Ymholiad beunyddiol.
OFnwch, ac na phechwch, ymddiddenwch ach calon, ar eich gwely, a thewch, Selah..
Ymmhôb peth ymddiddan ath di dy hûn, fel hyn, Ai felly i gwneit peteit yn gwybod mae 'r awr hon yw'r awr ddiweddaf oth einioes. S. Bernard.
Faciebat hoc Sextius, ut consummato die cum se ad nocturnam quietem recepisset, interrogaret animum suum. Quod hodie malum tuum sanasti? cui vitio obstitisti? Qua parte melior es? Senec. de ira lib. 3. c. 36.
Observabo me protinus, [Page 5] & quod est utilissimum, diem meum recognoscam: Hoc nos pessimos facit, quod nemo vitam suam respicit.
Mi a edrycha yn fanwl arna fy hûn ac fel y mae goreu ar fy llês, mi a ystyria, ac a adgofia bôb diwrnod 'om einioes; o herwydd hyn yr ydym ni yn myn'd yn waethach waethach, nad oes neb yn gwilied ar ei fuchedd, medd Seneca.
[Page 6] Learne hereby to turne to the Welch texts in the English Bible. The names of the other books being not much different for the reader.
- Barnwyr. Iudges.
- 1 Brenhinoedd. 1 Kings.
- 2 Brenhinoedd. 2 Kings.
- Diharebion. Proverbs.
- Pregethwr. Ecclesiastes.
- Caniadau Salomon The Song of Solomon.
- Galarnad. The Lamentations of Jeremiah.
- Rhufeiniad. Romanes,
- S t Jaco. S t James.
- Datcuddiad. Revelation.
Amryw reswmmau, i ddangos fôd yn draanghenrhaid, i bawb ymholi i hunain beunydd.
1. YN gyntaf, O herwydd bôd briwiau newydd yn hawdd i hiachau, ac nid oes dim yn llygru yn gynt, ac yn fwy enbyd a Fiaidd na phechod: Pan darawyd calon Dafydd yn ebrwydd am dorri ymyl gwisc Saul, ni chlowodd ef mwy oddiwrth y peth: Ond [Page 8] y pechod hwnnw gyda gwraig Urias (yn yr hwnn y gorweddodd ef cyd) a ddrylliodd ei escyrn ef, fel y mae yn amlwg yn ei weddi ef, Psal. 51.8. Pâr i mi glywed gorfoledd, a llawenydd; fel i llawenycho yr escyrn a ddrylliaist.
2. Yn ail, yr wyt yn cryffhau dy gôf wrth hynny (fy enaid:) oblegid os mewn cyfri o ûn diwrnod ir anghofîr llawer o bechodau, pa faint a anghofir, os oedir y peth tros lawer o ddyddiau.
3. Yn drydydd, gwedi rhannu pechod yn ddrylliau fel hyn, fe ellir i drîn ef yn hawdd, megis pren mawr gwedi i dorri yn ddarnau neu i holltiyn yscyrrion mân.
[Page 9] 4. Yn bedwerydd, wrth wneuthur hynn (o fy enaid) yr wyt ti yn achub y blaen ar achwyniaeth Sathan, cyhuddwr y Brodyr, yr hwn yn ddiammau sydd yn craffu yn ddiball ar dy drosseddau beunydd: Pa gyssur it ymerfyn, a chael maddeuant cyn gallu o honaw ef ddwyn achwyniaeth ith erbyn?
5. Yn bummed, O fy enaid, yr wyt ti beunydd, yn edrych am bôb peth arall sydd eiddot, megis dy dy, dy dîr, dy anifeiliaid, dy ddillad, a pha beth bynnag fydd gennit a ddichon ammharu, neu wellhau beunydd: O! pa gwîlydd it (fy enaid) dy sôd ti dy hûn mor ddiystyriol, ac [Page 10] mor ddiofalus am danat dy hûn?
6. Yn chweched, ni chenhadwyd i ti einioes ond ir gwaith yma, pa ddibenion bydol bynnag (heb law hynny) yr wyt ti yn i osod i ti dy hûn, ac ni wyddost os esceulusu yr odfa yma, pa un a wneir ai caniadhau i ti ddim mwy amser ond hynny. Datc. 2.21. Ac mi a roddais iddi amser i edifarhau am ei godineb, ac nid edifarhaodd hi.
7. Yn seithfed, os cyflowni hyn yn ddiwyd, ac yn ddyfal bob nôs a boreu, ni bydd i ti (o fy enaid) ond ûn dydd i atteb am y cwbl oll, wrth dy'madawiad or byd yma; a pha esmwythder calon, a [Page 11] thawelwch cydwybod fydd hynny i ddyn ar ei dranc?
Fiet ut minns ex crastino pendeas, si hodierno manum injeceris. Senec. Epist. 1.
Fe sydd llai iti i wneuthud y fory, os gwnei di y goreu or dydd heddyw.
Pan ddarffo i rhain neu 'r cyffelib ystyriaethau weithio arnat, a rhoi goleuni i ti ynghylch angenrheidiaeth yr ymholiad beunyddiol hyn, a chynnhyrfu dy galon ag awyddchwant ir peth: Dôs ymlaen yn ol y rheol yma neu'r cyffelib.
Ymhola
- Dy feddyliau.
- Dy eiriau.
- Dy weithredoedd.
[Page 12] ar fyr wrth y trî gair hyn
- Yn sobr.
- Yn gyfiawn.
- Yn ddûwiol.
Titus 2.12, Gan ein dyscu ni i wadu annuwioldeb, a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; Neu yn helaethach wrth y dêg gorchymmyn Fel hyn. O fy enaid a fu'm i heddiw
-
a. Yn Sobr yn fy
- Meddyliau.
- Ngeiriau.
- ngweithredoedd
-
b. Yn Gyfiawn yn fy
- meddyliau.
- ngeiriau.
- ngweithredoedd
-
c. yn Dduwiol yn fy
- meddyliau
- ngeiriau
- ngweithredoedd
[Page 13] Aros ar bôb un o'rhain yn bennodol, ac yn ystyrriol, a choffa yr holl leoedd, y cyfeillion, ar negessau yn y rhai i treiliaist dy amser y dydd hwn.
Yn enwedig ymhola.
- Dy feddyliau pan oeddit wrthyt dy hûn.
- Dy eiriau gidag eraill.
- Dy weithredoedd ymhôb un o rhain.
Ag i eglurhau yr hyn aeth ymmlaen, gwybydd mae,
a. Bôd yn sobr, ydyw yn gyffredin cadw cymhwysder gweddol ymhôb peth, an cymhedroli ein hunain yn ddofaidd, ac yn bwyllig yn ein gwynniau, an hanwydau, [Page 12] [...] [Page 13] [...] [Page 14] bôd yn rhesymmol yn ein chwantau an digrifwch, yn dummherus yn ein bwyd an diod, yn weddaidd ac yn ddisyml yn ein dillad, an trwsiad, yn rheolus yn ein llawenydd an difyrrwch, yn gall a medrus yn ein ymddiddanion, an ymadroddion, ac yn gymhesurol ymmhôb peth a wnelom. Ac am hynny ymhola dy hûn, pa un a wnaithost ai bôd yn sobr yn ol y moddion neilltuol hynny, yn dy feddyliau, dy eiriau, dy weithredoedd y dydd hwn, ac os deallu di dy fôd felly, dyro ddiolch i Dduw, a gweddia am barhâd diyscog a dianwadal: Ond lle i ceffech y gwrthwyneb cais faddeuant, â chymmer [Page 15] lwyrfryd (neu resolution) yn erbyn hynny rhagllâw.
b. Bôd yn gyfiawn ar feddwl, gair, a gweithred ydiw gwneuthur mor union a ffawbacibawb, ac i mynnit i eraill wneuthur i tithau, a hynny yn ôl hyfforddiad, a cynhwysiad yr yscrythyrau; a hynny hefyd tu a pherson, enaid, corph, enw, a chyflwr pôb dyn; Talu a gwneuthur yr hyn sydd ddyledus ar bawb, yn ôl eu lleoedd, eu graddau, ai galwedigaeth pa ûn bynnag fônt ai uchelradd, iselradd neu gydradd, ac ymhola dy hûn wrth y cyfarwyddiad hyn, a fuost yn gyfiawn y dydd hwn, ac fel y deellech dy fôd dôs ymlaen yn ôl y rheol ar hyfforddiad, [Page 16] sydd yn yr hyspysiad a gefaist ynghylch sobrwydd.
c. Bôd yn Dduwiol ydiw adnabod Duw, ymarferu a cheisio chwanegu y gwybodaeth sydd gennit o honaw ef, i gofio efyn fyfyriol, ymddiried a gobeithio ynddo, bôd gennym gariad, zêl ac awyddfryd ysprydol tu ag atto, ymlawenhau yntho, bôd yn ddiolchgar ac yn ufydd iddo, bôd yn ddioddefgar, ac yn ddarostyngedig tan ei alluog law ef, i ofni ef, ai addoli, ai anrhydeddu yn fawrygus, bôd yn ddrwg gennym ddarfod i ni i anfodloni, ai ddigio ef, i wasnaethu ef yn gywir ac yn ffyddlon, gweddio arno ef yn ddefosionol, darllen a gwrando [Page 17] ei air ef, a hynny yn ddiwyd ac yn ofalus, sancteiddio ei enw ef yn ddifrifol ai ogoneddu ym hôb peth i gwneir ef yn gydnabyddus i ni, ymhola dyhûn, pa ûn a ddarfu i ti ai gwneuthur yn ol, neu yn erbyn yr agweddau pennodol hynny, ac yno dôs rhagot megis yn ôl y cyfarwyddyd orblaen
Yn enwedig, ac yn fwy hyspyssol fe orfydd i ti (o fy enaid) chwilio yn ddyfal, nes cael gwybodaeth siccr oth bechod meistrolûs, er mwyn pa ûn ir wyt yn gwneuthur y rhann fwya oth bechodau eraill; Megis os Cybydddod fydd dy bechod meistrolûs, dy bechodau eraill fyddant megis llaw forwynion iddo, [Page 18] oblegid odid o bechod nas gwnei er mwyn cyflowni dy drachwant ir pechod hwnnw: Ti a ddianrhydeddu Dduw, ti a dyngu, ti a halogi ddydd yr Arglwydd, ti a fyddi yn anufydd ir blaenoriaed, ar swyddogion awdurdodawl, ti a leddi, ti a wnei odineb, ti a ledretti, ti a dyngu anudon gan ddwyn cam dystiolaeth, ar cwbwl i borthi a rhyngu bôdd dy gybydddod. Ac yn yr ûn môdd i bydd, os balchder, neu riw bechod a rall sydd yn meistrôli, ac yn dwyn rhwysc ac yn llywodraethu arnat. [Page 19] Ac os mynni di i adnabod.
Hwnnw iw
- 1. Yn gyntaf, yn ghylch yr hwn, ac ar yr hwn y mae dy feddwl yn osodedig yn fynychaf, Ac fel ir oedd Dafydd pan ddefroei gyda Duw felly y byddi dithau gyda ath bechod anwyl rheolus.
- 2. Yn ail, Ni elli ddioddef cyfwrdd ag ef, na thrwy dy ymholiad dy hûn, nag argyhoeddiad rhai eraill.
Pan gaffech wybodaeth siccr or pechod hwnnw, sydd yn dwyn y fâth rwysc a llyfodraeth ynot, ac megis yn llysco dy bechodau eraill ar i ôl, Dôs at yr Arglwydd, ag [Page 20] ochneidiau trummion ag erfyniadau difrifol, a gweddiau gan ddywedyd.
O fy Nuw trugarog, a thirion, dyro i mi râs i wîr dristhau, a bôd yn drwm alarus am yr hyn aeth heibio, ac i ymroi yn ebrwydd mewn llwyrfwriad cryf, a llownfryd yn ei erbyn: Ac am yr amser sydd yn dyfod i wneuthur fyngore ymmhôb moddion na chaffo'r gelyn penna ymma i'm henaid moi groesafu gyda mi mwy. A phan ddatcuddier i ti dy bechodau a wnaethost y dydd hwnnw, y mae yn rhaid i ti gael gwybodaeth teimladwy oi gorthrymderau ai ffieidddra hwynt, rhag i ti fyned heibio iddynt yn rhy yscafn ac heb [Page 21] graffsynniad arnynt ac am hynny fe orfydd i ti i barnu hwynt drwy ddwys ystyrried y rheswmmau sydd yn canlyn, gan ddywedyd wrth dy enaid. Yn gyntaf, (O fy enaid) fe ddarfu i ti drwy aml ac amryw bechodau y dydd hwn, ymadel ac ymwrthod a Duw, yr hwn a ddylesit i ymlynu wrtho yn gyfangwbwl, o herwydd i fôd ef yn odidawg rhagorol, ac yn hawddgar ynddo ei hûn, ag yn drahaelionus tu ag attat titheu.
2. Yn ail, Ti ai gwrthodaist ef am bethau diystyr, gwael a dibris, sef am dippin o elw, fel Judas, neu ddigrifwrth bychan, fel Esau, ac yr wyt yn beio arnynt hwy megis [Page 22] rhai drugionus am y peth a wnaethont hwy, ac a dybi di yn well na hynny o honot dy hûn, a thitheu yn gwneuthur y cyffelib. O fy enaid, ti a ymadewaist ac a ymwrthodaist a Duw am bethau darfodedig, a phe baent yn parhau ni allent nath fodloni, nath achub rhag angeu, na barnedigaeth, a pha leia oedd yr annogaeth at y petheu hynny, mwya oll oedd dy fai, ath gamwedd; yn enwedig os tyngaist, yr hwn sydd yn bechod i mae dynion yn ei wneuthur yn rhâd ac yn fynychaf, Barn y rhain a ellir i weled Psal: 25.2. O fy Nuw, ynot ti 'r ymddiri edais, nam gwradwydder: na orfoledded fyngelynion arnaf.
[Page 23] 3. Yn drydydd, Ti a droseddaist yn erbyn gorchymyn dy Dduw grasusol, (o fy enaid) ac y mae ef megis yn dywedyd wrthyt, fel i dywedodd wrth Addâ, a fwyttaist di or pren y gorchymynaswn i ti na fwytteit o honaw? a ddarfu i ti feddwl, neu ddywedyd, neu wneuthur y dydd hwn y peth a waherddais i ti?
4. Yn bedwerydd, O fy enaid ni ddarfu i ti droseddu yn erbyn ei sanctaidd orchymyn ef yn unig ond hefyd er rhoddi o honof it gymorth i gadw ei orchymyn; fe rodd Duw ei râs i ti, ac ni ddarfu i ti i drîn fel i dylesit, y mae ychydig râs yn fawr ei [Page 24] nerth ai rhinwedd, a thi a allesit wrth hynny gadw gait Duw'. Dat. 3.8. Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennit ychydig nerth, â thi a gedwaist fy ngair: ac ni wedaist fy enw. Ond fe ddarfu i ti (o fy enaid) 'dderbyn grâs Duw yn ofer.
Pe iawn farnem ni ein hunain, ni'n bernid, 1 Cor. 11, 31. Gwedi darfod i ti gael gwybodaeth o echrysder dy bechod, ath fôd felly yn wîr euog o honaw. Beth sydd yn anghenrhaid i ti (o fy enaid) [Page 25] Ond dy euogfarnu dy hûn, a dywedyd (o fy enaid) pa fodd y gall fôd na wrthodo Duw di hefyd, a chymeryd ymaeth ei yspryd, ei radau, ai Angylion oddiwrthit, ath adel di heb gyfarwyddid ag amddiffynnwr, ir Cythrael, ar byd, ar cnawd ith ymlid. Ystyrria bellach pa un a wnei di ai gallel cyscu yn ddiofal yn y fâth gyflwr; O gan hynny rhag i ddialedd dy orddiwes, ac er mwyn cael ynill drachefn y rhan oedd gennit or blaen yn Nuw, cyrch atto efyn gyflym, ac yn ddifrif yn y weddi ymma neu 'r cyffelib. O Arglwydd bendigedig, fe ddarfu i mi y dydd hwn yn fynych drwy anghymedroldeb, anghyfiownder, [Page 26] ac annuwioldeb ar feddwl, gair, a gweithred dy adel ath wrthod di (fy Nuw) yngwrthwyneb dy sanctaidd orchmynion, ie yn erbyn cynnorthwyad dy râs iw cadw ai cyflawni, a hyn a wneuthum am bethau gwael, a dibris, yn gymaint am bôd yr awrhon yn haeddu cael fyngwrthod genit, a chael fy nifeddiannu oth gyfarwyddyd ath ymddiffyn, ac i gael fyngadel am rhoi i fynu i fôd tan ewyllys, a dwylaw gelynion creulon fy enaid, am corph. Er hynny, O Arglwydd daionus, fe fy yn wiw gennit oth rhâdfawr diriondeb tu ag attaf, roddi i mi y moddion i allu chwilio, a chael gweled fynghyflwr, ac [Page 27] ymholi fy hûn yngylch fymhechodau, tra i gellir i iachau ai trîn a chyn darfod i gyhyddiad y Cythrael dynnu dy ddialedd arnaf oi achôs, seftra i gadewir i mi fyw, a thra y parhatho yr amser cymmeradwy hwn, y dydd iechydwriaeth hwn: O Arglwydd daionus, cyflawna yr hyn a ddechreuaist ynof, dyro i mi edifeirwch calon, a galar diragrith am yr hyn aeth heibio a bwriad dianwadal, a llownfryd i wellau fy muchedd o hyn allan. O gâd i mi gaêl dy ewyllys da drachefn, fel y gallwyf orffwys yn dy gariad (O fy anwyl Dâd) y mae hiraeth arnaf, nês adnewyddu y gymdeithas gariadus oedd i [Page 28] mi gyda thi, cyn im pechodau i thorri am dieithro oddiwrthit, Tydi yr hwn am gwaredaist oddiwrth fymhechodau, ac am tynnaist ir deisyfiadau gostyngedig yma, dwg ymlaen y deisyfiadau hynny i berffeithrwydd, ailunha a chyssullta fi eilwaith ath di dy hûn, ac ymfodloner fynghalon felly ath dy odidowgrwydd di fydd drarhagorawl, fel na thrachwantwyf mwy am ddifyrrwch, elw, ac anrhydedd y byd hwn, cyn belled a cholli o honof y caredigrwydd ir wyf yn i obeithio i bydd yn wiw gennit i ddangos i mi y nôs hon. O Arglwydd gwrando, ac atteb fy erfynnion am [Page 29] deisyfiadau hyn yn rasusol, arcwbl oll sydd angenrheidiol, er cariad ein Harglwydd, an Jachawdwr Jesu Grist.
AMEN.