[Page] [Page] Pregethau a osodwy [...] allan trwy awdurdod i'w darllein ymhob Eglwys blwyf a phob capel er adailadaeth i'r bobl anny [...]dig.
Gwedi eu troi i'r iaith Gymeraeg [...]rwy waith Edward Iames.
Robert Barker printiwr i odidawgaf fawrhydi y Brenin a'i Printiodd yn Llundain.
Anno Dom. 1606.
¶ Y rhag-ymadrodd.
MAe 'r Apostol S. Pawl yn testiolaethu yn oleu na all neb alw neu weddio ar Dduw heb gredu ynddo, na all neb gredu heb wrando, na neb wrando, heb fod rhai ac a bregetho gair Duw iddynt: am hynny pan ystyriodd y brenin ieuangc duwiol Edward y chweched pa mor ambell oedd gwir bregethwyr gair Duw o fewn ei deyrnas ef, y rhai a fedre addyscu'r bobl i gredu yn-Nuw, i alw arno ac i gadw ei orchymynion sanctaidd ef, er iechyd eu heneidiau a gogoniant i enw Duw, fe a barodd wrth gyngor ei Gynghoriaid i wyr duwioll dyscedig cyfarwydd yngair Duw gynull ac scrifennu allan o'r scruthyrau sanctaidd (vnig ffynnon pob doethineb, vnig ymborth yr eneidiau, vnig dywysog ac arweinudd i wir wybodaeth, rhinwedd a duwioldeb, vnig ddiwreiddudd pob chwyn gwenwynig, vnig wrthladdud pob anwybodaeth, ac vnig gyferbyn yn erbyn pob gauathrawaeth dwyllodrus, yr hon sydd yn tywys i ofergoel trawsopinionau a delw-addoliad) [Page] yr homiliau duwiol ymma: yn y rhai y cynhwysir y prif byngciau o'n ffydd ni ac o'n dlyed tu âg at Dduw a'n cymydogion: fel y galle yr offeiriaid a'r curadiaid annyscedig, y rhai ni fedrent yn amgen etto wrth adrodd datcan a darllen yr homiliau hyn, bregethu i'w pobl wir athrawaeth, ac fel y galle bawb o'r bobl wrth wrando, ddyscu 'n inion ac yn iawn anrhydeddu ac addoli 'r holl-alluog Dduw a'i wasanaethu 'n ddiwyd. Yr homiliau hyn hefyd am eu bod mor fuddiol y orchymynnodd yr ardderchog frenhines Elizabeth eu printio ailwaith, ac hi a rhoddodd yr vn gorchymmyn am eu darllen hwy ac a rhoesai eu brawd duwiol hi yn y blaen. Ac megis na ellir dywedyd fod ar y ddayar er ioed dywysog ac a ddangosodd ymhob peth arall fwy o zeal at Dduw nac o ofal dros ei ddeiliaid, n'ar brenin godidawg, ardderchawg duwiol Iames ein grasusaf frenin a'n llywydd: felly yn y peth hyn ni ddangosodd ef ddim lai o'r fath zeal a gofal nac y ddangosase y brenin Edward a'r frenhines Elizabeth o'i flaen ef. O herwydd yntef trwy gyfraith Eglwysig (fel y gallir gweled yn 46. Canon a wnaeth y Gymanfa Escobion ac Eglwyswyr a gynhaliwyd yn yr ail flwyddyn o'i deyrnasiad ef ar Brydain fawr, Ffrainc ac Iwerddon, yr hon y gadarnhaodd ei fawrhydi ef a'i awdurdod goruchel brenhinawl) a rhoes orchymmyn caled ar fod i bob Person, Vicar a Churat ddarllen yr Homiliau hyn bob sul a gwyl (o [Page] ddiffig pregeth) ymhob Eglwys blwyf a chapel ofewn y deyrnas: fal y galle y rhai ni chlywant lafar pregethwyr ond yn ambell, wrth arfer o glywed darllen y pregethau duwiol dyscedig hyn yn fynych, ddyscu mewn amser gredu yn-Nuw yn inion ac yn ffyddlon, galw arno yn ddifrif ac yn deilwng, gwneuthur y cwbl o'u dlyed at Dduw a'u cymydogion ac ymddw yn felly yn y byd hwn yn ol gwybodaeth, fel y beddai iddynt fwynhau bywyd tragwyddol yn y byd a ddaw trwy ein Iachawdwr IESV GRIST. Etto er nad oedd rheitiach i vn wlad wrth y fath gynhorthwy nac i wlad Gymru am fod pregethwyr mor ambell ynddi, ni ewyllysiodd Duw ini gael neb o'r Homiliau hyn na'r fath eraill yn y iaith Gymeraeg hyd yr amser hyn. Ond wele y Cymro hwy yn awr yn dy iaith di dy hun, fel y medrich dithau wrth eu gwrando eu deall hwy. Duw a wnelo iddynt wneuthur iti fawrles ac a'th wnelo dithau yn ddiolchus i Dduw am ei fawr ddaioni.
AMEN.
[Page] ER na rannasid y llyfr hwn ond yn ddwy ran yn y Saesonaeg etto o herwydd wrth brintio y rhan gyntaf ddarfod imi beri nodi rhifedi y dalennau fal y gallid yn hawdd gyfarfod a dechreu pob Homili, pan gosodwyd wrth ddcchreu printio yr ail rhan ddau bres ar waith, ni allwn ni ganlyn y trefn hwnnw, oni byddai i mi rhannu y rhan ddiwethaf yn ddwy rhan: mi a feddyliais mai gwell oedd imi wneuthur felly na bod y rhan gyntaf gwedy nodi rhifedi ei dalennau, a rhifedi dalennau y rhan arall heb ei nodi: am hynny fel y gelli weled mae 'r cwbl gwedi i mi ei rhannu yn dair rhan. Fe a ddengys y Tabul sydd yn canlyn iti pa Homiliau y sydd ymmhob rhan o'r llyfr ac ar pa ddalen y mae pob vn o honynt yn dechreu.
¶ Tabul y rhan gyntaf.
1 ANnogaeth i ddarllen yr Scruthyr lân, 2. rhan. dalen | 1 |
2 Am drueni dyn, 2. rhan. | d 12 |
3 Am gadwedigaeth dyn, 3. rhan. | d. 24 |
4 Am wirffyd, 3. rhan. | d. 40 |
5 Am weithredoedd da, 3. rhan. | d. 58 |
6 Am gariad perffaith, 2. rhan. | d. 79 |
7 Am dyngu anudon, dwy rhan. | d. 89 |
8 Am gwympo oddiwrth Dduw, 2. rhan. | d. 101 |
9 Am ofn angau, 3. rhan. | d. 115 |
10 Am vfydd-dod i swyddogion, 3. rhan. | d. 136 |
11 Am butteindra ac aflendid, 3. rhan. | d. 153 |
13 Am ymryson ac ymdaeru, 3. rhan. | d. 176 |
Tabul yr ail rhan.
1 PRegeth am iawn arfer yr Eglwys, 2. rhan. | dalen. 1 |
2 Am ddelw-addoliad, 3. rhan. | d. 21 |
3 Am gyweirio 'r Eglwys a'i chadw 'n lân. | 3. 157 |
4 Am weithredoedd ac yn gyntaf am ymprydio, 2. rh. | d. 165 |
5 Yn erbyn glothineb a meddwdod. | d. 189 |
6 Yn erbyn dillad rhy-wychion. | d. 205 |
7 Ynghylch gweddi, 3. rhan. | d. 221 |
8 Am le ac amser gweddi, 2. rhan. | d. 248 |
9 Am finistrio gweddi a'r Sacrament mewn iaith a ddeallir. | dalen. 165 |
10 Am amryw leoedd o'r Scruthyrau, 2. rhan. | d. 284 |
Tabul y drydydd rhan.
1 PRegeth am elusenau, 3. rhan. | dalen. 1 |
2 Am enedigaeth Christ. | d. 27 |
3 Am angau a dioddeifeint Christ, 2. rhan. | d. 43 |
4 Am adgyfodiad Christ. | d. 72 |
5 Am y Sacrament, 2. rhan. | d. 86 |
6 Am ddiscynniad yr Yspryd glan ar dydd y sulgwyn, dwy rhan. | d. 104 |
7 Ar wythnos y derchafael, 4. rhan. | d. 124 |
8 Am stat priodas. | d. 165 |
9 Yn erbyn seguryd. | d. 184 |
10 Am etifeirwch a gwir gymodi a Duw, 3. rhan. | d. 197 |
11 Yn erbyn anufydd-dod a gwrthryfel, 6. rhan. | d. 234 |
¶ Annogaeth ffrwythlon i ddarllen ac i wybod yr Scrythyr lan.
NI ddichon bod vn peth mor anghenrhaid, ac mor fuddiol i Gristion, a gwybodaeth yn yr Scrythyr lan: yn gymmaint a' i bod [...] cynnwys ynddi wir air Duw, yn gosod allan ei ogoniant ef, a dlyed dyn hefyd tuag atto ef. Ac nidoes na gwirionedd, nac athrawiaeth anghenrheidiol i gyfiawnhâd, a thragwyddol Iechydwriaeth, nad ydyw o fewn neu na ellir ei dynnu allan o'r ffrwd [...] ffynnon honno o wirionedd. Cynnifer am hynny ac a chwennycho fyned at Dduw ar hyd y fford inion berffaith, rhaid iddynt roddi eu meddyliau a'u bwriadau i wybod yr Scrythyr sanctaidd, heb yr honni allant nac yn ddigonol adnabod Duw a'i ewyllys, na'u swydd a'u dlyed eu hunain: Ac megis y mae diod yn flasus i'r sych [...]dig a bwyd i'r rhai newynog, felly y mae darllen, gwrando, chwilio, a myfyrio ar yr Scrythyr sanctaidd i'r rhai a [Page 2] chwennychant adnabod Duw, neu hwynt eu hunain: a gwneuthur ei ewyllys ef. A'u cyllau hwy yn vnic sydd yn gwrthwynebu, ac yn cashau nefol adnabyddiaeth ymborth gair Duw, y rhai ydynt gwedy eu boddi felly mewn oferedd bydol, fal nad ydynt yn caru na Duw, na duwioldeb: o blegid dyna'r achos y chwennychant y fath oferedd, yn rhagorach nâ gwir wybodaeth o Dduw. Megis am y rhai a fônt glaf o'r Cryd. ddeirton, pa beth bynnag a fwyttaont neu a yfont, y maent er melysed a fytho, yn ei flassu cyn chwerwed ac yw' r wermot: nid am fod chwerwder yn y bwyd, ond o blegid yr huwmor neu'r chwaith chwerw, llygredig sydd yn eu tafodau a'u geneuau hwy: felly y mae melysdra gair Duw yn chwerw, nid o hano ei hun, ond yn vnic i'r rhai a lygrwyd eu meddyliau drwy hir arfer pechod, achariad y byd hwn. Am hynny gan ym wrthod a barn lygredig dynion cnawdol, y rhai ni ofalant ond am eu cyrph gwrandawn a darllen wn yn barchedig yr Scrythyr lan, yr hon yw ymborth yr enaid. Chwiliwn, yn ddiescaelus, am ffynnon y bywyd yn llyfrau yr hên destament a'r newydd, ac na redwn i bylleu a llacca drewllyd traddodiadau dynion, a Matth. 4. 4. luniwyd trwy ddychymygion dyn, i geisio i ni gyfia wnhad, a Iechydwriaeth. O herwydd bod yr Scrythyr lan ym cwblgynnwys yr hyn a ddlyē ni ei wnenthyr a'r hyn ddlyem ni ei wachelyd, pa beth a ddlyem ni ei gredu: a pha beth sydd ini i edrych am dano ar law Dduw yn y diwedd. Yn y llyfrau hynny y cyfarfyddwn a'r Tad o'r hwn, a'r Mab trwy'r hwn, ac a'r Yspryd glan yn yr hwn y mae i bob peth eu bod, au para: ac yno a gwelwnnad ydyw y tri pherson hynny onid vn Duw as [Page 3] vn sylwedd. Yn y llyfrau hyn y cawn ddyscu ein adnabod ein hunain, mor waelion ac mor druain ydym, ac adnabod Duw mor ddaionus ydyw o hano ei hun, a pha fodd y mae ef yn ein gwneuthurni, a'i holl greaduriaid, yn gyfrannogion o'i ddaioni. Nyni a allwn ddyscu hefyd yn y llyfrau ymma wybod bodd ac ewyllys Duw, mor gyflawn ac y mae yn weddus ini ar hyn o amser ei wybod. Ac fal y dywaid yr yscolhaig mawr a'r pregethwr duwiol S. Ioan aur enau, beth bynnac Chrysost. sydd anghenraid i Iechydwriaeth dyn, fe a gynhwysir yn gyflawn yn scrythyrau Duw. Yr hwn sydd heb wybodaeth efe a ddichon ddyscu yno, a chael gwybodaeth: fe gaiff yr hwn sydd galon galed, a phechadur Cyndyn. gwrthgas, gyfarfod yno a'r tragwyddol boenau a ddarparodd cyfiawnder Duw i'w ofni ef, ac i feddalhau, ac i nawseiddio ei galon ef, fe gaiff yr vn a orthrymmir gan flinderau yn y byd hwn, yno nerth yn addewidion tragwyddol fywyd i'w fawr gynfford ai ddiddanwch, fe gaiff yr vn y glwyfwyd gan ddiafol hyd angau, feddiginiaeth yno i'w adferu i iechyd ailwaith. Os bydd anghenrhaid athrawiaethu gwirionedd, argyoeddi gauathrawaeth, ceryddu beieu, na chanmol rhinwedd, rhoddi cyngor da, diddanu neu annog, neu wneuthur vn peth arall anghenrhaid i'n Iechydwriaeth ni, Nyni a allwn (medd S. Chrysostome) ddyscu y pethau hyn yn halaeth yn yr Scrythyr lân. Mae yno (medd. Fulgentius) lawn-ddigon o bethau i wyr i'w bwyta, ac i blant i'w sugno. Mae yno bob peth ac y sydd addas i bob oedran, i bob gradd, ac i bob math ar ddynion. Nyni a ddylaem wrth hynny fod ar llyfrau hynny n dra mynych yn ein dwylaw, [Page 4] yn ein clystiau, ac yn ein geneuau, ond yn fynychaf oll yn ein calonnau. O herwydd Scrythyr Duw yw nefol fwyd ein eneidiau ni, gwrandawiad yr hon a'u chadw sydd yn ein gwneuthur Matth. 4. 4. Ioan. 17. 17. Psal. 19. 7, 10. yn wynfydedig, yn ein sanctaiddio, ac yn ein glanhau, ac yn troi ein eneidiau megis llusern in traed a diogel safadwy a thragwyddol offeryn ein iechydwriaeth, mae hi yn rhoddi doethineb i'r gostyngedig a'r isel galon, yn diddanu yn llawenhau, yw llonni ac yn eyscafnhau ein cydwybod: trysor gwell yw nag aur, a maini gwerthfawr: melysach nâ'r mel a'r diliau mel: hon a elwir y rhan orau, yr hon a ddewissodd Mair, O herwydd Luc. 10. 42. ynddi y mae tragwyddol ddiddanwch. Yr ydis yn galw gairiau'r Scrythyr lân yn airiu y bywyd Ioan. 6. 68. tragwyddol: o herwydd offer Duw ydynt a osodwyd i hynny. Mae ynddynt allu i droi drwy addewid Duw, a ffrwythlō ydynt trwy nerth Duw Coloss, 1. 6. a chwedŷ eu derbyn i galon ffyddlon mae o hanynt Heb. 4. 12. yn dyfod yn wastad orchwylion nefol ysprydol. Maent yn fywiol yn fywiog, ac yn alluog mewn gweithrediad, ac yn llymmach na chledd dau finiog, ac yn cyrhaeddid hyd wahaniad yr, enaid ar yspryd, a'r cymhalau, a'r mêr. Mae Christ yn ei alw ef yn adailadydd call yr hwn a Matth. 7. 24. Fuldo. adailado ar ei air ef, megis ar sylfaen siccr, diogel. Gan air Duw y'n bernir ni o blegid Y gair Ioan. 12. 48. (medd Crist) a ddywedais, hwnnw a farn yn y dydd diwethaf. Ac i'r hwn a gadwo air Crist yr addewir cariad a ffafor Duw, ac y caiff ef fod yn deml, ac yn drigle i'r drindod sanctaid. Pwy bynnag sydd yn ddiwall yn darllen y gair hwn ac yn Ioan. 14. 3. printio yn ei galon yr hyn y mae ef yn i ddarllen, fe leihair ynddo fe y mawr frydd ar bethau darfodadwy [Page 5] y byd hwn; ac fe gynydda ynddo fawr chwant ar bethau nefol, a addewir gan Dduw yn y gair hwnnw. Ac nid oes dim a gadarnhâ ein ffydd ni a'n ymddiried yn-nuw yn gymaint, ac a gaidw i fynu ddiniweidrwydd a phurder calon, aduwiol fywyd ac ymddygiad oddi allan hefyd, megis gwastadol ddarllen, a myfyrio ar air Duw. O herwydd yn y diwedd fe droir gan mwyaf i anian a naturiaeth, beth bynnac wrth wastadol ddarllen a dyfal chwilio yr Scrythyr lân, a brinter ac a argrapher yn y galon. Ac hefyd ffrwyth a rhinwedd gair Duw yw, Llewyrchu. goleuannu y diwybod, a rhoi rhagor o oleu i'r rhai a'i darllenant ef yn ffyddlon ac yn ddyfal, er diddanwch i'w calonnau, ac er eu Hyfhau. eofnhau hwy i gyflawni y peth y mae Duw yn ei orchymmyn. Mae hwn yn dangos goddefgarwch mewn adfyd, mewn hawddfyd gostyngeidrwydd, pa anrhydedd sydd ddyledus i Dduw, pa drugaredd a charedigrwydd i'n cymmydog: hwn sydd yn rhoddi cyngor da mewn pob peth anhygoel ammheus: hwn sydd yn dangos gan bwy y mae ini edrych am nerth achymmorth ym-mhob enbeidrwydd, ac mai Duw ym vnic roddwr pob buddugoliaeth ym-mhob rhyfeloedd a phrofedigaethau gan ein gelynion, corphorol ac ysprydol. Ac nid hwnnw sydd yn ennill fwyaf 1. Sam 14. 12, 23. 2. Chro. 20. 6, 7, 27. 1. Cor. 15. 57. wrth ddarllein gair Duw, yr hwn sydd barottaf i droi dolennau'r llyfr, neu adrodd heb lyfr y peth sydd ynddo, onid yr hwnn sydd gwedy ei lwyr droi iddo, yr hwn y mae'r Yspryd glân gwedy ei gynnhyrfu fwyaf; a chalon yr hwn a'i fywyd sydd gwedy ei symmud, a'i newid i'r peth y mae ef yn ei ddarllen: yr hwn sydd yn myned beunydd yn ddifalchach, yn ddiddicciach, yn llai ei drachwant, [Page 6] ac yn chwennychu llai ar wag hoffderau bydol: yr hwn (gan ymwrthod â'i hên fywyd drygionus) sydd yn cynnyddu fwyfwy mewn rhinweddau da. Ac ar ychydig o airiau, nid oes dim yn maenteinio y'n well dduwioldeb meddwl, nac yn gyrru ymmaith anuwioldeb, nag y mae gwastadol darrllen a gwrando gair Duw, os cydsylltir hynny â meddwl duwiol a daionus fwriad ar ddyscu achanlyn ewyllys Duw. O herwydd heb lygad dysyml pur fwriad, a meddwl da, nid oes dim cymmerad wy ger bron Duw. Ac o'r ystlys arall, nid oes dim yn tywyllu Christ agogoniant Duw yn fwy Esal. 5. 29. Matth. 22. 29. nag yn dwyn mwy o ddallmeb, a phob drygioni, nag anwybodaeth yngair Duw.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch yr Scrythyr lân.
FE ddangosswyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth, yr hon sydd yn ein hannog i wybodaeth yn yr Scrythyr lan, paham y mae yr wybodaeth honno yn anghenrhaid, ac yn fuddiol, i bob dyn: Ac mai drwy adnabyddiaeth a gwir ddeall yr Scrythyr, yr adwaenir y rhannau anghenrheidiaf o'n dlyed ni tuag at Dduw, a'n cymydogion. Yn awr ynghylch yr vn peth, chwi a gewch glywed beth a ganlyn. Os ydym yn addef Christ paham na bydd arnom gywilydd fod heb wybod ei athrawiaeth ef? lle y mae yn gywilyddus i bob dyn, fod yn anghydnabyddus yn y ddysc a'r gelfyddyd a gymmero efe arno ei gwybod. Mae 'n gywilyddus i ddyn os gelwir efe yn philosophydd, fod heb ddarllen llyfrau philosophiaeth, neu i alw [Page 7] yn gyfraithiwr, yn affronomydd, neu yn feddyg, yr hwn a sydd anghyfarwydd yn llyfrau 'r gyfraith, astronomi, neu feddyginiaeth. Pa fodd y Dywaid neb am hynny, i fod ef yn cyffefu Christ ai grefydd, onid ymddyrŷ ef, (gymanit ag y gallo yn gymhessur) i ddarllen ac i wrando, ac felly i wybod llyfrau Efengyl Christ a'i athrawaeth. Er bod celfyddydon eraill yn dda ac yn rhaid eu dyscu, etto ni ddichonvndyn ammau fod y gelfyddyd hon yn bennaf, ac vwchlaw pob celfyddyd arall yn ddigyffilybaeth. Pa escus wrth hynny a wnawn ni (ar y dydd diwethaf ymlaen Christ) y rhai a osodwn ein ewyllys ar ddarllen dychmygion a thraddoddiadau dynion, yn fwy nâ'i sanctaidd efengyl ef? ac na aliwn gael vn amser i wneuthur y peth a ddlyem ei wneuthur yn bennaf uwch law pob peth? ac a ddarllenwn yn gynt bethau eraill, nâ 'r peth y dlyem adel heibio ddarllen pob peth arall o' i blegid? Cynifer am hynny o honom ni ac sydd yn addef Duw, a thrwy wir ffydd yn ymddiried ynddo, ymrown tra y caffom ennyd ac amser i wybod gair Duw, trwy ei wrando a'i ddarllen yn ddyfal. Ond y rhai nad oes ganthynt serch ar air Duw, i guddio eu beiau a roddant yn arferol drostynt eu hunain, ddau escus ofer gwaigion. Rhai sydd yn eu hescuso eu hunain o herwydd eu gwendid au hofn, gā ddywedyd na feiddiant ddarllen yr Scrythyr lan rhag iddynt trwy anwybod gwympo i amryfysedd; Eraill a haerant ei bod hi mor anhawdd ac mor galed iw deall nad yw weddus i neb ei darllen, onid i yscolheigion a gwyr dyscedig. Ond o blegid y cyntaf: anwybodaeth yngair Duw yw achos pob camsynnaeth ac amryfysedd fal y dywaid Christ ei [Page 8] hun wrth y Saducęaid, gan ddwedyd, eu bod hwy mewn Camsynnaiaeth. amryfysedd o eisiau gwybod yr Scrythyrau. Matth. 22. 29. Pa fodd am hynny y gall y sawl a fynnont fod fyth mewn anwybod, ymgadw rhag amryfysedd? a pha fodd y dawant allan ou hanwybodaeth oni fynnant ddarllen a gwrando y peth a ddichon roddi gwybodaeth iddynt? fe fu yr hwn sydd yn awr a mwyaf o wybodaeth gantho, ar y cyntaf heb wybodaeth; etto ni pheidiodd ef a darllen rhag cwympo meŵn amryfysedd, ond fe ddarllenodd yn ddyfal rhag iddo aros mewn anwybod, athrwy anwybod mewn amryfysedd. Ac oni ddyscwch chwi wirionedd Duw, yr hwn sydd anghenrhaid i chwi ei ddyscu, rhag i chwi gwympo mewn amryfysedd, wrth yr vn rheswn y gellwch orwedd yn wastad, heb gyfodi vn amser ar eich traed i gerdded, rhag wrth gerdded i chwi gwympo yn y dom; a pheidio a bwyta vn bwyd, da rhag ichwi wrthwynebularu; a pheidio a hau eich llafur, na thrafaelu yn eich celfyddyd, nac arfer vn farchnadaeth, rhag ichwi golli eîch hâd, eîch trafael, eîch golyd; Ac felly wrth yr vn rheswm, gorau oedd i chwi fyw yn segur, heb gymmeryd yn llaw vn peth daionus, rhag i ryw ddrwg ddigwyddo i chwi o hynny. Ond os ydych yn ofni cwympo i amryfysedd wrth ddarllen yr Scrythyr lan, mi a ddangossaf i'wch pafodd y mae i chwi ei darllen hi, heb enbeidrwydd, na phęrigl amryfysedd; Darllenwch hi yn ostyngedig, âchalon isel, trwy fwriad gogoneddu Duw, ac nid eich humain, â 'rgwybodaeth a goffoch ynddi. Ac na ddarllenwch hi heb weddio beunydd ar dduw ar iddo ef gyfeirio eîch darlleniad chwi i ddiwedd da: ac na chymmerwch arnoch ei deongl hi ai hagoryd ymmhellach [Page 9] nag y byddoch yn ei deall hi yn oleu. O herwydd (fal y dy waid S. Austin) mae gwybodaeth yr Scrythyr lân yn fawr, yn halaeth, ac megis neuadd vchel, ond mae ' r drws yn isel iawn, fal na ddichon yr vchel rhyfygus rhedeg i mewn iddi, ond mae ' n rhaid i'r vn a elo i mewn, ostwng yn isel a bod yn ostyngedig. O her wydd balchedd a rhyfyg yw mam pob amryfysedd, ond nid rhaid i ostyngeiddrwydd ofni byth gamsynnaid. O herwydd gostyngeiddrwydd a chwilia, yn vnic i wybod y gwirionedd. Hi a chwilia, ac a ddwg y naîll le, ynghyd a'r llall, a pha le byn̄ac ni chyrhaeddo hi yr yst yr hi a weddia, hi a ymofyn â'r rhai a wypont, ac ni therfyna hi ddim nas gwypo yn rhyfygus ac yn ddibwyll. Am hynny fe ddichon y gostyngedig yn eofn chwilio am y gwirionedd yn yr Scrythyr, heb berigl o amryfysedd. Ac os ydyw ef heb wydbodaeth gantho, mwy o lawer y dyle chwilio a darllen yr Schrŷthyr lân i'w ddwyn allan 'o anwybodaeth. Nid ydwyf yn dywedyd, na all gwr lwyddo wrth wrando yn vnic, ond fe all lwyddo yn fwy a lawer wrth wrando, ac wrth ddarllen. Hyn a ddywedais am ofn darllen o blegid anwybod y darllenydd. O blegid anhy weithdra a chaledrwydd 'r Scrythyr, pwy bynnac sydd mor wan ac nad ydyw yn abl i dreulio bwyd cryf, etto fe ddichon er hynny sugno y llaeth melys esmwyth, ac oedi dyfod at ychwaneg, hyd oni chryfhao, ac hyd oni ddelo i fwy o wybodaeth; O herwydd mae Duw yn derbyn y dyscedig a'r annyscedig, heb wrthod neb, gan fod yn Diymmer, dineilltuol indysterent. ddiduedd i bawb oll. Ac mae 'r Scrythyr mor llawn o ddyffrynnoedd isel a llwybrau gwastad esmwyth i bob dyn i'w harfer, a rhodio ynddynt, ac o dwynau a mymyddoedd [Page 10] vchel, y rhai ni ddichon nymmor ddringo iddynt. A phwy bynnag a roddo ei feddwl i ddarllen yr Scrythyrau sanctaidd â myfyrdod diwall, a chwant gwresog nid possibl (medd S. Ioan aur enau) gadel hwnnw heb gymmorth. Ond Chrysostom. y naill ai fe ddenfyn Duw ryw athro duwiol, i'w ddyscu ef, megis y danfonodd i ddangos i'r Eunuch. dispaidd, pendefig o Ethiopia, a thrysorwr brenhines Candace yr hwn ac yntef a bryd mawr gantho ar ddarllen yr Scrythyr, (er nad ydoedd yn ei deall,) etto am y bryd oedd gantho ar air Duw, fe ddanfonodd Duw ei Apostol Philipp atto i agoryd iddo wir ystyr yr Scrythyr yr ydoedd ef yn ei darllen: neu os bydd arnom eisiau gwr dyscedig i'n haddyscu ac i'n cyfarwyddo, etto fe * oleuonna Duw ein meddyliau ni oddi vchod, ac a ddengys ini bob peth anghenraid ar na byddom yn ei wybod. Ac fe ddywaid Chrysostom mewn man arall, nad rhaid wrth ddoethineb gwybodaeth dynawl bydol, i ddeall yr Yscrythyr, ond dadguddiad yr Yspryd glan, yr hwn sydd yn tywallt ei gwir ystyr hi i'r rhai a chwileant am dano mewn gostyngeiddrwydd, dyfalwch ac astudrwydd. I'r hwn a ofynno y rhoddir, a'r hwn a geisio a gaiff, i'r hwn a guro yr agorir y porth. Os darllenwn vnwaith, dwywaith, tair, heb ddeall, na pheidwn, ond parhawn yn darllen yn wastad, gan weddio, a gofyn i eraill, ac felly wrth guro yn wastadol, yn y diwedd fe a agorir y porth ini, fal y dywaid S. Awstin; Er bod yn dywedyd llawer o bethau yn yr Scrythyr mewn dirgelion tywyll, etto nid ydys yn dywedyd dim mewn dirgelion tywyll, yn vn lle nad ydys yn ei adrodd yn oleu ac yn eglur mewn lle arall; [Page 11] megis y gallo y dyscedig a'r annyscedig ei ddeall ef. Ac am y pethau ydynt, yn yr Scrythyr yn hawdd eu deall ac anghenrhaid i Iechydwriaeth, dylyed pob dyn yw eu dyscu hwy, eu argraphu hwy yn ei gôf, au harfer hwy yn Frwythlon. Ac am ddirgelion tywyll fe ddyle fod yn fodlon i fod heb eu gwybod, hyd oni ewyllysio Duw egluro y pethau hynny iddo. Hyd hynny, os bydd diffyg medr, neu amser cyfaddas arno▪ ni chyfrif Duw hynny yn ffolineb iddo: etto nid gweddus i'r rhai sydd yn medru beidio a darllen, am fod eraill yn anaddas i ddarllen: ac etto ni ddylauid gadel y cwbl oll heb ddarllen o blegid bod rhyw fannau yn dywyll. Ac i ddiweddu a'r ychydig airiau: fal y dywaid S. Austin fe wellhair pawb oll wrth ddarllen yr Scrythyr, fe a gadarnhair y gweinaid, ac a ddiddenir y cedyrn: fal yn siccr nad oes neb yn gwrthwynebu darllen gair Duw, ond naill ai y rhai diwybod, ni wyddont mor iachus yw, neu y rhai ydynt mor gleifion, ag y maent yn cashau, y cysurusaf feddyginnieth i'w iachau hwynt: neu ynte mor anuwiol, ag yr ewyllyssient i'r bobl aros yn wasted mewn tywyllwch, ac heb adnabod Duw. Fal hyn y traethais a'r ychydig eiriau, ran or budd, ar ennill y sydd yn dyfod oddi wrth sanctaidd air Duw, vn or Daionus roddion dewisaf, a braintusaf, a hyspyswyd ac a roddwyd i ddynawl ryw, ymma ar y ddaear. Diolchwn i Dduw ân calonnau am ei rhodd fawr ardderchawg hon, am ei Ddaionus ffafor, a'i dadawl ragddarbodaeth. Bydded lawen gennim adfywhau gwerthfawr rodd ein tad nefol, gwrandawn; darllenwn a gwybyddwn reolau sanctaidd gorchymmynion, ac ordeiniadau [Page 12] ein Christionogawl grefydd, ar y rhai y gwnaethon ein addewidion i Dduw yn ein bedydd. Gossodwn i fyny yn Yngheudod. llogeliau ein calononau mewn ofn a gostyngeiddrwydd y gwersau anghenrheidiol ffrwythlon ymma. Meddyliwn am danynt nos a dydd, bydded ein myfyrdod an cydsyniaid ynddynt. Cilgnown hwy, fal y gallom gael y Sugn. sudd melys, y ffrwyth ysprydol, y mer, y mel, y knewyll, y blas, y cysur, ar diddanwch o hanynt. Sefydlwn, a siccrhawn ein cydwybod, ac anhwyllodrus siccrwydd gwirionedd, a thragwyddol ddiogelrwydd y pethau hyn. Gweddiwn ar Dduw vnig awdur y myfyrdodau nefol hyn, ar ini allel chwedleua, meddwl, credu, byw, a myned oddiymma yn ol eu gwir athrawaeth, aî gwirionedd hwy. A'r modd hyn y cawn ymddissyn Duw, ai rad ai ffafor yn y byd ymma, gyda diddanwch, heddwch, ac esmwythder annhraethadwy in cydwybod. Ac yn ol y blinfyd hwn, y cawn feddiannu didrangc fendith, a gogoniant nefol: yr hyn a ganiatao Iesu Grist ini oll, yr hwn a oddefodd angeu drossom ni oll, i'r hwn gyda 'r Tâd, a'r Yspryd glân y byddo anrhydedd, a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
Pregeth am drueni dyn a'i ddamnedigaeth i farwolaeth dragwyddol trwy ei bechod ei hun.
NId ydyw yr Yspryd glân yn ddyfalach mewn dim, wrth scrifennu yr Scrythyr lân, nag am dynny i lawr wag ogoniant a balchedd dyn, yr hyn o bob beiau eraill, sydd gwedy [Page 13] ei blannu yn gyffredinaf ym-mhob dyn, ie er llygredigaeth ein cyntaf dad ni Addaf. Ac am hyn yr ydym ni yn darllen yn amryw fannau yn yr Scrythyr, lawer o wersau gwych yn erbyn yr hên fai gwreiddiedig ymma, er dangos ini ganmolediccaf rinwedd gostyngeiddrwydd, ein adnabed ein hunain, a chofio pa beth ydym ni o hanom ein hunain. Yn llyfr Genesis mae yr holl-alluog Dduw yn rhoddi ini deitul neu enw ein hên dâd Addaf, yr hwn enw a ddylei ein rhybyddio ni, i gyd, i ystyriaid pa beth ydym ni, o ba beth yr ydym, ac o ba le y daethon, ac î ba le yr awn ni, gan ddywedydd fel Gen. 3. 19. hyn, Yn chwys dy wyneb y bwytai dy fara, nes dy ddychwelyd ir ddayar, o herwydd o heni hi y daythost, o achos mai pridd ydwyd, ac i'r pridd y dychweli. Ymma gan hynni y gallwn megis mewn drych weled mai daiar, pridd a lludw ydym ni, ac mai yn bridd, a lludw y'n troir ni ailwaith. Ac yr ydoedd yr hen Batriarch Abraham yn cofio yn ddifai yr cnw, a'r teitul ymma llethrod, pridd, llwch, a lludw, a apowyntiodd ac a osododd Duw ar holl rywogaeth dŷn: ac am hyn pan ydyw fe yn gweddio 'n ddifrif ac yn daer dros Sodom a Gomorrah, mae fe 'n ei alw ei hun wrth yr Gen. 18. 27. enw hyr. Ac yr ydym ni yn darllen yn yr hên destament fod Iudith, Hester, Iob, Ieremi, a gwyr Iud. 4. 21. at 9. 1. Ier. 6. 26. at 25. 34. a gwragedd duwiol eraill, yn arfer sachliain, ac o daflu llwch, a lludw ar eu pennau, pan fyddent yn galaru am eu buchedd bechadurus, hwy a alwent ac a waeddent ar Dduw, am nerth a thrugaredd â'r fath ceremoni o sachliain, llwch, a lludw, fal wrth hynny, y manegent i'r holl fyd, pa dybygaeth a bri gostyngedig issel oedd gāthynt am danynt eu hunain, a Daied. pha gystadl yr oeddynt yn [Page 14] cofio yr enw a'r titul a ddywedassom ni o'r blaen, eu gwradwyddus, lygredig, egwan anian, llwch, pridd, a lludw. Mae lifr y doethineb gan ewyllysio tynnu ein calonnau beilchion ni i lawr, yn ein hannog ni i gofio yn ddiwall yn cenhedlaeth farwol briddlyd, yr hon sydd genym ni oddiwrth yr hwn a wnaê thpwyd gyntaf: a bod pawb brenhinoedd, Doeth. 7. 1. a deiliaid, yn dyfod i'r byd hwn, ac yn myned o hano, yn yr vn modd a sut dull: hyny yw o hanom ein hunain yn flin, ac yn llawn trueni, megis yr ydym yn gweled beunydd. Ac fe orchymynnodd y goruwchaf Duw i'r prophwyd Esai waeddi ar y byd i gyd, a phan ofynnodd Esai pa Esai 40. 7. beth a waeddei, fe attebodd yr Arglwydd, mai glaswellt yw pob cnawd, a'i ogoniant megis blodau 'r maes: gwywodd y gwelltyn a syrthiodd y blodauyn, pan chwythodd Yspryd yr Argiwydd arno: gwellt yn ddiau yw 'r bobl, yr hwn a grina, a'i flodau a wywa. Ac mae 'r prophwyd santaidd Iob yr hwn abrofasau ynddo ei hun yn halaeth flin a phechadurus gyflwr dyn, yn agoryd hyn i'r byd yn y geiriau ymma, dyn (medd ef) a aned o wraig, sydd a byr amser iddo i fyw, ac yn Iob 14, 1. llawn trueni, mae fe 'n cyfodi megis llysewyn, ac yn gwywo, ac yn difannu megis gwyscod, ac nid ydyw yn hir aros yn yr vn dull. Ac a ydwyt ti o Arglwydd, yn tybied fod yn gymhessur agoryd dy lygaid ar y fath vn, a'i ddwyn ef i farn gydâ thi? pwy a ddichon lanhau yr hwn a enillwyd o hâd allan. Mae pawb yn gyffredinol o'u hyblygedd naturiol, mor hollol gwedy ymroi i bechod, hyd (fal y dywaid yr Scrythyr) oni etifarodd Duw iddo wneuthyr dyn er ioed. A thrwy bechod yr enynnodd digofaint Duw yn erbyn yr holl fyd, Gen. 6. 6. at 7. 2. [Page 15] megis y boddodd ef â llif Noah yr holl fyd, ond Noah ei hun a'i ychydig dylwyth. Nid heb achosion mawrion y mae Scrythyr Duw yn fynych iawn yn galw dynnion ymma yn y byd hwn, a'r enw daear: oh tydi ddayar, ddayar, ddayar, medd y Prophwyd. Ieremi, gwarando air yr Arglwydd. Ier. 14. Mae ein iawn ditul, enw, a galwedigaeth ni pridd, pridd, pridd, a gyhoeddwyd d [...]wy y prophwyd, yn dangos pa beth ydym ni yn wir: pa enw bynnag, pa ditul, pa fraint, new orvwchafiaeth bynnag a roddo dynnion ini, fal hyn yr enwodd efe ni, yr hwn a wyddei orau pa beth ydym ni, a pha fodd y dylyem gael ein galw: fal hyn y gossod ef ni allan, gan ddywe dyd drwy enau ei Apostol S. Paul, fod pawb oll dan bechod, Iddewon, a Groegwyr, ac nad oes vn cyfiawn, Ruf. 3. 12. nag oes vn, nid oes neb yn deall, nac yn ymofyn am dduw, gwyrasant oll hwy aethant oll yn anfuddiol, nid oes vn yn gwneuthur daioni nac oes vn; Mae eu geneuau hwy megis bedd agored, an tafodau y maent yn arfer twyll, gwenwyn lyndys sydd dan eu gwefusau, mae eu geneuau, yn llawn melldith a chwerwedd, buan yw eu traed i ollwng gwaed. Distryw ac aflywdd sydd yn eu ffyrdd: ffordd heddwch nid adnabuont: nid oes ofn Duw oflaen eu llygaid. Ac mewn man arall, yr scrifenna S. Pawl fal hyn, mae Duw gwedy cau pob cenedl mewn angrhedyniaeth, fal y gallau Ruf. 1. 32. Gal. 3. 22. drugarhau with bawb mae 'r Scrythyr yn cau pawb dan bechod, fal y gallid rhoi yr addewidion drwy ffydd Iesu Grist i bawb a gredant. Mae Pawl mewn aml fannau yn ein peintio ni yn ein lliw ein hunain, gan ein galw yn blant digofanit Duw, ie pan y'n ganed: a chan ddywedyd hefyd Ephes. 5. 3. [Page 16] na allwn feddwl vn meddwl da, o hanom ein hunain, llai o lawer y gallwn ddywedyd neu wneuthur yr hyn sydd dda o honom ein hunain. Ac mae 'r gwr doeth yn dywedyd yn llyfr y diarhebion, y cwymp y gwr cyfion saith-waith yn y dydd. Ac Dihar 24. 16. yr ydoedd Iob, yr hwn a brofwyd hyd yr eithaf, yn ofni ei holl weithredoedd. Ac er sancteiddio Ioan fedyddiwr ym-mol ei fam, a'i ganmol cyn ei eni, er ei alw ef yn angel, ac yn fawr ger bron yr Arglwydd, gwedy ei lanw o 'i anedigaeth a 'r Yspryd glân, darparydd Fordd yr Arglwydd ein Iachawdwr Christ. Er i Grist ei ganmol ef gan Luc. 1. 76. ddywedyd, ei fod yn fwy nâ phrophwyd, ac yn fwyaf a aned o wraig, etto mae fe yn caniatau yn eglur, fod yn anghenrhaid iddo gael gan Grist ei olchi, mae fe 'n deilwng yn derchafu ei Arglwydd a'i feistir Christ; mae fe 'n ymostwng megis annheilwng i ddattod carrei ei escid ef, ac yn Math. 3. 11. rhoddi i Dduw yr holl anrhydedd a'r gogoniant; Felly y mae S. Pawl ei hun yn cyffessu yn fynych am dano ei hun, pa beth oedd o hono ei hun, gan roddi megis ffyddlonaf wâs, yr holl glod a'r mawl i'w feistr a'i Iachawdwr. Felly y mae S. Ioan Efengylwr yn ei enw ei hun, ac yn enw yr holl Dduwiolion (er mor gyfion faent) yn gwneuthur y gyffes gyhoaddus hon: Os dyweddwn ein bod heb bechod, yddŷm yn ein twyllo 'n hunain, Ioan. 1. 9. 10. and 2. 2. ac nid oes gwirionedd ynom: os cydnabyddwn ein pechodau, mae Duw yn gyfion, ac yn ffyddlon 'i faddau ini ein pechodau, ac i' n glanhau ni oddiwrth ein holl anwiredd: os ni a ddywedwn na phechason yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a'i wirionedd nid yw ynom. Am hyn mae 'r gwr doeth yn llyfr y pregethwr yn gwneuthur [Page 17] y gyffes gywir gyffreadinol hon, nid oes vn dyn cyfion ar yddayar, yn gwneuthur daioni, ac Pregethwr 7. 21. heb bechu. Ac mae Dafydd yn cywilyddio am ei bechod, ac er hyn heb gywilidd gantho gyffessu ei bechod. Mor fynych, mor chwannog, ac mor druan y mae fe 'n deisif mawr drugaredd Duw Psal. 51. 1. am ei feiau mawrion, ac nad elai Dduw i farn ag ef? Ac ailwaith, mor gymmwys y mae 'r gwr duwiol ymma yn pwyso ei bechodau, pan ydyw ef yn cyffessu eu bod hwy cy amled mewn rhifedi, ac mor guddiedig, ac mor anodd eu deall, megis y mae 'n ammhossibl eu hadnabod, eu cyhoeddi neu eu rhifo hwy? Am hynny a chantho ddifri a gwir a dyfn ystyried a myfyrdod am ei bechodau, ac etto heb allel dyfod hyd y gwaelod, mae fe 'n gwneuthur ei weddi 'ar Dduw am faddau iddo ei bechodau cuddiedig dirgel, i wybodaeth y rhai ni Psal. 19. 12. ddichon ef ei hunan ddyfod. Mae fe 'n iawn ystyried ei bechodau o'r gwraidd dechreuol a llygad y ffynnon, gan ddeall fod eu gogwddiadau, eu cymmelliadeu, eu cynnyrfiadau, eu brathau, eu cyntefin, eu blodau, eu caingciau eu sothach, eu llygredigaetheu blaendardd eu blas, eu chwaith eu naws, a'u haroglau hwy yn aros ac yn para yn wastad ynddo. Ac am hynny y dywaid, wele mewn anwiredd y'm lluniwyd, nid ydyw yn dywedyd mewn pechodau Psal. 51. 5. megis am lawer, ond mewn pechod megis am vn, o herwydd mai o vn ffynnon y mae y lleill oll yn tarddu ac yn ffrydio. Mae 'n Iachawdwr Chryst yn dywedyd nad oes vn da onid Duw, Mark. 10▪ 18. Math. 10. 18. Luc. 18. 19. Ioan. 15. ac hebddo ef na allwn wneuthur daioni, ac naddichon neb ddyfod at y Tâd ond trwyddo ef. Ac mae fe yn gorchymmyn gwedy darfod ini wneuthur y cwbl oll ini addef nad ydym ni onid gweisiō Luc. 17. 10. [Page 18] anfuddiol. Mai fe 'n gosod y Publican etifarus ymmlaen y Pharisai sanctaidd balch clodforus. Luc. 18. 14. Mae fe yn ei alw ei hun yn feddyg nid i'r iach, ond i'r cleifion a fyddont ac eisiau ei eli ef arnynt. Math. 9. Mae efe yn ein dyscu ni yn ein gweddiau in cydnabod ein hunain yn bechaduriaid ac i ofyn cyfiawnder a rhyddhâd oddiarlaw ein tâd nefol. Mae fe'n dangos mae pechodau eyn colonnau ni ein hunain sydd yn ein halogi ni. Mae fe 'n dangos fod gair neu feddwl drwg yn haeddu damnedigaeth: Matth. 11. 36. gan siccrhau y gorfydd arnom roi cyfrif am bob gair ofer. Mae fe yn dywedyd na ddaeth ef i gadw ond y defaid oedd gwedy eu colli, a'u taflu Math. 18. 11. ymmaith. Herwydd pa ham ni chadwodd ef ond ambell vn o'r Pheriseaid beilchion, cyfiawnion, dyscedig, call synhwyrol, sanctaidd, am eu bod hwy yn eu cyfiawnhau eu hunain ger bron dynion â'u ffugsanct eidrwydd yn vnig. Am hynny, fyngharedigion bobl, gochelwn y fath ragrith, gwâg-ogoniant a chyfiawnhâd ein hunain.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am waelder, a thrueni dyn.
YN gymmaint a bod yn anghenrhaid ini ein gwir adnabod ein hun, i'n dwyn i iawn wybodaeth am Dduw: chwi a glywsoch yn yr hyn a ddarllenwyd ddiwethaf, mor ostyngedig yr oedd pawb o 'r duwiolion, yn meddwl amd anynt eu hunain, a'u bod hwy gwedy dyscu meddwl felly gan Dduw eu creawdwr yn ei sanctaidd air. O herwydd o hanom ni ein hunain nid [Page 19] ydym ond afaill surion; ac ni allwn ddwyn dim afalau. Nid ydym ni o hanom ein hunain onid tir drwg, yr hwn ni ddichon ddwyn dim onid chwyn danadl, mieri gwŷg, a Llær. graban. Yr ydys yn amlygu ein ffrwythau ni yn y bummed bennod at y Galathiaid. Nid oes gennym na ffydd, na chariad, na gobaith, na goddefgarwch, na diweirdeb, na dim arall ac y sydd ddaionus, onid o Dduw: ac am hyn y gelwir y rhinweddau hynny yno, yn ffrwythau yr Yspryd glan, ac nid ffrwythau dŷn. Cydnabyddwn am hynny ein bod ni ein hunain, fal yr ydym yn siccr, yn bechaduriaid truain, gwaelion: etifarhawn yn ddifrif ac ymostyngwn yn ein calonnau, a gweddiwn ar Dduw am drugaredd: cyffeswn oll a'n calonnau a'n geneuau ein bod ni yn llawn ammherffeiddrwydd. Cydnabyddwn ein gorchwylion, mor ammherffaith ydynt: ac yno 'ni safwn ni yn ynfyd ac yn rhyfygus yn ein meddyliau ein hunain, ac nid ymhonnwn ni o vn rhan o'n cyfiawnhâd trwy'n haeddedigaeth, a'n gweithredoedd ein hunain. O herwydd yn wir mae ammherffeiddrwydd yn ein gweithredoedd gorau ni: nid ydym ni yn caru Duw yn gymmaint ac y dylyem, â'n holl galon, â'n holl feddwl, ac â'n holl allu. Nid ydym ni yn ofni Duw megis y dylyem, nid ydym yn gweddio a'r Dduw ond mewn diffyg, ac anghyflawnder mawr. Yr ydym yn rhoddi, yn maddau, yn credu, yn byw, ac yn gobeithio yn anghyflawn: yr ydym yn dywedyd, yn meddwl ac yn gwneuthur yn ammherffaith: yr ydym yn ymladd yn erbyn diafol, y byd, a'r cnawd, yn am-mherffaith. Am hynny na fydded arnom gywilydd gydnabod ein ammherffeithrwydd yn ein gweithredoedd gorau. [Page 20] Na fyddedd arnom gywilydd ddywedyd fal y dywedai Petr sanct, dŷn pechadurus ydwyf. Dywedwn Luc. 5. 8. oll gydâ'r prophwyd sanctaid Dafydd, ni a bechasom ni a'n tadau, ni a wnaê thon yn feius, Psal. 106. 16. ni a weithiassom yn a'nnuwiol: Gwnawn oll ein cyhoeddus gyffes gydâ'r mab afradlon wrth ein tâd, gan ddywedyd, ni a bechasom yn erbyn y nefoedd, ac o'th flaen di, o dad nid ydym deilwng Luc. 15. 18. i'n galw yn blant iti. Dywedwn oll gydâ Baruc sanctaidd, oh Arglwydd ein Duw ni, yn iniawn y rhoddir cywilydd a gwrad wydd ini, a chyfiawnder ac iniondeb i tithau: ni a bechasom, ni a wnaethon Barnc. 2. 6. yn ddrygionus, ni a ymddygasom yn annuwiol, yn dy holl gyfiawnderau di. Dywedwn gydâ'r prophwyd sanctaidd Daniel, o Arglwydd Daniel 9. 7. i ti y perthyn cyfiawnder, ac i ninnau wradwydd. Nyni a bechasom, ni a wnaethon yn ddrwg, ni a'th ddigiasom di, ni a giliasom oddiwrthy ti, ni a aethom yn ein hol oddiwrth dy holl orchymmynion a'th farnedigaethau, llymma fal yr ydym ni yn dyscu ymostwng gan bob rhai o'r duwiolion yn yr scrythyr lân: a derchafu, gogoneddu, canmol, clodfori, mawr hau ac anrhydeddu Duw: fal hyn y clywsoch mor ddrwg ydym ni o hanom ein hunain, ac megis ynom ein hunain, neu o hanom ein hunain, nad oes na daioni, na nerth, na Iachawdwriaeth: ond o'r gwrthwyneb, pechod, damnedigaeth, ac angau tragwyddol. Yr hwn beth os ni a'i dwfn bwyswn, ac a'i hystyriwn yn inion, fe fydd haws ini ddeall, mawr drugaredd Duw, a pha fodd y mae 'n Iechydwriaeth ni yn dyfod oddiwrth Grist yn vnic. O herwydd ynom ein hunain, megis o hanom ein hunain, nid ydym ni yn caffel dim drwy 'r hyn y gallwn gael ymwared [Page 21] o'r blin gaethiwed i'r hwn y'n taflwyd trwy genfigen diafol wrth dorri gorchymmyn Duw yn ein tâd cyntaf Addaf: yr ydym ni oll gwedy myned yn aflan, ond nid ydym ni oll yn abl' in glanhau ein hunain, nac vn o hanom a all lanhau vn arall. Yr ydym i gyd oll wrth anian, a naturiaeth yn blant digofaint Duw, ac nid oes neb o hanom a all ein gwneuthur ein hunain yn blant, ac yn etifeddion gogoniant Duw. Yr ydym yn ddefaid gwedy mynd ar ddidro, ac o'n nerth ein hunain, ni allwn ni ddyfod i'r gorlan ailwaith, gan faint yw ein am-mherffeithrwydd ni a'n gwendid. Gan hynny ynom ein hunain, ni allwn ni orfoleddu, y rhai ynom ein hunain nid ydym ddim onid pechadurus, ac ni allwn lawenhau mewn dim gweithredoedd ac a wneuthon, y rhai ydynt oll mor ammherffaith ac mor amhur, fel na allant sefyll ger bron cyfiawn orseddfanigc Duw, fal y dywaid y prophwyd Dafydd, Na ddos i'r farn â'th Psal. 143. 2. wâs o Arglwyd, can nad byw neb cyfion yn dy olwg di. At Dduw am hynny y dylyem gilio, ac onid ê, byth ni chawn ni na heddwch na gorphwsfa, na llonyddwch i'n cydwybod yn ein calonnau. O herwydd efe yw Tâd y trugareddau a Duw 'r holl ddidanwch. Efe yw yr Arglwydd, 2. Cor. 1. 3. Psal. 130. 7. gydâ'r hwn y mae aml ymwared: Efe yw y Duw yr hwn o'i drugaredd ei hun sydd yn ein cadw ni, ac yn gosod allan ei garedigrwydd ai odidawg gariad tuag attom ni, am iddo o'i ewyllys da ei hun ein cadw ni pan oeddym golledig, a darparu brenhiniaeth dragwyddol ini. A'r holl drysor nefol ymma yr ydys yn eu rhoddi ini, nid am ein haeddiant a'n dylyed a'n gweithredoedd da ein hunain (y rhai o hanom ein hunain nid oes gennym) [Page 22] onid yn vnic o'i drugaredd râd ei hun. Ac er inwyn pwy? yn wir er mwyn Christ Iesu, pur a difrychaulyd oen Duw. Ef yw 'r an wyl garedig fab, er mwyn yr hwn y mae Duw gwedy ei ddiddigio, Ioan. 1. 29. ei foddloni, a'i wneuthur yn vn a dŷn. Efe Pet. 2. 22. Ioan. 1. 47. yw oen Dnw, sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r bŷd, am yr hwn yn vnic y gellir mewn gwirionedd ddywedyd iddo wneuthur pob peth yndda, ac na chafad twyll yn eu enau, nid oes neb onid efe a ddichon dywedyd, daeth tywysog y hŷd hwn, ac yno fi ni chafas ddim. Ac ef yn vnic a ddichon dywedyd, pa vn o hanoch am argyoedda fi o bechod? Efe yw yr Archoffeiriad tragwyddol, yr hwn a'i Ioan. 8. 46. offrymmodd ei hun vnwaith drossom oll ar allor y groes, ac â'r vn offrwm hwnnw a berffeithiodd Haeb. 81. ar 10. 13. dros fyth y rhai a sancteiddiwyd. Efe yn vnic sydd gyfryngwr rhwng Duw a dyn, yr hwn a dalodd Gysryngwr 1. Ioan. 2. 1. 2. ein dylyed ni i Dduw, âi waed eihun: â'r hwn y glanhaodd ef ni oll oddiwrth ein pechodau. Efe yw 'r meddyg sydd yn iachau ein holl glefydau ni. Math. 1. 21. Efe yw 'r gwaredydd sydd yn gwared ei bobl oddiwrth ei holl bechodau. Ac ar ychydig eiriau, efe yw 'r ffynnon fawr-ffrŵd gyflawn, o gyflawnder yr hon y dderbyniasom ni oll. O herwydd ynddo ef yn vnic y cuddiwyd holl drysor doethineb a gwybodaeth Duw. Ac ynddo ef, a thrwyddo efe yr ydym ni yn cael oddiwrth Duw dâd, bob peth da ac a berthyn i'r corph, a'r enaid. Oh morrh wymedig ydym ni i'r Tâd nefol hwnnw, am ei fawr drugaredd, yr hon a amlygodd ef mor aml ini ynghrist Iesu ein harglwydd ni a'n Ceidwad? Pa ddiolch sydd wiw a digonol ddigon ini ei rhoddi iddo ef? Torrwn allan yn gyttun ag vn meddwl a llaferydd llawen, gan foliannu, a mawrhau yr [Page 23] Arglwydd hwn o drugaredd am ei dirion fwynder a ddangosodd ef ini, yn ei anwyl garedig fab Christ Iesu ein harglwydd.
Hyd hyn y clywsoch pa beth ydym ni o hanom ein hunain, gwaelion, pechadurus, damnedig. Hefyd ni a glywsom nad ydym ni o hanom ein hunain yn abl i wneuthur vn weithred dda, nac i feddyliaid vn meddwl da: fal na allwn gael ynom ein hunain ddim gobaith Iechydwriaeth, ond yn hytrach y pethau ydynt yn dwyn distryw arnom. Ni a glywsom dirion fwynder, a mawr drugaredd Duw Dâd tuag attom, ac mor ddaionus yw efe tuag attom er mwyn Christ, heb yn rhyglyddau na 'n haeddedigaetheu ni, ond o'i vnig drugaredd a'i dirion ddaioni ef. O herwydd paham bellach y manegir ichwi drwy nerth Duw, yn halaethach yn y bregeth nessaf pa fodd y gellir mwynhau y godidog drugareddau mawrion ymma a hysyyswyd ini ynghrist Iesu, a pha fodd y'n gwaredir ni oddiwrth gaethiwed pechod, angau, ac yffern.
O hyn hyd hynny, a phob amser, dyscwn ein adnabod ein hunain, ein eiddilwch, gwaeledd a gwendid, heb fostio na ffrostio am ein gweithredoedd da, a'n haeddiant ein hunain. Cydnabyddwn odidawg drugaredd Duw tuag attom, a chyffeswn mai o hanom ein hunain, y mae 'n dyfod bob drygioni, a damnedigaeth, ac felly o hanaw fe y daw pob daioni ac Iechydwriaeth, megis y dywaid Duw ei hun drwy enau y prophwyd Osee. O Israel, o honot i dy hun y mae dy ddistryw, Ose. 13. 9. ond yno fi y mae dy nerth di, a'th ddiddanwch. Os ni fal hyn yn ostyngedig a ymmostyngwn yngolwg Duw, yn ddiammau yn amser ei [Page 24] ymweliad, fe a'n derchafa ni i dernas ei anwyl fâb Iesu Grist, ein harglwydd, i'r hwn gydâ'r Tâd, a'r Yspryd glân, y byddo anrhydedd a goniant yn dragywydd. Amen.
¶ Pregeth am gadwedigaeth dynawl ryw, yn vnic drwy Grist ein Ceidwad, oddiwrth bechod ac angau tragwyddol.
OHerwydd bod pawb yn bechaduriaid gwedy digio Duw a thorri ei gyfraithiau a'i orchymynion, am hynny ni ellir cyfiawnhau vn dyn ger bron Duw drwy ei weithredoedd neu ei orchwilion ei hun er cystadl a fytho 'r olwg arnynt: ond mae yn anghenraid i bob dyn geifio cyfiawnder neu gyfiawnhâd arall, yr hwn a dderbynnir oddi ar law Dduw, hynny yw maddauant o'i bechodau a'i droseddau, yn y rhai y pechodd, ac y trosoddodd efe. A'r cyfiawnhâd a'r cyfiawnder ymma yr hwn ydym yn ei gael drwy drugaredd Duw a haeddiant Christ, ac yn ei dderbyn drwy ffŷdd, y mae Duw yn ei gymmeryd ac yn ei dderbin yn lle perffaith a chyflawn gyfiawnhâd ini.
Er cyfiawn ddeall yr hyn beth, ein rhan an dylyed ni yw cofio mawr drugaredd Duw yn wastadol, pa fodd pan oedd yr holl fyd gwedy eu rhwymo oll mewn pechod, o waith torri y gorchymmyn, y danfonodd Duw ei vnig anedig fab, ein Ceidwad Christ, i'r byd hwn i gyflawni 'r gyfraith drosom; ac wrth dywallt ei werthfawr [Page 25] waed i wneuthur offrwm a thal a iawn i Dduw dâd am ein pechodau ni, i esmwytho ei lid ef a'r digofaint a gymmerth ef yn ein herbyn. Yn gymmaint a thrwy yr offrwm ymma, y golchwyd o'i pechodau, y dygpwyd i ffafor Duw, y gwneuthpwyd yn blant iddo ef, ac yn etifeddion o deyrnas nef, y plant bychain a fedyddiwyd, er iddynt feirw yn fychain, ac ynddiweithredoedd: A thrwy yr vn offrymmiad y golchir hefyd y rhai mewn gweithred a bechant yn ol bedydd, os hwy a droant at Dduw ailwaith yn ddiragrith oddiwrth eu holl bechodau, yn y fath ddull, nad oes dim o frychi pechod yn aros nac yn parhau, yr hwn a gyfrif Duw i'w damnedigaeth hwy. Llymma 'r cyfiawnder y mae Pawl yn son am dano, pan yw yn dywedyd na chyfiawnhair neb drwy weithredoedd Gal. 1. 15, 16. y ddeddyf, onid yn rhâd drwy ffŷdd yn Iesu Grist. Ac ailwaith y dywaid, Yr ydym ni yn credu yn Iesu Grist, y cyfiawnhair ni yn rhâd, trwy ffydd Grist, ac nid trwy weithredoedd y ddeddf. O herwydd na chyfiawnheir neb trwy weithredoedd y gyfraith.
Ac er bod y cyfiawnhâd hyn yn rhâd ini, etto nid ydyw yn dyfod mor rhâd, megis pe byddid heb dalu vn rhyw daledigaeth drosto. Ond ymma y diharffa ac y synna rheswn dŷn, gan ymresymmu fal hyn. Os ydys yn rhoddi iawn am ein prynedigaeth ni, nid ydys yn ei rhoddi i ni yn rhâd. O herwydd os carcharwr a dâl iawn, nyd ydyw ef yn myned yn rhâd: oblegid os ydyw efe yn myned yn rhâd, nid ydyw yn talu vn iawn. O achos beth yw▪mynd yn rhâd, onid cael rhyddhâd heb dalu iawn?
Fe attebodd mawr ddoethineb Duw i'r ddadl [Page 26] hon ynnirgelwch ein prynidigaeth ni, yr hwn a dymmherodd ei gyfiawnder, a'i drugaredd felly ynghŷd, fal na wnai fe na 'n barnu ni yn ei gyfion farn i dragwyddol gaethiwed diafol a'i ddiymwared garchar vffern yn dragywydd yn ddidrugaredd, na 'n rhydhau ni yn rhyddion heb gyfiawnder, ac heb dalu cyflawn ac inion iawn a thaledigaeth: Ond ynghŷd â'u drugaredd ddiderfynol, fe a gydiodd ac a gyffylltodd ei gymmwys; a'i iniawn gyfiawnder. Fe ddangossodd ini ei fawr drugaredd wrth ein rhyddhau ni o'n caethiwed, heb geifio o'n rhan ni gennem dalu, na thâl, Nac iawn, yr hyn beth a fuasai ammhossibl ini ei wneuthur: Ac o herwydd nad eodd yn ein gallu ni wneutbur iawn ein hunain, efe a ddarparodd iawn drosom ni, yr hwn oedd gorph a gwaed ei anwylaf garedig fab Iesu Grist, yr hwn (heb law yr iawn a'r taledigaeth ymma) a gyflawnodd y ddeddyf drosom ni yn gwbl: Ac felly y bracheidiodd cyfiawnder a thrugaredd Duw bob vn ei gilydd, ac a gyflawnasant ddirgelwch ein prynedigaeth ni▪ Am yr hwn gyfiawnder a thrugaredd Duw, gwedy eu clymmu fal y clywchwi ynghŷd, y mae Pawl yn sôn yn ydrydedd bennod at y Rufeimaid, Pawb a bechasont, ac ydynt yn Ruf. 3. 23, 24. ol am ogoniant Duw, ond hwy a gyfiawnhair yn rhâd drwy ei râs ef, trwy y prynedigaeth sydd yn Iesu Grist, yr hwn a osododd Duw yn iawn drwy ffŷdd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder. Ac yn y ddegfed, Christ yw diwedd y gyfraith, Ruf. 10. 4. er cyfiawnder i bob dyn a gretto. Ac yn yr wythfed Bennod, Yr hyn oedd yn am-mhossibl i'r Ruf. 8. 3. gyfraith, yn gymmaint a'i bod yn egwan oblegid y cnawd, Duw gan ddanfon ei fab ei hun ynghyffelybiaeth [Page 27] cnawd pechadurus, a hynny am bechod a gondemnodd bechod yn y cnawd, fal y cyflawnid cyfiawnder y ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd, ond yn ol yr Yspryd.
Yn yr hyn leoedd y mae 'r Apostol yn dangos tri pheth enwedigol, y rhai sydd rhaid iddynt gydgerdded yn ein cyfiawnhâd ni; o ran Duw, grâs a mawr drugaredd; o ran Christ cyfiawnder, hynny yw taledigaeth i gyfiawnder Duw, neu bridwerth eîn prynedigaeth ni, trwy offrymmiad ei gorph, a thywalltiad ei waed ef, gan gyflawni 'r gyfraith yn gwbl, ac yn gyflawn: ac o'n rhan ninnau, ffydd wir fywiol yn haeddiant Iesu Grist: yr hon ffydd er hynny nid ydyw eiddom ni, onid drwy weithrediad Duw ynom. Megis nad ydyw trugaredd a gras Duw, yn vnic, onid hefyd ei gyfiawnder ef yn ein cyfiawnhâd ni: yr hyn y mae 'r Apostol yn ei alw yn gyfiawnder Duw: yr hwn sydd yn sefyll mewn taledigaeth iawn drosom ni, a chyflawnad y gyfraith. Megis nad ydyw grâs neu râd Duw, yn cau allan gyfiawnder Duw, yn ein cyfiawnhâd ni ond yn vnic yn cau allan ein cyfiawnder ni'hynny yw cyfiawnder ein gweithredoedd ni, fal na byddont yn haeddu ein cyfiawnhad: Ac am hyn ni son Pawl ymma, am ddim o ran dyn, tuac at gyfiawnhâd, onid gwir a bywiol ffydd yn vnig, yr hon er hynny yw rhoddsad Duw, ac nid gweithred dŷn ei hun heb Dduw.
Ac etto nid ydyw y ffŷdd hon yn cau allan etifeirwch, gobaith, cariad, echryd, ac ofn Duw, fal na chydsyllter hwy â ffydd ymhob dyn a gyfiawnhair: ond mae hi yn eu cau allan oddiwrth swydd [Page 28] cyfiawnhâd: megis er eu bod hwy oll yn bresennol yn yr hwn a gyfiawnhair, etto nid ydynt yn cyfiawnhau ynghŷo; Ac nid ydyw ffydd yn cau allan gyfiawnder ein gweithredoedd da ni, y rhai sydd raid eu gwneuthur ar ol hynny, megis ein dylyed ni at Dduw (o herwydd yr ydym yn rhwymedig i wasanauthu Duw mewn gweithredoedd da a orchymmynnodd ef yn ei sanctaidd scrythyr holl ddyddiau ein heinioes:) ond yr ydys yn eu cau hwy allan, fal nas gwnelom ni hwy o fwriad cael ein gwneuthur trwyddynt yn ddaionus. O herwydd mae 'r holl weithredoedd da a allom ni eu gwneuthur, yn anghwbl ac yn anghyflawn: ac am hynny ni allant haeddu ein cyfiawnhâd ni: ond mae 'n cyfiawnhâd ni yn dyfod drwy vnic drugaredd Duw yn rhâd: a thrwy gymmaint drugaredd, ac mor rhâd megis pan nad oedd yr holl fŷd yn abl i dalu vn rhan tuag at yr iawn a'r taledigaeth ymma, fe fu fodlon gan ein tâd nefol o'i aneirif drugaredd, heb ein haeddiant ni, ddarparu gwerthfawroccaf dlws, corph a gwaed ein Iachawdwr Christ, trwy'r hwn y cwbldelid yr iawn, y cyflawnid y gyfraith, ac y bodlonid cyfiawnder Duw; fal yn awr y mae Christ yn gyfiawnder i'r cwbl oll ac a wir gredant ynddo. Fe a dalodd drostynt iawn trwy ei angan ei hun. Fe a gyflawnodd drostynt hwy y gyfraith yn y bywyd hwn: megis bellach ynddo fe, a thrwyddo fe, y gellir galw pob Christion yn gyflawnwr y ddeddyf: yn gymmaint a darfod i gyfiawnder Christ gyflawni, yr hyn oedd ddyffygiol yn eu gwendid hwy.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gadwedigaeth dyn.
CHwi a glywsoch oddiwrth bwy y dlye bawb geisio cyfiawnder a chyfiawnhâd, a pha food y mae 'r cyfiawnder hwn yn dyfod i ddynion drwy angau a haeddiāt Christ: Chwi a glywsoch fod yn rhaid wrth dri pheth i fwynhau y cyfiawnder hwn: hynny yw, trugaredd Duw, cyfiawnder Christ a gwir a bywiol ffydd, o'r hon ffydd y tardda, y ffrydia, neu y tŷf gweithrewdoedd da. Fe fanegwyd o'r blaen yn halaeth na chyfiawnhair neb drwy ei weithredoedd da ei hun, na chyflawna vn dyn y gyfraith mor gyflawn ag y mae hi yn gofyn ei chyflawni. A hyn y mae S. Pawl yn ei brufo yn ei epistol at y Galathiaid gan ddywedyd, Pe rhoesyd cyfraith a allasai roddi bywyd yn wir fe fuassai gyfiawnder o'r gyfraith. Ac fe ddywaid Gal 3. 21. ailwaith, Os bydd cyfiawnder trwy 'r gyfraith, fe fu farw Christ yn ofer. A thrachefn, Chwi y rhai a gyfiawnhair drwy 'r gyfraith, a gwympasoch oddiwrth râd; Ac hefyd fe scrifenna at yr Ephesiaid yn y modd ymma, O râs yr ydych yn gadwedig twy ffydd, a hynny nid o hanoch chwi, rhodd Duw ydyw, nid o weithredoedd, rhag i neb orfoleddu; Ac ar ychydig eiriau, y cwbl o Ephes. 2. 8. 9. ddadlewad Pawl yw hyn, Os yw cyfiawnder yn dyfod yn rhad, nid yw yn dyfod o weithredoedd: os o weithredoedd, nid yw yn dyfod yn rhad.
At hyn y cyrchai yr holl prophwydi, fal y dywed Petr yn y ddegfed o'r Ac tau, Am Grist medd S. Petr y mae 'r holl prophwydi yn testiolaethu, Act. 10. 433. [Page 30] mai drwy ei enw ef, y caiff pawb a gredo ynddo faddauant o'u pechodau.
Ac yn y modd ymma am gyfiawnhâd yn vnic drwy wir a bywiol ffydd ynghrist, y sonnia yr holl hen awdyron, Groegwyr a lladingwyr, ymmysc y rhai yr enwaf yn enwendig dri, Hilari Basil, ac Ambros. S. Hilari sydd yn dywedyd fal hyn yn eglur yn y nawfed canon ar Mathew, ffydd yn vnic a gyfiawnhà; Ac S. Basil Awdur Groeg a scrifenna fal hyn, llymma lawenychu perffaith cyfan yn nuw, pan fytho vn nid yn ei fawrygu ei hun am ei gyfiawnder: ond yn cydnabod fod ei hun a diffyg cyfiawnder a chyfiawnhâd arno, abod yn ei gyfiawnhau ef drwy ffydd ynghrist yn vnic. Ac mae Pawl (medd ef) yn gorfoleddu mewn bychander a di-ystyrwch ei gyfiawnder ei hun, ac yn edrych am gyfiawnder Duw trwy ffydd. Llyna Phil. 3. 9. airiau Basil: A S. Ambros awdur lladin a ddywaid y geiriau hyn, Llymma ordeiniaeth Duw, ar ini y sawl y sydd yn credu ynghrist, gael bod yn gadwedig heb weithredoedd drwy ffydd yn vnic, gan dderbyn yn rhâd faddeuant o'n pechodau.
Ystyriwch yn ddiescaelus y geiriau hyn, Heb weithredoedd, Trwy ffydd yn vnig, Yn rhâd y derbyniwn faddeuant o'n pechodau. Pa beth a ellir ei ddywedyd yn oleuach na dywedyd yn rhâd, heb weithredoedd, trwy ffydd yn vnic yr ydym yn cael maddauant o'n pechodau? Yr ymmaddroddion ymma ac eraill o'r fath ymma, fod yn ein cyfia wnhau ni drwy ffydd yn vnic, yn rhad, heb weithredoedd, yr ydym ni yn eu darllen yn fynych yn scrifennadau y rhan fwyaf o'r hên scrifenyddion gorau. Megis heblaw Hilari, Basil, ac Ambros, y rhai a gyfrifasom ni o'r blaen, yr ydym yn darllen [Page 31] yr vn peth yn Origen, S. Chrysostom, S. Cyprian, S. Augustin, Prosper, Oecumenius, Procopius, Bernardus, Anselmus, a llawer eraill o awduron groeg a lladin. Etto nid felly y maent yn deall yr ymadrodd hwn, Trwy ffydd y vnic, fal pe byddai y ffydd honno sydo yn cyfia wnhau, yn vnic mewn dyn, heb wir etifeirwch, gobaith, cariad, echryd, ac ofn Duw, dros vn amser nac ennyd. A phan ydynt yn dywedyd, fod yn ein cyfiawnhau ni yn rhad, nid ydynt yn meddwl y dlyem, nac y gallwn fod ar ol hynny yn segur, megis pe byddid o hynny allan heb edrych yn ol dim o'n rhan ni. Ac nid ydynt hwy yn meddwl y cyfiawnhair ni felly hcb weithredoedd da, fal y gallom fod yn holiol heb wneuthur vn weithred dda, fal y manegwn yn halaethach ar ol hyn. Ond yr ydys yn dywedyd hyn, fod yn ein cyfiawnhau ni drwy ffydd yn vnig, yn rhâd, heb weithredoedd y ddeddyf, i gwbl dynnu ymmaith haeddiant ein gweithredoedd ni, megis pethau analluog i haeddu ein cyfiawnhâd ar ddwylaw Duw, ac felly i gyhoeddi yn eglur wendid dyn, a daioni Duw, ein mawr wendid ni ein hunain, a mawr nerth a gallu Duw, am-mherpheiddrwydd ein gwethredoedd ni ein hunain, ac aml rhad ein Iachawdwr Christ. Ac am hynny yn hollawl i ganniatau haeddiant ein cyfiawnhâd ni i Grist yn vnic a'i werthfawroccaf waed-dywalltiad ef. Dymma 'r ffŷdd y mae 'r Scrythur lân yn ei dangos, dymma 'r graig gadarn, a sylfaen athrawaeth Christionogawl. Mae holl dadau eglwys Grist yn cydnabod yr athrawaeth hon: dymma 'r athrawaeth fydd yn mawrygu, ac yn gosod allan wir ogoniant Christ, ac yn ffusto i lawr wagogoniant dyn: [Page 32] Pwy bynnag a amheuo hyn, niddlyid ei gyfrif ef yn Gristion, nac yn osodydd allan o ogoniant Christ, ond yn wrthwynebwr i Grist, a'i efengyl, ac yn osodydd allan o wagogoniant dyn.
Ac er gwired ydyw yr athrawaeth hon (megis yn siccr y mae hi yn wiraf ag a ddichon bod) fod yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb haeddiant ein gweithredoedd da ein hunain, megis y manega S. Pawl, neu yn rhâd trwy 'r fywiol a'r berffaith ffydd hon ynghrist yn vnig, megis yr arfer yr hên dadau o ddywedyd: etto fe ddyleid gwir ddeall y wir athrawaeth hon, a'i hamlygu hi yn eglur iawn, rhag i ddynion cnawdol o'i phlegid hi gymmeryd achos i fyw yn gnawdol, yn ôl chwant ac ewyllis, y byd, y cnawd, a'r cythrel. Ac er mwyn na chaffo neb gamsynaid trwy gamgymeryd yr athrawaeth hon, mi amlygaf yn eglur, ac yn fyrr ei huniawn ystyr hi, fal na allo neb feddwl y dichon ef wrth hyn gymmeryd achos o rydd-did cnawdol, i ddilyn chwantau y cnawd, neu trwy hyn y gellur gwneuthur vn rhyw o bechod, neu arfer o fyw yn anuwiol.
Yn gyntaf deallwch, yn ein cyfiawnhâd ni drwy Grist, nad yr vn peth yw swydd Duw tuag at ddŷn, a swydd dŷn tuag at Dduw. Nid gorchwyl dyn ond gorchwyl Duw yw cyfiawnhâd, o herwydd ni ddichon vn dŷn ei wneuthur ei hunan yn gyfiawn nac yn gwbl, nag mewn rhan, drwy ei weithredoedd da ei hun: o herwydd mwyafrhyfyg a allai Antichrist i osod yn erbyn Duw oedd ddywedyd ŷ gallai ddŷn trwy ei weithred ei hun dynnu ymmaith ac arllwys ei bechodau, a'i gyfiawnhau ei hunan. Ond gorchwyl Duw yn vnic yw cyfiawnhau, ac nid peth yr ydym ni yn ei [Page 33] roi iddo ef, onid peth yr ydym ni yn ei dderbyn oddiwrtho ef: nid peth yr ydym ni yn ei offrwn iddo ef, ond peth yr ydym ni yn ei gaffael gantho ef, trwy ei drugaredd râd ef, a thrwy vnic haeddiant ei anwyl garedig fab ef, ein vnic brynwr a'n ceidwad, a chysiawnydd, Iesu Grist.
Megis nad hyn yw gwir ystyr yr athrawaeth ymma: yr ydys yn ein cyfiawnhau ni yn rhâd, heb weithredoedd, neu fe'n cyfiawnhau'r ni trwy ffydd ynghrist yn vnic: nid yw yr ystyr, meddaf, mai 'n gorchwyl ni yn credu ynghrist, neu ffydd Grist yr hon sydd ynom ni, sydd yn ein cyfiawnhau ni, ac yn haeddu ini gyfiawnhâd (o herwydd ni byddai hynny onid ein cyfrif ein hunain yn gyfiawn drwy ryw weithred neu rinwedd ynom ni ein hunain. Ond gwir ystyr a meddwl yr athrawaeth hon, yw, er ein bod ni'n gwrando gwir air Duw, ac yn ei gredu, er bod ynom ffydd, gobaith, cariad, etifeirwch, ac ofn Duw ac er ein bod ni yn gweuthyr llawer o weithredoedd da, etto rhaid ini ym wrthod a holl haeddiant y rhinweddau ymma, ffydd, gobaith, a chariad, a phob rhinweddau a daionus weithredoedd eraill ar a wnauthom, a wnawm, neu a allon eu gwneuthur, megis pethau o lawer yn rhy weinion, yn rhy analluog, ac yn rhy anghyflawn i haeddu ini ollyngdod o'n pechodau, a chyfiawnhâd, ac am hynny rhaid ini ymddiried, yn vnic ynnhrugaredd Duw, a'r aberth a wnaeth ein Archoffeiriad, a'n ceidwad Christ Iesu mâb Duw a offrymmodd ef vnwaith drosom ni ar y groes, i hebrwng ini trwy hynny râd Duw a gollyngdod, cystadl o'n dechreuol bechodau, cyn bedydd, ac o'n pechodau gweithredol, y rhai a wnaethom ar ol bedydd, os ni a wir etifarhawn, [Page 34] ac a drown yn ddiragrith atto fe. Fal er rhinweddoled, ac er duwioled oedd Ioan fedyddiwr, etto yn hyn o beth, am faddeuant pechodau, fe ddanfonodd y bobl oddiwrtho ei hun, ac âu danfonodd hwy at Grist, gan ddywedyd, wele oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r Ioan. 1. 29. byd: felly er maint ac er duwioled rhinwedd yw bywiol ffŷdd, etto mae hi yn ein danfon oddiwrthem ein hunain, ac yn ein gollwng, ac yn ein gyrru ni at Grist, i gael yn vnic gantho fe ollyngdod o'n pechodau neu gyfiawnhâd: fal y mae ein ffydd ni ynghrist, megis yn dywedyd wrthym ni fal hyn, Nid myfi sydd yn tynnu eich pechodau chwi ymmaith, onid Christ yn vnic ac atto ef yn vnic y danfonaf chwi er mwyn hynny, gan ymwrthod mewn hyn o beth â'ch holl rhinweddau da, gairiau, meddyliau, a gweithredoedd, a chan osod a dodi eich ymddiried ynghrist yn vnic.
¶ Y trydydd ran o'r bregeth am Gadwedigaeth.
FE a ddangoswyd i chwi yn amlwg na all neb gyflawni cyfraith Dduw, ac am hynny fod pawb oll trwy 'r gyfraith yn golledig. O'r hyn beth y mae 'n rhaid canlyn fod yn gofyn rhyw beth heb law 'y gyfraith i'n Iechydwriaeth ni, hynny yw gwir a bywiol ffydd ynghrist, yn dwyn allan weithredoedd da, a bywyd yn ôlgorchymmynion Duw. Chwi a glywsoch hefyd ystyr yr hên dadau ar y geiriauymma, ffydd yn vnig a'n cyfiawnhâ, gwedy ei amlygu mor eglur, megis y gwelwch mai ystyr yr ymadrodd ymma (fe a'n cyfiawnheir [Page 35] ni trwy ffydd yngrhist yn vnig) yn ôl meddwl yr hên dadau yw hyn, Yr ydym ni yn dodi ein ffydd ynghrist, fod yn ein cyfiawnhau ni yn vnig trwyddo ef: fod yn ein cyfiawnhau ni trwy drugaredd Duw yn rhâd, a thrwy haeddiant ein Ceidwad Christ yn vnig, ac nid trwy vn rhinwedd neu weithred dda o'r eiddom ni ein hunain, sydd ynom ni, neu a allwn ni ei gael, neu ei wneuthur i haeddu hynny: lle mae Christ yn vnig yn achos haeddiannol o hono.
Ymma y gellwch weled arfer llawer o eiriau er gwagelyd ymrysson ynghylch gairiau, gan y rhai sy ewyllysgar i ymdaeru ynghylch gairiau, ac hefyd i ddangos y gwir ystyr, er gwagelyd drwg chwedleua, a cham-ddeall: ac etto fe allai na wasanauthai 'r cwbl i'r rhai ydynt ymryssongar, o herwydd fe lunia'r ymryssengar achos o ymrysson, er na bydder yn roi vn achos iddo i wneuthur felly. Etto ni ddylyid gormodd ofalu am y fath ddynion, os gellir lleshau y rhai ydynt chwannoccach i wybod y gwirionedd, nag (pan fytho ef goleu ddigon) i ymrysson yn ei gylch, a thrwy ymryssongar ac ymddalus ddadl, i'w Gwymmylu gwmlo a'i dywyllu ef. Gwir ydyw, os ni a chwedleuwn yn briodol ac yn inion am gyfiawnhâd, nad ydyw ei'n gweithredoedd ni yn haeddu maddauant o'n pechodau, ac yn ein gwneuthur ni o rai anghyfion, yn gyfiawn ger bron Duw: ond Duw o'i vnic drugaredd, trwy vnic haeddiant a rhyglyddau ei fab Iesu Grist, sydd yn ein cyfiawnhau ni. Etto am fod ffydd yn ein danfon ni yn inion at Grist am faddauant o'n pechodau, ac mai trwy 'r ffydd a rodd Braicheidio Duw ini yr ydym ni yn cofleidio addewidiō trugaredd Duw, a maddauant o'n pechodau: yr hwn [Page 36] beth nid ydyw neb o'n rhinweddau, na' n gweithredoedd yn ei wneuthur yn briodol: am hynny yr arfer yr Scrythur ddywedyd, fod ffydd yn cyfiawnhau heb weithredoedd. Ac yn gymmaint ac mai 'r vn peth mewn ffrwyth yw dywedyd, ffydd heb weithredoedd a ffydd yn vnic sydd yn ein cyfiawnhau ni: am hynny ycyhoeddodd hên dadau 'r eglwys, o amser i amser, ein cyfiawnhad ni yn y geiriau hyn, ffŷdd yn vnic a'n cyfiawnha ni: heb feddwl dim arall ond yr hyn a feddyliodd S. Pawl, pan ddywad yntef, ffydd heb weithredoedd a'n cyfiawn ni.
Ac o herwydd bod yn dwyn hyn oll i ben trwy vnic haeddiant ein Iachawdwr Christ, ac nid drwy ein haeddiant ni ein hunain, na thrwy haeddiant vn rhinwedd ag y sydd ynom, nac vn weithred ag a ddaw oddiwrthym. O herwydd paham o ran haeddiant yr ydym megis yn ymwrthod ailwaith â ffydd a gweithredoedd a phob rhinweddau eraill. O herwydd mor fawr ydyw yn amherffeiddwch ni drwy lygredigaeth pechod dechreuol, megis y mae 'r holl bethau sydd ynom ni yn amherffaidd: ffydd, gobaith, a chariad, ofn, meddyliau, geiriau, a gweithredoedd: ac er mwyn hynny, anaddas ydynt i hadeddu vn rhan o'n cyfiawnhad ni. A'r ymmadroddion hynny y rydym yn ei arfer wrth ymostwg i Duw, a rhoddi yr holl ogoniant i'n Iachawdwr Christ yr hwn a ddyly ei gael ef orau.
Ymma y clywsoch orchwyl Duw yn ein cyfiawnhâd ni, yr hwn y rydym ni yn ei dderbyn yn rhâd gantho ef, trwy ei drugaredd ef heb ein haeddiant ni, trwy wir a bywiol ffydd. Weithian chwi a gewch glywed swydd adylyed Christion [Page 37] tuag at Dduw a pha beth a ddylyem ninnau ei rhoddi i Dduw ailwaith am ei fawr drugaredd, a'i ddaioni. Ein swydd a'n dlyed ni yw, nid treulio 'n hamser yn y bywyd presennol hwn yn a'nffrwythlon, ac yn segurllyd, heb ofalu yn ôl ein bedydd a'n cyfiawnhâd, mor ambell weithredon da a wnelom, i ogoniant Duw, a budd i'n cymydogion: pellach o lawer 'on swydd a'n dlyed ni yw (yn ol ein gweuthur vnwaith yn aelodau Christ) byw yn wrthwyneb ac yn erbyn hynny, gan ein gwneuthur ein hunain yn aelodau diafol, wrth rhodio yn ol ei hudad ef, ac yn ol llithiad y byd, a'r cnawd: drwy 'r hyn y gwyddom ein bod ni yn gwasanauthu y byd a'r cythrel, ac nid Duw. O achos nid ydyw y ffydd honno yr hon heb etifeirwch sydd yn dwyn allan naill ai gweithredoedd drwg ai yntau heb ddwyn gweithredoedd da, yn ffydd iniawn, bur, fywiol, ond ffydd farw ddiawlig, mewn ragrith neu liw yn vnic, fal y galw S. Pawl a S. Iaco hi. O herwydd fewyr y diafol, ac mae fe 'n credu eni Christ o forwyn, iddo ymprydio dd'eugain diwarnod a de'ugain nos heb fwyd na diod, iddo wneuthur pob 'r hyw wrthiau, gan ei amlygu ei hyn yn Dduw: maent yn credu hefyd i Grist er ein mwyn ni ddioddef poenedig angau er ein prynu ni o angau tragwyddol, ei ailgyfodi ef y trydydd dydd o angau. Maent hwy yn credu ei escyn ef i'r nefoedd, a'i fod ef yn eistedd ar ddehaulaw y tâd, ac y daw ef yn niwedd y byd i farnu byw a meirw. Mae 'r diawlaid yn credu y pynciau hyn 'on ffydd ni, ac felly maent yn credu hefyd fod yr holl bethau 'n wir, ac sydd scrifennedig yn yr hên destament, a'r testament newydd, ac etto er yr holl ffŷdd hon, nid ydynt onid diawliaid, [Page 38] yn aros fyth yn eu stât ddamnedig, ac heb wir ffydd Gristionogawl ganthynt.
O herwydd vniawn a gwir ffŷdd Gristionogawl yw, nid yn vnic credu 'r Scrythur lân, a bod holl byngciau ein ffydd ni yn wir onid hefyd bod a diogel obaith ac ymddiried yn-nhrugarog addewidion Duw, ar gael eu cadw oddiwrth ddamnedigaeth tragwyddol, trwy Grist: o'r hon ffydd y canlyn calon garedig barod i gadw ei orchymmion ef. A'r ffŷdd Gristionogawl hon, nid oes na chan y diawl, nag Chwaith. affeith gan vn dyn, yr hwn yn ei gyffes oddiallan, yn ei enau, neu mewn derbyniad y sacramentau oddifaes, yn ei ddyfodiad i'r eglwys, ac wrth bob argoel oddiallan, a dybygir ei fod yn wir Gristion, ac etto sydd yn ei fywyd a'i weithredoedd yn ymddangos i'r gwrthwyneb.
O herwydd pa fodd y dichon bod gan wr wir ffydd, diogel obaith, a siccr ddiogelrwydd ac ymddired yn Nuw y maddauir ei bechodau trwy haeddiant Christ, ac yr heddychir rhyngtho â Duw, ac ygwnair ef trwy Grist yn gyfrannog o deyrnas nêf, pan fytho ef yn byw yn annuwiol, ac yn gwadu Christ yn ei weithredoedd? siccr yw ni ddichon bod gan y fath ddyn, obaith, a ffydd yn-Nuw. O herwydd fal y gwyddont mai Christ yn vnig yw Ceidwad y byd, felly y gwyddont hefyd na feddianna dynion drwg deyrnas Dduw. Hwy a wyddont fod Duw yn cashau pob anghyfia wnder, y distrywa ef bawb a ddywedant gelwydd, y caiffy rhai a wnaethōt weithredoedd da, (y rhai ni ellir heb fywiol ffydd yn ghrist eu gweuthur) ddyfod i'r ail gyfodiad i fywyd, a'r rhai a wnaethont ddrwg i ailgyfodiad barn; difai y gwyddant y [Page 39] daw i'r rhai ymryssongar, ac i'r rhai na fyddant vfydd i'r gwirionedd, onid a vfyddhânt i anghyfiawnder, ddigter, llid, a blinder, &c.
I orphen am hynny gan ystyriaid aneirif ddoniau Duw, a ddangosswyd ac a roddwyd ini yn drugarog heb ein haeddiant, yr hwn nid yn vnic an creodd ni o ddim, ac o ddryll o glai, ac o ran ein eneidiau o'i anfeidrol ddaioni a'n cyfododd ni yn debyg ac yn gyffelib iddo ei hun: ie ac lle yr oeddym hefyd gwedy 'n barnu i vffern, ac i dragwyddol angau a roddodd ei fab anianol yr hwn oedd Dduw tragwyddol, anfar wol, gogyfuwch ag ef mewn nerth a gogoniant i'w gnawdoli ac i gymmerid arno ein annian farwol ni, ynghyd a'n gwendid, ac yn yr anian honno, i oddef am ein drygioni angau tost, cywilyddus o fwriad ein cysiawnhau ni, an adferu i fywyd tragwyddol, gan ein gwneuthur felly iddo i hun yn anwyl garedig blant, yn frodyr i'w vnic fâb ein Ceidwad Christ, ac yn etifeddion tragwyddol gydag ef o'i frenhiniaeth nef.
Nid ydyw doniau Duw mawrion trugarog ymma, (os y styrir hwy yn dda) yn rhoddi ini achos i fod yn segur, nac i fyw heb wneuthur gweithredoedd da: nac yn ein gyrru trwy fodd yn y byd, i wneuthur pethau drwg, ond o'r gwrthwyneb os ni nid ydym yn ddiobaith, a'n calonnau cy galetted ac yw'r garreg maent yn ein hannog ni, i'n rhoddi ein hunain i Dduw yn hollol, â'n holl ewyllys, â'n holl galonnau, â'n holl allu, â'n holl nerth, ac i'w wasanaethu â'n holl weithredoedd: gan vfyddhau i'w orchmynion ef trwy 'n hoes, gan geisio 'n wastad ym-mhob peth ei ogoniant a'i anrhydedd ef, ac nid ewyllys ein synhwyrau, [Page 40] a'n gwag-ogoniant ein hunain: gan ofni yn wastadol yn ewyllysgar ddigio Duw, mor drugarog, ac mor garedig brynydd, mewn meddwl, gair, neu weithred.
Ac mae donniau Duw ymma os cwbl ystyrir hwy, yn ein hannog ni er ei fwyn ef i fod yn barod hefyd i'n rhoddi ein hunain i'n cymydogion, ac i ymroi cy belled ag y gallom â'n holl nerth i wneuthur i bawb ddaioni. Ffrwythau gwir ffydd yw y rhai ymma: gwneuthur daioni i bawb, yn nessaf ag y gallom, ac vwchlaw pob peth, ac ymmhob peth, derchafu gogoniant Duw, oddiwrth yr hwn yn vnic ymae ini yn sancteiddr wydd, cyfiawnhâd, Iechawdwriaeth, a phrynedigaeth: i'r hwn y byddo holl ogoniant, mawl ac anrhydedd, yn oes oesoedd. Amen.
¶ Deongliad byrr am wir a bywiol a Christionogawl ffydd.
Y Dyfodiad cyntaf at Dduw, bobl dda Gristionogawl, sydd trwy ffydd, trwy 'r hon fal y manegwyd yn y bregeth ddiwethaf, yn cyfiawnhair gerbron Duw. A rhag i neb gamsynnaid eisiau i hiniawn ddeall hi, fe ddylyed nodi yn ddiescaulus fod yn yr Scrythur lân yn cymmeryd ffydd mewn dwy ffordd. Mae vn ffydd, yr hon yn yr Scrythur a elwir yn ffydd farw, yr hon ni ddwg allan ddim gweithredoedd da, am ei bod yn segur, yn hesb, ac yn anffrwythlon. A'r ffydd hon a gyfflyba 'r sanctaid Apostol Iaco i ffydd y Iac, 2. 19. diawliaid, y rhai a gredant fod Duw yn gywir ac [Page 41] yn gyfion, ac a grynant rhag ofn, ac ni wnant ddim er hynny yn dda, onid pob peth yn ddrwg. Y ffydd hon sydd gan Gristionogion melldigedig drwg, y rhai a gyffesāt (fal y dywaid Pawl) Dduw â'u geneuau, onid a ymwadant ag ef yn eu gweithredoedd, gan fod yn atgas, heb iniawn ffydd, ac Tit. 1. 16. yn barodol i bob gweithred drwg ceryddus. A hon yw dirgel grêd yn y galon, trwy 'r hon y mae fe 'n gwybod fod Duw, ac yn cyduno â gwirionedd sancteiddiaf air Duw, a gynhwysir yn y sanctaidd Scrythur. Megis y saif hon yn vnic mewn credyniaeth fod gair Duw yn wir. A hon ni elwir yn briodol ddim honi yn ffydd: ond megis y dichon yr vn a ddarlleno comentariau Caesar, gredu fod y commentariau hynny yn wir, a thrwy hynny fod gantho wybodaeth o fywyd Caesar, a'i weithredoedd godidawg, am ei fod yn credu stori Caesar. Etto ni ddywedir yn inion ei fod ef yn credu yn Caesar, oddiwrth yr hwn nid ydyw 'n edrych, am na nerth, na daioni.
Felly yr vn a gredo fod pob peth a adroddir am Dduw yn y beibl yn wir, ac y fytho er hynny yn hyw mor annuwiol, ac na ddichon ef edrych, am fwynhau addewidion a daionus ddoniau Duw: er dywedyd fod gan hwnnw ffydd a chred i air Duw, etto ni ellir dywedyd yn iawn ei fod ef yn credu yn nuw, na bod gātho y fath ffydd a gobaith yn nuw, trwy 'r hon y dichon ef yn ddiogel edrych am rhâd trugaredd, a bywyd tragwyddol oddiar ddwylaw Duw, ond yn hytrach llid, a chosp, yn ol haeddiant ei ddrwg fywyd. O herwydd fal yr scrifennir yn y llyfr a elwir yn eiddo didymus Alexandrinus, yn gymmaint a bod ffŷdd yn farw heb weithredoedd, nid ffŷdd ydyw hi yn awr, mwy [Page 42] nag y mae gŵr marw yn ŵr. Am hynny nid y ffydd farw hon yw 'r ddiogel ar anianol ffŷdd a geidw pechaduriaid. Mae ffydd arall yn yr Scrythur, yr hon nid yw (fal honno) yn segur, yn anffrwythlon, ac yn farw, ond yn gweithio drwy gariad (fal y manega S. Pawl) ac fal y gelwir y ffydd wâg arall yn ffydd farw, felly y gellir galw hon yn Gal 5. 6. ffydd fyw, fywiol.
Ac nid cyffredinawl gred yn vnic yw hon o bynciau ein ffydd ni: onid hefyd diogel, siccrwydd ac ymddired ynnhrugaredd Duw, trwy ein harglwydd Iesu Grist, a diogel obaith cael derbin pob peth da ar law Duw. Ac er ein bod ni trwy wendid, a thrwy brofedigaeth ein gelyn ysprydol, yn cwympo oddiwrtho ef trwy bechod, etto os ni a drown drachefn atto trwy etifeirwch, y pardyna ef ni, ac y gollwng dros gôf ein holl gamweddau, er mwyn ei fab ein Ceidwad Iesu Grist, ac i gwna ef ni yn etifeddion gydag ef o'i deyrnas dragwyddol: ac hyd oni ddelo 'r deyrnas honno, y bydd ef Ceidwad ac ymddiffynnydd ini yn ein holl beriglau ac enbeidrwydd, pa beth bynnac a ddigwyddo, ac er ei fod ef yn danfon ini weithiau adfyd tost, etto y bydd ef yn wastadol yn dâd caredig ini, gan ein ceryddu am ein pechodau, ac er hynny heb dynnu ei drugareddau dros fyth oddiwrthym, os ni a ymddiredwn ynddo, ac a ymroddwn yn hollol iddo, ac a orbwyswn yn vnic arno, ac a alwn arno, gan fod yn barod i vfyddhau iddo, ac i'w wasanauthu ef.
Dymma 'r ffydd gywir, fywiol, ddidwyll, yr hon nid ydyw yn y genau a'r gyffes oddifaes yn vnic, ond mae hi yn byw, ac yn cyffroi yn y galon oddifewn. Ac nid ydyw y ffydd hon heb obaith ac ymddiried [Page 43] yn nuw, nac heb gariad Duw a'n cymydogion, nac heb ofn Duw a chwant grwando ei air ef a'i ganlyn, wrth wagelyd y drygioni a gwneuthur yn llawen bob daioni.
Y ffydd hon (fal y Deffinia. geilw Pawl hi) yw sail y donniau yr ydym ni yn edrych amdanynt, ac yn gobeithio eu derbyn oddiar law Dduw: a siccrwch a Heb. 11. 1. diogel edrych am danynt, er nad ydynt etto yn ymddangos i'n synhwyrau cnawdol ni. Ac yn ol hynny mae fe 'n dywedyd, fod yn rhaid i'r hwn a ddelo at Dduw, gredu ei fod ef, a'i fod yn obrwywr trugarog i'r rhai a wnânt ddaioni. Ac nid oes dim yn canmol gwyr da yn fwy gerbron Duw, na bod y ddiogel ffydd a'r gobaith ymma ynddynt. Am y ffydd hon, y mae tri pheth enwedigol i'w nodi.
Y cyntaf nad ydyw y ffydd hon yn gorwedd yn farw yn y galon: onid mai hi yn fywiol, yn ffrwythlon, yn dwyn allan weithredoedd da.
Yn ail na ellir hebddi wneuthur gwethredoedd da cymmeradwy ger bron Duw.
Yn drydydd, pa fath weithredoedd da y mae 'r ffydd hon yn eu dwyn allan.
Yn gyntaf, megis na ellir cuddio 'r golau, nad ymddangoso fe mewn rhyw le neu ei gilydd: felly ni ellir cadw gwir ffydd yn ddirgel, canys pan fo'r achos yn gofyn, hi a dyrr allan, ac a'i dengys ei hunan trwy weithredoedd da. Ac megis y mae corph bywiol dŷn yn wastadol yn arfer pethau a berthynant at gorph naturiol bywiol, er ei ymborth a'i gadwedigaeth, megis y byddo rhaid, cyfaddas, ac achos iddo: felly y bydd enaid dŷn yr hwn sydd a ffydd fywiol yndo yn wastadol yn gwneuthur rhyw weithredoedd da; y rhai a fanegant ei fod ef yn fyw ac na bydd ef segur. Panglywo [Page 44] dynnion am hynny yn yr Scrŷthur vchel glod ffŷdd, ei bod hi yn gweuthur ini fodloni Duw, fyw gydâ Duw, a bod yn blant i Dduw, os hwy a dybygant am hyn eu bod hwy gwedy eu rhyddhau oddiwrth wneuthur gweithredoedd da, ac y gallant fyw yn y modd y mynnont, maent hwy yn cellwair a Duw ac yn eu twyllo eu hunain. Ac mae hynny yn arwydd eglur eu bod hwy ymmhell oddiwrth feddiannu gwir abywiol ffydd, ac heb wybod beth ydyw hi.
O herwydd gwir a bywiol ffydd Gristionogawl yw, nid yn vnic credu pob peth am Dduw a gynhwysir yn yr Scythyr lân, ond hefyd, gobaith ac ymddiried ynnuw, ei fod ef yn pryderu, ac yn gofalu drosom ni, megis y gofala 'r tâd am ei blentyn yr hwn y mae fe yn ei garu: y bydd ef trugarog ini e'r mwyn ei vnig fâb, a bod gennym ni ein Iachawdwr Christ yn dragwyddol offeiriad a dadleuwr, yn haeddiannau, offrwm a dioddeifaint yr hwn yr ydym yn ymddiried, fod yn golchi ac yn arllwys ein beiau ni yn wastadol, pa bryd bynnag trwy wir etifeirwch y trothom ni atto â'n holl galonnau, gan fwriadu ynom ein hunain yn safadwy drwy ei râd ef vfyddhau iddo, ai wasanaethu trwy gadw ei orchymmynion ef, ac heb droi byth yn ein hôl at bechod.
O'r fath hon yw 'r wir ffydd y mae 'r Scrythur yn ei chanmol, yr hon pan welo ac ystyrio pa beth a wnaeth Duw drosom, a annogir hefyd trwy nerth gwastadol Yspryd Duw i'w wasanaethu a'i fodloni ef, i gadw ei ewyllys ef tuag attom, ac i ofni ei sorriant ef, i barhau yn wastadol yn blant vfyddgar, i ddāgos ein diolchgarwch iddo, trwy gadw a chanlyn ei orchmynion ef, a hynny yn rhâd, o [Page 45] wir gariad, ac nid rhag ofn cosp na chariad gobrwyau bydol: gan ystyriaid pa mor eglur heb ein haeddiant ni y derbyniasom yn rhâd faddauant a thrugaredd.
Fe ddengys y wir ffydd hon ei hun, ac ni ddichon hi fod yn hir yn segur. O herwydd scrifennedig ydyw, trwy ffydd y bydd y cyfiawn byw. Nid Abac. 2. 4. ydyw nac yn cyscu nag yn segur pan ddyle fod yn neffro ai yn gweuthur daioni. Ac mae Duw trwy Ieremi yn dywedyd ei fod ef yn wynfydedig ac yn fendigedig, yr hwn sydd a ffydd a siccr obaith Ierem. 17. 8. gantho yn Nuw. Canys fe fydd megis pren gwedy ei blannu a'r lan y dwfr, yr hwn a danna ei wraidd a'r lled tuar irder, ac ni ofna wres pan delo, fe fydd ei ddalen ef glâs, ac ni phaid a dwyn ffrwyth felly y bydd y gwyr duwiol (gan ddodi heibio bob ofn adfyd) yn dangos ffrwyth eu gweithredoedd da bob amser ac y bo cyfaddas eu gwneuthur.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am ffyd.
CHwi a glywsoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon fod dau ryw o ffydd, ffydd farw anffrwythlon, a ffydd fyw yn gweithio drwy gariad; Fod y gyntaf yn brophidiol, a'r ail yn anghenrhaid i gyrhaeddyd Iachawdwriaeth, yr hon ffydd sydd yn wastad a chariad yn gydsylldedig â hi, ac sydd yn ffrwythlon yn dwyn pob gweithredoedd da.
Yn awr o blegid yr vn peth gwrandewch beth sydd yn canlyn, fe ddywaid y gwr call fod yr hwn [Page 44] [...] [Page 45] [...] [Page 46] sydd yn credu yn nuw yn gwrando a'r ei orchyminion ef. Eccl. 32. 27. Canys os ni nid ymddangoswn yn ffyddlon yn ein ymddygiad, nid ydyw 'r ffydd yr hon yr ydym yn ei chymeryd arnom, onid mewn lliw yn vnic. O herwydd y dangosir gwir ffydd Gristionogawl drwy fywyd da, ac nid wrth airiau yn vnig, fal y dywaid S. Augustin. Ni wahenir Cib. de fide & operibus ca. 2. bywyd da oddiwrth ffydd yr hon a weithia trwy gariad. A S. Chrysostom a ddywaid, ffydd o honi ei hunan sydd yn llawn gweithredoedd da, er cynted y Sermone de fide & Lege. credo dyn fe a herddir o honynt. Mae S. Pawl yn dangos yn halaeth yn yr 11. Benod at yr Hębręaid, mor llawn yw 'r ffydd hon o weithredoedd da, a pha fodd y gwnâ hi weithredoedd vn yn gymmeradwysach ger hron Duw, na gweithred Heb. 11. 4. vn arall, gan ddywedyd i ffydd wneuthur offrwm Abel yn well nag offrwn Cain. Hon a Gen. 4. 4. wnaeth i Noah wneuthur yr Arch. Hon a wnaeth Gen. 6. 12. i Abraham ymadel â'i wlad a'i holl geraint, a myned Eccl. 44. 17. Gen. 12. 1. i wlad bell i daring ymmlhith diaithriaid. Felly y gwnaeth Isaac a Iaco hefyd, gan orbwyso a gorwedd yn vnic ar y Nerth a'r gobaith oedd ganthynt yn Nuw. A phan ddaethont i'r wlad a ddaroedd i Dduw ei haddo iddynt, nid adailadent ac ni wnaent ddinasoedd, trefydd, na thai, onid byw fal dieithriaid mewn pebyll a ellid eu symmud beunydd. Y ddoedd eu hymddiried hwy cymmaint ynnuw, nad oeddynt yn priso ar vn peth bydol, am fod Duw gwedy darparu iddynt drigleoedd gwell yn y nef, o'i osodiad a'i wneuthurdeb ei hun.
Dymma 'r ffydd a baratôdd Abraham ar orchymyn Duw i offrwm ei fab a'i etifedd Isaac, yr Gene. 20. [...]. hwn a garodd ef yn fawr, a thrwy 'r hwn yr addawsai [Page 47] Dduw iddo eppil aneirif: ym mysc y rhai y genid vn yn yr hwn y bendigid yr holl genhedlaethau: Eccl. 44. 21. yr ydoedd ef yn ymddiried cymaint yn Nuw fal pe lladdesid ef, etto fod Duw yn abl trwy ei holl-alluog nerth i'w ailgyfodi ef o angau, ac i gyflawni ei addewid. Ni wanobeithiodd ef am addewidion Duw, er bod rheswm i'r gwrthwyneb. Fe a gredodd yn ddiogel ddigon na wrthodai Dduw ef mewn prinder a newyn yr hyn oedd yn y wlad. Ac mewn pob periglau eraill y dygesid ef iddynt, fe a ymddiredodd y byddai Dduw iddo ef yn Dduw, yn wascodydd ac yn ymddiffynnydd, pa beth bynnag a welai ef i'r gwrthwyneb. Dymma 'r ffydd a weithiodd felly ynghalon Moses hyd oni wrthododd ef ei gymmeryd yn fàb merch brenin Pharao, a meddiannu etifeddiaeth fawr yn Exod. 1. 11. yr Aipht: gan dybaid mai gwell oedd goddef blinder a thrymder gydâ phobl Dduw, na byw dros ennyd bychan mewn melysder pechod, gyda dynion drwg. Trwy ffydd ni phrisiodd efe ar fygylau brenin Pharao, o herwydd yr ydoedd ef yn ymddiried yn-Nuw yn gymmaint nad ydoedd ef yn prisio am lwyddiant y byd hwn, onid edrych yr ydoedd am wobr yn y nef, gan osod ei galon ar yr anweledig Dduw, megis pe buasei yn ei weled ef yn wastad yn gydrychiol ymlaen ei lygaid. Exod. [...] 4. 22. Trwy ffydd yr aeth plant yr Israel trwy 'r môr côch. Trwy ffydd y cwympodd caerau Iericho, Iosua. 6. 20. hebroddi vn ergyd iddynt, ac y gweithiwyd llawer o wrthiau eraill.
Yn yr holl wyr da a fuont er ioed o'r blaen, ffydd a ddygodd allan eu gweithredoedd da hwy, ac a fwynhaodd addewidion Duw.
Ffydd a gauodd geneuau llewod, ffydd a ddiffododd Dan. 6. 22. [Page 48] rym y tân, ffyd a waredodd rhag min y cleddyf, A'r. 3. 27. ffydd a roddodd gryfder i wyr gweinion, a orchfygodd mewn ryfel, a gwympodd luoedd o'r anghredadwy ac a gyfododd y meirw i fywyd. ffydd a wnaeth i wŷr da oddef yn esmwyth adfyd. Rhai a watwarwyd, a fflangellwyd, a glymmwyd, ac a dafiwyd i garchar: llawer a gollassont eu da ac a fuont fyw mewn tlodi mawr. Rhai a grwydrasont ar frynnau, mynyddau, ac anialwch. Rhai a Rhaccwyd, ddirdynnwyd, rhai a laddwyd, rhai a labyddiwyd, rhai a lifiwyd, rhai a dorrwyd yn ddrylliau, rhai a dorrwyd eu pennau, rhai a loscwyd heb drugaredd, ac ni fynnent eu rhyddhau, am eu bod yn edrych am gyfodi ailwaith i stat oedd well.
Yr oedd yr holl dadau, merthrwyr, a gwyr sanctaid eraill, y rhai y mae S. Pawl yn son am danynt, a'u ffydd gwedy ei siccrhau yn-Nuw, pan oedd yr holl fyd yn eu herbyn hwy. Nid oeddynt hwy yn adnabod yn vnic fod Duw yn Arglwydd, yn wneuthurwr ac yn llywodraethwr ar holl wyr y byd, ond yr oedd ganthynt hefyd ddiogel obaith a hyder y byddai fe yn Dduw iddyn hwy, yn ddiddanydd, yn helpwr, yn nerthwr, yn ymborthwr ac yn ymddiffynnwr. Hon ydyw 'r ffydd Gristionogawl yr hon oedd gan y gwyr sanctaidd ymma, a'r hon a ddlye fod gennym ninnau hefyd.
Ac er na enwed hwy yn Gristionogion, etto yr oedd ganthynt ffydd Gristionogawl, canys hwy a edrychent am holl ddoniau Duw dad drwy haeddiant ei fâb Iesu Grist, fal yr ydym ninnau yn edrych. Dymma 'r holl wahaniaeth rhyngthynt hwy a ninnau, eu bod hwy yn edrych pa bryd y dawai ef, a'n bod ninnau yn yr amfer y daeth ef. [Page 49] Am hyn y dywaid S. Awstin, fe a newidiwyd ac In Ioan. tract. 45. a symmudwyd yr amfer, ac nid y ffydd. O achos mae gan bob vn o honom yr vn ffydd yn vn Christ, yr vn Yspryd glan ac sydd gennym ni oedd ganthynt hwythau, medd S. Pawl. Cans fal y dyscodd 1. Cor. 8. 6. yr Yspryd glan nyni i ymddiried yn-Nuw, ac ialw arno fal ein Tad, felly y dyscodd hwyntau i ddywedyd fal yr scrifennir, tydi yw ein Tad ni a'n prynwr, dy enw di sydd heb ddechreuad ac yn dragwyddol. Esai. 63. 16.
Duw a roddodd iddynt hwythau ras i fod yn blant iddo megis y rhydd ef yn awr i ninnau. Ond yn awr trwy ddyfodiad ein Ceidwad Christ y derbynniasom yn halaethach Yspryd Duw i'n calonnau, drwy 'r hwn yr ydym ni yn derbyn rhagor ffydd a diogelach obaith nag oedd gan lawer o honynt hwy. Ond mewn defnydd, yr vn ydynt hwy a ninnau. Mae gennym ni yr vn ffydd yn-Nuw ac oedd ganthynt hwy, ac yr oedd ganthynt hwy yr vn ffydd ac sydd gennym ninnau. Ac mae S. Pawl yn canmol eu ffydd hwy yn fwy, er mwyn nad ymroem ni ddim llai, ond yn rhagor i Grist mewn cyffes ac mewn bywyd yn awr ac yntef gwedy dyfod, nag yr ymroe yr hên dadau cyn ei ddyfod ef.
Ac mae 'n eglur wrth holl ymadroddion Paul nad ydyw gwir fywiol a Christionogawl ffydd beth marw, anffrwythlon, ofer, ond yn beth o rinwedd berffaith, ac o ffrwyth rhyfedd, ac o rym i ddwyn pob cynhyrfiadau a gweithredoedd da. Mae 'r holl sanctaidd Scrythyrau yn gytun yn testiolaethu fod gwir ffydd fywiol ynghrist yn dwyn allan weithredoedd da, ac am hynny y dlye bob dyn ei brofi a'i holi ei hun yn ddiescaelus, er [Page 50] mwyn gwybod pa vn a wna gwir ffydd fywiol ddigellwair, ai bod yn ei galon ai nid ydyw: yr hyn a ddichon ef ei wybod wrth ei ffrwythau hi. Yr oedd llawer ac oedd yn cyffesu ffydd Grist yn y camsyniaeth a'r amryfysedd ymma, gan dybaid eu bod yn adnabod Duw ac yn credu ynddo, a hwythau yn eu bywyd yn cyhoeddi y gwrthwyneb: yr hwn gamsynniaeth y mae S. Ioan yn ei 1. Ioan. 2. 3. Epistol cyntaf yn ei argyoeddi, gan scrifennu fal hyn, Trwy hyn y gwyddom ein bod yn adnabod Duw, os ni a gadwn ei orchymmynion ef. Yr vn a ddywedo ei fod yn adnabod Duw, ac heb gadw 1. Ioan. 2. 4. ei orchymynion, sydd gelwyddog ac nid oes gwirionedd ynddo. Ac yn y man y dyweid, yr vn sydd yn pechu nid ydyw yn gweled nac yn adnabod Duw. Na thwylled neb ni fy anwyl blant. Ac eilwaith y dywaid, trwy hyn y gwyddom ein bod o'r gwirionedd, ac y bydd i ni ddiogelwch ein calonnau, os ein calonnau a'n cyhuddant mwy yw Duw nâ 'n calonnau, ac efe a ŵyr bob 1. Ioan. 3. 19, 20. peth. Fy anwyl os ein calonnau ni 'n cyhuddant mae i ni hyder ar Dduw y cawn gantho bob peth ac a ofynom am ein bod yn cadw ei orchymynion ac yn gwneuthur y pethau sy fodlon yn ei olwg. Ac fe ddywaid etto, Pob vn a gretto mai Iesu yw Christ a aned o Dduw: ac ni a wyddom nad oes neb a aned o Dduw yn pechu, eithr hwn a 1. Ioan. 5. 1, 18. genhedlwyd o Dduw a'i ceidw ei hun, a'r drwg ni chyfwrdd ag ef. Ac yn ddiwethaf i gau ar y cwbl, gan ddangos yr achos yr scrifennodd ef yr Epistol ymma, y mae yn dywedyd▪ Am hyn yr scrifennais attoch er mwyn i chwi wybod eich bod yn meddiannu tragwyddol fywyd, y rhai ydych yn credu ym-Mah Duw. Ac yn y drydydd [Page 51] mae fe 'n cadarnhau y cwblam ffydd a gweithredoedd 1. Ioan. 3. da ar ychydig o airiau, gan ddywedyd, Yr vn a wnêl yn dda ei fod ef o Duw, a'r hwn a wnel yn ddrwg nid ydyw yn adnabod Duw. Ac fe ddywaid Ioan, fal y dwg abnabyddiaeth fywiol, a ffydd Duw weithredoedd da, felly y mae fe 'n dywedyd na ddichon gobaith a chariad sefyll gydâ bywyd drwg. Am obaith yr scrifenna fe fal hyn.
Ni a wyddom pan ymddangoso Duw y byddwn cyffelyb iddo, o blegid ni a gawn ei weled ef fal y mae ef. A phwy bynnac sydd a'r gobaith hwn ynddo, mae fe yn ei burhau ei hun megis y mae Duw yn bur.
Ac am gariad fal hyn y dywaid, Pwy bynnag 1. Ioan. 3. 32. a gatwo air neu orchymyn Duw, yn hwn y mae per ffaith gariad Duw yn trigo. A thrachefn, Cariad 1. Ioan. 2. 5. Duw yw hyn, ini gadw ei orchmynion. Ac ni ddywad Ioan hyn megis ymadrodd dichellgar 1. Ioan. 5. 3. a ddychmygodd ef o'i ffansi ei hun, onid megis gwirionedd anghenrhaid diogel a ddangoswyd iddo gan Grist ei hun, y gwirionedd tragwyddol annhwyllodrus: yr hwn sydd yn traethu yn eglur yn llawer lle, na all ffydd, gobaith achariad sefyll heb weithredoedd duwiol da.
Am ffydd fe a ddywaid, Yr hwn sydd yn credu ym-mâb Duw sydd a bywyd tragwyddol ynddo: yr hwn nid ydyw yn credu yn y Mab, ni chaiff weled Ioan. 3. 36. Ioan. 5. 24. bywyd, ond mae llid Duw yn aros arno. Ac mae fe 'n cadarnhau hynny a llw dauddyblyg: Yn wir, yn wir y dywedaf wrthych, mae gan yr hwn sydd yn credu ynofi fywyd tragwyddol.
Yn gymmaint abod bywyd tragwyddol gan yr hwn sydd yn credu ynghrist, mae 'n rhaid o hyn ganlyn fod gan yr vn a fytho a ffydd gantho, weithredoedd [Page 52] da hefyd: a'i fod ef yn ymegnio i gadw gorchymynion Duw yn vfyddgar. O herwydd nid bywyd tragwyddol, onid diderfynol angau a berthyn i ddrwg weithredwyr, y rhai ydynt yn byw yn anufydd ac yn troseddu ac yn torri gorchymynion Duw yn ddietifeirwch, fal y dywaid Christ ei hun, Y rhai a wnant dda a ant i fywyd Mat. 25. 34. tragwyddol, a'r rhai a wnant ddrwg a ânt i dân annherfynol. Ac ailwaith, Myfi ydyw r llythyren gyntaf a'r diwethaf, myfi yw y dechrau a'r diwedd. I'r vn a fyddo sychedig y rhoddaf yn rhad Gwele. 2. 6. ddwfr o ffynnon y bywyd. Yr vn a orchfygo a gaiff bob peth. Myfi a fyddaf Dduw iddo ac yntef a fydd yn fâb i minnau. Ond i'r rhai ofnus sydd yn gwanobeithio yn Nuw, ac ar-nynt eifiau ffydd, t'r dynion melldigedig, llofryddion, goddinebwyr, swynwyr, addolwyr eulynod, a'r rhai celwyddog, hwy a gânt eu rhan yn y pwll sydd yn llosci a thân a brymston, yr hwn ydyw yr ail angau.
Ac megis y dywaid Christ fod ffydd yn ddiammau yn dwyn gweithredoedd da, felly hefyd y dywaid ef am gariad, Pwy bynnag sydd a'm gorchymmynion gantho ac a'u ceidw, mae fe yn fyngharu i. Ac a'r ol hynny, Yr hwn am car i a geidw Ioan. 14. 23. fyngair, a'r neb ni char fi ni cheidw fyngairiau. Ac megis y profir cariad Duw wrth weithredoedd da, felly hefyd y profir ofn Duw, fal y dywaid y gwr call, Ofn Duw sydd yn dodi ymmaith bechod. Eccl. 1. 21. a'r. 15. 1. Ac fe ddywaid ailwaith, Y neb a ofna Dduw a wna weithredoedd da.
¶ Y drydydd rhan o'r bregeth am ffydd.
CHwi a glywsoch yn yr ail rhan o'r bregeth hon, na ddylai neb feddyliaid fod gantho fywiol ffydd, yr hon a ganmol yr Scrythur lan, yr hyd ybytho efeyn byw yn a'nufydd i gyfraithiau Duw. O herwydd mae pob gweithredoedd da yn tyfu oddiar y ffydd honno. Ac megis y manegwyd i chwi wrth siamplau, fod ffydd yn gneuthur dynnion yn ddiogel, yn llonydd, ac yn oddef-gar ymhob cyfyngder. Yn awr gwrādewch ynghylch yr vn peth, pa beth a ganlyn.
Fe ddichon dyn yn ebrwydd ei dwyllo ei hun, a thybied yn ei fewddwl ei fod ef trwy ffydd yn adnabod Duw, yn ei garu ef, ac yn ei ofni ef, ac yn perthyn atto, er ei fod ef ymmhell oddiwrth wneuthur a bod felly. O herwydd barnudd yr holl bethau hyn yw duwiol a Christionogawl fywyd; Yr vn a glywo ei galon yn ceisio anrhydedd Duw, ac a fyfyrio a'r gael gwybod ewyllys a gorchymynion Duw, ac a'i gosodo ei hun at hynny, ac a fytho 'n arwain ei fywyd nid yn ol chawntau 'r cnawd i wasanaithu diawl trwy bechod, ond a osodo ei feddwl i wasanaithu Duw, er mwyn Duw ei hun, ac er ei fwyn ef hefyd i garu ei holl gymmydogion, pa vn bynnag a font a'i ei geraint a'i ei wrthwynebwyr, gan wneuthur daioni i bob dyn pan fytho lle ac amser yn gwasanaethu, ac heb wneuthur o'i fodd ddrwg i neb, y fath ddyn a ddichon yn ddifai lawenhau yn Nuw, gan wybod [Page 54] wrth ei fywyd fod gantho yn ddiffuant wir ac vniawn wybodaeth o Dduw, ffydd fywiol, gobaith diogel, a gwir ac vniawn gariad ac ofn Duw.
Ond yr hwn a daflo ymmaith iau gorchymynidn Duw oddiar ei wddf, ac a'i rhoddo ei hun i fyw yn ddietifeiriol yn ol ei gnawdol feddwl a'i ewyllys, ac heb ofalu am wybod gair Duw, chwaethach byw yn ei ol ef: Mae 'r fath ddyn yn eglur yn ei dwyllo ei hun, ac nid ydyw yn gweled ei galon ei hun, os ef sydd yn meddwl ei fod yn adnabod Duw, yn ei garu ef neu yn ei ofni neu yn ymddiried ynddo. Fe allai y tybygai rhai eu bod yn perthyn at Dduw er ei bod yn byw mewn pechod: ac felly hwy a ddawant i 'r eglwys ac a'u dangosant eu hunain megis pe byddent anwyl blant Duw. Ond fe ddywaid Ioan yn eglur, os ni a ddywedwn fod ini gymdeithas ag ef, a rhodio 1. Ioan. 1. 7. yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym a'r y gwir.
Eraill sydd yn ofer feddwl eu bod yn adnabod ac yn caru Duw er na ofalant am ei orchymynnion ef. Ond fe ddywaid Ioan yn oleu ddigon; Yr hwn a ddywaid, mi a'i hadwen ef, ac ni cheidw ei orchymynion celwyddog ydyw, a'r gwirionedd nid yw ynddo. 1. Ioan. 2. 4.
Mae rhai yn credu eu bod yn caru Duw er eu bod yn cashau eu cymmydogion. Ond amlwg y dywaid Ioan, Os dywaid neb ei fod yn caru Duw ac yntef yn cashau ei frawd, celwyddog yw. Yr 1. Ioan. 4. 20. hwn a ddywaid ei fod yn y goleuni ac a gashao ei frawd yn y tywyllwch y mae fe hyd hyn. Yr hwn 1. Ioan. 2. 9. 10. 11. a gar ei frawd sydd yn aros yn y goleini ond yr hwn a gashâo ei frawd yn y tywyllwch y mae le [Page 55] 'n rhodio, ac ni wyr i ba le y mae yn myned, gan ddarfod i'r tywyllwch ddallu ei lygaid ef. Achefyd ef a ddywaid, wrth hyn yr adwaenir plant 1. Ioan. 3. 10. Duw a phlant diawl: pwy bynac ni wna gyfiawnder, nid yw o Dduw, na'r hwn ni char ei frawd.
Na thywllwch am hynny eich hunain, gan dybied eich bod a ffydd yn-Nuw, neu yn caru Duw neu yn ymddiried ynddo ac yn ei ofni, yr hyd y byddoch byw mewn pechod. O herwydd mae eich by wyd annuwiol pechadurus chwi yn cyhoeddi y gwrthwyneb, pa beth bynnag a dybygoch neu a ddywedoch chwi eich hunain. Dylyed Christion yw bod a'r wir a'r Gristionogawl ffydd hon ynddo, ei chwilio a'i holi ei hun, pa vn a wna hi ai bod gantho ai nad ydyw, a gwybod pa bethau a berthynant iddi, a pha fodd y mae hi yn gweithio yndo. Nid i'r byd y gallwn ymddiried, oferedd yw y byd a phob peth ac sydd ynddo. Duw sydd raid bod yn ymddiffynnwr ac yn nawddwr i ni yn erbyn pob profedigaeth anwiredd a phechod, yn erbyn pob amryfysedd, ofergoel, delwaddoliad, a phob drygioni. Pe byddai 'r holl fyd o'n rhan ni, a Duw yn ein herbyn, pa elw a allai 'r byd ei ddwyn i ni? Dodwn am hynny ein holl ffydd a'n gobaith yn-Nuw ac ni ddichon y byd na diafol a'i holl nerth orchfygu yn ein herbyn.
Chwiliwn am hynny Gristionogion da a holwn ein ffydd, pa beth ydyw hi: na wenheithiwn ein hunain, onid edrychwn ar ein gweithredoedd, ac felly barnwn pa fath ffydd sydd gennym.
Oblegyd y peth hyn y mae Christ ei hun yn dywedyd yr Math. 7. 8. adwaenir y pren wrth ei ffrwyth. Gwnawn am hynny weithredoedd da, a thrwy hynny [Page 56] dangoswn fod ein ffydd yn fŷwiol ac yn Gristionogawl. Dangoswn fod ein etholedigaeth yn ddiogel ac yn safadwy, drwy 'r rhinweddau a ddylei darddu o ffydd fal y dywaid Petr, Byddwch [...]. Pe [...]. 1. 10. ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn siccr. Ac fe orchymmyn ini gyssylltu ynghŷd â ffŷdd rhinwedd, ynghyd a rhinwedd gwybodaeth, ynghŷd à gwybodaeth gymmedrolder, ynghŷd â chymmedrolder ammynedd, ynghŷd âg ammynedd Dduwioldeb, ynghŷd â Duwioldeb Vers. 6. 7. garedigrwydd brawdol, ynghŷd â charedigrwydd brawdol gariad. Felly y gallwn yn wirionedd ddangos fod gennym fywiol a Christionogawl ffydd: siccrhau ein cydŵybod yn well ein bod yn yr iniawn ffydd, a thrwy y moddion ymma gadarnhau eraill hefyd. Os y ffrwythau hyn ni chanlynant nid ydym onid cellwair â Duw, ein twyllo 'n hunain ac eraill hefyd. Difai y gallwn fod yn dwyn enw Christionogion, ond mae arnom eisiau gwir ffydd, heb yr hon nid oes neb yn Gristion.
O herwydd mae gwir ffydd yn dwyn gweithredoedd da yn wastadol, am hyn y dywaid Iaco, dangos i mi dy ffydd trwy dy weithredoedd. Rhaid i'th orchwylion a'th weithredoedd fod yn dystion Iac. 2. 18. eglur o'th ffydd: os amgen os dy ffydd a fydd heb weithredoedd da, nid ydyw onid ffydd y diawl, ffydd yr anuwiol, llun neu ddynwarediad ffydd, ac nid y wir a'r Gristionogawl ffydd.
Ac megis nad ydyw diafol a phobl ddrwg yn well o herwydd eu ffydd dwyllodrus, ond ei bod hi yn chwaneg o achos damnedigaeth iddynt: felly y rhai a fedyddiwyd, ac a dderbynniasont wybodaeth am Dduw, ac am haeddiant Christ: ac [Page 57] etto o fwriad byw yn segurllyd heb weithredoedd da (gan dybied fod ffydd Noeth yn ddigon iddynt, neu gan ossod eu meddwl ar wag-hoffderau 'r byd) ydynt yn byw mewn pechod ac yn ddietifeiriol, heb ddwyn y ffrwythau a berthynant at y fath vchel alwedigaeth. Ar vcha 'r fath rhyfygus ddynion ac ewyllysgar bechaduriaid mae 'n rhaid cwympo mawr ddigofaint Duw a chosp tragwyddol yn vffern a ddarparwyd i'r rhai ydynt yn byw yn anghyfion ac yn ddrwg.
Am hynny fal yr ydych yn dwyn enw Christ (Gristionogion daionus) na thwylled cam-dyb am ffydd chwi vn amser, ond byddwch siccr o'ch ffydd a holwch hi wrth eich bywyd, edrychwch ar y ffrwythau sydd yn dyfod o honi, synnwch argynnydd cariad a charedigrwydd o honi, tuag at Dduw a'ch cymmydogion: yno y gellwch ddeall ei bod hi yn wir ffydd fywiol. Os byddwch yn deall ac yn ystyriaid fod y fath ffydd ynoch llawenhewch am dani hi, byddwch ddiescaelus i'w phorthi hi, megis yr arhosso hi yn wastad ynoch, cynydded beunydd a thyfed fwyfwy yn wastadol trwy wneuthur yn dda. Felly y byddwch siccr i fodloni Duw trwy eich ffydd: ac yn y diwedd (megis yr aeth gwyr ffyddlon eraill yn y blaen) felly yr ewch chwithau atto ef hefyd, pan fytho ei ewyllys ef, ac y derbynnwch ddiwedd a gwobr diwethaf eich ffydd, yr hwn (fal y gailw S. Peter ef) yw Iachawdwriaeth eich eneidiau, yr hyn Duw a'i canniatao ini yr hwn a'i haddawodd ef i'w ffyddloniaid, i'r hwn y bytho anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth am weithredoedd da a gyssyllter â ffydd.
YN y bregeth ddiwethaf y manegwyd i chwi pa beth yw gwir a bywiol ffydd Gristionogawl, yr hon y sydd yn gwneuthur i ddyn na byddo segurllydd, onid yn ei waith yn wastad yn gwneuthur gweithredoedd da megis y gwasanautho 'r lle, ar amser. Yn awr trwy nerth Duw y manegir yr ail peth a nodwyd o'r blaen am ffydd, na ellir hebddi wneuthur vn weithred dda gymeradwy a hoff gan Dduw.
O herwydd fal y dywaid ein Iachawdwr Christ, ni all canghen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, sef onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch Ioan. 15. 4. 5. chweithau onid arhoswch ynosi. Myfi yw 'r winwydden chwithaw yw 'r canghennau, yr hwn a arhosso ynofi a minnau ynddo yntef, hwnnw a ddwg ffrwyth lawer: cans hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. Ac mae S. Pawl yn profi fod gan Enoch ffydd, am iddo fodloni Duw: O herwydd heb ffydd ni ellir bodloni Duw. Ac Heb. 11. 5. 6. ail waith mae fe 'n dywedyd at y Rufeiniaid, Pa beth bynnag nid yw o ffydd pechod yw. Ruf. 14. 23.
Ffydd sydd yn rhoddi goleum i'r enaid. Ac mae y rhai a sydd heb ffydd mor feirw gerbron Duw, ac yw celanedd heb eneidiau gerbron y byd. Er tecced ac er mor ogoneddus ymmlaen dynion a fytho 'r gwaith a wnelom ni heb ffydd, etto nid yw ymmlaen Duw onid Marw. Megis nad ydyw delw gwedy ei charfio neu' ei pheintio onid [Page 59] rhith neu lun marw o'r peth ei hun, heb nabywyd nac vn gallu i yscog ynddo, felly y mae gweithredoedd yr holl anffyddloniaid ymmlaen Duw. Maent yn ymddangos yn weithredoedd bywiol ac etto yn wir nid ydynt onid meirw heb fûdd ynddynt i fywyd trag wyddol. Nid ydynt ond llun a lledrith pethau bywiol da, ac nid pethau bywiol da ei hunain. Cans gwir ffydd sydd yn rhoddi bywyd i'r gweithredoedd, ac ond o'r ffydd honno ni Ddaw gweithredoedd daionus da, o herwydd heb ffydd nid oes vn weithred yn dda ger bron Duw, fal y dywaid S. Awstin, Nid oes ini ddodi In prefatio Psal. 31. gweithredoedd da ymmlaen ffydd, na thybied y dichon dŷn cyn byddo ffydd gantho wneuthur vn weithred dda: O herwydd er bod y fath weithredoedd yn ymddangos ger bron dynnion yn ganmoladwy etto nid ydynt ymmlaen Duw onid ofer ac anghymmeradwy. Hwy a gyffelybir i redfa ceffyl a redo oddiar y iawnffordd gan gymmeryd poen fawr yn ofer. Na chyfrifed neb (medd ef) am hynny ei weithredoedd da ymmlaen ffydd. Lle nid oedd ffydd nid oedd gweithredoedd da; Y bwriad medd ef sydd yn gwneuthur y weithred yn dda, ond rhaid yw bod ffydd yn arwain ac yn cyfarwyddo bwriad dyn.
Ac mae Christ yn dywedyd, Os dy lygad di a fydd drwg, fe fydd dy holl goph di yn dywyll. Mae Math. 6. 23. In prefatio Psal. 31. 'r llygad medd S. Awstyn yn arwyddoccau y bwriad trwy 'r hwn y mae dyn yn gwethur peth. Megis yr hwn ni wna weithredoedd da â duwiol fwriad a gwir ffydd yr hon a weithia trwy gariad, Mae 'r holl gorph heblaw hynny (hynny yw) holl rhifedi ei weithrydoedd ef yn dywyll, ac nid oes goleuni ynddynt. O herwydd nid ydys yn mesur [Page 60] gorchwylion da wrth y gweithredoedd noethion, ac nid felly yr ydys yn eu adnobod hwy oddiwrth faiau, onid wrth y bwriad a'r diwedd er mwyn yr hwn y gwnaethpwyd hwy. Os cenhedlddyn a ddillatta 'r Noeth, a bortha y newynog, ac a wna y fath weithredoedd eraill, etto can nad ydyw ef yn gwneuthur y pethau hyn o ffydd, er anrhydedd a chariad Duw, nid ydynt iddo ef onid gweithredoedd meirw anffrwythlon ofer. Ffydd sydd yn canmol y weithred at Dduw. Oblegid fal y dywaid Awstin na drwg na da fo gennym, mae 'r weithred ni ddaw o ffydd yn ddrwg: lle nid ydyw ffydd Christ yn sylfaen, nid oes vn waithred dda, pa adailadaeth bynnag a wnelont arno. Mae vn weithred yn yr hon y mae pob gweithred dda, hynny yw ffydd yr hon a weithia trwy gariad. Os ydyw honno gennym mae gemnym sylfaen yr holl weithredoedd da. O herwydd yr ydys yn rhoi rhinweddau nerth, synwyr, cymmedrolder, cyfiawnder, oll i gyd at ffydd.
Heb ffydd nid oes gennym vn o'r rhinweddau ymma, ond eu llun au henwau hwy yn vnic, fal y dywaid S. Awstin, Mae holl fywyd y rhai sydd heb ffydd yn bechod, ac nid oes dim da heb yr hwn a sydd awdur pob daioni, lle nid ydyw efe nid oes yno onid lledrith rhinwedd yn y gweithredoedd gorau.
Ac fal y dywaid S. Awstin wrth agoryd y vers Psal, 84. 3. hon o'r Psalm, fe gafodd y golommen nŷth lle caidw hi ei chywon) fod Iddewon anffyddlonion a Hereticiaid yn gwneuthur gweithredoedd da. Maent yn dillatta 'r noeth, yn porthi 'r tlawd, ac yn gwneuthur gweithredoedd y drugaredd: ond o herwydd nad ydynt yn eu gwneuthur â gwir [Page 61] ffydd, maen hwy yn coll ieu cywon. Ond os hwya arhosant yn y ffydd fe fydd ffydd nyth a noddfa i'w cywon hwy, hynny yw nawddfa i'w gweithredoedd hwy fal na chollant eu holl wobr.
A'r hyn y mae Awstin mewn llawer o lyfrau yn ei ddadleu yn halaeth, mae S. Ambros yn ei gynnwys mewn ychydig o eiriau, gan ddywedyd, yr hwn trwy annian a fynnei wrthwynebu beiau naill ai trwy ei naturiol ewyllys, ai drwy reswn, ofer y mae fe 'n harddu amser y bywyd ymma, ac nid ydyw yn gallu meddiannu gwir rinweddau, o herwydd heb addoli y gwir Dduw nid ydyw yr hyn a dybygir ei fod yn rhinwedd, onid bai.
Ac etto yn eglurach i'r defnydd ymma yr scrifenna In sermone de fide, Lege & Spiritu sancto. S. Chrysostom yn y geiriau hyn, Chwi a ellwch weled llawer heb wir ffydd ganthynt, ac heb fod o gorlan Christ, ac etto fal y gwelir, maent yn hoyw mewn daionus weithredoedd y drugaredd. Chwi a'u cewch hwynt yn llawn trugaredd, tiriondeb, a chwedy ymroi i gyfiawnder, e'r hynny nid oes iddynt ddim ffrwyth o'u gweithredoedd, am fod arnynt eisiau y weithred bennaf. Cans pan ofynnodd yr Iddewon i Grist pa beth a wnaent i wneuthur gweithredoedd da, fe a attebodd, hon yw gweithred Duw, credu o honoch yn yr hwn a anfonodd ef, fal y galwodd ef ffydd yn waith Duw. Ac er cynted y bytho ffydd gan ddyn, mae fe yn y fan yn ym hoywi mewn gweithredoedd da. O herwydd mae ffydd o honi ei hun yn llawn gweithredoedd da, ac heb ffydd nid oes dim yn dda.
Yn lle cyffelybaeth mae fe 'n dywedyd fod y rhai sydd yn discleirio ac yn Llewyrchu. goleuannu mewn gweithredoedd [Page 62] da heb ffydd yn-Nuw, yn debyg i wyr meirw yn gorwedd mewn beddau gwerthfawr gwych, ac etto heb fuddio iddynt. Ni ddichon ffydd fod yn noeth heb weithredoedd da, o herwydd yno nid yw hi wir ffydd: a phan gydsylltir hi â gweithredoedd, etto mae hi vwchlaw 'r gweithredoedd. O herwydd megis yn gyntaf y mae bywyd mewn dynnion y rhai ydynt wir ddynion, ac yn ol bod bywyd yr ydys yn eu hymborth hwynt: felly mae yn rhaid i ffydd ynghrist fyned o'r blaen, ac yn ol hynny rhaid yw ei phorthi â gweithredoedd da. Fe ddichon bod bywyd heb ymborth, ond ni ddichon bod ymborth heb fywyd.
Rhaid i ddyn gael ei ymborth trwy weithredoedd da, ond rhaid yw bod ffydd gantho yn gyntaf. Yr hwn a wna weithredoedd da, ac heb ffydd, nid oes bywyd ynddo. Mi a fedraf ddangos vn heb weithredoedd a fu fyw, ac a ddaeth i'r nef, ond heb ffydd ni bu fywyd mewn dyn er ioed. Fe a gredodd y lleidr yn vnic yr hwn a grogwyd pan dioddefodd Christ, ac fe a gyfiawnhaodd y trugaroccaf Dduw ef. A rhag dywedyd o neb ailwaith fod arno eisiau amser i wneuthur gweithredoedd da, ac oni buase hynny y gwnelsai fe hwy. Gwir yw, nid ymrysonaf ddim yn hynny: ond hyn a ddywedaf yn siccr ddigon, i ffydd yn vnic ei gadw ef. Pe buasei fe yn byw ac heb ofalu am ffydd a'i gweithredoedd, fe a gollasai ailwaith ei gadwedigaeth. Ond hyn yw 'r cwbl yr ydwyf yn ei ddywedyd, i ffydd o honi ei hunan ei gadw ef, ac na chyfiawnhaodd gweithredoedd o honynt eu hunain ddyn er ioed.
Ymma y clywsoch feddwl S. Chrysostom gan yr hwn yr ydych yn deall nad ydyw ffydd heb weithredoedd, [Page 63] os bydd lle ac amser i'w gwneuthur hwy, ac na ddichon gweithredoedd heb ffydd leshau i fywyd tragwyddol.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am weithredoedd da.
FE fanegwyd i chwi eisioes ddau beth o'r tri a nodasid yn enwedig ynghylch ffydd yn y bregeth ddiwethaf.
Y cyntaf yw nad ydyw ffydd vn amser yn segur heb weithredoedd da pan fo pryd ac amser i'w gwneuthur hwy.
Yr ail, na ellir gwneuthur gweithredoedd da cymmeradwy ger bron Duw heb ffydd.
Weithian awn at y trydydd, Lle y dangosir pa fath weithredoedd ydyw y rhai a darddant o wir ffydd, ac a hebryngant ddynion duwiol i dragwyddol fywyd. Hyn ni ellir ei ddyscu yn well na chan Grist ei hun, i'r hwn y gofynnodd rhyw ŵr mawr yr vn pwngc, Pa weithredoedd a wnafi, eb rhyw ly wodraethwr, i ddyfod i dragwyddol fywyd? i'r hwn yr attebodd Iesu,
Os mynni ddyfod i fywyd tragwyddol, cadw y gorchymynion. Ond y llywodraethwr heb ei fodloni trwy hyn, a ofynodd ymhellach, Pa orchymynion? Fe wnelse yr scrifenyddion a'r Pharisęaid gymmaint o gyfraithiau a thraddodiadau o'r eiddynt eu hunain i hebrwng dynion i'r nef, heblaw gorchymynion Duw, na wyddai y gwr ymma trwy ba vn y dawai ef i'r nef, ai trwy y cyfraithiau a'r traddodiadau hynny, ai trwy orchymynion Duw.
Ac am hyn y gofynnodd, pa orchymynion yr ydoedd [Page 64] Christ yn eu meddwl. I'r hwn y gwnaeth Christ atteb golau, gan gyfrif iddo orchmynion Duw, a dywedyd, Na ladd, na wna odineb, na ledratta, na ddwg gamdystiolaeth, Anrhydedda dy dâd a'th fam, Car dy gymmydog fal dy hun. Trwy 'r hyn airiau y dangosodd Christ mai gorchymynion Duw ac nad traddodiadau a chyfraithiau dynion yw 'r vniawn ffordd sydd yn ein hebrwng ni i fywyd tragwyddol: fal y dyleid cymmeryd hon yn gywiraf gwers a ddangoswyd trwy enau Christ ei hunan, mai gweithredoedd cyfraith foesawl Dduw yw gwir weithredoedd ffydd, y rhai a dywysant i'r bendigedig fywyd sydd ar ddyfod. Ond yr ydoedd dallineb a chenfigen dyn o'r dechreuad yn barod i gwympo oddiwrth orchymynion Duw. Megis Adda y gwr cyntaf yr hwn er nad oedd gantho orchymmyn onid vn, na fwytae o'r ffrwyth gwaharddedig, etto er gorchymmyn Duw fe a gredodd y wraig yr hon drwy ddichell y sarph a dwyllasid: ac felly a ganlynodd ei ewyllys ei hun, gan adel heibio orchymmyn Duw.
Ac er yr amser hynny etto fe ddallwyd pawb oll a ddaethont o hono, trwy ddechreuol bechod, hyd onid oeddynt barod i gwympo oddiwrth Dduw ai gyfraith, ac i ddychymmygu ffordd newydd i Gadwedigaeth trwy weithredoedd o'u ddychymmyg eu hun: hyd oni chrwydrodd haychen yr holl fyd ynghylch amcanion eu calonnau eu hunain, gan ymwrthod a gwir anrhydedd yr vnic a bythfywiol Dduw, gan addoli, rhai yr haul, y lleuad, y ser, rhai Iupiter, rhai Diana, rhai Iuno, Saturn, Apollo, Neptun, Ceres, Bacchus, a gwyr a gwragedd meirw.
[Page 65] Rhai ni allid a hyn eu digoni, a addolasant amryw anifeiliaid, adar, pyscod, ehediaid, a gwiberod, pob gwlad, tref, a thy haychen gwedy eu rhannu, gan osod ac adoli delwau y pethau a'u bodlonent.
Mor ynfyd oedd y bobl gwedy iddynt gwympo at eu hamcanion eu hunain, a rhoi i fynydd y tragwyddol a'r bywiol Dduw a'i orchmynion, ac y dychmygasont iddynt eu hunain aneirif ddelwau a Duwiau.
Yn yr hwn gamsynnaeth a thywyllwch yr oeddynt yn aros nes i'r holl-alluog Dduw gan dosturio wrth ddallineb dyn, ddanfon i'r byd ei gywir brophwyd Moeses i argyoeddi ac i geryddu yr anfad ynfydrwydd ymma, ac i ddyscu 'r bobl i adnabod yr vnic fywiol Dduw, a'i wir anrhydedd a'i addoliad. Ond mae llygredig duedd dyn gwedy ymroi mor gwbl i ddilyn ei feddwl ei hun, ac fal y oywedwn, i fawrhau 'r aderyn Fagodd. a faethrinodd ef ei hun, nad ydyw yr holl rybyddiau, annogiaethau, daionus ddoniau na bygythiau Duw, yn abl i'w gadw ef oddiwrth y fath ddychymmygion.
O herwydd er holl ddoniau Duw a dywalltwyd ar blant yr Israel, etto pan aeth Moeses i fynydd i ymddiddan â'r holl-alluog Dduw, nid arhosasai yno ond ychydig ddyddiau, nes i'r bobl wneuthur Duwiau newydd. Ac fal y daeth yn eu pennau, hwy a wnaethant lo o aur ac a benlinasant i lawr ac a'i had dolasant ef. Ac yn ol hyn Exod. 32. hwy a ddilynasant y Moabiaid, ac a addolasant Beel phegor Duwy Moabiaid.
Darllenwch lyfr y Barnwyr, llyfrau y brenhinoedd a'r prophwydi, ac yno y cewch weled mor [Page 64] [...] [Page 65] [...] [Page 65] anwadal oedd y bobl, mor llawn o amcanion, a pharotach i ddilyn eu ffansiau eu hunain nâ sancteiddiaf orchymmynion Duw. Yno y gellwch ddarllen am Baal, Moloch, Chamos, Melchom, Baal-peor, Astaroth, Bel, y ddraig, Priapus, y sarph bres, y dauddeg arwydd, a llawer o bethau eraill. I ddelwau y rhai mewn gostyngeiddrwydd mawr y gosodai 'r bobl bererindodau, gan eu trwsio 'n werthfawr, arogldarthu, penlinio ac offrwm iddynt, gan dybied fod hynny yn haeddiant vchel ym-mlaen Duw: ac y cyfrifid hynny vwchlaw holl gyfraithiau a gorchymyniō Duw.
Ac lle daroedd i Dduw orchymmyn na wnaid vn aberth ond yn Ierusalem, hwyntau o'r gwrthwyneb a wnaethant allorau ac aberthau ymmhob man, yn y mynyddoedd, yn y coedydd, ac yn y tai, heb wneuthur cyfrif o orchymmynion Duw, gan dybied fod eu hamcanion a'u crefydd eu hunain yn well nâ hwy. Ac fe wascarwyd y camsynnaeth hynny cyfled, fel y llygrwyd nid yn vnic y cyffredin annyscedig bobl, ond yr offeiriaid a'r dyscawdwyr hefyd, trwy drachwant, gwagogoniant, ac anwybod i wneuthur yr vn rhyw ffieidd-dra. Yn gymmaint a phan nad oedd gan frenin Ahab onid vn Elias yn wir ddyscawdr a gwenidawg Duw, yr oedd wythcant a deg a deigain o brophwydi yn ei annog ef i addoli Baal, ac i aberthu yn y coedydd a'r llwyni.
Ac fe a barhaodd y blin gamsynniaeth hynny, nes i'r tri brenin godidawg, Iosaphat, Ezechias, a Iosias, dewisol wenidogion Duw, ddinistrio y pethau hynny yn gwbl: a dwyn ailwaith y bobl oddiwrth eu gwâg amcanion, at orchmynion Duw. Am yr hwn beth mae eu hanfarwol wobr, [Page 66] a'u gogoniant hwy yn aros gyda Duw yn dragywydd.
Ac heb law y traddodiadau a soniasom ni amdanynt eisioes, fe wnaeth tuedd dyn (er cael ei sanctaidd addunedau ei hun) sectau, a chrefyddau newydd, a elwid Pharisaeaid, Saducaeaid, ac scrifenyddion, a llawer (fal y tybygid oddifaes, ac wrth ymddangosiad têg eu gweithredoedd) o draddodiadau ac ordeiniadau sanctaidd duwiol, ond mewn gwirionedd yr ydoedd y cwbl oll yn arwain at ddelw-addoliad, ofergoel a rhagrith, gan fod eu calonnau oddifewn yn llawn cenfigen, balchedd, trachwant a drygioni.
Yn erbyn y sectau hynny a'u sancteiddrwydd ragrithiol y gwaeddodd Christ yn danbeitach nag yn erbyn vn rhyw ddynion eraill, gan ddywedyd a mynych adrodd y geiriau hyn, gwae chwi scrifenyddion a Pharisęaid ragrithwyr, canys yr ydych Matth. 23. 25. yn glanhau y tu allan i'r cwppan a'r ddyscl, ac o'r tu mewn llawn ydych o yspail a brynti. Tydi Pharisęad dall, glanha yn gyntaf y tu mewn i'r Phiol. cwppan a'r ddyscl. O herwydd er eu holl wych draddodiadau, ac ymddangosiadau eu gweithredoedd da oddiallan, y rhai a wnelsent o'u meddylfryd eu hunain, trwy y rhai yr ymddangosent i'r byd yn grefyddgaraf ac yn sancteiddiaf o wyr y byd, etto fe wyddiai Grist yr hwn a welodd eu calonnau hwy eu bod oddifewn ger bron Duw, yn ansanteiddiaf yn ddiffeithiaf ac ym-mhellaf oddiwrth Dduw o holl wyr y byd, ac am hynny y dywaid wrthynt, O ragrithwyr, da y prophwydodd Esaias am danoch chwi, gan ddywedyd, Math. 15. 8, 9. Nesau y mae 'r bobl hyn attaf â'u genau a'm anrhydeddu au gweusau, onid eu calon sydd bell Esai. 29. 13. [Page 68] oddiwrthyf: ofer y'm anrhydeddant i gan ddyscu gorchymmynion dynnion yn ddysceidiaeth, yr ydych Mat. 15. 3. yn torri gorchymmyn Duw trwy eich traddodiad chwi.
Ac er bod Christ yn dywedyd eu bod hwy yn addoli Duw yn ofer, trwy ddyscu athrawiaethau a gorchymmynion dynnion, etto nid oedd Christ trwy hyn yn meddwl distry wio holl orchymmynion dynion, o herwydd ef ei hun a fu vfydd i dywysogion a'u cyfraithiau a wnaeth pwyd er trefnu a llywodraethu 'r bobl. Onid fe a argyoeddai y cyfraithiau a'r traddodiadau a wnaethai 'r scrifenyddion a'r Pharisaeaid, y rhai ni wnaethpwyd yn vnig er daionus drefnu 'r bobl, (megis y gwneuthpwyd cyfreithiau moesol) onid hwy a osodasid cyfuwch fal y gwneuthpwyd hwy yn bur ac yn iawn addoliad Duw, megis pe buasent gogyfuwch â chyfraithiau Duw, neu vwch eu llaw hwy.
O herwydd ni ellid cadw llawer o gyfraithiau Duw, ond gorfod arnynt roddi lle i'w cyfreithiau hwy. Dymma 'r rhyfyg yr oedd Duw yn ei gashau yn fawr, i ddyn dderchafu ei gyfraithiau ei hun, a'u gwneuthur yn ogyfuwch â gorchymynnion Duw, yn y rhai y mae anrhydedd ac iawn addoliad Duw yn sefyll, a pheri gadu heibio er mwyn y rhai hynny ei gyfraithiau ef ei hun.
Fe a ossododd Duw ei gyfraithiau ei hun trwy y rhai y mynn ei anrhydeddu. Ei ewyllys ef hefyd yw cadw o'r bobl ac vfyddhau i bob cyfraithiau dynion drwy na wrthwynebant ei gyfraithiau ef, megis daionus ac anghenraid i bob daioni cyffredinawl: ac er hyn nid megis yn y rhai yn bennaf y mae anrhydedd Duw yn sefyll. Ond [Page 69] se wnair neu fe ddylid gwneuthur holl foesawl gyfraithiau dynnion er dwyn dynnion yn well i gadw gorchymmynion Duw, fal o hyn yr anrhydeddid Duw drwyddynt hwy yn well.
Etto nid oedd fodlon gan yr scrifennyddion a'r Pharisaeaid na chyfrifasid eu cyfraithiau hwy yn v wch nâ chyfraithiau gosodedig moesawl eraill, ac ni fynnent eu galw hwy wrth enwau cyfraithiau bydol eraill, ond hwy a'u galwent yn draddodiadau sāctaidd, duwiol, ac a fynnynt eu cyfrif hwy nid yn vnic yn iawn ac yn wir addoliad Duw (megis yn wir y mae cyfraithiau Duw) onid hefyd vn vchel anrhydedd Duw, i'r hwn y dylyei orchymyniō Duw roi lle. Dymma 'r achos y dywedai Grist mor llym yn eu herbyn hwy, gan ddywedyd, mae eich traddodiadau sydd mor fraintus ger bron dynion, yn gasineb ger bron Duw. O herwydd fynychaf o'r fath draddodiadau y canlyn troseddu neu dorri gorchymynion Duw, a mwy o ddefosiwn i gadw y fath bethau, ac yn fwy yn erbyn cyd wybod eu torri hwy, nâ thorri gorchymynion Duw. Megis y cadwe yr scrifenyddion a'r Pharisęaid y Sabaoth yn y fath ofergoel, ac mor arswydus, hyd oni ddigient wrth Grist am iddo ar y Sabaoth iachau y cleifion: ac Mat. 12. 2, 13. wrth ei Apostolion am iddynt ar y dydd hwnnw, a hwyntau yn newynog gynnull tywys ŷd i'w v wyta, ac am na byddai ddyscyblon Christ yn golchi eu dwylaw cy fynyched ac y gorchymynne eu traddodiadau hwy, y cweryle yr scrifenyddion a'r Pharisęaid ar Grist gan ddywedyd, paham y mae dy ddiscyblon di yn torri traddodiadau yr henuriaid ond fe a attebodd Christ hwy gan ddangos eu bod hwy trwy eu traddodiadau eu hunain Mat. 15. 2, 3. [Page 70] yn torri gorchymmynion Duw.
O herwydd hwy a ddyscent i'r bobl y fath grefydd ar fod iddynt offrwm eu da i drysordŷ 'r deml, yn rhith anrhydeddu Duw, gan adel eu tadau a'u mammau y rhai yr oeddynt yn rhwymedig i'w cymmorth, heb ymwared; Ac felly y torrasont orchymynion Duw, i gadw eu traddodiadan eu hunain. Yr oeddynt hwy yn cyfrif yn fwy y llw a wnaid i'r aur neu 'r offrwm yn y deml, nâ 'r llw a wnaid yn enw Duw ei hun, neu i'r deml; Yr oeddynt yn gyflymmach i dalu eu degymmau o bethau bychain, nag i wneuthur pethau mwy a orchymmynnasai Dduw megis gweithredoedd y drugaredd, gwneuthur cyfiavonder, a gweuthur Math. 23. v. 23. yn ddihocced, yn vniawn, ac yn ffyddlon â Duw a dyn.
Y pethau hyn medd Christ sydd raid eu gwneuthur, ac na a dawer y llaill heb wneuthyd. Ac i ddiweddu, yr oeddynt mor ddeillion ac y tramgwyddwent wrth welltyn, ac y neident dros gŷff. Hwy a fyddent fanol i dynu gwybedyn fach o'u diod, ac er hynny hwy a lyngcent gammel. Am hynny y galwodd Christ hwy yn dywyswyr deillion, gan rybyddio ei ddyscyblon o amser i amser i wagelyd eu athrawaeth hwy. O herwydd er eu bod hwy yngolwg y byd yn wyr perffaith yn eu bywyd a'u hathrawaeth, etto nid ydoedd eu bywyd onid rhagrith, na'u hathrawaeth onid surdoes, gwedy ei gymyscu ag ofergoel, delwaddoliad a chamfarn, gan osod i fynydd draddodiadau ac ordeiniadau dŷn yn lle gorthymmynion Duw.
¶Y trydydd ran o'r bregeth am weithredoedd da.
FAl y gallai bawb iawn ystyriaid gweithredoedd da, fe fanegwyd yn yr ail rhā o'r bregeth hon, pa fath weithredoedd da yw y rhai a fynnai Douw i'w bobl rodio yndynt: hynny yw y rhai a orchymmynnodd ef yn ei sanctaidd scrythur, ac nid y fath weithredoedd a ddychymmygodd dynnion o'u ymmenyddau eu hunain, o zêl ddall a defosiwn, heb air Duw. Ac wrth gamgymmeryd annian gweithredoedd da, fe a anfodlonodd dŷn Dduw yn fawr, ac aeth oddiwrth ei orchymynion ef a'i ewyllys.
Ac fal hyn y clywsoch mor barod oedd y byd o'r dechrau hyd amser Christ i gwympo oddiwrth orchymmynnion Duw, ac i geisio moddion eraill i'w anrhyddeddu a'i wasanaethu ef yn ol y defosiwn a wnelsent o'u pennau eu hunain. A pha fodd y gosodasant eu traddodiadau eu hunain gogyfuwch, neu vwchben gorchymynion Duw.
Yr hyn beth a ddigwyddodd yn ein amseroedd ninnau, mor gyflawn ac ymmlhith yr Iddewon: a hynny trwy lygredigaeth neu ar y lleiaf trwy escaelusdra y rhai a ddylasent fwyaf dderchafu gorchymynnion Duw, a chadw ei bur a'i nefol athrawaeth ef a adawodd Christ ini. Pa wr ac ynddo na barn, na dysc, gwedy ei chyssylltu a gwir zêl tuag at Dduw, na wyla ac na alara ddyfod i mewn i greddyf Grist y fath gau-athrawaeth, ofergoel, delwaddoliad, a rhagrith, ac anafus faiau, [Page 72] a chamarferon eraill, hyd oni rwystrwyd bob ychydig, ac oni ddodwyd heibio fara melys sanctaidd air Duw trwy surdoes y pethau hynny. Ni bu gan yr Iddewon er ioed yn eu dallineb mwyaf cyunifer pererindod at ddelwau mudion, ac ni arferwyd gymmaint o benlinio, o gusanu ac o offrwm, ac a arferwyd yn ein hamser ni.
Ni bu er ioed y ddeugeinfed ran o'r sectau a'r gaugrefyddau ymlith yr Iddewon, ac nid arferwyd hwy yn annuwiolach nac mewn mwy o ofergoel, nag yr arferwyd hwy yn hwyr yn ein mysc ni. Yr hyn sectau a chrefyddau oedd ganthynt y sawl ragrithiedig gau-weithredoedd yn ei crefydd (megis yn rhyfygus y galwent hi) fal yr ydoedd eu llusernau (meddent) yn rhedeg drosodd yn wastad, yn abl i wneuthuriawn nid yn vnig dros eu pechodau eu hunain, onid hefyd dros bawb eraill o'u cymwynaswyr, brodyr, a chwiorydd mewn crefydd. Megis yn annuwiol ac yn ddichellgar yr hudasent y bobl annyscedig, gan gad w mewn llawer mann megis ffeiriau a marchnodoedd o'u haeddedigaethau, y rhai oeddent yn llawn o greiriau sanctaidd, o ddelwau, ac o weithredoedd gweddill, yn rhedeg drosodd yn barod i'w gwerthu. Pob peth ac oedd ganthynt a elwid yn sanctaidd, peisiau sanctaidd, gwregysau sanctaidd, pardynau sanctaidd, padreuau sanctaidd, escidiau sanctaidd, rheolau sanctaidd, a phob peth yn llawn sancteiddrwydd.
Pa beth a ddichon bod yn ffolach yn annuwiolach neu yn llawnach o ofergoel nag i wyr, gwragedd, a phlant wisco pais manach i'w gwared oddiwrth y Cryd neu'r nodau. dderton neu 'r cowyn: a phan fyddent [Page 73] farw a phan gladdid hwy, peri taflu hwnnw arnynt, gan obeithio twy hwnnw gael bod yn gadwedig? Yr hyn ofergoel er nad arferwyd (i Dduw y bytho 'r diolch,) ond yn ambell o fewn y deyrnas hon, etto mewn llawer o deyrnasoedd eraill fe arferwyd, ac a arferir etto, ymhlith dyscedig ac annyscedig.
Ond i adel heibio 'r ofergoel aneirif a su ganthynt mewn trwsiadau dieithr, mewn gwybodaeth, mewn hun-deiau, mewn closterau, mewn Capidylau, mewn dewis-swydau, diodydd, a'r fath bethau, ystyriwn pa anferthrwydd a fu yn y tri phwngc pennaf o'u cresydd hwy, y rhai a alwent yn dri anianol neu yn dri sylfaen diogelaf o grefydd: hynny yw vfydd-dod, di weirdeb, ac ewyllysgar dlodi.
Yn gyntaf yn rhith vfydd-dod i'w tâd enaid, yr hwn vfydd-dod a wnaethont hwy eu hunain, hwy a ryddhawyd trwy eu rheolau a'u canonau oddiwrth vfydd-dod i'w tadau a'u mammau cnawdol, oddiwrth vfydd-dod i'r yinherodr, i'r brenin a phob gallu bydol, y rhai a ddylent ac wrth gyfraithiau Duw yr oeddent rwymedig i vfyddhau iddynt. Ac felly fe wnaeth cymmeryd arnynt vfydd-dod annyledus iddynt wrthod eu dyledus vfydd-dod.
Ac yn wir honestach yw distewi na son am y modd y cadwent broffes eu diweirdch, a gadu i'r bydfarnu y peth a W. [...]. wyddys yn dda, na thrwy eiriau serth bryntion wrth fanegu eu brwnt fywyd hwy, digio clustiau duwiol glân.
Ac am eu ewyllysgar dlodi hwy, y cyfryw ydoedd, fal pan oeddynt mewn meddiannau tlyssau arian a chyfoeth yn ogyfuwch, neu vwchlaw [Page 74] marsiandwyr, boneddigion, barwniaid, iairll a duwciaid, etto wrth y term twyllodrus dichellgar hwnnw proprium in communi, hynny yw priodol mewn cyffredinolrwydd, y gwatwarent yr holl fyd, gan beri iddynt gredu er eu holl gyfoeth a'u meddiannau, eu bod hwy yn cadw eu llw a'u hadduned, ac yn byw mewn ewyllysgar dlodi. Ond er eu holl gyfoeth ni allent nerthu na thâd na mam na neb eraill ac oedd wir anghenus dlodion, heb gennad eu tâd Abad, prior, neu warden.
Etto hwy allent gymmeryd gan bawb, ond ni allent roi dim i neb, na allent i'r rhai yr oeddynt rhwymedig wrth gyfraithiau Duw i'w cymmorth. Ac felly trwy eu traddodiadau a'u rheolau hwy, ni chae gyfraithiau Duw reoli yn eu mysc hwy.
Ac am hynny y gallid yn ddifai ddywedyd am danynt yr hyn a ddywedodd Christ wrth y Pharisęaid, Yr ydych yn torri gorchymmynion Duw Math. 15. 3. 8. â'ch traddodiadau, yr ydych yn anrhydeddu Duw â'ch gwefusau, a'ch calonnau ydynt bell oddiwrtho: a pha hwyaf oedd y gweddiau a arferent ddydd a nos mewn lliw a rhith o'r cyfryw sancteiddrwydd, i ennill ewyllys da gwragedd anwadal, a dynion anddichelgar eraill, fal y gallent ganu offerennau a gwasanaeth dros eu gwŷr a 'u ceraint, a'u gollwng hwy, au derbyn i'w gweddiau, cyfiawnach a gwirach y dywedir am danynt ymadrodd Christ, Gwae chwi scrifenyddion a Pharisęid ragrithwyr, canys yr ydych yn difa tai gwragedd gweddwō yn rhith hir weddio, am hynny y derbynniwch farn fwy: gwae chwi scrifenyddion a Pharisęaid ragrithwyr, canys amgylchu yr Math. 23. 14. 15. ydych y mor a'r tir i wneuthur vn proselyt neu [Page 75] frawd newydd, a chwedy darffo i chwi eu derbyn hwy i mewn au cymeryd i'ch sect, yr ydych yn eu gwneuthur yn blant vffern yn waeth nâ chwi eich hunain.
Moliant i Dduw a osododd ei oleuni ynghalon ei ffyddlon was a'i wenidawc cywir brenin Harri 8. o goffaduriaeth glodforus, ac a roddes iddo wybodaeth ei air, ac ewyllys difri i geisio ei ogoniant ef, ac i ddodi heibio bob sectau Pharisaiaidd coelfucheddol, y rhai a osodasai Anghrist yn erbyn gwir air Duw a gogoniant ei sanctaidd enw ef, fal y rhoddodd ef yr vn rhyw Yspryd i'r ardderchoccaf a'r clodforusaf frenhinoedd Iosaphat, Iosias ac Ezechias. Duw a ganiatâo i ni oll ffyddlon a gwir ddeiliaid goruwchelder y brenin, ymborth a'r felus a blasus fara gair Duw ei hunan, ac megis y gorchymynnodd Christ wagelyd surdoes rhith grefydd Pharisęaid a phapistiaid. Yr hwn er ei fod gan Dduw yn gas, ac yn wyrthwyneb i gyfraithiau Duw, ac i bur grefydd Grist, etto fe ganmoled i fod yn dduwiolaf bywyd, ac yn stât vchaf o berffeiddrwydd. Fal pe gallai ddŷn fod yn dduwiolach ac yn berffeiddiach, wrth gadw rheolau, traddodiadau, a chyffesau dynion, nag wrth gadw sancteiddiaf orchymmynion Duw.
Ac ar ychydig airiau i adel heibio y rhywiau eraill ar grefydd, adroddwn ryw fathau o ofergoel a chamarferon papistiaid, megis padereuau, fallwyreu Mari, gwersau saint Bernard, llythyrau S. Agathi o'r purdan, offerennau iawn, safiadau, Iubilęau, gau-greiriau, padereuau sanctaidd, clych, bara, dwfr, palmwydd, canwyllau, tân bendigaid, a'r fath bethau coelfucheddol, ymprydiau, [Page 76] ffrieriaethau, brawdoliaethau, pardynau a'r fath farchnadiaethau: y rhai a wnaed gymmaint o honynt, ac a gamarfered er anferth ddirmygu gogoniant Duw a'i orchymynion: gan dybied eu bod hwy yn odidawgaf a sancteiddiaf pethau a allai fod, i gael bywyd tragwyddolitrwyddynt, a maddauant o bechodau.
Ie hefyd fe dderchafed felly wag-amcanion, ceremoniau anffrwythlon, cy freithiau anuuwiol, gosodiadau a chynghorau Rufain, yn y fath fodd nad oeddid yn cyffelybu dim iddynt mewn awdurdod, synwyr, dysc a duwloldeb, hyd oni ddywedent y dylyei bawb dderbyn cyfraithiau Rufain, megis y pedwar efangylwr, i'r rhai y dylyei holl gyfraithiau tywysogion roddi lle. Ie ac yr oeddynt o ran hefyd yn gadel heibio ac yn dibriso cyfreithiau Duw, fal y gellid cadw yn dduwiolach, ac anrhydeddu a mwy ostyngeiddrwydd y cyfraithiau, gosodiadau, cynghorau, y traddodiadau a'r ceremoniau hynny. Fal hyn y dallwyd y bobl trwy wedd deg y pethau ymma, fal y tybygent fod vfydd-dod iddynt yn fwy sancteiddrwydd, ac yn berffeiddach gwasanaeth ac anrhydedd i Dduw ac yn bodloni Duw yn fwy nag vfydddod i orchymynion Duw.
Or fath hyn y bu lygredig agwedd dyn, yn ymrhoi yn ofer i wneuthur o'i ben ei hun newydd anrhyddedd i Dduw, ac i fod gwedy hynny yn well ei ewyllys a'i ddefosiwn i gadw hynny nag i chwilio allan am orchymynion Duw, a'i cadw. Ac hefyd i gymmeryd gorchymynion dynion yn lle gorchymynion Duw, a gorchymynion Duw yn lle gorchymynion dynion. Ie gorchymynion dynion yn lle y rhai vchaf, sancteiddiaf a pherffeiddiaf [Page 77] o holl orchmynion Duw. Ac felly yr oedd y cwbl oll yn gymmysc ddigon, fal yr ydoedd yn anodd i wyr dyscedig wybod, ac nid oedd honynt nemmor a wyddai neu a gymerai arno wybod, neu ar y lleiaf a feiddiai ddywedyd y gwirionedd, a gwahanu a dosparthu gorchymynion Duw oddiwrth orchymynion dynion. O hyn y tyfodd llawer o gamsyniaeth, ofergoel, delw-addoliad, gwâg-grefydd camfarn, mawr ymryson a phob anuwiol fywyd.
Am hyn megis y mae gennych zêl at iniawn a phur anrhydedd Duw, fal yr ydychwi yn priso am eich eneidiau eich hunain, ac am y bywyd a ddaw, yr hwn sydd heb na phoen na diwedd, rhoddwch eich hunain vwchlaw pobpeth i ddarllen ac i wrando gair Duw: ystyriwch yn ddiwyd ynddo pa beth a ewyllysia ef i chwi ei wneuthur, ac a'ch holl egni ymhyderwch i ddilyn hynny.
Yn gyntaf rhaidyw bod gennych ddiogel ffydd yn-Nuw, a'ch rhoi eich hunain yn hollol iddo ef, ei garu ef mewn hawddfyd ac mewn adsyd, ac ofni ei odigio ef bob amser. Ac er ei fwyn ef cerwch bawb, ceraint a gelynion, am eu bod yn greaduriad ac yn ddelw iddo, a chwedy i Grist eu prynu megis chwithau. Bwriwch yn eich calonnau pa fodd y gellwch wneuthur daioni i bob dyn yn ol eich gallu, ac na ddrygwch neb, vfyddhewch eich goruwch a'ch llywodraethwyr, gwasaneuthwch eich meistred yn ffyddlon ac yn ddyfal, yn gystadl yn eu gwydd ac yn eu absen, nid rhag ofn cosp yn vnic, ond er mwyn cydwybod, gan wybod eich bod yn rhwymedig i wneuthur felly, trwy orchynmyn Duw.
[Page 78] Nac anufyddhewch eich tadau a'ch mammau, onid anrhydeddwch hwy, cynorthwywch a bodlonwch hwy yn ol eich gallu. Na orthrymmwch, na leddwch, na ffustwch, nac sclawndyrwch neb. Na chashewch neb, onid cerwch bawb, dywedwch yn dda am bawb, cynorthwywch a nerthwch bawb hyd y galloch, ie eich gelynion a'ch cashant chwi, a ddywedant yn ddrwg am danoch, ac a'ch eneiweidiant chwi. Na chymerwch dda neb, na thrachwentwch dda neb yn anghysion, ond byddwch fodlon i'r peth a ennilloch yn gywir, a rhowch eich da eich hunain yn garedigol pan fo rhaid ac achos.
Gwagelwch bob delwaddoliad, swyngyfaredd ac anudon. Na wnewch odineb, anniweirdeb nac vn aflendid, mewn meddwl nac mewn gweithred gydâ gwraig gwr arall, gydâ gweddw, na chydâ merch, neu mewn moddion eraill. Ac wrth drafaelu fal hyn yr hyd y byddoch byw, i gadw gorchmynion Duw (yn y rhai y saif pur odidawg ac iawn anrhydedd Duw, yr hyn os gwnair mewn ffydd yr hon a ordeiniodd Duw i fod yn vniawn ffordd a llwybr i'r nef) ni ffaelwch chwi ddyfod fal yr addawodd ef i'r by wyd didranc bendigedig lle y cewch fyw mewn gogoniant, allawenydd gyda Duw dros fyth▪ I'r hwn y byddo moliant, gogoniant ac ymherodraeth dros fyth ac yn dragywydd. Amen.
¶ Pregeth am gariad perffaith a charedigrwydd Christianogawl.
O' R holl bethau ar ydynt dda eu dangos i Gristionogion, nid oes vn peth mor anghenrhaid son a galw am dano beunydd, ac yw cariad perffaith: cystadl am fod holl weithredoedd cyfiawnder yn gynhwysedig ynddo, ac hefyd am fod diffyg cariad yn wradwydd ac yn gwymp ir byd, yn aethwladaeth rhinwedd, ac yn achos o bob drygioni. Ac yn gymmanit a bod pob dyn haechen yn gwneuthur ac yn llunio cariad perffaith iddo ei hun, yn ol ei ewyllys ei hunan: ac er cased fytho ei fywyd ger bron Duw a dyn, etto fe debyg yn wastadol fod cariad ynddo. Erwydd paham yn awry cewch glywed dosparth ac yspysrwydd goleu cywir o gariad perffaith, nid o ddychymmyg dyn, onid o airiau a siampl ein Iachawdwr Iesu Ghrist: yn yr hwn ddosparth ac hyspysrwydd y dichon pob dyn megis mewn drych ystyriaid, a gweled yn oleu heb gamsyniaeth pa vn yw ai bod mewn gwir gariad perffaith ai nad ydyw.
Cariad perffaith yw caru Duw a'n holl galon, a'n holl fywyd, a'n holl nerth, ac a'n holl rym a'n gallu. A'n holl galon, hynny yw, fod ein calonnau a'n meddyliau a'n myfyrdodau gwedy ymroi i gredu ei air ef, i ymddired ynddo ac i'w garu vwchlaw pob peth a garom orau, yn y nef neu ar y ddaear.
A'n holl fywyd, Hynny yw bod ein llawenydd a'n gorfoledd pennaf gwedy ymroi iddo a'i anrhydedd, a bod ein holl fywyd gwedy ymroi i'w [Page 80] wasanaethu ef vwchlaw pob peth, i fyw ac i farw gydag ef. Ac i ymwrthod a phob peth arall yn gynt nag efe: Canys yr hwn a garo ei dad neu ei fam, ei fab neu ei ferch, ty neu dir yn fwy nâ myfi medd Christ, nid ydyw deilwng o honofi. Math. 10.
A'n holl nerth, hynny yw â'n dwylaw, â'n traed, â'n llygaid, â'n clustiau, â'n geneuau, â'n tafodau ac â holl rym ac a phob rhan o'n cyrph a'u eneidiau y dlyem ymroi i gadw ac i gyflawni ei orchmynion ef. Dymma 'r rhan gyntaf a'r bennaf o gariad, ond nid hyn yw y cwbl.
O herwydd cariad hefyd yw caru pob dyn, da a drwg, car a gelyn, pa achos bynnac a rodder i'r gwrthwyneb, a dwyn ewyllys a chalon dda at bawb, ymddwyn yn dda tu ag at bawb mewn geiriau a golwg, ac ymhob gweithred oddiallan. O herwydd hyn a ddyscodd Christ ei hun ini, a hyn a wnaeth ef yn ei weithredoedd. Dymma fal y dyscodd ef gariad Duw i ddoctor o'r gyfraith yr hwn a ofynnodd iddo pa vn oedd y gorchymmyn mwyaf a'r pennaf yn y gyfraith.
Car dy Arglwydd Dduw medd Christ, â'th holl galon, â'th holl einioes ac â' th holl feddwl. Ac fal Math. 22. hyn y dysc ef ni am y cariad a ddlye fod yn ein plith y naill tuag at y llall; Chwi a glywsoch ddywedyd, Cardy gâr a chashâ dy elyn, ond yr ydwyfi yn dywedyd wrthych, cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r rhai a'ch cashânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel eniwed i chwi ac a'ch erlidiant, fal y byddoch blant i'ch Tad yr hwn sydd yn y nefoedd, canys mae fe yn peri i'w haul dywynnu ar y drwg a'r da, ac yn danfon glaw ar y cyfion a'r anghyfion: canys os Math. 5. 43. 44. &c. chwi a gar y rhai a'ch carant, pa wobr a fydd i [Page 81] chwi? onid ydyw y Publicanod yn gwneuthur yr vn modd? Os chwi a gyferchwch well i'ch brodyr a'ch anwyl geraint pa rogoriaeth yr ydych yn ei wneuthur; onid ydyw y cēhedloedd yn gwneuthur yr vn peth.
Dymma airiau ein Iachawdwr Christ ei hun ynghylch caru ein cymmydogion. Ac yn gymmaint a darfod i'r Pharisęaid â'u melltigedig draddodiadau â'u cam-ddeongliadau, lygru a haŷchen Attal. groni pur ffynnon bywiol air Duw, gan ddyscu bod y cariad perffaith a'r caredigrwydd ymma yn perthyn at geraint gŵr yn vnic, a bod yn ddigon i ddyn garu y sawl a'i câr yntef, a chashau ei elynion. Am hyn fe agorodd Christ ailwaith y ffynnon hon, fe a'i glanhaodd ac a'i carthodd hi, gan roddi i'w wir a'i dduwiol gyfraith cariad, wir ac eglur ddeongliad, yr hon yw, y dlyem ni garu pob dyn, câr a gelyn, gan ddangos hefyd pa fudd a gawn ni o hynny a pha afles o'r gwrthwyneb.
Pa beth a allwn ei ddymuno cystadl ar ein lles a chael gan ein tad nefol ein cyfrif a'n cymeryd yn blant iddo ei hun? A hyn, medd Christ, y byddwn siccr o hono os ni a garwn bob dyn yn ddiwahanol. Ond os ni a wnawn amgen, medd ef, nid ydym well nâ Pharisęaid, Publicanod a chenhedloedd, ac ni a gawn ein gwobr gydâ hwy; hynny yw ein cau allan o rifedi etholedig blant Duw, ac o dragwyddol etifeddiaeth teyrnas nef.
Fal hyn y dyscodd Christ ni am wir gariad, fod pob dyn yn rhwymedig i garu Duw vwchlaw pob peth, ac i garu pob dyn car a gelyn. Ac fal hyn yr ymddug ef ei hun gan gynghori ei elynion, a cheryddu baiau ei gasogion, a phan nas gallai eu gwella hwy, fe a weddiodd drostynt.
[Page 82] Yn gyntaf, fe a garodd Dduw dad vwchlaw pob peth yn gymmaint ac na cheisodd ef na'i ogoniant ei hun na'i ewyllys, onid gogoniant ac ewyllys ei Dad. Nid ydwyf, medd ef, yn ceisio fy Ioan. 5. 3. ewyllys fy hunan, onid ewyllys yr hwn am danfonodd. Ac ni wrthododd ef farw i gyflawni ewyllys Math. 26. 3. ei Dad gan ddywedyd, Os gellir aed y cwppā hwn oddiwrthyf, ac onid ê bydded dy ewyllys di ac nid fy ewyllys i.
Ni charodd ef ei geraint yn vnic, ond ei elynion hefyd, y rhai a ddygent yn eu calonau gasineb anferth yn ei erbyn ef, ac â'u tafodau a ddywedent bob drygioni am dano, ac a'i herlidient ef hyd angau â'u holl allu â'u nerth. Er hynny ni thynnodd ef ei ewyllys da oddiwrthynt, ond fe a'u carodd hwy yn wastad, gan bregethu am gariad iddynt, eu ceryddu am eu camathrawaeth a'u drwgfywyd, fe wnae les a daioni iddynt, gan gymeryd yn oddefgar bob peth ac a ddywedent ac a wnaent yn ei erbyn ef. Pan roddent iddo airiau drwg ni roddod ef iddynt ddrwg airiau ailwaith, pan darawent ef ni tharawodd ef hwy drachefn, a phan oddefodd angau ni laddodd ac ni fygythiodd hwynt. Ond fe a weddiodd drostynt ac a ossododd y cwbl ar ewyllys da ei dad nefol. Ond megis na chyffro y ddafad a ddyger i'r lladdfa, ac megis na wrthwyneba 'r oen a ddyger i'w gneifio, felly yr aeth yntef i'w farwolaeth heb wrthwynebu ac Esai. 53. 7. heb a goryd ei enau i ddywedyd dim drygioni. Act. 8. 32.
Fal hyn y dangosais i'wch pa beth yw cariad, yn gystadl wrth athrawaeth ac wrth siampl Christ ei hun: trwy 'r hyn y dichon pob dyn ei adnabod ei hun yn ddigamsynniaeth, pa stat a chyflwr y mae 'n sefyll ynddo, pa vn a wna ai bod [Page 83] mewn cariad ac felly yn blentyn i'r Tâd o'r nef, ai nad ydyw.
O herwydd er bod pob dyn haychen yn credu ei fod mewn cariad, etto na holed ef neb arall ond ei galon ei hun, a'i fywyd a'i ymddygiad, ac ni thwyllir ef, onid fe a adnebydd ac a farna yn gywir, pa vn a wna ai bod mewn cariad perffaith ai nad ydyw. O herwydd yr vn ni ddilyno ei chwant a'i ewyllys ei hun, ond a ymroddo yn ddifri i Dduw i wneuthur ei holl ewyllys ef a'i orchymynion, siccr yw ei fod ef yn caru Duw yn fwy nâ dim: os amgen, diogel yw nad ydyw yn ei garu ef, pa beth bynnag a gymmero arno: fal y dywaid Christ, Os cerwch fi, cedwch fyngorchymynion: O Ioan. 13. 35. herwydd yr hwn sydd yn gwybod fyngorchymynion ac yn eu cadw, medd Christ, hwnnw a'm car i.
Ac fe a ddywaid ail-waith, Yr hwn a'm car i a gaidw fyngair, a'm tad a'i car yntef, ac ni a ddawn ein dau atto ef, ac a arhoswn gydag ef. A'r hwn ni'm car i, ni cheidw fyngairiau. Ac felly yr hwn a ddygo galon a meddwl da at bawb, ac a arfero ei dafod a'i weithredoedd yn dda at bob dyn, câr a gelyn, fe a ddichon wybod fod cariad yn aros ynddo. Ac yno fe a ddichon fod yn siccr gantho fod yr holl-alluog Dduw yn ei gymmeryd ef yn lle anwyl blentyn, fal y dywaid S. Ioan, Fal hyn yr adwaenir yn eglur blant Duw oddiwrth blant diafol: pwy bynnag ni char ei frawd ni pherthyn Ioan. 4. 7. 8. i Dduw.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gariad perffaith.
CHwi a glywsoch eglur a ffrwythlawn yspysrwydd am gariad, ac mor fuddiol ac mor anghenrheidiol ydyw: pa fodd y mae yn cyrhaeddyd at Dduw a dyn, câr a gelyn, a hynny trwy athrawaeth a siampl Christ: a hefyd pwy a ddichon gwybod am dano ei hun a ydyw ef mewn cariad, ai nad yw. Bellach y canlyn ynghylch yr vn peth.
Mae gwrthgas annian dyn, gwedy ei llygru drwy bechod, a'i nailltuo oddiwrth air Duw a'i ras, yn tybied fod yn erbyn rheswn i ddyn garu ei elynion, ac mae gantho lawer o resymmau yn ei annog i'r gwrthwyneb. Ond yn erbyn yr holl resymmau hynny, y dlyem osod athrawaeth a bywyd ein Iachawdur Christ: yr hwn gan ein caru ni pan oeddem elynion, a ddyscodd ini garu ein gelynion; fe a gymerodd yn oddefgar lawer o dditenwad ac a oddefodd yn ewyllysgar lawer o watwar, ffusto, ac angau creulon hefyd er ein mwyn ni.
Am hynny nid ydym ni aelodau iddo fe, oni chanlynwn ni ef. Fe oddefodd Christ, medd S. Petr, drosom ni gan adel ini siampl i'w ganlyn ef. Hefyd mae 'n rhaid ini ystyriaid nad ydyw caru ein 1. Pet. 2. 20, 21. ceraint ddim amgen nag a wna y lladron, y goddinebwyr, y lladdiaid, a phob rhai drygionus eraill: yn gymmaint a bod yr holl Iddewon, y Twrciaid, yr anghredadwy, ie yr holl anifeiliaid gwylltion yn caru y sawl a'u carant, y rhai y [Page 85] derbyniant eu bywyd neu gymwynasau eraill ganthynt. Ond caru eu gelyn yw cynneddf briodol plant Duw, a discyblon a chanlynwyr Christ yn vnig.
Er bod gwrthgas a llygredig annian dyn yn pwyso yn fynych yn rhy-drwm y drygioni a'r syrhad a wnel ei elyn iddo, ac yn tybied mai baich rhy anrhaith ei oddef yw bod yn rhwym i garu y sawl a'u cashant, ond fe fyddai eu baich hwy esmwyth ddigon, ped ystyriai bob dyn o'r ystlys arall pa niwed a wnaeth ef i'w elyn, a pha ddaioni a dderbyniodd ef oddiwrth ei elyn. Ac os ni ni fedrwn gael cyflawn daledigaeth, nac wrth dderbyn daioni gan ein gelyn, nac wrth dalu drygioni iddo ailwaith: yno pwyswn yr holl ddrygioni a wnaethon ni yn erbyn yr holl-alluog Dduw, mor fynych ac mor dost y digiasom ef: am yr hynn os ni a ewyllysiwn gael gan Dduw faddauant, nid oes ini ymwared oni faddauwn y camweddau a wnaethpwyd yn ein herbyn ni, y rhai nid ydynt ond ychydig a bychain iawn wrth y camweddau a wnaethom ni yn erbyn Duw.
Ac os ystyriwn na haedda yr hwn a wnaeth i ni gamwedd gael maddauant gennym, ystyriwn ailwaith mai llai o lawer yr haeddem ni faddeuant ar law Duw.
Ac er na haedda ein gelyn faddeuant er ei fwyn ei hun, etto ni a ddylyem faddau iddo er cariad ar Dduw, gan ystyriaid pa sawl a pha faint o ddoniau heb ein haeddiant a dderbyniasom ni gantho ef, a bod Christ yn haeddu arnom ninnau er ei fwyn ef faddau iddynt hwy eu camweddau a wnaethant yn ein herbyn ni. Ond ymma y cyfyd cwestiwn anghenrhaid ei atteb. Os ydyw cariad [Page 86] yn gofyn bod i ni dybied a dywedyd, a gwneuthur daioni i bob dyn, da a drwg; pa fodd y gwna llywodraethwyr gyfiawnder ar ddrwg-weithredwyr, a hynny trwy gariad? Pa fodd y gallant daflu dynion drwg i garchar, a dwyn eu da a'u bywyd oddiarnynt, yn ol cyfraithiau, os cariad nis goddef iddynt wneuthur felly?
I hyn y mae atteb eglur byr, Nad ydyw cosp a dial o honynt eu hunain yn ddrwg, os y dieniwed au cymmer hwy yn oddefgar. Ac i'r dyn drwg y maent yn dda ac yn anghenrheidiol, ac fe a ellir mewn cariad, ac fe a ddlyid trwy gariad eu gosod hwy arno.
Er mwyn egluro 'r hyn beth, deallwch fod dwy swydd i gariad, y naill yn wrthwyneb i'r llall, ac etto pob vn o'r ddwy yn anghenrheidiol eu gwneuthur i ddau ryw o ddynnion.
Vn o swyddau cariad yw diddanu gwyr daionus dieniwed, nid gan eu gorthrymmu hwy a cham-achwynion, ond eu dewrhau a'u canmol au cyffro a gobrwyon i wneuthur daioni ac i bara mewn daioni; gan eu amddiffyn hwy â'r cleddyf rhag eu gwrthwynebwyr. A swydd Escobion a bugeiliaid yw canmol gwyr da am y daioni y maent yn ei wneuthur, er mwyn iddynt bara mewn daioni, a cheryddu a chospi trwy air Duw gamweddau a beiau dynion beius drwg.
O herwyd y swydd arall i gariad yw argyoeddi, ceryddu, a chospi pob drygioni, heb edrych ar berson neb: ac fe ddlyid arfer hon yn erbyn pob dyn drwg, a drwgweithredwyr yn vnic. A swydd cariad yw cystadl y naill a'r llall, argyoeddi, ceryddu a chospi y rhai drwg, a chysuro a gobrwyo y daionus dieniwed.
[Page 87] Mae S. Pawl yn manegi wrth scrisennu at y Rhufeiniad gan ddywedyd, fod y galluoedd goruchaf gwedy eu hordeinio gan Dduw, nid i fod yn ofnadwy i'r rhai a wnant dda, onid i'r drwgweithredwyr, Ruf. 13. 13. i dynnu y cleddyf i ddial ar y rhai a wnant bechod. Ac mae S. Pawl yn erchi i Timothi geryddu pechod yn eofn ac yn ddifri trwy air Duw. Fal y dlyid gwneuthur y ddwy swydd yn ddiwall, er ymladd yn erbyn teyrnas diafol, y pregethwr â'r gair, a'r llywodraethwr â'r cleddyf. 1. Timot. 5. 10. Ac onis gwnant nid ydynt yn caru na Duw na 'r rhai y maent yn eu llywodraethu, os hwy eisiau cospi a oddefant ddigio Duw, neu ddifa eu deiliaid.
O herwydd megis y mae pob tad naturiol yn cospi ei fab pan fytho baius, ac onid ê ni char ef mo hono, felly pob rheolwyr teyrnasoedd, gwledydd, trefi a thai a ddylyent yn garedigol gospi y rhai a bechont o fewn eu rheol hwy, a chysuro y rhai a fyddont fyw yn ddieniwed, os hwy a edrychant ar Dduw, neu ar eu swydd, neu a garant y rhai y maent yn eu llywodraethu.
Ac fe ddlyid mewn amser cyfaddas, wneuthur y fath gerydd a chosp yn erbyn y rhai a droseddāt, rhag o hir oedi i'r troseddwyr gwympo lwyr eu pennau i bob rhyw ddrygioni: ac nid yn vnic bod yn ddrwg eu hunain, onid hefyd gwneuthur drwg i lawer o ddynion eraill gan eu tynnu ar eu hol, wrth roddi iddynt siamplau drwg i wneuthur pechod ac anwiredd ar eu hol hwy. Megis y dichon vn lleidr yspeilio llawer, a gwneuthur llawer yn lladron hefyd, ac vn dyn cynhennus hudo llawer ac anrheithio trefn eu gwlad yn hollol.
Ac mae cariad yn gofyn torri ynmaith o gorph [Page 88] y wlad y fath ddynion drwg sydd gyfryw droseddwyr mawrion yn erbyn Duw a'r wlâd, rhag iddynt lygru dynnion honest da. Megis y torr y meddig da ymmaith aelod pwdr, a fytho gwedy methu, o gariad ar y corph i gyd, rhag i'r aelod hwnnw lygru yr aelodau nesaf atto.
Fal hyn y dangoswyd i'wch pa beth yw gwir Gristionogawl gariad perffaith, neu garedigrwydd, mor oleu ac na bytho rhaid i neb gymmeryd ei dwyllo. Yr hwn gariad pwy bynnag a'i cadwo, nid yn vnic tuag at Dduw yr hwn a ddylei ei garu vwchlaw pob dim, ond tuag at ei gymydog hefyd, cystal câr a gelyn, fe a'i ceidw ef yn ddiammau oddiwrth holl lid Duw, a chyfiawn ddigofaint dyn. Dygwch am hynny y wers ferr bon gyda chwi yn dda, Y dlyid trwy wir Gristionogawl gariad garu Duw vwchlaw pob peth, a charu pob dyn, drwg a da, câr a gelyn, ac i bob vn y dylyid gwneuthur daioni yn orau ac y gallom: i'r rhai ydynt ddaionus, o gariad i'w Hyfhau. eofnhau ai sirio hwy, am eu bod yn ddaionus, ac i'r rhai drwg, o gariad annog a cheisio cael eu cospi hwy a'u ceryddu: fal trwy hynny y geller naill ai eu hebrwng hwy i ddaioni, ai ar y lleiaf na ddigier Duw ac na waethyger y wlad drwyddynt.
Ac os ni fal hyn a vniawnwn ein bywyd trwy gariad perffaith a charedigrwydd Christionogawl, yno mae Christ yn addo i ni, ac yn ein siccrhau ei fod ef yn ein caru ni, y cawn ni fod yn blant ei'n tad nefol, wedi ein derbyn eilwaith i'w ffafor ef, ac yn aelodau i Grist, ac yn ol y bywyd byr presennol marwol hwn, y cawn fyw gydag ef yn dragywydd, yn ei dragwyddol deyrnas nefol ef. Am hynny iddo fe gyda'r Tâd a'r Yspryd glan, [Page 89] y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth yn erbyn tyngu anudon.
MAe 'r holl-alluog Dduw, er mwyn bod ei sancteiddiaf enw ef mewn anrhydedd a chael gan y bobl ei fawrhau ef, yn gorchymmyn na chymerai neb ei enw ef yn ofer yn ei enau, gan fygwth cosp ar y rhai a'i camarfero ef yn ddirmygus trwy dyngu anudon a chabledd.
An hyn fal y gwybydder ac y cadwer y gorchymmyn hyn yn well, fe a fanegir i'wch pa fodd y mae 'n gyfraithlon i Gristionogon dyngu, a pha berigl sydd o dyngu 'n ofer neu yn anudon.
Yn gyntaf pan fo barnwyr yn gofyn llw i'r bobl er mwyn manegi ac agoryd y gwirionedd, neu er gwneuthur cyfiawnder, mae 'r cyfryw lw yn gyfraithlon.
Hefyd, pan fo gwyr yn gwneuthur addewidion ffyddlon, gan alw enw Duw yn dyst i gadw cyfammodau ac addewidion honest, statudau, cyfraithiau, defodau daionus, megis y gwna tywysogion Christionogawl yn eu cyfvndebau heddwch, er cadwedigaeth eu gwledydd, ac megis y gwna pob rhyw o ddynion addewidion ffyddlon mewn priodasau y naill i'r llall mewn honestrwydd a gwir gymdeithas: a phawb pan font yn tyngu cadw cyfraithiau cyffredinawl, ordeiniadau a defodau daionus, er cadw a chynnal trefn ymhlith dynnion; pan dyngo deiliaid ar fod yn gywir ac yn ffyddlon i'w brenhinioedd a'u harglwyddi. [Page 90] Pan fo barnwyr, llywodraeth-wyr a swyddogion yn tyngu gwneuthur eu swyddau yn gywir: a phan fytho gwr yn dywedyd gwir er gosod allan ogoniant Duw, ac er Iechydwriaeth i'r bobl, wrth bregethu 'r efangyl yn gyhoeddus, neu wrth rhoddi yn ddirgel gyngor er iechyd eneidiau.
Mae 'r holl fatheu hyn a'r lwaint a thyngu mewn pethau honest anghenrheidiol yn gyfraithlon. Ond pan fytho rhai yn tyngu o arfer wrth resymmu, wrth brynu, gwerthu, a phob ymddiddan beunyddol arall, megis y mae llawer yn dyngwyr mawr arferol, mae'r fath dyngu yn annuwiol, yn anghyfraithlon, ac yn waharddedig wrth orchymmyn Duw. O herwydd nid ydyw y fath dyngu ddim amgen nâ chymmeryd enw Duw yn ofer.
Ac ymma ni a ddylyem weled na waharddwyd llw cyfraithlon, eithr ei orchymmyn ef gan yr holl-alluog Dduŵ. O herwydd mae gennym siampl ein Iachawdwr Christ, a gwyr duwiol eraill yn yr Scrythur sanctaidd, y rhai eu hunain a dyngasont, ac a ofynasont lwau gan rhai eraill hefyd. A gorchymyn yr arglwydd yw, Ti a ofni dy Arglwyd Dduw ac a dyngi i'w enw ef. Deut. 10. 20.
Ac mae 'r holl-alluog Dduw yn dywedyd trwy ei brophwyd Dafydd, fe a ganmolir pawb a dyngo Psal. 63. 11. iddo ef. Fal hyn y tyngodd ein Iachawdwr Christ yn fynych gan ddywedyd, Yn wir, yn wir. Ioan. 3. 11. Ac mae S. Pawl fal hyn yn tyngu, Yr ydwyf yn 3. Cor. 1. 23. galw Duw yn dyst. A phan ydoedd Abraham yn heneiddio fe a ofynnod gan ei was lw ar fynnu gwraig i'w fab Isaac yr hon fyddai o'i genedl ef Gene. 24. 3. ei hun: ac fe a dyngodd y gwas yn ebrwydd ar gyflawni ewyllys ei feistr. A phan geisiwyd gan Abraham, [Page 91] fe a dyngodd wrth Abimelec brenin Gerar, Genes. 21. 23. na wnai fe eniwed iddo nac i'w eppil. Ac felly y tyngodd Abimelec i Abraham hefyd. Ac fe dyngodd Dafydd y parhae fe yn gyfaill ffyddlon i Ionathan, ac a dyngodd Ionathan a'r fod yn gydymmaith ffyddlon i Ddafydd hefyd.
Fe a orchymynnod Duw os gwystlid vn peth i neb, neu adel peth ynghadw, os y peth hwnnw a ledrattid neu a gollid, y dlyid tyngn y ceidwad hwnnw ger bron barnwyr, na ledrattasai fe mo hono, ac na wnelsai fe dwyll, gan beri i neb ei ddwyn ef ymmaith, trwy ei gyfvndeb neu ei gydnabyddiaeth ef. Ac mae S. Pawl yn dywedyd, Heb. 6. 16. ymmhob ymryson rhwng dwy blaid, lle bytho vn yn dywedyd ie, ar llall nag êf, fal na ellir gwybod y gwirionedd, llw a roddo barnwr a ddlyei ddiweddu y fath ymryson. Ac hefyd Duw a ddywaid trwy y prophwyd Ieremi, Ti a dyngi byw yw yr Ier. 4. 2. Arglwydd, mewn gwirionedd, mewn barn, ac mewn cyfiawnder.
Fal pwy bynnac a dyngo pan fytho 'r barnwr yn gofyn iddo lw, bydded a chydwybod siccr fod y tri pheth hyn yn ei lw ef, ac nid rhaid iddo ofni byth Anudonrwydd. anudon.
Yn gyntaf rhaid i'r hwn a dyngo, dyngu mewn gwirionedd, hynny yw gan ddodi heibio bob ffafwr a phob ewyllys nerthu vn o'r ddwy blaid, rhaid iddo osod y gwirionedd yn vnic ymmlaen ei lygaid, ac o gariad ar hwnnw rhaid iddo ddywedyd y peth a ŵyr ef ei fod yn wir, ac heb ddywedyd dim ymhellach.
Yn ail, mae 'n rhaid i'r neb a gymero llw, ei wneuthur mewn barn, nid yn yscafn heb synnaid beth a wnelo, onid yn ystyriol gan ystyriaid pa [Page 92] beth yw llw. Yn drydydd, mae 'n rhaid i'r neb a dyngo dyngu mewn cyfiawnder, hynny yw er mwyn y zêl a'r cariad y mae ef yn ei ddwyn i ymddiffyn y dieniwed, i faentaeno 'r gwir ac i gyfiawnder yr achos, gan roi heibio bob ennill a cholled, pob cariad a ffafwr, er cyfeillach neu garennydd i'r vn o'r ddwy blaid.
Fal hyn y mae llw os ydyw ynddo y tri pheth hyn, yn rhan o ogoniant Duw, yr hon yr ydym ni rhwymedig wrth orchymmyn Duw i'w rhoddi iddo. O herwydd mae fe 'n gorchymmyn ini dyngu yn vnic i'w enw ef. Nid am ei fod ef yn chwenychu ini dyngu, onid megis y gorchymynnodd ef i'r Iddewon offrwm aberthau iddo, nid am ei fod yn hoffi offrymmau, onid i gadw yr Iddewō rhag delw-addoliad. O blegid wrth orchymmyn ini Esai 42. 8. Psal. 115. 1. dyngu i'w enw sanctaidd ef, nid ydyw yn ein dyscu fod yn hoff gantho lw, onid trwy hynny mae fe 'n gwahardd rhoddi ei ogoniant ef i vn creadur yn y nef yn y ddaear neu 'r dwfr. Hyd hyn y clywsoch i Dduw orchymmyn llwon cyfraithlon, i'r patriarchau, y prophwydi, Christ ei hun, a'i Apostol Pawl arfer llw. Ac am hyn y dlyei Gristionogion dybied fod llwau cyfraithlon yn dduwiol, ac yn anghenrheidiol. O herwydd trwy addewidion a chyfammodau gwedy eu cadarnhau trwy lw, mae tywysogion a gwledydd yn cael eu cadarnhau mewn llonyddwch a heddwch. Trwy addewidion sanctaidd a galw enw Duw yn dyst, y'n gwnair ni yn aelodau bywiol i'n Iachawdwr Christ, pan addefom ei grefydd wrth dderbyn sacrament y bedydd. Trwy y cyffelyb addewid sanctaidd y mae dirgelwch priodas yn rhwymo gŵr a gwraig mewn cariad an-nherfynol, fal nad ydynt [Page 93] yn chwennych yscar er vn gwrthwyneb ac a ddichon ar ol hynny gwympo.
Trwy lwau y rhai a dwng brenhinoedd, tywysogion, barnwyr a llywodraethwyr, yr ydys yn cadw cyfraithiau cyffredinawl heb halogi, yr ydys yn gwneuthur cyfiawnder i bawb yn ddiwahaniaeth, yr ydys yn gwared y dieniwed, y plant ymddifaid, y gwragedd gweddwon, a'r tlodion, oddiwrth lofryddwyr, gorthrymwyr a lladron, rhag iddynt gael cam neu eniwed.
Trwy lwau cyfraithlon y cedwir yn wastadol mewn trefn dda gyfeillach a chariad rhwng y naill a'r llall, ymhob gwlad a dinas a thref a phentref.
Trwy lw cyfraithlon y chwilir allan ddrwg weithredwyr, y cospir y camweddus, ac yr adferir y rhai a oddefant gam i'w cyfiawnder ailwaith. Am hynny ni ddichon llw cyfraithlon fod yn ddrwg, yr hwn sydd yn dwyn gydag ef cymmaint o gymmwynasau daionus anghenrheidiol.
Am hyn, lle mae Christ mor ddifrif yn gwahardd tyngu, ni ddlyid deall dim o hano fal pe byddai yn gwahardd pob rhyw lw, ond mae fe 'n gwahardd pob ofer dyngu i Dduw, neu greaduriaid, a phob tyngu anudon, fal y mae yr arfer o dyngu yn gyffredinol wrth brynu a gwerthu, ac yn ein beunyddol ymddiddan, er dangos y dylaid cymmeryd gair pob Christion yn y fath bethau cystadl a phe byddai gwedy cadarnhau ei ymddiddan â llw.
O herwydd medd S. Ierom, fe ddlyei air pob Christion fod mor wir ac y gellid i gymeryd ef megis llw. A Chrysostom a destiolaetha yr vn peth, ac a ddywaid, Nid gweddus ini dyngu, o herwydd [Page 94] pa raid tyngu gan nad yw gyfraithlon i vn o hanom ddyweddyd celwydd wrth y llall?
Fallai y dywedai vn, yr ydys yn fynghymmell ac yn fyngyrru fi i dyngu, o herwydd oni wnafi felly, ni chred y rhai a ymddiddanant â mi, a'r rhai a brynant ac a werthant gydâ mi ddim honofi. I hyn y mae Chrysostom yn atteb fod yr hwn sydd yn dywedyd felly, yn dangos ei fod ei hun yn ddŷn anghyfiawn twyllodrus. O herwydd pe byddai fe cyfiawn, a'i airiau a'i weithredoedd yn cyduno, ni byddai raid iddo dyngu byth. O herwydd yr hwn a arfero gwirionedd a chyfiawnder yn ei ymddiddan a'i fargennon, nid rhaid iddo trwy: ofer dyngu wneuthur i'w gymydogion i gredu, ac ni wan-ymddired ei gymmydog ddim ei eiriau ef. Ac os bydd gwedy myned heb goel arno mor llwyr ac na choelia neb o hano heb dyngu, gwybydded yntef ei fod ef gwedy myned yn llwyr heb goel arno.
O herwydd gwir yw, fal yr scrifenna Theophylactus, nad ymddiredir llai i neb nag i'r vn arfero mynych dyngu. Ac mae 'r holl-alluog Dduw yn dywedyd trwy 'r gŵr call, y bydd y gŵr a dyngo llawer yn llawn o bechod, ac nad ymâd gwialen Duw oddi vwch ben ei dŷ ef.
Ond fe ddywaid rhai er escuso ei haml lwau yn eu beunyddol ymadroddion, pa ham na thyngafi a minuau yn tyngu 'r gwir? Etto er eu bod yn tyngu 'r gwir, nid ydynt hwy heb fai am eu bod yn tyngu yn fynych, yn ddiystyr, am bethau diffrwyth, heb fod yn rhaid, a phan na ddlyent dyngu, ond y maent yn cymmeryd fancteiddiaf enw Duw yn ofer. Annuwiolach ac anghallach o lawer ydyw y rhai a gamarferant sancteiddiaf enw [Page 95] Duw, nid yn vnic wrth brynu a gwerthu pethau gwael diffrwyth baunydd ymhob lle, onid hefyd wrth fwyta, yfed, chware, chwedleua, ac ymddadleu; megis pe na allid gwneuthur vn o'r pethau hyn onis gwneid trwy arfer a chamarfer enw Duw, trwy son am dano yn ofer, ac yn amharchus, ie trwy dyngu a thyngu anudon iddo, er torri ei orchymmyn ef a thynnu arnom ei ddigofaint ef.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am dyngu.
FE ddangoswyd i'wch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn tyngu ac Anudonrwydd. anudon, pa berigl mawr y sydd o gymmeryd enw Duw yn ofer: ac nad yw pob llw yn anghyfraithlon, nac yn erbyn gorchymmyn Duw: a bod tri pheth yn anghenraid ymmhob llw cyfraithlon.
Yn gyntaf, tyngu o honom er maenteinio 'r gwir.
Yn ail tyngu honom mewn barn, nid yn ddibris, ac yn ddiofal.
Yn drydydd er cariad ar gyfiawnder.
Chwi a glywsoch pa leshâd a ddaw o lwau cyfraithlon, a pha enbeidrwydd sydd o lwau anghyfraithlon: bellach ynghylch chwaneg o'r vn peth, deallwch, fod y rhai a wnant addewidion cyfraithlon o bethau da honest ac heb eu cyflawni, yn cymmeryd enw Duw yn ofer, cystal â'r rhai a wnant addewidion o bethau drwg anghyfraithlon, ac a'u cyflawnant.
[Page 96] Yr ydym yn darllen yn yr Scrythur lân am ddau gosp cyhoeddus ar y rhai ni ofalant gadw addewidion duwiol, ond a'u torrant hwy trwy wybod ac yn ewyllysgar, er eu bod hwy yn rhwymedig trwy lw i'w cadw hwy.
Yn gyntaf, fe wnaeth Iosua a phobl Israel gyfvndeb ac a ddewid ffyddlon o gariad a chyfeillach Iosua. 9. 3. tragwyddol â'r Gibioniaid, etto yn ol hynny yn amser Sawl felldigedig fe laddwyd llawer o'r Gibioniaid ymma, yn erbyn yr addewid ffyddlon honno. Am hynny y digiodd Duw mor greulon fal y danfonodd ef newyn cyffredinol ar yr holl wlad, yr hwn a barhaodd dros dair blynedd. Ac ni thynne Duw ei gosp nes iddo ddial y camwedd hynny trwy farwolaeth saith meibion neu geraint nesaf Sawl.
A phan wnaeth Zedechias brenin Ierusalem addewid o ffyddlondeb i frenin Chaldea. Pan wrthryfelodd Zedechias yn erbyn brenin Nabucadnezar yn wrthwyneb i'w lw a'i vfydd-dod, trwy fod Duw yn goddef fe a orchfygodd y brenin 2. Bren. 24. 17. A'r. 25. 1. anghredadwy hwnnw wlad Iudęa, fe a warchaodd y ddinas Ierusalem, ac a yrrodd frenin Zedechias i gilio, ac wrth gilio a'i daliodd ef yn garcharwr, a laddodd ei feibion ef ymmlaen ei wyneb, ac a dynnodd ei ddau lygad ef, a'i rhwymodd ef â chadwynau, ac mewn modd gresynol a'i dug ef yn garcharwr i Babilon.
Fal hyn y dengys Duw yn eglur mor gas gantho y rhai a dorrant eu haddewidion honest a rwymer trwy lw, ac a wnaer yn ei enw ef. Ac o'r rhai a wnant trwy lw addewidiou drwg ac a'u cyflawnant, mae ini siamplau yn yr Scrythur lân am Herod, am yr Iddewon melldigedig, ac am [Page 97] Iephthah. Herod a addawodd trwy lw i'r llances a ddawnsiodd ger ei fron ef, y rhoddai iddi beth bynnac a ofynnai: a hithe wedi ei haddyscu gan ei mam a ofynnodd ben S. Ioan fedyddiwr. Herod Math. 14. 7. fal y daroedd iddo wneuthur llw drwg, a gyflawnodd ei lw yn waeth, ac yn greulon a laddodd y prophwyd sanctaidd.
Felly y gwnaeth yr Iddewon cenfigennus lw, gan eu rhegi eu hunain os hwy a fwytaent neu a Act. 23. 12. yfent hyd oni laddent Pawl.
Ac fe wnaeth Iephthah yn ol i Dduw roddi iddo orvwchafiaeth ar feibion Ammon, adduned ynfyd, ar offrymmu i Dduw yn aberth y peth cyntaf a Barn. 11. 30, 31, 35, 39. gyhwrddai ag ef o'i dŷ ei hun, yn ôl ei ddyfod adref. Trwy rym yr hwn lw ynfyd byrbwyll y lladdodd ef yn ansynhwyrol ac yn ynfyd ei vnic ferch ei hun, yr hon a ddaethai o'i dy ef allan mewn llawewydd a gorfoledd i'w groesewi ef adref. Fal hyn y cyflawnodd ef yn dra chreulon yr adduned a wnaethai ef yn ynfyd, yn erbyn tragwyddol ewyllys Duw a chyfraith natur, gan droseddu yn erbyn Duw yn ddau-ddyblyg.
An hynny pwy bynnac a wnelo addewid trwy lw, synned fod y peth y mae yn ei addo yn dda, yn honest ac heb fod yn erbyn gorchymmyn Duw, ac y gall ef ei hun ei gwblhau ef yn gyfiawn. A'r fath addewidion da mae 'n rhaid i bawb eu cadw byth yn siccr.
Ond os gwna neb lw vn amser, naill ai o anwybod ai o genfigen ar wneuthur peth a fyddo yn erbyn cyfraith yr holl-alluog Dduw, neu 'r peth ni all ef ei gyflawni ei hun, gwybydded fod y llw hwnnw yn llw annuwiol anghyfraithlon.
Ac bellach i ddywedyd peth am dyngu anudon [Page 98] er mwyn i chwi gael gwybod faint a blined bai yw anudon ewyilysgar yn erbyn Duw, mi a ddangosaf i'wch pa beth yw cymmeryd llw ar lyfr ger bron barnwr.
Yn gyntaf, pan font yn tyngu gan ddodi eu dwylaw ar lyfr yr efangyl, i ymofyn ac i bresentio yn gywir y pethau a ofynnir iddynt, ac na rwystrer hwy i ddywedyd gwirionedd, ac i wneuthur iniawnder, nac er ffafor nac er cariad, nac er ofn nac er cenfigen at vn dyn mwy nâ'i gilydd, fal yr helpo Duw hwy a'r pethau a gynhwyser yn y llyfr hwnnw: rhaid iddynt y styriaid y cynhwysir yn y llyfr hwnnw dragwyddol wirionedd Duw, ei sancteiddiaf a'i anherfynol air ef, trwy 'r hwn y derbyniwn faddauant o'n pechodau, ac y'n gwneir yn etifeddion tyrnas nef, i fyw gydag angylion a saint Duw dros fyth mewn didrange lawenydd a gorfoledd.
Yn llyfr yr efengyl hefyd y cymhwysir tost fygythau Duw yn erbyn pechaduriaid ystyfnig, y rhai ni wellant eu bywyd, ac ni chredant wirionedd sanctaidd air Duw, a'r tragwyddol boenau a baratowyd yn vffern i ddelw-addolwyr, rhagrithwyr, celwyddog ac oferdyngwyr, anudonwyr, gau-dystion, condemnwyr y difeius, dieniwed, ac i'r rhai o ffafwr a guddiant faiau drwg-weithredwyr rhag iddynt gael eu cospi.
Megis pwy bynnac yn ewyllysgar a dyngo anudon ar sanctaidd efengyl Ghrist, maent hwy yn hollol yn ymwrthod â thrugaredd Duw, ei ddaioni ef, a'i wirionedd, haeddiant ganedigaeth, bywyd, dioddeifaint, marwolaeth, ailgyfodiad, ac escyniad ein Iachawdwr Christ: maent yn gwrthod maddauant o'u pechodau a addawyd i [Page 99] bob pechadur etifarus, llawenydd nef a thragwyddol gyfeillach sainct ac angylion. Yr hyn ddoniau a diddanwch a addawyd yn yr efengyl i wir Gristianogion, ac wrth dyngu felly anudon ar yr efengyl, maent yn ymroi i wasanaethu diawl, meistr pob celwydd, ffalster, twyll, ac Thyngu anvdon. anudon, gan annog mawr lid a melldith Dduw yn eu herbyn yn y byd hwn, Echrydus. erchyll ddigofaint a barn ein Iachawdwr Christ a 'r ddydd y farn ddiwethaf, pan farno ef yn gyfiawn y byw a'r meirw, yn ol eu gweithredoedd.
O herwydd pwy bynnac a ymwrthodo â'r gwirionedd er cariad neu genfigen i vn dyn, neu er elw ac ennill iddo ei hun, mae fe 'n ymwrthod â Christ, ac megis Iudas yn ei fradychu ef. Ac er bod yn awr yn ddirgel geudod y fath anudonwyr, etto fe a gyhoeddir yn y dydd diwethaf, pan gyhoedder dirgelion calonnau pawb i'r holl fyd. Ac yno yr ymddengys y gwirionedd ac a'u cyhudda hwynt, a'u cydwybod eu hun, a holl gwmpeini nef yn dwyn testiolaeth yn eu herbyn hwy. Ac fe a'u barna Christ y barnwr cyfion hwy yn gyfiawn y pryd hynny i ddidranc gywilydd, fal y mae 'r holl-alluog Dduw drwy enau y Prophwyd Malachi Mal. 3. 5. yn bygwth cospi y pechod hwn o dyngu anudon yn dost, gan ddywedyd wrth yr Iddewon, mi a ddauaf i'r farn ac a fyddaf dyst ebrwydd, a barnwr llym, yn erbyn dewinion, goddinebwyr, ac a nudonwyr.
Yr hwn beth a ddangosodd Duw mewn gweledigaeth i'r Prophwyd Zachari, pan welodd efe Zach. 5. 3. yr hedfanog lyfr, yr hwn oedd vgain cufydd o hŷd, a deg o led, gan ddywedyd wrtho, dymma 'r felldith a aiff allan ar wyneb y ddayar am anghyweirdeb, [Page 100] gau lwaint, a thyngu anudon. A'r fenlltith hon a aiff i mewn i dy y twyllwr ac i dŷ 'r anudonwr, ac a erys ynghenol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a choed a cherrig ei dŷ ef. Fal hyn y clywch gymmaint y mae Duw yn cashau Anudôf [...] rwydd. anudon, a pha gosp a ddarparodd Duw i gamdyngwyr, ac anudonwyr.
Fal hyn y clywfoch pa fodd, ac ar ba achosion y mae 'n gyfraithlon i Gristionogion dyngu: chwi a glywsoch pa gynheddfau a champau a ddylei fod mewn llw cyfraithlon, ac fel y mae llyau cyfraithlon yn dduwiol ac yn anghenrhaid eu cadw.
Chwi a glywsoch nad cyfraithlon tyngu yn ofer, hynny yw nid mewn vn modd onid ar yr achosion, ac yn y modd y manegwyd i'wch.
Yn ddiwethaf chwi a glywsoch mor ddamnedig yw tyngu anudon, neu gadw llw a wneler mewn byrbwyll neu yn anghyfraithlon. Am hynny galwn am rad Duw yn ddifrif fal y gallom osod heibio bob ofer dyngu, a thyngu anudon, ac arfer yn vnic lwau cyfraithlon duwiol, a chadw y rhai hynny yn ddihocced yn ol bodd ac ewyllys Duw: i'r hwn gydâ 'r Mâb a'r Yspryd glân y byddo anrhydedd a gogoniant. Amen.
¶ Pregeth yn dangos mor enbaid yw cwympo oddiwrth Dduw.
MAe 'r gwr call yn dywedyd mai balchedd Eccl. 10. 13, 14. oedd ddechreuad ein mynediad ni oddiwrth Dduw. O herwydd trwy falchedd y troed calon dŷn oddiwrth Dduw ei wneuthurwr. Balchedd medd ef yw dechreuad pob pechod: fe fydd yr hwn sydd a hi gantho yn llawn o regau, ac yn y diwedd hi a'i Difa. difetha ef. Ac megis trwy falchedd a phechod yr ydym ni yn myned oddiwrth Dduw, felly y mae Duw a phob daioni yn myned oddiwrthym ninnau.
Ac mae 'r prophwyd Osee yn dangos yn oleu ac yn eglur eu bod hwy yn trafaelu yn ofer, y rhai sy yn myned oddiwrth Dduw trwy fywyd drwg, ac etto er hynny a geisiant ei lonyddu a'i fodloni ef ag offrymmau. O herwydd er eu holl offrymmau hwy, mae ef yn myned fyth oddiwrthynt. Yn gymmaint medd y prophwyd, ac nad ydynt yn gosod eu meddiliau i droi at Dduw, er eu bod hwy yn ceisio 'r Arglwydd â Diadellau. praiddiau. llocceidiau o ddefaid, a gyrfae o wartheg, etto ni chyhwrddant ddim ag ef, o blegid fe aeth y mmaith oddiwrthynt.
Ond am ein troad ni at Dduw neu oddiwrth Dduw, deallwch y gellir gwneuthur hynny mewn llawer o ffyrdd. Weithiau yn vniawn trwy ddelwaddoliad, megis y gwnaeth Israel a Iudah y tro hynny. Weithiau yr aiff dynion oddiwrth Dduw o eisiau ffydd, ac o achos gwan-ymddired yn-Nuw: am y rhai y dywaid Esai yn y modd ymma, Gwae y rhai a ânt i wared i'r Aipht [Page 102] i geisio nerth, gan ymddiried mewn cephylau a Esai. 31 1. gobeithio mewn rhifedi cerbydau, ac mewn nerth a gallu marchogion: nid oes ganthynt obaith yn sanctaidd Dduw yr Israel, ac ni cheisiant yr Arglwydd. Ond pa beth a ganlyn? fe a âd yr Arglwydd ei law i gwympo arnynt, a'r cynorthwywr a'r hwn a gynorthwyir a ddinistrir ynghyd.
Weithiau yr à dynnion oddiwrth Dduw trwy Ver. 3. escaeuluso gorchymmyn Duw tuag at eu cymydogion, y rhai a orchymynant iddynt ddangos cariad o'u calonnau at bob dyn, fal y dywaid Zachari wrth y bobl o blaid Duw. Rhowch inion farn, Zach▪ 7. 9, 10. dangoswch drugaredd a thosturi bob vn i'w frawd, na feddyliwch dwyll i'r weddw, i'r plant ymddifaid, i'r dieithriaid neu i'r tlodion: na lunied neb ddrygioni yn ei galon yn erbyn ei frawd.
Ond m phrisasont ar y pethau hyn, hwy a droesant eu calonnau ac aethōt ymmaith, hwy a gaesant eu clustiau fel na clywent, hwy a galedasant eu calonnau megis carreg adamant, fal na wrandawent air yr Arglwydd yr hwn trwy ei Yspryd sanctaidd a ddanfonasai ef gydâ 'r hên brophwydi: am hyn y dangosodd yr Arglwydd ei fawr ddigofaint arnynthwyntau. Fe ddaeth, medd y prophwyd Iere. 9. 16. Ieremi, fal y dywedais wrthynt, fal na wrandawsant hwy, felly pan weddiasant hwy ni warandawyd hwyntau: ond hwy a wascarwyd i'r holl ddinasoedd, y rhai nid adwaenent, gwnaethpwyd eu tir hwy yn anialwch.
Ar ychydig airiau, cynnifer ac na allant aros gair Duw, ond a ddilynant ryfyg ac ystyfnigrwydd eu calonnau eu hunain, a ânt yn eu hol ac nid yn eu blaen: (fal y dywaid Ieremi) maent yn Ierer [...]. 7. [Page 103] myned ac yn troi ymmaith oddiwrth Dduw. Ac fe ddywaid Origen, mai hwnnw sydd yn troi at Dduw yr hwn â'i feddwl, a'i astudrwydd, a'i weithredoedd â bwriad ac â gofal a'i rhoddo eu ei hun i air Duw, ac a feddylio am ei gyfraith ef ddydd a nos: a'i rhoddo ei hun yn hollol i Dduw, ac a ymarfero yn ei ddeddfau ai orchymmynion ef. Ac o'r rhan arall fe ddywaid, Pwy bynnag a ymarfero a chwedleu ofer, pan draether gair Duw, mae hwnnw yn troi oddiwrth Dduw. Pwy bynnag pan darllenir gair Duw sydd yn gofalu yn ei feddwl am bethau bydol, am arian, neu am ennill, fe a droed hwnnw oddiwrth Dduw yn gwbl. Pwy bynnag a rwyder a gofalon am feddiannau, a lenwer a thrachwant cyfoeth: pwy bynnag a fyfyrio am ogoniant ac anrhydedd y byd hwn, hwnnw sy wedi troi oddiwrth Dduw.
Megis, yn ei dŷb ef, pwy bynnac nid yw a'i feddwl yn vnig ar y peth y mae Duw yn ei orchymmyn, ac yn ei ddangos, y sawl ni wrandawo ar hynny, nas braicheidio hynny, ac nis printio yn ei galon, o lwyr fwriad ar drefnu ei fywyd yn ol hynny, fe a drodd hwnnw yn llwyr oddiwrth Dduw, er ei fod yn gwneuthur pethau eraill o'i ddefosiwn a'i feddwl ei hun, y rhai yn ei olwg ef sydd well, ac yn dwyn i Dduw fwy o anrhydedd.
Mae 'r sanctaidd Scrythur yn dangos ini fod hyn yn wir wrth siampl brennin Sawl, yr hwn 1. Sam. 15. 1. pan ddaroedd i Dduw trwy Samuel orchymmyn iddo, ladd yr holl Amaleciaid a'u dinistrio 'n gwbl, a'u da, a'u hanifeiliaid, etto o ran trugaredd, ac megis yr ydoedd ef yn tybied, o ran defosiwn at yr Arglwydd Dduw, fe a gadwodd y brenin Agag, a holl oreuon eu hanifeiliaid hwy i [Page 104] wneuthur o honynt aberth i'r Arglwydd Dduw.
Am yr hwn beth fe ddigiodd Duw yn greulon ac a ddywad wrth y prophwyd Samuel, Yr ydwyf yn etifaru imi wneuthur Sawl yn frenin, o herwydd fe a'm gwrthododd i ac ni chanlynodd fyngairiau. Ac fe a orchmynnodd i Samuel ddangos hynny iddo: a phan ofynnodd Samuel iddo paham yn erbyn gair yr Arglwydd y cadwasai fe yr anifeiliaid, fe escusodd y peth, o ran o herwydd ofn, gau ddywedyd na feiddiai wneuthur amgen, o blegid y bobl a fynnai wneuthur felly: ac mewn rhan fe a feddyliodd y byddai Dduw bodlon am ei bod hwy yn anifeiliaid teg ac yntef yn eu cadw hwy o feddwl a bwriad da i anrhydeddu Duw â'r aberthau a wnaid o honynt.
Ond Samuel, gan geryddu y fath fwriadau a defosionau er maint y tybyger eu bod yn anrhydeddu Duw, oni chytunant â'i air ef, trwy 'r hwn yn vnig y gallwn wybod ei ewyllys ef, fe a ddywaid fal hyn, A fynnai Dduw offrymmau ac aberthau, V. 22. ai ynte vfydd-dod i'w air? vfydd hau sydd well nag aberth, a gwrando arno sydd well na brasder hyrddod: ie mae gwrthwynebu ei laferydd ef megis pechod dewiniaeth, a bod heb gytuno â'i air ef yn debyg i gas ddelwaddoliad. Ac yn awr yn gymmaint ac iti daflu ymmaith air yr Arglwyddl, y'th daflodd yntef dithau ymmaith fal na byddych brenin.
Trwy 'r holl siamplau hyn o'r Scrythur lân y gallwn weled, os gadwn ni Dduw, y gad yntef ninnau. Ac fe ddichō dyn yn hawdd ystyriaid wrth fygythiau Duw pa flinderau a ganlynant yn ddiogel ddigon ar ol hynny.
Ac er nad ystyrio ef yr holl flinderau hyn hyd yr [Page 105] eithaf, y rhai sydd gymmaint ac nas gall vn dyn eu hystyriaid hwy yn gwbl ddigon: etto fe ddeall yn hawdd gymmaint o honynt ac a bair iddo ofni a chrynu ac echrydio wrth eu cofio hwy, oni bydd ei galon ef yn galettach nâ'r garreg Adamant.
Yn gyntaf yr ydys yn dangos digofaint Duw tuag attom ni yn yr Scrythur lân wrth y ddau beth hyn, wrth ddangos ei wedd ef a'i wyneb yn ofnadwy arnom, ac wrth droi neu guddio ei wyneb oddiwrthym.
Wrth ddangos ei wyneb yn ofnadwy yr arwyddocair ei ddirfawr lid ef.
Wrth droi neu guddio ei wyneb, yr arwyddocair yn fynych ei fod ef yn hollol yn ein gwrthod ni ac yn ein rhoi ni i fynydd.
Yr ymadroddion hyn a ddywedir wrth gyffelybiaeth cynheddfau dynnion. O herwydd mae dynnion fynychaf yn dwyn gwedd ddaionus siriol garedig tuag at y rhai y maent yn eu caru, megis wrth y wedd neu 'r wyneb yr ymddengys ond odid pa ewyllys a meddwl a ddwg ef at eraill.
Wrth hynny pan yw Duw yn dangos ei wedd yn ofnadwy tuag attom, hynny yw pan fytho 'n danfon ei ofnus blaau, cleddyf, newyn neu Nodau. gowyn arnom, mae 'n eglur ei fod ef gwedy digio 'n greulon wrthym. Ond pan fytho ef yn tynnu oddiwrthym ei air, iawn athrawaeth Christ, ei rasol nerth a'i gynhorthwy (yr hwn a gydsylltir yn wastad â'i air ef) ac yn ein gadel ni i'n synhwyrau a'n ewyllys a'n gallu ein hunain, mae fe y pryd hynny yn dangos ei fod yn dechrau ein gwrthod ni.
Cans lle dangosodd Duw i bawb a wir gredant ei efengyl ef wyneb ei drugaredd yn Iesu Grist, yr [Page 106] hwn sydd felly yn goleuo eu calonnau fal (os edrychant arno megis y dlyent) y mae fe yn ei troi hwy yn rhith ei ddelw ei hun, yn eu gwneuthur yn gyfrannogion o'r goleuni nefol, ac o'i Yspryd glân, ac yn eu cyd-ffurfio hwy ag ef ei hun ymmhob daioni anghenrhaid i blant Duw: felly os hwy ar ol hynny a esceulusant hynny, os byddant anniolchgar iddo, oni threfnant eu bywyd yn ol ei siampl a'i athrawaeth ef, ac i osod allan ei ogoniant ef, fe a dyn ymmaith oddiwrthynt ei deyrnas, ei sanctaidd air, trwy yr hwn y dlye dyrnasu ynddynt, am nad ydynt yn dwyn y ffrwyth y mae fe yn disgwyl am dano. Etto mae fe mor drugarog ac mor oddefgar ac nad ydyw yn dangos ei fawrlid arnom yn ddisymmwth.
Ond pan dechreuom ni laesu oddiwrth ei air ef, heb gredu iddo, neu heb ei ddangos yn ein bywyd, yn gyntaf mae fe 'n danfon ei genhadon, gwir bregethwyr ei sanctaidd air, i 'n rhybyddio ac i ddangos ini ein dlyed: megis y mae efe o'i ran ef o'i fawr drugaredd tuag attom, gwedi rhoi ei vnic fab i oddef angau er ein gwared ni o angau, trwy ei angau ef, a'n hadferu i fywyd tragwyddol, i aros gydag ef yn dragywydd ac i fod yn gyfrannogion ac yn etifeddion gydag ef o'i ogoniant tragwyddol a'i deyrnas nef. Felly ailwaith y dlyem ninnau o'n rhan ni rodio mewn duwiol fywyd, fal y gweddai i'w blant ef.
Ac os hyn ni wasanaetha, os ni fyth a barhawn yn anufydd i'w air ef a'i ewyllys, heb ei adnabod ef, na'i garu, na'i ofni, na dodi ein cwbl ymddiried a'n gobaith ynddo: ac o'r ystlys arall os ni a ymddygwn yn angharedigol tuag at ein cymydogion trwy ddirmyg, cenfigen, malais, neu [Page 107] llofryddiaeth, yspail, goddineb, glothineb, twyll, celwydd, tyngu, a'r fath weithredoedd câs, ac annuwiol ymddygiad: yno mae fe yn ein bygwth a bygylau creulon gan dyngu yn ei lid na ddawe y rhai a wnaent y fath weithredoedd byth i'w orphwysfa ef, yr hon yw tyrnas nef.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am gwympo oddiwrth Dduw.
CHwi a glywsoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon pa sawl ffordd y cwymp dyniō oddiwrth Dduw.
Rhai trwy ddelw-addoliad, rhai o eisiau ffydd, rhai wrth escaeluso eu cymydogion, rhai o eisiau gwrando gair Duw, rhai wrth ymhoffi mewn oferedd pethau bydol.
Chwi a ddyscasoch hefyd pa flinder sydd i'r dŷn sydd wedi myned oddiwrth Dduw: a pha fodd y mae Duw o'i aneirif ddaioni ar y cyntaf yn arfer trwy ei bregethwyr roddi rhybyddion mwynion i alw dyn ailwaith o'r blinderau ymma: ac y gosod ef ar ol hynny fygythau creulon.
Yn awr oni wasanaetha na 'r rhybydd mwyn, na'r fygythfa greulon hynny: yno y dengys Duw ei greulon wedd arnom, ac a Dywallt. arllwys ar ein pennau anrhaith blagau, ac yn ol hynny fe a dynn oddiwrthym ei nerth a'i gynhorthwy, trwy 'r hyn yr ymddiffynnai ni oddiwrth bob rhyw flinder. Fal y dŷsc yr efangylol Brophwd Esai ni, yn gytun â chyffelybaeth Christ, gan ddywedyd, ddarfod Esai. 5. 2. 6. i Dduw wneuthur gwinllan deg i'w anwyl blant, a'i chau, a'i Gwalo [...]. murio hi, o bobparth, iddo [Page 108] blannu ynddi ddewisol winwydd, a gwneuthur Matth. 20. 33. tŵr a gwinwasc yn ei chanol hi. A phan edrychodd ef am rawn-win, hi a ddygodd iddo rawn-win gwylltion.
Ar ol hyn y canlyn, Yn awr medd yr Arglwydd mi addangosaf i'wch pa beth a wnaf i'm gwinllan, mi a dynnaf i lawry cauau fal y crinont, mi a dorraf i lawr y gwelydd y fal y Dannely [...]. methrer hwy dan draed, mi a'i gadawaf hiyn anial, ni thorrir ac ni chloddir hi, drain Mieri. drysi a dyfant drosti, ac mi a orchymynnaf i'r cymmylau na lawiant mwy arni.
Wrth y bygythau hyn y rhybyddir ni, os ni y rhai ydym ddewisol winllan Duw, ni ddygwn rawn-win da, hynny yw gweithredoedd da, y rhai a fydd hoff yn ei olwg ef, pan edrycho am danynt yn ol iddo ddanfō ei genhadon i alw arnom ni am danynt: ond a ddygwn yn hytrach rawnwin gwylltion, hynny yw gweithredoedd surion anffrwythlou diflas, yno y tynn ef ymmaith ein holl ymddyffynfaudd, ac a oddef i gwympo arnom flin blagau o brinder, rhyfel, newyn ac angau.
Ac yn ddiwethaf os hyn ni wasanaetha, fe a'n gad ni yn hoeth, fe a'n rhydd ni i fynydd, fe a drŷ oddiwrthym ni, ni cheibia ac ni chloddia mwy o'n hamgylch, fe a'n gâd ni yn llonydd ac a oddef ini ddwyn y fath ffrwythau ac a fynnom, ie ddwyn gwyddeli, drain, a drysi; pob drygioni a brynti, yn y fath gyflawnder hyd oni thyfont drosom ni yn gwbl, ie hyd oni chegont, oni thagont ac oni ddinistriont ni yn hollol.
Ond ni ddeall y rhai sydd yn y byd hwn, heb fyw yn ol Duw, ond yn ol eu rhydd-did cnawdol, [Page 109] fawr ddigofaint Duw tuag attynt: na chaua ef ac na chloddia ef mwy o'u hamgylch, y gadef hwynt iddynt eu hunain. Ac maent hwy yn tybied mai rhodd wych ddaionus yw hon gan Dduw, cael pob peth yn ol eu ewyllys eu hun, ac maent felly yn byw, fal pe byddai rhydd-did cnawdol wir rhydd-did yr efengil.
Ond na atto Duw, bobl dda, ini byth chwennychu y fath rydd-did. O her wydd er bod Duw weithiau yn goddef i'r drygionus gael pob peth wrth eu bodd yn y byd hwn, etto diwedd bywyd annuwiol yn y diwedd yw dinistr tragwyddol.
Fe gafodd yr Israeliaid grwgnachus y peth yr oeddynt yn ei chwennych, hwy a gawsant sofliair Rifedi. 11. 33. ddigon, do hyd onid oeddynt yn dyffygio o honynt. Ond pa beth fu y diwedd? Fe gafas eu bwyd melus hwy saws sur chwerw. Pan ydoedd y bwyd yn eu geneuau, fe gwympodd plâg Duw arnynt, ac a'u lladdodd hwy yn ddisymmwth.
Felly os ni a fyddwn byw yn annuwiol, a Duw yn goddef ini ddilyn ein ewyllys ein hunain, a chael y peth sydd hoff ac anwyl gennym, ac heb ein cospi â rhyw blagau: yn ddiddau mae ef yn ddig annial wrthym. Ac er ei fod ef yn hir heb daro, etto fynychaf pan darawo ef y fath ddynnion, mae yn eu taro hwy dan vn dros fyth.
Felly pan na bytho fe yn ein taro, pan beidio fe â'n blino ni ac a'n ffusto, a phan fytho yn ein goddef ni i redeg lwyr ein pennau i bob rhyw annuwioldeb, a hoffderau 'r byd, yn y rhai yr ydym yn ymhoffi, heb na chosp na chystudd, mae hynyn arwydd ofnus ddarfod iddo ein rhoddi ni i fynydd i ni ein hunain, ac na char ef ni, ac na ofala drosom ni ymhellach.
[Page 110] Yr hyd y bytho gwr yn Yscythru. yscathru ei winwydd, yn cloddio ynghylch y gwraidd, ac yn dodi pridd ne wydd attynt, mae gantho seddwl arnynt, mae fe 'n gweled arwydd o ffrwythlonder i'w gael oddiwrthynt. Ond pan na osodo ef na chost na thrafael arnynt, mae hynny yn arwydd ei fod ef yn tybied na byddant byth da.
A'r hyd y bytho 'r tâd yn caru ei blentyn, mae fe yn edrych arno yn ddigllon, ac yn ei gospi pan wnelo ar fai: ond pan na bytho hynny yn gwasanaethu, pan beidio ef â'i gospi fe, a goddef iddo wneuthury peth a fynno, mae hynny yn arwydd ei fod ef yn medd wl ei ddietifeddu ef a'i daflu ymmaith dros fyth.
Felly yn siccr ni ddlye ddim bigo ein calonnau ni yn dostach, a'n dodi mewn anferthach ofn, na bod ein cydwybod yn ein cyhuddo ddarfod ini ddigio Duw yn ddirfawr, a'n bod ni fyth yn para yn gwneuthur felly: ac nad ydyw Duw yn taro dim o hanom, ond yn ein gadel ni yn llonydd yn ein drygioni yr ydym yn ei hoffi.
Yno yn enwedigy mae 'n oed gweiddi, a gweiddi ailwaith fal y gwaeddodd Dafydd, Na thafl fi ymmaith oddiwrth dy wyneb, ac na chymmer dy Yspryd glan oddiwrthyf. Arglwydd na thro dy wyneb oddiwrthyf, na thafl fi ymmaith yn dy lid. Psal. 51. IX. Na chuddia dy wyneb oddiwrthyf, rhag fy mod Psal. 27. 9. yn debyg i'r rhai a ânt i waered i vfsern. Psal. 143 7.
Y gweddian galarus hyn sydd yn dangos ini pa enbeidrwydd anferth y maent hwy ynddo, y rhai y mae Duw yn troi ei wyneb oddiwrthynt; yr hyd y bytho fe yn gwneuthur felly: felly y dlyent ein cyffroi a'n hannog ninnau i weddio ar Dduw, ân holl galonnau, na hebrynger mo honom [Page 111] i'r cyflwr hwnnw, yr hwn yn ddiammau sydd mor drwm, mor flin ac mor ofnadwy, ac na ddichon na thafod ei draethu na chalon ei ddeall yn gyflawn.
O herwydd pa drymder angheuol a dybygai ddyn yw bod mewn digofaint Duw, gwedy i Dduw ei wrthod, gwedy tynnu yr Ysyryd glân a wdur pob daioni oddiwrtho, wedy ei hebrwng i gyflwr mor warthus, na wasanaetha ef i ddefnydd yn y byd, ond i'w ddamno yn vffern yn dragwyddol? O herwydd nid yn vnic y lleoedd hyn o'r Prophwyd Dafydd sydd yn dangos y bydd ar droad wyneb Duw oddiwrth neb, y gade wir efyn hoeth o bob daioni, ac ym-mhell oddiwrth obaith ym wared.
Ond hefyd mae 'r lle o Esai a goffasom ni o'r blaen yn dangos yr vn peth: yr hwn a fynegodd fod Duŵ yn y diwedd yn ymwrthod âi anffrwythlon winllan, na oddef ef yn vnic iddi ddwyn chwyn, drain a drysi, ond y cospa ef ei hanffrwythlonder hi ymmhellach. Mae fe 'n dywedyd na yscathra efe, ac na chloddia fe hi, ac y gorchymmyn ef i'r cymmylau na lawiont arni. Trwy 'r hyn yr arwyddocair athrawiaeth ei sanctaidd air ef. Yr hyn mewn cyffely [...] fodd a ddangosodd S. Pawl wrth enw plannu a dwfrhau, gan feddwl y tynn ef hynny oddiwrthynt, na chaent fod mwy o'i deyrnas ef, ac na thy wysid hwy mwy byth gan Yspryd Duw, y dodid hwy ymmaith oddiwrth ei râd ef, ac oddiwrth y doniau oedd ganthynt gynt; ac a allasent trwy Grist eu meddianu byth; y dynoethir hwy o'r goleuni nefol a'r by wyd oedd ganthynt ynghrist, pan oeddynt yn aros ynddo: hwy a fyddant fal y buant vn waith, megis dynnion heb [Page 112] Dduw yn y byd hwn, neu etto mewn cyflwr gwaeth.
Ac ar ychydig airiau, hwy a roddir dan allu diawl, yr hwn a deyrnasa ymhawb oll ac a defler oddiwrth Dduw: megis y gwnaeth ef i Sawl a Iudas ac yn gyffredinawl i bawb oll ac a weithiant [...]. Sam. 15. yn ol eu meddyliau eu hunain, plant angredadwy a gwanobaith.
Gwagelwn gan hynny, Gristionogion daionus, rhag ini trwy daflu ymmaith ac ymwrthod â gair Duw, trwy 'r hwn yr ydym yn cael ac yn cadw gwir ffydd yn-nuw, gael ein taflu ar y diwedd ymmaith a'n gwneuthur yn blant anghredyniaeth, y rhai ydynt o ddau ryw, pell bob vn oddiwrth ei gilydd, ie haychen yn wrthwyneb i'w gilydd, ac etto mae pob vn o'r ddau ymmhell oddiwrth droi at Dduw.
Mae 'r naill ryw gan bwyso eu bywyd pechadurus câs, ynghŷd ag iniawn farn a chysyngder cyfiawnder Duw, cy belled oddiwrth gyngor a di-ddanwch, (fal y mae yn rhaid bod pawb yr aeth Yspryd cyngor a diddanwch oddiwrthynt) na chymmerant hwy gan neb eu perswadio yn eicalonnau y gall Duw eu cymmeryd, neu os gall y cymmer ef hwynt i'w ffafor a'i drugaredd ailwaith. Y rhyw arall wrth glywed caredig a halaethion addewidion Duw, ac felly heb gyrhaeddyd gwir ffydd o'r addewidion hynny, ydynt yn gwneuthur yr addewidion ymma yn halae thach nag y gwnaeth Duw hwy erioed, gan ymddired, er hyd yr arhosont yn eu bywyd cas pechadurus, etto yn-niwedd eu hoes y dengys Duw ei drugaredd iddynt, ac y cânt hwy ymchwelyd atto ef ailwaith.
[Page 113] Ac mae 'r ddau ryw hyn o bobl mewn cyflwr damncdig, ac etto mae Duw (yr hwn ni syn farwolaeth pechadur) gwedy gosod ffordd (os hwy mewn amser a ymwagelant) i bob vn o honynt i ddiangc.
Y cyntaf, fal y maent yn ofni iniawn farn Duw yn cospi pechaduriaid, trwy 'r hyn y dlyent Synnu. ddiharffu, a gwanobeithio yn siccr oblegid vn gobaith ac a all bod ynddynt hwy eu hunain; felly pe byddyn hwy yn ddiogel ac yn ddisigl yn credu mai trugaredd Duw yw yr vnic gynhorthwy yn erbyn gwanobaith ac anymddired, nid yn vnig iddynt hwy, ond yn gyffredinawl i bawb oll a fo drwg ganthynt ac a wir etifarant am eu holl bechodau, a chydâ hynny a lynant wrth drugaredd Duw, hwy allant fod yn siccr o drugaredd, ac y cânt hwy fyned i Aber. borthladd diogelwch ac ymwared; i'r hon pwy bynnac a ddelo er Drycced. cynddrwg a fu ef o'r blaen, fe fydd allan o berigl damnedigaeth tragwyddol, fal y dywaid Duw drwy enau Ezechiel, Pa bryd bynnac yr etifaro pechadur Ezech. 18. 27. o ddyfnder ei galon mi a ellyngaf dros gôf ei holl enwiredd ef. Am y rhyw arall fal y maent hwy yn barod i gredu addewidion Duw, felly y dlyent fod mor barod i gredu bygythau Duw, hwy a ddlyent gredu y gyfraith cystal a'r efengyl; bod vffern a thân tragwyddol yn gystadl a bod nef a didranc lawenydd: hwy a ddlyent gredu cystal fod yn bygwth damnedigaeth i'r pechadurus a'r drwgweithredwyr, ac yr ydys yn addo Iachydwriaeth i'r ffyddlon mewn gair a gweithred: hwy a ddlyent gredu fod Duw yn gywir cystal yn y naill ac yn y llall.
Ac fe ddlye y pechaduriaid y rhai sydd yn parhau [Page 114] mewn drwg fywyd, feddwl na pherthyn addewidion trugaredd Duw a'r efengyl iddynt hwy, yr hŷd y bônt yn y cyflwr hwnnw, ond yn vnic y gyfraith a'r scrythyrau a gynhwysant ynddynt lid, digofaint a bygythfae Duw: y rhai a ddlye eu siccrhau hwy, megis y maent hwy yn rhy Hyf. eofn yn rhyfygu ar drugaredd Duw ac yn byw yn benrhydd ac yn anllywodraethus, felly fod Duw yn tynnu fwyfwy ei drugaredd oddiwrthynt, y cyffroir ef o'r diwedd i ddigofaint a'i fod ef yn arfer weithiau o ddinistr yn ddisymmwth y fath ryfygwyr.
Am y cyfryw ddynion y dywaid S. Pawl fal hynn, Pan ddywedont mae heddwch, nid oes enbeidrwydd, 1. Thess. 5. 3. yno yn ddisymmwth y daw distryw arnynt. Gwagelwn am hynny y fath Hyfder. eofnder drwg i bechu. O herwydd er i Dduw addo ei drugaredd i'r rhai a wir etifarhant (a hynny ar y diwedd) etto nid addawodd ef na bywyd hir, na gwir etifeirwch yn y diwedd i bechaduriaid rhyfygus. Ond i'r defnydd hynny fe a wnaeth amser angau pob dŷn yn anhyspys, rhag i neb osod eu gobaith ar y diwedd, a byw hyd hynny i ddigio Duw wewn annuwioldeb.
Canlynwn gan hynny gyngor y gwr call, nac oedwn droi at yr Arglwydd: na Ddyhiriwn. ohiriwn o ddydd i ddydd, o herwydd yn ddisymmwth y daw llid yr Arglwydd ac mewn amser llid fe a ddinistria y drygionus.
Trown gan hynny yn ebrwydd at yr Arglwydd, a phan drothom gweddiwn ar Dduw megis y gweddiodd Osee gan ddywedyd, maddeu ein pechodau, Oze. 4. 2. derbyn ni yn rasol. Ac os ni a drown atto â chalon ostyngedig etifeiriol, fe a'n derbyn ni [Page 115] i'w drugaredd a'i râd, er mwyn ei enw sanctaidd, er mwyn ei addewid, er mwyn ei wirionedd, a'i drugaredd a addawodd ef i bawb ac a gredent yn ffydolon yn Iesu Grist ei vnic naturiol fab ef. I'r hwn vnic Iachawdwr y byd gydâ 'r tâd a'r Yspryd glàn y bô holl anrhydedd, gogoniant a nerth yn oes oefoedd. Amen.
¶ Annogaeth yn erbyn ofn angau.
NId yw ryfeddod fod ar ddynnion bydol ofn marw, o herwydd mae angau yn eu difuddio hwy o bob anrhydedd, cyfoeth a meddiannau bydol, wrth feddiannu y rhai y mae 'r bydol yn ei gyfrif ei hun yn ddedwydd, yr hyd y gallo fe eu mwynhau hwy yn ol ei ewyllys, ac os efe a ddifeddiannir o hanynt heb obaith eu cael ailwaith, yno ni ddichon feddwl amgen am dano ei hun na'i fod yn annedwydd, am iddo golli ei hoffder a'i lawenydd bydol,
Och, ôch, a feddwl y gwr cnawdol ymma, a ymadawafi dros fyth â'm holl anrhydedd, a'm holl drysor a'm gwlad a'm cenedl a'm meddiannau, a'm cyfoeth a'm holl hoff-ddigrifwch bydol, y rhai yw llawenydd a bodlonrwydd fynghalon? och ddyfod y dydd hwnnw fyth, pan orffo imi ganu yn iach i'r pethau hynn i gyd ar vnwaith, heb allel eu meddiannu mwy byth. Am hyn nid heb achos mawr y dywaid y gwr call, O angau mor chwerw ac mor sur yw 'r côf am danati i'r hwn a fytho 'n byw yn esmwyth yn cael ei fyd yn ol ei ewyllys heb ddim trallod, ac sydd gwedy ei [Page 116] lenwi a'i frashau trwy hynny? Mae eraill ar y rhai nid ydyw y byd yn chwerthin mor gwbl, onid yn eu blino ac yn eu gorthrymmu hwy â thlodi â chlefyd, neu ryw wrthwyneb arall: etto maent hwy yn ofni angau, mewn rhan am fod y cnawd yn cashau yn anianol ei drist ymddattodiad, yr hwn y mae angau yn bygwth ei hebrwng arnynt: mewn rhan o blegid afiechyd a phoenedig glefydau, y rhai ni all na byddont loesion tost ac anfeidrol ing yn y cnawd, y rhai ydynt arferedig fynychaf o ddyfod cyn angau i wyr cleifion, neu ar y lleiaf, o ddyfod ynghwmpni angau, pan ddelo.
Er bod y ddau achos ymma yn edrych yn fawrion ac yn bwysig yngolwg gwr bydol, trwy y rhai y cyffroir ef'i ofni angau, etto mae achos arall y sydd fwy nâ'r vn o'r a chosiō a soniasom ni am danynt, am yr hwn yn siccr y mae achos da i ofni angau: a'r achos hwnnw yw 'r stât a'r cyflwr i'r hwn yn y diwedd y dwg angau bawb a osodant eu calonnau ar y byd hwn, heb etifaru na gwellau eu bywyd; yr hwn stat a chyflwr a elwir yr ail angau, yr hwn a ganlyn ar bawb o'r fath ddynion yn ol yr angau corphorol ymma.
Ac yn wir dymma 'r angau a ddylyid ei o fni ac echrydio ragddo yn ddirfawr, o herwydd hwn yw colled dros fyth yn ddiymwared o râd a ffafor Duw, o dragwyddol lawenydd, llwyddiant a dedwyddwch. Ac nid yw hwn yn vnic yn golled o'r holl dragwyddol hoffderau ymma, ond mae fe hefyd yn ddamnedigaeth corph ac enaid (heb le i apelio at orvwch na gobaith ymwared) i dragwyddol boenau vffern. Ac i'r stat hwn y danfonodd angau y gwr goludog an-nrhugarog, yr [Page 117] hwn y mae Luc yn son am dano yn ei efengyl, yr hwn gan fyw ymmhob cyfoeth a digrifwch yn y Luc. 16. 19. &c. byd hwn, a chan ymddigrifo beunydd mewn dainteiddiol fwydau a dillad gwychion, a ddibrisodd Lazarus dlawd, a orweddai yn druan wrth ei horth ef, gwedy ei blago yn flin, ac yn llawn doluriau, ac yn dyddfu o newyn.
Fe arestiwyd y ddau hyn gan angau, yr hwn a ddanfonodd Lazarus, y gwr truan hwnnw gydag angylion yn y man i fonwes Abraham, lle o orphwysfa, o ddedwyddwch ac o ddiddanwch. Ond fe ddiscynnodd y goludog an-nhrugarog i vffern, a phan ydoedd mewn poenau, fe a waeddodd am ddiddanwch, gan gwyno 'n druan rhag ei boen Anrheith ei oddef. anescorol, yr ydoedd ef yn ei oddef yn y fflam dân honno, ond yr ydoedd yn rhy hwyr.
Felly i'r lle hwn y mae 'r angau corphorol yn danfon pawb oll a osodant eu llawenydd, a'u dedwyddwch ar y byd hwn: a phawb oll ac ydynt yn y byd hwn anffyddlon i Dduw ac angharedig i'w cymydogion, gan feirw felly mewn anetifeirwch, ac heb obaith trugaredd Duw.
Am hyn nid yw ryfeddod fod y gwr bydol yn ofni angau, o herwydd mae iddo ef fwy o achos i wneuthur felly nag y mae fe ei hun yn ei ystyriaid.
Fal hyn y gwelwn fod tair achos i wyr bydol i ofni angau: vn am eu bod hwy trwyddo yn colli eu holl anrhydedd bydol, eu holl gyfoeth, a'u meddiannau, a pha beth bynnag a chwennycho eu calonnau.
Yr ail, o herwydd y clefydau tostion, a'r poenau chwerwon, y rhai fynychaf y mae gwyr yn eu goddef, naill ai cyn, ai yntau yn amser angau.
[Page 118] Ond yr achos fwyaf vwchlaw pob achos arall yw, ofn y cyflwr echryslon o drag wyddol ddamnedigaeth y corph a'r enaid, yr hwn y maent yn ofni ei gwympo arnynt yn ol iddynt ymadel â hoffderau bydol y bywyd presennol hwn.
Am yr achosion hyn y mae pob dyn ar a ymroes i gariad y byd hwn mewn ofn, ac yn yr stât hon o angau (fal y dywaid yr Apostol) trwy bechod, yr hyd y byddont byw yn ybyd hwn.
Ond, tragwyddol ddiolch i'r tragwyddol Dduw yn dragywydd, nid oes vn o'r achosion ymma, na hwynt oll ynghyd, a ddichon wneuthur i vn gwir Gristion ofni marw, yr hwn sydd wir aelod i Grist, teml yr Yspryd glân, a mâb Duw, ac etifedd tragwyddol 1. Cor. 3. 16. teyrnas nefoedd. Ond yn y gwrthwyneb y mae fe 'n gweled llawer o achosion mawrion gwedy eu gwreiddio yn ddiammau ar an-nhwyllodrus a thragwyddol wirionedd gair Duw, y rhai a'i cyffroant ef nid yn vnic i ddodi ymmaith ofn corphorol angau, onid hefyd o blegid yr aml ddoniau a'r godidawg enuill y rhai trwy angau a ddaw i bawb o'r ffyddloniaid, i chwennychu, i ddeisyf a hiraethu am angau.
O herwydd ni bydd angau iddo ef yn angau, onid rhyddhâd oddiwrth angau, poenau, gofalon, tristwch, trueni a blinderau y byd hwn: a mynediad i mewn i esmwythder, dechreuad llawenydd tragwyddol, mwynhâd digrifwch nefol, y rhai ydynt cymmaint na ddichou tafod eu traethu, na llygaid eu gweled, na chlust eu clywed, na chalon vn gwr daiarol eu deall: mor fawr odidawg yw y donniau y rhai o'i vnic drugaredd a chariad ar ei Fab Iesu Grist, a ddarparodd Duw ein tad nefol, ac a osododd ef i gadw i'r rhai yn ostyngedig [Page 119] a ymostyngant i'w ewyllys ef: ac a'i carant ef yn wastadol, yn ddiffuant o ddyfnder eu calonnau.
Ac ni a ddlyem gredu na ddichon marwolaeth yr hon a laddwyd gan Grist, attal neb a'r a ymddiredo yn ddisigl ynghrist, tan ei dragwyddol greulondeb a'i gaethiwed. Ond fe a gyfyd o farwolaeth i ogoniant ar y dydd diwethaf, a osodwyd gan yr holl-alluog Dduw, fal y cyfododd Christ ein pen ailwaith y trydydd dydd, wrth ordeiniad Duw. O herwydd, medd S. Awstin, lle 'dd aeth Christ y pen mae 'r aelodau yn gobeithio y cânt hwythau ganlyn a dyfod ar ol. Ac mae S. Pawl 1. Cor. 15. 12. 15. yn dywedyd, Os cyfodwyd Christ oddiwrth y meirw, y cyfodir ninnau hefyd.
Ac er rhagor ddiddanwch i bob Cristion yn hyn o beth, mae 'r Scrythur lân yn galw y farwolaeth gnawdol hon yn gwsc, trwy 'r hwn y tynnir mewn cyffelybiaeth, synhwyrau dŷn dros amser oddiwrtho, ac etto pan ddihuno mae fe 'n llonnach ac yn hoywach nâ phan aeth ef i'w wely. Felly er bod yn gwahanu ein eneidiau ni oddiwrth ein cyrph dros ennyd, etto ar yr ail-gyfodiad cyffredinol ni a fyddwn hoywach, harddach a pherffeiddiach nag ydym ni yn awr.
O herwydd yn awr yr ydym yn farwol, y pryd hwnnw ni a fyddwn yn anfarwol: yn awr wedi ein llygru gan lawer o wendid, yno y byddwn rhyddion oddiwrth bob gwendid marwol: yn awr yr ydym yn gaethion i bob chwantau cnawdol, yno y byddwn yn hollawl yn ysprydol, heb chwennychu dim onid gogoniant Duw a phethau tragwyddol.
Fal hyn nid yw marwolaeth gnawdol onid [Page 120] drws a mynediad i fywyd: ac am hynny nid ydyw mor ofnadwy (os ystyrir hi yn iawn) ac y mae hi yn ddiddanus; nid dial ond ymwared yn erbyn pob dialedd: nid gelyn onid cyfaill; nid gorthrymmydd creulon, onid tywysog tirion i'n harwain ni o farwolaeth i fywyd, o dristwch a phoen i lawenydd a digrifwch, yr hwn a bery byth yn dragwyddol, os derbynnir ef yn ddiolchgar megis cennad Duw, ac os goddefwn ef yn oddefgar er cariad ar Grist, yr hwn a oddefodd ddolurus angau er cariad arnom ni, ac er ein rhyddhau ni o dragwyddol angau.
Yn gyttun â hyn y dywaid S. Pawl, y mae ein bywyd ni yn guddiediedig gydâ Christ yn-nuw: onid pan ymddangoso 'n bywyd ni yno 'r ymddangoswn Coloss. 3. 4. ninnau hefyd mewn gogoniant gydag ef.
Paham gan hynny yr ofnwn farw, gan ystyriaid aml a diddanus addewidion yr efengyl, a'r Scrythyrau sanctaidd? Rhoddodd Duw ini fywyd tragwyddol, medd Ioan Sant, a'r bywyd hwn sydd yn ei Fâb ef. Yr hwn y mae y Mâb gantho Ioan. 6. 40. mae bywyd gantho, a'r hwn nid oes ganddo Fâb Duw nid oes gantho fywyd. Y pethau hyn, 1. Ioan. 5. 1 [...]. medd S. Ioan, a scrifennais attoch y rhai ydych yn credu yn enw Mâb Duw: fal y gwypoch fod i chwi fywyd tragwyddol, a'ch bod yn credu yn enw Mâb Duw. Ac fe ddywaid ein Iachawdwr Christ, yr hwn sydd yn credu ynofi sydd iddo fywyd Ioan. 6. 4. tragwyddol, ac mi a'i hadgyfodaf ef y dydd diwethaf. Ac mae S. Pawl yn dywedyd ddarfod i 1. Cor. 1. 3 [...]. Dduw ordeinio a gwneuthur Christ yn ddoethineb, yn gyfiawnder, yn sancteiddrwydd, ac yn ymwared ini, er mwyn bod i'r hwn a orfoleddo orfoleddu yn yr Arglwydd.
[Page 121] Ac yr oedd S. Pawl yn dibriso, yn dirmygu, ac yn cyfrif megis tom y pethau oedd fawr gantho am danynt o'r blaen, fal y galle o'r diwedd gael bywyd tragwyddol, gwir sancteiddrwydd, cyfiawnder, a thrugaredd ynghrist Iesu. Yn ddiwethaf, Coloss. 3. mae S. Pawl yn gwneuthur dadl oleu yn y modd ymma, Os ein Tâd nefol nid arbedodd Coloss. 8. 31. ei fab naturiol, onid ei roddi i farwolaeth drosom, pa fodd na rydd ef bob peth ini gydag ef?
Am hynny os yw Christ gennym, y mae gennym gydag ef a thrwyddo ef bob peth ac a allo ein calonau ei ddeifyf neu ei chwenychu: megis goruwchafiaeth yn erbyn angau, pechod ac vffern; mae gennym ffafor Duw, heddwch ag ef, sancteidrwydd, doethineb, cyfiawnder, nerth, bywyd ac ymwared; mae ini trwyddo ef dragwyddol Iechyd, cyfoeth, llawenydd ac annherfynol fendith.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am ofn angau.
FE ddangoswyd i'wch o'r blaen fod tri achos pa ham y mae dynnion yn ofni marw.
Y cyntaf yw trist ym-adel a'u golud a'u hoffderau bydol.
Yr ail yw ofn y gloesion a'r poenau a ddawant gydag angau.
Yr achos mwyaf a'r diwethaf yw Echrydys. erchyll ofn trneni Cas. echryslon a thragwyddol ddamnedigaeth yn yr amser a ddaw. Ac etto nid oes vn o'r achosion ymma yn cyffro neb o'r gwyr daionus, am eu bod hwy yn eu cadarnhau eu hunaim trwy wir [Page 122] ffydd, cariad perffaith, a diogel obaith o'r llawenydd didranc a thragwyddol fendith.
Mae gan yr holl rai hyn am hynny achosion mawrion i fod yn llawn llawenydd, am eu bod hwy gwedy eu cyssylltu â Christ trwy wir ffydd, diogel obaith, a chariad perffaith, ac i fod heb ofni nac angau na thrgwyddol ddamnedigaeth. O herwydd ni ddichon angau eu gwahanu hwy oddiwrth Grist, nac vn pechod ddamno y rhai a ddiogelwyd ynddo ef, yr hwn yw eu hunig lawenydd, eu trysor a'u bywyd hwy.
Etifarhawn am ein pechodau, gwellhawn ein bywyd, ymddiredwn yn ei drugaredd ef a'i haeddiant, ac ni ddichon angau na'i dynnu ef oddiwrthym, na ninnau oddiwrtho yntef. O herwydd yno (medd S. Pawl) pa vn bynnac a wnelom ai byw ai marw yr ydym ni yn eiddo 'r Arglwydd. Ac fe ddywaid ailwaith, Christ a fu farw ac a gyfododd drachefn, fal y byddai ef Arglwydd ar y byw a'r meirw. Wrth hynny os ydym ni eiddo 'r Arglwydd, pan fythom feirw, ni ddichon na chanlyno, nid yn vnic nad ydyw y fath farwolaeth gnawdol yn abl i'n drygu, onid hefyd y bydd hi elw ac ennill i ni, ac y cydsyllta hi ni â Duw yn gyflawnach.
Ac o hyn y dichon pob Christionogaidd galon fod yn siccr ddiogel, trwy ddidwyll wirionedd yr Scrythyr lân. Canys Duw, fal y dywaid S. Pawl, a adeiladodd ini dŷ tragwyddol yn y nefoedd, ac a roddodd ini wystl o'i Yspryd. Am hynny [...]. Cor. 5. 1. 5. byddwn bob amser ddiddanus, o herwydd ni a wyddom yr hyd y bythom yn y cnawd, ein bod ni oddigartref ymhell oddiwrth Dduw, ac megis mewn gwlâd ddieithr, mewn llawer o enbeidrwydd, [Page 123] yn rhodio heb gyflawn olwg, na gwybodaeth am yr holl-alluog Dduw, ac yn ei weled ef yn vnic trwy ffydd yr Scrythyrau sanctaidd: ond mae 'n ewyllys ni a'n chwant ar fod gartref gydâ Duw a'n Iachawdwr Christ ym-mhell oddiwrth y corph, lle y gallom weled Duw yn y modd y mae ef, wyneb yn wyneb, i'n diddanwch an-nherfynol.
Dymma sûm gairiau S. Pawl, trwy y rhai y gallwn ystyriaid fod yn cyffelybu ac yn tebygu ein bywyd ni yn y byd hwn i bererindod mewn gwlâd ddieithr, ym-mhell oddiwrth Dduw: a bod angau yn ein gwared ni o'n cyrph ac yn ein danfon ni yn iniawn adref i'n gwlad ein hunain, ac yn gwneuthur ini aros yn bresennol gydâ Duw yn dragwyddol, mewn tragwyddol orphwysfa a llonyddwch, megis nad ydyw marw yn golled, ond yn fudd ac yn ennill i'r holl Gristionogion.
Pa beth a gollodd y lleidr a groshoelwyd gydâ Christ trwy angau co phorol? Ie pa ennill a gafas ef oddiwrthi? oni ddywad ein Iachawdwr Christ wrtho, heddyw y byddi gydâ mi ym-mharadwys? Luc. 23. 43.
Ac oni leshaodd ac oni dderchafodd angau yn rhyfedd Lazarus ofidus hefyd, yr hwn a orweddodd yn hir gan ddolur, ac yn druan gan newyn, Luc. 16. 22. wrth borth y gwr goludog pan ddygpwyd ef trwy wenidogaeth angylion i fonwes Abraham, lle o orphwyffa, o lawenydd a diddanwch nefol.
Na thybygwn am hynny, Gristionogion da, na ddarfu i Grist ddarparu a pharatoi yn y blaen, yr vn llawenydd a dedwyddwch i ninnau hefyd, ac a ddarparodd ef i Lazarus a'r lleidr. Glynwn gan hynny wrth ei Iechydwriaeth a'i brynedigaeth [Page 124] grasawl ef, credwn ei air ef, gwasanaethwn ef â'n holl galonnau, carwn ef ac vfyddhawn iddo: a pha beth bynnac a wnaethom ni o'r blaen yn erbyn ei sanctaidd ewyllys ef, etifarhawn yn awr mewn amser: myfyriwn o hyn allan wellau ein bywyd, a byddwn siccr y bydd ef mor drugarog wrthym ni, ac a fu ef wrth Lazarus neu 'r lleidr: siampsau y rhai a scrifennwyd yn yr Scrythur sanctaidd er diddanwch i'r holl bechaduriaid, y rhai ydynt yn gorfod arnynt dreulio eu hoes mewn tristwch, mewn blinderau, a chyfyngderau y hyd hwn: fel na byddo iddynt wanobaithio am drugaredd Duw, ond ymddired yn wastadol trwy ei drugaredd ef gael maddauant o'u pechodau, a thragwyddol fywyd, fal y cafodd Lazarus a'r lleidr.
Fal hyn yr ydwyf yn gobeithio fod pob Christion yn deall weithion trwy ddidwyll air Duw, na ddichon corphorol angau na gwaethu na drygu y rhai a wir gredant ynghrist Iesu. Ond o'r gwrthwyneb y lleshâ ac y derchafa ef yr holl eneidiau Cristionogawl y rhai yn wir etifeiriol am eu baiau ydynt yn myned oddi ymma mewn cariad perffaith a diogel obaith y bydd Duw trugarog iddynt, y maddau fe eu pechodau hwynt er haeddiant ei vnig naturiol fab Iesu Christ.
Yr ail achos pa ham y mae rhai yn ofni marwolaeth yw clefydau tostion, a phoenau trymmion, y rhai a ddawant naill ai ym-mlaen angau, ai yntau gydag angau pan ddelo. Yr ofn hwn yw ofn cnawd gwael, a gwendid naturiol, a berthyn at annian dyn marwol. Ond mae gwir ffydd yn addewidion Duw, a dyfal feddw▪ am y poenau a'r ing a oddefodd Christ ar y groes drosom ni bechaduriaid [Page 125] truain, ynghŷd ag ystyriaeth am y llawenydd a'r tragwyddol fywyd sydd ar ddyfod yn y nefoedd, yn esmwytho ac yn llonyddu y poenau, ac yn lleihau 'r ofn ymma, fal na allo ortrechu y chwant a'r llawenydd calonnog, y sydd gan enaid Christion, i gael ei wahanu oddiwrth y corph llygradwy hwn, fal y gallo ddyfod i rasol bresenolder ein Iachawdwr Iesu Grist.
Os ni a gredwn yn gadarn air Duw, ni a gawn weled nad yw y fath glefydon corphorol, a'r doluriau a'r poenau tost yr ydym yn eu goddef naill ai cyn ai gydag angau, onid gwialen ein nefol a'n caredig dâd, trwy 'r hon y mae fe yn drugarog yn ein ceryddu ni, naill ai er mwyn profi a chyhoeddi ffydd ei oddefgar blant, fal y ceffer hwy yn ganmoladwy yn anrhydeddus ac yn ogoneddus yn ei olwg ef, pan ddangosser yn oleu fod Iesu Grist yn farnwr yr holl fyd: ai yntau i gospi ac i wella yndynr bob peth ac sydd yn anfodloni ei dadawl ddaioni ef, rhag eu colli hwy yn dragywydd. Ac mae y wialen gerydd hon yn gyffredinol i bawb ac ydynt yn wir eiddo ef.
Taflwn am hynny ymmaith faich pechod, sydd yn gorwedd yn rhy drwm ar ein Gyddfau. gyddygau, a thrown at Dduw trwy wir etifeirwch a gwellhâd bywyd, rhedwn yn oddefgar yr yrfa a osodwyd i ni, gan oddef er ei fwyn es a oddefodd er ein Iachawdwriaeth ni, bob poenau, a phob tristwch angau, ie ac angau ei hun, yn llawen pan danfono Duw ef attom, gan fod ein llygaid gwedy Phil. 3, 8. eu gosod, a'u diogelhau ar ein pen, a thywysog ein ffydd Iesu Grist, yr hwn gan ystyriaid y llawenydd a ddawai iddo, ni phrisodd nac ar gywilydd nac ar boenau angau, ond efe a gydffurfiodd ac a Heb. 12. 2. [Page 126] gydweddodd ei ewyllys ei hunan ag ewyllys ei dâd ac er ei fod yn ddifai ac yn ddieniwed, etto fe a oddefodd wradwyddusaf, a phocnediccaf angau 'r groes. Yn awr am hynny mae fe gwedy ei gyfodi i'r nefoedd ac yn eistedd yn dragwyddol ar ddeheulaw gorseddfaingc Duw dâd.
Cofiwn am hynny y bywyd a'r llawenydd nefol sydd ynghadw i bawb ac a oddefant ymma yn oddefgar gydâ Christ, ac ystyriwn i Grist ddioddef y cwbl o'i ddioddeifaint gan bechaduriaid, ac er mwyn pechaduriaid, ac yno y goddefwn yn haws ac yn esmwythach y gofidiau a'r poenau hynny pan ddelont.
Na Ddiystyrwn. fychanwn am hynny gerydd yr Arglwydd, ac na Ymwhithnachwn. rwgnachwn yn ei erbyn ef, ac na chw ympwn oddiwrtho, pan y'n cerydder gantho. O herwydd mae 'r Arglwydd yn ceryddu pob vn a garo, Heb. 1 [...]. 6, 7, 8. ac yn ffusto pob vn ac a gymmero yn blentyn iddo. Pa fab sydd, medd S. Pawl, nas cospo ei dad ef? eithr os heb gospedigaeth yr ydych, o'r hon y mae pawb o'i blant a'i garedigion ef yn gyfranogion, yno bastardiaid ydych ac nid meibion o briod. Am hynny gan fod ein tadau daiarol cnawdol yn ein cospi ni, a ninnau yn eu hofni ac yn derbyn eu cosp hwy yn barchus: oni ddlyem ni fod yn fwy ein gostyngeidrwydd i Dduw Tâd yr ysprydoedd, trwy 'r hwn y mae ini fywyd tragwyddol? Ac mae 'n tadau cnawdol yn ein cospi ni weithiau fal y byddo bodlon ganthynt heb ddim achos: ond mae 'n Tâd hwn yn ein ceryddu ni yn gyfiawn naill ai am ein pechodau, o fwriad ar ein gwellhau, neu er budd a lleshad ini, i'n gwneuthur trwy hynny yn gyfranogion o'i sancteiddrwydd.
[Page 127] Hefyd fe dybygid nad oes yn yr holl gosp y mae Duw yn ei ddanfon yn y byd presennol hwn, na llawenydd, na diddanwch, onid poen a thristwch: etto mae 'n dwyn gydag ef flas o drugaredd a daioni Duw tuag at y rhai y mae fe yn eu cospi, a siccr obaith o dragwyddol ddiddanwch Duw yn y nefoedd.
Am hynny onid ydyw y gofidiau a'r afiechyd a'r clefydau ymma, ie ac angau ei hun, ddim onid gwialen ein tad nefol, trwy 'r hon y mae fe yn ein nitho ac yn ein puro ni, trwy 'r hwn y rhydd ef i ni sancteiddrwydd ac y siccrha ef ni ein bod yn blant iddo ef, ac yntef yn drugarog dâd i ninnau. Oni chusanwn ninnau yn llawen ac yn ewyllyscar â phob gostyngeiddrwydd megis vfydd blant caredig, wialen ein Tad nefol, gan ddywedyd yn wastad yn ein calonnau gydâ ein Iachawdwr Iesu Grist, y Tad oni all yr ing a'r gofid yr ydwyf yn ei oddef a'r angau yr ydwyf yn ei weled yn nesau Mat. 16. 39. attaf, fyned heibio, ond bod dy ewyllys imi eu goddef hwy, bydded dy ewyllys di.
¶ Y trydydd ran o'r bregeth am ofn angau neu farwolaeth.
FE ddangoswyd yn y bregeth hon yn erbyn ofn angau ddau achos y rhai sydd yn peri i wyr bydol ofni marw, etto nid ydyw y rhai hyn yn cyffroi dim o'r ffyddloniaid, na'r rhai sydd yn byw yn dda, pan ddelo angau, ond maent yn rhoddi iddynt hwy achosion i lawenhau yn fawr, gan ystyriaid y cânt eu rhyddhau ar fyrder oddiwrth ofn a thrueni y byd hwn, a'u dwyn i fawr lawenydd [Page 128] a dedwyddwch y byd a ddaw.
Yn awr y trydydd achos a'r hyspysaf, paham y mae angau yn wir ofnadwy, yw gofidus gyflwr ac stât y bydol a'r annuwiol yn ôl angau.
Ond nid ydyw hyn achos yn y byd i'r duwiol a'r ffyddloniaid i ofni angau, ond o'r gwrthwyneb fe ddlyai eu hymddygiad duwiol hwy yn y byd hwn, a'u cred hwy ynghrist, a'u gwastadol ymlyn wrth ei drugaredd ef, wneuthur iddynt hwy hiraethu yn fawr am y bywyd hwnnw, yr hwn yn ddiammau sydd yn eu haros hwy yn ol yr angau corphorol hwn.
Ac o blegid yr stât anfarwol ymma yn ol y bywyd trāgedig hwn, lle y cawn fyw byth yngwydd Duw mewn llawenydd a llonyddwch, yn ol goruchafiaeth pob clefyd, gosid, pechod ac angau, mae llawer o leoedd goleu yn yr Scrythyr lân i gadarnhau cydwybod wan yn erbyn ofn y fath ofidiau, clefydon, pechod, a chorphorol angau: i esmwytho y fath echryd ac annuwiol ofn, ac i'n cysuro ni â gobaith stât fēdigaid yn ol y bywyd hwn.
Mae S. Pawl yn chwennych ar i Dduw Tâd y gogoniant roddi i'r Ephesiaid Yspryd doethineb a dat guddiad i'w adnabod ef, trwy oleuo golwg eu calonnau, fal y gwypent obaith ei alwedigaeth Ephes. 1. 17, 18. ef, a pha beth yw golud ei etifeddiaeth ef yn ei saint: a pha beth yw rhagorol nerth ei fawredd ef yn y rhai ydynt yn credu. Mae S. Pawl ei hun yn dangos deisyfiad ei galon, yr hyn oedd cael ei ollwng oddiwrth y corph a bôd gydâ Christ, yr hyn (eb efe) sydd orau dim i mi, er bod yn anghenrheidiol Phil. 1. 23. o'u rhan hwynt iddo aros yn y cnawd, yr hyn er eu mwyn hwy ni wrthododd ef ei wneuthur, megis y dywad saint Marthin, Oh [Page 129] Arglwydd daionus os byddaf anghenrhaid i'th bobl di i wneuthur daioni iddynt, ni wrthodaf ddim poen: os amgen, o'm rhan fy hun mi atolygaf iti gymmeryd fy enaid attat.
Am y tadau oll o'r hên gyfraith a chynifer oll o wyr ffyddlawn cyfiawn, ac a ymadawsant ymmlaen Derchafel. escynniad ein Iachawdwr Christ i'r nef, hwy aethant trwy angau a gofid i esmwythder, o ddwylaw eu gelynnion i ddwylaw Duw, o dristwch a chlefydon i hyfrydwch ym-monwes Abraham, lle o gysur a diddanwch, fal y mae 'r Scrythur lân yn tystiolaethu yn oleu, trwy airiau eglur ddigon.
Mae llyfr y doethineb yn dywedyd fod eneidiau y rhai cyfiawn yn llaw Dduw, ac na chyfwrdd cystudd â Doeth. 3. 1, 2, 3. hwy, y rhai angall oeddynt yn tybied hefyd eu bod hwy yn marw, a blin hefyd y cyfrifid eu diwedd hwy, a'u mynediad oddiwrthym ni yn ddinistr, ond maent hwy mewn heddwch. Ac fe ddywaid lle arall, fod y cyfiawn yn byw byth a'u Doeth. 5. 16. &c. gwobr hwy gydâ 'r Arglwydd, a chan y goruchaf y mae gofal am danynt, am hynny y cânt deyrnas hardd a choron dêg. Ac mewn man arall y dywaid yr vn llyfr, Er rhagflaenu y cyfion trwy Doeth. 5. angau dysyfyd etto fe fŷdd lle caffo gyssur. Mae geiriau Christ mor eglur am Ascre. fonwes Abraham nad rhaid i vn Christion geisio eu cadarnhau hwy yn fwy.
Yn awr gan hynny os dymma gyflwr y tadau sanctaidd a'r gwyr cyfiawn cyn dyfodiad ein Iachawdwr, a chyn ei ogoneddu ef: mwy o lawer y dlye fod gennym ni ffydd safadwy a siccr obaith yn yr stât a'r cyflwr ymma yn ôl angau, gan ddarfod i'n Iachawdwr Christ gyflawni eisoes gyfan [Page 130] waith ein prynedigaeth ni, a'i fod ef gwedy escyn i'r nefoedd yn ogoneddus, i baratoi trigleoedd ini gydag ef: ac iddo ddywedyd hefyd wrth ei Dâd, Y Tâd yr wyf yn ewyllysio fod fyngwasanaethwyr Ioan 7. 24. gydâ ini lle byddwyf finnau. Ac ni a wyddom fod y Tâd yn ewyllysio beth bynnag a ewyllysio y Mâb.
Am hynny yn o l ini ymadel â'r bywyd presennol hwn, os ni a fyddwn ffyddlon weision iddo ef, ni ddichon na bo ein eneidiau gydag ef. Pan labyddiwyd S. Stephan i farwolaeth, ynghenol ei boen a'i gystudd, beth yr oedd ef yn ei feddwl fwyaf? pan ydoedd ef medd yr Scrythur lân yn llawn o'r Yspryd glân fe a edrychodd yn ddyfal tu a'r nefoedd, Act. 7. 55. ac a welodd ogoniant Duw, a'r Iesu yn sefyll ar ddeheulaw Duw. Yr hwn wirionedd yn ôl iddo ei gyffessu yn Hyf. eofn, yngwydd gelynion Christ, hwy a'i bwriasant ef allan o'r ddinas, ac a'i llabyddiasant ef, ac ef yn galw ar Dduw gan ddywedyd, Arglwydd Iesu derbyn fy Yspryd.
Ac onid ydyw Christ yn dywedyd yn eglur yn Vers. 59. efengyl Ioan, Yn wir, yn wir meddaf i chwi, y neb sydd yn gwrando fy-ngair ac yn credu i'r hwn Ioan. 5. 14. a'm anfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn: eithr ef aeth trwyodd o farwolaeth i fywyd? Ac oni chyfrifwn ni y farwolaeth honno yn werthfawr trwy 'r hon yr ydym yn myned i fywyd? gwir gan hynny yw gairiau y Prophwyd Dafydd, fod marwolaeth y rhai duwiol yn Psal. 116. 15. werthfawr yngolwg yr Arglwydd. Aphan ddaroedd i Simeon sanctaidd gael cyflawni deifyfiad Luc. 2. 28, 29. ei galon, wrth weled ein Iachawdwr Christ, yr hyn beth a ddeisyfai trwy ei oes, fe a'i cofleidiodd, ac a'i braicheidiodd ef yn ei freichiau, gan ddywedyd, [Page 131] Yr awr hon Arglwydd y gollyngi dy was mewn tangneddyf yn ol dy air, cans fy llygaid a welsant dy Iachawdwriaeth, yr hon a baratoaist yngwydd yr holl bobl.
Inion am hynny yr ydys yn galw angau y cyfion yn heddwch ac yn fendith yr Arglwydd, megis y dywaid yr eglwys yn enw y rhai cyfiawn a ymadawsont o'r byd hwn, fy enaid tro i'th esmwythder, yr Arglwydd a fu dda wrthyd, ac a'th obrwyodd di.
Ac yr ydym ni yn gweled wrth yr Scrythyr lân a hên storiau y merthyri, nad oedd neb o'r sanctaidd, o'r ffyddloniaid, na'r rhai cyfiawn, er pan escynnodd Christ i'r nef, yn Dowtio. ammau nad oeddynt yn yr yspryd yn myned at Ghrist, yr hwn yw ein bywyd, ein iechyd, ein cyfoeth ni a'n iechydwriaeth. Fe welodd Ioan yn ei weledigaeth bedair mil a saith vgain o wyryfon sanctaidd, am y rhai y dywedai, mae y rhai hyn yn dilyn yr oen Iesu Grist i ba le bynnag yr êl efe. Ac yn y man a'r ol Gwel. 14. 1. hynny y dywaid Ioan, Mi a glywais lais o'r nef yn dywedyd wrthyf, scrifenna, gwyn eu byd y meirw weithian y rhai ydynt yn meirw yn yr Arglwydd, felly y dywaid yr Yspryd, cans maent yn gorphwys oddiwrth eu poen, ac mae eu gweithredoedd V. 13. yn eu canlyn hwy. Fal wrth hyn y cânt hwy fedi mewn cyssur a llawenydd, yr hyn a hauasont hwy mewn trafael ac mewn poen.
Y rhai a hauant yn yr Yspryd a fedant yn yr Gal. 6. 8. Yspryd fywyd tragwyddol. Na ddyffygiwn gan hynny yn gwneuthur daioni, o herwydd pan delo amser gwobr a medi, ni a fedwn yn ddiddyffygiol dragwyddol lawenydd. Am hynny yr hŷd y caffon Vers. 11. amser gwnawn dda i bawb, (fal y dywaid S. [Page 132] Pawl.) Ac na chasclwn ini drysor ar y ddaear, lle mae gwyfon a rhwd yn llygru, a lladron yn torri trwyodd ac yn lledratta, eithr casclwn ini drysorau Math. 6. 19. yn y nef, lle nid oes na gwyfyn na rhwd yn llygru, a lle nis cloddia lladron trwyodd ac nis lledrattânt. O herwydd rhŵd trysorau y byd hwn, fal y dywaid S. Iaco, a dystiolaethant yn ein herbyn ni Iac. 5. 1. i'n barn ar ddydd mawr yr Arglwydd, ac a ysant ein cnawd ni megis tân lloscedig.
Gwagelwn am hynny (os carwn ein llwyddiant ein hunain) na byddom ni yn rhifedi y blin a'r annedwydd gybyddion hynny, y mae S. Iaco yn erchi iddynt wylo ac vdo am y trueni a ddêl arnynt, Iac. 5. 1. am eu trachwantus gasclu ac annuwiol gadw eu golud bydol. Byddwn am hynny gall mewn pryd a dyscwn ganlyn synhwyrol siampl yr anghyfiawn orvwchwiliwr: trefnwn yn synhwyrol ein golud a'n meddiannau, y rhai a fenthyccodd Duw ini ymma dros amser, fal y gallom wir wrando ac vfyddhau gorchymmyn ein Iachawdwr Christ.
Yr ydwyf (medd ef) yn dywedyd wrthych gwnewch gyfeillion i chwi o'r golud twylloddrus, fal pan fo eisiau arnoch y'ch derbyniant i'r tragwyddol bebyll neu drigfae. Luc. 16. 9.
Yr ydys yn galw cyfoeth yn dwyllodrus, am fod y byd yn eu camarfer hwy i bob twyll a drygioni, y rhai o honynt eu hunain ydynt ddaionus roddion Duw a moddion trwy y rhai y mae gweision Duw yn ei wasanaethu ef wrth eu harfer hwy yn weddus. Nid ydyw ef yn gorchymmyn iddynt wneuthur y cyfoethogion yn gyfeillion, a mynnu iddynt eu hunain vchelfraint a derchafiaeth bydol, rhoddi rhoddion mawrion i wyr cyfoethogion, [Page 133] nad oes eisiau arnynt, ond gwneuthur cyfeillion o'r tlodion a'r anghenus, i'r rhai pa beth bynnac a roddant mae Christ yn ei gymmeryd megys pe rhoddid hynny iddo ef ei hun.
Ac i'r cyfeillion hyn y mae Christ yn yr efengyl yn rhoddi y fath anrhydedd a gorvwchafiaeth, hyd onid ydyw yn dywedyd y derbyniant hwy y rhai a wnelont ddaioni iddynt i dai tragwyddol. Nid am y bydd dynion yn obrwywyr ini am y daioni a wnelom, ond o herwydd y gobrwya Christ ni, ac y cymmer ef bob peth a wnelom i'r fath gyfeillion, megis pe gwnelsem hynny iddo ef ei hun.
Fal hyn wrth wneuthur y tlodion truain yn gyfeillion ini, yr ydym yn gwneuthur ein Iachawdwr Christ yn gyfaill, aelodau yr hwn ydynt hwy. Y rhai fal y mae fe yn cymmeryd eu gofidion yn ofid iddo ei hun, felly y mae fe yn cymmeryd eu cynnorthwyad, eu cysurhad, a'u diddanwch hwy, yn gynorthwyad, yn gysurhad, ac yn ddiddanwch iddo ei hunan, ac fe rydd ini gymmaint o wobr a diolch, am y daioni a ddangosom iddynt hwy, a phe byddai fe ei hun gwedy derbyn y fath roddiō oddiar ein dwylaw, fal y tystiolaetha ef yn yr efengyl, gan ddywedyd, Pa beth bynnac a wnaethoch i vn o'r rhai lleiaf o'm brodyr hyn, i Math. 25. 40. myfi y gwnaethoch.
Am hynny synnwn yn ddiwall na ddyffygio 'n ffydd ni a'n gobaith, y rhai a osodasom ni ar y goruchaf Dduw a'n Iachawdwr Christ: ac nad oero y cariad yr ydym yn cymmeryd arnom ein bod yn ei ddwyn tuag atto. Ond myfyriwn beunydd yn ddiwall ar ddangos ein bod yn gwir anrhydeddu ac yn caru Duw, trwy gadw ei orchymynion [Page 134] ef, a thrwy wneuthur daioni i bawb o'n cymydogion anghenus, gan gynnorthwyo ymmhob modd ac y gallom eu tlodi hwy â'n cyfoeth ac â'n halaethrwydd, eu hanwybodaeth hwy â'n doethineb ac â'n dysc; a chan gysuro eu gwendid hwy â'n nerth ac â'n hawdurdod: gan alw pawb yn eu hol oddiwrth eu drygioni trwy gyngor duwiol, a siampl dda: gan barhau yn wastad yn gweuthur daioni yr hyd y bythom byw.
Ac felly ni bydd rhaid ini ofni angau am vn o'r tri achos a soniasom ni o'r blaen am danynt, nac etto am vn achos arall ac a ellir ei feddyliaid. Ond o'r gwrthwyneb gan ystyriaid aml glefydon, trallod, a thristwch y bywyd persennol hwn, a pheriglau yr enbaid bererindod ymma, a'r llwyr rwystr y mae ein hyspryd yn ei gael trwy 'r cnawd pechadurus, a'r corph egwan yr hwn sydd gaeth i angau: gan ystyriaid hefyd ofidiau ac enbaid dwyll y byd hwn o bob ystlys: anescorol falchedd, trachwant, a goddineb yn amser hawddfyd: anioddefau a grwgnach y rhai bydol yn amser adfyd, y rhai ni orphwysant yn ein cymmell, ac yn ein tynnu ni oddiwrth Dduw, ac oddiwrth ein Iachawdwr Christ, oddiwrth ein bywyd, ein cyfoeth, ein tragwyddol lawenydd a'n Iachawdwriaeth: gan ystyriaid hefyd aneirif gyrchau diafol y gelyn ysprydol, a'u holl Saethau. biccellau tanllyd, vchelfwriad, balchedd, godineb gwag-ogoniant, cenfigen, malis, gogan ac enllib gydâ thwyllau, rhwydau a maglau aneirif eraill, i ddala pawb dan ei arglwyddiaeth: ŷr hwn y sydd bob amser fal llew rhuadus, yn rhodio oddiamgylch gan geisio y neb a allo ei lyngcu.
Y Christion ffyddlon sydd yn ystyriaid yr holl 1. Pet. 5. 8. [Page 135] flinderau, enbeidrwydd ac afles ymma, i'r rhai y mae fe yn gaeth yr hydy bytho fyw ar y ddayar hon; ac yn ystyrio hefyd o'r ystlys arall fendigedig diddanus stât y bywyd nefol, sydd ar ddyfod, a melus gyflwr y rhai a ymadawsant yn yr Arglwydd: pa fodd y maent gwedy eu ryddhau oddiwrth wastadol rwystrau eu cyrph marwol pechadurus, oddiwrth holl falis, twyll a rhwystrau y byd hwn, oddiwrth holl gyrchau diafol eu gelyn ysprydol, i fyw mewn heddwch a gorphwisfa a didrangc esmwythder, ynghyfeillach aneirif o angylion ac ynghynlleidfa gwyr cyfiawn perffaith, Patriarchau, Prophwydi, Merthyri a Chyffeswyr, ac yn ddiwethaf yngwydd yr holl-alluog Dduw a'n Iachawdwr Iesu Grist.
Yr hwn sydd yn ystyriaid yr holl bethau hyn, ac yn eu credu yn ddiammau (megis y dlyid eu credu hwy) o ddyfnder ei galon, gwedy ei siccrhau yn-Nuw yn y wir ffydd hon, a chantho gydwybod esmwyth ynghrist, a chadarn obaith a diogel ymddired yn-hrugaredd Duw, trwy haeddiant Iesu Grist, ar gael o hono lonydd wch esmwythder a thragwyddol lawenydd: fe fydd nid yn vnic heb ofn angau corphorol pan ddelo, onid hefyd yn ddiau (megis y gwnaeth S. Pawl) felly Phil. 1. 23. yntef yn llawen (yn ol ewyllys Duw pan welo Duw yn dda ei alw ef o'r byd hwn) a chwenycha yn ei galon gael ymadel â'r holl achosion hyn o ddrygioni, a byw yn dragywydd gydâ Christ Iesu ein Iachawdur wrth fodd Duw mewn vfydddod perffaith i'w ewyllys ef. At yr hwn Iesu Grist, Duw o'i fawr râd a'i drugaredd a'n dycco ni, i deyrnasu gydag ef yn y bywyd tragwyddol▪ [Page 136] I'r hwn gydâ 'r Tâd nefol, a'r Yspryd glân y bytho gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Annogaeth ynghylch trefn dda ac vfydd-dod i swyddogion a Llywodraeth-wyr.
FE greodd ac a osododd yr Hollalluog Dduw bob peth ac y sydd yn y nef, yn y ddayar ac yn y dwfr, mewn trefn berffaith odidog. Fe a osododd yn y nefoedd wahanol ac amryw drefnau a galwedigaethau o Angelion ac Archangelion. Ar y ddayar fe a ddododd ac a osododd frenhinoedd, tywysogion, a llywiawdwyr eraill danynt hwythau, ym-mhob trefn ddaionus angenrheidiol. Yr ydys yn cadw y dwfr oddi vchod, ac mae fe yn glawio i lawr mewn dyladwy a chyfaddas amser. Mae 'r haul, y lleuad, y ser, yr Bwa 'r drindod. enfys, y Trysau. taranau, y Lluched. mellt, y cwmmylau a holl adar yr awyr yn cadw eu trefn. Mae 'r ddayar, y coed, yr hadau, y plannigion, y llysiau, yr ŷd, y glaswellt a phob rhyw anifeiliad yn eu cadw eu hunain mewn trefn. Mae pob rhan o'r flwyddyn, megis gauaf, haf, misoedd, nosweithiau a dyddiau yn arhos yn eu trefn. Mae holl byscod y môr, afonydd a dyfroedd, holl ffynhonnau a ffrydiau, ie y moroedd eu hunain hefyd yn cadw eu gweddaidd a'u harferedig gylch a'u trefn.
Ac mae dŷn ei hunan hefyd ym-mhob rhan o hono, oddifewn ac oddiallan, megis enaid, calon, meddwl, côf, deall, rheswn, ymadrodd, a phob rhan ac aelod o'r corph hefyd, mewn trefn hardd, [Page 137] angenrheidiol, fuddiol. Fe a osodwyd i bob grâdd o bobl yn eu swyddau a'u galwedigaethau, eu dylyed a'u trefn: rhai mewn graddau vchel, rhai mewn graddau isel, rhai yn frenhinoedd ac yn dywysogion, rhai yn iselwyr ac yn ddeiliaid, yn offeiriaid ac yn wŷr llŷg, yn feistri ac yn wasanaethwŷr, yn dadau ac yn blant, yn wyr ac yn wragedd, yn gyfoethogion ac yn dlodion: a phob vn yn rhaid iddo wrth ei gilydd: megis y mae daionus drefnid Duw i'w glodfori ym-mhôb peth, heb yr hwn ni ddichon vn tŷ, vn ddinas na gwladwriaeth sefyll nac arhos na pharhau.
O herwydd lle nid oes iawn drefn yno y gwladycha camarfer, rhydd-did cnawdol, traha, pechod a Babyloniaidd gymmysc. Tynnwch ymmaith frenhinocdd, tywysogion, llywodraethwyr, rheolwyr, barn-wyr a'r cyfryw raddau o drefnio Duw, ni ddichon neb na cherdded na marchogaeth y ffordd fawr heb ei yspeilio: ni ddichon neb gyscu yn ei dŷ ei hun a'i wely heb ei ladd, ni ddichon vn dyn gadw ei wraig a'i blant a'i feddiannau mewn llonyddwch. Fe fydd pob peth yn gyffredinol: ac o hyny mae yn rhaid canlyn pob anffawd ac echrys, a llwyr a chwbl ddistryw ar eneidiau a chyrph, golud a gwladwriaeth.
Ond bendigedig fo Duw nad ydym ni yn yr Ynys hon o Brydain fawr yn gorfod i ni oddefyr Echrydus. erchyll flinderau, cyfyngderau a'r trueni, y rhai yn ddiammau y maent hwy yn eu goddef y rhai sy a diffyg y drefn ddaionus hon arnynt. A moliant fyddo i Dduw ein bod ni yn adnabod godidawg rodd Duw a ddangosodd efe i ni yn y peth ymma. Fe a ddanfonodd Duw i ni rodd arbennig, ein daionns Arglwydd frenhin Iames, y [Page 138] frenhines Ann, tywysog Henri, ac eppil frenhinol eraill o'u cyrph hwy ill dau, a chyngor duwiol, anrhydeddus doeth; ac ycheliaid ac isseliaid eraill mewn trefn dduwiol hardd.
Gwnawn ni am hynny sy ddeiliaid ein rhwymedig ddlyed gan ddiolch i Dduw â'n holl galonnau, a gweddio arno ef ar gadw y dduwiol drefn hon. Vfyddhawn bawb o waelodion ein calonnau i'w holl dduwiol gynghorau, cyfreithiau, cyhoeddiadau a gorchymmynion, a phob trefn dduwiol arall. Ystyriwn scrychyrau yr Yspryd glân, y rhai a'n hannog ac a'n gorchymmyn i fod yn vfydd-ostyngedig, yn gyntaf ac yn enwedig i oruchelder y brenhin, llywydd goruchaf pawb. Yn ail i'r cyngor anrhydeddus, ac eraill bendefigion, llywodraeth-wŷr a swyddogion, y rhai trwy ddaioni Duw a osodwyd ac a drefnwyd arnom. O blegid yr Holl-alluog Dduw yw awdur a pharotoydd y dull a'r drefn ymma. Megis y dywaid Duw ei hûn yn llyfr y diarhebiō, drwyddofi y teyrnasa brenhinoedd, ac y barna y pennaethiaid Diar. 8. 15. gyfiawnder: drwyddofi y rheola tywysogion a phendefigion, a holl farnwyr y ddayar. Y neb a'm caranti, mi a'u caraf hwynt.
Ystyriwn yn dda a chofiwn vchel allu ac awdurdod brenhinoedd a'u cyfreithiau, a'u barnau, a'u swyddau, nad ydynt ordeiniaethau dŷn, ond ordeiniaethau Duw: ac am hynny yr ydys mor fynych yn adrodd y gair ymma Trwyddofi. Ymma hefyd y dlyem gofio ac ystyried mai Duw o'i ddoethineb, o'i ddaioni ac o'i gariad a osododd y drefn ddaionus ymma i'r rhai a garant Dduw, ac am hynny y dywaid, y neb a'm carant i, mi a'u caraf hwynt.
[Page 139] Yn llyfr y doethineb y gallwn weled yn eglur mai daionus rodd Duw yw gallu, cadernid ac awdurdod brenhin, ac mai Duw o'i fawr drugaredd a'i rhoddes er diddanu ein mawr drueni ni. Canys fel hyn y darllenwn ni yno ddywedyd wrth frenhinoedd, Gwrandewch frenhinoedd, a deallwch farnwyr eithafoedd y ddayar, clustymwrādewch Doeth. 6. lywodraeth-wyr y dyrfa: oblegid y cryfoer a gawsoch chwi gan yr Arglwydd, a'r gallu gan y goruchaf. Dyscwn ymma hefyd gan anghelwyddog a didwyll air Duw, fod brenhinoedd a goruchel bennaethiaid eraill gwedi eu hordeinio gan Dduw, yr hwn sydd vchaf i gŷd. Ac am hynny y dyscir hwy ymma yn ddiwall, i ymosod ac i ymroi i wybodaeth a deall angenrheidiol i drefnu pobl Dduw a roddwyd tan eu llywodraeth hwy, neu y rhai a orchymmynnasai Dduw iddynt eu rheoli. Ac ymma y dyscir hwy gan yr holl-alluog Dduw, i gydnabod iddynt dderbyn eu holl allu a'u cryfder, nid o Rufain, onid yn ddigyfrwng oddiwrth Dduw goruchaf.
Yr ydym ni yn darllen yn llyfr Deuteronomium Deut. 32. 35. fod pob cosp yn perthynu i Dduw, wrth yr ymadrodd hyn Myfi piau dialedd, ac mi a'i talaf. Ond rhaid ini ddeall fod yr ymadrodd hwn yn perthyn i lywodraeth-wyr hefyd, y rhai sy yn lle Duw yn gwneuthur barn, ac yn cospi trwy gyfreithiau daionus duwiol ymma ar y ddayar. A'r lleoedd o'r Scrythyr lân, y rhai a ellir tybied eu bod yn tynnu ymmaith o blith Christianogion, farn, cosp a lladd, a ddlyid eu deail fel hyn, Na ddlyai neb o 'i vnig awdurdod eu hun gymmeryd arno farnu eraill neu eu cospi neu eu lladd.
Ond mae yn rhaid i ni adel yob barn i Dduw, i [Page 140] frenhinoedd, i lywodraeth-wŷr, a'r barnwŷr danynt hwy, y rhai ydynt swyddogion Duw i wneuthur cyfiawnder, ac ydynt wrth eglur dystiolaeth yr Scrythyr a'u hawdurdod a'r cleddyf wedi ei ganiattau iddynt gan Dduw, fel y dyscodd Paul ni, anwyl a dewisol Apostol ein Iachawdwr Christ, i'r hwn y dlyem vfyddhau mor ddiescaclus ac yr vfyddhaem i'n Iachawdwr Christ pe bai ef yn bresennol. Fal hyn yr scrifenna Paul at y Rhufeiniaid, Rom. 13. 1. Ymddarostynged pob perchen enaid i'r awdurdodau goruchaf, am nad oes awdurdod onid o Dduw, a'r awdurdodau ydynt, gan Dduw y maent gwedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhâd Duw: a'r rhai a wrthwynebant a dderbyniant iddynt eu hunain farnedigaeth: canys tywysogion nid ydynt ofnus i weithred-wŷr da, onid i'r rhai drŵg. A fynni di fod heb ofn y gallu, gwna'r hyn sydd dda ti a gai glod gantho; canys gwasanaethwr Duw yw efe er lles i ti: Ond os gwnai yr hyn sydd ddrŵg, ofna, am nad yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer, canys gwasanaethwr Duw yw efe i ddial llid ar yr hwn a wnelo ddrŵg. O herwydd paham angenrhaid yw ymddarostwng, nid yn vnig o herwydd llid, ond er mwyn cydwybod. Am hynny y telwch deyrn-ged, oblegid gwasanaeth-wyr Duw ydynt, yn gwasanaethu i'r peth ymma.
Dyscwn ymma gan S. Paul, dewisol lestr Duw, fod ar bob perchen enaid (nid yw efe yn dieithro neb, nac Apostol nac offeiriad na phrophwyd fel y dywaid S. Chrysostom,) o'u rhwymedig ddyled, ac er mwyn cydwybod vfydd-dod a gwarogaeth i'r awdurdodau goruchaf, y rhai ydynt gwedy [Page 141] eu danfon mewn awdurdod oddiwrth Dduw, yn gymmaint a'u bod hwy yn rhaglawiaid i Dduw, yn fugeiliaid i Dduw, yn swyddogion i Dduw, yn weinidogion i Dduw, yn farn-wyr i Dduw, wedi eu hordeinio gan Dduw ei hunan, oddiwrth yr hwn yn vnig y mae iddynt eu holl allu, a'u holl awdurdod. Ac nid yw yr vn S. Paul yn bygwth dim llai cosp nâ thragwyddol farnedigaeth i'r holl anufyddion a wrthwynebant y gyffredinol awdurdod ymma: am nad ydynt hwy yn gwrthwynebu dŷn, onid Duw: nid dychymmyg ac amcanion dŷn, ond doethineb, trefn, gallu ac awdurdod Duw.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am vfydd-dod.
YN gymmaint a darfod i Dduw greu a gosod pob peth mewn trefn weddaidd, fe a ddangoswyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth am drefn ac vfydd-dod, y dylyem ni hefyd ym-mhob gwladwriaeth, gadw a chynnal trefn gyfaddas, a bod yn vfydd i bob galluau, a'u hordeiniaethau a'u cyfreithiau: a bod pob llywodraeth-wyr gwedy eu hordeinio gan Dduw, er mwyn cynnal trefn ddaionus yn y bŷd: a hefyd a dylyai y llywodraethwyr ddyscu llywodraethu a rheoli yn ôl cyfreithiau Duw: a bod eu holl ddeiliaid yn rhwymedig i vfyddhau iddynt, megis gwasanaeth-wyr Duw, Bei rhan. pe rhôn a'u bod yn ddrŵg, nid yn vnig rhag ofn; onid er mwyn cydwybod hefyd.
Ac ymma, bobl dda, ystyriwn yn ddiwall nad [Page 142] cyfraithlon i iseliaid, a deiliaid, mewn vn achos wrthwynebu a gwrthsefyll y galluau goruchaf. O herwydd eglur ydyw geiriau Paul, fod pob vn a wrthwynebo yn ennill damnedigaeth iddo ei hûn. O herwydd pwy bynnag a wrthwynebo a wrthwyneba ordinhâd Duw. Fe gafodd ein Iachawdwr Christ ei hûn a 'i Apostolion lawer o gammau oddiar ddwylaw gwŷr drŵg anffyddlon oeddynt mewn awdurdod. Etto ni ddarllensom ni erioed iddynt hwy nac i vn o honynt wneuthur nac anghyfundeb na gwrthryfel yn erbyn y rhai oedd mewn awdurdod. Yr ydym yn darllen yn fynych iddynt oddef yn ddyoddefgar bob trallod, blinder, sclawndyrau, ing, poenau ac angau ei hun yn vfydd heb na therfyscu na gwrthwynebu. Hwy a roesant y cwbl arno ef sydd yn barnu yn gyfiawn, ac a weddiasant yn ddwys ac yn ddifrif dros eu gelynion. Hwy a wyddent mai ordinha▪d Duw oedd awdurdod y galluoedd, ac am hynny yn eu geiriau a'u gweithredoedd hwy a ddyscent i bawb vfyddhau iddynt, ac erioed ni ddyscasant y gwrthwyneb. Fe ddywedodd yr anghyfiawn farnwr Pilat wrth ein Iachawdwr Christ, Oni wyddost ti fod gallu ynofi i'th groeshoelio di, a gallu i'th ollwng di yn rhydd: Iesu a attebodd, Ni bydde i ti awdurdod arnafi, oni bai ei roddi i ti oddi-uchod.
Trwy 'r hyn y dangosodd Christ yn oleu fod gallu ac awdurdod y rheolwyr drwg oddiwrth Dduw, ac am hynny nad yw gyfreithlon i'w deiliaid sefyll yn eu herbyn hwynt, er eu bod hwynt yn camarfer eu gallu. Anghyfraithlonach gan hynny o lawer yw i ddeiliaid sefyll yn erbyn eu duwiol a'u Christianogol dywysogion, y rhai ni [Page 143] chamarferant eu hawdurdod, ond a'i harferant i ogoniant Duw, ac er bûdd a lles i bobl Dduw.
Ac y mae 'r Apostol sanctaidd Petr yn gorchymmyn i wasanaeth-ddynion fod yn ostyngedig 1. Pet. 2. 18. & 21. i'w meistred, nid yn vnig i'r rhai daionus mwynion, ond i'r rhai drŵg gwrthgas hefyd: gan ddywedyd, mai galwedigaeth pobl Dduw yw bod yn oddefus, ac o'r blaid orthrymmedig. Ac yno y mae efe yn datcan ammynedd a dioddefgarwch ein Iachawdwr Christ, er mwyn ein hannog ni i fod yn vfydd i 'n llywodraeth-wŷr, ie er eu bod hwy yn annuwiol ac yn ddrwg-weithred-wyr.
Yn awr gwrandawn S. Petr yn ei eiriau ei hûn, o herwydd ei eiriau ef ei hûn a siccrhâ 'n cydwybod ni orau. Fel hyn y dywaid ef yn ei Epistol cyntaf, Y gweinidogion, ymostyngwch mewn pob ofn i'ch meistred, nid yn vnig os hwy fyddant dda a mwynion, ond os hwy a fyddant ddrŵg ac anghyweithas hefyd. Canys hyn sydd rasol os dŵg neb gystudd o herwydd cydwybod i Dduw, gan ddioddef yn ddiachos: o herwydd pa glod sydd er bod yn dda eich ammynedd, pan gernodier chwi am eich beiau: eithr pan wneloch dda, ac er hynny yn dda eich ammynedd yn goddef, hyn sydd rasol ger bron Duw: canys i hyn y'ch galwyd chwi. Oblegid Christ hefyd a ddioddefodd trosom ni gan adel i ni siampl, fal y gallech chwi ganlyn ei ôl ef. Geiriau S. Petr ydyw 'r holl eiriau hyn.
Mae Dafydd hefyd yn dangos i ni wers dda yn hyn o beth, yr hwn a erlidiwyd lawer gwaith yn greulon ac yn gamweddus, ac a ddodwyd yn fynych iawn mewn enbeidrwydd a pherigl o'i fywyd [Page 144] gan frenhin Saul a'i bobl, etto ni wrthwynebodd ef erioed, ac nid arterodd na grym nac arfau yn erbyn brenhin Saul, ei elyn hyd angau: ond fe wnai yn wastad i'w Arglwydd a't feistr brenhin Saul wasanaeth cywir, diwall, ffyddlon: yn gymmaint a phan ddaroedd i 'r Arglwydd Dduw roddi brenhin Saul yn ei ogof eihun, ynnwylaw Dafydd, ni wnai efe eniwed iddo, pan 1. Sam. 18. 19. 10, 23, 24, 26. allasai yn hawdd heb ddim enbeidrwydd corphorol ei ladd ef: ie ni oddefai ef i vn o'i weision ddodi ei ddwylaw ar frenhin Saul, ond fe a weddiodd ar Dduw yn y geiriau hyn, Na atto 'r Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i 'm meistr, enneiniog yr Arglwydd, gan estyn fy llaw yn ei erbyn ef, oblegid enneiniog yr Arglwydd yw efe.
Ac y gallasai Ddafydd ladd brenhin Saul ei elyn, mae yn eglur ddigon yn llyfr cyntaf Samwel, cystal wrth dorriad cwrr ei fantell ef, ac 1. Sam. 24. 5, 7, 19. wrth gyffes eglur Saul ei hunan. Ac mewn man arall hefyd yn yr vn llyfr, pan ydoedd yr annhrugarog a'r afrywog frenhin Saul yn erlid Dafydd ddiddrwg, fe a roddodd Duw frenhin Saul eilwaith i ddwylaw Dafydd, gan daflu brenhin Saul a'i holl lû i gŵsc marwol, fel y daeth Dafydd ac vn Abisai gydag ef o hyd nôs i wersyllfa Saul, lle yr ydoedd Saul yn cyscu, a'i waywffon wrth ei ben, gwedy ei gwân yn y ddayar. Yna y dywedodd Abisai wrth Ddafydd, Duw a roddes heddyw dy elyn yn dy law di: yn awr gâd i mi ei daro ef, adolwg, â gwaywffon hyd y ddayar 1. Sam, 26. 7, 8, 9. vnwaith, ac nis ail tarawaf ef: gan feddwl y lladdai efe ef ar vn ergyd, ac na byddei raid byth ei bryder ef.
A Dafydd a ddywedodd wrth Abisai, Na ddifa [Page 145] ef, canys pwy a estynnai ei law yn erbyn enneiniog yr Arglwydd, ac a fyddai dieniwed. Adywedodd Dafydd hefyd, fel y mae 'r Arglwydd yn fyw naill ai 'r Arglwydd a'i tery ef, neu ei ddydd ef a ddaw i farw, neu ef a ddescyn i 'r rhyfel, ac a ddifethir. Yr Arglwydd, a'm cadwo i rhac estyn fy llaw yn erbyn enneiniog yr Arglwydd. Ond cymmer yn awr attolwg y waywffon yr hon sydd wrth ei obennydd ef, a'r phioled ddwfr, ac awn ymmaith: ac ef a wnaeth felly. Ymma y gwelir yn eglur na ddlyem ni wrthwynebu, na drygu mewn modd yn y bŷd enneiniog frenhin, yr hwn yw rhaglaw a rhaglywydd Duw, a'i swyddog ef yn y wlâd y mae efe yn frenhin.
Ond fe a ddywaid rhyw vn ond odid, y gallasai Ddafydd er ei amddiffyn ei hûn, yn gyfraithlon ac â chyd wybod dda ladd brenhin Saul. Ond fe wyddai Ddafydd sanctaidd na allai fe mewn modd yn y byd wrthwynebu, eniweidio neu lâdd ei oruchaf Arglwydd frenhin. Fe wyddai nad ydoedd ef ond deiliad i Saul, ac er ei fod yn anwyl gan Dduw, a'i elyn ef brenhin Saul allan o ffafor Duw: ac am hynny er maint a annogid arno, etto fe a wrthodai yn hollawl eniweidio enneiniog yr Arglwydd. Ni feiddiai fe rhac gwneuthur yn erbyn Duw a'i gydwybod (er cael o hono le ac achos) ddodi ei ddwylo vnwaith ar y brenhin, vchel swyddog Duw: yr hwn a wyddai ef ei fod yn ddŷn a gedwid ac a oedid (er mwyn ei swydd) i'w gospi ac i'w farnu gan Dduw ei hun yn vnig. Am hynny y mae fe yn gweddio mor fynych ac mor ddifrif, na bai iddo ef ddodi ei ddwylaw ar enneiniog yr Arglwydd.
Trwy y ddwy siampl ynima, y mae Dafydd [Page 146] (yr hwn a elwir yn yr Scrythyr, yn ŵr wrth fodd calon Duw ei hûn) yn rhoddi rheol a gwers i ddeiliaid yr holl fyd na safont hwy yn erbyn eu goruchel Arglwydd frenhin: ac na chymmeront gleddyf drwy eu priodol awdurdod eu hunain yn erbyn eu brenhin enneiniog Duw, yr hwn yn vnig drwy awdurdod Duw sydd yn dwyn y cleddyf, er maentaenio daioni, a chospi drygioni: yr hwn yn vnig trwy gyfraith Dduw sydd a'r cleddyf ar ei orchymmyn, ac i'r hwn hefyd y mae yn perthyn pob gallu, rheolaeth, llywodraeth, cerydd a chosp, megis goruchaf lywodraethwr ar ei holl deyrnasoedd, gwledydd ac arglwyddiaethau, a hynny trwy awdurdod ac ordeinhâd Duw.
Mae etto athrawiaeth ac histori wŷch yn ail llyfr Samwel, yr hon sydd i'r defnydd ymma. Wedi darfod i Amaleciad wrth gytundeb a gorchymmyn 2. Sam. 1. 9. Saul ei hûn, lâdd-brenhin Saul, fe a aeth at Ddafydd, gan dybiaid y cai ddiolch mawr gan Ddafydd am ei newyddiau, am ddarfod iddo lâdd gelyn câs Dafydd: ac am hynny fe a ddaeth yn ebrwydd i ddywedyd wrth Ddafyd yr hyn a ddigwyddasai, gan ddwyn gantho y goron oddiar ben brenhin Saul, a'r fraichled yr hon oedd ar ei fraich ef, er siccrhau fod y newyddiau yn wir.
Ond yr ydoedd Dafydd dduwiol mor bell oddi wrth lawenychu am y newyddiau ymma, hyd oni rwygodd ef yn y man ei ddillad, y galarodd ef ac yr wylodd, ac y dywedodd wrth y gennad, Pa fodd nad ofnaisti estyn dy law ar enneiniog yr Arglwydd i'w ddifetha ef? Ac yn y man fe wnaeth Dafydd i vn o'i weision ladd y gennad, gan ddywedyd, Bydded dy waed di ar dy ben dy hûn, canys tystiolaethodd dy enau dy hûn yn dy erbyn, [Page 147] gan ddywedyd, myfi a leddais enneiniog yr Arglwydd.
Am hynny, gan fod y siamplau hyn mor oleu ac mor eglur, fe wŷl pawb nad ydyw ond dygyn anwybod, gwall-gôf ac anwiredd, i ddeiliaid rwgnach, gwrthryfelu, gwrthwynebu, gwrthsefyll, ymgyffroi neu gyfodi yn erbyn eu hanwyl a'u hofnadwy vchel Arglwydd frenhin, a osododd ac a ordeiniodd Duw o'i fawr ddaioni, er lleshâd a heddwch ac esmwythder iddynt hwy. Er hynny credwn yn ddiammau (bobl Gristionogawl ddaionus) na ddlyem ni vfyddhau brenhinoedd, llywodraeth-wŷr na neb arall, pe bai 'n tadau cnawdol, os hwy a orchymmynnant i ni wneûthur dim yn erbyn gorchymmyn Duw. Yn y fath bethau ni a ddlyem ddywedyd gydâ'r Apostolion, Rhaid i ni vfyddhau Duw yn fwy nâ dŷn.
Ond er hynny ar y fath achosion ni ddylêm ni sefyll yn erbyn, na gwrthryfelu, na chyfodi, nac ymderfyscu, nac ymgyffroi yn erbyn ein llywodraeth-wŷr ac enneiniog yr Arglwydd, na neb o'i swyddogion, na thrwy rym arfau nac yn vn ffordd arall. Ond yn y fath achosion ni a ddylêm yn esmwyth oddef pob cam a drygfyd, gan adel i Dduw farnu 'r cwbl. Ofnwn ofnus gosp y goruchaf Dduw yn erbyn brad-wyr gwrthryfelgar, a hynny wrth siampl Chore, Dathan ac Abiram, y rhai a gyfodasant ac a rwgnachasant yn erbyn llywodraeth-wŷr a swyddogion Duw: ac am hynny yr agorodd y ddayar eu genau, ac a'u llyngcodd hwynt yn fyw. Fe ddifethwyd eraill yn ddisymmwth â than a ddanfonodd Duw am eu melldigedig a'u gwrthryfelgar rwgnach. Eraill a darawyd â gwahanglwyf brwnt am eu dirras [Page 148] ymddygiad yn erbyn eu rheolwyr a'u llywodraeth-wyr, gweinidogion Duw. Eraill a Rwygwyd. frathwyd i angau gan seirph tanllyd. Eraill a blagwyd yn dôst, megis y lladdwyd mewn vn diwrnod bedair mil ar ddeg a saith gant o rifedi, am wrthryfelu yn erbyn y rhai a osodasai Duw mewn awdurdod. Absolon hefyd a gospwyd am wrthryfela yn erbyn ei dâd, trwy angau dieithr rhyfeddol.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth am vfydd-dod.
CHwi a glywsoch o 'r blaen yn y bregeth hon am drefn ac vfydddod, brofi yn amlwg wrth yr Scrythyr lân a siamplau, fod pob deiliaid yn rhwymedig i vfyddhau i'w llywodraeth-wŷr, ac na ddylai neb wrthwynebu, wrthryfelu, na therfyscu yn eu herbyn hwynt, Bei rhan. pe rhon a'u bod yn wyr drwg. Ac na thybyged neb y diangc ef yn ddigosp, ar a wnel brâd, cydfradwriaeth, traeturiaeth, a gwrthryfel yn erbyn ei oruchel Arglwydd frenhin, er dirgeled y gwnelo ef hynny, pa vn bynnag ai mewn meddwl, ai mewn gair, ai mewn gweithred, er Rhined. cyfrinacholed fytho hynny yn ei stafell ddirgel wrtho ei hûn, ai yn gyhoeddus wrth ymddiddan ac ymgynghori ag eraill.
O herwydd ni ellir celu traeturiaeth, na ddêl ef i oleuni yn y diwedd. Fe fyn Duw gyhoeddi a chospi y dygyn fai câs hwnnw, am ei fod mor [Page 149] iniawn yn erbyn ei ordeiniaeth ef, ac yn erbyn ei oruchel arbenning farnwr ef, a'i enneiniog ar y ddayar. Fe fyn Duw gyhoeddi a chospi yn ôl ei haeddiant, mewn rhyw ffordd neu ei gilydd, y trais a'r cam a wneler yn erbyn Duw, yn erbyn gwlad wriaeth ac yn erbyn yr holl deyrnas. Canys gwych yr scrifennodd y gŵr call yn yr Scrythyr lân, yn y llyfr a elwir Ecclesiastes, neu lyfr y Pregethwr. Na felldithia y brenhin yn dy galon, Preg. 10. 20. ac yn dy ddirgel stafell na ddywed ddrŵg am dano: canys ehediaid yr awyr a gyhoeddant dy lais, a'r aderyn a ddatguddia dy laferydd. Yrydys gwedi scrifennu y gwersi a'r siamplau hyn, er dysc i ni.
Ofnwn am hynny bawb o honom atcas a dygyn fai gwrthry felgarwch, gan wybod a chofio yn wastadol, am yr hwn a wrthwynebo neu a safo yn erbyn cyffredinol awdurdod, ei fod ef yn gwrthwynebu ac yn sefyll yn erbyn Duw ei hûn a'i ordeiniaeth: fel y gellir ei brofi wrth lawer o leoedd o'r Scrythyr lân. Ac ymma edrychwn na ddeallom ni y lleoedd hyn a lleoedd eraill o 'r Scrythyr lân (y rhai ydynt mor gaeth yn gorchymmyn vfydd-dod i 'r pennaethiaid, ac a gospasant mor dwys wrthryfelgarwch ac anufydddod) na ddeallom (meddaf) mo honynt am y gallu y mae Escob Rhufein yn ei gymmeryd arno. O herwydd yn wir nid yw Scrythyr Duw yn cynnwys y drahaus awdurdod honno, yr hon sydd yn llawn o bob traha, camarferon a chabledd. Ond gwir ystyr y lleoedd hynny a'r fath leoedd yw clodfori a gosod allan wir ordinhâd Duw, ac awdurdod brenhinoedd enneiniog Duw, a'u swyddogion a osodwyd danynt.
[Page 150] Ac am y gallu y mae Escob Rhufein yn ei gymmeryd arno, yr hwn y mae ef yn ei sialens yn rhy anghyfiawn, megis canlynydd Christ a Phetr: ni a allwn yn hawdd weled mor ffalst, anghywir ac anwireddus yw: a hynny nid yn vnig am nad oes iddo sail diogel yn yr Scrythur lân, ond hefyd wrth ei ffrwythau a'i athrawiaeth. O herwydd mae ein Iachawdwr Christ a S. Petr yn ddifri ac yn gytûn yn dyscu vfydd-dod i frenhinoedd megis i'r adderchoccaf a'r goruchaf lywodraeth-wyr yn y byd hwn yn nefaf dan Dduw. Ond mae Escob Rhufain yn dyscu fod y rhai ydynt dano efyn rhyddion oddiwrth bob baich a chost gyffredin, ac o vfydd-dod tuag at eu tywysogiō, yn eglur ddigon yn erbyn athrawiaeth Christ a S. Petr.
Gwell am hynny y gellid ei alw ef yn Anghrist, ac yn ganlynwr i'r Scrifennyddion a'r Pharisaeaid, nag yn Vicar Christ, ac yn ganlynydd Petr. O herwydd nid yn vnig yn y peth hyn, ond mewn matterion trymion eraill o Gristionogawl greddyf, megis mewn materion o ollyngdod a maddeuant pechodau ac Iechydwriaeth, mae efe yn dyscu yn iniawn yn erbyn Petr, ac yn erbyn ein Iachawdwr Christ, y rhai nid yn vnig a bregethasant ar eiriau vfydd-dod i frenhinoedd, ond a arferasant hefyd yr vnrhyw vfydd-dod yn eu bywyd a'u hymddygiad.
O herwydd yr ydym ni yn darllen dalu o honynt hwy ill dau deyrnged i'r brenhin: ac yr ydym Math. 17. 17. yn darllein i'r sanctaidd forwyn fair, mam ein Iachawdwr Christ, a Ioseph yr hwn a dybid ei fod yn dâd iddo, ar orchymmyn yr Ymmerodr fyned ill dau i ddinas Dafydd, yr hon a elwir Bethlehem i'w trethu ym mysc eraill, ac i ddangos eu [Page 151] hufydd-dod i'r llywodraeth-wŷr, er mwyn ordinhâd Duw. Ac ymma nac anghofiawn vfydd-dod Luc. 2. 4, 5. y sanctaidd forwyn fair: o herwydd er ei bod hi yn anwyl iawn gan Dduw, ac yn fam naturiol i Ghrist Iesu, ac yn feichiog fawr yr amser hynny, a chyn nessed i'w hamser ac y cafas hi escor yn ei thaith: etto hi a gymmerth y pryd hynny yn llawen y daith honno (er mwyn cydwybod) a hynny yn oerfel gauaf, heb nac escus na grwgnach: a hi mor dlawd ac y gorweddodd hi mewn stabl ac yr escorodd hi yno ar Ghrist.
Ac yn yr vn modd y mae S. Petr yn scrifennu â geiriau eglur yn ei epistol cyntaf, Ymddarostyngwch i 1. Pat. 2. 18. bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arglwydd, ac i'r brenhin fel i'r goruchaf, ac i'r llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir, er dialedd i'r rhai drwg, ac er mawl i'r rhai da: canys felly y mae ewyllys Duw. Nid rhaid i mi agoryd ystyr y geiriau hyn, maent hwy o honynt eu hunain mor eglur ac mor oleu. Nid ydyw S. Petr yn dywedyd, ymostyngwch i mi megis pen goruchaf yr Eglwys, ac nid yw efe yn dywedyd, ymostyngwch i'm canlynwyr i yn Rhufain, ond y mae fe yn dywedyd, ymostyngwch i'ch brenhin megis i'ch pennadur vchaf, ac i'r rhai y mae efe yn eu gosod mewn awdurdod dano, o herwydd ewyllys Duw yw i chwi ddangos felly eich gostyngeiddrwydd, ewyllys Duw yw i chwi fod mewn gostyngeiddrwydd i'ch pennadur a'ch brenhin.
Ordeinhâd Duw, a gorchymmyn Duw, a sanctaidd ewyllys Duw yw hyn, fod holl gorph pob teyrnas, a phob dŷn ac aelod o honi, yn ostyngedig i'w pennadur a'u brenhin, a hynny, fel y dywaid Petr, er mwyn yr Arglwydd, ac fel y dywed [Page 152] Pawl, nid rhac ofn yn vnig, ond er mwyn cydwybod. Rom. 13. 5.
Fel hyn y dyscŵn gan air Duw roddi i'n brenhin y peth sydd ddyledus i'r brenhin, hynny yw, anrhydedd, vfydd-dod, trethau, defodau, teyrnged, cymmorthau, cariad ac ofn. Fel hyn y gwyddom Math. 22. 21. mewn rhan, ein rhwymedig ddlyed i'r awdurdod cyffredinol, dyscwn weithion gyflawni hynny: a Rom. 13. 6. gweddiwn yn ddifrif ac yn wastadol ar Dduw vnig roddwr pob awdurdod, dros y rhai sydd mewn awdurdod megis y mae S. Pawl yn erchi, gan scrifennu fal hyn at Timotheus yn ei epistol 1. Tim. 2. 1, 2. cyntaf, Cynghori yr ydwyf am hynny ym-mlaen pob peth fod ymbil, gweddiau, deisyfiadau, a diolch dros bob dŷn, dros frenhinoedd, a phawb a osodwyd mewn awdurdod, fel y gallom fyw yn llonydd ac yn hoddychol, trwy bob duwioldeb ac honestrwydd: canys hyn sydd dda a chymmeradwy gar bron Duw ein Ceidwad. Fel hyn y mae S. Paul yn ddifrif ac yn hyspysol yn cynghori ac yn annog pawb i roddi diolch ac i weddio dros frenhinoedd a llywodraeth-wŷr, gan ddywedyd, Vwch law pob peth, megis pe dywedai, Er dim, ac yn bennafdim, gwnewch eich gweddi dros frenhinoedd.
Rhoddwn fawr ddiolch i Dduw am ei fawr a'i odidog rôdd, a 'i ragddarbodaeth ynghylch stât brenhinoedd, Gweddiwn drostynt, ar fod ewyllys da Duw a'i ymddifyn tu ag attynt. Gweddiwn ar iddynt bob amser osod Duw ger bron eu llygaid. Gweddiwn ar fod ganthynt ddoethineb, cyfiawnder, llaryeidd-dra, a zêl tu ag at ogoniant Duw, gwirionedd Duw, eneidiau Christianogion, a'u gwlâd. Gweddiwn ar iddynt hwy arfer eu cleddyf au' hawdurdod yn iniawn ac yn gymmwys [Page 153] er maenteinio ac ymddiffyn y ffydd Gatholig a gynhwysir yn yr Scrythur lân, a'u deiliaid honest, da: ac er ofn a chosp i'r bobl ddrŵg afreolus. Gweddiwn ar iddynt yn ffyddlon ganlyn llwybrau y brenhinoedd a'r blaenoriaid y mae sôn am danynt yn y Beibl, Dafydd, Ezechias, Iosias a Moses, ac eraill o'r cyffelyb. A gweddiwn drosom ein hunain ar i ni fyw yn dduwiol mewn ymddygiad Christianogawl, sanctaidd.
Felly y cawn ni Dduw ar ein hystlys, ac yno nid rhaid i ni ofni dim a ddichon dŷn ei wneuthur yn ein herbyn. Felly y byddwn byw mewn gwir vfydd-dod i'n trugarog frenhin nefol, ac i'n Christianogawl frenhin dayarol. Felly y rhyngwn fodd Duw, y cawn ddawn odidog, heddwch cydwybod, a llonyddwch ymma yn y byd hwn, ac yn ôl y byd hwn ni a gawn fwynhau bywyd a fo gwell mewn heddwch, a llonyddwch, a thragwyddol ddedwyddwch yn y nef. Yr hyn beth a ganiattao efe i ni igŷd, yr hwn a fu vfydd hyd angau 'r groes drosom ni i gŷd, Iesu Christ: i'r hwn gydâ 'r tâd a'r Yspryd glân, y byddo holl anrhydedd a gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
¶ Pregeth yn erbyn putteindra ac aflendid.
ER bod aml heidiau o bob drygioni a ddlyent eu ceryddu) bobl Gristianogol ddaionus) mae gwir dduwioldeb, a rhinweddol fywyd gwedi myned mor Anim. [...]. ambell, etto vwch law pob drygioni arall, mae anllywodraethus foroedd [Page 154] godineb neu dor-priodas, putteindra, anlladrwydd, ac afsendid, nid yn vnig gwedi torri i mewn, ond hefyd gwedy llifeirio ganmwyaf dros yr holl fyd, er mawr ddianrhydedd Duw, ac anfeidrol gabledd enw Christ, er cyhoeddus ddistryw gwir grefydd, a llwyr ddinistr daionus gyffredinolrwydd, a hynny mor halaeth, megis trwy fynych arfer o hono, y mae y drygioni hwn gwedy tyfu i'r fath vwchder, megis haychen ym-mhlith llawer o bobl ni chyfrifir ef yn bechod: onid yn hytrach yn ddigrifwch, yn gellwair a nwysiant ieuengtid, yr hwn ni cheryddir, ond a ddifrawir, yr hwn ni chospir, ond a chwerddir o'i blegid.
Am hyn anghenrhaid ydyw ar hyn o bryd draethu wrthych am bechod putteindra a godineb, a dangos i chwi faint y pechod ym-ma, ac mor gâs, mor ddigasog, ac mor ffiaidd ydyw ac y cyfrifwyd ef bob amser ger bron Duw a phob dŷn daionus, ac mor ddwys y cospwyd ef gynt, trwy gyfraith Dduw a chyfraithiau llawer o dywysogion: ac hefyd i ddangos i'wch ryw gyfarwyddyd, fel y galloch (trwy râs Duw) wachelyd erchyll bechod putteindra a goddineb, a byw mewn glendid ac honestrwydd. Ac er mwyn bod i chwi ystyried fod putteindra a godineb yn bechodau ffiaidd yngolwg Duw, chwi a gosiwch orchymmyn Duw, Nawna odineb. Yr hwn air, Godineb, er bod yn ei ddeall ef yn briodol am ymgymmysc ac anghyfraithlō gysylltiad gŵr priodol â rhyw wraig arall heb law ei wraig ei hun: neu wraig gydâ gŵr heb law ei gŵr ei hun: etto trwy 'r gair hwn hefyd yr arwyddocceir pob arfer anghyfraithlon o'r aelodau a osodwyd i genhedlu. Ac mae 'r vn gorchymmyn hwn, yr hwn sydd yn gwahardd godineb, [Page 155] yn paentio yn gyflawn, ac yn gosod ger bron ein llygaid ni faint pechod putteindra: ac yn dangos yn oleu mor ffiaidd y dylyai fod y pechod ymma gan bob dŷn honest ffyddlon.
A rhac i neb o honom feddwl fod gwedy ei ddieithro ef a'i ddosparth oddiwrth y gorchymmyn hwn: pa vn bynnag fythom ai hên ai ieuangc, ai priodol ai am-mhriodol, ai gŵr ai gwraig, gwrandawn pa beth a ddywaid Duw Dâd trwy ei odidawg brophwyd Moses, Na fydded puttain ymmhlith merched Israel, na phutteinwr ymmhlith Deut. 23. 7. meibion Israel. Ymma y gwaherddir pob putteindra, godineb ac aflendid, bob rhyw o bobl, i bob grâdd, i bob oedran yn ddiddieithrad.
A rhac i ni frith-dybied na pherthyn yr arch neu y gorchymmyn hwn attom ni yn wir, gwrandawn beth a ddywaid Christ (perffaith ddyscawdwr pob gwirionedd) yn y Testament newydd: Mat. 5. 57, 28. Chwi a glywsoch (medd Christ) ddywedyd wrth y rhai gynt, Na wna odineb: ond yr ydwyfi yn dywedyd i chwi, pwy bynnag a edrycho ar wraig gan ei chwennychu, a wnaeth odineb â hi eisioes yn ei galon, Ymma y mae ein Iachawdwr Christ, nid yn vnig yn cryfhau ac yn cadarnhau ygyfraith yr hon a roddase Dduw dâd yn yr hên destament, trwy ei wasanaethwr Moses yn erbyn godineb, ac yn ei gwneuthur hi o gyflawn rym i barhau dros fyth ym-mhlith proffeswyr ei enw ef yn y Testament newydd: ond mae fe hefyd (gan ddamnio angh y faddas ddeongliadau y Pharisę aid a'r scrifennyddion, y rhai a ddyscent fod y gorchymmyn hwn yn peri i ni yn vnig ymgadw rhag godineb oddi allan, ac nid rhag chwantau aflan a gwyniau ammhur) yn dyscu i ni gyfan a chyflawn [Page 156] berffeithrwydd, purder a glendid buchedd, i gadw ein cyrph yn ddihalog a'n calonnau yn bur, ac yn rhydd oddiwrth bob chwantau drŵg, cnawdol ddeisyfiadau a chyfundebau.
Pa fodd gan hynny y gallwn fod yn rhyddion oddiwrth y gorchymmyn hwn: lle mae cymmaint siars ŵedi ei osod arnom? a ddichon gwâs wneuthur y peth a fynno, a'i feistr yn gorchymmyn y gwrthwyneb iddo? Onid Christ yw ein meistr, a ninnau iddo ef yn weision? Pa fodd gan hynny yr esceuluswn ni fodd ac ewyllys ein meistr, a chā lyn ein ewyllys a'n ffanfi ein hunain? Fynghyfeillon i ydych chwi, medd Christ, os gwnewch y pethau yr wyfi yn eu gorchymmyn i chwi. Yn Ioan. 15. 14. awr fe a orchymmynnodd ein meistr Christ i ni ymwrthod a▪ phob aflendid yngorph ac Yspryd. Hyn, wrth hynny, sy raid i ni ei wneuthur, os ceisiwn fodloni Duw.
Yr ydym ni yn darllein yn Efangel S. Matthew, i'r Pharisæaid a'r Scrifennyddion ddigio Mat. 15. [...]. wrth Christ yn anial, am nad oedd ei ddiscyblon ef yn cadw traddodiadau yr henafiaid; canys ni olchent eu dwylo cyn cyniawa neu swpperu. Ymmhlith pethau eraill fe a attebodd Christ ac a ddywedodd, Gwrandewch a deellwch, nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r genau sydd yn halogi dŷn, ond y pethau a ddauant allan o'r genau sydd yn dyfod o 'r galon, a hwynt hwy a halogant ddŷn. Canys o 'r galon y mae meddyliau drŵg yn dyfod, llofruddiaeth, tor-priodas, godinebau, lledrad, camdystiolaeth, cabledd. Dymma y pethau sy yn halogi dŷn. Ymma y gallwn weled nad llofruddiaeth, lledrad, cam-dystiolaeth a chabledd yn vnig sydd yn halogi dŷn, ond hefyd [Page 157] meddyliau drŵg, tor-priodas, godineb a phutteindra.
Pwy sydd yn awr mor wan ei synwyr ac y tybia fod putteindra a goddineb yn bethau bychain yscafn ger bron Duw. Mae Christ yr hwn yw 'r Ioan. 14▪ 6. gwirionedd ac ni ddichon ddywedyd celwydd, yn dywedyd fod meddyliau drŵg, tor-priodas, putteindra a godineb yn halogi dŷn; hynny yw, yn llygru corph ac enaid dŷn, ac yn ei wneuthur ef o deml yr Yspryd glân, yn dommen front ac yn dderbynfa holl ysprydion aflân: o dŷ Dduw yn drigle sathan.
Trachefn yn Efangel Ioan pan ddygpwyd y Ioan. 5. 11. wraig a ddaliasid mewn godineb, ger bron Christ, fe a ddywad wrthi hi dôs, ac na phecha mwyach. Onid ydyw ef ymma yn galw putteindra yn bechod? a pha beth yw gwobr pechod, ond tragwyddol angau? Os yw putteindra yn bechod, nid Rom. 6. 23. yw gyfreithlon i ni ei wneuthur, o herwydd fel y dywaid Ioan, Yr hwn a wna bechod oddiafol 1. Ioan. 3. 6. y mae. Ac fe a ddywed ein Iachawdwr fod pob Ioan. 8. 34. vn a wnel bechod yn gaethwas i bechod. Oni bai fod putteindra yn bechod, diau na buasai Ioan fedyddiwr yn ceryddu Herod am gymmeryd gwraig ei frawd: ond fe a ddywedodd wrtho yn oleu, Nid cyfraithlon yw i ti gymmeryd gwraig Mar. 6. 18. dy frawd. Nid arbedodd ef butteindra Herod, er ei fod ef yn frenhin cadarn, ond fe a'i ceryddodd ef yn Hyf. eofn am ei fywyd melldigedig, drwg, er iddo ef golli ei ben am hynny. Ond gwell oedd gantho oddef angau nâ gweled dianrhydeddu Duw, drwy dorri ei sanctaidd airch a'i orchymmynion ef, ie nâ goddef mewn brenhin butteindra heb geryddu.
[Page 158] Pe na buasai putteindra ddim ond digrifwch a chellwair heb achos ei wneuthur cyfrif o hono (megis y tybia llawer am dano yn y dyddiau ymma) yn wir fe fuasai Ioan yn fwy nâ dwbl allan o'i bwyll, os ai ef tan anfodd brenhin, os goddefai ei daflu i garchar, a cholli ei ben am beth gwael dibris. Ond fe a wyddai Ioan yn dda ddigon mor frwnt, mor ddrewllyd, mor ffiaid yw pechod putteindra yngolwg Duw, ac am hynny ni oddefai ef mo hono heb geryddu; na wnai, mewn brenhin.
Onid ydyw putteindra gyfreithlon mewn brenhin, nid yw gyfreithlon mewn deiliad. Onid yw putteindra gyfraithlon mewn dŷn cyhoedd, a fyddo a swydd gyhoedd gantho, yn wir nid yw gyfraithlon mewn vn diswyddau. Onid yw gyfraithlon nac mewn brenhin nac mewn deiliad, nac mewn cyhoedd swyddog, nac mewn vn diswyddau: yn wir nid yw gyfraithlon nac mewn gŵr nac mewn gwraig, o ba râdd neu oedran bynnac y bônt.
Hefyd yr ydym ni yn darllein yngweithredoedd yr Apostolion, pan gasclodd yr Apostolion yr henuriaid a'r holl gynnulleidfa ynghyd, i lonyddu calonnau y ffyddloniaid y rhat oedd yn arhos yn Antiochia (y rhai a aflonyddasid trwy gauathrawiaeth rhyw Iuddewaidd bregethwyr) hwy a ddanfnasant air i'r brodyr, weled yn dda gan yr Yspryd glân a hwyntau, na ddodent arnynt faich Act. 15. 28. amgenach nâ'r pethau anghenrheidiol hyn: ymmhlith pethau eraill hwy a orchymmynnasant iddynt ymgadw rhag delw-addoliad a godineb, oddiwrth y rhai (eb y hwynt) os chwi a ymgedwch, da y gwnewch.
[Page 159] Edrychwch ymma fal nad ydyw y tadau sanctaidd bendigaid ymma o Eglwys Ghrist, yn gosod ar y gynnulleidfa ddim ond pethau anghenrheidiol. Ystyriwch hefyd fod yn cyfrif putteindra a godineb ym-mhlith y pethau a orchymmynnir i'r brodyr o Antiochia ymgadw oddiwrthynt. Anghenrhaid am hynny yw, wrth gyfundeb a therfyniad yr Yspryd glân a'r Apostolion a'r henuriaid a'r holl gynnulleidfa, fod im felly ymgadw oddiwrth odineb a phutteindra, megis oddiwrth ddelw-addoliad ac ofergoel. Mae yn anghenrhaid er Iachawdwriaeth, ymgadw rhag delw-addoliad, felly y mae ymgadw rhag putteiudra. Oes ffordd sydd nes a dywys i ddamnedigaeth, nâ delw-addoliad? nag oes. Felly hefyd nid oes ffordd nes a dywys i ddistrw corph ac enaid, nâ godineb a phutteindra.
Pa le weithian y mae y bobl a wnânt mor fychan o dor-priodas, putteindra godineb ac aflendid? Mae yn anghenrhaid, medd yr Yspryd glân, medd y bendigedig Apostolion, medd yr henuriaid a holl gynnulleidfa Ghrist; mae yn anghenrhaid, meddant, er Iachawdwriaeth ymgadw oddiwrth butteindra. Os yw anghenrhaid i Iechyd wriaeth, gwae y rhai gan esceuluso eu hiechydwriaeth, a roddant eu meddyliau i bechod mor frwnt, ac mor ddrewllyd, i fai cynddrŵg, ac i ffieidd-dra mor erchyll.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn goddineb.
FE a ddangoswyd i chwi yn y rhan gyntaf o'r bregeth yn erbyn goddineb, fel y mae y bai hwnnw ar hyn o amser, yn teyrnasu vwch law pob bai arall: a pha beth yw ystyr y gair, Godineb: a pha fodd y mae 'r Scrythur lân yn ein hannog ac yn ein cynghori ni i wachelyd y bai brwnt ymma: ac yn ddiwethaf, pa lygredigaeth sydd yn dyfod ar enaid dŷn, oddiwrth y pcchod ymma, godineb.
Awn rhagom ym-mhellach a gwrandawn pa beth a ddywaid y sanctaidd Apostol S. Paul am y peth ymma: yr hwn yn scrifennu at y Rhufeiniaid, Rom. 13. 12. sydd gantho y geiriau hyn, Bwriwn ymmaith weithredoedd y tywyllwch, a gwiscwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus megis wrth liw dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynnen a chenfigen, eithr gwiscwch am danoch yr Arglwydd Iesu Ghrist: ac na fydded eich gofal dros y cnawd er mwyn porthi ei chwantau.
Ymma y mae 'r Apostol yn ein hannog i dafluymmaith weithredoedd y tywyllwch, y rhai, ymmhlith eraill, y mae fe yn galw cyfeddach, meddwdod, cydorwedd ac anlladrwydd, y rhai ydynt oll wasanaeth-wyr i'r bai ymma, a darpariaethau i dywys ac i arwain i'r brwnt bechod cnawdol ymma.
Mae fe yn eu galw hwy yn weithredoedd y tywyllwch, nid yn vnig am fod yn arfer o'u gwneuthur [Page 161] mewn tywyllwch, yn amser nôs, (o herwydd Ioan. 3. 20. pob vn ar y sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn cashau y goleuni, ac niddaw i'r goleuni, rhag argyoeddi ei weithredoedd) ond am eu bod yn ein tywys ac yn ein harwain ar hyd yr vniawn ffordd i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain a rhincian dannedd.
Ac mae fe yn dywedyd mewn man arall yn yr vn Epistol, na all y rhai ydynt yn y cnawd foddloni Rom. 8. 8. 12. &c. Duw: am hynny yr ydym, medd ef, yn ddyledwyr, nid i'r cnawd, i fyw yn ôl y cnawd; canys os byw a fyddwn yn ôl y cnawd, meirw fyddwn. A thrachefn y dywaid, Gwachelwch odineb. Pob pechod a wnelo dŷn, oddi allan ei gorph y mae; ond yr hwn a wnel odineb sydd yn pechu yn erbyn ei 1. Cor. 6. 18. gorph ei hunan. Oni wyddoch fod eich corph yn deml i'r Yspryd glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych eiddoch chwi eich hunain? canys er gwerth y'ch prynwyd chwi, am hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph &c. Ac ychydig o'r blaen y dywaid, Oni wyddoch fod Vers. 15. eich cyrph yn aelodau i Grist. Am hynny a gymmerasi aelodau Christ, a'u gwneuthur yn aelodau puttein? Na atto Duw. Oni wyddoch fod yr hwn sydd yn cydio â phuttain yn vn corph â hi? Canys y ddau, eb efe, a fyddant vn cnawd: ond yr hwn a gyssylltir â'r Arglwydd, vn yspryd yw.
Pa eiriau duwiol y mae S. Paul yn ei hadrodd ymma, er mwyn ein hannog a'n cynghori oddiwrth butteindra a phob aflendid? Teml, medd ef, yr Yspryd glân ydyw eich aelodau chwi, yr hon pwy bynnag a'i halogo, fe a'i dinistria Duw ef, medd S. Pawl. Os teml yr Yspryd glân ydym, onid anghymmhesur yw i ni yrru y sanctaidd Ypryd [Page 162] hwn oddiwrthym trwy butteindra, a gosod yn ei le ef ddrŵg ysprydion godineb ac aflendid, ac ymgyssylltu â hwynt a'u gwasanaethu. Fe a'ch prynwyd chwi, medd ef, yn brid: am hynny gogoneddwch Dduw yn eich cyrph.
Fe brynodd Christ yr oen dieniwed hwnnw ni, 1. Pet. 1. 18. o gaethiwed diafol, nid â phethau llygredig, megis arian neu aur, ond â gwerthfawr waed ei galon. I baddefnydd y gwnaeth efe hynny? ai er mwn bod i ni gwympo eilwaith i'n hên affendid an ffiaidd fywyd? Nag ê yn wir, onder mwyn bod i ni ei wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau ein heinioes: er mwyn bod i ni ei Luc. 1. 75. ogoneddu ef yn ein cyrph, trwy burder a glendid buchedd. Mae fe yn dangos hefyd fod ein cyrph ni yn aelodau i Grist. Mor anweddaidd, wrth hynny, yw i ni beidio a bod yn gydcorph a'n gwneuthur yn vn â Christ, a thrwy butteindra ymgyssylltu a'n gwneuthur yn vn â phuttain? Pa ammarch, neu pa gam goleuach a allwn ni ei wneuthur i Ghrist, nâ chymmeryd aelodau ei gorph ef oddiwrtho, a'u cyssylltu hwynt â phuttainiaid, â diawliaid ac ag ysprydion drŵg? A pha ddianrhydedd swy a allwn ni ei wneuthur â ni ein hunain, nâ thrwy affēdid colli y fath odidog fraint a rhydd-did, gan ein gwneuthur ein hunain yn gaethweision ac yn druain garcharorion i ysprydion y tywyllwch?
Ystyriwn gan hynny yn gyntaf ogoniant Christ: yn ail ein stât, ein braint a'n rhydd-did ein hunain, yn yr hwn y gosododd Duw ni, gan roddi i ni ei sanctaidd Yspryd: ac ymddiffynnwn hwnnw yn gefnog yn erbyn sathan a'i holl fachellion twyllodrus: felyr anrhydedder Christ, ac na chollomninnau [Page 163] ein rhydd-did, ond arhos yn wastadol yn vn yspryd ag ef.
Hefyd yn ei epistol at yr Ephesiaid, mae 'r Apostol sanctaidd yn gorchymmyn i ni fod mor bûr ac mor rhydd oddiwrth odineb, anlladrwydd a phob aflendid, fal na enwer hwy yn ein plith, megis y Ephes. 5. 3. gwedde i sainct, na serthedd, na geiriau ffôl, na choeg-ddigrifwch, y rhai nid ydynt weddus, eithr yn hytrach diolchgarwch: canys yr ydych yn gwybod hyn, am bob putteinwr, neu aflan, neu gybydd yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn-nheyrnas Christ a Duw. Ac er mwyn cofio o honom fod yn sanctaidd, yn bur ac yn rhydd oddiwrth bob aflendid, mae 'r Apostol sanctaidd yn ein galw ni yn sainct, am ein bod gwedy ein 1. Cor. 6. 9. sancteiddio a'n gwneuthur yn sanctaidd trwy waed Christ, a thrwy r' Yspryd glan.
Gan hynny os ydym sainct, pa beth sydd i ni a wnelom ag arferion y cenhedloedd. Megis (medd S. Petr) y mae 'r hwn a'ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ymmhob ymarweddiad: o herwydd scrifennedig yw, 1. Pet. 1. 15. Le. 11. 44. Am hynny byddwch sanctaidd, canys sanctaidd ydwyfi. Hyd hyn y cly wsoch orthrymmed pechod yw godineb a phutteindra, ac mor ffiaidd gan Dduw ef trwy r' Scrythur. Apha fodd nad y pechod ffiaiddiaf ac a ddichon bod, yw yr hwn ni ellir vnwaith ei enwi ym-mhlith Christianogion? llai o lawer y dlyid mewn modd yn y byd ei wneuthur ef.
Ac yn siccr os ni a bwyswn faint y pechod ymma, ac a'i hystyriwn ef yn ei iawn rywogaeth, ni a gawn weled mai pechod putteindra yw'r Ylling. llynn diffaithiaf, a'r pwll bryntaf, a'r soddfa ddre wllyd, [Page 164] i'r hwn y llifeiria ac y rhêd pob pechod, a phob drygioni arall, lle hefyd y mae iddynt drigfa a phreswylfod.
O blegid onid yw y godinebwr yn falch o'i butteindra? fel y dywaid y gŵr call, Maent hwy yn llawen darffo iddynt wneuthur yr hyn sydd ddrŵg, ac yn llawenychu mewn pethau drŵg anianol. Onid ydyw y godinebwr yn ddiog, ac heb ymhoffi mewn vn ymarfer dduwiol, ond yn vnig yn ei hoffddigrifwch brwnt anifeiliaidd hynny? Onid ydyw ei feddwl ef wedy ei lusco a'i dynnu ymmaith oddiwrth bob amcanion rhin weddol, ac oddiwrth bob trafael ffrwythlon, a chwedy ymroi yn vnig i ddychymmygion cnawdol? Onid yw y putteinwr yn rhoddi ei feddwl ar lothineb, er mwyn bod yn barottach i wasanaethu ei wyniau a'i hoffderau cnawdol? Onid ydyw y godinebwr yn rhoddi ei feddwl a'r gybydd-dod, ac i grafu ac i gasclu oddiar eraill, er mwyn bod yn aplach i faentaenio ei butteiniaid, a'i ordderchadon, ac i barhau yn ei serch brwnt anghyfraithlon? Onid ydyw ef yn chwyddo mewn cenfigen yn erbyn eraill, gan ofni hudo ei ysclyfaeth ef, a'i thynnu hi ymmaith oddiwrtho? Hefyd onid ydyw efe yn llidiog ac yn llawn o ddigofaint ac anfodlonrwydd, ie yn erbyn y rhai anwylaf gantho, os rhwystrir vn amser ei ddamuniad cnawdol diawledig ef? Pa bechod, neu pa ryw o bechod ni chyssylltir â godineb a phutteindra?
Rhyw anghenfil yw efe a llawer o bennau iddo: mae fe yn derbyn pob rhyw feiau, ac yn gwrthod pob rhyw rinweddau. Os ydyw vn pechod yn dwyn damnedigaeth, pa beth a dybygir am y pechod a gyssylltir ac a gyfeillechir a phob drygioni: [Page 165] yr hwn y mae pob peth sydd gâs gan Dduw, damnedig i ddŷn, a hôff gan sathā yn ei ganlyn. Mawr yw 'r ddamnedigaeth sydd ynghrog vwch - ben godinebwyr a phutteinwyr.
I ba beth y sonniaf am aflesau eraill a dyfant ac a lifant o Dom. lacca drewllyd putteindra? Oni chollir trwy odineb a phutteindra enw da gŵr neu wraig, yr hwn yw'r trysor y mae pob dŷn honest yn gwneuthur mwyaf cyfrif o hono? Pa dreftadaeth neu fywyd? pa olud? pa dda? pa gyfoeth nas difa putteindra, ac nas dŵg yn ddiddim mewn ychydig amser? Pa ddewrder a pha gryfder ni wanheir yn fynych ac ni ddistrywir trwy butteindra? Pa synwyr cyn barotted na ddotier ac na ddeleir trwy butteindra? Pa degwch (er mor odidog fo) nad anffurfir trwy butteindra?
Onid ydyw putteindra yn elyn i brydferth flodeuyn ieuengctid? Ac onid yw yn dwyn penllwydni a henaint cyn yr amser? Pa ddawn naturiol (er mor werthfawr fo) na lygrir trwy butteindra? Onid yw y frêch fawr a llawer o glefydō eraill yn dyfod o butteindra? O ba le y daw cymmaint o fastardiaid a phlant ordderch, i fawr anfodlonrwydd Duw, a thorriad priodas sanctaidd, onid o butteindra? Pa faint sydd yn difa eu da a'u golud, ac yn cwympo yn y diwedd i ddygyn dlodi, ac yn ôl hynny yn lledratta ac yn cael eu crogi, trwy butteindra? Pa ymryson a lladdfâu a ddaw o butteindra? Pa sawl merch a Dreisir, anwyryfir? Pa sawl gwraig a lygrir? Pa sawl gweddw a wradwyddir trwy butteindra? Pa faint y tlodir ac y trallodir y cyfoeth - cyffredin trwy butteindra? Pa faint y dirmygir ac y ceblir gair Duw trwy butteindra a phutteinwyr?
[Page 166] O 'r pechod hwn y daw llawer o 'r yscaroedd, y rhai a arferir yn y dyddiau hyn mor arferedig, trwy awdurdod gwŷr diswyddau, er mawr ddigofaint Duw, a thorriad sancteiddiaf gwlwm a rhwym priodas: o herwydd pan ddarffo i'r pechod ffiaidd ymma ymlusco vnwaith i Fonwes. ascre y godinebwr, fel y rhwydir ef mewn cariad aflan anghyfraithlon, fe a ddiystyra yn y man ei wir a'i gyfraithlon wraig, fe a gashâ ei phresennoldeb hi, mae ei chwmpeini ni yn drewi ac yn wrthwynebus gantho: pa beth bynnag a wnêl hi, a ogenir: nid oes llonyddwch yn y tŷ yr hyd y bytho hi mewn golwg: am hynny, i wneuthur chwedl byrr, rhaid iddi fyned ymmaith, o blegid ni ddichon ei gŵr ei haros hi ym-mhellach. Fel hyn trwy butteindra y troir ymmaith y wraig honest ddiemwed, ac y derbynir puttain yn ei lle hi.
Yn yr vn modd y digwydda yn fynych o ran y wraig tuag at ei gŵr. Dymma ffiaidd-dra anferth. Pan ddaeth ein Iachawdwr Christ Duw a dŷn i adferu cyfraith ei nefol dâd i iawn ystyr, meddwl a deall y gyfraith honno, ym-mhlith pethau eraill fe a Iniawnodd. ddiwygiodd gam-arfer y gyfraith hon. O herwydd lle daroedd i 'r Iuddewon arfer hir oddefiaeth trwy ddefod ddodi o 'r gwŷr eu gwragedd ymmaith wrth eu hewyllys am bob achos: fe a geryddodd Christ y drŵg arfer hynny, ac a ddyscodd, pwy bynnag a wrthotto ei wraig, onid am odineb (yr hwn yr amser hynny wrth gyfraith oedd yn haeddu angau) ei fod yn torri priodas, ac yn gwneuthur i'w wraig hefyd yr yscarid ef â hi, odinebu, os hi a gyssylltid â gŵr arall, ac i'r gŵr hefyd a gyssylltid â hi, odinebu.
Ym-mha gyflwr gan hynny y mae y godinebwyr [Page 167] ymma, y rhai o gariad ar buttain a wrthodant eu gwir a'u cyfraithlon wragedd, yn erbyn cyfraith, vniondeb, rheswn a chydwybod? Oh mor ddamnedig yw 'r stât y maent yn aros ynddi. Distryw ebrwydd a gwymp arnynt os hwy ni edifarhânt ac ni wellhânt. O herwydd ni oddef Duw byth ddianrhydeddu, a chashâu, a diystyru sanctaidd briodas. Fe a gospa ryw brŷd y bywyd cnawdol anllywodraethus ymma, ac a wna bod y sanctaidd ordinhâd ymma mewn parch ac anrhydedd. O herwydd, medd yr Apostol, Anrhydeddus Heb. 13. 4. yw priodas ym-mhawb, a'r gwely dihalogedig: eithr putteinwyr a'r godinebus a farna Duw: hynny yw, fe a'u cospa ac a'u damna hwynt.
Ond i ba beth y cymmerir y boen ymma yn datcan ac yn gosod allan faint pechod yw putteindra, a'r afles a dŷf ac a lifeiria o hono: lle y pallai anadl a thafod dŷn yn gynt nag y gallai gwbl gyhoeddi y pechod hwn yn ôl ei ddiffeithwch a'i anferthrwydd? Er hynny hyn a ddywedwyd er mwyn bod i bawb wachelyd putteindra a byw mewn ofn Duw. Duw a wnêl nas dywedpwyd yn ofer.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn godineb.
CHwi a ddyscasoch yn yr ail rhan o'r bregeth am odineb, a ddarllennwyd i chwi ddiwethaf, mor ddifrif y mae 'r Scrythur lân yn ein rhybyddio ni i wachelyd pechod godineb, ac i gofleidio glendid buchedd: [Page 168] a'n bod ni yn cwympo trwy odineb i bob rhyw bechod, ac yn myned yn gaeth-weision i ddiafol: ac o 'r ystlys arall y'n gwneir trwy lendid buchedd yn aelodau i Grist: ac yn ddiwethaf mor bell y dŵg godineb ddŷn oddiwrth bob duwioldeb, ac y denfyn ef yngwysc ei ben i bob beiau, drygioni ac aflwydd.
Mi a fynegaf i 'wch yn awr mewn trefn â pha gospedigaethau trymion y plagodd Duw odineb yn yr amseroedd gynt, a pha fodd y cospodd llawer o dywysogion bydol y pechod ymma, fel y galloch weled fod putteindra a godineb yn bechodau mor echryslon yngolwg Duw a phob dŷn daionus, ac y dangosais eisoes.
Yn llyfr cyntaf Moses yr ydym yn darllen, pan ddechreuodd dynion amlhau ar y ddayar, i wŷr a gwragedd osod eu meddyliau mor gwbl ar chwantau cnawdol a choeg-ddigrifwch, hyd oni fuont fyw yn ddiofn Duw. Pan welodd Duw eu bywyd ffiaidd anifeiliaidd hwynt, a deall nad oeddynt yn gwellhâu, ond yn hytrach eu bod yn cynnyddu fwyfwy beunydd yn eu pechodau a'u harferon aflan; fe a edifarhaodd Duw iddo wneuthur dŷn: ac er dangos mor ffiaidd oedd gantho odineb, putteindra, anlladrwydd a phob aflendid, fe a wnaeth i holl ffynhonnau y dyfnderoedd dorri allan, ac a egorodd ffenestri 'r nefoedd, fel y glawiodd hi ar y ddayar dros ddeugain diwrnod a deugain nôs: ac felly y distrywiodd ef yr holl fyd a holl ddynawl ryw, oddieithr wythnŷn o bobl yn vnig: y rhai hynny oedd Noah pregethwr cyfiawnder (fel y geilw Petr ef) a'i wraig, a'i drimab a'u gwragedd.
Oh pa anial blâ a daflodd Duw ymma ar holl [Page 169] greaduriaid bywiol y bŷd, am bechod putteindra? Am yr hwn y dialodd Duw nid ar ddŷn yn Gen. 6. 7. vnig, onid hefyd ar yr holl anifeiliaid, ehediaid, a'r holl greaduriaid byw. Fe a laddesid dynion ar y ddayar o 'r blaen, etto ni ddystrywiwyd y bŷd am hynny: ond am butteindra fe a orchguddiwyd Gen. 4. 8. yr holl fŷd â dwfr, ac a ddifethwyd oddieithr ychydig. Siampl wiw ei chofio er ein dyscu ni i ofni Duw.
Yr ydym yn ddarllein eilwaith ddinystr Sodoma Gen. 19. 24. a Gomorhah a dinasoedd eraill cyfagos iddynt, trwy dân a brwmstan o'r nef, am frwnt bechod aflendid, fel na adawyd na gŵr na gwraig, na phlentyn nac anifail, na dim ar a dyfodd ar y ddayar heb ddinistr. Calon pwy nid Chryna. echrydia wrth glywed yr histori ymma? Pwy sy weddi soddi mor ddwfn mewn putteindra ac aflendid, na adawo weithian dros fyth heibio y fath gâs a ffiaid fywyd, gan fod Duw yn cospi aflendid mor dôst a glawio tân a brwmstā o'r nef, i ddistrywio dinasoedd cyfain, i ladd gwŷr a gwragedd a phlant, a'r holl greaduriaid byw oedd yn aros yno, ac i ddifa â thân bob peth a dyfai yno. Pa arwyddion a ddichon bod eglurach, o ddigofaint Duw a'i lid, yn erbyn aflendid ac am-mhurder bywyd? Ystyriwch yr histori hon (ddaionus bobl) ac ofnwch ddialedd Duw.
Onid ydych yn darllein hefyd i Dduw daro Pharao a'i holl dŷ â phlagau mawrion, am iddo yn annuwiol chwennychu Sarah gwraig Abraham? Gen. 20. 3. Felly yr ydym yn darllein am Abimelech brenhin Gerar, er na chyhyrddasai â hi trwy gydnabyddiaeth cnawdol. Dymma 'r plagau a 'r cospedigaethau a daflodd Duw ar ddynion bryntion [Page 170] aflan, cyn rhoddi y gyfraith (pan oedd cyfraith naturiaeth yn vnig yn teyrnasu ynghalonnau dynion) er dangos faint y cariad oedd gantho ef at briodas: ac eilwaith faint y cashae efe odineb, putteindra a phob aflendid.
Ac wedy rhoddi y gyfraith, sydd yn gwahardd putteindra, trwy Foses, i'r Iuddewon, oni orchymmynnodd Duw ddodi i farwolaeth y sawl a'i torrai hi? Dymma eiriau y gyfraith, Y gŵr Le. 20. 10. yr hwn a odinebo gydâ gwraig ei gymmydog, lladder yn farw y godinebwr a'r odinebwraig, am iddo dorri priodas gydâ gwraig ei gymmydog. Fe a orchymmynnir yn y gyfraith hefyd, Os delir Num. 25. 4. llangces a gŵr ynghŷd mewn putteindra, eu llabyddio hwy ill dau hyd angau. Yr ydym ni yn darllein mewn man arall i Dduw orchymmyn i Moses gymmeryd y pennaethiaid, y rheolwyr a thywysogion y bobl, a'u crogi ar grogbrennau yn amlwg, am iddynt naill ai gwneuthur godineb eu hunain, ai am nas cospasent ef mewn eraill. Trachefn, oni ddanfonodd Duw y fâth blâ ym-mhlith y bobl am odineb ac aflendid, hyd oni laddodd o honynt mewn vn diwrnod bedair inil ar hugain.
Eisiau amser mi a adawaf heibio lawer o historiau eraill o 'r Beibl sanctaidd, y rhai a ddangosant i ni fawr ddialedd a thrwm lid Duw yn erbyn putteinwyr a godinebwyr. Siccr yw fod y greulon gosp a osododd Duw, yn dangos yn eglur ddigon mor gâs gan Dduw butteindra. Ac nac amheuwn fod Duw yn yr amser hwn yn cashâu aflendid, cymmaint ac yr ydoedd ef yn yr hên gyfraith: ac nas cospa ef y pechod ymma yn ddiammau yn y bŷd hwn, ac yn y bŷd a ddaw: [Page 171] o herwydd Duw yw efe na ddichon arhos drygioni.
Am hynny y dlye bawb wachelyd y drygioni Psal 5. 4. hwn, ac sy yn gofalu am ogoniant Duw ac Iechydwriaeth eu heneidiau eu hunain.
Mae S. Paul yn dywedyd ddarfod scrifennu pob peth ar a scrifennwyd er siampl i ni, i ddyscu ini dfni Duw, ac vfyddhau i'w sanctaidd gyfraith ef. O herwydd os Duw nid arbedodd y canghennau 1. Cor. 10. 11. naturiol, nid arbed ef nyni y rhai nid ydym ond impiau, os gwnawn y cyfryw droseddau. Rom. 11. Os distrywiodd Duw lawer mil o bobl, lawer o ddinasoedd, ie a'r holl fŷd, am butteindra, na wenhieithiwn mo honom ein hunain, ac na thybygwn y diangwn ni yn rhyddion, ac yn ddigosp. O herwydd fe a addawodd yn ei gyfraith sanctaidd ddanfon plau tostion ar y troseddwyr, neu y rhai a dorrant ei sanctaidd orchymmynion ef.
Fel hyn y clywsoch pa fodd y mae Duw yn cospi pechod godineb, gwrandawn weithian ryw gyfreithiau a osododd llywodraethwyr bydol, mewn amryw wledydd er ei gospi: fel y caffom wybod fod aflendid yn ffiaidd ym-mhob dinas a gwladwriaeth hydrefn, ac ymmhlith dynion honest.
Hyn oedd y gyfraith ym-mhlith y lepreaid, Hwy a rwyment yr hwn a ddelid mewn godineb, ac a'i dygent ef dros dri diwrnod trwy 'r ddinas: yn ôl hynny yr hŷd y byddai byw, fe a ddibrisid, a thrwy gywilydd a gwradwydd, a gyfrifid yn ddŷn heb ddim honestrwydd ynddo.
Ym-mhlith y Locriaid yr ydys yn tynnu dau lygad y godinebwr.
Y Rhufeiniaid gynt a gospent odineb, weithiau [Page 172] â thân, weithiau â'r cleddyf. Os delid neb mewn godineb ym-mhlith yr Aiphtiaid, y gyfraith oedd iddo gael ei chwippio yngwydd y bobl, hyd fîl o wialennodiau: a'r wraig a ddelid mewn godineb gydag ef, a dorrid ei thrwyn, fel y gellid gwybod byth o hynny allan ei bod hi yn buttain, ac y ffieiddid hi gan bawb.
Ym-mhlith yr Arabiaid y torrid pennau y rhai a ddelid mewn godineb, oddiar eu cyrph.
Yr Atheniaid a gospent butteindra ag angau, yn yr vn modd. Felly y gwnai y Tartariaid diddysc, difedr.
Ac hyd heddyw ym-mhlith y Twrciaid y llabyddir i angau yn ddidrugaredd, y gwr a'r wraig a ddalier mewn godineb. Fel hyn y gwelwn pa gyfreithiau duwiol a wnaethpwyd gynt gan awdurdodau goruchel, er tynnu ymmaith butteindra, ac er maentaenio priodas sanctaidd, a phûr ymddygiad.
Ac etto nid oedd gwneuthurwyr y cyfreithiau ymma yn Gristianogion, onid cenheloedd; etto hwy a garent honestrwydd a phurdeb buchedd cymmaint, fel y gwnaent gyfreithiau daionus, duwiol, er maentaenio y pethau hynny, heb oddef o fewn eu teyrnasoedd, odineb a phutteindra i deyrnasu yn ddigosp.
Fe a ddywedodd Christ wrth yr Iuddewon anffyddlō, y cyfode y Ninifiaid ddydd y farn yn erbyn Matth. 12. 41. y genhedlaeth honno, i'w chondemno, am iddynt hwy etifarhau ar bregethiad Ionas, ac wele (medd efe) vn mwy nâ Ionas ymma, (gan feddwl am dano ei hûn) ac etto nid edifarhasant.
Oni chyfyd (dybygŵch chwi) yn gyffelyb y Locriaid, Arabiaid, Atheniaid ac eraill o'r fâth hynny, [Page 173] i'r farn yn ein herbyn ni i'n condemno; yn gymmaint ac iddynt hwy ymgadw rhag putteindra ar orchymmyn dŷn, ac mae gennym ni gyfraith ac eglur orchymmyn Duw, ac er hynny nid ydym yn ymadel â'n haflan ymddygiad. Yn wir, yn wir fe fydd esmwythach yn-nydd y farn i'r cenhedloedd hynny nag i ni, onid edifarhawn ni a gwellhau. O herwydd, er bod angau corphorol, yn ein golwg ni, yn gosp drom, dost, yn y bŷd hwn am butteindra: etto nid yw y gosp honno ddim wrth y blinedig boenau a orfydd ar odinebwyr, putteinwyr a dynion aflan, eu goddef yn ôl y bywyd hwn.
O herwydd fe a geuir yr holl rai hynny o deyrnas nefoedd, fel y dyweid S. Paul; Na thwyller 1. Cor. 6. 9. Gal. 5. 21. Ephes. 5. 5. chwi, ni chaiff na godinebwyr, nac addolwyr delwau, na thorwyr priodas, na drythyllwyr, na'r rhai Sodomiaidd, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr etifeddu teyrnas Dduw. Ac y mae Ioan yn dywedyd yn ei weledigaeth, y caiff y putteinwyr eu rhân gyd â lladdwyr, Gwel. 21. 8. cyfareddwyr, a'r delw-addolwyr, a'r rhai celwyddog, yn y pwll sydd yn llosci â thân a brwmstan, yr hwn yw'r ail angau.
Er bod cosp y corph yn angau, etto mae iddo ddiwedd, ond mae cosp yr enaid, yr hwn y mae Ioan yn sôn am dano, yn dragywydd. Yno y bydd tân a brwmstan, yno y bydd wylofain ac scyrnygu dannedd, Luc. 3. 9. Matth. 13. 30. yno y prŷf a gno gydwybod y rhai a ddamnier, ni bydd marw byth. Oh, calon pwy ni ddifera ddafnau gwaed wrth wrando ac ystyried y pethau hyn.
Os yscrydiwn ac os Echrydiwn. crynwn wrth glywed enwi y pethau hyn, pa beth a wnawn wrth eu clywed hwy au goddef, ie a'u goddef byth ac yn dragywydd. [Page 174] Duw a drugarhao wrthym.
Pwy sydd bellach wedi Suddo. *foddi mewn pechod cyn ddyfned, a chwedy ymadel â phôb duwioldeb cyn llwyred; ac y gwnel yn fwy o'i hoffder a'i ddigrifwch drewllyd brwnt (yr hwn a aiff yn ebrwdd heibio) nag o golli gogoniant tragwyddol? Pwy ailwaith a'i rhydd ei hunan i chwantau cnawdol cyn belled, ac nad ofno ef Rhag▪ poenau. *am boenau tân vffernol? Ond gwrandawn bellach pa fodd y gwachelwn butteindra a godineb, fel y rhodiom mewn ofn Duw, ac y byddom ryddion oddiwrth yr holl artaithiau a'r poenau anescorol trymmiō y rhai sydd ar fedr pob dŷn aflan.
Er gwachelyd godineb, putteindra, a phob aflendid, cadwn ein calonnau yn bur ac yn lân oddiwrth bob meddwl drwg a chwantau cnawdol: o herwydd os y galon a lygrir ni a gwympwn lwyr ein pennau i bob rhyw annuwioldeb. Hyn a wnawn ni yn esmwyth, os ni pan glywon ein hên elyn Sathan yn ein temptio, ni chytunwn mewn ffordd yn y byd â'i dwyllodrus ddichellion ef, gan ei wrthwynebu ef yn ddewrion, trwy ffydd gadarn yngair Duw, a chan osod yn ei erbyn ef yn wastadol yn ein calonnau, y gorchymmyn hwn, a roddodd Duw i ni, Na wna odineb, scrifennedig yw, Na wnâ butteindra.
Da fydd i ni hefyd fyw yn wastadol mewn ofn Duw, a gosod gar bron ein llygaid dôst fygythiau Duw, yn erbyn annuwiol bechaduriaid: ac ystyried yn ein calonnau mor frwnt, mor anifeiliaidd ac mor fyrr yw 'r digrifwch a'r hoffder, i'r hwn y mae Sathan yn ein hûdo ac yn ein llithio ni yn wastad: ac eilwaith fod y gosp a osodwyd am y pechod hwnnw yn anescorol ac yn dragwyddol.
[Page 175] Hefyd arferwn sobredd, a chymmedrolder a thymmer dda wrth fwytta ac yfed, a gwachelwn bob chwedleu aflan, ac ymgadwn oddiwrth bob cwmpniaeth drŵg, Gwachelwn seguryd, ymhoffwn o ddarllen yr Scrythur la▪u; gwiliwn mewn gweddiau duwiol, a myfyriadau rhinweddol; a phob amser ymarferwn o ryw boen a thrafel duwiol; a'r pethau hyn a'n cynnorthwyant ni yn fawr i ymgadw rhag putteindra.
Ac ymma y rhybyddir pob grâdd o ddynion, priodol ac am-mhriodol, i garu purdeb a glendid buchedd. O herwydd mae 'r priodol yn rhwym wrth gyfraith Dduw, i garu ei gilydd yn bur ac yn glau, heb i vn o honynt geisio cariad dieithr.
Mae yn rhaid i'r gŵr lynu wrth ei wraig yn vnig, ag ir wraig lynu wrth ei gŵr yn vnig. Mae yn rhaid iddynt ill dau ymhoffi ynghymdeithas ei gilydd: na chwennycho yr vn o honynt neb arall. Ac fel y maent hwy yn rhwymedig i fyw inghŷd mewn duwioldeb a phob honestrwydd, felly eu swydd hwy hefyd a'u dlêd yw dwyn eu plant i fynu yn rhinweddol, a darbod na bo iddynt gwympo i Faglau. lindagau Sathan, nac i vn aflendid, ond bod o honynt yn bur ac yn honest mewn priodas sanctaidd, pan ddelo'r amser.
Felly hefyd y dylyai feistred a rheolwyr ddarbod nad arferer na phutteindra nac aflendid ymmhlith eu gwasanaeth ddynion.
A thrachefn os y rhai sydd heb priodi a ymglywant ynddynt eu hunain, na allant fyw heb gwmpeini gwraig, priodāt, a byddāt fyw ynghŷd yn dduwiol, o herwydd gwell yw priodi nâ llosci. I ochel godineb (medd yr Apostol) cymered pob 1. Cor. 7. 2. gŵr ei wraig ei hûn, a phob gwraig ei gŵr ei hun.
[Page 176] Yn ddiwethaf, y rhai sydd yn clywed ynddynt eu hunain, y gallant (trwy weithrediad Yspryd Duw) fyw yn vnig, ac yn Ddiweir. ymattalus, clodforant Dduw am eu rhoddiad, a cheisiant bob ffordd ac a allont i gadw ac i gynnal y cyfryw roddiad: megis trwy ddarllein yr Scrythur lân, trwy fyfyriadau duwiol, a gweddiau dyfal, a'r fâth rinweddol arferon eraill.
Os ceisiwn oll yn y modd ymma ymgadw rhag godineb, putteindra a phob aflendid, a dwyn ein bywyd mewn duwioldeb ac honestrwydd, gan wasanaethu Duw â chalonnau glân pûr, a'i ogoneddu ef yn ein cyrph, drwy ddwyn ein bywyd yn ddiddrwg ac yn ddieniŵed, siccr y gallwn fod o rifedi y rhai y mae ein Iachawdwr Christ yn yr Efengyl yn dywedyd fel hyn am danynt, Gwyn Merth. 5. 8. eu bŷd y rhai glân o galon, canys hwy a welant Dduw: I'r hwn yn vnig y bô pob gogoniant anrhydedd, rheolaeth a gallu yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth yn erbyn ymryson ac ymdaeru.
HEddyw y cyhoeddir i 'wch (bobl ddaionus Gristianogawl) afles a chywilyddus anhonestrwydd ymryson, cynhennau, ac anghyfundebau, er mwyn gwedi i chwi weled megis wedi ei baentio ym-mlaen eich llygaid, anharddwch ac anweddeidd-dra y bai atcas ymma, y troer eich calonnau i gyfodi yn ei erbyn, ac i gashau, ac i ffiaiddio y pechod hwnnw, yr hwn [Page 177] sydd mor gâs, ac mor ofidus, ac mor ddrygionus gan bawb.
Ond ym-mhlith pob ymryson, nid oes vn mor ddrygionus ac yw ymryson mewn Christianogawl greddyf. Gâd heibio (medd S. Paul) chwedlau 1. Tim. 1. 4. ac achau anorphen, y rhai a barant gwestionau, yn fwy nag adailadaeth dduwiol. Niddaw ar wasanaethwr Duw ymladd ac ymryson, ond bod yn dirion tuag at bob dŷn.
Y cynhennau a'r ymrysonau ymma oedd yn amser S. Paul ym-mhlith y Corinthiaid, ac y sydd yr amser ymma yn ein plith ninnau y Brutaniaid: o herwydd gormodd sydd o ddynion, y rhai ar eu meingciau cwrw, a'r fath leoedd eraill, a ewyllysiant ymbyngcio, ac ymgwestiwnu, nid er adailadaeth, ond er gwag-ogoniant, ac er ymffrostio o'u cyfarwyddyd; a hynny gan ymresymmu a chan ymddadleu mor ansyber; fel pan nad ymroddo y naill i'r llall, y maent hwy yn tyfu weithiau o eiriau twymon i chwaneg o anweddeidd-dra.
Ni allai Paul ym-mhlith y Corinthiaid oddef gwarando y geiriau hyn o anghyfundeb ac ymryson, Eiddo Paul wyfi, Eiddo Apollos wyfi, minnau 1. Cor. 3. 4. eiddo Cephas. Pa beth a ddywede ef, wrth hynny, pe cly wai y geiriau hyn o ymryson, y rhai sydd ganmwyaf yngenau pob vn o honom, Pharisai yw hwn accw, Efangylwr yw hwn; mae hwn o'r ffordd newydd, hwn o'r hên ffordd: hwn accw yn frawd newydd, hwn yn dâd Catholic da: hwn yn Bapist, hwn yn heretic?
Oh, pa fodd y rhannwyd yr Eglwys? oh pa fodd y torrir ac y rhwygir, y carpiwyd ac y drylliwyd ein dinasoedd! oh pa fodd y Dattodwyd. myscwyd ac y chwalwyd [Page 178] pais Christ, oedd ryw amser yn ddi-wniad? oh ddirgeledig corph ein Iachawdwr Christ? pa le y mae 'r vndeb llwyddiannus sanctaidd, allan o'r hwn pwy bynnag y sydd, nid oes mo hono ynghrist? Os tynnir vn aelod oddiwrth y llall, pa le y bydd y corph? Os tynnir y corph oddiwrth y pen, pa le y bydd bywyd y corph? Ni ellir ein cyssylltu ni â Christ ein penn oddieithr ein gludio ni ynghŷd â chyfundeb a charedigrwydd bob vn tu ag at ei gilydd. O herwydd y neb nid yw o'r vndeb ymma nid yw o Eglwys Ghrist, yr hon yw cynnulleidfa a chŷd-vndeb, ac nid dosparthiad ac anghyttundeb.
Mae S. Paul yn dywedyd yr hŷd y byddo i'n plith ni genfigen, ymryson, a chynhennau, ein bod 1. Cor. 3. 4. ni yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol. Ac mae S. Iaco yn dywedyd os bydd gennym ni genfigen Iac. 3. 4. chwerw, ac ymryson yn ein calonnau, nad ymlawenhaom ynddo. O herwydd lle mae ymryson mae anwadalwch a phob gorchwylion drŵg.
A pha ham na wrandawn ar S. Paul, yr hwn sydd yn deisyf arnom lle gallai orchymmyn i ni, gan ddywedyd, Yr ydwyf yn deisyf arnoch yn enw 'r Arglwydd Iesu Ghrist, ddywedyd o bawb o honoch yr 1. Cor. 1. 10. vn peth, ac na byddo anghy fundeb yn eich plith, ond bod o honoch yn vn farn. Os ydyw ei ddeisyfiad ef yn rhesymmol ac yn honest, pa ham nad ydym yn ei ganniatau? Os ydyw ei ddamuniad ef i'n budd ni, pa ham yr ydym yn ei wrthod? Oni chwennychwn wrando ei arch a'i ddeisyfiad ef, gwrandawn er hynny ei annogaeth ef, lle y mae fe yn dywedyd, Yr ydwyf yn attolwg arnoch rodio o honoch yn deilwng o'r galwedigaeth y'ch Ephe. 4. galwyd iddi, ym-mhob lledneisrwydd ac addfwyndra, [Page 179] ynghŷd ag ymaros gan oddef ei gilydd mewn cariad, gan ymroi i gadw vndeb yr Yspryd ynghwlwm tangnheddyf: o herwydd vn corph sydd ac vn yspryd, vn ffydd, vn bedydd.
Nid oes (medd ef) ond vn corph, o'r hwn ni ddichon ef fod yn aelod byw, yr hwn sydd mewn anghyttun deb â'r aelodau eraill. Nid oes ond vn yspryd, yr hwn sydd yn cyssylltu ac yn clymmu y cwbl yn vn. A pha fodd y teyrnasa yr vn yspryd hwn ynom, pan fythom gwedi ymrannu yn ein plith ein hunain? Nid oes ond vn ffŷdd. Pa fodd y gallwn ninnau ddywedyd, Mae fe o'r hên ffŷdd, ac yntef o'r newydd? Nid oes ond vn bedydd, ac oni fyddant hwy oll a fedyddiwyd, yn vn?
Mae anghyttundeb yn gwneuthur dosparth, am hynny ni ddyle hi fod ym-mhlith Christianogion, y rhai y mae vn ffydd ac vn bedydd yn eu cyssylltu ynghŷd mewn vndeb. Ond os diystyrwn ddamuniad ac annogaeth S. Paul, etto ar y lleiaf meddyliwn am ei ymbil taer ef, yn yr hwn y mae fe yn gorchymmyn i ni yn ddifrif iawn, ac (fel y gallwn ddywedyd) yn ein tynghedu ni yn y dull a'r Phil. 2. 1. modd ymma, Os oes gan hynny ddim diddanwch yn Ghrist, os oes cyssur cariad, os oes dim cymdeithas a'r Yspryd, os oes dim tosturi a thrugaredd, cyflawnwch fy llawenydd ar i chwi fod yn vn fryd, a chennych yr vn rhyw galon, ac yn meddwl yr vn peth, fel na wneler dim trwy gynnen neu wâg-ogoniant.
Pwy sydd ac yntho ddim ymyscaroedd tosturi, na chyffroir â 'r geiriau hyn (y rhai ydynt lymmach nag vn cleddyf dau-finiog) i beidio ag ymryson ac ymgynhennu?
Am hynny ymegnîwn i gyflawni llawenydd [Page 180] S. Paul yn y man ymma, yr hwn yn y diwedd a fydd llawenydd mawr i ninnau mewn man arall. Darllenwn felly 'r Scrythur, fel y 'n gwneler yn well ein bywyd, ac nid yn ddadleuwyr ymrysongar.
Os bydd anghenrhaid mewn dim ddyscu, neu ymresymmu neu ymddadleu, gwawn hynny yn fwyn, yn dirion ac yn llednais. Os digwydd i neb ddywedyd dim yn anweddaidd, cyd-ddyged y naill â gwendid y llall. Yr hwn a fyddo ar y bai, gwellha▪ed, ac nac ymddiffynned yr hyn a ddywedodd dros y ffordd: rhag iddo wrth ymddadleu gwympo o Amryfysedd. gamsynnaid lledffrom i wrthgas heresi gyndyn: canys gwell yw ymroi yn lledneis, nâ gorchfygu trwy dorri cariad perffaith, yr hyn a ddigwydd yn fynych, pan fô pob vn yn wrthnysig yn ymddiffyn ei opinion ei hûn.
Os ydym ni Gristianogion, pa ham na chanlynwn ni Grist, yr hwn a ddywaid, Dyscwch gennifi, Matt. 11. 29. am fy môd yn llaryaidd ac yn ostyngedig o galon. Rhaid i'r discybl ddyscu ei wers gan ei athro, ac i'r gwâs vfyddhau gorchymmyn ei feistr.
Yr hwn (medd S. Iaco) sy ddoeth a dyscedig, Iac. 3. 13. dangosed ei ddoethineb wrth ymddygiad da ei weithredoedd mewn mwyneidd-dra. O herwydd lle bytho cenfigen ac ymryson, nid yw y doethineb hynny yn dyfod oddiwrth Dduw, eithr dayarol, anifeiliaidd a chythreulig yw hi: o herwydd mae 'r doethineb sydd yn dyfod oddiuchod, yn bûr, yn heddychol, yn foneddigaidd, yn hawdd ei thrin, heb chwennych ymryson, yn vfydd yn dyscu, yn ddirwgnach, yn rhoi lle i'r rhai a ddyscont yn well er eu huniawni hwy. O herwydd byth ni bydd diben ar ymryson, os ymryssonwn ni pwy wrth ymryson [Page 181] a gaiff y llaw uchaf: os pentyrrwn amryfysedd ar amryfysedd, ac amddiffyn yn wrthnyssig yr hyn a ddywedasom yn ansynhwyrol.
O herwydd gwir yw, fod gwrthnysigrwydd i faentaenio rhyw opinion yn ennynnu cynnen, ymryson ac ymdaeru, yr hwn yw 'r bai echry [...]af a llygrediccaf ac a ddichon bod yn erbyn cyffredinol heddwch a llonyddwch.
Ac fel y mae yn sefyll rhwng dwy blaid (oblegid odid yw cael neb a ymdaeru ag ef [...]i [...]un felly y mae fe yn amgyffred dau fai gwrthwynebus: vn yw cwerylu mewn geiriau tanbaid ymrysongar, y llall a saif mewn attebion gwrthgas, ac amlhâd geiriau drŵg.
Y naill sy mor ffiaidd, megis y dywed Paul, Os bydd neb ac a elwir yn frawd yn ddelw-addolwr, 1. Cor. 5. yn ymdaerwr, neu gablwr, neu gridddeilwr, neu yn lleidr, gyd â'r cyfryw vn ni ddylaech fwytta.
Ymma ystyriwch fod S. Paul yn cyfrif ymdaerwr ac ymsennwr a chwerylwr ym-mhlith lladron a delw-addolwyr: ac fe ddaw yn fynych lai o ddrŵg oddiwrth leidr nag oddiwrth dafod drŵg. O her wydd mae'r naill yn dwyn enw da dŷn, ac nid yw 'r llall yn dwyn ond ei olud ef, yr hwn nid ydyw mor werthfawr ac yw cymmeriad, ac enw da. Nid yw y lleidr yn drygu ond yr hwn y mae efe yn dwyn oddiarno; ond mae 'r hwn sydd a thafod drŵg gantho yn blino 'r holl dref, ac weithiau 'r hol wlâd.
Ac y mae tafod drŵg yn blâ mor llygredig, fel y mae S. Paul yn gorchymmyn gwachelyd cwmpeini y fath ddynion, ac na wneler na bwytta nac yfed gyd â hwy. Ac er ei fod ef yn erchi i wraig Gristianogaidd nad ymadawo â'i gŵr, er ei fod ef [Page 182] yn anghredadwy, ac i was Christianogaidd nad ymadawo â'i feistr, er ei fod yn anghredadwy ac yn genedl-ddyn: ac er ei fod ef felly yn goddef i Gristiō gadw cymdeithas ag anghredadwy, etto mae efe yn gwahardd cadw cwmpeini gydâ 'r ymdaerwr a'r cwerylwr, ac na wneid na bwytta nac yfed gydag ef. Ac yn y chweched bennod o'r gyntaf at y Corinthiaid y mae efe yn dywedyd fel hyn, Na thwyller chwi, ni chaiff na godinebwyr, na delwaddolwyr, 1. Cor. 6. na lladron, na chablwyr neu ddifenwyr feddiannu teyrnas Dduw. Mae 'n rhaid bod y bai yn fawr, a baro i'r tâd ddietifeddu ei fâb naturiol. A pha fodd nad yw difenwi a chablu yn ddamnediccaf pechod, ac yntef yn peri i Dduw ein trugaroccaf a'n carediccaf dâd ein difuddio ni o fendigedig deyrnas nef.
Yn erbyn y pechod arall, yr hwn yw talu senn dros senn, y mae Christ ei hûn yn dywedyd, Yr ydwyf yn dywedyd wrthych, na wrthwynebwch Matt. 5. 39 44. ddrŵg, ond cerwch eich gelynion, bendithiwch y rhai a'ch melldithiant, gwnewch dda i'r rhai a'ch casânt, a gweddiwch dros y rhai a wnel niwed i chwi ac a'ch erlidiant; fel y byddoch blant i'ch tâd yr hwn sydd yn y nefoedd, canys mae ef yn goddef i'w haul godi ar y drŵg a'r da, ac yn glawio ar y cyfiawn a'r anghyfiawn. A 'r athrawiaeth ymma a ddyscodd Christ y cyttuna dysceidiaeth S. Paul, etholedig lestr Duw, yr hwn ni orphwys yn ein hannog, ac yn ein galw, gan ddywedyd, Bendithiwch y rhai fy yn eich ymlid, bendithiwch, meddaf, ac na felldithiwch, na thelwch i neb ddrŵg am ddrŵg: os bydd possibl (hyd y mae ynochwi) byddwch Rom. 12. 14. 17. heddychlon â phob dŷn.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn ymryson.
FE ddangoswyd i chwi yn y bregeth hon yn erbyn cynhennu ac ymryson, pa anghyfaddasrwydd sydd yn dyfod o hynny, yn enwedig pan fytho 'r ymryson yn tyfu ynghylch ffydd a chrefydd: a pha fodd nad oes diwedd ar ymryson ac anghyttundeb, pan nad ymroddo y naill i'r llall: a bod trwy hynny yn escauluso ac yn torri 'r vndeb y mae Duw yn ei ofyn gan Gristianogion: a bod yr ymryson hwn yn sefyll yn enwedig mewn dau beth, cwerylu yn danbaid, ac attebion atcas.
Yn awr chwi a gewch glywed geiriau S. Paul, yn dywedyd, Rai anwyl, nac ymddielwch, Rom. 12. 19. ond rhowch le i ddigofaint; canys scrifennedig yw, I mi y mae dial, ac mi a'i talaf, medd yr Arglwydd. Deut. 32. 35. Am hynny os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dod iddo ddiod. Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga ddrygioni trwy ddaioni. Geiriau S. Paul ydyw yr holl eiriau hyn. Onid fe alle ond odid y dywed y rhai sy yn llawn o falchedd, ac na allant oddef vn gair garw, A geblir fi, ac a safaf fi fel gŵydd nen ynfyd a'm bŷs i'm genau? A fyddaf fi cyn ynfytted ac mor wirionffol a goddef i bawb ddywedyd a fynno amdanafi, a'm cablu fel y mynno, a bwrw ei holl wenwyn arnaf? Onid gweddus atteb tafodau drŵg yn ôl eu geiriau? Os byddaf fi mor esmwyth ac mor llednais, mi a chwanegaf atcasrwydd [Page 184] fy-ngwrthwynebwr, ac a annogaf eraill i wnenthur y cyffelyb.
Y fath resymmau y maenthwy yn eu gwneuthur (y rhai ni allant oddef dim) er amddiffyn eu hanoddefgarwch. Ac etto pe byddai obaith trwy atteb atca▪s iniawni atcasrwydd y dŷn atcas, fe fyddai lai o fai ar y neb a rodde atteb atcas, ond iddo wneuthur hynny nid o lid a chenfigen, ond o fryd a bwriad ar iniawni'r atcas a'r cenfigennus. Ond y neb ni allo wellhau bai dŷn arall, neu na allo ei wellhau heb ei fai ei hunan, gwell yw myned vn i golledigaeth nâ dau.
Am hynny oni all ei lonyddu ef â geiriau tyner, na chanlyned mo hono â geiriau serth anghariadus. Os gall ei lonyddu ef wrth oddef, goddefed, ac onis gall, gwell yw goddef drŵg nâ gwneuthur drŵg, gwell yw dywedyd da nâ dywedyd drŵg. O herwydd mae dywedyd da yn erbyn drwg yn dyfod o Yspryd Duw: ond mae talu drŵg ani ddrŵg yn dyfod o'r yspryd drŵg.
Nid yw 'r hwn ni allo dymmheru a llywodraethu ei anwydau ond gwan a dirym, tebyccah i wraig neu blentyn nag i ŵr crŷf. O herwydd gwir gadernid a gwroldeb yw gorchfygu llid, diystyru camwedd a ffolineb dynion eraill.
Hefyd fe a wybydd pawb pan welont ŵr yn diystyru y camwedd a wnêl ei elyn iddo, i'w elyn ef ddywcdyd neu wneuthur yr hyn a ddywad neu a wnaeth, yn ddiachos: ac yn y gwrthwyneb y mae 'r hwn a ddigio ac a ffrommo yn gwneuthur achos ei elyn yn well, ac yn rhoi achos i bawb i dybied fod y peth yn wir. Ac felly wrth fyned ynghylch dial drwg, yr ydym yn dangos ein bod yn ddrygionus: ac wrth geisio cospi a dial ffolineb [Page 185] dŷn arall, yr ydym yn dyblu ac yn chwanegu ein ffolineb ein hunain.
Ond y mae gan y rhai gwrthgas lawer o Escuson i escuso. escusodion i escusodi eu hanoddefgarwch. Nid yw fyngelyn i (meddant hwy) deilwng i dderbyn geiriau neu weithredoedd tirion, ac yntef mor llawn o genfigen ac atcasrwydd. Po an-nheilynga fyddo efe, bodlonaf fydd Duw i tithau, a mwy fydd y glôd a rydd Christ i ti, er mwyn yr hwn y dylit ti dalu da am ddrwg, am iddo orchymmyn i ti, a haeddu hefyd arnat ti wneuthur felly.
Fc ddigiodd dy gymmydog dydi ond odid ar air; cofia dithau fynyched a thrymmed mewn geiriau a gweithredoedd y digiaist di dy Arglwydd Dduw.
Pa beth oedd dŷn pan fu farw Christ drosto ef? Ond ei elyn ef ydoedd, ac an-nheilwng o'i ewyllys da ef a'i drugaredd? Felly â pha dirionder a dioddefgarwch y mae efe yn goddef ac yn dwyn gydâ thydi, er dy fod ti beunydd yn ei ddigio ef? Maddeu dithau i'th gymmydog gamwedd bychan, fel y maddeuo Christ i titheu filoedd o gamweddau, gan dy fod di yn pechu beunydd. O herwydd os dydi a faddeu i'th frawd y camweddau a wnaeth â thi, fc fydd hynny arwydd ac argoel diogel y maddau Duw i tithau, yr hwn y mae pawb yn ddyledwyr iddo, ac y mae pawb yn pechu yn ei erbyn.
Pa fodd y mynnit ti fod Duw yn drugarog wrthit ti, os tydi a fyddi greulon wrth dy frawd? Oni chlywi di ar dy galon wneuthur i'th gydymmaith yr hyn a wnaeth Duw i ti, yr hwn nid wyt ond gwâs iddo? Oni ddyle y naill bechadur faddeu i'r llall, a Christ yr hwn nid oedd bechadur yn gweddio ar ei dâd dros y rhai yn ddidrugaredd, [Page 186] ac yn drahaus a'i dodasant ef i angau? Yr hwn pan ddirmygwyd ni ddirmygodd eilwaith, pan ddioddefodd yn gamweddus ni fygythiodd eithr 1. Pet. 2. 23. rhoddodd y dial ar y neb sy yn barnu yn gyfiawn: a pha beth a wnai di yn ymffrostio o'th ben, onid ymegnii ar fod yn y corph. Ni elli di fod yn aelod i Ghrist, oni chanlyni di ôl troed Christ: yr hwn (fel y dywed y Prophwyd) a arweniwyd fel oen Es. 53. 7. i'r lladdfa, fel dafad o flaē y rhai a'i cneifiai y tawe, ac nid agorai ei enau i gablu, ond i weddio tros y rhai a'i croeshoelient ef, gan ddywedyd, y Tâd, maddeu iddynt o herwydd ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur.
Y siampl ymma, yn y man ar ôl Christ, a ganlynodd Stephan, ac yn ei ôl yntef Paul, Pan y'n Luc. 23. Act. 7. 60. 1. Cor. 4. 12, 13. difenwer, medd ef, yr ydym yn bendithio, pan y'n herlidier yr ydym yn goddef, pan y'n ceblir yr ydym yn gweddio. Fel hyn yr addyscodd Paul yr hyn a arferodd, ac yr arferodd yr hyn a addyscodd. Rom. 12. 14. Bendithiwch (medd ef) y rhai sy yn eich ymlid, bendithiwch, meddaf, ac na felldithiwch.
Ai peth mawr i ti ddywedyd yn dêg wrth dy wrthwynebwr, a Christ yn gorchymmyn i ti wneuthur daioni iddo. Ni chablodd Dafydd pan ddifenwodd Simei ef, ond dywedyd yn oddefgar, [...]. Sam. 16. 12. Gedwch iddo, a melldithied, ond odid yr Arglwydd a ddyry i mi ddaioni am ei felldith ef.
Mae 'r historiau yn llawn o siamplau am rai o'r cenhedloedd anghredadwy, y rhai a gymmcrasant yn esmwyth eiriau diystyr, trahaus, a gweithredoedd traws, camweddus.
Ac a gaiff y cenhedloedd anghredadwy hynny ein blaenori ni mewn goddefgarwch, y rhai ydym yn proffessu Christ, dyscawdwr a siampl pob dioddefgarwch? [Page 187] Lysander pan ddifenwai vn ef a'i gablu, ni chyffroe ronyn, ond dywedyd, Cerdda, cerdda, dos a dywed yn fy erbyn gymmaint ac a fynnych, a chyn fynyched ac y mynnych, ac na âd ddim heb ddywedyd, os gelli di felly Arloesi. arllwys y pethau drŵg hynny allan o honot, o 'r rhai y mae yn debyg dy fod ti yn llawn: llawer a ddywedant yn ddrŵg ambawb, eisiau medru dywedyd yn dda am neb. Dyna 'r modd yr ymgadwodd y gwr doeth hwnnw rhag y geiriau trahaus a ddywedpwyd wrtho, gan wneuthur cyfrif eu bod hwy yn dyfod oddiwrth glefyd naturiol ei wrthwynebwr.
Pericles pan y difenwodd rhyw gablwr ac ymsennwr ef, nid attebodd ef vn gair, ond myned i ryw Dreiglfa. rodfa ddirgel: a thu â'r nôs wrth fyned adref, yr ymsennwr hwnnw a'i canlynodd ef ac a'i difenwodd fwyfwy, wrth weled fod y llall yn ei ddiystyru: ac wedi ei ddyfod ef hyd at ei borth ef, a hi yn nos tywyll, Pericles a archodd i vn o'i weision oleu canwyll, a hebrwng yr ymsennwr adref i'w dŷ ei hûn. Ni oddefodd ef yn vnig yr ymdaerwr ymma yn esmwyth, ond hefyd talu da am ddrwg, a hynny i'w elyn.
Ond yw gywilydd i ni fy 'n proffessu Christ, fod yn waeth nâ 'r cenhedloedd anghredadwy, a hynny mewn peth a berthyn at ffydd a chrefydd Grist? A annog philosophyddiaeth fwy arnynt hwy, nag a annog gair Duw arnom ni? A weithia rheswn naturiol fwy ynddynt hwy, nag a wna gwir greddyf ynom ni? A dywysa doethineb dŷn hwynt hwy i 'r peth nis gall yr athrawiaeth nefol ein tywys ni? Pa ddallineb, pa gyndynrwydd, apha ymfydrwydd yw hyn?
[Page 188] Pericles pan annogwyd ef i ddigofaint â llawer o eiriau chwerwon atcas, nid attebodd ef vn gair. Ond os cyffroir ni â'r gair lleiaf, pa fŷd a wnawn ni? Pa fodd y ffrommwn ni, y gwylltiwn ni, y ffustwn ni ein traed wrth y llawr, ac y rhythwn lygaid fel dynion ynfyd? Fe a wna llawer dŷn ddefnydd mawr o beth gwael dibris, ac o wreichionen y gair lleiaf y cynner tân mawr, pan gymmerer pob peth yn y rhan waethaf.
Ond pa faint gwell, a thebyccach i siampl ac athrawiaeth Christ, fyddai wneuthur o fai mawr yn ein cymmydog, fai bychan, gan ymresymmu ynom ein hunain fel hyn, Fe a ddywedodd y geiriau hyn am danafi, ond yn ei lid a'i frydaniaeth y dywad ef hwynt, neu y ddiod a'u dywad hwynt ac nid efe, neu efe a'u dywad hwy wrth archiad vn arall, neu fe a'u dywad hwy eisieu gwybod y gwirionedd, neu fe a'u dywad hwy nid yn fy erbyn i, ond yn erbyn y cyfryw vn ac y tybiodd ef fy mod i.
Ond am ddywedyd drŵg, pwy bynnag sydd yn barod i ddywedyd drwg am eraill, holed ef ei hunan yn gyntaf, beth yw ef ai bod yn ddifai ac yn lân oddiwrth y bai y mae efe yn ei weled mewn dŷn arall, ai nad yw. O herwydd mae 'n gywilydd i ddŷn feio ar arall, a bod yn euog o 'r vn bai ei hun, neu o fai a fytho mwy. Mae 'n gywilydd i ddŷn dall alw dŷn arall yn ddall, a mwy cywilydd i vn a fô cwbl ddall alw y coegddall yn llygatgam: Canys hyn yw gweled brycheuyn yn llygad arall, ac heb weled y trawst yn ei lygad ei hun.
Ystyried hefyd am y neb a arfero ddywedyd drwg, y dywedir fynychaf ddrŵg am dano yntef.
[Page 189] Yneb a ddywetto yr hyn a fynno, er ei foddloni ei hunan, a gaiff glywed yr hyn ni fynnai, er ei anfoddloni.
Cofied hefyd yr ymadrodd ymma, Y gorfydd Mat. 12. 36. arnom roddi cyfrif am bob gair ofer. Pa fodd gan hynny na orfydd arnom roddi cyfrif o'n geiriau llymmion, chwerwon, cynnhennus, y rhai a gyffroant ein brawd i ddigllonedd a thor-cariad? Ac am attebion atcas, er maint y'n cyffroer ni trwy ddrŵg eiriau rhai eraill, etto ni ddylêm ni ganlyn eu hafrywiogrwydd hwynt drwy ddrŵg attebion, os nyni a ystyriwn mai mâth ar ynfydrwydd a gwallgof yw digllonedd, a bod yr hwn sy ddig, tros hynny o amser allan o'i bwyll. Am hynny gwacheled rhag iddo ddywedyd yn ei ymfydrwydd, y peth a orfydd arno ar ôl hynny edifaru am dano.
A'r neb a ymddiffynno nad yw digllonedd yn ynfydrwydd, ond bod gantho reswm pan fytho diccaf, ymresymmed ag ef ei hun pan fytho dig: yr ydwyfi yn awr wedi fy-nghyffroi a'm digio, mi a fyddaf yn y man o feddwl arall: pa ham gan hynny y dywedaf yn awr yn fy-niglonedd y peth ar ôl hyn, er i mi ewyllysio, ni allaf ei newid? Paham y gwnaf sinnau ddim yn awr, a minnau allan o'm côf, am yr hyn pan ddelwyf eilwaith attaf fy hûn, y byddaf trwm a thrist? Pa ham na ddichon rheswm, paham na ddichon duwioldeb, pa ham na ddichon Christ ei hunan gael hynny yn awr ar fy llaw i, yr hyn o 'r diwedd a gaiff amser gennif?
Os gelwir vn yn odinebwr, yn occrwr, yn feddwyn, neu ar enw cywilyddus arall, ystyried yn ddifrif pa vn yw hynny ai gwir ai celwydd: os [Page 190] gwir, gwellhaed ei feiau, fel na allo ei wrthwynebwr gael achosion ar ôl hynny i Edliw. ddannod iddo y fath feiau: os ar gam y dywedir hynny arno, ystyried pa vn a wnaeth ef ai rhoddi achosion i dybied y fath bethau am dano, ai nas rhoddes: ac felly y gall dorri ymmaith y dyb. dybygaeth honno, o'r hon y mae 'r Sclawndr. enllib ymma yn tyfu, a byw yn ddiesceulusach. wageloccah mewn pethau eraill.
Ac wrth ein harfer ein hunain yn y modd hyn, ni allwn ni gaeleniwed yn y byd, ond yn hytrach lles mawr oddiwrth geryddau ac Sclawndyrau. enllibiau ein gelyn. O herwydd fe ddichon trahausdra gelyn fod yn llymmach yspardun i'n cymmell ni i wellhau ein bywyd, nâ rhybyddiau tyner ein caredigion.
Philip brenhin Macedonia, pan geblid ef gan bennaduriaid dinas Athen, a ddiolchodd iddynt yn fawr, am ddarfod ei wellhau ef oddiwrthynt yn ei eiriau a'i weithredoedd: o herwydd yr ydwyf yn myfyrio, eb efe, yn fy-ngeiriau a'm gweithredoedd, ar ei gwneuthur hwy yn gelwyddog.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn ymryson.
CHwi a glywsoch yn y rhan ddiwethaf o'r bregeth yn erbyn cynnen ac ac ymryson, pa fodd y gallwn atteb i'r rhai sy yn ymddiffyn eu geiriau afrywiog mewn ymryson, ac a ddialant â geiriau y drŵg a wnelo eraill iddynt: ac yn ddiwethaf, pa fodd y mae i ni yn ôl ewyllys Duw ein trefnu ein hunain a pha beth sy raid i ni ei ystyried [Page 191] tuag attynt hwythau, pan y'n cyffroer â geiriau tanbaid i gynnen ac ymryson.
Yn awr, i fyned ym-mlaen yn yr vn peth, chwi a gewch wybod y ffordd i orfod ac i orchfygu eich gwrthwynebwr a'ch gelyn. Dymma'r ffordd orau i ddŷn i orfod ei wrthwynebwr, byw felly, fel y tystiolaetho pawb ac sydd yn adnabod ei honestrwydd ef, fod yn ei Sclawndyre. enllibio ef yn ddiachos. Os bydd y bai a haerir arno, o'r fath ac y bô rhaid iddo atteb, er mwyn ymddiffyn ei honestrwydd, attebed yn esmwyth ac yn Araf. arafaidd, yn y modd ymma, fod yn haeru y beiau hynny arno ef yn gamweddus.
O herwydd gwir yw yr hyn a ddywaid y gwr doeth, Atteb araf a ddettrŷ lid, ond gair garw a Dihar. 15. 1. gyffry ddigofaint. Atteb afrywiog Nabal a gyffrôdd 1. Sam. 25. 13. Ddafydd i ddial creulon, ond geiriau tyner Abigail a ddiffoddodd y tân eilwaith, oedd o'r blaen yn fflammychu yn anial.
Ac nid oes Rhwymedi. cyferbyn well yn erbyn tafodau drŵg, na 'n harfogi ein hunain a goddefgarwch, llaryaidd-dra a distawrwydd, rhag wrth amlhau geiriau a'n gelyn, ein gwneuthur ni mor ddrŵg ac yntef.
Ond fe alle y gosode y rhai ni allant oddef vn gair drŵg, yn lle escus drostynt eu hunain, yr hyn sydd scrifennedig, Yr hwn a esceuluso ei enw Diarh. 26. 5. da sydd greulon. Ac eilwaith, Atteb yr ynfyd fel yr haeddo ei ynfydrwydd. Ac er i'n Iachawdwr Christ am ryw bethau a ddywedid am dano, dewi a sôn: etto fe a attebodd rai yn ddifrif. Fe a glywodd rai yn ei alw yn Samaritan, yn fab y saer, yn gyfeddachwr gwin, ac nid attebodd ddim: ond pan glywodd ef bwynt yn dywedyd, [Page 192] mae cythraul gennitti, fe a attebodd yn ddifrif. Ioan. 7. 20.
Gwir yw fod amfer i atteb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd, rhag iddo fod yn ddoeth yn ei olwg ei hun: ac weithiau nid yw iawn atteb yr ynfyd yn ôl ei ynfydrwydd, rhac myned o'r doeth yn gyffelyb i'r ynfyd.
Pan fo'r cywilydd a'r syrhâd a wnaer â ni yn gyssylltedig â pherigl i lawer o ddynion, yna anghenrhaid yw bod yn ebrwydd ac yn barod i atteb. O herwydd yr ydym yn darllen i lawer o wŷr duwiol mewn zêl dda, wrtheb ac atteb tyranniaid creulō a gwyr drw▪g, yn danbaid ac yn chwerw. Etto nid oedd y geiriau llymion hyn yn dyfod o ddigofaint, llid, censigen a chwant ymddial, ond o wir chwant i'w dwyn hwy i adnabod gwirionedd Duw, ac i'w tynnu oddiwrth eu hannuwiol fywyd, trwy geryddfa ac argyoeddfa ddifri lemdost.
Yn y zêl hon y galwodd Ioan fedyddiwr y Pharisaeaid Matt. 3. 7. yn genhedlaeth gwiberod, ac y galwodd S. Pauly Galathiaid yn angall, a'r Cretiaid yn Gal. 3. 1. gelwyddog, drwg fwystfilod, boliau gorddiog: ac y galwodd ef y gau-apostolion yn gŵn, ac yn Tit. 1. 12. ddrwgweithredwyr. Phil. 3. 2.
Ac y mae ei zêl ef yn dduwiol, yn ddiargyoedd, ac wedi ei phrofi yn eglur wrth siampl Christ, yr hwn er ei fod ef yn ffrŵd ac yn ffynnon pob llaryeidd-dra, tynerwch ac arafwch, etto fe a alwodd y Pharisaeaid a'r Scrifennyddion gwrthnyssig yn Matt. 23. 11. V. 24. v. 27. dywysogion deillion, yn feddau gwedy eu gwyngalchu, yn hypocritiaid, yn seirph, yn hiliogaeth gwiberod, yn genhedlaeth felldigedig ddrŵg. Hefyd fe a geryddodd Petr yn dost, gan ddywedyd, Matt. 16. 23. Dôs yn fy ôl Sathan.
[Page 193] Y mae S. Paul hefyd yn ceryddu Elymas y swynwr, gan ddywedyd, Oh vn llawn o bob dichell, Act. 13. 10. a phob drygwaith, mab diafol, a gelyn pob cyfiawnder, yr hwn ni pheidi â gŵyro iniawn ffyrdd yr Arglwydd, yn awr wele mae llaw 'r Arglwydd arnat, a thi a fyddi ddall heb weled yr haul dros amser.
Ac mae S. Petr yn argyoeddi Ananias yn galed iawn, gan ddywedyd, Ananias, paham y llanwodd Act. 5. 3. Sathan dy galon, i beri i ti ddywedyd celwydd wrth yr Yspryd glân.
Fe fu y zêl hon mor wresog mewn llawer o wŷr da, hyd oni chyffrôdd hi hwynt nid yn vnig i ddywedyd geiriau llymdost, chwerwon; ond i wneuthur llawer o bethau hefyd, a dybyge rai eu bod yn greulon, ond mewn gwirionedd ydynt yn gyfiawn, yn gariadus ac yn dduwiol: am na wnaethpwyd hwynt o lid, o genfigen neu chwant ymryson, ond o feddwl gwresog i ogoneddu Duw a chospi pechod, gan y rhai a alwyd i'r swydd honno.
O herwydd y zêl hon yr ymlidiodd ein Iachawdwr Ioan. 2. 14. Christ â fflangell neu chwip, y prynwyr a'r gwerthwyr allan o'r deml. O herwydd y zêl hon y torrodd Moses y ddwy lêch a dderbyniasai ef gan yr Arglwydd, pan welodd ef blant yr Israel Exo 32. [...]9. Vers. 28. yn dawnsio ger bron y llo, fe a'i torrodd ef yn ddrylliau ac a barodd ladd o'i bobl ei hū dair mil o wyr. Nid ydyw y fi am [...] ond i' [...] rh [...]i a [...] sodwyd mewn swydd ac aw [...] dod. Yn y zêl hon y gwanodd Phinees mab Eleazar, â' gwaywffon trwyddynt Zimri a Chosbi, pan ddaliodd hwynt mewn godineb.
I ddychwelyd gan hynny at eiriau ymrysongar, Num. 25. 8. yn enwedig ynghylch ffydd a chrefydd, a gair Duw (yr hwn a ddylid ei arfer mewn lledneisrwydd, sobredd a diweirdeb) fe a ddylid synneid yn [Page 194] dda ar eiriau S. Iaco, a'u cofio, lle mae fe yn dywedyd mai o ymryson y tŷf pob drygioni. A'r brenhin Iac. 3. 16. doeth Salomon a ddywaid hefyd, Anrhydedd yw i wr beidio ag ymryson, ond pob ffol a fyn ymmyrraeth. Diarh. 20. 3.
Ac o herwydd bod y bai hwn yn ddrwg ar les pob cyfeillach a chyffredinwolrwydd, yr ydys ymmhob dinas hydrefn yn cospi cyffredin ymsenwyr ac ymdaeriaid â rhyw gospedigaeth gyhoedd, megis trwy eu gosod ar stôl-drochi, ar y pilwri ueu 'r cyfrw.
Ac ni haeddant hwy fyw mewn gwlâd, y rhai, hyd y gallant, sydd trwy ymsennu ac ymryson, yn aflonyddu heddwch a thangnheddyf y wlâd. Ac o ba le y daw y cynhennau, yr ymrysonau, a'r anghyfundebau ymma, ond o falchedd a gwâg-ogoniant. Ymostyngwn gan hynny, tan alluog 1. Pet. 5. 6. law Dduw, yr hwn a addawodd edrych ar ostyngeiddrwydd y rhai o yspryd isel. Osydym ni Gristianogion Luc. 1. 48. llonydd, da, ymddangosed hynny yn ein geiriau a'n tafodau.
Os ymwrthodasom ni â diafol, nac arferwn mwy dafodau dieflig. Yr hwn a fu ymsennwr ac ymdaerwr, bydded bellach gynghorwr araf. Yr hwn a fu enllibiwr cenfigennus, bydded bellach ddiddanudd cariadus. Yr hwn a fu wâg-ymsennwr, bydded bellach athro ysprydol. Yr hwn a gamarferodd ei dafod yn melldithio, bellach iawnarfered ef yn bendithio. Yr hwn a gamarferodd ei dafod yn dywedyd drŵg, bellach iawnarfered ef yn dywedyd daioni.
Bwriwch ymmaith oddiwrthych bob llid, ymryson a chabledd. Os gellwch ac os bydd possibl, na ddigiwch mewn modd yn y bŷd. Ond os chwi [Page 195] ni ellwch fod yn ddiangol oddiwrth y gwyniau hyn, etto tymmherwch a ffrwynwch hwy fel na allont eich cyffroi i ymryson ac ymsennu. Os cyffroir chwi â drŵg eiriau, ymarfogwch â dioddefgarwch, tiriondeb a distawrwydd, naill ai trwy fod heb ddywedyd dim, ai trwy fod yn arafaidd, yn llaryaidd, ac yn fwynaidd wrth atteb.
Gorchfyga dy wrthwynebwr â chymmwynasau ac â thiriondeb. Ac vwch law pob peth cedwch vndeb a thangnheddyf: ac na fyddwch dorwyr heddwch ond gwneuthurwyr heddwch. Ac yno yn ddiammau fe a ganiattâ awdur pob diddanwch a heddwch, i ni heddwch cydwybod, a'r fath gydgordiad a chyttundeb, megis ag vn genau ac vn meddwl y gogoneddom Dduw Tâd ein harglwydd Iesu Ghrist, i'r hwn y byddo pob gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.
¶ Yr ail rhan o Lyfr yr Homiliau neu'r Pregethau.
¶ Pregeth am iawn arfer eglwys neu deml Dduw a'r parch sydd ddyledus iddi.
MAe 'n ymddangos llawer iawn o bobl yn yr amser hyn escaelusrwydd a gwall mawr am fyned i'r eglwys i wasanaethu Duw eu tad nefol yno, yn ol eu rhwymediccaf ddylyed: ac hefyd ymddygiad anweddaidd anostyngedig llawer o ddynion yn yr amser y byddont gwedy ymgynull: ac am y dichon yn gyfiawn gyfodi ofn digofaint Duw a'i Arswydus erchyll. echrydus blaau sydd vwch ein pennau am ein beiau trymmion yn hyn o beth, ymhlith llawer a mawr bechodau, y rhai yr ydym yn eu gwneuthur bob dydd a phob awr ger bron yr Arglwydd.
[Page 2] Am hynny er mwyn cyflawni dlyed ein cydwybodau, a diangc oddiwrth yr Perigl. enbeidrwydd, cyfredinol a'r plaau sydd vwch ein pennau, ystyriwn pa beth a ellir i ddywedyd allan o sanctaidd lyfr Duw am hyn o beth.
Ar yr hyn beth y deisyfaf arnoch wrando 'n ddiescaelus, am ei fod yn beth pwysig ac yn perthyn i chwi oll. Er na ellir cynwys tragwyddol ac anymgyffred fawrhydi Duw, Arglwydd nef a dayar, yr hwn y mae ei orseddfaingc yn y nef, a'r ddaear yn faingc i'w draed, mewn temlau neu dai a wnaer â dwylo, megis mewn trigfau a allant dderbyn neu gynnwys ei fawrhydi ef, megis y dangoswyd yn eglur trwy y Prophwyd Esaias, a thrwy athrawaeth S. Stephan a S. Esal. 66. 1. Act. 7 48. Pawl yngweithredoedd yr Apostolion. Ac lle mae y brenhin Salomon yr hwn a adailadodd i'r Arglwydd y deml brydferthaf ac a fu er ioed, yn dywedyd, Pwy a all adail ty addas teilwng iddo ef? Act. 17. 24. Os y nefoedd a nefoedd y nefoedd ni chynhwysant ef, llai o lawer y ty yr hwn a adeiledais i? Ac mae fe yn cyfaddef etto ym-mhellach, Pa beth 1. Bren. 8. 27. 2. Cro. 2. 6. ydwyfi fal y gallwn adailadu ty itio Arglwydd? Ond etto er mwyn hyn y gwneuthpwyd ef, iti wrando gweddi a gostyngeiddiaf ddeisyfiad dy was.
Pellach o lawer ydyw ein eglwysi ni oddiwrth fod yn drigfau addas i dderbyn anfesurol fawrhydi Duw.
Ac yn wir godidawgaf ac yspysawl demlau Duw, yn y rhai y mae fe yn ymhoffi fwyaf, ac yn chwennych trigo ac aros ynddynt, yw cyrph a meddyliau gwir Gristionogion a dewisol bobl Dduw, yn ol athrawaeth y sanctaidd Scrythur, [Page 3] addangostr yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid. Oni wyddoch, medd yr Apostol, mai teml Dduw 1. Cor. 3. 16, 17 ydych, a bod Yspryd Duw yn aros ynoch? Os llygra neb deml Dduw Duw a lygra hwnnw, canys sanctaidd yw teml Dduw, yr hon ydych chwi. Ac ailwaith yn yr vn Epistol, Oni wyddoch 1. Cor. 6. 19. chwi fod eich cyrph yn deml i'r Yspryd glan ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddochwi eich hunain, canys er gwerth y prynwyd chwi, gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corph ac yn eich yspryd y rhai ydynt eiddo Duw.
Ac am hynny fal y dywaid ein Iachawdwr Christ yn Efengyl S. Ioan, Maent hwy yn addoli Duw Dad yn inion, y rhai a'i addolant ef mewn Yspryd a gwirionedd pa le bynnac y gwnelont hynny. O herwydd y fath addolwyr y mae Duw Dad yn edrych am danynt. Duw sydd Yspryd Ioan. 4. 24. a'r sawl a'i haddolant ef rhaid yw iddynt ei addoli ef mewn Yspryd a gwirionedd, medd ein Iachawdwr Christ.
Etto er hyn mae 'r eglwys neu 'r deml ddefnyddiol yn lle gwedy ei osod a'i appwyntio wrth arfer a siamplau gwastadol yr hên Destament a'r newydd, i bobl Dduw i ymgynull iddo, i wrando sanctaidd air Duw, i alw ar ei sanctaidd enw ef, i roi diolch iddo am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, ac yn ddyledus ac yn gywir i wasanaethu ei sanctaidd Sacramentau ef, wrth wneuthur a chyflawni yr hyn bethau y saif gwir ac iniawn addoliad Duw, a soniasom o'r blaen am dano. A'r eglwys neu 'r deml hon a elwir yn scrythyrau yr hên Destament a'r Testament newydd yn dŷ neu deml yr Arglwydd, [Page 4] o herwydd yr enwedigawl wasanaeth a wna ei bobl i'w fawrhydi ef yno, a ffrwythlon bresenolder ei nefol ras ef, â'r hwn trwy ei sanctaidd air y cynyscaedda ef ei bobl a fyddont gwedy ymgynull yno.
Ac i'r tŷ a'r deml Dduw hynny y mae pawb o'r gwir dduwiolion yn rhwymedig i ddyfod bob amser yn ddyfal, trwy gyffredinol drefn, oni rwystrir hwy trwy glefyd neu ryw achos anghenrheidiol arall. Ac fe ddlyei bawb ac a arferant o ddyfod yno, ymddwyn yn llonydd ac yn ostyngedig, gan wneuthur eu rhwymedig ddlyed a'u gwasanaeth i'r holl-alluog Dduw ynghynnulleidfa ei saint.
Yr holl bethau hyn a ellir eu prosi yn eglur trwy sanctaidd air Duw, fal yr agorir yn oleu ar ol hyn. Ac mi a ddangosaf wrth yr scrythurau fod yn ei alw ef (fal y mae fe yn wir) yn dŷ Dduw, ac yn deml yr Arglwydd. Pwy bynnag a dyngo Ioan. 18. 10. i'r deml sydd yn tyngu iddi ac i'r hwn sydd yn preswylio ynddi, hynny yw Duw Dad: yr hyn y mae Matth. 23. 21. fe yn ei ddangos yn eglur yn Efengyl S. Ioan, Ioan. 2. 16. gan ddywedyd, na wnewch dŷ fy-nhad yn dŷ marchnad. Ac mae'r Prophwyd Dafydd yn dywedyd yn llyfr y Psalmau, Minnau a ddauaf i'th dŷ di Psal. 5. 7. yn amlder dy drugaredd ac a addolaf tu a'th deml sanctaidd yn dy ofn di. Ac fe a elwir mewn aneirif fannau o'r Scrythur lân yn dŷ Dduw neu dŷ yr Arglwydd, yn enwedig yn y Prophwydi a llyfr y Psalmau. Weithiau y gelwir yn babell yr Arglwydd, Psal. 132. 7. weithiau yn gyssegrfa, hynny yw tŷ neu fangre sanctaidd yr Arglwydd. Ac hi a elwir hefyd Exod. 7. Leu. 19. 30. 1. Bren. 8. 63. yn dŷ gweddi, megis y geilw Salomon hi, yr hwn a adailadodd deml Dduw yn Ierusalem, yn [Page 5] dŷ yr Arglwydd yn yr hwn y gelwid ar enw'r Arglwydd. Ac Esaias yn yr 56. bennod, fy-nhŷ fi a elwir Esai. 56. 7. yn dŷ gweddi i'r holl bobloedd. Yr hwn dert y mae 'n Iachawdwr Christ yn son am dano yn y Testament newydd fal y mae 'n eglur yn-nhri o'r Math. 21. 13. Marc. 11. 17. Luc. 19. 46. efangylwyr, ac yn-nammeg y Pharisei a'r Publican a aethant i weddio, yn yr hon ddammeg mae 'n Iachawdwr Christ yn dywedyd eu myned hwy Luc. 18. 10. i'r deml i weddio. Ac fe wasanaethai Anna y weddw a'r Brophwydes sanctaidd honno yr Arglwydd Luc. 2. 37. yn y deml, mewn ympryd a gweddi nos adydd. Ac yr ydys yn stori yr Actau yn son fyned Petr ac Ioan i fynu i'r deml ar yr awr weddi. Ac Act. 3. 1. fel yr ydoedd S. Paul yn y deml yn Ierusalem yn gweddio fe gymmerwyd i fynu yn yr yspryd ac Act. 22. 18. fe a welodd Iesu yn dywedyd wrtho.
Ac megis ym-mhob lle addas y gall y duwiol arfer gweddi ddirgel nailltuol: felly diammau yw mai 'r Eglwys yw 'r lle dyledus gosodedig i weddi gyhoedd gyffredinol. Ac bellach mai hwn yw 'r lle i roddi diolch i'r Arglwydd am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau a rôdd ef ini, mae 'n eglur ddigon yn-niwedd Efengyl S. Luc, ac ynnechrau Luc. 14. 53. Act. 2. 46. stori 'r Actau, lle mae 'n scrifennedig, Yn ol escynniad yr Arglwydd, barhau o'r Apostolion a'r Discyblon yn gytun beunydd yn y deml, gan glodfori a bendithio Duw yn wastad.
Ac fe fanegir hefyd yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid mai 'r eglwys yw 'r lle gosodedig i arfer 1. Cor. 11. 18, 22. y Sacraméntau. Mae bellach yn rhaid ini ddangos mai 'r Eglwys, neu 'r deml yw 'r lle y dylyid darllen a dyscu bywiol air Duw, ac nid dychymmygion dynion, a bod y bobl yn rhwymedig i ddyfod yno yn ddiescaelus, a ellir ei brofi wrth yr [Page 6] Scrythyrau fal y dangosir ar ol hyn. Yr ydyin yn darllen yn histori Actau 'r Apostolion i Pawl a Barnabas bregethu gair Duw yn-nhemlau 'r Iddewon yn Salamis. A phan ddaethant i Antiochia hwy a aethant i mewn i'r Synagog neu 'r Eglwys ar y dydd Sabaoth, ac a eisteddasant: ac Act. 13. 14. yn ol llith o'r ddeddf a'r prophwydi, rheolwyr y Synagog a anfonasont attynt gan ddywedyd, hawyr frodyr, os oes gennych air o gyngor i'r bobl, traethwch. Yna Pawl a gyfododd i fynu a chan amneidio â'i law am osteg a ddywedodd, O wyr o Israel a'r sawl sydd yn ofni Duw, gwrandewch. Ac felly fe a bregethodd bregeth o'r Scrythyrau iddynt, megis y dangosir yn halaeth yno.
Ac yn y ddwyfed bennod ar bymtheg o'r vn histori y tystiolaethir pa fodd y pregethodd Pawl Christ allan o'r Scrythur yn Thessalonica. Ac yn Act. 17. 22. Act. 15. 21. y 15. bennod y dywaid Iaco 'r Apostol yn y Cyngor a'r gynnulleidfa sāctaidd o'i gyd-apostolion, mae i Moeses ym-mhob dinas er yr hên amseroedd rai a'i pregethant ef yn y Synagogau a'r eglwysydd, lle darllenir ef bob Sabaoth.
Fal hyn y gwelwch wrth y lleoedd hyn, arfer darllein 'r hên destament ymmhlith yr Iddewon yn eu synagogau bob dydd Sabaoth, ac y gwnaid pregethau yn arferedig ar y dydd hwnnw.
Pa faint cymhesurach gan hynny yw darllen ac agoryd Scrythyrau Duw ac yn enwedig efengylein Iachawdwr Christ ini sydd Gristionogion, yn ein eglwysydd, yn hytrach am fod ein Iachawdwr Christ a'i Apostolion yn foddlon i'r arfer dduwiolaf anghenrheitiaf honno, ac yn ei chadarnhau hi trwy eu samplau eu hunain?
[Page 7] Mae 'n scrifennedig mewn llawer lle o histori▪ au 'r Mat. 4. 23. Mar. 1. 14. Luc. 4. 14. Math. 12. 9. 20. v. 9. Mar. 6. 2. Luc. 13. 10. efengyl i'r Iesu fyned o amgylch holl Galilaea a dyscy yn eu Synagogau hwy, a phregethu efengyl y deyrnas. Yn yr hyn leoedd y gosodir allan yn oleu ei fawr ddiwydrwydd ef yn gwastadol bregethu a dyscu y bobl.
Yr ydych yn darllen yn S. Luc ddyfod o'r Iesu Luc. 4. 6. Luc. 19. 47. i'r deml yn ol ei arfer, pa fodd y rhodd wyd iddo lyfr y Prophwyd Esaias, pa fodd y darllenodd ef dext ynddo ac y gwnaeth ar hwnnw bregeth. Ac yn y 19. bennod y dangosir ei fod ef yn dyscu beunydd yn y deml. Ac yn yr 8. o Ioan y dywedir ddyfod Ioan. 8. 2. o'r Iesu yn forau i'r deml a dyfod o'r holl bobl atto es ac iddo yntef eistedd a'u dyscu hwy. Ac yn y 18. o Efengyl Ioan mae Christ yn testiolaethu Ioan. 18. 10. gerbron yr arch-offeiriaid iddo ef ddywedyd ar gyhoedd wrth y byd, a'i fod ef yn athrawiaethu yn wastadol yn y Synagog ac yn y deml, lle y cyrchai yr holl Iddewon, ac na ddywedodd ef ddim yn guddiedig. Ac yn S. Luc yr Iesu a ddyscodd yn y Luc. 21. 37, 38. deml a'r holl bobl a ddauent y borau atto ef i'w glyweb yn y deml.
Ymma y gwelwch ddiwydrwydd ein Iachawdwr yn dyscu gair Duw yn y deml beunydd, yn en wedig ar y dyddiau Sabaoth, apharodrwydd y bobl hefyd yn dyfod ynghyd, a hynny yn forau ddydd i'r deml i wrando arno.
Yr vn fath siampl o ddiwydrwydd yn pregethu gair Duw yn y deml a gewch chwi yn yr Apostolion, a'r bobl yn dyfod attynt Act. 5. A'r Apostolion Act. 5. v. 21. er darfod eu chwippo a'u fflangellu hwy y dydd o'r blaen, ac er darfod i'r Archoffeiriaid orchymmyn iddynt na phregethent in wy yn enw 'r Iesu, etto hwy a ddaethant drannoeth yn forau [Page 8] i'r deml, ac ni phaidiasan a dyscu a chyhoeddi Iesu Act. 13. 26. 18. a'r 15. 35. a'r 17. 3. Grist. Ac mewn llawer o leoedd eraill o histori 'r Actau y cewch yr vn fath ddiwydrwydd yn yr Apostolion i ddyscu ac yn y bobl i ddyfod i'r deml i wrando gair Duw. Ac fe a destiolaethir yn y bennod gyntaf o Luc pan ydoedd Zachari y sanctaidd offeiriad a thâd Ioan fedyddiwr yn aberthu o fewn y deml, fod yr holl bobl yn sefyll oddiallan yn gweddio dros hir amser. Cyfryw ydoedd eu gwrês hwy a'u zêl yr amser hynny. Ac yn yrail o Luc y dangosir pa daithiau a siwrneiau a gymmerai Luc. 1. 10. gwyr, gwragedd a phlant i ddyfod i'r deml i wasanauthu 'r Arglwydd yno ar yr wyl: ond yn enwedig siampl Ioseph a'r fendigaid forwyn fair mam ein Iachawdwr Iesu Grist, a siampl ein Iachawdwr Christ ei hunan ac ef etto 'n blentyn, siamplau y rhai sydd wiw ini eu canlyn; Megis, pe cyffelybem ni ein escaelusrwydd i ddyfod i dŷ yr Arglwydd i'w wasanaethu ef yno, a diescaelusrwydd yr Iddewon y rhai a ddoent bennydd yn forau iawn Luc. 2. 42. i'r deml, weithiau trwy deithiau hirion, a phan na weddai y lliaws yn y deml, fe ddangosir y zêl wressog oedd yndynt wrth eu gwaith yn hir aros allan i weddio. Ni a allwn yn gyfiawn yn y gyffelybaeth hon ddamnio 'n diogi a'n escaelusder, ie a'n diystyrwch goleu yn dyfod i dy yr Arglwydd mor anfynych, ac yntef cyn nesed attom, ie a phrin dyfod iddo vn amser.
Mor bell yw llawer o honom ni oddiwrth ddyfod yn forau ddydd, neu hir aros oddiallan, ac y diystyrwn ddyfod oddifewn i'r deml. Ac etto cas gennym glywed enw 'r Iddewon megis pobl ddrwg annuwiol. Ond yr wyfi yn ofni yn hyn o beth ein bod ni yn waeth o lawer nâ 'r Iddewon, [Page 9] ac y cyfodant hwy ddydd y farn i'n damnedigaeth ni, y rhai os cyffelybir ni iddynt, ydym yn dangos y fath ddiogi a dibrisrwydd am ddyfod i dŷ yr Arglwydd i'w wasanaethu ef yno yn ol ein rhwymedig ddlyed.
Ac heblaw Erchyll. echrydus ofn barn Duw yn y dydd diwethaf, ni ddiangwn ni yn y bywyd hwn rhag ei law drom a'i ddial ef, am ddibriso a diystyru tŷ yr Arglwydd, a'i ddyledus wasanaeth ef yntho, megis y mae 'r Arglwydd ei hunan yn bygwth yn y bennod gyntaf o brophwydoliaeth Aggeus yn y Aggeus 1. 9. 10. modd hyn, Am fod, medd ef, fy-nhŷ i yn anghyfannedd a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun: am hynny y gwaharddwyd i'r nefoedd wlitho arnoch, ac y gwaharddwyd i'r ddaear ddwyn ffrwyth: gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd ac ar yr ŷd, ac ar y gwin, ac ar yr olew ac ar yr hyn a ddŵg y ddaear allan, ar ddŷn hefyd ac ar amfail, ac ar holl lafur dwylo dŷn.
Mele, os byddwn ni mor fydol ac nad gwaeth gennym am dragwyddol farnedigaethau Duw, y rhai etto ydynt Erchyllaf. echrydusaf ac arswydusaf oll, ni ddiangwn ni rhag cospedigaeth Duw yn y byd hwn trwy sychder a newyn, a thrwy dynnu oddiwrthym bob budd a dawn bydol, am y rhai yr ydym ni megis gwŷr bydol yn gofalu ac yn pryderu fwyaf.
Ond o'r gwrthwyneb pe gwellaem ni y bai, yr escaelusdra, y diogi, a'r diystyrwch ymma ar dŷ yr Arglwydd a'i ddyledus wasanaeth ef yno, ac yn ddiwyd ymarfer o ddyfod ynghŷd yno i wasanaethu 'r Arglwydd yn vn ac yn gyttun, mewn sancteiddr wydd a chyfiawnder ger ei fron ef, mae ini addewidion o ddonian nefol a bydol.
[Page 10] Pa le bynnag, medd ein Iachawdwr, y bytho dau neu dri gwedy ymgynull ynghyd yn fy enw fi Matth. 18. 20. myfi a fyddaf yn ei mysc hwy. Pa beth a ddichō bod mor fendigaid a chael ein Iachawdwr Christ i'n mysc? a pha beth a ddichon bod mor annedwydd ac mor eniweidiol a gyrru ein Iachawdwr Christ o'n mysc, a chynnwys lle i'n hên angheuol elyn ni ac yntef, yr hên ddraig, y sarph sathan diawl, yn ein plith.
Mae yn scrifennedig yn yr ail o Luc gwedi i Luc. 20. 46. fair fam Christ ac i Ioseph ei ymofyn ef yn hir, a phan na fedrent ei gael ef yn vn lle, hyd oni thybient ei golli ef, y modd yn y diwedd y cawsant ef yn y deml yn eistedd ym-mŷsc y doctoriaid.
Felly os bydd arnom eisiau Christ Iesu yr hwn yw Iachawdwr ein heneidiau a'n cyrph, ni chyfarfyddwn ddim ag ef yn y farchnad, neu yn y dadleudy, llai o lawer yn y dafarn ym-mhlith cwmpniwyr neu gyfeillion da (fal y gelwir hwy) mor Fuan. ebrwydd ac y cyhyrddwn ag ef yn y deml yn-nhŷ yr Arglwydd, ym-mŷsg dyscawdwyr a phregethwyr ei air, lle mae ef i'w gael yn ddiau.
Ac am ddoniau bydol mae gennym addewid ein Iawchawdwr Christ, Ceifiwch, medd ef, yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder a'r holl bethau Matth. 6. 33. byn a roddir i chwi yn ychwaneg.
Fal hyn y dangosasom trwy air Duw yn y rhan gyntaf o'r traethawd ymma mai tŷ yr Arglwydd y dyw'r deml neu'r Eglwys, am fod yn arfer yno o wasanaethu Duw, sef gwrando a dyscu ei santaidd air ef, galw ar ei santaidd enw ef, a rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif drugaredd, a ministro ei Sacramentau ef yn ddyledus.
Fe a ddangoswyd hefyd trwy yr Scrythyrau y [Page 11] dylai yr holl dduwiol gristionogion yn wŷr ac yn wragedd ar amseroedd gosodedig ddyfod yn ddiwyd i dŷ 'r Arglwydd i' w wasanaethu a 'i foliannu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rh wymediccaf: i'r hwn y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am iawn arfer yr Eglwys.
FE a ddangoswyd yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon trwy air Duw mai tŷ yr Arglwydd yw 'r deml neu 'r Eglwys, am fod yn arfer o wasanaethu 'r Arglwydd yno, hynny yw dyscu a gwrando et santaidd air ef, galw ar ei santaidd enw ef, rhoddi diolch iddo am ei fawr a'i aneirif ddoniau, a dyledus finistrio ei Sacramentau.
Ac fe a ddangoswyd eisioes trwy 'r scrythyrau y dylyem ni yr holl dduwiol Gristionogion ar amserau gosodedig yn ddiwyd ymarfer o ddyfod i dŷ 'r Arglwydd i'w wasanaethu ac i'w ogoneddu ef yno, megis y mae ef teilyngaf a ninnau rhwymediccaf.
Mae yn aros bellach yn yr ail rhan o 'r bregeth am iawn arfer teml Dduw, bod dangos hefyd trwy air Duw â pha lonyddwch a distawrwydd a pharch a gostyngeiddrwydd y dyle y rhai a ddelo i dŷ Dduw ymddwyn ac ymarwedd. Digon o addysc ini i wybod Ddaied. gystal y gweddai i ni Gristionogion arfer yn barchedig yr Eglwys a thŷ sanctaidd ein gweddiau, ped ystyriem ym-mha fawr [Page 12] barch ac amrhydedd yr oedd eu teml gan yr Iddewon yn yr hên gyfraith, fel y gwelir drwy lawer o leoedd o 'r rhai y dewissaf i chwi ambell vn.
Yr ydys yn rhoi yn erbyn ein Iachawdwr Christ garbron barnwr bydol yn Efengyl Mathew trwy ddau gau dyst fegis peth yn haeddu angau, Matt. 26. 61. iddo ddywedyd y gallei ef ddistrywio teml Dduw a'i hadeiladu mewn tri diwrnod, heb ddim ammau os hwy a ellent beri i'r bobl gredu iddo ddywedyd dim yn erbyn anrhydedd a mawrhydi yr deml, y byddai ef yngolwg pawb yn haeddu angau.
Ac yn yr 21. o'r Actau pan gafodd yr Iddewon Act. 21. 28. S. Paul yn y deml, hwy a roesant ddwylo arnaw gan lefain, hawyr o Ifrael cynorthwywch, dymma yr dyn sydd yn dyscu ym-mhob man yn erbyn y bobl a'r gyfreith a'r lle ymma: hefyd mae fe wedi dwyn Groegiaid i mewn i'r deml i halogi y lle hwn.
Gwelwch fel y tybygent mai yr vn fath fai oedd ddywedyd yn erbyn teml Dduw a dywedyd yn erbyn cyfraith Dduw, a pha fodd y barnent yn gyfaddas na chaffai neb ddyfod i deml Dduw ond rhai duwiol a gwir addolwyr Duw.
Yr vn peth y mae Tertullus yr areithiwr Ffraeth. hyawdl hwnnw a'r Iddewon Act. 24. 6. yn ei ddodi yn erbyn Paul ger bron barnwr bydol megis peth yn haeddu angau, iddo geisio halogi teml Dduw. A phan dderbyniodd yr arch-offeiriaid eilwaith y drylliau arian o law Iudas hwy a ddywedasant, Matth. 27. 6. nid cyfreithlon ini eu bwrw hwynt i'r Corban, yr hwn oedd drysordŷ 'r deml, o herwydd mai gwerth gwaed ydynt.
[Page 13] Megis na ellent aros nid yn vnig ddyfod vn dŷn aflan ond hefyd ddyfod vn peth marw, yr hwn a fernid yn aflan, i mewn i'r deml nac i vn lle a berthynai atti.
Ac i'r deall hyn y dylid cymmeryd yr hyn a ddywaid S. Pawl, pa gytundeb sydd rhwng cyfiawnder 2. Cor. 6. 14. ac anghyflawnder? a phâ gyfeillach sydd rhwng goleuni a thywyllwch? a pha gysondeb sydd rhwng Christ a Belial? neu pa ran sydd i'r credadwy ac i'r anghredadwy? a pha gydfod sydd rhwng teml Dduw ac eulynnod?
Yr hyn eiriau er bod yn eu deall yn bennaf am deml calon y duwiol, etto o herwydd bod yn cymmeryd y gyffelybiaeth a Sum. syrth y rheswn oddiwrth y deml ddefnyddiol, mae yn canlyn na ddylid goddef dim anuwioldeb, yn enwedig o ddelwau neu elynnod, o fewn Teml Dduw, yr hon yw 'r lle i addoli Duw, ac am hynny nid gwell y gellir eu goddef hwy i aros yno nag y dichon goleuni gytuno â thywyllwch neu Grist a Belial: o herwydd bod gwir addoliad Duw ac addoliad delwau mor wrthwynebus i'w gilydd ac a all fod.
Ac mae eu gosod hwy i fynydd yn y lle y byddir yn addoli yn achos mawr o'u haddoli hwyntau.
Ond i ddychwelyd at y parch a roe 'r Iddewon i'w teml, chwi a ddywedwch eu bod hwy yn ei hanrhydedduhi yn ormod ac yn goelfucheddol, gan lefain, Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd, a'u bywyd hwy er hynny yn ddrwg dros ben, ac am hynny yr argyhoeddir hwy yn gyfiawn gan Ieremi Prophwyd yr Arglwydd. Iere. 7. 4.
Gwir yw eu bod hwy yn ymroi yn goelfucheddol i anrhydeddu eu teml, ond mi a fynwn na byddem ni yn rhy fyrr yn rhoi dyledus barch i dŷ [Page 14] yr Arglwydd gymmaint ac yr elsent hwythau yn rhybell.
Ac os ceryddodd y Prophwyd hwy yn gysion, gwrandewch pa beth y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn ar ein dwylo ninnau, fel y gallom wybod pa vn a wnawn ai bod yn feius ai nad ydym. Mae yn scrifennedig yn y 4. bennod o Lyfr y Pregethwr gwilia ar dy droed pan fythech yn myned i Eccles. 4. 17. dŷ Dduw a bydd barottach i wrando nag i roi aberth ffyliaid, canys ni wyddont hwy eu bod yn gwneuthur drygioni. Na fydd ry ebrwydd o'th enau, ac na fydded dy galon ry fywiog i draethu Preg. 5. 1. dim ger bron Duw. Canys Duw sydd yn y nefoedd a thithau sydd ar y ddayar, ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.
Ystyriwch fy-ngharedigion pa lonyddwch mewn ymddygiad ac ymarweddiad, pa ddistawrwydd geiriau ac ymadroddion sy ddyledus ynnhŷ Dduw, o herwydd felly y mae fe yn galw yr Eglwys. Edrychwch ydynt hwy yn gwilied ar eu traed fal y rhybyddir hwy ymma, y rhai ni pheidiant â'u hanweddaidd dreiglo a rhodio i fynu ac i fynu ac i waered ar hŷd ac ar draws yr Eglwys, gan ddangos arwydd eglur fychaned gantynt am Ddum ac am yr holl wŷr da sydd bresenol yno.
A pha wilied y maent hwy ar eu tafodau a'u hymadroddion, y rhai nid yn vnig a ddywedant eiriau yn fywiog ac yn ebrwydd ger bron yr Arglwydd, yr hyn yr ydys ymma yn ei wahardd iddynt, ond hefyd weithiau dywedyd yn frwnt, yn gybyddus ac yn annuwiol, gan chwedleua am bethau ni bônt ond braidd onest na gweddaidd i'w dywedyd mewn tafarn, yn-nhŷ yr Arglwydd, heb ystyried ond rhyfychan eu bod hwy ger bron [Page 15] Duw yr hwn sydd yn aros yn y nefoedd, fal y mynegir ymma, lle nid ydynt ond pryfed yn ymlusgo ymma ar y ddayar wrth ei dragwyddol fawrhydi ef, ac yn meddwl yn llai o lawer y gorfydd arnynt ar y dydd mawr roddi cyfrif am bob gair ofer ac a ddywedasant hwy er ioed pa le bynnag y dywedasant, Mat. 12. 36. mwy o lawer am eiriau bryntion, aflan, drwg a dyweder yn-nhŷ 'r Arglwydd, er dianrhydeddu ei fawrhydi ef, a rhwystr a thramgwydd i bawb a'u clywant.
Ac yn wir, am y dyrfa a'r lliaws werin, fe a ddarparwyd y deml iddynt hwy i fod yn wrandawŷr ac nid yn siaradwŷr, os ystyriwn fod yno yn arfer ddarllen a dyscu gair Duw, yr hwn y maent yn rhwymedig i'w wrando yn ddiesceulus, yn barchus ac yn ddistaw, a hefyd yn adrodd gweddiau cyffredinol a rhoddi diolch gan y gwenidawg cyffredinawl yn enw yr bobl a'r holl dyrfa bresennol, â'r hyn, gan wrandaw yn barodol y dylent gytuno gan dywedyd, Amen, megis y dyweid S. Paul at y Corinthiaid, ac 1. Cor. 14. 16. mewn man arall, Gan roddi gogoniant i Dduw ag vn tafod ac ag vn Yspryd; yr hyn ni ddichon bod pan fytho pob gŵr a gwraig yn llunio. rhithio defosiwn neilltuol iddo ei hun, yn gweddio o'r neilldu; vn yn gofyn, arall yn roddi diolch, arall yn darllen athrawiaeth, heb ofalu am wrando ar weddi gyffredinol y gwenidawg.
Ac mae yr vn S. Paul at y Corinthiaid yn dyscu pa barch a ddylid ei arfer wrth finistrio 'r Sacramentau yn y deml, gan geryddu y rhai a'i harferent yn amharchus. Onid oes gennych dai i 1. Cor. 11. fwyta ac y yfed ynddynt? ai dirmygu yr ydych yr Eglwys a chynnulleidfa Dduw? ac a ydych chwi [Page 16] yn gwradwyddo y rhai nid oes genthynt? pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf chwi yn hyn? na chanmolaf.
Ac nid ydyw Duw yn gofyn yn vnig y parch hwn oddiallan mewn ymddygiad a distawrwydd yn ei dŷ, ond pob gostyngeiddrwydd oddifewn mewn glanhad meddyliau ein calonnau, gan fygwth drwy y Prophwyd Osee, Am ddrygioni eu Osea. 9. 30. gweithredoedd y bwrid hwynt allan o'i dŷ ef. Trwy yr hyn yr arwyddoceir eu tragwyddol dafliad hwy allan o'r tŷ a'r dyrnas nefoedd, yr hyn sydd erchyll aruthrol.
Ac am hynny y dywaid Duw yn Leuiticus, Perchwch fy-nghysegrfa, canys yr Arglwydd ydwyfi. Leu. 19. 30. Ac am hynny y dywaid y Prophwyd Dafydd. Mi a ddeuaf i'th dŷ di yn amlder dy drugaredd, ac a addolaf yn dy deml santaidd yn dy ofn di: gan ddangos pa barch a gostyngeiddrwydd a ddylae fod ym meddyliau dynion dwiol yn-nhŷ yr Arglwydd.
Ac i ddangos peth i chwi oblegid y peth hyn allan o'r Testament newydd, ym-mha barch y myn Duw gadw ei dŷ a'i deml a hynny drwy siampl ein Iachawdwr Christ, yr hon trwy resswm da a ddylae fod yn bwysig ac yn gyfrifawl ei awdurdod gydâ phob Cristion da. Mae yn scrifennedig ym-mhob vn o'r pedwar Efangylwr megis Mat. 21. 12. Mar. 11. 15. Luc. 19▪ 45. Ioan. 2. 15. peth godidawg yn heuddu tystioleth llawer o dystion santaidd, am ein Iachawdwr Iesu Grist yr Arglwydd trugarog tirion hwnnw yr hwn o blegid ei ostyngeiddrwydd a gyffelybir i ddafad yr hon a oddef yn ddistaw gneifio ei chnu oddi-arni, ac i'r oen yr hwn yn ddiwrthwyneb a arweinid i'r lladdfa, er iddo roddi ei gorph i'r cûrwyr a'i Esai. 53. 7. Act. 8 32. [Page 17] gernau i'r cernodwyr, er nad attebod i't rhai a'i dirmygent ac ni thrôdd ei wyneb oddiwrth wradwydd a phoeredd, ac er iddo yn ôl ei siampl ei hun Esa. 5. 6. Mat. 5. 36. roddi i'w ddiscyblon orchymmynion o oddefgarwch ac addfwyndra, etto pan welodd ef annhrefnu, anharddu a halogi y deml santaidd tŷ ei Dâd nefol, fe a arferodd dostrwydd a llymdra mawr, fe a ymchwelodd fyrddau y newidwyr arian ac a daflodd i lawr feingciau y rhai oedd yn gwerthu colommennod, fe a wnaeth fflangell o reffynnau ac a fflangellodd ac a chwipiodd ymmaith y melldigedig gamarferwyr a'r halogwyr hynny ar deml Dduw, gan ddywedyd, Tŷ gweddi y gelwir tŷ fy-nhad, ond chwi a'i gwnaethoch yn ogof lladron.
Ac yn yr ail o Ioan, Na wnewch dŷ fy-nhâd yn Ioan. 2. 16. dŷ marchnad. O herwydd megis y mae ef yn dŷ i Dduw pan wneler gwasanaeth i Dduw yn ddyledus yntho, felly pan fythom ni yn annuwiol yn ei gamarfer a'n hannuwiol ymsiarad am fargenion cybyddus, yr ydym yn ei wneuthur yn dŷ marchnad ac yn ogof lladron.
Ie a'r fath barch a fynnai Grist ei fod i'r deml, Mar. 11. 16. na allai fe arhos gweled cymmaint a dwyn llestr trwyddi. Ac fal y dywedpwyd o'r blaen allan o saint Luc, pan na fedrid cael Grist yn vnlle arall ar y ceisid ef, ond yn vnig yn y deml, ym-mhlith y doctoriaid; ac yn awr mae fe yn dangos ei allu a'i awdurdod, nid mewn cestyll neu frenhindai ym-hlith milwyr, ond yn y deml. Chwi a ellwch weled wrth hyn ym-mhale y gellir cyfarfod gyntaf â'i deyrnas ysprydol ef, yr hon y mae yn dywedyd nad yw o'r byd hwn, ac ym-mhale y gellir ei hadnabod hi yn orau o leoedd yr holl fyd.
[Page 18] Ac yn ol'siampl ein Iachawdwr Christ, yn y brif-Eglwys gynt yr hon oedd santeiddiolaf a duwiolaf oll, ac yn yr hon yr arferid dyledus lywodraeth a thost inio wndeb yn erbyn pob rhai drygionus, ni ddioddefid pechaduriaid cyhoedd i ddyfod i dŷ 'r Arglwydd, ac ni dderbynid hwy i weddiau cyffredinawl nac i arfer y santaidd sacramentau gydâ gwir Gristianogion eraill nes iddynt wneuthur penyd cyhoedd ger bron yr holl Eglwys.
Ac nid oeddid yn gwneuthur hynny yn vnig i'r rhai iselradd, ond hefyd i'r cyfoethogion, i'r pendefigion a'r galluogion, ie i Theodosius yr ym-merodr mawr galluog hwnnw, yr hwn am iddo wneuthur lladdfa greulon fe a geryddodd Ambros Escob Mediolanum ef yn dost, ac a escymynodd hefyd yr ym-merodr hwnw, ac a'i dug ef i benyd cyhoedd.
A phwy bynag oedd wedi eu troi heibio ac megis eu deol o dŷ yr Arglwydd, hwy a gyfrifid oll (megis yn wir y maent hwy) yn ddynion gwedy eu gwahanu a'u dosparthu oddiwrth Eglwys Ghrist, ac mewn cyflwr tra enbaid, ac fel y dywaid Pawl, gwedi eu rhoddi i sathan y diafol dros 1. Cor. 5. 5. amser: ac fe a ochelid eu cymdeithas hwy gan yr holl wyr a gŵragedd duwiol, hyd oni ddarffai eu cymmodi hwy trwy edifeirwch a chyhoedd benyd. Cyfryw oedd anrhydedd tŷ 'r Arglwydd ynghalonau dynion, a'i barch oddi allan hefyd yn yr amseroedd hyny, ac mor ofnadwy oedd gau dŷn allan o'r Eglwys a thŷ 'r Arglwydd yn y dyddiau hynny pan oedd grefydd yn bur ac yn anllygredig a heb fod mor llygredig ac yn hwyr o amser.
Ac etto yr ydym ni wrth ein neilltuo 'n hunain allan o dŷ 'r Arglwydd, o'n gwirfodd yn ein escymuno [Page 19] 'n hunain, neu yn ein anghyfaillachu yn hunain o'r Eglwys ac o geifeillach saint Duw: neu gwedy dyfod yno yr ydym ni trwy ein anweddaidd a'n amharchus ymddygiad, trwy ynfyd ac am-mhwyllus, ie ac aflan a drygionus feddyliau a geiriau ger bron yr Arglwydd Dduw, yn dianrhydeddu Duw ac yn am-mherchi yn aruthr ei sanctaidd dŷ ef, Eglwys Duw, a'i sanctaidd enw a'i fawrhydi ef, i fawr Berigl. enbeidrwydd ein eneidiau, ie a'n ficor ddamnedigaeth hefyd os ni nid etifar▪ hawn yn ebrwydd ac yn ddifrif am y drygioni ymma.
Fal hyn y clywsoch, fyngharedigion, allan o air Duw pa barch sydd ddyledus i fanctaidd dŷ 'r Argiwydd, fal y dlye yr holl dduwiolion yn ddiescaelus, ar yr amser gosodedig ymarfer ddyfod yno: fal y dlyent ymddwyn yno mewn gostyngeiddrwydd a pharch ger bron yr Arglwydd: pa blagau a chospedigaethau bydol, a thragwyddol y mae 'r Arglwydd yn ei sanctaidd air yn eu bygwth ar y rhai a fythont yn escaeluso dyfod i'w sanctaidd dŷ ef, a'r rhai gwedŷ eu dyfod yno, ydynt yn ymddwyn yn anostyngedig, naill ai mewn gweithred ai mewn geiriau.
Am hynny os chwennychwn gael tywydd Ardymherus. tym-mherus, ac felly mwynhau ffrwythau y ddayar: os ni a ddymunwn ddiangc oddiwrth sychder ac anffrwythlonrwydd, syched a newyn, a'r plagau eraill a fygythir ar bawb ac a redant i'w tai eu hunain, neu i'r tafarnau, ac a adawant dŷ yr Arglwydd yn wâg ac yn anghyfanedd: os câs gennym ein fflangellu a'n chwippio, nid â fflangellau neu chwippiau a wnair o reffynnau, allan o'r deml ddefnyddiol yn vnig, megis y gwnaeth [Page 20] ein Iachawdwr Christ i halogwyr tŷ Dduw yn Ierusalem, ond ein ffusto hesyd a'n gyrru allan o dragwyddol deml a thŷ 'r Arglwydd, yr hon yw ei deyrnas nefol ef, â gwialen hayarn tragwyddol ddamnedigaeth, a'n taflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain ac yscyrnygu dannedd: os bydd arnom ofn ac os cas gennym hyn, megis y mae ini achos mawr, gwellhawn ninnau ein escaelusrwydd a'n diystyrwch am ddyfod i dŷ yr Arglwydd, a'n ham-mharchus ymddygiad yn-nhŷ yr Arglwydd, a chan ddyfod yno ynghŷd yn ddiescaulus, gwrandawn yno yn barchus sanctaidd air yr Arglwydd, gan alw ar sanctaidd enw 'r Arglwydd, gan roddi i'r Arglwydd ddiolch â'n holl galonnau, am ei aml an nhraethawl ddoniau, y rhai y mae fe bob dydd a phob awr yn eu rhoddi ini, a chan gyfrannu a derbyn ei sanctaidd Sacramentau yn barchus, a gwasanaethu'r Arglwydd yn ei dŷ sanctaidd, fel y gwedde i weision yr Arglwydd, mewn sancteiddrwydd ac vniondeb ger ei fron ef holl ddyddiau 'n heinioes.
Ac yno y byddwn siccr yn ol y bywyd hwn, o orphywys yn ei sanctaidd fynydd ef a thrigo yn ei babell, yno i foliannu ac i fawrhau ei sanctaidd enw ef ynghynulleidfa ei saint ef, yn sanctaidd dŷ ei drag wyddol deyrnas nefol ef, yr hon a brynodd ef ini trwy angau a thy walltiad gwerthfawr waed ei fâd ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn Ephe. 3. 18. gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân, vn tragwyddol fawrhydi Duw, y bytho holl anrhydedd, gogoniant, moliant a diolch yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth yn erbyn enbeidrwydd addoliad eulynod, neu ddelw-addoliad, a rhy ofer drwsio Eglwysydd.
Y rhan gyntaf.
FE a ddangoswyd i chwi ym-mha byngciau y mae gwir harddwch ac addurn Eglwys neu deml Dduw yn sefyll yn y ddwy homili ddiwethaf, y rhai a ddangosant iawn arfer teml neu dŷ Dduw, a'r dyledus barch y mae 'r holl Gristionogawl bobl yn rhwymedig i'w roddi iddo: syrth a chynhwysiad y rhai, yw, bod Eglwys neu dŷ Dduw gwedi i'r sanctaidd Scrythyrau ei osod yn lle, yr hwn y dylid darllen, dyscu a gwrando gair Duw ynddo, a galw ar enw Duw trwy weddiau cyffredinol, rhoddi diolch i'w fawrhydi ef am ei aneirif a'i an-nhraethawl ddoniau y rhai a roddodd ef ini, a ministro ei sanctaidd Sacramentau ef yn ddyledus, ac yn barchus: ac am hynny y dlyei bawb o'r gwir dduwiolion, yn ddiwyd, ar yr amseroedd gosodedig, ddyfod ynghŷd i'r Eglwys, ac ymarwedd ac ymddwyn yno 'n barchus ger bron yr Arglwydd: a bod yn galw yr Eglwys hon (yr hon a arfer duwiol weision yr Arglwydd yngwir wasanaeth yr Arglwydd am ffrwythlon bresenolrwydd rhâd Duw, â'r hwn, y mae fe trwy ei sanctaidd air a'i adde widion yn cynnyscaeddu ei bobl a fyddant yno yn bresennol gwedy ymgynull, er mwynhau doniau bydol [Page 22] anghenrheidiol ini, a holl roddion nefol a thragwyddol fywyd) yngair Duw (megis yn wir y mae hi) yn deml yr Arglwydd ac yn dŷ Dduw, ac am hynny fod yn cynnhyrfu ei wir barch ef ynghalonnau 'r duwiol wrth ystyriaid y gwir harddwch ymma ar dŷ Dduw, ac nid wrth vn ceremoni oddi-allan neu drwsiad gwerthfawr gwŷch ar dŷ neu deml yr Arglwydd.
Yn erbyn yr a thrawaeth eglur hon o'r Scrythyrau, ac yn erbyn arfer y brif-eglwys gynt, yr hon oedd bur a dilwgr ac yn erbyn meddwl a barn hên ddoctoriaid dyscedig duwiol yr Eglwys, fal y dangosir ar ol hyn, fe ddug llygredigaeth y dyddiau diwethaf ymma i mewn i'r Eglwys aneirif liaws o ddelwau, ac a drwsient y rhai hynny a rhannau eraill o'r deml hefyd, ag aur ac arian, ac a'u peintiasont a lliwiau, a'u gosodasont allan a main ac a pherlau, a'u dilladasont â sidan ac a dillad gwerthfawr, gan feddwl a dychymmig yn anghywir, mai hynny oedd yr odidawgafdrwsiad neu harddwch ac addurn ar deml neu dŷ Dduw, ac y cyffroid yr holl bobl yn gynt i 'w ddyledus berchi ef, os byddai bob cornel o hono yn wych ac yn discleirio ag aur, a main gwerth-fawr. Er na allasant hwy yn wir trwy 'r fath ddelwau, a'r fath wych drwsio a'r y deml, wneuthur lles yn y byd i'r synhwyrol deallus: ond hwy a ddrygasont yn fawr wrth hyn y diddrwg angall, gan roddi iddynt achos i wneuthur Erchyll. echrydys ddelwaddoliad: a'r cybyddion wrth yr vn achos megis yn addoli, ac oddifewn yn gwir addoli nid yn vnig y delwau, ond eu defnydd hwy hefyd, yr aur a'r arian, fal y gelwir y bai hynny yn yr Scrythyr lân yn hytrach nag vn bai arall, yn eulyn-addoliad Ephe. 5. Coloss. 2. [Page 23] neu ddelw-addoliad. Yn erbyn y camarferon diffaith a'r mawr anferthwch hwn mi a ddangosaf i chwi yn gyntaf awdurdod sanctaidd air Duw, cystadl o'r hên destament a'r newydd.
Ac yn ail destiolaeth y sanctaidd a'r hên dadau dyscedig, a'r doctoriaid allā o'u scrifennadau hwy eu hunain a hên storiau eglwysig fal y galloch ar vnwaith wybod eu meddwl hwy, ac hefyd ddeall pa fath harddwch oedd yn y temlau yn y brif-eglwys gynt yn yr amseroedd puraf a dilygraf.
Yn drydydd yr argyhoeddir ac yr attebir y rhesymmau a'r dadleuau a wnair i amddiffyn delwau ac eilynod ac anrhesymmol drwsio temlau ac eglwysydd, ag aur ac arian a thlyssau ac â main gwerthfawr ac felly cau ar y cwbl.
Ond rhag i neb trwy airiau neu enwau gymeryd achos i ammau, fe dybygwyd fod yn orau ddangos yn gyntaf dim, er ein bod ni yn arfer yn ein ymadroddion arferedig o alw diwgad neu lun dynnion neu bethau eraill yn ddelwau, ac nid yn eilynnod: etto fod yr Scrythyr lân yn arfer y ddau air hyn, delwau ac eulynod, am yr vn peth bob amser yn ddiwahaniaeth. Maent hwy yn airiau o iaithiau a lleisiau amryw, ond yn vn mewn ystyr a deall yn yr scrythyrau. Y naill a dynnir o'r gair Groeg Eidolon eilyn, ar llall o'r gair lladin Imago delw, ac felly pob vn o'r ddau a arferir ynghymraeg wrth gyfiaithu 'r scrythyrau yn ddiwahaniaeth, megis yr arfere y deg-a-thriugain yn eu cyfiaithiad Groeg Eidola, a S. Ierom yn yr vn lleoedd Simulachra, ynghymraeg delwau.
A'r peth y mae Ioan yn ei alw yn y Testament newydd Eidolon, mae S. Ierom yn ei gyfiaithu Ioan. 5 21. Simulachrum megis ym-mhob lle arall o'r Scrythyr [Page 24] y mae fe 'n arfer o wneuthur. A hefyd Tertulian hên Ddoctor dyscedig iawn yn y ddwy Lib. de Coro. mil. iaith, Groeg a Lladin, wrth gyfiaithu y lle hwn o S. Ioan, Gwagelwch eulynod, hynny yw medd Tertulian, y delwau eu hunain: ar geiriau lladin y mae ef yn eu harfer ydynt effigies ac Imago, hynny yw delw.
Ac am hynny yn y traethawd hwn nid gwaeth pa vn o'r ddau air a arferom ni, neu os arferwn hwy ill dau gan eu bod hwy ill dau (er nad ydynt yn y iaith gymraeg, etto) yn yr scrythyrau yn arwyddocau yr vn peth.
Ac er bod cyn hyn i ryw lygaid deillion, yn ddichellgar geisio eu gwneuthur hwy yn airiau o ystyr gwahanol, ac arwyddocâd dosparthedig mewn materion ffydd a chrefydd, ac am hynny iddynt arfer enwi y lluniau a'r diwgadau a'r cyffelybiaethau a osodid i fynu gan y cenhedloedd yn eu temlau neu mewn lleoedd eraill i'w haddoli, yn Eulyn neu Idol; ond y llun a osodir i fynydd yn yr Egiwys yr hwn yw 'r lle i addoli a alwant hwy yn ddelw: megis pe byddai yn yr Scrythyr lân wahaniaeth mewn ystyr a deall rhwng y ddau air ymma, eulyn, a delw, y rhai fal y dywedpwyd o'r blaen a wahanir yn vnic mewn llais ac iaith, ac ydynt yn siccr mewn ystyr a gwirionedd yr vn peth, yn enwedig yn yr Scrythyrau a materion ffydd a chrefyd.
Ac fe arferwyd o addoli ein delwau ni ac yr ydys etto yn ei haddoli, ac os goddefir hwy yn gyhoeddus yn yr egiwysydd a'r temlau hwy a addolir byth, ac felly fe wnair delwaddoliad iddynt, megis y dangosir ac y profir yn halaeth yn y rhan ddiwethaf o'r bregeth hon.
[Page 25] Am hynny nid ydyw ein delwau ni, sydd yn y temlau a'r eglwysydd, ddim amgen nag eulynod, neu Idolau, i'r rhai y gwnaethpwyd eulyn-addoliad ac y gwnair fyth.
Ac yn gyntaf mae scrythyrau 'r hên Destament gan ddamnio a ffieiddio pob eulyn-addoliad, neu addoliad delwau, a'r eulynod a'r delwau eu hunain hefyd, yn enwedig mewn temlau; mor aml ac mor halaeth ac y byddai waith anniben, ni ellid ei gynwys mewn llyfr o faint bychan gyfrif yr holl leoedd a berthynant at hyn o beth. O herwydd wedy darfod i Dduw ddewis vn bobl neilltuol yn vnic iddo ei hun, o blith yr holl genhedloedd eraill, y rhai nid adwaenēt Dduw, ond a addolent ddelwau a gaudduwiau, fe a rodd iddynt ordeiniaethau a chyfraithiau i'w cadw ac i'w cynnal: ond ni roddodd ef i'w bobl hynny gyfraithiau difrifach nac eglurach am ddim arall nag a roddod ef am ei wir addoliad ei hun, ac am ymwachelyd ac ymgadw rhag eulynod, delwau a delwaddoliad, am fod y delwaddoliad hynny yn wrthwynebussaf peth ac a ddichon bod i'w iawn addoliad ef a'i wir ogoniant, yn hytrach nag vn drygioni arall: ac am ei fod ef yn gwybod hyblygedd a pharodrwydd llygredig naws dyn i'r bai cas ffiaidd hwnnw.
O'r cyfraithiau a'r ordeiniaethau hynny a roddodd Duw i'w bobl ynghylch y peth hyn, mi a adroddaf i 'wch rai o'r rhai enweddiccaf i'r defnydd hyn▪ fal y galloch wrth y rhai hynny farnu am y llaill. Mae y bedwaredd bennod o lyfr Deuteronomium yn hynod, ac hi a haeddai ei hystyried yn ddiescaelus, ac mae 'n dechreu fal hyn, Bellach gan hynny o Israel gwrando ar y deddfau a'r [Page 26] barnedigaethau y rhai yr ydwyf yn eu dyscu i chwi i'w gwneuthur, fal y byddoch byw ac yr eloch ac y gorescynnoch y wlad yr hon y mae 'r Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi, na Deut. 4. 1. chwanegwch at y gair hwn yr ydwyf yn ei roddi i chwi, ac na laihewch ddim o hanaw ef, gan gadw gorchymmynion yr Arglwydd eich Duw y rhai yr ydwyf yn eu rhoddi i chwi.
Ac yn y mann ar ol hynny mae fe yn adrodd yr vn gairiau dair gwaith neu bedair, cyn ei ddyfod ef at y peth y mae ef yn enwedig yn eu rhybyddio hwy am dano, megis mewn rhag-ddywediad i wneuthur iddynt ystyried yn wagelusach, Gochel arnad (medd ef) a chadw dy enaid yn ddyfal rhag anghofio o honoti y pethau y rhai a welodd dy lygaid, a chilio o honynt allan o'th galon di holl ddyddiau dy einioes: ond yspysa hwynt i'th blant Vers. 9. Vers. 12. ac i blant dy blant. Ac yn y man ar ol hynny, A'r Arglwydd a lefarodd wrthych o genol y tân, a chwithau nid oeddych yn gweled llun dim heb law llais. Ac etto yn y man, Gwiliwch gan hynny Vers. 15. yn ddyfal ar eich eneidiau, o blegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o ganol y tân, rhag ymlygru o honoch Vers. 16. a gwneuthur i'wch ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd vn ddelw, llun gwryw neu fenyw, llun vn anifail yr hwn sydd a'r y ddayar llun aderyn ascellog yr hwn a eheda yn yr awyr, llun vn ymlusciad ar y ddayar, llun pyscodyn ar y sydd yn y dyfroedd tan y ddayar: hefyd rhag derchafu o honot dy lygaid tua 'r nefoedd, a gweled yr haul a'r lleuad a'r ser, sef holl lu 'r nefoedd, ac iti trwy gamsynniaeth ymgrymmu iddynt a'u haddoli hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw [Page 27] i'r holl bobloedd dan y nefoedd.
Ac ail waith, Gochelwch ac ymgedwch arnoch rhag i'wch angofio cyfammod yr Arglwydd eich duw yr hwn a ammododd ef â chwi, a gwneuthur o honoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll ac a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, o herwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd dân yfsol, a Duw eiddigus; pan genhedloch feibion ac wyrion a heneiddio o honoch yn y wlad ac ymlygru o honoch a gwneuthur o honoch ddelw gerfiedig, llun dim, fal y gwneloch ddryganniaeth yngolwg yr Arglwydd dy Dduw i'w ddigio ef: galw 'r ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi nefoedd a dayar, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddiar y tir yr hwn yr ydych yn myned dros yr Iorddonen i'w oresgyn; nid ystynnwch ddyddiau ynddo, Canys gan eich difa y'ch difeir, a'r Arglwydd ach gwascara chwi ym-mhlith y bobloedd, a chwi a denir yn ddynion anaml ymhlith y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwyd chwi attynt, ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen y rhai ni welant ac ni chlywant, ni fwytant ac nid aroglant, &c.
Pennod odidawg ydyw honn ac nid ydyw yn son haechen am ddim ond y peth hyn. Ond o herwydd bod yn rhy hir scrifenu'r cwbl, myfi a ddewisais i'wch ryw brif-byngriau o honi.
Yn gyntaf mor ddifrif ac mor fynych y mae ef yn galw ar nynt i wilied dan bôen ei heneidiau ar y peth y mae yn ei orchymmyn iddynt.
Yn ail pa fodd y mae ef yn ei gwahardd drwy hîr a chyhoeddus gyfrif o'r holl bethau yn y nef, yn y ddaiar, yn y dwfr, na bo gwneuthyr delw neu lun dim yn y byd.
[Page 28] Yn drydedd pa gospedigeth erchyll a pha ddinystr, gan alw nêf a daiar yn dystion, y mae ef yn ei gyhoeddi ac yn bygwth ei ddwyn arnynt hwy ar eu plant a'u heppil, os hwy yn erbyn y gorchymyn hwn a wnaent neu a addolent vn ddelw neu lun, yr hyn a waharddod ef mor galed iddynt. A phan gwympasant hwy i wneuthur ac i addoli delwau, er y gorchymmyn caled hwn, mewn rhan o achos parodrwydd llygredig anian dŷn, ac mewn rhan am fod y cenhedloedd a'r paganiaid oedd yn trigo o'u hamgylch ac oedd yn addoli delwae, yn rhoddi achosion i ddynt, fe a ddug Duw arnynt yn ol ei air yr holl blâu a'r rai y bygythiase hwynt, megis y mae yn eglur yn helaeth yn llyfrau y brenhinoedd a'r croniglau, a llawer o leoedd hynod eraill or hên destament y sydd yn gyfun â hyn. Dewt. 27. melldigedig yw 'r gwr yr hwn a wnelo Deut. 27. 15. ddelw gerfiedig, neu ddelw doddedig sef ffieidd-dra i'r Arglwydd gwaith dwylo 'r saer ac a 'i gysodo mewn lle dirgel a'r holl bobl a'i hattebant ac a ddywedant, Amen.
Darllenwch y drydedd ar bedwaredd benod ar ddeg o lyfr y doethineb ynghylch eulynnod a delwau pa Doeth. 13. & 14. fodd yr ydys yn eu gwneuthur hwy, yn eu gosod hwy i fynydd, yn galw arnynt ac yn offrwm iddynt, a pha fodd y mae fe yn canmol y pren â'r hwn y gwnaid y crogpren megis dedwydd wrth y pren yr hwn y gwneir y ddelw ag ef, yn y geiriau hyn, Bendigedig medd ef yw 'r pren trwy o'r hwn y daw cyfiawnder, hwnnw yw y crogbren, ond melldigedig yw y ddelw a llaw'r hwn a'i gwnelo, o herwydd yr hyn a wnaed ynghŷd â'r hwn a'i gwnaeth a gystuddir, &c.
Ac yn y man mae ef yn dangos fod y pethau [Page 29] oedd ddaionus greaduriaid Duw o'r blaen (megis coed neu gerrig) pan newidier hwy a'u llunio yn ddelwae i 'w haddoli yn myned yn ffiaidd ger bron Duw ac yn dramgwydd i eneidiau dynion ac yn fagl i draed y rhai angall. A phaham? Canys dechreuad godineb oedd ddychymmygu delwau, a'u caffaeliad hwynt oedd lygredigaeth buchedd, o herwydd nid oeddynt o'r dechreuad, ac ni byddant yn dragywydd. Cyflawnder a seguryd dŷn a'u dychymygodd hwy yn y byd, ac am hynny y bydd eu diwedd yn fyr, ac felly hyd ddiwedd y bennod, yn cynwys y pyngciau ymma, pa fodd y dychymygwyd delwau yn y cyntaf, ac yr offrymmwyd iddynt, pa fodd y sicrhawyd drwy ddefodau anraslon, a pha fodd y cym-mhellodd tyranniaid creulon rai i'w haddoli hwynt, pa fodd y twyllir y gwirion a'r gyffredin bobl trwy gyfarwyddyd a chywreinrwydd y crefftwr a thegwch y ddelw i'w hanrhydeddu hi, ac felly i gyfeliorni oddiwrth adnabyddieth Dduw, a llawer o afradau eraill, ac a ddaw oddiwrth ddelwau.
Ac yn lle crynhodeb ar y cwbl mae fe yn dywedyd mai achos a dechreuad a diwedd pob drygioni yw anrhydeddu ffiaidd ddelwau, a bod y rhai a'u haddolant hwy naill ai allan o'u pwyll ai yn waethaf dynion ac all fod. Gwyl ac edrych yn ddyfal ar yr holl bennod trosti, o herwydd hi a dâl ei hystyried, yn enwedig yr hyn a scrifennir am dwyllo y gwirion a'r bobl gyffredinol angall drwy eulynod a delwau, yr hyn a adroddir ddwywaith neu dair rhag ei hangofio.
Ac yn y bennod nessaf y cewch y geiriau hyn, Golwg llun gwedi ei fritho ag am ryw liwiau sy'n peri chwant ar rai angall i ddymuno dieneidiol Doeth. 15. 5. [Page 30] lun delw farwol i'w hoffi, ac i goelio'r fath bethau. Eithr am y rhai a'u gwnant, a'u coeliant, a'u dymunant, a'u gwasanaethant, y maent oll yn hoffi pethau drygionus.
Mae y prophwyd yn llawer lle yn llyfr y Psalmeu yn melldithio anrhydeddwyr delwau, Gwradwydder pawb ar a wasanaethant ddelw gerfiedig a'r rhai a orfoleddant mewn eulynnod, y Psal. 97. 7. Psal. 115. 8. Psal. 135. 18. rhai a'u gwnânt y sydd fel hwyntau a phob vn a ymddiriedo ynddynt. Ac ym-mhrophwydolieth Esai y dywaid yr Arglwydd, Myfi ydwyf yr Arglwydd, Es. 42. 8. dymma fy enw, a 'm gogoniant ni roddaf i arall, na 'm mawl i ddelw gersiedig. Ac yn y man, Troer yn eu hol a llwyr-wradwydder y rhai a ymddiriedant mewn delw gerfiedig, y rhai a ddywedant wrth y ddelw dawdd, chwi ydych ein duwiau ni. Ac yn y 40. bennod gwedi iddo osod allan anymgyffred fawrhydi Duw, mae fe yn gofyn, I bwy gan hyny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch i fynu iddo? a lunia y saer gerfiedig ddelw, ac a oreura yr euryrh hi ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian, ac a ddewis hwn sydd arno eisieu offrwm bren heb bydru? a gais ef saer cywraint i baratoi cerfddelw hefyd? Es. 40. 18. Ac yn ol hyn y mae fe 'n gweiddi, Oni wyddoch, oni chlywsoch, oni fynegwyd ichwi o'r dechreuad; ac felly mae yn dangos drwy wneuthurdeb y byd, a thrwy faint y gwaith, y gallant ddeall fod mawrhydi Duw, creawdwr a gwneuthurwr y cwbl oll, yn fwy, nac y gellid na'i bortreio, na'i osod allā drwy vn ddelw neu gyffelybiaeth gorphorol. Ac heblaw y pregethiad hynn, yr ydys ynghyfraith Dduw ei hun, yr hon fel y dywaid yr Scrythyr a scrifenodd Duw â'i fŷs ei hun, a hynny yn [Page 31] y llech gyntaf yn y dechreuad, nid yn vnig yn adrodd yn fyr yr athrawieth hon yn erbyn delwau, ond yn ei gosod hi allan ac yn ei phregethu yn helaeth, a hynny, gydâ chyhoeddiad distryw i'r sawl Exod. 20. 4, 5. a ddiystyrant, ac a dorrant y gyfraith hon, a'u heppil ar ei hol hwy.
A rhag na ystyrier arno ac na chofier, yr ydys yn ei scrifenu nid mewn vn man ond mewn llawer o leoedd yngair Duw, megis trwy ei ddarllen a'i glywed yn fynych y gallem yn y diwedd ei ddyscu Leu. 19. 4. Deut. 5. 8, 9. a'i gofio, fal yr ydych hefyd yn clywed darllen beunydd yn yr Eglwys, Duw a lefarodd y geiriau hynn ac a ddywad, myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, na fydded itti dduwiau eraill onid myfi. Na wna i ti dy hun ddelw gerfiedig na llun dim ac y sydd yn y nefoedd vchod neu yn y ddaiar issod nac yn y dwfr dan y ddaiar, na ostwng iddynt ac na addola hwynt, o herwydd myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus, yn ymweled â phechodau y tadau ar y plant hyd y drydedd a'r bedwaredd genhedlaeth o'r rhai a'm casant, ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o'r rhai a'm carant ac a gadwant fyng-orchymmynion.
Er hynny i gyd ni allodd na godidawgrwydd y lle hwn, ac yntef yn ddechreuad cyfraith yr Arglwydd cariadus, wneuthur i ni ei ystyried, na'r mynegiad golau wrth gyfrif pob rhyw luniau, beri i ni ei ddeall; na'r son am dano mor fynych mewn cynnifer o leoedd, na'i ddarllen a'i glywed ef mor fynych, wneuthur i ni ei gofio ef; nac ofn yr erchyll gospedigaeth arnom ni, a'n plant, a'n heppil ar ein hol, ein hofn-ni rhag ei droseddu ef; na maint y gwobr ini a'n plant ar ein hol, ein cyffroi i vfyddhau ac i gadw y fawr gyfraith hon [Page 32] eiddo yr Arglywdd: ond megis pe buasai gwedi ei scrifenu mewn rhyw gornel, ac heb ei chyhoeddi yn helaeth ond gwedi ei thwtsio yn fyr ag yn dywyll: megis pe buasid heb gyssylltu ag hi vn gospedigaeth i'r troseddwyr, nac vn gwobr i'r vfyddion, Megis gwyr deillion heb gydnabyddieth ac heb ddeall, megis anifeiliaid anrhesymmol heb ofn cosp na gobaith am wobr, ni a leihasom ac a ddianrhydeddassom vchel fawrhydi y bywiol Dduw, trwy waeledd a Salwineb. * salwedd amryw a bagad o ddelwau o goed, cerrig a mettelau meirwon.
Ac megis na ellir traethu ac adrodd mawrhydi Duw yr hwn a wrthodasom ac a ddianrhydeddasom ni, na'n pechod a 'n troseddau ninau am hynny yn erbyn i fawrhydi ef: felly y traethwyd yn helaeth yn yr yscrythur lan waeledd a gwendid a ffolineb dychymygiaeth delwau, trwy 'r rhai y dianrhydeddasō ni ef, yn enwedig yn y Psalmau, llyfr y doethineb, y Prophwyd Esaias, Ezechiel a Barwc, ond yn enwedigol yn y lleoedd, a'r pennodau ymma, Psal. 115. 45. &c. 135. 15. Esai 40. 18. 44. 9▪ Ezechiel 6. 4. 6. Doeth. 13. 14, 15. Barwc o'r 3. hyd y diwedd. Yr hyn leoedd fel yr ydwyf yn eich annog i'w darllen yn fynych ac yn ddyfal, felly y maent yn rhy hîr ar hyn o amser i'w hadrodd mewn homili. Er hynny mi a dynnaf i'wch ryw brif-nodau byrrion er dangos beth y maent yn ei ddywedyd am ddelwau ac eulynod.
Yn gyntaf yr ydys yn eu gwneuthur hwy a drylliau bach o goed a cherrig neu fettel ac er mwyn hynny ni allant fod yn gyffelybieth i anfeidrol fawrhydi Duw, gorseddfanigc yr hwn yw yr nef a'r ddaiar yn faingc i'w draed.
Yn ail maent hwy yn feirw, a llygaid iddynt ac [Page 33] heb weled, a dwylo iddynt ac heb deimlaw, traed heb gerdded &c. ac am hyny ni allant fod yn gyffelybiaethau addas i'r bywiol Dduw.
Yn drydedd, nid oes ynddynt allu i wneuthur lles nac afles i neb o'r byd er bod gan rai honynt fwyall, gan rai gleddyf a chan rai waywffon yn eu dwylaw, etto mae 'r lladron yn dyfod i'w temlau ac yn eu hyspeilio hwy, ac ni allant vnwaith yscog i'w hymddiffyn eu hunain rhag y lladron: ie a phe byddai eu temlau neu eu heglwysydd yn cymeryd tân er i'w hoffeiried allel diange a'u cadw eu hunain, etto ni allant hwy yscog ond aros megis cyffion meirw (megis y maent hwy) i'w llosgi, ac am hynny ni allant fod yn arwyddion cymhessur o'r Duw mawr galluog, yr hwn yn vnig a all gadw ei weision a distrywio ei elynion yn dragwyddol, yr ydys yn trwssio yn wych mewn aur ac arian a cherig gwerthfawr ddelwau gwyr a gwragedd megis llangcesau neu fachgenesau drythyll a fytho'n hoffi gwychder, y rhai, meddy Prophwyd Barwch, y mae cariadon iddynt, ac Baruch. 6. 8. er mwyn hynny ni allant ddyscu i ni na 'n gwragedd na 'n merched, na sobrwydd na lledneisrwydd na diwairdeb.
Ac er bod yn awr yu eu galw hwy yn llyfrau gwyr llŷg, etto ni a welwn na allant ddangos vn wers dda nac am Dduw nac am dduwioldeb, ond pob am-mryfyssedd ac anwiredd. Am hynny fal y mae Duw yn ei air yn gwahardd gwneuthur a gossod i fynu na delwau nac elynnod, felly y mae ef yn gorchymmyn tynnu i lawr, dryllio a distrywio y rhai a gaffont gwedy eu gossod i fynu.
Mae yn scrifennedig yn llyfr y nifeiri nad oes eulyn yn Iacob na delw yn Israel, a bod yr Arglwydd [Page 34] Dduw gydâ ei bobl. Yno ystyriwch nad oes gan y gwir Israelieid, hynny yw gwir bobl Dduw, ddelwau yn eu mysg, ond bod Duw gydâ hwy, ac am hynny na all eu gelynion niwed iddynt, fal y mae yn eglur wrth yr hyn a ganlyn yn y bennod honno.
Ac fal hyn y dywaid yr Arglwydd yn Deuteronomium am ddelwau a osodwyd i fynu eisoes, dinystrwch eu hallorau a thorrwch eu colofnau Deut. 7. 5. hwynt, cwympwch eu llwynau a llosgwch eu delwau cerfiedig hwynt yn y tan, o herwydd pobl santaidd i'r Arglwydd ydych chwi. Ac fe a ail draethir yr vn peth etto yn ddifrifach yn y ddeuddegfed bennodo'r vn llyfr. Yna ystyriwch beth a ddylei bobl Dduw ei wneuthur i ddelwau lle y cyhyrddont â hwy.
Ond rhag i wyr diswyddau yn rhith distry wio delwau wneuthur terfysc yn y wlad, rhaid yw cofio ynwastad fod inia wnhâd y fath anferch wch cyffredinol yn perthyn yn vnig i ly wiavod wyr a'r rhai sydd mewn awdurdod, ac nid i wyr diswyddau, ac am hynny yr ydys yn canmol yn fawr dros ben Asa, Ezechias, Iosaphat a Iosias, daionus 1. Reg. 15. 11. 2. Par. 14, 15. & 24. 31. frenhinoedd Iuda, am dorri i lawr a dinystrio a llorau Idolau, a delwau. Ac mae 'r Scrythyr yn manegi iddynt wneuthur y peth oedd inion, yn enwedig yn hynny o beth, gerbron yr Arglwydd.
Ac o'r gwrthwyneb yr ydys yn adrodd trwy air Duw i Ieroboam, Ahab, Ioas, a thy wysogion eraill y rhai naill ai a osodosant i fynydd, ai yntau a oddefasant heb eu tynnu i lawr a'u distrywio, allorau a delwau yn eu plith, wneuthur yn ddrwg yngolwg yr Arglwydd.
[Page 35] Ac os bydd neb yn erbyn gorchymmyn yr Arglwydd yn mynnu gossod i fynu allorau neu ddelwau neu eu goddef yn eu plith heb ddinistrio, mae yr Arglwydd ei hunan yn bygwth yn llyfr y Rhifedi, a thrwy ei Brophwydi santaidd, Ezechiel, Michaeas, a Barwch, y daw ef ei hun i'w tynnu hwy i lawr, a pha fodd y chwala y cospa ac y difa ef y bobl a'u gosodant i fynydd, neu a oddefant allorau delwau ac Idolau heb eu dinystro.
Mae ef yn cyhoeddi trwy 'r Prophwyd Ezechiel yn y modd ymma, wele fi (ie) myfi yn dwyn cleddyf arnoch ac mi a ddinystriaf eich vchelfeudd, eich allorau hefyd a ddifwynir, a'ch haul-ddelwau a ddryllir, a chwympaf eich archolledigion o flaen eich eulynnod▪ a rhoddaf gelanedd meibion Israel Eze. 6. 4, 5, 6. ger bron eu heulynod, a thannaf eich escyrn o flaen eich allorau yn eich holl drigfeudd, eich dinasoedd a anrheithir, eich vchelfannau a ddifwynir, fal yr anrheithir ac y difwynir eich allorau ac y torrir ac y peidio eich eulynod, ac y torrir ymmaith eich haul-ddelwau ac y deleir eich gweithredoedd: yr archolledig hefyd a sŷrth yn eich mŷsc fal y gwypoch mai myfi ydwyf yr Arglwydd. Ac felly hyd ddiwedd y bennod, yr hyn a dâl ei ddarllen yn ddyfal, y difethir y rhai agos â'r cleddyf, y rhai pell â'r Nodau. cowyn, y rhai a gilient i'r cestyll, neu 'r anialwch â newyn, ac os diangai neb, ydygid hwy yn garcharorion i gaethiwed.
Megis felly pe byddai amledd neu eglurder y lleoedd yn abl i wneuthur ini ddeall, neu pe gallai y gorchymmyn caled y mae Duw yn ei roi yn y lleoedd hynny ein cyffroi ni i ystyrio, neu pe byddai y plaau a'r cospedigaethau creulon a'r Erchyll. echrydus ddinistr a fygythir i'r cyfryw addolwyr [Page 36] belwau neu eulynod, i'r rhai a'u gosodant hwy i fynydd neu a'u maenteiniant hwy, yn gallel magu yn ein calonnau ni ddim ofn, ni a adawen vnwaith ac a ym wrthodem á'r drygioni hyn, gan ei fod yngolwg yr Arglwydd yn gymmaint trosedd Ruf. 15. 4. a ffiaithbeth. Fe a ellid adrodd aneirif leoedd haechen allan o'r hên Destament ynghylch hyn o beth, ond gwasanaethed yr ambell rai hyn dros y cwblar hyn o ennyd.
Chwi a ddy wedwch ond odid fod y pethau hyn yn perthyn at yr Iddewon, a pha beth sydd ini a wnelom a hwynt? Yn wir ni pherthynant ddim llai attom ni 'r Christionogion nag attynt hwythau. O herwydd os pobl Dduw ydym ni pa fodd na perthyn gair a chyfraith Duw attom ni? Mae S. Paul wrth adrodd vn lle o 'r hên Destament yn rhoi 'r vn farn am gwbl o scrythyrau 'r hên Destament yn gyffredinol, cystadl ac am y lle hwn, gan ddywedyd: Y pethau a scrifennwyd ymlaen llaw (hynny yw yn yr hên Destament) a scrifennwyd er addysc ini. Yr hyn sydd wir yn enwedig am y cyfryw scrythyrau o'r hên Destament ac a gynhwysant yndynt anghyfnewidiol gyfraithiau ac ordeiniaethau Duw: y rhai ni ddylid eu newid vn amser, ac ni ddylei vn dŷn nac vn oes, nac vn genedl anvfyddhau iddynt. Cyfryw yw 'r lleoedd oll a adroddwyd o'r blaen. Er hynny er eich bodloni chwi ym-mhellach am hyn o beth yn ol fy addewid, mifi a Brwfaf. brofaf yn ddiogel yr athrawaeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, a'n dlyed ninnau o'u plegid hwy allan o scrythyrau y Testament newydd, ac Efengyl ein Iachawdwr Christ.
Ac yn gyntaf mae scrythyrau 'r Testament newydd [Page 37] yn son yn llawen mewn amrafael fannau, megis dawn a rhodd odidawg Duw, eu bod hwy y rhai a dderbyniasant ffydd Grist, gwedy eu troi Act. 14. 15, 17, 29. Ruf. 11. 12. 1. Cor. 12. 2. Gal. 4 8. oddiwrth ddelwau mudion meirwon at y gwir a'r bywiol Dduw yr hwn sydd fendigedig yn oes oesoedd, yn enwedig yn y lle oedd hyn y 14. a'r 17. o Actau neu weithredoedd yr Apostolion: 11. at y Rufeiniaid, y 12. o'r Epistol cyntaf at y Corinthiaid. Galath. 4. 1. Thessalon. 1. Ac yn gyffelyb y mae Yspryd Duw yn scrythyrau y Testament newydd yn ffeieiddio ac yn Tragash [...]. dygyn gashau ac yn gwahardd eulynod neu ddelwau a'u haddoliad, fal y mae yn eglur wrth y lleoedd hyn, a llawer eraill megis yn y 7. a'r 15. o▪ Actau 'r Apostolion a'r cyntaf at y Act▪ 7. 41. a'r. 15. 29. Ruf. 1. 26. Rufeiniaid, lle y cyhoeddir plagau ofnadwy delwaddolwyr, y rhai a rodd Duw i fynydd i wyniau gwarthus, ac i wneuthur pob aflendid affiaiddbethau, y rhai ni ddleid eu henwi, megis yn gynnefin yr â goddineb Ysprydol a chnawdol ill dau ynghŷd.
Yn y cyntaf at y Corinthiaid a'r bummed bennod y'n gwaharddir ni i gadw cyfeillach nac i fwyta nac i yfed gydâ 'r rhai a elwir yn frodyr, neu yn Gristionogion, ac ydynt yn addoli delwau. Yn 1. Cor. 5. Gal. 5. 20. y 5. at y Galath. yr ydys yn cyfrif delw-addoliad ym-mhlith gweithredoedd y cnawd; ac yn y cyntaf at y Corinth. a'r 10. yr ydys yn ei alw ef yn wasanaeth 1. Cor. 10. 14. cythreuliaid ac yn bygwth y dinistrir y rhai a'i harferant. Ac yn y chweched bennod o'r vn Epistol, ac yn y bummed at y Galathiaid y cyhoeddir na ddaw y fath ddelw addolwyr byth i deyrnas nef. Ac mewn llawer o leoedd eraill y 1. Cor. 6. 9. Gal. 5. 20, 21. bygythir y daw llid Duw ar bawb o'r fath ddynnion. Ac am hynny y mae Ioan yn ei Epistol 1. [Page 38] yn ein hannog ni megis plant anwyl i wachelyd delwau. Ac mae S. Paul yn ein rhybyddio i wachelyd 1. Ioan. 21. 1. Cor. 10. 14. addoli delwau os byddwn call, hynny yw os gofalwn am ein Iechydwriaeth ac os ofnwn ddinistr, os gofalwn am deyrnas Dduw a bywyd tragwyddol, os ofnwn lid Duw a thragwyddol ddamnedigaeth.
O herwydd nid yw bossibl ini fod yn addolwyr delwau ac yn wir weision Duw, fal y dengys S. Paul yn yr ail at y Corinthiaid, a'r 6. Bennod, 2. Cor. 6. 16. ganddywedyd yn oleu na ddichon bod mwy cyssondeb na chymdeithas rhwng teml Duw, y rhai ydyw gwir Gristionogion, a delwau, nag sydd rhwng cysiawnder ac anghysiawnder, goleuni 2. Cor. 6. 14. a thywyllwch, rhwng y credadwy a'r anghredadwy, rhwng Christ a'r diawl. Yr hwn le fydd yn profi na ddlyem ni addoli delwau, na'u mynnu yn ein temlau, rhag ofn eu haddoli hwynt, er eu bod o hanynt eu hunain yn ddieniwed. O herwydd sanctaidd deml Dduw a bywiol ddelw Dduw yŵ 'r Christion, fal y mae 'r lle hwnnw yn dangos yn eglur i'r sawl a'i darllenont ac a'i ystyriantef yn dda.
A lle 'r oedd yr holl dduwiolion yn Tragashau. dygyn gashau penlinio, addoli neu offrwm iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw yn y byd, o herwydd bod hynny yn anrhydedd dyledus i Dduw yn vnic, fal y dangosir yn Actau 'r Apostolion yn S. Petr yrhwn a waharddodd hynny i Cornelius, ac yn S. Pawl a Barnabas a waharddasant yr vn peth i ddinaswyr Lystra. Etto yr ydym ni megis dynnion ynfyd, yn arfer o gwympo i lawr ymmlaen eulynod a delwae meirwon Petr a Pawl, Act. 10. 26. Act. 14. 15. ac yn rhoddi i goed a cherrig yr anrhydedd a dybygent [Page 39] hwy Nad oedd iawn. fod yn ffiaidd ei roddi iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw.
Ac fe a wrthododd daionus Angel Duw, fal y mae 'n eglur yn llyfr gweledigaeth Ioan benlinio iddo, pan gynnygodd Ioan yr anrhydedd hwnnw Gwel. 19. 10. iddo. Gwachel, medd yr Angel, wneuthur hynny, o herwydd dy gydwasanaethwr di wyfi.
Ond nid yw 'r drwg angel sathan yn chwenychu dim yn gymmaint a chael penlinio iddo, a thrwy hynny ar vnwaith yspeilio Duw o'i ddyledus anrhydedd a dwyn damnedigaeth ar y rhai a ostyngont mor issel iddo, fal y gwelir yn histori 'r efengyl mewn llawer lle. Ie fe gynnygodd i'n Ma [...]th. 4. 9, 10. Iachawdwr Christ bob golud bydol os efe a benlinie i lawr a'i addoli ef. Ond mae 'n Iachawdwr Luc. 4. 6, 7. 8. Christ yn argyoeddi Sathan trwy 'r Scrythyrau gan ddywedyd, yr Arglwydd dy Dduw a addoli, ac ef yn vnic a wasanaethi.
Ond yr ydym ni wrth beidio ac addoli a gwasanaethu Duw yn vnic, fal y mae 'r Scrythyr yn ein dyscu ni, a thrwy addoli delwau yn erbyn yr Scrythyrau, yn tynnu sathan attom, ac yn barod heb vn gwobr i ganlyn ei ddeisyfiad ef, ie yn gynt nac y ffaelo gennym, ni a gynnygwn iddo ef roddion ac aberthau er derbyn ein gwasanaeth.
Ond canlynwn frodyr yn hytrach gyngor daionus Angel Duw, o flaen cyngor dichellgar sathan, yr angel drygionus a'r hên sarph, yr hwn yn ol y balchedd trwy 'r hwn y cwympodd ar y cyntaf, sydd yn ceisio fyth trwy 'r fath gyssegr-ladrad ddifuddio Duw, yr hwn y mae ef yn cenfigennu wrtho, o'i ddyledus anrhydedd, ac o herwydd fod ei wyneb ef ei hunan yn Anferth. erchyll ac yn ofnadwy, mae fe 'n ceisio dwyn anrhydedd Duw atto ei [Page 40] hun, trwy gyfryngiad coed a cherrig, a'n gwneuthur ni gydâ hynny yn elynion i Dduw ac yn erfynwyr ac yn gaethweision iddo ei hun, ac yn y diwedd i dynnu arnom yn lle gwobr ddinistr a damnedigaeth tragwyddol.
Gan hynny vwchlaw pob peth os ydym yn tybiaid ein bod yn wir Gristionogion (fal y 'n henwir ni) credwn y gair, vfyddhawn y gyfraith, canlynwn athrawaeth a siampl ein Iachawdwr a'n meistr Christ: trown heibio hudoliaeth sathan, sy 'n ceisio ein hudo i wasanaethu eulynod ac addoli delwau, yn ol y gwirionedd a ddangoswyd ac a addyscwyd allan o destament ac efengyl ein dyscawdwr a'n hathro nefol Iesu Grist: yr hwn sydd Dduw bendigedig yn dragywydd, Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn enbeidrwydd delw-addoliad.
CHwi a glywsoch, fyngharedigion, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon yn erbyn delwau ac eulynod, yn erbyn eulyn-addoliad a delwaddoliad, athrawaeth gair Duw, a dynnwyd allan o Scrythyrau 'r hên destament a'r testament newydd, gwedy ei gadarnhau trwy siampl yr Apostolion a Christ ei hunan. Yn awr er nad ydyw ein Iachawdwr Christ yn derbyn nac yn rhaid iddo wrth dystiolaeth dyn, ac er nad rhaid i'r hyn a gadarnhair vnwaith trwy siccrwydd ei wirionedd ef, ddim chawneg siccrwydd gan athrawaeth ac scrifenadau dyn, mwy nac y mae 'n rhaid i'r haul gannaid ar hanner dydd wrth oleu canwyll [Page 41] fach i droi tywyllwch heibio ac i chwanegu ei oleuni: etto er eich bodloni chwi ym-mhellach fe ddangosir i chwi yn yr ail rhan hon, megis yr addawyd yn y dechreuad, fod yr hên dadau sāctaidd, a'r hen athrawon dyscedig yn credu ac yn dyscu yr athrawaeth hon, ynghylch gwahardd delwau a'u haddoliad, (yr hon a dynnwyd allan o Scrythyrau 'r hên dadau sanctaidd or hên destament a'r testament newydd) a bod y brif-eglwys gynt yr hon oedd buraf ac an-llygrediccaf yn ei chynwys ac yn ei derbyn. A hynny a ddangosir allan o scrifenadau 'r hên athrawon sanctaidd hynny, ac allan o'r hen historiau eglwysig a berthynan iddynt.
Mae Tertulian hên scrifennydd ac athro o'r Eglwys, yr hwn oedd yn y byd ynghylchwyth-igain Libro contra coronandi morem. mlynedd yn ol dioddeifaint ein Iachawdwr Christ, mewn llawer o leoedd, ond yn enwedig yn y llyfr a scrifennodd ef yn erbyn y modd yr arferid o goroni: ac mewn traethawd bychan arall, yr hwn y mae fe yn ei enwi, Coron y milwr, yn llym ac yn ddifrifol yn scrifennu yn erbyn delwau neu eulynod ac yn eu Goganu. dychanu.
Ac a'r airiau Ioan Sant yn ei epistol cyntaf 1. Ioan. 5. 21. a'r bummed bennod: mae 'n dywedyd yn y modd ymma, mae Ioan sant gan gwbl ystyriaid y peth hyn yn dywedyd yn y modd ymma, fymhlant bychain ymgedwch oddiwrth ddelwau neu eulynod: nid ydyw fe yn dywedyd yn awr ymgedwch oddiwrth ddelw-addoliad, megis oddiwrth eu gwasanaeth hwy a'u haddoliad, onid oddiwrth y delwau a'r eulynod eu hunain, hynny yw oddiwrth eu llun a'u cyffelybiaeth. O herwydd peth annheilwng yw i ddelw Duw byw fyned yn llun delw farw.
[Page 42] Onid ydych chwi yn tybaid fod y rhai fy yn gosod delwau ac eulynod mewn eglwysydd a themlau, ie ac yn eu dodi mewn Cistau. pallau vwchben bord yr Arglwydd, megis o lwyr feddwl eu haddoli a'u anrhydeddu hwy, yn ystyried yn dda gyngor S. Ioan a Thertulian? O herwydd pa vn yw gosod i fynu ddelwau ac eiddolau yn y modd hynny, ai ymgadw oddiwrthynt ai yntau eu derbyn a'u cofleidio?
Mae Clemens yn dywedyd yn ei lyfr at Iaco brawd yr Arglwydd; Pa beth a ddichon bod mor Clem. li. 5. ad Iacob fratrem Domini. ddrwg, ac mor anniolch-gar, a derbyn dawn gan Dduw, a rhoddi diolch am dano i goed a cherrig? Am hynny dihunwch, a deallwch eich Iechyd, o herwydd nid rhaid i Dduw wrth vn dŷn, nid yw yn gofyn dim ac ni ddryga dim ef: Ond nyni yw y rhai yr ydys yn eu cymmorth, neu eu drygu, am ein bod yn ddiolchgar i Dduw neu yn anddiolchgar.
Mae Origen yn ei lyfr yn erbyn Celsus yn dywedyd fal hyn, Mae Christionogion, ac Iddewon pan glywont y geiriau hyn o'r gyfraith, Ti a ofni yr Arglywydd dy Dduw, ac na wna ddelw, nid yn vnic yn ffieiddio temlau, allorau, a delwau 'r duwiau, ond os bydd rhaid hwy a fyddant feirw 'n gynt nag yr halogont eu hunain ag vn annuwioldeb. Ac yn y man ar ol hynny fe a ddywaid, fe daflwyd ym - mhell ac a waharddwyd cerfwr eulynod a gwneuthurwr delwau allan o wlad yr Iddewon, rhag iddynt gael achos i wneuthur delwau, y rhai a allai dynnu rhyw ddynion ffoliaid oddiwrth Dduw, a throi llygaid eu heneidiau i edrych ar bethau dayarol.
Ac mewn man arall o'r vn llyfr, nid yw, medd ef, [Page 43] ddoli delwau 'n vnic yn beth ynfyd gwallgofus, onid hefyd dwyn gydâ hynny heb gymeryd arnom ei weled. Fe ddichon dŷn adnabod Duw a'i vnic fab wrth y rhai a gawsont y fath râd gan Dduw, ac y gelwid hwy yn dduwiau: ond nid possibl i neb wrth addoli delwau gael dim gwybodaeth am Dduw.
Mae 'r geiriau hyn gan Athanasius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, Dywedant attolwg pa fodd yr adwaenir Duw wrth ddelw? oni bydd hynny trwy ddefnydd y ddelw, yno ni bydd rhaid wrth vn llun na diwgad, o herwydd i Dduw ymddangos ym-mhob creadur defnyddiol, y rhai a dystiolaethant ei ogoniant ef. Yn awr os dywedant mai trwy 'r pethau byw eu hunain y rhai y mae 'r delwau 'n dangos eu llun, o herwydd yn siccr fe adnabyddid gogoniant Duw yn eglurach o lawer o'i ddangos trwy greaduriaid rhesymmol na thrwy ddelwau meirwon anghy ffroedig. Ac am hynny pan ydych yn cerfio neu yn peintio delwau, er mwyn adnabod Duw wrthynt, yn wir, yn wir, yr ydych yn gwneuthur peth an-nheilwng anweddaid. Ac fe a ddywaid mewn lle arall o'r vn llyfr, Ni ddaeth dychymmyg delwau o ddaioni, ond o ddrwg, a pha beth bynnag y sydd iddo ddechrau drwg, ni ellir mewn dim ei farnu yn dda, am ei fod yn ddrwg hollawl. Hyd yn hyn y clywsoch Athanasius hên Athro ac escob dyscedig sanctaidd, yr hwn sydd yn barnu am ddelwau, fod ei dechreuad a'u diwedd, a chwbl o honynt yn ddrwg.
Mae gan Lactantius hefyd hên scrifennydd Lib. 2. cap. 16. dyscedig, yn ei lyfr am ddechreuad amryfysedd, y geiriau hyn, Mae Duw oddiar ddyn, ac ni osodwyd [Page 44] ef isod, ond rhaid yw ei geisio ef yn y wlad vchaf. Am hynny diammau nad oes crefydd lle mae delw. O herwydd os yw ffydd a chrefydd mewn pethau duwiol, ac nad oes duwioldeb ond mewn pethau nefol, y mae delwau heb na ffydd na chrefydd ynddynt. Dymma airian Lactantius, yr hwn oedd er ys mwy nâ thrychant ar ddeg o flynyddoedd, ac o fewn trychant mlynedd ar ol ein Iachawdwr Christ.
Mae gan Cyrillus hen Ddoctor sanctaidd, ar Efengyl Ioan sant y gairiau hyn, fe ymadawodd llawer â'r creawdwr ac a addolasont y creadur, ac ni chywilyddiasant ddywedyd wrth bren ti yw fy-nhâd, ac wrth garreg ti a'm cenhedlaist i. O herwydd llawer ie haychen y cwbl oll (ôch gan alar) a gwympasant i'r fath ffolineb ac y rhoesant ogoniant y duwdod i bethau heb na synwyr na theimlad ynddynt.
Mae Epiphanius escob Salamis yn Cyprus, gwr sanctaidd dyscedig, yr hwn oedd fyw yn amser yr Ymherodr Theodosius, ynghylch trychant mlynedd a deg a phedwar vgain yn ol escynniad ein Iachawdwr Christ, yn scrifennu fal hyn at Ioan Patriarch Ierusalem, Mi aethym, medd Epiphanius, i mewn i ryw Eglwysi weddio, yno y cefais liain ynghrog yn-nrws yr Eglwys, ac arno gwedi ei beintio megis delw Ghrist neu ryw sant, (o herwydd nid ydwyf yn cofio 'n dda llun pwy ydoedd) am hynny pan welais lun dyn, gwedy ei grogi yn Eglwys Ghrist, yn erbyn awdurdod yr Scrythyrau mi a'i torrais, ac a gynghorais geidwaid yr Eglwys ar iddynt Amdoi. amwisco gwr tlawd a fuase farw, yn y lliain hwnnw, a'i gladdu.
[Page 45] Ac yn ol hyn mae 'r vn Epiphanius, gan ddanfon lliain arall heb ei beintio, yn lle yr hwn a dorassai, at y Patriarch hwnnw, yn scrifennu fal hyn, perwch, adolwg, i henuria'd y lle hwnnw, dderbyn y lliain hwn yr ydwyf yn ei ddanfon gydâ 'r gennad ymma, a gorchymmynnwch iddynt o hyn allan nad arferont mwy grogi y fath liain paentiedig yn Eglwys Grist yngwrthwyneb i'n crefydd ni. O herwydd gweddus yn hytrach yw i'ch daioni chwi, gymmeryd y gofal hwn, ar i chwi dynnu ymmaith bob Trangwydd. petrusder sydd anweddus i Eglwys Ghrist, ac yn drangwydd i'r bobl a roddwyd yn eich cadwedigaeth chwi.
Ac fe a gyfiaithodd S. Ierom ei hun y llythyr hwn i'r iaith ladin, megis peth yn haeddu ei ddarllen gan lawer. Ac er mwyn i chwi wybod fod yr escob dyscedig sanctaidd hwn Epiphanius mewn cymmeriad mawr gan S. Ierom, ac er mwyn hynny iddo gyfiaithu y llythyr hwn megis scrifen fawr ei hawdurdod, Gwrādewch pa destiolaeth y mae S. Ierom yn ei roddi iddo mewn lle arall, yn ei draethawd yn erbyn amryfysedd Ioan Escob Ierusalem, lle mae gantho y geiriau hyn, Mae iti, medd ef, Epiphanius Bab ar gyhoedd Pob escob a elwid yr amscr hynny yn Bab. yn ei lythyrau yn dy alw di yn heretic. Yn siccr nid ydwyd ŵr i'th roi o'i flaen ef, nac am oedran, nac am ddysc, nac am dduwioldeb bywyd, nac wrth dystiolaeth yr holl fyd. Ac yn y mann ar ol hynny yn yr vn traethawd, medd S. Ierom, Yr ydoedd Escob Epiphanius yn y fath barch ac anrhydedd, na chyffyrddodd Valens yr Ymherodr yr herlidiwr creulon, ag ef. O herwydd yr ydoedd y tywysogion oedd hereticiaid, yn tybaid fod yn gywilydd iddynt erlid y fath ŵr godidawg.
[Page 46] Ac yr ydys yn yr histori eglwysig dair-rhan, yn y nawfed llyfr a'r 48. bennod yn tystiolaethu i Tripart. hist. lib. 9. cap. 48. Epiphanius ac yntef yn fyw, wneuthur llawer o wrthiau, ac yn ol ei farw ef fod cythreuliaid gwedy eu bwrw allan wrth ei fedd ef yn llefain ac yn rhuo. Fal hyn y gwelwch pa awdurdod y mae S. Ierom a'r hên histori honno yn ei rhoddi i'r Escob sanctaidd dyscedig Epiphanius, barn yr hwn am ddelwau mewn eglwysyddd a themlau, a hwy yr amser hynny yn dechreu lledrad-ymluscio iddynt, a dâl ei ystyriaid.
Yn gyntaf, mae fe 'n barnu fod yn wrthwyneb i Gristionogawl grefydd ac awdurdod yr Scrythytau, fod delwau yn Eglwys Grist.
Yn ail fe a daflodd nid yn vnic ddelwau cerfiedig a thoddedig, ond rhai peintiedig hefyd allan o Eglwys Grist.
Yn drydydd nad oedd fatter gantho pa vn a fyddai ai delw Christ, ai delw vn sant arall, ond os delw a fyddai, ni oddefai ddim o honi yn yr Eglwys.
Yn bedwerydd, ni symmudodd ef hi yn vnic allan o'r Eglwys ond ei dryllio hefyd â zêl gadarn wressog, a pheri amwisco corph marw a'i gladdu ynddi, gan farnu nad ydoedd hi yn weddus i wneuthyd dim o honi onid i bydru yn y ddaear, gan ganlyn yn hyn o beth sampl y brenin daionus Ezechias, yr hwn a dorrodd y sarph bres yn ddrylliau, ac a'i lloscodd hi yn lludw, am fod yn gwneuthur delw-addoliad iddi.
Yn ddiwethaf oll mae Epiphanius yn dangos fod yn ddlyed ar escobion gwialiadwrus synneid na bydder yn goddef vn ddelw yn yr Eglwys, am eu bod yn achos petrusder a thrangwydd i'r bobl [Page 47] a roddwyd yn eu cadwedigaeth hwy. Ac o herwydd na scrifennodd S. Ierom yr hwn a gyfiaithiodd yr Epistol hwnnw, nac awdyrau yr hên histori eglwysig dair-rhan (y rhai fal y dangoswyd a ganmolant Epiphanius yn fawr) nac vn escob duwiol dyscedig arall cyn yr amser hynny nac ennyd ar ol hynny, ddim yn erbyn barn Epiphanius ynghylch delwau: eglur yw, na chyn hwysasid yn y dyddiau hynny, yr hyn oedd ynghylch pedwar cant o flynyddoedd ar ol Christ, ac nad arferid dim delwau yn gyhoeddus yn Eglwys Ghrist, yr hon oedd yr amser hynny anllygrediccach a phurach o lawer nac yw hi yn awr.
Ac lle ddechreuai ddelwau yr amser hynny ledrad ymluscio 'n ddirgel o dai gwŷr i'r eglwysydd, a hynny yn gyntaf gwedy eu peintio ar lieiniau a pharwydydd, panwele 'r escobion gwialiadwrus duwiol hwynt, hwy a'u tynnent ymmaith megis pethau anghyfraithlon gwrthwynebus i ffydd a chrefydd Ghrist, fal y gwnaeth Epiphanius ymma.
A barn yr hwn y mae yn cordio ac yn cyttuno, nid yn vnic S. Ierom cyfiaithydd ei Epistol ef, ac scrifennydd yr histori dair-rhan, ond hefyd yr holl escobion, ac yscolheigion dyscedig duwiol, ie a'r holl Eglwys yn yr amser hynny, ac er amser ein Iachawdwr Christ dros bedwar cant oflynyddoedd.
Fe scrifennwyd hyn yn halaeth am Epiphanius, am fod ymddiffynwyr delwau yn yr amser ymma wrth weled ei gwascu mor galed trwy eglur draethawd a gweithred Epiphanius, Escob a doctor o 'r fath henaint, yn ymegnio ym-mhob ffordd (ond yn ofer yn erbyn y gwirionedd) naill [Page 48] ai i brofi nad ydoedd yr epistol hyn o waith Epiphanius, na 'r cyfiaithiad o waith Ierom: ac os ydynt meddant, nid mawr y grym, o herwydd, meddant, Iddew oedd yr Epiphanius hwn, a chwedy ei droi i ffydd Christ, a'i wneuthur yn escob, fe a gadwodd yn ei feddwl y casineb oedd gantho pan ydoedd yn Iddew yn erbyn delwau, ac felly fe a scrifennodd yn eu herbyn, megis Iddew, ac nid megis Christion. Oh ddigywilydd-dra Iddewaidd a chenfigen y cyfryw dychymmygwyr: nhwy addlyent brofi ac nid dywedyd yn vnic mai Iddew oedd Epiphanius.
Hefyd am y rheswn y maent yn ei wneuthur ni a 'i derbyniwn ef yn llawen, o herwydd oni ddlyid cynnwys barn Epiphanius yn erbyn delwau, am ei fod gwedy ei eni o Iddew gelyn i ddelwau, y rhai sydd elynion Duw gwedy ei droi i ffydd Grist, yno y canlyn na ddylai vn ymadrodd na gair yn yr hên ddoctoriaid, a'r tadau ac sydd o blaid delwau, fod mewn dim awdurdod, o herwydd fod y rhan fwyaf o scrifennyddion dyscedig yr Eglwys gynt, megis Tertulian, Cyprian, Ambros, Austin, a rhifedi anerif eraill yn baganiaid, y rhai oeddynt yn ffafrio ac yn addoli delwau, gwedy eu troii ffydd Grist, ac felly fe allai iddynt oddef rhyw beth i lithro o'u pennau ymmhlaid delwau, megis cenhedloedd, ac nid megis Christionogion.
Fal hyn y mae Eusebius yn ei histori eglwysig a S. Ierom yn dywedyd yn oleu, mai oddiwrth y cenhedloed y daeth delwau gyntaf attom ni y Christionogion, mwy o lawer y canlyn fod holl sothach y babaidd Eglwys yn amddiffyn delwau i'w cyfrif o awdurdod bychan, neu heb ddim awdurdod. [Page 49] O herwydd nad yw rhyfedd fod y rhai a ddygwyd i fynydd o'u mebyd ym-mhlith delwau, ac a yfasont ddelw-addoliaeth agos gydâ llaeth eu mammau, yn dala gydâ delwau, ac yn dywedyd ac yn scrifennu yn eu plaid hwy.
Ond yn wir ni ddyleid ystyriaid gymmaint pa vn a'i vn gwedi ei droi i ffydd Grist o Iddew neu o genhedl-ddŷn a fyddai 'r scrifennydd, er ei gredu neu ei anghredu, ond mor gytun neu anghytun â gair Duw y mae fe 'n scrifennu. A pha beth y mae gair Duw yn ei ddywedyd am ddelwau, neu eulynod, a'u haddoliad, chwi a glywsoch yn halaeth, yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon.
Mae S. Ambros yn ei draethawd am farwolaeth yr Ymherodr Theodosius yn dywedyd falhyn, fe gafas Helen y groes a'r tieitl arni, hi addolodd y brenin yn ddiau ac nid y pren (o herwydd cyfeiliorn y cenhedloedd ydoedd hynny, ac oferedd yr annuwiol) ond hi addolodd yr hwn a grogafid ar y groes, enw yr hwn a'i deitloedd yn scrifenedig arni, &c.
Edrychwch weithred yr Ym-herodres sanctaiadd, a barn S. Ambros oll ynghŷd: yr oeddynt hwy yn tybied mai cyfeiliorn y cenhedloedd, ac oferedd yr annuwiol, oedd addoli 'r groes, ar yr hon y gollyngasid gwerthfawroccaf waed ein Iachawdwr Christ: ninnau a gwympwn i lawr ger bron pob dryll croes o goed, yr hwn nid yw onid delw 'r groes honno.
Mae S. Awstin y dyscediccaf o'r holl hên athrawō yn dywedid yn 44. Epistol at Maximus, Gwybyddwch nad oes vn o'r Christionogion catholic i'r rhai y mae Eglwys yn eich tref chwi yn addoli neb marw nao vn peth a wnaeth Duw megis [Page 50] Duw▪ Ystyriwch wrth airi au Awstin, nad ydyw y rhai a addolant bethau meirwon neu greaduriaid yn Gristionogion catholic. Mae 'r vn S. Awstin yn dangos yn y 22. Llyfr o ddinas Duw a'r 10. bennod, na ddylaid adeiladu na themlau nac eglwysydd i ferthyron neu saint, ond i Dduw yn vnic, ac na ddyleid appoyntio offeiriaid i ferthyrō neu saint onid i Dduw yn vnic. Mae gan yr vn Awstin yn ei lyfr o arferon yr Eglwys gatholic, y gairiau hyn, Mi a wnn fod llawer yn addoli beddau a lluniau, mi a wn fod llawer yn cwmpnio yn afradlon a'r feddau 'r meirwon, a chan roddi eu bwyd i gyrph meirwon, ydynt yn eu claddu eu hunain ar y rhai a gladdwyd, ac yn bwrw eu gloddineb a'u meddwdod ar eu ffydd a'u crefydd. Welwch, mae fe 'n cyfrif addoli beddau'r saint a'u lluniau, yn gystadl crefydd a meddwdod a gloddineb, ac nid yn well. Mae S. Awstin yn fodlon iawn i Marcus Varro, yr hwn a ddywad fod crefydd yn buraf oll heb ddelwau. Ac fe ddywaid ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wyrdroi enaid annedwydd, nag i'w ddyscu a'i gyfarwyddo: ac fe a ddywaid ymhellach fod pob plencyn, ie pob anifail yn gwybod, nad yw yr hyn y maent yn ei weled ddim yn Dduw: pa ham gan hynny y mae 'r Yspryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am y peth y mae pawb yn ei wybod? I'r hyn beth mae S. Awstin ei hunyn atteb fal hyn: O herwydd, medd ef, pan osodir delwau mewn temlau, a phan ddodir hwy mewn vwchelder anrhydeddus, a phan dechreuer eu haddoli hwy, yno y mae gwyniau enbaid amryfysedd yn magu. Dymma farn S. Awstin De ciuitate Dei. In Psal. 36. & 113. am ddelwau mewn eglwysydd, eu bod hwy yn y man yr magu amryfysedd a delw-addoliad.
[Page 51] Fe fyddai ry hir adrodd yr holl leoedd eraill a ellid eu dangos allan o'r hen ddoctoriaid, yn erbyn delwau a delw-addoliad. Am hyn ni a ymfodlonwn â'r ambell vn ymma ar hyn o amser.
Bellach am historiau eglwysig mewn hyn o beth, fel y galloch wybod paham, pa bryd, a chan bwy yr arferwyd delwau gyntaf yn ddirgel, ac ar ol hynny nid yn vnic eu derbyn i eglwysydd a themlau Christionogawl, ond yn y diwedd eu haddoli hefyd, a pha fodd y gwaharddwyd, y dywedwyd ac y safwyd yn eu herbyn gan escobion duwiol, doctoriaid dyscedig, a chan dywysogiō Christionogaidd, mi a gynullaf yn fyrr stori gryno, o'r hyn a scrifennwyd yn halaeth, mewn llawer o leoedd, gan lawer o hên scrifenyddion a historiawyr yn hyn o beth.
Megis y bu i'r Iddewon er bod ganthynt orchymmyn Duw yn oleu ac yn eglur na byddai iddynt wneuthur nac addoli delw, megis y dangoswyd o'r blaen yn halaeth, gwympo er hynny wrth siampl y cenhedloedd a'r bobloedd a drigent o'u hamgulch i wneuthur delwau ac i'w haddoli hwynt, ac felly i wneuthur ffiaiddiaf ddelwaddoliad: am yr hyn y mae Duw trwy ei brophwydi sanctaidd yn eu ceryddu ac yn eu bygwth hwy yn dost, ac yn ol hynny a gyflawnodd ei fygythau hynny gan eu cospi hwy yn dôst, fal y dangoswyd vchod: felly gwedy troi rhai o'r Christionogion yn yr hên amseroed oddiwrth addoliad delwau a gaudduwiau, at y gwir Dduw byw a'n Iachawdwr Iesu Grist, o zêl ddall ddiwybod, ac megis gwyrgwedy ymarfer delwau yn hir o amser, hwy beintiasont ac a gerfiasont ddelwau o'n Iachawdwr Christ, Mair ei fam ef, a'i Apostolion, dan dybied [Page 52] fod hyn yn bwngc o ddiolchgarwch a charedigrwydd tuag at y rhai y derbyniassent hwy wir wybodaeth am Dduw, ac athrawaeth yr efengil ganthynt.
Ond ni ddaethe y lluniau a'r delwau hyn etto i'r eglwysydd, ac ni addōlwyd hwy dros hir amser ar ol hynny.
Ac rhag i chwi dybied fymod i yn dywedyd hyn a'm pen fy hun yn vnic, heb awdurdod gennyf, mi a osodaf drosof Eusebius escob Cesarea yr awdur hynaf o'r histori eglwysig, yr hwn oedd fyw yngghylch y 330. flwyddyn o oedran yr Arglwydd, yn nŷddiau Constantinus fawr a Chonstantius ei fab ef, Ymherodron, yn y 7. lyfr o'i stori eglwysig, a'r bedwaredd bennod a'r ddeg, a S. Ierom ar y 10. bennod o brophwydoliaeth Ieremi, y rhai a ddywedant ill dau yn eglur, i amryfysedd am ddelwau (o herwydd felly y mae S. Ierom yn ei alw) ddyfod i mewn at y Christionogion oddiwrth y cenhedloedd, trwy ddefod ac arfer baganaidd.
Mae Eusebius yn dangos y modd a'r achos, gā ddywedyd, nid rhyfedd a hwyntau o'r blaen yn genhedloedd, gwedy iddynt gredu iddynt offrwm hynny ein Iachawdwr Christ, am y donniau a dderbynasent gantho, ie (medd ef) ac yr ydym yn gweled yn awr fod yn gwneuthur delwau Petr a Phawl a'n Iachawdwr Christ ei hun gwedy eu peintio mewn tablennau, yr hwn yr ydwyf yn tybied ddarfod ei gadw a'i gynnal megis peth didrwg trwy arfer baganaidd. O herwydd felly yr arfer ai y cenhedloedd o anrhydeddu y rhai a dybygent eu bod yn haeddu anrhydedd, o herwydd y dylaid cadw rhyw arwyddion am hen wyr, o achos fod caffadwriaeth y rhai olaf yn arwydd o [Page 53] anrhydedd y rhai a fu o'r blaen, ac o gariad y rhai a ddel a'r ol.
Hyd hyn yr adroddais airiau Eusebius, ac yno ystyriwch fod S. Ierom ac yntef yn hyn o beth yn cytuno, ddyfod y delwau ymma i blith Christionogion gan rai oedd o'r blaen yn Baganiaid, ac a arferasent ddelwau, a chwedi eu troi i ffydd Grist a gadwasant weddillion o'u paganeidd-dra heb ei gwbl lanhau: o herwydd mae S. Ierom yn ei alw ef yn eglur yn gyfeilioru ac amryfysedd.
Yr vn fath sampl a welwn ni yn Actau 'r Apostolion Act. 15. 1. am yr Iddewon, y rhai yn ol eu troi at Grist a fynnasent ddwyn i mewn yr enwaediad, (yr hwn a arferasent hwy yn hir,) gydâ hwy i ffydd a chrefydd Christ: gydâ 'r rhai y bu ar yr Apostolion, yn en wedig S. Pawl, waith mawr i attal hynny o beth.
Ond am yr enwadiad yr ydoedd llai rhyfeddod, am ei ddyfod ef i mewn yn gyntaf trwy orchymmyn Duw. Ond fe ddichon dyn ryfeddu 'n gyfion o blegid delwau, pa fodd y daethont hwy i mewn, mor inion yn erbyn sanctaidd air Duw a'i orchymmyn cyhoedd. Ond nid oeddid etto'n amfer Eusebius yn addoli delwau, nac yn eu gosod yn gyhoeddus mewn eglwysydd a themlau, a'r rhai a'u cadwent hwy yn ddirgel, a gyfeiliornent nid o genfigen, ond o ryw zêl.
Ond yn ol hynny hwy a ymluscasont o dai dirgel i eglwysydd, ac felly a fagasont yn gyntaf goelfuchedd, ac yn ddiwethaf ddelw-addoliad ymmhlith Christionogion, fal y cair gweled ar ol hyn.
Yn amser yr Ymherodron Theodofius a Martian, y rhai a deyrnasent ynghylch y 460. o oedran yr Arglwydd, ac er ys 1140. mlynedd pan oedd [Page 54] pobl y ddinas Nola vnwaith yn y flwyddyn yn cadwdydd ganedigaeth S. Phelix yn y deml ac yn arfer o gwmpnio yno yn halaeth, fe a barodd Pontius Paulinus escob Nola beintio parwydydd y deml ag historiau a dynnasid allan o'r hên destament, fal y gallai'r bobl wrth weled ac wrth ystyried y lluniau hynny, ymgadw'n well oddiwrth loddineb ac oferdraul.
Ynghylch yr amser hynny y mae Aurelius Prudentius bardd Christionogawl discedig yn manegi iddo fe weled mewn eglwys gwedy ei pheintio histori dioddefaint S. Cassian, merthyr a meistr yscol, yr hwn a laddasei ei yscolheigion ei hun yn greulon annial â mil o glwyfau gan ei frathu ef â'u pinniau scrifennu o bres, ar orchymmyn y tyrant, medd Prudentius. Ac fal dymma'r peintiadau cyntaf mewn eglwysydd ac sydd hynod am eu henaint. Ac felly wrth y siampl hyn y daeth peintio, ac ar ol hynny delwau o goed a cherig a defnyddion eraill, i eglwysydd Christionogawl.
Yn awr os ystyriwch y dechreuad ymma, nid ydyw dynnion mor barod i addoli llun ar bared neu mewn ffenestr a delw fraisc orauraid, wedy ei thrwsio â cherig gwerthfawr. Ac mae mewn cyflawn stori gwedy ei pheintio, ac actau a gweithredoedd llawer o ddynnion, ac ond odid summ yr Stori gwedy scrifennu wrthi, ddefnydd arall amgen nag sydd mewn eulyn, neu ddelw fud, a fytho 'n sefyll wrthi ei hun, ond wrth ddyscu trwy historiau peintiedig, fe ddaethpwyd bob ychydig i ddelw-addoliaeth. Yr hyn beth pan ddeallodd gwyr duwiol (megis ymmerodron ac escobion dyscedig eraill) hwy a orchymmynnasont nad arferid y fath luniau, delwau ac Idolau mwy.
[Page 55] Ac er dangos hynny i chwi mi a ddechreuaf ar ordeiniaeth yr hên ymherodron Christionogawl Valens a Theodosius yr ail, y rhai a deyrnasasant ynghylch pedwar cant mlynedd yn ol escynniad ein Iachawdwr Christ, y rhai a waharddasāt wneuthur na pheintio delwau, na lluniau 'n ddirgel: o blegid siccr yw nad oedd dim o honynt etto yn gyhoeddus yn yr eglwysydd yr amser hynny.
Mae 'r Ymmerodron ymma yn scrifennu yn y modd hyn, Valens a Theodosius yr Ymmerodron at bennaeth y llu, Am fod gennym ofal ar faenteinio crefydd Dduw vwchlaw pob peth, ni chaniatawn i neb, osod allan, gerfio, neu beintio delw ein Iachawdwr Christ, mewn lliwiau, mewn cerrig, nac vn defnydd arall: ond pa le bynnac y cyhwrdder ag ef, yr ydym yn gorchymmyn ei dynny ef ymmaith, a chospi pawb yn galed ac a amcanant wneuthur dim yn erbyn yr ordeiniaeth a'r gorchymmyn ymma. Mae 'r ordeiniaeth hon yn scrifennedig yn y llyfr a a elwir libri Augustales y rhai a gasclodd Tribunianus, Basilides, Theophilus, Dioscorus a Satyra, gwyr o awdurdod a dysc fawr, ar orchymmyn yr Ymmerodr Iustinian, ac mae Petrus Erinius gwr dyscedig godidawg yn son am yr ordeiniaeth hon yn y nawfed bennod o'i nawfed llyfr yr hwn y mae 'n ei enwi De honesta disciplina, hynny yw, am ddysceidiaeth honest. Ymma y gellwch weled pa beth a ordeiniodd tywysogion Christionogaidd o'r amseroedd henaf yn erbyn delwau, y rhai yr amfer hynny a ddechreuasant ymlusco i blith Christionogion. O herwydd siccr yw dros amser trychant o flynyddoedd a rhagor yn ol dioddefaint ein Iachawdwr Christ, a chyn i'r Ymmerodron [Page 56] sāctaidd ymma deyrnasu, nid oedd dim delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd neu demlau. Pa fodd y gorfoledde y delw-addolwyr pe byddai ganthynt gymmaint awdurdod a hynafiaeth dros ddelwau ac sydd ymma yn eu herbyn hwy?
Am ben ennyd fychan ar ol hyn fe dorrodd y Gothiaid, Vandaliaid, Huniaid a chenhedloedd farbaraidd annuwiol eraill i mewn i'r Ital, ac i bob rhan o wledydd gorllewin Ewrop, a lluoedd mawrion grymmus, ac a anrheithiasont bob lle, a ddinistrasont ddinasoedd, ac a loscasant y llyfrau, fal y lleihawyd ac y llescawyd gwir grefydd yn amgen nag y credaiddyn. Ac felly gā fod Escobion y dyddiau diwethaf hynny, yn llai eu dysc, ac ynghenol rhyfeloedd yn gofalu llai na 'r escobion o'r blaen am hynny o beth, trwy anwybodaeth gair Duw, ac esceulusdra 'r escobion ac yn enwedig o herwydd bod tywysogion diwybod heb eu dyscu yn iawn yn-gwir grefydd, yn rheoli, fe a ddaeth delwau i Eglwys Grist yn y rhan orllewin honno, lle rheole y bobl farbaraidd hynny, nid yn vnig mewn lluniau gwedi eu peintio, ond gwedi eu gweithio mewn cerrig, coed, neu fettel, a'r fath ddefnydd; ac ni ossodwyd hwynt i fynydd yn vnic ond fe ddechreuwyd eu haddoli hefyd.
Pan welodd Serenus gwr discedig duwiol Escob Massil y dref bennaf o Galia Narbonensis, (yr hyn a elwir yn awr prouins) yr hwn oedd ynghylch cwechcant o flynyddoedd yn oll ein Iachawdwr Christ, y bobl trwy achos delwau yn cwympo i ffieidiaf ddelw-addoliad; fe a dorrodd yn ddrylliau holl ddalwau Christ a'i saint y rhai oeddynt yn y ddinas honno, ac am hynny yr achwynwyd arno wrth Gregori Escob Rufain, y [Page 57] cyntaf o'r enw hwnnw: yr hwn oedd yr Escob dyscedig cyntaf ac a oddefodd osod delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd, er dim ac a ellir ei wybod trwy vn scrifen na hên histori. Ac ar y Gregori hwn y mae 'r holl addolwyr delwau y dydd heddyw yn gosod sail eu hymddiffynfa.
Ond megis ac y mae pob peth ac sydd ar fai, o ddechreuad a ellid ei oddef wedi tyfu waethwaeth, nes eu myned o'r diwedd yn anrhaith oddef: felly yr aeth delwau.
Yn gyntaf fe arferodd dynnion historiau neilltuol gwedy eu peintio mewn llechau, lliainiau a pharwydydd. Yn ol hynny delwau breiscon, gwychion, yn ddirgel yn eu tai eu hunain.
A chwedy hynny y dechreuodd lluniau yn gyntaf, ac yn eu hol hwy delwau breiscon gwychion ymlusco i eglwysydd, er bod gwŷr dyscedig duwiol yn dywedyd yn eu herhyn hwy.
Yno trwy arfer, yr ymddiffynnwyd yn gyhoedd, y gallent hwy fod mewn eglwysydd, etto fe waharddwyd eu haddoli hwy.
O'r meddwl ymma yr ydoedd Gregori ei hun, fal y mae 'n eglur wrth lythyr y Gregori hwnnw at Serenus escob Massil, yr hwn a enwed o'r blaē, yr hwn lythyr a ellir ei gael yn llyfr llythyrau Gregori neu 'r register yn y ddegfed ran o'r pedwerydd llythyr, lle mae fe 'ndywedyd y gairiau hyn, Yr ydym yn canmol ddarfod iti wahardd addoli delwau, ond yr ydym ni yn anghanmol iti eu torri hwy. O blegid vn peth yw addoli'r llun, peth arall wrth lun yr histori yno, yw dyscu pa beth sydd i'w addoli. O achos, y peth yw 'r Scruthyr i'r rhai a ddarllenant, hynny y mae 'r llun yn ei gyflawni i'r annyscedig wrth edrych arno, &c.
[Page 58] Ac yn ol ychydig o airiau, Am hynny ni ddylasid torri y peth a osodwyd yn yr Eglwys, nid i'w addoli, ond i addyscu meddyliau 'r diwybod. Ac ychydig bach ar ol hynny ailwaith, fal hyn y dylasech ddywedyd, os mynnwch gael delwau yn yr eglwys er mwyn yr addysc y gwnaethpwyd hwy gynt, yr ydwyf yn goddef eu gwneuthur a'u cadw hwy, a'u dangos hwy, ac nad gweledigaeth yr histori yr hon a hyspysa 'r llun, ond yr addoliad yr hwn a roddir yn anweddus i'r llun, sydd yn eich anfodloni: ac nid gwahardd y neb a fynnent wneuthur delwau, ond gwachelyd ym-mhob ffordd addoli delw.
Wrth yr ymadroddion hyn a dynnwyd ymma ac accw allan o lythyr Gregori at Serenus (o blegid fe fyddai ry-hir adrodd y cwbl) y gellwch ddeall hyd ym-mhale yr ydoedd y peth hyn gwedy tyfu chwechcant o flynyddoedd ar ol Christ, fod yn y gorllewin (o blegid nid oeddynt etto mor barod yn Eglwys y dwyrain) yn maenteinio fod delwau neu luniau yn yr Eglwys, ond bod yn gwahardd yn hollol eu haddoli hwy. Ac chwi ellwch weled hefyd gan nad oes vn sail am addoli delwau yn scrifennad Gregori, ond ei fod yn eu dā nio hwy yn hollol, fod y rhai a addolant ddelwau yn gosod Gregori drostynt yn anghyfiawn. A hefyd oni chyfarwydda delwau yn yr Eglwys ddynion, megis y tebyg Gregori, ond yn hytrach eu dallu hwy, yno y canlyn na ddlyei ddelwau fod yn yr Eglwys, a hynny wrth ei farn ef, yr hwn a fynnai eu gosod hwy yno 'n vnic fal y gallent ddyscu yr anwybodus.
Am hynny os dangosir addoli gynt, a bod etto 'n addoli delwau, a hefyd nad ydynt yn dyscu [Page 59] dim ond amryfysedd a chelwyddau (yr hyn trwy ras Duw a wnair ar ol hyn) yr ydwyf yn gobeithio wrth farn Gregori ei hun y gorchfygir holl ddelwau a delw-addolwyr. Ond yr amser hynny yr ydoedd awdurdod Gregori cymmaint yn yr Eglwys orllewin, megis trwy ei annogaeth ef y gosode dynnion ddelwau ym-mhob lle. Ond nid ydoedd eu synhwyrau hwy cystadl ac y medrent ystyriaid paham y mynnai efe eu dodi hwy i fynydd, ond hwy a gwympasont oll yn gadau (trwy eu haddoli hwy) i ddelw-addoliad, yr hwn beth (nid heb achos da) a ofnodd Escob Serenus a ddigwydde.
Yn awr pe buasai farn Serenus yr hwn a dybyge fod yn weddus dinistr delwau, yn cymmeryd lle, fe fuasid wedi dinistr delw-addoliad hefyd; o blegid i'r hyn nid ydyw ni wna neb ddelw-addoliad. Ond pa ddistryw ar grefydd, a pha flinder a ganlynodd ar holl gred, o farn Gregori, yr hwn a fynnai oddef delwau mewn eglwsydd, ond dangos na ddlyid eu haddoli hwy, fe a ddangosodd amser eisoes i'n mawr niwed ni a'n tristwch. Yn gyntaf yn y schism a'r ymryson a fu rhwng yr Eglwys ddwyrain a'r eglwys orllewin ynghylch delwau.
Yn ail yn rhanniad yr Ymmerodraeth yn ddwy-ran, o achos delwau, i fawr wanhâd holl Gred, trwy 'r hyn yn ddiwethaf oll y canlynodd llwyr ddinistr crefydd Gristionogol, a'r Ymmerodraeth ardderchawg yngwlad Roeg, ac yn yr holl ddwy-rain, a chynnydd gau-grefydd Mahomet, a chreulon lywodraeth a theyrnasiad y Saraseniaid, a'r Twrciaid y rhai sydd yn awr vwch ein pennau ninnau sydd yn trigo yn y gollewin, [Page 60] yn barod am bob achos i ddyfod am ein pennau. A'r achos o hyn oll yw ein delwau, a'n delw-addoliad yn eu haddoli hwy.
Ond yn awr gwrandewch orphen yr histori, yn yr hon yr ydwyf yn canlyn fwyaf historiau Paulus Eutropius de rebus Rom. 23. Diaconus, ac eraill a gydsylldir gydag Eutropius hên scrifennydd. O achos er bod rhai o'r scrifennyddion ymma yn mawrhau delwau, etto maent hwy yn oleu ac yn halaeth yn canlyn histori yr amseroedd hynny. Y rhai y mae Baptist Platina hefyd yn histori y pabiaid, ac ym-mywyd Constantin a Gregori dau o Escobion Rufain, a lleoedd eraill Platina ni vitis Constantini & Greg. 2. (lle mae fe 'n son am y peth hyn) yn eu canlyn yn enwedig.
Yn ol amser Gregori fe alwodd Constantin escob Rufain gym-manfa o escobion yr eglwys orllewin, ac a gondemnodd Philippicus Ymmerodr y pryd hwnnw a Ioan escob Constantinoplo heresi y Monothelitiaid, a hynny yn wir nid heb achos, ond yn gyfiawn iawn. Wedy iddo wneuthur felly trwy gyfundeb y gwyr dyscedig oedd yn ei gylch ef, fe barodd yr vn Constantin Escob Rufain beintio lluniau yr hên dadau, a fuase yn y chwe Chyngor y mae pawb yn eu cynwys ac yn eu derbyn, a'u gosod yn y mynediad i mewn i Eglwys S. Petr yn Rufain.
Pan wybu y Groegiaid hyn, hwy a ddechreuasant ymddadleu ac ymresymmu ynghylch delwau, â'r lladin wyr, ac a ddaliasant na ddlyai delwau gael lle yn Eglwys Christ, a'r lladinwyr a ddaliasant y gwrthwyneb, ac a darawsant ymmlhaid y delwau. Felly ar yr ymrysson hyn ynghylch delwau y cwympodd eglwysydd y dwyrain, ac eglwysydd y gorllewin, a hwy yn cytuno [Page 61] yn ddrwg o'r blaen, i lwyr elynniaeth, ac byth ni chymmodwyd rhynghynt.
Ond yn hyn o amser y gorchymmynnodd Philippicus ac Arthenius neu Anastasius yr Ymmerodron dynnu delwau a lluniau i lawr, au' crafu allan o bob lle yn eu teyrnasoedd hwy.
Yn eu hol hwy y daeth Theodosius y trydydd, efe a barodd beintio ailwaith y lluniau a anffurfiasid, a'u gosod eilwaith yn eu lle, ond ni theyrnasodd y Theodosius hwnnwond vn flwyddyn.
Ar ei ol ef y daeth Leo y 3. o'r enw hwnnw yr hwn oedd Syriad o anedigaeth, gwr call iawn, duwiol, trugarog, a thywysog gwrol. Fe barodd y Leo hwn trwy gyhoeddiad dynnu i lawr ac anffurfo 'r holl ddelwau a osodasid yn yr Eglwys i'w addoli, ac fe orchmynnodd yn enwedig i Escob Rufain wneuthur felly, ac yn yr ennyd hynny fe barodd gynull yr holl ddelwau oedd yn y ddinas Ymmerodraidd Constantinopol, a'u gosod yn Bentwr. grug ynghenol y ddinas, a'u llosci yno yn lludw yn gyhoedd: ac a wyngalchodd ac a grafodd ymmaith bob lluniau a beintiasid ar barwydydd temlau, ac a gospodd yn dost lawer o ymddiffyn wyr delwau.
A phan ddywedai rai am hynny ei fod efyn dyrant, fe attebodd, o bawb oll fod yn eu cospi hwy yn gyfiawnaf, y rhai nid addolēt Dduw yn iawn, ac ni o falent am fawrhydi'r Ymmerodr a'i awdurdod, ond a wrth ryfelent yn gynfigennus yn erbyn cyfraithiau llesol iachus.
Pan glywodd Gregori y trydydd o'r enw hwnnw Escob Rufain, weithredoedd yr Ymmerodr yn Grecia ynghylch delwau, fe a gynnullodd Gyngor o escobion Itali yn ei erbyn ef, ac a wnaeth yno [Page 62] ordeiniaethau o ran delwau, ac am roddi mwy o barch ac anrhydedd iddynt nag a roddid o'r blaen, ac felly fe a gyffrôdd yr Italiaid i godi ac i wrthrhyfelu yn erbyn yr Ymmerodr, a hynny yn gyntaf yn Rafenna. Ac fal y testiolaetha Aspurgensis ac Antonius Escob Fflorens, fe a barodd i Rufain a holl Itali o'r lleiafballu o'u vfydd-dod a'u teyrnged i'r Ymmerodr. Ac felly fe a fainteiniodd eu delw-addoliad hwy trwy frâd a gwrthrhyfel. Yr hon siampwl a ganlynodd Escobion Rufain yn wastadol ac a aethont trwyodd yn ddigō trawsion.
Yn ol y Leo hynny yr hwn a deyrnasodd 34. mlynedd y canlynodd ei fab ef Constantin y pummed, yr hwn yn ol siampl ei dad a gadwodd ddelwau allan o'r temlau. A chan fod y Cyngor a gynullasai Gregori yn Itali o rhan delwau yn erbyn ei dad ef yn ei gyffroi ef, fe a gynullodd yntef Gyngor o holl wyr dyscedig ac escobion Asia, a Grecia, er bod rhai yn gosod y Cyngor hwn yn amser ddiwethaf Leo Isauricus ei dad ef.
Yn y gynnulleidfa fawr hon, hwy a eisteddasant mewn cyngor o'r bedwaredd o Idiau Chwefror, hyd y chweched o Idiau Awst, ac a wnaethant ynghylch arfer delwau yr ordeiniaeth hon, nid cyfraithlon i neb a gredant yn nuw trwy Iesu Grist osod delwau y creawdwr, na'r creadur, yn eu temlau i'w haddoli: ond yn hytrarch y dlyeid wrth gyfraith Dduw, a rhag trangwydd, dynnu pob delwau allan o'r Eglwys. Ac fe gyflawnwyd yr ordeiniaeth hon ymmhob man lle ceffid delwau yn Asia neu yn Grecia.
Ac fe ddanfonodd yr Ymmerodr y gyfraith hon a wnaethai'r Cyngor yn Constantinopol at Pawl escob Rufain, ac a orchymynnodd iddo fwrw 'r [Page 63] holl ddelwau allan o'r eglwysi: ac yntef gan ymddiried ynghyfeillach Pipin tywysog cadarn, a wrthododd wneuthur hynny. Ac efe ac Stephanas y trydydd yr hwn a'i canlynodd ef, a gynnullasant Gyngor arall yn Itali o ran delwau, ac a gondemniasont yr Ymmerodr a'r Cyngor o Gonstantinopol o heresi, ac a wnaethant ordeiniaeth fod delwau sanctaidd Christ fal y galwent hwy, a'r fendigaid forwyn, a saint eraill yn wir yn haeddu anrhydedd ac addoliad.
Yn ol marw Cōstantin y teyrnasodd Leo y pedwerydd ei fab ef, yr hwn a briododd wraig o ddinas Athen a'i henw Theodora, yr hon hefyd a elwid Hyrene, o'r hon y bu iddo fab a enwid Constantin y chweched, ac ef a fu farw a'i fab etto 'n ieuangc ac a adawodd lywodraeth yr Ymherodraeth a rheolaeth ei fab ieuangc i'w wraig Hyrene. Y pethau hyn a wnaethpwyd yn yr Eglwys ynghylch y 760. flwyddyn o oedran yr Arglwydd.
Ystyriwch ymma attolwg yn yr stori hon, nad oedd delwau yn gyhoedd yn eglwysydd Asia a Grecia, dros saithcant o flynyddodd. Ac nid oes ammau nad oedd yr eglwysydd nesaf at amser yr Apostolion yn buraf oll.
Ystyriwch hefyd yn-nechreu yr ymryson ynghylch delwau na bu o chwech o'r Ymmerodron Christionogaidd, y rhai oedd yn llywodraethwyr vchaf, i'r rhai y dylyeid Vfyddhau wrth gyfraith Duw, onid vn yn vnic sef Theodosius, yr hwn ni theyrnasod onid vn flwyddyn, yn dala oblaid delwau. Fe a gondemniodd yr holl Ymherodron eraill hwy, a holl wyr dyscedig ac escobion Eglwys y dwyrain, a hynny gwedy ymgynnull ynghŷd mewn Cyngorau, heblaw [Page 64] y ddau Ymerodr a enwasom ni orblaen, Valens a Theodosius yr ail, y rhai oedd yn hîr cyn yr amser hynny, ac a waharddasant yn galed na wnaid dim delwau.
Ac ar ol hyn yn gyffredinol y dinistre holl Ymmerodron Grecia (oddiethr Theodosius yn vnic) bob delwau yn wastadol.
Yn awr o'r gwrthwyneb ystyriwch mai escobion Rufain y rhai nid oeddynt lywiawdwyr gwedy i Dduw eu appoyntio, ond yn vnic yn eu hescobiathau hunain, ond eu bod yn cymmeryd arnynt awdurdod tywysogion, yn erbyn gair Duw, oedd yn ymddiffyn delwau yn erbyn gair Duw, ac yn cyffroi terfysc a gwrthryfel, ac yn gweitho brad bob amser yn erbyn eu pennaethiaid goruchaf, yngwrthwyneb i gyfraith Duw, ac ordeiniaethau pob cyfraithiau dynawl, gan fod nid yn vnic yn elynion i Dduw, ond yn wrthrhyfelwyr ac yn fradwyr hefyd yn erbyn eu tywysogion. Dymma 'r rhai cyntaf a ddygasant delwau yn gyhoedd i'r eglwysydd, dymma 'r rhai sydd yn eu hymddiffyn hwy yn yr eglwysydd, a dymma 'r modd y dar fu iddynt eu hymddiffyn hwy, hynny yw trwy ddirgel gydfwriadau, brad a gwrthrhyfel yn erbyn Duw au tywysogion.
Ond i fyned yn ein blaen yn yr histori'r hon sydd wiw ei gwybod. Ym-mabolaeth Constantin y chweched, Hyrene yr ymmerodres ei fam ef ynllaw yr hon yr ydoedd llywodraeth ymmerodraeth, a arweinid fwyaf gan gyngor Escob Theodor, a Tharasius patriarch Constantinopol, y rhai oedynt yn gweithio ac yn dala yn dynn gydag Escob Rufain, i fainteinio delwau: wrth gyngor ac eiriol y rhai hynny hi a barodd yn annuwiol iawn, [Page 65] geibio y fynydd gorph ei thad yn y gyfraith Constantin y pummed, ac a orchmynnodd ei losci ef yn gyhoedd, a thaflu ei ludw ef i'r môr. Yr hon siampl fal y mae 'r son diammau, a arferasid ar gyrph tywysogion yn ein hamser ninnau, pe buasai awdurdod y tadau sanctaidd hynny yn parhau ronyn bach yn hwy yn ein mysc ni.
Yr achos paham y gwnaeth yr Ymmeredores Hyrene hynny âi thâd yn y gyfraith, oedd am iddo ac yntef yn fyw, ddinistr delwau, a dwyn ymmaith drwsiadau gwerthfawr yr eglwysydd, gan ddywedyd fod Christ (temlau yr hwn oeddynt) yn fodlon gantho dlodi, ac nid tlyssau a meini gwerthfawr.
Yn ol hynny fe alwodd yr Hyrene honno, ar annogaeth Adrian escob Rufain a Phawl Patriarch Constantinopol a Tharasius yr hwn a'i canlynodd ef, Gyngor o Escobion Asia a Grecia ynninas Nicaea, ac yno gan fod cenhadon Escob Rufain yn bennaduriaid o'r Cyngor, ac yn trefnu pob peth megis y mynnent, fe a gondemnwyd y Cyngor a gynnullasid o'r blaen yn amser Constantin y pummed, ac a ordeiniase yn erbyn delwau ar eu dinistrio hwy, megis Cyngor a chynnulleidfa hereticciaidd, ac a wnaed ordeiniaeth ar osod i fynydd ddelwau yn holl eglwsydd Grecia, a rhoddi anrhydedd ac addoliad hefyd i'r delwau hynny. Ac felly yr Ymerodres honno heb arbed Diwallrwydd dyfalwch yn y byd i osod delwau i fynydd, na chost i'w trwsio hwy 'n yr holl eglwysydd, a wnaeth Constantinopol mewn amser byrr yn gyffelyb i Rufain ei hun am ddelwau.
Ac ymma y gwelwch ddigwyddo 'r hyn a ofnodd Escob Serenus, ac a waharddodd Gregori y cyntaf yn ofer, hynny yw na addolid delwau [Page 66] mewn vn modd. O blegid yn awr nid ydyw yn vnic yr an-nyscedig angall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scrythyr yn dangos fod delwau yn faglau iddynt, ond yr Escobion a'r dyscedig hefyd yn cwympo i ddelw-addoliad trwy achos delwau, ie ac i wneuthur cyfraithiau ac ordeiniaethau i'w maenteinio hwy. Mor anhawdd yw, ie ac mor ammhossibl bod delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd a themlau nymor amfer heb ddelw-addoliad, megis mewn ychydig mwy nâ chan mlynedd rhwng Gregori y cyntaf, yr hwn a waharddodd yn galed addoli delwau, a Gregori y trydydd a Phaul a Leo 'r trydydd Escobion Rufain, a 'r Cyngor hwn sydd yn gorchymyn ac yn ordeinio addoli delwau, fal y mae 'n eglur yn ymddangos.
Yn awr pan ddaeth Constantin ieuangc yr Ymmerodr ynghylch vgain mlwydd o oedran, fe aeth beunydd leilei ei gymmeriad. O achos fe a'i perswadodd rhai oedd ynghylch ei fam ef hi, fod Duw gwedy ei hordeinio hi ei hunan i deyrnasu yn vnic, heb ei mâb gydâ hi. Yr hyn pan gredodd y wraig vchel-fryd honno, hi a ddifuddiodd ei Mab o'i Ymmerodaidd fraint, ac a gymmhellodd yr holl filwyr, a'r penaethiaid i dyngu na oddefent hwy ei mâb hi Constantin i deyrnasu yn ei bywyd hi.
Gwedy i'r tywysog ieuangc gyffro o herwydd yr an-nheilyngdod hyn, fe a orescynnodd lywodraeth yr ymmerodraeth i'w law ei hū trwy rymarfau, a chwedy ei ddwyn i fynydd mewn gwir grefydd yn amser ei dad, pan welodd ofergoel ei fam Hyrene, a'r delw-addoliad a wnaid i ddelwau, fe daflod i lawr ac a friwodd, ac a loscodd yr holl ddelwau a osodase ei fam i fynydd.
[Page 67] Ond yn ol ychydig o flynyddoedd, a Hyrene gwedy ei derbyn i ffafor ei mab ailwaith, gwedi iddi ei annog ef i dynnu llygaid ei ewythr Nicephorus, a thorri tafodau ei bedwar ewythr eraill, a gwrthod ei wraig, trwy 'r hyn y dygodd hi ef mewn casineb gydâ ei ddeiliaid: weithian er mwyn dangos nad oedd hi gwedy newid, ond yr vn wraig ac ydoedd hi pan geibiasai hi gorph ei thad yn y gyfraith ai losci, ac y byddai hi mor naturiol man, ac y buasai hi merch yn y gyfraith garedig, pan welodd hi ei mab yr Ymmerodr yn dinistr beunydd y delwau a garai hi yn gymmaint ac a osodasai hi i fynydd trwy gymmaint côst, trwy nerth rhyw gyfeillion da hi a ddiswyddodd ei mâb o'i Ymmerodraeth, ac yn gyntaf, megis mam fwyn garedig, hi a dynnodd ei ddau lygad ef ac a'i taflod ef i garchar, ac yn ol llawer o boenedigaethau a'i lladdodd ef ag angau creulon.
Mae 'n scrifennedig yn yr histori a gyssilltir ac Eutropius, i'r haul dywyllu 'n rhyfedd ac yn ofnadwy dros ddau ddiwarnod ar bymtheg, a bod pawb yn dywedyd i'r haul golli ei oleu am aruthredd gweithred greulon an-naturiol Hyrene, a thynnu allan lygaid yr Ymmerodr. Ond yn siccr ewyllys Duw oedd arwyddocau wrth dywylliad yr haul, i ba dywyllwch a dallineb o anwybod a delw-addoliad, y cwympai holl Gred o achos delwau, ac a tywyllid ac a duid eglur haul ei dragwyddol wirionedd ef a goleini ei sanctaidd air ef trwy niwl a thywyllwch cymylau traddodiadau dynion, megis trwy lawer o ddayar grynfau a ddigwyddasent ynghylch yr amser hwnnw, yr arwyddocaodd Duw y siglid ac yr yscydwid ynaruthr esmwyth stat gwir grefydd, trwy ddelw-addoliad.
[Page 68] Ac ymma y gwelwch mor rassol a rhinweddol arglwyddes oedd yr Hyrene honno, mor garedig nith oedd hi i ewythredd ei gŵr, mor garedig mam yn y gyfraith i wraig ei mab, mor garedig merch i'w thâd yn y gyfraith, mor naturiol mam i'w mâb ei hun, a pha bennaethes ddewr-wych a gafas Escob Rhufain o honi i osod i fynydd ac i faentaeinio ei eulynod a'i ddelwau. Yn wir ni allasent byth gael gweddusach ymddiffynnydd i'r fath beth, nâ 'r Hyrene ymma, Vchelfryd yr hon a'i chwant teyrnasu ni allid ei ddigoni; yr hon yr oedd ei bradau, a weithiai ac a fyfyriai hi yn wastad, yn dra ffiaidd, yr hon yr aeth ei han-nuwiol ai han-naturiol greulondeb tuhwnt i Medea a Phrogne, y rhai y rhoes eu llofruddiaithiau Erchyll. echrydus ddefnydd, i'r bairdd i scifennu tragediau aruthrol. Ac etto mae rhai o'r scrifennydion a scrifennasant yr holl Echrydus. erchyll anwireddau ymma, o herwydd y cariad oedd ganthynt at ddelwau, y rhai yr ydoedd hi yn ei maenteinio, yn ei chanmol hi, megis ymmerodes dduwiol a ddanfonasid oddiwrth Dduw. Or cyfryw yw dallineb coelfuchedd, ac ofergoel, o caiff vnwaith feddiant ar feddwl dyn, ac y cyhoedda feiai tywysogion drwg, ac a'u canmol hwy hefyd.
Ond ychydig ar ol hynny y drwgdybiodd tywysogion ac Arglwyddi Gręcia Hyrene, ac a honnafont arni fwriadu ceisio symmud yr Ymmerodraeth at Charles brenin y Ffranconiaid, ac amcanu priodas ddirgel rhwngthi ei hun â'r brenin hwnnw: gwedy gwneuthur hynny yn gyhoedd arni, hi a ddiswyddwyd ailwaith gan yr Arglwyddi hynny, ac a ddifuddiwyd o'r Ymmerodraeth ac a [Page 69] Deolwyd, aethwladwyd. afwladwyd i yn ys Lesbos, ac yno y diweddodd hi ei bywyd drygionus.
Yr hyd yr oeddid yn gweithio y tragediau ymma yngwlad Groeg ynghylch delwau, fe a ddechreuwyd cyffroi yr vn questiwn ynghŷlch arfer delwau mewn eglwysydd yn Spaen hefyd. Ac yn Eliberi dinas ardderchog a elwir yn awr Garnat y casclwyd Cyngor o Escobion Hispaen a gwyr dyscedig eraill, a chwedy iddynt hir Ymmadrodd draethu ac ymgynghori ynghŷlch y peth hwnnw, fe a gyttnnwyd o'r diwedd gan yr holl Gyngor yn y modd ymma, yn yr articul 36.
Yr ydym ni yn tybied na ddylei fod lluniau mewn eglwysydd, rhag ofn bod pointio yr hyn a addolir neu a a'nrhydeddir, ar bared. Ac fal hyn yr scrifennir yn y 41. Canon o'r Cyngor hwnnw, Ni a welsom fod yn dda rhybyddio 'r ffyddloniaid gymmaint ac y mae ynddynt, na oddefont ddim delwau yn eu tai, ond os bydd arnynt ofn gorthrech eu gwasanaeth-ddynion ar y lleiaf ymgadwant hwy yn bur oddiwrth ddelwau, ac os gwnant amgen, na chyfrifer hwy o'r Eglwys.
Ystyriwch adolwg ymma, fod holl wlad fawr yn-nhuedd y gorllewin a dehau Ewrop, nes i Rufain o lawer ei gosodiad nag i Gręcia yn cyfuno â'r Groegwyr yn erbyn delwau, ac nad ydynt yn eu gwahardd hwy yn vnic mewn eglwysydd, ond mewn tai dirgel hefyd, ac yn escymuno y rhai a wnant y gwrthwyneb.
Ac fe wnaeth Cyngor arall hefyd yr hwn a elwir Cyngor Toletum y ddau-ddegfed, ordeinhâd a chyfraith yn erbyn delwau a delw-addolwyr. Ond pan wybu escob Rufain a'i blaid i'r Cyngor hwn o Spaen yn Eliberi wneuthur y fath gyfraith [Page 70] yn erbyn delwau, hwy ofnasant yr ordeiniai yr holl Germaniaid hefyd yn erbyn delwau, ac y gwrthodent hwy: ac a feddylasont ragflaenu hynny, a thrwy gyfundeb a nerth tywysog y Ffrā coniaid, yr hwn oedd fwyaf ei gadernid yn-nhuedd y gorllewin, a gynullasant Gyngor o Germaniaid yn Ffrancfford, ac yno hwy a barasant gondemnio y Cyngor a fuase yn Spaen yn erbyn delwau, ar enw Heresi Ffelix (o blegid mai Ffelix Escob Aquitania oedd bennaf yn y Cyngor hwnnw) ac a gawsant yno dderbyn Actau yr ail Cyngor o Nicaea, a gasclesid trwy waith Hyrene yr Ymmerodes sainctaidd honno (am yr hon y clywsoch chwi sôn) a barn Escob Rufain o blaid delwau.
O herwydd yn gyffelyb i hyn y mae y papistiaid yn adrodd histori Cyngor Ffrancfford. Er hynny mae llyfr Charles Mayn a scrifennodd ef ei hun, (fal y dengis y teitl) yr hwn sydd yn awr gwedy ei brintio ac yn gyffredin ynnwylaw pawb, yn dangos fod barn y tywysog hwnnw a holl Gyngor Ffrancfford hefyd yn erbyn delwau, ac yn erbyn yr ail Cyngor o Nicaea, yr hwn a gynullasai Hyrene o blaid delwau, ac yn galw y Cyngor hwnnw yn Gyngor rhyfygus, ffol, annuwiol. Ac mae fe'n dangos ddarfod cynull y gynulleidfa hōno yn Ffrancfford yn vniawn yn erbyn Cyngor Nicaea a'i amryfysedd.
Fal y mae 'n rhaid canlyn naill ai bod dau Gyngor yn Ffrancfford, yn amser yr vn tywysog, y naill yn erbyn y llall, yr hyn ni ellir ei ddangos wrth vn histori, ai yntae ddarfod i'r pabiaid a'r papistiaid, yn ol eu harfer, lygru yn gwilyddus actau y Cyngor hwnnw, megis yr arferant hwy wneuthur nid yn vnic â Chyngorau, ond ag historiau [Page 71] ac scrifennadau 'r hen ddoctoriaid hefyd, gan eu hanghy wiro, a'u llygru hwy, er maenteinio eu defnyddion a'u bwriadau drwg eu hunain, fal y daeth i oleuni yn hwyr o amser, ac fal y mae yn ymddangos fwyfwy beunydd yn ein dyddiau ni. Bydded dychmygus rodd Constantin, a'r bwriad hynod hwnnw ar anghywiro y Cyngor cyntaf o Nicaea, am bennaduriaeth y Pab, yr hyn a amcanodd y Pâb yn amser S. Awstin yn dystiolaeth o hyn. Yr hyn fwriad a gwblhaesid yr amser hynny oni buase i ddiwydrwydd a mawr ddoethineb S. Awstin, ac Escobion dyscedig duwiol eraill o Affrica, sefyll yn erbyn hynny ai rwystro.
Yn awr i ddyfod tuag at ddiwedd yr histori hon ac i adrodd i chwi y peth pennaf a ddigwyddodd o fainteinio delwau, lle yr ydoedd er amser Constantin fawr, hyd y dydd hwnnw yr holl awdurdod ymmerodrol, a rheolaeth dywysogol ymmerodraeth Rhufain, yn aros yn wastadol yn-ghyfiawnder a meddiant yr ymmerodwyr y rhai yr oedd eu trigfa a'u ymmerodrol eisteddfa yn Constantinopol y ddinas frenhinawl.
Pan welodd Leo 'r trydydd, Escob Rhufain yr amser hwnnw, Ymmerodron y Groegiaid wedi ymroi yn gymmaint yn erbyn ei dduwiau ef o aur, ac arian, coed a cherrig, ac am fod gantho frenin Frainct a elwid Charls, gwr mawr ei allu yn y gorllewin, yn hyblyg wrth ei ewyllys, ac am achosion a geir eu gweled ar ol hyn: mewn lliw o fod gwyr Constantinopol dan felltith a reg y pab o blegid delwau, ac am hynny yn annheilwng i fod yn ymmerodron, nac i lywodraethu, ac o herwydd hefyd nad oedd Ymmerodron Grecia gan eu bod mor bell, mor barod wrth Emmaid. amnaid i'w ymddiffyn [Page 72] ef yn erbyn ei elynion y Lumbardiaid, ac eraill oeddynt yn ymryson ag ef: fe aeth y Leo ymma meddaf ynghylch peth rhyfedd anferth, na chlywad son er ioed o'r blaen am y fath, a pheth o eofnder a rhyfyg anghredadwy: o herwydd wrth ei babaidd awdurdod fe a symmudodd lywodraeth yr Ymmerodr oddiwrth y Groegiaid, ac a'i rhoddodd i Charles fawr brenin y Francod, a hynny trwy gyfundeb yr Hyrene a ddywedasom ni o'r blaen, ymmerodes Grecia, yr hon hefyd a fwriadodd i chydsylltu ei hun mewn priodas â'r Charles hwnnw: am yr hyn achos yr A fwladodd. deolodd. aethwladodd ac y diswyddodd Arglwyddi Grecia hi, megis vn a fradychysai yr ymmerodraeth fal y clywsoch chwi o'r blaen.
Ac yn ol diswyddo yr Hyrene honno, y dewisodd tywysogion Grecia, trwy gyfundeb cyffredin, megis yr arferent yn wastad, ac a wnaethont Ymmerodr a'i enw Nicaephorus, yr hwn ni chydnabyddai Escob Rufain na gwyr y gorllewin yn Ymmerodr arnynt, o herwydd yr oeddent eisioes gwedy dewis arall, ac felly y daeth dau Ymmerodr: a'r ymmerodraeth yr hon oedd vn o'r blaen a rannwyd yn ddwy ran o achos delwau a'u haddoliad, megis yn yr hên amser y rhannwyd brenhiniaeth yr Israeliaid o blegid y cyffelyb achos, yn amser Rehoboam. Ac felly gwedi i Escob Rufain siccrhau tuag atto gariad Charles trwy y modd ymma, fe dderchafwyd yn rhyfedd mewn gallu ac awdurdod, ac a wnai yn holl Eglwys y gorllewin, yn enwedig yn Itali, y peth a fynnai, yn yr artaloedd hynny y gosodwyd delwau i fynydd, yr harddwyd ac yr addolwyd hwy gan bawb oll.
Ond nid oeddid mor barod yn gosod delwau i [Page 73] fynydd, nac yn eu hanrhydeddu yn gymmaint yn Itali a'r gorllewin, nad oedd Nicęphorus Ymmerodr Constantinopol, a'r rhai a ddaethont ar ei ol ef Scauratius, ar ddau Michael, Leo, Theophilus, ac ymmerodron eraill a'u canlynent hwythau yn ymmerodraeth Grecia, yn eu tynnu hwy i lawr, yn eu briwo, yn eu llosci, ac yn eu dinistr hwy cy gynted. A phan fynnasai ymmerodr Theodorus ynghyngor Lions gyfuno ag Escob Rufain, a gosod delwau i fynydd, fe a ddifeddiannwyd o'i ymmerodraeth gan oreugwyr Grecia, ac a ddewiswyd arall yn ei le fe: ac felly fe gyfododd eiddigedd, gwg, casineb, a gelynniaeth rhwng Christionogion ac ymmerodraethau y gorllewin, a'r dwyrain, yr hwn ni allwyd byth oi ddiffod na'i heddychu. Megis pan ryfelodd y Saraseniaid gyntaf, a'r Twrciaid a'r ol hynny, yn erbyn y Christionogion, ni chynorthwye y naill ran o Gred ddim o'r llall. O blegid hyn yn y diwedd fe gollwyd ymmerodraeth y Groegiaid, a Chonstantinopol yr ymmerodraidd ddinas, ac a ddaethont i ddwylo yr anghredadwy, y rhai yn awr a oresnenasant y rhan fwyaf o holl Gred, a chwedy meddiannu mwy nâ hanner Hungari, yr hon sydd ran o ymmerodraeth y gorllewin, maent hwy vwch yn pennau ninnau, i fawr enbeidrwydd a pherigl holl Gred.
Fal hyn y gwelwn pa fôr o flinderau ac aflwydd a ddug maeinteiniaeth delwau gydâ hi, pa rwygiad anferth rhwng yr Eglwys orllewin a'r Eglwys ddwyrain, pa gasineb rhwng y naill Gristion a'r llall, Cyngor yn erbyn Cyngor, Eglwys yn erbyn Eglwys, Christionogion yn erbyn Christionogion, tywysogion yn erbyn tywysogion, [Page 74] gwrthrhyfelau, bradau, lladdiadau an-naturiol creulon, y ferch yn peri ceibio i fynydd gorph yn Ymmerodr ei thâd a'i losci, y fam o gariad ar ei delwau yn lladd ei mab ei hun, ac yntef yn Ymmerodr: yn ddiwethaf gwahanu, yr ymmerodraeth a Chred yn ddwy ran, nes i'r anghredadwy y Saraseniaid a'r Twrciaid gelynion cyffredinol y ddwy ran, orchfygu ie dinistr a darostwng yn greulon y naill rhan, holl ymmerodraeth Grecia, Asia leiaf, Thracia, Macedonia, Epirus, a llawer o wledydd eraill, ac o daleithiau mawrion gwychion, a gorescyn rhan fawr o'r ymmerodraeth arall: a dodi'r cyfan mewn ofn anfeidrol, ac enbeidrwydd ofnadwy anferth.
O blegid nid heb achosion mawr yr ofnir rhag megis y rhannwyd ac y drylliwyd ymmerodraeth Rhufain am ddelw-addoliad, fal y rhannwyd teyrnas Israel gynt, am yr vn fath ddelw-addoliad: felly cwympo o'r cyffelyb gosp, am y cyffelyb fai arnom ninnau, ac a gwympodd ar yr Iddewon: hynny yw rhag i'r tyrant creulon gelyn ein gwledydd ni a'n crefydd y Twrc, trwy gyfiawn ddial Duw ein lladd ni 'r Christionogion, a'n dwyn i gaethiwed, fal y lladdodd ac a caeth gludodd brenhiniodd yr Assiriaid a'r Babiloniaid yr Israeliaid, a rhag dwyn ymmerodraeth Rufain a gwir grefydd, dan draed yn llwyr, megis y dygwyd teyrnas yr Israeliaid a gwir greddyf Dduw, at yr hyn a mae 'r peth eisoes fal y dangosais o'n rhan ni yn gogwyddo 'n annial: gan fod eisoes y rhan fwyaf o holl Gred mewn llai nâ thrychant o slynyddoedd gwedy ei dwyn i flin gaethiwed a chaethglud dan y Twrc: ac ardderchog ymmerodraeth Grecia gwedy ei hymchwelyd yn llwyr. Ond [Page 75] pe buasei 'r Christio nogion heb ymrannu fal hyn ynghylch delwau, ac yn dala ynghyd, ni allase 'r anghredadwy a drwg greaduriaid, fal hyn lwyddo 'n erbyn Cred, a'r holl flinderau a'r aflwydd hyn a ddaeth arnom o blegid ein galluog dduwiau o aur ac arian, coed a cherrig, yn nerth ac ymddiffyn y rhai a hwythau heb allel eu cynnorthwyo eu hunain, yr ymddiriedason ni, hyd oni ortrechodd ein gelynnion anghredadwy ni a'n gorescyn agos yn gwbl.
Gobrwy cyfion i bawb ac a ymadawant â'r galluog bywiol Dduw, Arglwydd y lluoedd, ac a ymostyngant, ac a roddant yr anrhydedd sydd ddyledus iddo ef, i goed a cherrig meirwon, y rhai y mae llygaid iddynt ac ni welant, traed ac ni cherddant, &c. ac sydd felltigedig gan Dduw, ynghyd â'r rhai a'u gwnant, a'r rhai a ymddiredont ynddynt.
Fal hyn y deallasoch, fyngharedigion yn ein Iachawdwr Christ, wrth farn hên ddyscedig a duwiol athrawion yr Eglwys, a thrwy hên historiau eglwysig yn cyfuno â gwirionedd gair Duw, a dynnwyd allan o'r hen Destament a'r Testament newydd fod yn yr hen Eglwys gynt yr hon oedd buraf a dilygraf oll, yn gwachelyd, yn cashau, ac yn ffieiddio delwau, a delw-addoliad, megis pethau ffiaidd gwrthwyneb i wir Gristionogawl grefydd, a phan ddechreuodd delwau ymlusco i'r Eglwys, fod Escobion, athrawion ac yscolheigion dyscedig duwiol, yn dywedyd ac yn scrifennu yn eu herbyn hwy, a bod Cynghorau cyfain o Escobion a gwyr dyscedig gwedy ymgynnull ynghŷd yn eu condemnio hwy, ie a darfod i lawer o Ymmerodron ac Escobion Christionogawl, [Page 76] e'r es rhagor i saithcant ac wythcant o flynyddodd ddifwyno, a dryllio, a distrywio delwau: ac am hynny nid er ys ychydig ddyddiau (megis y mynne rhai i chwi gredu) y dechrauwyd dywedyd ac scrifennu yn erbyn delwau a delwaddoliad.
Yn ddiwethaf chwi a glywsoch pa ddialedd a pha flinder ac aflwydd a gwympodd o achos delwau ar holl Gred heblaw colled aneirif o eneidiau yr hyn sydd Echryslonaf. echrydusaf oll. Attolygwn am hynny ar Dduw ar ini gan gymeryd rhybidd gan ei sanctaidd air ef, yr hwn sydd yn gwahardd pob delw-addoliad, a chan scrifennadau hên athrawon duwiol, ac historiau eglwysig, a scrifennwyd ac a gadwyd trwy ordeinad Duw, er ein rhybyddio ni i wachelyd delwaddoliad ac i ddiangc rhag y gosp ar plaau bydol a thragwyddol a fygythir am hynny. Yr hyn beth Duw ein Tad nefol a'i canniatao ini, er mwyn ein vnic Iachawdwr a'n cyfryngwr Iesu Grist, Amen.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erbyn delwau a'u haddoliad, yn yr hon y cynhwysir atteb i'r rhesymmau dewisaf y rhai a arferir ei faenteinio delwau, yr hon ran a ddichon wasanauthu i gyfarwyddo curadiaid eu hunain a gwyr deallus.
YN awr chwi a glywsoch mor oleu ac mor ddifrifol, a hynny mewn llawer o leoedd y mae gair Duw yn dywedyd, nid yn vnic yn erbyn delw-addoliad, ond yn erbyn delwau hefyd: fy meddwl am hyn yn wastad yw, cy belled ac y'n [Page 77] cyffroir ac y'n annogir trwyddynt i'w haddoli hwy, ac nid megis pe gwaharddid hwy yn hollol yn y Testament newydd, heb y fath achosion ac enbeidrwydd: chwi a glywsoch hefyd allan o'r historiau eglwysig ddechreuad, cynnydd a rhwydddeb delw-addoliad trwy ddelwau: a'r mawr ymryson a fu yn eglwys Grist yn eu cylch hwy, i fawr drallod a cholled holl Gred. Chwi a glywsoch hefyd ymadroddion yr hên dadau a'r athrawion a'r escobion dyscedig duwiol, y rhai a dynnwyd o'u scrifennadau hwy eu hunain, yn erbyn delwau a delw-addoliad.
Mae etto yn ol fod i ni atteb ac argyoeddi y rhesymmau a wnair ym-mhlaid delwau, a'u gormodd beintio a'u goreuro a'u trwsio hwy, ac Eglwysydd a themlau hefyd, yr hyn a wnair o ran, trwy ddodi y lleodd a osodwyd o'r blaen at eu rhesymmau hwy: ac o ran wrth eu hatteb mewn moddion eraill. Yr hon ran sydd iddi y trydydd lle yn y traethawd hwn, am na all y cyffredin bobl ddeall y pethau hyn yn dda, ac na ellir atteb rhesymmau y rhai sydd yn maenteinio delwau, heb ormod flinder a phoen, oni byddir yn gwybod y traethawd aeth o'r blaen.
Ac er bod yn ail sôn ymma am bethau a soniwyd o'r blaen am danynt, etto nid ydyw yr ail adrodd hyn yn ofer, ond gan mwyaf yn anghenrhaid, am na all yr annyscedig ddeall yn amgen pa fodd yr ydys yn agweddu y lleoedd hynny yn erbyn rhesymmau y rhai sydd yn ymddiffyn delwau, a'r rhai oni bai hynny y gellid eu twyllo.
Yn gyntaf mae y rhai sydd yn ymddiffyn delwau yn dywedyd am yr holl gyfraithau, gwaharddiadau a'r melldithion yr ydym ni yn eu rhoi [Page 78] drosom allan o'r Scrythyrau sanctaidd, ac o ymadroddion y doctoriaid yn erbyn delwau, a'u haddoliad, eu bod hwy yn perthyn yn vnic i eulynod i Cenhedloedd a'r Paganiaid, Megis delw Iupiter, Mars, Mercuri a'r cyfryw rai, ac nid i ddelwau Duw, Christ a'i saint. Ond fe a ddangosir allan o air Duw, acymadroddion yr hên ddoctoriaid, a barn yr hên Eglwys gynt, fod yn gwahardd pob delwau cystadl a delwau ac eulynod y cenhedloedd, a'u bod hwy yn anghyfraithlon, yn enwedig mewn eglwysydd a themlau.
Ac yn gyntaf hyn a wrth-attebir allan o air Duw, fod yr Scrythyrau 'n gwahardd yn oleu, ac yn condemnio 'n eglur, ddelwau y Tad, y Mab, a'r Yspryd glan, yn gystadl yn neilltuol: a delwau 'r drindod, y rhai oedd gennym ymmhob Eglwys, megis y mae 'n eglur wrth y lleoedd sydd yn canlyn, Ni Welsoch vn llun yn y dydd y llafarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb o genol Dewt. 4. 15, 16. y tân, onid y llais neu 'r llaferŷdd, rhag ymlygru o honoch a'ch twyllo a gwneuthur o hanoch ddelw gerfiedig, neu lun neu gyffelybrwydd, &c. fal y dangoswyd o'r blaen yn halaeth yn y rhan gyntaf o'r traethawd hwn yn erbyn delwau. Ac am hynny yn yr hên gyfraith yr ydoedd cenol y drugareddfa yr hon a arwiddocai eisteddfaingc Duw, yn wâg heb ddim ynddi, rhag i neb Exod. 25. 29. Esai. 40. 18, 19, 20, &c. gymmeryd achos i wneuthur llun neu gyffelybaeth o hono ef.
Gwedy i Esai osod allan anymgyffred fawrhydi Duw: Mae 'n gofŷn, i bwy am hynny y cyffelybwch Dduw? a pha ddelw a osodwch iddo? a lunia 'r saer gerf-ddelw? a oreura 'r eurych hi, ag aur, ac a dawdd ef gadwyni o arian? ac a ddewis, [Page 79] yr hwn fytho arno eisiau aberth bren heb bydru, a gais ef saer cywraint i baratoi cerf-ddelw, fal y gallo yntef osod rhyw beth i fynydd? Ac ar ol hynny mae fe 'n gwaiddi, O ddynnion blin oni wyddoch, oni chlywch oni fanegwyd i chwi o'r dechreuad, oni ddeallwch seiliad y ddaer? fal trwy fawredd y gwaith y gallent ddeall fod mawrhydi Duw gwneuthurwr a chreawdwr y cwbl oll, yn fwy nag y gallid ei amlygu a'i osod allan mewn delw neu gyffelybaeth gorphorol. Hyd hyn y clywsoch airiau y Prophwyd Esai, yr hwn nid ydyw o'r 44. hyd y 49. yn ymadrodd am ddim amgen haechen. Ac mae S. Pawl yn Actau 'r Apostolion Act. 17. 29. yn dangos yn oleu na ellir gwneuthur cyffelybaeth o Dduw nag mewn aur, nag mewn arian, nag mewn maen, nag mewn defnydd arall.
Wrth y lleoedd hyn a llawer o leoedd eraill o'r Scrythyrau, y mae 'n eglur na ddylid ac na ellir gweuthur i Dduw vn ddelw. O herwydd pa fodd y gellir arwyddocau llun Duw, yr hwn sydd buraf Yspryd, yr hwn ni welodd neb erioed mewn cyffelybaeth gorphorol weledig? Pa fodd y gellir dangos mewn delw fechan fawrhydi a mawredd Duw yr hwn ni ddichon meddwl dyn ei amgyffryd, llai o lawer y gellir ei gynwys a synwyr? Pa fodd y dengŷs delw farw, fud, lun y bywiol Dduw? Pa fodd y dichon delw, yr hon gwedy iddi gwympo ni ddichon gyfodi ailwaith, na chynnorthwyo ei chyfeillion, na drygu ei gelynnion, osod allan y cadarnaf a'r galluoccaf Dduw, yr hwn yn vnic a ddichon obrwyo y sawl a garo, a dinistrio ei elynion yn dragwyddol? Fe a ddichon dyn am hyn waiddi yn gyfiawn gydâ 'r prophwyd Habacuc, Na rydd y cyfryw ddelw ddysc, ac nad Habac. 2. 18, 19. [Page 80] ydyw onid athro celwydd. Am hynny y rhai a wnaethant ddelw i Dduw i'w anrhydeddu, a'i dianrhydeddasant ef yn ddirfawr, ac a leihausant ei fawrhydi ef, a wnaethont gam â'i ogoniant ef, ac a anghywirasant ei wirionedd ef. Ac am hynny y dywaid yr Apostol S. Pawl am y rhai a wnaethant gyffelybaeth neu ddelw i Dduw, megis gwr Marwol mewn llun ar goed, cerrig, neu ryw ddefnydd arall, eu bod yn troi gwirionedd Duw yn gelwydd. O herwydd hwy a dybygasont nad Ruf. 1. 25. oedd y ddelw mwy yr hyn ydoedd hi o'r blaen, hynny yw pren neu garreg, ac a dybiasant ei bod yn beth nad ydoedd, hynny yw yn Dduw, neu yn ddelw Dduw.
Am hyn nid yw delw a wnair i Dduw, yn vnic yn gelwydd ond yn gelwydd dauddyblyg. Ond diafol sydd gelwyddog ac yn dad celwyddau, ac am hyn y delwau celwyddog a wnair i Dduw i'w fawr ddianrhydedd ef, ac enbeidrwydd i'w Ioh. 8. 44. bobl ef, oddiwrth ddiafol y daethant.
Am hynny yr argyoeddir hwy o ffolineb ac annuwioldeb, am eu bod yn gwneuthur delwau i Dduw neu i'r drindod, o herwydd na ddylid ac na ellir gwneuthur llun Duw megis y mae 'n eglur wrth yr Scrythyrau a rheswn da, ie o anghrediniaeth y mae gwneuthur llun neu ddelw yn dyfod, gan dybied nad ydyw Duw yn bresennol, oni chair rhyw arwydd neu ddelw o hono: fal y mae 'n eglur wrth yr Hebraeaid yn yr amalwch, y rhai a wnaent i Aaron wneuthur iddynt dduwiau, y rhai a allent eu gweled yn myned o 'u blaen.
Ond maent yn dadleu gan fod rhyw ddangosiadau a phortreiadau am Dduw, megis yn eistedd [Page 81] a'r orseddfaingc vehel, yn scrifennadau Esaias a Daniel, Paham gan hynny (meddant hwy) na ddichon peintiwr yn yr vn modd osod allan Dduw Dad mewn lliwiau i'w weled megis barnwr yn eistedd a'r ei orseddfaingc, fal yr ydys yn ei bartreio ef yn i Prophwydi, gan nad oes ond ychydig wahaniaeth rhwng Scrythyr neu scrifen a pheintiad?
Yn gyntaf fe a ellir atteb, nad yr vn yw 'r pethau a waharddodd Duw megis peintio lluniau Duw, a'r pethau y mae Duw yn eu goddef megis portreiadau a arfere y Prophwydi ac ni ddylai, ac ni ddichon rheswn dyn er tecced y bo 'n ymddangos ortrechu yn erbyn cyhoeddus air Duw a'i statutau (fal y gellir eu galw hwy.) Hefyd er bod yn yr Scrythyrau ryw bortreiadau o Dduw, etto os darllenwch beth yn eich blaen, y maent yn eu egluro ac yn dadguddio eu hunain, gan ddangos fod Duw yn Yspryd pur anfeidrol anfesuredig, anymgyffryd yr hwn sydd yn cyflawni nef a dayar, a'r cwbl oll ac nid ydyw 'r llun yn cyflawni na nef na dayar, nac yn dangos beth y mae yn ei arwyddocau, ond yn hytrach darffo iddo osod allan Dduw mewn cyffelybaeth gorphorol, mae fe 'n gadel dŷn ar hynny, ac yn ei ddwyn ef yn hawdd i heresi yr Anthropomorphitiaid, ac i feddwl fod gan Dduw draed a dwylo, a'i fod ef yn eistedd megis dŷn, yr hyn pwy bynnac a'i gwnelo, medd S. Awstin yn ei Lyfr De Fide & Symbolo, Cap. 7. Mae fe 'n cwympo yn llwyr gwbl i'r annuwioldeb yr hwn y mae 'r Apostol yn ei ffieiddio yn y rhai a droesant ogoniant Ruf. 1. 23. yr anllygredig Dduw, i gyffelybaeth dyn llygredig.
[Page 82] O herwydd annuwioldeb yw i Gristion osod i fynydd y fath ddelw i Dduw mewn teml, a mwy o annuwioldeb o lawer yw gosod y fath ddelw yn ei galon trwy gredu ynddi. Ond i hyn y maent yn atteb, y gellir wrth y rheswn hwn wneuthur delw Grist, am iddo ef gymeryd cnawd arno, a myned yn ddyn. Da fyddai pa cydnabyddent yn gyntaf iddent wneuthur hyd yn hyn yn drwg, wrth wneuthur a maenteinio delwau Duw Dad, a'r Drindod ymmhob lle, am yr hyn y argyoeddwyd hwy yn gwbl trwy rym gair Duw a rheswn da, ac yno ymddadleu am ddelwau eraill.
Yn awram eu dadl hwy y gellir gwneuthur delw Grist, mae 'r atteb yn hawdd. O blegid yngair Duw a Christionogawl grefydd, ni ofynnir yn vnic a ellir gwneuthur rhyw beth ai na ellir, ond hefyd pa vn a wna ai bod yn gyfraithlon ac yn gyfun â gair Duw ai nad yw. O herwydd fe a ellir gwneuthur ac yr ydys beunydd yn gwneuthur pob annuwioldeb, ac etto ni ddylid ei wneuthur. A geiriau y rhesymmau a osodwyd o'r blaen allan o'r scrythyrau yw, na ddylid ac na ellir gwneuthur delwau Duw. Ac am hynny, nid ydyw ddim amgen ddadleu y gellir gwneuthur lluniau Christ, heb brofi hefyd y dylid eu gwneuthur hwy, ond dywedyd rhyw beth rhag tewi ason, ac er hynny bod heb ddywedyd dim i'r defnydd.
Ac etto mae 'n eglur na ellir gwneuthur i Grist vn ddelw ond delw gelwyddog, megis y geilw 'r Scrythur yn hyspysol ddelwau yn gelwyddau, Ruf. 1. 23. o blegid mae Christ yn Dduw ac yn ddyn, am hynny gan na ellir gwneuthur vn ddelw i Dduw, yr hon yw 'r rhan odidawgaf, ar gain y gelwir hi yn ddelw Grist. Am hynny nid ydyw [Page 83] delw Grist yn vnic yn ddyffygiol ond yn gelwyddog hefyd, ie yn gelwyddau. Yr vn rheswn a wasanautha yn erbyn delwau y saint y rhai ni ellir wrth vn ddelw arwyddocau eu heneidiau, yr hon yw y rhan odidawgaf o hanynt. Am hynny nid ydynt hwy ddelwau y saint y rhai y mae eu heneidiau yn teyrnasu mewn llawenydd gydâ Duw, ond lluniau cyrph y saint, y rhai sydd etto yn pydru yn y beddau.
Hefyd ni ellir gwneuthur yn awr vn ddelw o gorph ein Iachawdwr Christ, o herwydd nas gwyddys yn awr pa lun neu ddiwgad oedd arno ef. Ac hefyd mae yn Grecia ac yn Rufain, ac yn lleoedd eraill, lawer o ddelwan Christ, ac etto heb vn o hanynt yn debyg i'w gilydd, ac etto fe a ddywedir mai bywiol a gwir ddelw Grist yw pob vn o hanynt, yr hyn ni ddichon bod. Am hynny er cynted y gwnelir delw Grist, yr amser hynny y gwnair celwydd o hono ef, yr hyn a waharddir trwy air Duw.
Hyn hefyd sydd wir am ddelwau 'r saint oll, o herwydd ni wyddys pa lun neu ddiwgad oedd ar y saint. Am hynny o herwydd y dylaid seilio crefydd a'r y gwirionedd, ac na ellir gwneuthur delwau heb gelwyddau, ni ddylid gwneuthur delwau na'u gosod i vn arfer o grefydd mewn eglwysydd a themlau, lleoedd a osodwyd yn briodol i wir grefydd a gwasanaeth Duw. A hynny a ddywedwyd ynghylch na ellir gwneuthur vn wir ddelw, nac o Dduw, nac o Grist, nac o'r saint y chwaith, trwy 'r hyn yr argyoeddir hefyd yr hyn a ddywedant hwy, mai llyfrau gwyr llyg yw delwau.
O herwydd eglur yw wrth yr hyn a ddywedwyd, nad ydynt yn dangos nac yn dyscu ini am [Page 84] Dduw, am Grist nac am y saint ond celwydd, ac amryfysedd. Am hynny naill au nid ydynt hwy lyfrau, neu os llyfrau ydynt, llyfran geu celwyddog ydynt, a dyscawdwyr pob cyfeiliorn.
Yn awr pe byddid yn addef neu yn canniatau, y gellid gwneuthur delw Grist yn gywir, etto mae 'n angyfraithlon i gwneuthur hi neu wneuthur delw vn o'r saint, yn enwedig i'w gosod mewn temlau neu eglwyfydd, i fawr ac i anwacheladwy enbeidrwydd delwaddoliad, fal y prosir ar ol hyn.
Ac yn gyntaf o blegid delw Grist, pe medrid ei gwneuthur hi yn gywir, etto fod yn anghyfraithlon ei gosod hi yngyhoedd mewn eglwysydd, mae lle godidawg yn Ireneus yr hwn a argyoeddodd yr Hereticciaid a elwid Gnostici, am eu bod yn dwyn gyd â hwynt ddelw Grist, yr hon a wnelfid yn gywir yn ol ei wedd a'i wynepryd ef ei hun, yn amser Pilat (fal y dywedent hwy) ac am hynny a ddyleid gwneuthur mwy cyfrif o honi nag o'r delwau celwyddog oedd yn ein myse ni iddo. Ac fe arferau 'r Gnostici hynny osod coronau ar ben y Li. 1. c. 4. ddelw honno, er mwyn dangos eu cariad iddi.
Ond i fyned at air Duw: onid ydyw adolwg, airiau 'r Scrythyr yn oleu, Gwachell rhag dy dwyllo gan wneuthur iti dy hun (hynny yw tu ag at grefydd) vn ddelw gerfiedig, na llun dim, &c. A melltigedig yw yr hwn a wnelo ddelw gerfiedig, Leuit. 26. 1. Deut. 4. 8. Deut. 27. 15. neu ddelw doddedig, sef ffiaidd-beth i'r Arglwydd, &c. Ac onid cyffelyb yw 'n delwau ni? Onid ydyw ein delwau ni i Grist ac i'r saint gwedy eu cerfo neu eu toddi? onid ydynt gyffelybaeth gwyr neu wragedd? mae 'n dda na chanlynasom ni y cenhedloedd a gwneuthur delwau anifeiliaid, pyscod a phryfed. Ac etto fe a ddygwyd [Page 85] llun ceffyl a delw 'r assen y marchogodd Christ ar ni i'r eglwysydd ac i'r temlau, mewn llawer lle.
Ac onid ydyw hyn a scrifennir ynnechreuad sancteiddiaf gyfraith yr Arglwydd, ac a ddarllenir i chwi beunydd yn eglur ddigō, na wna lun dim ac y sydd yn y nef vchod, nac yn y ddaear isod, nac yn y dwfr dan y ddaear. A allasid gwahardd neu ddywedyd dim mwy nâ hyn, nac am y rhywiau delwau, y rhai sydd naill ai gwedy eu cerfio, ai gwedy eu toddi, ai mewn vn modd arall yn gyffelybiaethau? neu am y pethau y gwaharddir gwneuthur delwau o honynt? Onid ydyw pop peth ac y sydd, naill ai yn y nef, ai yn y ddaear, ai yn y dwfr dan y ddayar? Ac onid ydyw delwau Grist a'i saint yn lluniau, naill ai pethau yn y nef, ai yn y ddayar, ai yn y dwfr? Os arhosant yn yr atteb aeth o'r blaen, fod y gwaharddiadau hyn yn perthyn at eulynod y Paganiaid, ac nid at ein delwau ni, fe argyoeddwyd yr atteb hynny eisoes ynghylch delw Dduw a'r Drindod yn halaeth, ac ynghylch delw Ghrist hefyd gan Irencus.
Ac mae 'n amlwg ym-mhellach wrth farn yr hên brif-Eglwys gynt fod yn rhaid deall cyfraith Dduw yn erbyn pob delwau mewn temlau ac Eglwysydd, ie yn erbyn delwau Christ a'i saint. Ac Awg. li. 4. c. 3. de ciuitate Dei. Idem In Psal. 36. & 113. fe farnodd Epiphanius wrth dorri 'r lliain peintiedig yn yr hwn yr ydoedd llun Christ, neu ryw sant, gan ddywedyd fod yn erbyn ein crefydd ni oddef yn y deml neu 'r Eglwys y fath ddelw (fal y dangoswyd o'r blaen yn halaeth) na waharddodd gair Duw a'n crefydd ni eulynod y cenhloededd yn vnic, ond delw Ghrist a'i saint hefyd.
Ac mae Lactantius gan ddy wedyd fod yn siccr na ddichon bod gwir grefydd lle bytho llun neu ddelw [Page 86] (fal y manegwyd o'r blaen) yn barnu, fod yn gwahardd pob delwau a llunniau yn gystadl ac eulynod y cenhedloedd, ac oni bai hynny ni buasai fe 'n dywedyd ac yn cyhoeddi amdanynt mor gyffredinol. Ac mae S. Austin, fal y dywedais, yn canmol Marcus Varro am iddo ddywedyd fod crefydd yn buraf oll hêb ddelwau. Ac mae fe 'n dywedyd ei hun fod mwy o rym mewn delwau i wŷr-droi enaid annedwydd, nac i'w ddyscu a'i gyfarwyddo. Ac mae 'n dywedyd ym-mhellach y gŵyr pob plentyn, ie a phob anifail, nad Duw yw 'r hwn y mae fe yn ei weled. Paham, medd ef, gan hynny y mae 'r Yspryd glân yn ein rhybyddio ni mor fynych am yr hyn y mae pawb yn ei wybod? I hynny y mae S. Awstin yn atteb fal hyn, O herwydd, medd ef, pan osodir delwau mewn temlau, ac mewn vwchder anrhydeddus, a phan dechrauer vnwaith eu haddoli hwy: yno, yn y man y megir gwyniau enbaid Camsynnaeth cyfeiliorn.
Dymma farn S. Awstin am ddelwau mewn eglwysydd, eu bod hwy yn y man yn magu camsynniaeth a delwaddoliad. Mae 'r holl Ymmerodron Christionogaidd, yr Escobion dyscedig a holl wyr dyscedig Asia, a Grecia, ac Spaen, gwedy ymgynnull mewn Cynghorau ynghostantinopol, ac Hispaen, er ys saithcant ac er ys wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg, gan gondemnio a dinistrio holl ddelwau Christ a 'i saint a osodase y Christionogion i fynydd, yn tystiolaethu eu bod hwy yn deall fod gair Duw yn gwahardd ein delwau ni, cystadl ac eulynod y cenhedloedd.
Ac fal yr scrifennir yn llyfr y doethineb 14. nad oedd delwau o'r dechrauad, ac na pharhânt hwy Doeth. 14. hyd y diwedd: felly nid oedd ddelwau yn y dechreauad [Page 87] yn yr hên brif-eglwys gynt, a Duw a ganiatao allu eu dinistr hwy yn y diwedd. O herwydd yr oeddid yn achwyn ac yn cwyno yn fawr ar yr Orig contr. Cellum. Arnob. lib. 4. & 8. Cypri. contra Demearium. hên Gristionogion o'r brif-Eglwys gynt, nad oedd ganthynt na delwau nac allorau, megis y tystiolae tha Origen, Cyprian ac Arnobius.
Paham am hynny meddwch chwi nad oeddynt hwy yn cytuno â 'r cenhedloedd am wneuthur delwau, ond o eisiau delwau goddef eu digofaint hwy, pe buasent hwy yn tybied fod yn gyfraithlon wrth air Duw gadw delwau? Mae 'n eglur gan hynny eu bod hwy yn tybied fod pob ryw ddelwau yn anghyfraithlon yn eglwys neu deml Dduw, ac am hynny nad oedd ganthynt hwy vn ddelw, er bod y cenhedloedd yn anfodlon iawn iddynt am hynny, gan ganlyn y rheol hon, Rhaid yw bodloni Duw yn fwy na dynnion.
Ac mae Zephirus, yn ei nodau ar ymddiffynniad Act. 5. 29. Tertulian, yn cynull mai oer a fuasai ei holl annogaethau difrifol ef, oni byddai ein bod ni yn gwybod hyn dros y cwbl oll, fod Christionogiō yn ei amser ef yn cashau delwau, a'u hardd-drwsiad yn fwyaf dynnion yn y byd. Ac mae Irenęus fal y clywsoch chwi yn ceryddu yr Hereticciaid a elwid Gnostici, am eu bod yn dwyn delwau Christ gydâ hwy. Ac am hyn nid oedd gan yr hên brif-Eglwys gynt (yr hon yn enwedig a ddylid ei chanlyn megis yr ânllygrediccaf, a'r buraf oll) nac eulynod y cenhedloedd, na dim delwau eraill, am fod gair Duw yn eu gwahardd hwy yn hollol. Ac fal hyn y dangoswyd trwy air Duw, ymadroddion yr hên a thrawon, a barn y brif-Eglwys yr hon oedd buraf a dilygraf oll, fod pob delwau cystadl ein delwau ni, ac eulynod y cenhedloedd yn waharddedig [Page 88] trwy air Duw, ac am hynny yn anghyfraithlon, ac yn enwedig mewn eglwysydd a themlau.
Bellach os ciliant, yn ol eu harfer, at yr atteb hwn, nad ydyw gair Duw yn gwahardd yn hollol wneuthur pob delwau, ond yn gwahardd eu gwneuthur i'w addoli, ac am hynny y dichon fod gennym ddelwau, trwy na addolom hwy, o herwydd nad ydynt onid megis pethau didddrwg didda, y rhai a ellir eu harfer yn ddaionus, neu yn ddrygionus. Yr hyn ond odid oedd barn Damascen Damase. lib. 4. de orthodox fide. cap. 17. Greg. epist. ad Serenum Massil. a Gregori y cyntaf, fal y dywedwyd o'r blaen. A dymma vn o 'u hymddiffynniadau gorau hwy am faenteinio delwau, ac a roesant drostynt er yn amser Gregori y cyntaf.
Difai yr ydym gwedy dyfod at eu hail ymddiffyn hwy, yr hon o ran ni byddai fawr waeth gennym er ei chaniatai, o herwydd nid ydym ni nac mor goelfucheddol nac mor gyndyn ac y cashaom flodau a weithier mewn carpedau, ac mewn brethynnau, ac mewn arras, neu luniau tywysogion gwedy eu printio a'u hargraffu ar eu harian bath, yr hyn pan welodd Christ yn arian - fath Rhufein, nid ydym yn darllen iddo feio arni. Ac nid ydym yn condemnio celfyddydau peintio, a gwneuthuriad delwau megis pethau annuwiol o hanynt eu hunain: ond ni a allem gyfaddef achaniatau iddynt y gellir goddef delwau y rhai nid arferir mewn crefydd, neu yn hytrach mewn ofergoel, y rhai nid addolir, ac nid oes tybygaeth neu enbeidrwydd yr addolir hwy. Ond nid possibl allel gosod delwau 'n gyhoedd mewn temlau heb enbeidrwydd eu haddoli, am hynny ni ddylid eu goddef yn gyhoedd mewn temlau neu eglwysydd.
[Page 89] Ac am hynny nid oedd gan yr Iddewon, i'r rhai y rhoddwyd y gyfraith hon gyntaf, yr hon, am nad oedd yn gyfraith cermonial, onid moesawl, sydd yn ein rhwymo ni cystadl a hwyntau, fal y mae 'r holl ddoctoriaid yn ei deongl hi; Nid oedd gan yr Iddewon, meddaf, gan y rhai y dylyai fod gwir ystyr a meddwl cyfraith Dduw, yr hon a roddwyd iddynt mor briodol, yn y dechrauad ddim delwau yn eu temlau yn gyhoedd, megis y dywed Origenes a Iosephus yn halaeth. Ac yn ol adferaeth y deml ni chytunent hwy mewn modd yn y byd â Herod, Pilat na Petronius i osod yn vnic ddelwau Orig. contra Cels. lib. 4. Ios. ant. li. 17. cap 8. lib. 18. c. 5. lib. 18. 15. yn y deml yn Ierusalem, er nad oeddid yn ceisio ganthynt eu haddoli hwy. Ond hwy a gynnigent eu hunain yn gynt i angau nag y cyfunent vnwaith ar osod delwau ynnheml Dduw, ac ni oddefent vn gwneuthurwr delwau yn eu plith. Ac mae Origen yn rhoi y rheswn hwn yn y chwaneg, rhag tynnu eu meddyliau hwy oddiwrth Dduw i Hylldremmu. lygadrythu ar bethau dayarol.
Ac yr ydys yn eu canmol hwy yn fawr am eu zêl ddifrifol i faenteinio gwir anrhydedd Duw a'i wir grefydd. A gwiryw naddaw na 'r Iddewon na 'r Twrciaid (y rhai agashânt ddelwau megis pethau gwedy eu gwahardd yn iniawn wrth air Duw) byth i wirionedd ein crefydd ni, yr hyd ybo main trangwydd delwau yn aros yn ein mysc ni, ac ar eu ffordd hwy.
Os gosodant yn ein herbyn y sarph bres, yr hon y osododd Moses i fynydd, a delwau 'r cherubiaid, neu ddelwau eraill oedd gan yr Iddewon yn eu teml, mae 'r atteb yn hawdd ddigon. Rhaid ini mewn crefydd vfyddhau i gyffredinol gyfraith Dduw, yr hon sydd yn rhwymo pawb, ac nid canlyn [Page 90] siamplau neilltuol ganadiad, y rhai nid ydynt ymddiffyn ini. Os amgen ni a allem wrth yr vn rheswm dderbyn ailwaith yr enwaediad, aberthau anifeiliaid, a deddfau eraill a oddeswyd i'r Iddewon. Ac ni all delwau y Caerubiaid y rhai a osodid mewn lle dirgel, lle na allai neb ddyfod attynt, na'i gweled, fod yn siampl ini i ossod delwau i fynydd yn gyhoedd mewn Temlau ac Eglwysydd. Ond i adel yr Iddewon heibio. Lle y dywedant y gellir goddef delwau mewn eglwysydd a themlau, megis pethau diddrwg didda, trwy na addoler hwynt. O'r gwrthwyneb yr ydym ninnau yn dywedyd nad ydyw delwau Duw, ein Iachawdwr Christ a'r Saint, y rhai a osodir i fynydd, yn gyhoedd yn ein Temlau a'n Eglwysydd ni, y rhai ydynt leoedd gwedy eu hordeinio i wasanaethu Duw, nac yn bethau diddrwg di dda, nac yn bethau a ellid eu goddef, ond pethau yn erbyn cyfraith a gorchymmyn Duw, yn ol y cyfiaithiad hefyd y maent hwy eu hunain yn eu wneuthur.
Yn gyntaf fe addolwyd yr holl ddelwau a osodwyd i fynydd yn gyhoedd gan y rhai gwirion annyscedig yn y man a 'r ol eu gosod hwy i fynydd, ac mewn ychydig ennyd ar ol hynny, gan y rhai doeth a'r rhai dyscedig hefyd.
Yn ail, am fod yn eu haddoli hwy mewn llawer o leoedd yn ein hamser ni.
Yn drydedd am fod yn ammhossibl goddef delwau Duw a Christ a'i saint yn enwedig mewn eglwysi, dros vn ennyd, heb eu haddoli hwy, ac na ellir gochelyd nac ymgadw rhag delwaddoliad (yr hwn sydd ffieiddiaf peth ac a ddichon bod ger bron Duw) heb ddinistr a distriwio delwau, a [Page 91] lluniau mewn temlau ac eglysydd. O herwydd bod delwaddoliad i ddelwau, yn enwedig mewn temlau ac eglwysydd, yn gyssylltyn diwahanedig (fal y dywedant) megis y mae delwau mewn eglwysydd a delwaddoliad yn mynd ynghŷd, ac am hynny ni ellir ymgadw rhag y naill, oni ddinistrir y llall, yn enwedig mewn lleoedd cyhoedd. Ac am hynny gwneuthuriad delwau yn enwedig i'w gosod mewn temlau ac eglwysydd, y lleoedd a nailltuwyd yn briodol i wasanaeth Duw, nid yw ddim amgen nâ 'u gwneuthur i arfer crefydd ac nid yw yn vnic yn erbyn y gorchymmyn hwn, Na wna vn rhyw ddelw, onid hefyd yn erbyn hwn, na ostwng iddynt ac na addola hwynt. O herwydd gwedy eu gosod i fynydd hwy a addolwyd a addolir yn awr, ac ar ol hyn hefyd.
Ac ymma y profir yn gwbl ac yn gyflawn y peth a Ysonnwyd am dano. grybwyllwyd yn-nechrau y traethawd hwn, hynny yw mai 'r vn fath bethau yw ein delwau ni ac eulynod y cenhedloedd, cystadl yn y pethau eu hunain ac yn hyn hefyd, am fod o'r blaen ynarfer, yr arferir yn awr, ie ac byth, o addoli ein delwau ni, yn yr vn agwedd ac yr addolwyd eulynod y cenhedloedd, yr hyd y goddefir hwy mewn temlau ac eglwysydd. O hyn y canlyn nad ydyw ein delwau ni, na buont er ioed, ac na byddant byth, onid eulynod ffiaidd: ac am hynny nid pethau diddrwg didda ydynt. Aphob vn o'r pethau hyn a brofir mewn trefn, megis y canlyn ar ol hyn.
Ac yn gyntaf mai yr vn fath bethau yw ein delwau ni, ac eulynod y cenhedloedd o hanynt eu hunain, mae 'n eglur ddigon, gan mai aur, arian neu ryw fettel arall, cerrig, coed, clai neu bridd yw defnydd ein delwau ni, megis yr oedd defnydd [Page 92] eulynod y cenhedloedd, ac felly gwedy eu toddi, neu eu bwrw, neu eu cerfio, neu eu naddu, neu eu llunio a'u ffurfio mewn rhyw ffordd arall, yn ol llun neu gyffelybiaeth gŵr neu wraig, Nid ydynt onid meirwon a mudion, gwaith dwylo dyn, a geneuau iddynt ac heb ddywedyd, llygaid ac heb weled, dwylo ac heb deimlo, traed ac heb gerdded: ac felly cystadl mewn defnydd ac mewn llun maent yn gyffelyb yn hollol i eulynod y cenhenloedd, yn gymmaint a bod yr holl enwau a roddir i'r eulynod yn yr Scrythyrau, yn wir yn ein delwau ni. Ac am hynny nid oes ammau na chwymp y melldithion a gynhwysir yn yr Scrythyrau, ar wneuthur-wyr ac addolwyr pob vn o honynt.
Yn ail y profir fod yn eu addoli hwy yn ein hamser ni, yn yr vn modd ac agwedd, ac yr addolid eulynod y cenhedloedd gynt. Ac o herwydd bod delw-addoliad yn sefyll yn bennaf yn y meddwl, fe a brofir mai 'r vn fath dŷb a barn a fu, ac y sydd gan ymddiffynwyr delwau yn ein hamser ni, am y saint y rhai y maent yn gwneuthur ac yn addoli eu delwau, ac oedd gan yr hên genhedloedd am eu duwiau. Ac ar ol hynny y dangosir fod amddiffynwyr ac addolwyr delwau yn ein plith ni, yn arfer gynt ac etto, yr vn deddfau ac arferon o anrhydeddu ac addoli delwau, ac a arferai y cenhedloedd ger bron eu heulynod. Ac am hynny eu bod hwy yn gwneuthur delw-addoliad cystadl oddifewn, ac oddiallan, fal yr oedd y cenhedloedd yr annuwiol ddelwaddolwyr hynny.
Ac ynghylch y rhan gyntaf am dŷb ddelw-addolaidd ein amddiffynwyr delwau ni, Pa beth adolwg ydyw y fath saintiau yn ein plith ni, i'r rhai yr ydym yn rhoddi ymdiffynniad rhyw wledydd, [Page 93] gan yspeilio Duw o'i anrhydedd, onid Dij tutelares, gwarchad-dduwiau y cenhedloedd delw-addolaidd? Cyfryw ac ydoedd Belus i'r Babiloniaid a'r Assyriaid, Osiris ac Isis i'r Aiphtiaid, Vulcan i'r Lemniaid, ac eraill o'r fath hynny. Pa beth ydyw y Saint i'r rhai yr appoyntir cad wedigaeth rhyw ddinassoedd, onid Dij pręsides, Goruwchdduwiau. rhag-dduwiau y delwaddolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydoedd Apollo yn Delphos, Minerua yn Athen, Iuno yn Carthag, yn Rufain Quirinus? Pa beth yw 'r saint i'r rhai yn wrthwyneb i arfer y brif-eglwys gynt, yr adailadir Temlau ac Eglwysydd, ac y cyfodir allorau, onid Dij Patroni, Diffryd. differ-dduwiau y delw-addolaidd Genhedloedd? Cyfryw ac ydoedd Iupiter yn y Capitol, Venus yn-nheml Paphus, Diana yn-nheml Ephesus, a'r cyffelyb.
Och, ôch, fe dybygid wrth ein tŷb ni a'n gweithred, na ddyscasom ni yn crefydd o air Duw ond oddiwrth feirdd y Paganiaid, y rhai a ddywedant, Excessere omnes adytis arisque relictis, Dij quibus imperium hoc steterat, &c. y duwiau a gadwent ein teyrnas a ddifannasant, hwy a adawsont y Temlau, ac a wrthodasont yr allorau.
Ac lle mae i vn sant lawer o ddelwau mewn llawer o leoedd, mae i'r sant hwnnw lawer o enwau, yn dybyccaf ac y ddichon bod i'r cenhedloedd. Pan glywoch son am fair o Walsingam, Mair o Ipswich, Mair o Wilsdon, Mair o ben Rhys, Mair o Fargam a'r fath leoedd, pa beth yw hyn onid dynwared y Cenhedloedd delw-addolaidd? Diana Aegrotera, Diana Coryphoea, Diana Ephesia, & Venus Cypria, Venus Paphia, Venus Gnidia. Trwy 'r hyn y meddyliant yn eglur fod i'r saint er mwyn y delwau drigfae yn y lleoedd hynny, ie [Page 94] yn y delwau eu hunain, yr hyn yw gwreiddyn eu delw-addoliad hwy. O herwydd lle nad oes delwau nid oes iddynt y fath gyfryngau.
Mae Terentius Varro 'n dangos fod trychant o Iupiterau yn ei amfer ef, ac nid anamlach oedd Venus a Diana. Ac nid oedd gennym ninnau lai o rifedi o Gristophorau, arglwyddesau Mair, a Mair Fagdalen, a saint eraill. Mae Oenomaus a Hesiodus yn manegi fod yn eu hamser hwy ddegmil ar vgain o dduwiau. Yr ydwyf yn tybied nad oedd llai o saint gennym ninnau, i'r rhai y rhoddwyd yr anrhydedd a ddylai Dduw ei gael. Ac nid yspeiliasant yn vnic y gwir fywiol Dduw o'i anrhydedd dyledus mewn Temlau, dinasoedd, gwledydd a thiroedd, trwy 'r fath ddychymm ygion ac y gwnaeth y delw-addolaidd Genhedloedd hynny yn y blaen: ond mae ganthynt saint nailltuol hefyd i'r mor a'r dyfroedd, megis yr oedd gan y cenhedloedd dduwiau i'r mor ac i'r dyfroedd. Megis Neptun, Triton, Nereus, Castor, Pollux, Venus, a'r fath hynny, yn lle y rhai y daeth S. Chrysostom, S. Clement, a llawer eraill, ond yn enwedig yr Arglwyddes fair, i'r hon y cân y llongwyr Aue maris stella, hanphych-well seren y mor. Ac ni ddiangodd y tân hefyd rhag eu dychmygion delw-addolaidd hwy, o blegid yn lle Vulcan a Vesta duwiau 'r tân ym-mhlith y cenhedloedd, fe a osododd ein gwyr ni S. Agatha, ac y maent yn gwneuthur Llythyrennau. llythyrau ar ei dydd gwyl hi i ddiffod tân â hwy. Mae gan bob celfyddyd a chan bob galwedigaeth ei sant enwedigawl, megis Duw priodol. Mae gan Yscolheigion S. Nicholas, a S. Gregori, a chan beintwyr S. Luc, Ac nid oes ar filwyr ddiffyg eu Mars, nac ar gariadon eu Venus [Page 95] ym-mhlith Christionogion. Mae sant neilltuol i bob clefyd, megis duwiau i'w iachau hwy. S. Roch a S. Anthoni i'r frech fawr. I'r Y clwyf digwydd. gloesion S. Cornelius, ac ir ddannwydd S. Apolin, &c. Ac nid oes ar anifeiliaid eisiau duwiau gydâ ni, S. Loe yn cadw 'r ceffylau, S. Anthoni yw bugail y moch, &c. A pha le y mae rhagluniaeth Duw a'u anrhydedd yn hynny o amser? Yr hwn a ddywaid mi piau 'r nefoedd, mi piau 'r ddayar, yr holl fyd a chymmaint oll ac sydd ynddo, myfi sydd yn-rhoddi goruwchafiaeth ac yn gorescyn, o hanofi y mae cyngor a chynhorthwy, &c. oni byddafi yn cadw 'r ddinas, ofer y mae y gwilwyr yn ei chadw hi, yr Arglwydd a geidw ddŷn ac anifail. Ond ni adawsom ni iddo na nef na dayar na dwfr, na glwad, na dinas, na heddwch na rhyfel i'w rheoli, a'u llywodraethu, na dynnion nac anifeiliaid na chlefydon i'w iachau, fal y gallai wr duwiol weiddi mewn llid a zêl, Oh nef, dayar a moroedd, i ba ynfydrwydd ac annuwioldeb yn erbyn Duw y cwympodd dynion? Pa ddiystyrwch y mae 'r creaduriaid yn ei wneuthur i'w creawdwr, a'u gwneuthurwr. Ac os weithiau y cofiwn Dduw, etto am ein bod ni yn ammau naill ai ei allu ef, ai ei ewyllys i gynorthwyo, yr ydym yn cyssylltu ag ef ryw gynorthwywr arall, megis pe byddai yn Nomen adiectiuum. Enw gwan: gan arfer y gairiau hyn, Y rhai ydynt yn dechreu dyscu a ddywedant, Duw a S. Nicholas fytho cynorthwywr imi: wrth yr vn a fytho yn Distrewi. tisio. entrewi y dywedir Duw a saint Ioan: wrth geffyl, Duw a S. Loy a'th gadwo di. Fal hyn yr ydym ni gwedy myned fal ceffyl a mul, yn y rhai nid oes dim deall: O blegid nid oes vn Duw onid vn yn vnic, yr hwn trwy ei allu a'i [Page 96] ddoethineb awnaeth bob peth, a thrwy ei rag-luniaeth sydd yn eu llywodraethu hwy, a thrwy ei ddaioni yn eu maenteinio ac yn eu cadw hwy. Onid ydyw pob peth yntho ef, o hano ef, a thrwyddo ef? Paham yr ydwyd yn troi oddiwrth y creawdwr at y creaduriaid? Arfer y cenhedloedd a'r delwaddolwyr yw hyn. Ond Christion ydwyti, ac am hynny trwy Grist yn vnic y mae iti ddyfodiad at Dduw Dâd, a chynorthwy gantho fe yn vnic.
Nid ydys yn scrifennu hyn er gwradwydd i'r saint eu hunain, y rhai oeddynt wir wasanaethwyr Duw, ac a roesant bob anrhydedd iddo ef, heb gymmeryd dim anrhydedd iddynt eu hunain, y rhai hefyd ydynt eneidiau bendigedig gyd â Duw: Ond yn erbyn ein ffolineb a'n annuwiolder ni, am ein bod yn gwneuthur o weision cywir Duw, gaudduwiau, gan roddi iddynt hwy allu Duw, a'r anrhydedd sydd ddyledus iddo ef yn vnig. Ac am fod gennym y fath dŷb am allu a pharodol gynnorthwy y saint, mae 'n holl Legendę, hymnau, canlyniadau a'n offerennau ni yn cynwys yndynt eu historiau, eu canmolau a'u clod hwy a gweddiau arnynt, ie a phregethau hefyd am danynt, ac yn cynnwys eu clod hwy 'n hollol, gan osod gair Duw heibio yn llwyr. A hynny yr ydym ni yn ei wneuthur yn gwbl i'r saint yn gyffelyb ac y gwnai y cenhedloedd delw-addolaidd i'w gaudduwiau.
O blegid y fath opinionau y rhai oedd gan ddynnion am ddynnion marwol, er mor sanctaidd oeddynt, yr scrifennodd yr hên dadau Christianogaidd yn erbyn gaudduwiau y cenhedloedd: ac fe a ddinistrodd tywysogion Christionogawl [Page 97] eu delwau hwy, y rhai pe byddent byw yn awr a scrifennent yn ddiddau yn erbyn ein gauopinionau ni am y saint, ac a ddinistrent eu delwau hwy hefyd. O herwydd eglur yw fod gan ein hamddiffynwyr delwau ni yr vn dŷb am y saint, ac oedd gan y cenhedloedd gynt am eu gaudduwiau, a hynny sydd yn peri iddynt hwy wneuthur delwau iddynt, megis y gwnai y cenhedloedd i'w duwiau. Os dywedant nad ydynt yn gwneuthur saint ond yn gyfryngwyr at Dduw, ac megis yn ddadleuwyr drostynt am y pethau y maent yn ei geisio gan Dduw. Mae hynny yn inion yn ol arfer delwaddolwyr y cenhedloedd, yn eu gwneuthur hwynt o saint yn dduwiau y rhai a elwir Dij medioximi, i fod yn gyfryngwyr ac yn ddadleuwyr, ac yn gynorthwywyr i Dduw, megis pe byddai fe heb glywed, neu rhag ei ddyffygio ef wrth wneuthur pob peth ei hunan. Felly y dyscai y cenhedloedd fod vn gallu goruwchaf yr hwn a weithiau trwy eraill megis cyfryngwyr, ac felly y gwnaent yr holl dduŵiau yn ddarostyngedig i'r dynghedfen: megis y mae Lucian yn dywedyd yn ei ymddiddanion, fod Neptun yn eiriol ar Mercuri gael o hono chwedlaua â Iupiter. Ac am hynny Yn hyn hefyd mae 'n eglur iawn fod ein ymddiffynwyr delwau ni yn vn mewn opinionau a delw-addolwyr y cenhedloedd.
Mae yn ol yn y drydedd ran, fod yr vn fath ceremoniau a defodau ganthynt hwy, wrth addoli ac anrhydeddu delwau eu saint, ac y arfer delw-addolwyr y cenhedloedd wrth anrhydeddu eu heulynod.
Yn gyntaf beth a feddylir wrth fod Christionogion yn ol siampl y cenhedloedd delw-addolwyr, [Page 98] yn mynd i bererindodau i ymweled â delwau, a hwyntau â'r cyffelyb ganthynt gartref, ond am eu bod yn tybied fod mwy o sancteiddrwydd mewn rhai o'r delwau, nag mewn eraill, yn y modd yr ydoedd y delw-addolaidd genhedloedd yn tybied: yr hon yw 'r ffordd nesaf i'w dwyn hwy i ddelw-addoliad, wrth eu haddoli hwy, a hynny yn iniawn yn erbyn gair Duw, yr hwn a ddywaid, Amos 5. 4, 5. Ceisiwch fi a byw fyddwch, ac nac ymgeisiwch a Bethel, ac nag ewch i Gilgal, ac na thramwywch i Beerseba.
Ac yn erbyn y rhai oedd ac ofergoel ganthynt mewn sancteiddrwydd y lle, megis pe clywid hwy yn gynt er mwyn y lle, gan ddywedyd, Yr oedd ein tadau 'n addoli ar y mynydd hwn, ac meddwch chwithau yn Ierusalem y mae y lle y dylaid addoli. Fe a gyhoeddodd ein Iachawdwr Christ, Cred fi fod yr awr yn dyfod y pryd nad Ioan. 4. 21, 13. addolwch y Tad yn y mynydd hwn, nac yn Ierusalem, ond y gwir addolwyr a'i addolant y Tad mewn Yspryd a gwirionedd. Ond yr ydys yn gwybod yn rhy dda fod wrth y fath bererindodau yn addoli yn fwy Arglwyddes Venus, a'i Mâb Cupid, yn bechadurus yn y cnawd: nag yr addolid y Tad a'n Iachawdwr Iesu Grist yn yr Yspryd.
A chymhessur iawn oedd (fal y dywaid Saint Pawl) i'r rhai a gwympasent i ddelw-addoliad yr hyn oedd odineb ysprydol, gwympo hefyd i Ruf. 1. 26. oddineb cnawdol a phob aflendid, trwy iniawn farn Duw, yn eu rhoi hwy i fynydd i wyniau gwarthus.
Pa beth a feddylir wrthweled Christionogion yn bennoethion ger bron delwau yn ol arfer delw-addolwyr [Page 99] y cenhedloedd? y rhai pe byddai ynddynt na synwyr na diolchgarwch a benlinient ger bron dynion, saeri, Go faint. gofion, Saermaen. maeswnnaid, toddwyr, ac eurychod eu gwneuthurwyr a'u llunwyr hwy: trwy waith y rhai y cawsont hwy yr anrhydedd hwy: y rhai oni buasai hynny y fuasent yn glampiau bryntion, anweddaidd o glai, neu bridd, neu yn ddrylliau o goed, cerrig, neu fettel, heb na llun na diwgad, ac felly heb na chymheriad nac anrhydedd: Megis y mae 'r eulyn hynny yn cyffessu ynghaniaid y bardd Paganaidd gan ddywedyd. Vnwaith yr oeddwn yn Horotius. bren dibris ac fe a'm gwnaethpwyd yn awr yn Dduw.
Pa ynfydrwydd yw i ddyn yr hwn y mae rheswn a bywyd, ymostwng i ddelw farw ddisynwyr, gwaith ei ddwylo ei hun? onid yw yr ymgrymmiad Gene. 23. 7. a'r 33. 3. a'r penliniad hwn yn addoliad, yr hwn a waharddir mor ddifrif trwy air Duw. Gwybydded a chydnabydded y rhai a gwympant ger 1. Bren. 1. 16. bron delwau 'r saint, eu bod hwy yn rhoddi i gyffion a cherrig meirwon yr anrhydedd ni fynne y saint eu hunain, Petr, Pawl a Barnabas, ei roi iddynt eu hunain, pan oeddynt fyw: a'r hwn y Act. 10. 25. Act. 14. 1. 4. Gwel Ioan. 19. 10▪ mae Angel Duw yn ei wahardd ei roddi iddo.
Ac os dywedant nad ydynt yn rhoddi yr anrhydedd hynny i'r ddelw, ond i'r sant, yr hwn y mae hi yn ei ar wyddoccau, fe a ellir eu argyoeddi hwy o ffolineb, am gredu eu bod yn bodloni 'r saint â'r anrhydedd hwnnw, yr hwn a gashant hwy megis yspail o anrhydedd Duw. O herwidd nid ydynt hwy yn anwadal, ond yn awr gan fod ganthynt fwy o ddeall a gwresoccach gariad tuag at Dduw, mae 'n gassach ganthynt ddwyn dyledus anrhydedd [Page 100] Duw oddiarno: ac yn awr pan ydynt megis angylion Duw, maent gyd ag angylion Duw 'n gwachelyd cymeryd iddynt eu hunain trwy gyssegrledrad, yr anrhydedd sydd ddyledus i Dduw.
Ac ymma hefyd yr argyoeddir eu hanwireddus gyfrannad hwy o anrhydedd i Latria a Dulia, lle y mae yn eglur na all saint Duw oddef rhoddi na chynnyg iddynt gymmaint ac addoliad oddiallan. Ond mae Sathan gelyn Duw, gan drachwantu lledratta anrhydedd Duw oddiarno, yn chwenychu yn fawr gael yr anrhydedd hwnnw iddo ei hun. Am hynny nid ydyw y rhai a roddant i'r creadur yr anrhydedd sydd ddyledus i'r creawdwr, yn gwneuthur gwasanaeth cymmeradwy gan neb o'r saint, y rhai ydynt anwylion Duw; ond i Sathan gelyn tynghedig Marwol Duw a dŷn. Ac nid yw Haeru. honni a'r y saint eu bod hwy yn chwenych y fath dduwiol anrhydedd ddim amgen ond eu cyffeithio hwy â'r gwarth a'r gwaradwydd casaf a diawleiddiaf ac a ddichon bod: ac yn lle saint gwneuthur o honynt ddiawliaid a chythraulaid, cynheddfau y rhai yw ymarddel eu hunain a'r anrhydedd sydd ddyledus i Dduw yn vnic. Ac hefyd lle maent yn dywedyd nad ydynt yn addoli y delwau, megis yr addole y cenhedloedd eu heulynod, onid Duw a'i saint y rhai y mae y delwau yn eu harwyddoccau, ac am hynny nad ydyw eu gorchwylion hwy ym-mlaen y delwau, yn gyffelyb i eulyn-addoliad y cenhedloedd ger bron eu heulynod, Mae S. Awstin, Lactantius a Chlemens yn prosi yn eglur eu bod hwy wrth yr atteb hwn yn vn yn hollol ac eulyn-addol wyr y cenhedloedd.
Mae 'r cenhedloedd a fynnant fod o'r grefydd [Page 101] buraf, medd S. Awstyn, yn dywedyd, nid ydym ni Awgust. in Psal. 135. yn addoli 'r delwau, ond wrth y ddelw gorphorol yr ydym yn edrych ar arwyddion y pethau a ddlyem ni eu haddoli. Ac mae Lactantius yn dywedyd, Lact. lib. 2. hist. fe a ddywed y cenhedloedd, nid ydym ni yn ofni 'r delwau ond y rhai y gwnaed y delwau ar eu llun, yn enwau y rhai y cyssegrwyd y delwau. hyd Hyn Lactantius.
Ac mae S. Clement yn dywedyd, mae 'r sarph Lib▪ 5. ad Iacobum Domini. hon y diafol yn adrodd y geiriau hyn trwy enau rhyw wyr, Yr ydym yn addoli delwau gweledig er anrhydedd i'r anweledig Dduw. Yr hyn, medd ef, yn siccr sydd gelwydd goleu. Welwch eu bod hwy wrth arfer yr vnescusson ac a osode y cenhedloedd drostynt, yn dangos eu bod hwythau yr vn fath a'r cenhedloedd mewn delw-addoliad. O herwydd er yr escuson hyn, mae saint Awstin, Clemens a Lactantius, yn Profi. prwfo eu bob hwy yn ddelwaddolwyr. Ac mae Clemens yn dywedyd, mai 'r sarph y diawl sydd yn dodi 'r escuson hyn yngeneuau delw-addolwyr. Ac mae 'r Scrythyrau er yr escus hynny, yn dywedyd eu bod hwy yn addoli coed acherrig, fal y mae ein ymddiffynwyr delwau ninnau 'n gwneuthur. Ac o blegid hynny y mae Ezechiel yn galw Duwiau yr Assyriaid yn goed a cherrig, êr nad oeddynt onid delwau eu duwiau hwy.
Felly yr ydys yn galw ein delwae Dduw, a'n delwau saint ninnau ar enw Duw, a'i saint, yn ol arfer y cenhedloedd.
Ac mae Clement yn dywedyd fal hyn yn yr vn llyfr, ni feiddiant roddi enw yr Ymmerodr i neb arall, o herwydd fe a gospa ei droseddwr a'i fradychwr Lib. 5. ad Iacobum Domini. yn y man. Ond hwy a feiddiant roddi [Page 102] enw Duw i arall am ei fod ef er mwyn edifeirwch yn goddef ei droseddwyr. Ac felly y mae 'n delwaddolwyr ninnau yn rhoddi enwau Duw a'i saint a'r anrhydedd hefyd sydd ddyledus i Dduw, i'w delwau, fal y rhoe eulyn - addolwyr y cenhedloedd i'w eulynod.
Pa beth yw eu bod hwy fal y gwnaeth delwadolwyr y cenhedloedd yn ennynni canwyllau i'w delwau hanner dydd, neu am hanner nos, ond eu hanryddeddu hwy â hynny? O blegid, achos arall nid oes i wneuthur hynny. O herwydd byd y dydd nid rhaid wrthi: ond diaurheb o ynfydrwydd er ioed ydoedd, ennynnu canwyll am hanner dydd, a'r nos nid gwiw emynnu canwyll ger bron y dall: ac nid oes i Dduw nac angen nac anrhydedd o hynny.
Ond gwych yw 'r hyn a scrifennodd Lactantius er ys yngh ylch mil o flynyddoedd, am y fath ennyn canwyllau, Ped edrychent hwy ar nefol oleuni 'r haul, medd ef, hwy ddeallent nad oedd rhaid i Dduw wrth eu canwyllau hwy, yr hwn i wasanaethu dyn a wnaeth y fath oleuni têg. Ac lle mae mewn angylch bach yr haul, yr hwn o blegid ei belled o ddiwrthym y dybygid nad yw fwy nâ phen gwr, cymmaint o oleuni, nad yw golwg llygad dŷn yn abl i edrych arno; ond os edrych dyn arno gan hyll dremmu ennyd yn ddianwadal, Lib. 6. Institu. ca. 2. fe a dywyllir ac a ddellir ei lygaid ef a thywyllwch; Pa faint oleuni, pa faint eglurwch a dybygwch ei fod gyd â Dduw, gyd â'r hwn nid oes na nos na thywyllwch, &c. Ac yn y mann ar ol hyn mae fe'n dywedyd, Am hynny a dybygid ei fod ef yn ei iawn gôf yr hwn a offrwm oleu canwyll gŵyr i roddwr y goleuni?
[Page 103] Mae fe 'n gofyn goleu arall oddiwrthym ni yr hwn nid yw fyglyd onid eglur a goleu, hynny yw goleuni 'r meddwl a 'r deall. Ac yn y man ar ol hynn y mae fe 'n dywedyd, Ond mae 'n anghenrhaid i'w Duwiau hwy am eu bod yn ddayarol, wrth oleu, rhag iddynt aros mewn tywyllwch, y rhai y mae eu haddolwyr am nad ydynt yn deall vn peth nefol yn tynnu'r grefydd a arferant i waered i'r ddayar, yn yr hon am ei bod yn dywyll wrth naturiaeth y mae yn rhaid wrth oleuni. Wrth hynny nid ydynt yn haeru fod gan eu duwiau ddim deall nefol, ond ystyr dayarol fal gan ddynnion. Ac am hynny y credant fod y pethau hynny yn anghenrheidiol iddynt ac yn he ffiawn ganthynt, megis y maent i ninnau, y rhai sydd rhaid ini wrth fwyd pan fytho newyn arnom, ac wrth ddiod pan fythom sychedig, ac wrth ddillad pan fythom anwydog, acwrth oleu canwyll i'n goleuo gwedy machludo 'r haul.
Hyd hyn Lactantius, a llawer ychwaneg yr hyn a fyddai rhy hir ei scrifennu ynghylch enynnu canwyllau mewn temlau gerbron eulynod neu ddelwau er mwyn crefydd: trwy'r hyn yr ymddengys ynfydrwydd y pethau hyn, a'n bod ni hefyd mewn opiniwn a gorchwylion yn cyfuno 'n hollol a delwaddolwyr y cynhedloedd, yn ein canwyll grefydd. Pa beth yw eu bod hwy yn ol siampl delwaddolwyr y cenhedloedd yn arogl-darthu ac yn offrwm aur i ddelwau, yn crogi bagleu, cadwynau, llongau coesau, braichau a gwyr a gwragedd cyfain o gŵyr ger bron delwau, megis pe byddid yn ein gwared ni trwyddynt hwy neu'r saint (fal y dywedant) oddiwrth gloffni, clefyd, caethiwed neu dorrad llongau.
[Page 104] Onid hyn yw Colere imagines, addoli delwau, yr hyn a waharddir mor ddifrif yngair Duw? Os gwadant hyn, darllenant yr 11. o'r Prophwyd Daniel, yr hwn a ddywaid am yr Anghrist, Duw Daniel 11. 38. yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda ef, ag aur ac arian ac â meini gwerthfawr, ac ag anwyl bethau eraill: a'r gair lladin yn y man hynny yw Colit. Yn yr ail o'r Croniclau yr ydys yn galw 'r holl ddeddfau a'r Ceremoniau oddi allan, megis 2. Cro. 29. 28. arogl darthu a'r fath bethau trwy y rhai yr anrhydeddir Duw yn ei deml, Cultus: hynny yw, addoliad, yr hwn a waharddir yn galed trwy air Duw ei roddi i ddelwau. Onid ydyw yr holl historiau Eglwysig yn dangos i'n Merthyron sanctaidd ni yn gynt nag yr ymostyngent, y penlinient, neu yr offrymment ronyn o arogldarth ger bron delw, neu eulyn, oddef mil o rywiau angau Erchyll. echrydus creulon? Ac er amled eu escuson hwy, etto eglur yw fod yn gwneuthur yr holl bererindodan ymma, yn arogldarthu, yn ennyn canwyllau, yn crogi baglau, cadwynau, llongau, braichiau, coesau, gwŷr a gwragedd o gŵyr: yn penlinio, yn cyfodi dwylo, a'r cwbl i'r delwau, o herwydd lle nid oes delwau, neu lle ni bûont, a lle tynnmyd hwy ymmaith, nid ydys yn gwneuthur y fath bethau. Ond yr ydys yn awr, gwedy eu tynnu hwy ymmaith, yn gwrthod ac yn gadel yn wâg yr holl leoedd a fynnuch-gyrchid iddynt pan oedd delwau yno: ie yn awr maent yn ffieiddio ac yn cashau y lle yn farwol, yr hyn sydd arwydd eglur eu bod hwy yn gwneuthur y peth a wnaethant o'r blaen, er mwyn y delwau.
Am hynny pan welom wyr a gwragedd yn myned yn fagadau i bererindodau at eulynod, yn [Page 105] penlinio o'u blaen hwy, ac yn cyfodi dwylo ger eu bronnau hwy, yn gosod canwyllau ac yn arogldarthu yn eu gwydd hwy, yn offrwm aur ac arian iddynt, yn crogi i fynu longau, baglau, cadwynau, gwyr a gwraged o gŵyr, ger eu bron hwy, gan haeru fod eu iechyd a'u cadwedigaeth yn dyfod oddiwrthynt hwy, neu 'r saint, y rhai y maent hwy yn eu harwyddoccau, fal y mynnent hwy i ni gredu: Pwy, pwy, meddaf, a ddichon ammau nad ydyw ein ymddiffynwyr delwau ni wrth gytuno a delw-addolwyr y cenhedloedd ym-mhob opinionau delwaddolaidd, delwau a ceremoniau oddi allan, yn cytuno a hwy hefyd mewn gwneuthurdeb delw-addoliad ffiaiddiaf?
Ac ichwanegu yr ynfydrwydd hwn, yr adroddai, yr haerai, ac y gwascarai ddynnion melldigedig, drwg, y rhai yr ydoedd y delwau hyn yn eu cadwedigaeth, er mwyn cael mwy o fudd ac ennill, yn ol siampl delwaddolwyr y cenhedloedd, trwy airiau celwyddog ac ofer chwedleu scrifennedig, lawer o wrthiau delwau, megis darfod danfon y ddelw honno trwy wrthiau o'r nef, megis Paladium neu Magna Diana Ephesiorum: darfod cael delw ar [...]ll yn rhyfedd yn y ddayar, fal y cafad pen y gwr yn y Capitol, neu ben y ceffyl yn Capua: darfod hebrwng rhyw ddelw arall gan angylion: dyfod o vn arall o bell o'r dwyrain i'r gorllewin, fal y symmudodd arglwyddes Ffortun i Rufain gynt: y cyfryw ddelw i'r arglwyddes fair a wnaeth S. Luc, yr hwn er mwyn hynny y wnaethont hwy o physigwr yn beintiwr: vn arall ni allai gant iau o ychen ei hyscog, megis Bona dea, yr hon ni allai long ei dwyn: neu Iupiter Olympius, yr hwn a chwarddodd watwar am ben y crefftwyr a [Page 106] geisiasant ei fymmud ef i Rufain: a rhai o honynt er eu bod yn gerrig, ac yn galed, a wylasant o wir dirionwch calon, a thosturi: rhai a chwysasant megis Castor a Pholux wrth gynorthwyo y rhai a garent, mewn rhyfeloedd, megis y gwna maen Marbl. mynor ar dywydd lled-wlyb: rhai o hanynt a ddywedasant yn rhyfeddach nag y dywad assen Balam yr hwn yr oedd bywyd ac anadlynddo: fe ddaeth y cryppul hwn a hwn ac a gyfarchodd i'r saint o dderwen ymma, ac fe a iachawyd yn y man, ac edrychwch ar ei faglau ef: fe addunedodd hwn a hwn ar dywydd creulon a thymestl, adduned i saint Christopher, ac se a ddiangodd, gwelwch ymma ei long ef o gŵyr: fe ddiangodd hwn a hwn o garchar trwy nerth S. Leonard, gwelwch lle mae ei gadwynau ef. Ac anneirifo filoedd o wyrthiau eraill a adroddid trwy 'r cyffelyb neu etto ddigywilyddiach gelwyddau.
Dymma fal y mae ein hymddiffyn wyr delwau ni yn rhoi o ddifrif i'w holl ddelwau yr holl wyrthiau a ddychymmygodd y cenhedloedd am eu heulynnod hwythau.
A phe cydnabyddid ddarfod gwneuthur rhyw weithredoedd rhyfedd, lle mae delwau yn aros, trwy dwyll diafol, (o herwydd eglur yw mai celwyddau a ddychymmygid, a dichellgar hudoliaeth dynion oedd y rhan fwyaf) etto ni chanlyn o hynny y dylid eu hanrhydeddu hwy na 'u goddef, yn fwy nag y goddefodd Ezechias y sarph bres heb ddinistr pan addolwyd hi, er ei gosod hi i fynu trwy orchymmyn Duw, a'i phrofi hefyd trwy wyrthiau cywir mawrion: o herwydd fe a iachawyd yn y man gynnifer ac a edrychodd arni: ac ni ddylei wyrthiau ein hannog ni i wneuthur [Page 107] yn erhyn gair Duw. O herwydd fe a ragrybyddiodd yr Scrythyrau ni y bydd teyrnas Anghrist galluog mewn gwyrthiau a rhyfeddodau, i gadarn dwyllo 'r holl rai gwrthodedig.
Ond yn hyn y maent yn rhagori ar ynfydrwydd ac annuwioldeb y cenhedloedd, am eu bod yn anrhydeddu ac yn addoli creiriau ac escyrn y saint, y rhai sydd yn dangos nad oeddynt hwy ond gwŷr marwol, a chwedi meirw, ac am hynny nad ydyntddu wiau i'w haddoli: yr hyn beth ni chydnabydde y cenhedloedd am eu duwiau rhag y gwir gywilydd. Ond rhaid i ni gusanu y creiriau hynny ac offrwm iddynt, yn enwedig ddie sul y creiriau.
A phan fythom ni yn offrwm rhag i ni ddiffygio neu edifaru am ein traul, mae 'r music a'r gerdd yn adseinio yn llawen tros holl amser yr offrymiad, gan glodfori a galwar y saint hynny y rhai y mae eu creiriau yno yn ein gwydd ni. Ie ac mae 'n rhaid cadw y dwfr yn yr hwn y gwlychwyd y ereiriau, megis peth sanctaidd ffrwythlon.
Ydyw hyn yn cytuno â S. Chrysostom yr hwn a scrifenna fal hyn am greiriau? Na wna gyfrif Homil. de septem Machabeis. o ludw cyrph y saint, nac o weddillion eu cig hwy, a'u hescyrn, y rhai a draulia mewn amser: ond agor lygaid dy ffydd ac cdrych arnynt gwedy eu dillatta â rhinweddau nefol, ac â rhad yr Yspryd glân, yn discleirio â discleirdeb goleuni nefol. Ond yr oedd ein delw-addolwyr ni yn cael gormod ennill oddiwrth greiriau, a dwfr y creiriau, i ddilyn cyngor S. Chryfostom. Ac am fod creiriau 'r saint yn ennillfawr iddynt, nid oedd ond ambell le nad oeddynt gwedy darparu creiriau iddynt.
Ac er mwyn amlhau'r creiriau hynny, yr oedd [Page 108] i ryw saint lawer o bennau▪ vn mewn vn man, ac arall mewn mann arall: yr oedd i rai chwe braich a chwech ar vgain o fysedd. Ac er i Grist ei hun ddwyn ei groes, etto pe byddai holl ddrylliau ei gweddillion hi gwedy eu cynull ynghyd, fe fyddai anhawdd iawn i'r llong fwyaf yn lloegr eu dwyn hwy: ac etto hwy a ddywedant fod y rhan fwyaf o honynt yn aros etto heb eu cael yn-nwylo 'r anghredadwy: am y rhai y maent yn gweddio ar eu paderau ar eu cael i'w dwylo, er mwyn y cyfryw ddefnyddion duwiol a hynny.
Ac nid oedd escyrn y saint yn vnic, ond pob peth a berthyne iddynt, yn grair-weddill sanctaidd. Mewn rhyw leoedd maent yn cynnyg cleddyf, mewn rhyw le gwain, mewn rhyw le escid, mewn rhyw le cyfrwy a osodasid ar ryw geffyl sanctaidd: mewn rhyw le y glo ar y rhai a pob wyd S. Lawrens: mewn rhyw le cynffon yr assen, ar yr hon yr eisteddesai ein Iachawdwr Christ Iesu a gynnygir i'w gusanu, ac i offrwm iddo, yn lle crair-weddill. O blegid yn gynt nag y bai eisiau creiriau arnynt, hwy a gymmerent ascwrn ceffyl yn lle braich morwyn, neu gynffon yr assen i'w cusanu ac i offrwm iddynt, yn lle creiriau. O ddigywilydd-dra dynnion tra-digwilydd a ddychymmygant y pethau hyn? O ffoliaid difedr a chawciod ynfyd, ac anifeiliach nâ chynffon yr assen yr hon a gusanent, a gredent y pethau hyn. Yn awr Duw a drugarhao wrth y cyfryw Gristionogion truain gwirion, y rhai trwy dwyll a dichell y gwyr a ddylasent ddyscu idd ynt ffordd y gwirionedd, a wnaethpwyd nid yn vnic yn waeth nâ delw-addolwyr y cenhedloedd, ond heb fod ddim yn gallach nâ 'r assynnod, ceffylau a mulod yn y [Page 109] rhai nid oes deall.
O'r hyn a ddywetpwyd eisoes y mae'n eglur nad yw ein ymddiffynwyr delwau ni yn gwneuthur delwau yn vnic, ac yn eu gosod yn eu tenilau, megis y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd eu heulynod, ond bod ganthynt hefyd yr vn ddelw - addolaidd opinionau am y saint, i'r rhai a gwnaethont ddelwau, ac oedd gan y cenhedloedd delwaddolaidd am eu gaudduwiau: ac nad addolasant hwy eu delwau yn vnic â'r vn ddeddfau, arferon, a Caeremoniau o fergoel a gogylcheddau fal y gwnai y cenhedloedd delw - addolaidd a 'u heulynod: ond mewn llawer o bethau hefyd a'u ragorasont hwy ymhell ymhob annuwioldeb, ffolineb ac ynfydrwydd. Ac onid yw hyn ddigon i brofi eu bod hwy yn ddelw-addolwyr, hynny yw, yn addolwyr eulynod, wele chwi a gewch glywed eu cyffes gyhoedd hwy eu hunain.
Nid yd wyfi yn meddwl yn vnic ordeiniaethau r' ail Gyngor o Nicaea dan hyrene, na'r Cyngor yn Rufain dan Gregori y trydydd, yn y rhai y dyscant y dylaid addoli ac anrhydeddu delwau, fal y dangoswyd or blaen: etto maent hwy yn gwneuthur hynny yn wachelog ac yn ofnus, wrth y rhyfygus a 'r hygabl gyhoeddiad eilyn-addoliad amlwg a wnair i ddelwau, a osodwyd allan yn hwyr, ie yn ein dyddiau ni, pan ydyw goleuni gwirionedd gair Duw mor ddisclair, megis vwchlaw eu holl ffiaiddiaf weithredoedd a'u scrifennadau, y rhyfeddai ddyn fwyaf am eu hannial anfeidrol ddigywilydd-dra a'u cywilyddus eondra hwy, na ddewisent iddynt eu hunain ryw amser a fuasai dywyllach i draethu eu herchyll gabledd, ond cymmeryd yn awr arnynt wyneb puttain, [Page 110] heb feddwl gwrido wrth osod allan hoywder eu puteindra ysprydol.
Gwrandewch gabledd y tad parchus Iacobus Naclantus Escob Clugium, a scrifennodd ef yn ei ddeongliad ar epistol S. Pawl at y Rufeiniaid y bennod gyntaf, yr hwn a brintiwyd yn hwyr yn Venis, a hynny a ddichon sefyll yn lle 'r cwbl: geiriau yr hwn am addoliad delwau ydyw y rhai hyn yn lladin heb newid sillaf yndynt.
Ergo non solum fatendum est fideles in Ecclesia adorare coram imagine, vt nonnulli ad cautelam fortè loquuntur, sed & adorare imagmem, sine quo volueris scrupulo, quin & eo illam venerantur cultu quo & Prototypon eius, propter quod si illud habet adorare latria & illa latria: si dulia & hyperdulia, & illa pariter eiusmodi cultu adoranda est.
Ystyr yr hyn yn y iaith Gamberaeg yw hyn, Am hynny y mae 'n rhaid cyffessu fod y ffyddloniaid yn yr Eglwys yn addoli nid yn vnig ger bron delw, (fal ond odid y dywaid rhai yn wachelog) ond eu bod hwy hefyd yn addoli 'r ddelw ei hun heb nac ammau na phetrusoer, ie maent yn addoli 'r ddelw ar vn rhyw addoliad ac yr addolir ei Prototupon cenddelw. siampl cyntaf hi, hynny yw y peth y gwnaethpwyd hi ar ei lun, am hyn o dylyid addoli 'r peth ei hun yr hwn y gwnaethpwyd hi ar ei lun, ag addoliad llai neu fwy, fe ddylyeid addoli ac anrhydeddu y ddelw hefyd ar vn fath anrhydedd. Hyd hyn y dywad Naclantus.
Cablau yr hwn a argyoeddodd Gregori y cyntaf, wrth awdurdod yr hwn y damned hwy i Vffern, fal y twrddana ei ganlynwyr ef yn echrydus. O herwydd er bod Gregori yn goddef bod delwau, etto mae fe 'n gwahardd eu haddoli hwy, ac [Page 111] yn canmol Escob Serenus am wahardd eu haddoli hwy, ac ŷn erchi iddo ddyscu 'r bobl ymhob ffordd i wachelyd addoli vn ddelw.
Ond mae Naclantus yn chwythu allan ei ddirmygus ddelw-addoliad, gan erchi addoli delwau â'r rhyw vchaf ar addoliad, ac anrhydedd. Ac rhag diffyg awdurdod i'r ddysceidiaeth iachus hon: Mae fe yn ei gwreiddio hi ar awdurdod Aristotl yn ei lyfr o gyscu a gwilio, fal y gellir ei weled gwedy ei nodi ar ledemyl y ddalen yn ei lyfr brith ef: digywilydd annuwioldeb yr hwn a 'i ddelw-addolaidd farn a osodais i allan yn halaethach, fal y gallech chwi, fal y dywaid Virgil am Sinon, wrth vn adnabod yr holl ddelw-addolwyr, ac addolwyr eulynod, ac y galloch ddeall i ba ben yn y diwedd y dug goddef delwau yn gyhoedd mewn eglwysydd a themlau ni, gan gyffelybu amseroedd ac scrifennadau Gregori y contaf, a'n dyddiau ni, ac â chablau yr anifail hwn o Belial a elwir Naclantus.
Am hynny fe a ddangoswyd ac a fanegwyd bellach trwy awdurdod yr hên dadau ac Athrawion duwiol, trwy gyhoeddus gyffes Escobion gwedy ymgynull ynghŷd mewn Cynghorau, trwy arwyddion a rhesymmau, opinionau, actau a gweithredoedd ac anrhydedd delw-addolaidd a wnaethpwyd in delwau ni, a thrwy eu cyhoedd gyffes a'u hathrawaeth hwy eu hunain, y rhai a osodwyd allan yn eu llyfrau printiedig hwy eu hunain: fod yn addoli 'r delwau gynt, bod fyth yn gyffredinol yn eu haddoli hwy, ie ac hefyd, os credwn hwy, y dylyd eu haddoli hwy; myfi a wnaf allan o air Duw y ddadl gyffredinol hon, yn erbyn yr holl rai fy yn gwneuthur, yn gosod i fynu ac yn [Page 112] ymddiffyn delwau mewn lleoedd cyhoeddus.
Ac yn gyntaf mysi a ddechreuaf ar airiau ein Iachawdwr Christ, Gwae y dyn hwnnw o achos yr hwn y del rhwystran, pwy bynnac a rwystra vn o'r rhai bychain gweinion hyn a gredant yno Matth. 18. 6, 7. fi, gwell oedd iddo pe crogid maen melin am ei wddf, a'i foddi yngwaelod y mor. Ac yn Dewtronomi mae Duw ei hun yn cyhoeddi fod yn felldigedig yr hwn a wnel i 'r dall fyned oddiar y Deut. 27. 18. ffordd. Ac yn Leuiticus, Na ddod drangwydd o flaen y dall. Ond fe fu ddelwau mewn eglwysydd Leuit. 19. 14. a themlau ac maent hwy etto, achwy a fyddant byth yr hyd yr arhosant yno, yn rhwystrau ac yn drāgwyddau yn enwedig i'r bobl gyffredinol, weinion, wirion, ddeillion, yn twyllo eu calonnau hwy trwy gywrainrwydd y creftwr fal y tystiolaetha yr Scrythyrau mewn llawer man, ac felly Doeth. 13. 14. yn eu dwyn hwy i ddelw-addoliad. Am hynny gwae'r hwn a wnelo, a'r hwn a osodo i fynn, a'r hwn a ymddiffynno delwau mewn temlau ac eglwysydd: o herwydd mae cosp sydd fwy yn eu haros hwy nag angau 'r corph.
Os attebir y gellir tynnu ymmaith y rhwystr hwn trwy iawn athraweth a dyfal bregethiad gair Duw, a thrwy foddion eraill, ac nad ydyw delwau mewn eglwysydd a themlau, yn ddrwg hollol, ac o hanynt eu hunain, i bawb, er eu bod yn ddrwg i rai, ac am hynny y dlyeid dala fod eu goddef hwy yn yr Eglwys megis peth anghyfaddas enbaid, ac nid yn hallol megis peth anghyffraithlon, ac annuwiol.
Yno y canlyn y trydedd pwngc i'w brofi, a hwn yw ef. Nad ydyw bossibl os goddefir delwau mewn eglwysydd a themlau, cadw 'r bobl rhag eu [Page 113] haddoli hwy, ac felly gwachelyd delw-addoliad, na thrwy bregethu gair Duw, nac mewn vn modd arall.
Ac yn gyntaf ynghylch pregethu gair Duw, pe canniataid, er goddef delwau mewn eglwysydd, etto y gallid ymgadw rhag delw-addoliaeth trwy gywir a dyfal bregethu gair Duw: yno y canlynai yn ddiammau y gallid cael gwir a chywir athrawaeth yn wastadol i aros ac i barhau, cystal a delwau: ac felly pa le bynnac y cyfodid delw yn rhwystr, yno hefyd wrth reswn da y dylaid ac y gellid cael a maenteinio pregethwr duwiol da. O herwydd rheswn yw fod y rhybydd mor gyffredinol a 'r trangwydd, y rhymedi mor halaeth a 'r rhwystr, y feddyginaeth mor gyffredinol ar gwenwyn: ond ni ddichon hyn fod, fal y mae rheswn ac addysc amser yn dangos; Am hyny ni ddichon pregethu gadw rhag delw-addoliad, yr hyd y goddefer delwau yn gyhoedd. O herwydd fe a ellir prynu delw yr hon a bery gan mlynedd er ychydig, ond ni ellir maenteinio pregethwr da yn wastad heb gost fawr.
Hefyd os y tywysog a'u goddef, fe fydd yn y man lawer iawn, ie aneirif o ddelwau: ond ni bu erioed ac ni bydd byth bregethwyr da ond yn ambell ac anaml wrth rhifedi 'r bobl sydd i'w dyscu. Oblegid mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd fod y cynhauaf yn fawr a 'r gweithwyr yn anaml: yr hyn a fu ddigon gwir hyd yn hyn, ac a fydd hyd ddiwedd y byd: ac yn ein gwlad a'n hamser ni mor wir, a phe byddid gwedy eu rhannu hwy, anodd fyddai gael vn i bob sir.
Yn awr fe bregetha delwau eu hathrawaeth hwy yn wastad, i'r rhai a font yn edrych arnynt, [Page 114] hynny yw delw-addoliaeth: yr hwn bregethiad y mae dynion yn barodol iawn yn wastad, ac yn agweddu: yn annial i wrando arno, ac i'w goelio, megis y mae digonol brawf ymmhob cenhedlaeth ac oes. Ond mae 'n odid clywed gwir bregethwr i attal yr enbeidrwydd hwn, yn rhyw leoedd vnwaith mewn bwyddyn gyfan, nac mewn rhwy le vnwaith mewn saith mlynedd, fal y gellir ei brofi yn eglur. Ac ni ellir yn ddisyfyd ar vn bregeth ddiwreiddio 'n llwyr yr opiniwn drwg a wreiddiwyd ynghalon dyn dros hir amser. Ac mae mor anaml y rhai sydd yn agweddu i gredu athrawaeth iachus, ac y mae llawer, ie haychen y cwbl oll yn barod ac yn hyblyg i ofergoel a delw-addoliad: megis y mae yn amlwg fod yn anhawdd, ie haechen yn ammhossibl cael ymwared a rhwymedi yn hyn o beth.
Hefyd nid yw amlwg wrth vn histori gredadwy, i gywir ac iniawn bregethi erioed barhau mewn vn lle vwchlaw can-mlywedd: ond mae 'n eglur i ddelwau, ofer-goel, a delw-addoliad barhau lawer cant o flynyddoedd. O blegid mae pob scrifennadau, ac addysc amser hefyd yn profi, fod pethau da yn myned bob ychydig waeth waeth, hyd oni ddifwyner hwy yn y diwedd yn hollol; ac o'r gwrthwyneb fod pethau drwg yn cynyddu fwyfwy, hyd oni ddelont i gwbl gyflawnder ac annuwioldeb.
Ac nid rhaid ini fynd ymmhell i geisio samplau i brofi hyn; O herwydd fe aeth pregethiad gair Duw (yr hwn yn y dechreu oedd bur odidawg) bob ychydig mewn amser yn ammhurach beunydd, ac yn ol hynny yn llygredig, ac yn ddiwethaf oll, fe a osodwyd heibio 'n hollol, ac fe a ymly [Page 115] scodd i'w le ef bethau eraill, dychymygion dynnion.
Ac yn y gwrthwyneb ar y cyntaf fe benitiwyd delwau ymlhith Christionogion, a hynny mewn storiau cyfain, yn y rhai yr oedd peth arwyddocâd: yn ol hynny y gwneuthpwyd hwy o goed, cerrig, plastr a mettel: ac yn gyntaf hwy a gedwid yn neilltuol, ynnhai gwyr neilltuol, ac ar ol hynny yr ymluscasāt i eglwysydd a themlau, ond yn gyntaf trwy beintio, gwedy hynny yn gyrph breiscon: ac etto ar y cyntaf ni addolwyd hwy yn vn lle. Ond yn ol hynny ychydig fe ddechrauwyd eu haddoli hwy gan yr annyscedig, megis y mae 'n eglur wrth yr epistol a scrifennodd Gregori Escob Rufain y cyntaf o 'r enw hwnnw at Serenus Escob Massil. Or ddau Escob hyn, Serenus a dorrodd y delwau ac a'u lloscodd hwy, am y delwaddoliaeth a wneaid iddynt: Gregori er ei fod yn tybied y gallid eu gado hwy i sefyll, etto fe farnodd mai peth ffiaidd oedd eu haddoli hwy, ac a dybiodd, megis yr ydys yn awr yn dywedyd, y gallid rhwystro eu haddoli hwy wrth bregethu gair Duw, fal y mae fe 'n rhybyddio Serenus i gyfarwyddo 'r bobl, fal y manegir yn yr epistol hwnnw.
Ond pa vn ai opinion Gregori, ai barn Serenus oedd oreu yn hyn o beth, ystyriwch chwi adolwg? o herwydd yn y mann fe argyoeddodd amser opinion Gregori: o herwydd er bod Gregori yn scrifennu, ac eraill yn pregethu, etto yn y mann yn ol goddef delwau yn gyhoedd mewn temlau ac eglwysydd, fe gwympodd gwyr a gwragedd gwirion yn y mann yn gadau i'w haddoli hwy: ac yn y diwedd fe ddygwyd y dyscedig hefyd ymmaith [Page 116] gyd â'r cyffredinol gyfeiliorn. megis gyd a▪'r ffrwd neu'r weilgi a'r cefullif gwyllt.
Ac yn ail Gyngor Nicaea fe a ordeiniodd y gwyr llen a'r escobion y dylaid addoli delwau, ac felly o achos y trangwyddau hyn y dallwyd yn y diwedd trwy hudolaeth delwau, nid yn vnic y gwirion a'r annyscedig, ond y call a'r dyscedig hefyd: nid yn vnic y bobl, ond yr Escobion hefyd: nid y defaid yn vnic, ond y bugailiaid hefyd (y rhai a ddylasent fod yn dywysogion i'w tywys hwy i'r iniawn ffordd, ac yn oleini i oleuo mewn tywyllwch) megis arweiniaid deillion yn arwain y deillion, hyd oni chwympodd y ddau i bwll damnedig delw-addoliaeth. Yn yr hwn yr arhossodd yr holl fyd hyd ein hoes ni, dros saithcant neu wythcant o flynyddoedd, heb fod neb haechen yn dywedyd yn erbyn hynny. A dymma'r ffrwyth a dyfodd o ordeinhad Gregori: yr hwn afiwydd ni ddigwyddasai byth pe buasid yn cymmeryd ffordd Escob Serenus, ac yn distrywo ac yn dinistr yr holl eulynod a'r delwau: o herwydd nid addola neb y peth nid ydyw.
Ac fal hyn y gwelwch pa fodd a oddef delwau yn neilltuol y daethpwyd i'w gosod hwy i fynu mewn temlau ac eglwysydd yn gyhoedd, ac etto heb ddim drygioni ar y cyntaf (fal y tybiai wyr dyscedig call) ac o'u goddef hwy yno yn vnic, yn y diwedd fe ddaethpwyd i'w haddoli hwy: yn gyntaf gan y bobl annyscedig, y rhai yn anad neb fal y dywaid yr Scrythyr-lân sydd mewn Doeth. 13. 14. enbeidrwydd ofergoel a delw-addoliad: ac yn ol hynny gan yr Escobion, y dyscedig a'r holl wyr llen eglwysig, megis y boddwyd ar vnwaith y cwbl oll, y gwyr llyg a'r gwyr llen, y dyscedig a'r annyscedig, yr holl oesoedd, sectau, a graddau, [Page 117] o wyr, o wragedd, ac o blant, o holl gred, (peth ofnadwy Erchyll. echrydus i feddwl am dano) mewn ffiaidd ddelw-addoliaeth: yr hwn o bob bai arall sydd gasaf gan Dduw, a chollediccaf i ddyn; a hynny dros wythcant o flynyddoedd ac ychwaneg.
Ac i'r diwedd hwn y daeth y dechreuad hwnnw o osodiad delwau i fynu mewn Eglwysydd, yr hwn a farned y pryd hynny yn beth dieniwed, ond a aeth yn y diwedd nid yn vnic yn llawn eniwed, ond yn ddistriw ac yn angheuol ddinistr i holl greddyf ddaionus yn gyffredinol. Fal yr ydwyfi yn cau 'r cwbl fel hyn, megis y gall fod yn bossibl mewn rhyw ddinas neu wlad fechan, fod delwau gwedy eu gosod mewn Temlau ac Eglwysydd, a gallel er hynny trwy ddifri a pharhaus bregethu gair Duw, a phur efengyl ein Iachawdwr Christ, gadw 'r bobl dros amser byrr oddiwrth ddelwaddoliaeth: felly y mae 'n amhossibl fod delwau gwedy eu gosod i fynn ac yn cael eu goddef mewn Temlau ac Eglwysydd mewn gwledydd mawr, ac amhossipplach o lawer fod yn eu goddef hwy yn yr holl fyd dros amser hîr, ac ymgadw rhag delw-addoliaeth.
Ac fe ofala y duwiol nid yn vnic am eu dinas a'u gwlad, ac iechydwriaeth gwyr o'u hoes eu hunain, ond hefyd am bob lle ac amser, ac am iechydwriaeth gwyr o bob oes; yn enwedig ni osodant hwy y tramgwyddau, a'r-maglau hynny dan draed gwledydd ac oesoedd eraill, y rhai yr ydys yn gweled eisoes eu bod yn ddistryw i'r holl fyd. Am hynny mi a wnaf gynull cyffredinol o'r cwbl oll a draethais hyd yn hyn.
Os bydd y trangwyddau▪ a gwenwyn eneidian dynnion trwy osod delwau i fynu, yn aml, ie [Page 118] yn anfeidrol os goddefir hwy: a'r rhybyddion yn erbyn y tramgwydd hynny, a'r ymwared yn erbyn y gwenwyn hynny trwy bregethu, yn ambell ac yn anaml, megis y dangoswyd eisoes: os bydd hawdd gosod y tramgwyddau, a hawdd darparu y gwenwyn, a'r rhybyddion a'r ym wared yn anodd eu hadnabod a'u cael: os bydd y tramgwyddau 'n wastad yn gorwedd ar ein ffyrdd ni, a'r gwenwyn yn barod ger ein llaw ni ym-mhob man, a'r rhybyddiau a'r ymwared heb eu rhoi ond yn ânfynych: ac os bydd pawb o hanynt eu hunain yn barottach i dramgwyddo nag i gymmeryd rhybydd, pawb yn barottach i ŷ fed y gwenwyn nag i brofi yr ymwared iachus, (fal y dangoswyd o'r blaen o ran, ac y dangosir yn gyflawnach ar ol hyn) ac felly os bydd llawer yn yfed y gwenwyn yn wastadol ac yn ddwfn, a nymmor heb brofi yr ymwared onid weithiau, a hynny yn egwan: pa fodd na rwystrir llawer o'r gweiniaid diegni? Ie pa fodd na thyrr llawer eu gyddfau trwy gwympo? ac na wenwynir yn angheuol eneidiau aneirif o bobl? A pha fodd y dichon cariad Duw, neu gariad ein cymmydogion fod yn ein calonnau ni: oni thynnwn ymmaith a ni yn gallel, y fath dramgwyddau enbaid, a gwenwyn mor wenwynllydd?
Pa beth a ddyŵedaf am y rhai a osodant dramgwyddau lle nad oedd yr vn o'r blaen, a maglau i draed, nag ê i eneidiau y rhai gwirion gweinion? ac a barant enbeidrwydd tragwyddol ddistryw i'r rhai y tywalltodd ein Iachawdwr Iesu Grist ei werthfawr waed drostynt, lle buasai well na ddychmygasid ac nad arferesid er ioed celfyddydau peintio, plastro, cerfio, neu doddi, na dinistr [Page 119] a cholli trwy achos delwau a llunniau vn o hanynt hwy, y rhai y mae eu eneidiau mor werthfawr ger bron Duw. Fal hyn y dangoswyd nad yw bossibl i bregethu allel cadw rhag delwaddoliaeth, os gosodir delwau 'n gyhoedd mewn Eglwysydd a themlau.
Ac mor wir yw nad oes nac scrifennu yn erbyn delw-addoliaeth, na chynull cynghorau, na gwneuthur ordeiniaethau yn y gwrthwyneb, na chyfraithiau caled chwaith, na chyhoeddiadau tywysogion ac Ymmerodron, na Chosp tost. dygyn gosp, a phoenau creulon nac vn remedi ac a allwyd neu a ellir ei ddychymmyg yn abl i attal ac i gadw rhag delw-addoliaeth os gosodir neu os goddefir delwau yn gyhoeddus.
O herwydd am scrifennu yn erbyn delwau a'r addoliad a wnair iddynt, fe adrodwyd i chwi yn yr ail rhan o'r traethawd hwn, lawer o leoedd allan o Tertulian, Origen, Lactantius, S. Awstin, Epiphanius, S. Ambros, Clemens, a llawer eraill o Escobion sanctaidd dyscedig ac athrawon yr Eglwys. Ac heblaw hyn mae 'r holl historiau Eglwysig a llyfrau Escobion ac athrawon dyscedig sanctaidd eraill, yn llawn o samplau ac ymadroddion godidawg yn erbyn delwau a'u haddolwyr. Ac megis yr scrifenasant hwy yn ddifri iawn, felly yn eu hamser y pregathasont hwy ac y dangosasont yn bur ac yn ddiescaelys yn gyfunol a'u siamplau a'u scrifenadau.
O herwydd pregethwyr oedd escobion yr amseroedd hynny, ac hwy a welid yn funychaf ynghennadwri yr hwn a ddywaid▪ ewch i'r holl fŷd, pregethwch i bawb yr Efengil; nag ynghennadwri a negaseu tywysogion y byd hwn: ac fal yr oeddynt [Page 120] yn llawn zêl a diwydrwydd, felly yr oeddynt o ddysc a bywyd duwiol godidawg ac am bob vn o'r ddau mewn awdurdod a chymeriad mawr gyda 'r bobl, ac felly yn applach ac yn debyccach i berswado 'r bobl, a'r bobl yn debyccach i'w credu hwyntau ac i ganlyn eu hathrawaeth.
Ond ni alle eu pregethau hwy ddim help, llai o lawer y gallai eu scrifennadau hwy y rhai ni ddawent i gydnabyddiaeth onid rhai o'r dyscedig, mewn cyfflybaeth o'u gwastadol bregethau, o'r hyn y mae 'r holl dyrfa 'n gyfrannog.
Ac nid ydoedd yr hen dadau a'r Escobion a'r doctoriaid yn pregethu ac yn scrifennu yn neilltuol yn vnig, ond hwy a wnaethant ynghŷd hefyd gwedy ymgynull mewn rhifedi mawr, mewn cymmanfau a chynghorau, ordeiniaethau a chyfraithiau eglwysig yn erbyn delwau a delw-addoliad: ac ni wnaethont felly vnwaith neu ddwy, ond llawer o amseroedd, ac mewn llawer o oesoedd ac o wledydd, a gynnullasont gymanfau a chyngorau ac a wnaethont ordeiniaethau tost yn erbyn delwau a'u haddoli, megis y dangoswyd o'r blaen yn halaeth yn yr ail rhan o'r bregeth hon.
Ond nid oedd eu holl scrifennadau, eu pregethau, a'u ymgynull mewn cynghorau, eu hordeiniadau a'u cyfraithiau, yn abl nac i dynnu delwau i lawr y rhai y gwnaid delw-addoliaeth iddynt, nac yn erbyn delw-addoliaeth yr hyd y safe 'r delwau. O herwydd fe a orchfygodd y llyfrau deillion a'r athrawon mudion hynny (delwau ac eulynod yr wyfyn eu feddwl) o herwydd llyfrau ac athrawon gwyr llyg y galwant hwy, gan ddangos a phregethu delw-addoliaeth trwy eu scrifennadau peintiedig a cherfiedig, yn erbyn eu holl [Page 121] lyfrau printiedig hwy a'u pregethu ar dafod laferydd.
Wele, oni allai bregethu ac scrifennu gadw dynnion rhag addoli delwau a delw-addoliaeth, oni allai ben a geiriau wneuthur hynny: chwi a dybygwch y gallai gosp a chleddyf ei wneuthur: fy meddwl yw y gallai dywysogion trwy gyfraithiau a chospedigaeth dost, attal anffrwynedig chwant pawb i ddelwaddoliaeth, er gosod delwau i fynu a'u goddef hwy. Ond mae amser gwedy dangos na ddichon hyn mwy help yn erbyn delw-addoliaeth nag scrifennu a phregethu.
O herwydd er i fwy nag wyth o Ymmerodron (awdurdod y rhai a ddylai fod fwyaf wrth gyfraith Duw) o'r rhai y ternasodd chwech ol yn ol yn nessaf iw gilidd, fal y manegwyd yn yr historiau o'r blaen, wneuthur cyfraithiau tost a chyhoeddiadau yn erbyn eilynod, ac eilyn-addoliaeth, delwau a delwaddoliad, gan osod cospedigaethau trymmion, ie a phoen angau ar ymddiffynwyr delwau, ac ar eilyn-addolwyr ac addolwyr delwau: Etto ni allasont er hynny er ioed na chwbl ddinistr delwau a osodasid vnwaith i fynu, na chadw dynnion rhag eu haddoli hwy gwedy eu gosod i fynu.
Pa beth a dybygwch chwi wrth hyn a ddigwyddai pettai wyr dyscedig yn dyscu i'r bobl eu gwncuthur hwy, ac yn maenteinio eu gosod hwy i fynu, megis pethau anghenreidiol i wir grefydd? I ddibennu mae 'n ymddangos yn eglur wrth holl hystoriau ac scrifennedau, ac wrth yr amseroedd aethont heibio, na ddichon na phregethu nac scrifennu, na chyfundeb y dyscedig, nac awdurdyd y duwiol, nac ordeiniaeth Cynghorau, na [Page 122] chyfraithiau tywysogion, na thost gospedigaeth y troseddwyr yn hynny o beth, nac vn modd na remedi arall help yn erbyn eilynaddoliad, os goddefir delwau yn gyhoeddus. A gwir iawn y dywedir fod yr amser aeth heibio 'n ddyscawdr doethineb i ni sydd yn dyfod ar ol.
Am hynny oni allae yr hen dadau Escobion a doctoriad rhinwedusaf dyscediccaf a diescaelusaf, a hwy haechen mewn rhifedi yn aneirif, wneuthur dim yn yr amseroedd aeth heibio, a'u holl scrifennadau, pregethau, poen, difritwch, awdurdod, cymynfau, a chyngorau, yn erbyn delwau a delw-addoliad, gwedy gosod delwau i fynu vnwaith: pa beth a allwn ni ei wneuthur y rhai nid ydym yn gyffelyb iddynt hwy, nac mewn dysc, nac mewn diwydrwydd, nac mewn sancteiddrwydd bywyd, nac mewn awdurdod, gan ein bod yn ddynnion dirmygus digymmeriad (fal y mae 'r byd yn awr yn myned) ac yn anaml mewn rhifedi ymmysc cymmaint lliaws a chensigen dynnion? pa beth meddaf allwn ni ei wneuthur neu ei gwblhau i attal eulyn-addoliad, neu addoliad delwau, os goddefir hwy i sefyll yn gyhoeddus mewn Temlau ac Eglwysydd?
Ac oni alle gynifer o Ymmerodron galluog, trwy gyhoeddiadau a chyfraithiau mor dost, trwy gospedigaethau, a phoenau mor drymmion ac mor ddygyn, gadw 'r bobl rhag gosod i fynu ac addoli delwau, pa beth a ddigwydd, dybygwch chwi, pan fo dynnion yn eu canmol hwy megis llyfrau anghenreidiol gwyr llyg?
Dyscwn ni am hynny yn y dyddiau diwethaf ymma, y wers hon gan hen henafiaeth, nad yw bossibl dros vn amser hir wahanu delw-addoliad [Page 123] oddiwrth ddelwau, onid megis cyssyltyn diwahanedig, neu megis y canlyn y cyscod y corph, pan fytho 'r haul yn ty wynnu felly y mae delw-addoliad yn canlyn ac yn glynu wrth oddefiaeth delwau'n gyhoedd mewn Temlau ac Eglwysydd. Ac yn ddiwethaf megis y dylaid cashau a gwachelyd delw-addoliaeth, felly y dylaid hefyd dinistr a dodi ymmaith ddelwau, y rhai ni allant fod yn hir heb ddelw-addoliad.
Heblaw addysc a phrawf yr amseroedd aeth heibio, mae naturiaeth a dechreuad delwau o hanynt eu hunain yn tynnu yn rhy nerthog i ddelw-addoliad, ac mae anian dynnion a'u paradrwydd yn gogwyddo mor drwm at ddelw-addoliad, nad yw bossibl wahanu a dosparthu delwau oddiwrthto, na chadw dynnion rhag delw-addoliad os goddefir delwau yn gyhoeddus.
Yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd am annian a dechrauad delwau yw hyn, fal y mae eu dechrauad hwy yn ddrwg ac ni ddichon dim daioni ddyfod o beth a fo a'i ddechreuad yn ddrwg, am eu bod hwy oll yn ddrwg fal y dywaid Athanasius yn ei lyfr yn erbyn y cenhedloedd, a S. Ierom ar y chweched bennod o'r Proyhwyd Ieremi: Ac mae Eusebius yn ei saithfed llyfr o'i histori Eglwysig a'r ddaunawfed bennod yn dywedyd, megis y daethont hwy ar y cyntaf attom ni oddiwrth y cenhedloedd (y rhai ydynt ddelw-addolwyr) ac fal y bu dychmygu delwau yn ddechreuâd goddineb ysprydol, fal y testiolaetha gair Duw, Doeth. 14. felly megis wrth naturiaeth ac yn anghenreidiol, y dych welant i'r dechrauad o'r hwn y daethont, ac y tynnant ni trwy drais i ddelw-addoliad, ffiaidd gan Dduw a phob dyn [Page 124] duwiol. Ac fe ddaeth dechreuad delwau a'u haddoliad, megis y dywedir yn yr wythfed bennod o lyfr y doethineb, o gariad dall oedd gan y tad anneallus, gan lunio i 'w ddiddanwch ddelw ei fab a fuasai farw, felly o'r diwedd y cwympodd dynnion i addoli delw yr hwn a wyddent ei fod wedy marw. Pa faint mwy y cwympe wyr a gwragedd i addoli delwau Duw Dâd, ein Iachawdwr Christ, a'i saint, os goddefir hwy i sefyll mewn eglwysydd a themlau yn gyhoeddus?
O herwydd po m wyaf o dŷb a fytho am fawrhydi a sancteiddrwydd y neb y gwnelir delw iddo, cyntaf y cwymp y bobl i addoli y ddelw honno. Am hynny y mae delwau Dduw, ein Iachawdwr Christ, y fendigaid forwyn fair, yr apostolion, y merthyron ac eraill o'r rhai sanctaidd godidawg, yn beriglaf o gwbl rhag enbeidrwydd delwaddoliad, ac am hynny y dlyid gochelyd yn fwy rhag goddef yrvn o hanynt yn gyhoedd mewn temlau ac eglwysydd. O herwydd nid rhaid fawr ofni rhag cwympo neb i addoli delwau Annas, Caiphas, Pilat, neu Iudas fradwr, pe byddid yn eu gosod hwy i fynu: ond i'r llaill fe brwfwyd yn gyllawn eisoes ddarfod gwneuthur delw-addoliad, fod yn ei wneuthur etto, ac yn debyg y gwnair yn wastadol.
Yn awr, fel y sonniwyd o'r blaen ac y dangosir ymma yn halaeth, nid ydyw naturiaeth dyn yn tueddu yn amgenach i addoli delwau, os dichon ef eu cael hwy a'u gweled, nag y mae'n gogwyddo i oddineb a phuteindra ynghwmpniaeth puteiniaid. Ac megis na byddid ond ychydig nes er dywedyd wrth wr a fytho gwedy ymroi i chwantau'r cnawd, os bydd ef yn gweled puttain ddrythyll, [Page 125] yn eistedd yn ei hymyl, ac yn ei bracheidio hi, Gwachel oddineb, fe farna Duw oddineb wyr a 1. Cor. 6. 16. 1. Thess. 4. 3. Heb. 13. 4. 1. Ioan. 5. 21. phuteiniaid. O herwydd gwedy ei orchfygu ef a hudoliaeth y buttein, ni wna ef na roi clust, na synnaid ar y fath rybyddiō duwiol, a chwedy ar ol hynny ei adel ef yn vnic gyda 'r buttain, ni all dim ganlyn onid brynti: felly os goddefwch ddodi i fynu delwau mewn temlau ac eglwysydd, ofer yr erchwch iddynt wachelyd delwau, fal y mae Ioan sant yn erchi, a chilio oddiwrth ddelw-addoliaeth, fal y rhybyddia 'r holl scrythyrau ni: ofer y pregethwch ac y dangoswch iddynt yn erbyn delw-addoliad. O herwydd llaweroedd er hyn a gwympant i'w haddoli hwy, naill ai trwy annian y delwau ai trwy dueddiad eu hannian lygredig eu hunain.
Am hynny megis mai temptio Duw yw, i'r hwn a fytho yn gogwyddo at chwantau cnawdol, eistedd wrth glun puttain: felly hefyd nid yw gosod delw i fynu yn y parodrwydd hyn sydd mewn dŷn i ddelw-addoliad ddim onid temptio Duw.
Os dywaid neb nad ydyw y gyffelybaeth hon yn prufo dim, etto yr ydwyf yn deisyf arnynt adel i air Duw o'r hwn y tynnwyd y gyffelylbaeth, brufo peth. Onid ydyw gair Duw yn galw delw-addoliaeth yn oddineb ysprydol? onid ydyw ef yn galw delw gwedy ei goreuro, yn buttain gwedy peintio ei hwyneb? onid ydyw ysprydol ddrygioni Leuit. 17. 7. a'r 20. 5. Ruf 25. 5. Deu 31. 16. Baruc. 6. hudoliaeth delw, megis gwenniaith puttain drythyll? Onid ydyw gwyr a gwragedd mor barodol i odineb ysprydol, hynny yw i ddelw-addoliaeth, ac i odineb cnawdol? Os gwedir hyn profed holl genhedlaethau y ddayar y rhai oll a fuont ddelw-addolwyr (fal y manegir ymmhob histori) [Page 126] ei fod yn wir. Profed yr Iddewon, pobl Dduw, y rhai a rybyddiwyd mor fynych ac mor ddifrif, ac a fygythwyd mor ofnadwy ynghylch delwau a delw-addoliad, ac a gospwyd mor dost am ddelw-addoliad, ac er hynny a gwympasont atto, fod hyn yn wir: fal y dangosir yn eglur ddigon yn holl lyfrau 'r hên Destament, yn enwedig yn llyfrau y brenhinioedd, y croniclau a'r prophwdi. Profed holl oesoedd ac amseroedd, dynnion o bob oes ac amser, o bob gradd a galwedigaeth, gwyr call, gwyr dyscedig, tywysogion, dynnion annyscedig a chyffredin, fod hyn yn wir.
Os mynnwch gael samplau am wyr call, cymmerwch yr Aiphtiaid a 'r Gymnosophistiaid y gwyr callaf o'r byd, cymmerwch Salomon y gwr callaf oll. Am wyr dyscedig, y Groegiaid, yn enwedig yr Atheniaid, yn rhagori ar bob cenhedlaeth mewn ofergoel a delw-addoliad: megis y mae S. Pawl yn histori Actau 'r Apostolion yn dywedyd am danynt. Am dywysogion a llywodraethwyr Act. 17. 22, 23. cymmerwch y Rufeiniaid, y rhai oeddynt yn rheoli 'r cwbl. Brenin Salomon, a holl frenhinioedd Ruf. 1. Israel a Iuda ar ei ol ef, ond Dafydd, Ezechias, Iosias ac vn neu ddau ychwaneg, yr holl rai hyn, meddaf, ac aneirif o wyr call dyscedig, tywysogion, a llywiawdwyr y rhai oeddynt oll ddelw-addolwyr, ydynt siamplau i chwi i ddangos fod pob dyn a 'i duedd a 'i ogwydd at ddelwaddoliad.
Er fymod heb son am aneirif liaws, a murdd o wirioniaid annyscedig, y bobl ddiwybod ddifedr, y rhai a gyffelybir i fulod ac i geffylau, yn y rhai nid oes deall, y rhai yn enwedig y mae 'r Scrythur yn rhagddangos ac yn rhagfanegi eu perigl [Page 127] a'u henbeidrwydd i gwympo yn gadau iddelwaddoliad, trwy achos delwau. Ac o ddywedyd gwir pa fodd y gall y bobl ddiddrwg, annyscedig, ffoliaid, ddiangc rhag rhwydau a maglau eulynod a delwau, yn y rhai y rhwydwyd ac y maglwyd y rhai callaf a gorau eu dysc?
Am hynny mae 'r ddadl yn dala y sail ymma yn ddiogel, fod dynnion mor hyblyg o'u naws llygredig i wneuthur goddineb ysprydol, ac ydynt i wneuthur godineb cnawdol.
Yr hyn beth yr oedd doethineb Duw yn ei ragweled, ac am hynny at y gwaharddiad cyffredinol hwn, Na wna ddelwau na lluniau, fe a gysylltodd achos, yr hon oedd yn sefyll ar lygredig anian dyn: rhag, medd ef, dy dwyllo drwy gamsynniaid ac iti eu hadoli hwy. Ac o'r sail hwn, sef Dew. 4. 16. hyblygedd naturiaeth lygredig dyn yn gystadl i oddineb ysprydol, ac i oddineb cnawdol, y canlyn: megis y mae yn ddlyed ar bob llywiawdr duwiol a garo honestrwydd ac a gashao buteindra, er mwyn gwachelyd godineb cnawdol, symmud ymmaith yr holl buteiniaid, a'r coegennod, yn enwedig allan o'r lleoedd yr ydys yn eu drwgdybied yn gyhoeddus, y rhai yr arfer mursennod ddyfod iddynt: felly dlyed yr vn llywiawdr duwiol yw, yn ôl samplau y duwiol frenhinioedd Ezechias a Iosias, yrru ymmaith yr holl buteiniaid ysprydol (eulynod a delwau yr ydwyf yn ei feddwl) yn enwedig allan o'r lleoedd drwgdybys, eglwysydd athemlau, y rhai ydynt leoedd enbaid rhag gwneuthur delw-addoliad i 'r delwau a osodir yndynt, megis pe byddent yn y lle apoyntiedig, ac mewn vwchder anrhydedd ac addoliad, fal y dywaid S. Aug. in Psal. 36. a'r 113. a lib. 4. de ciuit. Dei cap. 3. Awstin, lle y dylaid addoli yn vnic y bywiol Dduw [Page 128] ac nid coed a cherrig meirwon. Swydd llywiawdwyr duwiol (meddaf) yw, yn yr vn modd symmud delwau o'r eglwysydd a'r temlau, megis puteiniaid ysprydol allan o leoedd tybus, er gochelyd delw-addoliaeth, yr hwn sydd odineb ysprydol.
Ac megis y byddai yn elyn i bob honestrwydd yr hwn a ddygai buteiniaid a choegennod o'u cornelau dirgel i'r marchnadleoedd goleu, i drigo yno, ac i arfer eu marchnadaeth brwnt, felly y mae fe'n elyn i wir addoliad Duw, yr hwn a ddygo eulynod a delwau i'r eglwys, tŷ Dduw, i'w haddoli yno yn gyhoeddus, ac i yspeilio 'r Duw eiddigus o'i anrhydedd, yr hwn ni rydd ef i arall, nai ogoniant i ddelwau cerfiedig, a'r hwn yr ymwrthodir yn gymmaint, ac y torrir rhwym cariad rhwng dyn ac ef yn gymmaint, trwy ddelw-addoliaeth, yr hwn yw goddineb ysprydol, ac y torrir cwlwm a rhwym priodas trwy odineb cnawdol. Cymmerwch hyn oll yn lle celwydd, oni ddywaid gair Duw ei fod ef yn wir. Melldigedig, medd Duw Deut. 27. 15. yn Dewt, yw 'r hwn a wnelo ddelw gerfiedig ac a'i gosodo hi mewn lle dirgel, a'r holl bobl a ddywedant, Amen.
Fal hyn y dywad Duw, o herwydd yr amser hynny ni faiddiai neb feddu delwau, nau haddoli yn gyhoedd, ond mewn cornelai dirgel: ac lle mae 'r holl fyd yn deml halaeth i Dduw, pwy bynnac mewn vn gornel o hono a yspeilio Dduw o'u ogoniant, ac a'i rhoddo i goed a cherrig, fe gyhoeddir hwnnw trwy air Duw yn felldigedig.
Yn awr pwy bynnac a ddygo 'r puteiniaid ysprydol hyn o'u llochesau dirgel i gyhoeddus eglwysydd a themlau, fal y gallo gwyr a gwragedd wneuthur puteindra ysprydol yno yn gyhoeddus [Page 129] heb ddim cywilydd, yn ddiammau mae hwnnw gwedy i Dduw ei felldithio yn ddauddyblyg: a phob gwr a gwraig dda dduwiol a ddywedant Amen: a'u Hamen hwy a sydd ffrwythlon. Ie mae hefyd vnfydrwydd yr holl fyd sydd yn addef gwir grefydd Grist, yn awr er yn amser llawer cant o flynyddoedd, ac hefyd llawer yn ein hamser ni mewn cymmaint goleuni 'r efengyl, yn rhedeg yn dyrfau dros fôr a thîr (gan golli eu hamser, treulio a difa eu golud, ymddifadu eu gwragedd a'u plant, a'u tylwyth, a dodi eu cyrph a'u bywyd mewn enbeidrwydd) i Rufain, i Gompostela, i Ierusalem ac i wledydd pell eraill, i ymweled â choed a cherrig mudion meirwon; mae hyn, meddaf, yn prufó yn gwbl barodrwydd llygredig annian dyn, i geisio eulynod a fyther gwedy eu gosod i fynu vn waith, ac i'w haddoli hwy.
Ac fal hyn y mae 'n eglur cystadl wrth ddechreuad a naturiaeth eulynod a delwau, ac wrth barodrwydd a hyblygedd llygredig natur dyn i'w haddoli hwy, na ellir na dosparthu delwau os gosodir i fynu yn gyhoeddus, na chadw a chynnal dynnion os gwelant ddelwau gwedy eu gosod mewn temlau ac Eglwysydd, oddiwrth ddelw-addoliaeth.
Ac lle maent yn gosod drostynt ymmhellach, er darfod i'r bobl, tywysogion, gwyr call, a gwyr dyscedig, yn yr hên amseroedd, gwympo i ddelw-addoliad trwy achosion delwau, etto yn ein hamser ni nid ydyw y rhan fwyaf, yn enwedig y rhai dyscedig call, a'r rhai mewn awdurdod, yn derbyn na drwg na thramgwydd oddiwrth ddelwau, nac yn rhedeg attynt i wledydd pell ac yn eu addoli hwy: ac y gwyddont hwy yn ddifai pa beth yw [Page 130] eulyn neu ddelw, a pha fodd yr arferir hwy, ac y canlyn ar hyn nad ydyw delwau mewn eglwysydd ond pethau diddrwg didda, y rai ni chamarfer rhai ddim o honynt: ac am hynny y gallant ddala yn gysion (megis y dechrauasont ddodi drostynt ynnechreuad y rhan hon) nad yw yn anghyfraithlon nac yn ddrygionus hollol, fod delwau mewn eglwysydd a themlau, er na thybygir fod hynny yn gyfaddas, rhag perigl i'r rhai difedr.
Yn erbyn hyn y gellir atteb ailwaith, fod Salomon hefyd, y callaf o'r dynnion, yn gwybod yn dda iawn, pa beth oedd eulyn neu ddelw, a thros hîr ennyd na chafodd ef ei hunan ddim drwg oddiwrthynt: ac fe a arfogodd eraill hefyd a'i serifennadau duwiol yn erbyn eu henbeidrwydd hwy. Ac etto yn hyn pan oddefodd yr vn Salomon i'w buteiniaid drythyll ddwyn delwau i'w lys a'i balâs, fe annogwyd gan buteiniad cnawdol, ac a yrrwyd gyda hynny i wneuthur godineb ysprydol i eulynod, ac o'r tywysog duwiolaf a challaf fe aeth yn ffolaf ac yn annuwiolaf.
Gorau am hynny i'r callaf feddwl am y rhybydd Eccl. 3 26. hwn, Yr hwn a hoffo berigl a Ddifethir. ddifhair ag ef: A'r 1. Cor. 10. 12. hwn y sydd yn tybied ei fod yn sefyll synned na syrthio, Ac na osoded trwy wybod ac yn ewyllysgar y fath faen tramgwydd i'w draed, ac i draed eraill hefyd, y rhai onid odid a'u dygant hwy yn y diwedd i dorri eu Gyddygau. gyddfau.
Fe wyddai y brenin daionus Ezechias yn ddifai ddigon nad ydoedd y sarph bres onid delw farw, ac am hynny ni chafodd ef ei hun ddim aniwed oddiwrthi trwy addoli iddi. Ai gadawodd ef hi am hynny i sefyll, am na chafodd ef ddim drwg o'i hachos hi? Naddo, ond ac ef yn frenin duwiol, [Page 131] ac am hynny yn gofalu am iechyd ei ddeiliaid truain a dwyllasid gan y ddelw honno i wneuthur delwaddoliaeth iddi, ni thynnodd ef hi i lawr yn 2. Bren. 18. 4. vnic ond fe a'i torrodd hi yn ddrylliau. A hyn a wnaeth ef i'r ddelw honno a osodasid i fynu trwy orchymmyn Duw, yngwydd yr hon y gwnelsid gwrthiau mawr, megis yngwydd vn oedd arwydd o'n Iachawdwr Christ a ddawai, yr hwn a'n gwaredai ni oddiwrth frath angheuol yr hên sarph Sathan. Ac nid arbedodd ef hi nac er ei henaint, ai hoedran, yr hon a barhaesai vwchlaw saithcant o flynyddoedd, nac er i lawer o frenhinoedd duwiol da ei goddef hi ai chadw cyn ei amser ef. Pa fodd, dybygwch chwi, y trwsiai y tywysog duwiol hwnnw pe byddai fe byw yn awr, ein delwau ni, y rhai a osodwyd i fynu yn iniawn yn erbyn gorchymmyn Duw, ac heb fod yn arwyddion o ddim ond ffolineb, ac i ffoliad i edrych arnynt, nes eu bod hwy mor gall a'r cyffion y maent yn edrych arnynt, ac hyd oni chwympont i lawr megis hedyddion gwedy eu hofni, wrth lygadrythu arnynt, ac a hwy yn fyw eu hunain hwy a addolant bren neu garreg, aur neu arian marw: ac felly yr ânt yn ddelwaddolwyr ffiaidd melldigedig gan y bywiol Dduw, gan roddi yr anrhydedd sydd ddyledus i'r hwn a'u gwnaeth hwy pan nad oeddynt ddim, ac i'n Iachawdwr Christ yr hwn a'u prynodd hwy gwedy eu colli, i ddelw farw fud, gwaith dwylo dŷn, yr hon ni wnaeth er ioed ac ni ddichon wneuthur dim drostynt byth: ie yr hon ni all na symmud nac yscog, ac am hynny sydd waeth nâ phryfyn gwael yr hwn a all ymlusco ac ymsymmud.
Ni chafodd y brenin godidawg Iosias ddim [Page 130] [...] [Page 131] [...] [Page 132] eniwed hefyd gan ddelwau ac eulynnod, o herwydd fe wyddai yn ddifai pa beth oeddynt hwy, a adawodd ef o blegid ei wybodaeth ei hun, eulynnod a delwau i sefyll, chwaethach eu gosod hwy i fynu? oni chynnorthwyodd ef yn hytrach trwy ei wybyddiaeth a'i awdurdod, y rhai ni wyddent pa beth oeddynt hwy, gan dynnu ymmaith yn llwyr yr holl faini tramgwydd ac a allent fod yn achosion distryw i'w bobl a'i ddeiliaid ef? Ac o blegid bod rhai o honynt heb gael eniwed oddiwrth ddelwau ac eulynod, a dorrant hwy am hynny gyfraith Dduw, Na wna iti dy hun lun dim, &c. Hwy a allant resymmu yn gystadl fal hyn, O herwyd na hudwyd Moeses gan ferch Iethro, na Boos gan Ruth, y rhai oeddynt ddieithriaid, y galle 'r holl Iddewon dorri cyffredinol gyfraith Dduw, yr hon sydd yn gwahardd i'r bobl gyssylltu eu plant â dieithriaid, rhag iddynt hudo eu plant hwy i beidio â chanlyn Duw.
Am hynny y rhai a resymmant fal hyn, er nad ydyw gyfaddas etto mae 'n gyfraithlon fod delwau 'n gyhoeddus, ac ydynt yn prufo fod hynny yn gyfraithlon trwy ambell siampl o wyr dichlyn dewisol: os dywedant hynny am bawb yn ddiwaniaeth, yr hyn ni ddichon ond rhai ei gadw yn ddieniwed, ac yn ddidramgwydd, mae 'n debyg eu bod hwy yn cyfrif y cyffredin yn lle eneidiau dibris (fal y dywaid hwnnw yn Virgil) am y rhai ni ddylai fod fawr gyfrif am eu colledigaeth neu eu cadwedigaeth y rhai er hyn y talodd Christ am danynt mor brid ac am y tywysog galluoccaf, callaf, a gorau ei ddysc sydd a'r y ddaear. Ac pwy bynnac a fynnont gymmeryd hyn yn gyffredinol yn ddidrwg, o blegid bod ambell vn heb gymmeryd [Page 133] aniwed oddiwrtho, er bod heblaw y rhai hynny rifedi aneirif yn myned i ddistryw, maent yn dangos nad ydynt yn gwneuthur ond ychydig wahaniaeth rhwng cyffredin Gristionogion ac anifeiliaid mudion, y rhai y maent mor ddiofal am eu peryglu.
Ac heblaw hyn os Escobion, personaid, neu eraill sydd a chur eneidiau arnynt, a ymresymmant fal hyn, mae 'n gyfraithlon fod delwau yn gyhoeddus er nad ydyw yn gyfaddas; pa fath fugeiliaid y maent yn dangos eu bod i'w cynulleidfaon, y rhai a wthiant arnynt y peth y maent hwy yn ei addef nad ydyw yn gyfaddas iddynt, i lwyr ddinistr eneidiau y rhai a orchmynnwyd i'w cadwedigaeth hwy, am y rhai y gorfydd arnynt roddi iniawn gyfrif ger bron tywysog y bugeiliaid y dydd diwethaf? O herwydd nid ydyw yn vnic yn beth anghyfaddas, ond hefyd yn anghyfraithlon ac yn felldigedig, osod o flaen y gweiniaid a'r rhai sydd barod i gwympo o hanynt eu hunain, y fath fain tramgwydd. Am hyn, peth rhyfedd yw pa fodd y gallant alw delwau a osodir i fynu mewn eglwysydd a Themlau, heb na budd nac elw oddiwrthynt, ond perigl ac enbeidrwydd mawr, ie eniwed a distryw i lawer, neu yn hytrach i aneirif o eneidiau, yn bethau diddrwg? Onid yw eu gosod hwy i fynu yn fagl i'r holl ddynnion ac yn demptio Duw?
Yr ydwyf yn deifif ar y rhesymwyr ymma alw i'w cof eu hordeiniaethau a'u deddfau arferedig eu hunain, trwy y rhai yr ordeiniasont na ddarllenid yr Scrythyr (er i Dduw ei hun orchymmyn fod gwyr gwragedd a phlant yn ei gwybod hi) gan y bobl annyscedig ac na byddent yn yr iaith gyffredin, [Page 134] o herwydd (fal y dywedent hwy:) fod yn enbaid hyn, rhag iddynt ddwyn y bobl i amryfysedd. Dew. 31. 12.
Ac ni waharddant hwy osod delwau mewn eglwysydd a Themlau, y rhai ni orchmynnir ond y waharddir hefyd gan Dduw yn galed: ond eu gado hwy yno yn wastad, ie a'u maenteinio hefyd, gan eu bod hwy yn dwyn y bobl nid yn vnic i enbeidrwydd, ond yn wir i amryfysedd ffiaidd a delw-addoliad cas? Ac a gauir gair Duw, rhag fal y dywedant enbeidrwydd heresiau, er i Dduw orchymmyn ei ddarllen ef i bawb, a bod pawb yn ei wybod ef? Ac a osodir er hynny ddelwau i fynu? a oddefir hwy ac a faentaenir hwy mewn eglwysydd a Themlau, er bod Duw yn eu gwahardd hwy, ac er maint enbeidrwydd delw-addoliad sydd oddiwrthynt? Oh ddoethineb fydol gnawdol gwedy ymroi i faeinteinio dychymygion a thraddodiadau dynnion trwy resymmau cnawdol, a thrwy yr vn rhyw i ddiddymmu ac i wradwyddo sanctaidd ordeiniaethau, cyfraithiau ac anrhydedd y tragwyddol Dduw, yr hwn a anrhydeddir ac a glodforir yn dragywydd. Amen.
Bellach mae 'n aros ini ynniwedd y traethawd hwn ddangos yn gystadl gamarferiad eglwysydd a Themlau, wrth eu trwsio a'u harddu hwy yn rhy werthfawr ac yn rhy wychion, ac hefyd trwy annuwiol beintio goreuro a dilladu delwau: ac felly y diweddir yr holl draethawd.
Nid oedd gan Gristionogion yn amser Tertulian, drugain mlynedd a chant yn ol Christ, ddim Temlau, ond tai cysfredin i'r rhai yr arferent fyned fynychaf yn ddirgel: A chyn ei amfer ef yr oeddynt Tertul. apolog. 139. mor bell oddiwrth fod ganthynt demlau gwedy eu trwsio 'n hardd, fal y gwnaethpwyd [Page 135] cyfraithiau yn amser Antonius Verus a Chomodus yr Ymmerodron na byddai i Gristionogion fod yn drigolion mewn tai, na dyfod i gymanfau cyffredinol, nac ymddangos yn yr heolydd nac yn Euseb. li. 5. cccl. hist. vn lle ymmysc pobl, ac os cyhuddid vnwaith eu bod hwy yn Gristionogion, na oddefid iddynt ddiangc mewn vn modd yn y byd, fal y gwnaethpwyd ac Apolonius senadur pendefigaidd o Rufain, gwedy i'w gaethwas ef ei hun gyhuddo ei fod ef yn Gristion, ni allai fe ei wared ei hun rhag Hyeronymus. angau, nac wrth yr ymddiffynniad yr hwn a scrifennodd ef yn ddyscedig ac yn ymadroddus, ac a ddarllenwyd yn gyhoeddus yn y seneddr, nac er ei fod ef yn ddinasydd yn Rufain, nac o blegid gwaeledd ac a'nghyfraithlonrwydd ei gyhuddwr, yr hwn oedd gaethwas iddo ef i hun, ac am hynny yn debyg o genfigen i lunio celwyddau yn erbyn ei arglwydd, na thrwy vn modd na chynhorthwy arall yn y byd, fal yr ydoedd yn gorfod ar Gristionogion drigo mewn ffauau a gogofau, mor bell oeddynt hwy yr amser hwnnw oddiwrth fod ganthynt demlau cyhoeddus, gwedy eu trwsio a'u harddu fal y maent yn awr.
Yr hyn a adroddir ymma i argyoeddi celwyddau digywilydd y rhai a ddywedant y fath chwedlau peintiedig têg am y deml wych odidawg oedd gan S. Petr, Linus, Cletus a'r deg ar vgain o Escobion eraill ar eu hol h wy, yn Rufain, hyd yn amser yr Ymmerodr Constantin, a'r hon oedd gan S. Policarp yn Asia, a'r hon oedd gan Irenaeus yn Ffrainc, er mwyn gallu wrth y fath gelwyddau yn wrthwyneb i'r holl hen historiau cywir, faenteinio gormod goreurad a thegwch ar demlau ac Eglwysydd, yn y dyddiau hyn: yn yr hyn y [Page 136] maent yn dodi haychen holl sum a syrth ein crefydd ni, ond fe a ennillodd yr amser hynny y byd i Gristionogaeth, nid wrth deg oreuro a pheintio temlau y Christionogion, y rhai nid oedd ond yn brin tai ganthynt i drigo ynddynt: ond trwy dduwiol ac megis goreurog feddyliau a ffydd gadarn, y rhai ym-mhob adfyd ac erlid, oeddynt yn cyssesu gwirionedd ein crefydd ni.
Ac yn ol yr amser hyn ynghyhoeddiaid Maximian a Chonstantinus Ymmerodron y galwyd y lle yr oedd Christionogion yn arfer o ddyfod i weddi gyffredin, yn ymgynullfau. Ac yn llythyr yr Ymmerodr Galerius Maximinus y gelwir hwy Oratoria, dominica, hynny yw lleoedd gwedy Euseb. cap. 19. lib. 9. cap. 9. eu cyssegru i wasanaeth yr Arglwydd. Ac ymma ar y ffordd y gallwn weled nad oedd yn yr amseroedd hynny, nac Eglwysydd na themlau gwedy eu cyfodi i vn sant, ond i Dduw ei hun, fal y mae S. Awstin yn adrodd hefyd gan ddywedyd, Nid De ciuita. Dei lib. 8. cap. 1. ydym yn gwneuthur dim temlau i ferthyron. Ac mae Eusebius yntef yn galw Eglwysydd yn dai gweddi, ac yn dangos fod pawb yn amser Constantin yr Ymmerodr yn llawennychu fod yn lle yr ymgynnull-fannau issel, y rhai a ddinistrasse tyroniaid, yn adail temlau vchel.
Welwch hyd amser Constantin dros gwedy trychant mlynedd yn ol ein Iachawdwr Christ, pan oedd ffydd a chrefydd Christ buraf ac yn wir oreuraid, nad oedd gan Gristionogion ond cynulleidfannau issel, gwael, a thai gweddi bychain, ie gogofau dan y ddayar, a elwir Cryptę, lle rhag ofn erlid yr ymgynullasont hwy ynghŷd yn ddirgel. Arwydd o'r hyn sydd yn aros etto yn y gogofau y rhai sydd etto dan eglwysydd, i ddwyn ar gôf ini [Page 137] hen stat a chyflwr y brif-eglwys gyntaf, ymmlaen amser Constantin, lle yn amser Constantin ac ar ei ol ef yr adailadwyd temlau mawrion, gwych, têg i'r Christionogion, y rhai a elwid Basilicae: naill ai am fod Groegwyr yn galw pob lle têg mawr Basilicas: ai am fod yn gwasanaethu ynddynt y tragwyddol frenin goruchel Duw, a'n Iachawdwr Christ. Ac er i Constantin a thywysogion eraill o zêl ddaionus i'n crefydd ni, drwsio a harddu yn wych odidawg demlau Christionogion, etto hwy a gyssegrent ar yr amser hynny eu holl Eglwysydd a'u Temlau i Dduw, ac i'n Iachawdwr Nouel Con. 3. & 47. Christ, ac nid i neb o'r saint, O herwydd fe ddechreuodd y camarfer hynny yn hîr a'r ol hynny, yn amser Iustinian. Ac fal yr arferwyd y gwychter hwnnw yr amser hynny, ac y cyd-ddygwyd ag ef megis peth yn dyfod o zêl dda, etto fe ddangosodd y dyscedig duwiol yr amser hynny, y gallasid treulio hynny yn well mewn moddion eraill.
Bydded S. Ierom (er ei fod mewn moddion yn rhy gu ac yn rhy hoff gantho 'r pethau hyn oddiallan) yn dyst o hyn, gan yr hwn yn ei lythr at Demetriades y mae 'r geiriau hyn, Gedwch chwi i eraill adail Eglwysydd, a gorchguddio parwydydd a maini mynor, dwyn ynghyd golofnau mawrion a goreuro eu pennau hwy, y rhai ni chlywant ac ni ddeallant eu hoŷwad a'u harddad gwerthfawr hynny, harddent a thrwsient hwy y drysau ag Ifori ac ag arian, a gosodant i fynn allorau aur a meini gwerthfawr, nid ydwyf yn beio arnynt, bydded pob gwr lawn yn ei ystyr ei hun: gwell iddynt wneuthur felly nâ chadw eu cyfoeth yn ofalus: ond mae i ti ffordd arall gwedy [Page 138] ei aypoyntio i ti, dillada Christ yn y tlawd, ymweled ac ef yn y claf, a'i borthi yn y newynog, ei letteua ef yn y rhai sydd ac eisiau lletty arnynt, ac yn enwedig y rhai ydynt o dolwyth y ffydd. Ac mae 'r vn Ierom yn Son. crybwyll am yr vn peth yn gwplach yn ei draethawd am fywyd gwyr Eglwysig at Nepotian, gan ddywedyd fal hyn, Mae llawer yn adail muriau, yn cyfodi colofnau Eglwysydd, mae 'r mynor llyfn yn discleirio, mae nen y tai yn goleuo gan aur, mae'r allor gwedy ei hamgylchu a meini gwerthfawr: ond ar wasanaethwyr Christ nid oes na dewis nac etholedigaeth.
Ac na osoded neb yn fy erbyn y deml gyfoethog oedd yn Iudea, yr hon yr oedd ei bord a'i chanwyllernau, ei gefeiliau, ei thusserau, ei chawgiau, ei phiolau a'i llwyau, a phob peth arall yn aur: Yr ydoedd yr Arglwydd yn fodlon i'r pethau hyn yr amser hynny, pan oedd yr offeiriaid yn offrwm aberthau, a phan gyfrifid gwaed anifeiliaid yn iawn am bechod. Ond y pethau hyn i gyd oedd yn myned o'r blaen mewn arwydd, ac a scrifennwyd er ein mwyn ni ar y rhai y daeth diwedd y byd. Ac yn awr pan yw 'n Arglwydd ni ac ef yn dlawd gwedy cyssegru tlodi ei dy, cofiwn ei groes ef, ac ni a gyfrifwn gyfoeth megis llacca a thom. Paham yr ydym ni yn hoffi y byd hyn a alwodd Christ y mammon melldigedig? Paham yr ydym ni yn cyfrif cyfuwch, ac yn caru cymmaint, y pethau y mae S. Petr yn ymogoneddu nad oeddynt gantho? hyd yn hyn S. Ierom.
Fal hyn y gwelwch fod S. Ierom yn dangos nad ydoedd y gwychter ym-mhlith yr Iddewon onid arwydd i arwyddocau pethau a ddawent, [Page 139] ac nid siampl ini i'w canlyn, a bod yn goddef y pethau hyn oddiallan dros amser nes dyfod Christ ein harglwydd, yr hwn a drodd y pethau hynny oddi allan i Yspryd ffydd a gwirionedd.
Ac mae 'r vn S. Ierom yn dywedyd ar y saithfed o Ieremi, fe orchymmynnod Duw i'r Iddewon yr amser hynny, ac yn awr i ninnau, y rhai a osodwyd yn yr eglwys, na byddo ini ymddired yngwycher yr adailad a'r nennau goreurog; a'r parwydydd gwedy eu gorchgiddio â llechau mynor: gan ddywedyd Teml yr Arglwydd, Teml yr Arglwydd: honno yw Teml yr Arglwydd yn yr hon y mae gwir ffydd a duwiol ymddygiad a thyrfa pob rhinweddau yn trigo. Ac ar y Prophwyd Aggeus, mae fe 'n gosod allan wir ac iawn drwsiad a harddwch Teml yn y modd ymma, Yr ydwyf, medd S. Ierom yn tybied mai 'r arian yr hwn yr harddir ty Dduw ag ef, yw athrawaeth yr Scrythyrau, am yr hyn y dywedir, Athrawaeth yr Arglwydd sydd athrawaeth bur, arian gwedy ei goethi yn y tân, gwedy ei garthu oddiwrth sothach, a'i buro saithwaith. Ac yr ydwyf yn tybied mai 'r aur ywr peth sydd yn aros yn ystyr cuddiedig y saint, ac ynnirgelwch y galon, ac yn discleirio gan wir oleu Duw: Yr hyn sydd eglur fod yr apostol yn ei ddeall hefyd am y saint a adailadant ar y sylfaen Christ, rhai arian, rhai aur, rhai faini gwerthfawr: y gellir arwyddocae wrth yr aur yr ystyr a'r deall dirgel; wrth yr arian, ymmadroddion duwiol; wrth y meini gwerthfawr, y gwaithredoedd sydd yn bodloni Duw. A'r mettelau hyn y gwnair eglwys ein Iachawdwr Christ yn harddach ac yn yn deccach nag ydoedd y Synagog yn yr hên amser. A'r cerrig bywiol hynny yr adailadir [Page 140] eglwys a thŷ Grist, ac y rhoddir iddi heddwch yn dragywydd. Geiriau S. Ierom ydyw y rhai hyn oll.
Ac felly nid oedd gymmeradwy gan yr hên Escobion a doctoriaid duwiol, ry hoywder temlau ac eglwysydd, a phlat, a llestri aur, ac arian, a dillad gwerthfawr. Fe a ddywaid Chrysostom nad rhaid yngwasanaeth y Sacramentau sanctaidd wrth lestri auraid ond meddyliau auraid. Ac mae 2. Offic. ca. 28. S. Ambros yn dywedyd, fe a ddanfonodd Christ ei apostolion heb aur, ac a gynnullodd ei eglwys heb aur. Mae aur gan yr eglwys nid i'w gadw ond i'w dreulio ar anghenrhaidiau 'r tloddion. Nid ydyw y Sacrament yn edrych am aur, ac nid ydyw y rhai ni phrynwyd am aur, yn bodloni Duw er mwyn yr aur. Harddu a thrusio Sacramentau yw prynu carcharorion o'u caethiwed. Hyd yn hyn S. Ambros.
Ac mae S. Ierom yn canmol Exuperius Escob Tolos am ei fod yn dwyn Sacrament corph yr Arglwydd mewn basced brwyn, a Sacrament ei waed ef mewn gwydr: ac felly yn taflu trachwant allan o'r eglwys. Ac mae Bonifacius Escob a merthur, fal y cofir yn yr odeiniaethau, yn tystiolaethu, Titul▪ de cons. can. tribuerien. yn yr hên amseroedd fod y gwnenidogion yn arfer llestri coed ac nid llestri aur. Ac fe wnaeth Zepherinus Escob Rufain ordeiniaeth ar iddynt arfer llestri gwydr. Lib. 1. Iust. cap. 14.
Felly yr oedd y gwiscoedd a arferid yn yr eglwys yn yr hên amser yn blaen, yn ddisyml ac yn ddigost. Ac mae Rabanus yn manegi yn halaeth ddarfod cyrchu y trwsiad o wiscoedd gwych a arferid er yn hwyr amser yn yr eglwys oddiwrth arfer yr Iddewon, a'i fod yn cytuno a thrwsiad Aaron [Page 141] yn hollol haychen. Er maenteinio y rhai hyn mae 'r Pab Innocentius yn cyhoeddi yn Hyf. eon, na ddiddymmwyd holl arferon yr hên gyfraith, fal yr elem ni yn ewyllysgarach yn y fath ymdrwsiad, o Gristionogion yn Iddewaidd.
Hyn yr ydys yn ei ddangos nid yn erbyn eglwysydd a Themlau, y rhai sydd anghenrheidiol iawn, ac a ddlyent gael eu parch a'u hanrydedd, fal y manegwyd mewn pregeth arall i'r defnydd hynny, nac yn erbyn eu glendid cyfaddas a'u trwsiad hwy; ond yn erbyn rhy wychder Temlau ac eglwysydd. O blegid Teml ac eglwys Dduw yw hon hefyd, yr hon nid ydyw yn discleirio â maen mynor ac yn llewyrchu gan aur neu arian, nac yn tywynnu â meini gwerthfawr, ond a disymlder a chynhilwch, ac ni arwyddoca na balch athrawaeth, na balch bobl, ond gostyngedig cynnil heb wneuthur cyfrif o bethau dayarol oddiallan, ond gwedy ei thrwsio 'n hardd â'i thrwsiad oddifewn, fal y manegodd y prophwyd gan ddywedyd, Merch y brenin sydd yn hardd oddifewn. Ps.
Yn awr ynghylch anllywodraethus drwsio delwau ac enlynnod yn hardd oddiallan, a pheintiad, goreurad, addurnad gwiscoedd gwerthfawr, a gemmeu, a maini gwych; pa beth yw hyn ond chwaneg o annogaeth a llithiad i oddineb ysprydol? trwsio puteiniaid, ysprydol yn werthfawr, ac yn wych? yr hyn y mae 'r eglwys ddelw-addolaidd yn ei ddeall yn ddifai ddigon. O herwydd am ei bod hi mewn gwirionedd, nid yn vnic yn buttain, fal y gailw yr Scrythyrau hi, ond hefyd yn buttain front Angharuaidd. wrthun, hên, wywedig, o herwydd yn wir mae hi 'n hên mewn blynyddoedd, a chan ddeall ei heisiau naturiol a gwir degwch, a'i [Page 142] mawr anferthwch sydd ynddi o honi ei hunan, mae hi yn ol arfer y fath buteiniaid, yn ei pheintio, yn ei thrwsio ac yn ei gwisco ei hun, ag aur, meini gwerthfawr, a phob tlysau gwerthfawr; fal y gallo hi gan ddiscleirio gan harddwch a gogoniant y rhai hynny fodloni ynfyd ffansiau cariadon ynfyd; a'u llithio hwy felly i odineb ysprydol gydâ hi: y rhai pe gwelent hi (ni ddywedaf yn Noeth. hoeth) ond mewn dillad disyml, hwy a'i cashaent hi megis y buttain anferthaf a bryntaf ac a weled erioed: fal y gellir gweled wrth bortreiad puttain yr holl buttemniaid, mam putteindra, sydd wedy ei gosod allan gan S. Ioan yn ei weledigaeth, Gwel. 16. 18. yr hon trwy ei gwag-ogoniant a annogodd dywysogion y ddayar i wneuthur puteindra gydâ hi: lle yn y gwrthwyneb y mae gwir eglwys Dduw megis gwraig ddiwair, gwedy ei dyweddio ag vn gwr (fal y dangos yr Scrythur) yr hwn yw ein Iachawdwr Iesu Ghrist, i'r hwn yn vnic y mae hi yn fodlon i ryngu ei fodd a'i wasanaethu, ac nid ydyw hi yn edrych am fodloni llygaid na ffansiau cariadon dieithr eraill: mae hi 'n fodlon i'w harddwch naturiol ei hun, heb ammau nad trwy y fath wir ddisymldra y bodlonai hi ef orau, am ei fod ef yn gwybod yn dda 'r gwahaniaeth rhwng wynebpryd gwedy ei beintio a gwir bryd a thegwch naturiol.
Ac ynghylch y fath wag-ogoneddus oreurad a thrwsiad delwau mae gair Duw a scrifennwyd yn y ddegfed bennod o brophwydoliaeth y Prophwyd Iere. 10. 3, 4. &c. Ieremi, a Chomentau S. Ierom ar y man hynny, yn haeddu eu ystyriaid yn ddifrif.
Yn gyntaf gairiau 'r Scrythyrau yw y rhai hyn, Cymmynwyd pren o'r coed, gwaith llaw [Page 143] saer, a bwyall, ag arian ac ag aur yr harddwyd hwy, ac â morthwylion y siccrhawyd hwy rhag cwympo: megis palm wydden y byddant ac ni lafarant: gan wyr y dygir hwynt, ni allant gerdded: nac ofnwch hwy, cans ni allant wneuthur drwg, a gwneuthur da nid oes yndynt. Fal hyn y dywaid y prophwyd.
Ar yr hwn dext mae gan S. Ierom y geiriau hyn, Dymma bortreiad eulynnod y cenhedloedd, y rhai y maent yn eu haddoli: mae eu defnydd hwy yn wael ac yn llygredig, a chan fod eu gwneuthurwr hwy yn farwol, mae 'n rhaid bod y pethau y mae ef yn ei wneuthur, yn ddarfodedig: mae 'n eu trwsio hwy ag arian, ac aur, fal trwy ddiscleirdeb y ddau fettel hynny, y gallont dwyllo 'r diddrwg. Yr hwn amryfysedd yn wir a ddaeth oddiwrth y cenhedloedd, am ini farnu bod crefydd yn sefyll mewn cyfoeth. Ac ar ol hynny yn y mann y mae fe 'n dywedyd, mae iddynt bryd metelau, ac hwy a harddwyd â chelfyddyd peintio, ond daioni nac ennill nid oes yndynt. Ac yn y man ar ol hynny ailwaith, maent hwy yn gwneuthur addewidion mawrion, ac yn dychymygu delw ac ofer addoliad o'u phansiau eu hunain, maent yn ymffrostio llawer i dwyllo pob dyn diddrwg, maent yn Diharffu. hurtio ac yn synnu deall yr annuscedig, megis trwy ymadroddion goreurog a doethineb yn discleirio trwy loywder arian. A chan eu dychmygwyr a'u gwneuthurwyr y mawrhair, ac y clodforir y delwau ymma, yn y rhai nid oes na budd na lles, y rhai y mae eu haddoliad yn perthyn yn briodol at y cenhedloedd, a'r rhai nid adwaenant Dduw.
Hyd hyn y mae geiriau S. Ierom, yn y rhai y [Page 144] gellwch weled ei farn ef, yn gystadl am ddelwau eu hunain, ac am eu peintio, eu goreuro a'u trwsio hwy; mai camsynnaid yw hynny a ddaeth oddiwrth y cenhedloedd, ei fod yn perswadio mai mewn cyfoeth y mae cresydd yn sefyll; ei fod yn hurtio ac yn twyllo y diddrwg a'r annyscedig ag ymmadroddion goreurog disclair a Hyawdled. ffraethineb arian; a bod hyn yn perthyn yn neilltuol at y cenhedloedd, a'r rhai nid adwaenant Dduw. Am hynny wrth farn S. Ierom, mae cadw, peintio, goreuro, a thrwsio delwau yn gyfeiliornus, yn llithio ac yn dwyn i gamsynnaid, yn enwedig y diddrwg a 'r annyscedig; yn genhedlaidd ac heb wybodaeth Duw.
Yn siccr mae'r Prophwyd Daniel yn 11. Bennod o'i brophwydoliaeth yn dangos fod y fath werthfawr drwsiad ar ddelwau ag aur ac arian a meini gwerthfawr, yn arwydd o deyrnas Anghrist: yr hwn fal y dengys y prophwyd, a addola Dduw â'r fath bethau gwychion. Yn awr fe gyfododd ac a faenteiniwyd yn arferol y fath anfessurol hoywad, a thrwsiad a'r ddelwau, naill ai o offrymmau a annogodd ofergoel, ac a roddwyd mewn delw-addoliaeth, ai o yspail, lledrad, ac occr, neu dda a gynullasid trwy anghyfiawnder mewn moddion eraill, o'r rhai y rhoes dynnion drwg ran i'r delwau, neu i'r saint, fel y galwant hwy, er mwyn cael maddeuant am y cwbl: fal y dangosir yn hawdd wrth lawer o scrifennadau a hên goffadwriaethau, ynghylch achos adiwedd rhyw roddion mawrion.
Ac yn wir gweddussaf man i wario pethau a ennillwyd mor annuwiol, yw eu gwario ar ddefnydd mor annuwiol. Ac mae 'r hyn y maent [Page 145] hwy yn ei dybied ei fod yn dâl i Dduw am y cwbl, yn ffieiddiach yngolwg Duw nâ'u melldigedig ennill hwy, ac nâ melltigedig drauliad y rhan arall. O herwydd mae 'r Arglwydd yn manegi mor Esai 61. 8. fodlon gantho y fath roddion, ymhrophwydoliaeth Esaias, gan dywedyd, Canys myfi yr Arglwydd a hoffaf gyfiawnder, gan gashau trais mewn poeth offrwm. Yr hyn beth yr oedd y cenhedloedd yn ei ddeall. O herwydd mae Plato 'n Dial. de leg. 20. dangos fod y rhai a fwriadant y maddau Duw i ddynnion drwg, os rhônt iddo ef ran o'r yspail a'r trais, yn tybied ei fod ef yn debyg i gi, yr hwn a gymmer i lithio a'i hurio i gymmeryd rhan o'r yspail, er goddef i'r blaiddiau ladd y defaid.
A phe ennillid y da yn gysion, â'r hwn y trwsied y delwau, etto ynfydrwydd anferth yw gwario 'r da a ennillwyd trwy synwyr a gwirionedd, mor ynfyd, ac mor annuwiol. Am y fath ddrygioni yr scrifenna Lactantius fal hyn, Ofer y trwsia dynnion ddelwau y duwiau ag aur ac ifori, ac â Lact. lib. 2. Insti. c. 4. meini gwerthfawr, megis pe gallent gymmeryd hoffder yn y pethau hyn. O herwydd pa ddefnydd sydd gan y rhai nid ydynt nac yn teimlo nac yn deall, o'r rhoddion gwerthfawr hynny? yr vn defnydd ac y sydd gan ddynnion meirwon. O herwydd wrth yr vn fath reswm y maent yn claddu cyrph meirwon, gwedy eu llanw â llysiau ac aroglau, a chwedy eu dillatta â thrwsiad gwerthfawr, ac y maent yn trwsio delwau y rhai ni chlywsōt, ac ni wybuōt, pa bryd y gwneuthpwyd hwy, ac ni ddeallant pa bryd yr anrhydeddir hwy. O herwydd nid ydynt yn cael na synwyr na deall wrth eu cyssegrad. Hyd yn hyn Lactantius, a llawer gydâ hyn, rhy hir ei adrodd ymma, gan fanegi [Page 146] mai megis y mae plant bach yn chware â babiod bychain, felly y mae 'r delwau gwychion ymma yn fabiod mawrion i hên ddynnion i chwareu â hwynt.
Ac fal y gallom wybod pa beth a farne nid yn vnic gwyr o'n crefydd ni, ond gwyr dyscedig o'r cenhedloedd hefyd, am drwsio delwau meirwon; nid yw anfuddiol ini wrando pa beth y mae Seneca, gwr call dyscedig iawn o Rufain a Philosophydd, yn ei ddywedyd am y ffolineb a arfere hên wyr oedrānus yn ei amser ef, wrth addoli a thrwsio delwau. Nid ydym, medd ef, yn blant ddwywaith, megis y mae 'r hên ddiarheb gyffredinol, ond yn blant yn wastadol: ond hyn yw 'r gwahaniaeth, pan fythom henaf ein bod yn chwareu 'r plant: ac yn y chwareuau hyn y maent yn dwyn o flaen eu babiod mawrion gwych (o herwydd felly y mae fe yn galw delwau) ennaint, arogldarth a pher-aroglau. I'r̄ babiod ymma y maent yn offrwm aberth, gan y rhai y mae geneuau ac ni wnant ddim â'u dannedd. Ar y rhai hyn y maent yn gosod dillad a thrwsiad gwerthfawr, a hwynt heb wneuthur dim â dillad. I'r rhai hyn y rhoddant aur ac arian er na wnant ddim a hwynt; ie ac mae eu diffig hwy a'r y rhai a'u derbyniant (delwau y mae fe 'n ei feddwl) yn gymmaint ac ar y rhai a'u rhoddant hwy. Ac mae Seneca yn canmol yn fawr Dionysius brenin Sicilia am yr yspail ddigrif a wnaeth ef ar y fath fabiod gwychion a'u tlyssau.
Ond chwi a ofynnwch beth yw hyn i'n delwau ni, yr hyn a scrifennwyd yn erbyn eulynnod y cenhedloedd? siccr yw ei fod yn perthyn yn gwbl iddynt. O herwydd pa raid neu pa fwyniant sydd [Page 147] i'n delwau ni o'u trwsiaid a'u gwychder gwerthfawr? a ddeallodd ein delwau ni pan wneuthpwyd hwy? a wybuont hwy pan drwsiwyd a phan harddwyd hwy? Onid ydys yn gwario y pethau hyn mor ofer arnynt hwyntau, ac a'r wŷr meirw yn y rhai nid oes ystyr.
Am hynny y canlyn fod cymmaint o ffolineb a drygioni wrth drwsio 'n delwau ni megis babiod mawrion i hen ffoliaid fal plant i chware annuwiol chwareuaeth delw-addoliad ger eu bron, ac oedd ymlhith y cenhedloedd a'r ethnicciaid. Mae 'n Eglwysydd ni yn llawn o'r fath fabiod wedy eu trwsio a'u harddu'n rhyfedd, gwedy dodi coronau a thyrch ar eu pennau, a meini gwerthfawr am eu Gyddygau. gyddfau, a'u bysedd yn discleirio â modrwyau yn llawn o gerrig gwerthfawr, mae eu cyrph meirwon sythion hwy gwedy eu gwisco â dillad, gwedy eu sythu ag aur. Chwi a dybygech mai rhai o dywysogion Persia yn eu dillad bailchion, yw delwau ein saint ni o wŷr, ac mai rhyw buteiniaid mursennaidd gwedy ymbincio i hudo eu cariadon i aflendid, yw delwau ein santessau ni, trwy 'r hyn nid ydys yn anrhydeddu saint Duw, ond yn eu dianrhydeddu, ac yr ydys yn anharddu ac yn peri ammeu eu duwioldeb, eu sobredd, eu diweirdeb, eu diofalwch am gyfoeth ac oferedd y bŷd hwn, trwy 'r fath anferth drwsiad, yr hwn sydd mor bell oddiwrth eu sobredd a'u duwiol fywyd hwy.
Ac er mwyn cwareu 'r holl chwareuaeth drwyddo, nid digon yw trwsio delwau yn y modd ymma, ond yn y diwedd y daw 'r offeiriaid eu hunain, gwedi eu trwsio mewn aur a meini gwerthfawr hefyd, fel y byddont wasanaethwyr cymmhesur [Page 148] i'r fath arglwyddi ac arglwyddesau, ac addolwyr gweddaidd i'r fath dduwiau a duwiesau; ac â cherddediad esmwyth hwy a ânt ger bron y babiod goreurog hynny, ac a gwympant ar eu gliniau ym-mlaen yr eulynnod anrhydeddus hyn, a chan gyfodi eilwaith hwy a offrymmant aroglau a tharthau iddynt, er rhoddi siampl i'r bobl o ddauddyblyg ddelw-addoliaeth, gan addoli nid y ddelw yn vnig, ond yr aur a'r cyfoeth hefyd a'r hwny y maent gwedy eu trwsio. Yr hyn beth yn gynt nag y gwnele y rhan fwyaf o'r merthyron gynt, ac yn gynt nag yr offymment hwy vn briwsonyn o arogldarth ym-mlaen vn ddelw, hwy a oddefent yr angau creulonaf a thostaf ac allai fod, fal y mae eu historiau hwy yn dangos yn halaeth.
Ac ymma ailwaith y tâl ei ystyried yr hyn y maent yn eu roi drostynt allan o Gregori y cyntaf a Damascen, mai llyfrau gwŷr llŷg yw delwau, ac Greg. ep. ad Ser. masl. Damas. de fide ortho. mai Scrythyrau ffoliaid a gwŷr annyscedig ydyw lluniau. O herwydd fal y dangoswyd eisoes mewn llawer man mai llyfrau ydynt heb ddangos dim ond celwyddau, megis y mae 'n eglur ddigon wrth yr Apostol Pawl yn y Bennod gyntaf at y Rufeiniaid am ddelwau Duw. Felly ystyriwch yn dda, adolwg, pa fath lyfrau ac Scrythyrau yw y delwau goreurog peintiedig ymma i'r gyffredin bobl. O herwydd gwedi darffo i'n pregethwyr ni ddyscu ac annog y bobl i ganlyn rhinweddau 'r saint, megis diystyru y byd hwn, tlodi, sobredd, diweirdeb a'r fath rinweddau y rhai yn ddiammau oeddynt yn y saint: a dybygwch chwi, cygynted ac y trothont eu hwynebau oddiwrth y pregethwr ac yr edrychant ar y llyfrau cerfiedig [Page 149] a'r Scrythyrau peintiedig, eu gwych oreurog ddelwau ac eulynnod yn llewyrchu ac yn discleirio â mettel a maini, a chwedy eu gwisco a gwiscoedd gwerthfawr neu megis Cheraea yn Terens, os edrychant ar lechau yn y rhai yr ydys gwedy gosod trwy gelfyddyd y peintiwr ddelw mewn dillad mursennaidd drythyll, a'i phryd yn debyccach i Venus neu i Fflora, nag i Fair Fagdalen, neu os ydyw yn debyg i Fair Fagdalen, tebyg ydyw iddi pan ydoedd hi yn chware 'r buttain, ac nid pan ydoedd yn wylo am ei phechodau: pan drothont, meddaf, oddiwrth y pregethwr at y llyfrau, y dyscawdwyr a'r Scrythyrau peintiedig hyn, oni chant hwy hwynt yn llyfrau celwyddog, yn dyscu gwers i eraill am wneuthur cyfrif o gyfoeth, balchedd, oferedd mewn trwsiad, drythyllwch, mursendod, ie ac ond odid puteindra, megis y dyscwyd Cherea gan y fath luniau? Ac yn Lucan fe ddyscodd vn wers gan Venus Gnidia ry ffiaidd ei hadrodd ymma.
Onid ydyw y rhai hyn yn llyfrau ac scrythyrau tlysion, meddwch chwi, i ddynnion diddrwg, ond yn enwedig i wragedd a merched ieuaingc i edrych yndynt, i ddarllen arnynt ac i ddyscu gwersi ganthynt? Pa beth a dybygant hwy am y pregethwr a ddangosodd iddynt wersi gwrthwyneb am y saint, ac am hynny trwy yr athrawon cerfiedig ymma fe haerir arno gelwydd? neu pa beth a dybygant am y faint eu hunain os credant hwy y llyfrau cerfiedig, a'r scrythyrau peintiedig hyn am danynt hwy, y rhai a wnāt y saint a dernasant yn awr gydâ Duw yn y nef, er mawr ammarch iddynt, yn ddyscawdwyr o'r fath oferedd ac oedd ffiaiddiaf ganthynt yn eu bywyd.
[Page 150] O herwydd pa wersi am ddiystyru cyfoeth ac oferedd y bŷd a all llyfrau wedi eu hamgylchu fel hyn ag aur a meini gwerthfawr, a'u gorchguddio â sidan, eu dyscu? Pa wersi o sobredd a diweirdeb a all ein gwragedd ni eu dyscu gan yr Scrythyrau paentiedig hyn, a'u dillad mursennaidd, a'u golwg yscafn.
Onid ymmaith rhag cywilydd a'r fath gochlau delw-addoliaeth, a llyfrau ac Scrythyrau delwau a lluniau i ddyscu ffoliaid, nag ê i wneuthur Christianogion yn ffoliaid ynfyd ac yn anifeiliaid.
Ydyw dynion, a dolwg, a hwythau a'r vn fath lyfrau gartref ganthynt, yn rhedeg mewn pererindod i geisio 'r vn fath lyfrau yn Rhufain, Compostella neu Ierusalem i gael eu dyscu ganthynt, a hwythau a'r vn fath ganthynt i ddyscu gartref? A arfer dynion o berchi rhyw lyfrau ac o ddiystyru a dibrisio eraill o'r vn rhyw? A ydyw dynion yn arfer penlinio ger bron eu llyfrau, yn ennynnu canhwyllau ar hanner dydd, yn arogl-darthu, yn offrwm aur ac arian, a rhoddion eraill gar bron eu llyfrau? A ydyw dynion nac yn dychymmygu nac yn credu fod eu llyfrau hwy yn gwneuthur gwrthiau? Siccr yw fod Testament newydd ein Iachawdwr Christ yr hwn sydd yn cynnwys ynddo air y bywyd, yn fywiolach yn eglurach, ac yn gywirach delw o'n Iachawdwr nâ 'r holl gerfiedig, toddedig a lluniedig ddelwau yn y byd: ac etto nid ydys yn gwneuthur dim o'r fâth bethau hyn i lyfr neu Scrythur Efengyl ein Iachawdwr, ac a wnair i ddelwau, lluniau, llyfrau ac Scrythyrau gwŷr llŷg a ffyliaid (fel y galwant hwy.) Am hynny, galwant hwy yn y modd y mynnont, eglur yw wrth eu gweithredoedd hwynt [Page 151] nad ydynt yn gwneuthur amgen lly frau nac scrythyrau o honynt, nâ 'r rhai a ddyscant ddelwaddoliaeth brwnt atcas: fel y mae y rhai a arferant y fath lyfrau yn dangos beunydd wrth wneuthur y peth hynny.
Oh lyfrau ac scrythyrau yn y rhai yr scrifennodd y dyscawdwr cythreulig Sathan wersi melldigedig o felldigedig ddelw-addoliaeth, i'w ddiscyblon a'i yscolheigion llwfr i edrych arnynt, i ddarllen ac i ddyscu ammherchi Duw, a'u herchyll ddamnedigaeth eu hunain. Oni buom ni rwymedig, dybygwch chwi, i'r rhai a ddylasent ddangos i ni'r gwrionedd allan o lyfr Duw, a'i sanctaidd Scrythur, am iddynt gau llyfr Duw a'i sanctaidd Scrythur oddiwrthym, fel na bai neb o honom mor Hyf. eon a'i agoryd ef vnwaith neu ddarllen arno? ac am iddynt yn lle hynny agoryd i ni ar llêd y llyfrau cerfiedig, gwych goreurog, a'r scrythyrau paentiedig ymma, i ddyscu i ni y fath wersi daionus, duwiol? Oni wnaethont hwy yn dda yn ôl iddynt beidio a sefyll eu hunain yn y pulpudau i ddyscu 'r bobl a roddwyd iddynt i'w hathrawiaethu, gan dewi â son am air Duw, a myned yn gŵn mudion (fel y geilw y prophwyd hwy) osod i fynu i ni yn eu lle ar bob colofn a chornel o'r eglwys, y fath athrawon daionus duwiol, mor fudion ac annuwiolach nâ hwy eu hunain? Nid rhaid i ni gwyno eisiau vn person mud, a ninnau a chynnifer o Vicariaid diawlig mudidion gennym (yr eulynnod a'r babiod paentiedig ymma yr ydwyf yn ei feddwl) i athrawiaethu yn eu lle hwy.
Yn awr yr hyd y mae 'r delwau mudion meirwon ymma yn sefyll gwedi eu trwsio a'u dilladu [Page 152] fel hyn yn erbyn cyfraith Dduw a'i orchymmyn, a'r bobl Gristionogaidd dlodion, bywiol ddelwau Duw, y rhai a orchymmynnodd Christ mor gariadus i ni, megis rhai anwyl iawn gantho, yn sefyll yn noethion, yn crynu gan anwyd, a'u dannedd yn yscydwyd yn eu pennau, ac heb neb yn eu dilladu, yn dyddfu gan mewyn a syched, ac heb neb yn rhoddi iddynt genniog i'w helpu, lle mae punnoedd yn barod bob amser yn erbyn ewyllys Duw, i drwsio ac i harddu coed a cherrig meirwon, y rhai ni chlywant nac anwyd, na newyn, na syched.
Gan Clemens y mae ymadrodd gwych ynghylch y peth hyn, gan ddywedyd fal hyn, Mae 'r sarph Lib. 5. ad Iacobum Frat. Domini. diafol trwy enau rhyw ddynion yn dywedyd y geiriau hyn, yr ydym ni er anrhydedd i'r anweledig Dduw, yn addoli delwau gweledig: yr hyn yn siccr sydd gelwydd goleu: o herwydd pe gwir anrhydeddech ddelw Dduw, wrth wneuthur daioni i ddŷn yr anrhydeddech wir ddelw Dduw ynddo ef. O herwydd mae llun Duw ym-mhob dŷn, ond nid yw ei gyffelybiaeth ef ym-mhob dŷn, ond yn vnig yn y rhai sydd a chalonnau duwiol a meddyliau pur. Os mynnwch chwi gan hynny wir anrhydeddu delw Dduw, yr ydym ni yn mynegi i chwi'r gwir, ar ichwi wneuthur daioni i ddŷn yr hwn a wnaethpwyd ar ôl delw Dduw, ar ichwi roddi parch ac anrhydedd iddo ef, cynnorthwyo 'r tlawd â bwyd a'r sychedig â diod, y noeth â dillad, y claf â gwasanaeth, y diethr a'r dilettŷ â llettŷ, y carcharorion ag anghenrheidiau, a'r pethau hyn a gyfrifir megis gwedi eu gwîr roddi i Dduw. Ac mae 'r pethau hyn yn perthyn mor iniawn i anrhydedd Duw, megis pwy bynnag [Page 153] ni wnelo hyn, y mae efe yn gwrthwynebu delw Dduw ac yn gwneuthur llwyr gam â hi. O blegid pa anrhydedd i Dduw yw hyn, rhedeg at ddelwau coed a cherrig, ac anrhydeddu gwâg a meirwon luniau Duw, a diystyru dŷn yn yr hwn y mae gwir ddelw Dduw?
Ac yn y man ar ôl hyn y dywaid, Deellwch am hynny mai hudoliaeth y sarph Sathan yw hyn, sydd yn llechu ynoch ac yn ceisio gennych gredu eich bod yn dduwiol pan fôch yn anrhydeddu delwau difywyd meirwon, ac nad ydych yn annuwiol pan ddrygoch neu pan ni wneloch lês i greaduriaid rhesymmol, bywiol. Geiriau Clemens yw y rhai hyn oll.
Ystyriwch adolwg pa fodd y mae 'r hên athraw dyscedig hwn, o fewn can mlynedd ar ôl amser ein Iachawdwr Christ, yn dangos yn oleu na ddichon bod na gwasanaeth i Duw, na chrefydd gymmeradwy gantho, wrth anrhydeddu delwau meirwon, ond wrth gynorthwyo 'r tlodion, bywiol ddelwau Duw, yn ôl S. Iaco, yr hwn a ddywed, Hon yw 'r bur a'r wir grefydd gar bron Duw, ymweled â'r ymddifaid a'r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, ac ymgadw yn ddihalog oddiwrth y byd.
Wrth hynny nid ydyw gwir grefydd a bodlonrwydd Duw yn sefyll mewn gwneuthur, gosod i fynu, paentio, goreuro, trwsio a dilladu delwau mudion meirwon (y rhai nid ydynt ond babiod a theganau i hên ffyliaid mewn ynfydrwydd a delw-addoliad i ymddigrifo ynddynt ac i chwareu â hwynt) nac wrth eu cusanu hwy gan ymbennoethi, penlinio, offrwm ac arogl-darthu iddynt, mewn gosodiad canhwyllau, coesau, breichiau [Page 154] neu gyrph cyfain o gŵyr ger eu bron hwy; neu mewn gweddio arnynt, a cheisio ganthynt hwy neu gan y saint, y pethau a berthynant i Dduw yn vnig eu rhoddi. Ond mae 'r holl bethau hyn yn ofer, yn ffaidd ac yn ddamnedig ger bron Duw.
Ac am hynny mae pawb o'r fath ddynion yn gwario nid yn vnig eu harian a'u poen yn ofer, ond gyd â'u poen a'u côst, yn ennill iddynt eu hunain ddigofaint Duw a'i ddygyn lid, a thragwyddol ddamnedigaeth corph ac enaid. O blegid chwi a glywsoch brofi yn eglur yn yr Homiliau hyn yn erbyn delw-addoliaeth, trwy air Duw, athrawon yr Eglwys, historian Eglwysig, rheswm ac addysc amser, fod yn addoli gynt, a bod etto yn addoli delwau, ac felly bod yn gwneuthur delw-addoliad gan rifedi aneirif er mawr ddigio mawrhydi Duw, ac enbeidrwydd aneirif o eneidiau; ac na ellir mewn modd yn y byd wahanu delw-addoliaeth oddiwrth ddelwan a osoder mewn eglwysydd a Themlau, gwedy eu goreuro a'u trwsio 'n wŷch, ac am hynny mai eulynnod diammau ydyw ein delwau ni, ac felly bod y gwaharddiadau, y cyfreithiau, melldithion, by-gathiau o blaau ofnadwy, cystal amserol a thragwyddol a gynnhwysir yn y sanctaidd Scrythur ynghylch eulynnod a 'u gwneuthurwyr, eu hymddiffynwyr a 'u haddolwyr, yn perthynu i'n delwau ninnau a osodir i fynu mewn Eglwysydd a Themlau, ac i'w hymddiffynwyr, a'u gwneuthurwyr, a'u haddolwyr hwy: a bod yr holl enwau o ffiaidd-dra y rhai y mae gair Duw yn eu rhoi yn yr Scrythyrau sanctaidd i eulynnod y cenhedloedd, yn perthyn i'n delwau ni, gan eu bod yn eulynnod megis hwyntau, a chan fod yn [Page 155] gwneuthur yr vn fath ddelw-addoliad iddynt.
Ac y mae genau Duw ei hunan yn yr Scrythyrau sanctaidd, yn eu galw hwy yn ofereddau, yn gelwyddau, yn hudoliaethau, yn aflendid, yn frynti, yn dom, yn felldith, yn ffiaidd-beth ger bron yr Arglwydd.
Am hynny ni ellir ymgadw rhag erchyll ddigllonedd Duw, a pherigl ofnus i ninnau, heb ddistryw a llwyr ddinystr y fath ddelwau ac eulynnod allan o'r Eglwysydd a'r Temlau: a Duw a osodo ynghalonnau holl dywysogion Christianogol wneuthur hynny.
Ac yn y cyfamser byddwn ni synhwyrol, ac ymwagelwn fy-ngharedigion yn yr Arglwydd, ac na fydded i ni dduwiau dieithr, ond vn Duw yn vnig, yr hwn a'n gwnaeth pan nad oeddym ni ddim, Tâd ein harglwydd Iesu Grist, yr hwn a'n prynodd gwedi'n colli, a'r hwn sydd yn ein sancteiddio â'i Yspryd glân. O blegid hyn yw'r bywyd Io. 17. 3. tragwyddol, ei adnabod ef yr vnig Dduw, a'r hwn a ddanfonodd ef Iesu Ghrist.
Nac addolwn ac nac anrhydeddwn, er mwyn crefydd, neb ond efe, ac addolwn ac anrhydeddwn ef yn y modd y mae efe ei hunan yn ewyllysio, ac yn y modd y dangosodd ef yn ei air y mynnai ef ei addoli a 'i anrhydeddu, nid mewn na thrwy ddelwau nac eulynnod y rhai a waherddir i ni yn galed iawn, nac wrth benlinio, ennynnu canhwyllau, arogl-darthu ac offrwm rhoddion i ddelwau ac eulynnod, gan gredu y rhyngwn ni ei fodd ef felly. O blegid mae 'r holl bethau hyn yn ffiaidd ger bron Duw.
Ond addolwn ac anrhydeddwn Dduw mewn yspryd a gwirionedd, gan ei ofni a'i garu ef vwch [Page 156] law pob peth, gan ymddiried ynddo ef yn vnig, gan ei foliannu a'i glodfori ef yn vnig, a phob peth Io. 4. 23. arall ynddo ef, ac er ei fwyn ef. O blegid y cyfryw addolwyr a gâr ein Tâd nefol, yr hwn yw'r yspryd puraf, ac am hynny y mynn ef ei addoli mewn yspryd a gwirionedd. Y fath addolwyr oedd Moses, Abraham, Dafydd, Elias, Petr, Paul, Ioan a'r holl Batriarchau, prophwydi, Apostolion, merthyron, a holl wir sainct Duw, y rhai oll megis gwir garedigion Duw, oeddynt elynion a dinistrwyr delwau ac eulynnod, megis gelynion i Dduw ac i wir grefydd.
Am hynny gwachelwch a byddwch gall, anwylion yr Arglwydd, a'r pethau y mae eraill yn eu gwario yn erbyn gair Duw, ac yn annuwiol i'w damnedigaeth eu hunain, ar goed a cherrig (nid delwau ond gelynion Duw a'i saint) gweriwch chwi megis ffyddlon weision Duw, yn drugarog ar wŷr a gwragedd tlodion, plant ymddifaid, gwragedd gweddwon, dynion cleifion, dieithraid, carcharorion, ac eraill a fo mewn angen: fal y galloch yn-nydd mawr yr Arglwydd, glywed bendigedig a diddanus leferydd ein Iachawdwr Christ, dewch fendigedig i deyrnas fy-nhâd, a barottowyd i chwi er cyn dechreu 'r byd, o blegid yr oeddwn yn newynog, a chwi a roesoch i mi fwyd, yn sychedig a chwi a'm diodasoch, yn noeth a chwi a'm dilladasoch, yn ddieithr a chwi a'm llettyassoch, yngharchar a chwi a ymwelsoch â mi, yn glâf a chwi a'm diddanasoch. O blegid pa beth bynnag a wnaethoch i'r tlawd a'r anghenus yn fy enw i er fy mwyn i, hynny a wnaethoch erof fi. I'r hon deyrnas nefol, Duw Tâd y drugaredd a'n dygo ni er mwyn Iesu Ghrist ein hunig Iachawdwr, [Page 157] cyfryngwr a dadleuwr. I'r hwn gyd a'r Tad a'r Yspryd glan, vn anfarwol, anweledig a gogoneddus Dduw y byddo 'r holl anrhydedd a'r diolch a'r gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth am gyweirio, cadw 'n lan ac addurno Eglwysydd yn weddaidd.
ARfer gyffredinol a arferir gan bawb yw pan fwriadont alw eu ceraint a 'u cymydogion i 'w tai i fwytta neu yfed gydâ hwy: neu gael vn ymgynnull gyhoedd i draethu ac i ymddiddan ynghylch vn peth; hwy a fynnant fod ei tai (y rhai a gadwant mewn cywair gwastadol) yn lan ac yn deg: rhag eu cyfrif hwy yn fuscrell ac heb fawr gyfrif ganthynt am eu ceraint a'u cymydogidn. Pa faint mwy, gan hynny, y dylai dŷ Dduw, yr hwn yn gyffredinawl a alwn ni yr Eglwys, gael ei gyweirio yn gyflawn ym-mhob lle, a'i drwsio a'i harddu 'n barchus, a'i gadw 'n lan, ac yn beraidd i ddiddanwch pawb ac a ddelo iddo.
Mae 'n eglur yn yr Scrythyr lan, pa fodd y cwympodd tŷ Dduw, yr hwn a elwid ei Deml sanctaidd ef ac oedd fam-eglwys holl Iudea, waithiau mewn anghy-wair, ac fel yr halogwyd ac yr anurddwyd ef yn fynych, trwy wall ac annuwioldeb y rhai oedd edrychiaid arno. Ond pan fyddai brenhinoedd a llywiawdwyr duwiol yn y fan a'r lle, fe a roddid yn y man orchymmyn i adcyweirio Eglwys a thŷ Dduw, ac ar gynnull defesion y bobl tuag at ei adcyweirio ef.
Yr ydym yn darllen yn ail llyfr y brenhinoedd [Page 158] pa fodd y rhoddodd brenin Ioas yr hwn oedd dywysog duwiol, orchymmyn i'r offeiriaid i droi rhai o offrymmau 'r bobl tuag at gyweirio a gwellau Teml Dduw.
Yr vn fath orchymmyn a roddodd y brenin tra duwiol Iosias ynghylch adcyweirio ac ail adailad Teml Dduw, yr hon a gafas ef mewn diffyg, anghywair ac adfail mawr. Fe a ryngodd bodd i'r holl-alluog Dduw fod scrifennu yn helaeth yr historiau hyn ynghylch ail-adailadu ac adcyweirio ei Deml sanctaidd ef er dangos i ni, Yn gyntaf fod Duw yn fodlon i fod gan ei bobl ef le gweddaidd i ddyfod iddo ac i ymgynnull ynghyd i foliannu ac i fawrhau ei sanctaidd enw ef.
Ac yn ail ei fod ef yn fodlon dros benn i'r holl rai ac a ant yn ddiwall ac yn ddiesceulus ynghylch cyweirio a gwellau cyfryw leoedd ac appwyntiwyd i gynulleidfa pobl Duw ddyfod iddynt, yn y rhai y rhoddant ddiolch i Dduw am ei ddoniau yn ostyngedig ac yn gyttun, ac y moliannant ei sanctaidd enw ef ag vn galon ac ag vn lleferydd.
Yn drydedd yr ydoedd Duw yn anfodlon iawn i'w bobl, am eu bod yn adailadu, yn trwsio ac yn harddu eu tai eu hunain, ac yn goddef tŷ Dduw mewn adfail ac anghywair i fod yn anweddaidd ac yn am-mheraidd.
Am hynny y cyffrowyd ef yn ddirfawr yn eu herbyn hwy, ac y plagodd ef hwy, fal y gwelir yn y Prophwyd Aggeus: Fal hyn y dywaid yr Arglwydd, Ai amser yw hi i chwi eich hunain i drigo mewn tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd? hauasoch lawer a chasclasoch ychydig, bwyttasoch ac ni 'ch digonwyd, yfasoch ac ni 'ch disychedwyd, gwiscasoch ddillad ac ni chadwasont [Page 159] chwi yn glŷd, a'r hwn a ymgyflogo a gascl ei gyflog i gôd ddiwaelod.
Wrth y plagau hyn a osododd Duw ar ei bobl am escaeluso ei Deml, mae 'n eglur, y mynne Dduw fod ei Deml, ei Eglwys, y lle yr hwn yr arfer ei gynulleidfa ef ddyfod iddo, i'w fawrhau ef, gwedy ei adailadu a'i hatcyweirio a'i maentaeinio 'n dda. Fe ddywaid rhai heb ofalu nac am dduwioldeb nac am y lle o ymarfer duwiol: fe a orchymmynnodd Duw ei hunan adail a chyweirio 'r deml yn yr hên gyfraith, am fod llawer o addewidion mawrion gwedy eu cyssylltu â hi: ac am e'u bod hi yn arwydd, yn Sacrament, ac yn arwyddocâd o Grist ei hun, a'r Eglwys hefyd.
I hyn y gellir atteb yn ddigon hawdd, yn gyntaf nad oes dyffyg addewidion ar ein Eglwysydd ninnau gan fod ein Iachawdwr Crist yn dywedyd lle bytho dau neu dri gwedy ymgynull ynghŷd yn fy enw fi, myfi a fyddaf yn eu mysc hwy. Am hynny pan fytho lliaws mawr gwedy ymgynull ynghŷd i'r Eglwys, mae Duw a Christ Iesu yn bresennol ynghynnulleidfa ei bobl ffyddlon trwy ei nerth ai dduwiol gynhorthwy yn ol ei ddiogel a'i ddiddanus addewidion. Pa ham gan hynny na ddylei bobl Gristianogaidd wneuthur Temlau ac Eglwysydd, a hwynt a chymaint o addewidion iddynt o bresennoldeb Duw, ac oedd gan Salomon am y deml ddefnyddiol a wnaeth ef? Am y rhan arall, sef bod Teml Salomon yn arwydd o Ghrist, ni a wyddom yn awr yngoleuni discleir Efengyl Iesu Ghrist Mâb Duw, fod pob cyscodau, arwyddion ac arwyddocâd gwedy mynd yn hollawl ymmaith: fod yr holl ofer am-mrhoffidiol ceremoniau Iddewaidd a Phaganiaidd [Page 160] gwedy eu diddymmu yn gwbl: ac am hynny ni wnaethpwyd ein Eglwysydd ni i fod yn arwyddion ac yn arwyddocâd o'r Messias a Christ i ddyfod, ond er defnyddiau duwiol anghenrheidiol eraill: hynny yw, megis y mae gan bob gŵr ei dŷ ei hun i aros ynddo i gymmeryd ei esmwythdra ac ei orphywys ynddo, a 'r cyfryw gyfreidiau eraill: felly y myn Duw holl-alluog fod iddo yntef dŷ a lle i'r hwn yr ymgynull yr holl blwyf a'r gynulleidfa, yr hwn a elwir yr Eglwys a Theml Dduw, am fod yr Eglwys, yr hon yw cynnulleidfa pobl Dduw, yn ymgynull ac yn dyfod ynghŷd yno, i'w wasanaethu ef. Nid am ein bod yn meddwl wrth hyn fod yr Arglwydd, yr hwn ni all nef y nefoedd ei gynnwys a'i amgyffred, yn trigo yn yr Eglwys faen a chalch o waith dwylo dŷn, megis pe byddid yn ei gynnwys ef yn hollawl ynddi, ac na byddai mewn vn man arall: o herwydd ni thrigodd ef erioed felly yn-nheml Salomon.
Hefyd fe a gyfrifir ac a elwir yr Eglwys a'r deml hon yn sanctaidd, nid o honi ei hun, ond am fod pobl Dduw (y rhai sy 'n ymarfer o ddyfod yno) yn sanctaidd ac yn ymarfer yno mewn pethau sanctaidd nefol.
Ac er mwyn bod i chwi ddeall ym-mhellach pa ham y gwnaethpwyd Eglwysydd ym-mhlith Gristianogion, hyn oedd yr ystyr mwyaf, er mwyn bod i Dduw ei le a'i amser i'w anrhydeddu a'i wasanaethu gan holl gynulleidfa 'r plwyf yn gyfan. Yn gyntaf, i wrando ac i ddyscu yno fendigedig air y tragwyddol Dduw. Yn ail, er mwyn bod i holl gynnulleidfa pobl Dduw yn y plwyf alw ar enw Duw ag vn lleferydd, ac ag vn galon fawrhau a chlodfori ei enw ef, rhoddi difrif ddiolch [Page 161] i'r Tâd nefol o vn galon am ei anfeidrol ddoniau y mae ef yn eu rhoddi im beunydd ac yn aml, heb ollwng yn angof roddi yn elusenau i dylodion, fel y bo i Dduw ein bendithio ninnau yn gyfoethoccach.
Fal hyn y gellwch ddeall ac ystyried paham y gwnaethpwyd Eglwysydd gyntaf ym-mhluh Christianogion, ac y cyssegrwyd ac y gossodwyd hwy i'r defnyddion duwiol hyn, a phaham y dieithrwyd hwy yn hollawl oddiwrth bob defnyddion bryntion, halog, bydol. Am hynny pwy bynnag sydd ganthynt feddwl a bwriad bychan ar gyweirio ac adailadu teml Dduw, fe a ddylid eu cyfrif hwy yn bobl annuwiol iawn, yn wrthwyneb i bob trefn dda yn Eglwys Ghrist, ac yn diystyru gwir anrhydedd Duw, a thrwy siampl ddrwg yn rhwystro eu cymydogion, y rhai oni bai hwynt hwy, a fyddent yn dduwiol ac yn dda eu bwriad.
Mae 'r byd yn tybied nad ydyw ond peth bychan weled eu heglwysydd yn adfailio ac yn myned i lawr: ond pwy bynnag ni ddodant eu dwylaw i'w cynnal a'i cadw hwy i fynu, maent yn pechu yn erbyn Duw a'i gynnulleidfa sanctaidd. O herwydd oni bai fod yn bechod escaeluso a dibriso adcyweirio ac ail-adailadu y Deml, ni buasai Dduw yn digio yn gymmaint, ac yn plau ei bobl cyn gynted am eu bod hwy yn adailadu ac yn trwsio eu tai eu hunain yn wychion, ac yn dibrisio tŷ eu Harglwydd Dduw.
Mae 'n bechod ac yn gywilydd weled cynnifer o Eglwysydd gwedy gogwyddo ac adfeilio mor gywilyddus ym-mhob cornel. Os bydd tŷ gŵr ei hun lle mae ef yn trigo, yn gwaethygu, ni orphwys [Page 162] ef nes iddo ei adcyweirio ef ailwaith: ie os bydd ei yscubor ef, lle y ceidw ef ei ŷd, mewn anghywair, mor ddiesculus fydd ef nes darffo iddo ei chwbl gyweirio hi ailwaith, Os bydd ei stabl ef i gadw ei geffyle, neu ei dwlc ef i gadw ei foch, heb fod yn ddiddos yn erbyn glaw a gwynt, mor ofalus a fydd ef i osod arno gôst. Ac a fyddwn ni mor ofalus am ein tai cyffredinol gwael, y rhai a ddefnyddir i'r fath reidiau gwael, ac a fyddwn ni anghofus am dŷ Dduw yn yr hwn y traethir geiriau ein tragwyddol iechydwriaeth ni: ac yn yr hwn y ministrir y sacramentau, dirgelion ein prynedigaeth ni: yno y mae ger ein bron ffynnon ein ailanedigaeth; yno yr ydys yn cynnyg i ni gyfraniad corph a gwaed ein Iachawdwr Christ. Ac oni wnawn nigyfrif o'r lle yn yr hwn yr ydys yn trin y fath bethau nefol?
Am hynny os bydd genych barch i wasanaeth Duw, os bydd syberwyd ac honestrwydd, os bydd cydwybod i gadw ordeiniaeth anghenrheidiol duwiol, cedwch eich Eglwysydd mewn cywcir dda, trwy 'r hyn ni fodlonwch chwi Dduw yn vnig ac ni dderbyniwch yn vnic ei aml fendithion ef. Ond chwi a haeddwch hefyd air da pawb o'r bobl dduwiol.
Yr ail peth sydd yn perthyn at faenteinio tŷ Dduw yw ei harddu ef a'i gadw yn weddaidd ac yn lan.
Yr hyn bethau a ellir eu cyflawni yn haws pan fo 'r Eglwys gwedy ei chyweirio yn dda. O herwydd megys y bydd dynion yn hyfryd ac yn ddiddan pan welont eu tai a phob peth mewn trefn ynddynt, a phob cornel yn lan ac yn beraidd; felly pan fytho tŷ Dduw gwedy ei drwsio 'n deg a lleoedd [Page 163] gweddaidd i eistedd yndo, a phalpud i'r pregethwr, a bwrdd yr Arglwydd i finistro ei sanctaidd swpper ef, a'r bedydd-faen i fedyddio ynddo, a'r cwbl yn lân yn weddaidd ac yn beraidd, fe fydd y bobl yn chwannoccach i aros yno, dros yr holl amser a osodwyd iddynt.
A pha zêl ac â pha ddifrifwch y mae Christ yn taflu y prynwyr a'r gwerthwyr allan o Deml Dduw yn ymchwelyd i lawer fyrddau y newidwyr arian, a chadeirieu y rhai oedd yn gwerthu colomennod, ac ni adawodd ef i neb ddwyn llestr trwy y Deml? Fe ddywad wrthynt iddynt wneuthur ty ei Dâd ef yn ogof lladron, mewn rhan trwy ofergoel, rhagrith, gauaddoliad, gauathrawiaeth a thrachwant amfesurol, ac mewn rhan trwy ddiystyrwch, gan gamarfer y lle hwnnw trwy rodio a chwedleua, a thrwy bethau dayarol, heb nac ofn Duw, na pharch dyledus i'r lle.
Pa ogofudd lladron a wnaethpwyd o Eglwysydd yr holl deyrnas gynt, trwy ddirmygus brynu a gwerthu, corph a gwaed Christ yn yr offeren (fal y gwnaethpwyd i'r bŷd yr amser hynny gredu) mewn dirigae, pen-misoedd, trentelau, mewn manachlogydd a phriordai: heblaw camarferon echrydus eraill (bendigedig fo enw Duw yn dragowydd) yr ydym ni yn awr yn eu gweled ac yn eu deall. O'r holl ffiaidd bethau hyn y glanhaodd y rhai sydd yn lle Christ Eglwysydd y deyrnas hon, gan dynnu ymmaith bob gwarth a brynti y rhai trwy ddefosiwn dall ac am wybod a ymlyscasont i'r Eglwysydd er ys llawer can mlynedd.
Am hynny, oh chwichwi bobl ddaionus Gristianogawl, fanwyl Ynghrist Iesu: chwichwi y rhai nid ydych yn ymogogoneddu mewn crefydd [Page 164] fydol, ofer, ac mewn gwag harddwch a gwychder, ond ydych yn gorfoleddu yn eich calon weled gogoniant duw yn ei osod allan yn gywir ar Eglwysydd gwedy eu hadferu i'w hen a'u duwiol arfer, rhowch âch calonnau ddiolch i ddaioni 'r Hollalluog dduw yr hwn yn ein dyddiau ni a osododd ynghalonnau ei bregethwyr a'i weinidogion duwiol, a hefyd ynghalonnau ei ffyddlon lywiawdwyr a'i lywodraethwyr ddwyn y pethau hyn i ben.
Ac yn gymmaint a bod eich eglwysydd chwi wedi eu glanhau a'u hyscibo oddiwrth y brynti pechadurus, ofergoelus, a'r hwn yr halogasid ac yr anffurfiasid hwy: gwnewch chwithau eich rhan bobl dda ar gadw eich eglwysydd, yn weddaidd ac yn lan, na oddefwch eu halogi hwy a glaw a thywydd, a thomm colomennod, dylluanod y drydwy, brain a brynti eraill, yr hyn sydd frwnt a gresyn ei weled mewn llawer lle o'r wlad hon.
Tŷ gweddi yw hi, nid tŷ i ymchwedleua i rodio i ymdaeru, i gerddoriaeth, gweilch a hebogau neu gwn. Nac annogwch anfodlonrwydd a phlau Duw, gan ddiystyru acham-arfer ei sainctaidd dŷ ef, fal y gwnaeth yr Iddewon annuwiol: ond bydded Duw yn eich calonnau, byddwch vfydd i'w ewyllys sanctaidd ef: ym-rwymwch wŷr a gwragedd yn ôl eich gallu, tu ag at gyweirio a chadw yn lân yr Eglwys, fel y galloch fod yn gyfranogion o amryw fendithiau Duw, a dyfod yn ewyllysgarach i'ch Eglwys blwyf, i ddyscu yno eich dylyed tuag at Dduw, a'ch cymydog, i fod yno yn bresenol, ac yn gyfrannogion o sanctaidd Sacramentau Christ i roddi yno ddiolch [Page 165] i'n Tâd nefol am ei aml ddoniau. Y rhai y mae ef beunydd yn eu tywalt arnoch, yno i weddio ynghyd, ac i alw ar sanctaidd enw Duw yr hwn a fendiger byth ac yn dragywydd. Amen.
¶ Pregeth am weithredoedd da ac yn gyntaf am ymprydio.
RHodd rad Duw (bobl dda Gristionogaidd) yw ein bywyd ni yn y byd hwn, nac arferwn ef wrth ein hewyllys yn ol ein chwantae cnawdol ein hunain, ond ymddygwn trwyddo yn y gweithredoedd a weddae ini y rhai a wnaethpwyd yn greaduriaid newydd ynghrist Iesu. Y gweithredoedd hyn y mae 'r Apostol yn e'u galw yn weithredoedd da, gan ddywedyd, canys ei waith ef ydym, wedy 'n creu ynghrist Iesu i weithredoedd da y rhai a ddarparodd Duw ini rodio ynddynt. Ac etto nid yw ei feddwl ef wrth y geiriau hyn ar ein dwyn ni i ymddiried ac i obeithio yn ein gweithredoedd, megis trwy eu haeddiant au teilyngdod hwy i ennill ini ein hunain ac eraill faddeuant pechodau; ac felly yn y diwedd fywyd tragwyddol. O herwydd fe fyddai hynny yn ddirmig yn erbyn trûgaredd Duw, ac anfri mawr i dywaltiad gwaed ein Iachawdwr Christ. O herwydd rhodd râd a thrûgaredd Dûw trwy gyfryngad gwaed ei fab Iesu Ghrist; heb haeddiant o'n hystlus ni, yw maddau ein pechodau a'n cymmodi ni a heddychu rhyngom ni ag ef, a'n gwneuthur yn etifeddion teyrnas nefoedd.
Grâs medd S. Awstin a berthyn i Dduw sydd [Page 166] yn ein galw ni; ac yno pwy bynnag a gafodd râs, mae gantho weithredoedd da: wrth hynny nid Aug. de diuers. quaest. ad Sictplic. li. 1 q. 28. gweithredoeddd da sydd yn dwyn gras, ond trwy râs y dygir gweithredoedd da. Mae r' rhôd medd ef, yn troi yn grwn, nyd er mwyn cael ei gwneuthur yn gron, ond am ei gwneuthur hi yn gron yn gyntaf, am hynny y mae hi yn troi yn grwn. felly nid yw neb yn gwneuthur gweithredoedd da er mwyn cael derbyn grâs trwy ei weithredoedd da; ond am iddo yn gyntaf dderbyn grâs, am hynny yno mae efe yn gwneuthur gwythredoedd da.
Ac mewn man arall y dyweid, Nid ydyw gweithredoedd da yn myned o'r blaen yn yr hwn a gysiawnheir, ond mae gweithredoedd da yn dyfod ar ôl gwedi darfod cyfyawnhau dŷn yn gyntaf.
Mae S. Paul am hynny yn dangos fod yn Aug. de fide & op. ca. 4. rhaid i ni wneuthur gweithredoedd da am lawer o achosion, yn gyntaf i ddangos ein bod ni yn blant vfydd i'n tâd nefol, yr hwn a'u hordeiniodd hwy i ni i rodio ynddynt.
Yn ail am eu bod hwy yn arwyddion ac yn dystiolaethau o'n cyfiawnhad ni.
Yn drydydd er mwyn cyffroi a chynhyrfu eraill wrth weled ein gweithredoedd da ni, i ogoneddu ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd.
Am hynny na fyddwn anescud i wneuthur gwythredoedd da, am fod ewyllys Duw i ni rodio ynddynt, gan ein siccrhau ein hunain y derbyn pob dŷn gan Dduw yn y dydd diwethaf, am y boen a gymmerth ef yn y wir ffydd, obrwy a fytho mwy nag a haeddodd ei weithredoedd ef.
Ac o herwydd bod yn rhaid son am vn weithred dda yn vnig, yr hon y mae ei chlôd yn y gyfraith [Page 167] ac yn yr Efengyl, fe a ddywedpwyd hyn yn y dechreuad yn gyffredinol am bob gweithredoedd da.
Yn gyntaf i droi heibio oddiar ffordd y diddrwg a'r annyscedig, y maen tramgwydd enbaid hwn, ar fod i neb geisio ennill neu brynu nef â'i weithredoedd ei hûnan.
Yn ail, i dynuu ymmaith (nesaf y geller) oddiwrth feddyliau cenfigennus a thafodau enllibus, bob achos cyfiawn o enllib, megis petteid yn bwrw heibio weithredoedd da.
Y weithred dda a sonir am dani yn awr, yw ympryd, o'r hon y mae sôn am ddau ryw yn yr Scrythur.
Y naill oddiallan yn perthynu i'r corph, a'r llall oddifewn yn perthinu i'r galon a'r meddwl.
Yr ympryd hwn oddiallan yw ymattal oddiwrth fwyd a diod a phob ymborth naturiol, ie ac oddiwrth bob digrifwch a melyswedd bydol.
Pan fytho 'r ympryd ymma yn perthyn i vn dŷn o'r neilltu, neu i rai, ac nid i holl liaws y bobl, o blegid achosion a fanegir ar ol hyn, yno y gelwir yn ympryd nailltuol: ond pan fytho 'r holl liaws, gwŷr, gwragedd a phlant mewn tref neu ddinas, ie mewn gwlâd gyfan, yn ymprydio, yno y gelwir yn ympryd cyffredinol.
O 'r fâth hynny yr oedd yr ympryd a orchymmynnwyd i holl liaws plant yr Israel ei gadw ar y degfed dydd o'r seithfed mîs, o blegid i'r Arglwydd Dduw appwyntio fod y dydd hwnnw yn ddydd glanhâd, yn ddydd cymmod, yn amser heddychfa, yn ddydd yn yr hwn y glanhawyd y bobl oddiwrth eu pechodau. Y drefn a'r modd y gwnaed hynny sydd scrifennedig yn 16. a'r 23. O Leuiticus. Leuit 16. 30. cap. 23. 29. Y dydd hwnnw yr ydoedd y bobl yn ymgystuddio, [Page 168] yn galaru ac yn ochain am eu pechodau aethent heibio. A phwy bynnag ni chystuddiodd ei enaid y dydd hwnnw, gan alaru am ei bechodau, ganymattal (fel y dywedpwyd) oddiwrth bob ymborth corphorol hyd yr hwyr, yr enaid hwnnw (medd yr Holl-alluog Dduw) a ddinistrir o fysc y bobl.
Nid ydym ni yn darllein ddarfod i Moses trwy drefn cyfraith ordeiniaw vn dydd ympryd cyffredinol trwy 'r holl flwyddyn, ond yr vn diwrnod hwnnw. Yr ydoedd er hynny gan yr Iddewon ychwaneg o ddiwrnodiau ympryd cyffredinol, y rhai y mae 'r prophwyd Zacharias yn eu cyfrif, yn Zach. 8. 19. ympryd y pedwaredd mîs, ympryd y pummed mis, ympryd y saithfed ac ympryd y degfed mîs.
Ond am nad yw yn ymddangos yn y gyfraith pa bryd yr ordeiniwyd hwy, fe a ddylid tybied ddarfod appwyntio 'r diwrnodiau ympryd eraill, heb law ympryd y seithfed mîs, ym mysc yr Iddewon, gan y llywodraethwyr, yn hytrach o ddefosiwn, na thrwy vn gorgymmyn cyhoedd oddiwrth Dduw.
Wrth ordinhâd yr ympryd cyffredinol hwn, y cymmerodd gwyr da achos i appwyntio iddynt eu hunain ymprydiau neilltual, ar yr amseroedd y byddēt naill ai yn galaru ac yn ochain dros eu bywyd pechadurus, ai ar yr amser yr ymroddent i weddio yn ddifrif ar fod yn wiw gan Dduw droi ei ddigofaint oddiwrthynt, naill ai pan rybyddid hwy, ac y dygid hwy i ystyried eu drwg fywyd trwy bregethiad y prophwydi, neu pan welent mewn rhyw fodd arall berigl presennol vwch eu pennau.
Y trymder calon ymma yn gyssylltedig ag ympryd a ddangosent hwy weithiau trwy ymddygiad [Page 169] ac oddiallan ac ymarweddiad corphorol, gan wisco sach-liain, a bwrw lludw a llwch ar eu pennau, ac eistedd neu orwedd ar y ddayar. O blegid pan glywo gwŷr da ynddynt eu hunain, faich trwm eu pechodau, a gweled mai damnedigaeth yw eu gwobr hwy, a phan welont â llygaid eu calonnau erchill boenau vffern, maent yn crynu ac yn Yscrydio yscrydu, ac yr ydys oddifewn yn eu cyffroi hwy â thrymder calon am eu beiau, ac ni allant lai nâ'u cyhuddo eu hunain, a dangos eu gofyd i'r Holl-alluog Dduw, a galw arno ef am drugaredd. Ac os gwneir hyn yn ddifrif, mae eu meddyliau mor llawn, mewn rhan, o dristwch a thrymder, ac mewn rhan, a chwant difrif ar gael eu gwared oddiwrth berigl vffern a damnedigaeth, fal y rhoddont heibio bob chwant bwyd a diod, ac y daw yn eu lle hwy ddiystyrwch pob peth bydol a phob digrifwch, fal nad oes dim yn eu bodloni hwy yn fwy nag wylo ac ochain a galaru, ac i ddangos wrth eu geiriau a'u hymddygiad corphorol, eu bod hwy yn ddiffygiol o'r bywyd hwn.
Fal hyn yr ymprydiodd Dafydd pan oedd ef yn eiriol ar yr holl-alluog Dduw am fywyd y plē tyn, a ennillasid mewn godineb o wraig Vrias. Fal hyn yr ymprydiodd Achab pan edifarhaodd ef am ladd Naboth, gan dristau am ei weithredoedd pechadurus. O'r fath hyn yr oedd ympryd y Ninifeaid a ddygwyd i edifeirwch drwy bregetheaid Ionas.
Pan laddwyd deugain mîl o'r Israelaid yn y rhyfel yn erbyn gwyr Beniamin, mae 'r Scrythyr yn dywedyd, fe aeth holl blant yr Israel a holl rifedi 'r bobl i Bethel ac a eisteddasant i lawr [Page 170] i wylo ger bron yr Arglwydd, ac hwy a ymprydiasant trwy 'r dydd hyd y nos. Felly yr ymprydiodd Daniel, Hester, Nehemias, a llawer eraill yn yr hên Destament.
Ond os dywaid neb, gwir yw, hwy a ymprydiasant felly yn siccr, ond nid ydym ni yn awr tan iau 'r gyfraith, yr ydym ni yn rhyddion trwy rydddid yr Efengyl: am hynny nid ydyw 'r defodau a'r arferon hynny o'r hên gyfraith yn ein rhymo ni, oni ellir dangos trwy Scrythyrau y Testament newydd, neu trwy siamplau allan o hono, fod ympryd yn awr dan yr Efengyl yn ymattaliaeth oddiwrth fwyd a diod a phob ymborth corphorol, a hoffderau 'r corph.
Yn gyntaf mae yn wirionedd mor amlwg y dylyem ni ymprydio, nad rhaid ymma ei brofi, mae 'r Scrythyrau yn eglur sydd yn dangos hynny. Y questiwn gan hynny yw, pan fythom ni yn ymprydio, pa vn a ddylem ni ai cadw ein cyrph oddiwrth fwyd a diod dros yr amser y bôm yn ymprydio, ai na ddylem?
Fe a ellir gweled yn hawdd y dylem ni wneuthur felly, wrth y questiwn a ofynnodd y Pharisaeaid i Grist, ac wrth ei atteb yntef. Pa ham (meddant hwy) y mae discyblon Ioan yn ymprydio Luc. 5. 33. yn fynych ac yn gweddio, a discyblon y Pharisaeaid, a'th ddiscyblon di yn bwyta ac yn yfed, ac heb ymprydio dim? Yn y questiwn esmwyth hwn y maent yn cynnwys yn ddichellgar y ddadl neu'r rheswm hwn: Pwy bynnag nid ymprydio nid yw 'r dŷn hwnnw o Dduw. O blegid gweithredoedd yw ympryd a gweddi a ganmolwyd ac a orchymmynnwyd gan Dduw yn ei Scrythyrau, ac fe a ymarferodd pob gŵr da o Moses hyd [Page 171] yr amseroedd hyn, yn gystal prophwydi ac eraill, yn y gweithredoedd hyn. Y mae Ioan hefyd a'i ddiscyblon yn y ddyddiau hyn yn ymprydio yn fynych ac yn gweddio llawer, ac felly yr ydym ninnau y Pharisaeaid yn gwneuthur hefyd. Ond nid ydyw dy ddiscyblon di yn ymprydio ddim, yr hyn os ti a'i gwada, ni a'i profwn yn ddigon hawdd. O blegid pwy bynnag sydd yn bwytta ac yn yfed nid ydyw yn ymprydio. Ond mae dy ddiscyblon di yn bwytta ac yn yfed, am hynny nid ydynt yn ymprydio. O hyn meddant yr ydym yn casclu nad oes na thydi na'th ddiscyblon o Dduw.
Mae Christ yn atteb gan ddywedyd, A ellwch chwi beri i blant y priodas-fâb ymprydio tra fyddo y priodas-fâb gyd â hwy? fe ddaw 'r ddyddiau pan dynner y priodas-fâb oddiwrthynt yn y dyddiau hynny yr ymprydiant.
Mae 'n Iachawdwr Christ megis meistr da yn ymddiffyn diniweidrwydd ei ddiscyblon yn erbyn malis y Pharisaeaid beilchion, ac yn profi nad ydyw ei ddiscyblon ef yn euog o dorri vn gronyn o gyfraith Dduw, er nad oeddynt y prŷd hynny yn ymprydio; ac mae ef yn ei atteb yn argyoeddi 'r Pharisaeaid o ofergoel ac anwybod. O ofergoel am eu bod yn gosod crefydd yn eu gweithredoedd, ac yn rhwymo sancteiddrwydd wrth weithrediad y gwaith oddiallan, heb ystyried i ba ddefnydd yr ordeiniwyd ympryd. O anwybodaeth am na fedrent farnu rhwng amser ac amser. Ni wyddent hwy fod amser i lawenydd ac i ddiddanwch, ac amser i gwynfan ac i alaru. Y ddau beth hyn y mae efe yn eu dangos yn ei atteb, fal y dangosir yn helaeth ar ôl hyn, pan ddangosom pa amser sydd gymmhesuraf i ymprydio ynddo.
[Page 172] Ac ymma fyngharedigion, ystyriwn nad ydyw ein Iachawdwr Christ wrth wneuthur ei atteb i'w Questiwn hwy, yn gwadu, ond yn cyfaddef bod ei ddiscyblon ef heb ymprydio, ac am hynny yn hyn y mae efe yn cyttuno a'r Phariseaid, am ei fod yn wirionedd eglur, nad ydyw 'r hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn ymprydio. Ympryd am hynny wrth addefiad ein Iachawdwr Christ, yw cadw bwyd a diod, a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph, dros yr amser y bydder yn ymprydio.
Ac mae 'n eglur iawn wrth Gyngor Calcedon, vn o'r pedwar Cyngor cyffredinol cyntaf, fod yn y brif-eglwys gynt yn arfer o ymprydio: y tadau a ymgynnullasent yno hyd yn rhifedi chwe-chant a dêg ar vgain, gan ystyried ynddynt eu hunain mor gymmeradwy ger bron Duw yw ympryd, pan arferer efe yn ôl gair Duw: ac hefyd gan osod o flaen eu llygaid, y mawr gamarfer o ympryd oedd gwedi ymlusco i Eglwys Duw yr amser hynny, trwy esceulusdra y rhai a ddylasent ddyscu i'r bobl ei iawn arfer hi, a thrwy ddeongladau ofer a ddychymmygase ddynion: er mwyn iawnhau y camarferon hynny, ac adferu gweithred mor dduwiol ac mor dda i'w iawn arfer: hwy a ordeiniasant yn y Cyngor hwnnw fod i bôb dŷn cystal mewn ympryd nailltuol ac ympryd cyffredinol, aros trwy 'r dydd heb na bwyd na diod hyd ar ol Gosper: a phwy bynnag a fwyttae neu a yfe cyn darfod Gosper, fe a'i cyfrifid ac a dybygid amdano nad oedd yn ystyried purder ei ympryd. Mae 'r ordinhâd hon yn dangos mor eglur pa fodd yr arferid ympryd yn y brif-eglvoys gynt, fel na ellir mewn geiriau ei osod allan yn eglurach.
Ympryd gan hynny wrth ordinhâd y chwechant [Page 171] a'r dêg ar vgain hynny o dadau, gan seilio eu barn am y peth hyn ar yr Scrythyrau sanctaidd, a hirbarhaus arfer y prophwydi a gwŷr duwiol eraill o flacn dyfodiad Christ, a'r Apostolion hefyd a gwŷr dwyfol eraill yn y Testament newydd, yw hyn, Cadw bwyd a diod a phob ymborth naturiol oddiwrth y corph tros yr amser a osodwyd i ymprydio. Hyn a ddywetpwyd hyd yn hyn er dangos i chwi yn oleu pa beth yw ymprydio. Yn ôl hyn y dangosir gwir ac iawn arfer ympryd.
Nid ydyw gweithredoedd da i gŷd o'r vn rhyw. O herwydd mae rhai o honynt eu hunain ac o'u naws priodol eu hunain yn dda bob amser: megis y mae caru Duw vwchlaw pob peth, caru fynghymydog fel fi fy hun, anrhydeddu tâd a mam, anrhydeddu y galluau goruchaf, rhoi i bawb yr hyn a ddylei, a'r cyffelyb.
Mae gweithredoedd eraill y rhai os ystyrir hwy ynddynt eu hunain heb fyned ym-hellach, sydd o'u naturiaeth eu hunain yn ganolig, hynny yw heb na bod yn dda na bod yn ddrŵg, ond a gymmerant eu henw o'r modd yr arferer hwynt, neu o 'r defnydd y gwasanaethant iddo. Y gweithredoedd hyn os gwneir hwy i ddiwedd da, a elwir yn weithredoedd da, ac ydynt felly yn siccr: ond etto nid yw hynny o honynt hwy eu hunain, ond o'r diwedd i'r hwn y maent yn gwasanaethu.
Yn y gwrthwyneb, os bydd y diwedd i'r hwn y gwasanaethant, yn ddrwg, yno ni all na bo rhaid iddynt hwythau fod yn ddrŵg. O'r rhyw ymma ar weithredoedd y mae ympryd, yr hwn o hono ei hunan sydd beth canolig diddrwg didda: ond a wneir yn ddrwg neu yn dda wrth y diwedd y mae yn gwasanaethu iddo. O herwydd pā wneler [Page 172] ef er mwyn diwedd da, y mae ef yn weithred dda, ond os drwg fydd y diwedd, y mae 'r weithred hefyd yn ddrwg. Ymprydio am hynny gan gredu yn y galon y gall ein hympryd a'n gweithredoedd da ein gwneuthur ni yn wŷr perffaith cyfiawn, ac felly yn y diwedd ein dwyn ni i'r nef: meddwl cythreulig yw hwn, ac y mae 'r ympryd hwn cyn belled oddiwrth fodloni Duw, ac y mae hi yn ymwrthod â'i drugaredd ef, ac yn lleihau haeddiant dioddefaint Christ, a thywalltiad ei werthfawr waed ef. Hyn y mae dammeg y Phasai a'r Publican yn ei ddangos.
Dau ŵr (medd ein Iachawdwr Christ) aethant Luc. 18. 10. i fynu i'r deml i weddio, vn yn Pharisęad a'r llall yn Bublican. Y Pharisaead o'i sefyll a weddiodd ynddo ei hun fal hyn, O Dduw yr ydwyf yn diolch i ti nad ydwyf fal dynion eraill y rhai ydynt drawsion, anghyfion a godinebwyr, neu fal y Publican hwn: yr ydwyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, yr ydwyf yn degymmu cymmaint oll a feddaf. A'r Publican yn sefyll o hirbell ni chodai ei lygaid tu â'r nef, eithr curo ei ddwyfron gan ddywedyd, o Dduw bydd drugarog wrthif bechadur. Yn y Pharisęad hwn y mae Christ yn gosod allan yngolwg ac ym-marn y bŷd, ŵr perffaith, iniawn, cyfiawn, yr hwn ni halogir â 'r beiau y llygrir dynion eraill yn gyffredinol, megis trawsder, camwobr, cribddeilio a chneifio 'r cymydogion, yspeilwyr ac anrheithwyr yr holl wlâd, dichellgar a thwyllodrus wrth newid a chyfnewid, yn arfer pwysau twyllodrus, anudon ffiaidd wrth brynu a gwerthu, godinebwyr, putteinwyr a dynion yn byw yn ddrygionus.
Nid oedd y Pharisaead y fath ddŷn, ac nid ydoedd [Page 173] feius mewn vn bai cyhoeddus. Ond lle'r oedd eraill yn troseddu wrth adel heb wneuthur, y pethau yr oedd y gyfraith yn eu gofyn, yr oedd hwn yn gwneuthur mwy nag oedd angenrheidiol wrth gyfraith. O blegid yr oedd ef yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos, ac yn talu degwm o gymmaint ac a feddai. Pa beth gan hynny a allei 'r bŷd ei feio yn gyfion yn y dŷn hwn? ie pa beth oddiallan ychwaneg a ellid ei ddymuno ynddo, er ei wneuthur yn berffeithiach ac yn gyfiawnach dŷn? dim yn wir ym-marn dŷn: ac etto mae 'n Iachawdwr Christ yn derchafu 'r Publican truan heb ymprydio, o'i flaen ef a'i ympryd cantho: mae 'r achos yn eglur pa ham y gwnaeth ef felly.
O herwydd y Publican gan nad oedd gantho ddim gweithredoedd da i ymddiried ynthynt, a ymrôdd i Dduw, gan gyffessu ei bechodau a gobeitho yn siccr y cedwid ef trwy râd trugaredd Duw yn vnig. Yr oedd y Pharisęad yn ymogoneddu ac yn ymddiried cymmaint i'w weithredoedd, ac y tybiodd ef ei hunan yn ddiogel ddigon heb drugaredd, ac y cai ef ddyfod i'r nef wrth ei ymprydiau a'i weithredoedd eraill. I 'r defnydd ymma y gwasanaetha 'r ddammeg hon. O blegid hi a ddywedpwyd wrth y rhai oeddynt yn ymddiried ynddynt eu hunain eu bod yn gyfiawn ac yn diystyru eraill.
Yn awr am fod y Pharisęad yn cyfeirio ei weithredoedd at ddiben drwg, gan geisio trwyddynt gyfiawnhâd, yr hyn yn wir yw priodol waith Duw heb ein haeddiant ni, yr oedd ei ymprydiau ef ddwywaith yn yr wythnos, a'i holl weithredoedd eraill er eu hamled, ac er cystal a sancteiddied y tybygid eu bod hwy yngolwg y bŷd, etto [Page 174] yn wirionedd ger bron Duw yn ffiaidd ac yn ddrwg. Y nôd hefyd y mae rhagrithwyr yn saethu atto yn eu hympryd, yw ymddangos yn sanctaidd yngolwg y bŷd, ac felly ennill moliant a chlod gan ddynion. Ond mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd am danynt hwy, eu bod hwy yn derbyn eu gwobr, hynny yw clod a chanmoliaeth dynion, ond gan Dduw nid oes iddynt ddim. O blegid pa beth bynnag a wneler er mwyn diwedd drŵg, a wneir yn ddrŵg yntef trwy 'r diwedd drŵg.
Hefyd, yr hŷd y cadwom annuwioldeb yn ein calonnau, ac y goddefom feddyliau drwg i aros yno, er i ni ymprydio cyn fynyched ac y gwnaeth S. Paul neu Ioan fedyddiwr, a chadw ein hympryd morgaeth ac y gwnaeth y Niniseaid, ni bydd hynny yn vnig yn anfuddiol i ni, ond hefyd yn beth yn anfodloni Duw yn fawr. O blegid mae efe yn dywedyd fod ei enaid ef yn ffieiddio ac yn cashau 'r fâth ymprydiau, ie a'u bod hwy yn faich arno ef, a'i fôd yn blino yn eu dwyn hwy. Ac am hynny y mae ef yn gwaeddi yn vchel yn eu herbyn Esa. 1. 14. hwy gan ddywedyd trwy enau'r Prophwyd Esai, Wele y dydd yr ymprydioch mae eich chwant yn aros, ac y mynnwch eich holl ddyledion; Wele Esa. 58. 4. i ymryson a chynnen yr ymprydiasoch ac i daro â dwrn anwir. Nac ymprydiwch fel y dydd hwn gan beri clywed eich llais yn vchel. Ai fal hyn y bydd yr ympryd yr hwn a ddewisaf y dydd y cystuddio dŷn ei enaid? ai trwy grymmu ei ben fel brwynen pan wisco arno sach-liain a lludw? ai hyn a elwir yn ympryd, neu yn ddiwrnod bodlon gan yr Arglwydd?
Yn awr, fyngharedion, gan nad yw'r Arglwydd [Page 175] yn derbyn ein hympryd ni er mwyn y weithred, ond y mae ef yn edrych swyaf beth yw meddwl y galon, ac wrth hynny y mae efe yn cyfrif ein hympryd ni yn dda neu yn ddrŵg, wrth y diwedd i'r hwn y mae efe yn gwasanaethu. Ein rhan ni yw rhwygo ein calonnau ac nid ein dillad, fal y Ioel 2. 13. mae 'r Prophwyd Ioel yn ein cynghori, hynny yw, mae'n rhaid i'n trymder ni a'n galar fod oddifewn yn y galon, ac nid mewn golwg oddiallā yn vnig, ie anghenrheidiol yw i ni yn gyntaf o flaen pob peth lanhau'n calonnau oddiwrth bechod, ac yno cyfeirio ein hympryd at y diwedd y mae Duw yn ei gyfrif yn ddaionus. Y mae tri diwedd at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni, yno y bydd ef yn weithred fuddiol i ni, a chymmeradwy gan Dduw.
Y cyntaf yw cystuddio 'r cnawd, rhag ei fod yn rhy drythyll, ond gwedi ei ddofi a'i ddarostwng i'r Yspryd. Dymma 'r peth yr oedd Paul yn edrych arno yn ei ympryd, Yr ydwyf, medd ef, yn cospi fynghorph, ac yn ei ddarostwng, rhag mewn vn modd wedi i mi bregethu i eraill, fy mod fy hunan yn anghymmeradwy.
Yr ail yw, er mwyn gwneuthur yr yspryd yn ddifrifach ac yn wresoccach i weddio. I'r defnydd Act. 13. 2. ymma yr ymprydiodd y prophwydi a'r dyscawdwyr oeddynt yn Antiochia, cyn iddynt ddanfon allan Paul a Barnabas i bregethu 'r Efengyl. I'r vn fath ddefnydd yr ymprydiodd y ddau Apostol hynny, pan orchymmynnasant hwy i Dduw y cynnulleidfaon oeddynt yn Antiochia, Pisidia, Iconium a Lystra, fel yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apostolion. Act. 14. 13.
Y trydedd yw, bod ein hympryd ni yn dystiolaeth [Page 176] ac yn dŷst ger bron Duw o'n hafydd ddarostyngedigaeth ni i'w oruchel fawrhydi ef, pan fythom yn cyffessu ac yn cydnabod ein pechodau iddo ef, a phan yn cyffroer ni oddifewn â thristwch calon, gan alaru o'i plegid trwy gystuddio ein cyrph.
Dymma dri diwedd neu iawn arfer ympryd; y cynta sydd yn perthynu yn briodol i ympryd nailltuol; y ddau eraill sydd gyffredinol yn perthyn i ympryd cyhoeddus ac i ympryd nailltuol. A hyn a ddywedpwyd am iawn-arfer ympryd.
Arglwyddd trugarhâ wrthym a dyro i ni râs fel y bo i ni tra fyddom byw yn y byd blinderog hwn, allu trwy dy gymmorth di ddwyn y ffrwyth hwn, a'r cyfryw ffrwythau eraill o'th Yspryd di, y rhai a ganmolir ac a orchymmynnir i ni yn dy sanctaidd air di, er gogoniant i'th enw di, a diddanwch i ninnau, megis yn ol rhedegfa y blin fywyd hwn y gallom fyw yn dragywydd gydâ thi yn dy deyrnas nefol, nid er mwyn haeddiant na theilyngdod ein gweithredoedd ein hunain, ond er mwyn dy drugaredd di, a haeddedigaethau dy anwyl Fâb Iesu Grist, i'r hwn gydâ rhi a'r Yspryd glân, y byddo moliant, anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am Ymprydio.
FE a ddangoswyd yn yr Homili o'r blaen, fy-ngharedigion, mai ympryd ym-mhlith yr Iddewon fal y gorchymmynnwyd ef oddiwrth Dduw trwy Moses, oedd ymattal trwy 'r [Page 177] dydd o'r boreu hyd yr hwyr, oddiwrth fwyd a diod a phob math'ar ymborth a lluniaeth corphorol, a phwy bynnag a brofai ddim cyn yr hwyr, ar y dydd a osodwyd i ymprydio, a gyfrifid ei fod yn torri ei ympryd.
Yr hyn drefn er ei fod yn ddieithr yn-nhŷb rhai yn ein dyddiau ni, am nad arferwyd ef yn gyffredinol yn y deyrnas hon er ys llawer o flynyddoedd, etto fe a brofwyd yno yn ddigon helaeth trwy dystiolaethau a siamplau o'r Scrythyr lân yn y Testament newydd ac yn yr hên, mai felly yr oeddid yn ymprydio ym-mhlith pobl Dduw (yr Iuddewon yr wyf yn ei feddwl,) y rhai cyn dyfodiad ein Iachawdwr Christ a fu wiw gan Dduw eu dewis iddo ei hunan yn bobl nailltuol o slaen holl genhedloedd y ddayar; ac mai hynny oedd feddwl ein Iachawdwr Christ am ympryd; ac mai felly yr arfere'r Apostolion o ymprydio yn ôl dyrchafiad Christ. Ac yno hefyd y dangoswyd iawn-arfer ympryd.
Yn yr ail rhan hon o'r Homili y dangosir na ddichon vn drefn na chyfraith ar a wnel dŷn ynghylch pethau a fyddo o'u naturiaeth eu hunain yn ddiddrwg ddidda, rwymo cydwybodau Christianogion i'w cynnal ac i'w cadw hwy yn wastadol; ond bod i'r galluoedd goruchaf gyflawn rydd-did i newid ac i symmud pob cyfraith ac ordinhâd o'r fâth hynny, pa vn bynnag fyddont ai eglwysig a'i bydol, pan fyddo'r amfer a'r lle yn gofyn.
Ond yn gyntaf fe a wneir atteb i gwestiwn a ellir ei ofyn, Pa farn a ddylei fod gennym am y cyfryw ddirwest ac ymattaliaeth; ac a appwyntir drwy drefnid a chyfraithiau cyhoedd tywysogion, [Page 178] a thrwy awdurdod y llywodraeth-wyr, er mwyn llywodraeth fydol, heb ystyried crefydd yn hynny. Megis pan appwyntier amser i ymprydio mewn rhyw deyrnas er mewyn maentaenio y trefydd pyscod a fo ar lan y môr, ac er mewyn amlhau pyscodwyr, o'r rhai y daw morwyr i fyned i longwriaeth, i gyflawni llongau 'r deyrnas, trwy y rhai y gellir Symmud. trosglwyddo cymmwynasau allan o wledydd eraill, a'r rhai hefyd a allant fod yn ymddyffynfa angenrheidiol i wrthwynebu cyrchau 'r gelynion. Er mwyn cael deall y questiwn ymma yn well, mae 'n rhaid i ni wneuthur gwahaniaeth rhwng bydol lywodraeth tywysogion yn trefnu a llywodraethu eu gwledydd, yn rhagddarbod ac yn rhagddarparu y cyfryw bethau ac a fyddo rhaid er diogelwch ac ymddiffyn eu deiliaid a'u gvoledydd: a rhwng llywodraeth eglwysig wrth appwyntio rhyw weithredoedd, trwy y rhai megis trwy ail-achosion y gellir llonyddu digofaint Duw ac ennil ei drugaredd.
Fe ddylyai bob deiliaid Christianogawl, a hynny o barch i'r llywodraethwr, nid yn vnig rhag ofn cosp, ond hefyd (fel y dywaid yr Apostol) er mwyn cywybod, vfyddhau 'r holl gyfraithiau gosodegig a wnelo tywysogion, er mwyn cadw a chynnal eu llywodraeth fydol, trwy na byddent gwrthwyneb i gyfraithiau Duw. Er mwyn cydwybod meddaf, nid cydwybod o'r peth a orchymmynner, yr hwn o'i naturiaeth ei hunan sydd ddiddrwg ddidda, ond er mwyn cydwybod ein hufydd-dod, yr hon wrth gyfraith Dduw sydd ddyledus arnom i'r llywodraethwr, megis i weinidog Duw.
[Page 179] Er bod y cyfraithiau gosodedig hyn yn gwahardd i ni sydd ddeiliaid arfer tros amser ryw fwydydd a diodydd, y rhai a adawodd Duw trwy ei sanctaidd air yn rhydd i bob math ar ddŷn eu cymmeryd trwy roddi diolch, ym-mhob lle ac amser: etto am nad ydyw tywysogion a llywodraethwyr eraill yn gwneuthur y cyfreithiau hynny er mwyn gosod mwy o sancteiddrwydd mewn rhyw fwyd neu ddiod nag mewn arall, neu wneuthur vn diwrnod yn sancteiddiach nag vn arall: ond yn vnig er mwyn llywodraeth fydol a daioni 'r wlâd: mae pob deiliaid yn rhwym er mwyn cydwybod i'w cadw hwy wrth orchymmyn Duw, yr hwn sydd trwy ei Apostol yn erchi i bawb heb nailltuo neb, fod yn ddarostyngedig i awdurdod y galluoedd goruchaf.
Ac yn y pwngc ymma, tu ag at am ein dlêd ni sydd yn trigo yn yr ynys hon, wedi ein hamgylchynu â moroedd, mae i ni achosion a rheswm mawr i gymmeryd ffrwythau 'r dyfroedd y rhai a osododd yr Holl-alluog Dduw o'i sanctaidd ragweliad, mor agos attom, trwy 'r hyn y gellir yn well gynhilo a chynnyddu ymborth a lluniaeth y tir, er mwyn dwyn ymborth i well newid, fel y geller yn haws gynnorthwyo angenrheidiau 'r tlodion.
Ac fe a weddai ei fod ef yn fruttain rhy foethus yr hwn gan ystyried y budd sydd yn canlyn, ni all attal peth ar ei flysig chwant er mwyn ordinhâd ei dywysog a chyfundeb gwŷr call y deyrnas.
Pa galon gywir fruttanaidd na ewyllysai weled ei hên ogoniant wedi dychwelyd eilwaith i'r deyrnas hon, yn yr hyn yroedd hi cyn ein hamser ni, trwy glod fawr yn rhagori ynghaderind ei [Page 180] llongau ar y môr? Pa beth a frawycha galon ein gelynion ni yn fwy na 'n gweled ni mor gadarn ac mor arfog ar y môr, ac y mae 'r gair i ni fod ar y tir? Pe damune y tywysog vfydd-dod gennym ni i ymgadw oddiwrth gîg dros vn diwrnod mwy nag yr ydym, ac i fod yn fodlon i vn pryd o fwyd y dwthwn hwnnw, oni ddylai ein budd ein hunain ein hannog ni i vfydd-dod? Ond yn awr lle yr ydys yn goddef i ni gymmeryd dau bryd ar y diwrnod hwnnw, ar yr hwn yr arfere ein rhieni ni mewn lliaws mawr yn y deyrnas hon gymmeryd vn pryd prin o fwyd, a hwnnw o byscod yn vnig; a ddylyem ni dybied fod yn rhydrwm y baich yr ydys yn ei orchymmyn i ni?
Hefyd ystyriwn adfail y trefi ar lan y môr, y rhai a ddylei fod yn barottaf o gwbl mewn rhifedi eu pobl i wrthladd y gelyn, ac felly ninnau y rhai sy yn trigo ym-mhellach yn y tir wrth eu cael hwy yn darian ac yn ymddiffyn i ni, a fyddem diofalach a diogelach. Os ein cymydogion ni ydynt, pa ham nad ewyllysiwn eu llwyddiant hwy? Os ydynt yn ymddiffynfa i ni, am eu bod yn gyfnesaf i wrthladd y gelyn, ac i attal cynddairiogrwydd y mor oddiwrthym, yr hwn oni bai hwy a dorre dros ein porfeydd tirion ni, pa ham na chynnorthwywn hwy? Ac nid ydym yn cymmell hyn mewn llywodraeth Eglwyfig, gan appwyntio modd i ymprydio, i ymddarostwng yngwydd yr Holl-alluog Dduw, fod y modd a'r drefn honno ar ympryd a arferid ym-mhlith yr Iuddewon ac a ganlynwyd gan Apostolion Christ yn ôl ei dderchafiad ef, o'r fath rym ac anghenrhaid, fal y dyleid arfer y drefn honno yn vnig ym-mysc Christianogion, ac nid vn arall; o blegid ni byddei [Page 181] hynny ond rhwymo pobl Dduw tan iau a baich llywodraeth Moses; ie ac dyna 'r ffordd iniawn i'n dwyn ni y rhai a rydd-hawd trwy rydd-did Efengyl Ghrist, tan gaethiwed y gyfraith drachefn; yr hyn na atto Duw i neb ei amcanu na 'i fwriadu.
Ond i'r defnydd hyn y mae yn gwasanaethu, er mwyn dangos faint y gwahaniaeth sydd rhwng y drefn ar ymprydio a arferir heddyw yn yr Eglwys, a'r drefn a arferid yr amser hynny.
Ni ddyleid ac ni ellir rhwymo Eglwys Duw felly wrth vn drefn a wnaethpwyd nac a wneler nac a ddychymmyger ar ôl hyn trwy awdurdod dŷn, fel nas dichon hi yn gyfreithlon ar achosion cyfiawn symmud, newid neu yscafnhau y deddfau a'r ordeiniaethau eglwysig hynny, ie a'u gadel yn gwbl, a'u torri pan fônt yn pwyso at ofergoel ac annuwioldeb, pan fônt yn tynu 'r bobl oddiwrth Dduw yn fwy nâ gweithio adeiladaeth yndynt.
Yr awdurdod hon a arferodd Christ ei hun, ac a adawodd ef i'w Eglwys. Ef a'i harferodd hi meddaf: O blegid, y drefn a'r ordinhâd a wnelse 'r henuriaid, am ymolchi yn fynych, yr hyn a gedwyd yn ddiesceulus ym-mhlith yr Iuddewon, etto am ei bod yn gorbwyso at ofergoel, y drefn honno meddaf a newidiodd ac a symmudodd ein Iachawdwr Christi Sacrament buddiol, Sacrament ein ail enedigaeth ni. Yr awdurdod hon ar esmwytho cyfreithiau ac ordemiaethau eglwysig a arferodd yr Apostolion pan wrth scrifennu o Ierusalem at yr Eglwys oedd yn Antiochia, yr ewylliasant iddynt na osodent arnynt faich amgenach Act. 15. 28. nâ 'r pethau anghenrheidiol hyn, sef bod iddynt ymgadw oddiwrth y pethau a offrymmyd [Page 182] i ddelwau, a gwaed, a'r pethau a dagwyd, a godineb, er bod cyfraith Moses yn gofyn cadw llawer o bethau eraill.
Yr awdurbod hon a'r newid ordeiniaethau, cyfraithiau a gosodiadau 'r Eglwys, ar ôl amser yr Apostolion, a arferodd y tadau ynlghych y modd y bydde raid ymprydio, fel y mae 'n eglur wrth yr histori deir-rhan, lle 'r scrifennir fal hyn: Ynghylch ympryd yr ydym yn gweled fod yn ei arfer Tripart. hist. lib▪ 9. 38. ef mewn amryw foddion yn amryw leoedd gan amryw ddynion. Oblegid maent hwy yn Rhufain yn ymprydio dair wythnos ar vntu o flaen y Pâsc, ond ar sadyrnau a suliau, yr hwn ympryd a alwant hwy y Garawys. Ac yn ôl ychydig eiriau yn yr vn man y canlyn, Nid oes ganthynt oll drefn vnwedd ar ymprydio. O blegid rhai a ymgadwant oddiwrth byscod a chîg hefyd. Rhai pan ymprydiont ni fwyttânt ddim ond pyscod. Y mae eraill pan ymprydiont a fwyttânt bob adar dyfroedd cystal a physcod, gan osod eu sail ar Moses fod y cyfryw adar a'u hanffod o'r dwfr yn gystal a physcod. Mae eraill pan ymprydiont ni fwyttant na llysiau nac wyau. Mae rhyw ymprydwyr ni fwyttant ddim ond bara yn sŷch. Eraill pan ymprydiont ni fwyttant cymmaint a bara yn sŷch. Mae rhai yn ymprydio oddiwrth bob ymborth hyd yr hwyr, ac yno y bwyttant heb wneuthur na dewis na gwahaniaeth o vn bwyd mwy nâ'i gilydd. A mîl o'r fath amryw foddion ar ymprydio a geir mewn amryw leoedd yn y byd, y rhai a arfer amryw ddynion mewn amryw foddion. Ac er yr holl amryw foddion ymma ar ymprydio, etto ni thorrwyd cariad, gwir rwymyn Christianogawl dangneddyf, ac ni thorrodd eu hamryw [Page 183] ympryd hwy vn amser eu cyfundeb hwy a'u Euseb li. 9. c. 24. cyttundeb mewn ffydd.
Am ymgadw ryw amseroedd oddiwrth ryw fwydau, nid am fod y bwydau yn ddrŵg, ond am nad ydynt yn anghenrheidiol, nid yw'r dirwest a'r ymattaliaeth hwn (medd S. Augustin) yn ddrŵg. Dogm Eccles. cap. 66. Ac ymgadw rhag bwydau pan fo anghenrhaid ac amser yn gofyn, hyn (medd ef) sydd yn perthyn yn briodol i Gristianogion.
Fal hyn y clywsoch (bobl dda) yn gyntaf fod deiliaid Christianogaidd yn rwhym mewn cydwybod i vfyddhau cyfraithiau tywysogion, y rhai ni bônt yn wrthwyneb i gyfreithiau Duw. Chwi a glywsoch hefyd nad ydyw Eglwys Grist mor rhwymedig i gadw vn drefn neu gyfraith neu ordinhâd a wnelo dŷn tuag at osod allan ddull neu drefn mewn crefydd: megis nad oes gan yr Eglwys gyflawn allu ac awdurdod oddiwrth Dduw, i'w newid ac i'w symmud hwy pan fytho anghenrhaid yn gofyn: yr hyn a ddangoswyd i chwi trwy siampl ein Iachawdwr Christ, trwy arfer ei Apostolion ef, a'r tadau ar ôl eu hamser hwythau.
Yn awr y dangosir ar ychydig eiriau pa amser sydd gyfaddas i ymprydio, o blegid nid yw pob amser yn gwasanaethu i bob peth, ond fel y dywaid y gŵr doeth, Y mae amser i bob peth, amser Eccles. 3. 1. i wylo ac amser i chwerthin, amser i alaru ac amser i lawenychu, &c. Mae ein Iachawdwr Christ yn escusodi ei ddiscyblon ac yn argyoeddi y Pharisaeaid am nad oeddynt yn deall arfer ympryd, nac yn y ystyried yr amser sydd gyfaddas i ymprydio. Y ddau beth hynny y mae efe yn eu dyscu yn ei atteb, gan ddywedyd, Ni all plant y Matt. 9. 15. [Page 174] briodas alaru yr hyd y byddo 'r priodas-fâb gyd â hwy. Eu questiwn hwy oedd ynghylch ympryd, a'i atteb yntef sydd am alaru, gan arwyddoccau iddynt yn oleu, nad yw ympryd y corph o ddiallan, yn ympryd ger bron Duw, oni bydd yn gyssylltedig â'r ympryd oddifewn, yr hwn yw galar a chwynfan yn y galon, fel y manegwyd o'r blaen.
Am amser ympryd y mae efe yn dywedyd, Fe ddaw 'r dyddiau pan dynner y priodas-fâb oddiwrthynt, ac yno yr ymprydiant yn y dyddian hynny. Mat. 19. 15. Luc. 5. 35. Wrth hyn y mae yn eglur nad ydyw hiamser i ymprydio yr hyd y parhao'r briodas, a thra fyddo'r priodas-fâb yn bresennol. Ond pan ddarffo'r briodas a myned o'r priodas-fâb ymmaith, yno y mae hi yn amser cyfaddas i ymprydio.
Yn awr i ddangos i chwi yn olen beth yw ystyr a deall y geiriau ymma, Yr ydym yn y briodas: a thrachefn, Fe a dynnwyd y priodas-fâb oddiwrthym: ystyriwch, yr hyd y byddo Duw yn datcuddio ei drugareddau i ni, ac yn rhoddi ei ddoniau ysprydol neu gorphorol i ni, fe a ddywedir ein bod ni gyd â'r priodas-fâb yn y briodas. Felly yr ydoedd yr hên dâd daionus Iacob yn y briodas pan glywodd fod ei fâb Ioseph yn fyw, ac yn rheoli yr holl Aipht dan frenhin Pharao. Felly yr oedd Dafydd yn y briodas gydâ'r priodas-fâb pan gafodd ef yr oruchafiaeth yn erbyn Goliah fawr, a thorri o hono ei ben ef. Yr ydoedd Iudith a holl bobl Bethulia yn blant y briodas, a'r priodas-fâb gydâ hwy, pā ddaroedd i Dduw trwy law gwraig ladd Holophernes pen-tywysog llu 'r Assyriaid, a gorthrechu eu holl elynion. Fel hyn yr oedd yr Apostolion yn blant y briodas yr hyd yr ydoedd [Page 185] Christ yn gorphorol yn bresennol gyd â hwy, ac yn eu hamddiffyn hwy oddiwrth bob perigl, ysprydol a chorphorol.
Ond yno y dywedir fod y briodas gwedi darfod, a'r priodas-fâb gwedi myned ymmaith, pan fo yr Holl-alluog Dduw yn ein taro ni â blinder, ac wrth dybygoliaeth yn ein gadel ni ym - mhlith aneirif o wrthwynebau. Felly y mae Duw yn fynych yn taro rhai neilltuol ag amryw wrthwynebau, megis trallod meddwl, colled ceraint neu dda, hir a pheriglus glefydau &c. yno y mae hi yn amser cyfaddas i'r dyn hwnnw i ymddarostwng i'r Holl-alluog Dduw trwy ympryd, ac i alaru ac i gwynfan am ei bechodau â chalon athrist, ac i weddio yn ddiragrith gan ddywedyd gyd a'r prophwyd Dafydd▪ Cudd dy wyneb oddiwrth fymhechodau Psal. 51. 9. Arglwydd, a delêa fy holl amwireddau. Hefyd pan fytho Duw yn cystuddio rhyw deyrnas neu wlâdâ rhy feloedd, newyn, Haint y nodau. cornwyd. cowyn, neu glefydau dieithr a heintiau anghydnabyddus, a'r cyfryw flindereu eraill: yno y mae hi yn amser i bob grâdd o ddynion, vchelradd ac issel-radd, gwŷr a gwragedd▪ a phlant, ymddarostwng trwy ympryd, a galaru am eu bywyd pechadurus ger bron Duw a gweddio ag vn llefeferydd cyffredinol gan ddywedyd fel hyn, neu ryw fath weddi arall, Bydd drugarog o Arglwydd, Bydd drugarog wrth dy bobl sydd yn troi attat mewn wylofain ac ympiyd a gweddi, arbed dy bobl y rhai a brynaist â'th werthfawr waed, ac na oddefddistrywio dy etifeddiaeth a'i gwradwyddo.
Mae ympryd a arferir fel hyn ynghŷd â gweddi yn rymmus iawn ac yn bwysig ger bron Duw. Felly y dywedodd yr Angel Raphael wrth Tohias. Tob. 12. 8. [Page 186] Mae hyn yn eglur hefyd wrth yr hyn a attebodd ein Iachawdwr Christ i'w ddiscyblon, pan ofynnasant iddo, pa ham na allent hwy fwrw 'r pspryd aflan allan o'r hwn a ddygesid attynt. Ni fwrir y rhywhwn allan (eb efe) ond trwy ympryd a gweddi.
Ni ellir dangos i chwi byth mor nerthol yw ympryd ac mor bwysig ger bron Duw, a pha beth a all ei gael ar law Dduw, yn well nâ thrwy agoryd i chwi a gosod ger eich bron rai o'r pethau godidog a wnaethpwyd trwy ympryd.
Ympryd oedd vn 'or cyfryngau a'r achosion a wnaeth i'r Holl-alluog Dduw newid yr hyn a ddarfuase iddo ei fwriadu ynghylch Ahab am ladd y gŵr diniwed Naboth, er mwyn cael meddiannu 1. Bren. 21. 19. ei winllan ef. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Elias, gan ddywedyd, dôs a dywed wrth Ahab, a leddaist di ac a feddiannaist, fel hyn y dywed yr Arglwydd, y fan lle y llyfodd y cŵn waed Naboth y llyfant dy waed dithau hefyd; wele fi yn dwyn dial arnat ti, a mi a dynnaf ymmaith dy hiliogaeth; y cŵn a fwyttant yr hyn a fyddo marw eiddo Ahab yn y ddinas, a'r hwn a fyddo marw yn y maes a fwytty adar y nefoedd.
Y gosp ymma a fwriadase 'r Holl-alluog Dduw i Ahab yn y byd hwn, a dinistrio pob gwr-ryw o gorph Ahab, heb law'r gosp a gwympe arno yn y byd a ddaw. Pan glybu Ahab hyn fe a rwygodd ei dillad ac a wiscodd sach-liain, ac a ymprydiodd ac a orweddodd mewn sachliain, ac a gerddodd yn Droednoeth. ddiarchen: yno y daeth gair yr Arglwydd at Elias gan ddywedyd, Oni weli di'r modd yr ymostyngodd Ahab ger fymron i? amiddo ymostwng ger fy mron i, ni ddygaf y drwg [Page 187] hwnnw yn ei ddyddiau ef, ond yn-nyddau ei fâb ef y dygaf y drwg hwnnw ar ei dŷ ef.
Ac er i Ahab trwy gyngor annuwiol Iesabel ei wraig wneuthur lladdfa gywilyddus, ac yn erbyn pob cyfiawnder dietifeddu a difeddiannu yn dragywydd eppil Naboth o'r winllan honno: etto wrth ei vfydd ymostyngiad ef i Dduw yn ei galon, yr hyn a ddangosodd ef oddiallan trwy wisco sach-liain ac ymprydio, fe a newidiodd Duw ei farn, fel na chwympodd y gosp a fwriadase ef, ar dŷ Ahab yn ei amser ef, ond hi a oedwyd hyd ddyddiau ei fâb ef Ioram.
Ymma y gwelwn pa rym sydd yn ein hympryd ni oddiallan, pan gyssyllter ef ag ympryd y meddwl oddimewn, yr hwn yw (fal y dywetpwyd) trymder calon, ffiaiddio ein drwg weithredoedd a chwynfan o'u plegid. Y cyffelyb sydd i'w weled yn y Ninifeaid, o blegid wedi darfod i Dduw Ionas 3. 4. amcanu dinistrio holl ddinas Ninife, a bod yr amser a appwyntiase ef ger llaw, fe a ddanfonodd y prophwyd Ionas i ddywedyd wrthynt, Etto ddeugain nhiwrnod, a Ninife a ddifethir. Ac yn y man gwyr Ninife a gredasant i Dduw, ac a ymroesant i ymprydio, ie fe a barodd y brenhin trwy gynghor ei gynghoriaid gyhoeddi gan ddywedyd, dyn ac anifail, eidion a dafad, ni phrofant ddim, ni phorant ac nid yfant ddwfr: ond gwisced dŷn ac anifeil sachliain, a gwaedded ar Dduw yn lew, a dattroed pob dyn oddiwrth ei ffordd ddrygionus, ac oddiwrth y camwedd yr hwn sydd yn eu dwylo hwynt, pwy a wyr a drŷ 'r Arglwydd ac a edifarhâ a dattroi o angerdd ei ddig, fel na ddifether ni?
Ac ar yr edifeirwch hwn eiddynthwy a ddangoswyd [Page 188] oddiallan trwy ymprydio, rhwygo eu ddillad, gwisco sach-liain, bwrw llwch a lludw ar eu pennau, mae r Scrythur yn dywedyd, A gwelodd Duw eu gweithredoedd hwy, sef troi o honynt o'u ffyrdd drygionus, ac fe ai edifarhaodd Duw am y drwg a ddywedase y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.
Yn awr fy-ngharedigion chwi a glywsoch yn gyntaf beth yw ympryd, cystal yr hwn sydd oddiallan yn y corph, a'r hwn sydd oddifewn yn y galon. Chwi a glywsoch hefyd fod tri diwedd neu fwriad at y rhai os cyfeirir ein hympryd ni oddiallan, mae fe yn weithred dda, a Duw yn fodlon iddo.
Yn drydydd y dangoswyd pa amser sydd gymmhesuraf i ymprydio, yn neilltuol ac yn gyhoedd.
Yn ddiwethaf pa bethau a gafodd ympryd ar law Dduw, wrth siampl Ahab a'r Ninifeaid. Am hynny fyngharedigion yn yr Arglwydd, gan fod llawer mwy o achosion i ymprydio ac i alaru, yn ein dyddiau ni, nag a fu mewn llawer blwyddyn mewn vn oes o'r blaen; ymrown oddifewn yn ein calonnau, ac oddiallan yn ein cyrph, i arfer yn ddiwyd yr arfer ymma o ymprydio, yn y modd a'r agwedd yr arferodd y sanctaidd brophwydi, yr Apostolion a llawer o wŷr duwiol eraill hi yn eu hamser. Yr vn Duw yw Duw yn awr ac oedd efe yr amser hwnnw, Duw yn caru cyfia wnder ac yn cashau anwiredd, Duw ni ewyllysia far wolaeth pechadur, ond yn hytrach ymchwelyd o hono oddiwrth ei anwiredd a byw, Duw yr hwn a addawodd droi attom ni, os ni ni wrthodwn droi atto ef: ie os ni a drown ein drwg weithredoedd o'i olwg ef, os peidiwn a gwneuthur drygioni, a dyscu [Page 189] gwneuthur daioni, ceisio gwneuthur cyfiawnder a chynnorthwyo 'r gorthymmedig, bod yn farnwyr cyfiawn i'r ymddifad ac yn ymddiffyn i'r weddw, torri ein bara i'r newynog, a dwyn y tlawd a fyddo ar ddidro i'n tai, os dilladwn y noeth a bod heb ddiystyru ein brawd yr hwn yw ein cnawd ni ein hunain: yno y gelwi (medd y prophwyd) a'r Arglwydd a atteb, ti a waeddi ac yntef a ddywaid, dymma fi. Ie yr vn Duw a wrandawodd ar Ahab a'r Ninifeaid, ac a'u harbedodd hwy, a wrendy ein gweddiau ninnau ac a'n harbed ni, os ni yn ôl eu siampl hwy a drown atto yn ddiragrith: Ie fe a'n bendithia ni a'i nefol fendithion tros yr amser sydd i ni i aros yn y byd hwn, ac yn ôl rhedfa 'r bywyd marwol hwn, fe a'n dwg ni i'w deyrnas nefol, lle y teyrnaswn ni mewn dedwyddwch tragwyddol gydâ 'n Iachawdwr Christ: I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth yn erbyn Glothineb a meddwdod.
CHwi a glywsoch, fy-ngharedigion, yn y bregeth o'r blaen, ddull a rhinwedd ympryd a'i iawn arfer; yn awr chwi a gewch glywed mor frwnt o beth yw glothineb a meddwdod gar bron Duw, er mwyn eich cyffroi chwi i ymprydio yn ddyfalach.
Deellwch gan hynny ddarfod i'r Holl-alluog Dduw (er mwyn bod i ni ymgadw yn ddihalog, a'i wasanaethu ef mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder [Page 190] yn ôl ei air) orchymmyn yn yr Scrythyrau i gynnifer o honom ac sydd yn edrych am ogoneddus ymddangosiad ein Iachawdwr Christ, fyw mewn sobredd, lledneisrwydd, a chymmedrolder. Wrth yr hyn y gallwn ddyscu mor anghenrhaid Tit. 2. 12. yw i bob Christion, ac a fynne fod yn barod yn nyfodiad ein Iachawdwr Christ, fyw mewn sobredd yn y bŷd presennol hwn, gan na all ef, os bydd ammharod, fyned gydâ Christ i 'w ogoniant: ac os bydd efe diarfog yn hyn o beth, ni all ef na bô mewn gwastadol berigl gan i gelyn creulon, y llew rhuadus, yn erbyn yr hwn y mae Petr yn ein rhybyddio ni i'n parottoi ein hunain mewn gwastadol sobredd, fel y gallom ei wrthwynebu ef yn gadarn mewn ffydd. 1. Pet. 5.
Am hynny fel y gallom arfer y sobredd hwn yn ein holl ymddygiad, fe fydd cyfaddas mynegi i chwi faint y mae pob rhysedd a gormodedd yn digio mawrhydi yr Holl-alluog Dduw, ac mor dost y mae efe yn cospi anfesurol gam-arfer y creduriaid a ordeiniodd ef i borthi anghenrheidiau ein bywyd ni, megis bwyd a diod a dillad.
A chyfaddas fydd dangos hefyd y clefydai niweidiol a'r Aflwydd. echrys mawr sydd fynychaf yn canlyn y rhai sydd yn ymroi i ddilyn yn afradlon y cyfryw hoffderau ac sydd gyssyltedig a gormodd o fwydydd moethus, neu ddillad rhy werthfawr a rhy wychion.
Ac yn gyntaf fel y galloch weled mor gas ac mor ffiaidd yngwydd yr Holl-alluog Dduw, yw gormodd bwytta ac yfed, chwi a gofiwch yr hyn y mae S. Paul yn ei scrifennu at y Galathiaid, lle Gal. 5. 21. y mae efe yn cyfrif glothineb a meddwdod ymmhlith y beiau Erchyll. echrydus, y rhai (medd efe) ni [Page 191] all neb y byddont ynddo etifeddu teyrnas Dduw. Mae efe yn eu cyfrif l wy ym-mhlith gweithredoedd y cnawd, ac yn eu Cyplu. cwplysu hwy a delwaddoliad, putteindra a llofruddiaeth, y beiau mwyaf ac a ellir eu henwi ym-mhlith dynion: o herwydd mae 'r cyntaf yn yspailio Dduw o'i anrhydedd, yr aill yn halogi ei deml sanctaidd ef, hynny yw, ein cyrph ni: a'r trydydd yn ein gwneuthur ni yn gyfeilion i Cain wrth ladd ein brodyr, a phwy bynnag, medd S, Paul, a'u gwnelo, ni allant etifeddu teyrnas Dduw.
Yn siccr, mae 'r pechod hwnnw yn gâs ac yn ffiaidd ger pron Duw, yr hwn sydd yn peri i Dduw droi ei wynebpryd grasol mor bell oddiwrthym, ac y cae ai ni yn llwyr allan o'r drŵs, a'n dietifeddu ni o'i deyrnas nef. Ond y mae fe yn ffiaiddio anifeiliaidd wledda a gloddest yn gymmaint, fel y mae efe trwy ei fâb Iesu Ghrist ein Iachawdwr yn yr Efengyl, yn cyhoeddi ei Erchyll. echrydus lid yn erbyn pawb a wnânt eu boliau yn Dduw iddynt, gan eu barnu yn felldigedig, â dywedyd, Gwae chwi y rhai ydych lawnion, canys chwi a newynwch. A thrwy enau y Prophwyd Luc. 6. 25. Esai mae fe yn gweiddi, Gwae y rhai a gyfodant yn foreu, ac a ddilynant ddiod gadarn, ac Esai. 5. 11. a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni ennynno diod gadarn hwy: ac yn eu gwleddoedd hwy y mae 'r delyn a'r nabl, y tympan, y bibell hefyd a'r gwin; ond gwaith yr Arglwydd nid edrychant, ac gweithred ei ddwylaw ef ni welant: Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a'r dynion nerthol i gymmyscudiod gadarn.
Ymma y mae 'r prophwyd yn dangos yn oleu fod cyfeddach a gwledda yn gwneuthur i ddynion [Page 192] anghofio eu dlyed tu ac at Dduw: pan fônt yn ymroi i bob rhyw hoffder a digrifwch, heb ystyried na meddwl am weithredoedd yr Arglwydd, yr hwn a greodd fwyd a diod, fel y dywaid S. Paul, i'w derbyn mewn diolchgarwch gan y ffyddloniaid, y rhai a adwaenant y gwirionedd. 1. Tim. 4. 4. Megis y dylai edrych yn vnig ar y creaduriaid hynny (y rhai ydynt waith dwylo yr holl-alluog Dduw) ein dyscu ni i'w harfer hwy yn ddiolchus, fel yr ordeiniodd Duw.
Am hynny y maent hwy yn ddiescus ger bron Duw, y rhai naill a'u a lanwant eu hunain yn afradlon, heb ystyried y sancteiddiad sydd trwy air Duw a gweddi, ai ynte yn anniolchgar a gamarferant ddaionus greaduriaid Duw, trwy rythni a gormodedd a meddwdod, gan fod ordeinhâd Duw yn ei greaduriaid yn gwahardd hynny yn oleu. Pwy bynnag gan hynny a ymroddant i yfed ac i wledda heb ystyried barnedigaeth Dduw, hwy a oddiweddir yn ddisymmwth ynnydd dial.
Am hynny y dywaid ein Iachawdwr Christ wrth ei ddiscyblon, Edrychwch arnoch eich hunain Luc. 21. 34. rhag gorchfygu eich calonnau a glothineb a meddwdod a gofalon y bŷd hwn, a dyfod y dydd hwnnw arnoch yn ddisymmwth. Pwy bynnag gan hynny a gymmero rybydd wrth eiriau Christ, gwilied arno ei hunan, rhag Gorchfygu. gormeilo ei galon a glothineb a meddwdod, a'i ddala ef yn ddisymmwyth gyd â'r gwâs afradlon, yr hwn heb feddwl am ddyfodiad ei feistr, a ddechreuodd guro Luc. 12. 26. ei gyfeillon y gweision a'r morwynion, a bwytta ac yfed a meddwi, a chwedy ei ddala yn ddisymmwth ef a gafodd ei ran gyda 'r anffyddloniaid a'r [Page 193] rhagrith-wyr. Pwy bynnag a arfero yfed yn ddwfn ac ymlenwi yn ormodd (gan ymdreiglo ym-mhob drygioni) fe a ddaw arnynt drymgwsc a A chysglyd. chyscadur angof sanctaidd ewyllys a gorchymmynion Duw. Am hynny y llefa yr Holl-alluog Dduw trwy 'r Prophwyd Ioel, deffrowch feddwyr, ac wylwch ac vdwch holl yf-wyr gwin am y Iool 1. 5. gwin newydd, canys torrwyd ef oddiwrth eich mîn chwi. Ymma y mae 'r Arglwydd yn bygwth yn dost y tynn ef ei ddoniau oddiwrth y rhai a'u camarferant, ac y tynn ef y phiol oddiwrth enau y meddwon. Ymma y gallwn ddyscu gochelyd cyscu mewn meddwdod a glothineb, rhag i Dduw ein difuddio ni o fwyniant ei greaduriaid, pan gamarferom ni hwynt yn annaturiol.
O herwydd yn siccr ni thynn yr Arglwydd ein Duw yn vnig ei ddoniau oddiwrthym, pan gamarferir hwy yn anniolchus; ond hefyd yn ei lid a'i fawr ddigofaint, fe a ddial ar bawb a'u camarferont hwy yn anghymmedrol. Pe buasai ein henafiaid cyntaf ni Adda ac Efa heb yfyddhau i'w chwant awyddus yn bwytta 'r ffrwyth gwaharddedig, ni buasent nac yn colli mwyniant doniau Duw, y rhai a fwynhaent ym-mharadwys yr amser hynny, nac yn dwyn y fath aflwydd ac echrys arnynt eu hunain a'u holl heppil yn eu hôl. Ond pan aethant hwy tros y terfynau a osodosai Duw iddynt, hwy a yrrwyd allan o baradwys, megis rhai an-nheilwng o ddoniau Duw, ni chânt ym-mhellach fwytta ffrwythau yr ardd honno, y rhai a ddarfuase iddynt eu camarser yn gymmaint trwy ormodedd: ac megis troseddwyr gorchymmynion Duw, fe a'u dygwyd hwy a'u heppil i gywilydd a gwradwydd tragwyddol, [Page 194] ac megis rhai gwedi i Dduw eu melldithio, rhaid iddynt chwysu am eu bywyd, y rhai o 'r blaen oedd ganthynt helaethrwydd wrth eu hewyllys.
Felly ninnau, os wrth fwytta ac yfed y cymmeron ormod, a Duw o'i helaeth haelioni yn danfon i ni ddigonedd ac amledd, fe a drŷ yn y man ein hamledd ni yn brinder: a lle 'r oeddym o'r blaen yn ymorfoleddu yn ein cyflawnder, fe a'n gwnâ ni yn wâg, ac a'n gwradwydda ni ag eisiau ac a phrinder, ac a wna i ni lafurio a thrafaelu trwy boen a thrafael, i geisio yr hyn yr oeddym o'r blaen yn ei fwynhau mewn esmwythdra. Felly ni âd yr Arglwydd hwy heb gospi, y rhai heb ystyried ei weithredoedd ef, a ganlynant wyniau a thrachwantau eu calonnau eu hunain.
Y Patriarch Noah yr hwn y mae yr Apostol yn ei alw yn bregethwr cyfiawnder, ac yr oedd Duw yn ei garu yn fawr, a wnaethpwyd yn yr Scrythur lan yn siampl i ddyscu i ni ochelyd meddwdod. Gen. 9. 21. O blegid wedi iddo gymmeryd mwy o wîn nag oedd gymmhesur, fe a orweddodd yn noeth yn ei babell, a'i aelodau dirgel wedi eu dynoethi. Ac er ei fod ef o'r blaen mewn cymmaint parch a chymmeriad, fe a aeth yn awr yn watwargerdd i'w felldigedig sab Cham, er mawr ddolur i'w ddau feibion eraill Sem a Iapheth, y rhai a gywilyddient dros ymddygiad anifeiliaidd eu tad. Ymma y gellwch weled fod meddwdod yn dwyn gydag ef gywilydd a gwatwar, ac na ddiangc ef yn ddigosp vn amser.
Lot hefyd wedi ei Orchfygu. ormeilo gan win a wnaeth bechod llosc-ach ffiaidd a'i ferched eu hunan. Ymma y mae Lot trwy yfed gwedy cwympo cyn belled [Page 195] allan o'i bwyll ei hun, nad edwyn ef i ferched ei hunan. Pwy a dybyge y cwympe hên ŵr a fai yn y cyflwr blin yr oedd efe, gwedi colli ei wraig a chymmaint ac a fedde, gwedi gweled dial Duw a ddangosasid mewn modd ofnadwy ar y pump dinas am eu bywyd drygionus; i anghofio ei ddylêd cy belled.
Ond fel y dywaid Seneca, mae gwŷr gwedy eu gorchfygu gan ddiod, yn ynfydion cynwynol. Lot a dwyllwyd gan ei ferched, ond y mae llawer yn awr yn eu twyllo eu hunain, eisiau meddwl y dial Duw trwy gospedigaethau ofnadwy, ar y rhai sy yn pechu trwy ormodedd. Nid bychan y pla a ennillodd Lot trwy ei feddwdod. O herwydd fe wnaeth weithred gnawdol a'i ferched ei hun, a hwy a feichiogasant o hynny, fel yr aeth y peth yn gyhoedd, ac ni ellid ei gelu yn hwy. Fe a aned dau blentyn ordderch o'r lloscach hynny, Ammon a Moab, o'r rhai y daeth dwy genhedl, yr Ammoniaid a'r Moabiaid, y rhai oedd gas gan Dduw, a gwithwynebwyr creuion i'w bobl ef plant yr Israel.
Wele, fe a ennillodd Lot iddo ei hunan wrth gyfeddach dristwch a gofal, a chywisydd a gwarth tragwyddol hyd ddiwedd y bŷd. O nid arbedodd Duw ei was Lot, yr hwn oni buase hynny oedd ŵr duwiol, nai i Abraham, ac a dderbyniasai angelion Duw i'w dŷ: Pa beth a wna ef i 'r rhai hyn sydd yn wasanaethwyr i'w boliau fel anifeiliaid, heb dduwioldeb nac ymddygiad rhinweddol, yn ymroi nid vnwaith, onid dydd a nos yn gwbl i gyfeddach a gwledda? Ond gwelwn etto ym-mhellach siamplau ofnadwy o ddigllonedd Duw yn erbyn y rhai yn awyddus a gaulynent [Page 196] ei chwantau afradlon. Ammon mab Dafydd 2. Sam. 13. 29. wrth wledda gyd ei frawd Absolon, a laddwyd yn greulon gan ei frawd Absolon. Holofernes Iudith. 12. 8. tywysog dewr galluog, pan orchfygwyd efe gan wîn a gafas dorri ei ben oddiar ei yscwyddau gā ddwylo gwreigan ddiwryg, Iudith. Simon yr Archoffeiriad a Matthathias a Iudas ei ddau 1. Macc. 16. 16. feibion, gwedy eu gwahodd gan Ptolomaeus mab Abobus yr hwn a briodase ferch Simon, yn ôl iddynt fwytta ac yfed yn ddwys, a laddwyd yn fradychus gan Ptolomæus eu cyfathrachwr ei hun. Oni buase ymroi o'r Israeliaid i ormod moethau, ni buasent wedi cwympo mor fynych i ddelw-addoliad: ac nid ymroen ninnau heddyw Exod. 32. 6. yn gymmaint i ofergoel, oni bai faint gennym am lenwi ein boliau.
Pan oedd yr Israeliaid yn gwasanaethu delwau, hwy a eisteddent i fwytta ac i yfed, ac a gyfodent 1. Cor. 10. 7. i fynu i chwarau, fel y dywed yr Scrythur. Felly wrth chwennych gwasanaethu eu boliau, hwy a ymadawsant â gwasanaeth yr Arglwydd eu Duw. Felly y tynnir ninnau i gyttuno ag annuwioldeb, pan fo 'n calonnau wedi eu gorchfygu a meddwdod a gwledda.
Felly Herod, pan oedd wedi rhoi ei feddwl ar wledda, a fu fodlon gantho ar ddeisyfiad merch ei Mat. 14. 9. buttain, ganniatau torri pen sainctaidd ŵr Duw, Ioan feddyddiwr. Oni buase fod y glŵth cyfoethog Luc. 16. 19. mor awyddus i lenwi ei fola, ni buasei mor an-nrhugarog wrth Lazarus dlawd, ac ni buasei raid iddo oddef poenau tân anniffoddadwy. Am ha achos y cospodd Duw Sodom a Gomorrha mor Erchyll. echrydus? Ond am eu balch-wledda a'u gwastadol seguryd, y rhai a wnaeth iddynt fod [Page 197] mor ddrŵg eu bywyd, ac mor an-nrhugarog wrth y tlawd?
Pa beth a dybygwn ni bellach am ormodedd, trwy'r hwn y daeth llawer i ddistryw? Alexander mawr wedi iddo orchfygu yr holl fŷd, a orchfygwyd yntef gan feddwdod, yn gymmaint ac y lladodd ef, ac ef yn feddw, ei gyfaill ffyddlon Clitus, am yr hyn pan aeth ef yn ddifeddw, y cywilyddiodd yn gymmaint ac yr ewyllysiodd iddo ei hun farwolaeth o wir ofid calon. Er hynny ni pheidiodd ef a gwledda, ond mewn vn noswaith fe a lyngcodd cymmaint o win, ac a'i dûg ef i Dderton. gryd tôst, a phan na fynnai mewn modd yn y bŷd ymattal odoiwrth wîn, am ben y chydig ddyddiau fe a ddiweddodd ei oes mewn modd grcsynol. Dyna orchfygwr yr holl fy▪d wedi ei wneuthur yn gaethwas trwy ormodedd, ac mor wallgofus ac y lladdai ei gyfaill anwyl, ac a'i plagwyd ef â thristwch, cywilydd a gofid calon am ei anghymmedrolder a'i ormodedd, etto ni ddichon ef ymadel â'i fai, ond mae efe mewn caethiwed, a'r hwn o'r blaen a orchfygodd lawer, sydd wedi myned yn awr yn gaethwas i'r bola brwnt.
Felly y mae y meddwon a'r rhai glwth heb allu ganthynt arnynt eu hunain, a pha mwyaf a yfont, mwyaf fydd eu syched: mae 'r naill gyfeddach yn annog y llall: ac maent yn myfyrio ar lenwi eu cyllau awyddus. Am hynny y dywedir yn gyffredin, Ni bydd meddw byth disyched, ac Byth ni lenwir bola'r glwth.
Gwir yw na ellir digoni a bodloni chwantau a thrachwantau calon dyn, ac am hynny rhaid i ni ddyscu eu ffrwyno hwy ag ofn Duw, fal nad ymroddom i'n chwantau ein hunain, rhag, i ni [Page 198] ennynnu digofaint Duw yn ein herbyn, wrth geisio cyflawni ein trachwantau anifeiliaidd. Mae S. Paul yn ein dyscu ni Pa vn bynnag a wnelom ai bwytta ai yfed, neu beth bynnag a 1. Cor. 10. 31. wnelom, ar i ni wneuthur y cwbl er gogoniant i Dduw. Lle y mae efe yn appwyntio megis wrth ddogn a mesur, pa gymmaint a ddylei ddŷn ei fwyta neu ei yfed, hynny yw, cymmaint ac na wneler y meddwl yn ddiog wrth ymlenwi ar fwyd a diod, fel na allo ymdderchafu i ogoneddu ac i foliannu Duw.
Pwy bynnag gan hynny wrth yfed a'i gwnel ei hun yn anescud i wasanaethu Duw, na thybyged y diangc ef yn ddigosp. Chwi a glywsoch mor gas ac mor wrthwyneb gan yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei greaduriaid, fel y mae efe ei hun yn dangos, cystal wrth ei sanctaidd air, a siamplau ofnadwy ei gyfiawn farn. Yn awr oni ddichon na gair Duw attal ein chwantau afradlon, a'n trachwantau awyddus ni; na siamplau ofnadwy dialedd Duw, ein hofni ni oddiwrth anllywodraethus ormodedd bwytta ac yfed: etto ystyriwn yr aml eniweidiau sydd yn tyfu o hynny, felly y cawn adnabod y pren wrth ei ffrwyth.
Mae fe yn clwyfo 'r corph, yn mallu 'r meddwl, yn treulo'r golud ac yn blino 'r cymydogion.
Ond pwy a ddichon draethu yr aml beryglon a'r eniweidion sydd yn canlyn o ymborthi yn anghym-mhedrol? yn fynych y daw angau dysyfyd wrth wledda; weithiau yr ymollwng yr holl aelodau, fel y dygir yr holl gorph i gyflwr blin. Mae 'r hwn sydd yn bwytta ac yn yfed yn anfesurol, yn ennynnu yn fynych y fâth wrês annaturiol yn ei gorph, fel yr annog hynny ei chwant ef i [Page 199] chwennychu mwy nag a ddylyei; neu yn Gorehfygu. gormeilo ei gylla ef, ac yn llenwi ei gorph ef yn llawn diogi, ac yn ei wneuthur yn anescud ac yn anghym-mhesur i wasanaethu na Duw na dŷn, heb borthi'r corph, ond ei ddrygu; ac yn dwyn llawer o glefydon afiachus, o'r rhai y tŷfweithiau angau diobaith.
Ond pa raid i mi ddywedyd ychwaneg yn hyn o beth? O blegid oni fendichia Duw ein bwydydd ni, a rhoi iddynt rym i'n hymborth ni: a hefyd oni rydd Duw rym i'n naturiaeth ni i dreulo ein bwyd▪ fel y gallom gael lles oddiwrthynt, naill ai ni a'u bwriwn hwy i fynu, ai ynte hwy a ddrewant, yn ein cyrph ni megis mewn pwll neu soddfa ddrewllyd, ac felly y llygrant ac a difwynant yr holl gorph.
Ac yn siccr mae bendith Dduw ym-mhelloddiwrth y rhai a arferant wledda mor anllywodraethus, fal y mae yn fynych yn eu hwynebau arwyddion eglur o'u hafradionrwydd hwy: fel y dywed Salomon yn ei ddiarhebion: I bwy (medd ef) y mae gwae? I bwy y mae ochain? I bwy y Diarh. 23. 29. mae cynnen? I bwy y mae dadwrdd? I bwy y mae clwyfau heb achos? ac i bwy y mae llygaid cochion? sef i'r rhai a drigant yn hir yn y gwin. Ystyriwch adolwg arwyddion dig Duw: gwae, ochain, cynnen, a dadwrdd, clwyfau heb achos, wyneb anniwygus, a chochineb llygaid sydd yn dyfod i'r rhai a'u rhoddant eu hunain i ormodedd ac i draflyngcu, gan ddychymmygu pob modd i gynnyddu eu chwantau awyddus, gan dymmheru 'r gwin a'i gymmyscu, fel y gallo fod yn felusach ac yn foethusach iddynt.
Fe fydde dda pe cymmere y fath ddynion moethus [Page 200] eu rheoli gan Salomon, yr hwn o blegid yr afles y sydd yn dyfod oddiwrtho, a waharddodd Ver. 32, 33, &c. edrych ar win. Nac edrychwch, medd ef, ar win pan fytho côch, a phan ddangoso ef ei liw yn y phiol, neu pan êl efe i wared yn felys: yno yn y di wedd fe a frath fel sarph, ac a biga fel gwiber: dylygaid a edrychant ar wragedd dieithr, a'th galon a draetha drawsedd: ti a fyddi megis vn yn cyscu ynghenol y mor, ac fel vn yn cyscu ym-mhen yr hwylbren: pan y'm curent, meddi, ni chlefychais, pan y'm ffustent nis gwybûm, pan ddeffroaf mi âf rhagof ac a'i ceifiaf drachefn. Mae 'n rhaid bod hwnnw yn ddrŵg yr hwn sydd yn brathu ac yn pigo fel gwiber wenwynllyd, trwy 'r hwn y tynnir dynion i odineb brwnt, yr hwn sydd yn peri i'r galon ddychymmyg melldith. Diammau fod yr hwn sydd yn cyscu ynghanol y mor mewn perigl mawr, canys ebrwydd y gorchguddir ef ô'r tonnau. Mae'r hwn sydd yn cyscu ym-mhen yr hwylbren yn debyg i gwympo yn ddisymmwth. A phwy bynnag, ni chlywo pan darawer ef, ac ni wybydd pan gurer ef, y mae efe wedi colli ei synhwyrau yn gwbl.
Felly mae glothineb a meddwdod yn pigo 'r bola, yn peri cnofa wastadol yn y cylla, yn dwyn dynion i butteindra ac aflendid calon, a pheriglon an-nhraethadwy: fel yr ydys yn difuddio ac yn yspailio dynion o 'u synhwyrau, megis nad oes ganthynt ronyn gallu arnynt eu hunain.
Pwy bellach ni wŷl y cyflwr blin y dygir dynion iddo gan yr anghenfilod anferth ymma, Glothineb a meddwdod. Maent hwy yn aflonyddu 'r corph yn gymmaint, fel y mae Iesu fab Syrach yn dywedyd nad ydyw 'r bwyttawr mawr yn cyscu [Page 201] yn esmwyth vn amser, yr ydys yn ennynnu Ecclus. 31. 22. y▪nddo y fâth wrês anfeidrol, o'r hwn y canlyn gwastadol wayw a phoen trwy 'r holl gorph.
Ac nid llai hefyd y drygir y meddws trwy ormod gwledda: o herwydd weithiau yr ydys yn taro dynion ag ynfydrwydd meddwl, ac yn eu dwyn i wallgofi: mae rhai yn myned mor anifeiliaidd ac mor drymfryd, fel y maent yn hollawl yn myned yn ddiddeall ac yn ddibwyll. Peth Erchyll. echrydus yw i neb ei anafu ei hun mewn vn aelod o'i gorph, ond peth anrhaith ei oddef yw i ddŷn o'i wir fodd i yrru ei hun allan o'i gôf.
Mae 'r Prophwyd Osee yn y bedwaredd bennod yn dyŵedyd, fod meddwdod a gwin yn dwyn Osee. 4. 11. y galou ymmaith. Och, i neb ymroi i'r hyn a ddŵg ei galon ef o'i feddiant. Gwîn a gwragedd, medd Iesu fâb Syrach, sydo yn gyrru doethineb ar encil. Ie mae efe yn gofyn beth yw einioes yr Ecclus. 19. 2. hwn a orchfyger gan wîn. Chwerwder meddwl yw 'r gwin a y fer llawer o hono, ac fe a chwanega ddig a thrangwydd. Mewn llywodraethwyr y mae yn d wyn creulondeb yn lle cyfiawnder, fel y canfu y philosophydd call Plato yn ddigon da, Dial 31. 4. pan ddywedodd ef fod mewn dŷn meddw galon greulō, ac am hynny y llywodraetha ef yn y modd y mynno, yn erbyn rheswm ac iniondeb.
Ac yn siccr mae meddwdod yn gwneuthur i ddŷn anghofio cyfraith ac iniondeb, a hynny a wnaeth i frenhin Salomon orchymmyn yn galed na roddid dim gwîn i lywodraeth-wŷr, rhag iddynt yfed ac ebrgofi 'r gyfraith, a chyfne widio barn y rhai gorthrymmedig. Ac am hynny o'r holl ddynion, y mae yfed gormodd dwin yn anrhaith ei oddef mewn llywodraethwr neu ŵr o [Page 202] awdurdod, fel y dyweid Plato: o blegid ni wyr meddwyn pale y mae efe ei hunan. Am hynny os meddwa gŵr o awdurdod, och pa fodd y bydd efe arweinydd i eraill, ac yn rhaid iddo wrth vn i'w arwain ei hunan?
Hefyd, ni feidr dŷn meddw gadw cyfrinach: a llawer gair diffaith, ynfyd, lledffrom a ddywed dynion pan fônt yn eu gloddest. Mae meddwdod, medd Seneca, yn dynoethi pob drygioni, ac yn ei ddwyn i oleuni: mae yn troi heibio bob cywilyddgarwch, Seneca. ac yn cynnyddu pob anwiredd. Y balch pan so meddw a adrodd ei falchder, y creulon ei greulonder, y cenfigennus ei genfigen, megis na ellir cuddio vn bai mewn meddwyn.
Hefyd, am nad yw yn ei adnabod ei hun, y mae efe yn bloesci yn ei ymadrodd, yn trangwyddo yn ei gerddediad, heb allu edrych ar ddim yn wastad â'i lygaid rhythion, mae fe yn credu fod y tŷ yn troi yn grwn o'i amgylch. Y mae 'n eglur fod y meddwl yn myned ym-mhell o'i le, wrth yfed gormodd, megis pwy bynnag a dwyller gan wîn neu ddiod gadarn, mae yn myned; fel y dywaid Salomon, yn watwarwr, yn wallgofus, ac ni all byth fod yn ddoeth. Os bydd neb yn tybied y Diarh. 20. 1. gall ef yfed llawer o win, a bod yn dda yn ei gof, fe all feddwl yn gystal, medd Seneca, na bydd efe marw er iddo yfed gwenwyn. O blegid pale bynnag y byddo gormodd yfed, yno mae yn rhaid bod trallod meddwl, a lle y llanwer y bola a bwyd moythus, mae 'r meddwl wedi ei orthrymmu a diogi segurllyd. Mae bola llawn, medd Saint Bernard, yn gwneuthur y deall yn bŵl, a llawer Adsororem, Ser. 24. o fwyd yn gwneuthur meddwl hwyr drwm.
Ond, ôch, yn y dyddiau hyn nid gwaeth gan [Page 203] ddynion am eu cyrph na 'u heneidiau; os cânt olud bydol a chyfoeth ddigon i gyflawni eu chwantau anfesurol, nid gwaeth genthynt beth a wnelont. Ni bydd arnynt gywilydd dangos eu hwynebau meddwon, a chwareu 'r ynfydion yn gyhoeddus. Maent yn tybied eu bod mewn stât dda, a bod pob peth yn dda, nes eu gwascu hwy â phrinder ac â thlodi.
Am hynny rhag ofn i neb o honom, trwy amledd ei gyfoeth, gymmeryd achos i'w wenhieithio ei hunan yn y gormodedd anifeiliaidd hwn, cofiwn yr hyn a scrifenna Salomon, y neb a garo Pro. 21. 17. wledda a ddaw i dlodi, a'r neb a garo win ni bydd cyfoethog. Ac mewn man arall y mae efe yn rhoi gorchymmyn caled, yn y modd hyn, Na fydd vn o'r rhai sydd yn meddwi ar wîn, nac vn o'r rhai Pro. 23. 21. glythion ar gig, canys y meddw a'r glŵth a ddeuant i dlodi. Yr hwn sydd yn gollwng ei etifeddiaeth ar hŷd ei gêg, ac yn bwytta ac yn yfed mwy mewn vn awr neu vn diwrnod, nag a allo efe ei ennill mewn wythnos gyfan, ni all na bo ef afradus, ac na ddêl i dlodi.
Ond fe ddywaid rhyw vn, pa raid i neb feio ar hyn? Nid yw efe yn drygu neb, ond ei hun, nid yw efe elyn i neb ond iddo ei hun. Yn wir mi a wn mai dymma hyn a ddywedir yn gyffredinol i amddiffyn y rhai glwth afradlō, anifeiliaidd hyn: ond mae yn hawdd gweled mor niweidiol ydynt, nid yn vnig iddynt eu hunain, ond, trwy eu siamplau drŵg, i'r holl wlâd hefyd. Pob vn a gyfarfyddo â hwynt a drallodir ag ymadroddion terfyscus, ymrysongar: ac maent hwy weithiau yn eu gwyniau anllywodraethus, megis meirch porthiannus yn gweryru ar wragedd eu cymmydogion, [Page 204] fel y dywed Ieremi, ac yn difwyno eu plant a'u merched.
Mae eu siampl hwy yn ddrŵg i'r rhai y maent yn aros yn eu mysc, maent yn achos tramgwydd i lawer, a'r hŷd y bônt hwy yn treulo eu golud mewn cyfeddach a gloddest, mae diffygion pethau anghenrheidiol ar eu tylwyth hwy, mae eu gwragedd a'u plant yn ddigymmorth, nid oes ganthynt fodd i gynnorthwyo eu cymmydogion tlodion yn eu hangen, megis y galle fod ganthynt, pe byddent fyw yn sobr. Maent yn anfuddiol i'w gwlâd. O blegid nid yw meddwyn gymmhesur nac i lywodraethu nac i fod tan lywodraeth. Maent hwy yn warth i Eglwys a chynnulleidfa Ghrist, ac am hynny y mae S. Paul yn eu hescommuno hwy ym-mhlith putteinwyr a delwaddolwyr, cybyddion a chribddeilwyr, gan wahardd i Gristionogion gydfwyta gydâ 'r cyfrywddynion.
Am hynny, bobl ddaionus, gwachelwn bawb o honom, bob anghymmedrolder, carwn sobredd a chymmhedrol ymborth, ymrown yn fynych i ddirwest ac ympryd, trwy 'r hyn y derchesir meddwl dŷn yn gynt at Dduw, ac yn barottach i bob gweithredoedd duwiol, megis gweddio, gwrando a darllein gair Duw, er ein diddanwch ysprydol. Yn ddiwethaf pwy bynnag a ofalo am iechyd a diogelwch ei gorph ei hun, ac a ddymuno bod yn wastad yn ei iawn gôf, neu a chwennycho lonyddwch meddwl, ac a gashao gynddaredd ac ynfydrwydd, a fynno bod yn gyfoethog a diangc rhag tlodi, a fo ewyllysgar i fyw heb ddrygu ei gymmydogion, a bod yn aelod buddiol o gorph ei wlâd, ac yn Gristion heb gywilyddio Christ a'i [Page 205] Eglwys: gwacheled bob anllywodraethus anghymmhedrol gyfeddach, dysced y fath fesur ac sydd weddus i vn a fo 'n proffesso gwir dduwioldeb, canlyned reol S. Paul, ac felly bwyttaed ac yfed i ogoniant a moliant Duw, yr hwn a greodd bob peth i'w mwynhau mewn sobredd a diolch garwch, i'r hwn y byddo anrhydedd a gogoniant yn dragywydd. Amen.
¶ Pregeth yn erbyn dillad rhy-wychion.
LLe y darfu eich annog chwi o'r blaen i arfer cymmhedrolder a chymmhesurwydd o fwyd a diod, ac i wachelyd gormodedd, am ei fod lawer modd yn drygu stât y wlâd, ac mor gâs ger bron yr Holl-alluog Dduw, yr hwn yw awdur a rhoddwr y creaduriaid hynny i ddiddanu ac i gryfhau ein naturiaeth wan ni, trwy ddiolch iddo ef, ac nid wrth eu camarfer hwy i annog haelioni Duw i 'n cospi ni 'n dôst am y fath anllywodraeth.
Mae yn weddus yr vn modd eich rhybyddio chwi am ormodedd brwnt treulfawr arall: am ddillad yr wyfi yn meddwl, y rhai y dyddiau hyn sydd gwedi myned mor anfesurol, na ddichon na'r Holl-alluog Dduw trwy ei air attal ein balch dragofal niyn hyn o beth, na chyfreithiau duwiol anghenrheidiol ein tywysogion y rhai a adroddir yn fynych tan gospedigaeth, ffrwyno 'r anllywodraeth ffiaidd ymma, trwy 'rhwn y dirmygir Duw yn amlwg, ac yr anufyddheir cyfreithia'u [Page 206] tywysogion, i fawr Pe [...]igl. enbeidrwydd y deyrnas.
Am hynny fel y gweler yn ein mysc ni sobrwydd yn y gormodedd ymma hefyd, mi a ddangosaf i'wch beth yw cymmhedrol arfer dillad yr hwn y mae sanctaidd air Duw yn ei gynnwys; a hefyd beth yw eu camarfer hwy, yr hwn y mae efe yn ei wahardd: fel y mae yn eglur wrth y niweidiau sydd beunydd yn cynnyddu, trwy gyfion farn Duw, lle na chedwer y mesur a osododd ef ei hun.
Os ystyriwn er mwyn pa fwriad a defnydd yr ordeiniodd Duw ei greaduriaid ni a allwn ddeall yn hawdd ei fod ef yn camattau i ni ddillad, nid yn vnig er mwyn anghenrhaid, ond hefyd er mwyn gweddeidd-dra cymmesurol. Megis mewn llysiau, coed ac amryw ffrwythau y mae nid yn vnig lawer o fwyniant anghenrhaid, ond hefyd golwg hyfryd ac aroglau peraidd i'n bodloni ni.
Yn hyn y gallwn weled mawr gariad Duw tuag at ddynion am iddo ddarparu pethau i gynhorthwyo ein hanghenrheidiau, ac i ddiddanu ein synhwyrau ni â diddanwch honest gweddaidd. Am hynny y mae Dafydd yn y 104. Psalm gan Psal. 104. 15. gyfaddef rhagddarparaeth Duw, yn dangos nad ydyw efe yn vnig yn darparu pethau anghenrheidiol megis llysiau a bwydydd eraill, ond hefyd y cyfryw bethau ac a lawenychant ac a ddiddanant megis gwin i lawenychu 'r galon, ac olew i beri i'r wyneb ddiscleirio. Am hynny y maent hwy gwedy myned ym-mhellach na thersynau dynol y rhai a waharddant gyfraithlon fwynhau doniau Duw ond yn vnig mewn anghenrheidiau.
Ni chanlynwn ni draddodiadau y rhâi hyn, os ni a wrandawn ar S. Paul, yr hwn wrth ferifennu [Page 207] at y Colossiaid, sydd yn erchi iddynt na Col. 2. 21. wrandawont ar y rhai a ddywedant, Na chyffwrdd, na phrawf, na theimla, gan eu difuddio hwy yn goel-fuchedol o fwyniant creaduriaid Duw.
Ac nid dim llai y dylem ni wachelyd rhag i ni yn rhith Christianogawl rydd-did, gymmeryd rhydd-did i wneuthur y peth a fynnom, gan ymhoywi mewn dillad rhy werthfawr, a diystyru eraill, a'n parottoi ein hunain mewn gwychder hoyw i ymddygiad nwyfus, drythyll, drygionus ac anniwair. Er mwyn gwachelyd yr hyn beth fe fydde dda i ni ddyscu pedair gwers y rhai a ddyscir yn yr Scrythur lân, wrth y rhai y gallwn ddyscu ein tymmheru ein hunain, ac attal ein hanghymmedrol naws yn y mesur a ordeiniodd Duw.
Y gyntaf yw, Na bytho ein gofal tros y cnawd Rom. 13. 14. er mwyn porthi ei chwantau, mewn dillad gwychion, megis y gwnaeth y buttain am yr hon y dywaid Salomon iddi bereiddio ei gwely, a'i drwsio â thlysau gwerthfawr yr Aipht, er mwyn cyflawni Pro. 7. 16. ei chwantau melldigedig: ond ni a ddylem yn hytrach wrth gymmhedrol gymmhesurwydd dorri ymmaith bob achosion trwy y rhai y gallai y cnawd gael yr oruch afiaeth.
Yr ail sy scrifennedig gan S. Paul yn y 7. bennod o'i Epistol cyntaf at y Corinthiaid, lle mae 1. Cor. 7. 31. efe yn dyscu i ni arfer y bŷd hwn megis pe byddem heb ei arfer. Trwy 'r hyn y mae efe yn torri ymmaith nid yn vnig bob vchelfryd, balchder, a gwâg hoywder mewn dillad: ond hefyd pob tragofal ac anghymmedrol naws, yr hwn sydd yn ein tynnu ni oddiwrth fyfyrio ar bethau nefol, [Page 208] ac ystyried ein dlêd tu ag at Dduw. Ni all y rhai sydd yn ymdrafferthu cymmaint mewn gofal am bethau a berthynant i 'r corph, na byddont ond odid esceulus a diofal am bethau a berth yn i'r enaid. Am hynny mae 'n Iachawdwr Christ yn gorchymmyn i ni na ofalom am ein bwyd, pa beth Mat. 6. 25, &c. a fwyttaom, nac am ein diod pa beth a yfom, nac am ein cyrph pa beth a wiscom; eithr yn gyntaf ceisio o honom deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef. Wrth hyn y gallwn ddyscu gwachelyd gwneuthur y pethau hynny yn rhwystr ac yn dramgwydd i ni, y rhai a ordeiniodd Duw yn ddiddanwch i ni, ac er ein cynnorthwyo tu â theyrnas nef. Y drydedd yw, ar i ni fod yn fodlon i'n stât a'n galwedigaeth, ac ymfodloni yn yr hyn a ddanfono Duw i ni, pa vn bynnag fytho ai ychydig ai llawer. Yr hwn ni bo bodlon i drwsiad gwael yscafnbris, fe fydde falch o ddillad gwychion pe galle eu cael. Am hynny mae 'n rhaid i ni ddyscu gan yr Apostol S. Paul, yn gystal fwynhau helaethrwydd, a goddef prinder, gan gofio y gorfydd arnom roddi cyfrif Phil. 4. 12. am y pethau a dderbyniasom, a hynny i'r hwn sydd ffiaidd gantho bob gormodedd, balchder, ymffrost ac oferwagedd, yr hwn hefyd sydd yn cashau yn hollawl ac yn anfodlon i bob peth ac sydd yn ein tynnu ni oddiwrth ein dlêd tu ag at Dduw, neu yn prinhau ein cariad ni tu ag at ein cymydogion, a'n plant, y rhai a ddylem ni eu caru fel ein hunain.
Y bedwaredd wers a'r ddiwethaf yw bod i bob dyn edrych ac ystyried ar ei alwedigaeth ei hun, yn gymmaint a darfod i Dduw appwyntio i bob dŷn ei radd a'i swydd, yr hon y dyleuai ei gadw ei hun o fewn ei therfynau. Am hynny ni [Page 209] ddylei bob dyn edrych am gael gwisco 'r vn fath drwsiad, ond pob vn yn ôl ei radd, yn y modd y gosododd Duw ef. Yr hyn drefn pe cedwid hi yr amser ymma, diammau y gwneid i lawer wisco dillad llwydion, o'r rhai sy yn ymhoywi mewn sidan a melfed, gan dreulio mwy yn y flwyddyn mewn dillad gwychion, nagyr oedd eu tadau yn ei dderbyn am holl ffrwyth eu tiroedd.
Ond heddyw, ôch pa sawl vn a allwn ni ei weled yn ymroi yn gwbl i hoffder y cnawd? heb ofalu vn gronyn, ond yn vnig ymwychu, gan osod eu holl awydd yn gwbl ar wychder a hoywder bydol, a chamarfer daioni Duw sydd yn danfon iddynt helaethrwydd, i gyflawni eu drythyll wyniau a'u chwantau, heb ystyried ym-mha radd y gosododd Duw hwynt. Yr oedd yr Israeliaid yn fodlō i'r dillad a roddase Dduw iddynt, er nad oeddynt ond gwael a diystr: ac am hynny Duw a 'u bendithiodd hwyntau yn gymmaint, fel y parhaodd eu hescidiau hwy a'u dillad heb dreulio Deut. 29. 5. ddeugain mhlynedd, ie ac yr ydoedd y plant yn foddlon i wisco 'r vn dillad ac a wiscasai eu tadau o'r blaen. Ond nid ydym ni byth bodlon, ac am hynny nid oes dim yn tyccio gennym, yn gymmaint, ond odid, a bod yr hwn sydd yn ymhoywi yn ei Sabl a'i ŵn ffwrr hardd, ei escidiau corc, ei soccysau gwychion, ei ddyrnfolau clydion, yn barottach i fferru gan anwyd, na▪ 'r llafurwr tlawd yr hwn a all aros yn y maes trwy 'r hirddydd, a'r gogleddwynt yn chwythu, ac ychydig ddillad Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad. candryll carpiog yn ei gylch.
Mae n' anhawdd gennym ni wisco y pethau a adawodd ein tadau i ni, nid ydym ni yn tybieid mai difai y rhai hynny i ni. Rhaid i ni gael vn [Page 210] gŵn y dydd ac vn arall y nôs, vn llaes ac vn cwtta, vn y gayaf ac vn arall yr hâf, vn a dwbl drwyddo ac vn arall wedi wynebu ei ymmylau yn vnig, vn ddydd gwaith ac vn arall ddydd gŵyl, vn o'r naill liw ac vn arall o liw arall, vn o frethyn ac vn arall o sidan neu ddamasc. Rhaid ini gael amryw wiscoedd, vn cyn ciniaw, ac vn arall gwedi ciniaw, vn ar ddull ac arfer Hispaen ac vn arall o arfer Twrci: ac ar ychydig eiriau, ni byddwn ni byth bodlon i'r hyn sydd ddigon.
Mae ein Iachawdwr Christ yn erchi i'w ddiscyblon na feddiannent ddwy bais, ond mae y rhan fwyaf o ddynion yn annhebyg iawn i'w ddiscyblon ef, a'u cwppyrddau mor llawn o ddillad, ac na wyddant pa sawl gwisc y sydd ganthynt. Yr hyn a barodd i S. Iaco gyhoeddi 'r felldith erchyll hon yn erbyn goludogion bydol: Iddo yn awr chwi gyfoethogion, wylwch ac vdwch Iac. 5. 1, 2, 7. am eich trueni a ddel arnoch: eich golud a bydrodd, a'ch gwiscoedd, bwyd pryfed ydynt. Moethus fuoch ar y ddayar a thrythyll: maethrin eich calon a wnaethoch megis yn-nŷdd lladdedigaeth.
Ystyriwch adolwg, mae S. Iaco yn eu galw hwy yn druain er eu holl gyfoeth ac amledd eu dillad, gan eu bod yn brasau eu cyrph i'w distryw eu hunain. Beth a fu y glwth goludog gwell er ei fwyd dainteithiol moethus, a'i ddillad gwerthfawr? Oni phorthodd ef ei hun i gael ei boeni yn-nhân vffern? Dyscwn ninnau ymfodloni os Luc. 16. 19. bydd gennyn ymborth a dillad, fel y mae 1. Tim. 6. 8. S. Paul yn dyscu, rhag wrth chwennychu ymgyfoethogi i ni syrthio i brofedigaeth ac i faglau diafol, ac i lawer o drachwantau angall eniweidiol y rhai sydd yn boddi dynion i golledigaeth a distryw.
[Page 211] Yn wir mae y rhai a ymhoffant mewn dillad gwychion wedi ymchwyddo a balchder, ac yn llawn o amryw wagedd ac oferedd. Felly yr oedd merched Sion a phobl Ierusalem, y rhai y mae 'r prophwyd Esai yn eu bygwth am eu bod yn rhodio â gyddfau estynnedig, ac yn amneidio a'u llygaid, ac yn rhygyngu wrth gerdded, ac yn trystio â'u traed, y clafriai'r Holl-alluog Dduw goronau Esai 3. pennau merched Sion, ac y dynoethai ef eu gwarthau hwynt. Y dydd hwnnw, medd ef, y tynn yr Arglwydd ymmaith addurn eich escidiau, y rhwyd-waith hefyd a'r lloerawg wiscoedd, y perarogl, a'r breichledau, a'r moledau, y penguwch, a'r llodrau, a'r snodennau, a'r dwyfronnegau, a'r clust-dlysau, y modrwyau ac addurn-wisc y trwyn, y gwiscoedd symmudliw, a'u hefysau, y misyrnau hefyd a'r pyrsau, y drychau hefyd a'r lliain meinwych, y coccyllau hefyd a'r gynau. Fel na oddefai yr Holl-alluog Dduw gamarfer ei ddoniau mewn ofer-wagedd a thrythyllwch, na oddefai gan y bobl yr oedd ef yn ei garu yn fwyaf, ac a ddarfuase iddo eu dewis iddo ei hun o flaen pawb eraill.
Ac yn wir nid llai yr ofer-wagedd a arferir yn ein mŷsc ni y dyddiau hyn. O blegid yr ydys yn maentaeno ac yn cynnal calonnau vchelfryd beilchion merched Prydain, â chynnifer dull anweddaidd o drwsiadau gwychion gwerthfawr, fel nad oes, megis y dywede yr hên Athro Tertulian, wahaniaeth mewn dillad rhwng modryb honest a phuttain gyffredin. Ie mae llawer gwr gwedi gwraigeiddio cyn belled, na waeth genthynt beth a dreuliont i'w hanffurfio eu hunain, gan chwennychu gwagedd newydd, a dychymmyg beunydd bob mâth ar ddull newydd. Am hynny [Page 212] pan oedd rhyw wr yn amcanu gwneuthur lluniau gwŷr pob gwlâd yn eu dillad arferedig, gwedi iddo baentio cenhedloedd eraill, fe a wnaeth lun vn o'r deyrnas hon yn noeth, ac a roddes iddo frethyn tan ei gesail, ac a archodd iddo wneuthur o hono y dull o fynne ei hunan ar ddillad: o blegid yr oedd ef yn newid ei ddull ar ddillad mor fynych, ac na wyddai ef pa fodd y gwnai iddo ddillad. Fel hyn yr ydym ni a'n dychymmygion wrth ein phansi yn ein gwneuthur ein hunain yn watwargerdd i bobl eraill. Yr hyd y bytho vn yn treulo ei dreftadaeth ar gerfiadau a thorriadau, vn arall yn rhoi mwy am grŷs i ddawnsio ynddo, nag a wasanaethai iddo i brynu dillad gweddaidd, syber i'w holl gorph. Mae rhai yn rhoddi eu holl olud am eu gyddfau mewn rwffiau. Mae eraill yn anturio 'r cymmal gorau i'w maentaenio eu hunain mewn dillad gwychion. A phob dyn heb ystyried ei stât a'i radd ei hun yn ceisio rhagori ar ar all mewn dillad gwychion.
O hynny y mae yn digwydd ein bod ni, mevon amledd a helaethrwydd o bob peth, yn cwyno gan wall a phrinder ac eisiau, yr hyd y bytho vn yn treulio 'r hyn a allai wasanaethu i lawer, ac nad oes neb yn cyfrannu o'r helaethrwydd a dderbyniodd, ond pawb yn treulio yn anfesurol yr hyn a ddyleuai wasanaethu i gyflawni anghenion eraill.
Fe a ddarparwyd llawer o gyfreithiau iachus daionus yn erbyn y fath gamarferon, y rhai pe bai bob deiliad cywir yn eu cadw megis y dylent, a allent wasanaethu i leihau peth ar yr ynfyd a'r anllywodraethus ormodedd ymma mewn dillad. Ond ôch ôch nid oes yn ymddangos yn ein plith [Page 213] ni ond rhy fychan o ofn ac vfydd-dod nac i Dduw nac i ddyn.
Am hynny ni allwn na ddisgwiliom am ofnadwy ddial Duw o'r nef, i ddymchwelyd ein rhyfyg ni a'n balchder, megis y cwympodd ef Herod, yr hwn ac yntef yn ei drwsiad brenhinol, am iddo anghofio Duw, a darawyd gan Angel o'r nef, ac a ysswyd gan bryfed. Trwy 'r siampl erchyll honno Act. 12. 23. y dangasodd Duw i ni nad ydym ond bwyd pryfed er maint yr ymhoffom ac yr ymddigrifom yn ein trwsiadau gwychion. Ymma y gallwn ddyscu hyn y mae Iesu fâb Sirach yn ei ddangos, nad ymfalchiom o blegid ein gwiscoed dillad, ac nad Ecclus. 11. 4. ymdderchafom mewn amser anrhydedd, o blegid rhyfedd yw gweithredoedd yr Arglwydd, a gogoneddus, a dirgel, a chuddiedig oddiwrth ddynion: gan ein dyscu ni mewn gostyngeiddrwydd meddwl i gofio ein galwedigaeth yr hon y galwodd Duw ni iddi.
Am hynny ymegnied pob Christion i ddiffodd gofalu am fedloni'r cnawd: arferwn felly ddoniau Duw yn y bŷd hwn, fal na byddom rhy ofalus i ddarbod am y corph. Ymfodlonwn yn llonydd i'r hyn a ddanfonodd Duw er lleied fytho. Ac os rhynga bodd iddo ef ddanfon helaethrwydd, na falchiwn ynddo, ond arferwn ei ddoniau ef mewn cymmedrolder, cystal er ddianwch i ni ein hunain ac er cymmorth i'r rhai sy mewn angen. Yr hwn mewn amledd a helaethrwydd a guddio ei wyneb oddiwrth y noeth, y mae efe yn diystyru ei Esai 58. 7. gnawd ei hun, medd y prophwyd Esai.
Dyscwn ein hadnabod ein hunain, ac nid diystyru eraill. Cofiwn ein bod ni igŷd yn sefyll ger bron mawhydi yr holl-alluog Dduw, yr hwn a'n [Page 214] barna ni wrth ei sanctaidd air, yn yr hwn y mae efe yn gwahardd pob gormodedd, nid yn vnig i wyr, ond i wragedd hefyd. Megis na ddichon neb ei Escuso. escusodi ei hunan o ba radd neu gyflwr bynnag y bytho. Ymddangoswn. Ymgyflwynwn gan hynny ger bron ei orsedd-faingc ef, fel y'n hannog Tertulian, yn y gwychder a'r addurn y mae 'r Apostol yn sôn am dano yn y chweched bennod at yr Ephesiaid, gwedi gwregysu ein lwynau â gwirionedd, a Ephes. 6. 14. gwisco dwyfronneg cyfiawnder, a gwisco am ein traed escidiau parotoad efengyl tangneddyf. Cymmerwn attom ddysymldra, diweirdeb, gweddeidd-dra, gan ostwng ein gyddfau dan iau esmwyth Christ. Bydded gwragedd darostyngedig Matt. 11. 30. i'w gwŷr, ac dyna hwy gwedi ymddilladu yn wychion ddigon, medd Tertulian.
Pan ofynnwyd i wraig Philo Philosophydd Paganaidd, pa ham nad oedd hi yn gwisco aur, hi a attebodd ei bod hi yn tybied fod rhinweddau ei gŵr yn ddigon o wychder iddi hi. Pa faint mwy y dylai wragedd Christianogaidd a gyfarwyddir gan air Duw ymfodloni yn ei gwŷr? Iepa faint mwy y dylei bob Christion ymfodloni yn ein Iachawdwr Christ, gan dybied ei fod gwedi ei harddu yn ddigonol â'i rinweddau nefol ef?
Ond ymma yr atteb rhyw wragedd ofer gorwag, eu bod hwy yn paentio eu hwynebau, yn lliwio eu gwallt, yn enneinio eu cyrph, ac yn eu trwsiadu eu hunain â dillad gwychion, er bodloni eu gwyr, er eu gwneuthur eu hunain yn hôsf yn eu golwg hwy, a chynnal eu cariad hwy tu ag attynt. Oh escus gwâg, ac atteb cywilyddus, er gwarth i'ch gwyr? Pa beth a ellid ti ei ddywedyd fwy i ddangos ffolineb dy ŵr yn gwpplach, nà [Page 215] haeru arno ei fod yn ymfodloni ac yn ymhoffi ynnhrwsiad diawl? Pwy a ddichon baentio ei hwyneb, a chrychu ei gwallt, a newid ei liw naturiol ef, heb iddi wrth hynny feio ar waith ei gwneuthurwr a'i gwnaeth hi? Megis pe gallai hi ei gwneuthur ei hun yn weddeiddiach nag yr appwyntiodd Duw fesur ei thegwch hi.
Pa beth y mae'r gwragedd hyn yn ei wneuthur ond ceisio gwellau gwaith Duw? heb ystyried mai gwaith Duw yw pob peth naturiol, ac mai gwaith diafol yw pob peth annaturiol rhithiedig. Megis pe bai ŵr Christianogaidd call yn hôff gantho weled ei wraig gwedi ymliwio ac ymhoywi yn y dull a arfer putteiniaid fynychaf i hudo eu cariadon i ddrygioni, megis pe gallai wraig honest chwēnychu bôd yn debyg i buttain er mwyn bodloni ei gŵr. Nag ê, nag ê, nid ydyw y rai hyn ond escusodion gwâg, a wna y rhai sy yn chwennychu bodloni eraill yn fwy nâ'i gwŷr. Ac nid yw'r fath wychder ond peth i'w hannog i fyned i'w dangos ei hunan er hudo eraill.
Gwych iawn. Rhaid iddi ymryson â'i gŵr i'w chynnal hi yn y fâth drwsiad ac a'i gwnelo hi yn waeth hwswi, a bod yn anfynychach gartref i edrych ar ei hwswiaeth, ac felly esceuluso elw ei gŵr, gan annog ei thylwyth yn fawr i oferdraul a drythyllwch, yr hŷd y bô hi yn gwibio allan i ddangos ei gwagedd ei hunan a ffolineb ei gŵr.
Trwy y balchder ymma y mae hi yn cyffroi eraill yn fawr i genfigennu, y rhai sy mor orwag eu meddwl a hithau. Nid ydyw hi yn haeddu ond senn a gwatwar wrth osod allan ei holl glôd mewn trwsiad paganaidd Iddewaidd, ac er hynny ymffrostio o'i chred a'i bedydd. Nid ydyw hi [Page 216] ond treulio yn afradlon olud ei gŵr wrth y fath wychder, ac weithiau mae hynny yn achosion o gam-wobrau, cribddail a thwyll ym-marchnadon ei gŵr hi, fel y geller ei gosod hi allan yn wychach yngolwg y byd gorwag, i fodloni golwg y cythraul, ac nid golwg Duw, yr hwn sydd yn rhoddi i bob creadur harddwch gweddaidd cymmhedrol, yn yr hyn y dylem ymfodloni pe o Dduw y byddē.
Pa beth yr wyt ti yn ei wneuthur wrth hynny ond annog eraill i'th demptio, i hudo dy enaid di drwy hudoliaeth dy falchder di a'th ryfyg? Pa beth yr ydwyt ti yn ei wneuthur wrth hynny ond gosod allan dy falchder, ac o drwsiad anweddaidd dy gorph gwneuthur rhwyd i ddiafol i faglu llygaid y rhai a edrychant arnat? O dydiwraig, nid Christianoges, ond gwaeth nag Iddewes, a gweinidoges diafol? Pa ham yr wyt ti yn rhodresu yn gymmaint yn dy gelain gnawd, yr hwn ryw amser a ddrewa ac a bydra yn y ddayar y cerddi di arni? Pa fodd bynnag yr ydwyt ti yn dy aroglbereiddio dy hunan, etto ni all na'th beraroglau na'th darthau di na chuddio na gorchfygu dy anifeiliaidd-dra di, y rhai sy yn hytrach yn dy anffurfio ac yn dy Anniwgadu. anniwygu di yn fwy nag y maent yn dy harddu.
Pa beth oedd feddwl Salomon pan ddywedodd ef am wragedd gorwag a ymdrwsient ac a ymwychent fel hyn, fod gwraig dêg heb arferon da, yn debyg i fodrwy aur yn - nhrwyn hŵch: ond pa mwyaf yr ymwychech di â 'r gwychder ymma oddi allan, lleiaf y gofeli di am harddu dy feddwl oddifewn, ac felly nad wyt ti ond dy ddifwyno a'th anurddo dy hun â'r cyfryw drwsiad, ac nid dy harddu a'th addurno hy hun?
[Page 217] Gwrando, gwrando beth y mae sanctaidd Apostoliō Christ yn ei scrifennu. Na fydded trwsiadau gwragedd oddiallan, medd S. Petr, megis o blethiadau gwâllt ac amgylch osodiad aur neu wisco dillad gwychion, eithr bydded ddirgel ddŷn y galon mewn anllygredigaeth, yspryd addfwyn a llonydd, yr hyn sydd gymmeradwy ger bron 1. Pet. 3. 3. Duw: canys felly gynt yr ymdrwsiai y gwragedd sanctaidd, y rhai oeddynt yn gobeithio ar Dduw, yn ddarostyngedîg i'w gwŷr priod. Ac mae S. Paul yn dywedyd y dylei wragedd eu dilladu eu hunain yn weddus gyd â lledneisrwydd a 1. Tim. 2. 9. cymmhesurwydd, nid â gwâllt plethedig, neu aur neu emmau neu wisc werth-fawr, eithr megis y gweddai i wragedd fynegi duwiolder trwy weithredoedd da.
Oni chedwch orchymmynion yr Apostolion, etto gwrandewch beth a ddywed y Paganiaid y rhai nid adwaenent Grist, yn y peth hyn. Democrates sydd yn dywedyd fod harddwch gwraig yn sefyll mewn ychydig eiriau ac ychydig ddillad. Ac am y fâth drwsiad, fel hyn y dywed Sophocles, Nid harddwch yw hyn, oh ynfyd, ond cywilydd, ac argoel eglur o'th ffolineb di. Socrates sydd yn dywedyd mai harddwch gwraig yw 'r hyn a ddangoso ei bod hi yn honest. A diarheb yw hon ym-mŷsc y Groegwyr, nid aur a thlysau sydd yn gwneuthur gwraig yn dêg, ond ei chynneddfau da. Ac mae Aristotl yn gorchymmyn i wraig arfer llai o ddillad, nag y mae 'r gyfraith yn ei oddef: o herwydd nid gwychder dillad, na godidawgrwydd prŷd, nac amledd aur, sydd yn gwneuthur ei wraig fod mewn cymmeriad, ond lledneisrwydd a gofal am fyw 'n honest ym-mhob peth. [Page 218] Mae'r gorwagedd anllywodraethus ymma gwedi tyfu cymn aint nad oes dim cywilydd o hono.
Yr ydym ni yn darllein mewn historiau, pan ddanfonodd brenhin Dionysius wiscoedd gwychion i wragedd Lacedaemonia, hwy a attebasant ac a ddywedasant y gwnai 'r dillad hynny iddynt hwy mwy o gywilydd nag o anrhydedd, ac am hynny hwy a'u gwrthodasant.
Câs oedd gan wragedd Rhufain yn yr hên amser y trwsiadau gwychion a ddanfonodd-brenhin Pyrrhus iddynt, ac nid oedd neb mor chwannog ac mor orwag ac y derbine hwy. Ac fe wnaeth y Seneddr gyfraith gyhoedd, yr hon a barhaodd tros hir o amser, Na byddai i wraig wisco vwchlaw hanner owns o aur, na dillad amliwiog. Symmudliw.
Ond fe alle yr attebai rhyw fursen Glersennaidd wammal fi, a dywedyd mai rhaid idddynt hwy wneuthur rhyw beth i ddangos ei bonedd a'u gwaedoliaeth, ac i ddangos cyfoeth ei gwŷr: megis pe na bai vn modd i ddangos bonedd ond yn y pethau hynny a arfer y rhai Dihiraf. coegaf yn gystal a'r rhai goreu: megis pe na ellid gwario cyfoeth eu gwyr hwy yn well nag ar y cyfryw oferwagedd: megis pe na buasid ti wrth dy fedyddio wedi ymwrthod a balchedd a gorwagedd y byd a choeg rodres y cnawd.
Nid ydwyf yn dywedyd yn erbyn dillad cymmhedrol, gweddus i bob gradd, ond yn erbyn gormodedd, yn erbyn gwâg hoffi ac awyddu 'r fath goeg - oferedd, a dychymmygu dull newydd beunydd i borthi balchedd, treulio ar dy gelain gorph cymmaint ac a baro i ti ac i'th ŵr yspailio y tlawd i faenteinio dy ryfyg di.
Gwrandewch pa fodd y mae y bendesiges sanctaidd [Page 219] Hester, yn gosod allan yr addurnau gwychion hyn (fel yr ydys yn eu galw hwy) pan orfu arni er mwyn gwared pobl Dduw wisco 'r fâth drwsiad hoyw, gan wybod mai dyna 'r hudoliaeth gymmwysaf i ddallu llygaid ffyliaid cnawdol. Fal hyn y gweddiodd hi, Ti a wyddost o Arglwydd Hester. 14. yr angen yr ydwyfi ynddo i wisco 'r trwsiad hwn, a bod yn ffiaidd gennyf arwydd balchedd, yr hwn sydd ar fy-mhen y dydd yr ymddangoswyf: mae mor ffiaidd gennif ef a chadach misglwyf, ac nid ydwyf yn ei wisco ef ar y dyddiau y caffwyf lonydd.
Trachefn, pa fodd y twyllwyd Holophernes ond trwy ddisclair lewych dillad, y rhai a wiscodd y wraig sanctaidd Iudith, nid am ei bod hi yn ymhoffi ynddynt, nac yn ceisio coeg-ddigrifwch oddiwrthynt, ond hi a'u gwiscodd hwy o wir anghenrhaid trwy genhadiad Duw, gan arfer y gorwagedd hyn i orchfygu ofer olygon gelynion Duw. Y fath chwant oedd yn y gwragedd boneddigion hynny, er eu bod yn anewyllyscar oni bai hynny i wisco 'r fath ddillad gwychion er peri i eraill eu hanghofio eu hunain.
Fe ganmolir y rhai hyn yn yr Scrythyrau am gashau 'r fâth orwagedd, er gorfod arnynt o wîr anghenrhaid yn erbyn ewyllys eu calonnau, eu gwisco hwy tros amser. A haedda 'r gwragedd hyn glod, y rhai ni chyffelybir i'r gwragedd hynny nac mewn bonedd nac mewn zêl tu ag Dduw a'i bobl, y rhai y mae eu gorhoffedd a'u cwbl feddwl ar ymwychu ac ymhoywi yn y fath gyfnewidiau a'r ddillad, heb fod byth yn ddigonol, na gofalu pwy a gyfynger ac a orthrymmer am eu dillad hwy, os gallant hwy eu cael hwynt? Ond [Page 220] ofer a gorwag yw 'r gwŷr sydd yn ddarostyngedig ac yn gaethion i ewyllys eu gwragedd yn y fâth chwantau anlly wodraethus?
Ond gorwag y gwragedd sydd yn tynnu arnynt eu hunain y fâth eniweid ac a baro iddynt ddyfod yn gynt i drueni ac aflwydd yn y byd, ac yn y cyfamser cael eu ffieiddio gan Dduw, a'u cashau a'u gwatwar gan ddynion call, ac yn y diwedd yn debyg i gael eu cyssylltu gyd â'r rhai a edifarhânt yn rhy hwyr, ac a gwynant yn vffern ar osteg yn y geiriau hyn: Pa lês a wnaeth ein balchedd i ni? Pa elw a gawsom oddiwrth goeg-rodres cyfoeth? Fe aeth yr holl bethau hyn heibio fel cyscod: ond am rinwedd dda, erioed ni ddangosasom arwydd o honi: fel hyn yr ydys yn ein difa ni yn ein hanwiredd.
Os dywedi fod yn rhaid i ti ddilyn yr arfer, a bod arferon y byd yn dy gymmell i'r fath orwagedd; yna y gofynnaf i ti, arfer pwy a ddyleid ei ganlyn? ai arfer y rhai doethion, ai arfer y rhai ansynwyrol? os dywedi mai arferon y doeth, yna y dywedaf wrthit, canlyn dithau hwynt: o blegid pwy a ganlyne arfer ffyliaid, ond ffyliaid? Ystyria mai cyfundeb y doethion a ddyleid ei gyfrif yn lle arfer. Ac os arferir vn arfer annuwiol, bydd di 'r cyntaf a dorro 'r arfer honno: gwna dy orau ar ei lleihau a'i bwrw i lawr: a thi a ennilli fwy o glod ger bron Duw, a mwy o ganmoliaeth am hynny, nag am dy holl orwagedd a'th ormodedd.
Fal hyn y clywsoch ddangos i chwi allan o air Duw, pa beth y mae Duw yn ei ofyn yn ei air ynghylch cymmhedrol arfer ei greaduriaid. Dyscwn eu harfer hwy yn gymmhedrol fel yr ordeiniodd Duw. Fe a ddyscodd Duw i ni i ba achos a [Page 221] defnydd y dylŷem arfer dillad. Discwn ninnau ymddwyn yn ei harfer hwy, fel y gwedde i Gristionogion, gan fod byth yn ddiolchgar i'n Tâd nefol am ei fawr a'i drugarog ddoniau, yr hwn sydd yn rhoddi i ni ein bara beunyddiol, hynny yw, pob peth anghenrheidiol i 'r bywyd anghenus hwn, i'r hwn y bydd rhaid i ni roddi cyfrif am ei holl ddoniau, yngogoneddus ymddangosiad ein Iachawdwr Christ, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Yspryd glân, y bô anrhydedd, moliant a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth neu Homili ynghylch gweddi.
NId oes dim yn holl oes dŷn (fyngharedigion yn ein Iachawdwr Christ) mor anghenrhaid son am dano ac annog iddo beunydd, ac yw gweddi galonnog wressog ddwyfol: yr hon sydd mor anghenrhaid wrthi, fal na ellir hebddi gael dim ar law Dduw, O herwydd fal y dywaid S. Iaco yr Apostol. Pob dawn daionus a phob rhodd berphaith oddi vchod y mae yn discyn oddiwrth dâd y goleuni, yr hwn a ddywedir ei fod yn gyfoethog ac yn hael tu ag at bawb a alwant arno: nid am na ddichon ef, neu am na fyn ef roi heb ei ofyn, ond am iddo osod gweddi yn gyfrwng arferol rhyngtho ef a ninnau.
Nid oes ammau nad yw ef yn gwybod yn wastad ein anghenrhaidiau ni, ac yn barod yn wastadol i roddi ini amledd o'r pethau sydd arnom eu heisiau. Etto er mwyn ini wybod mai fe yw rhoddwr [Page 222] pob peth daionus, ac ymddwyn yn ddiolchus tu ag atto am hynny, gan ei garu ef a'i ofni a'i addoli 'n bur ac yn gywir, fal y dlyem; fe ordeiniodd yn fuddiol ac yn gall, fod ini yn amfer ein anghenau ymostwng yn ei wydd ef, Tywallt. arllwys dirgelion ein calonnau o'i flaen ef, a cheisio nerth ar ei law ef, â gweddi barhaus dwyfol ddifrif.
Y mae ef yn dywedyd fal hyn trwy enau ei brophwyd sanccaidd duwiol Dafydd, Galw arnafi yn amser blinder, a mi a'th waredaf di. Mae fe Psal. 50. 'n dywedyd hefyd yn yr Efengyl trwy enau ei anwyl fâb Christ, Gofynnwch a rhoddir i chwi, ceisiwch a chwi a gewch, curwch ac fe a agorir i chwi: cans pwy bynnac a ofynno a dderbyn, y neb a gais a gaiff, ac i'r hwn a guro yr agorir. Ac mae Math. 7. 7. S. Pawl gan gytuno â hyn, yn erchi ini weddio ym-mhob mann a pharhau yn hyn, gan roddi 1. Tim. 1. 2, 21. diolch.
Ac nid ydyw 'r Apostol bendigedig S. Jaco yn anghyfuno a▪ hynny, ond gan annog pawb yn ddifrif Iac. 1. 5. i weddi ddiwyd y mae fe 'n dywedyd, Os bydd ar neb eisiau doethineb ceisied gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi yn hael i bawb, heb Edliw. ddannod i neb. Ac hefyd mewn lle arall, Gweddiwch, medd ef, bob vn dros ei gilydd, fal y'ch iachaer, canys Lac. 5. 14, 15. llawer a ddichon gweddi y cyfion os bydd hi ffrwythlon. Pa beth amgen a ddyscir i ni wrth y lleoedd hyn a'r fath leoedd, onid hyn yn vnig, y myn yr Holl-alluog Dduwer ei ragwelediad a'i ddoethineb nefol, ini weddio arno: y myn ef ein bod ni mor ewyllysgar o'n rhan ni i geisio, ac yw yntef o 'i ran ef i roddi. Ffol ac ynfyd am hynny yw rheswn a meddwl y dynnion hynny y rhai a feddyliant fod pob gweddi yn ofer, ac yn ddiffrwyth: [Page 223] am fod Duw yn chwilio 'r galon a'r arennau, ac yn gwybod meddwl yr yspryd cyn gofynnom.
O herwydd pe byddai y rheswm cnawdol hyn yn ddigon i ddiddymmu gweddi, pa ham y gwaeddodd ein Iachawdwr Christ mor fynych ar ei Math. 26. 41. ddiscyblon, gan ddywedyd, Gwiliwch a gweddiwch? Pa ham y gosododd ef iddynt ffurf gweddi, gan ddywedyd? Pan weddioch chwi gweddiwch Luc. 11. 2. fal hyn, Ein Tâd yr hwn wyd yn y nefoedd, &c. Pa ham y gweddiodd ef ei hun mor fynych ac mor ddifrif o flaen ei ddioddeifaint? Yn ddiwethaf, pa ham yr ymgynnullodd y dyscyblon i'r vn lle yn y man yn ol escynniad Christ, Act. 1. 14. ac y parhausont hwy yno mewn gweddi dros hir amser. Naill ai mae 'n rhaid iddynt gondemnio Christ a'i Apostolion o ynfydrwydd annial, ai mae 'n rhaid iddynt ganiatau fod gweddi yn beth anghenrheidiol i bob dyn, bob amser ac ym-mhob lle.
Siccr yw nid oes dim yn yr holl fyd mor fuddiol ac mor anghenrhaid i ddyn a gweddi. Gweddiwch yn wastad, medd S. Paul, a phob rhyw Coloss. 4. 2. weddi, a gwiliwch yn hynny a phob ddiwydrwydd. Ac mewn man arall mae 'n erchi ini weddio 'n Ephes. 6. 18. wastad heb orphwys, gan feddwl wrth hynny na ddylyem ni na llaesu na dyffygio mewn gweddi, ond parhau ynddi hyd diwedd ein hoes. Fe allid adrodd ymma lawer o leoedd i'r vn defnydd fy meddwl i yw manegi anghenrhaid ac arfer gweddi.
Ond pa raid aml brawf ar beth golau? lle nad oes neb mor anwybodus na wŷr ef, neb mor ddall na wŷl ef, fod gweddi yn beth anghenrhaid ymmhob [Page 224] stât a phob gradd o ddynion. O herwydd mai trwy ei nerth hi yn vnic yr ydym yn cael mwynhau y trysorau nefol tragwyddol y rhai a gadwodd y Tâd nefol ac a osododd ef i fynu i'w blant yn ei anwyl a'i garedig fâb Iesu Grist gwedy cadarnhau a seilio 'r ammod a'r addewid hon Ioan. 16. 23. ini, os ni a ofynnwn y derbyniwn ni.
Yn awr a ni yn gwybod mawr anghenrhaio gweddi, er mwyn annog a chyffro 'n meddyliau ni a'n calonnau yn fwy etti, ystyriwn ar ychydig airiau pa rym a nerth rhyfedd sydd ynddi i ddwyn i ben bethau mawr rhyfedd. Yr ydym ni yn darllen yn llyfr Exod. i Iosua wrth ymladd yn erbyn Exod. 7 11. yn Amaleciaid eu gorchfygu a'u gortrechu hwy, nid cymmaint trwy rinwedd ei rym ei hun, a thrwy weddi barhaus ddifrif Moeses: yr hwn yr hŷd y daliai ef ddwylo i fynu tuag at Dduw fe fyddai Israel yn gorescyn, ond pan ydoedd ef yn deffygio ac yn goddef ei ddwylaw i gwympo, fe fyddai Amalec a'i bobl yn gorescyn, nes gorfod ar Aaron a Hur y rhai oeddynt gydag ef yn y mynydd, gynnal ei ddwylaw ef i fynu, nes myned yr haul i lawr, oni buasai hynny fe ortrechasid ac a orchfygasid pobl Dduw y dythwn hwnnw 'n hollol. Yr ydym ni mewn man arall yn darllen hefyd am Iosua ei hun, y modd, pan oeddid yn gwarchau Gibeon, gan wneuthur ei ostyngeiddiaf weddi at yr holl-alluog Dduw, y gwnaeth ef i'r haul a'r lleuad attal eu rhedegfa, a sefyll yn llonydd ynghenol y nefdros ddiwrnod cyfan, nes i'r bobl Iosu. 10. 12. gael cwbl ddial ar eu gelynnion.
Ac onid oedd grym mawr yngweddi Iehosaphat 2. Cro. 20. 22. pan wnaeth Duw ar ei ddeisifiad ef i'w elynnion ef ymladd â'u gilydd, a dinistr eu gilydd yn ewyllysgar. [Page 225] Pwy a ddichon ryfeddu am ffrwyth a rhinwedd gweddi Elias, yr hwn ac yntef yn ddyn, 1. Bren. 18. 45. o blegid gwendid, o'n dull ninnau, a weddiodd ar yr Arglwydd na lawiai hi, ac ni lawiodd hi ar y ddayar dros dair blynedd a chwe mis. Ailwaith fe a weddiodd ar iddi lawio, ac fe gwympodd glaw lawer fal y dygodd y ddayar ei ffrwythau yn llwyddiannus.
Rhy hir fyddai adrodd am Iudith, Hester, Susanna a llawer o wyr a gwragedd duwiol eraill, pa faint yn eu holl weithredoedd a ennillasant hwy wrth roddi eu holl fryd yn ddifrif ac yn ddwyfol ar weddio. Gwasanaethed ar hyn o ennyd gysoni 'r cwbl â geiriau Awstin a Chrysostom, o'r August. serne. de tempore. rhai y mae vn yn galw gweddi yn Agoriad. Chryso. super Math. 22. allwydd nef, a'r llall yn dywedyd yn oleu nad oes dim yn y byd a ddichon bod yn gryfach na gŵr a ymroddo i weddi ddifrif.
Yn awr, fyngharedigion, gan fod gweddi mor anghenrheidiol ac mor rymmus ger bron Duw. byddwn, fal y'n dyfcir trwy siampl Christ a'i Apostolion, ddifris a diwyd i alw ar enw 'r Arglwydd. Na laeswn, na ddyffygiwn ac na pheidiwn, ond beunydd a phob awr, yn forau ac yn hwyr, mewn amser ac allan o amser, byddwn ddyfal mewn myfyriadau a gweddiau duwiol. Beth oni chawni ein gweddiau ar y cyntaf? Etto na lwfrhawn ond gwaeddwn a galwn ar Dduw yn wastadol: fe a wrandy arnom yn siccr yn y diwedd, pe ni byddai hynny am vn achos arall, ond am ein taerder ni.
Cofiwn ddammeg y barnwr anghyfiawn a'r weddw dlawd, pa fodd y gwnaeth hi iddo trwy ei Luc. 18. 1. V. 7. thaerder wneuthur â hi gyfiawnder yn erbyn ei [Page 226] gorthymmudd; er nad ofnai na Duw na dŷn. Ac medd ein Iachawdwr Christ, oni ddial Duw yn fwy ei etholedigion sydd yn llefain arno nos a dydd. Fal hyn y dyscodd ef ei ddiscyblon ac ynddynt hwy yr holl wir Gristionogion i weddio 'n wastad, heb orphwys na dyffygio. Cofiwn siampl y wraig o Ganaan pa fodd y gwrthod wyd hi gan Grist, ac y galwyd hi yn gi, megis vn an-nheilwng i dderbyn donniau ar ei law ef, etto ni pheidiodd Math. 15. 16. hi, ond hi a'i canlynodd ef yn wastad gan waeddi a galw arno am fod yn drugarog ac yn dda wrth ei merch hi: ac yn y diwedd drwy ei thaerder, hi a fwyn haodd ei damuniad.
Oh dyscwn drwy y siamplau hyn fod yn ddifrif ac yn wresog mewn gweddi, gan ein sicrhau ein hunain pa beth bynnac a ofynnom ni i Dduw Dâd yn enw ei fab Christ Iesu, ac yn ôl ei ewyllys ef, y canniata fe hynny ini yn ddiammau. Efe Ioan 6. 23. yw y gwirionedd ei hun ac mor gywir ac yr addawodd, felly fe gyflawna 'n gywir.
Duw o'i fawr drugaredd a weithio felly ynom ni trwy ei Yspryd sanctaidd, fal y bo ini yn wastad wneuthur ein gostyngedig weddiau arno, fal y dlyem, a mwynhau bob amser y pethau a fythom yn eu ceisio, trwy Iesu Grist ein Harglwydd i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd gla▪n y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch gweddi.
CHwi a glywsoch yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon fanegi a phrufo i chwi cystadl wrth lawer o dystiolaethau pwysig a bagad o samplau daionus o'r Scruthyrau sanctaidd, fawr anghenrheidrwydd a mawr rym gweddi deilwng ddifrif. Yn awr gwrandewch ar bwy y dlyech alw, ac at bwy y dlyech gyfeirio eich gweddiau. Fe 'n dyscir ni yn eglur yn y Testament sanctaidd mai'r holl-alluog Dduw yw vnic ffrŵd a ffynnon pob daioni, a'n bod ni'n derbyn ar ei ddwylaw ef pa beth bynnac sydd gennym yn y byd hwn: I'r defnydd hyn y gwasanaetha y lle yn S. Iaco, Pob dawn daionus a phob rhodd berffaith oddi-vchod y mae yn discyn oddiwrth Dâd y goleuni. Iac. 1. 17. I'r defnydd hyn gwasanaetha tystiolaeth Pawl mewn llawer o leoedd yn ei lythyrau, gan dystiolaethu fod Yspryd doethineb, Yspryd gwybodaeth, ac Yspryd gweledigaeth, ie a phob rhodd nefol dda, megis ffydd, gobaith, cariad, rhad a heddwch yn dyfod yn vnic oddiwrth Dduw. Gan ystyriaid yr hyn bethau mae fe 'n torri allan i'r ymadroddion disymmwth hyn, gan ddywedyd, Beth sydd gēniti o ddŷn ar nas derbynniaist? Am 1. Cor. 4. 7. hynny pan fytho arnom ddiffyg neu eisiau dim ac a berthyn nac at y corph nac at yr enaid, rhaid yw ini redeg at Dduw yn vnic, yr hwn yn vnic yw rhoddwr pob peth daionus.
Mae 'n Iachawdwr Christ wrth ddyscu yn ei Ioan. 16. 23. efengyl i'w ddiscyblon weddio, yn eu danfon hwy [Page 228] at ei Dâd yn ei enw ef, gan ddywedyd, yn wir yn wir meddaf i chwi, pa beth bynnac a ofynoch i'm Math. 6. 5. Tâd yn fy enw i' efe a'i rhydd i chwi. Ac mewn man arall, Pan weddioch, y gweddiwch fal hyn, Luc. 11. 2. Ein Tâd yr hwn wyd yn y nefoedd, &c. Ac mae Duw ei hun trwy enau ei brophwyd Dafydd yn Psal. 50 15. gorchymmyn ac yn peri ini alw arno fe. Ac mae 'r Apostol yn dymuno rhâd a heddwch i bawb oll ac a alwant ar enw 'r Arglwydd a'i fab ef Iesu Grist. Ac mae 'r Prophwyd Ioel yn dywedyd, Y Ioel 2. 32. Act. 2. 21. bydd i bwy bynnac a alwo ar enw 'r Arglwydd fod yn gadwedig.
Fal hyn wrth hynny y mae 'n oleu wrth annh wyllodrus air y gwirionedd a'r bywyd, y dlyem ni yn ein holl anghenau redeg at Dduw, cyfeirio ein gweddiau atto ef, a galw ar ei sanctaidd enw ef, deisif cynhorthwy ar ei law ef, ac nid ar law neb arall. Am yr hyn os mynnwch etto ychwaneg rheswm ystyriwch yr hyn a ganlyn. Mae rhyw gynneddfau anghenrheidiol eu bod mewn pob vn ac a weddier arno, y rhai oni chair yn yr hwn y bythom yn gweddio arno; yno ni thyccia ein gweddi ni ddim ini. ond hi a fydd yn ofer Hollol. Y cyntaf yw bod yr hwn y bythom yn gweddio arno yn alluog, ac yn abl i'n helpu ni. Yr ail yw, ei fod ef yn cwyllysgar i'n cynorthwyo ni. Y trydedd yw, ei fod ef yn gyfryw vn ac a all glywed ein gweddiau ni. Y pedwaredd yw, ei fod yn deall yn well nâ ni ein hunain pa gymmaint y mae yn rhaid ini wrth gynhorthwy, a pha beth sydd arnom ei eisiau.
Os cair y pethau hyn mewn neb arall ond ynnuw yn vnic, yno y gallwn yn gyfraithlon alw ar eraill heblaw Duw. Ond pwy sydd mor ddwl [Page 229] ac na ddeall yn dda fod y pethau hyn yn briodol yn vnic i'r hwn sydd yn holl-alluog, ac yn gwybod pob peth, ie dirgelion y calonnau: hynny yw i Dduw ei hun yn vnic. O'r hyn y canlyn na ddylyem ni alw nac ar angel nac ar sant, ond yn vnic ar Dduw ei hun, fal yr scrifenna S. Pawl, Pa fodd y galwant arno ef yn yr hwn ni chredasant? fal wrth hyn na ellir galw neu weddio heb ffydd ynddo ef yr hwn y byddir yn galw arno ac heb Ruf. 10. 14. ein bod ni yn credu yn gyntaf ynddo, cyn gweddio arno.
Am hyn mae 'n rhaid ini weddio ar-Dduw ei hun yn vnic. O herwydd fe fyddai ddywedyd y dlyem gredu mewn Angel neu sant neu vn creadur byw arall yn ddirmyg Erchyll. echrydus yn erbyn Duw a'i sanctaidd air: ac ni ddlyai y meddwl hyn ddyfod o fewn calon vn dyn Christionogaidd, am fod yn ein dyscu ni yn oleu wrth air yr Arglwydd i osod ein ffydd yn vnic yn y drindod sanctaidd; yn enw 'r hwn yn vnic y'n bedyddiwyd ni, yn ol gorchymmyn eglur ein Iachawdwr Christ, yn y Math. 28. 18. ddiwethaf o efengyl Mathew.
Ond er mwyn gwneuthur i'r gwirionedd ymddangos yn eglur i'r rhai gwirionaf a lleiaf eu dysc, Ystyriwn pa beth yw gweddi.
Mae S. Awstin yn ei galw hi derchafiad y meddwl at De spir. & lit. cap 50. Dduw, a gostyngedig Tywalltiad. arllwysiad y galon at Dduw. Mae Isidorus yn dywedyd mai De summo bono lib. 3. c. 8. llwyr—fryd y galon, ac nid llafur y gwefusau yw hi. Fal wrth y lleoedd hyn y mae gwir weddi yn sefyll nid cymmaint mewn sŵn a llaferydd y geiriau oddifaes, ac mewn griddfan a gwaedd yr yspryd oddifewn at Dduw.
Yn awrgan hynny, oes vn angel neu forwyn [Page 230] neu Batriarch neu Bropwyd ym-hlith ymeirw, yr hwn a all deall neu wybod meddwl y galon? Ierc. 17. 10. Psal. 7. 9. Gweled. 2. 23. 1. Par. 8 9. Mae 'r Scruthyrau yn dywedyd mai Duw yn vnic sydd yn chwilio 'r galon a'r arennau, ac mai efe yn vnic a wyr galonnau meibion dynnion. Am y saint, mae eu gwybodaeth hwy mor fychan ynnirgelion y calonnau, fal yr ydoedd llawer o'r hen dadau yn Ammeu. dowtio 'n fawr pa vn a wnânt ai gwybod dim ai peidio o'r pethau a wnair ar y ddayar.
Ac er bod rhai yn tybied eu bod hwy yn gwybod; etto mae S. Awstin doctor o awdurdod a henafiaeth mawr, yn tybied na wyddant hwy Lib. de cura pro mor. agen. cap. 13. De vera relig. cap. 22. beth yr ydym ni yn ei wneuthur ar y ddayar, yn well nag y gwyddom ninnau beth y maent hwy yn eu wneuthur yn y nef. Er Profi. prufo hyn mae fe 'n dodi drosto airiau y prophwyd Esai, lle mae fe 'n dywedyd na wyr Abraham oddiwrthym ni ac Esai. 63. 16. nad edwyn Israel mo honom. Ei feddwl ef am hynny yw na byddai i ni dybiaid fod eu haddoli hwy, neu weddio arnynt, yn rhan o'n crefydd, ond bod i ni eu hanrhydeddu hwy wrth ganlyn eu bywyd rhinweddol duwiol hwy. O herwyd fal y Lib. 22. de ciwit. Dei. c. 10. mae fe 'n testiolaethu mewn man arall, Yr oedd merthyron a gwyr duwiol yr amseroedd gynt, yn arfer ar ol eu marwolaeth o gael eu cofio a 'u henwigan yr offeiriaid ar wasanaeth, ond nid oeddid erioedd yn arfer o alw nac o weddio arnynt. A pha ham hynny? O blegid, medd ef, mai offeiriad Duw yw'r offeiriad, ac nid eu hoffeiriad hwy: am hynny y mae efe yn rhwymedig i alw ar Dduw ac nid arnynt hwy.
Fal hyn y gwelwch nad ydyw awdurdod yr scruthyrau nac awdurdod S. Awstin yn cenhadu [Page 231] i ni weddio arnynt. Oh na ddarllenai ddynion ac na chwilient hwy yr Scrythyrau yn ddiescaelus: yno ni foddid hwy mewn an wybodaeth, ond hwy a ddeallent y gwirionedd yn hawdd, am yr athrawaeth hyn ac am bob peth arall. O herwydd yno y mae 'r Yspryd glân yn ein dyscu i ni yn oleu: mai Christ yw ein vnic ddadleuwr a'n cyfryngwr ni gyda Duw, na ddlyem ni nac ymgais na rhedeg at neb arall. Os pecha neb, medd Ioan Sant mae i ni ddadleuwr gyd a 'r Tâd Iesu Grist y cyfion, 1. Ioan. 2. 1, 2. ac ef yw 'r iawn dros ein pechodau. Mae S. Paul yn dywedyd hefyd mai vn Duw sydd, ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dyn, sef y dyn Christ 1. Tim. 2. 5. Iesu.
A'r hwn y cytuna testiolaeth ein Iachawdwr ei hun gan destiolaethu na ddaw neb at y Tâd ond yn vnic trwyddo ef: o herwydd mai efe yw 'r Ioan. 14. 6. ffordd, y gwirionedd a'r bywyd: ie a'r vnic ddrws trwy 'r hwn y gallwn fyned i deyrnas nef: o blegyd Ioan. 10. 17. mai ynddo fe yn vnic ac nid yn neb arall y mae Duw yn fodlon. Am yr hyn achos y mae fe 'n Math. 3. 7. gweiddi ac yn galw arnom ar ini ddyfod atto ef, gan ddywedyd, dewch attafi bawb ac sydd flinderog ac yn llwythog ac mifi a esmwythaf arnoch. A fyn Christ fod mor anghenrheidiol ini ddyfod Math. 11. 28. atto, ac a adawn ni ef yn anniolchus, a rhedeg at arall?
Dymma 'r hyn y mae Duw yn achwyn rhagddo 'n gymmaint, trwy y Prophwyd Ieremi, gan ddywedyd, fe wnaeth fymhobl ddau fai fawrion: hwy a'm gwrthodasont i ffynnon dwfr y bywyd, ac a gloddiasont iddynt eu hunain byllau tyllog y rhai ni ddalant ddim dwfr ynddynt.
Onid ydyw hwnnw yn wr angall, meddwch [Page 232] chwi, yr hwn a red i geisio dwfr i 'r gofer bychan, ac yntef yn gallel myned yn gystadl i lygad y ffynnon? Felly y gellir ammau ei synwyr yntef yr hwn a rêd at y saint yn amser anghenrhaid, pan allo fyned yn Hyf. eofn a dangos ei ddolur yn ddiofn, a chyfeirio ei weddi at yr Arglwydd ei hunan. Pe byddai Dduw yn ddieithr ac yn Berigl. enbaid ymddiddan ag ef, yno y gallem ni gael achos i dynnu yn ein hol ac i ymgais a rhyw vn arall. Ond mae 'r Arglwydd yn agos at bawb a alwant arno, sef yr holl rhai a alwant arno mewn gwirionedd. Ac fe fu weddi ostyngedig yn gymmeradwy bob amser yn ei olwg ef.
Beth os ydym ni bechaduriaid, oni weddiwn ni ar Dduw am hynny? neu a wanobeithiwn ni gael dim ar ei law efe? paham yntef y dyscodd Christ ni i ofyn meddauant o'n pechodau, gan ddywedyd, maddau ini ein dyledion fal y maddauwn ninnau i'n dyledwyr? A dybygwn ni fod y saint Psal. 113. 8. yn fwy eu trugaredd i wrando pechaduriaid nag yw Duw? Mae Dafydd yn dywedyd, Trugarog a graflawn yw 'r Arglwydd hwyrfrydig i lid a mawr o drugarogrwydd. Mae S. Pawl yn dywedyd ei fod ef yn gyfoethog o drugaredd i bawb a alwant arno. Ac mae efe ei hun yn dywedyd Ephes. 2. 4. trwy enau ei Brophwyd Esai, Dros ennyd fechan y'th wrthodais, ond â thrugaredd mawr y'th Esai. 54. 7, 8. gynullais: dros funyd yn fy llid y cuddiais fy wyneb oddiwrthyd, ond a thrugaredd tragwyddol y tosturiais wrthyd.
Am hyn ni ddlyai bechodau vn dŷn ei attal ef oddiwrth weddio ar yr Arglwydd Dduw; ond os efe fydd gwir etifeiriol a diogel mewn ffydd, bid diogel gantho y bydd yr Arglwydd trugarog wrtho [Page 233] ac y gwrandy efe ei weddiau ef.
Oh ni faiddiafi, medd rhyw vn, drwblo Duw yn wastad â'm gweddiau: yr ydym ni yn gweled mewn tai a llysoedd brenhinioedd na oddefir neb i ddyfod i ymddiddan â 'r brenin nac i fwynhau y peth y mae yn ei geisio, oni chais ef yn gyntaf help rhyw bennaeth neu ŵr mawr. Mae S. Ambros yn atteb y rheswm hwn yn dda iawn ar y bennod Ambros super▪ 1. ad Rom. gyntaf at y Rufeiniaid. Am hynny, medd ef, yr arferwn o fyned at frenhinioedd trwy swyddogion a phendefigion, am fod y brenin yn farwol ac ni wyr efi bwy y rhydd lywodraweth y gwledydd: ond i gael gan Dduw ein caru oddiwrth yr hwn nid oes dim cuddiedig, nid rhaid ini wrth vn helpwr i'n cynorthwyo â'i air da, ond yn vnic meddwl bucheddol duwiol. Ac os rhaid ini wrth rai i eiriol drosom, paham na byddwn bodlon i'r vn cyfryngwr hwnnw yr hwn sydd yn eistedd ar ddedaulaw Dduw Dâd, i fod yn eiriolwr drosom yn dragywydd? Megis y prynodd ac y glanhaodd Heb. 10. 12. gwaed Christ ni ar y groes oddiwrth ein pechodau: felly y mae ei waed ef yn a lluog i gadw pawb a ddelont at Dduw trwyddo ef. O herwydd mae i Grist yn y nef offeiriadaeth dragwyddol, ac mae fe'n gweddio'n wastad ar ei Dâd dros y rhai ydynt wir etifeiriol gan haeddu ini trwy rinwedd ei archollion (y rhai ydynt yngolwg Duw 'n wastadol) nid yn vnic gwbl ollyngdod o'n pechodau, onid hefyd pob pethau anghenrheidiol a fo rhaid ini wrthynt yn y byd hwn. Fal y mae 'r vnic gyfryngwr hwn yn ddigonol yn y nef, ac nid rhaid iddo wrth neb i'w helpu.
Fe allai y gofynnai rhyw vn ymma, paham wrth hynny y gweddiwn ni bawb dros ei gilydd [Page 234] yn y bywyd hwn? Yr wir yr ydys yn gorchymmyn ini wneuthur felly wrth orchymmyn eglur Christ a'i ddiscyblon, i fanegi yn hynny cystadl y ffydd sydd genym ynghrist tuag ar Dduw, a'r cariad Math. 6. 11 &c. Iaco. 5. 14. Coloss 4. 3. 1. Tim. 2. 1. y mae pob vn honom yn ei ddwyn at ei gilydd, wrth dosturio am flinderau 'n brodyr a gwneuthur ein gostyngedig ymbil ar Dduw drostynt. Ond am weddio ar y saint, nid oes gennym na gorchymmyn yn yr holl scruthyr, nac vn siampl yr hon a allwn ni ei chanlyn yn ddiogel. Megis os gwnair hynny heb awdurdod gair Duw nid oes iddo sail ffydd, ac am hynny ni ddichon fod yn gymmeradwy ger bron Duw. O herwydd pa beth bynnac nid yw o ffydd pechod yw. Heb. 11. 1. Ruf. 14. 23. Ruf. 10. 14. Ac mae 'r Apostol yn dywedyd fod ffydd yn dyfod o wrando, a gwrando o air Duw.
Os gosodi yn fy erbyn etto fod y saint yn y nef yn gweddio drosom ni, a bod eu gweddi hwy yn dyfod o gariad difrif, yr hwn sydd ganthynt at eu brodyr ar y ddayar. I hyn y gellir atteb yn dda. Yn gyntaf na wyr neb pa vn a wnânt ai bod yn gweddio ai nad ydynt, ac os cais neb prwfo eu bod hwy, wrth naturiaeth cariad, gan daeru am eu bod hwy yn gweddio dros ddynion pan oeddynt ar y ddayar, am hynny yn awr y gwnânt hwy hynny yn fwy o lawer, a hwythau yn y nef. Wrth yr vn rheswm y gellir dywedyd eu bod hwy yn wylo yn y nef pan fythom ninnau yn wylo ar y ddayar: o herwydd siccr a diogel yw, yr hyd yr oeddynt ar y ddayar eu bod hwy yn gwneuthur felly. Ac am yr hyn a scrifennir yn llyfr gweledigaeth Ioan, fod yr Angel yn offrwm gweddiau 'r saint ar yr allor aur: yr ydys yn deall y lle hwnnw ac fe ddlyid ei ddeall ef am y saint sydd fyw etto [Page 235] ar y ddayar, ac nid am y rhai a fuont feirw: ac onid ê pa raid fuasai i'r Angeloffrwm eu gweddiau hwy a hwy eisoes yn y nef ymlaen wyneb yr holl-alluog Dduw?
Ond canniataer fod y saint yn gweddio drosom ni, etto ni wyddom ni pa fodd: pa vn ai yn enwedig dros y rhai a alwant arnynt hwy, ai yn gyffredinol dros bawb, gan ewyllysio daioni i bob dŷn fal i gilydd. Os ydynt hwy yn gweddio 'n enwedig dros y rhai a alwant arnynt, yno tebyg yw eu bod hwy yn clywed ein gweddiau ni ac yn gwybod dirgelion ein calonnau ni: ond fe brwfwyd eisoes castadl wrth yr scruthyrau ac awdurdod Austin nad ydyw hyn ddim yn wir.
Na rown ninnau hyder ac ymddiried ar y saint, a'r merthyrion a fuont feirw. Na alwn arnynt, ac na cheisiwn vn cymmorth ganthynt: ond yn wastad cyfodwn ein calonnau at Dduw yn enw ei fâb Iesu Grist er mwyn yr hwn fal yr addawodd Duw wrando 'n gweddiau, felly yn siccr y cwblha efe hyny. Peth yn perthyn i Dduw yw gweddi, yr hon os rhoddwn i'r saint mae 'n myned yn warth iddynt, ac ni allant hwy oddef hynny yn dda ar ein dwylo ni. Pan darodd i Pawl iachau rhyw vn clôff yr hwn oedd efrydd o'i draed yn Lystra, fe fynnasai y bobl aberthu iddo ef a Act. 14. 14. Barnabas: yr hyn beth a wrthodasant hwy, gan rwygo ei dillad a'u hannog hwy i addoli y gwir Dduw.
Felly yngweledigaeth Ioan, pan gwympodd Ioan wrth draed yr Angel i'w addoli ef, ni oddefodd yr Angel iddo wneuthur felly: ond fe orchymmynodd iddo addoli Duw. Yr hon siampl sydd yn manegi ini na fyn y saint a'r angylion yn y nef [Page 236] ini wneuthur iddynt hwy vn anrhydedd sydd ddyledus a pherthynasol i Dduw. Efe yn vnic yw y Tâd, efe yn vnic sydd holl-alluog, efe yn vnic a ddichon ein cynhorthwyo ni bob amser, ac ymhob lle: mae fe 'n goddef i'w haul ddiscleirio ar y da a'r drwg: mae fe 'n porthi cywion y cigfrain pan lefont arno: mae fe 'n cadw dŷn ac anifail: ni oddef i flewyn o wâllt ein pennau ni syrthio: ond mae fe 'n barod i nerthu ac i gadw pawb a ymddiredant ynddo, fal yr addawodd ef gan ddywedyd, Cyn y galwont mifi attebaf, yr hyd y byddont yn dywedyd mifi a wrandawaf, na wan-ymddiredwn am hynny i'w ddaioni ef, nac ofnwn ddyfod ger brō gorseddfaingc ei drugaredd ef, na cheisiwn nerth na chynhorthwy y saint, ond deuwn ein hunain yn Hyf. eofn heb ammau nas gwrendy Duw ni er mwyn Christ, yn yr hwn y bodlonir ef, heb vn cyfryngwr, ac y cyflawna ef ein deisyfiad ni ymmhob peth ac sydd gyfun â'i ewyllys sanctaidd ef. Felly y mae Chrysostom hên ddoctor o'r Eglwys Chrys. hom. 6. da profect. Euangelij. yn dywedyd, ac felly y mae 'n rhaid i ninnau gredu, nid am ei fod ef yn dywedyd felly, ond yn fwy o lawer o herwydd mai athrawaeth ein Iachawdwr Christ ei hun yw hynny. Yr hwn a addawodd os ni a weddiwn ar y Tâd yn ei enw ef, y cawn ni yn ddiddau ein gwrando cystadl er cymmorth yn ein hangenrheidiau, ac i Iachadwriaeth ein heneidiau, y rhai a brynodd ef ini, nid ag aur nac arian ond â'i werthfawr waed, yr hwn a dywalltodd ef vnwaith dros bawb ar y groes.
Iddo ef am hynny gydâ'r Tâd a'r Yspryd glân, tri pherson ac vn Duw, y bytho holl anrhydedd moliant a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth o blegid gweddi.
FE a'ch dyscwyd chwi yn y rhan arall o'r bregeth hon, at bwy y dlyech gyfeirio cich gweddi mewn amser angen a chyfyngdra; Hynny yw nid at angylion na saint, ond at y tragwyddol a'r byth-fywiol Dduw: yr hwn am ei fod yn drugarog sydd yn barod yn wastad i'n gwrando ni, pan alwom arno mewn gwirionedd a ffydd berffaith: ac am ei fod ef yn holl-alluog fe ddichon yn ebrwydd gyflawni a chwblhau y peth yr ydym ni yn ei ddeisif ar ei ddwylaw ef. Ammau ei allu ef a fyddai anffyddlonder eglur, ac yn erbyn athrawaeth yr Yspryd glân, yr hwn sydd yn dangos ei fod ef oll yn oll. Ac am ei ewyllys da ef yn hyn o beth, mae ini destiolaethau golau yn yr scruthur y cynnorthwya ef ni os ni a alwn arno Psal. 6. 9. mewn amser blinder. Megis o blegid y ddau achos hyn y dlyem alw arno ef yn hytrarch nag ar neb arall: ac ni ddylai neb ofni dyfod at Dduw yn Hyf. eofn am ei fod yn bechadur. O herwydd fal y dywaid y Prophwyd Daffydd, Trugarog a graslawn yw 'r Arglwydd, ie ei drugaredd ef a'i ddaioni Psal. 103. 8. sydd yn dragywydd.
O ni wrendy efe bechaduriaid yr hwn a ddanfonodd ei fâb ei hun i'r byd i gadw pechaduriaid? os â chalon wir etifeiriol a ffydd ddiogel y gweddian 1. Tim. 1. 15. arno? Os cydnabyddwn ein pechodau mae Duw yn ffyddlon i faddau ini ein pechodau ac i'n glanhau ni oddiwrth ein anwiredd, fal y dangosir ini yn oleu wrth siampl Dafydd, Petr, Mair 1. Ioan. 1. 9. [Page 236] [...] [Page 237] [...] [Page 238] Fagdalen, y Publican, a llawer eraill.
Ac lle mae 'n rhaid ini gael nerth rhyw gyfryngwr ac airiolwr, byddwn fodlon iddo ef yr hwn yw gwir gyfryngwr a dadleuwr y Testament newydd, set ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist. O herwydd fal y dywaid Ioan S. Os pecha neb mae ini eiriolwr gydâ'r Tâd, Iesu 1. Ioan. 2. 1. Grist y cyfiawn ac efe yw r' iawn dros ein pechodau. Ac mae S. Pawl yn ei Epistol cyntaf at Timothi yn dywedyd fod vn Duw ac vn cyfryngwr rhwng Duw a dyn, sef y dŷn Christ Iesu, yr hwn a'i rhoddes ei hun yn bridwerth i bawb ac yn destiolaeth yn ei lawn bryd.
Yn awr gwedy cadarnhau yr athrawaeth hon, fe a'ch cyfarwyddir chwi am ba bethau, a thros pa fath dynniō y dylyech chwi weddio ar Dduw. Rhan pawb cyn gweddio yw ystyriaid yn dda ac yn ddiescaelus pa beth y maent yn ei ofyn ac yn ei geisio ar law Dduw: rhag os hwy a ddymunant y peth nis dlyent, fyned eu deisyfiad hwy yn ofer ac yn ddiffrwyth. Fe ddaeth vnwaith at frenin Agesilaus ryw ymbiliwr taer, yr hwn a geisiai gantho ryw beth yn daer; gan ddywedyd, Syre, os gwel eich grâs chwi fod yn dda chwi a addawsoch hynny vnwaith i mi, gwir yw, eb y brenin, os cyfiawn y peth yr wyt yn ei geisio, ac onid ê ni wnaethym onid dywedyd heb addo. Ni chymmerai 'r dyn ei atteb felly gan y brenin, ond fe a ganlynodd arno ym-mhellach gan ddywedyd, fe weddai i frenin gyflawni y gair lleiaf a ddywedai ie pe byddai heb ond amneidio â'i ben. Nid mwy eb y brenin nag y gweddai i'r dyn a ddawai at frenin ddywedyd wrtho neu geisio gantho bethau onest cyfion. Fal hyn y trodd y brenin ymmaith [Page 239] yr ymbiliwr taer anrhesymmol hwnnw.
Yn awr os rhaid bod cymmaint ystyr pan benliniom ni ger bron brenin dayarol? pa faint mwy y dylyai fod pan benliniom ni ger bron y brenin nefol, yr hwn a fodlonir yn vnic â chyfiawnder ac iniondeb, ac ni dderbyn vn ddeisyfiad ofer ynfyd anghyfiawn? Da am hynny a buddiol fydd i ni ystyried yn gwbl ac edrych ynom ein hunain pa bethau a allwn yn gyfraithlon eu gofyn oddiar law Dduw, heb ofn cael Pall. nâg: ac hefyd pa fath ddynion yr ydym ni rhwymedig i'w gorchymmyn i Dduw, yn ein gweddiau beunyddol.
Dau beth yn enwedig a ddylid eu ystyried yngweddi pob dyn duwiol da: ei anghenrhaid ef ei hun a gogoniant yr Holl-alluog Dduw. Mae anghenrhaid naill ai oddifaes o ran y corph, ai oddifewn o ran yr enaid.
Yr hon rhan o ddŷn am ei bod yn werthfawroccach ac yn odidawgach nâ 'r rhan arall; am hynny y dylyem ni geisio yn gyntaf y pethau a berthynant at Iechadwriaeth y rhan honno, megis rhôdd etifeirwch, rhôdd ffŷdd, a rhôdd cariad, gweithredoedd da, gollyngdod a maddauant o'n pechodau, dioddefgarwch mewn adfyd, gostyngeiddrwydd mewn hawddfyd, ac eraill o fath ffrwythau 'r Yspryd: megis gobaith, cariad, lawenydd, Gal. 5. 22. tangweddyf, ymaros, cymwynascarwch, daioni, mwyneidd-dra, dirwest, yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ar ddwylaw pawb a gymmerant arnynt fod yn blant iddo ef, gan ddywedyd wrthynt yn y modd hyn, llewyrched eich goleuni ger bron dynion fal a gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac yr anrhydeddant eich Tâd yr hwn Mat. 5. 16. sydd yn y nefoedd.
[Page 240] Ac mewn man arall mae fe 'n dywedyd, Yn gyntaf ceifiwch deyrnas Duw a'i gyfiawnder, a'r holl bethau eraill a roddir i chwi. Trwy hyn y mae Math. 6. 33. fe 'n dwyn ar gof i ni y dlyai ein gofal mwyaf ni fod am y pethau a berthynant at iechyd a chadwedigaeth yr enaid. Am nad oes ini ymma, fal y dywaid yr Apostol, ddinas barhaus eithr yr ydym Heb. 13. 14. yn ceisio 'r hon a fydd yn y byd a ddaw.
Yn awr gwedy darffo i ni weddio digon am bethau a berthynant at yr enaid, ni a allwn yn gyfraithlon â chydwybod dda weddio am ein anghenau corphorol, megis bwyd, diod, dillad, iechyd y corph, ymwared o garchar, llwyddiant yn ein negesau beunyddol, fal y byddo rhaid. Am yr hyn pa siampl well a allwn ni i chanlyn nâ siampl Christ ei hun, yr hwn a ddyscodd i'w ddiscyblon, ac yndynt hwythau i bob Christion, yn gyntaf weddio am bethau nefol, ac yn ol hynny am bethau dayarol: fal y gellir gweled yn y weddi a adawodd Math. 6. 9. Luc. 11. 2. ef i'r Eglwys, yr hon a elwir gweddi 'r Arglwydd?
Mae 'n scrifennedig yn y cyntaf o lyfrau y Brenhinoedd a'r trydedd Bennod, i Dduw ymddangos i frenin Salomon liw nos mewn breuddwydd gan ddywedyd, Gofyn i mi y peth a fynnych ac mi a'i rhoddaf iti: fe wnaeth Salomon felly, ac a ofynnodd galon gall ddeallus, fal y gallai farnu 'r bobl a deall gwahaniaeth rhwng drŵg a da: pa beth a fyddai dduwiol a pha beth a fyddai annuwiol, pa beth a fyddai gyfiawn a pha beth a fyddai anghyfiawn yngolwg yr Arglwydd.
A bodlon iawn y fu gan Dduw iddo ofyn y peth hyn, ac fe ddywad Duw wrtho, Am iti ofyn y peth hyn ac na ofynnaist iti ddyddiau lawer, ar y ddayar [Page 241] ac na ofynnaist iti olyd ac na cheisiest waed dy elynnion, eithr ceisiaist iti ddeall i fedru gwneuthur barn: wele gwneuthym yn ol dy airiau rhoddais iti galon ddoeth a deallus, fal na bu dy fa'th oth flaen ac na chyfyd dy fath ar dy ol di. Hefyd heblaw hyn mi a rhodais yr hyn ni ofynnaist, sef golyd a gogoniant hefyd: fal na byddo vn o 'r fath ymmysc y brenhinioedd dy holl ddyddiau di.
Merciwch y siampl hon pa fodd na ofynnodd Salomon ac yntef yn cael ei ddewis gan Dduw bethau ofer gwaeg, ond ichel a nefol dresor ddoethineb. Ac er mwyn iddo wneuthur felly mae fe 'n mwynhau megis yn wobr gyfoeth ac anrhydedd. Wrth yr hyn y gallwn weled y dlyem ni yn enwedig iwchlaw pob peth ofyn pethau a berthynant at deyrnas Dduw, a Iachadwriaeth ein eneidiau, heb ammeu na roddir yr holl bethau eraill i ni: yn ol addewid ein Iachawdwr Christ.
Ond ymma mae 'n rhaid i ni synned nad anghofiom y diwedd arall y sonniwyd o'r blaen am dano: hynny yw gogoniant Duw, yr hwn oni feddyliwn am dano ac oni osodwn ger bron ein llygaid pan fythom yn gweddio, nid oes ini dybied y cawn ni ein gwrando na derbyn dim gan yr Arglwydd. Fe ddaith mam Meibion Zededeus at yr Iesu yn yr 20. Bennod of Efengil Mathew, Math. 20. 20. gan ei addoli ef a dywedyd; dyweid am im dau fab hyn gael iste vn ar dy ddeheulaw a'r llall a'r dy law asswy yn dy deyrnas. Nid ydyw hi yn yr arch hyn yn gofalu am ogoniant Duw, ond mae hi yn dangos yn oleu ei balchedd a gwag ogoniant ei meddwl, am yr hyn nid heb achos y trodd hi yn ei gwrthol ac y cafas hi ei cheryddu ar law yr Arglwydd. [Page 242] Yn yr vn modd yr ydym ni yn darllen yn Actau 'r Apostolion am vn Simon Magus swynwr, yr hwn pan gwelodd fod yn rhoddi yr Yspryd glan wrth osodiad dwylo 'r Apostolion, a gynnigodd iddynt arian, gan ddywedyd: Rhoddwch i minnai hefyd yr awdyrdod hon, fal ar bwy bynnac y gosodwyf fynnwylaw y derbynio ef yr Yspryd glan. Wrth wneuthur y deisyfiad hwn ni Act. 8. 19. cheisiodd ef ogoniant Duw a'i anrhydedd: ond ei ennill a'i elw ei hun, gan obeithio cael llawer o arian trwy y gelfyddyd hon, ac am hyn y dywedwyd yn gyfiawn wrtho, Bydded dy arian gyda thi i ddistryw, am dy fod yn tybied y meddiannir dawn Duw trwy arian.
Trwy 'r siamplau hyn ar fath siamplau eraill ein dyscir ni, pan wnelom ein gweddi ar Dduw, vwchlaw pob peth i ofalu am anrhydededd a gogoniant ei enw ef. Am yr hyn mae ini y gorchymmyn cyffredinol hwn gan S. Pawl, Pa vn bynnac a wneloch ai bwyta ai vfed au vn peth arall 1. Cor. 10. 32. gwnewch bob peth er gogoniant i Dduw. Yr Coloss. 3. 17. hyn beth y wnawn ni yn orau i gyd, os canlynwn siampl ein Iachawdwr Christ: yr hwn pan ydodd yn gweddio ar fyned cwppan chwerw angau oddiwrtho ef, ni fynnai gael cyflawni ei ewyllys Math. 26. 36. Luc. 22. 42. ei hun, ond rhoi 'r cwbl oll ar ewyllys a bodd ei Dad.
Ac hyd hyn am y pethau a allwn ni yn gyfraithlon ac yn eofn eu gofyn gan Dduw.
Yn awr y canlyn bod i ni fanegu pa rhyw ddynion yr ydym ni yn rhwymedig mewn cydwybod i weddio drostynt. Mae S. Pawl gan scrifennu 1. Tim. 2. 1. at Timothi, yn ei gynghori ef: ar fod ymbil a gweddio dros bob dyn, heb ddieithro neb pa radd [Page 243] bynnac neu stat y font hwy ynddo. Yn yr hwn le mae fe 'n son yn enwedig am frenhinioedd a lliwiawdwyr y rhai ydynt mewn awdurdod: gan ddwyn ar gof ini trwy hynny mor fuddiol yw i'r wlad weddio 'n ddiescaelus dros y galluoedd goruchaf.
Ac nid heb achos y mae yn ei holl lythyrau yn Ruf. 15. 10. Col. 4. 3. 2. Thes. 3. 1. Ephes. 6. 19. gofyn gweddiau pobl Dduw drosto ei hun, O herwydd wrth wneuthur felly mae fe 'n manegi mor addas ac mor anghenrheidiol yw galw ar Dduw beunydd dros wenidogion ei sanctaidd air ef a'i Sacramentau, a'r iddynt gael drws ymmadrodd yn agored, fal y gallont yn gywir ddeall yr scruthyrau ai pregethu hwy i'r bobl, a dwyn eu ffrwythau hwy allan er siampl i bawb eraill.
Yn y modd ymma yr ydodd y gynulleidfa yn gweddio 'n wastad dros Peter yn Ierusalem athros Act. 12. 12. Pawl ymlhith y cenhedloedd, er mawr lwyddiant a chynnydd efengil Christ: ac os ni a ganlynwn yn hyn eu siamplau da hwy, ac a fefyriwn wneuthur yn yr vn modd, yn ddiammau ni wnawn fawrles ini ein hunain, ac a fodlonwn Dduw hefyd. Fe fyddai rhy hir imi adrodd a rhedeg dros bob gradd o ddynion, am hynny ar yehydig airiau cymmerwch hyn i gau y cwbl. Pwy bynnac yr ydym rhwymedig wrth orchymmyn Duw iw caru, dros y rhai hynny oll yr ydym rhwymedig yn ein cydwybod i weddio. Ond yr ydym ni yn rhwymedig wrth orchymmyn Duw i garu pawb fal ein hunain: ac am hynny yr ydym yn rhwymedig i weddio dros bawb oll cystal a throsom ni ein hunain: er ein bod yn gwybod eu bod yn elynnion marwol ini.
O herwydd felly y mae ein Iachawdwr Christ [Page 244] yn dangos yn eglur yn yr efengil gan ddywedyd, Yr yd wyf yn dywedyd wrthych cerwch eich gelynion, Marh. 5. 44. bendithiwch y rhai a'ch melltithiant, gwnewch dda i'r sawl a'ch cashant, a gweddiwch dros y rhai a eich herlidiant, fal y byddoch blant eich Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Ac fal y dyscodd ef Luc. 6. 27. ei ddyscyblon, felly yr arferodd ef ei hun, yn ei fyvoyd gan weddio dros ei elynion ar y groes, a deisif ar ei Dad faddau iddynt, o herwydd na wyddent pa beth oeddynt yn ei wneuthur: felly hefyd y gwnaeth Luc. 23. 34. y merthyr sanctaidd S. Stephan pan labyddiwyd ef i angau yn dra chreulon, gan yr Iddewon Act. 7. 60. afrywog gwargaledion, er siampl i bawb a ganlynant yn gywir ac yn ddiffuant siampl eu Harglwydd a'u meistr Christ yn y bywyd blin mar wolhwn.
Yn awr i draethu am y question hwn. A ddylcm ni weddio dros y rhai a ymmadawsont o'r byd hwn ai na ddylem. Yn yr hwn os glynwn ni yn vnic wrth air Duw, mae 'n rhaid ini gydnabod nad oes gennym vn gorchymmyn i wneuthur felly. O herwydd nid ydyw 'r Scruthyr yn cydnabod ond dau le ar ol y bywyd hwn. Yr vn yn berthynasol i fendigedig a dewisol Duw, a'r llall i'r eneidiau damnedig gwrthodedig: fal y gellir cynull yn hawdd wrth ddāmeg Lazarus a'r gwr Luc. 16. 26. cyfoethog, wrth agored yr hwn le y dywaid S. Austin fal hyn ar y geiriau y ddywad Abraham wrth y gwr cyfoethog yn yr efengil: sef na ddichon y cysion fyned ir lleoedd hynny lle 'r ydys yn cospt 'r annuwiolion. Pa beth y mae hyn yn ei Li. 2. Euang. quest. 1. cap. 38. ar wyddoccau ond na ddichon y cysion o herwydd barn Duw yr hon ni ellir ei galw yn ol, ddangos vn weithred o drugaredd i gynorthwyo y rhai ydynt [Page 245] yn ol y bywyd hwn gwedy eu tafli i garchar hyd nes talu honynt y ffyrlling eithaf? fal y mae y geiriau hyn yn gwradwydd yr athrawiaeth am gynorthwyo y meirw trwy weddi: felly y maent hwy hefyd yn dinistr, ac yn tynnu yn lan ymmaith yr amryfysedd am y purdan, yr hwn a wreiddir ar y geiriau hyn o'r efengil, ni chai di fyned oddi yno nes iti dalu y ffyrlling eithaf.
Yn awr mae S. Awstin yn dywedyd na ellir mewn modd yn y byd gynorthwyo y rhai yn ol y bywyd hwn ydynt gwedy eu tafli i garchar, er cymmaint y mynnem eu nerthu hwy. A pha ham? am fod barn Duw yn ânnewidiol ac na ellir ei galw hi yn ei hol. Na thwyllwn am hynny mo honom ein hunain gan dybied y gallwn gynorthwyo eraill, neu y gall eraill ein cynorchwyo ninnau a'r ol hyn trwy eu gweddiau da cariadus, o blegid fal y dywaid y pregethwr, Pa vn bynnac Eccl. 11. 3. ai i'r dehau ai i'r gogledd ai pa le bynnac y cwympo 'r pren yno y trig efe: gan feddwl wrth hynny fod pob dyn marwol yn marw mewn stat cadwedigaeth neu ddamnedigaeth: fal y mae geiriau 'r efengylwr Ioan yn dangos yn eglur, gan ddywedyd, Yr hwn sydd yn credu ym-Mab Duw mae iddo fywyd tragwyddol: a'r hwn sydd yn anghredu Ioan. 3. 36. yn y Mab ni wel ef y bywyd, eithr mae digofaint Duw yn aros arno ef.
Pa le wrth hynny y mae 'r trydydd lle yr hwn y alwant purdan? Neu pa le y nertha ein gweddiau ac a cynorthwyant hwy y meirw? Mae S. Awstin yn cydnabod yn vnic ddau le yn ol y Llb. 5. Hypugno. bywyd hwn nef ac vffern, am y drydedd mae fe 'n gwadu 'n oleu na ellir cyfarfod ac ef, yn yr holl Scruthyrau.
[Page 246] Mae Chrysostom hefyd o'r meddwl hwn, Oni olchwn ni ein pechodau ymmaith yn y byd Chry. in Heb. a hom. 5. hwn na chawn ni ar ol hynny ddim diddanwch. Mae S. Cyprian hefyd yn dywedyd: Y bydd etifeirwch Cypr. contr. Demetrian. tristwch a phoen yn ol angau yn ddiffrwyth, y bydd wylo 'n ofer a gweddi 'n wag, am hynny y mae 'n cynghori pavob i ddarparu drostynt eu hunain yr hyd y gallont, o herwydd yn ol eu myned o'r byd hwn nid oes vn lle i etifaru nac i wneuthur iawn.
Gwasanaethed y lleoedd hyn a lleoedd eraill i dynnu ymmaith y camsynnaeth blin ynghylch purdan allan o'n pennau ni: ac na freiddwydiwn mwy y gellir cynorthwyo eneidiau 'r meirw trwy 'n gweddiau ni. Ond fal y mae 'r Scruthur yn ein dyscu ni felly credwn fod enaid dŷn pan elo efe allan o'r corph yn myned yn y man y naill ai i'r nef âi i vffern: y naill nid rhaid iddo wrth weddi ac i'r llall nid oes ymwared.
Yr vnic burudd trwy 'r hwn y mae ini obaith cael ein cadw yw angau a gwaed Christ, yr hwn os cymmerwn afael arno a gwir a diogel ffydd fe 'n pura ac a'n glanhani oddiwrth ein holl bechodau, cystal a phe byddai fe yn awr yn crogi ar y groes. Gwaed Iesu Grist, medd S. Ioan sydd 1. Ioan. 1. 7. yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod. Gwaed Iesu Grist, medd S. Pawl, a burodd ein cydwybod ni oddiwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu Heb. 9. 14. y Duw byw. Ac fe a ddywaid mewn man arall hefyd: yr ydym gwedy ein sancteiddio a'n Heb. 10. 10. v. 14. glanhau trwy offrymmiad corph Iesu Grist vnwaith. Ie mae fe 'n cydsylltu ychwaneg gan ddywedyd. Ddarfod iddo ag vn offrwm berffeiddio yn dragwyddol y rhai sydd gwedy eu sancteiddio.
[Page 247] Dymma am hyn y purudd yn yr hwn y mae 'r holl Gristionogion yn gobeithio ac yn ymddired: heb ammau dim os hwy a wir etifarant am eu pechodau ac a fyddant feirw mewn ffydd berffaidd, yr ant hwy yn y man o far wolaeth i fywyd. Oni wasanaetha y purudd hyn na obeithiant y cânt hwy ym wared wrth weddiau dynnion eraill pe parhaent hwy yndynt hyd diwedd y byd.
Yr hwn ni allo gael ei gadw trwy ffydd yngwaed Christ, pa fodd yr edrych ef am gael ei gadw trwy gyfryngiad dyn? Ydyw Duw yn edrych yn fwy ar ddyn ar y ddayar, nag a'r Grist yn y nef? Os pecha neb (medd Ioan sant) mae i ni ddadleuwr gyda 'r Tad Iesu Grist y cysiawn, ac efe yw 'r iawn dros ein pechodau. Ond rhaid yw ini edrych am alw ar y dadleuwr hwn ymrhyd tra caffom ennyd yn y bywyd hwn, rhag gwedy 'n meirw vnwaith na bytho vn gobaith iethyd gwedy ei adel ini.
O herwyd fal y mae pawb yn cyscu yn ei ddadl eu hun, felly y cyfodir pawb yn ei ddadl ei hun. Ac edrychwch mewn pa stat y bu ef farw, yn yr vn stat y barnir ef hefyd, pa vn bynnac ai i Ieched wriaeth ai i ddamnedigaeth. Na freiddwydwn am hynny am burdan nac am weddi dros eneidiau y rhai a fuont feirw. Ond gweddiwn yn ddifrif ac yn ddiescalus dros y rhai y gorchymmynnir ini yn oleu yn yr Scruthyr weddio drostynt: Hynny yw dros frēhinoedd a liwiawdwyr, dros wenidogion gair Duw a'i sacramentau, dros saint y byd hwn, y rhai hefyd a elwir y ffyddloniaid: ac ar ychdig o airiau dros bob dyn byw, er maint gelynion y fythont hwy i Dduw a'i bobl, megis Iddewon, Twrciaid, Paganiaid, Anghredadwy▪ [Page 248] Hereticciaid, &c. yno y cyflawnwn ni yn gywir orchymmyn Duw yn y peth hyn, ac y dangoswn ni yn eglur ein bod ni yn wir blant ein Tad nefol, yr hwn sydd yn goddef iw haill dywynnu ar y da a'r drwg, a'r glaw i lawio ar y cyfion a'r anghyfion. Am yr hyn ac am bob doniau eraill y roddodd ef yn aml iawn i ddynnion er y dechreuad, rhoddwn iddo ef fawr ddiolch fal yr ydym ni rhwymedig a moliannwn ei enw ef yn dragyvoydd. Amen.
¶ Pregeth am le ac amser gweddi.
FE greodd Holl-alluog Dduw yn y dechreuad, trwy ei allu ei ddoethineb ai dduwioldeb nef a dayar, yr haul y lluad a'r sêr, ehediaid yr awyr, anefeiliaid y ddayar, pyscod y mor a'r holl greaduriaid eraill, er bud a lles i ddyn: yr hwn hefyd a greasai fe ar ei ddelw a'i lun ei hun: ac a rhoddodd iddo ef reolaeth a llywodraeth oddiarnynt hwy oll, er mwyn iddo ef eu harfer hwy yn y modd y harchasai ac y gorchymmynysai Dduw iddo ef: ac er mwyn iddo ef hefyd ei ddangos ei hun yn ddiolchus ac yn ostyngedig yn yr holl ddonniau hyn, y rhai a rhoddwyd iddo ef mor hael ac mor raslawn heb ei haeddiant ef yn hollol, mewn hyn o beth. Ac er y dylyem ni bob amser ac ymhob lle fod yn ddiolchus ein harglwydd grasawl, fal y mae 'n scrifennedig. Misi a fawrhaf yr Arglwydd bob amser. Ac ailwaith pa le bynnac Psal. 3. 1. y bytho 'r Arglwydd yn teyrnasu o fy enaid bendithia 'r Arglwydd. Psal. 103. 1.
Etto eglur yw mae ewyllys Duw yw ini ymgynull [Page 249] ynghyd a'r rhyw amseroedd nodedig, ac mewn rhyw leoedd nodedig, o fwriad ar glodfori ei enw ef, a chyhoiddi ei ogoniant ef ynghynulleidfa ei saint ef.
Am yr amser y osododd yr Holl-alluog Dduw iw bobl ymgynull ynghyd yn gyhoedd mae 'n eglur wrth bedwarydd gorchymmyn Duw: Cofia medd Duw gadw 'n sanctaidd y dydd Sabaoth. Ar yr hwn ddiwrnod fal y mae 'n oleu wrth Actau 'r Apostolion yr oedd y bobl yn arferedig o ddyfod ynghyd, ac yn gwrando 'n ddiescaelus y gyfraith a'r Prophwydi a ddarllened yn eu mysc hwy. Ac er nad ydyw y gorchymmyn hwn yn rhwymo Christionogion mor galed, i gadw ac i gynnal Gwbl-ceremoni y dydd Sabaoth, fal y rhoed ef i'r Iddewon, am ymgadw oddiwrth waith a thrafaelu mewn anghenrhaid mawr; ac ynghylch cadw y saithfed dydd yn gymmwys yn ol arfer yr Iddewon. O blegyd yn awr yr ydym ni yn cadw y dydd cyntaf o'r wythnos yr hwn yw ein dydd sul ni, ac yr ydym yn gwneuthur hwnnw yn Sabaoth ini, hynny yw yn ddydd gorphwysfa ini, er anrhydedd ein Iachawdwr Christ, yr hwn ar y dwthwn hwnnw a gyfododd-o feirw i fyw, ac a orchfygodd angau yn orfoleddus. Etto pa beth bynnac a geffir yn y gorchymmyn hwnnw, megis yn perthyn at gyffraith nattur. Fe ddylai bob pobl Gristionogaidd gadw a chynnal hwnnw megis peth duwiol iawn, peth cysion iawn, peth anghenrheidiol iawn i osod allan ogoniānt Duw.
Ac am hyn wrth y gyrchymmyn hwn fe ddylai fod gennym ni amser megis vn diwrnod yn yr wythnos, yn yr hwn y dylyem orphwys, ie oddiwrth ein gweithredoedd cyfraithlon rheidiol. O [Page 250] herwydd fal y mae 'n eglur wrth y gorchymmyn hvon na ddlyai neb dros chwech diwarnod fod yn fegur ac yn ddiog, ond trafaelu 'n ddiescaelus yn yr stat y gosododd Duw ef yndi. Felly y rhoddodd Duw orchymmyn goleu ar y dydd Sabaoth, (hynny yw ein dydd sul ni yn awr) fod iddynt orphwys oddiwrth yr holl drafael a arferir trwy 'r wythnos, ac ar ddyddiau gwaith, o fwriad megis y gwaithodd Duw chwech diwarnod, ac a gorphwysodd ar y saithfedd dydd a bendigodd ac a sancteiddiodd ef, gan ei sancteiddio ef i lonyddwch a gorphwyffa oddiwrth bob llafyr: felly y dylyai vfydd bobl Dduw arfer y dydd sul yn sanctaidd, a gorphwys oddiwrth eu llafyr, ac ymroi yn hollol i arferon gwir grefydd, a gwir wasanaeth Duw.
Fal na orchymmynnodd Duw yn vnic gynnal y dydd sanctaidd hwnnw: Ond fe 'n annogodd ac ein cyffrodd ni hefyd wrth ei siampvol ei hun i gadw hwnnw yn ddiescaelus. Fe fydd plant naturiol da nid yn vnic vfydd i orchymmynion eu Tadau: ond fe fydd ganthynt lygaid diwall ar eu gweithredoedd hwy hefyd, ac yn llawen y canlynant y rhai hynny. Felly os ni a fyddwn blant ffyddlon ein Tad nefol, rhaid ini fod yn ofalus i gadw dydd Sabaoth y Christionogion, yr hwn yw 'r ful: nid yn vnic er mwyn gorchymmyn eglur Duw; ond hefyd er mwyn ein dangos ein hunain yn blant caredig, gan ganlyn siampl ein grasol Arglwydd a'n Tad.
Fal hyn y mae'n eglur fod ewyllys Duw a'i orchymmyn ar osod amser gyhoeddus a diwarnod nodedig o'r wythnos, yn yr hwn y gallai y bobl ddyfod ynghyd, a chofio ei ddonniau rhyfedd [Page 251] ef, ac i rhoddi diolch iddo am danynt megis y mae 'n gymhesyr i bobl garedig addiwyn vfydd. Fe ddechreuodd y bobl Gristionogaidd ganlyn y siampl hon a gorchymmyn Duw, yn y man yn ol escynniad ein Harglwyd Christ, ac hwy a ddechreuasont ddewis diwarnod gosodedig o'r wythnos i ymgynull ynghyd arno: etto nid y saithfed dydd yr hwn y gadwe r' Iddewon, ond dydd yr Arglwydd, dydd ailgyfodiad yr Arglwydd. Y dydd yn ol y saithfed dydd, yr hwn yw 'r dydd cyntaf o'r wythnos.
Am yr hwn ddydd mae S. Pawl yn son fal hyn. Pob dydd cyntaf o'r wythnos rhodded pob vn honoch heibio wrtho ei hun i'r tylodiō, yr hyn y mae fe yn ei feddwl. Wrth y diwarnod cyntaf o'r wythnos 1. Cor. 16. 2. y deallir ein dydd sul ni: yr hwn yw 'r dydd cyntaf ar ol Sabaoth yr Iddewon. Ac mae etto Gwel. 1. 10. yn oleuach yngweledigaeth Ioan, lle mae fe 'n dywedyd: yr oeddwn yn yr Yspryd ar ddydd yr Arglwydd.
Er yr amser hynny yr arferodd pobl Dduw yn wastad ymhob oes, o ddywod ynghyd yn ddiwrthwyneb ar ddydd sul, i glodfori ac i foliannu enw 'r Arglwydd, ac i gadw y dydd hwnnw yn ofaius, mewn llonyddwch a gorphwyffa, gwyr a gwragedd, plant, gweision a dieithraid. Am droseddi a thorri yr hwn ddiwarnod fe ddangosodd Duw ei fod yn ddig dros ben: fal y gellir gweled wrth yr hwn am gynull briwydd a'r y dydd Sabaoth a labyddiwyd i far wolaeth. Ond och er hyn oll blin yw edrych ar eofnder annuwiol llawer o rai, ac a fynnant ei cyfrif yn bobl Dduw, y rhai ni ofalant vn gronyn am gadw 'r sul.
Mae 'r bobl hyn o ddau fath▪ y naill or bydd [Page 252] ganthynt vn neges i'w wneuthur, ni arbedant hono er y sul: er na bo anghenrhaid mawr, rhaid iddynt farchogaeth ac ymdaith ar y sul, rhaid iddynt gywain a chludo ar y sul, rhaid iddynt rwyfo a myned dros afonydd a'r y sul, rhaid iddynt brynu a gwerthu ar y sul, rhaid iddynt gadw ffairiau a marchnadoedd ar y sul: yn ddiwethaf maent yn arfer pob dydd yn gyffelyb, mae dyddiau gwyl a dyddiau gwaith yn yr vn modd.
Mae 'r fath arall etto yn waeth, o herwydd er na fynnāt drafaelu na llafuro ar y sul fal y maent hwy'n gwneuthur ddiwarnodau genol wythnos, etto ni orphwysant hwy mewn sancteiddrwydd megis y mae Duw yn gorchymmyn: ond maent yn gorphwys mewn annuwioldeb a brynti, gan ymhoywi ac ymrodresu yn eu balchedd, gwingo ac ymbingcio, peintio a lliwio eu hunain i fod yn wych ac yn Bert. ddillyn, maent hwy 'n gorphwys mewn gormodd a rhylanw, newn gloddineb a meddwdod, megis moch a llygod, maent yn gorphwys mewn ymdaeru acymrysson, mewn cwarelu ac ymladd: maent yn gorphwys mewn drythyllwch a choegchwedleua, ac mewn cnawdolrwydd brwnt: fal y mae yn rhy eglur fod yn dianrhydeddu Duw yn fwy, ac yn gwasanaethu 'r diawl yn well ddie sul nag ar vn diwarnod or wythnos heb ei law ef. A byddwch siccr fod yr anifeiliaid y rhai y gorchymmynnir iddynt orphywys ar y sul yn anrhydeddu Duw yn well na 'r bobl ymma.
O herwydd nid ydynt hwy yn digio Duw nac yn torri 'r dyddiau gwyl. Am hynny o chwi bobl Dduw gosodwch eich dwylaw ar eich calonnau, etifarhewch a gwellhewch yr annuwioldeb blin [Page 253] enbaid hwn: ofnwch orchymmyn Duw a chanlynwch siampl Duw ei hun yn llawen: na fyddwch anufyddgar i dduwiol drefn Eglwys Grist, a arferwyd ac a gadwyd o amser yr Apostolion hyd y dydd heddyw? ofnwch ddigofaint a chyfiawn bla-au yr holl-alluog Dduw, os chwi a fyddwch escaelus ac heb wachelyd trafaelu a llafuro ar y Sabaoth neu 'r dydd sul, heb arfer o ymgynull ynghyd i fendithio ac i fawrygu bendigedig enw Duw mewn syncteiddrwydd esm wyth, a pharch duwiol.
Yn awr am y lle yn yr hwn y dylyai bobl Dduw ymgynnll ynghyd, ac yn yr hwn y dylyent yn enwedig gynnal a chadw a sancteiddio 'r Sabaoth, hynny yw y sul, dydd gorphwysfa sanctaidd: fe elwir y lle hunnw yn deml neu Eglwys Dduw: am fod cynulleidfa bobl Dduw (yr hon yn briodol a elwir yr Eglwys) yn ymgynull yno ar y dyddiau gosodedig i'r cyfryw ymgynull a chyfarfod. Ac yn gymmaint a darfod i'r holl-alluog Dduw osod amser nodedig i'w anrhydeddu arno, fe ddylyai fod lle gosodedig i'r bobl ymma i ymgynull a chyfarfod i wasanaethu eu Duw grasol a'u Tâd trugarog.
Gwir yw nad oedd gan y Patriarchau sanctaidd dros lawer o flynyddoedd na theml nac Eglwys i fyned iddi. Yr achos oedd am nad oedd ganthynt arhosfa yn vn lle, ond mewn pererindod a chrwydrad parhaus yr oeddynt, fal na allent yn gyfaddas wneuthur vn Eglwys. Ond er cynted y daroedd i Dduw ryddhau ei bobl o ddwylaw eu gelynnion, a'u gosod mewn peth rhydddid yn yr anialwch, fe a osododd i fynu iddynt dabernacl gwerthfawr gwych, yr hwn oedd megis [Page 254] yr Eglwys blwyf, yn lle i'r holl gynullefdfa ymgyfarfod, i wneuthur eu haberthau ynddo, ac i arfer cadwedigaethau a deddfau eraill.
Hefyd gwedy i Dduw yn ol gwirionedd ei addewid, osod ei bobl yn llonydd yn nhir Caanan, yr hon a elwir yn awr Iudea, fe a orchymmynnodd i frenin Salomon wneuthur iddo deml fawr odidawg, o'r fath na welwyd onid weithiau: teml gwedy ei thrwsio a'i harddu mor wych ac mor deg, ag oedd weddus a chyfaddas i bobl yr amser hynny: y rhai ni lithed ac ni chyffroed a dim yn gymmaint ac a'r fath bethau gwychion hardd oddifoes. Hon yr amser hynny oedd deml Dduw, gwedy ei chyfoethogi a llawer o roddion, a bagiad mawr o addewidion, hon oedd Eglwys blwyf a mam Eglwys yr holl Iddewaeth.
Ymma yr anrhydeddid ac a gwasanaethid Duw. Ymma yr oedd holl drigolion teyrnas yr Israeliaid yn rhwymedig i ddyfod ar dair gwyl arbennig yn y flwyddyn, i wasanauthu eu Harglwydd Dduw ymma. Ond awn yn ein blaen, nid oedd etto yn amser Christ a'i Apostolion ddim Temlau neu eglysydd i Gristionogion ddyfod iddynt. O herwydd paham? yr oeddynt yn wastad fynychaf mewn erlidfa trallod a blinder, fal na allent gael na rhydd-did na channad i'r defnydd hwnnw. Etto yr ydoedd yn hoff iawn gan Dduw eu bod hwy yn fynych yn ymgyfarfod ynghyd i vn lle. Ac am hynny yn ol ei ascenniad ef hwy a arhosasant weithiau ynghyd mewn stafell oddiuchod, weithiau hwy aethont i'r deml, weithiau i'r Synagogau, weithiau yr oeddynt yngharchar, weithiau yn eu tai, writhiau yn y maesydd, &c.
Ac fe barhaodd hyn nes i ffydd Grist Iesu ddechreu [Page 255] amlhau mewn rhan fawr o'r byd. Yn awr gwedy cadarnhau llawer o deyrnasoedd mewn gwir grefydd Duw a chwedy i Dduw roddi iddynt heddwch a llonyddwch, yno y dechreuodd brenhinioedd penaethiaid a'r bobl gwedy eu cyffro a zeal a chynhesrwydd duwiol wneuthur eglwysydd a themlau, i'r rhai y gallai y bobl ymgrynhoi yn well ynghyd, i wneuthur eu dylyed tuag at Dduw ac i gadw yn sanctaidd y dydd Sabaoth, diwarnod eu gorphwysfa.
Ac i'r Temlau hyn yr arfere y Christionogion o ddyfod o amfer yn amser, megis i leoed cyfathas lle gallent yn gytun ymarfer o foliannu ac o fawrhau enw Duw, gan rhoddi iddo ddiolch am y donniau y mae fe beunydd yn eu harllwys arnynt yn drugarog ac yn aml: lle gallent hefyd wrando darllen agoryd a phregethu ei sanctaidd air ef yn gywir, a derbyn ei sanctaidd Sacramentau ef a finistred iddent yn bur ac yn ddyledus.
Gwir yw mai Temlau enwediccaf ac odidawgaf Duw yn y rhai y mae ef yn ymlawenychu fwyaf ac yn hoffaf gantho drigo yndynt, ydyw cyrph ac eneidiau gwir Gristionogion, a dewisol bobl Dduw: yn ol athrawiaeth yr Scruthyrau sanctaidd y fanegwyd trwy S. Pawl. Om wyddoch chwi medd ef mai Teml Dduw ydychwi a bod Yspryd Duw yn aros ynoch, mae Teml Dduw 1. Cor. 1. 3. yn sanctaidd yr hon ydych chwi.
Athrachefn yn yr vn Epistol. Oni wyddoch mai Teml yr Yspryd glân ydyw eich cyrph chwi yr 1. Cor. 6. hwn sydd yn aros ynoch, os o Dduw yr ydych, ac nad ydych eiddo chwi eich hunain. Etto er hyn mae Duw yn fodlon i'r deml ddefnyddiol yr hon a wnair a chalch a cherrig (cy fynyched ac y delo y [Page 256] bobl ynghyd i foliannu ei enw sanctaidd ef) i fod yn dy iddo ef ac yn lle yn yr hwn yr a ddawodd Duw fod yn bresennol a gwrando gweddiau y rhai a alwant arno.
Yr hwn beth y mae Christ a'i Apostolion a phawb eraill o'r tadau sanctaidd yn ei fanegi trwy hyn yn oleu: o achos er eu bod hwy yn gwybod yn hyspysol y gwrandawid eu gweddiau hwy, pa le bynnac y gwnelid hwy, pe byddai hynny mewn gogofau, mewn coedydd ac yn yr anialwch, etto cy fynyched ac y gallent, hwy arferent ddyfod i'r Temlau defnyddiol i ymgydsylltu yno gyda 'r gynulleidfa mewn gweddi a gwir addoliad. Y sawl am hynny o honoch fy anwyl garedigion a sydd yn addef bod eich hunain yn Gristionogion, ac yn ymogoneddu yn yr enw hwnnw, na ddiystyrwch ganlyn siampl eich meistir Christ, yscolheigion yr hwn yr ydych yn dywedyd eich bod: dangoswch eich bod yn debyg i'r rhai y cymmerwch arnoch fod yn gydmeithion yscol iddynt: hynny yw Apostolion a discyblon Christ. Cyfodwch i fynu dduwlaw pur a chalonnau glân ymhob lle a phob amser. Ond gwnewch hynny hefyd yn y Temlau a'r Eglwysydd ar y dydd Sabaoth. Nid arbedodd ein blaenoriaid duwiol ni, a'n hên dadau ni o'r brif Eglwysgynt ei da i adail Eglwysydd, ie mewn amseroedd erlid nid arbedasant eu bywyd, ie a fentro eu gwaed er mwyn ymgynull ynghyd i'r Eglwysydd.
Ac y arbedwn ni ychydig o boen i ddyfod i'r Eglwysydd? Oni chyffro na'i siampl hwy, n'a 'n dlyed ni, na 'r ennil a gavon ni o hynny ni? os dangoswn fod ynom wir ofn Duw, os dangoswn ein hunain yn wir Gristionogion, os byddwn [Page 257] ganlynwyr i'n meistr Christ a'r tadau duwiol y rhai a fuont o'n blaen ni, ac yn awr a dderbynasant wobr gwir Gristionogion ffyddlon, mae 'n rhaid ini yn ewyllysgar ac yn ddifrif ac yn barchus ddyfod i'r Eglwysydd a'r Temlau defnyddiol i weddio: megis i leoedd gweddaidd gwedy eu gosod i'r defnydd hynny, a hynny a'r y dydd Sabaoth: megis yr amser weddusaf i bobl Dduw orphwys oddiwrth eu holl lafur corphorol bydol: ac i'w rhoi eu hunain i orphwysfa sanctaidd a duwiol fefyrdod, a'r y pethau a berthynant i wasanaeth holl-alluog Dduw: trwy 'r hyn y gallwn ein cymmodi ein hunain a Duw, bod yn gyfranogion oi Sacramentau parchus ef, ac yn wrādawyr duwiol oi sanctaidd air ef, er mwyn cael felly ein cadarhau mewn ffydd tuag at Dduw, mewn gobaith yn erbyn pob gwrthwyneb, ac mewn cariad at ein cymydogion. Ac wrth rhedeg fal hyn ein rhedegfa, megis pobl ddaionus Gristionogawl y gallom yn y diwedd feddiannu gobrwy gogoniant tragwyddol, trwy haeddiant ein Iachawdwr Iesu Grist: i'r hwn gyda 'r Tâd a'r Yspryd sanctaidd y bytho holl anrhydedd a gogoniant. Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am le ac amser gweddi.
FE ddangoswyd i chwi bobl Gristionogaidd ddaionus yn y bregeth a ddarllenwyd i chwi o'r blaen, ar pa amser ac ymha le y dylyech ddyfod ynghyd i foliannu Duw.
Yn awr yr ydwyf yn bwriadu [Page 258] gosod ymlaen eich llygaid yn gyntaf mor gyflawn o zeal ac mor ewyllysgar y dlyech fod i ddyfod i'r Eglwys.
Yn ail faint yw digofaint Duw yn erbyn y rhai a ddiystyrant ac sydd fychan ganthynt am ddyfod i'r Eglwys ar sanctaidd ddiwarnod yr orphwysfa. Y mae 'n eglur wrth yr Scruthyrau i lawer o'r Israeliaid duwiol a hwy yn awr mewn cathiwed am eu pechodau ym-hlith y Babiloniaid chwennych a dymuno 'n fynych eu bod yn Ierusalem ailwaith: ac ar eu dyfodiad hwy yn eu hol trwy ddaioni Duw, er bod llawer o'r bobl yn escaelus: etto yr oedd y tadau yn ddwyfol iawn i adailadu y deml, fal y galle bobl Dduw ddyfod yno i'w anrhydeddu ef.
A phan oedd Dafydd gwedy ei Ddeol. afllwladu o'i wlad ei hun, o Ierusalem y ddinas sanctaidd, o'r gysegrfa a'r lle sanctaidd, ac o Babell Duw: pa ddamuniad, pa wres oedd ynddo tuag at y lle sanctaidd hwnnw? Pa ddeisyfiadau, pa weddiau y wnaeth ef at Dduw ar gael bod yn drigiannol ynhŷ yr Arglwydd? vn peth a geisiais gan yr Arglwydd a hynny y ddymunaf sef gallu myned i dŷ Psal. 132. yr Arglwydd yr hyd y byddwyf byw. Ac ailwaith llawenychais pan ddywedent wrthyf awn i dy yr Arglwydd. Psal. 138. 2.
Ac mewn mannau eraill o'r Psalmau mae fe 'n manegi pa fwriad a pha fryd sydd gantho, wrth ddymuno mor chwannog ddyfod i deml ac i Eglwys yr Arglwydd: Ymgrymmaf medd ef ac addolaf tua'th deml sanctaidd. Ac ailwaith mi a ddaithym Psal. 63. 2. i'th gesegrfa yno y gwelais dy allu a'th gadernid, yno y gwelais dy fawrhydi a'th ogoniant▪ Ac yn ddiwethaf mae fe 'n dywedyd manegaf dy [Page 259] enw im brodyr ynghenol y gynulleidfayth folaf, Pa ham am hynny yr ydoedd gan Ddafydd y fath Psal. 21. 22. ddymuniad mawr ar dŷ yr Arglwydd?
Yn gyntaf er mwyn cael yno addoli ac anrhydeddu Duw.
Yn an yno y mynnai fyfyrio ac edrych ar allu a gogoniant Duw.
Yn drydedd yno y moliannai enw Duw gyda holl gynulleidfa ei bobl ef. Y fath achosion y rhai y mae y bendigedig Brophwyd yn eu cofio a ddlyent ein cyffro ninnau, ac enynnu ynom y fath ddymuniaid sanctaidd difrif, am ddyfod i'r Eglwys, yn enwedig ar ddiwarnodau gorphwysfa sanctaidd, i wneuthur yno ein dylyed ac i wasanaethu Duw, er mwyn cofio yno pa fodd y mae Duw o'i drugaredd ac er gogoniant ei enw yn gweithio yn alluog ein cadw ni mewn Iachadwriaeth a duwioldeb ac oddiwrth greulondeb a chyndairiogrwydd ein gelyn creulon, ac yno 'n llawen ym-hlith rhifedi ei bobl ffyddlon ef i glodfori ac i fawrygu ei enw sanctaidd ef.
Gosodwch ymlaen eich llygaid yr hên dâd Simeon am yr hwn er ei fawr glod ef ac êr ein hannog ninnau i'r fath beth y dywed yr Scruthyrau sanctaidd hyn. Wele yr oedd gwr cyfion duwiol yn Ierusalem a 'i enw Simeon yn discwyl am ddiddanwch yr Israel a'r Yspryd glan oedd arno ac yr ydodd gwedy ei rhebyddio gan yr Yspryd glan na wele fe angau cyn iddo weled Christ yr Arglwydd: fe ddaith trwy 'r Yspryd i'r deml.
Yn y deml y cyfla wnwyd yr addewid, yn y deml y gwelodd ef Grist ac a'i cymmerodd yn ei fraichiau, ac yn y deml y torrodd ef allan i fawr foliant Duw ei Arglwydd. Ac nid oedd Anna hên [Page 260] Brophwydes weddw, yn myned allan o'r deml, gan ymroi i weddi ac ympryd ddydd a nos, a hi yn dyfod hefyd ynghylch yr vn amser a gyfarwyddwyd gan yr Ysyryd ac a gyffessodd ac a ddywedodd am yr Arglwydd, wrth bawb a edrychent am brynedigaeth Israel. Ni thorrwyd a'r gwr a'r wraig fendigaid hon am y mawr ffrwyth, ennill, a diddanwch, yr hwn a ddanfonodd Duw iddynt, trwy eu dyfal ddyfodiad hwy i sanctaidd Deml Dduw. Yn awr y cewch glywed mor ddig y fu Dduw wrth ei bobl am ddiystyru ei deml ef a'i dirmygu neu chamarfer hi yn gas.
Yr hyn beth sydd yn ymddangos yn oleu wrth y plaau a 'r poenedigaethau hynod y osododd Duw ar ei bobl: yn enwedig wrth hyn, iddo gyffro eu gwrthnebwyr hwy i ffusto i lawr, ac i ddinistr yn llwyr ei deml sanctaidd ef, ag anghyfaneddrwydd tragwyddol.
Och pa sawl Eglwys gwlad a theyrnas, eiddo Gristionogawl bovl yn hwyr o amser, a dynnwyd i lawr, a rhedwyd drostynt, a adawad yn anghyfannedd, a blin ac aneirif dyronaeth a chreulondeb gelyn ein Harglwydd ni Christ y twrc mawr: yr hwn Whippodd. a fflangellodd y Christionogion mor gyffredinol na chlywad er ioed son, ac na ddarllenwyd am y fath? Er ynghylchon pedwar igain mlynedd fe a orescynnodd y Twrc mawr ac a ormeiliodd ac a ddug dan ei lywodraeth a'i gathiwed igain o deyrnasodd Christionogaidd, gan droi 'r bobl o ffydd Grist a'ugwenwyno hwy a chrefydd ddiawlig Mahomet felltigedig, a chan y naill ai distriwio eu eglwysydd hwy yn hollol, a eu camarfer hwy yn frwnt, a'i gamsynnaeth melltigedig cas ef.
[Page 261] Ac yn awr mae'r Twrc mawr hwn y fflangell chwerw dost hon o ddial Duw, yn gyfagos i'r rhan hon o Gristionogaeth hefyd, yn Europ ar gyffiniau Itali, ar gyffiniau Germani, yn agor ei enau yn barod in llyncu ni, i orescin ein gwlad ni, ac i ddistriwio ein eglwysydd ninnau hefyd, onid etifarhawn ni am ein bywyd pechadurus, a dyfod i'r Eglwys yn ddiescaelusach, i anrhydeddu Duw, i ddyscu ac i gyflawni ei ewyllys bendigedig ef.
Fe annogodd yr Iddewon yn eu hamser hwy yn gyfion lid Duw yn eu herbyn, o herwydd iddynt mewn rhan gamarfer ei deml sanctaidd ef, a delw-addoliad cas y cenhedloedd, ac ofergoelus ofereddau eu dychmygion hwy eu hunain yn erbyn gorchymmyn Duw. Ac mewn rhan o herwydd eu bod hwy yn arfer o ddyfod iddi megis ragrithwyr gwedy llygru a'u trabaeddu a'u halogi 'n anferth, a phob rhyw ddrygioni, a bywyd pechadurus: ac mewn rhan yr oedd llawer honynt yn diystyru 'r Deml sanctaidd, ac nid oedd waeth ganthynt pa vn a wnelent ai dyfod yno ai peidio.
Ac oni annogodd y Christionogion yn hwyr o amser, ie ac yn ein dyddiau ni hefyd, yn yr vn modd ddigofaint a llid yr Holl-alluog Dduw? Mewn rhan am iddynt anurddo a halogi eu Eglwysydd, a chamarferon cenhedlaidd Iddewaidd, a delwau ac eulynod: a llawer o allorau gwedy eu camarfer yn ofergoelus ac yn aruthr, a chamarfer yn annial, a llygru yn angharhuaidd, sanctaidd swpper yr Arglwydd, bendigedig Sacrament ei gorph ef a'i waed, a rhifedi aneirif o wagedd ac oferedd o'u dychmygion hwy eu hunain, i wneuthur golwg [Page 262] deg wych oddi allan, ac i anffurfo gostyngedig ddisyml a phur grefydd Christ Iesu: mewn rhan maent yn dyfod i'r Eglwys fal ragrithwyr yn llawn o anwiredd a bywyd pechaourus, a meddwl a chred ofer enbaid ganthynt, os hwy a ddaw i'r Eglwys ac a Daenellir. dascir arnynt ddwfr bendigaid, o gwrandawant offeren, ac o bendigir hwy a'r caregl, er na ddeallant vn gair o'r gwasanaeth ac er na chlywant vn cyffro i etifeirwch yn eu calonnau, etto fod pob peth yn dda ddigon.
Ffi ar y fath watwar a dirmyg a'r sanctaidd ordeiniaeth Duw. Fe wnaethpwyd eglwysydd er defnydd arall, hynny yw i ddyfod yno i wasanaethu Duw yn gywir, i ddyscu ei sanctaidd ewyllys ef, i alw a'r ei alluog enw efe, i arfer i sanctaidd Sacramentau ef, i ymegnio ac i fod mewn cariad perffaith a'th gymydog, i gofio yno dy gymydog tlawd anghennus, ac i fyned oddi yno yn well ac yn dduwiolach nag y daethosti yno.
Yn ddiwethaf fe annogwyd ac a annogir beunydd lid Duw, am nad gwaeth gan lawer o bobl am ddyfod i'r Eglwys, naill ai am eu bod gwedy eu dallu mor flin na fedrant ddeall dim am Dduw na duwioldeb, ac nad gwaeth ganthynt er rhwystro eu cymydogion trwy siampl ddiawlig, neu am eu bod hwy yn gweled yr Eglwys gwedy ei hyscibo o'r olwg wych yn y rhai yr ymhoffe eu ffansiau hwy yn fawr, am eu bod hwy yn gweled gau grefydd gwedy ei throi heibio, a gwir grefydd gwedy ei hadferu ailwaith: yr hyn y sydd beth diflas i'w hanflasus flas hwy: fal y mae'n eglur wrth yr hyn y ddywad rhyw wraig wrth ei chymydoges. Och gosib beth a wnawn ni yn yr Eglwys yn awr, gan fod yr holl saint gwedy eu tynnu [Page 263] ymmaith, gan fod yr holl olwg hardd yr oeddym arferedig o'i gweled gwedy myned ymmaith, gan na chawni glywed y fath ganu a chware a'r yr Organ a glywsom ni cyn hyn.
Ond fyngharedigion mae ini achos mawr i lawenychu ac i rhoddi diolch i Dduw, fod ein heglwys gwedy i rhyddhau oddiwrth yr holl bethau ac a anfodlonent Dduw, ac a nurddent ei dŷ sanctaidd ef a lle gweddi, mo'r wradwyddus, am yr hyn y dinistrodd ef yn gyfion lawer o genhedlaethau, yn ol dywedydiad S. Pawl. Os llygra neb 1. Cor. 3. 17. deml Dduw fe a'i llygra Duw yntef.
Ac fal hyn y dlyem ni foliannu Duw yn fawr am ddarfod diddymmu yn hollol fal y haeddant yn gywir yr holl arferon delw-addolaidd ofergoelus, y rhai oeddynt yn llwyr ddrwg ac a ddifwynent ogoniant Duw: ac etto fe gadwir yn weddaidd yn yr Eglwysydd yn arferol y pethau oll trwy y rhai yr anrhydeddir Duw, neu yr adailadir ei bobl ef. Ond yn awr am eich bod chwi yn deall mai ewyllys Duw yn hollol yw y chwi ddyfod i'r Eglwys, a'r ddiwarnodau gorphwysfa sanctaid, yn gymmaint ac bod yn clywed pa ddigofaint y mae Duw yn ei gymmeryd, a pha blaau y mae 'n eu harllwys ar ei bobl anufyddgar: lle yr ydych yn gweled pa fendithion y mae Duw yn eu rhoddi, a pha radau nefol sydd yn dyfod i'r fath bobl, ac a arferant o ddyfod i'w eglwysydd yn ewyllysgar. Ac mewn zeal gan fod yn awr yn eich gwawdd chwi, yn garedig ac yn eich galw chwi yn gytun: gwagelwch na ddiogwch wneuthur eich dlyed na edwch i ddim eich rhwystro chwi ar ol hyn i ddyfod i'r Eglwys, ar yr amseroedd a osodir ac a orchymmynnir i chwi ddyfod.
[Page 264] Mae 'n Iachawdwr Christ yn dywedyd mewn dammeg ddarfod arlwy gwledd fawr a gwahodd Lu9c 14. 16. llawer, i lawer escuso eu hunain ac na ddawent. Yr ydwyf yn dywedyd wrthych medd Christ na chaiff yr vn o'r gwyr hynny a wahoddwyd brofi o'm swpper i. Y wledd fawr hon yw gwir grefydd yr holl-alluog Dduw â'r hon y myn ef ei addoli, a dyledus dderbyniad ei Sacramentau, a gwir bregethiad a gwrandawiad ei sanctaidd air, ac arfer o'u gwneuthur mewn ymarweddiad duwiol. Yr ydys yn awr yn arlwyo 'r wledd hon yn yr Eglwys, ty gwledd yr Arglwydd. Yr ydys yn eich galw ac yn eich gwawdd chwi ynghyd yno: os gwrthodwch ddyfod ac os chwi a wnewch escuson, fe wnair yr vn atteb ichwi ac a wnaethpwyd iddynt hwythau.
Dewch am hynny yn awr fyngharedigion, a dewch heb oedi, a dewch i mewn yn llawen i dŷ gweddi Duw, a byddwch gyfranogion o'r donniau a arlwyodd ac a ddarparodd ef i chwi. Ond edrychwch eich bod yn dyfod ymma a'ch trwsiad gwyl, nid a gwrthwynebrwydd megis pe byddai well gennych beidio na dyfod, pe byddych ar eich dewis. O herwydd mae Duw yn cashau ac yn cospi y fath ffugiol ragrithwyr, fal y mae yn eglur wrth ddammeg Christ yn y blaen. Y cyfaill medd Duw pa fodd y doethost i mewn ymma heb gennid Math 22. 12. wisc priodas am danad, ac am hynny fe orchymmynnodd i'w weision rwymo ei draed ef a'i ddwylo, a'i daflu i'r tywyllwch eithaf, lle bydd wylofain ac yscyrnygu dannedd. Am hynny fal y galloch wagelyd y fath enbeidrwydd ar law Dduw, dewch i'r Eglwys y diwarnodau gwyl a dewch yn eich gwisc briodas, hynny yw dewch a meddwl [Page 265] llawen duwiol, dewch i geisio gogoniant Duw, ac i fod yn ddiolchus iddo ef, dewch i fod yn vn a'ch cymydogion ac i fyned i gyfaillach a chariad a hwynt hwy.
Ystyria fod dy holl orchwylion yn drewi ger bron Duw, oni byddi mewn cariad a'th gymydogion. Dewch a chalon gwedy ei charthu a'i glanhau oddiwrth bob chwantau a dymuniadau bydol cnawdol. Yscydiwch ymmaith bob meddyliau ofer y rhai a allant eich rhwystro chwi oddiwrth wir wasanaeth Duw. Mae 'r aderyn pan hedfano 'n escydwyd ei hadanedd. Ymmyscydwa, darpara dy hun i hedfan yn vwch nâ holl adar yr awyr, fal yn ol gwneuthur dy ddylyed yn ddyledus yn y deml ar Eglwys ddayarol hon, y gallech hedfan i fynu a chael dy dderbyn i ogoneddus deml Duw yn y nef, trwy Iesu Grist ein Harglwydd, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bytho holl ogoniant ac anrhydedd, yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth yn yr hon y manegir y dylyid ministro gweddi gyhoeddus a'r Sacramentau mewn iaith a ddealler gan y gwrandawyr.
YMhlith aml arferon pobl Dduw Gristionogion anwyl, nid oes vn anghenrheittach i bob stat ac i bob amser nâ gweddi gyhoeddus, a dyledus arfer y Sacramentau: o herwydd yn y cyntaf yr ydym yn ceisio oddiar law Duw yr holl bethau y rhai heb hyn, ni allem gael mo honynt. [Page 266] Ac yn ail y mae fe yn ein breicheidio ni, ac yn ei gynnig ei hun i ninnau i'w fraicheidio.
Am hynny a ni yn gwybod fod y ddwy arfer hynny mor anghenrhaid ini, na thybygwn fod yn anweddus ini ystyried, yn gyntaf pa beth yw gweddi a pha beth yw sacrament: ac yno pa sawl rhyw a'r weddi sydd, a pha sawl Sacrament, ac felly y deallwn ni yn well pa fodd y iawn arferwn ni hwynt. Er gwybod pa beth ydynt mae S. Awstin yn y llyfr am yr Yspryd a'r enaid yn dywedyd falhyn am weddi. Gweddi, medd ef, yw Aug. de spirit. & anima. dwyfoldeb y meddwl: hynny yw ymchwel at Dduw trwy ddymunad duwiol gostyngedig: yr hon ddymuniad yw diogel ac ewyllysgar a melus ogwyddiad y meddwl ei hun at Dduw. Ac yn ei ail lyfr yn erbyn gwrthwynebwyr y gyfraith a'r Prophwydi y mae fe 'n galw y Sacramentau yn arwyddion sanctaidd. Ac wrth scrifennu at Bonifacius Aug. li. 2. cont. aduers. legis & prophetar. am fedydd plant bychain y dywaid: oni bai fod yn y Sacramentau Rhyw gyffelybaeth i'r pethau y maent yn Sacramentau honynt ni byddent Sacramentau mwy. Ac o'r gyffelybaeth August. ad Bonifac. honno maent o'r rhan fwyaf yn derbyn en wau y pethau eu hunain y maent yn eu harwyddoccau. Wrth y gairiau hyn o S. Awstyn mae 'n eglur ei fod ef yn fodlon i ddeffiniad neu ddescribiad arferol Sacrament, hynny yw, ei fod ef yn arwydd weledig o rad anweledig, hynny yw yr hon sydd yn gosodd allan i'r llygaid a'r synwyrau eraill oddi allan orchwyl trugaredd rad Duw, ac sydd megis yn selio yn ein calonnau ni addewidion Duw.
Ac felly yr ydoedd yr enwaediad yn Sacrament, yr hwn a bregethodd i'r synhwyrau oddi allan [Page 26] enwaediad y galon oddifewn, ac a seloedd ac a ddiogelhaodd ynghalonnau 'r enwaededig, addewidion Duw ynghylch yr hâd a addawsed ac a edryched am dano.
Yn awr edrychwn pa sawl rhyw a 'r weddi a pha sa wl Sacrament y sydd. Yr ydym yn darllen yn yr Scruthur am dair rhyw o weddi, o'r rhai y mae dwy 'n neulltuol ac vn yn gyhoeddus.
Y gyntaf yw 'r hon y mae Pawl yn son am deni yn ei Epistl at Timothigan ddywedyd: Mi a fynnwn i wyr weddio ymhob man gan dderchafu dwylo purion heb ddigter nag ymryson. A hon 1. Tim. 2. 8. yw gwir a dyfal gyfodsad y meddwl at Dduw heb draethu blinder a dymunad y calonnau trwy laferudd yn gyhoeddus. O'r weddi hon y mae 'r siampl yn llyfr Samuel am Haanah mam Samuel, pan weddioedd hi yn y deml yn hrymder ei 1. Sam. 1. 13. chalon, gan ddymuno cael ei gwneuthur yn ffrwythlon. Medd y text yr ydodd hi yn gweddio yndi ei hun a'i llaferudd ni chlywyd. Yn y dull hyn y dylye'r holl Gristionogion weddio, nid vnwaith yn yr wythnos, neu vnwaith yn y dydd, ond fal y dywaid Pawl wrth scrifennu at y Thessaloniaid 1. Thes. 5. 7. heb orphwys. Ac fal y mae S. Iaco 'n scrifennu, Iaco. 5. 16. Llawer y ddychon gweddi'r cyfion os ffrwythlon y fydd hi.
Yr ail rhyw o weddi y sonnir am deni yn S. Mathew, lle y dywedir fal hyn, Pan weddiech Math. 6. [...]. dos i'th stafell a chwedy cau dy ddrws gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel, a'th Dad yr hwn a wel yn y dirgel a'th obrwya di yn yr amlwg: O'r rhyw hon o weddi mae llawer siampl yn yr Scrythyrau sanctaidd: ond digon i ni adrodd vn yr hon sydd scrifennedig yn Actau 'r Apostolion. Mae [Page 268] Cornelius gwr sanctaidd canwriad o'r Italaidd fyddin, yn dywedyd wrth yr Apostol Peter, ag Act. 10. 30. yntef yn ei dŷ yn gweddio ynghylch y nawfed awr ymddangos iddo fe vn mewn dilliad gwynnion, &c. Fe weddiodd y gwr hwnnw a'r Dduw yn y dirgel, ac a obrwywyd yn yr amlwg. Dymma 'r ddwy rhyw weddiau dirgel. Y naill yn y meddwl, hynny yw dwyfol ddercbafiad y meddwl ac Dduw, a'r llall yn y llaferydd, hynny yw dirgel adrodd blinderau a dymyniadau 'r galon mewn geiriau, ond etto mewn stafell ddirgel, neu rhyw le neulltuol.
Yr ail rhyw o weddi sydd gyffredinol neu gyhoeddus. Am y weddi hon y son ein Iachawdwr Christ, pan mae fe 'n dywedyd. Os cytuna dau o hanoch ar y ddayar am ddim oll beth bynnac a ddeisyfant rhoddir iddynt gan fynhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Canis ymhale bynnac yr ymgynullo dau neu dri yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu mysc hwynt. Er i Dduw addo 'n gwrando ni pan weddion yn y dirgel trwy wneuthur hynny yn ffyddlon ac yn dduwiol: O herwydd mae fe 'n dywedyd galw arnafi yn-nydd trallod yno mi a'th wrandawaf. Pfal. 50. 15.
Ac medd S. Iaco ac Elias yn wr marwol fe weddiodd ac ni bu law dros dair blynedd a chwemis, Iac. 5. 17. ac fe a weddiodd drachefn ac fe rhoddes y nef ei glaw. Etto mae 'n eglur wrth historiau y beibl fod gweddi gyffredinol yn rymmusach ger bron Duw, ac am hynny y dylyed galaru yn fawr na wnair rhagor gyfrif honi hi, yn ein mysc ni y rhai ydym yn addef ein bod yn vn corph ynghrist.
Pan fygythwyd dinistr dinas Ninifi o fewn deigain diwarnod. Fe gydsylltodd y brenin a'i [Page 269] bobl eu hunain mewn gweddi ac ympryd, ac hwy a waredwyd. Fe orchymmynnodd Duw yn y Ionas. 3. Prophwyd Ioel gyhoeddi ympryd, ac i'r bobl hen a iauainc, gwyr a gwragedd, ymgynull ynghyd, a dywedyd ac vn llaferydd: arbed dŷ bobl Arglwydd Ioel. 2. 13, 16. ac na ddyro dy etifeddiaeth i warth: a phan oeddid er fedr difa 'r Iddewon oll mewn vn diwarnod trwy genfigen Haanan, wrth orchymmyn Hester hwy a ymprydiasant ac a weddiasant, ac Hest. 4. 16, 17. hwy a waredwyd: pan warchaodd Holophernes Bethulia, wrth gyngor Iudith hwy ymprydiasant Iudith. 8. 14. ac a weddiasant ac hwy a rhyddhawd. Pan ydodd yr Apostol Peter yngharchar fe ymgysylltodd y Act. 12. 5. gynulleidfa ynghyd mewn gweddi ac fe waredwyd Peter mewn modd rhyfedd.
Wrth yr historiau hynny mae 'n eglur fod gweddi gyffredinol gyhoeddus yn rymmus iawn i fwynhau trugaredd, ac ymwared oddiar law ein Tad nefol. Am hynny fymrodyr yr atolygaf i chwi er mwyn tirion drugaredd Duw, na fyddwn mwy yn escaelus yn hyn o beth: ond megis pobl a fyddant ewyllysgar i dderbyn ar law Duw y fath bethau, y rhai y mae gweddi gyffredinol yr Eglwys yn eu ceisio, ymgyssylltwn ynghyd yn y lle a osodwyd i weddi gyhoeddus, ac ag vn galon ceisiwn gan ein Tad nefol yr holl bethau a wyr ef eu bod yn anghenrhaid ini.
Nid ydywyf yn gwahardd gweddiau dirgel i chwi, ond yr ydwyf yn eich annog i wneuthur cymmaint gyfrif a gweddi gyhoeddus ac y mae hi 'n haeddu. Ac ymlaen pob peth byddwch siccr yn y tair rhyw hon o weddi fod eich meddyliau gwedy eu cyfodi yn ddwyfol at Dduw, ac onid ef ni bydd eich gweddiau onid diffrwyth, ac fe wirhair [Page 270] ynoch chwi yr ymmadrodd hwn: mae 'r bobl hyn yn nesau attaf a'u geneuau a'u calonnau ymhell oddiwrthyf. Esa. 29. 13. Math. 15. 8. Hed hyn am y tair rhyw gweddi am y rhai y darllenwn yn yr Scruthur lân.
Yn awr a'r vn fath neu lai o airiau y cewch glywed pa sawl Sacrament sydd gwedy i ein Iachawdwr Christ eu gosod, ac a ddylent barhau a'u derbyn gan bob Christion mewn amser a threfn dyledus, ac am yr achos y mynnai em Iachawdwr Christ ini eu derbyn hwy. Ac am eu rhifedi hwy ped ystyrid hwy yn ol gwir arwyddocad Sacrament: sef am yr arwyddion gweledig y rhai a orchymmynnir yn oleu yn y Testament newydd a'r rhai y cydsylltir addewid maddauant o'n pechodau yn rhad a'n sancteiddrwydd a'n cyssylltiad ni ynghrist: nid oes onid dau, bedydd a swpper yr Arglwydd. O herwydd er bod i ollyngdod addewid maddeuant pechodau etto nid oes wrth airiau eglur y Testament newydd, vn addewid gwedy ei chlymmu a'i rhwymo a'r arwydd weledig yr hon yw gosodiad dwylaw.
O herwydd nid ydys yn y Testament newydd yn gorchymmyn yn oleu arfer gosod dwylo mewn gollyngdod fal yr ydys yn gorchymmyn yr arwyddion gweledig mewn bedydd a swpper yr Arglwydd: ac am hynny nid yw gollyngdod y fath sacrament ac yw bedydd a'r cymmyn. Ac er bod i wneuthurdeb offeiriad ei harwydd weledig a'i haddewid, etto mae erni diffig addewid maddauant o bechodau: fal a'r yr holl Sacramentau eraill heblaw y rhai hyn, am hynny nid ydyw na honnag vn Sacrament arall y fath Sacrament ac ydyw y bedydd a'r cymmyn. Ond mewn cymmeriad cyffredinol fe ellir rhoi enw Sacrament i [Page 271] bob peth trwy 'r hwn yr arwyddoccair vn peth sanctaidd. Yn yr hwn ystyr y rhoes yr hên dadau yr enw hwn nid yn vnic i'r pump eraill, y rhai yn hwyr o amser a gymmerid yn lle Sacramentau i Dionysius. wneuthur saith, ond hefyd i lawer o Ceremoniau Bernard de coena Dom. & ablutione pedum. craill megis i olew, golchiad traed, a'r fath bethau, heb feddwl trwy hynny eu cyfrif hwy yn Sacramentau, yn yr ystyr ac y mae y ddau Sacrament a ddywedasom ni o'r blaen.
Ac am hynny mae S. Awstin gan ystyried gvoir ystyr ac iniawn ddeall y gair Sacrament, wrth Aug. ad Ianuar. & De doct. Chri. scrifennu at Ianuarius, ac yn ei drydydd llyfr hefyd am yr athrawiaeth Gristionogawl, yn dywedyd fod Sacramentau y Christianogion yn ambell mewn rhifedi, ac yn odidawg mewn ystyr, ac yn y ddau le hynny mae fe 'n eglur yn sôn am ddau, Bedydd, a Swpper yr Arglwydd.
Ac er bod yn cynnal trwy drefn eglwys Loegr, heblaw y ddau hyn, ryw arferon a Ceremoniau ynghylch gwneuthur offeiriaid, priodas, a bedydd escob, gan holi plant am eu gwybodaeth mewn pyngciau ffydd, a chan gyssylltu â hynny weddiau 'r Eglwys drostynt, ac hefyd am ymweliad y clâf: etto ni ddylyai neb gymmeryd y rhai hyn yn lle Sacramentau, yn yr ystyr a'r deall y cymmerir Bedydd a Swpper yr Arglwydd, ond naill a'i yn alwedigaethau duwiol o fywyd, anghenrhaid yn Eglwys Grist, ac am hynny yn deilwng i'w gosod allan trwy weithred gyhoeddus gyffredinol gan wenidawg yr Eglwys: ynteu a fernir eu bod yn gyfryw ordeiniaethau, ac a allant gynnorthwyo i athrawiaethu, diddanu, ac adailad Eglwys Ghrist.
Yn awr a ni gwedy deall pa beth yw gweddi, a [Page 272] pha beth yw Sacrament, a pha sawl rhyw o weddi y sydd, a pha sawl Sacrament hefyd a osododd ein Iachawdwr Christ: edrychwn bellach a oddef yr Scruthyrau a siampl y brif-Eglwys gynt, weddi llaferydd (hynny yw, pan yw 'r genau yn traethu rhyw ddeisyfiadau â'r llaferydd) neu finistro rhyw Sacramentau neu vn rhyw weithred, neu Caeremoni gyffredinol gyhoeddus arall, yn perthyn at fudd ac adailadaeth y gynulleidfa dlawd, mewn tafod anghydnabyddus, yr hwn ni ddeall na 'r gwenhidawg na 'r bobl: neu a ddylai vn dŷn arfer yn neilltuoll weddi laferydd mewn iaith nis deall.
I'r cwestiwn hwn rhaid ini atteb, nas dylyai. Ac yn gyntaf am weddi gyffredinol a ministrad y sacramentau, er y perswadai rheswn ni yn hawdd (pe cai ein rheoli ni) y dlyem ni weddio 'n gyhoeddus, a ministro y Sacramentau mewn iaith a ddealler, o herwydd mai gweddio 'n gyffredinawl, yw bod i gynulleidfa bobl ofyn vn peth, ag vn llaferydd a chyfundeb meddwl, a ministro Sacramentau yw trwy 'r gair a'r arwydd oddi allan, pregethu i 'r derbynwyr anweledig râs Duw oddifewn: ac hefyd am osod yr arferon hyn, a'u bod fyth yn parhau, er mwyn dwyn ar gof i'r gynulleidfa o amser i amser, eu hundeb ynghrist, ac y dlyent fal aelodau o vn corph mewn gweddi a phob modd arall geisio a chwenychu bob vn fudd ei gilydd, ac nid eu budd eu hunain heb ennill eraill. Etto nid rhaid ini redeg at reswn i brwfo y peth hyn, o herwydd bod gennym airiau eglur goleu 'r Scruthur, ac hefyd gyfundeb yr scrifennyddion hynaf a dyscediccaf, yn canmol gweddiau y gynulleidfa yn yr iaith a dealler. Yn [Page 273] gyntaf mae S. Pawl at y Corinthiaid yn erchi 1. Cor. 14. 26. gwneuthur pob peth er adailadaeth: yr hyn ni ddichon bod oni bydd y gweddiau a ministrad y Sacramentau mewn tafod cydnabyddus i'r bobl. O herwydd pan draetho 'r offeiriad weddi, neu finistro y Sacramentau mewn gairiau na ddealler gan y rhai sydd bresennol, ni ellir eu hadailadu hwy.
O herwydd megis os yr vtcorn yn y maes, a rydd lais anhynod, ni all neb trwy hynny ymbaratoi i ryfel. Ac megis pan fytho offeryn cerdd yn gwneuthur sain ddiwahanol, ni ŵyr neb pa beth a genir. Felly pan fytho gweddi neu finistrad y Sacramentau mewn iaith anghynabyddus i 'r gwrandawyr, pwy o hanynt a gyffroir i gyfodi ei feddwl at Dduw i geisio gydâ'r gwenidawg gā Dduw y pethau y mae 'r gwenidawg yn ei airiau a'i weddi yn eu gofyn? Neu pwy wrth finistro 'r Sacramentau a ddeall pa rad anweledig a ddylyai y gwrandawyr ddymuno cael ei weithio yn y dyn oddufewn? yn wir neb. O herwydd fal y dywaid S. Pawl mae 'r hwn a ddywedo mewn tafod anghydnabyddus yn estron i'r gwrandawyr, yr hyn sydd anweddus iawn mewn cynulleidfa Gristionogaidd.
O herwydd nid ydym estroniaid i'w gilydd, ond cyd-ddinaswyr â'r saint, ac o dylwydd Duw, ac Ephes. 26. 19. 1. Cor. 10. 7. 1. Cor. 14. 11. aelodau yr vn corph. Ac am hynny yr hyd y bytho 'r gwenidog yn adrodd y weddi a wnair yn ein henwau ni i gyd, rhaid yw ini roddi clust i'r geiriau y mae fe 'n eu hadrodd, ac yn ein calonnau ofyn ar law Dduw, y pethau y mae fe mewn geiriau yn eu gofyn: ac i arwyddoccau ein bod, yn gwneuthur felly, yr ydym yn dywedyd Amen, ar [Page 274] ddiwedd y weddi, yrhon y mae fe'n ei gwneuthur yn ein henwau ni oll. A hyn ni allwn ni ei wneuthur er adailadaeth, oni ddeallir yr hyn aiddywedir.
Am hynny anghenrhaid yw gweddio yn gyhoedd yn yr iaith a ddeallo y gwrandawyr. A phe buasai gweddus goddef erioed iaith ddieithr yn y gynulleidfa, fe allasai hynny fod yn amser Pawl a'r Apostolion eraill, pan gynyscaeddid hwy â mawr wyrthian ac aml iaithoedd: o herwydd fe allasai hynny annog rhai i dderbyn yr efengil, pan glywsent Hebrewyr o anedigaeth, er eu bod yn annyscedig; yn dywedyd Groeg, a lladin, ac iaithoedd eraill: ond ni thybygodd Pawl y dylaid goddef hyn yr amser hynny: ac a arferwn ni hynny yn awr, pan nad oes neb yn dyfod i iaithoedd, heb astudrwydd dyfal? Na atto Duw. O herwydd trwy hynny y dygem holl arferon ein heglwys, i wâg ofergoel, ac y gwnaem hwy oll yn ddiffrwyth.
Mae Luc yn scrifennu i Petr ac Ioan gwedy eu rhyddhau oddiwrth dywysogion ac archoffeiriaid Ierusalem, ddyfod at eu cymydeithion, a dywedyd wrthynt yr holl bethau a ddywedase yr offeiriaid a'r henuriaid wrthynt: yr hyn pan glwysont, hwy a godasant eu llaferydd mewn cytundeb Act. 4 24. at Dduw gan ddywedyd, O Arglwydd, tydi yw y Duw yr hwn a wnaethost nef a dayar, mor, ac oll sydd yndynt, &c.
Ni allasent wneuthur hyn pe gweddiasent mewn iaith ddieithr, yr hon niddeallasent: ac yn ddiddau, ni ddywedasant hwy oll â llafarau gwahanedig: ond rhyw vn o honynt a ddywedodd yn eu henwau hwynt oll, a'r llaill gan wrando 'n [Page 275] ddiescaelus a gyfunasant ag ef: ac am hynny y dywedir gyfodi o honynt eu llafar ynghyd.
Nid ydyw S. Luc yn dywedyd▪ Eu llafarau, megis am lawer, ond Eu llafar, megis am vn▪ Yr ydoedd yr vn llafar hwnnw am hynny yn y fath iaith ac yr oeddent hwy oll yu ei deall, oni buasai hynny ni allasent gyfodi mohoni i fynu â chyfundeb eu calonnau: o herwydd ni ddichon neb gyfuno â'r hyn nis gwyr.
Am yr amser ymlaen dyfodiad Christ ni bu ddŷn erioedi a ddywedai, fod gan bobl Dduw, na chan neb arall, eu gweddiau, neu finistrad eu Sacramentau, neu eu haberthau, mewn iaith nas deallent hwy eu hunain. Ac am yr amser er Christ, nes i Draws. ortrechus allu Rufain ddechrau gorescyn, a rhwymo holl genhedlaethau Europ i fawrhau iaith Rufain▪ mae 'n eglur wrth gyfundeb yr hên scrifenyddion dyscedig, nad oedd arfer iaith ddiethr, anghydnabyddus, ynghynulleidfaon y Christionogion.
Mae Iustin. ferthur, yr hwn oedd yn fyw yn 160. Iustinus Martyr. Apol. 2. mlynedd o oedran Christ yn dywedyd fal hyn am finistrad Swpper yr Arglwydd, yn ei amser ef; A'r ddie sul mae cynnulleidfaon o'r rhai a arhosant yn y trefydd, a'r rhai a drigant yn y gwledydd hefyd: ymhlith y rhai yr ydys yn darllen cymmaint ac a ellir, o scrifeunadau 'r Apostolion a'r Prophwydi. Yn ol i'r darlleudd beidio, mae 'r gwenidawg pennaf yn gwneuthur annogaeth, gen eu hannog i ganlyn pethau honest: yn ol hynny, yr ydym yn cyfodi oll ynghyd ac yn offrwin gweddiau, yn ôl diweddu y rhai (fal y dywedasom) y dygir i mewn fara a gwin a dwfr. Yno mae 'r gwenidawg pēnaf yn offrwm gweddi a diolch â'i [Page 276] holl allu, a'r bobl yn atteb Amen.
Mae 'r geiriau hyn a'u hamgylchau, os ystyrir hwy yn dda, yn manegi yn oleu, fod nid yn vnic yn darllen yr Scruthyrau mewn iaith a ddealled, ond bod yn gweddio felly hefyd yn y cynnulleidfaon yn amser Iustin.
Fe osododd Basilius Magnus, ac felly y gwnaeth Ioan Chrysostom. enau aur, hefyd yn eu hamseroedd, dresnau cyhoeddus ar wenidogaeth gyhoeddus, y rhai a alwent Leiturgiae, ac yn y rhai hynny hwy a osodasant ar y bobl atteb i weddiau 'r gwenidogion weithiau Amen, weithiau Arglwydd trugarha wrthym, weithiau a chyd a'th ysyryd dithau, ac Mae'n calonnau ni gwedi eu cyfodi at yr Arglwydd, &c. Yr hwn atteb ni fedrase 'r bobl ei wneuthur mewn amser dyledus, oni buasai fod y weddi mewn iaith ac a ddeallent hwy. Mae'r vn Basil wrth scrifennu at eglwyswyr Neocaesaria, yn dywedyd Epistol. 63. fal hyn am arfer gweddi gyffredinol, gan appwynto rhai i ddechreu 'r caniad, ac eraill i ganlyn, ac felly gan dreulio 'r nos mewn llawer o ganiadau a gweddiau, maent ar y wawr ddydd oll ynghyd megis ag vn genau ac vn galon) yn canu i'r Arglwydd ganiad o gyffes, pob vn yn gosod iddo ei hun airiau cymhesur o etifeirwch.
Mewn man arall mae fe 'n dywedyd: os bydd y mor yn deg, pa faint mwy y mae ymgynulliad y gynulleidfa 'n deccach, yn yr hon y danfonir allan sain cyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant (megis tonnau 'n ffusto ar lan y mor) o'n gweddiau ni at Basil Ruf 4. Dduw? Ystyriwch ar ei airiau ef, sain (medd ef) gyssylltedig gwyr, gwragedd, a phlant: yr hyn ni ddichon bod oni byddai eu bod hwy oll yn deall yr iaith yn yr hon yr adroddid y weddi.
[Page 277] Ac fe a ddywaid Chrysostom ar airiau S. Pawl. 1. Cor. 14. Ey gynted ag y clywo y bobl y gairiau hyn, yn oes oesoedd, maent hwy oll yn y man yn atteb, Amen. Yr hyn ni allent hwy ei wneuthur, oni bai eu bod hwy 'n deall yr hyn a ddywedai 'r offeiriad.
Mae Dionysius yn dywedyd fod yr holl dyrfa bobl yn canu caniadau, wrth finistro y cymmun. Dionys. Mae S. Cyprian yn dywedyd fod yr offeiriad yn darparu meddyliau y brodyr â rhag-ddywediad Cyprian. ser. 6. de oratione Dominica. au ymlaen y weddi, gan ddywedyd derchefwch eich calonnau: ac yno 'r atteb y bobl yr ydym yn eu dyrchafu hwy at yr Arglwydd. Ac mae S. Ambros wrth scrifennu ar airiau S. Pawl yn dywedyd, Hyn yw 'r peth y mae fe 'n ei ddywedyd, fod yr hwn a ddywaid mewn tafod ddiethr, yn dywedyd wrth Dduw, yr hwn sydd yn gwybod pob peth, ond nid ydyw dynion yn gwybod, ac am hynny nid oes ffrwyth o'r peth hynny.
Athrachefn ar y geiriau hyn, os bendigi di neu 1. Cor. 14. roddi diolch â'r yspryd, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn lle 'r annyscedig, Amen, ar dy ddiolchiad di, gan na ŵyr ef pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd? Hynny yw, medd S. Ambros, os ti a fanegi foliant Duw mewn iaith nis gwypo y gwrandawyr. O herwydd pan glywo 'r annyscedig yr hyn nis deallo, nid edwyn ddiwedd y weddi, ac ni fedr ddywedyd Amen. Yr hwn air yw cymmaint ac yn wir, neu bydded wir, fal y cadarnhair y fendith, neu y rhoddiad diolch. O herwydd gan y rhai a attebant, Amen, y cyflawnir cadarnhâd y weddi, fal y cadarnhair pob peth a ddywedir ymmeddyliau y gwrandawyr, trwy dystiolaeth y gwirionedd.
[Page 278] Ac yn ol llawer o airiau pwysig i'r vn defnydd, mae fe n dywedyd, y cwbl yw hyn: na wneler dim yn yr Eglwys yn ofer, ac mai 'r peth hyn yn enwedig a ddylid llafuro am dano, fef ar fod i'r anyscedig allel cael lleshâd, rhag bod vn rhan o'r corph yn dywyll trwy anwybodaeth. Ac rhag tybied o neb ei fod ef yn meddwl hyn oll am bregethu, ac nid am weddi: mae fe 'n cymmeryd achos ar y gairiau hyn ei S. Pawl, (oni bydd cyfiaithydd, tawed yr hwn sydd ac iaith ddieithr yn yr Eglwys) i ddywedyd, fal y canlyn: Gweddied yn ddirgel, neu ddyweded wrth Dduw, yr hwn 1. Cor. 14. 28. sydd yn clywed yr holl bethau mudion. O herwydd yn yr Eglwys rhaid i hwnnw ddywedyd, yr hwn a wna lles i bawb oll.
Mae S. Ierom wrth scrifennu ar y geiriau hyn ei S. Pawl, pa fodd y dywaid yr hwn sydd yn Vers. 16. lle 'r anyscedig Amen, &c. yn dywedyd, y gwr llyg yw'r hwn y mae S. Pawl yn dywedyd ymma ei fod yn lle yr ânnyscedig, yr hwn nid oes gantho vn swydd Eglwysig, pa fodd yr atteb ef Amen, ar weddi yr hon nid ydyw yn ei deall? Ac yn y man ar ol hynny sef ar airiau Pawl pe llafarwn Vers. 6. a thafodau, &c. Mae fe 'n dywedyd fal hyn. Hyn yw meddwl Pawl: Os llafara neb mewn tafodau dieithr, anghydnabyddus, fe wnair ei feddwl ef yn ddiffrwyth, nid iddo ei hun, ond i'r gwrandawyr: o herwydd beth bynnac a ddywedir, nid yw ef yn ei wybod. Ac mae S. Awstin wrth scrifennu a'r y ddaunawfed Psalm, yn dywedyd: ni Psa. 18. a ddlyem ddeall pa beth yw hyn, fal y gallom ganu a rheswn dŷn, ac nid a thrydar adar. O herwydd mae dylluanod, cawciod, cigfrain, piod, a'r fath adar eraill, gwedy eu dyscu gan dynnion i [Page 279] Drydar. glegru, ni wyddont pa beth. Ond canu trwy dde all a rhoddwyd trwy ewyllys sanctaidd Duw i natur dŷn. Ac ailwaith, mae S. Awstin yn dywedyd, Nid rhaid wrth vn llaferudd pan fythom ni 'n gweddio, ond fal y mae 'r offeiriaid yn gwneuthur, De Magist. i ddangos eu meddwl, nid fal y gallo Duw, ond fal y gallo dynnion eu clywed hwy. Ac felly gan ei cofio wrth gyfuno a'r offeiriaid y gallont orbwyso a'r Dduw.
Fal hyn ein dangosir trwy 'r Scrythyrau a'r hên ddoctoriaid, na ddylyid wrth weddio neu finistro Sacramentau, arfer vn iaith nas deallo 'r gwrandawyr. Megis i fodloni cydwybod Christion, nad rhaid ini dreulio chwaneg amser yn hyn o beth. Ond etto e'r attal safnen gwrthwynebwyr, y rhai sydd yn sefyll ormod ar ordeiniaethau cyffredinol, da yw cydsylltu at y testiolaethau hyn o'r Scruthyrau a'r hên Ddoctoriaid, vn ordeiniaeth y wnaeth yr Ymherodr Iustinian, yr hwn oedd Ymherodr Rufain ynghylch pympcant mlynedd a saith mlynedd a 'r igain yn ol Christ, yr ordeiniaeth yw hon: Yr ydym yn gorchymmyn i'r holl Escobion ac offeiriaid finistro 'r Nouel consti. 23. offrwm sanctaidd, ac arfer gweddiau yn y bedydd sanctaidd, nid gan ddywedyd yn yssel, ond a llaferudd eglur, vchel▪ yr hon a all y bobl oll ei chlywed, fal trwy hynny y cyffroir meddyliau y gwrandawyr a mawr ddwyfoldeb, wrth adrodd gweddiau 'r Arglwydd Dduw, O herwydd felly y mae 'r Apostol sanctaidd, yn yr Epistol cyntaf at y Corinthiaid yn dangos, gan ddywedyd, Os bendigi di neu os rhoddi di ddiolch yn yr Yspryd yn dda, pa fodd y gall yr hwn sydd yn lle 'r annyscedig, ddywedyd, Amen, ar dy ddiolchad di? O herwydd [Page 280] ni wyr efe pa beth yr ydwyd yn ei ddywedyd? Yn wir yr ydwyti yn rhoddi diolch yn dda, ond nid ydys yn ei adailadu efe.
Ac ailwaith, fe a ddywaid, yn ei Epistol at y Rufeiniaid: A'r galon y credir i gyfiawnder, a'r geneu y cyffefir i Iechadwriaeth. Am hynny o blegid yr achosion hyn, ymmysc gweddiau eraill, mae 'n gymhesir i'r Escobion a'r offeiriaid crefyddgar, draethu a dywedyd hefyd y rhai a ddywedir yn yr offrwm sanctaidd, I'n Harglwydd Iesu Grist ein Duw ni, gyda 'r Tad, a'r Yspryd glan, a llaferudd vchel. A gwybydded y crefyddgar offeiriaid hyn, os hwy a escaelusant y pethau hyn, y gorfudd arnynt rhoddi cyfrif am danynt, yn echrydus farn y Duw mawr, a'n Iachawdwr Iesu Grist: a phan wypom ninnau hynny, ni orphwyswn ni, ac ni oddefwn hynny heb ei ddial. Yr ydoedd yr Ymherodr hwn (fal y dywaid Sabelicus) yn ffafro Escob Rufain, ac etto ni a welwn pa fath ordeiniaeth oleu y wnaeth ef, am weddio a ministro Sacramentau mewn iaith gydnabyddus, er mwyn cyffro defosiwn da y gwrandawyr trwy wybodaeth, yn erbyn barn y rhai a fynnant mai anwybodaeth sydd yn gwneuthur defosiwn da, mae fe hefyd yn ei wneuthur ef yn beth damnedig wneuthur y pethau hyn mewn iaith nis deallo 'r gwrandawyr. Cauwn hyn am hynny trwy gyfundeb Duw a dynnion da na ddylaid gweddio yn gyhoeth na ministro Sacramentau mewn iaith nis deallo y gwrandawyr. Yn awr gair neu ddau am weddi neilltuol mewn iaith ni ddeallir.
Ni a gymmerasom arnom pan dechrauasom son am y peth hwn, brwfo, nid yn vnic, na ddylaid ministro gweddi gyffredinol neu Sacrament, mewn [Page 281] iaith nis deall y gwrandawyr▪ ond hefyd na ddylai neb weddio 'n ddirgel, mewn iaith ni byddai fe ei hun yn ei deall. Yr hyn ni bydd anhawdd ini ei wneuthur, oni ollyngwn yn angof pa beth yw gweddi. O herwydd os defosiwn y galon yw gweddi, yr hwn sydd yn gyrru 'r galon i ymgyfodi at Dduw, pa fodd y gellir dywedyd fod hwnnw yn gweddio, yr hwn nid yw yn deall y geiriau y mae ei dafod yn eu traethu mewn gweddi? Ie pa fodd y gellir dywedyd ei fod ef yn dywedyd? o herwydd dywedyd yw traethu meddwl y galon trwy laferudd y genau.
Ac nid ydyw llaferudd y draetho dŷn wrth ddywedyd, ddim ond cennadwr y meddwl, i ddwyn allan wybodaeth, am y peth oni bai hynny, a orwedde 'n ddirgel yn y galon, ac ni ellir ei wybod: yn ol yr hyn a scrifenna S. Pawl, Pwy a ŵyr medd ef y pethau sydd mewn dyn, ond yspryd dyn yn vnic, yr hwn sydd ynddo? Ni ellir am hynny yn iniawn ddywedyd, ei fod ef yn dywedyd, yr hwn nid yw yn deall y laferudd y mae ei dafod yn ei draethu, ond yn dynwared dywedyd, fal y gwna 'r perot, neu 'r fath adar, sydd yn dynwared llaferudd dynnion. Ni faidd neb am hynny ac a fytho yn ofni digofaint Duw yn ei erbyn ei hun, son am Dduw yn rhy ehud, heb feddwl am ddeall parchus yn ei wydd ef, ond fe ddarpara ei galon cyn rhyfygu dywedyd wrth Dduw. Ac am hynny yn ein gweddi gyffredinol, mae 'r gwenhidawg yn dywedyd yn fynych gweddiwn: gan feddwl wrth hynny rhebyddio 'r bobl i ddarparu eu clustiau i wrando, ar y peth y mae er fedr ei erchi ar law Ddduw, a'u calonnau i gyfuno a hynny, a'u tafodau ar y diwedd i ddywedyd, Amen.
[Page 282] Fal hyn y darparodd y Prophwyd Dafydd ei galon, pan ddywedodd ef, parod yw fynghalon o Dduw, parod yw fynghalon, canaf a chanmolaf. Fe ddarodd i'r Iddewon hefyd, yn amser Iudith, Psal. 57. 7. cyn iddynt ddechreu gweddio, ddarparu eu calonnau felly, pan weddiasant hwy a'u holl galonnau, ar i Dduw ymweled a'i bobl Israel. Fal hyn y darparasai Menasses ei galon, cyn iddo weddio, a dywedyd: yr ydwyf yn gostwng gliniau fynghalon, 2. Cro. 33. 12. gan ofyn iti ran o'th drigarog fwynder. Pan fytho 'r galon gwedy ei darparu fal hyn, maer llaferudd a draethir o'r galon, yn beraidd ynghlustiau Duw, ac heb hyn ni ystyria ef hi i'w derbyn. Ond o herwydd fod ydyn sydd yn Twrddan. dadwrdd geiriau diddeall yngwydd Duw, yn dangos nad ydyw ef yn ystyriaid mawrhydi Duw, wrth yr hwn y mae fe 'n dywedyd: mae Duw yn cymmeryd hwnnw megis vn yn diystyru ei fawrbydi ef, ac yn rhoddi iddo ei wobr ymlhith ragrhithwyr, y rhai sydd yn ymddangos yn sanctaidd oddifaes, a'u calonnau yn llawn meddyliau ffiaidd, ie yn amser eu gweddiau.
O herwydd y galon y mae 'r Arglywydd yn edrych erni, fal y scrifennir yn histori y brēhinioedd. Os mynnwn ninnau am hyn na byddo ein gweddiau yn ffiaidd bethau, ger bron yr Arglwydd Dduw, darparwn ein calonnau cyn gweddio, ac felly deallwn y pethau yr ydym yn gweddio am danynt, fal y gallo ein ealonnau a'n llaferudd, gydseinio ynghlust mawrhydi Duw: ac yno ni ffaelwn dderbyn ar ei ddwylaw ef, y pethau yr ydym yn eu gofyn, fal y gwnaeth gwyr da o'n blaen ni, y rhai a dderbyniasant o amser yn amser y pethau a ddamunent er iechyd i'w heneidiau.
[Page 283] Fe dybygid fod S. Awstin yn cyd-ddwyn yn y pethau hyn, o herwydd fal hyn y dywaid ef am y rhai a ddygir i fynu mewn gramadeg, neu rhethorei, ac a droir at Grist, ac am hynny sydd rhaid eu dyscu De catechisandis rudibus. ynghrefydd Grist: Gwybyddant hefyd medd S. Awstin nad y llaferudd ond meddylfryd y galon sydd yn dyfod i glustiau Duw. Ac yno y bydd, os digwydds iddynt ystyried, fod yr Escob neu'r gwenhidawg yn yr Eglwys, yn galw ar Dduw a geiriau anghysson ac anhrefnus, neu y rhai na bônt hwy yn eu deall, neu eu bod hwy yn cyfrannu yn anhrefnus y geiriau y maent yn eu traethu, na watwarant ddim o honynt. Hyd yn hyn fe a dybygid ei fod ef cyd-ddwyn gr da gwedio mewn iaith ni ddeallir.
Ond yn yr ymadrodd nesaf mae fe 'n agoryd ei feddwl fal hin. Nid am na ddylid gwella y pethau hyn fal y gallo y bobl ddywedyd Amen i'r hyn y maent yn ei ddeall yn dda: ond etto rhaid yw dwyn gyda 'r holl bethau duwiol hyn, ar ddwylo y catecheiswyr ymma ac athrawon y ffydd: fal y gallont ddeall megis mewn dadleudŷ, y mae daioni y ddadl yn sefyll yn y sain, felly ei fod yn yr Eglwys yn sefyll mewn defosiwn. Fal nad ydyw ef yn fodlon i neb weddio mewn iaith nis deallo: ond mae fe 'n dyscu y dadleuwr neu araithiwr cyfarwydd, i ddwyn gyda thafod annyscedig, anghyfarwydd y gwenhidawg crefyddgar, diddrwg: I grynhoi y cwbl os gwna diffyg deall y geiriau a ddywedir yn y gynulleidfa fod y geiriau yn an ffrwythlon i'r gwrandawyr: paham na wna yr vn peth y geiriau a ddarllenir yn anffrwyddlon i'r darllenudd?
Trugarog ddaioni Duw, a ganniatao ini rad [Page 284] i alw arno megis y dlyem, i'w ogoniant ef, a'n didrāgc ddedwyddwch ninnau. Yr hyn y wnawn ni os ymostyngwn ein hunain yn ei olwg ef: ac os bydd ein medd wl ni, yn ein holl weddiau cyffredinol a neilltuol, gwedy eu gosod yn hollol arno ef. O herwydd gweddi y gostyngedig a aiff trwy y cymylau, ac nis diddenir hi nes dyfod yn agos at Dduw, nid ymmedy hi nes i'r goruchaf edrych arui hi, a gwared y cyfion a gwneuthur barn. Iddo ef am hynny y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.
¶ Addysc i'r rhai sydd yn cymmeryd rhwystro blegid rhyw leoedd o'r Scruthyrau sanctaidd, y rhan gyntaf.
FYngharedigion, nid oes calon neb yn abl yn gwbl i ymgyffryd y mawr fudd a'r enill yr hwn a all gwŷr a gwragedd Christionogaidd ei dderbyn os mynnant, wrth wrando a darllen yr Scruthyrau sanctaidd, llai o lawer y gall fynhafod i draethu hynny â geiriau.
Am hynny pan welodd sathan ein gelyn ni mai r' Scruthyrau yw 'r ffordd a'r iniawn lwybr i ddwyn y bobl i wir wybodaeth am Dduw, a bod yn halaethu ffydd a chrefydd Grist yn fawr dros bên wrth ei gwrando a'i darllen hwy yn ddiescaelus: wrth weled hefyd pa fath rwystrau ydynt iddo ef a'i deyrnas, mae fe yn gwneuthur a allo ar na ddarllener hwy yn Eglwys Dduw.
Ac er mwyn hyn fe a gyffrôdd i fynu mewn vn lle neu gilydd dyraniaio creulon, erlid wyr llyminion, a dygyn elynnion i Dduw a'i wirionedd [Page 285] an-nhwyllodrus, i dynnu ymmaith trwy rym y Beibl sanctaidd oddiwrth y bobl, y rhai hefyd o wir genfigen a ddinistrasant ac a ddifasant y llyfrau hynny â than yn lludw: gan gymmeryd arnynt yn dwyllodrus, fod mynych wrādo a darllen gair Duw yn achos o heresiau a chnawdol rydddid, a llwyr ddinistr pob trefn daionus ym-mhob gwlâd a dinas hydrefn. Os achos o ddrygioni yw adnabod Duw yn gywir, yno mae 'n rhaid ini addef fod gwrandaw a darllen yr Scruthyrau sanctaidd yn achosion heresi, rhydd-did cnawdol, a llwyr ddistryw pob trefn ddaionus. Ond mae adnabod Duw a ni ein hunain mor bell oddiwrth fod yn achos drygioni, ac y mae yn ffordd barottaf ie ac yn vnic lwybr i ffrwyno ein holl rydd-did cnawdol ni, ac i ladd holl wyniau ein cnawd ni.
A'r llwybr arferol i gael y cydnabyddiaeth hyn yw gwrando a darllen yn ddiescaelus yr Scruthyrau sanctaidd. O herwydd fal y dywaid Pawl, 2. Timoth. 3. 16. mae 'r holl Scruthyrau gwedy eu rhoddi gan Ysprydoliaeth Duw. Ac a dybygwn ni, Gristionogion, y gallwn ni ddyscu adnabod Duw a ni ein hunain, yn gynt neu yn well yn scrifennadau vn dŷn daiarol, nac yn yr Scruthyrau sanctaidd, a scrifennwyd trwy ysprydoliaeth yr Yspryd glân? O herwydd ni ddygwyd yr Scruthyrau attom ni trwy awenydd dŷn, eithr dynnion sanctaidd Duw a ddywedasant megis y cynhyrfwyd 2. Pet▪ 1. 11. hwy gan yr Yspryd glân. A'r Yspryd glân yw athro y gwirionedd yr hwn sydd, fal y dywaid ein Iachawdwr Christ, yn tywys ei scwlheigion i bôb gwirionedd. Aphwy bynnac ni ddyscir ac ni thywysir Ioan. 16. 13. gan yr athro ymma, ni ddichon ef na chwympo i gamsynniaid dwfn, er mor dduwiol y byddo yn [Page 286] cymmeryd arno fod, pa wybodaeth a dysc bynnac a fytho gantho ym-mhob gweithredoedd ac scrifennadau eraill er tecced y fytho 'r olwg ar ei athrawiaeth ef, ac e'r tebycced fo i wirionedd ymmarn y byd.
Os dywaid neb y dymunai gael gweled gwir ddull a phortreiad perffaith ar fywyd iniawn cymmeradwy gan Dduw, pa le dybygwch chwi, y gallwn ni gael gwell bortreiad na bywyd Iesu Grist a'i athrawaeth, neu gyffelyb iddynt, yr hwn y mae yr Scruthyrau yn paentio ac yn gosod allan ei ymddygiad rhinweddol a'i fywyd duwiol mor eglur ymlaen ein llygaid ni, fal wrth edrych ar y portreiad hwnnw y gallom lunio a ffurfio. diwgadu ein bywyd cy nesed ac y gellir yn gyfun â'i berffeiddrwydd ef. Byddwch ddilynwyr i mifi, medd S. Paul, 1. Cor. 11. 1. megis yr ydwyfi i Grist. Ac mae Ioan S. yn dywedyd y dlyai yr hwn a arhoso ynghrist felly rodio megis y rodiodd yntef. A pha le y dyscwn ni drefn 1. Ioan. 2. 6. bywyd Christ ond yn yr Scruthyrau.
Vn arall a fynnai gael meddiginiaeth i iachau pob clefyd ac afiechyd yn y meddwl. A ellir cael hynny mewn lle yn y byd ond yn llyfr Duw a'i Scruthyrau sanctaidd ef? Fe ddangosodd Christ hyn pan ddywad wrth yr Iddewō ystyfnig, Chwiliwch yr Scruthyrau, o herwydd yndynt yr ydych Ioan. 5. 39. yn gobeithio cael bywyd tragwyddol. Os ydyw 'r Scruthyrau yn cynwys yndynt fywyd tragwyddol mae 'n rhaid canlyn fod yndynt gyfarwyddyd hefyd yn erbyn pob peth ac sydd yn ein Attal. rhagod neu yn ein rhwystro ni i fywyd tragwyddol.
Os byddwn yn chwenychu gwybod doethineb nefol, pa ham mai gwell gennym ei dyscu hi gan ddŷn na chan Dduw ei hun, yr hwn, fal y dywaid [Page 287] S. Iaco, yw rhoddwr doethineb? Ie pa ham nas Iac. 1. 5. dyscwn hi o enau Christ ei hun, yr hwn a addawodd fod yn bresennol gyda ei Eglwys hyd diwedd y byd, ac sydd yn cyflawni ei addewid, nid yn vnig am ei fod ef gydâ ni â'i râd a'i fawr drugaredd, ond hefyd am ei fod ef yn dywedyd yn bresennol wrthym yn ei scruthyrau sanctaidd, i fawr a didranc ddiddanwch pawb ac sydd a dim blas am Dduw yndynt? Ie mae fe 'n awr yn ei Scruthyrau yn dywedyd yn fuddiolach ini o lawer nag y dywad ef â geiriau ei enau wrth yr Iuddewon cnawdol, pan ydoedd ef yn fyw gyda hwy ar y ddaiar. O herwydd ni fedrent hwy (yr Iddewon ydwyf yn eu meddwl) na chlywed na gweled y pethau a allwn ni yn awr eu clywed a'u gweled, os dygwn gydâ ni y clustiau a'r llygaid y clywir ac y gwelir Christ â hwy; hynny yw diescaelusrwydd i wrando ac i ddarllen ei Scruthyrau sanctaidd ef, a gwir ffydd i gredu ei ddiddanus addewidion ef.
Pe gallai vn ddangos dim ond ol troed Christ, yr ydwyf yn tybied y cwympe lawer i lawr ac yr addolent: ond i'r Scruthyrau sanctaidd, lle os mynnwn y gallwn weled beunydd, nid ydwyf yn dywedyd ol ei draed ef yn vnic, ond ei holl lun a'i fywiol agwedd ef, och nid ydym ni yn rhoddi ond ychydig neu ddim parch: pe dangosai neb bais Christ ini fe gymmerai lawer o honom boen fawr neu ninnau a fynnem ddyfod yn agos i edrych arni, ac i'w chusanu hi hefyd: ac etto ni all yr holl ddillad a wiscodd ef er ioed ei osod ef allan mor fywiol ac mor gywir ac y mae 'r Scruthyrau.
Mae llawer er mwyn y cariad y maent yn ei ddwyn at Ghrist yn trwsio ac yn harddu delwau Ghrist, a wnair â choed a cherrig neu fettel, â [Page 288] thlysau, ac aur, a meini gwerthfawr: ac oni ddlyem ni, fy - mrodyr anwyl, yn fwy o lawer gofleidio a pherchi sanctaidd lyfrau Duw y Beibl cyssegredig, yr hwn sydd yn dangos llun Christ yn fywiolach ini nag y dichon vn ddelw? ni ddichon delw ond dangos Dull, ffurf. diwgad a llun ei gorph ef, os gall hi wneuthur hynny: ond mae 'r Scruthyrau yn gosod Christ allan yn y fath fodd ac y gallwn ni weled Duw a dŷn, ni a allwn ei weled ef, meddaf, yn dywedyd wrthym, yn iachau ein gwendid ni, yn marw dros ein pechodau ni, yn cyfodi o feirw er ein cyfiawnhau ni. Ac ar ychydig o airiau ni allwn yn yr Scruthyrau weled Christ oll ei gyd mor gyflawn â llygaid ffydd, fal na allem ni byth heb ffydd ei weled ef â'n llygaid corphorol mor gyslawn, pe byddai fe ymma yn ein mysc ni yn brefennol.
Chwenyched am hynny a dymuned gwyr, gwragedd a phlant yn eu holl galonnau yr Scruthyrau sanctaidd: carent hwy, braicheidient hwy, gosodent eu ewyllys a 'u meddyl-fryd ar eu gwrando a'u darllen hwy, fal ar y diwedd y'n ffurfer ac y'n troer ni iddynt hwy. O herwydd trysordy Duw yw 'r Scruthyrau sanctaidd, lle ceffir pob peth rheidiol ini ei weled, ei glywed, ei ddyscu a'i gredu, ac anghenrhaid i feddiannu bywyd tragwyddol. Hynny a ddywedwyd er rhoddi i chwi da▪med prawf o 'r ennill a ellwch chwi ei dderbyn wrth wrando a darllen yr Scruthyrau sanctaidd. O herwydd, fal y dywedais yn y dechreuad, ni ddichon vn tafod fanegi na thraethu 'r cwbl. Ac er bod yn eglurach nâ goleu 'r dydd mai anwybod yn yr Scruthyrau yw achos pob Amryfysedd. camsynnaeth, fal y dywad Christ wrth y Saducęaid, yr ydych mewn [Page 289] amryfysedd am na wyddoch yr Scruthyrau. Ac Math. 22. 29. mae 'r amryfysedd hynny 'n cadw 'n ol ac yn tynnu dynnyon ymmaith oddiwrth wybodaeth Duw. Ac fal y dywaid S. Ierom, bod heb wybod yr Scruthyrau yw bod heb nabod Christ.
Etto er hyn mae rhai yn tybied nad cymhesur i bob rhyw o ddynion ddarllen yr Scruthyrau, am eu bod hwy, fal y dywedant, mewn amryw leoedd yn fain trangwydd i'r an-nyscedig: yn gyntaf am fod ymadrodd yr Scrythur mor ddisyml mor Drwsel, arw. anghymmen ac mor blaen, fal y mae yn faen tramgwydd i lawer o synhwyrau escud dynion moethus. Hefyd am fod yr Scruthyr yn dywedyd i'r rhai a ganmoler megis plant Duw wneuthur llawer o weithredoedd a rhai o honynt yn erbyn cyfraith naturiaeth a rhai yn erbyn y gyfraith scrifennedig, a rhai a dybygid eu bod yn ymladd yn oleu yn erbyn honestrwydd cyffredinol. Mae'r holl bethau hyn, meddant, yn achosion o dramgwydd mawr i'r diddrwg, ac yn peri i lawer dybied yn ddrwg am yr Scruthyrau ac i anghredu eu hawdurdod hwy.
Mae rhai 'n anfodlon i wrando ac i ddarllen yr Scruthyr lân o blegid amryw ddeddfau a Ceremoniau, aberthau ac offrymmau 'r gyfraith. Ac mae gwyr call mewm synwyr bydol yn tybied fod rhoddi clust i reolau a gorchymmynion golau disyml ein Iachawdwr Christ yn yr Efangyl, yn rhwystrau mawr i lywodraeth lonydd synhwyrol eu gwledydd, megis yn digio pan glywant fod yn rhaid i ddŷn droi ei glust dehau at yr vn a'i tarawo ar yr aswy, a chynnyg ei glôg i'r hwn a geisiai ddwyn ei bais oddiarno: a'r fath ymadroddion eraill o berpheiddrwydd ym-meddwl Christ. O [Page 290] herwydd mae rheswn cnawdol, gan ei fod yn wastad yn elyn i Dduw ac heb ystyried y pethau ydynt o Yspryd Duw, yn cashau y fath orchymmynion, y rhai pe deallid hwy yn dda ni wanhaent ly wodraeth farnol na llywiawdwriaeth Christionogion.
Ac mae rhai pan glywant yr Scruthyrau yn peri ini fyw yn ddiofal heb fyfyrio na rhagfwriadu, yn gwatwaru eu disymldra hwy. Am hynny er mwyn symmud a throi heibio y fath rwystrau yn nessaf ac y gallom, mi a attebaf i'r gwrth ymadroddion ymma, y naill ar ol y llall.
Yn gyntaf mi a adroddaf rai o'r lleoedd a dramgwyddir wrthynt o blegid disymlder ac anghymhēdod yr ymadrodd, ac a ddangosaf eu hystyr hwy.
Mae 'n scrifennedig yn llyfr Deuteronomium i'r Holl-alluog Dduw wneuthur cyfraith, Os byddai ŵr farw yn ddieppil fod i'w frawd neu ei garwr nesaf briodi ei weddw ef, a bod yn galw y plentyn cyntaf a enid rhyngthynt hwy yn blentyn i'r hwn a fuasai farw, rhag deleu enw y marw allan yn Israel. Ac os y brawd neu'r carwr nosaf a wrthodai briodi y weddw, yno bod iddi hi dynnu ei escid ef ymlaen llywodraethwyr y ddinas, a phoeri yn ei wyneb ef, gan ddywedyd, felly y gwneler i'r gwr nid adailado dŷ ei frawd. Ymma, fyngharedigion, Ceremoniau oedd dynnu ei escid ef, a phoeri yn ei wyneb ef, i arwyddhau i holl bobl y ddinas nad y wraig oedd ar y bai am dorri gorchymmyn Duw yn hyn o beth, ond bod y bai a'r cywilydd yn cwympo ar y gŵr hwnnw yr hwn yn gyhoeddus ym-laen llywodraethwyr a wrthododd ei phriodi hi. Ac nid oedd hyn yn warth iddo ef yn vnic, ond ar ei holl eppil yn ei ol [Page 291] ef hefyd: o blegid hwy a elwid ar ol hynny byth, ty yr hwn a dynnwyd ei escid.
Lle arall o'r Psalmau sydd fal hyn, Torraf hefyd holl gyrn y rhai annuwiol a chyrn y rhai cyfiawn Psal. 75. 10. a dderchafir.
Wrth gorn yn yr Scruthur y deallir grym gallu, nerth ac weithiau rheolaeth a llywodraeth. Mae 'r Prophwyd wrth hynny wrth ddywedyd, Torraf gyrn yr annuwiolion, yn meddwl na wanheir hwy yn vnig ac na wnair yn vnic yn egwnan nerth a grym a gallu gelynion Duw, ond yn dywedyd y torrir ac y distrywir hwy yn gwbl er bod Duw dros amser yn eu goddef hwy i orchfygu ac i gael y llaw oreu er mwyn profi ei bobl yn well. Fe a ddywedir yn 132. Psalm, Mi a baraf i gorn Dafydd flaguro. Ymma y mae corn Dafydd yn arwyddoccau ei deyrnas ef. Am hynny wrth y fath ymadroddion y mae Duw yn addo rhoddi i Ddafydd oruwchafiaeth ar ei holl elynnion. Psal. 132. 17. Ac mae 'n scrifennedig. Psal. 60. Moab yw fynghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf fy escid, &c. Yn yr hwn le y mae 'r prophwyd yn dangos mor rassol y gwnelsai Dduw â'i bobl plant yr Israel, gan roddi iddynt oruwch afiaeth fawr yn erbyn eu gelynnion o'u hamgylch. O herwydd er bod y Moabiaid a'r Idumeaid yn ddwy genhedlaeth fawrion; yn bobl failchion ystyfnig alluog, fe a'u darostyngodd hwy, ac a'u gwnaeth yn weision i'r Israeliaid, yn weision meddaf i ymostwng iddynt, ac i dynnu eu hescidiau, ac i olchi eu traed hwy. Moab am hynny yw fy-nghrochan golchi, ac ar Edom y taflaf sy escid: yw cymmaint a phe dywedasai efe, er balched oedd y Moabiaid a'r Idumeaid yn ein herbyn ni yn yr anialwch, [Page 292] hwy a wnaeth p wyd yn awr yn ddeiliaid, yn weision ie yn gaethion ini, i dynnuein escidiau ac i olchi ein traed ni.
Yn awr adolwg, pa anweddaidda-dra sydd yn y fath ymadrodd ac yw hwn, yr hwn a arferir felly mewn arfer gyffredinol ym-mysc yr Hebreaid? Mae 'n gywilydd fod Christionogion mor yscafn eu pennau, a gwatwaru megis coegwyr ary fath ymadrodion, y rhai a adroddir gan yr Yspryd glân mewn ystyrdwys da? Rhesymmolach fyddai i wyr ofer ddyscu perchidull ymadroddion geiriau Duw, nâ'u gwatwar hwy felly i'w damnedigaeth eu hunain.
Mae rhai hefyd yn trangwyddo wrth glywed fod gan y tadau duwiol lawer o wragedd a gordderchadon. Er bod gordderch (yn ol ymadrodd yr Scruthyrau) yn enw honest: o herwydd yr oedd pob gordderch yn wraig gyfraithlon, er nad oedd pob gwraig yn ordderch. Fal y galloch ddeal hyn yn well gwybyddwch fod yn goddef i'r tadau o'r hên Destament gael er vnwaith fwy o wragedd nag vn: am ba achosion chwi a gewch glywed ar ol hyn. O'r gwragedd hyn fe a anefid rhai yn rhyddion a rhai oeddynt gaethwragedd a morwynion. Yr oedd 'ir wraig rydd ragoriaeth oddiar y morwynion a'r caethwragedd: y wraig rydd o anedigaeth a wnaid trwy briodas yn lly wodraethwraig ar y tŷ dan y gwr, a hi a alwid yn feistres neu wraig y tŷ, a thrwy ei phriodas yr oedd iddi deitul a chysiawnder a pherchennogaeth yn holl dda yr hwn a'i priodasai hi. Morwynion a chaethwragedd eraill a roddid gan eu perchenogion nid ydwyf yn dywedyd bob amser, ond fynychaf i'w merched ar ddydd eu priodiosau i fod yn llawwynion [Page 293] iddynt. Yn y modd hwn y rhoddodd Pharao brenhin yr Aipht Agar yr Aiphties i Sara gwraig Abraham i fod yn forwyn iddi. Felly y rhoddodd Laban Zilpha i'w ferch Lea ar ddydd ei phriodas i fod yn forwyn iddi. Ac i Rachel y ferch Gen. 29. 24. arall fe a roddodd Bilhah i fod yn llaw forwyn iddi.
A'r gwragedd y rhai oeddynt berchennogion ar eu llawforwynion a'u rhoddent hwy mewn priodas i'w gwyr ar amryw achosion: fe a roddes Sara ei morwyn Agar mewn priodas i Abraham. Yr vn modd y rhoddes Lea i morwyn Zilpha Gen. 16. 1. i'w gŵr Iacob: felly y rhoddes Rachel ei Gen. 30. 3, 9. wraig arall ef Bilha ei llawforwyn hithau iddo ef, gan ddywedyd, dôsi mewn etti, a hi a blanta ar fyngliniau fi: fal pe dywedasai, cymmer hi yn wraig, a'r plant a ddygo hi mifi a'u cymmeraf ar fy arffed ac a wnaf iddynt megis pe byddynt plant imi fy hun.
Er gwneuthur y llawforwynion neu 'r caethwragedd hyn yn wragedd trwy briodas, etto ni chawsont hwy fraint i reoli 'r tŷ, ond yr oeddynt yn wastad tan wasanaerh ac mewn caethiwed i'w meistresi, ac ni alwyd hwy er ioed yn fammau 'r tolwyth yn faestresi neu 'n wragedd y ty: ond hwy a elwyd weithiau yn wragedd, weithiau yn ordderchadon.
Fe oddefwyd amledd o wragedd i dadau 'r hên Destament trwy ragoriaeth yspysawl, nid er mwyn cyflawni eu chwantau cnawdol, ond er mwyn cael amledd blant, o herwydd bod pob vn o honynt yn gobeithio ac yn ceisio yn fynych yn eu gweddiau gan Dduw ar i'r hâd bendigaid a addawsai Dduw y dawai i dorri pen y sarph, [Page 294] ddyfod a geni o'u llwyth hwy a'u tylwyth hwy.
Yn awr am y rhai a gymmerant achosion o chwant cnawdol a bywyd anllad wrth wrando a darllen yn llyfr Duw y pethau a oddefodd Duw yn y gwyr y mae eu clod yn yr Sruthyr, megis i Noah, yr hwn y mae S. Petr yn ei alw yn 2. Pet. 2. 5. bregethwr cyfiawnder fod mor feddw ar wîn, fal yn ei gŵsc y dinoethodd ef ei ddirgelion ei hun. Gen. 9. 21.
Fe a feddwodd Lot gyfion hefyd yn yr vn modd, Gen. 19. 33, 35 ac yn ei feddwdod fe a orweddodd gydâ 'i ferched ei hun yn erbyn cyfraith nattur.
Ac fe fu i Abraham hefyd (yr hwn yr oedd ei ffydd gymmaint ac y bu ef deilwng o'i phlegid hi i'w Gen. 17. 5. alw trwy enau Duw ei hun yn Dâd llawer o genhedloedd ac yn Dâd y ffyddloniaid) heblaw ei Ruf. 4 17. wraig Sara, gydnabyddiaeth gnawdol â Hagar llawforwyn Sara. Gen. 16. 4.
Yr oedd i'r Patriarch Iacob ddwy chwiorydd yn wragedd iddo ar yr vn amser. Ac yr oedd i'r Gen. 29. Prophwyd Dafydd ac i'w fâb ef brenin Salomon lawer o wragedd a gordderchadon, &c. Yr hyn bethau a welwn eu gwahardd ini yn oleu wrch gyfraith Duw, ac ydynt yn wrthwyneb i honestrwydd cyffredinol.
Fe scrifennwyd y pethau hyn a'r fath bethau, fy-ngharedigion, yn llyfr Duw, nid er mwyn i ninnau wneuthur y cyffelyb, a chanlyn eu siamplau hwy, neu o blegid y dylem ni dybied fod Duw yn fodlon i'r fath bethau mewn dynion, ond ni a ddylyem gredu a barnu i Noah yn ei feddwdod ddigio Duw yn fawr, ac i Lott wrth gydorwedd â'i ferched wneuthur llosc-âch ffiaidd.
Wrthynt hwy am hynny y dylyem ddyscu y wers fuddiol hon. Oni alle wŷr mor dduwiol ac [Page 295] oeddynt hwy y rhai a glywent oddifewn sanctaidd Yspryd Duw yn fflammychu yn eu calonnau, gydag ofn a chariad Duw, ymgadw trwy eu grym eu hunain oddiwrth wneuthur pechod Erchyll. echrydus, onid cwympo o honynt mor aruthrol, fal heb fawr drugaredd Duw na allent lai na chael colledigaeth dragywydd: pa faint mwy y dlyem ni nychmeriaid truain, y rhai nid ydym oddife ŵn yn clywed vn cyffroad am Dduw, ofni yn wastadol, nid yn inic rhag cwympo fal y gwnaethant hwy, ond ein Gorchfygu. gormeilio a'n boddi mewn pechod: yr hyn nis gwnaethant hwy? Ac felly cymmeryd achosion trwy eu cwymp hwy i gydnabod ein llescedd a'n gwendid ein hunain, ac am hynny i alw yn ddifrifach ar yr holl-alluog Dduw â gweddi daer ddiescaelus, am ei râd efer ein cadarnhau ni a'n amddiffyn oddiwrth bob drwg. Ac er digwyddo ini gwympo ryw aniser trwy wendid, etto y gallwn trwy etifeirwch o 'n calonnau a gwir ffydd yn ebrwydd gyfodi ailwaith, heb gyscu ac aros mewn pechod fal y gwna y drygionus.
Fal hyn (bobl dda) y gallwn ddeall y fath bethau a osodir yn yr Scruthyrau duwiol, fal na throer bwrdd sanctaidd gair Duw yn fagl, neu yn llindag, neu yn faen trangwydd, er ein drygu ni trwy gamarfer ein deall. Ond gwnawn iddynt y fath ostyngedig barch, fal y gallom gael ein hymborth anghenrheidiol yndynt, i'n cryfhae ac i'n cyfarwyddo ni, fal y gosododd Duw hwy o'i fawr drugaredd, yn ein holl orch wylion rheidiol, fal y bythom perffaith o'i flaen ef trwy holl dreigl ein bywyd. Yr hyn a ganniatao ef i ni yr hwn a'n prynodd ni, ein Harglwydd a'n Iachawdwr Iesu [Page 296] Grist. I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y bô holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Yr ail ran o'r addysc i'r rhai a rwystrir o blegid rhyw leoedd o'r Scruthyr sanctaidd.
CHwi a glywsoch, bobl ddaionus, yn yr Homili ddiwethaf a ddarllenwyd i chwi, fawr fudd yr Scruthyrau sanctaidd. Chwi a glywsoch pa fodd y mae dynion anwybodus heb ddeall duwiol ynddynt yn ceisio cwerylon i'w diystyru hwy. Chwi a glywsoch atteb rhai o'u rhesymmau hwy.
Ni awn yn awr yn ein blaen ac a soniwn am y gwŷr call llywodraethus y rhai a rwystrir o blegid parablau Christ, y rhai a dybygir eu bod yn deleu pob trefn mewn llywodraeth, ac maent yn gosod yn lle siamplau rai o'r fath hyn.
Os tery neb di ar dy glust ddehau, tro 'r asswy atto ef hefyd. A phwy bynnac a ddygo dy bais oddiarnad, dyro dy glog hefyd iddo. Na wyped Mat. 5. 39. Mat. 6. 3. Mat. 18. 8, 9. dy law asswy y peth y mae dy law ddehau yn ei wneuthur. Os dy lygad dy law neu dy droed a'th rhwystra di, tyn allan dy lygad, torr ymmaith dy law, dy droed, a thafl oddiwrthyd. Os dy elyn a newyna, medd S. Pawl, portha ef, os sycheda ef, dôd iddo ddiod: Ruf. 12. 20. canys os gwnai hyn ti a bentyrri Rhysod. farwor tanllyd am ei ben ef.
[Page 297] Fe a dybygid, bobl ddaionus, yngolwg gŵr naturiol fod yr ymadroddion hyn yn anghyfleus ac yn wrthwyneb i bob rheswn. O herwydd, fal y dywaid S. Pawl, nid ydyw y gwr naturiol yn deall y pethau sydd o Yspryd Duw, ac ni ddichon ef 1 Cor. 1. 14. yr hyd y bytho yr hên Adda yn aros ynddo. Mae Christ am hynny yn meddwl y mynnai ef ei weision ffyddlon mor bell oddiwrth ddial a gwrthladd camwedd, ac y mynnai yn hytrach id dynt fod yn barottach i oddef cam arall, na thrwy wrthod cam torri cariad, a bod yn anoddefus. Fe fynnai fod ein holl orchwylion ni mor bell oddiwrth bob bwriadau cnawdol fal na fynnai ef fod ein cymmydeithion nesaf ni yn gwybod oddiwrth ein gorchwylion da ni, i ennill gwag-ogoniant: a phe byddai ein cyfeillion a'n ceraint mor anwyl gennym a'n llygaid a'n dwylaw dehau, etto os mynnent ein tynnu oddiwrth Dduw ni a ddlyem ymadel â hwynt a'u gwrthod.
Fal hyn os mynnwch fod yn wrandawyr ac yn ddarllenwyr byddiol o'r Scruthyrau sanctaidd, rhaid i chwi yn gyntaf, ymwadu â chwi eich hunain, a darostwng eich synhwyrau cnawdol, y rhai ni ddeallant ond y geiriau oddiallan, heb chwylio 'r ystyr oddifewn. Rhodded rheswm le i sanctaidd Yspryd. Duw: darostyngwch eich doethineb a'ch barn fydol, i'w ddoethineb a'i farn dduwiol ef. Ystyriwch mai gair y bywiol Dduw yw'r Scruthyr, mewn pa ymadrodd dieithr bynnag y traether hi. Dawed hynny yn wastad i'ch côf chwi, yr hyn y mae y Prophwyd Esai mor fynych yn ei adrodd, Geneu 'r Arglwydd, medd ef, a'i dy wad, Yr holl alluog a'r tragwyddol Dduw [Page 298] yr hwn a'i inig air a wnaeth nef a daiar a'i cyfarwyddodd ef: Arglwydd y lluoedd, ffyrdd yr hwn sydd yn y moroedd a'i lwybrau ynnyfnder y dyfroedd, Yr Arglwydd a'r Duw trwy air yr hwn y gwnaethpwyd, y lly wodraethir ac y cedwir yr holl bethau sydd yn y nef ac ar y ddaiar, a ddarparodd fod hyn felly. Duw y duwiau Arglwydd yr Arglwyddi ie y Duw yr hwn sydd vnig Dduw anymgyffred, holl-alluog, a thragwyddol, efe a'i dywad, ei air ef ydyw hyn: Ni ddichon am hynny fod amgen na gwirioned yr hyn sydd yn dyfod oddiwrth Dduw 'r holl wirionedd. Ni ellir na byddir gwedy gorchymmyn yn gall ac yn ddeallus y peth a ddychymmygodd yr Holl-alluog Dduw, er ofered y tybygom ac y barnom ni gaethwyr truain (o aisiau grâs) am ei sanctaiddiaf air ef. Mae 'r Prophwyd Dafydd wrth bortreio ini ddŷn llwyddiannus yn dywedyd, Gwyn ei fŷd y Psal. 1. 1. gwr ni rodiodd ynghyngor yr annuwiolion, ac ni safodd yn ffordd pechaduriaid ac nid eisteddodd yn eisteddfa gwarwarwyr. Mae tri rhyw o bobl y rhai y myn y prophwyd i wr a fynno bod yn llwyddiannus ac yn gyfrannog o fendithiau Duw wachelyd ac ymgadw rhag eu cymdeithas.
Yn gyntaf, nid oes iddo rodio yn ol cyngor yr annuwiol.
Yn ail, nid oes iddo sefyll yn ffordd pechaduriaid. Ac yn drydydd, nid oes iddo eistedd yngor seddfa gwatwarwyr.
Wrth y tri rhyw hyn o bobl, annuwiolion, pechaduriaid, a gwatwarwyr, yr arwyddocair ac y gosodir i lawr yn oleu bob math ar ddrygioni.
Wrth yr annuwiol y mae fe 'n deall y rhai nid [Page 299] ystyriant yr holl-alluog Dduw, ac sydd heb ffydd ganthynt, y rhai y mae eu calonnau a'u myfyriadau wedy eu gosod ar y byd fal y maent yn vnig, yn myfyrio am ddwyn i bên eu gorchwilion bydol, eu dychymygion cnawdol, eu chwantau a'u trachwantau brynton, heb ddim ofn Duw.
Yr ail rhyw y mae fe 'n eu galw 'n bechaduriaid: nid y rhai a gwympant trwy anwybod neu wendid, o herwydd felly pwy fyddai rydd? pwy wr a fu ar y ddaiar er ioed onid Christ ei hun, yr hwn ni phechodd? Mae 'r cyfion yn cwympo saith waith yn y dydd ac yn cyfodi ailwaith. E'r body duwiol yn cwympo etto ni rodiant mewn pechod o wir fwriad, ni safant ac nid arhosant mewn pechod yn wastad, nid eisteddant i lawr megis rhai diofal, heb ofni cyfion gosp Duw ani bechod: ond gan ffieiddio pechod trwy fawr râs ac aneirif drugaredd Duw, maent yn cyfodi ailwaith, ac yn ymladd yn erbyn pechod. Mae 'r proyhwyd felly yn galw 'n bechaduriaid y rhai y trowyd eu calonnau yn hollol oddiwrth Dduw, a'r rhai nid yw eu holl fywyd a'u hymar weddiad onid pechod. Maent yn ymfodloni cymmaint ynddo fal y maent yn dewis aros a thrigo yn wastad mewn pechod.
Y drydedd ryw y mae fe 'n ei galw 'n watwarwyr: hynny yw rhyw o ddynnion y rhai y mae eu calonnau wedy eu llenwi a chenfigen: fal nad ydynt yn fodlon i aros yn inig mewn pechod ac i ddwyn eu bywyd ymhob rhyw o ddrygioni, ond hefyd yn diystyru, ac yn gwatwar mewn eraill bob duwioldeb, a gwir fuchedd, bod honestrwydd a rhinwedd.
[Page 300] Am y ddau rhyw gyntaf o ddynion ni ddywedaf na allant etifaru a throi at Dduw: ond am y drydedd yr ydwyf yn tybied y gallaf heb berigl barn Duw gyhoeddi na throdd vn o honynt er ioed etto at Dduw drwy edifeirwch, ond iddynt aros yn wastad yn eu drygioni ffiaidd gan gasclu iddynt eu hunain ddamnedigaeth erbyn dydd anwacheledig farn Duw.
Yr ydym yn darllen siamplau o'r fath watwarwyr yn ail Lyfr y Croniclau, Pādarodd i'r brenin 2. Cro. 3. 10. da Ezechias yn-echrau ei deyrnasiad ddinistr delw-addoliad, purhau y deml ac iniawni crefydd yn ei deyrnas: fe anfonodd genadon i bob dinas, i gynull y bobl i Ierusalem, i gynnal gwyl y pasc, yn y modd yr ordeiniasai Dduw. Fe aeth y redegwyr o ddinas i ddinas, trwy dir Ephraim a Manasses hed yn Zabulon: a pha beth a wnaeth y bobl meddwch chwi? a glodforasant ac a folianasant hwy enw 'r Arglwydd, yr hwn a rhoesai iddynt gystadl brenin, a thywysog cymmaint ei zeal i ddinistr delw-addoliad ac i adferu gwir grefydd Dduw? na ddo naddo, ond medd yr Scruthur hwy a sennasant ac a watwarasant genadon y brenin.
Ac mae 'n scrifennedig yn y bennod ddiwethaf or vn llyfr i'r holl-alluog Dduw gan dostyrio wrth Pen. 36. 15, 16. ei bobl ddanfon ei genadon y prophwydi attynt, i'w galw hwy oddiwrth eu ffiaidd ddelw-addoliad, a'u melltigedig fywyd. Ond hwy a watwarasant ganadon Duw, gan ddirmygu ei airiau fe a gwneuthur yn drahaus a'i brophwydi ef, nes cyfodi o ddigofaint yr Arglwydd yn eu herbyn hwy fal nad oedd Iechyd: canys fe a rhoddodd [Page 301] hwy i fynu i ddwylo ei gelynnion, ie i ddwylaw Nabuchadnazer Brenin Babilon yr hwn a yspeiliodd eu da hwy, a loscodd eu dinas hwy ac a 'i Dygodd. dug hwy a'u gwragedd a'u plant yn gaethion i Babilon.
Ni wnaethy bobl ddrwg oedd y nnyddiau Noah ond gwatwar o air yr Arglwydd, pan dywedodd Noah wrthynt y dialai yr Arglwydd arnynt am ei pechodau. Am hynny y daith y diluw yn ddisyndod arnynt ac a'u boddod hwy a'r holl fyd.
Fe bregethodd Lott i'r Sodomiaid onid etifarent y distriwyd hwy a'u dinas, Hwy a gyfrifasant ei ymmadroddion ef megis pethau ni allent fod yn wir, hwy a sennasant ac a watwarasant ei rhybyddion ef, ac a'i cyfrifasant ef megis hen ffol disynwyr. Ond pan darodd i Dduw trwy ei angel sanctaidd, gymmeryd Lot a'i wraig a'i ddwy ferched o'u plith hwy, fe lawiodd o'r nef dan a brwmston ac a loscodd y senwyr a'r gwatwarwyr hynny o'i sanctaidd air ef.
A pha gyfrif oedd o athrawiaeth Christ ymmysc yr scrifenyddion a'r Pharisaeaid? Pa wobr y gafas ef yn ei mysc hwy? Mae 'r efangil yn adrodd fal hyn: yr oedd y Pharisaeaid trachwantus yn ei watwar ef yn ei athrawiaeth. Oh wrth hyn chwi a welwch fod gwyr doethion bydol yn gwatwar athrawiaeth eu Iachawdwriaeth. Mae doethion y byd hwn yn gwatwar athrawiaeth Christ megis ffolineb yn eu deall hwy. Fe fu y gwatwarwyr hyn er ioed ac hwy a fyddant byth hyd diwedd y byd. O herwydd mae S. Peter yn prophwydolaethu y bydd y fath watwarwyr yn y byd 2. Pet. 2. 2. cyn y dydd diwethaf.
[Page 302] Gwagelwch gan hyn fy-mrodyr, gwagelwch gwagelwch, na fyddwch watwarwyr sanctaidd air Duw, nag annogwch ef i arllwys arnoch o'i ddigofaint, fal y gwnaeth ef ar y senwyr a'r gwatwarwyr hynny. Na fyddwch leiddiaid ewyllysgar eich eneidiau eich hunain. Trowch at Dduw yr ennyd y bo amser i drugaredd: onid ef chwi a etifarhewch yn y byd a ddaw pan fytho yn rhy hwyr, o herwydd yno y bydd barn heb drugaredd.
Fe allai hyn wasanaethu in rhebyddio ni ac i beri ini berchi sanctaidd Scruthyrau Duw: ond nid oes ffydd gan bawb. Am hynny ni ddigona ac ni fodlona hyn feddyliau pawb: ond fal y mae rhai yn gnawdol felly y parhant ac y camarferant Scruthrau Duw yn gnawdol, i'w rhagor ddamnedigaeth. 2. Pet. 3. 16.
Mae 'r annyscedig a 'r anwadal (medd ef) yn gwyro 'r scruthyrau er distryw iddynt eu hunain. Ac mae Iesu Grist fal y dywaid S. Pawl i'r Iddewon yn drangwydd ac i'r cenhedloedd yn ffolineb: ond i'r Iddewon a'r cenhedloedd y rhai a alwyd yn nerth ac yn odoethineb Duw. Mae 'r 1. Cor. 1. 23. gwr sanctaidd Simeon yn dywedyd ei osod ef yn gwymp ac yn gyfodiad i lawer yn Israel. Fal y Luc. 2. 34. mae Christ Iesu yn gwymp i'r gwrthodedig y rhai er hynny a gollir trwy eu baiau eu hunain, felly y mae ei air ef a'i holl lyfr yn achos damnedigaeth iddynt, trwy eu hanghreduniaeth. Ac fal nad ydyw ef gyfodiad i neb ond i blant Duw trwy Ddewisiad. mabwys, felly y mae ei air ef a'r holl Scruthyrau yn nerth Duw i Iachadwriaeth yn inig i'r rhai a'u credant. Mae Christ ei hun a 'r Prophwydi o'i flaen ef, a 'r Apostolion ar ei ol ef, a [Page 303] holl wir wenidogion sanctaidd air Duw, ie pob gair yn llyfr Duw yn arogl angau i angau i'r gwrthodedig. Mae Christ, y Prophwydi, yr Apostolion a holl wir wenidogion y gair, ie pob gronyn a thitul o'r scruthur sanctaidd ac fe fu er ioed ac fe fydd byth yn arogl bywyd i fywyd i'r rhai oll y burodd Duw eu calonnau trwy ffydd.
Gwiliwn yn ddifrif na wnelom watwargerdd o lyfrau 'r Sctuthyrau sanctaidd. Pa tywyllaf a pha anhyweithaf fyddo 'r ymadroddion yn ein deall ni: tybygwn ein bod ein hunain ymhellach oddiwrth Dduw a'i Yspryd glan eu hawdur hwy. Ymrown i chwilio allan y doethineb a sydd giddiedig dan riscul yr Sctuthyr oddifaes. Ac oni fedrwn ddeall ystyr a rheswn yr ymadrodd, etto na fyddwn watwarwyr, senwyr a dynwaredwyr. O herwydd dyna 'r arwydd a'r argoel eithaf o vn gwrthodedig, o elyn cyhoedd i Dduw a'i ddoethineb. Nid chwedlau ofer i'w gwatwar ydyw y pethau hyn y mae Duw yn eu cyhoeddi mor ddifrif: am hynny cymmerwn hwy fal pethau difrif.
Ac er bod yn gosod allan mewn amryw leoedd o'r Scruthyrau, amryw ddeddfau a Ceremoniau, offrymmau ac aberthau: etto na rhyfeddwn ddim o'u plegid, ond trown hwynt at yr amseroedd a'r bobl i'r rhai a gwasanaethent, êr nad ydynt yn anfuddiol i wyr dyscedig i'w ystyriaid, ond i'w deongl megis arwyddion a chyscodau pethau a phersonau y rhai a eglurwyd ar ol hynny yn y Testament newydd.
Ac er nad ydyw cyfrif gwehelyth ac achau'r tadau yn adailadaeth fawr i'r bobl gyffredinol annyscedig: etto nid oes dim gwedy ei adrodd mor [Page 302] [...] [Page 303] [...] [Page 304] amherthynasol yn holl lyfr y beibl na wasanaetha i ddefnydd ysprydol mewn rhyw fodd, i bawb ac a lafurant i chwilio 'r ystyr. Nid oes i ni ddiystyru y rhai hyn, am na wasanaethant ein deall ni a'n adailadaeth. Ond trown ein trafael i ddeall ac i ddwyn gyda ni y fath ymmadroddion a historiau ac ydynt gymmesurach ein deall ni a'n haddysc, Ac lle 'r ydym yn darllen yn Psalmau Dafydd pa fodd y dymunodd ef i wyrthwynebwyr Duw weithiau cywilydd, cerydd a gwaradwydd, weithiau dieppiliaeth, weithiau ar eu dyfod i ddistryw a dinistr disymmwth, fal y dymunodd ef i benaethiad y Philistiaid. Gwna, medd ef, luched a gwascar hwynt, gyr dy saethau a difa hwynt: ar Psal. 144. 6. fath regau eraill.
Etto ni ddlyaid rhwystro mo hanom am y fath weddiau eiddo Dafydd, ac yntef yn Brophwyd, â Duw yn ei garu yn odidawg, a chwedy ei gynhyrfu yn yr yspryd â zeal wresog i ogoniant Duw: fe a'i dywaid hwy nid o genfigen ddirgel nag o gasineb yn erbyn y dynnion, ond fe a ddymunodd yn ysprydol ddistryw yr holl fath amryfysedd a baiau llygredig y rhai a deyrnasant yn yr holl bobl ddiawlig ac a ymosodant yn erbyn Duw.
Yr ydodd ef o'r vn meddwl ac oedd S. Pawl, pan roddodd ef Hymeneus ac Alexander a'r goddinebwyr cyhoeddus i sathan, er eu gwarth bydol, fal y byddai 'r Yspryd yn gadwedig a'r ddydd yr Arglwydd. A phan ydyw Dafydd yn addef ei fod yn cashau yr annuwiol: etto mae fe 'n dywedyd mewn man arall ei fod yn eu cashau hwy nid a chasineb cenfigennus i wneuthur eniweid i'r enaid, ond a chasineb perffaith. Yr hwn berffeiddrwydd [Page 305] yspryd am na ellir ei gyflawni ynom ni, a ni gwedy 'n llygru yn ein gwyniau fal yr ydym, ni ddlyem ni yn vn achos priodol arfer y cyfi yw ddull a'r airiau, o herwydd na allwn gyflawni mewn ystyr y cyffelyb airiau.
Narwystrir ni am hynny onid chwiliwn ystyr y fath airiau heb ein rhwystro, fal y gallom farni am y fath airiau a mwy barch: er eu bod hwy yn ddieithr in deall cnawdol ni, etto gan y rhai ydynt wir ysprydol fe a fernir ddarfod eu cyhoeddi hwy o zeal ac yn dduwiol. Duw am hynny er mwyn eifawr drugaredd a burhao ein meddyliau ni trwy ffydd yn ei fâb Iesu Grist, ac a ddifero ddafnau ei rad nefol in calonnau caregog ni, i'w meddalhau hwy, fal na byddom ddiystyrwyr a gwatwarwyr ei anhwyllodrus air ef: ond bod ini a phob gostyngeiddrwydd meddwl a pharch Christionogaidd ymroi i wrando ac i ddarllen yr Scruthyrau sanctaidd, ac felly i ymborth arnynt oddifewn, fal y byddo mwyaf ddiddanwch in eneidiau a sancteiddrwydd ei sanctaidd enw ef: i'r hwn gyda 'r mab a'r Yspryd glân, tri pherson ac vn bywiol Dduw y byddo pob clod anrhydedd a moliant yn oes oesoedd. Amen.
Y drydedd ran o lyfr y Pregethau cyhoedd.
¶ Pregeth am elusenau a thrugarogrwydd tuag at y tlawd a'r anghenus.
YMhlith yr aml ddyledion y mae r' holl-alluog Dduw yn edrych am danynt gan ei weision ffyddlon, y gwir Gristionogion, trwy y rhai y mynnai ogoneddu ei enw a manegi siccrwydd ei galwedigaeth hwyntau, nid oes vn yn fwy cymmeradwy gantho fe, nac yn fuddiolach iddynt hwythau, nâ gweithredoedd trugaredd a thosturi a ddangosir at y tlawd, yr hwn a fliner ag vnrhyw gyfyngder. Ac etto er hynny cyfryw ydyw anescud ddiogi ein anian hurt ni, at yr hyn sydd dduwiol a daionus, nad ydym ni [Page 2] mewn dim haechen, yn yscaelusach ac yn ddiofalach nag yn hynny.
Peth angenrhaid am hynny yw i bobl Dduw ddyhuno o'u meddyliau cysclud cyscadur, ac ystyried eu dlyed yn hyn o beth. A gweddus yw i bob gwir Gristion ymofyn a dyscu yn ewyllysgar pa beth y mae Duw yn ei sanctaidd air yn ei ofyn ganthynt yn h [...]n o beth: fal gwedy yn gyntaf wybod eu ddlyed (yr hyn y mae llawer o blegid eu yscaelusrwydd yn dangos eu bod heb ei wybod) y gallont a'r ol hyn yn ddiescaelusach gyflawni hynny: trwy 'r hyn y gellir eofnhau y dynnion duwiol caredig, i fyned yn eu blaen ac i barhau yn eu trugarog orchwilion o roddi cardodau i'r tylodion, ac fal y gallo hefyd y rhai hyd hyn a escaelusasant ac a ddiystyrasant hynny, (gwedy clywed mor berthynasol yw hyn iddynt) yn awr yn y diwedd yn ystyriol ei ystyried ef, ac ymroi yn rhinweddol i hynny.
Ac er mwyn i bob vn o honoch ddeall yn well yr hyn a ddangosir, 'ai ddwn yn haws gydâ chwi, ac felly cymmeryd ychwaneg ffrwyth o'r hyn a ddywedir pan drinir yn neilltuol bethau neilltuol, mae yn fy mryd i draethu ac adrodd y pethau hyn bob vn o'r neilltu yn y trefn hwn.
Yn gyntaf mifi a ddangosaf mor ddifrif y mae 'r holl-alluog Dduw yn ei sanctaidd air, yn galw arnom am roddi cardodau a gwneuthur elusen, ac mor gymmeradwy yw 'r pethau hyn yngolwg Duw.
Yn ail mor fuddiol yw i ninnau eu harfer hwy, a pha elw a pha ffrwyth a ddygant ini.
Yn drydedd ac yn ddiwethaf mifi a ddangosaf allan o air Duw pwy bynnac a fytho hael wrth y [Page 3] tylodion ac a'u portho hwynt yn halaeth, y caiff hwnnw ddigon iddo ei hun er hynny: ac y bydd ef byth i maes o enbeidrwydd prinder a diffyg.
Ynghylch y cyntaf, yr hwn yw cymmeriad, braint, a phris elusenau gerbron Duw, gwybyddwch hyn, fod nerthu a chynnorthwyo 'r tylawd yn eu hangenaua'u cyfyngder, yn bodloni Duw yn gymmaint, fal y mae 'r scruthyr yn coffa mewn llawer lle, nad oes dim a ddichon cael ei gymeryd a'i dderbyn mor ddiolchus ar law Dduw.
O herwydd yn gyntaf yr ydym yn darllen, fod yr hollalloog Dduw yn cyfrif fod yn rhoddi yr hyn a rodder i'r tylawd iddo fe ei hun, o her wydd felly y mae'r Yspryd glan yn testiolaethu ini trwy enau y gwr doeth, gan ddywedyd, Y neb a gymmero drugaredd ar y tylawd sydd yn rhoddi Diar. 19. 17. echwyn i'r Arglwydd. Ac mae Christ yn traethu yn yr efengyl, ac mae fe 'n clymmu hynny â llw, megis gwir diogel, fod elusenau a roddir 'ir tylodion, gwedy eu rhoddi iddo fe ei hun, ac y cyfrifir hwy felly yn y dydd diwethaf: o herwydd fal hyn y dywaid ef wrth roddwyr cardodau, pan eisteddo ef yn farnwr yn y farn, i roi barn ar bob dyn yn ol ei weithredoedd: yn wir yn wir y dywedaf wrthych, pa weithrededd o drugareedd bynnac awneuthoch i'r vn o'r, rhai lleiaf hyn, chwi au gwneuthoch i mifi, wrth eu bwydo hwy, chwi a'm bwydasoch i, wrth eu disychedu hwy, chwi a'm disy, hedasoch i, wrth eu dillata hwy, chwi a'm dillatasoch i, wrth eu lleteua hwy, chwi a'm lleteuasoch i, wrth ymweled â hwy yn gleifion mewn carchar, chwi a ymwelsoch â mifi.
O herwydd yr hwn a dderbynio gennadon [Page 4] brenin, ac a'u creusewo hwy, mae 'n anrhydeddu 'r brenin, oddiwrth yr hwn y daeth y cenhadwyr hynny, felly 'r hwn a dderbynio 'r tylawd a'r anghenus, ac a'u cynorthwyo hwy yn eu blinder a'u cyfyngderau, mae ef trwy hynny 'n derbyn ac yn anrhydeddu eu meistr hwy Christ, yr hwn fal yr ydoedd ef yn dylawd ei hun, ac yn anghenus, yr hyd y bu ef fyw yn ein mysc ni, i weithio dirgelwch ein Iachawdwriaeth ni: felly ar ei fynediad ef oddi ymma, fe a addawodd danfon ini yn ei le y rhai a fydde dylodion, drwy y rhai y cyflawnid ei absen ef. Ac am hynny pa beth bynnac a wnelem iddo ef, hynny sydd raid i ni ei wneuthur iddynt hwy.
Ac am hyn y dywad yr holl-alluog Dduw wrth Moeses: ni dderfydd y tylawd o genol y tir yr ydych yn myned iddo: er mwyn iddo gael profiad gwastadol o'i bobl, pa vn a wnant ai garu ef ai Deu. 15. 11. pedio: fal wrth ddangos eu hunain yn vfydd i'w ewyllys ef, y gallent eu siccrhau eu hunain o'i garedigrwydd a'i ewyllys da yntef tuag attynt: a bod heb ammau fal y derbyniasant ac y cyflawnasant hwy ei ewyllys a'i gyfraithau a'i ordeiniaethau efe, (yn y rhai y gorchymynodd iddynt agoryd eu dwylo i'w brodyr y rhai oeddent dylodion yn y tir) felly o'i ran yntef y derhyn yntef hwy 'n garedig, ac y cyflawna yn gywir ei adde widion a wnaeth ef iddynt.
Mae apostolion a discyblon Christ, y rhai wrth ei feunyddol ymddygiad ef, a welsant yn ei weithredoedd ef, ac a glywsont yn ei athrawaeth ef, gymmaint gofal oedd gantho am y tylodion: mae 'r tadau duwiol hefyd, cystal cyn dyfodiad Christ a chwedy ei ddyfodiad, y rhai a lanwyd yn [Page 5] ddiddau a'r Yspryd glan, ac oeddynt siccr o ewyllys sanctaidd Duw. Mae pob vn o honynt yn ein rhybyddio yn ddifrif, ac yn eu holl scrifēnadau haechen yn wastadol yn ein cynghori ni, i gofio 'r tlawd, ac i osod ein cardodau caredigol arnynt.
Mae S. Pawl fal hyn yn gweiddi arnom, diddenwch y gwan-feddwl, cynheliwch y gweiniaid, 1. Thes. 5. 14. byddwch ymarhous wrth bawb. Ac ailwaith, nac anghofiwch gyweithasrwydd a chyfranniad, canys â chyfryw ebyrth y bodlonir duw. Heb. 13. 16. Ac mae 'r prophwyd Esai 'n dangos fal hyn, Tor dy fara i'r newynog, dwg y cyrwydrad i'th dŷ, a Esai 58. 7. 10. phan welych y noeth dillata ef, ac na ymguddia oddiwrth dy gnawd, tosturia wrth y newynog, a diwalla 'r enaid cystuddiedig. Ac mae 'r Tad sanctaidd Tobi yn rhoddi 'r cyngor hwn, Dod elusen o'r peth â fytho gennit, ac na chenfigenned Tob. 4. 7. 16. dy lygad wrth roddi dy elûsen, ac na thro dy wyneb oddiwrth neb tylawd, ac ni thry Duw ei wyneb oddiwrthit tithau. Dod ti o'th fara i'r newynog ac o'th ddillad i'r noeth. Ac mae'r tad dyscedig dûwiol Chrysostom yn rhoddi y cyngor Ad populum Antiochenum homil. 35. hyn, Bydded elusenau trugarog yn wastad gyda ni, megis dillad arnom: hynny yw mor feddylgar a fythom i wisco am danom ein dillad, i giddio 'n noethni, i'n cadw rhag oerfel, ac i'n dangos ein hûnain yn weddaiddd, byddwn mor gofus yn wastad i roddi elusennau i'r tylodion, ac i'n dangos ein hunain yn drugarogion tuag attynt.
Ond pa beth yw meddwl rhybyddion difrif ac aml annogaethau y prophwydi, apostolion, tadau, â Doctoriaid sanctaidd? yn wir fal yr oedd ynt yn ffyddlon tuag at Dduw, ac yn cyflawni eu dlyed tu ag at dduw, gan ddywedyd i ni [Page 6] pa beth oedd ewyllys Duw: felly o gariad godidawg tuag attom ninnau, hwy a drafaelasant nid yn inig i'n cyfarwyddo ni, ond i'n perswado ni fod rhoddi cardodau, a chynnorthwyo 'r tlawd a'r anghenus, yn beth cymmeradwy ac yn aberth godidawg i dduw yn yr hwn y mae fe 'n ymhoffi 'n fawr, ac yn ymfodloni 'n ddirfawr: O herwydd felly y mae y gwr call mab Sirach yn dyscu ini, gan ddywedyd, fod yr hwn sydd drugarog ac yn Eccles. 35. 3. 7. rhoddi elusen yn aberthu 'r iawn aberth, diolch a moliant. Ac mae 'n cydsylltu a hynny, fod aberth inion, duwiol, yn gwneuthur yr allor yn fras, a bod ei arogl ef yn beraidd gerbron yr Arglwydd, ie ei fod ef yn gymmeradwy gerbron duw, ac na ollyngir dros gof ei goffadwriaeth ef.
Ac yr ydys yn gwirhau gwirionedd yr athrawaeth hon wrth siamplau y tadau sanctaidd, caredig, am y rhai yr ydym ni yn darllen yn yr scruthyrau, ei bod hwy gwedy ymroi i dosturi a thrugarogrwydd tuag at y tylawd ac yn garedig i esm wytho ei anghenau hwy. O'r fath hyn oedd Abraham, i'r hwn yr ydoedd Duw mor fodlon ac y bu wiw gantho ddyfod atto mewn dull angel, a chymmeryd ei rausewi i'w dŷ ef. O'r fath hyn yr ydoedd ei garwr ef Lot, yr hwn a garodd Duw yn gymmaint (am dderbyn ei ganhadon ef i'w dŷ, y rhai oni buasai hynny a gawsent orwedd yn yr heol) ac y cadwodd efe ef a'i holl dylwyth, oddiwrth ddistriw Sodom a Gomorha. O'r fath hyn yr oedd y tadau sanctaidd, Iob, Tobi, a llaweroedd eraill, y rhai a glywsont o'i mewn, megis yn gyhoedd i'w synhwhyrau, brofiad o yspysawl gariad duw tuag attynt. Ac fal y cafodd yr holl rai hyn (trwy eu trugaredd a'u mawr dosturi, yr [Page 7] hwn a ddangosasant hwy i flinedig aelodau truain Christ, wrth eu esmwytho, eu nerthu, a'u cynnorthwyo hwy â'u da bydol yn y byd hwn) fawr serch Duw, ac y buont anwyl, hoff, a bodlongar yn ei olwg ef, felly y maent hwythau 'n awr yn cael eu digrifo, wrth fwynhau Duw mewn hoff lawenydd nefoedd, ac hwy a osodir hefyd ger ein bronnau ninnau, yn-nhragwyddol air Duw megis samplau perffaith i'n dyscu ni, cystadl pa fodd y bodlonwn dduw yn y bywyd marwol hwn, ac hefyd, pa fodd y dawn ni i fyw yn llawen gydâ hwy, mewn hyfrydwch a dedwyddyd tragwyddol.
O herwydd gwir iawn yw r hyn a ddywaid S. Awstin: Mai rhoddi cardodau, a chynnorthwyo 'r tylawd, yw yr iniawn ffordd i'r nef: via coeli pauper est, y ffordd i'r nef yw 'r tylawd, medd ef. Hwy a arferēt yn yr amser gynt, o osod ar heolydd cyffredin ddelw mercuri, yn dangos a'i fys yr iniawn ffordd i'r dref, ac yr ydym ninnau 'n arfer mewn croes-ffyrdd, o osod croes o goed, neu gerig, er rhybyddio 'r ymdeithydd, pa ffordd y dylai ef droi, pan delo ef hyd etti: ac i'w gyfarwyddo ef yn y iawn ffordd, ond fe a osododd gair Duw (medd S. Awstin) yn y ffordd i'r nef, y dyn tylawd, a'i dŷ, fal pwy bynnac a elo 'n iniawn yno, heb droi oddiar y ffordd, rhaid iddo ef fyned heibio i'r tylawd. Y tylawd yw 'r mercuri hwnnw, yr hwn a'n gosod ni yn yr iniawn ffordd, ac os edrychwn ni yn dda ar y nod hwn, ni chyrwydrwn ni yn eppell oddiar y llwybr inion.
Arfer gwŷr call bydol yn ein mysc ni yw, os gwyddont fod neb sydd îs ei stat na hwynthwy, mewn ffafwr rhyw dywysog, neu bennaeth, yr hwn y [Page 8] maent yn ei ofni, neu yn ei garu, i hwnnw y bydd da ganthynt wneuthur daioni a thwrn da iddo, fal pan fytho rhaid y gallo yntef fod yn eiriolwr drostynt, naill ai i ennill mael, ai yntef i ddianc rhag twrn drwg, fe ddylai fod cywilydd arnom ni, fod dynnion bydol yn synwyrolach ac yn gallach i ennill iddynt eu hunain bethau bydol, y rhai ni pharhant ond dros amser, nâ nini i geisio pethau nefol. Mae 'n Iachawdwr Christ yn testiolaethu am y tlodion, eu bod hwy yn anwyl iawn gantho ef, a'i fod ef yn eu caru hwy 'n odidawg, o herwydd mae fe 'n eu galw hwy yn blant bychain iddo, enw o gariad tra-rhagorol. Mae fe 'n dywedyd eu bod hwy yn frodyr iddo. Ac mae S. Iaco 'n dywedyd i Dduw eu dewis hwy i fod yn etifeddion o'i deyrnas ef: oni ddewisodd duw (medd ef) dylodion y byd hwn i fod yn gyfoethogion mewn ffydd, ac i fod yn etifeddion o'r deyrnas, yr hon a addawodd ef i bawb ac a'i carant ef? Ac ni a wyddom y bydd y weddi a wnelont drosom ni 'n gyfrifol, ac yn gymmeradwy ger bron Duw, fe wrandewir eu achwynion hwy hefyd. Ac am hynny mae Iesu fab Sirach yn ein siccrhau ni 'n ddiogel, gan ddywedyd, Pan felldithio y tylawd di yn chwerwedd ei enaid, yr hwn a'i gwnaeth Eccl. 4. 6. ef a wrendy ei weddi ef. Byddwch chwithau drugarog am hynny wrth y tylawd.
Ni a wyddom hefyd fod yr hwn sydd yn cydnabod ei hun yn feistr ac yn ymddiffynnydd iddynt, ac ni wrthyd eu cymmeryd hwy yn weision iddo, yn abl i wneuthur i ni les ac afles, a bod yn rhaid ini bob awr wrth ei gynorthwy ef. Paham am hynny y byddwn ni nac escaelus nac anewyllysgar i ennill eu cymdeithas hwy a'u [Page 9] serch, trwy 'r hyn hefyd y gallwn fod yn siccr o ennill ei serch ef, yr hwn sydd alluog ac ewyllysgar i wneuthur ini bob daioni ac a fyddo er em lles ni a'n llwydddiant. Mae Christ yn manegi wrth hyn pa gymmaint gantho am ein caredigrwydd ni at y tlawd, am ei fod ef yn addo gobrwyo 'r rhai a roddant phioled o ddwfr yn ei enw ef i'r rhai a fo arnynt ei eisiau, a'r gwobr hwnnw yw teyrnas nef.
Diammau am hyn yw fod Duw yn gwneuthur cyfrif mawr o'r hyn y mae fe yn ei obrwyo mor hael. O herwydd mae 'r hwn sydd yn addo taliad frenhinawl am rodd cardottyn, yn dangos fod yn hoffach gantho fe y rhoddi, na 'r rhodd, a'i fod ef yn cyfrif yn gymmaint wneuthurdeb y peth, a'r ffrwyth a'r ennill sydd yn dyfod o hono. Pwy bynnac gan hynny a escaelusodd hed yn hyn roddi cardodau, gwybydded yn awr fod Duw yn eu gofyn hwy ar ei ddwylaw ef, a gwybydded yr hwn a fu hael wrth y tylawd, fod ei orchwylion duwiol ef yn gymmeradwy, a bod Duw yn eu derbyn hwy yn ddiolchus, am y rhai hefyd y tal ef yn ddau ac yn dri dyblyg: o her Diar. 19. 17. wydd felly y mae 'r gwr call yn dywedyd, yr hwn sydd yn cymmeryd trugaredd ar y tylawd, sydd yn rhoddi echwyn i'r Arglwydd, dros occr ac ennill halaeth, a'r ennill yn enwedig yw bywyd tragwyddol trwy haeddiant ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn gyda 'r Tad a'r Yspryd glan, y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth am elusennau.
CHwi a glywsoch fy annwyl garedigion, fod rhoddi elusenau i'r tylodion a'u cynnorthwyo hwy, yn amser anghenrhaid, mor gymmeradwy gan ein Iachawdwr Christ, fal y mae 'n cyfrif y peth a wnelir iddynt hwy er ei fwyn ef, gwedy ei wneuthur iddo ef ei hun. Chwi a glywsoch hefyd mor ddifrif y mae 'r Apostolion, y Prophwydi, a'r Tadau sanctaidd, a'r doctoriaid yn ein hannog ni i hynny. Ac chwi a welwch mor anwyl gan Dduw fu y rhai y mae 'r scruthur yn son eu bod yn rhoddwyr cardodau da. Am hynny os cyffro na'u samplau da hwy, na chyngor iachus y Tadau duwiol, na Christ ni, serch yr hwn yr ydym siccr o'i fwynhau trwy hyn o beth: neu os priswn y pethau hyn, ymddarparwn o hyn allan i ddangos i Dduw y gwasanaeth cymmeradwy ymma, gan fod yn barod i nerthu y rhai sydd dylodion ac mewn blinder.
Yn awr yr ail bryd yr ydwyf yn traethu i chwi am elusenau, mi a ddangosaf mor fuddiol yw eu harfer hwy, a pha ffrwyth a ddaw ini, os gwnawn hwy yn ffyddlon. Mae 'n Iachawdwr Christ yn dangos yn ei efengil, nad oes ennill i ddŷn er meddiannu 'r holl fyd a'i gyfoeth a'i ogoniant, os cyll ef ei enaid ei hun, neu os gwna fe Math. 16. 26. ddim, trwy 'r hyn y gellir ei wneuthur ef yn gaeth iangau, pechod neu dân vffernol. Trwy hyn y [Page 11] mae fe yn dangos nid yn vnic pa gymmaint y dlyem ofalu am iechyd yr enaid, yn fwy nag elw bydol, ond mae hyn hefyd yn gwasanaethu i gyffro 'n meddyliau ni, ac i'n cyffro ni yn ein blaen, i geisio 'n ddiescalus, a dyscu trwy hynny, pa fodd y mae ini gadw a chynnal dros fyth ein eneidiau mewn diogelwch: hynny yw, pa fodd y mae ini adnewyddu 'n iechyd, os bydd gwedy colli neu leihau, ac os bydd ef vnwaith gennym pa fodd y gallwn ei faenteinio ef. Ie mae fe trwy hynny yn ein dangos ni hefyd i gyfrif honno yn feddiginiaeth werthfawr ac yn dlws godidawg, yr hon sydd a'r fath rym a rhinwedd ynddi i gadw ac i gynnal tressor mor ddigyffelyb.
O herwydd os gwnawn ni gyfrif mawr o'r feddiginieth neu 'r eli a ddichon iachau amryw glefydau trymmion, a heintiau corphorol, mwy cyfrif lawer a ddylem ni ei wneuthur o'r hyn sydd a gallu ynddo ar yr enaid. Ac fal y gallem fod yn siccr ddigon o adnabod, ac o fod gennem mewn parodrwydd, y gyfarwyddyd sydd mor fuddiol, mae fe megis dyscawdwr ffyddlon yn dangos ei hun pa beth yw hi, a pha le y mae ini ei chael hi, a pha fodd y mae ini ei harfer a'i threfnu hi. O herwydd pan achwynwyd arno ef ac ar ei ddiscyblion yn dost gan y Pharisaeaid, ddarfod Luc. 11. 41. iddynt wradwyddo eu heneidiau wrth dorri traddodiadau 'r henuriaid am iddynt fyned at eu bwyd heb olchi eu dwylaw o'r blaen, yn ol arfer yr Iddewon: mae Christ yn atteb i'w cwyn ofergoelus hwy, gan ddangos iddynt y gyfarwyddyd orau i gadw eu heneidiau yn lân, er torri y fath drefnau ofergoelus; Rhoddwch elusen, medd ef, a phob peth y sydd lân i chwi: mae ef yn [Page 12] eu dyscu hwy; mai bod yn drigarog ac yn garedig i gynnorthwyo 'r tlawd, yw 'r vnig lwybr i gadw 'r enaid yn bur ac yn lân yngolwg Duw. Am hynny trwy hyn y dyscir fod rhoddi eluseneu Tob. 4. 10. yn fuddiol i lanhau yr enaid oddiwrth gyffaith a brychi pechod.
Mae 'r Yspryd glân yn dangos yr vn wers hefyd mewn llawer o leoedd o'r scrythyr sanctaidd, gan ddywedyd, fod trûgaredd ac elusenau yn gwared rhag pechod, yn cadw rhag angau, ac yn rhwystro 'r enaid i ddyfod i dywyllwch. Mawr yw 'r diogelwch gar bron y goruchaf Dduw, a all fod gan y rhai a ddangossant drugaredd a thostûri ar y rhai sydd mewn blinder: mae 'r pregethwr doeth, mab Sirach yn cadarnhau hyn, Ecclus. 29. 15. pan yw fe 'n dywedyd, fal y mae dwfr yn diffodd tân, felly fod trugaredd ac elusenneu yn gwrthwynebu pechodau. A siccr yŵ fod trûgarogrwydd yn oeri gwrês pechodau yn gymmaint ac na allant graffû ar ddŷn i'w ddrygu, neu os cyfyrddant ag ef neu waethygu arno trwy wendid, mae trugaredd yn y man yn eu sychu ac yn eu golchi hwy ymaith, megis meddyginiaethau ac eli i iachau eu clwyfau a'u clefydau tôst hwy.
Ac ar hyny ymae 'r tâd sanctaidd Cyprian yn cymmeryd achos i'n hannog ni i weithred trugarog rhoddi cardodau a chynorthwyo y tlawd, ac yno y mae ef yn ein rhybyddio ni i ystyried mor iachus ac mor fuddiol yw cynnorthwyo 'r anghenus, a nerthu 'r blinderog, trwy 'r hyn y gallwn lanhau 'n pechodau ac iachau ein enaidiau clwyfus.
Ond etto fe a ddywaid rhyw ddŷn, pe galle ein elusenau a'n gweithredoedd caredigol ni at y [Page 13] tlodion olchi ymaith ein pechodau ni a 'n cymmodi ni â Duw a 'n rhyddhau ni oddiwrth enbeidrwydd damnedigaeth, a 'n gwneuthur yn feibion ac yn etifeddion o deyrnas Dduw, yno y diddymmir haeddiant Christ ac ofer y tywalltwyd ei waed ef, yno y'n cyfiawnhair ni trwy ein gweithredoedd, fal y dywaid S. Pawl.
Ond deallwch, fy-ngharedigion, nad ydyw y lleoedd o'r Scrythyr a ossodwyd o'r blaen, nac athrawaieth y merthyr bendigedig Cyprian nac vn gŵr duwiol dyscedig arall, pan ydynt hwy wrth fawrhau braint, budd, ffrwhth a grym elusenau rhinweddol hael, wrth ddywedyd eu bod hwy yn golchi ymaith bechodau, ac yn ein dwyn i ffafor Duw; yn meddwl fod ein gwaith a'n gorchwyl caredig ni yn achos dechreuol o 'n cymmeriad ni ger bron Duw, neu y gellir golchi ymaith ein pechodau ni a'n purhau ni a'n glanhau ni oddiwrth holl gyffaith ein anwiredd, o fraint a theilyngdod elusen: O herwydd ni byddai hynny ond gwir anffurfio Christ a'i anrhaithio o'i ogoniant.
Ond hynny maent yn ei feddwl a hyn yŵ ystyr yr ymadroddion hyn a'r fath ymadroddion, ddarfodd i Dduw o'i serch yspysawl a'i fawr drugaredd tu ag at y rhai a ordeiniodd ef i iechydwrieth dragwyddol, felly gynnyg ei râd yn enwedigawl, ac iddynt hwythau ei dderbyn ef mor ffrwythlon megis er eu bod oblegid eu bywyd pechadurus oddi-allan o'r blaen yn blant digofaint a distryw: etto gan fod Yspryd Duw yn awr yn gweithio 'n gadarn ynddynt i vfydd-dod i ewyllys Duw a'i orchymmynion, maent yn cyhoeddi wrth eu gorchwylion, a'u bywyd [Page 14] oddi-allan wrth ddangos trugaredd a charedigrwydd at y tlawd yr hyn ni ddichon dyfod ond o yspryd Duw a'i râd Yspysawl, eu bod hwy yn ddiammau yn blant i Dduw gwedi eu hordeinio i fywyd tragwyddol. Ac felly megys wrth eu drygioni a'u hanuwiol fywyd yr oeddynt yn eu dangos eu hunain yn ol barn dynnion (y rhai a gan lynant yr agwedd oddi-allan yn vnig) eu bod yn wrthodedig, a chwedy eu troi heibio: felly yn awr wrth eu hufydd-dod i sanctaidd ewyllys Duw, ac wrth eu trugarogrwydd a'u mawr dosturi, yn yr hyn y dangossant hwy eu bod yn gyffelyb i Dduw yr hwn yw ffynon a ffrŵd pob trugaredd, y dangossant yn eglur ac yn oleu yngolwg dynion mai plant Duw ydynt a'i etholedigion ef i iechydwrieth.
O herwydd fal nad yw y ffrwyth da yn achos o fod y pren yn dda, ond rhaid yw i'r pren yn gyntaf fod yn dda, cyn y gallo ef ddwyn ffrwyth da: felly nid ydyw gorchwylion da dŷn yn achosion o fod dŷn yn dda, ond fe a wnair yn gyntaf yn dda trwy Yspryd a rhâd Duw yr hwn sydd yn gweithio 'n rymmus ynddo ef, ac yn ol hyny y mae fe 'n dwyn allan ffrwythau da? Ac yno fal y mae ffrwythau da yn dangos ac yn cyhoeddi daioni 'r pren, felly y mae gweithredoedd da tru-garog dŷn yn prosi ac yn cyhoeddi daioni yr hwn a'u gwnelo hwynt, yn ol ymadrodd Christ; wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwynt.
Os gwrthddadleu neb fod dynion beius drwg weithiauwrth eu gweithredoedd yn ymddangos yn dduwiol ac yn rhinweddol iawn, mi a attebaf fod y grabyssyn, a'r beren dagu, yn edrych weithiau [Page 15] oddi allan mor goch ac mor ber a ffrwythau daionus da. Ond fe fydd hawdd i'r gwr a gno ac a brofo, farnu rhwng sur chwerwder y naill a blas peraidd y llall; Ac megys y mae 'r gwir Gristion mewn diolchgarwch calon am ryddhâd ei enaid yr hwn a brynwyd trwy farwolaeth Christ, yn dangos yn fwyn trwy ffrwyth eu ffydd, ei vfyddod i Dduw; fellŷ y mae 'r llall megis marchnadwr gydâ Duw yn gwneuthur y cwbl er ei ennill ei hunan gan dybiaid y gall ef enill nef trwy haeddedigaeth ei weithredoedd, ac mae ef yn anffurfo ac yn tywyllu gwerth gwaed Christ, yr hwn yn vnig a weithiodd ein glanhâd ni.
Am hynny ystyr yr ymadroddion hyn yn yr scrythyrau ac scrifennadu duwiol eraill, Mae elusenau yn golchi ein pechodau ni ymaith, a thrugaredd at y tlawd yn deleu ein anwireddau ni, yw hyn, ein bod ni wrth wneuthur y pethau hyn yn ol ewyllys Duw a'n dyled ein hunain, yn cael golchi ein pechodau ymaith, a deleu ein anwireddau, nid trwy eu haeddiant hwy, onid trwy ras Duw, yr hwn sydd yn gweithio oll yn oll, a hyny o oblegid yr addewid a wnaeth duw i'r rhai a vfyddhânt i'w orchymynion ef: fal y cyfiawnhaid yr hwn sydd wirionedd wrth gyflawni y gwirionedd sydd ddyledus ar ei addeŵid ef.
Mae elusenneu yn golchi ymaith ein pechodau ni am fod yn wiw gan Dduw ein cyfrif ni yn burion ac yn lân pan fythom ni yn eu gwneuthur hwy er ei fwyn ef, ac nid am eu bod hwy yn haeddu ein glanhad ni, neu am fod y fath rym a rhinwedd yndddynt hwy eu hunain.
Mi a wn fod rhai yn ymroddi yn ormod i ymffrostio [Page 16] am eu gweithredoedd da, ac na byddant hwy bodlon ir atteb hwn: ac nid rhyfedd, O herwydd ni ddichon vn atteb fodloni na gwsnaethu y fath ddynion: am hyny ni a adawn y rhai hyny i'w rhwystr cyndyn eu hunain, ac a ddylynwn y duwiol rhesymol, y rhai megis y maent yn gwybod ac yn eu siccrhau eu hunain, fod pob daioni, pob haelioni, pob trugaredd, a phob doniau a phob maddeuant o bechodau, a pha beth bynac a ellir ei alw yn dda ac yn fuddiol i'r corph neu i'r enaid, yn dyfod yn vnig oddiwrth drugaredd Duw, a'i vnig serch ef, ac nid o honynt hwy eu hunain: felly er cymmaint, er mor odidawg weithredoedd da a wnelont, etto nid ymchwyddant byth gan ofer ymddired ynddynt.
Ac er eu bod hwy yn clywed ac yn darllen yngair Duw ac yngweithredoedd gwŷr duwiol eraill fod elusenau, trugaredd a charedigrwydd yn golchi ymaith bechodau ac yn deleu anwireddau, etto nid ydynt hwy 'n rhyfygus, ac yn falch yn glynu wrthynt nac yn ymddired ynddynt, nac yn ymstrostio am danynt, megis y gwnaeth y Pharisai balch, rhag iddynt gydâ 'r Pharisai gael eu damnio: ond gydâ'r Publican gostyngedig tlawd, maent yn addef eu bod yn bechaduriaid truain yn annheilwng i edrych tu a'r nef: gan alw ac ymbil am drugaredd fal gydâ 'r Publican y cyhoedder hwy gan Christ yn gyfiawn.
Mae 'r duwiol yn dyscu pan ddywedo 'r Scrythyr fod trwy weithredoedd da trugarog, yn ein cymmodi ni â Duw, fod yn ein dyscu ni trwy hyny, i adnabod beth y mae Christ drwy ei gyfryngad a'i ddadleuad yu ei enill ini gan ei [Page 17] Dâd, pan fyddont ni vfydd i'w ewyllys ef, ie maent hwy trwy 'r fath ymadroddion yn dyscu argoel fawr o ddiddanus a godidawg serch a chariad Duw, yr hwn sydd yn tadogi arnom ni a'n gorchwylion y peth trwy ei Yspryd y mae ef yn ei weithio ynom ac yn ei beri ini trwy ei rad. Ac etto er hynny, maent yn gweiddi gydâ S. Pawl, Oh ddynion truain ydym ni: ac yn ad nabod (fal y dangos Christ) darffo iddynt wneuthur y cwbl oll, nad ydynt onid gweison anfuddiol; a chydâ 'r bendigedig frenin Dafŷdd, oblegid cyfiawn farn Duw, maent yn crynu ac yn dywedyd, Pwy a all aros O Arglwydd, os rhoddi di farn yn ol ein haeddiant ni?
Fal hyn y maent hwy yn ymostwng ac y cyfodir hwy gan Dduw. Maent yn eu cyfrif eu hunain yn wael ac a gyfrifir gan Dduw yn bur ac yn lân, maent yn eu damnio eu hunain, ac a gyfiawnhair gan Dduw. Maent yn tybied eu bod eu hunain yn an-nheilwng o'r ddayar a chan Dduw y cyfrifir hwy yn deilwng o deyrnas nef.
Fal hyn y dangosir hwy trwy air Duw i feddwl yr hyn sydd inion am drugarog gyfrannad elusenau, athrwy yspyssawl ddaioni Duw a'i drugaredd, hwy a wnair yn gyfrannogion o'r ffrwythau a addawodd ei air ef.
Canlynwn gan hynny eu siamplau hwy, a dangoswn yn vfydd yn ein bywyd y gweithredoedd-hynny o drugaredd, y rhai a orchymynir ini, a bydded gennym iniawn feddwl a barn am danynt, fel y discir i ni; felly y byddwn ni megis hwyntau, yn gyfrannogion, ac y cawn dderbyn y ffrwythau a'r gobrwy-au y rhai a [Page 18] ganlynant y fath dduwiol fywyd, felly y cawn trwy brofi wybod, pa ffrwyth a pha ennill y sydd yn dyfod o roddi cardodau a chynnorthwyo 'r tlawd.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth am elusenau.
CHwi a glywsoch ddwy ran eisoes o'r traethawd am elusenau.
Y cyntaf, mor hoff ac mor gymeradwy ger bron Duw yw eu gwneuthur hwy. Yr ail mor anghenrhaid ac mor fuddiol yw ini ymroi iddynt.
Weithian yn y drydedd ran mi a symmudaf y rhwystr y sydd yn rhwystro llawer o honom i'w gwneuthur hwy.
Mae llawer pan glywont mor gymeradwy ger bon Duw yw rhoddi cardodau, a phelled y mae Duw yn ystyn ei serch tuag at y rhai trugarog, a pha ffrwythau a pha ennill y sydd yn dyfod iddynt o ddiwrth hynny, maent yn damuno o ewyllys eu calonau ar allel cyrhaeddyd y doniau hyn, a chael eu cyfrif gan Dduw ymmhlith y rai a garai ef ac a wnai erddynt. Ond etto y mae trachwant cybyddus yn tynnu y rhai hyn yn eu hôl fal na allant roddi vn ddimmau, nac vn dafell o fara i'r tlawd, er cael bod yn deilwng o ddoniau Duw, ac felly dyfod i'w ffafor ef. O herwydd y maent yn ofni 'n wastad, rhag wrth roddi 'n fynych, er na byddai hynny ond ychydig ar vnwaith, iddynt dreulio [Page 19] eu da a'u tlodi eu hunain, fal na allont yn y diwedd fyw arnynt eu hunain, ond y gorfydd arnynt fyw ar elusenau rhai eraill.
Ac felly y maent yn ceisio Ymescuso. ymescussodi i'w cadw eu hunain allan o serch Duw: ac y dewisant yn hytrach trwy gybydd-dod calon, bwyso at y diawl, na▪ thrwy garedig drugarogrwydd ddyfod at Ghrist, neu oddef Christ i ddyattynt hwy.
Oh na byddai ryw feddig cynnil, cyfarwydd, yr hwn a allai Dywallt. arllwys o honynt yr huwmor llyggredig hon, yr hon y sydd yn mallu nid eu cyrph hwy yn vnig, ond eu meddyliau hefyd, ac felly gan lygru eu heneidiau hwy, yn dwyn eu cyrph hwy a'u heneidiau i enbeidrwydd tân vffern.
Yn awr rhag bod neb o'r fath hyn yn ein plith ni, fy-ngharedigiō, chwiliwn yn ddiescaelus am y meddyg hwnnw, yr hwn yw Iesu Grist, a thrafaeliwn yn ddifrif ar iddo ef o'i fawr drugaredd ein iawn-gyfarwyddo ni, a rhoddi ini feddyginiaeth bresenol yn erbyn clefyd mor enbaid.
Gwrando di am hynny yr hwn wyt yn ofni rhag wrth roddi i'r tlawd i ti dy ddwyn dy hun i gardotta. Byth ni ellir treulio na difa yr hyn a gymerech ti oddiwrthid dy hun i'w roddi i Grist; yn yr hyn na chred fi, ond os oes gennid ffydd, ac os ydwyd yn wir Gristion, crêd yr Yspryd glân, crêd awdurdod gair Duw, yr hwn sydd yn dy ddyscu di fal hyn.
O herwydd fal hyn y dywaid yr Yspryd glân trwy enau Salomon, Yr hwn a roddo i'r tlawd bŷth ni bŷdd eisiau arno.
[Page 20] Mae dynion yn tybied mai wrth bentyrru a chadw yn wastadol yr ânt hwy yn gyfoethogion yn y diwedd, ac mai wrth gyfrannu a gwario, ie am bethau angenrheidiol, duwiol, yr ânt hwy yn dlodion. Ond mae 'r Yspryd glân yr rhwn sydd yn gwybod pob gwirionedd, yn dangos ini wers arall wrthwyneb i hon. Y mae fe yn dangos ini fod rhyw fath ar draul yr hwn byth ni leiha y golud, a rhyw fath ar gadw yr hwn a ddwg ddŷn i ddygyn dlodi: O herwydd, lle mae fe 'n dywedyd na bydd byth diffyg ar elusenwr da: mae ef yn dywedyd ym-mhellach, Ond yr hwn a drotho ei lygaid oddiwrth y rhai sydd mewn angen a ddaw ei hun i dlodi mawr. Mor bell am hynny yw barn dy▪n oddiwrth farn yr Yspryd glan.
Mae'r Apostol sanctaidd yr hwn oedd yn llawn o'r Yspryd glân, ac a wnaethid yn gydnabyddus a dirgel ewyllys Duw, yn dangos na thlodir byth yr hwn a roddo gardodau 'n hael; yr hwn, medd ef, sydd yn rhoddi hâd i'r hauwr a rŷdd hefyd fara 'n ymborth i'r bwyttawr, ie fe a amlha eich hâd chwi ac a chwanega ffrwyth eich cyfiawnder. Nid yw ddigon gantho ddangos iddynt na bydd diffyg arnynt, ond mae ef 'n dangos iddynt hefyd pa fodd y darpara Duw iddynt. Yn y modd y mae ef yn darparu hâd i'r hauwr wrth ei amlhau a'i gynnyddu ef, felly yr amlhâ ef eu da hwy, ac y chwanega ef hwynt, ac y bydd ganthynt amledd mawr.
A rhag tybied o honom nad ydyw ei ymadroddion ef ond geiriau ac nid gwirionedd, mae ini siampl o hyn yn y liyfr cyntaf o'r brenhinoedd, [Page 21] yr hon y sydd yn cadarnhau ac yn selio hyn megis gwironedd siccr.
Pan nad oedd gan y weddw dlawd, yr hon a dderbyniodd Aethwlad exul. afwlad brophwyd Duw Elias, onid dyrnaid o flawd mewn cîst, ac ychydig o oel mewn stên, o'r hyn yr ydoedd ar fedr gwneuthur teisen iddi ei hun a'i mâb, fal gwedy bwytta hynny y hyddent feirw.
O herwydd yn y newyn mawr hwnnw nid oedd dim lluniaeth chwaneg i'w gael, etto pan roddodd hi ran o hynny i Elias, a Twyllo. siommi ei bola newynog ei hun i'w gynorthwyo ef yn drugarog, hi a fendithied felly gan Dduw, fal na ddarfu na 'r blawd na 'r oel, yr hŷd y parhaodd y newyn, ond hwy a barhaesant dros yr holl amser hwnnw: ond o hynny y cafas y prophwyd Elias a hithau a'i mab ddigonol ymborth a llynniaeth.
Oh ystyriwch y siampl hon, chwi bobl anghredadwy, anffyddlon, gybyddus, y rhai ydych yn angrhedu gair Duw, ac yn tybied leihau o'i allu ef.
Nid oedd gan y wraig dlawd hon yn yr hîr a'r dygyn brinder hwnw onid vn dyrned o flawd, ac ychydig bach o oel mewn stên fach, yr ydoedd ei hunig fab hi ym-mron marw o newyn ger bron ei llygaid hi, a hithau yn debyg y gurio i farwolaeth ac i ddyddfu gan newyn: ac etto pan ddaeth y prophwyd tylawd a cheisio rhan, yr ydoedd hi mor gofus am drugaredd, ac y gellyngai hi yn angof ei chyfyngder ei hun, ac yn gynt nac y gollynge hi heibio yr amser i roi elusen, ac i weithio gwaith cyfiawnder, hi a fentrai ei bywyd ei hun, a bywyd ei hunig fab.
A chwi, y rhai sydd gennwch amledd o fwyd [Page 22] a diod, a llawer o ddillad a 'r pryfed yn eu bwytta, ie llawer o honoch a Crugau. phentyrrau o aur ac arian, a'r hwn sydd gantho leiaf sydd a mwy nâ digon, yn awr yn yr amser hwn, pan nad oes (i Dduw y bytho 'r diolch) ddim newyn mawr yn eich gwascu chwi: er bod eich plant yn cael eu dilladu 'n dda, a'u bwyd yn ddigonol, ac heb vn achos gan newyn i ofni enbeidrwydd angeu; a fwriwch yn eich pennau ofn ac enbeidrwydd prinder anghyffelyb, yn gynt nag y cyfrannoch vn dryll o'ch gormodded i gynorthwyo ac i nerthu Christ dlawd newynog, noeth, yr hwn sydd yn dyfod i gardotta wrth eich drws chwi. Ni fwriodd y weddw druan dlawd hon vn perigl am y trueni a'r diffyg a alle ddyfod arni, ni wan-obeithiodd hi yr addewidion a wnaeth Duw iddi trwy y prophwyd, ond hi a aeth yn y man i dorri newyn prophwyd Duw, ie gan ystyried ei anghen ef ym-mlaen ei hanghen ei hun.
Ond nyni megis brynti anghredadwy, cyn rhoddi vn hatling a fwriwn fil o beriglon, pa vn a wna y peth a roddwn i'r tlodion a'i gwneuthur iniles ai peidio, pa vn a wna ai bod yn rhaid ini wrtho ailwaith ar ryw bryd arall, ac oni allasid gwario hynny yn well mewn rhyw ffordd arall, fal y mae 'n haws gwascu hoel gadarn allan o bôst caled, fal y dywaid y ddihaureb, nâ gwascu ffyrllin allan o'n bysedd ni.
Nid oes nac ofn, na chariad Duw ymmlaen ein llygaid ni, ni a wnawn mwy cyfrif o hatling nag o geisio teyrnas Dduw, neu ofni carchar diawl.
[Page 23] Gwrandewch am hynny, chwi gybyddion anhrugarog, pa beth a fydd diwedd y gorchwilion annrhugarog hyn, mor siccr ac y porthodd Duw y weddw hon, ac ychwanegodd ef ei stor hi, fal y bu ganthi ddigon, ac na bu arni ddim prinder pan oedd eraill yn newynu, felly yn ddiammau y plaa Duw chwithau â thlodi ynghenol amledd. Pan fyddo eraill mewn cyflawnrwydd ac yn cael eu llanw yn ddigonol, chwi a ddarfyddwch ac a dreulwch ymmaith, fe ddinistrir eich ystôr, fe a dynnir eich da chwi oddiwrthych, fe a Ddifhair. ddifethir eich holl ogoniant chwi a'ch cyfoeth, ac chwi a geisiwch mewn tristwch ac ocheneidiau, yr hyn pan ydoedd gennych a allasech chwi ei fwynnhau eich hunain yn heddychlon a'i roddi i eraill hefyd yn dduwiol, ac nis cewch.
Am eich annhrugarogrwydd chwi tuag at eraill, ni chewch neb a ddangoso i chwi drugaredd. Chwi y rhai oedd genych galonnau caled tuag at eraill, a gewch holl greaduriaid Duw mor galed tuag attoch chwi a phres neu haŷarn.
Och pa ynfydrwydd a gwallgof sydd yn eich meddyliau chwi, fal mewn matter o siccrwydd a gwirionedd na chredwch chwi, i'r gwirionedd, yr hwn sydd yn dwyn testiolaeth 'ir peth siccraf ac a all bod. Mae Christ yn dywedyd os ceisiwn deyrnas Duw yn gyntaf, a'i gyfiawnder ef, ni adewir ni mewn eisiau, fe a roddir pob peth arall ini yn gyflawn. Nage meddwn ninnau, mi a edrychaf yn gyntaf ar allu byw fy hun ac ar fod digon gennyf imi fy hun, ac i'm tolwyth, ac os bydd dim dros ben mi ai rhoddaf i ennill ffafor a serch Duw, ac yno fe gaiff y tylodion ran gydâ mi.
[Page 24] Edrychwch adolwg mor wrthgas yw barn dŷn. Mae arnom fwy o ofal i borthi'r gelain, nac ofn gweled dinistr ein eneidiau. Ac fal y dywaid Cyprian, tra fôm yn ammau rhag darfod ein Sermone de elemosyna. golud wrth fod yn rhy haelion, yr ydym ni yn gwneuthur na bo dim an mau y derfydd ein hywyd ni a'n iechyd wrth beidio a bod yn haelion, wrth fod yn ofalus rhag treulio 'n golud: yr ydym ni 'n ddiofal am ein treulio ein hunain, yr ydym ni yn caru Mammon, ac yn colli ein eneidiau: yr ydym yn ofni rhag dinistr ein tref-tadaeth oddiwrthym ni, ond nid ydym ni yn ofni rhag ein dinistr ni o'i blegid ef, fal hyn yr ydym ni yn caru 'n gyndyn wrthgas yr hyn a ddylyem ni ei gashau, ac yn cashau yr hyn a ddylyem ei garu, yr ydem yn escaelus lle dylyem fod yn ofalus, ac yn ofalus, lle nid ydyw raid.
Mae 'r ofn ofer hwn rhag bod eisiau arnom ni ein hunain os rhoddwn ni i'r tylodion, yn gyffelyb iawn i ofn plant a ffyliaid, y rhai pan welant y gwydr yn discleirio 'n loyw, a dybygant yn y man mai mellten lluched yw, etto ni bu loywder gwydr erioed yn lluched, felly ninnau, pan fôm yn tybied y dichon gŵr ddyfod i dylodi, wrth dreulio ar y tylawd, yr ydym ni mewn ofn ofer: o herwydd ni chlywsom ac ni wybuom ddyfod neb er ioed i gyfyngderau wrth wneuthur hynny, na'i adel yn ddigynhorthwy, ac yn ddiymgeledd gan Dduw. Nagê yr ydym ni yn darllen o'r gwrthwyneb yn yr Scruthur fal y dangoswyd eisoes, ac y gellir prwfo wrth aneirif o dystiolaethau a siamplau pwy bynnac a wasanaetho Duw yn ffyddlon ac yn ddiragrith, mewn vn rhyw o alwedigaeth, ni oddef Duw ef i waethygu, llai o [Page 25] lawer i gael ei ddistrywo.
Mae 'r Ysyryd glan yn dangos trwy Salomon, na edy Duw enaid y cyfiawn i farw o newyn. Ac am hynny y dywaid Dafydd wrth bawb o'r trugarogion, Ofnwch Dduw ei saint ef, o Psal. 34. 9. 10. herwydd ni bydd eisiau dim ar y rhai a'i hofnant ef. Mae ar y llewod eisiau ac maent hwy yn goddef newyn, ond ni bydd ar y rhai sydd yn ofni 'r Arglwydd eisiau dim daionus. Diar 10. 3.
Pan oedd Elias yn yr anialwch fe a'i porthodd Duw ef trwy wenidogaeth cigfrân, yr hon forau a hwyr a hebryngodd iddo ef ymborth ddigon.
Pan oedd Daniel gwedy ei gau yngogof y llewod, fe ddarparodd Duw fwyd iddo ef, ac a'i danfonodd yno iddo: ac yno y cyflawnwyd ymadrodd Dafydd, mae eisiau ar y llewod ac maent yn goddef newyn ond ni bydd ar yr rhai sydd yn ofni 'r Arglwydd eisiau dim da: o herwydd yr hŷd yr oedd y llewod y rhai yr oeddid ar fedr eu porthi ar ei gnawd ef, yn rhuo gan newyn, ac yn chwennych eu hysclyfaeth ar yr hwn nid oedd ganthynt allu, er ei fod ef yn eu gwydd hwy: etto yn yr ennyd hynny y cafodd ef ei borthi 'n gyflawn gan Dduw, yr hwn yr oeddid ar fedr bod i'w gig borthi 'r llewod.
Mor alluog y mae Duw yn gweithio i gadw ac i faenteinio y rhai y mae fe 'n eu caru: mor ofalus hefyd yw efe i borthi y rhai mewn vn stât neu alwedi gaeth a'i gwasanaethant ef yn ddiragrith. Ac a dybygwn ni yn awr yr anghofia ef ni os byddwn vfydd i'w air ef, ac os tosturiwn wrth y tylawd yn ôl ei ewyllys ef? Mae fe 'n rhoddi ini bob cyfoeth cyn ini wneuthur iddo efddimg wasā aeth am danynt, ac a âd efni mewn eisiau pethau [Page 26] anghenrhaid pan fythom yn gwueuthûr iddo ef wasanaeth cywir? a feddwl neb y gwrthyd Christ ac y gad ef yn ddiymborth yr hwn sydd yn porthi Christ? neu a balla Christ o bethau dayarol i'r rhai y mae fe 'n addo pethau nefol, am ei wasanaethu ef yn gywir?
Am hynny, fyngharedigion frodyr, ni all bod diffyg arnom ni vn amser wrth roddi elusenau i eraill, neu ein gorthrymmu ni gan brinder, y rhai ydym yn porthi yr anghenus. Mae hyn yn wrthwyneb i air Duw, mae 'n wrthwyneb i'w addewid ef, mae 'n wrthwyneb i naturiaeth a chynneddfau Christ oddef y pethau hyn: dichellgar ddychymmig diafol ydyw ein hannog ni i gredu hynny.
Am hynny na safwn am roddi cardodau yn rhwydd, ac ar hynny yr ymddiredwn y dyry daioni Duw i ni ddigonolrwydd a helaethrwydd, yr hŷd y bythō byw yn y bywyd trangcedig hwn, ac yn ôl treulio'n dyddiau 'n ddaionus ymma yn ei wasanaeth ef a chariad ein brodyr, fe a 'n coronir ni â gogoniant tragwyddol i deyrnasu gydâ Christ ein Iachawdwr yn y nef: i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Homili neu bregeth o blegid genedigaeth ein Iachawdwr Iesu Grist.
YM-mhlith yr holl greaduriaid a wnaeth Duw yn y dechreuad yn odidog ac yn rhyfeddol yn eu rhywogaethau, nid oedd vn (fel y tystiolaetha 'r Scrythyrau) i'w gyffelybu i ddŷn mewn vn peth onid odid. hayachen: yr hwn mewn corph ac enaid oedd yn rhagori ar yr holl greaduriaid eraill, yn gymmaint ac y mae 'r haul mewn disclairdeb a goleuni. llewyrch yn rhagori ar bob seren fechan yn y ffurfafen. Ef a wnaethpwyd ar lun a delw Dduw, ef a gynnyscaeddwyd â phob rhyw ddoniau nefol, nid oedd brycheuyn o aflendid ynddo ef, yr oedd ef yn iach ac yn berffaith ym-mhob rhan oddiallan ac oddifewn, yr oedd ei reswm ef yn anllygredig, ei ddeall yn bur ac yn dda, ei ewyllys yn vfydd ac yn dduwiol, ef a wnaethpwyd yn hollawl yn gyffelyb i Dduw, mewn cyfiawnder, mewn gwirionedd, ac ar ychydig eiriau, ymmhob rhyw berffaithrwydd.
Wedi ei greu ef a'i wneuthur fel hyn, fe a etholodd yr Holl-alluog (yn arwydd o'i fawr gariad tu ag atto ef) le yspysol o'r ddayar iddo ef, paradwys wrth ei henw, lle yr oedd ef yn byw ym-mhob llonyddwch a hyfrydwch, a chantho fawr halaethrwydd o olud bydol, ac heb arno eisiau dim ac a allai yn gyfion ei ddymuno neu ei chwennych O blegid, fel y dywedir, fe a'i gwnaeth Duw ef Psal. 8. 6. yn llywodraethwr ar holl weithredoedd ei ddwylo, [Page 28] ac a osododd bob peth tan ei draed ef, defaid ac ychen oll, ac anifeiliaid y maes hefyd, holl ehediaid y nefoedd a holl byscod y mor, i'w harfer hwy yn ôl ei ewyllys, fel y bydde raid iddo wrthynt. Ond oedd hyn yn ddrŷch ar bob perffeithrwydd? Ond oedd hon yn stât gyflawn berffaith-gwbl fendigedig? A ellid gan iawn ychwanegu dim at hyn, neu a ellid dymuuo dedwyddwch mwy yn y byd hwn?
Ond fel y mae naws a naturiaeth pob dŷn yn gyffredinol, yn amser llwyddiant a hawddfyd i ollwng yn angof nid yn vnig hwynt eu hunain, ond Duw hefyd: felly y gwnaeth Addaf y dyn cyntaf, yr hwn pan nad oedd iddo ond vn gorchymmyn oddiwrth Dduw, sef na bai iddo fwytta o ffrwyth pren gwybodaeth da a drwg, er hynny yn anfeddylgar iawn neu yn hytrach yn ewyllysgar ef a dorrodd y gorchymmyn hwnnw, gan ollwng tros gof orchymmyn caled ei wneuthurwr, a rhoddi clust i hudoliaeth ddichellgar y felldigedig sarph y diafol. O'r hyn y digwyddodd fel megis o'r blaen yr oedd ef yn fendigedig, felly yr aeth ef yn awr yn felldigedig, megis o 'r blaen y cerid ef, felly yn awr y ffiaiddid ef, megis o'r blaen yr oedd ef yn brydferth ac yn werthfawr, felly yn awr yr oedd ef yn waelaf ac yn ddiyslyraf yngolwg ei Arglwdyd a 'i wneuthurwr; Yn lle bod yn ddelw Dduw, fe a aeth yn awr yn ddelw diawl; Yn lle bod yn ddinesydd nef, ef a aeth yn gaethwas i vffern, heb fod gantho ynddo ei hun vn rhan o'r purder ar 'glendid oedd ynddo o'r blaen, ond gwedi ei frychu a'i anurddo, megis nad oedd ef yn awr ond telpyn o bechod, ac am hynny wrth gyfiawn farn Duw ef a ddamnwyd [Page 29] i angau tragwyddol.
A phe buase y bla ddirfawr dost hon yn aros ar Addaf yn vnig, yr hwn a bechodd yn gyntaf, hi a fuasei lawer esmwythach, ac a allesid yn haws ei goddef. Ond ni chwympodd hi arno ef yn vnig, ond hefyd ar ei heppil a'i blant ef yn dragywydd, fel y dygai holl rywogaeth cnawd Addaf yr vn cwymp a chospedigaeth ac a haeddasai eu hên dâd hwy yn gyfiawn am ei fai. Mae S. Paul yn y bummed bennod at y Rhufeiniaid yn dywedyd Rom. 5. 12. ddyfod y cwymp ar bawb i ddamnedigaeth trwy bechod Addaf ei hun, ac mai trwy anufydddod vn dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid. Wrth yr hyn eiriau y'n dyscir ni, fel megis yn Addaf y pechodd pob dŷn yn gyffredinol, felly hefyd yn Addaf y derbyniodd pob dyn yn gyffredinol wobr pechod, hynny yw, myned yn farwol ac yn gaethion i angau, heb genthynt ddim ynddynt eu hunain ond tragwyddol ddamnedigaeth corph ac enaid. Hwy a aeth ant (fel y Psal. dywaid Dafydd) yn llygredig ac yn ffiaidd, hwy a aethant oll oddiar yr iawn ffordd, nid oes vn yn gwneuthur daioni, nac oes vn.
Oh pa stât druan flinedig oedd hon, fod i bechod vn dŷn ddinistrio a chondemno yr holl ddynion, fel na ellid edrych am ddim yn yr holl fyd, ond gloeson. gloes angeu a phoenau vffern? A fuasei ryfeddod yn y byd pe buasei ddyn yn cwympo yn hollawl i anobaith, ac yntef gwedi cwympo fel hyn o fywyd i farwolaeth, o iechydwriaeth i ddistryw, o nef i vffern? Ond wele ddirfawr ddaioni Duw a'i dirion drugaredd ef yn hyn o beth! Er bod anwiredd a pechadurus ymddygiad dŷn yn gyfryw ac na haeddai mewn vn modd faddeu iddo, [Page 30] etto rhag ei fod yn llwyr noeth o bob gobaith a chyssur erbyn yr amser a ddauai, fe a ordeiniodd gyfammod newydd, ac a wnaeth addeiwid siccr o hono, hynny yw y danfonai ef Messias neu gyfryngwr i'r byd, yr hwn a wnai eiriol, ac a'i gosodai ei hun yn attaliaeth rhwng y ddwyblaid, i esmwytho llid a digofaint Duw yn erbyn pechod, ac i waredu dŷn allan o'r flinedig felldith a'r melldigedig drueni y cwympasai ef iddo, wrth fod yn anufydd i ewyllys a gorchymmyn yr vnig Arglwydd ar'gwneuthurwr.
Yr ammod a'r addewid hwn a wnaethpwyd yn gyntaf i Addaf ei hun, yn y man ar ol ei gwymp, fel yr ydym ni yn darllein yn y drydedd o Genesis, lle y dywedodd Duw wrth y sarph yn y modd hyn, Gelyniaeth a osodaf rhyngot ti a'r Gen. 3. 15. wraig, a rhwng dy had di a'i had hitheu, efe a yssiga dy ben di, a thitheu a yssigi ei sodl ef. Yn ol hynny yr adnewyddwyd y cyfammod hwn yn helaethach ac yn oleuach i Abraham, lle yr addawodd Gen. 12. 3. Duw iddo, y bendithid holl genhedloedd a theuluoedd y ddayar yn ei hâd ef. Trachefn y parhawyd ac y cadarnhawyd yr addewid ymma i Isaac, yn yr vn dull ar eiriau, ac y gwnaethpwyd Gen. 16. 4. i'w dâd ef o'r blaen.
Ac er mwyn na bai i ddynion anobeithio, ond byw yn wastadol mewn gobaith, ni orphwysodd yr Holl-alluog Dduw o gyhoeddi, ac adrodd a chadarnhau a pharhau yr vn addewid, trwy amryw ac amrafael dystiolaethau ei brophwydi, y rhai er sicrhau 'r peth yn well, a brophwydasant am yr amser a'r lle a'r modd a'r dull y genid ef, am flinderau ei fywyd ef, dull ei angau ef, gogoniant ei adgyfodiad ef, y modd y derbyniai [Page 31] ef ei deyrnas ac y gwarede ei bobl, a phob gogylcheddau eraill a berthynant i hynny.
Esaias a brophwydodd y genid ef o forwyn ac y gelwid ef Emmanuel. Micheas a brophwydodd y genid ef yn Bethlehem dinas yn Iudea. Ezechiel a brophwydodd y * daue ef o lwyth a hiliogaeth Dafydd. Daniel a brophwydodd y gwasanathai 'r holl genhedlaethau ac iaithoedd ef. Zacharias a brophwydodd y dauai ef mewn tlodi yn marchogaeth ar assen. Malachi a brophwydodd y danfonai ef Elias o'i flaen yr hwn oedd Ioan fedyddiwr. Ieremi a brophwydodd y gwerthid ef er deg dryll ar vgain o arian, &c.
A hyn oll a wnaethpwyd fel y coelai ac y cyflawn gredai ddynion yr addewid a 'r ammod a wnaeth Duw i Abraham a'i hiliogaeth ynghylch prynedigaeth y bŷd.
Yn awr, fel y dywed yr Apostol Paul, pan ddaeth cyflawnder yr amser, hynny yw cwblhâd a chylch y blynyddoedd a osodasid o'r dechreuad, yna y danfonodd Duw, yn ol ei gyfammod a'i addewid, y Messias i'r byd, yr hwn a elwid hefyd yn gyfryngwr, nid cyfryw vn ac oedd Iosuah, Saul neu Ddafydd, ond cyfryw vn ac a warede ddynion oddiwrth chwerw felldith y gyfraith, ac a wnai gyflawn iawn trwy ei angau tros bechodau yr holl bobl, hynny yw fe a ddanfonodd ei anwyl a'i vnig fab Iesu Ghrist, yr hwn (fel y dywaid yr Apostol) a anwyd o wraig, ac a wnaethpwyd tan y gyfraith, fel y gwaredai ef y rhai oeddynt tan gaethiwed y gyfraith, a'u gwneuthur hwy yn blant i Dduw trwy fabgynnwys.
[Page 32] Onid oedd hyn yn gariad mawr rhyfedd tu ag attom ni y rhai oeddym elynion goleu cyhoeddus iddo ef? tuag attom ni y rhai oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, a thewynnion tân vffern? yn hyn, medd Ioan sant, yr ymddangosodd mawr gariad Duw, am iddo efddanfon ei vnig fab i'r byd i'n gwared ni pan oeddym elynion digasog iddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni ei garu ef, ond am iddo ef yn caru ni, a danfon ei fab i fod yn iawn ac yn gymmod tros ein pechodau ni. S. Paul yntef sydd yn dywedyd, Ro. 5. 6. Christ pan oeddym yn ddinerth, yn yr amser, a su farw dros yr annuwiol. Diau mai prin y hydd vn farw tros vn cyfiawn. Er hynny tros vn da fe allai y bydde vn farw. Etto mae Duw yn dangos ei gariad tu ag attom ni, o blegid a ni etto yn bechaduriaid farw o Ghrist trosom.
Y gyffelybiaeth hon a'r cyfryw y mae 'r Apostol yn eu harfer i helaethu ac i osod allan dirion drugaredd Duw a'i fawr ddaioni ef a ddangoswyd tu ag at ddynion, wrth ddanfon iddynt Iachawdwr o'r nef, yr hwn yw Christ yr Arglwydd. Yr hyn ddawn, ym-mhlith eraill, sydd gymmaint ac mor rhyfedd ac na ddichon tafod ei draethu, na chalon ei feddwl, llai o lawer y gellir rhoddi cwbl ddiolch i Dduw am dano.
Ond ymma y mae ymryson mawr rhyngom ni a 'r Iddewon, pa vn a wna ai bod yr Iesu hwnnw a aned o'r forwyn Fair yn wir Messias a gwir Iachawdwr y byd a addawyd ac a brophwydwyd cyhyd o'r blaen. Hwynt hwy, fel y maent ac yr oeddynt erioed yn feilchion ac yn warsyth ni chydnabyddasant mo hono hyd y dydd heddyw, ond edrych a llygad-rythu am vn arall i [Page 33] ddyfod. Mae genthynt y dychymmyg a'r dŷb ynfyd ymma yn eu pennau, y daw y Messias, nid fel y daeth Christ, megis pererin tlawd, a dŷn truā yn marchogaeth ar assen, ond megis brenhin dewr cadarn mewn gogoniant ac anrhydedd mawr, nid fel y daeth Christ ac ychydig byscodwyr, a dynion o gyfrif bychan yn y byd, ond a llu mawr o wyr cedyrn, a chwmpeini mawr o wyr doethion ac o bendefigion, megis marchogion, arglwyddi, ieirll, dugiaid, tywysogion a'r cyfryw.
Ac nid ydynt yn tybied y goddef eu Messias hwy angau yn ddirmygus, fel y gwnaeth Christ, ond y gorchfyga ef yn ddewr, ac y gorescyn yn wrol ei holl elynion, ac o'r diwedd yr ennill ef y fath deyrnas ar y ddayar ac na welwyd erioed ei chyffelyb er y dechreuad.
Yr hyd y maent fel hyn yn llunio iddynt eu hunain Messias wrth eu synwyr eu hunain, maent yn eu twyllo en hunain, ac yn cyfrif Christ yn wael ac yn Wrthodyn. adyn ac ynfyttaf o'r holl fyd.
Am hynny (fel y dywaid S. Paul) mae Christ wedi ei groeshoelio, yn faen tramgwydd i'r Iddewon, ac yn ffolineb i'r cenhedloedd, am eu bod hwy yn cyfrif yn beth anghysson, ac yn wrthwyneb i bob rheswm, y trinid prynwr a gwaredwr yr holl fyd yn y modd y trinwyd ef, hynny yw ei watwar, ei gablu, ei Whippio. fflangellu, ei gondemnio ac o'r diwedd ei groesholio yn greulon. Hyn, meddaf yn eu golwg hwy sydd ryfedd ac angysson, ac am hynny ni chydnabyddent hwy yr amser hwnnw ac ni chydnabyddant etto mai Christ yw eu Messias a'u Iachawdwr hwy.
[Page 34] Ond rhaid i ni, fy-ngharedigion, y rhai ydym yn gobeithio cael bod yn gadwedig, gredu yn ddian wadal a chyffesu yn hŷf, mai 'r Iesu hwnnw a aned o'r forwyn fair yw 'r gwir Messias a'r cyfryngwr rhwng Duw a dŷn, yr hwn oedd wedi ei addaw a'i ddarogan cyhyd o amser o'r blaen. O blegid, fel yr scrîfenna 'r Apostol, â'r Rom. 10. 10 galon y credir i gyfiawnder, ac â 'r genau cyffessir i iechydwriaeth. A thrachefn yn yr vn lle, Pwy bynnag a gredo ynddo ef, ni chwilyddir ef. A hyn vers. 11. hefyd y cyttuna tystiolaeth Ioan sant a scrifennodd ef yn y bedwaredd bennod o'i epistol cyffredinol cyntaf, yn y modd hyn, Pwy bynnag a 3. Ioan. 4. 15. gyffesso fod Iesu Grist yn fab Duw, ynddo ef y mae Duw yn trigo ac yntef yn-Nuw. Nid oes ammau nad yw pob Christion yn gwbl siccr o hyn.
Etto nid colli fy-nrhafael a fyddei i mi eich addyscu a' ch arfogi chwi ag ychydig leoedd o'r Scrythur lân ynghylch y defnydd ymma, fel y galloch attal genau enllibus pawb oll ac a geisio yn hyttrach yn gythreulig ddyscu neu amddiffyn y gwrthwyneb.
Yn gyntaf mae i chwi dystiolaeth yr Angel Gabriel, a fynegwyd i'r Archoffeiriad Zacharias ac i'r fendigedig forwyn hefyd.
Yn ail mae i chwi dystiolaeth Ioan fedyddiwr yn dangos Christ â'i fŷs ac yn dywedyd, Wele oen Duw yr hwn sydd yn tynnu ymmaith bechodau 'r byd.
Yn drydedd mae i chwi dystiolaeth Duw dad yn taranu o'r nef ac yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab yn yr hwn y'm bodlonir, grwandewch ef.
[Page 35] Yn bedwerydd mae i chwi dystiolaeth yr Yspryd glan yr hwn a ddiscynnodd o'r nef yn rhith colommen, ac a ddiscynnodd arno wrth ei fedyddio.
At hyn y gellid angwanegu llawer mwy, yn enwedig tystiolaeth y gwyr doethion a ddaethant at Herod, tystiolaeth Simeon ac Anna, tystiolaeth Andreas a Philip, Nathaniel a Phetr, Nicodemus a Martha, a llawer eraill.
Ond fe fyddai ryhir adrodd y cwbl, ac ychydig leoedd a wasanaetha mewn matter mor oleu, yn enwedig ym-mlith y rhai sy eisoes yn ei gredu. Am hynny os cais dirgel genawon Angrist a dichellgar weinidogion diafol eich hudo a'ch tynnu oddiwrth y gwir Fessias, a'ch perswadio i ddisgwyl am vn arall yr hwn ni ddaeth etto: Na edwch iddynt mewn modd yn y byd eich hudo, ond cadarnhewch chwi eich hunain â'r tystiolaethau hyn a'r cyffelyb allan o'r Scrythur sanctaidd, y rhai ydynt mor ddiogel ac mor siccr ac na ddichon holl gythreuliaid vffern byth sefyll yn eu herbyn hwy. O blegid mor wir ac mai byw Duw, cyn wired yw mai Iesu Grist yw'r gwir Fessias ac Iachawdwr y bŷd, sef yr Iesu hwnnw a aned ar gyfenw i heddyw o'r forwyn Fair, heb help gŵr trwy allu a gweithrediad yr Yspryd glân.
Ac am fod llawer ac amryw draws opinionau a heresiau gwedy cyfodi yn ein dyddiau ni trwy ddichell a hudoliaeth Sathan, ynghylch ei naturiaeth a'i sylwedd ef: fe fydd anghenrheidiol a buddiol er eich cyfarwyddo chwi, ddywedyd gair neu ddau ynghylch hynny.
Mae 'r Scrythur lan yn ein dyscu ni yn olen fod ein harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Grist o [Page 36] ddwy naturiaeth neilltûol wahanredol, hynny yw, ei ddyndod wrth yr hon y mae efe yn ddŷn cyflawngwbl perffaith, a'i dduwdod wrth hon y mae efe yn berffaith Dduw. Mae yn scrifennedig, Y gair (hynny yw yr ail berson yn y drindod) a Io. 1. 14. wnaethpwyd yn gnawd. Duw gan ddanfon ei [...]o. 8. 3. fab ei hun ynghyffelybiaeth cnawd pechadurus, a gyflawnodd y pethau ni allodd y gyfraith eu cyflawni. Christ ac yntef yn vn ffurf a Duw, a gymmerodd arno agwedd gwâs, ac a wnaethpwyd Phil. 2. 7. yn gyffelyb i ddynion, ac a gafwyd yn ei ddull fel dyn. Duw a ymddangosodd yn y cnawd, a gyfiawnhawyd yn yr Yspryd, a welwyd 1. tim. 3. 16. gan angelion, a bregethwyd i'r cenhedloedd ac a dderbyniwyd i fynu mewn gogoniant. Ac mewn man arall hefyd, Vn Duw sydd, ac vn cyfryngwr rhwg Duw a dŷn, sef y dŷn Christ Iesu.
Mae y rhai hyn yn lleoedd eglur i brofi ac i ddangos y ddwy naturiaeth sydd gwedy eu cyfuno a'u cyssylltu yn vn Christ. Ystyrivon yn ddiesceulus a phwyswn y gweithredoedd a wnaeth ef yr hŷd y bu fyw ar y ddayar, ac ni a allwn ddeall wrth y rhai hynny hefyd fod hyn yn wir. Wrth fod iddo newynu a sychedu, bwytta ac yfed, cyscu a gwilied, pregethu 'r Efengyl i'r bobl, wylo a thosturio tros Ierusalem, talu teyrnged trosto ei hun a Phetr, marw a dioddef angau, pa beth a ddangosodd ef wrth wneuthur hynny, ond hyn yn vnig, ei fod ef yn ddŷn cyflawngwbl fel ninnau? Ac amhynny y gelwir ef yn yr Scrythur lan weithiau yn fab Dafydd, weithiau yn fab y dŷn, weithiau mab Mair, weithiau mâb Ioseph a'r cyffelyb.
Bellach am iddo faddeu pechodau, gwneuthur [Page 37] gwyrthiau, bwrw allan gythreuliaid, iachau, dynion â 'i air yn vnig, gwybod meddyliau calonnau dynion, bod y moroedd ar ei orchymmyn ef, rhodio o hono ar y dyfroedd, adgyfodi o hono o angau i sywyd, escyn o hono i'r nef, a'r cyfryw i pa beth y mae efe yn ei ddangos wrth hynny, ond yn vnig ei fod ef yn berffaith Dduw, gogyfuwch a'r tâd oblegid ei dduwdod? Am hynny y dywed▪ Y Tâd a minnau yr vn ydym.
Pa le bellach y mae y Marcioniaid, y rhai sy yn gwadu geni Christ yn y cnawd; ac yn dywedyd nad oedd ef yn berffaith ddyn? Pa le bellach y mae 'r Arriaid hynny, y rhai sy 'n gwadu fod Christ yn berffaith Dduw, o'r vn sylwedd a 'r Tâd? Os bydd yr vn o'r cyffelyb, chwi a ellwch yn hawdd eu hargyoeddi hwy a▪'r tystiolaethau hyn o air Duw, ac â'r cyfryw eraill. Y rhai y mae yn siccr gennyf na allant byth eu hatteb.
O blegid yr oedd yn anghenrhaid i 'n Iechydwriaeth ni gael y fath gyfryngwr ac Iachawdwr, ac a fyddai gyfrannog o 'r ddwy naturiaeth yn vn person▪ Yr oedd yn anghenrhaid ei fod ef yn ddŷn, ac yr oedd yn anghenrhaid hefyd ei fod ef yn Dduw. O blegid fel y daeth y troseddiad a thorri'r gorchymmyn trwy ddŷn, felly yr oedd yn gymhesur wneuthur iawn trwy ddŷn. Ac o blegid fel y dywaid S. Paul, mai angau yw cyflog a chysiawn wobr pechod, am hynny i lonyddu digofaint Duw ac i wneuthur iawn i'w gysiawnder ef, cymmhesur oedd fod ein cyfryngwr ni yn gyfryw vn ac a allei gymmeryd arno bechodau dynion, a dwyn y gospedigaeth oedd ddyledus iddynt▪ hynny yw▪ Angau.
[Page 38] Hefyd fe a ddaeth yn y cnawd, ac yn yr vn cnawd a escynnodd i'r nef, i ddangos ac i dystiolaethu i ni, y caiff yr holl ffyddloniaid a gredant yn ddisigl ynddo ef yn yr vn modd ddyfod i'r vn drigfa, i'r hon yr aeth ef ein pennadur ni o'r blaen.
Yn ddiwethaf fe a wnaethpwyd yn ddŷn, fel y gallem ni wrth hynny dderbyn ychwaneg o ddiddanwch, cystal yn ein gweddiau ac yn ein hadfyd, pan ystyriom ynom ein hunain, fod i ni gyfryngwr yr hwn sydd wir ddŷn fel ninnau, a'r hwn y cyhwrdde ein gwendid ni, yr hwn a dempti wyd yr vn modd ac y temptir ninnau. heb. 4. 15.
Er mwyn yr achosion hyn a llawer eraill yr oedd yn anghenrhaid iddo ddyfod megis y daeth, yn y cnawd. Ond o blegid nad oes ac nas gall fod gan vn creadur o blegid ei fod yn greadur, allu i ddinistrio angau ac i roddi bywyd, i orchfygu vffern ac i brynu nef, i faddeu pechodau ac i roddi cyfiawnder: am hynny rhaid oedd i'n Messias ni, dlêd a swydd yr hwn oedd wneuthur y pethau hynny, fod nid yn vnig yn gyflawngwbl ac yn berffaith ddŷn, ond hefyd yn gyflawngwbl ac yn berffaith Dduw, fel y gallai yn gyflawnach ac yn berffeithiach wneuthur iawn tros ddŷn.
Mae Duw yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl fab yn yr hwn y'm bodlonir; wrth y geiriau hynny yr ydym yn deall ddarfod i Ghrist lonyddu a diffodd llid ei Dâd, nid am ei fod ef yn vnig yn fâb dŷn, ond yn fwy o lawer am ei fod ef yn fâb Duw.
Fel hyn y clywsoch ddangos allan o'r Scrythyrau, mai Iesu Ghrist yw'r gwir Messias ac [Page 39] Iachawdwr y byd, ei fod ef mewn naturiaeth a sylwedd yn berffaith Dduw ac yn berffaith ddŷn, a pha ham yr oedd anghenrhaid ei fod ef felly.
Bellach fel y byddom ni meddylgarach a mwy ein diolch i Dduw yn y peth hyn, ystyriwn ar ychydig airiau a galwn i'n côf yr amryw a'r dirfawr ddoniau a dderbyniasom ni oddiwrth enedigaeth ein Messias a'n Iachawdr hwn.
Cyn dyfod Christ i'r byd, nid oedd yr holl ddynion yn gyffredinol ond cenedlaeth anwir Draws. drofaus, prennau pydron llygredig, tir carregog yn llawn Drysi drain a gwyddeli. mieri, defaid colledig, meibion afradlon, gweision drwg anfuddiol, goruchwilwyr anghyfiawn, gweithredwyr anwiredd, hiliogaeth gwiberod, tywysogion deillion, yn eistedd mewn tywyllwch a chysgod angau: ac ar ychydig eiriau, nid oeddynt ddim ond plant colledigaeth, ac etifeddion tân vffern. I hyn y mae S. Paul yn dwyn tystiolaeth mewn llawer o leoedd yn ei epistolau, a Christ ei hun hefyd mewn amryw leodd o'i Efengyl.
Ond gwedi ei ddiscyn ef vnwaith o'r nef a chymmeryd ein naturiaeth egwan ni arno, ef a wnaeth gynnifer oll ac a'i derbyniasant ef yn gywir, ac a gredasant ei air ef, yn brennau da, yn dir da, yn ganghennau ffrwythlon prydferth, yn blant y goleuni, yn ddinaswyr nef, yn ddefaid o'i gorlan, yn aelodau o'i gorph, yn etifeddion o'i deyrnas, yn gywir gyfeillion ac yn frodyr iddo, yn fara melûs bywiol, yn ddewisol ac yn etholedig bobl Dduw. O blegid fel y dywaid Petr 1. Pet. 2. 24. yn yr ail bennod o'i epistol cyntaf, Ef a ddygodd ein pechodau ni yn ei gorph ar y pren, a thrwy ei gleisiau ef y'n iachawyd ni.
[Page 40] A lle yr oeddym ni o'r blaen yn ddefaid gwedi myned ar gyfrgoll, efe wrth ei ddyfodiad a'n dug ni adref eilwaith at fugail ac escob ein heneidiau, gan ein gwneuthur ni yn genhedlaeth etholedig, yn offeiriadaeth frenhinol, yn bobl fydd briodoriaeth i Dduw, gan farw dros ein pechodau ni. Yr vn S. Paul at Titus yn y drydedd bennod sydd yn dywedyd ein bod ni gynt yn annoethion, Tir. 3. 3. yn anvfydd, mewn amryfysedd, yn gwasanaethu chwantau, ac amryw felyswedd, gan fyw mewn drygioni a chenfigen, yn llidiog ac yn cashau ei gilydd, Ac. eithr gwedi i ddaioni Duw ymddangos i ddŷn, a'i garedigrwydd ef yn Iesu Grist, nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni, ond yn ôl ei drugaredd yr iachaodd efe ni, trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewyddiad yr Yspryd glân, yr hwn a dywalltodd ef arnom ni yn helaeth trwy Iesu Grist ein Iachawdwr, fel y bydde i ni wedi ein cyfiawnhau trwy ei râs ef, gael ein gwneuthur yn etifeddion yn ôl gobaith y bywyd tragwyddol.
Yn y lleoedd hyn a 'r cyfryw leoedd eraill, y gosodir ger bron ein llygaid ni megis mewn drych, aml ras Duw yn Iesu Grist, yr hyn sydd ryfeddach o blegid nas daeth o'n haeddiant ni, ond yn vnig o'i dirion drugared ef, a hynny pan oeddym yn elynion atcas iddo ef.
Ond er mwyn i ni ddeall ac ystyried y peth hyn yn well, edrychwn er mwyn pa ddefnyd y daeth ef, yno y cawn ddeall pa ennill a pha fudd a ddug ei enedigaeth ef i ni greaduriaid truain pechadurus. Diwedd ei ddyfodiad ef oedd i achub a gwared ei bobl, i gyflawni y gyfraith drosom ni, i ddwyn tystiolaeth i 'r gwirionedd, i ddyscu a Mat. 1. 21. Mat. 5. 17. [Page 41] phregethu teyrnas ei dâd, i roddi goleuni i'r byd, i Io. 18. 57. Luc. 4. 44. Io. 8. 14. Mat. 9. 11. Mat. 11. 28. Col 1. 22. Heb. 2. 14. 1. Io. 2. 2. alw pechaduriaid i edifeirwch, i efmwytho ar y rhai blinderog a llwythog, i daflu allan dywysog y bŷd hwn, i'n cymmodi ni ag ef ynghorph ei gnawd, i ddattod gweithredoedd y cythraul, i fod yn iawn dros ein pechedau ni, ac nid dros ein pechodau ni yn vnig, ond tros bechodau 'r holl fyd.
Dymma 'r achosion pennaf yr aeth Christ yn ddŷn, nid er mwyn ennill yn y byd a ddauai iddo ef o hynny, ond yn vnig er ein mwyn ni, fel y gallē ddeall ewyllys Duw, a bod yn gyfrannogion o'i oleuni nefol ef, a chael ein gwared o gigweiniau diawl, ein rhyddhau oddiwrth faich ein pechodan, ein cyfiawnhau trwy ffydd yn ei waed ef, ac yn ddiwethaf cael ein derbyn i fynu i ogoniant tragwyddol, i deyrnasu yno gydag ef bych. Ond oedd hyn yn gariad mawr godidog i Grist tu ag at ddynion, ac yntef yn wir ddelw a llun Duw, iddo er hynny ymostwng a chymmeryd arno agwedd gwâs, a hynny yn vnig er mwyn ein hachub a 'n gwared ni? Oh mor rhwymodig ydym ni i ddaioni Duw yn hyn o beth Pa faint o ddiolch a moliant fy ddyledus arnom iddo of ain ein Iechydwriaeth a weithiodd of trwy ei anwyl a'i vnig fâd Christ? Yr hwn aeth yn bererin ar y ddayar i'n gwneuthur ni yn ddinasyddion nef, yr hwn aeth yn fâb dŷ ni 'n gwneuthur ni yn feibion i Dduw, yr hwn a fu vfydd i 'r gyfraith i 'in gwared ni oddiwrth felldith y gyfraith, yr hwn aeth yn dlawd i 'n gwneuthur ni yn gyfoethogion, yn wael i 'n gneuthur ni yn werthfawr, [...]an farwolaeth i wneuthur i ni fyw yn dragywydd. Pa gariad mwy a allem ni greaduriaid truein ei ddeifyf neu ei ddymuno [...] law Dduw.
[Page 42] m hynny fy anwyl garedigion, nac anghofiawn ddirfawr gariad ein harglwydd a 'n Iachawdwr, na ddangoswn mo honom ein hunain yn anfeddylgar nac yn anniolchgar tu ag atto ef, ond carwn ef, ofnwn ef, vfyddhawn iddo, gwasanaethwn ef. Cyffesswn ef â 'n geneuau, clodforwn ef â 'n tafodau, credwn iddo â 'n calonnau, a gogoneddwn ef â 'n gweithredoedd. Christ yvo 'r goleuni, derbyniwn y goleuni. Christ yw 'r gvoirionedd, credwn y gwirionedd. Christ yw 'r ffordd, dilynwn y ffordd. Ac o hetwydd mai efe yw ein vnig feistr ni, ein vnig athro ni, ein hunig fugail ni a 'n tywysog pennaf, byddwn iddo ef yn weision, yn yscolheigion, yn ddefaid, yn filwyr.
Tuag at am bechod, y byd, y cnawd, a 'r cythraul, i 'r rhai yr oeddym ni yn gaethweision cyn dyfodiad Christ, taflwn hwy ymmaith, a ffiaiddiwn hwy, megis vnig elynion pennaf ein heneidiau. A chan ddarfod i Christ vnwaith ein gwared ni oddiwrth eu creulon dyrannaeth hwy, nachwympwn byth mwy i'w dwylo hwy, rhag i ni fod mewn cyflŵr gwaeth nag y buom erioed o 'r blaen: dedwydd, medd yr Scrythur, yw y rhai a barhao hyd y diwedd. Bydd ffyddlon, medd Duw, hyd angau, a mi a roddaf i ti goron y bywyd. Eilwaith ef a ddywaid mewn man arall, yr hwn a osodo ei law ar yr aradr ac a edrycho yn ei ôl, nid yw addas i deyrnas Dduw. Am hynny byddwn gedyrn, a diogel a disygl, yn helaeth yn wastad yngweithredoedd yr Anglwydd. Derbyniwn Grist, nid tros amser, ond tros fyth. Credwn ei air ef, nid tros amser ond tros fyth. Awn yn weision iddo, nid tros amser ond tros [Page 43] fyth. O blegid iddo ef yn prynu ni a 'n gwared ni, nid tros amser ond tros fyth, ac y derbyn ef ni i'w deyrnas nef, i deyrnasu yno gydag ef, nid tros amser ond tros fyth. Iddo ef am hynny gyda 'r Tâd a 'r Yspryd glân y byddo 'r holl anrhydedd, moliant a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
¶ Pregeth ar ddy gwener y croglith, ynghylch angau a dioddefaint ein Iachawdwr Iesu Ghrist.
NId ydyw weddus i ni (fy-ngharedigion ynghrist) a ninnau yn bobl wedi iddo ef eu gwared oddiwrth y cythraul, oddiwrth bechod a marwolaeth, ac oddiwrth ddānedigaeth dragwyddol trwy Ghrist, ellwng yr amser ymma heibio heb na myfyrdod na choffadwraeth am ardderchog weithred ein prynedigaeth a wnaethpwyd ar gyfenw i 'r amser ymma, trwy fawr drugaredd a chariad ein Iachawdwr Iesu Ghrist, trosom ni bechaduriaid truain ei elynion ef.
O blegid os bydd gweithred dŷn marwol, yr hon a wneler er budd i'w wlad, mewn coffadwriaeth yn ein plith ni, gydâ diolch am y dawn a 'r gwelliant sydd yn dyfod i nioddiwrth hynny: parottach o lawer y dylem wneuthur coffa am ardderchog weithred a dawn marwolaeth Christ: trwy yr hyn y prynodd efi ni ddiogel bardwn a maddeuant am ein pechodau, ac y cymmododd ef y Tâd o 'r nêf a nyni, megis yn awr y mae efe yn ein cymmeryd ni yn anwylblant iddo, [Page 44] ac yn wir etifeddion gydâ Christ ei fâb naturiol ef o deyrnas nefoedd.
Ac yn wir y mae tirionder Christ yn ymddangos yn fwy o lawer am fod yn wiw gantho roi heibio ei holl anrhydedd dduwiol, yn yr hon yr oedd ef yn ogyfuwch â 'i dâd o 'r nef, a dyfod i lawr i 'r dyffryn blinder hwn, i'w wnethur yn ddyn marwol, a bod mewn cyflwr y gwâs gwaelaf, a'n gwasanaethu ni er budd a lles i ni, ini meddaf, y rhai oeddym yn elynion tyngedig iddo ef ac a wrthodasem ei ghfreithiau a'i orchymmynion sanctaidd ef, ac a ddilynasem drachwantau a hoffderau ein naturiaeth lygredig ein hunain. Etto er hynny, meddaf, fe a'i gosododd Christ ei hunan rhwng cyfiawn ddigofaint Duw, a 'n pechodau ni, ac a dorrodd yr scrifenlaw [...]. 2. 14. trwy 'r hon yr oeddym ni yn rhwym i Dduw, ac a dalodd ein dlêd ni.
Ŷr oedd ein dlêd ni yn ormodd o lawer i ni i'w thalu. Ac heb dale digaeth ni allai Dduw byth fod yn gyttun a ni. Ac nid oedd bossibl i ni gael ein rhyddhau oddiwrth y ddled ymma o 'n gallu ein hunain.
Am hynny fe fu wiw gantho ef fod ein dalwr trosom, a 'n rhyddau ni yn gwbl.
Pwy yn awr a ddichon ystyried tôst ddlêd pechod, yr hon ni ellid ei thalu yn amgen na thrwy farwolaeth gŵr dieniwed diddrwg, ac ni chashâ bechod yn ei galon? Os ydyw Duw yn cashau pechod yn gymmaint ac na chymmerai ef na bŷn nac angel yn iawn drosto, ond yn vnig marwolaeth ei vnig anwyl fab, pwy ni bydd arno ofn pechod▪ Os ystyriwn ni fy-ngharedigion▪ orfod ar yr oen diniwed hyn oddef angau, fe all fod [Page 45] gennym fwy o achosion i alaru trosom ein hunain, y rhai a fuom achosion o'i farwolaeth ef, i waeddi yn erbyn malis a chreulondeb yr Iddewon, y rhai a'i herlidiasant ef i angau. Nyni a wnaethom y gweithredoedd a barodd iddo ef gael ei daraw a'i glwyfo, nid oedd yr Iddewon ond gweinidogion ein drygioni ni.
Gweddus am hynny yw i ni ddiscyn yn isel i'n calonnau a galaru am ein trueni a 'n bywyd pechadurus. Gwybyddwn yn siccr os cospwyd ac os tarawyd anwyl fâb Duw fal hyn am y pechodau y rhai ni wnaethe efe ei hunan: pa faint tostach y dlyem ni gael ein cospi am ein amryw bechodau beunyddol y rhai yr ydym yn eu gwneuthur yn erbyn Duw, onid edifarhawn yn ddifrif a galaru am danynt? ni all neb fod mewn ffafor gydâ Duw, a charu pechod, yr hwn y mae Duw yn ei gashau yn gymmaint. Ni ddichon neb ddywedyd ei fod ef yn caru Christ yn gywir, ac yntef a chymdeithas rhyngtho a'i elyn mawr ef, yr hwn yw pechod, awdur ei angau ef. Yn gymmaint yr ydym yn caru Duw a Christ, ac yr ydym yn cashau pechod. Am hynny ni a ddylem fod yn wagelog iawn rhag bod ein serch ni ar bechod, rhag ein cael ni wrth hynny yn elynion i Dduw ac yn fradwyr i Ghrist.
O blegid nid hwynthwy yn vnig y rhai a hoeliasant Grist ar y groes, yw artaithwyr a chroeshoel-wyr Christ, ond y maent hwy oll (medd S. Paul) yn ail-groeshoelio mâb Duw, hyd y mae ynddynt hwy, y rhai sy yn gwneuthur drygioni a phechod, y rhai a'i dygasant ef i farwolaeth. Os cyflog pechod yw angau, a hynny angau tragwyddol, yn wir nid bychan y perigl o fod mewn [Page 46] gwasanaeth pechod. Os byw fyddwn yn ôl y cnawd a'i chwantau pechadurus, mae S. Paul yn bygwth, ie yr Holl-alluog yn bygwth trwy S. Paul y byddwn meirw. Ni allwn ni fyw i Dduw mewn modd amgen na thrwy feirw i bechod. Os yw Christ ynom, yno mae pechod yn farw ynom. Ac os ydyw Yspryd Duw ynom, yr hwn a gyfododd Christ o farwolaeth i fywyd, yr vn Yspryd a 'n cyfyd ninnau i ailgyfodiad y bywyd tragwyddol. Ond os teyrnasa pechod ynom, yno mae Duw yr hwn yw ffynnon pob Ro. 5. 6. grâs a rhinwedd, wedi myned oddiwrthym: yno y mae diawl a'i Yspryd anraslon yn rheoli ac yn llywydraethu ynom.
Ac yn siccr os byddwn feirw yn y cyflwr blin ymma, ni chyfodwn ni i fywyd, ond ni a gwympwn i angau a damnedigaeth byth heb ddiwedd. O blegid ni waredodd Christ ni felly oddiwrth bechod, fel y gallem yn ddibryder droi atto eilwaith: ond fe a'n gwaredodd ni, fel y bydde i ni ymwrthod a gwyniau pechod, a byw i gyfiawnder. Ie fe a'n golchwyd ni yn ein bedydd oddiwrth frynti pechod, fel y byddem ni byw o hynny allan mewn purdeb buchedd. Ni a addawsom yn ein bedydd ymwrthod a diafol a'i holl ddichellion, ni a addawsom (megis plant vfyddgar) yn wastad ganlyn bodd ac owyllys Duw.
Am hynny os efe yw 'n Tâd ni yn siccr, rhoddwn iddo ef ei anrhydedd dyledus. Os plant iddo ef ydym ni, dangoswn ein vfydd-dod iddo, fel y dangosodd Christ yn oleu ei vfyddd-dod i'w dâd, yr hwn (fel y mae S. Paul yn scrifennu) a fu vfydd i angau sef angau 'r groes. A hyn a wnaeth ef drosom ni oll y rhai ydym yn credu ynddo ef.
[Page 47] Ni chospwyd ef trosto ei hunan, oblegid yr oedd ef yn bur ac yn lân oddiwrth bob rhyw bechod. Fe a archollwyd (medd y prophwyd Esai) Esai. 53. 3. am ein pechodau ni ac a ddrylliwyd am ein camweddau ni, efe a gymmerth ein gwendid ni ac a ddygodd ein doluriau ni. Ni wrthododd ef oddef vn boenedigaeth ar ei gorph ei hun er ein gwared ni o dragwyddol boenau. Ei ewyllys ef oedd wneuthur hyn droson ni, er nas haeddasom.
Am hynny po mwyaf, y gwelom ni ein bod ein hunain yn rhwymedig iddo ef, mwy o ddiolch a ddylem ni ei roddi iddo ef, a mwy o obaith allwn ni ei gymmeryd y cawn ni dderbyn pob peth daionus arall ar ei law ef, gan i ni o'i haelioni ef dderbyn ei anwyl fâb ef. O blegid (fel y dywaid S. Paul) onid arbedodd Duw ei fâb ei hun, ond ei Ro. 8. 32. roddi ef drosom ni i farwolaeth, pa wedd gyd ag ef na rydd ef bob peth i ni hefyd? Os bydd arnom eisiau dim nac i'n cyrph nac i'n heneidiau, ni a allwn yn gyfreithlon ac yn hyderus nesau at Dduw, megis at ein tâd trugarog, i ofyn y peth a fynnom ac ni a'i cawn.
O herwydd cynnifer o honom ac sydd yn credu yn enw Christ, fe a roddwyd i ni y gallu i fod yn blant i Dduw. Pa beth bynnag a ofynnom yn ei enw ef, fe a geniatteir i ni. O blegid mae Duw dâd Holl-alluog wedi ei fodloni yn gystal ynghrist ei fab, fel y mae ef er ei fwyn ef yn ein hoffi ni, ac ni Phalla inj. neccy ni o ddim. Mor fodlon fu gantho offrwm ac aberth angau ei fab, yr hon a ddioddefodd ef mor vfydd ac mor ddiniwed, ac y cymmerai ef hi yn lle vnig a chyflawn iawn am bechodau yr holl fyd. A chyfryw ffafor a brynodd [Page 48] ef i ni trwy ei angau oddiar law ei nefol dâd, megis o haeddedigaeth y farwolaeth honno (os ydym wir Gristianogion ac nid mewn g air yn vnig) yr ydym ni yn awr yn hollawl yngrâs Duw, a chwedy ein rhyddhau yn llwyr od diwrth ein pechodau.
Yn wir nid yw tafod abl i draethu teilyngdod angau mor werthfawr. O blegid yn y farwolaeth hon y mae gwast a dol bardwn a maddeuant ein pechodau beunyddol ni, ynthi y mae ein cyfiawnhâd ni, ynddi y 'n gwneir ni yn gymmeradwy, â hi y prynir iechyd tragwyddol ein heneidiau 'ni. Ie nid oes vn peth arall ac a ellir ei enwi dan y nef i gadw ein eneidiau ni, ond yr vnig orchwyl hwn a wnaeth Christ wrth offrwm ei werthfawr gorph ar allor y groes.
Siccr yw na ddichon bod gweithred vn dŷn Act. 4. 12. marwol, er sancteiddied fytho, gael ei chwplu mewn haeddedigaethau gyd a▪ sanctaidd weithred Christ. O blegid yn ddiammau ni thalai ein meddyliau na'n gorchwylion ni ddim, onis gwneid hwy yn gymmeradwy yn haeddedigaethau marwolaeth Christ. Mae 'n holl gyfiawnder ni yn rhy ammherffaith iawn, os cyffelybir ef â chyfiawnder Christ. O blegid yn ei orchwylion a'i weithredoedd ef, nid oedd brychi pechod, na dim am-mherffeithrwydd. Ac am hynny yr oeddynt yn alluoccach ac yn applach i fod yn wir iawn am ein anghyfiawnder ni, lle mae'n gweithredoedd ni a'n gorchwylion yn llawn ammherffaithrwydd a gwendid ac am hynny o honynt eu hunain yn an-nheilwng i beri i Dduw ein hoffi ni, a llai o lawer i ym-arddel o'r gogoniant sy ddyledus i weithred Christ ac i'w haeddiant.
[Page 49] O blegid medd y prophwyd Dafydd, Nid i ni Ps. 115. 1. o Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dôd di ogoniant. Am hynny fyngharedigion, gogoneddwn yn barchedig ei enw ef, mawrhawn a a chlodforwn ef yn dragywydd. O blegid fe a wnaeth i ni yn ôl ei fawr drugaredd, trwyddo ei hun y gweithiodd ef ein prynedigaeth ni. Nid oedd ddigon gantho ei arbed ei hun a danfon ei Heb. 1. 3. angel i wneuthur y weithred hon, ond fe a fynnai ei gwneuthur hi ei hunan, fel y gallai ei gwneuthur hi yn well, a'i gwneuthur yn berffaithiach prynedigaeth. Ni chyffrôdd ef ronyn er yr aneirif boenau a ddioddefodd ef yn holl amser ei hir ddioddefaint, megis pe buase edifar gantho wneuthur cymmaint o ddaioni i'w elynion: ond ef a egorodd ei galon i ni, ac a'i roddodd ei hunan yn hollawl i fod yn brynedigaeth i ni.
Agorwn ninnau yn awr ein calonnau iddo ef eilwaith, a myfyriwn yn ein bywyd ar fod yn ddiolchus i'r fath Arglwydd, a byddwn bob amser yn feddylgar am ddawn cymmaint, ie cyfodwn ein croes gyd â Christ a chanlynwn ef.
Nid ydyw ei ddioddefaint ef yn iawn ac yn gwbl daledigaeth tros ein pechod ni, ond hefyd yn siampl o'r berffeithiaf o ammynedd a dioddefgarwch. O blegid os oedd raid fel hyn i Grist ddioddef, Act. 14. 3. a myned i mewn i ogoniant ei Dâd, pa ham na weddai i ninnau oddef ein blinderau by▪ châin o adfyd, a thrallodau 'r byd hwn. O blegid yn siccr, fel y dywaid S. Petr, fe a oddefodd Christ er mwyn gadel i ni siampl i ganlyn ei ôl ef. Ac os goddefwn gydag ef, ni a deyrnaswn gydag 1. Pet. 2. [...]. Tim. [...]. 12. ef yn siccr yn y nefoedd. Nid am fod gofidiau y [Page 50] byd trangcedig hwn yn cystadlu y gogoniant a [...]o. 8. 18. ddaw, ond ni a ddylyem fod yn fodlon i oddef yn llawen, i gael bod yn debyg i Ghrist yn ein bywyd, megis felly wrth ein gweithredoedd y gallon ni ogoneddu ein Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd. mat. 5. 16.
Ac fel y mae yn boenedig ac yn slin ddwyn croes Christ yngosidiau ac aflwydd y byd hwn, felly y mae yn dwyn allan hyfryd ffrwythau gobaith ym-mhawb a'i harferant.
Nac edrychwn cymmaint ar y boen ac ar y gwobr sydd yn canlyn ein llafur ni. Nag ê ymrown Iaco. 1. 3. yn hytrach yn ein blinderau i oddef yn ddieuog ac yn ddieniwed, fel y gwnaeth ein Iachawdwr Christ. O blegid os goddefwn am ein beiau, yno nid yw dioddefgarwch yn cael ei chyflawn 1. Pet. 2. 20. waith ynom. Ond os heb ei haeddu y dioddefwn golli ein da a'n bywyd, os goddefwn ddywedyd yn ddrwg am danom er mwyn Christ hyn sydd rasol ger bron Duw, o blegid felly y goddefodd Christ. Ni phechodd ef erioed, ac erioed ni chaed twyll yn ei enau ef. Ie pan ddifenwyd ef a gwatwarau, ni ddifenwodd elwaith: Pan ddioddefodd yn anghyfiawn ni fygythiodd ef ac ni ddialodd ei gam, ond rhoddi ei achos ar yr hwn sydd yn barnu yn gyfiawn.
Nid yw perffaith ddioddefgarwch yn ystyried pa beth neu pa faint a oddefo, pa vn ai gan gâr ai gan elyn: ond mae yn edrych ar iddi oddef yn ddifeius ac heb ei haeddu. Ie mae'r hwn sydd a chariad perffaith yndo, yn gofalu cyn fychaned. lleied am ddial, ac y mae efe yn hytrach yn myfyrio gwneuthur da am ddrwg, i fendithio ac i ddywedyd yn dda am y rhai a'i melldithiant, i mat. 5. 44. [Page 51] weddio tros y rhai a'i herlidiant yn ôl siampl ein Iachawdwr Christ, yr hwn yw 'r siampl a'r gynddelw berffeithiaf o bob llaryeidd-dra a dioddefgarwch yr hwn ag yntef ynghrog ar y groes mewn poen irad, yn gwaedu ym-mhob rhan o'i fendigedig gorph, wedi ei osod ynghanel ei elynion a'i groeshoelwyr, ac er eu bod hwy (er maint y poenau anrhaith oddef yr oeddynt yn ei weled ynddo) yn ei watwar ac yn ei sennu yn ddirmygus heb na ffafwr na thosturi, etto efe a gymmerth cymmaint tosturi trostynt hwy yn ei galon, fel y gweddiodd ef ar ei dad o'r nef trostynt hwy, gan ddywedyd, O Dâd maddeu iddynt, o Luc. 23. 34. herwydd ni wyddant pa beth y maent yn i wneuthur.
Pa ddioeddefgarwch hefyd a ddangosodd ef, pan ddaeth vn o'i ddiscyblon a'i weision ef ei hunan a osodasai ef mewn ymddiried, i'w fradychu ef i'w elynion i farwolaeth? Ni ddywedodd ef mat. 26. 49. waeth wrtho na hyn, Y cyfaill i ba beth y daethost? Fal hyn, fyngharedigion, y dylem ni gofio y mawr siamplau cariad a ddangosodd Christ yn ei ddioeddfaint, os cofiwn ei ddiodde faint ef yn Frwy thlon. Y cyfryw gariad a charedigrwydd a ddylē ni ei ddwyn tu ag at ei gylydd, os mynnwn fod yn wir weision i Ghrist. O blegid oni charwn ond y rhai a'n carant ninnau pa ragoriaeth yr ydym yn ei wneuthur, medd Christ? oni wna 'r mat. 5. 46. publicanod a'r pechaduriaid cyhoedd yr vn peth? Rhaid i ni fod yn berffeithiach nâ hyn yn ein cariad, fel y mae ein Tâd yr hwn sydd yn y nefoedd yn berffaith, yr hwn sydd ynperi i lewyrch ei haul dywynnu a'r y da a'r drŵg, ac yn danfon ei law ar y cyfiawn a'r anghyfiawn.
[Page 52] Fal hyn y dylêm ni ddangos ein cariad yn ddiymmer. yn ddineilltuol. yn indyfferent. ddiduedd, cystal i'r naill ac i'r llall, cystal i elyn ac i gar, megis plant vfydd, yn ôl siampl ein Tâd o'r nef. O blegid os bu Christ yn vfydd i'w Dâd hyd angau, a'r angau gwradwyddusaf (fal y tybie yr Iddewon) angau 'r groes; pa ham na byddem ni vfydd i Dduw mewn pyngciau llai o gariad a dioddefgarwch?
Am hynny maddeuwn i'n cymmdogion eu beiau bychain, fel y maddeuodd Duw i ninnau er mwyn Christ ein beiau mawrion. Nid yw weddus i ni geisio maddeuant ar law Dduw am ein beiau mawrion a bod er hynny heb faddeu i'n Ecclus. 28. 2. cymmydogion eu beiau bychain yn ein herbyn ni. Ofer y galwn ni am drugared, oni ddangoswn drugaredd i'n cymmydogion. Mat. 15. 35.
O blegid oni fwriwn lid a digofaint tn ag at ein brodyr ynghrist allan o'n calonnau, ni faddeu Duw ychwaith y llid a'r digofaint a haeddodd ein pechodau ni arno ef. O blegid tan yr ammod hwn y mae Duw yn maddeu i ni, os ninnau a faddeuwn i eraill.
Nid gweddus i Gristianogion fod yn dôst ac yn galed y naill wrth y llall, na thybied na haeddai ein cymmydog faddeu iddo. O blegid er mor anheilwng fytho ef, etto mae Christ yn haeddu gwneuthur o honot ti hyn er ei fwyn ef, efe a haeddodd arnat faddeu o honot i'th gymmydyg. Ac mae yn rhaid hefyd vfyddhau i Dduw, yr hwn sydd yn gorchymmyn i ni faddeu, os mynnwn ninnau ran o'r pardwn a'r maddeuant a brynodd ein Iachawdwr Christ vnwaith gan Dduw Dâd trwy dywallt ei werthfawr waed.
Nid des dim mor weddaidd âr weision Christ [Page 53] a thrugaredd a thosturi. Am hynny byddwn gariadus tu ag at ei gilydd, a gweddiwn tros [...]ac. 5. 16. ei gilydd, ar ein iachau oddiwrth holl wendid y bywyd hwn, fel y bo i ni wneuthur llai o eniwed i'w gilydd, ar i ni fod o vn meddwl ac o vn Yspryd, yn cyttuno ynghyd mewn cariad brawdol a chyfundeb fel anwyl blant Duw.
Wrth hyn y cyffrown ni Dduw i fod yn drugarog wrth ein pechodau, ac felly y byddwn Eph. 5. 2. parotrach i dderbyn ein Iachawdwr a'n gwneuthurwr yn ei Sacrament bindigedig, i'n tragwyddal ddiddanwch ac iechyd ein enaidiau. Mae 'n host gan Grist fyned i mewn a thrigo yn yr enaid y bo cariad a charedigrwydd yn rheoli ynddo, ac y bo ynddo heddwch a chyttundeb.
O blegid fel hyn y mae Ioan sanct yn scrifennu, Duw cariad yw, a 'r hwn sydd yn aros yngharia d sydd yn aros yn Nuw a Duw ynddo 1. Ioan. 4. yntef. Vers. 16.
Wrth hyn, medd ef, y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, os ni a garwn ei gilydd. Ac wrth hyn y gwyddom ddarfod ein symmudo o farwolaeth Vers. 13. & 1. Ioau. 2. 5. i fywyd, os ni a garwn ei gilydd. Ond yr hwn a gashao ei frawd, medd yr vn Apostol, sydd yn aros mewn marwolaeth, ac mewn perigl o farwolaeth dragwyddol, ac mae efe hefyd yn blentyn 1. Ioan. 3 14. 15 colledigaeth a 'r cythraul, gwedi i Dduw ei felldithio, yr hyd y byddo ef felly, yn gâs gan Dduw a'i holl gwmpeini nef. O blegid fel y mae tangnheddyf a chariad yn ein gwneuthur ni yn fendigedig blant i'r Holl-alluog Dduw, felly y mae casineb a chensigen yn ein gwneuthur ni yn blant i ddiafol.
Duw a roddo i bawb o honom ni ras i ganlyn [Page 54] siamplau Christ mewn heddwch a chariad, ymmynedd a dioddefgarwch, fel y gallom ni ei gael ef yr awrhon i ddyfod i mewn attom, i letteua ac i aros gydâ ni, fel y gallom fod mewn cwbl ddiogelwch, gan fod gennymy cyfryw wystl o'n Iechydwriaeth. Os ydyw ef a'i ffafor gennym, ni [...]o. 8. 32. a allwn fod yn siccr fod gennym ni ffafor Duw hefyd trwyddoef. O blegid mae efe yn eistedd ar ddeheulaw Duw ei Dâd, megis yn ddadleuwr ac yn attwrnai i ddadleu ac i eiriol trosom yn ein holl eisiau a'n anghenrheidiau.
Am hynny os bydd arnom eisiau vn rhodd o ddoethineb dduwiol, ni a allwn ei gofyn hi gan Dduw er mwyn Christ ac ni a'i cawn hi.
Ystyriwn a holwn ein hunain pa ddiffyg sydd ynom o'r rhinwedd hon o gariad a dioddefgarwch. Os gwelwn nad yw ein calonnau yn gogwyddo dim tu ag atti, wrth faddeu i'r rhai a wnaeth yn ein herbyn, yno cydnabyddwn ein diffygion, a dymunwn ar Dduw eu cyflawni. Ond os bydd arnom eisiau, ac etto heb gennym chwant yn y byd i'r hyn a fo arnom ei eisiau, yno yr ydym mewn cyflwr blin ger bron Duw, ac fe fydde raid i ni weddio yn daer ar Dduw, ar gael felly newid ein calonnau fel yr ympier ynom galonnau newydd. O blegid oni faddeuwn ni i eraill, ni faddeu Duw byth i ninnau. Ie ni all holl weddiau a haeddedigaethau rhai eraill heddychu rhyngom ni a Duw, oni byddwn ni mewn heddwch a chyttundeb â'n cymmydogion. Ac nid ydyw ein holl orchwylion a'n gweithredoedd dani yn abl i gyffroi Duw i faddeu i ni y ddled sydd arnom iddo ef, oni faddeuwn ninnau i eraill. Mwy gantho ef am drugaredd nag am offrwm.
[Page 55] Trugaredd a wnaeth i'n Iachawdur Christ oddef tros ei elynion, gweddus yw i ninnnau ganlyn ei siampl ef.
O blegid ychydig a dâl i ni fyfyrio ar ffrwythau a gwerth ei ddioddefaint ef, eu mawrhau hwy ac ymhoffi ac ymddiried ynddynt, oni chofiwn ei siamplau ef yn dioddef, er eu canlyn.
Am hynny os nyni fel hyn a ystyriwn farwolaeth Christ, a glynu mewn ffydd ddiogel wrth eihaeddedigaethau a'i rhyglyddon hi, a'n ffurfio ein hunain i'n gwario ein hunain a chwbl ac sydd gennym trwy gariad er lles i'n cymmydog, fel y gwariodd Christ ei hunan yn hollawl er ein llês ni, yno yr ydym ni yn iawn gofio marwolaeth Christ: ac wrth fod fel hyn yn canlyn ôl Christ, ni a fyddwn siccr o'i ganlyn ef i'r lle y mae ef yn eistedd gyd â'r Tâd a'r Yspryd glân, i'r hwn y byddo holl anrhydedd a gogoniant. Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth ar ddioddefaint ein Iachawdwr Christ.
ER mwyn deall o honom yn well fawr drugaredd a daioni ein Iachawdwr Christ, yn goddef angau yn gyffredinol tros bob dyn, mae yn rhaid i ni ddiscyn i waelod ein cydwybod, ac ystyried yn ddwsn yr achos cyntaf a'r pennaf pa ham y gorfu arno wneuthur felly. Gwedi darfod i'n hên orhendad ni Addaf dorri gorchymmyn Gen. 3. 6. Duw, wrth fwytta 'r afal a waharddasid iddo ym-mharadwys, trwy annog a hudoliaeth hud ei wraig, [Page 56] fe a ennillodd wrth hynny, nid yn vnig iddo ei hun, ond hefyd i'w holl hiliogaeth byth, gyfiawn lid a digofaint Duw, yr hwn yn ôl y farn a ddatcanase ef wrth roddi y gorchymmyn a'i condemnodd ef a'i holl heppil ar ei ôl i angau tragwyddol enaid a chorph.
O blegid fe a ddywedasid wrtho, O holl brennau 'r ardd gan fwytta y bwyttei, ond pren gwybodaeth da a drwg, ni fwytti o hono. O blegid yn y dydd y bwyttaech di o honaw, gan farw y byddi farw. Ac fel y dywedodd yr Arglwyd felly y bu. Fe a fwyttaodd Addaf o hono, ac wrth wneuthur hynny a fu farw yn ddiau, hynny yw, fe aeth yn farwol, fe a gollodd ffafor Duw ac a daflwyd allan o baradwys, ni chafodd fod yn hwy yn ddinesydd nef, ond yn bentewyn o vffern, ac yn gaeth was i ddiafol.
Hyn y mae 'n Iachawdwr yn ei dystiolaethu yn ei Efengyl, gan ein galw ni yn ddefaid colledig, Luc. 15. 4. wedi cyfeilorni a myned ar ddidro oddiwrth wir fugail ein heneidiau. Hyn y mae S. Paul hefyd Ro. 5. 12. yn ei dystiolaethu, gan ddywedyd, mai trwy gamwedd Addaf y daeth angeu ar bawb i farwolaeth. Megis bellach nad oedd iddo ef nac i neb o'i heppil na Arddel. chlaim na chyfiawnder yn-nheyrnas nefoedd, ond eu bod gwedi myned yn ad-ddynion ac yn wrthodedig, wedi eu condemnio yn dragwyddol i ddidrangc dân vffern.
Pe buasai ddynion yn gallu eu hadferu eu hunain a chael maddeuant gan Dduw yn y cyfryw gyfyngder a thrueni, yno y buasei eu cyslwr hwy yn haws ei oddef, oblegid y gallasai ef geisio rhyw ffordd i'w wared ei hun oddiwrth angau tragwyddol. Ond nid oedd iddo vn ffordd, ni [Page 57] allai ef wneuthur dim ac a alle lonyddu digofaint Duw, yr ydoedd ef yn gwbl anfuddiol yn hynny o beth. Nid oedd vn a wnai ddaioni, nac oedd vn. A pha fodd wrth hynny y gallei ef weithio ei Iechydwriaeth ei hun?
A geisiai efe lonyddu dirfawr ddigofaint Duw wrth offrwm iddo boeth aberthau, fel yr ordeiniasid Heb. 9. 27. yn yr hên gyfraith? wrth offrwm iddo waed ychen, gwaed lloi, gwaed ŵyn, gwaed geifr a'r cyfryw? Och, nid oedd yn y rhai hyn na grym na gallu i dynnu ymmaith bechodau, ni allent hwy oeri angerdd ei ddigofaint ef, nac chwaith dwyn dŷn i'w ffafor ef eilwaith, nid oeddynt hwy ond arwyddion a chyscodau pethau oedd ar ddyfod heb ddim amgen.
Darllenwch yr epistol at yr Hebreaid, yno y Heb. 10. 5. cewch weled y peth hyn wedi ei draethu yn helaeth, yno y cewch weled yn oleu fod aberthau gwaedlyd yr hêu gyfraith yn ammherffaith ac heb fod yn abl i wared dŷn o ddamnedigaeth mewn modd yn y byd, megis na byddai i ddŷn wrth ymddiried i hynny ond ymddiried i ffonn grîn, ac yn y diwedd ei dwyllo ei hunan.
Pa beth wrth hynny a wna efe? Ai ceisio a wnai ef gadw cyfraith Dduw yr hon a rennir yn ddwy dabl neu lech, ac felly ennill iddo ei hun fywyd tragwyddol? Yn siccr pe buasei Addaf a'i hiliogaeth yn gallu cadw a chyflawni 'r gyfraith yn gwbl, gan garu Duw vwch law pob dim, a'u cymydog fel eu hunain, yno y gallesent hwy yn hawdd ddiffodd llid yr Arglwydd, a diangc oddiwrth irad farn angeu tragwyddol a gyhoeddasai genau 'r Holl-alluog Dduw yn eu herbyn hwy. O blegid scrifennedig yw, Gwna hyn a Luc. 10. 27. [Page 58] byw fyddi, hynny yw, Cyflawna fy-ngorchymmynion, ymgadw yn vnion ac yn berffaith ynddynt hwy yn ôl fy ewyllys i, yno y byddi byw, ac ni byddi marw.
Ymma yr addewir bywyd tragwyddol ar yr ammod hwn, os hwy a gadwent y gyfraith. Ond cyfryw oedd freuolder dŷn yn ôl ei gwympo, cyfryw oedd ei wendid a'i Salwedd. eiddilwch, ac na allai efrodio yn vnion ynghyfraith Dduw, er maint fydde ei ewyllys ef i wneuthur hynny, ond fe a gwympai bob dydd a phob awr oddiwrth ei rwymedig ddlêd, gan wneuthur yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw mewn amryw ffyrdd, i fawr gynnydd ei ddamnedigaeth ei hun, yn gymmaint ac y mae 'r prophwyd Dafydd yn gwaeddi fal hyn, Ciliase bob vn ynwysc ei gefn, cydymddifwynasent, Psal. 14. 3. nid oedd a wnele ddaioni nac oedd vn.
Yn yr achos ymma pa lês a allai ef ei gael trwy 'r gyfraith? yn wir dim. O blegid fel y dywaid S. Iaco, Pwy bynnag a gadwo 'r gyfraith i gŷd, ac a Faclo. ballo mewn vn pwngc, y mae efe yn euog o'r cwbl. Ac yn llyfr Deuteronomium y mae yn scrifennedig fel hyn, Melldigedig yw 'r hwn ni Deut. 27. 26. pharhao yngeiriau 'r gifraith hon, gan eu gwnuethur hŵynt.
Wele, mae 'r gyfraith yn dwyn melldith gyd â hi, ac yn ein gwneutbur ni yn euog, nid am ei bod hi o honi ei hun yn ddrwg ac yn aflan (na atto Duw i ni dybied hynny) ond am fod Breuder. breuolder a gwendid ein cnawd ni yn gyfryw, ac na allwn ni byth ei chyflawni yn ôl y perffaithrwydd y mae 'r Arglwydd yn ei ofyn.
Allai Addaf wrth hynny (dybygwch chwi) o|'r [Page 59] beithio neuymddiried cael bod yn gadwedig trwy 'r gyfraith? Na allai ddim. Ond po mwyaf yr edrychai ef ar y gyfraith, mwyaf y gwelai ei ddamnedigaeth ei hun ger bron ei lygaid, megis mewn drŷch gloyw. Megis yn awr o hono ei hun yr oedd ef yn druan ac yn flinderog, heb iddo ddim gobaith ac heb fod byth yn abl i lonyddu mawr ddigofaint Duw, nac etto i ddiangc rhac erchyll farn Duw, i'r hon y darfuase iddo ef ac i'w holl heppil gwympo, wrth anufyddhau gorchymmyn caled yr Arglwydd eu Duw.
Ond oh ddyfnder golud mawr drugaredd Duw? Oh ddaioni annrhaethadwy ei ddoethineb nefol ef. Pan oedd pob gobaith cyfiawnder gwedi myned heibio o'n rhan ni, pan nad oedd gennym ddim ynom ein hunain, trwy 'r hyn y gallem ddiffodd angerdd ei lid ef, a gweithio Iechydwriaeth ein heneidiau, a chyfodi allan o'r cyflwr blin yr oeddym ynddo. Yno meddaf yno y daeth Christ mab Duw trwy ordinhâd ei dad i lawr o'r nef, i'w archolli er ein mwyn ni, i gael ei gyfrif gydâ 'r annnwiol, i'w farnu i farwolaeth, i gymmeryd cyflog ein pechodau ni arno, ac i roddi ei gorph i'w ddryllio ar y groes amein beiau ni.
Efe (medd y prophwyd Esai am Ghrist) a gymmerth ein gwendid ni, ac a ddug ein doluriau ni, cospedigaeth ein heddwch ni a roddwyd arno ef, a thrwy ei gleisiau ef yr iachwyd ni. S. Paul hefyd sydd yn dywedyd, i Dduw wneuthur yr hwn 2. cor. 5. 21. ni adnabu bechod, yn bechod ac yn aberth tros ein pechodau fel y'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ymddo ef. Ac yn gyttunol â hyn y mae S. Petr wrth serifennu ynghylch y defnydd ymma [Page 60] yn dywedyd, Christ a fu farw vnwaith tros ein pechodau ni, y cyfiawn tros yr anghysiawn &c. At hyn y gellir cyssylliu aneirif o leoedd eraill i'r vn defnydd, ond digon fydd yr ambell rai hyn tros hyn o amser.
Bellach (fal y dywetpwyd yn y dechreuad) ystyriwn a phwyswn achos ei farwolaeth ef, fel wrth hynny y'n cyffroer ni i'w ogoneddu ef tros ein holl fywyd. Yr hyn os mynnwch ei gynnwys yn vn gair, nid oedd amgen achos o'n rhan ni na throsedd a phechod dyn.
Pan ddaeth yr angel i rybyddio Ioseph nad ofnai gymmeryd Mair yn wraig iddo, oni orchymmynnodd efe alw y plentyn ar enw Iesu, oblegid y cadwai ef ei bobl rhag eu pechodau? Pan bregethodd Ioan fedyddiwr Ghrist, a'i ddangos ef mat. 7. 1. i'r bobl â'i fys, oni ddywedodd ef yn oleu wrthynt, wele oen Duw 'r hwn sydd yn tynnu ynimaith bechodau 'r byd? Pan oedd y wraig o Ganaan Ioan. 1. 29. yn ymbil a Christ am iddo gynnorthwyo ei merch hi oedd yn ddrwg ei hwyl gan gythraul, onid addefodd ef yn oleu ei fod ef gwedi ei ddanfon mat. 15. 24. i gadw defaid colledig tŷ Israel, trwy roddi ei einioes trostynt.
Pechod gan hynny, oh ddyn, ie dy bechod di a wnaeth groeshoelio Christ vnig fâb Duw yn y cuawd, ac a barodd iddo oddef angeu dirmygus gwradwyddus y groes. Pe buasit ti yn ymgadw yn gyfion, pe buasit ti yn cadw y gorchymmynion, pe buasit ti heb ryfygu troseddu ewyllys Duw yn dy da▪d cyntaf Addaf: yno ni buasai raid i Ghrist ac yntef yn ffurf Duw gymmeryd arno agwedd gwâs; ni buase raid iddo ac yntef yn anfarwol yn y nef, fyned yn farwol ar y ddayar; ac yntef yn [Page 61] wir fara yr enaid, ni buasei raid iddo newynu, ac yntef yn ddwfr iachus y bywyd, ni buasei raid iddo sychedu, ac yntef yn fywyd, ni buasei raid iddo oddef angau. Ond i'r cyfyngderau hyn a llawer o'r cyfryw y gyrrwyd ef gan dy bechodau di, y rhai oeddynt cymmaint ac mor aml, fel y bodlonid Duw am danynt ynddo ef, ac nid wewn neb arall.
A elli di feddwl am hyn, dydi ddyn pechadurus, a bod heb grynu ynot dy hun? A elli di wrando hyn yn esmwyth heb edifeirwch cydwybod, a thristwch calon. A ddioddefodd Christ ei ddioddefaint drosot ti, ac oni ddangosi di ddim tosturi tu ag atto ef? Pan oedd Christ ynghrôg ar y groes ac yn rhoddi yr Yspryd i fynu, mae 'r Scrythyr lân yn tystiolaethu i lenn y deml hollti yn ddau, i'r ddayar grynu ac i'r cerrig hollti, i'r beddau ymagori ac i'r meirw adgyfodi. Ac chyffro. oni chynnyrfa calon dŷn ddim wrth gofio mor dost ac mor greulon y trinwyd ef gan yr Iuddewon am ein pechodau ni? A ddengys dŷn ei fod yn galon-galettach nâ 'r cerrig, a bod yntho lai o dosturi nâ 'r cyrph meirwon?
Galw yn dy gôf, dydi greadur pechadurus, a gosod gar bron dy lygaid Ghrist wedi ei groeshoelio, meddwl dy fod yn gweled ei gorph ef wedi ei estyn ar y groes, ei ben ef wedi ei goroni â drain pigog, ei ddwylo a'i draed wedi ei trywanu â hoelion, ei galon wedi ei hagoryd â gwaywffon, ei gnawd ef gwedi eiddryllio a'i dorri â chwippiau, ei dalcen ef yn chwysu dwfr a gwaed. Meddwl dy fod yn ei glywed ef yn awr yn llefain mewn ing anrhaith ei oddef ar ei Dâd, ac yn dywedyd, fy Nuw, pa ham y'm gwrthodaist? A ellit ti edrych [Page 62] ar y fath weledigaeth dosturus, neu glywed y fath lais galarus, heb Ddeigrau. ddagrau, pan ystyriech iddo oddef hyn oll, nid am haeddedigaeth o'r eiddo ei hun, ond am dy ddirfawr bechodau di?
Och i ddynion roddi tragwyddol fâb Duw i'r cyfryw boenau. Och i ni fod yn achosion o'i farwolaeth ef, ac yn vnig achos o'i gondemno ef. Oni allwn ni yn gyfiawn lefain, ôch i'r amser y pechasom ni?
Oh fy mrodyr bydded y ddelw ymma, o Ghrist wedi ei groeshoelio wedi ei hargraphu yn wastad yn ein calonnau ni, cyffroed ni i gashau pechod, ac annoged ein meddyliau ni i garu 'r Holl-alluog Dduw yn ddifrif. O herwydd pa ham? onid ydyw pechod, dybygwch chwi, yn beth tôst yn ei olwg ef, gan iddo ef am droseddu o ddyn ei orchymmyn ef wrth fwyta 'r afal, gondemnio 'r holl fyd i angau tragwyddol, ac ni fynnai ei lonyddu Heddychu. a'i ddyhuddo ond yn vnig â gwaed ei fâb ei hun? Gwir am hynny, a gwir iawn yw 'r hyn a ddywedoedd Dafydd, fod yr Arglwydd yn cashau holl weithred-wyr anwiredd, ac na thrig y drygionus Psal. 5. 4. gyd ag ef.
Mae fe yn gwaeddi yn vchel trwy enau ei brophwyd Esai yn erbyn pechaduriaid ac yn dywedyd, Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau Esai. 5. 18. oferedd, a phechod megis â rhaffau menn. Oni rôdd efe arwydd eglur faint yr oedd ef yn cashau ac yn ffiaiddio pechod pan foddodd ef yr holl fŷd oddieithr wythnyn o bobl, pan ddistrywiodd Gen. 7. ef Sodom a Gomorrha a thân a brwmston, pan Gen. 19. laddodd ef mewn tri diwrnod a phlâ 'r nodau 2. Sam. 24. 14. ddengmil a thri-vgein-mil am bechod Dafydd, pan foddodd ef Pharaoh a'i holl fyddin yn y môr Exo. 14. 28. [Page 63] côch, pan drôdd ef Nabuchadonozor y brenhin i ddull anifail pedwar troediog yn crippian ar ei Dan. 4. 33. bedwar-troed, pan oddefodd ef i Achitophel a 2. Sam. 17. 23. Act. 1. 18. Iuddas ymgrogi gan edifeirwch pechod, yr hwn oedd mor erchyll yn eu golwg hwy?
Ond pa raid hynny? Mae 'r siampl ymma yn gadarnach, a hi a ddylei ein cyffroi ni yn fwy nâ 'r llaill i gŷd. Fe wnaethpwyd i Ghrist ac yntef yn fab Duw, ac yn berffaith Dduw ei hunan, yr hwn ni wnaeth bechod erioed, roddi ei gorph i'w ddryllio ac i'w dorri ar y groes am ein pechodau ni. Ond oedd hyn yn arwydd amlwg o ddigofaint ac anfodlonrwydd Duw yn erbyn pechod, na ellid Ca el ei heddwch ef. Eiddiddigio ef. ei ddyhuddo ef mewn modd yn y byd, ond yn vnig trwy anwyl a gwerthfawr waed ei garedig fâb? O dydi bechod, bechod, och fod i ti erioed yrru Christ i'r cyfryw gyfyngder. Och i'r amser y daethost ti erioed i'r bŷd. Ond beth a dâl i ni yr awrhon ymofidio? Mae pechod gwedi dyfod, ac wedi dyfod felly fel na ellir ei ochelyd. Nid oes vn dŷn byw, nac oes y cyfiawnaf ar y ddayar, nad ydyw yn cwympo seithwaith yn y dydd, fel y dywaid Salomon. Pro. 24. 16.
Ac er darfod i'n Iachawdwr Christ ein gwared ni oddiwrth bechod, etto ni wnaeth ef hynny fel y byddem ni ryddion oddiwrth wneuthur pechod, ond fel na chyfrifid pechod i'n damnedigaeth ni. Efe a gymmerth arno gyfiawn wobr pechod, yr hyn yw angau, a thrwy angau fe a orchfygodd Ro. 6. 23. angau, fel y gallem ni trwy gredu ynddo ef, fyw yn dragywydd heb farw byth. Oni ddyle hyn fagu ynom Draha chasineb at. ddygyn gasineb i bechod, pan ystyriom iddo megis wrth gryfder dynnu Duw o'r nef, i wneuthur iddo oddef erchyll boenau ac ing marwolaeth? [Page 64] Och nad ystyriem ni hyn weithiau ynghanol ein rhodres a'n gorhoffedd, fe ffrwynai hynny wŷniau anllywodraethus ein cnawd ni, fe a leihae ac a lonydde ein deisyfladau cnawdol ni, fe a attaliai chwantau ein cnawd ni, fel na byddem ni mor afreolus ac mor anllywodraethus ac ydym.
Nid yw gwneuthur pechod yn ewyllysgar ac yn rhyfygus heb ofn Duw, ddim amgen nâ chroeshoelio Christ o newydd, fel y dywedir i ni yn amlwg yn yr epistol at yr Hebreaid. Yr hyn pe Heb. 6. 6. bai gwedi ei argraphu yn ddwfn ynghalon dŷn, yno ni chae bechod deyrnasu ym-mhob lle yn gymmaint ac y mae, er mawr ofid A dolur. ac artaith ar Ghrist sydd yn awr yn eistedd yn y nêf.
Cofiwn ninnau a chadwn yn wastad yn ein meddyliau Grist wedi ei groeshoelio, fal wrth hynny y'n cyffroer ni oddifewn i ffiaiddio pechod yn hollawl, ac â zêl a difrifwch calon i garu Duw. O blegid dymma vn ffrwyth arall a ddylei goffadwriaeth am farwolaeth Christ ei weithio ynom, sef cariad difrif diragrith tu ag at Dduw. Felly y carodd Duw y byd, medd Ioan sanct, fel y rhoddodd Io. 3. 16. ef ei vnig anedig fâb, fal na chollid pwy bynnag a gredai ynddo ond caffael bywyd tragwyddol.
Os dangosodd Duw gymmaint cariad tu ag attom ni ei greaduriad truain, pafodd y gallwn ni gan iawn nas carom ef eilwaith? Onid oedd hyn yn wystl siccr o'i gariad ef, iddo roddi ei fâb ei hun o'r nêf? Fe a allasai roddi i ni angel pes mynnasai, neu ryw greadur arall, ac er hynny fe fuasai ei gariad ef yn fwy o lawer nâ'n haeddedigaethau ni. Yn awr fe a roddes i ni, nid angel, [Page 65] ond ei fab. A pha fab iddo? Ei vnig fab, ei fab naturiol, ei fab anwyl, ei fab a wnaethai ef yn arglwydd ac yn llywydd ar bob peth.
Onid ydoedd hyn yn arwydd godidog o'i fawr gariaed ef? Onid i bwy y rhoddodd efe ef? Fe a'i rhoddodd ef i'r holl fyd, hynny yw, i Addaf ac i bawb a ddelai ar ei ôl ef.
O Arglwydd, pa beth a haeddasai Addaf na neb arall ar law Dduw, fel y rhoddai ef ei fab i ni? Pobl druain ydym ni oll, pobl bechadurus, pobl golledig, wedi ein troi yn gyfion allan o baradwys, wedi ein cau yn gyfiawn allan o'r nef, a chwedy ein barnu yn gyfiawn i dân vffern.
Ac etto, gwelwch arwydd rhyfedd o gariad Duw, fe a roddodd i ni ei vnig anedig fâb, i ni, meddaf, y rhai oeddym yn elynion digasog marwol iddo ef, fel y gallem ni trwy rinwedd ei waed ef a dywalltwyd ar y groes, gael ein glanhau yn llwyr oddiwrth ein pechodau, a'n gwneuthur eilwaith yn gyfiawn yn ei olwg ef. Pwy a ddichon lai nâ rhyfeddu wrth glywed ddarfod i Dduw ddangos y fath gariad an-nhraethol tu ag attom ni, y rhai oeddym yn elynion marwol iddo? Oh ddyn marwol, ti a ddylauit gan iawn ryfeddu am hynny, a chydnabod ynddo fawr Ddaioni Duw a'i drugaredd tu ag at ddŷn, hon sy mor rhyfeddol ac nad oes vn cnawd er maint ei ddoethineb fydol, yn abl i'w deall nac i'w thraethu.
O blegid, fel y tystiolaetha S. Paul, Mae Ro. 5. 6. Duw yn gosod allan yn eglur ei gariad tu ag attom, am iddo ddanfon ei fâb Christ i farw drosom, a ni etto yn bechaduriad ac yn elynion cyhoeddus iddo ef.
Pe buasem ni wedi haeddu hynny mewn [Page 66] modd yn y bŷd ar ei law ef, ni buasei ddim rhyfeddod iddo wneuthur hynny, ond nid oedd haeddedigaeth yn y byd o'n rhan ni, yn haeddu iddo wneuthur hynny.
Am hynny, greadur pechadurus, pan glywech ddarfod i Dduw roddi ei fab i farw tros bechodau 'r byd, na thybia iddo wneuthur hynny er mwyn na haeddedigaeth na daioni oedd ynot ti, o blegid yr oeddit ti yr amser hynny yn gaethwâs i'r cythraul: ond cwympa i lawr ar dy liniau a gwaedda gyd â'r prophwyd Dafydd, O Arglwydd, pa beth yw dŷni ti i'w goffau, neu fâb dŷn i ti i ymweled felly ag ef? A chan ddarfod iddo dy ps. 8. 4. garu di yn gymmaint, ymegniâ i'w garu yntef eilwaith â 'th holl galon, â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, fel wrth hynny y gellech di ddangos nad wyt an-nheilwng o'i gariad ef.
Mi a roddaf ar dy gydwybod di dy hun, oni thybygit ti fod dy gariad wedi ei osod. wario yn ddrwg ar yr hwn ni alle ar ei galon dy garu dithau. Os gwir hyn (fel y mae yn wir iawn) yna meddwl mor rhwymedig wyt ti i garu Duw, yr hwn a'th garodd di yn gymmaint, ac nad arbedodd ef i vnig anedig fab ei hun oddiwrth angau mor greulon ac mor gywilyddus er dy fwyn di.
Hyd yn hyn y soniasom am achos angau a dioddefaint Christ, yr hwn o'n rhai ni oedd pechod erchyll tost, ac o'r tu arall oedd rôdd rad Duw, yn dyfod o'i fawr drugaredd a'i dyner gariad ef tu ag at ddŷn, heb na rhyglyddon na haeddedigaeth o'n rhan ni. Yr Arglwydd o'i fawr drugaredd a ganiattao i ni nad anghofiom byth fawr ddawn ein Iechydwriaeth ynghrist Iesu, ond bod i ni yn wastadol ein dāgos ein hunain yn ddiolchgar amdano, [Page 67] gan ffiaiddio pob rhyw ddrygioni a phechod, a rhoi ein meddyliau yn gwbl i wasanaeth Duw, ac i gadw ei orchymmynion ef yn ddieseulus.
Bellach mae 'n rhaid dangos i chwi pa fodd y mae i ni fwynhau angau a dioddefaint Christ i'n diddanwch, megis meddyginiaeth i iachau ein clwyfau, fel y gallo weithio ynom y ffrwyth y rhoddwyd hi o'i blegid, hynny yw Iechyd a chadwedigaeth ein eneidau. O blegid fel na wna llês yn y byd iddŷn fod eli gantho, onis gesyd ef ar ei anafle a'i glwyf: felly ni ffrwytha marwolaeth Christ i ninnau, onis mwynhawn hi yn y modd yr ordeiniodd Duw. Mae 'r Holl-alluog Dduw fynychaf yn gweithio trwy foddion a chyfryngau ac yn hyn o beth y mae efe gwedi gosod cyfrwng hefyd, trwy 'r hwn y gallwn dderbyn ffrwyth ac elw i iechyd ein eneidiau.
A pha gyfrwng yw hwnnw? yn wir ffydd ydyw. Nid ffydd anwadal sigledig, ond ffydd ddiogel, siccr, sylfanedig, ddiragrith. Fe a ddanfonodd Duw ei fâb i'r byd, medd Ioan sanct. I ba ddefnydd? fel na chollid pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Merciwch y geiriau hyn, Pwy bynnag a gretto ynddo. Dyna'r Io 3. 15. modd a 'r cyfrwng trwy 'r hwn y mae yn rhaid i ni fwnhau ffrwythau marwolaeth Christ, a'i gosod wrth ein clwyfau marwol. Dymma 'r modd a'r cyfrwng, trwy 'r hwn y mae yn rhaid i ni gyrhaeddyd bywyd tragwyddol, sef ein ffydd ni.
O blegid fel y dywaid S. Paul yn ei epistol at y Rhufeiniaid, A'r galon y credir i gyfiawnder, ac a'r genau y cyffessir i Iechydwriaeth. Ro. 10. 10.
Pan ofynnodd ceidwad y carchar i S. Paul pa Act. 16. 31. beth a wnai i gael bod yn gadwedig, fe a attebodd [Page 68] fel hyn, Crêd yn yr Arglwydd Iesu, a chadwedig fyddi di a'th dylwyth. Wedi darfod i'r Efangylwr osod allan i ni yn halaeth fywyd a marwolaeth yr Arglwydd Iesu, mae fe yn y diwedd yn cau ar y cwbl yn y geiriau hyn, Hyn a scrifennwyd fel y Io. 20. 31. credem mai Iesu Ghrist yw mâb Duw, a chaffael o honom trwy ffydd fywyd tragwyddol trwy ei enw ef. Ac i gau ar y cwbl â geiriau S. Paul, y rhai sy fal hyn, Christ yw diwedd y gyfraith er cyfiawnder i bob vn a gredo. Rom. 10. 4.
Wrth hyn gan hynny y gellwch ddeall yn dda, mai vnig fodd ac offeryn iechydwriaeth o'n rhā ni yw ffydd, hynny yw, diogel oglud ac ymddiried yn-nhrugareddau Duw, trwy'r hyn yr ydym ni yn ein perswadio ein hunain, ddarfod i Dduw faddeu, ac y maddeu ef ein pechodau ni, a darfod iddo ein derbyn ni eilwaith i'w ffafor, ddarfod iddo ein rhyddhau ni oddiwrth rwymau dammedigaeth, a'n derbyn ni eilwaith i rifedi ei ddewisol bobl, nid er mwyn ein rhyglyddon a'n haeddedigaethau ni, ond yn vnig er mwyn haeddedigaeth angau a dioddefaint Christ, yr hwn a wnaethpwyd yn ddŷn er ein mwyn ni, ac a ymostyngodd i oddef gwarth y groes, fel trwy hyn y gallem ni gael bod yn gadwedig, a'n gwneuthur yn etifeddion o deyrnas nef.
Y ffydd hon yr ydys yn ei gofyn ar ein dwylo ni. Ac os cadwn honny'n ddiogel yn ein calonnau, diammau y cawn iechydwriaeth gan Dduw, fel y cafodd Abraham, Isaac ac Iacob, am y rhai y mae 'r Scrythur yn dywedyd iddynt gredu, a chyfrif Gen. 15. 6. Rom. 4. 3. hynny iddynt yn gyfiawnder. A gyfrifwyd hynny i ddynt hwy yn vnig? ac oni chyfrifir i ninnau? Gwnair, os byd gennym ni yr vn ffydd ac oedd [Page 70] genthynthwythau, fe a gyfrifir mor wir yn gysiawnder i ni, ac y cyfrifwyd iddynt hwythau. O blegid yr vn ffydd sydd raid iddi ein cadw ni a hwyntau, sef siccr ddiogel ffydd ynghrist Iesu, yr hwn, fel y clywsoch, a ddaeth i'r bŷd fel na chollid pwy bynnag a gredai ynddo ef, ond caffael o hono fywyd tragwyddol. Io. 3. 15.
Ond ymma mae 'n rhaid i ni wachelyd cloffi gar bron Duw trwy ffydd an-niogel, anwadal, ond bod o honi yn gadarn ac yn ddiogel hyd ddywedd ein hoes. Mae'r anwadal, medd S. Iaco, Iac. 1. 6. yn gyffelyb i donnau 'r môr, ac na feddylied y dŷn hwnnw y caiff ef ddim gan yr Arglwydd. Pan oedd Petr yn dyfod at Ghrist ar hŷd y dwfr, am iddo laesu. ballu mewn ffydd, fe fu mewn perigl boddi. Felly ninnau os dechreuwn anwadalu a Dowtio. phethruso, mae yn berigl rhag i ni foddi fel y gwnaeth Petr, nid i'r dwfr, ond i'r pwll heb waelod yn-nhân vffern.
Am hynny yr ydwyf yn dywedyd i chwi, y bydd rhaid i ni gymmeryd gafael yn haeddiant angau a dioddefaint Christ trwy ffydd, a hynny trwy ffydd gadarn ddiogel, heb ammau na ddarsu i Ghrist trwy ei offrymiad ei hun yn offrymmedig vnwaith ar y groes, dynnu ymmaith ein pechodau ni, a'n hadferu. hedfryd ni elwaith i ffafor Duwmor gyflawn ac mor berffaith ac na bydd rhaid fyth yn y byd, nac aberth nac iawn arall tros bechod.
Fel hyn y clywsoch ar ychydig eiriau, y modd y bydd rhaid i ni fwynhau ffrwythau a haeddedigaethau marwolaeth Christ, fel y gallo weithio iechydwriaeth ein heneidiau ni, hynny yw ffydd siccr, ddiogel, berffaith, ddianwadal. O blegid fel yr iachawyd pawb a edrychai yn grâff ar y [Page 71] sarph brês, ac y gwaredwyd hwy wrth edrych arni, oddiwrth eu clefydau cnawdol a brathau corphorol: colyn frathau conyn frathau felly y gwaredir pawb ac a edrycho ar Gristwedi ei groeshoelio a ffydd wir fywiol, oddiwrth glwyfau tôst eu heneidau, er maint ac er mor angheuol fyddont.
Am hynny, fy anwyl garedigion, os digwydda i ni vn amser trwy wendid y cnawd gwympo i bechod (fel y mae yn am-mhossibl nas cwympom yn fynych) ac os byddwn yn clywed baich trwm pechod yn pwyso ar ein heneidiau, yn ein poeni ag ofn angau, vffern a damnedigaeth, yno arferwn y modd a'r cyfrwng a appwyntiodd Duw yn ei air, hynny yw cyfrwng ffydd yr hon yw 'r vnig offeryn iechydwriaeth sydd wedi ei adel i ni yn awr. Edrychwn yn ddianwadal ar Ghrist wedi ei groeshoelio â llygaid ein calonnau. Ymddiriedwn gael bod yn gadwedig yn vnig trwy ei angau a'i ddioddefaint ef, a chael golchi ein pechodau ymmaith yn lân trwy ei werthfawroccaf waed ef, fel yn-niwedd y byd, pan ddelo ef eilwaith i farnu byw a meirw, y derbynio ef ni i'w deyrnas nefol, ac y'n cyfleo ymmhlith ei ddewisol a'i etholedig bobl, yno i fod yn gyfrannogion o'r byvoyd anfarwol tragwyddol, yr hwn a brynodd efe i ni trwy rinwedd ei archollion gwaedlyd. Iddo ef gan hynny gyd â'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo holl anhrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd. Amen.
¶ Pregeth am adgyfodiad ein Iachawdwr Iesu Christ.
Ar ddydd Pâsc.
OS cyffrodd erioed na mawredd na godidawgrwydd vn peth, ysprydol neu gorphorol, eich meddyliau chwi i wrando yn ddiesceulus (bobl ddaionus Ghristianogawl a'm hanwyl garedig yn ein harglwydd a'n Iachawdwr Iesu Ghrist) nid wyf yn ammeu na châf chwi yn awr yn wrandawyr parod diesceulus ar y peth sydd gennif yn awr i'w ddangos i chwi. O blegid dyfod yr ydwyf i fanegi chwi y pwngc mawr diddanus hwnnw o'n ffydd a'n crefydd Ghristianogawl ni.
Mor fawr yn ddiau yw defnydd y pwngc ymma, a chymmaint ei bwys a'i bris, ac y tybiwyd bod yn wiw ac yn deilwng cadw ein Iachawdwr Christ ar y ddayar tros ddeugain nhiwrnod yn ôl ei gyfodi ef o angau i fywyd, er cadarnhau a siccrhau 'r pwngc hwnnw ynghalonnau ei ddiscyblon ef. Fel (megis y tystiolaetha S. Luc yn eglur yn y bennod gyntaf o Actau'r Apostoliyn) y bu efe yn Act. 1. 3. aros gydâ e'i ddiscyblon tros yspaid deugain nhiwrnod ar vntu yn wastadol yn ôl ei adgyfodiad, o ennyd. lwyr sryd yn ei berson yr hwn oedd yn awr wedi ei ogoneddu, ar ddyscu ac athrawiaethu i'r rhai a fydde raid iddynt fod yn ddyscawdwyri eraill, yn gyflawn ac yn berffaith, wirionedd y pwngc Christianogaidd hwn, yr hwn yw gwaelod a sylfaen yr holl grefydd, cyn iddo ddyrchafu at ei Dâd i'r nefoedd, yno i dderbyn gogoniant ei oruchafiaeth a'i orfodaeth orchfygus.
Yn siccr mor ddiddanus i'n cydwybodau ni ydyw'r [Page 73] pwngc hwn, ac y mae efe yn glo ac yn ▪agoriad a'Iwedd holl ffydd a chrefydd Ghristianogawl. Os Christ ni chyfodwyd, medd yr Apostol S. Paul, 1. Cor. 15. 14. &c. ofer yw'n pregeth ni, ac ofer yw'ch ffŷdd chwithau yr ydych yn aros etto yn eich pethodau. Oni chyfodwyd Christ, medd yr Apostol y mae y rhai sy wedi huno ynghrist yn golledig, yno truanaf o'r holl ddyniō ydym ni y rhai ydym yn gobeithio ynghrist oni adferwyd ef i ddedwyddwch drachefn. Ond yn awr fe a gyfodwyd o angau eilwaith, medd yr Apostol Paul, ac a wnaethpwyd yn flaenffrwyth i'r rhai a hunasant, er mwyn eu cyfodi hwy i fywyd tragwyddol eilwaith: Ie oni bai fod yn wir i Grist gyfodi eilwaith, ni biddai wir chwaith derchafu o honaw ef i'r nef, nac iddo anfon i lawr o'r nef yr Yspryd glân attom ni, na'i fod ef yn eistedd ar ddeheu-law ei Dâd nefol, yn llywodraethu nef a dayar, yn teyrnasu, fel y dyweid y prophwyd, o fôr hyd fôr, nac y bydd ef ar ôl y bŷd hwn yn farnwr byw a meirw, i roddi gwbr i'r daionus a barn ar y drygionus. Am hynny fel y safo holl Dyrch dolennau lingciau gadwynau ein ffydd ni ynghŷd mewn siccr ddiogelwch a chadernid, fe a ryngodd bodd i'n Iachawdwr Chiist beidio a'i dynnu ei hun yn y man allan o bresennoldeb corphorol a golwg ei ddiscyblon, ond fe a ddewisodd iddo ddeugain nhiwrnod, yn y rhai y dangosai iddynt, trwy amryw resymmau ac arwyddion diogel, ddarfod iddo orchfygu angau, a chyfodi yn wir i fywyd eilwaith.
Fe a ddechreuodd, medd S. Luc, ar Moses a'r Luc 24. 27. holl brophwydi, ac a egorodd iddynt y pethau oeddynt scrifennedig am dano ef yn yr holl Scrythyrau, er mwyn siccrhau gwirionedd ei adgyfydiad a soniasid am dano ymmhell o'r blaen: yr hyn a wiriodd [Page 74] ef yn siccr, fel y dangosir yn oleu ac yn eglur wrth ei fynych ymddangofiad ef i amryw ddynion ar amryw amseroedd.
Yn gyntaf fe a ddanfonodd ei angelion at y bedd, y rhai a ddangosasant i ryw wragedd y bedd yn Mat. 28. 2. wâg, ond bod y lliainiau amwisc. claddedigaeth yn aros ynddo. A thrwy'r arwyddion hyn yr addyscwyd y gwragedd hynny yn gyflawn, ei fod ef gwedi adgyfodi, ac felly y tystiolaethasant hwy yn gyhoeddus. Yn ol hyn yr ymddangosodd Christ ei hun i Fair Magdalen, ac yn ol hynny i ryw wragedd Io. 20. 14. eraill, ac yn y mā ar ôl hynny yr ymeddangosodd ef i Petr, yno i'r ddau ddiscybl oedd yn myned i Emmaus. 1. Cor. 15. 5. Fe a ymddangosodd hefyd i'r discyblon lle'r oeddynt wedi ymgynnull ynghŷd rhag ofn yr Iuddewon, Luc. 24. 36. a'r drysau yn gaead. Ac amser arall y gwelwyd ef wrth fôr Tiberias gan Petr a Thomas a chā ddiscyblō eraill, a hwy yn pyscotta. Fe a welwyd gā fwy na phūcāt brodyr ar vnwaith ymmynydd Io. 21. 5. Galilęa, lle 'r appoitiase 'r Iesu tr wy Angel iddynt fod, pan ddywedodd ef wrthynt, wele fe a aiff o'ch blaen chwi i Galilęa, yno y cewch ei weled ef fel y dyweddod ef i chwi. Yn ôl hyn yr ymddangosodd ef i Iaco. Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef yn amlwg gan yr holl Apostolion, yr amser y cymmerwyd ef i fynu i'r nef. Fel hyn yr ymddangosodd Act. 1. 9. ef yn fynych ar ol ei adgyfodiad er siccrhau a chadarnhau y pwngc ymma. Ac yn y gweledigaethau hyn, waithiau y dāgosodd iddynt ei ddwylo, ei draed, ei ystlys, ac a archodd iddynt ei deimlo ef fal na thybygent mai Yspryd neu ledrith oedd efe. Weithiau fe â fwyttaod gyd â hwy, ond bob amser fe a sonne wrthynt am dragwyddol deyrnas Dduw, i siccrhau iddynt wirionedd ei adgyfodiad. [Page 75] O blegid yno yr agorodd ef ei de all hwy fel y deallen yr scrythyrau, ac a ddywedodd wrthynt, Luc. 24. 27. felly y mae'n scrifennedig, ac felly yr oedd yn rhaid i Grist ddioddef, a chyfodi o feirw y trydydd dydd, a phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef i holl genhedlaethau'r ddayar. Chwi a welwch (Gristianogion daionus) mor angenrheidiol yw'r pwngc ymma o'n ffydd ni, gan ddarfod ei Grist ei hun ei brofi ef a rhesymmau ac arwyddiō mor eglur, dros gyhyd o amser ac ennyd. Yn awr gan hynny, fel yr oedd ein Iachawdwr Christ yn ddiesceulus i fynegi y pwngc ymma er ein diddanwch a'n addysc ni felly byddwn ninnau barod yn ein credyniaeth i'w dderbyn ef er ein diddāwch a'n haddysc ein hunain. Fel na bu efe farw drosto ei hun, felly nid adgyfododd ef er ei fwyn ei hun. Fe a fn farw, medd S. Paul tros ein pechodau ni, ac a Rom. 4 25. adgyfododd er ein cyfiawnhâd ni. Oh, Dyna air cōfforddus yr hwn a ddlyeid ei gofio yn wastadol. Fe a fu farw, medd ef, i dynu ymmaith bechod, ac a adgyfododd er ein cynnyscaeddu ni â chyfiawnder. Ei āgau ef a dynnodd ymmaith bechod a melldith, ei farwolaeth ef oedd yr iawn tros bôb vn o'r ddau, ei angau ef a ddinistriodd angau, ac a orchfygodd y cythraul, yr hwn oedd a gallu āgau ny ei feddiant, ei farwolaeth ef a ddinistriodd vffern a'i holl ddānedigaeth. Fel hyn y llyngcwyd angau trwy fuddugoliaeth Christ, fel hyn yr anrheithiwyd vffern yn dragywydd. Os bydd i neb ammau y fuddugoliaeth hon, dangosed gogoneddus adgyfodiad Christ hi iddo. Oni allai angau ddal Christ tan ei lywodraeth a'i allu, fel nad adgyfodai, mae yn amlwg fod gallu angau wedi ei orchfygu. Os gorchfygwyd angau, yno mae yn siccr ddarfod distrywio [Page 76] pechod, am yr hwn yr ordeiniasid angau yn gyflog. Os yw pechod ac angau wedi difannu, fe a ddifannodd hefyd greulonder y diafol, yr hwn oedd gantho allu ar angau, ac oedd awdur a dechreuad pechod, a llywodraethwr vffern. Os cafodd Christ yr oruchafiaeth arnynt hwy ei gŷd trwy nerth ei angau, ac os profodd efe hynny yn eglur wrth ei orchyfygus a'i wrol adgyfodiad (fel nad oedd bossibl i'w fawr allu ef gal ei orchfygu ganthynt hwy) ac felly os gwir hyn, i Grist farw tros ein pechodau ni ac adgyfodi er ein cyfiawnhâd ni pa ham na allwn ni, y rhai ydym aelodau iddo trwy wir ffydd, orfoleddu a dywedyd yn hŷf gyd â'r prophwyd Oseach a'r Apostol Paul, Oseah 13. 14. 1. Cor. 15. 55. Angau pa le y mae dy gonyn. golyn? vffern pa le y mae dy fuddugoliaeth? I Dduw, meddant, y byddo'r diolch yr hwn a roddes i ni fuddugoliaeth trwy ein harglwydd Iesu Grist. Ni arwyddoccaed yn vnig y fuddugoliaeth alluog hon o'i adgyfodiad ef, trwy lawer o arwyddiō yn yr hên destament, megis wrth Sāpsō, Barn. 14. 8. pan laddodd ef y llew, yr hwn y daeth melysder a mêl o'i enau; ac megis y dug Dafydd arwydd o hono, pan achubodd ef ac y lladdodd ef yr oen o enau'r llew, a phan orchfygodd ef ac y lladdodd y cawr 1. Sam. 17. 33. mawr Goliah; ac megis pan lyngcodd y pyscodyn Ionas, a'i daflu ef eilwaith i dir yn fyw: ond fe a brophwydwyd hefyd ā dano yn dra eglur gan brophwydi yr hên Destamēt, ac a'i cadarnhawyd hefyd gan yr Apostolion yn y Testament ne wydd. Fe a yspeiliodd, medd S. Paul, dywysogaethau a Col. 2. 15. nerthoedd, ac a'u herddangosodd hwynt yn gyhoeddus gan orfoleddu arnynt ynddo ei hun.
Dymma alluog allu yr Arglwydd yr hwn yr ydym ni yn credu ynddo. Trwy ei angau y gweithiodd efe i ni yr oruchafiaeth hon, a thrwy ei adgyfodiad [Page 77] y prynodo efe i ni fywyd tragwyddol a chyfiawnder.
Ni buasai ddigon i ni gael ein gwared trwy ei angau ef oddiwrth bechod, oni buasei wrth ei adgyfodiad ef ein cynnyscaeddu à chyfiawnder. Ac ni buasem ni nês er ein gwared oddiwrth angau, oni buasai iddo gyfodi eilwaith i agor i ni byrth nêf i fyned i mewn i fywyd tragwyddol. Ac am hynny y mae S. Petr yn diolch i Dduw Tâd ein harglwydd Iesu Grist am iddo o'i fawr drugaredd yn hadennill ni i obaith bywiol, trwy aligyfodiad Iesu Ghrist oddiwrth y meirw, i gael etifeddiaeth ddiddiwedd a dilwgr a diddiflannedig yr hon a 1. Pet. 1. 3. roddwyd i gadw yn y nef i ni, y rhai trwy allu Duw ydym gadwedig trwy ffydd, i gael diogelwch a ddarparwyd i'w arddangos yn yr amser diwethaf.
Fel hyn y gweithiodd ei ail-gyfodiad ef fywyd a chyfiawnder i ni. Fe a aeth trwy angau ac vffern, er ein rhoi ni mewn gobaith y gallwn ninnau trwy ei nerth ef wneuthur yr vn peth. Fe a dalodd iawn dros bechod, fel na chyfrifid pechod i ni. Fe a ddinistriodd y cythrâul a'i holl greulonder, ac a fuddugoliaethodd yn ei erbyn ef yn gyhoeddus, ac a ddygodd oddiarno ei holl gaethion, ac a'u derchafodd hwy ac a'u gosododd gyd ag ef ei hun ymmhlith dinesyddion nef odduchod. Fe a fu farw i ddistrywio llywodraeth y cythraul ynom ni, ac a gyfododd eilwaith i ddanfon i lawr ei Yspryd glân i ly wodraethu yn ein calonnau ni, i'n cynnyscaeddu ni â pherffaith gyfiawnder. Fel hyn y mae 'n wir yr byn a ganodd Dafydd, Veritas de terra orta est, & justitia de coelo prospexit: Gwirionedd a darddod o'r ddayar, a chyfiawnder a [Page 77] edrychodd o'r nefoedd, fe a gyhoeddwyd gwirionedd addewidion Duw i ddynion ar y ddayar, neu o'r ddayar y cyfododd y gwirionedd tragwyddol, mâb Duw, i fywyd: a gwir gyfiawnder yr Yspryd glân a edrychodd i lawr o'r nefoedd, ac a rannwyd yn ddawn haelionus ar yr holl fyd. Fel hyn yr aeth gogoniant a moliant yn ei hôl i fynu at Dduw, am ei drugaredd a'i wirionedd. Ac fel hyn y daeth heddwch i lawr o'r nefoedd at ddynion a chalonnau daionus ffyddlon ganthynt. Fel hyn, fel yr scrifenna Dafydd, yr ymgyfarfu Luc. 2 4. Psal. 58. 10. trugaredd a gwirionedd, ac yr ymgusanodd cyfiawnder a heddwch.
Os wyt yn ammau fod cymmaint o wynfyd a dedwyddwch wedi ei weithio i ti, ô ddŷn, galw i'th gôfmai er mwyn hyn y derbyniaist di i'th feddiant dragwyddol wirionedd ein Iachawdwr Iesu Grist, fel y siccrheid gwirionedd y peth hyn yn dy gydwybod di. Ti a'i derbyniaist ef, os derbyniaist ef mewn gwir ffydd ac edifeirwch calon: os ar fedr gwellau, ti a'i derbyniaist ef yn wystl tragwyddol o'th iechydwriaeth. Ti a dderbyniaist ei gorph ef, yr hwn a ddrylliwyd vnwaith, a'i waed ef, yr hwn a dywalltwyd er maddeuant o'th bechodau di. Ti a dderbyniaist ei gorph ef fel y bydde i ti gael ynot y Tâd, y Mâb a'r Yspryd glân i drigo gydâ thi, i'th gynnyscaeddu di â grâs, i'th gadarnhau di yn erbyn dy elyniyn, ac i'th ddiddanu di â'u presennoldeb. Ti a dderbyniaist ei gorph ef i'th siccrhau di o ddedwyddwch tragwyddol, a bywyd dy enaid.
O blegid, fel y dywaid S. Paul, gydâ Christ Eph. 2. 1. trwy Fydd y'th adfywhawyd di o angau i fywyd, o fywyd i râs, ac y'th Symmudwyd. drosglwyddwyd mewn gobaith [Page 78] o angau corphorol a thragwyddol, i fywyd tragwyddol gogoniant yn y nêf, lle y dylai dy ymddiygiad ti a'th galon a'th ddymuniad fod wedi eu gosod. Nac amheuwch wirionedd y peth hyn, er maint ac er vched y pethau hyn. Nid yw weddus i Dduw wneuthur ond gweithredoedd mawrion, er mor ammhossibl fyddont yn dy olwg di. Gweddia ar Dduw ar gael o honot ffydd i ddeall y mawr ddirgelwch hwn o adgyfodiad Christ: fel trwy ffydd y gellych gredu yn ddiogel nad oes dim yn am-mhossbl gyd â Duw. Dŵg di ffydd yn vnig at sanctaidd air a Sacramentau Christ. Bid i'th edifeirwch diddangos dy ffydd: bid i'th Luc. 18. 27. lwyr fryd ti ar wellau ac i vfyddd-odd dy galon di i gyfraith Dduw ddangos yn ôl hyn dy gredyniaeth di. Ymegnia ar allu o honot ddywedyd gyd â S. Paul, Ein gwladwriaeth ni sydd yn y nefoedd, Phil. 3. 20. o'r lle'r ydym yn edrych am yr Iachawdwr, sef yr Arglwydd Iesu Grist, yr hwn a gyfnewidia ein corph gwael ni, fel y gwneler yn vn ffurf a'i gorph gogoneddus ef, o herwydd y grym twy'r hwn y dichon ef ddarestwng pob dim iddo ei hun.
Fel hyn, bobl Ghristianogawl ddaionus, yn gymmaint a darfod i chwi glywed y mawr a'r godidog ddoniau sydd yn dyfod oddiwrth alluog a gogoneddus adgyfodiad Christ, megis pa fodd y talodd efe iawn tros bechod, y gorchfygodd ef y cythraul, angau ac vffern, ac y cafodd yn fuddugoly llaw vchaf arnynt i gŷd, i'n gwneuthur ni yn rhyddion ac yn ddiogel oddiwrthynt: gan ŵybod ein bod ni trwy ddawn ei adgyfodiad ef, gwedi cyfodi gyd ag ef trwy ffŷdd, i fywyd tragwyddol, gan fod mewn cyflawn ddiogelwch o'n gobaith, y cyfodir ein cyrph ni hefyd o angau, i'w [Page 79] gogoneddu mewn anfarwolaeth au cyssylliu a'i gorph gogoneddus ef, a chennym yn y cyfamser ei Yspryd sanctaidd ef yn ei ein calonnau, megis sêl a gwystl o'n et feddiaeth dragwyddol, trwy gynnorthwy yr hwn Yspryd y'n cyflawnir ni â phob cyfiawnder, trwy allu yr hwn y byddwn abl i orchfygu ein holl wyniau drygionus, y rhai sy yn cyfodi yngwrthwyneb i ewyllys Duw. Medi darfod, meddaf, i ni ystyried y pethau hyn yn dda, dangoswn bellach yn y rhan arall o'n bywyd, ein ffydd sydd gennim yn y pwngc ffrwythlon hwn, gan ein cydffurfio ein hunain ag ef, wrth gyfodi beunydd oddiwrth bechod i gyfiawnder a sancteiddrwydd buchedd.
O blegid pa lês fydd i ni, medd S. Petr, os 2. Pet. 2. 20. gwedi diangc oddiwrth halogedigrwydd y hyd trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r Achubwr Iesu Christ, y ceffir ni eilwaith gwedi ymrwystro â'r vn pethau, ac wedi ein gorchfygu ganthynt? Gwell fuasei i ni, medd ef, na wybassem ffordd y cyfiawnder, nâ chwedi ei gwybod, cilio oddiwrth y gorchymmyn sanctaidd a roddwyd i ni. Felly y digwydd i ni yr hyn a ddywaid y wir ddiarheb, Y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun, a'r hŵch wedi ei golchi i'w ymdreiglfa yn y dom.
Pa gywilydd fydde i ni gwedi ein golchi mor lân ac mor rhad oddiwrth ein pechod, droi at ei frynti ef eilwaith? Pa ffolineb fyddei i ni gwedi ein cynnyscaeddu felly vnwaith â chyfiawnder, ei cholli hi eilwaith? Pa ynfydrwydd fydde i ni golli yr etifeddiaeth yr ydym ni wedi ein gosod ynddi yr awron, er gwael a darfodedig hoffder pechod? Pa annhirionder fyddai, a'n Iachawdwr Christ wedi dyfod attom i letteu ac i drigo ynom, [Page 80] i ni i yrru ef ymmaith oddiwrthym, a'i ddeol a'i ymlid ef allan o'n heneidiau, ac yn lle 'r hw n y mae ynddo bob grâs a rhinwedd, cymmeryd Yspryd anrasol diafol, dechreuad pob drygioni ac aflwydd? Pa fodd y gallwn ni ar ein calonnau ddangos y cyfryw ddygyn angharedigrwydd i Grist, yr hwn a'n galwodd ni yr awrhon mor fwyn i'w drugaredd, a'i cynny giodd ei hunan i ni, ac a ddaeth yn awr i mewn i ni? Ie pa fodd y beiddiwn ni fod mor hŷf a gwrthod presennoldeb y Tad, y Mâb a'r Yspryd glân? (O blegid lle mae 'r vn o honynt, yno y mae Duw oll yn gwbl yn ei fawrhydi, ynghŷd â'i ddoethineb a'i ddaioni) a bod heb ofni, meddaf, enbeidrwydd a pherigl y cyfryw ymwrthodiad ac ymadawiad bradwraidd? Chwi frodyr a chwiorydd Christianogawl ddaionus, edrychwch arnoch eich hunain, ystyriwch y braint yr ydych ynddo, na edwch i ffolineb golli yr hyn y mae grâs wedi ei brynu mor brid, a chwedi ei gynnig, na oddefwch i ynfydrwydd a dallineb ddiffodd y fath oleuni mawr ac a ddangoswyd i chwi.
Yn vnig cymmerwch galon a chyssur, gwiscwch am danoch holl arfogaeth Duw fel y galloch Eph. 6. 13. sefyll yn erbyn eich gelynion, y rhai a fynnent eich darostwng chwi a'ch dwyn tan eu caethiwed. Cofiwch ddarfod eich prynu chwi oddiwrth eu gwâg ymarweddiad hwy, ac na phrynwyd eich rhydd-did chwi nac ag aur, nac ag arian ond a phridwerth gwerthfawr waed yr oen difrycheulyd 1. Pet. 1. 18. Iesu Grist, yr hwn a ddarparwyd yn y blaen cyn gosod sylfaenau 'r bŷd, eithr a yspyswyd yn yr amser diweddaf er eich mwyn chwi, y rhai ydych trwyddo ef yn credu i Dduw, yrhwn a'i cyfodes [Page 81] ef oddiwrth y meirw, ac a roddes iddo ef ogoniant fel y byddei eich ffŷdd chwi a'ch gobaith ar Dduw.
Am hynny fel y canlynasoch hyd yn hyn ofer wyniau eich meddyliau, ac felly anfodloni Duw i fawr enbeidrwydd eich eneidiau: felly bellach megis plant vfydd wedi eich puro trwy ffydd, ymrowch i rodio ar y ffordd y mae Duw yn ewyllysio, fel y galloch dderbyn diwedd eich ffydd, hynny yw, iechydwriaeth eich eneidiau. Ac fel y rhoddasoch eich cyrph yn arfau anghyfiawnder i bechod, Rom. 6. 13. 19. felly ymrowch bellach yn weision i gyfiawnder fel y'ch sancteiddier ynddo.
Os ydych yn ymhoffi yn y pwngc hwn o'n ffydd ni, fod Christ gwedi adgyfodi o angau i fywyd, canlynwch siampl ei adgyfodiad ef, fel y mae S. Paul yn cynghori gan ddywedyd, Os claddwyd ni gyd â Christ trwy fedydd i farwolaeth, Rom. 6. 4. byddwn feirw beunydd i bechod, gan farwhau a lladd ei wyniau a'i drach wantau drygionus ef. Ac fel y cyfodwyd Christ o angau trwy ogoniant ei Dâd, felly cyfodwn ninnau i newydddeb buchedd, a rhodiwn ynddo yn wastodol, fel y gallom ninnau megis plant naturiol, fyw yn y cyfryw ymarweddiad ac a baro i ddynion wrth weled ein gweithredoedd da ni, ogoneddu ein tâd yr hwn sydd yn y nefoedd. Mat. 5. 16.
Os cyfodwyd ni gan hynny gyd â Christ trwy ffydd i obaith y bywyd tragwyddol, cyfodwn hefyd gyd â Christ yn ôl ei siampl ef, i fywyd newydd, ac ymadawn â 'n hên fywyd. Yno y byddwn wedi cyfodi yn gywir, os ceisiwn bethau nefol, os bydd ein ewyllys ar y pethau sydd odduchod, ac nid ar y pethau sydd ar ddayar.
[Page 82] Os ewyllysiwch wybod pa beth yw 'r pethau dayarol a ddylech ei rhoi heibio, a pha beth yw 'r pethau nefol odduchod a ddylech ymgais a hwynt a'u canlyn: mae S. Paul yn dangos hynny yn ei Col. 3. 5. epistol at y Colossiaid, lle y mae efe yn ein cynghori ni fel hyn, Marwhewch eich aelodau y rhai sydd ar y ddayar, godineb, aflendid, gwŷn, drygchwant, cybydd-dod, yr hon sydd gaudduwiaeth, o achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufydd-dod, ymmha rai y rhodiasoch chwi gynt pan oeddych yn byw ynddynt: ond yn awr rhoddwch chwi ymmaith y cwbl, digter, llid, drygioni, difenwi a serthedd allan o'ch genauau: na ddywedwch gelwydd wrth ei gilydd, gan i chwi ymddiosc o'r hên ddŷn ynghyd â'i ymarferiō, ac ymwisco â'r newydd yr hwn a adnewyddir i wybodaeth yn ôl delw 'r hwn a'i creodd.
Dymma 'r pethau dayarol y rhai y mae S. Paul yn cynghori i chwi eu bwrw oddiwrthych, a thynnu eich calonnau oddiwrthynt: o blegid wrth ganlyn y rhai hyn yr ydych yn dangos eich bod yn ddayarol ac yn fydol. Frwythau 'r hên Addaf dayarol ydyw y rhai hyn. Y rhai hyn a ddylech chwi beunydd eu lladd, wrth ymosod yn erbyn eu deisyfiadau hwy, fel y galloch gyfodi i gyfiawnder.
Rhoddwch eich meddylfryd o hyn allan ar bethau nefol, ymbiliwch a chwiliwch am drugaredd, tirionder, llaryeidd-dra, ymmynedd, gan ddwyn gyd â'i gilydd, a maddau i'w gilydd, os bydd gan vn gweryl yn erbyn neb, megis y maddeuodd Christ i chwi, felly gwnewch chwithau. Os dilynwch y rhinweddau hyn a'r cyfryw yn yr hyn sydd yn ôl o'ch bywyd, yno y dangoswch [Page 83] yn oleu eich bod chwi gwedi cyfodi gyd â Christ, eich bod yn blant nefol i'ch tâd o'r nêf, oddiwrth yr hwn megis oddiwrth y rhoddwr y mae y rhadau a'r doniau hyn yn dyfod. Fel hyn y gellwch brofi fod eich ymddygiad chwi yn y nêf, lle mae eich gobaith: ac nid ar y ddayar, wrth ganlyn Iac. 2. 14. Phil. 3. 20. chwantau amfeiliaidd eich cnawd.
Rhaid i chwi am hynny ystyried eich bod wedi eich glanhau a'ch adnewyddu, fel y bydde i chwi o hyn allan wasanaethu Duw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder holl ddyddiau eich bywyd, Os gwrthodwch râs cymmaint yr hwn y'ch galwyd iddo, pa beth yr ydych yn ei wneuthur, ond pentyrru i chwi eich hunain ddamnedigaeth fwyfwy, ac felly annog Duw i ddigio wrthych, ac i ddial arnoch y cyfryw watwar ar ei sanctaidd Sacramentau ac yr ydych yn ei wneuthur wrth eu camarfer hwy yn gymmaint?
Ymrowch, anwyl garedigion, i fyw ynghrist, fel y bytho Christ byw ynoch chwithau yn wastadol, yr hwn os bydd gennych ei ffafor a'i gynnorthwy, yno y mae gennych eisoes fywyd tragwyddol ynoch, ac ni all dim eniweid i chwi. Pa beth bynnag a wnaethoch hyd yn hyn, chwi a welwch fod Christ wedi cynnig i chwi bardwn am dano, a'ch derbyn chwi yn hollawl i'w ffafor eilwaith, Io. 14. 20. ac er cwbl siccrhau hynny i chwi, mae gennych Grist yr awr hon yn trigo ac yn cyfanneddu ynoch. Yn vnig ymddangoswch yn ddiolchgar yn eich bucheddau, bwriedwch ochelyd ac ymwrthod Col. 3. 17. â phov peth yn eich ymarweddiad ac a allo ddigio golygon trugaredd Duw. Ymegniwch i gyfodi eilwaith yr vn ffordd ac y cwympasoch i bydew ac i bwll peched.
[Page 84] Os â'ch tafod y pechasoch, cyfodwch ynddo eilwaith, a gogoneddwch Dduw ag ef, arferwch ef i glodfori ac i folianu enw Duw, fel y dianrhydeddasoch Dduw ag ef. Ac fel y drygasoch enw eich cymmydog, neu y niweidiasoch ef mewn vn modd arall, felly rhoddwch eich bryd ar ei adferu ef eilwaith iddo. O blegid heb wneuthur iawn, ni dderbyn Duw na'ch cyffes chwi na'ch edifeirwch. Nid digon i chwi ymwrthod â'r drygioni, oni bydd i chwi hefyd ymwroli ac ymegnio i wneuthur daioni. Trwy ba achos bynnag y troseddasoch, trowch yn awr yr achos hwnnw i anrhydeddu Duw, ac i wneuthur llês i'ch cymmydog.
Gwir yw, fod pechod yn grŷf a 'n gwyniau ni yn afreolus. Anhawdd yw darostwng a gwrthladd ein naturiaeth, yr hon sydd gwedi ei llygru a'i lefeinio â sur chwerwder y gwenwyn a dderbynasom ni wrth etifeddiaeth a threftadaeth oddiwrth ein hên dâd Addaf. Ond etto cymmerwch gyssur, medd ein Iachawdwr Christ, mysi a orchfygais y bŷd, a'ch holl elynion eraill chwi drosoch chwi. Nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, medd yr Apostol S. Paul, oblegid nad ydych tan Ro. 6. 16. y gyfraith ond tan râs.
Er bod eich gallu chwi yn wan, etto fe a gyfodwyd Christ i'ch cadarnhau chwi yn eich rhyfeloedd, ei Yspryd glân ef a gynnorthwya eich gwendid chwi. Mewn ymddiried yn ei drugaredd ef, cymmerwch arnoch garthu ymmaith hên Surdoes. lefain pechod, yr hwn sydd yn llygru ac yn suro melysder a chroywder eich bywyd chwi ger bron Duw, fel y byddoch megis toes newydd peraidd croyw, heb ddim surdoes lefeinllyd anwiredd, [Page 85] felly y dangoswch eich bod yn fara melys croyw pur i Dduw, fel y byddo ef bodlon i chwi.
Lleddwch, meddaf, ac aberthwch wyniau bydol dayarol eich cyrph: O blegid fe a offrymmwyd Christ ein oen pâsc ni trosom ni, i ladd gallu pechod, i'n gwared ni oddiwrth berigl pechod, ac i roddi i ni siampl i farw i bechod yn ein bywyd. Fal y bwyttaodd yr Iuddewon eu hoen Pasc ac y cadwasant eu gŵyl er coffadwriaeth o'u gwarediad allan o'r Aipht: felly cadwn ninnau ein gŵyl Bâsc mewn diolchgar goffadwriaeth o ddoniau Christ, y rhai a weithiodd ef yn aml i ni yn ei ailgyfodiad a'i fynediad at ei Dâd, trwy 'r hyn y gwaredwyd ni o garchar a chaethiwed ein holl elynion.
Felly awn ninnau heibio i wyniau ein hên ymarweddiad, fal y'n gwareder allan o'u caethiwed hwy, ac y'n cyfoder gydâ Christ. Yr Iuddewon Exo. 12. 5. a gadwent eu gŵyl wrth ymgadw rhag bara lefeinllyd tros saith niwrnod. Cadwn ninnau Gristianogion ein gŵyl mewn modd ysprydol, hynny yw, wrth ymgadw ac ymattal nid rhag bara lefeinllyd corphorol, ond rhag hên surdoes pechod, surdoes cenfigen ac anwiredd.
Bwriwn ymmaith oddiwrthym surdoes athrawiaeth lygredig, yr hwn a haloga ein heneidiau ni. Cadwn ein gŵyl tros holl yspaid ein bywyd, gan fwytta bara purdeb buchedd dduwiol, gwirionedd athrawiaeth Christ. Fel hyn y dangoswn ni fod doniau a rhadau Christ yn ffrwythlon ynom, a bod gennym iawn gredyniaeth a gwybodaeth am ei sanctaidd adgyfodiad ef: ac os gosodwn ein ffydd yn gywir ar rinweddau [Page 86] ei ailgyfodiad ef yn ein bywyd, a'n cydffurfio ein hunain at y siampl a'r arwyddoccâd a ddeellir wrth hynny, ni a fyddwn siccr o gyfodi a'r ôl hyn i ogoniant tragwyddol, trwy ddaioni a thrugaredd ein harglwydd Iesu Grist, i'r hwn gyd â'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo 'r holl ogoniant, diolch a moliant yn oes oesoedd, Amen.
¶ Pregeth ynghylch teilwng dderbyniad, a pharch Sacrament corph a gwaed Christ.
MAe mawr gariad ein Iachawdwr Christ tu ag at ddynion (bobl ddaionus) nid yn vnig yn ymddangos yn rhodd a dawn brid ein prynedigaeth a'n iechydwriaeth ni trwy ei angau a'i ddioddefaint ef, ond hefyd am iddo yn garedigol ddarparu fod y weithred trugarog honno mewn gwastadol goffadwriaeth, fel y gallai gael lle ynom, ac na ddifuddid hi o'i defnydd a'i ffrwyth. O blegid megis nad yw tadau caredig yn fodlon ganthynt ddarparu i'w plant feddiannau gwerthfawr ac etifeddiaeth dêg, ond maent hwy hefyd yn darbod ac yn gofalu ar gadw yr vnrhyw iddynt, a'u dyfod i'w meddiant a'u mwyniant hwy hefyd: felly nid digon oedd gan ein Harglwydd a'n Iachawdwr ni brynu ffafor ei Dâd i ni eilwaith (yr hon yw ffynnon pob daioni a bywyd tragwyddol) ond hefyd o'i fawr ddoethineb fe a osododd ffyrdd a moddion iddi i fod yn fuddiol ac yn elw i ni.
Ymmhlith y ffyrdd a'r moddion hynny y mae [Page 87] cyhoedd weinidogaeth coffa ei farwolaeth ef ar fwrdd yr Arglwydd: yr hyn er ei fod yngolwg rhai, o rinwedd fechan, etto pan iawn arferer ef gan y ffyddloniaid, y mae nid yn vnig yn helpu eu gwendid hwy (y rhai wrth eu naturiaeth wenwynig sy barottach i gofio camweddau nâ chymmwynasau) ond y mae hefyd yn cadarnhau ac yn diddanu y dŷn oddifewn ynddynt hwy â heddwch Exo. 12. ac a llawenydd, ac yn eu gwneuthur hwy yn ddiolchgar i'w gwaredwr, trwy ofal diwyd ac ymarweddiad duwiol.
Ac megis yr ordeiniodd Duw yn yr hên amser fod cadw coffadwriaeth am ei ryfeddol ddoniau ef yn gwared ei bobl, wrth fwytta 'r oen pâsc, a'i ddeddfau a'i ceremoniau: felly yr ordeiniodd ac y siccrhaodd ein anwyl Iachawdwr ni goffadwriaeth o'i fawr drugaredd a ddangosodd ef yn ei ddioddefaint wrth ordeinio ei swpper nefol, lle mae yn rhaid i bob vn o honom ni fod yn wahoddedigion, nid i lygadrythu ac i hylldremio ond i fwytta, ac i Mat. 26. 26. 1. Cor. 11. 24. ymborth ein hunain, nid i gyflogi eraill i ymborth drosom, fel y byddom byw wrth ein bwyd ac nid meirw gan newyn yr hŷd y bo eraill yn Derbyn. ysu 'r cwbl.
I hyn y mae ei orchymmyn ef yn ein hannog Luc. 22. 19. 1. Cor. 11. 24. Mat. 26. 28. ni, gan ddywedyd, Gwnewch hyn, yfwch o hwn oll. I wneuthur hyn y mae ei addewid ef yn ein llithio ni, Hwn yw fynghorph yr hwn a roddwyd trosoch, Hwn yw fy-ngwaed yr hwn a dywalltwyd trosoch.
Am hynny mae 'n rhaid i ni ein hunain fod yn gyfrannogion o'r bwrdd hwn, ac nid Hylldremmu. llygadrythu ar eraill: am hynny mae yn rhaid i ni ymbaratoi wrth y bwrdd hwn mewn modd dyledus [Page 88] parchedig, rhag, megis y mae physygwriaeth a ddarparer i'r corph, yn gwneuthur mwy o eniwed nag o lês, os camarferir hi, felly, i'r physygwriaeth hon sy ddiddanus i'r enaid, os derbynir hi yn ammharchedig, droi yn fwy o eniwed ac o dristwch i ni. Ac y mae S. Paul yn dywedyd fod yr hwn a fwyttao ac a yfo yn an-nheilwng yn bwytta ac yn 1. Cor. 11. 29. yfed i ddamnedigaeth ei hun.
Am hynny rhag ofn dywedyd wrthym ni fel y dywetpwyd wrth yr hwn a wahoddasid i'r wledd fawr, y cyfaill pa fodd y daethost di ymmaheb wisc Mat. 22. 12. priodas am danat? Ac er mwyn gallu o honom arfer cynghor S. Paul yn ffrwythlon, Profed dŷn ei hun ac felly bwyttaed o'r bara hwnnw ac yfed o'r cwppan hwnnw, Mae yn rhaid i ni ystyried fod tri pheth yn anghenrheidiol yn yr hwn a ddelo yn weddaidd i fwrdd yr Arglwydd, fel y dylaid dyfod i'r cyfryw ddirgeledigaethau sanctaidd, hynny yw.
Yn gyntaf, bod iddo roi dledus fri ar y dirgeledigaeth hyn, a'i ddeall fal y dylei.
Yn ail, bod iddo ddyfod mewn ffydd ddiogel. Ac yn drydydd, bod gantho newydd-deb a phurdeb buchedd ar ol derbyn y dirgeledigaethau hyn.
Ond o flaen pob dim rhaid i ni fod yn siccr o hyn yn enwedig, sef bod gwasanaethu a ministrio y swpper hon y modd y gwnaeth ein harglwydd a'n Iachawdwr, ac yn y modd y gorchymmynnodd ef, ac yr arferodd ei Apostolion ef a'r tadau duwiol yn y brif-eglwys gynt. O blegid (fel y dywaid y gwr gwiw gan Sanct Ambros) y mae ef yn annheilwng o'r Arglwydd, yr hwn a sinistro y dergeledigaeth hwn mewn modd amgen nac yr ordeiniwyd ef gan yr Arglwydd. Ac ni all ef fod yn [Page 89] grefyddgar yr hwn a ryfygo ei gymmeryd mewn modd amgen nag y mae'r awdur yn ei roddi ef.
Am hynny rhaid i ni wachelyd rhag i ni yn lle coffadwriaeth i wneuthur ef yn aberth, rhag yn lle cymmun i ni ei wneuthur ef yn fwyd cartrefol, rhag na bo gennym yn lle dwy ran, onid vn, rhag wrth ei wneuthur tros y meirw i ni y rhai sy fyw golli ei ffrwyth ef.
Canlynwn yn hytrach yn y pethau hyn gyngor Cyprian ynghylch y cyfryw bethau, hyny yw, glynu yn ddiogel wrth y dechreuad cyntaf, cadw yn ddiogel draddodiad yr Arglwydd, gwneuthur er coffadwriaeth am yr Arglwydd yr hyn a wnaeth yr Arglwydd ei hun, yr hyn a orchymmynnodd ef ei hun ac a siccrhaodd ei Apostolion ef. Os aferwn y gofal a'r rhagddarbodaeth hyn, yno y gallwn weled y pethau sydd angenrheidiol yn y derbyniwr teilwng, o'r hyn bethau, hwn yw'r cyntaf, sef bod i ni iawn ddeall y peth ei hun.
Yngylch y peth hynny ni a allwn ein perswadio ein hunain yn siccr, na all y gŵr diwybod na dyledus berchi nac iawn arfer y rhadau rhyfeddol a'r doniau yr ydys yn eu cynnyg ac yn eu rhoddi yn y swpper hwnnw: onid naill ai ni wna efe ond bri a chyfrif bychan arnynt, er mawr rwystr Christianogion, ai ynteu fe a'u diystyra hwy yn hollawl, i'w lwyr go lledigaeth ei hun.
Ac felly wrth ei esceulusdra y mae efe yn haeddu i blaau Duw gwympo arno ac wrth ei ddirmyg a'i ddiystyrwch yn haeddu colledigath dragwyddol.
Am hynny i wachelyd y drygau a'r niweidion hyn, canlyn gyngor y gŵr doeth, yr hwn sydd yn Pro. 23. 1. cynghori i ti pan eisteddech i fwytta gydâ thywysog [Page 90] dayarol, ystyried yn ddyfal beth sydd ger dy fron. Felly yn awr yn fwy o lawer y mae yn rhaid i ti chwilio ac ystyried yn ofalus pa ddainteithion ac ammheuthynfwyd sydd gwedi eu harlwyo i'th enaid di ar fwrdd brenhin y brenhinoedd lle yr wyt ti wedi dyfod nid i ddigoni dy fola a'th synhwyrau i lygredigaeth, ond dy ddŷn oddifewn i anfarwoldeb a bywyd, nac i ystyried y creaduriaid dayarol yr wyt ti yn eu gweled, ond y rhadau nefol y rhai y mae dy ffŷdd di yn edrych arnynt ac yn eu canfod. O blegid nid yw'r ford hon (medd Chrysostom) i gawciod siaradus i ddyfod iddi, ond i'r eryrod y rhai a hedant i'r lle mae'r corph marw yn gorwedd.
Ac oni ddichon y cyngor hwn eiddo dŷn ein perswadio ni i ddyfod i fwrdd yr Arglwydd yn ddeallus, gwelwch gyngor yr Arglwydd yn y fâth beth, yr hwn a orchymmynnodd i bawb ddyscu eu plant a'u heppil nid yn vnig yn-neddfau a ceremoniau 'r Pâsc, ond yn yr achos hefyd a'r defnydd yr ordeiniwyd efo'i blegid: lle y gallwn ddyscu fod yn gofyn ar ein dwylo ni yr amser ymma wybodaeth berffaithiach, ac na all y diwybod yn ffrwythlon ac yn fuddiol ymarfer yn sacramentau'r Arglwydd.
Ond i ddyfod yn nes at y matter, mae S. Paul wrth feio ar y Corinthiad am halogi swpper yr Arglwydd, yn dangos mai anwybod am y peth ei hun, ac am ei arwyddoccad, oedd achos eu bod hwy yn ei chamarfer: o blegid yr oeddynt yn dyfod yno yn ammharchus heb ystyried corph yr Arglwydd. Oni ddylem ni am hynny, wrth gyngor y gŵr doeth, wrth ddoethineb Duw ac wrth siampl ofnadwy y Corinthiaid, ystyried a gwachelyd na [Page 100] bo i ni ymwthio i'r bwrdd hwn mewn anwybodaeth ammharchedig ddiddysc, am gospdigaeth yr hyn beth y gofidiodd ac y griddfāodd eglwys Grist er ys llawer o ddyddiau a blynyddoedd? O blegid pa beth a fu achos cwymp ffydd a chrefydd Grist, ond eisiau gwybod y peth hyn? Pa beth a fu achos y tywyll gaudduwiaeth yn hwyr o ddyddiau, ond eisiau gwybodaeth yn y peth hyn? Pa beth a fu achos yr offerennau aflafar anneallus, ond eisiau gwybodaeth yn y peth hyn? Pa beth fu a pha beth yw'r achos o fod cyn fychaned cariad a charedigrwydd ymmysc dynion, ond eisiau gwybodaeth yn y peth hyn? Llafuriwn ninnau felly i ddeall swpper yr Arglwydd, fel na bo i ni roi achos yn y byd i leihau gwasanaeth Duw, nac achos o gaudduwiaeth, o offerennau mudion, o gasineb a chenfigen, felly y gallwn ddyfod yno yn hyfach i'n diddanwch.
Etto nid rhaid i ni dybied fod y cyfryw gyfarwydd wybodaeth yn anghenrhaid i bob dŷn, fel y byddo ef abl i ddatcan ac i draethu holl brif byngciau dyfnddysc yr athrawiaeth hon: ond hyn sydd raid i ni ei wybod yn siccr, nad oes vn ceremoni ofer wag, nac vn arwydd noeth diddeall, nac vn argoel neu ffigur anwir ynddo o beth nid yw brescnnol: ond, fel y dywaid yr Scrythur, bord yr Arglwydd, coffadwriaeth am Grist, dangosiad ei farwolaeth ef, Mat▪ 26. 26. cymmun corph a gwaed yr Arglwydd mewn ymgorpholaeth ryfedd, yr hwn trwy weithrediad 1. Cor. 11. 27. yr Yspryd glân (gwir rwymyn ein cyssylltiad ni a Christ) a weithir trwy ffydd yn eneidiau'r ffyddloniaid, trwy 'r hyn y mae nid yn vnig eu heneidiau hwy yn byw i fywod tragwyddol, ond y maent hwy hefyd yn siccr obeithio enill i'w cyrph [Page 92] hefyd adgyfodiad i anfarwolaeth.
Yr hên dadau catholic wrth weled iawn ddeall ac ystyr y mwyniant a'r vndeb hwn, sydd rhwng y pen a'r corph, rhwng Christ a'r gwir ffyddloniaid; a dyscu yr vn peth hefyd i'w pobl, nid ofnent Iren. 'i. 4. ca. 34 Ignat. ep. ad Eph. Dionisius. Origenes. Optatus. Cypr. de cæna Dnica. Athanas de pco in spi. [...]anct. alw 'r swpper hwn rhai o honynt yn eli anfarwolaeth ac yn gyferbyn arbenning yn erbyn angau; eraill yn gymmun yn ein gwneuthur ni yn vn a Duw, eraill dainteithion ac ammheuthynfwyd ein Iachawdwr, gwystl iechyd tragwyddol, ymddiffynfa'r ffydd, gobaith yr adgyfodiad, eraill, ymborth anfarwolaeth, y rhâd iachus, a cheidwad y bywyd tragwyddol. Pe cofiem ni yn fynych yr holl ymadroddion hyn o'r Scrythur lân a'r hên dadau duwiol y rhai a ddywetpwyd yn wir ac yn gywir am y wledd nefol hon; hwy a ennynnent ein calonnau ni yn ddirfawr i chwennychu bod yn gyfrannogion o'r dirgeledigaethau hyn, ac i awyddu yn fynych am y bara hwn, ac i sychedu yn wastadol am yr ymborth hwn: Nid gan ystyried yn bennaf y creaduriaid dayarol sydd yn aros, ond gan ddala ein gafael yn wastadol yn y graig o'r hon y gallwn sugno melysder iechydwriaeth dragwyddol, a glynu wrthi trwy ffydd. Ac ar ychydig eiriau, fel hyn y mae'r ffyddloniaid yn gweled ac yn clywed ac yn adnabod caredig drugareddau Duw wedi ei selio, yr iawn a wnaeth Christ wedi ei gadarnhau tu ag attom, a maddeuant pechodau gwedi eu siccrhau. Ymma y gallant weled ac megis clywed gweithio ynddynt lonyddwch cydwybod, cynnydd ffydd cadarnhâd gobaith, helaeth wascariad caredigrwydd brawdol, a llawer eraill o amryw radau Duw. Y rhai ni all y rhai sy wedi boddi mewn pwll dwfn tomlyd [Page 93] dallined ac anwybodaeth, gael gwybod eu blâs.
Oddiwrth y rhai hynny, fymrodyr anwyl, ymolchwch ynny froedd bywiol gair Duw, lle y gellwch ddeall ac adnabod ymborth ysprydol y swpper werthfawr hon, a'r ymddiriedau, a'r ffrwythau llwyddianus y mae hi yn ei ddwyn gyd ag hi.
Yn awr y canlyn bod yn rhaid gydâ'r wybodaeth hon, ffydd siccr ddianwadal, nid yn vnig ar fod marwolaeth Christ yn bridwerth digonol tros yr holl fyd, i gael maddeuant pechodau a heddychu Duw Dâd; ond hefyd ddarfod iddo wneuthur ar ei groes aberth perffaith a digonol trosot ti, a llwyr lanhau dy bechodau di, fel nad wyt ti yn cydnabod vn Iachawdwr, nac vn prynwr, nac vn cyfryngwr, nac vn dadleuwr, nac vn eiriolwr ond Christ yn vnig, ac y gellych ddywedyd gyd â'r Apostol ddarfod iddo dy garu di a'i roddi ei hun trosot ti.
O blegid hyn yw glynu yn ddiogel wrth addewid Christ yr hwn a wnaeth ef wrth ordeinio 'r sacrament hwn, sef gwneuthnr Christ yn eiddot dy hunan, a gosod ei haeddedigaethau ef attat dy hun. Ymma nid rhaid i ti wrth help vn dŷn arall, nac vn aberth nac offrwm arall, nac vn offeiriad arall i aberthu, nac vn offeren, na modd yn y byd a osodwyd trwy ddychymmyg dŷn.
Ac ni allwn fod yn siccr fod ffydd yn offeryn anhepcor anghenrhaid yn yr holl ceremoniau sanctaidd hyn, O blegid, fel y dywaid S. Paul, heb Heb. 11. 6. ffydd y mae yn am-mhossibl bodloni Duw. Pan ddinistriwyd llawer o'r Israëliaid yn yr anialwch, fe fwyttaodd Moses ac Aaron a Phinees y Manna ac a fodlonafant Dduw, am eu bod hwy, medd [Page 94] S. Augustin, yn deall y bwyd gweledig yn ysprydol, In Ioan. ho. 6. yn ysprydol yr oedd chwant y bwyd hwnnw arnynt, yn ysprydol y bwytasant, fel y digonid hwy yn ysprydol. Ac yn wir megis na all y bwyd corphorol borthi'r dŷn oddiallan, oni roir ef mewn cylla iachus difreg, i'w dreulio: felly ni phorthir y dyn oddifewn oddeithr iddo dderbyn ei fwyd i enaid a chalon iachus, ddifreg mewn ffŷdd. Am hynny, medd Cyprian, pan wnelom y pethau hyn, nid rhaid i ni hogi a golymmu ein dānedd ond a ffydd De cæ. do. bur berffeithgwbl y torrwn ac y rhannwn y bara cyfan hwnnw.
Fe a wis. wyddys yn dda am y bwyd yr ydym ni yn ei geisio yn y swpper hwn, mai ymborth ysprydol ydyw, maeth ein eneidiau, gwledd nefol ac nid dayarol, bwyd anweledig ac nid corphorol, sylwedd ysprydol ac nid cnawdol, fal nad ydyw meddwl lluniaeth y gallwn ni fwynhau ei fwytta ef a'i yfed heb ffydd, neu dybaid mai hynny yw ei fwynhau ef, ond breuddwydio am ymborthiad cnawdol a'n ymrwymo yn iselfryd, a'n caethiwo ein hunain i'r elementau elfennau a'r creaduriaid: lle y dlyem ni wrth gyngor Cymmanfa Nicęa, dderchafu ein meddyliau trwy ffydd, a gadel heibio y pethau oddisod dayarol ymma, a'i geisio ef yno lle mae haul cyfiawnder yn tywynnu yn wastadol. Am hynny (dydi yr hwn wyt yn chwannog i fyned i'r bwrdd hwn) cymmer y wers hon gan Eusebius Emissenus Euseb emissen de Euch. hên Dâd duwiol, Pan elych i fynu at y cymmun parchedig i'th ddigoni â bwyd ysprydol; edrych i fynu trwy ffydd ar sanctaidd gorph a gwaed dy Dduw, rhyfedda yn barchus, teimla ef â'th feddwl, derbyn ef a llaw dy galon, a chymmer ef yn hollawl â'th ddŷn oddifewn.
[Page 95] Fel hyn y gwelwch, fy-nghraedigion, y modd y mae yn rhaid i ni wrth ddyfod i'r bwrdd hwn, dynnu ymmaith holl wraidd an ffyddlondeb, pob anymddiried a gwanobaith yn addewidion Duw, fel y gallom yn gneuthur ein y hunain yn aelodau bywiol o gorph Christ: o blegid ni all yr angrhedadwy a'r diffŷdd ymborth ar y gwerthfawr gorph hwnnw: lle mae y rhai ffyddlon a'u bywyd ac a'u trigfa ynddo ef, a'u hundeb ac megis eu cydymgorpholaeth gydag ef.
Am hynny profwn a holwn ni ein hunain yn ddiragrith ac yn ddiffuant, pa vn a wnawn ai bod yn ganghennau bywiol o'r wir win-wydden, yn wir aelodau o ddirgel gorph Christ, ai nad ydym; a ddarfui Dduw buro ein calonnau ni trwy ffydd, i gydnabod ei efengyl ef yn bur ac yn diffuant, ac i dderbyn ei drugareddau ef ynghrist Iesu: fal nad ydym ni ar y bwrdd hwn yn derbyn yn vnig y Sacrament oddiallan, ond y dawn ysprydol hefyd, nid yr arwydd, ond y gwirionedd, nid y cyscod yn vnig, ond y corph hefyd, nid i angau, ond i fywyd, nid i golledigaeth, ond i Iechydwriaeth: yr hyn, Duw a ganiattao i ni ei wneuthur trwy haeddedigaethau ein harglwydd a'n Iachawdwr, i 'r hwn y bô holl anrhydedd a gogoniantyn oes oesoedd, Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch teilwng dderbyniad a pharch Sacrament corph a gwaed Christ.
CHwi a glywsoch, bobl ddaionus, yn y bregeth a adroddwyd i chwi yn hwyr o amser, paham y rhyngodd bodd i'n Iachawdwr ordeinio y coffadwriaeth nefol hwnnw o'i farwolaeth a'i ddioddefaint: ac y dylei bob vn o honom gadw 'r coffa hynny ar y bwrdd hwn yn ein presennoldeb ein hunain, nid trwy eraill. Chwi glywsoch hefyd â pha wybodaeth am y dirgeledigaethau braintus byn▪ y dylyem ddyfod yno. Chwi a glywsoch a pha ffydd gadarn y dylem ein dilladu a'n trwsio ein hunain, fel y bôn gyfrannogion addas gweddaidd o'r ymborth nefol hwnnw.
Yn awr y canlyn y trydydd peth sy anghenrhaid yn yr hwn ni fynne fwytta o'r bara hwnnw nac yfed o'r cwppan hwnnw yn an-nheilwng, hynny yw newydd-deb buchedd a duwiol ymarweddiad. O blegid fod newydd-deb buchedd, megis ffrwythau ffydd, yn anghērhaid yn y rhai a fo gyfrannogion o'r bwrdd hwn: ni allwn ddysu wrth fwytta yr oen cyffelybiaeth, i'r hwn ni dderbynnid neb ond a fydde Iuddew, gwedi enwaedu arno a chwedi ei sancteiddio o'r blaen. Ie mae S. Paul yn tystiolaethu, er bod y bobl yn gyfrannogion o'r Sacramentau tan Moses, etto am fod 1. Cor. 10. 7. rhai o honynt yn ddelw-addelwyr, yn butteinwyr, yn temptio Christ, yn rwgnachwyr, yn [Page 97] chwennychu pethau drwg, fe a'u dinistriodd Duw hwy yn yr anialwch, a hynny er siampl i ni, hynny yw, fel y bai i ni Gristianogion edrych ar i ni ddyfod i'n Sacramentau mewn sancteiddrwydd bywyd, heb ymddiried yn y cymeriad oddiallan, a heb ein halogi â chynneddfau llygredig anghariadus. O blegid mae 'n rhaid cyfiawnhau byth y farn hon a roes Duw ei hun: Trugaredd a ewyllysiaf ac nid aberth.
Am hynny, medd S. Basil, mae yn rhaid i'r hwn a ddelo at gorph a gwaed Christ, er coffa am yr hwn a fu farw ac a gyfododd eilwaith, nid yn vnig fod yn bur ac yn lân oddiwrth bob brynti y cnawd a'r yspryd, rhag iddo fwytta ac yfed i ddamnedigaeth ei hun: ond hefyd yn eglur dangos coffadwriaeth o farwolaeth yr hwn a fu farw ac a gyfododd eilwaith er ein mwyn ni, yn y pwngc ymma, ar fod iddo yntef farw i bechod ac i'r byd, a byw o hyn allan i Dduw ynghrist Iesu ein harglwydd. Wrth hynny mae yn rhaid i ni ddanges tystiolaeth oddiallan, wrth ganlyn arwyddoccâd dioddefaint Christ, ym-mhlith y rhai nid hyn yw 'r lleiaf, sef rhoddi diolch i'r holl-alluog Dduw am ei holl ddoniau, y rhai a gynhwysir yn gryno yn angau a dioddefaint ac adgyfodiad ei anwyl garedig fâb ef.
Ac oblegid y dylyem ni yn bennaf ar y bwrdd hwn roddi 'r diolch hwnnw i Dduw, am hynny y mae 'r tadau duwiol yn ei alw ef Eucharistia, hynny yw, Rhoddi diolch. Megis pe dywedasent hwy, Yn awr yn hytrach nag vn amser arall y dylyech glodfori a moliannu Duw. Yn awr y gellwch weled defnydd, ac achos, a dechreuad a diwedd pob rhoddi diolch. Os llaeswch yn awr, [Page 98] yr ydych yn dangos eich bod eich hunain yn draanniolchus, ac na bŷdd vn dawn arall byth abl eich cyffroi chwi i ddiolch i Dduw, a chwitheu ymma heb ystyried cymmaint a chynnifer o ddoniau buddiol.
Wrth hynny gan fod Duw 'r peth, a'r peth ei hun hefyd yn ein rhybuddio ni i roddi diolch, offrymmwn i Dduw yn wastadol, fel y dywaid S. Paul, trwy Grist offrwm ac aberth moliant, hynny yw, ffrwyth y gwefusau yn cyffesu ei enw ef. O blegid fel y mae Dafydd yn canu, yr hwn a abertho i Dduw ddiolch a moliant sydd yn ei ogoneddu ef.
Ond mor ambell ac analm yw dynion diolchgar ymron. ynghyfer yr anniolchgar▪ Wele, fe a lanhawyd deg o rhai gwahanglwyfus yn yr Efengyl, ond ni ddychwelodd ond vn o'r dêg i roddi diolch am ei iechyd. Ie happus fydde pe medrem ni gael dau a roddai ddiolch yn ddiffuant ym-mhlith deugain o gymmunolion. Mor angharedig ydym, mor anghofus ydym, mor falch gardottaion ydym, ac nad ydym ni, nac yn gofalu am ein budd ein hunain, nac yn gwybod ein dlêd tu ag at Dduw, ond yn bennaf dim ni chyfaddefwn ni gwbl ac yr ydym yn eu derbyn. Ie ac os cymmhellir ni trwy allu Duw i wneuthur hynny, etto mor oer ac mor ddiwres yr ydym yn gwneuthur hynny nad oes ond ein gwefusau ni yn ei foliannu ef, a'n calonnau yn ei oganu ef, nad oes ond ein tafodau ni yn ei fendithio ef, a'n buchedd yn ei felldithio ef, nad oes ond ein geiriau ni ei anrhydeddu ef, a'n gweithredoedd yn ei dianrhydeddu ef.
Oh am hynny dyscwn roddi ymma ddiolch i [Page 99] Dduw yn inion, fel y cynyddo ei odigog ddoniau a'i radau a dywalltodd ef arnom, ac a hwy wedi eu rhoddi i gadw yn-nrhysordy ein calon ni, yr ymddangosont mewn pryd ac amser cyfaddas yn ein bywyd ni a'n hymarweddiad, er gogoniant i'w enw sanctaidd ef.
Hefyd am newydd-deb buchedd, mae 'n rhaid ystyried yr hyn y mae S. Paul yn ei scrifennu, ein bod ni, er ein bod yn llawer, yn vn bara ac yn vn corph, am ein bod ni i gŷd yn gyfrannogion o'r vn bara. Wrth hynny y mae efe yn dangos nid yn vnig ein cyfundeb ni â Christ, ond yr vndeb hwnnw hefyd â'r hwn y dylai y rhai a fwyttânt ar y bwrdd hwn fod gwedi eu cyssylltu ynghŷd. O blegid ni ddylent hwy fod wedi ymwahanu oddiwrth ei gilydd trwy anghyttundeb gwâg-ogoniant, chwāt anrhydedd, cynnen, cenfigen, dirmyg, casineb, malais: ond bod wedi ymgyssylltu ynghyd â rhwymyn cariad yn vn corph ysprydol, megis y mae gronynnau'r bara hwnnw wedi eu cyssylltu yn vn dorth. Oblegid y rhwymyn a'r cwlwm cariad ymma, y galwai y gwir Gristianogion, yn amser tynerwch Eglwys Grist, y swpper hwn yn swpper cariad. Megis pe dywedent na ddylai neb eistedd ar y swpper hwnnw ac a fai allan o gariad, neb a fai yn dwyn gŵg a dial yn ei galon, neb ac na ddangosai ei garedigrwydd a'i gariad trwy roi rhyw gardod a chynnorthwy i rai o'r gynnulleidfa. A hyn oedd eu harfer hwy. Oh dyna wahoddedigion duwiol, yn gwneuthur dyledus gyfrif o'r wledd hon.
Ond ôh greaduriaid truain ydym ni yr amser ymma y, rhai heb gymmodi a'n brodyr a'r rhai y gwnaethom gam, heb wneuthur iawn i'r rhai y parasom [Page 100] som iddynt gwympo, heb na meddwl na thosturi tu ag at y rhai a allem eu cynnorthwyo yn hawdd, heb gydwybod yn y byd am enllib, dirmyg, drygair, ymryson, digofaint, neu chwerwedd calon. Ie a ninnau wedi ein llwytho â dirgel gasineb Gen. 4. 8. Gen. 27. 41. 2. Sam. 20. 10. Cain, â chuddiedig genfigen Esau, â rhagrithiol ffalsder Ioab, a ryfygwn ni ddyfod i fwrdd ei sanctaidd ddirgeledigaethau ofnadwy ef? oh ddŷn i ba le yr wyt ti yn ymwthio mor anweddaidd. Bwrdd tangnheddyf a heddwch yw hwn, ac yr wyt titheu yn barod i ymladd. Bwrdd diniweidrwydd yw hwn, ac yr wyt titheu yn dychymmygu drygioni. Bwrdd tosturi yw, ac yr wyt titheu yn an-nrhugarog.
Onid ydwyt ti nac yn ofni Duw gwneuthurwr y wledd hon, nac yn perchi Christ yr hwn yw 'r vwyd a'r ymborth sy yn y wledd? nac yn ystyried ei briodasferch ef a'i anwyl wahoddedigion? nac yn gofalu am dy gydwybod yr hwn sydd weithiau oddifewn yn dy gyhuddo di? Am hynny o ddŷn, gofala am dy iechydwriaeth dy hun, chwilia a hola dy ewyllys da a'th gariad tu ac at blant Duw, aelodau Christ ac etifeddiō etifeddiaeth nef, ie tu ac at ddelw Dduw, y creadur godidawg dy enaid dy hun. Os gwnaethost yn erbyn neb, heddycha ag ef yn awr. Os peraist i neb dramgwyddo yn ffordd Duw, yn awr gosod ef eilwaith ar ei draed. Os aflonyddaist ar dy frawd, dyhudda a llonydda ef yn awr: os gwnaethost di gā ag ef, yn awr gwna iawn iddo: os twyllaist di ef, tâl iddo yn awr: os megaist ganfigen, yn awr cofleidia gydymdeith as: os megaist gas a digasedd, dangos yn awr dy gariad a'th garedigrwydd yn oleu, ie bydd barod ac ewyllysgar i beri Iechydwriaeth enaid dy frawd, a'i leshad, a'i ddaioni a'i fôdd, megis yr eiddot dy hū. [Page 101] Na haedda faich trwm ofnadwy digofaint Duw, am dy ewyllys drwg tu ag at dy gymmydog, ac am ddyfod mor ammharchus i fwrdd yr Arglwydd. Yn ddiwethaf, megis y mae ymma ddirgeledigaethau heddwch, a Sacrament cydymdeithas Gristionogaidd, Chrisost. ad pop. Ant. ho. 6. wrth yr hyn yr ydym yn deall pa gariad clau diragrith a ddylai fod rhwng y gwir gymmunolion: felly y mae ymma hefyd arwyddion purder a diniweidrwydd bywyd, wrth yr hyn y gallwn ddeall y dylyem lanhau ein heneidiau oddiwrth bob aflendid, anwiredd a drygioni, rhac i ni wrth dderbyn bara 'r Sacrament, ei fwytta ef mewn lle aflā (fel y dywed Origen) hynny yw, mewn enaid In Leuit. 23. ho. 14. gwedi ei halogi a'i ddifwyno gan bechod. Ynghyfraith Moses, y gwr a fwytae o'r aberth tâl-diolch a'i aflendid arno, a Ddifhaid. ddifethid o fŷsc ei bobl: ac a dybygwn ni y bydd escusodol y dŷn drygionus pechadurus, ar fwrdd yr Arglwydd? Yr ydym ni yn darllen yn S. Paul guro a chospi Eglwys Corinthus am gamarfer swpper yr Arglwydd, ac ni a allwn 1. Cor. 11. 30. weled yn amlwg fod yn blino ac yn gorthrymmu Eglwys Ghrist yn dôst er ys llawer o flynyddoedd, am halogi a dirmygu'n anferth y Sacramēt hwn. Am hynny edrychwn bawb a phob vn o honom ni ar ein ymarweddiad a'n bywyd, a gwellawn hwy. Ac yn awr yn enwedig galwn ein hunain i gyfrif, fal Chwitho ar. y byddo chwith gennym am ein drwg ymarweddiadd aeth heibio, fel y bô ca▪s gennym bechod, fel y bô i ni riddfan a galaru tros ein pechodau, fel y bo i ni mewn Dagrau. deigrau eu tywallt hwy ger bron duw, fel y bô i ni mewn diogel obaith ddeisyfac erfyn eli ei drugaredd ef, yr hwn a brynnwyd ac a bwrcaswyd trwy waed ei anwyl garedig fâb ef Iesu Ghrist, i iachau ein Clwyfau. gweliau angheuol ag ef.
[Page 102] O blegid yn siccr oni lanhawn ni trwy wir edifeirwch gyllau bryntion ein heneidiau, ni all na ddigwyddo, megis y mae bwyd a dderbynier i Chrys. vbi supra. gylla oer afiach yn pydru ac yn difwyno 'r cwbl, ac yn achos o glefydau a fo mwy, felly ein bod ninnau yn bwytta 'r bara iachus hwn, ac yn yfed y cwppan hwn i'n tragwyddol golledigaeth.
Fel hyn y mae yn rhaid i ni ac nid i eraill, chwilio a holi yn gwbl ac yn gyflawn, ac nid edrych yn yscafn ac yn ddifraw, arnom ein hunain ac nid eraill, ein cydwybodau ein hunain, ac nid bywyd rhai eraill, yr hyn a ddylyem ni ei wneuthur yn iniawn ac yn gywir ac â cherydd cyfiawn.
Oh, medd S. Chrysostom, na nesaed Iudas at Chrys. vbi supra. Mat. 20. 18. y bwrdd hwn, na ddaued vn dŷn chwannog iddo. Os bydd neb yn ddiscybl, bydded ef bresennol. O blegid, medd Christ, gydâ 'm discyblon y bwytâf y Pâsc.
Pa ham y gwaeddai'r gwaeinidog yn y brifeglwys gynt, Od oes neb yn sanctaidd, deued yn nes? Pa ham yr oeddynt yn gwasanaethu y dirgeledigaethau hyn a drws y gangell wedi ei gaued? pa ham y gorchymmynid i'r rhai a fyddent tan benyd cyhoeddus, a'r rhai oeddynt yn dyscu crefydd Grist fyned ymmaith yr amser hwnnw? onid am na chynnhwsai y bwrdd hwn vn dŷn ansanctaidd, aflan, pechadurus, y gwneid hynny? Am hynny oni feiddia gweision ryfygu dyfod i swrdd eu meistred dayarol, y byddont wedi eu digio: edrychwn na ddelom ni iŵydd ein harglwydd a'n barnwr, a'n pechodau heb eu holi.
Os ydynt hwy ar y bai y rhai a gusanant law eu brenhin â mîn aflan budr; oni byddi di ar y bai a thithau ac enaid drewllyd yn llawn chwant a [Page 103] godineb a meddwdod a balchder, yn llawn meddyliau drygionus, yn chwythu anadl anwiredd ac aflendid ar fara a chwppan yr Arglwydd? Fal hyn y clywsoch pa fodd y dylech ddyfod yn barchus ac yn weddaidd i swrdd yr Arglwydd, a chennych wybodaeth allan o'i air ef am y Sacrament hwn a'i ffrwythau, a chan ddwyn gyd â chwi ffydd wir ddianwadal, yr hon yw gwreiddyn a ffynnon newydd-deb buchedd cystadl i glodfori Duw ac i garu ein cymydogion, ac i lanhau ein calonnau oddiwrth frynti a budreddi. Megis na pharo anwybodaeth i ni ei ddiystyru ef, ac na pharo anffyddlondeb i ni golli ei ffrwyth ef, ac na ddygo pechod ac anwiredd ddialedd Duw arnom ni: ond trwy ffydd mewn gwybodaeth, a newedd-deb buchedd mewn ffydd, fe a'n cyssylltir â Christ ein pen yn ei ddirgeledigaethau hyn, i'n mawr ddiddanwch ni yn y byd hwn, megis y gallom ni gael cyflawn a gwir fwyniant o hono ef, i'n llawenydd tragwyddol a'n didrangc fywyd, i'r hwn y dycco ef ni yr hwn a fu farw trosom ac a'n prynodd, Iesu Grist y cyfiawn, I'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân vn tragwyddol a gwir Dduw, y bô holl foliant, anrhydedd a llywodraeth yn oes oesoedd, Amen.
¶ Pregeth am ddiscynniad yr Yspryd glân, a'i amryw ddoniau.
Ar ddydd y Sulgwyn.
CYn manegi mawr ar amryw ddonian yr Yspryd glân, o'r rhai y mae Eglwys Duw bob amser yn gyflawn, fe fydd anghenrhaid dangos i chwi ar fyrr, o ba le y cafas gwyl y Pentecost neu 'r Sulgwyn ei dechreuad. Am hynny deellwch fod yn arfer o gadw gŵyl y Pentecost bob amser y degfed diwarnod a deu gain ar ôly Pâsc, yr hon oedd vchelwyl mawr ymmhlith yr Iuddewon, yn yr hon yr oeddynt yn cadw coffad wriaeth o'u hymwared allan o'r Aipht, a choffadwriaeth hefyd am gyhoeddiad y gyfraith yr hon a roddasid iddynt ar fynydd Sinai ar y dwthwn hwnnw.
Fe a ordeiniwyd ac a orchymmynnwyd cadw'r dydd hwnnw yn vchelwyl, nid gan vn dŷn ar y ddayar, ond o enau yr Arglwydd ei hun, fel yr ydym ni yn darllein yn y 23. o Leuiticus, a'r 16 o Le. 23. 16. Deut. 16. 9. Deuteron. Ylle a appwyntiasid i gadw'r wŷl hon oedd Ierusalem, lle'r oedd cyrchfa fawr o bobl o bob man o'r bŷd, fel y gellir gweled yn amlwg yn yr ail bennod o Actau 'r Apostolion, lle yr ydys yn son. cryb-wyll am y Parthiaid, y Mediaid, Act. 2. 9. yr Elamitiaid, trigolion Mesopotam a, a Iudęa, a Chappadocia, a Phontus, ac Asia, a Phrygia, a Pamphylia, a llawer o'rcyfryw leoedd: wrth yr hyn y gallwn weled pa gynnal mawr arbennig a arferid ar yr wyl honno.
Ac fel y rhoddwyd hyn yn orchymmyn i'r Iuddewon [Page 105] yn yr hên gyfraith, felly o ran y siccrhaodd ein Iachawdwr Christ ef yn ei Efengyl, gan ordeinio megis Sulgwyn newydd i'w ddiscyblon, pan ddanfonodd ef yr Yspryd glân mewn dull gweledig yn rhith tafodau tanllyd gwahanedig, Act. 2. 3. ac y rhoddodd iddynt allu i lefaru ac ymadrodd yn y cyfryw fodd ac y gallai bawb eu clywed hwy a'u deall yn eu tafodiaith eu hunain. Yr hyn wrthiau, fel y bai mewn coffadwriaeth tragwyddol, fe a dybygodd yr Eglwys fod yn dda cadw'r dythwn hwnnw yn ŵyl, yr hwn a elwir yn gyffredinol y Sulgwyn. Ac ymma y gellir ystyried, megis y rhoddwyd y gyfraith ar fynydd Sinai i'r Iuddewon y degfed dydd a deugain ar ol y Pâsc: felly y rhoddwyd pregethiad yr Efengyl, trwy gadarn allu yr Yspryd glân, i'r Apostolion ar fynydd Sion y degfed dydd a deugain ar ôl y Pâsc.
Ac o hyn y cafas yr ŵyl hon ei henw Pentecost, o rifedi y dyddiau. O blegid (fel y mae S. Luc yn scrifennu yn Actau'r Apostolion) wedi dyfod dydd Act. 2. 1. y Pentecost (hynny yw wedi cyflawni deng nhiwrnod a deugain) a'r Apostolionynghŷd ac yn gyttun yn yr vn lle, y daeth yr Yspryd glân yn ddisymmwth yn eu mŷsc hwy ac a eisteddodd ar bob vn o honynt yn rhith tafodau tanllyd gwahanedig. Yr hyn a wnaethpwyd yn ddiammau er mwyn dangos i'r Apostolion a phawb eraill, mai efe sydd yn rhoddi hyawdledd ac ymadrodd i bregethu'r Efengyl, mai efe sydd yn agori'r genau i fynegi mawrion weithredoedd Duw, mai efe sydd yn ennynu ynom ni zel wresog tu ac at air Duw, ac yn rhoddi i bawbdafod, ie tafod tāllyd, fel y gallont yn hŷf ac yn hyderus ac yn galōnog gyfaddef y gwirionedd yngolwg yr holl fŷd, megis y cynnyscaeddwyd Enon â'r Yspryd hwn.
[Page 106] Yr Arglwydd, medd Esai, a roddes i mi dafod Esai. 50. 4. dyscedig, i fedru mewn pryd lefaru gair i'r diffygiol. Ac mae'r prophwyd Dafydd yn gwaeddi am gael y rhodd hon, gan ddywedyd, Agor fy-ngwefusau, o Arglwydd, a'm tafod a fynega dy foliant. Ps. 51. 15. O blegid y mae ein Iachawdwr Christ yn dywedyd yn ei Efengyl wrth ei ddiscybblon, Nid chwychwi yw y rhai sydd yn llefaru, ond Yspryd eich Tâd yr hwn sydd yn llefaru ynoch. mat. 10. 20.
Mae'r holl dystiolaethau hyn allan o'r Scrythur làn, yn dangos yn oleu ddigon, fod dirgelwch a dawn tafodau yn arwyddoccau pregethiad yr Efengyl, a chyhoedd gyffessiad ffydd Grist, ym-mhob vn ac a fyddo feddiannol o 'r Yspryd glân. Megis os bydd neb yn Gristion mud, heb gyfaddef ei ffydd yn gyhoeddus, ond megis yn ei guddio ac yn ei goluro ei hun rhac perigl yn yr amser a ddaw; mae fe yn rhoddi i ddynion achos cyfiawn mewn cydwybod i ammau fod rhâd yr Yspryd glâd ynddo ef, gan ei fod yn dafodgaeth ac heb allu dywedyd. Fel hyn gan hynny y clywsoch ordinhâd cyntaf gwyl y Pentecost neu'r Sulgwyn cystal yn yr hên gyfraith ym-mhlith yr Iuddewon, ac ymmysc Christianogion yn amser yr Enfengyl.
Bellach ystyriwn pa beth yw 'r Yspryd glân, ac felly pa fodd y mae efe yn gweithio ei wyrthiau rhyfeddol mewn dynion.
Yr Yspryd glân sydd sylwedd ysprydol dduwiol, y drydedd berson yn y Duwdod, yn wahanredol oddiwrth y Tâd a'r Mâb ac etto yn deilliaw oddiwrthynt hwy ill dau. Mae Credo Athanasius yn testiolaethu fod hyn yn wir, ac fe a ellir ei brofi yn hawdd hefyd trwy dystiolaethau amlwg allan [Page 107] sanctaidd air Duw.
Pan fedyddiwyd Christ gan Ioan yn afon Iorddanen, yr y dym ni yn darllein ddyfod o'r Yspryd Mat. 3. 16. glân i lawr yn rhith colōmen, a tharanu o Dduw o'r nef a dywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb yn yr hwn y'm bodlonir.
Ymma ystyriwch dri amryw berson dri amryw berson gwahanedig, Y Tâd, y Mâb a'r Yspryd glân, ac etto nid ydyw'r tri hyn dri Duw onid vn Duw. Felly pan ordeiniodd Christ Sacrament y bedydd, fe a ddanfonodd ei ddiscyblon i'r holl fŷd, ac a orchymmynodd Mat. 28. 18. iddynt fed yddio'r holl genhedloedd yn enw 'r Tâd a'r Mâb a'r Yspryd glân. Ac mewn man arall Io. 14. 16. y mae efe yn dywedyd. Mi a weddiaf ar y Tâd ac efe a rydd i chwi ddiddanwr arall. A thrachefn, Pan ddelo y diddanwr yr hwn a ddanfonaf oddiwrth Io. 16. 7. y Tâd.
Mae'r lleoedd hyn a'r cyfryw leoedd eraill o'r Testament newydd, mor oleu ac mor eglur yn dangos gwahaniaeth yr Yspryd glân oddiwrth y personau eraill yn y drindod, fel nad yw bossibl i neb ei ammau oddieithr iddo gablu tragwyddol w irionedd gair Duw.
Tu ag at am briodol naturiaeth a chynneddfau yr Yspryd glân, yr vn yw â Duw 'r Tâd a Duw 'r Mâb, hynny yw, Ysprydol, tragwyddol, digreedig, anymgyffred, oll-alluog, ac ar fyr eiriau, mae fe yn Dduw ac yn Arglwydd tragwyddol. Am hynny y gelwir ef Yspryd y Tâd, am hyn y dywedir ei fod ef yn deilliaw oddiwrth y Tâd a'r mâb, ac am hyn y cyssylltir ef gydâ 'r Tâd, a'r Mab yn y gorchymmyn a roddwyd i'r Apostion i fedyddio yr holl genhedloedd, yn gyd-radd â hwy.
[Page 108] Ond fel yr ymddangoso hyn yn eglurach yngolwg pob dŷn, fe fydd anghenrhaid dyfod at y rhan arall, hynny yw, rhyfeddol a nefol weithredoedd yr Yspryd glân, y rhai sy yn manegi yn amlwg i'r bŷd ei alluog a'i dduwiol allu ef.
Yn gyntaf y mae yn amlwg ei fod ef yn rhyfeddol yn llywodraethu ac yn cyfarwyddo calonnau y Patriarchaid a'r prophwydi yn yr hên amser, gan oleuo eu meddyliau hwy â gwybodaeth y gwir Fessias, a chan roddi ymadrodd i brophwydo am bethau a ddigwydde yn hir o amser ar ôl hynny. O blegid, fel y tystiolaetha S. Petr, Nid trwy 2. Pet. 1. 21. ewyllys dŷn y daeth y brophwydoliaeth gynt, eithr dynion sanctaidd duwiol a ddywedasant megis y cynnhyrfwyd hwy gan yr Yspryd glan. Ac am Zacharias yr archoffeiriad y dywedir yn yr Efengyl, iddo ac ef yn llawn o'r Yspryd glan brophwydo Luc. 1. 67. a moliannu Duw. Felly y gwnaeth Simeon, Anna, Mair a llawer eraill, i fawr ryfeddod ac aruthredd pob dŷn.
Hefyd, onid oedd yr Yspryd glan yn weithredwr Mat. 1. 18. &c. galluog ynghenedliad a genedigaeth Christ ein Iachawdwr? Mae Saint Mathew yn dywedyd, cyn myned Ioseph a Mair ynghŷd ei chael hi yn feichiog trwy 'r Yspryd glan. Ac fe a ddywedodd yr Angel Gabriel yn oleu wrthi y dauai hynny i ben, gan ddywedyd, yr Yspryd glan a ddaw Luc. 1. 35. arnat, a nerth y goruchaf a'th gyscoda di. Peth rhyfedd yw i wraig feichiogi a dwyn plentyn, heb adnabod gŵr. Ond lle y bytho yr Yspryd glan yn gweithio, nid oes dim yn ammhossibl, fel y mae yn ymddangos yn oleu wrth yr adenedigaeth oddifewn, a sancteiddiad dynion.
Pan ddywedodd Christ wrth Nicodemus, [Page 109] Oddieithr geni dŷn drachefn o ddwfr ac o'r Yspryd glan, ni all ef fyned i mewn i deyrnas Duw, fe Hurtodd. synnodd arno yn ei feddwl, ac a ddechreuodd ymresymmu â Christ, gan ddywedyd, Pa fodd y genir dŷn ac ef yn hên? a all ef fyned i groth ei fam drachefn a'i em? wele dymma bortreiad amlwg o ddŷn cnawdol. Nid oedd gantho ond ychydig ddeall am yr Yspryd glân, ac am hynny mae efe yn myned yn Ddwl. bŵl ynghylgh y gwaith, ac yn gofyn pa fodd y galle hynny fod yn wir. Ond pe buase ef or tu arall yn gwybod mawr allu yr Yspryd glân yn hyn o beth; mai efe sydd yn gweithio adgenhedliad ac ail-enedigaeth yn y dŷn oddifewn; ni buase ddim rhyfeddod gentho am eiriau Christ, ond yn hytrach fe a gymmerasai achos o hynny i glodfori ac i ogoneddu Duw. O blegid fel y mae tri pherson nailltuol gwahanredol yn y drindod: felly y mae swydd neilltuol wahanredol i bob vn o honynt.
Y Tad i greu, y Mâb i waredu, a'r Yspryd glan i sancteiddio ac i adgenhedlu. Am y diwethaf o'r rhai hyn, po mwyaf y cuddier ef oddiwrth ein deall ni; mwyaf y dylyai gyffroi pôb dŷn i ryfeddu dirgel a galluog weithrediad yr Yspryd Duw glân ynom ni. O blegid yr Yspryd glan ac nid dim arall sydd yn bywoccau meddyliau dynion, ac yn cyffroi amcanion daionus duwiol yn eu calonnau hwy, y rhai sydd gyttunol a gorchymmyn ac ewyllys Duw, y rhai oni bai hynny ni chaent hwy byth yn eu naturiaeth drofaus ddrygionus eu hunain.
Yr hyn a aned o'r cnawd, medd Christ, sydd Io. 3. 6. gnawd, a'r hyn a aned o'r Yspryd sydd Yspryd. Megis pe dywedai fel hyn, Mae dŷn o'i naturiaeth [Page 110] ei hun yn gnawdol, yn llygredig ac yn ddrygionus, yn bechadurus ac yn anufydd i Dduw, heb vn wreichionen o ddaioni ynddo, heb vn amcan rhinweddol duwiol, wedi ymroi yn vnig i feddyliau drwg a gweithredoedd annuwiol. Ond am weithredoedd yr Yspryd, ffrwythau ffydd, amcanion cariadus duwiol, od oes gantho yr vn o honynt ynddo, maent, hwy yn dyfod oddiwrth yr yspryd glan yn vnig, yr hwn yn vnig sydd yn gweithio ein sancteiddiad ni, ac yn ein gwneuthur ni yn ddynion newydd ynghrist Iesu.
Oni weithiodd yspryd sanctaidd Duw yn rhyfeddol yn y bachgennyn Dafydd, pan wnaed ef o fugail tlawd yn brophwyd brenhinol? Oni weithiodd 1. Sam. 17. 15. yspryd Duw yn rhyfeddol yn Mathew yn eistedd wrth y dollfa, pan wnaed ef o Bublican Mat. 9. 9. balch, yn efangylwr vfyd gostyngedig? A phwy a ddichon amgen nâ rhyfeddu, wrth ystyried wneuthur Petr o byscodwr gwirion yn Apostol galluog pennaf? a gwneuthur Paul o erlidiwr creulon gwaedlyd, yn ddiscybl ffyddlō i Grist, ac yn a thro'r cenhedloedd. Cyfryw yw gallu 'r yspryd glan iaileni dynion, ac megis i escor arnynt o newydd, fel na byddont ddim tebyg i'r rhai oeddynt o'r blaen. Ac nid yw ddigon gantho weithio ysprydol a newydd enedigaeth dŷn oddifewn, oddieithr iddo drigo ac aros ynddo hefyd.
Oni wyddoch mai teml Dduw ydych a bod Yspryd Duw yn aros ynoch, medd S. Paul? Oni 1. Cor. 3. 16. wyddoch am eich cyrph mai temlau ydynt i'r Ysspryd glân yr hwn sydd ynoch? A thrachefn y dywed, Nid ydych yn y cnawd, ond yn yr Yspryd.
A pha ham? Am fod Yspryd Duw yn trigo ynoch. A hyn y cytuna athrawiaeth Ioan Sant 1. Ioh. 2. 27. [Page 111] yn fcrifennu fel hyn, yr ennaint a dderbyniasoch (yr Yspryd glân y mae yn ei feddwl) sydd yn aros ynoch. Ac y mae athrawiaeth Petr yn dywedyd yr vn peth, yn yr hwn y mae'r geiriau hyn, Yspryd 1. Pet. 4. 14. y gogoniant ac Yspryd Duw a orphy wys arnoch.
Oh pa gyssur yw hyn i galon gwir Ghristion, feddwl fod Yspryd Duw yn aros ynddo? Os bydd Duw gyd â ni, medd S. Paul, pwy a ddichon Ru. 8. 31. bod yn ein herbyn? Ond fe alle y dywed rhyw vn, Pa fodd y gallaf wybod fod yr Yspryd glân yn aros ynof? Yn wir fel yr adnabyddir y pren wrth Gal. 5. 22. ei ffrwyth, felly yr adwaenir yr yspryd glân. Ffrwythau 'r Yspryd glân yn ôl meddwl S. Paul, yw y rhai hyn, Cariad, llawenydd, tangnheddyf, ymaros, cymmwynascarwch, daioni, ffŷdd, llaryeidd-dra, dirwest. O'r gwrthwyneb, gweithredoedd y cnawd yw y rhai hyn, Tor-priodas, godineb, aflendid, digywilydd-dra, delw-addoliad, swngyfaredd, casineb, llid, gelyniaeth, digofaint, ymrysonau, terfyscau, heresiau, cenfigennau, lladdiadau, meddwdod, cyfeddach, a'r cyffelyb.
Dymma 'r drŷch a'r gwydr, yn yr hwn y gelli dy weled dy hunan, a gwybod pa vn sydd ynot ai'r Yspryd glân, ynteu yspryd y cnawd. Os gweli fod dy weithredoedd yn ddaionus ac yn rhinweddol, yn cytuno ag iniawn reol gair Duw, heb arnynt na blas nac archwaith y cnawd, ond yr yspryd, yno bydd siccr dy fod di wedi dy gynyscaeddu â'r yspryd glân: heb hynny os tybygi di yn dda o honot dy hunan, nid wyt ti ond dy dwyllo dy hunan.
Y mae'r yspryd glân bob amser yn ei ddangos ei hunan wrth ei ddoniau ffrwythlon grasol, Hynny yw, trwy eiriau doethineb, trwy eiriau gwybodaeth, [Page 112] yr hyn yw iawn ddeall yr Scrythyrau, trwy ffydd i wneuthur gwrthiau, trwy iachau 'r clwyfus, trwy brophwydoliaeth, yr hyn yw manegi 1. Cor. 12. 7. dirgelion Duw, trwy wahaniaeth ysprydion, trwy amryw dafodau, a chyfieithiad tadfodau a'r cyfryw. Ac fel y mae 'r holl ddoniau hyn yn dyfod oddiwrth yr vn yspryd, a chwedi eu rhoddi yn ddosparthedig i bob dŷn, yn ôl y mesur y rhyngo bodd i'r yspryd glan gyfrannu: felly nid heb achos da, y maent hwy yn dwyn dynion i ryfeddu o blegid duwiol allu Duw.
Pwy ni ryfedda o blegid yr hyn sydd scrifennedig yn Actau'r Apostolion, wrth glywed eu eofn gyffes hwy gar bron y Cyngor yn Ierusalem? Ac wrth ystyried pa fodd yr aethant oddiger bron y Cyngor yn llawen ac yn hyfryd am eu cyfrif yn deilwng i ddwyn ammarch er mwyn enw'r Iesu? Gwaith galluog yr Yspryd glân oedd hyn, yr hwn am ei fod yn rhoddi dioddefgarwch a llawenydd mewn profedigaethau a blinderau, a elwir yn yr Scrythur lân ar enw y diddanwr.
Pwy ni ryfedda wrth ddarllein pregethau nefol dyscedig Petr a'r discyblon, wrth ystyried na ddygwyd hwy erioed i fynu mewn yscol o ddŷsc, ond gwŷr a alwyd oddiwrth eu rhwydau i fod yn Apostolion? Gwaith galluog yr Yspryd glân oedd hyn hefyd, yr hwn am ei fod yn cyfarwyddo calonnau 'r gwirion yngwir wybodaeth Dduw a'i sanctaidd air, a elwir wrth ei iawn enw a'i ditul, Yspryd y gwirionedd.
Mae Eusebius yn ei histori eglwysig yn adrodd histori ryfedd, am ryw phylosophydd dyscedig cyfrwys-gall, yr hwn ac ef yn wrthwynebwr mawr i Li. 11. ca. 3. Grist a'i athrawiaeth, ni ellid trwy ddŷsc yn y bŷd [Page 113] ei droi i'r ffydd, ond a fedre yn hawdd atteb yr holl resymmau a ellid i roi yn ei erbyn ef, heb boen yn y byd. Yn y diwedd fe a gyfododd i fynu ryw ddyn gwael disyml, a'i synwyr yn fychan a'i ddysc yn llai, yr hwn a gyfrifid yn ynfyd ym-mhlith y dyscedigion: a hwn yn enw Duw ni fynnai lai nag ymddadleu â'r philosophydd balch hwn. Fe a ofnodd yr Escobion a'r gwyr dyscedig oedd yno am hyn o beth, ac a dybiasant y gwradwyddid hwy oll yn gyhoeddus o'i blegid ef. Er hynny efe a aeth yn ei flaen, a chan ddechreu yn enw 'r Arglwydd Iesu, ef a ddug y philosophydd yn y diwedd, yn erbyn pob tybygaeth, i gydnabod fod gallu Duw yn ei eiriau ef, ac i roddi lle i'r gwirionedd. Onid oedd hyn yn weithred ryfedd, fod i ddŷn truan diddysc wneuthur y peth ni allai Escobiō a gwyr dyscedig deallus byth ei wneuthur? Mor wir yw geiriau Beda, Lle y bo yr Yspryd Hom. 9. super Luca. glân yn addyscu ac yn cyfarwyddo, nid rhaid edrych am ddŷsc.
Llawer ychwaneg a ellid ei ddywedyd ymma am amryw ddoniau a rhadau 'r Yspryd glân, y rhai sydd odidog a rhyfeddol yn ein golwg ni, ond ni chynnwys yr amser wneuthur hîr draethawd ar y cwbl. A chan ddarfod i chwi glywed y rhai pennaf, chwi a ellwch yn hawdd ddeall y rhai eraill. Yn awr fe a fyddai anghenrhaid agoryd y pwngc ymma, A ydyw pawb ac sydd yn ymffrostio fod yr Yspryd glan genthynt, yn ei arddel yn gysiawn ai nad ydynt? Yr hyn beth am ei fod yn anghenrheidiol ac yn fuddiol, a agorir ac a amlygir (a Duw yn y blaen) yn y rhan nesaf o'r homili hon.
Yn y cyfamser, rhoddwn (fel yr ydym rwymediccaf) [Page 114] wir galonnog ddiolch i'n Tâd o'r nef, ac i'w fâb Iesu Grist, am ddanfon y diddanudd hwn i lawr i'r bŷd, gan attolwg iddo yn ostyngedig, weithio yn ein calonnau ni trwy allu ei Yspryd glân, fel y bo i ni wedi ein hadgenhedlu a'n ail-eni ym-mhob daioni a sobredd a gwirionedd, gael yn y diwedd ein gwneuthur yn gyfrannogion o fywyd tragwyddol yn ei deyrnas nefol ef, trwy Iesu Grist ein harglwydd a'n Iachawdwr, Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth ynghylch yr Yspryd glân, yn agoryd y dowt ymma, Pa vn a wna ai bod pawb ac a ymarddel o'r Yspryd glân yn ymarddel o hono yn gyfiawn, ai peidio.
PAN ydoedd ein Iachawdwr Christ yn myned allan o'r bŷd at ei Dâd, fe a addawodd ddanfon iddynt ddiddanwr arall yr hwn a Io. 14. 15. arhosai gyd â hwy yn dragywydd i'w cyfarwyddo ymmhob gwirionedd. Ac y mae 'r Scrythur lân yn tystiolaethu yn oleu ddigon ddarfod cyflawni hynny yn ffyddlon ac yn gywir. Ac ni ddylyem ni dybied ddarfod addo neu roddi y diddanudd hwn yn vnig i'r Apostolion, ond hefyd i gyffredinol eglwys Grist, yr honsydd wascaredig tros yr holl fŷd. O blegid oni bai fod yr Yspryd glân yn wastad yn bresennol, yn llywodraethu ac yn cadw ei Eglwys o'r dechreuad, ni allasai hi byth oddef cynnifer a chymmaint o frwydrau blinder ac erlid, heb gael mwy o golled ac o eniwed nac a gafodd hi.
Ac y mae geiriau ein Iachawdwr Christ yn oleu [Page 115] iawn yn y peth hyn, gan ddywedyd yr arhosai Yspryd y gwirionedd gyd â hwy yn dragwyddol; y byddai ef gyd â hwy trwy ei râd a'i rinwedd a'i allu, hyd ddiwedd y bŷd. Mae efe hefyd yn y weddi a wnaeth ef at ei Dâd ychydig o flaen ei farwolaeth, yn eiriol nid yn vnig trosto ei hun a'i Apostolion, ond yn ddiwahaniaeth tros bawb oll ac a gredent ynddo ef trwy eu geiriau hwy, hynny yw tros ei holl Eglwys. Mae S. Paul yn dywedyd hefyd, Y neb nid oes gantho Yspryd Christ, nid yw eiddo ef. A hefyd yn y geiriau a ganlynāt, Ni a dderbyniasō Rom. 8. 14. yspryd mabwysiad, trwy'r hwn yr ydym yn llefain Abba Dâd. Wrth hyn gan hynny, y mae yn amlwg ac yn eglur i bawb, ddarfod rhoddi 'r Yspryd glân, Vers. 15. nid yn vnig i'r Apostolion, onid hefyd i holl gorph Eglwys Grist, er nad yn yr vn dull a mawrhydi ac y daeth ef i lawr yr ŵyl y Pentecost. Ond yn hyn y mae 'r ymryson, A ydyw pawb yn ymarddel yn gyfion o'r Yspryd glân ai nad ydynt? Mae Escobion Rhufain er ys llawer o amser yn ymarddel o hono yn daer, gan ymresymmu drostynt ei hunain yn y modd hyn. Yr yspryd glân, meddant hwy, a addawyd i'r Eglwys, ac nid ymedy ef bŷth a'r Eglwys: ond nyni yw 'r pennaduriaid vchaf a'r rhan odidowgaf o'r Eglws, am hynny mae yr Yspryd gydâ ni yn dragywydd, a pha bethau bynnag a orchymmynnom ni, maent yn wirionedd diammau, ac yn ymadroddion nefol yr yspryd glan.
Fel y bo i chwi yn well ddeall gwendid y ddadl hon, fe fydd anghenrhaid dangos i chwi yn gyntaf pa beth yw gwir eglwys Grist, a chwedi hynny ei chyffelybu hi ac eglwys Rufain, fel y geller gweled pa fodd y mae 'r naill yn cyttuno a'r llall. Gwir eglwys Grist yw cynnulleidfa neu gydymdeithas [Page 116] gyffredinol y ffyddloniaid ac etholedig bobl dduw, wedi ei hadeiladu ar sail yr Apostolion ar prophwydi, ac Iesu Ghrist ei hun yn bencongl-faen. Ac y mae iddi yn wastadol dri nôd neu farc, trwy y rhai yr adnabyddir hi. Athrawiaeth bur ddifreg, ministro y Sacrament au yn ol sanctaiod ordeinhâd, ac iawn arfer Discyblaeth. llywodraeth eglwysig. Mae y portreiad ymma ar yr Eglwys yn gyttunol ag Scrythyrau Duw, ac ag athrawiaeth yr hên dadau, fel na all neb yn gyfiawn feio arno. Bellach os cyffelybwch yr Eglwys ymma ag eglwys Rufain, nid megis yr oedd hi yn y dechreuad, ond fel y mae hi yn awr ac y bu hi er ys nawcant o flynyddoedd ac ychwaneg: chwi a ellwch weled yn hawdd fod ei stât hi mor bell oddiwrth naturiaeth y wir eglwys ac nas dichon dim fod bellach. O blegid nid adeiladwyd hwy ar sail yr Apostolion a'r prophwydi, gan gynnal pur ac iachus athrawiaeth Christ Iesu, ac nid ydynt nac yn trin y sacramentau, nac yn arfer Allweddau▪ agoriadau 'r eglwys, yn y modd y gosododd ac yr ordeiniodd ef hwy ar y cyntaf: ond hwy a gymmyscasant eu traddodiadau a'u dychymmygion eu hunain, gan newid a chyfnewid, ychwanegu a thynnu ymmaith, fel y gellir canfod eu bod hwy yn awr wedi eu troiar ddull newydd.
Fe a orchymmynnodd Christ i'w Eglwys Sacrament ei gorph a'i waed: hwythau a'i newidiasant ef yn aberth tros fyw a meirw. Fe a finistrodd Christ y Sacrament hwn i'w Apostolion, a'i Apostolion i eraill yn ddiwahanol yn y ddwy ryw: hwythau a yspeiliasant y bobl o'r cwppan, gan ddywedyd fod vn rhyw yn ddigon iddynt hwy. Nid ordeiniodd Christ arfer yn y Bedydd vn Element. elfen ond dwfr yn [Page 117] vnig, yr hwn pan gysyllter y gair ag ef, a wnair (medd S. Augustin) yn Sacrament cyflawn perffaith: maent hwythau, gan dybied eu bod yn ddoethach nâ Christ, yn credu na wneir mo hono yn iawn ac yn drefnus, oddieithr iddynt arfer rhyw swyn-gyfaredd, oddieithr iddynt fendigo 'r dwfr, oni bydd olew a halen a phoeryn a chanwyllau, a'r cyfryw Ceremoniau mudion eraill, heb wasanaethu i ddefnydd yn y bŷd, yngwrthwyneb i reol oleu Sanct Paul, yr hwn sydd yn gorchymmyn gwneuthur pob peth yn yr Eglwys er adeiladaeth. 1. Cor. 1. 14. Fe a ordeiniodd Christ awdurdod yr Allwyddau. agoriadau i escymnuno pechaduriaid cyhoeddus, ac i ollwng a rhyddhau y rhai a fo gwir edifeiriol: maent hwythau yn camarfer y gallu hwnnw fel y gwelont hwy fod yn oreu; gan felldithio 'r duwiol â llyfr a chlôch a chanwyll, a chan ryddhau 'r annuwiol y rhai a wyddys eu bod yn an-nheilwng o gydymdeithas Christianogion: a phwy bynnag a fynno weled siampl o hyn, chwilied eu bucheddau hwy. Ar ychydig eiriau, edrychwch beth a ddywedodd ein Iachawdwr Christ am yr scrifēnyddion a'r Phariseaid yn yr Efengyl, hynny a ellir ei ddywedid yn Eofn. hŷfac â chydwybod dda am escobion Rhufain, sef darfod iddynt ymwrthod, a'u bod yn ymwrthod beunydd a gorchymmynion Duw, i osod i fynu eu traddodiadau eu hunain.
Gan fod hyn yn wir, fel y mae yn rhaid i bawb ac sydd gātho ddim goleuni yngair Duw gyfaddef, ni a allwn ddiweddu â rheol S. Augustin: Nad yw escobion Rhufain a'u canlynwyr, yn wir Eglwys Grist, llai o lawer y dylyid eu cymmeryd hwy yn bennaethiaid ac yn llywodraethwyr ar [Page 118] yr Eglwys. Pwy bynnag (medd ef) sydd yn anghytuno â'r Scrythyrau ynghylch pen yr Eglwys, Aug. contra Petil. Donatistae epistol. cap. 4. etto nid ydynt hwy o'r eglwys er eu bod hwy ym-mhob man ac y mae 'r Eglwys. Dyna le eglur, yn prosi yn amlwg yn erbyn eglwys Rufain.
Pa le yn awr y mae 'r Yspryd glân, yr hwn y maent hwy yn ymarddel o hono mor daer? Pa le yn awr y mae Yspryd y gwirionedd, yr hwn ni oddef iddynt gyfeilorni? Os possibl ei fod ef lle nid yw gwir Eglwys Grist, mae efe yn Rhufain: ac onid ê nid yw 'r cwbl ond gwagfost, heb ddim▪ amgen.
Mae S. Paul, fel y clywsoch o'r blaen, yn dywedyd, Os oes neb heb Yspryd Christ ynddo, nid yw hwnnw yn eiddo ef. A chan droi y geiriau, fe Rom. 8. 9. a ellir dywedyd yn wir, Yr hwn nid yw yn eiddo Christ, nid yw'r Yspryd gantho. Yn awr fel y gallom adnabod pwy sydd yn eiddo ef, a phwy nid ydyw, fe a roddwyd i ni y rheol hon, fod ei ddefaid ef bob amser yn gwrando ei leferydd ef. Ac y mae Ioa. 10. S. Ioan yn dywedyd, fod yr hwn sydd o Dduw yn gwrando gairiau Duw.
O hyn y canlyn fod y Pabau wrth fod heb wrando lleferydd Christ, fel y dlyent, ond gosod eu traddodiadau Ioa. 8. eu hunain o flaen eglur air Duw; yn dangos yn oleu i'r bŷd, nad ydynt hwy o Grist, ac nad yw ei Yspryd ef ynddynt.
Ond ymma y dodant hwy drostynt eu hunain, fod llawer o byngciau angenrheidiol heb eu traethu yn yr Scrythur lân, y rhai a adawyd i ddatguddiad yr Yspryd gla▪n. Yr hwn sy wedi ei roddi i'r Eglwys yn ol addewid Christ, ac a ddyfcodd lawer o bethau o amser i amser, y rhai ni allai yr [Page 119] Apostolion etto eu dwyn gyd â hwy. I hyn y gallwn atteb yn hawdd â geiriau eglur Christ yn Ioa. 16. dangos i ni mai swydd briodol yr Yspryd glân yw, nid appointio ac ordeinio cyfreithiau newydd yngwrthwyneb i'r athrawiaeth y mae ef gwedy ei dangos o'r blaen, ond deongl ac egluro y pethau a ddangosodd ef o'r blaen, fel y gellid eu deall hwy yn iniawn ac yn dda. Pan ddel Yspryd y gwirionedd, medd ef, efe a'ch tywys chwi i bob gwirionedd. Pawirionedd y mae efe yn ei feddwl? A yw efe yn meddwl amgē wirionedd nag a ddatcuddiasai Ioa. 16. 13. ef eihun yn ei air? Nag yw. O blegid y mae efe yn dywedyd, Ef a gymmer o'r eiddosi, ac a'i mynega i chwi. A thrachefn, Ef a ddŵg ac gof Ioa. 16. 14. i chwi yr holl bethau a leferais wrthych.
Am hynny nid rhan a dylêd Christion yw, yn rhith bod yr Yspryd glân gantho, dwyn ei ddychymmygion a'i freuddwydion ei hunan. Ond rhaid iddo ddarbod yn ddyfal fod ei athrawiaeth a'i gyfreithiau ef yn cyttuno â Thestament sanctaidd Christ. Os amgen, wrth wneuthur yr Yspryd glân yn awdur o'r pethau hynny, mae efe yn dywedyd celwydd yn erbyn yr Yspryd glan, i'w golledigaeth ei hun.
Bellach i adel heibio eu hathrawiaeth hwy, ac i ddyfod at byngciau eraill. Pa beth a dybygwn ni, neu a farnwn am falchedd afrifed y Pâb? Mae'r Scrythur yn dywedyd, duw a wrthladd y beilchion ac a rydd râs i'r rhai vfydd. Ac y mae 1. Pet. 5. 5. hi yn galw yn fendigedig y rhai sy dlodion yn yr Yspryd, ac yn addo y derchefir y rhai a ymostyngo. Mat. 5. 3. Mat. 23. 12. Luc. 14. 11. & 18. 14. Ac y mae ein Iachawdwr Chiist yn erchi i bawb o'r eiddo ef ddyscu gantho ef, am ei fod yn llaryeidd ac yn ostyngedig o galon. Am falchedd, mae S. [Page 120] Gregoriyn dywedyd mai gwreiddyn pob drygioni yw hi. A barn S. Augustin yw ei bod hi yn gwneuthur dynion yn gythrauliaid.
Am hynny, a all vn dŷn ac a ddarllennodd neu a ddarllenno fucheddau 'r Pabau, ddywedyd yn gywir fod yr Yspryd glân ynddynt hwy? Yn gyntaflle y mynnant eu galw yn Escobion cyffredinol ac yn ben ar holl eglwysydd Crêd, mae gennym farn Gregori yn eglur yn eu herbyn hwy, yr hwn Lib 3. Ep. 76. 78. wrth scrifennu ac Mauritius yr Ymmerodr, sydd yn condemnio Ioan Escob Constantinopol am yr vn peth, ac yn ei alw ef am hyn yn dywysog balchedd, yn ganlynudd Lucifer, ac yn flaenorwr Anghrist. S. Bernard hefyd sydd yn cyttuno a hyn ac yn dywedyd, Pa falchedd mwy a all fod, nâ bod Ser 3. de resur. Dom. i vn dŷn osod ei farn ei hunan o flaen barn yr holl gynnulleidfa, fel pe byddai yspryd duw ynddo ef yn vnig? Ac mae S. Chrysostom yn cyhoeddibarn erchyll yn eu herbyn hwy, gan ddywedyd yn oleu, Pwy bnnag a geisio bod yn bennaf ar y ddayar, y Dial. lib. 3. caiff ef wradwydd yn y nef; a'r hwn ymdrecho ani fod yn oruchaf, na chyfrifir ef ym-mhlith gweision Christ. A thrachefn y dywaid, Peth da yw dymuno Super Ma [...]. gwaith da, ond ceisio y radd bennaf o anrhydedd, sydd wagedd diledryw. Onid yw y lleoedd hyn yn ddigonol yn argyoeddi eu balchedd anllywodraethus hwy yn cymmeryd arnynt eu hunain oruchafiaeth vwch law pawb eraill, cystal gweinidogion ac Escobion, a brenhinoedd ac ymmerodron? Ond fel yr adwaenir y llew wrth ei ewinedd, felly dyscwn ninnau adnabod y gwŷr hyn wrth eu gweithredoedd.
Pa beth a ddywedwn ni am yr hwn a barodd rwymo y brenhin ardderchog Dandalus â chadwyn [Page 121] Ger ei wddwg. erbyn ei wddf a gorwedd dan ei fwrdd ef a chnoi escyrn fel ci? Sabellic. A dybygwn ni fod gantho ef yspryd Duw yntho? ac nid yn hytrach yspryd diarol? Ennead. 9. l. 7. Y cyfryw dyrant creulon oedd Bab Clemens y chweched. Pa beth a dybygwn ni am yr hwn a Ddansiolodd. sathrodd yr ymmerodr Frederic yn falch ac yn ddirmygus tan ei draed, gan ddywedyd amdano ei hun y wers hon o'r Psalm. Ar y llew a'r asp y cerddi, ar genaw llew a'r ddraig y sethri? A ddywedwn Psal. 91. 13. ni fod gantho ef yspryd Duw ynddo, yntau yn hytrach yspryd diafol? Y cyfryw dyrant oedd Bâb Alexander y chweched. Pa beth a ddywedwn am yr hwn a arfogodd ac a annogodd y mâb yn erbyn ei dâd, gan beri ei ddal ef a'i newynu i angeu, yn erbyn cyfraith Dduw a naturiaeth hefyd? A ddywedwn ni fod yspryd Duw ynddo, ynteu yn hytrach yspryd diafol? y cyfryw dyrant oedd y Pab Paschalis yr ail. Pa beth a ddywedwn am yr hwn a ddaeth i'w Babaeth fel Cadno. llwynog, a reolodd fel llew, ac a fu farw fel ci? A ddywedwn ni fod Yspryd Duw yndo, ynteu yn hytrach Yspryd diafol? y cifryw dyrant oedd y Pâb Bonifacius yr wythfed. Pa beth a ddywedwn am yr hwn a wnaeth i Harri yr ymmerodr a'i wraig a'i blentyn ieuaigc sefyll wrth borth y ddinas yn y gayaf garw yn esceirnoeth droednoeth, heb ddim yn eu cylch ond gwlanen deneu heb fwytta dim o'r boreu hyd yr hwyr, a hynny tros dri diwarnod? A ddywedwn ni fod Yspryd Duw ynddo, ynteu yn hytrach yspryd diafol? y cyfryw dyrant oedd y Pâb Hildebrand.
Llawer o siāplau eraill a ellid eu hadrodd ymma, megis am y Pâb Ihoan y buttain honno, yr hon a Ganed iddi. escorodd ar blentyn yn yr heol wrth gerdded prosesiwn: am y Pâb Iulius yr ail, yr hwn o'i wir-fodd [Page 122] a daflodd agoriadau Petr i afon Tibris: am y Pâb Urban y chweched yr hwn a barodd ddodi pump o Gardinaliaid mewn Ffettanau. sachau a'u boddi: am y Pâb Sergius y trydydd yr hwn a erlidiodd gorph marw ei flaenor Formosus a gladdesid er ys wyth mlynedd: am y Pâb Ioan y pedwerydd ar ddêg o'r henw hwnnw, yr hwn pan gafodd ei elyn mewn gafael, yn gyntaf a barodd ei ddiosc yn noeth lymmyn, ac eillio ei farf, a'i grogi erbyn ei wâllt tros ddiwrnod cyfan, ac yno ei osod ar assen a'i wyneb yn ôl, a'i ddwyn felly amgylch y ddinas o ddirmyg arno, a'i guro yn flin â gwiail, ac yn ddiweddaf oll ei yrru allan o'i wlâd, a'i ddeol a'i afwladu yn dragywydd.
Ac i ddibennu, cymmerwch y wers hon ar fyrr eiriau, Pa le bynnag y gweloch yspryd rhyfyg a balchder, yspryd cenfigen a chasineb, ac ymryson, a chreulonder, llofruddiaeth, cribddail, swyn-gyfaredd, consurio, a'r cyfryw; byddwch siccr mai yspryd diafol sydd yno ac nid yspryd Duw, er maint y rhith sancteiddrwydd a gymmeront arnynt yngolwg y byd. Oblegid fel y mae 'r Efengyl yn ein dyscu ni, Yspryd Iesu yspryd daionus yw, yspryd sanctaidd, yspryd llaryaidd, yspryd gostyngedig, yspryd trugarog, yn llawn caredigrwyddd a chariad, yn llawn trugaredd a thisturi, heb dalu drwg am ddrwg, na chreulōder am gariad, ond â daioni yn gorchfygu drygioni, ac yn madden pob camwedd o eigion eigalon.
Yn ôl y rheol hon pwy bynnag a fyddo byw, am dano ef y gellir dywedyd yn ddiogel fod gantho Yspryd Duw ynddo: os amgen, dyna arwyddeglur ei fod ef yn cymmeryd arno enw 'r Yspryd glân yn ofer.
[Page 123] Am hynny, fy anwyl garedigion, yn ôl cyngor da Ioan sanct, Na chredwch bob yspryd, eithr 1. Io. 4. 1. profwch yr ysprydion ai o Dduw y maent. Llawer medd Christ, a ddeuant yn fy enw i, ac a ymrithiant yn rhith angylion y goleuni, ac a dwyllant, pe bydde bossibl, yr etholedigion. Hwy a ddeuant attoch Mat. 24. 24. yngwiscoedd defaid, onid oddifewn bleiddiaid rheibus ydynt. Fe fydd ganthynt oddiallan Mat. 7. 15. rith sancteiddrwydd mawr a diniweidrwydd bywyd, megis y bydd anhawdd i chwi eu hadnabod hwy. Ond dymma y rheol sydd raid i chwi ei chanlyn, wrth eu ffrwyth yr adnabyddwch hwy. O blegid os byddant annuwiol a drŵg, am-mhossibl yw bod y pren yn dda, yr hwn y maent yn tyfu Mat. 7. 16. arno. Cyfryw rai oedd holl Bâbau Rhufain gan mwyaf, fel y mae yn eglur yn histori eu bucheddau hwy. Am hynny da y cyfrisir hwy ym-mhlith y gau brophwydi a'r gaugristiau, y rhai a dwyllasant y byd tros gyhyd o amser.
Arglwydd nef a dayar an hymddiffynno ni rhag eu creulonder a'u balchder hwy, fel na ddelont hwy byth i'w winllan ef, i drallodi ac i darfu ei braidd bychan ef: ond cael o honynt eu gwradwyddo a'u gorchfygu ym-mhob man o'r byd: a'r vn Arglwydd o'i fawr drugaredd a weithio ynghalon pob dŷn, trwy alluog nerth yr yspryd glân, fel y bo pregethu a derbyn a chanlyn yn gywir ddiddanus efengyl ei fâb ef Iesu Ghrist ym-mhôb lle, er curo i lawr bechod, ac angau a'r Pâb a'r cythraul, a holl deyrnas Anghrist, fel y gallom ni o'r diwedd fel defaid gwascaredig wedi eu casclu ynghŷd i'r vn gorlan, gael gorphrwys ynghŷd ym-monwes Abraham, Isaac a Iacob, a bod yno yn gyfrannogion o'r bywyd tragwyddol heb drangc hcb orphen [Page 124] trwy haeddigaethau Iesu Grist ein Iachawdwr▪ Amen.
¶ Homili neu bregeth ar wythnos y derchafael, Bod pob peth daionus yn dyfod oddiwrth Dduw.
YR wyf fi yn bwriadu heddyw, Gristianogion daionus, fanegi i chwi haeddediccaf glod a chanmoliaeth yr Holl-alluog Dduw, nid yn vnig wrth ystyried rhyfeddol greadwriaeth y byd hwn a'i gadwedigaeth a'i lywodraeth, yn yr hyn y mae ei allu a'i ddoethineb ef yn ymddangos yn odidog, i'n Cyffro. cynnyrfu ni i'w anrhydeddu ac i'w ofni ef: ond yn enwedig wrth ystyried ei helaetha'i haelionus ddaioni ef yr hwn y mae ef yn eiroi beunydd i ni ei greaduriaid rhesymmol ef, er mwyn y rhai y gwnaeth efe 'r holl fŷd a'i holl gymmwynasau a'i olud. Pe cofiem ni yn dda ac yn ddyfal ei ddaioni godidog hyn, fe a ddylai ein cyffroi ni hefyd i'w garu ef o wir ewyllys ein calonnau, ac i'w glodfori ef mewn gair a gweithred, ac i'w wasanaethu ef holl ddyddiau ein hcinioes.
Ac yr ydwyfyn gobeithio nad rhaid i mi lawer o amgylchon geiriau i'ch cyffroi chwi i wrando yn ddyfal ar beth mor wiw i mi ei draethu ac mor fuddiol i chwithau ei wrando. Yn vnig mi a ewyllysiwn fod eich meddyliau wedi eu dirgel gynhesu ynoch, i Cyffro. gynhyrfu ynoch ddiolchgarwch i ddaioni yr Holl-alluog Dduw ymmhôb pwngc ac a [Page 125] egorer i chwi yn nailltuol yn fy-nrhaethawd i. Os amgen, pa beth a dâl i ni wrando a gwybod mawr ddaioni dduw tu ag attom, a gwybod fod pob peth daionus yn dyfod oddiwrtho ef, megis o lygad y' ffynnon ac oddiwrth vnig a wdur pob dâioni; neu wybod fod yn rhaid i bob peth ac a ddelo oddiwrtho ef, fod yn ddaionus ac yn iachus: oni phair ei glywed efi ni ddim ond ei wybod yn vnig: Beth a fu well doethion y bŷd er bod ganthynt wybodaeth am allu a Duwdod Duw, trwy ei ddirgel ysprydeliaeth ef: a hwytheu heb ei anrhydeddu a'i ogoneddu ef yn eu gwybodaeth, megis Duw? Pa glod oedd iddynt hwy weled ei ddaioni ef, wrth ystyried creadwriaeth y bŷd, a hwythau heb fod yn ddiolchgar iddo am ei greaduriaid? Pa beth a haedddodd y dallineb a'r anniolchgarwch hyn ar law Dduw, ond bod iddo ymwrthod a hwy yn gwbl? ac felly gwedi i dduw eu gwrthod, ni allent amgen na chwympo i eithaf anwybodaeth ac amryfysedd. Ac er eu bod hwy yn gwneuthur cyfrif mawr o honynt eu hunâin yn eu synwyr a'u gwybodaeth, ac yn ymogoneddu yn eu doethineb: etto hwy a ddifannasant ynnallineb Rom. 1. 21. eu meddyliau, ac a aethant yn ffoliaid, ac a gyfrgollwyd yn eu ffolineb. Ni all bod amgen diwedd i'r rhai a nessant at Dduw trwy wybodaeth, ac a ânt oddiwrtho trwy anniolchgarwch, ond dygyn golledigaeth.
Fe a welodd Dafydd yn ei ddyddiau ef fod hyn yn wir. O blegid mae efe yn dywedyd yn ei Psalmau, Psa. 73. 27. wele difethir y rhai abellânt oddiwrthit, peraist dorri ymmaith bob vn a butteinio oddiwrthit. Fe a welodd y sanctaidd brophwyd Ieremi fod hyn yn wir, O Arglwydd, medd ef, y rhai [Page 126] oll a'th wrthodant a wradwyddir, scrifenner yn y ddayar y rhai a gilant oddiwrthit ti, am iddynt adel yr Arglwydd, ffynnon dyfroedd y bywyd.
Ni wna lles, bobl ddaionus, gwrando manegi daioni Duw, oddieithr i hynny ennynnu ein calonnau i'w anrhydeddu ef ac i ddiolch iddo. Ni wnaeth lles i'r Iuddewon, er eu bod yn bobl ddewisol Dduw, wrando llawer am Dduw, gan na dderbyniasant ef i'w calonnau trwy ffydd, ac na ddiolchasant iddo am y doniau a roddodd efe iddynt: eu hanniolchgarwch hwy a fu achos o'u distryw.
Gwachelwn ni arfer y cyfryw rai, a chanlynwn yn hytrarch siampl yr Apostol bendigedig S. Paul, yr hwn pan welodd ef mewn dwfn fyfyrdod, ryfeddol weithredoedd yr holl-alluog Dduw, ac ystyried anfeidrol ddaioni Duw yn trefnu ei greaduriaid, fe a dorrodd allan yn y diwedd i'r geiriau hyn, O honaw ef, a thrwyddo ef, Rom. 11. 36. ac ynddo ef y mae pob dim oll. A chwedi iddo adrodd y geiriau hyn, ni safodd ef ar hyn yn vnig, ond yn y man fe a gyssylltodd y geiriau hyn, Iddo ef y byddo gogoniant yn oes oesoedd, Amen. Ar sail y geiriau hyn eiddo S. Paul y mae yn fy mrŷd i wrandawyr, adailad fy-nghyngor i chwi heddyw. Lle y gwnâf fy-ngoreu, yn gyntaf ar brofi i chwi fod pob dawn daionus a phob rhodd berffaith yn Iac. 1. 17. discynoddiuchod, oddiwrth Dâd y goleuni.
Yn ail, mai Iesu Ghrist ei Fab ef yw'r cyfrwng trwy'r hwn yr ydym yn derbyn ei haelionus ddaioni ef.
Yn drydydd, mai trwy allu a rhinwedd yr Yspryd glân yr ydys yn ein gwneuthur ni yn addas ac yn abl i dderbyn ei ddoniau a'i radau ef.
[Page 127] Yr hyn bethau os ystyriwn bob vn o'r nailltu, ac yn bwyllog yn ein meddyliau, hwy a'n cymmhellant ni mewn parch gostyngedig, yn ôl ein rhwymedig ddlŷed, i roddi diolch idddo â thystiolaeth ein calonnau am ei haedddigaethau ef tu ag attom ni. Ac fel y bo traethiad y peth sydd gennym yn llaw, er gogoniant i'r holl-alloug Dduw, galwn o vn ffydd a chariad ar Dâd y drugaredd, oddiwrth yr hwn y mae pob dawn daionus, a phob rhodd berffaith yn dyfod, trwy gyfryngad ei anwyl fâb ein Iachawdwr, ar ini gael ein cynhorthwyo trwy Bresennoldep. gydrycholdeb ei Yspryd glân ef, ac ac ar ini ymddwyn yn iachus o'n rhan ninnau, wrth ddywedyd, ac wrth wrando, er iechydwriaeth ein eneidiau.
Ynnechreuad fy ymadrodd wrthych, Gristionogion da, na thybygwch fy mod yn cymeryd arnaf fynegi i chwi odidawg allû, a doethineb annhraethadwy yr holl-alluog dduw: fel pa mynnwn i chwi gredu y gellir mynegi hyn i chwi mewn geiriau. Nagê, ni ellir tybied y gall geiriau dŷn gynwys y peth ni all dim ei ymgyffred. A gormodd rhyfyg yw i Lwch. lethrod a lludw dybied y gall ef yn gymhessur fanegi sylwedd ei wneuthurwr Mae 'n myned ymmhell tuhwnt i ddeall doethineb vn dŷn marwol, draethu yngwbl ei dduwiol fawrhydi ef, yr hwn ni all yr angylion ddeall mo hono. Am hynny ni a adwn heibio sôn am aniā ddyfn anchwiliad wy yr holl-alluog Dduw, gan gydnabod ein gwendid yn hytrach nag yn ynfyd geisio cynnwys yr hyn sydd vwch law deall dŷn. Gweddussach yw i ni mewn gostyngeiddrwydd issel, berchi ac ofni ei fawrhydi ef yr hwn ni allwn ei ymgyffred, nag wrth chwilio 'n rhy fanol [Page 128] cael ein gortrechu â'i ogoniant ef. Ni a drown yn gyntaf ein holl gydsynnaid dros ennyd i atteb ei ddaioni ef tuag attom yn yr hyn atrafaelwn yn fuddiolach, ac y gallwn yn Hyfach. eofnach chwilio.
Ni ddichon ystyried ei fawr allu ef ond gwneuthyr i ni Arswydo. echrydio, ac ofni: fe allai ystyriaeth ei vchel ddoethineb ef yn hollol ddigalonni ein gwendid ni, fod ini ddim a wnelom ag ef: ond wrth ystyriaid ei ddaioni anfeidrol ef, yr ydym yn Ymhyfhan. ymeofnhau ailwaith i ymddired yn dda iddo ef. Trwy ei ddaioni ef yr ydym ni yn ymsiccrhau ar ei gymeryd ef yn ymddiffynfa, yn obaith, ac yn ddiddanydd, yn Dâd trugarog yn holl lwybrau 'n heinioes. Mae ei allu a'i ddoethineb ef yn ein cymmell ni i'w gymmeryd ef yn Dduw hollalluog, anweledig, yr hwn sydd yn ternasu yn y nef, ac ar y ddaer, a chantho bob peth dan ei draed, ac ni fyn neb o'i gyngor, na neb i ofyn rheswm am ei weithred. O herwydd fe all wneuthur y peth y fynno, ac ni all neb sefyll yn ei erbyn ef. O achos mae fe'n gweithio pob peth yn ei farn ddirgel, fal y mae yn fodlon gantho fe: ie y drygionus i ddamnedigaeth fal y dywad Salomon. O achos yr anian hyn y gelwir efe yn yr scrythyr yn dân ysol, ac yn Dduw ofnadwy. O'r rhan hyn am hynny ni allwn ni gael cyfaillach ag ef, na dyfodiad atto. Ond mae ei ddaioni ef ailwaith yn tymheru tostedd ei vchel allu ef, yn ein * eofnhau ni, ac yn ein dodi ni mewn gobaith, y bydd ef gydâ ni, ac y bydd ef yn esmwyth wrthym.
Ei ddaioni sydd yn ei gynhyrfu ef yn yr scrythyr i ddywedyd, Hoff yw gennyf fod gydâ maibion dynion, Ei ddaioni ef sydd yn ei gynhyrfu ef i 'n [Page 129] galw ni atto, i gynnyg i ni ei gymdeithas, a'i bresennolder. Ei ddaioni ef sydd yn goddef yn oddefgar i ni gyfeiliorni oddi wrtho, ac i ymaros wrthym ni yn hir, er ein hennill ni i etifeirwch. O'i ddaioni y gwnaeth ni yn greaduriaid rhesymmol, ac ef yn gallu ein gadel ni yn anifeiliaid anrhesymmol. Ei drugaredd ef oedd gael o hanom ni ein geni ym-mysc Christionogion, a thrwy hynny bod yn nês o lawer i iechydwrieth ac i obaith bywyd tragwyddol, lle gallessid (oni bai ei ddaioni ef) ein geni ni ymmysc paganiaid heb Dduw ac heb obaith bywyd tragwyddol. A pheth y mae ei laferydd caredig mwyn ef yr hwn a draethir yn ei air ef, (lle y mae efe yn ein galw ni i'w bresenoldeb a'i gymdeithias) yn ei fanegi amgen, onid ei ddaioni ef yn vnic heb Edrych. synned am ein haeddiant ni? a pheth amgen sydd yn ei gyffroi ef i'n galw ni atto pan ydym yn cyfeiliorni oddiwrtho, i'n goddef ni yn oddefgar er ein hennill i etifeirwch heb vn tippyn o'n haeddiant ni? Daued y rhai y sydd gwedi eu gogoneddu yn y nef, yn awr oll ynghŷd, a gwrandawn pa atteb a wnelont hwy yn y pyngeiau a soniassom ni o'r blaen am danynt, pa vn ydoedd eu cread cyntaf hwy ai o ddaioni Duw, ai o hanynt eu hunain. Yn wir fe a attebai Ddafydd, ac a ddywedai drostynt oll, Gwybyddwch yn sicr mai'r arglwydd yw Duw, efe a'n gwnaeth ac nid ni ein hunain. Pe gofynnid iddynt ailwaith i bwy y dlyid diolch am eu chsiawnhâd hwy, ac am eu iechydwriaeth hwy? pa vn ai i'w haeddiant hwy ai i vnic ddaioni Duw?
Er bod pob vn yn y pwngc hyn yn addef yn ddigonol wirionedd y peth hyn yn ei berson ei hun, [Page 130] etto attebed Dafydd ar hyn o amser, megis eu genau hwy oll; yr hwn ni ddichon ddewis na ddywedo, Nid i ni o Arglwydd ond i'th enw di y rhoddir pob diolch, er mwyn dy drugaredd a'th wirionedd di. Os gosynnwn ni ailwaith o ba le y daeth eu gweithredoedd a'u gorchwylion gogoneddus hwy, y rhai a wnaethont yn eu hoesoedd, â'r rhai y boddlonasant ac yr addolasant hwy Dduw yn gymmaint: hebryngwn i mewn ryw dŷst arall i destiolaethu yr vn peth, fel yngenau dau neu dri yr adnabydder y gwirionedd.
Yn wir mae 'r prophwyd Esai yn testiolaethu gan ddywedyd, O Arglwydd ti a'th ddaioni a Es. 26. wneuthost yr holl weithredoedd hyn ynom, ac nid ni ein hunain. Ac er cynnal i fynu wirionedd y peth hyn, yn erbyn yr holl ymgyfiawnhawyr, a'r hypocritiaid, y rhai a yspeiliant yr holl-alluog Dduw o'i anrhydedd, ac a'i rhoddant iddynt eu hunain, mae Saint Pawl yn dwyn i mewn hyn, Ni allwn ni, medd ef, o hanom ein hunain megis 1. Cor. 3. o hanom ein hunain, feddwl vn meddwl da: onid mae 'n holl allu ni, o ddaioni Duw, o herwydd yndo efe y mae i ni oll ein bod, ein bywyd, a'n Cwhw. fan. cynhyrfiad. Os mynnwch wybod etto ymmhellach pa le y cawsant hwy eu rhoddion, a'u aberthau, y rhai a offrymment hwy yn wastad yn eu bywyd i'r holl-alluog Dduw, ni allwn lai nâ chyduno â Dafydd, lle mae fe yn dywedyd, O'th law hael di, o Arglwydd, y derbyniasom yr hyn a roddasom i ti. Am hynny os ydyw 'r compni sanctaidd hyn yn addef mor Hyf. eofn fod yr holl ddaioni a'r rhadau, â 'r rhai y cynyscaeddid eu heneidiau hwy, yn dyfod oddi-vorth ddaioni Duw yn vnic, beth rhagor a ellir i ddywedyd i [Page 131] Brofi. brufo fod pob daioni yn dyfod oddiwrth yr holl-alluog dduw? Ai addas i ni dybied fod pob daioni ysprydol yn dyfod oddiwrth Dduw, oddi-vchod yn vnic, a bod vn daioni arall megis daioni natur neu ffortun (fal y galwn hwy) yn dyfod o vn achos arall? ydyw Duw a'i ddaioni yn harddu 'r enaid a'i holl alluon, megis y mae efe, ac a ddaw y doniau â 'r rhai y cynnyscaeddir y corph oddi-wrth neb arall? Os ydyw ef yn gwneuthur yr hyn sydd fwyaf, oni all ef wneuthur yr hyn y sydd lai? Mwy o waith (medd Sainct Awstin) yw cyfiawnhau pechadur, a'i greu ef o newydd o ddŷn drwg yn ŵr cyfion, nâ gwneuthur o newydd y nêf, a'r ddayar, yn y modd y gwneuthpwyd hwy eisoes.
Rhaid yw ini gyfuno pwy ddaioni bynnag sydd ynom, o rad, o natur, neu o ffortun, ei fod o Dduw yn vnic, megis yr vnig awdur a'r gwneuthurwr; Ac etto ni ddlyid meddwl ddarfod i Dduw greu yr holl fyd cyffredinawl yn y modd y mae efe, ac iddo ef gwedi ei wneuthur ef vnwaith, roddi i fynu ei reolaeth ef, ac y gallwn ni am hynny ei arfer ef yn ol ein synhwyrau a'n dychymygion ein hunain, ac felly nad ydyw ef yn cymeryd dim mwy o ofal amdanaw: megis y gwelwn fod y saer llongau wedi iddo orphen gwneuthur ei long, yn ei rhoi hi yn llaw 'r llongwr, heb ofalu mwy am dani. Nagê, ni chreodd Duw y byd, a bod gwedi hynny heb ofalu am danaw, ond mae fe yn cadw hwn yn wastad â'i ddaioni, mae yn ei gynnal bob amser yn ei grêad: o herwydd yn amgen, heb ei ddaioni enwedigawl ef, ni allai sefyll yn ei stât.
O'r achos hyn y mae Saint Paul yn dywedyd, [Page 132] Y mae fe 'n cadw ac yn cynnal pob peth â'i air Heb. 1. 3. rhag iddynt hebddo ef gwympo yn ddiddim o'r hyn y gwneuthpwyd hwy. Oni byddai fod y daioni hyn yn bresennol ym-mhob lle, fe a ai bob creadur allan o'i iniawn drefn, ac ni byddai vn creadur yn ei iawn gynneddf, yn yr hon y crewyd ef. Mae fe am hyn yn anweledig ym-mhob lle, ac ym-mhob creadur ac yn cyflawni nêf a dayax â'i bresennolrwydd: yn y tân i roddi gwrês, yn y dwfr i roddi gwlybni, yn y ddayar i roddi ffrvoyth, yn y galoni roddi nerth, ie mae fe yn ein bara ni a'n diod i roddi ymborth ini, o herwydd hebddo ef ni all y bara a'r ddiod roddi llyniaeth, na llyseuyn iechyd. Fal yr addef y gwr call yn oleu, gan ddywedyd, nid amledd ffrwythau sydd yn porthi dynion, ond dy air di o Arglwydd a geidw y rhai a ymddiredant ynoti. Ac mae Moses yn cyfuno â hynny, lle mae fe yn dwedyd nad ydyw dŷn yn byw ar sara'n vnig, onid ar bob gair ac y sydd yn dyfod o enau'r Arglwydd. Nid y llysewyn na 'r eli sydd yn rhoddiiechyd, onid dy air di, o Arglwydd (medd y gwr call) y sydd yn iachau pob peth.
Am hynny nid gallu y creaduriaid sydd yn gweithio yn ffrwythlawn onid daioni Duw sydd yn gweithio yndynt. Yn ei air ef yn wir y mae pob peth yn sefyll. Trwy y gair hwn y gwneuthpwyd nef a daiar, a thrwy y gair hwn y cynhelir, y maentaenir ac y cedwir hwy mewn trefn, medd S. Petr, ac y byddant hwy hyd oni thynno 'r holl-alluog Dduw ei allu oddiwrthynt, ac y gosodo ef eu gollyngdod hwy.
Oni byddai fod daioni Duw fal hyn yn ffrwythlon yn ei greaduriaid i'w rheoli hwy, pa fodd y gellid cadw y mor mawr yr hwn sydd yn rhuo, ac [Page 133] yn trafaelu i orchguddio 'r ddaear, o fewn ei derfynau a'i dorlennydd, fal y cedwir efe.
Fe welodd y gwr sanctaidd Iob yn eglur ddaioni Duw yn y pwngc hyn, ac a addefodd oni byddai fod espyssawl ddaioni duw yn cadw y ddae ar, na ellyd na orchgiddiai y môr hi, mewn ychydig amser. Pa fodd y gallai yr elementau a hwy mor anghyttun ac mor wrthwyneb i'w gilydd, gyfuno ac aros ynghŷd mewn heddwch er ein gwasanaethu ni heb ddifetha ei gilydd, oni byddai fod daioni Duw felly yn eu tymheru hwy? pa fodd na loscai ac na ddifai y tân y cwbl oll, pe gollyngid ef i fyned lle y mynnai, a phe nad attelid ef trwy ddaioni Duw o fewn ei rôd, i wressogi yn fesurol y creaduriaid isod hyn i'w haeddfedu?
Ystyriwch anfeidrol faint y ddayar, mor drom ac mor fawr yw hi: pa fodd y gallai hi sefyll mor ddiogel yn y lle y mae hi, oni byddai fod daioni duw yn ei chynnal hi, i ni i drafaelu arni? Tydi (medd Dafydd) o Arglwydd a seiliaist y ddayar, â'th air y cynhaliaist hi, fel nad yscogai, ac na chwympai.
Ystyriwch yr anifeiliaid a'r pyscod cryfion, etto trwy ddaioni Duw ni orchfygant yn ein herbyn, onid hwy a gedwir mewn caethiwed i'n gwasanaethu ni. Oddiwrth bwy y daeth y gyfarwyddyd hyn i'w Gorescyn. gormeilio hwy, ac i wneuthur iddynt wasanaethu er budd ini? ai o ymmennydd dŷn? Nagê, yn hytrach fe ddaeth y gyfarwyddyd hyn oddiwrth ddaioni Duw yr hwn a gynhyrfodd ddeall dŷn i gael ei feddwl ar bob creadur. Pwy, medd Iob, a osododd ewyllys a deall ym-mhen dŷn onid daioni duw yn vnic? Ac (fal y dywaid yr vn Iob, yr ydwyf fi yn deall fod meddwl ym, [Page 134] mhob dŷn, ond cynhyrfiad yr holl-alluog sydd yn rhoddi deall.
Ni allasai ddyn (bobl dda Gristionogaidd) a'i synwyr ei hun byth ddychymmyg cinnifer o ddychymmigion ym-mhob celfyddyd, a gwybodaeth, oni bualai fod daioni yr holl-alluog Dduw yn bresennol gydâ dynion, yn cyffroi eu synhwyrau a'u mefyrdodau hwy i wybod naws a naturiaeth ei holl greaduriaid ef, i'n gwafanaethu ni yn ddigonol yn ein holl rhaidau a 'n anghenau. Ac nid yn vnic i wasanaethu yn anghenrheidiau ni, onid hefyd i wasanaethu ein boddlonrwydd a'n digrifwch ni vwch ben anghenrhaid: Mor hael yw daioni duw tuag attom ni, er ein hannogi ddiolch iddo, os bydd calonnau ynom.
Ni allai y gŵr call yn ei fyfyrdod nailltuol, lai na chaniatau fod yr hyn a adroddais i chwi yn wir. Yn ei law efe (medd ef) yr ydym ni a 'n geiriau, Doeth. 7. a 'n holl ddoethineb, a 'n holl gelfyddydon, a gweithredoedd ein gwybodaeth. O herwydd efe a roes ini wir gyfarwyddyd, am ei greaduriaid, i adnabod anian y byd, rhinweddau 'r elementau, dechreuad a diwedd yr amseroedd, a'u newidiad a'u amfrafael rywiau hwy, cylch y flwyddyn, a threfn y sêr, natur yr anifeiliaid a gallu 'r gwyntoedd a meddyliau dynion, gwahaniaeth y planedau, rhinwedd gwraiddiau, a pha beth byunac y sydd guddiedig a dirgel mewn natur, mi a'u dyscais oll.
A gwneuthurwr y pethau hyn a ddāgosodd imi y doethineb ymma. Ac ailwaith fe a ddywaid, Pwy a all chwilio y peth sydd yn y nef? O herwydd anhawdd ini chwilio y pethau sydd ar y ddaiar, ac yn ein golwg beunydd, o herwydd [Page 135] (medd ef) am-mherffaith yw ein synhwyrau, a 'n meddliau a'n amcanion sydd anhyspys. Am hyn ni all neb chwilio ystyr y pethau hyn, oni roi di iddo ddoethineb, a danfon dy Yspryd oddiuchod.
Os ydyw y gŵr call yn addef fod pob peth da o Dduw, paham na chydnabyddwn ninnau hynny? a thrwy adnabod hynny paham nad ystyriwn ein dlyed tu ag at Dduw, ac na roddwn ddiolch iddo am ei ddaioni. Mi a welaf fod gennyf ormod amledd o ddefnydd, a ellid ei ddwyn i mewn i Brofi. brufo y peth hyn.
Pe cymmerwn arnaf ddangos pa fodd y mae daioni yr holl-alluog Dduw yn ymddangos ym-mhob lle o'r byd yn ei greaduriaid: Mor rhyfedd ydynt yn eu creaduriaeth, mor hardd yn eu trefn, mor anghenrhaid i'n rhaidiau ni: rhaid fyddai i bawb oll gydnabod nad oes iddynt awdur arall onid yr holl-alluog Dduw. Ei ddaioni ef sydd rhaid iddynt ei ganmoll a'i fawrhau, ym-mhob lle, i'r hwn y byddo anrhydedd a gogoniant yn os oes oesoedd, Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth ar wythnos y Derchafel.
MI a fanegais yn y rhan gyniaf o'r bregeth hon (Gristionogion da) i'ch myfyrdod chwi, fawr ddaioni yr hollalluog Dduw ynghread y byd hwn a'i holl harddwch, er mwyn rhaidiau a diddanwch dŷn, fel y cyffroid ni yn hytrach i gydnabod ein dylyed ailwaith i'w fawrhydi ef. Ac yr ydwyf yn gobaithio ddarfod i hynny gyffro ynoch chwi nid yn vnic gredyniaeth, onid hefyd ddarfod eich cyffro chwi i roddi eich diolch yn ddirgel yn eich calonnau i'r holl-alluog Dduw, am ei garedig fwynder.
Ond fe allai y dwedai rhyw ddyn, y cytuna ef ar hyn, fod pob peth daionus a berthyn at yr enaid, neu a grewyd gydâ ni yn y corph, yn dyfod oddiwrth Dduw, megis oddiwrth awdur pob daioni, ac nid oddiwrth neb arall; Ond am y pethau sydd allan o hanynt hwy ill dau, y rhai a alwn yn dda ffortun, megis cyfoeth, awdurdod, derchafiad ac anrhydedd, f'allai fod rhai yn tybied eu bod hwy yn dyfod o'n diwidrwydd ni, a dyfaldod ein poen, a'n trafael ni, yn hytrach nag y tybient eu bod yn bethau vwch na dawn naturiaeth.
Yn awr, bobl dda, ystyriwch od oes vn awdur o'r pethau hyn yn cyd-weithio a phoen a diwydrwydd dŷn, ai addas rhoddi y pethau hynny i neb arall heblaw Duw: fal y camsynnai y cenhedloedd y philosophyddion, a'r beirdd, y rhai a gymmerasant ffortun, ac a'i gwneuthant hi yn dduwies, i'w hanrydeddu am y fath bethau? Na atto duw [Page 137] (Gristionogion da) ini dderbyn yn ddifri y dychymmyg hyn, y rhai ydym addolwyr y gwir Dduw: gweithredon, ac arferon yr hwn a gyhoeddwyd yn eglur ini yn ei air ef.
Opinionau ac ymadroddion dynion anghredadwy ac nid Christionogion ydyw y rhai hyn, o herwydd maent hwy yn wir yn credu, ac yn dywedyd, (fal y dywad Iob) fod Duw yn aros yn Iob. 22. y cymmylau, heb ddarbod am danom ni, Epicuriaid yw y rhai a ddychymygant fod duw yn rhodio o amgyllch y nefoedd, heb ofalu am bethau oddidano, ond bod yr holl bethau hyn yn dyfod wrth siawns neu ddamwain neu trwy drefnid ffortun, Ddigwydd. ac nad oes gan Dduw vn ergid ynddynt.
Pa beth yw dywedyd hyn, amgen na thybied gydâ'r ffol yn ei galon nad oes Duw? y rhai nid argyhoeddwn ni yn amgen, onid â geiriau Duw Psal. 14. Psal. 99. ei hun, drwy enau y prophwyd Dafydd, Gwrando, medd efe, fymhobl, myfi ydwyfdy Dduw di, ie dy Dduw di mi bieu holl anifeiliod y coedydd, y defaid a'r ychen a grwydrant ar y mynyddoedd, mi a adwen holl adar y nefoedd, gwaith fy-nwylaw yw tegwch y maes, holl amgylch y bŷd, a'r holl amledd y sydd ynddo. Ac ailwaith trwy y prophwyd Ieremi, A dybygidify mod i yn Dduw o leoedd agos, ac nad ydwyf Dduw o leoedd pell oddiwrthyf, medd yr Arglwydd? A all dŷn ei guddio ei hun mewn lle mor ddirgel, fel nas gwelwyf ef? onid ydwyf yn llanw nef a dayar, medd yr Arglwydd?
Pa vn o'r ddau hyn a ddlyem ni ei gredu orau? ai ffortun yr hon y maent hwy yn ei phaintio yn ddall o'i dau lygad, yn anwadal yn ei rhodd bob amser, yn-nwylaw yr hon y dywedant fod y pethau [Page 138] hyn? ai yntau Duw, yngallu ac ynnwylaw yr hwn, y mae y pethau hyn yn wir: yr hwn am ei wirionedd, a'i ddianwadalrwydd, nid argyoeddwyd er ioed etto? o herwyd mae ei olygon ef yn edrych trwy nef a dayar, a gweled y mae ef bob peth yn gydrychiol â'i lygaid, nid oes dim rhy dywyll iddo na rhy guddieddig oddiwrth ei wybodaeth ef, ie ymmeddyliau dirgel ein calonau.
Gwir yw fod pob cyfoeth, pob gallu, pob awdurdod, pob iechyd pob llwyddiant, a phob hawddfydd, oddiwrth Dduw, o'r hyn ni chaem ni vn rhan heb ei gyfraniad hael ef, ac oni bai ei fod yn dyfod oddiuchod. Yn gyntaf mae Dafydd yn testiolaethu am gyfoeth a meddiannau: Os rhoddi di lwyddiant, hwy a gynnullant, os Psa. 104. 28. agori dy law hwy a lanwir â daioni, ond os troi di dy wyneb oddiwrthynt hwy a drallodir. Ac fe ddowaid Salomon, Bendith yr arglwydd Pro. 10. sydd yn cyfoethogi dynion. A hyn y cyfuna y wraig sanctaidd Anna, lle ydywaid hi yn ei chaniad, 1. Sam. 2. Yr arglwydd y sydd gwneuthur yn dlawd, ac yn gwneuthur yn gyfoethog, yn dyrchafu, ac yn tynni i lawr, efe a ddichon gyfoddi 'r anghenus o'i flinder ac o'r dommen, efe a all gyfodi 'r tlawd, ai ossod i eistedd gydâ thywysogion, ac i gael gorseddfa gogoniant: o herwydd efe biau holl derfynau 'r ddaiar.
Yn awr os gofyn neb pa welliant y sydd ini o wybod, fod pob dawn daionus, megis doniau naturiaeth a ffortun, (y rhai a alwir fellŷ) a phob rhodd berffaith, megis o râd o blegid yr enaid, yn dyfod oddiwrth Dduw, ac mae ei roddion ef yn vnig ydynt hwy? Yn wir am lawer o achosion maê 'n addas ini wybod hynny. O herwydd fellŷ yr [Page 139] adnabyddwn, os addefwn ni y gwirionedd, pwy yn gyfion a ddlyai gael diolch am danynt hwy: felly y lleihair ein balchedd ni gan ddeall, nad oes dim yn dyfod o hanom ni ein hunain, onid pechod a bai: ac os bydd dim daioni ynom, i roddi yr holl glod a moliant am hynny i'r holl-alluog dduw, fe wna hyn ini nad ymdderchafom ymlaen ein cymmydogion: ac na Ddiystyrom. fychanom neb am fod ei ddoniau ef yn Anamlach. ambellach nâ 'n doniau ni, o herwydd bod Duw yn gossod ei ddoniau lle y mynno: fe wna hyn ini wrth ystyriaid ein donniau, beidio a'n derchafu ein hunain ym mlaen ein cymmydogion▪fe wna hyn i'r gwrdoeth beidio ac ymmogoneddu yn ei ddoethineb, a'r cryf yn ei gryfder, ac i'r cyfoethog beidio ac ymogoneddu yn ei gyfoeth, onid yn y Duw byw, yr hwn yw awdur yr holl bethau hyn: rhag os gwnaent felly eu ceryddu hwy â geiriau S. Pawl, Pa beth sydd gennyd ar ni dderbyniaist, ac os derbyniaist paham yr wyt yn ymffrostio fel pe nas derbyniasit?
Pwnc o ddoethineb mawr, fynghymydeithion yw addef fod pob peth da yn dyfod oddiwrth yr holl-alluog Dduw, o herwydd wrth addef hynny ni a wyddom i ba le yr awn i'w ceisio hwy os bydd eu diffyg hwy arnom, fel y maê S. Iacoyn Iac. 1. 5. gorchymmyn ini, gan ddywedyd, Os bydd neb ac eisiau doethineb arnaw, gofynned hi gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi yn helaeth i bawb, ac heb edliŵ i neb, ac hi a roddir iddo. Fel y gwnaeth y gwr call, ac yntef ac eisiau y fath rodd arno, ei daith at Dduw am dani, fal y testiolaetha ef yn ei lyffr, Yn ol (medd ef) imi wybod na allwn fod yn ddiweir oni chaniatae Dduw hynny imi; (ac megis y mae ese yn scrifennu yno, doethineb vchel [Page 140] oedd wybod rhodd pwy oedd hi) mi a frysiais at yr Arglwydd ac a eiriolais yn ddifrif o wraidd fy-ng halon arno ef ar ei chael hi.
Gwae fi, fy-nghymdeithion, nad elem ni at Dduw yn ein diffygion a'n anghenau, megis y mae S. Iaco yn gorchymmyn ini, a'r gwr doeth yn dangos ini ei fyned ef. Mi a fynnwn, pe credem ni yn ddianwadal mai Duw yn vnic sydd yn eu rhoddi hwy, o herwydd nid aem ni mwy mor fynych, er cyflawni ein haifiau a'n dyffygion, at y diawl a'i wasanaethwyr fal y gwelir beunydd. O herwydd os bydd diffyg iechyd arnom, i ba le yr aiff y bobl gyffredinawl ond at swynau a hudoliaethau a'r fath eraill o ddichellion diawl.
Ped adnabyddem mai Duw yn vnic yw rhoddwr y dawn hyn, ni a arferem y Cyfryngau. cyfarddonau a appwyntiodd ef, ac a arhosem ei Hamdden. arfod ef, hyd oni welai efe fod yn dda roddi hyn ini. Ped adnabyddai y marsiandwr a'r marchnadwr bydol mai Duw sy yn rhoddi cyfoeth, fe fyddai fodlon i fyw ar gymmaint ac a alle efe ei gael, trwy foddion inion cymmeradwy gan Dduw, ac ni chaisiai fod yn gyfoethoccach nag y goddefai gywirdeb iddo fod, ni chaisai ef ennill ac ni ofynnai gyfoeth ar law diawl.
Na atto Duw, meddwch chwi, i neb gymmeryd eu cyfoeth oddiwrth ddiawl. Yn wir y sawl sydd yn ymgyfoethogi trwy occr, drwy drais, drwy anudonrwydd, drwy ledrad, drwy dwyll a hocced, maent yn derbyn ei cyfoeth oddiwrth ddiawl. A phawb oll ac a ymroddant i'r fath ffyrdd, ac a ymwrthodasant a'r wir ffordd yr hon a osododd Duw, a'i gwrthodasant ef, ac a aethant yn addolwyr y diawl er mwyn eu mael a'u [Page 141] hennill. Y fath ddynnion hyn sydd yn cwympo ar eu glinian i lawr ymmlaen y diawl ac yn ei addoli ef wrth ei orchymmyn. O herwydd mae fe 'n addo os gwnânt hwy felly, y rhydd efe iddynt hwy y byd a'r cyfoeth y sydd ynddo. Ni allant hwy yn well wasanaethu y cythrel nag wrth wneuthur ei fodd ef a'i orchymmyn: a'i ddymuniad a'i ewyllys ef yw ini ymwrthod â'r gwirionedd ac ymroi o honomi ffalsedd, i gelwydd ac anudo nrwydd.
Y rhai gan hynny a gredant yn berffaith yn eu calonnau mai Duw a ddlyid ei anrhydeddu, ac mai iddo ef y dlyid gofyn rhodd pob peth anghenreidiol, ni ddlyent geisio vn ffordd arall i gyflawni eu anghenau ond cywirdeb a gwirionedd, na gwasanaethu neb ond Duw i gael pob peth anghenrheidiol. Ni cheisiai wr yn ei angen ei gynorthwyo ei hun drwy ledrad. Ni roddai wraig ei chorph i oddineb er mwyn ennill i gynorthwyo ei hangen a'i thlodi. Os Duw yn wir yw awdur bywyd, iechyd, cyfoeth a braint, awn atto ef megis at yr awdur, ac ni a'i cawn gantho, medd S. Iaco. Ie doethineb mawr vchel yngolwg y gwr call yw gwybod pwy yw rhoddwr y pethau hynny: o herwydd ym-mysc llawer o gelfyddydon eraill, doethineb yw adnabod a chredu fod pob daioni a rhadau yn dyfod oddiwrth Dduw megis yr awdur.
Yr hyn ped ystyrid yn dda fe wnai ini feddwl fod yn rhaid ini roddi cyfrif am yr hyn y mae duw yn ei roddi ini i'w drefnid, ac a'n gwnai ni yn ddyfal i'w treulio hwy i ogoniant duw a budd i 'n cymydogion, fel y gallom roddi cyfrif da yn y diwedd a chael ein canmol am fod yn oruchwilwyr [Page 142] da, megis y caffom glywed y gairiau hyn gan ein barnwr, da was da ffyddlon, buost ffyddlon ar ychydig, mi a'th wnaf yn llywydd ar lawer, dos i mewn i lawenydd dy feistr. Hefyd os byddwn yn credu mai Duw yw awdur pob rhodd ac sydd genym, fe wnaiff hynny ini fod yn ddistaw ac yn oddefus pan dynner hwy oddiwrthym ni ailwaith. O herwydd Duw o'i drugaredd a'u canniataodd hwy ini i'w harfer: felly weithiau mae efe yn eu tynnu hwy oddiwrthym ni yn gysion ailwaith er profi ein goddefgarwch ni, er arfer ein ffydd ni, ac felly wrth dynnu ychydig oddiwrthym, neu roddi yn brinnach, mae efe yn ein dangos ni i'w harfer yn fwy i'w ogoniant ef, pan roddo ef hwy ailwaith ini.
Mae llawer a fedran ddywedyd â'i geneuau eu bod yn credu mai Duw yw awdur peb dawn da ac sydd ganthynt. Ond mewn amser profedigaeth maent yn mynd yn eu gwrthol o'r grêd hon, maent yn dywedyd hyn mewn gairiau ac yn eu gweithredoedd yn ei wadu. Edrychwch arfer y byd, ac edrychwch ydyw ef yn gywir. Edrychwch ar y gŵr cyfoethog yr hwn a gynyscaeddwyd â golud, os tynnir ei gyfoeth ef oddiwrthto trwy adfyd, pa ffrommi, a pha lidio a wnaiff ef? pa rwgnach ac anobeithio? os twitsir enw da vn dŷn a fyddo mewn dim cyfrif gan dafod drŵg, mor anesmwyth fydd efe, ac mor ddyfal i ddial i lid? Os bydd gan neb doethineb, os cyfrif rhyw cwyllyswr drwg ef yn ffwl ac os honnir ei fod ef felly, mor flin gantho fod yn ei gyfrif ef felly? A dybygwch chwi fod y rhai hynyn credu yn ddifri fod Duw yn rhoddwr y doniau hyn? paham na oddefant yn esmwyth i dduw gymmeryd atto ei roddion [Page 143] ailwaith, y rhai a ganiataodd efiddynt hwy yn rhad, ac y rhoddodd eu benthyg dros cyhyd amser?
Ond chwi a ddywedwch, bodlon fyddwn i roddi i Dduw ailwaith y doniau a roddodd ef imi, pe cymmerai fe hwy ailwaith oddiwrthif: ond yn awr yr ydys yn myned a hwy oddiwrthif trwy aflwyddiannus ddigwydd, a thrwy fursennod ffailston, a thrwy goeg-ddynion drwg: pa fodd y gallaf oddef hyn yn esmwyth? I hyn y gellir atteb fod yr holl-alluog Dduw o nattur anweledig, ac na ddaw ef at vn dŷn mewn dull gweledig, yn ol arfer dŷn, i gymmeryd oddiwrtho y donniau a roddodd ef eu benthyg: ond pa beth bynnac a ewyllysio Duw ei wneuthur yn y peth hyn, fe a'i dwg i ben trwy 'r offerau a ordeiniodd ef i hynny. Mae gantho angylion da, mae gantho angylion drwg, mae gantho ddynnion da, mae gantho ddynnion drwg, mae gantho ef law a chesair, mae gantho wynt a Tharanau. thrysau, gwres ac oerfel: mae gantho aneirif offerau a chenhadon trwy y rhai y mae fe 'n gofyn ailwaith y pethau a orchymmynnodd ef Doeth 16. v. 24. i'n cadwedigaeth ni, fal yr addef y gwr doeth: Rhaid i'r creadur wasanaethu ei wneuthurwr i beri dialedd ar yr anghyfion. O herwydd, fal y dywaid yr vn awdur, mae fe 'n arfogi 'r creadur i ddial ar ei elynnion, ac weithiau i brofi ein ffydd ninnau mae fe 'n cyffro y fath gawadau.
Ac am hyn pa fodd bynnac neu trwy ba offerau bynnac y cymmer Duw ei ddonniau oddiwrthym, rhaid ini fod yn fodlon mewn ammynedd i farn Duw, a chydnabod mai efe sydd yn rhoddi ac yn dwyn ymmaith, fal y dywaid Iob, yr Arglwydd a roddodd yr Arglwydd a ddygodd ymmaith, pan oedd ei elynnion ef yn gyrru ei anifeiliaid [Page 144] ef ymmaith, a phan oedd diawl yn lladdei blant ef, ac yn poeni ei gorph ef â chlefyd tost.
Y fath larieidd-dra oedd yn y brenin a'r prophwyd sanctaidd Dafydd, fal pan regwyd ef gan Simei yngwydd ei holl lu, fe a'i cymmerodd yn oddefgar heb regi ailwaith, ond gan addef mai Duw oedd awdur ei ddiniweidrwydd a'i enw da ef, a chan ei offrwm ef iddo i wneuthur o hono 'r hyn a fai fodlon gantho: Gedwch iddo, medd ef wrth vn o'i farchogion yr hwn a fynnasai ddial y gabledd honno, o herwydd yr Arglwydd a ddywedodd vrtho ef, melldithia Ddafydd, onid odid fe ddyry yr Arglwydd imi ddaioni am ei felldith ef y dydd hwn.
Ac er bod yr offeryn weithiau yn gwneuthur yn ddrwg yn ei orchwyl ef sydd yn dyfod o genfigen, etto o herwydd bod Duw yn troi ei orchwyl drwg efi brofiad ein āmynedd ni, ni a ddylyem yn hytrach ymostwng i oddefgarwch nâ digio wrth wialen Duw, yr hon onid odid gwedy iddo ein ceryddu ni er ein haddyscu, a dafla ef i'r tân, fal y mae hi 'n haeddu.
Cydnabyddwn felly hefyd yn gywir mai rhoddion Duw yw ein holl ddonniau ni a'n braint, fel y byddom barod i'w rhoddi hwy i fynu pan ewyllysio a phan fo bodlon gantho fe hynny ailwaith. Addefwn trwy ein holl oesoedd fod pob peth da yn dyfod oddiwrth Dduw, pa beth bynnac fytho ei henw neu ei natur, nid vn vnig y pethau llygradwy ymma am y rhai y soniais i yn awr ddiwethaf, ond yn fwy o lawer y rhadau ysprydolbuddiol i'n eneidiau ni, heb ddaioni y rhai ni alwir neb i'r ffydd, ac ni chynhalir ynddi, fal ar ol hyn yn y rhan nesa o'r homili hou y manegaf [Page 145] ichwi. Yr ennyd hynny, nac anghofiwch yr hyn a ddywedwyd wrthych eisoes, nac anghofiwch fod eich barn yn gyttunol a gwirionedd yr athrawaeth hon, nac anghofiwch ei harfer hi yn holl stât eich bywyd, trwy 'r hyn y gellwch gael y sendith y addawodd ein Iachwdwr Christ, Bendigedig yw y rhai a wrandawant air Duw, ac a'i cadwant. Yr hon fendith canniataed ef ini oll, yr hwn sydd yn teyrnasu ar y cwbl oll, vn Duw mewn trindod, y Tâd y Mab a'r Yspryd glân: i'r hwn y bytho holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth ar Wythnos Derchafael.
MI a addewais fynegi i chwi fod pob doniau a phob rhadau Ysprydol yn dyfod yn enwedig oddiwrth Dduw. Ystyriwn wirionedd y peth hyn, a gwrandawn beth a dystolaethir yn gyntaf am ddawn ffŷdd, y dyfodiad cyntaf i fywyd Christionogawl, heb yr hon ni ddichon neb fodloni Duw. O herwydd mae S. Paul yn cyffesu yn oleu mai dawn Duw yw hi. Ac ailwaith mae S. Peter yn dywedyd mai trwy allu Duw yw nad ydym yn siglo yn ein gobaith tuag atto ef. Gweithred Duw yn wir ynom ni yw y cariad perffaith â'r hwn y carwn ein brodyr. Os etifarhawn yn ol cwympo, trwyddo fe yr ydym yn etifarhau, yr hwn sydd yn estyn ei la w drugarog i'n cyfodi ni i fynu. Os bydd vn ewyllys ynom i gyfodi, efe sydd yn rhagflaenu ein [Page 146] ewyllys ni, ac yn ein Agweddu. hyweddu ni i hynny. Os yn ol dryllaid y galon y clywn ni ein cydwybodau mewn heddwch a Duw trwy ollyngdod o'n pechodau, ac felly gwedy 'n cymmodi ailwaith i ffafor Duw, ac i obaith bod yn blant iddo ac yn etifeddion bywyd tragwyddol; pwy sydd yn gwneuthur y gwrthiau hyn ynom? Ai ein haeddiant ni a'n teilyngdod, a'n hegni, a'n synhwyrau a'n rhinwedd? nag ê yn wir. Ni fyn S. Paul i bridd a chlai, Ymryfygu. ymeofnhau i'r fath ryfyg: ac am hynny y dywaid fod y cwbl o Dduw yr hwn a'n cymmododd ni ag ef ei hun trwy Iesu Grist. O herwydd yr ydoedd Duw ynghrist pan gymmododd ef y byd ag ef ei hun.
Duw Tâd y drugaredd a weithiodd y dawn vchel hyn ini, nid yn ei berson ei hun ond trwy gyfryngiad, ac nid trwy gyfryngwr llai nâ'i vnic fab ei hun, yr hwn nid arbedodd ef oddiwrth boen na chosp er gwneuthur lles ini. O herwydd arno efe y gosododd ef ein pechodau ni, arno fe y gosododd ef dalu iawn drosom ni, efe a wnaeth ef yn gyfryngwr rhyngtho ef a ninnau, cyfryngiad yr hwn oedd mor gymmeradwy gan Dduw Dâd o herwydd ei vfydd-dod cyflawn perffaith, fal y cymmerodd efe ei weithred ef yn gwbl iawn am ein holl anufydd-dod a'n gwrthrhyfelgarwch ni: cyfiawnder yr hwn a gymmerodd ef i bwyso yn erbyn ein pechodau ni: pridwerth yr hwn a osodai ef i sefyll yn erbyn ein damnedigaeth ni.
Pa beth sydd gennym i ryfeddu ynom ein hunain am dano yn y peth hyn, fyngharedigion anwyl? Nid oes, o'm tŷb, lai gennym nag a ddywad Sanct Paul wrth gofio rhyfeddol ddaioni Duw yn hyn; Yr wyf yn diolch i Dduw trwy Iesu [Page 147] Grist ein Harglwydd: o herwydd trwyddo ef y derbyniasom yr vchel rodd hon o râd. O herwydd megis trwyddo ef (ac efe yn ddoethineb tragwyddol) y gwnacth Duw dâd y byd a phob peth a gynhwysir ynddo: felly trwyddo ef yn vnic ac yn hollol y mynnai ef adferu pob peth yn y nef ac ar y ddayar.
Trwy ein cyfryngwr nefol hwn am hynny yr ydym yn adnabod ffafor a thugaredd Duw Dâd, trwyddo ef yr ydym yn adnabod ei ewyllys ef a'i serch tuag attom. Oherwyd ef yw llewyrch gogoniant ei dad, a gwir lun ei berson ef, efe yw 'r hwn y mae 'r Tâd yn fodlon i'w gymeryd yn fâb anwyl iddo ei hun, i'r hwn y mae 'n rhoddi awdurdod i fod yn ddyscawdwr ac yn athro ini, ar yr hwn y mae fe yn gorchymmyn ini wrando gan ddywedyd Gwrandawch arno fe: Trwyddo ef y mae 'n Tâd nefol, yn ein bendithio mewn nefolion bethau, â phob bendith ysprydol: er mwyn yr hwn, (fal yr scrifenna Ioan,) y derbyniasom râd a ffafor. I'r ceidwad a'r cyfryngwr hwn y rhoddodd Duw Dad allu yn y nef ac ar y ddayar, a chyfiawnder ac awdurdod i rannu i olud ef a'i roddion a orchymmynnwyd iddo: o herwydd felly yr scrifenna 'r Apostol, I bob vn o honom y rhoed grâs yn ol mesur dawn Christ. Ac ar hynny i wneuthur yn ol yr awdurdod a roesid iddo, gwedy iddo ddwyn pechod a'r cythrel i gathiwed megis na wnelent mwy eniwed i'w aelodau ef, fe a escynnodd ailwaith at ei Dâd ac oddiyno y danfonodd roddion hael i'w anwyl weision ac mae fyth gantho allu i rannu doniau ei Dad yn wastad yn ei Eglwys, i'w chadarnhau hi a'i diddanu. A thrwyddo ef yr ordeiniodd yr holl-alluog [Page 148] Dduw ddattod y bŷd a galw yn ei flaen i'w barnu fyw a meiw: ac yn ddiwethaf, trwyddo ef y condemnia ef y drygionus i dân tragwyddol yn vffern, ac y rhydd ef i'r daionus fywyd tragwyddol ac a'u gesyd yn ddiogel yn ei wydd yn y nef yn dragwyddol.
Fal hyn gwelwch fod y cwbl o Dduw, trwy ei fab Christ ein Harglwydd a'n Iachawdr. Cofiwch meddaf ailwaith eich dlyed o ddiolch, na fydded diffyg hynny byth: ymgyssylltwch yn wastadol i ddiolch: ni ellwch chwi byth offrwm i Dduw well aberth: o herwydd mae fe ei hun yn dywedyd, Aberthau moliant a diolch a'm anrhydeddant i. Yr hyn a ddeallodd y prophwyd sanctaidd Dafydd Pfal. 56. yn ddifai pan ddywedodd ef mor ddifrif wrtho ei hun fal hyn, fy enaid bendithia 'r Arglwydd, a chwbl sydd ynof ei enw sanctaidd. Ac ailwaith, fy enaid bendithia 'r Arglwydd, ac nac Psal. 103. 2. 2. anghofia ei holl ddonniau ef.
Duw a roddo ini râs, bobl dda, i adnabod y pethau hyn ac i'w hystyried hwy yn ein calonnau. Nid yw yr adnabyddiaeth a'r ystyr hyn ynom ni ein hunain, a thrwyddom ein hunain ni allwn ddyfod iddo, a thrueni mawr fyddai ini golli gwybodaeth mor fuddiol.
Galwn am hynny yn ostyngedig ar yr Yspryd sanctaidd hwnnw, yr Yspryd glân, yr hwn sydd yn dyfod oddiwrth ein Tâd trugarog, ac oddiwrth ein cyfryngwr Christ, ar iddo ef ein cynnorthwyo a'n cynhyrfu ni â'i bresenoldeb, megis, yndo ef y gallom wrando daioni Duw a fynegir ini er ein Iachawdwriaeth. O herwydd heb ei gynhyrfiad bywiol dirgil ef ni allwn vnwaith gymmaint ac enwi ein cyfryngwr, fal y tystiolaetha [Page 149] Paul yn eglur. Nid oes neb (medd ef) a all ddywedyd yr Arglwydd Iesu eithr yn yr Yspryd glan, llai o lawer y gallwn ni gredu a gwybod y 1. Cor. 11. 3. dirgelion mawr hyn a agorir ini trwy Grist.
Mae S. Paul yn dywedyd nad edwyn neb bethau Duw onid Yspryd Duw. A nyni, medd ef, 2. Cor. 2. 11. a dderbyniasom nid yspryd y byd, ond yr Yspryd yr hwn sydd o Dduw, fel y gwypom y pethau a roddes Duw ini. Mae 'r gwr doeth yn dywedyd fod yn aros yngallu a rhinwedd yr Yspryd glan, bob doethineb a gallu i adnabod Duw a'i fodloni ef. O herwydd mae fe 'n scrifennu nad ydyw yngallu dŷn iniawni ei ffordd. Pwy a ŵyr dy gyfrinach di oddieithr iti roddi doethineb ac anfon dy Yspryd sanctaidd o'r vchelder. Anfon, medd ef, Sap. 9. 17. am hynny (gan weddio) o'th nefoedd sanctaidd, a gyrr ef o orseddfaingc dy ogoniant, fel y cymmero ef boen yn bresennol gydâ mi, ac y gwypwyf beth sydd fodlon genniti. Vers. 10.
Gweddiwn ninneu a chystadl galon ag y gweddiodd yntef, ac ni phalla gennym gael ei gynhorthwy ef. O herwydd ebrwydd y cair ef gan y rhai a'i carnat, a'r rhai a'i ceisiant a'i cânt ef. O herwydd hael a mwyn yw Yspryd doethineb.
Yn ei allu ef y gallwn yn ddigonol wybod ein dlyed at Dduw, ynddo ef y 'n diddanir ni, ac y 'n Hyfhair. eofnhair i rodio fel y dlyem, ynddo fe y byddwn llestri addas i dderbyn gras yr Hollalluog Dduw.
O herwydd efe sydd yn glanhau ac yn puro 'r meddwl trwy ei weithrediad dirgel. Ac efe 'n vnig sydd bresennol ym-mhob lle trwy ei allu anweledig, ac sydd yn cadw pob peth dan ei lywodraeth. Mae fe 'n goleuo 'r golon i feddwl meddyliau teilwng am yr holl-alluog Dduw, mae fe 'n [Page 150] eistedd yn-nhafod dŷn i'w gyffro ef i ddywedyd i anrhydedd Duw. Nid oes vn iaith yn guddiedig rhagddo, o herwydd y mae fe 'n gwybod pob iaith, efe yn vnic sydd yn rhoddi nerth ysprydol i holl alluon ein cyrph ni a'n eneidiau.
Mae 'n rhaid ini gydnabod mai gallu ei Yspryd ef sydd yn cynnorthwyo ein gwendid ni, ac yn ein cynnal ni i gadw 'r ffordd yr hon a ddarparodd Duw, ac i rodio 'n inion yn ein taith. Trwy yr Yspryd hwn, yr hwn sydd yn gweddio drosom ni a pharhaus ocheneidiau, y gallwn ddyfod yn eofn mewn gweddi a galw ar yr holl-alluog Dduw megis ein Tad. Os bydd vn dawn gennym trwy yr hwn y gallwn weithio i ogoniant Duw a lles ein cymydogion, fe weithir y cwbl trwy ei vn Yspryd ef ei hun, yr hwn sydd yn rhannu i bob vn o'r Ruf. 8. 6. &c. Gal. 5. 22. &c. 1. Cor. 12. 11. nailldu megis yr ewyllysia ef. Os bydd gennym ddoethineb nid yw o hanom ein hunain, ni allwn ymogoneddu ynddi, megis pe byddai ei dechreuad hi o hanom ni, ond ni a ddylyem roddi 'r gogoniant i Dduw, oddiwrth yr hwn y daeth hi attom ni, fal yr scrifenna 'r prophwyd Ieremi, y neb a ymffrostio ymffrostied yn hyn, ei fod yn deall ac yn fy adnabod i, canys myfi ydwyf yr Arglwydd a wna drugaredd a barn a chyfiawnder yn y ddaiar, o herwydd y rhai hynny a ewyllysiaf medd yr Arglwydd. Ier. 9. 14. Ni ellir cael y doethineb hyn onid trwy addysc Yspryd Duw, ac am hynny y gelwir hi yn ddoethineb ysprydol. Ac ni allwn ni chwilio yn vn lle yn siccrach am yr wybodaeth hon o ewyllys Duw, wrth yr hon y dlyem gyfeirio ein gweithredoedd a'n gorchwylion, nag yn yr scruthyrau sanctaidd. O herwydd hwynt hwy, medd ein Iachawdwr Christ, ydynt yn testiolaethu am dano Iohn. 5. 3 [...]. [Page 151] ef, Fe a ellir galw yn wybodaeth ac yn ddysc yr hyn a geffir mewn lleoedd eraill allan o'r gair: ond mae 'r gwr doeth yn testiolaethu 'n oleu nad ydynt oll ond oferedd oni bydd ynddynt y ddoethineb hon am Dduw. Doeth. 13. 1.
Ni a welwn i ba oferedd y daeth yr hên philosophyddion y rhai oeddynt heb yr wybodaeth hon, yr hon a gair ac a chwilir am dani yn ei air ef. Ni a welwn â pha oferedd y cymyscir athrawaeth yr Yscolwyr, am na chwiliasant yn y gair hwn am ewyllys Duw, ond yn hytrach yn ewyllys rheswm, yn hên arferon, yn llwybr y Tadau, yn arferon yr Eglwys.
Darllenwn am hynny a thrown ddolennau 'r scruthyrau sanctaidd ddydd a nos, o herwydd Psal. 1. 2. Psal. 119. 105. Gwyn ei fyd yr hwn sydd a'i holl ewyllys arni. Honno sydd lusern i'n traed i rodio. Honno hefyd sydd yn rhoddi doethineb i'r gwirion a'r disyml. Ioa 5. 39. Ynddi hi y cawn fywyd tragwyddol. Yn yr scruthyrau sanctaidd hyn y cawn ni Grist, ynghrist y cawn ni Dduw, o herwydd efe yw gwir lun ei Heb. 3. Ioan. 14. 9. Dad. Yr hwn sydd yn gweled Christ sydd yn gweled y Tad.
Ac o'r gwrthwyneb, fal y dywaid S. Ierom, anwybod yr scruthyrau yw bod heb adnabod Christ: bod heb adnabod Christ yw bod mewn tywyllwch ynghenol ein goleini cnawdol bydol o reswm a philosophi: bod heb Grist yw bod mewn ffolineb: o herwydd efe yw vnic ddoethineb ei Dâd yn yr hwn y mae cyflawnder y Duwdod yn gorphorol. A'r hwn pwy bynnac a gynyscaeddir Col. 2. 9. trwy ffydd yn ei galon ac sydd wedi ei wreiddio mewn cariad, fe a osododd sail ddiogel i adail arno, trwy r' hyn y gall ef ymgyffred gydâ 'r holl, [Page 152] saint beth yw'r lled a'r hŷd a'r dyfnder, ac adnabod cariad Christ. Yr wybodaeth a'r ddoethineb gwbl gyffredinol hon y mae S. Paul yn ei dymuno i'r Ephesiaid ymma, megis y trysor mwyaf a ellir ei Ephes. 3. 19. gael tan ynefoedd. Am y ddoethineb hon y mae y gwr doeth yn scrifennu fal hyn megis y profasai ef eisoes, Pob daioni a ddaeth imi gydag y hi, a golud annifeiriol trwy ei dwylo hi. Ac mae 'n cydsylltu Doeth 7. 11. 12. 13. ailwaith yn yr vn man mai hi yw eu mam hwynt oll: o blegid diball dryssor yw hi yr hwn pwy bynnac a'i harfero y maent hwy yn ymgyfeillach â Duw.
Mi a allwn â llawer o airiau gyffroi rhai o'r fawl a'm clywant ymma i chwilio am y ddoethineb hon, i neilltuo eu rheswm i ganlyn gorchymmyn Duw, i daflu oddiwrthynt synhwyrau eu ymmhenyddau, i ffafro y ddoethineb hon, i wrthod doethineb a synwyr y bŷd ynfyd hwn, i brofi ac i arogli honno, at yr hon y galwodd ffafwr ac ewyllys Duw hwy, a'r hon yn ddiwethaf yr ewyllisia ef ini ei meddiannu, pe gwrandawem arno. Mi a frysiaf at y drydedd ran o'm text yn yr hon yr adroddir ym-mhellach mewn doethineb pa fodd y mae duw yn rhoddi i'w ddewisol ddeall cyffroad y nefoedd a chyfnewidiad ac amgylchennau yr amser. Yr hyn beth fal y canlyn mewn geiriau yn gyflawnach yn y text a adroddais ddiwethaf i chwi: felly mae 'n rhaid iddo ganlyn yn y rhai a gynyscaedder â'r doethineb Ysprydol ymma. O herwydd fal y medrant chwilio pale y gallant gael y ddoethineb hon, ac y gwyddant gan bwy y gofynnant hi: felly y gwyddant hefyd mai mewn amser y cair hi, ac am hynny hwy fedrant eu tymmheru eu hunain i gyfaddasrwydd yr amser, heb [Page 153] oddef vn amfer i fyned heibio, yn yr hwn y gallant drafaelu am y ddoethineb hon a chynuyddu ynddi. Hwy a wyddont fod Duw o'i aneirif drugaredd a'i addfwynder yn rhoddi ymma amser a lle i etifaru. Ac maent yn gweled y drygionus yn camarfer eu hamser mewn balchedd (fal yr scrifenna Iob. 24. Iob) ac am hynny y mae 'r duwiol yn cymeryd gwell afel ar yr amser, i'w brynu allan o'r fath gam-arferon yn y rhai y difwyna 'r drygionus efe. Fe a feidr y rhai sydd a'r ddoethineb hon oddiwrth Dduw ganthynt gynull addysc wrth ddyfal a difrif a studrwydd y bydol yn y bywyd presennol hwn. Maent hwy yn disgwil eu hamser, ac yn ymroi ar bob amser cyfaddas, i gynull golud, i helaethu eu tiroedd a'u treftadaeth: maent yn gweled yr amser yn myned rhagddo ac am hynny maent yn cymeryd gafael arno, ie yn y fath fodd megis yn fynych y maent yn colli eu cyscu a'u hesmwythder, ac yn goddef llawer o boenau wrth orddiwes yr amser a gynnygir, gan wybod na ellir cael ailwaith yr hyn a elo vnwaith heibio: fe ddichon etifeirwch ganlyn, ond nid oes vn rhwymedi i'w gael. Paham am hynny na wilia y rhai ydynt ddoethion ysprydol yn eu cenhedlaeth, eu hamser i gynyddu mor fuan yn ei stât, ac i ennill ac i fuddio 'n dragywydd? maent yn ymresymmu pa angof anifeiliaidd a fyddai i ddŷn a gynyscaeddir â rheswm, fod heb wybod ei amseroedd a'i dymhorau, pan ydynt yn gweled y Ciconia yn adnabod ei thymhorau, y turtur hefyd a'r garan a'r wennol a gadwant amser eu dyfodiad: eithr fymhobl i ni wyddant farn yr Arglwidd, medd Ieremi. Ierem. 8. 7.
Mae S. Pawl yn gorchymmyn ini brynu 'r [Page 154] amser am fod y dyddiau yn ddrwg. Nid cyngor S. Pawl yn vnig yw hwn ond cyngor pawb eraill hefyd, ac a roesont erioed orchymmyn am ddoethineb. Ni roddwyd ac ni orchmynnwyd vn gorchymmyn yn ddifrifach nac am adnabod yr amser. Ie am fod Christionogion yn clywed mor flin y mae Duw yn yr Scrythyrau yn achwyn ac yn bygwth y rhai nid adnabyddant amser eu ymweliad, y dyscir hwy yn hytrach i ymroi i hynny.
Yn ol i'n Iachawdwr Christ broffwydo â daigrau wylo am ddinistr Ierusalem, yn y diwedd y mae'n dangos yr achos, Oh na wybasit amser dy ymweliad. Oh Prydain ystyria amser trugarog ymweliad Duw a ddangosir iti o ddydd i ddydd, ac etto nid ystyri di? Ni'th yrrir di â chosp i wneuthur yr hyn y ddylaid, ac ni'th annogir a donniau i roddi diolch, pe gwybyddit pa beth a ddichon gwympo arnat am dy heddwch.
Fy-mrodyr, er bod y bŷd yn gyffredinol yn ymroi i anghofio Duw, gwiliwn ni yn neilltuol ar ein hamser, ac ennillwn yr amser trwy ddyfalwch, ac ymrown i'r goleuni a'r grâs a gynnygir ini. Oni chyffro ffafwr a barn Duw, trwy yr hon y mae yn gweithio yn ein hamser ni, mo honom i gofio y pethau a berthynant i'n Iechywriaeth: etto annoged cenfigen y cythrel a drygioni'r byd ni, (y rhai yr ydym yn gweled eu bod yn gweithio beunydd yn yr amseroedd periglus diwethaf ymma, yn y rhai y gwelwn fod ein dyddiau gwedy eu gosod mor enbyd,) i wilied yn ddyfal ar ein galwedigaeth, i rodio ac i fyned yn ein blaen ynddi. Cyffroed y blinder a'r byrr lawenydd ammharhaus (y rhai a welwn yn anwadalrwydd ein dyddiau yr hyd y bônt yn ein dwylo) ni yn ddifrif i [Page 155] fod yn gall, ac i bwyso grassol ewyllys Duw tuag attom, yr hwn fal y dywaid y prophwyd, sydd yn estyn ei law ar hŷd y dydd tuag attom ni, fynychaf ei law drugarog, ac weithiau ei law drom: megis gwedy ein addyscu gan hynny y gallom ddiangc rhag yr enbeidrwdd sydd raid cwympo ar yr anghyfion, y rhai sydd yn byw mewn llwyddiant ynol eu hewyllys, heb wybod ewyllys Duw tuag attynt, ond yn ddisymmwth yr ânt i waered i vffern.
Gadwn ein cael yn wilwyr ac mewn heddwch yr Arglwydd fal yn y diwedd y'n ceffer heb na brychni na bai. Ie ymhyderwn Gristionogion da, i gadw persennolder ei Yspryd sanctaidd ef yn ddyfal. Ymwrthodwn a phob aflendid, o blegid Doeth. 1. 1. 4. yspryd purder yw ef. Gwagelwn bob rhagrith, o herwydd yr yspryd sanctaidd hyn a Gilia. ffŷ oddiwrth dwyll. Taflwn heibio bob cenfigen a drwg ewyllys, o herwydd nid aiffyr yspryd hwn i galon ddrygionus. Taflwn ymmaith y clamp pechod sydd o'n hamgylch, o herwydd ni chyfannedda ef mewn corph caeth i bechod. Ni allwn ni fod yn ddiolchus i'r holl-alluog Dduw a gweithio 'r fath eniwed i Yspryd y grâs, trwy 'r hwn y'n sanctaiddir ni. Os ymhyderwn nid rhaid ini ofni, ni a allwn orescyn ein holl-elynnion a ymladdant Heb. 11. yn ein herbyn. Yn vnig ymegniwn i dderbyn Yspryd y gras yr hwn a gynnygir ini. Mae ini ddiddanwch yn yr holl-alluog Dduw am ei ddaioni. Yr ydym ni yn siccr o gyfryngiad ein Ia chawdwr Christ. Heb. 10.
Ac fe adrodd yr Yspryd sanctaidd hwn ini y peth sydd iachus ac a'n cadarnha ni ym-mhob peth. Am hyn ni ddichon na bo gwir yr hyn a ddywaid [Page 156] Paul, O hono ef, ynddo ef, a thrw yddo ef y mae pob peth: ac ynddo ef yn ol y bywyd darfodedig hwn y cawn bob peth. O hewydd mae S. Pawl yn dywedyd, pan ddarostyngo Mâb Duw bob peth dano, y bydd Duw oll yn oll. 1. Cor. 15. 28.
Os ewylly siwch wybod pa fodd y bydd Duw oll yn oll, yn wir yn y modd ymma y gellwch ddeall hynny. Yn y byd hwn chwi a welwch mae 'n gorfod arnom fenthycca llawer o bethau gan lawer o greaduriaid i gyflawni ein anghenion: nid vn peth sydd yn ddigon i'n holl anghenion ni. Os bydd newyn arnom, ni a chwenychwn fara. Os bydd syched arnom, ni a geisiwn dorri 'n syched â chwrw neu win. Os bydd annwyd arnom, ni a geisiwn ddillad. Os byddwn cleifion ni â geisiwn feddyg. Os byddwn trymion ni a geisiwn ddiddanwch gan gymdeithion neu gyfeillion, megis nad oes vn creadur wrtho ei hun a ddichon bodloni ein holl diffygion ni, a'n chwantau.
Ond yn y byd a ddaw yn y llwyddiant tragwyddol hwnnw, ni cheisiwn ac ni ddymunwn mwy ein diddanwch a'n buddiau neilltuol gan amryw greaduriaid: ond ni a gawn feddiannu pob peth a allom ei ddamuno a'i geisio, yn-nuw, a Duw a fydd pob peth ini. Fe fydd yn dâd a mam ini, yn fara ac yn ddiod, yn ddillad, yn feddig, yn ddiddanwch: fe a fydd yn bob peth ini, a hynny mewn modd bendigediccah, ac fal y bodlonir ni 'n gyflawnach nag y bodlonodd y creaduriaid hyn ni er ioed, mewn rhagor eglurwch nag y dichon rheswm dŷn ei ymgyffred, ni all llygad weled, na chlust glywed, na chalon dŷn ymgyffred y llawenydd a ddarparodd Duw i'r rhai a'i carant ef.
[Page 157] Cauwn y cwbl ag vn llaferydd a geiriau S. Pawl: Iddo ef yr hwn a ddichon wneuthur pob peth yn fwy trâ-rhagorol nac yr ydym ni yn dymuno o herwydd y nerth sydd yn gweithio ynom, y byddo gogoniant yn yr Eglwys trwy Grist Iesu tros yr holl genhedlaethau hyd yn oes oesoedd. Amen.
¶ Annogaeth i'w hadrodd lle maent yn arfer mvnd o amgylch ar wythnos y derchafael i edrych ar ffinniau a therfynau eu trefydd.
ER ein bod ni yn awr gwedy ymgynull ynghŷd, Gristionogion da, yn bennaf i foliannu ac i roddi diolch 'ir holl-alluog Dduw am ei ddoniau mawrion, wrth edrych ar y maesydd yn llawn o bob rhyw ffrwythau er ein ymborth ni 'an Llnmaeth. porthiant: ac i wneuthur ein gweddiau gostyngedig ar ei dadawl rygweliad ef i gadw 'r ffrwythau hyn, gan ddanfon y fath dywydd tymherus fal y gallom gynnull y ffrwythau hynny i'r defnydd y darparodd ef hwy ini: Etto yn ail fe roddwyd ini achos arall, hynny yw ystyried, wrth dreiglo a'r y dyddiau hyn, hên ffiniau a therfynau ein plwyfau a phlwyfau ein cymydogion nesaf o'n hamgylch, er mwyn gallu o honom fod yn fodlon i'r hyn sydd Abiaffom. eiddom ni, ac na ymrysonom yn gynhennus am bethau eraill i dorri cariad, trwy orescyn ar i gilydd neu sialains y naill gan y llall ymhellach nag y gosododd ein hên dadau hwy allan yn heddychlon, wrth hên [Page 158] arfer a chyfiawnder er ein budd ni a'n diddanwch.
Camsynnaeth mawr yn siccr y fyddai ini, y rhai ydym Gristionogion ac yn addef yr vn ffydd, ac yn edrych beunydd am yr etifeddiaeth nefol yr hon a brynwyd i bob vn o honom trwy waeddywalltiad en Iachawdwr Iesu Grist, ymrysson ac ymgynhennu am ffinniau a therfynau dayarol ein plwyfau, ei aflonyddu 'n bywyd ein h unain, er traulio 'n da trwy 'r fath draul a chost mewn cyfraith.
Ni a ddlyem gofio nad ydyw ein trigfa ni onid darfodadwy a byrr yn y bywyd marwol hwn. Mwy yw 'r cywilidd ini ymryson a châs anfarwol yn ein plith ein hunain, am feddiannau mor ddarfodedig, a cholli felly ein etifeddiaeth dragwyddolyn y nef.
Fe oddef cariad yn ddifai i Gristion faenteinio ei gyfiawnder yn llonydd. A rhan gwladwr da yw cynnal yn oreu ac y gallo rydd-did, ffiniau a therfynau ei drêf neu eu wlâd. Ond ymgynhennu am ein cysiawnder a'n dlyed trwy dorri cariad perffaith, yr hon yw vnig nôd a lifrai Christion, neu trwy dorri heddwch ac esmwythder duwiol, yn yr hon y'n rhwymir ni mewn vn gynideithas gyffredinol o dolwyth Christ yn vn teulu cyffredinol Duw, fe waherddir hynny yn holloll: ac mae hynny yn ffiaidd ac yn gas gan Dduw, yr hyn sydd yn fynych yn annog llid yr holl-alluog Dduw i ddwyn oddi arnom weithiau 'n gwbl ein buddiau an rhydd-did am ein bod yn eu camarfer felly o blegyd matteron cynnen ymryson ac a'nghyfundeb.
Mae S. Pawl yn ceryddu y Corinthiaid yn [Page 159] fawr iawn, am y fath ymgyfraithio ymrysongar yndynt ei hunain, er dwyn gair drwg i'w profess yngwydd gelynnion crefydd Grist: gan ddywedyd wrthynt, Mae diffyg mawr yn eich plith, gan eich bod yn ymgyfreithio â'i gilydd. Paham yn 1. Cor. 6. 7. gynt nad ydych chwi yn goddef cam? paham nad ydych yn gynt yn cymmeryd colled? Os ceryddodd S. Pawl y Christionogion hynny am fod rhai o honynt am eu cyfiawnder eu hunain yn ymgyfreithio yn ymrysongar, gan ganmol trwy hynny amunedd mewn Christion: Os mynai ein Iachawdwr Christ yn hytrach ini ddioddef cam, Mat. 5. 39. a throi 'r rudd aswy i'r hwn a'n tarawo ar y rudd ddehau, i ddioddef vn cam yn ol y llall yn hytrach nag ymddiffyn yr eiddom allan o gariad: ym-mha stât wrth hynny y maent hwy ger bron Duw sydd yn gwneuthur y cam? I ba felldithion y cwymp y rhai trwy gaudystion a dwyllant eu cymydogion neu eu plwyfau o'u cyfiawnder a'u hiniawn feddiant? y rhai nid arbedant dyngu i sanctaidd enw Duw awdur pob gwirionedd er gosod allan eu camwedd a'u celwydd? Oni wyddoch chwi medd S. Pawl na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw?
Pa beth wrth hynny a enillwn er halaethu ychydig ar ffiniau a meddiannau ein tiroedd a cholli meddiant yr etifeddiaeth dragwyddol? Gochelwn am hynny rhag i ni wrth faenteinio ein ffinniau a'n meddiannau wneuthur cam a thrais ag eraill. Gochelwn rhoi ferdit ddisymmwth mewn pethau amheuus. Ystyriwn yn dda rhag taeru o honom fod vn peth yn siccr wir, yr hyn nid ydym yn ei wybod neu yn ei gofio 'n dda, nac y marddel o'r peth nid oes gennym gyfiawnder da yndo.
[Page 160] Mae'r holl-alluog Dduw yn gorchymmyn yn ei gyfraith, Na symmud derfynau dy gymydog y rhai afuant o'r blaen o fewn dy etifeddiaeth. Na symmud, medd Salomon, mor hen derfynau a osododd dy henafiaid. Ac rhag ini dybied nad yw onid bai bychan, deallwn, fod yn ei gyfrif ef ymmlhith melldithion Duw a gyhoeddir yn erbyn pechaduriaid. Melltigedig (medd yr holl-alluog Dduw, trwy Moeses) yw 'r hwn a sym mudo derfyn ei gymydog, a dyweded yr holl bobl gan at teb, Amen. Megis i gadarnhau y felldith ar bwy bynnac y cwympai.
Mae 'r rhai hynny yn annog dial Duw arnynt eu hunain yn annial y rhai sydd yn torri twynau a marciau y rhai a osodwyd er yr hên amseroedd, i rannu terfynau a ffinnau yn y maesydd, er dwyn y perchennogion i'w cyfiawnder. Maent hwy yn gwneuthur yn ddrwg dros ben y rhai a arddant derfynau 'r maesydd, y rhai osododd gwyr gynt trwy fawr ludded, trwy 'r hyn y newidir cof-lyfrau yr Arglwyddi (y rhai yw goleuni 'r deiliaid am eu tir) ac y troir hwy weithiau i dreisio 'r ymddifad tylawd, a'r weddw dylawd.
Ni wyr y dynion trachwântus ymma pa eniweid y maent yn ei wneuthur. Weithiau trwy 'r fath dwyll a dichell y gwnair ymryson ac anllywodraeth mawr wrth ymhelcyd am eu tiroedd, ie weithiau lladdiadau mawrion a thywallt gwaed, o'r hyn bethau yr ydwyti yn euog yr hwn a roddaist yr achosion.
Am hynny mae 'r fath ddichellion trachwantus am dir a da dy gymydog yn gâs gan yr holl-alluog Dduw. Na fydded medd S. Paul i neb orthrymmu na thwyllo ei frawd: canis yr Arglwydd [Page 161] sydd ddialudd ym-mhob cyfryw beth Duw pob cyfiawnder ac iniondeb yw Duw, ac am hynny mae fe 'n gwahardd yn ei gyfraith bob mâth ar ddichell a thwyll yn y geiriau hyn, Na wnewch gam mewn barn, mewn pwysa mesur, bydded gennit garrec gyfiawn ac epha gyfiawn. Deu. 25. 15. Cloriannau anghywir medd Salomon ydynt ffiaidd gan yr Arglwydd. Diar. 11. 1.
Cofiwch yr hyn a ddywaid S. Paul, mai Duw sydd ddialudd pob cam ac anghyfiawnder, megis yr ydym yn gweled ymlaen ein llygaid beunydd, fal y mae 'r hyn a ennillir trwy dwyll a dichell yn tyccio 'n anrasion. Mae addysc amser yn dangos i ni nad ydyw yr holl-alluog Dduw yn goddef vn amser y trydydd etifedd i fwynhau y meddiannau a gynnullodd ei Dâd trwy gamwedd, ie ac weithiau hwy a ddygir oddi-arno ei hun cyn ei farw.
Nid ydyw Duw yn rhwym ei gynnal y meddiannau a gesclir trwy ddiawl a'i gyngor. Fe a geidw yr holl feddiannau a'r da ac a fwynhair ac a feddiannir trwyddo efe, ac a'u ymddiffyn hwy rhag pob gorthrech trahaus. Felly y testiolaetha Salomon, Yr Arglwydd a ddiwreiddia 'r beilchion, ond efe a gadarnhâ derfyn y weddw. Ac yn Diar. 15. 25. siccr, medd Dafydd, gwell yw ychydig a gynullir trwy gyfiawnder, nag aml olud y treiswyr.
Gochelwn am hynny, bobl dda, bob drwg ddichellion er ennill a maenteinio a chynnal ein meddiannau, ein tiroedd, ein terfynau, ein rhydd did, gan gofio fod yr holl feddiannau hynny yn sefyll dan ddial Duw.
Ond pa sôn yr ydym am dir a da? Mae 'r scruthyrau yn dywedyd fod Duw yn ei lid yn diwreiddio teyrnasoedd am gam a gortrech, ac yn symmud [Page 162] brenhiniaethau o vn genedl at arall am anghyfiawnder, a thrais a chyfoeth a gnnullir trwydwyll. Hyn, medd Daniel, a wna 'r hwn sydd sanctaidd, fal y gwybydder mai efe sydd yn llywodraethu ar frenhiniaeth dŷn, ac a'i rhydd i'r neb y Dan. 4. 25. mynno efe.
Hefyd beth yw achos prinder, cyfyngder, drudaniaeth a newyn? ydynt hwy yn ddim amgen nag arwydd o lid Duw yn dial y cam a'r trais a wnawn ni a'i gilydd? Mae Agge prophwyd Duw yn E dliw. dannod gan ddywedyd, Hauasoch lawer a chludasoch ychydig, bwytawsoch ond nid hyd ddigon, yfasoch ac nid hyd fod yn ddiwall, gwiscasoch bob vn ac nid hyd glydwr iddo, a'r Agge. 1. 6. 8. hwn a ymgyflogo sydd yn casclu i gyflog i god dyllog. Edrychasoch am lawer ac wele ychydig, dygasoch adref a chwythais arno medd yr Arglwydd.
O ystyriwch am hynny lid Duw yn erbyn lloffwyr cynullwyr a gorescynwyr ar dir a meddiannau eraill. Peth galarus yw gweled mewn llawer lle y modd y mae dynnion trachwantus yn ein hamser ni yn arfer aredig a thraisio ar diroedd ei cymmydogion, yr hyn diroedd sydd yn gorwedd yn nesaf attynt: pa fodd y mae dynnion trachwhantus yn yr amser hyn yn aredig mor agos i'r cwysau cyffredin, a'r treiglfau a wnaeth dynnion yr amseroedd gynt yn fawriō ac yn llydain, mewn rhan er i'w gymydog gael lle gwell i rodio ac mewn rhan er rhagorborfa y cynhaeaf er ymborth i anifeiliaid ei gymydog tylawd.
Cywilydd yw gweled na ellir digoni llawer o ddynnion trachwhantus yn ei gorchwilion: fal lle y gadodd eu rhieni hwy o'u tiroedd lwybrau llydain, [Page 163] megis y gallid yn hawdd ddwyn elorau arnynt a myned a chyrph i'w claddu yn Gristionogaidd, pa fodd y mae dynnion yn tymhigo y fath lwybrau elor, y rhai o waith hîr arfer a ddylyid eu cadw fyth i'r defnydd hynny heb eu torri: Ac yn awr er hyn maent hwy yn eu aredig hwy yn hollol, ac yn troi y cyrph i'w dwyn o amgylch ymhellach hyd yr heolydd, neu os gadawant vn terfyn o'r fath hyn, mae hi yn rhy gyfyng i neb i rodio erni.
Gymydogion da fe a ddylaid edrych ar y fath orescyn rhyfedd. Fe a ddylaid edrych ar y pethau hyn yn y dyddiau imma, pan ydym ni yn treiglo oddiamgylch. Ac yn ol hyn y dylaid rhybyddio ac iniaw ni y dynnion sydd yn gwneuthur y pethau hyn er mael neilltuol iddynt eu hunain, a chywilydd i'r plwyf, a cholled i'r tlawd. Fe a ddylaid wrth rodio ystyried yr heolydd cyffredin er mwyn gwybod pa leoedd y gosodwch eich diwarnodau gwaith yn ol yr statudau da a ddarpawyd i'r defnydd hynny. Gorchwyl da o drugaredd yw gwellau ffyrdd dyfnion enbaid, fal nad elo dy gymydog tylawd sydd yn marchogaeth ar aneifil gwan Yn ffest. yngly▪n yndi, ac felly bod gwasanaethu y farchnad yn waeth, gan fod y dynnion tylodion y rhai a ddygant luniaeth yno, yn ofni dyfod o'r achos hynny. Os mynnwch am hynny i'r holl-alluog Dduw wrando eich gweddiau er cynnydd eich ŷd, a'ch anefeiliaid, a'u cadw hwy rhag cawadau annhymherus, rhag Cenllyse. cesair, a'r fath stormŷdd, cerwch inioneb a chyfiawnder, dilynwch drugaredd a chariad perffaith, yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ar eich dwylaw chwi. Yr hyn y mae 'r hollalluog Leuit. 23. 22. Deut. 23 19. Leuit. 19. 9. Dduw yn edrych arno fwyaf wrth wneuthur [Page 164] ei gyfraithiau moesawl i'r Israeliaid, gan orchymmyn i'r perchennog na chasclent eu hŷd yn llwyr y cynhauaf, na grawnwin eu hole wyddond gadel peth o'r tywys yn eu hol i'r lloffeiō tylodion.
Wrth hyn yr ydoedd yn meddwl eu dwyn hwy i gymmeryd trugaredd ar y tylawd, i gynnorthwyo 'r anghennus, ac i ddangos trugaredd a lledneisrwydd. Ni ellir colli 'r hyn er ei fwyn ef a rodder i'r tylawd. O herwydd yr hwn a rydd hâd i'r hauwr a bara i'r newynog, yr hwn sydd yn anfon y cynharlaw a'r glaw diweddar ar eich maesydd chwi i lenwi eich yscuboriau chwi ag ŷd, a'ch gwinwryfoedd chwi â gwin ac olew efe meddaf yr hwn sydd yn talu am holl weithredoedd daionus yn ail-gyfodiad y cyfiawn, efe yn siccr a dâl am bob gorchwylion trugarog a wneler i'r anghennus, er mor anabl a fytho 'r tylawd i'r hwn y gwnelir hwy i dalu.
Oh, medd Salomon, na âd ti i drugaredd a gwirionedd ymadel â thi, clymma hwy am dy Doeth. 3. 3 9. wddf, scrifenna hwy ar lêch dy galon, felly y cei di râs a deall gerbron Duw a dynnion. Anrhydedda 'r Arglwydd â'th gyfoeth ac â chynffrwyth dy doreth, felly y llenwir dy yscuboriau â digonoldeb a'th winwryfoedd a lenwir o win newydd. Ie mae Duw ei hun yn addo agoryd ffenestri 'r nef ar y gŵr hael cyfion, fal na bytho dim diffyg arno. Fe a attal y Locust rhag difa eich ffrwythau chwi. Fe a rydd i chwi heddwch a llonyddwch i gasclu eich ffrwythau, fal yr eisteddo pob vn o honoch yn llonydd dan ei winwydden heb ofni rhac i elyn oddifaes eich gorescyn: ni rydd ef yn vnig i chwi ymborth i'ch ymborthi, ond fe a rydd i chwi gylla iachus hefyd, fel y galloch gael eich [Page 165] diddanu yn eich bwyd ac ym-mhob peth gael eich digoni.
Yn ddiwethaf fe a'ch bendiga chwi â phob Amledd. cyflawnder yn y bywyd darfodedig hwn, ac a'ch cynyscaedda chwi a phob rhyw fendith yn y byd a ddaw yn-nheyrnas nef, trwy haeddiant ein harglwydd a'n Iachawdwr: i'r hwn gyda 'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo anrhydedd yn dragywydd, Amen.
¶ Pregeth am stât Priodas.
MAe gair yr holl-alluog Dduw yn testiolaethu ac yn mynegi o ba le y daeth dechreuad priodas, a phaham yr ordeiniwyd hi. Hi a ordeiniwyd gan Dduw o fwriad ar fod i ŵr agwraig fyw yn gyfraithlon mewn cymdeithias gyfaillachgar dragwyddol, i ddwyn ffrwyth ac i wachelyd goddineb, fel y gallid cadw cydwybod dda o'r ddwy blaid, a ffrwyno llygredig hyblygedd y cnawd o fewn terfynau honestrwydd.
O blegid fe waharddodd Duw bob aflendid a phuteindra, ac o amser i amser fe a gospodd yn dôst y gwyniau allywodraethus ymma, fal y manegodd pob histori ac oes.
Hefyd fe a ordeiniwyd cynnal a halaethu eglwys Duw a'i deyrnas trwy 'r fath fywyd, nid yn vnig am fod Duw trwy ei fendith yn rhoddi plant, onid hefyd am fod yn eu dwyn hwy i fynu gan eu tadau a'u māmau duwiol yngwybodaeth gair Duw, fal y gallid yn y modd hyn trwy eppiliaeth draddodi oddiwrth y naill at y llall wybodaeth [Page 166] am Dduw a'i wir grefydd, fal yn y diwedd y gallai lawer fwynhau anfarwolaeth dragywyddol.
Am hynny, o herwydd bod priodas yn gwasanaethu cystadl i wachelyd pechod a bai, ac i halaethu teyrnas Dduw: rhaid i chwi a phawb eraill a ddawant i'r stât honno gydnabod dawn Duw â meddyliau pur diolchus, am iddo felly reoli eich calonnau chwi fal nad ydy ch yn canlyn siampl y byd drygionus, y rhai a osodant eu meddyliau ar frynti pechod, er eich bod chwi eich dau yn ofni Duw ac yn cashau pob brynti.
O herwydd yn siccr, godidawg rodd Duw yw hyn. Lle mae siampl gyffredin dynnion bydol yn dangos fod y diawl gwedy rhwymo eu calonnau hwy, a'u llindagu hwy mewn llawer o rwydau fal yn eu stat o weddwdod y maent yn rhedeg i lawer o ffiaidd bethau cyhoeddus, a'u cydwybod heb wrthwynebu hynny. Y fath ddynnion hyn ac ydynt yn byw mor ddiobeith ac mor frwnt, mae S. Pawl yn dangos pa farn sydd yn aros ar eu medr; Ni chaiff na goddinebwyr na phuteinwyr etifeddu teyrnas Dduw. Yr ydych chwi wedi diangc rhac yr Echrydus. erchyll farn Duw hon, os chwi [...]. Cor. 5. 9. a fyddwch fyw ynghŷd yn ol ordeinhad Duw heb ymado y naill a'r llall.
Ond ni fynnwn i chwi fod yn ddiofal heb wilied, o herwydd fe a brawfdiawl bob peth i geisio rhwystro a lluddio eich calonnau a'ch bwriadau duwiol chwi, os rhowch iddo dyppŷn bach o le: o herwydd naill ai fe a drafaela i dorri y cwlwm a ddechreuwyd rhyngoch, neu ar y lleiaf fe a gais ei rwystro ef ag amrafael flinder ac anfodlonrwydd.
[Page 167] Ahyn yw ei ddichel pennaf ef i wneuthur anghytunded yn eich calonnau chwi, fal lle mae yn awr gariad mawr melus rhyngoch, fe a ddwg yn lle hynny anghytundeb chwerw difias. Ac yn siccr mae ein gelyn hwn megis oddiuchod yn ceisio treisio nattur a chyflwr dŷn: o herwydd mae 'r ffolineb hyn gwedy tyfu gyda ni o'n Ieuengctyd, sef dymuno rheoli, tybied yn dda am danom ein hunain, megis nad oes neb yn tybied fod yn addas iddo berchi arall o'i slaen ei hun. Mae 'r bai melltigedig hwn o ystyfnigrwydd ewyllys a'n rhygaru ein hunain, yn addasach i dorri ac i wahanu cariad y galon, nag i gynnal cytundeb.
Rhaid am hyn i bobl briodol roddi eu meddyliau yn ddifrif i gytundeb, a rhaid iddynt geisio yn wastad gan Dduw nerth ei Yspryd sanctaidd ef, i reoly eu calonnau, ac i rwymo eu meddyliau ynghytundeb.
Mae 'n anghenrhaid i'r rhai priodol arfer y weddi hon yn fynych, gan weddio y naill dros y llall yn fynych, rhag i gasineb ac anghytundeb gyfodi rhyngthynt. Ac am nad oes ond rhai yn ystyried hyn, a llai etto yn ei gyflawni (gweddio dros i gilydd yr ydwyf yn ei feddwl) ni a welwn pa fodd y mae diawl yn sennu ac yn gwatwar yr stat hon, mor ambell y mae y rhai priod heb ymdaeru, ymryson, ymsennu, etifaru, rhegu chwerw, ac ymladd. Ac Pwy bynnac sydd yn gneuthur y pethau hyn nid ydynt yn ystyried mai llithiad y gelyn ysprydol ydyw hyn, yr hwn sydd hoff iawn gantho hynny: o herwyddd oni bai hynny hwy a ymegnient â phob hydr yn erbyn y drygioni hyn, nid yn vnic trwy weddi ond trwy bob diwydrwydd ac a allent.
[Page 168] Ie ni roent le i annogaeth llid, yr hwn a'u cyffro hwy i'r fath airiau neu ddyrnodau gairwon llymmion, yr hyn yn ddiddau yw hudad diawl, profedigaeth yr hwn os ni a'i canlynwn, fe a ddechrau ac a weua ynom ni yn siccr bob trueni a thristwch. O herwydd mae hyn yn wir siccr iawn, y canlyn o'r fath ddechreuad y torrir gwir gytundeb yn y galon, trwy 'r hyn ar fyrr ennyd y dyrrir bob cariad o'r galon allan.
Yno ni ellir na bytho 'n druan gweled fod yn rhaid iddynt hwy fyw ynghŷd a hwy heb allel bod ynghŷd yn gyttun. Ac mae hyn i'w weled ymmhob lle haechen yn arferol. Ond pa beth yw 'r achos? Yn wir am nad ydynt yn ystyriaid dichellion twyllodrus diawl, a'u bod am hynny heb ymroi i weddio ar Dduw ar fod yn wiw gantho attal ei allu ef.
Hefyd nid ydynt yn ystyriaid pa fod y maent yn cynnorthwyo bwriad diawl, gan ganlyn llid eu calonnau, trwy fygwth y naill y llall, trwy droi pob peth yn eu ynfydrwydd dibyn dobyn, trwy beidio a rhoddi i fynu eu cyfiawnder (fal y tybygant hwy) ie a thrwy beidio 'n fynych a rhoddi i fynu y rhan gamweddus. Os chwenychi di am hynny fod heb y trueni hwn, os chwenychi fyw yn heddychlon ac yn ddiddanus mewn priodas, dysc weddio 'n ddifrif ar Dduw ar iddo lywodraethu eich calonnau chwi eich dau â'i Yspryd glân, ac attal gallu diawl, trwy 'r hyn y parha eich cytundeb chwi yn dragywydd.
Ond mae 'n rhaid cydsylltu â'r weddi hon ddiescaelusrwydd godidawg: am yr hwn y mae S. Petr yn rhoddi y gorchymmyn hwn, gan ddyweddyd, Chwi y gwyr cydgyfanneddwch a'ch [Page 169] gwragedd, fel y gwedde i rai gwybodol, gan roddi anrhydedd i'r wraig megis i'r llestr gwannaf, fel rhai sydd gydetifeddion grâs y bywyd, rhag rhwystro eich gweddiau chwi.
Mae 'r gorchymmyn hwn yn perthyn yn neilltuoll at y gwr, o herwydd efe a ddylai fod yn arweinydd ac yn awdur cariad, yr hyn sydd yn cael lle pan fytho efe rhesymmol ac nid yn rhy greulon, ac os goddef ef y wraig i gael rhan o'i meddwl. O herwydd y wraig yw 'r creadur gwannaf, ac ni chynyscaeddir hi â'r fath rym a chadernid meddwl, am hynny yr aflonyddir hwy yn gynt, ac maent yn barottach i bob gwyniau gweinion, ac i bob hyblygedd meddwl nag yw gwyr, ac maent hwy yn yscafnach ac yn oferach yn eu ffansiau a'u hopinioneu.
Rhaid i'r gŵr ystyriaid y pethau hyn fal na byddo efe yn rhy afrywog, am hyn rhaid iddo am ryw bethau na chymero ef arno weled mo honynt, rhaid iddo ddeongl pob peth yn fwyn.
Ond mae 'r cyffredin bobl yn barnu nad addas i ŵr fod mor llaryaidd. O herwydd hwy a ddywedant mai arwydd yw hyn o lyfrdra gwraigaidd: ac am hynny y tybygant mai rhan gŵr yw cyffroi ac ymladd â'i ddwrn a'i ffon.
Ond beth bynnac a dybygant hwy, mae S. Petr yn ddiammau yn barnu yn well beth sydd addas i wr, a pheth sydd resymmolaf iddo ei wneuthur. O herwydd medd ef, rheswm a ddylaid ei afer, ac nid ymladd. Ie mae fe 'n dywedyd ymhellach y dylai y wraig gael rhyw barch ac anrhydedd, hynny yw gan ei harbed hi, a dwyn gydâ hi, yn hytrarch am ei bod hi yn llestr gwannaf, yn galon frau, ac yn annwadal, ac hi [Page 170] a gyffroir â gair yn Fuan. ebrwydd i ddigofaint. Ac am hynny gan ystyriaid ei gwendid hwn hi, hi addylai yn hytrarch gael ei harbed.
Felly ni fegi di gytundeb yn inig, ond ti a gai ei chalon hi i'w rheoli yn ol dy ewyllys, O herwydd fe gedwir naturiaeth honest i wneuthur ei dlyed yn hytrach wrth airiau mwynion nag wrth ddyrnodau.
Onid am yr hwn a wnel bob peth trwy greulondeb a bod yn dôst, ac a arfero 'n wastad o fod yn llym yn ei airiau a'i weithredoedd, pa beth a ennill ef yn y diwedd? yn wir dim, ond ei fod ef yn hyfforddi gweithred diawl, mae fe 'n gyrru ar encil gytundeb, cariad, addfwynder peraidd, ac yn dwyn i mewn anghytundeb, casineb a blinderau mwyaf ac a allant fod mewn cariad rhwng y naill a'r llall a chyfeillach bywyd dyn.
Heb law hyn hefyd, mae hynny yn dwyn drygioni arall gydag ef, mae 'n dinistr ac yn rhwystro gweddi: o herwydd yr ennyd y byddir yn cynnal y meddwl mewn ymryson ac anghytundeb, ni ellir arfer gwir weddi, O herwydd mae gweddi'r Arglwydd yn edrych cystadl ar y cwbl yn gyffredinol ac ar bob dyn o'r neilltu; yn yr hon yr ydym yn traethu 'n gyhoedd ein bod ni yn maddau i'r sawl a wnaeth yn ein herbyn, fal yr ydym yn ceisio gan Dduw faddauant o'n pechodau. Yr hyn beth pa fodd y gellir ei wneuthur yn inion pan fyddo eu calonnau hwy mewn anghytundeb? Pa fodd y gallant weddio y naill dros y llall pan fo 'r naill yn cashau 'r llall.
Os tynnir immaith nerth gweddi, pa fodd yr ymgynhaliant mewn diddanwch? O herwydd ni allant mewn vn modd arall wrthwynebu diawl [Page 171] nac etto fod eu calonnau yn sefyll mewn diddanwch diogel ym-mhob enbeidrwydd ac anghenrhaidiau ond trwy weddi.
Fal hyn y mae pob afles cystadl ysprydol a chorphorol yn canlyn yr arferō afrywog, chwerw, llym, creulon hyn, y rhai ydynt addasach i anifeiliaid gwylltion, nag i greaduriaid rhesymmol.
Nid ydyw S. Petr fodlon i'r pethau hyn, ond mae diawl yn eu chwennychu hwy yn llawen: gochelw ch chwithau yn fwy am hynny. Ac etto fe ddichon gwr fod yn wr er nad arfero ef y fath greulondeb, ie pe byddai weithiau heb gymmeryd arno weled arferon ei wraig. A rhan gwir Gristion yw hyn, yr hyn sydd hoff gan Dduw: ac mae hyn hefyd yn gwasanaethu 'n dda i ddiddanu stât priodas.
Yn awr o blegid dlyed y wraig pa beth sy weddus iddi hitheu: a gamarfer hi fwynder a thirionedd ei gwr, ac a dry hi yn ol ei hewyllys bob peth dibyn dobyn? Na wnaed ddim o hynny. O herwydd mae hynny mor gwbl hefyd yn erbyn gorchymmyn Duw.
O herwydd fal hyn y mae S. Petr yn pregethu 1. Pet. 3. 1. iddynt hwy, Chwi wragedd byddwch ostyngedig i'ch gwŷr priod. Nid gorchymmyn a rheoli yw bod yn ostyngedig, ac etto hwy allant wneuthur y pethau hyn i'w plant a'u Teuleu. tylwyth: Ond am eu gwŷr rhaid iddynt fod yn ostyngedig iddynt hwy, a pheidio a gorchymmyn, a chyflawni gostyngeiddrwydd ac vfydd-dod. O herwydd yn siccr mae hyn yn magu cytundeb yndra rhagorol, pan yw 'r wraig yn barod ar orchymmmyn ei gwr, pan yw hi yn ymroi i'w ewyllys ef, pan fytho hi yn ym-egnio i geisio ei fodloni [Page 172] ef a'i lawenhau, pan wachelo hi bob peth ac a allai ei ddigio ef, O herwydd fal hyn y gwirhair geiriau 'r bardd yn gywir, y caiff gwraig dda wrth fod yn ostyngedig i'w gwr, reoli fal y byddo hoff a llawen gantho ddyfod yn gynt adref etti. Ond o'r ystlys arall, pan fytho eu gwragedd hwy yn afrywog ac yn llymion ac yn chwerwon, fe yrrir eu gwyr hwy trwy hynny i gashau ac i gilio allan o'u tai, fal pe bai rhyngthynt ryfel a'u gelynnion. Ac etto mae yn odid na chwympo weithiau ryw wrthyneb rhyngthynt, o herwydd nad oes neb yn byw heb fai: ond yn enwedig am fod y wraig yn llestr gwannaf, gochelant hwy rhag sefyll yn eu baiau a'u hatcasrwydd, ond cydnabyddant hwy yn gynt eu ffolineb a dywedant, fyngwr, fal hyn y gyrrodd fy-nigofaint fi i wneuthur hyn ymma neu hyn accw, maddauwch imi, ac ar ol hyn mi a wachela. A pha parottaf y byddo gwraig i wneuthur yn erbyn ei gwr, parottaf y dylai hi fod i wneuthur fal hyn: ac nid er mwyn ymgadw oddiwrth ymryson a anghytundeb yn vnic y dylai wneuthur hyn, ond yn hytrach er mwyn gorchymmyn Duw, fal y mae S. Pawl yn ei adrodd ef yn y geiriau hyn, y gwragedd ymostyngwch i'ch gwyr priod megis i'r Arglwydd, oblegid y gwr yw pen y wraig megis y mae Christ yn ben i'r Eglwys.
Ymma y gwelwch fod Duw yn gorchymmyn i chwi gydnabod awdurdod y gwyr a rhoddi iddo barch vfydd-dod.
Ac mae S. Petr yn dywedyd yn y lle a adroddwydd o'r blaen, i fodrabedd sanctaidd gynt ymdrwsio nid oddi allan o blethiadau gwallt, ac amgylch osodiad aur, neu wiscad dillad gwychion, [Page 173] onid gan obeithio ar Dduw a bod yn ddarostyngedig i'w gwr priod, megis yr vfyddhaodd Sara i Abraham gan ei alw ef yn Arglwydd, merched yr hon fyddwch chwi, medd ef, o wneuthur yn dda.
Addas a fyddai i wragedd argraphu yr ymadrodd hwn yn eu meddyliau.
Gwir yw fod yn rhaid iddynt hwy yn enwedig oddef poenau a doluriau eu priodas, am fod yn gorfod arnynt roi heibio rydd-did eu llywodraeth a bod mewn doluriau escor, ac yn dwyn eu plant i fynu.
Yn y swyddau hyn maent hwy mewn periglau mawrion: heb y rhai y gallent fod, pe byddent heb briodi.
Ond mae S. Petr yn dywedyd mai hwn yw 'r trwsiad pennaf i wragedd santaidd, gobeithio ac ymdeiried yn-nuw, hynny yw, nad ymgadwasant rhag priodas oblegid ei gofalon a'i doluriau, a'i henbeidrwydd, ond gorchymmyn i Dduw bob peth a allai ddigwyddo ynddi, gan obeithio cael ei nerth ef yn siccr yn ol iddynt alw arno am ei gynnorthwy.
O wraig gwna dithau felly ac yno y trwsir di 'n odidawg gerbron Duw a'i holl Angylion a'i Saint, ac nid rhaid iti geisio ym-mhellach am wneuthur gwaith a fyddo gwell: O herwydd bydd ostyngedig i'th wr, synna ar ei ddymuniadau ef, ac ystyria beth y mae ef yn ei ofyn ar dy law di, felly y gelli di anrhydeddu Duw, a byw yn heddychlon yn dy dŷ.
Ac heblaw hyn fe ganlyn Duw di â'i fendithion, fal y llwyddo pob peth gydâ thi, cystadl iti ac i'th wr, ac fal y dywaid y Psalm, Gwyn [Page 174] ei fudd pob vn sydd yn ofni 'r Arglwydd, sef yr hwn sydd yn rhodio yn ei ffyrdd ef canys mwynhei lafur dy ddwylo, gwyn dy fyd a da fydd it. Dy wraig sydd fel gwinwydden ffrwythlon ar hyd ystlysau dy dŷ: a'th blant fal planhigion oliwydd o amgylch dy ford. Wele fel hyn yn ddiau y bendithir y gwr a afno 'r arglwydd medd Dafydd.
Bydded hyn ym-meddwl y wraig yn wastad yn hytrarch am fod gwisc ei phen hi yn ei rhybyddio am y peth hyn, trwy 'r hyn yr arwyddoccair ei bod hi dan lywodraeth ac mewn vfyddodd i'w gwr: Ac fel y gosododd natur y wisc honno i fanegi ei hufydd-dod hi, felly y mae S. Pawl yn gorchymmyn fod i bob rhan arall o'i dillad hi ddangos gŵyledd a sobredd. O herwydd onid yw gyfraithlon i wraig fod yn bennoeth, ond dwyn ar ei phen arwydd o'r gallu sydd erni, pa le bynnac yr elo hi: mwy y gofynnir ar ei llaw hi ddangos yr hyn a arwyddocair wrth hynny; Ac am hynny y galwodd yr hên wraged o'r hen fyd eu gwyr yn Arglwyddi ac a ddangosasant eu parch yn yfyddhau iddynt.
Ond onid odid hi a ddywaid fod y gwyr hynny yn gwir garu eu gwragedd. Mi a wn hynny yn dda, ac yr ydwyf yn ei gysio yn ddifai. Ond pan ydwyf yn eich rhybyddio chwi i'ch dlyed, na chofiwch chwi eu dlyed hwy tuag attoch. O herwydd pan fythom ni ein hunain yn dyscu ein plant i vfyddhau ini, megis i'w tadau a'u mammau, neu pan fythom yn addyscu 'n gweision ac yn dywedyd wrthynt y dlyent vfyddhau i'w meistri nid â llygad wasanaeth, ond fel gweinidogion Christ: pe dywedent hwy wrthym ninnau Coloss. 3. 22 Ephes. 6. 5. [Page 175] ailwaith am ein dlyed ninnau ni thybygem ni eu bod hwy yn gwneuthur hynny yn dda.
O herwydd er bod gan ŵr gyfaill yn ei fai? ni wnae hynny ei fod ef yn ddifai. Ond hyn sydd raid iti edrych arno, am fod dy hun yn ddifai. O herwydd Adda a fwriodd y bai ar y wraig, a hithau a'i bwrodd ar y sarph: etto nid escuswyd yr vn o honynt. Ac am hynny na ddwg attafi yn awr y fath escuson, ond gosod dy holl ddiwydrwydd i wrando y dylait ti vfyddhau i'th ŵr.
O herwydd pan wyf yn rhybyddio dy ŵr i'th garu di ac i'th gysuro, etto ni phaidiaf a gosod allan y gyfraith a osodwyd i'r wraig, cystadl ac y mynnwn i'r gŵr wneuthur yr hyn a scrifennir yn y gyfraith iddo yntef.
Dos di am hynny ynghylch y pethau a berthynant iti yn vnig, a dangos dy hun yn hynaws i'th ŵr. Neu yn hytrach os vfyddhau di i'th ŵr er mwyn gorchymmyn Duw, yno adrodd pa beth a ddylai ef ei wneuthur, ond cyflawna di yn ddiescaelus y pethau y mae gwneuthurwr y gyfraith yn gorchymmyn iti eu gwneuthur: O blegid fal hyn yr vfyddhai di i Dduw yn oreu os peidi di a thorri ei gyfraith ef.
Nid yw 'r hwn sydd yn caru ei gyfaill yn gwneuthur gorchest yn y bŷd: ond mae 'r hwn a anrhydeddo y neb sydd yn ei gashau ef ac yn ei ddrygu, yn haeddu mawrglod, Felly meddwl dithai os goddefi di ŵr anhwaith y caidi am hynny wobr mawr.
Ond os ceri di ef yn inig am ei fod ef yn dirion ac yn fwyn: pa wobr y rhydd Duw iti am hynny? Etto nid ydwyf yn dywedyd hyn fal pe ewyllysiwn i'r gwyr fod yn anhowaith tuag at eu gwragedd, ond annog yr ydwyfi y gwragedd i ddwyn yn ddioddefus [Page 176] gydag anhywaithder eu gwyr. O herwydd panwnelo pob vn o'r ddwy ran ei gorau i gyflawni eu dlyed vn i'w gilydd, yno yn y man y canlyn budd mawr i'w cymydogion, wrth eu siampl hwy. O herwydd pan fyddo 'r wraig yn barod i oddef gwr anhywaith, a phan na byddo 'r gwr rhy dost wrth wraig atgas anhywaith, yno y bydd pob peth yn esmwyth mewn porthladd ddiogel. Fal hyn yn yr hen amser y gwnai bob vn ei ddylyed a'i swydd eihun, ac nid oeddynt ofalus i edrych am ddlyed eu cymydogion. Ystyria adolwg i Abraham gymmeryd atto fab ei frawd, ac ni faiodd ei wraig arno ef am hynny. Ef a orchymmynnodd iddo fyned i daith bell gydag ef, ac ni ddywad hi ddim yn ei erbyn ef, ond hi a vfyddhaodd i'w orchymmyn ef.
A thrachefn yn ol holl flinderau a gofidiau a phoenau mawrion y daith honno, yn ol gwneuthur Abraham megis yn Arglwydd o'r cwbl oll, etto fe ganniataodd i Lot yr oruchafiaeth: ac fe a a oddefodd Sara hynny mor ddiddig ac yr attaliodd hi ei thafod rhag yngan vnwaith y fath airiau ac a arfer gwragedd eu dywedyd fynychaf yn y dyddiau hyn, pan welant eu gwyr yn y lleoedd isaf, ac yn ostyngedig i rai iauangach nâ hwynt hwy, yn y man hwy a'i Edliwiant. dannodant iddynt â gairiau ymrysongar, ac a'u galwant hwy yn ffyliaid, yn llyfron ac yn ddihyder, am wneuthur felly.
Ond yr oedd Sara mor bell oddiwrth ddywedyd y fath airiau, ac na feddyliodd hi vnwaith ddywedyd felly, ond bod yn fodlon i ddoethineb ac ewyllys ei gŵr.
Ie, heb law hyn, gwedy darfod i Lot gael fal hyn ei ewyllys, a gadel i'w ewythr y rhan leiaf [Page 175] o'r tir, fe a gwympodd i ddygyn berigl: yr hyn beth pan wybu y Patriarch hwn, yn y man fe a osododd ei holl wŷr mewn arfau, ac a ddarparodd fyned ei hun a'i holl dylwyth a'i gymdeithion yn erbyn llu'r Persiaid: yn yr hwn gyflwr nis cynghorodd Sara ef i'r gwrthwyneb, ac ni ddywad hi wrtho fal y gallasid dywedyd: fyngŵr i ba le yr a'i di mor fyr-bwyll? pa ham y rhedi fal hyn lwyr dy ben? pa ham yr ymgynnygi i'r fath beriglon mawrion? Paham yr wyd mor barod i anturio dy fywyd dy hun, ac i osod mewn enbeidrwyd fywyd dy holl dylwyth dros ŵr a wnaeth a thi'r fath gam? Ar y lleiaf onid oes gennit ofal am danat dy hun, cymmer drueni arnafi, a minnau er dy fwyn di gwedy gadel fy-ngwlâd a'm cenedl, ac heb imi na chynnorthwywyr na chenedl, a mi gwedy dyfod cy belled o'm gwlâd gydâ thi: tosturia wrthyf, ac na wnâ fi ymma'n weddw, i ddwyn arnaf y fath ofalon a blinderau.
Hyn a allasai hi ei ddywedyd. Ond ni ddywad Sara, ac ni feddyliodd y fath airiau: ond hi a'i cadwodd ei hun yn ddistaw ym-mhob peth.
Hefyd yn yr holl amser ac y bu hi hesp heb ei phoeni fel gwragedd eraill wrth ddwyn ffrwyth yn ei dŷ ef, beth a wnaeth ef? fe a achwynodd nid wrth y wraig ond wrth yr holl-alluog Dduw.
Ac ystyriwch fel y gwnaeth pob vn honynt ei ddlyed fal yr oedd yn addas iddynt. O herwydd ni ddiystyrodd ef Sara am ei bod yn hesp, ac ni Edliwodd. ddannododd iddi hynny. Ystyriwch hefyd y modd y gyrrodd Abraham y llaw forwyn allan o'i dŷ pan ddeisyfodd hi arno wneuthur felly. Fal wrth hyn y gallaf brofi 'n gywir fod pob vn honynt yn fodlon i'w gilydd ym-mhob peth.
[Page 176] Ond etto na osodwch eich llygaid ar hyn o beth, ond edrychwch ymhellach pa beth a wnaethpwyd cyn hyn, fod Agar yn diystyru ei meistres, Genes. 16. a bod Abraham ei hun gwedy ei gyffro ychydig yn ei herbyn hi, yr hyn ni allai na bai annioddefus a dolurus iawn i wraig ddiwair rwydd ei chalon.
Na fydded gwraig ry bryssur i ofyn yr hyn sy ddledus ar y gŵr iddi hi, lle dlai hi fod yn barod i gyflawni ei dlyed ei hun, o herwydd nid yw hyn, yn haeddu fawr glôd. Ac felly o'r ystlys arall nag ystyried y gwr yn inig beth a ddlyai 'r wraig ei wneuthur, ac na safed yn rhy ddifrif i edrych ar hynny, o herwydd nid ei ran ef a'i ddlyed yw hyn. Ond fal y dywedias, bydded pob vn o'r dwyblaid barod ac ewyllysgar i wneuthur yn enwedig yr hyn sydd yn perthyn atto ei hun. O herwydd os ydym rhwymedig i droi y rudd aswy at ddieithriaid pan darawant ni ar y rudd ddeheu, pa faint mwy y dylem oddef gŵr tost afrywog? Ond etto nid wyfi 'n meddwl y dyle wr guro ei wraig, ni atto Duw hynny. O herwydd y cywilydd mwyaf yw hynny ac a ddichon bod, nid yn gymmaint i'r wraig a gurir, ac i'r gwr sydd yngwneuthur y fath orchwyl.
Ond os digwydd fod iti y fath wr, na fydd ry drist, meddwl di fod gwobr mawr gwedi ei osod i fynu ar dy fedr ar ol hyn, a bod clod fawr iti yn y byd hwn os byddi di goddefgar.
Ond etto wrthych chwi y gwyr y dywedaf, na fydded vn bai mor fawr ac y gyrro chwi i ffusto eich gwragedd. Ond beth a ddywedaf am eich gwragedd, peth anreith ei oddef yw i wr honest osod i law ar ei forwyn i'w fusto hi. Am hynny os [Page 177] yw yn gywilydd mawr i ŵr fusto ei forwyn, oni ddlyai ef ei geryddu 'n fwy am guro ei wraig rydd? A hyn a allwn ei ddeall wrth gyfraithiau a wnaeth Paganiaid, y rhai a roddant rydd-did i'r wraig i ymado oddiwrth y gwr a'i tarawo hi, megis gwr an-nheilwng o'i chy mdeithias hi ymmhellach. O herwydd y peth tostaf a ddichon bod yw iti drin mor wael ie megis vn caeth, gymmar dy fywyd, yr hon a gydsylltwyd â thi o'r blaen, i fod yn gyfaill i ti yn y pethau rheitaf o'th fywyd di. Ac am hynny fe a ellir cyffelybu y fath wr (os gellir ei alw ef yn wr ac nid yn anifeil gwŷllt) i vn a laddo ei dâd neu fam.
A lle gorchymmynnir ini ymwrthod â thadau a mammau er mwyn ein gwaragedd, ac etto nid ydym yn gwneuthur vn cam â hwy yn hynny, ond yr ydym yn cyflawni cyfraith Dduw: pa fodd am hynny na welidi mai ynfydrwydd annial yw iti wneuthur yn drahaus â'r hō y gorchymmynnodd Duw iti ymadel a'th dad ath fam er ei mwyn? Ie pwy a all goddef y fath ddirmyg? pwy a ddichon yn ddigonol ossod allan faint drygioni yw gweled yn yr heolydd cyhoedd gymydogion yn rhedeg ynghŷd ynghylch tŷ y fath ŵr afreolus, megis at fedlem ynfyd a fai yn ceisio dymchwelyd y cwbl oll sydd gantho? Pwy ni thybygai mai gwell oedd i'r fath wr ddymuno i'r ddaiar agored a'i lyncu ef, na'i weled byth mwy yn y farchnad?
Ond fe allai y gosodi drosot dy hun, i'r wraig dy annog di i wneuthur hyn. Ond ystyria dithau ailwaith mai llestr gwan yw 'r wraig, a'th wneuthur di yn rheolwr ac yn ben erni, i gyd-ddwyn â'i gwendid hi yn ei gostyngeiddrwydd. Ac am hynny myfyria di ddangos clod dy awdurdod honest, [Page 178] yr hyn ni elli di ei wneuthur yn well nag wrth beidio a chyhoeddi ei gwēdid hi yn ei gostyngeiddrwydd. O herwydd fel y gwelir y brenin yn bendefigeiddiach, po godidawgaf a phendefigeiddiaf y fo ei swyddogion ai raglawiaid ef, y rhai pe dianrhyddai ef, a phe diystyrai ei hawdurdod hwy a'u braint, fe a'i dinoethai ei hun o rhan fawr o'i anrhydedd ei hun: felly os diystyri dithau yr hon sydd gwedy ei gosod yn y lle nesaf iti dy hun, yr ydwyd yn llai hau ac yn peri i odidawgrwydd dy awdurdod dy hun adfeilo. Cyfrif yr holl bethau hyn yn dy feddwl a bydd fwyn'a▪ thirion: deall ddarfod i Dduw roddi plant rhyngot ti a hithau a'th wneuthur di yn dâd, ac wrth hynny llonydda di dy hun,
Oni weli di yr llafurwyr, mor ddyfal y maent yn trin eu tir a ddarfu iddynt eu rhentu vnwaith, er maint fyddo beiau 'r tir megis yn lle siampl, er ei fod ef yn rhy sych, er ei fod ef yn dwyn chwyn lawer, er na allo ef ddioddef gormod gwlybni, etto mae fe 'n ei aredig ef, ac felly yn ennill ei ffrwythau ef: felly pe arferiti yr vn dyfalwch i addyscu ac i drefnu meddwl dy wraig briod, pe ymroiti i chwynnu bob ychydig y chwyn drygionus o arferon anaddas allan o'i meddwl hi trwy addysc iachus, ni allid na chait ti dderbyn ar fyrr o hynny ffrwythau melus eich diddanwch chwi eich dau.
Am hynny, fel na ddigwyddo rhwngoch chwi ymryson, gwnâ'r cyngor hwn a roddaf iti ymma: pa beth bynnac anfelus a ddigwyddo gartref: os gwnaeth dy wraig ddim ar fai diddana hi, ac na chynydda ei thrymder hi. O herwydd er maint o ofidiau a fo yn dy flino di, etto ni chaidi ddim a'th [Page 181] flino 'n fwy nag eisiau ewyllys da dy wraig gartref. Pa wrthwyneb bynnac a elli di ei enwi, etto ni chaid di vn mor anrhaith ei oddef a bod yn ymryson a'th wraig. Ac am hyn yn fwyaf dim y dylait ti berchi y cariad hwn.
Ac os yw rheswm yn peri i ti oddef rhyw gam ar ddwylo dynnion eraill, mwy o lawer y dylaid oddef cam ar law dy wraig. Os bydd hi ty▪lawd na Edliw. ddannod iddi. Os bydd hi gwirion na watwar hi, ond bydd di dirionach wrthi. O herwydd dy gorph di yw hi gwedy ei gwneuthur yn vn cnawd â thi.
Ond ti a ddywedi onid odid ei bod hi yn wraig lidiog, yn feddwen, yn anefeil aidd, heb synwyr a rheswm ynddi: am yr achos hyn tosturia wrthi yn hytrach. Nag ynfyda yn dy lid ond gweddia ar yr Holl-alluog Dduw, rhybydia a chynnorthwya hi â chyngor da, ymegnia di ar ei rhyddhau hi o'r holl wyniau hyn: ond os curi di hi, ti a chwanegi ei gwyniau drŵg hi, o herwydd ni wellhauir cyndynrwydd ac atcasrwydd trwy gyndynrwydd, onid trwy amynedd ac addfwynder.
Ystyria pa wobr a gaidi ar law Dduw? O herwydd lle y galliti ei churo hi, etto os rhag ofn Duw yr ym-atteli di adwyn yn oddefgar gyda ei baiau mawrion hi, yn hytrarch o ran y gyfraith sydd yn gwahardd i wr droi ymmaith ei wraig pa fai bynnac a fo erni, ti a gai wobr mawr. A chyn y derbynnech ŷ gwobr hynny, ti a gai lawer budd arall. O herwydd trwy hyn y gwnair hi yn vfyddach, a thithau a wnair er ei mwyn hi yn fwynach.
Mae 'n scrifennedig mewn histori fod i ryw [Page 182] philosophydd diethr wraig felldigedig atgas feddw. Pan ofy nnwyd iddo paham yr ydoedd ef yn dwyn gydâ ei harferō drwg hi; fe attebodd, Trwy hyn, ebefe, mae imi gartref athro a siampl i ymddwyn pan fyddwyf allan. O herwydd, medd ef, mi a fyddaf gwell fy amynedd ymlhith eraill gwedy fynyscu ac ymarfer beunydd i ddwyn gyd â hi. Yn wir cywilydd yw bod Paganiaid yn ddoethach nâ nyni, nyni meddaf i'r rhai y gorchymmynnir bod yn gyfelyb i Angylion, ie i Dduw ei hun mewn amynedd. O gariad ar rinwedd ni yrrai y philosopydd hwn Socrates ei wraig oddiwrtho. Ie rhai a ddywaid mai am hyn y priododd ef ei wraig, i ddyscu y rhinwedd hon genthi.
O blegyd hyn, am fod llawer heb fod mor gall a'r gwr hwn: fynghyngor yw, yn gyntaf ac ym-mlaen pob peth i ŵr wneuthur ei orau i geisio gwraig dda rinweddol honest. Ond os digwydda ei dwyllo ef, ac iddo ddewis gwraig yr hon nid yw na da nac iawndda, yno canlyned y gwr y philosophydd hwn, ac addysced ei wraig ymmhob cynneddfeu da, ac na chyhoedded y pethau hyn byth yngolwg y byd.
O herwydd oni bydd y marsiandwr gwedy cytuno yn gyntaf â'i oruchwiliwr fal y gallai arfer ei farchnad-negesau 'n llonydd, ni osod ef ei long dan hwyl, na'i law ar ei farsiandiaeth: felly gwnawn ninnau fal y caffom gyfeillach ein gwragedd, y rhai yw goruchwiliaid ein gorchwylion ni gartref yn esmwyth ac yn llonydd ddigon: a thrwy hyn yr aiff pob peth yn llwyddianus, ac felly yr awn ni trwy beriglau blin-fôr y byd hwn.
[Page 183] O herwydd fe fydd stât ein bywd ni yn fwy anrhydedd a diddanwch ini nâ 'n tai, ein gweision, ein harian, ein tîr, ein meddiannau, ar cwbl oll ar a ellir eu cyfrif, fal na all yr holl bethau hynny os bydd ymryson ac anghytundeb, weithio ini vn diddanwch, felly y troir pob peth i'n budd ni, a'n bodd, os tynnwn y iau hon mewn vn cytundeb calon a meddwl.
Am hynny ymegniwch i arfer eich priodas fal hyn, ac felly y'ch arfogir chwi o'r ddau ystlys. Chwi a ddiangasoch rhag maglau diawl a chwā tau anghyfraithlon y cnawd, ac a gawsoch lonyddwch cydwybod trwy ordeinhâd priodas a ordeiniodd Duw, am hynny arferwch weddio 'n fynych arno, ar ei fod ef yn bresennol gydâ chwi, ac ar iddo efe gynnal cariad a charedigrwydd rhyngoch chwi. Gwnewch eich gorau o'ch rhan chwi i'ch ymarfer eich hunain a lledneisrwydd ac ammynedd, a dygwch yn llonydd gydâ 'r camsynnaid a ddigwyddo; fal hyn y bydd eich ymddygiad chwi yn hyfryd ac yn ddiddanus iawn.
Ac er ei ryw wrthwyneb ganlyn (yr hyn ni ddichon bod yn amgen) ac er i aflwydd digwyddo, weithiau mewn vn ffordd, ac weithiau mewn ffordd arall: etto yn y trallod a'r gwrthwyneb cyffredinol hwn, cyffodwch eich dwylaw eich dau tuâ 'r nefoedd, gelwch am gynorthwy a nerth gan Dduw awdur eich priodas chwi, ac yn siccr fe fydd addewyd eich ymwared chwi yn agos: O blegid mae Christ yn dywedyd yn yr efengyl, Os cyduna dau neu dri o honoch ar y Math. 18. 19. ddaiar am ddim oll, beth bynnac a ddeisyfant a roddir iddynt gan fy-nhad yr hwn sydd yn y nefoedd.
[Page 184] Paham am hynny yr ydwyd yn osni perigl, lle y mae iti addewid mor barod, a chymmorth mor agos?
Rhaid i chwi ddeall hefyd mor anghenrhaid yw i Gristion ddwyn croes Christ, o herwydd heb hon byth ni wybyddwn mor ddiddanus yw cymmorth Duw ini. Am hynny rhoddwch ddiolch i Dduw am ei fawr ddawn, gan ddarfod i chwi gymmeryd arnoch stât priodas, a gweddiwch yn wastaddol ar i'r holl-alluog Dduw eich ymddiffyn a'ch maenteinio ynddi yn llwyddiannus, fal na ormeiler chwi gan vn profediagaeth, na gwrthwyneb: Ond vwchlaw pob peth, gochelwch na roddoch achosion 'i ddiawl i rwystro ac i luddio eich gweddiau chwi, trwy ymryson ac angytundeb. O herwydd nid oes ymddiffynfa nac atteg gadarnach yn ein holl einioes ni nâ gweddi, trwy 'r hon y gallwn alw am nerth Duw a'i fwynhau, trwy 'r hon y gallwn gael ei fendith ef, ei rad, ei ymddiffyn, a'i nawdd, felly i barhau hyd onis caffom y bywyd sydd well yn y byd a ddaw. Yr hwn fywyd a ganniatao ef ini yr hwn a fu farw drosom ni oll, i'r hwn y byddo pob anrhydedd a chlod yn dragywydd, Amen.
¶ Pregeth yn erbyn seguryd.
YN gymmaint a bod dyn yr hwn a aned nid i esmwythder a llonyddwch, ond i lafurio ac i drafaelu, gwedy dirywio, a chwympo gan lygredigaeth nattur trwy bechod cyn belled allan o ryw, fal y mae 'n coelio nad yw seguryd ddim yn ddrwg, ond yn hytrach yn beth canmoladwy gweddaidd [Page 185] i wŷr cyfoethogion, ac am hynny y cofleidir hi yn chwannog gan y rhan fwyaf o ddynion, megis peth yn cytuno yn dda â'u meddylfryd cnawdol hwy, ac fe a ochelir yn diescaelus bob poen a thrafael megis peth poenus gwrthwyneb i ddigrifwch y cnawd: anghenrhaid yw mynegi i chwi y dlyai bob dŷn (wrth ordeinhâd Duw yr hon a osododd ef allan yn nattur dŷn) ymroi i drafaelu yn ei alwedigaeth gyfraithlon, a bod seguryd (oblegid ei bod yn wrthwyneb i'r ordeinhad honno) yn bechod mawr, ac hefyd (oblegid llawer o ddrygioni a melldithion mawrion y rhai a darddant o hon) yn beth drwg iawn: er mwyn bod i chwi, pan dealloch hynny, gilio 'n ddiwall oddiwrthi, ac ymroi o'r ystlys arall bob vn yn ei alwedigaeth i drafaelu ac i weithio 'n honest, yr hyn fal y gorchymmynnwyd ef i ddyn wrth ordeinhâd Duw, felly y mae iddo aml fendithion ac amryw ddonniau.
Yn ol i'r holl-alluog Dduw greu dyn, fe a'i gosododd ef ym-mharadwys i'w chyweirio hi a'i chadw, ond pan drosoddase ef orchymmyn Duw gan fwyta firwyth y pren a ddarodd i Dduw ei wahardd, fe a'i taflodd yr holl-alluog Dduw ef yn y man allan o Bradwys i'r dyffryn blin gofodus hwn, gan orchymmyn iddo lafurio 'r ddaiar, o'r hon y tynnasid ef, a bwyta ei fara yn chwys ei wyneb holl ddyddiau ei einioes.
Ordeinhâd ac ewyllys Duw yw i bob dŷn yn y bywyd marwol darfodedig hwn, ymroddi i ryw waith honest duwiol, ac i bob dŷn wneuthur ei negessau ei hun a rhodio 'n inion yn ei alwedigaeth.
[Page 186] Dŷn, medd Iob, a aned i gymmeryd poen. Ac Iob. 5. 7. mae Iesu fab Sirach yn gorchymmyn ini na Eccle. 7. 14. chasaom waith poenus, nac hwsmonnaeth, ar fath eraill a greodd y goruchaf.
Mae 'r gwr doeth hefyd yn cynghori ini, Yfed dwfr o'n pydew ein hun, ac o'r ffrydau a fyddant yn rhedeg allan o'n ffynnon ein hun, gan feddwl Dichar 5. 15. wrth hynny y dlyem fyw ar boen ein gwaith ein hunain, ac nid ar boenau eraill.
Pan glywodd S. Pawl fod rhai ym-mysc y 2. Thes. 3. 7. Thessaloniaid yn byw yn anllywydraethus ac yn annhrefnus, hynny yw heb weithio dim, onid bod yn rhodresgar, heb ennil eu bywyd trwy ludded, ond gan fwyta 'n rhâd o lafuriau eraill, mae n' gorchymmyn i'r Thesaloniaid nid yn inig eu tynnu eu hunain oddiwrthynt, a pheidio a bod iddynt gymdeithas â'r fath ddynnion anllywodraethus, ond hefyd o byddai neb yn eu mysc hwy na waithiai, na byddai i hwnnw fwyta, na chael ei ymborth ar ddwylaw eraill.
A'r athrawaeth hon eiddo S. Pawl sydd a'i sail ar ordeinhad cyffredinol Duw, yr hon yw, y dlyai bawb drafaelu. Ac am hynny y dlai bawb vfyddhau iddi, ac ni ddichon neb yn gyfion ei ddieithrio eu hun oddiwrthi.
Ond pan ddywedir y dlyai bawb drafaelu, nid ydys yn meddwl hynny mor gyffyng a phe bai raid i bawb weithio â'u dwylo: ond fal y mae llawer math ar waith, megis gwaith y meddwl, gwaith y corph, a gwaith pob vn o'r ddau, felly y dylai bob dŷn (o ddieithr na allo ef drafaelu) er ennill i fywyd ei hun yn honest ac er budd i eraill hefyd, ymarfer mewn rhyw drafael honest, yn ol y galwedigaeth y gosododd Duw ef [Page 187] ynddi; fal pwy bynnac a wnelo les i'r wlad ac i gymdeithas dynnion, â'i ddiwydrwydd ac a'i drafael, pa vn bynnac ai gan lywodraethu 'r wlâd yn gyffredinol, neu gan fod mewn swyddau neu weinidogaethau cyffredinol, neu gan wneuthur vn peth cyffredinol anghenrhaid i'w wlâd, neu trwy gynghori a dyscu eraill, neu mewn pa beth bynnac y trafaelo, os bydd hynny buddiol i eraill, ni ddylaid cyfrif mo hwnnw 'n segur er na wnelo ef vn gwaith corphorol, na phallu o'i lunniaeth iddo, os gwilia fe ar ei alwedigaeth, er na weithio â'i ddwylo. Ni ofynner am i neb weithio gwaith y corph ac sydd o ran eu swydd a'u galwedigaeth yn gweithio gwaith y meddwl er budd a chymmorth i eraill.
Mae S. Pawl yn rhybyddio Timothi i ochelyd a gwrthod y gwragedd segurllyd y rhai nid ydynt (medd ef) yn vnig yn segur yn rhodio 'r tai oddiamgylch, eithr hefyd yn ofer-iaithus, ac yn rhodresgar, yn adrodd pethau anweddaidd.
Mae 'r Prophwyd Ezechiel wrth gyfrif pechodau 1. Timo. 4. 10. y Sodomiaid yn cyfrif seguryd yn vn o'r rhai pennaf. Wele, medd ef, hyn oedd anwiredd Ezech. 16. 36. dy chwaer Sodoma, balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd ynddi, y rhai hyn oedd yn Sodō ai merched, hynny yw y dinasoedd oeddynt ostyngedig iddi. Mae dinistr Erchyll. echrydus y ddinas honno a'r wlad o'i hamgylch, yr hwn a fu trwy dân a brymston a ddiscynnodd o'r nef, yn manegi yn eglur flined pechod yw seguryd, ac fe ddylai hynny ein rhybyddio ni i gilio rhagddo ac i gofleidio honestrwydd a phoen Duwiol.
Ond os ymrown i seguryd a diogi, gan grwydro yn ewyllysgar, a thraulo yn anllywodraethus, [Page 188] heb ymroi i vn gwaith honest, onid byw megis caccwn ar ffrwythau trafael rhai eraill, yno yr ydym yn torri gorchymmyn yr Arglwydd, ac yn cyfeiliorni oddi wrth ein galwedigaeth, ac yn cwympo i enbeidrwydd llid Duw a'i ddigofaint trwm ef, i'n distriw tragwyddol, oddieithr trwy etifeirwch droi o honom ni ailwaith at Dduw yn ddiffuant.
Mae 'r drygioni a'r melldithion a ddawant o seguryd cystadl i'r corph a'r enaid yn amlach nag y gellir mewn amser byrr eu cyfrif. Rhai o honynt a ddangoswn i chwi, fel wrth ystyried y rhai hyn y galloch yn haws adnabod y llaill o honoch eich hunain. Llaw segurllydd, medd Salomon, a fydd tylawd, ond llaw y rhai llafurus a'ucyfoethoga hwy. Ac ailwaith, Y neb a lafurio ei dîr a ddigonir o fara, ond y neb a ganlyno oferwyr, angall yw. Ac etto, Y diog yr hwn nid ardd o herwydd oerder y gauaf, aiff i gardotta 'r haf, y prydni Diar 10 4. Diar 12. 11. bidd dim ganddo ef.
Ond pa raid ini sefyll yn hir i brosi hyn, fod tylodi yn canlyn seguryd? Mae addysc amser gwedy dangos ini hynny yn rhy gwbl (fal y mae 'r trueni 'n dra mawr) yn y deyrnas hon, O herwydd Diar 20. 4. ni ellir haeru fod vn achos o'r aml gardotta sydd ymhlith y ran fwyaf o'r tylodion, yn gymmaint a seguryd ac yscaelusrwydd tadau amammau, y rhai ni ddygant eu plant i fynu nac mewn dŷsc dda, nac mewn llafurwaith honest, nac mewn vn gelfyddyd ganmoledig, trwy 'r hyn pan ddelent i oedran y gallent ennill eu bywyd.
Mae addysc amser beunydd yn dangos nad oes dim mor wrthwyneb ac mor enbaid i gorph dŷn ac yw seguryd, gormodd esmwythder a chyscu, [Page 189] ac eisiau trafaelu. Ond er bod y fath anfuddiau yn fawrion ac yn ddrygionus: etto am eu bod yn perthyn fwyaf at y corph a'r golud oddiallan, ni ellir eu cyffelybu hwy i'r aflwydd a'r drygioni sydd trwy seguryd yn digwyddo i'r enaid o'r rhai yr adroddwn ambell vn.
Nid ydyw seguryd yn vnig vn amser: ond mae iddi yn wastad gynffon hîr o faiau eraill yn glynu wrthi, y rhai a lygrant ac a ddifwynant ddŷn yn gwbl, fal y gwnair yn y diwedd na byddo ef ddim amgen onid clamp o bechod.
Llawer o ddrygioni (medd Iesu fab Sarach) Eccl. 33. 28. a ddaw o seguryd. Mae S. Barnard yn ei galw hi yn fam pob drygioni, ac yn llysfam pob rhinwedd, gan ddywedyd ym-mhellach ei bod hi yn darparu ac megis yn gwneuthur llwybr i dân vffern. Lle byddir gwedy derbyn seguryd vnwaith, yno y mae diawl yn barad yn waftad i roi ei droed i mewn, ac i blannu pob rhyw ddrygioni a phechod, i dragwyddol ddistryw enaid dŷn. Ac mae 'n Iachawdwr Christ yn traethu fod hyn yn wir, gan ddywedyd yn y 13 o Math. A thra 'r oedd y dynnion yn cyscu y daeth ei elyn ef, ac a hauodd Mat. 13. 25. efrau ymhlith y gwenith.
Yn wir gorau amser ac y ddichon diawl i gael i weithio ei ddichellion yw, pan fyddo dynnion yn cyscu, hynny yw pan fônt hwy yn segur. Yno y mae fe 'n trafaelu 'n galed ar ei waith, yno y dala ef ddynion gyntaf yn ei fagl distryw, yno y llanw efe hwy a phob anwiredd, i'w dwyn hwy, oni bydd espysawl ffaswr Duw, i gwblddistryw. Am yr hyn y mae gennym ddwy sampl odidawg fywiol ymlaen ein llygaid. Y naill ym-mrenin Dafydd yr hwn wrth aros gartrefyn segur, fal y traetha [Page 190] 'r scruthyr, ar yr amser yr elsai frenhinoedd eraill i'r rhyfel, fe ai twyllodd Sathan ef yn ebrwydd i ymwrthod a'r Arglwydd ei Dduw, ac i wneuthur dau bechod drymmion yn ei olwg ef, 2. Sam. 11. godineb a llofruddiaeth. Yr oedd y plaau a ganlynasant o hynny yn erchyll ac yn greulon, fal y gall y rhai a ddarllenant yr histori weled yn ddigon hawdd. 2. Sam. 12.
Y sampl arall sydd am Samson, yr hwn yr hyd yr oedd ef yn rhyfela yn erbyn y Philistiaid, gelynnion Barn▪ 16. 18. pobl Dduw, ni allwyd dala na Gorchfygu. gormeilio mo hono: Ond yn ol rhoddi o hono ei hun i esmwythder a seguryd, Ni wnaeth ef yn vnig oddineb gyda 'r buttain Dalila, ond fe a'i daliodd ei elynnion ef hefyd, fe a dynnwyd ei lygaid ef yn druan, fe a ddodwyd mewn carchar, fe osodwyd i falu mewn melin, ac a wneuthpwyd yn watwargerdd i'w elynnion.
Os cwympodd y ddau hyn, a hwy mor odidawg gwyr, a Duw yn eu caru yn gymmaint, a chwedy eu cynysgaeddu a donniau godidawg nefol, y naill o brophwyliaeth ar llall o nerth; a'r fath wyr na allwyd eu gormeilio er ioed n'au gorescyn, trwy flinder, na thrwy boen, na thrwy drallod, os gorescynnwyd ac os cwympodd y fath wyr i bechodau trymmion, wrth eu rhoddi eu hunain dros ennyd bychan i esmwythder a seguryd, ac felly os derbynniasant am hynny blaau blin ar law Dduw: pa bechod, pa felldith, pa ddrygioni a pha blaau a ddylai y rhai sydd drwy eu hoesoedd yn eu rhoddi eu hunain yn hollol i esmwythder a seguryd, eu hofni am hynny?
Na thwyllwn mo honom ein hunain, ac na thybiwn na ddaw ond ychydig o ddrwg o fod heb [Page 191] wneuthur dim. O herwydd gair gwir yw hwn, fod yr hwn sydd heb wneuthur dim yn dyscu gwneuthur drwg.
Am hynny byddwn bob amser yn gwneuthur rhyw waith honest, fal na chaffo diawl ni 'n segur: mae fe'n wastad yn ei waith, ac nid yw yn segur dros vn ennyd: ond mae 'n rhodio 'n wastad i geisio ein llyngcu ni. Am hynny gwrth wynebwn ef a gwiliwn yn ddyfal mewn gwaith a gorchwyl, a gwnawn yr hyn sydd dda. O herwydd ni ddelir yn hawdd ym-maglau diawl yr hwn sydd yn ymarfer mewn gorchwylion honest.
Yn oldwyn dyn (trwy seguryd neu eisiau rhyw gelfyddyd honest i fyw erni) i dylodi a diffyg am bethau anghenrhaid, ni a welwn mor hawdd y dygir ef er mwyn ei ennill i ddywedyd celwydd, ac i wneuthur pob twyll, i dwyllo ei gymmydog, i dyngu anudon, i gaudystiolaethu, ac weithiau i ledratta a lladd, neu i arfer rhyw beth annuwiol arall, i geisio byw. Trwy 'r hyn y cyll ef yn gwbl nid yn vnig ei enw da, ei gymeriad honest, a'i gydwybod dda, ie ei fywyd hefyd: ond fe annog hefyd arno ei hun lid a digofaint Duw ac aml ac amrafael blaau trymmion eraill.
Welwch ymma ddiwedd dynion segurllyd diog, y rhai ni all ei dwylo ddioddefgwaith honest: colli eu henw a'u gair da, eu cymeriad, a'u bywyd yn y byd hwn, ac heb fawr drugaredd Duw, y mae yn ennill distryw tradwyddol yn y byd a ddaw.
Onid oes achos da wrth hynny i ochelyd ac i ymgadw rhag seguryd, gan fod y rhai a'i cofleidio, ac ai canlyno hi, onid odid yn cael am eu hyfryd seguryd, anhyfrydwch chwerw sur? Yn ddiammau gan fod gwyr da duwiol yn ystyriaid y mawr [Page 192] a'r aml ddrygau a ddigwydd i wledydd o blegid seguryd, hwy a ddarparasant ac a wnaethant o amser i amser yn ddiescaelus gyfraithiau tost difrif, i geryddu a gwella y bai hwn.
Yr oedd gan yr Aiphtiaid gyfraith ar i bob dŷn ddyfod a'i enw bob wythnos at Lywydd pennaf y wlad, a manegi yno pa gelfyddyd a arferai ef, o fwriad ar gospi seguryd yn ol ei haeddiant, a gobrwyo poen ddyfal yn ddyledus?
Ni cheryddai yr Atheniaid bobl segurllydd ddiog ddim yn llai na'r rhai a wnaent faiau mawrion trymmion, gan ystyriaid (fal y mae 'r gwirio nedd) fod seguryd yn gwneuthur llawer o ddrygioni. Fe fynnai 'r Areopagitiaid gyfrif manol o'i fywyd gan bob dŷn. Os caent hwŷ rai segurllyd heb wneuthur lles i'r wlad mewn rhyw fodd neu gilydd, hwy a yrrid allan ac a Aethwladid ddeolid. alltudid. afwladid megis aelodau anfuddiol, y rhai a waethent ac y lygrent y corph.
Ac fe wnaethpwyd yn y deyrnas hon lawer o gyfraithiau duwiol da yn fynych, na bai oddef crwydrddynion segurllyd, na gwibwyr ofer, i fyned o dref i dref, ac o le i le, heb gospi, am na wasanaethent na Duw neu tywysog, ond a lyncant ffrwythau melus lludded rhai eraill, gan eu bod onid odid yn gelwyddog yn feddwon, yn dyngwyr, yn lladron, yn buttein-wyr, yn llofruddiaid, yn gwrthod pob llafur honest, heb eu rhoddi eu hunain i ddim amgen ond i ddychymmyg drygioni, i'r hyn y maent yn chwannoccach ac yn fwy eu hawydd na 'r llew i'w ysclyfaeth.
I wella y drygioni hyn, dyged pob tadau a mammau ac eraill y rhai sybd a gofal a llywodraeth ieuengtyd arnynt, hwy i fynu mewn dŷsc dda, [Page 193] mewn trafael a rhyw gelfyddyd, fal y gallont ar ol hyn nid yn vnig gael eu lluniaeth yn ddigonol, ond cynorthwyo a chyflawni anghennau a dyffygion eraill hefyd.
Ac medd Sanct Paul, yr hwn a ledrattaodd na ledratted mwy, eithr cymered boen yn hytrach yn gweithio a'i ddwylaw y peth sydd dda, fel y byddo Ephes. 4. 28. gantho beth i'w gyfrannu i'r anghenog. Mae 'r Prophwyd Dafydd yn tybied mai gwynfŷd yr hwn y fyddo 'n byw ar ei lafur, Canys, medd ef, mwynhei lafur dy ddwylo, gwyn dy fyd a da Psal. 128. 2. fydd it.
Mae 'r gwynfyd a'r bendith hyn yn sesyll yn y pyngciau hyn a'r fath eraill.
Yn gyntaf, fal y dywaid Salomon, rhodd Eccl. 3. 13. Duw yw i wr fwyta ac yfed a mwynhau llafur ei ddwylo.
Yn ail, pan fyddo gŵr yn byw ar ei lafur ei hun (os bydd ef honest a da) mae 'n byw arno mewn cydwybod dda. A thresor an-nhraethadwy yw cydwybod inion.
Yn drydedd mae fe yn bwyta ei fara heb ymryson ac ymdaeru ond yn esmwyth ac yn llonydd, pan fyddo ef yn llafurio yn llonydd am dano, yn ol rhybydd S Paul.
Yn bedwaredd nid yw ef gaeth i neb am ei fwyd, ac nid rhaid iddo er mwyn hynny orbwyso ar ewyllys da neb, ond mae fe felly 'n byw ar yr eiddo, fal y gall ef roi rhan i eraill hefyd.
Ac yn ddiwethafmae 'r llafurwr a'i dylwyth yr hyd y byddont yn trafaelu 'n galed ar eu gwaith, yn rhyddion oddiwrth lawer o brofedigaethau, ac achosion pechod, y rhai y mae y dynion sydd yn byw yn segur mewn perigl o honynt.
[Page 194] Ac ymma y dyle grefftwyr a gwaithwyr y rhai a weithiant ac a lafuriant am eu Cyflog. hur, ystyried eu cydwybod tu ac at Dduw, a'u dlyed tu ac at eu cymydog, na chamdreuliont eu hamser mewn seguryd, gan dwyllo y rhai sydd mewn cost fawr wrth dalu yn brid am fwyd a chyflog. Mae 'n hwy yn wir yn waeth nâ dynnion segur, am eu bod yn gofyn cyflog dros fod yn segur. Llai o berigl ger bron Duw yw bod yn segur heb ddim ennill, nâ thrwy seguryd ennill o godau eu cymydogion gyflogau am y pethau nis haeddasant.
Gwir yw fod yr hollalluog Dduw yn ddig wrth y rhai a dwyllant gyflog-ddynion o'n cyflog. Mae gwaedd y camwedd hwnnw yn escyn i fynu gerbron Duw am ddial. Ac mor wir yw fod cyflogddŷn a wnel dwyll yn ei waith yn lleidr ger bron Duw. Na fydded i neb medd S. Pawl dwyllo ei frawd, canys yr Arglwydd sydd ddialudd ymmhob cyfryw beth. 1. Thes. 4. 6.
Am hynny yr hwn a ewyllysia bod a chydwybod dda tu ac Dduw, y gwaithwr hwnnw, meddaf, yr hwn sydd yn sefyll yn vnig ar râd Duw, yr hwn sydd yn rhoddi digon iddo i fyw, treulied ei amser mewn gwaith ffyddlon, a phan orffo arno beidio a gweithio o blegid clefyd neu ryw wrthwyneb arall, etto gwybydded am iddo ef yn ei iechyd wasanaethu Duw a'i gymydog yn gywirna bydd eisiau arno yn amser anghenrhaid. Am fod Duw yn edrych ar ei ffyddlondeb ef yn ei iechyd, fe a'i gobrwya ef mewn prinder, gan gyffroi calonnau dynnion da i gynnorthwyo y fath ddŷn a fo gwedy adfeilio mewn clefyd. Ac o'r ystlys arall beth bynnac a eniller drwy seguryd, ni bydd ffrwyth ynddo i nerthu pan fo rhaid.
[Page 195] Am hynny gocheled y gwaithwr y bai hwn, seguryd a thwyll, gan gofio fod S. Paul yn rhybyddio pawb i osod heibio bob twyll rhagrith a Ephes. 4. 25. chelwydd, a dywedyd gwirionedd ac iniondeb wrth eu cymydogion, canys, medd ef, aelodau ydym i'w gilydd, yn vn corph dan vn pen, yr hwn yw Christ ein Iachawdwr.
Ac ymma y gellid rhybyddio gweision gwyr mawr o fewn y deyrnas hon, y rhai a dreuliant eu hamser mewn seguryd mawr, heb ystyried yr amser cyfaddas, gan anghofio nad yw gwasanaeth yn etifeddiaeth, ac yr ymlusca oedran arnynt. Lle byddai ddoethineb iddynt dreulio eu hamser mewn rhyw boen dda, fal y gallai eu gwybodaeth hwy gynnyddu, ac felly y gallent hwyntau fod yn barottach i wasanaeth pob gŵr. Bai mawr arnynt yw, na cheisiant ddyscu scrifennu 'n dêg, i gadw llyfr cyfrif, neu ddyscu iaithoedd, ac felly cael doethineb a gwybodaeth yn y fath lyfrau a gweithredoedd ac sydd gwedy eu printio yn awr yn aml ym-mhob iaith.
Ystyried gwyr iauaingc bris gwerthfawr eu hamser, ac na threuliant ef mewn seguryd, coegedd, chwareu, cyfeddach a chwmpniaeth oferddynion. Nid yw ienengctyd ond oferedd, a rhaid yw rhoi cyfrif ger bron Duw am dano, er mor llawen a hyfryd a fyddych yn dy ieuengctyd. Gwna yn llawen wr ieuangc, medd y pregethwr, yn dy Pregeth. 11. 9. ieuengtid, a llawenyched dy galon yn amser dy ieuengctid: rhodia yn ffordd dy galon ac yn ol trachwantau dy lygaid, ond gwybydd y geilw Duw ei hun di i'r farn am hyn oll.
Duw o'i drugaredd a osodo ynghalonnau a meddyliau y rhai sydd a chleddyf cosp yn eu dwylo, [Page 196] neu sydd a thylwyth dan eu llywodraeth, drafaelu i ddiwygio beiau mawrion pawb ac sydd yn byw yn segurllyd ac yn anfuddiol yn y wlad, i fawr ddianrhydedd Duw a phlaau trymmion ei bobl druain ef. Nid yw gadel pechod heb gospi ac escaeluso dwyn i fynu ieuengctid, ddim amgen onid enynnu llid Duw yn ein herbyn, a chynull plaau ar ein pennau.
Yr hyd y goddefwyd y bobl oddinebus i fyw yn ddrythyll heb eu ceryddu, yr hyd hynny y parhaodd ac y cynnyddodd y pla yn Israel, fal y gellwch weled yn llyfr y Rhifedi. Ond pan gospwyd hwy, yn y man yr attaliwyd y plâ. [...]umeri. 25 8.
Synned am hynny bob swyddog ar yr hyn a orchymynnir iddo. Gwellhaed perchen tai y camarferon hyn yn eu tylwyth. Arferant yr awdurdod a roddodd Duw iddynt, na faenteiniant wibwyr a dynnion segurllyd, ond rhyddhant y wlad a'u tylwyth o'r fath segurwyr drygionus, fal yn ol tynnu ymmaith seguryd mam pob drygioni, y trotho 'r holl-alluog Dduw ei erchyll lid oddiwrthym ac y cadarnhao ef ammod ei heddwch arnom ni 'n dragywydd, drwy haeddiant Iesu Grist ein vnig Arglwydd a'n Iachawdwr, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glân y byddo holl anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
¶ Pregeth am etifeirwch, neu wir gymmodi a Duw.
NId ydyw yr Yspryd glân yn llafurio 'n fwy am ddim yn yr holl scruthyrau nag am faeddu i bennau dynnion etifeirwch, gwella eu bywyd a throi yn ebrwydd at Arglwydd Dduw y lluoedd.
Ac nid rhyfedd paham. O blegid yr ydym ni bob dydd a phob awr trwy ein drygioni a'n anufydd-dod cyndyn yn cwympo 'n erchyll oddiwrth Dduw, gan bwrcasa trwy hynny ini ein hunain (pe gwnai Dduw a ni yn ol ei gyfiawnder,) dragwyddol ddamnedigaeth. Fel nad oes vn athrawaeth mor anghenrhaid yn eglwys Dduw, ag yw athrawaeth etifeirwch, a gwellhâd bywyd. Ac yn wir fe a gydsylltodd gwir bregethwyr efengyl teyrnas nef a newyddiau llawen llewyrchus Iechydwriaeth, yn eu holl bregethau duwiol i'r bobl, y ddau hyn ynghŷd, etifeirwch a maddauant pechodau: fel yr appointiodd ein Iachawdwr Iesu Grist ei hun, gan ddywedyd. Rhaid oedd i Grist ddioddef, a Luc. 14. 46. chyfodi o feirw y trydydd dydd, a phregethu etifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef ymmhlith y cenhedloedd oll.
Ac am hynny y mae 'r Apostol yn yr Actau yn Act. 20. 21. dywedyd fal hyn, Chwi a wyddoch destiolaethu o honof i'r Iddewon ac i'r Groegiaid hefyd, yr edifeirwch yr hwn sydd yn-Nuw, a'r ffydd yn ein Harglwydd Iesu Grist. Ac oni ddechreuodd Ioan fedyddwr Mab Zacharias ei wenidogaeth ag athrawaeth edifeirwch, gan ddywedyd, Edifarhewch Math 32. [Page 198] canys daeth teyrnas nefoedd yn agos?
Yr vn fath a thrawaeth a bregethodd ein Iachawdwr Mat. 3. 2. Christ ei hun ac a orchymmynnodd ef i'w Apostolion ei phregethu. Mat. 4. 17.
Mi a allwn ymma osod llawer o leoedd o'r Prophwydi yn y rhai yr addyscir yn dra difrif yr athrawiaeth iachus hon o edifeirwch, megis y peth anghērheitiaf i bob grâdd o ddynniō: ond vn a fydd digon ar hyn o bryd. Dymma eiriau y Prophwyd Ioel, Ond yr awr hon medd yr Arglwydd, dychwelwch attafi â'ch holl galon, mewn ympryd mewn wylofain acmewn galar. A rhwygwch eich Ioel. 2. 12. 13. calonnau ac nid eich dillad ac ymchwelwch at yr Arglwydd eich Duw: o herwydd graslawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig i ddigofaint ac aml o drugaredd ac edifeiriol am ddrwg. Trwy 'r hyn y deallwn fod gwedy rhoddi ac apointio ini reol dragwyddol yr hon a ddylaid ei chadw a'i chynnal bob amser, Nad oes vn fordd arall i esmwytho digofaint Duw nac i laryeiddio ei lid ef, nac i droi heibio oddiwrthym nac i ochelyd creulondeb ei lid ef, a'r plaau a'r distryw y rhai trwy ei inion farn a appointiodd ef eu dwyn arnom.
Lle mae fe 'n dywedyd, Ond yn awr medd yr Arglwydd trowch attaf fi nid heb achos mawr y mae 'r Prophwyd yn dywedyd felly. O herwydd darfod iddo o'r blaen osod allan yn halaeth echrydus ddial Duw yr hwn ni allai neb ei aros am hynny y mae 'n eu cyffro hwy i edifeirwch fel y mwynhaent drugaredd: megis pe dywedasai, Ni fynnaf i chwi gymmeryd hyn fal pe na byddai ddim gobaith am râs: o blegid er i chwi haeddu am eich pechodau eich distrywio 'n gwbl, ac er i Dduw yn ei gyfion farn ordeinio danfon arnoch [Page 199] ddistrŷw mawr: etto yn awr a chwi haechen ar fin y cleddyf, os trowch chwi yn ebrwydd atto ef, fe a'ch derbyn chwi yn fwyn ac yn dirion iawn i'w ffafor ail waith.
Trwy hyn y'n rhebyddir ni nad yw edifeirwch vn pryd yn rhy hwyr, os bydd gwir a difrif. O blegid am fod yn galw Duw yn yr scruthyrau yn Dâd ini, yn ddiammau mae fe 'n dilyn natturiaeth a chyneddfau tadau mwyn trugarog, y rhai ni cheisiant ddim yn gymmaint a throad a gwellhâd eu Luc. 15. 11. plant, fal y mae Christ yn dangos yn halaeth ynnammeg y mab afradlon. Onid yw yr Arglwydd ei hun yn dywedyd trwy y Prophwyd, Na fyn ef farwolaeth pechadur onid troi o hono oddiwrth ei Ezec. 18. 23. Esai. 1. 17. anwiredd a byw. Ac mewn lle arall, Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn fel y maddeuo ini ein pechodau ac y'n glanhao ni 1. Ioan. 1. 9. oddiwrth bob anwiredd.
Ac fe gadarnheuir yr addewidion diddanus hyn trwy lawer o siamplau 'r scruthyrau. Pan dderbynnodd yr Iddewon a phan gafleidiasant hwy yn ewyllysgar gyngor iachus y Proph wyd Esai, fe a estynnodd Duw yn y man ei law i'w cymmorth Esa. 37 36. hwy, a thrwy law ei Angel fe a laddodd mewn vn noswaeth y milwyr gwrolaf dewraf yn llu Senacherib. At yr hyn y gellir cyssylltu Manasses, yr hwn yn ol pob rhyw ddrygioni melldigedig a drodd at yr Arglwydd ac efe a wrandawodd arno, ac a'i adferodd ef i'w frenhiniaeth ailwaith. Yr vn gras a ffafor a gafodd y wraig bechadurus Magdalen, Zacheus, y lleidr truan, a llawer eraill.
Yr holl bethau hyn a allant wasanaethu yn lle 2. Cro. 3. 13. ddiddanwch ini, yn erbyn profidigaeth ein cydwybodau, [Page 200] trwy y rhai y mae diawl yn ceisio yscydwyd neu yn hytrach ddiddymmu ein ffydd ni. O herwydd fe ddylai bob vn honom gymmeryd hyn atto ei hun a dywedyd, Etto tro yn awr at yr Arglwydd ac na phared coffadwriaeth dy fywyd o'r blaen i ti lwfrhau, ie po gwaethaf fu dy fywyd bydded dy edifeirwch a'th ymchwelad dithau difrifach a gwresoccach ac yn y man y cei di weled clustiau 'r Arglwydd yn agored i'th weddiau.
Ond synnwn yn ddifrifach ar orchymmyn yr Arglwydd ynghylch y peth hyn. Trowch attaf, medd ef trwy y Prophwyd Ioel, a'ch holl galonnau, mewn ympryd, wylofain a galar. Rhwygwch eich calonnau ac nid eich dillad. Yn y geiriau hyn mae fe 'n cynnwys pob peth a ellir ei ddywedyd am edifeirwch. Yr hwn yw troad yr holl ddŷn at Dduw, odd wrth yr hwn y cwympodd ef trwy bechod.
Ond er mwyn gallel o honom yn well ddwyn gydâ ni ystyr yr holl draethawd, ni a ystyriwn yn gyntaf mewn trefn bedwar o brif byngciau: hynny yw, Oddiwrth ba beth y mae 'n rhaid ini droi, At bwy y mae 'n rhaid ini droi, A thrwy bwy y gallwn ni droi, A pha fodd y dylem droi at dduw. Yn gyntaf, o ba le neu oddiwrth ba bethau y mae 'n rhaid ini droi. Yn wir rhaid ini droi oddiwrth y pethau trwy y rhai y 'n attaliwyd, y'n tynnwyd, neu y'n arweinwyd ni oddiwrth Dduw, a'r rhai hyn yn gyffredinol yw ein pechodau ni, y rhai fal y testiolaetha y prophwyd sanctaidd Esai sydd yn yscar rhwng Duw a ninnau, ac yn cuddio ei wyneb ef oddiwrthym, fal Esai 59. 2. na wrandawo arnom. Ond dan enw pechodau y cynhwysir nid yn vnig y geiriau a'r gweithredoedd anfad y rhai a gyfrifir wrth gyffredin farn [Page 201] dynion yn frynton ac yn anghyffraithlon ac felly yn bechodau ffiaidd; onid hefyd gwyniau aflan a chwantau 'r cnawd oddifewn, y rhai, fel y dywaid S. Paul, a wrthhyfelant yn erbyn ewyllys Ruf. 7. ac Yspryd Duw, ac am hynny a ddylaid yn ddifrif eu ffrwyno a'u cadw yn isel. Rhaid ini edifaru am gau opinionau Amryfys. camsynnus, a fu gennym ni am Dduw, a'r ofergoel melldigedig sydd yn tyfu o hynny, sef addoli a gwasanaethu Duw yn anghyfraithlon a'r fath bethau eraill. Rhaid i'r rhai a wir droant at yr Arglwydd ac a edifarhant yn inion, ymwrthod â'r holl bethau hyn. O herwydd am fod llid Duw yn cwympo o blegid y pethau hyn ar blant anufydd-dod, nid gwiw edrych am ddiwedd cosp, yr hŷd y bydo y pethau hyn yn Ephes. 5. 6. parhau ynom. Am hynny y condemnir ymma y rhai a ddangosant eu bod yn bechaduriaid edifeiriol, ac er hynny nid ymadawant a'u delw-addoliaeth a'u hofergoel. Yn ail rhaid yw ini edrych at bwy y dylem droi. Reuertimini vs (que) ad me, medd yr Arglwydd, hynny yw, Trowch hyd attafi. Rhaid yw ini am hynny droi at yr Arglwydd, ie rhaid ini droi atto fe yn vnig, o herwydd efe yn vnig yw 'r gwirioned a ffynnon pob daioni. Ond rhaid ini ymegnio i droi hyd atto ef, ac na orphwysom ni, ac nac arhossom chwaith, nesi ni ei gyrhaeddyd ef a chaell gafael ynddo. Ond rhaid yw gneuthur hyn trwy ffydd. O herwydd am fod Duw yn Yspryd ni ellir mewn vn ffordd amgen ei gyrhaeddyd ef na chaell gafael ynddo.
Am hynny yn gyntaf maent hwy mewn amryfysed mawr y rhai ni throant at Dduw ond at y creaduriaid neu at ddychymygion dynion, neu at eu haeddiant eu hunain.
Yn ail y camsynna y rhai a ddechreuant droi at [Page 202] yr Arglwydd ac a lewygant am hanner y ffordd cyn y delont at y marc a osodwyd iddynt.
Yn drydydd, am nad oes gennym ddim o honnom ein hunain i anrhegu Duw, a'n bod mor barod i gilio oddiwrtho yn ol ein cwymp ac oedd ein hendâd Addaf, yr hwn gwedy iddo bechu a geisiodd ymguddio o olwg Duw; rhaid yw ini wrth gyfryngwr i'n dwyn atto, i'n cymmodi ni ag ef yr hwn sydd ddig wrthym am ein pechodau. Iesu Grist yw 'r cyfryngwr hwnnw, yr hwn ac yntef yn wir fâb naturiol Duw, gogyfuwch ac o vn annian â'i Dad, a gymmerodd arno ar yr amser gosodedig, ein nattur wael ni ynghroth y fendigedig forwyn, a hynny o'i sylwedd anllygredig hi, fal y byddai ef cyfryngwr rhwng Duw a ninnau ac y llynyddai ei lid ef.
Am dano efe y mae 'r Tâd ei hun yn llafaru Math. 3. 17. o'r nef gan ddywedyd, Hwn yw fy anwyl fâb yn yr hwn y'm bodlonwyd. Ac mae fe ei hun yn yr efengil yn gweiddi gan ddywedyd, myfi yw y ffordd a'r gwirionedd a'r bywyd. Nid yw neb yn dyfod at y Tâd ond trwyof fi. O herwydd efe Iohn 14. 6. yn vnig, ag aberth ei gorph a'i waed a wnaeth iawn i gyfiawnder Duw am ein pechodau ni. Ac mae 'r Apostolion yn testiolaethu i Dduw ei dderchafu ef, i roddi etifeirwch i Israel a maddeuant 1. Iohn 2. 2. 1. Pet. 1. 19. Act. 5. 31. o'u pechodau. Y ddau beth hyn a orchymynnodd ef ei hun eu pregethu yn ei enw ef. Am hynny mae y rhai a bregethant edifeirwch heb Grist i'r disyml a'r rhai sydd heb wybodaeth, gan ddyscu ei bod yn sefyll yn vnig mewn gweithrredoedd dynnion, mewn amryfysedd mawr. Maent hwy yn wir yn adrodd llawer o bethau am weithredoedd da, am wellhâd bywyd ac aferon, [Page 203] ond heb Grist nid ydynt oll ond ofer ac anfuddiol.
Mae 'r rhai sydd yn tybied iddynt wneuthur llawer tuag at etifeirwch, o gymmaint a hynny ymmhellach oddiwrth Dduw, am eu bod yn ceisio yn eu haeddiant a'u gweithredoedd eu hunain y pethau a dylaid eu ceisio yn ein Iachawdwr Iesu Grist yn vnig, ac yn haeddiant ei farwolaeth ef, ei ddioddeifaint a thywalltiad ei waed ef.
Yn bedwaredd, mae 'r prophwyd sanctaidd hwn Ioel yn dangos yn eglur, pa fodd y dylaid troi neu etifaru, gan gynnwys yr holl bethau ac a ellir eu hystyried ymma oddi mewn neu oddiallan.
Yn gyntaf, fe a fyn ini droi at Dduw ân holl galonnau: trwy 'r hyn y mae fe 'n tynnu ymmaith ac yn troi heibio bob rhagrith, rhag gallu Esai 29. 13. dywedyd hyn yn gywir wrthym ni, Y bobl hyn sydd yn nessau attaf â'u geneuau ac i'm anrhydeddu a'u gwefusau, a phellau eu calon y maent oddiwrthyf.
Yn ail, mae fe 'n gofyn gwir a phur gariad tuag at Dduwioldeb a thuag at wir anrhydedd a gwasanaeth Duw, hynny yw bod i ni ymwrthod â phob peth ac sydd wrthwyneb ac yn erbyn ewyllys Duw, a rhoddi ein calonnau iddo ef a holl nerth ein cyrph a'n eneidiau, yn ol yr Deut. 6. 5. hyn a scrifennir yn y gyfraith, Ti a geru yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon â'th holl enaid, ac â'th holl nerth.
Ni adewir am hynny ini ddim ymma i'w roddi i'r byd ac i wyniau 'r cnawd. O herwydd mai y galon yw ffynnon ein holl weithredoedd ni, mae cynnifer ac sydd yn troi at yr Arglwydd [Page 205] â'u holl galon yn byw yn vnig iddo ef. Ac nid oes neb yn etifaru yn gywir sydd yn cloffi o'r ddau ystlys, ac weithiau yn gwasanaethu Duw, ond etto a dybygant fod yn gyfraithlon iddynt yn y man wasanaethu 'r byd a'r cnawd.
Ac o herwydd bod llygredigaeth naturiol ein cnawd ein hunain, a'i wyniau drygionus ef, yn ein rhwystro ni, mae fe yn gorchymmyn ini hefyd droi trwy ympryd: nid gan ddeall wrth hynny ryw ofergoelus ymmattal a dewis bwydau, ond gwir geryddu a dofi y cnawd, trwy yr hyn y tynnir ymmaith oddiwrtho ymborth gwyniau bryntion a rhyfig a balchedd cyndyn.
At ympryd y mae fe'n cydsylltu wylo a galaru, y rhai a gynhwysant yndynt bob argoel etifeirwch oddi allan, ac anghenrhaid iawn ydynt, megis felly y gallom o ran osod allan gyfiawnder Duw, wrth ein bod trwy hynny yn cyfaddef ein bod yn haeddu cosp ar ei law ef; ac o ran er attal y rhwystr a roesom ni yn gyhoedd i'r gweiniaid. Fe welodd Dafydd hyn yn ddifai, yr hwn nid oedd ddigon gantho wylo a galaru yn ddirgel am ei bechodau, Psal. 25. at 35. at 51. at 393. at 143. ond hefyd yn ei Psalmau 'n gyhoedd fe fynegai ac osodai allan gyfiawnder Duw yn cospi pechod, ac a attaliai felly y rhai allasent gamarfer ei siampl ef i bechu yn Hyfach. eofnach. Am hynny mae y rhai ni wnânt na chyfaddef a chydnabod eu pechodau na galaru amdanynt, ond yn hytrach a ymogoneddant ac a lawenychant yn anuwiol ynddynt, ym-mhellaf o gwbl oddiwrth wir etifeirwch.
Bellach rhag tybied o neb fod edifeirwch yn sefyll yn vnig mewn wylo a galaru oddiallan, mae fe'n adrodd y peth y mae 'r cwbl yn sefyll arno, [Page 206] pan ydyw yn ydywedyd, Rhwygwch eich calonnau ac nid eich dillad a throwch at yr Arglwydd eich Duw. O blegid arfer pobl y dwyrain oedd rwygo eu dillad pan ddigwyddei ddim anrhaith ei oddef iddynt. A hyn a ddynwaredai ac a ganlynai 'r hypocritiaid ryw amser, megis pe bai etifeirwch cwbl yn sefyll yn y fath ymddygiad oddiallan. Am hynny mae fe yn dangos fod yn gofyn ganddynt ryw beth arall, hynny yw, fod yn rhaid iddynt fod a'u calonnau gwedy eu rhwygo, fod yn rhaid iddynt ddygyn-gashau a ffieiddio pechodau, a chan ymwrthod â hwy yn gwbl rhaid iddynt droi at yr Arglwydd eu Duw, oddiwrth yr hwn yr aethant o'r blaen ymmaith. O herwydd nid y Ceremoni oddiallan a fodlona Duw, ond gofyn y mae ef galon ddrylliedig gystuddiedig yr hon ni ddistyra ef byth, fal y Psal. 51. 17. testiolaetha y prophwyd Dafydd. Wrth hyn ni wasanaetha y Ceremoniau oddiallan i ddefnydd yn y byd ond cy belled ac y maent yn ein cyffroi ni, a chy belled ac y gwasanaethant i ogoneddu Duw, ac i adail eraill.
Yn awr mae fe 'n cydsylltu a'r athrawaeth a'r annogaeth hon ryw resymmau duwiol, y rhai y mae fe 'n gosod eu sail ar nattur a chynneddfeu Duw, a thrwy y rhai y mae fe 'n dangos na ddichon gwir edifeirwch fod yn anfuddiol nac yn anffrwythlon. O herwydd megis ymhob peth arall y gloesa ac y llewyga calonnau dynnion os gwybyddant eu bod yn llafurio 'n ofer: felly hefyd yn enwedig yn y peth hyn, rhaid ini ochelyd na oddefom ein perswado nad yw 'r cwbl yr ydym ni yn ei wneuthur onid colli 'n poen. O herwydd o hynny y cyfyd naill ai anobaith disymmwth, [Page 210] ai rhyfygus Hyfder. eofnder i bechu, yr hyn hefyd yn y diwedd sydd yn tywys i anobaith.
Am hynny rhag digwydd iddynt y cyfryw beth, mae fe yn eu siccrhau hwy o râd a daioni Duw, yr hwn sydd yn barod i dderbyn i'w ffafwr ailwaith y rhai a droant yn ebrwydd atto. Yr hyn y mae 'n ei Brofi. brwfo â'r teitlau, a'r enwau, â'r rhai y mae Duw yn ei ddescribio ei hun ac yn ei osod allan wrth Moeses gan ddywedyd yn y modd ymma: O herwydd graslawn a thrugarog yw efe, hwyrfrydig, i ddigofaint ac aml o drugaredd, ac edifeiriol Exod. 34. 6. am ddrwg. Yn gyntaf mae yn ei alw ef yn raslawn, cyfryw vn ac o'i nattur ei hun sydd barottach i wneuthur daioni nac i gospi. At yr hyn y mae 'n debyg fod ymadrod Esai yn perthyn, Gadawed y drygionus ei fford, a'r gwr anwir ei Esa▪ 55. 7. amcanion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, o herwydd mae fe 'n barod iawn i faddeu.
Yn ail mae fe 'n dangos ei fod ef yn drugarog, neu yn hytrach, ynol y gair Hebrew, ymyscaroedd trugaredd: trwy 'r hyn yr ar wydocceir serch naturiol tadau at eu plant. Yr hyn y mae Dafydd yn ei osod allan yn dda iawn gan ddywedyd, fel y tosturia tâd wrth ei blant y tosturiodd Psal. 103. 13. yr Arglwydd wrth y rhai a'i hofnant ef: canys fe adwaene ein defnydd ni, cofiodd mai llwch oeddem ni. Yn drydydd, mae fe 'n dywedyd ei fod ef yn hwyrfrydig i lid, hynny yw, yn dda ei ammynedd, ac nid annogir yn hawdd i lid.
Yn bedwaredd, ei fod ef yn aml o drugaredd: o herwydd efe yw ffynnon ddiwaelod pob daioni, yr hwn sydd yn llawen gantho wneuthur daioni i ni. O'r achos hyn y creodd ac y gwnaeth ef [Page 211] ddynion er mwyn cael o hono rai i wneuthur daioni iddynt, ac i'w gwneuthur yn gyfrannogion o'i gyfoeth nefol.
Yn ddiwethaf, mae fe yn etifeiriol am ddrwg, hynny yw, mae fe 'n galw yn ol y gosp a fygythodd pan welo ef dynion yn edifaru, yn troi, ac yn gwellhau. Am hynny nid heb achos cyfion yr Nouatiani▪ ydym ni yn cashau ac yn ffieiddio opinionau melldigedig y rhai a geifiant yn annuwiol berswado 'r disyml a'r bobl ddiwybod, os digwydda ini yn ol dyfod vnwaith at Dduw a'n himpo yn ei fâb ef Iesu Grist, gwympo i ryw bechod erchyll, na bydd edifeirwch ond anfudd ol ini, nad oes mwy obaith cymmod, na chael ein derbyn ailwaith i ffafwr a thrugaredd Duw. Ac er rhoi lliw gwell ar eu hamryfysedd enbaid echryslon, hwy a arferant roi trostynt y chweched ar ddegfed bennod o'r epistol at yr Hebreaid, a'r ail bennod o ail epistol Petr, heb ystyriad nad yw yr apostolion yno 'n dywedyd am ein cwympau beunyddol ni, i'r rhai yr hyd y dygom gydâ ni y corph hwn o bechod, yr ydym ni yn gaethion: ond am gwympo oddiwrth Grist a'i efengyl yn llwyr ac yn gwbl, yr hyn sydd bechod yn erbyn yr Yspryd Mat. 12. 13. Marc. 3. 28▪ glân, yn hwn ni faddeuir byth: am fod y cyfryw yn cwbl ymwrthod â'r hyn a wyddant ei fod yn wir, ac yn cashau Christ a'i air, maent yn ei groshoeli ac yn ei waiwar ef (i'w distryw annherfynol) ac am hynny yn cwympo i anobaith, ac edifarhau nis gallant.
Ac mai hyn yw gwir ystyr glân Yspryd Duw, mae 'n eglur wrth lawer o leoedd o'r scruthyrau y rhai a addawant i'r holl bechaduriaid gwir edifeiriol, ac i'r rhai a droant at yr Arglwydd eu duw [Page 212] â'u holl galon, bardwn rhâd a maddeuant o'u pechodau. Er Profi. prwfo hynny, fal hyn y darllen wn, Israel, medd y prophwyd sāctaidd Ieremi; os troi di tro attaf fi medd yr Arglwydd: hefyd os rhoi heibio Ierem. 4. 1. dy ffiaidd-dra oddiger fymron, yna ni'th symmudir. Drachefn, geiriau Esai yw y rhai hyn, Gadawed y drygionus ei ffordd, a'r gwr anwir ei amcanion, a dychweled at yr Arglwydd, ac efe a gymmer drugaredd arno, ac at ein Duw ni, o herwydd'y mae fe 'n barod iawn i faddeu. Ac mae 'r duwiol yn y prophwyd Osee yn annog y naill y Osea. 6. 1. llall yn y modd ymma, deuwch a dychwelwn at yr Arglwydd canys efe a sclyfaethod, ac efe a'n iachâ ni, efe a darawodd, ac a'n meddyginiaetha ni.
Eglur a golau yw, y dylaid de all hyn am y rhai a fuasent gydâ 'r Arglwydd vnwaith, ac a aethent oddiwrtho ef trwy eu pechodau a'u hanwireddau. O herwydd nid troi yr ydym at yr hwn ni buom gydag ef o'r blaen, ond yn hytrach dyfod yr ydym atto. Ond i bawb a droant at yr Arglwydd eu Duw yn ddiffuant y cynnygir yn hael ffafwr a thrugaredd Duw, er maddeuant o'u pechodau. O hyn y canlyn o anghenrhaid er i ni yn ol ein dyfod at Dduw a'n himpo yn ei fab ef Iesu Grist, Eccl. 7. 20. gwympo i bechodau mawrion, (o herwydd nid oes gwr cyfion ar y ddaiar yr hwn ni phecha, ac os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein 1. Ioan. 1. 8. twyllo ein hunain a'r gwirionedd nid yw ynom.) etto os cyfodwn ni ailwaith trwy edifeirwch, ac os â chyflawn frŷd ar wellau ein bywyd y ciliwn at drugaredd Duw, gan gymmeryd gafael siccr erni trwy ffydd yn ei fâb ef Iesu Grist, yno y mae gobaith an-nhwyllodrus y pardyna ac y maddeu efein pechodau ini, ac y derbynnir ni ailwaith [Page 213] ffafwr ein Tad nefol. Mae 'n scrifennedig am Ddafydd Cefais Ddafyd fab Iesse, glywith Act. 13. 22. 2. Sam. 7. fodd fynngalon▪ yr hwn a gyflawnodd fy holl ewyllys, dymma clod duwiol i Ddafyd▪ siccr yw hefyd ei fod ef yn credu yn ddiogel yr addewid a wnaethywyd iddo ynghylch i Messias, yr hwn a ddelai o'i had ef o herwydd y cnawd, a'i fod trwy 'r ffydd honno gwedy ei gyfiawnhau a'i impo yn ein Iachawdwr Iesu Grist oedd i ddyfod: ac etto fe gwympodd ar ol hynny yn echryslon, gan wneuthur 2. Sam. 7. 16. godineb ffiaidd, a llofruddiaeth ddamnedig▪ etto cyn gynted ac y criodd ef Peccaui, mi a bechais, 2. Sam. 11. 4. 14. at yr Arglwydd, fe a faddeuwyd iddo ei bechod 2. Sam. 12. 13. ac a'i derbyniwyd i ffafwr ailwaith.
Deuwn weithian at Petr, am yr hwn ni all neb ammau nad oedd ef gwedy ei [...] ein Iachawdwr▪ Iesu Grist, yn hin cyn idde ei wadu ef. Yr hyn a ellir ei brwfo 'n hawdd wrth yr atteh a Brofi. wnaeth ef yn ei enw ei hun, ac enw ei gymydeithion yr Apostolioni in Iachawdwr Christ, pan ddywad ef wrthynt, A fynnwch in wrthaw hefyd fyned ymmaith▪ O Arglwyd, ebe [...], at bwy yr awn ni [...] genniti y mae geirian y bywyd tragwyddol, Ioan. 6. 67. ac yr ydym ni yn credu ac yn gwybod mai tydi ydwyt Christ Mab y Duw byw. At [...] y gellir cyssylltu yr vn fath gyffes eiddo Petr▪ lle y mae Christ yn rhoddi iddo y destiolaeth an-nwhy llodius hon. Gwyn dy fŷd ti Simon Mab Ionas▪ canys nid cig a gwaed a ddatcuddiodd [...] iti eithr fy nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Mae 'r Math. 16. 17. geiriau hyn yn ddigon i brofi fod Petr gwedy ei gyfiawnhau eisoes trwy ei ffydd fywiol hon yn vnig anedig Fab Duw o'r hon ffydd y gwnaeth ef gyffes mor odidawg ac mor gyhoedd. Ond onid [Page 214] ymwadodd ef a'i feistr ar ol hynny yn dra llwfr, er darfod iddo glywed gantho, Pwy bynnac a'm gwado fyngwydd dynion, minneu a'i gwadaf yntef yngwydo fy-nhad yr hwn sydd yn y nefoedd. Etto er hyn cy gynted ac a llygaid wylofus a chalon alarus y cyduabu ef ei fai ac a ciliodd at drugaredd Duw frwy edifeirwch, gan ymaflyd ynddi a gafael ddiogal, trwy ffydd gadarn yn yr hwn a wadase fe mor gywilyddus, fe faddeuwyd ei bechodau, ac i ddiogelhau ac i siccrhau hynny, ni phallwyd iddo o'i le yn ei apostoliaeth. Ond edrychwch pa beth a ganlyn. Yn ol i'r vn Apostol sanctaidd Act. 2. gyda 'r discyblon eraill ar ddydd Sulgwyn dderbyn yr yspryd glan yn halaeth, fe wnaeth farmawr yn Antiochia gan ddwyn cydwybodau y ffyddloniaid i ammau wrth ei siampl ef, hyd oni orfu ar Pawl ei wrthwynebu ef yn ei wyneb, Gal. 2. 11. am nad oedd ef yn troedio yn iniawn at wirionedd yr Efengyl. A ddywedwn ni yn awr ddarfod e [...] gau [...] a'i gloi allan o ras a thrugaredd Duw, ac na ellid pardynn y troseddiad hwnw, trwy 'r hwn y buase fe faen trangwydd i llawer? Na atto Duw ini ddywedyd felly. Ond fel na ddyger y siamplau hyn i mewn er mwyn ein eofnhau ni i bechu, gan ryfygu yn-nhurgaredd a daioni Hyshau. Duw, ond er mwyn na byddo i ninnau os cwympwn trwy wendid y cnawd a phrofidigaeth y cythreui, i'r fath bechodau, anobeithio am drugaredd a daioni Duw▪ felly niae 'n rhaid ini wilied a gochelyd na feddyli om yn ein calonnau, ac na chredom, y gallwn edifarhau yn iawn, a throi ac yr Arglwydd yn ffrwythlon, trwy ein nerth a'n grym ein hunain, O herwydd gwir yw hyn am bawb, Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. Ioan. 15. 5. [Page 215] Drachefn. Nid ydym ddigonol▪ honom ein hunain 2. Cor. 3. 5. i feddylio dim da megis o hanom ein hunain. Ac mewn lle arall, Duw sydd yn gweithio ynoch Philip. 2. 13. ewyllysio a gweithredu o'i ewyllysds▪
Am hynny er darfod i Ioremi ddywedyd o'r blaen: Ieremi. 4. 1. Israel os troi di attafi, medd yr Arglwydd, etto ar ol hynny mae e 'n dewedyd▪ Tro di fi o Arglwydd ac mi a droir▪ o herwydd ti yw yr Arglwyd fyn-Nuw.
Ac am hynny mae 'r hen dad [...]os yn traethu Ambro [...] de vocatione gentium, li. 1. c. 9. yn oleu fod troad y galon at Dduw yn dyfod oddiwrth Dduw, fal y mae yr Arglwydd ei hun yn testiolaethu trwy ei Brophwyd gan ddywedyd, Ac mi a roddaf iti galon i'm adnabod i, mai myfi yw yr Arglwydd: ac hwy a fyddant bobl imi, ac mi a fyddaf eu Duw hwy: o blegid hwy a droant attafi a'u holl galon.
Wedi i ni ystyried y pethau hyn yn dda, gweddiwn yn ddifrif ar y bywiol Dduw ein Tad nefol, ar fod yn wiw gantho trwy ei Yspryd glân weithio gwir a diragrith edifeirwch ynom, fal yn ol llafur a phoen lluddedig y bywyd hwn y gallom fyw 'n dragwyddol gyda ei Fab ef Iesu Grist, i'r hwn y byddo pob clod a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
¶ Yr ail rhan or bregeth am edifeirwch.
HYd hyn y clywsoch, fy ngharedigion; mor anghenrhaid yw athrawaeth edifeirwch, ac mor ddifrif trwy holl scruthyrau Duw, y gyrir hi arnom, ac y gosodir hi allan, cystadl gan yr hen Brophwydi a chan ein Iachawdwr Iesu Grist, a'i apostolion.
Ac yn gymmaint ac mai troad yr holl ddyn at Dduw yw hi, oddiwrth yr hwn yr ydym trwy bechod yn myned ymmaith: fe ddylaid marco ynddi y pedwar pwngc ymma. Hynny yw, o ba le, ac oddiwrth ba pethau y dylem droi, at bwy y mae ▪n rhaid troi, a thrwy gyfryngiad pwy y dylaid gwneuchur felly, felly byddo 'n troad yn ffrwythlon: ac yn ddiwethaf oll pa fodd yr ymddygwn wrth droi, fal y byddo hynny buddioi ini ac y gallom fwynhau y peth yr ydym yn ei geisio trwyddo.
Chwi a glywsoch hefyd, megis y mae opinionau y rhai a ballant ddawn edifeirwch i'r rhai yn ol eu dyfodiad at Dduw a'u himpiad yn ein Iachawdwr Iesu Grist, a gwympant trwy wendid y cnawd, heu brofedigaeth y cythrel, i ryw bechod mawr, câs, yn enbaid ac yn echrysion: felly fod yn rhaid ini ochelyd na thybygom mewn modd yn y byd y gallwn o honom ein hunain ac o'n nerth ein hunain droi at yr Arglwydd ein Duw, oddiwrth yr hwn yr aethom ymmaith trwy ein drygioni a'n pechod.
[Page 217] Yn awr y dangosir i chwi pa rai yw rhannau edifeirwch, a pha beth a ddylai ein cyffroi ni i edifaru, ac idroi at yr Arglwydd ein Duw yn ebrwydd.
Edifeirwch, fel y dywedwyd o'r blaen, yw gwir droad at Dduw, trwy 'r hyn y mae dynion yn ymadel yn hollol â'u delw-addoliad a'u drygioni, ac yn cofleidio trwy ffŷdd dduwiol gariad ac addoliaid y gwir Dduw yn vnig, ac yn ymroi i bob rhyw weithredodd da, y rhai a wyddont trwy air Duw eu bod yn gymmeradwy gantho.
Yn awr mae pedair rhan i edifeirwch, y rhai gwedi eu gosod ynghŷd a ellir eu cyffebybu i yscol ferr, hawdd ei Dringo. thringad, ar hŷd yr hon y tringir o bwll-diwaelod distryw, i'r hwn y taflasem ni ein hnnain trwy ein baiau beunyddol a phechodau trymmion, i gastell neu dŵr tragwyddol a didrangc Iachedwriaeth.
Y cyntaf yw dryllio 'r galon. O herwydd rhaid ini fod yn flin gennym o ddifrif am ein pechodau, a galaru a thristau 'n ddiragrith am ini trwyddynt hwy ddigio mor dost, Dduw mor hael ac mor drugarog, yr hwn a'n carodd ni yn gymmaint ac y rhoddodd ef ei vnig anedig fâb i oddef marwolaeth chwerw, ac i dywallt anwyl waed ei galon er ein prynu a'n rhyddhau ni. Ac mae 'r galar a'r tristwch hwn oddi fewn yn y galon am drymder pechod, os bydd ef difrif a diragrith, yn aberth i Dduw fal y testiolaetha y Prophwyd Dafydd, gan ddywedyd, Aberthau Psal. 51. 17. Duw ydynt yspryd drylliedig, calon ddrylliedig gystyddiedig o Dduw ni ddirmygi.
Ond er i hyn gymmeryd lle ynom, rhaid ini ddarllen a gwrando gair Duw yn ddyfal, yr [Page 218] hwn sydd yn paentio yn oeleu gar bron ein llygaid ni, ein aflendid naturioll, a ffieidd-der ein bywydd pechadurus. O herwydd oni byddwn yn clywed yn gwbl faich ein pechodau, pa fodd y gallwn dristau yn ddifrif am danynt? pa dristwch attolwg, oedd mewn Dafydd am y goddineb 2. Sam. 12. a'r llofruddiaeth a wnelse, cyn clywed o hono air yr Arglwydd trwy enau y Prophwyd Nathan? fal yn gellid dywedyd yn ddifai gyscu hono ef yn ei bechodau.
Yr ydym yn darllen yn Actau 'r apostolion yn ol i'r bobl glwywed pregeth Petr eu cydbigo hwy Act. 2. 37. yn eu calonnau: Yr hyn byth ni buase oni basai iddynt wrando pregeth Petr. Am hynny nid oes ond ychydig obaith am y rhai nid oes meddwl ganthynt nac am wrando nac am ddarllen gair Duw, y gosodant hwy eu traed nau gafaelion ar y ffon gyntaf o'r yscol hon, ond yn hytrach soddi ddyfnach ddyfnach i bwll diwaelod distryw. O blegid os ydynt hwy ar vn amser trwy bigad eu crdwybod, yr hwn sydd yn eu cyhuddo hwy, yn clywed na galar na thristwch na thrymder oddifewn am eu pechodau, etto am fod arnynt eisiau eli a diddanwch gair Duw yr hwn a ddiystyrant, ni bydd hynny ond modd a chyfrwng i'w dwyn hwy i lwyr anobaith yn hytrach na dim arall.
Yr ail yw gwir gyffes a chydnabod ein pechodau gerbron Duw, yr hwn trwyddynt hwy a ddigiasom ni yn gymmaint, megis pe gwnai ef â ni yn ol ei gyfiawnder, yr haeddasom fil o vffernau, pe gallai fod cynnifer. Etto os ni â chalon drist ddrylliedig a wnawn ein cyffes ddiragrith at Dduw, fe faddeu ini yn rhwyddd ac yn [Page 219] rhâd, ac a ollwng dros gof ein holl anwireddau, ni, ac ni chofia honynt mwy.
At hyn y perthyn ymadrod goreuraid y Prophwyd Dafydd, lle mae fe 'n dywedyd yn y modd ymma. Cydnabyddaf fy-mhechod wrthit a'm han wiredd ni chuddiais: cyffesaf yn fy erbyn fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist Psal. 32. 5. boen fy-mhechod. Ac fal hyn y dywaid Ioan efengylwr, Os cyfaddefwn ein pechodau ffyddlon yw ef a chyfion, fel y maddeuo ef ini ein pechodau, ac y'n glanhao ni oddiwrth bob 1. Ioan 1. 8. anwiredd.
Yr hyn y ddylaid ei ddeall am y gyffes a wnair wrth Dduw. O herwydd y rhai hyn yw geiriau In Epistola ad Iuliannm comitem 30. S. Awsten: fe a ofynnir wrth gyfraith Dduw am y gyffes yr hon a wnair wrth Dduw, am yr hon y mae Ioan Sainct yn son, gan ddywedyd, Os cyfaddefwn ein pechodau ffyddlon yw ef a chyfion fel y maddeuo ini ein pechodau, ac y'n glanhao ni oddiwrth bob anwiredd. O blegid heb y gyffes hon ni faddeuir pechod. Hon am hynny yw 'r brif gyffes bennaf yr hon a orchymmyn scruthyrau a gair Duw ini ei gwneuthur, ac heb yr hon byth ni chawn bardwn a maddeuant o'n pechodau.
Yn wir mae heblaw hon ryw arall o gyffes, yr hon sydd anghenrheidiol: ac am hon y mae S. Iaco yn dywedyd fal hyn, Cyfaddefwch eich Iaco 5. 26. beiau y naill i'r llall a gweddiwch tros eu gilydd fel y'ch iachaer: megis pe dywedai, Agorwch yr hyn a'ch doluria fel y caffoch ymwared. Ac fe a orchymmynnir hyn i'r hwn sydd yn achwyn ac i'r hwn sydd yn gwrando fod i'r naill ddangos ei ddolur i'r llall. Y gwir ystyr yw hyn, y dylai [Page 220] y ffyddloniaid gydnabod eu baiau i'w gylydd trwy y rhai y cyfododd ac y tyfodd rhyw genfigen, casineb, grwyth, neu falis rhyngthynt, fal y geller heddychu rhyngthynt megis brodur, heb yr hyn nid oes dim a wnelom ni a all bod yn gymmeradwy gan Dduw, fel y testiolaetha ein Iachawdwr Christ ei hun, gan ddywedyd, Os dygi dy rodd i'r allor, ac yno dyfod 'ith gof fod Math. 5 23. gan dy frawd ddim yn dy erbyn, gâd ti yno dy offrwm ger bron yr allor, a dos ymmaith, yn gyntaf cymmod a'th frawd, ac yno tyred ac offrwm dy rodd. Fe a ellir hefyd cymmeryd yr ymadrodd hwnnw fal hyn: y dylem ni gyfaddef ein gwendid a'n Egwanrwydd. eiddilwch vn i'w gilydd, fel wrth wybod gwendid eu gilydd y gallom gydweddio yn ddifrifach ar yr holl-alluog Dduw ein Tad nefol, ar fod yn wiw gantho bardynu ein gwendid ni er mwyn ei fâb Iesu Grist, ac na chyfrifo ef mo hono ini pan roddo ef i bawb yn ol eu gweithred.
Ac lle mae 'r gwrthwynebwyr yn gwyrdroi y lle hwn i faenteinio eu cyffes gyfrinachol ag ef, maent yn eu twyllo eu hunain ac eraill yn gywilyddus: o blegid pe deallid y tert hwn am gyffes gyfrinachol fe fydde yr offeiriaid mor rhwymedig i gyffefu eu baiau wrth wŷr llŷg a'r gwŷr llŷg i gyffefu wrth yr offeiriaid, ac os gweddio yw maddeu pechodau, yno wrth y lle hwn mae gan y llygion gymmaint o awdurdod i faddeu pechodau 'r offeiriaid ac y sydd gan yr offeiriaid i faddeu pechodau 'r bobl.
Fe a welodd Iohannes Scotus, yr hwn hefyd a elwir Iohan. Scot in 4. senten. dist. 17. quest. 1. Duns, hyn yn ddifai, yr hwn a scrifenna fal hyn, nid ydwyf fi yn gweled i Iaco roddi y gorchymmyn [Page 221] hwn na'i osod allan megis peth gwedy ei dderbyn gan Grist. O blegyd yn gyntaf o ba le y cafodd ef awdurdod i rwymo 'r holl Eglwys, ac ef yn Escob o Ierusalem yn vnig. Oni ddywedi di fod yr Eglwys honno yn y dechreuad yn fam Eglwys, ac felly ei fod ef yn Escob pennaf, yr hyn ni channiata escobaeth Rufain byth. Ystyr yr ymadrodd am hynny yw, megis yn y geiriau hyn, Cyfeddefwch eich pechodau i'w gilydd: sefannogaeth i ostyngeidrwydd, trwy 'r hyn y myn ef ini gyfaddef yn gyffredinol i'n cymmydogion ein bod ni yn bechaduriaid, yn ol yr ymadrodd hwn, Os dywedwn ein bod heb bechod yr ydym yn ein twyllo ein hunain a'r gwirionedd nid oes ynom.
Ac lle maent hwy yn gosod ymadrodd ein Iachawdwr Iesu Grist wrth y gwhan-glwyfus, i Brwfo. brofi fod cyffes gyfrinachol yn sefill ar air Duw Math 8. 4., Dos ac ymddângos i'r offeiriad, onid ydynt yn gweled ddarfod glanhau y gwhan-glwyfus o'i wahan-glwyf cyn i Grist ei ddanfon ef at yr offeiriad, i'w ddangos ei hun iddo? Wrth yr vn rheswm rhaid yw ein glanhau ni oddiwrth ein gwahan-glwf ysprydol, meddwl yr wyf fod yn rhaid maddeu ein pechodau ni, cyn delom i gyffesu? Pa raid ini am hynny gyfrif ein pechodau ynghlust yr offeiriad a hwy gwedy eu deleu eisoes?
Am hynny y mae Ambros sanctaidd ar yr 119. Ambros. Psalm yn dywedyd yn dda iawn, Dos dangos dy hun i'r offeiriad. Pwy yw 'r gwir offeiriad ond yr hwn sydd offeiriad tragwyddol yn ol vrdd Melchisedech? Trwy 'r hyn y mae 'r tâd sanctaidd yn deall gan fod gwedy newid yr offeiriadaeth a'r gyfraith, na ddylem ni gydnabod vn offeiriad arall, [Page 222] nac vn ymwared o'n pechodau onid ein Iachawdwr Aesu Grist, yr hwn ac ef yn ben Escob sydd ag offrymmiad ei gorph a'i waed a offrymmodd ef vnwaîth ar allor y groes, yn dragywydd yn glanhau yn ffrwythlon y gwahanglwyf ysprydol, ac yn golchi ymmaith bechodau pawb ac a'u cyffesant hwy yn gywir ac a ddauant atto ef.
Eglur a goleu yw nad oes sail i'r gyffes hon yngair Duw, onid ê ni buasai gyfraithlon i Nectarius Escob Constantinopol ar achosion cyfion Sozomenes eccles. hist. lib. 7. cap. 16. ei thynnu hi ymmaith. O blegid pan gamarferir trwy ddrygioni dŷn, vn peth ac a ordeiniodd Duw, fe ddylaid tynnu ymmaith y camarfer a goddef y peth ei hun i aros.
A hefyd geiriau Sanct Awstin yw y rhai hyn: Beth sydd imi a wnelwyf a dynnion, fal y gwrandawent hwy fynghyffes i, fal pe gallent hwy iachau fynoluriau i? Rhyw o ddynion rhy ofalus am Lib. 10. confe [...] cap. 3. wybod bywyd dynion eraill, a diog i wellau ac i emendio eu bywyd eu hunain. Paham y ceisiant glywed gennifi pa sut ydwyfi, pan na fynnant glywed gennit ti pa beth ydynt hwy? Apha fodd y gwyddont pan glywont fi yn adrodd am danaf fy hū, pa vn yr ydwyf ai dywedid gwir ai nid ydwyf? O blegyd na wyr vn dyn marwol pa beth y sydd mewn dŷn ond yspryd dŷn yr hwn sydd ynddo?
Pe buasid yn amser Augustin yn arfer cyffes gyfrinachol, ni buase fe yn scrifennu fal hyn.
Am hynny na oddefwn arwain ein cydwybod at y gyffes hon, ond arferwn mewn ofn ac mewn echryd y wir gyffes a orchymmyn Duw yn ei air, ac yno yn ddiammau, fal y mae ef yn ffyddlon ac yn inion, fe faddeu ini ein pechodau, ac a'n glanha ni oddiwrth ein holl anwiredd.
[Page 223] Nid ydwyfyn dywedyd os trallodir cydwybod neb, na allant fyned at ryw gurat neu fugail dyscedig, neu at ryw wr duwiol dyscedig arall, a dangos iddo eu trallod a'r hyn sydd yn blino eu cydwybod, fel y gallont dderbyn gantho eli iachus gair Duw. Ond mae 'n erbyn rhydd-did Christionogawl rwymo neb i rifo ei bechodau, fal yr arferwyd cyn hyn yn amser dallineb ac anwybod.
Y drydedd ran o edifeirwch yw ffydd, trwy 'r hon y cymmerwn afael ar addewidion Duw am bardwn rhâd a maddeuant o'n pechodau: a'r addewidion hyn a seliwyd ini â marwolaeth a thywalltiad gwaed ei fâb ef Iesu Grist: O blegid pa fudd a pha ennill a fyddai ini er bod yn drist am ein pechodau, er galaru ac ochain am ini ddigio Tâd mor hael drugarog, neu gyfaddef ein baiau a'n camweddau er difrifed y gwnelir hynny, oni chredwn ni yn siccr a pherswado ein hunain y maddeu Duw ini ein holl bechodau er mwyn ei fâb Iesu Grist, ac yr anghofia ef hwy allan o'i olwg.
Pwy bynnac am hynny a ddyscant edifeirwch heb ffydd fywiol yn ein Iachawdwr Iesu Grist, nid ydynt yn dyscu ini amgen edifeirwch nag edifeirwch Iudas, fal y gwna yr holl yscolwyr, y rhai a dderbynniant yn inig y tair rhan hyn mewn edifeirwch, drylliad y galon, cyffes y geneu, a thaledigaeth gweithred. Ond mae 'r tri hyn yn etifeirwch Iudas, yr hwn mewn lliw oddiallan aeth ymhellach lawer nag edifeirwch Petr: O blegid yn gyntaf, yr ydym yn darllen yn yr efengyl fod Iudas mor drist ac mor drwm, ie ei lanw ef felly ag ing a blinder meddwl, fel na alle aros [Page 224] byw yn y byd ymhellach. Oni wnaeth ef hefyd Math. 27. 5. cyn ymgrogi gyffes gyhoedd o'i fai gan ddywedyd, pechais gan fradychu gwaed gwirion? Ac yn wir yr oedd hon yn gyffes Hyf. eofn, yr hon a allasai ei ddwyn ef i drallod mawr. O blegid trwyddi, fe haerodd ar yr archoffeiriaid a'r henuriaid dywallt gwaed gwirion a'u bod hwy yn llofruddiaid ffiaidd. Fe wnaeth hefyd ryw fath ar daledigaeth pan daflodd ef yr arian ailwaith iddynt.
Nid ydym ni yn darllen dim o'r fath beth ym-Mhetr er iddo ef wneuthur pechod mawr a bai blin, gan wadu i feistr. Yr ydym ni yn gweled ei fyned ef allan ac iddo wylo 'n chwerw; am yr hyn y mae Ambros yn scrifennu fal hyn, fe fu ddrwg De penitentia distinct. cap. Petrus gan Petr, ac fe a wylodd am iddo gamsynnaid megis dŷn: Mi a welafbeth y ddywad ef, mi a wn iddo ef wylo: yr ydwyf yn darllen am ei ddeigreu ef, ond nid ydwyf yn gweled pa iawn a dalodd ef.
Ond pa fodd y derbynniwyd y naill ailwaith i ras Duw a'i ffafwr, ac y gwrthodwyd y llall: ond am i'r naill trwy ffydd fywiol yn yr hwn a wadase efe, gymmeryd gafael ar drugaredd Duw, a bod y llall heb ffydd, trwy'r hyn yr anobeithodd ef am ddaioni a thrugaredd Duw.
Eglur am hynny a goleu yw, er difrifed y tristaom ni am ein pechodau, y cydnabyddom ac y cyfaddefom hwy; etto ni bydd y cwbl o hyn oll onid cyfryngau a moddion i'n dwyn ni i lwyr anobaith, oni byddwn yn credu yn ddiogel y pardyna Duw ein Tâd nefol ni er mwyn ei fâb Iesu Grist, ac y maddeu ef ini ein holl faiau a'n camweddau, ac yr anghofia ef hwy yn hollol. Ac am hynny fel y dywedasom o'r blaen, pwy bynnac sydd yn dyscu ini edifeirwch heb Grist, ac heb ffydd fywiol yn-Nuwnhugaredd [Page 225] Duw, maent yn dyscu yn vnig edifeirwch Cain neu Iudas.
Y pedwaredd yw gwellhau y bywyd, neu fywyd newydd yn dwyn allan ffrwythau teilwng o edifeirwch. O herwydd rhaid bod y gwir edifeirrol gwydy eu newid a'u symmud yn gwbl, rhaid iddynt fod yn greaduriaid newydd, nid oes Math. 3. 7. iddynt fod weithian yr hyn a oeddent o'r blaen. Ac am hynny dygwch ffrwythau addas i edifeirwch. Trwy hyn y dyscwn, os chwenychwn lonyddu llid Duw, nad oes ini rhagrithio onid troi atto ef ailwaith trwy wîr a difreg edifeirwch, yr hyn a ellir ei adnabod ai fane gi trwy ffrwythau da, megis trwy arwyddion siccr anhwyllodrus.
Fe dafla y rhai sydd o waelod eu calonnau yn adnabod en pechodau, ac yn wir ddrwg ganthynt am eu baiau, ymmaith bob rhagrith, ac a wiscant am danynt wir ostyngeiddrwydd ac iselder calon, rii dderbynnant hwy yn inig feddig-yr enaid, ond hwy y chwenychant ef yn awyddus iawn. Nid ymmataliant hwy yn inig oddiwrth bechodau eu bywyd o'r blaen ac oddiwrth bob baiau brynton eraill, ond hefyd hwy a giliant rag eu holl achosion hwy ac a'u gochelant ac a'u cashant. Ac fel yr ymrhoesant hwy o'r blaen i aflendid bywyd, felly o hyn allan hwy a ymrhoddant a phob dyfaldod i ddieniweidrwydd, bywyd pur, a gwir Dduwioldeb.
Mae ini yn lle siampol y Ninifiaid y rhai a'r bregeth Ionas ni chyhoeddasant ympryd yn inig, a gorchymmyn i bawb oll wisco sachliain, ond hwy a droesant hefyd oll o'u ffordd ddrygionus, ac Ionas. 3. 6. 7. oddiwrth anwireddau eu dwylaw. Ond vwchlaw pawb eraill godidawg yw histori Zacheus. [Page 226] O blegid yn ol iddo ddyfod at ein Iachawdwr Christ, fe a ddy wad: Wele Arglwydd hanner fy ngolyd a rhoddaf i'r tylodion ac os dygum ddim Luc. 19. 8. oddiar neb trwy dwyll, mi ai talaf ar ei bedweredd.
Ymma y gwelwn yn ol ei edifeirwch nad oedd ef mwyach y gwr a fuase o'r blaen ond ei fod ef gwedy ei gwbl newid ai symmud: yr ydoedd ef cy belled oddiwrth barhau ac aros fyth yn ei drachwant awyddus, ac oddiwrth ddwyn dim ar neb yn gamweddus, fal yn hytrach yr ydoedd ef yn ewyllysgar ac yn barod i wneuthur iawn i bawb ar a gwnelse gam a hwy.
At hyn y gallwn gydsylltu y wraig bechadurus Luc. 7. 38. yr hon pan daeth at ein. Iachawdwr Christ a ollyngodd y fath ddeigrau aml, o'r llygaid drythyll hynny, a'r rhai y hudasai hi lawer i ynfydrwydd, ac y golchodd hi o honynt ei draed ef y rhai a sychodd a gwallt ei phen, o'r llygaid meddaf y rhai y arferase hi o'u gosod allan mor hoyw, gan wneuthur honynt rhwydau i'r diawl Trwy hyn y gallwn ddyscu pa daledigaeth y mae Duw yn ei ofyn gennym, hynny yw beidio honom a drygioni a gwneuthur yr hyn a sydd dda, ac os gwnaethom gam a neb ymhydyru a'n holl allu i wneuthur gwir iawn, gan ganlyn mewn hyn siampol Zacheus a'r wraig bechadurus honno, a chyngor Ioan fedyddiwr mab Zacharias, yr hwn a rhoddodd ef i'r rhai a geisient gyngor gantho. Hwn oedd y penyd yr hwn a osodai Grist yn Ioan. 5. 13. gyfredinol a'r bechaduriaid. Dos na phecha mwyach.
Y penyd hwn ni allwn ni byth gyflawni hono, heb ei hyspysawl râs ef yr hwn a sydd yn dywedyd, [Page 227] Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim. Ioan. 15. 5. Ein rhan ni am hynny ar y lleiaf yw chwenychu ein iechyd a'n Iachadwraith ein hunain, a gweddio yn ddifrif ar ein Tad nefol ein cynnorthwyo ni ai Yspryd sanctaidd, fel y gallom wrando ar laferydd y gwir fygail a'i ganlyn ag vfydd-dod dyledus.
Gwrandawn laferydd holl-alluog Dduw, pan galwo ef ni i edifeirwch, na chaledwn ein calonnau, fel y gwna yr anghredadwy, y rhai a gamarferant yr amfer y mae Duw yn ei rhoddi iddynt i edifeirwch, ac a troant i barhau eu balchedd a'u diystyrwch am Dduw adyn, y rhai ni wyddont pa faint y maent yn tynnu digofaint Duw yn eu herbyn eu hunain, am galedrwydd eu calonnau, y rhai ni allant edifaru ar ddydd y dial.
Lle trofoddosom ni gyfraith Duw, edifarwn, am gyfeiliorni oddiwrth Arglwydd mor ddaionus: Cyfaddefwn ein anheilyngdod ger ei fron ef, ac ymddiredwn gael am dano bardwn ynhrugaredd rhad Duw er mwyn Christ. Ac o hyn allan ymegniwn i rhodio mewn hywyd newydd, megis plant gwedy eu hail-eni, trwy 'r hyn y gogoneddwn ein Tad yr hwn sydd yn y nef, ac y dygwn yn ein cydwybodau destiolaeth dda am ein ffydd. Er mwynhau felly yn y diwedd feddiant y bywyd tragwyddol, trwy haeddiant ein Iachawdwr, i'r hwny byddo mawl ac anrhydedd yn dragywydd, Amen.
¶ Y drydydd ran o'r bregeth am edifeirwch.
CHwi a glywsoch (bobl anwyl yn ein Iachawdwr Christ) adrodd wrthych yn y bregeth ddiwethaf, wir rhannau ac arwyddion edifeirwch, hynny yw drylliad y galon, a thristwch ein calonnau, a chyffes ddiffuaint yngeiriau ein gennauau ger bron Duw am ein bywyd a'nheilwng, a ffydd gadarn yn haeddiant ein Iachawdwr Christ am bardwn: a bwriad ynom ein hunain drwy ras Duw am ymwrthod a'n bywyd drwg o'r blaell, a chwbl droi at Dduw, i ogoneddu ei enw ef mewn bywyd newydd, ac i fyw yn drefnus ac yn garedig, er didddanwch ein cymydogion ym-hob unondeb, i fyw yn sobr ac yn llednais ynom ein hunain, ac i arfer ymmattaliaeth a chymydrolder mewn gair a gweithred, a marwolaethu ein aelodau daiarol ymma a'r y ddaiar, Yn awr er ychwaneg [...]erswadaeth eich cyffro chwi i'r rhannau hyn o edifeirwch, mi a fanegaf i chwi rhyw achosion a ddyle eich cyffro chwi i edifeirwch.
Y gyntaf yw gorchymmyn Duw yr hwn mewn cynifer le o'r scruthyrau sanctaidd glan sydd yn gorchymmyn ini droi atto fe. Oh medd ef wrth yr Israeliaid, dychwelwch meihion Israel at yr hwn y llwyr-giliasoch oddiwrtho. Ac ailwaith Esai 31. 6. dychwelwch dychwelwch oddiwrth eich ffordd ddrygonus, canys tŷ Israel paham y byddwch feirw? ac mewn lle arall mae fe 'n dywedyd trwy Ezech. 33. 11. enau ei Brophwyd Osea: Ymchwel Israel at yr Osea. 14. 1. [Page 229] Arglwydd dy Dduw: canys ti a syrthiaist trwy dy anwiredd dy hun.
Cymmerwch gyda chwi y geiriau hyn, a dychwelwch at yr Arglwydd a dywedwch wrtho ef maddeu di ein holl an wiredd cymmer ni yn ddaionus, a thalwn it loi ein gwefysau. Mae ini yn yr holl leoedd hyn orchymmyn eglur gwedy i Dduw i rhoddi am ini droi atto ef.
Am hynny rhaid yw ini ochelyd, rhag, (a ni eisoes trwy ein aml bechodau a'n anwiredd gwedy annog ac enynnu llid Duw yn ein herbyn) trwy dorri y gorchymmyn hwn ddyblu ein baiau a phenturu damnedigaeth ar ein pennau ein hunain, trwy ein pechodau a'n trosoddiadau beunyddol, trwy y rhai yr annogwn lygaid ei fawrhydi ef; Yr ydym ni haeddu yn dda pe gwnae ef a ni yn ol ei gyfiawnder ein troi ymmaith dros fyth fel na chaffom fwynhae ei ogoniant tragwyddol ef.
Pa faint fwy am hynny y haeddwn boenau tragwyddol vffern, os pan gelwer ni mor fwyn ailwaith yn ol ein gwrthrhyfel, a phan orchymmyner ini droi, ni wrandawn ar laferudd ein Tad nefol, onid treiglo fyth yn ol cyndynrwydd ein calonnau?
Yr ail achos yw addewidion diddanus peraidd y rhai a gydsylltodd yr Arglwydd ein Duw ni a'r gorchymmyn hwn, oi vnig drugaredd ai ddaioni. O blegyd nid yw ef yn dywedyd yn inig tro attafi o Israel: ond hefyd os troi di a rhoi heibio dy ffiaidd-dra Ieremi 4. 1. oddiger fymron, yna nith symmudir. Ac mae y geiriau hyn hefyd gennym yn y Prophwyd Ezechiel. Pa bryd bynnac y byddo edifar gan bechadur Eze ch. 18. ei bechod o ddyfnder ei galon mi a ellyngaf [Page 230] dros gof ei holl an wiredd ef medd yr Arglwydd, ac ni chofieir mwyach honynt. Fal hyn ein addyscir ni yn gwbl y pardyna y maddeu ac yr anghofia Duw ein holl bechodau ni yn rad yn ol ei addewid, fel byth nad Ddanodir. edliwir hwy ini: os gan fod yn vfydd iw orchymynnion a chymeryd ein llithio gan ei addewidion peraidd ef, trown ni atto ef yn ddiffuaint.
Y pedwaredd achos yw brynti pechod, yr hwn yw 'r fath beth fel yr hyd y byddom yn aros ynddo ni all Duw na chashao ef ac na ffieiddio ef ni, ac ni ddichon bod vn gobaith y dawn ni byth i'r Ierusalem newydd, oddieithr ein glanhau a'n puro oddiwrtho. A hyn ni bydd byth, oni thrown ni (gan ymwrthod a'n bywyd o'r blaen) a'n holl galon at yr Arglwydd ein Duw ac oni chiliwn ni at ei drugaredd ef a llwyr fryd gwellhau ein bywyd, a chymmeryd gafael ddiogel erni trwy ffydd yngwaed ei fab ef Iesu Grist.
Pe drwgdybiem fod vn aflendid ynom am yr hwn y byddai gas a ffiaidd gan y tywysog daiarol yr olwg arnom: pa boen y gymmerem i symmud ac i droi hwnnw heibio? Pa faint fwy y dylem yn ddiescaelus ac ar frys droi heibio 'n brynti aflan yr hwn sydd yn gwahanu ac yn dosparthu rhyngom ni a Duw, ac yn cuddio ei wyneb ef oddiwrthym, fal na wrandawo ef o honom? Ac yn wir trwy hyn y Gwydys. gwis pa mor frwnt peth yw pechod, am na ellir ei olchi ef ymmaith mewn vn modd arall, onid trwy waed inig anedig Fab Duw, Ac oni chashawn hwnnw ai ffiaiddio o ddyfnder ein colannau, ac oni chiliwn rhagddo 'n ddifrif, er ein glanhau ni oddiwrth [Page 231] yr hwn y costodd i inig anedig Fab Duw ein Iachawdwr waed ei galon.
Mae Plato yn scrifennu mewn rhyw le, pe gallid gweled rhinwedd a llygaid corphorol, yr enynnid pawb yn rhyfedd iw charu hi: felly o'r gwrthwyneb, pe gallem weled a'n llygaid corphorol frynti pechod a'i aflendid, ni allem ni mewn modd yn y byd aros mo hono, ond ni a'i cashaem ac a gochelem ef megis gwenwyn presennol marwol. Mae addysc amser gwedy dangos ini mewn dynnion, gwedy darpho iddynt wneuthur rhyw fai mawr neu rhyw bechod ffiaidd brwnt, os daw ef vnwaith i oleuni, neu os digwydd iddynt ddechreu ymwrando ag ef, mae arnynt gymmaint gywilydd am fod eu cydwybod yn gosod brynti 'r weithred ymlaen eu llygaid hwy) na feiddiant edrych yn wineb vn dyn, llai o lawer y beiddiant sefyll yngwydd Duw.
Yr achos bedwaredd yw ansiccrwydd a breuolder ein bywyd, am fod hwn o'r fath na wyddom ni y cawn ni fyw vn awr neu bedwaredd rhan i'r awr. Ac mae addisc amser yn dyscu ini beunydd fod hyn yn wir, o achos bod yn gweled rhai sydd yn awr yn llawen ac yn hoenus, ac weithiau yn cwmpnio ac yn cyfeddach gydâ eu cyfeillion, yn cwympo 'n farw yn yr heolydd, yn ddisymmwth ac weithiau dan y Bwrddau. bordau gydâ eu bwyd. Fal y mae 'r siamplau hyn yn ofnadwy iawn ac yn dra-erchyll: felly y dylent ein cyffro ni i geisio bod yn vn a'n barnwr nefol, fel y gallom a chydwybod da ymddangos ger ei fron ef, pa bryd bynnac y bô bodlon gantho alw am danom, pa vn bynnac ai yn ddismmwth ai mewn modd arall, o herwydd nid oes gennym vn scrisen [Page 232] ar ein bywyd mwy na chanthynt hwythau.
Ond fel yr ydym yn siccr mai rhaid ini farw, felly y mae 'r amfer y byddom farw yn a'nsertenol. O herwydd mae 'n heinioes ni yn sefyll ar law Dduw, yr hwn pan mynno a dug hi oddiwrthym: Ac yn wir pan delo y Rhingill. swyddog vchaf yr hwn yw angau ni fyn ef vn pall, ond rhaid yw paratoi yn ebrwydd yn y modd y cyhwrddo ef a ni in presentio ger bron gorseddfaingc Duw, yn ol yr hyn a scrifennir le cwympo 'r pren pa vn bynnac ai tuar gogledd ai tuar gorllewyn yno y bydd efe. A'r hyn y cytuna geiriau Merthur Eccles. 11. 3. sanctaidd Duw Sainct Cipryan gan ddywedyd, megis y caffo Duw di pan galwo ef yn dy ol, felly y barna ef di.
Canlynwn am hynny gyngor y gwr call lle mae fe 'n dywedyd, Na fydd hwyrfrydig i droi at yr Arglwydd: Ac nac oeda o ddydd i ddydd: O blegyd yn ddisymmwth y daw digofaint yr Arglwydd, a thra y byddech di yn ddifraw i'th ddryllir, a thi a ddifethir yn amser dialedd. A'r geiriau hyn yr ydwyf yn deisif arnoch ei marco yn ddyfal, am eu bod yn gosod yn fywiol ymlaen eich llygaid ynfydrwydd llawer o ddynnion, y rhai gan gamarfer hir amunedd a daioni Duw, ni feddyliant am edifaru na gwella eu bywyd. Na ddil n medd ef dy ewyllys dy hun, a'th gryfder dy hun i rhodio yn ffordd dy galon dy hun. Na ddywed, pwy am darostwng i o herwydd fyngweithredoedd: o blegit yr Arglwydd gan ddial a ddial dy draha di. Ac na ddywed mi a bechais a pha dristwch fu imi: o blegit mae 'r Arglwydd yn ymarhous eithr ni faddeu ef iti. Na fydd ddifraw o herwydd maddeuant, i chwanegu [Page 233] pechodau ar bechodau. Ac na ddywed, aml yw ei drugaredd ef, efe a faddeu luosogrwydd fymhechodau i. O blegit trugaredd a digofaint a fryssia gantho ef, a'i ddigofaint ef a orphywys ar bechaduriaid; fal pe dywedai, ydwyt ti yn grŷf ac yn gadarn? ydwyt ti yn ieuanc ac yn hoenus? oes genniti olud a chyfoeth y byd hwn? neu pan bechaist oni dderbyniaist gosp am hynny: na wnaed vn o'r pethau hyn di yn ddioccach i edifaru ac i droi at yr Arglwydd ar frys. O blegit yn-nydd cosp a dial disymmwth ni chynnorthwyant honot: ac yn enwedig pan naill ai trwy bregethu gair Duw, ai ynte trwy ryw gynhyrfiad yr Yspryd oddifewn, neu mewn rhyw fodd arall i'th alwir i edifeirwch, nac escaelusa yr amser y gynnigir iti, rhag pan dymnunech edifaru na cheffech râs i wneuhur felly.
O herwydd rhodd ddaionus Duw yw edifaru, ac ni chaniata fe honi byth i'r rhai gan fyw mewn diofalwch cnawdol a Watwarant. senna ei fygythau ef, ac a geisio rheoli ei Yspryd ef yn y modd y mynnont, fel pe bai ei weithredoedd a'i ddoniau ef yn rhwym wrth eu ewyllys hwy.
Yr achos bummed yw er gochelyd plaau Duw a chwbl ddistryw, y rhai trwy inion farn Duw a safant vwch bennau pawb o'r rhai ni throant at yr Arglwydd mewn modd yn y byd. Mi a'u rhoddaf hwy medd yr Arglwydd i drallod a drygfyd drwy holl deyrnasoedd y ddaiar, yn wradwydd Ier. 24. 9. ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith ymhob mann lle y gyrrwyf hwynt. Ac mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn a haint, nes eu darfod oddiar y ddaiar yr hon a roddais iddynt ac iw tadau. A phaham oedd hyn? Am galedu honynt [Page 234] eu calonnau ac am na throent hwy oddiwrth eu ffyrdd drygionus, nag ymwrthod a'r anwireddau y rhai oedd yn eu dwylo fal yr ymadawai gynddaredd llid yr Arglwydd oddiwrthynt.
Ond etto nid yw hyn yn ddim ymron anrhaith ei oddef a thragwyddol boenau tân vffernol, yr hwn y orfydd i bawb ei oddef ar y sydd yn ei galedrwydd a'i galon ddiedifeiriol yn pentyru iddo ei hun ddigofaint erbyn dydd y digofaint, a dadguddiad cyfiawn farn Duw, lle os edifarwn ni a bod yn ddrwg gennym oddifrif am ein pechodau, ac os trwy gwbl fwriad gwellhau ein bywyd y ciliwn ni at drugaredd Duw, ac os cymmerwn afael ddiogel erni trwy ffydd yn ein Iachawowr Iesu Grist, a dwyn ffrwythau teilwng o edifeirwch: ni thywallt ef yn vnig eiaml fendithion arnom yn y bywyd hwn, onid hefyd ar y dydd diwethaf yn ol llafur lluddedig y bywyd hwn, fe a'n gobrwya ni ag etifeddiaeth ei blant, yr hon yw teyrnas nefoedd, a bwrcaswyd ini trwy farwolaeth ei fab ef Iesu Grist ein Harglwyd, i'r hwn gydâ'r Tad a'r Yspryd glan y byddo pob moliant, gogoniant ac anrhydedd yn oes oesoedd. Amen.
¶ Homili yn erbyn an ufydd-dod a gwrthryfelgarwch.
Y rhan gyntaf.
MEgis yr appwyntiodd Duw creawdr ac Arglwydd pob peth ei angelion a'i nefol greaduriaid i wasanaethu ac i anrhydeddu ei fawrhydi ef: felly yr oedd ei ewyllys ef ar fod i ddyn, ei greadur pennaf ef ar y ddayar, fyw mewn [Page 235] vfyddod i'w greawdwr a'i Arglwydd: ac am hynny er cynted y darfu i Dduw greu dŷn, fe a roddodd iddo orchymmyn a chyfraith, yr hon, ac ef etto mewn stât diniweidrwydd ac yn trigo ym-mharadwys, a fydde raid iddo ei chadw, megis gwystl ac arwydd o'i ddyledus a'i rwymedig vfydd-dod: ac a gyhoeddodd farwolaeth arno▪ os efe a drosedde ac a dorre y gyfraith a'r gorchymmyn hwnnw. Ac fel y mynnai Dduw i ddŷn fod yn ddarostyngedig vfydd iddo ef, felly y gwnaeth ef holl greaduriaid dayarol yn ddarostyngedig i ddŷn, y rhai a gadwasant eu dlyedus vfydddod i ddŷn, yr hŷd yr arhôsodd dŷn mewn vfydddod i Dduw: a phe buasei ddŷn yn aros yn wastad yn yr vfydd-dod hynny, ni buasei na thlodi, na chlefydau, na heintiau, nac angeu na dim o'r blinderau eraill y cystuddir ac y gorthrymmir dynion â hwy yn awr mor âfrifed ac mor dôst.
Felly ymma y gellir gweled dechreuol lywodraeth Duw goruwch dynion ac angelion, ac yn gyffredinol ar bob peth; a llywodraeth dŷn ar greaduriaid y ddayar, y rhai a wnaeth Duw yn ddarostyngedig iddo ef: a hefyd y dedwyddwch a'r cyflwr gwynfydedig y buasai angylion a dynion a'r holl greaduriaid ynddo, ped arhosasent yn eu dledus vfydd-dod i Dduw eu brenhin: o blegid yn y frenhinol lywodraeth gyntafhyn, yr hyd yr arhosodd y deiliaid mewn dledus vfydd-dod i Dduw eu brenhin; yr hŷd hynny y dangosodd Duw tu ag at ei holl ddeiliaid ei gariad a'i ffafor a'i ras, mwynhau y rhai sydd berffaith ddedwyddwch: wrth yr hyn y mae yn eglur mai vfydd-dod yw 'r rhinwedd bennaf o'r holl rinweddau, ie a [Page 236] gwreiddyn pob rhinwedd, ac achos pob dedwyddwch. Ond megis y parhause pob dedwyddwch a gwynfyd, pe buase vfydd-dod yn parhau: felly pan dorrwyd vfydd-dod, a dyfod anufydd-dod a gwrthryfel i mewn, fe a ddaeth pob pechod a thrueni i mewn gydâ 'n hwy, ac a orescynnasant y bŷd. Awdur cyntaf yr anufydd-dod a'r gwrthryfel ymma, gwreiddyn pob drygioni, a mam pob aflwydd, oedd Lucifer, yr hwn ar y cyntaf oedd odidog greadur Duw, a'i rwymediccaf ddeiliad, ac am wrthryfelu yn erbyn mawrhydi Duw, a aeth o angel disclair gogoneddus, yn ddiafol ac yn gythraul duaf a haccraf i gŷd; ac a gwympodd o vchder nef, i bwlla gwaelod vffern. Yma y gellwch weled awdur cyntaf a dechreuwr gwrthryfel a'i gobrwy: ymma y gellwch weled pennadur a thâd gwrthryfel, yr hwn wrth berswadio ein rhieni ni Adda ac Efa i gālyn ei anufydd-dod a'i wrthryfelgarwch ef yn erbyn Duw eu creawdwr a'u harglwydd, a'u dug hwy tan fawr sorriant ac anfodd Duw, a barodd eu deol a'u hafwladu hwy allan o baradwys, cyfle pob hyfrydwch a daioni, i'r ddaiar flinderog hon, dyffryn pob trueni, ac a barodd iddynt gael gofidiau yn eu meddyliau, aflwydd, clefydau, heintiau ac angau yn eu cyrph: a'r hyn sydd erchyllach ac ar uthrach nâ 'r holl drueni bydol corphorol, fe a weithiasai wrth hynny dragwyddol a didrangc angau a cholledigaeth iddynt hwy, oni buase fod i Dduw trwy vfydd-dod ei fâd Iesu Grist adferu ac adcyweirio yr hyn a ddarfuase i ddŷn wrth ei anufydd-dod a'i wrthryfelgarwch ei ddistrywio, ac oni buase iddo felly o'i drugaredd ei bardynu ef a maddeu iddo: o'r holl bethau hyn a phob vn o honynt y mae 'r Scrythur lân yn testiolaethu mewn [Page 237] amryw leoedd: fel hyn y gwelwch na allai na'r nêf na pharadwys oddef anufydddod a gwrthryfel ynddynt, ac nad ydynt leoedd i anufyddiō gwrthryfelgar i arhos ynddynt. Fel hyn y gwelwch mai anufydd-dod a gwrthryfelgarwch yw 'r pechod cyntaf a'r mwyaf, a gwreiddyn yr holl bechodau eraill, a'r achos cyntaf a'r pennaf o bob trueni, gofidiau, clefydau, heintiau ac angau bydol corphorol, a'r hyn sydd waeth nâ'r rhai hyn oll fel y dywetpwyd, gwirachos anghau a cholledigaeth dragwyddol hefyd.
Yn ôl torri vfydd-dod fel hyn tu ag at Dduw, a gwrthryfela yn erbyn ei fawrhydi ef, a dyfod pob afl wydd a thrueni i mewn gyda hynny, a gorescyn y byd, rhag llwyr ddifetha a dinystro pob peth, fe a adferodd ac a atcyweiriodd Duw eilwaith, trwy gyfreithiau a roddodd ef i ddynion, reol a threfn vfydd-dod yr hon a ddymchwelasid fel hyn trwy wrthryfel; ac heb law 'r vfydd-dod sy ddyledus i'w fawrhydi ef, fe a ordeiniodd nid yn vnig mewn teuluoedd a thylwythau fod y wraig yn vfydd i'w gŵr, y plant i'w rhieni, y gweifion i'w meistred: ond hefyd pan amlhaodd dynion ac ymwascaru yn helaethach tros yr holl fŷd, fe a osododd ac a ordeiniodd yn ei air sanctaidd fod ym-mhob dinas ac ym-mhob gwlâd amrafael lywodraethwyr a rheolwyr yspysol, i'r rhai y bydde raid i'r rhan arall o'i bobl ef fod yn vfydd.
Megis wrth ddarllen yr Scrythur lân y gallwn weled mewn llawer iawn, ac agos mewn aneirif o leoedd yn yr hên destament ac yn y newydd, fod brenhinoedd a thywysogion, yn gystal y rhai drwg a'r rhai da, yn teyrnasu trwy ordinhâd Duw, a bod eu deiliaid yn rhwymedig i vfyddhau iddynt: a bod Duw yn rhoddi i dywysogion [Page 238] ddoethineb a gallu ac awdurdod mawr: fod Duw yn eu hymddiffyn hwy yn erbyn eu gelynion, ac yn dinistr eu gelynion hwy yn ofnadwy: Pro. 28. 14. fod ofn y brenhin megis rhuad llew ieuangc, a'i lid ef megis cennadon angau, a bod y neb a'i cyffrô ef Pro. 20. 2. i ddigofaint yn pechu yn erbyn ei enaid ei hun: a llawer o bethau eraill ynghylch awdurdod tywysogion, a dyled-swydd deiliaid.
Ond ymma adroddwn ddau le hyspysol allan o'r testament newydd, y rhai a all sefyll yn lle 'r cwbl eraill. Y cyntaf allan o epistol S. Paul at y Rhufeiniaid yn y drydydd bennod ar ddeg, lle mae efe yn scrifennu fel hyn at bob deiliaid, Ymddarostynged Rom. 13. 2. pob perchen enaid i'r awdurdodau goruchaf am nad oes awdurdod ond oddiwrth Dduw, a'r awdurdodau y sydd, gan Duw y maent wedi eu hordeinio. Am hynny pwy bynnag sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu ordinhad Duw, a'r rhai a wrthwynebant a dderbyniant farnedigaeth iddynt eu hunain. Canys tywysogion nid ydynt ofn i weithredoedd da, eithr i'r rhai drwg. A fynni nad ofnech y gallu? gwna 'r hyn sydd dda, a thi a gei glod gantho. Canys gwasanaethwr Duw ydyw, er llês i ti: eithr os gwnei 'r hyn sydd ddrwg, ofna, am nad yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer: canys gweinidog Duw yw efe, i ddial llid ar yr hwn a wnelo ddrwg. O herwydd pa ham anghenrhaid yw ymddarostwng, nid yn vnig o herwydd llid, ond er mwyn cydwybod. Canys am hynny y telwch deyrnged: O blegid gwasanaethwyr Duw ydynt yn ymroi i'r peth ymma. Telwch gan hynny i bawb eu dledion: teyrnged i'r neb y byddo arnoch deyrnged: toll i'r hwn y byddo [Page 239] arnoch doll: ofn i'r hwn y byddo iawn bod ofn, parch i'r hwn a ddyle barch. Dyna etriau S. Paul.
Yr ail lle iydd yn epistol cyntaf S. Petr yn yr ail bennod, a'i eiriau ef yw y rhai hyn. Ymddarostyngwch 1. Pet. 2. 13. i bob dynol ordinhâd er mwyn yr Arglwydd, ac i'r brenhin fel i'r goruchaf, ac i'r llywiawd-wyr fel i'r rhai trwyddo ef a ddanfonir er dialedd i'r rhai drwg ac er mawl i'r rhai da. Canys felly y mae ewyllys Duw, fel y galloch trwy wneuthur yn dda ostegu anwybodaeth dynion ffolion. Megis yn rhyddion, ac nid fel rhai yn cymmeryd rhydd-did yn lle cochl malis, eithr fel gwasanaeth-wyr Duw. Perchwch bawb: cerwch gydymdeithas brawdol: ofnwch Dduw, anrhydeddwch y brenhin. Gweinidogion, ymddarostyngwch mewn pob ofn i'ch meistred, nid yn vnig i'r rhai da cyweithas, eithr i'r rhai anghyweithas hefyd. Hyd hyn allan o S. Petr.
Wrth y ddau le hyn o'r Scrythur lân y mae yn eglur ddigon fod brenhinoedd a brenhinesau a thy wysogion eraill (oblegid am a wdurdod a gallu y mae efe yn dywedyd, pa vn bynnag y bo ai mewn gwŷr ai mewn gwragedd) wedi eu hordeinio gan Dduw, ac y dylai eu deiliaid vfyddhau iddynt a'u hanrhydeddu: fod y cyfryw ddeiliaid ac sydd anufyddion a gwrthryfelgar yn erbyn eu tywysogion, yn anufyddion i Dduw, ac yn annog eu damnedigaeth eu hunain: fod llywodraeth tywysogion yn ddawn mawr oddiwrth Dduw wedi ei roddi er llês i'r wlad, yn enwedig i'r daionus a'r duwiol: er mwyn cyssur a diddan wch y rhai y mae Duw yn rhoi ac yn dyrchafu tywysogion: ac o'r gwrthwyneb, er ofn a chospedigaeth i'r rhai drŵg a'r annuwiol.
[Page 240] Yn ddiweddaf, os dylai weison vfyddhau i'w meistred, nid yn vnig os byddant cyweithas, ond er eu bod yn anghyweithas hefyd: felly, ac yn hytrach o lawer, y dylyai ddeiliaid fod yn vfydd, nid yn vnig i'w tywysogion da cyweithas, ond hefyd i'r rhai llym-dost creulon.
Am hynny nid o ddamwain a thynghedfen (fel y galwant hi) nac o vchelfryd gwŷr neu wragedd bydol yn dringo o honynt eu hunain i arglwyddiaethu, y digwydd bod brenhinoedd a brenhinesau a thywysogion a llywodraeth-wyr eraill ar bobl a fo deiliaid iddynt: ond y mae pob brenhinoedd a brenhinesau a llywiawdwyr eraill wedi eu happwyntio yn hyspysol gan ordinhâd Duw. Ac megis y mae Duw ei hun, yr hwn sydd o fawrhydi a gallu a doethineb anfeidrol, yn rheoli ac yn llywodraethu pob peth yn y nef ac yn y ddayar, megis pengoruwch ac vnig frenhin ac ymmerodr ar y cwbl, am ei fod ef yn vnig yn gallu dwyn a chymmeryd arno ofal a chur tros y cwbl: felly yr appwyntiodd, y gosododd ac yr ordeiniodd ef dywysogion dayarol ar deyrnasoedd hyspysol ac arglwyddiaethau yn y ddayar, er mwyn gwachelyd pob ymgymmysc ac anllywodraeth, y rhai a fyddent yn y bŷd, pettai heb lywodraethwyr; ac er mawr lonyddwch a lles i ddynion dayarol eu deiliaid hwy: a hefyd fel y gallai y tywysogion eu hunain, mewn awdurdod, a gallu a doethineb a rhagddarbod aeth a chyfiawnder yn llywodraethu eu pobl a'u gwledydd a roddwydd tan eu gofal hwynt; fod yn gyffelybiaeth o'i nefol lywodraeth ef, hyd y galler arwyddoccau a dangos chyffelybrwydd o fawrhydi pethau nefol, trwy waeledd pethau [Page 241] dayarol. Ac o blegid y gyffelybsaeth honno sydd rhwng vnig lywiawdwr nef, a theyrnasoedd dayarol a lywodraether yn dda, mae ein Iachāwdwr Christ mewn amryw ddammegion yn dywedyd, Mat. 18. 23. & 22. 2. fod teyrnas nef yn debyg i ddyn a oedd frenhin: ac fel yr ydys yn fynych yn yr Scrythur lan yn rhoi enw brenhin i Dduw; felly y mae 'n wiw gan Dduw ei hun yn yr vn Scrythyrau wneuthur tywysogion dayarol yn gyfrannogion o'i enw yntef, a'u galw hwy yn Dduwiau: a diāmau mai o blegid y cyffelybrwydd llywodraeth y sydd neu a ddylei fod rhyngthynt a Duw eu brenhin, y mae efe yn gwneuthur hynny.
A pho nessaf at gyffelybiaeth llywodraeth nefol y delo tywysog dayarol yn ei lywodraeth, mwyaf dawn trugaredd Duw yw efe i'r wlâd a'r bobl y byddo efe yn teyrnasu arnynt: a pho pellaf yr elo tywysog dayarol oddiwrth siampl y llywodraeth nefol, mwyaf pla digofaint Duw, a chospedigaeth cyfiawander Duw yw efe i'r wlâd a'r bobl, y rhai o herwydd eu pechodau y gosododd Duw y cyfryw frenhin a llywodraethwr arnynt. O blegid y mae yn eglur wrth yr Scrythyrau a pheunydd trwy addysc amser fod maentaenio pob rhinwedd a duwioldeb, ac o hynny dedwyddwch a llyddiant teyrnas a phobl, yn sefyll yn fwy ar dywisog doeth daionus, nag mewn lliaws mawr o wyr eraill a fo deiliaid: ac o'r gwyrthwyneb, y mae cwymp pob rhinwedd a duwioldeb, ac o hynny adfail a llwyr ddinistr teyrnas a phobl, yn tefu ac yn dyfod yn fwy oddiwrth lywodrethwr dibwyll drwg, nag oddiwrth lawer milo wyr eraill a fo deiliaid.
[Page 242] Fel hyn y dyweid yr Scrythur lân, Gwyn dy fyd di y deyrnas, medd y pregethwr, sydd a'th frenin wedi Pre. 10. 17. ei eni o bendefigion, a'th dywysogion yn bwytta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder ac nid er diotta. A thrachefn, Brenhin doeth cyfiawn sydd Diaur. 16. 29. 4 Eccles. 10. Esai 32. 12. yn cyfoethogi ei deyrnas a'i bobl: a brenhin daionus, trugarog, rhadlon sydd megis ymguddfa rhag gwynt, a lloches rhag llifeiriant, megis afonydd dyfroedd mewn sychder, megis cyscod craig fawr mewn tir sychedig. A thrachefn y mae 'r Scrythyr lan am dywysogion dibwyll drygionus yn dywedyd fel hyn, Gwae di 'r wlad sydd a bachgen yn frenhin i ti, a'th dywysogion yn bwytta yn foreu. A thrachefn, Pan fytho 'r annuwiol Preg. 10. 16. yn llywodraethu, y bobl a ocheneidiant. A thrachefn, Tywysog angell a ddinystria 'r bobl, Diau. 28. Diaur 29. 2. a brenhin cybydd a anrheithia ei ddeiliaid.
Fel yn y dywaid yr Scrythyrau, fel hyn y tystiolaetha amser am dywysogion da a drŵg.
Pa beth wrth hynny a wna deiliaid? Ai vfyddhau a wnant i dywysogion dewr, gwrol, doeth, daionus, a dirmygu ac anufyddhau a gwrthryfela yn erbyn bechgyn a fo yn dywysogion iddynt, ac yn erbyn llywodraethwyr dibwyll drygionus? Na atto Duw. O herwydd peth peryglus enbaid fydde rhoi ar ddeiliaid farnu pa dywysog sydd ddoeth a duwiol, a'i lywodraeth yn dda, a pha dywysog nid yw felly: megis pe galle 'r droed farnu 'r pen: rhyfyg echryslon fydde hynny, ac ni all amgen na magu gwrthryfelgarwch. O blegid pwy sy mor barod ac mor hyblyg i wrthryfela, ac yw y cyfryw ysprydion vchelfryd? O ddiwrth bwy y daw y cyfryw gwymp anferth ar deyrnasoedd? Ond mwyaf echrys ac all fod yw gwrthryfel? a [Page 243] phwy sy barottaf i'r drygau mwyaf, ond y dynion gwaethaf? wrth hyny gwrthryfelwyr, y rhai gwaethaf o'r holl ddeiliaid, sydd barottaf i wrthryfel, y gwaethaf o'r holl feiau, a phellaf oddiwrth ddledswydd deiliad da: megis o'r gwrthwyneb, y deiliaid goreu sydd gadarnaf a dian wadalaf mewn vfydddod, megis y rhinwedd oreu a phennaf ar ddeiliaid da. Wrth hynny mor an-nheilwng o beth fydde wneuthur y deiliaid gwaethaf a hyblyccaf i wrthryfel a phob drygioni, yn farnwyr ar eu tywysogion, ar eu llywodraethwyr ac ar eu cynghorwyr, i farnu pa rai o honynt sydd dda ac a ellir eu goddef, a pha rai sydd ddrŵg ac mor anhawdd eu goddef ac y mae yn anghenrhaid eu rhoi nhwy heibio gan wrthryfelwyr, y rhai sydd bob amser yn barod, megis y deiliaid gwaethaf, i wrthryfela yn gyntaf yn erbyn y tywysogion goreu, yn enwedig os ieuaingc fyddant mewn oedran, os gwragedd fyddant, os byddant tirion a chyweithas yn eu llywodraeth; o blegid eu bod yn gobeithio wrth eu drygionus hyder y gallant yn hawdd orescyn eu gwendid a'u tirionder hwy; neu o'r hyn lleiaf y gallant ofni meddyliau y cyfrwy dywysogion yn gymmaint, fel y caffont ddiangc yn ddigosp am eu gweithredoedd echryslon.
Ond gan fod y gwrthryfelwr goreu yn waeth na'r tywysog gwaethaf, a gwrthryfel yn waeth na llywodraeth waethaf y tywysog gwaethaf a fu erioed etto: y mae gwrthryfelwyr yn weinidogion anghynnhefur, a gwrthryfel yn feddyginiaeth anaddas afiachus i ddywygio dyffygion bychain mewn llywodraeth, gan fod y cyfryw ymwaredau drygionus yn waeth o lawer nag vn clwyf neuan-nrhefn ac a all bod ynghorph y deyrnas. [Page 244] Ond pa beth bynnag a fo y tywysog neu ei lywodraeth, mae yn eglur fynychaf am y cyfryw dywysogion ac y bo rhai o'u deiliaid yn tybied eu bod yn dduwiol iawn, ac yn llawen ganthynt fyw tan eu llywodraeth hwy, fod eraill o'u deiliaid yn tybied fod yr vn tywysogion yn ddrwg ac yn annuwiol, ac am hynny yn ewyllysio cyfnewid.
Am hynny pe bai bob deiliaid ac sydd anfodlon i'w tywysog yn gwrthryfela yn ei erbyn, ni bydde vn deyrnas byth heb wrthryfel ynddi. Cymmesurach fydde i wrthryfelwyr wrando ar gyngor y doethion, a rhoi lle i'w barn hwy, a chanlyn siampldeiliaid vfyddion, megis y mae yn rhesymmol bod i'r rhai y mae 'r cyfryw wyniau drwg wedi dallu eu meddyliau, roi lle i'r rhai a fo o synwyr a barn ddifreg, a bod i'r rhai gwaeth af roi lle i'r rhai goreu: ac felly y galle deyrnasoedd barhau mewn hir vfydd-dod, heddwch a llonyddwch.
Ond beth os bydd y tywysog yn angall ac yn ddrwg yn siccr, a bod yn amlwg hefyd yngolwg pob dŷn ei fod ef felly? Yr wyf finneu yn gofyn, beth os o achos drygioni ei ddeiliaid y mae'r dywysog yn angall ac yn ddrwg? A annog y teiliaid trwy eu hanwireddau Dduw i roi iddynt, er eu cospi yn deilwng, dywysog angall drŵg, a chwedy hynny gwrthryfelu yn eu erbyn ef, ac yn erbyn Duw hefyd yr hwn er cospedigaeth arnynt am eu pechodau, a roes iddynt y cyfryw dywysog?
A fynnwch chwi glywed yr Scrythur lân ynghylch hyn o beth? y mae duw, medd yr Scrythau O [...]e 13. 11. lan, yn peri i'r annuwiol deyrnasu o blegid pechodau'r bobl. A thrachefn, rhoddaf it frēhin yn fy nîg (vn drwg y mae yn ei feddwl) a dygaf ef ymmaith [Page 245] yn fy llid, gan feddwl yn enwedig pan ddygo ef ymmaith frenhin da am bechodau 'r bobl: megis yn hwyr o flynyddoedd y dygwyd ymmaith ein Iosias daionus ni brenhin Edward yn ieuangc ac yn-nechreuad ei oes am ein pechodau ni. Ac o'r gwrthwyneb y mae 'r Scrythyrau yn dangos 2. Par 2. 9. fod Duw yn rhoddi doethineb i dywysogion, ac yn gwneuthur i frenhin da doeth deyrnasu ar y Diarh. 16. bobl y bo efe yn ei garu, ac a fo yn ei garu yntef. A thrachefn, Os y bobl a vfyddhânt Duw, yna y llwyddant hwy a'u brenhin, os amgen, hwy, a ddyfethir a'u brenhin hefyd, medd Duw trwy enau 2. Sam. 12. 2 [...]. Samuel.
Ymma y gwelwch mai Duw sydd yn gosod tywysogion drwg yn gystal a rhai da, ac am ba achos y mae efe yn gosod pob vn o'r ddau. Os mynnwn ninnau na chael rhoi i ni dywysog da, na pharhau o hono, yn awr a chennym ninnau y cyfryw vn, cyffrown Dduw i wneuthur hynny, trwy fod yn vfyddion i Dduw ac i'n tywysog. Os mynnwn gael tynnu ymmaith dywysog drwg (pan ddanfono Duw y cyfryw vn) a chael vn da yn ei le, tynnwn ninnau ymmaith ein camweddau, y rhai sydd yn annog Duw i osod y cyfryw vn arnom ni, yno naill ai fe a'i tynn Duw ef ymmaith, ynteu fe a'i gwna ef o dywysog drwg yn dywysog da, os nym yn gyntaf a newidiwn ein drygioni i ddaioni.
A fynnwch chwi glywed yr Scrythur lân? y mae calon y brenhin yn llaw 'r Arglwydd, ac efe Diarh. 21. 10. a'i trŷ hi lle mynno ei hun. Fel hynny y dywaid yr Scrythur. Am hynny trown ni oddiwrth ein pechodau at yr Arglwydd â'n holl galonnau, ac efe a drŷ galon y brenhin i'n llonyddwch a'n llwyddiant [Page 246] ni: os amgen, nid yw ond drygioni dauddyblyg a thridyblig i ddeiliaid am eu pechodau haeddu cael tywysog drygionus, a chwedy hynny gwrthryfela yn ei erbyn ef, ac annog Duw i'w plago fwyfwy. Nag ê, naill ai haeddwn gael tywylog da, ai goddefwn yn ymmyneddgar y cyfryw vn ac a haeddasom. A pha vn bynnag a fo 'r tywysog ai drwg ai da, moeswch i ni, yn ôl cyngor yr Scrythur lân, weddio tros ein tywysog, ar barhau a chynnyddu o hono mewn daioni, os da fydd ef, ac ar wellhau o hono, os drwg fydd.
A fynnwch chwi glywed yr Scrythyrau ynghylch y pwngc angenrheidiol ymma? Cynghoriyr 1. Tim. 2. 1. ydwyf am hynny, medd S. Paul, ymmlaen pob peth, fod ymbil, gweddiau, deisyfiadau a thalu diolch tros bob dŷn. Tros frenhinoedd a phawb a osodwyd mewn awdurdod, fel y gallom ni fyw yn llonydd, ac yn heddychol trwy bob duwioldeb, ac honestrwydd; canys hyn sydd dda a chymmeradwy gar bron Duw ein ceidwad, &c. Dymma gyngor S. Paul. A phwy, adolwg, oedd dywysog ar y rhan fwyaf o'r bŷd, pan roes sanctaidd Yspryd Duw, trwy enau S. Paul, y wers hon iddynt? yn wir, Caligula, Claudius neu Nero, y rhai oeddynt nid yn vnig heb fod yn Gristianogon, ac yn baganiaid, ond hefyd naill ai yn llywodraeth-wyr angall, ai yn dyranniaid o'r creulonaf.
A fynnwch chwi glywed gair Duw wrth yr Iddewon, pan oeddynt garcharorion tan Nabuchadonosor brenhin Babylon, wedi iddo ladd eu brenhin hwy, a'u pendefigion, a'u rhieni, a'u plant, a'u ceraint, a llosci eu gwlad hwy a'u dinasoedd, hyd yn oed Ierusalem ei hunan, a'r [Page 247] Deml sanctaidd, a dwyn y gweddillion eraill o honynt yn gaethion, yn fyw gyd ag ef i Babylon?
A fynnwch chwi glywed beth y mae prophwyd Baruch yn ei ddywedyd wrth bobl Dduw a hwy mewn caethiwed? Gweddiwch dros eiuioes Baruch. 1. 11. Nabuchadonosor brenhiu Babylon, a thros einioes Baltasar ei fâb ef medd y prophwyd, ar fod eu dyddiau hwynt fel dyddiau y nefoedd ar y ddayar: ac ar roddi o'r Arglwydd i ni nerth, a goleuo o hono ef ein llygaid ni, fel y byddom ni byw tan gyscod Nabuchadonosor brenhin Babylon, a than gyscod Baltasar ei fâb ef, ac y gwasanaethom hwy lawer o ddyddiau, ac y caffom ffafor yn eu golwg hwynt. Gweddiwch hefyd trosom ni at yr Arglwydd ein Duw, o herwydd ni a bechasom yn erbyn yr Arglwydd ein Duw.
Dyna eiriau y prophwyd Baruch, y rhai a ddywedodd ef wrth bobl Dduw am y brenhin hwnnw oedd genhedl-ddŷn a thyrant a chreulon orthrymmudd iddynt, ac a laddasai lawer mil o'u cenhedl hwy, ac a anrheithiase eu gwlad hwy, gan gyfaddef i'w pechodau hwy haeddu cael y cyfryw dywysog i deyrnasu arnynt.
Ac a gaiff yr hên Gristianogion, wrth gyngor S. Paul, weddio tros Caligula, Claudius neu Nero? A gaiff yr Iddewon weddio tros Nabuchadonosor? Gan nad oedd yr ymmerodron a'r brenhinoedd hyn ond dieithraid iddynt, a phaganiaid ac anffyddloniaid, llofruddwyr, tyranniad a gorthrymwyr creulon arnynt, ac anrheithwyr eu gwlad hwy a'u gwlad-wyr a'u ceraint, ac a loscasant eu pentrefydd, a'u trefi a'u dinasoedd a'u temlau hwy? ac oni weddiwn ni tros hir a llwyddiannus a duwiol deyrnasiad ein tywysog naturiol, ac [Page 248] nid dieithr (yr hyn yr ydys yn ei farcio yn lle dawn mawr yn yr Scrythur lân) ein tywysog Christianogaidd, ein grasusol oruchaf, ac nid tywysog paganaidd anghrededyn? Oni weddiwn ni gydag iechyd ein trugaroccaf a'n carediccaf bennaeth, yr hwn sydd yn ein cadw ni a'n gwlad mewn heddwch a llonyddwch a diogelwch, ac nid ydyw nac yn greulon, nac yn dyrant, nac yn anrheithio ein da ni, nac yn tywallt ein gwaed, nac yn distrywio ac yn llosci ein trefi a'n dinasoedd a'n gwledydd ni, fel yr oedd y rhai hynny, tros y rhai er hynny y clywsoch y dylyai eu deiliaid weddio?
Na ddangoswn cymmaint o anniolchgarwch tu ag at Dduw a'n goruchaf, a bod o honō heb ddiolch i Dduw yn wastadol am y llywodraeth ymma, a'r mawr a'r gwastadol ddoniau a chymmwynasau yr ydys yn eu tywallt arnom trwy 'r cyfryw lywodraeth.
Na wnawn cymmaint pechod yn erbyn Duw, yn ein herbyn ein hunain ac yn erbyn ein gwlad, a bod o honom heb weddio ar Dduw yn wastadol, ar hir barhau o'r cyfryw rasol lywodraethwr arnom ni a'n gwlad. Ac onid ê ni a fyddwn annheilwng i fwynhau 'r cymmwynasau a'r doniau hynny ar law Dduw, y rhai a gawsom hyd yn hyn trwyddo ef; ac a haeddwn gwympo i'r holl aflwydd a blinderau, y rhai yr ydym ni a'n gwlad trwy ras Duw wedi diangc oddiwrthynt hyd yn hyn trwy 'r cyfryw lywodraeth.
Pa beth a ddywedwn ni am y deiliaid hynny? a allwn ni eu galw hwy yn ddeiliaid, y rhai nid ydynt nac yn diolch nac yn gweddio vn gronyn ar Dduw tros y cyfryw rasol oruchaf? ond ydynt eu hunain yn cyfodi mewn arfau, yn cynnull torfeudd [Page 249] a byddinoedd o wrthryfelwyr i dorri'r heddwch cyffredinol sy wedi parhau cyhyd, ac i wneuthur, nid rhyfel, ond gwrthryfel, i roi eu grasusol oruchaf mewn perigl, i beryglu stat eu gwlad (yr hon y dylyent fod yn barod i golli eu bywyd yn eu hymddiffyn) ac a hwy yn Frutaniaid, i yspeilio, i anrheitbio, i ddistrywio ac i losci Bruttaniaid, a hynny ym-Mhrydain, i ladd ac i fwrdrio eu cymmydogion a'u ceraint a'r gwlad-wyr eu hunain, i wneuthur pob drygioni ac aflwydd, ie a mwy nag a wnai neu a allai elynion dieithr ei wneuthur.
Pa beth a ddywedwn am y dynion hyn, y rhai sydd yn ymddwyn mor wrthryfelgar yn erbyn eu grasol oruchaf, a hwythau yn rhwymedig wrth air Duw, pe buase Dduw am eu hanwiredd yn rhoddi iddynt genhedlddyn creulon anghredadwy i deyrnasu arnynt, i vfyddhau iddo ac i weddio trosto? Pa beth a ellir ei ddywedyd am danynt hwy? mae eu hangharedigrwydd, eu hannatturiolder, eu hanwiredd a'u hechryslonder yn eu gweithredoedd, cyn belled yn passio ac yn rhagori ar bob peth ac ar bob dim ac a aller ei adrodd neu ei draethu mewn geiriau.
Yn vnig damunwn i'r cyfryw rai edifaru o honynt ar frŷs, a hynny â'r fath ddwys ofid calon, ac y mae 'r fath erchyll bechodau yn erbyn mawrhydi Duw, yn ei ofyn; y rhai o wir ddygyn anniolchgarwch sydd yn cyfodi, nid yn vnig yn erbyn eu grasol dywysog ac yn erbyn eu gwlâd naturiol, ond yn erbyn eu holl wlad-wyr gwragedd, a phlant; yn eu herbyn eu hunain, eu gwragedd a'u plant a'u ceraint, a thrwy siampl mor annuwiol yn erbyn holl Gred, ac yn erbyn pob [Page 250] mâth ar bobl trwy 'r holl fŷd.
Y cyfryw edifeirwch, meddaf, a'r cyfryw ofid calon, ac sydd weddus i'r cyfryw ddrygioni ac a amcanasant hwy, Duw a'i caniattao i bawb a gyfodasant ar feddwl ac amcan drygionus. A Duw o'i drugaredd a ganiattao i ninnau ac i bob deiliaid eraill, fod o honom yn anghyffelyb i'r cyfryw rai, ac yn gyffelyb i ddeiliaid daionus, naturiol, caredig, vfydd: ie ar fod o honym nid yn gyffelyb yn vnig i'r cyfryw rai, ond yn gyfryw rai ein hunain, ac nid yn vnig i ddangos pob vfydd-dod ein hunain, ond cynnifer o honom ac sydd abl, hyd yr eithaf o'n gallu, a'n nerth a'n deall, i atal ac i ddarostwng y cyfryw wrthryfelwyr a gwrthryfeloedd yn erbyn Duw, a'n grasol oruchaf, a'n gwlâd naturiol, ar bob achos ac a gynnygier i ni. Ac onis gwnawn y cwbl ac a allom eiwneuthur, ni a fyddwn annuwiolaf dynion, a theilyngaf i oddef yn y diwedd y cyfryw ddygyn blaau ac a dywalltodd Duw ar wrthryfelwyr bob amser eirioed.
Gwnawn wastadol weddiau at yr holl-alluog Dduw o eigion ein calonnau ar iddo roddi ei râs, a'i allu, a'i nerth i'n grasol frenhm Iames, i orescyn ac i ddarostwng pawb oll o'i wrthryfelwyr cartrefol, a ei elynion dieithr; fel gwedy darostwng a llonyddu pob gwrthyfel, a gwrthladd a throi heibio bob rhyfeloedd oddiallan, y gallom nid yn vnig fod yn ddiogel, a hir-barhau mewn pob vfydd-dod i'n grasol oruchaf, ac yn y cyfryw fywyd heddychol tangneddefol ac a gawsom hyd yn hyn tan ei fawrhydi ef, mewn pob diogelwch: ond fel y bo i'n grasol frenhin Iames, ac i ninnau ei ddeiliaid ef, fyw ynghyd mewn [Page 251] vfydd-dod i Dduw brenhin y brenhinoedd, a'i sanctaidd gyfreithiau yn y byd hwn, mewn pop rhinwedd a duwioldeb; fel y gallom yn y byd a ddaw fwynhau ei deyrnas dragwyddol ef: Yr hyn a attolygaf i Dduw ei ganiattau, i'n grasol oruchaf ac i ninnau i gyd, er mewn ei Fâb ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn gydâ 'r Tâd a'r Yspryd glan, vn Duw a brenhin tragwyddol y bô pob gogoniant, anryhdedd adiolch byth heb ddiwedd. Amen.
Felhyn y clywsoch y rhan gyntaf o'r Homili hon bellach bobl ddaionus.
Gweddiwn.
OAlluoccaf Dduw, Arglwydd yr arglwyddi, llywodraethwr yr holl greaduriaid, vnig roddwr pob buddugoliaeth, yr hwn yn vnig wyt abli gyfnerthu 'r gwan yn crbyn y galluog, ac i orchfygu aneirif liaws o'th elynion â golwg ychydig o'th weision a fo yn galw arnat ac yn ymddiried ynot: Ymdiffyn o Arglwydd dy wasanaethwr di a'n llywydd ninnau tanat ti ein brenhin Iames, a'r holl bobl a orchymmynnwyd tan ei ofal ef. O Arglwydd gwrthladd greulondeb pawb oll ac sydd elynion cyffredinol i'th wirionedd di a'th dragywyddol air, i'w tywysog a'u gwlâd naturiol eu hunain, yn amlwg tan y goron a'r deyrnas ymma o Brydain, yr hon a ddarfu i ti o'th dduwiol ragluniaeth ei happwyntio yn ein dyddiau ni i lywodraeth dy wasanaethwr ein goruchaf a'n grasol frenhin. O drugaroccaf Dâd, os bydd dy sanctaidd ewyllys di, meddalha a thynera galonnau carregog pawb ar sydd yn ymdderchafu yn erbyn [Page 252] dy wirionedd di, ac yn ceisio naill ai trallodi llonyddwch y deyrnas ymma o Brydain, a gorthrymmu ei choron hi, a thro hwy i wybodaeth dy Fâb, vnig Iachawdwr y byd, Iesu Christ, fel y gallom ni a hwythau ynghyd ogoneddu dy drugareddau di. Goleua, attolygwn i ti, eu calonnau anwybodus hwy, i gofleidio dy wirionedd di a'th air, ac onid ê gostwng eu creulonder hwy (O alluoccaf Arglwydd) fel y gallo ein gwlâd Gristianogaidd ni, gydâg eraill ac sydd yn cyffesu dy enw sanctaidd di, gaffael trwy dy nerth a'th gynnorthwy di, ddiogelwch oddiwrth bob gelynion, heb dywallt gwaed Christianogion, fel y Diddener pawb oll ac a orthrymmir trwy eu creulondeb hwy, ac y cyssurer y rhai sy mewn ofn eu creulonder hwy: ac yn ddiwethaf fel y gallo pob teyrnasoedd Christianogaidd, ac yn enwedig y deyrnas ymma o Brydain, tan dy ymddiffyn a'th nawdd di, barhau yngwirionedd dy Efengyl di, a mwynhau perffaith heddwch, llonyddwch a diogelwch: ac fel y gallom ninnau am y trugaredauhyn, yn gydssylltedig, ag vn gysson galon a lleferydd, yn ddiolchgar roi i ti bob moliant ac anrhydedd: fel y bo i ni wedi ein cyssylltu ynghyd yn ein plith ein hunain mewn vn duwiol vndeb a chyttundeb, yn wastad fawrygu dy ogoneddus enw, yr hwn gyd a'th Fab ein Iachawdwr lesu Christ, a'r Yspryd glan, wyt vn tragwyddol, ollalluog a thrugaroccaf Dduw, i'r hwn y bo pob moliant ac anrhydedd byth heb ddiwedd. Amen.
¶ Yr ail rhan o'r bregeth yn erbyn Anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.
MEgis y darfu i mi yn y rhan gyntaf o'r traethawd yma ynghylch vfydddod deiliaid i'w tywysogion ac yn erbyn anufydd-dod a gwrth-ryfelgarwch, adrodd i chwi amryw leoedd allan o'r Scrythur lân er profi hynny: felly y bydd da er dangos a chadarnhau 'r athrawiaeth iachus hon yn well, adrodd i chwi allan o'r Scrythur lân siampl neu ddwy o vfydddod deiliaid, nid yn vnig i'w llywodraethwyr daionus grasion, ond hefyd i'w tywysogion dryonus anghyweithas. Megis nad oedd Saul o'r fath oreu, ond o'r fath waethaf ar dywysogion, am ei fod allā o ffafor Duw am ei anufydd-dod yn erbyn Duw yn arbed, trwy gam-dosturi, y brenhin Agag, yr hwn a orchymmynnase 'r Holl-alluog Dduw ei ladd, yn ôl cyfiawnder Duw yn erbyn ei elyn tyngedig: ac er bod Saul o ddwyfoldeb ar fedr aberthu i anrhydedd a gwasanaeth Duw y cyfryw bethau ac a arbedasai ef o'r eiddo 'r Amaleciaid: etto fe a argyoeddwyd Saul am ei gam drugaredd a 'i ddwyfoldeb, ac a ddywedpwydd iddo mai gwell y buasai vfydd-dod yn rhyngu bodd Duw, nâ 'r cyfryw dynerwch: ac y mae 'r tirionder pechadurus hynny, medd Saint Homil 1. aduersus Iudaeos. Chrysostom, yn greulonach gar bron Duw, nag ydyw lladd a cholli gwaed pan fyddo Duw yn gorchymmyn.
Er mor ddrygionus oedd brenhin Saul, ac er ei fod allan o ffafor Duw, etto 'r oedd ei ddeiliad Dafydd, y goreu i gyd o'i holl ddeiliaid ef, a'r [Page 254] dewrwychaf oll yngwasanaeth ei dywysog a'i wlad mewn rhyfeloedd, yr vfyddaf a'r carediccaf mewn heddwch, ar cywir af a'r ffyddlouaf bob amser i'w oruchaf a'i arglwydd, a phellaf i 1. Sam. gyd oddiwrch bob math ar wrthryfel, yn viyddhau iddo yn wasted. Am yr hwn wasanaeth poenedig, 2. Sam. cywir, ffyddlon, y talodd brenhin Saul iddo nid yn vnig ag angharedigrwydd mawr, ond fe a geisioedd hefydd ēi ddistrywio a'i ladd ef ymmhôb modd ac allai: fel y gorfu ar Ddafydd achub ei einioes, nid trwy wrthryfel na gwrthwynebu, on wrth gilio ac ymguddio allan o olwg y brenhin.
Er hynny i gyd, pan daeth brenhin Saul ryw amser wrtho ei hun i'r ogof lle 'r oedd Dafydd, fel y gallasai Ddafydd yn hawdd ei ladd ef, etto ni wnai ef ei hunan niweid iddo, ac nis goddefai i'r vn o'i wyr osod dwylo arno.
Amser arall yr aeth Dafyd i mewn liw nos gydag vn Abisai, gwr dewrwych creulon, i'r babell lle 'r oedd brenhin Saul yn gorwedd ac yn cyscu, lle gallasai ef etto yn haws ei ladd ef, etto ni wnai ef ei hunan eniwed iddo ac nis goddefai i Abisai (yr hwn oedd ewyllysgar a pharod i lladd brenhin Saul) vnwaith gyffwrdd ag ef.
Fel hyn y gwnaeth Dafydd a'i dywysog, er bod brenhin Saul yn wastadol yn ceisio ei ladd a'i ddyfetha ef. Nibydd anghymmhesur, gyda gweithredoedd Dafydd, adrodd ei eiriau ef hefyd, a dangos i chwi beth a ddywedodd ef wrth y rhai a'i hannogasant i gymmeryd ei fantais a'i gyfle i ladd brenhin Saul ei elyn angheuol, pan alle. Na atto 'r Arglwydd i mi, medd Dafydd, wneuthur [...]. Sam. 24. 7. [Page 255] y peth hyn i'm meistr enneiniog yr Arglwydd, gan estyn fy llaw yn ei erbyn ef: o blegid enneiniog yr Arglwydd yw efe. Pwy a estynne 1. Sam. 26. 9. i law yn erbyn enneiniog yr Arglwydd ac a fyddai ddiniweid? fel y mae 'r Arglwydd yn fyw naill ai 'r Arglwydd a'i tery ef, neu ei ddydd ef a ddaw i farw, neu efe a ddiscyn i'r rhyfel ac a ddifethir: yr Arglwydd a'm cadwo i rhag estyn fy llaw yn erbyn eneiniog yr Arglwydd.
Dyna eiriau Dafydd a ddywedodd ef ar amryw amseroedd wrth ei weision a'i hannogent ef i ladd brenhin Saul, pan oedd amser a chyfle yn gwasanaethu iddo i wneuthur hynny. Ac ni adawn ni heibio ychwaith, y moddwedi i Amaleciad, meddai efe, ladd brenhin Saul, a hynny ar orchymmyn Saul ei hun (am nas mynnai efe fyw yn hwy, am iddo golli 'r maes yn erbyn ei elynion y Philistiaid) a'r Amaleciad hwnnw yn 1. Sam. 24. 4. 1. Chro. 10. 4. 2. Sam. 1. 10. gwneuthur ffrwst mawr i ddwyn y gair a'r newyddion cyntaf o hynny i Ddafydd megis pe buasei lawenchwedl gantho ef farwolaeth ei elyn angheuol, ac yn dwyn gyd ag ef y goron oedd am ben brenhin Saul, a'r fraichled oedd am ei fraich ef, megis profedigaethau o wirionedd ei newyddion, ac megis anrhegion addas a hyfryd i Ddafydd, yr hwn a appwyntiase Dduw i fod yn frenhin yn y deyrnas ar ôl Saul: etto cy belled oedd Dafydd ffyddlon dduwiol oddiwrth fod yn llawen gantho y newyddion imma, ac yr ymaflodd 2. Sam. 1. 13. 17. ef yn ei ddillad ac a'u rhwygodd hwynt, ac a wylodd, ac a alar-nadodd ac a ymprydiodd: a chy belled oedd ef oddiwrth roddi diolch i'r gennad, nac am ei gennadwri a'i newyddion, nag am ei anrhegion a ddygasai ef, ac y dywedodd ef [Page 256] wrtho, Pa fodd nad ofnaist di estyn dy law i ddifetha enneiniog yr Arglwydd? ac yn y man efe a orchymmynnodd i vn o'i weision ladd y gennad, ac a ddywedodd, Bydded dy waed di ar dy ben dy hun, canys dy enau dy hun a dystiolaethodd yn dy erbyn, gan ddywedyd, myfi a leddais enneiniog yr Arglwydd.
Y siampl hon, fy-ngharedigion, sydd odidog, ac fe a ddylid ystyried ei gogylcheddau hi yn dda, er mwyn addyscu pob deiliaid yn eu rhwymedig a'u dyledus vfydd-dod, ac i'w dychrynu hwy yn wastadol rhac amcanu na gwrthryfel nac eniwed yn erbyn eu tywysog.
O'r naill ran, nid oedd Dafydd yn vnig yn ddeiliad da cywir, ond hefyd yn gyfryw ddeiliad ac a wasanaethasei ei dywysog mewn heddwch a rhyfel, ac achubasai ei anhrydedd a'i wlad-wyr oddiwrth fawr berigl yr angrhedadwy, a gelynion dieithr creulon oeddynt yn rhyfela yn erbyn y brenhin a'i wlâd: Am yr hyn beth yr oedd Dafydd mewn ffafor odidog gyd a'r holl bobl, fel y gallasai ef gael aneirif o honynt ar ei orchymmyn, pe buasei yn amcanu dim.
Heb law hyn, nid oedd Dafydd yn ddeiliad cyffredinol cwbl, ond etifedd cyfnesaf i'r goron a'r deyrnas, a chwedi i Dduw ei appwyntio i deyrnasu ar ôl Saul: ac megis yr oedd hynny yn chwanegu ffafor y bobl a'i gwyddent tu ag at Ddafydd, felly yr oedd hefyd yn gwneuthur gwahaniaeth a rhagoriaeth rhwng cyflwr Dafydd a'r deiliaid cyffredinol hollawl. A'r hyn sy fwyaf i gyd, yr oedd Dafydd yn fawr ac yn odidog mewn ffafor gyd â Duw: ac o'r gwrthwyneb, yr oedd brenin Saul allan o ffafor Duw (am yr achos a [Page 257] ddywetpwyd o'r blaen) ac megis yn elyn i Dduw, ac am hynny yn gyffelyb mewn heddwch a rhyfel i fod yn niweidiol ac yn ddrwg i'r wlad, ac yr oedd llawer o'i ddeiliaid ef yn gwybod hynny, am ddarfod i Samuel ei geryddu ef yn gyhoeddus am ei anufydd-dod i Dduw, yr hyn a allasai beri i'r bobl wneuthur llai o fri a chyfrif o hono.
Yr oedd brenhin Saul hefyd yn elyn angheuol Ddafydd, er nas haeddasai Ddafydd, yr hwn trwy ei wasanaeth ffyddlon, poenus, buddiol, angenrheidiol, a haeddasai yn dda gan ei wlâd a chan ei dywysog hefyd, a brenhin Saul wedi haeddu 'r gwrthwyneb: ffieiddiach a chasach o hynny oedd ei anghare digrwydd, a'i gasineb, a'i greulonder ef tu ag at ddeiliad cystal. Etto ni wnai Dafydd na lladd na drygu 'r cyfryw elyn ei hunan, am ei fod yn dywysog ac yn Arglwydd iddo, na goddef i neb arall na'i ladd ef, na'i niweidio, na rhoi llaw arno, pan allasai ei ladd ef heb na chynnwrf, na therfysc, na pherigl am einioes vn dŷn.
Bellach attebed Dafydd i'r cyfryw ymofynion ac y mae y rhai a fo chwannog i wrthryfel yn arfer o'i gwneuthur. Oni chyfodwn ac oni wrthryfelwn ni, yn enwedig a ninnau yn wŷr cystal ac ydym, yn erbyn tywysog sy gâs gan Dduw, ac sy elyn i Dduw ac am hynny heb fod yn debyg i lwyddo nac mewn rhyfel nac mewn heddwch, ond i fod yn niweidiol ac yn echryslon i'r wlâd? Na wnewch, medd Dafydd ddaionus dduwiol, deiliad ffyddlon i Dduw ac i'r cyfryw frenin. Ac felly yr argyoedda ef nad yw y cyfryw ddeiliaid ac a amcanant wrthryfela yn erbyn y cyfryw frenin, nac yn ddeiliaid da, nac yn wŷr da. Ond meddant hwy, oni chyfodwn ac oni wrthryfelwn ni yn erbyn [Page 258] tywysog a fo mor angharedig ac na ystyrio ac na ofalo, nac am ein gwasanaeth ffyddlon, cywir, poenus ni, na diogelwch y rhai a ddêl ar ei ôl? Na wnewch medd Dafydd ddaionus, yr hwn nis gallai ddim o'r cyfryw angharedigrwydd beri iddo ymadel a'i ddyledus vfydd-dod i'w oruchaf. Oni chyfodwn ni, meddant hwy, ac oni wrthryfelwn ni yn erbyn ein gelyn cydnabyddus angheuol, yr hwn sydd yn ceisio ein bywyd ni? Na wnewch medd Dafydd dduwiol, yr hwn a ddyscasai 'r wers a ddangosodd ein Iachawdwr Christ yn eglur ar ôl hynny, Na bo i ni wneuthur eniweid yn y byd i'n cyd-ddeiliaid er eu bod yn ein cashau, ac er eu bod yn elynion i ni: llai o lawer y dylyem wneuthur eniweid i'n tywysog, er ei fod yn elyn i ni. Oni chynnullwn ni lu o'r cyfryw gyfeillion da ac ydym ninnau, a thrwy beryglu ein bywyd, a bywyd y rhai a safo yn ein herbyn, a pheryglu holl stât ein gwlad, i symmudo tywysog cynddrwg? Na wnewch medd Dafydd dduwiol, o blegid myfi, pan allaswn heb gasclu gallu a lliaws o wŷr, heb na therfysc, na pherigl am fywyd vn dŷn, heb golli dafn o waed, fy-ngwared fy hun a'm gwlad oddiwrth dywysog drwg, etto nis gwnawn.
Ond ydynt hwy, medd rhai, yn gapteniaid glewion calonnog, yn wyr dewrion, ac yn gyrph gwŷr da, y rhai sydd yn anturio trwy nerth ladd a difuddio eu brenhin, ac yntef yn dywysog drwg, ac yn elyn angheuol iddynt? Hwy a allan fod mor lewion ac mor ddewrion ac y mynnont, etto, medd Dafydd dduwiol, ni allant hwy fod nac yn wŷr da, nac yn dduwiol a wnelont felly: o blegid myfi, nid yn vnig a geryddais, ond hefyd a orchymmynnais ladd megis dŷn drygionus, yr hwn a laddase [Page 259] frenhin Saul fy ngelyn i, er ei fod yn blino ar ei fywyd am golli 'r oruchafiaeth yn erbyn ei elynion, ac yn dymuno ar y dŷn hynny ei ladd ef.
Pa beth a wnawn ni i dywysog drŵg annuwiol, i dywysog angharedig a fo gelyn i ni, a chas gan Dduw, a niweidiol i'r wlad, &c. Na osodwch ddwylo arno trwy nerth, medd Dafydd ddaionus, ond gedwch iddo fyw, hyd oni appwyntio ac oni weithio Duw ei ddiwedd ef, naill ai trwy angau naturiol, ai mewn rhyfel trwy elynion cyfreithlon, ai trwy ddeiliaid bradwraidd. Fel hyn yr attebai Ddafydd dduwiol: ac y mae S. Paul, fel y clywsoch o'r blaen yn ewyllysio i ni weddio gyda 'r cyfryw dywysog.
Os gwnai y brenhin Dafydd yr attebion hyn, y rhai yn siccr wrth ei weithredoedd a'i eiriau a goffeir yn yr Scrythur lan, y mae efe yn eu gwneuthur i'r holl fath ymofynion ynghylch tywysogion drŵg, tywysogion angharedig, tywysogion creulon, tywysogion a fo gelynion angheuol i'w deiliaid da, tywysogion a fo allan o ffasor Duw, ac felly yn niweidiol neu yn debyg i fod yn eniweidiol i'r wlad. Pa atteb, dybygwch chwi, a wnai efe i'r rhai a ofynnant, oni allant hwy (a hwythau yn ddeiliaid drwg angharedig) i fawr berigl bywyd llawer o filoedd, ac i ddygyn berigl stat y wlad a'r holl deyrnas, gasclu ynghŷd fagad o wrthryfelwyr, neu ddifuddio, neu ddychrynu, neu ddifetha eu tywysog naturiol cariadus, yr hwn nid yw elyn i neb, ond yn dda i bawb, ie iddynt hwy y rhai gwaethaf o'r cwbl, yr hwn sydd yn maentaenio heddwch gwastadol, a llonyddwch a diogelwch, yr hwn sydd dda wrth y wlad, ac anghenrheidiol i ddiogelwch yr holl deyrnas? Pa [Page 260] atteb a wnai efe i'r rhai ofynnant, oni allant hwy yn greulon ac yn annaturiol geisio difetha tywysog mor heddychol ac mor drugarog? Pa beth, meddaf, a attebai Ddafydd, yr hwn sydd yn dywedyd mor barchus am Saul, ac yn goddef brenhin drwg mor ddioddefgar? Pa beth a attebai ac a ddywedai ef am y cyfryw ymofynion? Pa beth a ddywedai, ie pa beth a wnai ef i'r rhai a amcanant bethau cymmaint, ac yntef yn dywedyd ac yn gwneuthur fel y clywsoch chwi o'r blaen i'r hwn a laddase 'r brenhin ei feistr ef, er ei fod yn dywysog drygionus anial? Os cospodd ef y cyfryw ddŷn ag angau megis drwg-weithredwr, a pha gerydd geiriau y difenwe ef, ie a pha artaith marwolaeth wradwyddus y difethe efe y cyfryw vffern-gwn yn hytrach na drwg-ddynion, y cyfryw wrthryfelwyr yr ydwyf yn ei feddwl, ac y soniais ddiwethaf am danynt? O blegid os ydyw y rhai sy anufydd i dywysog drwg angharedig, yn annhebyccaf i gŷd i Ddafydd y deiliad da hwnnw: pa beth ydynt hwy rhai sy yn gwrthryfela yn erbyn tywysog o'r naturiolaf a'r carediccaf? Ac os bu Ddafydd yr hwn oedd cystal deiliad ac vfyddhau brenhin mor ddrygionus, yn deilwng i gael ei wneuthur ei hunan o ddeiliad yn frenhin: pa beth y mae y rhai sy cynddrwg deiliaid ac y gwrthryfelant yn erbyn eu tywysog grasol, yn deilwng o'i gael?
Yn wir ni all dŷn dayarol nac adrodd ar eiriau na meddwl mewn calon, y ddamnedigaeth erchyll ofnadwy y maent hwy yn deilwng o honi, y rhai wrth ddiystyru bod yn ddeiliaid heddychol dedwydd i'w tywysog da, sy deilyngaf o fod yn gaethion truein ac yn gaethweision gwael i'r tywysog [Page 261] vffernol Satan, i oddef tragwyddol gaethiwed ac artaith gydag ef. Digon yw 'r vn siampl hon am y deiliad daionus Dafydd allan o'r hên Destament, ac o herwydd ei hynod odidowgrwydd hi a gaiff wasanaethu tros y cwbl.
Yn y Testament newydd, godidog siampl y wynfydedig forwyn fair mam ein Iachawdwr Christ, sydd gyntaf yn ymgynnyg i ni. Pan aeth cyhoeddiad a gorchymmmyn tros holl Iudea oddiwrth Augustus ymmerodr Rhufain, ar i'r bobl ymgynnull i'w dinasoedd a'i cyfanneddau eu hunain i'w trethu yno: etto 'r wynfydedig forwyn er ei bod o waed brenhinol hên frenhinoedd naturiol Iudea, ni ddiystyrodd hi vfyddhau gorchymmyn tywysog dieithr o genhedl-ddŷn, wedi darfod i Dduw osod y cyfryw vn arnynt hwy: ac nid ymescusododd hi am ei bod yn feichiog fawr, ac yn agos at ei amser i escor: ac ni thuchanodd hi o blegid hŷd a maithied y daith o Nazareth i Bethlehem, lle 'r oedd raid iddi fyned i'w threthu: ac ni rwgnachodd hi o blegid tostedd a llymder yr amser trymder a dyfnder gayaf, ynniwedd mis rhagfyr, amser anghymmhesur iawn i ymdaith arno, yn enwedig daith cy belled i wraig yn ei chyflwr hi: ond hi a rôdd heibio bob escuson, ac a vfyddhaodd ac a ddaeth i'r lle appwyntiedig, a phan ddaeth hi yno hi a gafodd cymmaint cyrchfa ac Ymwase. ymsang o bobl, fel na chafodd hile mewn vn lletty, ond gorfod arni ar ôl ei hir siwrnai faith flin, gymmeryd ei lletty mewn stabl, lle hefyd yr escorodd hi ar ei phlentyn bendigaid: a hynny sydd yn dangos mor agos at ei hamser y cymmerodd hi ei thaith honno.
Yr vfydd-dod ymma a ddangosodd y bendefigaidd [Page 260] [...] [Page 261] [...] [Page 262] arglwyddes rinweddol hon tu ag at dywysog paganaidd dieithr, sydd yn ein dyscu ni (y rhai nid ydym wrthi hi ond gwael a disas) pa vfydddod sy ddyledus arnom i'n naturiol a'n grasol oruchaf. Etto yn hyn o beth y mae vfydd-dod holl genhedl yr Iuddewon (y rhai heb law hynny oeddynt genhedlaeth war-galed) i orchymmyn yr vn tywysog anghredadwy, yn profi, fod y cyfryw Ghristianogion ac nid ydynt yn barod iawn yn vfyddhau eu naturiol a'u grasol oruchaf, yn waeth o lawer nâ 'r Iuddewon cyndyn y rhai 'r ydym ni er hynny yn eu cyfrif yn waethaf pobl yn y bŷd.
Ond ni ddyle vn siampl fod mewn mwy o rym gyd â nyni Ghristianogion, nâ siampl Christ ein meistr a'n Iachawdwr, yr hwn er ei fod yn Fab Duw, a ymddug er hynny yn barchufaf i gŷd tu ag at y rhai oeddynt mewn awdurdod yn y bŷd yn ei amser ef, ac nid ymddug ef yn wrthryfelgar, ond fe a ddyscodd yr Iuddewon yn gyhoeddus i dalu teyrnged i ymmerodr Rhufain, er ei fod yn dywysog dieithr paganaidd, ie fe a dalodd ei hun a'i Apostolion deyrnged iddo: ac yn ddiweddaf pan ddygpwyd ef gar bron Pontius Pilatus, yr hwn oedd ŵr dieithr wrth enedigaeth, a chenedl-ddŷn, ac ef yn arglwydd ac yn rhaglaw ar holl Iudea, fe a gyfaddefodd mai oddiwrth Dduw yr oedd ei awdurdod a'i allu wedi ei roddi iddo, ac a ddioddefodd yn ymmyneddgar farn marwolaeth boenedig gywilyddus, yr hon a rôdd y barnwr hwnnw yn anghyfiawn yn ei erbyn ef, heb na grwgnach, na murmur, nac vn gair drwg.
Mae llawer ac amryw eraill o siamplau o vfydd-dod i dywysogion er eu bod yn ddrwg, yn y Testament newydd, er llwyr wradwyddo pobl [Page 263] anufyddion wrthry felgar: ond fe a all yr vn hon fod yn siampl dragwyddol, yr hon a roddodd Mâb Duw, Arglwydd pob peth, Iesu Grist i ni ei Gristianogion a'i weision ef: a hon a all wasanaethu tros y cwbl i ddyscu i ni vfyddhau tywysogion, er eu bod yn ddieithr, yn ddrygionus ac yn gainweddus, pan osodo Duw am ein pechodau y cyfryw rai arnom. O'r hyn y canlyn yn anwacheladwy, am y rhai sy yn anufyddhau neu yn gwrthryfela yn erbyn eu naturiol a'u grasol oruchaf, pa fodd bynnag y bont yn eu galw eu hunain neu y bo eraill yn eu galw hwy, nad ydynt wir Ghristionogion, ond gwaeth nag Iudddewon, gwaeth nâ phaganiaid, a chyfryw ac ni chânt bŷth fwynhau teyrnas nêf, yr hon a brynodd Christ wrth ei vfydd-dod, i bob gwir Ghristion, a fo vfydd iddo ef brenhin yr holl frenhinoedd, ac i'w tywysog ac a osododd ef arnynt: yr hon deyrnas, priodol le pob cyfryw ddeiliaid vfyddion, yr attolygaf i Dduw ein Tâd nefol er mwyn ein Iachawdwr Iesu Ghrist ei chaniattau i ni: i'r hwn gydâ 'r Yspryd glân y bo pob moliant, anrhydedd a gogoniant yr awr hon ac yn dragywydd, Amen.
Fel hyn y clywsoch yr ail rhan o'r bregeth hon; bellach boblddaionus Gweddiwn.
Y weddi fel o'r blaen.
¶ Y drydedd ran o'r bregeth yn erb yn Anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.
MEgis yn y rhan gyntaf o'r traethawd hwn y dangosais i chwi athrawiaeth yr Scrythur lân ynghylch vfydd-dod deiliaid cywir i'w tywysogiyn, sef yn gystal i'r rhai drwg ac i'r rhai da: ac yn yr ail rhan o'r vn traethawd y cadarnheiais yr athrawiaeth honno ag amryw siamplau godidog wedi eu tynnu allan o'r Scrythur lân.
Felly y mae yn ôl yr awrhon fod i mi ddangos i chwi yn y drydedd ran hon, mor ffiaidd pechod yn erbyn Duw a dŷn yw gwrthryfelgarwch, ac mor ofnadwy yr ennynnir ac y cynneuir digofaint duw yn erbyn pob gwrthryfelwyr, a pha erchyll blagau a chospedigaethau ac angeu, ac yn ddiwethaf pa dragwyddol golledigaeth sydd vwch eu pennau hwy: a pha fodd o'r gwrthwyueb y mae deiliaid da vfyddion mewn ffafor Duw, ac yn gyfrannogion o heddwch, a llonyddwch a diogelwch ac eraill o amryw ddoniau Duw yn y bŷd hwn, a thrwy ei drugareddau ef yn ein Iachawdwr Christ, o fywyd tragwyddol yn y bŷd a ddaw.
Mor erchyll pechod yn erbyn Duw a dŷn yw gwrthryfelgarwch, nid possibl yw adrodd yn ôl ei faint. O blegid yr hwn sydd yn enwi gwrthryfel, nid vn pechod y mae yn ei henwi, megis y mae lladrad, yspeilio, a lladd a'r cyfryw, ond mae fe yn enwi holl bwll a sugndraeth yr holl bechodau yn [Page 265] erbyn Duw a dyn, yn erbyn ei dywysog, ei wlâd, ei wlad-wyr, ei rieni, ei blant, ei geraint, ei garedigion a phob math ar ddŷn yn gyffredinol; pob pechodau, meddaf, yn erbyn Duw a dŷn wedi eu pentyrru ynghŷd, y mae efe yn eu henwi, yr hwn sydd yn enwi gwrthryfelgarwch.
O blegid tu ag at am bechu yn erbyn mawrhydi Duw, pwy nid yw 'n gweled fod gwrthryfelgarwch yn cyfodi yn gyntaf, o ddirmygu Duw a'i sanctaidd ordeiniaethau a'i gyfreithiau, yn y rhai y mae efe mor dost yn gorchymmyn vfyddddod, ac yn gwahardd anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.
Ac heb law y dianrhydedd y mae gwrthryfelwyr yn ei wneuthur i sanctaid enw Duw, trwy dorri eu llw a wnaethant i'w tywysog gan alw enw Duw a'i fawrhydi yn dŷst: pwy ni chlyw yr erchyll lyau a'r sanctaidd enw Duw, a arferir beunydd ym-mysc gwrthryfelwyr, ac y sydd yn eu mysc hwy, neu yn clwyed y gwirionedd am eu hym ddygiad hwy? Pwy nis gwyr fod gwrthryfelwyr, nid yn vnig eu hunain yn gadel heb wneuthur, yr holl weithredoedd angenrheidiol ac a ddylid eu gwneuthur, ar ddiwrnodau gwaith, tra fônt hwy yn cyflawni ffiaidd waith eu gwrthryfelgarwch, ac yn cymmell eraill a chwennychent fod yn gweuthur daioni, i wneuthur yr vn peth: ond hefyd pa fodd y mae gwrthryfelwyr nid yn vnig yn gadel dydd Sabbaoth yr Arglwydd heb ei sancteiddio, a theml ac eglwys yr Arglwydd heb fyned iddi, ond hefyd â'u gweithredoedd anwireddus yn hologi 'r dydd Sabbaoth yn erchyll, gan wasanaethu Sathan, a thrwy wneuthur ei waith ef, gwneuthur y dydd hwnnw [Page 266] o ddydd yr Arglwydd yn ddydd Satan?
Heb law hynny, maent hwy yn cymmell gwŷr da a fydde dda ganthynt wasanaethu 'r Arglwydd ac ymgydgynnull yn ei deml a'i Eglwys ef ar y dydd hwn, i ymgynnull ac i ymgyfarfod yn arfog yn y maes i wrthladd cynddaredd y cyfryw wrthryfelwyr. Ie mae llawer o wrthryfelwyr rhag iddynt adel vn rhan yn y llech gyntaf o'i gyfraith ef heb dorri, nac vnrhyw bechod yn erbyn Duw heb wneuthur, maent meddaf, yn gwrthryfela er maentaenio delwau ac eulynnod, a'r gaudduwiaeth y maent hwy yn ei wneuthur ac a wnaent hwy iddynt: ac o ddirmyg ar Dduw, yn dryllio ac yn rhwygo ei sanctaidd air ef, ac yn ei sathru tan eu traed, megis y gwnaethant yn hwyr o flynyddoedd.
Tu ag at am yr ail llêch o gyfraith Dduw, a phob pechod ac a ellir ei wneuthur yn erbyn dy▪n, pwy nis gwŷl nad yw gwrthryfel yn eu cynnwys hwy i gŷd? O blegid yn gyntaf y mae gwrthryfelwyr nid yn vnig yn dianrhydeddu eu tywysog, yr hwn yw tad eu gwlâd hwy, ond hefyd yn dianrhydeddu ac yn cywilyddio eu tadau a'u mammau naturiol, od os rai ganthynt; yn cywylyddio eu ceraint a'u caredigion, yn dietifeddu ac yn anrheithio tros fyth eu plant a'u hetifeddion.
Lladradau, yspeilfau, lladdiadau, y rhai o'r holl bechodau sydd ffieiddiaf gan y rhan fwyaf o ddynion, nid ydynt mewn dynnion yn y byd yn gymmaint ac mor echryslon ac mewn gwrthryfelwyr. O blegid y lladron pennaf, a'r llofruddion creulonaf ac a fu erioedd, yr hyd y bônt yn ymattal rhag gwrthryfela, megis, nad ydynt lawer mewn rhifedi, felly nid ydyw eu hanwiredd a'u damnedigaeth [Page 267] hwy yn ymwascaru ond ym-mhlith ychydig, nid ydynt yn anrheithio ond ychydig, nid ydynt yn tywallt gwaed ond ychydig.
Ond y mae gwrthryfelwyr yn achos o aneirif o yspeilfau, a lladdedigaethau lliaws mawr, a hynny ar y rhai y dylyent hwy eu hym ddiffyn rhag anrhaith a gorthrech eraill: ac megis y mae gwrthryfelwyr yn llawer mewn rhifedi, felly y mae eu hanwiredd a'u damnedigaeth hwy yn ymdanu ac yn cyrhaeddyd at lawer. Ac os yw putteindra a godineb ym-mhlith y cyfryw ddynion ac sydd hyblyg i'r cyfryw anwiredd, yn bechodau o'r fath echryslonaf, megis y maent yn siccr: pa beth yw treisio gwragedd priod, a halogi ac auwyryfu morwynion a gwyryfon, y rhai sy bechodau cynnefin ymmŷsc gwrthryfelwyr?
Heb law hynny, y mae gwrthryfelwyr wrth dorri eu crêd a roesant, y llw a wnaethant i'w tywysog, yn euog o anudon echryslon: y mae yn rhyfedd gweled pa gam-liwiau a gau-achosion y mae gwrthryfelwyr trwy ddywedyd celwyddau enllibus ar eu tywysog a'i gyngor, yn eu dychymmyg i goluro eu gwrthryfel: yr hon yw 'r fath w aethaf ac echryslonaf ar gam-dystiolaeth ac a all fod.
Pa beth a ddywedaf am chwennychu gwragedd, a rhai, a thiroedd, a golud, a gweision gwyr eraill, felly mae gwrthryfelwyr, y rhai o'u bodd ni adawent ddim i neb o'r eiddo ei hun?
Fel hyn y gwelwch fod gwrthryfelwyr, yn torri ac yn troseddu holl gyfreithiau Duw, a bod pob pechod ac a ellir ei wneuthur yn erbyn na Duw na dŷn, yn gynnwysedig mewn gwrthryfelgarwch: y pechodau os chwennych neb eu galw ar [Page 268] enw arferol y saith pechod pennaf, neu 'r saith pechod marwol, Balchder, cenfigen, llid, cybydddod, diogi, glothineb a godineb, fe a gaiffweled eu bod hwy i gŷd mewn gwrthryfelgarwch ac ymmhlith gwrthryfelwyr.
O blegid yn gyntaf, megis y mae vchelfryd a chwant cael goruchafiaeth, yr hon yw vn o gynneddfau balchder, yn cyffroi meddyliau dynion i wrthryfela, felly o falchder a rhyfyg ddieflig Lucifer y mae yn dyfod, bod i ychydig o ddeiliaid gwrthryfelgar ymosod yn erbyn mawrhydi eu tywysog, yn erbyn doethineb y cyngor, yn erbyn nerth a gallu 'r holl bendefigion, a holl ffyddlen ddeiliaid a phobl yr holl deyrnas.
Tu ag at am genfigen, llid, llofruddiaeth, chwant gwaed, a thrachwantu golud a thiroedd a thyddynnau gwŷr eraill, pethau cyssylltedig diwahanol ydynt i bob gwrthryfelwyr, a chynneddfau priodol sydd fynychaf yn cyffroi dynion drygionus i wrthryfela.
Hefyd y rhai trwy loddest, a gloddineb, a meddwdod, a gormodd wychder, a chwareuon anllywodraethus, a dreuliasant eu hunain yn anllywodraethus, y rhai hynny sydd barottaf a chwannoccaf i wrthryfela, wrth yr hyn y maent yn gobeithio dyfod o hŷd i olud eraill trwy drais ac anghyfraith. A lle mae glythion a meddwon eraill yn cymmeryd gormod o'r cyfryw fwydydd a diodydd ac a ddelo i'r bwrdd, y mae gwrthryfelwyr mewn ychydig amser yn difa ac yn treulio yr holl ŷd yn yr yscuboriau, yn y meusydd, ac ymmhob lle arall, mewn llofftydd, mewn stor-dai, mewn Celloedd. seleri, yn difa diadellau cyfain o ddefaid, a gyrfau cyfain o ychen a gwartheg.
[Page 269] Ac meis y mae 'r cyfryw wrthryfelwyr ac a fo gwedi eu priodi, wrth adel eu gwragedd eu hunain gartref, yn gwneuthur yn anraslon iawn: felly y mae y rhai a fo heb eu priodi, y rhai yn waeth nag ystalwyni a meirch, a hwy yn awr wedi cymmeryd rhydd did oddiwrth gerydd y gyfraith, yr hon oedd yn eu ffrwyno hwy o'r blaen, trwy rym yn halogi gwragedd a merched gwyr eraill, yn treisio morwynion a gwyryfon: y mae y rhai hyn meddaf yn gwneuthur yn gywilyddus, yn ffiaidd, ac yn echryslon tros ben.
Felly y mae pob pechodau, o bob enw ac y geller galw pechodau, a thrwy bob modd ac y gellir gwneuthur pechodau, i gŷd yn heidiau ac yn fagadau yn canlyn gwrthryfel, ac i'w cael yn gwbl ymmyse gwrthryfelwyr.
Bellach lle mae 'r Scrythur la▪n yn dangos mai haint y nodau, newyn, a rhyfel yw 'r plaau a'r blinderau bydol mwyaf ac a all fod, y mae yn eglur fod yr holl blaau hyn, yn hollawl ac ynghŷd yn canlyn gwrthryfel, yn yr hon megis y mae eu holl flinderau hwy, felly y mae ynddi mwy o aflwydd ac echrys nag ynddynt oll.
O blegid, fe a wyr pawb pan ymgyrcho tyrfaoedd mawr o wŷr yngyŷd, yr hyn mewn gwrthryfel sydd yn digwydd o blaid y deiliaid cywir ac o blaid y gwrthryfelwyr, wrth eu bod yn gorwedd ynghŷd mor aml, ac wrth halogi 'r awyr a'r lle â thom ac a budreddi, wrth wrês yr hin, ac wrth eu llettyon afiachus, a'u bod yn gorwedd yn fynych ar y ddayar, yn enwedig mewn oerfel a gwlybiniaeth tywydd gayaf, wrth eu lluniaeth a'u maeth afiachus bob amser, ac weithiau newyn ac [Page 270] eisiau bwyd a diod mewn prŷd ac amser, a chymmeryd gormodd amser arall: fe a ŵyr pawb, meddaf, trwy y moddion hynny fod haint y nodau a chowyn a phob mâth ar glefyd ac afiechyd arall yn cyfodi ac yn magu yn eu mŷschwy, a'r clefydau hyn sydd o'r diwedd yn difa mwy o wŷr nag y mae mîn ac awch y cleddyf yn eu lladd yn ddisymmwth yn y maes. Fel nad haint y nodau yn vnig, ond pob clefydau, a heintiau, ac afiechyd arall sydd yn canlyn gwrthryfel, y rhai syfwy erchyllac ofnadwy na phla a nodau a chlefydon ac a ddanfoner yn vnion oddiwrth Dduw, fel y ceir gweled yn amlyccach ar ôl hyn.
Tu ac at am newyn a phrinder, cyfeillion priodol i wrthryfel ydynt: o blegid tra fo gwrthryfelwyr mewn y chydig amser yn anrheithio ac yn difa yr holl ŷd a'r arlwy angenrheidiol a gynnullase ddynion trwy boen, er eu cynhaliaeth yn hyd y flwyddyn; a thra fyddont yn rhwystro i wŷr eraill, llafuiwyr ac eraill, oddiwrth eu hwsmonnaeth a'u gorchwylion angenrheidiol eraill, i wneuthur arlwy erbyn yr amser a ddaw, pwy nis gwŷl y bydd anghenrhaid bod dygyn brinder a newyn yn canlyn yn y man ar ol gwrthryfel?
Hefyd lle 'r ydoedd y brenhin doeth a'r prophwyd duwiol Dafydd yn barnu fod rhyfel yn waeth nâ newyn ac na Cywyn. haint y nodau, am fod 2. Sam. 24. 24. Duw yn goddef y ddau hyn yn fynych er mwyn gwellhau dynion, ac nad ydynt bechodau o honynt eu hunain: ond mae rhyfeloedd a phechodau ac anwireddau dynion y naill blaid neu 'r llall, yn gyssylltedig â hwy; ac am hynny rhyfel yw 'r mwyaf o'r plaau bydol hyn: ond o'r holl ryfeloedd, gwyethaf yw rhyfel gartrefol rhwng deiliaid yn [Page 271] eu plith eu hunain, a ffieiddiach o lawer yw gwrthryfel nâ'r rhyfel honno, gan eu bod yn annheilwng o'i galw yn rhyfel, y mae hi yn rhagori cymmaint ar bob rhyfel mewn pob drygioni, a phob echrys, a phob ffiaidd-dra. Ac am hynny y mae ein Iachawdwr Christ yn cyhoeddi distryw ac Mat. 12. 25. anghyfannedd-dra i'r deyrnas a fo trwy derfysc a gwrthryfel wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun.
Yn awr, fel y dangosais o'r blaen fod haint y nodau a newyn, felly y mae etto yn eglurach o lawer, fod pob gofid, a thrueni ac aflwydd yn dostach mewn gwrthryfel, ac yn canlyn gwrthryfel yn fwy nag vn rhyfel arall, am ei bod yn waeth o lawer nag vn rhyfel arall. O herwydd heb law bod y gofidiau a'r aflwydd cyunefinol arferol ymma yn canlyn gwrthryfel, megis anrheitbio ŷd a phethau eraill angenrheidiol i wasanaeth dŷn; yspeilio, llosci a distrywio tai, a phentrefydd, a threfi, a dinasoedd; tlodi nid yn vnig llawer o wyr goludog, ond gwledydd cyfain; lladd a mwrdrio llawer mil o wyr; treisio a halogi gwragedd a gwyryfon, yr hyn bethau pan eu gwnole'n gelyniō dieithr yr ydym yn ymofidio o'u plegid, fel y mae i ni achos mawr: etto mae 'r holl ofidiau hyn heb fod neb o'ngwlad-wŷr ein hunain yn gwneuthur anwiredd ynddynt.
Ond pan fydder yn gwneuthur yr holl aflwydd hyn mewn gwrthryfel, a hynny gan y rhai a ddylent fod yn garedigion, gan wladwyr, gan geraint, gan y rhai a ddylent ymddiffyn eu gwlâd a'u gwlad-wyr rhag y cyfryw flinderau; nid yw 'r aflwydd elfydd cymmaint ac yw 'r aflwydd a'r anwiredd pan fo driliaid yn annaturiol yn gwrthryfela yn erbyn eu tywysog, yr hŵn y dylēt ei ymddiffyn [Page 272] ei anrhydedd a'i einioes, pe bai raid iddynt wrth hynny golli eu heinioes eu hun: pan fo gwladwyr yn terfyseu cyffredinol heddwch a llonyddwch eu gwlâd, yr hon y dylent wario eu heinioes yn ei hymddiffyn: pan fo 'r naill frawd yn ceisio ac weithiau yn dwyn bywyd y llall, y tad yn ceisio peri lladd ei fâb ac yntef mewn oedran gŵr, a'r tadau trwy eu beiau eu hunain yn dietifeddu eu plant, a'u ceraint, a'u hetifeddion yn dragwywydd, i'r rhai y gellesent brynu bywyd a thiroedd, megis y mae tadu naturiol yn cymmeryd gofal a phoen, ac yn myned mewn mawr gôst a thraul gydà 'u meibion: ac i ddywedyd y cwbl ar vnwaith, yn lle pob llonyddwch, a llawenydd, a dedwyddwch, y rhai sy yn canlyn heddwch bendigedig a dyledus vfydd-dod, dwyn i mewn drallod, a thristwch ac aflonyddwch meddwl a chorph, a phob aflwydd a gofid; i droi pob trefn dda ben dra mwnwgl; i ddwyn pob cyfreithiau da i ddirmyg, ac i'w Ddansial. mathru tan draed; i orthrechu pob rhinwedd ac honestrwydd, a phob dyn rhinweddol honest; ac i ellwng pob drygioni ac anwiredd, a phob dŷn drygionus anwir yn rhydd i wneuthur eu hewyllys drygionus, y rhai yr oedd cyfreithiau iachus or blaen yn eu ffrwyno; i wannhychu i ddifetha, ac i ddifa gallu 'r deyrnas eu gwlâd naturiol, trwy dreulio a gwario arian a thrysor y tywysog a'r deyrnas, a lladd y bobl, eu gwlâd-wyr eu hunain, y rhai a ddylent ymddiffyn anrhydedd eu tywisog, a braint eu gwlâd yn erbyn ymgyrch gelynion dieithr: ac felly yn ddiwethaf, i wneuthur eu gwlâd trwy eu haflwydd hwy yn wannach, ac yn barod i fod yn sclyfaeth ac yn anrhaith i bob gelynion dieithr [Page 273] a chwennycho ryfela yn eu herbyn; i beri dygyn a thragwyddol gaethiwed, ac alltudedd a distryw i holl wŷr eu gwlâd, i'w plant, i'w ceraint, i'w caredigigon a adawer yn fyw, y rhai trwy eu hannuwiol wrthryfel y maent yn achos o'u rhoi i ddwylo gelynion dieithr, hyd y mae ynddynt hwy.
Mewn rhyfeloedd yn erbyn gelynion dieithr y mae gwŷr ein gwlâd ni ein hunain wrth gael yr oruchafiaeth, yn ennill clôd am eu dewredd; ie er cael o honynt eu gorchfygu a'u lladd, etto maent hwy yn ennill clôd ddaionus yn y bŷd hwn, yn meirw mewn cydwybod dda am wasanaethu Duw, a'u tywysog, a'u gwlâd; ac y maent yn blant Iechydwriaeth dragwyddol: ond mewn gwrthryfel er dewred ac er glewed fythont, etto maent hwy yn ennill cywilydd ymma am ymladd yn erbyn Duw, a'u tywysog▪ a'u gwlâd, ac am hynny maent hwy yn gyfion yn cwympo i vffern yn wysc eu pennau, os meirw fyddant, ac yn byw mewn cywilydd ac ofnus gydwybod, os diangant.
Ond y maent yn fynych yn cael eu gobrwyo ag angau cywilyddus, a'u haelodau a'r bolion, yn cael eu crogi wrth gadwyni, a'r brain a'r barcuttanod yn eu bwytta, yn cael eu cyfrif yn annheilwng o anrhydedd claddedigaeth, ac felly y mae diafol, onid edifarhânt (megis nad ydynt fynychaf) yn llusco eu heneidiau hwy i vffern, ynghanol eu drygioni.
Ac o blegid y gosp ar artaith hon, y mae S. Paul yn dangos trefn vfydd-dod, nid yn vnig rhag ofn angau, ond hefyd er mwyn cydwybod tu ag at Dduw, rhag ofn tragwyddol golledigaeth [Page 274] yn y hŷd a ddaw. Am hynny, bobl ddaionus, moeswch i ni megis plant vfydd-dod, ofni ofnus gospedigaeth Duw, a byw mewn llonydd vfydd-dod i gael bod yn blant Iechydwriaeth dragwyddol.
O blegid megis mai 'r nef yw cyfle deiliaid daionus vfyddion, ac mai vffern yw carchardy a dyfn gaethle gwrthryfelwyr yn erbyn duw a'u tywysog: felly y mae 'r deyrnas honno yn ddedwydd ac yn gyflun nêf, lle bo mwyaf o vfydd-dod deiliaid yn ymdddangos: ac o'r gwrthwyneb, lle bo mwyaf o wrthryfelau a gwrthryfelwyr, dyna lle y mae gwir gyffelybaeth vffern, a'r gwrthryfelwyr yw cyffelybiaethau 'r diawliaid a'r cythreuliaid, a'u capten yw llun anraslon Lucifer a Satan, tywysog y tywyllwch; ac megis y maent hwy yn dynwared ei wrthryfelgarwch ef, felly yn ddiammau y cânt fod yn gyfrannogion yn vffern o'i ddamnedigaeth ef; ac megis yn ddiammau y caiff plant tangnheddyf fod yn etifeddion nef gydâ Duw 'r Tâd, a Duw 'r Ma▪b, a Duw 'r Yspryd glân, i'r hwn y bo pob anrhydedd a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.
Fel hyn y clywsoch y drydedd ran o'r bregeth hon, bellach bobl ddaionus, Gweddiwn.
Y weddi fel o'r blaen.
¶ Y bedwaredd ran o'r bregeth yn erbyn Anufydd-dod Anufydd-dod a gwrthryfelgarwch.
ER mwyn eich addyscu chwî ymmhellach, bobl ddaionus, a dangos i chwi faint y mae 'r Hollalluog Dduw yn ffieiddio anufydd-dod a gwrthryfelgarwch, yn anwedig pan fo gwrthryfelwyr yn ymdderchafu mor vchel ac yn ymarfogi mewn arfau, ac yn sefyll yn y maes i ymladd yn erbyn Duw a'u tywysog a'u gwlâd: ni bydd am-mherthynol dangos rhai siamplau allan o'r Scrythyrau a scrifennwyd er ein tragwyddol addysc ni.
Ni allwn wybod yn y man, bobl ddaionus, mor aruthrol bai yw bradwriaeth a gwyrthryfel, os galwn i'n côfddirfawr lid ac erchyll ddigofaint yr Holl-alluog Dduw yn erbyn y cyfryw ddeiliaid ac nid ydynt ond yn vnig yn grwgnach, yn manson a murmur oddifewn yn erbyn eu llywodraethwyr, er nad yw eu dirgel fradwriaeth hwy sy wedi ei fagu mor gyfrinachol yn eu calonnau hwy, yn torri allan nac yn ymddangos mewn gweithredoedd goleu, er bod yn anodd i'r rhai y darfu i ddiafol ei hudo cy belled yn erbyn gair Duw, sefyll ar hynny: ie mae yn ei frŷd ef etto chwythu 'r Rhysodyn. marworyn, ac ennyn eu calonnau gwrthryfelgar hwy i fflammychu i weithredoedd goleu, oddieithr i râs Duw ei wrthladd ef ar frys.
Pan duchanodd rhai o blant yr Israel yn erbyn eu llywodraethwyr a osodase Dduw arnynt, Nu. 11. 1. Nu. 12. 10. Nu. 16. Psal. 77. hwy a gospwyd â gwahan glwyf brwnt: a llawer [Page 276] a loscwydd â thân yn ddisymmwth oddiwrth yr Arglwydd: weithiau y difethwyd llawer miloedd Nu. 21. 6. â haint y nodau: weithiau y daeth seirph tanllyd dieithr ac a'u brathasant hwy i angau: a'r hyn sydd erchyllaf o gwbl, rhai o'r pennaethiaid a'u byddin o rwgnachwyr gyd â hwynt, ni chawsant farw trwy farwolaeth arferol naturiol dynion, ond y ddayar a ymegorodd ac a'u llyngcodd hwy a'u gwragedd a'u plāt a'u tylwyth yn fyw i vffern.
Y dinistr ymma ar y cyfryw Israeliaid ac oedd rwgnachwyr yn erbyn Moses, yr hwn a appwyntiase Dduw yn oruchaf ac yn ben-llywydd arnynt; sydd wedi eu scrifennu yn llyfr y Nefoiri, a lleoedd eraill o'r Scrythyrau, er côf a rhybydd tragwyddol i bob deiliaid, mor anfodlon gan Dduw rwgnach a drygair y bobl a fo deiliaid yn erbyn eu tywysogion; o blegid, fel y dywed yr Scrythur, nid oedd eu grwgnach hwy yn erbyn eu tywysog yn vnig, yr hwn oedd greadur marwol, ond yn erbyn Duw ei hun hefyd.
Wrth hynny os cwympodd y cyfryw blaau dieithr erchyll ar y cyfryw ddeiliaid, ac a ddywedasant ddrygair yn vnig yn erbyn eu pennaduriaid: pa beth a ddigwydd i gyfryw annuwiol genawon y cythraul ac sydd yn cydfwriadu, yn ymarfogi, yn casclu lliaws mawr o wŷr mewn arfau, ac yn eu tywyso gydâ hwynt yn erbyn eu tywysog a'u gwlâd, gan anrheithio ac yspeilio, lladd a mwrdrio 'r holl ddeiliaid cywir ac a safant yn eu herbyn hwy, os gallant eu gorescyn? Ond y siamplau hyn a scrifennwyd i'n hattal ni nid yn vnig rhac y cyfryw annuwioldeb, ond hefyd rhac murmur a dywedyd vn gair drwg yn erbyn ein tywysog: yr hyn er dirgeled y gwnelo dŷn, etto [Page 277] mae 'r Scrythur lân yn dywedyd y bydd i adar yr awyr eu cyhuddo hwy▪ ac y mae'r [...] siamplau hyn a ddangoswyd o'r blaen allan o'r Scrythur lân, yn dangos na ddiangant hwy rhag cospedigaeth erchyll am hynny.
Bellach tu ac at am weithred gwrthryfel, ymmysc llawer o siamplau a osodir alian yn yr Scrythur lân, y mae siampl Absolon yn hynod: yr hwn wrth gydfwriadu yn erbyn ei dâd Brenhin Dafydd, a gymmerth gyngor gwŷr synhwyrol iawn, ac a gasclodd liaws mawr anfeidrol o wrthryfelwyr. Yr Absalon hwn er ei fod yn wr têg glân o gorph, o fonedd mawr ac yn fâb i'r brenhin ac mewn ffafor fawr ymmŷsc y bobl, ac mor anwyl garedig gan y brenhin ei hun, fel y rhodddes ef orchymmyn ar gadw ei einioes ef, er ei fod yn gwrthryfela yn ei erbyn ef: Pan oedd y rhan fwyaf o ddynion, o herwydd yr achosion hyn, yn ofni cyffwrdd ag ef, fe a ddaeth pren mawr ac a estynnodd ei fraich megis ar fedr hynny, ac a'i daliodd ef erbyn llaes gudyn ei wallt teg, yr hwn a ymdrôdd ynghylch y gangen ac ef yn Ffo. cilio ar frŷs yn bennoeth tan y pren hwnnw, ac a'i crogodd ef erbyn gwallt ei ben yn yr awyr, i roi athrawiaeth dragwyddol, na all na glendid corph, na boneddigrwydd, na ffafor y bobl, na ffafor y brenhin ei hun, achub bradwr gwrthryfelgar rhag dyledus gospedigaeth: gan fod Duw brenhin yr holl frenhinoedd wedi digio wrtho yn gymmaint ac y byddai bob pren ar y ffordd yn gynt nac y byddai ef heb ddyledus gosp am ei fradwriaeth, yn grogpren iddo, a gwallt ei ben ei hun yn lle cebystr i'w grogi ef, yn gynt nac y byddo arno eisiau vn. Dyna siampl aruthrol, bobl [Page 278] ddaionus, i'w hystyried. Hefyd Achitophel, er ei fod yn wr doeth dros ben mewn matterion eraill, a fu gynghorwr annuwiol i Absalon i wrthryfela 2. Sam. 15. 12. & 16. 21. 23. & 17. 23. yn erbyn ei dâd, o eisiau arteithiwr cyfaddas, i'w grogi am ei fradwriaeth, fe a aeth ac a ymgrogodd o'i waith ei hun. Dyna ddiwedd teilwng i bob cyfryw wrthryfelwyr, y rhai yn gynt nac y bônt heb gael dyledus gospedigaeth, trwy gyfiawn farn Duw a ânt yn arteith wyr arnynt eu hunain. Dyna fel y digwyddodd i bennaethiaid yr wrthryfel honno, heb law vgain mil o'r gwrthryfelwyr cyffredin a laddwyd yn y maes ac yn & 18. 7. yr ymlid.
Felly y gellir gweled yn yr Scrythur lan pa fodd y llonyddwyd yn ddisymmwth yr wrthryfel 2. Sam. 20. a'r terfysc mawr a gyffrôdd y bradwr Seba yn Israel, wedi ei wraig druan beri torri pen y bradwr pennaf.
Ac fel y mae 'r Scrythyrau yn dangos, felly hefyd y mae addysc amser beunydd yn egluro na bu i gynghorion a chydfwriadau ac amcanion gwrthryfelwyr erioed ddyfod i ddiben da, ond i ddiwedd echrysion. Psal. 21. 12.
O blegid er bod Duw weithiau yn llwyddo gelynion cyfiawn cyfreithlon, y rhai nid ydynt ddeiliaid, yn erbyn ei gelynion dieithrol: etto ni rôdd ef erioed hîr-lwyddiant i ddeiliaid a fo gwrthryselgar yn erbyn eu tywysogion, er maint fydde eu hawdurdod a'u rhifedi.
Ni allei bump tywysog neu frenhin, (o blegid felly y mae 'r Scrythur yn eu galw hwy) a'u holl liaws canthynt, lwyddo yn erbyn Codorlaomer, Gen. 14. i'r hwn yr addawsent warrogaeth ac vfydd-dod, ac y parhaesent felly ennyd o flynyddoedd, ond [Page 279] hwy a ddifethwyd ac a ddaliwyd yn garcharorion gantho ef cymmaint vn: ond Abraham a'i deulu a'i genedl, rhai nid oeddynt ond megis dyrnaid, ac heb fod yn ddeiliaid i Codorlaomer, a'i gorescynnasant ef a'i holl lu yn y rhyfel, ac a waredodd y carcharorion.
Felly er bod rhyfel mor greulon ac mor ofnadwy ac ydyw, etto mae Duw yn llwyddo ychydig mewn rhyfeloedd cyfreithlon yn erbyn llawer miloedd o elynion dieithrol: ond ni lwyddodd ef erioed etto ddeiliaid a fai yn gwrthryfela yn erbyn eu naturiol oruchaf, er maint, er boneddigced, er cynnifer, er dewred, er doethed ac er called faent, ond bob amser hwy a orescynnwyd ac a ddaethant i ddiwedd cywilyddus: cymmaint y mae Duw yn ffieiddio gwrthryfel yn hytrach nâ rhyfeloedd eraill, er heb law hyn ei bod yn ofnadwy ac yn ddinistr mawr ar ddynion.
Er bod weithiau nid lliaws mawr o'r cyffredin annoeth gwael, ond gwyr mawr eu synwyr a'u bonedd a'u hawdurdod, yn cyffroi gwrthryfel yn erbyn eu tywysogion cyfreithlon (lle dylai wir fonedd ffieiddio, a gwir ddoethineb ddygyngashau y fath dayogaidd ac ynfyd wrthryfel) er eu bod yn gwneuthur hynny yn rhith llawer o achosion ac yn cymmeryd arnynt fwriadu dywygio a gwellhau cyflwr y wlâd (yr hon y mae gwrthryfel yn fwy nâ dim arall yn ei difetha) neu ddiwygio ffydd a chrefydd (lle nid oes dim fwy yn erbyn pob gwîr grefydd nac yw gwrthryfel) er iddynt wneuthur lliw a golwg têg o feddwl ac amcan sanctaidd wrth ddechreu eu bradwriaeth a'u gwrthryfel â ffug-wasanaeth Duw, (fel y dechreuodd Absolon annuwiol ei wrthryfel trwy aberthu i [Page 280] Dduw) er eu bod yn lledu ac yn dwyn can thynt fanerau ac arwyddion y sydd hoff a chymmeradwy gan y bobl gyffredin annoe th ddiwybod, o'r rhai y maent yn hudo ac yn tynu attynt liosydd mawr wrth ei ffug-liwiau a'u lledrith: etto er maint fai liaws y gwrthryfelwyr, er boneddigced er called ac er doethed fai eu pennaethiaid hwy, er tecced ac er sancteiddied fai ei ffugliwiau hwy: etto cyfryw yw ac a fu erioed ddisymmwth ddinistr pob gwrthryfelwyr, o ba rifedi neu stât, neu gyflwr bynnag y baent, pa liw neu achos bynnag y baent yn ymhoni o hono; fel y mae Duw wrth hynny yn dangos nad yw efe yn caniattau nac i fraint na theilyngdod dŷn yn y byd, nac i liaws pobl yn y byd, nac i bwys a maint achos yn y byd, fod yn rheswm digonol i ddeiliaid i gyffroi terfysc yn erbyn eu tywysogion.
Trowch trostynt a darllenwch historiau pob cenedl, edrychwch groniclau ein gwlâd ni trostynt, gelwch i'ch cof gynnifer gwrthryfel ac a fu yn yr hên amser, a rhai hefyd sydd etto hawddgof gan lawer, ac ni chewch chwi weled ddarfod i Dduw erioed lwyddo gwrthryfel deiliaid yn erbyn eu tywysog cyfraithlon naturiol, ond o'r gwrthwyneb, ddarfod gorescyn a llâdd y gwrthryfelwyr, ac artaithio yn ofnadwy gymmaint ac a ddaliwyd o honynt yn garcharorion.
Ystyriwch lwythau mawrion pendefigaidd dugiaid, Marchioniaid, ieirll ac arglwyddi eraill, y rhai y gellwch dderllein eu henwau mewn croniclau ac sydd yn awr wedidiffodd a darfod: chwiliwch allan achosion eu cwymp hwy, a chwi a gewch weled nad eisiau eppil ac etifeddion gwrryw a wnaeth i dai a gwaedoliaeth pendefigion a [Page 281] gwŷr mawr ddarfod, yn gymmaint a gwrthryfal.
A lle 'r oedd gwrthryfelwyr gynt yn cymmeryd arnynt mai er mwyn diwygio a gwellhau cyflwr y wlâd yr oeddynt yn gwrthryfela, a bod yn awr yn dechreu gwneuthur ffydd a chrefydd yn lliw ac yn achos o wrthryfel: Ystyried pob deiliaid duwiol synhwyrol yn dda bob vn o'r ddau, ac yn gyntaf ynghylch ffydd a chrefydd.
Os barnodd Duw fod yr heddychol frenhin Salomon yn gymmhesurach i adeilad ei deml ef (wrth yr hyn y deellir trefnu ffydd a chrefydd) na'i dad Dafydd, er ei fod yn frenhin duwiol dros ben, am fod Dafydd yn rhyfelwr mawr, a chwedy tywallt llawer o waed, er mai yn ei ryfeloedd yn erbyn gelynion Duw y gwnaethe efe hynny: wrth hyn y gall pob deiliaid duwiol rhesymmol ystyried fod tywysog heddychol (yn enwedig y cyfryw ac oedd ein brenhines ddiwethaf ni Elizabeth os yw ein tangnhedd usaf a'u trugaroccaf frenhin Iames, yr hwn hyd yn hyn ni thywalltodd ddim gwaed, na ddo waed ei elynion, a'i fradychwyr ) yn debyccach ac yn gymmhefurach o lawer i osod i fynu neu i faentaenio gwir grefydd nac yw gwrthryfelwyr gwaedlyd, y rhai ni thywalltasant waed gelynion Duw fel y gwnaeth Dafydd, ond sydd yn ceisio tywallt gwaed caredigion Duw, gwaed eu gwlad-wyr eu hunain; eu caredigion a'u ceraint cuaf eu hunain, a dinistr eu graiusafdywysog a'u gwlad naturiol, y rhai y dylent fod yn barod i golli eu gwaed yn eu hymddiffyn, os bydde 'r achos yn gofyn.
Mae yn hawdd barnu pa fath grefydd yw 'r [Page 282] hon y mae dynion yn ceisio ei gosod i fynu trwy 'r cyfryw foddion: cystal crefydd ydyw hi yn siccr, ac y mae gwrthryfelwyr yn wŷr da ac yn ddeiliaid vfyddion: a chystal crefydd yw ac ydyw gwrthryfel yn ffordd i ddywygio ac i wellau ac i drefnu 'r hyn a fo ar fai, a hitheu ei hunan yn fwyaf anaf ac yn fwaf an-nrhefn ac anniwyg ac a all fod.
Ond megis y mae gwirionedd Efengyl ein Iachawdwr Christ yn abl i faentaenio gwir grefydd, os dyscir hi yn heddychol ac yn sobr, er iddynt hwy golli eu bywyd a fo yn ei dyscu hi: felly y bydde raid i grefydd ynfydffol gael y cyfryw foddion cynddeiriog i'w maentaenio ac yw gwrthryfel, a'r cyfryw ymddiffynwyr ac yw gwrthryfelwyr, y rhai a fo parod nid i farw ym-mhlaid gwir grefydd, ond i ladd pawb ac a feiddio dywedyd dim yn erbyn eu coelfuchedd hwy a'u gaudduwiaeth annuwiol.
Bellach, ynhgylch y lliw a'r achos y mae gwrthryfelwyr yn eu cymmeryd arnynt o ddiwygio a gwella cyflwr y wlâd, fe all pob dyn ac ni bo gantho ond hanner llygad weled mor ofer ac mor weigion ydynt, gan fod gwrthryfel, fel y dangosais o'r blaen, yn fwyaf cwymp a dinistr ar wlad ac a all fod. A phwy bynnag a edrycho o'r naill du ar bersonau a llywodraeth anrhydeddus gynghoriaid y brenhin, y rhai trwy brawf llawer oflynyddoedd a wyddys eu bod yn anrhydeddus ac yn ffyddlon i'w tywysog, yn fuddiol ac yn broffidiol i'r holl deyrnas: a phwy bynnag o'r tu arall a ystyrio pa fath ddynion eu stât a'u cyflwr yw 'r gwrthryfelwyr, y rhai sy yn cymmeryd arnynt geisio diwygio 'r llywodraeth bresennol, a'i gasod mewn [Page 283] trefn well; fe all weled mai y rhai gwaed-wylltaf a'r rhai ynfyttaf, y rhai anllywodraethusaf, y rhai a wariasant eu holl diroedd a'u golud yn annuwiol, y rhai sy mewn dlêd tros eu pennau, a'r rhai o blegid eu gwaith yn lledratta yn yspeilio ac yn lladd, ni feiddiant ddangos eu hwynebau mewn vn wlad a fo a llywodraeth dda ynddi, y rhai sy annuwiolaf a gwaethaf eu hymarweddiad a'u bywyd, a chyfryw rai ac ni fynnant neu ni fedrant fyw mewn heddwch, y rhai hynny, meddaf, sy byth barottaf i gyffroi terfysc a gwrthryfel ac i gymmeryd plaid gwrthryfelwyr.
Ac onid ydyw y rhai hyn yn wŷr cymmwys, dybygwch chwi, i wellau cy▪flwr y wlad pan fo gwedy gwaethygu, y rhai a anrheithiasāt ac a wariasant eu holl gyfoeth a'u golud eu hun? Yr hyn y maēt hwy yn ei alw diwygio a gwellau cyflwr y wlad, nid ydyw yn siccr ddim ond anffurfio ac annrhefnu ie a llwyr ddifetha cyflwr da 'r wlad, fel y bydde amlwg ddigon pe cae y cyfryw ddynion eu hewyllys, ac fel y mae yn amlwg ddigon ac yn rhy amlwg wrth yr hyn a wnaethpwyd yn y gwledydd lle y dangosant hwy eu hanllywodraeth ac er na thrigent ond ychydig ennyd yno hwy a wnaethant y cyfryw ddiwygiad a threfn, ac y bu iddynt ddistrywio pob lle, ac anrheithio pob dŷn lle delent, fel y bydd gwaeth o'u plegid hwy y plentyn sy etto heb eni, ac a'u melldiga hwy lawer blwyddyn ar ôl hyn.
Am hynny na chanlyned vn deiliad cywir synhwyrol y faner a gyfoder i wrthryfela, ac y bo gwrtryfelwyr yn ei dwyn, er bod llun yr aradr wedi ei baentio arni, a'r geiriau hyn neu 'r cyfryw, Duw a lwyddo 'r Aradr, wedi eu scrifennu arni [Page 284] mewn llythrennau mawrion, a gwybyddwch nad oes neb yn rhwystro 'r Aradr yn fwy nâ gwrthryfelwyr, y rhai nid arddant eu hunain ac ni adawant i eraill aredig. Ac er bod rhai gwrthryfelwyr yn dwyn llun pum harcholl yn eu banerau, yn erbyn y rhai sy yn rhoi holl oglud eu hiechydwriaeth yn archollion Christ, nid gwedi eu paentio ar gadach gan ryw baentiwr annuwiol, ond yn yr archollion hynny a ddug Christ yn ei werthfawr gorph: er eu bod heb wybod pa beth yw croes Grist yr hon ni feidr na phaint wr na charfwr ei gwneuthur, etto maent yn dwyn delw 'r groes gwedi ei pheintio mewn cadechyn yn erbyn y rhai y peintiwyd croes Ghrist yn eu calonnau, ie er peintio honynt yn eu * banerau, Hoc signo vinces: yn yr arwydd hon y gorfyddi a chanlyn yn lledffron orchwyl Constantin fawr yr Ymherodr Christionogaidd godidawg hwnnw gorchfygwr gelynion Duw, arwydd anweddaidd i elynion Duw, eu tywysog a'n gwlad, neu pa faner arall bynnac a ddygont, etto na chanlyned vn deiliad da duwiol (gan obeiddio gorchfygu neu dyccio yn dda) neb ac a ddygant y fath fanerau o wrthryfel. O herwydd fe gair siamplau o'r fath weithredoedd cystal mewn hên historiau ac mewn gwrthryfoloedd a fu yn hwyr ofewn o gof hygof ein tadau ni, a ninnau ein hunain: felly er maint yr ymrithient ac er dwyn honynt y banerau hyn, fe gyfrifer (er mwyn eu cofio yn dragywydd) fawr ac echrydus laddfau aneirif liaws a milioedd o'r bobl gyffredin, y rhai a laddwyd mewn gwrthryfeloedd, erchyl ddihenudd ycyffrowyr a'r penaethiaid a thruan andŵaeth eu gwragedd hwy a'u plant, a dietifeddu etifeddion y [Page 285] gwrthryfelwyr yn dragywydd, anrhaith a distryw y bobl a'r wlad lle dechreuwyd y gwrthrhyfeloedd fal y gallai y plentyn na anesid etto ruddfan a galaru o'u plegid hwy, cwbl ddistryw ac angau cywilyddus yr holl wrthrhyfelwyr, y rhai a osodir allan cystadl mewn historiau cenhedlaethau dieithr a chroniclau ein gwlad ni ein hunain, rhai o honynt sydd hygof ddigon y rhai pe cynullid oll ynghyd a wnaent lawer o lyfrau mawrion: ond o'r gwrthwyneb fe a allid cynwys mewn ychydig liniau neu eiriau yr holl lwydiant a gafodd gwrthrhyfelwyr mewn vn oes, gwlad, neu amser. I gaued am hyn y cwbl gwacheled pob deiliad da gan ystyried pa mor echrudus bechod yn erbyn Duw, eu tywysog a'u gwlad ac yn erbyn holl gyfraithiau Duw a dynion yw gwrthrhyfel, yr hwn nid yw vn pechod neilltuol yn vnig, ond yr holl bechodau yn erbyn Duw a dŷn gwedu eu pē tyru ynghyd, gā ystyried erchyll fywyd a gweithredoedd a diwedd ac angau cywilyddus pob rhebel a gwrthryfelwr hyd yn hyn, andwaeth truā eu gwragedd hwy a'u plant a'u tolwydd a dietifeddu eu etifeddion hwy yn dragywydd, a chan ystyriaid vwchlaw pob peth y dragwyddol ddamnedigaeth a ddarparwyd i'r holl wrthryfelwyr diedifeiriol yn vffern gyda diawl dechreudd cyntaf gwrthrhyfel a Phennaeth mawr yr holl wrthrhyfelwyr: gwacheled meddaf bob deiliad da (gan ystyriaid y pethau hyn) bob gwrthrhyfel, megis y drygioni mwyaf ac a all bod, a chofleidied vfydd-dod dyledus i Dduw a'i dywysog, megis y rhinwedd fwyaf oll, fel y gallom ddiangc rhag pob drygioni a blinderau ac a ganlynant wrthrhyfel yn y byd hwn a damnedigaeth tragwyddol yn y byd a ddaw, ac y mwynhaom [Page 286] heddwch lonyddwch a diogelwch a holl ddoniau eraill a bendithion Duw y rhai a ganlynant vfydd-dod yn y bywyd hwn, ac a meddiannom yn ddiwethaf yn ybyd a ddaw deyrnas nefoedd, lle enwedig i'r holl ddeiliaid a vfyddhant i Dduw a'u tywysog.
Yr hwn Duw brennin yr holl frenhinoedd ai canniatao ini er mwyn vfydd-dod ei fab Iesu Grist i'r hwn gyd â'r Tad a'r Ysyryd glan vn Duw ac anfarwol frenin y byddo holl ddyledus anrhydedd gwasanaeth ac vfydd-dod gan ei holl greaduriaid yn oes oesoedd, Amen.
Fel hyn y clywsoch y bedweredd rhan or bregeth hon yn awr bobl dda weddiwn.
Y weddi fel o'r blaen.
¶ Y bummed rhan o'r bregeth yn erbyn gwrthrhyfelgarwch ac a'nufydd-dod.
YN ol athrawaeth a samplau am vfydd-dod dyledus deiliaid i'w brenhinioedd, mi a fynegais yn ddiwethaf ichwi pa fath bechod ffiaidd yn erbyn Duw a dŷn yw gwrthrhyfel, a pha blau erchyll, a chospedigaeth a marwolaeth gydag angau tragwyddol yn y diwedd sydd yn sesyll vwch bennau yr holl ddynnion gwrthryfelgar.
[Page 287] Ni bydd ammherthynasol nac anfuddiol ddangos yn awr pwy y mae 'r cythrel, awdur a dechreuad pob gwrthrhyfelgarwch, yn eu harfer yn bennaf, i gyffro deiliaid i wrthrhyfelu yn erbyn eu tywysogion cyfraithlon, fel gan eu adnabod y galloch gilio oddiwrthynt ac oddiwrth eu damnedig hudoliaeth hwy, a gochelyd pob gwrthrhyfelgarwch ac felly diangc rhag y plaau erchyll a'r far wolaeth echrydus, ac yn ddiwethaf y ddamnedigaeth tragwyddol sydd ddyledus i bawb o'r gwrthrhyfelwyr. Er bod llawer o achoseon gwrthrhyfelgarwch ac a ellir eu cyfrif, ie cynnifer haechen ac sydd o faiau mewn gwyr a gwragedd, fal y dangoswyd o'r blaen: etto ymma mi a gyhwrddaf yn inig a'r achosion pennaf ac a arferir fynychaf, yn enwedig vchelfrud ac anwybod.
Wrth vchelfrud yr wyf yn meddwl anghyfraithlon ac aflonydd chwant mewn dynnion i fod mewn stat sydd vwch nag y rhoddodd ac y osododd Duw iddynt. Wrth anwybod nid ydwyf yn ystyried eisiau cafarwyddyd mewn celfyddydon a gwybodaethau, ond eisiau gwybod sanctaidd ewyllys Duw a fanegwyd yn ei sanctaidd air ef. Yr hwn sydd yn dyscu cystadl i gashau yn drarhagorol bob gwrthrhyfelgarwch megis gwraidd pob drygioni, ac i lewyrchu mewn vfydd-dod megis dechreuad a gwaelod pob daioni, fel y manegwyd or blaen hefyd.
Ac fel y mae y rhai hyn yn ddwy o'r achoseon pennaf o wrthrhyfelgarwch: felly y mae dau rhyw o ddynnion yn y rhai yn enwedig y mae y baiau hyn yn teyrnasu, trwy y rhai yn bennaf y mae 'r diawl awdur pob drygioni yn cyffro pob [Page 288] anufydd-dod a gwrthrhyfel. Gwedy i'r bchelfrud aflonydd vnwaith gwbl fwriadu trwy rhyw ffordd neu gilydd gwblhau eu medddylfrud, pan pan na allont mewn modd cyfraithlon heddychlon dringo cyfuwch ac y dymunant, hwy a amcanant hynny trwy gadernid a grym ar fau, a phan na thyccio hyn ganthynt eu hunain yn erbyn awdurdod arferol a gallu cyfraithlon tywysogion a liwiawdwyr, hwy a geisiant nerth a chynnorthwy gan y cyffredin diwybod, gan eu camarfer hwy i'w defnyddion anwireddus.
Gan hyn am nad oes ond ambell o bennau cenfigennus vchelfrud yn bennau ac yn arweiniaid a bod amledd o ddynion anwybodus yn wenidogion ac yn gynnorthwywyr gwrthrhyfel: Y prif bwngc o'r rhan hyn a fydd cyhoeddi i'r disyml a'r anwybodus, pwy yw y rhai a fu yn arferol gyffrowyr gwrthrhyfel, fal y gallont eu hadnabod hwy: ac felly eu rhebyddio hwy i ochelyd dichelgar ehudad y fath ddynion vchelfrud aflonydd, ac felly ymgadw rhagddynt: fel y gorescynnir ac y cwbl ddiffodir yn ebrwydd ac yn hawdd heb nymmor lafur enbeidrwydd na choled, (eisiau maenteiniaeth gan y cyffredin) bob gwrthrhyfel a gyfroir gan y chydig o bennau vchel eu bwriad.
Fe Wis. wyddys yn dda cystadl wrth yr holl historiau ac wrth addisc amser beunyddol na cheisiodd neb ymgyrhaeddyd a thringo mor vchel fwriadus vchlaw ymherodrwyr, brenhinioedd, a thywysogion, ac na chyffrodd neb y bobl anwybodus mor echryslon i wrthrhyfel yn erbyn eu tywysogion, na rhyw ddynnion a gymmerant yn dwyllodrus arnynt eu hunain yn enig, enw eglwyswyr, [Page 289] ac a fynnant eu cyfrif felly. Rhaid imi ymma etto yn fyrr (bobl ddaionus) eich cofio chwi allan o sanctaid air duw am ymarweddiad ein Iachawdwr Iesu Grist a'i apostolion sanctaidd (pennaethiaid a phenaduriaid pob gwir wyr eglwysig ysprydol) tuag at dywysogion a rheolwyr eu hamser hwy: er nad oeddent liwiawdwyr o'r gorau, fal y gwybyddoch pa vn a wna y fath ddynion ai bod yn ddiscyblon Crist a'i apostolion ac felly yn wir ysprydol, y fath ddynnion (meddaf) ac a geisiant ymgyrhaeddyd a thringad mor vchel neu a ddyscan yn dra chensigennus, neu yn dra echryslon wneuthur gwrthrhyfel yn erbyn eu tywysogion cyfraithlon: yr hwn yw 'r gwaethaf o holl weithredoedd y cnawd a gorchwylion anwireddus.
Mae 'r scruthyrau sanctaidd yn dywedyd yn oleu fod Christ ei hun a'i apostolion Saint Pawl, Saint Peter, ac eraill, yn vfydd eu hunain i'r lliwiawdwyr, a'r galluodd goruchel, y rhai a rheolent pan oeddent hwy ar y ddaiar ac yn annog eraill yn ddyfal ac yn ddifrif i fod yn yr vn modd yn vfydd i'w tywysogion a'u lliwiawd wyr: Wrth yr hyn y mae 'n eglur y dyle wyr llen a gwenydogion Math. 17. 25. Mar. 12. 14. Luc. 20. Math. 27. Luc. 23. Ruf. [...]3. 1. Tit. 2. 1. Pet. 2. Iohn 6. 15. 18. 36. Math. 20. 25. Mar 10. Luc 22▪ 25. Mar. 13. 8. Luc. 9. 2. Cor. 1. 1. Pet. 5. eglwysig, yn enwedig eu hunain ac ymlaen pawb, fod yn vfydd i'w tywysogion ac annog eraill i'r vn fath vfydd-dod. Ac fe gadarnhaodd ein Iachawdwr Christ hynny yn ei athrawaeth gan ddyscu nad oedd ei deyrnas ef o'r byd hwn, athrwy ei siampl, gan gilio rhag y rhai a fynnase ei wneuthur ef yn frenin, gan wahardd i'w apostolion a thrwyddent hwy i'r holl wyr llen dywysogaidd deyrnasu ar y bobl a'r cenhedloedd, Ac efe a'i Apostolion sanctaidd yn enwedig Petr a Phawl a waharddodd i holl wenidogion eglwysig [Page 290] deyrnasu ar Eglwys Grist. Ac yn wir yr hyd y cynhalodd gwenidogion eglwysig y drefn a osodwyd yn gair Christ iddynt, a'r hyd y cadwasant eu hunain yn heyrnasoedd Christionogion yn vfydd i'w tywysogion, megis y mae 'r scruthyr lân yn en dyscu hwy: yr oedd Eglwys Christ yn rhydd oddi wrth ymryson a chynhennau ymchwyddus, ac nid oedd stat teyrnasoedd Christionogaidd mor llawn o gynnwrf a gwrthryfel.
Ond yn ol i vchelfryd a chwant teyrnasu ddyfod vnwaith i wenidogion eglwysig, braint y rhai yn ol siampl ein Iachawdwr a'i athrawaeth a ddyle sefyll yn bennaf mewn gostyngeidd wydd: a chwedy i Escob Rufain ac ef wrth drefn gair Math. 18. 20. Luc. 9. 22. 27. Duw heb fod ddim amgen onid Escob o'r vn escobaeth honno, ac heb allel erioed lywodraethu honno yn inion, daeru trwy falchedd anrhaith oddef, mai fe nid yn inig yw pen yr holl eglwys sydd wedy ei gwascaru dros wyneb yr holl ddaiar, ond hefyd Arglwydd holl deyrnasoedd y byd, fal y gosodir i lawex yn oleu yn ei gyfraithiau Canon ef ei hun, yn wrthwyneb iawn i athrawaeth a siampl ein Iachawdwr Christ, ficar yr hwn a ficar ei apostol S. Decret. li. 3. cap. vnic. & li. 5. tit. 9. cap. 5. in Glos. sanctaidd ef, y myn ef ei fod, Petr meddaf, canlynwr yr hwn y cymmer arno fod: yn ol i'r vchelfryd hwn gael ei gynwys, achwedy ei Escob Rufain daeru hyn vnwaith, fe a aeth yn anhraithiwr ac yn ddistrywydd cystadl o'r eglwys yr hon yw teyrnas ein Iachawdwr Christ, ac o'r Ymherodraeth Gristionogaidd a phob teyrnas Gristionogawl megis tyron cyffredinol ar y cwbl.
Ac lle cyn iddo daeru hynny yr oedd cariad a serch mawr rhwng Christionogion pob gwlad a'i gilydd, o hyn y dechreuodd tyfu cenfigen a chasineb [Page 291] mawr rhwng Escob Rufain a'i wyr llen a'i gymdeithion o'r vn rhan, a gwyr llen Groeg a Christionogion y dwyrain o'r rhan arall, am eu bod yn gwrthod cydnabod fod vn fath goruchel awdurdod gan Escob Rufain arnynt: ac Escob Rufain am yr achos hyn ym-mhlith eraill nid yn inig yn eu galw'hwy ac yn eu cymmeryd hwy yn Schismatici. lle rhwygwyr yr eglwys, ond heb orphwys yn eu herlid hwy, a'r Ymherodwyr hefyd, eisteddfod y rhai a'i gorphwysfa oedd yn Grecia, gan annog y deiliaid i wrthrhyfelu yn erbyn eu harglwyddi goruchel, a chan gyffro casineb marwol a rhyfeloedd creulon rhyngthynt hwy a thywysogion Chistionogaidd eraill. Ac yn ol i Escobion Rufain symmud titul yr Ymherodr, a chybelled ac y gallai, yr Ymhoerodraeth hefyd oddiwrth ei Arglwydd yr ymmerodr o Grecia ac o Rufain hefyd trwy gyfiawnder, at dywysogion Christionogaidd y gorllewin, hwy a fuont am ben ennyd byrr cynddrwg wrth Ymmerodwyr y gorllewin ag a fuasent hwy o'r blaen i Ymmerodwyr Grecia, fe a ellir gweled yn historiau a chroniclau i Escobion Rufain arfer rhyddhau deiliaid o'u llw o vfydd-dod a wnaent i Ymerodwyr y gorllewin eu huchel Arglwyddi, i Escobion Rufain gyffro 'n an-naturiol y deiliaid i rebelio yn erbyn eu tywysogion, ie y mab yn erbyn y tad: gyffro Rhyfeloedd creulon gwaedlyd ym-mhlith tywysogion Christionogaidd yr holl deyrnasoedd: erchyll fwrdder llawer mil o Gristionogion a laddodd Christionogion eraill: a'r hyn a ganlynodd o hynny y colled truan ar gynnifer o ddinasoedd gwledydd tresi a theyrnasoedd, y rhai a fu ryw amser ynnwylo 'r Christionogion, yn Asia, Africa ac Europa: [Page 292] cwymp blin yr Ymmerodraeth ac Eglwys Grecia (rhan rhyw amser fraintisaf o Grêd) i ddwylo 'r Twrciaid, lleihad adfeiliad a chwymp truan galarnus ar grefydd Gristionogaidd, echrydus gynnydd buchedd Paganiaid a gallu 'r anghredadwy a'r anifeiliaidd a'r cwbl trwy hocced ac annogaeth Escob Rufain yn bennaf: hyn oll a ellir ei weled meddaf yn scrifennedig yn historian a chroniclau y rhai oeddent yn ffofro ac yn caru Escob Rufain, fel y gŵyr pawb yn dda ar sydd gydnabyddus a'r historiau hynny: fe a ymddangosodd balch fwriad a dichellion twyllodrus Escob Rufain yn yr holl orchwylion hyn; wrth eu tra eofnder yn anrheithio ac yn yspeilio yr Ymerodwyr, o'u trefi, dinasoedd, a theyrnasoedd, yn Itali, Lumbardi, a Cicili, y rhai er hên amseroedd a berthynent i'r Ymmerodraeth, a chan eu cyssylltu hwy a'u Hescobaeth o Rufain, neu eu rhoddi hwy i ddieithriaid i'w dala dan yr Eglwys neu Escob Rufain megis in capite, ac megis dan yr vchel Arglwyddi o honynt, yn yr hwn gylltyd y maent yn dala y rhan fwyaf honynt hyd y dydd heddyw. Trwy y moddion balch bradychus hyn a thrwy anrheithio eu Harglwyddi goruchel y daeth Escobion Rufain o offeiriaid, ac heb fod ddim amgen mewn cyfiawnder ond Escobion vn ddinas, neu Escobaeth, trwy gam orescyn yn Arglwyddi mawr, llawer o Arglwyddiaethau, yn dywysogion cedyrn, neu yn hytrach yn Ymmerodwyr, megis yn taeru fod llawer o dywysogion a brenhinioedd yn gaethion yn ostyngedig ac yn ddeiliad iddynt, fal y gellir gweled yn yr historiau hynnya scrifennodd eu tylwyth a'u cyfeillon hwy eu hunain.
[Page 293] Ac yn wir er pan cyrhaeddodd yr Escobion o Rufain ymma trwy ymdringo a bradau yr ore scynniaeth ymma, ac er pan daethont hwy i'r maint a'r vchelder hwn, hwy a ymddygasant yn debyccach i Dywysogion, Brenhinioedd, ac Ymmherodwyr, ym-mhob peth nag i offeiriaid, Escobion, gwyr eglwysig, neu yspryddol (fely mynnant hwy eu galw) yn vn peth. O blegid yn ol y cyfrif hwn y trinasant hwy frenhinioedd a thywysogion o deyrnasoedd eraill trwy Gred, cystadl a'u goruchel Arglwyddi yr Ymmerodwyr: gan rhyddhau yn arferedig eu deiliaid hwy o'u llw o vfydddod, a chan eu cyffro hwy felly i rebelio yn erbyn eu tywysogion naturiol, am yr hyn y cewch beth siamplau yn y rhan ddiwethaf.
Am hyn gan adnabod mai y rhai hyn yw offerau a gwenidogion espysawl y diawl i gyffro pob rebeliwn, gocheled pob deiliad da hwy, ac ehudad y fath orescynwyr dieithr a'u canlynwyr, ac ymgofleident bob vfydd-dod i Dduw, a'u tywysogion a'u gor [...]chelon naturiol, fal y mwynhaont fendith Duw a ffafwr eu tywysogion ym-mhob heddwch, esmwythder a llonyddwch a diofalwch yn y byd hwn, ac a meddiannont yn y diwedd fywyd tragwyd dol yn y byd a ddaw trwy Grist ein Iachawdwr: yr hyn Duw Dad er mwyn ein Iachawdwr hwnnw Iesu Grist a'i canniatao ini oll, i'r hwn gyda 'r Yspryd glan y byddo holl anrhydedd yn oes oesoedd, Amen.
Fel hyn y clywsoch y bummed rhan o'r bregeth hon, bellach bobl ddaionus, Gweddiwn.
¶ Y chwechod rhan o'r homili yn erbyn anufydd-dod.
YN awr yn gymmaint a bod camweddau, treisiau, yspail a thyraniaeth Escob Rufain, gan dreisio cystadl ar eu Harglwyddi naturiol yr Ymmerodwyr, ac ar yr holl freh inioedd Christionogaidd, a'u teyrnasoedd, a chan gyffro yn wastadol y deiliaid i rebelio yn erbyn eu gorchuchel Arglwyddi, am yr hyn y rhybyddiais chwi or blaen mewn rhan) yn anrhaith oddef: ac am y tybyged fod yn fwy na rhyfedd i ddeiliaid ddal yn y modd hynny gyda threisiwr dieithr ânnaturiol, yn erbyn eu goruchel Arglwyddi a'u gwlad naturiol.
Mae 'n aros bellach imi ddangos yr achosion trwy y rhai yr ymgylchynasant y pethau hyn, ac fellu cau y cwbl o'r trawthawd cyfan hwn am vfydd-dod a gwrthrhyfel. Deallwch mai trwy anwybod yngair Duw yn yr hwn y cad wasant bawb (ond yn enwedig y bobl gyffredin) y gwaithiasant ac yr amgylchanasant hyn oll, gan wneuthur iddynt gredu fod beth bynnac y ddywedent hwy yn wir, beth bynnac a wnaent yn ddaionus ac yn dduwiol, a bod dala gyd a hwy ymmhob peth yn erbyn tad a mam, tywysog, gwlad a phawb oll, yn dra haeddiannol. Ac a dywedyd gwir i pa ddrygioni ni thywys dallineb diwybod ddynnion Diddrwg. disyml.
Trwy anwybod y perswadodd gwyr llen yr Iddewon i'r bobl ofyn am rhyddhau Barabas murdderwr terfyscus, ac i adel ein Iachawdwr Christ i'w groefhoeli yn greulon, am iddo ef geryddu [Page 295] vchelfryd ac ofergoel a baiau eraill yr archoffeiriaid a'r gwyr llen.
O herwydd fal y tystiolaetha ein Iachawdwr Christ na wyddie y rhai a croeshoelent ef beth oeddynt yn ei wneuthur: felly y mae 'r Apostol S. Pawl yn dywedyd pes adwaenasent ni chroeshoeliasent 1. Cor. 2 8. Arglwydd y gogoniant, ond ni wyddent pa beth oeddynt yn ei wneuthur. Mae 'n Iachawdwr Christ eihun yn rhag-ddangos hefyd y dawae 'r amser pan trwy anwybod y tybyge y rhai a herlidient ac a laddent eu apostolion a'u ddiscyblon ef eu bod yn gwneuthur gwasanaeth da i Dduw: yr hyn a wirhair hefyd y dydd heddiw.
Ac ni chadwodd Escobion Rufain bobl Dduw mewn anwybod, yn en wedig y cyffredin, mewn vn modd yn gymmaint, ag wrth gadw gair Duw oddiwrthynt, a'i gadw ef dan len tafod dieithr yr hwn nis adwaenent. O blegid megis yr oedd dyrru pob cenedl i arfer [...] naturiol dinas Rufain (Ie yr oeddynt hwy yn Escobion, yr hyn a ddangosai rhyw gydnabod o vfydd-dod yddynt) yn gwasanaethu tro ac vchelfrud Escobion Rufain: felly y gwasanaethodd hynny yn fwy o lawer eu bwriad dichellus hwy, iddynt gadw y bobl mor ddeillion fel na wyddent am pa beth y gredent, a pha beth y orchymmynnodd Duw iddynt▪ ac fel felly a cymmerent eu holl orchymynion hwy yn lle gorchymynnion Duw.
O herwydd megis na oddefent fod arfer yr scruthyrau na gwasanaeth yr eglwys yn vn iaith ond yn lladin: felly ni ddysced ond i ambell iawn o'r bobl ddisyml, weddi'r Arglwydd, pyngciau y ffydd, a'r dêg gyrchymmyn, yn vn iaith ond yn lladin yrhon ni ddeallent: trwy 'r anwybod cyffredinol [Page 296] hwn, yr oedd pawb yn barod i gredu beth bynnac y ddywdent hwy, ac i wneuthur beth bynnac y orchymmynnent.
O blegid (mi arferaf ymmadrodd yr Apostol) pe gwybuasai ddeiliaid Ymmerodwyr allan o air Duw, eu dylyed tuag at eu tywysogion, ni chymmerasent e'u perswadio gan Escob Rufain i ymwrthod a'u huchel Arglwydd yr Ymherodr, yn erbyn Greg. [...]. a'r 3. anno domini [...] 26. &c. eu llw o vfydd-dod, ac i wrthrhyfelu yn ei erbyn ef, yn vnic am dafli hono ddelwau (i'r rhai y gwnaed delwaddoliaeth) allan o'r deml, yr hyn y berswadodd Escob Rufain iddynt ei fod yn heresi. Pe gwybuasent gymmaint o air Duw a'r dêg gorchymmyn, hwy a welsent fod Escob Rufain nid yn inig yn fradwr i'r Ymmerodr ei vchel Arglwydd, ond i Dduw hefyd, ac yn erchell gablwr ei fawrhydi ef, am alw ei sanctaidd air a'i orchymmyn ef yn heresi: ac hwy a wyddasent fod yr hyn y gymmerodd Escob Rufain yn achos cyfion i rhyfelu yn dyblu ei faiau tra anferth ef, sydd gwedy eu pentyru ag erchyll annuwioldeb a chabledd. Ond rhag i'r bobl druain wybod gormod ni oddefe ef fod ganthynt gymmaint o air Duw a'r dêg gorchymmyn yn gyfan ac yn gwbl, ond fe a dynne oddiwrthynt yr ail orchymmyn gan ddangos ei annuwioldeb trwy ei ddichellus gyssegrledrad. Pe buasai ddeiliaid yr Ymherodwyr hefyd yn [...]. Orchymyn. gwybod ac yn deall gair Duw, y wrthryfelasent hwy a'r amser arall yn erbyn eu huchel Arglwydd, ac y nerthasent hwy trwy wrthrhyfel ei ddiswyddo ef, yn vnig am fod Escob Rufain yn eu perswado hwy mai symoni a heresi oedd i'r ymmerodr rhoi braintau eglwysig, na derchafiaeth i'w gapelenaid dyscedig neu eraill o'i wyr llen dyscedig, [Page 297] yr hyn y wnelse yr holl ymherodwyr Christionogaidd o'i flaen ef yn ddirhwystr? y fuasent hwy meddaf am fod Escob Rufain yn eu cymmell hwy i gredu hynny, yn gwrthrhyfelu dros ddeigain mlynedd ynghyd yn ei erbyn ef, trwy dywallt cymmaint o waed Christionogaidd a lladd cynifer mil o Gristionogion, ac yn y diwedd yn diswyddo eu huchel Arglwydd pe buasent hwy yn gwybod ac yn deall dim o air Duw? yn enwedig pe gwybuasent iddynt wneuthur y cwbl o hynny i dynnu oddiwrth eu huchel Arglwyddi a'u etifeddion yn dragywydd eu hên gyfiawnder i'r ymmerodraeth a'i rhoddi hi i Escob Rufain a'i wyr llen, fel y galle ef am vn Archescobaeth ac am vn cerpyn o Rufain yr hwn a alw ef pal, na thale ond braidd swllt, dderbyn llawer mil o goranau aur, a chan Escobion eraill hefyd summau mawr o arian am eu bulau yr hyn sydd wir symoni? Y fua se Gristionogion meddaf a deiliaid trwy wrthrhyfel yn tywallt cymmaint o waed Christionogaidd ac yn diswyddo eu tywysog naturiol godidawg dewr, i dd wyn y peth i'r diben hyn, pe gwybasant beth oeddynt yn ei wneuthur neu pe deallasant air Duw?
Ac fal y gwnaeth y treisiwr vchelfrud hwn Escob Rufain i ffrydiau o waed Christionogion orchguddio holl Itali a Germani yr hwn y dywalltodd deiliaid anwybodus trwy wrthrhyfel yn erbyn eu Harglwyddi naturiol ac Ymherodwyr, y rhai y gyffroesant hwy i hynny trwy y fath gau escuson: felly nid oes vn wlad yn-Ghred yr hon ni thascwyd erni waed deiliaid trwy eu gwrthrhyfel yn erbyn eu naturiol vchel-alluoedd yr hon y gyffrowyd trwy'r vn rhyw Escobion Rufain. [Page 298] Ac i rhoddi i chwi vn siampl o'n gwlad ni ein hunain fe a gymmerth Escob Rufain gweryl yn erbyn brenin Ioan o Loeger am ddewis Stephan Langthon i Escobaeth Canterburi, yn yr hyn beth yr oedd gan y brenin hên gyfiawnder yr hwn y arferase ei rhyeni ef holl frenhinioedd Lloeger oi flaen ef, ac Escob Rufain heb iddo vn cyfiawnder, onid darfod iddo dreisio ar frenin Lloeger a brenhinioedd eraill, megis y gwnelsai o'r blaen ar ei vchel Arglwydd yr Ymherodr, gan fyned yn eu herbyn hwy hyd yr vn ffordd ac yn yr vn modd, felly fe felltithiodd brenin Ioan ac a rhyddhaodd ei ddeiliaid ef o'u llw o vfydd-dod i'w huchel Arglwydd.
Bellach pe gwybuase Saeson yr amser hwnnw eu dlyed i'w tywysog a osodwyd allan yngair Duw, y fuase gynifer o'r pennaethiaid a Saeson eraill deiliaid naturiol o achos i'r treisiwr dieithr annaturiol hwn felltithio eu brenin hwy yn ofer a gwneuthur lliw o'u rhyddhau hwyntau o'u llw o vfydd-dod i'w Harglwydd naturiol, ar sail mor wann neu yn hytrach heb vn sail yn gwrthrhyfelu yn erbyn eu huchel Arglwyd y Brenin? A fuasai ddeiliaid Saisnig yn dala yn erbyn Brenin Lloeger ac yn erbyn Saeson gyda Brenin Frainc a Francod y rhai y gyffroese Escob Rufain yn erbyn y deyrnas hon? y ddanfonasent hwy i geisio ac y dderbynasent hwy y Dolpin o Ffrainc a llu mawr o Frangod i deyrnas Loeger? y dyngasent hwy lw o vfydd-dod iddo gan dorri eu llw i'w Harglwydd naturiol Brenin Lloeger, Ac y safasent hwy dan ei faner ef gwedy ei lledu yn erbyn Brenin Lloeger? Y ddyrasent hwy eu huchel Arglwydd Brenin Lloeger allan o Lundain y ddinas bennaf yn [Page 299] Lloeger, ac allan o'r rhan fwyaf o Loeger hefyd, hyd tu y gorllewyn o'r afon Trent ie hyd yn Lincoln ac allan o Lincoln hefyd, a rhoddi 'r cwbl dan feddiant y Dolphyn o Ffrainc yr hwn a'u cadwodd dan ei feddiant hîr ennyd? y fuasent hwy a hwy yn Saeson yn annog tywallt gwaed cynifer o Saeson ac aneirif eraill o ddrygioni a blinderau i Loeger eu gwlad naturiol, y rhai a ganlanasant y rhyfeloedd creulon a'r gwrthyfeloedd bradychus hynny ffrwythau bendithion Escob Rufain? Y ddyrasent hwy eu huchel Arglwydd Brenin Lloeger i'r fath gyfyngder fal y gorfu arno ddarostwng ei hun i'r gau dreisiwr dieithr, Escob Rufain, yr hwn a'i dyrrodd ef i surendro coron Loeger i ddwylaw ei gannad ef, yr hwn yn lle arwydd ei fod ef yn feddiannol honi a'i cadwodd hi yn ei ddwylo lawer o ddiwarnodau, Pandolphus. ac yno fe a rhoddodd hi i fynu ailwaith i frenin Ioan, dan ammod i frenin Ioan a'i etifeddion ddala 'r goron a Brehiniaeth Loeger dân Escob Rufain a'r rhai a ddoe ar ei ol ef megis deiliaid Escobion Rufain yn dragywydd, yn arwydd o hynny y talai frenhinoedd Lloeger dreth bob blwyddyn i Escob Rufain megis deiliaid yn dala dano ef? Y fuase Saeson yn dwyn eu huchell Arglwydd a'u gwlad naturiol i gathiwed a gostyngeiddrwydd i gau dreisiwr dieithr, pe gwybuasent a phe buasent yn deall dim o air Duw? Allan o'r stat galarnus hon a blin dyranaeth, yspail ac anrhaith y bleiddiaid awyddus hyn o Rufain a ganlynodd ar ol hyn, ni allodd Brenhinioedd na theyrnas Loeger rhyddhau eu hunain dros lawer iawn o flynyddoedd yn ol hynny: gan fod Escob Rufain nid yn inig yn yspeilio [Page 300] yn wastadol trwy ei wenidogion, o deyrnas ac oddi ar frenin Lloeger aneirif dresor, ond yn hirio hefyd a'r arian hynny ac yn maenteinio gelynnion dieithr yn erbyn teyrnas a Brenhinioedd Lloeger, i'w cadw hwy yn y fath vfydddod, fel na wrthodent dalu beth bynnac y chwenyche y bleiddiaid gwalfawr hynny yn awyddus, na gwneuthur beth bynnac y osode y tyraniaid creulon hynny arnynt. Y fuase Saeson yn goddef hyn? Y barasent hwy hyn trwy wrthrhyfel y dybygwch chwi, a hynny oll am felltith diachos Escob Rufain, pe gwybuasent a phe deallasent hwy fod Duw yn melltithio y fath Escobion a thyraniaid, a threiswyr melltigedig? fal y dangoswyd ar ol hynny yn amser Brenin Harri wythfed, a Brenin Edward y chweched, a'r frenhines Elizabeth, a'n Grasol frenin yr hwn sydd yn awr yn teyrnasu, lle nid oes diffyg nac o felltithion y Pab, nac o aml fendithion Duw.
Ond gan fod Escob Rufain yn deall yn amser Brenin Ioan ddallineb ac anifeiliaidd anwybodaeth yn-gair Duw ac ofergoel y Saeson, a pha mor barod oeddynt i addoli yr anifail Babilonaidd o Rufain, ac i ofni pob bygythau a melltithion diachos, fe a'u camarferodd hwy fel hyn, ac a ddug trwy wrthrhyfel y deyrnas odidawg hon a Brenhinioedd Lloeger tan ei dyranaeth tra chreulon, i fod yn ysclyfaeth i'w drachwant a'i yspail wael awyddus ef dros amser hir, ie rhyhir o lawer.
Ac er cyssylltu ac ymadroddion historiau bethau o gyffadwriaeth sydd hwyrach, allasai Escob Rufain gwnnu y fath wrthrhyfeloedd yngwledudd y deheu a'r gorllewyn, yn amser Brenin [Page 301] Hari wythfed a Brenin Edward, ond gan gamarfer anwybod y bobl? Onid yw eglur i Escob Rufain amcanu yn hwyr trwy ei Batriarchau a'i Escobion gwyddelig (i'r rhai y danfonwyd o Rufain eu Bulau ac o'r rhai y daliwyd rhai) dorri barrau a pherthi heddwch cyffredinol Iwerddon, yn vnig am ei fod ef yn ymddired y gallai yn hawdd gamarfer anwybod y Gwyddelaid gwylltion? Neu pwy na wyl iddo ef ar yr vn fath obaith etto yn hwyrach, annog torri heddwch cyffredinol Lloeger, (am fod yn flin iawn gantho fod hwn yn parhau mor hîr, ac mor fendigaid) trwy wenidogaeth ei Gapalenaid ymrhithiedig, y rhai a ymluscant mewn trwsiad gwyr llygion ac a rhiniant ynghlustiau rhai o artaloedd y Gogledd, y rhai a wyddont leiaf am eu dlyed at Dduw a'u tywysog o holl bobl y deyrnas, y deiliaid am hynny deillion disyml hyn, megis rhai addas parod iwneuthur yr hyn y fwriadai ef, y hebryngodd ef trwy ei offeren offeiriaid, megis y dall yn arwain y dall, i glawdd dyfn gwrthrhyfel * echrydus, ddamnedig iddynt hwy eu hunain ac enbaid i stat y deyrnas, oni buase i Dduw o'i drugaredd ostegu yn rhyfedd y temestl creulon hwnnw, nid yn inig heb warth i'r wlad, ond haechen heb dywallt dim gwaed Christionogaidd Saeson.
Ac etto mae peth y ddlyed galarnu am dano 'n fwy nad ydyw y bobl gyffredin yn inig, onid ambell dywysog ieuanc anghyfarwydd hefyd, yn goddef Escob Rufain a'i gardinelaid a'i Escobion i'w camarfer hwy, i orthrymmu Christionogion eu deiliaid ffyddlon, y naill ai eu hunain ai yntef gan annog dyfod a galluodd Christionogion allan [Page 302] o vn wlad i wlad arall, i orthrymmu Christionogion gan agored lle trwy hyn i'r Mwraid a'r anghredadwy i ddyfod i feddiannu teyrnasoedd agwledudd Christionogaidd, yr hyd y byddo tywysogion eraill trwy annogaeth Escob Rufain yn ymdaro a rhyfeloedd cartrefol ac yn cael eu blino gan wrthrhyfeloedd, heb fod na'r ennyd na+'r gallu ganthynt i gyssylltu eu gallu cyffredinol ynghyd i ymddiffyn eu cyfeillion y Christianogion yn erbyn gorescynniaeth gelynnion cyffredinol Cred, y budreddiaid anghredadwy.
Och na byddem ni yn clywed ac yn darllen yn inig yn hen historiau ac heb weled a'n llygaid a theimlaw a'n dwylaw fel yr ydys yn gorthrymmu Christionogion o newydd yn brensennol, fel y mae deiliaid yn gwrthrhyfelu, fel y tywalltir gwaed Christionogion, fel yr adfeilia ac y cwymp Cred, fel y mae Anghred yn cynyddu yr hyn sydd alarnus a thruan ei weled, a hyn a annogir yn awr megis yn yr hên amseroedd trwy Escob Rufain a'i wenidogion, gan gamarfer anwybod gair Duw, yr hwn sydd etto 'n aros mewn llawer o dywysogion a phobl.
Y ffrwythau trist chwerwon ymma o anwybod y ddlye gyffro pawb i wrando ac i gredu gair Duw, yr hwn sydd yn dangos yn gywir ac yn oleu pa faint ddrygioni yw anwybod, a pha faint a pha gystadl rhodd Duw yw gwybod gair Duw. Ac er mewn dechreu ar wyr llen Rufain y rhai er eu bod yn ymffrostio yn awr, fal y gwnae wyr llen yr Iddewon rhyw amser, na allant hwy fod heb Ieremi 18. wybodaeth: Etto mae 'r Arglwydd yn ei air yn haeru eu bod hwy mewn anwybod, ac yn eu bygwth hwy hefyd am iddynt ddiystyru gwybodaeth Ezechiel 7. 26. [Page 303] gair Duw a'i gyfraith, y diystyrai yntef hwythau, fel na byddent offeiriaid iddo ef. Mae Osea 4. 6. Duw hefyd yn gochymmmyn i frenh nioedd cystadl ag i offeiriaid ymhydyru i gael deall a gwybodaeth yn gair Duw, gan fygwth ei fawr lid a'i ddistryw arnynt oni wnant felly.
Ac mae 'r gwr doeth yn dywedyd wrth bawb yn gyffredinol tywysogion ofseiriaid a phobl, lle Diaur. 19. 8. nid oes deall nid oes na daioni na iechyd i'r enaid ac mai Ofer yw y dynnion oll, sydd heb adnabod Duw a'i air sanctaidd ef. A bod y rhai fydd yn rhodio Sap. 13. 1. Ephc. 4. 18. Ioh. 12. 35. yn y tywyllwch heb wybod i pa le yr ant: ac y cwymp y rhai ni ddyscant i lawer o ddrygioni fel y cywympodd pobl Israel y rhai am eu hanwybod Esai 5. 13. yn-gair Duw a gaeth gludwyd. Aphan trwy anwybod ar ol hynny ni fynnent nabod amser eu Luc. 19. 44. 23. 34. Act multis locis. hymweliad ond croeshoeli Christ ein Iachawdwr, herlid ei apostolion sanctaidd ef, a bod mor ddall ac mor anwybodus fel pan wnaent yn dra drwg ac yn dra chreulon, y tybygent eu bod yn gwneuthur gwasanaeth da cymmeradwy gan Dduw (fel y mae llawer trwy anwybod yn tybied hyd y dydd heddyw) yn y diwedd trwy eu hanwy bod hwy a'u dallineb, fe ddistriwyd yn erchyll eu gwlad hwy eu trefi a'u dinasoedd, Ierusalem ei hun, a theml sanctaidd Dduw, fe laddwyd y rhan fwyaf o'u pobl hwy ac y ddyc pwyd y gweddill i ga ethclud blin annial. Yr hwn a'u gwnaeth ni thosturia wrthynt a'r hwn a'u lluniodd ni thrugarha Esai 27. 11. wrthynt a'r cwbl o hyn am eu bod yn anneallgar.
Ac mae 'r scruthyr sanctaidd yn dangos am y Osee 4. Bar. 3. Esai 6. 9. Math. 13. 14. 15. Ioh. 12. 40. bobl ni welant a'u llygaid, ni chlywant a'u clustiau, ac ni ddeallant a'u calonnau, na throir hwy ac na chedwyr honynt. Ac fe gyfaddef y drygionus [Page 304] eu hunain gwedy eu damnio i vffern, mai anwybod yngair Duw y dygoedd hwy yno, gan ddywedyd, Ni a gyfeiliornasom o ffordd y gwirionedd, ac ni thywynnodd llewyrch cyfiawnder arnom ni, ac ni chododd haul cyfiawnder arnom ni. Doeth. 5. 6. Nini a lanwyd o ffyrdd anwiredd a distryw ac a rhodiasom trwy anialwch anhyffordd, eithr ni adnabuom ni ffordd yr Arglwydd. Ac mae 'n Iachawdwr Christ ei hun a'i Apostol S. Pawl yn dyscu ini fod anwybod am air Duw yn dyfod o'r Math. 13. 19. 2. Cor. 4. 2. 3. 4. Math. 7. Iohn [...]. diawl, yn achos pob camsynnaeth ac amryfysedd, megis y digwydda mewn deiliaid anwybodus y rhai a welant y brychewyn lleiaf yn llygad y tywysog neu gynghorwr, yn hytrach na'r trawst yn eu llygaid eu hun, ac yn gyffredinol hwn yw achos pob drygioni ac yn y diwedd achos damnedigaeth dragwyddol gan fod barn Duw yn gadarn tuag at y rhai yn ol dyfod goleuni efengil Christ i'r byd sydd yn caru tywyllwch anwybod, yn fwy na goleuni gwybodaeth gair Duw. Math. 11. 15. 139. 43. Luc. 8. 8. Ioan 5. 39. Psal. 1.
O herwydd yr ydys yn gorchymmyn i bawb ddarllen, wrando, chwilio a myfyrio 'r scruthyrau, ac fe addewiros gwnant hwy felly y rhydd Duw iddynt hwy ddeall, yr ydys yn gwahardd i neb gredu na gwr marw, nac Angel o'r nef a ddywedo, Math. 7. 7. Lut. 11. 9. Luc. 16. 30. 31. Galath. 1. 8. Deut. 5. 32. Deut. 17. 14. 15, &c. Rom. 13. 1. Pet. 2. Psal. 118. Psal. 18. Ephe. 5. 14. [...]. Thes. 5. 2. 4 Ioan. 12. 35. 36. mwy o lawer os dywed y Pab o Rufain ddim yn erbyn neu yn wrthwyneb i air Duw, oddiwrth yr hwn ni ddlyem droi nac i'r llaw ddeheu, nac i'r llaw asswy. Yngair Duw y dlye dywysogion ddyscu adnabod Duw a llywodrathu dynnion: yngair Duw y dlye ddeiliaid ddyscu vfydd-dod i Dduw, a'u tywysogion. Feddyscir yngair Duw i hên a ieuaingc, gwyr a gwragedd, i bob stat, rhyw, ac oedran eu dlyed neilltuol.
[Page 305] O herwydd mae gair Duw yn eglur yn goleuo llygaid pawb, yn lysern goleu yn iniawni cerddediad pawb. Dihunwn am hynny o gwsc tywyllwch anwybod, ac agorwn ein llygaid fel y gwelom y goleuni, cyfodwn o weithredoedd y tywyllwch fel y diangom rag tywyllwch tragwyddol ei ddyledus wobr ef, a rhodiwn yn-goleuni gair Duw yr hyd y caffom y goieuni, fel y gwedde i blant y goleuni, gan iniawni felly gerddediad ein bywyd yn y ffordd sydd yn tywys i'r goleuni a'r bywyd tragwyddol, fal yn y diwedd y gallom gael a mwynhau y bywyd hwnnw, Yr hyn Duw Tad y goleuni, yr hwn sydd yn aros yn y fath oleuni ni ellir ei ymgyffryd na dyfod atto, a'i caniatao ini trwy oleuni y byd ein Iachawdwr Iesu Grist, i'r hwn gyda 'r Yspryd glan vn Duw gogoneddus y byddo holl anrhydedd mawl a diolch yn dragywydd, Amen.
Fal hyn y clywsoch y chweched rhan o'r Homili hon Bellach bobl dda gweddiwn: y weddi o'r blaē.
Moliant ac anrhydedd i Dduw.
¶ Rhoddwn ddiolch Dduw am ei ddaioni.
HOll-alluog DduW a thrugaroccaf Dad yr ydym ni yn maWr ddiolch iti, am fod yn Wiw genniti o amfer yn amser ein gWared ni dy Weision anheilwng, oddiwrth Wrthrhyfelgar fradau a chythreulig gydfWriadau dynnion drWg anufydd, y rhai pe buasai eu gallu cymmaint a'u cenfigen a'u hyd cymmaint a'u drWgleWyllys, a phe buasai dy drugaredd a'th dosturi di heb fod yn fWy na'n teilyngdod ni a'n haeddiant [Page] a fuasent er es llawer o amser gwedy gosod ein anrhydedd ni yn y lwch, anheithio'r deyrnas a dwyn distryw diymwared ar y cwbl oll: ond yn enwedig o fendigedig Arglwydd yr ydym o eigion ein calonnau yn diolch, am iti ddangos dy fawr allu a'th drugaredd sanctaidd, trwy y rhai yr ymddiffynnaist ac a gwaredaist ein grasusas frenin, ein brenhines, ein tywysog, ein penaethiaid, ein Escobion, ein boneddigion a holl stat y deyrnas, o'r rhwydau a'r maglau a osodase aelodau Angrist ac offerau 'r diawl i'w difa hwy i gyd er vnwaith yn ddisymmwth. Yr ydym ni yn cydnabod ger dy fron di ac yn erbyn ein hwynebau 'n hunain, in hanufydd-dod ni a'n hanwireddau haeddu y distryw echrydus hwn: nid ini am hynny ond i'th enw di y bô moliant a gogoniant yn dragywydd, o herwydd ti a ddatguddiaist faglau angau, ti a'u torraist ac a drylliaist hwy ac a'n gwaredaist, ni dy weision. Weithian o Arglwydd ni atolygwn iti er mwyn dy Eglwys, er mwyn dy fawr drugaredd, er mwyn dy anwyl fab ac er dy fwyn dy hun, crea ynom ni galonnau diolchus, fal y gallom nos a dydd, awr ac orig a phob amser ac ym hob lle ddiolch iti a chlodfori a moliannu a mawrhau dy enw di 'n oes oesoed: crea ynom gâlonau edifeiriol, fel y llwyr droddom oddiwrth ein baiau a'n anwireddau: crea ynom galonnau sanctaidd, dyro in ffydd ni gynnydd, gwna ein cariad ni yn ffrwythlon mewn gwir vfydd-dod, ragflaena ni yn ein holl weithredoedd a'th barhaus gymmorth a gwna ni yn weisiō teilwng, fal y gallom fwynhau dy drugareddau mawrion rhyfedd di yr hyd y parhaffo 'r haul a'r lluad. Megis y buost hyd hyn, felly bydd di fyth yn geidwad ein grasusaf frenin Iames ac yn wascodudd iddo a'r ei ddehaulaw, cadw ef rag drwg, ac na nesaued meibion anwir atto i'w ddrygu, [Page] pan dyomygo ei elynion ddychymmig yn ei erbyn ef na âd'r dychymmig hwnnw sefyll, a phan bwriado ei deiliaid anusydd gwrthrhyfelgar fwriad i'w eniweduf, gwascara di y bwriad hwnnw a gwna fe mor ddiffrvyth a'r man vs yr hwn y chwal ac a chwyth y gwyn oddiar wyneb y ddayar. Ac am feibion Belial, Eppil Babilon ac aelodau Anghrist, na âd o Dduw i'n hanwreddau ni rhoi achosion iddynt hwy i orfoleddu ac i ddywedyd yn watwarus pale y mae eu Duw hwy yn awr: ond arllwys arnynt hwy gyndaredd dy lid, fe y cryno'r ddayar ac y gwybyddo'r byd mai ti yr hwn vyd yn teyrnasu yn y nef yw twr, cadernyd, a naw dlfa dy Eglwys a'th eneiniog Iames. Gwrando 'n gweddiau ni o Arglwydd yn drugarog er mwyn dy anwyl Fab Iesu Grist ein vnig Geidwad cyfryngwr a dadleuwr, Amen.
Baiau a ddiancgasant wrth brintio.
YN lle i hynny, darllen i'r desnydd hynny: rhan 1. d. 4. l. 17.
Yn lle a'n cyfiy awn ni, darllen a'n cyfiawnha ni: rhan 1. d. 36. l. 24.
Yn lle llawer iawn, darllen mewn llawer iawn: rhan 2. d. 1. l. 6.
Yn lle hefyd ymddygiad, darllen hefyd yn ymddygiad: rhan 2. d. 1. l. 14.
Yn lle pan pan, darllen pan: rhan 3. 288. l. 3.
Yn lle tangnhedd usaf, darllen tangnheddusaf: rhan 3. d. 281. l. 20.
Os digwydd iti wrth ddarllen gyfarfod ag vn gair gwedi ei rannu yn ddau neu ddau gweddi myned yn vn, neu dd yn lle d neu d yn lle dd, l yn lle ll, neu ll yn lle l, neu vn llythyren amgen yn lle arall, neu lythyren rhagor mewn rhyw air, neu lytheren lai nac a ddylai fod, neu 'r llytheren a ddylai fod yn flaenaf gwedi ei gosod yn olaf, ac o'r gwyrthwyneb: gwella'r bai, a dwg gyda mi, ni allwn i well, cisiau bod y gweithwyr yn gwybod y iaith: ac am hynny yn fynych wrth geisio gwella vn bai a ddarfyddai imi ei sarco hwy a wnaent ddau neu dri.
¶ Rhybydd i bob gweinidog Eglwysig.
OBlegid bod yr Arglwydd yn gofyn gan ei wâs, a osododd ef goruwch ei deulu, ddangos ffyddlondeb a challineb yn ei swydd: anghenrhaid fydd i chwi o flaen pawb eraill eich ymddwyn eich hunain yn ffyddlonaf ac yn ddiesceulusas o gwbl, yn eich vchel alwedigaeth: hynny yw, yn gymmwys, yn eglur ac yn llawn llythyr, darllein yr Scrythurau sanctaidd, addyscu ieuengctyd yn ddyfal yn ei Catechism, gwasanaethu y Sacramentau bendigedig yn weddaidd ac yn barchedig: dewis yn synwyrol y cyfryw Homiliau ac a fyddo cymmesuraf i'r amser, ac yn gwasanaethu yn oreu er addyse i'r bobl a orchymmynnwyd i'ch gofal, a hynny gydâ chyfryw bwyll, megis pan dybyger bod yr Homili yn rhyhir i'w darllein ar vnwaith, yna ei rhannu hi i'w darllein, peth y boreu a pheth bryd nawn. A lle y digwyddo bod rhyw bennod o'r hên Destament wedi appwyntio ei darllein ar Sul neu wyl, yr hon a ellir yn well ei chyfnewid am ryw bennod arall o'r Testament newydd a fo gwell i adeiladaeth: da y gwnewch os chwi a dreulia eich amser yn myfyrio yn dda ary cyfryw bennodau ym-mlaen llaw, fel yr ymddangoso eich callineb a'ch diwydrwydd yn eich swydd, ac fel y gallo eich pobl gael achos i ogoneddu Duw o'ch plegid chwi, a bod yn barottacb i [...]esawu eich trafael chwi a'ch poen, er ychwaneg clod i chwi, ac er cyflawni dlêd eich cydwybodau chwi a nhwythau.