YMADRODDION BUCHEDDOL YNGHYLCH Marvvolaeth.
O waith Dr. SHERLOCK.
Y gyfieithwyd yn Gymraeg gan THOMAS WILLIAMS, A. M.
Printiedig yn RHYDYCHEN I Thomas Jones dan lûn y March Gwyn yn agos i Demple Bar yn Llundain, A. D. 1691.
At y DARLLEYDD.
AR aml ddymuniad rhai gwyr cyfrifol o'n gwlad ni, y cymerais i y llyfr sy'n canlyn mewn llaw; a' than obaith y byddeu efe yn rhyw faint o gyfrwyddyd i'r annysgedig: Ag fel y gallwn gyflawni 'r pwrpas hwn yn fwy hollawl, dewisais allan o'n hiaith ni, y geiriau rhwyddaf, ag hawsaf eu deall: Ond gan fod y Gymraeg yn awr yn gaeth ei chaerau, ag megis mewn caethiwed, ag am hynny yn brin ag yn dywyll mewn llawer o bethau a berthynant i yscol-heictod, a' minneu yn an-ewyllysgar i golli dim o sylwedd y llyfr saesnaeg, yr wyf, o'r achos ymma, weithieu er mwyn gwell hyspysrwydd i'r darllenydd, yn cymeryd tippin o rydd-did, i fwrw oddi amgylch, ag i ddywedyd megis yr un chwedl fwy nag un-waith; er bod hyn yn fwy o gost, ag yn ychwaneg o boen i'mi. Yn wir ddiammeu, oni bai fod y llyfr sydd o'ch blaen chwi, yn amgenach na nemawr o lyfr a welais i erioed, nid [Page] yn unig yn fy marn i fy hûn; eithr ym marn gwyr eraill, sy' lawer amgenach eu synhwyr a'u gwybodaeth na myfi; ni fuaswn i yn cymeryd mo'r boen iw gyfieithu ef er mwyn neb yn y byd: Ond gan fod y llyfr o'r cyfryw fath a' gwneud o honof inneu fy rhan, yn ol fy ngallu, iw droi yn Gymraeg rwydd, lithrig; mae'n sefyll arnoch chwithau (fy ngwladwyr anwylaf) nid yn unig i gymeryd amser i ddarllen y llyfr hwn; eithr iw ddarllen ef mewn modd buddiol, hynny yw, trwy ddwys a' difrifol ystyrio beth y mae yn ei ddywedyd, a' thrwy ddwfn-feddwl ar y mawr wirionedd y mae efe yn ei yspysu i chwi: o herwydd beth yw defnydd llyfr ond i'n cyfrwyddo? A pha beth a dâl athrawiaeth a' chyfrwyddyd, heb fywyd Duwiol? Nyni a wyddom fod pawb o honom, sydd heddyw yn fyw, ar ein gyrfa, ag nas gwyr neb mo'i awr a'i amser; a' bod yr oedrannus yn enwedig yn pwyso yn agos i'r pwll; am hynny, rhag bod yn ddi-gyssur, ar ein claf-welu, ag rhag bod yn ammharod, pan welo Duw yn dda alw am danom, mae'n llwyr anghenrhaid [Page] i bob un o honom ddilyn buchedd Dduwiol; a'r unig fodd i wneud hyn yw ini aml feddwl am ein diwedd, mewn difrifwch calon. Mawr yw hudoliaeth y byd hwn, tost a' chryfion yw chwantau jeuenctyd: ond mae 'r rhaw a'r gaib, arch ag amdo, arfau a' llwch y bedd, yn llwyr ddigon iw gorchfygu hwynt oll; yn enwedig pan ystyriom fod yr angeu megis ar y drws, ag yn barod i'n dymchwel ni i'n monwentorweddfa: Mae hyn yn ddigon i dorri ar ein crechwen, pan fo' hoffaf genym ein meddiannau bydol: sef, ystyrio nad allant mo'n canlyn, na rhoi i'ni ddim cyssur yn y bedd: ag y bydd yn rhaid i'ni oll fyw ar fyrder hebddynt. Pan na wnelom ddim amgenach cyfrif na hyn o'n meddiannau bydol, buan y cymmer Duw feddiant o honom, ag efe a'n sancteiddia ni, ag a breswylia yn ein heneidiau, megis yn ei Deml ei hun. Yno y cysrwydda efe nyni, pa fodd i wneud y defnydd goreu o'n hamser, ag'on da bydol, ag o bob rhinwedd a' chyfleustra a fo' i'n heiddo: trwy ddangos yn eglur i'ni, mai'r enaid yw'r rhan oreu o'r dŷn, ag mai'n [Page] cwbl elw, yw edrych yn ddyfal ar ei ol ef; ond hyn a welwch yn llawer eglurach, os gwelwch yn dda, ddarllen a' dwys ystyrio y llyfr sy'n canlyn o'i ddechreu iw ddiwedd.
Rhowch i'mi yn awr nawdd, os oes dim yn fyr a ddylaswn i ei gyflawni; ag yn lle helaet hrwydd cyfarwyddyd, bydded wiw genych dderbyn fy helaeth ewyllys da tuag attoch. A Duw o'i fawr drugaredd, a wnelo 'r gwael wasanaeth hwn yn llesol i'r eneidiau a brynnodd ef ai werthfawroccaf waed ei hun: ag a gyfrwyddo, ag â gyssuro bob un o honom, yn amser jechyd yn gystal ag yn awr angeu, a hael a' di-brin ddiddanwch ei yspryd glan.
Hyn yw fy ngweddi i ar Dduw trosoch beunydd, a' chyfran o'ch gweddiau chwitheu hefyd a lwyrddymunaf tros.
Y CYNHWYSIADAU.
- Y Rhagymadrodd. Dalen 1
- PEN. I.
- Amryw ystyriaethau ynghylch marwolaeth, a'r defnydd a ddylem ei wneud o honi 3
- Rhan I. Y synniad cyntaf o'n Marwolaeth, sef mai 'n hymadawiad a'r byd hwn ydyw; a'r modd i wneud y defnydd goreu o honi. 5
- Rhan II. Yr ail synniad o farwolaeth, sef mai ymddiosciad ein cyrph ydyw. 38
- Rhan III. Synniad Marwolaeth, fel y mae yn rhoddi i' ni fynediad i mewn i ryw ystâd o fywyd newydd anghydnabyddus 75
- PEN. II.
- Ynghylch siccrwydd ein Marwolaeth. 96
- Rhan I. Nid yw ordinhad anghymmwys i ddoethineb a' daioni Duw osod i bob dyn farw uuwaith. 98
- Rhan II. Pafodd i wneud y defnydd goreu o'r ystyriaeth hon, sef, fod yn rhaid marw yn ddi-escusodol. 117
- PEN. III.
- Ynghylch amser ein Marwolaeth, a'r defnydd priodol a' rheittiaf i'w wneud o hono. 132
- [Page] Rhan I. Ddarfod i Dduw osod terfyn cyffredin i amser dyn, ag nad yw hwnnw chwaith ond byr. 134
- Rhan II. Beth leied achos sydd i' ni gwyno fod oes dynol ryw cyn fyrred. 140
- Rhan III. Pa ddefnydd a ddylem ni ei wneuthur, o herwydd fod Duw wedi ordeinio i ddyn ei amser gosodedig. 151
- Rhan IV. Pad efnydd sydd iw wnauthur o fod oes dyn cyn fyrred. 168
- Rhan V. Ni ordeiniodd Duw mo ei amser, a' moddion ei Farwolaeth i bob dyn ar ei ben, trwy ordinhad sefydlawn ddi-ammodol. 190
- Rhan VI. Mae amser neilltuol ein marwolaeth yn anghydnabyddus ag yn ansiccr i'ni. 200
- Rhan VII. Nad yw ang henrha'd marw ond unwaith, a' bod marwolaeth yn ein newyd ni i gyflwr anghyfnewidiol, a' pha fodd i wneud y defnydd goreu o'r addysc hon. 239
- PEN. IV.
- Ynghylch ofn marw, a' pha fodd i farw yn ddi-arswyd. 336
- Y Diweddglo. 359
Y RHAGYMADRODD.
NID oes fodd well i adnewyddu yspryd gwîr Gristianogol yn ein mysg, na thrwy ddŵys a' disrifol ystyrio y pethau a' elwir yn gyffredin y pedwar diweddaf; sef marwolaeth, Barn, nef, ag uffern: O herwydd bod agos yn ammhossibl i ddynion fyw mor ddiofal, ag mor ddiystyr, i ymroi mor hollawl i wasanaethu 'r byd a'u trachwantau, mor hollawl i ymwrthod ag ofn duw, a' pharchedig ufyddod iw orchymynion ef, neu iw bodloni e'u hunain a' rhyw oeredd, anystyriol wasanaeth, os hwynt hwy a ddŵys ag a fynych fyfyriant ar y pethau hyn. Canys pa fath ar bobl a' ddylem ni fôd, gan wybod fôd yn rhaid ini oll farw ar fyrder, a dyfod i farn, a derbyn tâl am ein gweithredoedd yn y byd l vn, pa un bynnag ydynt ai da, ai drŵg; naill ai tragyw yddol obrwyau yn nheyrnas nef, ai poenedigaethau tragwyddol gida Diafol, a'i Angylion.
Y peth cyntaf in'i feddwl am dano, ag hefyd testyn y llyfr sŷn canlyn, yw marwolaeth; peth gwîr ofnadwy yw Angau, yr ŷm yn crynnu gan ofn pan sonniom am dano, mae'n torri ar ein llawenydd, ag yn tanu [Page 2] cwmmylau duon dros holl wychder ein bywyd. Ag etto er hyn dymma wir gyflwr holl ddynol riw, mae mor siwr in'i farw a'n geni. Oblegid gosodwyd i ddynion farw vnwaith: nid oedd yr ordinhâd ymma ychwaith, yn perthyn in naturiaeth ni, or dechreuad, oblegid er darfod creü dŷn o bridd y ddaiar, a'i focirc;d ef or achos hwnnw o ddefnydd marwol, llygredig, (O herwydd llygredig iw pob pêth a' greüir o brîdd, ag yn ôl cwrs e'i naturiaeth, i brîdd eilwaith y dychwelyff) ond pe buaseu yn ymgadw oddiwrth bechu, nibuaseu farw fyth, buaseu yn anfarwol drwy ddawn Duw. Ag or achos hwnnw y safae pren y bywyd ger bron Adda ym-mharadwys megis arwyddocad a Sacrament o'i anfarwoldeb ef. Ond yr awron, drwy vn dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod, ag felly yr aeth marwoaeth ar bôb dyn, yn gymmaint a phechu o bawb. Ruf. 2, 2.
Yr awron fel y gwnelwyf y defnydd goreu or fyfyriaeth sydd o'm blaen: 1. ystyriaf bêth yw Angau neu Farwolaeth, a' pha synwyr ag addysg a ddylem'i ennill, a' derbyn oddiwrthi. 2. Mor siwr in'i farw, O herwydd fe osodwyd i ddynion farw unwaith. 3 Ynghylch awr ag amser ein mawolaeth, mae'n rhaid i hynny ddigwydd ryw amser neu i gilydd, ond nis gwyddom ni amcan pa brŷd. 4. Ynghylch yr ofn a'r arswyd, sy' gan mwyaf yn syrthio ar bôb dŷn drwy wendid [Page 3] naturiaeth yn awr ag amser marwolaeth ag Angau, a'r ffordd a'r môdd iw dofi a'i pereiddio hwynt.
PENNOD I.
Amryw ystyriaethau ynghych marwolaeth, a'r defnydd a ddylem i wneüd o honi.
I. BETH yw marwolaeth; ag mi a ystyriaf dri pheth ynghylch hyn: 1. Fôd ein marwolaeth ni yn arwyddocau ein hymadawiad ar byd hwn. 2. Ein bôd yn awr angan yn ymddiofc ein cyrph daiarol. 3. Ein bôd ni i feddiannu bywyd newydd, dieithr, ag anghydnabyddus in'i; oblegid pan fo'm yn marw, ni ddiddymmir mo'nom, ag chwaith nid trwmgwsc mo farwolaeth, neu gyflwr o ddistawrwydd ansynniol, hyd ddydd yr adgyfodiad: nid ym ond newid ein lle a'n trigfa, yr ŷm yn symmudo allan or byd hwn, ag yn gadel ein cyrph o'n hôl i gysgu yn y ddaiar hyd ein hadgyfodiad, ond mae'n heneidiau ysprydol yn byw beunydd mewn stâd anweledig. Mi ŵn eich bôd chwi oll yn credu'r pethau hyn, am hynny nis amcanaf draethu yn helaethach yn eu cylch, er mwyn eich bodloni fôd hyn yn wîr. Oblegid gwaith ofer fyddeu osod allan, ein bod ni i ymadel a'r bŷd hwn, a bod yn rhaid in cyrph ni lygru mewn bêdd. Mae [Page 4] hyn yn amlwg o flaen ein llygaid, fe ŵyr pawb hyn; a bôd ein heneidiau ni yn anfarwol yn ôl dull eu creadigaeth, mae'r hôll fŷd yn credu hyn hefyd: oblegid y duwiau a addolai y cenhedloedd gynt, oeddynt wŷr wedi marw, y rhan fwyaf o honynt; am hynny yr oedd y rhain yn credu fôd yr enaid yn byw er claddu 'r corph; neu ni fuasent byth yn gwneuthur duwiau o honynt: ond heblaw hyn, y mae y fâth Argraph o anfarwoldeb mor amlwg iw weled yn ein naturiaeth ni, ynom ni; nad oes fawr yn y bŷd, er cymmaint eu hoferedd, ai dyfalwch hefyd i foddi ag i suddo eu gwybodaeth a'i synwyr, sydd yn cwbl ddiofni peryglon y bŷd a ddaw, ond mae genym ni brophwydoliaeth siccrach i'n cyfrwyddo na'r rhesymmau hyn. Er pan ddaeth bywyd ag anfarwoldeb i oleuni trwy'r Efengyl. Oblegid fod yr ysgrythyr lân yn amlygu hyn mor eglur, fel y bo afraid arferu rhesymmau eraill o fâth yn y byd, er mwyn bodloni'r sawl a gretto'r Efengyl. Am hynny fy unig orchwyl i a fydd yn y cyfamser, ddangos ichwi pa ryw ddefnydd i wneuthur or pethau hyn, a pha synwyr a allwn ni ennill wrth fyfyrio ar ein marwolaeth Pa sutt y dyle y dŷn hwnnw fyw, a' pha fodd iw ymddwyn ei hunan ar y ddaiar, yr hwn a ŵyr, ag a gretto yn ei galon, fôd yn rhaid iddo ef farw ar fyrder, a' gadel ei gorph o'i ol, i fraenu yn y bêdd, [Page 5] a myn'd o hono ynteu ei hunan, i fŷd newydd; sef Dinas yr ysprydion.
Y RHAN I.
Ysynniad cyntaf o'n marwolaeth, sef mae'n ymadawiad a'r byd hwn ydyw; a'r môdd i wneüd y defnydd goreu o honi.
I. AM hynny ystyriwn farwolaeth yn unig fel i mae yn arwyddocaü ein hymmadawiad a'r bŷd presennol hwn; lle iw hoffi, meddwch, yn enwedig gan y sawl a fo yn byw a'i bŷd wrth eu bôdd, mewn cyflwr esmwyth, llwyddiannus. Ymma y geill dŷn gael pôb peth a ewyllysio i borthi ei naturiaeth, beth bynnag y bo ef yn cymeryd pleser ynddo; a thorri ei eisiau, a' digoni ei hôll wyniau, yma y mae iw gael, pa bêth bynnag a wasanaetha i lŵyr fodloni creadur daiarol. Gwîr ysowaeth, dymma lle mae'r▪ rhan fwyaf o'r bŷd yn disgwil ag yn derbyn eu croesaw a'u hapusrwydd pennaf; nid ydynt yn breuddwydio am ddim amgenach: maent yn ymglywed a phleserau bydol, ag megis yn ei teimlo hwynt, gan fôd gan y rhain rith a chynnydd, mae'nt yn bethau grymmus, gwrol, ag yn wîr gymmwys iw meddiannu; ond os angenwch am yr hyfrydwch sy' fwy pûr ag ysprydol, nis gwyddont fwy oddiwrtho nag oddiwrth ysprydion. Mae'nt yn cyfrif yn wâg ag yn [Page 6] ddiflannedig y cyfriw bethau oll, ag yn rhyfeddu pa beth y mae rhai pobl yn ei feddwl sŷn cym'ryd pleser o ymddiddan ag ymresymmu yn eu cylch hwynt. Ond dymma'r gwaetha, mae rhai gwŷr duwiol eu hunain weithiau yn rhy chwannog i gym'ryd mwy o bleser nag a ddylent yn y byd hwn, pan fo'nt ymma yn gwbl-esmwyth arnynt. Erbyn hynny mae'n rhaid iddynt wrth ryw bêth arall iw diddyfnu hwynt oddiwrtho ef; ag iw hiachau hwynt o'i gariad heblaw cofio, a meddwl am farw. Am hyn mae cystudd, a blinder, ag aml Siommedigaeth yn llŵyr anghenrheidiol, ag megis yn byssygwriaeth jachus i'r goreu o ddynion. A dymma ûn achos pa ham y mae marwolaeth iw chyfrif mor ofnadwy. Mae pobl yn meddwl eu bod yn abl da eu cyflwr o eusus, ag mae'r rhan fwyaf yn meddwl nad allant fod well eu cyflwr nag ydynt, am hynny yn anaml y dymunant gyfnewidiad. Fe eill cyflwr trathosturus droi in meddwl a thrwy ein trwm-gyweirio ein gwneud ni yn ewyllysgar i farw, ag i ollwng ein gafael o'r bŷd: ag ysgatfydd fod ymbell ŵr duwiol fel St. Paul a hiraethau am ei ymddattodiad er mwyn bod gida Christ, yr hyn sydd oreu gwbl. Ond lle anwylaf ydyw r' bŷd hwn i'r rhan fwyaf o'i drigolion, am hynny mae mor flîn, ag mor drwm ymadel ag ef. Ond pe uniawn ystyriem ni y peth hyn, fe a gyfarwydde hynny [Page 7] ein camgymmeriaeth ni ynghylch pethau daiarol; gan ein dysgu, pa wîr brîs i roddi arnynt, a pha ddefnyd i wneithur o honynt. Oblegid,
1. Os bydd rhaid ini ymadel a'r bŷd hwn er gwerthfawrocced ydyw pethau bydol o honynt eu hunain, nid ydynt felly in'i, o herwydd heblaw bod pethau yn brisfawr o honynt eu hunain, mae rhyw bêth arall yn ol, cyn y gallo wŷr synhwyrol roddi eu serch arnynt, a'i hoffi hwynt. Scf perchennogrwydd a' siccr feddiant. Gallwn foli ag hefyd chwennych y pêth nad yw yn ein heiddo, os rhyw-bêth rhagorol ydyw, ond ffol ŷm os rhoddwn bŵys ein serch arno: heblaw hyn yr ydym yn gwneuthur mwy neu lai o gyfrif o'r peth a dalo ei gael yn ol ei barhâd, ai dros ychydig amfer, ai llawer. Bêth bynnag a dalo rhyw beth o hono ei hûn, bêth bynnag (meddaf) fo ei brîs neu ei haeddiant, ni wneiff in'i leshâd yn y bŷd, oni chawn ni gennad, a chyfle iw feddiannu; ag fe a wyddoch mae bod yn berchennog ar ryw bêth dros fyrr amser, sy'n ail i fod hebddo, o herwyd rhaid bod hebddo ryw amser neu i gilydd, ag os felly pa fodd y dywedwn fod y pethau hyn yn ein heiddo an perchen ni? Mae hyn yn ein cyfarwyddo ni pa gyfrif i wneüd o'r bŷd hwn, a chymmaint oll ag sydd ynddo. Ni ddylem roddi arnynt yn union deg ond yr ûn faint o brîs ag o hyder ag ar bethau amherthynasol [Page 8] in'i, ar y cyfriw bethau heb fod in perchen, sef y cyfriw bethau nis medrwn, nai hattal, nai cadw.
Gwir iw, ein harfer ni ydyw, o alw y cyfryw bethau ein heiddo, yr ŷm iw perchennogi drwy hawl gyfreithiol, y pethau nid eill neb drwy gyfraith a' chyfiawnder ei dwyn oddi-arnom. A dymma r' holl berchennogrwydd sydd gennym, sef y fath berchennogrwydd a' hawl, ag a wasanaetha i gadw allan bob dŷn arall: One mewn priodolder a gwirionedd, nid felly y dylem ni alw dim o'r pethau a allwn ni ei Colli, neu eu gadel on hol. Ond os nyni a ddŵys ystyriwn, cawn weled nad eiddom ni yw dim ond y pethau sydd fwyaf anghenrheidiol, naill ai i'n hanffod, a'n sylwedd; ai i'n happusrwydd. Nid iw creaduriaid berchennogion o ddim, nâg ydynt, Cymmaint ag o honynt eu hunain, oblegid ei eiddo ef ydym yr hwn an gwnaeth, a'r hwn a fedr a'g a eill ein dadwneuthur pe gwele yn dda. Er hyn mae rhyw bethau yn perthyn in'i drwy briodolder ein naturiaeth, a' dymma oll a feddwn: O herwydd y pethau a berthynant in'i fel hyn, ni ddichon neb eu dwyn oddi-arnom, heb, naill ai ein diddymmu ni, ai n' gwneuthur yn dra gofidus, ag yn gwbl-annedwydd. Mae hyn yn eglurhau, ag yn gwneuthur yn dda, nad eiddom ni ydyw pethau y bŷd hwn, ag nad ydynt yn briodol in naturiaeth ddynol, er bôd yn [Page 9] llŵyr anghenrheidiol in'i wrthynt yn y bywyd presennol hwn: Tra fyddom byw ymma mae yn rhaid in'i wrthynt, ond pan ymadawom a'r bŷd hwn, mae'n rhaid byw hebddynt, ag ni allwn fyw yn ddigon dedwyddol hebddynt hefyd. Diwad fôd cyssondeb fawr rhwng pethau y bŷd hwn a'n naturiaeth ddaiarol ni, mae'nt yn gynhaliaeth, ag yn swccr fawr in'i, yn ein slad an cyflwr marwol hwn; ag 'or achos hwnnw, tra bôm ni byw yn y bŷd hwn, mae'n lwfiedig in'i, (ni allwn) wneuthur prîs a chyfrif o'i feddiannau: Ond nid oes in'i ddim cennad, nis lefaswm alw na'r bŷd, n'a dim sŷdd ynddo, ein heiddo; oblegid nad ydyw ond byrroes a' darfodedig: nid ŷm ni ymma ddim amgenach na phererinion yn eu llettu, nid ymma y mae ein cartref ni na'n gwlâd, nid ymma mae ein cynnysgaeth, na'n Treftadaeth, ond rhyw symmud-le newidiol yw'r fan ymma sŷdd i'n croesawu am yr amser presennol, ond ni pheru chwaith hîr, am hynny ystyriwn pa fâth bris a pharch a wîr haeddeu'r pethau hyn: er mwyn gosod hyn o'ch blaen chwi cyn eglured ag y bo possibl, mi a osodaf i lawr fy meddwl ymmhellach mewn siamplau nodedig, rhwyddion, a hawdd iw deall.
1. Bwriwch eich bôd yn trafaelio neu yn ymdeithio drwy wlâd dirion, hoenus, lle y gweloch bôb tiriondeb a chyfleüsdra, ond gwybddwch nad ydych i drigo ynddi, ond [Page 10] yn unig i ymdeithio drwyddi, a ydyw synhwyrol eich gwaith chwi, roddi cymmaint o'ch serch arni, fel y bo yn annodd ag yn flîn gennych ymadel a hi? nid oes in'i ddim mwy achos i fawr hoffi y bŷd hwn, yr ŷm yn ymdeithio yn unig ynddo, ag ymmha ûn nid oes genym ddinas barhaus; dottio arno (meddaf) cymmhelled, a bôd yn gaethweison i'r drwg-chwantau a'r peryglus ddifyrrwch sydd ynddo, ag or diwedd i fûdo allan o'r bŷd hwn y fâth wyniau, an gwnelo yn wir-ofidus, ag yn dra-annedwydd yn y bŷd nessaf. O herwydd er bôd yn rhaid ini ôll ŷmadel a'r bŷd hwn pan fôm yn marw, meddaf er bôd ein marwolaeth yn ein dosparthu, ag yn ein gwahanu oddiwrth y bŷd presennol; nid oes dim achos i feddwl yr jacheuiff ein hôll wyniau daiarol. Dŵys, dŵys-ddioddefwn yn ddiammeu yn y bŷd a ddaw o achos ein gwyniau a'n chwantau cnawdol, pan fo abwyd, a gwrth-ddrych ein trachwant, wedi ei adel o'r ôl, a'i dynnu oddiwrthym. Ni feddyliodd St. Awstin erioed am ûn purdân arall heblaw or fâth hwn. Sef bôd i bwy bynnag a rodde ei serch ar y bŷd, er ei fôd mewn pethau eraill iw ganmol am ei rinwedd, gael ei boeni yn y bŷd nessaf gan ei chwantau hiraethus ei hunan ar ôl da y byd hwn, a chyflwr poenus echryslon iw hwn, gan ei fôd wedi ei gŷd gymmysgu o awydd, ag o anobaith. Gwîr diwâd yw, mae o herwydd [Page 11] bôd dŷn yn ymdeithio yn y corph, y mae chwantau bydol yn ei flino, ag yn ei drafferthu ef; ag nid yn siŵr ar ôl i'r rhai'n unwaith gael eu llawn-rwysg, a' chraffu arnom a'i hôll nerth; y gwasanaetha ymddiosgiad, neu ymddattodiad ein cyrph yn unig i'n cwbl jachau ni, a'n diddrygu oddiwrthynt. Fel y gwelwn mewn pobl oedrannus, na wasanaetha oedran neu henaint anlladwyr i ddosi nwyfiant anlladrwydd eu meddyliau, er bôd eu cyrph yn llibin, ag yn grybychlyd. Ag mi a debygwn fôd y rheswm ymma yn abl cadarn, i fodloni ungwr a ystyrio mae nid ymma y mae iddo fyw yn wastadol; mae drwg y dyleu roddi ei serch ar bethau daiarol, a bôd yn rhy hôff ag yn rhygû o honynt, o herwydd cystydd a phoenedigaeth anfeidrol yw, bôd yn wastad yn chwennychu ag yn hiraethu am y cyfriw bethau na bo in'i fyth mor môdd iw mediannu.
II. Os am hynny, ffoledd llwŷr yw bôd yn rhygû ag anwyl o'r pethau nid allwn mo'eu cadw rhag diangc, ond a fo yn ffoi ag yn llithro oddiwrthym heb yn ddiolch in'i, a gwnawn ein hamcan; ystyriwn yn ail pa ddefnydd ag arfer a ddylem ni wneithur o'r cyfriw bethau, yr ŷm yr awron yn ei meddiannu, ond megis dros fynydyn o amser, o herwydd bôd ymarfer, o hîr gydnabyddiaeth yn achos yn fynych o ormod, ag anrhesymmol garedigrwydd. Am hynny cofiwch [Page 12] drachefn pan fôch yn ymdeithio drwy wlâd wŷch, dirion, bêth sŷn eich llestr i roi eich serch arni, ond yn unig eich bôd yn ystyrio, eich bôd oddi cartref, ag nad ellwch weled, a meddiannu bôb dŷdd y pethau'r ydych yr awron yn eu gweled; o'r achos ymma 'r ydych yn edrych ar yr hôll diriondeb a'r gwchder a welwch, megis pethau dieithrol i chwi, a haeddant, ni hwyrach sôn am danynt, neu ryw bethau iw profi yn unig, neu iw harferu ond i lâdd y trô; nid ydych yn cyfri monynt yn bethau parhaus, meddiannol ichwi, o herwydd da y gwyddoch nad felly y mae'nt. A phed arferem ni y bŷd hwn fel hyn, ni byddem ni byth, nag yn rhy chwannog iddo, nag yn rhy anwyl o hono, Fe a fydde y'r rhai sy a gwragedd iddynt, megis pe byddent hebddynt, a'r rhai a wylant, megis heb wylo; a'r rhai a lawenhânt, megis heb lawenhau, a'r rhai a arferant y byd hwn, megis heb ei gam arfer; canys mae dull y byd hwn yn myned heibio: ni pheru r' byd ei hun chwaith hîr, er iddo barhau yn hwy na nyni, ond am danom ni, yr ŷm ni i drigo ynddo, ond dros cyn lleied o amser, fel nad oes ini ystlys achos, iw alw ef yn gartref ini, neu i gymmeryd ein gwynfyd a'n pleser ynddo: Am hynny rhagoriaeth synhwyrol gall a wnaeth y'r yscolheigion gynt rhwng amriw fath ar bethau, gan ei gwahanu hwynt oddiwrth eû gilydd, a'i rhannu fel hyn; sef bôd y naill bêth iw [Page 13] arferu, neu i wneüd defnydd o hono dros drô yn ynig; a'r llall iw feddiannu. Nid ŷm yn gwneuthur na phrîs na chyfrif o'r fâth gyntaf; ond o herwydd bôd yn rhaid wrtho dros amser; yr ŷm yn cyfrif yr ail yn wîr ag yn bûr ddedwyddwch in'i. Yr awron hyn sydd siccr; nad yw'r peth hwnnw iw arferu ond dros amser yn unig, sydd yn passio heibio ar frŷs. O herwydd creadur helbulus fydde dŷn, os nad ydyw ei ddedwyddwch ef yn safadwy, ag yn barhaus. Gan hynny ni a ddylem edrych, pa bethau 'r ŷm iw hoffi. Nid oes dim bai ar y sawl a roddo bŵys ei serch ar ei wîr ddedwyddwch, o herwydd, ni ddyle fôd na thorr, na thrai o chwenychu y pethau a haeddent eu chwennych yn bennaf, ag yn freiniolaf; ond y sawl bêth ar y bôm yn ei arferu yn unig dros amser, nid ŷm yn gwneud dim ychwaneg gyfrif o hono nag y mae yn gwasanaethu 'r trô, a phe mesurem ni ein serch tuag at bethau presennol, yn ol y Rheol hon, fel yn ddiammeu y dylem ni wneuthur, nid aëm ar gyfyrgoll, ag nis cam gymmerem ein llwybrau: ni chroesawem chwaith ddim meddyliau trafferthus, blinion, na chwantau anwireddus o'i hachos hwynt: Fel hyn; beth ydyw defnydd a pliwrpas bŵyd a diod, onid i chwanegu nerth, i adnewyddu ag i gryfhau pall a gwendid naturiaeth, ag i gadw ein cyrph ni mewn jawn jechyd a nerth. Yn [Page 14] awr er cymmaint sydd o ddanteithion fwydydd a seigiau yn y bŷd, ag er cymmaint sy' o rywogaethau diodydd, pe arfereu dynion hwynt oll yn unig er mwyn atteb eu priodol ddefnyd ni fydde ddim o'r fâth bechod yn y bŷd, ag anghymedrolder; ag ni fydde neb mor flysus o honynt, megis pe darfuase ieni i'r bŷd o bwrpass i fwytta ag i yfed, ag i bassio barn ar fwyd a diod. Gwneuthur o bôb peth yn ôl ei ddefnydd, ag fel y mae yn haeddu, ydyw edrych arno cymmhelled ag y bo'n' wasanaethgar; a dymma'r hôll barch, a'r unig gifrif dyledus i'r pethau na ddaw i'n canyn ni, oblegid eithaf y fâth bethau yw gallu gwasanaêthu r' trô: ond pan ddigwyddo in'i fel pechaduriaid cnawdol edrych ar bethau amserol megis ein cyflawn ddedwyddwch, mae hynny yn ein drygu ddwy ffordd, drwy ein gwneuthur yn anghymmhedrol yn ein moddion oi harferu hwynt; (ag mae hyn yn niwed gerwin ini yn y bŷd hwn) a thrwy grëu annaturiol hoffder ag anwyldra ynom tuag attynt, a nhwythau hefyd yn y cyfamser yn dlawd ag yn wâg o'r diddanwch a ddisgwiliwn oddiwrthynt. Ag o'r aclios ymma maent yn gwbl annigonol tra bônt in perchen, ag yn ein llenwi ni a gwrthryfwl, ag anfodlonrwydd, ag anesmwythdra pan fôm hebddynt, fel y bŷdd rhaid ini fôd ryw amser neu i gilydd yn ddigon siccr, naill a'i yn gynt, neu or [Page 15] eithaf pan fom wedi ymadel a'r bŷd.
III. Bwriwch drachefn mae wrth ymdeithio drwy wledydd dieithr, ple nid y'm ni yn aros yn hîr, y byddem yn ol o lawer pêth anghenrheidiol, a chyfleus, a oedd gennym yn ein cartref ein hunain, neu bwriwn fod y wlâd yn llomm, a'r ffordd yn arw, ag yn fynyddig, ag yn fyw o ladron, ond heblaw hyn oll yn anlletteugar, y bobl hefyd yn anghroesawus ag yn flinion wrth drafaelwyr; A oes ûn gŵr synhwyrol a chwennych, ag a hiraetha a'r ol y cyfriw anghyfleusdra? nag oes siŵr, onid ydyw yn hytrach yn ei gyssuro ei hunan, gan nad ydyw raid iddo mor trigo ymma, ag o herwyd na pheru r ymdaith hon chwaith hîr: fe wna y blinderau hyn iddo garu ei wlâd ei hûn yn well, ag a'i pryssurant ef iw gartref, lle y geill ef gofio drwy ddifyrrwch a llawenydd, y pethau sy am yr amser prefennol yn drwblus ag yn anesmwythaidd.
A oes ynte achos amgenach, fel na ddyle Gristiannogion, ddioddef yn fodlongar eu holl groes a'i twrsneiddwch yn y bŷd hwn, gan gofio nad ydynt i breswylio ymma ond dros ychydig amser? nad ydyw'r byw yd hwn ond ymdaith, maent oddi cartref, am hynny na ddisgwiliant ddim amgenach croesaw ymma, na gwîr ddieithriaid; Mae n' hyspys wrth hyn nad yn y bŷd ymma y maent i fyw yn oestadol, o herwydd nad allan o [Page 16] bethau presennol y mae eu dedwyddwch hwynt yn codi, ag os felly, os medrant wneud sifft, ag ymdaro, er caethed fo eu cyflwr i dreulio eu hamser yn y bŷd hwn, cânt ar fyrder gyfnewidiad llawen, ag fo chwanegir eu croesaw hwynt yn y bŷd a ddaw. Hyn yw sylfaen bodlonrwydd mewu pob rhyw gyflwr, a gwir ddioddefgarwch dan ein holl ofidiau. Sef fod amser ein marwolaeth yn agos, a phan ddêl y gwneiff ddiben in holl boenau an gofidiau, pa ham gan hynny na chymmerwn frŷd a chalon trafaeliwr yn y cyfamser, pan fo ein cratref ni, meddaf, yn llonychol, a'n tragwyddol gartref yn ein golwg?
IV. Vnwaith etto er mwyn cloi ar fy holl resymmau or blaen: bwriwch fod rhyw ŵr a fae yn trafaelio drwy ryw wlâd ddieithr dan y gorchymyn hwn, naill a'i i adel y wlâd allan o law, neu dan lŵ i beidio myned byth yn ei ol iw wlâd ei hûn. Onid ystyrie bob gŵr synhwyrol (a fae yn y cyflwr hwn) nad oedd erioed yn ei frŷd ef drigo chwaith hîr, yn y wlâd ddieithr, pe buasei rŷdd iddo fyw ynddi 'r hŷd y gwelseu yn dda, am hynny ffoledd nodedig a fuasei iddo ef lŵyr ymwrthod a'i wlâd ei hûn, lle mae ei Dâd a'i dylwyth, a'i dreftadaeth, yn unig er mwyn porthi ei anwes drwy drigo mewn gwlâd ddieithr, ni hwy rach ddydd neu ddau yn hwy na'i feddwl. Os felly mae 'n bod, a'i gwîr, mae caeth a [Page 17] blîn y gorchymmyn (pan wyddom fod yn rhaid in'i farw ar fyrder o eusus, ag ymadel a'r bŷd hwn yn ddi-ddewis) a orchymmyneu in'i ddewis ymwrthod an hoedl, yn gynt nag a'n gobaith o fyw yn y nef, ag mewn bywyd sydd well, pan wyddom ymlaen-llaw fod yn rhaid in'i ymadel a'r bŷd hwn, pa niwed ydyw, os marw a wnawn yn dippin cynt na'n hamser, yn ol cwrs naturiaeth, er mwyn ennill bywyd anfarwol? Er mwyn myned att yr Jesu bendigedig, yr hwn a' fy fyw yn y bŷd hwn er ein mŵyn, ag a' fu farw drosom, ag sy'n drapharod i'n derbyn i'r un-fan lle mae ef ei hûn yn trigo, fel y gwelom ei ddisglair a'i hyfrydol ogoniant ef. Gwelwch am hynny faint ffoledd yw i iddŷn marwol, golli a fforffedio bywyd anfarwol, er mŵyn byw yn y bŷd ymma, neu oedi ci farwolaeth dros ychydig flynyddoedd.
II. Yn ail; mae marwolaeth, fel y mae yn arwyddocaäu ein hymadawiad ni a'r bŷd hwn, yn dangos yn eglur na ddylem wneuthur gormod cyfrif o bethau r' bŷd presennol; felly mae 'n llŵyr egluro hefyd, nad yw y cyfriw bethau yn eu naturiaeth eu hunain yn werthfawroccaf; ie pe bae ini gennad iw perchennogi hwynt yn oestadol, ni bydde'r cyflwr hwnnw ond gwael a chloff, mewn cyffelybrwydd i'r bywyd sy well, yr hwn a baratowyd i wŷr duwiol yn y bŷd a ddaw. Oblegid I. da y gweddai i [Page 18] fawr gariad Duw a'i ddoethineb, wneuthur y pethau goreu, i barhau 'n hwyaf. Mae doethineb yn cyfrwyddo i hyn; o herwydd nid yw hyn ddim amgenach na rhoddi rhagoriaeth braint i'r pethau sy' fwyaf eu haeddiant; mae parhâd yn gwneuthur rhagoriaeth gyfrifol rhwng pethau; yr ŷm yn wastad yn rhoddi y prîs mwyaf, ar y cyfriw bethau a erys yn hwyaf gida ni, a allwn ni yn hwyaf ei perchennogi; am hynny os gwneuthur y pethau gwaelaf yn hwyaf eu parhâd, nid yw hyn ronyn llai nai gwneuthur hwynt yn werthfawroccaf, a thwyllo dynion iw dewis hwynt o flaen pethau a so lawer gwell. Mae 'n digwydd in'i oll ewyllysio eithaf meddiant o'r pethau goreu, mwyaf cyfrifol, a phe caem ni ein hewyllys gwnaem y cyfriw bethau yn hwyaf eu hoes a'i parhâd; wrth hyn gwclwch mae dymma lais a barn dynol riw yn gyffredin, sef yr haeddeu 'r pethau goreu barhau yn hwyaf. Gan hynny nid oes le i ammeu na ddarfu ir ddoethineb anfeidrol, gan bwy ûn y crewyd yr holl fŷd, gymmhwyso i bob pêth ei barhâd yn ol a haeddeu: ag os gwnaeth Duw y pethau goreu i barhau yn hwyaf, mae'n canlyn ar hyn, fod y bŷd nessaf yn ei naturiaeth ei hunan drwy rym ei briodol fraint yn rhagori cymmaint ar y bŷd ymma, ag i mae i barhau yn hwy. O herwydd nid oes dim yn egluro cariad a daioni Duw tuag at ei [Page 19] greaduriaid yn fwy na hyn. Ses bod iw dedwyddwch pennaf hwynt gyrrhaeddyd eithaf-parhâd: Canys, os creodd Duw ddŷn yn gymmwys, ag yn addas i berchennogi amryw raddau o ddedwyddwch, i fyw yn y bŷd hwn, ag yn y bŷd a ddaw, mae 'n dangos mwy o'i ewyllys da, mae hyn yn amgenach rhodd, ag yn fwy dawn ag ennill iw greaduriaid; o achos darfod iddo ordeinio 'r stâd happussaf a pherffeithiaf i fod yn hwyaf ei pharhâd; o herwydd po perffeithiaf fo ein dedwyddwch ni, rhwymediccaf fyth ydym i gyfaddeu, ag i glodfori daioni Duw o'i blegid; ag yn ddiwâd hwn yw'r happussaf, a fo hwyaf yn feddiannol o'r pethau gwerthfawroccaf.
II. Mi debygwn fod hyn yn gwbl gyfaddas, ag yn ol Rheol doethineb a daioni y duwiol fawredd, sef; gan fod Duw yn gwneud y fâth anfeidrol gyfnewidiad, yn stâd a' chyflwr ei greaduriaid, pan fo yn galw am danynt allan o'r bŷd hwn i'r bŷd a ddaw, fo weddeu i'r stâd ddiweddaf fod yn hollawl ddedwyddwch iddynt, ag yn gyflawn happusrwydd. Ond nid wyf yr awron yn crybwyll ond am y cyfriw greaduriaid, a ddarparodd Duw i fyw yn ddedwyddol; o herwydd pêth arall yw i bwy bynnag y bo Duw wedi trefnu poenedigaeth. Ond pan fo Duw yn amcanu daioni iw greaduriaid, diammeu mae modd chwîth, anghymmwys a fydde ei symmudo [Page 20] hwynt allan o gyflwr gwell, i gyflwr gwaeth oblegid grâdd o benyd yw pob pall o' happusrwydd, a hwy a wyddont hynny yn rhydda ar bwy bynnag y troes y bŷd, am hynny nyni allwn osod ar lawr, am bûr wirionedd, na alwe Duw fyth am wŷr da allan o'r bŷd ymma, os hwn fydde eu lle dedwyddaf.
Ond chwi a ddywedwch ynghyfer hyn, Mae cyflog pechod yw marwolaeth, am hynny nid dim llai na barn a dial arnom, yw in'i ymadel a'r bŷd, ag os felly, mae hyn yn anafu y rheswm cyntaf, sef; nad y bŷd hwn yw'r lle dedwyddaf, oblegid fod Duw yn galw am wŷr duwiol allan o hono ef, o herwydd bod hyn yn canlyn y felldith ddigwyddol i ddynol riw, o herwydd pechod Adda, Llwch wyt, ag i'r llwch y dychweli. Yr awron yr wyf yn addef, ag yn cydnabod, fel y mae marwolaeth yn arwyddocäu ymadawiad yr enaid a'r corph, ag heblaw hyn yn arwddocau marwolaeth pob ûn o'r ddau, ei bod yn y modd hwnnw yn felldith ag yn boenedigaeth, ond nid fel y mae yn arwyddocau ymadel a'r bŷd ymma, a byw yn y bŷd a ddaw.
Mae in'i achos i feddwl pe digwyddase i ddŷn fod yn anfarwol, drwy beidio a phechu, nad yn y bŷd hwn y buasei ei drigfa yn dragywydd. Diammeu greu o Dduw naturiaeth ddynol i bwrpas amgenach, nag i seddiannu gwyniau 'r corph, a chwantau 'r [Page 21] cnawd, mae hi yn gymmwys i dderbyn grymmusach oruchafiaeth, mae megis yn gares i'r nef, ag i'r bŷd ysprydol; am hynny cyffelyb, os buasai ddŷn yn byw o hŷd yn ddi-bechod, drwy wneuthur y goreu o'i enaid, ai dderchafu ei hunan uwchlaw rhwystrau 'r cnawd, a thyfu y fynu, i fod nessaf y gallau o'r ûn naturiaeth a moddion a Duw, ar ol byw yn ddedwyddol, ag yn hir-hoedlog ar y ddaiar: cyffelyb yw, meddaf, y cawseu ei symmudo i'r nef fel Enoch ag Elias yn anfarwol. Ond etto pe buaseu bawb yn byw yn ddibechod hyd y dŷdd heddyw, ag hefyd yn ennill plant, ni fuasei'r spottyn daiaren hon yn chwarter digon iw cynnwys hwynt, ag i roddi iddynt eu cynnhaliaeth er ystalm o oesoedd, ag ni fuasei fodd iddynt iw maentumio eu hunain; ai cadw yn fyw ond drwy ysgraffu ymbell gwmpeini o'r gwŷr duwiolaf yn eu mysg i'r bŷd nessaf.
Ond bêth bynnag am hyn, diammeu yw, nad hon yw 'n melldith, sef; ein symmudiad a'n derchafiad allan o'r bywyd hwn i fyw yn y nef. Ar ol i ddyn bechu nid oedd ganddo ddim hawl i fyw yn y nef, o herwydd pa fodd y byddeu gan y sawl a fforffettiasei baradwys ddaiarol, hawl i fyw yn y nefol. Rhodd a dawn Duw iw bywyd tragywyddol, trwy Jesu Grist ein harglwydd: gwobr gŵyr duwiol ydyw, ar ol byw yn grefyddol ag yn dduwiol yn y bŷd hwn, gwobr ein ffydd a'n dioddefgarwch, am [Page 22] ufyddhau i ewyllys Duw, drwy weithred a dioddefaint; hwn yw 'n stâd an cyflwr parhaus, diweddaf, lle y byddwn fyw yn dragywydd. Am hynny mae'r rheswm yn dal ar ei draed, nad y bŷd ymma yw 'n lle happusaf, o herwydd os amgen ni fydde 'r nef, na gwobr, na chaffacliaeth. Er nad oes ûn modd i ddynion i escoi marwolaeth, etto os y bŷd ymma a fuase 'r lle dedwyddaf; buase Duw yn ddiammeu yn adgyfodi gŵyr duwiol i fyw ar y ddaiar eilwaith, fe a fuase hyn cyn gwbl-hawsed iddo ef ai derchasu hwynt atto ef ei hunan i'r nef.
Yr awron, os nid y bŷd ymma yw'r fan a'r lle happusaf, os nid pethau presennol yw'r pethau gwerthfawroccaf, fel y dangosais yn fy rhesymmau yn eu cylch hwynt, ag os bŷdd hefyd yn rhaid in'i ymadel a'r bŷd hwn (oblegid hyn fydd fy ûnig orchwyl presennol) nyni allwn wneuthur llawer defnydd da o hyn: megis 1. unioni a chyfrwyddo ein meddyliau ynghylch pethau prcsennol. 2. Byw mewn gobaith o bethau sydd well; ag yn. 3. Nid bod yn rhydrist o achos byrder ein henioes.
I. J unioni a chyfrwyddo ein meddyliau a'n hympiniwnau ynghylch y pethau sy bresennol: Tŷb ag ympiniwm syn ein llwyr ymdwyo ni, o herwydd y pêth y bom ni yn ei gyfri yn ddedwyddwch pennaf in'i, mae 'n rhaid rhoi serch ar hwnnw yn ddiddewis, ag yn ddifesur, am hynny ûn [Page 23] ffordd rwydd i jachau 'n gwyniau a'n hanwyldra anrhesymmol tuag at bethau presennol, a fydde, pe medrem ein bodloni ein hunain, fod pethau eraill iw cael sy lawer gwell. Ond yr wy'n cyfadde, mae n rhy anaml y dŷn a fedro hyn, o herwydd yn gyffredin llawer hoffach gennym y pethau presennol na'r ammhresennol. Rhai o'r sawl a gredant fod bywyd arall heblaw hwn, pa ddadwrdd bynnag y maent yn ei gadw yn ei gylch ef, siŵr yw nad ydynt er hynny yn cwbl gredu fod y bŷd a ddaw, yn stâd ddedwyddach na hwn, o herwydd nis byddent mor anwyl, ag mor gu or bŷd hwn, pe bae hynny yn bod, mae rheswn da am hyn, ag yn hawdd deall yr achos, oblegid goreu y gwyddom ni oddiwrth y dedwyddwch yr ŷm yn ei drîn, dedwyddwch teimladwy. Gan hynny mae pobl yn ymglywed a phleserau 'r bŷd hwn, ond mae'nt yn ddieithrol ag yn anghydnabyddus a phleserau 'r bŷd a ddaw, am hynny mae'n hawdd meddwl y pleser hwnnw yn fwyaf, a fwyaf graffo arnynt. Ond pe dŵys ystyrient y pêth, cânt weled digon o achos i fod o feddwl arall; sef, bod dedwyddwch a llawenydd y bŷd a ddaw yn llawer mwy dymunol na hwn yr ŷm yn y bŷd ymma yn ymdeimlo ag ef, ag yn ymddigrifo ynddo, er nas gwyddom yr awron ond ychydig oddiwrtho. Gadewch in'i resymmu fel hyn; r' wyf yn gweled fy mod yn farwol, a bod [Page 22] [...] [Page 23] [...] [Page 22] [...] [Page 23] [...] [Page 24] yn raid imi hefyd ymadel a'r bŷd ar fyrder, ag 'r wyf yn credu, fod fy enaid yn anfarwol, er marw fy nghorph, ag y geilw Duw am dano ef i fyw mewn stâd a chyflwr arall, a bod yn rhaid im'i ymadel a phob mâth ar bleser bydol, beth bynnag a ddigwydd im'i yn y bŷd a ddaw; ond diammeu hefyd, os bŷdd rhaid imi fyw yn dragywydd yn y byd a ddaw, ni wnaeth Duw mo hwnnw yn waeth na hwn, sy' raid imi ar fyrder ymadel ag ef, a'i adel byth i'm hol. Oblegid oes bossibl, ag a feddylieu ddŷn byth, ddarfod i Duw fy nghreu i fod yn anfarwol, ag yntef yn y cyfamser heb ddarparu mâth yn y bŷd ar ddiddanwch im croesawu dros dragwyddoldeb; a'r bŷd byrroes newidiol hwn hefyd mor helaethlawn o bob difyrrwch? Nid oes gennif yn wîr gwbl hyspysrwydd am faint a mâth yr hyfrydwch sydd i'm croesawu yn y bŷd nessaf, ond nis gwyddwn ddim chwaith oddiwrth lawenydd y bŷd hwn cyn fy ngeni ynddo, am dyfod i fyw iddo, am hynny nid ydyw fy anwybodaeth am hanghydnabyddiaeth i reswm yn y bŷd yn erbyn y nefol hyfrydwch, ag os oes yn y nef bleferau, diammeu y byddwch ddigon siŵr, eu bod hwynt yn llawer amgenach na'n pleserau ni ar y ddaiar; o herwydd fod y nef, an cyflwr, an stâd nefol i barhau dros byth. Os felly mac, pa sutt y gallwn ni fyth gredu fod Duw wedi megis diyspyddu ei holl dryssorau gogoneddus, [Page 25] ai tywallt hwynt allan yn llŵyr i'r bŷd hwn? Neu, ai cymmwys ini feddwl fôd Duw wedi rhoddi in'i y peth goreu yn gyntaf, pan na chaffom amser, ond prin iw profi, cyn y bydd yn rhaid ini ei gadel hwynt o'n hôl; Hyn a fydde godi arnom flŷs diattreg, a blinder newynllyd, hiraethlawn dros dragywyddoldeb. Diammeu gennif na wnaeth Duw mor fâth bêth erioed; nid dim tebyg llawenydd y bŷd a ddaw, i lawenydd y bŷd hwn, o herwydd nid dim tebyg y mae'r bŷd hwn a'r bŷd a ddaw yn parhau. Mae'n Duw doeth daionus yn ddigon siccr wedi trefnu a chadw y pethau goreu i barhau yn dragywydd; o herwydd fel y mae perffeithrwydd, yr ûn ffunud y mae happusrwydd hefyd yn priodol-berthyn i dragywyddoldeb; oddieithr in'i ewyllysio gwneuthur anaddas ragoriaeth rhwng perffeithrwydd a happusrwydd, ai gwahanu hwynt oddiwrth eu gilydd. Am hynny nid allaf lai na gwarantu am wîr da, fôd bywyd gwell a happusach na hwn, o herwydd fôd y fath fywyd ag a beru byth.
II. Yn ail; wrth hyn mae'n naturiol ag megis yn gnawd in'i obeithio a disgwil am y pleserau gwycha, ag nas gwyddom yr awron fawr oddiwrthynt; ag nid eill dŷn yn y bŷd wneud llai na hyn, os ydyw ond credu fôd pleserau gwell iw cael, a bôd yn rhaid iddo hefyd ymadel ir fan lle maent iw cael. Oes neb a ŵyr oddiwrth raddau uwch o happusrwydd, [Page 26] ai bodlona ei hunan a gradau îs? O honofi, Dwl, swrth a synn fydde hyn ag arwydd o feddwl a bwriad salw llibyn, a fae yn hollawl yn anweddus i dderbyn goruchafiaeth, ag yn ddiobeithiol. Yn wîr henwau drwg anghynnes, yw uchel-feddwl balchder a chybydddod, etto maer rhain yn dangos amcanion hŷf, uchelfraint mewn calon dyn; ag y mae'nt yn rhinweddau rhagorol, canmoladwy, pan gadwom hwynt o fewn eu cyfiawn a'i lwfiedig derfynau, hynny yw, pan fo'nt yn trîn y pethau sy wîr ragorol, o hërwydd gwaeledd y pethau y maent yn eu trîn, sŷn eu gwneuthur hwynt yn ddirmygus ag yn anghyfreithlon. Gwreiddin rhinwedd ydyw bôd yn daer am gael gwîr oruchafiaeth a bôd yn chwannog i dderbyn clôd a pherffeithrwydd ein naturiaeth ddynol hyd yr eithaf. Ond bôd yn daer ag yn ymdrechu am gael enw mawr yn y bŷd, ag i ddyfod o hŷd i swyddau ag i leoedd uchel, neu chwennychu derbyn moesau mawrion, a bôd i bawb a êl heibio dynnu eu hettiau, a phlygu eu gliniau, a hoffi dillad gwychion, ag ewyllysio llawer o weision mewn lifre i waitio arnoch; trachwant ffôl a sfiaidd yw hwn, ag fel cyfoeth y byd, at helyntion eraill y mae'n eu hymlid yn wàg ag yn anurddasol. Gwîr uchelsryd nid ymgais a dim llai na'r pethau perffeithiaf, a mwyaf dymunol, ni waharddodd Duw crioed mo honom, ag ni'n hattaliodd [Page 27] ein naturiaeth ein hunain chwaith, rhag ceisio bôd (drwy eithaf ymdrechu) ddedwyddaf y gallom, am hynny y dyle ddynion nid amgen na phôb creadur arall (er lleied ei bŵyll) fyth bwyso ymlaen, nes tyfu i'r eithaf. Ond dymma'r amser y mae trachwant a chybydddod yn bechod-lawn, pan fo dynion yn cam-gymmeryd yn hollawl y pethau a ddylent eu chwennych, pan nad ydynt yn gweled fyth mo'i digon, a'r cyfryw bethau ysgatfydd a wna iddynt fwy o ddrŵg nag o ddaioni ar ôl eu cael. Or fâth ymma yw aur, ag arian, a thai, a thiroedd. Beth bynnag sydd uwchben eisiau, ag nid ydyw raid in'i wrtho, as medrwn fyw hebddo, diammeu bêth bynnag ydyw hwnnw, bydded y pêth a fynnoch, nid eich pen-ddedwyddwch ach gwynfydedigrwydd mo'no. Or tu arall, er bôd gostyngeiddrwydd yn rhinwedd ganmoladwy, pan fo 'n gwrthwynebu ag yn darostwng bydol drachwantau, am ei bôd yn gwneuthur gŵr yn ddifatter am y bŷd, ag am bôb gwâg-fawl bydol, nid yw 'r rhain ei gid ond pethau coegion, truanaidd, diwellhad, a phale bynnag yr ydys yn eu croesawu hwynt, mae'nt yn dangos calon anfoneddigaidd, isel-frŷd; ond er hyn ei gîd; nid gostyngedig, ond brwnt a swrth yw 'r gŵr a esgeuluso ei wîr oruchafiaeth. Drachefn, rhinwedd yw bôd o ddyn yn fodlon yn ei gyflwr bydol, pa fôdd bynnag y bo'r bŷd yn cerdded, pa ûn bynnng a'i yn ôl, a'i ymlaen, [Page 28] a'i oi dû,ai yn ei erbyn; medru gweled eraill mewn llawn-fyd ag anrhydedd, ag megis yn difgleurio gan eu bŷd da, yn hawddgar ag yn ddiddig, ag yn ddi-genfigen; Rhinweddol iawn, meddaf, yw medru hyn. Ond nid y pethau ymma a ddichon ein gwneuthur ni yn gwbl-ddedwydd; yr ŷm yn wîr yn gwneuthur defnydd perthynnasol o honynt yr hŷd y bo rhaid, mae'nt yn gwasanaethu'r trô, eithr bôd yn fodlon a rhan fechan o honynt, a ddengys nad ydym yn rhoddi ein goglud arnynt, megis ar ein dedwyddwch pennaf, a dymma'r gamp ag eithaf-Rhinwedd Bodlonrwydd. Ond nid bodlonrwydd y galwn ni, fôd yn ddiofal am ein gwîr ddedwyddwch, neu fôd yn ddifatter o fôd yn ôl, neu'n fyrr o hono mewn modd neu râdd yn y bŷd a fo in'i fôdd iw gyrrhaeddyd; bôd yn fodlon i golli meddiant a pherchennogrwydd o'r pethau gwerthfawroccaf yn y bŷd: pechod trwm yw hwn, gan ei fôd yn gwrthwynebu 'r ewyllysgarwch a ddyle fôd gan bawb i ddyfod o hŷd iddo, ag i feddiannu eu gwir happusrwydd. Ag chwi ellwch alw'r pechod hwn ar ôl yr henw a fynnoch, os medrwch ddyfeisio ûn henw a ddichon gyrrhaeddyd ei ddrygioni ef, o herwydd nid oes nêb waelach ei frŷd na'r sawl a fo 'n ddifatter am ei wir oruchafiaeth a'i hollawl ddedwyddwch, a'r sawl ai bodlono ei hunan'a phethau, salach pan so eu gwell iw cael. O'r achos ymma, gan hynny, [Page 29] derchafwn ein calonnau fel gwŷr, gan fôd pethau gwell iw cael, yn y bŷd a ddaw, gwnawn ein goreu i ddyfod o hŷd iddynt, ai perchennogi hwynt; byddwn hefyd fyw fel gwŷr a ddaeth i'r byd ymma; Ond yn unig ar fedr mwynhau pethau llawer amgenach a mwy rhagorol, nag a eill y bŷd truan hwn eu tresnu; ymegniwn gan hynny a'n hôll allu i ddeall bêth yw gwir happufrwydd y bŷd sy i ddyfod, ag wrth ba foddion y mae in'i fôd yn gyfrannogion o hono, ag heblaw hyn arferwn bôb pêth presennol, fel gwŷr a wyddant fôd pethau llawer gwerthfawroccach wedi eu darparu i'n croesawu yn y nefoedd.
III. Fe ddyle hyn ddysgu in'i hefyd, beidio a thrymhau gormod, a bôd yn rhŷ bruddion a achos bôd ein henioes cyn fyrred; gwir yw mae'n henioes yn ferr jawn, yn diangc heibio fel cyscod, ag yn diflannu fel blodau'r meusydd, ag fe fydde hyn yn achos o drymder anoddefus, os na bydde na bywyd arall, ar ol hwn, nag ûn ychwaith cyn ddedwydded ag yntef. Ond heblaw amryw dystiolaethau eraill ynghylch bywyd arall, nid oes amgenach tystiolaeth n'a byrder ein henioes i warantu ini nad ydyw marwoloath yn diddymmu mo'nom, ag yn gwneud cwbl-ben am danom: oblegid a oes in'ni fôdd i feddwl ddarfod i Duw Greu creadur mor ardderchawg a dŷn, i fyw ond megis dros ûn diwrnod, Dyn, meddaf, yr [Page 30] hwn sy'n gyflawn o fwriadau anfarwol, ag yn bwrw aml feddyliau tuag at yr oesoedd a ddaw, yr hwn a ddichon edrych o'i ôl ag o'i flaen, a bwrw golwg ar dragywydoldeb sydd annechreuedig ag annherfynnedig: yr hwn a grewyd i fyfyrio ar y pethau rhyfeddaf o'r holl greadigaeth, ag i syfyrio hefyd ar y duwiol ragluniaethau, ond uwchlaw hyn oll i glodfori ag i wasanaethu ei greawdwr, yr hwn sy'n wir Arglwydd ar y bŷd issaf hwn, ag oll sydd ynddo, ond etto ai olygon tua'r nefoedd; ei ganfod eu holl wychder hwynt; ag i ymweled a'r bŷd anweledig er gwaetha'r cnawd sy'n drwm in herbyn, yn ymrafaelgar ag yn wrthnysig, Dyn, meddaf, yr hwn sy' cŷd yn blentyn, ag yn hir ag yn faith ei lwybrau, cyn ei ddyfod i ddealltwriaeth a synwyr, yr hwn pan ddel o hŷd i ychydig synwyr, a thra bo 'n cymmeryd poen i gasglu mwy: erbyn iddo ond prin gwybod bêth ydyw bod yn ŵr, ag i ba ddefnydd a phwrpas y dyle fyw, ar ol iddo gael gwybodaeth am Dduw, a bod yn gydnabyddus a'i ddyledswydd iw addoli a'i wasanaethu ef; na bo, meddaf, yn ymgeleddu ag yn harddu ei enaid a phob mâth ar rinweddau, ag yn ei ddyfal gyd-ymffurfio ef a Duw, pan fo gogoneddusrwydd y ddynol naturiaeth megis yn ymrithio, ag yn dechreu ymddangos ynddo ef; hynny yw, pan fyddeu ef gymmhwysaf oll i fyw i wasanethu Duw a dynion, yn y cyfamfer, meddaf, [Page 31] yn yr adeg hon, ag (fel y dywedwn) yn nyrnod ei nerth, a blodau ei ddyddiau, naill ai mae'r naturiaeth lygredig yn pryssuro i lygru, ag i ddychwel i'r llŵch, neu ryw glefyd ystyfnig neu ryw slawns ddrŵg sydyn yn ei dorri ef ymmaith, fel y dywedais, yn nerth a blodäu ei ddyddiau, ag ar ol, iddo drwy ddŵys boen a llafur ei hwylio ei hunan i fyw yn wasanaethgar, ag yn weddaidd, mae'n cael rhybydd, nid hwyrach, byrr, nad ellir byw ddim hwy, oblegid fod Duw yn galw am dano. Drwy gennad Duw y dywedaf; a weddeu i'r Duw doeth wneuthur fel hyn, os ydyw dyn yn myned heb ddim o hono pan fyddo ef farw, os diddymmir ef cyn ei fod ond prin yn ŵr? Am hynny rheswm da in'i gredn, nad yw marwolâeth ond yn ein mudo ni i sŷd arall, llê y mae pob synwyr a rhinwedd yn eu llawn dŵf, nid, fel ar y ddaiar, yn eiddil ag yn ddechreuol; ag os ydyw'r fan honno yn happusach llê nag ar y ddaiar, fel y clywsoch ei fod, diammeu nad oes in'i ond ychydig achos i ddigio ag i gŵyno, o herwydd fod ein hamser ar y ddaiar cyn fyrred: Oblegid pe tawem a son, am helbul a' thristwch, am aml drwblaeth ag anghyfleustra 'r bŷd hwn, a hyn hefyd yn ddigwyddol i'r gwŷr dedwyddaf, (canys nid oes dim siccrach na bod pob dedwyddwch daiarol yn ammherffaith ag yn gymmysgedg) meddaf, drwy dewi a son am hyn, fes, nad yw'r bywyd presennol [Page 32] ddim amgenach na llanerch o ffinder a' chystudd ir rhan fwyaf o'r bŷd, y rhai sy' mewn eisiau a thlodi ag yn dioddef gorthrymder trwm, neu mewn poen a chlefyd oddiwrth eu cyrph afiach clwyfus, etto bwriwch yr eithaf, pe bae'n ni cyn happused ag y galleu'r bŷd hwn ein gwneuthur ni, yn ddiachos ag yn ddisynwyr iawn yr Achwynem, o herwydd bod yn rhaid in'i newid y bŷd hwn am ûn arall sy' lawer gwell. Dymma'n hiaith ni yr awron, marw y galwn ymadel a'r bŷd ymma, ond pe baem ni unwaith allan o hono, ag yn llŵyr feddiannol o'r happusrwydd sy' yn y bŷd a ddaw, Marw'n siccr a fydde in'i, a marw o ddifri, os byddeu raid dyfod ymma yn ol. Nid ydym yn darllein am ûn or Apostolion eraill yn ymbil mor daer a St. Paul am ei ymddattodiad er mwyn bod gida Christ, ag mae rheswm da am hyn, o herwydd efe a brofasei ag a gawsei flâs ar y dedwyddwch nefol, pan dderchafwyd ef i'r drydydd nef. Yn wîr pe bae fodd in'i weled y gogoniant sydd yno, byddem yn anesmwyth fod yn rhaid in'i fyw ymma dros yr amser lleiaf, a phêth a eill fod yw, nid dim anhebyg mae dyna un achos paham y mae mor ddieithrol, ag anghydnabyddus in'i; ond mae rheswm pob dŷn yn dywedyd iddo hyn. Os ydyw Marwolaeth yn ein symmudo i le sy' well, mae goreu po byrraf ein henioes, os ydym yn cymmeryd gofal i fyw fel y dylem, oblegid cyntaf oll y [Page 33] perchennogwn y bywyd a fo mwy ded wyddol
III. Wrth feddwl fel hyn, sef, bod Marwolaeth yn arwyddocau ein hymadawiad ni a'r bŷd hwn, yr wyf yn dal sulw ymmhellach nad ydyw 'r bŷd hwn ddim amgenach, na stâd, neu gyflwr o dŵf neu hwsmenaeth, lle i'n treio ag in profi, er mŵyn ein cymhwyso i fyw yn y bŷd a ddaw, nid oes le i ammeu hyn, os ystyriwn a ddywedo 'r serythyr lân ynghylch y peth, sef y cawn dderbyn ein gwobr yn y bŷd a ddaw yn ol ein hymarweddiad yn y bŷd hwn, y cawn dderbyn ein cyflog yn ol ein gweithrcdoedd yn y corph pa ûn bynnag ydynt ai da ai drwg: mae hyn yn dangos yn eglur, nad ŷm i fyw ymma ond er mŵyn ein darparu ein hunain i fyw yn y nef, ag y bŷdd maintioli a graddau 'n dedwyddwch ni, neu 'n hanedwyddwch tragwyddol, yn gyfattebol i'r daioni neu'r drŵg a wnaethom ar y ddaiar. A phan ystyriwn ond hyn yn ûnig sef bôd rhaid i ddŷn ymadel a'r bŷd hwn, ar ôl byw ychydig amser ynddo ef, os credwn nad ydyw marwolaeth yn diddymmu mo honom, ond ein bôd ni i fyw fyth mewn stâd a eyflwr arall; mae in'i achos da i gredu nad ydyw'r bŷd presennol ddim amgenach, na chyfleusdra in paratoi ni i fyw yn y bŷd a ddaw, o herwydd nis medraf ddyfeisio 'r achos, ar ôl geni dŷn i'r bŷd ymma, oi symmud ef i'r bŷd a ddaw, oddieithr i'r bŷd hwn fôd yn berthynasol, ag yn wasanaethgar, [Page 34] ag yn ddarparol i'r bŷd a ddaw, mae 'n fiŵr gennif fôd dŷn yn greadur a haeddeu wneud y goreu o hono, ag (fel y dywedwn) dan ei brifiant; nis crewyd mono ef ar y cyntaf mewn perffeithrwydd ond efe â addysgir i dyfu i fynu o râdd i râdd, ag megis i ddringo ag i ymdderchafu o'r naill ddedwyddwch i'r llall. Stâd iw brofi ef, oedd stâd Adda ei hunan cyn iddo bechu a thramgwyddo, and pe cadwasei ei lê, drwy ddilyn ufyddod a diniweidrwydd, cawsei fôd yn anfarwol, ag mae 'n debyg iawn, pe buafei yn aros ag yn parhau yn ufyddol ag yn ddiniwed, ag yn puro, ag yn derchafu ei naturiaeth drwy ddilyn rhinweddau nefol, nad yn y bŷd hwn y buasei ef i fyw yn wastadol, ond yn hytrach yn y nefoedd: ag nis gwelafi reswm amgen, o herwydd nid yw hyn yn wrthwynebus i ddoethineb Duw. Sef, fôd rhai oi greaduriaid ef wedi eu creu mewn stâd a chyflwr iw profi ag iw gwellhau, fel y crewyd yr Angylion ar y cyntuf mewn purdeb cyfaddas ir nêf. Felly y byddeu bossibl i ddŷn, er ei fôd ef o ran yn ddaiarol, etto gan fôd ganddo enaid rhesymmol, drwy wneuthur y defnydd goreu oi enaid a'i gorph, iw ymdderchafu ei hunan ir nef hefyd, Fel da y gweddei ir rhagorol Dduwiol ddoethineb greu'r ddaiar yn gystal a'r nefoedd; felly y gweddeu hefyd, ag nid dim llai urddasol i'r unrhyw ddoethineb greu dŷn hefyd i fyw ar y ddaiar hon, o herwydd [Page 35] anghymwys fuasei i ûn fan o'r byd fôd heb drigolion dealldwrus, a wyddent pa fôdd i addoli eu creawdwr, ag i roddi iddo of iawn ddiolch a gogoniant am ei holl ryfeddol weithredoedd: Ond o herwydd y gellir gwneuthur defnydd gwell o'r naturiaeth ddynol, na megis ei gwarchae hi a'i llyffetheirio i fyw yn wastadol ar y ddaiar Gwelodd ein Duw daionus ni yn dda wneuthur y bŷd hwn er mŵyn ein profi ni ynddo, a'n dysgu a'n dwyn ni i fynu i'r bŷd a ddaw Fel y bo i bôb dŷn arferol o fyw yn rhinweddus ag yn ysprydolaidd, drwy ddyfal geisio ei buro ei hunan fel y mae Duw yn bûr, pan welo Duw yn dda alw am dano, gael i dderchasu ir nef yr unig lannerch, a thrigfa pôb happusrwydd rhesymmol. Mi a debygwn mai hyn oedd meddwl ag ewyllys Duw pan greodd efe ddyn, ag os ê nid oes dim ammeu nad ydywy bywyd presennol ddim amgenach na'n dechreuad a'n cyfleusdra i fyned ymlaen, ag i wneuthur y goreu o honom ein hunain; er mŵyn bôd ryw amser yn addas i fyw yn y nef, er na buasai raid in'i ychwaith byth mo'r marw.
Ond diammeu nad felly y mae 'r awron, o herwydd ni ddarfu i Adda yn unig ei lygru ai farwolaethu ei hunan, ond heblaw hyn, efe a ymwascarodd ag a danodd ei naturiaeth lygredig dros ei hôll eppil; am hynny nid oes gennim ni yr awron ddim hawl drwy rym naturiaeth i fôd yn anfarwol, [Page 36] ag nis medrwn chwaith búro ein heneidiau, iw gwneud hwynt yn llawn gymmwys ag yn gwbl addas i fyw yn y nef, meddaf, drwy rym ein naturiaeth wanhychlyd lygredig. Ond hyn yw 'n hôll gyffur fe a gwplaodd Crist trosom y peth nad allem ni ei gwplau, gan bwrcasu anfarwoldeb in'i ôll drwy ei archollion ar y groes a thrwy waed ei brisfawr ddioddefaint, ag mae ef yn ein bywhau, ag yn ein cyfrwyddo, a'n cyfodi i fywyd newydd drwy ei raslawn yspryd, ond gan fod yn rhaid ini farw yn gyntaf, cyn y gallom ddyfod i anfarwoldeb, mae cyn eglured a'r haul nad ŷm i fyw yn y byd ymma ond er mwyn ein darparu an cymmhwyso i fyw yny bŷd a ddaw. Mae'n neges a'n gorchwyl pennaf ni yn y bŷd bwn ydyw, bôd in'i ein hymbaratoi, i fyw yn anfarwol ag yn ogoneddus.
Yn awr, os byw ymma'r ydym yn unig er mwyn ein darparu ein hunain i fyw yn y byd a ddaw, ni ddylem ni fôd cyn waeled ein synwyr, a bôd yn disgwil ein cwbl a'n cyflawn happusrwydd yn y byd ymma, tra bôm yn unig ond ar y ffordd i'n cartref. Mae'n rhaid cyflawni a gorphen y gwasanaeth a orchymmynnodd ag a ordeiniodd Duw ini iw wneuthur yn y bŷd ymma, a disgwil am ein gwobr an cyflog yn y bŷd a ddaw; ag os nad oes fodd in'i dderbyn ein gwobr a'n cyflog yn y byd presennol hwn, wrth hynny ni a allwn fwrw fôd rhyw bethau [Page 37] iw cael yn y bŷd a ddaw sy' lawer amgenach na'r pethau a welwn ag a drinwn yn y bŷd ymma.
Os dymma 'n hamser i weithio, tra bôm yn y bŷd hwn, nis dylem ofalu am fyw ynddo yn esmwyth, yn foethus, ag yn bleserus, o herwydd nid lle i foethau ag i seguryd mono ef, eithr yn hytrach lle i gymmeryd poen ag i ddangos holl egni ein dyfalwch, ymdeithio 'r ŷm tua'r nef, ag mae'n rhaid in'i fwrw mynych lygad, a mynych feddwl ar ddiwedd ein siwrne, a pheidio ag ymlid pleserau a difyrrwch daiarol tra bôm oddicartref. Nid ydym yn byw ymma i bwrpass arall yn y bŷd, ond er mwyn ein cymhwyso i fyw yn y nef, am hynny anghenreidiol ini drwy fawr synwyr hwsmonaethu y pethau presennol, a gwneuthur y goreu o honynt, er mŵyn cael ennill a mwyniant oddiwrthynt mewn amser a ddaw. Am hynny, synwyr yw in't wneuthur cyfeillion o'r Mammon anghyfiawn, fel pan ymadawom a'r bŷd y caffom ein derbyn, an croesawu yn llysoedd tragywyddoldeb. Bêth bynnag a berthyna i'r bywyd goreu, a haedde fwy o'n hamser, a ddyle fôd yn fynychach yn ein meddyliau, ag ni a ddylem fôd yn llawer mwy gofalus yn ei gylch, nag ynghylch dim arall: o'r tû arall bêth bynnag fo yn ein rhwystro ni, ag yn ein peryglu am ein happusrwydd yn y bŷd a ddaw, ni a ddylem yn hollawl ymwrthod [Page 38] ag ef a'i holl felusrwydd twyllodrus, er an wyled a chued a fae ef gennym. Ni thale byr enioes yn y bŷd ymma mor sôn am dani, oni baem ni i fyw yn dragywydd yn y bŷd nessaf, am hynny da jawn y gweddeu i bôb gŵr synhwyrol, deallus, pwyllog, a fo yn credu ag yn cofio, fod yn anghen rhaid iddo ef ar fyrder ymadel a'r bŷd hwn, meddaf, da y gweddai i'r cyfriw ddyn wneuthur y bŷd hwn yn gwbl-wasanaethgar iw ddedwyddwch yn y byd a ddaw.
Y RHAN II.
Yr ail synniad o Farwolaeth, sef mai ymddiosciad ein cyrph ni ydyw.
YN awr ystyriwn ein Marwolaeth fel y mae'n arwyddocäu ymddiosciad ein cyrph ni, o herwydd hon yw ei harwyddocâd briodalaf hi, sef fôd Marwolaeth yn gwahanu'r enaid a'r corph, gan fôd y corph yn dychwelyd i'r llŵch, a'r enaid yntef yn myned adref yn ei ôl at Dduw ei greawdwr: pan fôm yn marw, nid ŷm yn peidio a bôd, nag ychwaith yn peidio byw, ond yr ŷon yn gorphen byw yn y cyrph daiarol hyn; yr amser hwnnw fe a ddattodir y bywiol undeb sy' rhwng yr enaid a'r corph, ag felly ni attelir monom ddim hwy mown carchardy cnawdol, ni chlywn ddim mwy oddiwrth chwantau y cnawd blîn, rhwystrus, [Page 39] ni wna na phoenau na phleserau'r corph ronyn o niwed in'i mwy, nid allant mo'n denu, ni fedrant mo'n hudo mwyach. Fe a ŵyr pawb hyn, nid yw'r pêth yr wyf yn ei ddywedyd yn anhyspus i neb, am hynny, gwaith ofer ag afraid yw sefyll ymma'n hwy i wneud hyn yn dda; ond fe a haeddeu yr ystyriaeth hon in'i roddi ein pennau atti i fyfyrio arni, a'n cwbl bwyll, ag yn wîr ddifrifol.
Oblegid yn gyntaf, mae'n dyscu in'i fôd rhagoriaeth fawr rhwng yr enaid a'r corph, er bôd gwŷr cnawdol, y sawl sy' megis wedi eu suddo mewn pleser ag oferedd bydol, yn rhy chwannog i anghofio hyn, neu ni hwyrach yn chwannog i'r pêth sy' waeth, sef i feddwl nad oes dim o'r fâth bêth yn bôd, pleserau cnawdol yw eu holl ddifyrrwch hwynt, ni wyddont oddiwrth ddim arall heblaw pethau teimladwy gweledig, neu ryw fâth arall o bleserau corphorol, archwaethus, a ddichon lonychu rhai o'i pum synwyr, nis gwyddont pa fôdd i dderchafu eu meddyliau uwchlaw 'r corph hwn, nag i groesawu bwriadau uchelfraint gogoneddus, am hynny y mae'nt yn meddwl mae cîg a gwaed yw eu cwbl ddefnydd, mae tippin o glai trwsiadus bywiol ydynt, ag nid dim rhyfedd ir sawl a fo'n unig yn gydnabyddus a phleserau'r corph, os meddwl a wnânt mae o gwbl gorph y defnyddied hwynt, er bod yn anhawdd in'i gredu hyn; pan fo o [Page 40] flaen ein llygaid weddillion dibwyll diystyr a llygredig ei ryw, o ŵr da a fuasei gynt yn wŷch ei synwyr, pan fo'r rhain yn ein golwg, ag o'n blaen ni, meddaf, Mae'n anodd credu mae Dymma'r hôll ŵr yu gyfan. Mae dymma 'r gŵr a fedre ymddiddan a rhesymmu o fewn yr awr neu ddwy, ag a wydde yn rhwydd pa fodd i reoli teyrnas, ag i gynghori a chyfrwyddo dynol ryw, na wnae gyfrif o fyw yn gnawdol, ag a fedre feistroli ei wyniau, yr hwn a oedd hefyd yn hardd ag yn urddasol, drwy fôd ganddo ef bôb dawn nefol a Rhinwedd, yn glôd ag yn barch iw oes ag iw wlâd oedd falch o hono, ai tybied nad oes dim o hono yn ûn llê ond a welwn, sef y corph priddlyd difraint, neu, fel y mae tebyccaf, a fu gynt yn ysprydoli y corph marwol hwn, ryw nefol yspryd drwy gyfrannu iddo ef fywyd a chynnydd, a glendid ag ymadferth ond yr hwn sydd yr awron wedi ymadel ag ef?
Diammeu y dylent yn ddyfal ystyried y rhagoriaeth sydd rhwng yr enaid a'r corph, pwy bynnag sy'n credu, nad ydyw Marwolaeth yn gwneud llwyr ben am danynt, ag yn ei diddymmu hwynt, ond yn unig yn eu symmudo allan o'r corph, a fo 'n llygru mewn bêdd, a'r enaid yntef yn parhau fyth yn wir fywiol ar ôl ei ymddattodiad ai ryddhâd oddiwrth y corph, ag yn dra dedwydd hefyd mewn cyflwr neilltuol gwahanus, ag fe ddysgeu hyn iddynt y wîr dduwiol a nefol ddoethineb.
[Page 41] Oblegid pan ystyriom ein bôd ni yn gynwysedig o enaid a chorph, ag wedi 'n crëu o ddau amryw rywogaeth ddefnyddiau, fe a ddysc yr ystyriaeth hon in'i iawn ofalu am ein dwy ran sef am ein cwbl-ddyn: canys a oes môdd i'r sawl a gretto fôd enaid ganddo, i ofalu yn unig am ei gorph, nid eill ûn creadur cyssylltedig fôd yn gwbl ddedwydd, oddieithr iw amryw rannau ef, gael pôb ûn o honynt feddiannu a pherchennogi eu pleserau priodol, hynny yw, y cyfryw ddiddanwch a hyfrydwch ag a fo cymmwys a chyfaddas iddynt: y neb a fo 'n feddiannol o' bleserau'r corph yn ûnig, nid yw fripsin dedwyddach o fôd enaid rhesymmol ganddo, nid hwyrach mae gwell, ag mae caffaeliaeth a fuasei i hwn fôd yn anifail yscryblaidd o herwydd fôd yr anifeiliaid ysgatsydd yn helaethach eu pleserau corphorol na dynion, ag hebläw hyn mae eu rheswm a'i cydwybod yn blino ag yn aflonyddu y cyfryw ddynion beunydd, a fo 'n pwrpasu byw 'n anifeilaidd; oblegid y maent yn eu bygwth ag yn eu digalonni hwynt, ag felly yn lledfoddi, ag yn gwanhychu eu pleserau: a pha achos sydd na ewyllysia ddyn fôd mor ddedwydd ag y gallo ef fôd, ni ddyle fôd yn ddibris ag yn ddifatter o ûn rhan o hono ef ei hunan, yn enwedig ni ddyle fod felly i'r rhan oreu fel y cewch chwi glywed yn y man? gan hynny yn y fan leiaf nyni a ddylem gymmeryd cystal a chymmaint gofal [Page 42] gyda 'n heneidiau a chyda'n cyrph: A ydym ni yn arferol o wisco 'n cyrph mewn hardd a glân drwsiad er mwyn harddwch a gweddaiddrwydd, a bod yn gyfaddas gwmpeini i'n gilydd, ag hefyd er mwyn cael y parch dyledus in llê, a'n cyflwr yn y bŷd: ag oni ddylem ni yn llawer hytrach, ymwisco a thrwsio ein heneidiau, ag aml râs a dawn Gristiannogol, y rhai a ddichon ein gosod ni allan, a'n gwneuthur yn olygus o flaen Duw a dynion? Trwsiad yspryd addfwyn a llonydd, yr hwn fydd ger bron Duw yn werthfawr, yr hwn, medd St. Pedr a wedde yn well i wragedd Cristiannogol nag ûn wise drwsiadus oddiallan, sef o blethiad gwallt ag amgylch osodiad aur, neu o wiscad dillad; 1 Pet. 3, 34. Harddwisc doethincb a synwyr, a chwantau gwedi eu dofi a'i llonyddu, Harddwisc o ddaioni a chariad perfaith sy'n tanu harddwch a glendid dros ein holl weithredoedd. a'n holl foddion, ag yn gwneuthur ir wyneb dywynnu a discleirio fel prŷd Angylaidd; yn llawer tirionach na gosodiad allan mwyaf crefyddol o waith dwylaw a lliwiau. Os ydym ni yn cymmeryd llawer o ofal i amddiffyn ag i waredu'n cyrph, rhag digwydd dim niwed iddynt oddiwrth boen a chlefyd, megis oddiwrth y crûd-poeth neu'r poenus droedglwyf, neu'r garreg, paham na ddylem o'r rhan leiaf fod mor gwbl ofalus, am esmwythau'n heneidiau, i ddarostwng, ag i dawelu [Page 43] 'n gwyniau afreolus, y rhai, pan gaffont eu rhwysc ai pennau yn rhyddion, sy'n ein poenydio, ag yn ein poeni yn ddwysach nag y gallom eu dioddef, dwysach o lawer na phob mâth o gospedigaeth arall, pa ûn bynnag y delo, a'i oddiwrth siawns ddrwg neu ball a gwendid naturraeth, o achos llacrwydd a methiantrwydd, a'i drwy falais a dyfais ein gelynion. Torri crîb ag awch ein chwantau a fo cyn daered ag mor flinion wrthym, ag hefyd mor annodd eu dioddef, a newyn a' fyched, a'r ofn a'r dychryn a fo'n codi yn yr enaid gynwrf afreolus, ag megis yn peri iddo ef lysmeirio, a syrthio yn y ffitiau, a'r ystormau gwyllt afradlon a ddigwydd oddiwrth ddigllonrwydd, dial a chenfigen, yn rhwygo ag yn rhwystro'n meddyliau; gan eu llenwi hwynt o bob anfodlonrwydd a thrwblaeth, a phob rhyw arall o ofidiau creulon; yn eu llenwi hwynt yn enwedig a'n h'euog goffadwriaeth am y drŵg a wnaethom, a'r prŷf a'r llynghyren cydwybod yn cnoi 'r enaid a dannedd rhŷ lymmiøn, ag yn ei phenydio a chywilydd a thrwm edifeirwch drwy fod yn wastad yn disgwil am ddial ofnadwy, y rhai'n yw gofidiau a chlefydau'r enaid. Diammeu poenau yw rhai'n sy' lawer llymmach, lawer blinach, a pheryclach na gofidiau eraill yn y bŷd a ddichon syrthio ar y corph. Yspryd gŵr a gynnal ei glefyd ef, fe eill gŵr calonnog iâch ei yspryd drwy nerth ei synwyr; a [Page 44] thrwy gyssur a chynhorthwy ei ffydd, iw gynnal ei hunan tan bob mâth arall o gystuddiau heblaw yspryd cystuddiedig, ond hwn nid abl nêb iw ddioddef. Am hynny pwy bynnag a chwenycho fyw yn esmwyth, ag yn ddiogel; gofaled yn bennaf am esmwythdra iw enaid, oblegid hynny a ysgafnhae ar bob blinder arall, ond nid oes a wasanaetha i gynnal neu i gyfodi'r dyn hwnnw ar ei draed, a fo ganddo iw drwmflino yspryd cystuddiedig.
A ydyw hoff genym bleserau 'r corph, a ydym yn barod i roddi mawr brîs am danynt er mwyn eu cael? ag os gwŷr ydym paham yr ŷm mor ddifatter am ddiddanwch ein heneidiau, os gwîr yw fod eneidiau genym, paham nad ydym ninnau yn gwneithur mantais oi bod, drwy helaethu eu pleserau hwynt? ai meddwl yr ydych nad oes dim pleserau priodol perthynafol i'r enaid, ai nid ydyw 'n heneidiau ni dda i ddim, i ddim, meddaf, ond i roddi awch ar bleserau'r corph? Ymofynnwch a'r sawl a wyppo, pa bleser sydd o fod yn synhwyrol, ag yn bwyllog, ag onid yw hynny yn rhagori ar holl bleserau gweledig, fel y mae y tirion ogoneddus wirionedd yn discleirio uwchlaw'r haul? ymofynnwch a'r cyfryw wŷr pa bleser ydyw bod yn gydnabyddus a'r Duw goruchaf perffeithiaf ag hyfrydaf; i fynych ymweled ag ef yn ein meddyliau, pa anfeidrol bleser yw myfyrio ar ei ddoethineb a'i [Page 45] ddaioni ef, yn ei amryw weithredoedd oi greadigaeth a'i ragluniaeth: pa bleser sydd inni megis ein suddo a'n colli ein hunain yn y dirgeledigaethau o gariad anchwiliadwy. Sef prynedigaeth pechaduriaid trwy gnawdoliaeth, genedigaeth a dioddefaint ûn Mâb Duw: ymofynnwch drachefn a'r rhai'n, pa faint pleser yw bod yn ddiniwed, ag yn rhinweddol, ag mor hyfryd, a melus Cwmpeini cydwybod dda: pa ûn ydyw 'r dedwyddwch mwyaf a'i rhoddi, ai derbyn cerdod? ie pa gymmaint hyfrydwch sy'n tarddu allan o'r gofidiau chwerwaf, ag oddiwrth yr erlidiau trymmaf, oddiwrth fod mewn cyflwr tlawd, gwradwyddus, ar yr achos ymma, os hynny oll a ddigwydd iddynt ermw yn eu cariad tuag at Jesu Grist? ymofynwch ymhellach a rhyw ŵr defosionol am y fâth anrhaethol ddifyrrwch ysprydol sydd arferol iddo ef, eg yn digwydd iw ran, pan fo ef yn gweddio ar ei Duw ar ei liniau. Mae megis yn ail i St. Paul yr amser hwnnw yn cael sydyn a gwisci dderchafiad i'r drydydd Nef; ag yn gyflawn o'i Dduw, hyd oni bo ei ddiolchgarwch a'i hyfrydwch nefol ef, yn ychwaneg ag yn bybyrach nag y medro ef ei drin. Erbyn hyn ond da y dyleu ddŷn, gan fod ganddo ef enaid rhesymmol, ymroi i ymorol ar ol pleserau rhesymmol, gwrol, Duwiol, sef ar ol pleserau 'r enaid a'r yspryd, y rhai'n sydd briodolaf i ddŷn, ag a wîr berthynant iddo [Page 46] ef yn ol trefn a chwrs ei greadigaeth Resymmol ef? gwnaed dŷn hyn yn gyntaf, ag wedi hynny troëd at bleserau' r corph y faint a'r hŷd a fynno, os bydd bossibl iddo glywed blâs arnynt, ar ol iw enaid ef gael blâs ar ymborth sy fwy digonol; ar ol iddo gael ei lawn ddigoni a melusach seigiau.
Ar fyr i chwi, as ydym yn gofalu cymmaint i gadw ein cyrph yn fyw, ag iw cynnal hwynt sydd, ni a wyddom, yn gyrph marwol, ag yn rhaid iddynt y foru neu drennydd lygru mewn bêdd, mi a dybygwn nas dylem gymeryd dim llai o ofal gida'n heneidiau bywiol, y rhai yw r' unig ran o honom nas bydd farw byth. O herwydd er nas geill yr enaid mor marw yr ûn ffunud a'r corph, etto marwolaeth enaid tragwyddol ydyw pan fo wedi ei gloi dan boen a chystydd anherfynol. Pan na bo' na 'r prŷf yn marw, na'r tân yn diffodd; o herwydd mwy dewisol yw peidio a bod yn y bŷd, na bod ynddo i ddioddef cystudd tragwyddol, am hynny y fâth farwolaeth a hon sydd wîr ofnadwy a dychryn-llawn.
II. Yn ail; Wrth fod Marwolaeth yn arwyddocäu; fod yn anghenrheidiol ini fwrw heibio ein cyrph, mae 'n dangos ein bod ni yn rhwymedig i'r enaid am ein holl ymadferth: nid eill y corph mor byw ar ei ben ei hûn, yn neilltuol oddiwrth ei gyfaill y'r enaid; Ond cyn gynted ag y gwahenir ef oddiwrth ei gyfaill y'r enaid, mae ef yn yr [Page 47] ûn mynydyn yn myned yn ddi-help, ag yn ddi-ymadferth, yn drapharod i ddesgyn iw brif-lŵch, allan o ba ûn y crewyd ef ar y cyntaf, cyn ei gyssylltu ef ag enaid ysprydol. Ond fe eill yr enaid, ag yn ddigon sicr, y mae ef yn byw ar ei ben ei hûn, heb ofyn help y corph na bod yn rhwymedig iddo ef am ei fywyd: Am hynny mae ganddo ef ynddo ei hunan megis ffynnon, neu gynhwyllin bywyd. Chwi ellwch feddwl nad ydyw hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd i chwi yn ddieithr i neb, a bod pawb yn gyffredin yn gwybod mai fel hyn y mae. Gwîr yw hynny hefyd, ond ni a ddylem wneuthur defnydd Dŵys, difrifol or adroddiad hon, ag ysgatfydd nid yw pawb mor gyfarwydd a gwybod pa sutt i wneuthur hynny: Oblegid;
I. Yn gyntaf. Mae hyn yn dangos ini mai'r enaid ydyw y rhan oreu o honom, mai r' enaid yn wîr ddiau ydyw'r dŷn, o herwydd yr enaid yw ûnig wreiddin bywiolaeth, a gwybodaeth a phob ymadferth; ag o herwydd bod dŷn yn greadur bywiol deallus, am hynny yr enaid bywiol, rhesymmol yw 'r gŵr, nid y tippin daiaren gorph, sy'n ddi-fywyd, yn ddi-ymadferth, ag yn ddisymmudiad o hono ef ei hunan, ond fel y mae 'n rhwymedig ir enaid sydd yn rhoddi iddo ef fenthyg hyn oll: Or achos ymma yn iaith yr sgrythyr lân mae'r enaid yn sefyll yn fynych yn lle 'r holl ŵr. Fel hyn y [Page 48] darllennwn pa sawl enaid a anesid J Jacob: ag ynghylch rhifedir' eneidiau a ddaethant gyda Jacob i'r Aipht: Gen. 46. 26. hynny yw ei feibion ef: ag mae 'r enaid weithiau yn sefyll am ei berchennog: Am cyfoeth, neu fy Anwyl-ddyn sydd mor anwyl genif a'm henaid fy hún, hynny yw, sydd mor anwyl genifi a'm fi fy hunan: Deut. 13, 6. A Jonathan a garei Ddasydd megis ei enaid ei hún: 1 Sam. 18. 3. O herwydd o ddywedyd yr uniawn wîr ag mewn priodolder ymadrodd, nid oes yn y corph ei hunan fâth yn y bŷd ar ymadferth; ond yr enaid sy'n byw yn y corph, ag yn ymglywed ai holl amryw synniadau ef, gan fod yn gyfrannog o bob pêth a ddigwyddo iddo ef; weithieu drwy gyd-oddef a'r corph, ag weithieu drwy gydlawenychu, erbyn hyn yr enaid yn unig a ddichon fod, naill ai yn happus neu yn gystuddiol, hwn yn unig sy gy mmwys i fyw mewn poen, neu mewn pleser, am hynny y neges rheitiaf a'r gorchwyl pennaf mewn barn pob gŵr synhwyrol ydyw, cymeryd gofal dŵys a dyfal am ei enaid, yn ol gair ein Harglwydd Jesu Grist; Matth. 16. 26. Pa leshâd sydd i ddyn os ennill ef yr holl fŷd a cholli ei enaid ei hún? neu pa bêth a rydd yn gyfnewid am ei enaid? Ag nid ydyw annodd deall yr achos. Pan gofiom mai'r enaid yn unig a ddichon fod yn ddedwydd, neu yn annedwydd, mai trwy 'r enaid yr ydym yn caffael pob peth arall, mai ef [Page 49] yw gwîr berchennog pôb bêth ar a feddwn, a bod pôb pêth a fo in drygu neu in gwellhau, yn ei eiddo ef. Ag am hynny beth a dale r bŷd ir sawl a fae heb enaid iw feddiannu ef? Pan fae 'r enaid yn gwylofain dan farnedigaeth uffernol, mewn poenau echryslon dros dragywyddoldeb, mae 'r cyfriw enaid cystuddiol, mor gwbl anghymmwys i seddiannu 'r bŷd, a'r pethau sydd ynddo, a phe bae wedi ei ddiddymmu yn hollawl.
II. Yn ail. Wrth hyn y gwyddom pa wir gyfrif i wneuthur o bleserau bydol, fef pleserau 'r corph, a bod yr enaid yn gyfrannog o honynt hwy, o achos ei undeb ef a'r corph, o herwydd nid y corph sydd yn craffu arnynt, ond yn hytrach yr enaid drwy wneuthur defnydd o'r corph, am hynny er cued ag er anwyled gennym ni hwynt, nid ŷm yn gwneud a hwynt ddim cam o ddywedyd hyn am danynt, mai pleserau 'r corph yw y rhai gwaelaf a berthynant i'r naturiaeth ddynol; oblegid cyflwr gwaelaf yr enaid rhesymmol ydyw ei gyflwr ef tra bô yn y corph, mewn caeth undeb a'r corph. Nid yw y pleserau hyn yn briodol i'r enaid, nag yn perthyn i'r enaid ei hunan megis ei naturiaeth ddechreuol, yn tarddu ag yn tyfu oddiwrth ei allu ai rym ei hûn, onid pleserau oddi draw ydynt, pleserau dieithrol sydd yn digwydd ir enaid o achos ei fod yn gyfrannog a'r corph, ai gynhyrfiadau [Page 50] difyr, a'i ddigrifwch afiaethus ef, drwy fwyn ddeddfau undeb a chyssylltiad. Erbyn hynny ond yw yn erbyn rheswm ini feddwl fôd yr enaid Pengwreiddin pôb pleser, heb fâth yn y bŷd o bleser oi eiddo ef ei hûn. Ond ei fôd yn benthycca, ei holl ddedwyddwch oddiwrth ei gyfaill tlawd y corph, neu ei fod ef yn rhwymedig am ei bleserau goreu megis i ryw wŷr mwynion dieithr, sef difyrrwch a llawenydd anghartrefol, ag nid ei stoc naturiol ei hun, ei rym a gallu ei feddyliau ei hunan. Fe eill hyn ein llŵyr fodloni ynghylch y pêth a ddywedais or blaen, sef mai pleserau 'r enaid yw r' rhai mwyaf a breiniolaf o'r cwbl ôll, o eiddo dynol riw, am hynny nid dim llai na gwîr anghenrheidiol i bwy bynnag a ewyllysio wîr ddedwyddwch, ymorol yn ddyfal ar ei ol ef nid ymmysg mâth yn y bŷd o bleserau 'r corph, ond drwy ddyfal ychwanegn ei wybodaeth beunydd a byw yn dra-gofalus yn ol cyfrwyddyd a rheol ei synwyr ai Dduwiol grefydd.
III. Yn drydydd: yr ŷm yn dysgu hefyd wrth hyn ddarfod crëu 'r corph er mwyn yr enaid, ag nid yr enaid er mwyn y corph, yr hwn o hono ei hunan sydd yn ddifyw, ag yn ddisymmud, a'r hwn a grewyd yn ddiammeu er mwyn yr enaid, sydd awdwr a gwîr berchennog ar fywyd a bywiogrwydd. Nid ydyw 'r corph ddim amgenach or eithaf na thrigfa gyfleus i'r enaid am yr amser [Page 51] y bo yn y bŷd hwn, ag megis rhyw bêth addas iddo, neu gymmwys arf yn ei law ef, oddiwrth ba ún y mae yn cael Cyfle a chyfleustra, i roddi prawf oi rinwedd, ag i ymarferu cynheddfau da. Ond mae i'r enaid parchedig hawl a rhydddid i wneuthur defnydd o weinidogaeth y corph, ag iw lwyr reoli ef, i gymmeryd rhan weddol oi ddifyrrwch, ag i brofi ei bleseran ef, ag iw caehiwo hwynt drwy osod iddynt ystâd yn gyfreithiol, drwy ddarostwng y corph i wasanaethu ag i ufyddhau i bob amryw bwrpas, a weddai i reswm a rhinwedd dda. Nid i ddarostwng rheswm i gaeth-wasanaethu chwantau 'r cnawd; Os crewyd y corph er mwyn yr enaid, a feddylieu neb erioed y gweddai i'r enaid ei ystumio ei hunan yn ol dull a moddion y corph nwyfus ympiniwngar, ag wrth fod yn rhannog ag yn gyd-feddiannol ag ef oi bleserau corphorol, iddo ef or diwedd newid ei naturiaeth ei hunan, a digwydd yn gnawdol, yn anifeilaidd? Creaduriaid annaturiol afrywiog or fath ymma ydynt hwy oll, ag sydd yn magu gormod o anwyldra ag yn cynnwys mwythau ir corph, y sawl nad vdynt yn rhoddi eu meddyliau ar ddim arall, nai harian ychwaith am ddim arall heblaw abwydydd y cnawd, mae 'r cyfriw rai yn llwyr droi ŷ naturiaeth ddynol ai phen yn issaf wrth syrthio mewn cariad ai ffiaidd gaethweision, a dim llai nag ynfyd-ddewis eu [Page 52] cyflwr hwynt, drwy fod yn fodlon i wisco eu heuyrn. Am hynny da y dywedodd ein Hiaehawdr, y fawl a wnelo bechod mae yn gaethwas i bechod, oblegid gwasanaeth annaturiol, dirmygus yw gwasanethu 'r corph, yr hwn a grewyd i wasanaethu 'r enaid; fe dderbyn y cyfriw ddynion gyflog y caethwas, sef cael eu troi allan o deulu Duw, yn lle cael eu rhan o aereth y plant a'r gwir-ryddion, fel y Dywed ein Hiachawdr yn halaethach am danynt fel hyn, Nid ydyw 'r caeth-was yn trigo yn y tu beunydd, ond mae 'r mab yn aros yn wastadol; os y mab, gan hynny, âch gwneiff chwi yn rhyddion, yn ddiammeu mae gwir-ryddion fyddwch: Joh. 8. 31, 32.
III. Yn drydydd. Os nid ydyw marwolaeth ddim amgenach, nag ymadawiad a'r bŷd hwn, ag megis ymddiosgiad ein cyrph hyn yr ŷm yn eu carrio o'n cwmpass, nyni allwn wybod wrth hynny, mai o herwydd yr undeb sydd rhwng yr enaid a'r corph, nad eill yr enaid ganfod yn ddirwystr mor bŷd a ddaw. Mae 'r bŷd a ddaw yn nês attom ni oll, nag yr ŷm yn meddwl ei fod; Gwîr yw fod gorseddfainc Duw ymmhell draw, yn llawer uweh na'r ddaiar, ie goruwch y drydydd nef, lle v mae ef drwy ei hyfrydol bresennoldeb yn eglurhau ei ddisglair ogoniant i'r Angylion bendigedig, sy'n cwmpasu ei orseddfainc; Ond cyn gynted ag yr ymadawom ninnau a'n cyrph, yr ŷm [Page 53] yn ddis mmwth mewn bŷd arall, yr hwn mewn gwirionedd a phriodolder nis dy lem moi alw yn fŷd arall ond yn hytrach yn fywyd newydd, (o herwydd er ein newid ni, mae'r un Nef a daiar yn parhau) Byw vn y corph yw byw yn y bŷd hwn, byw allan or corph, yw byw yn y bŷd a ddaw, oblegid, tra bo 'n heneidiau ni yngharchar y corph, a thra bo raid iddynt edrych drwy ffenestri 'r onawd, ni ddichon pleser yn y bŷd graffu arnom ond pleser amserol, ond yr hwn a ddioddefo ei deimlo, ag a wasanaetha 1. lonychu ein cyrph, ag i horthi ein lly llygaid: wrth hyn ynteu; er bôd oddifewn y bŷd gweledig hwn lawer o bethau mwy golygus, a mwy gogoneddol, na'r pethau sy' r awron yn ymddangos ini; nis gwyddom ni yn y cyfamser ddim oddiwrthynt, oblegid bôd y corph yn ein rhwystro fel cyfwng neu ryw fûr o wahaniaeth rhwng y weledig ran o'r bŷd, a'r anweledig: Ond pan ddigwyddo ini ymddiosc y cyrph oddiam danom, cawn weled pethau newydd gwîr ryfeddol, pan roddom heibio ein spectol o gnawd; fe a wêl ein heneidiau ai llygaid crâff eu hunain, yn hollawl ag yn ddi-rwystr, y pethau nis canfyddent or, blaen, o achos rhwystr a thywyllni 'r corph: Ag yr amser hwnnw yr ydym yn y bŷd arall, yn llwyr feddiannol o hono ef, pan allom y ddau bêth hyn, ei weled ef, a byw ynddo: Am hynny yn y modd ymma y dywed St. Paul wrthym. [Page 54] Tra 'r ydyin yn gartrefol yn y corph, ein bôd oddi eartref oddiwrth yr Arglwdd, ond pan fyddwn oddi-cartref o'r corph, y cartrefwn gida'r Arglwydd: 2 Cor. 5. 6, 7. Ag mi a debygwn fôd hyn yn ddigon i lestair ini fôd yn rhy anwyl o'n cyrph, oddieithr bôd yn fwy dymunol, byw mewn carchar eaeth lle y bo yn brin ar ein llygaid, hefyd lle y bô ond prin gennad i edrych drwy farrau lieyrn, ag lle y caffom edrych ond ar ychydig bethau, a'r rheini hefyd yn bethau dirmygus, ffiaidd, anhirion; meddaf, ai mwy dewisol hyn na byw mewn rhydddid clau wrth ein meddwl, i fynd ymma a thraw, ag i ymweled a holl fawredd a gogonedd y byd? Pa bêth a roddem ni yr awrhon ond am ûn cip golwg or bŷd anweledig, yr hwn a ymddengus in'i yn ddigon eglur y cam ar mynudyn cyntaf ar ôl ymadel an corph. Diammeu fod yno y cyfriw bethau ni welodd llygad, ag ni chlywodd clûst, ag ni ddaeth i galon dŷn. Mae marwolaeth yn agor ein llygaid, ag yn helaethu 'r golwg, ag yn gosod o'n blaen ni fŷd newydd mwy gogoneddus, yr hwn nid oes mor modd iw ganfod tra fôm dan gaead mewn carchar y cnawd. Ag fe ddylau hyn ein gwneud mor gwbl-fodlon i ymadel a'r llen hon, sef y cnawd, ag a fyddem i ymadel a phliscin, neu bysen oddiar ein llygaid, a fae 'n rhwystro ag yn tywyllu ein golwg.
IV. Yn bedwerydd; Os rhaid ini swrw [Page 55] heibio 'n cyrph, tybygwn mai bychan yw'r achos i fôd yn falch o honynt, neu i warrio llawer o' amser yn eu cylch, o herwydd a oes rheswm ini i ymfalchio, ag i drwblio 'n pennau ynghylch y pethau sydd raid ini ymadel a hwynt ar fyrder? ag ysowaeth, fel y mae gwanna 'n synwyr, oddiwrth ein cyrph ai perthynas hwynt, y mae 'n holl falchder yn cyfodi; a nhwythau eu hunain yn y cyfamser heb fod ddim amgenach na llwgr a llŵch.
Mae rhai gwŷr cyn ffoled ag ymffrostio yn eu boneddigrwydd, a'i geni allan o ryw deulu cyfrifol, a hên henafiaid, ond heblaw gwagedd y ffrost hon, oblegid o ddirynnu carennydd i'r eithaf, diamme nad dim gwell y naill ddŷn na'r llall, o herwydd cydblant Adda ŷm ni oll, ag yr ŷm cymmhelled yr awron oddiwrth wreiddin ein carennydd, fel y bo tebyg nad oes dim achau di-gymmysc, ond bod y gwael yn deurud ir gwŷch. Ond meddaf, pe bae hyn heb fod, nid ydyw 'r pêth ddim amgenach, na bod yn falch o'r corph ag o'n corphorol anedigaeth, oddieither ini feddwl mai oddiwrth ein rhieni yr ydym yn derbyn ein heneidiau hefyd. Bêth bynnag oedd ein henafiaid, diammeu gennif fod ein dechreuad cyn waeled, fel nad yw achlysyr balchder i neb, er cymmaint fo 'n poen iw gosod hi allan a'i heuro. O herwydd fe a enir y twysog gwychaf fel llwdn assyn wyllt. Job 11. 12. Eraill a ymfal [Page 56] falchiant o achos glendid eu prŷd a'i gwêdd, yr hwn er glaned fo, ag er amled ei saethau, nid yw er hyn ond glendid corph, yr hwn, os diangc rhag ffitt o ddolur, neu os arbed henaint ef, sydd anghenrhaid iddo lygru yn y bêdd, fe anrheithia Marwolaeth ei holl lûn ef, ai foddion, a'i wyneb glân, disglair, y rhai yr ŷm yn awr mewn cymmaint cariad a hwynt, ag megis yn ymgrymmu iddynt: ag mewn ychydig amser fe dderfydd hyn o'll, ag ni bydd y rhagoriaeth lleiaf, rhwng y corph glân hwn, a'r llŵch cyffredin. Ond mae rhai yn fwy eu ffoledd a'i hynfydrwydd na hyn, yn ceisio gwneud i fynu y peth a fo yn fyrr, drwy wŷch drwsiad. Maent yn gosod allan eu cyrph drwy eu hymwisco hwynt mewn dillad gwychion, a'r fâth gyrph hefyd, dyna'r gwaetha, na ddichou dim moi harddu, ag yna eu holl fost fydd eu plû benthyg, ond bêth am freued a gwaeled y glendid, na ddeil iw garrio, ai gyrchu i'r bŷd a ddaw? os ydyw hefyd yn rhaid in'i adel ein cyrph o 'n hol mewn gweryd, yr wyf yn credu nad rhaid wrth chwaith gormod dillad gwychion yn y bŷd a ddaw. O herwydd anaml jawn y wisc a ffittia un enaid.
Wrth hyn, bêth yw defnydd cyfoeth, ond yn unig i wasanaethu 'r corph, ag i atteb iw eisiau ef? Am hynny yr un pêth iw bod yn falch on cyfoeth a bod yn falch o'n cyrph, ag edrych arnom ein hunain yn fwy [Page 57] cyfrifol nag eraill, o herwydd fod gennym well modd i brofeidio dros ein cyrph ag iw bodloni hwynt nag sydd gan eraill: ni allwn fwrw amcan bêth mor wael, ag mor ddirmygus yw balchder wrth edrych ar ei wreiddin ai ddechreuad, sef y corph sydd o genhedliad fydreddllyd fyrroes, a chyn waeled ei ddiwedd a bôd yn rhaid iddo orwedd mewn bêdd i fôd yn abwyd i bryfed, a phwy yn awr a feiddieu, pwy na swilieu o fôd yn falch o'r fath gorph a hwn?
Os am ofalu dros y corph, nid oes fodd nad rhaid in'i warrio llawer o'n hamser, i ddigoni ag i ddiwallu ei eisiau ef, ag i brofeidio y pethau fo rhaid; ond fe eill hyn fôd er daioni a lleshâd i'r enaid hefyd, megis y mae cymmeryd poen a llafur, a bôd yn ddyfal mewn rhyw orchwyl crefyddol, ond i ddŷn i warrio ei hôll amfer mewn segurud a gloddest, a phôb gormodedd o drythyllwch y cnawd, megis bwyd a diod a hirgwsc, ag wrth wŷch ymwisco ag ymbincio eu cyrph, a maethu eu gwyniau, nid yw hyn fymrin llai, na'n bôd yn gaethweision i'r corph, i'r hwn nid rhaid wrth hyn, ag chwaith nid yw yn haeddu mo gymmaint o boen ag o anwes oddiar ein llaw ni; gwnawn ni ein hamean y corph a ddymchwel i'r llŵch, ag ni hwyrach a fydd yn gynt ei arwyl, o achos ein bôd ni wedi gwneuthur yn gymmaint o hono.
V. Yn bummed, os bwrw ymmaith y [Page 58] corph yw marw, mae 'n siŵr ynteu fôd yn rhaid ini fôd hebddynt, hyd yn amser yr adgyfodiad: ie a mwy na hynny ma'en rhaid in'i fyw dros byth, heb yr unrhyw gyrph ar rhain, o herwydd er adgyfodi 'n cyrph, fe ai newidir hwynt i naturiaeth ysprydol, fel y Dywed St. Paul yn arbennig: 1 Cor. 65. 42, 43, 44. Efe a heuir mown llygredigaeth, ag a gyfodir mewn anllyngredigaeth, efe a heuir mewn ammarch, ag a gyfodir mewn gogoniant, efe a heuir mewn gwendid, ag a gyfodir mewn nerth, efe a heuir yn gorph anianol, ag a gyfodir yn gorph ysprydol, o herwydd, fel y mae yn canly yn y 40. w. na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dauw, ag nad yw llygredigaeth yn ettifeddu anllygredigaeth. Mae hyn yn wîr yn dal yr ûn fâth ynghylch enaid cnawdol; ond ymma mae iw ddeall am gorph o gîg a gwaed, yr hwn a grewyd o anian lygredig: Fel yr addyscir pôb dŷn gan ei reswm ei hûn i feddwl fôd mor ammhossibl ir ddaiar ammur hon, yr ŷm yr awron yn ei charrio o'n cwmpas, gael ei bywyd ai chynhaliaeth yn y puraf gaerau o oleuni a gogoniant, ymmha ûn y mae Duw ei hûn yn preswylio; ag ydyw i ddyn blannu carreg yn yr awyr, neu fyw ar yr elfen dân neu ar y teneuaf wŷnt, am hynny ni ddaw i ganlyn ein cyrph gogoneddus ûn o'r gwyniau cnawdol a fo arfer o ganlyn cyrph daiarol, ni chlywant flâs ychwaith ar ûn [Page 59] pleser a berthyn i gîg a gwaed, fel o'r achos ymma y gallwn ddywedyd mewn gwirionedd, ar ol ini ymadel a'n cyrph, y gallwn fyth rhagllaw fyw hebddynt.
Yn awr mi a debygwn fod yn ddigon amlwg i bob dyn, y Defnydd a ddylem ni wneuthur or ystyriaeth hon, o herwydd pan ystyriom fod yn rhaid ini adel ein cyrph hyn o'n hol, a byw yn dragywydd hebddynt, ar ol hynny, cyntaf pêth a feddy liwn am dano yw hyn, sef y dylem wneud ein goreu, megis i fyw heb ein cyrph yr awron, ie tra bom yn byw ynddynt, hynny yw, byw mor ddisiapri ag y bo possibl, heb roddi anwes i chwantau r' cnawd, eithr yn hytrach ein diddyfnu ein hunain oddiwrth bleserau 'r corph, er mwyn dofi ei wyniau ef, a darostwng ei afreolus drachwantau, dan ufydddod hollawl, a rheolaeth dda, fel pan welom yn dda y gallom gymmeryd rhyw faint o bleser lwfiedig diniwed heb ei hoffi yn ormod, neu fedru yn rhwydd ag yn hawdd fod hebddo, hynny yw, pan fom ni yn medru meistroli ein chwantau, nid pan fo 'n chwantau yn feistraid arnom ni.
Fel hyn, gan hynny yr ymresymma gwr synhwyrol wrtho ef ei hunan; os byddaf mor anwyl o'r corph hwn ag o'i bleferau ef, os ni chlywaf flâs ar ddim pleserau eraill, os nad wysi yn gwneud dim cyfrif o ddim arall, eithr fy nghorph yw fy unig anwylyd, beth a ddaw o honofi pan fo rhaid [Page 60] gadel y corph hwn o'r ol? o herwydd ni pheru pleserau corphorol fynud yn hwy nag y peru r' corph, beth a ddaw o honof yn y bŷd nessaf, pan fyddwyf wedi ei ymddiosc ef, ag allan o'r corph, pan fyddwyf oll yn gwbl unig enaid, am hyspryd megis yn noeth lymmyn; neu pa wisc bynnag a fyddo 'yn fy nghylch. nid cîg a gwaed a fydd mae'n siŵr gennif, am hynny fy holl bleserau cnawdol yr wyf yr awron yn eu hoffi yn swyaf, a ddiflannant oll yr amser hw nnw fel breuddwyd, o herwydd nid ydyw bossibl imi feddiannu pleserau 'r corph pan fyddwyf fy hun yn gwbl ddigorph. Ag er na byddeu imi ddim iw ddioddef yn y bŷd a ddaw, heblaw hyn, etto byddwn ddrwg fy ngh yflwr, pe deisysiwn ryw beth a oede ddyfod, neu ysgatfydd na ddoe byth i ben, os parhaf i gymmeryd yr ŷn faint o bleser yn y pethau hyn yn y byd a ddaw, lle nad ydynt iw cael, a pha le nad oes i minneu y gobaith lleiaf fyth iw mediannu, oni fyddeu hon yn boen drom? oni fyddeu resyn fy nghyflwr?
Am wîr da, nis gwyddom yn siŵr, pa faint fydd y cytnewidiad a ddigwydd in heneidiau yn eu dull hwynt, a'i moddion, ai chwantau ar ol iddynt ymadel a'i cyrph, nyni a welwn fod trwm a maith glefyd, yn gwneud gwŷr, tra parhao ef arnynt, yn philosophyddion pur grynno, drwy ei gwneud hwynt yn ddigon difatter a'm bleserau 'r [Page 61] corph, ag i gashau, ag i ffieiddio meddwl am danynt, er ei bod gynt yn abl anwyl, a chy o honynt, pan oeddynt mewn iechyd. Hîr ympryd, gwelu caled, ag aml wilio, ar cyfriw dost-driniaeth y corph iw gospi ef, yw'r ffordd oreu i bylu mîn yr ewyllys llym, ag i ddofi 'r cnawd ag i newid a thorri arferion a chwantau 'r enaid, ag yn wîr debygwn fod gwahaniaeth yr enaid a'r corph yn fwy achos o gyfnewidiad yn ein meddyliau, nag a eill clefyd yn y bŷd fôd, neu foddion o gospi 'r corph: Am hynny ni roddafi mo'm llaw wrth hyn, oblegid nid wyf gwbl hyspys o'r pêth, sef ar ôl marw o ŵr cnawdol, a gadel ei gorph o'i ôl, y ceiff glywed yr ŷn chwantau yn cynhyrfu ynddo, a phan oedd yn y corph, ag y bydd mewn poenau echryslon o achos ei chwannogrwydd, ai ewyllys iw mediannu; a hyn byth nis geill, yn ei gyflwr gwahanedig: ond hyn a feiddiaf ddywedyd yn hû, pa ŵr bynnag a fo wedi myned mor gwbl-gnawdol, fel na chlywo na blâs nag archwaith ar bleserau yn y bŷd heblaw pleserau 'r corph, nad ydyw bossibl i'r cyfriw ddŷn fyw 'n ddedwydd allan o'r corph, oddieithr i chwi fedru chwilio iddo ef allan riw gell neu loches newydd o bleserau cnawdol, iw groesawu beunydd, oblegid er bôd pôb vn o chwantau 'r corph wedi eu diddymmu ai llwyr ddiffoddi, etto mae hyd onid sylwedd yr enaid yn parhau yn gnawdol, am hynny [Page 62] mae 'n gwbl anghymmwys i dderbyn dim o bleserau ag o ddedwyddwch y bywyd ysprydol.
O herwydd yn wîr heblaw y mawr ddrŵg a ddigwydd oddiwrth chwantau afreolus pobl, a gormodedd o bleserau corphorol, weithiau iddynt eu hunain, weithiau iw gwlâd ar Deyrnas lle y b'ont yn trigo, ag heblaw y gweddai ini farweiddio chwantau cnawdol, er mwyn amlhau a chwanegu yn ein heneidiau bôb dawn Dduwiol, o herwydd gwîr yw am y cnawd a'r yfpryd nas cyd-gynnyddant ddim, mae'r cnawdol ddifyrrwch ar diddanwch nefol mor wrthwynebus iw gilydd, fel y bo i ba vn bynnag o honynt a ennillo y llaw uchaf, gostwyo a gorchfygu 'r llall yn ôl ei rym a'i nerth, ag yn ôl graddau ei reolaeth. Yr enaid a fo ai holl serch ar Dduw, ag wedi ei drwmglwyfo oi gariad ef, ar bendigedig Jesu, heb feddwl am ddim, heb obeithio am ddim heblaw y diddanwch ysprydol yn y bŷd a ddaw, yr hwn sydd yn gynnes ganddo ymddiddan ai Dduw mewn gweddi, a fo mewn dwfn-gariad a harddbrŷd Duwioldeb, a phôb rhinwedd Dduwiol, ogoneddus, a fo mewn cariad o'r fâth hon (meddaf) ni wna fawr gyfrif or corph nag o ddim a fedd. Or tu arall nis gŵyr yr enaid a fo dan awdurdod y corph, ddim oddiwrth y diddanwch ysprydol, ni chlywodd erioed arno ef ddim blâs, a siwr yw mai diflas pob [Page 63] pêth nad yw wrth ein bodd; ag nid yw i ddŷn yn y matter ymma wneud cyfrif or naill heb ddibrisio r llall, cyn wired yw mewn pob ffordd y peth a ddywed ein harglwydd wrthym, Ni ddichon neb wasanaethu dau arglwydd, canys naill a'i efe a gasâ y naill, ag a gâr y llall, ai efe a ymlyn wrth y naill ag a esgeulusa 'r llall, ni ellwch wasanaethu Duw a Mammon. Matth. 6. 24.
Cychwyniad a dechreuad bywyd Duwiol, ydyw bod yn caru Duw, Uwchlaw 'r holl fŷd, ag fel yr ym ni o ddydd i ddydd yn cynnyddu yn ei gariad ef, ag yn cynhesu fwyfwy wrtho, drwy chwanegu 'n hawch, a chymeryd mwy o bleser yn y dyledfwyddau ysprydolaf, sef moliannu Duw, a mynych fyfyrio arno ef, ag ar ei berffeithrwydd, ag ar y gogoniant ysprydol sy'n perthyn i'r bŷd a ddaw, felly yr y'm yn myned yn llai ein gofal am bethau 'r bŷd ymma o ddydd i ddydd tan na orchfygom ein cariad tuag attynt or diwedd, ond y sawl a fo 'n rhoddi ei gwbl-feddwl, a'i holl serch ar bleserau 'r corph, er mwyn bodloni ei wyniau ef, ag yn dal ei afael arnynt yn giaidd, megis ai ewinedd a'i ddannedd; diammeu nad oes bywyd ysprydol ynddo, ag er marw o'n gwyniau corphorol or unwaith an cyrph, nid yw Marwolaeth y corph yn abl i roddi na bywyd newydd, na chynnyrch, nag i wneuthur hollawl gyfnewidiad mewn naturiaeth gorphorol, am hynny pan fo 'n [Page 64] rhaid i ŵr o'r fâth hwn ymadel a'r corph, a'i holl ddifyrrwch ef, nid gwiw disgwil, nos da'wch fod yn ddedwydd mwy: ar peth sy' fwy, er ei yspryd Duw ein hadncwyddu ni, ag er bod ynom drwyddo ef wreiddin bywyd newydd, etto er hyn yn ol graddau 'n serch tuag at y pethau presennol nyni a fyddwn yn anghymwysach fyth i dderbyn Diddanwch ysprydion anghnawdol.
Am hynny, os ydyw yn rhaid ini ymddiosc ein cyrph, ai gadel hwynt ymma o'n hol, os chwenychwn fyw yn ddedwydd hebddynt tros byth, mae 'n rhaid ini ddechreu mewn amser i wadu 'r corph, ag i feistroli gwyniau a chwantau 'r cnawd, i fod yn ddifatter am bleserau 'r corph drwy wneuthur yr unig ddefnydd hwn o honynt sef i adnewyddu ag i ddifyrru 'n naturiaeth ni, ag i ddiwallu ei heisiau, nid bod yn rhy ofalus ag yn rhy fanwl yn eu cylch, nag yn rhy hoff oi meddiannu, nag chwaith bod yn chwith, ag yn hiraethus ar eu hol; neccau yn wastad roddi mwythau ag anwes i'r corph a pheidio 'n cynnwys ein hunain un amser i gymmeryd pleserau dilwfiedig, ag i fod yn gymhedrol, yn brin yn cynnwys, ag yn anfynych yn y pleserau sy iw lwfio, sef y rhai mwyaf cyfreithlon, fel y bo'm yn siŵr o hyn, fod in rhan ysprydol ni, in Duw a'n crefydd yn wastad reoli ynom; a hyn fydd megis ffynnon y bywyd o'n mewn, allan o ba un yffrydia yn dragywydd, [Page 65] lonychdod nefol, a diddanwch Duwiol; wedi i'r corph hwn gael ei dreiglo i'r bêdd, ai ddymchwel i'r llŵch.
VI. Yn chweched: Os ydym wrth farw yn ymddiosc ein cyrph, fe a fydd yr adgyfodiad oddiwrth y meirw yn adundeb hefyd rhwng yr enaid a'r corph; nid ydyw 'r enaid yn marw ddim, am nid gwîr yw am dano ef yr adgyfyd oddiwrth y meirw, onid y corph yw 'r hwn, yn ail i hâd a heuir yn y ddaiar, a adgyfyd yn fwy gogoneddus yn amser adgyfodiad y cyfiawn. Mae rhagor mawr rhwng y ddau beth hyn sef adgyfodiad y cnawd, a bywyd arall ar ol hwn; r'oedd hyd onid ynôd y cenhedloedd yn credu 'r bŷd a ddaw, a bôd eu heneidiau yn anfarw ol, ond ni freuddwydiasant erioed am adgyfodiad y corph, yr hwn bwne a berthyn yn unig ir ffydd Gristianogol, am hynny ein buddugoliaeth ni dros angau ydyw adgyfodiad ein cyrph. Daeth Angau ir byd o herwydd dial a chospedigaeth am bechod Adda; Am hynny pwy bynnag sydd mewn cyflwr gwahanedig, sef, ai gorph a'i enaid o'r nailltu, mae rhain fyth dan felldith y gyfraith, llŵch ŵyt ag i'r llŵch eilwaith y dychweli. Er mwyn ein gwaredu oddiwrth y felldith hon, wrth gymmeryd y felldith arno ei hun, y daeth Crist ir byd; hynny yw, er mwyn ein gwaredu ni oddiwrth angau, drwy farw trosom; ond nid ydyw warediad oddiwrth angau mo'no, i [Page 66] bwy bynnag a fo ai gorph dan law ag awdurdod Angau, yn llygru mewn bêdd, ie a'r peth sy' fwy, mae 'r sawl a fo yn y cyflwr hwn oddifewn gafael a chaerau angau, trâ bo ei enaid a'i gorph mewn stâd o wahaniaeth oddiwrth ei gilydd: O herwydd dymma briodol arwyddocad angau, ag nid ydyw marwolaeth o honi ei hunan yn cyrhaeddyd dim pellach na hyn, am hynny mae St. Paul yn galw adgyfodiad y corph yn fuddugoliaeth dros angau 1 Cor. 15. 25, 26. Rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion tan ei draed, y gelyn diweddaf a ddinistrir yw 'r angau, hynny yw, wrth adgyfodiad y meirw, fel y deallwn wrth ddull a phwrpas y rhan ymma o'r bennod, yn enwedig wrth y, 54, 55, &c. A phan ddarffo ir llygredig hwn wisco anllygredigaeth, a'r marwol hwn wisco anfarwoldeb; yna y bydd yr ymadrodd a' scryfennwyd, Angau a' lyngcwyd mewn buddugoliaeth. O Angau, pa le y mae dy golyn? O uffern, pa le y mae dy fuddugoliaeth? Colyn Angeu yw pechod, a grym pechod yw'r gyfraith, ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn sy 'n rhoddi in'i fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Jesu Grist: Dymma 'n gwobr cyflawn, a'n pen cyflog, pan adgyfodir ein cyrph yn anllygredig, ag yn ogoneddus, pan newidio Crist ein cyrph amharchus, trwy eu cyd-ffurfio hwynt a'i gorph gogoneddus ef. Nid oes dim ammeu gennif, fod gwŷr Duwiol mewn cyflwr a [Page 67] lle dedwydd cyn amser yr adgyfodiad, ond mae eu dedwyddwch yn anghyflawn, oblegid anghyflawn yw pôb cyflwr gwahanedig neilltuol, lle y bo rhyw beth yn ol, ag o herwydd hefyd nad yr enaid yn unig ywr cyflawn ddyn: mae i ddyn, drwy rym ei greadigaeth, enaid a' chorph, am hynny mae'n anghenrhaid iddo ef ei gyd, er mwyn ei fôd yn hollawl ag yn gwbl-ddedwydd, gaffael uno ei ddwy-ran, Ag nid ydynt hwy yn iawn ystyried hyn, pwy bynnag a feddyliant fod adgyfodiad y corph yn afraid, ag yn ddiangenrheidiol; o herwydd yn ol eu meddwl hwynt, fe alleu'r enaid fôd mewn dedwyddwch hollawl, perffaith, heb y corph. Ond gadewch i hynny fôd er hyn nid yr enaid yw'r cwbl ddŷn, o herwydd fe grewyd dyn o enaid a chorph. Pan fo 'r enaid yn ei gyflwr neilltuol, er dedwydded fydd ar achosion eraill, mae efe fyth, tra bo efe felly, dan hyn o farc ag argraph dialenrwydd Duw, sef o fod wedi Colli ei gorph: am hynny mae in'i hyn o ennill ag o fantais o'r lleiaf, o aduno 'n cyrph a'n heneidian sef ein bôd yn cael ein derbyn i ffafor Duw, a bôd arwydd ein hanufydddod a'n gwrthryfelgarwch wedi ei lwyr groefi allan o'r llyfr, wrth adgyfodiad ein cyrph; Am hynny y gelwir ef yn fabwysiad, hynny yw, prynedigaeth ein corph: Ruf. 8. 23. O herwydd dyna'r amser y mae Duw yn ein haddeu ni, ag yn edrych arnom yngŵydd [Page 68] y bŷd, mai ei feibion a'i blant ef ydym, ar ol iddo gyfodi'n cyrph marwol i fywyd anfarwol, a gogoneddus. Ag heblaw hyn ni welafi ddim achos i ammeu, na chawn fwy o ddedwyddwch, a gogoniant helaethach, ar ôl ail-uno 'r corph a'r enaid, o herwydd er nas gwyddom amcan pa faint yw 'r pleserau a drefnodd Duw i'r corph yn ei stad ogoneddus, etto siŵr, nid allwn feddwl llai, gan fod y corph daiarol yn wasanaethgar i lawer o bleserau; ag yn ffitt a chymmwys iddynt na bydd yr ysprydol gorph gogoneddus yntef felly hefyd, oddieithr in'i feddwl nad yw dda i ddyn, ag nad oes dim defnydd iw wneüd o hono. Byth nis byddeu fywiol undeb rhwng enaid a chorph, oni bae eu bôd mor fŵyn a chyfrannu a'i gilydd mewn pôb pêth a ddigwyddo iddynt, ag os felly y mae, nid oes dim ammeu na chwanega r corph a fo mewn gogoniant lawenydd a hyfrydwch yr enaid a fo felly hefyd, er nas gwyddom ni na'r môdd na'r sutt, ag yr helaetha 'r cyfriw gorph bleserau 'r yspryd trwy ei gymmwys weinidogaeth ef, mewn moddion a graddau amgenach, nag y mae 'r corph daiarol yn darparu iddo, ag yn gwasanaethu pleserau 'r cnawd. Am hynny, fel y dywed St. Paul Rhuf. 8. 23. mae pawb a fo 'n gobeithio, ag yn disgwil am hyn yn ochneidio ynddynt eu hunain, gan ddisgwil y mabwvsiad sef prynedigaeth ein corph, Hwn yw dydd priodas yr oen, hwn [Page 69] sy'n cyflawni 'n dedwyddwch, pan ddelo 'r corph a'r enaid ynghyd mewn glân gyfarfod, nid i ymdrechu a'i gilydd nag i aflonyddu eu gilydd fel gynt yn y bŷd ymma, lle y mae'nt mewn diofryd iw gilydd, a gelyniaeth beunyddiol, ond i fyw yn gyttŷn mewn cyssurdeb tragwyddol, i chwanegu ag i helaethu diddanwch eu gilydd. Yr awrhon mae'r ystyriaeth hon, sef o fôd Marwolaeth yn gwneuthur ini roddi heibio 'n cyrph, a'r adgyfodiad oddiwrth y meirw yn eu hadgyfodi hwynt i fywyd newydd anfarwol, a'i hail undeb a'r eneidiau, mae (meddaf) yr ystyriaeth hon yn jachus, ag yn wasanaethgar, ag mae 'n rhwydd in'i wneuthur llawer defnydd da o honi.
O herwydd mae 'n dangos pa ddefnydd a ddylem ei wneuthur o'n cyrph, ag fel y dylem eu darparu hwynt i anfarwoldeb a gogoniant. Angeu yr hwn yw gwahaniad y corph a'r enaid, fel y daeth ir bŷd o achos cospi pechod, felly y mae hefyd yn feddiginiaeth i bechod, o herwydd y cyfriw wahan-glwyf yw pechod, nad oes fôdd iw lânhau, ond trwy dynny i'r llawr y tú afiachus lle y bo; ond os chwennychwn ni in cyrph adgyfodi i anfarwoldeb a gogoniant, rhaid in'i ddechreu, a myned ynghylch eu puro hwynt ai glanhau yn y bŷd ymma, rhaid ini fôd yn sanctaidd yn gwbl ôll, ein corph a'n henaid a'n hyspryd. 1 Thess. 5. 23. Rhaid in corph fod yn deml ir yspryd glân, yn lle [Page 70] sanctaidd cyssegredig: 1 Cor. 9. 12. Heb ei halogi ei hûn a chwantau aflan, os mynnem i yspryd Duw megis eu hadeiladu hwynt o newydd, ar ol i bechod eu haurheithio, fel y dywed St. Paul yn helaeth: Ruf. 8. 10, 11, 12, 13. Ag os yw Crist ynoch y mae'r corph yn farw o herwydd pechod: eithr yr yspryd yn fywyd, o herwydd cyfiawnder, hynny yw, y naturiaeth nefol sydd ynom oddiwrth Grist a ymddiffyn ag a geidw ein heneidiau rhag Angeu, ag an derchefiff i stâd ddedwyddol ar ôl Marwolaeth, ond nid yw'n cadw mo'nom rhag marw, Mae'n rhaid in cyrph farw o herwydd pechod, a llygru yn y bedd, etto ni ddiddymir mo'no, ag nis bydd chwaith ar goll tros byth, ag os yspryd yr hwn a gyfododd yr Jesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Crist o feirw a fywoccâ hefyd eich cyrph marwol chwi; trwy ei yspryd yr hwn sydd yn trigo ynoch, hynny yw, os ydyw eich cyrph wedi eu puro, ai sancteiddio, os ydynt yn deml i'r yspryd glân, efe ai hadgyfyd hwynt i fywyd newydd. Am hynny frodyr dyledwyr ydym nid i'r cnawd, i fyw yn ol y cnawd, canys os byw 'r ydych a'r ôl y cnawd, meirw a fyddwch, eithr os ydych yn marweiddio gweithredoedd y cnawd trwy'r yspryd, byw fyddwch, os gorchfygwch hâd y cnawd, a darostwng a dofi gwyniau 'r corph, ni fydd, or achos ymma fyw eich eneidiau yn unig, ond heblaw [Page 71] hyn fe adgyfodir eich cyrph hefyd i fywyd tragwyddol: Am hynny yr ŷm yn llwyr rwymedig, os oes genym ddim cariad in cyrph, ag os ŷm yn ewyllyfio iddynt fywyd tragwyddol, i beidio a chynwys mwythau i'r cnawd, na rhyngu bôdd iw drach wantau ef. Yr ŷm yn rhwystro nid i roddi eich aelodau yn weision i aflendid ag anwiredd i anwiredd, eithr i roddi eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd, fel wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, ach gwneuthur yn weision i Dduw, y bo ichwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd a'r diwedd yn fywyd tragwyddol, fel y dywed yr v̂n Apostol: Ruf. 6. 22. O herwydd ein bôd ni yn perthyn J Grist ag i'r yspryd glân, an cyrph yn demlau iddo ef, ag i'r glân yspryd, dymma holl hawl ein cyrph iw hadgyfodiad mewn gogoniant, ond a fydd gwiw gan Grist addef y cyfriw gyrph yn aelodau iddo ef, og a fo yn aelodau putteiniaid? a fydd gwiw gan yr yspryd glan breswylio mewn teml wedi ei halogi a chwantau aflan? Am hynny yr halogedig a gyfodir yn yr un cyflwr amharchus, ag a oeddynt ynddo pan ymadawsant a'r byd, gwîr yw, hwy a adgyfodir nid i fywyd ond i farwolaeth dragwyddol.
Oblegid, a allwn ni feddwl, fod y cyrph rheini wedi en jawn ddarparu erbyn gogoneddus adgyfodiad, ai puro yn gymmwys erbyn iddynt fod yn gyrph ysprydol, a hwythau yn llawer mwy cnawdol yr awrhon [Page 72] nag ar y cyntaf, ar ol rhoddi aml achlysur i bob aflendid, pa reswm sy' i ddisgwyl y cyfriw gyrph yn ysprydolaidd ag yn ogoneddus yn yr adgyfodiad, a ddieneidir ni hwyrach, naill ai wrth ymwascu a phutteiniaid, neu a achos ymladd yn eu plaid, y cyfriw rai a fo wedi eu boddi, a'i suddo mewn diod, neu wedi eu gorchfygu a gormodedd o fwydydd, ag megis o bwrpas yn byrhau eu hoes drwy anllywodraeth, yn flin o fyw i eithaf sterdin bywyd yn ol cwrs naturiaeth, ag yn edliw i bechod Adda mor ddiweddar y mae yn ein danfon allan o'r bŷd, drwy reibio Angen cyflym?
Sancteiddrwydd ydyw gwîr wreiddin ansarwoldeb, yn gystal i'r enaid a'r corph. Y sawl a wnelo ir corph wasanaethu ei enaid fwyaf, hwnnw sy'n rhoddi iddo ef fwyaf o anrhydedd, pwy bynnag a gymmero fwyaf o boen gida ei gorph iw buro ag iw ysprydoli ef, ag a fo mwyaf manwl i chwynnu ei holl wyniau cnawdol, hwnnw sydd oreu wrtho, y sawl ai cyssegro i dragywyddoldeb, y sawl a ofalo drosto; a thros ei adgyfodiad llawen, i gyfrannu o ddedwyddwch tragwyddol. Nid oes dim a ddichon ddangos mwy o barch, a gwneüd mwy o leshâd i'r corph, nai gadw ef, yn isel dan awdurdod yr enaid trwy ei gospi ef ag aml ympryd; gwiliadwriaeth, a lettu caled, ar cyfriw bethau pan fo'nt yn tarddu o galon bûr, rinweddol; ag nid yn ŷn o gastiau coelgrefydd, [Page 73] y rhai y mae rhyw ddynion drygionus yn eu harferu er mwyn mwy o achlysur a rhydddid i bechu. Pe trinem ein cyrph fel hyn, fe fyddeu hyn yn arwyddocau yn amlwg ein bôd yn bûr anwyl o honynt; ag yn wir an-ewyllysgar iddynt ddioddef dim gofid uffernol, a'n bôd ni yn enynnu gan daerni iw derchafu ir Nêf; o herwydd po lleiaf fo'n trach want yn nydd eu marwolaeth, mwyaf gogoneddus fydd eu hadgyfodiad. Dymma offrwm ein cyrph yn aberth bywiol, pan fo'm yn eu haberthu hwynt yn hollawl i wasanaethu Duw, a'r fâth fywiol aberthau a rhai'n a fydd byw yn dragywydd; ag ôs Duw a'i derbyn hwynt yn aberth bywiol, efe ai ceidw hwynt i fywyd tragwyddol.
Ond nid allwn ni wneud mwy o barch in cyrph, na gwell defnydd o honynt, nai haberthu hwynt i fynu yn wîr aberth i Dduw; drwy fôd yn gwbl-fodlon i farw drosto ef pan alwo arnom i ddiodef er ei fwyn yn gyntaf i aberthu ein heneidiau iddo mewn purdeb cariad a gwasanaethgarwch, ag wedi hynny ein cyrph iw llosgi neu iw crogi neu i borthi llewod, neu iw hammarchu a'i dinistrio gan ddynion llidiog, a fo'nt yn fwy creulon ag yn brinnach ei trugaredd. Mae marw fel hyn yn esgusodi ein cyrph oddiwrth y gwradwydd naturiol sydd yn perthyn i farwolaeth. Peth gwradwyddus iawn ydyw'r pêth a alwn ni marwolaeth naturiol, [Page 74] oblegid nôd ammarch yw o herwydd cospedigaeth pechod. Y cyfriw gyrph, o ddywedyd y goreu am danynt, a heuir mewn ammarch a llygredigaeth, fel y Dywed St. Paul: ond marwolaeth ogoneddus ydyw marw yn Ferthyr yn aberth i Dduw, synhwyrol hysdra yw hyn uwch ben cwrs naturiaeth, ag megis yn gofyn gwaethaf Angeu, pan fo'm drwy hyderus ffydd yn rhoddi ein cyrph yn ól i Dduw yr hwn a'i rhoddes i ninneu, ag oddiwrth ba v̂n y derbyniasom hwynt, a'r hwn a geidw yr hyn a roddwn iw gadw atto ef erbyn adgyfodiad gogoneddus, ag fe a fydd gogoniant cyrph y merthyri ŷn yr adgyfodiad ymmhell uwchlaw pôb deall ag yn bûr ryfeddol, o herwydd os cyd-ddioddefwn gida'g ef, fe an cyd-ogoneddir gyda'g ef; ag mi a debygwn mai dymma feddwl y geiriau hyn. Mai po tebyccaf a fyddo 'n dioddefaint ni i ddioddefaint Crist, felly tebyccaf hefyd fydd ein gogoneddus gyflwr ni iw ogoniant ef. Dymma'r unig ffordd ini i wneuthur ein cyrph yn anfarwol, ag yn ogoneddus. Nid oes fôdd iw cadw hwynt ymma chwaith hîr, o herwydd cyrph llygredig ydynt, yn wastad ar eu hosec tua'r llŵch, mae'n rhaid ymadel a hwynt dros amser, ag os edrychwn fyth am gyfarfod llawen, bydded ein hymmarweddiad presennol tuag attynt mewn parch a gweddaidddra. Yr ŷm yn ammherchu 'n cyrph yn y byd ymma drwy eu camarferu [Page 75] hwynt, i fôd yn weifion i chwantau drygionus a phôb mâth arall o annuwioldeb, dymma sail a sylfaen eu hanglod a'i gwradwydd dros byth yn y bŷd a ddaw. Cariad dinistriol yw porthi gwyniau 'r corph, i wneüd rhagddarbod tros y cnawd i gyflawni ei chwantau ef: ond os oes gennych wir gariad i'ch cyrph gwnewch hwynt yn arfarwol, fel er eu marw hwynt unwaith, y bo iddynt gael eu hadgyfodi megis yn landeg, yn nerthol ag yn ieuangaidd, fel ar ol hynny y gallont fyw yn dragywydd; yn ddiogel oddiwrth bob mâth ar boen a chlefyd a phall, oddiwrth henaint ddeffygiol a phen-llwydni, ag eisiau cyscu, a phôb blinder llabyddllyd, oddiwrth bob gwall, ag eisiau ymborth a dillad, oddiwrth feddyliau llygredigaeth, oddiwrth arwain eraill i brofedigaeth, ag oddiwrth syrthio i brofedigaeth, oddiwrth an-esmwythdra meddwl, oddiwrth bob siomedigaeth, a'r gofalon lleiaf, ag fel y bo'nt mewn cyflawn ddiddanol feddiant o Dduw yn dragywydd.
Y DRYDYDD RAN.
III. YN awr ystyriwn Farwolaeth fel y mae yn rhoddi in'i fynediad i mewn i ryw ystâd o fywyd newydd anghydnabyddus, o herwydd peth newydd chwîth in'i yw byw heb y cyrph hyn, pêth yw ni chawsom etto erioed ddim prawf o hono, ag nis gwyddom amcan pa fod yr ymglywn ar ol [Page 76] in'i ymddiosc ein cîg a'n gwaed, pa fâth groesaw a hyfforddia 'r lle, ple nid oes dim arfer o fwytta, nag o yfed, nag o briodi, nag o roi i briodas; na pha beth fydd ein gwaith a'n gorchwyl ni yno, lle ni bydd dim rhaid wrth y cyfriw bethau, sydd yr awron yn gofyn ein hamser yn y bŷd ymma: o herwydd pan na bo rhaid ini wrth na bwyd na diod, na dillad, nag wrth byssygwriaeth nag wrth dai i fyw ynddynt nag wrth y cyfryw bethau, pa hethau hynnag ydynt, sy anghenrheidiol ini o herwydd ein bod yn v̂n a'r corph, hynny yw ynddo ef; fe a fydd pen am bob crefft a chelfydd yr amser hynny; er ein bod ni yrowan yn eu canlyn ag yn eu trin, er mwyn dyfod o hŷd i'r peth a fo rhaid. Nid eill hyn fod dim llai na chyfnewidiad synn, rhyfeddol, ag er ein bod yn credu o ddyfnder ein calonnau, y byddwn ddedwydd yn y bŷd a ddaw, a bod y dedwyddwch hwnnw hefyd yn rhagori llawer ar bob mâth o ddedwyddch daiarol, etto yn anaml jawn y dŷn a fodlono i newid y dedwyddwch a wyddeu oddiwrtho, am v̂n dieithr nas gwyddeu ddim oddiwrtho: ag y mae hyn yn dottio ag yn synnu rhai pobl yn rhyfeddol, sef fod yn rhaid iddynt, pan ymadawont a'i cyrph fyned nis gwyddont amcan i ba le. Yr awrhon fe a ddwg yr ystyriaeth hon ar gof in'i amryw o feddyliau, a roddo in'i lawer o synwyr, ag a wnelo in'i lawer o leshâd.
[Page 77] I. Yn gyntaf: Mor anghenrheidiol ydyw i ddŷn gredu yn Nuw, a rhoddi ei gyfan hyder arno, a'i ymddiried ynddo: heb hyn nid oes fodd i fyw yn ddedwydd yn y byd ymma, a diammeu gennif nad oes dim modd chwaith i farw yn gyssurus heb hyn; o herwydd dymma holl egni ffydd, ag eithaf ei gallu, ni ddichon ffydd wneud erom ddim mwy na'n cymmhwyso gida bodlonrwydd a llawenydd, i orchymmyn ein hencidiau i law Duw pan fo'm mor anghydnabyddus ag ystâd a cyflwr y bŷd a ddaw, i ba un yr ydym ni 'n myned, Wrth hyn y profed ffydd Abraham, pan, drwy ufyddhau i orchymmyn Duw, yr ymadawodd ef a'i wlad ei hun, a thu ei dâd drwy ganlyn Duw i wlâd ddieithr, Heb. 11. 18. Trwy ffydd Abraham pan ei galwyd a ufyddhaodd, gan fyned i'r man yr oedd efe iw dderbyn yn etifeddiaeth ag a aeth allan heb wybod i ba le'r oedd yn myned.
Yr oedd yn sefyll mewn cyffelybiaeth i'r Nef ag mae'r Nef yn wlad mor ddieithrol in'i; ag a oedd Canaan i Abraham. Ag yn hyn ni a ddylem dybygu i dâd y ffyddloniaid; drwy fod yn fodlon i ymadel a'r wlâd lle in ganed, ar bŷd a wyddom oddiwrtho, i ganlŷn Duw i ba le bynnag y bo yn ein harwain ni, ag yn ein galw i wledydd a broüdd dieithr, ag hefyd i ddedwyddwch dieithrol ini a llwyr anghydnabyddus. Mae 'n rhaid i bôb dŷn ymadel a'r byd hwn pan welo Duw 'n dda [Page 78] alw am dano, nid ydyw ond gwaith ofer tynny yn ol ond y peth a wnelo 'n hymadawiad a'r bŷd, yn weithred ewyllys; ffydd a Rhinwedd ynom ydyw hyn, os bydd gennym ffydd gref yn Nuw, a hyder ag ymddiried hollawl yn ei ddaioni, a'i ddoethineb, a'i addewidion ef; ag er nas gwyddom ond ychydig oddiwrth ystâd a chyflwr y bŷd a ddaw. Os ymadawn yn fodlonus a'r meddiannau a wyppom oddiwrthynt, er mwyn craffu a'r addewidion y dedwyddwch anghydnabyddus. Ag mae yn y ffydd hon ddwy amryw weithred, yn cyfatteb i ffydd Abraham pan oedd ef yn ymadel a'i wlâd ei hûn, ag yn canlyn Duw i wlâd ddieithr: y weithred gyntaf o ffydd, a berthyn i ddyn yn ei fywyd a'i iechyd, a'r ail yn awr Angau, ag yn amser ei farwolaeth.
Bôd i ddŷn yn ei fywyd a'i iechyd farweiddio hôll chwantau afreolus, ag ymwrthod o hono a holl orwagedd a phleserau 'r bywyd hwn, er mwyn derbyn yr addewidion or dedwyddwch anghydnabyddus yn y bŷd a ddaw, dymma farw i'r bŷd hwn mewn dirgelwch, ag ymadel a'n gwlâd lle 'n ganwyd, hyn yw, myned ar ol Duw i wlâd ddieithr anghydnabyddus, ymadel a'n holl feddiannau presennol, fforffedio cymmaint ag a feddwn, ein rhydddid ar cwbl a fo anwyl gennym yn y byd, ie a hefyd, ymadel an gwlâd lle 'n ganwyd, yn rhwyddach na digio Duw a cholli'n hawl i'r addewidion [Page 79] o ddedwyddwch anghydnabyddus, hyn yw yn weithredol ymadel an gwlâd ein hunain pan orchymynno Duw er nas gwyddom pa le i fyned; Mae hyn yn ail i Abraham pan aeth ef allan i fyw oi wlad mewn pereriniaeth yngwlâd yr addewid, pan nad oedd ganddo ddim treftadaeth ynddi: Dymma 'r ffydd sydd yn gorchfygu 'r bŷd, trwy ba un yr ŷm yn byw fel pererinion a dieithriaid ar y ddaiar, gan ddisgwil wrth wlâd i ddyfod, Canaan Nefol, fel y Dywed yr Apostol fod Abraham gynt yn disgwil. Oblegid drwy ffydd yr ymdeithiodd efe yn nhir yr addewid, megis mewn tîr dieithr, gan drigo mewn lluestai, gyda'g Isaac ag Jacob, cyd-etifeddion o'r un addewid, Canys disgwil yr oedd am ddinas, ag iddi sylfeini; saer ag adeiladydd ar ben yr hon yw Duw.
A phan ddelom ni i farw os medrwn gyda llawenydd a goruchafiaeth hyderu ar addewidion Duw, a gorchymmyn ein heneidiau iw ddwylaw ef drwy ffyddlon ymddiried ynddo, er nas gwyddom ddim nag oddiwrth y wlad lle yr y'm yn myned, nag oddiwrth fath yn y byd ar ddedwyddwch yno chwaith, os medrwn wneuthur hyn meddaf heb ddim ofn, nag arswyd nag ammheuaith yn ei chylch, gweithred ffydd freiniol yw hon: gan ei bôd yn rhoddi gogoniant mawr i Dduw, ag yn gorchfygu ofn marw sy'n naturiol y bôb dŷn, ag angeu arswydus gan ein gwneud yn gwbl ewyllysgar i ymadel [Page 80] a'r bŷd, a hôll wrth-ddrych ein gwyniau a'n chwantau bydol, er mwyn cael gweled tîr yr addewid a chael prawf ar bleserau hyfrydlawn, yr ydym yr awron mor ddieithrol iddynt. Rhaid ini fyw mewn ffydd hefyd fel y tadau gynt, y cyfriw rai a fuont oll feirw mewn ffydd heb dderbyn yr addewidion, ond yn eu gweled hwynt o hirbell. Ag or achos ymma, fe ddyleu 'r bŷd fod yn anghydnabyddus ini mewn mesur mawr, o herwydd pe bae yn y golwg, pe caem ni yn y cyfamser brawf oi bleferau ef, neu wybod y fath sydd arnynt, nid gweithred ffydd fyddeu ymadel a'r byd hwn er ei fwyn, neu fôd yn ewyllysgar i ddioddef ein symmudo oddiar y ddaiar i'r Nef. Ond nid yw neb gymmwys i fyw yn y nef, na chymmero air Duw am dani; Am hynny Duw a gelodd, ag a gadwodd y pethau gogoneddus yno oddiwrthym, ag a roddes in'i yn unig addewid o ryw ddedwyddwch mawr, ond nis gwyddom na'i fath, na'i faint, fel y bo ini obeithio am dano, a hyderu arno; er mwyn profi ein ffydd a'n hufydddod a'n hymddiried ynddo ef.
O herwydd fôd y byd a ddaw yn ystâd ag yn gyflwr anghydnabyddus in'i. Maen ein dwyn ni i fynu mewn mawr hyder ag ymddiried yn Nuw, Oblegid mae'n rhaid ini ymdddiried i Dduw am ein heneidiau a'r bŷd a ddaw; ag mae hyn ein dysgu ni yn naturiol i roddi ein hyder a'n goglud ar [Page 81] Dduw yn y byd hwn hefyd i fyw yn ddiogel dan ei ragluniaeth ef, ag i fôd yn fodlon yn wastad mewn pôb cyflwr, gwnaed Duw a fynno a nyni. Yn wir nid eill neb heb ryfig fawr roddi ei hyder ar Dduw yn y bŷd ymma, onid oes ganddo hefyd ffydd sefydlog yn yr Arglwydd am addewidion y byd a ddaw: Oblegid nid yw rhagluniaeth Duw yn rhwymedig i roddi ini bôb pêth wrth ein bôdd yn y bŷd ymma; eithr mae gwŷr Duwiol yn gwbl fodlon, ag mae achos iddynt fôd felly i gymmeryd y byd ymma a'r bŷd a ddaw y naill gyda'r llall, am hynny nid ydynt yn edrych yn rhy fanwl ar ol y pethau presennol; ond dewised Duw iddynt y cyflwr a welo ef fôd yn oreu, gan fôd yn ddigon siccr ei ddaioni a'i gariad ef tuag attynt, yr hwn a welodd yn dda ddarparu iddynt wobrwyau tragwyddol.
Ar cyfryw rai ag a welont achos i hyderu ar Dduw am eu heneidiau, y sawl a fedrant hyderu arno am fywyd tragywyddol, am ddedwyddwch anweledig anghydnabyddus, nid oes dim a'i rhwystra hwynt i hyderu arno ef am y bŷd hwn, am y cyfriw rai yr wyfi yn crybwyll, ag sydd yn gofalu am eu hyfrydwch yn y byd a ddaw, ag yn cymmeryd gofal am eu heneidiau. Ond os dywedwch, fôd y sawl sydd yn ddiofal am eu heneidiau, ag heb drwblio eu pennau yn eu cylch, nag ŷn amser yn meddwl beth a ddaw o honynt yn y [Page 82] bŷd a ddaw, y rhai'n hefyd yn rhoi eu hyder ar Dduw am eu heneidiau; nid am y cyfriw yr oeddwn yn sôn, nid yw y rheswm yn dal os felly y deellwch: oblegid y rhan fwyaf or sawl a hyderant felly ar Dduw am eu heneidiau, ni hyderant arno ef am ddim arall nag am y rhai'n chwaith, pe baent yn credu y talent hwy ddim. Diofalwch gyda eu heneidiau yw hyn nid ymddiried i Dduw.
Ond pan fo gŵr yn credu o ddyfnder ei galon, fod bywyd arall ar ol hwn ag yn fawr ei gyffro, i wybod beth a ddaw o hono ef yn dragywydd, ag yn rhoi ei ymddiried ffyddlawn ar addewidion Duw, uwchlaw ei wybodaeth ei hun, a'i amcan; ni fydd annodd gan un o'r fâth ymma roddi pŵys ei ymddiried ar Dduw am bôb peth arall, o herwydd nid ydyw ei ofal ef cymmaint am ddim, ag am ei enaid; ag os ydyw'n gweled yn gymmwys ymddiried i Dduw am y pethau sy oreu ag anwylaf ganddo, yn ddigon tebyg yr ymddiriedeu iddo ef yn rhwydd am bethau gwaelach, ag o lai o bwys. Addewidion o gael bywyd tragwyddol trwy ein Harglwydd Jesu Grist ydynt eithaf amlygrwydd cariad Duw tuag attom, a phwy bynnag a allo ymddiried cymmaint ar gariad Duw, fel iddo hyderu ar Dduw y caiff ef fyned i'r nef, nid eill y cyfriw un byth ammeu na chymmer Duw hefyd ofal drosto yn y byd hwn. O herwydd nîd oes fodd i drefn a [Page 83] chwrs rhagluniaeth Duw yn y byd i fôd mor anghydnabyddus i'ni, ag yw ystâd a chyflwr y bŷd a ddaw, ag os canlynwn i Dduw yn ewyllysgar ag yn llawen i fŷd anweledig, anhynod; a fyddwn ni anfodlon iw ganlyn ef yn ei ragluniaeth yn y byd ymma er bod ei llwybrau weithiau yn dywyll ag yn ddyrus dros ben. Erbyn hyn gwelwn nad oes dim mwy o achos ini gŵyno fod ystâd y byd arall yn anhynod ini, nag i gwyno fod yn rhaid ini fyw wrth ffydd yn y byd ymma, o herwydd pethau absennol, anweledig, anhynod yw'r unig bethau sydd yn rhoddi 'n ffydd ar waith, ar sawl nis ymddiriedant ddim i Dduw allan oi golwg nag yn y byd ymma nag yn y byd a ddaw, nid oes iddynt ond bychan o achos nag i obeithio am wellhâd oddiwrth ei Ragluniaeth ef yn y byd ymma, nag siccr i ddisgwil myned ir Nef yn y byd a ddaw.
II. Yn ail: Gan fod ystâd y byd a ddaw mor anwybodedig i'ni, da y dylem or achos ymma, fod yn llwyr fodlon i sefyll wrth reolaeth ag ammodau 'r Efengyl; ag i ufyddhau i holl orchymynion ein Hiachawdr, er mwyn caffael bywyd tragwyddol; Nid hwyrach na ddeellwch mo hyn ar y cais cyntaf, ag etto mae'r rheswm yn ddigon amlwg hefyd: o herwydd os ydyw ystâd a chyflwr y byd a ddaw mor anhyspys ini, ni wyddom ni ag nid oes fodd ini ychwaith i wybod, pa dueddiadau arferion, pa ddull [Page 84] a moddion sydd raid i'r enaid wrthynt er mwyn ei iawn ddarparu ai gymhwyfo i'r dedwyddwch anhyspys hwn. Ond ein Hiachawdwr yr hwn a wyddeu gyflwr yr ystâd hwnnw, a wyddeu hefyd pa beth ydoedd anghenrheidiol îddo ef, am hynny synh wyrolaf peth a wnawn yw ufyddhau iw holl orchymynion ef yn ddiddadl, nid yn unig fel y mae'nt yn ammodau dedwyddwch, heb gyflawni pa rai nid oes dim myned i'r Nef, ond heblaw hyn fel y mae'nt yn anghenrheidiol in rhagddarparu i fyned yno. Eithr mi a eglurhâf hyn wrth osod och blaen siampl or cyffelyb beth haws iw deall. Bwriwch ein bod yn fyw ymlaenllaw (fel y mae rhai yn dal ein bod) cyn ein dyfodiad ir cyrph hyn, a chyn gwybod o honom ddim oddiwrth y byd hwn, neu pa fath oedd ar ei bleferau ef ai groesaw, ag y cawsem glywed pa fath gyrph oedd raid ini eu cymmeryd am danom; yn ddiammeu fe fuasai ddadl fanwl ynghylch gwneuthuriad a moddion a llûn ein cyrph. Nyni a fuasem yn barnu ymbell ran yn afraid ag yn ddilês ag yn anghymmwys; yn wîr buasei ryfedd genym i ba beth yr oedd y cyfryw gorph yn dda. Felly yn siŵr y gallem, cyn ini ddeall pwrpas a defnydd un rhan o hono: Ond Duw, yr hwn a wyddeu beth yr oedd yn ei amcanu i'ni, a ddarparodd i'ni y cyfriw gorph, ag sydd yn brudweddol ag yn wasanaethgar hefyd, ag nid allwn hebcor un rhan o hono [Page 85] heb brinhau ar ein pleser, a cholli aml gyfleustra in bywyd. Mae cyn hawsed ini ddwyn ein meddyliau i feddwl fel hyn am y byd nessaf, fod tueddiadau, ag arferion yr enaid mor angenrheidiol iddo, er mwyn clywed blâs ar bleserau 'r byd hwnnw, ag ydyw 'n pûr synwyr i fwynhau pleserau'r corph; a chan nas gwyddom yn bennodol ag yn neilltuol, pa ddiddanwch a llawenydd y mae'r byd a ddaw yn eu hyfforddio, a chan fod Crist yn gwybod, nyni a ddylem mor hollawl ymroi in cyfarwyddo ganddo ef, i lunio 'n heneidiau, ag yr ymddiriedasom i Dduw lunio ini ein cyrph. Pa râs neu ddawn a rhinwedd bynnag y mae ef yn gorchymyn ini eu hymarferu yn y byd hwn, er nad y'm yn y man yn deall i ba bwrpas neu ddefnydd yr ymarferwn hwynt, er meddwl o honom hwynt yn lleffether afraid ar ein rhydddid, ag yn gaeth jawn; yn ddiles, ag yn ddi-angenrheidiol; etto nyni a ddylem ein bodloni ein hunain yn y diwedd, fod Crist a chanddo reswm am roddi ini y cyfriw orchymynion: a bod y cyfryw ddull a moddion yn yr enaid mor angenrheidiol ir enaid yn y byd a ddaw, ag yw 'n llygaid a'n geneuau yn y bŷd ymma.
A hyn a ddylem ei gredu yn enwedig am y cyfriw raddau a siamplau o rinwedd, ag sydd yn ymddangos uwchlaw 'n cyflwr presennol; ag megis heb eu llwyr gymmhwyso in stâd a'n cyflwr yn y byd ymma: o herwydd [Page 86] pa achos in Hiachawdr ordeinio ini y cyfriw orchymynion, a gofyn oddiwrthym y cyfryw raddau o rinwedd; a brinhânt ar ein meddiannau presennol, ag hefyd nid hwyrach an gesyd mewn aml beryglon, naill ai i golli 'n da, neu ysgatfydd i ddioddeu drosto, oni bai fod rhyw bwrpas a defnyod ir fâth ddull a moddion yn yr enaid, ag y mae r rhinweddau hyn yn eu llunio ag yn eu ffurfio ynddi yn y bŷd a ddaw Fel hyn?
Mi a debygwn y gwasanaetha ini hyn tra fyddom byw yn y byd ymma, ple mae cymmaint o bethau dymunol, a thra byddom yn ein gwisc gnawdol yr hon a gymmhwysed i fwynhau pleserau 'r corph, ag sydd ganddi chwantau naturiol; a serch tuag attynt, i arferu 'r fath gymedrolder yn eu cylch hwynt an hachubo rhag bod fel anifeiliaid, yscryblaidd heb na rheol na rheswm, ag an cadwo befyd rhag gwneud dim cam a'n cymmydogion; a thra ymgadwom o fewn y terfynau hyn, mae ini gennad i gymmeryd ein pleser hyd yr eithaf, o herwydd yn ddiammeu happusrwydd creadur daiarol ydyw gallu a chael mwynhau y byd hwn, etto mae 'n angenrhaid hefyd i greadur rhesymmol wneud hyn mewn modd rhesymmol: Ond mae 'n edrych fel gorchymyn tost, fod yn rhaid i greadur a fo yn byw ynddo beidio a charu 'r byd hwn. Yr hwn hefyd a grewyd ar fedr ei feddiannu ef, iddirmygu pleserau 'r [Page 87] corph ag i ymwrthod a hwynt: i orchfygu chwantau y cnawd ynom, nid yw hyn yn annodd i ddyn naturiol, ond hefyd i ddyn a fo wedi bod ychydig amser dan awdurdod yr yspryd glân, i fyw uwchlaw 'r corph, ag i ymegnio yn wastad i fygu ag i lethu nid yn unig ei chwantau afreolus ef, ond ei ddeisyfiadau naturiolaf, ag i brofi pleser yn brin ag yn dwtnes, a bod yn eich meddwl yn llŵyr ddifatter o honynt; gwers flin yw hon i gig a gwaed. Mae'n abl buan arferu ymarweddiad Nefol ar ol in'i fyned ir Nef. Ond mae 'n eglur fod hyn uwchlaw grym ag egni a chyflwr creadur daiarol, sef byw yn y nef, a bod eu holl ddiddanwch hwynt, ai gobaith a'i trysor ai calonnau yno: fe a fydd cyflwr y byd hwn yn ddigon dedwydd heb gyfodi 'r enaid i'r gradd ymma o burdeb, heb ei ysprydoli ai lŵyr sancteiddio fel hyn. A chan fod dull a ffurf y byd fel y mae ag y gwelwn ei fod, gwaith afraid ymma yw rhinweddau uchel o'r fath ymma, am hynny er ein mwyn yn y byd a ddaw yr ordeiniwyd hwynt.
Felly digon yw i wneuthur y byd ymma yn lle dedwydd, ag iw gadw ef mewn trefn ag ordor a rheolaeth dda, i bobl fyw yn ddiniwed; a rhoi r parch a'r lle sy ddyledus iw gilydd, os gofalant am eu ceraint a'i nessaf waed, a byw yn gyfiawn, ag mewn pethau mân hefyd yn gwrteisiol ag yn gymmwynascar; ag dymma'r holl gwbl y mae [Page 88] ystâd chyflwr y byd ymma yn ei ofyn. Ond mae'r Duwiol gariad perffaith yn myned ymmhellach, ag yn gyffredinol nid yw yn dysgu ini yn unig garu ein cyfeillion a'n cymmydogion fel nyni ein hunain, ond i garu ein caseion a'n gelynion hefyd, ar sawl a'n casânt ag an herlidiant, i faddeu pob cam yr y'm yn ei ddioddeu, i beidio a thalu drwg am ddrwg a senn am senn, eithr yngwrthwyneb yn bendithio: meddaf nid yw y rhinwedd hon yn tynnu yn groes ini yn unig pan fo'm yn chwannog i dynnu pob pêth attom ein hunain, ond prin y mae yn cyttuno ag ystâd a chyflwr y byd hwn: O herwydd mae yn berygl fyw fel hyn ymmysc cymmydogion drŵg, y cyfryw rai a gymmerant eu mantes oddiwrth eich dioddefgarwch a'ch maddeugarwch chwi, ach naturiaeth dda i roddi ichwi aml achlysyr iw harferu hwynt, ag ni ddichon dim ond y rhagluniaeth neilltuol sydd beunydd yn gwersyllu oddiamgylch gwŷr Duwiol iw hymddiffyn hwynt, iw gwared a'i diogelu nhw rhag bod yn yspail ir anghysiawn, a'r anwireddus: ie nyni a welwn nad oes fodd i hyn fòd, o herwydd nid allai 'r byd moi ddioddeu heb fod allan o bob trefn a rheolaeth. Am hynny mae 'n anghenrhaid wrth swyddogion i gospi'r fâth anwireddwyr drygionus, neu fe a fyddeu ŷn lle ynfyd iawn; am hynny y sawl a gredant fod swyddogion ein gwlad yn gwrthwynebu maddeu cam; a [Page 89] pheidio cymeryd dial ar ein gilydd, a wnaethant yr yn ffunud un anghyfreithiol i Gristiannogion gymmeryd swyddau arnynt, o herwydd diammeu nad maddeu i ddrwg weithredwyr anwiredd y maent, pan fo'nt yn eu bwrw hwynt iw colli, neu yn eu barnu iw fflangellu, neu i sefyll ar y Pilori. Athrawiaeth afiach anghysson, gan ei bod yn dal naill ai bod yn rhaid i deyrnas Gristiannonogaidd wrth yr Anghristianogaidd genhedloedd i reoli ag i lywodraethu arnynt, ai bod yn rhaid i'r hôll fŷd Cristiannogol, fod heb na than reol na llywodraeth, er bod rhai a elwir ag sy'n eu proffesu eu hunain yn Gristiannogion cyn rheittied iddynt wrth a wdurdod a llywodraeth, a'r cenhedloedd neu 'r Juddewon pennaf. Ond nid yw y rhinwedd hon o faddeu i'n gelynion ond Rhinwedd neilltuol, pan fo cam wedi ei wneuthur yn ein herbyn ni ein hunain yn unig, ni ddyleu dorri ar rym a chwrs y gyfraith, a rheol y llywodraeth gyffredin, ag mae hyn yn dangos fôd ystâd a chyflwr y byd ymma cymmhelled oddiwrth orchymyn y rhinwedd hon, nad ydyw yn cynnwys i neb arferu mo'ni ond yn neilltuol ag megis mewn rhyw bethau. Am hynny mae'n anghenrhaid bôd Rhagluniaeth neilltuol iw cadw a'i hamddiffyn hwynt, pwy bynnag a arferant faddeu iw gwrthwynebwyr ag a arbedant ddial eu cam. Yr awron y cyfriw rinweddau ag nag ydynt angenrheidiol [Page 90] i gyflwr y byd ymma, a osodwyd o'n blaen, mae ini achos i feddwl ar fedr y byd a ddaw, am hynny er nas gwyddom yn y cyfamser beth yw cwbl bwrpas a defnydd cariad perffaith, tra bo'm yn y byd ymma, etto fod y dull hwn yn wîr angenrheidiol i ddedwyddwch yr enaid yn y byd a ddaw; ag o'r achos ymma mae Crist yn gorchymyn in'i arferu cariad perffaith yn y byd hwn; o herwydd nis gwyddom amcan i ba bwrpas yr ordeinie Crist y cyfriw rinwedd a hon a hitheu agos yn ddiles i'r byd ymma yn ammod angenrheidiol ddidroseddiad o'n dedwyddwch yn y byd a ddaw; ond yn unig o herwydd fod y cyfryw ddull a meddylfryd mor angenrhaid i'n cymmhwyso i glywed blâs ar y pleserau Nefol, ag a ydyw'r llygad a'r genau i weled ag i glywed blâs ar bleserau 'r byd hwn. Mae hyn yn ein gwneuthur yn bûr rwymedig i ufyddhau gorchymynion ein hiachawdr Crist, megis yr unig fodd in derchafu ni i ogoniant tragwyddol, nid i rwgnach ufydddod iddynt, er anhawsed yr ymddangosant, er anrhesymoled hefyd yr awrhon, o herwydd y byd a ddaw yn unig a ddengys yr achos o'i hordeinio, am hynny yr y'm yn gwybod cyn lleied oddiwrthynt, o herwydd ein bod mor anghydnabyddus a'r bŷd a ddaw. Ond hyn a allwn ei warantu yn hŷ y gŵyr Crist fod rheswm da am danynt, ag y cawn ninneu wybod yn ddiattreg ar [Page 91] ol myned i'r byd a ddaw, am hynny nyni a ddylem ymegnio i arferu eithaf pob rhinwedd y mae 'r Efengyl yn eu gorchymyn, ag yn eu gosod o'n blaen, o herwydd po mwyaf deffygiol a fyddwn ynddynt, cyfattebol in diffyg a fydd ein pall a'n colled o raddau gogoniant a dedwyddwch yn y byd a ddaw.
III. Yn drydydd; er bod yr ystâd yr ydym yn myned iddo wrth farw, mewn mesur mawr yn anhynod ini, etto ni ddyle hyn na digalonni gwŷr duwiol, nag ychwaith roi calon yn yr annuwiol. J. O herwydd ni ddyle trwy ddigalonni dim gwŷr duwiol: oblegid er nas gwyddom mor eithaf, etto gwyddom mai dedwyddwch mawr ydyw; dan yr enw hwnnw mae'r serythyr Lân yn ei gymmell ef, megis teyrnas, a choron, a theyrnas dragywyddol, a choron ddiddiflannedig; yn awr pwy a fyddeu yn anfodlon i ymadel a chwtt o du gwael tlawd er mwyn cymmeryd meddiant mewn teyrnas er nas gwelfei erioed mo'ni, os clywsei dystion ffydlon yn tystiolaethu mai teyrnas wŷch ogoneddus ydyw? ond ystyriwn yn rhodd, mewn pa ddull y mae dedwyddwch y byd a ddaw yn anhynod ini:
J. Nid y fath happusrwydd ydyw ag sydd iw gael yn y byd ymma, nid tebyg yw i ddim a welsom, neu a brofasom erioed etto: Ond ni feddwl gwr synhwyrol Duwiol yn waeth o hono o'r achos ymma, nid ydyw hyn anglod yn y byd i'r byd a ddaw, ond [Page 92] gwîr anglod fuasei pe buasei yn debyg ir byd ymma: o herwydd nid oes ymma ond gwagedd a gorthrymder yspryd; fel wyneb chwareudu yn ymddangos yn wŷch, ond y diddanwch daiarol sy' ddi-barhaus a di-sylwedd, mae gwŷr duwiol yn cael eu digon or byd ymma mewn ychydig amser, a da y gwyddont na ddichon dim o'r pethau sydd ymma eu gwneud hwynt yn ddedwydd, am hynny nis cyfrifant yn golled newid eu cyflwr, er mwyn cael prawf o lawenydd anhynod, ag anghynabyddus; oblegid os oes y fath beth a happusrwydd iw gael, rhyw beth ydyw efe, nas gwyddont hwy etto amcan oddiwrtho, rhyw beth na ddichon y byd ymma moi hyfforddio.
II. Pan ddywedom fod ystâd y byd a ddaw yn anhynod, yr unig beth yr y'm iw ddeall wrth hyn yw ei bod cyfuwch uwchben ein holl wybodaeth, na wyddom amcan pa fodd iw chynnwys yn ein meddyliau, na pha fodd i graffu arni; ni a wyddom fod y cyfriw ddedwyddwch, ni a wyddom mewn rhyw fesur mewn pa bethau y mae'n sefyll. Hynny yw yn y pleser o weled Duw, a'r bendigedig Jesu, yr hwn a'n carodd, ag a'i dodes ei hun trosom ni; o foliannu ein hollalluog greawdr a'n Prynnwr; o fod gyda seintiau ag Angylion: ond beth am gymmaint, beth mor anrhaethol ydyw'r pleser hwn nis gwyddom ni etto fawr oddiwrtho, am hynny gwaith ofer yw ceisio ei draethu [Page 93] a rhoi cyfrif o hono, nid eill na'n gweddiau na'n meddyliau amherffaith gyrraedd meddwl am Dduw fel yr haeddeu, nag i fwrw amcan dedwyddwch y byd a ddaw. Nis gwyddom ni pa ogoneddus gyfnewidiad a ddigwydd in heneidiau ni o achos eu bod o flaen Duw yn ei weled ef yn wastad, ag yn ddiattreg yn meddwl am dano, ag ar ol bod yn llawn o'i gariad, nis gallwn yr awrhon wybod faint fydd ein difyrrwch a'n llawenydd pan ganom gân yr oen, a pha faint chwaith na rhywiocced fydd caredigrwydd yr eneidiau perffeithlawn tuag at eu gilydd, megis wedi eu henynnu o gariad. Pa ogoniant a pha ryfeddodau a welwn ni yno ag hefyd a wybyddwn oddiwrthynt: sef y cyfriw bethau ag nis gwelodd llygad neu glywodd clûst,ag nis daeth i galon dŷn. Yr awron mi a debygwn, o herwydd hyn, na ddylem fod yn anesmwythpan gofiom am ein diwedd, nag yn anewyllysgar i fyned ir Nef; dedwyddwch pa le sydd uwchlaw ein gwybodaeth am dano, ag uwchlaw eithaf egni ein hamcan tra fyddom byw yn y byd ymma.
III. Yn drydydd; Naturiaeth pobl ydyw bod yn hôff jawn ganddynt bleserau anghynefin; a'r anghefinrwydd hwn sydd cyn belled oddiwrth fôd yn achos o'i dibrisio hwynt, a bôd hwn yn hytrach yn codi blâs arnom o'i plegid, ag yn helaethu ein chwantau: am bethau daiarol felly mae, mae meddiant yn lleihau eu clôd, ag yr y'm yn arfer [Page 94] o roi mwy o brîs ar y pethau nis gwyddom oddiwrthynt, y cyfriw na bu ini erioed moi profi. Os felly, drwg y dyle pleserau 'r byd a ddaw fod yr unig bethau iw gwrthod, cyn erioed eu profi; gwael a chwla yw holl bethau 'r byd, ag nyni a wyddom hynny yn well, ar ol unwaith eu meddiannu; ond derchafwn ein gobaith, a'n disgwiliad yn eu cylch hwynt uchaf y gallwn, mae'r llawenydd a'r hyfrydwch Nefol sy tra bo'm ar y ddaiar yn anhynod in'i, pan fo'm yn feddiannol o honynt ymhell uwchlaw ein holl feddyliau presennol yn eu cylch, ymmhellach o lawer uwchlaw'r oeddym yn eu disgwil, nag ydyw meddiannau'r byd hwn y tu issaf i'n disgwiliad, hyd oni chyfaddefwn fel y dywedodd Brenhines Sheba am ogoniant Solomon, fod y cyfrif a gawsem ni o hono yn fyrr o un hanner. Mae'n gyssur ini fôd yr happusrwydd Nefol yn rhy fawr ini iw ddeall a gwybod oddiwrtho yn hollawl yn y byd hwn; o herwydd os ni byddeu felly ni fyddeu chwaith mawr iawn; am hynny nyni a ddylem ein cyssuro ein hunain drwy obeithio a disgwil am yr happusrwydd anhyspys hwn, am y llawenydd cyflawn hwnnw, am ba un nid oes gennym yr awron ond anghyflawn wybodaeth.
II. Ar y llaw arall; nid ydyw gadernid yn y byd i ddrwg weithredwyr, nas gwyddont oddiwrth boenau uffern; oblegid fe ŵyr pawb ddarfod i Dduw fygwth poenedigaethau [Page 95] echryslon yn erbyn drwg-weithredwyr a phechaduriaid, ai bod yn anhynod sy'n eu gwneud hwynt yn fwy ofnadwy: O herwydd pwy a ŵyr beth yw eithaf gallu digofaint Duw? a phwy a ŵyr mor annoddefus y poenau â pha rai y mae Duw yn cospi pechaduriaid? anrhesymmol gan hynny yw i ddynion drygionus ymgaledu eu calonnau yn erbyn yr ofn a'r arswyd a ddyle fôd arnynt o achos y byd a ddaw, o herwydd nas gwyddont yn hollawl oddiwrtho. A pha fodd y gwyddont er darfod iddynt allu dioddeu pob cospedigaeth a chystudd a ddigwyddodd etto iw rhan hwynt, nad alle fod gosidiau a phoenau eraill nad abl neb iw dioddeu o fod poenau 'r byd a ddaw yn anhyspys, mae hynny yn dangos eu bod yn fwy ofnadwy na phoenau 'r byd hwn, y rhai a wyddom oddiwrthynt. Mae 'n siccr gennif fod yr scrythyr yn eu gosod hwynt allan dan henwau digon ofnadwy, cwbl-echryslon; megis llynniau yn llosgi a thân a brwmstan, niwl y tywyllwch, pryf anfarwol, a'r tân anniffoddadwy: ond nid ydyw dynion drwg yn credu fod mo hyn yn wîr yn ol dull a sylwedd y geiriau, nad oes dim o'r fath beth a thân i losgi eneidiau, iw poenu ai cospi yn dragywydd. Ond gadewch i hynny fod os ydynt yn credu 'r bygythion hyn, mae 'n rhaid iddynt hefyd gredu mai rhyw beth ofnadwy a arwyddoceir wrth dân tragwyddol; ag os y [Page 96] scrythyr sy'n arferu 'r geiriäu geirwon sef Tan a Brwmstan trwy gyffelybrwydd er mwyn gosod allan erwindeb a gresyndod y poenau hyn yn fwy deallus i ddynion, beth am faint a fydd poenau 'r colledigion yn wîr ddiau yn eu rhîth a'i mâth a'i sylwedd eu hunain! o herwydd nid arfer yspryd Duw yw gosod pethau allan dan gyffelybrwyd a fo yn fyr o'r pethau y tebygir hwy iddynt. Am hynny na chadarnhaed dyn drwg yn y byd mo'no ef ei hun yn ei bechod, oblegid nis gŵyr pa fâth boenedigaeth sy' yn y byd a ddaw. Fe ddyleu hyn wneud ini arswydo ag ofni pechu, o herwydd y bydd pob beth yn y byd a ddaw nid yn unig y dedwyddwch, ond y poenau hefyd nid yn llai ond uwchlaw 'r y'm yn ei ddisgwil.
PENNOD II.
Ynghylch siccrwydd ein Marwolaeth.
AR ol inni fod yn dangos ichwi hyd yn hyn beth yr oedd Marwolaeth yn ei arwyddocau mewn amryw ffyrdd ag ystyriaethan, a pha ddefnydd iw wneuthur o honynt, neu synwyr iw ennill oddiwrthynt, fy ngorchwyl nessaf fydd dangos ichwi yr ail peth, sef y bydd raid i bob dyn farw ryw amser. Fe osodwyd i bob dyn farw unwaith: [...], mae hyn yn ol i ddyn, megis wedi ei gadw i fynu iddo ef.
[Page 97] Yr wyf yn credu nad oes neb a ddeisyf brawf o hyn, a wêl a'i lygaid, mae'r naill genhedl yn canlyn y llall, a'r sawl sy' hynaf a hwyaf eu hoes ma'ent o'r diwedd yn ymroi i'r Angau llymm. Yr oedd dau ŵr gynt, Enoch ag Elias; ni ddarfu i'r rhai'n mor marw, fel y mae marwolaeth yn arwyddocau ymadawiad yr enaid a'r corph, eithr hwy a symmudwyd i'r Nef heb ddiodde ŷn lloes Angau. Ond marw yw'r dynged gyffredin, ag nid oes yn dianc oddiwrthi, ond y sawl y bo Duw yn gweled yn dda drwy ei holl-alluog awdurdod eu hescysodi am achosion cymmeradwy yn ei olwg ef; ag nis bu ond dau o'r rhai'n er dechreuad y byd, ag nis bydd un mwy tan na ddelo Crist i farnu'r byd. O herwydd medd St. Paul y sawl a fo byw ar y ddaiar yn amser ei ail ddyfodiad, ni fyddaut feirw, ond hwy a newidir. 1 Cor. 15. 51, 52. Wele yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch; ni hunwn ni oll, eithr ni a newidir oll mewn moment, ar darawiad llygad, wrth yr udcorn diweddaf, canys yr udcorn a gân, a'r meirw a gyfodir yn anllygredig a ninnau a newidir. Mae'r newidiad ymma yn gyfattebol i farwolaeth, yn ein rhoi ni yn yr un cyflwr a'r meirw, a gyfodir yn nydd y Farn.
Y RHAN I.
Nid yw ordinhâd anghymmwys i ddoethineb a daioni Duw osod i bob dyn farw unwaith.
OND o flaen i'mi ddangos ichwi pa ddefnydd iw wneüd o'r ystyriaeth hon, sef o fod yn rhaid i bawb farw, gadewch i'ni ymorol pa fodd y digwyddodd i ddynol riw fod yn farwol; ym mysg y cenhedloedd nid oedd hyn na rhyfedd, na dadl, o herwydd nid oeddynt yn rhyfeddu weled corph daiarol yn marw ag yn ymollwng i'r llŵch: llawer mwy rhyfeddol fyddeu gweled sylwedd o gîg a gwaed yn dal mewn tragwyddol jeuenctyd a nerth ag esmwythdra, heb ddim pall naturiaeth arno, heb fod un amser yn glaf nag yn myned yn hên. Ond Cwestiwn yw hwn yn ein mysg ni, ag oni welwch yn dda ei alw ef felly, etto peth yw yn haeddu ei ystyrio, er pan in haddyscir allan o lyfr Moses, er breued a gwaeled yw'n pebyll daiarol, etto pe buasei ddyn yn ymgadw yn ddi-bechod, y buasei yn anfarwol.
Ar ol i Dduw greü dyn, ai roddi ym mharadwys, efe a orchymynodd iddo beidio a bwytta o ffrwyth pren gwybodaeth da a drŵg: A'r Arglwydd Dduw a orchymynodd i'r dyn, gan ddywedyd, o bob pren o'r ardd gan fwytta y gelli fwytta, ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwytta o honaw; oblegid yn y [Page 99] dydd y bwytteych o honaw, gan farw y byddi farw Gen. 2. 16, 17. Arl ol in cyntaf henafiaid, er bygwth o Dduw fel hyn, fwytta o honaw, mae Duw yn cadarnhau ei farn, a'i fygythiad: Llwch wyti ag i'r llwch y dychweli; Gen. 3. 12. Beth oedd y pren hwn o wybodaeth da a drwg dirgelwch mawr in'i ydyw, fel nid amgen am bren y bywyd. Oblegid nis gwyddom oddiwrth yr un o honynt; o herwydd paham mae rhai gwŷr yn cymmeryd arnynt eu bod yn deall pob beth, yn rhedeg at gyffelybiaethau: ond o'm rhan i, er y byddeu yn dda iawn gennif ddeall y pethau hyn; os byddeu fodd, etto gwelaf, fod yn rhaid imi fy modloni fy hunan, iw gadel yn ddirgelwch fel y cefais i hwynt. Y peth a berthyn ini yw hyn, sef pan swriodd Duw Adda i farw, yr oedd ei holl eppil a'i hiliogaeth ef dan yr un farn: fel y dywed St. Paul i'ni: 1 Cor. 15, 21, 22. Trwy ddyn y daeth marwolaeth, yn Adda y mae pawb yn meirw, heblaw dywedyd, mae efe yn profi yn Ruf. 5. 12, 13, 14. Am hynny trwy ddyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod▪ ag felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymmaint a phechu a bawb: canys hyd y Daeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf. Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie arnynt hwy na phechasant yn ol cyffe ybiaeth camwedd Adda. Pwrpas hyn ei gyd ydyw bod pobl [Page 100] yn meirw, neu eu bod yn farwol; nid o herwydd eu pechod eu hunain, ond o herwydd camwedd Adda. Ag mae'r Apostol yn profi hyn trwy y rheswm hwn o herwydd er pechu o bawb yn gystal ag Adda, etto er Deddf Moses, nid oedd un Ddeddf yn bygwth marwolaeth yn erbyn pechod, ond yn unig y Ddeddf a roddwyd i Adda ymmharadwys, ag ni throseddodd neb mo hon, ag nis galleu neb ei threseddu hi eithr Adda ag Efa yn unig: yn awr ni chyfrifir camwedd lle na bo ddeddf, hynny yw, ni chyfrifir i ddyn yn y byd, i fod yn achos o farwolaeth iddo ef cyn bod Deddf i fygwth marwolaeth yn ei erbyn. Am hynny nis gallwn ddywedyd fod neb yn marw am y cyfriw gamweddau nad oes un Ddeddf yn eu cospi hwynt a marwolaeth. Am ba achos gan hynny yr oedd yr rheini yn meirw oedd rhwng Ada a' Moses, cyn rhoddi 'r gyfraith sy'n bygwth marwolaeth? ag etto meirw a wnaethant oll, ie hyd onid y rheini na phechasent yn ol camwedd pechod Adda, y cyfryw rai, meddaf, na wnaethant na bwytta o ffi wyth y pren gwaharddedig, nag ychwaith bechu yn erbyn un Ddeddf eglur a osododd i fygwth pechod a' marwolaeth. Am hynny o herwydd pechod y daeth y Farwolaeth hon i'r byd; efe a bechodd a thrwyddo ef y daeth marwolaeth i'r byd, ag felly 'r aeth marwolaeth ar bawb o herwydd ei bechod ef; er eu bod hwynt eu [Page 101] hunain hefyd yn bechaduriaid; oblegid er eu bod hwynt yn bechaduriaid, etto nid ar eu hachos eu hunain 'r oeddynt yn marw, o herwydd eu camweddau eu hunain, oblegid ni phechasent hwy yn erbyn un ddeddf a fygythieu farwolaeth, ond o herwydd camwedd Adda. Am hynny yn ol priodol arwyddocäd y geiriau, Gwîr yw mai yn Adda 'r y'm yn marw oll.
Yn awr mae llawer yn bwrw fod hyn yn dôst, sef, fod marwolaeth wedi descyn ar holl hiliogaeth Adda, o herwydd camwedd Adda yn unig. Fod yn rhaid i'r holl fyd farw o herwydd camwedd un dŷn; am hynny credaf na feddwl neb yn waith ammherthynasol im testyn presennol, os rhoddaf y cyfriw gyfrif o'r matter o'm blaen ag a wasanaetha i eglur-gyfiawnhau yngwydd yr holl fyd, Ddoethineb a daioni Duw yn y peth, cystal a'i Gyfiawnder.
I. Yr wyf yn ystyried ynteu yn y fan gyntaf, nad cyfiawnder un creadur daiarol wrth ei greadigaeth oedd caffael bywyd anfarwol yn y byd hwn, ond hyn a ddigwyddodd iddynt drwy ddawn a ffafor Duw, hon a alwaf cyfiawnder creadur wrth ei greadigaeth, yr hon sydd wedi ei sylfaenu yn ei naturiaeth ef; o herwydd oddieithr felly, nid oes gan un creadur mewn ymadroddiad priodol na hawl, iw bywyd, nag iw cynhaliaeth. Oblegid y byd oll a grewyd trwy ddaioni a hollalluogrwydd Duw, ag efe sydd [Page 102] fyth yn cvnnal, ag yn cadw ar eu traed bob un o'r pethau sydd ynddo. Am hynny mae Plato yn cyfaddeu, fod y Duwiau isaf râdd, sef yr eneidiau anfarwol y rhai a gyfrifeu efe yn deilwng o Dduwiol addoliad, wedi darfod eu cre gan y Duw goruchaf, ag yn caffael eu cynhaliaeth trwy ei ewyllys ef. O herwydd yr hwn a fedre greü pob peth allan o ddim ar y cyntaf, a fedr eu diddymmu hwynt hefyd pan welo yn dda: Am hynny nid yd nt lai rhwymedig i Dduw am eu cynhaliaeth mewn bywyd, nag ydynt am eu bôd: ag etto mae rhagoriaeth fawr rhwng rhoddiad syberwydd Duw, y rhai naturiol, a'r rhai Nefol. Neu 'r cyfryw ddoniau ag a fo'nt uwch-ben cwrs natuririaeth. Beth bynnag a wnaeth Duw yn anfarwol, heb fod ynddo, na had na gwreiddin marwoldeb yn ei wneuthuriad, anfarwoldeb ydyw ei hawl a'i gyfiawnder naturiol, o herwydd mae yn ei naturiaeth a'i Ddefnydd ei hun yn anfarwel, lel y mae ysprydion, ag eneidiau dynion. Ag lle bo'r peth fel hyn, blin a fyddeu'r tro, i wneuthur holl genhedlaeth o greaduriaid anfarwol, i fod yn sarwol o achos pechod un dŷn. Cam mawr a fyddeu hyn, ag nid dim llai na dwyn eu cyfiawnder naturiol oddiarnynt, sef eu hanfarwoldeb; a hyn hefyd nid o herwydd eu bai eu hunain. Ond pan fo rhyw greadur yn anfarwol nid ynddo ei hunan, eithr trwy ddawn Nefol, fe a eill [Page 103] Duw roddi y nefol anfarwoldeb tan yr ammodau a fynno eu hun, a chodi'r fforffed pan welo yn dda; a dymma gyflwr dyn cyn pechu. Nid oedd ei gorph ddim yn anfarwol trwy rym naturiaeth, o herwydd y corph a wnelir o brîdd yn naturiol a ddychwel i'r prîdd: Am hynny heb hollalluogrwydd Duw i gynnal y corph marwol, marw sydd raid iddo; am ba achos fe a ddarparodd Duw help a meddiginaeth i ddyn, rhag ei farwoldeb, sef pren y bywyd yr hwn a blannasai Duw ymmharadwys, ag heb ba un nid oedd fodd i ddyn i fod yn anfarwol: Wrth hyn yr oedd yn digwydd iddo o gwrs, ag nis galleu ochel marwolaeth ar ol ei droi allan o baradwys, ar ol ei wahardd a'i ddieithro oddiwrth bren y bywyd, nid oedd ganddo ef help mwy iw gadw yn fyw. Yr awron nid wyf yn credu fod neb yn ammeu nad alleu Duw, a hynny trwy gyfiawnder hefyd, droi Adda allan o baradwys am ei anufydddod. Os felly, ma'en rhaid i Adda farw ag iw holl hiliogaeth farw ynddo ef; o herwydd gan ei fod ef yn farwol yn ei naturiaeth ei hunan, yr holl blant a ennillo efe a fyddant farwol nhwythau, ag ar ol fforffedio pren y bywyd mae'n rhaid iddo ef a'i hiliogaeth, y rhai a gaewyd gydag ef allan o baradwys farw fel yntef; ag nid yw hyn yn dwyn dim oddiarnynt a fu erioed yn eu perchen trwy hawl naturiol (o herwydd nid oedd gan neb [Page 104] o'r dechreuad hawl nag i baradwys nag i bren y bywyd) ond mae yn eu gadel hwynt i ganlyn cwrs naturiaeth, a deddfau y farwoldeb ddigwyddol i bob creadur daiarol o achos ei ddefnydd marwol. Ni addawodd Duw mo baradwys i un dyn ond i Adda eu hunan, yr hwn a greodd ag a gyfleodd efe ym mharadwys; am hynny ni ddygodd ddim oddiar neb, ond oddiar Adda, pan yrrodd efe ef allan o baradwys, mae'n rhaid i blant, Gwîr, gyfrannu o gyflwr eu rhieni. Pe buasai Adda yn cadw ei gyfiawnder i bren y bywyd, ni gawsem ni ein rhan ynddo hefyd, ond gan fforffedio o hono efe ef, ni ai collasom ninnau efe hefyd trwyddo ef, ag ynddo ef yr y'm ni oll yn marw: ni chollasom meddaf, ddim o'n cyfiawnder ni, ond y cyfryw nefol ddawn a braint, a allasem ni gael, pe buasem yn trigo heb bechu, ag mae hyn yn ddigon i osod allan yn eglur fod Duw yn gyfiawn yn hyn oll, fel mewn pob peth arall. Ni wnaeth ef a nyni erioed ddim cam. Creaduriaid marwol ydym drwy ein creadigaeth, ag yn y cyflwr marwol hwnnw y mae Duw yn ein gadel ni; ag nid tôst nag anghyfiawn ydyw attal caredigrwydd lle bo achos da yn peru.
II. O herwydd fod yn rhaid in'i ystyried (yn ail) ar ol i bechod ddyfod i'r byd fod yn amhossibl i ddyn fyw yn anfarwol; heb wrthiau beunyddiol iw gynnal ar ei draed. Fe ddarfu i Adda wrth bechu lygru ei naturiaeth, [Page 105] ag am hynny yr oedd yn rhaid iddo ennill plant o'r unrhyw naturiaeth lygredig yn ddiddewis, efe a'i eppil, y cwbl oll ag sydd wedi ei troi allan o baradwys ydynt farwol, y naill yn gystal a'r llall: yn awr, yr oedd ei wyniau daiarol cnawdol wedi cael eu pennau yn rhyddion, yn awr y gwyddeu ragor rhwng y drŵg a'r da, am hynny yr oedd yn rhydd i ganlyn ei feddwl a'i synwyr a'i ewyllys ei hun, i ymwrthod neu i ddewis y drwg a'r da: ag ar ol deffro 'r bywyd cnawdol, nid oedd hîr ammeu i ba le y cyfeirieu ei wyniau ef. Mae'n ddigon hynod yn ei hiliogaeth ef ai chwantau ystormys yn gwneuthur cymmaint o ddrwg yn y byd. Yn awr, bwriwch yn amser y diniweidrwydd, sef cyn pechu o Adda, y buasai pren y bywyd yn cadw pobl yn anfarwol, pan na wnaetheu un-dyn na cham ag ef ei hun, nag ag craill, pan nad oedd dim perigl oddiwrth anifeiliaid gwylltion, nag oddiwrth awyr afiach, na llysiau gwenwynig; ag etto yr wyf yn meddwl na wâd neb, pe buasei Adda yn parhau trigo ymmharadwys, na allaseu anifail drŵg ei ddifetha ef; neu na allasei gael ei redeg trwyddo, neu, os buasei ddim gwenwyn yno, y buasei hwnnw yn ei ladd ef trwy ei fwytta neu ei yfed, neu'r oedd ganddo fâth arall ar gorph ym mharadwys nid o fâth ein cyrph ni yr awron, o herwydd siccr gennif y lladdeu'r pethau hyn nyni: am hynny ystyriwch [Page 106] mor amhossibl ydyw i ddyn fyw yn anfarwol ar ol cwymp Adda, hcb weithio gwrthiau bob mynydyn. Mae chwantau a gwyniau dynion yr awron yn afreolus iawn, ag mae'nt yn syrthio allan a'i gilydd, ag yn lladd ei gilydd os medrant; fe a gafodd y byd siampl o hyn yn fuan iawn, pan laddodd Cain ei frawd Abel, ag mae pob llofruddiaeth, a rhyfeloedd er yr amser hwnnw hyd yrowan yn tystiolaethu 'r un peth yn eglur. Yn awr nid oes fodd yn y byd i ochel hyn oddieithr i Dduw wneüd ein cyrph ni yn anfriwedig; ag ni bydd cîg a gwaed fyth felly heb wrthiau: Mae rhai yn gwneüd pen am danynt eu hunain, eraill a ddifethir gan anifeiliaid gwylltion, eraill gan siawns ddrŵg, ag mae cymmaint o ffyrdd i ddinistrio 'r cyrph brau hyn, fel y bo yn rhyfedd eu bôd hwynt yn parhau cyhŷd; etto 'r oedd corph Adda yn mharadwys mor gwbl ddaiarol, ag mor frau a'n cyrph ninnau; ond afraid hyn ei gyd pe buasei ddynion yn parhau yn ddiniwed, yna ni buasei na chwarylu nag ymladd, ni buasent yn gwneuthur pen am eu gilydd, nag yn eu clwyfo eu hunain trwy gymeryd gormodedd o fwyd a diod na thrachwantau eraill. Yna ni buasei ddim anifeiliaid gwylltion iw rhwygo ai llarpio, un awyr afiach neu lyssiau gwenwynllyd, ag yno fe fuasei pren y bywyd yn gwneüd i fynu bob pall y corph, ag yn cadw jeunctyd hoenus fyth ar [Page 107] ei thraed. Ond yn y cyflwr yr ŷm yrowan, nid alleu pren y bywyd ei hun mo'n cadw yn anfarwol; os lleddir dyn a chleddyf neu wenwyn. Ag mae hyn yn dangos yn eglur nad oedd fodd na ddeue bechod a marwolaeth ar unwaith i'r byd. Fe allaseu ddyn fod yn anfarwol, pe cadwasei heb bechu, ond heb wrthiau i'n cadw yn fyw, fe fydd gwyniau anifeilaidd afreolus ddigon siccr i wneüd pen am danom: Am hynny nid oes ini reswm nag achos yn y byd i weled har ar ragluniaeth Duw neu i rwgnach yn ei herbyn, o herwydd ein bod ni yn farwol, oblegid yn ol cwrs y rhagluniaeth nid oes fodd amgen.
III. Yn drydydd; Os ystyriwn gyflwr y bŷd hwn, fel y mae'n rhaid iddo fod er pechod Adda, ni ddymuneu neb fyw ynddo yn dragwyddol. Ni ddyleu 'n cyflwr neu 'n ystad fôd yn anfarwol, os hi a ordeiniwyd i ddynion mewn ewyllys da a chariad, ond y sawl a fo 'n gwbl ddedwyddol. Ond mae'r byd ymma yn ddigon pell oddiwrth hynny. Mae gwŷr synhwyrol yn cael ag yn gweled eu digon o hono mewn ychydig flynyddoedd, er na bo'nt mewn na thrafferth fawr yn y byd na chystudd; ond mae llawer o gystuddiau a ganlynant ddynion i'r bêdd, ag nad oes dim help yn eu herbyn ond pan welo Duw yn dda alw am danom. Mae marwolaeth gan hynny yn gwneüd pen am holl ing ag anghenrheidiau 'r tlawd, [Page 106] [...] [Page 107] [...] [Page 108] am holl gyfyngdra a chystudd y gorthrymmedig ar erlidiedig hefyd. Porth o esmwythdra ydyw ar ol holl demestlau creulon y byd trafferthus afry wiog, maen dryllio ei heyurn oddiar draed y carcharor, ag yn rhoi rydddyd iddo, mae'n sychu dagrau 'r gwragedd gweddwon, a'r plant ymddifaid, mae'n esmwythau ar gwynfan y newynog a'r noeth, mae'n dofi balchder a chreulondeb y llywydd trahaus, ag yn dadgyrchu tangnheddyf i'r byd; mae'n dileū 'n holl boen a'n llafur, ag yn esmwythau ar y calonnau a fo'nt mewn blinder a chlefyd, yn enwedig calonnau y neb a fo mewn gobaith o fywyd gwell er myned allan o'r byd hwn. Mawr yw poen a llafur dyn, a thosturus yw cyflwr dyn dan haul, tra bo yn y byd ymma, ond nid alleu neb moi ddioddeu pe bae i barhau felly byth: Am hynny, gan ddyfod pechod i'r byd, a chyn amled y blinderau a'r cystuddiau iw ganlyn fel nad oes fodd iw gochel; am hynny yr oedd Duw yn ddaionus ag yn drugarog yn gystal ag yn gyfiawn am fyrhau y bywyd helbulus hwn, er mwyn derchafu gwyr duwiol i gyflwr arall sydd nid dim llai ei ddedwyddwch nai anfarwoldeb.
IV. Cwymp Adda a'i bechod: mae marwolaeth yn wîr angenrheidiol i gadw'r byd mewn trefn a rhcol dda, ni ddichon dim arall dorri ar anwireddau rhai pobl, ond naill ai ofn marw ai marwolaeth ei [Page 109] hunan, mae pechodau rhai pobl mor flin ag afreolus fel na ddichon dim eu llestr na throi heibio 'r mawr ddrŵg y maent yn ei wneud yn y byd, ond trwy yn lân eu torri ymmaith a gwneūd pen am danynt. Dyna'r achos o fwrw drwg weithredwyr i farw, er mwyn symmudo 'r cyfryw rai allan o'r byd, sydd yn destrywio ag yn drygu pawb, a' phob peth oi hamgylch, tra bo'nt ar y ddaiar. Or achos ymma y destrywiodd Duw holl ddynol riw âr dwfr diluw, heblaw Noah ai deulu, o herwydd yr oeddynt mor bechadurus nad oedd dim iw hattal nai hiachau; Or achos ymma mae Duw yn cospi 'r byd anwireddus â nodau, a newyn, a rhyfel, i dorri ar gynnydd anwiredd, i leihau rhifedi pechaduriaid, ag iw cadw yn ol rhag pechu mwy. Ag os ydyw 'r byd mor ddrŵg ei drefn, ag mor afreolus dan y cospedigaethau hyn oll, yn rhôdd beth meddwch a fyddeu ef, pe bae yn llawn o bechaduriaid anfarwol?
Er yr amser y pechodd Adda y mae'r byd yn gynwysedig o'r duwiol a'r annuwiol yn gymmysg a'i gilydd, ag felly y bydd byth rhag llaw: ag mae cyfiawnder yn peru cospi'r anghyfiawn a gobrwyo 'r cyfiawn: ond nid oes fodd i hynny yn y byd ymma, oblegid nid yw pethau 'r byd yn gyfaddas ag yn gymmwys wobr i'r cyfiawn. Nid oes ymma ddim dedwyddwch hollawl iw gael; ni ddaethe ddyn byth i'r bŷd hwn [Page 110] oni bae ei droi allan o baradwys am ei bechod; ag mae'r rheswm ymma yn dangos na amcanodd Duw erioed mor byd hwn am lawndra gwobr a'r dedwyddwch eithaf; nid yw'r byd hwn chwaith le cyfaddas i gwbl-gospi pechaduriaid, o herwydd fod gwyr duwiol yn eu mysg hwynt vn byw. Ag oni wneuff Duw wrthiau nid ellir cospi 'r anghyfiawn, heb ddrygy'r cyfiawn hefyd. A phe cospid yr holl annuwiolion ymma yn ol eu haeddiant, bydde 'r byd hwn mor aflawen ag anhyfryd ag uffern ei hun; ag ni fyddeu erbyn hyn ond lle go anghymmwys i wŷr duwiol i fod yn ddedwydd ag i fyw ynddo: Er cymmaint o ddormach ag o flinder y mae'r dynion anwireddus yn eu gwneuthur i'r Duwiol, mae'n llawer hawsach i ddiodde oll a chant cymmaint, na bod yn wastad yn clywed eu hochneidiau trymion, na gweled yr artaith a fydd arnynt am eu pechodau tros byth bythoedd: Rhaid gwahanu'r drwg a'r da, cyn y gallo 'r naill gael ei ddiweddaf wobr, a'r llall ei boenedigaeth: ag nid oes fodd i wneūd y cyfryw wahaniaeth yn y byd hwn, ond yn y byd nessaf.
Am hynny, os ystyriwn gyflwr dyn ar ol pechu o Adda, nid oedd gymmwys na llesol i ddynol riw iddynt fod yn anfarwol ar y ddaiar. Yr oedd doethineb Duw a'i drugaredd ai gysiawnder yn gosyn i ddyn farw unwaith. Ag fe a wasanaetha hyn i lwyr [Page 111] gyfiawnhau yr ordinhâd hon: sef, Fe osodwyd i ddyn farw unwaith.
VI. J gyfiawnhau ymmhellach ddaioni Duw yn y peth hyn, ni allwn ddal sulw ar ddarfod i Duw addaw yn eglur, cyn iddo ef fwrw Adda yn farwol. Gan ddywedyd, Prîdd ydwyt ag i'r prîdd y dychweli mai hâd y wraig a yssigeuben y sarph: Gen. 3. 15. pan felldithiodd efe y sarph am dwyllo Efa; Gelyniaeth a osodaf rhyngoti a'r wraig, a' rhwng dy hâd ti a'i hâd hitheu: efe a yssiga dy ben di a thitheu a yssigi ei sodl ef. Yr hyn beth sy'n cynwys yr addewid o ddanfon Crist i'r byd: fel trwy farwolaeth y dinistrie efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hynny yw diafol, Ag y gwaredai hwynt, y rhai trwy ofn marwolaeth oeddynt tros eu holl fywyd dan gaethiwed: Heb. 11. 14, 15. Hynny yw cyn iddo fwrw dŷn yn farwol, mae 'n addaw iachawdwr a gwaredydd, yr hwn a orfoleddeu tros farwolaeth ag a gyfodeu 'n cyrph meirwon ni i fod yn anfarwol, ag yn ogoneddus. Dymma drugaredd a barn yn myned drwy eu gilydd yn rhyfeddol! Fe a ddarfuasai i'r dyn fforffedio ei anfarwoldeb, ag nid oes iddo fodd i ochel marw. Ond cyn i Dduw ei fwrw ef yn farwol, mae'n addaw adgyfodi ei gorph ef i fywyd tragwyddol: ag oes ini ynte achos yn y byd i achwyn ddarfod i Dduw ddeilio 'n dôst a nyni; trwy ein gwneüd yn rhannog o'r felldith a ddigwyddde [Page 112] i bechod Adda, a thrwy 'n barnu i farwolaeth amserol: ag yno wedi addaw 'n cyfodi o feirw eilwaith, a rhoi in'i ansarwoldeb mwy gogoneddus, yr hon na chollem byth. Yr oedd yn anghenrheidiol i ddyn farw gan iddo bechu, o herwydd, fel y clywsoch yn barod, nid oedd iddo fyth fodd i fod yn gwbl-Ddedwydd yn y byd ymma; a'r unig ffordd iw wneud, oedd ei fymmud ef i fyd arall, a rhoi iddo anfarwoldeb well. Fe wnaeth Duw hyn mewn ffordd ryfeddol, wrth roddi ei fâb ei hun i farw trosom, ag yn awr bychan yw 'n hachos ni i gwyno ein bod ni ei gid i farw yn Adda, er pan i'n bywheir Ynghrist: Os buasem felly farw yn Adda heb obaith fyth o fyw drachefn, fe a fuasei hynny yn wîr yn dôst ar ddynol riw: Ond pan na bo marwolaeth yn arwyddocau ond yn unig fod yn rhaid in'i ymadel a'n cyrph, a byw hebddynt dros amser, er mwyn eu hail-godi hwynt yn anfarwol ag yn ogoneddus, pa reswm ini feddwl fod dim niwed yn hyn? Nid oes dim yn wîr, ag os ystyriwn bethau fel y dylem, mae Duw trwy ei anfeidrol ddainoi wedi troi cwymp Adda i fod yn fantes in'i, sef; er mwyn cyfodi dynol riw i gyflwr mwy dedwydd a pherffaith: O herwydd er bod paradwys, lle y rhoesei Duw Adda i drigo yn amser ei ddiniweidrwydd, a phan oedd yn ammhechodol mewn ystâd ddedwyddach na'r byd ymma, ag yn llawn ddiogel [Page 113] oddiwrth gystudd a thwrsneiddwch sy'n ddigwyddol i gyrph marwol, ag oddiwrth bob blinderau a gofalon y byd hwn, etto mae'n hawdd cyfadde fod y nef yn ddedwyddach lle, nag oedd paradwys ddaiarol; am hynny mawr yw'n helw ni a'n hennill o gael ein derchafu ir. Nef oddiar y ddaiar, na phe buasem yn wastad yn byw mewn paradwys ddaiarol: Chwi a gyfaddefwch hefyd oll, fod cyflwr gwŷr duwiol ar ol ymadel ai cyrph, a chyn yr adgyfodiad yn ddedwyddach bywyd, nag oedd byw ymmharadwys, o herwydd hwy a fyddant gida Christ, fel y dywed St. Paul, Yr hyn sydd lawer gwell, 1 Phil. 2. 3. A phân adgyfodir ein cyrph trachefn oddiwrth y meirw, chwi a addefwch y byddant yn fwy gogoneddus nag oedd corph Adda ym mharadwys: Oblegid fod y dyn cyntaf o'r ddaiar yn ddaiarol, ond yr ail dyn yr Arglwydd o'r Nef: 1 Cor. 15. 47. 'r oedd corph Adda yn farwol ag yn ddaiarol, er y cawsei fod yn anfarwol trwy ddawn Duw. Ond yn amser yr adgyfodiad fe a gyfnewidir ein cyrph ni i fod yn debyg i gorph gogoneddus Crist: Y rhai cyfiawn a lewyrcha fel yr haul yn nheyrnas eu tâd, Matt. 13. 43. Ag megis y dygasom ddelwy daiarol, ni a ddygwn hefyd ddelw y Nefol: 1 Cor. 15. 49. wrth hynny mwy yw 'n mantes ni o gael ein prynnu gan Grist, nâ phe buasai Adda heb bechu erioed. Ag nid oes ini mor achos na lle i [Page 114] gŵyno, mai trwy ddŷn y daeth marwolaeth, gan ddyfod trwy ddŷn hefyd adgyfodiad oddiwrth y meirw. Am hynny achos da oedd i St. Paul i glodfori a mawrygu grâs Duw am brynedigaeth y byd trwy ein Harglwydd Jesu Grist, uwchlaw ei gyfiawnder a'i dostrwydd yn cospi pechod Adda â marwolaeth: Ruf. 5. 15, 16, 17. Eithr nid megis y camwedd, felly y mae y dawn hefyd; canys os drwy gamwedd ûn y bu feirw llawer, mwy o lawer yr amlhaodd grâs Duw, a'r dawn trwy râs yr un dyn Jesu Grist i laweroedd. Ag nid megis y bu drwy ûn a bechodd, y mae'r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad, eithr y dawn syddo gamweddau lawer i gyfiawnhâd. Canys os trwy gamwedd ûn y teyrnasodd marwolaeth trwy ûn, mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosogrwydd o râs, ag o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy ûn Jesu Grist. Ymmha scrythyr y mae'r Apostol yn mawrygu Grâs Duw o achos pedwar pêth. J. O herwydd fod marwolaeth yn gyflog teilwng i bechod, ag a ddaeth i'r bŷd o herwydd camwedd un dyn, ag o ran Duw gweithred cyfiawnder ydoedd. Ond dawn grâs ydyw'n prynedigaeth drwy Grist, Dawn heb fôd in'i na hawl na chyfiawnder iddo. II. O herwydd trwy Grist ni waredir ymma yn unig oddiwrth y drygau oll sy'n canlyn ar bechod Adda, ond oddiwrth euogrwydd ein pechodau ni ein hunain, [Page 115] canys er dyfod y farn o v̂n camwedd i gondemniad mae'r dawn o gamweddau lawer i gyfiawnhâd. III. O herwydd er ein marw ni trwy Adda, nid ŷm yn unig yn ail fyw trwy Grist, ond nyni a gawn deyrnasu mewn bywyd trwy un Jesu Grist; ag mae hwn yn fywyd llawer dedwyddach, na'r bywyd a gollasom drwy Adda. IV. O herwydd fel trwy gamwedd v̂n y daeth marwolaeth i'r bŷd, felly trwy un y daeth bywyd hefyd, trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bôb dŷn i gyfiawnhâd bywyd. Nid oes ini ddim achos i gwyno, fod Duw yn cyfrif camwedd Adda in'i yn farwolaeth, os parasai cyfiawnder Crist ini fywyd tragwyddol. Mae'r cyntaf yn canlyn yn angenrheidiol ar droi Adda allan o Baradwys; yr ydym yn rhwymedig am yr ail i râs a dawn Duw.
Fel hyn y gwelwn pa sutt y daethom i fôd yn farwol; nid trwy Dduw y daeth marwolaeth i'r bŷd, efe a'n creodd mewn ystâd ddedwyddol; ond trwy ddyn y daeth pechod i'r bŷd a thrwy bechod y daeth marwolaeth, pa arswyd hynnag ynteu sydd arnom o achos ein marwolaeth, fe a ddyle hyn wneüd ini gasau pechod ai arswydo yn swy, yr hwn a'n gwnaeth yn farwol nid yn unig ar y cyntaf, ond sy'n parhau hyd y dydd heddyw yn achos, ag yn golyn marwolaeth: yn wir fel y mae'n cyflwr yrowan yn sefyll, nid oes râdd yn y byd o rinwedd a ddichon ein cadw rhag marw, ond fe eill byw yn [Page 116] rhinweddol hîrhau ein henioes, ai gwneuthur hefyd yn lled-ddedwydd, pan fo pechod yn rhy fynych yn pryssuro in treiglo ni in bêdd, ag yn ein torri ni ymmaith ynghanol ein dyddiau. Mae dyn anghymhedrol yn gwanhychu y corph cadarnaf, ag iachaf, trwy ei yrru naill ai ir poeth-grŷd a'r dwfr-glwyf, neu trwy ei yrru i Bydrni ag ir conswmsiwn; mae eraill yn gwneüd pen am danynt trwy ddial ag ymladd, neu fod yn haeddu barn gyhoedd y swyddogion, neu ni hwyrach, drwy dynny am eu pennau y dial dwysaf, sef dial Duw, o herwydd Ni fydd byw'r annuwiol hanner eu dyddiau. Pa un bynnag, o dewi sôn am yr arswyd naturiol sy' gan bob dyn i farw, yr hwn a orchfygir yn haws, peth diniwed iawn a fyddeu marwolaeth ag nid felly yn unig ond peth dymunol hefyd, oni bae y colyn y mae pechod yn ei roi iddi, oni bae ei bod yn ein dychryn ni ag yn trwblio 'n meddyliau o achos y farn a'i canlyn. Na feiwch ynte er gyfiawnder Duw am ordeinio marwolaeth, mae Duw yn ddaionus yn gystal ag yn gyfiawn yn hyn ei gyd, ond trowch eich holl ddigllonrwydd yn erbyn pechod, tynnwch golyn mar wolaeth yna 'r ymddengus yn gariadus ag yn hawddgar, yna nid yw ond ymddattod ein cyrph marwol ni er mwyn iddynt hwy gael eu hailgyfodi a'r holl fantes a berthyn i jeuenctyd anfarwol. Digon siccr yw fod yn rhaid ini farw, fe [Page 117] osodwyd hynny ini, ag nyni a ennillwn y fâth synwyr ag athrawiaeth, oddiwrth ein bod yn gwybod nad oes fodd i ochel marw, ag a wasanaetha in cyfrwyddo i ddyfod o hŷd i anfarwoldeb fwy rhagorawl na honno a gollasom.
RHAN II.
Pa fodd i wneüd y defnydd goreu o'r ystyriaeth hon, sef fod yn rhaid marw yn ddiescusodol.
OBLEGID, Y. yn gyntaf: os siccr wîr yw fod yn rhaid ini farw, ag nad oes un modd i ochel marwolaeth, neu iw throi oddiwrthym, fe a ddyleu hyn ddysgu ini feddwl yn fynych am ein diwedd, ai gadw yn wastad megis yn ein golwg, o herwydd, paham y dylem ni fwrw heibio meddwl am y peth sydd yn ddigon siŵr i ddyfod, yn enwedig gan fod ein coffadwriaeth o fod yn angenrheidiol ini farw mor dra-llesol in cadw mewn rheol o threfn? Os bydd rhaid ini farw 'r wyf yn meddwl y perthyn i'ni ofalu am farw yn dda ag yn ddedwyddol; ag nid oes fodd i hynny fod onid ydym yn byw yn dduwiol; ag ni ddichon dim ein cadw mewn rheolaeth dda a Duwiol, cystal a dŵys ag aml feddwl am ein diwedd. Mi a ddangosais i chwi pa synwyr a ddylem ei ennill oddiwrth ein bod yn farwol, ond ni [Page 118] chymmer neb mor addysc hon, eithr y sawl a ystyrio beth ydyw marwolaeth, ag nis ymorola neb ychwaith ar ei hôl, ond y sawl a fo yn cofio yn fynych mai marwol ydyw: eithr pwy bynnag a fo yn byw drwy fod yn wastad yn disgwil ei awr ai amser, sydd ganddo gyfaredd parod yn erbyn gwenwyn ffoledd a gwagedd y byd; ag annogaeth feunyddiol i fyw yu rhinweddol.
Pan welo'r cŷfriw ŵr ei fôd yn chwannoccach i'r byd nag y bo achos yn gofyn, pan fo yn chwennychu pethau, nid yn unig a fo diangenrheidiol, ag nad rhaid iddo wrthynt, eithr heblaw hyn y pethau na fo'nt ond prin yn gyfleüs iddo. Medd wrtho ef ei hun, O ynfyd, beth yw pwrpas hyn ei gid, beth sy'n codi y syched anniffoddadwy hwn ynoti ar ol cyfoeth? pa beth gennit gyssylltu tû at dû, a chydio maes wrth faes ai'r byd ymma yw dy gartref? ai hwn yw dy ddinas barhaus? A wyt ti yn disgwil cymeryd dy esmwythdra dragwyddol ymma? O ynfyd-ddyn! mae'n rhaid iti ar fyrder symmudo dy babell, ar amser hwnnw (Dywed imi) eiddo pwy a fydd hyn ôll? Ar fyrder fe a gaeua Farwolaeth dy lygaid, ag felly nid elli weled mor Duw yr wyt yn ei addoli; fe a'th guddia'r ddaiar ar fyrder, a'r amser hwnnw cei dy lawn ddigon, lloneid dy safn a'th fol o brîdd a llŵch. Y cyfryw feddyliau a'r rha'in, a oera'n serch a'n cariad tuag at y byd ymma, a'n bodlona, ag [Page 119] a wna ini weled ein digon, a bod yn dda wrth y tlawd o'r peth a fo yngweddill: o herwydd beth a wnawn a mwy yn y byd hwn nag a wasanaetha in cadw, ag i ddwyn ein côst yn ein hymdaith trwyddo ef. A oes gwell defnydd iw wneuthur or cyfoeth nas daw in canlyn, nai troi yn weithredoedd o dduwioldeb, cymmwynasgarwch, a thrugaredd, er mwyn cael gwobr a thâl am danynt mewn bywyd a byd sydd well, trwy wneuthur i'ni gyfeillion o'r Mammon anghyfiawn? fel pan fo eisieu arnom, in derbyniont iw tragwyddol bebyll.
Pan ymglywo ei feddwl yn dechreu chwyddo, ag yn dringo yn uwch yn ol ei ffynniant yn y byd mewn cyfoeth a pharch, O Duw, medd, pa goden wâg yw hon! a ddichon pob awel o wynt ei chwythu ymmaith! Beth am wacced peth yw dŷn pan fo oreu arno! Mae iw weled yn wŷch ag yn landeg fel blodeuyn gwanwyn yn torri allan, ag nid yw ddim hwy ei barhad yn ail i hwnnw, mae'n diflannu! Pe byddem syw ymma mor llwyddiannus, a'r byd yn wastad yn rhedeg gida ni, etto yn fuan fe'n symmudir allan o'r byd hwn, fe a newidir y byd hwn fel wyneb chwareudy, ag mae pen i fod ar fyrder am holl fawredd daiarol; A pheth am waeled ag mor ddirmygus y galon a ymchwydda o achos goruchafiaeth ddarfogedig! meddaf am ffoled yw ceisio ystâd ag edrych yn bybyr ag yn gyfrifol, chwyddo [Page 120] 'r enaid y mae balchder, fel y mae'r dropsi neu'r dwfr glwy yn chwyddo 'r corph, eithr mae hon iw chyfrif nid am harddwch naturiol, ond am afiechyd, nid felly 'r llall. Beth wyf well na'r gwr tlottaf a fo'n cerdotta ei fara o ddrŵs i ddrŵs; oddieithr imi fod yn well fy synwyr, ag yn fwy fy rhinwedd nag ef? A ddichon tiroedd a thai a lleoedd uchel mawrion, a goruchafiaeth, pethau nad ŷnt in heiddo ag nis medrwn moi cadw yr hyd a fynnom chwaith, meddaf, a ddichon y fâth bethau a'r rhain wneuthur y cyfriw anferth ragoriaeth rhwng y naill ddŷn a'r llall? ai y rhain yw cyfoeth a glendid a gogoniant yr enaid? oni wnaed ni ei gid or v̂n ddaiaren ag o'r un priddin? Ond Duw ydyw ein tad ôll; ond ydyw yn rhaid ini ei gid farw yn unrhyw a gorwedd yn y llŵch fel ein gilydd, ag a eill yr amryw swyddau ym mha rai y mae pob un yn gwneud ei ran, y rhai nid ydynt yn parhau ond fel un rhan o chwaryddiaeth mewn cyffelybrwydd i dragwyddoldeb, meddaf, a eill y pethau hyn debygwch, wneud y fath anfeidrol ragoriaeth rhwng dynion ai gilydd? fe wneiff y cyfryw ysty riaethau a hyn ddynion yn ostyngedig ag a dorrant wddf balchder a hysdra er cymmaint a fo y cyfoeth y byddwn yn ei berchennogi, mae 'r pethau hyn yn dwyn ar gôf iddynt ar ol dringo nid hwyrach i ffon uchaf yr yscol, os diangant rhag syrthio, etto mae'n rhaid iddynt ddyfod [Page 121] i lawr drachefn, ie ai dodi cyn issed a'r llŵch.
Fel hyn pan welo ddyn y corph yn ei ymfalchio ei hûn ag yn ceisio cwcrio yr enaid, ai synny ai bendifaglu ef, trwy ei hudo â chariad pleserau cnawdol; mae'n cofio yn y man, fod yn rhaid iw gorph ef farw, ag y bydd yr holl bleserau hyn farw gidag ef, mai pleserau peryglus ydynt mewn gwirionedd yn lladd y corph yn fynych cyn ei amser; na weddai i ddyn yr hwn nid yw ond ymdeithiwr yn y byd ymma, ond pererin a thrafaeliwr ymroi iw esmwythdra, ag i fodloni ei fol ai nwyf. Fe a weddai ir enaid sydd i fyw yn dragwyddol edrych ar ol pleserau mwy parhaus, y rhai a barhant tû hwnt i gladdedigaeth y corph, ar cyfryw a fo yn ffynnon o lawenydd a hyfrydwch tragwyddol iddo ef, ar ol iddo ymadel ar cnawd hyn o gîg a gwaed. Dymma a gawn os meddyliwn am ein diwedd, fel y dangosais yn barod i chwi, dymma'r meddyliau a ddaw i'n pennau cyn fynyched ag y cofiom am farw. Ag nid yw bossibl i ddyn a'r meddyliau ymma oi amgylch, yn wastad yn barod i ddiodde siommedigaeth fawr gan dwyll y hyd, er gwyched fo, ag er cymmaint ei gyfoeth ai oruchafiaeth.
Nid wyf yn meddwl fod y rheol i fyw y mae rhai yn ei osod ar lawr ddim llai nag ammhossibl iw chanlyn ai chyflawni: sef hon: Bod i ddyn fyw bob mynydyn, oi oes [Page 122] megis pe bae y mynydyn diweddaf. Gwir yw, fe ddyleu ein holl ymarweddiad fod mor ddiniwed ag mor rhinweddol, a phe baem ni allan o law i roddi 'n cyfrif i fyny, ag i atteb ger bron Duw am ein gweithredoedd, ond ni fy erioed ddyn yn fyw, ag ni fydd byth a ddichon gofio am ei amdo yn wastadol, nag ychwaith a gofia gymmaint am ei farwolaeth pan fo o hirbell, a phan so yn agos megis ar riniog y drŵs: ond nid allwn mor byw megis pe baem ni i farw yn y man (a herwydd fe wnae hyn ben am bôb pleser diniwed, ag nid am hynny yn unig, ond hefyd am bob hely nt bydol, oblegid yn anaml a fo yn marw a feddwl am hyn) gallwn pa un bynnag fyw, ag felly y dylem fel rhai sydd raid iddynt farw, ag ni a ddylem fod a'r meddyliau hyn o'n cwmpas megis i amgylchu ein holl weithredoedd, o herwydd beth a berthyna ini cyn nessed a'n bôd yn farwol a ddyle yn wastad o ddydd i ddydd, awr ag ennyd gyfarwyddo ein bywyd ni an hymarweddiad.
II. Yn ail, os ydyw raid ini farw yn ddiatreg. Y peth cyntaf a ddylem ni ei wneuthur yn y byd hwn ar ol dyfod i oedran a synwyr yw'n darparu ein hunain yn erbyn amser ein Marwolaeth, fel na bo'm yn ammharod pan ddelo'n hamser i farw. Yr wyf yn cyfaddeu nad dymma mo arfer y bŷd, o herwydd diweddaf peth yr ŷm ni yn meddwl am dano, yw marw. Mae dynion yn [Page 123] cyfrif hyn yn o anghyfleüs pan fo'nt jeuainc ag yn nyrnod eu nerth; ond heblaw nad oes dim hyder iw roi ar fyw; a bod yn abl tebyg tra bo'm ni yn bwrw oed ag heb feddwl am dani, y geill marwolaeth yn sydyn syrthio arnom cyn i'ni fôd yn barod iw derbyn, ag yno byddwn yn anedwydd tros byth: Ond mi adawaf hyn heb sôn am dano hyd y bennod nessaf. Nid wyf yn ammeu bodloni pob gŵr ystyriol, mai po cyntaf yr ymbaratown i farw dedwyddaf ôll a fydd ein bywyd tra fyddom ar y ddaiar. Ni angenaf ymma chwaith, fod byw yn Dduwiol ag yn rhinweddol, yr hon yw'r unig ffordd i'n darparu i farw, yn trefnu i'ni ddedwyddwch yn y byd hwn, ag yn amddiffyn, ag yn ein gwared ni oddiwrth lawer o ddrygau y mae jeuenctyd gwŷllt, gwiliog yn chwannog iw tynnu am ein pennau, heblaw oferedd cadarnach y gŵyr a fo mewn oed; oblegid yn fwy priodol y perthyn y ganmoliaeth hon i Rinwedd, nag i'n paratoad i farw. Ag er hyn diammeu fod byw felly yn rhwymedgaeth ag yn swmbwl ag achlysyr mawr in darparu yn erbyn ein marwolaeth mewn amser, o herwydd ni chŷst y cyfryw ddarpariad ini ddim mwy o boen, na byw yn ol cwrs Rhinweddol yr hyn sy'n hirhau 'n henioes, ag yn chwannegu 'n da bydol, ag yn rhoi ini glôd a' pharch yn y byd; ag hefyd yn ennill cariad ini gan Dduw a dŷn. Ond o dewi am hyn, a gadel yr ymddiddanion [Page 124] hynny heibio; mae i'ni ddwy fantes o'n darparu ein hunain mewn amser yn erbyn marwolaeth an gwneiff yn fwy dedwydd na'r holl fŷd heblaw hynny. Sef, 1. Yn gyntaf: Mae hyn yn ein gwared mewn amser oddiwrth ofni marw, ag yno oddiwrth bob mâth arall ar ofn; 2. Yn ail: Mae'n ein cynnal, ag yn ein cadw ar ein traed, tan holl drwblaethau a chystyddiau'r bŷd hwn.
I. Yn gyntaf: Mae'n ein gwaredu mewn amser oddiwrth ofni marw; ag yn wir yna 'r y'm yn dechreu byw, pan elom heb ofni marw. Pe bae bobl mor ystyriol ag y dylent fod, hwy a feddylient am eu diwedd ynghanol eu llawenydd, a bod yr angau yn crogi ei gleddyf uwch eu pennau hwynt, heb ond megis un rhownyn iw ddal; fe a dorrai hyn ar eu ffoledd ai crechwen, ag ai synnai trwy eu digalonni hwynt, a gwneud iddynt newid eu gwêdd; ond diogelwch y rhan fwyaf o ddynion ydyw eu diosalwch hwynt, nid ydynt yn agor moi llygaid i weled eu perigl. Ond ni fydd ûn gŵr synhwyrol yn ewyllysgar i ganlyn y fâth siamplau a'r rhain; o herwydd nid oes dim diogelwch ynddynt: ag mae ini cyn amled a chyn fynyched i gofio am ein marwolaeth, a' bod yn annodd jawn ini ei gollwng yn angof, ond os cofiwn am dani mae hyn yn oeri ein gwaed, ag yn tanu pruddder dros ein holl wychder bydol. Beth mor ddi-ymadferth yw 'r cyfryw rai, [Page 125] pan fo'nt yn y perigl lleiaf? pan fo marwolaeth yn ein golwg yn dangos ei lladin lem, ag ond ychydig dywod yngwaelod y glass? Golwg wîr ofnadwy yw hon i'r sawl a fo yn amharod i farw; ag etto pe cymerent rydddid i feddwl mewn pa berigl y maent yn sefyll bob mynydyn, pa sawl mîl o siawnsiau a eill ddigwydd iw torri hwynt ymmaith, y rhai na fedrent nai rhag-weled nai gochel. Byddent mewn ofn a dychryn a syndod beunyddiol, nes y medrent feddwl am eu diwedd yn ddiofn; new y cymmodent ai marwolaeth trwy fawr gredu, a helaeth obeithio am fywyd gwell ar ol iddynt ymadel a'r byd ymma.
Wrth hyn nid eill neb fyw yn ddedwydd os bydd fyw fel y gweddai i ŵr synhwyrol ystyriol, ond y sawl a ddechreuo mewn amser i ddarparu i farw ag erbyn y byd a ddaw: Tan na wnelo hyn, efe a fydd synhwyrol yn wastad mewn perigl, ag os felly, bydd yn wastad hefyd tan ofn; ond dedwydd yw'r sawl a ŵyr ag a ystyria ei fod yn farwol, ag nad oes arno ddim ofn marw. Mae holl bleserau'r cyfryw ddyn yn bûr ag yn ddi-gymmyfc, nid oes un ysgrifen oddiar bared yn ei gynhyrfu ef, nid yw ei galon yn ffaintio, nai gydwybod yn ei friwo; nid oes arno ddim ofn nag arswyd peryglon presennol, o'r rhan lleiaf nid ydynt yn synnu ag yn ynfydu mo'no. Y dŷn a waredir oddiwrth arswyd angau nid oes arno ofn dim arall, [Page 126] fel y mae yn ofni Duw. Ag mae ofn yn gymmaint trwblaeth, fel na bo dim yn gwneud ein bywyd yn ddedwyddach na bod yn ddiofn.
Yn ail mae'n canlyn ar hyn. Os darparwn i farw yn ein hieuenctyd, hyn a'n cynnal dan holl flinderau a chystuddiau 'r bywyd hwn; mae cyn amled ein blinderau, ag mae'nt mor ddigwyddol in cyflwr tra bo'm ar y ddaiar, nad oes fodd i ddyn o râdd yn y bŷd iw hescöi a'i gochel hwynt ei gid; ie mae rhai trwblaethau cyn ddwysed nad eill y ddynol naturiaeth moi dŵyn hwynt, ai chynnal ei hunan danynt; am hynny nid oes dim ymwared oddiwrth y cyfryw rai yn y byd hwn: ein noddfa siccraf mewn llawer o bethau ydyw'n gobaith a'n hyder ar y byd a ddaw, fe eill gŵr ddioddeu ei gam ai gystudd presennol â pheth calon; pan wypo y caiff ar fyr weled pen o honynt, y rhydd marwolaeth ddiben iddynt; ag ai gesyd ynteu allan o'i cyrrhaedd. Yno 'r annuwiolion a beidiant ai cyffro: ag yno y gorphwys y rhai lluddedig. Y rhai a garcharwyd â gânt yno lonydd ynghyd, ni chlywant lais y gorthrymmudd: Job 3. 17, 18, 19.
Felly mewn amryw gyflwr nid oes dim a ddichon ein cynnal ar ein traed tebyg i feddwl a disgwil am farw; ond tra bo'm yn arswydo cymmaint a meddwl am ein diwedd, nid eill hynny roi ini ond cyssur gwan: Gwŷr o euog gydwybod sy'n ofni [Page 127] marw yn fwy na dim o ddrygau neu gospedigaethau 'r byd hwn; Oblegid beth bynnag ydyw eu cystuddiau presennol, diammeu nad ŷnt mor ofnadwy, nag mor annodd iw dioddef a ll nniau o dân, a brwmstan, a'r llynghyren anfarwol, a'r tân anniffoddadwy. Am hynny y cyfryw ddynion tra y bo'nt tan ofn ag arswyd marwolaeth, nid oes dim a ddichon eu cadw hwynt ar eu traed tan eu cystuddiau yn y byd ymma; Golwg tirion hyfryd yw'r byd nessaf i wŷr Duwiol, ag nid yw marwolaeth ond rhoi in'i feddiant o hono, yno y mwynhânt wobr eu llafur, au cystuddiau, au dioddefiadau, a chyflog eu ffydd au dioddefgarwch: hwy a ddioddefant yn ewyllysgar gywilydd a dirmyg, a gymerant eu hyspeilio am y pethau sydd ganddynt yn llawen, canys eu byr ysgafn gystudd hwynt sydd yn odidog ragorol yn gweithredu tragwyddol bŵys gogoniant iddynt. Eithr y gwŷr ammharod i farw, nid oes dim a esmwythâ ar eu meddyliau hwynt, pan fo'nt yn meddwl am farw, am hynny maent yn fyr or cyffur a'r cynnorthwy mwyaf sydd iw gael yn y byd ymma yn erbyn ei gystuddiau ef. Pa cyntaf yr ymbaratown i farw, cyntaf oll yr ymwaredir ni oddiwrth ofn marwolaeth: ag fe 'n cyssura gobaith i fyw yn well yn y byd a ddaw, wedi i'ni ddioddef yn fodlonus, holl demestlau, a cholledion, a chyfyngder y byd ymma o ba fath bynnag y bo'nt.
[Page 128] III. Yn drydydd: Mae'n rhaid ini farw yn ddigon siŵr, ag os rhaid, nid oes dim a weddeu i'ni yn well nag aberthu ein bywyd i Dduw, pan welo ef ei hun yn dda alw am danynt, hynny yw, goreu ini ddewis marw yn dippin cynt na'n hamser ysgatfydd, na gwadu Duw neu addoli delwau, neu v̂n rhyw arall o'r creaduriaid, neu lygru 'r ffŷdd, a chrefydd Crîst. Mae digon o resymmau i annog Cristiannogion i fod yn ferthyri, pan alwo Duw am danynt i ddiodde er ei fwyn; mae cariad Crist tuag attom, yr hon a amlygodd trwy farw trosom, yn ddigon o reswm ini farw yn ewyllysgar ag yn llonychol trosto ynteu hefyd, a gwobr anfeidrol y Merthyron. Y goron ogoneddus honno yr hon a gedwir gan Dduw ir sawl a orchfygant y byd a'r cnawd a'r cythrael, a wnaeth ir prif Gristion fod mor hôff gänddo hi, ag mor daer am dani. Diammeu nad oes na niwed nag anghyfleüsdra o farw er mwyn Crist, nâg oes, a chyn belled yw oddiwrth hynny mai dawn a charedigrwydd neilltuol ydyw medru marw er mŵyn Crist; o herwydd felly y cawsant, y cyfryw rai yn unig oedd anwylaf ganddo; ond mae'n rheswm presennol yn dangos ar ba ammodau hawdd y gallwn bwrcasu 'r ogoneddus goron; o herwydd nid ŷm yn ymado a dim, nag yn rhoddi dim am dani: yr y'm yn mârw er mŵyn Duw, a marw sydd raid, pa un bynnag a [Page 129] wnawn ai marw er mwyn Duw ai peidio: a phwy ynteu gan wybod mai marw sydd raid iddo, ag a gretto 'r gwobrwyau a berthyn ir merthyri, a edrych ar farw yn Ferthyr yn fatter ofnadwy? ni feddwl Cristion da yn y byd fod iddo ddim colled o'r achos, os yw 'n cyfnewid y byd hwn am fyd sy' well: Oblegid am gymmaint o flynyddoedd ag y mae ef yn ymadel a'r bŷd hwn yn gynt na'i amser yn ol cwrs naturiaeth; o gymmaint a hynny mae'n myned ir Nef ymmlaen-llaw: ag yn awr dywedwch ple mae ei golled ef, os felly fydd? Yn wir y ffordd haela o ddangos ein cariad tuag at Dduw, ag i ddangos ein cyflawn ufydddod iddo ef, a'n cwbl berffaith hyder arno, a'n gobaith ynddo, yw in'i yn rhwydd ag yn ewyllysgar ymadel a'n bywyd er ei fwyn: A eill dŷn a wypo fôd yn rhaid iddo farw, wneud llai na hyn er mwyn ei Dduw? Sef; ymadel a'r enioes nad yw yn ei eiddo ef ei chadw yn fyw pe ewyllysieu; ag offrwm ei fywyd yn fodlonol iddo ef, sef, y cyfryw fywyd ag sydd i ymadel ag ef ar fyrder pa un bynnag a wnelo ai mynnu ai peidio.
IV. Yn bedwerydd: Mae hyn yn dangos ini hefyd leied yw'r achos ini ofni gallu Dŷn. Ei gwaetha hwynt yw yn unig i ladd y corph marwol, yr hwn a fydd farw pe bae'nt hwy heb ymyrryd ag ef; ag nid yw hynny arwydd o allu mawr yn y byd, mwy nag yw torri gwydr brau: ag [Page 130] nid yw ddim mwy o niwed i ninneu chwaith nag yw'n bod ni yn marw, ag i hyn y ganwyd ni oll, ag nid yw hyn gam yn y byd i wr Duwiol, am hynny mae rhefwm da ynghyngor ein hiachawdwr. Nag ofnwch y rhai yn lladd y corph, ag wedi hynny heb ganddynt ddim iw wneuthur. Ond rhagddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn wedi y darffo iddo lâdd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern, ie meddaf ichwi hwnnw a ofnwch: Luc. 12. 4, 5.
Y mae hyn yn llawn rhesymmol pan fo ofn Duw ag ofn dynion yngwrthwyneb iw gilydd, a dymma 'r unig amser y mae 'n Harglwydd Jesu yn ei osod ar lawr. Ni ddyle neb trwy ffoledd fod mor flin o'i fywyd ai thaflu ymmaith; nag ychwaith i gythryddo ag ofni gwaetha Brenhinoedd, Tywysogion a phenaethiaid, yn llaw pwy y mae bywyd ag Angau. Marw fel ffŵl a fyddeu hyn ag nid fel Merthyr ond fel dyn gwrthryfelgar. Eithr pan fyddo Tywysog yn bygwth marw olaeth, a Duw hefyd yn bygwth damnedigaeth, dyna'r amser y dylem gymmeryd cyngor ein Hiachawdwr, i ofni Duw o flaen ofni dynion. Oblegid nid oes neb na addefiff fod awdurdod a gallu Duw, yn gymmaint ag ydyw awdurdod a gallu dyn o'r lleiaf; fe eill dynion ladd eu gilydd, o herwydd creadur marwol yw dyn, ar cyfryw un a ellir ei ladd, a phan so'r naill ddyn yn lladd y llall nid yw amgenach na [Page 131] bod diben am y sawl a leddir ychydig cynt nai amser, neu bod dŷn yn marw allan o drefn a chwrs naturiaeth. Ond geill Duw ladd hefyd. Ag hyd yn hyn mae'r gyffelybiaeth yn dal rhwng Duw a dyn, gwir yw yn y cyflwr a henwais mae dynion yn fwy tueddol iw rhoddi eu hunain ar drugaredd Dduw, nag ar drugaredd dyn, o herwydd nid yw Duw yn ein cospi yn wastad yn y byd ymma: nag yn gwneuthur dialedd yn bryssur, ag etto pan fo'n hiachawdwr yn crybwyll, fod Duw yn lladd yn gystal a dynion, mae hynny megis yn arwyddocäu fod Duw yu cospi yn fynych yn y byd hwn yn ol eu haeddiant, y cyfryw rai a ddewisant wadu'r ffydd a digio Duw, yn hytrach na digio dynion: o herwydd nid oes neb yn siŵr na chospiff Duw ef yn y byd ymma; ag mae llai o achos ir sawl a wadant y ffydd i ddifgwil hyn nag i neb arall. Cymhwysaf pobl i fod yn siamplau o ddialedd sydyn pryssur yw y cyfryw rai a fo'nt yn ymwrthod a Duw. Ond ar ol i ddynion lâdd y corph dyna eu heithaf hwynt, nid allant lâdd mo'r enaid; ag yn y peth hyn mae llawer o ragoriaeth rhwng Duw a dyn yn ei allu, o herwydd ar ol iddo ef ladd, efe a eill daflu i Dan uffern enaid a chorph: Gallu gwir ofnadwy ydyw hwn yn wir, ag mae i'ni achos iw ofni, ond nid yw gallu dynion, y rhai a allant yn unig lâdd y corph, o lawer mor ofnadwy: ni ddyleu 'n hyfder [Page 132] ni wneuthur dim i ddigio Duw, o herwydd oi ddigio ef a phechu yw erbyn, yr y'm mewn perigl cospedigaeth fwy ofnadwy oddiar law yr holl-alluog Dduw, yr hwn a ddichon wneuthur pen am enaid a chorph.
PENNOD III.
Ynghylch amser ein Marwolaeth, a'r defnydd priodol a' rheittiaf iw wneud o hono.
YSTYRIWN yn awr amser ein marwolaeth, hyn fydd unwaith ond nis gwyddom amcan pa brŷd.
Yrowan pan wyf yn dywedyd fod amser ein marwolaeth yn anhyspys, afraid dywedyd i chwi mai fy meddwl i yw oi fod ef yn anhyspys i'ni, hynny nis gŵyr neb pa brŷd y bydd yn rhaid iddo farw; o herwydd y gŵyr Duw oddiwrth amser ein marwolaeth, oblegid efe a ŵyr bôb pêth, ag nid oes dim yn ddirgel rhagddo, am hynny fel y perthyn i ragwybodaeth. Duw, mae amser ein marwolaeth yn gwbl hyspys.
Hyn sy' ddigon siŵr ynghylch ein marwolaeth; sef, fod yn rhaid ini farw oll; ag mae'n ddigon siccr nad yw 'n marwolaeth ddim ymmhell oddiwrthym, oblegid nyni a wyddom fod ein henioes yn ferr iawn: cyn y diluw 'r oedd oes dyn yn cyrraedd i lawer cant o flynyddoedd: ond mae llawer o amser yrowan wedi cerdded er pan ddywedodd y Psalmydd, na osodwyd yn gyffredin [Page 133] i ddyn i fyw ar y ddaiar ond byrr ystordyn. Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrugain, ag os o gryfder y cyrrhaeddir pedwar ugain mhlynedd, etto eu nerth sydd boen a blinder, canys ebrwydd y derfydd ag ni a ehedwn ymmaith: Psal 90. 10. Eithr mae ymbell un yn torri y rheol gyffredin hon trwy fyw yn hwy o ychydig, ond o'r rhan fwyaf dymma derm bywyd dyn er ei ddirynnu hefyd ir hŷd eithaf, am hynny mae'n iawn ini ddisgwil ymadel a'r byd ymma o fewn y term hwn, oblegid trwy gyffredinol gwrs naturiaeth, nid oes fodd in cyrph ni barhau fawr hwy. Hyd yn hyn yr ŷm yn fiŵr ddiammeu ond dymma'r peth nis gwyddom pa hyd o'r amser ymma y byddwn ni fyw, nis gwyddom ni a fydd ein amser ni i farw ai yn fuan ai yn hŵyr: o herwydd nid oes oedran yn y byd yn ddiogel oddiwrth Farwolaeth; mae rhai yn diffodd yn eu crŷd, a rhai oddiar fronnau eu mammau, rhai yn eu hieuenctyd ag ynghanol eu dyrnod, eraill yn byw i eithaf henaint, ag ysgatfydd yn claddu eu hôll dylwyth. Mae marwolaeth yn fynych am ein pennau pan feddyliom leiaf am dani, heb roddi in'i y rhybudd lleiaf o'i dyfodiad; ag mae hynny yn ddigon o brawf fod amser ein marwolaeth yn anhyspys ini.
Ond fe a haeddeu'r pethau hyn, bôb ŷn o honynt ei ystyrio ar ei ben ei hun, am hynny fel y perthynant i amser ein marwolaeth, [Page 134] daliaf sulw, a thraethaf Ynghylch y pedwar peth hyn, nid iw hesponio ag iw heglurhau hwynt, o herwydd mae'r rhan fwyaf o honynt yn ddigon o honynt eu hunain, ond er mwyn gwneüd y goreu o honynt i gyfarwyddo ein hymarweddiad tra bo'm ar y ddaiar.
J. Yn gyntaf: fod terfyn cyffredinol bywyd dyn, hynny yw, amser ein marwolaeth wedi ei osod a'i ordeinio gan Dduw: II. Er bcd Duw yn rhag-wybod amser marwolaeth pob dyn, fel y mae'n rhagwybod pob peth, etto mae'n anhebyg ddarfod i Dduw osod ag ordeinio i bob dyn yn arbennig amser pennodol. III. Nis gŵyr un gŵr yn fyw oddiwrth ei awr ai amser: IV. Mae'n rhaid ini farw unwaith. Fe osodwyd i bawb farw urwaith.
RHAN I.
Ddarfod i Dduw osod terfyn cyffredin i amser dyn, ag nid yw hwnnw chwaith ond byr.
I. YN gyntaf: Ddarfod i Dduw osod terfyn cyffredin i fywyd dyn, ag yr v̂n peth yw hyn ag amser ein Marwolaeth. Hynny yw, fe osodwyd i ddyn y cyfryw amser y fyw ar y ddaiar, ag nid oes iddo fodd i fyw ddim hwy, Job 14. 15. Mae ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei [Page 135] fisoedd ef gyda thi, gosodaist ei derfynau ef, fel nad êl trostynt. Nid yw meddwl y lle hwn am derfyn bywyd pob dyn yn neilltuol, ond ymma y dywedir am fywyd dyn yn gyffredin, fod terfynau wedi eu gosod iddi, ag nad oes fodd i ddyn fyned trostynt.
Ni ddarfu i Dduw osod allan mor terfynau hyn yn ei air ef, am hynny mae'n rhaid dyfod i wybod oddiwrthynt, trwy ddal sulw arnynt fel hyn. Y cyfryw amser ag oed, ag sy'n gyffredin yn terfynu dyddiau dyn, ie 'r hwyaf oesog: fe ellir cymeryd y cyfryw derfyn y'r rhan fynychaf yn derfyn cyffredin i fywyd dŷn, er bod rhai dynion weithie yn byw yn hwy.
Cyn y diluw nid oedd oes neb yn cyrrhaedd mîl o flynyddoedd, am hynny ni allwn feddwl am wirionedd, fod amser yr hwyaf ei oes wedi ei derfynu o fewn mîl. o flynyddoedd, ar ol i Dduw fwrw dyn yn farwol. Methusalah y gŵr hwyaf ei oes ar y ddaiar oedd naw can mlynedd a naw mlwydd a thrugain o oed, ag efe a fu farw, wrth hyn ni chyrrhaeddodd neb fîl o flwyddeu. A phan fyddwyf yn cyffelybu'r synniad hon a'r addewid o reoli gyda Christ dros fîl o flynyddoedd, sef y cyfryw addewid ag a wnaethpwyd ir Merthyri, a chyffeswyr y ffydd, a'r pûr Gristiannogion diragrith yn yr 20. o'r Datc: Yr oedd yn hawdd genifi feddwl, mae uchel-fraint y creaduriaid anfarwol oedd byw tros fîl ô [Page 136] flynyddoedd; a phe buasai Adda yn parhau heb bechu, na chawsei ef fyw yn ddim hwy ar y ddaiar, ond y cawsei ef ei symmudo ai dderchafu ir Nef yn anfarwol: Oblegid beth ydyw arwyddocäd y rheolaeth neu'r dey rnasiad hon gida Christ tros fil o flynyddoedd, mae'n debyg fod Duw yn ei amcanu megis iawn iddynt, am y Farwolaeth a ddescynnodd arnynt o herwydd camwedd Adda: ond nid yw'r mil o flynyddoedd hyn yn gwneud pen am ddedwyddwch y Seintiau gogoneddus hyn, ond creaduriaid anfarwol ydynt, ag er nad ydyw y Deyrnasiad hon yn parhau tros ddim hwy na mil o flynyddoedd, ni fydd dim diben iw dedwyddwch hwynt er newid eu lle ai trigfa, Canys y rhai hyn nid oes i farwolaeth awdurdod arnynt. Neu mae'n rhaid ir geiriau hyn, sef, teyrnasu mîl o flynyddoedd gida Crist arwyddocäu teyrnas dragwyddol annewidiol, a'r mîl o flynyddoedd hyn sefyll megis am ernes i'r anfarwoldeb. Ond mae Dadl anrhesymmol yn erbyn hyn, o herwydd yr ŷm yn darllen y daw y mil o flynyddoedd hynny i ben, ag y bydd diben hefyd i beth bynnag a ddêl ar eu hol hwynt, hyd onid ir farn ddiweddaf hefyd. Ond dirgeledigaeth fawr yw hon, a gwaith ofer ini disgwyl ei deall yn hollawl, tan na welom ei gogoneddus gyflawniad.
Ond er byw o rai dynion cyn y Diluw yn agos i fîl o flynyddoedd, etto ar ol y diluw [Page 137] yr oedd term bywyd a dyddiau enioes dyn wedi myned yn llawer byrrach, mae rhai 'n meddwl wneuthur o Dduw hyn pan bassiodd ef y farn honno. Gen. 6. 3. A dywedodd yr Arglwydd, nid ymrysona fy yspryd i a dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe, ai ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant. Megis y darfuasei i Dduw ordeinio 'r amser hwnnw, na chae ddyddiau dyn fod ddim hwy nag ugain mlynedd a chant; ond nid ydyw hyn yn cyttuno a'r cyfrif yr ŷm yn ei gaffael ynghylch dyddiau dyn ar ol y Dwfr diluw, o herwydd efe a fu fyw yn llawer hwy na hyn ar ol y diluw, nid yn unig Noah a'i feibion y rhai oedd gidag ef yn yr arch; ond fe a fu Arphaxad fyw bum cant o flynyddoedd a dêg a'r hugain, Salah pedwar cant a thair, ag Eber bedwar cant a dêg ar hugain, a bu fyw Abraham ei hunan i fod yn bymtheg mlwydd a thrugain a chant. Am hynny nid yw'r ugain mlwydd a chant hyn yn perthyn i ddyddiau enioes dyn yn gyffredin, ond hŷd yr amser y diodefeu Duw y cynfyd anwireddus, cyn dwyn y diluw arnynt i ddistrywio y genhedlaeth lygredig honno. Hynny yw, y cyd-ddygau a hwynt tros ngain mlynedd a chant, cyn y tywallteu'r diluw aw ei pennau iw difetha hwynt. Ond ar ol hynny o ychydig i ychydig fe a fyrrhawyd enioes dyn, yn gymmaint ag er darfod i Moses ei hun fyw yn llawer hwy, etto os efe a wnaeth y ddegfed [Page 138] Psalm a phedwar ugain, fel y mae'n myned yn ei enw ef, ag fel y mae'r Titl yn dangos, nid oedd dyddiau dyn yn ei amser ef yn cyrraedd dim uwchlaw deg a thrugain neu bedwar ugain mlynedd. 10. Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thrugain, ag os o gryfder y cyrrhaeddir pedwar ugain mlynedd, etto eu nerth sydd boen a blinder, canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymmaith. Ag fe a safodd hyn yn fesur cyffredin i ddyddiau dyn er hynny hyd yr awron, a chan ei fod cyn fyrred nid anghymwys y traetha y brenin Dafydd yn ei gylch fel hyn. Wele gwnaethost fy nyddiau fel dyrnfedd, am henioes sydd megis diddym yn dy olwg di; diau mai cwbl wagedd yw pob dyn pan fo ar y goreu Psal. 39. 5. Nid oes imi neges i chwilio ag i ymor ol yn fanwl beth oedd yr achos or cyfnewidiad mawr hwn, pa ham y mae amser cyn fyrred wedi ei osod i ddyddiau dyn: Mae 'n annodd gan rai gredu mai felly y mae, ond meddwl y mae'nt fod rhyw gam-gymmeriaeth yn y cyfrif: Megis pan ddywedir fyw o'r hên Dadau gynt wyth-gant neu nawcant o flynyddoedd, rhai a feddwl meddaf ei bod hwynt yn cyfrif eu blynyddoedd yn ol cwrs y lleuad nid cwrs yr haul. Hynny yw, mai misoedd oedd eu blynyddoedd hwynt, ag mae deuddeg o'r rhain yn myned i wneuthur i fyny un flwyddyn: ag yn ol y cyfrîf hynny nid oedd oes yr hynaf o honynt [Page 139] hwy, cyhyd ag oes llawer ŷn y dydd heddyw. O herwydd yn ol y cyfrif hwn, ni bu Methusala ei hun byw ond pum mîs a phedwar ugain mlynedd. Eithr llŵyr ddireswm ini feddwl fod Moses yn arferu dau amryw gyfrifon, ag yn gwneuthur i flwyddyn sefyll weithiau am v̂n mîs weithiau am ddeuddeng mî, heb roi i'ni ddim gwybodaeth o'i fod yn gwneuthur felly yn v̂n lle yn ei lyfrau, ag nid yw hwn fai i faddeu mewn sgryfennydd historiäu: Am hynny mae eraill yn achwyn yn uchel; na buasei eu lwc hwynt i fod ar y ddaiar pan oedd dynion yn byw cymmaint o Gantoedd o flynyddoedd: Fe a dalasai i ddyn fyw yn y dyddiau hynny, peth cyssurus a fuasai fyw mewn nerthol haelionus jeuenctyd, trwy glywed blâs a melusdra ar bob pleser yn y byd tros seithgant neu wyth-gant neu naw-cant o flynyddoedd, Difyr a hoenus a fuasai hyn. Yn ein hoes ni beth na roe pobl am y fâth gaffaeliaeth a hon? ond yr awron prin yr ydym yn cael amser i droi o amgylch, ag i edrych o'n cwmpas ond mae penllwydni, a henaint, a llibynrwydd yn ein rhybuddio ni i feddwl am ein hamdo, a'n diwedd. Am hynny er mwyn dilyn fy rheswm ymmhellach, a gwneud y goreu o'r peth. Mi a ddangosaf 1. Yn gyntaf leied yw'r achos sydd ini i achwyn o herwydd fyrred yw'n henioes, ag 2. Yn ail pa ddefnydd doeth a' da a ddylem ni wneuthur o hynny.
RHAN II.
Beth leied achos sydd ini gwyno fod oes dynol riw cyn fyrred.
PA achos bychan sy' ini gŵyno, fod oes dyn cyn fyrred, a bod angau yn rhy bryssur yn sengu ar ein gwartha: o herwydd 1. Yn gyntaf: nid ydyw byw yn hir ar y ddaiar, yn cyttuno ag ystâd bresennol y byd. Ag 2. Yn ail yr ŷm yn byw yn ddigon ei hŷd i bob defnydd llesol, a phwrpas doeth, er mwyn pa rai mae n dda byw, ag i gyflawni pob gwasanaeth i ba v̂n yr ordeiniwyd bywyd.
I. Nid yw hiroes yn cyttuno ag ystâd neu gyflwr presennol y byd hwn. Beth oedd cyflwr y byd cyn y diluw, a pha fodd yr oedd y bobl yn y dyddiau hynny yn treulio eu hamser, nis gwyddom, o herwydd nid ydyw Moses yn rhoi cyfrif yn y byd o hyn: Ond os cymmerwch y byd fel y mae ef yn ein hamser ni ag fel yr ŷm ni yn ei gael ef. Cymmeraf i arnaf fodloni y cyfryw bobl pwy bynnag ydynt, yn cŵyno fod oes dyn yn ferr, na byddeu 'n ddedwyddwch gyffedinol i ddynol riw, pe bae 'n byw yn llawer hwy; Oblegid 1. fod y byd wedi ei rannu yn anghydran, hynny yw, mae rhai yn cael rhan helaeth o hono ef, ag nid yw eraill yn cael dim ond y maent yn ei ennill wrth chwŷs eu hwynebau a [Page 141] mawr boen, a llafur; neu'r pethau y maent yn eu crefu allan o eraill er mŵyn Duw, neu yn dyfod o hyd iddynt drwy dwyll a lladrad neu'r cyfryw foddion anwireddus: yrowan er y bydde y cyfoethog a'r llwyddiannus yn abl bodlon i warrio rhyw gantoedd o flynyddoedd yn y byd ymma o herwydd eu bod yn byw yn esmwyth arnynt, ag yn cael eu byd wrth eu hewyllys, ag yn mwynhau ei bleferau ef y faint a fynnont, etto tebygwn fod dengmlynedd a deugain neu drugain mlynedd yn fwy na llawn ddigon i gaeth-weision; a cherdod ddynion; siŵr llawn ddigon ei hŷd hyn o oes ir sawl a fo byw mewn mynych newyn ag eisieu, mewn caethiwed a charchar. A phwy bynnag sy' yn y tostgyflwr hwn ag etto a ewyllysie fyw yn hwy na hyn, mae'n rhwymedig iawn i ddiolch i Dduw, ag i glodfori ei ddoethineb ai ddaioni ef am beidio bôd o'r un feddwl ag ef: Am hynny mae achos a rheswm da i'r rhan fwyaf o bobl y byd i fod yn gwbl fodlon o fod eu hoes cyn syrred, oblegid nid oes dim yn eu heiddo iw denu hwynt, iw chwennychu hi yn hwy.
II. Yn ail: Mae cyflwr presennol y byd hwn yn gofyn ir naill genhedlaeth ddyfod ar ol y llall yn gynt: o herwydd fod y byd yn abl llawn o bobl, ag wedi ei rannu yn barod rhwng ei drigolion presennol, ag nid oes ond rhy ychydig o honynt, fel y Dywedais or blaen, mewn cyffelybrwydd ir [Page 142] lleill, sydd ganddynt ran gyfrifol o hono: yr awron bwriwch y byddeu ein holl henafiaid er cant neu ddeucant o flynyddoedd yn fyw hyd y dydd heddyw, ag yn perchennogi fyth eu hên feddiannau au goruchafiaeth, beth a ddaethe o'r genedl bresennol, sy' yrown wedi cymmeryd eu lle hwynt, ag sy'n gwneud cymmaint o drwst yn y byd a nhwythe? Ag os bwriwch olwg yn ol drychant, neu bedwar cant neu bum cant o flynyddoedd, mae 'r cyflwr felly dostach dostach, fe a fyddeu 'r byd ar y pâs hwnnw yn rhy lawn o drigolion, ag lle mae un dyn tlawd truan 'rwan, fe a fyddeu bum cant, neu fe a fyddeu 'r byd yn rhydd i bawb fel eu gilydd, ag yn ddihawl, neu i bob dyn hawl ar bob peth, ag ni chredaf i fyth y mynneu'r bobl gyfoethog, a dedwydd y rhai a ewyllysient hiroes i hynny mor bod. Fe a lŵyr ymdwye hyn yr aerod ieuainc, afradlon os na byddeu iddynt mor gobaith o ddyfod iw tir, hyd ym mhen y trychant neu bedwar cant o flynyddoedd, y rhai yn gyffredin a gyfrifant oes eu tadan yn hir ag yn anhydyn. Fe anrheithie hyn eu harfer hwynt, o warrio eu tiroedd cyn erioed eu bod yn feddiannol o honynt, ag a wnae iddynt fyw yn ddwl ag yn ddi-afradlon heb ddiolch iddynt; ag mi wn nad ydyt yn gwneuthur ond y cyfrif lleiaf o fyw felly: am hynny gobeithiaf am danynt hwy yn enwedig, na wnânt hwy pa un bynnag [Page 143] ddim defnydd o'r rheswm hwn yn erbyn rhagluniaeth Duw, sef o achos nad oedd eu tadau hwynt ond berr eu hoes ag o ychydig ddyddiau ar y ddaiar; ag etto o'r rhan fynychaf dymma'r gŵyr crâs tlysion sy'n hoffi eu gwan synwyr eu hunain, ag yn gwadu Duw, a phan drawo'r chwimp yn eu pennau hwynt a ymrafaeliant hefyd a phob peth sy' yn eu ffôl feddwl hwynt yn gwrthwynebu ag yn gwanhychu ffydd yn Nuw, ag yn ei ragluniaeth ef, ag ymmysc pethau eraill beiant yn helaeth, o herwydd fyrred yw amser dyn; ond bychan yw'r achos iddynt wneud felly oblegid eu bod yn fynych yn byw yn hwy nag y bo ganddynt ddim iw cadw.
III. Yn drydydd: Maer byd hwn yn ddigon drwg fel y mae yrowan yn sefyll, er byrred ein hamser i fyw ynddo, cyn waethed nas gŵyr pobl Dduwiol ond prin pa, fodd i dreulio ynddo ddeg a deugain neu drugain o flynyddoedd; ond ystyriwch waethed a fyddeu mewn pob tebygoliaeth, pe bae dyddiau dyn yn cyrraedd chwechant, seithgant, neu wythgant o flynyddoedd. Pan fo 'r byd nessaf ger llaw megis o fewn deugain neu ddeg a deugain o flynyddoedd, a phan fo'm yn barod megis yn troedio ar ei ymmylau ef, oni ddichon ei fod cyn nessed attom, attal pobl oddiwrth wneuthur y drygau mwyaf, a ŵyr neb pa faint o ddrygau a wnânt? os byddeu iddynt ond gobaith [Page 144] o fyw dros drychant neu bedwar cant o flynyddoedd ymmhellach? os ydyw pobl yn gwneuthur cymmaint o ddrŵg mewn ugain mlynedd neu ddeg ar hugain, pa faint helaethach o'i drygioni a fyddent, pa faint mwy o ddrŵg â wnaent mewn cantoedd o flynyddoedd? ag erbyn hyn ond lle dedwydd i fyw ynddo fyddeu'r byd ymma. Nyni a welwn pan oedd amser dyn wedi ei ddirynnu cyhyd yn y cynfyd gynt, fod ei ddrygioni ef hefyd mor annoddefus, fel yr edifarhaodd ar Dduw o herwydd iddo grëu dyn; ag am hynny yr ordeiniodd ddestrywio 'r holl genedl hon heblaw Noah ai deulu, ar cyfrif a'r rheswm goreu a ellir ei roddi o fod annuwioldeb wedi ymdanu tros wyneb yr holl ddaiar, ai thrigolion yn gwbl oll, yw hyn: sef o achos bod gŵyr annuwiol yn yr amseroedd hynny yn byw yn hîr, ag yn llwyddianus o dippin i dippin, yn llygru eu gilydd o'r naill ir llall, hyd nad oedd ond ûn teulu cyfiawn yn eu mysg hwynt, na dim rhwymedi ond ei destrywio hwynt oll, trwy adel y teulu cyfiawn hwnnw yn unig, yn fyw i ail-genhedlu 'r byd newydd.
Ag ar ol i Dduw ordeinio ynddo ei hunan, ag heblaw hynny addaw wrth Noah na ddestrywieu ef fyth mor byd drachefn trwy ddistryw mor gyffredinol ar diluw, hyd yn nydd y farn ddiweddaf; yr oedd yn rhaid o dippin i dippin fyrrhau enioes dyn, [Page 145] a hon oedd y ffordd nessaf iw wneuthur yn fwy tringar a rheolus, trwy symmudo hefyd siamplau drŵg allan or byd. A hynny a rwystre i wenwyndra annuwioldeb ymdanu, ag a ail lanwe 'r byd â siamplau newydd o gyfiawnder a rhinwedd; O herwydd lle bo aml genhedlaethau yn dyfod ar ol eu gilydd mewn ychydig amser, nid oes nemawr o oes nad yw yn cynnwys rhyw siamplau gwychion megis i adnewyddu 'r byd ag i helaethu doethineb a rhinwedd. Mi allwn ddywedyd llawer o bethau heblaw hyn, er mwyn bodloni a throi meddyliau y sawl sy'n cŵyno o achos bod eu hamser i fyw ar y ddaiar ond byr. Sef, nad ydyw beth iw ddymuno, os ystyriwn ein cyflwr presennol yn y byd ymma, Bod ini fyw ynddo saith neu wyth gant o flynyddoedd; ond yr wyf yn meddwl fod a ddywedais yn barod yn gwasanaethu, os medraf wneud yn dda yr ail peth a addewais. Sef, fod ein henioes yn ddigon ei hŷd os gwnawn y goreu o honi i gyflawni pob doeth a daionus bwrpas a osododd Duw o'n blaen. Hynny yw, os byddwn byw yn y byd hwn fel y gweddai i ddynion.
Yn awr ni ryfygaf addaw bodloni pôb dŷn ynghylch y peth hyn, o herwydd nid oes yn fyw y sawl a fodlona 'r sawl a feddyliant mae'r unig ddefnydd a ddylent wneuthur o'i bywyd yw bwytta ag yfed a meddiannu pleserau aflan y cnawd, fod deng [Page 146] mlynedd a' thrugain yn gystal ir pwrpas ymma ag wyth gant, neu naw cant o flynyddoedd: oblegid po mwyaf y meddiannent y pleserau hyn, a pho mynychaf y cymmeront hwynt, maent felly wrth eu bôdd fwy-fwy; ond mae'n rhaid ir cyfryw bobl ddeall, nad er mwyn hyn yn bennaf y ganed dŷn, nad yw'r rhain ond moddion i gynnal eu bywyd hwynt, yr hwn fywyd a welodd Duw yn dda ei gynnal ai ddifyrru trwy drefnu iddo ef amryw fodlonrwydd priodol, yr hwn fodlonrwydd hefyd nis gallwn ni moi esceuluso heb fod yn y cyfamser yn anesmwyth ag yn ofidus; ag o herwydd hyn nid eill neb ei anghofio a'i esceuluso ei hun; ond fe a grëwyd dŷn ar y cyntaf i bwrpas a defnydd uwch, ag fe a ddigwydd ini fod yn farwol trwy gamwedd Adda, nid ydym i fyw yn y byd ymma ond tra bom yn ymbarattoi i fyw mewn byd sy well.
Yr ydym yn dyfod ir byd hwn, nid i aros ynddo, ag i gymmeryd ein trigfa a'n hesmwythdra ymma, oblegid os felly y byddeu, goreu po hwyaf y byddem byw ar y ddaiar; nid yw'r byd ymma ddim amgenach na lle in profi, ag megis yscol rhinwedd ydyw i buro ag i berffeithio ein meddyliau, ag iw gwneud hwynt yn barod ag yn gymmwys i feddiannu ysprydol ddedwyddch y byd a ddaw; yr ŷm wedi dyfod i'r byd ymma nid iw feddiannu ond iw [Page 147] orchfygu, ag i orfoleddu trosto, i ddibrisio ei weniaith, ag i ddiodde yn fodlongar ei erwindeb gwaetha, a phwy bynnag a fo bŷw yn ddigon ei hŷd i wneud fel hyn, mae'n llawn ddigon hîr ei oes, ag a ddyleu ddiolch i Dduw am ei fod wedi gwneud pen oi holl waith, ai lafur, ai brofedigaethau; o herwydd pa lafurwr na lawenhâ o sôd gwedi gorphen ei waith, er mwyn myned iw esmwythdra? Pa forriwr na lawenycha o herwydd fordwyo o hono yn ddiogel trwy fôr uchel temhestlog, ai gyfrwyddo iw borth dymunedig?
Mae dau beth yn angenrheidiol i well-hau 'n meddyliau: sef, gwybodaeth, a rhinwedd: ag fel y darfu i Dduw weled yn dda fyrrhau ar ein hoes, felly y byrrhaodd ef hefyd ar ein gorchwyl, ag a ddangosodd ini ffordd ferr rwydd i ddyfod o hŷd iddynt ill Deuoedd.
Gwîr yw, peth diddiben yw gwybodaeth; ag nid yw bossibl bodloni 'r awydd sydd iddi gan wŷr awchus, tra bo'm megis yn ymbalfalu am dani yn y bywyd tywyll anhyspysol hwn: Ond dymma 'n cyssur, hynny oll o wybodaeth ag sydd anghenrheidiol in dwyn ir nef, sydd yn hawdd iw deall, ag nid yw yu gofyn chwaith nemawr o flynyddoedd ini i fod yn ddigon cydnabyddus a hi. A hyn yw'r bywyd tragwyddol, sef ini adnabod yr unig wir Dduw, ag Jesu Grist yr hwn a anfonodd ef. A hyn oll a [Page 148] ddatcuddir ini yn yr Efengyl: ag ar ol ein myned unwaith ir Nef, ni byddwn ni dro yn deall yn rhwydd ag yn eglur y pethau sy' ddirgelaf yr awron ag anhawsaf iw deall, sef, cwrs a threfn yr holl greaduriaid, a rhagluniaeth Duw yn rheoli ag yn llywodraethu arnynt, mewn modd llawer amgenach, nag y mae'r yscolheigion a'r Philosophyddion goreu yn eu deall hwynt yr awron, ie, pe bae'nt fyw tan gan-mlwydd o oed.
Ag am rinwedd mae'r ffordd at honno hefyd yn rhwydd ag yn ferr, sef, trwy fod genym y gorchymynion perffeithiaf, ag hawsaf iw deall, y siamplau rhagorolaf, a'r addewidion mwyaf dewisedig, a'r peth sy' fwy na hyn ei gid, grymmus gymmorth, ymwared, a chynnorthwy yr yspryd glân in hadnewyddu a'n sancteiddio ni; a'r sawl na wellhâ ei feddwl drwy help y donniau ysprydol hyn mewn deugain mlynedd, neu ddêg a deugain, nid yw debyg o fod yn well oi plegid pe byddeu ef fyw hyd yn oes Methusalah.
Os am wueuthur daioni, gwir yw, mwy o ddaioni a wneiff gŵr da pa hwyaf y byddo ef byw, mae'r cyfryw ddyn yn gwneuthur mwyfwy o lês ir byd o ddydd bigilydd, ond mae Duw yn gofalu am hynny, a phan welo Duw yn dda alw am dano, mae'n ei escusodi ef oddiwrth wneud daioni yn y byd ymma yn hwy.
[Page 149] Hyn sy' bûr wîr nad eill dim fod mwy anghyfaddas nag i ddyn syw yn hir ar y ddaiar yn amser yr Efengyl, yn ol ewyllys dynion bydol; o herwydd fe a ddysgodd ein hiachawdwr Crist ini ddisgwil am erlidiau a dioddefaint er mŵyn ei enw ef. A dymma ran gwir gristiannogion yn fynych, am hynny y dywedodd St. Paul, os yn y byd ymma yn unig y gobeithiwn ynghrist, truanaf, o'r holl ddynion ydym ni. Diolchwn i Dduw nid felly mae'n bod yn wastad; os ê gormod o brofedigaeth fyddeu ir naturiaeth ddynol, fod yn byw tan erlidiau tros gantoedd o flynyddoedd, fel y digwydde iddynt os hwy ai twysog erlidiol trahaus a barhânt i fyw cyhyd.
Je fe a wanhyche'r fath hîr fywyd a hwn addewidion a bygythion yr Efengyl, y rhain bethau sy'n absennol oll, ag allan o olwg iw disgwil yn y byd a ddaw, cymmhelled oddiwrthym a deucant neu drychant o flynyddoedd neu ymmhellach ysgatfydd, ni roe y rhan fwyaf o'r byd fawr brîs nag ar addewidion nag ar fygythion yr Efengyl.
Ond deilio yn dôst a gŵyr Duwiol a fyddeu hyn, y sawl y mae'r Efengyl wedi eu dysgu i fyw uwchlaw'r byd hwn, ag i wneuthur cyfrif gwael o hono, ag i fod yn ddi-fatter am yr holl ddifyrrwch sydd ynddo, sef, os byddeu raid iddynt fyw ynddo amryw gantoedd o flynyddoedd; nid er mwyn ei feddiannu ef, eithr yn hytrach [Page 150] i fod yn ddibris o hono, ag i ymryson ag ef. Ag nid mymrin llai eu cam au tôst gyflwr hwynt, sydd megis yn llewygu trwy fynych a' hôff obeithio a disgwil am fywyd sydd well, y sawl a fo ai calonnau ai hymmarweddiad megis yn y Nef yn barod, meddaf, tôst a fyddeu gadw'r rhain allan cŷd: Bydde hyn yn brofedigaeth dôst oi dioddefgarwch hwynt. O herwydd nid oes dim mor anesmwyth ag yw gobaith wedi ei hoedi, ag er nad ydyw dynion yn arferol o hiraethu am eu marwolaeth, etto mae gŵyr duwiol yn hiraethu ag yn merwino am fod yn y Nef. Ag a fedrant fod yn ddigon bodlon i ymroi i farw, er gwaetha taerni eu naturiaeth yn eu tueddu i chwennych byw, pan welo Dnw yn dda alw am danynt, er mŵyn cael myned ir Nef.
Ar fyrr eiriau: Mae'n hamser yn y byd hwn yn llawn ddigon ei hŷd ei yrfa, ei filwriaeth, ei ymdaith. Mae'n llawn ddigon ei hŷd i ymdrechu a'r byd ymma, a'r holl brofedigaethau sydd ynddo; mae 'n llawn ddigon ei hŷd ini adnabod y byd ymma, ag i ddangos in'i ei wagedd ef, ag y dylem fyw y tû uchaf iddo; Trwy help a grâs Duw, mae'n llawn ddigon ei hŷd i lanhau ag i buro ein meddyliau ni, ag in darparu ni i fyw yn dragywydd yn bresennol gida Duw; a phan fo'm mewn mesur da wedi ein darparu ein hunain i fyw gida Duw, ag yn hiraethu [Page 151] am y Nef drwy fynych feddwl, a mynych ochneidio am dani, nyni a feddyliwn y mynudyn lleiaf yn rheir i fod oddiyno.
RHAN III.
Pa ddefnydd a ddylem ni ei wneuthur o herwydd fod Duw wedi ordeinio i ddyn ei amser gosodedig.
II. YN ail: Ystyriwn pa ddefnydd synhwyrol a ddylem ni wneuthur o hyn; ag mae dau beth yw ystyrio yn neilltuol. Sef, 1. ddarfod i Dduw ordeinio yn gyffredin i ddynol riw amser gosodedig i fyw ar y ddaiar; 2. nad ydyw r amser hwn ond byrr o'r eithaf ir hwyaf ei oes.
I. Sef, fod terfyn cyffredinol sesydlog, wedi ei osod gan Dduw i ddyn i fyw ar y ddaiar; ag nyni a allwn wneuthur aml ddefnydd doeth o hyn:
O herwydd. J. Yn gyntaf: pan fo'm yn gwybod nad allwn ni fyw uwchlaw trugain neu bedwar ugain mlynedd, neu ychydig mwy neu lai; ni ddylem mor ymystyn na'n gobaith, na'n disgwiliad, na'n hamcanion chwaith tu hwnt i hyn o amser, tu hwnt in stordyn. II. Nyni a ddylem yn fynych rifo a mesur ein dyddiau, ag edrych pa fodd yr ŷm yn treulio 'n hamser, ag yn tynnu ag yn pwyso tuag at dragwyddoldeb [Page 152] III. Pan fo 'n diwedd a'n hamser eithaf wedi tynnu yn agos, a'n hamdo an helor megis yn ein golwg; mae' n rhaid ini yr amser hwnnw yn enwedig fyned o ddifri in darparu ein hunain yn erbyn ein diwedd.
I. Ni ddylem mor ymystyn ein gobaith a'n difgwiliad, a'n hamcanion uwchlaw y term a osododd Duw i fod yn ystordyn in dyddiau: Ni ddylem ni mor byw fel creaduriaid anfarwol, nad ydynt i farw byth; o herwydd os mesurodd Duw ein dyddiau, ag os gosododd ef derfynau iddynt, gwrthyn ag anhresymmol i'ni ddisgwil byw ddim hwy, oddieithr y gallwn obeithio troi yn ol ordinhadau y Nef.
Ag etto pe bae bossibl, mae'n fwy direswm ini ymystyn ein gobaith, a'n chwantau, a'n hamcanion bydol pwyllog, yn hwy na therm ein bywyd, o herwydd beth am ffoled yw ini drwblio 'n pennau ynghylch y byd ymma yn hwy na'n hamser i fyw ynddo? Ag etto o wneud fel hyn nyni a esmwythaem o lawer o boen a gofal, ag a waredem y byd hefyd oddiwrth y drafferth, a'r annhrefn sydd ynddo, o herwydd chwantau dynion i ddarparu golud a goruchafiaeth iw plant ai hwyrion tros yr oesoedd a ddaw.
Fe alle pobl weled rhyw ddiwedd a phen oi llafur ai gofalon, ag o chwanegu cyfoeth, ag o gasglu tu at du a maes at faes; pe gosodent [Page 153] yr un terfyn iw chwantau, ag sydd iw bywyd: pe ystyrient pa hŷd y byddent fyw, a mesur eu dyddiau; a pha faint o ymborth ag o gynhaliaeth a wasanetha eu trô hwynt tra y bo'nt ar y ddaiar: yn gymmaint a bod pobl yr awron yn ymlafurio ag yn ymrwyfo yn y byd, hyd onid agos awr eu hangeu; fyth a hefyd i dyrru cyfoeth heb na meder na mesur, megis na bae na diben na dosben, nag ar eu dyddiau hwynt nai meddiannau chwaith.
Nid oes ganddynt gymmaint a chyscod escus o wneuthur felly, ond fel y dywedant er mwyn gofalu dros eu hil ai heppil, er mwyn gadel cynnysgaeth drom iw plant, fel y gallont fyw yn ddedwydd ar ol marw eu rhieni: ond nid ydyw hyn ond escus pûr, heb fymrin o reswm iw gynnal, oblegid fel hyn y mae'n bod, pan na bo dim o'r fath reswm iw roddi am y peth, pan fô pobl nid yn unig yn ddiblant, ond nid hwyrach yn ddigeraint hefyd, neu yn ddigon diofal am danynt; neu pan fo ganddynt ddigon iw roddi iw plant, er mwyn iddynt chwannegu eu dyfalwch ai rhinwedd, eithr nid iw maentumio hwynt yn ofer ag yn ddiofal. Nid oes ŷn tâd synhwyrol a chwennycha hyn; ie ni hwyrach pan na fo ganddynt ond merch i feddiannu eu cyfoeth mawr aneirif, a hon po cyfoethoccaf a fo, sydd debyccaf oll iw dwyn fel y gwelwn yn fynych i ryw fab afradlon, sydd wedi ei ymdwyo ei hunan [Page 154] yn barod tra bo'n difgwil bod yn ŵr mawr, a phan ddelo ei stâd iw law, bydd yn chwitt ag ef, gwneiff ben o hwnnw hefyd mewn ychydig amfer.
Rheswm teg i'ni barhau ein gofal i gasclu y peth a fo cymmwys i faentumio'n plant; er bod genym ni a wasanaetho i'ni ein hunain tra bo'm byw, and direswm i'ni ymlwybro a'r byd mewn awydd iw gwneud yn wŷr mawr uchelfraint. Mae rhieni Duwiol, Trugarog wrth y tlawd yn tynnu bendith ddwysach ar bennau eu heppil, ag mae dygiad da i fynu mewn ofn Duw a'i gariad yn siccrach etifeddiaeth i blant na mawr olud eu rhieni; ond y sawl a▪ fo 'n ymlowio ar bŷd hyd eu hawr ddiwaethaf er mwyn chwanegu eu cyfoeth a thyrru golud; yn anfynych y gwnânt hyn o achos arall yn y byd, ond i dorri eu chwantau anniwall, i dyrru cyfoeth yn erbyn yr amfer nad allont moi feddiannu, i brofeidio dros fyw yn hwy yn y byd ymma, nag y bo Duw yn lwfio, ag yn hwy nag y bo possibl iddynt allu byw. Mae hyn yn llawer amgenach ynfydrwydd, nag ynfydrwydd y dyn goludog yn y ddammeg: yr oedd tîr y gŵr goludog hwn gwedi cnydio yn dda, O herwydd hynny efe a dynnodd i lawr ei yscuboriau, ag a adeiladodd rai mwy, ag a ddywedodd wrth ei enaid, fy enaid, mae gennit dda lawer wedi eü rhoi ynghadw tros lawer o fiynyddoedd, gorphwys, bwytta, yf, bydd [Page 155] lawen. Yr oedd hwn cyn synhwyred ai fod yn gweled ei ddigon, ag yn deall yr amser y gweddai iddo droi heibio 'r byd er mwyn cymmeryd ei esmwythdra. Eithr Duw a ddywedodd wrtho, O ynfyd, y nos hon y gofynnir dy enaid oddiwrthyt, ag eiddo pwy fydd y pethau a bar atoaist? Luc. 12. 16.
Fel hyn gwelwch faint yw dyfais y rhan fwyaf o ddynion, er nad oes dim lle i obeithio y daw hi byth i ben, yn eu hamser hwynt yn enwedig faint yw bwriadau uchel brenhinoedd a phenaethiaid y deyrnas, sy'n bryssur jawn yn eu meddyliau, yn bwrw ar lawr pa fodd i ddefnyddio, ag i sylfaenu eu gorseddfainc uwch ben yr holl fŷd. Trwy fîl o foddion a hir hwdwl o ddigwyddiadau, neu fel y mae'nt yn rhoi eu brŷd i droi 'r deyrnas ai phen yn issaf o dippin i dippin trwy foddion dirgel ag megis anweledig; ond er cyffelypped iw eu dyfes gadw ei lle, ni ddaw hi byth i ben yn eu hamser nhw, am hynny mae'nt yn trwblio 'r bŷd yrowan ynghylch y peth na ddaw byth mewn golwg iddynt, tra bo eu llygaid yn agored, na neb arall sy'n fyw heddyw, mae'nt yn cymmeryd arnynt reoli r byd ar ol ymadel a'r byd. Ond mae amcanion newydd yn tarddu allan ymhôb oes, a chynghorion newydd, fel y mae cenedl newydd yn dyfod i fynu, a matterion newydd, a dynion cyfrwys hefyd iw trîn. Pe bodlone bobl i ofalu dim pellach nai hoes eu hunain, ag i bob v̂n edrych [Page 156] ar ol ei helynt ei hunaa ai amser ei hun; byddent lawer esmwythach arnynt, ag fe a fyddeu 'r byd yn haws byw ynddo, yn llonyddach ag yn fwy heddychlon, nag ydyw yrowan, nag yn debyg i fôd: ag etto fe debygeu ddyn hyn yn ddigon cymmwys i ddyn beidio ymdrafferthu ynghylch y byd ond tra bo'm i fyw ynddo; nessaf y gallwn ni beidio a gwneuthur dim cam a'r sawl a fo i ddyfod ar ein hôl, ag i wneud iddynt gymmaint o ddaioni ag a fedrwn, heb rwystro heddwch y byd ai lywodraeth presennol, eithr i adel yr oes nessaf i ofalu dros y sawl a ddel ar ein hol ni, ag i ragluniaeth Duw yr hon sy'n rheoli ag yn llywodraethu ar bob oes a thros bob cenhedlaeth o ddynion.
II. Yn ail: Gan ein bod yn gwybod oddiwrth fesur ein dyddiau yn ol cwrs cyffredin, nyni a ddylem yn fynych ei rhifo hwynt, gan gymmeryd cyfrif pa fodd y mae'nt wedi myned heibio, ag yn nessau at dragwyddoldeb. Mae'n hamser ni yn llithro i ffwrdd heb wybod i'ni; ag nid oes fawr yn marcio pa fodd y mae'n passio heibio, mae'nt yn eu clywed eu hunain yn gryfion ag yn hoyw yn nyrnod eu nerth heb na phall na gwendid arnynt; am hynny mae'nt yn bwrw byw tros drugain neu bedwar ugain mlynedd, ond yn anaml y cofiant fod deg a'r hugain neu ddeugain o'r rhain wedi myned hebio yn barod, hynny [Page 157] yw y rhan fwyaf a'r rhan oreu oi hamser; mae'nt yn eu siommi eu hunain trwy gyfrif holl barhânt eu dyddiau, heb ystyrio pa faint o'r rhain sy' wedi myned heibio yn barod, ag nad oes ond ychydig yn ol; pe meddylieu ddynion ar hyn yn gwbl-ddifri, ni byddent mor chwannog iw twyllo eu hunain trwy feddwl byw yn hîr: oblegid nid oes neb yn cyfrif ugain mlynedd a deng mlynedd ar hugain yn amser hîr i fyw; a dyna eu heithaf i fyw, pe byddent fyw cyhyd ag y gallo ddyn fyw, ond byrrach o lawer a fyddeu mesur eu dyddiau, os na pharhant mewn pob cyffelybrwydd ddim tu hwnt i ddêg neu bymtheg mlynedd, a phe ystyrie pobl fod eu henioes hwynt yn my ned fyrrach fyrrach, o ddydd i ddydd, os oes dim a wnae iddynt fod yn anwyl o'i hamser, fe wnae hyn iddynt wneuthur felly, a dechreu meddwl am fyw, hynny yw, edrych yn ddyfal ar ol y gwasanaeth a osododd Duw iddynt iw wneuthur yn y byd hwn, er mw yn pa un y ganwyd hwynt i fyw ynddo, y gorchwyl sydd hefyd yn angenrheidiol iddynt ei wneuthur, neu mae'n rhaid iddynt ddiodde poenau tragwyddol.
III. Yn drydydd: Pan fo' pobl yn tynnu tuag at ddiwedd eu cyfrif, ie, ni hwyrach ar ol passio o honynt amser byw yn ol cwrs naturiaeth, mae'n enwedig yn angenrheidiol ir cyfryw rai, ymroi yn hollawl ag yn ddifrifol i ddarparu i farw: o herwydd [Page 158] er siwred a fo'nt yn bwrw eu hoed, nid eill eu hawr ai hamser mor bod ym mhell oddiwrthynt; peth gresynnol an-escusodol a fyddeu i'r rhain eu siommi eu hunain, trwy ddisgwil byw yn llawer hwy, ar ol iddynt bassio y mesur cyffredin a osodwyd iddynt i fyw ar y ddaiar, a dyfod i gymydogaeth, ag megis am y rhych a'r terfyn a' marwolaeth, ar ol iddynt yn barod (os rhowch imi gennad i ddywedyd felly) megis fenthycca rhai o'i blynyddoedd gan y byd a ddaw.
Yrowan pan fyddwyf yn crybwyll y dyleu hên bobl eu darparu eu hunain i farw, nid wyf yn amcanu dywedyd mai dymma'r amser y dylent ddechreu cofio am farw, mae gida 'r hwyraf iddynt ddechreu meddwl am hyn yrowan; ond os oedd hyn yn sefyll heb ei wneud o'r blaen, diammeu fod agos yn rhyhwyr iddynt osod ar y gwaith o ddifri yn awr yn eu mynydyn diweddaf o'i hoes, agi wneüd y goreu a fedront o'i hamser bychan sydd yn eu dwylaw, er mwyn caffael maddeuant gan Dduw am warrio hoedl hîr mewn pechod a gwagedd, trwy anghofio eu creawdr a'i prynnwr hwynt.
Ond mae'r pethau a ddywedais i yn awr yn perthyn i'r rheini yn unig, a feddyliasant am farw er ystalm o amser, ag i'r sawl a oedd yn rheoli eu bywyd yn ol hyfforddiadau a chyfrwyddid y meddyliau hyn, y cyfryw rai ag nid ydynt yn gwbl amharod i farw, [Page 159] ond sydd barod i groesawu marwolaeth, deued pan ddêl; ond mae modd hardd a chymmwys i gyfarfod marwolaeth a weddeu 'n rhagorawl ir cyfryw bobl a hyn, 'rwyf yn eï alw yn ymbaratoad arbennig pwrpasol. Hynny yw, os dieddu 'n cyflwr yn y bŷd, ag os ŷm ymmlaen-llaw, ni a ddylem gymmeryd ein cennad a'r byd mewn amser, an hymddieithro ein hunain oddiwrth ei drŵst ai drafferth ef, pan fo'm megis am y gwrŷch a'r byd a ddaw, ag yn barod i gymmeryd ein hedfa allan o hwn, ni a ddylem droi ein hwynebau yn hollawl tuag at y byd o ddaw, llê yr ŷm yn myned ag i fod ar fyrder, a gwarrio y tippin bychan o enioes sy genym ini adnabod ag ymholi a ni ein hunain ag i fod yn gydnabyddus a Duw a'r byd sydd ar ddyfôd.
I. Er mwyn bod yn gydnabyddus a ni ein hunain, a Duw a ŵyr, nid oes ond rhy ychydig osowaeth o honom ni felly, tra bo'm yn ein hymdrafferthu ein hunain a' matterion y byd hwn. Nas llai gofalon y bywyd hwn, neu ei bleserau ef, ein teuluoedd, neu ein cyfeillion, neu yscatfydd ddieithraid sy'n ein dwyn ni oddiarnom ei hunain; am hynny cymmwys i wŷr cyn eu myned allan or byd hwn, ennill meddiant o honynt eu hunain, a bod yn rhyw faint mwy cydnabyddus a nhw eu hunain; cilio oddiwrth y bŷd i gymmeryd cwbl olwg ar eu hymarweddiad a'u holl weithredoedd, ag i weled [Page 160] beth sydd yn ol heb eu wneuthur ai gyflawni, er mwyn gwneüd eu cymmod gida Duw, a'i cydwybodau eu hunain; 1 edrych ag i chwilio a oes un pechod o achos pa un na ddarfu iddynt mor cwbl edifarhau, a dŵys ddeisyf maddeuant gan Dduw am dano a thrugaredd, a oes dim cam a wnaethont a'i cymmydogion, hob iddynt etto roddi dim iawn am dano; a oes dim syrthiad allan rhyngthynt ag vn dŷn yn y byd, heb ei wneud i fyny, a oes un rhan oi dyledswydd a ddarfu iddynt gynt ei hesceuluso, megis bod yn dda wrth y tlawd, a dŵyn i fyny eu plant a'u teulu yn ofn Duw ai gariad, os oes, mae 'n rhaid yrowan gymmeryd mwy o ofal iw cyflawni; a pha glefydau sy' yn ein meddyliau iw hiachau, pa râs neu ddawn sy' wannaf, pa wyniau neu chwantau sydd fwyaf afreolus, a mwyaf eisiau eu marweiddio, i roddi meddyginiaeth berthynnasol i bôb v̂n o'r rhain.
Ymbaratoad rhagorawl a fydden hyn yn erbyn marwolaeth; o herwydd se a chwanega 'n gobaith a'n cyssur ni pan fo'm yn marw, mae'n rhoi ini heddweh a bodlonrwydd yn ein meddyliau ein hunain o achos ein bod mor gwbl gydnabyddus a'n cyflwr, a thrwy roi pôb peth yn eu le ei hûn, a fuase gynt allan o drefn; mae'n gwaredu'n cydwybodau oddiwrth ofni bod yn euog, ag felly yn dŵyn arsau marwolaeth ag angeu, sef ei golyn a'i ddychryndod, ag [Page 161] ar ol tynny allan y colyn hwn, nid oes ini ddim arall i ymryson ag ef, ond rhyw dippin o arswyd sy' naturiol i bôb dyn, pan fo'n marw, ag nid yw cyn anhawsed gorchfygu hwn.
Wrth hyn pan fo'm wedi ein hymneilltuo ein hunain oddiwrth y byd, ni a ddylem dreulio rhan fawr o'n hamser yngwasanaeth Duw, yn ein gweddiau cyhoedd, a phan fo'm ar ein pennau ein hunain, o herwydd o'r rhan fynychaf mae gwŷr o drafferth bydol, ymmhell mewn dylêd i Duw o'r achos ymma: pan allent redeg ymma a thraw a threiglo o gwmpas, nid oeddynt yn cael mor amser, neu nid oedd ganddynt fawr ewyllys i gyflawni dyledswyddau eu crefydd, am hynny nid yw anghymmwys ini ymneilltuo tros ryw saint o amser oddiwrth drafferth a hwdwl y byd cyn ein marw i wneud i fyny hynny o ddiffyg, fel y bo ini ein ymroddi ein hunain i wasanaethu Duw, ar ol ini yscwyd llaw a chymmeryd ein cennad a'r byd. Ni a ddylem yrowan fod yn daer iawn yn ein gweddiau att Dduw, ar iddo er mwyn haeddedigaethau Crist faddeu ini ein holl bechodau a aeth heibio a'n gwendid a'n hanwybodaeth, a rhoi ini y cyfryw obaith cyssurus o'i gariad ef tuag attom, ag a wasanaetha in cynnal yn ein hawr ddiweddaf, a dofi arswyd Angau. Nyni a ddylem fyfyrio ar anfeidroldeb cariad Duw yn danfon Crist [Page 162] ir byd i waredu pechaduriaid; a chymmeryd golwg o ddyfnder ag uchder, o hŷd a llêd yr unrhyw gariad, yr hwn sy'n paffio pob gwybodaeth: Nyni a ddylem osod rhyfeddol ostyngeiddrwydd mâb Duw o'n blaen, trwy gymmeryd arno y naturiaeth ddynol, ei ddaioni anrhaethol yn marw dros bechaduriaid, y cyfiawn tros yr anghyfiawn, i'n cymmodi ni a Duw, ag ar ol i'ni gynhesu ein heneidiau trwy y cyfryw fyfyriadau a'r rhain; Nyni a ddylem dorri allan i glodfori Duw ein creadwr a'n Hiachawdr a'n prynnwr, mewn graddau uwch o Dduwiolder: Teilwng yw'r oen yr hwn a laddwyd i dderbyn gallu, a chyfoeth, a doethineb, a chadernid, ag anrhydedd, a gogoniant, a bendith, i'r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ag i'r oen y byddo y fendith a'r anrhydedd, a'r gogoniant a'r gallu yn oes oesoedd. Datc. 5. 12, 13.
An heblaw rhefymmau eraill sy'n gwneuthur y cyfryw ddarpariad yn erbyn ein diwedd yn gymmwys iawn, mae hyn yn ein cynnefino i'r gwasanaeth a'r gorchwyl sy' yn y byd a ddaw, o herwydd bywyd yw'r Nef o fawl a Duwioldeb, yno y cawn weled Duw a'i garu a'i addoli ef, a chanu iddo ef Halelujah yn dragywydd. Am hynny nid oes dim well in darparu ni i fyw yn y Nef na bod ein calonnau mewn cower addas i glodfori Duw, yn fyw o'i gariad ef, ag megis tû hwnt i ni ein hunain o achos [Page 163] disglairdeb ei ogoniant ef a'i berffeithrwydd, ag megis wedi ein llwyr draflyncu gan ddwfn a gostyngedig addoliad.
III. Felly pan fo'm ni yn myncd i'r bŷd a ddaw, fe a weddeu i'ni roi ein meddyliau arno yn fwy nag v̂n amser, i ystyrio ddedwydded y lle hwnnw, lle in gwaredir oddiwrth bob mâth ar ofn, a' phryddder, a' chystudd, a' phrofedigaethau y bŷd hwn, ple y cawn weled Duw, a'r Jesu bendigedig, ag ymddiddan ag Angylion, a byw ymmysg eneidiau gogoneddus, byw, meddaf, yn dragwyddol heb ddim perigl marw; lle nid oes dim ond cariad perffaith a' thangnheddyf, dim ymryson, na neb i groesi eu gilydd, ple nid oes dim anghaffael i rwystro neu i dorri ar ein llawenydd a'n heddwch a'n gorphwysdra dros dragwyddoldeb; ple nid oes dim poen, na blinder, na chlefyd, na llafur, na dim gofal i ddadflino ag i adnewyddu pall nerth corph marwol deffygiol, ple nid oes cymmaint a chyscod neu ddelw Angeu i dorri ar ein llawenydd cyflawn didranc; ple y mae dydd tragwyddol, a gwastadol ddistawrwydd a thawelwch, ple y caiff ein heneidiau feddiannu eithaf perffeithrwydd o wybodaeth a' rhinwedd, ple y cawn wasanaethu Duw, nid â gwasanaeth llwfr pendrwm aghynnes, ond â meddyliau bywiol cyflym, â holl rym a' nerth ein heneidiau; mewn v̂n gair, ple y mae y cyfryw bethau iw cael, ag nis gwelodd llygad, [Page 164] ag nis clywodd clust, ag nis daeth i galon dŷn.
Dymma'r meddyliau sy' addas a chymmwys i'r sawl a fo yn ei ymbaratoi ei hunan i farw, nid i feddwl am guled ei wedd, ag mor ddychrynllyd yr edrych, ar ol ei roi yn ei amdo, nid i feddwl mor dywyll ag mor drwm ag mor neilltuol yw'n llettu yn y bêdd, ple y mae'n rhaid ini fraenu a llygru tan amser eu hanfarwol ai gogoneddus adgyfodiad: Ond i dderchafu eu golygon tua'r Nef, i gymmeryd golwg o'r wlâd oleu ddedwydd honno, yn ail i Moses yn dringo i fyny i'r mynydd er mwyn cymmeryd golwg o'r Ganaan Nefol i ba un y maent yn siwrneio. Wrth arferu hyn y gallwn orchfygu hyd onid ein harswyd i farw er ei fod hefyd mor naturiol in'i. Ag a wna ini chwennychu gida St. Paul ein hymddattodiad er mwyn bod gida Christ, yr hyn sydd oreu gwbl; hyn a'n gwna ni mor ewyllysgar i ymadel a'r bŷd hwn er mwyn myned ir Nef, ag a fyddem i symmudo i ryw wlâd mwy difyr ag iachus, neu i ryw dŷ a fyddeu yn fwy tirion a chyfleus; nid dim llai ei lonychdod ai ddifyrrwch, pwy bynnag a fo a'r meddyliau hyn o'i amgylch pan fo yn marw.
Hyn yn wîr a ddyle fod ein gorchwyl beunyddiol, os byddwn ni byw fel y gweddeu ir Gristiannogol grefydd; mae'n gymmwys i bob amser, ag i bob rhith a' grâdd [Page 165] o ddynion; ag heb ryw fesur o hono, mae'n llŵyr ammhossibl gorchfygu profedigaethau y byd ymma, neu i ddilyn rhinweddau nefol: ond yn enwediccaf, hyn a ddyle fod unig waith a gorchwyl, neu fel y dywedwyf yn gymmhwysach, hyn a ddyle fod unig ddifyrrwch y gwyr dedwydd rheini, a fo byw yn ddigon o hŷd yn y bŷd hwn, tan na welsont yn dda, gymmeryd cennad têg gydag ef, ag yscwyd llaw; ar ol maith ymdeithio trwy bob adwy a thros bob llwybr, o'r naill ben ir llall a berthyn i fywyd dŷn, gan roi eu holl frŷd yn y cyfamser ar eu diwedd ag ar y bŷd a ddaw.
A dymma'r peth sy'n gwneud neilltuo oddiwrth dwrwf y byd mor angenrheidiol, neu o'r rhan lleiaf mor gymmwys, nid yn unig er mwyn esmwythau 'n cyrph oddiwrth eu llafur, ag i ymwrthod a thrafferth fydol, neu i ymroi mewn diofalwch ag esceulustra, neu i ymrwyfo ymma a' thraw i chwilio allan gymdeithion, neu i glywed newydd, ag i ymresymmu yn ddoeth ynghylch cyflwr y brenin a'r deyrnas, neu i ddyfod o hyd i ryw ffordd arall i warrio amser oddiar eu dwylaw, ag sy'n fwy o fwrn iddynt ag o drwblaeth nag oedd eu gwasanaeth a'u gorchwyl: Cyflwr peryglus iawn yw hwn, o herwydd ei fod yn eu hanghymhwyso hwynt i farw fel y dylent lawer mwy nai gofal yn edrych ar ol y bŷd; ond mae'n rhaid ini droi y byd [Page 166] ymma heibio er mwyn cael mwy o amser, a gwell cyfleustra in hymddarparu yn erbyn byw yn y nessaf▪ a thrwsio 'n heneidiau fel priod ferch drwsiadus a fo i gyfarfod ai phriod fab.
Pan fo dynion yn trin llawer ar y byd ymma, ag yn dryllio eu pennau ynghylch ei drafferth a'i fatterion, pan fo llawer yn deilio arnynt, ag yn wastad ar eu rhedeg o'r naill farchnad tû i'r llall, fel y gwŷr o gyfraîth o'i stafelloedd i sefyll o flaen y fainc, ag ar ol iddynt wneuthur pen am v̂n matter pan fo'nt yn cymmeryd un arall mewn llaw, mor drafferthus ydynt hwy, nad oes mor ffûn yn eu geneuau ar ol dyfod adref y nos i ddywedyd eu gweddi, na'r boreu chwaith, a dydd yr Arglwydd a fernir yn gymhwysach i gymmeryd esmwythdra nag i weddio; Meddaf, beth am oered cariad y cyfryw bobl tuag at y byd a ddaw? Ag ar ol cymmeryd cymmaint o osal ag a fedrwn, beth mor ddiogel y mae'r bŷd hwn yn ymlithro in calonnau ni, pan fo yn gofyn cin hamser ag yn rhoi ein meddyliau ar waith, pan fo'n cwbl orchwyl i brynnu ag i werthu, ag i glymmu bargeinion da manteisiol, ag i dynnu scryfennadau a gweithredoedd am dai a thiroedd: a ostega hyn ein gwyniau, onid ânt yn hytrach yn fwy afreolus o herwydd hyn? ag yn fwy amrafaelgar, oni hoga hyn ein balchder, a'n traha, a'n cybydddod yn gymmaint a bod [Page 167] digon ar ol hir drin y bŷd, i wyr duwiol i olchi ymmaith ei ffieidddra, ag i dynny blâs y byd ymma oddiar eu geneuau, ag i adfywhau ag i fywiogi eu cariad au gwybodaeth ô Dduw a'r bŷd a ddaw.
Mae hyn yn llawn ddigon o reswm, fel y dywedais o'r blaen, ini feddwl pa brŷd y bydd yn amser cymmwys i droi heibio 'r bŷd, os nid yn hollawl etto i gymeryd llai o fusness mewn llaw, ag iw feistroli fel y gallom gael mwy o amser ag o rydddid i ofalu am ein heneidiau, cyn byw i'r eithaf, ond mae hyn yn llawer mwy angenrheidiol pan fo 'r angeu megis ar riniog y drŵs; a phan wyddom ei fod felly wrth gwrs naturiaeth.
Da y gweddeu i'ni ymadel a'r bŷd cyn ein symmudo ni allan o hono ef, fel y gwyppom pa fodd i fyw hebddo, fel na bo yn chwith gennym ar ei ol pan fo'm yn y nessaf, am hynny cymmwys iawn fyddeu fod megis rhyw gyflwr cannol rhwng y bŷd hwn a'r nessaf; hynny yw ni a ddylem ein hymddieithro ein hunain oddiwrth y bŷd hwn, er mŵyn ein diddyfnu oddiwrtho, ie tra bo'm yn aros ynddo; wrth hynny nid anodd fyddeu ymadel a'r byd hwn er bod yn fwy parod i fyw yn y byd a ddaw, ond golwg gwrthyn yw, oddieithr er mŵyn diwallu eu tylwyth, neu er mwyn gwasanaethu eu gwlâd, gweled gwŷr ymron eu bedd, yn ymgrymmu yscatfydd tan bŵys [Page 168] eu cyfoeth fel tan eu hoedran tros eu pennau a'u clustiau yn nhrasferth y bŷd, yn ymgeisio lleoedd uchel a' goruchasiaeth, cyn daered a phe bae'nt ond dechreu ymhel a'r bŷd. Mae imi achos i ofni nad yw'r cyfryw rai yn meddwl ond ychydig am y bŷd a ddaw, ag na wnânt byth.
RHAN IV.
Pa ddesnydd sydd iw wneuthur o fod oes dyn cyn fyrred.
FEL y mae Duw wedi ordeinio i fywyd dyn yn gyffredinol ddiwedd-nod disigl, gosodedig, felly nid yw amser y bywyd hwn, oi fyned i'r eithaf, ond byr iawn. Canys beth ydyw Deng mlynedd a' thrugain, neu bedwar ugain mlynedd? Beth am gynted y mae'nt yn cerdded heibio fel breudddwyd, ag wedi eu passio oh wacced ychydigion ydynt! y môdd goreu in'i wybod hyn ydyw, nid trwy edrych yn ein blaen, oblegid yr y'm yn chwannog i dybied fod yr amser i ddyfod, yn llawer hwy nag y gwelwn ei fod ef. Eithr i edrych yn ol ar yr amser a aeth heibio, cymmhelled ag yr y'm vn cofio; ag beth am gynted y darfu am ddeg a'r hugain, neu ddeugain o flynyddoedd? Both am leied y cofiwn, pa sutt yr aethant heibio? ond heibio yr aethant, ag mae'r lleill yn myned ar eu hol yn chwyrn [Page 169] nhwythau, tra bo'm ni yn bwytta, ag yn yfed, ag yn cyscu; a phan fo'r rheini wedi cerdded hefyd, cawn weled ar ol rhoi 'r cwbl yn yr unfan nad ydynt ond ychydig bâch. Oddiwrth hyn y daliaf sulw ar amryw bethau o leshâd a defnydd mawr in'i er mŵyn cyfrwyddo a rheoli 'n bucheddau.
J. Os yw'n hoes cyn fyrred, fe a berthynai i'ni beidio a cholli dim o'n hamser; o herwydd ai da y gweddai ini fod yn afradlon o'n hamser, pan na bo genym ond cyn lleied o hono? naill ai ni a ddylem wneud y goreu o'n henioes, neu beidio ag achwyn ei bod hi yn fer; oblegid mwy gwarthrudd ag anglod ini ein hunain nag i gwrs naturiaeth, neu i ragluniaeth Duw: Oblegid fel y mae'r arwydd, mae genym ni fwy o amser nag yr ŷm ni yn gofalu i fyw ynddo, mwy nag yr ŷm yn ei feddwl yn angenrheidiol, i wneud y goreu o hono, trwy fyw yn ol gwir ddibennion, a pherwyl ein bywyd; ag os gallwn hebcor cymmaint o'n hoes mae'n arwydd ein bod ni yn ei chyfrif yn rhyhir, beth bynnag a fo ei gwir fyrdra hi o honi ei hunan: A phan fo'n hamser ni yn rheir o eusus ir rhan fwyaf o ddynol riw i wneuthur y goreu o hono, mewn moddion a' ffordd ddoeth, paham yn rhodd y dyleu Dduw ganhiadu ini fwy o amser iw chwareu ag iw warrio i ffordd? Ag etto ystyriwn hyn oll gyda nyni ein hunain, pa faint o'n hamser a ddarfu ini ei lŵyr golli, [Page 170] mor ddifatter ag mor anystyriol y buom o'n hamser y peth gwerthfawroccaf yn y byd, mor hael yr oeddym yn ei roi ef i bawb ai gofynneu ag a' i cymmereu, ag nid yn unig yn ei roi ef, ond ein bywyd ein hunain iw ganlyn.
Ped eisteddeu bobl i lawr, a bwrw golwg tros eu dyddiau a' aeth heibio, a gosod ar lawr gyfrif gwastad pennodol o'r amser a warriasant ar ol eu dyfod i oedran a synwyr; pa gyfrif cywilyddus a fyddeu yno? pa sawl malc a ymrithiau ini? beth am dippyned yr amserau yn nrhoed y cyfrif; a syddeu hynny a haddeu ei alw yn fywyd?
Hyn tros ben y cyfrif ynghyfer bwytta, ag yfed, a chysgu, uwchlaw a fo'n rhaid i gynnal naturiaeth, ag iw hadnewyddu, a hyn ynghyfer carwriaeth, anlladrwydd a' thrachwant, hyn ynghyfer yfed a' swagrio; hyn ynghyfer ein llusu yn iâch ar ol ein brathu gan ddiod neithiwr; hyn ynhyfer chwaryddiaeth a dawnsiau; hyn ynhyfer ymweled a derbyn cwmpeini ammherthynasol; ynghyfer chwedlena ofer heb na diben na dosben; ynghyfer beio swyddau rheolwyr, a' difenwi ein cymmydogion, hyn a' hyn o amser i lân-drwsio am danom ag in harddu ein hunain; hyn a hyn o hir oriau segurllyd, wedi eu gwarrio naill ai nid i bwrpas yn y byd, neu yn rhifo pôb hir fynudyn maith, neu yn rhoi sen i'r haul am ei fod cŷd cyn ei fachludiad, ag yn [Page 171] cadw yn ol eu pwyntmannau prydnhawnol: Ond beth am leied o amser a ymddangosai wedi ei dreulio i wîr ddibennion bywyd mewn cyfrif y rhan fwyaf a bobl?
Nid rhaid ond yn unig henwi y cyfryw bethau a'r rhain i wneud i un gŵr ystyriol feddwl mae camwarrio amser yw hyn mewn gwirionedd, a thaflu ymmaith ran fawr o'n bywyd byr nid i lês yn y byd. Ond fel y casfoch wybod oll fod hyn yn bod, ystyriwch gyda myfi pa brŷd y galler dywedyd am danom ein bod wedi colli ein hamser; o herwydd fod amser yn passio heibio yn bryssur iawn, ag nid oes fwy o obaith oi ddal, nag o attal olwynion cerbyd yr haul; ond nid yw pob amser a aeth heibio iw gyfrif yn golled; yn wir nid oes un amser yn ein heiddo ni, ond yr amser a fu a'r amser presennol; ag nid ŷm ni ddim pellach oddiwrth ei berchennogi ef, os nyni erioed ai pioedd ef, eithr y pryd hynny yr ŷm yn colli ein hamser,
I. Pan na fedrwn roi dim cyfrif o hono ar ol ei fyned heibio, pan nad y'm well erddo, nag mewn corph nag enaid: Dymma 'r ffordd deccaf drwy ein gwybodaeth a'n hymdeimlaeth ein hunain i farnu pa un ai 'n dda ai 'n ddrŵg y gwarriasom ein hamser, wrth ddal sulw, pa fath flâs y mae yn ei adel ar ein meddyliau, a' pha effaith sydd iddo ar ol ei fyned heibio: er ofered y bo pobl yn gwarrio eu hamser ma'ent yn [Page 172] cael rhyw bleser a' difyrrwch ynddo, tra parhao, ond y boreu drannoeth, mae wedi difiannu fel breuddwydion nosweithiol; os nid ŷnt waeth o'i hachos, nid ydynt yn eu hymglywed eu hunain fymryn gwell. Ag mae hyn yn arwydd siccr fod ein hamser ni wedi ei dreulio mewn ffoledd a' gwagedd, gan nad allwn dynnu mono i v̂n cwr o gyfrifon ein bywyd, ond gydag arian ofer ar ol iddo fyned heibio. Pa beth bynnag fy' dda a defnyddiol mewn modd neu râdd yn y byd, sy'n gadel rhyw faint o fodlonrwydd oi ol; a'r amser a warriom felly, ni a allwn ei roi at ein cyfrif, a'r cyfryw amfer ni chollir dim o hono; ond y sawl a fo'n gwarrio 'r naill ddydd ar ol y llall, mewn llawenydd a digrifwch, a' chroesawiad mewn ymwelediau a' chwareuddiaeth a'r cyfryw, nid allant roi dim cyfrif arall o hono, ond bôd hon yn ffordd ddifyr i warrio 'r amser: a dyna ei henw cywir, o herwydd nid byw yw ond gwarrio 'r amser, yr hwn nis gwyddont ûn ffordd arall iw yrru oddiar eu dwylaw; ar ol gwarrio eu hamser mae'nt yn llawn wrth eu bôdd, ag mae eu meddiannau hwynt yn passio heibio gida eu hamser, a' dyna ben am bob v̂n; ag ni byddeu hyn cyn gaethed pe byddeu ben a'm danynt hwythau eu hunaiu o'r unwaith au' hamser: ond pan fo pobl i barhau yn hwy nag amser, ag etto pan fo'r affeithiau a berthyn i amser yn parhau dros [Page 173] dragywyddoldeb, mae'r amser hwnnw wedi ei lŵyr golli yn hollawl, yr hwn er na wna niwed, etto nad ydyw yn gwneuthur i affeithiau da i barhau yn hwy nag ef ei hunan.
II. Diammeu fod yr amser hwnnw wedi ei golli yn ddyblig, ar yr hwn nis gallwn fwrw golwg eilwaith heb godi arnom syndod a' dychryn; fy meddwl yw, ymmha ûn y buom yn euog o ryw ddrŵg mawr; ar hwn a dreuliasom nid mewn dilyn gwagedd yn unig, eithr mewn annuwioldeb hefyd, yr hwn a ewyllysiem ein hunain iddo nid erioed ei fod, yr hwn a chwennychem ei ollwng yn llŵyr dros gôf, ag a lawenychem ped anghofiau Duw a' dynion ef hefyd: oblegid onid amser colledig yw yr hwn a beriff ein colli ni, yr hwn a'n hymdwya, yr hwn a'n tynn yn ddrylliau a' chydwybod euog, o achos pa ún y rho'em yr hôll fŷd er mwyn ei daro allan o gyfrif dyddiau ein henioes, ag er medru gollwng yn angof bob cyffadwriaeth o hono? Yr wyf yn cyfrif yr amser hwnnw yn waeth na chwedi ei golli, ymmha ûn y fforffediwn y ddedwyddol dragywyddoldeb, ag o achos pa ûn y mae'n rhaid i ddynion golli eu heneidiau yn dragywydd.
III. Amser wedi ei golli yw hwnnw hefyd, yr hwn sydd raid i ddynion ei fyw drosto drachefn a' cherdded eu llwybrau wyneb yngwrthwyneb fel ûn a gam-gymerei [Page 174] eu ffordd: Nid o herwydd fôd modd i alw yn ol yr amser a bassiodd, a'r mynudunau hynny a ddiengodd oddiwrthym; ond mae'n rhaid i'ni roi rhyw faint o'n hamser a ddaw yn ei le ef, a' dechreu byw o newydd, a' diddymmu a wnaethom gynt. Dymma gyflwr y cyfryw rai a dreuliasant y rhan fwyaf o'u hoes yn ofer, pa brŷd bynnag y dygir hwynt i gydnabod eu ffoledd, a'u perigl. Rhaid iddynt gyfri yn golledig eu holl amser a bassiodd, ag nid hwyrach, pan fo hanner neu ddwy ran o dair o'u hoes wedi eu treulio, yr amser hwnnw y bydd raid iddynt fyned ynghylch dechreu byw, ag i ddi-ddirynnu eu cyfeiliorni, a'u ffolineb, ag annuwioldeb eu bywyd gynt, trwy edifeirwch, ag adnewyddiad buchedd. Yrowan yr wyf yn credu fod pawb yn cyfrif yr amser hwnnw yn golledig, yr hwn sydd raid iddynt ei fyw drosto drachefn; diammeu fod pôb dŷn edifeiriol yn llawn ddigon cydnabyddus a' hyn, ag mi a gaf gan Dduw i bawb ystyrio 'r peth, a fo a'u cwbl frâd a'u bwriad i warrio dyddiau eu hieuenctyd grymmus mewn pechod, ag i edifarhau ar ol hyn; hynny yw, maent a'u cwbl fwriad i daflu heibio y rhan fwyaf a' goreu o'u hoes, ag i ddechreu byw pan welont eu bod yn myned i farw. Yr wyf yr siŵr nad yw hon feddiginiaeth yn y bŷd yn erbyn oes ferr; cymmeryd bwriad i beidio a byw y drydydd ran o honi.
[Page 175] II. Gan nad yw ein hoes ond berr, fe weddau i'ni fyw yn hwyaf y gallwn yn ein hamser sydd cyn fyrred; oblegid nid cymmwys ini fesur hŷd neu fyrder ein henioes wrth rifo dyddiau, neu fisoedd, neu flynyddoedd, y rha'in fy'n mesur ein bod ni, a'n parhâd ar y ddaiar. Ond dan beth yw byw a' bôd, ag mae rhagor têg rhyngthynt yn eu hystyriaeth au cyfrif.
Mae byw, pan ddywedom hynny am ddyn, yn arwyddocäu gwneud fel y gweddau i greadur rhesymmol, i arferu ei ddealldwriaeth a'i ewyllys ynghylch y cyfryw bethau a fo yn gyfattebol i fraint a' pherffeithrwydd y naturiaeth ddynol; bod i'r cyfryw weithredoedd gymmeryd i fyny eich amser, ag sy' berthynasol ich naturiaeth ag yn rhagori rhwng dŷn a' phob creadur arall. Ag am hynny er bod yn angenrheidiol i ddyn fwytta ag yfed a' chyflawni y swyddau a gynnal ei naturiaeth, y rhai sy'n gyffredin iddo ef ag ir bwystfilod yscryblaidd, etto nid yw hyn yn gwneud i'ni fyw fel y gweddai i ddyn; eithr yn amgenach nag y mae'r gweithredoedd cyffredin hyn dan reolaeth rheswm a' rhinwedd; ond y sawl na feddyliau am ddim uwch ag amgenach na hyn, mae'n byw fel anifail nid fel dyn: Bywyd yn ol rheswm, crefydd, a' rhinwedd yw priodol berthynas i fywyd dŷn, o herwydd mae'n perthyn iddo yn neilltuol, ag yn rhagori rhyngtho a holl greaduriaid [Page 176] eraill y byd ymma: Am hynny pwy bynnag a wnelo 'r goreu o'i ddealldwriaeth a'i synwyr, y sawl a reola ei wyniau a'i chwantau fwyaf, a wnelo fwyaf o ddaioni i'r byd, er na bo yn parhau yn hwy, etto mae'n byw yn hwy ag i fwy pwrpas na dynion eraill. Hynny yw, mae'n gwneuthur amlach a' pherffeithiach gweithredoedd a weddai i fywyd rhesymmol.
Eithr heblaw hyn nid yw y bywyd hwn ond ar y ffordd i fywyd a fo gwell; nid er ei fwyn ei hun, ond i'n harwain i anfarwoldeb. cyfle i'n profi, ag ni chwittie 'r boen ddyfod i'r byd pa bae dim llai yn ein brûd: am hynny hwyaf y mae'n byw a wnelo 'r defnydd goreu o râs Duw iw gymhwyso ei hunan i fyned i'r nef, ag i fod yn gyfaddas i dderbyn y gwobrwyau uchaf, y goron werthfawroccaf, ddiscleiriaf: Y neb a adwaeno Dduw ag a'i haddola ef yn ol y modd perffeithiaf ag yspryd derchafus llawenychol, y sawl a fo bellaf oddiwrth garu 'r byd, ag yn arferu pob rhinwedd Dduwiol, a fo'n gwasanaethu Duw oreu, ag yn llywodraethu ei dalentau ir fantes oreu: mewn ûn gair, y sawl a gyweirio ei feddwl, fel y bo yn berffaith ag yn urddafol, a ddycpo fwyaf o ogoniant i Dduw, ag a wnelo fwyaf a leshâd i ddynion, fe a fu byw y cyfryw ûn, er nad yw ond deg a'r hugain, yn amgenach nag anwireddwr heneiddiol, ag mi allwn ddywedyd mewn gwirionedd hefyd [Page 177] i fyw yn hwy; o herwydd nid byw'r llall fel y dyleu ddyn fyw ymma, nag yn gyfaddas chwaith ir byd a ddaw. Hîr yw bywyd y gŵr hwnnw er byrred ei amser; y sawl a fo'n gwbl addfed i'r Nef ag i anfarwoldeb; y sawl a gasclodd dryssorau trymmion o ogoniant iddo ef ei hunan yn y byd a ddaw, y sawl a attebodd ddibennion y bywyd hwn, ag sydd addas iw symmudo allan o hono: Dymma'r ffordd gywiraf in'i fesur ein bywyd wrth ein gweith redoedd a wnaethom o Dduwiolder a' rhinwedd, wrth fod genym chwaneg o wybodaeth, a' grâs a' Doethineb, wrth ein haddfedwch i fyw mewn byd arall. Rhaid ini, yn gyntaf, ddechreu mewn amser: Yn ail: rhaid yw gwilio rhag troi allan, a' throi heibio fywyd Duwiol. Yn drydydd: rhaid byw ar frŷs.
I. Rhaid i'ni ddechreu byw mewn amser, hynny yw, fel gwŷr a' Christiannogion, byw i Dduw ag i fyd arall, ar fyr, rhaid dechreu bod yn wŷr da yn fuan: oblegid y sawl a ddechreuo fyw fel hyn ymmlodau eu dyddiau, pan fo eu rheswm a'u rhinwedd hwynt yn dechreu torri allan, ag a fo 'n rhoi cynnar arwyddion o'u Duwioldeb a'u rhinwedd, os cyrrhaeddant fod yn hên, mae'nt yn wîr wedi byw y tri chymmaint ag eraill a fo o'r un oedran a' nhwythau, ond nid hwyrach heb fyw y drydydd ran o'u hamser ond ei golli mewn pechod a' sfoledd. [Page 178] Fe eill y rhai cyntaf edrych yn ol hyd onid dechreuad eu bywyd, a meddiannu fyth eu holl amser a aeth heibio, a bwrw golwg drosto boddol a' diddannol iddynt; a' gwneud cyssurus cyfrif o hono: ond yr hŵyredifeiriol sy'n unig yn dechreu byw pan ddechreuo edifarhau ag adnewyddu ei fuchedd. Ni feiddia ef edrych ddim pellach yn ol, oblegid fod y cwbl or tu draw wedi ei golli, ne waeth nai golli. Fel y pentwr didrefn, yr hwn nid oedd ddim amgen na thrwyllni anlluniaedd, cyn i Dduw grëu 'r bŷd allan o hono, felly y mae bywyd pechadur cyn ei ail-eni ai ail-grëu ef; am hynny nid oes iddo fawr ffordd i edrych yn ol, ag nis geill roi ond cyfrif byr o'i amser, nid oes ganddo fawr o'i flynyddoedd a feiddia ef eu haddeu, a'i mudo i'r byd draw gidag ef.
II. Mae'n rhaid i'ni wilied torri allan, a' throi oddiwrth fyw fel y dylem, hynny yw, gwiliwn ymroi i bechu eilwaith, ar ol dechreu yn dda: Mae hyn yn rhŷ aml iw weled, yn y cyfryw rai a ddycpwyd i fyny dan reolaeth dda, a' doeth hyfforddiadau eu rhieni a'u dyscawdwyr, ar ol iddynt gychwyn byw yn rhinweddol ag yn Dduwiol, a' chly ved blâs ar fyw felly hefyd eu hunain, etto ar ol cael eu traed yn rhyddion, a' syrthio o honynt i Gwmpeini drŵg, ag ir lle nid allont ochel profedigaethau, ewyllysient gymmeryd prawf o fyw ffordd arall, ag i brofi y pleserau y gwelant eraill mor [Page 179] gu o honynt, ag yn fynych maent yn gwneud felly cyn amled tan nad elont mor ddieithr i Dduwioldeb a' rhinwedd, ag yr oeddent gynt yn anghynefin â drygioni. Yrowan os tyrr y cyfryw rai byth yn wŷr newydd, etto mae'nt wedi colli blaen eu hamser, o herwydd darfod iddynt dorri oddiwrth fyw yn grefyddol ennyd o'u hamser, ag mae hyn yn eu troi yn ol yn eu cyfrif o dragywyddoldeb; ag fel hyn y mae'n digwydd yn ol mwy neu lai mewn pob pechod gwybyddol yr y'm yn ei bechu o'n gwirfodd; mae'n gwneud torriad yn ein bywyd, nid yw yn unig yn rhwystro ein cychwynfa dros amser, ond mae'n ein gyrru yn ol. Eithr y sawl a ddechreuo fyw mewn amser, heb ûn amser droi yn ol, neu dorri ar ei siwrne ond weithiau ag ychydig, fe a eill rifo bywyd hîr erbyn iddo ddyfod i'r diwedd-bwnc cyffredinol, a osodwyd i fywyd dŷn:
III. Yn enwedig os y'm yn byw ar frŷs. Mae ûn ffordd i fyw ar frŷs, fel y dywed rhai, nid i wneud ein bywyd yn hwy, eithr yn fyrrach, pan, wrth fod yn ddyfal anllywodraethwyr, y medro rhai pobl anrheithio corph iachus nerthol, a' gwarrio 'r grym a'r gwresogrwydd naturiol, mewn dêg neu ugain o flynyddoedd a fuasai yn parhau i eraill drugain neu bedwar ugain o flynyddoedd: dymma fyw'n ffast mewn ychydig gwmpas o amser, a gwneud diben [Page 180] o'n bywyd yn bryssur; a'r byw hwnnw ar frŷs yr wyfi yn sôn am dano, yw byw yn ffast mewn ychydig amser, ond er mwyn gwneud ein bywyd yn ddau neu dri-hwy, nid iw fyrrhau ef, hynny yw, i wneud hynny oll o ddaioni a allwn, oblegid po mwyaf o ddaioni a wnelom, mwyaf yr ym yn byw; nid parhâd unig yw'n bywyd ond gweithrediad; nid ein bywyd ni ydyw'n hamser, ond yr y'm yn byw, hynny yw, yn gweithredu mewn amser, a'r sawl a wnelo waith dau ddiwrnod mewn v̂n, mae'n byw cymmaint ag i gystal pwrpas mewn v̂n diwrnod ag y mae eraill mewn dau: y sawl a chwanego gymmaint o wybodaeth ag o ddoethineb ag o bob dawn a' grâs Cristiannogol a' rhinwedd mewn ûn flwyddyn a wasanaetho ag a addolo Dduw mor ddefosionol neu fwy, sy'n gwneud cymmaint o Ddaioni ir bŷd mewn pôb grâdd a' modd oi wasanaethu ag a wnelo arall mewn tair neu bedair; mae'n byw yn ol ei amser am gymmaint a' chymmaint yn hwy o hynny na'r gwyr eraill rheini; mae'n gwneuthur y gwaith a wnaeth y llall yn y bedwerydd ran o'i amser ef, ag mae hynny yn gystal neu well na bôd cŷd wrtho, neu fyw cŷd; oblegid y sawl a fedro gael gwobr deucant o flynyddoedd yn y byd nessaf, heb syw oddieithr trugain neu bedwar ugain yn y byd ymma, yr wyf yn cyfrif y cyfryw ûn yn llawer dedwyddach, na'r sawl a dreulio [Page 181] ddeu-cant o flynyddoedd yn y byd hwn: dymma'r ffordd oreu i hirhau ein bywyd, wrth fyw megis yn gerdeddig; fe a chwannega hyn at ein hamser yn rhyfeddol mewn dêg a' deugain neu drugain o flynyddoedd, ag yno ni bydd dim achos i gŵyno eu bod yn ferr
III. Yn Drydydd: os yw'n bywyd ni yn fyr iawn, fel y mae y rhan fwyaf o'r bŷd yn cŵyno ei fod; diammen bychan yw'r achos ini gŵyno am warrio'r cyfan, o'r bywyd byr hwn i wasanaethu Duw am wobr dragwyddol: Beth yw trugain neu bedwar ugain mlynedd mewn cyffelybrwydd i dragwyddoldeb? Am hynny pe troem heibio 'r holl fantes a' phleser sy'n codi allan oddiwrth fyw yn grefyddol, mai wrth hyn yn unig yr y'm yn gwellhau ag yn perffeithio ein naturiaeth ein hunain, sef wrth wasanaethu Duw, a' gwneud daioni yn y byd: bwriwch na bae ddim iw ennill oddiwrth ein crefydd heblaw adfyd a blinderau, ag ymrafaelgarwch a' gwrthnyssigrwydd beunyddiol rhyngom a'n naturiaeth ein hunain, a' rhyfel ddiatteg neu filwriaeth wastadol rhyngom a'r byd a'r cnawd; onid allwn ni ddiodde hyn oll dros cyn lleied o amser, er mŵyn cael gwobr anherfynol? Mae pobl yn arfer o gyfrif gwaith y diwrnod yn ddigon teilwng, pan fo'nt yn derbyn eu cyflog ar ol cadw noswyl, a' phan fedront fyned adref a' swppera yn llawenychol gida eu [Page 182] teulu, a' chysgu yn esmwyth trwy'r nôs, fel y mae'r llafurwr poenus arfer o wneuthur, ag etto mae'n Hiachawdr yn cyffelybu holl boen a' llafur ein bywyd ni i lafurwyr o fesul y dŷdd yn nammeg y gŵr o berchen tû, yr hwn ar amryw oriau o'r dydd a gyflogasei weithwyr i weithio yn ei winllan ef, ag a dalodd idynt eu cyflog ar ol ei myned yn hŵyr. Matth. 20. 1.
Yr ym oll yn cyfaddeu nad ydyw trugain neu ddêg a thrugain o flynyddoedd, os byddwn byw cŷd, ond amser bychan ynddo ei hunan, ag yn fuan yn myned ymmaith, diammeu genif ein bôd ni ei gid yn meddwl hynny ar ol ei fyned heibio; ag etto ystyriwch pa faint o hyn o amser a dorrir ymmaith pan fo'm yn ein erûd, ag yn hogia o blant, ag yn ein hieuenctyd; tra bo'm tan ofal a' rheolaeth eïn rhieni, a'n llywodraethwyr; ag heb fod yn wŷr i'ni ein hunain, pa faint o amser a dreulir i gyscu, ifwytta ag i yfed, ag i gymmeryd pleserau angenrheidiol er mŵyn cynnal ag adnewyddu ein cyrph marwol hyn; yn ein busnesau angenrheidiol, i gadw ein teulu, ag i wasanaethu ein gwlâd; yr hyn y mae Duw nid yn unig yn eu lwfio, ond yn ei ofyn oddiar ein dwylaw, ag yn ei gyfrif megis yn wasanaeth iddo ef ei hunan; tra bo'm yn byw fel gwŷr yn sobr ag yn gymhedrol, ag yn gyfiawn ag yn gywir i'n goruch wyliaeth, y peth a ddylem ni ei wneud [Page 183] er ein mwyn ein hunain, a'r peth y mae pob gwlad reolus yn ei ofyn oddiar ein llaw, heb ddim ystyriaeth o'r bŷd a ddaw: Wrth hyn nid oes ond ychydig bâch o'r bywyd byr hwn yr y'm ni yn ei dreulio yn hollawl i wasanaethu Duw, ag i ofalu tros ein heneidiau a' pherthynasau y bŷd a ddaw; ag a ydyw hyn yn rheir i ennill tragwyddoldeb o ddedwyddwch ag o happusrwydd? A achwynwn ni yn erbyn sobrwydd a' chymedrolder, a' gonestrwydd buchedd, megis beichiau annoddefus ag y byddeu well i ddyn fod yn golledig nai ymddw yn eu hunan yn ol eu rheol hwynt? nid yw'r achwyn hwn ond grwgnach yn erbyn cyfreithiau Duw, a' gwrthddywedyd llywodraethau'r holl fŷd hyd onid y cenhedloedd hefyd, y rhai a roe'nt nôd gwradwyddus ar bôb un o'r rhain, ag a'u costwyant ag a'u cospant hwynt â chospedigaeth yn ol eu haeddiant; hyn yw achwyn yn erbyn y naturiaeth ddynol, yr hon a farna bob drygioni yn wradwyddus; a' meddwl mai gwell i ddyn fod yn golledig, na byw fel y gweddai iddo; ag etto nid yw y chweched ran o'n hamser ni yn gofyn ini arferu fawr rinweddau, heblaw'r rhain; a pha rwystr bynnag neu annodddeb a allwn feddwl ei fod mewn gweithredoedd eraill o'n crefydd, os oes fodd iddynt gyfrif yn anesmwyth garu y Duw carediccaf, ei foli a'i addoli ef, i bwy ún yr y'm yn rhwymedig [Page 184] am danom ein hunain, ag am bob peth a feddwn, i ofyn diwallu ein heisiau ganddo ef a fydd siŵr i roddi i'ni, gweddiwn arno yn ffyddlon; i dderchafu ein calonnau tu uchaf i'r byd hwn sydd yn babell o wagedd ag o drueni, ag in ymhyfrydu ein hunain, trwy obeithio a' disgwil am ddedwyddwch mawr, annherfynawl, ymmha bethau y cynhwysir enaid a' sylwedd ein crefydd; meddaf, os yw'r rhain mor anesmwyth ag mor annodd eu cyflawni, ag fe a ryfeddai ddyn pa fodd y mae'nt yn digwydd felly, neu pa sutt y cyfrifir hwynt felly; etto nid ydynt yn cymmeryd i fyny ond ychydig o'n hamser, ag mi a debygwn y gallai ŵr gyd-ddŵyn a hwynt, er mŵyn bod yn ddedwydd dros byth. Da y gwn fod pobl yn cymmeryd llawer mwy o boen gyda'r byd hwn, nag a wasanaetha i ennill myned ir Nef; ag ar ol ei gael nid allant mor byw iw feddiannu ef: Ag os tâl hyn iddynt am eu poen, diammeu nad oes dim mor fanteisiol na gwarrio enioes ferr i wasanaethu Duw, er mwynhau dedwyddwch tragwyddol, ag nid ydym yn rhoi ond cyfrif gwael o'r Nef, a thragwyddol ddedwyddwch, os na feddyliwn yr haeddeu ufydddod a gwasanaeth dros ychydig flynyddoedd, er trymmed a' chaethed fyddeu.
IV. Yn bedwerydd: Os ydyw'n henioes ni cyn fyrred o fyned i'r eithaf, nid ydyw pleserau pechadurus y byd hwn y cyfryw [Page 185] rai a haeddeu ein denu ni, os cyffelybir hwynt i dragywyddoldeb o ddedwyddwch neu o drueni. Nid eill chwantau 'r cnawd o ba rai y mae dynion mor gú ag anwyl, ag er mŵyn pa rai y mae'nt arferol o dorri cyfreithiau Duw, a' chyffroi eu gyfiawnder, fforffedio bywyd anfarwol a'u hoffrwm a'u hymgynnig eu hunain, i bob trueni a' phoenedigaeth farwol, er mŵyn y pethau nad ydynt i barhau ddim hwy nag y bo'm ni yn y byd ymma, ag beth am fyrred yr amser hwnnw! Pan ymddioscwn ein cyrph, mae pob pleser corphorol yn diweddu ag yn diffoddi gyda hwynt; ie, fel y mae'n cyrph yn marweiddio ag yn gwaethygu o dippin i dippin, cyn eu dychwelyd i'r bêdd. felly mae'n pleserau yn diffrwytho hefyd, a' da y gwyddom eu bod: Er byrred yw'n henioes, mae gwŷr yn parhau yn hwy nai troseddau anwylaf; am hynny er melused a fo'nt ni ddylid byth moi cyffelybu i ddedwyddwch neu drueni tragwyddol. Beth a fo pethau yn eu naturiaeth eu hunain, mae eu prîs yn fwy neu yn llai yn ol eu hîr neu fyr feddiant; y peth a barhao o hyd ein hoes ag ai gwnelo yn esmwyth ag yn gyssurus sydd iw ddewis gan wŷr synhwyrol, oblegid y pleserau gwychaf a barhao ond tros ûn diwrnod; a'r dedwyddwch a' barhao yn hwy na'n henioes ni, ag a gyrraedd i dragwyddoldeb sy'n fwy dewisedig na meddiannau diflannol y bywyd byr hwn; [Page 186] oddieithr i'ni feddwl mai gwell byw yn ddedwydd dros drugain mlynedd na thros byth, ie oddieithr i'ni feddwl fod ein rhydddid o gymeryd ein pleser dros drugain mlynedd yn abl jawn i'ni am ddiodde eisieu a' thrueni dros dragwyddoldeb.
V. Yn bummed: Mae byrder ein henioes yn atteb cyfan i'r holl ddadleuon hyn yn erbyn rhagluniaeth Duw, y cyfryw rai a gyfodir o achos bod yr anghyfiawn yn fynych yn llwyddiannus yn y byd hwn, a'r gwŷr Duwiol mewn cystudd a' helbul; o herwydd fod pob v̂n o'r ddau cyn fyrred, nad ydynt ond megis diddym mewn cyffelybrwydd i dragywyddoldeb. Pe bae'm ni i ystyrio'r bywyd hwn ar ei ben ei hunan, heb ddim perthynas ganddo i'r byd a ddaw, fe a fyddeu y caethiwed yn fwy, eithr nid yn fawr iawn chwaith, o herwydd dedwyddwch neu drueni cymmyscedig fel y mae'nt yn y bywyd hwn ill dau, nid oes fawr gyfrif i wneud o honynt; ag ni thale ddim i'ni na dadleu yn erbyn rhagluniaeth, nag atteb drosti, pe bae farwolaeth yn gwneud llŵyr ben am danom.
Mae'r gwŷr annuwiol sy'n dadleu fel hyn yn erbyn rhagluniaeth yn llawn ddigon bodlon i gymmeryd y byd fel y caffont ef, ar ammod iddynt ei gael heb ragluniaeth, ag mae hyn yn arwydd nad eu hanfodlonrwydd i'r byd hwn (er eu bod hwynt yn fynych yn diodde ynddo gymmaint a gwŷr [Page 187] Duwiol) sy'n peru iddynt ymrafaelio yn erbyn rhagluniaeth, ond eu hofn a'u harswyd o fyd arall: Ag mae hyn yn egluro eu bod hwynt yn cyfrif fod y byd ymma yn lle abl esmwyth, pa un bynnag a'i o fod rhagluniaeth a'i nad oes. Ag os gellir ymdaro mewn bywyd cyn fyrred a hwn, mae hyn yn ddigon i esgusodi ag i gyfiawnhau rhagluniaeth; sef, fod y bywyd hwn yn abl hawdd iw ddiodde am yr hŷd y parhatho, cyflwr ag ystâd gymmyscedig ag ammherffaith, gwîr, ond ei bod yn ferr iawn; y cyfryw ystâd ag a ddewisei gwŷr annuwiol, pe bae heb fod ûn byd arall i ddyfod ar ei hol, a'r cyfryw ûn a fodlone gwyr Duwiol iddi, er dyfod o fyd arall ar ei hôl: Nid o herwydd eu bod yn ddîg wrth fywyd dyn y mac'nt yn ymwrthod a rhagluniaeth, fel y tebygei ddyn a'u clywau hwynt yn dadleu yn erbyn rhagluniaeth, o herwydd eu bod hwynt yn llwyddiannus a' gwŷr Duwiol yn gystuddiol; a' digon bodlon ydynt i'r ddau beth hyn fod felly. A phe taleu'r ddadl ddim, dan ammod na byddeu ûn bywyd arall ar ol hwn, etto pan ei mae'n llŵyr ddiflannu cyn gynted ag yr henwom fywyd arall, lle mae gwyr Duwiol yn derbyn eu gwobrwyau, a'r annuwiolion eu poenedigaethau, ffôl aruthr yw cynnig gwneud yn dda nad oes ûn bywyd ar ol hwn, o herwydd nad yw pob dyn yn derbyn cyflog ymma yn uniawn yn [Page 188] ol eu haeddiant; ag mae i'ni achos i seddwl mai felly y trefne Duw yn ddiammeu, os na bae ûn bywyd heblaw hwn. Mynd ynghylch profi nad oes ûn bywyd ar ol hwn o herwydd nad yw dynion da a' drygionus yn derbyn mo'i cysiawn gyflog yn y byd hwn, yw ymresymmu yn unig fel y gweddai i bwyll a' synwyr yr annuwiol a fae heb gyffessu Duw, oblegid rhaid iddynt yn gyntaf gymmeryd yn ganiadhaol, nad oes ûn rhagluniaeth cyn y dichon y rheswm ymma dalu dim; o herwydd os rhagluniaeth sydd, yno y mae dedwyddwch yr annuwiol, a' dioddefiadau y Duwiol, yn llawer amgenach rheswm o fod bywyd arall ar ol hwn; lle y cyfrennir gwobrwyau a' phoenedigaethau yn gyfiawnach: Fel hyn pan ymddadleuant yn erbyn rhagluniaeth o achos dedwydd-fyd y gwyr annuwiol, a' chystuddiau y Dnwiol; cyn y gwnelo'r rheswm hwn ddim yn dda, mae'n rhaid iddynt yn gyntaf eu bodloni eu hunain nad oes ún bywyd arall ar ol hwn, ple y caiff y gwyr Duwiol eu gwobrwyo, a'r annuwiolion eu cospi; o herwydd os oes na chyfiawnhäu rhagluniaeth Duw, ynghylch dedwyddfyd presennol yr annuwiolion, ag adsyd y rhai Duwiol: fel na bo iddynt ochel ymresymmu oddiamgylch, fel y gwnae'r Papisliaid o'r Eglwys i'r scrythyrau, ag o'r scrythyrau i'r Eglwys; naill ai pan brofant ai nad oes ônd naill ai dim rhagluniaeth, [Page 189] neu ddim bywyd ar ol hwn, o achos yr anghymmwys wobrwau a' chospedigaethau y gwyr Duwiol a'r annuwiolion yn y byd hwn: Oblegid mae'nt yn dywedyd cystal ag na bo dim rhagluniaeth, o herwydd y dywedant nad oes dim bywyd ar ol hwn, neu nad oes dim bywyd ar ol hwn, o herwydd nad oes dim rhagluniaeth; oblegid nid yw hawddfyd y Duwiol nag adfyd yr annuwiol, yn gwneüd yr ûn o'r rhain yn dda, oni chaniattewch y naill neu'r llall; ag os profwch y ddau wrth y cyfrwng ymma, rhaid yw cymmeryd y ddau yn ganiadhaol, bob yn ail.
A'r ffordd rwyddaf a diofalaf yw eu cymmeryd hwynt felly i ochel eu diystyru gan wyr synhwyrol o achos y cyfryw resymmau. Etto pe na byddai hyn ddim gwrthwyneb ddadl i'r byd a ddaw, nag yn erbyn rhagluniaeth, etto pe buasei hawddfyd y drygionus ag adfyd y Duwiol yn parhau dros gantoedd o flynyddoedd, buasai yn gaethach arnom ag yn fwy profedigaeth, nag fel y mae'r peth yn awr yn sefyll: Nid yw hawddfyd yr annuwiol yn wrth-ddadl mor rymmus, pan ellir ei hatteb cyn hawsed ag y mae'r Psalmydd. Etto ychydigin, ag ni welir yr annuwiol, a' thi a edrychi am ei le ef, ag ni bydd dim o hono. Psal. 37. 10. pan fo'r ûn bobl a welsei ag a fuasei dystion gynt o'i ddrygioni llwyddiannus yn byw i weled diben disymmwth o hono. Gwelais [Page 190] yr annuwiol yn gadarn ag yn frigog fel y lauryf gwyrdd. Er hynny efe a aeth ymmaith, ag wele nid oedd mwy o honaw; a mi ai ceisiais ag nid oedd iw gael. 35. 36. Ag mae hyn yn ddigon hefyd i gadw calonnau gwyr Duwiol i fyny. O herwydd paham nid ydym yn pallu, eithr er llygru ein dyn oddiallan, er hynny y dyn oddi mewn a adnewyddir o ddydd i ddydd, canys ein byr yscafn gystudd ni sydd yn odidog ragorol, yn gweithredu tragwyddol bwys gogoniant i'ni: 2 Cor. 4. 16, 17.
RHAN V.
Ni ordeiniodd Duw moi amser, a' moddion ei Farwolaeth i bob dyn ar ei ben trwy ordinhâd sefydlawn ddiammodol.
II. ER bod Duw, yr hwn a ŵyr bob peth, yn gwybod hefyd amser a' moddion ein Marwolaeth, sef, y fan a'r lle a'r cyffelyb lle v bydd farw pôb dyn, etto nid y'm yn darllen ddarsod iddo ordeinio amser pennodol gosodedig i neb trwy ei ordinhâd sefydlawn ddiammodol, am hynny yr ymofynei 'n fanwl y dyscedig Bysygwr Beveroncius gan ddanfon at amryw o wyr dyscedig er mŵyn cwbl fodlonrwydd iddo ei hún: Oblegid buasai yn anfanteisiol jawn iw alwedigaeth ef, os crette bobl fod amser eu Marwolaeth hwynt wedi ei lunio [Page 191] allan mor osodedig gan Duw; fel nad allent na marw yn gynt, na byw yn hwy na'u diwedd-bwynt terfynol, pa ún bynnag a wnânt ai gwneud cyngor y pysygwr ai peidio. Ond nid oedd hwn ond ofn diachos, o herwydd fod ymbell beth yn berwi yn ein pennau ni, heb roddi ini ronyn o help i fyw, er taered yr ymddadleuwn yn eu cylch hwynt; y dyn a gymero arno ddywedyd nad oes dim siccrwydd am ddini yn y byd, ag a ddadleuiff âa chwi yr hyd a fynnoch ynghylch hyn, etto nid yw yn coelio moi resymmau ei hunan, cymmhelled ag y cymmeriff naid i'r tân neu i ddwfr, neu a safo o flaen ffroen gwnn ag ergyd ynddo pan fo'ch yn ei ollwng ef allan. Fel hyn y fawl sy'n dwrdio fwyaf ynghylch tynged ag ordinhadau ansymmudiol, etto maent yn bwytta ag yn yfed iw cadw yn fyw, ag yn cymmeryd physygwriaeth pan fo'nt yn gleifion, ag mor edifeiriol am eu pechodau, ag yn addunedu newydddeb buchedd, pan fo'nt yn eu meddwl eu hunain yn agos i farw, megis pe nis credasant un gair ynghylch ordinhadau ansymmudiol a'r Dynged anystwyth a fydd mor fynych yn eu genau amseroedd eraill.
Bychan yw fy mrŷd i fod imi ddim a wnelwyf a'r Ddadl hon ynghylch tynged, ag ordinhadau ansymmudiol, a' rhagwybodaeth, o herwydd fe fydd ymryson yn ei cylch hwynt tra paratho 'r byd ar ei draed, [Page 192] oni phrifia gwyr yn synhwyrolach na thrwblio eu pennau ynghylch pethau rhy annodd iw trin, ar rhai nis gallant fyth gael cyflawn wybodaeth o honynt. Fy holl bwrpas i yw dangos ichwi yn ol y cyfrif y mae'r scrythyr lân yn ei roddi; na ddarfu i Dduw osod diwedd-nôd ein henioes mor sefydlog, ag nad oes mor modd ini iw hestyn nai byrhau, byw yn hwy, neu yn fyrrach yn ol ein hymddygiad yn y byd hwn.
Yn awr, mae hyn yn rhygyl iw weled ym mhob man o'r scrythyr, ple mae Duw yn addaw hiroes i wŷr Duwiol, ag yn bygwth byrrhau ar oes yr annuwiolion: Psal. 91. 16. Digonaf ef â hîr ddyddiau: a dangosaf iddo fy iechydwriaeth. Mae Solomon yn dywedyd am doethineb, Hir hoedl sydd yn ei llaw ddehau hi; ag yn ei llaw asswy y mae cyfoeth a' gogoniant: Dihareb. 3. 16. Ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau: ond blynyddoedd y drygonius a fyrrheir. Fel hyn yr addawodd Duw hiroes i'r sawl a anrhydeddant eu rhieni yn y pummed gorchymmyn: Ag mae'r v̂n addewid hefyd mewn geiriau mwy cyffredinol, i Bwy bynnag a ymroe i gadw gorchymynion Duw: Deut. 4. 40. Ar yr v̂n ammod yr addawodd Crist hiroes i frenin Solomon, 1 Brenh. 3. 14. Ag os rhodi yn fy ffyrdd i gan gadw fy neddfau a'm gorchymynion megis y rhodiodd Dafydd dy Dâd, estynnaf hefyd dy Ddyddiau di. Nyni allwn ddeall yr ûn peth wrth [Page 193] weddi Dafydd yn deisyf ar Dduw beidio ai Gymmeryd ymmaith ynghanol ei ddyddiau, Psal. 102. 24. Ag yn Psal. 55. 23. dywediff i'ni: Na bydd gwyr gwaedlyd a' thwyllodrus byw hanner eu dyddiau. Yn awr mae'n rhesymmol i'ni gredu yn ol yr holl dystiolaethau hyn, na ddarfu i Dduw osod mo'r amser i bôb dyn neu derfyn dinewidiol: o herwydd ei fod wedi gwneud ammodau i estyn dyddiau rhai gwŷr, ag wedi bygwth byrhau dyddiau eraill: o herwydd, a oes lle i wneud addewid ag ammod lle y bo ordinhâd osodedig yn rhagflaenu? pa fodd y gellir dywedyd na fydd un fyw hanner eu ddyddiau, os bu ef fyw cŷd ag yr ordeiniodd Duw iddo fyw? oblegid os mesurodd Duw i bôb dŷn ei amser gosodig, nid oes iddo le i ddisgwil dyddiau eraill heblaw y rhai hynny a ordeiniodd Duw iddo.
Eithr mae hyn yn ddigon eglur o flaen ein llygaid, fod dynion yn byrhau eu henioes eu hunain, a' bod Duw hefyd yn eu byrrhau hwynt trostynt, a' hynny yn y cyfryw fodd nad eill fyth mor cyd-sefyll ag ordinhâd ansymmudiol: fel hyn mae rhai pobl yn anrheithio corph crŷf jachus wrth fod yn anghymhedrol, neu'n anllad, ag mae'nt yn eu llâdd eu hunain mor ddiwâd a phe bae'nt yn ymgrogi, neu yn eu gwenwyno, neu yn eu boddi eu hunain. Ag yr wyf yn hawdd genif feddwl, fod y ddau fath ymma o bobl yn byrrhau eu henioes eu hunain: [Page 194] ag felly y gwna lladron, a' llofruddion, neu a wna ddim drwgwaith arall a fforffettia ei hoedl ir gyfraith, neu'r sawl a ymrafaelio ag a leddir wrth bwyntio maes, neu'r cyfryw; ag etto nid ellwch ddywedyd ddarfod i Dduw mo ordeinio Marwolaeth y cyfryw ddynion, mwy na darfod iddo ordeinio iddynt bechu.
Fel hyn mae Duw ei hun yn fynych yn byrhau enioes dynion, trwy blâ, a' nodau, a' newyn, a' rhyfel, a'r cyfryw farnedigaethau ar y mae yn eu danfon i gospi y byd cyfeiliornus: Ag mae'n rhaid cyfaddeu fod hyn yn digwydd o herwydd fod Duw yn ordeinio, fel y mae justus yn bwrw drŵg weithredwr i farw; ond nid ordinhâd ddiammodol yw hon, ond un a gyffroir drwy aml bechu, ag aml ddigio Duw, a' hyn sy'n tynnu i lawr bôb barnedigaeth; hwy a allasent fyw yn hwy, a' gochel y barnedigaethau hyn, os buasent yn byw yn rhinweddol ag yn ufyddol i Dduw: Oblegid os o'r un hyd y buasai eu hoes o fyw mewn pechod ne allan o bechod, pa sutt bynnag y digwydde iddynt farw, beth bynnag a fo eu barnedigaeth, diammeu mai marw y mae'nt, nid o achos eu bod yn haeddu marwolaeth am eu pechodau, ond o herwydd fod Duw wedi ordeinio gwneud pen am danynt trwy ordinhâd syth anammodol; nid yw eu henioes hwynt wedi ei byrrhau, ond eu diwedd-nod tynghedol sydd wedi dyfod.
[Page 195] Yn wir, oddieithr i'ni wneud rhagluniaeth Duw isod nid fel rheolaeth y Duw doeth a rhydd i wneud a fynno, yr hwn a wneiff fely gwelo fod achos, ag a wobrwya ag a gospa bobl yn ol y mae'nt yn haeddu, fel y mae'r scrythyr yn traethu am dano, ond yn rhyw beth anrhin-gar nad allo wrtho, a phob effaith a'i achosion mor gynglyn yn eu gilydd o ddechreu'r byd hyd ei ddiwedd, nad oes modd i droi un peth o'i drefn, a'i amgylchiadau tyngedfol fel y mae'r Stoiciaid yn dal; rhaid i'ni gyfaddeu Ddarfod i Dduw, er mwyn rheoli yn gyfaddas ei greaduriaid sydd ganddynt rydddyd ewyllys; gadw yn ei law ei hun rydddid i hirhau neu i fyrrhau eu henioes hwynt fel y gwelai ef fod yn oreu i atteb dibenion ei ragluniaeth: Oblegid os addefwn fod dyn yn greadur rhydd ei ewyllys, ag y geill ochel pechu os myn, a haeddeu ei dorri ymmaith yr amser a'r amser, neu yn y modd a'r modd: rhaid i gymhwysiad ei wobrwau neu ei gospedigaethau fod yn rhydd hefyd, neu hwy a allant ddigwydd bod yn anghymmwys: fe eill gael ei gospi pan fo yn haeddu gwobr am eu boen; fe eill ei ddiwedd-nod tynghedol syrthio allan, pan fo'n haeddu fwyaf fyw yn hwy, a phan fyddeu 'r byd ei gîd yn ddedwyddach oi fyw yn hwy. Nid oes fodd i gymmhwyso tynge dai chyd gylymmu â chreaduriaid rhydd eu hewyllys, nag oes dim mwy o fodd i wneud hynny, nag i wneud [Page 196] clôch a darawe yn gywir cyn fynyched ag i pareu ddyn iddi y peth a fynno, yr henw neu'r rhifedi a fynneu: Ag etto nid oes dim a mwy o awdurdod ynddo er mwyn rheoli 'r byd, na'r awdurdod o estyn oes, neu dorri ymmaith enioes dynion. Oblegid nid oes dim yn cadw dynol ryw swy dan ofn, na dim a wna iddynt hyderu mwy ar Dduw. Na dim arwydd eglurach o'r Duwiol allu, a dial wch ag amddiffynfa, nid oes dim yn fwy bendith i deuluoedd, a' theyrnasoedd, ag yn fwy cospedigaeth iddynt na Marwolaeth tâd neu fam, neu blentyn, neu dwysog, am hynny mae mor angenrheidiol cyfaddeu fod bywyd dynion yn llaw Duw, ag yw cyfaddeu ei ragluniaeth ef. Mae dwy neu dair o scrythyrau a ddygir i brofi yn erbyn hyn. Job. 14. 5. Gan fod ei ddyddiau ef wedi eu rhagderfynu, rhifedi ei fisoedd ef gida thi, a gosod o honot ei derfynau fel nad êl trostynt. Job. 7. 1. Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaiar? Onid yw ei ddyddiau ef, megis dyddiau gwâs cyflog. Nid yw y rhain yn pwyntio allan mo amser terfynedig pôb dyn ar ei ben, ond, fel y dywedais o'r blaen, y cyffredinol dersyn sydd wedi ei osod i fywyd dyn, o herwydd pa achos y gel wir ef dyddiau neu flynyddoedd dyn, oblegid ddarfod i Dduw osod amser terfynedig i fywyd dyn yn gyffredin; fel pan fygythio Duw na cheiff yr annuwiolion fyw hanner eu dyddiau, [Page 197] hynny yw hanner yr amser gosodedig i ddyn i fyw ar y ddaiar; o herwydd nid oes ganddynt ddim hawl yn y dyddiau hyn, ond o herwydd mai dyddiau dŷn ydynt, am hynny gallent fôd yn ddyddiau iddynt hwy hefyd.
Mae dau beth yn rhwydd i chwi i graffu arnynt allan o'r rhesymmau a'r ymadroddion hyn: 1. Yn gyntaf: fod ar law pob dyn wneuthur llawer tuag at hirhau neu fyrrhau ei oes. 2. Yn ail: fod rhagluniaeth neu ragddarbod Duw, mewn môdd neilltuol yn rheoli ag yn terfynu'r matter hyn.
I. Am y cyntaf, gwaith ofer yw profi, o herwydd ni a welwn ddynion yn gwneud pen o'u hoes bôb dydd, naill ai wrth fod yn anghymmedrol, neu yn drachwantus, neu wrth ddrygau a fo mwy cyhoeddus; pan fforffettiant eu hoedl i'r gyfraith, neu pan dynnont ddial Duw am eu pennau; am hynny pwy bynnag a chwennycho hîr hoedl, a' chyflawni rhifedi ei ddyddiau a osododd Duw i'ni i fyw yn y byd hwn, mae'n rhaid iddo ei gadw ei hun oddiwrth y cyfryw bechodau dinistriol, a' byw yn ol y rhinweddau jachus, a' gwneud Duw yn gyfaill iddo, ag ymrwymo ei ragluniaeth ef iw amddiffyn: A eill dim fod yn anhebyccach i reswm, na chlywed gwŷr yn addo iddynt eu hunain fyw yn hîr, drwy feddwl fod iddynt ddeugain neu ddeg a' deugain o flynyddoedd i ddyfod, pan fo'nt yn rhedeg i'r [Page 198] cyfryw ormodau a bryssurant i wneud pen am danynt? y rhai a ennynnant neu lygrant eu gwaed hwynt, ag a dynnant y crŷd poeth neu'r dwfrglwyf iw gwythennau, neu a bydrant eu hescyrn, neu a dynnant am eu pennau ryw amrafael ddinistriol, neu a'i llŵyr ymdwyant drwy eu gyrru i ladratta, ag i dorri pyrsau, a' hynny a'u dŷg i'r crocpren; o pa siommedigaeth ddinistriol yw hon, y mae dynion yn ei rhoddi arnynt eu hunain! Yn enwedig pan fo'nt yn pechu ar hyder cael amser i edifarhau, a'u pechodau hefyd o'r cyfryw fath, na roddant iddynt mor amser i edifarhau. Mae cyngor y Psalmydd yn llawer mwy rhagorol: Pwy yw 'r gwr a chwennych fywyd, ag a gâr hîr ddyddiau, i weled daioni? cadw dy dafod rhag drwg; a'th wefusau rhag traethu twyll. Cilia oddiwrth ddrwg, a' gwna dda, ymgais â thangnheddyf a' dilyn hi: Mae'r rhain o'u grym a'u naturiaeth eu hunain yn peru hîr ddyddiau; ond nid hynny mor cwbl, O berwydd llygaid yr Arglwydd sydd ar y cyfiawn; a'i glustiau sydd yn agored iw llefain hwynt. Wyneb yr Arglwydd sydd yn erbyn y rhai a wna ddrwg; i dorri eu coffa oddiar y ddaiar. Hynny yw, Duw a hirheiff ddyddiau y gwŷr Duwiol, ag a dorriff ymmaith yr annuwiolion; Nid ydyw chwaith yn wastad yn bod, ond fel hyn y gwna rhagluniaeth Duw yn gyffredin. Psal. 34. 12, 13, &c.
[Page 199] II. Yn ail: Er na ddarfu i Dduw derfynu i bôb dyn pa hŷd i fyw trwy ordinhâd syth ddiammodol, etto, os ni syrthia aderyn y tô ar y ddaiar heb eich tâd chwi, nid yw'n gofalu llai am ddŷn: Nid eill neb fyned allan o'r byd hwn, mwy na dyfod iddo, heb neilltuol ragluniaeth; nid alleu neb wneud pen am dano ei hunan, ond trwy fod Duw yn cynnwys hynny hefyd; nid oes ûn dolur a ddichon ein dŵyn i'r bêdd, ond trwy gennad Duw a'i ewyllys; nid oes ûn siawns ddrŵg ddinistriol yn digwydd, ond trwy orchymmyn Duw: Am y dywedir fod Duw wedi traddodi gwr i ddwy law ei gymmydog, yr hwn a leddir gan y llofrudd: Deut. 19. 4, 5, Y barnedigaethau dinistriol hynny, sef, y Newyn, a'r Nodau, a'r cleddyf, a ordeinir gan Dduw, ag sydd yn derbyn ei neilltuol awdurdod ef ple i daro; fel y gwclwn yn Lev. 26. 4.7. Jerem. 61. 65. Esay. 12. 15. Jerem. 2. 91. Psal. Ag mewn amryw leoedd eraill. Nid eill holl ynfyd ddigllonrwydd dynion ddwyn mo'n hoedl; oddieithr i Dduw roddi iddynt gennad neilltuol. Matt. 10. 28, 29, 30, 31.
Ag mae hyn yn ein rhwymo dan boen ein hoedl, y peth goreu genym yn y byd hwn, i wasanaethu Duw a'i addoli ef; hyn a'n di-berygla ni ag a'n di-ofna yn hollawl Mêdd Dafydd; Yn dy law di y mae fy amserau: gwared fi o law fy ngelynion, ag oddiwrth fy erlidwyr: Psal. 31. 15. Mae hyn yn [Page 200] rhoi ini hyder i weddio ar Dduw trosom ein hunain, a' thros ein ceraint, mewn pa berigl bynnag y bo ein hoedl ni, naill ai o achos clefyd, neu oddiar ddwylaw dynion: Nid oes v̂n cyflwr cyn gaethed nad eill Duw ein helpio, os gwêl ef fod yn dda; efe â fedr ddyfod a phôb peth iw le, iachau 'r corph pan fo allan o drefn a' gwêdd, ai jachau ef hefyd o'i arferol afiechyd, a' gostegu y clwyfydd poethaf a' mwyaf peryglus, er iddynt watwar a gorfoleddu dros holl gyfrwyddid y Physygwyr, a holl rinweddau pob dail; ag fel hyn mae Duw yn gwneuthur yn fynych, trwy foddion di-wybod i'ni, ei ddiweddau. Bodlonrwydd mawr i wŷr Duwiol ydyw bod ein dyddiau ni yn llaw Duw; ag er nad oes iddynt mor terfyn ansymmudiol gosodedig; nad eill Marwolaeth mor digwydd iddynt, ond trwy ordinhâd Duw.
RHAN V.
Mae amser neilltuol ein Marwolaeth yn anghydnabyddus ag yn ansiccr ini.
III. NIS gŵyr dyn yn y byd yn bennodol ag yn siŵr, pa brŷd ydyw ei awr a'i amser i ymadel a'r byd; a' hyn ydyw mewn priodolder y peth a alwn ni ansicrrwydd ein dyddiau. Pan nas gwyddom mo amser ein Marwolaeth, pa v̂n a'i heno y digwydd [Page 201] i'ni farw, a'i y foru, a'i ugain mlynedd i heddyw. Nid oes yn fy mrŷd i sesyll i brofi hyn, eithr yn unig ein cofio yr wyf, er mŵyn gwneud o honoch iawn ddefnydd o'r peth.
I. Mae hyn yn dangos mor anrhesymmol ydyw ini ein siommi ein hunain drwy hyderu ar fyw yn hîr; hynny yw, i fyw i ben eithaf enioes dŷn; ag er nad ŷw hyn chwaith hîr o fyned i'r eithaf, etto nis gallwn obeithio byw dim hwy: Ni addewyff v̂n gwr synhwyrol iddo ei hun y peth na bo iddo mor achos i obeithio am dano; a'r cyfryw beth hefyd a siommodd laweroedd eraill: oblegid ystyriwn yn ddifrifol, pa reswm sydd, i ûn o honom ddisgwil byw yn hir; a'i o herwydd ein bod ni yn jeuainc, yn iachus, ag yn gryfion? oni welwn ni wŷr jeuainc yn marw bob dydd? a eill nag ieuenctyd, na nerth, na glendid, ein gwaredu ni o fachau ag ewinedd angau? ai o herwydd y gwelwn rai gwŷr oedrannus? Ond nid oedd hyn ddim help i ochel Marwolaeth i'r sawl a fu farw yn ieuainc, a'r sawl a adawsant lawer o'u hôl, oedd ddau neu dri hŷn na hwynt: am hynny gallwn ninneu weled llawer o hên bobl, ag etto gallwn farw yn ieuainc ein hunain. Nid hwyrach y gallwn ni fyw tan nad elom yn hên, o herwydd hod rhai yn byw cŷd, ond tebyccach a fyddwn o farw yn ieuainc, oblegid felly y mae y rhan fwyaf. Am wirionedd, [Page 202] mae mor ansiccr ein hawr a'n hamser, ag y mae y moddion i farw mor aneirif, ag mor anweledig, ag mor sydyn a' digwyddol, nad eill gŵr synhwyrol addaw iddo ei hunan, nid yn unig hiroes, ond tros ûn wythnos, ag nis mentryff fatter o bŵys yn y byd ar ei enioes chwaith: Nid ydyw hyderu byw yn hir ond siommedigaeth arnom ein hunain. O herwydd bod yn gû ag yn anwyl genym ein bywyd, yr y'm yn ein bodloni ein hunain y cawn ni fyw cŷd a'r hwyaf o ddynion, ag y cawn ni ochel y clefydau a'r siawnsiau syn gwneud pen am eraill bôb wythnos; ond ystyriwch fod gwŷr eraill mor anwyl o honynt eu hunain, ag a ydych chwithau; ag yn hyderu ar fyw yn hîr, cystal a' chwithau; ond mae eu hyder yn eu siommi hwynt, ag felly y geill eich hyder chwithau.
Ond chwi a ddywedwch wrthif. Pa beth sydd yn eich brŷd chwi, pa ddefnydd a wne wch chwi o hyn? Beth am y boen yr ydych yn ei gymeryd i wneud i'ni ddiflasu ar fyw yn hîr? ond pa niwed os y'm yn ein lled siommi ein hunain ynghylch y peth drwy obeithio byw yn hwy nag y byddwn? os nid yw'n gobaith ddim amgenach na breuddwyd twyllodrus, er hynny mae'n gwneud ein bywyd ni yn siriol ag yn gyssurus, fel y cymmerom bleser ynddo, a' pha ham y dylem ni ein blino ein hunain, a' gwneud ein henioes yn anesmwyth [Page 203] ini, trwy fod beunydd yn cofio am ein diwedd?
Yr awron, yr wyf yn cyfaddeu, pe gellid bod fel hyn, heb ddim ofn niwed a' pherigl, croes ag annaturiol jawn a fyddwn am gofio wrthych y peth hyn: a'r jawn lleiaf a ddylwn i ei wneud i chwi, fyddeu ofyn eich nawdd, a' gadel ichwi rhagllaw gymmeryd eich rhŵysc i fyw mor ddiofal ag y mynnoch, heb geisio byth mor meddwl am eich diwedd, ag yno deued angau heb ei ddisgwil; ond yn fy marn i mae perigl mawr ar y cyfryw rai a hyderant fel hyn, rhag eu siommi hwynt, ag dyna'r achos yr wyfi mor daer arnoch i gofio am eich dydd diwedd; oblegid,
J. Os hyderwn ar fyw yn hîr, gwneuff hynny ni yn anwyl o'r byd hwn; ag nid yw hyn ddim llai drŵg na'n hymgynnig ni i'r holl brofedigaethau a'r sionimedigaethau sydd ynddo: yn wir, rheswm da i'ni beidio a bod yn anwyl o'r byd, o herwydd bod yn rhaid i'ni farw a' gadel y byd hwn o'n hôl, o herwydd hyn meddaf y dylem fyw fel dieithriaid a' pherinion ynddo, fel y dywedais o'r blaen: ond yn an aml y meddyliant am hynny, pwy bynnag sy'n gobeithio byw i fod yn drugain neu bedwar ugain oed. Er nad yw hyn ond byr amser mewn cyffelybrwydd i dragwyddoldeb, etto mae hyn yn amser hîr i fyw, ag yn amser hîr i feddiannu difyrrwch [Page 204] y byd, ag yr y'm yn ei gyfrif, yn ail-ddedwyddwch a feddiannom cŷd a hyn, ag yno y rhydd dynion rwysc iw chwantau, ag yr ymegniant i geisio goreu ag a allont o'r byd, ag nid yn unig prosi ei bleserau ef, eithr eu hyfed yn helaeth tan na thrônt yn eu pennau hwynt; Ag nid rhaid dywedyd mor beryglus yw hyn i'r sawl a ystyria mai oddi ymma y mae holl ddrygioni dynol ryw yn tarddu allan; sef, o achos eu bod hwynt yn rhŷ chwannog i garu'r byd.
Am hynny, os chwennychwn fyw fel pererinion, a' bod yn rhyddion oddiwrth ddifyrrwch y byd a'i holl feddiannau, bydd rhaid ini gofio, nas gwyddom gynted y bydd raid i'ni ymadel ag ef: nad oes gennym ûn weithred a siccrhâ ini ein bywyd, ond y geill Duw ein troi ni allan o'n tyddynnod, pan welo ef fod yn dda: ond pa ŵr a fyddeu yn hôff ganddo gasclu aml dryssorau ar y ddaiar a fae'n cofio Y nos hon y gofynnant dy enaid oddiwrthyt, ag eiddo pwy a fydd y pethau a baratoaist? Luc. 12. 20. Pa ŵr ai cyfrififf ei hunan yn ddedwydd o achos y cyfryw seddiannau, a fo'n rhaid iddo ymadel a' hwynt am ddim a ŵyr efe cyn y boren foru? Gwir yw, meddyliau dwysion marweiddiol ydyw'r rhain, ag felly y mynnwn iddynt fod, o herwydd dyna eu defnydd hwynt; oblegid ni a ddylem farw i'r byd hwn er mŵyn myned yn iâch oi gariad ef, â gorchfygu ei brofedigaethau [Page 205] O herwydd os câr neb y byd, nid yw cariad y tâd ynddo ef. Canys pob peth ar y sydd yn y byd, megis chwant y cnawd, a' chwant y llygad, a' balchder y bywyd, nid yw o'r tâd, eithr o'r byd y mae: 1 Joan. 11. 15, 16.
2. Fel y mae gobaith o fyw yn hir yn rhoddi mantes fawr i brofedigaethau y byd hwn, felly y mae yn gwanhychu y gobaith a'r arswyd sydd ar ddynion o achos y byd a ddaw; mae gobaith o hiroes yn crŷfhau 'n profedigaethau, ag yn ein gwanhychu ni, ag nid eill hyn lai na bod yn ddinistr ag yn golled fawr ini yn ein hysprydol filwriaeth. Nid oes genym ni ddim i wrthsefyll hudoliaeth y byd hwn, ond gobaith ag arswyd y byd a ddaw; ond os gobeithio yr ydym fyw yn hîr, mae hynny yn gosod y byd a ddaw yn rhybell oddiwrthym, fel nad allo orchfygu y byd hwn: mae mwy o nerth mewn pethau presennol na phethau absennol; a' pho pellaf y bo pethau oddiwrthym, lleiaf oll ydyw eu gallu hwynt pa un bynnag a'i in drygu a'i i wellhau arnom.
Er mwyn deall o honoch hyn yn well nis gwnaf ond dymuno arnoch gofio, pa beth yr oeddych yn ei feddwl o'r byd arall, os buoch erioed ar fin marw, ag megis mewn golwgo hono: Duw JESU faint ydyw cystudd ag arswyd pechaduriaid ar eu clafwelu, fel y gwelais hwynt yn tremmio gan [Page 206] ofn! Duw mor edifeiriol ydynt, ag mor ddefosionol, gymmaint yw eu brŷd hwynt i fyned yn ddynion newydd; ond mae hyn yn diflannu fel breuddwyd ar ol myned o arswyd marw heibio, a' dyfod o honynt o hŷd iw cynnefin jechyd! Beth a debygwch yw achos y rhagoriaeth hon sydd rhyngthynt a' nhw eu hunain? Or v̂n fâth yw'r Nef ag uffern pan fo'm ni yn iâch ag yn glâf; ag mi a fwriaf hefyd eich bod chwi yn credu fôd Nef ag uffern, pan fo'ch i yn iâch, cystal a' phan fo'ch yn glâf; yr unig beth gan hynny sy'n gwneud meddwl am y bŷd a ddaw mor llym ag mor fywiol pan fo'm yn glâf, ydyw oblegid ein bod yr amser hwnnw yn gweled y byd arall megis yn ein hymmyl, a'n bod ni megis o fewn cam iddo, neu hŷd braich, a dymma'r peth sy'n ein deffro ni: ond pan fo'm yn ein hiechyd; yr y'm yn bwrw golwg ar y byd a ddaw o hirbell, am hynny yr ydym yn fwy di-fatter am dano, ag yn edrych arno megis rhyw beth amherthynasol ini; a' pheth bynnag a fo nad ydym yn cyfrif yn berthynasol i'ni, neu a berthyna ini yn ail i ddim, er cymmaint a fo prîs y peth, nid ydym ni yn rhoddi arno brîs yn y byd. Wrth hyn pan fo pobl annuwiol yn bwrw ar a ddaw allan o'i golwg neu ymmhell odiwrthynt, nid oes dim iw hattal a'i ceryddu hwynt am eu trachwantau a'u gwyniau: a' gwŷr Duwiol hefyd eu hunain po mwyaf yr [Page 207] ymbellhânt oddiwrtho, lleiaf oll yr ystyriant ei ddoniau ef, ag mae hyn yn eu gwneud hwynt yn fwy anwisci i wneuthur daioni.
Ag mae 'r perigl yn fwy o lawer oblegid fod dynion yu edrych ar y byd a ddaw bellaf oddiwrthynt, ag felly nid ydynt yn cymmeryd dim gofal yn ei gylch ef, pan y gwnae meddwl am dano ef y lleshâd mwyaf iddynt yn nyddiau eu hieuenctyd, pan fo eu gwaed hwynt yn berwi, mae dynion yn fwy tueddol i ddilyn chwantau'r cnawd; a dyna 'r amser rheittiaf iddynt i feddwl am y byd a'r farn a ddaw, ond y sawl a addawant iddynt eu hunain fyw yn hîr, mae'r rhain yn edrych ar eu Marwolaeth, ag ar y byd a ddaw megis o hirbell, yn nyddiau eu hieuenctyd, ond felly nid ydyw yn cynhyrfu ag yn cyffroi mo'nynt ddim amgenach na phe bae'r fath beth heh fod.
Ag er y tebygeu ddyn, fel y mae'n dyddiau yn treulio, a'r byd arall yn nessau attom, felly y dylem fyfyrio yn fwy difrifol arno, ond nid oes dim o'r fâth beth yn bod, eithr yn union yn y gwrthwyneb. Pan fo'm yn arferol o feddwl fod y byd a ddaw ymmhell oddiwrthym, nis credwn fyth moi fod ef yn agos, nes y dêl am ein pennau; ag os mynych feddyliasom am dano yn llêd ddifatter, mae agos yn ammhossibl roi byw yn y cyfryw feddyliau, oblegid fod yn [Page 208] annodd bywiogi meddyliau llyfrion, yn en wedig dechreu meddwl yn ddŵys ag yn ddifri am y peth y buom yn llawn ddifatter am dano, ag heb wneud dim cyfrif o hono tros ddeng mlynedd a'r hugain neu ddeugain mlynedd.
III. Un drŵg arall sydd yn canlyn ar obeithio byw yn hir. Ydyw fod hynny yn swccrio pobl i bechu trwy wâg obeithio y byddant ddigon edifeiriol am eu holl bechodau ryw amser cyn eu marw: Pan fo pobl yn credu os byw a wnânt yn eu pechodau a' marw ynddynt hefyd, y bydd raid iddynt fod mewn poenau tragwyddoldeb; fel y mae pob dyn yn credu ag sydd iw gyfrif yn Gristion ag yn credu yn Efengyl ein hiachawdr; nid oes v̂n ffordd arall i ochel y dyrnod hwn, ag i bechu yn ddiarswyd, os credwn fel hyn, ond trwy bwrpasu edifarhau; a' gwneud eu tangnheddyf gyda Duw ryw amser neu eu gilydd cyn eu marw: Maent yn eu porthi eu hunain â ffôl obaith y byddant hwy fyw etto yn hir; a' bod dydd y farn ymmhell oddiwrthynt; am hynny y cymmerant eu rhydddid o borthi eu chwantau dros drô, ag i brofi melusdra pechod, ag i ddilyn cwrs ieuenctyd, ag i fod mor hyddysc ar ddrygioni ag oferedd y byd ag oedd eu tadau a'u teidiau gynt. Ar ol hyn hwy a fyddant yn Dduwiolaf ag yn sobreiddiaf pobl yn y byd, ag a bregethant yn erbyn gwagedd â chamwedd [Page 209] eu hieuenctyd, ag a fyddant yn edifeiriolaf pobl a fu erioed ar y ddaiar.
Pwy bynnag a ystyria ansiccred, ag mor siomgar yw enioes dyn, pan glywai ddynion yn ymresymmu fel hyn, fe a feddylieu eu bod hwynt naill a'i yn ynfyd, a'i mewn diod, ond nis byddai mor achos i feddwl eu bod hwynt yn eu hŵyl, ag yn ddifrif hefyd; ond os cyfrififf y cyfryw rai felly, a fedrant obeithio am fyw yn hîr, pan welont bob dydd o flaen eu llygaid mor ansiccr a' siomgar yw enioes dŷn (ag os yw'r cyfryw rai allan o'u hwyl, mae'r rhan fwyaf o'r byd wedi anhwylio) mae hyn yn rhoddi cyfrif eglur pa sutt y mae'n digwydd fod pobl yn byw mewn pechod bwriadol tra y byddont hwy yn jeuainc, a' meddwl fod yn ddigon buan iddynt edifarhau ar ol iddynt fyned yn hên. O herwydd nid yn unig gobaith o fyw yn hir a wasanaetha in cynnal ni i barhau mewn cwrs pechadurus. Fe eill gwŷr yn wîr a fo heb obeithio byw yn hir, syrthio i bechu rhyw un pechod pennodol unig, a' bwriadu edifarhau o hono ar ol hynny, cyn gynted ag y darfu iddynt ei bechu, a' dymma ryw fâth ar ŵylion bechaduriaid, sy swil ganddynt wneuthur drygioni, ond ynghylch y rhain yn y man: Ond yr wyf yrowan yn sôn yn unig ynghylch y sawl (ag mae ysowaeth ormod o'r fâth hon) sy'n llawn bwrpasu cymmeryd eu gwala o'r byd hwn, tra y parhatho eu [Page 210] hieuenctyd, a'u nerth, a'u hiechyd hwynt a' byw yn sobr ag yn Dduwiol ar ol iddynt fyned yn hên; mae 'n digwydd ar hyn, fod yr rhain yn pwrpasu myned i uffern drwy eu llawn fwriad, oddieithr iddynt drwy siawns ddigwydd byw i fod yn hên, neu tan na flinont ar eu pechodau, a' dyscu o honynt well synwyr wrth fod yn hên yn y byd ag yn oedrannus.
Nid angenaf yn y cyfamser am y perigl sydd ar y cyfryw ddynion o farw cyn dyfod o'r amser pan y maent yn pwrpasu edifarhau, mae hynny yn perthyn i bwynt arall, ond yn unig am ei fod yn fatter, os nyni a'n hudwn ein hunain i fyw mewn arfer o bechu, o herwydd ein bod yn gobeithio y cawn fyw yn hir, ag y cawn ddigon o amser i edifarhau rhagllaw. O herwydd nid oes dim yn y byd yn twyllo ag yn siommi dynion yn waeth na hyn. Sef, eu bod hwynt yn byw mewn pechodau rhyfygus, arferol, cynwysedig, ag etto mewn pwrpas i edifarhau am danynt ag i ymadel a hwynt cyn eu marw.
Fe a ŵyr pob dyn mai hyder wâg dwyllodrus ydyw hon: o herwydd os digwydde i rai o'r cyfryw ddynion annuwiol fyw i fod yn hên, ond anfynych iawn y gwelwn hên bobl yn edifarhau am bechodau eu hieuenctyd? Mae ganddynt fyth ryw fath ar garedigrwydd a' hoffder tuag at y cyfryw bechodau ag nas gallant yr awron mo'u [Page 211] pechu; ag nid yw ddrŵg dim ganddynt, nid oes dim yn trymhau arnynt, ond o herwydd fod eu henaint yn llestair iddynt fod yn awr mor annuwiol ag y buont yn nyddiau ei hieuenctyd.
Ag oes rheswm yn y byd i ddisgwil amgenach? oni wyddom mai meistr tost yw arfer, a pho mynychaf y pechom, ein bôd fwyfwy yn tueddu i bechu: ai tebyg os parhau a wnawn i fyw yn annuwiol yn nyddiau ein hieuenctyd, y darpara hynny ni i fod yn wir edifeiriol, ar ol ein myned yn hen? Oni welwn ni fod arfer o bechu yn gwneud i rai pobl golli eu gwyldra naturiol, ag i eraill yn hollawl fod yn ddifatter am Dduw ag am eu crefydd, ag hefyd am y rhagoriaeth naturiol sydd rhwng drŵg a' da.
Mae rhai pobl yn mynd ym mlaen yn eu pechodau, hyd na wnelont ddim cyfrif o'u hedifeirwch; ag eraill hyd oni feddyliont fod yr awrhon yn rhyhwyr i edifarhau. Wrth hyn pe byddem siccr y byddem fyw yn ddigon o hyd i fod yn synhwyrolach, ag i edifarhau, am bechodau a' throseddiadau ein hieuenctyd, ag i wellhau 'n buchedd; etto nid oes i ddyn annuwiol, a fo yn dechreu byw yn anfucheddol, ystlys rheswm i ddisgwil y caiff ef fyth amser i edifarhau: Am hynny mae'n beryglus dros ben ini ein siommi ein hunain, trwy fyw mewn arfer o bechu, gan ddisgwil a' [Page 212] gobeithio y cawn ryw amser neu i gilydd edifarhau am ein pechodau: Ag os yw hyn yn fatter perigl, peryclach fyth yw'n cyflwr, os siommwn ein hunain trwy obeithio byw yn hir, yr hyn beth sy'n hudo ag yn denu dynion i oedi eu hedifeirwch hyd onid elont yn hên.
II. Gan fod ein dydd diweddaf mor ansiccr, ag mor anghydnabyddus ini, ni a ddylem ei ddisgwil yn wastadol; a' bod cyn belled oddiwrth addo i'ni ein hunain fyw yn hir, fel na hyderom ar fyw tros ún diwrnod: ag mae'r rheswm am hyn yn eglur ag yn naturiol, o hërwydd nad ydym siccr o fyw tros un diwrnod.
Caeth yw'r athrawiaeth, meddwch, sy'n gorchymyn ini ddisgwil marw bob dŷdd, ni fyddeu fawr waeth marw, na bod yn disgwil marw o ddydd i ddydd, na bod mewn penyd beunyddiol o achos ofni ag arswydo marw. Ni fyddeu waeth marw o eusus na byw mor anghyssurus a hyn, trwy fod bob yn awr megis yn gwilio 'n diwedd. Yn ol y sutt ymma nid ydym yn byw un mynudun, eithr yn lle marw unwaith fel yr ordeiniodd Duw, yr y'm yn marw yn wastad. Gwers wŷch, yn wir, yw hon, ond pwy sy'n rhoi dim prîs arni ag yn chwennych ei dysgu hi; gwir yw er nad y'm siŵr o un diwrnod, etto yr ydym yn gweled fod rhai pobl yn byw i fod yn ddeugain, neu ddêg a' deugain, neu drugain oed. Am [Page 213] hynny er nas gwyddom pa brŷd y bydd raid ini farw, etto nid oes neb o ddydd i ddydd a feddylia, y bydd ef farw heddyw.
Mae hyn yn ddigon gwîr, am hynny tra y bo'm yn byw trwy ddisgwil am ein diwedd, nid ydyw hynny yn arwyddocau ein bod ni yn credu y byddwn farw heddyw, ond yn unig y geill digwydd ini farw heddyw, ag mae hyn yn atteb i'r rheswm y mae'nt yn ei roddi yn erbyn y peth, sef o fod y cyfryw ddisgwiliad yn llawn o anghyssur; o herwydd nid oes yn y cyfryw ddisgwiliad ag a henwais i ddim in harswydo ag i'n dychrynnu ni, ond yn unig mae'n ein gwneud yn fwy synhwyrol ag yn llai diofal. Fe eill pobl fyw yn ddigon llawen a' llwyddiannus a' meddiannu hefyd holl bleserau diniwed y bŷd, a'r meddyliau hyn yn eu calonnau. Disgwil am farwolaeth bob dydd sydd ail i ddisgwil am ddyfodiad lladron bob nôs i dorri 'n tai, ag nid yw hyn yn torri chwaith gormod ar ein cwsc ni, eithr yn dangos fod yn rhaid gwneud mwy o ofal ï gloi ein drysau a' darparu ein hamddiffyn ein hunain.
Wrth hyn mae disgwil marw yn gofyn i'ni fyw fel y gweddai i wŷr fyw nid i ofni Marwolaeth beunydd, ond fel dŷn a wyddeu fod yn rhaid iddo farw ryw amser ond nis gŵyr pa brŷd. Hynny yw, i fod yn wastad yn barod i farw, i beidio oedi 'n hedifeirwch, ag i droi at Dduw y mynudyn [Page 214] diwaethaf; i beidio pechu ûn pechod rhyfygus, rhag i'r angau ddyfód am ein pennau yn ddisymmwth tra bo'm yn ein pechod; i beidio a bod yn segur ag yn ddiofal, ond i fod yn wastad ar waith ein meistr yn ol gorchymyn ein hiachawdr Luc. 13. 35, &c. Bydded eich lwynau wedi eu hamwregysu, a'ch canhwyllan wedi eu goleu, a' chwithau yn debyg i ddyniou yn disgwyl eu Harglwydd, pa bryd y dychwel o'r neithiawr, fel pan ddelø a' churo yr agorant iddo yn ebrwydd. Gwyn eu byd y gweision hynny y rhai a gaiff eu Harglwydd pan ddêl, yn neffro: Yn wir, meddaf i chwi efe a ym wregysa, ag a wna iddynt eistedd i lawr i fwytta ag a ddaw ag a wasanaetha arnynt hwy. A hyn gwybyddwch, pe gwybuasai gwr y ty pa awr y deuai 'r lleidr, efe a wiliasai ag ni adawsai gloddio ei dy trwodd. A chwithau, gan hynny, byddwch barod, canys yr awr ni thybioch y daw mâb y dyn. Mae 'n Hiachawdr yn ein rhybuddio ynghylch hyn hefyd yn y ddammeg ynghylch y morwynion call ag angall Matt. 25. Pan oedd y priod-fâb yn oedi dyfod cyscasant oll; ond y morwynion call oedd barod yn ei ddisgwil, ag olew yn eu lusernau ag aethant gydag ef i mewn ir briodas, ar ol hynny fe gaewyd y drŵs. Nid oedd dim olew gan y rhai angall, a'u lusernau hefyd wedi cu diffodd, a' thra 'r oeddynt yn Marchnatta olew, fe a'u cloewyd hwynt [Page 215] allan, ag ar ol hynny gwaith ofer ymbil er mŵyn cael myned i fewn. Gwiliwch gan hynny, o herwydd nis gwyddoch na'r diwrnod na'r awr pan y dêl mab y dyn.
Dymma'r perigl sydd o farw yn sydun, neu o Angau disyfyd, ar achos pa ham y mae'n heglwys ni yn gweddio yn ei erbyn. O herwydd pe byddem ni bob amser yn barod i farw, a'n lusernau yn olen fel y morwynion a fae'n disgwil am y priodfab, ni fyddeu farwolaeth ddedwyddach na marw ar frŷs yn ddi rybydd; yn ddiofn, ag yn ddiarswyd; heb ddim o'r tristwch a'r pryddder sy'n digwydd ar hir glefyd; ond y perigl o farw ar fyr rybudd, fod marwolaeth yn dyfod am ein pennau cyn i'ni ymadel a'n pechodau, ag yn ein llusco ir farn, cyn ein bod a'n cyfrif yn barod, pan fo'n ein cippio allan o'r bŷd hwn cyn gwneud o honom ddim parodrwydd i fyw yn y nessaf. A'r unig fodd ini ragflaenu a gadel hyn, yw bod yn wiliadwrus bob amser; i fod yn wastad yn disgwil marw, ag yn wastad yn barod i farw.
Mae rhai yn eu meddwl eu hunain yn llawn ddigon diogel, os ar ol byw oes o bechod a' gwagedd, v caffont yn unig hyn o rybudd o'u diwedd, sef fel y gallont ofyn maddeuant gan dduw ar eu claf-welu, os cânt amser yn unig i gyffesu, ag i wylo am eu camweddau gynt, ag i farw a' meddyliau [Page 216] arswydus dychrynllyd o'u cwmpas, a' hyn a alwant edifeirwch, ond yn wir nid yw hyn ddim amgenach na'r rhybudd trist o'r poenau sy'n disgwil am danom, yr ŷm yn eu dioddeu gan ein cydwybod wedi ei deffro a'i chyffroi; yr hon sydd wedi ynfydu o achos ei heuogrwydd ei hunan, a'r llid, a'r poenau y mae yn eu disgwil. Ag nid oes gyssur yn y byd o farw fel hyn, na gobaith ychwaith (mae arna i ofn) o'r rhan fynychaf; etto nid eill neb addo iddo ei hunan farw fel hyn, ond yr hwn a fyddo yn wastad yn disgwil am ei ddydd diwedd. Fe ellir ein torri ymmaith â dyrnod sydyn, neu ni a allwn farw mewn anhwyl, neu heb wybod dim oddiwrthym ein hunain. Ag felly pe gwasanaethau dim ond gofyn i Dduw faddeuant, i safio'n hencidiau, etto nis gallwn wneud cymmaint a hynny: Ag mae cymmaint o bechaduriaid yn y cyflwr hwn; ag y dyleu hyn fod yn rhybudd i bawb; y sawl nas gwyddont na pha prŷd na pha fodd y daw marwolaeth am eu pennau, a ddylent fod yn barod i groesawu pob siawns, a' phob digwyddiad a' thrô sydyn.
Gan fod ein dydd diwedd mor anhyspys ini, fe a berthyne ini wneud y goreu o'n hamser presennol; o herwydd nid eiddom ni un amser arall: Yn fy rhcsymmau o'r blaen dangosais mai bychan yr achos ini golli dim o'n hamser, o herwydd nid yw'n henioes ni ond ber o fyned i'r eithaf. Pan [Page 217] fo'n cyrrhaedyd deng mlynedd a' thrugain, neu bedwar ugain mlynedd, ni a ddylem wneud y goreu o'r amser presennol fyth, a'r ffordd siwra i wneud hynny, yw peidio colli dim o'n amser, heb ei ymgeleddu a' gwneud y goreu o hono; ag mae rheswm cadarn am hyn: o herwydd nas gwyddom pa hŷd y byddwn fyw. Am hynny, nid y'm ni yn perchennogi ûn amser heblaw'r amser presennol. Perchennogion fuom o'r amser a bassiodd, ond mae hwnnw wedi dianc heibio, ag nid oes fodd iw alw yn ôl, neu i fyned drosto drachefn: os gwnaethom y goreu o hono efe a lwfir i'ni yn ein cyfrif; ond nid yw yn perthyn in bywyd ni ddim amgenach na hyn, nid oes fodd iw ail-dreulio ef, ag i wneud ail hwsmonaeth o honaw. Yr amser i ddyfod a eill berthyn i'ni; ag nid hwyrach na pherthyn i'ni ddim; o herwydd nis gwyddom y cawn ni fyw cŷd, am hynny nid yw bwrpas ei gyfrif, a' rhoddi ein hyder arno: eiddo ni yr amser presennol, a' dymma'r unig amser sydd yn ein heiddo; am hynny os chwennychwn wneud y goreu o'n amser, mae'n rhaid ini wneud ein goreu or amser presennol. Rhaid ini fyw fel y gweddai ini heddyw, a' pheidio oedi tan y foru.
Mae holl ddynol riw yn ddigon cydnabyddus mor angenrheidiol yw hyn mewn pob helyntion eraill, heblaw ynghylch eu gofal am eu heneidiau. Mae dyscybl Epicurus [Page 218] am borthi ei chwantau yn yr amser presennol, hon yw ei hoff ddihareb ef. Dydd a roed ini yw heddyw, bwyttawn ninnau ag yfwn canys y foru marw yr ydym. Y gwŷr sy'n chwannog i chwanegu ag i amlhau eu cyfoeth ag yn pwrpasu bod yn wŷr enwog neu yn wŷr anrhydeddus; Ni chollant hwy ddim o'u cyfleusdra a'u hamser presennol, er mwyn cael o honynt eu dymuniad: a phe bae'n henioes ni heb fod mor siomgar, mae llawer o bethau na ewyllysieu ŵr synhwyrol mo'u hoedi a'u gadel ir awr ddiwaethaf, os ceiff ef gyfleusdra iw gwneud hwynt yn gynt.
Y peth sydd raid ei wneuthur, efe a'i gwneiff cyn gynted ag y medro, y mynydun cyntaf ag y bo'r peth yn angenrheidiol, efe a'i gwneiff os ceiff gyfleusdra.
Y peth sydd angenrheidiol ei wneud bob dydd, nis oeda o ddydd i ddydd, ond efe ai gwneiff bob dydd; megis bwytta ag yfed a' chysgu.
Y peth y mae yn ymroi i wneuthur, a'r peth a ellir ei wneud yr awron, a'r peth a ddyle ef ei wneuthur yr awron, yr awron y gwneiff ag nid yn y man.
Y peth y bo colled o oedi ei wneuthur, efe a'i gwneiff cyn gynted ag y gallo.
Y peth a berthyn i'r cyfryw adeg neu amser, efe a'i gwneiff yn ei amser a'i adeg ei hunan; fel y mae y llafurwr yn gwneud [Page 219] y goreu o'i adeg i hau a' medi, a'r crefftwr oi farchnadoedd a'i ffeiriau.
Y peth a fo rhaid wrtho, neu yn gyflëus, allan o law. Y peth y bo yn cymmeryd pleser mawr ynddo, neu y peth y bo yn mawr hiraethu am dano, ag yn ei chwennychu, nid oeda wneud y cyfryw beth, ond efe a'i gwneiff allan o law.
Yn awr, rhesymmau cadarn yw'r rhain oll, i ddangos y dylem gymmeryd gofal gyda'n heneidiau, ag edifarhau am ein pecbodau, ag arferu byw mewn grâs a rhinwedd Gristiannogol, a gwneud cymmaint o ddaioni ag a allwn, am yr amser presennol, ond yn hytrach pan ystyriom fod ein hoedl ni mor ddiammod, fel nad allwn roi dim hyder ar ûn amser arall i wneud hyn, heblaw yr amser presennol.
O herwydd, J. a oes dim mor llŵyr angenrheidiol i'ni ag jechydwriaeth ein heneidiau? Dymma'r unig beth angenrheidiol. Mae jechydwriaeth ein heneidiau yn angenrheidiol megis peth nad ellir mor bôd hebddo; ag mae byw mewn gwîr grefydd Dduw a' rhinwedd dda yn gyrru ein hiechydwriaeth ymlaen. Onid yw angenrheidiol gochel poenau tragwyddol, ag ennill tragwyddol ddiddanwch, nis gwn i beth a wneiff ddim yn y byd yn angenrheidiol? Ag os nid oes fôdd i wneüd hyn ond trwy fôd yn deall ein crefydd, a' byw ar ei hôl, mae byw yn ôl gwir grefydd Dduw a' [Page 220] rhinwedd dda, mor angenrheidiol ag yw jechydwriaeth ein heneidiau. Ag a eill ûn amser, er cynted neu bresennoled fyddo, fod yn rhŷ fuan i wneud y peth a fo angenrheidiol iw wneuthur? Yn enwedig, pan na bo'm siŵr o un amser arall i gyflawni 'r pêth: nid yw'n hamser yn rhŷ fuan i wneuthur y peth sydd yn llŵyr angenrheidiol ag yn ddiescusodol; ag nid oes ûn gŵr synhwyrol a esceulusa wneud y cyfryw beth yn y cyfamser, a'i gwna ef yn druenus byth, os esceulusa ei wneuthur ef; ag etto byth nis gwneir, oni wneir ef yn yr amser presennol.
2. Onid ydyw byw yn grefyddol, a' gofalu am ein heneidiau yn waith iw wneuthur bob dydd, cystal a bwytta ag yfed i gynnal iechyd a' nerth y corph? Onid rhaid ini weddio ar Dduw bôb dydd, a' gwneuthur ei gyfreithiau ef i fod yn rheol in gweithredoedd bôb dydd, ag edifarhau am ein pechodau, a' gwneud cymmaint o ddaioni ag a allwn ni bob dydd? Ag ni a ddylem wneuthur gorchwyl y dydd yn ei ddydd, pe baem siccr o fyw tan y foru, ond yn hytrach pan nas gwyddom pa ûn a fydd rhaid ini ai marw heno cyn y foru ai peidio.
3. Onid ydych chwi ei gîd yn ymroi i edifarhau am eich pechodau, cyn i chwi farw? ag onid yw mor angenrhaid i chwi edifarhau heddyw am eich pechodau, a'r [Page 221] amser rheitthiaf? Onid yw'r dydd heddyw mor gwbl gyfaddas i chwi edifarhau ag ûn amser arall a ddaw? A ydych chwi yn siŵr y rhydd Duw i chwi vn diwrnod arall i edifarhau, os chwi a esceuluswch hwn? Mae hyn yn ddigon i fodloni ûn gŵr synhwyrol, nad yw addo edifarhau ryw amser neu ei gilydd, ddim amgenach na rhagrith, o herwydd bôd y cyfryw ddynion yn ymroi i edifarhau, ond nid tra y caffant amser i edifarhau, a phan allont edifarhau, hynny yw, yn yr amser presennol, o ba v̂n yn unig y maent yn siŵr, eithr maent yn oedi eu hedifeirwch hyd yn amser arall, y cyfryw ûn, ni hwyrach, ag byth nis gwelant.
Yr wyf yn addef y geill dynion fwriadu gwneud rhywbeth yn ddigon difrif o fewn y Mîs, neu hanner blwyddyn, neu flwyddyn, na bo'nt yn cyfrif mor gyfleus iw wneuthur yr awrhon. Eithr nid bwriad diammodol yw hwn, eithr bwriad dan ammod, sef y gwnânt y peth os byddant byw cŷd, tan y cyfryw amser ag y bo cyfleus iw wneuthur.
Ystyriwch chwithau pa fodd yr ydych yn amcanu, pan fo'ch chwi yn ymroi i edifarhau, ai bwriad ammodol yw eich pwrpas i edifarhau os byw fyddwch hyd yr amser a'r amser? Yr wyf yn addef fod rhyw faint o reswm yn y pwrpas hwn, ond chwennychwn i chwi ystyrio faint yw'r perigl sydd [Page 222] ynddo hefyd. O herwydd a ydych chwi yn fodlon i fod yn ufferu tros byth, os y chwi nis byddwch fyw hyd eich amser gosodedig i edifarhau: nâg ydych, ond yr y ch yn crynnu gan ofn pan feddylioch am y fâth beth, am hynny yr ydych yn ymroi i edifarhau, o herwydd eich bôd yn ymroi i beidio dioddef poenau tragwyddol; hynny yw, yr ydych yn ymroi i edifarhau yn ddiammodol, ag chwi welwch fod hyn yn wir angenrheidiol; gwaith yw sydd raid ei wneuthur, ag yr y'ch yn ymroi iw wneud ef; am hynny ystyriwch mor wâg a' di-sylwedd yw'r pwrpas hwn, sef pwrpasu edifarhau ryw amser neu ei gilydd; yr hwn sydd bwrpas diammodol, a' than ammod hefyd, a hwnnw yn ammod an-siccr jawn; ymroi i edifarhau yn siŵr, er nas gwyddom pa brŷd, pan na bo'm yn siccr o'n hamser; ag etto pwy bynnag a edifarhao, mae 'n rhaid iddo edifarhau ryw amser neu ei gilydd; ag nid allwn fod yn siccr o edifarhau, os nid y'm siccr o'n hamser i edifarhau. Yn wîr nid yw ymroi yn gwneud dim llês oni ymrown yr awron, pan na bo dim escus yn erbyn yr amser presennol, yn enwedig pan fo'r perigl yn amlwg o oedi. Ymroi i edifarhau ryw amser rhagllaw, pan na bo'm siŵr o ûn amser i edifarhau ond yr awron, sydd yn arwyddocau fod pobl yn gweled fod yn rhaid edifarhau; ond mae ganddynt gymmaint o gariad tuag at eu pechodau, [Page 223] nad allant mor ymadel a hwynt etto. Am hynny, fel y gallont bechu yn ddi-ofn ag yn ddiarswyd o achos y byd a ddaw, mae'nt yn lled-ymroi i edifarhau ryw amser rhagllaw. Yn awr, meddaf, os na byddeu ddim perigl iw ofni oddiwrth oedi edifeirwch o achos breuolder ein henioes etto barned y neb a fynnoch; a oes fodd i'r cyfryw amcanion ddyfod byth i ben da; amcanion a'u pŵys ar yscwydd pechod, a'r cyfryw a wnelom ond o herwydd ein bôd yn caru pechod, a'r rhai nad oes dim defnydd iw wneud o honynt eithr i ddistewi cydwybod aflonydd, ag i swccrio pechu yn ddi-arswyd: Or achos ymma y mae dynion yn ymroi i beidio ag edifarhau yr awron, ond yn yr amser a ddaw, ag os byddant or v̂n feddwl yn wastad, nid edifarhânt byth, oblegid byth nis daw eu hamser a ddaw hwynt, yr hwn nid yw yn arwyddocau ûn amser tersynol, gosodedig, ond yr amser nad yw bresennol: yr ûn achos ag sydd yn eu cadw hwynt oddiwrth edifarhau heddyw, a wasanatha iw hattal hwynt oddiwrth edifarhau o ddydd i ddydd. Hynny yw, o herwydd eu bod hwynt yn caru eu pechodau, ag yn anfodlon i ymadel a hwynt; a'r rheswm iw tueddu hwynt i ymroi i edifarhau yr amser a ddaw, a wasanaetha dros bôb amser a ddaw, ond nis tâl ddim, nid yw reswm yn y byd tros yr amser presennol: Hynny yw, o herwydd nid ydynt yn gweled [Page 224] yn dda edifarhau dros dro, ag etto maent yn ceisio boddi eu hofn au harswyd, trwy wâg obeithio y digwydd iddynt ryw amser neu ei gilydd fod yn edifeiriol: Am hynny, na siommwch mo'noch eich hunain trwy wâg hyder; y sawl nad ymroddo i edifarhau allan o law, er nad yw siccr i edifarhau un amser ond yr amser presennol, nid yw hwn yn ddifri ag yn ddi-ragrith yn ei bwrpas o edifarhau, pwrpasu y mae yn unig oedi ei edifeircwh.
Yr v̂n fâth yw'r perigl o oedi pethau o ddydd i ddydd, a cholli cyfleustra, ag esceuluso gwneuthur y peth y dylem wneud defnydd presennol o hono, a'r peth a ddylem ni ei ewyllysio uwchlaw pob dim yn y bŷd. Hynny yw, bod yn siŵr o ddedwyddwch ein heneidiau anfarwol; nis dywedaf ond ûn gair ychwaneg i wneud i chwi ddeall faint yw'n colled o golli 'r amser presennol heb wneuthur y goreu o hono; y sawl a gollo ei amser presennol ma'en colli ei holl hamser sydd iw eiddo. Ag mae'r rheswm ymma yn cloi ar y cwbl, mae'r amser presennol yw 'r holl amser a fedd pob dyn, i fyw, i edifarhau ynddo, ag i wasanaethu Duw, ag i wneud daioni i ddynion, i ychwanegu ei wybodaeth, ag i arferu ei rinweddau a'i ddoniau, ag iw ddarparu ei hunan i fyw mewn dedwyddol dragwyddoldeb, ag nid oes dim yn y byd mor angenrheidiol ag mor ddymunol a'r pethau hyn; a'r pethau hyn sydd yn [Page 225] gwneuthur amser mor werthfawr ag ydyw, yr hwn nid y'm yn ei brisio nag yn gwneud cyfrif o hono, ond o herwydd ag er mŵyn y pethau a gyflawnir ag a feddiennir ynddo.
Eithr chwi a ddywedwch ar y pâs ymma, y bydd yn anghenrhaid gwarrio ein holl amser yn nyledswyddau ein crefydd, sef i feddwl am Dduw ag am y byd a ddaw; mewn gweithredoedd edifeirweh a' gwadu chwantau 'r cnawd, mewn gweddi ag ympryd a'r cyfryw wasanaeth defosionol: ni cheiff dyn wrth hyn mor amser i wneuthur dim gorchwyl arall, ond prin i fwytta ag i yfed ag i gyscu; ond mae'n rhaid cymmeryd amser i hyn gwnawn ein hamcan; mae'n rhaid lwfio hefyd amser i gymmeryd ein pleser ag i fod yn llawen, ag i fôd ynghwmni ein ffrins a'n caredigion, ag i ddi-flino ein cyrph a'n meddyliau ar ol eu llafur; o herwydd os bydd yn rhaid ini yn wastad wneud y goreu o'n hamser presennol, yr amser presennol yw'n holl amser ni, o herwydd nid eiddo ni v̂n amser heblaw 'r amser presennol, ag fel y mae y naill fynudyn yn canlyn y llall, mae'n rhaid yn wastad wneuthur y goreu o hono, os felly y mae, nid allwn wneuthur ond v̂n pêth tra bo'm ni byw; ag wrth hynny y ffordd oreu a fyddeu ini fyw mewn Monachlog, a'n neilltuo ein hunain yn hollawl oddiwrth y bŷd a'i holl drigolion.
[Page 226] Fy atteb i i'r rhesymmau hyn a ddengys pa beth y mae gwneud y goreu o'n hamser yn ei arwyddocau, a' pha fôdd hefyd y mae in'i wneuthur hynny.
Yn gyntaf: efe a haeddeu 'r chwedl gael ei le, os darfu i ddyn gamarfer ei amser tros y rhan fwyaf o'i enioes, os yw yn drwm-euog o bechodau; ag yn llawn o arferion drŵg; y gwaith pennaf, ag agos yr unig beth a ddyleu 'r cyfryw ûn ei wneuthur ydyw tristau am eu bechodau o flaen Duw, a' gweddio arno yn daer ag yn fynych am faddeuant, i fyw megis mewn penyd gwastadol, a' beunydd i ymwrthod a chwantau'r cnawd, ag hefyd a phob pleser a' chyssur bydol; nes iddo mewn rhyw fefur feistroli ei chwantau pechadurus, a' medru o hono ail reoli ei wyniau a' chael llonychdod iw gydwybod, a' gobaith da fôd Duw wedi maddeu iddo ef, a' chymmeryd trugaredd arno er mŵyn haeddedigaethau Christ Jesu: fel hyn y dyle efe wneuthur, a phan fyddo yn gwbl gydnabyddus a'i gyflwr pechadurus, a'i berigl, nid eill wneud amgen, tra bo arno ofn myned i uffern, ni bydd ganddo ond awydd bychan i drîn y bŷd ymma, ond llai o lawer i gymmeryd ei bleser ynddo, ag i fod mewn difir gwmpeini. Eithr mae hyn yn torri ar gwrs ag arfer ein bywyd, fel cafod o ddolur a wnae ini gadw ein gwelu, neu gadw oddifewn ein tû neu 'n stafell, ag a lesteirieu ini ofalu am ddim ond [Page 227] am fyned yn iâch. Ag os fel hyn y mae'r matter yn sefyll, yno yn wîr yr unig beth i ofalu am dano, yw gofalu am ein heneidiau.
2. Ond os nid felly y mae'r matter yn sefyll, nid ydym ddim yn rhwymedig i dreulio 'n hamser mewn môdd cyn dosted, i fôd yn wastad ar ein gliniau, ag i fod yn wastad yn bryssur ar ryw wasanaeth Duwiol; o herwydd nis cynnwys cwrs y bŷd hwn i'ni fyw felly, eithr mae efe yn gwneuthur defnydd da o'i amser, y'r hwn sydd yn ei rannu rhwng trîn y bŷd hwn fel y dyleu a' gwasanaethu'r bŷd a ddaw hesyd, ag a dreulio ei amser i wneuthur pob v̂n o'r ddau yn eu hadeg a'u cyfleustra. Y sawl a ddechreuo 'r diwrnod ag ai diweddo a'i weddiau ar ei Dduw a'i jachawdr, trwy roddi diolch iw enw am ei holl drugareddau corphorol ag ysprydol, trwy erfyn maddeuant am ei holl bechodau, ag am gael ei amddiffyn gan ei ragluniaeth ef, am help gan râs Duw, a chwedi hynny a elo o gwmpas ei fatterion bydol trwy ddilyn cysiawnder a' gonestrwydd, y sawl na chymmero ond a fo rhaid o fwyd a diod, a wnelo bôb cymmwynasgarwch ag a allo i bôb dŷn; bôb trô ag y medro, ag os bydd dim amser yngweddill, a wneiff y goreu o hono i ychwanegu eï wybodaeth trwy ddarllen y scrythyr lân, a' myfyrio arni, neu ar ryw lyfrau da eraill; y sawl ai dadflino ei hunan [Page 228] wrth fod mewn cymdeithas ddifir, ddiniwed, nid colli amser y galwn ni hyn; eithr ein cymhwyso ein hunain i weddio, ag i drîn ein helyntion bydol, ond ar ddyddiau neilltuol i ymprydio ag i weddio, ei holl waith yw gwasanaethu Duw, ag i ymorol ar ol cyflwr ei enaid, i ddyscu ei ddyledswydd yn gyflawn, ag i feddwl am Dduw, ag am y byd a ddaw mor ddŵys, fel y gallo orchfygu pob profedigaeth, pan ddychwelo eilwaith at ei helyntion bydol. Dymma wneuthur y goreu o'n hamser presennol, sef, gwneuthur pob peth yn ei adeg ei hûn, i ymgadw oddiwrth bob gweithred ddrŵg, ag i wneuthur pob gweithred dda yn ei hamser ei hunan, wrth wneud hyn y gallwn roi cyfrif dâ o'n hamser oll; hyd onid ein hamser smalas; A hyn a weddeu ini ei wneuthur pa baem ni siŵr o fyw tros amryw flynyddoedd, ond ni a ddylem yn enwedig wneuthur hynny gan fod ein dydd diwedd mor anhyspys ini.
4. Gan fod ein hamser mor anhyspys, efe a ddyle hynny ein hattal oddiwrth fod yn rhŷ ofalus i ddarparu yn erbyn yr amser a ddaw: Nyni a allwn fyw tros lawer o flynyddoedd, er nas gwyddom pa hŷd y peru ein henioes; ag am hynny da y dylem gymmeryd peth gofal am yr amser a ddaw; ond nyni a allwn hefyd farw ar fyrder, pa ham ynteu yr y'm yn ein blino ein hunain, trwy ofalu am y foru, ag os [Page 229] felly, llai y dylem ofalu am ryw bethau dieithrach, pethau nas gwyddom yn dda a ddigwyddant hwy byth, a'i peidio. A ydwyt i ûn amser yn ofni naill ai am danat dy hunan, neu am dy wlâd, o achos y geill rhyw galedi neu dwrsdaneiddwch ddigwydd, a ydyw 'r cymmylau yn ymgasclu yn dduon ag yn ffyrnig, ydyw hi yn torri taranau, ag yn saethu mellt uwch dy ben di? gochel y ddryccin oreu y medri, darpara yn ei herbyn oreu ag a elli, oblegid y gelli di fyw iw gweled hi yn ddrycinog, ond na âd ir ddrycin o hirbell ddigalonni mo'not, oblegid geill dy ben fod mewn gorweddfa digon isel a' diogel ag allan o'i chyrraedd, cyn y torro 'r ddrycin allan; ag erbyn hyn pa lês iti ymdrafferthu ag ymgythruddo yn ofer? llawer ûn a welais yn ei flino ag yn ei anesmwytho ei hunan trwy ddarogan rhyw ddrygau neu i gilydd, ond heblaw na ddigwyddodd dim or pethau yr oeddynt yn eu darogan, a phe digwyddasent, na buasent o lawer mor dôst ag mor drymmion, ag y bwriau ein meddyliau dychrynllyd eu bôd. Pe digwyddasent i syrthio allan, etto yr oedd y sawl a oedd yn eu hofni wedi myned yn ddigon pell allan o'u ffordd a'u hergyd hwynt.
Nid wys yn meddwl wrth hyn roddi cyssur mewn dynion yn erbyn y drŵg a ddaw, o herwydd y geill digwydd iddynt hwy farw, cyn ir caledi ddigwydd; nid yw hyn ond cyssur bychan i'r rhan fwyaf o [Page 230] ddynion, oblegid nid hwyrach mai marw yw'r peth mwyaf y mae'nt yn ei ofni: eithr gan nas gwyddom mo hŷd ein henioes, ag y gallwn ni farw cyn y delo 'r dyddiau yr ydym ni yn eu hofni, ynfyd a fyddeu i'ni ymflino ag ymddottio yn eu cylch hwynt, megis pe baent bresennol ag wedi digwydd yn barod. Anhyspysrwydd ynghylch pethau ammrhesennol, sydd ûn rheswm da in hattal ni oddiwrth fod yn rhŷ ofalus am danynt; a' rheswm arall ydyw, o herwydd nas gwyddom pa hŷd y peru ein bywyd; A phan fo pethâu mor anhyspys, ag mor an-siccr a hyn, nyni a ddylem fod yn gryn ddi-fatter yn eu'cylch hwynt.
5. Or ún achos nis dyleu fôd arnom ddim ofn dynion, nag ychwaith roddi ein hymddiried a'n hyder arnynt hwy, oblegid fod cu bywyd hwynt yn an-siccr ag yn siomgar, nis gallant wneud dim niwed i'ni, pan fo arnom ni fwyaf o'u hofn hwynt; ag nis gallant ein helpio, pan fo arnom fwyaf o'u heisiau: fel hyn yr ym-resymma y Psalmudd, 146, Psal. 3, 4. Na hyderwch ar dwysogion, nag ar fâb dyn; yr hwn nid oes iechydwriaeth ynddo, ei anadl a â allan, efe a ddychwel i'w ddaiar; y dydd hwnnw y derfydd am ei holl amcanion ef. 2. Esay, 22. Peidiwch chwithau a'r dyn, yr hwn sydd ai anadl yn ei ffroenau: canys ym mha beth y gwneir cyfrif o honaw. Fe eill dynion, yn enwedig gwŷr mawr cadarn wneud ini [Page 231] lawer o niwed, ag hwy allant wneud ini lawer o ddaioni hefyd, am hynny gwneiff pôb gŵr synhwyrol oreu ag a allo i ryngu eu bodd hwynt, ag i haeddu eu cariad cymmhelled ag y gweddeu iddo trwy degwch a' gonestrwydd, ag i beidio a'u digio hwynt oi sôdd ag yn ddiachos; ond etto nid ydyw 'r goreu o honynt ond creaduriaid crinion, ag nid eill fôd arnom mor llawer a'u hofn hwynt, mewn cyffelybrwydd o ofni Duw. Cyngor doeth y mae'r prophwyd Esay yn ei roddi yn yr 8. Esay, 12, 13, 14. Na ddywedwch, cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, cydfwriad: nag ofnwch ychwaith eu hofn hwynt, ag nag arswydwch. Arglwydd y lluoedd ei hun a sancteiddwch, a' bydded ef yn ofn i chwi, a' bydded ef yn arswyd i chwi; ag efe a fydd yn noddfa. Y mae anferth o ragor, rhwng gallu Duw, a gallu dŷn, a' dyna'r rheswm y mae'n hiachawdr yn ei roddi, paham y dylem ni ufyddhau i Dduw yn hytrach na dynion: Nag ofnwch y rhai sydd yn llâdd y corph; ag wedi hynny heb ganddynt ddim mwy iw wneuthur. Ond rhag-ddangosaf i chwi pwy a ofnwch: ofnwch yr hwn wedi y darffo iddo lâdd, sydd ag awdurdod ganddo i fwrw i uffern; ie meddaf i chwi, hwnnw a ofnwch: 12 Luc, 4, 5. Eithr pa allu bynnag a fo gan ddynion in briwo a'n haflonyddu tra bo'm ni byw, nid oes fodd iddynt i wneuthur ini ddim niwed ar ol eu marw [Page 232] hwynt, ag mae eu henioes hwynt mor siomgar, nad yw y cyfryw ofn yn parhau weithieu chwaith hîr. Yr ûn fâth yw rhoi hyder ag ymddiried mewn dynion; pe baent hwy yn wastad yn gywir iw gair a'u haddewid, etto nis gwyddom pa brŷd y geilw Duw am danynt; Eu hanadl a â allan, hwy a ddychwelaut i'w daiar; y dydd hwnnw y derfydd am eu holl amcanion hwynt; eu holl ddrŵg feddyliau a'u meddyliau da hefyd: Eithr Gwyn ei fyd yr hwn y mae Duw Jacob yn gymmorth iddo; sydd a'i obaith yn yr Arglwydd ei Dduw. Yr hwn a wnaeth nefoedd a ddaiar, y môr a'r hyn oll sydd ynddynt; yr hwn sydd yn cadw gwirionedd yn dragywydd. 146. Psal. 5, 6.
6. J gloi ar a ddywedais ar y testyn hwn amddiffynnaf ar fyr eiriau ddoethineb a' daioni y Duw goruchaf am gadw ein hawr ddiweddaf mewn dirgelwch ag allan o'n gwybodaeth. Mae'n ddigon hawdd genym ni fod yn achwyn, ag yn anesmwyth o'r achos ymma, o herwydd nad ydym yn gwybod oddiwrth ein hawr ddiwaethaf, nas gwyddom heddyw na bydd raid ini farw y foru, ag ni a fyddem yn dra-bodlon pe deuem ni o hŷd i ûn a ddywedai ini yn siŵr, fesur ein dyddiau; ond os ystyriwn y peth yn dippin gwell, nyni a fyddwn o feddwl arall.
Oblegid J. mi a debygwn y byddeu wŷch gan lawer o honoch wybod y caech chwi [Page 233] fod yn siŵr o fyw, tros ugain neu ddêg a'r hugain neu ddeugain mlynedd, neu yn hwy; etto pa gyssur a fyddeu i chwi wybod y byddeu raid i chwi farw y foru neu o fewn y mîs, neu ddau, neu flwyddyn, neu ddwy? Ag dymma eich cyflwr chwi am ddim a wyddoch; ag nid wyf yn credu sôd gennych ormod ewyllys i wybod hyn. o herwydd efe a chwithäu hyn arnoch yn anferth, ag efe a oereu eich gwaed chwi, ag efe a dorrai ar eich afiaeth, chwi a dreuliech a fae yn ol o'ch amser, fel gwŷr gwedi eu bwrw iw colli, cyn dyfod eu dydd dioddef.
Pe gwydde bob dyn sydd yn marw yn jeuanc, mai felly y bydde gwnae hyn ben am bôb llafur a' hwsmonaeth ymmysc dynion, ag efe a ymdwye hynny y bŷd, ag fe a fyddeu hyn yn golled gyffredinol i hôll grefftwyr y bŷd: o herwydd pa ddyn os gwydde ym mlaen-llaw y bydde raid iddo farw yn yr ugeinfed flwyddyn oi oed neu'r bummed a'r hugain, neu dippin osgatfydd cynt neu gwedi, a drwblie byth ei ben ag ún grefft gelfyddgar, neu a fyddeu iddo ddim a wnae a'r byd hwn, heblaw byw ynddo yn ddiofal ag yn ddi-gyffro dros hynny o amser; ag etto mor anodd yw bod heb wasanaeth y cyfryw ddynion yn y bŷd? beth am faint eu gorchwyl a'u hwsmonaeth, beth fel y mae'nt yn gwellhau ag yn harddu pôb peth o'u hamgylch? beth am ddifyrred yw eu [Page 234] cwmpeini hwynt, tra y bae yn ddiniwed? beth fel y mae'nt yn eu llawenychu eu hunain, ag yn bywhau ag yn ysprydoli 'r oedrannus? beth am deneued fyddeu'r yscolion a'r Marchnad-dai, a' Rhydychen a' Cambridge. Chaer-Grant, a' lleoedd eraill i ddwyn gwŷr ieuainc i fynu i yscolheictod, pe gwyddent hwy fyrred ydyw amser llawer o honynt yn y bŷd hwn? ai tebyg yr ymroe y cyfryw rai i ymorol ar ol byw yn y bŷd, neu ar ôl crefft i gasclu cyfoeth, pe gwyddent y bydde raid iddynt hwy farw yn y man ar ol ei dyscu hi? A oes Tâd yn y bŷd a gymmerei lawer o gôst i ddŵyn ei fâb i fyny yn unig er mwyn cael o hono ef y glôd o farw ar ol iddo fôd yn deall tippin o Ladin neu Roeg neu o Philosophyddiaeth? Nag ocs siŵr, ond pe gwyddem hyn diange y rhan fwyaf o'r bŷd a'r gûdd i ryw Fonachlog neu ei gilydd, neu ryw le neilltuol er mwyn eu darparu a'u cymhwyso eu hunain erbyn eu hawr ddiweddaf.
Ond chwi a ddywedwch, gadewch i hynny fod, onid yw'r fantes a ddigwydde o hynny uwchlaw pôb anghyfleustra a fedroch chwi feddwl am dano? Sef, y byddeu lawer o filoedd o eneidiau yn gadwedig o ddilyn y ffordd hon, sydd yr awron yn golledig dros byth bythoedd o achos chwantau ag ynfydrwydd eu hieuenctyd, ond pe buasent yn gwybod fyrredoedd eu hamser a'r [Page 235] y ddaiar buasent yn ei dreulio ef oll mewn ymprydiau, Duwiolder, a' gweddiau, ag yn gofalu yn unig am lawenydd y byd a ddaw.
Gwir, yr wyf yn cyfaddeu mai ffordd rwydd yw hon i gospi gwyniau ag anllywodraeth jeuenctyd; ag felly y byddeu ddangos iddynt ûn golwg ar Nef ag uffern; eithr nid yw Duw yn gweled yn dda wneud defnydd yn y bŷd o'r un o'r ddwy ffyrdd hyn, oblegid eu bod hwynt yn rhwystro i ddyn gael ei ddewis ai myned ir nef a'i peidio, wrth hyn ni fydde i ddŷn ddim lle i ddangos ei rinwedd a'i ufydd-dod i Dduw, neu i ddangos ei fod yn gorchfygu'r bŷd trwy ffŷdd ond mae hyn yn gwneuthur byw yn Dduwiol yn wasanaeth di-ddewis, ag nid o fôdd ag ewyllys da. Yn awr nid gwiw gan Dduw yrru v̂n dŷn i'r Nef o'i anfodd; mae'r Efengyl yn cymmell y Nef i bôb dyn a fo' yn wŷch gaddo gaelei groesawu iddi, ag am hynny oni wasanaetha y gobaith a'r arswyd sydd yn perthyn ir byd a ddaw, sef y drŵg yr y'm yn ei ofni ag yn ei arswydo, ar da yr y'm yn gobeithio am dano ag yn ei ddewis yn ddi-wâd, ag hefyd ein hansiccrwydd o'n hamser i fyw ar y ddaiar, i orchfygu y profedigaethau gwenhieithus hyn, ag i wneud dynion i fyw yn Dduwiol o ddyfnder calon, oblegid fôd yn rhaid iddynt farw yn ddi-ddewis, a myned i fyd arall, ag nis gwyddont pa cyn gynted; ni chais Duw mor ymorol, a fuasent hwy [Page 236] yn fwy Duwiol, o gael bod yn gydnabyddus a therfynedig fesur eu dyddiau: Digon o amser i wŷr jeuainc ddarparu yn erbyn eu diwedd; a' disgwil am eu hawr a'u hamser i farw ydyw, o fod miloedd yn marw yn jeuainc ond os myned ymmlaen a wnânt mewn trachwant a' diofalwch, rhaid iddynt fod yn fodlon i gymmeryd a ddêl, ag nis gwasanaetha iddynt ddywedyd na chawsant ddim rhybudd y byddeu raid iddynt farw yn ieuainc; os hwynt hwy a'u hymdwyant eu hunain byth bythoedd o wîr gerth-ddioddef.
Ag heblaw hyn mae Duw yn gofyn i'ni ufyddhau iddo ef, a'i wasanaethu yn nyddiau ein hieuenctyd, er i'ni fyw oscatfydd i fod yn hên, nid o herwydd y geill ddigwydd i'ni farw yn ieuainc, yw 'r unig reswm na'r achos pennaf ini gofio ein creawdr yn nyddiau ein hieuenctyd, ond o herwydd fod gan Dduw hawl arnom, tra bo'm yn nyrnod ein nerth, ag ym mlodau ein dyddiau, ag onid yw hyn yn ddigon i wneud i'ni fyw yn Dduwiol, nid oes le ini ddisgwil y gesyd Duw Angan o flaen ein llygaid, i'n hofni a'n harswydo ni i fyw yn Dduwiol, megis pe bae Dduw yn sefyll ar ofyn gwasanaeth ag ufydddod oddiar ein dwylaw, ond er mŵyn byw o honom fel creaduriaid rhesymmol er gogoniant i'n creawdr a'n prynnwr ni, ond er mwyn edifarhau o honom am ein pechodau yn ddigon buan ryw [Page 237] amser neu ei gilydd rhag myned i uffern: Mae Duw mor drugarog, bendigedig a fo' ei enw ef, a' chroesawu 'r afradlon, ar ol iddo droi a' bôd yn edifeiriol; eithr nid yw'n gweled yn dda swccrio ûn dyn mewn pechod, trwy roddi i'ni rybudd pa brŷd y byddwn farw, neu pa brŷd yw'r amser i'ni feddwl am edifeirwch.
2. Er nad wyf yn ammeu, na byddeu 'n wŷch gennych gael gwybod y caech fyw i fod yn hirhoedlog, etto ymwrandewch a chwi eich hunain, a' dywedwch im'i, yn eich barn eich hunain, a weddeu i Dduw adel i chwi wybod hyn?
Dywedais i chwi o'r blaen faint yw'r perigl sy'n digwydd ar hyderu byw yn hir, mae hynny yn ein tueddu i fôd yn rhŷ chwannog i'r bŷd, pan fo'm yn disgwil byw cŷd ynddo ef, mae hynny yn gwanhychu ag yn diffrwytho ein gobaith am y bŷd nessaf, ag yn pylu ein hofn a'n harswyd o hono ef, wrth fod yn ei symmud ag yn ei daflu ef yn rhybell oddiwrthym; mae hyn yn swccrio pobl i fyw mewn pechod, o herwydd fôd ganddynt ddigon o amser yn spâr, ar ol iddynt borthi eu holl wyniau, i edifarhau am eu pechodau, ag i wneüd eu tangnheddyf gyda eu Duw yn abl buan cyn eu marw; ag os ydyw y fâth obaith ansicer a hon yn ymdwyo llaweroedd o ddynion; beth a ddeuei o'r bŷd pe gwydde bob dŷn yn ddigon fiŵr pa brŷd y byddeu ei awr ddiwaethaf? [Page 236] [...] [Page 237] [...] [Page 238] y sawl a fo yn medru gorchfygn profedigaeth, o herwydd nas gŵyr pa brŷd y geilw Duw am dano, a fyddeu rhŷ debyg i syrthio i'r rhŵyd pe gwyddeu yn siŵr y cae fyw yn hîr.
Efe a roe hyn rydddyd i bob oferedd, a' rhwysc i bôb gwyniau afreolus, os gwydde ddynion er maint o ddrŵg a wnâent, na byddant farw ddim cynt na'u hamser, ag na ddeue yr Angau ddim yn sydyn am eu pennau, oblegid y gwyddant eu dydd diwaethaf yn ddigon hyspys: mae hyn yn torri ymmaith ûn annogaeth i ufydddod sy gyfrifol jawn; sef fôd byw yn annuwiol yn arfer o fyrhau enioes dŷn, a byw yn Dduwiol ag yn rhinweddol yn help dda i fyw yn hîr; Na fydd yr annuwiol fyw hanner ei ddyddiau, mai ofn yr Arglwydd a estyn ddyddiau; ond blynyddoedd y drygionus a fyrheir: Dihar. 10. 27. Fe a fydde raid torri a rhwygo 'r addewidion a'r bygythion hyn allan o'r scrythyr lân, os Duw a hyspyse i bob dyn ei awr ddiwaethaf.
Ar peth sydd fwy, efe a dorrai hyn ar gwrs rhagluniaeth Duw ag ar ei arferol foddion ef i waredu pechaduriaid; mae ef weithie yn danfon cospedigaethau cyffredin; megis rhyfel, Nodau, a' Newyn, i rybuddio y byd cyfeiliornus ag i annog dynion i edifeirwch; weithie mae cafod o ddolur neu glefyd yn deffro dyn allan o syrthni pechod, ag yn ei wneud yn ddyn newydd [Page 239] byth o hynny allan: ond bydde'r moddion hyn eu gîd yn anllesol, ag yn ddi-ddefnydd a' di-bwrpas pe gwyddeu ddyn yn hyspys pa hŷd y byddeu byw, ag na wnae na'r barnedigaethau cyffredin, nai glefyd peryglus ei hunan mor pen am dano.
Un achos da i'n gwneud ni yn wiliadwrus, yw, oblegid nis gwyddom ddim hyspysrwydd ynghylch awr ag amser ein Marwolaeth, efe a wneiff hyn in'i wafanaethu Duw yn ein hieuenctyd, sef yr awron a' phôb amser rhag llaw; ond nis gwn i amcan pa fantes a fydde in'i gael hyspysrwydd ynyhylch ein diwedd. Bydde hyn siŵr o ychwanegu annuwioldeb dynion, ag ysowaeth mae gormod o ddynion annuwiol yn y byd yn barod. Mae hyn yn ddigon i ddangos y dylem ogoneddu Duw am ei anfeidrol ddoethineb, gan ei fôd yn cadw ein hawr ddiwaethaf yn anhyspys in'i, yn guddiedig, ag yn gwbl ddirgel oddiwrthym.
RHAN VII.
Nad yw angenr haid marw ond unwaith, a' bod Marwolaeth yn ein newid ni i gyflwr anghyfnewidiol, a' pha fodd i wneud y defnydd goreu o'r addysc hon.
YSTYRIWN yn ddiweddaf, nad rhaid ini farw ond unwaith: Fe osodwyd i ddynion farw unwaith. Ond nid ydyw'r [Page 240] rheol hon yn dal yn sŷth ag yn ddidorr beunydd, eithr mae ymbell siampl o'r ail farwolaeth yn gystal ag o'r rheini na fuant feirw erioed; megis Enoch ag Elias, ag fel nas bu y rhain feirw erioed, felly fe gyfodwyd eraill oddiwrth y meirw i fyw drachefn yn y byd hwn, a'r cyfryw rai a fuont feirw eilwaith: Ond mae hon yn rheol wîr yn gyffredin, ag o'r rhan fwyaf, sef, fod yn rhaid i bob dyn farw unwaith; ag nad rhaid i neb farw ond unwaith. Ag nid rhaid wrth sefyll i brofi hyn, o herwydd ni a welwn bôb dydd mai felly y mae.
Ond mi a ddywedaf i chwi beth yr wyf i yn ei feddwl wrth hyn: sef ein bod wrth farw unwaith yn craffu ar gyflwr ag ystâd anghyfnewidiol tros byth bythoedd; pan ddiwiscom y cyrph marwol hyn, nid oes dim modd iw gwisco hwynt eilwaith, nag i ail-fyw yn y byd hwn i amendio ein beiau, ag i wneuthur nniondeb ag iawn am ein cam-weithredoedd ar y ddaiar. Mae Marwolaeth yn ein gosod ni mewn ystâd anghyfnewidiol; ag i'r dull a'r pwrpas ymma, gwîr a ddywed y gŵr doeth: Os tua'r dehau neu tua'r gogledd y syrth y pren, lle y syrthio y pren yno y bydd efe. Preg. 11. 3. Peth a haeddeu ei ddŵys ystyrio yw hyn, ag myfi a ddylwn ddal sulw arno yn fwy pennodol, er mŵyn gwneuthur y pêth yn fwy hyspys a' chynabyddus i chwi, ag felly y gwnâf, yn enw Duw, yn y rhesymmau sy'n canlyn.
[Page 241] I. Mai'r bŷd hwn hwn yw 'r unig fan lle y geill dynion wneud y goreu o'u hamser, a'u darparu eu hunain erbyn tragwyddoldeb: Gan hynny, 2. Pan ddêl Marwolaeth dŷn, fel y mae yn gwneud pen am y bywyd hwn, fel na bo' raid marw ond unwaith, na byth fyw drachefn fel gynt yn y bŷd hwn, felly mae'n gwneud pen am ein holl lafur, am ein holl waith a'n gorchwyl hefyd, mae dydd ein hiechydwriaeth a'n hamser iweini er mŵyn y bŷd a ddaw, yn diweddu gyda'r bywyd hwn. Ag, 3. mae'n canlyn ar y ddau-beth hyn fod marw unwaith, yn ein gosod ni mewn cyflwr ag ystâd anghyfnewidiol.
J. Mai 'r bŷd hwn yw 'r unig fan lle y geill dynion wneud y goreu o'u hamser, a'u cymhwyso, a'u darparu eu hunain erbyn traggwyddoldeb; beth bynnag sydd raid i'ni ei wneuthur er mŵyn ennill cymmod a' chariad Duw, a' gwŷnfydedig anfarwoldeb, sydd anghenrhaid ini iw wneuthur tra bo'm ni byw yn y bŷd hwn.
Rhagddywedais o'r blaen, nad yw'r byd ymma ond ar y ffordd i'r bŷd a ddaw, mai'r gorchwyl rheittia ini iw wneuthur yn y byd hwn, ydyw, i'ni ein darparu a'n cymhwyso ein hunain i fyw tros byth bythoedd gyda Duw; i fod yn bresennol gydag ef; i wneuthur pen o'r gorchwyl a roes Duw yn ein dwylaw, fel y gallom dderbyn y gwobrwyau sydd deilwng i weinidogion [Page 242] ffyddlon, cywir, a' gwiliadwrus, sef derbyn ein hesmwythdra yn nhŷ ein meistr; a'r unig amser i'ni wneud hyn yw tra bo'm ni byw yn y bŷd ymma▪ Mae hyn yn amlwg wrth a ddywed St. Paul wrthym, sef, Fôd yn rhaid in'i oll ymddangos ger bron brawdle Christ, fel y derbynio pôb ûn y pethau a wnaeth pwyd yn y corph, yn ol yr hyn a wnaeth, pa un bynnag ai da ai drwg. 2 Cor. 5. 10. Yn awr, os rhaid in'i ddiodde ein barnu, yn ol a wnaethom yn y corph, wrth hynny yr unig adeg i wneud y goreu o'n hamser yw, tra bo'm yn y corph; o herwydd i'r cyfriw weithredoedd yn unig y perthyn y farn a ddaw.
Efengyl Crist yw'r rheol yn ol pa ún in bernir ni; ie 'r Efengyl honno a bregethodd St. Paul, 2. Rhuf. 16. a' phob gorchymmyn yn yr Efengyl a berthyn i'n cyfrwyddo ni pa fodd y dylem ein hymddwyn ein hunain yn y bŷd hwn. Am hynny ynteu, os wrth yr Efengyl i'n bernir ni, nyni a dderbyniwn farn yn unig am y pethau a wnelom yn y bŷd hwn.
Mae'r scrythyr lân yn gosod allan o hŷd, mai dymma 'n hamser ni i weithio, tra bo'm ni byw yn y bŷd ymma, gan alw'n gwaith weithie yn yrfa, weithie yn filwriaeth, weithie yn orchwyl mewn gwinllan; ag mae 'n dywedyd am y bŷd a ddaw, mai lle i dderbyn tâl, i dderbyn gwobrwyau a' chospedigaethau ydyw▪ ag os yw 'r bŷd [Page 243] hwn a'r bŷd a ddaw mor naturiol yn perthyn iw gilydd, fel y mae ymdrechu a' gorchfygu a' derbyn y goron yn canlyn y naill y llall; fel y mae rhedeg gyrfa, ennill y gamp; fel y mae gwaith a' chyflog: os felly y mae meddaf, mae'n rhaid in'i ymdrechu, a' gorchfygu, rhedeg ein gyrfa, a' gwneud pen o'n gwaith, yn y bŷd hwn, os y'm yn disgwil cael gwobrwyau am ein poen yn y bŷd a ddaw.
Nid ellir gwneud defnydd o lawer grâs a' rhinwedd, i ba rai y mae 'n Hiachawdwr wedi gwneud addewid o fywyd tragywyddol; ond yn y byd ymma yn unig. Mae ffydd a' gobaith yn perthyn yn unig i'r bŷd hwn; tra bo'r byd a ddaw allan o olwg ag yn ammhresennol. Ag dymma ûn o ddoniau pennaf ein Cristiannogol grefydd ni; sef, ein bod ni yn credu y pethau nis gwelwn, a'n bôd ni yn byw wrth obaith am dâl ryw amser a ddaw. Mae byw yn llywodraethgar ag yn gymmwys, a' chospi ein gwyniau corphorol, a' byw yn gymhedrol ag yn sobr, ag yn rhinweddol, yn dangos yn eglur fod genym gyrph, a' gwyniau corphorol hefyd iw rheoli; am hynny nid oes le i arferu y rhinweddau hyn, ond tra y bo'm yn y corph, yr hwn sydd yn ein tywys ag yn ein harwain ni i bob ffieidddra, a' gormodedd. Nid yw rinwedd, beidio a hoffi 'r bŷd, a' dibrisio ei ddisclair a'i ogo neddus brosedigaethau ef; ond yn unig tra bo'm yn byw ynddo, ym myse ag ynghanol ei [Page 244] amryw brofedigaethau ef. Un o ddoniau pennaf yr Efengyl a' dull enaid gwîr Dduwiol ydyw, bôd ein hymarweddiad yn y Nef; ond nid yw'r ddyledswydd hon yn cymmeryd ei llê, ond yn y byd hwn, tra bo'm ni ym mhell oddiwrth y nef; ag felly y mae bôd yn fodlon mewn pôb cyflwr a' grâdd, a' rhoi hyder ar Dduw yn y peryglon mwyaf, a' dioddef yn amynedd-gar er mŵyn cyfiawnder a' gwirionedd, ar cyfryw ddyledswyddau a'r rhain sy'n rhinweddau (fel y gwyddoch) iw harferu yn y byd hwn yn unig o herwydd nid rhaid wrthynt yn y Nef, oddieithr ini feddwl mai gwaith rhinweddol yw bod yn amyneddgar dan, ag yn fodlon i lawenydd a' gogoniant y lle hyfrydol, gwynfydedig hwnnw.
Wrth hyn, nid oes fodd i bechu, mo'r rhan fwyaf o'r pechodau, y mae'r efengyl yn eu gwahardd tan boen cospedigaeth dragwyddol, ond yn y bŷd hwn yn unig, ag yn y corph; megis anlladrwydd, godineb, aflendid, oferedd, meddwdod, anghyfiawnder, trawster, llofruddiaeth, lladrad, gwascuar y tlawd a'r ymddifaid, balchder y bŷd hoffi swyddau, cyfoeth a' goruchafiaeth bydol, cybydddod, a' bôd yn rhŷ gû genym ag megis yn addoli'r bŷd hwn, anufydddod i rieni, ag i lywodraethwyr y wlâd neu'r eglwys; a'r cyfryw bethau: yn awr, os dymma'r cyfryw bethau a ddûg in'i, naill a'i jechydwriaeth, ai damnedigaeth, digon siccr yw, fôd [Page 245] hyn yn digwydd i ddynion o achos y gweithredoedd a wnelont yn y bŷd hwn yn unig.
Mae dynion ofer, annuwiol, y rhai sy'n gû jawn o'r byd hwn, ag o bleserau'r corph, y rhai a'u gwnânt hwy yn anesmwyth, o herwydd fod eu crefydd yn llestr iddynt gymmeryd eu rhwysc, yn arferu o achwyn yn ddŵys ag yn drwm o'r achos ymma, sef o fod eu gwynfydedigrwydd hwynt, neu eu poenedigaeth dragwyddol, yn canlyn dull a moddion enioes fer ansefydlog; fod yn rhaid iddynt fyw yn y byd hwn, dan ofni'r bŷd a ddaw, fod yn rhaid iddynt ddiodde dros byth hythoedd, am iddynt borthi eu gwyniau dros fynudyn neu ddau o amser, ag os digwydd iddynt golli a' gollwng heibio adeg eu hedifeirwch, ne fentrio pechu yn rhyhir, neu farw yn dippin cynt na'u meddwl, nad oes iddynt byth mor gobaith lleiaf o gael jechydwriaeth iw heneidiau.
Am hynny edryched dynion annuwiol attynt eu hunain, ag ystyriant mai pûr ffôl yw eu dewisiad hwynt; diammeu gennif er caethed yw'r ammod o ddiodde poenau tragwyddol am borthi trachwantau pechod tros ychydig amser, nid oes neb a'i cyfrififf yn ammod caeth o gael jechydwriaeth dragwyddol am wasanaethu Duw dros ychydig amser. Ag os cyfaddefwn fod yn gyfiawn ag yn gymmys i Dduw ofyn gwasanaeth ag ufydddod am gystal gwobr ag ydyw'r Nef, p'le y gallwn ni wneuthur iddo y [Page 246] gwasanaeth hwn ond ar y ddaiar? os rhaid puro naturiaeth lygredig, os rhaid ysprydoli naturiaeth ddaiarol, cyn ei gwneud hi yn addas i fyw yn y Nef; ple y gellir gwneud hyn ond ar y ddaiar, tra bo'm yn y corph cnawdol hwn ymmysc llygredigaethau bydol; dymma'r amser i enaid Duwiol, a fo' yn ochneidio ag yn hiraethu am anfarwoldeb, i ymwrthod a'r corph ag i orchfygn 'r bŷd presennol hwn, wrth gredu a' gobeithio am bethau anweledig, dymma'r amser iddi osod ar waith ei holl ysprydol allu, ag iw hurddasu ei hunan a phôb doniau a' rhinweddau da a ddescyn o'r Nef, ag a'n dygant ninnau yno hefyd trwy drugaredd Dduw, a' gwerthfawroccaf haeddedigaethau ein hiachawdr Christ Jesu: Nid oes v̂n ystad ganol rhwng byw yn y corph ag allan o hono ef; am hynny pa arferion da bynnag sy angenrheidiol i wneud enaid yn ddedwydd ag yn wynfydedig, ar ol ymadel a'r corph hwn, rhaid yw bod yn feddiannol o honynt, ag yn hyddysc arnynt tra bo'r enaid yn y corph. Dau gyflwr gwrthwynebol iw gilydd ydyw Nef a daiar, am hynny nid oes fodd i ddyn ar gais, ag megis yn sydyn neidio o'r naill i'r llall, y cyfryw enaid ag a fo' fyw yn y corph yn gnawdol ag yn anifeilaidd, os digwydd iddo gael ei droi allan o'r corph yn union fel y bo ag yn ddinewid, nid eill y cyfryw enaid, meddaf, ymdderchafu i'r Nef, yr hwn sy ystâd o burdeb [Page 247] perffaith, o herwydd da y dyle'r enaid a'r lle sy'n ei derbyn fod yn addas ag yn gymmwys iw gilydd; am hynny bywyd Duwiol sy megis canol-ystad rhwng Nef a' daiar. Mae'r cyfryw ddyn yn perthyn i'r ddeufyd, mae wedi ei uno a'r byd hwn, wrth fod ganddo gorph a grewyd o'r ddaiar, ag felly mae yn gweled pethau gweledig, ag yn teimlo pethau teimledig, ag yn clywed sŵn, ond mae ei galon a'i feddwl yn y Nef. Trwy ffydd y mae yn ymweled a'r gogoniant anweledig, ag yn clywed blâs ar bleserau y bywyd Nefol, a'r sawl a fo' a'i ymarweddiad yn y Nef, er ei fod yn byw yn y corph; sy barod i dderchafu yno cyn gynted ag yr ymadawo a'r corph; mae'n passio oddiar y ddaiar i'r Nef, trwy megis ganol-fyd bywyd Nefol a' Duwiol.
Heblaw hyn mae'n rhaid bôd gwobrwÿau a' chospedigaethau yn y byd a ddaw, yn ol ein gweith redoedd da neu ddrŵg a wnelom yn y byd hwn, neu nid oes fodd i gadw'r byd ymma mewn rheol. Mae hyn yn fynych yn cospi gwynniau a' chwantau dynion, pan fetho gan Dwysogion a'u swyddwyr dorri ar eu rhwysc hwynt, mae hyn yn eu hofni hwynt â rhyw ddychryn anweledig, drwy wneuthur y cydwybod euog yn farnwr ag yn gospwr hefyd. Mae hyn yn chwerwi holl bleserau pechod, yn llenwi gobennydd y godinebwr â drain, ag yn cymmysgu bustl a' wermod ynghwppan y [Page 248] meddwon; mae'n rheoli 'r afreolus a'r sawl a allont wneud y drŵg a fynnont a dianc yn ddi-gerydd: ond y brenin mwyaf ei rwysc er ei fod yn torri pob cyfraith, ag heb ofni neb iw gostwyo, ctto a gospir gan ei gydwybod euog ei hunan, a' hon yn llammu yn ei fynwes, ag yn ei attal ef oddiwrth lawer o ddrygioni, ag a wneiff iddo grynnu gan ofn.
Heblaw hyn, nid yn anfynych y gwelwn fod yr ofn a'r arswyd sydd arnom o achos y bŷd a ddaw yn rheoli trosom, ag yn ein cadw mewn trefn, pan na ddichon na chaethiwed na phoenedigaethau presennol yn y byd wneuthur hynny: Y cyfriw rai ag a glywont arnynt fentro eithaf poenau y byd hwn er mŵyn eu pechodau, sy'n arswydo uffern, ag nis meiddiant fyned yno: y sawl na ofnant fod yn glâf ar ol eu meddwdod, a'r sawl a feiddiant offrymmu eu cyrph, a'u tiroedd, a'u meddiannau a'u henw da er mŵyn gwasanaethu eu trachwantau, y sawl a fodlonant i gymmeryd eu siawns o wisco heurn, ag o fyned iw colli; etto nis gallant lai nag ofni ffrydiau o dân a' brwmstan, y prŷf anfarwol a'r tân anniffoddadwy.
Ar y llaw arall, beth am ddedwydded a fyddeu 'r bŷd, pe bae ddynion yn ymroi i syw yn ol y cyfriw ddoniau a' rhinweddau Christiannogol, sydd uwchlaw pob cyfraith dyn; hynny yw, y cyfriw rinweddau nad yw cyfraith dyn yn sôn am [Page 249] danynt, nag iw gorchymyn hwynt, nag i osod v̂n gospedigaeth ar y sawl a'u troseddant. Megis i garu ein gelynion, ag i faddeu i'r sawl a wnânt gam a' nyni; ag i wneud yr hôll ddaioni a allwn ni i bob dŷn. Afraid imi ddangos fôd arferu y rhinweddau hyn, yn gwneud lleshâd mawr i'r byd; neu ddangos nad yw cyfraith dŷn yn gorchymyn mo nynt, yn yr ûn mesur, ag y mae'r efengyl.
Mae cyfraith dyn yn rhoi digon o rydddid i fodloni dynion digllon, maleusys, os canlynant arni hyd yr eithaf, os oes dim ai bodlona, heblaw taro eu gelynion yn eu pennau, neu wneud peu am danynt allan o law; o herwydd fe a ddyleu fod gan y gyfraith ffordd i gospi y cyfriw gamweddau, a ddyleu Gristion da eu maddeu; wrth hyn, mae canlyn cyfraith hyd yr eithaf, yn ymdwyo 'r naill ddyn, ag yn achos o golledigaeth i'r llall, o herwydd ei fod mor dost a gwneud felly. Yn an-aml twrn da yn y bŷd, os na wnae neb ûn twrn da, ond y sawl y bo'r gyfraith yn ei orchymyn; oblegid i hyn y gwnaed cyfraith, i amddiffyn cyfiawnder, ag i roi i bawb ei eiddo ei hun; ond mae cariad perffaith yn helaethach ei chaerau; ag fe eill dynion fod mor gariadus, ag y mae'r gyfraith yn gofyn, ag heb fod iddynt fyth obaith o fyned i'r nef. Nid oes dim a bâr in'i gyflawni 'r dyledswyddau hyn, tebyg i'n bôd yn ofni ag yn [Page 250] arswydo 'r byd a ddaw; ag mae hyn yn dangos yn amlwg, faint yw doethineb a' daioni y goruchaf Dduw, pan fo'n gofyn oddiar ein dwylaw in'i arferu y cyfriw rinweddau megis yn angenrheidiol i'n cymhwyso ni i fyw yn ddedwyddol yn y byd a ddaw. Ond v̂n gair ychwaneg; Er maint achwyn dynion annuwiol, a achos bod dedwyddwch neu annedwyddwch tragwyddol yn digwydd iddynt yn ol cwrs eu bywyd byrroes yn y byd hwn, diammeu genif pe buasai amgenach, y buasai gwîr achos i achwyn ag i gŵyno: o herwydd oni fuasai hyn yn ein gwneud ni yn druenus dros ben, o fod yn siccr y byddem naill a'i yn ddedwydd, neu yn annedwydd tros byth yn y byd a ddaw, ag etto o fod heb wybod dim oddiwrth y moddion sy' i escoi y trueni tragwyddol; neu i ddyfod o hyd i'r happusrwydd hwnnw? A pha fôdd y cawsem ni byth wybod dim o hyn, oni bai fod Duw wedi hyspysu ini ein dyledswyddau yn y byd hwn, er mŵyn ein cymhwyso ni i fyw yn y bŷd a ddaw sy wîr anhydnabyddus in'i? Diammeu mai peth gwîr arswydus ag ofnadwy a fuasai marwolaeth, os na wyddeu ddyn amcan pa beth a ddeue o hono ef yn y byd a ddaw, ag felly y buasai, oni bai roi o Dduw gennad i'ni i hyderu arno ef ar ol byw yn Dduwiol; ag a oes fôdd i ddyn ddisgwil am ei gyflog, pan fo' cymmhelled oddiwrth gyffawni ei waith, [Page 251] nas gŵyr efe amcan pa waith a ddyleu efe ei wneuthur nes ar ol myned i'r byd a ddaw?
Ond yn awr, gan y derbyn pob dyn ei gyflog yn ol y gwasanaeth a'r gwaith a wnelo yn y corph, fe a ŵyr pob dyn yn ddiammeu beth a'i gwneiff, naill ai yn ddedwydd, ai yn annedwydd yn y byd a ddaw, ag arno ef ei hunan y mae'r bai, os nad yw yn byw fel y bo' iddo fod yn siwr o fywyd anfarwol▪ a beth mor hyfryd y cyflwr hwn, sef o fod yn disgwil bywyd hyfrydlawn tû hwnt i'r bêdd, pan ymddioscom ein cyrph hyn mewn llawn hyder o gael gogoneddus adgyfodiad! Fe wasanaetha hyn yn fy marn i, i ddangos saint yw Doethineb a daioni Duw, gan hyfforddio moddion in'i yn y byd presennol hwn, i'n cymhwyso ni i fyw yn ddedwydd yn y byd nessaf. Ond i fyned ymlaen:
II. Os yn y bywyd ymma yn unig y mae i'ni ein cymhwyso ein hunain erbyn bywyd tragwyddol, gan hynny, fel y mae marwolaeth yn gwneud diben am ein bywyd, felly y gwneiff ben am ein gwaith hefyd; mae dydd ein grâs a'n gorchwyl hefyd yn y byd hwn, yn diweddu o'r unwaith a'r bywyd hwn.
Mae'n hawdd deall paham y dyleu hyn fod, os ystyriwn nad ydyw marwolaeth sy' gyflog pechod, iw chyfrif yn farwolaeth y corph yn unig, ond y cyflwr o drueni, i ba [Page 252] ûn y mae marwolaeth yn bwrw pechaduriaid: Am hynny, os marw a wnawn tra y bo'm yn byw mewn pechodau rhyfygus o'n gwir-fodd, tan felldith ag awdurdod marwolaeth, nid oes fyth obaith y cawn fyned yn rhyddion oddiwrthi, o herwydd fod cysiawnder Duw wedi craffu arnom yn barod: mae'r farn wedi passio yn barod am hynny rhy-hŵyr gofyn maddeuant: o herwydd mae'r farwolaeth hon yn ail i daflu v̂n i garchar, o ba ûn nid oes dim myned allan, fel y dywed ein Hiachawdwr, 5 Mat. 25, 26. Nes talu'r ffyrlling eithaf: oblegid yn wîr, marwolaeth enaid ydyw pechod; a'r sawl a fo'nt tan awdurdod pechod ydynt mewn ystâd o farwolaeth, ag os marw a wnânt cyn eu hail-fywhau, maent yn syrthio dan awdurdod marwolaeth, hynny yw, i fod mewn ystad o drueni ag o boenedigaeth, yr hwn a osodwyd ir cyfriw eneidiau meirwon: Am hynny sylfaen ein prynedigaeth trwy Grist, a'n rhyddhâd oddiwrth farwolaeth, yw ein bod ni yn dechreu trwy râs Crist, farw i bechod a' rhodio mewn newydddeb buchedd, wrth hyn yr un-ffurfir ni a' marwolaeth ag adgyfodiad Crist. 6 Ruf. 4. Dymma farw i bechod, a' byw i Dduw, fel Crist Jesu; Ag os byddwn feirw gyda Christ, cawn fyw gydag ef mewn bywyd anfarwol, yr hwn a ddechreuir yn y byd hwn, ag a berffeithir yn y nessaf, yn ol dull rheswm St. Paul Gwer. [Page 253] 6, 7, 8, 9, 10, 11. Fel yn y Dywed wrthym: 8 Ruf. 10, 11. Os yw Crist ynoch, y mae'r corph yn farw o herwydd pechod; eithr yr yspryd yn fywyd o herwydd cyfiawnder. Hynny yw, mae'n cyrph ui yn farwol, ag mae'n rhaid iddynt feirw trwy'r farn sefydlog a farnodd Duw ar Adda, pan bechodd ef; ond mae gan yr enaid a'r yspryd sylfaen a' chynhaliaeth bywyd newydd, sef ffydd a' Duwioldeb, trwy ba ûn y mae yn byw i Dduw, ag am hynny nid eill ef gwympo i gyflwr marwol, neu i stâd o farwolaeth pan fo' marw 'r corph, Ag os yspryd yr hwn a gyfododd Jesu o feirw sydd yn trigo ynoch, yr hwn a gyfododd Grist o feirw, a fywoccâ hefyd eich cyrph marwol chwi, twy ei yspryd, yr hwn sydd yn trigo ynoch. Ruf. 8, 11.
Hynny yw, ar ol i yspryd Duw fywhau ein heneidiau ni, a'u hail-gyfodi hwynt i fywyd newydd, er marw o'n cyrph, etto yr unrhyw yspryd a'u hadgyfoda nhwythau hefyd i fywyd anfarwol.
Dymma 'r union wîr ichwi. Os yr Angau a ddaw o hŷd ini tra y bo'm yn byw mewn ystâd o bechod, a marwolaeth, nid oes fodd i ochel marwolaeth dragwyddol, ond os yw ein heneidiau ni yn byw i Dduw trwy rym a' nerth Grâs a' Duwioldeb, cyn marw o'n cyrph, byw a fyddant tros oes oesoedd: Mae'n rhaid ir enaid colledig farw yr ûn amser a'r corph; hynny yw, [Page 254] suddo i ystad druenus, a'r cyfriw ystâd a elwir yn farwolaeth, neu yn golledigaeth yr enaid; mae'r enaid bywiol cadwedig yn hwy ei oes na'r corph, ag yn byw mewn cyflwr o happusrwydd a' goruchafiaeth, ag efe a ail-unir a'r corph mewn gogoneddus anfarwoldeb, yn amser adgyfodiad y cyfiawn. Eithr mae'n rhaid i'r enaid newyd ei ystâd a'i gyflwr yn y byd hwn, cyn ymadel a'r corph; ni ddichon ûn enaid colledig marwol, ei adfywhau ei hun yn y byd a ddaw, ag ni ddichon ychwaith ûn enaid bywiol cadwedig farw yno; am hynny yn y byd hwn y mae i'ni edrych am gyfle, ag adeg i graffu ar Râs Dduw, a'i drugaredd, a'i ddioddefgarwch; o herwydd unig orchwyl y byd a ddaw a fydd i roddi i bob dyn dâl, a rhannu iddo ef wobrwyau neu gospedigaethau, yn ol ei weithredoedd yn y byd hwn. A'r rheswm y mae St. Pedr. Yn ei roi, paham nad yw Duw yn pryssuro i gospi pechaduriaid; ond ei fod ef yn hirymarhous tuag attom ni, yw, o herwydd, nad yw yn ewyllysio bôd neb yn golledig, ond dyfod o bawb i edifeirwch. 2 Ped. 3. 9. Ar yr v̂n achos y mae'r Apostol at yr Hebraeaid yn eu cynghori hwynt, Hebr. 3. 7, 8, 9, 10, 11. Am hynny megis y mae'r yspryd glân yn dywedyd. Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau, megis yn y cyffroad, yn nydd y brofedigaeth yn y diffaethwch: lle y temtiodd eich tadau▪ fyfi, y profasant fi, ag [Page 255] y gwelsant fy ngweithredoedd ddeugain mhlynedd. Am hynny y digiais wrth y genhedlaeth honno, ag y dywedais, y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonnau: ag nid adnabuant fy ffyrdd i: Fel y tyngais yn fy llid, na chaent ddyfod i mewn i'm gorphwysfa. Mae rhyw faint o ymryson ynghylch arwyddocâd y gair heddyw, pa un yw, ai bôd yn sefyll am y bywyd hwn, neu ryw amser gosodedig terfynol i dderbyn grâs Duw, a ddibennir ni hwyrach lawer o flynyddoedd cyn diben enioes. Mae Siampl yr Israeliaid a fuont feirw yn y diffaethwch cyn eu dyfodiad i dir yr addewid, sef, gwlâd Canaan, yn ein tueddu ni i feddwl, mai yn ol yr arwyddocâd diwaethaf, y dylem ni ddeall y gair hwn, sef, heddyw: O herwydd darfuase i Dduw bassio'r farn hon, sef, na ddelent iw orphwysfa ef, yn hîr o amser cyn eu meirw hwynt, ag o'r achos hwnnw y crwydrant dros ddeugain mhlynedd yn y diffaethwch, nes marw o'r holl genhedlaeth gyntaf. Ag os cyfrifwn y siampl ymma yn gyfarwyddyd yn y byd ini. Mae'n canlyn y gallwn ninnau, drwy yr ûn mesur o brofedigaeth yssu digofaint Duw i'n herbyn, fel y cyhoeddo 'r farn sefydlog arnom, na chaffom byth fyned ir Nef, yn hîr cyn ini ymadel a'r byd hwn: Os gwîr hyn, byrrach yw'r amser a roes Duw ini i edifarhau, ag i ficcrhau ein hiech ydwriaeth, na'n henioes, ag nyni a allwn grwydro ymma a' thraw [Page 256] yn y bŷd hwn, fel yr Israeliaid gynt yn yr anialwch tan farnediaeth sefydlog, ddinewidiol: Ag mae dull a' phwrpas yr Apostol yn y rheswm hwn yn gofyn ir geiriau arwyddocau fel hyn; o herwydd ei fod yn eu hannog hwynt uwchlaw dim i fod yn edifeiriol. Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd, na chaledwch eich calonnau; ond paham Heddyw? Ai o herwydd nad oes neb yn siŵr o fyw, ag y gallwn ni feirw cyn y foru? nage ond rhag ofn ini ddigio Duw i dyngu yn ei lîd na ddelom iw orphwysfa ef.
Fe ŵyr pôb dŷn, os digwydd iddo ymadel a'r byd tra bo wedi byw mewn pechodau rhyfygus, ag yn anedifeiriol, y bydd raid iddo ef fod yn druenus ag yn anesmwyth yn dragywydd; am hynny y dyle bob ûn o honom edifarhau am ein pechodau cyn ein meirw: ond mi a debygwn fod rheswm yr Apostol yn cyrrhaedd ymhellach, sef, megis fod yr annuwiolion, drwy oedi eu hedifeirwch, a thrwy chwanegu ag amlhau eu hanwireddau, yn byrrhau amser eu hiech ydwriaeth, ag yn pryssuro drwy ddigio Duw i dynnu barn an-symmudol am eu pennau; ag mae'r Apostol, mewn man arall, yn amlygu'r ûn peth, drwy roddi o'n blaen ni siampl Esau, yr hwn a werthodd ei dreftadaeth, Heb. 12. 15, 16, 17. Gan edrych yn ddyfal na bo neh yn pallu oddiwrth râs Duw: Rhag bôd ûn gwreiddin [Page 257] chwerwedd yn tyfu i fynu, ag yn peru blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer: na bo ûn putteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am ûn saig o fwyd, a werthodd ei enedigaeth fraint. Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu y fendith; oblegid ni chafodd efe lê i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer-geisio hi.
Fe ellir meddwl mai gorchwyl amherthynasol i'r gwaith mewn llaw, a fyddeu chwilio yn fanwl ynghylch arwyddocâd y geiriau hyn, ond nid felly y mae, pa un bynnag; oblegid os wrth y gair Heddyw, y mae ini ddeall holl ddyddiau ein bywyd hyd ein dydd marwolaeth; erbyn hynny, mae dydd grâs un cyd-barhau a'n henioes ni; ag os yw yn arwyddocau rhyw amser cynhilach a byrrach na'n henioes, neu ddyddiau 'n bywyd, cadarnach fyth yw'r rheswm; sef y dylem beidio ag oedi ein hedifeirwch; o herwydd, os cyhoeddir y farn arnom cyn ein marw, ni elwir mo'nom byth yn ol, ar ol ein marwolaeth. Ond mae mor ddŵys ag mor berthynasol deall y gwirionedd ynghylch y peth hyn, na ddylem ni mewn modd yn y bŷd, feddwl fod y cyfriw ystyriaeth yn ammhwrpasol; yn enwedig os ystyriwn fôd llawer o bobl Dduwiol, pan fo'nt dan syndod a' thrymder, mewn caledi a chaethiwed mawr o achos y cyfriw seddyliau a'r rhai'n, sef, o [Page 258] feddwl fôd dydd grâs ag iechydwriaeth wedi myned heibio, a' bod Duw wedi tyngu yn ei lid na ddelont iw orphwysfa ef; Am hynny na wneuff eu hedifeirwch a'u dagrau ddim mwy o les-hâd iddynt, nag edifeirwch a' dagrau Esau y rhai a ddaethant yn ol o'r fendith.
Yr awron er mŵyn atteb y Cwestiwn ymma: Rhoddaf ar lawr dri pheth. 1. Nad ydyw y dydd grâs, yn ol cwrs ag ammod yr Efengyl yn diweddu nes diwedd enioes. 2. Er hyn, fod môdd i ddynion i fyrhau dydd eu grâs, ag y geill Duw drwy ei lîd a'i gyfiawnder gadarnhau eu barn hwynt. 3. Nad oes le i ddisgwil y geill dydd grâs, o herwydd ei fôd i gyrhaeddyd cŷd a'u bywyd, gyrhaedd dim pellach; Am hynny mae marwolaeth yn gosod iddo ei eithaf ystordyn.
I. Nad ydyw y dydd grâs yn ol rheol, ag ammod yr Efengyl, yn diweddu nes diwedd enioes; ag afraid yw cyrchu prawf arall yn y byd i wneud hyn yn dda, heblaw dangos fôd Duw wedi gwneud addewid o faddeuant i bôb dyn edifeiriol, pa amser bynnag yr edifarhao. Pwy bynnag a gretto ynghrist, ag a fo' yn edifeiriol am ei bechodau, cadwedig fydd: Dymma addysc ag athrawiaeth yr Efengyl: Ag os gwîr hyn, diammeu mai pa brŷd bynnag yr edifarhao pechadur o'i bechod, y bydd efe cadwedig; ped amgen, galle ddynion [Page 259] gwir edifeiriol, am nad edifarhasant cyn myned heibio o ddydd eu grâs, fôd yn golledig: Ag os felly, nid gwir ydyw y ceiff pôb dyn gwîr edifeiriol fod yn gadwedig. Nis gwn i ddim a ellir ei ddywedyd yn erbyn hyn, oddieithr ini feddwl fod siampl Esau yn trio 'r chwedl, yr hwn ar ol iddo werthu ei enedigaeth-fraint, Wedi hynny hefyd a wrthodwyd, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu y fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaergeisio hi.
Fe debyge ddyn wrth hyn fod Esau wedi edifarhau yn rhŷ hŵyr, ag os felly y bu, felly y gallwn ninneu, os gwîr yw fôd Duw wedi troi ei wyneb oddiwrth ei edifeirwch ef: Ag os yw'r Siampl hon i gael ei lle, ag yn perthyn i'ni, fel y mae'r Apostol yn dywedyd ei bôd. Gallwn ninneu hefyd edifarhau am ein pechodau, pan fo'n rhyhwyr ein hedifeirwch, ag wrth hynny bod yn ol o'r fendith yn ail i Esau.
Eithr yr ydym yn cam-gymmeryd cyflwr Esau yn y fan yma, yr edifeirwch y mae'r Scrythyr yma yn sôn am dani, a bertbyn i Isaac, ac nid i Esau; hynny yw, ar ol darfod i Isaac fendithio Jacob, ni fedre Esau, er maint ei ddagrau a'i grefu a'i daerni, gael gan Isaac, alw ei fendith yn ol; hynny yw, nid oedd ymbil yn y byd a wnae i Isaac edifarhau am ddarfod iddo fendithio Jacob; [Page 260] mi a'i bendithiais ef, bendigedig hefyd fydd efe. Gen. 27. 33.
Am hynny, nid dymma gyflwr Esau, sef, fod ei edifeirwch ef yn rhyhwyr, ag am hynny yn ddi-lês ag yn annerbynniol, ond darfod iddo ddyfod yn fyr o'r fendith ar ol gwerthu ei enedigaeth-fraint, i ba ûn yr oedd y fendith yn perthyn. Yn awr i ddangos i chwi hyd ym mha le y mae cyflwr Esau a' Christiannogion yn cyfatteb iw gilydd. Megis treftadaeth Esau, y galwn ni hawl a' chyfiawnder Cristiannogion ar fywyd tragwyddol, Gan eu bod yn blant i Dduw, o achos eu hail-enedigaeth yn eu bedydd, ag o achos eu bod hwynt yn Credu Ynghrist; Am hynny, ail i werehu 'r enedigaeth-fraint, yw, ini newidio 'r Nef am bleserau, am gyfoeth, neu uchelfraint y byd hwn, fel y gwerthodd Esan ei dreftadaeth am ûn tammeid a fara neu gwpanneid o gawl; gallwn, am hynny, medd yr Apostol ddyfod yn fyr o râs Duw drwy anghrediniaeth, yr hon a elwir ganddo ef gwreiddin pob chwerwedd. Gwadu ffydd Crist, a' throi yn ol i'r grefydd Iddewaidd, neu'r Baganaidd ddelw-addoliaeth, neu i fyw yn ffiaidd ag yn annuwiol: na bo ûn putteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd, a werthodd ei enedigaeth-fraint; hynny yw, y sawl a newidio 'r nef am bleserau pechadurus, a' gwâg feddiannau y byd hwn, y cyfriw ddynion [Page 261] a ddelont yn fyr o râs Duw o'r achos ymma, ag sy'n parhau yn yr v̂n cwrs drŵg, pechadurus, ag yn ymadel yn llŵyr a'u holl obaith o fyned i'r nef, cyn llwyred ag yr ymadawodd Esau a'i dref-tadaeth. Pan ddelo 'n tâd Nefol i rannu ei fendith, sef, hael a' Nefol addewidion yr Efengyl, er taered fyddo 'r annuwiolion am gyfran o'r fendith hon, fel Esau gynt, nis cânt o honi na rhan na chŷd: Yr hwn a'i taer-geisiodd trwy ddagran; ni chânt le i edifeirwch; ni thyr Duw ar ei amcanion anneŵidiol er eu mŵyn hwynt. Mae'n Harglwydd Jesu wedi hyspysu'r peth hyn in'i yn ddigon eglur: Matth. 7. 21, 22, 23. Nid pob ûn sydd yn dywedyd wrthif, Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy Nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd. Llawer a ddywedant wrthif yn y dydd hwnnw, sef, yn Nydd y farn, pan fo' Duw yn rhannu ei fendith, Arglwydd, Arglwydd, oni phrophwydasom yn dy enw di? ag oni fwriasom allan gythreuliaid yn dy enw di? ag oni wnaethom wrthiau lawer yn dy enw di? Wele dôst ymbil Esau am y fendith. Ag yna yr addefaf iddynt, nis adnabûm chwi erioed; ewch ymmaith oddiwrthif, chwi weithredwyr anwiredd. Esauod dibris ansynniol oedd y rhai hyn, wedi gwerthu eu treftadaeth am dammeid o fwyd, neu lymmeid o ddiod, ag yr awron, gwaith ofer edifarhau: [Page 262] ymbiliant hwy cyn daered ag y medront, nid y'nt ronyn nes er crefu 'r Aglwydd i droi ei feddwl i alw yn ol ei farn; ond efe a ddywed, Ewch ymmaith oddiwrthis, chwi weithredwyr anwiredd.
Am hynny nid yw siampl Esau ddim i'r pwrpas; nid yw yn gosod allan, ag yn profi; na dderbyn Duw iw drugaredd, ddyn annuwiol ar ol iddo warrio 'r rhan fwyaf o'i amser mewn cwrs pechadurus, os efe a fydd wîr edifeiriol, ag a adnewydda ei fuchedd; eithr hyd ymma y deil y siampl o'r blaen, a' hyn a wnaiff hi yn dda; pwy bynnsg yw'r Cristion annuwiol a fo'n caru ag yn hoffi pleserau a' meddiannau 'r byd hwn, yn fwy na gogoniant y byd a ddaw, ag yn ymdroi mewn chwantau bydol, cywilyddus, dyweded a fynno iw escusodi ei hun, a' dadleued oreu y medro am gael rhan o'r fendith, ni chanhiadheiff Duw byth iddo y rhan leiaf o honi; hynny yw, Heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd. Ag dymma lle 'r oedd yr Apostol yn cyfeirio ei feddwl, pan osododd ar lawr y siampl hon, fel y gellwch ddeall wtth wer. 14.
Ond nid felly y mae ynghylch eglwysydd a' theyrnasoedd; weithieu mae Duw yn gosod i'r rhain y cyfriw amser terfynedig i edifarhau, ag os passiant eu hamser heb edifarhau, maent i golli goleuni yr Esengyl. A'r amser diwaethaf i dreio Caersalem, oedd, pan gymmerodd Crist ein cnawd [Page 263] ni arno, a' phan bregethodd yr Efengyl. Dyna 'r terfynedig amser i wneud pen am y ddinas anwylaf honno: Am hynny pan farchogodd Crist trwy Gaersalem, pan oedd efe yn myned i ddioddef Ag wedi iddo ddyfod yn agos; pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd trosti, gan ddywedyd, pe gwybasit, ditheu, ie yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent ith heddwch: eithr y maent yn awr yn guddiedig oddiwrth dy lygaid. Canys daw y dyddiau arnat, a'th elynion a fwriant glawdd o'th amgylch, ag a'th amgylchant, ag a'th warchaeant o bob parth; ag a'th wnânt yn gyd-wastad a'r llawr, a'th blant o'th fewn; ag ni adawant ynot faen ar faen: o herwydd nad adnabuost amser dy ymweliad; Luc 19. 41, &c. Ag fe roddasai ein Hiachawdr iddynt rybudd o hyn o'r blaen, Joan 12. 35. 36. Etto ychydig ennyd y mae'r goleuni gyd â chwi; rhodiwch tra fyddo gennych y goleuni, fel na ddalio 'r tywyllwch chwi: a'r hwn sydd yn rhodio mewn tywyllwch, ni wyr i ba le y mae yn myned, tra fyddo gennych oleuni, credwch yn y goleuni, fel y byddoch blant y goleuni. Hynny yw, oni chredent ynddo tra yr oedd yn byw yn eu mysc, digwydde iddynt eu llŵyr ddinystrio, teyrnas Duw a ddygir oddi arnynt hwy ag a'i rhoddir i genhedl a ddygo ei ffrwythau. Fel yr arwyddocâ 'r ddammeg ynghylch y perchen tŷ yr hwn a blannasei winllan, Matth. 21. 33, &c.
A dymma gyflwr y faith Eglwys yn Asia, [Page 264] at ba rai y mae St. Joan yn sgrifennu en lythyrau, iw rhybuddio hwynt i edifarhau, ag i fygwth symmudo eu canhwyllbren, os y nhw ni edifarhaent. Anchwiliedig yw barnedigaethau Duw, yn destrywio rhai eglwyfydd ag yn codi eraill mewn gwledydd anghristiannogol; ond am danoch chwi a' minnau, y rhai y'm yr awron yn meddiannu goleuni yr Efengyl, oddieithr i'ni ein hunain fyrhau dydd ein hedifeirwch o'n gwir-fodd, nid ydyw Duw yn byrhau mo'no, ond mae'n cyd-barhau a'n henioes, hynny yw, os edifarhawn ryw amser tra byddom byw, yr ydym yn ddigon addas i dderbyn grâs a' thrugaredd.
II. Geill dynion fyrhau amser eu hedifeirwch, a'u Dydd grâs o achos eu beiau eu hunain, trwy fyw mor annuwiol ag na bo iddynt byth fodd i edifarhau, a phan fo'nt wedi passio pob gobaith o edifeirwch, mae Dydd grâs wedi passio hefyd; Ag fe eill hyn ddigwydd yn hîr cyn eu marw. Hynny yw, fe eill dynion galedu eu calonnau trwy bechu pechodau rhyfygus, cyn galettted, ag y bo agos yn ammhossibl iddynt hwy byth edifarhau; ag mae Duw yn fynych yn ei gyfiawn farnedigaethau, yn gweled yn dda roddi i fynu y cyfriw rai, i galon-galedwch ansymmudiol, ag i anedifeirwch.
Po mwyaf y bo'm ni yn caru pechod, hawsach oll genym ei wasanaethu ef; ag [Page 265] mae hyn yn gwneuthur yn waith blin edifarhau, cyn flined a thynnu allan lygad dehau neu dorri ymmaith law ddehau, Matth. 5. 29, 30. Mor flin a marw, a' chroes-hoelio 'r cnawd a'i wyniau a'i chwantau ef, ag anaml y neb a fodlona i wneuthur hyn, Ruf. 8. 13. Col. 3. 5.
Mae arfer cyn dreched a naturiaeth, ag mae'n orchwyl tôst dorri arfer: A newidia yr Ethiopiad ei groen? neu'r llewpard ei frychni? felly chwithau ellwch wneuthnr day rhai a gynnefinwyd a gwneuthur Drwg; Jer. 13. 23.
Mae rhai pechodau mor chwannog i'n calon-galedu ni nad yw ond yn an-aml y dyn, ar ol ei ddal unwaith a'i rwydo ganddynt, a ddichon dorri 'r rhwyd; Ag o'r cyfriw fâth, yw godineb a' phutteindra; am y ferch a fo' yn euog o'r pechod hwn y dywed Solomon fel hyn, Y mae ei thy yn gwyro at angeu, a'i llwybrau at y meirw. Pwy bynnag a elo i mewn atti hi ni ddychwelant, ag nid ymafaelant yn llwybrau y bywyd, Edr. Dih. 5. 22, 23. 7. 22, 23, 26, 27. Dihar. 2. 18, 19.
Nid yw cybydddod yn caledu calon dyn ddim llai; am hyn y dywed ein Harglwydd; Haws yw i gamel fyned drwy grau y nodwydd ddûr, nag i oludog fyned i mewn i deyrnas Dduw. Sef, y sawl sydd yn rhoddi eu serch ar eu golud, a'u hymddiried ynddynt, Matt. 19. 24.
[Page 266] Y sawl a fo' wedi byw dan lewyrch yr Efengyl, ag ar ol hynny yn ail ddychwelyd i anghrediniaeth, y sawl a fo' wedi cael addysc yn y ffydd, ag yn gwybod pa wobrwyau sy' deilwng i'r cyfriw rai ag a ufyddhânt iddi, y sy wedi derbyn yr hâd nefol yn eu calonnau, sef, gair Duw; ag etto heb ddŵyn ffrŵyth addas, a' chymmwys i'r driniaeth a gawsant; ail ydynt i'r tîr melldigedig diffrywyth, Yr hwn sy'n yfed y gwlith a'r glaw o'r Nef, yr hwn sydd yn dwyn ond drain a' mieri, sydd anghymmeradwy, ag agos i felldith, diwedd yr hwn yw ei losci. Heb. 6. 4, 5, 6, 7, 8.
Pan fo' dynion yn ymwrthod ag ysprydoliaeth yr yspryd glân, ag yn dibrisio ei sanctaidd gynghorion ef, y mae efe yn ymadel â hwynt, ag yn rhoddi iddynt eu rhwysc i ganlyn eu meddyliau eu hunain; fel y dywedwn, mai gwaith ofer rhoi cyngor lle nis cymmerir.
A phan fo' yfpryd Duw yn ymadel a'r cyfriw ddynion, mae'r yspryd drŵg yn dyfod yn ei le ef, sef, y cyfriw yspryd ag sydd yn llywodraethu ar blant yr an-ufydddod, Eph. 2. 3. O herwydd rhennir y byd yn ddwy ran sef, i deyrnas y tywyllwch, a' theyrnas y goleuni, Col. 1. 13. a'r sawl nad ydynt dan reolaeth yspryd Duw, A ddelir yn garcharorion gan ddiafol, wrth ei ewyllys ef, 2. Tim. 2. 26. am hynny y dysgodd ein hiachawdr in'i weddio er i Dduw [Page 267] ein gwared ni rhag y drŵg, [...], hynny yw, rhag diafol: o herwydd cyflwr gresynnol yw, pan fo' Duw yn ein troi ni i fod dan awdurdod ysprydion aflan: ond pan fo' dynion annuwiol yn eu cynnwys eu hunain mewn buchedd anwireddus, bychan yw'r cymmorth a ddylent ddisgwil oddiwrth ragluniaeth Duw; yr hon sy' arferol, naill ai i amddiflyn gwŷr Duwiol rhag syrthio i brofedigaethau, neu sydd yn eu gwared hwynt oddiwrthynt, yn ol yr hyn a ddyscodd ein Hiachawdr i'ni yn y weddi hon, nag arwain ni i brofedigaeth; Fel y mae'r tâd gwiliadwrus yn bwrw golwg dros ei fab ufyddol, iw gadw rhag digwydd iddo ddim drŵg, ag i ddewis iddo y modd goreu i fyw; ond sy'n gwbl ddi-fatter o'i fâb afradlon, aed lle fynno, os gwêl efe yn dda iw ymdwyo ei hunan: A phwy bynnag a ystyrio wendid a' ffoledd y naturiaeth ddynol, a' maint yw nerth ag egni profedigaethau, rhaid iddo gyfadde fod y dyn hwnnw ar yr union ffordd iw ymdwyo ei hunan, yr hwn nad yw yspryd Duw yn ci gyfarwyddo, na'i ragluniaeth ychwaith yn gofalu am dano.
Fe eill dynion syrthio i'r cyflwr tosturus hwn wrth ddal fyth i bechu fwyfwy. Ag er nad yw cyflwr pechadurus yn cwbl ddigymhwyso dynion ofer i gael maddeuant am eu pechodau os edifarhânt, etto mae'r cyfriw bechodau rhyfygus yn rhwystro iddynt [Page 268] edifarhau. Ag mae'r Apostol at yr Hebraeaid yn eu crybwyll hwynt i ochel y cyfriw galon-galedrwydd a ddigwyddasai i'r Israeliaid yn yr anialwch; am ba rai y dywedodd Duw, na ddelent iw orphwysfa ef; fel y mae i chwi weled wrth y defnydd y mae efe ei hûn yn ei wneuthur o hono, Heb. 3. 12, 13. Edrychwch frodyr, na byddo un amser yn neb a honoch galon ddrwg anghrediniaeth gan ymado oddiwrth Dduw byw; eithr cynghorwch ei gilydd bob dydd, tra y gelwir hi heddyw: fel na ehaleder neb o honoch drwy dwyll pechod.
Dymma gyfrif goleu hyspysol ynghylch parhâd y dydd grâs: Fe eill dynion fyw yn hwy nag y bo iddynt gennad ag amser i edifarhau, trwy eu caledu eu hunain mewn pechod cymmhelled, ag y bo' agos yn ammhossibl iddynt fyth fod yn edifeiriol. Etto nis byddant fyw byth i weled Duw yn an-ewyllysgar i ddangos trugaredd i'r gwîr edifeiriol: Mae hyn yn ddigon o reswm i ddi-galonni y sawl a fo' yn pechu yn hŷ ag yn rhyfygus, fel na chaleder neb o honynt drwy dwyll pechod, neu rhag i Dduw eu gwrthod hwynt; ond nid yw reswm yn y byd yn erbyn y gwîr edifeiriol, i rwystro iddynt hwy obeithio am drugaredd Dduw, er iddynt fyw mewn pechod yn hîr cyn edifarhau: oblegid tra b'om ni yn y byd hwn, ni chaeiff Duw mo ddrŵs [Page 269] ei drugaredd i gadw allan y gwir ediseiriol.
III. Ond etto nid oes reswm i ddisgwil trugaredd y tû draw i'r bêdd: mae'n hawdd deall hyn wrth a ddywedais yn barod: ond er mŵyn amlygu hyn ŷn well, gosodaf ar lawr ar fyr eiriau ûn rheswm arall: sef, Fod grâs a' daioni 'r Efengyl yn perthyn yn unig i'r eglwys tra y bo' ar y ddaiar; am hynny yn y bywyd ymma yn unig y mae i'ni ddisgwil maddeuant am ein pechodau, a' chael hawl ar etifeddiaeth a' gogoniant tragwyddol: Yn nydd y farn y cawn ni ein gollyngdod eithaf oddiwrth ein holl anwireddau, ag y cawn dderbyn gwobr o fywyd tragywyddol: ond mae'n rhaid gweddio ag erfyn yn daer am faddeuant, a' gwneud ein goreu i gael ein cyfrif ymmysc yr etholedigion, tra y bo'm yn y byd hwn.
Efengyl Crist yr hon yw efengyl trugaredd, ag sydd yn cynhwys addewidion o faddeuant, ag o fywyd tragwyddol, a bregethir yn unig i'r sawl a fo' n byw ar y ddaiar, ag nid i neb arall.
O'r achos hwn y cymmerodd Crist arno ei hûn ein naturiaeth ddynol ni, ag yr ymwiscodd gîg a' gwaed fel ninneu, fel y galle efe fod yn jachawdr i ddynol riw; ag ni buase raid iddo wneuthur mo hyn, os buasai iddo fodd i waredu dyn allan o'r byd hwn: oblegid os gwasanaethase ei waredu [Page 270] ef yn y byd a ddaw, daethe grâs a' thrugaredd Duw yn abl buan iw gyfarfod yn y byd nessaf; am hynny, pan anwyd Crist, fel hyn y cane yr Angylion ei garol Nadolig ef, Luc 2. 14. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw, ag ar y ddaiar tangnheddyf, i ddynion ewyllys da.
Pan offrymmodd Crist ei fywyd ar y groes drosom ni, efe a'i hoffrymmodd yn unig tros y rhai byw, neu 'r sawl a fuasant ag a fyddent byw, nid tros y sawl na fuase erioed ar y ddaiar. Ag felly yr offrymmeu'r Iddewon eu poeth offrymmau, y rhai a berthynent i'r v̂u peth, tros y sawl oedd yn byw ar y ddaiar yn unig.
Efe a dderchafodd ei waed gyd ag ef ei hunan i'r Nef, (fel y cyrcheu 'r archoffeiriaid waed yr aberth i'r lle sancteiddiolaf) yno i wneud aberth ag offrwm, ag i ymbil trosom; ond fel nad yw 'r aberth a aberthodd Crist trosom yn perthyn i neb ond i drigolion y ddaiar, felly nid yw Crist yn ymbil tros neb ond tros y cyfriw rai y tywalltodd ei enioes. Yr oedd y pebyll ar y ddaiar yn rhag-ddangos cyflwr yr eglwys ar y ddaiar hefyd; a'r rhain yn unig gyd a'r sawl a berthynent iddynt, oeddent yn cael mwyniant a' sancteiddrwydd oddiwrth yr aberthau a' offrymmid trostynt.
Trwy gyfrannu o ddau Sacrament, yr y'm yr derbyn y grâs a'r trugaredd sydd iw cael trwy'r efengyl, a' dymma gyffredinol [Page 271] soddion ein hiechydwriäeth, hynny yw, nid oes le i ddisgwil bod yn gadwedig, ond trwy arferu 'r moddion hyn; sef, y bedydd a' Swpper yr Arglwydd▪ Ag nid yw 'r rhain iw cael ond ymma ar y ddaiar, ag oni wnânt lês i'ni yn y byd hwn, siŵr nis gwnânt i'ni ddim llês yn y byd a ddaw: mae'r rhain yn ein huno ni a Christ fel aelodau 'r ûn corph, yno mae'r yspryd glân yr hwn sy'n bywhau corph Crist yn cymmeryd meddiant o honom ag yn preswylio ynom, ag yn ein sancteiddio ni; eithr os nyni a ddigwyddwn fod yn ganghennau ceimion yn y winwydden fywiol hon, oddieithr i'r eglwys ein torri ni ymmaith o eusus trwy escymmuniad, oddiwrth fod yn aelodau perthynasol i gorph Crist, diammeu y gwneiff ein Marwolaeth ni drom wahaniaeth rhyngom, ag yno nis gallwn byth mor disgwil, y cawn ni naill ai ein hail-uno ag ef, neu'n gwaredu ganddo yn y byd a ddaw. Nid ydyw 'r Efengyl yn canhiadu jechydwriaeth a' thrugaredd i neb ond i'r sawl a gretto ynghrist, ag a edifarhao am ei bechodau, ag yn y byd hwn yn unig y gallwn ni wneuthur hyn: Geill fod rhyw beth tebyg iddynt yn y byd a ddaw; sef, y fâth ffydd ag sy'n gwneud i'r cythreuliaid grynnu, a' rhyw fath ar edifeirwch flîn arswydus an-obeithiol, yn aflonyddu ag yn rhwygo 'r ysprydion aflan, am na buasent yn edifarhau mewn amser; ond [Page 272] y fâth ffydd ag a wasanaetha i buro ag i sancteiddio 'r galon, ag i orchfygu 'r byd hwn, ag i ddŵyn ffrŵyth cysiawnder, y fâth edifeirwch ag a ddichon wellhau ein bucheddau; ag a lŵyr gâs-hâ ein pechodau gynt, ag a wnelo uniondeb i'n cymmydogion am bob cam a wnaethom yn eu herbyn, ag am bôb drŵg siampl a roesom i'r bŷd; y cyfriw ffydd, ag edifeirwch, y rhai yw'r unig union ffŷdd ag edifeirwch, yn ol dull y Gristiannogol grefydd, sy'n perthyn i'r byd ymma yn unig, ag yn y byd ymma yn unig y cawn wneud defnydd o honynt; i orchfygu'r byd hwn, sydd mor dôst wrthym, ag i ddofi gwynniau'r cnawd; ymma yn unig y geill y gorthymmwr roddi yn ol y da anghyfiawn a yspeiliodd efe oddi ar eu gwîr berchennog, ag ymma yn unig y geill roddi siampl i eraill i fyw yn dda.
Erbyn hyn mae'n ddigon eglur nad oes fodd disgwil cael trugaredd, trwy help Crist a'r Efengyl i'r sawl a ymadawo a'r byd hwn yn an ediseiriol. O herwydd fôd hôll addewidion yr Efengyl yn perthyn i ddynion tra bo'nt ar y ddaiar yn unig; ag oni chraffant ar yr addewidion hyn, fel y mae'nt wedi eu gosod ar lawr drwy orchymmyn Crist, nis gwn i ûn môdd nag enw arall trwy ba ûn y geill dyn fod yn gadwedig; fel hyn y gwelwch fod marwolaeth yn torri ymmaith holl obaith an-edifeiriol bechaduriaid.
[Page 273] III. Os yn y byd ymma yn unig y mae i'ni rydddyd i'n cymhwyso ein hunain erbyn myned i fywyd tragwyddol, os ydyw marwolaeth yn terfynu ar ddydd ein grâs, ag ar amser trugaredd, os nad oes dim amser i weithio mwy; erbyn hyn mae marwolaeth yn ein troi ni i gyflwr anghyfnewidiol. Nid wyf yn meddwl ychwaith wrth hyn, y bydd ein heneidiau ni cyn gynted ag yr ymadawont a'n cyrph, cyn ddedwydded neu an-nedwydded ag y gallont fyth fôd; ni chaiff gwŷr Duwiol mo'u dedwyddwch eithas, na'r annuwiol mor diodde y poenau trymmaf o flaen dydd y farn, yr hwn sy'n cloi ar y cwbl, ag yn rhannu i bob dyn ei ran ei hûn, pan ddywedo'n Harglwydd Wrth y rhai ar ei ddeheu-law, deuwch chwi fendigedigion fy Nhàd, etifeddwch y deyrnas a baratowyd i chwi er seiliad y byd: ag wrth y rhai a fyddant ar y llaw asswy, ewch oddi wrthif rai melldigedig i'r tân tragwyddol, yr hwn a baratowyd i ddiafol ag iw Angylion, Matt. 25. 34, 41.
Ond er gallu o wŷr Duwiol dderbyn ychwaneg o wobrwyau am eu Duwioldeb, a'r annuwiol hefyd ddiodde mwy o boenau ar ôl dydd y farn nag o'r blaen. Etto nid eill yr annuwiol mor dyfod i le'r Duwiol, ag nid eill y Duwiol fod fel yr annuwiol chwaith, eithr pôb ûn a geidw ei le ei hûn: hynny yw, os digwydd i'ni feirw ynghariad Duw, efe a'n câr ni byth; ond os Duw a'n câs-hâ [Page 274] ni a' ninneu yn meirw yn ei lîd a'i ddigofaint ef, nid oes obaith o newid ein cyflwr yn y byd a ddaw, mae'n rhaid diodde dan ei ddigofaint ef byth bythoedd. Mae hyn yn canlyn yn rhwydd ag yn naturiol y pethau a osodais ar lawr o'r blaen, ag mae'r cwbl yn tynnu at yr un pwrpas, ag yn cyd-gyfeirio at yr v̂n nôd, sef, nad oes le yn y byd i ddŷn obeithio cael newid ei gyffwr, pa v̂n bynnag fyddo a'i da a'i drŵg, ar ol unwaith ymadel a'r bŷd hwn. Am hynny nid yw ond gwaith ofer ymresymmu dim pellach ynghylch y peth ymma. Duw a roddo i bôb v̂n o honom râs i ystyried hyn yn ddifrifol, ag i wneud y goreu o hono.
I. Gan hynny os yw marwolaeth yn gosod terfyn i ddydd jechydwriaeth, ag wrth hynny yn ein cloi ni tan ddedwyddwch neu annedwyddwch tragwyddol, ag os nis digwydd marw ond unwaith, nid eill pôb dŷn lai na chydnabod saint yw ei elw, o farw ynghariad Duw, fel, pan ddelo 'r Angen i ymweled a ni y bo'm yn barod iw groesawn▪ Nid yw gwŷr yn arfer o wneud dim llai na'u goreu rhag methu neu gam-gymmeryd y gorchwyl na fo' iw wneud ond unwaith yn eu holl amser, yn enwedig os yw holl ddedwyddwch eu bywyd yn sefyll arno; oblegid nid oes le i mendio bai'r gwaith, na ddaw byth dan ein dwylaw ond unwaith; ag mae i'ni lawer mwy o achos i gymmeryd gofal i'n darparu ein hunain [Page 275] erbyn ein dydd diweddaf: oblegid fod y dydd hwnnw yn ein gosod ni mewn cyflwr naill a'i o dristwch neu o lawenydd annewidiol. Hyn a ddylem osalu am dano holl ddyddiau ein bywyd, sef, gofalu am ein diwedd; yr hwn er nas delo ond unwaith, etto mae'r unwaith ymma yn ein cloi ni mewn caerau o annewidiol dragwyddoldeb. Oh faint yw ynfydrwydd y dŷn a fo'n esceuluso meddwl am ei ddiwedd, nes dyfod o'r angeu yn ddisymmwth am ei ben ef! hyd oni fo'n barod i ddescyn iw fêdd. Mae achos i escusodi 'r a sawl a fo'n smala ag yn ddi-fatter am ryw beth a ddelo o gwmpas drachefn, ag lle y gallo mendio ei fai a'i gam-gymmeriaeth a'i ddiofalwch, drwy fôd yn fwy gwiliadwrus amser arall, fe eill gwr yn y modd ymma ennill ei golled, yn enwedig os nad yw'r peth a esceulusodd ond matter bychan ag o ychydig bŵys. Wrth hyn y mae dyn yn prynnu synwyr, ag fe dâl synŵyr ei chael er talu yn ddrûd am dani, ond yn anaml y gwelwch chwi ŵr synhwyrol er ennill neu fantais yn y bŷd yn mentrio ei enioes, yn enwedig os bydd arno berigl mawr o golli ei hoedl, o herwydd ar ol marw unwaith, nid oes obaith o fyw drachefn, am hynny mae'n ddrûd treio y peth na ddichon neb ei wneud ond unwaith.
A dymma gyflwr pob dyn wrth farw, nid ellir marw ond unwaith, ag os methwn ni yr unwaith hwnnw, byth fe ddarfu am danom: [Page 276] A pha ŵr synhwyrol a anturieu wneud unwaith y pethau y mae dynion annuwiol yn eu gwneud bob dydd, pan fo'nt yn peryglu eu heneidiau wrth eu drŵg weithredoedd, pwy a fydde mor hŷ a hyderu fod marwolaeth yn sefyll o hirbell, ag y geill fyned rhagddo yn ei ddrŵg heb ddim arswyd marwolaeth a' barn, heb fod arno'r gofal lleiaf, am gael amser i edifarhau? pwy a feiddie oedi ei edifeirwch, tan na bae ar ei glaf-welu, a maint yw rhwystrau a' blinderau dŷn clâf yr amser hwnnw? a eill dybied, ar ol iddo fyw yn annuwiol dros lawer o flynyddoedd, y gwasanaetha ymbell ddegryn, neu ymbell ochenaid oer, neu ymbell weddi ddiffrwyth, wiliog, i'w dderchafu ef ir nef? pe bydde fodd i'r dynion annuwiol dibris hyn, sy'n gadel pôb peth i fyned i'r gwaetha, fyw ar y ddaiar eilwaith, ar ol talu 'n ddrúd am eu diofalwch, ni fydde 'r perygl o farw yn annuwiol chwarter cymmaint; ond nid oes fôdd i ddyfod ymma yn ol, ar ol marw unwaith: am hynny, os parheiff yr annuwiol i bechu, nes caledu ei galon a diffodd grâs Duw; os digwydd marwolaeth yn sydyn am eu ben, ag yn llawer cynt nag yr oedd yn disgwil, a'i dorri ymmaith yn ddirybudd, darfu am dano byth, oddieithr iw ochneidiau echryslon ef gael eu cymmeryd am wîr edifeirwch: a pha ŵr synhwyrol a fentrieu ei enaid ar y fâth siawns beryglus a [Page 277] hon? Yn hytrach pwy na chymmerei 'r gofal mwyaf, cyn gynted ag y bo possibl, i siccrhau iddo ei hunan ei ddiogelwch a'i etholedigaeth cyn ei ddydd diwedd; Gan fod y matter o gymmaint pŵys, ag lle nid oes fyth fodd i mendio 'r bai ar ol camgymmeryd unwaith.
II. Yr y'm yn dyscu wrth hyn fod yn rhaid i'r sawl a ddechreuo fyw yn dduwiol, gymmeryd mawr ofal i barhau felly hyd yr eithaf; yn ol a fo'n cyflwr pan fo'm yn ymadel a'r bŷd, y bydd ein cyffwr yn y byd a ddaw, fel y mae Duw yn traethu yn bennodol trwy'r prophwyd Ezekiel, Ezec. 18. 21, 24. Os yr annuwiol a ddychwel oddi wrth ei holl bechodau, y rhai a wnaeth, a' chadw fy holl ddeddfau, a' gwneuthur barn a' chyfiawnder, efe gan fyw a fydd byw, ni bydd efe marw. Ni chofir iddo yr holl gamweddau a wnaeth, yn ei gyfiawnder a wnaeth y bydd efe byw. Ond pan ddychwelo y cyfiawn oddiwrth ei gyfiawnder, a' gwneuthur anwiredd, a' gwneuthur yn ol yr holl ffieidddra a wnelo'r annuwiol; a fydd efe byw? ni chofir yr holl gyfiawnderau a wnaeth efe; yn ei gamwedd yr hwn a wnaeth, ag yn ei bechod a bechodd, ynddynt y bydd efe marw. A' thrwy'r holl Destament Newydd, nyd yw Duw yn gaddo gwobrwyo neb ond y sawl a ddalio allan hyd y diwedd. A'r peth a ddywedais yn ddiweddar a rŷdd gyfrif teg o hyn ei gŷd; sef, mai lle i'n profi ni yw'r [Page 278] byd ymma, ag os nyni a fwriwn heibio 'n gwaith cyn ei gyflawni a' gwneud pen o hono; os diogwn ni, neu droi yn ol cyn dyfod i ben ein gyrfa, rhaid i'ni golli 'n gwobr a'n coron; mâth ar filwriaeth yw bywyd pob Cristion, ag nis dywedir ddarfod ini orchfygu 'n gelynion, nes darfod ymladd y frwydr ddiwaethaf; o herwydd pob diwaethaf sy'n cloi ar y cwbl a aeth heibio o'r blaen. Pan ymadawo'r annuwiol ai bechod drwy ymroi i wneuthur daioni ag i wasanaethu Duw, mae Duw yn ei anfeidrol drugaredd drwy haeddedigaethau a' chyfryngdod Crist yn maddeu ei bcchodau ef; o herwydd fod y dŷn ei hún wedi ymadel a hwynt, a'u taflu ymmaith oddiwrtho drwy ei edifeirwch a'i fuchedd newydd: Pan ymadawo 'r gŵr duwiol a'i sancteiddrwydd, a' throi o hono i fyw yn annuwiol, ni chofir dim o'i Dduwioldeb ef mwy, o herwydd ei fod ef wedi gwadu cysiawnder ag uniondeb buchedd, am hynny nid yw iw gyfrif am ŵr Duwiol mwy: Gan hynny, pan ddelo Duw i farnu 'r byd y mae'n barnu pob dyn fel y bô yn sefyll, yn ol ei gynheddfau a'i foddion presennol; nid ymofyn efe beth oeddynt gynt, ond beth ydynt yr awron; ni phassia efe farn ar y gŵr cyfiawn, am ei fod yn anghyfiawn gynt; ag nis cyfiawnhâ efe yr annuwiol, am ei fod unwaith yn Dduwiol, canys os felly y gwnae, cospe 'r Duwiol, a' gwobrwyeu [Page 279] 'r annuwiol: Pa fâth bynnag fo'm yn ein hawr ddiweddaf, felly y byddwn byth rhag-llaw: Am hynny y rhan ddiweddaf o'n henioes sydd i'n gosod ni allan yn y byd a ddaw.
Ag os felly y mae, ond da y dylem fyw yn wiliadwrus, I edrych na byddo ûn amser yn neb o honom galon ddrwg anghrediniaeth, gan ymado oddiwrth Dduw byw. Heb. 3. 12. Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddiwrth râs Duw: rhag bod ûn gwreiddin chwerwedd yn tyfu i fynu, ag yn peri blinder, a' thrwy hwnnw llygru llawer: Heb. 12. 15. Rhag wedi ini ddianc oddiwrth, halogedigaeth y byd, trwy adnabyddiaeth yr Arglwydd a'r achubwr Jesu Grist, y rhwystrir ni drachefn â'r pethau hyn, a'n gorchfygu, a' digwydd i'ni yn ol y wîr ddihareb, y ci a ymchwelodd at ei chwydiad ei hun: a'r hwch wedi ei golchi, at ei hymdreiglfa yn y dom. Y mae hyn, fel y dywed yr v̂n Apostol, Yn gwneuthur ein diwedd yn waeth na'n dechreuad; canys gwell fuasei i'ni, fôd heb adnabod ffordd cyfiawnder, nag wedi ei hadnabod, troi o oddiwrth y gorchymyn sanctaidd▪ yr hwn a draddodwyd ini, 2 Pedr. 2. 20, 21, 22.
Fe ddyle'r sawl a ddygwyd i fyun 'n rhinweddol ag yn ofn Duw ystyried hyn; y sawl a'u hymgadwasant eu hunain oddiwrth lygredigaeth eu chwantau cnawdol; ag a warriasant flodau eu hamser, a'r rhan oreu [Page 280] o'u bywyd i wasanaethu Duw; pwy a fydde fodlon i golli cymmaint o'u hamser, ag i golli eu dyledus wobrwyau am orchfygu'r bŷd a'r cnawd? ar ol mordwyo dros demhestlog brofedigaethau'r byd dros dalm o flynyddoedd, ond trwm fyddeu suddo ym mîn y lan? pan fo'ch megis mewn golwg i dîr yr addewid, a ddyle eich calonnau y prŷd hwnnw lwfrhau? ai cymhwys yw yr amser hwnnw wrthryfela yn erbyn Duw, a' marw yn yr anialwch?
Fe fu lawer o ymddadleu ynhylch parhaus gyflwr y seintiau, hynny yw, pa v̂n ai bod y sawl a fo' unwaith mewn ffordd dda Dduwiol yn siŵr i barhau yn yr ûn ffordd hyd ddiwedd ei oes? Ond hyn yw'r cwbl a gymmeraf fi arnaf ei ddywedyd, (ag mi a wn nad rhaid i ûn Cristion wybod dim mwy ynghylch yr unrhyw beth) ei fod ef mewn cyflwr grasol pwy bynnag a fo 'n caru ag yn hoffi Duwioldeb o ddyfnder ei galon, a'r môdd i barhau rhagllaw yn yr unrhyw gyffwr grasol yw, parhau i fyw yn rhinweddol; Fe orchfygwyd llawer o bobl gan brofedigaethau 'r bŷd ag amhuredd eu meddyliau aflan eu hunain, a'r ol byw yn rhinweddol ennyd o amser, yn gystal yn eu barn eu hunain, ag ym marn y bŷd. Am hynny os bú'r cyfriw wŷr erioed mewn cyflwr grasol, mae'nt yn llithro allan o'r cyflwr hwn pan elont i ddilyn oferedd ag annuwioldeb; am hynny diammeu yw, na chaiff [Page 281] y cyfriw rai, er darfod iddynt ddechreu byw yn rhinweddol etto gan iddynt ddiweddu eu hoes yn anfucheddol, fyth mor myned i'r Nef▪ pa gyflwr hynnag y bo dyn yn marw ynddo, yn yr ûn cyflwr yr ymddengys ber bron Crist yn nydd y farn, ag yn yr ún cyflwr y parhaiff byth o hynny allan yn dragywydd; gwir yw'r araith hon mewn ffordd; sef, nad dedwydd neb nes ei farw, hynny yw, nid yw siwr i orchfygu ond y sawl a fo' marw yn orchfygwr: mae'r cyfriw bobl yn eu twyllo eu hunain, ag sy'n hyderu eu bôd byth mewn ffordd dda a' chyflwr grasol, o herwydd osgatfydd eu bod hwynt unwaith felly, er eu bôd hwynt yn awr yn byw yn annuwiol: Pe bydde hyn yn wîr, galleu ddyn hyderu ar gariad Duw wrth droseddu ei orchymmynion, ag mae hyn yn gwrthwynebu'r hôll Efengyl, ag yn llŵyr dwyllo 'r cyfriw ddynion anwireddus ag a hyderant wrtho.
III. Wrth hyn y deallwn faint perygl y rhai sy'n ymadel a'r bŷd hwn mewn pechodau rhyfygus: mae'r cyfriw rai yn myned i'r bŷd a ddaw, yn newydd fôd yn euog o'u drŵg, i dderbyn barn am eu pechodau; Nid oedd fôdd i'r rhai hyn edifarhau am eu pechodau cyn eu meirw, o herwydd ddigwydd iddynt feirw wrth bechu a'u pechodau yn achos o farwolaeth iddynt, ag nid oes dim edifeirwch, ag am hynny nid oes dim lle i ddisgwil maddeuant [Page 282] yn y byd a ddaw: Dymma gyflwr anobeithiol llawer pechadur truenus; pa sawl dyn sy'n tynnu'r poeth-glwyf am ei ben trwy ormodedd o yfed? ag nid yn gwneud felly yn unig; o herwydd weithiau mae'r cyfriw ddolur yn prifio yn hir-glefyd, ag yn rhoi i'r dŷn clâf ryw ychydig o amser i edifarhau; ond y pêth sydd lawer gwaeth, yn yfed tan na bo' efe yn marw yn ddisymmwth, neu wedi colli ei reol a'i reswm, tan na syrthio dros ei geffyl, neu glogwyn, i farw 'n sydyn, fel hyn, neu drwy ryw siawns ddrŵg arall; neu pan fo'r gwîn wedi ennynnu ynddynt a' berwi eu mennyddieu, beth sy'n digwydd yn amlach na bôd y naill gâr yn llâdd y llall? Nid yn anaml ysowaeth y mae'r godinebwr yn marw ym mreichiau ei bnttein, neu'n llâdd rhyw ûn arall yn ei phlaid hi: pa sawl ûn a welwn yn meirw wrth dorri pwrs, neu yspeilio a' lledratta, pan fo'nt yn bryssur ar eu gwaith? mae'r rhai'n eu gyd yn derbyn cospedigaeth bresennol am eu drŵg yn y bŷd hwn, ag heblaw hynny yn euog i ddioddeu ym mhellach yn y byd a ddaw, o herwydd nid oes le yn awr i yscwyd ymmaith euogrwydd enaid cyfeiliornus; ag os nid oes fodd i'r anedifeirioi i ochel colledigaeth, gwae nhw, gwîr ofnadwy ag echryslon gyflwr y cyfriw ddynion. Ag fe eill hyn ddigwydd i bwy bynnag a fo' 'n cynhwys ag yn lwfio pechodau rhyfygus, geill [Page 283] ddigwydd iddo ef farw pan fo' n bryssur ar ei bechod, ag yno rhŷ hŵyr fydd edifarhau yn y bŷd a ddaw: Ag mae hyn yn digwydd cyn fynyched, fel y gallwn ei gyfrif ef yn wîr ynfyd-ddyn a anturio ei enaid ar y cyfriw beth.
Eithr dyle'r yr ystyriaeth hon ein harswydo ni a'n hattal rhag pechu dau fâth ar bechod yn enwediccaf, sef, rhag pwyntio maes, a' gwneud pen am danom ein hunain.
Pan fo' pobl mor ddigllon, ag mor afrywiog a'u bòd yn yssu i ddial eu cam â'u cleddyfau, ag yn sychedu am waed eu gilydd, trwy naill a'i llâdd eraill, neu ddiodde eu lladd eu hunain er mwyn diweddu eu hamryfusedd; mae'r cyfriw rai yn cwbl fwriadu yn eu calonnau ladd eu brawd, er mŵyn llochi eu digllonrwydd a'u sorriant eu hunain; a' llid hyd angeu yw hwn, pa v̂u bynnag ai cael ei berchennog ei feddwl ai peidio; am hynny os digwydd i'r cyfriw rai gael eu llâdd yn y maes, ag felly y digwydd yn rhŷ fynych, cyn cael mor amser i ofyn maddeuant; maent yn meirw yn euog o waed eu brawd, er methu ganddynt eu lâdd ef, o herwydd amlwg yw y buasent yn ei lâdd ef pe gallasent, o herwyd eu bod hwynt yn ei gâs-hau ef hyd angeu: ag efe a ddywed St. Joan fel byn; Pob ûn ag sydd yn casäu ei frawd, lleiddiad dyn yw; a' chwi a wyddoch nad oes i ûn lleiddiad dyn fywyd trawyddol yn aros ynddo, 1 Jo. 3. 15. [Page 284] Am hynny y mae'r sawl a fo'n pwyntio maes yn anturio eu hoedl a'i enaid hefyd os digwydd iddo golli'r maes. Ag er lleied o brîs y mae rhai pobl yn ei roi ar eu hoedl, etto mawr yw eu bai hwynto ŵystlo eu heneidiau, bydded yr amryfusedd fel y fynno.
As os lwfiwn ni mai pechod ydyw i ddyn wneud pen am dano ci hùn, diammeu nad oes fodd i'r sawl a wnelo hyn i edifarhau yn y byd hwn, ag nid oes le i ddisgwil maddeuant yn y byd a ddaw heb edifeirwch yn y byd ymma. Ag nis gwela i mor achos paham nad ydym yn cyfrif yn gymmaint pechod i ddŷn wneud pen am dano ei hún, a' gwneud pen am un arall, sef, ûn o'n cŷd-Gristiannogion. O herwydd nid oes dim yn ol i wneud y pechod hwn yn anfeidrol.
Lleiddiad dŷn yw pan fo' ún yn gwneud pen am dano ei hun nid dim llai na phe buasei yn llâdd ei gymmydog; am hynny mae'n bechod yn erbyn y chweched gorehymmyn, Na ladd. Ag mae'r ún rheswm yn gwahardd y naill a'r llall, O herwydd ar ddelw Duw y gwnaeth efe ddyn, Gen. 9. 6. Ar sawl a wnelo ben am dano ei hun sy'n destrywio delw Duw nid dim llai nag wrth wneud pen am ei gymmydog: a' mwyaf oll yw euogrwydd y pechod yn ol graddau eu an-naturiolrwydd; hynny yw, po mwyaf o rwymedigaethau a fo' arnafi i amddiffyn y gŵr yr wyf yn gwneud pen am dano: megis o wneud pen am gâr neu gydnabyddiaeth, [Page 285] neu ryw gymydog caredig, gwaeth hyn o lawer na phe gwneud yr ûn pêth i ŵr diethr; gwaeth yw llâdd ein tâd neu 'n plentyn neu 'n gwraig neu 'n gŵr na neb arall, o herwydd fôd y rhai'n yn agos o garennydd ini;ag os yw hynny yn gwneud y pechod yn fwy, nid oes neb cyn nessed i chwi a chwi eich hunan, am hynny nid oes lofruddiaeth yn y bŷd mor an-naturiol a phan fo dŷn yn gwneud pen am dano ei hûn.
Nid escusoda 'r escussion arferol iw rhoi tros y bobl a fo'nt yn eu bwrw eu hunain ymmaith, ûn mwrddwr arall of fâth yn y bŷd: Pe digwydde i'ni weled v̂n o'n ceraint anwylaf, yr hwn a garem yn ail i'n heneidiau ein hunain mewn poen ag anesmwythdra an-oddefadwy, er maint a grefe efe arnom iw dynny ef allan o'i boen, drwy ei bryssuro ef allan o'r bŷd hwn; er y clywem arnom trwy fawr garedigrwydd fyned i'n claddu i'r ûn bêdd o'r unwaith ag ef, etto nid oes gennad i'ni, ni âd Duw i'ni moi lâdd ef, er i farwolaeth ddiweddu ei nychdod ef; ag mae cyfraith y deyrnas yn gwahardd yr ûn peth. Etto os nad rhaid caru ein cymmydog yn fwy na ni ein hunain, ag os o gariad arnom ein hunain y gallwn wneud pen am danom ein hunain pan fo'm wedi blino ar fyw yn y bŷd ag yn chwennych dianc allan o hono, nis gwelafi reswm yn y bŷd i'n rhwystro ni i wneud yr ún gymmwynas [Page 286] i frawd neu gâr ag a wnelom i ni ein hunain. Yr ûn rheswm sydd am y ddwy weithred, am hynny oni wasanaetha hi i escusodi 'r naill nis gwasanaetha i escusodi'r llall.
Oblegid nid oes na lliw na rheswm am y peth a ddywed rhai dynion anystyriol. Sef, fôd Duw wedi rhoddi i'ni fwy o awdurdod ag o rydd-did tros ein hoedl ein hunain, na thros hoedl neb arall. Yn yr scrythyr lân y mae i'ni chwilio am ewyllys Duw, ag nid oes yno ddim o'r fâth bêth, ag mae'n siccr gennif nad yw cyfraith natur yn dysgu i'ni ddim o'r fâth bêth ychwaith; ond yn union yn y gwrth-wyneb. Mae ar bôb dŷn arswyd marw, ag mae'n gnawd i bôb dŷn wneud yn fawr am dano ei hun, ag nid yn unig i edrych na wnelo neb arall ddim drŵg iddo, ond i ofalu hefyd, rhag gwneud o hono ddim drŵg iddo ef ei hun, ag os felly, llawer mwy a ddyle ei ofal ef fôd, rhag iddo ei wneud ei hunan ymmaith; Am hynny gorchmyn yn tarddu oddiwrth ein naturiaeth ni ydyw hwn; sef, y dyle bawb ddiogelu eu bywyd a'u hanffod eu hunain.
Pan greodd Duw nyni nis rhoes i'ni mor awdurdod i wneud a fynnem a ni ein hunain, o herwydd efe yw'n Harglwydd ni, a' ninneu yn greaduriaid ag yn ddeiliaid iddo yntef, ag mae'n rhaid i'ni ddioddeu ein rheoli wrth ei gyfraith ef, ie yn yr helyntion mwyaf perchennogol a' pherthynasol [Page 287] i'ni ein hunain, lle na bo'r gam-weithred yn gallu cyrraedd neb ond nyni ein hunain: ni rydd mor gennad i'ni i wneud cam a'n cyrph drwy anghymmedroldeb neu anlladrwydd, pe bae fodd i hynny fod, heb wneud dim drŵg nag i'n gwlâd nag i ddŷn yn y bŷd; ag os nis gallwn wneud a fynnom a'n cyrph ein hunain yn y pethau gwaelaf: diammeu na rŷdd Duw i'ni byth gennad i wneud pen am danynt ag iw destrywio hwynt.
Ag os ydyw'n bechod ini wneud pen am danom ein hunain, diammeu mai'r pechod mwyaf yn y byd ydyw, o herwydd ei fôd yn llâdd yr enaid a'r corph ar unwaith, o herwydd nid oes byth fodd i edifarhau am y pechod, oddieithr i ddyn allu edifarhau am ei bechod, a' chael maddeuant am dano gan Dduw cyn ei bechu a' chyn bôd yn euog o hono; ne onid oes lle i edifarhau yn y byd a ddaw. Pe ystyriau bobl hyn yn ddifrifol, ni chyfrifent na chywilydd na chospedigaeth yn y byd mor anhawdd iw dioddef, ag y gallont eu gwneud hwynt i flino ar eu bywyd ag y ymlid eu heneidiau allan o'u cyrph, pan fo' mor ddrûd iddynt ymadel â hwynt yn gynt na'u hamser: geill gwŷr fôd mewn cymmaint o gaethiwed, ag y cyfrifent yn elw ag yn esmwythdra gael marw; ond nid oes ûn gŵr pŵyllog a fyddeu fodlon i newyd ei flinderau yn y byd hwn, am boenau tragwyddol y bŷd a ddaw: os gan hynny nis gallwn wneud pen am ein [Page 288] cyrph a' dianc oddiwrth flinderau'r bŷd hwn, heb wneud y drŵg mwyaf, sef, destrywio ein heneidiau hefyd; rhaid i'ni fod yn fodlon i fyw yn y byd ymma, ag i gymeryd ein siawns ynddo, tra y mynno Duw, ag hyd y gwelo ef yn dda, a bydded ein cyflwr fel y fynno, diammeu genif fod yn llawer haws ei ddioddef na phoenau tragwyddol.
Ag etto na atto Duw imi, bassio barn ryfygus ar bawb a fuont mor dwrstan a gwneud pen am danynt eu hunain: nis gwyddom ni nad cill Duw weled yn dda ddangos iddynt ryw fesur o'i drugaredd am eu bôd hwynt yn credu fod yn rhŷdd iddynt wneud y peth a fynnent â'u cyrph a'u heneidiau eu hunain: Nis gwyddom ni ychwaith nad eill Duw yn ei fawr drugaredd escusodi'r drŵg a wnelo ûn mewn gwall-gof a' gwall synwyr neu pan lyngcir ef gan ryw ddursing brofedigaeth: Nid wyf yn cymeryd arnaf osod terfynau yn y bŷd i anfeidrol drugaredd a' maddeugarwch yr Arglwydd, ond yn hytrach i osod ar lawr beth a allwn ni ddisgwil yn ol cynhwysiad yr Efengyl: Gwaith an-naturiol yw i ddŷn ei lâdd ei hún, a' phechod uwchlaw pôb pechod ar yr achos ymma, nad yw yn gadel i neb le i fôd yn edifeiriol am dano yn y byd hwn. Am hynny, oddieithr i Dduw, yn ei fawr drugaredd, faddeu'r pechod ymma, er nas darfu i'r pechadur erioed mor edifarhau am dano, nid oes byth obaith am [Page 289] faddeuant: ag nid yw Efengyl Crist yn rhoddi dim rhydddid nag awdurdod i bregethu maddeuant pechodau heb edifeirwch; am hynny nid trwy râs yr Efengyl, sydd wedi ei chymhwyso i'r gwîr edifeiriol yn unig, y mae'r an-edifeiriol yn rhwymedig am eu hiechydwriaeth. Erbyn hyn, nid hŷf ond ynfyd y sawl a hydero ar drugaredd an-ammodol; hynny yw, y sawl a becho y cyfriw bechod nas gallo grás yr Efengyl mo ei faddeu: neu i ba ún nid oes dim addewid o faddeuant yn yr Efengyl.
Mae cyflwr ún máth arall o bechaduriaid yn swrn debyg i hwn a bassiodd, sef, y sawl a fo'nt yn ymadel a'r byd heb ganddynt ddim gobaith o gael trugaredd gan Dduw: yr ydys yn cyfrif y cyflwr hwn yn dost dros ben. Pechod mawr yw anobeithio yn nhrugaredd Dduw; am hynny, pwy bynnag a fo' yn ymadel a'r bŷd yn y meddwl hwn, mae efe yn marw yn ei bechod, heb erioed edifarhau am dano: ag mae'n rhŷ hawdd gan eraill edrych ar eu han-obaith hwynt megis pe buasent yn eu bwrw eu hunain: ag etto ni a welwn fod hyn yn syrthio allan yn fynych. Fod gwŷr da bucheddol dan yr arswydau a'r poenau hyn yn fynych pan ddelo eu hawr ddiwaethaf; ag mae'n anhawdd meddwl am y rhai'n mai rhagrithwyr oeddynt erioed er pan anwyd hwynt; a' bôd Duw yn cwbl ymwrthod a hwynt, o herwydd eu bod [Page 290] hwynt yn passio barn flîn a' thôst arnynt eu hunain.
Gwîr yw, cyflwr anghyssurus jawn ydyw cyflwr yr an-obeithiol, sef, y sawl a fo'n credu nad oes iddo ddim lle i obeithio am drugaredd, etto nid wyfi yn credu fôd y cyflwr hwn cyn waethed ychwaith ag y mae rhai yn meddwl ei fôd: ag fel y deallom pa fôdd y mae'r peth yn sefyll, ystyriwn beth ydyw anobaith, ag o ba achos yn bennaf y mae yn tynnu dialedd Duw am ein pennau.
Anghrediniaeth y gelwir y pechod sy'n twyllo dyn i beidio a chredu 'r addewidion o râs a' thrugaredd a osododd Duw allan i bob pechadur edifeiriol trwy haeddedigaethau Jesu Grist; nid anobaith yw hyn. Nis maddeu Duw mor pechod ymma, o herwydd wrth hyn mae dynion yn gwadu ffydd Grist a' grâs yr Efengyl. Eithr nid dymma'r pechod a elwir yn gyffredin anobaith: o herwydd fod yr anobeithiol yn llwyr gredu'r Efengyl a'i haddewidion: nid ydynt ychwaith yn ammeu na ddengys Duw drugaredd i bob gwîr edifeiriol trwy gyfryngdod Jesu Grist; am hynny mae'nt cymmhelled oddiwrth anghrediniaeth, a phe baent yn gryfaf dynion eu gobaith yn y byd: ond ymma y maent yn fyr, dymma eu bai hwynt; maent yn cam-osod yr addewidion at eu cyflwr eu hunain: hynny yw, maent yn ofni na perthyna ammodau 'r Efengyl [Page 291] iddynt hwy, ag nad ydynt mor wîr edifeiriol ag y dylent fôd: fôd dydd eu grâs hwynt wedi myned heibio, ag nas cânt yr awron ran yn y byd o'r fendith, er iddynt daer ymbil am dani â dagrau heilltion fel y darsu i Esau gynt; neu ni hwyrach, eu bôd hwynt yn cyfrif fôd Duw wedi eu gwrthod, ag nad oes ganddynt ddim hawl ar addewidion yr Efengyl.
Yn awr os yw'r bobl hyn iw cyfrif yn Gristiannogion da a'r bôb achos arall, er eu bôd hwynt yr awron drwy gam-gymmeriaeth neu wendid pen ynmeddwl fel hyn. Nid oes le i'ni fwrw y passia Duw yr ún fâth farn arnynt hwy, ag y maent hwy wedi passio arnynt eu hunaiu; o herwydd mae efe yn gwybod yn well oddiwrthynt nag y gwyddont hwy oddiwrthynt eu hunain. Os Dywedai ŵr mewn gwall-gof ei fod yn euog naill ai o lâdd neu ladratta neu'r cyfriw bêth na wnaethei efe erioed; A ydych chwi 'n meddwl y bwriau Justus cysiawn, a fae 'n gydnabyddus ag ef, ag yn gwybod oddiwrth ei ddi-niweidrwydd, y cyfriw ún i ddiodde? diammeu nas gwnae. Bwriwch i ùn a fae ar yr union ffordd i'r Nef daro wrth un arall ai hudai ef i goelio ei fod allan o'i ffordd; ag iddo o'r achos hwnnw fôd yn drwm ag yn drîst dros ben, a'i gyfrif ei hunan yn ddyn colledig; a ydyw hwn fymryn pellach allan o'i ffordd, o herwydd ddarfod i ryw ún arall wneud iddo ef goelio ei fôd?
[Page 292] Pan fo pobl ar eu claf-welu nid oes gyfrif yn y byd iw wneud o'u hyder neu o'u hanobaith hwynt, nid allwn ni wrth hyn swrw amcan yn y byd o'u cyflwr hwynt yn y byd a ddaw: Fe eill pobl ddescyn i uffern mewn gwag-orfoledd, er maint eu bôst y cânt fyned i'r Nef, er gwyched fo' eu cyflwr yn eu meddyliau eu hunain; ag fe eill y sawl a fo' 'n llewygu rhag ofn myned i uffern ddyfod i weled eu dedwyddol gamgymmeriaeth, pan elont i'r Nef. O achos nad yw dynion yn jawn ddeall beth yw naturiaeth y ffydd sy'n cyfiawnhau, y mae'nt yn meddwl fôd anobaith yn bechod au-escusodol: os digon a fyddeu i wneud dyn yn wîr gysiawn, iddo i gredu ei fod ef felly; rheswm da a fyddeu, i gyfrif anobaith yn bechod di-faddeuol, o herwydd yr union wrthwynebeu 'r ffydd gyfiawnhaus: ym mhellach, os na wasanaetha dim i gyfiawnhau dyn o flaen Duw, ond bôd yn hyderu ar Grist bob munyd am jechydwriaeth; felly hefyd rhaid i an obaith fôd yn bechod marwol, oblegid pan fo' ddyn dan ofidiau an-obeithiol ag yn y ffitt anghyffurus, nid eill roi mo'i hyder ar Grist am Jechydwriaeth. O herwydd fôd yr anobeithiol yn tybied fôd Duw wedi ei daflu ef ymmaith, ag nas gwarediff mo'no. Eithr os digon credu Ynghrist, mai ef yw jachawdr yr hôll fyd, a' darfod iddo ryngu bôdd iw Dâd am ein pethodau, a'i fôd yn ymbil [Page 293] trosom ar ddehen-law Dduw tâd, a' bôd ar eu law ef waredu hyd yr eithaf bôb ún a alwo ar Dduw drwy ffydd yn ei enw ef, ag y gwarediff bôb pechadur edifeiriol, a' phôb ún o honom ninneu hefyd, os edifarhawn: meddaf, os y cyfriw ffydd a hon, pan ddycpo ffrwythau addas i edifeirwch, sydd deilwng iw galw yn ffydd gyfiawnhaus, geill ún fôd ganddo'r ffydd hon, ag etto fôd yn anobeithiol hefyd; ag os felly y mae geill dynion fód mewn cyflwr cyfiawnol, er eu bód nhw eu hunain yn meddwl eu bód mewn cyflwr colledig: Geill ddigwydd i ŵr pûr odiaith fód arno wendid pen, ag wrth hynny geill bassio barn galed arno ei hunan; ond ni farna Duw mo'no ef felly, o herwydd ei fod ef felly yn eu gam-farnu eu hunan. Nis gwneiff Duw mo hyn mwy nag y cyfiawnheiff ryw ragrithiwr rhyfvgus, o herwydd ei fód ef iw gyfrif yn gyfiawn yn ei farn ei hún.
IV. Os ydyw marwolaeth yn gwneud pen am bob gorchwyl, ag yn peri diwedd i bod gwaith, ag yn cau i fynu lyfrau ein cyfrifon; mae'n sefyll arnom ni wneud cymmaint o ddaioni ag a fedrwn tra fyddom byw ar y ddaiar: Pa beth bynnag a gaffo 'n llaw iw wneuthur, ni a ddylem ei wneuthur a'n hôll allu, gan nad oes na doethineb, na gwybodaeth, na gweithio yn y bêdd lle 'r y'm yn myned. Nid wyf yn dywedyd mo hyn chwaith megis mai rhyw le segur [Page 294] yw'r byd nessaf, lle nad oes dim iw wneuthur; ond oblegid fód marwolaeth yn gwneud pen am ddarparu i fyned i'r byd a ddaw: nid ydym ni i roi cyfrif am ddim yn nydd y farn ond am y pethau a wnaethom yn y byd hwn: Am wneud y goreu o'n hamser ag o'r moddion a roes Duw yn ein dwylaw y mae i'ni ddisgwil tâl a' gwobr, bób ún yn ol ei lafur a'i hwsmonaeth.
Ond rheswm da ynteu i'ni gychwyn yn fuan i wasanaethu Duw, ag i wneud y defnydd goreu o bób cyflëustra, gan nad oes i'ni ond ychydig amser i ennill dedwyddol dragwyddoldeb. Mawr ag anrhaethol yw'r gogoniant a ddarpara Duw i wŷr cyfiawn, ond diammeu y cânt hwy y goron ddisclairiaf, y rhai a wnelont fwyaf o ddaioni yn y bŷd hwn, sef, y rhai Sydd gyfoethogion mewn gweithredoedd da, ag wedi tryssori iddynt eu hunain dryssorau yn y Nef.
Yn wîr, mae'r lle gwaelaf yn y Nef uwchlaw y dedwyddwch mwyaf ar y fedrwn ni feddwl am dano; yn siccr uwchlaw dim ar y haeddwn; ond gan fòd Duw trugarog yn addo talu yn hael am yr holl wasanaeth a wnelom, paham ynteu yr esceuluswn ni wneud dim ar a allwn, pan fo'n hesceulustra ni yn gwneud i Dduw fód yn brinnach o'i garedigrwydd tuag attom? paham y byddwn bodlon i fód yn ol o'r cyfriw raddau o ogoniant a allwn ni eu cael? Awydd [Page 295] canmoladwy yw hwn, sef, chwennych bòd mor ddedwydd ag y gallo Dduw ein gwneuthur ni.
Nid yw y sawl sy'n eu bodloni eu hunain o'u bòd yn gochel myned i uffern, yn meddwl am hyn; mae'nt yn ddigon bodlon, os cânt eu derbyn i'r lle gwaelaf yn y Nefoedd. Nis oes fòdd i ddyn fyth fyned yno a ddibrisio raddau eu gogoneddwch: ag os digwydd, ar ol i ddyn fyw yn hîr mewn pechod, a' threulio y rhan fwyaf o'i amser mewn annuwioldeb, iddo o'r diwedd ddyfod i ganfod ffieid-dra ei bechodau, ag i newid ei feddwl ynghylch y byd hwn a'r byd a ddaw; etto nid oes fódd i alw 'r amser a aeth heibio yn ol; ar tippin bychan sydd heb ei dreulio megis gwaddod ein dyddiau, pa lês a allwn ni ei wneud yn yr amser marw hwnnw? os gwasanaetha i'n rhoi ar lan y nef, dyna'r cwbl; ond iw rhan nhw y daw y ddisgleiriol goron a fuant yn ddyfal i wneud y goreu o'u hamser ag i ddilyn pob rhinwedd dda i'r eithaf.
Am y daioni a wnelom tra y bo'm ni yn ein bywyd a'n hiechyd, yr ydym yn derbyn gwobr gan Dduw; am hynny cymmerwn ofal i wneud daioni, a' byddwn ddyfal yn y cyfamser, tra y parhao ein bywyd a'n hiechyd: ond gwell na bód heb wneud dim daioni tra fo'm byw, i'ni wneud mwyaf ag a allwn ym mron ein bêdd. Ond os Duw a dderbyn y cyfriw roddion a'r rhai'n etto [Page 296] diammeu ei fód yn gwneud llai o gyfrif o honynt, o herwydd fód eu perchennogion wedi eu cadw hwynt hyd yr eithaf heb ewyllysio ymadel a dim o honynt, tra y gallasant ddal ei gafail ynddynt. Nid ydyw Duw yn edrych ar y rhodd ond ar yr ewyllys da. Nid yw Duw yn derbyn ond aberth fywiol dan yr Efengyl. Ond offrymmau'r meirwon (ag o'r fâth honno yw rhoddion gwyr cleifion yn eu llythyr cymmun) sy ddi-lês hyd oni fo' marw'r gŵr a'u piau. Megis aberthau marwol ydynt; ag ni hwyrach na wneiff Duw byth mor mor cyfrif o honynt, megis gweithredoedd ein bywyd ni a'n hiechyd, os erioed nis gwnaethom luseni i neb yn amser ein bywyd a'n hiechyd. Nid dymma mo gyflwr y sawl a gymmerasant gymmaint o ofal ag a fedrent i wneud pob daioni a allent yn amser eu bywyd a'u hiechyd, ag i wneud fyth swy-fwy, fel y gwelent eu bòd yn pryssuro tua'r gweryd; eluseni parhaus o'r fâth ymma sy'n fòdd i estyn ein henioes, ag i wellhau arnom yn y byd a ddaw. Er bòd y cyfriw ddynion wedi ymdeithio i'r byd a ddaw, mae'nt fyth yn dangos trugaredd yn y byd hwn; mae ganddynt dda ar gyd yn y byd ymma: ag mae ennill a'r fantais yn eu canlyn hwynt i'r byd a ddaw: y gŵr a fo' wedi dangos trugaredd ag eluseni yn ei fywyd a'i iechyd, a ddichon wneud iw eluseni barhau ar ol ei farw ef, ag efe a [Page 297] geiff gyfrif o honi, ag efe a fydd gwell o'i phlegid; ond nid wyfi yn deall pa fodd y gallwn alw yr eluseni a fo' yn cael ei chychwynfa ar ol ein marw, yn weithred bywyd; ag os felly, nid yw iw chyfrif i berthynu i'n bywyd ni: Hyn yw'r cwbl a ellir ei ddywedyd am y peth; Fod y sawl sy'n rhoi yr eluseni yn gwneud eu hewyllys yn amser eu bywyd; am hynny gweithred bywyd yw'r eluseni a roddant; ond nid oes yn eu brŷd hwynt y caiff y weithred hon dalu dim, nes eu meirw hwynt yn gyntaf. Ag os felly y mae, nad oes yn eu brŷd hwynt y caiff yr eluseni fod yn weithred bywyd, nis gwn i achos i feddwl y gwneiff Duw amgen cyfrif o honi. Mae dangos eluseni ar glaf-welu yn rhy debyg i glafwelu edifeirwch: mae pobl yn ymadel a'u meddiannau i Dduw ag i'r tlodion yn union fel y maent yn ÿmadel a'u pechodau pan nas gallont mo eu dilyn ddim hwy: ail yw'r elusen hon i ddyn a fae 'n offrymmu ei gorph i ryw fynwent neu Eglwys ar ol ei farwolaeth: er nas gwiw ganddo yn amser ei fywyd ai iechyd mor ymweled a hwynt.
Ond fel y dywedais o'r blaen, dymma'r unig ffordd i hirhau ein bywyd, ag i gael cyfrif manteisiol o hono ar ol ein meirw; i osod sylfaen i ryw weithredoedd da a barha'ont i wneud llês i'r byd yn hîr ar ein hôl ni, y rhai'n fel hâd wedi ei hau yn y [Page 298] ddaiar a ddeuant i fynu yn eu llawn dŵf, tra y bo'm ni yn huno yn esmwyth ag yn ddiogel mewn gweryd; sef, dŵyn ein plant i fynu a'n tylwyth mewn ofn Duw; ag fe eill eu cresydd a'u rhinwedd dda hwynt fôd yn siampl i eraill, a' pharhau yn y byd yn hîr o oesoedd ar ein hôl ni: a' chodi yscolion ag elusen-dai er llês y wlâd; ar fyr, o'r ún fâth yw beth bynnag a dorro eisiau, neu a hyfforddia athrawiaeth neu reolaeth dda i ddynol riw, ar ol ini ymadel a'r byd: Diammeu y cawn ni gyfrif da o'r eluseni a wnelom yn ein bywyd a'n hiechyd, ag o fôd wedi gosod ar lawr a' bwriadu moddion o ddangos elusenau i'r cenhedlaethau a ddaw ar ein hòl ni; a' dymma'r mòdd i wneud y defnydd goreu o'n bywyd, ag iw estyn ef yn hwy na'n byr-oes yn y byd hwn.
V. Os rhaid i bòb dyn ymorol am roi ei gyfrif i fynu, o'r eithaf wrth fyned allan o'r byd; dylem ddechreu 'r gwaith cyn bôd ar ein claf-welu; os amgenach, siccr yw mai rhy-hŵyr dechreu lle y dylem ni ddiweddu. Rhoi cyfrif o'n bywyd ydyw rhoi cyfrif o'r drŵg a'r da a wnaethom ar y ddaiar, a' pha gyfrif a fedr y dyn a fo'n myned i farw ei roi o hyn ar ol gwarrio ei holl amser mewn pechod a' chamwedd? os rhaid i hwn ddiodde barn am a wnaeth yn y corph, beth am echrysloned fydd ei gyfrif ef; ag etto nid oes iddo fodd iw [Page 299] amendio neu iw esmwythau: o herwydd pan fo' efe ar drancedigaeth, nid oes fòdd iddo ddechreu byw eilwaith: os nid oes i neb fòdd heb Dduwioldeb i weled wyneb Duw, beth am mor an-obeithiol ei gyflwr ef, pwy bynnag yw, a dreuliodd ei holl enioes mewn gwagedd a' bryntni; ag sy'n awr allan o bob gobaith byw, ag os felly, allan o bob gobaith yn siŵr o fyw yn fucheddol? Nid oes fôdd i ddyn ar ei glafwelu i gyflawni y dyledswyddau a berthynant i ddyn yn ei fywyd a'i jechyd: Mae prŷd gweithio wedi myned heibio, agos cym mhelled a phe bae o eusoes wedi marw, am hynny mae Duw yn harod iw alw ef i gyfrif, disgwilied ynteu ei gyflog yn ol haeddiant ei weithredoedd gynt.
Nid felly, chwi a ddywedwch, efe a eill, er byrred yw ei amser, edifarhau am ei bechodau, ag efe a gaiff y gwîr edifeiriol drugaredd yn yr awr ddiwaethaf. Gwîr yw, cadwedig fydd pôb dŷn edifeiriol, pa brŷd bynnag y bo' yn edifar ganddo ei bechod; ond mae'n anhawdd meddwl y gwneiff Duw gyfrif o ochneidiau ag addunedau pobl gleifion, ag y derbyn efe hwynt am wîr edifeirwch: mae cam-ddeall y peth ymma yn anrheithio llawer, ag yn gwneud mawr ddrŵg, am hynny myfi a yspyssaf i chwi y peth ar fyr eiriau.
Pan fo'ch yn ystyrio neu yn ymddiddan ynghylch addewidion yr Efengyl, byddwch [Page 300] siŵr o hyn: i adel i'r naill ran o'r Efengyl gyttuno a'r llall, ag na bo'nt un amser yn gwrth-wynebu eu gilydd: megis fel y mae'r Efengyl yn addo maddeuant pechodau i wîr edifeirwch, felly mae hefyd yn gwneud Duwioldeb buchedd yn ammod mor anghenrheidiol i jechydwriaeth a gwîr edifeirwch; Heb sancteiddrwydd ni chaiff neb weled yr Arglwydd, Heb. 12. 14. Efe a dâl i bôb ûn yn ol ei weithredoedd: sef, i'r rhai trwy barhau yn gwneuthur da, a geisiant ogoniant, ag anrhydedd, ag anllygredigaeth, bywyd tragwyddol: eithr i'r rhai sy' gynhennus, ag annufydd i'r gwirionedd, eithr yn ufydd i anghyfiawnder, y hydd llîd, a digasaint; trallod, ag ing, ar bôb enaid dyn fydd yn gwneuthur drwg; eithr gogoniant, ag anrhydedd, a' thangnheddyf, i bôb un sydd yn gwneuthur daioni. Ruf. 2. 6, 7, 8, 9, 10. Na thwyller chwi, ni watworir Duw; canys beth bynnag a hauo dyn, hynny hefyd a fêd efe. Oblegid yr hwn sydd yn hau iw gnawd ei hun, o'r cnawd a fêd lygredigaeth; eithr yr hwn sydd yn hau i'r yspryd, o'r yspryd a fêd fywyd tragwyddol: Gal. 6. 7, 8. Nid ydyw'r addewidion a wnaeth Duw o fadde i'r edifeiriol ddim mwy pennodol, nag yspyssach na'r scrythyrau hyn; y rhai a fynegant y caiff pôb dyn dderbyn tâl yn ol ei weithredoedd; ag mae in'i gymmaint o achos i gredu'r naill a'r llall, ag os credwn ni 'r Efengyl, rhaid ini gredu pôb ûn o'r ddau; ag [Page 301] felly mae edifeirwch a' buchedd Dduwiol i'll deuoedd yn angenrheidiol i jechydwriaeth; ag yno nid gwîr edifeirwch yw griddfan pechaduriaid ym mron eu bêdd, ar ôl dal eu gafael yn eu pechodau hyd yr awr ddiwaethaf, hyd onid ydynt wedi passio pob gobaith o wellhau eu buchedd. Os digon i'n danfon i'r nef, fyddeu cymeryd trymder o achos ein camweddau, heb fyth sôn am fyw yn fucheddol, mae'n siccr gennif, ar y pâs hwnnw, nad rhaid wrth fyw yn dduwiol, yno y geill dynion weled Duw heb ddilyn Duwioldeb; ag yno byddeu'r addewidion a wnaeth Duw o roi maddeuant i'r edifeiriol (os edifeirwch y gelwch chwi ofid a' thrymder gwyr ar eu claf-welu) yn dangos mai cwbl afraid yw buchedd Dduwiol: os ydyw'n rhaid wrth fuchedd Dduwiol cyn gallu bòd yn gadwedig, drŵg y mae hynny yn cyttuno a'r addewidion o faddeuant pechodau i'r gwîr edifeiriol.
Er mŵyn eglurhau'r matter dŵys ymma yn oreu ag o y bo possibl, rhaid yw dangos y rhagoriaeth sy' rhwng dau fâth o edifeirwch: sef, 1. Edifeirwch bedyddiol; ag 2. Edifeirwch ar ol syrthio i ryw bechod rhyfygus o'n gwirfodd.
I. Os gofynnwch bêth yw edifeirwch bedyddiol? y cyfriw edifeirwch yw, ag sy'n angenrheidiol i rai a fo'nt o oedran a' synwyr, cyn y gallont dderbyn y ffydd Gristiannogol. A dymma'r edifeirwch yr y'm [Page 302] yn darlleu am dani cyn fynyched yn y Testament Newydd, ag i hon y perthyn yr addewid o faddeuant; hon ymma a bregethodd Crist: Edifarhewch, canys nessaodd teyrnas nefoedd, Matt. 4. 17. Ag i bregethu hon ymma y rhoes efe awdurdod iw Apostolion, sef, I bregethu edifeirwch a' maddeuant pechodau yn ei enw ef, ym mhlith yr hôll genhedloedd, Luc 24. 47. Yn awr nid oedd yr edifeirwch ymma, i bwy bynnag y perthyneu, a'i i'r Iddewon, ai'r cenhedloedd ar ol derbyn o honynt ffydd Grist, yn arwyddocau dim llai na'u bod hwy wedi rhoi eu llŵyr ddiofryd ar eu pechodau gynt, ag ar eu holl goel-grefyddau a'u delw-addoliaeth; ag wrth hyn yr oeddynt yn addas i dderbyn eu bedydd, ag yn eu bedydd yr oeddynt yn derbyn maddeuant o'u pechodau trwy enw Crist; ag o'r achos ymma y mae Duw wedi addo maddeuant pcchodau i bob dyn edifeiriol, o herwydd nid ellir mor troi heibio y cyfriw rai oddiwrth fedydd, yr hwn yw golchiad yr ail-enedigaeth; ag sy'n golchi ymmaith eu holl bechodau, ag yn eu gosod hwynt mewn cyflwr ag ystâd o râs, ag o garedigrwydd ger bron Duw; fel y Dywed St. Pedr am yr Iddewon; Edifarhewch, a' bedyddier pôb un o honoch yn enw Jesu Grist, er maddeuant pechodau, Act. 2. 38. Ag i'r un pwrpas y dywedodd Ananias wrth St. Paul. Cyfod, bedyddier di, golch ymmaith dy bechodau, gan [Page 303] alw ar enw yr Arglwydd: Act. 22. 16. Ag nis gwn i le yn y Testament Newydd lle y mae Duw yn gwneuthur i'r dyn edifeiriol addewid diammodol o faddeuant pechodau, ond p'le y dylem ni ddeall, mai r edifeirwch cyn bedydd yw honno am ba un y mae'n crybwyll. A'r achos, paham y mae ediseirwch a' maddeuant mor ddiwahanol yn canlyn eu gilydd, yw, oblegid fod y bedydd yn golchi ymmaith holl bechodau y cyfriw edifeiriol, a' nhwythau yn bur ag yn ddiangol, wedi eu glanhau yn y sfrŵd fancteiddiol yr hon a ordeiniodd Duw i foddi pechod, ag i lŵyr lanhau pob aflendid pechaduriaid edifeiriol.
Yn awr, yr wyf yn cysaddeu, os digwydd i'r sawl a fo' newydd ei fedyddio, yn y modd a berthyneu drwy wir edifeirwch a' ffydd sefydlog ynghrist, farw mewn ychydig amser ar ol derbyn ei fedydd, cyn cael amser a' chyfle i fyw yn ol gorchymynion a' doniao 'r Gristiannogol grefydd, y caiff y cyfriw ddyn fyned î'r Nef heb Dduwioldeb weithredol; efe a fydd cadwedig o achos ei edifeirwch, ag o herwydd fod ei fedydd wedi siccrhau iddo faddeuant o'i bechodau, er nas cafodd amser i ddangos, ag i amlygu ffrwythau edifeirwch, trwy fyw yn Dduwiol; ag dymma'r unig cyflwr ar a wn i oddiwrtho, a wasanaetha i escusodi 'r edifeiriol oddiwrth y dyledswyddau o fyw yn Dduwiol. Yn y cyflwr [Page 304] hwn mae'n rhwymedig am ei jechywriaeth i'r grâs a dderbyniodd yn ei fedydd a'i ailanedigaeth. Heblaw hyn yr oedd y Brîf Eglwys â rheswm da yn canhiadu 'r unrhyw jechydwriaeth iw Merthyri, pan lusce 'r Paganiaid hwynt i ddiodde am y ffydd cyn iddynt gael cyfleustra i dderbyn bedydd, er eu bod yn ddiarswyd yn proffessu ffydd Grist; eithr bedyddir y cyfriw rai yn eu gwaed eu hunain, ag yr oedd hynny yn llŵyr gadw lle y dwfr bedydd, oblegid nid oedd iddynt mor modd iw gael, ag i ddyfod o hyd iddo: Os fel hyn ynteu y mae'r matter yn sefyll, a' bod dioddeu er mŵyn y ffydd yn gwasanaethu tro 'r bedydd, fel yr oedd ym marn y brîf Eglwys, yno os digwyddeu i ddyn Paganaidd anghristiannogol droi oddiwrth ei fuchedd ddrŵg gyfeiliornus i fyw yn Dduwiol ag yn Gristiannogol, er iddo gael ei alw yn ddisymmwth ag yn ddirybudd i ddiodde am ei ffydd, cyn iddo na chael derbyn ei fedydd, na rhoi dim amgenach cyfrif o'i fuchedd newydd, ond trwy ei fod yn barod i farw er ei mŵyn, cae'r cyfriw ddyn hefyd ei dderbyn i drugarcdd, heb Dduwioldeb weithredol, yn ail i'r edifeiriol a fo 'n ymadel a'r byd yn y man ar ol ei fedyddio.
Ag yn fy marn i, dymma'r cyfrif cywiraf o ediseirwch y lleidr ar y groes, a ddenodd laweroedd o cneidiau i ddestryw ar hyder y caent faddeuant fel ynteu yn yr awr [Page 305] ddiweddaf: cyffelyb jawn mai hwn oedd ei gyflwr ef; Mae'n debyg y darfuasei iddo ef glywed sôn am Grist, ag am ei wrthiau o'r blaen, a' bôd rhai yn credu mai efe oedd y Messiah a addawsai Duw ei ddanfon i'r bŷd; o herwydd nid alleu ddŷn lai na chlywed sôn am Grist, os byw a fyddeu yn yr un amser ag ynteu, ag yn yr ûn wlâd, pan oedd yr holl wlâd yn son am dano: ond er hyn gan fod y lleidr hwn yn dilyn cwrs drŵg, yr oedd yn ddi-fatter pa un a'i gwîr a'i celwydd oedd hyn, nes ei ddal ef am ladratta a'i fwrw i farw yr un amser a Christ. Fe wnaeth y siawns ragorol hon iddo ymorol yn fwy dyfal ar ol ei ddalfa ef a'i ymddygiad o flaen yr Justus, ar ei fuchedd, ei ymddiddanion a'i attebion ef, yn enwedig ar ol iddo ei weled ef âi lygaid ei hunan, a' bod yn rhaid iddo ef farw a' diodde yr un amser ag ynteu; ar fyr eiriau, daliodd sulw arno cyn ddwysed, tan na chredodd yn ei galon mai ef oedd y gwir Fessiah, er iddo ei weled ef wedi ei hoelio mewn modd cywilyddus ar y groes.
Yn awr, os hwn oedd ei gyflwr ef, (ag mae'n jawn ini feddwl mai fel hyn yr oedd; oddieithr i'ni feddwl fod Duw wedi rhoi iddo ryseddol athrawiaeth o ffŷdd Grist pan oedd ar y groes yn barod i ddiodde, er nas gwydde o'r blaen ddim oddiwrthi, ag nid oes dim achos i feddwl hyn; oblegid nid y'm yn ddarllen dim o'r fâth bêth am [Page 306] neb yn y byd; meddaf, gadewch i hyn fod, mai dymma fel yr oedd) os gwîr yw'r addysc a osodasom ar lawr o'r blaen, nid oes le i wadu pe buase 'r lleidr hwn wedi ymwrthod a'i fuchedd annuwiol, ag wedi proffesu ffydd Grîst, a' chael ei fedyddio yn ei enw ef; pe buase raid iddo ef ddioddeu ar y groes yn ddiatreg ar ol ei fedyddio, cawsei fyned yn union i'r Nef neu baradwys, oblegid fod Crist wedi addo maddeuant pechodau i bob dyn ffyddlon bedyddiol: ond y peth sydd ddiammeu yw, pe buasei hwn yr amser hwnnw, er ei fod yn ddifedydd, wedi dioddeu marwolaeth er mŵyn ffydd Grist, buasei hynny yn gystal a' bedydd iw gyrchu ef i baradwys: os felly, dymma'r cwbl sydd i'ni i ymorol am dano, sef, a wasanaetha ei gyffes ef ar y groes i gadw lle dwfr-fedydd neu ferthyrdod, neu onid yw debyg fod ein Hiachawdr wedi derbyn y gyffes hon mor gariadus oddiar ei law ef a phe buasei wedi tywallt ei enioes trosto? Nid oedd fodd i'r dyn hwn gael ei fedyddio â dwfr, nag i ddioddeu chwaith fel Merthyr; oblegid yr haeddeu ef ddiodden fel drŵg-weithredwr. Eithr hyn a wnaeth, efe a gyffesodd ei ffydd ynghrist, er ei fod ef o flaen ei lygaid ef ynghrog ag y groes, ag yr oedd hyn yn haelach gwaith yngolwg Crist, na phe buase efe yn dioddeu trosto ar y groes. Efe a gyffessodd Grist ag megis a safodd wrtho, pan ffoawdd ei ddyscyblion ef ei hunan [Page 307] oddiar y ffordd, a phan ddarfu i Bedr ei hun ei wadu ef; ag a ddatcuddiodd ei ogoniant ef trwy lŵyr graffu arni; pan oedd anhawsaf weled dim oddiwrthi, yn y wise druanaf a'r waelaf a wiscasai erioed er ei ddyfodiad i'r byd; A phaham nad alle hyn fod yn gystal a dioddeu trosto? ag os yw, yna y gallwn dywedyd fod y lleidr yn gadwedig, yn gystal a phe buasai wedi ei fedyddio. A dymma'r gwìr fedydd, Nìd bwrw ymmaith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tu ag at Dduw, 1 Pet. 3. 21. Ag mae'r cyfrif hwn o'n bedydd yn dangos am ba achos y mae merthyrdod iw gyfrif yn gystal a bedydd; ag os yw, nid llai achos cyfrif cyffes y lleidr ar y groes o'r unrhyw haeddiant.
Am hynny nid yw siampl y lleidr ar y groes iw hyderu arno mewn modd yn y byd, gan y sawl a fo'n byw yn annuwiol ar ol ei fedyddio, ag yn parhau felly hyd ei ddiwedd, trwy obeithio bod yn gadwedig yn ail i hwnnw; o herwydd maddeuodd Duw ei bechodau i hwn megis pe buasei efe Gristion edifeiriol newydd fedyddio: ag nid dim tebyg cyflwr y sawl a fo'n parhau yn ddi-edifeiriol hyd ei awr ddiwaethaf; oddieithr i chwi feddwl y dyleu ei flinder meddwl ef ar ei glaf-welu ag aflonyddwch ei gydwybod gael eu cyfrif am edifeirwch.
Ag etto dymma'r unig siampl sy'n gwneud [Page 308] i bobl ffolion hyderu y gwasanaetha edifeirwch y claf-welu iw gwared hwynt oddiwrth eu pechodau; Matt. 20. 1, &c. o herwydd nid yw'r Ddammeg sydd ynghylch y gweithwyr yn y winllan yn perthyn dim i'r pwrpas mewn llaw: y rhai a alwyd at eu gorchwyl mewn amryw oriau, megis rhai yn foreu, ag eraill y chweched, neu'r seithfed awr o'r dydd: Nid yw'r amrasael oriau yn y Ddammeg hon yn arwyddocau amryw oriau ein henioes, eithr amryw oesoedd y byd; ag am hynny y cyfriw orchwylwyr ag a alwyd i'r winllan ynghylch unfed awr a'r ddeg y byd, hynny yw, tua diwedd, neu oes ddiwaethaf y byd, galleu yr rhemi ddechreu ar eu gwaith yn nechreuad eu bywyd; a' pharhau i weithio o hyd tan eu Dydd Marwolaeth: O herwydd pwrpas y ddammeg honno yw, dangos y cae'r cenhedloedd y rhai a alwyd i'r winllan, neu a dderbyniwyd i Eglwys Grist tua diwedd y byd, fwynhau yr un rhydd-did a'r un addewidion a'r Iddewon, y rhai a alwasei Duw i'r winllan er y boreuddydd, ag o'r achos ymma y grwgnachent yn erbyn gŵr y ty; ag ni a wyddom ddarfod i'r Iddewon rwgnach felly, ag nid oedd dim yn eu gwneud hwynt mor wrthwynebus ag an-ewyllysgar i dderbyn yr Efengyl a hyn, sef fod y cenhedloedd yn cael eu croesawu i Eglwys Duw heb erioed enwaedu arnynt. A'r un peth y mae 'n Hiachawdr [Page 309] yn ei arwyddocau yn nammeg y mâb afradlon: Luc. 15 13, &c. Mae dyfodiad hwnnw yn ei ol i Dŷ ei Dâd yn arwyddocau edifeirwch y cenhedloedd, a'u bôd nhwythau hefyd i droi at Dduw ar ol bod yn afradlon jawn dros lawer o flynyddoedd. Y rhai'n yw'r brawd jeuengaf, a'r brawd hynaf a oedd yn wastad yn aros gartref gyd a'i Dâd yw eglwys yr Iddewon; a' phan ddarfu i'r Tâd groesawu'r jeuengaf ag arlwy a' llawenydd a' chroesaw mawr; aeth y brawd hynaf yn eiddigus ag a sorrodd a'r achos, ag a feddylieu fod ei dâd yn gwneud cam ag ef, o herwydd ei fôd yn dangos cymmaint anwyldra iw fâb afradlon, am hynny y sorrodd ag nis deueu i gymmeryddim rhan o'r wlêdd; felly y gwrthododd yr Iddewon yr Efengyl; o herwydd weled o Dduw yn dda alw 'r cenhedloedd, i fôd yn aelodau o'i eglwys ef.
Ag mae 'n hyspys wrth hyn mai dymma bwrpas y Ddammeg, o herwydd bôd y sawl a alwyd i'r winllan o gwmpas yr unfed awr a'r ddêg yn derbyn cystal cyflog, a'r sawl a weithiasent ynddi dan drymder y gwaith a' thês y Dŷdd. Ag mae hyn wedi syrthio allan yn nodedig; os addefwch fod y Ddammeg hon yn gosod allan amrafael oesoedd yr Eglwys, o herwydd achos da i'r cenhedloedd, er eu dyfod hwynt yn hwyrach i'r winllan i dderbyn cystal cyflog a'r Iddewon, sef, prîf bobl Dduw: ond os wrth hyn y [Page 310] deellwch amrafael amserau 'n bywyd, nid oes achos yn y bŷd i'r sawl na fo' ond dechreu byw yn Dduwiol ym mron ei fêdd, i dderbyn cystal cyslog a'r sawl a wasanaethent Dduw holl ddyddiau eu henioes; hynny yw, nid oes rheswm yn y bŷd i'r sawl na wnelo ond tippin bâch o ddaioni, i dderbyn cystal tâl a'r sawl a wnelo y cant cymmaint: o herwydd fod hyn yn union yn erbyn dammeg ein Hiachawdr, ynghylch y punnoedd a'r talentau: ym Matt. 25. 14, &c. Luc. 19. 12, &c.
Ond beth pe bae'r ddammeg hon i osod allan ag i arwyddocäu yn unig amryw amserau o'n bywyd ni, ag nid i arwyddocäu amryw eglwysydd, sef, yr eglwys Gristiannogol a'r Iddewaidd. Etto pa awr bynnag i'n gelwir i weithio yn y winllan, er hwyred fo', dyna'r amser cyntaf yr y'm yn derbyn ssydd Grist, ag yr y'm i'n cyfrif yn aclodau iw eglwys ef; ag ar ol hynny mae'n rhaid gweithio yn ddyfal yn y winllan, heb dŵyll na segurud, a' byw yn Dduwiol o hyd i'r eithaf: am hynny nid yw annodd gcnif gysaddeu, pe troe Iddew, Dwrc, neu Bagan yn Gristion ar yr unfed awr a'r ddêg, hynny yw, yn ei henaint, ag os myddhae ef i'r Efcngyl o hynny allan, nid oes le i ammeu nas cae ef gyflog da am ei boen: ond beth yw hynny i ni, y rhai y'm blant i Gristiannogion, ag wedi 'n bedyddio yn y man ar ol ein geni, ag wedi 'n [Page 311] dyscu yn y ffydd Gristiannogol, a'n dŵyn i fynu ynddi o'n crŷd, y rhai y'm yn proffessu ffydd Grist erioed hyd heddyw; er i'ni fyw fel pûr Baganiaid? Ar y boreuddydd y galwyd ni i'r winllan, nid ar yr unfed awr a'r ddeg; ag er y caiff y sawl a alwyd ar yr awr ddiwaethaf dderbyn taledigaeth am y gwaith a wnaeth yr awr honno; nid yw hynny yn dangos y caiff y sawl a alwyd i'r winllan yn foreu dderbyn ei gyflog am yr holl ddiwrnod, os efe a segura ag a warria ei amser mewn oferedd tan yr unfed awr a'r ddêg.
Ond gadewch i hynny fod hefyd, beth a berthyne hyn i edifeirwch gŵr ar eu glâf-welu; nid ydyw y cyfryw un yn oedi ei edifeirwch hyd yr unfed awr a'r ddêg yn unig, ond hyd na bo' yn nos, a' than na bo' prŷd gweithio wedi passio; eithr y sawl a ddaeth ddiwaethaf i'r winllan a gyflawnodd awr o waith, ag os felly, beth er bod Duw drwy ei fawr drugaredd yn rhoi cyflog da am un awr o waith, a ydyw hynny ddim i'r sawl na roes erioed mo ei law wrth waith? A wasanaetha ar ol byw naill ai yn ddiried ai yn ddiofal, ofyn maddeuant am fyw felly pan fo'n llawn amser cadw noswyl.
II. Ond ni a gawn weled yn hyspysach faint y mae'r cyfryw rai yn eu siommi eu hunain, os ystyriwn ni y fâth arall o edifeirwch, sef, edifeirwch ar ol Bedydd; Pan [Page 312] fo' dynion yn syrthio i bechu o newydd, ar ol golchi ymmaith eu holl hên bechodau ym medydd-faen yr ail-enedïgaeth; a' dymma'r unig edifeirwch yr y'm ni yn awr yn ymorol am dani; oblegid pan fo'r cyfryw bechaduriaid ar eu claf-welu, mae'n rhaid iddynt edifarhau am eu holl bechodau, er pan fedyddiwyd hwynt: ag mae hyn yn gwneuthur mawr ragoriaeth rhwng y ddau sâth o edifeirwch; o herwydd er y gwasanaetha ffŷdd ag edifeirwch i ennill i'ni faddeuant a' chyfiawnhâd bedyddiol wrth ein bedyddio, yr hwn edifeirwch sy'n arwyddocäu trymder a' gofid am y pechodau a bassiodd, a' llawn fwriad o fyw mewn ofn Duw rhagllaw; etto yn ein bedydd, yr y'm yn gwneud cyfammod a Duw y byddwn ni byth yn ufyddol iddo ef tros ein holl ddyddiau, ag y gwadwn bob anwiredd a' chwantau bydol, ag y byddwn fyw yn sobr, ag yn gyfiawn ag yn Dduwiol yn y byd presennol. Am hynny nid eill edifeirwch yn unïg, os edifeirwch yr y'ch yn cyfrif bôd yn drwm ag yn drîst o achos ein pechodau, ag amcanu byw yn Dduwiol, a' throi dalen newydd, (ag nid eill dyn ar ei glaf-welu addo dim pellach, na gwneud dim mwy) meddaf, nid eill y cyfryw edifeirwch yn ol ammodau'r Efengyl mor disgwil y gwneiff Duw gyfrif o honi, fel y gwnae o edifeirwch a' duwioldeb buchedd. Pe buasei 'r Efengyl yn dywedyd sel hyn; naill ai [Page 313] mae'n rhaid i chwi ymwrthod ac'h pechodau yn eich bywyd a'ch jechyd; neu mae'n rhaid i chwi edifarhau am danynt ar eich claf-welu, buasei hyn yn ddigon o reswm i hyderu ar edifeirwch y claf-welu; ond ar y llaw arall, os nad oes fodd i weled Duw ond trwy ddilyn buchedd Dduwiol, A bôd digofaint Duw wedi ei datcuddio o'r Nêf, yn erbyn pôb annuwioldeb, ag anghyfiawuder dynion; Ruf. 1. 18. ar ol rhoi i'ni rybudd diescus, Na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw: na thwyller chwi; ni chaiff na godineb-wyr, nag eulyn-addolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrrywgydwyr, na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeil-wyr, etifeddu teyrnas Dduw: 1 Cor. 6. 9, 10. Ar ol i'n hiachawdr ein rhybuddio, mai gwneuthurwyr y gair yn unig fydd gwynfydedig; mai nid pob un sydd yn dywedyd. Arglwydd, Arglwydd, a ddaw i mewn i deyrnas Nefoedd, ond yr hwn sydd yn gwneuthur ewyllys fy nhâd, yr hwn sydd yn y nefoedd: ag am bawb eraill, er maint eu hefcusion, Efe a addefiff iddynt: nis adnabûm chwi erioed: ewch ymmaith oddiwrthif chwi weithredwyr anwiredd. Matt. 7. 21, 23. Pwy bynnag, meddaf, ar ol rhybudd pennodol o'r fâth ymma, a ddichon ei fodloni ei hunan, y gwasanaetha ymbell ochenaid a' bwriad da ag addewidion têg ar glaf-welu iw ddŵyn i'r Nef, ar ol byw yn annuwiol o hŷd, a' [Page 314] throseddu y rhan fwyaf o orchmynion yr Efengyl, mae'n torri pôb pwnc sydd ynddi ag megis yn ei diffrwytho hi oll.
Ond chwi a ddywedwch, a wnewch chwi ddim cyfrif o edifeirwch dan yr Efengyl? a oes dim maddeuant am ein pechodau ar ol ein bedyddio? na atto Duw mo hynny, o herwydd pwy felly a ddichon fôd yn gadwedig? dymma ran o'n gweddi feunyddiol a ddyscodd ein hiachawdr i'ni. Sef, Maddeu ini ein dyledion fel y maddeuwn ninnau i'n dyledwyr; ag efe a orchymynnodd i'ni faddeu i'n brawd er iddo bechu in herbyn hyd onid saith ugain Seithwaith, Matt. 18. 21, 22. Fel y mae Duw yn ei fawr ddaioni yn maddeu i ninnau; ag os rhaid i'ni faddeu i'n gilydd cyn fynyched, diammeu y maddeu Duw fwy nag unwaith.
Eithr mae edifeirwch ar ol derbyn bedydd yn gofyn, nid yn unig brudd-der a' thrymder a herwydd ddarfod i'ni bechu; ond heblaw hyn mae'n gofyn ag yn galw am amcanion da dŵys difrifol, ag am newydd-deb buchedd, ag i'ni ymroi i ymadel a phôb cwrs drŵg: Yn y bedydd mae Duw yn cyfiawnhau 'r annuwiol, Ruf. 4. 5, hynny yw, er maint annuwioldeb pobl gynt, a'r drŵg a bassiodd, pa brŷd bynnag yr edifarhaont am eu pechodau, ag yr ymwrthodant a'u hên lwybrau cyfeiliornus, ag y credont Ynghrist, a' bôd mewn cyfammod gydag ef trwy fedydd; mae Duw yn y man [Page 315] yn maddeu idd ynt, ag yn golchi ymmaith eu holl bechodau gynt, heb sefyll ar ofyn adnew yddiad buchedd presennol. A dymma gyflwr yr Iddewon a'r cenhedloedd a droesent i broffessu ffydd Grist; y rhai a dderbyniwyd iw bedydd yn ddiatreg ar ol iddynt addo ymwrthod a'u buchedd annuwiol gynt yn ol cyngor St. Petr; edifarhewch, a' bedyddier pob un o honoch yn enw Jesu Grist, er maddeuant pechodau, a' chwi a dderbyniwch ddawn yr yspryd glân', Act. 2. 38. Ag yn yr un dydd y bedyddiwyd tair mîl o bobl, dymma râs yr Efengyl, yr hon a bwrrcasodd Crist â'i waed ei hun. Sef, fôd y pechaduriaid pennaf yn cael trugaredd trwy ffŷdd ynghrist ag edifeirwch, ag yn cael eu golchi oddiwrth eu pechodau trwy fedydd; ond pan fo' cyfammod rhyngddynt hwy a Duw wedi ei wneuthur yr amser hwnnw, hwy a fernir yn ol dull a' rheol y cyfammod, ag mae hwn yn gofyn i ddŷn fyw yn Dduwiol yn wastad; nid oes le i'r cyfryw rai i ddisgwil yn ol a ddywed St. Paul, os hwy a drigant yn wastad mewn pechod, yr amlhâ grâs; Mae y cyfammod o râs yr hwn yr y'm ni yn ei dderbyn yn ein bedydd, yn gwrthwynebu pob gobaith annuwiol o'r fâth ymma: oblegid, a ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y hyddwn fyw etto ynddo ef? oni wyddoch chwi am gynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Jesu, ein bedyddio ni iw farwolaeth ef? [Page 316] claddwyd ni gan hynny gyd ag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd deb buchedd, Ruf. 6. 1, 2, 3, 4. Dymma 'r rhagoriaeth y mae St. Paul yn ei wneud rhwng grâs yr Efengyl pan fo'r pechaduriaid mwyaf yn cael derbyn bedydd a' chyfiawnhâd trwy waed Crîst, a' phan fo'r Efengyl yn gorchymyn ag yn gofyn i bôb un, ar ol ei fedyddio, fyw o hynny allan yn wastadol mewn ystâd Dduwiol gyfiawnhäus: yn y cyflwr cyntaf nid rhaid wrth ddim ond ffŷdd ag edifeirwch, mae hynny yn ddigon, ag o'r achos hwnnw mae'r scrythyr lân mor arferol o ddywedyd mai ffydd sydd yn ein cyfiawnhau ni ag nid gweithredoedd y Ddeddf, a' chyfiawnhau yn rhâd trwy ei râs ef, trwy'r prynedigaeth sydd yn Ghrist Jesu, a' bod trwy râs yn gadwedig trwy ffydd, nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb, Ruf. 3. 20, 21, 22, 24. 5. 1. Eph. 2. 8, 9. Ag yr wyf yn meddwl, os cymerwn y boen i ymorol, y cawn weled mai'r vn peth yw cyfiawnder ffŷdd, a'r cyfiawnder yr y'm yn ei dderbyn trwy ein bedydd, pan fo' Duw yn gwneud cyfammod a nyni, ag yn ein derbyn i ystâd gyfiawnhaus, er mŵyn Crist yn unig, a' thrwy ffŷdd yn ei waed ef: a phe ystyriem hyn fel y dylem, gwnae hyn ben o bôb ymddadl ynghylch cyfiawnhâd, ag ynghylch ffydd, a' gweithredoedd da. Yr hyn bethau sy' rhŷ hîr yr awrhon [Page 317] i ddal sulw arnynt, etto cofiwch, gan fôd ein cyfiawnhâd ni trwy ffydd Grîst, i atteb i gyfiawnhâd yr Iddewon trwy enwaediad; a'r rhai'n wrth hynny yn rhwymedig i gyflawni 'r gyfraith a' gweithredoedd y Ddeddf, Felly cyfiawnhâd trwy ffydd yw'r cyfiawnhâd yr y'm yn ei dderbyn yn y bedydd, yr hwn sydd yn ein gwneud ni yn Gristiannogion, ag yn aelodau o Grist, ag yn blant i Dduw, a' dymma stâd o râs ag o gyfiawnhâd; Fel yr oedd yr enwaediad gynt yn gwneud yr Israeliaid yn bobl neilltuol. bechennogol i Dduw, wrth eu bôd hwynt mewn cyfammod ag ef: ag ni atteb y ddau gyfiawnhâd, sef, cyfiawnhâd y bedydd a chyfiawnhâd yr enwaediad mo eu gilydd, oni bai eu bôd nhw yn perthyn i'r un peth, sef, i'r cyfammod sydd rhyngom ni a Duw.
Ond pan y mae Duw yn ein cyfiawnhau ni trwy edifeirwch gyffredinol, a ffydd yn Ghrist wrth ein bedyddio, yr y'm yn addunedu y cŷd-ymffurfiwn a marwolaeth Crist wrth farw i bechod a' byw i gyfiawnder, a' rhodio mewn newydd-deb buchedd; hynny yw, yr y'm yn addunedu ufydd-dod hollawl i bôb gweithred dda a' gorchymyn y mae'r Efengyl yn ei osod o'n blaen ni; fel yr oedd yr enwaediad yn rhwymo yr Iddewon i gyflawni holl weithredoedd y Ddeddf. Gal. 5. 2, 3. A dymma''r achos paham y mae'r Apostol yn gosod gweithredoedd [Page 318] y Ddeddf a'r cyfiawnhâd yr y'm yn ei dderbyn trwy 'r Efengyl a' ffŷdd Grist gyferbyn a'u gilydd: Sef, cyfiawnder y Ddeddf neu gyfiawnder gweithredodd, a' chyfiawnder ffŷdd; am hynny, fel nad oedd yr enwaediad yn cyfiawnhau mor sawl a droseddai 'r gyfraith, felly nid yw ffŷdd yn cyfiawnhau neb a fo'n anufyddol i'r Efengyl, eithr fel y cyflawnid cyfiawnder y Ddeddf ynom ni, y rhai ydym yn rhodio, nid yn ol y cnawd, eithr yn ol yr yspryd, Ruf. 2. 13. 25, 26, &c. Ruf. 8. 4.
Os felly y mae, diammeu yw na wasanaetha i waredu Cristion ar ol er fedyddio, na thrymder o herwydd pechodau, nag oeheneidiau. na dagrau, nag ychwaith amcanion da heb fywyd Duwiol, os gwir a ddywed yr Efengyl. Ofer yw y rhain oll, os parhau a wnawn i fyw yn annuwiol; o herwydd nid yw y rhai'n yn gymmeradwy ger bron Duw ond yn y bedydd yn unig; ar ol i'ni gael ein derbyn gan Dduw, rhaid ini gyflawni ein haddewidion, neu mae'n rhaid i'ni golli 'r fantais o fòd yn fedyddiol, neu nyni y'm siŵr i golli y grâs a'r cyfiawnhad sy'n perthyn i'r bedydd; am hynny, pan elom i ail-bechu, ag i ail ddilyn cwrs drŵg ar ol darfod ein bedyddio; ni wasanaetha edifeirwch yn y bŷd i'n cymmodi ni a'n Duw, heb newydd-deb buchedd gyflawn, ddiymdro. O herwydd, fel nad yw arferol i'r un dŷn gael ei fedyddio ond un-waith, felly [Page 319] o'r grâs sy'n digwydd trwy fedydd, nid yw Duw yn gwneud mor aml gynnig o hono ef.
Ag yn fy marn i dymma'r peth y mae St. Paul yn ei ddywedyd yn y scrythyr hon a gyfrifir mor annodd iw deall. 6. Heb. 4, 5, 6. Canys amhossibl yw i'r rhai a oleuwyd unwaith, ag a brofasant y rhodd Nefol, ag a wnaethbwyd yn gyfrannogion o'r yspryd glân, ag a brofasant ddaionus air Duw, a' nerthoedd y byd a ddaw; ag a syrthiant ymaith; ymadnewyddu drachefn i edifeirwch, gan eu bod yn ail-groeshoelio iddynt eu hunain fâh Duw, ag yn ei osod yn watwor. Y lle tôst hwn a wnaeth lawer o ymryson ynghylch yr Epistol hwn, pa un ai ei fod yn rhan o'r scrythyr lân a'i peidio; o herwydd yr oedd rhai yn meddwl fod yr Apostol yn y fan yma, yn dywedyd nad oedd fodd i neb i edifarhau, os digwyddeu iddo ef syrthio i ddilyn cwrs pechadurus ar ol ei fedyddio: ond diammeu nad dymmeu feddwl yr Apostol; ag nid yw'r geiriau yn cynhwys dim o'r fâth athrawiaeth; ond hyn y mae'r Apostol yn ei feddwl: naill ai y geill dynion ar ol eu bedyddio, ag ar ol eu hathrawiaethu au dysgu yn y ffydd Gristiannogol, barhau i bechu hyd oni bo' yn amhossibl iddynt droi oddiwrth eu pechodau, ag edifarhau, (A dymma'r ffordd y mae y rhan fwyf o yscolheigion yn deall y lle hwn, ag yn y modd ymma yr wyfi fy, hun yn ei ddeall ef, fel y dywedais o'r blaen, ond nid [Page 320] dymma 'r cwbl y mae 'r geiriau yn ei arwyddocau) neu y geill dynion, ar ol eu bedyddio, a'u dŵyn i fynu yn y ffydd Gristiannogol, syrthio i'r cyfriw anghyflwr pechadurus, na ddichon dim eu gwaredu hwynt allan o hono, ond yr unrhyw râs ag a dderbynnir drwy fedydd ag ail-enedigaeth; a' chan nad ydys yn bedyddio neb ond unwaith, cyflwr tost anobeithiol yw cyflwr y cyfryw rai, yn ol cwrs yr Efengyl; Etto geill Duw yn ei fawr drugaredd ganhiadu iddynt râs mwy rhagorol nag i eraill; oblegid er nad allwn ni roi dim hyder ond ar y grâs y mae'r Efengyl wedi ei addo i'ni, etto nid yw Duw wedi rhwymo mo'no ei hûn, er ein bod ni yn gwbl rwymedig i'r moddion hyn. Am hynny mae'n rhŷdd i Dduw rannu ei râs i'r neb a fynno, a'r modd a fynno: Dymma gyflwr pob un sy'n ymwrthod a' ffŷdd Grist: Er mŵyn deall yn well y testyn yr wyf arno, amlygaf hyn i chwi ar fyr eiriau yn dippin eglurach.
I. Mae'r geiriau yn dangos yn eglur fod yr Apostol yn ymresymmu yn y fan ymma ynghylch y sawl sydd wedi derbyn bedydd, y rhai a oleuwyd un-waith, yr [...] yw'r sawl sydd unwaith wedi eu bedyddio, o herwydd dyna arwyddocäd y geiriau hyn, [...] a' [...] yn llyfrau 'r Hên Dadau; Fel y dywed Justin Martyr ei hun, yn ei ail amddiffynfa o'r ffydd, mai [...] y gelwir y bedydd, nen oleuad, o [Page 321] herwydd fôd y bedydd yn tanu goleuni dros ein heneidiau; a' phan y mae'r Apostol yn dywedyd ar ol eu goleuo unwaith, mae hyn yn arwyddocäu 'r bedydd yn ddigon eglur, oblegid nid ydys yn bedyddio neb ond unwaith: Ag mae'r geiriau sy'n canlyn yn eglurhau 'r pêth ym mhellach, mai dymma'r hyn y mae'r Apostol yn ei feddwl, sef, Ag a brofasant o'r rhodd Nefol; hynny yw, ar ol cael maddeuant am eu pechodau, trwy eu bedydd, medd St. Chrysostom; Ag a wnaethbwyd yn gyfrannogion o'r yspryd glân, yn y bedydd mae Duw yn cyfrannu yr yspryd glân: Ag a brofasant ddaionus air Duw; hynny yw ar ol eu hathrawiaethu ym mhynciau 'r ffŷdd Gristiannogol. Gwaith arferol yn amser yr Apostolion yn y man ar ol bedyddio un; o herwydd, yr amser hwnnw, yr oeddyd yn derbyn pobl i'r bedydd cyn gynted ag y proffesent edifeirwch a' ffŷdd Yn Ghrist; ag ar ol hynny yr oeddyd yn eu dysgu hwynt yn y Gristiannogol Grefydd: A' nerthoedd y byd a ddaw; hynny yw, y rhyfeddol ddoniau a roesei Dduw i'r Apostolion, i gadarnhau ffŷdd Grist, o ba rai y digwydde rhyw gyfran neu ei gilydd i bôb Cristion wrth ei fedyddio. Mae hyn yn gosod allan yn bûr eglur y bedydd a'i berthynasau.
II. Mae mor eglur fôd yr Apostol hefyd yn crybwyll, yn y fan ymma ynghylch y sawl a wadant y ffŷdd Gristiannogol; o [Page 322] herwydd y rhai'n yw'r [...], y sawl a lithrant ymmaith; oddiwrth ba beth? oddiwrth y broffes Gristiannogol a wnaethant wrth eu bedyddio; hynny yw, y sawl a ymwrthodant a ffydd Grist, ag a droant yn Iddewon, neu 'n Baganiaid eilwaith. O herwydd mae'r cyfryw rai Yn ail-groeshoelio Mâb Duw, ag yn ei osod yn watwor. Hynny yw, maent yn gosod allan mai siommedydd ocdd efe, a' chelwyddog, a' thwyllodrus, fel yr Iddewon pan oeddent yn ei groes-hoelio ef; a' dymma megis ei ail-groesholio ef, a'i gywilyddio, a'i ddirmygu o newydd, cym mhelled ag y gallont; eithr nid yw hyn yn perthyn ond i'r sawl a fo' wedi cwbl-ymwrthod a'r ffydd, a'i gwadu yn hollawl; o herwydd er bôd y sawl sy'n eu proffesu eu hunain yn Gristiannogion trwy eu pechodau yn euog o ddirmygu Crist mewn rhyw fesur, etto nid ydynt yn dangos mai siommedydd a' chelwyddog oedd efe, ag yr haeddeu efe ddioddeu ar y groes, ag y byddent fodlon iw fwrw ef eilwaith, pa bae ar y ddaiar: ym mhellach, gallaf warantu nad yw'r farn galed yn y scrythyr hon yn perthynu ychwaith ir sawl a orchfygir gan ofn dŵys trwm i wadu Crist fel Petr, neu i offrymmu i ddelwan yn ail i'r prif Gristiannogion, pan oeddent dan erlidiau y cenhedloedd, os gwedi hyn y digwydd iddynt hwy droi dalen newydd, ag edifarhau; o herwydd [Page 323] fôd y cyfryw rai yn credu yn Ghrist, nid dim llai er hyn ei gŷd, nid ydynt yn gwadu eu ffŷdd fedyddiol, am hynny nid ydynt yn colli mor lles-hâd a'r elw sy'n perthyn iw bedydd; er iddynt yn y cyfamser fod yn gwadu Crîst ar air a' gweithred; mae cyflwr y cyfryw rai yn gwbl beryglus, o herwydd mae'n hiachawdr yn dywedyd wrthym, Pwy byunag am gwado i yngwydd dynion minneu ai gwadaf ynteu yngwydd fy nhâd yr hwn sydd yn y Nefoedd, Matt. 10. 33.
Y sawl a barhaont gan ofn dŷn i wadu Duw, ni wnaiff eu ffŷdd ddirgel ddim lleshâd iddynt; oblegid nid yw ddigon credu yn Ghrist, ond mae'n rhaid gwneud prosses gyhoedd o'n ffŷdd yn ei enw ef: ond er hyn ei gŷd, gellir bodloni Duw Drwy edifeirwch, a' thrwy gyffesu ffydd Grist drachefn mewn peryglon a' phrofedigaethau trymion; Cristiannogion palledig yw'r rhai'n, ond nid allwn ni gyfrif eu bôd hwynt yn gwadu 'r ffydd fel Julian gynt, yr hwn oedd yn cwbl gas-hau Crîst ei hun a'i ffydd; am hynny yr oedd yr eglwys Gristiannogol yn derbyn eu hedifeirwch hwynt, o herwydd ni ddarfuasei iddynt mo lŵyr golli eu gafael o'u ffydd a'u bedydd, er iddynt mewn ofn a' dychryndod mewn rhyw fesur eu gwadu hwynt.
III. Mae'r Apostol yn dywedyd am y sawl sy'n dal i ymwrthod a Christ, ag iw wadu [Page 324] ef o hŷd, nad oes fodd i adnewyddu y cyfryw rai drwy edifeirwch [...] neu [...] yn ol St. Chrysostom, hynny yw, iw gwneud hwynt yn greaduriaid newydd trwy fedydd ag edifeirwch, neu edifeirwch bedyddiol, o herwydd mae'n dywedyd mai yr un peth yw, [...] ▪ a' [...] hynny yw, yr un peth yw adnewyddu, a' gwneuthur o newydd, ag nid oes dim a ddichon wneud hyn ond y bedydd, [...]: hynny yw, y bedydd yn unig a ddichon wneuthur creaduriaid newydd.
Dymma ynteu berygl cyflwr y cyfryw ddynion, fel y mae'r Apostol yn ei osod allan: sef, gan eu bôd hwynt wedi ymwrthod yn hollawl â ffŷdd Grist, y maent yn ymwrthod a'u bedydd o'r unwaith a'u ffŷdd, ag wrth hyn yn myned yn Iddewon ag yn Baganiaid eilwaith; yn awr nid oes fôdd i Iddewon ag i Baganiaid fod yn Gristiannogion, ond trwy dderbyn bedydd; ym mha un y mae'nt yn cael eu hail-eni, a'u hail-grëu; ag os felly, nid oes fodd i'r sawl a ymwrthodo a'r ffŷdd, i'r Cristiannogion, meddaf, a wado 'r ffŷdd, a'r ol iddynt fyned yn Iddewon, ag yn Baganiaid, mor dychwel yn Gristiannogion eilwaith, oddieîthr iddynt gael eu hail-fedyddio; ag nid eill hynny mor bod, o herwydd nad oes ond un bedydd yn Eglwys Grîst; am hynny, bwriwch bêth pe digwyddeu i'r [Page 325] fâth ymma gredu eilwaith, ag edifarhau am eu pechodau, nid oes ganddynt ddim hawl ar drugaredd, ag ar yr addewidion yn ol cyfammod yr Efengyl; nid ydyw ffŷdd ag edifeirwch ddim yn ddigon i gyfiawnhau y cenhedloedd, os yw'r bedydd yn eisiau, oblegid y sawl a gretto ag a fedyddir a fydd cadwedig, y rhai'n yw yspysol eiriau y cyfammod: Am hynny, nid oes fawr obaith o iechydwriaeth y sawl sy'n gwadu Duw, o herwydd wrth hyn y maent wedi dymchwelyd a' thramgwyddo i'r cyfryw gyflwr, nad oes dim ond grâs y bedydd, ag ailenedigaeth a ddichon eu gwared hwynt, dim ond bod yn greaduriaid newydd, a chael eu hail-eni; ag nid oes iddynt fodd i gael hynny o herwydd nid ydys arfer, ag ni fyn Duw fedyddio neb ond unwaith. Nis genir y Cristion mwy nar dŷn ond unwaith; ag mae'n ddigon cyffelyb mai dymma 'r achos y mae St Petr yn dywedyd am y cyfryw rai, sydd wedi syrthio oddiwrth y ffydd, fod Eu diwedd yn waeth na'u dechreuad, 2 Pet. 2. 20. O herwydd er maint pechodau 'r Iddewon neu'r cenhedloedd, yr oedd i'ddynt fôdd i'w glanhau eu hunain oddiwrthynt yn y bedydd. Ond y cyfryw rai sydd wedi ymwrthod a'r ffŷdd, sydd yn ail i'r hŵch a fo' wedi ei glanhau unwaith, etto yn dychwel i ymdroi mewn budreddi: Ar ol iddynt un-waith eu glanhau eu hunain oddiwrth eu pechodau a'u hanghrediniaeth [Page 326] yn eu bedydd, y maent yn cymeryd i fynu eu ffyrdd Paganaidd drachesn, ag yn colli eu purhâd a'u golchiad cyntaf, ag nid oes v̂n ail-olchiad iw gael trwy fedydd.
Nid ydyw'r Apostol yn dywedyd nad oes fôdd i'r rhain i fôd yn gadwedig, ond nad oes fôdd iddynt gael eu hail-eni trwy fedydd eilwaith, yr hwn yw 'r unig fôdd i fôd yn gadwedig yn ol cwrs a' rheol yr Efengyl: os bydd yr ûn o'r rhai'n yn gadwedig, maent yn rhwymedig am eu hiechydwriaeth i drugaredd ddi-ammodol; y mae'nt yn yr v̂n cyflwr ag Iddewon a' Phaganiaid cyn eu bedyddio. Nid dim tebyg eu cyflwr i Gristiannogion sydd ganddynt hawl dda ar addewidion Duw. Ag mi a chwennychwn i'r rhai di-Dduw a'r anghredadwy sydd yn ein mysg, ddŵys ystyrio hyn, o herwydd mae y rhai'n yn debyg eu cyflwr ir lleill; ag mae gwîr achos iddynt arswydo am eu doeth-watwor Duw, pan fo' eu heneidiau mewn cymmaint perygl.
Ond i droi hyn ei gyd at ein pwrpas presennol; mae'r rhesymmau a osodais yn awr ar lawr, yn dangos yn cglur nad oes i Gristion mor achos i ddisgwil, y caiff efe fôd yn gadwedig trwy yr v̂n fâth râs, ag sy'n gwaredu, ag yn cyfiawnhau dynion wrth eu bedyddio. Nid yw grâs y bedydd iw gyfrannu i ddim arall ond i'r bedydd yn unig, ag nid yw, ddim amgenach na'r bedydd, ond unig a' di-gyfrannol: A dymma'r [Page 327] peth sy'n gwneud cyflwr y sawl a wadant y ffydd mor anobeithiol, mai bedydd yw 'r unig beth a wasanaetha i lanhau dyn oddiwrth ei anghrediniaeth, ond y sawl a wado'r ffydd ar ol eu bedyddio, nid oes fodd fyth i fedyddio y rhai'n drachefn, am hynny, nid oes ganddynt ddim hawl ammodol ar gael trugaredd a' maddeuant.
Ag mae hyn mewn rhyw fesur yn perthyn i'r matter ò'n blaen ni, sef, ein testyn presennol; fod grâs y bedydd yn golchi ymmaith ein holl bechodau a aethont heibio, er maint, ag er amled ydynt, o herwydd nad y'm ond proffesu ffydd Grist yn unig, a' phroffesu ein bod yn edifeiriol am ein pechodau, ag o herwydd ein bód yn addunedu byw rhagllaw yn ufyddol i orchymynion Crist, ond pwy bynnag a fo'n dilyn cwrs pechadurus ar ol ei fedyddio, ag er hyn yn gobeithio y caiff fyned i'r Nef, o herwydd ei fôd yn credu yn Ghrist, ag o herwydd fod yn ddrŵg ganddo ddarfod iddo bechu, ag o herwydd wneud o hono addunedau o fyw yn Dduwiol, pan fo', ni hwyrach, yn union yn myned i farw, ag ym mron ei fêdd, gresynnol ydyw ei gam-gymmeriaeth ef; o herwydd nid yw grâs o'r fath ymma ddim angenach na grâs y bedydd, ag nid yw hwn yn gymmeradwy ger bron Duw ond unwaith, nid wrth hwn y mae Duw yn arfer o farnu Cristiannogion bedyddiol, a fo'nt wedi cael hîr amser i fyw ar y ddaiar, ag i [Page 328] osod allan, ag i arferu y moddion Duwiol, a'r rhinweddauda sydd rwy medig arnynt drwy eu haddunedau bedyddiol.
Y sawl a fo'n cyfaddeu ag yn proffesu ffydd Grist, er iddo dros ennyd fyw yn annuwiol; nid yw hwn yn cwbl golli ei fedydd, ond maddeuiff Duw iddo, pa bryd bynnag yr edifarhao, ag yr ymadawo a'i bechodau, ag y dilyno fuchedd newydd; ond os parhaiff yn ei gwrs pechadurus cyd; fel na bo' ganddo yr awron ond tippin bâch o amser i wellhau ei fuchedd, ond prin amser i addo byw yn Dduwiol rhagllaw, mwy nag a allwyf ei warantu yw, y caiff y cyfryw ddyn faddeuant gan Dduw ar ei awr ddiwaethaf; oblegid mae 'r Efengyl yn gorchymyn i'ni fyw yn Dduwiol, tra y bo'm ni yn ein bywyd a'n hiechyd, ag nid digon edifeirwch y claf-welu: Mae blîn a tbrwm feddwl o achos pechod, calon ddrylliedig, ag addunedau o fyw yn Dduwiol yn darparu pobl yn gymhwys i dderbyn eu bedydd, ag yn gymmeradwy ger bron Dduw, megis dechreuad bywyd Duwiol, ond er hynny, nid oes achos i ddisgwil, fód y pethau mor gymeradwy o flaen Duw, pan fo'm yn ar ein claf welu ag ym mron ein bêdd. Pan fo'm yn thrwm-ddiweddu buchedd annuwiol. Mae Duw yn ein derbyn ni i'w drugaredd, a' noddfa ei râs pan i'n bedyddier, a ninneu yn addunedu byw iddo ef; ond ni roes Duw i'ni moi [Page 329] air yn unlle, y byddeu ef fodlon i'r addunedau a wnaem a ninneu ym mron marw, yn lle byw yn Dduwiol ag yu lle ufydddod, y byddeu hyn yn gwbl jawn am anwiredd a' ffoledd ein holl fywyd. Yn an-aml y mae'r cyfryw addunedau yn bûr ag yn ddiragrith, ond byddant buraf a' difrifaf y gallont (o herwydd yn an-aml y mae'r dyn clâf drŵg ei fuchedd, er maint yw ei addunedau, yn troi i fyw yn Dduwiol, ar ol ei fyned yn jâch, ond pan wnelo felly mae hynny yn arwyddocäu ei fod o ddifrif) meddaf, er hyn, nid wyfi gydnabyddus ag un addewid yn yr holl scrythyr lân, y maddeu Duw i bechadur edifeiriol ar ei ddydd diwaethaf, os efe a oeda ei edifeirwch hyd oni bo' efe yn barod i ddychwel i'r bêdd; Mae'r Efengyl yn gofyn edifeirwch parod, di-oed; a phan fo' Duw yn torri ymaith y cyfryw rai yn eu pechodau, heb lwfio iddynt mor amser i wellhau eu buchedd; mae achos mawr i ammeu nad yw yn gwneud dim cyfrif o'u pryddder a'u haddunedau hwynt; yn ol y mae doethineb yn ei fygwth, Dihar. 1. 24, &c. Yn gymmeint ag i mi eich gwahodd, ag i chwitheu wrthod, i mi estyn fy llaw, a neb heb ystyried.—Minneu hefyd a chwarddaf yn eich dialedd chwi; mi a wawdiaf pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni.—Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn foreu i'm ceisiant, ond ni'm cânt. Ni pherthyn i mi bassio barn ar [Page 330] y cyfryw ddynion, ond os Duw a wêl yn dda dderbyn y cyfryw edifeirwch ddiffrwyth ddi-suchedd, nid allaf ddywedyd ei fòd yn well na'i air, ond ei fòd yn well na'i addewid, ag ni roes efe i'ni awdurdod yn y byd i bregethu y gwnae efe fel hyn: am hynny da y dylem ni ystyried faint yw'n perygl, os nyni a oedwn edifarhau am ein pechodau, nad allwn ni ddisgwil bôd yn gadwedig yn ol cwrs a' rheol yr Efengl, ag os cadwedig fyddwn, mae'n rhaid bòd yn rhwymedig i drugaredd anammodol; ond ni ddylem ni mor hyderu ar hyn er bod Duw yn bûr ddaionus. Mi a wn eich bôd yn meddwl fod hyn yn dôst, ond nid oes help am hynny; geill hyn ddychrynnu y rhai anfucheddol ar eu dydd diwedd; ond mae llai o niwed yn hynny nag yn swccrio pobl i fyw yn eu pechodau ag mewn siommedig obaith, y gwasanaetha edifeirwch ym mron marwolaeth. Ag os gwîr hyn, gwaith ofer ceifio troi neb i fyw 'n Dduwiol, ag yr wyf yn ofni yn fy nghalon fód pwy bynnag sy'n hyderu ar hyn, yn myned yn rhŵydd rhagddo i uffern.
Os chwychwi a ofynnwch i'mi, paham nad yw ffŷdd ag edifeirwch y claf-welu, pan fo' gŵr ym mron ei fedd, heb ufydddod bnchedd, mor gymmeradwy ger bron Dnw ag ydynt yn y bedydd? Gyfynnaf inneu i chwithau un Cwestiwn rhŵydd, sef, ar ol i ryw winllan-wr gyflogi ar ryw soreu-ddydd [Page 331] ryw weithwyr i weithio yn ei winllan, a'u derbyn hwynt iw wasanaeth a'i dŷ, ag addo iddynt gyflog, os y nhw a fyddant nfydd a' gofalus yn ei orchwyl ef, er nas darfu iddynt etto gymmaint a rhoi na llaw na throed ar raw, meddaf, ar ol i'r rhai'n seguro a gwarrio 'r diwrnod yn ofer ag yn ddi-waith, paham nad ydyw yn myned ynghylch talu eu cyflog gyd a'r nós, oblegid fod yn edifar ganddynt y prŷd hwnnw, eu bôd mor ddiofal ag mor segur drwy'r dydd? Ag oblegid eu bôd yn addo yn dêg, pe baent i ddechreu drachefn, faint o waith a wnaent? Yr oedd iddo ef ddigon o achos iw cyflogi hwynt, ag i addo tâl iddynt, o herwydd hwy a addawsant wrtho fôd yn weision ufydd, dyfal; ond nid oes iddo ef mor achos i dalu iddynt, am eu bòd yn dywedyd fod yn ddrŵg ganddynt, na buasent wedi cyflawni eu gwaith ar ol myned heibio o brŷd gweithio, ond gwell yr haeddent eucofpi am eu segurud.
Dymma, gan hynny ynteu, fel y mae'r pêth yn sefyll; Nid oes dim myned i'r Nef ond trwy drugareddau Duw, a' haeddigaethau Crist, o ba rai yr y'm yn gyfrannogion o achos yr undeb sydd rhyngom ni ag ef: yn ein bedydd yr y'm yn mwynhau yr undeb hwn, trwy gael ein cŷd-gorpholi a chorph Grist, ag o'r munyd cyntaf o'r undeb ymma allan, yr y'm yn sefyll mewn cyflwr o râs a' chyfiawnhäd. Mae Crîst yn [Page 332] golchi ymmaith ein pechodau ni trwy ei waed ei hun, fel y mae dwfr yn golchi ymmaith bob ffieidddra corphorol, ag mae yspryd Duw yn trigo ynom, i'n hadnewyddu a'n sancteiddio ni. Yn awr nid yw Duw yn gofyn, ag nid rhaid wrth ddim arall i wneud y cyfundeb ymma, ond bòd yn edifeiriol am ein holl bechodau, ag ymwrthod a phôb cwrs pechadurus, a phroffesu ffydd yn Ghrist, ag mai efe yw mâb Duw, ag jachawdr y bŷd, ag addo byw yn ufyddol i'w orchymynion ef: Oblegid fôd hyn yn ein cymhwyso ni i fod yn ddiscyblion ag yn weision iddo ef, ag i fod yn aelodau o'i gorph ef ag o'r Eglwys, am hynny mae'r ffydd a'r edifeirwch ymma yn cyfiawnhau dynion yn eu bedydd; o herwydd pwy bynnag a edifarhao fel hyn am eu bechodau, a dderbynnir i'r bedydd; ag yn y bedydd y mae maddeuant pechodau iw gael a' grâs a' chymmod Duw.
Ond er bod ffydd ag edifeirwch, ag addunedau o fyw yn Dduwiol, yn ddigon i roi i'ni yr enw, ag i'n gwneud ni yn ddiscyblion i Grist, ag i'n rhoi mewn stâd gysiawnhäus, etto nis gwasanaethant i waredu y sawl fy'n ddiscyblion yn barod, oddieithr iddynt heblaw hyn fod yn byw yn Dduwiol; o herwydd nid discybl i Grist yw y sawl a fo' yn unig yn credu ynddo, ag yn addo byw yn fucheddol, ond y sawl a fo'n cyflawni 'r addewid hon, ag yn y ufyddhau [Page 333] iddo ef: Mae'n ddigon cymmwys i Dduw ein derbyn ni i'w wasanaeth, os nyni a addäwn ufyddhau iddo, ond nid oes achos yn y bŷd i ddisgwil cyflog, os nyni a esceuluswn gyflawni ein haddewid; o herwydd, gwaith ofer i'ni ddisgwil yr edrych Duw arnom mewn trugaredd, o achos ein hamcanion diffrwyth, ag o herwydd fôd yn ddrŵg gennym ddarfod i'ni bechu yn ei erbyn, os nyni a barhawn i fyw yn annuwiol: a ufyddhaodd y mâb hwnnw i ewyllys ei dâd a ddywedodd, Mi a âf, er nas syflodd o'i unfan? Na ddo un ddiammeu. Gwaeth o lawer yw'n cyflwr ni, a' mwy hefyd yw ein hanyfydd-dod, os parhawn i fyw yn annuwiol ar ol ein haddunedau bedyddiol, ag os bwriwn heibio edifarhau, nes y bo'm yn barod i'n rhoi ar yr elor. Os ystyriwn y rhagoriaeth fydd rhwng y ddau bêth hyn, sef, pa amryw ddyledswyddau y mae Crist yn eu gofyn oddiar law ei ddiscyblion, cyn, a' chwedi bedydd, bydd hawdd gweled yr achos paham na wasanaetha 'r, ûn ffydd ag edifeirwch in cyfiawnhâu ni pam fo'm ar ymadel a'r byd, ar ol dilyn buchedd annuwiol; ag sy'n gwasanaethu i'n cyfiawnhau ni yn ein bedydd; O herwydd, pan fo' Gristion bedyddiol ym mron marw, nid oes lê iddo ddisgwil cael ei wneud yn ddisgybl i Grist trwy dderbyn bedydd eilwaith, ei waith a'i sŵydd yr awron yw, rhoi ei gyfrif i fynu, ag i ddangos [Page 334] pa wasanaeth a wnaeth er pan gymmerodd arno fod yn ddiscybl i Grist, ag er y gwasanaetha yn unig gredu yn Ghrîst ag addewidion o ufydddod ag edifeirwch heb Dduwioldeb presennol, i wneud discybl trwy Sacrament y bedydd, etto ni wnânt fymryn o lês i'r sawl a fo'n ddiscybl yn barod; pan fo'n myned i roi ci gyfrif i fynu: yn enwedig pan na bo' ganddo ddim i gynnig i Dduw ond ei bechodau, a'i addunedau diffrwyth, oblegid nid dymma mor bywyd Duwiol y mae Crist yn ei ofyn oddiar law ei ddiscyblion.
Gwyddeu bawb hyn yn y brîf Eglwys, fôd Duw yn gofyn llawer mwy gan Gristion ar ol nag o flaen y bedydd: yn amser yr Apostolion, yr oedd yr Iddewon a'r Paganiaid yn cael derbyn bedydd, cyn gynted ag y proffesent ffŷdd yn Ghrist, a chyn gynted ag yr ymwrthodent a'u buchedd annuwiol; ond os digwyddeu iddynt syrthio i ryw pechod gwradwyddus, ffiaidd, ar ol derbyn bedydd, yr oeddyd yn eu hescymmuno hwynt, ag nid digon i'w tynnu o dan escymundod, oedd bód yn edifeiriol yn unig; ond yr oedd yn rhaid iddynt ddwyn eu penyd, er mŵyn siampl i erail, ag er mŵyn rhoi gwell siccrwydd o adnewydd-deb eu buchedd; ag yn yr oesau Nessaf at oes yr Apostolion, yr oedd rhai yn parhau i ddŵyn penyd tros lawer o flynyddoedd, ag weithieu nid oedd yr Eglwys [Page 335] yn rhyddhau mo'nynt oddiwrtho ond ychydyg bâch o amser cyn eu Marwolaeth. Yn awr pe buasai'r prîf Gristiannogion o'r un feddwl a' ni; sef, yn meddwl nad eill Duw lai na meddeu 'n pechodau, os bydd gwiw genym ni addaw byw yn Dduwiol, er darfod ini dorri addunedau ein bedydd yn aml ag yn rhyfygus: paham yr oeddynt yn dal pób drŵg-weithredwr cŷd dan benyd: os oeddynt yn meddwl fod Duw wedi maddeu iddynt, paham na faddeueu yr Eglwys iddynt hefyd, a' pha ham na dderbynieu hi hwynt iw chymanfa a'i chymmun ar eu gair? heb ofyn cymmaint o siccrwydd ganddynt o fyw yn Dduwiol, heb aros cŷd i roddi prawf iddynt o adnewydd-deb eu buchedd? Ond nid oes dim siccrach, na'u bod nhw 'n meddwl, nad oedd fódd i'r sawl a becheu ar ol ei fedyddio, gael maddeuant, oddieithr iddo ef droi yn hollawl oddiwrth ei bechodau trwy adnewyddu ei fuchedd, am hynny nid oeddynt arferol o ryddhau pechaduriaid oddiwrth eu hescymundod, nes gweled hîr brawf o'u buchedd newydd hwynt. Ni a wyddom fòd llawer o ymryson ag ymddadleu ynghylch y matter ymma yn y brîf eglwys; nid oedd y brîf reolaeth yn cyfrif y gellyd edifarhau ond unwaith, ar ol derbyn bedydd, ag yr oedd rhai yn erbyn lwfio cymmaint ag unwaith i'r sawl a oedd yn euog a odineb, o Fwrddwr, neu ddelw-addoliaeth. Ag yn dal [Page 336] nad oedd gan yr eglwys mor awdurdod i dderbyn y cyfryw bechaduriaid iw chymmanfa a'i chymmun eilwaith; Dymma ddechreuad Schism Novatus, ag fe a scrifennodd Tertullian, ar ol troi yn Fontanist, lawer o bethau tôst yn erbyn y Cristiannogion gwir-grefydd ar yr ûn testyn: megis yn ammeu, na wasanaetheu edifeirwch, er iddi adnewyddu buchedd; i achub enaid y sawl a ddychweleu ag a dröeu i bechu ar ol derbyn bedydd. Ond ni ddylasei ddywedyd mo hyn ddim, mae hyn yn rhŷ dòst o lawer, ag yn lleihau grâs yr Efengyl, a'r awdurdod a roes Crist i'w eglwys; etto wrth hyn, gallwn ddeall eu bôd hwynt yn y brif eglwys yn ddigon pell oddiwrth feddwl y cae ddŷn fyned i'r Nef, am addaw byw yn Dduwiol, ag o achos calon ddrylliedig, pan fon't ym mron ymadel a'r byd: os dymma farn y prif Gristiannogion yn y pêth, pwy na arswydeu oedi ei edifeirwch hyd ei ddydd diwedd, os ym marn y prif Gristiannogion nid yw'r cyfryw edifeirwch ddim tebyg i waredu pechaduriaid?
PENNOD IV.
Ynghylch ofn marw, a' pha fôdd i farw yn ddi-arswyd.
YN aml y gelwir yr Angau, y Brenhin ofnadwy, a' gwir yw 'r gair, o herwydd nid oes arnom chwarter cymmaint o ofn [Page 337] dim arall. Mae'n gnawd i ddyn garu eî enioes, ag mae hyn yn peri î'ni gas-hau marw, a' chymmeryd y gofal mwyaf i ochel marwolaeth: Mae'r ofn ymma yn naturiol i bôb dŷn: ond chwanega'r ofn hwn, a' bydd yn an-haws marw o lawer, i'r sawl a fo'n caru 'r bŷd hwn, ag yn rhoi ei serch arno, ag yn cael ei fŷd wrth ei fôdd, bŷdd yn anhawdd gan hwn ymadel ag ef; a' bydd hefyd yn anhaws fyth gan y dŷn hwnnw ymadel a'r byd hwn, a fo' wedi byw yn annuwiol, ag yn euog o lawer o ddrŵg, ag yn ofni cael ei gospi yn y bŷd a ddaw; amryw fathau ar ofn yw y rhai hyn; am hynny ystyriaf bob un ar ei ben ei hun.
I. Mae ar bôb dyn ofn marw, o herwydd fôd yn naturiol i ddŷn wneud ei oreu i gadw ei enaid a'i gorph gyd a'u gilydd hwyaf y gallo. Oblegid melus yn ddiau yw'r goleuni, a' hyfryd yw i'r llygaid weled yr haul, Preg. 11. 7. Mae'n dda gan bôb dyn ei fywyd ei hun, ag os da ganddo, nid eill lai nag ofni marw: mae pob dyn yn gwybod hyn wrtho ef ei hun, i ddyfod o hyd i'r wybodaeth hon, nid rhaid wrth hîr ymholi.
Mae achosion da pam y mae Duw wedi plannu yn naturiaeth pôb dyn an-ewyllysgarwch i farw, o herwydd fôd hyn yn gwneud iddo gymerÿd gofal gyd ag ef ei hûn, a' gochel pob pêth a fo' tebyg i wneud diben o'i fywyd, neu a fo' tebyg i fyrhau ei fywyd ef. Mae hyn yn help i rinweddau da mewn llawer mòdd: mae'n ein cadw ni [Page 338] rhag llawer o bechodau peryglus, afradlon, a' destrywgas, ag wrth hynny yn gwneud mawr les-hâd i'r deyrnas; ag mae'n gwneud i ddyuion ofni bôd mor ddrwg a haeddu eu crogi: a' chan fôd ofni marw mor llesol i'ni ein hunain, ag i eraill hefyd, achos da i'ni fôd yn fodlon i'r ofn hwn, er iddo fôd yn gwneud y meddyliau ynghylch marwolaeth, yn feddyliau gô an-esmwyth; yn enwedig os ystyriwn pan na bo achosion eraill yn y byd yn helpio ychwanegu yr ofn naturiol hwn, mae'n hawdd ei orchfygu, neu ei bylu o'r lleiaf, trwy synwyr a' doeth ystyriaeth. Nid yw'r ofn hwn mot nerthol, nad ellir ei orchfygu. Mae blinderau a' chroesau y bywyd hwn yn fynych jawn yn gwneud i'ni grefu am gael mawr: Paham y rhoddir golcuni i'r hwn sydd mewn llafur? a' bywyd i'r gofidus ei' enaid? y rhai sy'n disgwil am farwolaeth ag heb ei chael, ag yn cloddio am dani yn fwy nag am dryssorau cuddiedig y rhai a lawenychant mewn hyfrydwch, ag a orfoleddant pan goffont y bêdd. Job, 3. 20, 21, 22. Dewisei fy enaid ymdagu: a' marwolaeth yn fwy nam hoedl: ffieiddiais enoies, ni fynnwn fyw byth: paid a mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau, Job, 7. 15, 16. Ag os dichon dioddefiadau presennol orchfygu ofn marw; fe ddichon gobaith am fywyd tragwyddol orchfygu yr ofn ymma yn diammeu: óblegid nid yw'r ofn hwn yn brîf-berthynasol i ddyn, hynny yw, pan greawdd Duw ddyn yn y cyntaf, [Page 339] nid oedd arno ddim ofn marw, ond er byn, mae efe yn awr yn tarddu allan o'r cariad sydd genym tuag attom ein hunain; oblegid fod yn dda genym ein bywyd an henioes. Am hynny, pe medrem wahanu ofn marw, a'r cariad sydd genym tuag attom ein hunain oddiwrth eu gilydd, byddeu hawdd i'ni wedi hynny orchfygu ein hofn: Pan fo' pobl yn gweled nad ydyw eu hoedl ond yn llawn o boen a' blinder, nid yn anaml y gwelwn hwynt yn dŵys chwennychu marw; a' phe credent yn hollawl fod marwolaeth yn eu troi hwynt at fywyd mwy dedwyddol, ni fyddeu fawr anhawsach di-wisco ein cyrph, na diwisco ein dillad, neu newid hên dŷ candryll, am dŷ newydd mwy tirion a' chyfleus.
Os medrwn roi heibio ein harswyd naturiol, tra bo'm yn ymorol beth yw'r achos i fód ar bob dyn ofn marw; cawn weled nad oes ond dau bêth yn gwneud i'ni ofni marw; naill ai mae dynion yn ofni fôd marwolaeth yn gwneud llŵyr ben am danynt, neu nis gwyddont beth a ddaw o honynt ar ol eu marw, ag am hynny mae yn anhawdd ganddynt newid y bywyd presennol, yr hwn sydd yn gwbl wrth eu bôdd, am y peth nas gwyddont oddiwrtho. Ond mae'r Efengyl yn atteb yn ddigon llŵyr ag yn eglur i'r rhesymmau hyn, drwy osod o'n blaen ni fywyd ag anfarwoldeb, a' phan na bo' i'ni mor achos i ofni marw, nid oes amgenach cyfrif i'w wneud o'r ofn ymma, [Page 340] na hyn: sef, ei fòd yn ein helpio ni i fód yn fodlon i fyw, ond nid yn an-ewyllysgar i farw, o herwydd y sawl a so' a'i lawn olwg ar fyd newydd, gogoneddus, ag ar fywyd tragwyddol, byddeu flin ganddo, beidio ag ym-symmudo i'r fan lle y ma'ent, oni bai fod marwolaeth yn gyfrwng rhwng y byd hwn a'r byd a ddaw; mae hon trwy'r arswyd naturiol sydd arnom o'i phlegid, yn ein dychrynnu ag yn gwneud i'ni droi yn ol; er bòd ein rheswm yn gwarantu i'ni, na ddyleu 'n marwolaeth godi arnom yr ofn lleiaf.
Ar fyr i chwi, dymma fel y mae; nid oes le ini ddifgwil y gallwn byth orchfygu 'r arswyd naturiol ymma yn hollawl. Dymuniad St. Paul ei hun oedd, Nid ei ddiosc, ond ei arwisco, fel y llyngcer yr hyn sydd farwol gan fywyd, 2 Cor. 5. 4. Oni bai fôd an-ewyllysgarwch naturiol, ag arswyd marw yn gymmysgedig a'n gobaith o fyw yn dragywydd, ni fyddeu ferthyrdod ei hûn, a' dioddeu er mŵyn y ffydd ond rhinwedd brin; ond er nas gellir gorchfygu'r arswyd naturiol hwn yn hollawl, gellir ei ddofi ef a' thynnu ei golyn, a'i wneud yn abl gwâr, ag agos ei ddiddymmu trwyffyddlon gredu y dylem ddisgwil am ogoneddus anfarwoldeb; am hynny, yr unig fôdd i'ni i'n hymddiffyn ein hunain yn crbyn arswydau naturiol ag ofn marw, yw, i'ni geisio ein cadarnhau ein hunain yn y ffydd hon: sef, nad ydyw marwolaeth yn gwneud llŵyr ben am danom, a' [Page 341] bód ein heneidiau ni yn byw mewn cyflwr ag ystâd ddedwyddol ogoneddus, er bód ein cyrph ni yn pydru yn y bêdd, ag y cyfodir y cyrph marwol llygredig nhwythau, pan gano 'r udcorn, yn gyrph an-farwol gogoneddus. Y sawl a gredo hyn, ni bydd iddo mor achos i ofni marw: eithr yn hytrach i fód yn ddi-ofn, ag os felly, geill feddwl am ei ddiwedd cyn amled ag a fynno yn ddigon hŷf; er nad yw yn gwbl ddi-arswyd o achos gwendid ei naturiaeth.
II. Ond heblaw bod ar bob dyn arswyd marw, mae'r rhan fwyaf o ddynion mor anwyl o'r byd, ag na bo' hawdd iddynt ymadel ag ef; dywedwch a fynnoch am y byd a ddaw, a'i ogoniant ef; mae'r byd ymma a'i ddedwyddwch oll o flaen eu llygaid, ag mae'n gwbl wrth eu bódd, ag nid ydynt yn disgwil byw ddim gwell yn unlle arall, am hynny ni syflant oddi ymma o'u bodd, pe caent eu dewis: ag mae'n ail i farw fód yn rhaid iddynt ymadel a'u meddiannau anwylaf, a' gadel eu holl ddifyrrwch o'u hôl: ag nis gwn i fodd yn y byd i ddiarswydo y cyfryw rai, ond trwy ddangos iddynt eu cam-gymmeriaeth, a' thrwy helpio agor eu llygaid fel y gwelont wagedd y byd hwn, a disglair ogoniânt y byd a ddaw.
Mae llawer o ragor rhwng graddau cariad dynion tuag at y byd, am hynny nid yr v̂n driniaeth a wasanaetha i'r naill ddyn a'r llall. Mae rhai megis yn gnawd ei gyd, ag nis clywant flâs yn y byd ar bleserau [Page 342] gwrol, rhesymmol, a llai o flàs a glywent pe bae bossibl, ar bleserau ysprydol; caethweifion i'w chwantau ydynt, mae'nt yn llawn borthi eu chwantau anifeilaidd: Y byd yw eu Duw hwynt, ag maent yn dottio ar eu gyfoeth ef, ar ei bleserau, a'i fawredd; y rhai'n yw eu hunig dryssor, ag yn eu barn hwy, nid oes fôdd i ddim fôd yn well; felly nid heb achos y mae'r rhai'n yn ofni marw; oblegid pan ymadawont a'r byd hwn, nid eiff' dim o honaw iw canlyn i'r byd a ddaw, a dymma ben am eu dedwyddwch hwynt a'u bywyd o'r unwaith; jawn iddynt, ag hefyd da y dylent ofni marw, o herwydd oddieithr i hynny dorri ar eu hanwyldra i'r byd, nid oes dim arall a'i tyr; nid yw bwrpas dywedyd wrthynt fôd y byd a ddaw yn llawer amgenach na'r byd ymma; ond goreu ydyw gosod o'u blaen boenau 'r byd a ddaw, a' gosod y rhai'n o'n blaen yn ddifri ag yn fynych, sef, y ffrydiau uffernol a dân a' brwmstan, a ddarparodd Duw i ddiafol a'i Angylion; goreu gofyn iddynt Gwestiwn ein hiachawdwr, Pa leshâd i ddyn os ynnill efe yr holl sydd, a cholli ei enaid ei hun? ne pa beth a rydd dyn yn gyfnewyd am ei enaid? Da y dyleu 'r cyfryw bobl barhau i ofni marw, nes i'r ofn ymma eu hiachau hwynt o'u chwantau bydol, ag o'u hanwyldra tuag at y byd; ag yno o dippin i dippin, änt yn jâch o'u hofn, hefyd a' deuant i allu marw yn ddi-arswydd.
[Page 343] Mae mâth arall ar ddynion sy'n gwir ofni Duw 'ag yn rheoli eu meddyliau yn ol cwrs ei ddeddfau a'i orehymynion ef; ni ddygant dîr neb oddiarno drwy gam ag anghyfiawnder, a' thrwy orthrymder a' thyngu anuden; ni throseddant er dim, reolau sobreiddrwydd a' gweddaidd-dra, pan fo'nt yn cymeryd pleserau corphorol: ni phrynnant urddas a' lleoedd uchel â phrîs eu heneidiau; etto mae'r byd ymma yn gwbl wrth eu bôdd, ag mae'nt yn cymeryd mawr bleser yn ei feddiannau ef: mae'n dda arnynt, mae'nt yn dilyn swydd neu alwedigaeth ynnill-gar; mae'nt yscatfydd yn wŷr mawr gŷd a'r brenin; yn byw yn esmwyth; ag yn cyfrif y bŷd hwn yn lle difir, ag ym mron dywedyd, Mae'n dda i'ni ein bôd ymma: yn awr nid oes fodd amgenach, na bôd an-ewyllys garwch dyn i farw yn fwy neu'n llai, yn ol graddau ei gariad ef a'i anwyldra tuag at y bŷd; er na bo' ei gariad ef chwaith ddim mwy nag y mae Duw yn ei lwfio; pan fo' gŵr yn cael pôb peth yn y byd wrth ei wir-fodd, mae'n anhawdd i'r cyfriw ûn, er iddo fod yn ŵr Duwiol hefyd, roi ei holl feddwl ar y byd a ddaw, a chraffu arno â holl ewyllys ei galon, a' bôd yn bûr fodlon i ymadel a'r byd ymma; mae'n ewyllysio myned i'r Nef, ond nid oes arno mor brys ychwaith; gwell ganddo, os gwêl Duw yn dda roddi iddo gennad i aros ymma dippin hwy: a' phan fo' yn rhaid cychwyn, mae'n aml yn edrych o'i ôl, tuag at [Page 344] y byd, ag yn chwith iawn ganddo fod yn rhaid iddo ymadel ag ef. Erbyn hyn ond gwîr garedig yw'r goruchaf Dduw, pan fo' 'n danfon clefydau a' blinderau eraill ar ei blant anwylaf, er mŵyn eu diddyfnu hwynt oddiwrth y byd ymma; yr hwn yw llannerch pob helbul, ag i dderchafu eu calonnau hwynt tuag at y Nef, lle mae pob dedwyddwch iw gael yn ddi-gymmysc ag yn dragywydd.
Yr unig fodd ynteu i beidio ag ofni marw, yw llŵyr orchfygu ein holl chwantau byddol; a'n hymneilltuo ein hunain fwyaf ag a allom oddiwrth y byd, trwy fyned ddieithrach ddieithrach iddo beunydd, trwy dynnu ein serch oddi arno, a'i arferu ef yn gwrtes, nid i fodloni ag i borthi ein trachwant, ond i dorri ein heisiau; a' thrwy fedwl am y Nef fynychaf ag y gallom, ag am hyfrydwch a' diddanwch y lle gogoneddus hwnnw, a' byw yn y byd ymma mewn gobaith y cawn ni feddiannu y mawredd anweledig; a' thrwy geisio bod yn hyspys ar orchwyl y trigolion Nefol; ag yn gydnabyddus a'u diddanwch hwynt, trwy glodfori a' moli Creadwr a' phrynnwr y byd, a' cheisio, bod ym mysc y seintiau a'r Angylion, a' gweled Duw ag Jesu Grist yn ei ogoniant, a' thrigo yn wastad ger ei fron ef. Y sawl a wnelo hyn tra bo' ar y ddaiar, nid yw ei fywyd presennol ef ddim amgenach nag ymdaith a' phereriniaeth, y Nef yw ei wlâd a'i gartref: ag yno bydd cyn hawsed [Page 345] i'ni ymadel a'r byd i fyned i'r Nef, ag i ryw ymdeithydd ymadel â gwlâd ddieithr l fyned i'u wlâd a'i gartref ei hun: hyn yw pen a' choron pob perffeiddrwydd a' phob rhinwedd Gristiannogol; hyn yw gwîr farweiddio, a' llŵyr orchfygu ein holl chwantau cnawdol, dymma ni yn meirw i'r byd, ag yn byw i Dduw, a' phan fo'm wedi marw i'r byd, ni bydd arnom ni ddim ofn marw mwyach, nag ofn ymadel a'r byd; o herwydd a oes i ddyn marw neges a'r byd? pan fo'm yn byw i Dduw, nid oes dim mor ddymunol, bydd gwell genym fyned at Dduw na dim; oblegid yr y'm yn byw i Dduw tra bo'm ar y ddaiar, trwy help ffydd a' gobaith yn unig; ond y lle perthynasol i fywyd Duwiol, a'i le ei hun yw, lle mae Duw ei hun yn byw, ag yn teyrnasu: ar fyr eiriau, fel y mae bywyd Duwiol a' buchedd ffyddlawn yn gorchfygu y byd hwn, felly y gorchfyga hefyd ofn marw, ag arswyd lloes angau; mae hon yn pylu ei golyn, ag yn gwneud pen am bob dychryndod, y mae'n derchafu ein calonnau cyfiwch tu ucha i'r byd fel y bo'm yn ddigon bodlon i ddianc oddiwrth ein cyrph, ag iw gadel hwynt o'n hôl yn y bêdd, ar hyder y cant, pan welo Duw yn dda, adgyfodiad llawen gogoneddus.
III. Nid oes dim yn ein gwneud mor ancwyllysgar i farw, ag mor ofnus, a chydwybod ddrŵg; pan fo'm yn euog o bechodau geirwon rhyfygus, ond mae'r ofn ymma [Page 346] arnom, nid o herwydd fod yn rhaid ini farw, ond o herwydd fod yn rhaid i'ni ddyfod i roi cyfrif am ein pechodau, yn nydd y farn: Ag am hynny, mae'n anghenrhaid gwneuthur rhagoriaeth rhwng tri mâth ar bobl, sy mewn tri chyflwr an hebyg iw gilydd. 1. Y fâth gyntaf yw, y rhai sydd wyr Duwiol jawn, ag yn cymeryd llawer o osal i wasanaethu Duw, ag i waredu eu heneidiau: 2. Yr ail fâth yw, ý rhai sydd wedi byw yn annuwiol dros ben, ond mae'nt yr awron yn gweled yn sadwys iddynt fwrw ymmaith eu hannuwioldeb cyn descyn i'r bêdd, ar ol iddynt ddigio Duw eu harnwr, a' gwradwyddo Crîst. Y maent megis yn gweled yr orsedd-fainc gyfiawn o flaen eu llygaid, ag megis yn clywed eu bwrw gan lef eu cydwybodau eu hunain fel hyn, Ewch chwi felldigedig i'r tân tragwyddol yr hwn a har atowyd i ddiafol ag i'w angylion. 3. Y drydydd fâth yw y rhai sydd yn ammeu eu cyflwr eu hunain, ag yn chwannog i ofni'r gwaethaf.
I. Am y fâth gyntaf, sef, y sawl a wnaethont oreu ag a allasont i ryngu bodd i Dduw ag i'w wasanaethu ef, ag i gadw cydwybod dda, ag i fyw yn y byd mewn ymarweddiad pûr, Duwiol; Mae Crist yn eu gwaredu hwynt oddiwrth eu hofn, trwy ei farwolaeth ef ar y groes, a' thrwy ei ymbil a'i gyfryngdod trostynt ar ddeheulaw Duw: pe bae Duw fanwl i chwilio beiau, nid oes neb mor Dduwiol, ag mor gyfiawn [Page 347] a gallu sefyll ger ei fron mewn barn: mae'r gwyr Duwiolaf yn gweled eu bod nhw yn euog o gymmaint o bechodau, a' bod eu beiau cyn amled, a'u hyfydd-dod mor brin ag mor amherffaith; nid ydynt yn meiddio rhoi eu hyder ar ddim ond ar drugaredd Dduw yn Ghrist Jesu er mŵyn ei haeddedigaethau a'i gyfryngdod ef; a' thrwy 'r hyder a'r obaith hon y mae'nt yn gorfoleddu tros angau, fel St. Paul, O angeu pa le y mae dy golyn? O uffern pa le y mae dy fuddugoliaeth? colyn angeu yw pechod a grym pechod yw'r gyfraith. Ond i Dduw y byddo 'r diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i'ni fuddugoliaeth trwy ein Harglwydd Jesu Grist; 1 Cor. 15. 55, 56, 57. Yr hwn a ddestrywiodd bechod, ag a dynnodd golyn angeu drwy ei farwolaeth ei hun ar y groes, yr hwn a orfoleddodd tros farwolaeth, pan gyfododd oddiwrth y meirw, ag sydd yr awron ag awdurdod ganddo i gyfodi ei holl wirddiscyblion oddiwrth y meirw: Efe a ddichon yn gwbl jachau y rhai trwyddo ef sy yn dyfod at Dduw, gan ei fod ef yn byw bob amser, i eiriol trostynt hwy: Heb. 7. 25.
Dymma gyflwr dedwyddol y gwyr Duwiol, pan fo'nt agos a marw, gallant hwy edrych ar y byd a ddaw yn ddi-arswyd, lle y canfyddant, nid mainc barnwr, ond gorsedd-fainc grâs a' thrugaredd, lle y maent yn can fod eu tâd nid eu barnwr, a'u hiachawdwr a fu farw trostynt, ag a dywalltodd ei werthfawroccaf waed ei hun iw prynnu [Page 348] hwynt: O faint yw hyfrydwch a' thawelwch eu heneidiau hwynt! O beth am gymmaint eu diddanwch, eu llawenydd, a'u gorfoledd! O fel y mae eu heneidiau hwynt yn mawrhau 'r Arglwydd, a'u hyspryd yn ymlawenychu yn Nuw eu Hiachawdwr! Pan welont ef megis yn barod i'w croesawu, a'u galw yn fendigedig; ag i roi y goron ar eu pennau. Pwy ynteu na ddymuneu gael yr un diwedd a'r gŵr Duwiol cyfiawn a' myned i'r un lle ag ynteu? pa ŵr synhwyrol na wel yn oreu iddo fyw fel y gŵr cyfiawn, er mŵyn cael yr un diwedd ag ynteu? fel na bo dim i flino ag i drwblio ei feddwl, pan fo' ym mron ei fedd, ag mewn lloes angeu: nid ydyw ei gydwybod yn anhuno mo'no; ond ma'en ymadel a'r bŷd hwn yn llawn o ddiddanol obaith, ag megis ar ol derbyn arwydd oddiwrth Dduw, y caiff ef fyned i'w orphwystra ag i dangnheddyf.
II. Ond am yr annuwiol sy'n llŵyr ddiofal am wasanaethu Duw, ag am y byd a ddaw tra y bo'nt yn jâch ag yn llawen, etto pan ddel cafod o ddolur i'w nesäu hwynt at sarwolaeth a' barn, yno y bydd eu cydwybod yn flîn wrthynt drwy ofn y dial a ddaw, ag mae'nt agos a thorri eu calonnau; yno rhŷ hŵyr yw wylo am eu pechodau a'u hoferedd, y maent yn crynnu o flaen y barnwr cyfiawn, yr hwn a gythruddasant drwy eu haml ddibriswch, a'u ffiiaidd gyfeiliorni; drwy ei wadu ef, a dibrisio ei allu a'i awdurdod, a'i gyfiawnder: yn awr yn crio [Page 349] yn ddygyn ar Grist am drugaredd; ag nid eill lai na bod yn jachawdr iddynt, er iddynt ei wrthod ef yn Arglwydd, ag er iddynt wrthod ufyddhau i'w rheolaeth a'i orchymynion ef: Mae'r cyfryw rai yn daer iawn i dderbyn cyssur. Mae'nt yn danfon am yr Eglwyswr ar frŷs, er nad oedd hwn dda i ddim er ystalm, ond i wawdio am ei ben; ag yr ydys yn disgwil i hwn ostegu a' llonyddu eu cydwybod, a'u danfon hwynt i'r byd a ddaw mewn esmwythdra, a' bodlonrwydd, yno i dderbyn barn am eu gweithredoedd.
Yn awr da y gweddeu i'ni rybuddio y cyfryw rai, pan fo'nt yn eu bywyd a'u hiechyd, nad oes iddynt le i ddisgwil cyssur, pan fo'nt yn ymadel a'r bŷd, o herwydd nid oes dim tangnheddyf, medd ein Duw ni, i'r annuwiol, ag nid oes neh sy'n eu hadnabod hwynt a eill ddywedyd fod tangnheddyf iddynt, oni bai wneud Efengyl Newydd, neu wyro a' llygru 'r Hên.
Ag mae hyn yn amlwg, fel y mae i chwi ddeall wrth a ddywedais o'r blaen, ynghylch edifeirwch y sawl a fo' megis ar ei farw-dywarchen: ond gadewch i hynny bassio, a gadewch i'ni yn awr ystyrio yr athrawiaeth gyffredin hon, y peth y mae llawer iawn yn ei gredu. Sef, y caiff y gwîr edifeiriol faddeuant am ei bechodau, er iddo oedi ei edifeirwch hyd yr awr ddiwaethaf, ar ol byw yn annuwiol holl ddyddiau ei enioes; ond gadewch i hynny fôd, [Page 350] pa le sydd i'r cyfryw ddŷn i ddisgwil cyssur, o herwydd nad oes fodd nag iddo ei hun, nag i neb arall i wybod, pa ûn a'i bôd ei edifeirwch yn llŵyr ddifrifol a'i peidio; pa ûn a'i gwasanaethu o'r edifeirwch hon pe bae ef i fyw yn hwy i adnewyddu ei fuchedd ef, a'i peidio; ag i ddŵyn, ffrwythau cyfiawnder hollawl; ag dymma wîr a ŵyr pob dŷn, nad oes un fâth arall o ediseirwch yn gymeradwy ger bron Duw.
Yn awr mae'n llŵyr ammhossibl i ddyn yn y byd wybod hyn, oddieithr i Dduw ddanfon atto gennad o bwrpas i'w fodloni yn y peth, os oeda efe ei edifeirwch hyd ei ddydd diwedd: geill fôd mewn aml loes a' merwindod, am ddarfod iddo fyw yn annuwiol, ond dymma gyflwr pob pechadur pan fo' 'n ymadel a'r byd, diammeu ei fod mewn caethiwed a' thrymder mawr di-ragrith; mae ei bechodau agos a'i lethu; ag nis gwn i ddim a ddichon wneud caethiwed a' thrymder yn ddifrif, ond ei fod yn ddi-ragrith, ag os felly y mae, nid oes dim rhagor rhw ng bod yn gaeth arnom, a'n bôd yn drwm ag yn drîst, a' bod felly o ddifrif; ag yn awr, a oes neb a lefus ddywedyd y gwasanaetha bod yn drwm ag yn drist am ei bechodau ym mron y bêdd i achub enaid? pe bae hynny yn bod, ni byddeu ddyn yn y byd yn golledig, ond y sawl sy'n credu nad oes v̂n Duw, neu y sawl sy'n marw mewn syndod, gwall-gof, neu drwy angeu disyfyd yn sydun ag yn ddi-rybudd; o herwydd [Page 351] mae'n amhossibl i bechadur a fo' yn ei gôs a'i synwyr, ag a fo' 'n creu y caiff yr annuwiol eu cospi yn dragywydd yn y byd a ddaw, beidio a bod yn gaeth ei le, ag yn drwn arno, pan welo ei fod yr awrhon yn barod i suddo i uffern.
Erbyn hynny, er i ddyn ym mron ei fêdd fod mewn cymmaint o drymder a' chystudd o achos ei bechodau; a'i fod ym mron gwallgofi ag ynfydu o'u plegid, (ag yn ddiammeu chwi a gyfaddefwch mai trymder di-ragrith yw hwn) er hyn ei gyd, nid yw y tristwch hwn yw gyfrif am edifeirwch y cadwedig: am hynny er ei bechaduriaid fôd mewn dŵys dristwch, a' thrymder difrifol, nid yw hynny yn ddigon i ddangos eu bod hwy yn wîr edifeiriol; a dymma 'r holl siccrwydd sydd ganddynt o'u hedifeirwch, a' dymma'r unig bêth y maent yn hyderu arno, sef, eu bod nhw yn ddigon siwr fod yn ddrŵg gan eu calonnau hwynt eu buchedd annuwiol, a' diammeu fod, oblegid fod pob gwîr dristwch yn ddi-ragrith; ond geill pechaduriaid, er maint eu trymder a'u difrifwch, fyned i uffern erhynny ei gyd.
Am hynny gan nad oes gan y cyfryw rai ddim siccrwydd amgenach am eu hedifeirwch, na'u bod hwy yn drwm ag yn drist o achos eu pechodau, ystyriwn ym mhellach, pa un a'i bod y cyfryw dristwch yr awr ddiwaethaf, yw gyfrif yn siccrwydd yn y byd am wìr edifeirwch, a'i peidio: neu pa fâth a'r siccrwydd yw.
[Page 352] Mae gwìr edifeirwch o'r rhan leiaf yn cynhwys ag yn gofyn newidiad meddwl, ag i ddyn droi oddiwrth ei bechodau at Dduw, a'i fod wedi dŵys ystyrio drygioni pechod, ag hefyd yn ffiaidd ganddo ef ei hun o'i blegid: Mae'n gofyn hefyd i ddyn fod yn ofni Duw, ag yn ufyddhau ag yn perchi ei orchymynion ef; ag heblaw hyn mae'n rhaid i'r gwìr edifeiriol fod yn arswydo ei farnedigaethau ef, a' phwrpasu yn ddifrifol adnewyddu eu buchedd, ag o hynny allan fod yn ymroi i fyw i Dduw, ag i foliannu ei enw bendigedig ef, heb fyth feddwl troi yn ol at eu pechodau drachefn, ond yn hytrach eu dyfal arferu eu hunain i gyflawni eu holl ddyledswyddau, ag i fyw yn Dduwiol ag yn Gristiannogol holl ddyddiau eu bywyd.
Yn awr bwriwch, y geill y sawl a fo wedi byw yn annuwiol, a' dilyn cwrs pechadurus erioed hyd heddyw, newid ei fuchedd mewn un mynudyn, ag y geill fôd mor wir edifeiriol ag y dyleu ef fod, a' bod Duw, yr hwn a ŵyr oddiwrth ddirgelion calonnau, yn gweled fod ei addewidion a'i addunedau yn bûr ddifrifol, ag y prifie yn ŵr Duwiol pe bae i fyw yn hwy, am hynny mae Duw yn gweled yn dda faddeu iddo, a'i wobrwyo ef nid am y daioni a wnaeth yn barod, ond am y peth y mae yn ei ragweled a wnaethei, pe buasei i fyw yn hwy, (yn y cyfamser nid ydyw Duw yn barnu yn ol gweithredoedd, ond yn ol ei rag-wybodaeth, ag nid yw'r sgrythyr hon yn dywedyd yn unlle [Page 353] mai hon yw rheol y farn a ddaw;) meddaf, bwriwch yr haeddeu'r cyfryw rai eu cyfrif yn wìr edifeiriol, a' bod Duw yn maddeu iddynt eu holl bechodau, o herwydd y gŵyr eu bôd hwy felly? Etto nid oes fodd iddynt gael cyssur yn y byd oddiwrth eu hedifeirwch cyn marw; o herwydd nid oes fôdd iddynt i wybod pa un ydynt a'i bod yn wîr edifeiriol a'i peidio.
Pan fo' pobl yn gweled fod eu hawr a'u hamser wedi dyfod, mae'n ddrwg iawn ganddynt ddarfod iddynt fyw yn annuwiol, os dylem eu coelio, ond mae 'n debyg mai dyna 'r cwbl sy'n eu trwblio, fod yn rhaid iddynt fyned i uffern, yn ail i'r drwg-weithredwr a fae'n ofni lloes y crog-pren. Ag nid hwyrach mai dyma 'r cwbl sy'n ei drwblio ef, ag nid oes fodd i'ni wybod a'i dymma achos ei holl alar a'i peidio, digon tebyg mai hyn yw'r cwbl; o herwydd a'i cyffelyb y byddeu 'r sawl a oedd ddoe neu echdoe yn caru eu pechodau yn ddirfawr, ag heb erioed amcanu syrthio allan a hwynt, yn debyg heddyw, o achos ffit o glefyd, i fod yn wîr edifeiriol, ag yn barod i ymadel a hwynt megis mewn un mynudyn, ag i fod yn wŷr newydd ar y golwg cyntaf o'r byd a ddaw: Dymma gyflwr pôb dŷn annuwiol, pan fo' ym mron ei fêdd, am hynny mae'n hawdd ammeu nad yw Duw, drwy ryfeddol wrthiau ei yspryd glân, yn gweithio ar eu calonnau i'w hadnewyddu mewn un mynudyn, ond cyffel yppach mai oddi ymma y mae [Page 354] tristwch y dŷn annuwiol yn tarddu allan, sef, o achos ei fod yn gweled fod yn rhaid iddo ymmadel a'r bŷd hwn ar fyrder, a'i fod ar fyrder yn debyg i ddioddeu, am ei bechodau, yn y byd a ddaw.
Yn awr, os nad oes fodd i'r cyfryw bechaduriaid i gael gwybod pa un yw eu tristwch am eu pechodau a'i bod ddim amgenach na dŵys ddychryndod a'i peidio, nid ydynt siŵr o ddim mwy na'u bod hwynt mewn mawr ddychryn o'u plegid; o herwydd mae'r cyfryw dristwch yn bûr debyg i edifeirwch, ag megis yn cyflawni yr un swyddau a hitheu. Y sawl a fo'nt dan arswyd cospedigaeth, nid y'nt yn unig yn drwm ag yn drîst am eu pechodau, ond heblaw hyn mae'r unrhyw drymder yn gosod allan fod eu pechodau wedi eu cywilyddio, am hynny mae'nt yn wir-ddig wrthynt, ag yn rhoi geiriau têg i'w barnwr, ag yn addo yn ffyddlawn adnewyddu eu buchedd, ag os efe a faddeu iddynt y tro ymma, yr unwaith ymmayn unig: Ag mae'r arfer o wneud fel hyn mor gyffredin, nad oes dŷn yn y bŷd, mewn achosion eraill, yn cyfrif y dyleu wneud prìs o honi; nid oes na barnwr, na Thâd, na meistr a faddeu i ddŷn o achos y cyfryw addewidion; ag os felly y mae, ai gwell addewid y pechadur ym mron ei fêdd, nag addewid rhyw ddrŵg-weithredwr arall, neu, a yw Duw yn fwy rhwymedig i faddeu na dŷn, ag ar lai o achos? Arswyd myned i uffern sy'n peri yr holl dristwch [Page 355] hwn, ag os felly y mae, yr wyf yn ofni, er tebycced yw hyn i edifeirwch, ag er ei bod megis yn ymddangos yn yr vn wisc, nas dichon, er hyn ei gŷd, waredu un enaid rhag myned i uffern. Mae'n debyg jawn nad yw y cyfryw dristwch, ag yr y'm yn crybwyll am dano, yn cynhwys dim mwy na hyn, am hynny, nid oes i'r annuwiol a fo' ym mron ei fêdd, achos yn y byd i feddwl ei fod ef yn wir edifeiriol: am hynny oddieithr iddo ei siommi ei hunan, pan fo' ar eu glaf-welu, â'i edifeirwch wâg ragrithiol, fel y siommodd efe ei hunan yn ei fywyd a'i jechyd, drwy wâg hyderu y cymmerei ryw amser neu ei gilydd i edifarhau cyn ei farw; nid oes iddo mor dau ddewis; mae'n rhaid iddo fyned allan o'r byd hwn yn llawn o anobaith a' dychryndod. Ag mae'r cyflwr hwn mor gwbl echryslon, pe bwriech y galleu 'r cyfryw ddŷn annuwiol fod yn wir edifeiriol, ag ar yr union ffordd i fyned ir Nef o'r diwedd, etto dangoswch i mi pa ŵr synhwyrol a fyddeu fodlon i ddioddeu 'r arswydau creulon hyn, er maint yw pleserau twyllodrus pechod: ag etto nid oes un modd i ochel y cyflwr gresynnol hwn, ond trwy edifarhau mewn amser, pan fo'myn ein bywyd a'n hiechyd, ag yn hir cyn ein marw, cŷd o'r lleiaf fel y gallom osod allan ffrwythau cyfiawnder. Ag yno pan ddelom i farw, geill y rhai'n ein bodloni ni, yn llawer gwell na'u tristwch ar ein claf-welu, fod ein hedifeirwch ni mor bûr ag mor ddifrif, [Page 356] ag y dylae fôd, a'i fod hefyd yn gymmeradwy ger bron yr Arglwydd.
III. Ystyriwn yn awr gyflwr y sawl sy'n eu hammeu eu hunain, a'r sawl nas gwyddont amcan beth a ddaw o honynt ar ol eu marw; y sawl sydd heb fod mor Dduwiol a gallu bod yn ddi-ofn, ag yn ddi-berigl, ag heb fod mor annuwiol chwaith, a bod yn rhaid iddynt sarw mewn di-obaith; ag afraid hyspysu i neb mai canol gyflwr yw hwn, rhwngofn a' gobaith; cyflwr an-esmwyth jawn diammeu, pan fo' dŷn heb wybod pa le y mae 'n debyg i fyned, ai i'r Nef, ai i uffein: Dymma unig gyflwr y cyfryw rai a fo'nt yn dychwel i bechu eilwaith, ar ol dŵys ag aml ymroi i fyw yn Dduwiol; pan fo profedigaethau yn eu gorchsygu hwynt yn aml; y rhai sy'n syrthio i bechu eilwaith, cyn gynted ag y sycho eu dargrau ar eu gruddiau, am eu camweddau a bassiodd, mae'r cyfryw rai yn ddrŵg ganddynt eu bod wedi pechu, ag yn ymroi yn erbyn pechu mwyach. A thra bo'nt fel hyn yn pechu, ag yn edisarhau, bob yn ail bob yn eilwaith, ni hwyrach fod Duw yn gweled yn dda alw am danynt, cyn iddynt fedru llŵyr orchsygu eu pechodau, a' chyn iddynt ddyfod o hŷd i rinwedd sefydlog, i ymddangos o flaen ei frawdle ef: a dymma gyflwr y rhai hefyd sy'n ofni Duw, ond er hyn sy' weithieu yn esceuluso eu gweddiau, neu os ydynt yn ymgadw oddiwrth bechodau mawrion, sydd etto yn methu rheoli eu [Page 357] gwyniau, neu sy' heb wneud o nd ychydig ddaioni yn y bŷd, neu'r cyfryw. Mae'r da a'r drŵg mor gymmyscedig yn y cyflwr ymma, nad yw hawdd craffu gweled, a' chanfod pa un sy'n dal yn uchaf; mae'r cyfryw rai yn anesmwyth yn eu bywyd a'u hiechyd, ag nis gwyddont beth i feddwl o o honynt eu hunain; ond mae'nt yn gant gwaeth eu cyflwr, pan fo'nt ym mron marw, ag i ymddangos ger bron gorsedd-fainc Duw: och! mor gaeth ag mor resynol cyflwr y cyfryw ddyn, nas gŵyr amcan, pan fo' ym mron eu fedd, pa beth a ddaw o hono dros dragwyddoldeb, dros byth bythoedd.
Yn awr, nid oes vn modd arall i ochel yr arswydau hyn, pan fo'm ar ein claf-welu, ond drwy fod yn ddyfal i siccrhau ein hetholedigaeth; trwy fyw mor Dduwiol ag mor ddi-niwed, fel na bo i'n cydwybod mor lle i'n barnu ag i'n bwrw ni, ag yno gallwn roi hyder ar Dduw: 1 Joan. 3. 20, 21.
Ond yn an-aml y mae y sawl yr wyf yn awr yn ymresymmu yn eu cylch, yn gweled yn dda wneud defnydd o hyn: gwelant fod yn ddigon da iddynt fod yn siŵr o fyned i'r Nef, ag etto ewyllysient fyned cyn agosed i uffern ag y bo possibl, ond etto ni ewyllysiant mor syrthio iddi, nag ychwaith mo'u deifio mae'nt yn abl bodlon i wasanaethu Duw, ond etto rhowch gennad iddynt i ddangos tippin o garedigrwydd ag o anwyldra tuag at eu pechodau, a'u chwantau cnawdol, er nas meiddiant eu llawn ddigoni [Page 358] eu hunain â phleserau 'r byd, etto maen rhaid cynhwys eu profi hwynt yn lled-gynnil, cyn fynyched ag y medront lochi eu cydwybod, a'bwrw heibio ofn Duw, a'u meddyliau ynghylch y byd a ddaw; am hynny y mae'nt yn arfer o ymorol am ryw fodd arall i ostegu llêf eu cydwybod: Gwŷch ganddynt yr arwyddion a ddengys iddynt y ffordd i'r Nef yn rhwydd ag yn esmwyth, heb fod yn rhaid marweiddio chwantau 'r cnawd, a' dilyn buchedd o gyfiawnder holllawl, diball: a' dyfeisiwyd llawer o'r cyfryw arwyddion twyllodrus, sy'n ail i ddiod gwsg a fae'n gostegu dolur dros amser, nes i'r gydwybod ddeffro yn rhyhwyr yn y byd a ddaw.
O herwydd siommedigaeth bûr yw hyn ei gyd fel y mae St. Joan yn dangos yn ddigon eglur; O blant bychain, na thwylled neb chwi; yr hwn sydd yn gwueuthur cyfiawnder sydd gyfiawn. Yr hwn sydd yn gwneuthur pechod, o ddiafol y mae: canys y mae diafol yn pechu o'r dechreuad: i hyn yr ymddangosodd Mâb Duw, fel y dattodai weithredoedd diafol. Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod; oblegid y mae ei hâd ef yn aros ynddo ef, ag ni all efe bechu, am ei eni ef o Dduw. Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw, a' phlant diafol: pôb un ag sy heb wneuthur cyfiewnder, nid yw o Dduw, na'r hwn nid yw yn caru ei frawd. 1 Joan 3. 7, 8, 9, 10. Dymma 'r unig siccrwydd a allwn ni hyderu wrthi, am gael myned i'r Nef; am hynny y mae pob pechod y bo' dŷn yn ei bechu yn gwneud [Page 359] ei gyflwr ef yn ammhëus, ag nid eill hyn lai na llenwi dyn â blinder ag an-obaith: geill pobl eu siommi eu hunain drwy wâghyderu a' ffôl-obeithio, pan fo'nt ar eu clafwelu: ond nid oes dim a wasanaetha i fôd yn sylfaen ddi-sigl o hyder cadarn, ond bywyd Duwiol hollawl, difêth, diball.
Y DIWEDDGLO.
IGloi ar y cwbl, ag i ddiweddu fy ymadroddion ei gŷd, ystyriaf yn unig mewn ychydig eiriau, mai gorchwyl ein holl fywyd, yw, ein hiawn ddarparu ein hunain i farw: Rhaid i'ni fôd heunydd a'n cyfrif yn barod, o herwydd nis gw yddom pa brŷd y geilw Duw am danom i roddi cyfrif am ein goruchwyliaeth. Mae'n rhaid i'ni wilio beunydd, o herwydd nis gwyddom pa awr y geilw 'r Arglwydd am danom, na pha fynudyn yr ymwel a ni: y sawl a so' wedi dilyn buchedd Dduwiol o'i fedydd i'w fêdd, nid oes i hwn fawr fwy i'w wneuthur, pan fo' Duw yn galw am dano, na ehymeryd ei gennad gŷd a'i blant, a'u geraint, a' rhoi ei fendith iddynt, neu iw gyssuro eu hunan â gobaith o fywyd tragwyddol ag o adgyfodiad gogoneddus, ag i orchymyn ei enaid i law Dduw a'i jachawdwr: y mae ei lusern ef yn llawn o olew, ag yn goleuo beunydd, er ei bôd yn gofyn tippin amgenach triniaeth, ag o edrych ar ei hól, pan fo 'r priodfab megis ar y drŵs. Tippin o ryw awydd newydd, ag o hyder gyflymmach a' ffrwythlawnach, ag egni enaid a weddeu i ddŷn [Page 360] a fo 'n ymadel a'r byd, ag yn cyfeirio tuag at Dduw: Ond pan fo'r priod-sab ar yr rhiniog, rhŷ hwyr i'ni, gŷd a'r morwynion angall, feddwl myned i brynnu olew i roi yn ein lusernau: oddieithr i'ni fod yn barod, pan ddêl y priod-fab i alw arnom i fyned gyd ag ef i'r briodas, fy geuir y drŵs yn ein herbyn; Gwiliwch gan hynny, am nas gwyddoch na'r dydd, na'r awr y daw Mâb y dyn.
Mae rhai yn dadwrdd y gwasanaetha diwrnod neu ddau, i lawn ddarparu dŷn i farw, ag mai 'r amser mwyaf cyfaddas i hyn, yw, dippin bâch cyn ymadel a'r bŷd; ond nis gwn i fodd yn y bŷd i ddarparu i farw, ond trwy syw yn Dduwiol ag yn fucheddol; ag mae'n rhaid darparu fel hyn bob dŷdd, ag felly y gallwn fod mewn cyflwr cymhwys, cymmeradwy, pan welo Duw yn dda alw am danom; hynny yw, wrth hyn y gallwn roddi cyfrif da o'n buchedd, a' darfod i'ni wneud y goreu o bob pêth a roes Duw yn ein siars, a'n llaw ni; a' phwy bynnag a fedro hyn, ma'en gwbl barod i farw, ag i dderbyn ei farn, ag i grosawu ei farnwr: ond ar y llaw arall, pwy bynnag sy wedi treulio eu ddyddiau mewn oferedd ag annuwioldeb, gwnaed ei amcan, a' chymered y boen a fynno, i'w ddarparu i farw ar ei glaf-welu; diammeu yw, nad eill ddarparn cyfrif da cymeradwy o'i fywyd a'i amser a aeth heibio ag os felly y mae, rhŷ debyg mai ofer fydd ei holl waith.