydyw y rhai hyn oll.

Ac felly nid oedd gymmeradwy gan yr hên Es­cobion a doctoriaid duwiol, ry hoywder temlau ac eglwysydd, a phlat, a llestri aur, ac arian, a dillad gwerthfawr. Fe a ddywaid Chrysostom nad rhaid yngwasanaeth y Sacramentau sanctaidd wrth lestri auraid ond meddyliau auraid. Ac mae 2. Offic. ca. 28. S. Ambros yn dywedyd, fe a ddanfonodd Christ ei apostolion heb aur, ac a gynnullodd ei eglwys heb aur. Mae aur gan yr eglwys nid i'w gadw ond i'w dreulio ar anghenrhaidiau 'r tloddion. Nid ydyw y Sacrament yn edrych am aur, ac nid ydyw y rhai ni phrynwyd am aur, yn bodloni Duw er mwyn yr aur. Harddu a thrusio Sacra­mentau yw prynu carcharorion o'u caethiwed. Hyd yn hyn S. Ambros.

Ac mae S. Ierom yn canmol Exuperius Escob Tolos am ei fod yn dwyn Sacrament corph yr Ar­glwydd mewn basced brwyn, a Sacrament ei waed ef mewn gwydr: ac felly yn taflu trachwant allan o'r eglwys. Ac mae Bonifacius Escob a mer­thur, fal y cofir yn yr odeiniaethau, yn tystiolae­thu, Titul▪ de cons. can. tribue­rien. yn yr hên amseroedd fod y gwnenidogion yn arfer llestri coed ac nid llestri aur. Ac fe wnaeth Zepherinus Escob Rufain ordeiniaeth ar iddynt arfer llestri gwydr. Lib. 1. Iust. cap. 14.

Felly yr oedd y gwiscoedd a arferid yn yr eglw­ys yn yr hên amser yn blaen, yn ddisyml ac yn ddi­gost. Ac mae Rabanus yn manegi yn halaeth ddarfod cyrchu y trwsiad o wiscoedd gwych a ar­ferid er yn hwyr amser yn yr eglwys oddiwrth ar­fer yr Iddewon, a'i fod yn cytuno a thrwsiad Aa­ron [Page 141] yn hollol haychen. Er maenteinio y rhai hyn mae 'r Pab Innocentius yn cyhoeddi yn Hyf. eon, na ddiddymmwyd holl arferon yr hên gyfraith, fal yr elem ni yn ewyllysgarach yn y fath ymdrw­siad, o Gristionogion yn Iddewaidd.

Hyn yr ydys yn ei ddangos nid yn erbyn eglwy­sydd a Themlau, y rhai sydd anghenrheidiol iawn, ac a ddlyent gael eu parch a'u hanrydedd, fal y manegwyd mewn pregeth arall i'r defnydd hynny, nac yn erbyn eu glendid cyfaddas a'u trw­siad hwy; ond yn erbyn rhy wychder Temlau ac eglwysydd. O blegid Teml ac eglwys Dduw yw hon hefyd, yr hon nid ydyw yn discleirio â maen mynor ac yn llewyrchu gan aur neu arian, nac yn tywynnu â meini gwerthfawr, ond a di­symlder a chynhilwch, ac ni arwyddoca na balch athrawaeth, na balch bobl, ond gostyngedig cyn­nil heb wneuthur cyfrif o bethau dayarol oddi­allan, ond gwedy ei thrwsio 'n hardd â'i thrwsiad oddifewn, fal y manegodd y prophwyd gan ddy­wedyd, Merch y brenin sydd yn hardd oddifewn. Ps.

Yn awr ynghylch anllywodraethus drwsio del­wau ac enlynnod yn hardd oddiallan, a pheintiad, goreurad, addurnad gwiscoedd gwerthfawr, a gemmeu, a maini gwych; pa beth yw hyn ond chwaneg o annogaeth a llithiad i oddineb yspry­dol? trwsio puteiniaid, ysprydol yn werthfawr, ac yn wych? yr hyn y mae 'r eglwys ddelw-addola­idd yn ei ddeall yn ddifai ddigon. O herwydd am ei bod hi mewn gwirionedd, nid yn vnic yn but­tain, fal y gailw yr Scrythyrau hi, ond hefyd yn buttain front Angharuaidd. wrthun, hên, wywedig, o her­wydd yn wir mae hi 'n hên mewn blynyddoedd, a chan ddeall ei heisiau naturiol a gwir degwch, a'i [Page 142] mawr anferthwch sydd ynddi o honi ei hunan, mae hi yn ol arfer y fath buteiniaid, yn ei phein­tio, yn ei thrwsio ac yn ei gwisco ei hun, ag aur, meini gwerthfawr, a phob tlysau gwerthfawr; fal y gallo hi gan ddiscleirio gan harddwch a go­goniant y rhai hynny fodloni ynfyd ffansiau cari­adon ynfyd; a'u llithio hwy felly i odineb yspry­dol gydâ hi: y rhai pe gwelent hi (ni ddywedaf yn Noeth. hoeth) ond mewn dillad disyml, hwy a'i casha­ent hi megis y buttain anferthaf a bryntaf ac a weled erioed: fal y gellir gweled wrth bortreiad puttain yr holl buttemniaid, mam putteindra, sydd wedy ei gosod allan gan S. Ioan yn ei we­ledigaeth, Gwel. 16. 18. yr hon trwy ei gwag-ogoniant a anno­godd dywysogion y ddayar i wneuthur putein­dra gydâ hi: lle yn y gwrthwyneb y mae gwir e­glwys Dduw megis gwraig ddiwair, gwedy ei dyweddio ag vn gwr (fal y dangos yr Scrythur) yr hwn yw ein Iachawdwr Iesu Ghrist, i'r hwn yn vnic y mae hi yn fodlon i ryngu ei fodd a'i wa­sanaethu, ac nid ydyw hi yn edrych am fodloni llygaid na ffansiau cariadon dieithr eraill: mae hi 'n fodlon i'w harddwch naturiol ei hun, heb am­mau nad trwy y fath wir ddisymldra y bodlonai hi ef orau, am ei fod ef yn gwybod yn dda 'r gwa­haniaeth rhwng wynebpryd gwedy ei beintio a gwir bryd a thegwch naturiol.

Ac ynghylch y fath wag-ogoneddus oreurad a thrwsiad delwau mae gair Duw a scrifennwyd yn y ddegfed bennod o brophwydoliaeth y Pro­phwyd Iere. 10. 3, 4. &c. Ieremi, a Chomentau S. Ierom ar y man hynny, yn haeddu eu ystyriaid yn ddifrif.

Yn gyntaf gairiau 'r Scrythyrau yw y rhai hyn, Cymmynwyd pren o'r coed, gwaith llaw [Page 143] saer, a bwyall, ag arian ac ag aur yr harddwyd hwy, ac â morthwylion y siccrhawyd hwy rhag cwympo: megis palm wydden y byddant ac ni la­farant: gan wyr y dygir hwynt, ni allant gerdded: nac ofnwch hwy, cans ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes yndynt. Fal hyn y dywaid y prophwyd.

Ar yr hwn dext mae gan S. Ierom y geiriau hyn, Dymma bortreiad eulynnod y cenhedloedd, y rhai y maent yn eu haddoli: mae eu defnydd hwy yn wael ac yn llygredig, a chan fod eu gwneuthurwr hwy yn farwol, mae 'n rhaid bod y pethau y mae ef yn ei wneuthur, yn ddarfode­dig: mae 'n eu trwsio hwy ag arian, ac aur, fal trwy ddiscleirdeb y ddau fettel hynny, y gallont dwyllo 'r diddrwg. Yr hwn amryfysedd yn wir a ddaeth oddiwrth y cenhedloedd, am ini farnu bod crefydd yn sefyll mewn cyfoeth. Ac ar ol hyn­ny yn y mann y mae fe 'n dywedyd, mae iddynt bryd metelau, ac hwy a harddwyd â chelfyddyd peintio, ond daioni nac ennill nid oes yndynt. Ac yn y man ar ol hynny ailwaith, maent hwy yn gwneuthur addewidion mawrion, ac yn dychy­mygu delw ac ofer addoliad o'u phansiau eu hu­nain, maent yn ymffrostio llawer i dwyllo pob dyn diddrwg, maent yn Diharffu. hurtio ac yn synnu deall yr annuscedig, megis trwy ymadroddion go­reurog a doethineb yn discleirio trwy loywder a­rian. A chan eu dychmygwyr a'u gwneuthurwyr y mawrhair, ac y clodforir y delwau ymma, yn y rhai nid oes na budd na lles, y rhai y mae eu haddoliad yn perthyn yn briodol at y cenhedlo­edd, a'r rhai nid adwaenant Dduw.

Hyd hyn y mae geiriau S. Ierom, yn y rhai y [Page 144] gellwch weled ei farn ef, yn gystadl am ddelwau eu hunain, ac am eu peintio, eu goreuro a'u trwsio hwy; mai camsynnaid yw hynny a ddaeth oddi­wrth y cenhedloedd, ei fod yn perswadio mai mewn cyfoeth y mae cresydd yn sefyll; ei fod yn hurtio ac yn twyllo y diddrwg a'r annyscedig ag ymmadroddion goreurog disclair a Hyawdled. ffraethineb arian; a bod hyn yn perthyn yn neilltuol at y cen­hedloedd, a'r rhai nid adwaenant Dduw. Am hynny wrth farn S. Ierom, mae cadw, peintio, goreuro, a thrwsio delwau yn gyfeiliornus, yn llithio ac yn dwyn i gamsynnaid, yn enwedig y diddrwg a 'r annyscedig; yn genhedlaidd ac heb wybodaeth Duw.

Yn siccr mae'r Prophwyd Daniel yn 11. Ben­nod o'i brophwydoliaeth yn dangos fod y fath werthfawr drwsiad ar ddelwau ag aur ac arian a meini gwerthfawr, yn arwydd o deyrnas An­ghrist: yr hwn fal y dengys y prophwyd, a addola Dduw â'r fath bethau gwychion. Yn awr fe gy­fododd ac a faenteiniwyd yn arferol y fath anfes­surol hoywad, a thrwsiad a'r ddelwau, naill ai o offrymmau a annogodd ofergoel, ac a roddwyd mewn delw-addoliaeth, ai o yspail, lledrad, ac occr, neu dda a gynullasid trwy anghyfiawnder mewn moddion eraill, o'r rhai y rhoes dynnion drwg ran i'r delwau, neu i'r saint, fel y galwant hwy, er mwyn cael maddeuant am y cwbl: fal y dangosir yn hawdd wrth lawer o scrifennadau a hên goffadwriaethau, ynghylch achos adiwedd rhyw roddion mawrion.

Ac yn wir gweddussaf man i wario pethau a ennillwyd mor annuwiol, yw eu gwario ar ddefnydd mor annuwiol. Ac mae 'r hyn y maent [Page 145] hwy yn ei dybied ei fod yn dâl i Dduw am y cwbl, yn ffieiddiach yngolwg Duw nâ'u melldigedig ennill hwy, ac nâ melltigedig drauliad y rhan a­rall. O herwydd mae 'r Arglwydd yn manegi mor Esai 61. 8. fodlon gantho y fath roddion, ymhrophwydoli­aeth Esaias, gan dywedyd, Canys myfi yr Ar­glwydd a hoffaf gyfiawnder, gan gashau trais mewn poeth offrwm. Yr hyn beth yr oedd y cen­hedloedd yn ei ddeall. O herwydd mae Plato 'n Dial. de leg. 20. dangos fod y rhai a fwriadant y maddau Duw i ddynnion drwg, os rhônt iddo ef ran o'r yspail a'r trais, yn tybied ei fod ef yn debyg i gi, yr hwn a gymmer i lithio a'i hurio i gymmeryd rhan o'r yspail, er goddef i'r blaiddiau ladd y defaid.

A phe ennillid y da yn gysion, â'r hwn y trwsi­ed y delwau, etto ynfydrwydd anferth yw gwa­rio 'r da a ennillwyd trwy synwyr a gwirionedd, mor ynfyd, ac mor annuwiol. Am y fath ddrygio­ni yr scrifenna Lactantius fal hyn, Ofer y trwsia dynnion ddelwau y duwiau ag aur ac ifori, ac â Lact. lib. 2. Insti. c. 4. meini gwerthfawr, megis pe gallent gymmeryd hoffder yn y pethau hyn. O herwydd pa ddefnydd sydd gan y rhai nid ydynt nac yn teimlo nac yn de­all, o'r rhoddion gwerthfawr hynny? yr vn def­nydd ac y sydd gan ddynnion meirwon. O her­wydd wrth yr vn fath reswm y maent yn claddu cyrph meirwon, gwedy eu llanw â llysiau ac aro­glau, a chwedy eu dillatta â thrwsiad gwerth­fawr, ac y maent yn trwsio delwau y rhai ni chlywsōt, ac ni wybuōt, pa bryd y gwneuthpwyd hwy, ac ni ddeallant pa bryd yr anrhydeddir hwy. O herwydd nid ydynt yn cael na synwyr na deall wrth eu cyssegrad. Hyd yn hyn Lactantius, a llawer gydâ hyn, rhy hir ei adrodd ymma, gan fa­negi [Page 146] mai megis y mae plant bach yn chware â ba­biod bychain, felly y mae 'r delwau gwychion ymma yn fabiod mawrion i hên ddynnion i chwa­reu â hwynt.

Ac fal y gallom wybod pa beth a farne nid yn vnic gwyr o'n crefydd ni, ond gwyr dyscedig o'r cenhedloedd hefyd, am drwsio delwau meirwon; nid yw anfuddiol ini wrando pa beth y mae Se­neca, gwr call dyscedig iawn o Rufain a Philoso­phydd, yn ei ddywedyd am y ffolineb a arfere hên wyr oedrānus yn ei amser ef, wrth addoli a thrw­sio delwau. Nid ydym, medd ef, yn blant ddwy­waith, megis y mae 'r hên ddiarheb gyffredinol, ond yn blant yn wastadol: ond hyn yw 'r gwaha­niaeth, pan fythom henaf ein bod yn chwareu 'r plant: ac yn y chwareuau hyn y maent yn dwyn o flaen eu babiod mawrion gwych (o herwydd felly y mae fe yn galw delwau) ennaint, arogl­darth a pher-aroglau. I'r̄ babiod ymma y maent yn offrwm aberth, gan y rhai y mae geneuau ac ni wnant ddim â'u dannedd. Ar y rhai hyn y ma­ent yn gosod dillad a thrwsiad gwerthfawr, a hwynt heb wneuthur dim â dillad. I'r rhai hyn y rhoddant aur ac arian er na wnant ddim a hwynt; ie ac mae eu diffig hwy a'r y rhai a'u derbyniant (delwau y mae fe 'n ei feddwl) yn gymmaint ac ar y rhai a'u rhoddant hwy. Ac mae Seneca yn can­mol yn fawr Dionysius brenin Sicilia am yr ys­pail ddigrif a wnaeth ef ar y fath fabiod gwychi­on a'u tlyssau.

Ond chwi a ofynnwch beth yw hyn i'n delwau ni, yr hyn a scrifennwyd yn erbyn eulynnod y cen­hedloedd? siccr yw ei fod yn perthyn yn gwbl iddynt. O herwydd pa raid neu pa fwyniant sydd [Page 147] i'n delwau ni o'u trwsiaid a'u gwychder gwerth­fawr? a ddeallodd ein delwau ni pan wneuth­pwyd hwy? a wybuont hwy pan drwsiwyd a phan harddwyd hwy? Onid ydys yn gwario y pethau hyn mor ofer arnynt hwyntau, ac a'r wŷr meirw yn y rhai nid oes ystyr.

Am hynny y canlyn fod cymmaint o ffolineb a drygioni wrth drwsio 'n delwau ni megis babiod mawrion i hen ffoliaid fal plant i chware annu­wiol chwareuaeth delw-addoliad ger eu bron, ac oedd ymlhith y cenhedloedd a'r ethnicciaid. Mae 'n Eglwysydd ni yn llawn o'r fath fabiod wedy eu trwsio a'u harddu'n rhyfedd, gwedy dodi coronau a thyrch ar eu pennau, a meini gwerthfawr am eu Gyddygau. gyddfau, a'u bysedd yn discleirio â modrwyau yn llawn o gerrig gwerthfawr, mae eu cyrph meirwon sythion hwy gwedy eu gwisco â dillad, gwedy eu sythu ag aur. Chwi a dybygech mai rhai o dywysogion Persia yn eu dillad bailchion, yw delwau ein saint ni o wŷr, ac mai rhyw butei­niaid mursennaidd gwedy ymbincio i hudo eu ca­riadon i aflendid, yw delwau ein santessau ni, trwy 'r hyn nid ydys yn anrhydeddu saint Duw, ond yn eu dianrhydeddu, ac yr ydys yn anharddu ac yn peri ammeu eu duwioldeb, eu sobredd, eu diweirdeb, eu diofalwch am gyfoeth ac oferedd y bŷd hwn, trwy 'r fath anferth drwsiad, yr hwn sydd mor bell oddiwrth eu sobredd a'u duwiol fy­wyd hwy.

Ac er mwyn cwareu 'r holl chwareuaeth drw­yddo, nid digon yw trwsio delwau yn y modd ym­ma, ond yn y diwedd y daw 'r offeiriaid eu hu­nain, gwedi eu trwsio mewn aur a meini gwerth­fawr hefyd, fel y byddont wasanaethwyr cym­mhesur [Page 148] i'r fath arglwyddi ac arglwyddesau, ac addolwyr gweddaidd i'r fath dduwiau a duwie­sau; ac â cherddediad esmwyth hwy a ânt ger bron y babiod goreurog hynny, ac a gwympant ar eu gliniau ym-mlaen yr eulynnod anrhyde­ddus hyn, a chan gyfodi eilwaith hwy a offrym­mant aroglau a tharthau iddynt, er rhoddi siampl i'r bobl o ddauddyblyg ddelw-addoliaeth, gan addoli nid y ddelw yn vnig, ond yr aur a'r cyfoeth hefyd a'r hwny y maent gwedy eu trwsio. Yr hyn beth yn gynt nag y gwnele y rhan fwyaf o'r mer­thyron gynt, ac yn gynt nag yr offymment hwy vn briwsonyn o arogldarth ym-mlaen vn ddelw, hwy a oddefent yr angau creulonaf a thostaf ac allai fod, fal y mae eu historiau hwy yn dangos yn halaeth.

Ac ymma ailwaith y tâl ei ystyried yr hyn y ma­ent yn eu roi drostynt allan o Gregori y cyntaf a Damascen, mai llyfrau gwŷr llŷg yw delwau, ac Greg. ep. ad Ser. masl. Damas. de fide ortho. mai Scrythyrau ffoliaid a gwŷr annyscedig ydyw lluniau. O herwydd fal y dangoswyd eisoes mewn llawer man mai llyfrau ydynt heb ddan­gos dim ond celwyddau, megis y mae 'n eglur ddigon wrth yr Apostol Pawl yn y Bennod gyn­taf at y Rufeiniaid am ddelwau Duw. Felly ysty­riwch yn dda, adolwg, pa fath lyfrau ac Scry­thyrau yw y delwau goreurog peintiedig ymma i'r gyffredin bobl. O herwydd gwedi darffo i'n pre­gethwyr ni ddyscu ac annog y bobl i ganlyn rhin­weddau 'r saint, megis diystyru y byd hwn, tlodi, sobredd, diweirdeb a'r fath rinweddau y rhai yn ddiammau oeddynt yn y saint: a dybygwch chwi, cygynted ac y trothont eu hwynebau oddiwrth y pregethwr ac yr edrychant ar y llyfrau cerfiedig [Page 149] a'r Scrythyrau peintiedig, eu gwych oreurog ddelwau ac eulynnod yn llewyrchu ac yn disclei­rio â mettel a maini, a chwedy eu gwisco a gwis­coedd gwerthfawr neu megis Cheraea yn Terens, os edrychant ar lechau yn y rhai yr ydys gwedy gosod trwy gelfyddyd y peintiwr ddelw mewn dillad mursennaidd drythyll, a'i phryd yn debyc­cach i Venus neu i Fflora, nag i Fair Fagdalen, neu os ydyw yn debyg i Fair Fagdalen, tebyg y­dyw iddi pan ydoedd hi yn chware 'r buttain, ac nid pan ydoedd yn wylo am ei phechodau: pan drothont, meddaf, oddiwrth y pregethwr at y lly­frau, y dyscawdwyr a'r Scrythyrau peintiedig hyn, oni chant hwy hwynt yn llyfrau celwyddog, yn dyscu gwers i eraill am wneuthur cyfrif o gy­foeth, balchedd, oferedd mewn trwsiad, drythy­llwch, mursendod, ie ac ond odid puteindra, me­gis y dyscwyd Cherea gan y fath luniau? Ac yn Lucan fe ddyscodd vn wers gan Venus Gnidia ry ffiaidd ei hadrodd ymma.

Onid ydyw y rhai hyn yn llyfrau ac scrythyrau tlysion, meddwch chwi, i ddynnion diddrwg, ond yn enwedig i wragedd a merched ieuaingc i e­drych yndynt, i ddarllen arnynt ac i ddyscu gwersi ganthynt? Pa beth a dybygant hwy am y prege­thwr a ddangosodd iddynt wersi gwrthwyneb am y saint, ac am hynny trwy yr athrawon cerfiedig ymma fe haerir arno gelwydd? neu pa beth a dy­bygant am y faint eu hunain os credant hwy y lly­frau cerfiedig, a'r scrythyrau peintiedig hyn am danynt hwy, y rhai a wnāt y saint a dernasant yn awr gydâ Duw yn y nef, er mawr ammarch i­ddynt, yn ddyscawdwyr o'r fath oferedd ac oedd ffiaiddiaf ganthynt yn eu bywyd.

[Page 150] O herwydd pa wersi am ddiystyru cyfoeth ac ofe­redd y bŷd a all llyfrau wedi eu hamgylchu fel hyn ag aur a meini gwerthfawr, a'u gorchguddio â sidan, eu dyscu? Pa wersi o sobredd a diweirdeb a all ein gwragedd ni eu dyscu gan yr Scrythyrau paentiedig hyn, a'u dillad mursennaidd, a'u go­lwg yscafn.

Onid ymmaith rhag cywilydd a'r fath gochlau delw-addoliaeth, a llyfrau ac Scrythyrau delwau a lluniau i ddyscu ffoliaid, nag ê i wneuthur Chri­stianogion yn ffoliaid ynfyd ac yn anifeiliaid.

Ydyw dynion, a dolwg, a hwythau a'r vn fath lyfrau gartref ganthynt, yn rhedeg mewn perer­indod i geisio 'r vn fath lyfrau yn Rhufain, Com­postella neu Ierusalem i gael eu dyscu ganthynt, a hwythau a'r vn fath ganthynt i ddyscu gartref? A arfer dynion o berchi rhyw lyfrau ac o ddiystyru a dibrisio eraill o'r vn rhyw? A ydyw dynion yn arfer penlinio ger bron eu llyfrau, yn ennynnu canhwyllau ar hanner dydd, yn arogl-darthu, yn offrwm aur ac arian, a rhoddion eraill gar bron eu llyfrau? A ydyw dynion nac yn dychymmygu nac yn credu fod eu llyfrau hwy yn gwneuthur gwrthiau? Siccr yw fod Testament newydd ein Iachawdwr Christ yr hwn sydd yn cynnwys ynddo air y bywyd, yn fywiolach yn eglurach, ac yn gywirach delw o'n Iachawdwr nâ 'r holl ger­fiedig, toddedig a lluniedig ddelwau yn y byd: ac etto nid ydys yn gwneuthur dim o'r fâth bethau hyn i lyfr neu Scrythur Efengyl ein Iachaw­dwr, ac a wnair i ddelwau, lluniau, llyfrau ac Scrythyrau gwŷr llŷg a ffyliaid (fel y galwant hwy.) Am hynny, galwant hwy yn y modd y myn­nont, eglur yw wrth eu gweithredoedd hwynt [Page 151] nad ydynt yn gwneuthur amgen lly frau nac scry­thyrau o honynt, nâ 'r rhai a ddyscant ddelw­addoliaeth brwnt atcas: fel y mae y rhai a arfe­rant y fath lyfrau yn dangos beunydd wrth wneuthur y peth hynny.

Oh lyfrau ac scrythyrau yn y rhai yr scrifen­nodd y dyscawdwr cythreulig Sathan wersi melldigedig o felldigedig ddelw-addoliaeth, i'w ddiscyblon a'i yscolheigion llwfr i edrych arnynt, i ddarllen ac i ddyscu ammherchi Duw, a'u her­chyll ddamnedigaeth eu hunain. Oni buom ni rwymedig, dybygwch chwi, i'r rhai a ddylasent ddangos i ni'r gwrionedd allan o lyfr Duw, a'i sanctaidd Scrythur, am iddynt gau llyfr Duw a'i sanctaidd Scrythur oddiwrthym, fel na bai neb o honom mor Hyf. eon a'i agoryd ef vnwaith neu ddarllen arno? ac am iddynt yn lle hynny agoryd i ni ar llêd y llyfrau cerfiedig, gwych goreurog, a'r scrythyrau paentiedig ymma, i ddyscu i ni y fath wersi daionus, duwiol? Oni wnaethont hwy yn dda yn ôl iddynt beidio a sefyll eu hunain yn y pulpudau i ddyscu 'r bobl a roddwyd iddynt i'w hathrawiaethu, gan dewi â son am air Duw, a myned yn gŵn mudion (fel y geilw y prophwyd hwy) osod i fynu i ni yn eu lle ar bob colofn a chor­nel o'r eglwys, y fath athrawon daionus duwi­ol, mor fudion ac annuwiolach nâ hwy eu huna­in? Nid rhaid i ni gwyno eisiau vn person mud, a ninnau a chynnifer o Vicariaid diawlig mudi­dion gennym (yr eulynnod a'r babiod paentiedig ymma yr ydwyf yn ei feddwl) i athrawiaethu yn eu lle hwy.

Yn awr yr hyd y mae 'r delwau mudion meir­won ymma yn sefyll gwedi eu trwsio a'u dilladu [Page 152] fel hyn yn erbyn cyfraith Dduw a'i orchymmyn, a'r bobl Gristionogaidd dlodion, bywiol ddelwau Duw, y rhai a orchymmynnodd Christ mor ga­riadus i ni, megis rhai anwyl iawn gantho, yn sefyll yn noethion, yn crynu gan anwyd, a'u dan­nedd yn yscydwyd yn eu pennau, ac heb neb yn eu dilladu, yn dyddfu gan mewyn a syched, ac heb neb yn rhoddi iddynt genniog i'w helpu, lle mae pun­noedd yn barod bob amser yn erbyn ewyllys Duw, i drwsio ac i harddu coed a cherrig meir­won, y rhai ni chlywant nac anwyd, na newyn, na syched.

Gan Clemens y mae ymadrodd gwych ynghylch y peth hyn, gan ddywedyd fal hyn, Mae 'r sarph Lib. 5. ad Ia­cobum Frat. Domini. diafol trwy enau rhyw ddynion yn dywedyd y geiriau hyn, yr ydym ni er anrhydedd i'r anwele­dig Dduw, yn addoli delwau gweledig: yr hyn yn siccr sydd gelwydd goleu: o herwydd pe gwir anrhydeddech ddelw Dduw, wrth wneuthur daioni i ddŷn yr anrhydeddech wir ddelw Dduw ynddo ef. O herwydd mae llun Duw ym-mhob dŷn, ond nid yw ei gyffelybiaeth ef ym-mhob dŷn, ond yn vnig yn y rhai sydd a chalonnau duwiol a meddyliau pur. Os mynnwch chwi gan hynny wir anrhydeddu delw Dduw, yr ydym ni yn my­negi i chwi'r gwir, ar ichwi wneuthur daioni i ddŷn yr hwn a wnaethpwyd ar ôl delw Dduw, ar ichwi roddi parch ac anrhydedd iddo ef, cyn­northwyo 'r tlawd â bwyd a'r sychedig â diod, y noeth â dillad, y claf â gwasanaeth, y diethr a'r di­lettŷ â llettŷ, y carcharorion ag anghenrheidiau, a'r pethau hyn a gyfrifir megis gwedi eu gwîr roddi i Dduw. Ac mae 'r pethau hyn yn perthyn mor iniawn i anrhydedd Duw, megis pwy byn­nag [Page 153] ni wnelo hyn, y mae efe yn gwrthwynebu de­lw Dduw ac yn gwneuthur llwyr gam â hi. O blegid pa anrhydedd i Dduw yw hyn, rhedeg at ddelwau coed a cherrig, ac anrhydeddu gwâg a meirwon luniau Duw, a diystyru dŷn yn yr hwn y mae gwir ddelw Dduw?

Ac yn y man ar ôl hyn y dywaid, Deellwch am hynny mai hudoliaeth y sarph Sathan yw hyn, sydd yn llechu ynoch ac yn ceisio gennych gredu eich bod yn dduwiol pan fôch yn anrhydeddu del­wau difywyd meirwon, ac nad ydych yn annuwi­ol pan ddrygoch neu pan ni wneloch lês i greadu­riaid rhesymmol, bywiol. Geiriau Clemens yw y rhai hyn oll.

Ystyriwch adolwg pa fodd y mae 'r hên athraw dyscedig hwn, o fewn can mlynedd ar ôl amser ein Iachawdwr Christ, yn dangos yn oleu na ddichon bod na gwasanaeth i Duw, na chrefydd gymme­radwy gantho, wrth anrhydeddu delwau meir­won, ond wrth gynorthwyo 'r tlodion, bywiol ddelwau Duw, yn ôl S. Iaco, yr hwn a ddywed, Hon yw 'r bur a'r wir grefydd gar bron Duw, ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, ac ymgadw yn ddihalog oddiwrth y byd.

Wrth hynny nid ydyw gwir grefydd a bodlon­rwydd Duw yn sefyll mewn gwneuthur, gosod i fynu, paentio, goreuro, trwsio a dilladu delwau mudion meirwon (y rhai nid ydynt ond babiod a theganau i hên ffyliaid mewn ynfydrwydd a de­lw-addoliad i ymddigrifo ynddynt ac i chwareu â hwynt) nac wrth eu cusanu hwy gan ymbenno­ethi, penlinio, offrwm ac arogl-darthu iddynt, mewn gosodiad canhwyllau, coesau, breichiau [Page 154] neu gyrph cyfain o gŵyr ger eu bron hwy; neu mewn gweddio arnynt, a cheisio ganthynt hwy neu gan y saint, y pethau a berthynant i Dduw yn vnig eu rhoddi. Ond mae 'r holl bethau hyn yn ofer, yn ffaidd ac yn ddamnedig ger bron Duw.

Ac am hynny mae pawb o'r fath ddynion yn gwario nid yn vnig eu harian a'u poen yn ofer, ond gyd â'u poen a'u côst, yn ennill iddynt eu hu­nain ddigofaint Duw a'i ddygyn lid, a thragwy­ddol ddamnedigaeth corph ac enaid. O blegid chwi a glywsoch brofi yn eglur yn yr Homiliau hyn yn erbyn delw-addoliaeth, trwy air Duw, a­thrawon yr Eglwys, historian Eglwysig, rhe­swm ac addysc amser, fod yn addoli gynt, a bod etto yn addoli delwau, ac felly bod yn gwneuthur de­lw-addoliad gan rifedi aneirif er mawr ddigio mawrhydi Duw, ac enbeidrwydd aneirif o enei­diau; ac na ellir mewn modd yn y byd wahanu delw-addoliaeth oddiwrth ddelwan a osoder mewn eglwysydd a Themlau, gwedy eu goreuro a'u trwsio 'n wŷch, ac am hynny mai eulynnod diammau ydyw ein delwau ni, ac felly bod y gwaharddiadau, y cyfreithiau, melldithion, by-gathiau o blaau ofnadwy, cystal amserol a thra­gwyddol a gynnhwysir yn y sanctaidd Scrythur ynghylch eulynnod a 'u gwneuthurwyr, eu hymddiffynwyr a 'u haddolwyr, yn perthynu i'n delwau ninnau a osodir i fynu mewn Eg­lwysydd a Themlau, ac i'w hymddiffynwyr, a'u gwneuthurwyr, a'u haddolwyr hwy: a bod yr holl enwau o ffiaidd-dra y rhai y mae gair Duw yn eu rhoi yn yr Scrythyrau sanctaidd i eulynnod y cenhedloedd, yn perthyn i'n delwau ni, gan eu bod yn eulynnod megis hwyntau, a chan fod yn [Page 155] gwneuthur yr vn fath ddelw-addoliad iddynt.

Ac y mae genau Duw ei hunan yn yr Scry­thyrau sanctaidd, yn eu galw hwy yn ofereddau, yn gelwyddau, yn hudoliaethau, yn aflendid, yn frynti, yn dom, yn felldith, yn ffiaidd-beth ger bron yr Arglwydd.

Am hynny ni ellir ymgadw rhag erchyll ddig­llonedd Duw, a pherigl ofnus i ninnau, heb ddi­stryw a llwyr ddinystr y fath ddelwau ac eulyn­nod allan o'r Eglwysydd a'r Temlau: a Duw a osodo ynghalonnau holl dywysogion Christiano­gol wneuthur hynny.

Ac yn y cyfamser byddwn ni synhwyrol, ac ym­wagelwn fy-ngharedigion yn yr Arglwydd, ac na fydded i ni dduwiau dieithr, ond vn Duw yn v­nig, yr hwn a'n gwnaeth pan nad oeddym ni ddim, Tâd ein harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n prynodd gwedi'n colli, a'r hwn sydd yn ein sanc­teiddio â'i Yspryd glân. O blegid hyn yw'r by­wyd Io. 17. 3. tragwyddol, ei adnabod ef yr vnig Dduw, a'r hwn a ddanfonodd ef Iesu Ghrist.

Nac addolwn ac nac anrhydeddwn, er mwyn crefydd, neb ond efe, ac addolwn ac anrhydeddwn ef yn y modd y mae efe ei hunan yn ewyllysio, ac yn y modd y dangosodd ef yn ei air y mynnai ef ei addoli a 'i anrhydeddu, nid mewn na thrwy ddelwau nac eulynnod y rhai a waherddir i ni yn galed iawn, nac wrth benlinio, ennynnu canhwy­llau, arogl-darthu ac offrwm rhoddion i ddelw­au ac eulynnod, gan gredu y rhyngwn ni ei fodd ef felly. O blegid mae 'r holl bethau hyn yn ffiaidd ger bron Duw.

Ond addolwn ac anrhydeddwn Dduw mewn yspryd a gwirionedd, gan ei ofni a'i garu ef vwch [Page 156] law pob peth, gan ymddiried ynddo ef yn vnig, gan ei foliannu a'i glodfori ef yn vnig, a phob peth Io. 4. 23. arall ynddo ef, ac er ei fwyn ef. O blegid y cy­fryw addolwyr a gâr ein Tâd nefol, yr hwn yw'r yspryd puraf, ac am hynny y mynn ef ei addoli mewn yspryd a gwirionedd. Y fath addolwyr oedd Moses, Abraham, Dafydd, Elias, Petr, Paul, Ioan a'r holl Batriarchau, prophwydi, A­postolion, merthyron, a holl wir sainct Duw, y rhai oll megis gwir garedigion Duw, oeddynt elynion a dinistrwyr delwau ac eulynnod, megis gelynion i Dduw ac i wir grefydd.

Am hynny gwachelwch a byddwch gall, anwy­lion yr Arglwydd, a'r pethau y mae eraill yn eu gwario yn erbyn gair Duw, ac yn annuwiol i'w damnedigaeth eu hunain, ar goed a cherrig (nid delwau ond gelynion Duw a'i saint) gweriwch chwi megis ffyddlon weision Duw, yn drugarog ar wŷr a gwragedd tlodion, plant ymddifaid, gwragedd gweddwon, dynion cleifion, dieithra­id, carcharorion, ac eraill a fo mewn angen: fal y galloch yn-nydd mawr yr Arglwydd, glywed bendigedig a diddanus leferydd ein Iachawdwr Christ, dewch fendigedig i deyrnas fy-nhâd, a ba­rottowyd i chwi er cyn dechreu 'r byd, o blegid yr oeddwn yn newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd, yn sychedig a chwi a'm diodasoch, yn noeth a chwi a'm dilladasoch, yn ddieithr a chwi a'm llet­tyassoch, yngharchar a chwi a ymwelsoch â mi, yn glâf a chwi a'm diddanasoch. O blegid pa beth bynnag a wnaethoch i'r tlawd a'r anghenus yn fy enw i er fy mwyn i, hynny a wnaethoch erof fi. I'r hon deyrnas nefol, Duw Tâd y drugaredd a'n dygo ni er mwyn Iesu Ghrist ein hunig Iachaw­dwr, [Page 157] cyfryngwr a dadleuwr. I'r hwn gyd a'r Tad a'r Yspryd glan, vn anfarwol, anweledig a gogo­neddus Dduw y byddo 'r holl anrhydedd a'r di­olch a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth am gyweirio, cadw 'n lan ac addurno Eglwysydd yn weddaidd.

ARfer gyffredinol a arferir gan bawb yw pan fwriadont alw eu ceraint a 'u cymydogion i 'w tai i fwytta neu yfed gydâ hwy: neu gael vn ymgynnull gyhoedd i draethu ac i ymddiddan ynghylch vn peth; hwy a fynnant fod ei tai (y rhai a gadwant mewn cy­wair gwastadol) yn lan ac yn deg: rhag eu cyfrif hwy yn fuscrell ac heb fawr gyfrif ganthynt am eu ceraint a'u cymydogidn. Pa faint mwy, gan hynny, y dylai dŷ Dduw, yr hwn yn gyffredinawl a alwn ni yr Eglwys, gael ei gyweirio yn gyflawn ym-mhob lle, a'i drwsio a'i harddu 'n barchus, a'i gadw 'n lan, ac yn beraidd i ddiddanwch pawb ac a ddelo iddo.

Mae 'n eglur yn yr Scrythyr lan, pa fodd y cwympodd tŷ Dduw, yr hwn a elwid ei Deml sanctaidd ef ac oedd fam-eglwys holl Iudea, wai­thiau mewn anghy-wair, ac fel yr halogwyd ac yr anurddwyd ef yn fynych, trwy wall ac annuwi­oldeb y rhai oedd edrychiaid arno. Ond pan fy­ddai brenhinoedd a llywiawdwyr duwiol yn y fan a'r lle, fe a roddid yn y man orchymmyn i ad­cyweirio Eglwys a thŷ Dduw, ac ar gynnull de­fesion y bobl tuag at ei adcyweirio ef.

Yr ydym yn darllen yn ail llyfr y brenhinoedd [Page 158] pa fodd y rhoddodd brenin Ioas yr hwn oedd dy­wysog duwiol, orchymmyn i'r offeiriaid i droi rhai o offrymmau 'r bobl tuag at gyweirio a gwe­llau Teml Dduw.

Yr vn fath orchymmyn a roddodd y brenin tra duwiol Iosias ynghylch adcyweirio ac ail adai­lad Teml Dduw, yr hon a gafas ef mewn diffyg, anghywair ac adfail mawr. Fe a ryngodd bodd i'r holl-alluog Dduw fod scrifennu yn helaeth yr historiau hyn ynghylch ail-adailadu ac adcywei­rio ei Deml sanctaidd ef er dangos i ni, Yn gyn­taf fod Duw yn fodlon i fod gan ei bobl ef le gwe­ddaidd i ddyfod iddo ac i ymgynnull ynghyd i fo­liannu ac i fawrhau ei sanctaidd enw ef.

Ac yn ail ei fod ef yn fodlon dros benn i'r holl rai ac a ant yn ddiwall ac yn ddiesceulus ynghylch cyweirio a gwellau cyfryw leoedd ac appwynti­wyd i gynulleidfa pobl Duw ddyfod iddynt, yn y rhai y rhoddant ddiolch i Dduw am ei ddoniau yn ostyngedig ac yn gyttun, ac y moliannant ei sanctaidd enw ef ag vn galon ac ag vn lleferydd.

Yn drydedd yr ydoedd Duw yn anfodlon iawn i'w bobl, am eu bod yn adailadu, yn trwsio ac yn harddu eu tai eu hunain, ac yn goddef tŷ Dduw mewn adfail ac anghywair i fod yn anweddaidd ac yn am-mheraidd.

Am hynny y cyffrowyd ef yn ddirfawr yn eu herbyn hwy, ac y plagodd ef hwy, fal y gwelir yn y Prophwyd Aggeus: Fal hyn y dywaid yr Ar­glwydd, Ai amser yw hi i chwi eich hunain i dri­go mewn tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghy­fannedd? hauasoch lawer a chasclasoch ychydig, bwyttasoch ac ni 'ch digonwyd, yfasoch ac ni 'ch disychedwyd, gwiscasoch ddillad ac ni chadwasont [Page 159] chwi yn glŷd, a'r hwn a ymgyflogo a gascl ei gy­flog i gôd ddiwaelod.

Wrth y plagau hyn a osododd Duw ar ei bobl am escaeluso ei Deml, mae 'n eglur, y mynne Dduw fod ei Deml, ei Eglwys, y lle yr hwn yr arfer ei gynulleidfa ef ddyfod iddo, i'w fawrhau ef, gwedy ei adailadu a'i hatcyweirio a'i maen­taeinio 'n dda. Fe ddywaid rhai heb ofalu nac am dduwioldeb nac am y lle o ymarfer duwiol: fe a orchymmynnodd Duw ei hunan adail a chy­weirio 'r deml yn yr hên gyfraith, am fod llawer o addewidion mawrion gwedy eu cyssylltu â hi: ac am e'u bod hi yn arwydd, yn Sacrament, ac yn arwyddocâd o Grist ei hun, a'r Eglwys hefyd.

I hyn y gellir atteb yn ddigon hawdd, yn gyn­taf nad oes dyffyg addewidion ar ein Eglwysydd ninnau gan fod ein Iachawdwr Crist yn dywe­dyd lle bytho dau neu dri gwedy ymgynull yng­hŷd yn fy enw fi, myfi a fyddaf yn eu mysc hwy. Am hynny pan fytho lliaws mawr gwedy ym­gynull ynghŷd i'r Eglwys, mae Duw a Christ Iesu yn bresennol ynghynnulleidfa ei bobl ffydd­lon trwy ei nerth ai dduwiol gynhorthwy yn ol ei ddiogel a'i ddiddanus addewidion. Pa ham gan hynny na ddylei bobl Gristianogaidd wneuthur Temlau ac Eglwysydd, a hwynt a chymaint o addewidion iddynt o bresennoldeb Duw, ac oedd gan Salomon am y deml ddefnyddiol a wnaeth ef? Am y rhan arall, sef bod Teml Salomon yn arwydd o Ghrist, ni a wyddom yn awr yngoleuni discleir Efengyl Iesu Ghrist Mâb Duw, fod pob cyscodau, arwyddion ac arwyddocâd gwedy mynd yn hollawl ymmaith: fod yr holl ofer am-mrho­ffidiol ceremoniau Iddewaidd a Phaganiaidd [Page 160] gwedy eu diddymmu yn gwbl: ac am hynny ni wnaethpwyd ein Eglwysydd ni i fod yn arwyddi­on ac yn arwyddocâd o'r Messias a Christ i ddy­fod, ond er defnyddiau duwiol anghenrheidiol eraill: hynny yw, megis y mae gan bob gŵr ei dŷ ei hun i aros ynddo i gymmeryd ei esmwythdra ac ei orphywys ynddo, a 'r cyfryw gyfreidiau e­raill: felly y myn Duw holl-alluog fod iddo yntef dŷ a lle i'r hwn yr ymgynull yr holl blwyf a'r gy­nulleidfa, yr hwn a elwir yr Eglwys a Theml Dduw, am fod yr Eglwys, yr hon yw cynnulleid­fa pobl Dduw, yn ymgynull ac yn dyfod ynghŷd yno, i'w wasanaethu ef. Nid am ein bod yn me­ddwl wrth hyn fod yr Arglwydd, yr hwn ni all nef y nefoedd ei gynnwys a'i amgyffred, yn trigo yn yr Eglwys faen a chalch o waith dwylo dŷn, megis pe byddid yn ei gynnwys ef yn hollawl yn­ddi, ac na byddai mewn vn man arall: o herwydd ni thrigodd ef erioed felly yn-nheml Salomon.

Hefyd fe a gyfrifir ac a elwir yr Eglwys a'r deml hon yn sanctaidd, nid o honi ei hun, ond am fod pobl Dduw (y rhai sy 'n ymarfer o ddyfod yno) yn sanctaidd ac yn ymarfer yno mewn pethau sanctaidd nefol.

Ac er mwyn bod i chwi ddeall ym-mhellach pa ham y gwnaethpwyd Eglwysydd ym-mhlith Gristianogion, hyn oedd yr ystyr mwyaf, er mwyn bod i Dduw ei le a'i amser i'w anrhydeddu a'i wasanaethu gan holl gynulleidfa 'r plwyf yn gy­fan. Yn gyntaf, i wrando ac i ddyscu yno fendi­gedig air y tragwyddol Dduw. Yn ail, er mwyn bod i holl gynnulleidfa pobl Dduw yn y plwyf alw ar enw Duw ag vn lleferydd, ac ag vn galon fawrhau a chlodfori ei enw ef, rhoddi difrif ddi­olch [Page 161] i'r Tâd nefol o vn galon am ei anfeidrol ddo­niau y mae ef yn eu rhoddi im beunydd ac yn aml, heb ollwng yn angof roddi yn elusenau i dylodi­on, fel y bo i Dduw ein bendithio ninnau yn gy­foethoccach.

Fal hyn y gellwch ddeall ac ystyried paham y gwnaethpwyd Eglwysydd gyntaf ym-mhluh Christianogion, ac y cyssegrwyd ac y gossodwyd hwy i'r defnyddion duwiol hyn, a phaham y di­eithrwyd hwy yn hollawl oddiwrth bob defny­ddion bryntion, halog, bydol. Am hynny pwy bynnag sydd ganthynt feddwl a bwriad bychan ar gyweirio ac adailadu teml Dduw, fe a ddylid eu cyfrif hwy yn bobl annuwiol iawn, yn wrth­wyneb i bob trefn dda yn Eglwys Ghrist, ac yn diystyru gwir anrhydedd Duw, a thrwy siampl ddrwg yn rhwystro eu cymydogion, y rhai oni bai hwynt hwy, a fyddent yn dduwiol ac yn dda eu bwriad.

Mae 'r byd yn tybied nad ydyw ond peth by­chan weled eu heglwysydd yn adfailio ac yn my­ned i lawr: ond pwy bynnag ni ddodant eu dwy­law i'w cynnal a'i cadw hwy i fynu, maent yn pechu yn erbyn Duw a'i gynnulleidfa sancta­idd. O herwydd oni bai fod yn bechod escaeluso a dibriso adcyweirio ac ail-adailadu y Deml, ni buasai Dduw yn digio yn gymmaint, ac yn plau ei bobl cyn gynted am eu bod hwy yn adailadu ac yn trwsio eu tai eu hunain yn wychion, ac yn di­brisio tŷ eu Harglwydd Dduw.

Mae 'n bechod ac yn gywilydd weled cynnifer o Eglwysydd gwedy gogwyddo ac adfeilio mor gywilyddus ym-mhob cornel. Os bydd tŷ gŵr ei hun lle mae ef yn trigo, yn gwaethygu, ni or­phwys [Page 162] ef nes iddo ei adcyweirio ef ailwaith: ie os bydd ei yscubor ef, lle y ceidw ef ei ŷd, mewn anghywair, mor ddiesculus fydd ef nes darffo iddo ei chwbl gyweirio hi ailwaith, Os bydd ei stabl ef i gadw ei geffyle, neu ei dwlc ef i gadw ei foch, heb fod yn ddiddos yn erbyn glaw a gwynt, mor ofalus a fydd ef i osod arno gôst. Ac a fyddwn ni mor ofalus am ein tai cyffredinol gwael, y rhai a ddefnyddir i'r fath reidiau gwael, ac a fyddwn ni anghofus am dŷ Dduw yn yr hwn y traethir geiriau ein tragwyddol iechydwriaeth ni: ac yn yr hwn y ministrir y sacramentau, dirgelion ein prynedigaeth ni: yno y mae ger ein bron ffynnon ein ailanedigaeth; yno yr ydys yn cynnyg i ni gyfraniad corph a gwaed ein Iachawdwr Christ. Ac oni wnawn nigyfrif o'r lle yn yr hwn yr ydys yn trin y fath bethau nefol?

Am hynny os bydd genych barch i wasanaeth Duw, os bydd syberwyd ac honestrwydd, os bydd cydwybod i gadw ordeiniaeth anghenrheidiol duwiol, cedwch eich Eglwysydd mewn cywcir dda, trwy 'r hyn ni fodlonwch chwi Dduw yn vnig ac ni dderbyniwch yn vnic ei aml fendithion ef. Ond chwi a haeddwch hefyd air da pawb o'r bobl dduwiol.

Yr ail peth sydd yn perthyn at faenteinio tŷ Dduw yw ei harddu ef a'i gadw yn weddaidd ac yn lan.

Yr hyn bethau a ellir eu cyflawni yn haws pan fo 'r Eglwys gwedy ei chyweirio yn dda. O her­wydd megys y bydd dynion yn hyfryd ac yn ddi­ddan pan welont eu tai a phob peth mewn trefn ynddynt, a phob cornel yn lan ac yn beraidd; felly pan fytho tŷ Dduw gwedy ei drwsio 'n deg a lleo­edd [Page 163] gweddaidd i eistedd yndo, a phalpud i'r pre­gethwr, a bwrdd yr Arglwydd i finistro ei sancta­idd swpper ef, a'r bedydd-faen i fedyddio ynddo, a'r cwbl yn lân yn weddaidd ac yn beraidd, fe fydd y bobl yn chwannoccach i aros yno, dros yr holl amser a osodwyd iddynt.

A pha zêl ac â pha ddifrifwch y mae Christ yn taflu y prynwyr a'r gwerthwyr allan o Deml Dduw yn ymchwelyd i lawer fyrddau y newid­wyr arian, a chadeirieu y rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawodd ef i neb ddwyn llestr trwy y Deml? Fe ddywad wrthynt iddynt wneu­thur ty ei Dâd ef yn ogof lladron, mewn rhan trwy ofergoel, rhagrith, gauaddoliad, gauathra­wiaeth a thrachwant amfesurol, ac mewn rhan trwy ddiystyrwch, gan gamarfer y lle hwnnw trwy rodio a chwedleua, a thrwy bethau dayar­ol, heb nac ofn Duw, na pharch dyledus i'r lle.

Pa ogofudd lladron a wnaethpwyd o Eglwy­sydd yr holl deyrnas gynt, trwy ddirmygus bry­nu a gwerthu, corph a gwaed Christ yn yr offeren (fal y gwnaethpwyd i'r bŷd yr amser hynny gre­du) mewn dirigae, pen-misoedd, trentelau, mewn manachlogydd a phriordai: heblaw camarferon echrydus eraill (bendigedig fo enw Duw yn dra­gowydd) yr ydym ni yn awr yn eu gweled ac yn eu deall. O'r holl ffiaidd bethau hyn y glanhaodd y rhai sydd yn lle Christ Eglwysydd y deyrnas hon, gan dynnu ymmaith bob gwarth a brynti y rhai trwy ddefosiwn dall ac am wybod a ymlyscasont i'r Eglwysydd er ys llawer can mlynedd.

Am hynny, oh chwichwi bobl ddaionus Gristi­anogawl, fanwyl Ynghrist Iesu: chwichwi y rhai nid ydych yn ymogogoneddu mewn crefydd [Page 164] fydol, ofer, ac mewn gwag harddwch a gwychder, ond ydych yn gorfoleddu yn eich calon weled go­goniant duw yn ei osod allan yn gywir ar Eglwy­sydd gwedy eu hadferu i'w hen a'u duwiol arfer, rhowch âch calonnau ddiolch i ddaioni 'r Holl­alluog dduw yr hwn yn ein dyddiau ni a osododd ynghalonnau ei bregethwyr a'i weinidogion duwiol, a hefyd ynghalonnau ei ffyddlon lywi­awdwyr a'i lywodraethwyr ddwyn y pethau hyn i ben.

Ac yn gymmaint a bod eich eglwysydd chwi wedi eu glanhau a'u hyscibo oddiwrth y brynti pechadurus, ofergoelus, a'r hwn yr halogasid ac yr anffurfiasid hwy: gwnewch chwithau eich rhan bobl dda ar gadw eich eglwysydd, yn we­ddaidd ac yn lan, na oddefwch eu halogi hwy a glaw a thywydd, a thomm colomennod, dyllua­nod y drydwy, brain a brynti eraill, yr hyn sydd frwnt a gresyn ei weled mewn llawer lle o'r wlad hon.

Tŷ gweddi yw hi, nid tŷ i ymchwedleua i ro­dio i ymdaeru, i gerddoriaeth, gweilch a hebogau neu gwn. Nac annogwch anfodlonrwydd a phlau Duw, gan ddiystyru acham-arfer ei sainc­taidd dŷ ef, fal y gwnaeth yr Iddewon annuwi­ol: ond bydded Duw yn eich calonnau, byddwch vfydd i'w ewyllys sanctaidd ef: ym-rwymwch wŷr a gwragedd yn ôl eich gallu, tu ag at gywei­rio a chadw yn lân yr Eglwys, fel y galloch fod yn gyfranogion o amryw fendithiau Duw, a dy­fod yn ewyllysgarach i'ch Eglwys blwyf, i ddyscu yno eich dylyed tuag at Dduw, a'ch cymydog, i fod yno yn bresenol, ac yn gyfrannogion o sanc­taidd Sacramentau Christ i roddi yno ddiolch [Page 165] i'n Tâd nefol am ei aml ddoniau. Y rhai y mae ef beunydd yn eu tywalt arnoch, yno i weddio ynghyd, ac i alw ar sanctaidd enw Duw yr hwn a fendiger byth ac yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth am weithredoedd da ac yn gyntaf am ymprydio.

RHodd rad Duw (bobl dda Gristi­onogaidd) yw ein bywyd ni yn y byd hwn, nac arferwn ef wrth ein hewyllys yn ol ein chwantae cnawdol ein hunain, ond ymddy­gwn trwyddo yn y gweithredoedd a weddae ini y rhai a wnaethpwyd yn greaduri­aid newydd ynghrist Iesu. Y gweithredoedd hyn y mae 'r Apostol yn e'u galw yn weithredoedd da, gan ddywedyd, canys ei waith ef ydym, wedy 'n creu ynghrist Iesu i weithredoedd da y rhai a ddarparodd Duw ini rodio ynddynt. Ac etto nid yw ei feddwl ef wrth y geiriau hyn ar ein dwyn ni i ymddiried ac i obeithio yn ein gweithredo­edd, megis trwy eu haeddiant au teilyngdod hwy i ennill ini ein hunain ac eraill faddeuant pecho­dau; ac felly yn y diwedd fywyd tragwyddol. O herwydd fe fyddai hynny yn ddirmig yn erbyn trûgaredd Duw, ac anfri mawr i dywaltiad gwaed ein Iachawdwr Christ. O herwydd rhodd râd a thrûgaredd Dûw trwy gyfryngad gwaed ei fab Iesu Ghrist; heb haeddiant o'n hystlus ni, yw maddau ein pechodau a'n cymmodi ni a heddy­chu rhyngom ni ag ef, a'n gwneuthur yn etife­ddion teyrnas nefoedd.

Grâs medd S. Awstin a berthyn i Dduw sydd [Page 166] yn ein galw ni; ac yno pwy bynnag a gafodd râs, mae gantho weithredoedd da: wrth hynny nid Aug. de diuers. quaest. ad Sict­plic. li. 1 q. 28. gweithredoeddd da sydd yn dwyn gras, ond trwy râs y dygir gweithredoedd da. Mae r' rhôd medd ef, yn troi yn grwn, nyd er mwyn cael ei gwneu­thur yn gron, ond am ei gwneuthur hi yn gron yn gyntaf, am hynny y mae hi yn troi yn grwn. felly nid yw neb yn gwneuthur gweithredoedd da er mwyn cael derbyn grâs trwy ei weithredoedd da; ond am iddo yn gyntaf dderbyn grâs, am hynny yno mae efe yn gwneuthur gwythredo­edd da.

Ac mewn man arall y dyweid, Nid ydyw gwei­thredoedd da yn myned o'r blaen yn yr hwn a gysiawnheir, ond mae gweithredoedd da yn dyfod ar ôl gwedi darfod cyfyawnhau dŷn yn gyntaf.

Mae S. Paul am hynny yn dangos fod yn Aug. de fide & op. ca. 4. rhaid i ni wneuthur gweithredoedd da am lawer o achosion, yn gyntaf i ddangos ein bod ni yn blant vfydd i'n tâd nefol, yr hwn a'u hordeiniodd hwy i ni i rodio ynddynt.

Yn ail am eu bod hwy yn arwyddion ac yn dystiolaethau o'n cyfiawnhad ni.

Yn drydydd er mwyn cyffroi a chynhyrfu eraill wrth weled ein gweithredoedd da ni, i ogoneddu ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

Am hynny na fyddwn anescud i wneuthur gwythredoedd da, am fod ewyllys Duw i ni ro­dio ynddynt, gan ein siccrhau ein hunain y der­byn pob dŷn gan Dduw yn y dydd diwethaf, am y boen a gymmerth ef yn y wir ffydd, obrwy a fytho mwy nag a haeddodd ei weithredoedd ef.

Ac o herwydd bod yn rhaid son am vn weithred dda yn vnig, yr hon y mae ei chlôd yn y gyfraith [Page 167] ac yn yr Efengyl, fe a ddywedpwyd hyn yn y de­chreuad yn gyffredinol am bob gweithredoedd da.

Yn gyntaf i droi heibio oddiar ffordd y diddrwg a'r annyscedig, y maen tramgwydd enbaid hwn, ar fod i neb geisio ennill neu brynu nef â'i weithredoedd ei hûnan.

Yn ail, i dynuu ymmaith (nesaf y geller) oddi­wrth feddyliau cenfigennus a thafodau enllibus, bob achos cyfiawn o enllib, megis petteid yn bwrw heibio weithredoedd da.

Y weithred dda a sonir am dani yn awr, yw ympryd, o'r hon y mae sôn am ddau ryw yn yr Scrythur.

Y naill oddiallan yn perthynu i'r corph, a'r llall oddifewn yn perthinu i'r galon a'r meddwl.

Yr ympryd hwn oddiallan yw ymattal oddi­wrth fwyd a diod a phob ymborth naturiol, ie ac oddiwrth bob digrifwch a melyswedd bydol.

Pan fytho 'r ympryd ymma yn perthyn i vn dŷn o'r neilltu, neu i rai, ac nid i holl liaws y bobl, o blegid achosion a fanegir ar ol hyn, yno y gelwir yn ympryd nailltuol: ond pan fytho 'r holl liaws, gwŷr, gwragedd a phlant mewn tref neu ddinas, ie mewn gwlâd gyfan, yn ymprydio, yno y ge­lwir yn ympryd cyffredinol.

O 'r fâth hynny yr oedd yr ympryd a orchym­mynnwyd i holl liaws plant yr Israel ei gadw ar y degfed dydd o'r seithfed mîs, o blegid i'r Arg­lwydd Dduw appwyntio fod y dydd hwnnw yn ddydd glanhâd, yn ddydd cymmod, yn amser he­ddychfa, yn ddydd yn yr hwn y glanhawyd y bobl oddiwrth eu pechodau. Y drefn a'r modd y gwna­ed hynny sydd scrifennedig yn 16. a'r 23. O Leuiti­cus. Leuit 16. 30. cap. 23. 29. Y dydd hwnnw yr ydoedd y bobl yn ymgystu­ddio, [Page 168] yn galaru ac yn ochain am eu pechodau ae­thent heibio. A phwy bynnag ni chystuddiodd ei enaid y dydd hwnnw, gan alaru am ei bechodau, ganymattal (fel y dywedpwyd) oddiwrth bob ym­borth corphorol hyd yr hwyr, yr enaid hwnnw (medd yr Holl-alluog Dduw) a ddinistrir o fysc y bobl.

Nid ydym ni yn darllein ddarfod i Moses trwy drefn cyfraith ordeiniaw vn dydd ympryd cyffredi­nol trwy 'r holl flwyddyn, ond yr vn diwrnod hwnnw. Yr ydoedd er hynny gan yr Iddewon ychwaneg o ddiwrnodiau ympryd cyffredinol, y rhai y mae 'r prophwyd Zacharias yn eu cyfrif, yn Zach. 8. 19. ympryd y pedwaredd mîs, ympryd y pummed mis, ympryd y saithfed ac ympryd y degfed mîs.

Ond am nad yw yn ymddangos yn y gyfraith pa bryd yr ordeiniwyd hwy, fe a ddylid tybied ddar­fod appwyntio 'r diwrnodiau ympryd eraill, heb law ympryd y seithfed mîs, ym mysc yr Iddewon, gan y llywodraethwyr, yn hytrach o ddefosiwn, na thrwy vn gorgymmyn cyhoedd oddiwrth Dduw.

Wrth ordinhâd yr ympryd cyffredinol hwn, y cymmerodd gwyr da achos i appwyntio iddynt eu hunain ymprydiau neilltual, ar yr amseroedd y byddēt naill ai yn galaru ac yn ochain dros eu by­wyd pechadurus, ai ar yr amser yr ymroddent i weddio yn ddifrif ar fod yn wiw gan Dduw droi ei ddigofaint oddiwrthynt, naill ai pan rybyddid hwy, ac y dygid hwy i ystyried eu drwg fywyd trwy bregethiad y prophwydi, neu pan welent mewn rhyw fodd arall berigl presennol vwch eu pennau.

Y trymder calon ymma yn gyssylltedig ag ym­pryd a ddangosent hwy weithiau trwy ymddygi­ad [Page 169] ac oddiallan ac ymarweddiad corphorol, gan wisco sach-liain, a bwrw lludw a llwch ar eu pen­nau, ac eistedd neu orwedd ar y ddayar. O blegid pan glywo gwŷr da ynddynt eu hunain, faich trwm eu pechodau, a gweled mai damnedigaeth yw eu gwobr hwy, a phan welont â llygaid eu calonnau erchill boenau vffern, maent yn crynu ac yn Yscrydio yscrydu, ac yr ydys oddifewn yn eu cyffroi hwy â thrymder calon am eu beiau, ac ni allant lai nâ'u cyhuddo eu hunain, a dangos eu gofyd i'r Holl-alluog Dduw, a galw arno ef am dru­garedd. Ac os gwneir hyn yn ddifrif, mae eu meddyliau mor llawn, mewn rhan, o dristwch a thrymder, ac mewn rhan, a chwant difrif ar gael eu gwared oddiwrth berigl vffern a damnediga­eth, fal y rhoddont heibio bob chwant bwyd a diod, ac y daw yn eu lle hwy ddiystyrwch pob peth bydol a phob digrifwch, fal nad oes dim yn eu bodloni hwy yn fwy nag wylo ac ochain a galaru, ac i ddangos wrth eu geiriau a'u hym­ddygiad corphorol, eu bod hwy yn ddiffygiol o'r bywyd hwn.

Fal hyn yr ymprydiodd Dafydd pan oedd ef yn eiriol ar yr holl-alluog Dduw am fywyd y plē ­tyn, a ennillasid mewn godineb o wraig Vrias. Fal hyn yr ymprydiodd Achab pan edifarhaodd ef am ladd Naboth, gan dristau am ei weithre­doedd pechadurus. O'r fath hyn yr oedd ympryd y Ninifeaid a ddygwyd i edifeirwch drwy bre­getheaid Ionas.

Pan laddwyd deugain mîl o'r Israelaid yn y rhyfel yn erbyn gwyr Beniamin, mae 'r Scry­thyr yn dywedyd, fe aeth holl blant yr Israel a holl rifedi 'r bobl i Bethel ac a eisteddasant i lawr [Page 170] i wylo ger bron yr Arglwydd, ac hwy a ympry­diasant trwy 'r dydd hyd y nos. Felly yr ympry­diodd Daniel, Hester, Nehemias, a llawer eraill yn yr hên Destament.

Ond os dywaid neb, gwir yw, hwy a ympry­diasant felly yn siccr, ond nid ydym ni yn awr tan iau 'r gyfraith, yr ydym ni yn rhyddion trwy rydd­did yr Efengyl: am hynny nid ydyw 'r defodau a'r arferon hynny o'r hên gyfraith yn ein rhymo ni, oni ellir dangos trwy Scrythyrau y Testament newydd, neu trwy siamplau allan o hono, fod ym­pryd yn awr dan yr Efengyl yn ymattaliaeth o­ddiwrth fwyd a diod a phob ymborth corphorol, a hoffderau 'r corph.

Yn gyntaf mae yn wirionedd mor amlwg y dylyem ni ymprydio, nad rhaid ymma ei brofi, mae 'r Scrythyrau yn eglur sydd yn dangos hyn­ny. Y questiwn gan hynny yw, pan fythom ni yn ymprydio, pa vn a ddylem ni ai cadw ein cyrph oddiwrth fwyd a diod dros yr amser y bôm yn ym­prydio, ai na ddylem?

Fe a ellir gweled yn hawdd y dylem ni wneu­thur felly, wrth y questiwn a ofynnodd y Phari­saeaid i Grist, ac wrth ei atteb yntef. Pa ham (me­ddant hwy) y mae discyblon Ioan yn ymprydio Luc. 5. 33. yn fynych ac yn gweddio, a discyblon y Phari­saeaid, a'th ddiscyblon di yn bwyta ac yn yfed, ac heb ymprydio dim? Yn y questiwn esmwyth hwn y maent yn cynnwys yn ddichellgar y ddadl neu'r rheswm hwn: Pwy bynnag nid ymprydio nid yw 'r dŷn hwnnw o Dduw. O blegid gwei­thredoedd yw ympryd a gweddi a ganmolwyd ac a orchymmynnwyd gan Dduw yn ei Scrythyr­au, ac fe a ymarferodd pob gŵr da o Moses hyd [Page 171] yr amseroedd hyn, yn gystal prophwydi ac eraill, yn y gweithredoedd hyn. Y mae Ioan hefyd a'i ddiscyblon yn y ddyddiau hyn yn ymprydio yn fynych ac yn gweddio llawer, ac felly yr ydym ninnau y Pharisaeaid yn gwneuthur hefyd. Ond nid ydyw dy ddiscyblon di yn ymprydio ddim, yr hyn os ti a'i gwada, ni a'i profwn yn ddigon hawdd. O blegid pwy bynnag sydd yn bwytta ac yn yfed nid ydyw yn ymprydio. Ond mae dy ddis­cyblon di yn bwytta ac yn yfed, am hynny nid y­dynt yn ymprydio. O hyn meddant yr ydym yn casclu nad oes na thydi na'th ddiscyblon o Dduw.

Mae Christ yn atteb gan ddywedyd, A ellwch chwi beri i blant y priodas-fâb ymprydio tra fyddo y priodas-fâb gyd â hwy? fe ddaw 'r ddyddiau pan dynner y priodas-fâb oddiwrthynt yn y dyddiau hynny yr ymprydiant.

Mae 'n Iachawdwr Christ megis meistr da yn ymddiffyn diniweidrwydd ei ddiscyblon yn erbyn malis y Pharisaeaid beilchion, ac yn profi nad y­dyw ei ddiscyblon ef yn euog o dorri vn gronyn o gyfraith Dduw, er nad oeddynt y prŷd hynny yn ymprydio; ac mae ef yn ei atteb yn argyoeddi 'r Pharisaeaid o ofergoel ac anwybod. O ofergoel am eu bod yn gosod crefydd yn eu gweithredoedd, ac yn rhwymo sancteiddrwydd wrth weithrediad y gwaith oddiallan, heb ystyried i ba ddefnydd yr ordeiniwyd ympryd. O anwybodaeth am na fe­drent farnu rhwng amser ac amser. Ni wyddent hwy fod amser i lawenydd ac i ddiddanwch, ac amser i gwynfan ac i alaru. Y ddau beth hyn y mae efe yn eu dangos yn ei atteb, fal y dangosir yn helaeth ar ôl hyn, pan ddangosom pa amser sydd gymmhesuraf i ymprydio ynddo.

[Page 172] Ac ymma fyngharedigion, ystyriwn nad ydyw ein Iachawdwr Christ wrth wneuthur ei atteb i'w Questiwn hwy, yn gwadu, ond yn cyfaddef bod ei ddiscyblon ef heb ymprydio, ac am hynny yn hyn y mae efe yn cyttuno a'r Phariseaid, am ei fod yn wirionedd eglur, nad ydyw 'r hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn ymprydio. Ympryd am hyn­ny wrth addefiad ein Iachawdwr Christ, yw cadw bwyd a diod, a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph, dros yr amser y bydder yn ymprydio.

Ac mae 'n eglur iawn wrth Gyngor Calcedon, vn o'r pedwar Cyngor cyffredinol cyntaf, fod yn y brif-eglwys gynt yn arfer o ymprydio: y tadau a ymgynnullasent yno hyd yn rhifedi chwe-chant a dêg ar vgain, gan ystyried ynddynt eu hunain mor gymmeradwy ger bron Duw yw ympryd, pan arferer efe yn ôl gair Duw: ac hefyd gan o­sod o flaen eu llygaid, y mawr gamarfer o ym­pryd oedd gwedi ymlusco i Eglwys Duw yr am­ser hynny, trwy esceulusdra y rhai a ddylasent ddyscu i'r bobl ei iawn arfer hi, a thrwy ddeon­gladau ofer a ddychymmygase ddynion: er mwyn iawnhau y camarferon hynny, ac adferu gwei­thred mor dduwiol ac mor dda i'w iawn arfer: hwy a ordeiniasant yn y Cyngor hwnnw fod i bôb dŷn cystal mewn ympryd nailltuol ac ympryd cyffre­dinol, aros trwy 'r dydd heb na bwyd na diod hyd ar ol Gosper: a phwy bynnag a fwyttae neu a yfe cyn darfod Gosper, fe a'i cyfrifid ac a dybygid am­dano nad oedd yn ystyried purder ei ympryd. Mae 'r ordinhâd hon yn dangos mor eglur pa fodd yr arferid ympryd yn y brif-eglvoys gynt, fel na ellir mewn geiriau ei osod allan yn eglurach.

Ympryd gan hynny wrth ordinhâd y chwechant [Page 171] a'r dêg ar vgain hynny o dadau, gan seilio eu barn am y peth hyn ar yr Scrythyrau sanctaidd, a hir­barhaus arfer y prophwydi a gwŷr duwiol eraill o flacn dyfodiad Christ, a'r Apostolion hefyd a gwŷr dwyfol eraill yn y Testament newydd, yw hyn, Cadw bwyd a diod a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph tros yr amser a osodwyd i ym­prydio. Hyn a ddywetpwyd hyd yn hyn er dan­gos i chwi yn oleu pa beth yw ymprydio. Yn ôl hyn y dangosir gwir ac iawn arfer ympryd.

Nid ydyw gweithredoedd da i gŷd o'r vn rhyw. O herwydd mae rhai o honynt eu hunain ac o'u naws priodol eu hunain yn dda bob amser: me­gis y mae caru Duw vwchlaw pob peth, caru fy­nghymydog fel fi fy hun, anrhydeddu tâd a mam, anrhydeddu y galluau goruchaf, rhoi i bawb yr hyn a ddylei, a'r cyffelyb.

Mae gweithredoedd eraill y rhai os ystyrir hwy ynddynt eu hunain heb fyned ym-hellach, sydd o'u naturiaeth eu hunain yn ganolig, hynny yw heb na bod yn dda na bod yn ddrŵg, ond a gymmerant eu henw o'r modd yr arferer hwynt, neu o 'r def­nydd y gwasanaethant iddo. Y gweithredoedd hyn os gwneir hwy i ddiwedd da, a elwir yn wei­thredoedd da, ac ydynt felly yn siccr: ond etto nid yw hynny o honynt hwy eu hunain, ond o'r di­wedd i'r hwn y maent yn gwasanaethu.

Yn y gwrthwyneb, os bydd y diwedd i'r hwn y gwasanaethant, yn ddrwg, yno ni all na bo rhaid iddynt hwythau fod yn ddrŵg. O'r rhyw ymma ar weithredoedd y mae ympryd, yr hwn o hono ei hunan sydd beth canolig diddrwg didda: ond a wneir yn ddrwg neu yn dda wrth y diwedd y mae yn gwasanaethu iddo. O herwydd pā wne­ler [Page 172] ef er mwyn diwedd da, y mae ef yn weithred dda, ond os drwg fydd y diwedd, y mae 'r weithred hefyd yn ddrwg. Ymprydio am hynny gan gre­du yn y galon y gall ein hympryd a'n gweithre­doedd da ein gwneuthur ni yn wŷr perffaith cyfi­awn, ac felly yn y diwedd ein dwyn ni i'r nef: meddwl cythreulig yw hwn, ac y mae 'r ympryd hwn cyn belled oddiwrth fodloni Duw, ac y mae hi yn ymwrthod â'i drugaredd ef, ac yn lleihau haeddiant dioddefaint Christ, a thywalltiad ei werthfawr waed ef. Hyn y mae dammeg y Pha­sai a'r Publican yn ei ddangos.

Dau ŵr (medd ein Iachawdwr Christ) aethant Luc. 18. 10. i fynu i'r deml i weddio, vn yn Pharisęad a'r llall yn Bublican. Y Pharisaead o'i sefyll a weddiodd ynddo ei hun fal hyn, O Dduw yr ydwyf yn di­olch i ti nad ydwyf fal dynion eraill y rhai ydynt drawsion, anghyfion a godinebwyr, neu fal y Publican hwn: yr ydwyf yn ymprydio ddwy­waith yn yr wythnos, yr ydwyf yn degymmu cymmaint oll a feddaf. A'r Publican yn sefyll o hirbell ni chodai ei lygaid tu â'r nef, eithr curo ei ddwyfron gan ddywedyd, o Dduw bydd druga­rog wrthif bechadur. Yn y Pharisęad hwn y mae Christ yn gosod allan yngolwg ac ym-marn y bŷd, ŵr perffaith, iniawn, cyfiawn, yr hwn ni halogir â 'r beiau y llygrir dynion eraill yn gyffre­dinol, megis trawsder, camwobr, cribddeilio a chneifio 'r cymydogion, yspeilwyr ac anrheith­wyr yr holl wlâd, dichellgar a thwyllodrus wrth newid a chyfnewid, yn arfer pwysau twyllodrus, anudon ffiaidd wrth brynu a gwerthu, godineb­wyr, putteinwyr a dynion yn byw yn ddrygionus.

Nid oedd y Pharisaead y fath ddŷn, ac nid ydo­edd [Page 173] feius mewn vn bai cyhoeddus. Ond lle'r oedd eraill yn troseddu wrth adel heb wneuthur, y pe­thau yr oedd y gyfraith yn eu gofyn, yr oedd hwn yn gwneuthur mwy nag oedd angenrheidiol wrth gyfraith. O blegid yr oedd ef yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, ac yn talu degwm o gymmaint ac a feddai. Pa beth gan hynny a allei 'r bŷd ei feio yn gyfion yn y dŷn hwn? ie pa beth oddiallan ychwaneg a ellid ei ddymuno ynddo, er ei wneuthur yn berffeithiach ac yn gyfiawnach dŷn? dim yn wir ym-marn dŷn: ac etto mae 'n Iachawdwr Christ yn derchafu 'r Publican tru­an heb ymprydio, o'i flaen ef a'i ympryd cantho: mae 'r achos yn eglur pa ham y gwnaeth ef felly.

O herwydd y Publican gan nad oedd gantho ddim gweithredoedd da i ymddiried ynthynt, a ymrôdd i Dduw, gan gyffessu ei bechodau a go­beitho yn siccr y cedwid ef trwy râd trugaredd Duw yn vnig. Yr oedd y Pharisęad yn ymogo­neddu ac yn ymddiried cymmaint i'w weithredo­edd, ac y tybiodd ef ei hunan yn ddiogel ddigon heb drugaredd, ac y cai ef ddyfod i'r nef wrth ei ymprydiau a'i weithredoedd eraill. I 'r defnydd ymma y gwasanaetha 'r ddammeg hon. O ble­gid hi a ddywedpwyd wrth y rhai oeddynt yn ym­ddiried ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn ac yn diystyru eraill.

Yn awr am fod y Pharisęad yn cyfeirio ei wei­thredoedd at ddiben drwg, gan geisio trwyddynt gyfiawnhâd, yr hyn yn wir yw priodol waith Duw heb ein haeddiant ni, yr oedd ei ymprydiau ef ddwywaith yn yr wythnos, a'i holl weithre­doedd eraill er eu hamled, ac er cystal a sanctei­ddied y tybygid eu bod hwy yngolwg y bŷd, etto [Page 174] yn wirionedd ger bron Duw yn ffiaidd ac yn ddrwg. Y nôd hefyd y mae rhagrithwyr yn sae­thu atto yn eu hympryd, yw ymddangos yn sanc­taidd yngolwg y bŷd, ac felly ennill moliant a chlod gan ddynion. Ond mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd am danynt hwy, eu bod hwy yn derbyn eu gwobr, hynny yw clod a chanmoli­aeth dynion, ond gan Dduw nid oes iddynt ddim. O blegid pa beth bynnag a wneler er mwyn diw­edd drŵg, a wneir yn ddrŵg yntef trwy 'r diwedd drŵg.

Hefyd, yr hŷd y cadwom annuwioldeb yn ein calonnau, ac y goddefom feddyliau drwg i aros yno, er i ni ymprydio cyn fynyched ac y gwnaeth S. Paul neu Ioan fedyddiwr, a chadw ein hym­pryd morgaeth ac y gwnaeth y Niniseaid, ni bydd hynny yn vnig yn anfuddiol i ni, ond hefyd yn beth yn anfodloni Duw yn fawr. O blegid mae efe yn dywedyd fod ei enaid ef yn ffieiddio ac yn cashau 'r fâth ymprydiau, ie a'u bod hwy yn faich arno ef, a'i fôd yn blino yn eu dwyn hwy. Ac am hynny y mae ef yn gwaeddi yn vchel yn eu herbyn Esa. 1. 14. hwy gan ddywedyd trwy enau'r Prophwyd E­sai, Wele y dydd yr ymprydioch mae eich chwant yn aros, ac y mynnwch eich holl ddyledion; Wele Esa. 58. 4. i ymryson a chynnen yr ymprydiasoch ac i daro â dwrn anwir. Nac ymprydiwch fel y dydd hwn gan beri clywed eich llais yn vchel. Ai fal hyn y bydd yr ympryd yr hwn a ddewisaf y dydd y cystu­ddio dŷn ei enaid? ai trwy grymmu ei ben fel brwynen pan wisco arno sach-liain a lludw? ai hyn a elwir yn ympryd, neu yn ddiwrnod bodlon gan yr Arglwydd?

Yn awr, fyngharedion, gan nad yw'r Arglwydd [Page 175] yn derbyn ein hympryd ni er mwyn y weithred, ond y mae ef yn edrych swyaf beth yw meddwl y galon, ac wrth hynny y mae efe yn cyfrif ein hympryd ni yn dda neu yn ddrŵg, wrth y diwedd i'r hwn y mae efe yn gwasanaethu. Ein rhan ni yw rhwygo ein calonnau ac nid ein dillad, fal y Ioel 2. 13. mae 'r Prophwyd Ioel yn ein cynghori, hynny yw, mae'n rhaid i'n trymder ni a'n galar fod oddi­fewn yn y galon, ac nid mewn golwg oddiallā yn vnig, ie anghenrheidiol yw i ni yn gyntaf o flaen pob peth lanhau'n calonnau oddiwrth bechod, ac yno cyfeirio ein hympryd at y diwedd y mae Duw yn ei gyfrif yn ddaionus. Y mae tri diwedd at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni, yno y bydd ef yn weithred fuddiol i ni, a chymmeradwy gan Dduw.

Y cyntaf yw cystuddio 'r cnawd, rhag ei fod yn rhy drythyll, ond gwedi ei ddofi a'i ddarostwng i'r Yspryd. Dymma 'r peth yr oedd Paul yn edrych arno yn ei ympryd, Yr ydwyf, medd ef, yn cospi fynghorph, ac yn ei ddarostwng, rhag mewn vn modd wedi i mi bregethu i eraill, fy mod fy hunan yn anghymmeradwy.

Yr ail yw, er mwyn gwneuthur yr yspryd yn ddifrifach ac yn wresoccach i weddio. I'r def­nydd Act. 13. 2. ymma yr ymprydiodd y prophwydi a'r dys­cawdwyr oeddynt yn Antiochia, cyn iddynt ddan­fon allan Paul a Barnabas i bregethu 'r Efengyl. I'r vn fath ddefnydd yr ymprydiodd y ddau Apo­stol hynny, pan orchymmynnasant hwy i Dduw y cynnulleidfaon oeddynt yn Antiochia, Pisidia, I­conium a Lystra, fel yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apostolion. Act. 14. 13.

Y trydedd yw, bod ein hympryd ni yn dystio­laeth [Page 176] ac yn dŷst ger bron Duw o'n hafydd ddaro­styngedigaeth ni i'w oruchel fawrhydi ef, pan fy­thom yn cyffessu ac yn cydnabod ein pechodau iddo ef, a phan yn cyffroer ni oddifewn â thristwch calon, gan alaru o'i plegid trwy gystuddio ein cyrph.

Dymma dri diwedd neu iawn arfer ympryd; y cynta sydd yn perthynu yn briodol i ympryd nailltuol; y ddau eraill sydd gyffredinol yn per­thyn i ympryd cyhoeddus ac i ympryd nailltuol. A hyn a ddywedpwyd am iawn-arfer ympryd.

Arglwyddd trugarhâ wrthym a dyro i ni râs fel y bo i ni tra fyddom byw yn y byd blinderog hwn, allu trwy dy gymmorth di ddwyn y ffrwyth hwn, a'r cyfryw ffrwythau eraill o'th Yspryd di, y rhai a ganmolir ac a orchymmynnir i ni yn dy sanctaidd air di, er gogoniant i'th enw di, a di­ddanwch i ninnau, megis yn ol rhedegfa y blin fywyd hwn y gallom fyw yn dragywydd gydâ thi yn dy deyrnas nefol, nid er mwyn haeddiant na theilyngdod ein gweithredoedd ein hunain, ond er mwyn dy drugaredd di, a haeddedigaethau dy anwyl Fâb Iesu Grist, i'r hwn gydâ rhi a'r Ys­pryd glân, y byddo moliant, anrhydedd a gogoni­ant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am Ymprydio.

FE a ddangoswyd yn yr Homili o'r blaen, fy-ngharedigion, mai ympryd ym-mhlith yr Iddewon fal y gor­chymmynnwyd ef oddiwrth Dduw trwy Moses, oedd ymattal trwy 'r [Page 177] dydd o'r boreu hyd yr hwyr, oddiwrth fwyd a diod a phob math'ar ymborth a lluniaeth corphorol, a phwy bynnag a brofai ddim cyn yr hwyr, ar y dydd a osodwyd i ymprydio, a gyfrifid ei fod yn torri ei ympryd.

Yr hyn drefn er ei fod yn ddieithr yn-nhŷb rhai yn ein dyddiau ni, am nad arferwyd ef yn gyffre­dinol yn y deyrnas hon er ys llawer o flynyddo­edd, etto fe a brofwyd yno yn ddigon helaeth trwy dystiolaethau a siamplau o'r Scrythyr lân yn y Testament newydd ac yn yr hên, mai felly yr oe­ddid yn ymprydio ym-mhlith pobl Dduw (yr Iuddewon yr wyf yn ei feddwl,) y rhai cyn dyfo­diad ein Iachawdwr Christ a fu wiw gan Dduw eu dewis iddo ei hunan yn bobl nailltuol o slaen holl genhedloedd y ddayar; ac mai hynny oedd feddwl ein Iachawdwr Christ am ympryd; ac mai felly yr arfere'r Apostolion o ymprydio yn ôl dyrchafiad Christ. Ac yno hefyd y dangoswyd iawn-arfer ympryd.

Yn yr ail rhan hon o'r Homili y dangosir na ddichon vn drefn na chyfraith ar a wnel dŷn ynghylch pethau a fyddo o'u naturiaeth eu hu­nain yn ddiddrwg ddidda, rwymo cydwybodau Christianogion i'w cynnal ac i'w cadw hwy yn wastadol; ond bod i'r galluoedd goruchaf gy­flawn rydd-did i newid ac i symmud pob cyfraith ac ordinhâd o'r fâth hynny, pa vn bynnag fy­ddont ai eglwysig a'i bydol, pan fyddo'r amfer a'r lle yn gofyn.

Ond yn gyntaf fe a wneir atteb i gwestiwn a ellir ei ofyn, Pa farn a ddylei fod gennym am y cyfryw ddirwest ac ymattaliaeth; ac a appwyn­tir drwy drefnid a chyfraithiau cyhoedd tywyso­gion, [Page 178] a thrwy awdurdod y llywodraeth-wyr, er mwyn llywodraeth fydol, heb ystyried cre­fydd yn hynny. Megis pan appwyntier amser i ymprydio mewn rhyw deyrnas er mewyn ma­entaenio y trefydd pyscod a fo ar lan y môr, ac er mewyn amlhau pyscodwyr, o'r rhai y daw morwyr i fyned i longwriaeth, i gyflawni llongau 'r deyrnas, trwy y rhai y gellir Symmud. trosglwyddo cymmwynasau allan o wledydd eraill, a'r rhai hefyd a allant fod yn ymddyffynfa angenrhei­diol i wrthwynebu cyrchau 'r gelynion. Er mwyn cael deall y questiwn ymma yn well, mae 'n rhaid i ni wneuthur gwahaniaeth rhwng by­dol lywodraeth tywysogion yn trefnu a llywo­draethu eu gwledydd, yn rhagddarbod ac yn rhag­ddarparu y cyfryw bethau ac a fyddo rhaid er diogelwch ac ymddiffyn eu deiliaid a'u gvole­dydd: a rhwng llywodraeth eglwysig wrth ap­pwyntio rhyw weithredoedd, trwy y rhai me­gis trwy ail-achosion y gellir llonyddu digofaint Duw ac ennil ei drugaredd.

Fe ddylyai bob deiliaid Christianogawl, a hynny o barch i'r llywodraethwr, nid yn vnig rhag ofn cosp, ond hefyd (fel y dywaid yr Apostol) er mwyn cywybod, vfyddhau 'r holl gyfraithiau gosodegig a wnelo tywysogion, er mwyn cadw a chynnal eu llywodraeth fydol, trwy na byddent gwrthwyneb i gyfraithiau Duw. Er mwyn cydwybod meddaf, nid cydwybod o'r peth a or­chymmynner, yr hwn o'i naturiaeth ei hunan sydd ddiddrwg ddidda, ond er mwyn cydwybod ein hufydd-dod, yr hon wrth gyfraith Dduw sydd ddyledus arnom i'r llywodraethwr, megis i wei­nidog Duw.

[Page 179] Er bod y cyfraithiau gosodedig hyn yn gwa­hardd i ni sydd ddeiliaid arfer tros amser ryw fwy­dydd a diodydd, y rhai a adawodd Duw trwy ei sanctaidd air yn rhydd i bob math ar ddŷn eu cym­meryd trwy roddi diolch, ym-mhob lle ac amser: etto am nad ydyw tywysogion a llywodraeth­wyr eraill yn gwneuthur y cyfreithiau hynny er mwyn gosod mwy o sancteiddrwydd mewn rhyw fwyd neu ddiod nag mewn arall, neu wneuthur vn diwrnod yn sancteiddiach nag vn arall: ond yn vnig er mwyn llywodraeth fydol a daioni 'r wlâd: mae pob deiliaid yn rhwym er mwyn cy­dwybod i'w cadw hwy wrth orchymmyn Duw, yr hwn sydd trwy ei Apostol yn erchi i bawb heb nailltuo neb, fod yn ddarostyngedig i awdurdod y galluoedd goruchaf.

Ac yn y pwngc ymma, tu ag at am ein dlêd ni sydd yn trigo yn yr ynys hon, wedi ein hamgyl­chynu â moroedd, mae i ni achosion a rheswm mawr i gymmeryd ffrwythau 'r dyfroedd y rhai a osododd yr Holl-alluog Dduw o'i sanctaidd rag­weliad, mor agos attom, trwy 'r hyn y gellir yn well gynhilo a chynnyddu ymborth a lluniaeth y tir, er mwyn dwyn ymborth i well newid, fel y geller yn haws gynnorthwyo angenrheidiau 'r tlodion.

Ac fe a weddai ei fod ef yn fruttain rhy foethus yr hwn gan ystyried y budd sydd yn canlyn, ni all attal peth ar ei flysig chwant er mwyn ordinhâd ei dywysog a chyfundeb gwŷr call y deyrnas.

Pa galon gywir fruttanaidd na ewyllysai we­led ei hên ogoniant wedi dychwelyd eilwaith i'r deyrnas hon, yn yr hyn yroedd hi cyn ein hamser ni, trwy glod fawr yn rhagori ynghaderind ei [Page 180] llongau ar y môr? Pa beth a frawycha galon ein gelynion ni yn fwy na 'n gweled ni mor gadarn ac mor arfog ar y môr, ac y mae 'r gair i ni fod ar y tir? Pe damune y tywysog vfydd-dod gennym ni i ymgadw oddiwrth gîg dros vn diwrnod mwy nag yr ydym, ac i fod yn fodlon i vn pryd o fwyd y dwthwn hwnnw, oni ddylai ein budd ein hunain ein hannog ni i vfydd-dod? Ond yn awr lle yr ydys yn goddef i ni gymmeryd dau bryd ar y diwrnod hwnnw, ar yr hwn yr arfere ein rhieni ni mewn lliaws mawr yn y deyrnas hon gymme­ryd vn pryd prin o fwyd, a hwnnw o byscod yn vnig; a ddylyem ni dybied fod yn rhydrwm y baich yr ydys yn ei orchymmyn i ni?

Hefyd ystyriwn adfail y trefi ar lan y môr, y rhai a ddylei fod yn barottaf o gwbl mewn rhifedi eu pobl i wrthladd y gelyn, ac felly ninnau y rhai sy yn trigo ym-mhellach yn y tir wrth eu cael hwy yn darian ac yn ymddiffyn i ni, a fyddem diofa­lach a diogelach. Os ein cymydogion ni ydynt, pa ham nad ewyllysiwn eu llwyddiant hwy? Os ydynt yn ymddiffynfa i ni, am eu bod yn gyfnesaf i wrthladd y gelyn, ac i attal cynddairiogrwydd y mor oddiwrthym, yr hwn oni bai hwy a dorre dros ein porfeydd tirion ni, pa ham na chynnor­thwywn hwy? Ac nid ydym yn cymmell hyn mewn llywodraeth Eglwyfig, gan appwyntio modd i ymprydio, i ymddarostwng yngwydd yr Holl-alluog Dduw, fod y modd a'r drefn honno ar ympryd a arferid ym-mhlith yr Iuddewon ac a ganlynwyd gan Apostolion Christ yn ôl ei dder­chafiad ef, o'r fath rym ac anghenrhaid, fal y dy­leid arfer y drefn honno yn vnig ym-mysc Chri­stianogion, ac nid vn arall; o blegid ni byddei [Page 181] hynny ond rhwymo pobl Dduw tan iau a baich llywodraeth Moses; ie ac dyna 'r ffordd iniawn i'n dwyn ni y rhai a rydd-hawd trwy rydd-did Efengyl Ghrist, tan gaethiwed y gyfraith dra­chefn; yr hyn na atto Duw i neb ei amcanu na 'i fwriadu.

Ond i'r defnydd hyn y mae yn gwasanaethu, er mwyn dangos faint y gwahaniaeth sydd rhwng y drefn ar ymprydio a arferir heddyw yn yr Eglwys, a'r drefn a arferid yr amser hynny.

Ni ddyleid ac ni ellir rhwymo Eglwys Duw felly wrth vn drefn a wnaethpwyd nac a wneler nac a ddychymmyger ar ôl hyn trwy awdurdod dŷn, fel nas dichon hi yn gyfreithlon ar achosion cyfiawn symmud, newid neu yscafnhau y deddfau a'r ordeiniaethau eglwysig hynny, ie a'u gadel yn gwbl, a'u torri pan fônt yn pwyso at ofergoel ac annuwioldeb, pan fônt yn tynu 'r bobl oddiwrth Dduw yn fwy nâ gweithio adeiladaeth yndynt.

Yr awdurdod hon a arferodd Christ ei hun, ac a adawodd ef i'w Eglwys. Ef a'i harferodd hi meddaf: O blegid, y drefn a'r ordinhâd a wnelse 'r henuriaid, am ymolchi yn fynych, yr hyn a gedwyd yn ddiesceulus ym-mhlith yr Iuddewon, etto am ei bod yn gorbwyso at ofergoel, y drefn honno meddaf a newidiodd ac a symmudodd ein Iachawdwr Christi Sacrament buddiol, Sacra­ment ein ail enedigaeth ni. Yr awdurdod hon ar esmwytho cyfreithiau ac ordemiaethau eglwysig a arferodd yr Apostolion pan wrth scrifennu o Ie­rusalem at yr Eglwys oedd yn Antiochia, yr e­wylliasant iddynt na osodent arnynt faich amge­nach Act. 15. 28. nâ 'r pethau anghenrheidiol hyn, sef bod iddynt ymgadw oddiwrth y pethau a offrymmyd [Page 182] i ddelwau, a gwaed, a'r pethau a dagwyd, a go­dineb, er bod cyfraith Moses yn gofyn cadw llaw­er o bethau eraill.

Yr awdurbod hon a'r newid ordeiniaethau, cyfraithiau a gosodiadau 'r Eglwys, ar ôl amser yr Apostolion, a arferodd y tadau ynlghych y modd y bydde raid ymprydio, fel y mae 'n eglur wrth yr histori deir-rhan, lle 'r scrifennir fal hyn: Yn­ghylch ympryd yr ydym yn gweled fod yn ei arfer Tripart. hist. lib▪ 9. 38. ef mewn amryw foddion yn amryw leoedd gan amryw ddynion. Oblegid maent hwy yn Rhu­fain yn ymprydio dair wythnos ar vntu o flaen y Pâsc, ond ar sadyrnau a suliau, yr hwn ympryd a alwant hwy y Garawys. Ac yn ôl ychydig ei­riau yn yr vn man y canlyn, Nid oes ganthynt oll drefn vnwedd ar ymprydio. O blegid rhai a ym­gadwant oddiwrth byscod a chîg hefyd. Rhai pan ymprydiont ni fwyttânt ddim ond pyscod. Y mae eraill pan ymprydiont a fwyttânt bob adar dyfroedd cystal a physcod, gan osod eu sail ar Mo­ses fod y cyfryw adar a'u hanffod o'r dwfr yn gystal a physcod. Mae eraill pan ymprydiont ni fwyt­tant na llysiau nac wyau. Mae rhyw ympryd­wyr ni fwyttant ddim ond bara yn sŷch. Eraill pan ymprydiont ni fwyttant cymmaint a bara yn sŷch. Mae rhai yn ymprydio oddiwrth bob ym­borth hyd yr hwyr, ac yno y bwyttant heb wneu­thur na dewis na gwahaniaeth o vn bwyd mwy nâ'i gilydd. A mîl o'r fath amryw foddion ar ym­prydio a geir mewn amryw leoedd yn y byd, y rhai a arfer amryw ddynion mewn amryw foddion. Ac er yr holl amryw foddion ymma ar ympry­dio, etto ni thorrwyd cariad, gwir rwymyn Chri­stianogawl dangneddyf, ac ni thorrodd eu ham­ryw [Page 183] ympryd hwy vn amser eu cyfundeb hwy a'u Euseb li. 9. c. 24. cyttundeb mewn ffydd.

Am ymgadw ryw amseroedd oddiwrth ryw fwydau, nid am fod y bwydau yn ddrŵg, ond am nad ydynt yn anghenrheidiol, nid yw'r dirwest a'r ymattaliaeth hwn (medd S. Augustin) yn ddrŵg. Dogm Eccles. cap. 66. Ac ymgadw rhag bwydau pan fo anghenrhaid ac amser yn gofyn, hyn (medd ef) sydd yn perthyn yn briodol i Gristianogion.

Fal hyn y clywsoch (bobl dda) yn gyntaf fod deiliaid Christianogaidd yn rwhym mewn cydwy­bod i vfyddhau cyfraithiau tywysogion, y rhai ni bônt yn wrthwyneb i gyfreithiau Duw. Chwi a glywsoch hefyd nad ydyw Eglwys Grist mor rhwymedig i gadw vn drefn neu gyfraith neu or­dinhâd a wnelo dŷn tuag at osod allan ddull neu drefn mewn crefydd: megis nad oes gan yr E­glwys gyflawn allu ac awdurdod oddiwrth Dduw, i'w newid ac i'w symmud hwy pan fytho anghenrhaid yn gofyn: yr hyn a ddangoswyd i chwi trwy siampl ein Iachawdwr Christ, trwy arfer ei Apostolion ef, a'r tadau ar ôl eu hamser hwythau.

Yn awr y dangosir ar ychydig eiriau pa amser sydd gyfaddas i ymprydio, o blegid nid yw pob amser yn gwasanaethu i bob peth, ond fel y dy­waid y gŵr doeth, Y mae amser i bob peth, amser Eccles. 3. 1. i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i lawenychu, &c. Mae ein Iachawdwr Christ yn escusodi ei ddiscyblon ac yn argyoeddi y Pharisaeaid am nad oeddynt yn deall arfer ym­pryd, nac yn y ystyried yr amser sydd gyfaddas i ymprydio. Y ddau beth hynny y mae efe yn eu dyscu yn ei atteb, gan ddywedyd, Ni all plant y Matt. 9. 15. [Page 174] briodas alaru yr hyd y byddo 'r priodas-fâb gyd â hwy. Eu questiwn hwy oedd ynghylch ympryd, a'i atteb yntef sydd am alaru, gan arwyddoccau iddynt yn oleu, nad yw ympryd y corph o ddi­allan, yn ympryd ger bron Duw, oni bydd yn gyssylltedig â'r ympryd oddifewn, yr hwn yw ga­lar a chwynfan yn y galon, fel y manegwyd o'r blaen.

Am amser ympryd y mae efe yn dywedyd, Fe ddaw 'r dyddiau pan dynner y priodas-fâb oddi­wrthynt, ac yno yr ymprydiant yn y dyddian hyn­ny. Mat. 19. 15. Luc. 5. 35. Wrth hyn y mae yn eglur nad ydyw hiamser i ymprydio yr hyd y parhao'r briodas, a thra fy­ddo'r priodas-fâb yn bresennol. Ond pan ddar­ffo'r briodas a myned o'r priodas-fâb ymmaith, yno y mae hi yn amser cyfaddas i ymprydio.

Yn awr i ddangos i chwi yn olen beth yw y­styr a deall y geiriau ymma, Yr ydym yn y briodas: a thrachefn, Fe a dynnwyd y priodas-fâb oddiwrthym: ystyriwch, yr hyd y byddo Duw yn datcuddio ei drugareddau i ni, ac yn rhoddi ei ddoniau ysprydol neu gorphorol i ni, fe a ddywedir ein bod ni gyd â'r priodas-fâb yn y briodas. Felly yr ydoedd yr hên dâd daionus Iacob yn y briodas pan glyw­odd fod ei fâb Ioseph yn fyw, ac yn rheoli yr holl Aipht dan frenhin Pharao. Felly yr oedd Da­fydd yn y briodas gydâ'r priodas-fâb pan gafodd ef yr oruchafiaeth yn erbyn Goliah fawr, a thorri o hono ei ben ef. Yr ydoedd Iudith a holl bobl Bethulia yn blant y briodas, a'r priodas-fâb gydâ hwy, pā ddaroedd i Dduw trwy law gwraig ladd Holophernes pen-tywysog llu 'r Assyriaid, a gorthrechu eu holl elynion. Fel hyn yr oedd yr A­postolion yn blant y briodas yr hyd yr ydoedd [Page 185] Christ yn gorphorol yn bresennol gyd â hwy, ac yn eu hamddiffyn hwy oddiwrth bob perigl, ysprydol a chorphorol.

Ond yno y dywedir fod y briodas gwedi darfod, a'r priodas-fâb gwedi myned ymmaith, pan fo yr Holl-alluog Dduw yn ein taro ni â blinder, ac wrth dybygoliaeth yn ein gadel ni ym - mhlith aneirif o wrthwynebau. Felly y mae Duw yn fy­nych yn taro rhai neilltuol ag amryw wrthwyne­bau, megis trallod meddwl, colled ceraint neu dda, hir a pheriglus glefydau &c. yno y mae hi yn amser cyfaddas i'r dyn hwnnw i ymddarostwng i'r Holl-alluog Dduw trwy ympryd, ac i alaru ac i gwynfan am ei bechodau â chalon athrist, ac i weddio yn ddiragrith gan ddywedyd gyd a'r pro­phwyd Dafydd▪ Cudd dy wyneb oddiwrth fy­mhechodau Psal. 51. 9. Arglwydd, a delêa fy holl amwire­ddau. Hefyd pan fytho Duw yn cystuddio rhyw deyrnas neu wlâdâ rhy feloedd, newyn, Haint y no­dau. cornwyd. cowyn, neu glefydau dieithr a heintiau anghydnaby­ddus, a'r cyfryw flindereu eraill: yno y mae hi yn amser i bob grâdd o ddynion, vchelradd ac is­sel-radd, gwŷr a gwragedd▪ a phlant, ymddaro­stwng trwy ympryd, a galaru am eu bywyd pe­chadurus ger bron Duw a gweddio ag vn llefe­ferydd cyffredinol gan ddywedyd fel hyn, neu ryw fath weddi arall, Bydd drugarog o Arglwydd, Bydd drugarog wrth dy bobl sydd yn troi attat mewn wylofain ac ympiyd a gweddi, arbed dy bobl y rhai a brynaist â'th werthfawr waed, ac na oddefddistrywio dy etifeddiaeth a'i gwradwyddo.

Mae ympryd a arferir fel hyn ynghŷd â gweddi yn rymmus iawn ac yn bwysig ger bron Duw. Felly y dywedodd yr Angel Raphael wrth Tohi­as. Tob. 12. 8. [Page 186] Mae hyn yn eglur hefyd wrth yr hyn a atte­bodd ein Iachawdwr Christ i'w ddiscyblon, pan ofynnasant iddo, pa ham na allent hwy fwrw 'r pspryd aflan allan o'r hwn a ddygesid attynt. Ni fwrir y rhywhwn allan (eb efe) ond trwy ympryd a gweddi.

Ni ellir dangos i chwi byth mor nerthol yw ympryd ac mor bwysig ger bron Duw, a pha beth a all ei gael ar law Dduw, yn well nâ thrwy agoryd i chwi a gosod ger eich bron rai o'r pethau godidog a wnaethpwyd trwy ympryd.

Ympryd oedd vn 'or cyfryngau a'r achosion a wnaeth i'r Holl-alluog Dduw newid yr hyn a ddarfuase iddo ei fwriadu ynghylch Ahab am ladd y gŵr diniwed Naboth, er mwyn cael meddiannu 1. Bren. 21. 19. ei winllan ef. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Elias, gan ddywedyd, dôs a dywed wrth Ahab, a leddaist di ac a feddiannaist, fel hyn y dywed yr Ar­glwydd, y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth y llyfant dy waed dithau hefyd; wele fi yn dwyn di­al arnat ti, a mi a dynnaf ymmaith dy hiliogaeth; y cŵn a fwyttant yr hyn a fyddo marw eiddo A­hab yn y ddinas, a'r hwn a fyddo marw yn y maes a fwytty adar y nefoedd.

Y gosp ymma a fwriadase 'r Holl-alluog Dduw i Ahab yn y byd hwn, a dinistrio pob gwr-ryw o gorph Ahab, heb law'r gosp a gwympe arno yn y byd a ddaw. Pan glybu Ahab hyn fe a rwygodd ei dillad ac a wiscodd sach-liain, ac a ym­prydiodd ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn Droednoeth. ddiarchen: yno y daeth gair yr Arglwydd at Elias gan ddywedyd, Oni weli di'r modd yr ymostyngodd Ahab ger fymron i? amiddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg [Page 187] hwnnw yn ei ddyddiau ef, ond yn-nyddau ei fâb ef y dygaf y drwg hwnnw ar ei dŷ ef.

Ac er i Ahab trwy gyngor annuwiol Iesabel ei wraig wneuthur lladdfa gywilyddus, ac yn er­byn pob cyfiawnder dietifeddu a difeddiannu yn dragywydd eppil Naboth o'r winllan honno: et­to wrth ei vfydd ymostyngiad ef i Dduw yn ei galon, yr hyn a ddangosodd ef oddiallan trwy wisco sach-liain ac ymprydio, fe a newidiodd Duw ei farn, fel na chwympodd y gosp a fwriadase ef, ar dŷ Ahab yn ei amser ef, ond hi a oedwyd hyd ddyddiau ei fâb ef Ioram.

Ymma y gwelwn pa rym sydd yn ein hympryd ni oddiallan, pan gyssyllter ef ag ympryd y me­ddwl oddimewn, yr hwn yw (fal y dywetpwyd) trymder calon, ffiaiddio ein drwg weithredoedd a chwynfan o'u plegid. Y cyffelyb sydd i'w we­led yn y Ninifeaid, o blegid wedi darfod i Dduw Ionas 3. 4. amcanu dinistrio holl ddinas Ninife, a bod yr am­ser a appwyntiase ef ger llaw, fe a ddanfonodd y prophwyd Ionas i ddywedyd wrthynt, Etto ddeugain nhiwrnod, a Ninife a ddifethir. Ac yn y man gwyr Ninife a gredasant i Dduw, ac a ym­roesant i ymprydio, ie fe a barodd y brenhin trwy gynghor ei gynghoriaid gyhoeddi gan ddywedyd, dyn ac anifail, eidion a dafad, ni phrofant ddim, ni phorant ac nid yfant ddwfr: ond gwisced dŷn ac anifeil sachliain, a gwaedded ar Dduw yn lew, a dattroed pob dyn oddiwrth ei ffordd ddrygio­nus, ac oddiwrth y camwedd yr hwn sydd yn eu dwylo hwynt, pwy a wyr a drŷ 'r Arglwydd ac a edifarhâ a dattroi o angerdd ei ddig, fel na ddife­ther ni?

Ac ar yr edifeirwch hwn eiddynthwy a ddango­swyd [Page 188] oddiallan trwy ymprydio, rhwygo eu ddi­llad, gwisco sach-liain, bwrw llwch a lludw ar eu pennau, mae r Scrythur yn dywedyd, A gwe­lodd Duw eu gweithredoedd hwy, sef troi o ho­nynt o'u ffyrdd drygionus, ac fe ai edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedase y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.

Yn awr fy-ngharedigion chwi a glywsoch yn gyntaf beth yw ympryd, cystal yr hwn sydd oddi­allan yn y corph, a'r hwn sydd oddifewn yn y ga­lon. Chwi a glywsoch hefyd fod tri diwedd neu fwriad at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni oddi­allan, mae fe yn weithred dda, a Duw yn fod­lon iddo.

Yn drydydd y dangoswyd pa amser sydd gym­mhesuraf i ymprydio, yn neilltuol ac yn gyhoedd.

Yn ddiwethaf pa bethau a gafodd ympryd ar law Dduw, wrth siampl Ahab a'r Ninifeaid. Am hynny fyngharedigion yn yr Arglwydd, gan fod llawer mwy o achosion i ymprydio ac i alaru, yn ein dyddiau ni, nag a fu mewn llawer blwyddyn mewn vn oes o'r blaen; ymrown oddifewn yn ein calonnau, ac oddiallan yn ein cyrph, i arfer yn ddiwyd yr arfer ymma o ymprydio, yn y modd a'r agwedd yr arferodd y sanctaidd brophwydi, yr A­postolion a llawer o wŷr duwiol eraill hi yn eu hamser. Yr vn Duw yw Duw yn awr ac oedd efe yr amser hwnnw, Duw yn caru cyfia wnder ac yn cashau anwiredd, Duw ni ewyllysia far wolaeth pechadur, ond yn hytrach ymchwelyd o hono oddi­wrth ei anwiredd a byw, Duw yr hwn a adda­wodd droi attom ni, os ni ni wrthodwn droi atto ef: ie os ni a drown ein drwg weithredoedd o'i o­lwg ef, os peidiwn a gwneuthur drygioni, a dyscu [Page 189] gwneuthur daioni, ceisio gwneuthur cyfiawnder a chynnorthwyo 'r gorthymmedig, bod yn farn­wyr cyfiawn i'r ymddifad ac yn ymddiffyn i'r we­ddw, torri ein bara i'r newynog, a dwyn y tlawd a fyddo ar ddidro i'n tai, os dilladwn y noeth a bod heb ddiystyru ein brawd yr hwn yw ein cnawd ni ein hunain: yno y gelwi (medd y prophwyd) a'r Arglwydd a atteb, ti a waeddi ac yntef a ddywa­id, dymma fi. Ie yr vn Duw a wrandawodd ar Ahab a'r Ninifeaid, ac a'u harbedodd hwy, a wrendy ein gweddiau ninnau ac a'n harbed ni, os ni yn ôl eu siampl hwy a drown atto yn ddira­grith: Ie fe a'n bendithia ni a'i nefol fendithion tros yr amser sydd i ni i aros yn y byd hwn, ac yn ôl rhedfa 'r bywyd marwol hwn, fe a'n dwg ni i'w deyrnas nefol, lle y teyrnaswn ni mewn dedwy­ddwch tragwyddol gydâ 'n Iachawdwr Christ: I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn Glothineb a meddwdod.

CHwi a glywsoch, fy-ngharedigi­on, yn y bregeth o'r blaen, ddull a rhinwedd ympryd a'i iawn ar­fer; yn awr chwi a gewch gly­wed mor frwnt o beth yw glothi­neb a meddwdod gar bron Duw, er mwyn eich cyffroi chwi i ym­prydio yn ddyfalach.

Deellwch gan hynny ddarfod i'r Holl-alluog Dduw (er mwyn bod i ni ymgadw yn ddihalog, a'i wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfi­awnder [Page 190] yn ôl ei air) orchymmyn yn yr Scrythy­rau i gynnifer o honom ac sydd yn edrych am ogo­neddus ymddangosiad ein Iachawdwr Christ, fyw mewn sobredd, lledneisrwydd, a chymme­drolder. Wrth yr hyn y gallwn ddyscu mor an­ghenrhaid Tit. 2. 12. yw i bob Christion, ac a fynne fod yn barod yn nyfodiad ein Iachawdwr Christ, fyw mewn sobredd yn y bŷd presennol hwn, gan na all ef, os bydd ammharod, fyned gydâ Christ i 'w ogoniant: ac os bydd efe diarfog yn hyn o beth, ni all ef na bô mewn gwastadol berigl gan i ge­lyn creulon, y llew rhuadus, yn erbyn yr hwn y mae Petr yn ein rhybyddio ni i'n parottoi ein hu­nain mewn gwastadol sobredd, fel y gallom ei wrthwynebu ef yn gadarn mewn ffydd. 1. Pet. 5.

Am hynny fel y gallom arfer y sobredd hwn yn ein holl ymddygiad, fe fydd cyfaddas mynegi i chwi faint y mae pob rhysedd a gormodedd yn di­gio mawrhydi yr Holl-alluog Dduw, ac mor dost y mae efe yn cospi anfesurol gam-arfer y creduri­aid a ordeiniodd ef i borthi anghenrheidiau ein bywyd ni, megis bwyd a diod a dillad.

A chyfaddas fydd dangos hefyd y clefydai ni­weidiol a'r Aflwydd. echrys mawr sydd fynychaf yn can­lyn y rhai sydd yn ymroi i ddilyn yn afradlon y cyfryw hoffderau ac sydd gyssyltedig a gormodd o fwydydd moethus, neu ddillad rhy werthfawr a rhy wychion.

Ac yn gyntaf fel y galloch weled mor gas ac mor ffiaidd yngwydd yr Holl-alluog Dduw, yw gormodd bwytta ac yfed, chwi a gofiwch yr hyn y mae S. Paul yn ei scrifennu at y Galathiaid, lle Gal. 5. 21. y mae efe yn cyfrif glothineb a meddwdod ym­mhlith y beiau Erchyll. echrydus, y rhai (medd efe) ni [Page 191] all neb y byddont ynddo etifeddu teyrnas Dduw. Mae efe yn eu cyfrif l wy ym-mhlith gweithre­doedd y cnawd, ac yn eu Cyplu. cwplysu hwy a delw­addoliad, putteindra a llofruddiaeth, y beiau mw­yaf ac a ellir eu henwi ym-mhlith dynion: o her­wydd mae 'r cyntaf yn yspailio Dduw o'i anrhy­dedd, yr aill yn halogi ei deml sanctaidd ef, hyn­ny yw, ein cyrph ni: a'r trydydd yn ein gwneu­thur ni yn gyfeilion i Cain wrth ladd ein brodyr, a phwy bynnag, medd S, Paul, a'u gwnelo, ni allant etifeddu teyrnas Dduw.

Yn siccr, mae 'r pechod hwnnw yn gâs ac yn ffiaidd ger pron Duw, yr hwn sydd yn peri i Dduw droi ei wynebpryd grasol mor bell oddi­wrthym, ac y cae ai ni yn llwyr allan o'r drŵs, a'n dietifeddu ni o'i deyrnas nef. Ond y mae fe yn ffiaiddio anifeiliaidd wledda a gloddest yn gym­maint, fel y mae efe trwy ei fâb Iesu Ghrist ein Iachawdwr yn yr Efengyl, yn cyhoeddi ei Erchyll. echry­dus lid yn erbyn pawb a wnânt eu boliau yn Dduw iddynt, gan eu barnu yn felldigedig, â dywedyd, Gwae chwi y rhai ydych lawnion, canys chwi a newynwch. A thrwy enau y Pro­phwyd Luc. 6. 25. Esai mae fe yn gweiddi, Gwae y rhai a gy­fodant yn foreu, ac a ddilynant ddiod gadarn, ac Esai. 5. 11. a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni ennynno diod ga­darn hwy: ac yn eu gwleddoedd hwy y mae 'r de­lyn a'r nabl, y tympan, y bibell hefyd a'r gwin; ond gwaith yr Arglwydd nid edrychant, ac gwei­thred ei ddwylaw ef ni welant: Gwae y rhai cry­fion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymmyscudiod gadarn.

Ymma y mae 'r prophwyd yn dangos yn oleu fod cyfeddach a gwledda yn gwneuthur i ddynion [Page 192] anghofio eu dlyed tu ac at Dduw: pan fônt yn ymroi i bob rhyw hoffder a digrifwch, heb ysty­ried na meddwl am weithredoedd yr Arglwydd, yr hwn a greodd fwyd a diod, fel y dywaid S. Paul, i'w derbyn mewn diolchgarwch gan y ffyddloniaid, y rhai a adwaenant y gwirionedd. 1. Tim. 4. 4. Megis y dylai edrych yn vnig ar y creaduriaid hynny (y rhai ydynt waith dwylo yr holl-alluog Dduw) ein dyscu ni i'w harfer hwy yn ddiolchus, fel yr ordeiniodd Duw.

Am hynny y maent hwy yn ddiescus ger bron Duw, y rhai naill a'u a lanwant eu hunain yn afradlon, heb ystyried y sancteiddiad sydd trwy air Duw a gweddi, ai ynte yn anniolchgar a ga­marferant ddaionus greaduriaid Duw, trwy rythni a gormodedd a meddwdod, gan fod ordein­hâd Duw yn ei greaduriaid yn gwahardd hynny yn oleu. Pwy bynnag gan hynny a ymroddant i yfed ac i wledda heb ystyried barnedigaeth Dduw, hwy a oddiweddir yn ddisymmwth yn­nydd dial.

Am hynny y dywaid ein Iachawdwr Christ wrth ei ddiscyblon, Edrychwch arnoch eich hu­nain Luc. 21. 34. rhag gorchfygu eich calonnau a glothineb a meddwdod a gofalon y bŷd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Pwy bynnag gan hynny a gymmero rybydd wrth eiriau Christ, gwilied arno ei hunan, rhag Gorchfygu. gormeilo ei galon a glothineb a meddwdod, a'i ddala ef yn ddisym­mwyth gyd â'r gwâs afradlon, yr hwn heb fe­ddwl am ddyfodiad ei feistr, a ddechreuodd guro Luc. 12. 26. ei gyfeillon y gweision a'r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi, a chwedy ei ddala yn ddisym­mwth ef a gafodd ei ran gyda 'r anffyddloniaid a'r [Page 193] rhagrith-wyr. Pwy bynnag a arfero yfed yn ddwfn ac ymlenwi yn ormodd (gan ymdreiglo ym-mhob drygioni) fe a ddaw arnynt drymgwsc a A chysglyd. chyscadur angof sanctaidd ewyllys a gorchym­mynion Duw. Am hynny y llefa yr Holl-alluog Dduw trwy 'r Prophwyd Ioel, deffrowch fedd­wyr, ac wylwch ac vdwch holl yf-wyr gwin am y Iool 1. 5. gwin newydd, canys torrwyd ef oddiwrth eich mîn chwi. Ymma y mae 'r Arglwydd yn bygwth yn dost y tynn ef ei ddoniau oddiwrth y rhai a'u camarferant, ac y tynn ef y phiol oddiwrth enau y meddwon. Ymma y gallwn ddyscu gochelyd cyscu mewn meddwdod a glothineb, rhag i Dduw ein difuddio ni o fwyniant ei greaduriaid, pan gamarferom ni hwynt yn annaturiol.

O herwydd yn siccr ni thynn yr Arglwydd ein Duw yn vnig ei ddoniau oddiwrthym, pan gam­arferir hwy yn anniolchus; ond hefyd yn ei lid a'i fawr ddigofaint, fe a ddial ar bawb a'u camar­feront hwy yn anghymmedrol. Pe buasai ein he­nafiaid cyntaf ni Adda ac Efa heb yfyddhau i'w chwant awyddus yn bwytta 'r ffrwyth gwahar­ddedig, ni buasent nac yn colli mwyniant doniau Duw, y rhai a fwynhaent ym-mharadwys yr amser hynny, nac yn dwyn y fath aflwydd ac ech­rys arnynt eu hunain a'u holl heppil yn eu hôl. Ond pan aethant hwy tros y terfynau a osodosai Duw iddynt, hwy a yrrwyd allan o baradwys, megis rhai an-nheilwng o ddoniau Duw, ni chânt ym-mhellach fwytta ffrwythau yr ardd honno, y rhai a ddarfuase iddynt eu camarser yn gymmaint trwy ormodedd: ac megis trosedd­wyr gorchymmynion Duw, fe a'u dygwyd hwy a'u heppil i gywilydd a gwradwydd tragwyddol, [Page 194] ac megis rhai gwedi i Dduw eu melldithio, rhaid iddynt chwysu am eu bywyd, y rhai o 'r blaen oedd ganthynt helaethrwydd wrth eu he­wyllys.

Felly ninnau, os wrth fwytta ac yfed y cym­meron ormod, a Duw o'i helaeth haelioni yn dan­fon i ni ddigonedd ac amledd, fe a drŷ yn y man ein hamledd ni yn brinder: a lle 'r oeddym o'r blaen yn ymorfoleddu yn ein cyflawnder, fe a'n gwnâ ni yn wâg, ac a'n gwradwydda ni ag eisiau ac a phrinder, ac a wna i ni lafurio a thrafaelu trwy boen a thrafael, i geisio yr hyn yr oeddym o'r blaen yn ei fwynhau mewn esmwythdra. Felly ni âd yr Arglwydd hwy heb gospi, y rhai heb ystyried ei weithredoedd ef, a ganlynant wyniau a thrachwantau eu calonnau eu hunain.

Y Patriarch Noah yr hwn y mae yr Apostol yn ei alw yn bregethwr cyfiawnder, ac yr oedd Duw yn ei garu yn fawr, a wnaethpwyd yn yr Scry­thur lan yn siampl i ddyscu i ni ochelyd meddw­dod. Gen. 9. 21. O blegid wedi iddo gymmeryd mwy o wîn nag oedd gymmhesur, fe a orweddodd yn noeth yn ei babell, a'i aelodau dirgel wedi eu dynoethi. Ac er ei fod ef o'r blaen mewn cymmaint parch a chymmeriad, fe a aeth yn awr yn watwargerdd i'w felldigedig sab Cham, er mawr ddolur i'w ddau feibion eraill Sem a Iapheth, y rhai a gy­wilyddient dros ymddygiad anifeiliaidd eu tad. Ymma y gellwch weled fod meddwdod yn dwyn gydag ef gywilydd a gwatwar, ac na ddiangc ef yn ddigosp vn amser.

Lot hefyd wedi ei Orchfygu. ormeilo gan win a wnaeth bechod llosc-ach ffiaidd a'i ferched eu hunan. Ym­ma y mae Lot trwy yfed gwedy cwympo cyn be­lled [Page 195] allan o'i bwyll ei hun, nad edwyn ef i ferched ei hunan. Pwy a dybyge y cwympe hên ŵr a fai yn y cyflwr blin yr oedd efe, gwedi colli ei wraig a chymmaint ac a fedde, gwedi gweled dial Duw a ddangosasid mewn modd ofnadwy ar y pump di­nas am eu bywyd drygionus; i anghofio ei ddy­lêd cy belled.

Ond fel y dywaid Seneca, mae gwŷr gwedy eu gorchfygu gan ddiod, yn ynfydion cynwynol. Lot a dwyllwyd gan ei ferched, ond y mae llawer yn awr yn eu twyllo eu hunain, eisiau meddwl y dial Duw trwy gospedigaethau ofnadwy, ar y rhai sy yn pechu trwy ormodedd. Nid bychan y pla a ennillodd Lot trwy ei feddwdod. O her­wydd fe wnaeth weithred gnawdol a'i ferched ei hun, a hwy a feichiogasant o hynny, fel yr aeth y peth yn gyhoedd, ac ni ellid ei gelu yn hwy. Fe a aned dau blentyn ordderch o'r lloscach hynny, Ammon a Moab, o'r rhai y daeth dwy genhedl, yr Ammoniaid a'r Moabiaid, y rhai oedd gas gan Dduw, a gwithwynebwyr creuion i'w bobl ef plant yr Israel.

Wele, fe a ennillodd Lot iddo ei hunan wrth gyfeddach dristwch a gofal, a chywisydd a gwarth tragwyddol hyd ddiwedd y bŷd. O nid arbedodd Duw ei was Lot, yr hwn oni buase hynny oedd ŵr duwiol, nai i Abraham, ac a dderbyniasai an­gelion Duw i'w dŷ: Pa beth a wna ef i 'r rhai hyn sydd yn wasanaethwyr i'w boliau fel anifei­liaid, heb dduwioldeb nac ymddygiad rhinwe­ddol, yn ymroi nid vnwaith, onid dydd a nos yn gwbl i gyfeddach a gwledda? Ond gwelwn etto ym-mhellach siamplau ofnadwy o ddigllonedd Duw yn erbyn y rhai yn awyddus a gaulynent [Page 196] ei chwantau afradlon. Ammon mab Dafydd 2. Sam. 13. 29. wrth wledda gyd ei frawd Absolon, a laddwyd yn greulon gan ei frawd Absolon. Holofernes Iudith. 12. 8. tywysog dewr galluog, pan orchfygwyd efe gan wîn a gafas dorri ei ben oddiar ei yscwyddau gā ddwylo gwreigan ddiwryg, Iudith. Simon yr Archoffeiriad a Matthathias a Iudas ei ddau 1. Macc. 16. 16. feibion, gwedy eu gwahodd gan Ptolomaeus mab Abobus yr hwn a briodase ferch Simon, yn ôl iddynt fwytta ac yfed yn ddwys, a laddwyd yn fradychus gan Ptolomæus eu cyfathrachwr ei hun. Oni buase ymroi o'r Israeliaid i ormod moethau, ni buasent wedi cwympo mor fynych i ddelw-addoliad: ac nid ymroen ninnau heddyw Exod. 32. 6. yn gymmaint i ofergoel, oni bai faint gennym am lenwi ein boliau.

Pan oedd yr Israeliaid yn gwasanaethu del­wau, hwy a eisteddent i fwytta ac i yfed, ac a gy­fodent 1. Cor. 10. 7. i fynu i chwarau, fel y dywed yr Scrythur. Felly wrth chwennych gwasanaethu eu boliau, hwy a ymadawsant â gwasanaeth yr Arglwydd eu Duw. Felly y tynnir ninnau i gyttuno ag annuwioldeb, pan fo 'n calonnau wedi eu gorch­fygu a meddwdod a gwledda.

Felly Herod, pan oedd wedi rhoi ei feddwl ar wledda, a fu fodlon gantho ar ddeisyfiad merch ei Mat. 14. 9. buttain, ganniatau torri pen sainctaidd ŵr Duw, Ioan feddyddiwr. Oni buase fod y glŵth cyfoe­thog Luc. 16. 19. mor awyddus i lenwi ei fola, ni buasei mor an-nrhugarog wrth Lazarus dlawd, ac ni buasei raid iddo oddef poenau tân anniffoddadwy. Am ha achos y cospodd Duw Sodom a Gomorrha mor Erchyll. echrydus? Ond am eu balch-wledda a'u gwastadol seguryd, y rhai a wnaeth iddynt fod [Page 197] mor ddrŵg eu bywyd, ac mor an-nrhugarog wrth y tlawd?

Pa beth a dybygwn ni bellach am ormodedd, trwy'r hwn y daeth llawer i ddistryw? Alexander mawr wedi iddo orchfygu yr holl fŷd, a orchfy­gwyd yntef gan feddwdod, yn gymmaint ac y lla­dodd ef, ac ef yn feddw, ei gyfaill ffyddlon Clitus, am yr hyn pan aeth ef yn ddifeddw, y cywilyddi­odd yn gymmaint ac yr ewyllysiodd iddo ei hun farwolaeth o wir ofid calon. Er hynny ni phei­diodd ef a gwledda, ond mewn vn noswaith fe a lyngcodd cymmaint o win, ac a'i dûg ef i Dderton. gryd tôst, a phan na fynnai mewn modd yn y bŷd ym­attal odoiwrth wîn, am ben y chydig ddyddiau fe a ddiweddodd ei oes mewn modd grcsynol. Dyna orchfygwr yr holl fy▪d wedi ei wneuthur yn gaeth­was trwy ormodedd, ac mor wallgofus ac y lla­ddai ei gyfaill anwyl, ac a'i plagwyd ef â thrist­wch, cywilydd a gofid calon am ei anghymmed­rolder a'i ormodedd, etto ni ddichon ef ymadel â'i fai, ond mae efe mewn caethiwed, a'r hwn o'r blaen a orchfygodd lawer, sydd wedi myned yn awr yn gaethwas i'r bola brwnt.

Felly y mae y meddwon a'r rhai glwth heb allu ganthynt arnynt eu hunain, a pha mwyaf a y­font, mwyaf fydd eu syched: mae 'r naill gyfeddach yn annog y llall: ac maent yn myfyrio ar lenwi eu cyllau awyddus. Am hynny y dywedir yn gy­ffredin, Ni bydd meddw byth disyched, ac Byth ni lenwir bola'r glwth.

Gwir yw na ellir digoni a bodloni chwantau a thrachwantau calon dyn, ac am hynny rhaid i ni ddyscu eu ffrwyno hwy ag ofn Duw, fal nad ymroddom i'n chwantau ein hunain, rhag, i ni [Page 198] ennynnu digofaint Duw yn ein herbyn, wrth geisio cyflawni ein trachwantau anifeiliaidd. Mae S. Paul yn ein dyscu ni Pa vn bynnag a wnelom ai bwytta ai yfed, neu beth bynnag a 1. Cor. 10. 31. wnelom, ar i ni wneuthur y cwbl er gogoniant i Dduw. Lle y mae efe yn appwyntio megis wrth ddogn a mesur, pa gymmaint a ddylei ddŷn ei fwyta neu ei yfed, hynny yw, cymmaint ac na wneler y meddwl yn ddiog wrth ymlenwi ar fw­yd a diod, fel na allo ymdderchafu i ogoneddu ac i foliannu Duw.

Pwy bynnag gan hynny wrth yfed a'i gwnel ei hun yn anescud i wasanaethu Duw, na thyby­ged y diangc ef yn ddigosp. Chwi a glywsoch mor gas ac mor wrthwyneb gan yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei greaduriaid, fel y mae efe ei hun yn dangos, cystal wrth ei sanctaidd air, a si­amplau ofnadwy ei gyfiawn farn. Yn awr oni ddichon na gair Duw attal ein chwantau afrad­lon, a'n trachwantau awyddus ni; na siamplau ofnadwy dialedd Duw, ein hofni ni oddiwrth anllywodraethus ormodedd bwytta ac yfed: etto ystyriwn yr aml eniweidiau sydd yn tyfu o hynny, felly y cawn adnabod y pren wrth ei ffrwyth.

Mae fe yn clwyfo 'r corph, yn mallu 'r meddwl, yn treulo'r golud ac yn blino 'r cymydogion.

Ond pwy a ddichon draethu yr aml beryglon a'r eniweidion sydd yn canlyn o ymborthi yn anghym-mhedrol? yn fynych y daw angau dysy­fyd wrth wledda; weithiau yr ymollwng yr holl aelodau, fel y dygir yr holl gorph i gyflwr blin. Mae 'r hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn anfesu­rol, yn ennynnu yn fynych y fâth wrês annatu­riol yn ei gorph, fel yr annog hynny ei chwant ef i [Page 199] chwennychu mwy nag a ddylyei; neu yn Gorehfygu. gor­meilo ei gylla ef, ac yn llenwi ei gorph ef yn llawn diogi, ac yn ei wneuthur yn anescud ac yn ang­hym-mhesur i wasanaethu na Duw na dŷn, heb borthi'r corph, ond ei ddrygu; ac yn dwyn llawer o glefydon afiachus, o'r rhai y tŷfweithiau angau diobaith.

Ond pa raid i mi ddywedyd ychwaneg yn hyn o beth? O blegid oni fendichia Duw ein bwy­dydd ni, a rhoi iddynt rym i'n hymborth ni: a he­fyd oni rydd Duw rym i'n naturiaeth ni i dreulo ein bwyd▪ fel y gallom gael lles oddiwrthynt, naill ai ni a'u bwriwn hwy i fynu, ai ynte hwy a ddrew­ant, yn ein cyrph ni megis mewn pwll neu sodd­fa ddrewllyd, ac felly y llygrant ac a difwynant yr holl gorph.

Ac yn siccr mae bendith Dduw ym-mhelloddi­wrth y rhai a arferant wledda mor anllywodra­ethus, fal y mae yn fynych yn eu hwynebau ar­wyddion eglur o'u hafradionrwydd hwy: fel y dy­wed Salomon yn ei ddiarhebion: I bwy (medd ef) y mae gwae? I bwy y mae ochain? I bwy y Diarh. 23. 29. mae cynnen? I bwy y mae dadwrdd? I bwy y mae clwyfau heb achos? ac i bwy y mae llygaid cochion? sef i'r rhai a drigant yn hir yn y gwin. Ystyriwch adolwg arwyddion dig Duw: gwae, ochain, cynnen, a dadwrdd, clwyfau heb achos, wyneb anniwygus, a chochineb llygaid sydd yn dyfod i'r rhai a'u rhoddant eu hunain i ormodedd ac i draflyngcu, gan ddychymmygu pob modd i gynnyddu eu chwantau awyddus, gan dymmhe­ru 'r gwin a'i gymmyscu, fel y gallo fod yn felu­sach ac yn foethusach iddynt.

Fe fydde dda pe cymmere y fath ddynion moe­thus [Page 200] eu rheoli gan Salomon, yr hwn o blegid yr afles y sydd yn dyfod oddiwrtho, a waharddodd Ver. 32, 33, &c. edrych ar win. Nac edrychwch, medd ef, ar win pan fytho côch, a phan ddangoso ef ei liw yn y phi­ol, neu pan êl efe i wared yn felys: yno yn y di wedd fe a frath fel sarph, ac a biga fel gwiber: dy­lygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd: ti a fyddi megis vn yn cyscu ynghenol y mor, ac fel vn yn cyscu ym-mhen yr hwylbren: pan y'm curent, meddi, ni chlefychais, pan y'm ffustent nis gwybûm, pan ddeffroaf mi âf rhagof ac a'i ceifiaf drachefn. Mae 'n rhaid bod hwnnw yn ddrŵg yr hwn sydd yn brathu ac yn pigo fel gwiber wenwynllyd, trwy 'r hwn y tynnir dynion i odineb brwnt, yr hwn sydd yn pe­ri i'r galon ddychymmyg melldith. Diammau fod yr hwn sydd yn cyscu ynghanol y mor mewn perigl mawr, canys ebrwydd y gorchguddir ef ô'r tonnau. Mae'r hwn sydd yn cyscu ym-mhen yr hwylbren yn debyg i gwympo yn ddisymmwth. A phwy bynnag, ni chlywo pan darawer ef, ac ni wybydd pan gurer ef, y mae efe wedi colli ei synhwyrau yn gwbl.

Felly mae glothineb a meddwdod yn pigo 'r bo­la, yn peri cnofa wastadol yn y cylla, yn dwyn dy­nion i butteindra ac aflendid calon, a pheriglon an-nhraethadwy: fel yr ydys yn difuddio ac yn yspailio dynion o 'u synhwyrau, megis nad oes ganthynt ronyn gallu arnynt eu hunain.

Pwy bellach ni wŷl y cyflwr blin y dygir dyni­on iddo gan yr anghenfilod anferth ymma, Glo­thineb a meddwdod. Maent hwy yn aflonyddu 'r corph yn gymmaint, fel y mae Iesu fab Syrach yn dywedyd nad ydyw 'r bwyttawr mawr yn cys­cu [Page 201] yn esmwyth vn amser, yr ydys yn ennynnu Ecclus. 31. 22. y▪nddo y fâth wrês anfeidrol, o'r hwn y canlyn gwastadol wayw a phoen trwy 'r holl gorph.

Ac nid llai hefyd y drygir y meddws trwy or­mod gwledda: o herwydd weithiau yr ydys yn taro dynion ag ynfydrwydd meddwl, ac yn eu dwyn i wallgofi: mae rhai yn myned mor anifei­liaidd ac mor drymfryd, fel y maent yn hollawl yn myned yn ddiddeall ac yn ddibwyll. Peth Erchyll. echrydus yw i neb ei anafu ei hun mewn vn aelod o'i gorph, ond peth anrhaith ei oddef yw i ddŷn o'i wir fodd i yrru ei hun allan o'i gôf.

Mae 'r Prophwyd Osee yn y bedwaredd ben­nod yn dyŵedyd, fod meddwdod a gwin yn dwyn Osee. 4. 11. y galou ymmaith. Och, i neb ymroi i'r hyn a ddŵg ei galon ef o'i feddiant. Gwîn a gwragedd, medd Iesu fâb Syrach, sydo yn gyrru doethineb ar encil. Ie mae efe yn gofyn beth yw einioes yr Ecclus. 19. 2. hwn a orchfyger gan wîn. Chwerwder meddwl yw 'r gwin a y fer llawer o hono, ac fe a chwane­ga ddig a thrangwydd. Mewn llywodraethwyr y mae yn d wyn creulondeb yn lle cyfiawnder, fel y canfu y philosophydd call Plato yn ddigon da, Dial 31. 4. pan ddywedodd ef fod mewn dŷn meddw galon greulō, ac am hynny y llywodraetha ef yn y modd y mynno, yn erbyn rheswm ac iniondeb.

Ac yn siccr mae meddwdod yn gwneuthur i ddŷn anghofio cyfraith ac iniondeb, a hynny a wnaeth i frenhin Salomon orchymmyn yn ga­led na roddid dim gwîn i lywodraeth-wŷr, rhag iddynt yfed ac ebrgofi 'r gyfraith, a chyfne widio barn y rhai gorthrymmedig. Ac am hynny o'r holl ddynion, y mae yfed gormodd dwin yn an­rhaith ei oddef mewn llywodraethwr neu ŵr o [Page 202] awdurdod, fel y dyweid Plato: o blegid ni wyr meddwyn pale y mae efe ei hunan. Am hynny os meddwa gŵr o awdurdod, och pa fodd y bydd efe arweinydd i eraill, ac yn rhaid iddo wrth vn i'w arwain ei hunan?

Hefyd, ni feidr dŷn meddw gadw cyfrinach: a llawer gair diffaith, ynfyd, lledffrom a ddywed dynion pan fônt yn eu gloddest. Mae meddwdod, medd Seneca, yn dynoethi pob drygioni, ac yn ei ddwyn i oleuni: mae yn troi heibio bob cywi­lyddgarwch, Seneca. ac yn cynnyddu pob anwiredd. Y balch pan so meddw a adrodd ei falchder, y creu­lon ei greulonder, y cenfigennus ei genfigen, me­gis na ellir cuddio vn bai mewn meddwyn.

Hefyd, am nad yw yn ei adnabod ei hun, y mae efe yn bloesci yn ei ymadrodd, yn trangwyddo yn ei gerddediad, heb allu edrych ar ddim yn wastad â'i lygaid rhythion, mae fe yn credu fod y tŷ yn troi yn grwn o'i amgylch. Y mae 'n eglur fod y meddwl yn myned ym-mhell o'i le, wrth yfed gormodd, megis pwy bynnag a dwyller gan wîn neu ddiod gadarn, mae yn myned; fel y dywaid Salomon, yn watwarwr, yn wallgofus, ac ni all byth fod yn ddoeth. Os bydd neb yn tybied y Diarh. 20. 1. gall ef yfed llawer o win, a bod yn dda yn ei gof, fe all feddwl yn gystal, medd Seneca, na bydd efe marw er iddo yfed gwenwyn. O blegid pale byn­nag y byddo gormodd yfed, yno mae yn rhaid bod trallod meddwl, a lle y llanwer y bola a bwyd moythus, mae 'r meddwl wedi ei orthrymmu a diogi segurllyd. Mae bola llawn, medd Saint Bernard, yn gwneuthur y deall yn bŵl, a llawer Adsororem, Ser. 24. o fwyd yn gwneuthur meddwl hwyr drwm.

Ond, ôch, yn y dyddiau hyn nid gwaeth gan [Page 203] ddynion am eu cyrph na 'u heneidiau; os cânt o­lud bydol a chyfoeth ddigon i gyflawni eu chwan­tau anfesurol, nid gwaeth genthynt beth a wne­lont. Ni bydd arnynt gywilydd dangos eu hwy­nebau meddwon, a chwareu 'r ynfydion yn gy­hoeddus. Maent yn tybied eu bod mewn stât dda, a bod pob peth yn dda, nes eu gwascu hwy â phrinder ac â thlodi.

Am hynny rhag ofn i neb o honom, trwy am­ledd ei gyfoeth, gymmeryd achos i'w wenhieithio ei hunan yn y gormodedd anifeiliaidd hwn, co­fiwn yr hyn a scrifenna Salomon, y neb a garo Pro. 21. 17. wledda a ddaw i dlodi, a'r neb a garo win ni bydd cyfoethog. Ac mewn man arall y mae efe yn rhoi gorchymmyn caled, yn y modd hyn, Na fydd vn o'r rhai sydd yn meddwi ar wîn, nac vn o'r rhai Pro. 23. 21. glythion ar gig, canys y meddw a'r glŵth a ddeu­ant i dlodi. Yr hwn sydd yn gollwng ei etifeddi­aeth ar hŷd ei gêg, ac yn bwytta ac yn yfed mwy mewn vn awr neu vn diwrnod, nag a allo efe ei ennill mewn wythnos gyfan, ni all na bo ef afra­dus, ac na ddêl i dlodi.

Ond fe ddywaid rhyw vn, pa raid i neb feio ar hyn? Nid yw efe yn drygu neb, ond ei hun, nid yw efe elyn i neb ond iddo ei hun. Yn wir mi a wn mai dymma hyn a ddywedir yn gyffredinol i amddiffyn y rhai glwth afradlō, anifeiliaidd hyn: ond mae yn hawdd gweled mor niweidiol ydynt, nid yn vnig iddynt eu hunain, ond, trwy eu siam­plau drŵg, i'r holl wlâd hefyd. Pob vn a gyfar­fyddo â hwynt a drallodir ag ymadroddion terfys­cus, ymrysongar: ac maent hwy weithiau yn eu gwyniau anllywodraethus, megis meirch por­thiannus yn gweryru ar wragedd eu cymmydo­gion, [Page 204] fel y dywed Ieremi, ac yn difwyno eu plant a'u merched.

Mae eu siampl hwy yn ddrŵg i'r rhai y maent yn aros yn eu mysc, maent yn achos tramgwydd i lawer, a'r hŷd y bônt hwy yn treulo eu golud mewn cyfeddach a gloddest, mae diffygion pethau anghenrheidiol ar eu tylwyth hwy, mae eu gw­ragedd a'u plant yn ddigymmorth, nid oes gan­thynt fodd i gynnorthwyo eu cymmydogion tlo­dion yn eu hangen, megis y galle fod ganthynt, pe byddent fyw yn sobr. Maent yn anfuddiol i'w gwlâd. O blegid nid yw meddwyn gymmhesur nac i lywodraethu nac i fod tan lywodraeth. Ma­ent hwy yn warth i Eglwys a chynnulleidfa Ghrist, ac am hynny y mae S. Paul yn eu hes­communo hwy ym-mhlith putteinwyr a delw­addolwyr, cybyddion a chribddeilwyr, gan wa­hardd i Gristionogion gydfwyta gydâ 'r cyfrywddynion.

Am hynny, bobl ddaionus, gwachelwn bawb o honom, bob anghymmedrolder, carwn sobredd a chymmhedrol ymborth, ymrown yn fynych i ddirwest ac ympryd, trwy 'r hyn y derchesir me­ddwl dŷn yn gynt at Dduw, ac yn barottach i bob gweithredoedd duwiol, megis gweddio, gwran­do a darllein gair Duw, er ein diddanwch yspry­dol. Yn ddiwethaf pwy bynnag a ofalo am iechyd a diogelwch ei gorph ei hun, ac a ddymuno bod yn wastad yn ei iawn gôf, neu a chwennycho lony­ddwch meddwl, ac a gashao gynddaredd ac ynfy­drwydd, a fynno bod yn gyfoethog a diangc rhag tlodi, a fo ewyllysgar i fyw heb ddrygu ei gym­mydogion, a bod yn aelod buddiol o gorph ei wlâd, ac yn Gristion heb gywilyddio Christ a'i [Page 205] Eglwys: gwacheled bob anllywodraethus an­ghymmhedrol gyfeddach, dysced y fath fesur ac sydd weddus i vn a fo 'n proffesso gwir dduwiol­deb, canlyned reol S. Paul, ac felly bwyttaed ac yfed i ogoniant a moliant Duw, yr hwn a greodd bob peth i'w mwynhau mewn sobredd a diolch garwch, i'r hwn y byddo anrhydedd a gogoniant yn dragywydd. Amen.

¶ Pregeth yn erbyn dillad rhy-wychion.

LLe y darfu eich annog chwi o'r blaen i arfer cymmhedrolder a chymmhesurwydd o fwyd a di­od, ac i wachelyd gormodedd, am ei fod lawer modd yn drygu stât y wlâd, ac mor gâs ger bron yr Holl-alluog Dduw, yr hwn yw awdur a rhoddwr y creaduriaid hynny i ddi­ddanu ac i gryfhau ein naturiaeth wan ni, trwy ddiolch iddo ef, ac nid wrth eu camarfer hwy i annog haelioni Duw i 'n cospi ni 'n dôst am y fath anllywodraeth.

Mae yn weddus yr vn modd eich rhybyddio chwi am ormodedd brwnt treulfawr arall: am ddillad yr wyfi yn meddwl, y rhai y dyddiau hyn sydd gwedi myned mor anfesurol, na ddichon na'r Holl-alluog Dduw trwy ei air attal ein balch dragofal niyn hyn o beth, na chyfreithiau duwi­ol anghenrheidiol ein tywysogion y rhai a adro­ddir yn fynych tan gospedigaeth, ffrwyno 'r an­llywodraeth ffiaidd ymma, trwy 'rhwn y dirmy­gir Duw yn amlwg, ac yr anufyddheir cyfreithi­a'u [Page 206] tywysogion, i fawr Pe [...]igl. enbeidrwydd y deyrnas.

Am hynny fel y gweler yn ein mysc ni sobrwydd yn y gormodedd ymma hefyd, mi a ddangosaf i'wch beth yw cymmhedrol arfer dillad yr hwn y mae sanctaidd air Duw yn ei gynnwys; a hefyd beth yw eu camarfer hwy, yr hwn y mae efe yn ei wahardd: fel y mae yn eglur wrth y niweidiau sydd beunydd yn cynnyddu, trwy gyfion farn Duw, lle na chedwer y mesur a osododd ef ei hun.

Os ystyriwn er mwyn pa fwriad a defnydd yr ordeiniodd Duw ei greaduriaid ni a allwn ddeall yn hawdd ei fod ef yn camattau i ni ddillad, nid yn vnig er mwyn anghenrhaid, ond hefyd er mwyn gweddeidd-dra cymmesurol. Megis mewn llysiau, coed ac amryw ffrwythau y mae nid yn vnig lawer o fwyniant anghenrhaid, ond hefyd golwg hyfryd ac aroglau peraidd i'n bod­loni ni.

Yn hyn y gallwn weled mawr gariad Duw tu­ag at ddynion am iddo ddarparu pethau i gynhor­thwyo ein hanghenrheidiau, ac i ddiddanu ein synhwyrau ni â diddanwch honest gweddaidd. Am hynny y mae Dafydd yn y 104. Psalm gan Psal. 104. 15. gyfaddef rhagddarparaeth Duw, yn dangos nad ydyw efe yn vnig yn darparu pethau anghenrhei­diol megis llysiau a bwydydd eraill, ond hefyd y cyfryw bethau ac a lawenychant ac a ddiddanant megis gwin i lawenychu 'r galon, ac olew i beri i'r wyneb ddiscleirio. Am hynny y maent hwy gwedy myned ym-mhellach na thersynau dynol y rhai a waharddant gyfraithlon fwynhau doni­au Duw ond yn vnig mewn anghenrheidiau.

Ni chanlynwn ni draddodiadau y rhâi hyn, os ni a wrandawn ar S. Paul, yr hwn wrth feri­fennu [Page 207] at y Colossiaid, sydd yn erchi iddynt na Col. 2. 21. wrandawont ar y rhai a ddywedant, Na chy­ffwrdd, na phrawf, na theimla, gan eu difuddio hwy yn goel-fuchedol o fwyniant creaduriaid Duw.

Ac nid dim llai y dylem ni wachelyd rhag i ni yn rhith Christianogawl rydd-did, gymmeryd rhydd-did i wneuthur y peth a fynnom, gan ym­hoywi mewn dillad rhy werthfawr, a diystyru eraill, a'n parottoi ein hunain mewn gwychder hoyw i ymddygiad nwyfus, drythyll, drygionus ac anniwair. Er mwyn gwachelyd yr hyn beth fe fydde dda i ni ddyscu pedair gwers y rhai a ddy­scir yn yr Scrythur lân, wrth y rhai y gallwn ddyscu ein tymmheru ein hunain, ac attal ein hanghymmedrol naws yn y mesur a ordeini­odd Duw.

Y gyntaf yw, Na bytho ein gofal tros y cnawd Rom. 13. 14. er mwyn porthi ei chwantau, mewn dillad gwy­chion, megis y gwnaeth y buttain am yr hon y dy­waid Salomon iddi bereiddio ei gwely, a'i drw­sio â thlysau gwerthfawr yr Aipht, er mwyn cy­flawni Pro. 7. 16. ei chwantau melldigedig: ond ni a ddylem yn hytrach wrth gymmhedrol gymmhesurwydd dorri ymmaith bob achosion trwy y rhai y gallai y cnawd gael yr oruch afiaeth.

Yr ail sy scrifennedig gan S. Paul yn y 7. ben­nod o'i Epistol cyntaf at y Corinthiaid, lle mae 1. Cor. 7. 31. efe yn dyscu i ni arfer y bŷd hwn megis pe byddem heb ei arfer. Trwy 'r hyn y mae efe yn torri ym­maith nid yn vnig bob vchelfryd, balchder, a gwâg hoywder mewn dillad: ond hefyd pob tra­gofal ac anghymmedrol naws, yr hwn sydd yn ein tynnu ni oddiwrth fyfyrio ar bethau nefol, [Page 208] ac ystyried ein dlêd tu ag at Dduw. Ni all y rhai sydd yn ymdrafferthu cymmaint mewn gofal am bethau a berthynant i 'r corph, na byddont ond odid esceulus a diofal am bethau a berth yn i'r en­aid. Am hynny mae 'n Iachawdwr Christ yn gorchymmyn i ni na ofalom am ein bwyd, pa beth Mat. 6. 25, &c. a fwyttaom, nac am ein diod pa beth a yfom, nac am ein cyrph pa beth a wiscom; eithr yn gyntaf ceisio o honom deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef. Wrth hyn y gallwn ddyscu gwachelyd gwneu­thur y pethau hynny yn rhwystr ac yn dramg­wydd i ni, y rhai a ordeiniodd Duw yn ddidda­nwch i ni, ac er ein cynnorthwyo tu â theyrnas nef. Y drydedd yw, ar i ni fod yn fodlon i'n stât a'n galwedigaeth, ac ymfodloni yn yr hyn a ddanfono Duw i ni, pa vn bynnag fytho ai ychydig ai llaw­er. Yr hwn ni bo bodlon i drwsiad gwael yscafn­bris, fe fydde falch o ddillad gwychion pe galle eu cael. Am hynny mae 'n rhaid i ni ddyscu gan yr Apostol S. Paul, yn gystal fwynhau helaeth­rwydd, a goddef prinder, gan gofio y gorfydd ar­nom roddi cyfrif Phil. 4. 12. am y pethau a dderbyniasom, a hynny i'r hwn sydd ffiaidd gantho bob gormo­dedd, balchder, ymffrost ac oferwagedd, yr hwn hefyd sydd yn cashau yn hollawl ac yn anfodlon i bob peth ac sydd yn ein tynnu ni oddiwrth ein dlêd tu ag at Dduw, neu yn prinhau ein cariad ni tu ag at ein cymydogion, a'n plant, y rhai a ddylem ni eu caru fel ein hunain.

Y bedwaredd wers a'r ddiwethaf yw bod i bob dyn edrych ac ystyried ar ei alwedigaeth ei hun, yn gymmaint a darfod i Dduw appwyntio i bob dŷn ei radd a'i swydd, yr hon y dyleuai ei ga­dw ei hun o fewn ei therfynau. Am hynny ni [Page 209] ddylei bob dyn edrych am gael gwisco 'r vn fath drwsiad, ond pob vn yn ôl ei radd, yn y modd y go­sododd Duw ef. Yr hyn drefn pe cedwid hi yr am­ser ymma, diammau y gwneid i lawer wisco di­llad llwydion, o'r rhai sy yn ymhoywi mewn si­dan a melfed, gan dreulio mwy yn y flwyddyn mewn dillad gwychion, nagyr oedd eu tadau yn ei dderbyn am holl ffrwyth eu tiroedd.

Ond heddyw, ôch pa sawl vn a allwn ni ei we­led yn ymroi yn gwbl i hoffder y cnawd? heb o­falu vn gronyn, ond yn vnig ymwychu, gan o­sod eu holl awydd yn gwbl ar wychder a hoyw­der bydol, a chamarfer daioni Duw sydd yn dan­fon iddynt helaethrwydd, i gyflawni eu drythyll wyniau a'u chwantau, heb ystyried ym-mha radd y gosododd Duw hwynt. Yr oedd yr Israeliaid yn fodlō i'r dillad a roddase Dduw iddynt, er nad oeddynt ond gwael a diystr: ac am hynny Duw a 'u bendithiodd hwyntau yn gymmaint, fel y parhaodd eu hescidiau hwy a'u dillad heb dreu­lio Deut. 29. 5. ddeugain mhlynedd, ie ac yr ydoedd y plant yn foddlon i wisco 'r vn dillad ac a wiscasai eu tadau o'r blaen. Ond nid ydym ni byth bodlon, ac am hynny nid oes dim yn tyccio gennym, yn gym­maint, ond odid, a bod yr hwn sydd yn ymhoywi yn ei Sabl a'i ŵn ffwrr hardd, ei escidiau corc, ei soccysau gwychion, ei ddyrnfolau clydion, yn ba­rottach i fferru gan anwyd, na▪ 'r llafurwr tlawd yr hwn a all aros yn y maes trwy 'r hirddydd, a'r gogleddwynt yn chwythu, ac ychydig ddillad Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad. candryll carpiog yn ei gylch.

Mae n' anhawdd gennym ni wisco y pethau a adawodd ein tadau i ni, nid ydym ni yn tybieid mai difai y rhai hynny i ni. Rhaid i ni gael vn [Page 210] gŵn y dydd ac vn arall y nôs, vn llaes ac vn cwtta, vn y gayaf ac vn arall yr hâf, vn a dwbl drwyddo ac vn arall wedi wynebu ei ymmylau yn vnig, vn ddydd gwaith ac vn arall ddydd gŵyl, vn o'r naill liw ac vn arall o liw arall, vn o frethyn ac vn a­rall o sidan neu ddamasc. Rhaid ini gael amryw wiscoedd, vn cyn ciniaw, ac vn arall gwedi cini­aw, vn ar ddull ac arfer Hispaen ac vn arall o ar­fer Twrci: ac ar ychydig eiriau, ni byddwn ni byth bodlon i'r hyn sydd ddigon.

Mae ein Iachawdwr Christ yn erchi i'w ddis­cyblon na feddiannent ddwy bais, ond mae y rhan fwyaf o ddynion yn annhebyg iawn i'w ddiscyblon ef, a'u cwppyrddau mor llawn o ddi­llad, ac na wyddant pa sawl gwisc y sydd gan­thynt. Yr hyn a barodd i S. Iaco gyhoeddi 'r fell­dith erchyll hon yn erbyn goludogion bydol: Iddo yn awr chwi gyfoethogion, wylwch ac vdwch Iac. 5. 1, 2, 7. am eich trueni a ddel arnoch: eich golud a by­drodd, a'ch gwiscoedd, bwyd pryfed ydynt. Moe­thus fuoch ar y ddayar a thrythyll: maethrin eich calon a wnaethoch megis yn-nŷdd lladdedigaeth.

Ystyriwch adolwg, mae S. Iaco yn eu galw hwy yn druain er eu holl gyfoeth ac amledd eu dillad, gan eu bod yn brasau eu cyrph i'w distryw eu hunain. Beth a fu y glwth goludog gwell er ei fwyd dainteithiol moethus, a'i ddillad gwerthfawr? Oni phorthodd ef ei hun i gael ei boeni yn-nhân vffern? Dyscwn ninnau ymfo­dloni os Luc. 16. 19. bydd gennyn ymborth a dillad, fel y mae 1. Tim. 6. 8. S. Paul yn dyscu, rhag wrth chwennychu ym­gyfoethogi i ni syrthio i brofedigaeth ac i faglau diafol, ac i lawer o drachwantau angall eniwei­diol y rhai sydd yn boddi dynion i golledigaeth a distryw.

[Page 211] Yn wir mae y rhai a ymhoffant mewn dillad gwychion wedi ymchwyddo a balchder, ac yn llawn o amryw wagedd ac oferedd. Felly yr oedd merched Sion a phobl Ierusalem, y rhai y mae 'r prophwyd Esai yn eu bygwth am eu bod yn rhodio â gyddfau estynnedig, ac yn amneidio a'u llygaid, ac yn rhygyngu wrth gerdded, ac yn try­stio â'u traed, y clafriai'r Holl-alluog Dduw go­ronau Esai 3. pennau merched Sion, ac y dynoethai ef eu gwarthau hwynt. Y dydd hwnnw, medd ef, y tynn yr Arglwydd ymmaith addurn eich escidiau, y rhwyd-waith hefyd a'r lloerawg wiscoedd, y per­arogl, a'r breichledau, a'r moledau, y penguwch, a'r llodrau, a'r snodennau, a'r dwyfronnegau, a'r clust-dlysau, y modrwyau ac addurn-wisc y trwyn, y gwiscoedd symmudliw, a'u hefysau, y misyrnau hefyd a'r pyrsau, y drychau hefyd a'r lliain mein­wych, y coccyllau hefyd a'r gynau. Fel na oddefai yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei ddoniau mewn ofer-wagedd a thrythyllwch, na oddefai gan y bobl yr oedd ef yn ei garu yn fwyaf, ac a ddarfuase iddo eu dewis iddo ei hun o flaen pawb eraill.

Ac yn wir nid llai yr ofer-wagedd a arferir yn ein mŷsc ni y dyddiau hyn. O blegid yr ydys yn maentaeno ac yn cynnal calonnau vchelfryd beil­chion merched Prydain, â chynnifer dull anwe­ddaidd o drwsiadau gwychion gwerthfawr, fel nad oes, megis y dywede yr hên Athro Tertulian, wahaniaeth mewn dillad rhwng modryb honest a phuttain gyffredin. Ie mae llawer gwr gwedi gwraigeiddio cyn belled, na waeth genthynt beth a dreuliont i'w hanffurfio eu hunain, gan chwennychu gwagedd newydd, a dychymmyg beunydd bob mâth ar ddull newydd. Am hynny [Page 212] pan oedd rhyw wr yn amcanu gwneuthur lluni­au gwŷr pob gwlâd yn eu dillad arferedig, gwedi iddo baentio cenhedloedd eraill, fe a wnaeth lun vn o'r deyrnas hon yn noeth, ac a roddes iddo fre­thyn tan ei gesail, ac a archodd iddo wneuthur o hono y dull o fynne ei hunan ar ddillad: o blegid yr oedd ef yn newid ei ddull ar ddillad mor fy­nych, ac na wyddai ef pa fodd y gwnai iddo ddi­llad. Fel hyn yr ydym ni a'n dychymmygion wrth ein phansi yn ein gwneuthur ein hunain yn watwargerdd i bobl eraill. Yr hyd y bytho vn yn treulo ei dreftadaeth ar gerfiadau a thorria­dau, vn arall yn rhoi mwy am grŷs i ddawnsio ynddo, nag a wasanaethai iddo i brynu dillad gweddaidd, syber i'w holl gorph. Mae rhai yn rhoddi eu holl olud am eu gyddfau mewn rwffi­au. Mae eraill yn anturio 'r cymmal gorau i'w maentaenio eu hunain mewn dillad gwychion. A phob dyn heb ystyried ei stât a'i radd ei hun yn ceisio rhagori ar ar all mewn dillad gwychion.

O hynny y mae yn digwydd ein bod ni, mevon amledd a helaethrwydd o bob peth, yn cwyno gan wall a phrinder ac eisiau, yr hyd y bytho vn yn treulio 'r hyn a allai wasanaethu i lawer, ac nad oes neb yn cyfrannu o'r helaethrwydd a dder­byniodd, ond pawb yn treulio yn anfesurol yr hyn a ddyleuai wasanaethu i gyflawni angheni­on eraill.

Fe a ddarparwyd llawer o gyfreithiau iachus daionus yn erbyn y fath gamarferon, y rhai pe bai bob deiliad cywir yn eu cadw megis y dylent, a allent wasanaethu i leihau peth ar yr ynfyd a'r anllywodraethus ormodedd ymma mewn dillad. Ond ôch ôch nid oes yn ymddangos yn ein plith [Page 213] ni ond rhy fychan o ofn ac vfydd-dod nac i Dduw nac i ddyn.

Am hynny ni allwn na ddisgwiliom am ofna­dwy ddial Duw o'r nef, i ddymchwelyd ein rhyfyg ni a'n balchder, megis y cwympodd ef Herod, yr hwn ac yntef yn ei drwsiad brenhinol, am iddo anghofio Duw, a darawyd gan Angel o'r nef, ac a ysswyd gan bryfed. Trwy 'r siampl erchyll honno Act. 12. 23. y dangasodd Duw i ni nad ydym ond bwyd pry­fed er maint yr ymhoffom ac yr ymddigrifom yn ein trwsiadau gwychion. Ymma y gallwn ddys­cu hyn y mae Iesu fâb Sirach yn ei ddangos, nad ymfalchiom o blegid ein gwiscoed dillad, ac nad Ecclus. 11. 4. ymdderchafom mewn amser anrhydedd, o blegid rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a gogo­neddus, a dirgel, a chuddiedig oddiwrth ddynion: gan ein dyscu ni mewn gostyngeiddrwydd me­ddwl i gofio ein galwedigaeth yr hon y galwodd Duw ni iddi.

Am hynny ymegnied pob Christion i ddiffodd gofalu am fedloni'r cnawd: arferwn felly ddoniau Duw yn y bŷd hwn, fal na byddom rhy ofalus i ddarbod am y corph. Ymfodlonwn yn llonydd i'r hyn a ddanfonodd Duw er lleied fytho. Ac os rhynga bodd iddo ef ddanfon helaethrwydd, na falchiwn ynddo, ond arferwn ei ddoniau ef mewn cymmedrolder, cystal er ddianwch i ni ein hu­nain ac er cymmorth i'r rhai sy mewn angen. Yr hwn mewn amledd a helaethrwydd a guddio ei wyneb oddiwrth y noeth, y mae efe yn diystyru ei Esai 58. 7. gnawd ei hun, medd y prophwyd Esai.

Dyscwn ein hadnabod ein hunain, ac nid diy­styru eraill. Cofiwn ein bod ni igŷd yn sefyll ger bron mawhydi yr holl-alluog Dduw, yr hwn a'n [Page 214] barna ni wrth ei sanctaidd air, yn yr hwn y mae efe yn gwahardd pob gormodedd, nid yn vnig i wyr, ond i wragedd hefyd. Megis na ddichon neb ei Escuso. escusodi ei hunan o ba radd neu gyflwr bynnag y bytho. Ymddango­swn. Ymgyflwynwn gan hynny ger bron ei orsedd-faingc ef, fel y'n hannog Tertulian, yn y gwychder a'r addurn y mae 'r Apostol yn sôn am dano yn y chweched bennod at yr Ephesiaid, gwedi gwregysu ein lwynau â gwirionedd, a Ephes. 6. 14. gwisco dwyfronneg cyfiawnder, a gwisco am ein traed escidiau parotoad efengyl tangneddyf. Cymmerwn attom ddysymldra, diweirdeb, gwe­ddeidd-dra, gan ostwng ein gyddfau dan iau es­mwyth Christ. Bydded gwragedd darostyngedig Matt. 11. 30. i'w gwŷr, ac dyna hwy gwedi ymddilladu yn wy­chion ddigon, medd Tertulian.

Pan ofynnwyd i wraig Philo Philosophydd Paganaidd, pa ham nad oedd hi yn gwisco aur, hi a attebodd ei bod hi yn tybied fod rhinweddau ei gŵr yn ddigon o wychder iddi hi. Pa faint mwy y dylai wragedd Christianogaidd a gyfarwyddir gan air Duw ymfodloni yn ei gwŷr? Iepa faint mwy y dylei bob Christion ymfodloni yn ein Ia­chawdwr Christ, gan dybied ei fod gwedi ei har­ddu yn ddigonol â'i rinweddau nefol ef?

Ond ymma yr atteb rhyw wragedd ofer gor­wag, eu bod hwy yn paentio eu hwynebau, yn lli­wio eu gwallt, yn enneinio eu cyrph, ac yn eu trwsiadu eu hunain â dillad gwychion, er bodloni eu gwyr, er eu gwneuthur eu hunain yn hôsf yn eu golwg hwy, a chynnal eu cariad hwy tu ag at­tynt. Oh escus gwâg, ac atteb cywilyddus, er gwarth i'ch gwyr? Pa beth a ellid ti ei ddywedyd fwy i ddangos ffolineb dy ŵr yn gwpplach, nà [Page 215] haeru arno ei fod yn ymfodloni ac yn ymhoffi yn­nhrwsiad diawl? Pwy a ddichon baentio ei hwy­neb, a chrychu ei gwallt, a newid ei liw naturiol ef, heb iddi wrth hynny feio ar waith ei gwneu­thurwr a'i gwnaeth hi? Megis pe gallai hi ei gwneuthur ei hun yn weddeiddiach nag yr ap­pwyntiodd Duw fesur ei thegwch hi.

Pa beth y mae'r gwragedd hyn yn ei wneuthur ond ceisio gwellau gwaith Duw? heb ystyried mai gwaith Duw yw pob peth naturiol, ac mai gwaith diafol yw pob peth annaturiol rhithiedig. Megis pe bai ŵr Christianogaidd call yn hôff gan­tho weled ei wraig gwedi ymliwio ac ymhoywi yn y dull a arfer putteiniaid fynychaf i hudo eu cariadon i ddrygioni, megis pe gallai wraig honest chwēnychu bôd yn debyg i buttain er mwyn bod­loni ei gŵr. Nag ê, nag ê, nid ydyw y rai hyn ond escusodion gwâg, a wna y rhai sy yn chwenny­chu bodloni eraill yn fwy nâ'i gwŷr. Ac nid yw'r fath wychder ond peth i'w hannog i fyned i'w dangos ei hunan er hudo eraill.

Gwych iawn. Rhaid iddi ymryson â'i gŵr i'w chynnal hi yn y fâth drwsiad ac a'i gwnelo hi yn waeth hwswi, a bod yn anfynychach gartref i e­drych ar ei hwswiaeth, ac felly esceuluso elw ei gŵr, gan annog ei thylwyth yn fawr i oferdraul a drythyllwch, yr hŷd y bô hi yn gwibio allan i ddangos ei gwagedd ei hunan a ffolineb ei gŵr.

Trwy y balchder ymma y mae hi yn cyffroi e­raill yn fawr i genfigennu, y rhai sy mor orwag eu meddwl a hithau. Nid ydyw hi yn haeddu ond senn a gwatwar wrth osod allan ei holl glôd mewn trwsiad paganaidd Iddewaidd, ac er hyn­ny ymffrostio o'i chred a'i bedydd. Nid ydyw hi [Page 216] ond treulio yn afradlon olud ei gŵr wrth y fath wychder, ac weithiau mae hynny yn achosion o gam-wobrau, cribddail a thwyll ym-marchna­don ei gŵr hi, fel y geller ei gosod hi allan yn wych­ach yngolwg y byd gorwag, i fodloni golwg y cy­thraul, ac nid golwg Duw, yr hwn sydd yn rhoddi i bob creadur harddwch gweddaidd cymmhedrol, yn yr hyn y dylem ymfodloni pe o Dduw y byddē.

Pa beth yr wyt ti yn ei wneuthur wrth hyn­ny ond annog eraill i'th demptio, i hudo dy enaid di drwy hudoliaeth dy falchder di a'th ryfyg? Pa beth yr ydwyt ti yn ei wneuthur wrth hynny ond gosod allan dy falchder, ac o drwsiad anweddaidd dy gorph gwneuthur rhwyd i ddiafol i faglu lly­gaid y rhai a edrychant arnat? O dydiwraig, nid Christianoges, ond gwaeth nag Iddewes, a gwei­nidoges diafol? Pa ham yr wyt ti yn rhodresu yn gymmaint yn dy gelain gnawd, yr hwn ryw amser a ddrewa ac a bydra yn y ddayar y cerddi di arni? Pa fodd bynnag yr ydwyt ti yn dy arogl­bereiddio dy hunan, etto ni all na'th beraroglau na'th darthau di na chuddio na gorchfygu dy ani­feiliaidd-dra di, y rhai sy yn hytrach yn dy anffur­fio ac yn dy Anniwgadu. anniwygu di yn fwy nag y maent yn dy harddu.

Pa beth oedd feddwl Salomon pan ddywe­dodd ef am wragedd gorwag a ymdrwsient ac a ymwychent fel hyn, fod gwraig dêg heb arferon da, yn debyg i fodrwy aur yn - nhrwyn hŵch: ond pa mwyaf yr ymwychech di â 'r gwychder ymma oddi allan, lleiaf y gofeli di am harddu dy feddwl oddifewn, ac felly nad wyt ti ond dy ddif­wyno a'th anurddo dy hun â'r cyfryw drwsiad, ac nid dy harddu a'th addurno hy hun?

[Page 217] Gwrando, gwrando beth y mae sanctaidd Apo­stoliō Christ yn ei scrifennu. Na fydded trwsiadau gwragedd oddiallan, medd S. Petr, megis o ble­thiadau gwâllt ac amgylch osodiad aur neu wisco dillad gwychion, eithr bydded ddirgel ddŷn y ga­lon mewn anllygredigaeth, yspryd addfwyn a llonydd, yr hyn sydd gymmeradwy ger bron 1. Pet. 3. 3. Duw: canys felly gynt yr ymdrwsiai y gwra­gedd sanctaidd, y rhai oeddynt yn gobeithio ar Dduw, yn ddarostyngedîg i'w gwŷr priod. Ac mae S. Paul yn dywedyd y dylei wragedd eu dilla­du eu hunain yn weddus gyd â lledneisrwydd a 1. Tim. 2. 9. cymmhesurwydd, nid â gwâllt plethedig, neu aur neu emmau neu wisc werth-fawr, eithr megis y gweddai i wragedd fynegi duwiolder trwy wei­thredoedd da.

Oni chedwch orchymmynion yr Apostolion, etto gwrandewch beth a ddywed y Paganiaid y rhai nid adwaenent Grist, yn y peth hyn. Demo­crates sydd yn dywedyd fod harddwch gwraig yn sefyll mewn ychydig eiriau ac ychydig ddillad. Ac am y fâth drwsiad, fel hyn y dywed Sopho­cles, Nid harddwch yw hyn, oh ynfyd, ond cywi­lydd, ac argoel eglur o'th ffolineb di. Socrates sydd yn dywedyd mai harddwch gwraig yw 'r hyn a ddangoso ei bod hi yn honest. A diarheb yw hon ym-mŷsc y Groegwyr, nid aur a thlysau sydd yn gwneuthur gwraig yn dêg, ond ei chynneddfau da. Ac mae Aristotl yn gorchymmyn i wraig ar­fer llai o ddillad, nag y mae 'r gyfraith yn ei oddef: o herwydd nid gwychder dillad, na godidawg­rwydd prŷd, nac amledd aur, sydd yn gwneuthur ei wraig fod mewn cymmeriad, ond lledneisrw­ydd a gofal am fyw 'n honest ym-mhob peth. [Page 218] Mae'r gorwagedd anllywodraethus ymma gwe­di tyfu cymn aint nad oes dim cywilydd o hono.

Yr ydym ni yn darllein mewn historiau, pan ddanfonodd brenhin Dionysius wiscoedd gwy­chion i wragedd Lacedaemonia, hwy a atteba­sant ac a ddywedasant y gwnai 'r dillad hynny iddynt hwy mwy o gywilydd nag o anrhydedd, ac am hynny hwy a'u gwrthodasant.

Câs oedd gan wragedd Rhufain yn yr hên am­ser y trwsiadau gwychion a ddanfonodd-brenhin Pyrrhus iddynt, ac nid oedd neb mor chwannog ac mor orwag ac y derbine hwy. Ac fe wnaeth y Seneddr gyfraith gyhoedd, yr hon a barhaodd tros hir o amser, Na byddai i wraig wisco vwch­law hanner owns o aur, na dillad amliwiog. Symmudliw.

Ond fe alle yr attebai rhyw fursen Glersennaidd wammal fi, a dywedyd mai rhaid idddynt hwy wneuthur rhyw beth i ddangos ei bonedd a'u gwaedoliaeth, ac i ddangos cyfoeth ei gwŷr: megis pe na bai vn modd i ddangos bonedd ond yn y pethau hynny a arfer y rhai Dihiraf. coegaf yn gystal a'r rhai goreu: megis pe na ellid gwario cyfoeth eu gwyr hwy yn well nag ar y cyfryw oferwagedd: megis pe na buasid ti wrth dy fedyddio wedi ymwrthod a balchedd a gorwagedd y byd a choeg rodres y cnawd.

Nid ydwyf yn dywedyd yn erbyn dillad cym­mhedrol, gweddus i bob gradd, ond yn erbyn gor­modedd, yn erbyn gwâg hoffi ac awyddu 'r fath goeg - oferedd, a dychymmygu dull newydd beu­nydd i borthi balchedd, treulio ar dy gelain gorph cymmaint ac a baro i ti ac i'th ŵr yspailio y tlawd i faenteinio dy ryfyg di.

Gwrandewch pa fodd y mae y bendesiges sanc­taidd [Page 219] Hester, yn gosod allan yr addurnau gwychi­on hyn (fel yr ydys yn eu galw hwy) pan orfu ar­ni er mwyn gwared pobl Dduw wisco 'r fâth drwsiad hoyw, gan wybod mai dyna 'r hudoliaeth gymmwysaf i ddallu llygaid ffyliaid cnawdol. Fal hyn y gweddiodd hi, Ti a wyddost o Arglw­ydd Hester. 14. yr angen yr ydwyfi ynddo i wisco 'r trwsiad hwn, a bod yn ffiaidd gennyf arwydd balchedd, yr hwn sydd ar fy-mhen y dydd yr ymddangoswyf: mae mor ffiaidd gennif ef a chadach misglwyf, ac nid ydwyf yn ei wisco ef ar y dyddiau y caffwyf lonydd.

Trachefn, pa fodd y twyllwyd Holophernes ond trwy ddisclair lewych dillad, y rhai a wiscodd y wraig sanctaidd Iudith, nid am ei bod hi yn ym­hoffi ynddynt, nac yn ceisio coeg-ddigrifwch oddi­wrthynt, ond hi a'u gwiscodd hwy o wir anghen­rhaid trwy genhadiad Duw, gan arfer y gorwa­gedd hyn i orchfygu ofer olygon gelynion Duw. Y fath chwant oedd yn y gwragedd boneddigion hynny, er eu bod yn anewyllyscar oni bai hynny i wisco 'r fath ddillad gwychion er peri i eraill eu hanghofio eu hunain.

Fe ganmolir y rhai hyn yn yr Scrythyrau am gashau 'r fâth orwagedd, er gorfod arnynt o wîr anghenrhaid yn erbyn ewyllys eu calonnau, eu gwisco hwy tros amser. A haedda 'r gwragedd hyn glod, y rhai ni chyffelybir i'r gwragedd hyn­ny nac mewn bonedd nac mewn zêl tu ag Dduw a'i bobl, y rhai y mae eu gorhoffedd a'u cwbl fe­ddwl ar ymwychu ac ymhoywi yn y fath gyfne­widiau a'r ddillad, heb fod byth yn ddigonol, na gofalu pwy a gyfynger ac a orthrymmer am eu di­llad hwy, os gallant hwy eu cael hwynt? Ond [Page 220] ofer a gorwag yw 'r gwŷr sydd yn ddarostyngedig ac yn gaethion i ewyllys eu gwragedd yn y fâth chwantau anlly wodraethus?

Ond gorwag y gwragedd sydd yn tynnu arnynt eu hunain y fâth eniweid ac a baro iddynt ddyfod yn gynt i drueni ac aflwydd yn y byd, ac yn y cyf­amser cael eu ffieiddio gan Dduw, a'u cashau a'u gwatwar gan ddynion call, ac yn y diwedd yn de­byg i gael eu cyssylltu gyd â'r rhai a edifarhânt yn rhy hwyr, ac a gwynant yn vffern ar osteg yn y geiriau hyn: Pa lês a wnaeth ein balchedd i ni? Pa elw a gawsom oddiwrth goeg-rodres cyfoeth? Fe aeth yr holl bethau hyn heibio fel cyscod: ond am rinwedd dda, erioed ni ddangosasom arwydd o honi: fel hyn yr ydys yn ein difa ni yn ein han­wiredd.

Os dywedi fod yn rhaid i ti ddilyn yr arfer, a bod arferon y byd yn dy gymmell i'r fath orwa­gedd; yna y gofynnaf i ti, arfer pwy a ddyleid ei ganlyn? ai arfer y rhai doethion, ai arfer y rhai ansynwyrol? os dywedi mai arferon y doeth, yna y dywedaf wrthit, canlyn dithau hwynt: o blegid pwy a ganlyne arfer ffyliaid, ond ffyliaid? Ystyria mai cyfundeb y doethion a ddyleid ei gyfrif yn lle arfer. Ac os arferir vn arfer annuwiol, bydd di 'r cyntaf a dorro 'r arfer honno: gwna dy orau ar ei lleihau a'i bwrw i lawr: a thi a ennilli fwy o glod ger bron Duw, a mwy o ganmoliaeth am hynny, nag am dy holl orwagedd a'th ormodedd.

Fal hyn y clywsoch ddangos i chwi allan o air Duw, pa beth y mae Duw yn ei ofyn yn ei air ynghylch cymmhedrol arfer ei greaduriaid. Dys­cwn eu harfer hwy yn gymmhedrol fel yr ordeini­odd Duw. Fe a ddyscodd Duw i ni i ba achos a [Page 221] defnydd y dylŷem arfer dillad. Discwn ninnau ymddwyn yn ei harfer hwy, fel y gwedde i Gristi­onogion, gan fod byth yn ddiolchgar i'n Tâd ne­fol am ei fawr a'i drugarog ddoniau, yr hwn sydd yn rhoddi i ni ein bara beunyddiol, hynny yw, pob peth anghenrheidiol i 'r bywyd anghenus hwn, i'r hwn y bydd rhaid i ni roddi cyfrif am ei holl ddoniau, yngogoneddus ymddangosiad ein Iachawdwr Christ, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Ys­pryd glân, y bô anrhydedd, moliant a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Pregeth neu Homili yng­hylch gweddi.

NId oes dim yn holl oes dŷn (fyn­gharedigion yn ein Iachawdwr Christ) mor anghenrhaid son am dano ac annog iddo beunydd, ac yw gweddi galonnog wressog ddwyfol: yr hon sydd mor an­ghenrhaid wrthi, fal na ellir heb­ddi gael dim ar law Dduw, O herwydd fal y dy­waid S. Iaco yr Apostol. Pob dawn daionus a phob rhodd berphaith oddi vchod y mae yn dis­cyn oddiwrth dâd y goleuni, yr hwn a ddywedir ei fod yn gyfoethog ac yn hael tu ag at bawb a alwant arno: nid am na ddichon ef, neu am na fyn ef roi heb ei ofyn, ond am iddo osod gweddi yn gyfrwng arferol rhyngtho ef a ninnau.

Nid oes ammau nad yw ef yn gwybod yn wa­stad ein anghenrhaidiau ni, ac yn barod yn wasta­dol i roddi ini amledd o'r pethau sydd arnom eu heisiau. Etto er mwyn ini wybod mai fe yw rho­ddwr [Page 222] pob peth daionus, ac ymddwyn yn ddiol­chus tu ag atto am hynny, gan ei garu ef a'i ofni a'i addoli 'n bur ac yn gywir, fal y dlyem; fe ordei­niodd yn fuddiol ac yn gall, fod ini yn amfer ein anghenau ymostwng yn ei wydd ef, Tywallt. arllwys dirgelion ein calonnau o'i flaen ef, a cheisio nerth ar ei law ef, â gweddi barhaus dwyfol ddifrif.

Y mae ef yn dywedyd fal hyn trwy enau ei bro­phwyd sanccaidd duwiol Dafydd, Galw arnafi yn amser blinder, a mi a'th waredaf di. Mae fe Psal. 50. 'n dywedyd hefyd yn yr Efengyl trwy enau ei an­wyl fâb Christ, Gofynnwch a rhoddir i chwi, cei­siwch a chwi a gewch, curwch ac fe a agorir i chwi: cans pwy bynnac a ofynno a dderbyn, y neb a gais a gaiff, ac i'r hwn a guro yr agorir. Ac mae Math. 7. 7. S. Pawl gan gytuno â hyn, yn erchi ini weddio ym-mhob mann a pharhau yn hyn, gan roddi 1. Tim. 1. 2, 21. diolch.

Ac nid ydyw 'r Apostol bendigedig S. Jaco yn anghyfuno a▪ hynny, ond gan annog pawb yn ddi­frif Iac. 1. 5. i weddi ddiwyd y mae fe 'n dywedyd, Os bydd ar neb eisiau doethineb ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi yn hael i bawb, heb Edliw. ddannod i neb. Ac hefyd mewn lle arall, Gweddiwch, medd ef, bob vn dros ei gilydd, fal y'ch iachaer, canys Lac. 5. 14, 15. llawer a ddichon gweddi y cyfion os bydd hi ffrw­ythlon. Pa beth amgen a ddyscir i ni wrth y lle­oedd hyn a'r fath leoedd, onid hyn yn vnig, y myn yr Holl-alluog Dduwer ei ragwelediad a'i ddoe­thineb nefol, ini weddio arno: y myn ef ein bod ni mor ewyllysgar o'n rhan ni i geisio, ac yw yn­tef o 'i ran ef i roddi. Ffol ac ynfyd am hynny yw rheswn a meddwl y dynnion hynny y rhai a feddyliant fod pob gweddi yn ofer, ac yn ddiffrw­yth: [Page 223] am fod Duw yn chwilio 'r galon a'r aren­nau, ac yn gwybod meddwl yr yspryd cyn go­fynnom.

O herwydd pe byddai y rheswm cnawdol hyn yn ddigon i ddiddymmu gweddi, pa ham y gwa­eddodd ein Iachawdwr Christ mor fynych ar ei Math. 26. 41. ddiscyblon, gan ddywedyd, Gwiliwch a gwe­ddiwch? Pa ham y gosododd ef iddynt ffurf gwe­ddi, gan ddywedyd? Pan weddioch chwi gwe­ddiwch Luc. 11. 2. fal hyn, Ein Tâd yr hwn wyd yn y ne­foedd, &c. Pa ham y gweddiodd ef ei hun mor fynych ac mor ddifrif o flaen ei ddioddeifaint? Yn ddiwethaf, pa ham yr ymgynnullodd y dyscy­blon i'r vn lle yn y man yn ol escynniad Christ, Act. 1. 14. ac y parhausont hwy yno mewn gweddi dros hir amser. Naill ai mae 'n rhaid iddynt gondem­nio Christ a'i Apostolion o ynfydrwydd annial, ai mae 'n rhaid iddynt ganiatau fod gweddi yn beth anghenrheidiol i bob dyn, bob amser ac ym-mhob lle.

Siccr yw nid oes dim yn yr holl fyd mor fu­ddiol ac mor anghenrhaid i ddyn a gweddi. Gwe­ddiwch yn wastad, medd S. Paul, a phob rhyw Coloss. 4. 2. weddi, a gwiliwch yn hynny a phob ddiwydrw­ydd. Ac mewn man arall mae 'n erchi ini we­ddio 'n Ephes. 6. 18. wastad heb orphwys, gan feddwl wrth hynny na ddylyem ni na llaesu na dyffygio mewn gweddi, ond parhau ynddi hyd diwedd ein hoes. Fe allid adrodd ymma lawer o leoedd i'r vn def­nydd fy meddwl i yw manegi anghenrhaid ac arfer gweddi.

Ond pa raid aml brawf ar beth golau? lle nad oes neb mor anwybodus na wŷr ef, neb mor ddall na wŷl ef, fod gweddi yn beth anghenrhaid ym­mhob [Page 224] stât a phob gradd o ddynion. O herwydd mai trwy ei nerth hi yn vnic yr ydym yn cael mwynhau y trysorau nefol tragwyddol y rhai a gadwodd y Tâd nefol ac a osododd ef i fynu i'w blant yn ei anwyl a'i garedig fâb Iesu Grist gwe­dy cadarnhau a seilio 'r ammod a'r addewid hon Ioan. 16. 23. ini, os ni a ofynnwn y derbyniwn ni.

Yn awr a ni yn gwybod mawr anghenrhaio gweddi, er mwyn annog a chyffro 'n meddyliau ni a'n calonnau yn fwy etti, ystyriwn ar ychydig airiau pa rym a nerth rhyfedd sydd ynddi i ddwyn i ben bethau mawr rhyfedd. Yr ydym ni yn dar­llen yn llyfr Exod. i Iosua wrth ymladd yn erbyn Exod. 7 11. yn Amaleciaid eu gorchfygu a'u gortrechu hwy, nid cymmaint trwy rinwedd ei rym ei hun, a thrwy weddi barhaus ddifrif Moeses: yr hwn yr hŷd y daliai ef ddwylo i fynu tuag at Dduw fe fy­ddai Israel yn gorescyn, ond pan ydoedd ef yn de­ffygio ac yn goddef ei ddwylaw i gwympo, fe fy­ddai Amalec a'i bobl yn gorescyn, nes gorfod ar Aaron a Hur y rhai oeddynt gydag ef yn y my­nydd, gynnal ei ddwylaw ef i fynu, nes myned yr haul i lawr, oni buasai hynny fe ortrechasid ac a orchfygasid pobl Dduw y dythwn hwnnw 'n ho­llol. Yr ydym ni mewn man arall yn darllen he­fyd am Iosua ei hun, y modd, pan oeddid yn gwar­chau Gibeon, gan wneuthur ei ostyngeiddiaf we­ddi at yr holl-alluog Dduw, y gwnaeth ef i'r haul a'r lleuad attal eu rhedegfa, a sefyll yn llonydd ynghenol y nefdros ddiwrnod cyfan, nes i'r bobl Iosu. 10. 12. gael cwbl ddial ar eu gelynnion.

Ac onid oedd grym mawr yngweddi Iehosaphat 2. Cro. 20. 22. pan wnaeth Duw ar ei ddeisifiad ef i'w elynnion ef ymladd â'u gilydd, a dinistr eu gilydd yn ewy­llysgar. [Page 225] Pwy a ddichon ryfeddu am ffrwyth a rhinwedd gweddi Elias, yr hwn ac yntef yn ddyn, 1. Bren. 18. 45. o blegid gwendid, o'n dull ninnau, a weddiodd ar yr Arglwydd na lawiai hi, ac ni lawiodd hi ar y ddayar dros dair blynedd a chwe mis. Ailwaith fe a weddiodd ar iddi lawio, ac fe gwympodd glaw lawer fal y dygodd y ddayar ei ffrwythau yn llwyddiannus.

Rhy hir fyddai adrodd am Iudith, Hester, Su­sanna a llawer o wyr a gwragedd duwiol eraill, pa faint yn eu holl weithredoedd a ennillasant hwy wrth roddi eu holl fryd yn ddifrif ac yn ddwy­fol ar weddio. Gwasanaethed ar hyn o ennyd gy­soni 'r cwbl â geiriau Awstin a Chrysostom, o'r August. serne. de tempore. rhai y mae vn yn galw gweddi yn Agoriad. Chryso. su­per Math. 22. allwydd nef, a'r llall yn dywedyd yn oleu nad oes dim yn y byd a ddichon bod yn gryfach na gŵr a ymroddo i we­ddi ddifrif.

Yn awr, fyngharedigion, gan fod gweddi mor anghenrheidiol ac mor rymmus ger bron Duw. byddwn, fal y'n dyfcir trwy siampl Christ a'i Apo­stolion, ddifris a diwyd i alw ar enw 'r Arglwydd. Na laeswn, na ddyffygiwn ac na pheidiwn, ond beunydd a phob awr, yn forau ac yn hwyr, mewn amser ac allan o amser, byddwn ddyfal mewn my­fyriadau a gweddiau duwiol. Beth oni chawni ein gweddiau ar y cyntaf? Etto na lwfrhawn ond gwaeddwn a galwn ar Dduw yn wastadol: fe a wrandy arnom yn siccr yn y diwedd, pe ni by­ddai hynny am vn achos arall, ond am ein taer­der ni.

Cofiwn ddammeg y barnwr anghyfiawn a'r weddw dlawd, pa fodd y gwnaeth hi iddo trwy ei Luc. 18. 1. V. 7. thaerder wneuthur â hi gyfiawnder yn erbyn ei [Page 226] gorthymmudd; er nad ofnai na Duw na dŷn. Ac medd ein Iachawdwr Christ, oni ddial Duw yn fwy ei etholedigion sydd yn llefain arno nos a dydd. Fal hyn y dyscodd ef ei ddiscyblon ac yn­ddynt hwy yr holl wir Gristionogion i weddio 'n wastad, heb orphwys na dyffygio. Cofiwn siampl y wraig o Ganaan pa fodd y gwrthod wyd hi gan Grist, ac y galwyd hi yn gi, megis vn an-nheilwng i dderbyn donniau ar ei law ef, etto ni pheidiodd Math. 15. 16. hi, ond hi a'i canlynodd ef yn wastad gan waeddi a galw arno am fod yn drugarog ac yn dda wrth ei merch hi: ac yn y diwedd drwy ei thaerder, hi a fwyn haodd ei damuniad.

Oh dyscwn drwy y siamplau hyn fod yn ddifrif ac yn wresog mewn gweddi, gan ein sicrhau ein hunain pa beth bynnac a ofynnom ni i Dduw Dâd yn enw ei fab Christ Iesu, ac yn ôl ei ewy­llys ef, y canniata fe hynny ini yn ddiammau. Efe Ioan 6. 23. yw y gwirionedd ei hun ac mor gywir ac yr add­awodd, felly fe gyflawna 'n gywir.

Duw o'i fawr drugaredd a weithio felly ynom ni trwy ei Yspryd sanctaidd, fal y bo ini yn wa­stad wneuthur ein gostyngedig weddiau arno, fal y dlyem, a mwynhau bob amser y pethau a fy­thom yn eu ceisio, trwy Iesu Grist ein Harglw­ydd i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd gla▪n y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. A­men.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn­ghylch gweddi.

CHwi a glywsoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon fanegi a phrufo i chwi cystadl wrth lawer o dy­stiolaethau pwysig a bagad o samplau daionus o'r Scruthy­rau sanctaidd, fawr anghenrhei­drwydd a mawr rym gweddi dei­lwng ddifrif. Yn awr gwrandewch ar bwy y dlyech alw, ac at bwy y dlyech gyfeirio eich gwe­ddiau. Fe 'n dyscir ni yn eglur yn y Testament sanctaidd mai'r holl-alluog Dduw yw vnic ffrŵd a ffynnon pob daioni, a'n bod ni'n derbyn ar ei ddwylaw ef pa beth bynnac sydd gennym yn y byd hwn: I'r defnydd hyn y gwasanaetha y lle yn S. Iaco, Pob dawn daionus a phob rhodd berffaith oddi-vchod y mae yn discyn oddiwrth Dâd y go­leuni. Iac. 1. 17. I'r defnydd hyn gwasanaetha tystiolaeth Pawl mewn llawer o leoedd yn ei lythyrau, gan dystiolaethu fod Yspryd doethineb, Yspryd gwy­bodaeth, ac Yspryd gweledigaeth, ie a phob rhodd nefol dda, megis ffydd, gobaith, cariad, rhad a he­ddwch yn dyfod yn vnic oddiwrth Dduw. Gan ystyriaid yr hyn bethau mae fe 'n torri allan i'r ymadroddion disymmwth hyn, gan ddywedyd, Beth sydd gēniti o ddŷn ar nas derbynniaist? Am 1. Cor. 4. 7. hynny pan fytho arnom ddiffyg neu eisiau dim ac a berthyn nac at y corph nac at yr enaid, rhaid yw ini redeg at Dduw yn vnic, yr hwn yn vnic yw rhoddwr pob peth daionus.

Mae 'n Iachawdwr Christ wrth ddyscu yn ei Ioan. 16. 23. efengyl i'w ddiscyblon weddio, yn eu danfon hwy [Page 228] at ei Dâd yn ei enw ef, gan ddywedyd, yn wir yn wir meddaf i chwi, pa beth bynnac a ofynoch i'm Math. 6. 5. Tâd yn fy enw i' efe a'i rhydd i chwi. Ac mewn man arall, Pan weddioch, y gweddiwch fal hyn, Luc. 11. 2. Ein Tâd yr hwn wyd yn y nefoedd, &c. Ac mae Duw ei hun trwy enau ei brophwyd Dafydd yn Psal. 50 15. gorchymmyn ac yn peri ini alw arno fe. Ac mae 'r Apostol yn dymuno rhâd a heddwch i bawb oll ac a alwant ar enw 'r Arglwydd a'i fab ef Iesu Grist. Ac mae 'r Prophwyd Ioel yn dywedyd, Y Ioel 2. 32. Act. 2. 21. bydd i bwy bynnac a alwo ar enw 'r Arglwydd fod yn gadwedig.

Fal hyn wrth hynny y mae 'n oleu wrth an­nh wyllodrus air y gwirionedd a'r bywyd, y dly­em ni yn ein holl anghenau redeg at Dduw, cy­feirio ein gweddiau atto ef, a galw ar ei sanctaidd enw ef, deisif cynhorthwy ar ei law ef, ac nid ar law neb arall. Am yr hyn os mynnwch etto ych­waneg rheswm ystyriwch yr hyn a ganlyn. Mae rhyw gynneddfau anghenrheidiol eu bod mewn pob vn ac a weddier arno, y rhai oni chair yn yr hwn y bythom yn gweddio arno; yno ni thyccia ein gweddi ni ddim ini. ond hi a fydd yn ofer Ho­llol. Y cyntaf yw bod yr hwn y bythom yn gwe­ddio arno yn alluog, ac yn abl i'n helpu ni. Yr ail yw, ei fod ef yn cwyllysgar i'n cynorthwyo ni. Y trydedd yw, ei fod ef yn gyfryw vn ac a all glywed ein gweddiau ni. Y pedwaredd yw, ei fod yn de­all yn well nâ ni ein hunain pa gymmaint y mae yn rhaid ini wrth gynhorthwy, a pha beth sydd arnom ei eisiau.

Os cair y pethau hyn mewn neb arall ond yn­nuw yn vnic, yno y gallwn yn gyfraithlon alw ar eraill heblaw Duw. Ond pwy sydd mor ddwl [Page 229] ac na ddeall yn dda fod y pethau hyn yn briodol yn vnic i'r hwn sydd yn holl-alluog, ac yn gwy­bod pob peth, ie dirgelion y calonnau: hynny yw i Dduw ei hun yn vnic. O'r hyn y canlyn na ddylyem ni alw nac ar angel nac ar sant, ond yn vnic ar Dduw ei hun, fal yr scrifenna S. Pawl, Pa fodd y galwant arno ef yn yr hwn ni chreda­sant? fal wrth hyn na ellir galw neu weddio heb ffydd ynddo ef yr hwn y byddir yn galw arno ac heb Ruf. 10. 14. ein bod ni yn credu yn gyntaf ynddo, cyn gwe­ddio arno.

Am hyn mae 'n rhaid ini weddio ar-Dduw ei hun yn vnic. O herwydd fe fyddai ddywedyd y dlyem gredu mewn Angel neu sant neu vn crea­dur byw arall yn ddirmyg Erchyll. echrydus yn erbyn Duw a'i sanctaidd air: ac ni ddlyai y meddwl hyn ddyfod o fewn calon vn dyn Christionogaidd, am fod yn ein dyscu ni yn oleu wrth air yr Arglwydd i osod ein ffydd yn vnic yn y drindod sanctaidd; yn enw 'r hwn yn vnic y'n bedyddiwyd ni, yn ol gorchymmyn eglur ein Iachawdwr Christ, yn y Math. 28. 18. ddiwethaf o efengyl Mathew.

Ond er mwyn gwneuthur i'r gwirionedd ym­ddangos yn eglur i'r rhai gwirionaf a lleiaf eu dysc, Ystyriwn pa beth yw gweddi.

Mae S. Awstin yn ei galw hi derchafiad y me­ddwl at De spir. & lit. cap 50. Dduw, a gostyngedig Tywalltiad. arllwysiad y ga­lon at Dduw. Mae Isidorus yn dywedyd mai De summo bono lib. 3. c. 8. llwyr—fryd y galon, ac nid llafur y gwefusau yw hi. Fal wrth y lleoedd hyn y mae gwir weddi yn sefyll nid cymmaint mewn sŵn a llaferydd y gei­riau oddifaes, ac mewn griddfan a gwaedd yr y­spryd oddifewn at Dduw.

Yn awrgan hynny, oes vn angel neu forwyn [Page 230] neu Batriarch neu Bropwyd ym-hlith ymeirw, yr hwn a all deall neu wybod meddwl y galon? Ierc. 17. 10. Psal. 7. 9. Gweled. 2. 23. 1. Par. 8 9. Mae 'r Scruthyrau yn dywedyd mai Duw yn vnic sydd yn chwilio 'r galon a'r arennau, ac mai efe yn vnic a wyr galonnau meibion dynnion. Am y saint, mae eu gwybodaeth hwy mor fychan yn­nirgelion y calonnau, fal yr ydoedd llawer o'r hen dadau yn Ammeu. dowtio 'n fawr pa vn a wnânt ai gwybod dim ai peidio o'r pethau a wnair ar y ddayar.

Ac er bod rhai yn tybied eu bod hwy yn gwy­bod; etto mae S. Awstin doctor o awdurdod a henafiaeth mawr, yn tybied na wyddant hwy Lib. de cura pro mor. agen. cap. 13. De vera re­lig. cap. 22. beth yr ydym ni yn ei wneuthur ar y ddayar, yn well nag y gwyddom ninnau beth y maent hwy yn eu wneuthur yn y nef. Er Profi. prufo hyn mae fe 'n dodi drosto airiau y prophwyd Esai, lle mae fe 'n dywedyd na wyr Abraham oddiwrthym ni ac Esai. 63. 16. nad edwyn Israel mo honom. Ei feddwl ef am hynny yw na byddai i ni dybiaid fod eu haddoli hwy, neu weddio arnynt, yn rhan o'n crefydd, ond bod i ni eu hanrhydeddu hwy wrth ganlyn eu by­wyd rhinweddol duwiol hwy. O herwyd fal y Lib. 22. de ci­wit. Dei. c. 10. mae fe 'n testiolaethu mewn man arall, Yr oedd merthyron a gwyr duwiol yr amseroedd gynt, yn arfer ar ol eu marwolaeth o gael eu cofio a 'u henwigan yr offeiriaid ar wasanaeth, ond nid oe­ddid erioedd yn arfer o alw nac o weddio arnynt. A pha ham hynny? O blegid, medd ef, mai offei­riad Duw yw'r offeiriad, ac nid eu hoffeiriad hwy: am hynny y mae efe yn rhwymedig i alw ar Dduw ac nid arnynt hwy.

Fal hyn y gwelwch nad ydyw awdurdod yr scruthyrau nac awdurdod S. Awstin yn cenhadu [Page 231] i ni weddio arnynt. Oh na ddarllenai ddynion ac na chwilient hwy yr Scrythyrau yn ddiescaelus: yno ni foddid hwy mewn an wybodaeth, ond hwy a ddeallent y gwirionedd yn hawdd, am yr athra­waeth hyn ac am bob peth arall. O herwydd yno y mae 'r Yspryd glân yn ein dyscu i ni yn oleu: mai Christ yw ein vnic ddadleuwr a'n cyfryngwr ni gyda Duw, na ddlyem ni nac ymgais na rhedeg at neb arall. Os pecha neb, medd Ioan Sant mae i ni ddadleuwr gyd a 'r Tâd Iesu Grist y cy­fion, 1. Ioan. 2. 1, 2. ac ef yw 'r iawn dros ein pechodau. Mae S. Paul yn dywedyd hefyd mai vn Duw sydd, ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dyn, sef y dyn Christ 1. Tim. 2. 5. Iesu.

A'r hwn y cytuna testiolaeth ein Iachawdwr ei hun gan destiolaethu na ddaw neb at y Tâd ond yn vnic trwyddo ef: o herwydd mai efe yw 'r Ioan. 14. 6. ffordd, y gwirionedd a'r bywyd: ie a'r vnic ddrws trwy 'r hwn y gallwn fyned i deyrnas nef: o ble­gyd Ioan. 10. 17. mai ynddo fe yn vnic ac nid yn neb arall y mae Duw yn fodlon. Am yr hyn achos y mae fe 'n Math. 3. 7. gweiddi ac yn galw arnom ar ini ddyfod atto ef, gan ddywedyd, dewch attafi bawb ac sydd flinde­rog ac yn llwythog ac mifi a esmwythaf arnoch. A fyn Christ fod mor anghenrheidiol ini ddyfod Math. 11. 28. atto, ac a adawn ni ef yn anniolchus, a rhedeg at arall?

Dymma 'r hyn y mae Duw yn achwyn rhag­ddo 'n gymmaint, trwy y Prophwyd Ieremi, gan ddywedyd, fe wnaeth fymhobl ddau fai fawrion: hwy a'm gwrthodasont i ffynnon dwfr y bywyd, ac a gloddiasont iddynt eu hunain byllau tyllog y rhai ni ddalant ddim dwfr ynddynt.

Onid ydyw hwnnw yn wr angall, meddwch [Page 232] chwi, yr hwn a red i geisio dwfr i 'r gofer bychan, ac yntef yn gallel myned yn gystadl i lygad y ffyn­non? Felly y gellir ammau ei synwyr yntef yr hwn a rêd at y saint yn amser anghenrhaid, pan allo fyned yn Hyf. eofn a dangos ei ddolur yn ddiofn, a chyfeirio ei weddi at yr Arglwydd ei hunan. Pe byddai Dduw yn ddieithr ac yn Berigl. enbaid ymddi­ddan ag ef, yno y gallem ni gael achos i dynnu yn ein hol ac i ymgais a rhyw vn arall. Ond mae 'r Arglwydd yn agos at bawb a alwant arno, sef yr holl rhai a alwant arno mewn gwirionedd. Ac fe fu weddi ostyngedig yn gymmeradwy bob amser yn ei olwg ef.

Beth os ydym ni bechaduriaid, oni weddiwn ni ar Dduw am hynny? neu a wanobeithiwn ni gael dim ar ei law efe? paham yntef y dyscodd Christ ni i ofyn meddauant o'n pechodau, gan ddy­wedyd, maddau ini ein dyledion fal y maddauwn ninnau i'n dyledwyr? A dybygwn ni fod y saint Psal. 113. 8. yn fwy eu trugaredd i wrando pechaduriaid nag yw Duw? Mae Dafydd yn dywedyd, Trugarog a graflawn yw 'r Arglwydd hwyrfrydig i lid a mawr o drugarogrwydd. Mae S. Pawl yn dy­wedyd ei fod ef yn gyfoethog o drugaredd i bawb a alwant arno. Ac mae efe ei hun yn dywedyd Ephes. 2. 4. trwy enau ei Brophwyd Esai, Dros ennyd fe­chan y'th wrthodais, ond â thrugaredd mawr y'th Esai. 54. 7, 8. gynullais: dros funyd yn fy llid y cuddiais fy wy­neb oddiwrthyd, ond a thrugaredd tragwyddol y tosturiais wrthyd.

Am hyn ni ddlyai bechodau vn dŷn ei attal ef oddiwrth weddio ar yr Arglwydd Dduw; ond os efe fydd gwir etifeiriol a diogel mewn ffydd, bid diogel gantho y bydd yr Arglwydd trugarog wr­tho [Page 233] ac y gwrandy efe ei weddiau ef.

Oh ni faiddiafi, medd rhyw vn, drwblo Duw yn wastad â'm gweddiau: yr ydym ni yn gweled mewn tai a llysoedd brenhinioedd na oddefir neb i ddyfod i ymddiddan â 'r brenin nac i fwynhau y peth y mae yn ei geisio, oni chais ef yn gyntaf help rhyw bennaeth neu ŵr mawr. Mae S. Ambros yn atteb y rheswm hwn yn dda iawn ar y bennod Ambros super▪ 1. ad Rom. gyntaf at y Rufeiniaid. Am hynny, medd ef, yr arferwn o fyned at frenhinioedd trwy swyddogi­on a phendefigion, am fod y brenin yn farwol ac ni wyr efi bwy y rhydd lywodraweth y gwledydd: ond i gael gan Dduw ein caru oddiwrth yr hwn nid oes dim cuddiedig, nid rhaid ini wrth vn hel­pwr i'n cynorthwyo â'i air da, ond yn vnic me­ddwl bucheddol duwiol. Ac os rhaid ini wrth rai i eiriol drosom, paham na byddwn bodlon i'r vn cyfryngwr hwnnw yr hwn sydd yn eistedd ar dde­daulaw Dduw Dâd, i fod yn eiriolwr drosom yn dragywydd? Megis y prynodd ac y glanhaodd Heb. 10. 12. gwaed Christ ni ar y groes oddiwrth ein pecho­dau: felly y mae ei waed ef yn a lluog i gadw pawb a ddelont at Dduw trwyddo ef. O herwydd mae i Grist yn y nef offeiriadaeth dragwyddol, ac mae fe'n gweddio'n wastad ar ei Dâd dros y rhai ydynt wir etifeiriol gan haeddu ini trwy rinwedd ei ar­chollion (y rhai ydynt yngolwg Duw 'n wasta­dol) nid yn vnic gwbl ollyngdod o'n pechodau, onid hefyd pob pethau anghenrheidiol a fo rhaid ini wrthynt yn y byd hwn. Fal y mae 'r vnic gy­fryngwr hwn yn ddigonol yn y nef, ac nid rhaid iddo wrth neb i'w helpu.

Fe allai y gofynnai rhyw vn ymma, paham wrth hynny y gweddiwn ni bawb dros ei gilydd [Page 234] yn y bywyd hwn? Yr wir yr ydys yn gorchym­myn ini wneuthur felly wrth orchymmyn eglur Christ a'i ddiscyblon, i fanegi yn hynny cystadl y ffydd sydd genym ynghrist tuag ar Dduw, a'r ca­riad Math. 6. 11 &c. Iaco. 5. 14. Coloss 4. 3. 1. Tim. 2. 1. y mae pob vn honom yn ei ddwyn at ei gi­lydd, wrth dosturio am flinderau 'n brodyr a gwneuthur ein gostyngedig ymbil ar Dduw drostynt. Ond am weddio ar y saint, nid oes gen­nym na gorchymmyn yn yr holl scruthyr, nac vn siampl yr hon a allwn ni ei chanlyn yn ddiogel. Megis os gwnair hynny heb awdurdod gair Duw nid oes iddo sail ffydd, ac am hynny ni ddi­chon fod yn gymmeradwy ger bron Duw. O her­wydd pa beth bynnac nid yw o ffydd pechod yw. Heb. 11. 1. Ruf. 14. 23. Ruf. 10. 14. Ac mae 'r Apostol yn dywedyd fod ffydd yn dyfod o wrando, a gwrando o air Duw.

Os gosodi yn fy erbyn etto fod y saint yn y nef yn gweddio drosom ni, a bod eu gweddi hwy yn dyfod o gariad difrif, yr hwn sydd ganthynt at eu brodyr ar y ddayar. I hyn y gellir atteb yn dda. Yn gyntaf na wyr neb pa vn a wnânt ai bod yn gweddio ai nad ydynt, ac os cais neb prwfo eu bod hwy, wrth naturiaeth cariad, gan daeru am eu bod hwy yn gweddio dros ddynion pan oeddynt ar y ddayar, am hynny yn awr y gwnânt hwy hynny yn fwy o lawer, a hwythau yn y nef. Wrth yr vn rheswm y gellir dywedyd eu bod hwy yn wylo yn y nef pan fythom ninnau yn wylo ar y ddayar: o herwydd siccr a diogel yw, yr hyd yr oe­ddynt ar y ddayar eu bod hwy yn gwneuthur fel­ly. Ac am yr hyn a scrifennir yn llyfr gwelediga­eth Ioan, fod yr Angel yn offrwm gweddiau 'r saint ar yr allor aur: yr ydys yn deall y lle hwn­nw ac fe ddlyid ei ddeall ef am y saint sydd fyw et­to [Page 235] ar y ddayar, ac nid am y rhai a fuont feirw: ac onid ê pa raid fuasai i'r Angeloffrwm eu gweddi­au hwy a hwy eisoes yn y nef ymlaen wyneb yr holl-alluog Dduw?

Ond canniataer fod y saint yn gweddio drosom ni, etto ni wyddom ni pa fodd: pa vn ai yn enwe­dig dros y rhai a alwant arnynt hwy, ai yn gyffre­dinol dros bawb, gan ewyllysio daioni i bob dŷn fal i gilydd. Os ydynt hwy yn gweddio 'n enwe­dig dros y rhai a alwant arnynt, yno tebyg yw eu bod hwy yn clywed ein gweddiau ni ac yn gwy­bod dirgelion ein calonnau ni: ond fe brwfwyd eisoes castadl wrth yr scruthyrau ac awdurdod Austin nad ydyw hyn ddim yn wir.

Na rown ninnau hyder ac ymddiried ar y saint, a'r merthyrion a fuont feirw. Na alwn arnynt, ac na cheisiwn vn cymmorth ganthynt: ond yn wastad cyfodwn ein calonnau at Dduw yn enw ei fâb Iesu Grist er mwyn yr hwn fal yr addaw­odd Duw wrando 'n gweddiau, felly yn siccr y cwblha efe hyny. Peth yn perthyn i Dduw yw gweddi, yr hon os rhoddwn i'r saint mae 'n myned yn warth iddynt, ac ni allant hwy oddef hynny yn dda ar ein dwylo ni. Pan darodd i Pawl ia­chau rhyw vn clôff yr hwn oedd efrydd o'i draed yn Lystra, fe fynnasai y bobl aberthu iddo ef a Act. 14. 14. Barnabas: yr hyn beth a wrthodasant hwy, gan rwygo ei dillad a'u hannog hwy i addoli y gwir Dduw.

Felly yngweledigaeth Ioan, pan gwympodd Ioan wrth draed yr Angel i'w addoli ef, ni odde­fodd yr Angel iddo wneuthur felly: ond fe orchym­mynodd iddo addoli Duw. Yr hon siampl sydd yn manegi ini na fyn y saint a'r angylion yn y nef [Page 236] ini wneuthur iddynt hwy vn anrhydedd sydd ddy­ledus a pherthynasol i Dduw. Efe yn vnic yw y Tâd, efe yn vnic sydd holl-alluog, efe yn vnic a ddichon ein cynhorthwyo ni bob amser, ac ymhob lle: mae fe 'n goddef i'w haul ddiscleirio ar y da a'r drwg: mae fe 'n porthi cywion y cigfrain pan le­font arno: mae fe 'n cadw dŷn ac anifail: ni oddef i flewyn o wâllt ein pennau ni syrthio: ond mae fe 'n barod i nerthu ac i gadw pawb a ymddire­dant ynddo, fal yr addawodd ef gan ddywedyd, Cyn y galwont mifi attebaf, yr hyd y byddont yn dywedyd mifi a wrandawaf, na wan-ymddire­dwn am hynny i'w ddaioni ef, nac ofnwn ddyfod ger brō gorseddfaingc ei drugaredd ef, na cheisiwn nerth na chynhorthwy y saint, ond deuwn ein hu­nain yn Hyf. eofn heb ammau nas gwrendy Duw ni er mwyn Christ, yn yr hwn y bodlonir ef, heb vn cyfryngwr, ac y cyflawna ef ein deisyfiad ni ym­mhob peth ac sydd gyfun â'i ewyllys sanctaidd ef. Felly y mae Chrysostom hên ddoctor o'r Eglwys Chrys. hom. 6. da profect. Euangelij. yn dywedyd, ac felly y mae 'n rhaid i ninnau gre­du, nid am ei fod ef yn dywedyd felly, ond yn fwy o lawer o herwydd mai athrawaeth ein Iachaw­dwr Christ ei hun yw hynny. Yr hwn a addawodd os ni a weddiwn ar y Tâd yn ei enw ef, y cawn ni yn ddiddau ein gwrando cystadl er cymmorth yn ein hangenrheidiau, ac i Iachadwriaeth ein he­neidiau, y rhai a brynodd ef ini, nid ag aur nac a­rian ond â'i werthfawr waed, yr hwn a dywall­todd ef vnwaith dros bawb ar y groes.

Iddo ef am hynny gydâ'r Tâd a'r Yspryd glân, tri pherson ac vn Duw, y bytho holl anrhydedd moliant a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth o blegid gweddi.

FE a'ch dyscwyd chwi yn y rhan arall o'r bregeth hon, at bwy y dlyech gyfeirio cich gweddi mewn amser angen a chyfyng­dra; Hynny yw nid at angylion na saint, ond at y tragwyddol a'r byth-fywiol Dduw: yr hwn am ei fod yn drugarog sydd yn barod yn wastad i'n gwrando ni, pan alwom arno mewn gwirionedd a ffydd berffaith: ac am ei fod ef yn holl-alluog fe ddichon yn ebrwydd gyflawni a chwblhau y peth yr ydym ni yn ei ddeisif ar ei ddwylaw ef. Ammau ei allu ef a fyddai anffyddlonder eglur, ac yn er­byn athrawaeth yr Yspryd glân, yr hwn sydd yn dangos ei fod ef oll yn oll. Ac am ei ewyllys da ef yn hyn o beth, mae ini destiolaethau golau yn yr scruthur y cynnorthwya ef ni os ni a alwn arno Psal. 6. 9. mewn amser blinder. Megis o blegid y ddau a­chos hyn y dlyem alw arno ef yn hytrarch nag ar neb arall: ac ni ddylai neb ofni dyfod at Dduw yn Hyf. eofn am ei fod yn bechadur. O herwydd fal y dy­waid y Prophwyd Daffydd, Trugarog a gra­slawn yw 'r Arglwydd, ie ei drugaredd ef a'i dda­ioni Psal. 103. 8. sydd yn dragywydd.

O ni wrendy efe bechaduriaid yr hwn a ddan­fonodd ei fâb ei hun i'r byd i gadw pechaduriaid? os â chalon wir etifeiriol a ffydd ddiogel y gweddi­an 1. Tim. 1. 15. arno? Os cydnabyddwn ein pechodau mae Duw yn ffyddlon i faddau ini ein pechodau ac i'n glanhau ni oddiwrth ein anwiredd, fal y dangosir ini yn oleu wrth siampl Dafydd, Petr, Mair 1. Ioan. 1. 9. [Page 236] [...] [Page 237] [...] [Page 238] Fagdalen, y Publican, a llawer eraill.

Ac lle mae 'n rhaid ini gael nerth rhyw gyf­ryngwr ac airiolwr, byddwn fodlon iddo ef yr hwn yw gwir gyfryngwr a dadleuwr y Testa­ment newydd, set ein Harglwydd a'n Iachaw­dwr Iesu Grist. O herwydd fal y dywaid Ioan S. Os pecha neb mae ini eiriolwr gydâ'r Tâd, Ie­su 1. Ioan. 2. 1. Grist y cyfiawn ac efe yw r' iawn dros ein pe­chodau. Ac mae S. Pawl yn ei Epistol cyntaf at Timothi yn dywedyd fod vn Duw ac vn cyfryn­gwr rhwng Duw a dyn, sef y dŷn Christ Iesu, yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth i bawb ac yn destiolaeth yn ei lawn bryd.

Yn awr gwedy cadarnhau yr athrawaeth hon, fe a'ch cyfarwyddir chwi am ba bethau, a thros pa fath dynniō y dylyech chwi weddio ar Dduw. Rhan pawb cyn gweddio yw ystyriaid yn dda ac yn ddiescaelus pa beth y maent yn ei ofyn ac yn ei geisio ar law Dduw: rhag os hwy a ddymu­nant y peth nis dlyent, fyned eu deisyfiad hwy yn ofer ac yn ddiffrwyth. Fe ddaeth vnwaith at frenin Agesilaus ryw ymbiliwr taer, yr hwn a geisiai gantho ryw beth yn daer; gan ddywedyd, Syre, os gwel eich grâs chwi fod yn dda chwi a addawsoch hynny vnwaith i mi, gwir yw, eb y brenin, os cyfiawn y peth yr wyt yn ei geisio, ac onid ê ni wnaethym onid dywedyd heb addo. Ni chymmerai 'r dyn ei atteb felly gan y brenin, ond fe a ganlynodd arno ym-mhellach gan ddywedyd, fe weddai i frenin gyflawni y gair lleiaf a ddywe­dai ie pe byddai heb ond amneidio â'i ben. Nid mwy eb y brenin nag y gweddai i'r dyn a ddawai at frenin ddywedyd wrtho neu geisio gantho be­thau onest cyfion. Fal hyn y trodd y brenin ym­maith [Page 239] yr ymbiliwr taer anrhesymmol hwnnw.

Yn awr os rhaid bod cymmaint ystyr pan ben­liniom ni ger bron brenin dayarol? pa faint mwy y dylyai fod pan benliniom ni ger bron y brenin nefol, yr hwn a fodlonir yn vnic â chyfiawnder ac iniondeb, ac ni dderbyn vn ddeisyfiad ofer ynfyd anghyfiawn? Da am hynny a buddiol fydd i ni ystyried yn gwbl ac edrych ynom ein hunain pa bethau a allwn yn gyfraithlon eu gofyn oddiar law Dduw, heb ofn cael Pall. nâg: ac hefyd pa fath ddynion yr ydym ni rhwymedig i'w gorchymmyn i Dduw, yn ein gweddiau beunyddol.

Dau beth yn enwedig a ddylid eu ystyried yng­weddi pob dyn duwiol da: ei anghenrhaid ef ei hun a gogoniant yr Holl-alluog Dduw. Mae anghenrhaid naill ai oddifaes o ran y corph, ai oddifewn o ran yr enaid.

Yr hon rhan o ddŷn am ei bod yn werthfawr­occach ac yn odidawgach nâ 'r rhan arall; am hynny y dylyem ni geisio yn gyntaf y pethau a berthynant at Iechadwriaeth y rhan honno, me­gis rhôdd etifeirwch, rhôdd ffŷdd, a rhôdd cariad, gweithredoedd da, gollyngdod a maddauant o'n pechodau, dioddefgarwch mewn adfyd, gostyn­geiddrwydd mewn hawddfyd, ac eraill o fath ffrwythau 'r Yspryd: megis gobaith, cariad, law­enydd, Gal. 5. 22. tangweddyf, ymaros, cymwynascarwch, daioni, mwyneidd-dra, dirwest, yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ddwylaw pawb a gymme­rant arnynt fod yn blant iddo ef, gan ddywedyd wrthynt yn y modd hyn, llewyrched eich goleuni ger bron dynion fal a gwelont eich gweithredo­edd da chwi, ac yr anrhydeddant eich Tâd yr hwn Mat. 5. 16. sydd yn y nefoedd.

[Page 240] Ac mewn man arall mae fe 'n dywedyd, Yn gyn­taf ceifiwch deyrnas Duw a'i gyfiawnder, a'r holl bethau eraill a roddir i chwi. Trwy hyn y mae Math. 6. 33. fe 'n dwyn ar gof i ni y dlyai ein gofal mwyaf ni fod am y pethau a berthynant at iechyd a chadwe­digaeth yr enaid. Am nad oes ini ymma, fal y dy­waid yr Apostol, ddinas barhaus eithr yr ydym Heb. 13. 14. yn ceisio 'r hon a fydd yn y byd a ddaw.

Yn awr gwedy darffo i ni weddio digon am be­thau a berthynant at yr enaid, ni a allwn yn gy­fraithlon â chydwybod dda weddio am ein ang­henau corphorol, megis bwyd, diod, dillad, iechyd y corph, ymwared o garchar, llwyddiant yn ein negesau beunyddol, fal y byddo rhaid. Am yr hyn pa siampl well a allwn ni i chanlyn nâ siampl Christ ei hun, yr hwn a ddyscodd i'w ddiscyblon, ac yndynt hwythau i bob Christion, yn gyntaf we­ddio am bethau nefol, ac yn ol hynny am bethau dayarol: fal y gellir gweled yn y weddi a adaw­odd Math. 6. 9. Luc. 11. 2. ef i'r Eglwys, yr hon a elwir gweddi 'r Arg­lwydd?

Mae 'n scrifennedig yn y cyntaf o lyfrau y Brenhinoedd a'r trydedd Bennod, i Dduw ym­ddangos i frenin Salomon liw nos mewn breuddwydd gan ddywedyd, Gofyn i mi y peth a fynnych ac mi a'i rhoddaf iti: fe wnaeth Salo­mon felly, ac a ofynnodd galon gall ddeallus, fal y gallai farnu 'r bobl a deall gwahaniaeth rhwng drŵg a da: pa beth a fyddai dduwiol a pha beth a fyddai annuwiol, pa beth a fyddai gyfiawn a pha beth a fyddai anghyfiawn yngolwg yr Arglwydd.

A bodlon iawn y fu gan Dduw iddo ofyn y peth hyn, ac fe ddywad Duw wrtho, Am iti ofyn y peth hyn ac na ofynnaist iti ddyddiau lawer, ar y dday­ar [Page 241] ac na ofynnaist iti olyd ac na cheisiest waed dy elynnion, eithr ceisiaist iti ddeall i fedru gwneu­thur barn: wele gwneuthym yn ol dy airiau rhoddais iti galon ddoeth a deallus, fal na bu dy fa'th oth flaen ac na chyfyd dy fath ar dy ol di. Hefyd heblaw hyn mi a rhodais yr hyn ni ofyn­naist, sef golyd a gogoniant hefyd: fal na byddo vn o 'r fath ymmysc y brenhinioedd dy holl ddy­ddiau di.

Merciwch y siampl hon pa fodd na ofynnodd Salomon ac yntef yn cael ei ddewis gan Dduw bethau ofer gwaeg, ond ichel a nefol dresor ddo­ethineb. Ac er mwyn iddo wneuthur felly mae fe 'n mwynhau megis yn wobr gyfoeth ac anrhy­dedd. Wrth yr hyn y gallwn weled y dlyem ni yn enwedig iwchlaw pob peth ofyn pethau a berthy­nant at deyrnas Dduw, a Iachadwriaeth ein eneidiau, heb ammeu na roddir yr holl bethau eraill i ni: yn ol addewid ein Iachawdwr Christ.

Ond ymma mae 'n rhaid i ni synned nad ang­hofiom y diwedd arall y sonniwyd o'r blaen am dano: hynny yw gogoniant Duw, yr hwn oni feddyliwn am dano ac oni osodwn ger bron ein llygaid pan fythom yn gweddio, nid oes ini dybi­ed y cawn ni ein gwrando na derbyn dim gan yr Arglwydd. Fe ddaith mam Meibion Zededeus at yr Iesu yn yr 20. Bennod of Efengil Mathew, Math. 20. 20. gan ei addoli ef a dywedyd; dyweid am im dau fab hyn gael iste vn ar dy ddeheulaw a'r llall a'r dy law asswy yn dy deyrnas. Nid ydyw hi yn yr arch hyn yn gofalu am ogoniant Duw, ond mae hi yn dangos yn oleu ei balchedd a gwag ogoniant ei meddwl, am yr hyn nid heb achos y trodd hi yn ei gwrthol ac y cafas hi ei cheryddu ar law yr Ar­glwydd. [Page 242] Yn yr vn modd yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apostolion am vn Simon Magus swynwr, yr hwn pan gwelodd fod yn rhoddi yr Yspryd glan wrth osodiad dwylo 'r Apostolion, a gynnigodd iddynt arian, gan ddywedyd: Rho­ddwch i minnai hefyd yr awdyrdod hon, fal ar bwy bynnac y gosodwyf fynnwylaw y derbynio ef yr Yspryd glan. Wrth wneuthur y deisyfiad hwn ni Act. 8. 19. cheisiodd ef ogoniant Duw a'i anrhydedd: ond ei ennill a'i elw ei hun, gan obeithio cael llawer o arian trwy y gelfyddyd hon, ac am hyn y dywed­wyd yn gyfiawn wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am dy fod yn tybied y meddiannir dawn Duw trwy arian.

Trwy 'r siamplau hyn ar fath siamplau eraill ein dyscir ni, pan wnelom ein gweddi ar Dduw, vwchlaw pob peth i ofalu am anrhydededd a go­goniant ei enw ef. Am yr hyn mae ini y gorchym­myn cyffredinol hwn gan S. Pawl, Pa vn bynnac a wneloch ai bwyta ai vfed au vn peth a­rall 1. Cor. 10. 32. gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. Yr Coloss. 3. 17. hyn beth y wnawn ni yn orau i gyd, os canlynwn siampl ein Iachawdwr Christ: yr hwn pan ydodd yn gweddio ar fyned cwppan chwerw angau oddiwrtho ef, ni fynnai gael cyflawni ei ewyllys Math. 26. 36. Luc. 22. 42. ei hun, ond rhoi 'r cwbl oll ar ewyllys a bodd ei Dad.

Ac hyd hyn am y pethau a allwn ni yn gyfraith­lon ac yn eofn eu gofyn gan Dduw.

Yn awr y canlyn bod i ni fanegu pa rhyw ddy­nion yr ydym ni yn rhwymedig mewn cydwybod i weddio drostynt. Mae S. Pawl gan scrifennu 1. Tim. 2. 1. at Timothi, yn ei gynghori ef: ar fod ymbil a gweddio dros bob dyn, heb ddieithro neb pa radd [Page 243] bynnac neu stat y font hwy ynddo. Yn yr hwn le mae fe 'n son yn enwedig am frenhinioedd a lli­wiawdwyr y rhai ydynt mewn awdurdod: gan ddwyn ar gof ini trwy hynny mor fuddiol yw i'r wlad weddio 'n ddiescaelus dros y galluoedd goruchaf.

Ac nid heb achos y mae yn ei holl lythyrau yn Ruf. 15. 10. Col. 4. 3. 2. Thes. 3. 1. Ephes. 6. 19. gofyn gweddiau pobl Dduw drosto ei hun, O her­wydd wrth wneuthur felly mae fe 'n manegi mor addas ac mor anghenrheidiol yw galw ar Dduw beunydd dros wenidogion ei sanctaidd air ef a'i Sacramentau, a'r iddynt gael drws ymmadrodd yn agored, fal y gallont yn gywir ddeall yr scru­thyrau ai pregethu hwy i'r bobl, a dwyn eu ffrwy­thau hwy allan er siampl i bawb eraill.

Yn y modd ymma yr ydodd y gynulleidfa yn gweddio 'n wastad dros Peter yn Ierusalem a­thros Act. 12. 12. Pawl ymlhith y cenhedloedd, er mawr lwy­ddiant a chynnydd efengil Christ: ac os ni a gan­lynwn yn hyn eu siamplau da hwy, ac a fefyriwn wneuthur yn yr vn modd, yn ddiammau ni wna­wn fawrles ini ein hunain, ac a fodlonwn Dduw hefyd. Fe fyddai rhy hir imi adrodd a rhedeg dros bob gradd o ddynion, am hynny ar yehydig airiau cymmerwch hyn i gau y cwbl. Pwy bynnac yr ydym rhwymedig wrth orchymmyn Duw iw ca­ru, dros y rhai hynny oll yr ydym rhwymedig yn ein cydwybod i weddio. Ond yr ydym ni yn rhwymedig wrth orchymmyn Duw i garu pawb fal ein hunain: ac am hynny yr ydym yn rhwy­medig i weddio dros bawb oll cystal a throsom ni ein hunain: er ein bod yn gwybod eu bod yn e­lynnion marwol ini.

O herwydd felly y mae ein Iachawdwr Christ [Page 244] yn dangos yn eglur yn yr efengil gan ddywedyd, Yr yd wyf yn dywedyd wrthych cerwch eich gely­nion, Marh. 5. 44. bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwne­wch dda i'r sawl a'ch cashant, a gweddiwch dros y rhai a eich herlidiant, fal y byddoch blant eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac fal y dyscodd ef Luc. 6. 27. ei ddyscyblon, felly yr arferodd ef ei hun, yn ei fy­voyd gan weddio dros ei elynion ar y groes, a deisif ar ei Dad faddau iddynt, o herwydd na wyddent pa beth oeddynt yn ei wneuthur: felly hefyd y gw­naeth Luc. 23. 34. y merthyr sanctaidd S. Stephan pan la­byddiwyd ef i angau yn dra chreulon, gan yr I­ddewon Act. 7. 60. afrywog gwargaledion, er siampl i bawb a ganlynant yn gywir ac yn ddiffuant siampl eu Harglwydd a'u meistr Christ yn y bywyd blin mar wolhwn.

Yn awr i draethu am y question hwn. A ddylcm ni weddio dros y rhai a ymmadawsont o'r byd hwn ai na ddylem. Yn yr hwn os glynwn ni yn vnic wrth air Duw, mae 'n rhaid ini gydnabod nad oes gennym vn gorchymmyn i wneuthur felly. O herwydd nid ydyw 'r Scruthyr yn cyd­nabod ond dau le ar ol y bywyd hwn. Yr vn yn berthynasol i fendigedig a dewisol Duw, a'r llall i'r eneidiau damnedig gwrthodedig: fal y gellir cynull yn hawdd wrth ddāmeg Lazarus a'r gwr Luc. 16. 26. cyfoethog, wrth agored yr hwn le y dywaid S. Austin fal hyn ar y geiriau y ddywad Abraham wrth y gwr cyfoethog yn yr efengil: sef na ddi­chon y cysion fyned ir lleoedd hynny lle 'r ydys yn cospt 'r annuwiolion. Pa beth y mae hyn yn ei Li. 2. Euang. quest. 1. cap. 38. ar wyddoccau ond na ddichon y cysion o herwydd barn Duw yr hon ni ellir ei galw yn ol, ddangos vn weithred o drugaredd i gynorthwyo y rhai y­dynt [Page 245] yn ol y bywyd hwn gwedy eu tafli i garchar hyd nes talu honynt y ffyrlling eithaf? fal y mae y geiriau hyn yn gwradwydd yr athrawiaeth am gynorthwyo y meirw trwy weddi: felly y maent hwy hefyd yn dinistr, ac yn tynnu yn lan ymmaith yr amryfysedd am y purdan, yr hwn a wreiddir ar y geiriau hyn o'r efengil, ni chai di fyned oddi yno nes iti dalu y ffyrlling eithaf.

Yn awr mae S. Awstin yn dywedyd na ellir mewn modd yn y byd gynorthwyo y rhai yn ol y bywyd hwn ydynt gwedy eu tafli i garchar, er cymmaint y mynnem eu nerthu hwy. A pha ham? am fod barn Duw yn ânnewidiol ac na ellir ei galw hi yn ei hol. Na thwyllwn am hynny mo honom ein hunain gan dybied y gallwn gynorth­wyo eraill, neu y gall eraill ein cynorchwyo nin­nau a'r ol hyn trwy eu gweddiau da cariadus, o blegid fal y dywaid y pregethwr, Pa vn bynnac Eccl. 11. 3. ai i'r dehau ai i'r gogledd ai pa le bynnac y cwympo 'r pren yno y trig efe: gan feddwl wrth hynny fod pob dyn marwol yn marw mewn stat cadwedigaeth neu ddamnedigaeth: fal y mae gei­riau 'r efengylwr Ioan yn dangos yn eglur, gan ddywedyd, Yr hwn sydd yn credu ym-Mab Duw mae iddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd yn an­ghredu Ioan. 3. 36. yn y Mab ni wel ef y bywyd, eithr mae di­gofaint Duw yn aros arno ef.

Pa le wrth hynny y mae 'r trydydd lle yr hwn y alwant purdan? Neu pa le y nertha ein gwe­ddiau ac a cynorthwyant hwy y meirw? Mae S. Awstin yn cydnabod yn vnic ddau le yn ol y Llb. 5. Hypug­no. bywyd hwn nef ac vffern, am y drydedd mae fe 'n gwadu 'n oleu na ellir cyfarfod ac ef, yn yr holl Scruthyrau.

[Page 246] Mae Chrysostom hefyd o'r meddwl hwn, Oni olchwn ni ein pechodau ymmaith yn y byd Chry. in Heb. a hom. 5. hwn na chawn ni ar ol hynny ddim diddanwch. Mae S. Cyprian hefyd yn dywedyd: Y bydd eti­feirwch Cypr. contr. Demetrian. tristwch a phoen yn ol angau yn ddiffrw­yth, y bydd wylo 'n ofer a gweddi 'n wag, am hyn­ny y mae 'n cynghori pavob i ddarparu drostynt eu hunain yr hyd y gallont, o herwydd yn ol eu myned o'r byd hwn nid oes vn lle i etifaru nac i wneuthur iawn.

Gwasanaethed y lleoedd hyn a lleoedd eraill i dynnu ymmaith y camsynnaeth blin ynghylch purdan allan o'n pennau ni: ac na freiddwydiwn mwy y gellir cynorthwyo eneidiau 'r meirw trwy 'n gweddiau ni. Ond fal y mae 'r Scruthur yn ein dyscu ni felly credwn fod enaid dŷn pan elo efe allan o'r corph yn myned yn y man y naill ai i'r nef âi i vffern: y naill nid rhaid iddo wrth weddi ac i'r llall nid oes ymwared.

Yr vnic burudd trwy 'r hwn y mae ini obaith cael ein cadw yw angau a gwaed Christ, yr hwn os cymmerwn afael arno a gwir a diogel ffydd fe 'n pura ac a'n glanhani oddiwrth ein holl becho­dau, cystal a phe byddai fe yn awr yn crogi ar y groes. Gwaed Iesu Grist, medd S. Ioan sydd 1. Ioan. 1. 7. yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod. Gwaed Iesu Grist, medd S. Pawl, a burodd ein cydwy­bod ni oddiwrth weithredoedd meirwon i wasa­naethu Heb. 9. 14. y Duw byw. Ac fe a ddywaid mewn man arall hefyd: yr ydym gwedy ein sancteiddio a'n Heb. 10. 10. v. 14. glanhau trwy offrymmiad corph Iesu Grist vn­waith. Ie mae fe 'n cydsylltu ychwaneg gan ddy­wedyd. Ddarfod iddo ag vn offrwm berffeiddio yn dragwyddol y rhai sydd gwedy eu sancteiddio.

[Page 247] Dymma am hyn y purudd yn yr hwn y mae 'r holl Gristionogion yn gobeithio ac yn ymddired: heb ammau dim os hwy a wir etifarant am eu pechodau ac a fyddant feirw mewn ffydd ber­ffaidd, yr ant hwy yn y man o far wolaeth i fywyd. Oni wasanaetha y purudd hyn na obeithiant y cânt hwy ym wared wrth weddiau dynnion eraill pe parhaent hwy yndynt hyd diwedd y byd.

Yr hwn ni allo gael ei gadw trwy ffydd yngwaed Christ, pa fodd yr edrych ef am gael ei gadw trwy gyfryngiad dyn? Ydyw Duw yn edrych yn fwy ar ddyn ar y ddayar, nag a'r Grist yn y nef? Os pecha neb (medd Ioan sant) mae i ni ddadleuwr gyda 'r Tad Iesu Grist y cysiawn, ac efe yw 'r iawn dros ein pechodau. Ond rhaid yw ini edrych am alw ar y dadleuwr hwn ymrhyd tra caffom ennyd yn y bywyd hwn, rhag gwedy 'n meirw vnwaith na bytho vn gobaith iethyd gwedy ei a­del ini.

O herwyd fal y mae pawb yn cyscu yn ei ddadl eu hun, felly y cyfodir pawb yn ei ddadl ei hun. Ac edrychwch mewn pa stat y bu ef farw, yn yr vn stat y barnir ef hefyd, pa vn bynnac ai i Ie­ched wriaeth ai i ddamnedigaeth. Na freiddwy­dwn am hynny am burdan nac am weddi dros en­eidiau y rhai a fuont feirw. Ond gweddiwn yn ddifrif ac yn ddiescalus dros y rhai y gorchym­mynnir ini yn oleu yn yr Scruthyr weddio dro­stynt: Hynny yw dros frēhinoedd a liwiawdwyr, dros wenidogion gair Duw a'i sacramentau, dros saint y byd hwn, y rhai hefyd a elwir y ffyddloni­aid: ac ar ychdig o airiau dros bob dyn byw, er maint gelynion y fythont hwy i Dduw a'i bobl, megis Iddewon, Twrciaid, Paganiaid, Anghre­dadwy▪ [Page 248] Hereticciaid, &c. yno y cyflawnwn ni yn gywir orchymmyn Duw yn y peth hyn, ac y dan­goswn ni yn eglur ein bod ni yn wir blant ein Tad nefol, yr hwn sydd yn goddef iw haill dywynnu ar y da a'r drwg, a'r glaw i lawio ar y cyfion a'r anghyfion. Am yr hyn ac am bob doniau eraill y roddodd ef yn aml iawn i ddynnion er y dechreu­ad, rhoddwn iddo ef fawr ddiolch fal yr ydym ni rhwymedig a moliannwn ei enw ef yn dragy­voydd. Amen.

¶ Pregeth am le ac amser gweddi.

FE greodd Holl-alluog Dduw yn y dechreuad, trwy ei allu ei ddoethi­neb ai dduwioldeb nef a dayar, yr haul y lluad a'r sêr, ehediaid yr awyr, anefeiliaid y ddayar, pyscod y mor a'r holl greaduriaid eraill, er bud a lles i ddyn: yr hwn hefyd a greasai fe ar ei ddelw a'i lun ei hun: ac a rhoddodd iddo ef reolaeth a llywodraeth oddi­arnynt hwy oll, er mwyn iddo ef eu harfer hwy yn y modd y harchasai ac y gorchymmynysai Dduw iddo ef: ac er mwyn iddo ef hefyd ei ddan­gos ei hun yn ddiolchus ac yn ostyngedig yn yr holl ddonniau hyn, y rhai a rhoddwyd iddo ef mor hael ac mor raslawn heb ei haeddiant ef yn hollol, mewn hyn o beth. Ac er y dylyem ni bob amser ac ymhob lle fod yn ddiolchus ein harglwydd gra­sawl, fal y mae 'n scrifennedig. Misi a fawrhaf yr Arglwydd bob amser. Ac ailwaith pa le bynnac Psal. 3. 1. y bytho 'r Arglwydd yn teyrnasu o fy enaid ben­dithia 'r Arglwydd. Psal. 103. 1.

Etto eglur yw mae ewyllys Duw yw ini ym­gynull [Page 249] ynghyd a'r rhyw amseroedd nodedig, ac mewn rhyw leoedd nodedig, o fwriad ar glodfori ei enw ef, a chyhoiddi ei ogoniant ef ynghynu­lleidfa ei saint ef.

Am yr amser y osododd yr Holl-alluog Dduw iw bobl ymgynull ynghyd yn gyhoedd mae 'n eg­lur wrth bedwarydd gorchymmyn Duw: Cofia medd Duw gadw 'n sanctaidd y dydd Sabaoth. Ar yr hwn ddiwrnod fal y mae 'n oleu wrth Actau 'r Apostolion yr oedd y bobl yn arferedig o ddyfod ynghyd, ac yn gwrando 'n ddiescaelus y gyfraith a'r Prophwydi a ddarllened yn eu mysc hwy. Ac er nad ydyw y gorchymmyn hwn yn rhwymo Christionogion mor galed, i gadw ac i gynnal Gwbl-ceremoni y dydd Sabaoth, fal y rhoed ef i'r Iddewon, am ymgadw oddiwrth waith a thrafaelu mewn anghenrhaid mawr; ac ynghylch cadw y saithfed dydd yn gymmwys yn ol arfer yr Iddewon. O blegyd yn awr yr ydym ni yn cadw y dydd cyntaf o'r wythnos yr hwn yw ein dydd sul ni, ac yr ydym yn gwneuthur hwnnw yn Sa­baoth ini, hynny yw yn ddydd gorphwysfa ini, er anrhydedd ein Iachawdwr Christ, yr hwn ar y dwthwn hwnnw a gyfododd-o feirw i fyw, ac a orchfygodd angau yn orfoleddus. Etto pa beth bynnac a geffir yn y gorchymmyn hwnnw, me­gis yn perthyn at gyffraith nattur. Fe ddylai bob pobl Gristionogaidd gadw a chynnal hwnnw me­gis peth duwiol iawn, peth cysion iawn, peth an­ghenrheidiol iawn i osod allan ogoniānt Duw.

Ac am hyn wrth y gyrchymmyn hwn fe ddylai fod gennym ni amser megis vn diwrnod yn yr wythnos, yn yr hwn y dylyem orphwys, ie oddi­wrth ein gweithredoedd cyfraithlon rheidiol. O [Page 250] herwydd fal y mae 'n eglur wrth y gorchymmyn hvon na ddlyai neb dros chwech diwarnod fod yn fegur ac yn ddiog, ond trafaelu 'n ddiescaelus yn yr stat y gosododd Duw ef yndi. Felly y rhoddodd Duw orchymmyn goleu ar y dydd Sabaoth, (hynny yw ein dydd sul ni yn awr) fod iddynt or­phwys oddiwrth yr holl drafael a arferir trwy 'r wythnos, ac ar ddyddiau gwaith, o fwriad megis y gwaithodd Duw chwech diwarnod, ac a gor­phwysodd ar y saithfedd dydd a bendigodd ac a sancteiddiodd ef, gan ei sancteiddio ef i lony­ddwch a gorphwyffa oddiwrth bob llafyr: felly y dylyai vfydd bobl Dduw arfer y dydd sul yn san­ctaidd, a gorphwys oddiwrth eu llafyr, ac ymroi yn hollol i arferon gwir grefydd, a gwir wasa­naeth Duw.

Fal na orchymmynnodd Duw yn vnic gynnal y dydd sanctaidd hwnnw: Ond fe 'n annogodd ac ein cyffrodd ni hefyd wrth ei siampvol ei hun i gadw hwnnw yn ddiescaelus. Fe fydd plant na­turiol da nid yn vnic vfydd i orchymmynion eu Tadau: ond fe fydd ganthynt lygaid diwall ar eu gweithredoedd hwy hefyd, ac yn llawen y canlynant y rhai hynny. Felly os ni a fyddwn blant ffyddlon ein Tad nefol, rhaid ini fod yn ofa­lus i gadw dydd Sabaoth y Christionogion, yr hwn yw 'r ful: nid yn vnic er mwyn gorchym­myn eglur Duw; ond hefyd er mwyn ein dangos ein hunain yn blant caredig, gan ganlyn siampl ein grasol Arglwydd a'n Tad.

Fal hyn y mae'n eglur fod ewyllys Duw a'i orchymmyn ar osod amser gyhoeddus a diwar­nod nodedig o'r wythnos, yn yr hwn y gallai y bobl ddyfod ynghyd, a chofio ei ddonniau rhyfedd [Page 251] ef, ac i rhoddi diolch iddo am danynt megis y mae 'n gymhesyr i bobl garedig addiwyn vfydd. Fe ddechreuodd y bobl Gristionogaidd ganlyn y si­ampl hon a gorchymmyn Duw, yn y man yn ol escynniad ein Harglwyd Christ, ac hwy a ddech­reuasont ddewis diwarnod gosodedig o'r wyth­nos i ymgynull ynghyd arno: etto nid y saithfed dydd yr hwn y gadwe r' Iddewon, ond dydd yr Arglwydd, dydd ailgyfodiad yr Arglwydd. Y dydd yn ol y saithfed dydd, yr hwn yw 'r dydd cyntaf o'r wythnos.

Am yr hwn ddydd mae S. Pawl yn son fal hyn. Pob dydd cyntaf o'r wythnos rhodded pob vn ho­noch heibio wrtho ei hun i'r tylodiō, yr hyn y mae fe yn ei feddwl. Wrth y diwarnod cyntaf o'r wyth­nos 1. Cor. 16. 2. y deallir ein dydd sul ni: yr hwn yw 'r dydd cyntaf ar ol Sabaoth yr Iddewon. Ac mae etto Gwel. 1. 10. yn oleuach yngweledigaeth Ioan, lle mae fe 'n dywedyd: yr oeddwn yn yr Yspryd ar ddydd yr Arglwydd.

Er yr amser hynny yr arferodd pobl Dduw yn wastad ymhob oes, o ddywod ynghyd yn ddi­wrthwyneb ar ddydd sul, i glodfori ac i foliannu enw 'r Arglwydd, ac i gadw y dydd hwnnw yn o­faius, mewn llonyddwch a gorphwyffa, gwyr a gwragedd, plant, gweision a dieithraid. Am dro­seddi a thorri yr hwn ddiwarnod fe ddangosodd Duw ei fod yn ddig dros ben: fal y gellir gweled wrth yr hwn am gynull briwydd a'r y dydd Saba­oth a labyddiwyd i far wolaeth. Ond och er hyn oll blin yw edrych ar eofnder annuwiol llawer o rai, ac a fynnant ei cyfrif yn bobl Dduw, y rhai ni ofalant vn gronyn am gadw 'r sul.

Mae 'r bobl hyn o ddau fath▪ y naill or bydd [Page 252] ganthynt vn neges i'w wneuthur, ni arbedant hono er y sul: er na bo anghenrhaid mawr, rhaid iddynt farchogaeth ac ymdaith ar y sul, rhaid i­ddynt gywain a chludo ar y sul, rhaid iddynt rwyfo a myned dros afonydd a'r y sul, rhaid iddynt brynu a gwerthu ar y sul, rhaid iddynt ga­dw ffairiau a marchnadoedd ar y sul: yn ddiwe­thaf maent yn arfer pob dydd yn gyffelyb, mae dyddiau gwyl a dyddiau gwaith yn yr vn modd.

Mae 'r fath arall etto yn waeth, o herwydd er na fynnāt drafaelu na llafuro ar y sul fal y maent hwy'n gwneuthur ddiwarnodau genol wythnos, etto ni orphwysant hwy mewn sancteiddrwydd megis y mae Duw yn gorchymmyn: ond maent yn gorphwys mewn annuwioldeb a brynti, gan ymhoywi ac ymrodresu yn eu balchedd, gwingo ac ymbingcio, peintio a lliwio eu hunain i fod yn wych ac yn Bert. ddillyn, maent hwy 'n gorphwys mewn gormodd a rhylanw, newn gloddineb a meddwdod, megis moch a llygod, maent yn gor­phwys mewn ymdaeru acymrysson, mewn cwa­relu ac ymladd: maent yn gorphwys mewn drythyllwch a choegchwedleua, ac mewn cnaw­dolrwydd brwnt: fal y mae yn rhy eglur fod yn di­anrhydeddu Duw yn fwy, ac yn gwasanaethu 'r diawl yn well ddie sul nag ar vn diwarnod or wythnos heb ei law ef. A byddwch siccr fod yr anifeiliaid y rhai y gorchymmynnir iddynt or­phywys ar y sul yn anrhydeddu Duw yn well na 'r bobl ymma.

O herwydd nid ydynt hwy yn digio Duw nac yn torri 'r dyddiau gwyl. Am hynny o chwi bobl Dduw gosodwch eich dwylaw ar eich calonnau, etifarhewch a gwellhewch yr annuwioldeb blin [Page 253] enbaid hwn: ofnwch orchymmyn Duw a chan­lynwch siampl Duw ei hun yn llawen: na fy­ddwch anufyddgar i dduwiol drefn Eglwys Grist, a arferwyd ac a gadwyd o amser yr Aposto­lion hyd y dydd heddyw? ofnwch ddigofaint a chyfiawn bla-au yr holl-alluog Dduw, os chwi a fyddwch escaelus ac heb wachelyd trafaelu a lla­furo ar y Sabaoth neu 'r dydd sul, heb arfer o ym­gynull ynghyd i fendithio ac i fawrygu bendige­dig enw Duw mewn syncteiddrwydd esm wyth, a pharch duwiol.

Yn awr am y lle yn yr hwn y dylyai bobl Dduw ymgynnll ynghyd, ac yn yr hwn y dylyent yn en­wedig gynnal a chadw a sancteiddio 'r Sabaoth, hynny yw y sul, dydd gorphwysfa sanctaidd: fe elwir y lle hunnw yn deml neu Eglwys Dduw: am fod cynulleidfa bobl Dduw (yr hon yn brio­dol a elwir yr Eglwys) yn ymgynull yno ar y dyddiau gosodedig i'r cyfryw ymgynull a chyfar­fod. Ac yn gymmaint a darfod i'r holl-alluog Dduw osod amser nodedig i'w anrhydeddu arno, fe ddylyai fod lle gosodedig i'r bobl ymma i ym­gynull a chyfarfod i wasanaethu eu Duw grasol a'u Tâd trugarog.

Gwir yw nad oedd gan y Patriarchau sanc­taidd dros lawer o flynyddoedd na theml nac E­glwys i fyned iddi. Yr achos oedd am nad oedd ganthynt arhosfa yn vn lle, ond mewn pererin­dod a chrwydrad parhaus yr oeddynt, fal na allent yn gyfaddas wneuthur vn Eglwys. Ond er cyn­ted y daroedd i Dduw ryddhau ei bobl o ddwy­law eu gelynnion, a'u gosod mewn peth rhydd­did yn yr anialwch, fe a osododd i fynu iddynt da­bernacl gwerthfawr gwych, yr hwn oedd me­gis [Page 254] yr Eglwys blwyf, yn lle i'r holl gynullefdfa ymgyfarfod, i wneuthur eu haberthau ynddo, ac i arfer cadwedigaethau a deddfau eraill.

Hefyd gwedy i Dduw yn ol gwirionedd ei a­ddewid, osod ei bobl yn llonydd yn nhir Caanan, yr hon a elwir yn awr Iudea, fe a orchymmyn­nodd i frenin Salomon wneuthur iddo deml fawr odidawg, o'r fath na welwyd onid weithi­au: teml gwedy ei thrwsio a'i harddu mor wych ac mor deg, ag oedd weddus a chyfaddas i bobl yr amser hynny: y rhai ni lithed ac ni chyffroed a dim yn gymmaint ac a'r fath bethau gwychion hardd oddifoes. Hon yr amser hynny oedd deml Dduw, gwedy ei chyfoethogi a llawer o roddion, a ba­giad mawr o addewidion, hon oedd Eglwys blw­yf a mam Eglwys yr holl Iddewaeth.

Ymma yr anrhydeddid ac a gwasanaethid Duw. Ymma yr oedd holl drigolion teyrnas yr Israeliaid yn rhwymedig i ddyfod ar dair gwyl arbennig yn y flwyddyn, i wasanauthu eu Harg­lwydd Dduw ymma. Ond awn yn ein blaen, nid oedd etto yn amser Christ a'i Apostolion ddim Temlau neu eglysydd i Gristionogion ddyfod i­ddynt. O herwydd paham? yr oeddynt yn wastad fynychaf mewn erlidfa trallod a blinder, fal na allent gael na rhydd-did na channad i'r defnydd hwnnw. Etto yr ydoedd yn hoff iawn gan Dduw eu bod hwy yn fynych yn ymgyfarfod ynghyd i vn lle. Ac am hynny yn ol ei ascenniad ef hwy a arhosasant weithiau ynghyd mewn stafell oddiu­chod, weithiau hwy aethont i'r deml, weithiau i'r Synagogau, weithiau yr oeddynt yngharchar, weithiau yn eu tai, writhiau yn y maesydd, &c.

Ac fe barhaodd hyn nes i ffydd Grist Iesu dde­chreu [Page 255] amlhau mewn rhan fawr o'r byd. Yn awr gwedy cadarnhau llawer o deyrnasoedd mewn gwir grefydd Duw a chwedy i Dduw roddi i­ddynt heddwch a llonyddwch, yno y dechreuodd brenhinioedd penaethiaid a'r bobl gwedy eu cy­ffro a zeal a chynhesrwydd duwiol wneuthur eglwysydd a themlau, i'r rhai y gallai y bobl ym­grynhoi yn well ynghyd, i wneuthur eu dylyed tuag at Dduw ac i gadw yn sanctaidd y dydd Sa­baoth, diwarnod eu gorphwysfa.

Ac i'r Temlau hyn yr arfere y Christionogion o ddyfod o amfer yn amser, megis i leoed cyfathas lle gallent yn gytun ymarfer o foliannu ac o fawr­hau enw Duw, gan rhoddi iddo ddiolch am y don­niau y mae fe beunydd yn eu harllwys arnynt yn drugarog ac yn aml: lle gallent hefyd wrando darllen agoryd a phregethu ei sanctaidd air ef yn gywir, a derbyn ei sanctaidd Sacramentau ef a finistred iddent yn bur ac yn ddyledus.

Gwir yw mai Temlau enwediccaf ac odidawg­af Duw yn y rhai y mae ef yn ymlawenychu fwy­af ac yn hoffaf gantho drigo yndynt, ydyw cyrph ac eneidiau gwir Gristionogion, a dewisol bobl Dduw: yn ol athrawiaeth yr Scruthyrau sanc­taidd y fanegwyd trwy S. Pawl. Om wyddoch chwi medd ef mai Teml Dduw ydychwi a bod Yspryd Duw yn aros ynoch, mae Teml Dduw 1. Cor. 1. 3. yn sanctaidd yr hon ydych chwi.

Athrachefn yn yr vn Epistol. Oni wyddoch mai Teml yr Yspryd glân ydyw eich cyrph chwi yr 1. Cor. 6. hwn sydd yn aros ynoch, os o Dduw yr ydych, ac nad ydych eiddo chwi eich hunain. Etto er hyn mae Duw yn fodlon i'r deml ddefnyddiol yr hon a wnair a chalch a cherrig (cy fynyched ac y delo y [Page 256] bobl ynghyd i foliannu ei enw sanctaidd ef) i fod yn dy iddo ef ac yn lle yn yr hwn yr a ddawodd Duw fod yn bresennol a gwrando gweddiau y rhai a alwant arno.

Yr hwn beth y mae Christ a'i Apostolion a phawb eraill o'r tadau sanctaidd yn ei fanegi trwy hyn yn oleu: o achos er eu bod hwy yn gwy­bod yn hyspysol y gwrandawid eu gweddiau hwy, pa le bynnac y gwnelid hwy, pe byddai hyn­ny mewn gogofau, mewn coedydd ac yn yr ania­lwch, etto cy fynyched ac y gallent, hwy arferent ddyfod i'r Temlau defnyddiol i ymgydsylltu yno gyda 'r gynulleidfa mewn gweddi a gwir addo­liad. Y sawl am hynny o honoch fy anwyl ga­redigion a sydd yn addef bod eich hunain yn Gri­stionogion, ac yn ymogoneddu yn yr enw hwn­nw, na ddiystyrwch ganlyn siampl eich meistir Christ, yscolheigion yr hwn yr ydych yn dywedyd eich bod: dangoswch eich bod yn debyg i'r rhai y cymmerwch arnoch fod yn gydmeithion yscol iddynt: hynny yw Apostolion a discyblon Christ. Cyfodwch i fynu dduwlaw pur a chalonnau glân ymhob lle a phob amser. Ond gwnewch hynny hefyd yn y Temlau a'r Eglwysydd ar y dydd Sabaoth. Nid arbedodd ein blaenoriaid duwiol ni, a'n hên dadau ni o'r brif Eglwysgynt ei da i adail Eglwysydd, ie mewn amseroedd er­lid nid arbedasant eu bywyd, ie a fentro eu gwa­ed er mwyn ymgynull ynghyd i'r Eglwysydd.

Ac y arbedwn ni ychydig o boen i ddyfod i'r Eglwysydd? Oni chyffro na'i siampl hwy, n'a 'n dlyed ni, na 'r ennil a gavon ni o hynny ni? os dangoswn fod ynom wir ofn Duw, os dango­swn ein hunain yn wir Gristionogion, os by­ddwn [Page 257] ganlynwyr i'n meistr Christ a'r tadau du­wiol y rhai a fuont o'n blaen ni, ac yn awr a dderbynasant wobr gwir Gristionogion ffydd­lon, mae 'n rhaid ini yn ewyllysgar ac yn ddifrif ac yn barchus ddyfod i'r Eglwysydd a'r Temlau defnyddiol i weddio: megis i leoedd gweddaidd gwedy eu gosod i'r defnydd hynny, a hynny a'r y dydd Sabaoth: megis yr amser weddusaf i bobl Dduw orphwys oddiwrth eu holl lafur corphorol bydol: ac i'w rhoi eu hunain i orphwysfa sanc­taidd a duwiol fefyrdod, a'r y pethau a berthy­nant i wasanaeth holl-alluog Dduw: trwy 'r hyn y gallwn ein cymmodi ein hunain a Duw, bod yn gyfranogion oi Sacramentau parchus ef, ac yn wrādawyr duwiol oi sanctaidd air ef, er mwyn cael felly ein cadarhau mewn ffydd tuag at Dduw, mewn gobaith yn erbyn pob gwrthwy­neb, ac mewn cariad at ein cymydogion. Ac wrth rhedeg fal hyn ein rhedegfa, megis pobl ddaionus Gristionogawl y gallom yn y diwedd feddiannu gobrwy gogoniant tragwyddol, trwy haeddiant ein Iachawdwr Iesu Grist: i'r hwn gyda 'r Tâd a'r Yspryd sanctaidd y bytho holl anrhydedd a gogoniant. Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am le ac amser gweddi.

FE ddangoswyd i chwi bobl Gristionogaidd ddaionus yn y bregeth a ddarllenwyd i chwi o'r blaen, ar pa amser ac ymha le y dylyech ddyfod ynghyd i folian­nu Duw.

Yn awr yr ydwyf yn bwriadu [Page 258] gosod ymlaen eich llygaid yn gyntaf mor gyflawn o zeal ac mor ewyllysgar y dlyech fod i ddyfod i'r Eglwys.

Yn ail faint yw digofaint Duw yn erbyn y rhai a ddiystyrant ac sydd fychan ganthynt am ddyfod i'r Eglwys ar sanctaidd ddiwarnod yr orphw­ysfa. Y mae 'n eglur wrth yr Scruthyrau i lawer o'r Israeliaid duwiol a hwy yn awr mewn cathi­wed am eu pechodau ym-hlith y Babiloniaid chwennych a dymuno 'n fynych eu bod yn Ierusa­lem ailwaith: ac ar eu dyfodiad hwy yn eu hol trwy ddaioni Duw, er bod llawer o'r bobl yn es­caelus: etto yr oedd y tadau yn ddwyfol iawn i a­dailadu y deml, fal y galle bobl Dduw ddyfod yno i'w anrhydeddu ef.

A phan oedd Dafydd gwedy ei Ddeol. afllwladu o'i wlad ei hun, o Ierusalem y ddinas sanctaidd, o'r gysegrfa a'r lle sanctaidd, ac o Babell Duw: pa ddamuniad, pa wres oedd ynddo tuag at y lle sanctaidd hwnnw? Pa ddeisyfiadau, pa weddiau y wnaeth ef at Dduw ar gael bod yn drigiannol ynhŷ yr Arglwydd? vn peth a geisiais gan yr Ar­glwydd a hynny y ddymunaf sef gallu myned i dŷ Psal. 132. yr Arglwydd yr hyd y byddwyf byw. Ac ailwaith llawenychais pan ddywedent wrthyf awn i dy yr Arglwydd. Psal. 138. 2.

Ac mewn mannau eraill o'r Psalmau mae fe 'n manegi pa fwriad a pha fryd sydd gantho, wrth ddymuno mor chwannog ddyfod i deml ac i Eg­lwys yr Arglwydd: Ymgrymmaf medd ef ac addo­laf tua'th deml sanctaidd. Ac ailwaith mi a ddai­thym Psal. 63. 2. i'th gesegrfa yno y gwelais dy allu a'th ga­dernid, yno y gwelais dy fawrhydi a'th ogoniant▪ Ac yn ddiwethaf mae fe 'n dywedyd manegaf dy [Page 259] enw im brodyr ynghenol y gynulleidfayth folaf, Pa ham am hynny yr ydoedd gan Ddafydd y fath Psal. 21. 22. ddymuniad mawr ar dŷ yr Arglwydd?

Yn gyntaf er mwyn cael yno addoli ac anrhy­deddu Duw.

Yn an yno y mynnai fyfyrio ac edrych ar allu a gogoniant Duw.

Yn drydedd yno y moliannai enw Duw gyda holl gynulleidfa ei bobl ef. Y fath achosion y rhai y mae y bendigedig Brophwyd yn eu cofio a ddly­ent ein cyffro ninnau, ac enynnu ynom y fath ddy­muniaid sanctaidd difrif, am ddyfod i'r Eglwys, yn enwedig ar ddiwarnodau gorphwysfa sancta­idd, i wneuthur yno ein dylyed ac i wasanaethu Duw, er mwyn cofio yno pa fodd y mae Duw o'i drugaredd ac er gogoniant ei enw yn gweithio yn alluog ein cadw ni mewn Iachadwriaeth a duwi­oldeb ac oddiwrth greulondeb a chyndairiogrw­ydd ein gelyn creulon, ac yno 'n llawen ym-hlith rhifedi ei bobl ffyddlon ef i glodfori ac i fawrygu ei enw sanctaidd ef.

Gosodwch ymlaen eich llygaid yr hên dâd Si­meon am yr hwn er ei fawr glod ef ac êr ein han­nog ninnau i'r fath beth y dywed yr Scruthyrau sanctaidd hyn. Wele yr oedd gwr cyfion duwiol yn Ierusalem a 'i enw Simeon yn discwyl am ddiddanwch yr Israel a'r Yspryd glan oedd arno ac yr ydodd gwedy ei rhebyddio gan yr Yspryd glan na wele fe angau cyn iddo weled Christ yr Arglwydd: fe ddaith trwy 'r Yspryd i'r deml.

Yn y deml y cyfla wnwyd yr addewid, yn y deml y gwelodd ef Grist ac a'i cymmerodd yn ei frai­chiau, ac yn y deml y torrodd ef allan i fawr foli­ant Duw ei Arglwydd. Ac nid oedd Anna hên [Page 260] Brophwydes weddw, yn myned allan o'r deml, gan ymroi i weddi ac ympryd ddydd a nos, a hi yn dyfod hefyd ynghylch yr vn amser a gyfarwydd­wyd gan yr Ysyryd ac a gyffessodd ac a ddywedodd am yr Arglwydd, wrth bawb a edrychent am bry­nedigaeth Israel. Ni thorrwyd a'r gwr a'r wraig fendigaid hon am y mawr ffrwyth, ennill, a di­ddanwch, yr hwn a ddanfonodd Duw iddynt, trwy eu dyfal ddyfodiad hwy i sanctaidd Deml Dduw. Yn awr y cewch glywed mor ddig y fu Dduw wrth ei bobl am ddiystyru ei deml ef a'i dirmygu neu chamarfer hi yn gas.

Yr hyn beth sydd yn ymddangos yn oleu wrth y plaau a 'r poenedigaethau hynod y osododd Duw ar ei bobl: yn enwedig wrth hyn, iddo gy­ffro eu gwrthnebwyr hwy i ffusto i lawr, ac i ddi­nistr yn llwyr ei deml sanctaidd ef, ag anghyfa­neddrwydd tragwyddol.

Och pa sawl Eglwys gwlad a theyrnas, eiddo Gristionogawl bovl yn hwyr o amser, a dynnwyd i lawr, a rhedwyd drostynt, a adawad yn anghy­fannedd, a blin ac aneirif dyronaeth a chreulon­deb gelyn ein Harglwydd ni Christ y twrc mawr: yr hwn Whippodd. a fflangellodd y Christionogion mor gy­ffredinol na chlywad er ioed son, ac na ddarllen­wyd am y fath? Er ynghylchon pedwar igain mlynedd fe a orescynnodd y Twrc mawr ac a or­meiliodd ac a ddug dan ei lywodraeth a'i gathi­wed igain o deyrnasodd Christionogaidd, gan droi 'r bobl o ffydd Grist a'ugwenwyno hwy a chrefydd ddiawlig Mahomet felltigedig, a chan y naill ai distriwio eu eglwysydd hwy yn hollol, a eu ca­marfer hwy yn frwnt, a'i gamsynnaeth mellti­gedig cas ef.

[Page 261] Ac yn awr mae'r Twrc mawr hwn y fflangell chwerw dost hon o ddial Duw, yn gyfagos i'r rhan hon o Gristionogaeth hefyd, yn Europ ar gyffiniau Itali, ar gyffiniau Germani, yn agor ei enau yn barod in llyncu ni, i orescin ein gwlad ni, ac i ddistriwio ein eglwysydd ninnau hefyd, onid etifarhawn ni am ein bywyd pechadurus, a dy­fod i'r Eglwys yn ddiescaelusach, i anrhydeddu Duw, i ddyscu ac i gyflawni ei ewyllys bendige­dig ef.

Fe annogodd yr Iddewon yn eu hamser hwy yn gyfion lid Duw yn eu herbyn, o herwydd idd­ynt mewn rhan gamarfer ei deml sanctaidd ef, a delw-addoliad cas y cenhedloedd, ac ofergoelus ofereddau eu dychmygion hwy eu hunain yn er­byn gorchymmyn Duw. Ac mewn rhan o her­wydd eu bod hwy yn arfer o ddyfod iddi megis ragrithwyr gwedy llygru a'u trabaeddu a'u halo­gi 'n anferth, a phob rhyw ddrygioni, a bywyd pechadurus: ac mewn rhan yr oedd llawer ho­nynt yn diystyru 'r Deml sanctaidd, ac nid oedd waeth ganthynt pa vn a wnelent ai dyfod yno ai peidio.

Ac oni annogodd y Christionogion yn hwyr o amser, ie ac yn ein dyddiau ni hefyd, yn yr vn modd ddigofaint a llid yr Holl-alluog Dduw? Mewn rhan am iddynt anurddo a halogi eu Eglwysydd, a chamarferon cenhedlaidd Iddewaidd, a delwau ac eulynod: a llawer o allorau gwedy eu camar­fer yn ofergoelus ac yn aruthr, a chamarfer yn annial, a llygru yn angharhuaidd, sanctaidd swp­per yr Arglwydd, bendigedig Sacrament ei gorph ef a'i waed, a rhifedi aneirif o wagedd ac oferedd o'u dychmygion hwy eu hunain, i wneuthur go­lwg [Page 262] deg wych oddi allan, ac i anffurfo gostynge­dig ddisyml a phur grefydd Christ Iesu: mewn rhan maent yn dyfod i'r Eglwys fal ragrithwyr yn llawn o anwiredd a bywyd pechaourus, a meddwl a chred ofer enbaid ganthynt, os hwy a ddaw i'r Eglwys ac a Daenellir. dascir arnynt ddwfr ben­digaid, o gwrandawant offeren, ac o bendigir hwy a'r caregl, er na ddeallant vn gair o'r gwa­sanaeth ac er na chlywant vn cyffro i etifeirwch yn eu calonnau, etto fod pob peth yn dda ddigon.

Ffi ar y fath watwar a dirmyg a'r sanctaidd or­deiniaeth Duw. Fe wnaethpwyd eglwysydd er defnydd arall, hynny yw i ddyfod yno i wasana­ethu Duw yn gywir, i ddyscu ei sanctaidd ewy­llys ef, i alw a'r ei alluog enw efe, i arfer i sancta­idd Sacramentau ef, i ymegnio ac i fod mewn cariad perffaith a'th gymydog, i gofio yno dy gy­mydog tlawd anghennus, ac i fyned oddi yno yn well ac yn dduwiolach nag y daethosti yno.

Yn ddiwethaf fe annogwyd ac a annogir beu­nydd lid Duw, am nad gwaeth gan lawer o bobl am ddyfod i'r Eglwys, naill ai am eu bod gwedy eu dallu mor flin na fedrant ddeall dim am Dduw na duwioldeb, ac nad gwaeth ganthynt er rhwy­stro eu cymydogion trwy siampl ddiawlig, neu am eu bod hwy yn gweled yr Eglwys gwedy ei hyscibo o'r olwg wych yn y rhai yr ymhoffe eu ffansiau hwy yn fawr, am eu bod hwy yn gweled gau grefydd gwedy ei throi heibio, a gwir gre­fydd gwedy ei hadferu ailwaith: yr hyn y sydd beth diflas i'w hanflasus flas hwy: fal y mae'n eglur wrth yr hyn y ddywad rhyw wraig wrth ei chy­mydoges. Och gosib beth a wnawn ni yn yr Eg­lwys yn awr, gan fod yr holl saint gwedy eu tyn­nu [Page 263] ymmaith, gan fod yr holl olwg hardd yr oe­ddym arferedig o'i gweled gwedy myned ymma­ith, gan na chawni glywed y fath ganu a chware a'r yr Organ a glywsom ni cyn hyn.

Ond fyngharedigion mae ini achos mawr i lawenychu ac i rhoddi diolch i Dduw, fod ein he­glwys gwedy i rhyddhau oddiwrth yr holl bethau ac a anfodlonent Dduw, ac a nurddent ei dŷ san­ctaidd ef a lle gweddi, mo'r wradwyddus, am yr hyn y dinistrodd ef yn gyfion lawer o genhedlae­thau, yn ol dywedydiad S. Pawl. Os llygra neb 1. Cor. 3. 17. deml Dduw fe a'i llygra Duw yntef.

Ac fal hyn y dlyem ni foliannu Duw yn fawr am ddarfod diddymmu yn hollol fal y haeddant yn gywir yr holl arferon delw-addolaidd ofergoe­lus, y rhai oeddynt yn llwyr ddrwg ac a ddifwy­nent ogoniant Duw: ac etto fe gadwir yn we­ddaidd yn yr Eglwysydd yn arferol y pethau oll trwy y rhai yr anrhydeddir Duw, neu yr adaila­dir ei bobl ef. Ond yn awr am eich bod chwi yn deall mai ewyllys Duw yn hollol yw y chwi ddyfod i'r Eglwys, a'r ddiwarnodau gorphwysfa sanctaid, yn gymmaint ac bod yn clywed pa ddi­gofaint y mae Duw yn ei gymmeryd, a pha blaau y mae 'n eu harllwys ar ei bobl anufyddgar: lle yr ydych yn gweled pa fendithion y mae Duw yn eu rhoddi, a pha radau nefol sydd yn dyfod i'r fath bobl, ac a arferant o ddyfod i'w eglwysydd yn e­wyllysgar. Ac mewn zeal gan fod yn awr yn eich gwawdd chwi, yn garedig ac yn eich galw chwi yn gytun: gwagelwch na ddiogwch wneuthur eich dlyed na edwch i ddim eich rhwystro chwi ar ol hyn i ddyfod i'r Eglwys, ar yr amseroedd a oso­dir ac a orchymmynnir i chwi ddyfod.

[Page 264] Mae 'n Iachawdwr Christ yn dywedyd mewn dammeg ddarfod arlwy gwledd fawr a gwahodd Lu9c 14. 16. llawer, i lawer escuso eu hunain ac na ddawent. Yr ydwyf yn dywedyd wrthych medd Christ na chaiff yr vn o'r gwyr hynny a wahoddwyd bro­fi o'm swpper i. Y wledd fawr hon yw gwir gre­fydd yr holl-alluog Dduw â'r hon y myn ef ei a­ddoli, a dyledus dderbyniad ei Sacramentau, a gwir bregethiad a gwrandawiad ei sanctaidd air, ac arfer o'u gwneuthur mewn ymarweddiad du­wiol. Yr ydys yn awr yn arlwyo 'r wledd hon yn yr Eglwys, ty gwledd yr Arglwydd. Yr ydys yn eich galw ac yn eich gwawdd chwi ynghyd y­no: os gwrthodwch ddyfod ac os chwi a wnewch escuson, fe wnair yr vn atteb ichwi ac a wnaeth­pwyd iddynt hwythau.

Dewch am hynny yn awr fyngharedigion, a dewch heb oedi, a dewch i mewn yn llawen i dŷ gweddi Duw, a byddwch gyfranogion o'r don­niau a arlwyodd ac a ddarparodd ef i chwi. Ond edrychwch eich bod yn dyfod ymma a'ch trwsiad gwyl, nid a gwrthwynebrwydd megis pe byddai well gennych beidio na dyfod, pe byddych ar eich dewis. O herwydd mae Duw yn cashau ac yn cospi y fath ffugiol ragrithwyr, fal y mae yn eglur wrth ddammeg Christ yn y blaen. Y cyfaill medd Duw pa fodd y doethost i mewn ymma heb gen­nid Math 22. 12. wisc priodas am danad, ac am hynny fe or­chymmynnodd i'w weision rwymo ei draed ef a'i ddwylo, a'i daflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wy­lofain ac yscyrnygu dannedd. Am hynny fal y ga­lloch wagelyd y fath enbeidrwydd ar law Dduw, dewch i'r Eglwys y diwarnodau gwyl a dewch yn eich gwisc briodas, hynny yw dewch a meddwl [Page 265] llawen duwiol, dewch i geisio gogoniant Duw, ac i fod yn ddiolchus iddo ef, dewch i fod yn vn a'ch cymydogion ac i fyned i gyfaillach a chariad a hwynt hwy.

Ystyria fod dy holl orchwylion yn drewi ger bron Duw, oni byddi mewn cariad a'th gymydo­gion. Dewch a chalon gwedy ei charthu a'i glan­hau oddiwrth bob chwantau a dymuniadau by­dol cnawdol. Yscydiwch ymmaith bob meddy­liau ofer y rhai a allant eich rhwystro chwi oddi­wrth wir wasanaeth Duw. Mae 'r aderyn pan hedfano 'n escydwyd ei hadanedd. Ymmyscydwa, darpara dy hun i hedfan yn vwch nâ holl adar yr awyr, fal yn ol gwneuthur dy ddylyed yn ddyle­dus yn y deml ar Eglwys ddayarol hon, y ga­llech hedfan i fynu a chael dy dderbyn i ogone­ddus deml Duw yn y nef, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bytho holl ogoniant ac anrhydedd, yn oes oeso­edd. Amen.

¶ Pregeth yn yr hon y manegir y dy­lyid ministro gweddi gyhoeddus a'r Sacra­mentau mewn iaith a ddealler gan y gwrandawyr.

YMhlith aml arferon pobl Dduw Gristionogion anwyl, nid oes vn anghenrheittach i bob stat ac i bob amser nâ gweddi gyhoeddus, a dyledus arfer y Sacramentau: o herwydd yn y cyntaf yr ydym yn ceisio oddiar law Duw yr holl bethau y rhai heb hyn, ni allem gael mo ho­nynt. [Page 266] Ac yn ail y mae fe yn ein breicheidio ni, ac yn ei gynnig ei hun i ninnau i'w fraicheidio.

Am hynny a ni yn gwybod fod y ddwy arfer hynny mor anghenrhaid ini, na thybygwn fod yn anweddus ini ystyried, yn gyntaf pa beth yw gweddi a pha beth yw sacrament: ac yno pa sawl rhyw a'r weddi sydd, a pha sawl Sacrament, ac felly y deallwn ni yn well pa fodd y iawn arfe­rwn ni hwynt. Er gwybod pa beth ydynt mae S. Awstin yn y llyfr am yr Yspryd a'r enaid yn dywedyd falhyn am weddi. Gweddi, medd ef, yw Aug. de spirit. & anima. dwyfoldeb y meddwl: hynny yw ymchwel at Dduw trwy ddymunad duwiol gostyngedig: yr hon ddymuniad yw diogel ac ewyllysgar a melus ogwyddiad y meddwl ei hun at Dduw. Ac yn ei ail lyfr yn erbyn gwrthwynebwyr y gyfraith a'r Prophwydi y mae fe 'n galw y Sacramentau yn arwyddion sanctaidd. Ac wrth scrifennu at Bo­nifacius Aug. li. 2. cont. aduers. legis & prophetar. am fedydd plant bychain y dywaid: oni bai fod yn y Sacramentau Rhyw gyffelybaeth i'r pethau y maent yn Sacramentau honynt ni by­ddent Sacramentau mwy. Ac o'r gyffelybaeth August. ad Bonifac. honno maent o'r rhan fwyaf yn derbyn en wau y pethau eu hunain y maent yn eu harwyddoccau. Wrth y gairiau hyn o S. Awstyn mae 'n eglur ei fod ef yn fodlon i ddeffiniad neu ddescribiad arfe­rol Sacrament, hynny yw, ei fod ef yn arwydd weledig o rad anweledig, hynny yw yr hon sydd yn gosodd allan i'r llygaid a'r synwyrau eraill oddi allan orchwyl trugaredd rad Duw, ac sydd megis yn selio yn ein calonnau ni addewidion Duw.

Ac felly yr ydoedd yr enwaediad yn Sacrament, yr hwn a bregethodd i'r synhwyrau oddi allan [Page 26] enwaediad y galon oddifewn, ac a seloedd ac a ddi­ogelhaodd ynghalonnau 'r enwaededig, addewi­dion Duw ynghylch yr hâd a addawsed ac a edry­ched am dano.

Yn awr edrychwn pa sawl rhyw a 'r weddi a pha sa wl Sacrament y sydd. Yr ydym yn darllen yn yr Scruthur am dair rhyw o weddi, o'r rhai y mae dwy 'n neulltuol ac vn yn gyhoeddus.

Y gyntaf yw 'r hon y mae Pawl yn son am deni yn ei Epistl at Timothigan ddywedyd: Mi a fyn­nwn i wyr weddio ymhob man gan dderchafu dwylo purion heb ddigter nag ymryson. A hon 1. Tim. 2. 8. yw gwir a dyfal gyfodsad y meddwl at Dduw heb draethu blinder a dymunad y calonnau trwy la­ferudd yn gyhoeddus. O'r weddi hon y mae 'r si­ampl yn llyfr Samuel am Haanah mam Sa­muel, pan weddioedd hi yn y deml yn hrymder ei 1. Sam. 1. 13. chalon, gan ddymuno cael ei gwneuthur yn ffrw­ythlon. Medd y text yr ydodd hi yn gweddio yndi ei hun a'i llaferudd ni chlywyd. Yn y dull hyn y dylye'r holl Gristionogion weddio, nid vnwaith yn yr wythnos, neu vnwaith yn y dydd, ond fal y dywaid Pawl wrth scrifennu at y Thessaloniaid 1. Thes. 5. 7. heb orphwys. Ac fal y mae S. Iaco 'n scrifennu, Iaco. 5. 16. Llawer y ddychon gweddi'r cyfion os ffrwythlon y fydd hi.

Yr ail rhyw o weddi y sonnir am deni yn S. Mathew, lle y dywedir fal hyn, Pan weddiech Math. 6. [...]. dos i'th stafell a chwedy cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wel yn y dirgel a'th obrwya di yn yr amlwg: O'r rhyw hon o weddi mae llawer siampl yn yr Scry­thyrau sanctaidd: ond digon i ni adrodd vn yr hon sydd scrifennedig yn Actau 'r Apostolion. Mae [Page 268] Cornelius gwr sanctaidd canwriad o'r Italaidd fyddin, yn dywedyd wrth yr Apostol Peter, ag Act. 10. 30. yntef yn ei dŷ yn gweddio ynghylch y nawfed awr ymddangos iddo fe vn mewn dilliad gwynnion, &c. Fe weddiodd y gwr hwnnw a'r Dduw yn y dir­gel, ac a obrwywyd yn yr amlwg. Dymma 'r ddwy rhyw weddiau dirgel. Y naill yn y meddwl, hynny yw dwyfol ddercbafiad y meddwl ac Dduw, a'r llall yn y llaferydd, hynny yw dirgel adrodd blinderau a dymyniadau 'r galon mewn geiriau, ond etto mewn stafell ddirgel, neu rhyw le neulltuol.

Yr ail rhyw o weddi sydd gyffredinol neu gyho­eddus. Am y weddi hon y son ein Iachawdwr Christ, pan mae fe 'n dywedyd. Os cytuna dau o hanoch ar y ddayar am ddim oll beth bynnac a ddeisyfant rhoddir iddynt gan fynhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canis ymhale bynnac yr ymgynu­llo dau neu dri yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu mysc hwynt. Er i Dduw addo 'n gwrando ni pan weddion yn y dirgel trwy wneuthur hynny yn ffyddlon ac yn dduwiol: O herwydd mae fe 'n dy­wedyd galw arnafi yn-nydd trallod yno mi a'th wrandawaf. Pfal. 50. 15.

Ac medd S. Iaco ac Elias yn wr marwol fe weddiodd ac ni bu law dros dair blynedd a chwe­mis, Iac. 5. 17. ac fe a weddiodd drachefn ac fe rhoddes y nef ei glaw. Etto mae 'n eglur wrth historiau y beibl fod gweddi gyffredinol yn rymmusach ger bron Duw, ac am hynny y dylyed galaru yn fawr na wnair rhagor gyfrif honi hi, yn ein mysc ni y rhai ydym yn addef ein bod yn vn corph ynghrist.

Pan fygythwyd dinistr dinas Ninifi o fewn deigain diwarnod. Fe gydsylltodd y brenin a'i [Page 269] bobl eu hunain mewn gweddi ac ympryd, ac hwy a waredwyd. Fe orchymmynnodd Duw yn y Ionas. 3. Prophwyd Ioel gyhoeddi ympryd, ac i'r bobl hen a iauainc, gwyr a gwragedd, ymgynull ynghyd, a dywedyd ac vn llaferydd: arbed dŷ bobl Arglw­ydd Ioel. 2. 13, 16. ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth: a phan oe­ddid er fedr difa 'r Iddewon oll mewn vn diwar­nod trwy genfigen Haanan, wrth orchymmyn Hester hwy a ymprydiasant ac a weddiasant, ac Hest. 4. 16, 17. hwy a waredwyd: pan warchaodd Holophernes Bethulia, wrth gyngor Iudith hwy ymprydia­sant Iudith. 8. 14. ac a weddiasant ac hwy a rhyddhawd. Pan ydodd yr Apostol Peter yngharchar fe ymgysyll­todd y Act. 12. 5. gynulleidfa ynghyd mewn gweddi ac fe wa­redwyd Peter mewn modd rhyfedd.

Wrth yr historiau hynny mae 'n eglur fod gwe­ddi gyffredinol gyhoeddus yn rymmus iawn i fwynhau trugaredd, ac ymwared oddiar law ein Tad nefol. Am hynny fymrodyr yr atolygaf i chwi er mwyn tirion drugaredd Duw, na fy­ddwn mwy yn escaelus yn hyn o beth: ond megis pobl a fyddant ewyllysgar i dderbyn ar law Duw y fath bethau, y rhai y mae gweddi gyffredinol yr Eglwys yn eu ceisio, ymgyssylltwn ynghyd yn y lle a osodwyd i weddi gyhoeddus, ac ag vn galon ceisiwn gan ein Tad nefol yr holl bethau a wyr ef eu bod yn anghenrhaid ini.

Nid ydywyf yn gwahardd gweddiau dirgel i chwi, ond yr ydwyf yn eich annog i wneuthur cymmaint gyfrif a gweddi gyhoeddus ac y mae hi 'n haeddu. Ac ymlaen pob peth byddwch siccr yn y tair rhyw hon o weddi fod eich meddyliau gwedy eu cyfodi yn ddwyfol at Dduw, ac onid ef ni bydd eich gweddiau onid diffrwyth, ac fe wir­hair [Page 270] ynoch chwi yr ymmadrodd hwn: mae 'r bobl hyn yn nesau attaf a'u geneuau a'u calonnau ym­hell oddiwrthyf. Esa. 29. 13. Math. 15. 8. Hed hyn am y tair rhyw gweddi am y rhai y darllenwn yn yr Scruthur lân.

Yn awr a'r vn fath neu lai o airiau y cewch glywed pa sawl Sacrament sydd gwedy i ein Ia­chawdwr Christ eu gosod, ac a ddylent barhau a'u derbyn gan bob Christion mewn amser a threfn dyledus, ac am yr achos y mynnai em Iachawdwr Christ ini eu derbyn hwy. Ac am eu rhifedi hwy ped ystyrid hwy yn ol gwir arwyddocad Sacra­ment: sef am yr arwyddion gweledig y rhai a or­chymmynnir yn oleu yn y Testament newydd a'r rhai y cydsylltir addewid maddauant o'n pecho­dau yn rhad a'n sancteiddrwydd a'n cyssylltiad ni ynghrist: nid oes onid dau, bedydd a swpper yr Ar­glwydd. O herwydd er bod i ollyngdod addewid maddeuant pechodau etto nid oes wrth airiau eglur y Testament newydd, vn addewid gwedy ei chlymmu a'i rhwymo a'r arwydd weledig yr hon yw gosodiad dwylaw.

O herwydd nid ydys yn y Testament newydd yn gorchymmyn yn oleu arfer gosod dwylo mewn gollyngdod fal yr ydys yn gorchymmyn yr arwy­ddion gweledig mewn bedydd a swpper yr Arg­lwydd: ac am hynny nid yw gollyngdod y fath sa­crament ac yw bedydd a'r cymmyn. Ac er bod i wneuthurdeb offeiriad ei harwydd weledig a'i haddewid, etto mae erni diffig addewid maddau­ant o bechodau: fal a'r yr holl Sacramentau er­aill heblaw y rhai hyn, am hynny nid ydyw na honnag vn Sacrament arall y fath Sacrament ac ydyw y bedydd a'r cymmyn. Ond mewn cym­meriad cyffredinol fe ellir rhoi enw Sacrament i [Page 271] bob peth trwy 'r hwn yr arwyddoccair vn peth sanctaidd. Yn yr hwn ystyr y rhoes yr hên dadau yr enw hwn nid yn vnic i'r pump eraill, y rhai yn hwyr o amser a gymmerid yn lle Sacramentau i Dionysius. wneuthur saith, ond hefyd i lawer o Ceremoniau Bernard de coena Dom. & ablutione pedum. craill megis i olew, golchiad traed, a'r fath be­thau, heb feddwl trwy hynny eu cyfrif hwy yn Sacramentau, yn yr ystyr ac y mae y ddau Sacra­ment a ddywedasom ni o'r blaen.

Ac am hynny mae S. Awstin gan ystyried gvoir ystyr ac iniawn ddeall y gair Sacrament, wrth Aug. ad Ia­nuar. & De doct. Chri. scrifennu at Ianuarius, ac yn ei drydydd llyfr he­fyd am yr athrawiaeth Gristionogawl, yn dywe­dyd fod Sacramentau y Christianogion yn am­bell mewn rhifedi, ac yn odidawg mewn ystyr, ac yn y ddau le hynny mae fe 'n eglur yn sôn am ddau, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.

Ac er bod yn cynnal trwy drefn eglwys Loegr, heblaw y ddau hyn, ryw arferon a Ceremoniau ynghylch gwneuthur offeiriaid, priodas, a bedydd escob, gan holi plant am eu gwybodaeth mewn pyngciau ffydd, a chan gyssylltu â hynny weddi­au 'r Eglwys drostynt, ac hefyd am ymweliad y clâf: etto ni ddylyai neb gymmeryd y rhai hyn yn lle Sacramentau, yn yr ystyr a'r deall y cymme­rir Bedydd a Swpper yr Arglwydd, ond naill a'i yn alwedigaethau duwiol o fywyd, anghenrhaid yn Eglwys Grist, ac am hynny yn deilwng i'w gosod allan trwy weithred gyhoeddus gyffredinol gan wenidawg yr Eglwys: ynteu a fernir eu bod yn gyfryw ordeiniaethau, ac a allant gynnorth­wyo i athrawiaethu, diddanu, ac adailad Eglwys Ghrist.

Yn awr a ni gwedy deall pa beth yw gweddi, a [Page 272] pha beth yw Sacrament, a pha sawl rhyw o we­ddi y sydd, a pha sawl Sacrament hefyd a oso­dodd ein Iachawdwr Christ: edrychwn bellach a oddef yr Scruthyrau a siampl y brif-Eglwys gynt, weddi llaferydd (hynny yw, pan yw 'r ge­nau yn traethu rhyw ddeisyfiadau â'r llaferydd) neu finistro rhyw Sacramentau neu vn rhyw weithred, neu Caeremoni gyffredinol gyhoeddus arall, yn perthyn at fudd ac adailadaeth y gynu­lleidfa dlawd, mewn tafod anghydnabyddus, yr hwn ni ddeall na 'r gwenhidawg na 'r bobl: neu a ddylai vn dŷn arfer yn neilltuoll weddi laferydd mewn iaith nis deall.

I'r cwestiwn hwn rhaid ini atteb, nas dylyai. Ac yn gyntaf am weddi gyffredinol a ministrad y sacramentau, er y perswadai rheswn ni yn hawdd (pe cai ein rheoli ni) y dlyem ni weddio 'n gyhoe­ddus, a ministro y Sacramentau mewn iaith a ddealler, o herwydd mai gweddio 'n gyffredinawl, yw bod i gynulleidfa bobl ofyn vn peth, ag vn lla­ferydd a chyfundeb meddwl, a ministro Sacra­mentau yw trwy 'r gair a'r arwydd oddi allan, pregethu i 'r derbynwyr anweledig râs Duw oddifewn: ac hefyd am osod yr arferon hyn, a'u bod fyth yn parhau, er mwyn dwyn ar gof i'r gynulleidfa o amser i amser, eu hundeb ynghrist, ac y dlyent fal aelodau o vn corph mewn gweddi a phob modd arall geisio a chwenychu bob vn fudd ei gilydd, ac nid eu budd eu hunain heb en­nill eraill. Etto nid rhaid ini redeg at reswn i brwfo y peth hyn, o herwydd bod gennym airiau eglur goleu 'r Scruthur, ac hefyd gyfundeb yr scrifennyddion hynaf a dyscediccaf, yn canmol gweddiau y gynulleidfa yn yr iaith a dealler. Yn [Page 273] gyntaf mae S. Pawl at y Corinthiaid yn erchi 1. Cor. 14. 26. gwneuthur pob peth er adailadaeth: yr hyn ni ddichon bod oni bydd y gweddiau a ministrad y Sacramentau mewn tafod cydnabyddus i'r bobl. O herwydd pan draetho 'r offeiriad weddi, neu finistro y Sacramentau mewn gairiau na ddealler gan y rhai sydd bresennol, ni ellir eu ha­dailadu hwy.

O herwydd megis os yr vtcorn yn y maes, a rydd lais anhynod, ni all neb trwy hynny ymba­ratoi i ryfel. Ac megis pan fytho offeryn cerdd yn gwneuthur sain ddiwahanol, ni ŵyr neb pa beth a genir. Felly pan fytho gweddi neu fini­strad y Sacramentau mewn iaith anghynaby­ddus i 'r gwrandawyr, pwy o hanynt a gyffroir i gyfodi ei feddwl at Dduw i geisio gydâ'r gweni­dawg gā Dduw y pethau y mae 'r gwenidawg yn ei airiau a'i weddi yn eu gofyn? Neu pwy wrth finistro 'r Sacramentau a ddeall pa rad anwele­dig a ddylyai y gwrandawyr ddymuno cael ei wei­thio yn y dyn oddufewn? yn wir neb. O her­wydd fal y dywaid S. Pawl mae 'r hwn a ddy­wedo mewn tafod anghydnabyddus yn estron i'r gwrandawyr, yr hyn sydd anweddus iawn mewn cynulleidfa Gristionogaidd.

O herwydd nid ydym estroniaid i'w gilydd, ond cyd-ddinaswyr â'r saint, ac o dylwydd Duw, ac Ephes. 26. 19. 1. Cor. 10. 7. 1. Cor. 14. 11. aelodau yr vn corph. Ac am hynny yr hyd y by­tho 'r gwenidog yn adrodd y weddi a wnair yn ein henwau ni i gyd, rhaid yw ini roddi clust i'r geiriau y mae fe 'n eu hadrodd, ac yn ein calonnau ofyn ar law Dduw, y pethau y mae fe mewn gei­riau yn eu gofyn: ac i arwyddoccau ein bod, yn gwneuthur felly, yr ydym yn dywedyd Amen, ar [Page 274] ddiwedd y weddi, yrhon y mae fe'n ei gwneuthur yn ein henwau ni oll. A hyn ni allwn ni ei wneu­thur er adailadaeth, oni ddeallir yr hyn aiddy­wedir.

Am hynny anghenrhaid yw gweddio yn gy­hoedd yn yr iaith a ddeallo y gwrandawyr. A phe buasai gweddus goddef erioed iaith ddieithr yn y gynulleidfa, fe allasai hynny fod yn amser Pawl a'r Apostolion eraill, pan gynyscaeddid hwy â mawr wyrthian ac aml iaithoedd: o herwydd fe allasai hynny annog rhai i dderbyn yr efengil, pan glywsent Hebrewyr o anedigaeth, er eu bod yn annyscedig; yn dywedyd Groeg, a lladin, ac iai­thoedd eraill: ond ni thybygodd Pawl y dylaid goddef hyn yr amser hynny: ac a arferwn ni hyn­ny yn awr, pan nad oes neb yn dyfod i iaithoedd, heb astudrwydd dyfal? Na atto Duw. O her­wydd trwy hynny y dygem holl arferon ein he­glwys, i wâg ofergoel, ac y gwnaem hwy oll yn ddiffrwyth.

Mae Luc yn scrifennu i Petr ac Ioan gwedy eu rhyddhau oddiwrth dywysogion ac archo­ffeiriaid Ierusalem, ddyfod at eu cymydeithion, a dywedyd wrthynt yr holl bethau a ddywedase yr offeiriaid a'r henuriaid wrthynt: yr hyn pan glwysont, hwy a godasant eu llaferydd mewn cy­tundeb Act. 4 24. at Dduw gan ddywedyd, O Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnaethost nef a dayar, mor, ac oll sydd yndynt, &c.

Ni allasent wneuthur hyn pe gweddiasent mewn iaith ddieithr, yr hon niddeallasent: ac yn ddiddau, ni ddywedasant hwy oll â llafarau gwa­hanedig: ond rhyw vn o honynt a ddywedodd yn eu henwau hwynt oll, a'r llaill gan wrando 'n [Page 275] ddiescaelus a gyfunasant ag ef: ac am hynny y dy­wedir gyfodi o honynt eu llafar ynghyd.

Nid ydyw S. Luc yn dywedyd▪ Eu llafarau, megis am lawer, ond Eu llafar, megis am vn▪ Yr ydoedd yr vn llafar hwnnw am hynny yn y fath iaith ac yr oeddent hwy oll yu ei deall, oni bua­sai hynny ni allasent gyfodi mohoni i fynu â chy­fundeb eu calonnau: o herwydd ni ddichon neb gyfuno â'r hyn nis gwyr.

Am yr amser ymlaen dyfodiad Christ ni bu ddŷn erioedi a ddywedai, fod gan bobl Dduw, na chan neb arall, eu gweddiau, neu finistrad eu Sacra­mentau, neu eu haberthau, mewn iaith nas dea­llent hwy eu hunain. Ac am yr amser er Christ, nes i Draws. ortrechus allu Rufain ddechrau gorescyn, a rhwymo holl genhedlaethau Europ i fawrhau iaith Rufain▪ mae 'n eglur wrth gyfundeb yr hên scrifenyddion dyscedig, nad oedd arfer iaith ddie­thr, anghydnabyddus, ynghynulleidfaon y Chri­stionogion.

Mae Iustin. ferthur, yr hwn oedd yn fyw yn 160. Iustinus Mar­tyr. Apol. 2. mlynedd o oedran Christ yn dywedyd fal hyn am finistrad Swpper yr Arglwydd, yn ei amser ef; A'r ddie sul mae cynnulleidfaon o'r rhai a arhosant yn y trefydd, a'r rhai a drigant yn y gwledydd he­fyd: ymhlith y rhai yr ydys yn darllen cymmaint ac a ellir, o scrifeunadau 'r Apostolion a'r Pro­phwydi. Yn ol i'r darlleudd beidio, mae 'r gweni­dawg pennaf yn gwneuthur annogaeth, gen eu hannog i ganlyn pethau honest: yn ol hynny, yr ydym yn cyfodi oll ynghyd ac yn offrwin gwe­ddiau, yn ôl diweddu y rhai (fal y dywedasom) y dygir i mewn fara a gwin a dwfr. Yno mae 'r gwenidawg pēnaf yn offrwm gweddi a diolch â'i [Page 276] holl allu, a'r bobl yn atteb Amen.

Mae 'r geiriau hyn a'u hamgylchau, os ystyrir hwy yn dda, yn manegi yn oleu, fod nid yn vnic yn darllen yr Scruthyrau mewn iaith a ddealled, ond bod yn gweddio felly hefyd yn y cynnulleid­faon yn amser Iustin.

Fe osododd Basilius Magnus, ac felly y gwnaeth Ioan Chrysostom. enau aur, hefyd yn eu hamseroedd, dresnau cyhoeddus ar wenidogaeth gyhoeddus, y rhai a alwent Leiturgiae, ac yn y rhai hynny hwy a osoda­sant ar y bobl atteb i weddiau 'r gwenidogion weithiau Amen, weithiau Arglwydd trugarha wrthym, weithiau a chyd a'th ysyryd dithau, ac Mae'n calonnau ni gwedi eu cyfodi at yr Arglw­ydd, &c. Yr hwn atteb ni fedrase 'r bobl ei wneu­thur mewn amser dyledus, oni buasai fod y weddi mewn iaith ac a ddeallent hwy. Mae'r vn Basil wrth scrifennu at eglwyswyr Neocaesaria, yn dy­wedyd Epistol. 63. fal hyn am arfer gweddi gyffredinol, gan appwynto rhai i ddechreu 'r caniad, ac eraill i gan­lyn, ac felly gan dreulio 'r nos mewn llawer o ga­niadau a gweddiau, maent ar y wawr ddydd oll ynghyd megis ag vn genau ac vn galon) yn canu i'r Arglwydd ganiad o gyffes, pob vn yn gosod iddo ei hun airiau cymhesur o etifeirwch.

Mewn man arall mae fe 'n dywedyd: os bydd y mor yn deg, pa faint mwy y mae ymgynulliad y gynulleidfa 'n deccach, yn yr hon y danfonir allan sain cyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant (megis tonnau 'n ffusto ar lan y mor) o'n gweddiau ni at Basil Ruf 4. Dduw? Ystyriwch ar ei airiau ef, sain (medd ef) gyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant: yr hyn ni ddichon bod oni byddai eu bod hwy oll yn deall yr iaith yn yr hon yr adroddid y weddi.

[Page 277] Ac fe a ddywaid Chrysostom ar airiau S. Pawl. 1. Cor. 14. Ey gynted ag y clywo y bobl y gairiau hyn, yn oes oesoedd, maent hwy oll yn y man yn atteb, Amen. Yr hyn ni allent hwy ei wneuthur, oni bai eu bod hwy 'n deall yr hyn a ddywedai 'r offeiriad.

Mae Dionysius yn dywedyd fod yr holl dyrfa bobl yn canu caniadau, wrth finistro y cymmun. Dionys. Mae S. Cyprian yn dywedyd fod yr offeiriad yn darparu meddyliau y brodyr â rhag-ddywediad Cyprian. ser. 6. de oratione Dominica. au ymlaen y weddi, gan ddywedyd derchefwch eich calonnau: ac yno 'r atteb y bobl yr ydym yn eu dyrchafu hwy at yr Arglwydd. Ac mae S. Ambros wrth scrifennu ar airiau S. Pawl yn dywedyd, Hyn yw 'r peth y mae fe 'n ei ddywedyd, fod yr hwn a ddywaid mewn tafod ddiethr, yn dywedyd wrth Dduw, yr hwn sydd yn gwybod pob peth, ond nid ydyw dynion yn gwybod, ac am hynny nid oes ffrwyth o'r peth hynny.

Athrachefn ar y geiriau hyn, os bendigi di neu 1. Cor. 14. roddi diolch â'r yspryd, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn lle 'r annyscedig, Amen, ar dy ddiolchiad di, gan na ŵyr ef pa beth yr ydwyd yn ei ddywe­dyd? Hynny yw, medd S. Ambros, os ti a fanegi foliant Duw mewn iaith nis gwypo y gwran­dawyr. O herwydd pan glywo 'r annyscedig yr hyn nis deallo, nid edwyn ddiwedd y weddi, ac ni fedr ddywedyd Amen. Yr hwn air yw cymmaint ac yn wir, neu bydded wir, fal y cadarnhair y fen­dith, neu y rhoddiad diolch. O herwydd gan y rhai a attebant, Amen, y cyflawnir cadarnhâd y weddi, fal y cadarnhair pob peth a ddywedir ym­meddyliau y gwrandawyr, trwy dystiolaeth y gwirionedd.

[Page 278] Ac yn ol llawer o airiau pwysig i'r vn defnydd, mae fe n dywedyd, y cwbl yw hyn: na wneler dim yn yr Eglwys yn ofer, ac mai 'r peth hyn yn enwedig a ddylid llafuro am dano, fef ar fod i'r anyscedig allel cael lleshâd, rhag bod vn rhan o'r corph yn dywyll trwy anwybodaeth. Ac rhag ty­bied o neb ei fod ef yn meddwl hyn oll am bre­gethu, ac nid am weddi: mae fe 'n cymmeryd a­chos ar y gairiau hyn ei S. Pawl, (oni bydd cyfi­aithydd, tawed yr hwn sydd ac iaith ddieithr yn yr Eglwys) i ddywedyd, fal y canlyn: Gweddied yn ddirgel, neu ddyweded wrth Dduw, yr hwn 1. Cor. 14. 28. sydd yn clywed yr holl bethau mudion. O her­wydd yn yr Eglwys rhaid i hwnnw ddywedyd, yr hwn a wna lles i bawb oll.

Mae S. Ierom wrth scrifennu ar y geiriau hyn ei S. Pawl, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn Vers. 16. lle 'r anyscedig Amen, &c. yn dywedyd, y gwr llyg yw'r hwn y mae S. Pawl yn dywedyd ymma ei fod yn lle yr ânnyscedig, yr hwn nid oes gan­tho vn swydd Eglwysig, pa fodd yr atteb ef Amen, ar weddi yr hon nid ydyw yn ei deall? Ac yn y man ar ol hynny sef ar airiau Pawl pe llafarwn Vers. 6. a thafodau, &c. Mae fe 'n dywedyd fal hyn. Hyn yw meddwl Pawl: Os llafara neb mewn tafo­dau dieithr, anghydnabyddus, fe wnair ei feddwl ef yn ddiffrwyth, nid iddo ei hun, ond i'r gwran­dawyr: o herwydd beth bynnac a ddywedir, nid yw ef yn ei wybod. Ac mae S. Awstin wrth scri­fennu a'r y ddaunawfed Psalm, yn dywedyd: ni Psa. 18. a ddlyem ddeall pa beth yw hyn, fal y gallom ga­nu a rheswn dŷn, ac nid a thrydar adar. O her­wydd mae dylluanod, cawciod, cigfrain, piod, a'r fath adar eraill, gwedy eu dyscu gan dynnion i [Page 279] Drydar. glegru, ni wyddont pa beth. Ond canu trwy dde all a rhoddwyd trwy ewyllys sanctaidd Duw i natur dŷn. Ac ailwaith, mae S. Awstin yn dy­wedyd, Nid rhaid wrth vn llaferudd pan fythom ni 'n gweddio, ond fal y mae 'r offeiriaid yn gw­neuthur, De Magist. i ddangos eu meddwl, nid fal y gallo Duw, ond fal y gallo dynnion eu clywed hwy. Ac felly gan ei cofio wrth gyfuno a'r offeiriaid y ga­llont orbwyso a'r Dduw.

Fal hyn ein dangosir trwy 'r Scrythyrau a'r hên ddoctoriaid, na ddylyid wrth weddio neu fini­stro Sacramentau, arfer vn iaith nas deallo 'r gwrandawyr. Megis i fodloni cydwybod Chri­stion, nad rhaid ini dreulio chwaneg amser yn hyn o beth. Ond etto e'r attal safnen gwrthwyneb­wyr, y rhai sydd yn sefyll ormod ar ordeiniae­thau cyffredinol, da yw cydsylltu at y testiolae­thau hyn o'r Scruthyrau a'r hên Ddoctoriaid, vn ordeiniaeth y wnaeth yr Ymherodr Iustinian, yr hwn oedd Ymherodr Rufain ynghylch pymp­cant mlynedd a saith mlynedd a 'r igain yn ol Christ, yr ordeiniaeth yw hon: Yr ydym yn gor­chymmyn i'r holl Escobion ac offeiriaid finistro 'r Nouel consti. 23. offrwm sanctaidd, ac arfer gweddiau yn y bedydd sanctaidd, nid gan ddywedyd yn yssel, ond a llafe­rudd eglur, vchel▪ yr hon a all y bobl oll ei chly­wed, fal trwy hynny y cyffroir meddyliau y gw­randawyr a mawr ddwyfoldeb, wrth adrodd gwe­ddiau 'r Arglwydd Dduw, O herwydd felly y mae 'r Apostol sanctaidd, yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid yn dangos, gan ddywedyd, Os ben­digi di neu os rhoddi di ddiolch yn yr Yspryd yn dda, pa fodd y gall yr hwn sydd yn lle 'r annysce­dig, ddywedyd, Amen, ar dy ddiolchad di? O her­wydd [Page 280] ni wyr efe pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd? Yn wir yr ydwyti yn rhoddi diolch yn dda, ond nid ydys yn ei adailadu efe.

Ac ailwaith, fe a ddywaid, yn ei Epistol at y Ru­feiniaid: A'r galon y credir i gyfiawnder, a'r geneu y cyffefir i Iechadwriaeth. Am hynny o blegid yr achosion hyn, ymmysc gweddiau eraill, mae 'n gymhesir i'r Escobion a'r offeiriaid crefyddgar, draethu a dywedyd hefyd y rhai a ddywedir yn yr offrwm sanctaidd, I'n Harglwydd Iesu Grist ein Duw ni, gyda 'r Tad, a'r Yspryd glan, a llaferudd vchel. A gwybydded y crefyddgar offeiriaid hyn, os hwy a escaelusant y pethau hyn, y gorfudd ar­nynt rhoddi cyfrif am danynt, yn echrydus farn y Duw mawr, a'n Iachawdwr Iesu Grist: a phan wypom ninnau hynny, ni orphwyswn ni, ac ni oddefwn hynny heb ei ddial. Yr ydoedd yr Ym­herodr hwn (fal y dywaid Sabelicus) yn ffafro Escob Rufain, ac etto ni a welwn pa fath ordeini­aeth oleu y wnaeth ef, am weddio a ministro Sa­cramentau mewn iaith gydnabyddus, er mwyn cyffro defosiwn da y gwrandawyr trwy wyboda­eth, yn erbyn barn y rhai a fynnant mai anwybo­daeth sydd yn gwneuthur defosiwn da, mae fe he­fyd yn ei wneuthur ef yn beth damnedig wneu­thur y pethau hyn mewn iaith nis deallo 'r gw­randawyr. Cauwn hyn am hynny trwy gyfundeb Duw a dynnion da na ddylaid gweddio yn gy­hoeth na ministro Sacramentau mewn iaith nis deallo y gwrandawyr. Yn awr gair neu ddau am weddi neilltuol mewn iaith ni ddeallir.

Ni a gymmerasom arnom pan dechrauasom son am y peth hwn, brwfo, nid yn vnic, na ddylaid mi­nistro gweddi gyffredinol neu Sacrament, mewn [Page 281] iaith nis deall y gwrandawyr▪ ond hefyd na ddy­lai neb weddio 'n ddirgel, mewn iaith ni byddai fe ei hun yn ei deall. Yr hyn ni bydd anhawdd ini ei wneuthur, oni ollyngwn yn angof pa beth yw gweddi. O herwydd os defosiwn y galon yw gwe­ddi, yr hwn sydd yn gyrru 'r galon i ymgyfodi at Dduw, pa fodd y gellir dywedyd fod hwnnw yn gweddio, yr hwn nid yw yn deall y geiriau y mae ei dafod yn eu traethu mewn gweddi? Ie pa fodd y gellir dywedyd ei fod ef yn dywedyd? o herwydd dywedyd yw traethu meddwl y galon trwy lafe­rudd y genau.

Ac nid ydyw llaferudd y draetho dŷn wrth ddy­wedyd, ddim ond cennadwr y meddwl, i ddwyn allan wybodaeth, am y peth oni bai hynny, a or­wedde 'n ddirgel yn y galon, ac ni ellir ei wybod: yn ol yr hyn a scrifenna S. Pawl, Pwy a ŵyr medd ef y pethau sydd mewn dyn, ond yspryd dyn yn vnic, yr hwn sydd ynddo? Ni ellir am hynny yn iniawn ddywedyd, ei fod ef yn dywedyd, yr hwn nid yw yn deall y laferudd y mae ei dafod yn ei draethu, ond yn dynwared dywedyd, fal y gwna 'r perot, neu 'r fath adar, sydd yn dynwared lla­ferudd dynnion. Ni faidd neb am hynny ac a fy­tho yn ofni digofaint Duw yn ei erbyn ei hun, son am Dduw yn rhy ehud, heb feddwl am ddeall par­chus yn ei wydd ef, ond fe ddarpara ei galon cyn rhyfygu dywedyd wrth Dduw. Ac am hynny yn ein gweddi gyffredinol, mae 'r gwenhidawg yn dywedyd yn fynych gweddiwn: gan feddwl wrth hynny rhebyddio 'r bobl i ddarparu eu clustiau i wrando, ar y peth y mae er fedr ei erchi ar law Ddduw, a'u calonnau i gyfuno a hynny, a'u tafo­dau ar y diwedd i ddywedyd, Amen.

[Page 282] Fal hyn y darparodd y Prophwyd Dafydd ei galon, pan ddywedodd ef, parod yw fynghalon o Dduw, parod yw fynghalon, canaf a chanmolaf. Fe ddarodd i'r Iddewon hefyd, yn amser Iudith, Psal. 57. 7. cyn iddynt ddechreu gweddio, ddarparu eu calon­nau felly, pan weddiasant hwy a'u holl galonnau, ar i Dduw ymweled a'i bobl Israel. Fal hyn y darparasai Menasses ei galon, cyn iddo weddio, a dywedyd: yr ydwyf yn gostwng gliniau fyngha­lon, 2. Cro. 33. 12. gan ofyn iti ran o'th drigarog fwynder. Pan fytho 'r galon gwedy ei darparu fal hyn, maer llaferudd a draethir o'r galon, yn beraidd ynghlu­stiau Duw, ac heb hyn ni ystyria ef hi i'w derbyn. Ond o herwydd fod ydyn sydd yn Twrddan. dadwrdd gei­riau diddeall yngwydd Duw, yn dangos nad y­dyw ef yn ystyriaid mawrhydi Duw, wrth yr hwn y mae fe 'n dywedyd: mae Duw yn cymmeryd hwnnw megis vn yn diystyru ei fawrbydi ef, ac yn rhoddi iddo ei wobr ymlhith ragrhithwyr, y rhai sydd yn ymddangos yn sanctaidd oddifaes, a'u calonnau yn llawn meddyliau ffiaidd, ie yn amser eu gweddiau.

O herwydd y galon y mae 'r Arglywydd yn e­drych erni, fal y scrifennir yn histori y brēhinioedd. Os mynnwn ninnau am hyn na byddo ein gwe­ddiau yn ffiaidd bethau, ger bron yr Arglwydd Dduw, darparwn ein calonnau cyn gweddio, ac felly deallwn y pethau yr ydym yn gweddio am danynt, fal y gallo ein ealonnau a'n llaferudd, gyd­seinio ynghlust mawrhydi Duw: ac yno ni ffae­lwn dderbyn ar ei ddwylaw ef, y pethau yr ydym yn eu gofyn, fal y gwnaeth gwyr da o'n blaen ni, y rhai a dderbyniasant o amser yn amser y pethau a ddamunent er iechyd i'w heneidiau.

[Page 283] Fe dybygid fod S. Awstin yn cyd-ddwyn yn y pe­thau hyn, o herwydd fal hyn y dywaid ef am y rhai a ddygir i fynu mewn gramadeg, neu rhethorei, ac a droir at Grist, ac am hynny sydd rhaid eu dys­cu De catechi­sandis rudi­bus. ynghrefydd Grist: Gwybyddant hefyd medd S. Awstin nad y llaferudd ond meddylfryd y ga­lon sydd yn dyfod i glustiau Duw. Ac yno y bydd, os digwydds iddynt ystyried, fod yr Escob neu'r gwenhidawg yn yr Eglwys, yn galw ar Dduw a geiriau anghysson ac anhrefnus, neu y rhai na bônt hwy yn eu deall, neu eu bod hwy yn cyfran­nu yn anhrefnus y geiriau y maent yn eu traethu, na watwarant ddim o honynt. Hyd yn hyn fe a dybygid ei fod ef cyd-ddwyn gr da gwedio mewn iaith ni ddeallir.

Ond yn yr ymadrodd nesaf mae fe 'n agoryd ei feddwl fal hin. Nid am na ddylid gwella y pethau hyn fal y gallo y bobl ddywedyd Amen i'r hyn y maent yn ei ddeall yn dda: ond etto rhaid yw dw­yn gyda 'r holl bethau duwiol hyn, ar ddwylo y ca­techeiswyr ymma ac athrawon y ffydd: fal y ga­llont ddeall megis mewn dadleudŷ, y mae daioni y ddadl yn sefyll yn y sain, felly ei fod yn yr Eglwys yn sefyll mewn defosiwn. Fal nad ydyw ef yn fodlon i neb weddio mewn iaith nis deallo: ond mae fe 'n dyscu y dadleuwr neu araithiwr cyfa­rwydd, i ddwyn gyda thafod annyscedig, anghyfa­rwydd y gwenhidawg crefyddgar, diddrwg: I grynhoi y cwbl os gwna diffyg deall y geiriau a ddywedir yn y gynulleidfa fod y geiriau yn an ffrwythlon i'r gwrandawyr: paham na wna yr vn peth y geiriau a ddarllenir yn anffrwyddlon i'r darllenudd?

Trugarog ddaioni Duw, a ganniatao ini rad [Page 284] i alw arno megis y dlyem, i'w ogoniant ef, a'n didrāgc ddedwyddwch ninnau. Yr hyn y wnawn ni os ymostyngwn ein hunain yn ei olwg ef: ac os bydd ein medd wl ni, yn ein holl weddiau cyffre­dinol a neilltuol, gwedy eu gosod yn hollol arno ef. O herwydd gweddi y gostyngedig a aiff trwy y cymylau, ac nis diddenir hi nes dyfod yn agos at Dduw, nid ymmedy hi nes i'r goruchaf edrych ar­ui hi, a gwared y cyfion a gwneuthur barn. Iddo ef am hynny y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.

¶ Addysc i'r rhai sydd yn cymmeryd rhwystro blegid rhyw leoedd o'r Scruthyrau sanctaidd, y rhan gyntaf.

FYngharedigion, nid oes calon neb yn abl yn gwbl i ymgyffryd y mawr fudd a'r enill yr hwn a all gwŷr a gw­ragedd Christionogaidd ei dderbyn os mynnant, wrth wrando a darllen yr Scruthyrau sanctaidd, llai o lawer y gall fy­nhafod i draethu hynny â geiriau.

Am hynny pan welodd sathan ein gelyn ni mai r' Scruthyrau yw 'r ffordd a'r iniawn lwybr i ddwyn y bobl i wir wybodaeth am Dduw, a bod yn halaethu ffydd a chrefydd Grist yn fawr dros bên wrth ei gwrando a'i darllen hwy yn ddiesca­elus: wrth weled hefyd pa fath rwystrau ydynt iddo ef a'i deyrnas, mae fe yn gwneuthur a allo ar na ddarllener hwy yn Eglwys Dduw.

Ac er mwyn hyn fe a gyffrôdd i fynu mewn vn lle neu gilydd dyraniaio creulon, erlid wyr llym­inion, a dygyn elynnion i Dduw a'i wirionedd [Page 285] an-nhwyllodrus, i dynnu ymmaith trwy rym y Beibl sanctaidd oddiwrth y bobl, y rhai hefyd o wir genfigen a ddinistrasant ac a ddifasant y lly­frau hynny â than yn lludw: gan gymmeryd ar­nynt yn dwyllodrus, fod mynych wrādo a darllen gair Duw yn achos o heresiau a chnawdol rydd­did, a llwyr ddinistr pob trefn daionus ym-mhob gwlâd a dinas hydrefn. Os achos o ddrygioni yw adnabod Duw yn gywir, yno mae 'n rhaid ini a­ddef fod gwrandaw a darllen yr Scruthyrau sanc­taidd yn achosion heresi, rhydd-did cnawdol, a llwyr ddistryw pob trefn ddaionus. Ond mae ad­nabod Duw a ni ein hunain mor bell oddiwrth fod yn achos drygioni, ac y mae yn ffordd barottaf ie ac yn vnic lwybr i ffrwyno ein holl rydd-did cnawdol ni, ac i ladd holl wyniau ein cnawd ni.

A'r llwybr arferol i gael y cydnabyddiaeth hyn yw gwrando a darllen yn ddiescaelus yr Scru­thyrau sanctaidd. O herwydd fal y dywaid Pawl, 2. Timoth. 3. 16. mae 'r holl Scruthyrau gwedy eu rhoddi gan Y­sprydoliaeth Duw. Ac a dybygwn ni, Gristiono­gion, y gallwn ni ddyscu adnabod Duw a ni ein hunain, yn gynt neu yn well yn scrifennadau vn dŷn daiarol, nac yn yr Scruthyrau sanctaidd, a scrifennwyd trwy ysprydoliaeth yr Yspryd glân? O herwydd ni ddygwyd yr Scruthyrau attom ni trwy awenydd dŷn, eithr dynnion sancta­idd Duw a ddywedasant megis y cynhyrfwyd 2. Pet▪ 1. 11. hwy gan yr Yspryd glân. A'r Yspryd glân yw athro y gwirionedd yr hwn sydd, fal y dywaid ein Iach­awdwr Christ, yn tywys ei scwlheigion i bôb gwi­rionedd. Aphwy bynnac ni ddyscir ac ni thywy­sir Ioan. 16. 13. gan yr athro ymma, ni ddichon ef na chwympo i gamsynniaid dwfn, er mor dduwiol y byddo yn [Page 286] cymmeryd arno fod, pa wybodaeth a dysc bynnac a fytho gantho ym-mhob gweithredoedd ac scri­fennadau eraill er tecced y fytho 'r olwg ar ei a­thrawiaeth ef, ac e'r tebycced fo i wirionedd ym­marn y byd.

Os dywaid neb y dymunai gael gweled gwir ddull a phortreiad perffaith ar fywyd iniawn cym­meradwy gan Dduw, pa le dybygwch chwi, y ga­llwn ni gael gwell bortreiad na bywyd Iesu Grist a'i athrawaeth, neu gyffelyb iddynt, yr hwn y mae yr Scruthyrau yn paentio ac yn gosod allan ei ymddygiad rhinweddol a'i fywyd duwiol mor eg­lur ymlaen ein llygaid ni, fal wrth edrych ar y por­treiad hwnnw y gallom lunio a ffurfio. diwgadu ein by­wyd cy nesed ac y gellir yn gyfun â'i berffeiddrw­ydd ef. Byddwch ddilynwyr i mifi, medd S. Paul, 1. Cor. 11. 1. megis yr ydwyfi i Grist. Ac mae Ioan S. yn dywe­dyd y dlyai yr hwn a arhoso ynghrist felly rodio megis y rodiodd yntef. A pha le y dyscwn ni drefn 1. Ioan. 2. 6. bywyd Christ ond yn yr Scruthyrau.

Vn arall a fynnai gael meddiginiaeth i iachau pob clefyd ac afiechyd yn y meddwl. A ellir cael hynny mewn lle yn y byd ond yn llyfr Duw a'i Scruthyrau sanctaidd ef? Fe ddangosodd Christ hyn pan ddywad wrth yr Iddewō ystyfnig, Chwi­liwch yr Scruthyrau, o herwydd yndynt yr ydych Ioan. 5. 39. yn gobeithio cael bywyd tragwyddol. Os ydyw 'r Scruthyrau yn cynwys yndynt fywyd tragwy­ddol mae 'n rhaid canlyn fod yndynt gyfarwyddyd hefyd yn erbyn pob peth ac sydd yn ein Attal. rhagod neu yn ein rhwystro ni i fywyd tragwyddol.

Os byddwn yn chwenychu gwybod doethineb nefol, pa ham mai gwell gennym ei dyscu hi gan ddŷn na chan Dduw ei hun, yr hwn, fal y dywaid [Page 287] S. Iaco, yw rhoddwr doethineb? Ie pa ham nas Iac. 1. 5. dyscwn hi o enau Christ ei hun, yr hwn a addaw­odd fod yn bresennol gyda ei Eglwys hyd diwedd y byd, ac sydd yn cyflawni ei addewid, nid yn vnig am ei fod ef gydâ ni â'i râd a'i fawr drugaredd, ond hefyd am ei fod ef yn dywedyd yn bresennol wr­thym yn ei scruthyrau sanctaidd, i fawr a didranc ddiddanwch pawb ac sydd a dim blas am Dduw yndynt? Ie mae fe 'n awr yn ei Scruthyrau yn dywedyd yn fuddiolach ini o lawer nag y dywad ef â geiriau ei enau wrth yr Iuddewon cnawdol, pan ydoedd ef yn fyw gyda hwy ar y ddaiar. O her­wydd ni fedrent hwy (yr Iddewon ydwyf yn eu meddwl) na chlywed na gweled y pethau a allwn ni yn awr eu clywed a'u gweled, os dygwn gydâ ni y clustiau a'r llygaid y clywir ac y gwelir Christ â hwy; hynny yw diescaelusrwydd i wrando ac i ddarllen ei Scruthyrau sanctaidd ef, a gwir ffydd i gredu ei ddiddanus addewidion ef.

Pe gallai vn ddangos dim ond ol troed Christ, yr ydwyf yn tybied y cwympe lawer i lawr ac yr addolent: ond i'r Scruthyrau sanctaidd, lle os mynnwn y gallwn weled beunydd, nid ydwyf yn dywedyd ol ei draed ef yn vnic, ond ei holl lun a'i fywiol agwedd ef, och nid ydym ni yn rhoddi ond ychydig neu ddim parch: pe dangosai neb bais Christ ini fe gymmerai lawer o honom boen fawr neu ninnau a fynnem ddyfod yn agos i edrych ar­ni, ac i'w chusanu hi hefyd: ac etto ni all yr holl ddillad a wiscodd ef er ioed ei osod ef allan mor fy­wiol ac mor gywir ac y mae 'r Scruthyrau.

Mae llawer er mwyn y cariad y maent yn ei ddwyn at Ghrist yn trwsio ac yn harddu delwau Ghrist, a wnair â choed a cherrig neu fettel, â [Page 288] thlysau, ac aur, a meini gwerthfawr: ac oni ddly­em ni, fy - mrodyr anwyl, yn fwy o lawer goflei­dio a pherchi sanctaidd lyfrau Duw y Beibl cysse­gredig, yr hwn sydd yn dangos llun Christ yn fy­wiolach ini nag y dichon vn ddelw? ni ddichon delw ond dangos Dull, ffurf. diwgad a llun ei gorph ef, os gall hi wneuthur hynny: ond mae 'r Scruthyrau yn gosod Christ allan yn y fath fodd ac y gallwn ni weled Duw a dŷn, ni a allwn ei weled ef, meddaf, yn dywedyd wrthym, yn iachau ein gwendid ni, yn marw dros ein pechodau ni, yn cyfodi o feirw er ein cyfiawnhau ni. Ac ar ychydig o airiau ni a­llwn yn yr Scruthyrau weled Christ oll ei gyd mor gyflawn â llygaid ffydd, fal na allem ni byth heb ffydd ei weled ef â'n llygaid corphorol mor gy­slawn, pe byddai fe ymma yn ein mysc ni yn bre­fennol.

Chwenyched am hynny a dymuned gwyr, gwra­gedd a phlant yn eu holl galonnau yr Scruthyrau sanctaidd: carent hwy, braicheidient hwy, goso­dent eu ewyllys a 'u meddyl-fryd ar eu gwrando a'u darllen hwy, fal ar y diwedd y'n ffurfer ac y'n troer ni iddynt hwy. O herwydd trysordy Duw yw 'r Scruthyrau sanctaidd, lle ceffir pob peth rheidiol ini ei weled, ei glywed, ei ddyscu a'i gre­du, ac anghenrhaid i feddiannu bywyd tragwy­ddol. Hynny a ddywedwyd er rhoddi i chwi da▪med prawf o 'r ennill a ellwch chwi ei dderbyn wrth wrando a darllen yr Scruthyrau sanctaidd. O herwydd, fal y dywedais yn y dechreuad, ni ddi­chon vn tafod fanegi na thraethu 'r cwbl. Ac er bod yn eglurach nâ goleu 'r dydd mai anwybod yn yr Scruthyrau yw achos pob Amryfysedd. camsynnaeth, fal y dywad Christ wrth y Saducęaid, yr ydych mewn [Page 289] amryfysedd am na wyddoch yr Scruthyrau. Ac Math. 22. 29. mae 'r amryfysedd hynny 'n cadw 'n ol ac yn tyn­nu dynnyon ymmaith oddiwrth wybodaeth Duw. Ac fal y dywaid S. Ierom, bod heb wy­bod yr Scruthyrau yw bod heb nabod Christ.

Etto er hyn mae rhai yn tybied nad cymhesur i bob rhyw o ddynion ddarllen yr Scruthyrau, am eu bod hwy, fal y dywedant, mewn amryw leoedd yn fain trangwydd i'r an-nyscedig: yn gyntaf am fod ymadrodd yr Scrythur mor ddisyml mor Drwsel, arw. an­ghymmen ac mor blaen, fal y mae yn faen tram­gwydd i lawer o synhwyrau escud dynion moe­thus. Hefyd am fod yr Scruthyr yn dywedyd i'r rhai a ganmoler megis plant Duw wneuthur llawer o weithredoedd a rhai o honynt yn erbyn cyfraith naturiaeth a rhai yn erbyn y gyfraith scrifennedig, a rhai a dybygid eu bod yn ymladd yn oleu yn erbyn honestrwydd cyffredinol. Mae'r holl bethau hyn, meddant, yn achosion o dram­gwydd mawr i'r diddrwg, ac yn peri i lawer dy­bied yn ddrwg am yr Scruthyrau ac i anghredu eu hawdurdod hwy.

Mae rhai 'n anfodlon i wrando ac i ddarllen yr Scruthyr lân o blegid amryw ddeddfau a Cere­moniau, aberthau ac offrymmau 'r gyfraith. Ac mae gwyr call mewm synwyr bydol yn tybied fod rhoddi clust i reolau a gorchymmynion golau di­syml ein Iachawdwr Christ yn yr Efangyl, yn rhwystrau mawr i lywodraeth lonydd synhwyrol eu gwledydd, megis yn digio pan glywant fod yn rhaid i ddŷn droi ei glust dehau at yr vn a'i tarawo ar yr aswy, a chynnyg ei glôg i'r hwn a geisiai ddwyn ei bais oddiarno: a'r fath ymadroddion eraill o berpheiddrwydd ym-meddwl Christ. O [Page 290] herwydd mae rheswn cnawdol, gan ei fod yn wa­stad yn elyn i Dduw ac heb ystyried y pethau y­dynt o Yspryd Duw, yn cashau y fath orchymmy­nion, y rhai pe deallid hwy yn dda ni wanhaent ly wodraeth farnol na llywiawdwriaeth Christi­onogion.

Ac mae rhai pan glywant yr Scruthyrau yn peri ini fyw yn ddiofal heb fyfyrio na rhagfwria­du, yn gwatwaru eu disymldra hwy. Am hynny er mwyn symmud a throi heibio y fath rwystrau yn nessaf ac y gallom, mi a attebaf i'r gwrth ym­adroddion ymma, y naill ar ol y llall.

Yn gyntaf mi a adroddaf rai o'r lleoedd a dram­gwyddir wrthynt o blegid disymlder ac anghym­hēdod yr ymadrodd, ac a ddangosaf eu hystyr hwy.

Mae 'n scrifennedig yn llyfr Deuteronomium i'r Holl-alluog Dduw wneuthur cyfraith, Os byddai ŵr farw yn ddieppil fod i'w frawd neu ei garwr nesaf briodi ei weddw ef, a bod yn galw y plentyn cyntaf a enid rhyngthynt hwy yn blen­tyn i'r hwn a fuasai farw, rhag deleu enw y ma­rw allan yn Israel. Ac os y brawd neu'r carwr no­saf a wrthodai briodi y weddw, yno bod iddi hi dynnu ei escid ef ymlaen llywodraethwyr y ddi­nas, a phoeri yn ei wyneb ef, gan ddywedyd, felly y gwneler i'r gwr nid adailado dŷ ei frawd. Ym­ma, fyngharedigion, Ceremoniau oedd dynnu ei escid ef, a phoeri yn ei wyneb ef, i arwyddhau i holl bobl y ddinas nad y wraig oedd ar y bai am dorri gorchymmyn Duw yn hyn o beth, ond bod y bai a'r cywilydd yn cwympo ar y gŵr hwnnw yr hwn yn gyhoeddus ym-laen llywodraethwyr a wrthododd ei phriodi hi. Ac nid oedd hyn yn warth iddo ef yn vnic, ond ar ei holl eppil yn ei ol [Page 291] ef hefyd: o blegid hwy a elwid ar ol hynny byth, ty yr hwn a dynnwyd ei escid.

Lle arall o'r Psalmau sydd fal hyn, Torraf he­fyd holl gyrn y rhai annuwiol a chyrn y rhai cyfi­awn Psal. 75. 10. a dderchafir.

Wrth gorn yn yr Scruthur y deallir grym ga­llu, nerth ac weithiau rheolaeth a llywodraeth. Mae 'r Prophwyd wrth hynny wrth ddywedyd, Torraf gyrn yr annuwiolion, yn meddwl na wanheir hwy yn vnig ac na wnair yn vnic yn e­gwnan nerth a grym a gallu gelynion Duw, ond yn dywedyd y torrir ac y distrywir hwy yn gwbl er bod Duw dros amser yn eu goddef hwy i orch­fygu ac i gael y llaw oreu er mwyn profi ei bobl yn well. Fe a ddywedir yn 132. Psalm, Mi a ba­raf i gorn Dafydd flaguro. Ymma y mae corn Dafydd yn arwyddoccau ei deyrnas ef. Am hynny wrth y fath ymadroddion y mae Duw yn addo rhoddi i Ddafydd oruwchafiaeth ar ei holl elyn­nion. Psal. 132. 17. Ac mae 'n scrifennedig. Psal. 60. Moab yw fynghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf fy es­cid, &c. Yn yr hwn le y mae 'r prophwyd yn dan­gos mor rassol y gwnelsai Dduw â'i bobl plant yr Israel, gan roddi iddynt oruwch afiaeth fawr yn erbyn eu gelynnion o'u hamgylch. O herwydd er bod y Moabiaid a'r Idumeaid yn ddwy gen­hedlaeth fawrion; yn bobl failchion ystyfnig allu­og, fe a'u darostyngodd hwy, ac a'u gwnaeth yn weision i'r Israeliaid, yn weision meddaf i ymost­wng iddynt, ac i dynnu eu hescidiau, ac i olchi eu traed hwy. Moab am hynny yw fy-nghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf sy escid: yw cymmaint a phe dywedasai efe, er balched oedd y Moabiaid a'r Idumeaid yn ein herbyn ni yn yr anialwch, [Page 292] hwy a wnaeth p wyd yn awr yn ddeiliaid, yn wei­sion ie yn gaethion ini, i dynnuein escidiau ac i ol­chi ein traed ni.

Yn awr adolwg, pa anweddaidda-dra sydd yn y fath ymadrodd ac yw hwn, yr hwn a arferir felly mewn arfer gyffredinol ym-mysc yr Hebre­aid? Mae 'n gywilydd fod Christionogion mor yscafn eu pennau, a gwatwaru megis coegwyr ary fath ymadrodion, y rhai a adroddir gan yr Y­spryd glân mewn ystyrdwys da? Rhesymmolach fyddai i wyr ofer ddyscu perchidull ymadroddion geiriau Duw, nâ'u gwatwar hwy felly i'w dam­nedigaeth eu hunain.

Mae rhai hefyd yn trangwyddo wrth glywed fod gan y tadau duwiol lawer o wragedd a gor­dderchadon. Er bod gordderch (yn ol ymadrodd yr Scruthyrau) yn enw honest: o herwydd yr oedd pob gordderch yn wraig gyfraithlon, er nad oedd pob gwraig yn ordderch. Fal y galloch ddeal hyn yn well gwybyddwch fod yn goddef i'r tadau o'r hên Destament gael er vnwaith fwy o wragedd nag vn: am ba achosion chwi a gewch glywed ar ol hyn. O'r gwragedd hyn fe a anefid rhai yn rhy­ddion a rhai oeddynt gaethwragedd a morwyni­on. Yr oedd 'ir wraig rydd ragoriaeth oddiar y morwynion a'r caethwragedd: y wraig rydd o a­nedigaeth a wnaid trwy briodas yn lly wodraeth­wraig ar y tŷ dan y gwr, a hi a alwid yn feistres neu wraig y tŷ, a thrwy ei phriodas yr oedd iddi deitul a chysiawnder a pherchennogaeth yn holl dda yr hwn a'i priodasai hi. Morwynion a cha­ethwragedd eraill a roddid gan eu perchenogion nid ydwyf yn dywedyd bob amser, ond fynychaf i'w merched ar ddydd eu priodiosau i fod yn llaw­wynion [Page 293] iddynt. Yn y modd hwn y rhoddodd Pha­rao brenhin yr Aipht Agar yr Aiphties i Sara gwraig Abraham i fod yn forwyn iddi. Felly y rhoddodd Laban Zilpha i'w ferch Lea ar ddydd ei phriodas i fod yn forwyn iddi. Ac i Rachel y ferch Gen. 29. 24. arall fe a roddodd Bilhah i fod yn llaw forwyn iddi.

A'r gwragedd y rhai oeddynt berchennogion ar eu llawforwynion a'u rhoddent hwy mewn priodas i'w gwyr ar amryw achosion: fe a roddes Sara ei morwyn Agar mewn priodas i Abra­ham. Yr vn modd y rhoddes Lea i morwyn Zil­pha Gen. 16. 1. i'w gŵr Iacob: felly y rhoddes Rachel ei Gen. 30. 3, 9. wraig arall ef Bilha ei llawforwyn hithau iddo ef, gan ddywedyd, dôsi mewn etti, a hi a blanta ar fyngliniau fi: fal pe dywedasai, cymmer hi yn wraig, a'r plant a ddygo hi mifi a'u cymmeraf ar fy arffed ac a wnaf iddynt megis pe byddynt plant imi fy hun.

Er gwneuthur y llawforwynion neu 'r caeth­wragedd hyn yn wragedd trwy briodas, etto ni chawsont hwy fraint i reoli 'r tŷ, ond yr oeddynt yn wastad tan wasanaerh ac mewn caethiwed i'w meistresi, ac ni alwyd hwy er ioed yn fammau 'r tolwyth yn faestresi neu 'n wragedd y ty: ond hwy a elwyd weithiau yn wragedd, weithiau yn ordderchadon.

Fe oddefwyd amledd o wragedd i dadau 'r hên Destament trwy ragoriaeth yspysawl, nid er mwyn cyflawni eu chwantau cnawdol, ond er mwyn cael amledd blant, o herwydd bod pob vn o honynt yn gobeithio ac yn ceisio yn fynych yn eu gweddiau gan Dduw ar i'r hâd bendigaid a addawsai Dduw y dawai i dorri pen y sarph, [Page 294] ddyfod a geni o'u llwyth hwy a'u tylwyth hwy.

Yn awr am y rhai a gymmerant achosion o chwant cnawdol a bywyd anllad wrth wrando a darllen yn llyfr Duw y pethau a oddefodd Duw yn y gwyr y mae eu clod yn yr Sruthyr, me­gis i Noah, yr hwn y mae S. Petr yn ei alw yn 2. Pet. 2. 5. bregethwr cyfiawnder fod mor feddw ar wîn, fal yn ei gŵsc y dinoethodd ef ei ddirgelion ei hun. Gen. 9. 21.

Fe a feddwodd Lot gyfion hefyd yn yr vn modd, Gen. 19. 33, 35 ac yn ei feddwdod fe a orweddodd gydâ 'i ferched ei hun yn erbyn cyfraith nattur.

Ac fe fu i Abraham hefyd (yr hwn yr oedd ei ffydd gymmaint ac y bu ef deilwng o'i phlegid hi i'w Gen. 17. 5. alw trwy enau Duw ei hun yn Dâd llawer o genhedloedd ac yn Dâd y ffyddloniaid) heblaw ei Ruf. 4 17. wraig Sara, gydnabyddiaeth gnawdol â Hagar llawforwyn Sara. Gen. 16. 4.

Yr oedd i'r Patriarch Iacob ddwy chwiorydd yn wragedd iddo ar yr vn amser. Ac yr oedd i'r Gen. 29. Prophwyd Dafydd ac i'w fâb ef brenin Salo­mon lawer o wragedd a gordderchadon, &c. Yr hyn bethau a welwn eu gwahardd ini yn oleu wrch gyfraith Duw, ac ydynt yn wrthwyneb i honestrwydd cyffredinol.

Fe scrifennwyd y pethau hyn a'r fath bethau, fy-ngharedigion, yn llyfr Duw, nid er mwyn i ninnau wneuthur y cyffelyb, a chanlyn eu siam­plau hwy, neu o blegid y dylem ni dybied fod Duw yn fodlon i'r fath bethau mewn dynion, ond ni a ddylyem gredu a barnu i Noah yn ei feddw­dod ddigio Duw yn fawr, ac i Lott wrth gydor­wedd â'i ferched wneuthur llosc-âch ffiaidd.

Wrthynt hwy am hynny y dylyem ddyscu y wers fuddiol hon. Oni alle wŷr mor dduwiol ac [Page 295] oeddynt hwy y rhai a glywent oddifewn sancta­idd Yspryd Duw yn fflammychu yn eu calonnau, gydag ofn a chariad Duw, ymgadw trwy eu grym eu hunain oddiwrth wneuthur pechod Erchyll. echry­dus, onid cwympo o honynt mor aruthrol, fal heb fawr drugaredd Duw na allent lai na chael colledigaeth dragywydd: pa faint mwy y dlyem ni nychmeriaid truain, y rhai nid ydym oddife ŵn yn clywed vn cyffroad am Dduw, ofni yn wasta­dol, nid yn inic rhag cwympo fal y gwnaethant hwy, ond ein Gorchfygu. gormeilio a'n boddi mewn pechod: yr hyn nis gwnaethant hwy? Ac felly cymmeryd achosion trwy eu cwymp hwy i gydnabod ein llescedd a'n gwendid ein hunain, ac am hynny i alw yn ddifrifach ar yr holl-alluog Dduw â gwe­ddi daer ddiescaelus, am ei râd efer ein cadarnhau ni a'n amddiffyn oddiwrth bob drwg. Ac er dig­wyddo ini gwympo ryw aniser trwy wendid, etto y gallwn trwy etifeirwch o 'n calonnau a gwir ffydd yn ebrwydd gyfodi ailwaith, heb gyscu ac aros mewn pechod fal y gwna y drygionus.

Fal hyn (bobl dda) y gallwn ddeall y fath be­thau a osodir yn yr Scruthyrau duwiol, fal na throer bwrdd sanctaidd gair Duw yn fagl, neu yn llindag, neu yn faen trangwydd, er ein drygu ni trwy gamarfer ein deall. Ond gwnawn iddynt y fath ostyngedig barch, fal y gallom gael ein hym­borth anghenrheidiol yndynt, i'n cryfhae ac i'n cyfarwyddo ni, fal y gosododd Duw hwy o'i fawr drugaredd, yn ein holl orch wylion rheidiol, fal y bythom perffaith o'i flaen ef trwy holl dreigl ein bywyd. Yr hyn a ganniatao ef i ni yr hwn a'n prynodd ni, ein Harglwydd a'n Iachawdwr Ie­su [Page 296] Grist. I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bô holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Yr ail ran o'r addysc i'r rhai a rwy­strir o blegid rhyw leoedd o'r Scru­thyr sanctaidd.

CHwi a glywsoch, bobl ddaionus, yn yr Homili ddiwethaf a ddar­llenwyd i chwi, fawr fudd yr Scruthyrau sanctaidd. Chwi a glywsoch pa fodd y mae dynion anwybodus heb ddeall duwiol ynddynt yn ceisio cwerylon i'w diystyru hwy. Chwi a glywsoch atteb rhai o'u rhesymmau hwy.

Ni awn yn awr yn ein blaen ac a soniwn am y gwŷr call llywodraethus y rhai a rwystrir o ble­gid parablau Christ, y rhai a dybygir eu bod yn deleu pob trefn mewn llywodraeth, ac maent yn gosod yn lle siamplau rai o'r fath hyn.

Os tery neb di ar dy glust ddehau, tro 'r asswy atto ef hefyd. A phwy bynnac a ddygo dy bais oddiarnad, dyro dy glog hefyd iddo. Na wyped Mat. 5. 39. Mat. 6. 3. Mat. 18. 8, 9. dy law asswy y peth y mae dy law ddehau yn ei wneuthur. Os dy lygad dy law neu dy droed a'th rhwystra di, tyn allan dy lygad, torr ymmaith dy law, dy droed, a thafl oddiwrthyd. Os dy elyn a newyna, medd S. Pawl, portha ef, os sycheda ef, dôd iddo ddiod: Ruf. 12. 20. canys os gwnai hyn ti a ben­tyrri Rhysod. farwor tanllyd am ei ben ef.

[Page 297] Fe a dybygid, bobl ddaionus, yngolwg gŵr na­turiol fod yr ymadroddion hyn yn anghyfleus ac yn wrthwyneb i bob rheswn. O herwydd, fal y dywaid S. Pawl, nid ydyw y gwr naturiol yn de­all y pethau sydd o Yspryd Duw, ac ni ddichon ef 1 Cor. 1. 14. yr hyd y bytho yr hên Adda yn aros ynddo. Mae Christ am hynny yn meddwl y mynnai ef ei wei­sion ffyddlon mor bell oddiwrth ddial a gwrthladd camwedd, ac y mynnai yn hytrach id dynt fod yn barottach i oddef cam arall, na thrwy wrthod cam torri cariad, a bod yn anoddefus. Fe fynnai fod ein holl orchwylion ni mor bell oddiwrth bob bw­riadau cnawdol fal na fynnai ef fod ein cymmy­deithion nesaf ni yn gwybod oddiwrth ein gorch­wylion da ni, i ennill gwag-ogoniant: a phe by­ddai ein cyfeillion a'n ceraint mor anwyl gennym a'n llygaid a'n dwylaw dehau, etto os mynnent ein tynnu oddiwrth Dduw ni a ddlyem ymadel â hwynt a'u gwrthod.

Fal hyn os mynnwch fod yn wrandawyr ac yn ddarllenwyr byddiol o'r Scruthyrau sanctaidd, rhaid i chwi yn gyntaf, ymwadu â chwi eich hu­nain, a darostwng eich synhwyrau cnawdol, y rhai ni ddeallant ond y geiriau oddiallan, heb chwylio 'r ystyr oddifewn. Rhodded rheswm le i sanctaidd Yspryd. Duw: darostyngwch eich doethineb a'ch barn fydol, i'w ddoethineb a'i farn dduwiol ef. Ystyriwch mai gair y bywiol Dduw yw'r Scruthyr, mewn pa ymadrodd dieithr byn­nag y traether hi. Dawed hynny yn wastad i'ch côf chwi, yr hyn y mae y Prophwyd Esai mor fy­nych yn ei adrodd, Geneu 'r Arglwydd, medd ef, a'i dy wad, Yr holl alluog a'r tragwyddol Dduw [Page 298] yr hwn a'i inig air a wnaeth nef a daiar a'i cyfar­wyddodd ef: Arglwydd y lluoedd, ffyrdd yr hwn sydd yn y moroedd a'i lwybrau ynnyfnder y dyfro­edd, Yr Arglwydd a'r Duw trwy air yr hwn y gwnaethpwyd, y lly wodraethir ac y cedwir yr holl bethau sydd yn y nef ac ar y ddaiar, a ddarparodd fod hyn felly. Duw y duwiau Arglwydd yr Ar­glwyddi ie y Duw yr hwn sydd vnig Dduw a­nymgyffred, holl-alluog, a thragwyddol, efe a'i dywad, ei air ef ydyw hyn: Ni ddichon am hyn­ny fod amgen na gwirioned yr hyn sydd yn dyfod oddiwrth Dduw 'r holl wirionedd. Ni ellir na byddir gwedy gorchymmyn yn gall ac yn ddeallus y peth a ddychymmygodd yr Holl-alluog Dduw, er ofered y tybygom ac y barnom ni gaethwyr truain (o aisiau grâs) am ei sanctaiddiaf air ef. Mae 'r Prophwyd Dafydd wrth bortreio ini ddŷn llwyddiannus yn dywedyd, Gwyn ei fŷd y Psal. 1. 1. gwr ni rodiodd ynghyngor yr annuwiolion, ac ni safodd yn ffordd pechaduriaid ac nid eisteddodd yn eisteddfa gwarwarwyr. Mae tri rhyw o bobl y rhai y myn y prophwyd i wr a fynno bod yn llwy­ddiannus ac yn gyfrannog o fendithiau Duw wachelyd ac ymgadw rhag eu cymdeithas.

Yn gyntaf, nid oes iddo rodio yn ol cyngor yr annuwiol.

Yn ail, nid oes iddo sefyll yn ffordd pechaduri­aid. Ac yn drydydd, nid oes iddo eistedd yngor seddfa gwatwarwyr.

Wrth y tri rhyw hyn o bobl, annuwiolion, pe­chaduriaid, a gwatwarwyr, yr arwyddocair ac y gosodir i lawr yn oleu bob math ar ddrygioni.

Wrth yr annuwiol y mae fe 'n deall y rhai nid [Page 299] ystyriant yr holl-alluog Dduw, ac sydd heb ffydd ganthynt, y rhai y mae eu calonnau a'u myfyria­dau wedy eu gosod ar y byd fal y maent yn vnig, yn myfyrio am ddwyn i bên eu gorchwilion bydol, eu dychymygion cnawdol, eu chwantau a'u trach­wantau brynton, heb ddim ofn Duw.

Yr ail rhyw y mae fe 'n eu galw 'n bechaduri­aid: nid y rhai a gwympant trwy anwybod neu wendid, o herwydd felly pwy fyddai rydd? pwy wr a fu ar y ddaiar er ioed onid Christ ei hun, yr hwn ni phechodd? Mae 'r cyfion yn cwympo saith waith yn y dydd ac yn cyfodi ailwaith. E'r body duwiol yn cwympo etto ni rodiant mewn pe­chod o wir fwriad, ni safant ac nid arhosant mewn pechod yn wastad, nid eisteddant i lawr megis rhai diofal, heb ofni cyfion gosp Duw ani bechod: ond gan ffieiddio pechod trwy fawr râs ac aneirif drugaredd Duw, maent yn cyfodi ail­waith, ac yn ymladd yn erbyn pechod. Mae 'r proyhwyd felly yn galw 'n bechaduriaid y rhai y trowyd eu calonnau yn hollol oddiwrth Dduw, a'r rhai nid yw eu holl fywyd a'u hymar weddiad onid pechod. Maent yn ymfodloni cymmaint ynddo fal y maent yn dewis aros a thrigo yn wa­stad mewn pechod.

Y drydedd ryw y mae fe 'n ei galw 'n watwar­wyr: hynny yw rhyw o ddynnion y rhai y mae eu calonnau wedy eu llenwi a chenfigen: fal nad y­dynt yn fodlon i aros yn inig mewn pechod ac i ddwyn eu bywyd ymhob rhyw o ddrygioni, ond hefyd yn diystyru, ac yn gwatwar mewn eraill bob duwioldeb, a gwir fuchedd, bod honestrwydd a rhinwedd.

[Page 300] Am y ddau rhyw gyntaf o ddynion ni ddywedaf na allant etifaru a throi at Dduw: ond am y dry­dedd yr ydwyf yn tybied y gallaf heb berigl barn Duw gyhoeddi na throdd vn o honynt er ioed et­to at Dduw drwy edifeirwch, ond iddynt aros yn wastad yn eu drygioni ffiaidd gan gasclu iddynt eu hunain ddamnedigaeth erbyn dydd anwa­cheledig farn Duw.

Yr ydym yn darllen siamplau o'r fath watwar­wyr yn ail Lyfr y Croniclau, Pādarodd i'r brenin 2. Cro. 3. 10. da Ezechias yn-echrau ei deyrnasiad ddinistr de­lw-addoliad, purhau y deml ac iniawni crefydd yn ei deyrnas: fe anfonodd genadon i bob dinas, i gynull y bobl i Ierusalem, i gynnal gwyl y pasc, yn y modd yr ordeiniasai Dduw. Fe aeth y redeg­wyr o ddinas i ddinas, trwy dir Ephraim a Ma­nasses hed yn Zabulon: a pha beth a wnaeth y bobl meddwch chwi? a glodforasant ac a foliana­sant hwy enw 'r Arglwydd, yr hwn a rhoesai idd­ynt gystadl brenin, a thywysog cymmaint ei zeal i ddinistr delw-addoliad ac i adferu gwir gre­fydd Dduw? na ddo naddo, ond medd yr Scru­thur hwy a sennasant ac a watwarasant gena­don y brenin.

Ac mae 'n scrifennedig yn y bennod ddiwethaf or vn llyfr i'r holl-alluog Dduw gan dostyrio wrth Pen. 36. 15, 16. ei bobl ddanfon ei genadon y prophwydi attynt, i'w galw hwy oddiwrth eu ffiaidd ddelw-addo­liad, a'u melltigedig fywyd. Ond hwy a watwa­rasant ganadon Duw, gan ddirmygu ei airiau fe a gwneuthur yn drahaus a'i brophwydi ef, nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn eu herbyn hwy fal nad oedd Iechyd: canys fe a rhoddodd [Page 301] hwy i fynu i ddwylo ei gelynnion, ie i ddwylaw Nabuchadnazer Brenin Babilon yr hwn a yspei­liodd eu da hwy, a loscodd eu dinas hwy ac a 'i Dygodd. dug hwy a'u gwragedd a'u plant yn gaethion i Babilon.

Ni wnaethy bobl ddrwg oedd y nnyddiau Noah ond gwatwar o air yr Arglwydd, pan dywedodd Noah wrthynt y dialai yr Arglwydd arnynt am ei pechodau. Am hynny y daith y diluw yn ddi­syndod arnynt ac a'u boddod hwy a'r holl fyd.

Fe bregethodd Lott i'r Sodomiaid onid eti­farent y distriwyd hwy a'u dinas, Hwy a gyf­rifasant ei ymmadroddion ef megis pethau ni allent fod yn wir, hwy a sennasant ac a watwa­rasant ei rhybyddion ef, ac a'i cyfrifasant ef megis hen ffol disynwyr. Ond pan darodd i Dduw trwy ei angel sanctaidd, gymmeryd Lot a'i wraig a'i ddwy ferched o'u plith hwy, fe lawiodd o'r nef dan a brwmston ac a loscodd y senwyr a'r gwat­warwyr hynny o'i sanctaidd air ef.

A pha gyfrif oedd o athrawiaeth Christ ymmysc yr scrifenyddion a'r Pharisaeaid? Pa wobr y ga­fas ef yn ei mysc hwy? Mae 'r efangil yn adrodd fal hyn: yr oedd y Pharisaeaid trachwantus yn ei watwar ef yn ei athrawiaeth. Oh wrth hyn chwi a welwch fod gwyr doethion bydol yn gwatwar athrawiaeth eu Iachawdwriaeth. Mae doethi­on y byd hwn yn gwatwar athrawiaeth Christ megis ffolineb yn eu deall hwy. Fe fu y gwat­warwyr hyn er ioed ac hwy a fyddant byth hyd diwedd y byd. O herwydd mae S. Peter yn pro­phwydolaethu y bydd y fath watwarwyr yn y byd 2. Pet. 2. 2. cyn y dydd diwethaf.

[Page 302] Gwagelwch gan hyn fy-mrodyr, gwagelwch gwagelwch, na fyddwch watwarwyr sanctaidd air Duw, nag annogwch ef i arllwys arnoch o'i ddigofaint, fal y gwnaeth ef ar y senwyr a'r gwat­warwyr hynny. Na fyddwch leiddiaid ewyllys­gar eich eneidiau eich hunain. Trowch at Dduw yr ennyd y bo amser i drugaredd: onid ef chwi a etifarhewch yn y byd a ddaw pan fytho yn rhy hwyr, o herwydd yno y bydd barn heb drugaredd.

Fe allai hyn wasanaethu in rhebyddio ni ac i beri ini berchi sanctaidd Scruthyrau Duw: ond nid oes ffydd gan bawb. Am hynny ni ddigona ac ni fodlona hyn feddyliau pawb: ond fal y mae rhai yn gnawdol felly y parhant ac y camarferant Scruthrau Duw yn gnawdol, i'w rhagor ddam­nedigaeth. 2. Pet. 3. 16.

Mae 'r annyscedig a 'r anwadal (medd ef) yn gwyro 'r scruthyrau er distryw iddynt eu hunain. Ac mae Iesu Grist fal y dywaid S. Pawl i'r I­ddewon yn drangwydd ac i'r cenhedloedd yn ffoli­neb: ond i'r Iddewon a'r cenhedloedd y rhai a alwyd yn nerth ac yn odoethineb Duw. Mae 'r 1. Cor. 1. 23. gwr sanctaidd Simeon yn dywedyd ei osod ef yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel. Fal y Luc. 2. 34. mae Christ Iesu yn gwymp i'r gwrthodedig y rhai er hynny a gollir trwy eu baiau eu hunain, felly y mae ei air ef a'i holl lyfr yn achos damnedigaeth iddynt, trwy eu hanghreduniaeth. Ac fal nad ydyw ef gyfodiad i neb ond i blant Duw trwy Ddewisiad. mabwys, felly y mae ei air ef a'r holl Scruthy­rau yn nerth Duw i Iachadwriaeth yn inig i'r rhai a'u credant. Mae Christ ei hun a 'r Pro­phwydi o'i flaen ef, a 'r Apostolion ar ei ol ef, a [Page 303] holl wir wenidogion sanctaidd air Duw, ie pob gair yn llyfr Duw yn arogl angau i angau i'r gwrthodedig. Mae Christ, y Prophwydi, yr Apo­stolion a holl wir wenidogion y gair, ie pob gro­nyn a thitul o'r scruthur sanctaidd ac fe fu er ioed ac fe fydd byth yn arogl bywyd i fywyd i'r rhai oll y burodd Duw eu calonnau trwy ffydd.

Gwiliwn yn ddifrif na wnelom watwargerdd o lyfrau 'r Sctuthyrau sanctaidd. Pa tywyllaf a pha anhyweithaf fyddo 'r ymadroddion yn ein deall ni: tybygwn ein bod ein hunain ymhellach oddiwrth Dduw a'i Yspryd glan eu hawdur hwy. Ymrown i chwilio allan y doethineb a sydd giddi­edig dan riscul yr Sctuthyr oddifaes. Ac oni fe­drwn ddeall ystyr a rheswn yr ymadrodd, etto na fyddwn watwarwyr, senwyr a dynwaredwyr. O herwydd dyna 'r arwydd a'r argoel eithaf o vn gwrthodedig, o elyn cyhoedd i Dduw a'i ddoe­thineb. Nid chwedlau ofer i'w gwatwar ydyw y pethau hyn y mae Duw yn eu cyhoeddi mor ddif­rif: am hynny cymmerwn hwy fal pethau difrif.

Ac er bod yn gosod allan mewn amryw leoedd o'r Scruthyrau, amryw ddeddfau a Ceremoniau, offrymmau ac aberthau: etto na rhyfeddwn ddim o'u plegid, ond trown hwynt at yr amseroedd a'r bobl i'r rhai a gwasanaethent, êr nad ydynt yn anfuddiol i wyr dyscedig i'w ystyriaid, ond i'w de­ongl megis arwyddion a chyscodau pethau a phersonau y rhai a eglurwyd ar ol hynny yn y Te­stament newydd.

Ac er nad ydyw cyfrif gwehelyth ac achau'r ta­dau yn adailadaeth fawr i'r bobl gyffredinol an­nyscedig: etto nid oes dim gwedy ei adrodd mor [Page 302] [...] [Page 303] [...] [Page 304] amherthynasol yn holl lyfr y beibl na wasanae­tha i ddefnydd ysprydol mewn rhyw fodd, i bawb ac a lafurant i chwilio 'r ystyr. Nid oes i ni ddi­ystyru y rhai hyn, am na wasanaethant ein deall ni a'n adailadaeth. Ond trown ein trafael i ddeall ac i ddwyn gyda ni y fath ymmadroddion a histo­riau ac ydynt gymmesurach ein deall ni a'n ha­ddysc, Ac lle 'r ydym yn darllen yn Psalmau Da­fydd pa fodd y dymunodd ef i wyrthwynebwyr Duw weithiau cywilydd, cerydd a gwaradwydd, weithiau dieppiliaeth, weithiau ar eu dyfod i ddi­stryw a dinistr disymmwth, fal y dymunodd ef i benaethiad y Philistiaid. Gwna, medd ef, luched a gwascar hwynt, gyr dy saethau a difa hwynt: ar Psal. 144. 6. fath regau eraill.

Etto ni ddlyaid rhwystro mo hanom am y fath weddiau eiddo Dafydd, ac yntef yn Brophwyd, â Duw yn ei garu yn odidawg, a chwedy ei gyn­hyrfu yn yr yspryd â zeal wresog i ogoniant Duw: fe a'i dywaid hwy nid o genfigen ddirgel nag o gasineb yn erbyn y dynnion, ond fe a ddymunodd yn ysprydol ddistryw yr holl fath amryfysedd a baiau llygredig y rhai a deyrnasant yn yr holl bobl ddiawlig ac a ymosodant yn erbyn Duw.

Yr ydodd ef o'r vn meddwl ac oedd S. Pawl, pan roddodd ef Hymeneus ac Alexander a'r go­ddinebwyr cyhoeddus i sathan, er eu gwarth by­dol, fal y byddai 'r Yspryd yn gadwedig a'r ddydd yr Arglwydd. A phan ydyw Dafydd yn addef ei fod yn cashau yr annuwiol: etto mae fe 'n dywe­dyd mewn man arall ei fod yn eu cashau hwy nid a chasineb cenfigennus i wneuthur eniweid i'r enaid, ond a chasineb perffaith. Yr hwn berffei­ddrwydd [Page 305] yspryd am na ellir ei gyflawni ynom ni, a ni gwedy 'n llygru yn ein gwyniau fal yr ydym, ni ddlyem ni yn vn achos priodol arfer y cyfi yw ddull a'r airiau, o herwydd na allwn gyflawni mewn ystyr y cyffelyb airiau.

Narwystrir ni am hynny onid chwiliwn ystyr y fath airiau heb ein rhwystro, fal y gallom farni am y fath airiau a mwy barch: er eu bod hwy yn ddieithr in deall cnawdol ni, etto gan y rhai ydynt wir ysprydol fe a fernir ddarfod eu cyhoeddi hwy o zeal ac yn dduwiol. Duw am hynny er mwyn eifawr drugaredd a burhao ein meddyliau ni trwy ffydd yn ei fâb Iesu Grist, ac a ddifero ddafnau ei rad nefol in calonnau caregog ni, i'w meddalhau hwy, fal na byddom ddiystyrwyr a gwatwarwyr ei anhwyllodrus air ef: ond bod ini a phob gostyngei­ddrwydd meddwl a pharch Christionogaidd ym­roi i wrando ac i ddarllen yr Scruthyrau sanc­taidd, ac felly i ymborth arnynt oddifewn, fal y byddo mwyaf ddiddanwch in eneidiau a sancte­iddrwydd ei sanctaidd enw ef: i'r hwn gyda 'r mab a'r Yspryd glân, tri pherson ac vn bywiol Dduw y byddo pob clod anrhydedd a moliant yn oes oesoedd. Amen.

Y drydedd ran o lyfr y Pre­gethau cyhoedd.

¶ Pregeth am elusenau a thruga­rogrwydd tuag at y tlawd a'r anghenus.

YMhlith yr aml ddyledi­on y mae r' holl-alluog Dduw yn edrych am danynt gan ei weision ffyddlon, y gwir Gri­stionogion, trwy y rhai y mynnai ogoneddu ei enw a manegi siccr­wydd ei galwedigaeth hwyntau, nid oes vn yn fwy cymmeradwy gantho fe, nac yn fuddi­olach iddynt hwythau, nâ gweithredoedd tru­garedd a thosturi a ddangosir at y tlawd, yr hwn a fliner ag vnrhyw gyfyngder. Ac etto er hynny cyfryw ydyw anescud ddiogi ein anian hurt ni, at yr hyn sydd dduwiol a daionus, nad ydym ni [Page 2] mewn dim haechen, yn yscaelusach ac yn ddiofa­lach nag yn hynny.

Peth angenrhaid am hynny yw i bobl Dduw ddyhuno o'u meddyliau cysclud cyscadur, ac ystyried eu dlyed yn hyn o beth. A gweddus yw i bob gwir Gristion ymofyn a dyscu yn ewyllysgar pa beth y mae Duw yn ei sanctaidd air yn ei ofyn ganthynt yn h [...]n o beth: fal gwedy yn gyntaf wybod eu ddlyed (yr hyn y mae llawer o blegid eu yscaelus­rwydd yn dangos eu bod heb ei wybod) y gallont a'r ol hyn yn ddiescaelusach gyflawni hynny: trwy 'r hyn y gellir eofnhau y dynnion duwiol ca­redig, i fyned yn eu blaen ac i barhau yn eu tru­garog orchwilion o roddi cardodau i'r tylodion, ac fal y gallo hefyd y rhai hyd hyn a escaelusasant ac a ddiystyrasant hynny, (gwedy clywed mor berthynasol yw hyn iddynt) yn awr yn y diwedd yn ystyriol ei ystyried ef, ac ymroi yn rhinweddol i hynny.

Ac er mwyn i bob vn o honoch ddeall yn well yr hyn a ddangosir, 'ai ddwn yn haws gydâ chwi, ac felly cymmeryd ychwaneg ffrwyth o'r hyn a ddy­wedir pan drinir yn neilltuol bethau neilltuol, mae yn fy mryd i draethu ac adrodd y pethau hyn bob vn o'r neilltu yn y trefn hwn.

Yn gyntaf mifi a ddangosaf mor ddifrif y mae 'r holl-alluog Dduw yn ei sanctaidd air, yn galw arnom am roddi cardodau a gwneuthur elusen, ac mor gymmeradwy yw 'r pethau hyn yngolwg Duw.

Yn ail mor fuddiol yw i ninnau eu harfer hwy, a pha elw a pha ffrwyth a ddygant ini.

Yn drydedd ac yn ddiwethaf mifi a ddangosaf allan o air Duw pwy bynnac a fytho hael wrth y [Page 3] tylodion ac a'u portho hwynt yn halaeth, y caiff hwnnw ddigon iddo ei hun er hynny: ac y bydd ef byth i maes o enbeidrwydd prinder a diffyg.

Ynghylch y cyntaf, yr hwn yw cymmeriad, braint, a phris elusenau gerbron Duw, gwy­byddwch hyn, fod nerthu a chynnorthwyo 'r tylawd yn eu hangenaua'u cyfyngder, yn bodloni Duw yn gymmaint, fal y mae 'r scruthyr yn coffa mewn llawer lle, nad oes dim a ddichon cael ei gymeryd a'i dderbyn mor ddiolchus ar law Dduw.

O herwydd yn gyntaf yr ydym yn darllen, fod yr hollalloog Dduw yn cyfrif fod yn rhoddi yr hyn a rodder i'r tylawd iddo fe ei hun, o her wydd felly y mae'r Yspryd glan yn testiolaethu ini trwy enau y gwr doeth, gan ddywedyd, Y neb a gym­mero drugaredd ar y tylawd sydd yn rhoddi Diar. 19. 17. echwyn i'r Arglwydd. Ac mae Christ yn traethu yn yr efengyl, ac mae fe 'n clymmu hynny â llw, megis gwir diogel, fod elusenau a roddir 'ir tylo­dion, gwedy eu rhoddi iddo fe ei hun, ac y cyfrifir hwy felly yn y dydd diwethaf: o herwydd fal hyn y dywaid ef wrth roddwyr cardodau, pan eisteddo ef yn farnwr yn y farn, i roi barn ar bob dyn yn ol ei weithredoedd: yn wir yn wir y dywedaf wrthych, pa weithrededd o drugareedd bynnac awneuthoch i'r vn o'r, rhai lleiaf hyn, chwi au gwneuthoch i mifi, wrth eu bwydo hwy, chwi a'm bwydasoch i, wrth eu disychedu hwy, chwi a'm disy, hedasoch i, wrth eu dillata hwy, chwi a'm di­llatasoch i, wrth eu lleteua hwy, chwi a'm lleteua­soch i, wrth ymweled â hwy yn gleifion mewn carchar, chwi a ymwelsoch â mifi.

O herwydd yr hwn a dderbynio gennadon [Page 4] brenin, ac a'u creusewo hwy, mae 'n anrhydeddu 'r brenin, oddiwrth yr hwn y daeth y cenhadwyr hynny, felly 'r hwn a dderbynio 'r tylawd a'r an­ghenus, ac a'u cynorthwyo hwy yn eu blinder a'u cyfyngderau, mae ef trwy hynny 'n derbyn ac yn anrhydeddu eu meistr hwy Christ, yr hwn fal yr ydoedd ef yn dylawd ei hun, ac yn anghenus, yr hyd y bu ef fyw yn ein mysc ni, i weithio dirge­lwch ein Iachawdwriaeth ni: felly ar ei fynedi­ad ef oddi ymma, fe a addawodd danfon ini yn ei le y rhai a fydde dylodion, drwy y rhai y cyflaw­nid ei absen ef. Ac am hynny pa beth bynnac a wnelem iddo ef, hynny sydd raid i ni ei wneuthur iddynt hwy.

Ac am hyn y dywad yr holl-alluog Dduw wrth Moeses: ni dderfydd y tylawd o genol y tir yr yd­ych yn myned iddo: er mwyn iddo gael profiad gwastadol o'i bobl, pa vn a wnant ai garu ef ai Deu. 15. 11. pedio: fal wrth ddangos eu hunain yn vfydd i'w ewyllys ef, y gallent eu siccrhau eu hunain o'i garedigrwydd a'i ewyllys da yntef tuag attynt: a bod heb ammau fal y derbyniasant ac y cyflaw­nasant hwy ei ewyllys a'i gyfraithau a'i ordeini­aethau efe, (yn y rhai y gorchymynodd iddynt a­goryd eu dwylo i'w brodyr y rhai oeddent dylodi­on yn y tir) felly o'i ran yntef y derhyn yntef hwy 'n garedig, ac y cyflawna yn gywir ei adde widion a wnaeth ef iddynt.

Mae apostolion a discyblon Christ, y rhai wrth ei feunyddol ymddygiad ef, a welsant yn ei wei­thredoedd ef, ac a glywsont yn ei athrawaeth ef, gymmaint gofal oedd gantho am y tylodion: mae 'r tadau duwiol hefyd, cystal cyn dyfodiad Christ a chwedy ei ddyfodiad, y rhai a lanwyd yn [Page 5] ddiddau a'r Yspryd glan, ac oeddynt siccr o ewy­llys sanctaidd Duw. Mae pob vn o honynt yn ein rhybyddio yn ddifrif, ac yn eu holl scrifēnadau haechen yn wastadol yn ein cynghori ni, i gofio 'r tlawd, ac i osod ein cardodau caredigol arnynt.

Mae S. Pawl fal hyn yn gweiddi arnom, diddenwch y gwan-feddwl, cynheliwch y gwei­niaid, 1. Thes. 5. 14. byddwch ymarhous wrth bawb. Ac ail­waith, nac anghofiwch gyweithasrwydd a chy­franniad, canys â chyfryw ebyrth y bodlonir duw. Heb. 13. 16. Ac mae 'r prophwyd Esai 'n dangos fal hyn, Tor dy fara i'r newynog, dwg y cyrwydrad i'th dŷ, a Esai 58. 7. 10. phan welych y noeth dillata ef, ac na ymguddia oddiwrth dy gnawd, tosturia wrth y newynog, a diwalla 'r enaid cystuddiedig. Ac mae 'r Tad sanctaidd Tobi yn rhoddi 'r cyngor hwn, Dod elusen o'r peth â fytho gennit, ac na chenfigenned Tob. 4. 7. 16. dy lygad wrth roddi dy elûsen, ac na thro dy wyneb oddiwrth neb tylawd, ac ni thry Duw ei wyneb oddiwrthit tithau. Dod ti o'th fara i'r newynog ac o'th ddillad i'r noeth. Ac mae'r tad dyscedig dûwiol Chrysostom yn rhoddi y cyngor Ad populum Antiochenum homil. 35. hyn, Bydded elusenau trugarog yn wastad gyda ni, megis dillad arnom: hynny yw mor feddyl­gar a fythom i wisco am danom ein dillad, i giddio 'n noethni, i'n cadw rhag oerfel, ac i'n dangos ein hûnain yn weddaiddd, byddwn mor gofus yn wa­stad i roddi elusennau i'r tylodion, ac i'n dangos ein hunain yn drugarogion tuag attynt.

Ond pa beth yw meddwl rhybyddion difrif ac aml annogaethau y prophwydi, apostolion, ta­dau, â Doctoriaid sanctaidd? yn wir fal yr oedd ynt yn ffyddlon tuag at Dduw, ac yn cyflaw­ni eu dlyed tu ag at dduw, gan ddywedyd i ni [Page 6] pa beth oedd ewyllys Duw: felly o gariad godi­dawg tuag attom ninnau, hwy a drafaelasant nid yn inig i'n cyfarwyddo ni, ond i'n perswado ni fod rhoddi cardodau, a chynnorthwyo 'r tlawd a'r anghenus, yn beth cymmeradwy ac yn aberth godidawg i dduw yn yr hwn y mae fe 'n ymhoffi 'n fawr, ac yn ymfodloni 'n ddirfawr: O herwydd felly y mae y gwr call mab Sirach yn dyscu ini, gan ddywedyd, fod yr hwn sydd drugarog ac yn Eccles. 35. 3. 7. rhoddi elusen yn aberthu 'r iawn aberth, diolch a moliant. Ac mae 'n cydsylltu a hynny, fod aberth inion, duwiol, yn gwneuthur yr allor yn fras, a bod ei arogl ef yn beraidd gerbron yr Ar­glwydd, ie ei fod ef yn gymmeradwy gerbron duw, ac na ollyngir dros gof ei goffadwriaeth ef.

Ac yr ydys yn gwirhau gwirionedd yr athraw­aeth hon wrth siamplau y tadau sanctaidd, care­dig, am y rhai yr ydym ni yn darllen yn yr scru­thyrau, ei bod hwy gwedy ymroi i dosturi a thru­garogrwydd tuag at y tylawd ac yn garedig i esm wytho ei anghenau hwy. O'r fath hyn oedd Abraham, i'r hwn yr ydoedd Duw mor fodlon ac y bu wiw gantho ddyfod atto mewn dull angel, a chymmeryd ei rausewi i'w dŷ ef. O'r fath hyn yr ydoedd ei garwr ef Lot, yr hwn a garodd Duw yn gymmaint (am dderbyn ei ganhadon ef i'w dŷ, y rhai oni buasai hynny a gawsent orwedd yn yr heol) ac y cadwodd efe ef a'i holl dylwyth, oddi­wrth ddistriw Sodom a Gomorha. O'r fath hyn yr oedd y tadau sanctaidd, Iob, Tobi, a llawe­roedd eraill, y rhai a glywsont o'i mewn, megis yn gyhoedd i'w synhwhyrau, brofiad o yspysawl ga­riad duw tuag attynt. Ac fal y cafodd yr holl rai hyn (trwy eu trugaredd a'u mawr dosturi, yr [Page 7] hwn a ddangosasant hwy i flinedig aelodau truain Christ, wrth eu esmwytho, eu nerthu, a'u cynnorthwyo hwy â'u da bydol yn y byd hwn) fawr serch Duw, ac y buont anwyl, hoff, a bod­longar yn ei olwg ef, felly y maent hwythau 'n awr yn cael eu digrifo, wrth fwynhau Duw mewn hoff lawenydd nefoedd, ac hwy a osodir hefyd ger ein bronnau ninnau, yn-nhragwyddol air Duw megis samplau perffaith i'n dyscu ni, cystadl pa fodd y bodlonwn dduw yn y bywyd marwol hwn, ac hefyd, pa fodd y dawn ni i fyw yn llawen gydâ hwy, mewn hyfrydwch a dedwydd­yd tragwyddol.

O herwydd gwir iawn yw r hyn a ddywaid S. Awstin: Mai rhoddi cardodau, a chynnorthwyo 'r tylawd, yw yr iniawn ffordd i'r nef: via coeli pau­per est, y ffordd i'r nef yw 'r tylawd, medd ef. Hwy a arferēt yn yr amser gynt, o osod ar heolydd cyffre­din ddelw mercuri, yn dangos a'i fys yr iniawn ffordd i'r dref, ac yr ydym ninnau 'n arfer mewn croes-ffyrdd, o osod croes o goed, neu gerig, er rhybyddio 'r ymdeithydd, pa ffordd y dylai ef droi, pan delo ef hyd etti: ac i'w gyfarwyddo ef yn y iawn ffordd, ond fe a osododd gair Duw (medd S. Awstin) yn y ffordd i'r nef, y dyn tylawd, a'i dŷ, fal pwy bynnac a elo 'n iniawn yno, heb droi oddiar y ffordd, rhaid iddo ef fyned heibio i'r ty­lawd. Y tylawd yw 'r mercuri hwnnw, yr hwn a'n gosod ni yn yr iniawn ffordd, ac os edrychwn ni yn dda ar y nod hwn, ni chyrwydrwn ni yn ep­pell oddiar y llwybr inion.

Arfer gwŷr call bydol yn ein mysc ni yw, os gwy­ddont fod neb sydd îs ei stat na hwynthwy, mewn ffafwr rhyw dywysog, neu bennaeth, yr hwn y [Page 8] maent yn ei ofni, neu yn ei garu, i hwnnw y bydd da ganthynt wneuthur daioni a thwrn da iddo, fal pan fytho rhaid y gallo yntef fod yn eiriolwr drostynt, naill ai i ennill mael, ai yntef i ddianc rhag twrn drwg, fe ddylai fod cywilydd arnom ni, fod dynnion bydol yn synwyrolach ac yn ga­llach i ennill iddynt eu hunain bethau bydol, y rhai ni pharhant ond dros amser, nâ nini i geisio pethau nefol. Mae 'n Iachawdwr Christ yn te­stiolaethu am y tlodion, eu bod hwy yn anwyl iawn gantho ef, a'i fod ef yn eu caru hwy 'n odi­dawg, o herwydd mae fe 'n eu galw hwy yn blant bychain iddo, enw o gariad tra-rhagorol. Mae fe 'n dywedyd eu bod hwy yn frodyr iddo. Ac mae S. Iaco 'n dywedyd i Dduw eu dewis hwy i fod yn etifeddion o'i deyrnas ef: oni ddewisodd duw (medd ef) dylodion y byd hwn i fod yn gyfoetho­gion mewn ffydd, ac i fod yn etifeddion o'r deyr­nas, yr hon a addawodd ef i bawb ac a'i carant ef? Ac ni a wyddom y bydd y weddi a wnelont drosom ni 'n gyfrifol, ac yn gymmeradwy ger bron Duw, fe wrandewir eu achwynion hwy hefyd. Ac am hynny mae Iesu fab Sirach yn ein siccrhau ni 'n ddiogel, gan ddywedyd, Pan felldithio y ty­lawd di yn chwerwedd ei enaid, yr hwn a'i gwna­eth Eccl. 4. 6. ef a wrendy ei weddi ef. Byddwch chwi­thau drugarog am hynny wrth y tylawd.

Ni a wyddom hefyd fod yr hwn sydd yn cyd­nabod ei hun yn feistr ac yn ymddiffynnydd iddynt, ac ni wrthyd eu cymmeryd hwy yn wei­sion iddo, yn abl i wneuthur i ni les ac afles, a bod yn rhaid ini bob awr wrth ei gynorthwy ef. Paham am hynny y byddwn ni nac escaelus nac anewyllysgar i ennill eu cymdeithas hwy a'u [Page 9] serch, trwy 'r hyn hefyd y gallwn fod yn siccr o ennill ei serch ef, yr hwn sydd alluog ac ewyllys­gar i wneuthur ini bob daioni ac a fyddo er em lles ni a'n llwydddiant. Mae Christ yn ma­negi wrth hyn pa gymmaint gantho am ein ca­redigrwydd ni at y tlawd, am ei fod ef yn addo gobrwyo 'r rhai a roddant phioled o ddwfr yn ei enw ef i'r rhai a fo arnynt ei eisiau, a'r gwobr hwnnw yw teyrnas nef.

Diammau am hyn yw fod Duw yn gwneu­thur cyfrif mawr o'r hyn y mae fe yn ei obrwyo mor hael. O herwydd mae 'r hwn sydd yn addo taliad frenhinawl am rodd cardottyn, yn dan­gos fod yn hoffach gantho fe y rhoddi, na 'r rhodd, a'i fod ef yn cyfrif yn gymmaint wneuthurdeb y peth, a'r ffrwyth a'r ennill sydd yn dyfod o hono. Pwy bynnac gan hynny a escaelusodd hed yn hyn roddi cardodau, gwybydded yn awr fod Duw yn eu gofyn hwy ar ei ddwylaw ef, a gwy­bydded yr hwn a fu hael wrth y tylawd, fod ei orchwylion duwiol ef yn gymmeradwy, a bod Duw yn eu derbyn hwy yn ddiolchus, am y rhai hefyd y tal ef yn ddau ac yn dri dyblyg: o her Diar. 19. 17. wydd felly y mae 'r gwr call yn dywedyd, yr hwn sydd yn cymmeryd trugaredd ar y tylawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd, dros occr ac ennill halaeth, a'r ennill yn enwedig yw bywyd tragwyddol trwy haeddiant ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn gyda 'r Tad a'r Yspryd glan, y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.

¶ Yr ail rhan o'r bregeth am elusennau.

CHwi a glywsoch fy annwyl gare­digion, fod rhoddi elusenau i'r ty­lodion a'u cynnorthwyo hwy, yn amser anghenrhaid, mor gymme­radwy gan ein Iachawdwr Christ, fal y mae 'n cyfrif y peth a wnelir iddynt hwy er ei fwyn ef, gwedy ei wneu­thur iddo ef ei hun. Chwi a glywsoch hefyd mor ddifrif y mae 'r Apostolion, y Prophwydi, a'r Tadau sanctaidd, a'r doctoriaid yn ein hannog ni i hynny. Ac chwi a welwch mor anwyl gan Dduw fu y rhai y mae 'r scruthur yn son eu bod yn rhoddwyr cardodau da. Am hynny os cyffro na'u samplau da hwy, na chyngor iachus y Tadau duwiol, na Christ ni, serch yr hwn yr ydym siccr o'i fwynhau trwy hyn o beth: neu os priswn y pethau hyn, ymddarparwn o hyn allan i ddangos i Dduw y gwasanaeth cymmeradwy ymma, gan fod yn barod i nerthu y rhai sydd dylodion ac mewn blinder.

Yn awr yr ail bryd yr ydwyf yn traethu i chwi am elusenau, mi a ddangosaf mor fuddiol yw eu harfer hwy, a pha ffrwyth a ddaw ini, os gwnawn hwy yn ffyddlon. Mae 'n Iachawdwr Christ yn dangos yn ei efengil, nad oes ennill i ddŷn er meddiannu 'r holl fyd a'i gyfoeth a'i ogo­niant, os cyll ef ei enaid ei hun, neu os gwna fe Math. 16. 26. ddim, trwy 'r hyn y gellir ei wneuthur ef yn gaeth iangau, pechod neu dân vffernol. Trwy hyn y [Page 11] mae fe yn dangos nid yn vnic pa gymmaint y dlyem ofalu am iechyd yr enaid, yn fwy nag elw bydol, ond mae hyn hefyd yn gwasanaethu i gy­ffro 'n meddyliau ni, ac i'n cyffro ni yn ein blaen, i geisio 'n ddiescalus, a dyscu trwy hynny, pa fodd y mae ini gadw a chynnal dros fyth ein eneidiau mewn diogelwch: hynny yw, pa fodd y mae ini adnewyddu 'n iechyd, os bydd gwedy colli neu leihau, ac os bydd ef vnwaith gennym pa fodd y gallwn ei faenteinio ef. Ie mae fe trwy hyn­ny yn ein dangos ni hefyd i gyfrif honno yn feddig­iniaeth werthfawr ac yn dlws godidawg, yr hon sydd a'r fath rym a rhinwedd ynddi i gadw ac i gynnal tressor mor ddigyffelyb.

O herwydd os gwnawn ni gyfrif mawr o'r fe­ddiginieth neu 'r eli a ddichon iachau amryw gle­fydau trymmion, a heintiau corphorol, mwy cyfrif lawer a ddylem ni ei wneuthur o'r hyn sydd a gallu ynddo ar yr enaid. Ac fal y gallem fod yn siccr ddigon o adnabod, ac o fod gennem mewn parodrwydd, y gyfarwyddyd sydd mor fuddiol, mae fe megis dyscawdwr ffyddlon yn dangos ei hun pa beth yw hi, a pha le y mae ini ei chael hi, a pha fodd y mae ini ei harfer a'i thre­fnu hi. O herwydd pan achwynwyd arno ef ac ar ei ddiscyblion yn dost gan y Pharisaeaid, ddar­fod Luc. 11. 41. iddynt wradwyddo eu heneidiau wrth dorri traddodiadau 'r henuriaid am iddynt fyned at eu bwyd heb olchi eu dwylaw o'r blaen, yn ol arfer yr Iddewon: mae Christ yn atteb i'w cwyn ofergoelus hwy, gan ddangos iddynt y gyfarwy­ddyd orau i gadw eu heneidiau yn lân, er torri y fath drefnau ofergoelus; Rhoddwch elusen, medd ef, a phob peth y sydd lân i chwi: mae ef yn [Page 12] eu dyscu hwy; mai bod yn drigarog ac yn gare­dig i gynnorthwyo 'r tlawd, yw 'r vnig lwybr i gadw 'r enaid yn bur ac yn lân yngolwg Duw. Am hynny trwy hyn y dyscir fod rhoddi eluseneu Tob. 4. 10. yn fuddiol i lanhau yr enaid oddiwrth gyffaith a brychi pechod.

Mae 'r Yspryd glân yn dangos yr vn wers hefyd mewn llawer o leoedd o'r scrythyr sanctaidd, gan ddywedyd, fod trûgaredd ac elusenau yn gwa­red rhag pechod, yn cadw rhag angau, ac yn rhwystro 'r enaid i ddyfod i dywyllwch. Mawr yw 'r diogelwch gar bron y goruchaf Dduw, a all fod gan y rhai a ddangossant drugaredd a tho­stûri ar y rhai sydd mewn blinder: mae 'r prege­thwr doeth, mab Sirach yn cadarnhau hyn, Ecclus. 29. 15. pan yw fe 'n dywedyd, fal y mae dwfr yn diffodd tân, felly fod trugaredd ac elusenneu yn gwrth­wynebu pechodau. A siccr yŵ fod trûgarogrwydd yn oeri gwrês pechodau yn gymmaint ac na all­ant graffû ar ddŷn i'w ddrygu, neu os cyfyrddant ag ef neu waethygu arno trwy wendid, mae trugaredd yn y man yn eu sychu ac yn eu golchi hwy ymaith, megis meddyginiaethau ac eli i iachau eu clwyfau a'u clefydau tôst hwy.

Ac ar hyny ymae 'r tâd sanctaidd Cyprian yn cymmeryd achos i'n hannog ni i weithred truga­rog rhoddi cardodau a chynorthwyo y tlawd, ac yno y mae ef yn ein rhybyddio ni i ystyried mor iachus ac mor fuddiol yw cynnorthwyo 'r ang­henus, a nerthu 'r blinderog, trwy 'r hyn y ga­llwn lanhau 'n pechodau ac iachau ein enaidiau clwyfus.

Ond etto fe a ddywaid rhyw ddŷn, pe galle ein elusenau a'n gweithredoedd caredigol ni at y [Page 13] tlodion olchi ymaith ein pechodau ni a 'n cym­modi ni â Duw a 'n rhyddhau ni oddiwrth en­beidrwydd damnedigaeth, a 'n gwneuthur yn feibion ac yn etifeddion o deyrnas Dduw, yno y diddymmir haeddiant Christ ac ofer y tywa­lltwyd ei waed ef, yno y'n cyfiawnhair ni trwy ein gweithredoedd, fal y dywaid S. Pawl.

Ond deallwch, fy-ngharedigion, nad ydyw y lleoedd o'r Scrythyr a ossodwyd o'r blaen, nac athrawaieth y merthyr bendigedig Cyprian nac vn gŵr duwiol dyscedig arall, pan ydynt hwy wrth fawrhau braint, budd, ffrwhth a grym elusenau rhinweddol hael, wrth ddywedyd eu bod hwy yn golchi ymaith bechodau, ac yn ein dwyn i ffafor Duw; yn meddwl fod ein gwaith a'n gorchwyl caredig ni yn achos dechreuol o 'n cymmeriad ni ger bron Duw, neu y gellir golchi ymaith ein pechodau ni a'n purhau ni a'n glanhau ni oddiwrth holl gyffaith ein anwiredd, o fraint a theilyngdod elusen: O herwydd ni byddai hynny ond gwir anffurfio Christ a'i anrhaithio o'i ogoniant.

Ond hynny maent yn ei feddwl a hyn yŵ ystyr yr ymadroddion hyn a'r fath ymadroddion, ddarfodd i Dduw o'i serch yspysawl a'i fawr drugaredd tu ag at y rhai a ordeiniodd ef i iechydwrieth dragwyddol, felly gynnyg ei râd yn enwedigawl, ac iddynt hwythau ei dderbyn ef mor ffrwythlon megis er eu bod oblegid eu bywyd pechadurus oddi-allan o'r blaen yn blant digofaint a distryw: etto gan fod Yspryd Duw yn awr yn gweithio 'n gadarn ynddynt i vfydd-dod i ewyllys Duw a'i orchymmynion, maent yn cyhoeddi wrth eu gorchwylion, a'u bywyd [Page 14] oddi-allan wrth ddangos trugaredd a chared­igrwydd at y tlawd yr hyn ni ddichon dyfod ond o yspryd Duw a'i râd Yspysawl, eu bod hwy yn ddiammau yn blant i Dduw gwedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol. Ac felly megys wrth eu drygioni a'u hanuwiol fywyd yr oeddynt yn eu dangos eu hunain yn ol barn dynnion (y rhai a gan lynant yr agwedd oddi-allan yn vnig) eu bod yn wrthodedig, a chwedy eu troi heibio: felly yn awr wrth eu hufydd-dod i sanctaidd ewyllys Duw, ac wrth eu trugarogrwydd a'u mawr dosturi, yn yr hyn y dangossant hwy eu bod yn gyffelyb i Dduw yr hwn yw ffynon a ffrŵd pob trugaredd, y dangossant yn eglur ac yn oleu yngolwg dynion mai plant Duw ydynt a'i etholedigion ef i iechydwrieth.

O herwydd fal nad yw y ffrwyth da yn achos o fod y pren yn dda, ond rhaid yw i'r pren yn gyntaf fod yn dda, cyn y gallo ef ddwyn ffrwyth da: felly nid ydyw gorchwylion da dŷn yn acho­sion o fod dŷn yn dda, ond fe a wnair yn gyntaf yn dda trwy Yspryd a rhâd Duw yr hwn sydd yn gweithio 'n rymmus ynddo ef, ac yn ol hyny y mae fe 'n dwyn allan ffrwythau da? Ac yno fal y mae ffrwythau da yn dangos ac yn cyhoeddi daioni 'r pren, felly y mae gweithredoedd da tru-garog dŷn yn prosi ac yn cyhoeddi daioni yr hwn a'u gwnelo hwynt, yn ol ymadrodd Christ; wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt.

Os gwrthddadleu neb fod dynion beius drwg weithiauwrth eu gweithredoedd yn ymddangos yn dduwiol ac yn rhinweddol iawn, mi a attebaf fod y grabyssyn, a'r beren dagu, yn edrych weith­iau [Page 15] oddi allan mor goch ac mor ber a ffrwythau daionus da. Ond fe fydd hawdd i'r gwr a gno ac a brofo, farnu rhwng sur chwerwder y naill a blas peraidd y llall; Ac megys y mae 'r gwir Gristion mewn diolchgarwch calon am ryddhâd ei enaid yr hwn a brynwyd trwy farwolaeth Christ, yn dangos yn fwyn trwy ffrwyth eu ffydd, ei vfyddod i Dduw; fellŷ y mae 'r llall megis marchnadwr gydâ Duw yn gwneuthur y cwbl er ei ennill ei hunan gan dybiaid y gall ef enill nef trwy haeddedigaeth ei weithredoedd, ac mae ef yn anffurfo ac yn tywyllu gwerth gwaed Christ, yr hwn yn vnig a weithiodd ein glan­hâd ni.

Am hynny ystyr yr ymadroddion hyn yn yr scrythyrau ac scrifennadu duwiol eraill, Mae elu­senau yn golchi ein pechodau ni ymaith, a thru­garedd at y tlawd yn deleu ein anwireddau ni, yw hyn, ein bod ni wrth wneuthur y pethau hyn yn ol ewyllys Duw a'n dyled ein hunain, yn cael golchi ein pechodau ymaith, a deleu ein anwi­reddau, nid trwy eu haeddiant hwy, onid trwy ras Duw, yr hwn sydd yn gweithio oll yn oll, a hyny o oblegid yr addewid a wnaeth duw i'r rhai a vfyddhânt i'w orchymynion ef: fal y cyfiawn­haid yr hwn sydd wirionedd wrth gyflawni y gwirionedd sydd ddyledus ar ei addeŵid ef.

Mae elusenneu yn golchi ymaith ein pechodau ni am fod yn wiw gan Dduw ein cyfrif ni yn bu­rion ac yn lân pan fythom ni yn eu gwneuthur hwy er ei fwyn ef, ac nid am eu bod hwy yn haeddu ein glanhad ni, neu am fod y fath rym a rhinwedd yndddynt hwy eu hunain.

Mi a wn fod rhai yn ymroddi yn ormod i ym­ffrostio [Page 16] am eu gweithredoedd da, ac na byddant hwy bodlon ir atteb hwn: ac nid rhyfedd, O her­wydd ni ddichon vn atteb fodloni na gwsnaethu y fath ddynion: am hyny ni a adawn y rhai hyny i'w rhwystr cyndyn eu hunain, ac a ddylynwn y duwiol rhesymol, y rhai megis y maent yn gwy­bod ac yn eu siccrhau eu hunain, fod pob daioni, pob haelioni, pob trugaredd, a phob doniau a phob maddeuant o bechodau, a pha beth bynac a ellir ei alw yn dda ac yn fuddiol i'r corph neu i'r enaid, yn dyfod yn vnig oddiwrth drugaredd Duw, a'i vnig serch ef, ac nid o honynt hwy eu hunain: felly er cymmaint, er mor odidawg weithredoedd da a wnelont, etto nid ymchwydd­ant byth gan ofer ymddired ynddynt.

Ac er eu bod hwy yn clywed ac yn darllen yng­air Duw ac yngweithredoedd gwŷr duwiol eraill fod elusenau, trugaredd a charedigrwydd yn gol­chi ymaith bechodau ac yn deleu anwireddau, etto nid ydynt hwy 'n rhyfygus, ac yn falch yn glynu wrthynt nac yn ymddired ynddynt, nac yn ymstrostio am danynt, megis y gwna­eth y Pharisai balch, rhag iddynt gydâ 'r Phari­sai gael eu damnio: ond gydâ'r Publican go­styngedig tlawd, maent yn addef eu bod yn be­chaduriaid truain yn annheilwng i edrych tu a'r nef: gan alw ac ymbil am drugaredd fal gydâ 'r Publican y cyhoedder hwy gan Christ yn gyf­iawn.

Mae 'r duwiol yn dyscu pan ddywedo 'r Scry­thyr fod trwy weithredoedd da trugarog, yn ein cymmodi ni â Duw, fod yn ein dyscu ni trwy hyny, i adnabod beth y mae Christ drwy ei gy­fryngad a'i ddadleuad yu ei enill ini gan ei [Page 17] Dâd, pan fyddont ni vfydd i'w ewyllys ef, ie maent hwy trwy 'r fath ymadroddion yn dyscu argoel fawr o ddiddanus a godidawg serch a chariad Duw, yr hwn sydd yn tadogi arnom ni a'n gorchwylion y peth trwy ei Yspryd y mae ef yn ei weithio ynom ac yn ei beri ini trwy ei rad. Ac etto er hynny, maent yn gweiddi gydâ S. Pawl, Oh ddynion truain ydym ni: ac yn ad nabod (fal y dangos Christ) darffo iddynt wneu­thur y cwbl oll, nad ydynt onid gweison an­fuddiol; a chydâ 'r bendigedig frenin Dafŷdd, oblegid cyfiawn farn Duw, maent yn crynu ac yn dywedyd, Pwy a all aros O Arglwydd, os rhoddi di farn yn ol ein haeddiant ni?

Fal hyn y maent hwy yn ymostwng ac y cy­fodir hwy gan Dduw. Maent yn eu cyfrif eu hunain yn wael ac a gyfrifir gan Dduw yn bur ac yn lân, maent yn eu damnio eu hunain, ac a gyfiawnhair gan Dduw. Maent yn ty­bied eu bod eu hunain yn an-nheilwng o'r ddayar a chan Dduw y cyfrifir hwy yn deilwng o deyr­nas nef.

Fal hyn y dangosir hwy trwy air Duw i fe­ddwl yr hyn sydd inion am drugarog gyfrannad elusenau, athrwy yspyssawl ddaioni Duw a'i drugaredd, hwy a wnair yn gyfrannogion o'r ffrwythau a addawodd ei air ef.

Canlynwn gan hynny eu siamplau hwy, a dangoswn yn vfydd yn ein bywyd y gweithre­doedd-hynny o drugaredd, y rhai a orchymynir ini, a bydded gennym iniawn feddwl a barn am danynt, fel y discir i ni; felly y byddwn ni megis hwyntau, yn gyfrannogion, ac y cawn dderbyn y ffrwythau a'r gobrwy-au y rhai a [Page 18] ganlynant y fath dduwiol fywyd, felly y cawn trwy brofi wybod, pa ffrwyth a pha ennill y sydd yn dyfod o roddi cardodau a chynnorthwyo 'r tlawd.

¶ Y drydedd ran o'r bregeth am elusenau.

CHwi a glywsoch ddwy ran eisoes o'r traethawd am elusenau.

Y cyntaf, mor hoff ac mor gymeradwy ger bron Duw yw eu gwneuthur hwy. Yr ail mor anghenrhaid ac mor fuddiol yw ini ymroi iddynt.

Weithian yn y drydedd ran mi a symmudaf y rhwystr y sydd yn rhwystro llawer o honom i'w gwneuthur hwy.

Mae llawer pan glywont mor gymeradwy ger bon Duw yw rhoddi cardodau, a phelled y mae Duw yn ystyn ei serch tuag at y rhai tru­garog, a pha ffrwythau a pha ennill y sydd yn dyfod iddynt o ddiwrth hynny, maent yn da­muno o ewyllys eu calonau ar allel cyrhaeddyd y doniau hyn, a chael eu cyfrif gan Dduw ym­mhlith y rai a garai ef ac a wnai erddynt. Ond etto y mae trachwant cybyddus yn tynnu y rhai hyn yn eu hôl fal na allant roddi vn ddim­mau, nac vn dafell o fara i'r tlawd, er cael bod yn deilwng o ddoniau Duw, ac felly dyfod i'w ffafor ef. O herwydd y maent yn ofni 'n wa­stad, rhag wrth roddi 'n fynych, er na byddai hynny ond ychydig ar vnwaith, iddynt dreulio [Page 19] eu da a'u tlodi eu hunain, fal na allont yn y di­wedd fyw arnynt eu hunain, ond y gorfydd ar­nynt fyw ar elusenau rhai eraill.

Ac felly y maent yn ceisio Ymescuso. ymescussodi i'w cadw eu hunain allan o serch Duw: ac y dewi­sant yn hytrach trwy gybydd-dod calon, bwyso at y diawl, na▪ thrwy garedig drugaro­grwydd ddyfod at Ghrist, neu oddef Christ i ddy­attynt hwy.

Oh na byddai ryw feddig cynnil, cyfar­wydd, yr hwn a allai Dywallt. arllwys o honynt yr huwmor llyggredig hon, yr hon y sydd yn mallu nid eu cyrph hwy yn vnig, ond eu meddyliau hefyd, ac felly gan lygru eu heneidiau hwy, yn dwyn eu cyrph hwy a'u heneidiau i enbeidrwydd tân vffern.

Yn awr rhag bod neb o'r fath hyn yn ein plith ni, fy-ngharedigiō, chwiliwn yn ddiescaelus am y meddyg hwnnw, yr hwn yw Iesu Grist, a thrafaeliwn yn ddifrif ar iddo ef o'i fawr dru­garedd ein iawn-gyfarwyddo ni, a rhoddi ini feddyginiaeth bresenol yn erbyn clefyd mor en­baid.

Gwrando di am hynny yr hwn wyt yn ofni rhag wrth roddi i'r tlawd i ti dy ddwyn dy hun i gardotta. Byth ni ellir treulio na difa yr hyn a gymerech ti oddiwrthid dy hun i'w roddi i Grist; yn yr hyn na chred fi, ond os oes gennid ffydd, ac os ydwyd yn wir Gristion, crêd yr Yspryd glân, crêd awdurdod gair Duw, yr hwn sydd yn dy ddyscu di fal hyn.

O herwydd fal hyn y dywaid yr Yspryd glân trwy enau Salomon, Yr hwn a roddo i'r tlawd bŷth ni bŷdd eisiau arno.

[Page 20] Mae dynion yn tybied mai wrth bentyrru a chadw yn wastadol yr ânt hwy yn gyfoethogion yn y diwedd, ac mai wrth gyfrannu a gwario, ie am bethau angenrheidiol, duwiol, yr ânt hwy yn dlodion. Ond mae 'r Yspryd glân yr rhwn sydd yn gwybod pob gwirionedd, yn dangos ini wers arall wrthwyneb i hon. Y mae fe yn dangos ini fod rhyw fath ar draul yr hwn byth ni leiha y golud, a rhyw fath ar gadw yr hwn a ddwg ddŷn i ddygyn dlodi: O herwydd, lle mae fe 'n dywedyd na bydd byth diffyg ar elu­senwr da: mae ef yn dywedyd ym-mhellach, Ond yr hwn a drotho ei lygaid oddiwrth y rhai sydd mewn angen a ddaw ei hun i dlodi mawr. Mor bell am hynny yw barn dy▪n oddiwrth farn yr Yspryd glan.

Mae'r Apostol sanctaidd yr hwn oedd yn llawn o'r Yspryd glân, ac a wnaethid yn gyd­nabyddus a dirgel ewyllys Duw, yn dangos na thlodir byth yr hwn a roddo gardodau 'n hael; yr hwn, medd ef, sydd yn rhoddi hâd i'r hauwr a rŷdd hefyd fara 'n ymborth i'r bwyt­tawr, ie fe a amlha eich hâd chwi ac a chwanega ffrwyth eich cyfiawnder. Nid yw ddigon gantho ddangos iddynt na bydd diffyg arnynt, ond mae ef 'n dangos iddynt hefyd pa fodd y darpara Duw iddynt. Yn y modd y mae ef yn darparu hâd i'r hauwr wrth ei amlhau a'i gynnyddu ef, felly yr amlhâ ef eu da hwy, ac y chwa­nega ef hwynt, ac y bydd ganthynt amledd mawr.

A rhag tybied o honom nad ydyw ei ymadro­ddion ef ond geiriau ac nid gwirionedd, mae ini siampl o hyn yn y liyfr cyntaf o'r brenhinoedd, [Page 21] yr hon y sydd yn cadarnhau ac yn selio hyn megis gwironedd siccr.

Pan nad oedd gan y weddw dlawd, yr hon a dderbyniodd Aethwlad exul. afwlad brophwyd Duw Elias, onid dyrnaid o flawd mewn cîst, ac ychydig o oel mewn stên, o'r hyn yr ydoedd ar fedr gwneu­thur teisen iddi ei hun a'i mâb, fal gwedy bwytta hynny y hyddent feirw.

O herwydd yn y newyn mawr hwnnw nid oedd dim lluniaeth chwaneg i'w gael, etto pan ro­ddodd hi ran o hynny i Elias, a Twyllo. siommi ei bola newynog ei hun i'w gynorthwyo ef yn drugarog, hi a fendithied felly gan Dduw, fal na ddarfu na 'r blawd na 'r oel, yr hŷd y parhaodd y newyn, ond hwy a barhaesant dros yr holl amser hwnnw: ond o hynny y cafas y prophwyd Elias a hi­thau a'i mab ddigonol ymborth a llynniaeth.

Oh ystyriwch y siampl hon, chwi bobl an­ghredadwy, anffyddlon, gybyddus, y rhai ydych yn angrhedu gair Duw, ac yn tybied lei­hau o'i allu ef.

Nid oedd gan y wraig dlawd hon yn yr hîr a'r dygyn brinder hwnw onid vn dyrned o flawd, ac ychydig bach o oel mewn stên fach, yr ydoedd ei hunig fab hi ym-mron marw o newyn ger bron ei llygaid hi, a hithau yn debyg y gurio i far­wolaeth ac i ddyddfu gan newyn: ac etto pan ddaeth y prophwyd tylawd a cheisio rhan, yr ydoedd hi mor gofus am drugaredd, ac y gellyn­gai hi yn angof ei chyfyngder ei hun, ac yn gynt nac y gollynge hi heibio yr amser i roi elusen, ac i weithio gwaith cyfiawnder, hi a fentrai ei bywyd ei hun, a bywyd ei hunig fab.

A chwi, y rhai sydd gennwch amledd o fwyd [Page 22] a diod, a llawer o ddillad a 'r pryfed yn eu bwyt­ta, ie llawer o honoch a Crugau. phentyrrau o aur ac arian, a'r hwn sydd gantho leiaf sydd a mwy nâ digon, yn awr yn yr amser hwn, pan nad oes (i Dduw y bytho 'r diolch) ddim newyn mawr yn eich gwascu chwi: er bod eich plant yn cael eu dilladu 'n dda, a'u bwyd yn ddigonol, ac heb vn achos gan newyn i ofni enbeidrwydd angeu; a fwriwch yn eich pennau ofn ac enbeidrwydd prinder anghyffelyb, yn gynt nag y cyfrannoch vn dryll o'ch gormodded i gynorthwyo ac i ner­thu Christ dlawd newynog, noeth, yr hwn sydd yn dyfod i gardotta wrth eich drws chwi. Ni fwriodd y weddw druan dlawd hon vn perigl am y trueni a'r diffyg a alle ddyfod arni, ni wan-obeithiodd hi yr addewidion a wnaeth Duw iddi trwy y prophwyd, ond hi a aeth yn y man i dorri newyn prophwyd Duw, ie gan ystyried ei anghen ef ym-mlaen ei hanghen ei hun.

Ond nyni megis brynti anghredadwy, cyn rhoddi vn hatling a fwriwn fil o beriglon, pa vn a wna y peth a roddwn i'r tlodion a'i gwneu­thur iniles ai peidio, pa vn a wna ai bod yn rhaid ini wrtho ailwaith ar ryw bryd arall, ac oni allasid gwario hynny yn well mewn rhyw ffordd arall, fal y mae 'n haws gwascu hoel gadarn allan o bôst caled, fal y dywaid y ddihaureb, nâ gwascu ffyrllin allan o'n bysedd ni.

Nid oes nac ofn, na chariad Duw ymmlaen ein llygaid ni, ni a wnawn mwy cyfrif o hatling nag o geisio teyrnas Dduw, neu ofni carchar diawl.

[Page 23] Gwrandewch am hynny, chwi gybyddion anhrugarog, pa beth a fydd diwedd y gorchwi­lion annrhugarog hyn, mor siccr ac y porthodd Duw y weddw hon, ac ychwanegodd ef ei stor hi, fal y bu ganthi ddigon, ac na bu arni ddim prin­der pan oedd eraill yn newynu, felly yn ddiam­mau y plaa Duw chwithau â thlodi ynghenol amledd. Pan fyddo eraill mewn cyflawnrwydd ac yn cael eu llanw yn ddigonol, chwi a ddarfydd­wch ac a dreulwch ymmaith, fe ddinistrir eich ystôr, fe a dynnir eich da chwi oddiwrthych, fe a Ddifhair. ddifethir eich holl ogoniant chwi a'ch cyfoeth, ac chwi a geisiwch mewn tristwch ac ocheneidiau, yr hyn pan ydoedd gennych a allasech chwi ei fwynnhau eich hunain yn heddychlon a'i roddi i eraill hefyd yn dduwiol, ac nis cewch.

Am eich annhrugarogrwydd chwi tuag at e­raill, ni chewch neb a ddangoso i chwi drugaredd. Chwi y rhai oedd genych galonnau caled tuag at eraill, a gewch holl greaduriaid Duw mor ga­led tuag attoch chwi a phres neu haŷarn.

Och pa ynfydrwydd a gwallgof sydd yn eich meddyliau chwi, fal mewn matter o siccrwydd a gwirionedd na chredwch chwi, i'r gwirionedd, yr hwn sydd yn dwyn testiolaeth 'ir peth siccraf ac a all bod. Mae Christ yn dywedyd os ceisiwn deyrnas Duw yn gyntaf, a'i gyfiawnder ef, ni adewir ni mewn eisiau, fe a roddir pob peth arall ini yn gyflawn. Nage meddwn ninnau, mi a e­drychaf yn gyntaf ar allu byw fy hun ac ar fod digon gennyf imi fy hun, ac i'm tolwyth, ac os bydd dim dros ben mi ai rhoddaf i ennill ffafor a serch Duw, ac yno fe gaiff y tylodion ran gydâ mi.

[Page 24] Edrychwch adolwg mor wrthgas yw barn dŷn. Mae arnom fwy o ofal i borthi'r gelain, nac ofn gweled dinistr ein eneidiau. Ac fal y dyw­aid Cyprian, tra fôm yn ammau rhag darfod ein Sermone de elemosyna. golud wrth fod yn rhy haelion, yr ydym ni yn gwneuthur na bo dim an mau y derfydd ein hywyd ni a'n iechyd wrth beidio a bod yn haelion, wrth fod yn ofalus rhag treulio 'n golud: yr ydym ni 'n ddiofal am ein treulio ein hunain, yr ydym ni yn caru Mammon, ac yn colli ein eneidiau: yr ydym yn ofni rhag dinistr ein tref-tadaeth oddi­wrthym ni, ond nid ydym ni yn ofni rhag ein di­nistr ni o'i blegid ef, fal hyn yr ydym ni yn caru 'n gyndyn wrthgas yr hyn a ddylyem ni ei gashau, ac yn cashau yr hyn a ddylyem ei garu, yr ydem yn esca­elus lle dylyem fod yn ofalus, ac yn ofalus, lle nid ydyw raid.

Mae 'r ofn ofer hwn rhag bod eisiau arnom ni ein hunain os rhoddwn ni i'r tylodion, yn gyffe­lyb iawn i ofn plant a ffyliaid, y rhai pan welant y gwydr yn discleirio 'n loyw, a dybygant yn y man mai mellten lluched yw, etto ni bu loywder gwydr erioed yn lluched, felly ninnau, pan fôm yn ty­bied y dichon gŵr ddyfod i dylodi, wrth dreulio ar y tylawd, yr ydym ni mewn ofn ofer: o her­wydd ni chlywsom ac ni wybuom ddyfod neb er ioed i gyfyngderau wrth wneuthur hynny, na'i adel yn ddigynhorthwy, ac yn ddiymgeledd gan Dduw. Nagê yr ydym ni yn darllen o'r gwrth­wyneb yn yr Scruthur fal y dangoswyd eisoes, ac y gellir prwfo wrth aneirif o dystiolaethau a siamplau pwy bynnac a wasanaetho Duw yn ffyddlon ac yn ddiragrith, mewn vn rhyw o al­wedigaeth, ni oddef Duw ef i waethygu, llai o [Page 25] lawer i gael ei ddistrywo.

Mae 'r Ysyryd glan yn dangos trwy Salo­mon, na edy Duw enaid y cyfiawn i farw o new­yn. Ac am hynny y dywaid Dafydd wrth bawb o'r trugarogion, Ofnwch Dduw ei saint ef, o Psal. 34. 9. 10. herwydd ni bydd eisiau dim ar y rhai a'i hofnant ef. Mae ar y llewod eisiau ac maent hwy yn god­def newyn, ond ni bydd ar y rhai sydd yn ofni 'r Arglwydd eisiau dim daionus. Diar 10. 3.

Pan oedd Elias yn yr anialwch fe a'i porthodd Duw ef trwy wenidogaeth cigfrân, yr hon forau a hwyr a hebryngodd iddo ef ymborth ddigon.

Pan oedd Daniel gwedy ei gau yngogof y llew­od, fe ddarparodd Duw fwyd iddo ef, ac a'i danfonodd yno iddo: ac yno y cyflawnwyd yma­drodd Dafydd, mae eisiau ar y llewod ac maent yn goddef newyn ond ni bydd ar yr rhai sydd yn ofni 'r Arglwydd eisiau dim da: o herwydd yr hŷd yr oedd y llewod y rhai yr oeddid ar fedr eu porthi ar ei gnawd ef, yn rhuo gan newyn, ac yn chwennych eu hysclyfaeth ar yr hwn nid oedd ganthynt allu, er ei fod ef yn eu gwydd hwy: etto yn yr ennyd hynny y cafodd ef ei borthi 'n gy­flawn gan Dduw, yr hwn yr oeddid ar fedr bod i'w gig borthi 'r llewod.

Mor alluog y mae Duw yn gweithio i gadw ac i faenteinio y rhai y mae fe 'n eu caru: mor ofalus hefyd yw efe i borthi y rhai mewn vn stât neu alwedi gaeth a'i gwasanaethant ef yn ddiragrith. Ac a dybygwn ni yn awr yr anghofia ef ni os byddwn vfydd i'w air ef, ac os tosturiwn wrth y tylawd yn ôl ei ewyllys ef? Mae fe 'n rhoddi ini bob cyfoeth cyn ini wneuthur iddo efddimg wasā ­aeth am danynt, ac a âd efni mewn eisiau pethau [Page 26] anghenrhaid pan fythom yn gwueuthûr iddo ef wasanaeth cywir? a feddwl neb y gwrthyd Christ ac y gad ef yn ddiymborth yr hwn sydd yn porthi Christ? neu a balla Christ o bethau dayarol i'r rhai y mae fe 'n addo pethau nefol, am ei wasa­naethu ef yn gywir?

Am hynny, fyngharedigion frodyr, ni all bod diffyg arnom ni vn amser wrth roddi elusenau i eraill, neu ein gorthrymmu ni gan brinder, y rhai ydym yn porthi yr anghenus. Mae hyn yn wrthwyneb i air Duw, mae 'n wrthwyneb i'w addewid ef, mae 'n wrthwyneb i naturiaeth a chynneddfau Christ oddef y pethau hyn: dichell­gar ddychymmig diafol ydyw ein hannog ni i gredu hynny.

Am hynny na safwn am roddi cardodau yn rhwydd, ac ar hynny yr ymddiredwn y dyry dai­oni Duw i ni ddigonolrwydd a helaethrwydd, yr hŷd y bythō byw yn y bywyd trangcedig hwn, ac yn ôl treulio'n dyddiau 'n ddaionus ymma yn ei wasanaeth ef a chariad ein brodyr, fe a 'n coronir ni â gogoniant tragwyddol i deyrnasu gydâ Christ ein Iachawdwr yn y nef: i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

¶ Homili neu bregeth o blegid genedigaeth ein Iachawdwr Iesu Grist.

YM-mhlith yr holl greaduriaid a wnaeth Duw yn y dechreuad yn odidog ac yn rhyfeddol yn eu rhywogaethau, nid oedd vn (fel y tystiolaetha 'r Scrythyrau) i'w gyffelybu i ddŷn mewn vn peth onid odid. hayachen: yr hwn mewn corph ac enaid oedd yn rhagori ar yr holl greaduriaid eraill, yn gymmaint ac y mae 'r haul mewn dis­clairdeb a goleuni. llewyrch yn rhagori ar bob seren fe­chan yn y ffurfafen. Ef a wnaethpwyd ar lun a delw Dduw, ef a gynnyscaeddwyd â phob rhyw ddoniau nefol, nid oedd brycheuyn o aflendid yn­ddo ef, yr oedd ef yn iach ac yn berffaith ym-mhob rhan oddiallan ac oddifewn, yr oedd ei reswm ef yn anllygredig, ei ddeall yn bur ac yn dda, ei e­wyllys yn vfydd ac yn dduwiol, ef a wnaethpwyd yn hollawl yn gyffelyb i Dduw, mewn cyfiawn­der, mewn gwirionedd, ac ar ychydig eiriau, ym­mhob rhyw berffaithrwydd.

Wedi ei greu ef a'i wneuthur fel hyn, fe a etho­lodd yr Holl-alluog (yn arwydd o'i fawr gariad tu ag atto ef) le yspysol o'r ddayar iddo ef, paradwys wrth ei henw, lle yr oedd ef yn byw ym-mhob llonyddwch a hyfrydwch, a chantho fawr hala­ethrwydd o olud bydol, ac heb arno eisiau dim ac a allai yn gyfion ei ddymuno neu ei chwennych O blegid, fel y dywedir, fe a'i gwnaeth Duw ef Psal. 8. 6. yn llywodraethwr ar holl weithredoedd ei ddwy­lo, [Page 28] ac a osododd bob peth tan ei draed ef, defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd, holl ehe­diaid y nefoedd a holl byscod y mor, i'w harfer hwy yn ôl ei ewyllys, fel y bydde raid iddo wrthynt. Ond oedd hyn yn ddrŷch ar bob perffeithrwydd? Ond oedd hon yn stât gyflawn berffaith-gwbl fendigedig? A ellid gan iawn ychwanegu dim at hyn, neu a ellid dymuuo dedwyddwch mwy yn y byd hwn?

Ond fel y mae naws a naturiaeth pob dŷn yn gyffredinol, yn amser llwyddiant a hawddfyd i ollwng yn angof nid yn vnig hwynt eu hunain, ond Duw hefyd: felly y gwnaeth Addaf y dyn cyntaf, yr hwn pan nad oedd iddo ond vn gorch­ymmyn oddiwrth Dduw, sef na bai iddo fwytta o ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg, er hynny yn anfeddylgar iawn neu yn hytrach yn ewyllys­gar ef a dorrodd y gorchymmyn hwnnw, gan ollwng tros gof orchymmyn caled ei wneu­thurwr, a rhoddi clust i hudoliaeth ddichellgar y felldigedig sarph y diafol. O'r hyn y digwyddodd fel megis o'r blaen yr oedd ef yn fendigedig, felly yr aeth ef yn awr yn felldigedig, megis o 'r blaen y cerid ef, felly yn awr y ffiaiddid ef, megis o'r blaen yr oedd ef yn brydferth ac yn werthfawr, felly yn awr yr oedd ef yn waelaf ac yn ddiyslyraf yngolwg ei Arglwdyd a 'i wneuthurwr; Yn lle bod yn ddelw Dduw, fe a aeth yn awr yn ddelw diawl; Yn lle bod yn ddinesydd nef, ef a aeth yn gaethwas i vffern, heb fod gantho ynddo ei hun vn rhan o'r purder ar 'glendid oedd ynddo o'r blaen, ond gwedi ei frychu a'i anurddo, megis nad oedd ef yn awr ond telpyn o bechod, ac am hynny wrth gyfiawn farn Duw ef a ddam­nwyd [Page 29] i angau tragwyddol.

A phe buase y bla ddirfawr dost hon yn aros ar Addaf yn vnig, yr hwn a bechodd yn gyntaf, hi a fuasei lawer esmwythach, ac a allesid yn haws ei goddef. Ond ni chwympodd hi arno ef yn v­nig, ond hefyd ar ei heppil a'i blant ef yn dragy­wydd, fel y dygai holl rywogaeth cnawd Addaf yr vn cwymp a chospedigaeth ac a haeddasai eu hên dâd hwy yn gyfiawn am ei fai. Mae S. Paul yn y bummed bennod at y Rhufeiniaid yn dywe­dyd Rom. 5. 12. ddyfod y cwymp ar bawb i ddamnedigaeth trwy bechod Addaf ei hun, ac mai trwy anufydd­dod vn dyn y gwnaethpwyd llawer yn becha­duriaid. Wrth yr hyn eiriau y'n dyscir ni, fel megis yn Addaf y pechodd pob dŷn yn gyffredi­nol, felly hefyd yn Addaf y derbyniodd pob dyn yn gyffredinol wobr pechod, hynny yw, myned yn farwol ac yn gaethion i angau, heb genthynt ddim ynddynt eu hunain ond tragwyddol ddam­nedigaeth corph ac enaid. Hwy a aeth ant (fel y Psal. dywaid Dafydd) yn llygredig ac yn ffiaidd, hwy a aethant oll oddiar yr iawn ffordd, nid oes vn yn gwneuthur daioni, nac oes vn.

Oh pa stât druan flinedig oedd hon, fod i be­chod vn dŷn ddinistrio a chondemno yr holl ddy­nion, fel na ellid edrych am ddim yn yr holl fyd, ond gloeson. gloes angeu a phoenau vffern? A fuasei ry­feddod yn y byd pe buasei ddyn yn cwympo yn ho­llawl i anobaith, ac yntef gwedi cwympo fel hyn o fywyd i farwolaeth, o iechydwriaeth i ddistryw, o nef i vffern? Ond wele ddirfawr ddaioni Duw a'i dirion drugaredd ef yn hyn o beth! Er bod anwiredd a pechadurus ymddygiad dŷn yn gy­fryw ac na haeddai mewn vn modd faddeu iddo, [Page 30] etto rhag ei fod yn llwyr noeth o bob gobaith a chyssur erbyn yr amser a ddauai, fe a ordeiniodd gyfammod newydd, ac a wnaeth addeiwid siccr o hono, hynny yw y danfonai ef Messias neu gyfryngwr i'r byd, yr hwn a wnai eiriol, ac a'i gosodai ei hun yn attaliaeth rhwng y ddwyblaid, i esmwytho llid a digofaint Duw yn erbyn pe­chod, ac i waredu dŷn allan o'r flinedig felldith a'r melldigedig drueni y cwympasai ef iddo, wrth fod yn anufydd i ewyllys a gorchymmyn yr vnig Arglwydd ar'gwneuthurwr.

Yr ammod a'r addewid hwn a wnaethpwyd yn gyntaf i Addaf ei hun, yn y man ar ol ei gwymp, fel yr ydym ni yn darllein yn y drydedd o Genesis, lle y dywedodd Duw wrth y sarph yn y modd hyn, Gelyniaeth a osodaf rhyngot ti a'r Gen. 3. 15. wraig, a rhwng dy had di a'i had hitheu, efe a yssiga dy ben di, a thitheu a yssigi ei sodl ef. Yn ol hynny yr adnewyddwyd y cyfammod hwn yn helaethach ac yn oleuach i Abraham, lle yr add­awodd Gen. 12. 3. Duw iddo, y bendithid holl genhedloedd a theuluoedd y ddayar yn ei hâd ef. Trachefn y parhawyd ac y cadarnhawyd yr addewid ymma i Isaac, yn yr vn dull ar eiriau, ac y gwnaeth­pwyd Gen. 16. 4. i'w dâd ef o'r blaen.

Ac er mwyn na bai i ddynion anobeithio, ond byw yn wastadol mewn gobaith, ni orphwy­sodd yr Holl-alluog Dduw o gyhoeddi, ac adrodd a chadarnhau a pharhau yr vn addewid, trwy amryw ac amrafael dystiolaethau ei brophwydi, y rhai er sicrhau 'r peth yn well, a brophwy­dasant am yr amser a'r lle a'r modd a'r dull y ge­nid ef, am flinderau ei fywyd ef, dull ei angau ef, gogoniant ei adgyfodiad ef, y modd y der­byniai [Page 31] ef ei deyrnas ac y gwarede ei bobl, a phob gogylcheddau eraill a berthynant i hynny.

Esaias a brophwydodd y genid ef o forwyn ac y gelwid ef Emmanuel. Micheas a brophwy­dodd y genid ef yn Bethlehem dinas yn Iudea. Ezechiel a brophwydodd y * daue ef o lwyth a hiliogaeth Dafydd. Daniel a brophwydodd y gwasanathai 'r holl genhedlaethau ac iaithoedd ef. Zacharias a brophwydodd y dauai ef mewn tlodi yn marchogaeth ar assen. Malachi a bro­phwydodd y danfonai ef Elias o'i flaen yr hwn oedd Ioan fedyddiwr. Ieremi a brophwydodd y gwerthid ef er deg dryll ar vgain o arian, &c.

A hyn oll a wnaethpwyd fel y coelai ac y cy­flawn gredai ddynion yr addewid a 'r ammod a wnaeth Duw i Abraham a'i hiliogaeth ynghylch prynedigaeth y bŷd.

Yn awr, fel y dywed yr Apostol Paul, pan ddaeth cyflawnder yr amser, hynny yw cwblhâd a chylch y blynyddoedd a osodasid o'r dechreuad, yna y danfonodd Duw, yn ol ei gyfammod a'i addewid, y Messias i'r byd, yr hwn a elwid he­fyd yn gyfryngwr, nid cyfryw vn ac oedd Iosuah, Saul neu Ddafydd, ond cyfryw vn ac a warede ddynion oddiwrth chwerw felldith y gyfraith, ac a wnai gyflawn iawn trwy ei an­gau tros bechodau yr holl bobl, hynny yw fe a ddanfonodd ei anwyl a'i vnig fab Iesu Ghrist, yr hwn (fel y dywaid yr Apostol) a anwyd o wraig, ac a wnaethpwyd tan y gyfraith, fel y gwaredai ef y rhai oeddynt tan gaethiwed y gy­fraith, a'u gwneuthur hwy yn blant i Dduw trwy fabgynnwys.

[Page 32] Onid oedd hyn yn gariad mawr rhyfedd tu ag attom ni y rhai oeddym elynion goleu cyhoe­ddus iddo ef? tuag attom ni y rhai oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, a thewynnion tân vffern? yn hyn, medd Ioan sant, yr ym­ddangosodd mawr gariad Duw, am iddo efddan­fon ei vnig fab i'r byd i'n gwared ni pan oeddym elynion digasog iddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni ei garu ef, ond am iddo ef yn caru ni, a danfon ei fab i fod yn iawn ac yn gymmod tros ein pechodau ni. S. Paul yntef sydd yn dywedyd, Ro. 5. 6. Christ pan oeddym yn ddinerth, yn yr amser, a su farw dros yr annuwiol. Diau mai prin y hydd vn farw tros vn cyfiawn. Er hynny tros vn da fe allai y bydde vn farw. Etto mae Duw yn dangos ei gariad tu ag attom ni, o blegid a ni etto yn bechaduriaid farw o Ghrist trosom.

Y gyffelybiaeth hon a'r cyfryw y mae 'r Apo­stol yn eu harfer i helaethu ac i osod allan dirion drugaredd Duw a'i fawr ddaioni ef a ddango­swyd tu ag at ddynion, wrth ddanfon iddynt Iachawdwr o'r nef, yr hwn yw Christ yr Ar­glwydd. Yr hyn ddawn, ym-mhlith eraill, sydd gymmaint ac mor rhyfedd ac na ddichon tafod ei draethu, na chalon ei feddwl, llai o lawer y ge­llir rhoddi cwbl ddiolch i Dduw am dano.

Ond ymma y mae ymryson mawr rhyngom ni a 'r Iddewon, pa vn a wna ai bod yr Iesu hwnnw a aned o'r forwyn Fair yn wir Messias a gwir Iachawdwr y byd a addawyd ac a brophwy­dwyd cyhyd o'r blaen. Hwynt hwy, fel y maent ac yr oeddynt erioed yn feilchion ac yn warsyth ni chydnabyddasant mo hono hyd y dydd he­ddyw, ond edrych a llygad-rythu am vn arall i [Page 33] ddyfod. Mae genthynt y dychymmyg a'r dŷb ynfyd ymma yn eu pennau, y daw y Messias, nid fel y daeth Christ, megis pererin tlawd, a dŷn truā yn marchogaeth ar assen, ond megis brenhin dewr cadarn mewn gogoniant ac anrhydedd mawr, nid fel y daeth Christ ac ychydig byscod­wyr, a dynion o gyfrif bychan yn y byd, ond a llu mawr o wyr cedyrn, a chwmpeini mawr o wyr doethion ac o bendefigion, megis marchogion, arglwyddi, ieirll, dugiaid, tywysogion a'r cy­fryw.

Ac nid ydynt yn tybied y goddef eu Messias hwy angau yn ddirmygus, fel y gwnaeth Christ, ond y gorchfyga ef yn ddewr, ac y gorescyn yn wrol ei holl elynion, ac o'r diwedd yr ennill ef y fath deyrnas ar y ddayar ac na welwyd erioed ei chyffelyb er y dechreuad.

Yr hyd y maent fel hyn yn llunio iddynt eu hunain Messias wrth eu synwyr eu hu­nain, maent yn eu twyllo en hunain, ac yn cy­frif Christ yn wael ac yn Wrthodyn. adyn ac ynfyttaf o'r holl fyd.

Am hynny (fel y dywaid S. Paul) mae Christ wedi ei groeshoelio, yn faen tramgwydd i'r I­ddewon, ac yn ffolineb i'r cenhedloedd, am eu bod hwy yn cyfrif yn beth anghysson, ac yn wrthwy­neb i bob rheswm, y trinid prynwr a gwaredwr yr holl fyd yn y modd y trinwyd ef, hynny yw ei watwar, ei gablu, ei Whippio. fflangellu, ei gondemnio ac o'r diwedd ei groesholio yn greulon. Hyn, meddaf yn eu golwg hwy sydd ryfedd ac angysson, ac am hynny ni chydnabyddent hwy yr amser hwnnw ac ni chydnabyddant etto mai Christ yw eu Messias a'u Iachawdwr hwy.

[...]
[...]

[Page 34] Ond rhaid i ni, fy-ngharedigion, y rhai ydym yn gobeithio cael bod yn gadwedig, gredu yn ddian wadal a chyffesu yn hŷf, mai 'r Iesu hwn­nw a aned o'r forwyn fair yw 'r gwir Messias a'r cyfryngwr rhwng Duw a dŷn, yr hwn oedd wedi ei addaw a'i ddarogan cyhyd o amser o'r blaen. O blegid, fel yr scrîfenna 'r Apostol, â'r Rom. 10. 10 galon y credir i gyfiawnder, ac â 'r genau cyffessir i iechydwriaeth. A thrachefn yn yr vn lle, Pwy bynnag a gredo ynddo ef, ni chwilyddir ef. A hyn vers. 11. hefyd y cyttuna tystiolaeth Ioan sant a scrifen­nodd ef yn y bedwaredd bennod o'i epistol cyffre­dinol cyntaf, yn y modd hyn, Pwy bynnag a 3. Ioan. 4. 15. gyffesso fod Iesu Grist yn fab Duw, ynddo ef y mae Duw yn trigo ac yntef yn-Nuw. Nid oes ammau nad yw pob Christion yn gwbl siccr o hyn.

Etto nid colli fy-nrhafael a fyddei i mi eich ad­dyscu a' ch arfogi chwi ag ychydig leoedd o'r Scrythur lân ynghylch y defnydd ymma, fel y galloch attal genau enllibus pawb oll ac a geisio yn hyttrach yn gythreulig ddyscu neu amddiffyn y gwrthwyneb.

Yn gyntaf mae i chwi dystiolaeth yr Angel Gabriel, a fynegwyd i'r Archoffeiriad Zachari­as ac i'r fendigedig forwyn hefyd.

Yn ail mae i chwi dystiolaeth Ioan fedyddi­wr yn dangos Christ â'i fŷs ac yn dywedyd, Wele oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymmaith be­chodau 'r byd.

Yn drydedd mae i chwi dystiolaeth Duw dad yn taranu o'r nef ac yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab yn yr hwn y'm bodlonir, grwan­dewch ef.

[Page 35] Yn bedwerydd mae i chwi dystiolaeth yr Y­spryd glan yr hwn a ddiscynnodd o'r nef yn rhith colommen, ac a ddiscynnodd arno wrth ei fe­dyddio.

At hyn y gellid angwanegu llawer mwy, yn enwedig tystiolaeth y gwyr doethion a ddaethant at Herod, tystiolaeth Simeon ac Anna, tystio­laeth Andreas a Philip, Nathaniel a Phetr, Ni­codemus a Martha, a llawer eraill.

Ond fe fyddai ryhir adrodd y cwbl, ac ychydig leoedd a wasanaetha mewn matter mor oleu, yn enwedig ym-mlith y rhai sy eisoes yn ei gredu. Am hynny os cais dirgel genawon Angrist a dichellgar weinidogion diafol eich hudo a'ch tynnu oddiwrth y gwir Fessias, a'ch perswadio i ddisgwyl am vn arall yr hwn ni ddaeth etto: Na edwch iddynt mewn modd yn y byd eich hu­do, ond cadarnhewch chwi eich hunain â'r tysti­olaethau hyn a'r cyffelyb allan o'r Scrythur sanc­taidd, y rhai ydynt mor ddiogel ac mor siccr ac na ddichon holl gythreuliaid vffern byth sefyll yn eu herbyn hwy. O blegid mor wir ac mai byw Duw, cyn wired yw mai Iesu Grist yw'r gwir Fessias ac Iachawdwr y bŷd, sef yr Iesu hwnnw a aned ar gyfenw i heddyw o'r forwyn Fair, heb help gŵr trwy allu a gweithrediad yr Yspryd glân.

Ac am fod llawer ac amryw draws opinionau a heresiau gwedy cyfodi yn ein dyddiau ni trwy ddichell a hudoliaeth Sathan, ynghylch ei na­turiaeth a'i sylwedd ef: fe fydd anghenrheidiol a buddiol er eich cyfarwyddo chwi, ddywedyd gair neu ddau ynghylch hynny.

Mae 'r Scrythur lan yn ein dyscu ni yn olen fod ein harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist o [Page 36] ddwy naturiaeth neilltûol wahanredol, hynny yw, ei ddyndod wrth yr hon y mae efe yn ddŷn cyflawn­gwbl perffaith, a'i dduwdod wrth hon y mae efe yn berffaith Dduw. Mae yn scrifennedig, Y gair (hynny yw yr ail berson yn y drindod) a Io. 1. 14. wnaethpwyd yn gnawd. Duw gan ddanfon ei [...]o. 8. 3. fab ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, a gyflawnodd y pethau ni allodd y gyfraith eu cyflawni. Christ ac yntef yn vn ffurf a Duw, a gymmerodd arno agwedd gwâs, ac a wnaeth­pwyd Phil. 2. 7. yn gyffelyb i ddynion, ac a gafwyd yn ei ddull fel dyn. Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd 1. tim. 3. 16. gan angelion, a bregethwyd i'r cenhedloedd ac a dderbyniwyd i fynu mewn gogoniant. Ac mewn man arall hefyd, Vn Duw sydd, ac vn cyfryng­wr rhwg Duw a dŷn, sef y dŷn Christ Iesu.

Mae y rhai hyn yn lleoedd eglur i brofi ac i ddangos y ddwy naturiaeth sydd gwedy eu cyfu­no a'u cyssylltu yn vn Christ. Ystyrivon yn ddi­esceulus a phwyswn y gweithredoedd a wnaeth ef yr hŷd y bu fyw ar y ddayar, ac ni a allwn ddeall wrth y rhai hynny hefyd fod hyn yn wir. Wrth fod iddo newynu a sychedu, bwytta ac yfed, cyscu a gwilied, pregethu 'r Efengyl i'r bobl, wy­lo a thosturio tros Ierusalem, talu teyrnged trosto ei hun a Phetr, marw a dioddef angau, pa beth a ddangosodd ef wrth wneuthur hynny, ond hyn yn vnig, ei fod ef yn ddŷn cyflawngwbl fel ninnau? Ac amhynny y gelwir ef yn yr Scry­thur lan weithiau yn fab Dafydd, weithiau yn fab y dŷn, weithiau mab Mair, weithiau mâb Ioseph a'r cyffelyb.

Bellach am iddo faddeu pechodau, gwneuthur [Page 37] gwyrthiau, bwrw allan gythreuliaid, iachau, dynion â 'i air yn vnig, gwybod meddyliau ca­lonnau dynion, bod y moroedd ar ei orchymmyn ef, rhodio o hono ar y dyfroedd, adgyfodi o hono o angau i sywyd, escyn o hono i'r nef, a'r cyfryw i pa beth y mae efe yn ei ddangos wrth hynny, ond yn vnig ei fod ef yn berffaith Dduw, gogyfuwch a'r tâd oblegid ei dduwdod? Am hynny y dywed▪ Y Tâd a minnau yr vn ydym.

Pa le bellach y mae y Marcioniaid, y rhai sy yn gwadu geni Christ yn y cnawd; ac yn dywe­dyd nad oedd ef yn berffaith ddyn? Pa le bel­lach y mae 'r Arriaid hynny, y rhai sy 'n gwadu fod Christ yn berffaith Dduw, o'r vn sylwedd a 'r Tâd? Os bydd yr vn o'r cyffelyb, chwi a ellwch yn hawdd eu hargyoeddi hwy a▪'r tystio­laethau hyn o air Duw, ac â'r cyfryw eraill. Y rhai y mae yn siccr gennyf na allant byth eu hatteb.

O blegid yr oedd yn anghenrhaid i 'n Iechy­dwriaeth ni gael y fath gyfryngwr ac Iachaw­dwr, ac a fyddai gyfrannog o 'r ddwy naturiaeth yn vn person▪ Yr oedd yn anghenrhaid ei fod ef yn ddŷn, ac yr oedd yn anghenrhaid hefyd ei fod ef yn Dduw. O blegid fel y daeth y troseddiad a thorri'r gorchymmyn trwy ddŷn, felly yr oedd yn gymhesur wneuthur iawn trwy ddŷn. Ac o ble­gid fel y dywaid S. Paul, mai angau yw cyflog a chysiawn wobr pechod, am hynny i lonyddu di­gofaint Duw ac i wneuthur iawn i'w gysiawn­der ef, cymmhesur oedd fod ein cyfryngwr ni yn gyfryw vn ac a allei gymmeryd arno bechodau dynion, a dwyn y gospedigaeth oedd ddyledus iddynt▪ hynny yw▪ Angau.

[Page 38] Hefyd fe a ddaeth yn y cnawd, ac yn yr vn cnawd a escynnodd i'r nef, i ddangos ac i dystio­laethu i ni, y caiff yr holl ffyddloniaid a gredant yn ddisigl ynddo ef yn yr vn modd ddyfod i'r vn drigfa, i'r hon yr aeth ef ein pennadur ni o'r blaen.

Yn ddiwethaf fe a wnaethpwyd yn ddŷn, fel y gallem ni wrth hynny dderbyn ychwaneg o ddi­ddanwch, cystal yn ein gweddiau ac yn ein had­fyd, pan ystyriom ynom ein hunain, fod i ni gy­fryngwr yr hwn sydd wir ddŷn fel ninnau, a'r hwn y cyhwrdde ein gwendid ni, yr hwn a dempti wyd yr vn modd ac y temptir ninnau. heb. 4. 15.

Er mwyn yr achosion hyn a llawer eraill yr oedd yn anghenrhaid iddo ddyfod megis y daeth, yn y cnawd. Ond o blegid nad oes ac nas gall fod gan vn creadur o blegid ei fod yn greadur, allu i ddinistrio angau ac i roddi bywyd, i orch­fygu vffern ac i brynu nef, i faddeu pechodau ac i roddi cyfiawnder: am hynny rhaid oedd i'n Messias ni, dlêd a swydd yr hwn oedd wneuthur y pethau hynny, fod nid yn vnig yn gyflawn­gwbl ac yn berffaith ddŷn, ond hefyd yn gyflawn­gwbl ac yn berffaith Dduw, fel y gallai yn gy­flawnach ac yn berffeithiach wneuthur iawn tros ddŷn.

Mae Duw yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab yn yr hwn y'm bodlonir; wrth y geiriau hyn­ny yr ydym yn deall ddarfod i Ghrist lonyddu a diffodd llid ei Dâd, nid am ei fod ef yn vnig yn fâb dŷn, ond yn fwy o lawer am ei fod ef yn fâb Duw.

Fel hyn y clywsoch ddangos allan o'r Scry­thyrau, mai Iesu Ghrist yw'r gwir Messias ac [Page 39] Iachawdwr y byd, ei fod ef mewn naturiaeth a sylwedd yn berffaith Dduw ac yn berffaith ddŷn, a pha ham yr oedd anghenrhaid ei fod ef felly.

Bellach fel y byddom ni meddylgarach a mwy ein diolch i Dduw yn y peth hyn, ystyriwn ar ychy­dig airiau a galwn i'n côf yr amryw a'r dirfawr ddoniau a dderbyniasom ni oddiwrth enediga­eth ein Messias a'n Iachawdr hwn.

Cyn dyfod Christ i'r byd, nid oedd yr holl ddy­nion yn gyffredinol ond cenedlaeth anwir Draws. dro­faus, prennau pydron llygredig, tir carregog yn llawn Drysi drain a gwyddeli. mieri, defaid colledig, meibion afradlon, gweision drwg anfuddiol, goruchwil­wyr anghyfiawn, gweithredwyr anwiredd, hili­ogaeth gwiberod, tywysogion deillion, yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau: ac ar ychy­dig eiriau, nid oeddynt ddim ond plant colledi­gaeth, ac etifeddion tân vffern. I hyn y mae S. Paul yn dwyn tystiolaeth mewn llawer o leoedd yn ei epistolau, a Christ ei hun hefyd mewn am­ryw leodd o'i Efengyl.

Ond gwedi ei ddiscyn ef vnwaith o'r nef a chymmeryd ein naturiaeth egwan ni arno, ef a wnaeth gynnifer oll ac a'i derbyniasant ef yn gy­wir, ac a gredasant ei air ef, yn brennau da, yn dir da, yn ganghennau ffrwythlon prydferth, yn blant y goleuni, yn ddinaswyr nef, yn ddefaid o'i gorlan, yn aelodau o'i gorph, yn etifeddion o'i deyrnas, yn gywir gyfeillion ac yn frodyr iddo, yn fara melûs bywiol, yn ddewisol ac yn ethole­dig bobl Dduw. O blegid fel y dywaid Petr 1. Pet. 2. 24. yn yr ail bennod o'i epistol cyntaf, Ef a ddygodd ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, a thrwy ei gleisiau ef y'n iachawyd ni.

[Page 40] A lle yr oeddym ni o'r blaen yn ddefaid gwedi myned ar gyfrgoll, efe wrth ei ddyfodiad a'n dug ni adref eilwaith at fugail ac escob ein heneidiau, gan ein gwneuthur ni yn genhedlaeth ethole­dig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn bobl fydd brio­doriaeth i Dduw, gan farw dros ein pechodau ni. Yr vn S. Paul at Titus yn y drydedd bennod sydd yn dywedyd ein bod ni gynt yn annoethion, Tir. 3. 3. yn anvfydd, mewn amryfysedd, yn gwasanae­thu chwantau, ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn llidiog ac yn ca­shau ei gilydd, Ac. eithr gwedi i ddaioni Duw ym­ddangos i ddŷn, a'i garedigrwydd ef yn Iesu Grist, nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd yr iachaodd efe ni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewy­ddiad yr Yspryd glân, yr hwn a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Iachawdwr, fel y bydde i ni wedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, gael ein gwneuthur yn etifeddion yn ôl gobaith y bywyd tragwyddol.

Yn y lleoedd hyn a 'r cyfryw leoedd eraill, y gosodir ger bron ein llygaid ni megis mewn drych, aml ras Duw yn Iesu Grist, yr hyn sydd ry­feddach o blegid nas daeth o'n haeddiant ni, ond yn vnig o'i dirion drugared ef, a hynny pan oeddym yn elynion atcas iddo ef.

Ond er mwyn i ni ddeall ac ystyried y peth hyn yn well, edrychwn er mwyn pa ddefnyd y daeth ef, yno y cawn ddeall pa ennill a pha fudd a ddug ei enedigaeth ef i ni greaduriaid truain pecha­durus. Diwedd ei ddyfodiad ef oedd i achub a gwared ei bobl, i gyflawni y gyfraith drosom ni, i ddwyn tystiolaeth i 'r gwirionedd, i ddyscu a Mat. 1. 21. Mat. 5. 17. [Page 41] phregethu teyrnas ei dâd, i roddi goleuni i'r byd, i Io. 18. 57. Luc. 4. 44. Io. 8. 14. Mat. 9. 11. Mat. 11. 28. Col 1. 22. Heb. 2. 14. 1. Io. 2. 2. alw pechaduriaid i edifeirwch, i efmwytho ar y rhai blinderog a llwythog, i daflu allan dywysog y bŷd hwn, i'n cymmodi ni ag ef ynghorph ei gnawd, i ddattod gweithredoedd y cythraul, i fod yn iawn dros ein pechedau ni, ac nid dros ein pe­chodau ni yn vnig, ond tros bechodau 'r holl fyd.

Dymma 'r achosion pennaf yr aeth Christ yn ddŷn, nid er mwyn ennill yn y byd a ddauai iddo ef o hynny, ond yn vnig er ein mwyn ni, fel y gallē ddeall ewyllys Duw, a bod yn gyfrannogion o'i oleuni nefol ef, a chael ein gwared o gigweiniau diawl, ein rhyddhau oddiwrth faich ein pecho­dan, ein cyfiawnhau trwy ffydd yn ei waed ef, ac yn ddiwethaf cael ein derbyn i fynu i ogoniant tragwyddol, i deyrnasu yno gydag ef bych. Ond oedd hyn yn gariad mawr godidog i Grist tu ag at ddynion, ac yntef yn wir ddelw a llun Duw, iddo er hynny ymostwng a chymmeryd arno ag­wedd gwâs, a hynny yn vnig er mwyn ein hachub a 'n gwared ni? Oh mor rhwymodig ydym ni i ddaioni Duw yn hyn o beth Pa faint o ddiolch a moliant fy ddyledus arnom iddo of ain ein Ie­chydwriaeth a weithiodd of trwy ei anwyl a'i vnig fâd Christ? Yr hwn aeth yn bere