CERBYD JECHYDWRIAETH.
NEU PRIF BYNGCIAU GREFYDD GRISTONOGAWL WEDI EU EGLURO A'U GOSOD ALLAN.
- 1. Yn gyntaf, mewn Sententiau a Rheolau awdyrdodol.
- 2. Yn nessaf, mewn cyd-ymddiddan trwy ymholion ac attebion.
Printiedig yn-Ninas Llundain, gan Sarah Griffin, dros Philip Chetwind, 1657.
At fy annwyl Gyd-wlad-wyr y Cymru.
PAn ddaith attal a rhwystr arnom i bregethu'r Efengyl yn eich plith, yr oeddem yn byrw am wneuthur daioni i chwi, y modd goreu ac y gallem er na allem eu wneuthur y modd goreu ac y dymunem. Pan y gostegwyd y tafod, yr hwn oedd (unwaith) fel pin Scrifennydd [...]ûan, rhaid oedd i wneuthur y pin scryfen i wasanaethu yn lle'r tafod, i beri 'r llaw i efengylu yn lle'r geneu, Evangelizo stylo & calamo. Dr. Raynolds. ac i Scryfennu attoch y pethau nid oedd rydd i lefaru wrthych. Dyna'r achos y danfonwyd y Traithiad byr hwn yn eich mysc, sef i gyfarwyddo rhai, ac i gynnal eraill yn yr iniawn ffordd, a'r gowir ffydd.
O bydd dim lleshâd i chwi cblegid hyn o waith a gwasanaeth, dercheswch eich calonnau at Awdwr a rhoddwr pob daioni; cofiwch yr Athro yn eich gweddiau, a byddwch ddiolchar i'r parchedic a rhinweddol Dylwyth o W [...]rnevet, sawl sydd yn dymuno yn [Page] dda tuac at eich tragwyddol ddedwyddwch, ac a hebryngasant y gwaith hyn i'r trefn a'r trwssiad ac y gosodwyd ef (ynawr) o'ch blaen.
Darllenwch ac ystyriwch, a Duw roddo i chwi Râs a Doethineb, a deall ymhob peth.
AM Y GREDO.
I.
MAe pedair rhan o'r Gristonogawl Grefydd, y rhai sy'n cynhwys holl gorph Duwiolaeth▪ ac y dderbynnir ac a gofleidir (yn barchedic) gan holl Eglwys Dduw trwy'r Bŷd, sef y Gredyniaeth, neu'r Gred-ddeddf, y deng air ddeddf, neu'r dêc gorchymmyn; Gweddi'r Arglwydd, a'r Sacrafennau.
II.
MEgis y gwnaethpwyd Dŷn mewn dûll a modd rhagorawl Psa. 8.5. oddiwrth y Creaduriaid eraill sydd ymma isod: felly 'r ordeiniwyd ef i amcan a diwedd rhagorawl, sef i dragwyddol ddedwyddwch yn y byd Rhuf. 2 6, 7. a ddaw. Ac er mwyn iddo gaffael a meddiannu y dedwyddwch hyn, fe ddangosodd Duw iddo, pa bethau sydd i'w gwneuthur, Deut. 10.12. Micah. 6.8 a pha foddion iw harferu, os gwnae ef iawn ddefnydd o honynt
III.
YModdion neu'r mêns, a ddarparodd Duw i ddŷn er caffaeliad jechydwriaeth, yn bennaf ydint y rhai hyn, sef yn gyntaf, jawn gredu yn Nuw. 2. Yn ail, iniawn rodio o'i flaen ef, hynny yw, yn ôl ei ewyllys a fynegwyd yn ei scryfennedic air ef, dyna gwble ddyled Dŷn 2 Tim. 1.13. Deut. 10.12.
IV.
YScrythur lân yw gwir air Duw, 'r hon a roddes ef i ni, i fôd yn Rheol ddi-dwyll, ffydd a Chynheddfau; Ps. 119.9. Bywyd a Chrêd: yr hon sydd yn cynhwys holl angenrheidiol Byngciau gwybodaeth jachus; i wneuthur gwr Duw yn 2 Tim. 3.17. berffaith, ac iw ddwyn ef i'r gogoniant a'r llawenydd a ddarparwyd id do.
V.
PYngciau pennaf Ffydd a gwir Grêd, angenrheidiol i bob rhyw o ddynion iw eu derbyn a'u credu yn ddilys (i'r rhai a'u cynniger) sy wedi eu crynhoi mewn deuddeg Articl cynhwysedig yng hredo'r Apostolion; yr hon yw'r allwydd neu'r agoriad i bob pwngc o athrawiaeth jachus.
VI.
YR oedd y Patrieirch a Gwasanaethwyr Duw yr amseroedd gynt, yn gadwedic trwy'r Ffydd gynhwysedic yn y Gredo hon: gan fod pob pwngc o honi wedi ei datcuddio iddynt [Page 3] hwy, ac ynawr iw gweled (yn gymmyscedig) yn Scrifennadau Moses a'r Prophwydi. Canys fel nad oedd ond ûn Caniad 6 9. Eglwys o ddechreuad y byd, felly nid oedd ond ûn Eph. 4.5. Ffydd yn perthyn (yn gyffredinol) iddynt hwy a ninnau, ac i'r sawl a ddelont ar ein hol ni. Tit. 1.3
VII.
O'R deuddeg Articl o'r Gredo hon, mae'r cyntaf yn perthyny at Dduw'r Tâd: y chwech nessaf (sydd yn canlyn) at Dduw'r Mâb: yr wythfed at Dduw'r Yspryd glân: Ar pedwar diweddaf at ystâd a chyflwr yr Eglwys, ynybyd hwn ac yn y byd a ddaw.
VIII.
YR Articl neu'r pwngc am ddescyniad Crist i Ʋffern, a ellir (yn ddi-berigl) ei ystyried ûn o'r ddwy ffordd hon.
1. Yn gyntaf, ddarfod iw Enaid Crist, (wedi ei farwolaeth) ddescyn i blith yr Psa. 16.11. ysprydion uffernol, er mwyn dangos a chyhoeddi iddynt nerth a gallu ei Dduwdod. Yr hyn yw deongliad hên Dadau 'r Eglwys, a llawer o Scrifennyddion parchedig yn yr amseroedd diweddaf.
2. Yr ail ystyr yw, y ddescyn o Grist i uffern; hynny yw, i ystâd a chyflwr y meirw, a'i ddala ef yno, dan allu marwolaeth, d [...]i diwrnod. Ac felly mae y rhan swyaf o'r Scrifennyddion diweddar yn cymmeryd ystur y geiriau hynny.
IX.
CRedu'r Eglwys lân Gatholic, yw credufod gan Dduw rai o holl Datc. 5.10. Dylwythau 'r ddaiar, wedi en dewis a'u dichlyn, yn wasanaeth-ddynion ac yn bobl etholedig iddo ei hûn: y rhai a Etholodd ef allan er mwyn Act. 15 14. ei enw; a Sancteiddiodd Act. 20 32. ef a'i yspryd, a alwodd i Rhuf. 8.28. ystâd o râs; ac a ddarparodd i ogoniant tragwyddol.
X.
CRedu Cymmum y Sainct, yw credu fod holl Fyddlon boble Dduw wedi eu cyssylltu ynghyd (ac an-weledig rwymmyn Ffydd a chariad) a Christ eu pen Col. 2.19. 1 Joh. 1.3.: ac a'u gyldd (un a'r llall) gan gydfeddiannu dirgeledigaithau'r Eglwys, a chyd-gyfrannu i'w gylidd eu holl bethau da, ysprŷdol ag amserol; megis rhai wedi eu bywhau gan yr ûn yspryd Phil. 2.12., a chanddynt ûn enaid mewn llawer o gyrph.
XI.
CRedu maddeuant pechodau, yw credu fod Duw (o'i ewyllys da ei hunan ac yn rhâd) yn maddeu ac yn pardyno eu pechodau i bechaduriaid Luc▪ 24.47. Act. 2.38. edifeiriol, trwy Ffydd ynghrist Rhuf. 3.24, 25, 26., heb ddim haeddigaeth ond oedd 2 Cor. 5 18. ynghrist; ac heb ddim jawn ond yr hyn a wnaeth ef yn unic. A'i fod ef wedi rhoi gallu ac awdwrdod iw Eglwysi ddeclario Mat. 18.18. ac i gyhoeddi 'r pardwn hyn (yn ei enw ef) ar bob achosion, ac a fyddo cyfiawn a chyfraithlawn.
XII.
Y Nicen Gyffes, a Chyffes neu addefiad Athanasius, ydynt ddeongliad ac eglurhâd ar Gredo 'r Apostolion, o herwydd rhyw ymryson ac ymddadleu a dyfodd yn yr Eglwys yr amseroedd hynny; yn enwedig oblegit y fendigedig Drindod▪ a chnawdoliaeth Jesu Grist. Ond nid oes ynddynt hwy ddim o bwys a defnydd, nad yd yw ynghredo 'r Apostolion,
XIII.
HYmn y gogoniant, yr hon a Elwir Gloria patri, (hynny yw, gogoniant i'r Tad ac i'r mab, ac i'r Yspryd glan) sydd Gredo fer, ac megis crinhoâd a swm Credo 'r Apostolion: yr hon a arferwyd yn yr Eglwys ynghylch amser y Gymmanfa yn Nice fel arwydd i wneuthur gwahan iaeth rhwng y sawl a oeddent yn credu yn y Drindod yn iniawn, a'r sawl nad oeddent.
Y Colect, neu'r Weddi
BEndigedig fyddo dy enw di Arglwydd am yr holl Scrythur lân a roddaist i fod yn oleuni i'n traed ac yn llewyrch i'n Psa. 119 105. llwybrau yn enwedig am gymmaint o honi a draddododd dy Apostolion sanctaidd i fod yn Rheol ffydd a jawn Grêd: ac i'n dangos i'th adnabod ti, yr unic wîr Dduw, a'r hwn a anfonaist, Jesu Grist Joh. 17 3..
O Arglwydd, chwanega a chadarnha'r Ffydd [Page 6] hon ynom, fwy fwy, fel gwedi 'n goruwchadailadu ar y 1 Cor. 10.4. Graig à chadarn sail Eph. 2.20. y Prophwydi a'r Apostolion) y gallom sefyll yn ddiogel, yn ddi-sigl ac yn an-symmudedig yn erbyn holl brofedigaethau Satan; yn erbyn awelau cadarn erlidiaeth, pa bryd bynnac y cyfodant; ac yn erbyn anadl af-jachus pob Twyllwr sydd beunydd yn cynllwyn i dwyllo ac i Lithio eneidiau anwadal.
Fel gan gadw gafael Siccr ar y gwysll 1 Tim. 6.20. a roddwyd (un-waith) ini iw gadw, y gallom yn y diwedd, gaffael diwedd ein ffydd 1 Pet. 1 9., sef jechydwriaeth ein eneidiau, trwy Awdwr Heb. 12 2.a Pherffeiddydd ein ffydd Jesu Grist y cyfiawn.
Am yr hwn y bendithiwn di; ac i'r hwn gyda thi (o Dâd) a'th sanctaidd Yspryd, y bo holl anrhydedd, a gogoniant yr awr hon, ac yn dragywydd.
Am y Gorchymmynion.
I.
YR ail Brif bwnge o Grefydd Gristonogawl yw'r Gorchymmynion: yn y rhai, a crynhoi'r (mewn ychydig eiriau) holl swmm y Gyfraith foesawl, neu Gyfraith gweithredoedd, a'r holl Ddyledion rhwymedig i'w gwneuthur trwy Einioes Dŷn.
Dymma Rheol ein hufudd-dod ni: Pren Gen. 2.17.gwybodaeth y da a'r drwg; sydd yn dangos beth y'wr da Deut. 30.15. a pheth yw'r drwg Rhuf. 8.20.7.7.; beth sy, iw ganlyn, a pheth i'w ochelyd
II.
NY ddi-rymmodd Crist ddim o'r dêc Gorchymmynion, canys ymadrodd Rheswm ydynt, a chyfraith, a'u Sail a'u gwreiddin o fewn Rhuf. 2.14.15. Naturiaeth, fel na ellir na'i symmud na'i newid. Tragwyddol Rheol Cyfiawnder yw hi, i bawb, hyd ddiweddy y bŷd.
Nid ydyw'r Efengyl yn dodi neb rhyw o bobl (ar un amser) yn rhydd oddiwrth ddyledion a rhwymedigaethau naturiol.
III.
MAe Crist Wedi'n rhyddhau ni oddiwrth Gyfraith y Ceremoniau (y rhai oeddent faych Mat. 23. anrhaith eu dioddef) ond nid oddiwrth Gyfraith y moesau, sef y dêc Gorchymmyn. Mae ef hefyd, wedi'n rhyddhau ni oddiwrth sarrigrwydd a manol-waith Deut▪ 27.26. y Gyfraith hon, ond nid oddiwrth naturiol weddeidddra a'r rheswm sydd ynddi: fe a'n rhyddhâodd ni oddiwrth felltith y Gyfraith pryd y gwnaethpwyd ef yn Gal. 3.13. felltith trosom, gan ddioddef angeu melltigedig ar y Groes, dros ein pechodau.
IV.
MAe'r Gyfraith hon yn Rhuf. 7.1 [...]. sanctaidd ac yn berffaith Psa. 19.7.; ac ynddi ystur Rhuf. 7.14. ysprydol, yn gydstadl a llethrennol; ac wedi ei rhoddi i lywio ac i iniawnu'r holl ddŷn, oddi allan (yn ei aclodau) ac oddi fewn, Exod. 20.17. yn holl fedduliau a bwriadau ei Galon.
Crist (ac efe yn unic) a gyflawnodd Mat. 5.17. y [Page 8] Ddeddf hon, hynny yw, a gadwodd bob titl a Syllabh o honi, heb droseddu. Ni chyflawnodd ef ddim deffig a'r oedd ynddi, canys yr oedd hi yn gwbl-gyflawn a pherffaith, er y dechreuad Psa. 119 96..
V.
MAe Duw wedi amgyffred yr holl ddyledion cynheddfol mewn dêc Gorchymmyn, neu ddêg gair: ein Jachawdwr Crist a'u byrrhâodd i ddai orchymmyn. Mat. 22.26. St. Paul i ûn, sef Cariad: Cariad yw Cyflawnder y Gyfraith. Rhuf. 13.10. hynny yw, Cariad tuac at Dduw, a Chariad tuac at ddyn; tyna gyflawn Swm y Ddeddf.
VI.
ER bod y Ddeddfmor gywrain, mor Deut. 6 5. Mat. 22.37 iniawn, a chwbl berffaith ac na allwn ni ei chadw a'i gwneuthur fal y Rhuf. 3 20. dylem, ac sal mae hithe yn gofyn. Etto (trwy râd Duw yn ein cynhorthwy o) ni allwn ei chwplâucyn belled Gen. 6.9. Joh. 1.1. Lûc. [...].6. [...] Pet. 2.8. ac i fodloni Duw, trwy haeddigaethau Crist. Gwneuthur goreu ac a allom; ac ymofidio am y pethau ni allom, yw'r cwbl ac y mae'r trugarog Dduw yn iddisgwyl ar ein dwy law, yn hyn o beth.
VII.
GOrchymmynion y llêch gyntaf, sy'n cynhwys dyled dŷn tuac Mat. 22.37. at Dduw; iw gyfarwyddo ef i wasanaethu ei Greawdwr ao i addoli ef oddi fewn, ac oddi allan Psa. 95 [...]. ▪ fel y mae [Page 9] ef yn rhwymedig: canys yr hwn a wnaeth y Corph a'r Enaid, sydd yn disgwyl am wasanaeth y ddau rhan; ac i ni ei ogoneddu ef yn y Corph ac yn yr 1 Cor. [...]. [...]. yspryd.
VIII.
GOrchymmynion yr ail Lêch sydd yn cynhwys dyled Dŷn tuac at ei Gymydog; yr hwn y mae ef rhwymedig i'w garu Mat. 22 89. megis ef ei hunan; nid yn unic o herwydd eu bod hwy yn gyd▪ gristnogion, ond hefyd yn gyd greaduriaid Gal. 6.20., wedi eu naddu allan or ûn Act. 17 26. Isa. 58.7. graig; wedi eu gwneuthur gan yr ûn llaw, ac yn dwyn yr ûn nôd, argraph, a delw, sef delw eu 1 Cor. 11.7. Jac. 3.9. Gwneuthurwr.
IX.
NId yw'r Gorchymynion ond ychydig mewn rhifedi a byrr mewn geiriau, etto yn yr ychydig hyn, mae llawer o fatter yn gynhwysedig.
Canys lle mae Duw yn gorchymyn ûn rhinwedd Yn enwedig, y mae ef dan enw'r ûn honno, yn gorchymmyn pob rhinwedd dda arall o'r ûn rhyw; a lle mae ef yn gwahardd ûn bai, neu bechod wrth enw, mae ef dan yr enw hwnw, yn gwahardd yr holl feiau a phechodau o'r rhyw hwnw.
X.
LLe mae Duw yn gorchymmyn ûn rhinwedd dda mae ef (dan yr ûn) yn gwahardd y pechod syd gyferbyn a hi▪ A lle mae ef yn gwahardd [Page 10] ûn peehod, mae ef (dan yr ûn) yn gorchymmyn y rhinwedd sydd gyferbyn a'r pechod hwnw. Megis lle mae ef yn gwahardd lledratta mae ef (dan yr ûn) yn peri i bawb weithio, a thrafaelu yn eu galwedigaeth cyfraithlawn; a bôd yn ddiwall ag yn gynnil am eu pethau, fel na byddo raid yddynt ledratta. Yr hwn a orchymmynodd Amos 5.15. Isa. 1.16.17. gasâu 'r drwg, a orchymmynodd garu'r da.
XI.
LLe mae ûn dyled rhinweddol yn orchymmynedig, y mae'r holl foddion a Sydd yn perthyny ac yn tueddu at y dyled hynny yn orchymmynedig hefyd. A lle mae ûn pechod yn waharddedig, yno mae pob peth ac a allo gyffroi, neu annog dŷn i'r pechod hwnw yn waharddedig hefyd. O fod yr ystur hyn yn y gorchymynion, mae'n Jachawdwr Crist yn dangos (yn eglûr) yn y bregeth a wnaeth ef i ddeongli'r Ddeddf, yn y bummed a'r chweched bennod o Fathew. Ac y mae amryw leodd er aill o'r Scrythur lân yn dangos yr ûn peth os synnier yn dda wrth ei darllen.
Y Weddi.
O Sancteiddiaf Dâd, yr hwn wyt ogoneddus Exod. 15.11. mewn Sancteiddrwydd, ac a fynny dy sancteiddio gan bawb ac a ddel yn agos attat Levi. 10 31.; Bu wiw gennit, yn rasusol fanegu dy ewyllys i ni, a dangos pa fodd y mynnid dy wasanaethu, a pha betha a synnyt eu gwneuthur gennym tra fyddom drigianol mewn pebyll cnawdol 2 Pet. 1.14..
[Page 11]Ti a roddaist i in Gyfraith berffaith a sanctaidd i fod yn Rheol i'n hufudd-dod a'n holl weithredoedd. Arglwydd agor ein llygaid fel y gwelom Psa. 119.18▪ ryfeddol bethau 'r Gyfraith hon; i adnabod ei chyflawnder a'i phûrdeb, ai pherffeiddrwydd hi.
Scrifenna hi ar lêchau ein calonnau, fel ei gwelom hi (yno) ac y gwnelom: cynnorthwya ni a'th sanctaidd yspryd, i gofleidio a chanlyn pôb rhinwedd orchymmynedig ynddi, ac i ochelyd pôb bai a phechod ag a sydd waharddedig fel y byddom wneuthurwyr dy air, ac nid yn wrandawyr yn unic, yn twyllo ein eneidiau Jac▪ 1.22..
Ac er na allwn gyflawnu dy Gyfraith a'th orchymmynion mor gwbl ac y dylem, etto ni a attolygwn i ti dderbyn yr hyn a allom: Ti a wyddost ein an-allu, a pha beth yw dŷn, a pha ddefnydd sydd ynddo, ac ydwyt arferol i dderbyn yr ewyllys ynlle'r weithred: felly derbyn ein amherffeiddrwdd ni a'n anghymmen ufydddod, er ei fwyn ef, yr hwn a berffeiddioedd dy ewyllys ymhôb peth, ac a gyflawnodd pôb cyfiawnder, sef Jesu Grist ein unic cyfryngwr, a'n Pryniawdwr, Amen.
Am Weddi'r Arglwydd.
I.
NId oes neb yn y bŷd hwn mor gyflawn a chyfoethawg nad oes arno ef eisieu rhyw beth: ac nad rhaid iddo geisio cyflawnu ei ddiffygion allan o hono ei hunan. Mae Jonah 1.5.6. Act. 10.2.Naturiaeth yn dywedid ac yn dangos [Page 12] i ni, mae Gweddi ac erfyniad yw'r unic ffordd i gael y cyflawn hâd hyn; a bôd rhaid gwneuthur gweddi ostyngedig at ûn, 'r hwn y mae ganddo bôd peth, ac heb arno eisieu dim 2 Cor. 3.5..
II.
ER bôd Duw yn gyfoethawg mewn trugaredd tuac at Eph. 2.4. bawb ac yn gwybod ein anghenrheidiau ni yn well na 'n hunain, etto efe a fyn i ni erchi cyn y rhoddo ef Mat. 5.6, 21.22. Psa. 50.15. Phil. 4.6., mae efyn edrych yn ôl i ni gydnabod ein Jac. 1.6. deffigion a'n gwendid, a derchafu ein gweddiau teilwng atto ef. ac yno efe a ddyru atteb i'n deisyfiadau o byddant Jac. 4.6.cyfiawn a gweddol.
III.
MAe y rhan fwyaf o ddynion yn Job 37 19. nwybodus yn y dyled a'r gwasanaeth hyn o Weddi; ac heb wybod pa fodd y gweddient fel y dylent Rhuf. 8 26.; sef yn ôl ewyllys Joh. 5 14. Duw. O herwydd hynny, fe ddarfu i'n Jachawdwr Crist (ar Lûc. 11.12. Job 35.13. ddeisyfiad ei Ddyscyblion) osod gwersau i lawr i'r achos hynny: gan roddi yddynt gyflawn ffûrf a dûll o Weddi, yr hon a ellyr ei hoffrwmmu yn ddiofn, heb berigl o wneuthur eirchion anghyfraithlawn, anghall, neu an-weddaidd.
IV.
MAe'r ffûrf o eiriau jachus (a draddododd ein Jachawdwr Crist Mat. 6.6. Lûc. 11.2) yn Weddi ffurfiol o honi ei hunan: nid yn unic yn Siampl neu battrwn i wneuthur gweddiau [Page 13] wrthi, ond yn weddi gyflawn, berffaith, yn cynhwys swm ein holl ddeffigion; ac yn gweddy i bob dŷn, bob amser, ac ar bob achosion.
V.
FEl y mae hi yn weddi berffaith o honi ei hunan, felly mae hi yn ddeddf neu gyfraith i'r holl weddiau, a gydweddo a phob anghen ac a phôb achosion priodol i bob dŷn: ac yn standard neu fesur i holi a phrofi 'r holl wcddiau eraill a a wneler, a'u ydynt hwy yn gymhwys wrth y patrwn, a roddwyd ar y mynydd. Sef y mynydd lle a gwnaeth Crist ei Bregeth gyntaf, ac yn yr hon, y dyscod ef y weddi hon, Mat. 5.1. Mat. 6.6.
VI.
MAe gweddi'r Arglwydd yn rhagori ac (wrth bob rheswm) i'w chyfrif yn uchelach ei braint, na'r holl weddiau a wnelo dynion.
1. Yn gyntaf o herwydd odidawgrwydd yr Athro yr hwn oedd 1 Cor. 1 24: Ddoethineb ei Dâd, ac yn yr hwn yr oedd holl dryssorau Col. 2.3. doethineb yn guddiedig; ac i'r hwn ni roddwyd yr yspryd wrth Joh. 3.34. fesur.
2. Yn ail, o herwydd y gallu sydd gan y Weddi hon gyd a Duw yn amgenach na gweddiau eraill, (fel y mae 'n rheswmmol i ni gredu) pan y byddom yn gweddio ar y Tâd, nid yn unic yn enw ei Fâb Joh. 16 23. ond hefyd yngeiriau ei Fab, Ei unic Fab, yn yr hwn ei bodlonwyd.
VII.
GYdâ'r Weddi hon (fel gydâ gweddiau eraill) mae yn rhaid bod gwir Mat. 21.22. Jac. 1.6. ffŷdd, duwiol Jac. 5.15, 16. daerineb, Lûc▪ 18 13. gostyngeiddrwdd calon a gweddol barch Eccl. 5.1.: Heb y rhai hyn (er godidawgrwdd i weddi o honi ei hunan, neu'r Athro a'i gwnaeth hi) etto ni bydd hi ond an-fuddiol i'r gweddiwr ac anghymeradwy gerbron Duw.
VIII.
YNgweddi'r Arglwydd e'in dyscyr i weddio dros fagad gan ddywedyd [ Ein Tâd] ond yn y Gredo y dyscyr ni y gredu trosom ein hunain, gan ddiwedyd [ Credaf yn Nuw Dâd].
I hyspysu fod yn rhaid i bôb dŷn gredu drosto ei hunan, gan ei fod ef yn gadwedig trwy ei ffydd ei hûn ac nid trwy ffŷdd neb arall Habb. 2.4..
Ond mae'n rhaid i ni weddio dros eraill: canys fel y mae Cariad yn dechreu gartref ond nid yw yn diweddu yno: felly mae gweddi ('r hon sydd ganghen o gariad) er bod ûn troed yddi gartref, heb summud, mae'r droed arall (fel troed y Cwmpas) yn amgylchynu yr holl fyd 1 Tim. 2.1, 2. Jac. 1.16..
IX.
YN y Weddi hon, mae chwech arch, neu ddeisyfiad, wedi eu rhannu 'n gymhwys, rhwng Duw a dŷn.
Y tri cyntaf
- 1. Sancteiddier dy enw, &c.
- 2. Deuet dy deyrnas, &c.
- 3. Byt dy ewyllis ar, &c.
Sy'n perthyny i Dduw.
[Page 15]Y tri diweddaf.
- 1. Dyro i ni heddyw, &c.
- 2. Maddeu i ni ein, &c.
- 3. Nac arwain ni y, &c
Sy'n perthyny at ddŷn.
X.
GWeddio yn lladin, neu ryw jaith ddieithr, nad yw'r gynulleidfa yn ei deall, sydd anghyfraithlawn, o herwydd ei bôd yn an-ffrwythlawn 1 Cor. 14.14, 15, 16. i adailadaeth: A gweddio yn ddisymmwth ac yn ddi-ddarbod (heb baratoi'r galon a'r tafod) sydd rifig ac ehudrwydd, heb ysturied mawrhydi Duw, i fod ef yn y Eccl 5.2. nef, a ninnau ar y ddaiar.
XI.
DArllain neu adrodd gweddiau a wnelo erraill, a ddychon Felly mae Mr. Perkins (gwr duwiol dyscedig) ac eraill, yn dala. fod môr fuddiol a chymeradwy a'r gweddiau a wnelom ein hunain; ac fe a ellir mynych arferu'r ûn weddi (fel y gwnaeth ein Jachawdwr Mar. 26.24. Crist) cyhyd ac y bo'r ûa Rhâd yn eisiau i ni. Nid amrywio ymadroddion, na newydd drwssiadu eirchion y mae Duw yn ymhoffi ynddynt.
XII.
NId ydiw siccr na gwarantedig i neb ddodi heibio ('n gwbl) Weddi'r Arglwydd, er ein bôd yn fedrus i wneuthur gweddiau o bôb sûr: canys yr hwn a'i gwnaeth hi, a orchymmynnodd i'w harseru Lûc [...]1 2.: Fel nad yw Gweddi'r Arglwydd yn caued allan weddiau eraill, felly ni ddyleu gweddiau eraill gaued allan y Weddi hon a sydd fel hâlen yn rhoi blâs da i bob defosiwn.
[Page 16]Mae'n addas ei harferu yn▪ nechreuad neu yn niwedd ein defosionau, fel yr oedd y brif-eglwys (neu'r ffyddloniaid ac oedd nessaf at amser yr Apostolion) yn arferedig i wneuthur.
Y Weddi.
GOgoneddusaf Arglwydd Dduw, yr hwn y mae dy sylwedd yn anfeidrol a'th fawrhydi yn an-fesuredig, mor brin yr ydym yn dŷ adnabod ti? ni allwm drefnu ein geiriau Job 37.19. tuac attat o herwydd tywyllwch.
Yr ydim yn cydnabod mae Creaduriaid gweigion, gwael ydym oll, yn llawn o ddeffygion; gweigion bethau yn llawn o feddyliau a dymuniadau ofer; ac yn fynych heb Jac. 4.3 Job 35.13 gael y pethau a geisiom, o eisieu ceisio fel y dylem, o herwydd bôd ein gweddiau (yn fynych) yn dy ddigio, oblegit eu cymmyscu a ffolineb a gwagedd.
Mawr drugaredd a thiriondeb a ddangosaist i'th wasanaeth-ddynion, pan roddaist i ni ffûrf o eiriau jach [...]s i'n cyfarwyddo pa fodd y dywettom wrthir, i'n dangos beth sydd weddus i'w ceisio genuit, ac i tithau eu caniattau.
O Arglwydd megis a dodaist dy eiriau yn Is. 51 16. ein geneuau, felly dod dy yspryd yn ein calonnau, fel y gallom weddio mewn nerth ac ymddangosiad yr yspryd: fel y bo i ni dderchafu dwylaw pûr, a chalonnau glân tuac attat ti, ac y gwiscom am danom ddyledus bârch, a duwiol ofn, pa bryd bynnac y gwnelom ein gweddiau attat', etto mewn gwir a diogel obaith dy fôd ti, yn Dád i ni, er nad ydym ni Lûc. 15 18. deilwng i'n galw yn blant i ti, a [Page 17] bôd gennym Ddadleuwr gydâ thi yr Tâd yr hwn a'n dyscodd i weddio a dywedyd. 1 Joh. 2.1.
Ein Tâd yr hwn, &c.
Am y Sacramentau.
I.
SAcramentau 'r Testament newydd ydynt ryw o arwyddion gweledig a ordeiniwyd gan Grist ein Jachawdwr, i'n cyfeirio at ryw râs anweledig, yr hon a arwyddoccair ganddynt, ac a hebryngir ynddynt i bob Derbyniwr teilwng.
II.
Y Sacramentau hyn a ordeiniwd mewn defnyddion corphorol a gweledig, o herwydd gwendid dŷn; yr hwn mae'n rhaid athrawiaethu ei ddeall mewn dirgeledigaethau nefawl, a chyffroi ei galon tuac at orchwyliaethau crefyddol trwy gynhorthwy ffurfiau, arwyddion, a gwrthddrychiadau gweledig.
III.
NId yw'r Sacramentau yn gweithio grâs o honynt ei hunain, trwy ryw rinwedd yn glyny ynddynt; ond trwy'r 2 Cor. 10.16. undeb gadarn a'r cyd-berthynasiad sydd rhwng yr arwydd a'r [Page 18] peth a arwyddoccair; A thrwy yspryd a gallu Crist yn Mat. 28 20. eyd-gerdded gŷdâ ei ordeiniadau (yr hwn ny thwylla neb a drychiolaethau) llawer o lês a dderbynnir ynddynt a thrwyddynr, lle na byddo 'r cyfrannogion yn gosod tramgwydd a rhwystr trwy eu anheilungdod eu hunain.
IV.
NId oes ond dau Sacrament, ac a jawn elwir felly ac ydynt anghenrh eidiol (i bawb) i jechydwriaeth: sef Mat. 28 19. Bedydd a Mat. 26 26.27. Swpper yr Arglwydd: y naill, sydd Sacrament o râdd neu'r urddiad cyntaf, neu dderbyniad dŷn i'r Eglwys weledig: a'r llall, sydd Sacrament neu arwydd o'i gadw a'i gynnal ef yn yr Eglwys honno.
V.
Y Sacrament, a jawn-weinidogaeth Gair Duw ydynt arwyddion a nodau i adnabod gwir Mat. 8 20.28.19 Act. 2.42. Eglwys Grist. lle gorchwyliaethir y rhai hyn ac eu trefnir yn jawn, yno mae gwir Eglwys: ond lle mae'nt yn ddeffyg, fe all bed tyrfa neu Gynnulleidfa, ond nid Eglwys eu gelwir hwynt, heb y ddau berh hyn.
VI.
BEdydd a ordeiniwyd nid yn unic yn Gen. 17 11. arwydd o'r cyfammod newydd, neu ordeinhâd i wnenthur gwahaniaeth rhwng ffyddloniaid ac an ffyddloniaid, ond hefyd yn Rhuf. 4 11. insêl i siccrhâu ac i hebrwng addewidion Duw a wnaethpwyd ynghrist i bôb aelod o'i Eglwys ef; ac felly ûn o foddion jechydwriaeth yw'r Sacrament hwn i'r ffyddloniaid Mar. 16 16. Act. 2.38..
VII.
DIrmygu neu ysceuluso 'r ordeinhâd hwn, neu ddefod Bedydd y dwfr (lle ho ef yw ei gael) sydd bechod embeidus i Enaid dŷn, ac nid yw ddim lai na dirmygu Joh. 14 15. Crist, Awdwr yr ordeinhâd, ac ym wrthod a chynghor Duw ei hûn Lûc 7.30.. Fe enynnodd digosaint Duw (yn ddirfawr) wrth Moses Exo. 4.24. eisieu enwaedu ar ei blentyn, ar yr amser tersynedig gan Gen. 17 12. orchymyn Duw.
VIII.
MAe plant Rhieni ffyddlon yn addas i dderbyn Sacrament y Bedydd, fel ac yr oed plant yr Israeliaid i dderbyn yr enwaediad pan yr oeddynt ŵyth niwrnod oed Gen. 17.12.. Ac lle bo ond ûn o'r Rhieni yn 1 Cor. 7 14. Rhuf. 11.16 Credu, mae'r plant i'w cael eu derbyn i holl freintiau a phriodoldeb yr Eglwys a'r sydd yn perthynu at yr ûn hwnnw; o herwydd ei ffydd.
IX.
SWpper yr Argl wydd a ddarparwyd gan ein Jachawdwr Crist, nid yn unic er Lûc. 22.19. 1 Cor. 11.24 coffadwriaeth am ei angeu ef, ond hefyd er cyfranniad ei haeddigaethau i'r Derbyniwr 1 Cor. 10.16. teilwng, i chwanegu serch a chariad perffaith ymhlith y Sainct; ac er mwyn Siccrhâu eu ffydd a'u Cariad hwy at Dduw trwy 'r arwyddion a'r gwystlon gweledig hynny o'i fawr gariad ef tuac atrynt 1 Joh. 4 11. hwy.
X.
ER mwyn jawn-dderbyn y Sacrament hwn, mae'n anghenrheidiol i ddŷn holi ei 1 Cor. ii 26. hunan (nid holi neb arall) pa un a'i fod ef yn deilwng a nad yw: O herwydd nad rhaid i ûn dyn di-swydd neu an-urddol roi cyfrif am bechodau eraill ger bron Duw, oni ddigwydd ei fod ef yn euog a honynt hwy, o 1 Sam. 12.9. ran cyngor, neu gyd-ddwyn Act. 8.1, neu ysceuluso rhyw beth o'r pechodau hynny a allasei ef ei rwystro, neu'r cyfryw.
XI.
MYnych arferu Swpper yr Arglwydd (mewn trefu weddol a diladwy) heb law amryw ddoniau eraill sydd anian-fuddiol i'n hannog i dduwioldêb, a sancteiddrwdd Buchedd. Canys wrth hynny ein rhybuddir ac y gelwir arnom i adnewyddu ac i gadarnhau ein gwiliad wriaeth; i fanol holi ein 1 Cor. ii 28. hunain, i chwilio ein Psa 77.6. monwesau; i lanhâu 'r hên surdos 1 Cor. 5 6. a phob budreddi a fyddo o'n tu sewn, ac i ad-newyddu ein addunedau i wasanaethu Duw yn bryssurach, ae a rhagor o ofalwch.
XII.
NId yw'r Sacramentau hyn i barhau yn unic dros ennyd o amser, ond i'w harferu yn yr Eglwys hyd nes delo 1 Cor. 11.26. Crist drachesn: canys ni ddychon ûn Cristion dyfu i'r fath berffeiddrwydd, Phil. 3.12. Rhuf. 7.14yn y bŷd hwn ac y dychon ef fod uwchlaw Ordeinhâdau ac heb arno ddeffyg eu [Page 21] cynnhorthwy hwnt, naill i iniawni ei ddeall, neu i sywoccâu ei gôf, neu i wresogi ei galon, a chwanegu ei serch tuac at y pethau odd-uchod.
XIII.
YRhai a alwyd yn gyfraithlawn i weinidogaethau Eglwysig, ydynt (yn unic) Mat. 28 19, 20. weinidogion cyfraithlon o'r Sacramentau. Hwynt hwy ydynt Geidwaid y Sêlau; ac iddint hwy yr ymddiriedwyd i'w cyfanosodi, a'u cyfrannu i'r sawl a'u dymunant, ac ydynt addas barodol iddint, ac nid i neb arall.
Y Weddi.
O Fendigedig Arglwydd, ti a fuost râslawn i'th bobl a rhyfeddol yn dy holl weithreddoedd tuac at feibion dynion: bû deilwng genit. (er pan ein gwneithost er dy fwyn dy hunan) drefnu a chyfarwyddo ein camrau tuac attat, a'n gosod yn y llwybrau sy'n tywys i fywyd tragwyddol; gan ein dangos Yn y Gredo:, i jawn gredu ynot, ac i rodio yn Yn y Gorchymynion. iniawn o'th flaen di; ac yn ein holl erfyniau Yngweddi'r Arglwydd i ddywedyd geiriau gweddus a deallus wrthit.
Bu wiw gennit (ymhellach) roddi i ni gynhorthwyau a moddion i gyflawnu'r holl ddyledion hyn, sef dy Sacramentau sanctaidd, y rhai a ordeiniaist i faethu a chadarnhau ein ffydd ynoti; i enynnu Cariad tuac attat; i eofuhau ein erfynion; ac i siccrhau Rhuf. 4.11. ac i sêlu i ni 'r holl addewidion grasawl a wnaethost i'th Eglwys yn dy annwyl sâb.
[Page 22]O Arglwydd dysc i ni arfern 'r cynnorthwyau hyn yn weddus, yn barchedig ac yn ddiolchgar, fel dy Ordeiniadau sanctaidd ti dy hûn; cynnal a chadw hwynt (bôb amser) yn ein plith a bydded dy yspryd sanctaid yn bresenol gydâ hwynt yn oestadol: fel y byddont ffrwythlon a buddiol i weithredu ynom yr holl bethau daionus i'r rhai 'r ordeiniwyd hwŷnt gennit.
Arglwydd gwrando, o'r nefoedd, o fangre dy breswylfod, a maddeu bechodau 'r wlâd bechadurus hon, jachâ ein clwysau, adailada ddinistriaeth ein tîr, cyweiria ein rhwygau a'n hadwyau: Tydi'r hwn a elwir yn Gaewr Is. 58.12 yr Adwy, yn Gyweiriwr y llwybrau i gyfanneddu ynddynt: bydded ein cwymp Is. 3.6, 7 ni dan dy law, a bydd yn Jachâwdwr i ni.
Dywed wrth bobl y wlâd a'r deyrnas hon fel y dywedaist (gynt) wrth dy hên bobl Israel, mi a ddygaf iddynt jechyd a meddigyniaeth, ac mi a meddigyniaethaf hwynt ac a ddatcuddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd Jer. 33.6..
Caniattâ hyn er mwyn dy drugareddau dy hûn; brysia i'n cynhorthwyo o Arglwydd Dduw ein Jechydwriaeth.
Am y Gredo.
PA sawl rhan sydd i'r▪ Grefydd Gristnogawl?
Pedair rhan gyffredinol, y rhai a gofleidir ac a dderbynir (yn barchedig) gan holl Eglwys Dduw trwy'r bŷd, ac ydynt yn cynhwys holl gorph Duwiolaeth, sef y Gredo, y dec gorehymyn, gweddi'r Arglwydd a'r Sacrafennau.
Beth yw godidawgrwydd neu rager-fraint Dyn uwchlaw 'r Creaduriaid eraill?
Megis ac y gwnaethpwyd Dŷn mewn dûll a modd rhagorol oddiwrth y Creaduriaid eraill felly'r ordeiniwyd es i ddiwedd a chyflwr rhagorol, sef tragwyddol ddedwyddwch: Ac er caffael o honaw 'r dedwyddwch hwnw, Duw a ddangosodd iddo, pa bethau sydd i'w gwneurhur a pha soddion i'w harferu os gwnaiff ef jawn ddefnydd honynt.
Beth yw'r moddion a ordeiniodd Duw tuac at gaffaeliaeth y tragwyddol ddedwyddwch.
Y ddau beth hyn yn bennaf. 1. Yn gyntaf jawn gredu yn Nuw. 2 Yn ail, iniawn rodio o'i flaen ef, sef yn ôl ei ewyllis ef a fanegwyd yn y Gair.
Pa'r Air ydych chwi yn y feddwl?
Yr Scrythur lân, yr hon a roddes Duw i fod yn Rheol ddi-dwyll ffŷdd a moesau Bywyd a Chrêd: yr hon sydd yn cynhwys holl byngciarjachus ac anghen rheidiol ŵybodaeth, i wneuthur Gŵr Duw yn berffaith, ac i dywys ef i'r dedwydd [Page 24] ddiwedd a darparwyd iddo.
Pa rai yw'r pyngciau pennaf o ffydd a gwir Gred?
Y gwreiddiol byngciau pennaf, anghenrheidiol i bawb eu derbyn a'u credu, a grynhoir mewn deuddec Articl, y rhai a gynhwysir ynghredo'r Apostolion: yr hon Gredo sydd allwydd neu agoriad i'r holl athrawiaethol byngciau eraill.
Beth sydd iw dybied am y Patrieirch (ac eraill o'r hen amser) cyn gwneuthur y ffûrf hon o Gyffes?
Gwasanaethwyr Duw yn yr hên'amser oeddynt yn gadwedig trwy'r ffydd gynhwysedig yn y Gredo hon, gan fôd pob pwngc o honi wedi eu datcuddio iddynt, ac yn awr iw gweled (yn gymmyscedig) yn Scrifennadau Moses a'r Prophwydi: Canys fel nad oedd ond ûn Eglwys o ddechreuad y Bŷd, felly nid oedd ond ûn ffydd yn perthyn (yn gyffredinol) iddynt hwy a ninnau, ac i bawb a ddêl ar ein hôl ni:
At ba ryw bethau mae'r deuddes Articl hynny yn perthynu?
Mae ûn, sef y cyntaf yn perthynu at Dduw 'r Tâd; yr chwech nessaf, at Dduw'r mâb: a'r ŵythfed, at Dduw'r yspryd glan: y pedwar diweddaf sydd oblegit ystâd a chyflwr yr Eglwys yn y bŷd hwn, a'r bŷd a ddaw.
Beth yw ystur geiriau'r Articl, am ddescyniad Crist i Ʋffern?
Y pwngc hwnw a ellir ei ddeall (yn ddi-berigl) ddwy ffordd:
1. Yn gyntaf ddarfod i Enaid Crist ddescyn i blith yr yspridion aflan, i'r lle perthynasol iddynt, er mwyn amlûgu gallu ei Ddwdod iddynt, nid i ddioddef dim.
[Page 25]2. Yr ail, yw hwn: ddarfod i Grist ddescyn i gyflwr y meirw, a'i ddala ef yno, dan bôwer neu allu marwolaeth, dri diwrnod. A hynny oedd descyniad Crist i Uffern, medd eraill.
Beth yw Credu'r Eglwys lân Gatholic?
Hynny yw, fod gan Dduw (ymhlith holl dylwythau a chenhedlathau 'r ddaiar) rai gwasanaeth-ddynion dewisedig, a phobl etholedig: y rhai a dynnodd ef allan er mwyn ei enw ei hûn; a sancteiddiod a'i yspryd; a alwodd i stâd o Râs, ac a Ordeinioedd i fywyd tragwyddol.
Beth yw credu Cymmûn y Sainct?
Credu Cymmûn y Sainct, yw credu fod holl ffyddlon bobl Dduw wedi eu cydsylltu ynghyd (ag an-weledig rwymyn ffydd a Chariad) a Chrîst eu pen; ac a'u gylydd (ûn a'r llâll) gan gydfeddiannu Dirgeledigaethau'r Eglwys; a chydgyfrannu eu holl bethau da (yfprydol ac amserol) yn eu plith, megis rhai wedi eu bywhau ac ûn yspryd, a chanddynt ûn enaid mewn llawer o gyrph.
Beth yw credu Maddeuant pechôdau?
Hynny yw, fod Duw o'i Ewyllys ei hunan yn maddeu eu pechodau i bechaduriaid etifeiriol yn rhâd, trwy ffydd yng-Hrist, heb wneuthur dim jawn o honynt eu hunain; na chyfrif iddynt ddim haeddigaethau, ond haeddigaethau Crist yn unic▪ A'i fod wedi rhoddi Awdwrdod i'w Eglwys i ddeclario ac i franegu'r Pardwn neu'r maddeuant hyn, ar bob achosion cyfiawn a chyfraithlawn.
Onid oes rhagor o byngciau a Chyffesiadau ffydd heb law y rhai hyn?
Nâg oes, canys Cyffes Athanasius, a'r Nicen Gyffes, nid ydynt ond deongliad ac Eglurhâd ar Gredo 'r Apostolion, o herwydd rhyw ymryson [Page 26] ac ymddadleu a dyfodd yn yr Eglwys yn yr amseroedd hynny; yn enwedig o blegit y fendigedig Drindod a chnawdoliaeth ein Jachawdwr Crist: ond nid oes ynddynt hwy ddim (O bwys a defnydd) nad ydyw yng-Hredo 'r Apostolion.
Am ba achos y dywedyd neu y canid Gloria Patri yn yr Eglwys?
Ffûrf o Gredo fer oedd hi, ac megis byrrhâd a swmm Credo'r Apostolion; yr hon a arferwyd yn yr Eglwys ynghylch amser y Gymmanfa yn Nice, i fod yn arwydd i wneuthur gwahaniaeth rhwng y rhai oeddent yn jawn-gredu yn y Drindod, a'r sawl nad oddent.
Am y Gorchymynion.
BEth yw'r ail bwngc o Grefydd Gristnogawl?
Y Gorchymynion, y rhai (mewn ychydig eiriau) ydynt yn cynhwys yr holl Gyfraith Foral a'r holl swyddau dyledus i'w gwneuthur ym-mywyd Dŷn. Hon yw Rheol ein hufudddod; Pren gwybodaeth da a drwg; sydd yn dangos beth sydd i'w'ganlyn a pheth i'w ochelyd.
Oni ddarfu i'n Jachawdwr Crist ddi rymmu'r Gorchymynion?
Na ddo: Canys ymadrodd Rheswm y'wr Gyfraith hon; Cyfraith wedi ei sylfaenu a'i gwreiddio o sewn Naturiaeth: ac o herwydd hynny, ni ellir na'i symmud na 'i newid: Tragwyddol Rheol cyfiawnder ydyw hi i bôb dyn ymhôb oes, hyd ddiwedd y bŷd. Nid yw'r Efengil (ar ûn amser) yn rhyddhâu neb rhyw bobl oddiwrth ddyledion naturiol.
[Page 27]Ond'y mae'r Scrythur yn dywedyd, Nad ydym dan y ddeddf, ond dan Râs: gan hynny onid ydym yn rhydd oddiwrth y Ddeddf?
Crist a'n rhyddhâodd ni oddiwrth Gyfraith y ceremoniau (yr hon oedd faich anrhaith i oddef) nid oddiwrth Gyfraith moesau sef y dec Gorchymyn. Fe a'n rhyddhâod ni hefyd oddiwrth sarrigrwydd a manol-waith Gyfraith y moesau, ond nid oddiwrth y naturiol weddeidd-dra a'r rheswm sydd ynddi; fe a'n rhyddhâodd ni oddiwrth felltith yr holl Gyfraith, pan y gwnaethpwyd ef yn felltith drosom, gan ddioddef angeu melltigedig ar y Groes, am ein pechodau.
A ydyw hon yn Gyfraith berffaith yr hon nid rhaid ei gwellhâu?
Ydyw: mae hi yn Gyfraith sanctaidd, a chwblberffaith; ac ynddi ystur ysprydol yn gystadl a llythrennol; wedi ei rhoddi i iniawnu'r holl ddyn o'r tu allan (yn ei aelodau) ac o tu fewn, yn ei feddyliau a bwriadau ei galon. Crist a ddaeth i gyflawnu'r Gyfraith hon (ac a wnaeth felly) gan gadw pob titl a syllabli a honi, heb droseddu: Ni chwplâodd ef ddim deffigion a'r oedd ynddi, canys yr oedd hi yn gwbl-gyflawn a pherffaith o'r dechreuad.
Onid ydyw dyledion Dyn yn y bywyd ymma yn amml o rifedi?
Ydynt, etto Duw (yn ei anrhaith ddoethineb) a'u crynhôdd eu gyd oll, ac a'u cynhwysodd mewn dec gorchymyn, neu ddec Gair, fel y geilw Moses hwynt: Crist a'u cynhillodd i ddau, St. Paul i ûn, hynny yw i Gariad, Cariad yw cyflawnder y Gyfraith; hynny yw, Cariad tuac at Dduw a Chariad tuac at ein cymmydog: hynny yw cwbl swmm y Gyfraith foesawl, neu foral.
A ydyw bosibli neb gyflawnu 'r Gyfraith hon?
[Page 28]Er bod y Gyfraith mor gywrein, ac mor iniawn a chwbl berffaith, ac na all neb ei chadw, a'i gwneuthur mor gyflawn ac y dylent, ac y mae hitheu yn gofyn, etto (trwy râd Duw yn ein cynnorthywo) fe a ellir y gwneuthur hi cyn belled ac i fodloni Duw, trwy haeddigaethau Crist: gwneuthur oreu ac allom, ac ymofidio am y pethau ni allom eu gwneuthur, yw'r cwbl ac y mae'r trugarog Dduw yn dysgwyl ar ein dwylaw, yn hyn o beth.
Beth yw dyledion y llêch gyntaf?
Gorchymynion y llêch gyntaf, sy'n cynhwys dyled dŷn tuac at Dduw, yn ei gyfarwyddo ef i wasanaethu ei Greawdwr ac i addoli ef oddi fewn ac oddi allan; fel y mae ef yn rhwymedig: Canys, yr hwn a wnaeth y Corph a'r Enaid sydd yn disgwyl am wasanaeth y ddau ran; ac i ni ogoneddu ef yn y corph ac yn yr yspryd.
Beth yw dyledion yr ail Lêch?
Gorchymynion yr ail Lêch ydynt-yn cynhwys dyled Dŷn tuac at ei Gymydog: yr hwn y mae ef yn rhwymedig ei garu, megis ei hun: nid yn unic o herwydd eu bôd yn gydd gristnogion, ond hesyd am eu bôd yn gyd-greaduriaid, wedi eu naddu allan o'r ûn graig, eu gwneuthur gan yr ûn llaw, ac yn dwyn yr ûn argraff, llûn a delw, sef delw eu gwneuthurwr eill dau.
Mae'r Gorchymynion yn aml o rîf ac yn fyr mewn geiriau: onid ydynt yn cynhwys ychwaneg mewn ystur, nac mewn geiriau?
Ydynt fwy o lawer, ac y mae Rheolau i ddangos pa gymmaint eu mae'nt yn ei ddwyn: yn gyntaf.
Lle mae ûn Rhinwedd dda orchymynedig wrth ei henw, yno mae'r holl rinweddau da eraill o'r ûn rhyw yn orchymynedig hefyd. A lle [Page 29] mae ûn bai neu bechod yn waharddedig, yno mae'r holl felau a phechodau o'r rhyw hynny, dan enw'r ûn hwnnw yn waharddedig hefyd.
A oes Rheolau ymhellach i fesur ehangder y Gorchymynion?
Oes, dau ychwaneg. 1. Llê mae ûn Rhinwedd yn orchymynedig, yno mae'r bai neu'r pechod sydd wrthwyneb iddi yn waharddedig hesyd: a llê mae ûn bai neu bechod yn waharddedig, yno mae'r rhinwedd sydd gyferbyn a'r pechod hwnw yn orchymynedig dan yr ûn. Megis llê mae lledrad yn waharddedig, yno mae poen a llafur onest (yn ein galwedigaeth) a chynnildeb am ein pethau, yn orchymynedig hefyd, fel na byddo dim achos i ddynion ledratta rhag eisiau.
Beth yw'r Rheol arall?
Pa le bynnac y mae ûn dyled neu swydd yn orchymynedig, yno mae pob peth perthynasol a buddiol i hebrwng dŷn at y dyled hwnw, yn orchymynedig hefyd: a llê mae ûn pechod yn waharddedig, yno mae pob peth a allo gyffroi, neu annog dyn i'r pechod hwnw, yn waharddedig hefyd.
Am Weddi'r Arglwydd.
PA ham mae'n rhaid gweddio?
O herwydd nad oes ûn dyn (yn y byd hwn) mor gyflawn nad oes arno ef eisieu rhyw beth; ac yn rhaid iddo geisio cyflawnad i'r eisieu hyny allan o hono ei hunan: mae naturiaeth yn dangos ac yn dyscu i ni, mae Gweddi neu erfyniad yw'r ffordd i gael cyflawnu'r eisieu hyny; a bod yn rhaid gwneuthur gweddi ac erfyniad at ryw [Page 30] ûn a sydd iawn o'r cwbl, yn meddiannu pob peth, ac heb arno ddim deffyg.
Mae Duw yn llawn daioni, ac yn gwybod ein holl angenrheidiau, pa raid (gan hyny) i ymbil âg ef, a gweddio arno?
Er bod Duw yn gyfoethawg o druga redd, ac yn gwybod ein hangenrhaidiau yn well na ni ein hunain, er hynny mae ef yn edrych yn ôl i' ni ofyn cyn y rhoddo ef: fe a syn i ni gydnabod ein deffygion a'n gwendid a derchafu gweddi bûr ddefosionol atto, ac yna'r ettib ef ein deisyfiadau os byddant cyfiawn a gweddol.
A wasanaetha pob gweddi, ar haddûll bynnac ei gwneler?
Na wna: ein Jachawdwr Crist (gan hynny) yn gwybod ein hanwybodaeth yn y dyled hyn o weddi, a osododd (ar ddeisyfiad ei Ddyscyblion) wersau o'n blaen ni, ac a ddangosodd wîr a jawn ffûrf o weddi, yr hon a ellir ei hoffrwm yn ddiom, heb berigl o wneuthur eirchion ang-hyfraithlawn ac an-weddaidd.
A ydyw Geiriau ein Jachawdwr Crist yn y chweched o Fathew a'r 11. o Lûc, yn weddi?
Ydynt, yn weddi ffûrfiol: nid yn unic yn siampl i wneuthur gweddiau wrthynt, ond gweddi gyflawn berffaith, yn cynhwys swm ein deffygion, ac yn cyd-weddy i bod dŷn, bod amser ar bob achosion.
Oni ellir gwneuthur ac arferu gweddiau eraill?
Gellir yn ddi-ammeu, ond rhaid i'r weddi hon fod yn ddeddf neu'n gyfraith i'r gweddiau eraill; yn Rheol a chyfarwyddiad i wneuthur gweddiau, a gydweddo a phob achos priodol neu nailltuol pôb dŷa, pan y byddo ef yn teimlaw ei blâ, neu ei ddolur ei hûn: Ac yn Standard [Page 31] neu fesur i holi ac i brofi 'r gweddian hynny wrtho, beth wnânt a bôd yn ôl y Patrwn a ddangoswyd ar y mywyrdd.
A ydyw gweddi'r Arglwydd yn rhagori ar hall weddian eraill?
Ydyw, ac iw chyfrif o flaen yr holl weddiau a wnelo dynion, o herwydd.
1. Yn gyntaf, godidawgrwydd yr Athro, yr hwn oedd Ddoethineb ei Dâd, ac yn yr hwn yr oedd holl drysorau doethineb yn guddiedig; i'r hwn ni roddwyd yr yspryd wrth fesur.
2. Yn ail, o herwydd gallu'r weddi hon gydâ Duw, fel y mae rheswm i ni gredu felly, pan y gweddiom ar y Tâd, nid yn unic yn enw ei Fab, ond hefyd yngeiriau ei Fâb, ei unic Fâb, yn yr hwn y bodlonwyd.
A ydyw gweddiau a wnaethpwyd gan eraill yn fuddiol iw harferu?
Darllein neu adrodd gweddiau a wnêl eraill a ddychon fôd mor fudd ol a chymeradwy a'r gweddiau a wnelom ein hunain▪ ac fe ellir synycharferu' ûn weddi (fel y gwnaeth ein Jachawdwr ei hunan) cyhyd ac y bo yr ûn rhyw râd yn eisieu i ni: Nid amry wio ymadroddion, na newydddrwsiadu eirchion y mae Duw yn ymhoffi ynddynt.
Pa ham y gorchymynodd Crist i ddywedyd Ein Tâd yn hytrach nâ Fy-nhâd?
Yn y Gredo y dywedwn (Credafyn-Nuw) ond yn y weddi hono y dywedwn (Ein Tâd) i ddangos ac i ddyscu i ni, fôd yn rhaid i bôb dyn gredu drosto ei hunan, o herwydd ei fod yn gadwedig trwy ei ffydd ei hûn, ac nid trwy ffydd neb arall. Ond mae'n rhaid i ni weddio dros eraill yn gydstadl a throsom ein hunain: sel y mae Cariad yn dochreu gartref, ond nid yw hi yn terfynn yno: felly mae Gweddi ('r hon sydd ganghen ohoni) [Page 32] er bôd [...] troed iddi gartref, mae'r llall (fel troed y [...]) yn amgylchyny 'r holl fyd.
Pa sawl arch sydd yngweddi 'r Arglwydd?
Mae chwech, wedi eu rhannu yn gymhwys, rhwng Duw a Dŷn.
Y tri cyntaf.
- 1. Sancteiddier dy enw, &c.
- 2. Deued dy deyrnas, &c
- 3. Byd dy dwyllis ar, &c.
Sy'n pyrthyny at Dduw.
Y tri diweddaf.
- 1. Dyro i i ni heddyw, &c.
- 2. Maddeu i ni ein, &c.
- 3. Nac arwain ni i, &c.
Sy'n pyrthyny at ddyn.
A ydyw cyfraithlawn i ni weddio yn lladin?
Nag yw: nâc mewn ûn jaith arall na syddo'r Gynulleida yn ei ddeall. canys mae hynny yn anffrwyth lawn i adailadaeth (sel y mae St. Paul yn dangos yn eglur) felly gweddio yn ddi-symmwth, ac yn ddi-ddarbod, sef heb syfyrio a phwyso yr geiriau a ddygcom ger bron Duw, sydd anweddus ei arferu; yn dangos ehudrwydd ac ammarch, heb ysturied fawrhydi Duw, ei fod ef yn y Nêf, a ninnau ar y ddaiar.
A ddychon y rhai a fedrant wneuthur gweddiau eu hunain, roi gweddi yr Arglwydd heibio?
Na allant: canys yr hwn a'i gwnaeth a orchymynodd hesyd ei harferu; ac o herwydd hynny nid yw siccr na gwarantedig y ddodi heibio 'n gwbl y weddi hon, er ein bod yn fedrus i wneuthur amryw weddiau. Fel nad yw Gweddi yr Arglwydd yn caued allan weddiau eraill: felly ni ddychon ac ni ddylau weddiau eraill gaued allan y weddi hon, a sydd fel halen yn rhoi archwaithiad a blâs da ar bôb gweddi, ac eysyniad a wnelir.
Am y Sacramentau:
BEth yw amcan ac ystur y Sacramentau?
Sacramentau'r Testament-newydd ydynt ryw arwyddion gweledig a ordeiniwyd gan ein Jachawdwr Crist, i'n cyfeirio at ryw râs a dawn an weledig yr hwn a arwyddocceir trwyddynt, ac a hebryngir ynddynt i bôb Derbyniwr teilwng ac addas.
Pa'ham yr ordeiniwyd y Sacramentau mewn defnyddion gweledig a Chorphorol?
O herwydd gwendid dŷn, yr hwn mae'n rhaid athrawiaethu ei ddeall mewn dirgeledigaethau nefawl, a chyffroi ei galon tuac ar orchwyliaethau crefyddol, trwy gynhorthwy ffurfiau, arwyddion, a gwrth-ddrychiadau gweledig.
Pa leshâd a all bôd i enaid dyn o'i olchi âg ychydig o ddwfr, neu o fwytta tamaid o fara, neu felly?
Er nad yw'r Sacramentau yn gweithio grâs yn y galon, o honynt eu hunain, mewn ffordd naturiol, a thrwy rinwedd trigianol ynddynt: etto o herwydd y perthynasiad agos, a'r ûndeb sydd rhwng yr arwyddion a'r pethau a arwyddocceir; ac o herwydd bôd yspryd a gallu Crist yn Cydgerdded ac yn cyd-weithio gydâ ei ordeinhâd ei hûn (yr hwn nid yw arferol i dwyllo neb a rhithiau gweigion) mae llawer o ddaioni yn cael eu hebrwng i'r Enaid yn y Sacramentau, oni bydd y bai a'r rhwystr o'i hachos eu hunain.
Pa sawl Sacrament a sydd?
Nid oes ond dau a iawn elwir felly, ac ydynt (yn gyffredinol) yn angenrheidiol i jechydwriaeth, [Page 34] sef y Bedydd a Swpper yr Arglwydd: y cyntaf ydyw Sacrament o'n derbyniad i'r Eglwys weledig; a'r ail yn arwydd o'n cadw a'r cynnal yn yr Eglwys honno.
Beth yw'r nodau a'r arwyddion i adnabod Eglwys Crist?
Mae dau nôd an-yscaredig i adnabod y wir Eglwys, sef y Sacramentau, a jawn weinidegaeth gair Duw: lle y gorchwyliaethir y rhai hyn ac eu trefnir yn jawn, yno mae gwir Eglwys Grist: a lle maent yn ddiffygiol fe all bod tyrfa neu gynulleidfa o bobl, ond nid Eglwys eu gelwir, heb y ddau beth hyn.
I beth yr ordeiniwyd y Bedydd?
Bedydd a ordeiniwyd, nid yn unie i fod yn arwydd o'r cyfammod newydd neu ordeinihad i wneuthur gwahaniaeth rhwng ffyddloniaid ac an ffyddloniaid, ond hefyd yn insêl i siccrhau ac i hebrwng addewidion Duw a wnaethpwyd yng-hrist i bôb aelod o'i Eglwys ef; ac felly ûn o foddion jechydwrlaeth yw'r Sacrament hwn i'r ffyddloniaid.
Beth yw'r perigl o eusceuluso Sacrament y Bedydd?
Dirmygu neu eusceuluso 'r ordeinhâd hwn, neu ddefod o ddwfr-fedydd (lle byddo ni iw chael) sydd bechod embydus i'r Enaid: ac nid yw ddim lai na dirmygu Crist, Awdwr yr Ordemhâd ac ymwrthod a chyngor Duw ei hûn. Fe cnynnodd digofaint Duw yn ddirfawr, yn erbyn Moses, eisieu enwaedu ar ei blentyn ar yr amser terfynedig gan orchymyn Duw.
A ydiw plant bychain yn deilwng neu yn addas y gael eu bedyddio?
Mae plant rhieni credadwy yn addas i dderbyn Sacrament y Bedydd, fel yr oedd plant yr [Page 35] Israeliaid i dderbyn yr enwardiad pryd nâd oedddynt ond ŵth niwrnod oed. A lle mae ond un or Rhieni yn credu, mae'r plant i'w derbyn i holl briodoldeb yr Eglwys sydd yn perthynasu at hwnw o herwydd eiffydd.
Pa ham yr ordeiniwyd Swpper yr Arglwydd?
Hi a ddarparwyd gan ein Jachawdwr Crist nid yn unic er coffadwriaeth am ei Angeu ef, ond hefyd er cyfranniad o haeddigaeth a ffrwyth ei farwolaeth i'r derbyniwr teilwng, er chwanegu serch a chariad ymhlith y sainct, ac er siccrhau eu ffydd a'u cariad hwy tuac at Dduw, trwy'r arwyddion a'r gwystlon gweledig hyn, o'i fawr gariad ef tuac attynt hwy.
Beth sydd angenrheidiol i Gristion i'w wneuthur fel y gallo ef dderbyn y Sacrament hwn yn deilwng?
I jawn dderbyn y Sacrament hwn, angenrheidiol yw i ddŷn i hol i a phrofi ei hunan (nid neb arall) pa un a wna ef ai bod yn deilwng a'i nad yw: o herwydd nad rhaid i ûn dŷn diswydd ac an-awdyrdodol roi cysrif i Dduw am bechodau rhai eraill, oni bydd ef yn euog o honynt hwy, o ran cynghor, cyd ddwyn neu eufceuluso rhyw beth a allasei rwystro 'r pechodau hynny.
A ydyw mynycharferu a derbyn y Sacrament hwn yn fuddiol ac yn angenrhaidiol?
Ydyw, canys heb law amryw ddoniau eraill, mae'n anian-fuddiol i'n hannog i dduwioldeb a sancteiddrwdd buchedd; wrth hyn y gelwir ac y rhybuddir ni i adnewyddu ac i gadarnhau ein gwiliadwriaeth, i fanol holi ein hunain, i chwilio ein monwesau, i lanhau 'r surdos a phob budreddi a fyydo oddi fewn i ni, ac i adnewyddu ein addunedau i wasanethu Duw a mwy o ofalwch.
[Page 36]A oes ûn amser terfynedig i'r Sacramentau cyn ailddyfodiad Crist?
Nâg oes, ond y maent hwy i'w harferu hyd oni ddelo ef trachefn i farnu'r bŷd, ac ni ddychon ûn Criston dyfu i'r faeth berffeiddrwydd yn y bŷd hwn, fel y gallo ef fod uwch-law ordeinhadau, ac heb arno eisieu ei cynhorthwy hwy, naill i iniawnu ei ddeall, neu i fywoccâu ei goffadwriaeth, neu i wresogi ei galon, a chwanegu ei serch tuac at y pethau oddi-uwchod.
Ac i'r pethau hyn mae pob Cristion sobr cymhedrol a gostyngedig, yn eu cael hwy yn fuddiol ac yn nerthol.
Pwy ydynt Orchwylmyr a Gwenidogion cyfraithlawn y Sacramentau?
Yn unic, y rhai a alwyd (yn gysraithlawn) i weinidogaethau Eglwysig. Hwynt hwy ydynt Geidwaid y Sêlau, i ba rai yr ymddiriedwyd eu cyfanosodi a'u cyfrannu i'r sawl a'u dymment ac a fyddant addas a pharodol.
Dosparthiad y Gredo trwy'r holl Bynciau, yn nailltuol.
1. YR wyf yn credu yn-Nuw 'r Tâd, holl alluog, Creawdwr Nef a Daiar.
2. Ac yn Jesu Grist ei unic fâb ef ein Harglwydd ni.
3. Y genhedlu ef trwy 'r yspryd glân, a'i eni o Fair forwyn.
4. Iddo ddioddef dan Pontius Pilatus, ei groeshoelio; ei farw a'i gladdu.
5. Ddescyn o honaw i Uffern, a'i gyfodi y trydydd Dŷdd.
[Page 37]6. Iddo escyn i'r nefoedd, a'i fôd yn eistedd ar ddeheu law Dduw Dâd, holl alluog.
7. Y daw ef oddi yno, yn niwedd y bŷd, i farnu byw a meirw.
8. Yr wyf yn credu yn yr yspryd glân.
9. Y fôd gan Dduw Eglwys lân gatholic, wedy ei gwascaru trwy 'r holl fŷd, yr hon yw Cummundod y Sainct.
10. Yr wyf yn Credu fôd maddeuant pechodau i'w gael yn yr Eglwys trwy wir ffydd ac e [...]feirwch.
11. Y bydd ad-gysodiad i'r Cnawd, yn y Dŷdd diwethaf.
12. A bôd Bywyd tragwyddol, yn ôl y fuchedd hon.
Gweddi a fyfyriwyd wrth fyned i mewn i Eglwys gandryll, 1655. lle buase na Fhregeth na gwasanaeth dros lawer o flynyddau o'r blaen.
O Dragwyddol Sancteiddrwdd, ac an-feidrol Ddaioni! mor athrist ac anghyfannedd yw'r lle hwn, lle 'r oedd (yn hwyr o amser) Bobl a elwir dy enw arnynt, yn arferedic o ddyfod ynghyd i alw ar dy enw; i geisio dy wyneb ac i gyfarfod a thi yn y Gweindogaethau a'r Ordeiniadau, a ddarparaist ti dy hûn: mor weddw y disgwyl (ynawr) y lle hwn, wedy eu osod yn drigfa dallu [...]d, ac yn Gymmanfa i'r Ellyllon i lammu ynddo.
Yr wyf yn cydnabod y Scrifen-law ar y parwydydd, Isa. 34.13. nodau a llethrennau dy gyfiawn ddigofaint, [Page 38] yr hwn wyt yn cymhwyso cospedigaaethau yn ôl y trofeddau, ac yn amlygu y naill wrth gyd fesurdeb y llall.
Arglwydd, os o herwydd fy'mhechodau i yr estynnwyd llinin an-rhefn a meini gwaged dros y lle hwn; os trwy oerni ac yscculysdra yn y sanctaidd orchwyliaethau, os trwy ddeffyg zêl am dy ogonîant a'th fawredd, y dy-hunais dy Gyfiawnder, wele fi ymma (mewn gwir ostyngeiddrwdd) yn ymgrymmu ger dyfron i ddeisyf trugaredd a maddeuant, gan addef (i'th▪ ogoniann di) dy fôd yn gyfiawn yn yr holl bethau a ddigwydodd arnom.
Ac os pechodau'r Gynnulleidfa, ar oedd arfer o gynniwer i'r lle hwn, a dynnasant y lawr y dial ymma, ac a ymchwelasant dy wyneb oddiwrth y lle hwn, wrth ddirmygu y Dirgeledigaethau, a drefnyd yn y lle hwn, neu sawl ac oedd yn eu trefnu hwynt, rhaid addef drachefn a dywedyd: Cyfiawn ydwy i O Arglwydd ac iniawn yw dy farnedigaethau.
Cyfiawn oedd i't gaued drws dy Dŷ yn erbyn y rhai a gaeuase eu clustiau a'u calonnau i'th erbyn di, ac y ddwyn ymmaith yr ymborth o ger eu bron yr hwn oeddynt yn eu ddi-bhlasu ac yn eu ddi-brissio.
Etto o Arglwydd trugarhâ wrth y Gwenidog a'r Gynnulleidfa, ac na thro ymmaith (yn gwbl) dy wyneb, mewn digllonedd: Fal yr ydym yn cyfaddebh dy gyfiawnder felly 'r ydym yn attolwg amdy drugaredd, llewyrcha dy wyneb ar dy Gyssegr anrharthiedie: Dychwel attom ni o Arglwydd, ac adnewydda ein dyddiau megis cynt. Trugarhâ wrth Eglwys orthrymmedic, ac wrth Deyrnas wahanedic: edrych ar dy Weinidogion sydd wedy eu taro i'r cîlfachau a'r dirgel leodd, ac ar [Page 39] eu Cynnulleidfaodd sydd yn yn cyrwydro, fel defaid heb fugail, ac yn trafaelu hwnt ac ymma i ymofyn Gair Duw, ac nid ydyw ei gael. Amos 8.11
Cascla a chynnull hwy o Fugail Israel, a chyfarwydda hwy yn y ffordd, ac a'th ffon a'th wialen cyssura hwynt. Trugarhâ wrth anghyfanneddra dy Eglwys, adailada 'r hên gynteddau, mae hi'n oed y drugarhau wrthynt, ie mae hi yn gwbl amser.
Sawl a osodaist yn Geidwaid ar y mûrau na thawant, ddydd na nôs, a'r sawl sydd yn Cofio yr Arglwydd na ddistawant ac na adawant ddistawrwdd iddo, hyd oni Siccrhâo ef eu bobl, ac hyd oni osodo ef yr Eglwys hon yn foliant ar y ddaiar, fal na elwir hi mywach anghyfannedd a gwrthodedic: ond gwna hi yn Ardderchaw. grwydd tragwyddol, yn llawenydd i'r holl Genhedlaethau.
Fal y dyscom trwy dy gospedigaethauwellhâu ein bucheddau, ac er dy fwyniant, roddi yti foliant a gogoniant yn oes oesoedd, Amen.