Bedydd Plant or Nefoedd NEU, DRAETHAWD AM Natur a Diben BEDYDD.

Yn profi, Trwy ddeuddeg o Resymmau Scry­thuraidd y dylid bedyddio plant y ffyddloniaid.

O waith JAMES OWEN Gweini­dog yr Efengyl.

Tanto magis pro infantibus loqui debeMus, quanto minùs ipsi pro se loqui possunt. Aug.
[...]. Chrys. in
Heb. 6. 6.
Act. 16. 15.
[...] hynny yw, bedyddi­wyd hi a phlant ei thŷ. v. 33. [...]bedyddiwyd ef, a holl blant ei dŷ.

Printiedic yn Llundain gan F. Collins. 1693.

At y gwir barchedic Mr. Samuel Jones Gweinidog yr Efengyl, yn Shir For­gannwg.

EIddo chwiyw'r llyfr hwn ar am­ryw achosion, eithr yn enwedi­gol o herwydd i chwi fy annog trwy daer ymbil i amddeffyn y gwirionedd presennol, sydd yn dal allan hawl plant bychain i ragorfreintiau y Cy­fammod Newydd. Gwirionedd wedi ei oruwch-adeliadu ar sail y prophwydi ar Apostolion, yn gyfoed ar Cyfam­mod o ras, yr hwn a wnaethpwyd âg Adda ac ai hâd. Gwirionedd a dra­ddodwyd cyn y gyfraith, a amlygwyd tan y gyfraith, ac a siccrhawyd tan orchwyliaeth yr Efengyl.

Gwirionedd a dderbyniwyd yn gy­ffredinol yn y brif eglwys Apostolaidd, ac a barhaodd yn ddiwrthyneb hyd yr oes ddiwethaf. Gwirionedd yr hwn yw sylfaen jechydwriaeth yr han­ner mwyaf o eglwys Dduw Canys os yw plant y ffyddloniaid allan o Gy­fammod, y maent heb Dduw ac heb Eph. 2. 12. obaith. Diammeu ŷdyw fod y Cyfam­mod Cyntaf yn eu condemnio, o her­wydd [Page II] euogrwydd y pechod gwreiddi­ol, ac os heb hawl y maent ir Cyfam­mod gras, y mae digofaint Duw yn aros arnynt. Eithr na atto Duw i ni dybied fod mwy o rinwedd yn yr A­dda cyntaf i gondemnio, nac sydd yn yr ail-Adda i gadw: pe safasei yr A­dda cyntaf, nyni a'n plant a safasem hefyd, a ydyw ffydd yn yr Ail Adda yn gwneuthur cyflwr ein plant ni yn waeth nac y buasei ef trwy ufudd-dod yr Adda cyntaf? Bu galar, ac wylo­fain, Mat. 2. 18. ac ochain mawr yn Rama, Rachel yn wylo am ei phlant, ac ni fynnei ei chyssuro, am nad oeddent? Onid oes a­chos mwy i holl eglwysi Duw ar y ddaiar i alaru âg wylofain tost a chwe­rw, pe bae un hanner o honynt gwe­di eu torri oddiwrth Gyfammod je­chydwriaeth? Eithr bendigedic fyddo y Duw anghyfnewidiol a geir-wir, y mae cadarn sail ei Gyfammod ef yn sefyll, ac ni all holl nerthodd y ty­w llwch ei dadymchwelyd.

Sir, Fy ewyllys am dymuniad i oedd ar i chwi, yr hwn y mae gen­nych dafod y dyscedic, i fod yn Ddad­leuwr cryf tros y gweiniaid hynny y rhai ni allant ddadleu trostynt eu hu­nain, [Page III] ond trwy wylofain a dagrau. Dy­wedais, Job 32. [...], 11. dyddiau a draethant, a lliaws o fly­nyddoedd a ddyscant ddoethineb, wele, dis­gwyliais wrth eich geiriau, clust-ymwran­dewais am eich rhesymmau; eithr pan na allech chwi (o herwydd rhesymmau nad rhaid eu henwi) gymmeryd y gwaith yn llaw, ac nid oedd arall ai cymmerei, we­di disgwylo honof, ymroais yn ol mesur y ddawn a dderbynniais gan yr Arglwydd i sefyll ar yr adwy, er amddeffyn y Cy­fammod tragywyddawl a wnaeth Duw â r ffyddloniaid, ac i hâd. Credais, am hyn­ny 2 Cor. 4. 13. y lleferais. Mawr yw'r gwirionedd, ac efe a orfydd. Mae'r un gorchymmyn yn ein rhwymo i gyflawni, ac i amddeffyn addunedau ein bedydd. Tadau ydym, ac y mae cyfraith natur yn dyscu i ni am­ddeffyn meddiannau ein plant: Goruch­wiliwyr ydym ar dŷ Dduw, ac ni a ddy­lem roddi achles ir egwan ar gorthrym­medic: Bugeiliaid ydym, a'n dyledswydd yw gofalu am wyn y praidd, rhag i neb eu bwrw allan or gorlan, ai gwneuthur yn ysclyfaeth ir llew rhuadwy. Adeiladwyr, a milwyr ydym, a rhaid i ni adeiladu muriau Caersalem, gan weithio âg un llaw yn y gwaith, ac â'r llaw arall yn dal Neh. 4 17. arf, ac nid oes i ni wrthod y meini by­chain hynny, a dderbyniodd y Tad ir hén adeiliad, a dderbyniodd y mab ir a­deiliad newydd, ac a dderbynnir gan yr Mat. 19. 14 [Page IV] yspryd glan, yr hwn sydd yn eu gwneu­thur Lu. 1. 44. yn feini bywiol or Gaersalem uchod. Or meini hyn (a deflir gan rai allan or Lev. 14. 40. ddinas i le aflan,) y mae Duw yn codi plant i Abraham. Mat. 3. 9.

Fel na byddo i mi chwanegu terfynnu llythr, yr wyf yn attolwg arnoch ar gyd­ymdrech o honoch gyda myfi mewn gweddiau, ar i Dduw fendithio y llyfr hwn, i ddyfod ar cyfeiliornus ir jawn, i adeiladu'r gwan, i sefydlu'r amheyus, ac i ddwyn ar gof i bawb addunedau ei bedydd.

Rhynged bodd i chwi, wr mwyn, dderbyn y rhodd wael hon megis tystio­laeth ddiochgar o'm rhwymedigaeth i chwi; ac os bydd y traethawd hwn yn gymmeradwy i'ch barn fanwl ddi-duedd chwi, ni all lai na bod felly i bawb or doeth ar dyscedic. Duw a dywallto ar­noch fesur dauddyblyg oi yspryd, ac a fendithio eich llafur yn cyflawni ac yn cynnal y weinidogaeth; felly y gweddia

eich brawd anheilwng yn yr Efengyl, James Owen.

Y Rhagymadrodd.

Y Cymro hawddgar!

Y Llyfr bychan hwn a ddwyn ar gof iti dy Addunedau cyntaf, sef addunedau dy fedydd. Tros y rhain yr ydwyf yn dadleu. Mi a fernais mae anghenrhaid oedd i mi scrifennu attat ith siccrhau yn y gwirionedd presennol, Mae Duw yn ein bedydd yn ein tywys ger llaw y dyfroedd tawel, pechod yw i un awel dymestlog i chwythu ar­nynt, ai cyffroi i fod yn ddyfroedd Mas­sah a Moribah, yn ddyfroedd profedi­gaeth a chynnen. Bedydd yw dy­froedd meddiginiaethol y Gyssegr, pechod ydyw fod y cyfryw archollion yn ein plith y rhai nid yw rhinwedd y dyfroedd hyn yn eu jachau.

Y mae pedair o farnau gwahanol ynghylch bedydd.

1. Rhai a wadant fedydd dwfr yn gwbl, megis y Sociniaid ar Quaquers, a rhai eraill. Yn erbyn y rhai'n mi a bro­fais barhad bedydd dwfr, yn yr ail ben­nod or llyfr hwn.

[Page VI]2. Y mae eraill yn ammeu eu bedydd cyntaf, eithr nid ydynt yn ail fedyddio. Ni wn ni pa fodd y gallom iawn ddef­nyddio y bedydd hwnnw, am ba un y maent yn ammeu a'i gwir fedydd ydyw. Os nid bedydd ydyw, pa ham nad y­dynt yn ei adnewyddu, os gwir fedydd ydyw, pa ham y maent yn ei wrthwy­nebu.

3. Y mae eraill yn tybied na ddylid bedyddio neb nes iddynt gredu, ac am hynny y maent yn bedyddio drachefn y rhai a fedyddiwyd yn blant bychain.

4 Y mae eraill, sef y rhan fwyaf o wir Eglwys Dduw ar y Ddaiar, yn barnu fod gan blant y ffyddloniaid hawl siccr i fedydd yr Efengyl, o herwydd eu bod ynghyfammod Duw. Y farn hon sydd gyttun â'r scrythurau fel y dengys yn y llyfr hwn.

Mi a ddymunaf arnat, y Darllenydd ewyllyscar, i dderbyn yr hyfforddiadau a ganlyn. 1. Darllen y llyfr hwn ddwy waith drosto yn ddi-duedd, yn ddi-ragfarn, yn ystyriol, gydâg yspryd ym syngar am y gwirionedd. Cais y gwirionedd fel arian, chwilia am­dano Dih. 2. 4. fel am dryssorau cuddiedic.

2. Gweddia yn daer ar yr Arglwydd [Page VII] i egor dy ddealltwriaeth, ac i dywallt Jo. 16. 13 arnat ti yspryd y gwirionedd, ith dy­wys i bob gwirionedd.

3. Os mynni adnabod y gwirionedd, Cais yspryd issel arafaidd hunan-wadol. Yn y galon ostyngedig y presswylia ys­pryd y Goruchaf.

4. Gochel Zel anhymmerus. Zel, ac nid yn ol gwybodaeth, tân gwyllt y­dyw, sydd yn difa eglwysi a gwle­dydd. Y Zel hon a Groshoeliodd Christ, a laddodd ei Apostolion ef, tan enw Joan. 16. 2. gwasanaeth i Dduw, ac a fu yn a­chos o lawer o Erledigaethau yn eglwys Dduw.

5. Na ddiystyra dy Athrawon ffydd­lon, ufuddha iddynt ac ymddaros­twng, Heb. 13 17 oblegit y maent hwy yn gwi­lio tros dy enaid di, megis rhai a sydd raid iddynt roddi cyfrif. Glŷn wrth weinidogaeth y cyfryw, trwy ba rai y derbyniaist fwya llesâd ith enaid.

Na chred bob drygair am dy wei­nidogion, ymwrthod âr tafod athrod­gar. Edrych ar yr hwn a ddywedo ddrwg am ei gymmydog, megis cennad Diafol yn dyfod i'th berswadio di i ga­sau dy gymmydog, dywed wrtho fel y dywedodd Christ wrth Petr, Dôs yn fy ôl i Satan.

[Page VIII]6. Cais wybodaeth eglur, o sylfae­nau'r grefydd Gristnogol. Mae rhai yn fawr eu Zel am yr Opiniwn hwn neu arall, megis pe bae sylwedd Crefydd yn gynnwysedic yntho, pan ydynt yn an­wybodol o brif-wirioneddau'r grefydd Gristnogol.

7. Edrych ar blant bychain megis rhannau oi rhieni naturiol, a gynnwy­sir yn yr addewidion a wneir i rieni da, ac yn y bwgythion a wneir i rieni drwg. Exod. 20. 5. & 34. 7.

Y mae plant yn wastad yn y scrythur yn gyfrannogion o bethau da ac o bethau drwg eu rhieni.

Mae plant yn gyfrannogion.

1. O farnedigaethau eu rhieni. Jer. 36. 31. Mi a ymwelaf âg ef, ac âi had am ei anwiredd. Jer. 22. 28. Ps. 21. 10. & 109. 9, 10. Deut. 28. 45, 46. 2 Bren. 5. 27. Isa. 14. 20. & 14 21. Darperwch laddfa iw feibion ef, am anwiredd eu tadau. Num. 14. 33. a'ch plant chwi — a ddygant gosp eich putteindra chwi,

Ac os ydynt gyfrannogion o farnedi­gaethau eu tadau, pa ham na allant fod yn gyfrannogion oi rhagorfreintiau [Page IX] hwynt? a ydyw ei ddigofaint ef yn helaethach nâ ei drugaredd, a ydyw ei gyfiawnder yn difethu yn helaethach na'i ras yn achub?

2. Diammeu ydyw fod plant yn gyfran­nogion o ragorfreintiau eu rhieni. Deut. 4. 37. O achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd ef eu had hwynt ar eu hol. Gwel Deut. 4. 40. Jer. 32. 38, 39. Dih. 11. 21. Deut. 30. 6—19. Ps. 102. 28. Dih. 20. 7. Isa. 44. 3.

8. Dirnad helaethrwydd cyfammod Duw â'i bobl. Y mae ei gyfammod ef â hwynt, ac ai had. Fel hyn yr oedd y Cyfammod o ras a wnaeth Duw âg A­dda, Gen. 3. 15. & 4. 25. ar Cy­fammod a wnaeth ef â Noah, Gen. 99. âg Abraham, Gen. 17. 7. âg Isaac, Gen. 28. 4. ac â Jacob, Gen, 35. 12. yr un modd yr oedd ei gyfammod ef â Dafydd, ac âi had, 2 Sam. 7. 12. & 22. 51. yn y Cyfammod tragywyddawl hwn y llawenychodd ar ei wely angeu, 2 Sam. 23. 5.

Y mae'r prophwyd Efangylaidd yn rhag-ddywedyd y byddei'r Cyfammod gras or un helaethrwydd tan yr Efengyl, ac oedd ef or dechreuad. Esa. 66 22. [Page X] Megis y saif ger fy mron y nefoedd newydd — felly y saif eich had chwi. Y mae Cyfammod Duw â had y ffydd­loniaid mor ddisigl, ar nefoedd newydd ac ar ddaiar newydd. Fo saif y naill tra safo'r llall. Gwel Esa. 61. 8, 9. ar 59. 21. ar 65. 17, 23.

9. Deall y gwahaniaeth rhwng gorch­wyliaeth y Cyfammod oddiallan, ar orch­wyliaeth oddi fewn. Yr oedd holl had Rhuf. 9. 4—8. Abraham yn yr orchwyliaeth oddiallan, a sel y Cyfammod yn perthyn iddynt, ei­thr nid oedd yn yr orchwyliaeth oddi­fewn ond yr Etholedigion yn unig.

10. Ymddygwch yn gariadus ac yn addfwyn tuac at y rhai sydd yn erbyn bedydd plant. Mae llawer o honynt yn wir Gristnogion, sydd yn ofni'r Ar­glwydd, am hynny cerwch hwynt fel brodyr, ac mewn yspryd mwynder a thy­nerwch amlygwch iddynt eu camgym­meriad. Na fyddwch chwerw tuac at­tynt, yspryd cariad yw yspryd yr Efen­gyl.

Ystyriwch yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd, ar Arglwydd a roddo i chwi ddeall ymhob peth.

Amen.

PEN. I.
Am ystyriaeth y gair bedydd.

FEL y mae 'r grefydd Gristnogol yn gwneuthur y corph ar enaid yn happus, felly yr ordeini­odd Duw i ragor freintiau 'r grefydd hon gyrhaeddyd y Corph a'r enaid. Mae yn darostwng i'n gwendid ni gan eglurhau pethau ysprydol trwy arwyddion corphorol. O herwydd pa ham ni wnaeth Duw erioed gy­fammod â Dyn heb arwyddion gwe­ledig iw ganlyn.

Y cyfammod o weithredoedd a wnaeth Duw â dynol ryw yn ne­chreuad y greedigaeth a siccrhauwyd â dwy sel, sef pren y bywyd a phren gwybodaeth da a drwg, pren y by­wyd i siccrhau gair yr addewid, pren gwybodaeth da a drwg i siccrhau gair y bwgwth. Yr oedd y naill i gyffroi ffydd, y llall i gyffroi ofn.

Yr oedd y cyfammod o ras ym hob gosodiad allan o hono ac arwy­ddion oddiallan yn perthyn iddo. Ac yr oedd y cwbl yn edrych at [Page 2] Ghrist, megis cyfryngwr y cyfammod hwnnw. Yn yr hen orchwyliaeth o'r Cyfammod gras yr oedd Enwae­diad ac Oen y pasc, ac amryw aber­thau yn arwyddocau bendithion y Cyfammod. Amlhaodd Duw am­ryw arwyddion a Ceremoniau tan y gyfraith, y rhai oeddent gysgodau tywyll o bethau i ddyfod, wedi ei cyfaddasu i gyflwr bachgennaidd Eg­lwys Dduw, fel y dywed yr Apostl, Pan oeddym fechgyn oeddem gaethion Gal. 4. 3. tan wyddorion y byd. Ond yn yr Or­chwyliaeth newydd or Cyfammod Gras mae'r Cysgodau wedi diflannu o herwydd dyfod y sylwedd, ac nid ydym mwyach tan athro. Dirym­mwyd gorchwyliaeth y ddeddf ar holl Gal. 3. 25. Ceremoniau a berthynent iddi, ac yn lle yr jau Drom honno yr hon ni a­llodd ein tadau ni, na ninnau ei dwyn, Act. 15. 10. ordeiniodd Christ yn yr Efeugyl jau ysgawn ac esmwyth, sef bedydd a swpper yr Arglwydd. Y ddau hyn yw unig Sacramentau yr Efengyl. Mae bedydd yn arwyddocau ein gene­digaeth ysprydol. swper yr Arglwydd ein cynhaliaeth a'n tyfiant ysprydol. Yr ydym ni yr awrhon i sôn am fe­dydd.

[Page 3]Bedydd yn ol arwyddocâid y gair yw golchiad, am hynny ebe 'r Apostl, achubir ni trwy olchiad yr adenediga­eth, Tit. 3. Felly y Troir y gair [...], Heb. 9. 10. Trwy amryw olchiadau, yn ol y groeg, trwy amryw fedyddia­dau, y rhai oeddent nid yn unig trwy ymdrochi tan ddwr, ond trwy dae­nellu dwr ar y rhai a olchwyd neu a fedyddiwyd, fel y dangos yr Apostl, Heb. 9. 19. Efe a gymmerodd waed lloi a geifr, gydâ dwr — ac ai taenellodd ar y llyfr ar bobl oll. Yr hyn a alwodd yr Apostl bedyddiadau yn y 10 wers a elwir taenelliad dwfr yn y wers hon.

Yr ydym yn darllen am 3 Math o fedydd yn y Testament newydd, y rhai a elwir bedyddiadau am yr a­chos hwn, fel y barn rhai, Heb. 6. 2.

1. Bedydd dwfr, yr hwn yw gol­chiad y cnawd i arwyddocau golchi­ad yr yspryd, am hynny ebe 'r Apo­stl Pedr, Bedydd sydd yn ein hachub 1 Pet. 3. 21. ninnau, nid bwrw ymmaith fudreddi y cnawd, eithr ymatteb cydwybod dda tuac at dduw trwy adgyfodiad Jesu Grist.

2. Bedydd tân, am y bedydd hwn y mae Joan fedyddiwr yn son, [Page 4] y byddei i Grist fedyddio â'r yspryd Mat. 3. 11. glan, ac â thân. Cyflawnwyd yr ys­grythur hon pan syrthiodd yr yspryd glan ar y discyblion mewn ymddan­gosiad tafodau tanllud. Nid oedd y Act. 2. 3. bedydd hwn trwy ymdrochi mewn tân, ond trwy daenelliad neu dyw­alltiad o dan arnynt, yr hwn a eiste­ddodd ar bob un o honynt. Gwel Act. 11. 16. Bedydd tân yw golchiad tan­llyd, yr hwn sydd yn puro yr enaid. Felly yr addawodd Duw i olchi bu­dreddi Isa. 4 4. merched Sion, a charthu gwaed Jerusalem oi chanol mewn yspryd barn, ac mewn yspryd llosgfa.

3. Bedydd gwaed, am y bedydd hwn y gofyn Christ i feibion Zebedae­us, Mat. 20. 22 a ellwch chwi 'ch bedyddio âr be­dydd y bedyddir fi? ac yfed or Cwppan yr ydwyfi yn yfed o honaw? y bedydd hwn ar Cwppan hwn un ydynt, sef dioddefiadau Christ, y rhai yr oedd ei ddiscyblion i fod yn gyfrannogion o honynt. Fel hyn y deall rhai yr ysgrythur dywyll honno beth a wna 1 Cor. 15. 29. y rhai a fedyddir tros y meirw? megis pe dywedasei, beth a wna y merthy­ion y rhai a fedyddir â gwaed, gan roddi i lawr eu heinioes i ddwyn ty­stiolaeth [Page 5] tros adgyfodiad y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? Fel y mae bedydd dwfr yn dystiolaeth on hadgyfodiad ysprydol, felly mae be­dydd gwaed o'n hadgyfodiad corpho­rol. Mae'n debygol fod yr Apostl yn son am y bedydd hwn wrth y geiri­au a ganlyn, a pha ham yr ydym nin­nau 1 Cor. 15. 30. mewn perigl bôb awr. Megis pe dywedasei fel hyn, ynfyd yw rhai a Acts 23. 6. Heb. 11. 35. gollasant eu heinios am obaith adgyfo­diad y meirw, ac ynfyd ninnau y rhai ydym mewn perigl o golli ein heinios bôb awr, os y meirw ni chyfodir ddim.

Eithr y Cyntaf or tri hyn, sef Bedydd dwfr yr ydym ni yn awr iw ystyried.

Y bedydd hwn o ddwfr a weinir yn yr Efengyl mewn tair ffurf.

1. Gan Joan Fedyddiwr yn enw Acts 19. 4. Christ oedd ar ddyfod. Joan yn ddiau a fedyddiodd â bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, sef yn Christ Jesu. Fe fedyddiodd Joan yn agos i hanner blwyddyn cyn iddo ad­nabod person Crist. Jo. 1. 31. ac myfi nid adwaenwn ef. Felly y rhai [Page 6] a fedyddiwyd gantho ef, nid adwae­nent yr Jesu, etto bedyddied hwynt i enw y Messiah. Gwel Acts 19. 2. & 18. 25. Yr oedd bedydd yn y ffurf hon yn deffroi'r bobl i ddis­gwyl am ymddangosiad Crist.

2. Yr ail ffurf oedd yn enw'r Jesu cyn pregethu yr Efengyl ir Cenhedlo­edd i siccrhau mae efe oedd y gwir Fessiah, neu'r eneiniog jachawdwr Jo. 3. 22. & 4. 1. Yr holl amser yr arhosodd yr Apostolion yn Judea, be­dyddiasant yn enw'r Jesu. Act. 2. 38. Bedyddier pob un o honoch yn enw Jesu Grist. Acts 8. 16. Yr oeddynt wedi eu bedyddio yn enw yr Arglwydd Jesu. Acts 1 [...] 5. A phan glwysant hwy hyn, hwy [...] fedyddiwyd yn enw yr Arglwydd Jesu. Yr achos o hyn oedd, i fod yn sêl mae Jesu oedd y Messiah, neu'r Christ, sef yr hwn a eneiniodd Duw i fod yn Jachawdur. Y Cwestiwn oedd, ai'r Jesu oedd y Messiah, neu'r Christ. Am hynny y tystiolaethei yr Apostolion mae Jesu Acts 18. 5. oedd Christ. Felly yr ydym yn dar­llen i Paul orchfygu'r Iddewon, gan gadarnhau mae hwn yw'r Christ. Ir Acts 9▪ 22. [Page 7] diben hwn yr oedd Bedydd ymhlith yr Iddewon yn enw Christ.

3. Y drydydd ffurf o Fedydd sydd yn enw 'r tad, ar mab, ar yspryd glan. Felly mae Christ yn gorchymyn iw Apostolion, pan oeddent i bregethu 'r Efengyl ir holl genhedloedd iw be­dyddio yn enw 'r Tád, ar mâb, ar ys­pryd Mat. 28. 19. glân. Yr Iddewon a gredent yn y Tad ar yspryd glan, ond amheuent ai'r Jesu oedd mab Duw, am hynny yr ydoedd Bedydd yn eu plith hwynt yn enw Jesu Grist y mab; eithr y Cenhedloedd oeddent ddieithriaid i'r Tri pherson bendigedig, am hynny y gorchmynnodd Christ fod Bedydd yn eu plith hwynt, yn enw 'r Tad, a'r mâb, ar yspryd glân. Y ffurf hon o fedydd sydd i barhau hyd ddiwedd y Byd. Gan hynny Bedydd yw Sacra­ment, ymha un y mae golchiad â dwfr yn enw y Tad, ar mab ar ys­pryd glan, yn arwyddocau ac yn selio ein himpiad yn Ghrist, an bod yn gyfrannogion o fendithion y Cyfam­mod newydd, a than rwymedigaeth neullduol i fod yn eiddo 'r Arglwydd.

PEN. II.
Am barháad Bedydd Dwfr.

EWyllys Christ ydyw i Fedydd dwfr barhau yn ei Eglwys hyd ddiwedd y byd. Fe ddengys hyn,

I. Oddiwrth orchymmyn Christ i'w weinidogion. Mat. 28. 19, 20. Ewch gan hynny, a dysgwch yr holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad, ar Mâb, ar yspryd glân, gan ddysgu iddynt gadw pob peth a'r a Orchymynnais i chwi; ac wele yr ydwyf gydâ chwi bôb amser, hyd ddiwedd y byd. Amen. Mae'n eglur yn y gor­chymyn hwn.

1. Fod Christ yn sôn am Fedydd dwfr, ac nid bedydd yr yspryd, Ca­nys y mae'n sôn am y bedydd oedd Gweinidogion iw roddi ymhob oes, ac nid am y bedydd, yr hwn ni allei neb iw roddi ond efe ei hun, sef be­dydd yr yspryd. Y Bedydd a orch­mynnir ymma sydd yn enw yr yspryd glan, ac am hynny nid Bedydd yr [Page 9] yspryd ydyw, eithr un gwaha­nol.

2. Fod y Bydydd hwn i barhau: Mae i fyned ynghyd â phregethiad yr Efengyl, am hynny ebe Christ, ewch, dysgwch, bedyddiwch. Y peth a gyssylltodd Duw, nac yscared dyn. Os yw pregethiad yr Efengyl i bar­hau, mae bedydd dwfr i barhau he­fyd. Ac rhac i neb dybied mae peth priodol i oes yr Apostolion yn unig oedd bedydd, mae Christ yn chwane­gu, dan ddysgu iddynt gadw pob peth v. 20. ar a orchymynais i. Gorchymynodd Christ fedydd dwfr, ac efe a fyn iw Apostolion ai weinidogion ddysgu ir Cenhedloedd gadw'r gorchymyn hwn. Os ydynt i gadw pôb peth, hwy a ddylent gadw'r gorchymyn hwn. Yn enwedigol o horwydd bod Christ yn addo ei bressennoldeb gydâ ei eglwys ar yr ammod hwn iddi ga­dw pob peth a orchymynodd ef. Ac wele yr ydwyf gydâ chwi bob amser hyd ddi­wedd y byd. Os yw'r addewid hyd ddiwedd y byd, mae'r gorchymyn hefyd. Cans rhoddwyd yr addewid er mwyn y gorchymmyn, i'n hannog i roddi ufudd-dod iddo, y neb a ddi­ystyro [Page 10] fedydd dwfr sydd yn diystyru Ordinhád Crist, ac yn torri ei or­chymyn ef, am hynny gelwir ef y lleiaf yn nheyrnas nefoedd, o her­wydd Mat 5. 19. ei fod yn tynny ymmaith oddi­wrth air Duw, Duw a dyn ymmaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac Datc. 21. 19. a­llan or ddinas sanctaidd.

II. Parháad bedydd dwfr a dden­gys oddiwrth arferiad yr Apostolion. Yr oeddent hwy yn deall gorchymyn Christ (ym Mat. 28. 19.) am fe­dydd dwfr, (ac ni ddyweid neb eu bod yn cam gymmeryd) ac o her­wydd hynny yr oeddent yn bedyddio â bedydd dwfr. Felly gorchymynodd Petr fedyddio Tair mil mewn un di­wrnod o'r rhai a gredent. Philip a fedyddiodd y Samariaid, yn wyr, ac Act. 2. 38, 41. Pen. 8. 12. 38. Pen. 9. 18. Pen. 10. 48. yn wragedd, ac a fedyddiodd yr Ef­nuch o Ethiopia. Paul a fedyddiwyd gan Ananias, Gorchymynodd Peter fedyddio Cornelius, ar rhai oedd yn gwrando yr gair yn ei dŷ efe. Yr oeddent wedi derbyn yr yspryd cyn ei bedyddio, ac am hynny medd Petr, A all neb luddias dwfr, fel na fedy­ddier y rhai hyn, y rhai dderbynnia­sant Act. 10. 47. [Page 11] yr yspryd glan, fel ninnau. Na fydded i neb gan hynny ddirmygu bedydd dwfr, o herwydd eu bod we­di derbyn y sylwedd, sef bedydd yr yspryd, canys yr oedd Cornelius ac eraill yn ei dŷ ef wedi derbyn yr ys­pryd, ac etto mae Petr yn gorchy­myn iw bedyddio. Mor wrthwyneb yw gwrthresymmau rhai i resymmiad yr Apostl. Ebe Petr, derbynniasant yr yspryd, am hynny bedyddier hwynt â dwfr, ebe rhai yn ein dy­ddiau ni, derbynniasom yr yspryd, am hynny nid rhaid i ni wrth fedydd dwfr. Arwydd hynod fod yspryd amryfusedd yn eu tywys, Canys p'le mae yspryd Christ, efe a gymmer or Jo. 16. 14. eiddo ef, ac a'i mynega i ni. Ac un or pethau hynny sydd eiddo Christ yw bedydd dwfr, canys efe a'i hordeini­odd i fod yn un o sacramentau'r Te­stament newydd. Mewn byrr, nid ydym ni yn darllein am un a dder­byniodd yr Apostolion i fod yn aelod o Eglwys Grist nes ei fedyddio. Yr oedd yr holl Gristnogion yn amser yr Apostolion wedi eu bedyddio. O 1 Cor. 12, 13. herwydd trwy un yspryd y bedyddi­wyd ni oll yn un corph, pa un bynnag ai [Page 12] Iddewon ai Groegwyr, ai Caethion, ai rhyddion. Gwel Gal. 3. 27, 28.

Gwrthdadl. Mae'r Apostl Paul yn diolch i Dduw na fedyddiodd ef neb o'r Corinthiaid, ond Crispus a Gaius — ac na anfonodd Christ ef i fedyddio ond 1 Cor. 1. 14, 17. i efangylu.

Atteb. Mae'r Apostl yn diolch [...] Dduw na fedyddiodd ef ond rhai ymhlith y Corinthiaid, nid o her­wydd nad oedd yn barnu bedydd yn beth anghenrheidiol, Canys dywed mewn lle arall fod un Arglwydd, un Eph. 4. 5. ffydd, un bedydd, ond o herwyd bod y Corinthiaid yn camarferu Ordinhad hon, ac yn cymmeryd ach­lysur oddiwrthi iw galw eu hunain ar enw Paul; am hynny ebe efe, ni fedyddiais i ond Crispus a Gaius, fe na ddywedo neb fedyddio o honof i yn fy enw 1 Cor. 1. 15. fy hun.

Gwir yw, mae yn dywedyd n [...] ddanfonodd Christ ef i fedyddio, ond 17. Efangylu, hynny yw, ni ddanfo­nodd Christ ef yn gymaint i fedyddio ac i efangylu. Dull o ddywediad te­byg ir gair hwnnw, Trugaredd yr ydwyf yn ei ewyllysio, ac nid aberth Mat. 9. 13. yr oedd Duw yn ewyllysio trugaredd [Page 13] ac aberth, ond nid oedd yn gym­maint yn ewyllysio aberth, ac yr oedd yn ewyllysio trugaredd, Felly yr oedd Duw wedi danfon Paul i bregethu ac i fedyddio, Canys pe bu­asei heb ei ddanfon i fedyddio ni fe­dyddiasei efe neb oll, eithr yr oedd wedi ddanfon yn bennaf i efangylu, yr un modd ar Apostolion eraill, wrth y rhai y dywedodd Christ, ewch, Mat. 28. 19 dysgwch, bedyddiwch. Y rhan ben­naf o'i swydd oedd pregethu'r efen­gyl, ac am hynny er eu bod yn be­dyddio weithiau, yr oeddent yn fy­nych yn gorchymmyn y gwaith hwn­nw i weinidogion eraill oedd yn eu canlyn. Felly Petr a orchymynodd Act. 10. 48. fedyddio Cornelius, eithr mae'n de­bygol nas bedyddiodd efe ei hun mo­honaw. Ni fedyddiodd yr Jesu ei hun, Jo. 4. 2. eithr ei ddyscyblion ef, mae ysgrythur arall yn dywedyd iddo fedyddio, Jo, 3. 22. hynny yw, trwy weinidoga­eth ei ddisgyblion. Peth arferol y­dyw yn yr ysgrythur ddywedid i un wneuthur y peth ei hun, y mae arall yn ei wneuthur yn ol ei appwyntiad ef. Felly magodd merch Pharaoh Act. 7. 21. 2 Bren. 6. Moses, ac yr adeiladodd Solomon y y Deml.

[Page 14]Ni fedyddiodd Christ ei hun, o herwydd y bedydd mwya priodol iddo ef oedd bedydd yr yspryd, efe ach bedyddia chwi âr yspryd glân, ac â Mat. 311. thân. Yr un modd, nid oedd mor a­ddas ir Apostolion ei hunain fedy­ddio â bedydd dwfr, o herwydd mae trwy osodiad eu dwylo hwynt yr oedd y rhai a fedyddiwyd â dwfr yn derbyn bedydd yr yspryd. Act. 8. 16, 17.

III. Fe ddylid arferu bedydd dwfr, nid yn unig o herwydd ei fod yn amser yr Apostolion, ond ei fod wedi parhau yn eglwys Dduw ym­hob oes oddiar amser yr Apostolion hyd yr oes hon. Peth hawdd fy­ddei rhoddi siamplau or arferiad o honaw ymhob oes pe bai hynny fu­ddiol.

Os dywed neb fod bedydd dwfr i farw gyda'r Apostolion, hwy a ddy­lent brofi hynny, eithr ni a brofason y gwrthwyneb eusus oddiwrth or­chymyn Christ iw wenidogion i ddys­gy a bedyddio hyd ddiwedd y byd. Siccr ydyw i holl eglwys Dduw yn yr oesoedd ar ol yr Apostolion bar­hau [Page 15] yr Ordinhad hon. Y rhai cyn­taf a wadodd fedydd dwfr oedd y Manicheaid, yr Hereticciaid melldi­gedig hynny y rhai a gymmharen Sa­tan a'r Gwir Dduw. Baptismum a­quæ Aug. de Hares. cap. 46. nil cui (que) perhibent salutis afferre, nec quemquam eorum quos decipiunt, baptizandum putant. Y rhai nesaf a wadodd fedydd dwfr yw'r Sociniaid, yr hereticks gresynol hynny a ym­ddangosodd yn yr oes ddiwethaf, y maent yn gwadu'r Drindod fendige­dig, a Duwdod Christ, ac mewn byrr, yn gwadu'r holl bwngciau hyn­ny or Grefydd Gristnogol sydd uwch­law rheswm naturiol. Mae Socinus ei hun yn dywedyd nad oes i ni dde­all bedydd dwfr wrth y bedydd mae Christ yn ei orchymyn, Mat. 28. 19. unde constat istius baptismi ministerium Socin. disp. de bapt. c. 2. f. 13. ipsis apostolis non fuisse injunctum. Mae un o'i ddiscyblion ef yn myned ym­hellach, ac yn dywedyd nad yw be­dydd dwfr yn perthyn i ni mwy nac arch Noah, Gen. 8. neu jau. Jere­miah, Jer. 28. neu Saethau brenin Joas 2 Kin. 13. Baptismus ille ad no­stra tempora nihilo minus pertinet, nec saniori â nobis imitatione usurpetur, [Page 16] quam si quis arcam Noæ, Gen. 8. Ju­gum Jeremiæ, Jer. 28. ant regis Joas sagittas, 2 reg. 13. sine certo Dei jus­su, & mandato, velit imitari, & re­dintegrare. Somnerus Tract. de bapt. vid. cap. 2. f. 15. cap. 16. fol. 136.

Yr un modd y dywed yr Armini­aid y rhai sydd yn derchafu ewyllys rhydd dyn uwchlaw rhyddras Duw.

Mae Episcopius yn dywedyd bod bedydd yn unig i barhau dros amser yr Apostolion. Ritum fuisse tantum temporarium, ab Apostolis tantum u­surpatum. Simon Episc. disp. priv. 29. Coroll. 1. Dywed un arall o ho­nynt, nad ydym ni yn rhwym trwy orchymmyn Duw i fedyddio. Non tenemur ex vi alioujus mandati Dei baptizare. Hendric. slat. declar. apert. f. 53.

Ni welwn gan hynny discyblion pwy yw rheini sydd yn gwadu be­dydd dwfr.

IV. Mae bedydd dwfr i barhau yn eglwys Dduw os ystyriwn y di­bennion o honaw. Ordeiniodd Christ fedydd i fod,

[Page 17]1. Yn arwydd o'n hedifeirwch ni, am hynny y gelwir yn fedydd edifei­rwch. Mar. 1. 4. Mae edifeirwch yn ddyledswydd barhaus, ac am hynny mae bedydd edifeirwch i bar­hau.

2. Y mae'n dystiolaeth o'n ffydd ni yn Ghrist, Mar. 16. 16. Act. 8. 37, 38. Ac am hynny i barhau tra parhao ffydd ar y ddaiar.

3. Y mae yn rhwymyn sancteidd­rwydd, 1 Pet. 3. 21. Y mae'r Apostl yn cynghori'r Christnogion i farw i bechod, ac i fyw i gyfiawnder, o herwydd eu bod wedi eu bedyddio, Rom. 6. 1, 2, 3, 4, 5, 6. Y mae rhinwedd yn Ordinhadau Duw i at­teb y dibennion i ba rai yr appwyn­tiwyd hwynt. Nid ydynt yn an­ffrwythlon ond ir anghrediniol ar es­geulus.

Yr awrhon, os ydyw sancteidd­rwydd i barhau yn eglwys Dduw, dylai bedydd hefyd barhau, yr hwn yw un or moddion i weithio a chyn­nyddu sancteiddrwydd yn yr enaid.

4. Y mae bedydd yn arwydd on hundeb ni â Christ. Iddo ef in be­dyddiwyd. Cynnifer o honoch ac a Rom. 6. 3. [Page 18] fedyddiwyd yn Ghrist a wiscasoch Grist. Gal. 3. 27. Drachefn medd yr Apostl, bedyddiwyd ni oll yn un corph. 1 Cor. 12. 13. Christ yw pen y Corph, y ffydloniaid yw'r ae­lodau, y rhai sydd mewn undeb tragwyddol âg ef, yr hwn a arwy­ddoceir mewn bedydd. A all y rheini ddymuno bod yn un corph â Christ y rhai nid ydynt ewyllys­gar iw bedyddio ir undeb hwn?

5. Mae bedydd yn arwyddocau maddeuant pechod. Mar. 1. 4. Be­dyddier Act. 2. 38. Act. 22. 16. pob un ó honoch (medd Pedr) yn enw Jesu Grist er maddeuant pecho­dau. Felly, dywedodd Ananias wrth Paul, Cyfod, bedyddier di, a golch ymmaith dy bechodau gan alw ar enw yr Arglwydd. Onid anniolchgar yw rheini i ras Duw yr hwn sydd yn cynnig sél o bardwn iddynt, ac nis derbyniant. Da wnaent i gofio A­haz Isa. 7. 11, 12, 13. ddrygionus yr hwn ni ofynnei arwydd gan yr Argiwydd yn ol ei air. Ceryddodd yr Arglwydd ef gan ddywedyd, ai bychan gennych fli­no dynion, oni flinoch hefyd fy Nuw? Os blinodd Ahaz Dduw o eisiau de­wis arwydd, pa fodd yr wyt ti yn [Page 19] blino Duw yr hwn wyt yn gwrthod arwydd o ddewisiad Duw ei hun? O derbyn roddion Duw yn ddiolchgar; ofna rhag i Dduw neccau pardwn itti, yr hwn wyt yn diystyru sêl ei bardwn ef.

6. Y mae bedydd yn Ammod o addewid jechydwriaeth. Y neb a Mar. 16. 16 Gredo ac a fedyddier, a fydd cadwe­dig. Gwir yw, nid yw'r addewid yn unig i fedydd, nid ydyw hi hefyd yn unig i ffydd, ond i ffydd a bedydd. Oni ddymunit ti fod yn gadwedig? Pa ham ynteu y diystyri di un o fo­ddion jechydwriaeth? Ti a ddywedi, os Credaf byddaf gadwedig, er nam bedyddiwyd â dwfr. Mai Christ yn dywedyd yn amgenach, y rhaid i ti gredu ath fedyddio, os mynni fod yn gadwedig. Gwir yw, mae'r Apostl yn dywedyd wrth geidwad y Car­char, Cred yn yr Arglwydd Jesu, a Act. 16. 31, 32. thi a fyddi cadwedig. Eithr cyn gyn­ted ac y credodd, efe a fedyddiwyd. Dy anghredinieath a balchder dy ga­lon sy'n gwneuthur iti wrthwynebu 'r Ordinhad sanctaidd hon. Gwir ffydd a ddarostwng yr enaid i holl orchymynion Duw. Er gwaeled [Page 20] yw‘r tu allan o Ordinhadau‘r Efen­gyl i reswm cnawdol, mae gogoni­ant ysprydol arnynt▪ trwyddynt hwy yr ydym yn derbyn yr yspryd, yn mwynhau presennoldeb Duw, yn gy­frannogion [...] duwiol anian. Os bu 2. Cor. 3. 11 yr hyn a ddeleuid (sef ordinhadau'r gyfraith) yn ogoneddus; mwy o law­er y bydd yr hyn sydd yn aros (sef or­dinhadau yr Efengyl) yn ogoneddus. Gweinidogaeth yr Efengyl or hon y mae bedydd yn rhan Mat. 28. 19.) trysor ydyw a roddwyd mewn llestri 2 Cor. 4. 7. gwael o bridd, fel y byddei godidow­grwydd y gallu o dduw. Yr oedd gweinidogaeth y gyfraith yn fwy go­goneddus mewn gogoniant bydol, ei­thr y mae gweinidogaeth yr Efengyl, er ei bod yn un o bethau distadl y 1 Cor. 1. 2, 23, 26, 28. byd yn rhagori mewn gogoniant ys­prydol. Canys hefyd ni ogoneddwyd yr hyn a ogoneddwyd (sef gweinido­gaeth 2. Cor. 3. 10 y Ddeddf) yn y rhan hon, o herwydd y gogoniant trarhagorol; sydd yngweinidogaeth yr Efengyl.

Ymddangossiad Christ eu hun, yr hwn yw disclairdeb gogoniant y Tâd, oedd wael a dirmygedic yngolwg y byd, dirmygedig oedd, ac ni wnaethom Isa. 53. 3. [Page 21] gyfrif o honaw, medd y prophwyd. Yr un modd y mae ei Ordinhadau ef, o herwydd eu bod yn wael ir olwg, dirmygedic ydynt, ac ni wneir cyfrif o honynt. Fel hyn y mae Christ yn 1 Pet. 2. 8. faen tramgwydd, ac yn graig rhwystr, ir rhai sydd yn tramgwyddo wrth y gair, gan fod yn anufydd.

Pa ham y dirmygi Ordinhad Christ am fedydd dwfr? Gochel lwybrau yr hen Phariseaid, y rhai yn eu herbyn eu hunain a ddiystyrasant Lu. 7. 30. gyngor Duw, heb eu bedyddio, gan Joan Fedyddiwr. Yr wyt ti yn di­ystyru, nid bedydd Joan, eithr be­dydd Christ, ac am hynny mwy dy bechod di nai pechod hwy. Gad i mi ddywedyd wrth it fel y dywedodd gweision Naaman wrtho. Pe dy­wedasei 2 Bren. 5. 13. yr Arglwydd beth mawr wrth­it ti, o nis gwnelsit? pa faint mwy gan iddo ddywedyd wrthit, ymolch, a bydd lan? Gallasei‘r Arglwydd lan­hau Naaman heb i ddanfon ir Jor­ddonen, eithr rhoddodd y gorchy­myn hwnnw iddo er profiad ei u­fudddod, ac i ddangos pa rinwedd sydd mewn gwaelfoddion, pan ydyw ef yn argraphu eu awdurdod arnynt. [Page 22] Gallasei Christ roddi ei olwg ir dyn a anesid yn ddall heb ei ddanfon i y­molchi yn llyn Siloam. Eithr pe buasei Naaman, neu‘r dyn hwn yn Jo. 9. 7. anufudd ir gorchymyn neullduol a roddwyd iddynt, i ymolchi mewn dwr, buasei gwahanglwyf y naill, a dallineb y llall yn aros heb obaith jacháad.

Fel hyn y gwelwn fod bedydd dwfr i barhau yn eglwys Dduw hyd ddiwedd y byd.

PEN. III.
Am y modd, neu'r ffurf oddiallan o weinidogaeth bedydd.

MAE rhai yn barnu y dylid tro­chi‘r holl gorph yn y dwfr, ac nad oes un ffurf arall yn gyfreith­lon; mae eraill yn barnu fod taene­lliad dwfr ar wyneb yr hwn a fedy­ddir yn ddigon, yn enwedigol yn y gwledydd oerion hyn. Canys me­gis yn y Sacrament arall o Swpper yr Arglwydd mae un taminaid o fara, ac un llymmaid o wîn yn ddigo­nol i arwyddocau yr ymborth yspry­dol sydd i gael yn Ghrist; felly yn y Sacrament o fedydd mae taenelliad y­chydic o ddwfr ar yr hwn a fedyddier yn arwyddocau rhinwedd gwaed Christ mor effeithiol ac afonydd o ddyfroedd.

Nid yw trochi na thaenellu yn sylweddol ir Ordinhad hon, eithr golchiad â dwfr, neu osod dwfr ar y Corph er glanhád, sydd o sylwedd Bedydd. Canys y mae'r gair bedydd [Page 24] yn y Groeg yn arwyddocau golchiad â dwfr, fel y nodwyd or blaen allan or Heb. 9. 10. Nid yw▪r Testament newydd yn dywedyd mewn cynnifer o eiriau pa fodd yr oedd yr Aposto­lion yn bedyddio, ai gan drochi, ai ynte gan daenellu, ond siccr ydyw eu bod yn golchi â dwfr (mewn rhwy ffordd neu gilidd) pob un a fedyddiwyd. Mae'n debygol eu bod weithiau yn trochi, weithiau yn tae­nellu y rhai a fedyddiwyd.

Mae'n eglur fod bedyddio trwy daenelliad neu dywalltiad dwfr yn gyfreithlon, wrth y rhesymmau hyn.

1. Mae'r ysgrythur yn galw tae­nelliad neu dywalltiad dwfr yn fe­dydd. Mar. 7. 4. A phan ddelont or Mar. 7. 4. [...]. farchnad, ni fwyttant, oni bydd iddynt ymolch, neu fel y mae yn y Gr. Oni fyddant wedi bedyddio. Eu dwylo yr oeddent yn eu golchi, neu yn eu bedyddio pan ddeuent o'r farchnad, Mar. 7. 3. nid gan eu trochi mewn dwfr, eithr trwy dywallt dwfr ar­nynt, canys felly yr ymolchei yr Iddewon. 2 Bren. 3. 11. Y mae ymma Elizeus mab Saphat yr hwn [Page 25] a dywalltodd ddwfr ar ddwylo E­lias.

Mae Christ yn són yn yr un lle, Mar. 7. 4. Am olchiad neu fedydd Mar. 7. 4. [...]. cwppanau, ac ystenau, ac efyddennau a byrddau. Yr oedd y golchiad hwn trwy dywallt dwfr, ac nid trwy eu trochi mewn dwfr, canys nid yw de­bygol eu bod yn trochi eu byrddau mewn dwfr bob gwaith y golchid hwynt, yn enwedigol yn y wlad hon­no ple yr oedd dwfr mor anaml. Ac etto mae'r yspryd glan yn galw'r ffordd hon o olchi yn fedydd.

1 Cor. 10. 1. A'u bedyddio hwy oll i Moses, yn y cwmwl. Pa fodd y be­dyddiwyd hwy yn y Cwmwl? nid trwy ymdrochi yntho, canys yr oedd hynny yn amhossibl, o herwydd bod y Cwmwl uwch eu pennau; eithr bedyddiwyd hwynt trwy fod y cwml yn diferu ac yn taenellu dwfr ar­nynt.

Mat. 3. 11. Efe ach bedyddia chwi a'r yspryd glan, ac â than. Pa fodd y bedyddiwyd y rhai'n a'r yspryd glan? ai gan eu trochi yn yr yspryd? ai ynteu gan dywallt yr yspryd arnynt, fel y mae Petr yn esponio allan ó [Page 26] Joel, Act. 2. 17. Mi a dywalltaf o'm hyspryd ar bob cnawd. A phan be­dyddiwyd hwy a thân, Act. 2. 3. a trochwyd hwynt mewn tan? ym­ddangosodd iddynt dafodau gwahane­dig megis o dân, ac efe a eisteddodd ar bob un o honynt.

Wrth hyn y gwelwn mae bedydd yn jaith yr scrythur yw tywalltiad, neu daenelliad dwfr.

2. Fel y mae taenelliad yn fedydd, felly mae'r pethau a arwyddoceir mewn bedydd yn cael eu gosod allan trwy daenelliad á thywalltiad dwfr. Mae bedydd yn arwyddocau dau beth, gwaed Christ ac yspryd Christ. Mae taenelliad dwfr yn arwyddocau yr ddau hyn.

Mae taenelliad dwfr yn arwyddo­cau taenelliad gwaed Christ ar y gyd­wybod. Heb. 10. 22. Nesawn â Heb. 10. 22. [...]. chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi ein taenellu oddiwrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corph â dwfr glan. Dymma'r arwydd ar hyn a arwyddo­ceir wrth fedydd wedi eu gosod i lawr ynghyd; mae golchiad dwfr yn arwyddocau taenelliad y galon oddi­wrth gydwybod ddrwg. Yr un [Page 27] modd y dywed yr Apostl, Etholedi­gion — Trwy 1 Pet. 1. 2. sancteiddiadd yr yspryd i ufudd-dod a thaenelliad gwaed Christ. Mae'r arwyddocad hwn mor eglur, ac y mae'r Apostl yn galw gwaed Christ, gwaed y taenelliad. Y cyssondeb hwn rhwng yr arwydd ar hyn a arwyddoceir sydd yn cyfiawn­hau yr arferiad o daenellu dwfr wrth fedyddio.

Bendith arall a selir ini mewn be­dydd yw'n Cymmundeb ni âg ys­pryd Christ. Y fendith hon a ar­wyddoceir, trwy dywalltiad a thae­nelliad dwfr. Act. 2. 17. Twyall­taf o'm hyspryd ar bob cnawd. Isa. 44. 3. Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedic, tywalltaf fy yspryd ar dy had. Isa. 52. 15. Felly y taenella ef gen­hedloedd lawer. Ezek. 36. 25, 27. Taenellaf arnoch ddwfr glân fel y by­ddoch lân — rhoddaf hefydd fy yspryd och mewn.

Fel hyn y mae yn eglur fod tae­nellu neu dywallt dwfr mewn bedydd yn gyfreithlon, o herwydd eu bod yn dal allan y prif fendithion a arwyddo­ceir wrth fedydd.

[Page 28]3. Mae taenellu yn gyfreithlon, o herwydd fod yn debygol jawn ir A­postolion fedyddio trwy dywallt, neu daenellu dwfr.

Act. 2. 41. Yna y rhai a dderbynia­sant ei air ef yn ewyllysgar a fedyddi­wyd; a chwanegwyd attynt y dwthwn hwnnw, ynghylch tair mil o eneidiau. Nid yw debygol drochi'r tair mil hyn tros eu pennau mewn dwfr; pa fodd y gallei Pedr ar Apostolion eraill, sef deuddeg gwr, fedyddio tair mil mewn un diwrnod, je, mewn hanner di­wrnod? Act. 2. 15. canys yr oedd hi y drydydd awr, hynny yw, naw ar gloch y bo­reu cyn dechreu'r bregeth, ac mae'n debygol ei bod yn agos i hanner dydd cyn diweddu, gwel, wers. 40. P'le ceid cyfnewid dillad i gynnifer o bobl, mewn amser mor fyrr? Yr hyn oedd anghenrheidiol, os trochwyd hwynt. Peth anhawdd hefyd oedd cael digon o ddwfr iw trochi hwynt yn Ghaer­salem, nid oedd Kidron a dyfroedd Siloam ond dwy afon fychan jawn, yn enwedigol yn amser y Pentecost, yngwres yr haf. Gwel, Isa. 8. 6. Am hynny mae'n debyg iw bedyddio hwynt trwy daenellu neu dywallt [Page 29] dwfr, yr hun a ellyd i wneuthur yn hawdd mewn ychydic o oriau.

Act. 9. 17, 18. Ac Ananias a aeth i mewn ir tŷ, ac wedi dodi ei ddwylo arno — efe a gafodd ei olwg yn y man; ac efe a gyfododd ac a fedy­ddiwyd. Bedyddiwyd Paul ymma yn ei dŷ llettu, pan oedd yn glaf ac yn wan, wedi ymprydio dridiau cy­fan. Pe buasei digon o ddwfr yn y tŷ i drochi ei holl gorph ef, yr hyn nid yw debygol, nid oedd addas gymmeryd gwr yn y cyflwr gwan hwnnw ai drochi yn noeth mewn dwfr oer.

Act. 16. 33. Ac efe a'u cymmerth hwy yr awr honno o'r nôs, ac a olchodd eu briwiau, ac efe a fedyddiwyd, ar eiddo oll yn y man. Nid yw deby­gol i Geidwad y Carchar ai holl deulu fynd yr amser hynny or nos i rwy afon ddwfn, a chymmeryd Paul a Silas i wlychu ei cyrph archolledic wrth eu trochi hwynt yn y dwr.

Gwrthddadl. Joan a fedyddiodd Mat. 3. 13. Jo. 3. 23. yn Jordan, ac yn Enon, o herwydd bod yno lawer o ddwfr, ac am hynny trochwyd y rhai a fedyddiwyd.

[Page 30]Att. Os bedyddiwyd rhai trwy drochi, bedyddiwyd eraill trwy dy­wallt dwr arnynt, fel y profason or blaen, ac am hynny mae'r ddwy ffordd yn gyfreithlon.

Eithr nid yw'r scrythur mewn un lle yn dywedyd i trochi hwynt wrth eu bedyddio. O dywed y rhai sydd yn erbyn taenellu, i bod yn Casglu hynny trwy ganlyniad oddi­wrth yr scrythurau a enwyd, hwy a ddylent gofio eu bod yn gwrthod can­lyniadau scrythurol pan yr ydym ni yn eu harferu i brofi bedydd plant. Maent yn galw arnom ni i ddangos iddynt, ryw orchymyn, neu siampl mewn cnifer o eiriau yn són am fe­dydd plant; yr ydym ninnau yn at­teb; y gallwn gasglu trwy ganlyni­ad oddiwrth amryw scrythurau y dy­lid eu bedyddio, ni dderbyniant y dull hwn o ymresymmiad oddi­wrthym ni, ac etto nid oes gan­thynt ddim ei ddangos ychwaneg am drochi, yr hyn sydd ó sylwedd be­dydd, fel y dywedant hwy.

Maent hwy yn tybied i Joan dro­chi y rhai a fedyddiodd ef o herwydd iddo fedyddio yn yr Jorddonen, ni [Page 31] allant byth brofi mae hynny oedd yr achos, canys nid yw'r scrythur yn dywedyd beth oedd yr achos pa ham y bedyddiodd yn yr Jorddonen. Fe allei iddo fedyddio yno o herwydd ei bod yn agos i anialwch Juda, p'le 'r oedd yn pregethu. Fe allei bod rhyw ddirgelwch ysprydol yn ei waith ef yn bedyddio yno, 2 Bren. 5. 10.

Y mae'n amheyus jawn a darfu iddo drochi'r bobl a ddaeth atto, ca­nys aeth allan atto ef Jerusalem, a holl Mat. 3. 5, 6 Judea, ar holl wlad o amgylch yr Jorddonen, a hwy a fedyddiwyd gan­tho ef. Ni allwn ni farnu iddo fe­dyddio llai na chan mil o wyr a gw­ragedd, o herwydd iddo fedyddio Je­rusalem a holl Judea, ar holl wlad o amgylch yr Jorddonem, mae'n siccr fod llawer mwy o bobl yn yr holl w­lad. Eithr yr oedd yn amhossibl iddo allel trochi cnifer o ddynion yn amser byr ei wenidogaeth, yr hon ni pharhaodd ond tair blynedd, ac o'r tair hynny gorweddodd yngharchar vid. Light [...]. vol. I. p. 234. hanner blwyddyn, fel na bu iddo bregethu a bedyddio ond tros ddwy flynedd a hanner. Pe buasei yn be­dyddio [Page 32] deg a deugain bob dydd or ddwy flwyddyn a hanner hynny (yr hyn nyd yw debygol iddo allel gw­neuthur) nid yw'r cwbl ond 45625 pum mil a deugain, chwech cant a phumb ar hugain. Eithr fe fedyddi­odd lawer ychwaneg, yr hyn ni allei wneuthur wrth eu trochi hwynt, am hynny mae'n rhesymol i ni farnu iddo eu taenellu, neu dywallt dwfr arnynt, ac yn y ffordd honno fe allei yn hawdd fedyddio'r holl wlad, sef llawer can mil.

Gwrthddadl. Philip ar Efnuch a aethant i wared ill dau i'r dwfr, am hynny trochwyd yr Efnuch.

Att. Pa fodd y mae hynny yn can­lyn? O ni allent hwy fynd ir dwfr, heb ymdrochi yntho? yr ydym yn ddarllen yn Gen. 24. 45. Rebecca a aeth i wared ir ffynnon, a ydyw yn canlyn iddi ymdrochi yno? Chwi ddywedwch am eich morwyn pan él i nól ddwfr, hi a aeth i wared ir afon, nid ydych yn meddwl ei bod yn ymdrochi yno.

Gwrthdd. Claddwyd ni gan hynny Col. 2. 12. gydâg ef trwy fedydd i farwolaeth, Ruf. 6. 4. Am hynny medd rhai [Page 33] fe ddylid trochi rhai wrth eu by­dyddio.

At. Yr ydym ni yn claddu trwy daflu pridd ar y Corph, ac y mae tywalltiad dwfr yn arwyddocau hyn­ny. Ni ellir dywedyd fod un wedi gladdu a syrthio tan ddwfr, neu ddaiar, oddi eithr iddo aros yno tros amser. Yr hwn a ddescyn i bwll gló mae tan y ddaiar, eithr nid yw wedi gladdu, o herwydd i fod yn dyfod allan yn y man. Am hynny nid yw trochi yn arwyddocau claddu, oddi eithr ir hwn a drochir aros tros amser tan y dwfr. Arho­sodd Jonah tan y dwfr i arwyddo­cau claddedigaeth Christ.

Nid yw'r gyffelybiaeth ynteu rhwng bedydd a marwolaeth yn se­fyll mewn trochi'r Corph, yn gym­meint ac yn niben yr Ordinhad, i'n gwneuthur yn gyfrannogion o far­wolaeth Christ, o'i fywyd, o'i escyn­niad, o'i eisteddiad ar ddeheulaw Duw.

Mae bedydd yn ein gwneuthur yn Rhuf. 6. 5. gyd-blanhigion i gyffelybiaeth ei farw­olaeth ef. Etto nid oes neb yn plannu cyrph mewn dwfr wrth eu bedyddio, [Page 34] yr hyn a ddylid el wneuthur, os yw 'r rhesymmiad hwn yn dda, i ddan­gos y gyffelybiaeth rhwng bedyddio a phlannu.

Fel hyn y gwelwn ni nad yw mor eglur ac y mynnei rhai i ni fe­ddwl, i'r Apostolion drochi pobl, ac am hynny nad yw trochi o sylwedd bedydd, ond bod y rheini wedi eu bedyddio yn gyfreithlon a daenell­wyd â dwfr.

PEN. IV.
Am y rhai y dylid eu bedyddio, sef y ffyddloniaid a'u had.

N'ID yw bedydd yn perthyn i bawb, ond ir ffyddloniaid a'u hâd. Y neb a gredo, ac a fedyddi­er, Mat. 16. 16 a fydd cadwedig. Pan o fynnodd yr Efnuch i Philip, wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medyddio. Atte­bodd ynteu, os wyti 'n credu ath holl Act. 8. 36, 37. galon, fe a ellir. Mae'n eglur fod bedydd yn perthyn ir rhai sy'n cre­du, eithr pa fodd y dengys i fod yn perthyn i hâd y Cyfryw.

Fe ddengys hynny, 1. Oddi­wrth gyfammod Duw. 2. Oddi­wrth enwaediad tan y gyfraith 3. Oddiwrth Orchymyn Christ i fe­dyddio'r holl genhedloedd. 4. O herwydd eu bod yn sanctaidd. 5. O herwydd i Grist eu bendithio. 6. O herwydd impio'r Cenhedloedd i ragorfreintiau'r Iddewon. 7. O her­wydd y gallant fod yn gyfrannogion or hyn a arwyddoceir wrth fedydd. [Page 36] 8. Oddiwrth ffurf bedydd tan y gy­fraith. 9. O herwydd i Joan Fedy­ddiwr fedyddio plant yn ol arferiad eglwys yr Iddewon. 10. O her­wydd ir Apostolion fedyddio teuluo­edd cyfain. 11. O herwydd i'r Eglwys Gristnogol ymhob oes fedy­ddio plant. 12. O herwydd i fod yn fodd rhinweddol i blannu'r gre­fydd Gristnogol. Oddiwrth y deu­ddeg Rheswm ymma y bydd eglur y dylid bedyddio plant y ffyddlo­niaid.

I. Y rheswm cyntaf i ddangos y dylid bedyddio plant y ffydloniaid a gymmerir oddiwrth gyfammod duw. Yr oedd Abraham ai hâd tan gy­fammod o ras, yr ydym ni'r Cenhed­loedd yn had i Abraham, ac y mae y Cyfammod gras yn perthyn i ni yn yr un helaethrwydd, ac yr oedd i Abraham, sef i ni ac in had. Ac os ydyw plant, neu had y ffyddloniaid yn y Cyfammod gras, a all neb lu­ddias sêl y Cyfammod iddynt, sef bedydd? Ond i brofi 'r pethau hyn.

[Page 37]1. Cyfammod Duw âg Abraham oedd gyfammod o ras. Canys y mae Duw yn addo bod yn Dduw iddo yn y Cyfammod hwnnw. Gen. 17. 7. Cadarnhaf fynghammod rhyngof a thi — yn gyfammod tragywyddol i fod yn Dduw iti. Dymma swm y Cyfammod gras i Dduw fod yn Dduw i ni, Heb. 8. 8, 9, 10.

Mae'r Apostl yn profi yn helaeth mae Cyfammod o ras oedd Cy­fammod Abraham. Mae'n dangos mae nid Cyfammod Gweithredoedd oedd, yn Rhuf. 4. 1, 2, 3, &c. ac os nid Cyfammod o weithredoedd, Cy­fammod o ras oedd. Canys fel y dy­wed yr Apostl, os o ras, nid o wei­thredoedd Rhuf. 11. 6. mwyach; os amgen, nid yw gras yn ras mwyach; os amgen nid yw gweithred yn weithred mwyach.

Yr oedd Cyfammod Abraham yn cynhwyso ffydd er Cyfiawnhad megis yr Ammod o honaw, Rhuf. 4. 11. Ac efe a gymmerth arwydd yr enwae­diad yn insel Cyfiawnder ffydd.

Cadarnhawyd Cyfammod Abraham gan Dduw yn Ghrist, Gal. 3. 17. Ac am hynny yr oedd yn Gyfammod o [Page 38] ras, yr un cyfammod, a'n cyfammod ni tan yr Efengyl.

Gwir ydyw, yr oedd addewidion o wlad Canaan, ac o fendithion tym­horol yn perthyn i Gyfammod A­braham, Gen. 17. 8. Eithr nid oedd yr Addewid o wlad Canaan ó syl­wedd y Cyfammod. Canys dywed yr Arglwydd yn yr un wers 8. Ac mi a fydda yn Dduw iddynt. Yr adde­wid ysprydol hon oedd sylwedd y Cyfammod, nid oedd yr Addewidi­on o fendithion tymhorol ond chwa­negiad at y brif-addewid, yr un modd ac y mae tan yr Efengyl. Mat. 6. 33. Eithr yn gyntaf ceisiwch deyrnas dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl be­thau hyn a roddir i chwi ychwaneg. Mae addewidion o bethau tymhorol Gwel 1 Cor. 3. 20, 21. ynghyfammod gras yr Efengyl, 1 Tim. 4. 8. Duwioldeb sydd fuddiol i bôb peth a chenddi addewid or bywyd sydd yr awrhon, ac or hwn a fydd.

Heb law hynny, yr oedd Addewi­dion tymhorol Cyfammod Abraham yn cynhwyso bendithion ysprydol. Yr oedd gwlad Canaan yn arwydd or Orphwsfa nefol, am hynny Abraham a ymdeithiodd trwy ffydd yngwlad yr [Page 39] addewid, megis mewn tir dieithr, gan drigo mewn lluestai, gydag Isaac ac Ja­cob, cydetifeddion o'r un addewid, Ca­nys disgwyl yr ydoedd am ddinas ac iddi sylfeini, saer ac adeiladydd yr hon yw Duw.

2. Gwnaeth Duw y Cyfammod gras hwn âg Abraham ac a'i hâd, neu ei blant. Gen. 17. 7. Cadarnhaf hefyd fynghyfammod rhyngof a thi, ac ath had ar dy ol di trwy eu hoesoedd, yn gyfammod tragywyddawl, i fod yn Dduw iti, ac ith had ar dy ol di. Yr oedd ei had naturiol mewn Cyfam­mod â Duw, o herwydd eu bod yn had naturiol iddo. Ac am hynny enwaedwyd ar Ismael, yr hwn a anwyd yn ol y Cnawd, megis ar I­saac, yr hwn a anwyd yn ol yr yspryd. Felly yr Enwaedwyd ar E­sau, a Jacob, er bod Esau yn wr­thodedig, a Jacob yn etholedig. Ac o blith had cnawdol Abraham, y rhai oeddent oll yn yr Orchwyliaeth oddiallan o'r Cyfammod, y dewisei Duw yr had ysprydol. Fel y dywed y Apostl, Rhuf. 9. 6, 7, 7. Canys nid Israel yw pawb ac sydd o Israel, ac nid plant y cnawd; y rhai hynny sy blant i [Page 40] Dduw, eithr plant yr addewid a gy­frifir yn had. Hynny yw, ni chy­frifir plant y cnawd yn blant i Dduw, pan dorront eu cyfam­mod â Duw. Mae Joan fedy­ddiwr yn galw'r cyfryw yn genhedla­eth gwiberod, a Christ ei hun yn eu­galw Mat. 3. 7. Jo. 8. 44. plant diafol. Etto yr oeddent yn yr Orchwyliaeth oddi allan o gy­fammod Duw, ac yn yr ystyriaeth honno, eiddont hwy oedd y mabwysiad, ar cyfammodau, ar addewidion, &c. Rhagorfreintiau mawrion oedd y rhain, a berthynent i had naturiol A­braham, ac yr oedd yr Apostl mewn tristyd mawr, ac mewn gofid di­baid, o herwydd bod Duw yn eu cae hwynt allan o'r rhargor-freintiau hyn, o herwydd eu hangrediniaeth yn gwrthod yr Efengyl.

3. Y mae'r Cenhedloedd Credi­niol Gal. 3. 3, 29. Gwel wers. 9. hyd 17. yn hâd i Abraham. Os eiddo Christ ydych, yna hâd Abraham ydych, ac ettifeddion yn ol yr addewid. Mae'r Apostl yn y 4dd ben. at y Rhufeini­aid yn profi yn helaeth fod Abra­ham yn dad ir Cenhedloed.

4. Mae'r Cyfammod Gras, o'r un helaethrwydd i hâd ysprydol Abra­ham, [Page 41] sef y Cenhedloedd Crediniol, ac yr oedd i Abraham ai had naturi­ol. Yr oedd y Cyfammod i Abraham ai had, y mae'r Cyfammod i'r ffydd­loniaid a'i had hwynteu. Ni chwt­togodd Duw mor cyfammod pan dderbyniodd y Cenhedloedd i mewn. Mae'r un rhagor freintiau yn perthyn ir had ysprydol ac oedd yn perthyn ir had naturiol. Yr oedd had natu­riol Abraham ai plant yn y Cyfam­mod, felly y mae'r had ysprydol ai plant yn y Cyfammod. Fe dden­gys hyn, os ystyriwn ni, 1. Fod plant y ffyddloniaid or Cenhedloedd yn y Cyfammod cyn dyfodiad Christ.

2. Eu bod hwy yn y Cyfammod ar ol ei ddyfodiad ef.

1. Yr oeddent yn y Cyfammod cyn ei ddyfodiad ef. Yr oedd yn nhŷ Abraham amryw broselytieid o'r Cenhedloedd wedi eu hyfforddi yn y wir grefydd. Enwaedwyd plant y rhain. A holl ddynion ei dŷ ef y rhai Gen. 14. 14. & 18, 19. Gen. 17. 27. a anesid yn tŷ, ac a brynesid âg arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef. Mae Duw yn gorchymmyn en­waedu Exod. 12. 48, 49. arnynt. A phan arbofo deithr [Page 42] gydâ thi, ac ewyllysio cadw Pasc i'r Arglwydd, enwaeder ei holl yrfiaid ef, ac yna nesaed i wneuthur hynny. Ymma gwelwn fod plant y Cenhed­loedd ffyddloniaid yn gyfrannogion o gyfammod Duw, ac nad oedd gy­freithlon i'r rheini fwytta oen y Pasc nes gosod ar eu plant sel y Cyfam­mod.

2. Y maent hwy yn y Cyfammod ar ol dyfodiad Christ. Os oeddent ynghyfammod Duw nes dyfod Christ (fel mae'n siccr eu bod hwynt) pwy a faidd ddywedyd eu bwrw allan? Os yw neb mor rhyfygus a dywedyd felly, dangosen yr amser, ar achos pa ham y bwrwyd hwy allan or Cyfammod gras. Bydded iddynt ro­ddi scrythur amlwg am hyn. Maent yn galw arnom ni i ddangos scrythur am fedydd plant, yr ydym wedi pro­fi allan or scrythur fod plant y Cen­hedloedd ffydloniaid yn y Cy­fammod, dangosen hwy scrythur i bwrw allan o gyfammod. Mae'n siccr na allant ddangos yr un trwy'r holl fibl.

1. Eithr er mwy o eglurhad ir gwirionedd, ni ddangoswn trwy [Page 43] amryw scrythurau eu bod yn y Cy­fammod o ras yn wastad.

Act. 2. 38, 39. Edifarhewch a be­dyddier chwi — Canys i chwi y mae'r addewid, ac i'ch plant, ac i bawb ymhell, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein Duw ni atto. Mae'r Apostl yn annog yr Iddewon i Gre­du yngrist, ac ir diben hynny yn gosod ger eu bron hwy addewid Duw i Abraham, y byddei yn dduw iddo ef ac iw had. Fe wyddei'r Idde­won mae plant yr addewid oeddent, a bod yr addewid yn perthyn iw had. Y maent yn dadleu'r rhagor­fraint hon ar bob achos. Wele, eb'r Mat. 3. 9. Jo. 8. 39. Apostl, os Credwch yn yr Arglwydd Jesu, mae'r addewid mor helaeth ac yr oedd hi or blaen, i chwi ac ich plant. Nid yw bedydd yn Cwtto­gi'r addewid. Os amgen, ni buasei fawr annogiaeth ir Iddewon ddyfod at Grist.

Eithr y mae'r Apostl yn dywedyd fod yr Addewid ir ffyddloniaid ac iw plant. Pa addewid? yr adde­wid y byddei Duw yn Dduw iddynt Gen. 17. 7, Acts 2. 17. hwy ac iw had, ac y byddei i Dduw dywallt ei yspryd arnynt hwy ai [Page 44] had. Isa. 44. 3. Tywalltaf fy ys­pryd ar dy had, a'm bendith ar dy hi­liogaeth.

Felly y perthyn yr Addewid ir Iddewon ac iw plant, eithr beth yw hyn ir Cenhedloedd? Y mae yn Canlyn, Act. 2. 39. Ac i bawb ym­hell, cynnifer ac a alwo yr Arglwydd ein duw ni atto. Y rhai ymhell yw'r Cenhedloedd: yr Iddewon, o her­wydd eu bob mewn Cyfammod, oe­ddent yn agos at Dduw; y Cenhed­loedd, o herwydd eu bod allan o Gyfammod, oeddent ymhell. Eph. 2. 13. Chwy chwi y rhai oeddych gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Christ, gwers, 17. Efe a bregethodd dang-neddyf i chwi y rhai pell, ac ir rhai agos, sef i Genhed­loedd, ac Iddewon.

Mae'r addewid i bawb ym-hell, sef cynnifer ac a alwo yr Arglwydd. Nid oedd ir Cenhedloedd ddim i wneu­thur ar Addewid nes i Dduw eu ga­lw hwynt i gredu yn ei Fab, ac yna y mae'r un addewid yn perthyn iddynt, yn yr un helaethrwydd, y bydd Duw yn Dduw iddynt hwy ac iw had. Mae'r Apostl yn dywedyd yn [Page 45] eglur fod yr un addewid ir rhai ym­hell, sef cynnifer ac a alwyd; hynny yw, ir ffyddloniaid ymhlith y Cen­hedloedd. Ac os yr un addewid, y mae hi yn perthyn iw plant hwythau, fel yr oedd i blant yr Iddewon, Ca­nys nodasom or blaen fod plant y Cenhedloedd a dderbyniau y wir gre­fydd mewn cyfammod â Duw cyn dyfodiad Christ, ac ni ddaeth Christ i bwrw nhwy allan yn amgenach na phlant yr Iddewon.

Gellir profi fod plant y ffyddloni­aid yn y Cyfammod ar ol dyfodiad Christ oddiwrth,

2. Gal. 3. 14. Fel y delai bendith Abraham ar y Cenhedloedd trwy Grist Jesu. Beth oedd y fendith hon, ond addewidion, a rhagor freintiau y Cyfammod o ras a wnaethpwyd âg Abraham ac a'i hâd? yr un fen­dith a ddaeth ar y Cenhedloedd trwy Grist.

Bendith Abraham nid oedd berso­nol, eithr iddo ef, ai had. Y fen­dith hon a ddaeth ar y Cenhedloedd Crediniawl, megis ar Abraham; am hynny, rhaid iddi ddyfod ar y ffyddloniaid or Cenhedloedd ac ar [Page 46] eu hâd. Canys ni ellir ei galw hi yn fendith Abraham, oni ddaw ar y Cenhedloedd yn ffurf sylweddol Cy­fammod Abraham, sef, byddaf yn dduw iti, ac ith hâd. Oddieithr ir fendith hon ddyfod ar y Cenhedlo­edd yn yr un ffurf, ac yn yr un he­laethrwydd, nid bendith Abraham yw hi, eithr rhan o honi, wedi ei thorri yn ei hanner. Byddaf yn dduw i chwi'r Cenhedloedd, eithr nid i'ch hâd. Ai bendith Abraham iw hon? Mor anhebyg iddi? Mae llaw­er o wahanieth rhwng estat a setlir ar wr yn bersonol, ar hon a setlir ar ei blant ef hefyd.

3. Mae plant y ffyddloniaid yng­hyfammod Duw, o herwydd bod Christ yn Gyfryngwr Cyfammod gwell, Heb. 8. 6. yr hwn fydd wedi ei osod ar addewi­dion gwell. Y datcuddiad mwya perffaith or Cyfammod gras sydd tan yr Efengyl, fel yr addef pawb, ac am hynny gwell ydyw nac un cyhoeddi­ad o'r Cyfammod a aeth ar blaen. Eithr os yw plant y ffyddloniaid we­di cae allan or Cyfammod, y mae'n gyfammod gwaeth, ac nid yn gy­fammod gwell. Rhagorfraint mawr [Page 47] oedd bod plant mewn Cyfammod, Rhuf. 9. 4. Canys y mae addewiddion Duw yn perthyn iddynt, ar mabwysiad yn ei­ddont hwy. Eithr os yw'n Cyfam­mod ni yn fyrr mewn rhagor-frein­tiau, pa fodd y mae'n Gyfammod gwell?

4. Y cyfammod o ras y wnaeth Duw ac Abraham Cyfammod ang­hyfnewidiol oedd, o herwydd hyn­ny Heb. 6. 17, 18. siccrhawyd efe trwy lw, fel trwy ddau beth dianwadal yn y rhai yr oedd yn amhossibl i dduw fod yn gelwyddoc, y gallem ni gael Cyssur cryf. Os cae­wyd plant allan, mae'r Cyfammod yn gyfnewidiol, ac os felly beth a ddaeth o'r addewid, ac o lw y Duw geirwir? P'le mae'r Cyssur cryf? p'le mae dianwadalwch cyngor Duw? Am hynny y rhai sydd yn bwrw plant y ffyddloniaid allan o Gyfammod Duw, y maent yn gwanhau ein Cyssur, 1 Jo. 5. 10. yn diddymmu - y Cyfammod tragy­wyddol, ac yn gwneuthur Duw yn gelwyddog.

Fel hyn y mae'n amlwg fod plant y ffyddloniaid ynghyfammod Duw, ac os yn y Cyfammod y maent, y mae bedydd, sêl y Cyfammod yn [Page 48] perthyn iddynt. Os yw gras y Cy­fammod yn perthyn iddynt, pwy a all neccau arwydd y gras hwnnw iddynt?

Nid oes hawl i fedydd i rhai mewn oedran ond oddiwrth gyfammod Duw, eu hawl yn y Cyfammod sydd yn rhoddi iddynt hawl i fedydd, gan fod plant gan hynny yn yr un Cyfammod, y mae iddynt yr un hawl i fedydd ac i rhai mewn oe­dran. Je mae eu hawl yn fwy siccr, o herwydd ei bod yn sefyll ar adde­wid Duw, eithr hawl rhai mewn oedran sydd yn sefyll ar eu proffes weledig, yr hon sydd yn fynych yn rhagrithiol.

PEN. V.
Yn profi bedydd plant yn gyfreithlon, o herwydd bod Enwaediad yn perthyn iddynt tan y gyfraith.

II. Rheswm.

OS oedd yr Enwaediad tan y gy­fraith yn perthyn i blant by­chain, yna y mae bedydd tan yr E­fengyl yn perthyn iddynt. Canys yr oedd yr Enwaediad, ac y mae be­dydd yn sél or un Cyfammod gras, ac yn arwyddocau, yn ol eu syl­wedd, yr un pethau.

Yr oedd yr enwaediad yn arwy­ddocau,

1. Y llygredigaeth gwreiddiol sydd yn dyfod trwy genhedliad natu­riol. Torriad y blaengroen a ddan­gosei iddynt mor anghenrheidiol yw torri ymaith helaethrwydd malis y Jac. 1. 21. Jer. 4. 4. galon, yr hyn a elwir Enwaedu'r galon.

Felly bedydd yn yr un modd a ar­wyddocáa ein llygredigaeth gwrei­ddiol, [Page 50] mae golchiad dwfr yn dwyn 1 Pet. 3. 21. i'n coffadwriaeth fudreddi pechod. Ac o herwydd ein bob wedi'n geni mewn aflendid, rhaid i ni gael ein golchi yn ein mebyd. Gosodir allan ein cyflwr naturiol ni trwy gyffely­brwydd plentyn newydd eni yn gor­wedd yn ei waed, heb ei olchi â dwfr. Ezek. 16. 4, 5. Yn ein be­dydd mae Duw yn ein golchi oddi­wrth ein gwâed.

Fel yr oedd yr enwaediad yn dwyn ar gof lygredigaeth natur tan y gy­fraith, felly mae bedydd tan yr Efen­gyl, ac am hynny mae bedydd mor anghenrheidiol i blant yn awr, ac oedd enwaediad gynt. Y rhai cyn­taf a gododd i fynu yn erbyn bedydd plant yn Germani a ddeallent hyn, am hynny gwadent lygredigaeth na­turiol dyn, a thacrent fod plant yn dyfod ir byd yn ddibechod. Gangr. Clopenburg. p. 123. Yn ddiau peth anghysson ydyw addef fod plant yn cael eu geni mewn a­flendid, ac etto lluddio dwfr iw gol­chi.

2. Yr oedd enwaediad yn arwy­ddocau yr adenedigaeth, sef enwae­diad y galon. Nid bod pawb yn cael [Page 51] eu hail eni yn yr enwaediad, ond bod Duw yn bendithio ei Ordinhad ei hun yn ei amser ei hun er adene­digaeth iw etholedigion i yn ol ei addewid, Deut. 30. 6. Ar Arglwydd dy dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu'r Arglwydd dy dduw a'th holl galon, ac ath holl enaid

Yr un modd y mae bedydd yn ar­wyddocau yr Ailenedigaeth. Tit. 3. 5. Yn ol ei drugaredd yr achubodd efe ny­ni, Jo. 3. 2. trwy olchiad yr adenedigaeth, ac adnewiddiad yr yspryd glan.

Nid o herwydd bod pawb yn cael eu hail eni mewn bedydd, ond o her­wydd bod bedydd yn dangos angen­rheidrwydd yr adenedigaeth, ac yn effeithiawl yn amser Duw i bawb a etholwyd er gweithio yr adenediga­eth ynthynt.

Enwaedwyd ar galon Abraham cyn enwaedu ar ei gnawd ef, enwa­edwyd Cnawd ei had ef cyn enwa­edu ar eu Calonnau, yr un modd ein henafiaid or Cenhedloedd y rhai o­eddent flaen ffrwyth i Grist, a ailān­wyd cyn eu bedyddio, eithr ei hâd hwynt a fedyddir cyn eu hail eni.

[Page 52]3. Yr oedd enwaediad yn sél y Cyfammod Gras. Rhu. 4. 11. Efe a gymmerth arwydd yr Enwaediad yn insel Cyfiawnder ffŷdd. Yr oedd hi yn sél i siccrhau addewid Cyfiawnder o du Dduw, ac yn sél i rwymo dyn i ufudd-dod ffŷdd. Yr oedd yn Ar­wydd i Abraham o Gyfiawnder y ffŷdd, yr hon oedd ganddo yn y dien­waediad, ac yn arwydd iw had ef or Cyfiawnder yr oeddent yn rhwym iw dderbyn trwy ffŷdd er Cyfiawn­hâd, ar ol enwaedu arnynt.

Yr un modd y mae bedydd yn sél y Cyfammod gras, yn arwydd o gy­fiawnder ffŷdd. Ir ffyddloniaid cyn­taf or Cenhedloedd yr oedd yn ar­wydd o gyfiawnder y ffŷdd oedd gan­thynt cyn eu bedyddio, eithr iw had hwynt y mae yn arwydd or Cyfiawn­der y maent yn rhwym iw dderbyn trwy ffŷdd ar ol eu bedyddio.

4. Yr oedd yr Enwaediad yn ar­wydd o ddyfodiad i mewn i eglwys Dduw, trwy'r drws hwnnw yr oedd pob gwrryw i ddyfod i mewn. Yr oedd y dienwaededig oddi allan, ac nid oedd iddo ddim hawl i ragorfre­intiau'r eglwys weledig.

[Page 53]Yr un modd trwy fedydd yr y­dym yn dyfod i mewn ir eglwys Gristnogol, hwn yw'r drws gwele­dig i deyrnas nefoedd, sef yr Eglwys efengylaidd. Am hynny os derbyni­wyd plant bychain i eglwys Dduw trwy enwaediad tan y gyfraith, dy­lid eu derbyn i eglwys Dduw trwy fedydd tan yr efengyl. Yr oeddent yn aelodau o eglwys Dduw gynt, ac yn dyfod i mewn trwy'r drws o en­waediad; os rhyfyga neb iw esgy­muno hwynt allan or eglwys tan yr Efengyl, a chae drws bedydd yn ei herbyn, fe ddylai ddangos trwy ba awdurdod y mae'n gwneuthur felly. Am ba bechod y mae yn eu esgymu­no allan or Eglwys? ai am becho­dau eu rhieni, ai ynteu am eu pecho­dau eu hunain? Nid am bechodau eu rhieni, Canys plant y ffyddloni­aid yr ydym ni yn són am danynt: nid am eu pechodau eu hunain, oddi eithr bod plant bychain yn fwy pe­chaduriaid tan yr Efengyl, nac yr oeddent tan y gyfraith. Ni all pe­chod gwreiddiol eu cae allan, canys yr oeddent yn euog o hwnnw tan y gyfraith, ac etto yn aelodau o eg­lwys [Page 54] Dduw. Ac ni allant fod yn euog o bechodau gweithredol cyn gynted ac y genir hwynt. Pa ddrwg ynteu a wnaethont i haeddu'r farn galed hon o Esgymundod allan or eglwys?

Pa dad sydd mor annaturiol a bwrw ei blentyn bychan allan oi dŷ ei hun? a fyddi di mor greulon ynteu ai fwrw allan o Dy Dduw? Bu ddrwg jawn yngolwg Abraham or­fod iddo fwrw allan ei fab Ismael, er Gen. 21. 9, 11. iddo haeddu ei daflu allan trwy erlid Isaac; ai da yw yn dy olwg di fw­rw allan dy blentyn, heb ddim a­chos? o na fydd mor anhebyg ith Dad Abraham. Y dreigiau a dyn­nant Galarn. 4. 3 allan eu bronnau, a roddant sugn iw Cenawon, eithr merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr Estrisiaid yn yr Anialwch. Yr ydym yn darllen am yr Estris, ei bod yn galed wrth ei Job 39. 16. chywion, fel pe na byddent eiddi hi. O na fydded plant Abraham yn blant ir Estris.

5. Yr oedd yr Enwaediad yn rhwymedigaeth i ddiosci corph pe­chodau y cnawd. Mae bedydd yn Col. 2. 11. ein gosod ni tan yr un rhwymedi­gaeth. [Page 55] Y ddwy Ordinhád a rwy­mant Rhuf. 6, 4, 6. ir un ddyledswydd, sef i fa­rwhau pechod; ac am hynny os oedd y naill yn perthyn i blant gynt, felly mae'r llall yr awrhon.

Gwrthdd. Ond pa fodd y gellir rhwymo plant ir hyn nid ydynt yn ei ddeall. Att. Nid oeddent yn ddeall rhwym yr enwaediad, ac etto yr oe­ddent wedi ymrwymo ir Arglwydd, i gymmeryd ef i fod yn Dduw iddynt, ac i ymado a ffyrdd pechod. Yr oedd plant megis eraill yn ymrwymo ynghyfammod Duw, Deut. 29. 10, 11, 12. Yr ydych chwi oll yn sefyll heddyw ger bron yr Arglwydd eich Duw — holl wyr. Israel, eich plant, eich gwragedd, ath ddieithr ddyn yr hwn sydd oddifewn dy wersyll — i fyned o honot tan gyfammod yr Ar­glwydd dy Dduw. Gosododd Duw rwymyn ei gyfammod ar blant, er na ddeallent beth yr oeddyd yn ei w­neuthur. Am hynny mae'r gwrth­ddadl hwn yn gymmeint yn erbyn enwaediad plant tan y gyfreith, ac yn erbyn eu bedyddio tan yr Efen­gyl.

[Page 56]Gwrthdd. Yr oedd enwaediad yn rhwymo i gyfraith Moses, Gal. 3. 2, 3. Yr hyn nid yw bedydd.

Att. Gwir yw, yr ydoedd felly oddiar yr amser y rhoddwyd y gy­fraith ar fynydd Sinai, eithr nid oedd or dechreuad felly, Canys nid oedd Jo. 7. 22. yr Enwaediad o Moses, eithr or tadau. Rhoddwyd yr enwaediad ar y Cyntaf yn sél or Gyfammod gras a wnaeth Duw ag Abraham, yr hwn a ga­darnhawyd ynghrist bedwar Cant a deg Gal. 3. 17. ar hugaiu o flynyddoedd Cyn rhoddi'r ddeddf. Ac am hynny, fel y dywed yr Apostl, ni allei'r ddeddf ddirym­mu'r Gal. 3. 19. Cyfammod hwn. Yr hon nid oedd ond chwanegiad at y Cyfam­mod gras; pan dorrwyd ymmaith y Chwanegiad hwn, yr oedd y Cy­fammod yn sefyll yn ei symylrwydd cyntaf, a newidiodd Duw yr hen sél o enwaediad, o herwydd ei bod yn rhwymo ir ddeddf, am y sél newydd o fedydd, yr hon sydd yn arwyddo­cau rhagorfreintiau ysprydol Cyfam­mod Abraham, yn yr un helaeth­rwydd ac yr oedd yr enwaediad.

6. Yr oedd Enwaediad yn nód o wahanieth rhwng eglwys yr Israeli­aid, [Page 57] ar Cenhedloedd digrêd. Rhyn­godd bodd i Dduw i osod y nód hwn ar y plant, megis ar y rhieni. Ac am hynny geilw Duw hwynt, ei blant Ezek. 16. 21. ef. Yn yr ystyriaeth hon yr oedd y mabwysiad yn perthyn iddynt. Rhuf. 9. 4. Y rhai oedd heb y nód hwn (neu yn ferched, neu yn wragedd ir Cyfryw) a elwir yn Gwn yn yr ysgrythur. Mat. 15. 26. Nid da cymmeryd bara y plant, ai fwrw i'r Cwn. Y plant oedd yr Iddewon, y Cwn oedd y Cenhedloedd dienwae­dedig.

Yr un modd y mae bedydd yn nód o wahanieth rhwng yr Eglwys Gristnogol, ac Iddewon, a Phaga­niaid di-grêd. Ac fel mae Ewyllys Duw oedd bod ei nôd ef ar blant ei boblgynt, felly ewyllys yr Arglwydd yw bod ei nód ef, sef bedydd, ar blant ei bobl yr awr hon; oddi eithr i ni feddwl fod plant y ffyddloniaid yn llai anwyl i Dduw tan yr Efengyl, nac yr oeddent iddo tan y gyfraith. Yr oedd Duw gŷnt wedi eu nodi hwynt i fod yn eiddo ef ei hun; ei­ddo pwy ydynt hwy yr awrhon? Os eiddo'r Arglwydd, gadewch i Dduw [Page 58] i roddi ei nód arnynt, i ddangos gwahanieth rhwng ei blant ef a phlant y byd di-gréd. Oni ddaeth Christ i'n nessau ni at Dduw? Pa ham gan hynny y pellheir plant ei bobl oddi­wrtho ef tan yr Efengyl, y rhai oe­ddent yn agos atto tan y gyfraith?

Fel hyn y mae'n eglur fod Enwae­diad a bedydd yn arwyddocau yr un pethau; ac o herwydd hynny mae bedydd yn perthyn i blant fel yr oedd yr enwaediad.

Gan hynny mae'r Apostl yn dan­gos fod bedydd wedi dyfod yn lle'r enwaediad. Yn yr hwn hefyd i'ch Col. 2. 11, 12. enwaedwyd âg enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosc corph pechodau y cnawd yn enwaediad Christ, wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd — Mae'r Apostl yn y geiriau hyn yn ddangos fod y Colossiaid wedi derbyn enwaediad y galon, er eu bod heb yr enwaediad yn y Cnawd, ac yn lle'r enwaediad hwnnw, eu bod we­di eu bedyddio. Megis pe dyweda­sei, os ydych heb enwaediad yn y Cnawd, y mae gennych chwi ordin­had arall, sef bedydd, i arwyddocau'r un bendithion.

[Page 59]Mae Duw yn cyfri y rhai ni en­waedent ar eu plant yn dorrwyr Cy­fammod. Ar gwryw dienwaededic yr Gen. 17. 14. hwn ni enwaeder cnawd ei ddienwae­diad, torrir ymmaith yr enaid hwnnw o fysc ei bobl: oblegid efe a dorrodd fynghyfammod i. Torrir enaid oddi­wrth ei bobl, naill ai trwy esgymun­dod, ai trwy farwolaeth, ai trwy ddamnedigaeth, mae pob un yn of­nadwy, yn enwedigol y ffordd ddi­wethaf o dorri ymaith enaid, ac yn dangos mor beryglus ydoedd esgeu­luso enwaediad plant. Ceisiodd yr Arglwydd ladd Moses, o herwydd iddo oedi enwaedu ar ei blentyn, fel y mae'n debygol, i fodloni ei wraig. Da gwna y rhai a esgeulusant fedy­ddio Exod. 4. 24, 25, 26. eu plant ystyried y pethau hyn, canys profason eusus fod bedydd yn perthyn i blant yr awr hon, Fel yr oedd yr enwaediad gynt.

Gwrthdd. Yr oedd gorchymyn am enwaedu plant▪ ond nid oes un gorchymyn am fedyddio plant.

Att. 1. Nid yw'r Testament ne­wydd yn són ond ychydic am blant o herwydd bod yr hén Destament yn són Cymmaint am danynt, ac yn [Page 60] dywedyd yn eglur, fod plant y Deut. 29. 10, 11, 12. ffyddlonlaid ynghyfammod Duw, a bod sél y Cyfammod yn perthyn iddynt.

Nid yr hen Destament yn unig, nár Testament newydd: yn unig, eithr y ddau ynghyd sydd yn Cynhwyso rheol ffŷdd ac ufydd-dod. Mae'r Idde­won yn gwrthod y Testament ne­wydd, a rhai Cristnogion yn ein plith ni yn gwrthod yr hen Desta­ment mewn perthynas i ragorfrein­tiau plant.

2. Mae'n eglur trwy ganlyniad Anghenrheidiol oddiwrth yr ysgry­thur bod bedydd yn perthyn i blant. Rhan or ysgrythur ydyw Canlynia­dau ysgrythurol. Mae Christ yn profi yr adgyfodiad yn erbyn y Sa­duceaid trwy ganlyniad oddiwrth yr ysgrythur honno. Myfi yw Duw Exod. 3. 6. Abraham, Duw Isaac, a Duw Ja­cob. Nid oes un gair yn yr ysgry­thur hon am yr adgyfodiad, etto mae Christ yn casglu oddiwrthi y rhaid ir meirw godi, Canys eb efe, Mat. 22. 31, 32. nid yw Duw, Dduw y rhai meirw, ond y rhai byw. Y rhai ni dderbyni­ant Ganlyniadau ysgrythurol am fe­dydd [Page 61] plant, ni dderbyniasent ymre­symmiad Christ am yr adgyfo­diad.

3. Eithr ni a ddangoswn yn y bennod nessaf fod gorchymyn i fe­dyddio plant.

PEN. VI.
Yn profi bedydd plant oddiwrth Orchy­myn Christ i fedyddio'r holl Genhed­loedd.

Rheswn III.

MAT. 28. 19, 20. Ewch a dys­gwch yr holl Genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r tad, ar mab, ar yspryd glan, gan ddysgu iddynt ga­dw pob peth ar a orchymynnais i.

Yn y geiriau hyn, mae Christ yn gorchymyn. 1. Ddysgu yr holl gen­hedloedd. 2. Iw bedyddio. 3. Iw dysgu. Dymma ddau fath o ddys­geidiaeth, y naill o flaen bedydd, y llall ar ol bedydd. Ir rhai o edran ymhlith y Cenhedloedd digred yr ydoedd dysgu yn myned o flaen be­dydd, ond i blant y Cyfryw yr ydo­edd bedydd yn myned o flaen dysgu. Yr un modd ac yr oedd Abraham tad y Cenhedloedd wedi ei ddysgu cyn enwaedu arno, eithr ei blant ef oe­ddent wedi eu henwaedu cyn eu dys­gu. [Page 63] Hon yw ystyriaeth y geiriau, megis y dengys,

1. Oddiwrth addewid Duw i Abraham, Isaac, ac Jacob, mae yn Gen. 18. 18. & 22. 18. & 26. 4. eu had hwynt y bendithir holl genhed­loedd y ddaiar. Yn awr y mae Christ yn danfon ei Apostolion at yr holl Genhedloedd er Cyflawniad yr adde­wid hon, a rhaid ei chyflawni yn yr un helaethrwydd ac y gwnaethpwyd hi i Abraham, sef i Dduw fod yn Dduw iddo ef, ac iw had.

Fe ddaeth Christ i gadarnhau yr addewidion a wnaethpwyd ir tadau fel Rhuf. 15. 8, 9. y byddei ir Cenhedloedd ogoneddu Duw am ei drugaredd. Rhuf. 15. 8, 9. Os nid yw Duw yn Dduw ir Cenhed­loedd ac iw had yn ol yr addewidion a wnaethpwyd ir tadau, mae Christ yn dirymmu, ac nid yn Cadarnhau'r addewidion, yr hyn na atto Duw i ni ei feddwl.

2. Yr oedd yr Apostolion yn deall gorchymyn Christ iddynt yn yr ysty­riaeth hon. Am hynny pregethent jechydwriaeth ir rhai a gredei; ac i bawb oi heiddo. Fel hyn Petr a ddy­wedodd fod yr Addewid ir rhai a gre­dent ynghrist ac iw had. Paul ynteu [Page 64] a ddywed wrth geidwad y Carchar, Acts 2. 39. Act. 16. 31. Cred yn yr Arglwydd Jesu Grist, a chadwedig fyddi, ti a'th deulu. Mae'n siccr nad aeth yr Apostolion tu hwnt iw Commissiwn, eithr y maent yn Cymhwyso addewid Abraham ir ffyddloniaid ac iw had or Cenhedlo­edd, am hynny yr oeddent i fedy­ddio plant y Cenhedloedd.

3. Y mae plant yn rhan or Cen­hedloedd, Os oedd yr Apostolion i fedyddio'r holl genhedloedd, yr oeddent i fedyddio plant hefyd, Canys y mae plant yn rhan fawr or Cenhed­loedd, yn agos i un hanner o ho­nynt. Pan ydyw Duw yn bwgwth dinistrio yr Cenhedloedd o flaen yr Is­raellaid, Cynhwysir y plant megis y Deut. 12. 29. tadau, canys nid arbedwyd y plant yn amgenach na'r tadau. Or tu a­rall, Josh. 16. 21. pan ydyw Christ yn gorchy­myn bedyddio'r Cenhedloedd, er je­chydwriaeth iddynt, y mae efe yn meddwl y plant megis en rhieni.

Pe bae gwr yn gorchymyn iw fu­gail, i gneifio ei holl ddefaid ef a gosod arnynt nód clyst, iw hadna­bod oddiwrth ddefaid eraill; er ir bugail gneifio'r defaid, ai nodi [Page 65] hwynt, os gád ef allan yr wyn heb eu nodi, nid yw yn gwneuthur ei ddyledswydd. Os dywed wrth ei feistr, yr oedd yr wyn yn rhy ie­faingc iw cneifio▪ gwir ebe'r meistr, ond nid oeddent yn rhy iefaingc iw nodi, chwi a ddylasech i nodi hwynt, canys rhan fawr ydynt om praidd i.

Os ni all plant bychain dderbyn addysc, hwy a allant dderbyn nód Christ, sef bedydd, trwy ba un y gwahenir defaid Christ oddiwrth ei­fr y diafol. Eglwys Christ yw ei braidd ef, a oes dim wyn yn y praidd hwn? Christ yw'r bugail da a ffydd­lon yr hwn a roddodd ei einioes dros y Jo. 10. 11. praidd. Ac oni bydd iddo ef ofalu am ei wyn, a gweiniaid ei braidd? Bydd yn sicr, Canys ai fraich y casgl ef ei wyn, ac ai dwg yn ei fonwes. Isa. 40. 11. Y mae ei eglwys ef Can. 6. 6. fel diadell o ddefaid a ddae i fynu or olchfa, y rhai sydd bob un yn dwyn dau oen, ac heb un yn ddi-heppil yn eu mysg. Gadewch ir wyn ynteu gael eu golchi, fel y maent yn rhan fawr or praidd.

Mae Christ yn gorchymyn i Bedr Jo. 21. 15, 16, 17. borthi ei wyn cyn gorchymyn iddo [Page 66] borthi ei ddefaid. Ac am hynny nid ewyllys Christ ydyw ir bugeiliaid sydd yn porthi'r praidd, esgeuluso yr wyn.

Pan ydyw brenin trwy ei Charter, neu escrifen gyhoeddus yn gwneu­thur holl drigolion rhyw dref yn rhydd, onid yw'r plant yn gyfranno­gion o rydd-did y Charter, er nad yw eu henwau yn neullduol ynthi. Felly mae ymma, mae brenin y ne­foedd trwy Charter ei efengyl yn ein gwneuthur ni y rhai oeddem ddieithri­aid Eph. 2. 19. a dyfodiaid yn gyd-ddinasyddion ar saint, ac ir diben hynny yn gorchy­myn derbyn yr holl genhedloedd trwy fedydd i rydd-did a rhagorfrein­tiau dinas Duw, ac oni dderbyn ef y plant i rhagorfreintiau eu rhieni? Yr oedd plant yr hén Gaersalem yn gy­frannogion o rhagorfreintiau eu ta­dau, a phan y gwrthododd hi yr Arglwydd Jesu, caethiwyd hi ai Gal. 4. 25. phlant; ac onid yw plant y Gaer­salem newydd yn gyfrannogion o ra­gorfreintiau eu rhieni? Dywed yr Apostl fod y Jerusalem honno uchod yn rhydd, yr hon yw ein mam ni oll. Os Gal. 4. 26. yw Jerusalem yn rhydd, sef ein [Page 67] mam ni, y mae ei phlant hi yn rhydd hefyd. Ni all y plant fod yn gaeth, ar fam yn rhydd. Na atto Duw ini feddwl fod rhagorfreintiau yr Gaersa­lem newydd yn dyfod yn fyrr o ra­gorfreintiau yr hen Gaersalem. Mae'r Apostl yn dywedyd, fod ir unig (sef i eglwys y Cenhedloedd) lawer mwy Gal. 4. 27. o blant, nac ir hon y mae iddi wr, sef eglwys yr Iddewon. Os nid yw plant yr Eglwys Gristnogol yn mwynhau rhagorfreintiau eu tadau, mae iddi lawer llai o blant nac ir hen Gaersalem.

Gan hynny pan ydyw Christ yn gorchymyn dysgu'r holl genhedloedd cyn eu bedyddio, ac ar ol hynny eu bedyddio cyn eu dysgu, ei feddwl y­dyw, dysgwch a bedyddiwch i blan­nu'r eglwys, bedyddiwch a dysgwch i barhau'r eglwys a blannwyd ymhlith y Cenhedloedd.

Os dywed neb fod dysgu yn mynd o flaen bedydddio, yr ydym ni yn addef ei fod er plannu eglwys Dduw, eithr y mae bedydd i fyned o flaen dysgu i barhau'r eglwys hyd ddiwedd y hyd, ac am hynny, ebe Mat. 28. 20 Christ, wele yr ydwyfi gydâ chwi bob amser hyd ddiwedd y byd.

PEN. VII.
Yn profi y dylid bedyddio plant y ffydd­loniaid o herwydd eu bod yn san­cteidd, 1 Cor. 7. 14.

Rheswm IV.

OS yw plant y ffyddloniaid yn sanctaidd, mae bedydd yn perthyn iddynt; canys addef pawb fod sancteiddrwydd yn rhoddi hawl i fedydd, os addefant bod ffydd, yn rhoddi hawl, yr hon yw gwreiddyn sancteiddrwydd mewn rhai o oe­dran.

Eithr pa fodd y dengys eu bod yn sanctaidd? Mae'r yspryd glan yn dywedyd felly. 1 Cor. 7. 14. Pe amgen aflan yn ddiau fyddei eich plant, eithr yn awr sanctaidd ydynt. Mae'r Apostl yn y geiriau hyn yn atteb i amheuaeth rhai or Corinthiaid a gre­dent, a oedd gyfreithlon iddynt drigo yn y stát briodas gydâ rhai di-gred. Ezr. 9. 1, 2, 3, 4. Pen. 10. Nid heb achos yr oeddent yn am­mheu hyn, o herwydd i Ezra orchy­myn [Page 69] bwrw ymaith wragedd eulun a­ddolgar ynghyd ai plant. Mae Paul 1 Cor. 7. 12, 13. yn atteb, na ddylent wneuthur felly yn awr.

1. O herwydd y sancteiddir y gwr digred trwy'r wraig sy'n credu, ar wraig ddigred a sancteiddir trwy'r gwr syn credu.

2. Mae'r plant a enir yn y Cy­fryw stat yn sanctaidd, fel pe bae'r ddau yn credu.

Eithr y questiwn yw, ymha ysty­riaeth y maent yn sanctaidd. Siccr yw, mae nid meddwl yr Apostol yw, bod y cyfryw blant yn blant cyfreithlon yn unig, ac nid yn fastardiaid, Ca­nys ni chymmerir y gair sanctaidd mewn un lle yn yr scrythur yn yr ystyriaeth hon, ac y mae plant y pa­ganiaid digred yn blant Cyfreithlon, nid bastardiaid monynt. Mae prio­das yn ran o gyfraith natur, ac yn anrhydeddus ymhawb. Ai bastardi­aid yw pawb nid ydynt yn credu? pwy yn ei gwbl synwyr a ddywed mae hyn yw meddwl yr Apostol, Os y gwr ar wraig sydd ddigred mae'r plant yn fastardiaid, eithr os un o ho­nynt sydd yn credu mae'r plant yn gy­freithlon. [Page 70] Diau fod Duw yn yr scrythur hon yn gosod allan ryw ra­gorfraint priodol i blant y ffydloni­aid, yr hwn nid yw yn perthyn i blant eraill. Nid ydynt hwy aflan fel eraill, eithr y maent yn sanctaidd.

Fel y byddo i ni ddeall meddwl yr yspryd glan, ni ystyriwn beth yw iddynt fod yn aflan yn yr ysgrythur, a beth yw bod yn sanctaidd. 1. Beth yw bod yn aflan? Att. Rhai a­flan yw,

1. Rhai allan o gyfammod Duw. Am hynny medd yr Arglwydd, Isa. 52. 1. Ni ddaw o'th fewn mwy ddi­enwaededic, nac aflan. Plant dien­waededic heb nôd yr Arglwydd ar­nynt, aflan oeddent, yr oeddent allan o gyfammod Duw; fel hyn yr oedd plant y Cenhedloedd digred yn aflan, ac nid oedd enwaediad, sél Cyfam­mod Duw, yn perthyn iddynt. Yr un modd y mae plant y Twrciaid, ar Iddewon, ar Paganiaid di-gred yn aflan yr awrhon, o herwydd eu bod allan o gyfammod, ac nid yw be­dydd, sél y Cyfammod, yn per­thyn iddynt. Os oedd y dienwae­dedic yn aflan, y mae'r di-fedydd yn [Page 71] aflan, canys daeth bedydd yn lle'r enwaediad, fel y profasom or blaen.

2. Rhai aflan yw y rhai a gae­wyd allan oddiwrth ragorfreintiau eglwys Dduw. Nid oedd i neb a­flan ddyfod ir gynnulleidfa, er nad oedd eu haflendid ond aflendid Cere­monaidd. Lev. 5. 2, 3, 4. & 14, 7, 8. Caewyd Miriam o'r tu allan ir gwersyll pan ydoedd tan a­flendid gwahan-glwyfus. Yr oedd yr Iddewon yn cyfrif yr holl genhed­loedd dienwaededic yn aflan, ac yn neullduo oddiwrthynt. Am hynny nid ae Petr i bregethu'r Efengyl ir Cenhedloedd, nes i Dduw ei ber­swadio ef trwy weledigaeth na Chy­frifei mor Cenhedloedd yn aflan mwyach, o herwydd dattod Ca­nolsur Eph. 2. 14▪ y gwahaniaeth rhwng y Cen­hedloedd ar Iddewon. Fel hyn yr addef Peter pan ddaeth at Cornelius. Act. 10. 28. Chwi a wyddoch mae anghyfreithlon yw i wr o Iddew ymwascu, neu ddyfod at alltud; eithr Duw a ddangosodd i mi, na alwn neb yn gyffredin, neu yn a­flan. Yr oedd Petr yn cyfri'r Cen­hedloedd dienwaedic yn aflan, hynny yw, allan o eglwys Dduw, a'i rha­gorfreintiau, eithr yr awrhon mae'n [Page 72] deall fod ymhob cenhedl y neb sydd yn Act. 10. 35. ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder yn gymmeradwy ganddo ef, ac am hyn­ny nad yw'r Cyfryw yn aflan, ac a­llan o eglwys Duw.

Yr hyn a ddywed yr Apostl Peter am Cornelius, nad oedd iw gyfri yn aflan mwyach, y mae Paul yn ei ddy­wedyd am blant y ffyddloniaid, nad ydynt yn aflan; ac am hynny fel y derbyniodd Peter Gornelius i eglwys Dduw trwy fedydd, gan ddysgu iddo ffordd yr Arglwydd yn fany­lach, felly y dylid derbyn plant y ffyddloniaid i eglwys Dduw trwy fe­dydd, canys nid ydynt aflan, ac iw cae allan o eglwys Dduw.

Y rhai a gaeyd allan tan y gy­fraith o herwydd rhyw aflendid, nis derbynnit drachefn nes eu golchi a dwfr. Felly plant bychain o her­wydd Lev. 15. 5, 6, 7, 8, 10. & 17. 15, 16. llygredigaeth naturiol ydynt aflan, eithr trwy gyfammod Duw, a golchiad dwfr, megis arwydd or Cyfammod, hwy a lanheir.

Fel hyn y gwelwn ni beth yw bod yn aflan, sef bod allan o gyfammod Duw, a bod heb ddim hawl i ra­gorfreintiau eglwys Dduw. Yn yr [Page 73] ystyriaeth hon nid yw plant y ffydd­loniaid yn aflan, fel y mae plant y rhai digred.

Q. Beth yw iddynt fod yn sancta­idd?

Atteb. 1. Bod yn sanctaidd yw bod mewn Cyfammod â Duw. Pob peth a neullduwyd i Dduw sanctaidd ydyw. Am hynny pethau wedi neull­duo [...] ab usu com­muni ad divinum separatus Schind. ir Arglwydd a elwir yn sancta­idd, yn, yr ystyriaeth hon yr oedd y Dabernacl, y Deml, ar llestri oedd ynthynt yn sanctaidd. Felly amse­rau a neullduid ir Arglwydd sanctaidd oeddent, yn yr ystyriaeth hon mae'r Sabbath yn sanctaidd, o herwydd ei fod wedi neullduo i addoliad a gwa­sanaeth Duw. Yr un modd perso­nau wedi neullduo i Dduw, sancta­idd oeddent, fel hyn yr oedd yr offei­riaid Lev. 2 [...]. 6, 7, 8. ar Leviaid yn sanctaidd. Je yr oedd holl genhedl yr Iddewon yn sanctaidd, o‘herwydd eu bod wedi neullduo oddiwrth genhedloedd eraill i fod yn bobl gyfammodol i Dduw. A chwi a fyddwch i mi yn frenhinia­eth Exod. 19. 6▪ o offeiriaid ac yn genhedlaeth san­ctaidd. Pobl sanctaidd ydwyt ti ir Deut. 7. 6. & 14. 2. Arglwydd dy Dduw. Yn yr ystyria­eth [Page 74] hon yr oedd nid yn unig y rhieni, ond y plant yn sanctaidd. Had san­ctaidd oeddent, wedi neullduo i Dduw gydâ eu tadau. Os oedd yr holl genhedlaeth, yr holl bobl yn sanctaidd, yr oedd eu plant felly, Deut. 29. 10, 11, 12. Canys rhan fawr or bobl oeddent. Ac yr oeddent ynghyfammod Duw megis eu tadau, ac yr oedd nod y Cyfammod arnynt. Am hynny gel­wir yr holl genhedlaeth, sef y rhieni Ezra. 9. 2. ar plant, yn had sanctaidd, ai cnawd yn gnawd cyssegredic, Jer. 11. 15. O herwydd enwaedu arno, ai neull­duo i Dduw. Gelwir eu plant yn had sanctaidd. Onid un [wraig] a wnaeth efe? ar yspryd yngweddill Mal. 2. 15. gantho; a pha ham un? i geisio had duwiol. Yr had a enir ir ffyddloni­aid mewn priodas gyfreithlon had Duwiol, had sanctaidd ydyw. Mae Duw yn galw'r cyfryw, ei blant ef, Ezek. 16. 20, 21. a blantwyd iddo ef.

Fel yr oedd gynt, felly mae dan y Testament newydd, gelwir y rhai a neullduwyd ir Arglwydd trwy fe­dydd yn genhedl sanctaidd, felly dy­wed Pedr wrth yr Iddewon a greda­sei. [...] Pet. 2. [...]. Yr ydych chwi yn frenhinol offei­riadaeth, [Page 75] yn genhedl sanctaidd, yn bobl Exod. 19. 6 briodl i Dduw. Y mae yn ei galw wrth yr un enwau anrhydeddus ac a roddodd Duw iddynt or blaen. Felly mae'r Apostl Paul yn galw'r Christno­gion Rhuf. 1. 7. 2 Cor. 1. 1. yn sainct yn ei lythurau at eg­lwysi'r Cenhedloedd; o herwydd eu bod wedi eu neullduo trwy Gyfam­mod, a rhwymedigaeth bedydd i fod yn eiddo'r Arglwydd. Ac y mae nid yn unig y rhieni a gredant, ond eu plant hefyd yn sainct, fel y dywed yr Apostl, Eithr yn awr sanctaidd 1 Cor. 7. 14. ydynt.

Yr ydym yn barnu rhai mewn oe­dran yn sanctaidd o herwydd eu bod wedi ymneullduo ir Arglwydd mewn proffes o sancteiddrwydd, er ei bod yn rhy fynych yn broffes ra­grithiol; ac oni farnwn ni blant y ffyddloniaid yn sanctaidd, y rhai y mae Duw yn ei galw felly? Yr y­dym ni yn barnu rhai o oedran yn sanctaidd, mewn barn o gariad, er ein bod yn fynych yn camgymme­ryd, ac yn newid ein barn am da­nynt; a pha ham na farnwn mor gariadus am blant y ffyddloniaid eu bod yn sanctaidd, gan fod Duw we­di [Page 76] eu neullduo iddo ef i hun mewn cyfammod o ras? wrth farnu rhai o oedran yn sanctaidd yr ydym yn ym­ddiried i'n barn ein hunain, ond pan ydym yn barnu plant ffyddloniaid yn sanctaidd, yr ydym yn ymddiried i farn Duw, yr hwn sydd yn eu galw yn sanctaidd yn ei air, ac yn eu cynhwyso yn yr un addewid a'u tadau. A siccr ydyw, y sancteiddir llawer o honynt oi mebyd trwy ras yr adenedigaeth fel y cawn ni weled yn y man, ac ni ellir dywedyd am yr un o honynt yn eu mebyd ein bod yn siccr na ailanwyd mono, fel y gellir dywedyd am rai o oedran fydd yn byw yngwrthwyneb iw proffes.

2. Bod yn sanctaidd yw bod yn aelodau o eglwys Dduw. Fel y mae Isa. 52. 1. Rhuf. 1. 7. 1 Cor. 1. 2. y rhai aflan allan or eglwys, felly y sanctaidd ydynt aelodau o eglwys Dduw. Gelwir holl aelodau'r eg­lwys weledig yn sainct.

Ni all neb ammeu nad oedd plant y ffyddloniaid yn aelodau o eglwys Dduw cyn ddyfodiad Christ, ni ddaeth Christ i bwrw hwynt allan: fel y profasom or blaen. Mae Mr. Tombs, (yr hwh a scrifennodd yn erbyn be­dydd [Page 77] plant) yn addef os yw plant yn aelodau or eglwys weledig y dy­lid eu bedyddio. Canys bedydd yw'r drws trwy yr hwn y deuir i mewn i eglwys Dduw.

Y rhai a ddywedant nad ydynt yn aelodau or eglwys a ddylent ddan­gos scrythur eglur i ni am eu bwrw allan. Dangosent os gallant un eglwys o amser Adda hyd yr oes ddiwethaf, or hon nid oedd plant bychain yn aelodau, os oedd plant iddi. By­dded iddynt enwi un Patriarch, un Prophwyd, un Apostl, neu athro oedd yn erbyn hawl plant bychain i fod yn aelodau or eglwys, o dde­chreuad y byd hyd yr oes ddiwethaf. Os bwrwyd hwynt allan pa fodd y digwyddodd nad oes un gair yn yr scrythur yn són am hynny? Ga­lwch am scrythur oddiwrth y rhai a fynnant siglo eich ffydd chwi yng­hylch y rhagorfraint hwn.

Yr oedd yr Iddewon a gredent yn Act. 21. 20, 21. ddigllon iawn wrth Paul am ei fod yn erbyn enwaedu ar eu plant, pa fodd y tramgwyddasent; pe buasei Paul yn bwrw eu plant allan or eg­lwys, ac yn eu gosod yn yr un cy­flwr [Page 78] a phlant y rhai digred. Nid yw neb yn rhoddi hynny yn ei erbyn ef, achwynasent yn ddiau arno pe dysca­sei'r cyfryw athrawiaeth.

Os nid yw plant y ffyddloniaid yn aelodau o eglwys Dduw, y ma­ent yn aelodau o deyrnas Satan, yr Jo. 12. 31. hwn yw tywysog y byd. Os ydynt allan or eglwys pa obaith o jechy­dwriaeth iddynt? Nid oes jechydw­riaeth allan o eglwys Dduw. Eti­feddiaeth Rhuf. 9. 4. yr eglwys yw'r Addewidi­on, nid yw'r addewidion yn perthyn ir rhai oddiallan, ac am hynny os yw plant oddiallan ymhlith y Cwn, Date. 22, 15. pa, addewid a berthyn iddynt? A ph'le nid oes addewid, nid oes go­baith o jechydwriaeth, Canys yr addewid yw sylfaen gobaith. Beth a ddywedwch chwi rieni tyner wrth y pethau hyn? Oni ewyllysiech fod eich plant yn gadwedig? oni ddy­munech alaru am y rhai sy'n marw o honynt yn eu mebyd tan obaith eu bod yn happus, ac nid tristau megis eraill, y rhai nid oes ganthynt obaith. 1 Thes. 4. 1 [...] O na fwrwch monynt allan o eglwys Dduw, allan o gyfammod jechydw­riaeth! Eich plant anwyl ydynt, [Page 79] plant eich cyrph, plant eich addune­dau, o dangoswch iddynt drugaredd Duw. Mae eglwys Duw yn ewy­llysgar iw derbyn, o na rwygwch mo honynt oddiwrth y corph dirgel hwnnw o ba un y maent yn aelodau. Noah a baratodd Arch i achub ei blant, canys gwyddei nad oedd je­chydwriaeth allan or Arch, yr hon oedd yn arwydd o eglwys Dduw: ac a bydd i chwi daflu eich plant a­llan or Arch a baratodd Duw iddynt? O na fyddwch mor greulon iw he­neidiau hwynt, y rhai ewyllysiech yn dda iw Cyrph. Derbyniwch 1 Pet. 3. 20▪ hwynt i Arch Duw fel yr achubir hwynt trwy ddwfr. Na neccewch arwydd sancteiddrwydd ir rhai a fer­nir gan Dduw ei hun yn sanctaidd.

PEN. VIII.
Yn profi y dylid bedyddio plant, o her­wydd i Grist iw bendithio.

V. Rheswm.

MAR. 10. 13, 14, 15, 16. A Lu. 18. 15, 16, 17. Mat. 19. 13, 14. hwy a ddygasant blant bychain atto, fel y cyffyrddai efe a hwynt, [fel y rhoddei ei ddwylo arnynt ac y gwe­ddiei, Mat. 19. 13.] ar dyscyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. Ar Jesu pan welodd hynny fu anfodlon, ac a ddywedodd wrthynt, Gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch iddynt; canys ei­ddo y Cyfryw rai yw teyrnas Dduw. Yn wir meddaf i chwi, pwy bynnag ni dderbynio deyrnas Dduw fel dyn-bach, nid â efe i mewn iddi. Ac efe au cymmerodd hwy yn ei freichiau, ac a roddes ei ddwylo arnynt, ac ai bendi­thiodd.

Mae Matthew, Mark, a Luke yn gosod ar lawr yr histori hon yng­hylch derbynniad plant bychain, [Page 81] ai groesaw at yr Arglwydd Jesu Ghrist.

Yn yr ysgrythur hynod hon, ysty­riwn,

1. Pwy a ddygpwyd at yr Ar­glwydd Jesu. Dywed y Text mae plant bychain oeddent, y cyfryw a gymmerir mewn breichiau. Yr ydym yn troi'r un gair ( [...]) yn fach­gennyn am Joan fedyddiwr, pan oedd Lu. 1. 59, 66, 76. [...]. Lu. 2. 21. newydd eni. Yr un gair a droir dyn bach am Grist pan oedd wyth niwr­nod oed.

Mae Luc yn eu galw ( [...]) Lu. 18. 15. Lu. 1. 41. [...]. Lu. 2. 12. plant bychain. Y gair a arferir am Joan fedyddiwr ynghroth ei fam. Yr un enw a roddir i Grist pan rwy­mwyd ef mewn cadachau yn y pre­seb.

Mae'n eglur gan hynny nad oedd y plant a ddygpwyd (fel y mae'n de­bygol gan eu rhieni duwiol) at Grist ond bychain jawn, nid oe­ddent o oedran i ddyfod eu hunain atto ef, nac i broffessu eu ffydd yn­tho ef.

2. Pa ham y dygwyd hwynt at Ghrist? fel y rhoddei ei ddwylo ar­nynt, ac y gweddiei. Yr oedd y rhai [Page 82] ai dygodd at Christ yn credu y ga­llent dderbyn bendith trwy arddodiad dwylo, a gweddiau Christ. Er nad oedd y plant bychain yn deall yn bresennol beth ydoedd Christ yn ei wneuthur iddynt, etto trwy addysc eu rhieni gallent wybod yn ol hyn. Ni wyddei Petr beth oedd meddwl Christ yn golchi ei draed ef, ac etto nid oedd y weithred yn ofer. Y peth yr wyfi yn ei wneuthur, ni wyddost Jo. 13. 7. ti yr awrhon; eithr ti a gei wybod yn ol hyn.

Fel yr oedd y rhieni hyn yn dy­fod ai plant at Ghrist iw bendithio, felly yr ydym ninnau yn eu dwyn at Ghrist trwy fedydd i dderbyn ei fen­dith ef. Pa'm na allant dderbyn ben­dith oddiwrtho yr awron megis yn nyddiau ei gnawd? a gyfyngwyd ei ymyscaroedd ef tuag attynt? Onid yr un yw efe heddyw, ddoe ac yn dra­gywydd? Heb. 13. 8. Os ydyw Christ yn eu gwneuthur yn gyfrannogion oi erfy­niau, ac yn eiriol trostynt, nid y­dynt hwy or byd, canys nid yw yn gweddio tros y byd, ond tros y rhai a Io. 17. 9. roddodd y tad iddo, canys eiddo ef ydynt. As os nid yw plant y ffydd­loniaid [Page 83] o'r byd, ond yn eiddo Christ, gadewch iddynt ddyfod atto, a der­byn ei nod ef, sef bedydd.

3. Y discyblion a geryddasant y rhai oedd yn eu dwyn hwynt. Mae'n debygol na wnaethont felly o eisiau cariad at blant, nid oeddent mor galon-galed a hynny, ond o herwydd nad oedd plant yn deall yr hyn a w­neid iddynt, a bod gan Ghrist ddi­gon o waith ynghylch rhai mewn oedran, fel nad oedd gantho amser i ymdrin â phlant bychain.

Yr oedd ganthynt feddyliau dir­mygus am blant bychain, fel y mae gan rai hyd y dydd hwn. Fe all gwir ddiscyblion fod yn rhwystr i blant bychain ddyfod at Ghrist. Nid yw'n canlyn fod pob peth yn ddrwg yr hyn y mae rhai pobl dda yn ei farnu felly. Mae'r discyblion yn ceryddu eraill mewn Zél anystyriol pan yr oeddent yn haeddu cerydd eu hunain. Yr oeddent yn tybied eu bod yn an­rhydeddu Christ, pan ddywedont wrth y bobl am gadw ei plant gar­tref, ac na flinent mo'r athro, eithr y mae Christ yn jachawdwr i blant [Page 84] hefyd, ac nid yw yn diystyru y rhai a ddygir atto, am hynny

4. Bu Ghrist anfodlon wrth ei ddiscyblion, [...], yr oedd we­di sorri wrthynt, neu yr oedd yn ddigllon wrthynt, fel y troir y gair mewn lleoedd eraill. Mat. 20. 24. Lu. 3. 14. Mae'r gair yn arwy­ddocau y cyfryw flinder, a galar ac Viol. Sca­pul. in [...]. sydd yn torri'r galon. I ddangos i ni mor fawr oedd Cariad Christ at blant bychain, a bod y rhai a rwy­strant blant i ddyfod atto yn cyffroi ei ddigofaint yn eu herbyn. Yr y­dym yn darllain i Ghrist 'geryddu ei ddiscyblion ar achosion eraill, yn enwedigol Petr, eithr ni ddywedir mewn un lle gyffroi ei ddigofaint yn eu herbyn, ond yn yr achos hwn, am blant bychain. Am hynny nid pechod bychan iw eu rhwystro i ddy­fod at Ghrist i dderbyn ei fendith ef.

5. Ceryddodd ei ddiscyblion, gan ddywedyd, gedwch i blant bychain ddyfod attafi, ac na waherddwch i­ddynt. Ni allei plant ddadleu tro­stynt eu hunain, mae Christ yn dad­leu trostynt, ac yn dysgu iw ddiscy­blion [Page 85] i fod yn dynerach eu barn am blant bychain o hyn allan. Mae di­frifwch ei yspryd yn ymddangos, gan ei fod yn dywedyd yr un peth ddwy waith. Gedwch iddynt ddyfod attafi, na waherddwch iddynt.

Ni buasei yr Arglwydd Jesu mor ddigllon wrth ei ddiscyblion, ac mor ewyllysgar i dderbyn plant by­chain, oddieithr eu bod yn anwyl iddo. Gwyddei Christ eu bod yng­hyfammod Duw, a'i bod tan en­waediad, sél y Cyfammod, ac na ddaeth efe iw bwrw allan o gyfam­mod Duw, ond yn hytrach i chwa­negu eu rhagorfreintiau. Megis pe dywedasei, derbyniodd fy nhad hwynt, cyn fy nyfodiad ir cnawd, gadewch iddynt ddyfod attaf finnau hefyd, yr hwn a gymmerais eu natur hwynt ar­naf. Ni wrthodafi mor rhai a dder­byniodd fy nhad.

6. Mae efe yn rhoddi'r rheswm pa ham y mynnei iddynt ddyfod atto ef. Canys eiddo y cyfryw rai yw teyr­nas Dduw. Mar. 10. 14. Neu teyrnas nefoedd, Mat. 19. 14. Nid yn unig eiddo'r rhai sydd debyg i blant bychain, eithr eiddo y Cyfryw [Page 86] blant bychain, sef plant y ffyddloni­aid Lu. 18. 17. sydd mewn cyfammod a Duw, Eiddo'r cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. Y cyfryw rai, yw y rhai hyn. Eiddo y rhai hyn yw teyrnas nefoedd, felly cymmerir y gair, Gal. 5. 23. Heb. Gal. 5. 23. [...]. 13. 16. Jo. 3. 8. Ac mewn am­ryw leoedd eraill. Ac eglur yw, mae felly y dylem ddeall yr Ar­glwydd Jesu ynghylch plant bychain, Canys pa ham yr oedd yn ddigllon wrth ei Apostolion am eu rhwystro i ddyfod atto, pa ham y bendithiodd hwynt, oddi eithr bod ganthynt hawl i deyrnas nefoedd? Onid gwyr­droi rheswm Christ y mae y rhai a fynnei iddo ddywedyd fel hyn, ge­dwch i blant bychain ddyfod attafi, canys nid eiddont hwy yw teyrnas ne­foedd, ond eiddo y rhai sydd debyg iddynt.

Yn ol yr Opinion ffol hwn nid oes i blant bychain ddim a wnelont a theyrnas nefoedd. Rhaid i ni fod yn Mat. 10. 16 debyg i golomennod, i ddefaid, je mewn rhai pethau i seirph, eithr ni chymmerodd Christ y rhai hyn yn ei freichiau, ac nis bendithiodd, ac nis dywedodd am danynt, Eiddo y [Page 87] cyfryw yw teyrnas nefoedd, fel y gw­naeth â phlant bychain.

Q. Beth yw teyrnas nefoedd? Att. Wrth deyrnas nefoedd y mae ini ddeall naill a theyrnas gras, ai yn­teu teyrnas gogoniant.

1. Weithiau wrth deyrnas nefo­edd y mae i ni ddeall teyrnas gogoni­ant. Os eiddo plant bychain yw Mat. 19 73 & 5. 3, 10. & 25. 34. teyrnas gogoniant, os caent hwy i derbyn ir nefoedd, y mae bedydd yn perthyn iddynt. I bwy y per­thyn bedydd os yw etifeddion teyrnas nefoedd yn anheilwng o honaw?

2. Weithiau wrth deyrnas nefo­edd y mae i ni ddeall teyrnas gras, sef Mat. 3. 2. & 4. 17. & 10. 7. & 25. 1. eglwys weledig Dduw ar y ddaiar. Hwn yw un or enwau priodol a ro­ddir i eglwys Dduw tan yr Efengyl, nid ydym yn ddarllen am dani tan yr enw o deyrnas nefoedd yn yr holl hén Destament, datcuddiwyd teyr­nas nefoedd trwy'r Efengyl. Hi a nessaodd trwy weinidogaeth Christ a'i Apostolion. Felly teyrnas nefoedd yw eglwys Dduw tan yr Efengyl, o'r eglwys efangylaidd hon y mae plant y ffyddloniaid yn aelodau. Ei­dont hwy yw teyrnas nefoedd, fel y dy­wed [Page 88] Christ. Eiddont hwy oedd teyr­nas, neu eglwys Dduw cyn dyfod Christ, yr oeddent yn aelodau o ho­ni, ac yr oedd ganthynt hawl iw rhagorfreintiau: Y mae Christ yn siccrhau eu hawl i deyrnas nefoedd, sef ir eglwys Efangylaidd ai rhagor­freintiau, ni ddaeth efe iw bwrw a­llan o eglwys Dduw, eithr i siccr­hau hwynt yn eu hen ragorfreintiau, megis aelodau o'r eglwys weledig. Ac os ydynt aelodau or eglwys wele­dig, megis y mae yn siccr eu bod hwynt, fe ddylid eu derbyn i mewn trwy ddrws bedydd.

7. Efe au cymmerodd hwy yn ei freichiau. Yr ydoedd y weithred hon yn arwydd oi gariad ef attynt. Y rhai dderbynniodd Christ yn ei freichiau a ddylei'r eglwys dderbyn yn ei monwes. Os yw efe yn eu cofleidio megis tad iddynt, oni ddy­lei Heb. 2. 13. ei briod ef eu cofleidio megis mam dyner iddynt. Iddi hi y perthyn eu golchi au meithrin. Rhagddywedir am blant eglwys y Cenhedloedd, yna y sugnwch, ar ei hystlys hi i'th ddygir, Isa. 66. 12. ac ar ei gliniau i'ch diddenir. Ni fyn­nei Duw ir eglwys Gristionogol fod [Page 89] yn fwy annaturiol iw phlant nac oedd eglwys yr Iddewon.

8. Efe a roddes ei ddwylo arnynt. Yr oedd arddodiad dwylo yn arwy­ddocau 3 o bethau yn y Testament newydd,

1. Jacháad clefydau. Nid ir di­ben Lu. 4. 46. hyn y gosododd Christ ei ddwy­lo arnynt, Ni buasei'r Apostolion mor greulon ai rhwystro i ddyfod at Grist i jachau eu clefydau.

2. I neullduo rhai ir weinidoga­eth. Act. 13. 3. Nid ir diben hwn y gosododd Christ ei ddwylo arnynt.

3. Yr oeddid yn arddodi dwylo er Conffirmasiwn ar ol bedydd, peth arferol ymhlith yr Apostolion oedd arddodi dwylo ar y rhai a fedyddid fel y derbynnient yr yspryd glan. Act. 8. 14, 15, 16, 17. & 19, 6. Ac o herwydd bod arddodiad dwylo yn canlyn bedydd, gosodir y ddau ynghyd. Heb. 6. 2. i athrawiaeth bedyddiau, ac arddodiad dwylo. Ir diben hwn gan hynny y mae'n deby­gol i Ghrist osod ei ddwylo arnynt iw conffirmio, trwy dderbyn yr ys­pryd glan. Nid oes ini dybied mae ofer oedd yr arwydd hon, yr ydoedd yn rhinweddol i gyfrannu bendith [Page 90] ysprydol. Os gall plant bychain dderbyn yr yspryd glan (fel y mae'n siccr y gallant, Lu. 1. 15, 44.) pwy a all lluddias dwfr, fel na fedyddier Act. 10. 47. y rhai sydd yn derbyn yr yspryd glan, fel ninnau.

Gwrthddywediad, Nid diben Christ oedd rhoddi'r yspryd glan trwy ar­ddodiad dwylo, Canys nid oedd yr ys­pryd Jo. 7. 39. glan wedi ei roddi etto.

Atteb, Gwir yw, nid oedd wedi ei roddi yn ei ddoniau rhagorol, fel y rhoddwyd ef ir Apostolion ar ol es­gynniad Christ i'r nefoedd, eithr yr Act. 2. 1, 2, 3— oedd wedi ei roddi o ddechreuad y byd yn ei rasusau safadwy ir Ethole­digion, ac os rhoddodd Christ ei ys­pryd i blant bychain megis yspryd sancteiddrwydd iw hail eni, mae hynny yn ddigon, ie mae hynny yn fwy na'r donian rhyfeddol a gafodd eraill, Canys grasusau safadwy yr ys­pryd yw'r pethau gwell hynny sydd Heb. 6. 9. ynglyn wrth jechydwriaeth.

9. Efe a'i bendithiodd hwynt. Hyn oedd diben y rhai ai dygent atto ef, fel y byddei iddynt dderbyn ben­dith oddiwrtho ef, hwy a wyddent fod plant ynghyfammod Abraham, a [Page 91] bod Duw yn Dduw iddynt hwy me­gis ac yr oedd iw rhieni; megis y cyfryw blant oedd ynghyfammod Duw, ac yn perthyn i deyrnas nefoedd, y mae Christ yn eu derbyn, ac yn eu ben­dithio, â bendithion ysprydol yn ddi­ammeu, yn ol natur y Cyfammod ar deyrnas yr oeddent yn perthyn iddynt.

Y neb y mae efe yn eu bendithio bendigedig ydynt, nid yw eu fendi­thion ef yn ofer. Nid ydym yn dar­llen iddo roddi ei ddwylo ar neb iw bendithio ond ar blant bychain, ac ar ei Apostolion; gan hynny yr oedd y Lu. 24. 50, 51. naill ar llall yngyfrannogion o ragor­freintiau priodol.

Os ydyw plant bychain yn der­byn bendithion ysprydol oddiwrth yr Arglwydd Jesu, pwy a all neccau be­dydd iddynt, yn arwydd or bendi­thion hynny?

Gosodwn y pethau hyn ynghyd, ac fe fydd eglur fod bedydd yn per­thyn i blant y ffyddloniaid.

Gwrthdd. Mae'r scrythur hon yn gweithio ynom ni feddyliau anrhy­deddus am blant y ffyddloniaid, ac am eu rhagorfreintiau, sef eu bod [Page 92] yn anwyl gan Ghrist, bod teyrnas nefoedd yn perthyn iddynt, eu bod yn fendigedig, &c. eithr nid ydym ni yn darllen i Ghrist eu bedyddio hwynt.

Atteb. 1, Ni fedyddiodd Christ ei hun neb. Joan. 4. 2. Pe buasei yn bedyddio neb, nid oes ammeu na fe­dyddiasei efe blant bychain, Canys y mae'n dangos mwy o ofal drostynt, mwy o gariad iddynt, a mwy o ba­rodrwydd i derbyn hwynt, nac y mae tuag at un radd arall o ddynion.

2. Nid oedd raid i bedyddio hwynt yr awrhon, Canys yr oeddent wedi eu bedyddio or blaen gan Joan Fedyddiwr, fel y profwn ni yn y man. Ac am hynny y mae Christ yn gosod ei ddwylo arnynt i bendi­thio hwynt, Yr oedd arddodiad dwylo yn canlyn bedydd, fel y pro­fasom or blaen ( Act. 18. 17. Heb. 6. 2.) ac yr addef llawer or rhai sydd yn erbyn bedydd plant, Canys gosodant ddwylo ar y rhai y ma­ent wedi eu hail-fedyddio. Ni a­llant hwy ddangos un siampl yn yr holl Destament newydd i Ghrist neu­ei Apostolion roddi en ddwylo ar neb [Page 93] cyn eu bedyddio, oddi eithr ar rai clei­fion i iachau hwynt. Ac os felly, yr oedd y plant hyn wedi eu bedy­ddio pan osododd Christ ei ddwylo arnynt. Ni ddycpwyd hwynt atto ef iw jachau, nid yw'r scrythur yn son am ddim clefydau oedd arnynt, ond yn hytrach i dwyn hwynt at Ghrist fel y gweddiei ef trostynt, ac y bendithiei ef hwynt.

3. Pe digwyddasei fod y plant hyn heb eu bedyddio, mae Christ trwy ei ymresymmiad, ai ymddy­giad attynt yn dangos fod bedydd yn perthyn iddynt. Mae yn en cofleidio, yn gosod ei ddwylo arnynt, yn eu ben­dithio, ac yn dywedyd o'r cyfryw y mae terynas nefoedd, nid yn unig or rhai hyn, ond or Cyfryw ac oeddent hwy, sef o blant y ffyddloniaid hyd ddiwedd y byd y mae teyrnas nefoedd. Je y maent hwy nid yn unig yn aelodau eu hunain o deyrnas nefoedd, eithr yn siamplau o ddiniweidrwydd, a gostyngeiddrwydd i bawb eraill, rhaid iddynt fod fel plant bychain, os ant i mewn i deyrnas nefoedd. Mat. 18. 3. 1 Cor. 14. 20. Teyrnas Dduw tan yr Efengyl a w­neir i fynu o blant, ac o rai sydd de­byg [Page 94] iddynt, o blant megis yr aelodau puraf o honi, heb eu llygru gan be­chodau gweithredol, ac o rai mewn oedran sydd yn marwhau'r llygredi­gaethau hynny a dyfodd gydâ hwynt; or cyfryw rai mae teyrnas nefoedd.

Hyn am yr ysgrythur hynod hon sydd yn gosodd allan ymddygiad Christ at blant bychain, yr hon sydd mor gyflawn yn dal allan eu hawl hwynt i fedydd, ac y mae hi yn ddigonol yn unig i siccrhau yr pwngc hwn, pe ni bae un arall yn yr holl feibl.

PEN. IX.
Fe a ddylid bedyddio plant, o her­wydd impio'r Cenhedloedd i ragor­freintiau'r Iddewon.

Rheswm VI.

RHuf. 11. 15, 16, 17. Canys os sanctaidd y blaen ffrwyth, y mae'r clamp toes hefyd yn sanctaidd, ac os sanctaidd y gwreiddyn, y mae'r cang­hennau hefyd felly. Ag os rhai or Canghennau a dorrwyd ymmaith, a­thydi yn olewydden wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac a'th wnaeth­pwyd yn gyfrannog or gwreiddyn, ac o frasder yr olew-wydden. 23. A hwy­thau, onid arhosant yn anghredinia­eth, a impir i mewn.

Yn yr ysgrythur hynod hon y mae'r Apostl yn dangos,

1. Fod yr Iddewon tra'r oeddent hwy yn eglwys weledig i Dduw yn genedl sanctaidd, nid yn unig y rhie­ni, ond y plant hefyd. Yr oedd yr holl ganghennau yn sanctaidd, o her­wydd [Page 96] bod y gwreiddyn yn sanctaidd. Y gwreiddyn oedd Abraham, ac eraill Rhuf. 11. 28. Isa. 51. 1, 2. or tadau; o herwydd eu bod yng­hyfammod Abraham, yr oedd y rhieni ai plant yn sanctaidd, wedi eu neullduo yn bobl briodol i Dduw, yn yr ystyriaeth hon yr oeddent oll yn sanctaidd. O herwydd bod y blaenffrwyth, sef Abraham, yn san­ctaidd, yr oedd yr holl glamp toes he­fyd yn sanctaidd. Abraham, yr hwn a gredodd yn gyntaf, ac a dderby­niodd Gyfammod Duw iddo ef ai had, oedd blaen ffrwyth yr Idde­won. Megis yr oedd yr yscub flaen­ffrwyth Lev. 2. 3, 9, 10—17. a offrymmid ir Arglwydd yn sancteiddio'r holl ffrwythau, felly yr ydoedd ffydd y rhieni cyntaf yn sancteiddio holl genhedl yr Iddewon, nid â gwir sancteiddrwydd yn y ga­lon, Canys yr oedd llawer o ho­nynt yn annuwiol, ond â sanctei­ddrwydd Cyfammodol, o herwydd eu bod nhwy ai had wedi eu neullduo i Dduw mewn Cyfammod tragywy­ddol.

2. Y rhai o honynt a dderbyniodd yr Efengyl, parhasant yn ganghennau sanctaidd, ar yr un gwreiddyn sancta­idd. [Page 97] Yr oeddent hwy ai had ynghy­fammod Abraham megis or blaen. Ni thorrwyd yr un gangen ymmaith, na bychan na mawr, nes iddynt wr­thod yr Arglwydd Jesu. Y rhai a dorrwyd ymmaith hwy a dorrwyd ymmaith o herwydd anghrediniaeth. Rhuf. 11. 20. Trwy anghrediniaeth y torrwyd hwy ymmaith. Y rhai gan hynny a gredodd yn Ghrist ni thorr­wyd hwy ymmaith ddim; ac os ni thorrwyd hwynt ymmaith yr oeddent mewn undeb ar gwreiddyn, yn gy­frannogion o frasder y gwreiddyn megis or blaen. Yr oeddent hwy ai plant yn gyfrannogion ei hén ragor­freintiau, yn ganghennau sanctaidd, heb eu torri ymmaith.

Y neb sydd yn erbyn bedydd plant y maent yn torri ymmaith y cang­hennau, y yhai ni thorrodd Duw er joed, sef had y ffyddloniaid. Y maent yn ysgythru y pren ffrwyth­lon yn y winllan ac yn gosod y fwyall ar ei ganghennau, mewn modd rhyfygus.

3. Pan wrthododd yr Iddewon ras Duw yn yr Efengyl, gwrthododd Duw y genhedl honno, nid yn unig [Page 98] y rhieni, ond y plant hefyd. Nid ar­bedodd Duw y Canghennau naturiol, Rhuf. 11. 17, 20, 21. eithr torrodd hwynt ymmaith. Tor­rwyd hwynt, nid oddiwrth yr Eglwys anweledig, o'r hon nid oedd y rhai anghrediniol yn aelodau. Nid oes neb yn aelodau o'r eglwys anweledig ond yr Etholedigion, ni wrthodod Duw neb or rheini. Ni wrthododd Rhuf. 11. 2. 2 Tim. 2. 19 Duw ei bobl, y rhai a adnabu efe or blaen. Y mae Cadarn sail Duw yn sefyll. Gan hynny hwy a dorrwyd trwy anghrediniaeth oddiwrth yr Eglwys weledig, o ba un yr oeddent hwy a'i plant yn aelodau.

4. Impiwyd y Cenhedloedd yn eu lle hwynt. A thydi yn olewydden Rhuf. 11. 17. wyllt a impiwyd i mewn yn eu plith hwy, ac ath wnaethpwyd yn gyfrannog or gwreiddyn, ac o frasder yr olewy­dden. Y mae impiad y Cenhedloedd i mewn yn gyfattebol i dorriad ym­maith yr Iddewon, Fel y torrwyd hwynt ymmaith, felly yr impir nin­nau. Torrwyd hwynt ai plant ym­maith, impir y Cenhedloedd a'i plant i mewn, Canys derbyniwyd hwynt ir un ragorfreintiau ac a go­llodd yr Iddewon. Y maent yn gy­frannogion [Page 99] or gwreiddyn, ac o frasder yr Olewydden, megis yr oedd yr Idde­won or blaen. Y mae'r un ragor­freintiau yn perthyn iddynt yn yr un helaethrwydd, canys impiwyd hwynt ir gwreiddyu hwnnw, oddiwrth ba un y torrwyd ymmaith yr Iddewon. Yr oèdd brasder yr olewydden yn gwas­garu trwy bob cangen o eglwys yr Iddewon, bychain a mawrion, sef y rhieni ar plant: Yr un modd y gw­naethpwyd y Cenhedloedd yn gyfran­nogion o'r gwreiddyn, ac o frasder yr Olewydden: Y mae'r canghennau lleiaf o eglwys y Cenhedloedd, sef plant bychain yn derbyn yr un rhin­wedd oddiwrth y gwreiddyn, ac oeddent gynt. Pwy a faidd dorri y rheini ymmaith a impiodd Duw ei hun i mewn a'i law ei hun.

Yr impiad hwn sydd ir eglwys weledig, ai rhagorfreintiau, yn gy­fattebol i dorriad ymmaith yr Idde­won oddiwrth yr eglwys weledig. Gan hynny y mae ein plant ni y Cenhedloedd yn aelodau o honi, fel yr oedd plant yr Iddewon gynt. A'i Rhuf. 2. 29. Eph. 3. 6. ir Iddewon y mae efe yn Dduw yn u­nig? onid yw ir Cenhedloedd hefyd? [Page 100] Os oedd yn Dduw ir Iddewon ai had, yn wir y mae ir Cenhedloedd hefyd.

5. Mae'r amser yn dyfod yr Im­pir had Abraham, neu'r Iddewon drachefn iw gwreiddyn eu hun. Y Rhuf. 11. 23 hyd y diwedd. mae'r hen Destament ar Newydd yn llawn o broffwydoliaethan hynod am droedigaeth yr Iddewon. Yn awr, os impir y Canghennau naturiol dra­chefn, oni byddant oll yn gyfrannogi­on or gwreiddyn, ac o frasder yr ole­wydden? Na atto Duw i ni feddwl y torrir ymmaith eu had hwynt me­gis canghennau crinion, heb dderbyn dim nawdd oddiwrth y gwreiddyn? Os torrir ymmaith gynnifer or Cang­hennau naturiol, pa fodd y mae'r A­postl yn dywedyd yr impir hwynt i Rhuf. 11.▪ 23. mewn? Oni ddangosasei yr Apostl y gwahaniaeth mawr hwn rhwng eu himpiad hwy ai tyfiad cyntaf? Mae efe yn dywedyd, ac felly holl Israel a Gwers 26▪ fydd Cadwedig, hynny yw, nid yn unig y rhieni ond eu plant hefyd, sef yr holl genhedl honno fyddant yn eglwys weledig i Dduw, megis or Gwers 28▪ blaen. A'i caredigion ydynt o ran etholedigaeth oblegit y tadau? ac a [Page 101] bydd ei Dduw gwttogi cyfammod y tadau? Onid diedifarus yw doniau, Gwers 29. a galwedigaeth Duw? Os torrir ym­maith gynnifer or Canghennau ac y­dyw plant y ffyddloniaid, y mae do­niau a galwedigaeth Duw yn edifarus.

Gosodwn y pethau hyn ynghyd, 1. Fod yr Iddewon ai had, megis Canghennau naturiol yn derbyn rhin­wedd oddiwrth y gwreiddyn cyn dy­fodiad Christ. 2. Iddynt hwy ai had barhau yn yr un gwreiddyn trwy ffydd ynghrist. 3. Y rhai ni Chre­dodd, torrwyd hwynt ai had oddi­wrth y gwreiddyn. Ac ni thorrwyd yr un gangen ond trwy anghredinia­eth. 4. Impiwyd y Cenhedloedd, me­gis canghennau gwylltion, iw lle hwynt, fel y derbynient ragorfrein­tiau y Canghennau naturiol iddynt hwy ai had. 5. Impir yr Iddewon etto iw gwreiddyn eu hun, a derby­niant eu hen ragorfreintiau iddynt hwy ai plant. Adferir y canghennau natu­riol ir ragorfreintiau a gollasant. O­ddiwrch y cyfan y mae yn eglur fod plant y ffyddloniaid yn aelodau o eg­lwys Dduw gyda eu rhieni, ac yn gy­frannogion oi rhagorfreintiau hwynt.

PEN. X.
Fe a ddylid bedyddio plant y ffyddlo­niaid, o herwydd y gallant fod yn gy­frannogion o'r hyn a arwyddoceir wrth fedydd.

Rheswn VII.

OS gall plant y ffyddloniaid fod yn gyfrannogion or bendithion a arwyddoceir mewn bedydd, hwy a ddylont fod yn gyfrannogion o fe­dydd. Os yw y Gras anweledig yn perthyn iddynt, ni ellir neccau yr arwydd weledig iddynt.

Y mae bedydd yn arwyddocau 3 o bethau, y rhai a all plant bychain fod yn gyfrannogion o honynt.

1. Y mae'n arwyddocau maddeu­ant pechod trwy rinwedd gwaed Christ. Act. 2. 38. Edifarhewch, a Mar. 1. 4. bedyddier pob un o honoch yn enw Jesu Ghrist, er maddeuant pechodau. Gwir yw, mae edifeirwch yn myned o flaen bedydd mewn rhai o oedran nis bedyddiwyd or blaen. Eithr y mae [Page 103] yn eglur yn yr ysgrythur hon fod be­dydd yn arwyddocau maddeuant pe­chod trwy Jesu Ghrist.

Beth yw hyn meddwch chwi i blant bychain? y mae'r ystyriaeth hon yn perthyn iddynt ddwy ffordd. 1. Mae arnynt eisiau maddeuant, Ca­nys genir hwynt mewn pechod. 2. Y mae llawerodd o honynt yn der­byn maddeuant o bechod yn eu me­byd. Canys y mae llawer o honynt yn marw yn eu mebyd, ac yn mynd ir nefoedd, p'le ni all neb fyned heb faddeuant pechod. Mae yn siccr gen­nif na ddywed y rhai sydd yn erbyn bedydd plant, eu bod hwy oll yn ddam­nedig, ac nad oes yr un o honynt yn Gen. 17. 7. myned ir nefoedd.

Yr awrhon, os yw plant bychain yn derbyn maddeuant pechod, oni ddylent dderbyn bedydd hefyd yn ar­wydd gweledig o faddeuant?

Chychwi rieni pechadurus a dra­ddodasoch lygredigaeth i'ch plant, os ydynt yn derbyn natur glefydus oddiwrthych chwi, oni ddylech gy­frannu'r feddyginiaeth iddynt, cyn belled ac y mae ynoch chwi. Y mae Exod. 21. 33. Duw yn ei gyfraith yn cospi y gwr [Page 104] a agorei bydew, ac heb gau arno. Yr ydych chwi trwy genhedliad naturi­ol wedi egor pydew llygredigaeth gw­reiddiol, oni ddylech chwi hyd ei­thaf eich gallu geisio cau arno, gan roddi iddynt yr Ordinhad o fedydd yr hon a appwyntiodd Christ ir di­ben hynny, fel na syrthiont ir pydew diwaelod.

2. Y mae bedydd yn arwyddocau tywalltiad yr yspryd glan. Y mae'n Act. 2. 38. Tit. 3. 5. siccr y gall plant bychain dderbyn yr yspryd glan o groth eu mammau, fel y derbynniodd Joan fedyddiwr. Lu. 1. 15. Gwir yw, derbyniodd Joan yr ys­pryd mewn modd anarferedig, ei­thr pwy a all ddyweyd nad ydyw llawer o blant bychain yn derbyn ys­pryd Duw mewn mesur digonol i jechydwriaeth yn ein dyddiau ni? a fyrhawyd yspryd yr Arglwydd? Oni Mic. 2. 7. thywelltir ef yn helaethach tan yr Efengyl nac or blaen? Addewid fawr yr Efengyl yw addewid yr ys­pryd, ac y mae Duw yn addo ei ys­pryd i hád y ffyddloniaid tan yr E­fengyl. Tywalldaf fy yspryd ar dy Isa. 44. 3. hâd; am bendith ar dy biliogaeth. A minnau dymma fynghyfammod â hwynt, [Page 105] medd yr Arglwydd, fy yspryd yr hwn Isa. 59. 21. sydd arnatt, am geiriau y rhai a oso­dais yn dy enau, ni chiliant o'th enau, nac o enau dy had, nac o enau hád dy hád, medd yr Arglwydd, o hyn allan byth. O enau plant bychain, a rhai yn Joel 2. 28. Ps. 8. 3. sugno y peraist nerth. Y mae yr scry­thurau hyn yn són am dywalltiad yr yspryd tan yr Efengyl ar had y Duwiol, megis eu had hwynt, a hynny pan byddont yn sugno ar y bronnau. Y mae'r addewidion hyn ac amryw eraill megis canghennau or addewid fawr honno, y bydd Duw yn Dduw i had y ffyddloniaid. Y Gen. 17. 7. mae efe yn Dduw iw had hwynt yn eu mebyd, pan ydynt yn sugno ar y bronnau, ac am hynny y mae yn ty­wallt ei yspryd ar lawer o honynt yn eu mebyd. Os yw Duw yn eiddo plant y ffyddloniaid, beth a rwystr i yspryd Duw fod yn eiddont hwy? Y mae Duw yn ffyddlon iw adde­widion.

Os ydynt yn derbyn yspryd Duw, mae'n eglur fod bedydd yn pethyn iddynt, yn ol geiriau Petr. A all neb Act. 10. 47. luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai [Page 106] hyn, y rhai a dderbyniasant yr yspryd glan, fel ninnau.

Na fydded neb mor fanwl a gofyn pa fodd y gall plant newydd eni dder­byn yspryd Duw. Canys y mae gweithrediadau yr yspryd yn ddirgel jawn i ni ar y rhai sydd mewn oe­dran, pa faint mwy ar blant bychain. Y mae'r gwynt yn chwythu lle y mynno, Jo. 3. 8, 9. a thi a glywi ei swn ef, ond ni wyddost o ba le y mae yn dyfod, nac i ba le y mae yn myned; felly y mae pob un a'r a aned or yspryd. Y mae gweithre­diadau yspryd Duw mewn pethau naturiol uwchlaw ein dealltwriaeth ni, pa faint mwy mewn pethau ys­prydol. Megis nas gwyddost ffordd yr Preg. 11. 5. yspryd na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn ynghroth y feichiog: felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneu­thur y cwbl.

3. Y mae bedydd yn arwyddocau yr adenedigaeth. Am hynny gel­wir ef golchiad yr adenedigaeth. Mae'n Tit. 3. 5. Jo. 3. 5. bossibl i blant bychain gael eu hail eni, beth a all rwystro i anfeidrol ras weithio ar eu calonnau hwynt? san­cteiddiwyd Jeremi o groth ei fam nid Jer. 1. [...]. yn unig trwy ei neullduo i fod yn [Page 107] brophwyd, ond hefyd trwy hau had gras yn ei galon ef, yr hwn a dyfodd ac a ymddangosodd yntho pan ydo­edd yn fachgennyn jefangc. Felly Jer. 1. 6. Lu. 1. 44. Joan fedyddiwr.

Mae gan blant bychain lestri ehang i dderbyn gras Duw, er bod eu cyrph yn dyfod iw maintioli o ychy­dig i ychydig, y mae eu heneidiau mor berffaith eu sylwedd ac eneidiau rhai o oedran. Yspryd yw'r enaid, ac nid ydyw yn tyfu yn ei sylwedd megis y mae y Corph. Nid yw enei­diau plant bychain ddim llai nac e­neidiau rhai oedrannus, y mae yr holl wahaniaeth sydd rhwng y naill ar llall yn sefyll ymmaintioli'r Corph, ac ynghynneddfau eu heneidiau.

Gan hynny hawdd yw i Dduw i roddi cynheddfau sanctaidd mewn e­neidiau plant. Pe safasei adda ein tad cyntaf ni, buasei ei holl hád ef yn sanctaidd or bru, oni all Duw ad­feru ei ddelw eu hun ar blant by­chain trwy yr ail Adda, yr hon a go­llasont trwy'r Adda cyntaf?

Nid ydwyfi yn dywedyd fod holl blant y ffyddloniaid yn derbyn gras yr adenedigaeth yn eu mebyd, Ca­nys [Page 108] y mae'r gwrthwyneb yn eglur, mae llawer o honynt yn myned yn annuwiol. Megis Cain ac Esau.

Eithr or tu arall y mae gwaith o ras yn ymddangos mewn eraill o ho­nynt yn foreu jawn, dydd i ddydd a ddengys wybodaeth o hyn, mae am­ryw siamplau or cyfryw blant grasol iw gweled beunydd mewn teuluoedd Duwiol. Mae Mr. James Janeway Janeway's Little Book to Little Children. mewn llyfr Saesnaeg bychan yn go­sod i lawr lawer o siamplau hynod or natur hyn. Arferei tad Mr. R. B. ddywedyd am dano i fod yn credu sancteiddio ei fab R. or groth.

Gellir dywedyd am Vid. Dr. Bates his Sermon at the Funeral of Mr. B. lawer o blant y Duwiol yr hyn a ddywed yr ys­pryd glan am Samuel See Mr. Eliot's Tears of Repentance, who speaks of Two Indian Children converted be­fore Three years old. jefangc, fel y maent yn cynnyddu eu bod yn myned yn dda gan Dduw a dynion hefyd. 1 Sam. 2. 26. Pan ydoedd Salomon yn blentyn bychan jawn yr Arglwydd ai carodd efe, ac am hynny galwyd ei e­nw ef Jedidiah, sef anwyl gan yr Arglwydd.

[Page 109]Eithr i dynny ymmaith bob am­heuaeth, ac i wneuthur y peth yn eglur i bawb. Ni all neb fod yn gadwedig heb sancteiddrwydd. Ca­nys Heb. 12. 14 ni all dim aflan etifeddu teyrnas Duw, Eph. 5. 5. Dat. 21. 27. Ond y mae rhai plant bychain sydd yn marw yn eu mebyd yn gadwedig, yr hyn ni allant hwy fod heb sanct­eiddrwydd.

Mae'n canlyn gan hynny, fod be­dydd yn perthyn i rai plant bychain. Os sancteiddir, os allenir hwynt, ni ellir ammeu nad yw golchiad yr ad­enedigaeth yn perthyn iddynt, fe ddy­le'r arwydd ar hyn a arwyddoceir fy­ned ynghyd, sef golchiad dwfr, a golchiad yr yspryd.

Gwrthdd. Pe gwyddem ni pa blant bychain sydd wedi eu haileni, ni ai bedyddien hwynt.

Att. Ni ellir gwybod hynny yn siccr am rai mewn oedran, ac am hynny ni ellir bedyddio neb wrth y gwrthreswm hwn. Mae'n ddigon yn yn achos hwn fod addewid Duw yn perthyn i blant y ffyddloniaid, ai bod hwynt yn aelodau or eglwys weledig, trwy ba un y mae llinyn etho­ledigaeth [Page 110] Duw yn rhedeg. Megis Rhuf. 9. 4, 6, 7. & 11. 7. gynt yr oedd holl had Abraham yn blant yr Addewidion, ac yn derbyn arwydd weledig o gyfammod Duw, eithr nid oedd neb ond yr etholedigi­on yn derbyn gras safadwy trwy­ddynt hwy. Felly yr awron, mae holl blant y ffyddloniaid tan yr A­ddewidion, eithr y mae Duw yn cy­frannu gras yr addewidion ir etho­ledigion yn unig, ac i lawer o honynt hwy yn eu mebyd: Eithr o her­wydd na wyddom ni ar bwy mae etholedigaeth yn syrthio, ewyllys Duw ydyw i ni fedyddio pawb sydd tan yr addewid.

PEN. XI.
Am ffurf bedydd Cyn y Gyfraith a than y gyfraith, oddiwrth ba un y dengys y dylid bedyddio plant tan yr Efengyl.

Rheswm VIII.

YR oedd amyrw fedyddiadau Cyn y gyfraith, a than y gy­fraith (y rhai oeddent yn ffurf ac yn arwydd o arferiad bedydd tan yr e­fengyl) ac yn yr holl fedyddiadau hynny bedyddiwyd plant gydâ eu rhieni.

I. Bedyddiwyd Noah ai blant yn yr Arch. Yn yr hon (sef yr Arch) 1 Pet. 3. 20. ychydig, sef wyth enaid, a achubwyd trwy ddwfr; Cyffelybiaeth cyfattebol ir hwn, sydd yr awrhon yn ein hachub ninnau, sef bedydd. Nodwn oddiwrth yr ysgrythur hon, 1. Fod y diluw yn arwyddocau bedydd, [...] Antitype, arwydd gyfattebol; yr oedd yr Arch yn arwydd o Ghrist, allan o ba un nid oes jechydwriaeth, ac [Page 112] yr oedd y diluw sef y dwfr a dywall­twyd or nefoedd ar yr Arch, ac ar Noah ai blant ynthi yn arwyddocau fod Christ yn ein hachub ni trwy fedydd. Yr oed bedydd Noah yn arwyddocau jechydwriaeth trwy Grist felly mae'n bedydd ni tan yr Efengyl. 2. Achubwyd Noah ai blant trwy fedydd y diluw. Bedyddi­wyd ac achubwyd hwynt er ei fwyn ef. Gwir yw, yr oeddent mewn oedran, eithr nid er mwyn eu ffydd eu hunain (yr hon nid oedd gan Cham) ond er mwyn ffydd Noah yr achubwyd hwynt. Nid yw'r Scry­thur yn son am eu ffydd hwynt, eithr am ffydd Noah eu tad hwynt, yr hwn trwy ffydd wedi ei rybuddio Hib. 11. 7. gan dduw am y pethau nis gwelsid etto, gydâ pharchedic ofn a ddarparodd Arch i achub ei dy. Achubodd ei hun ai dŷ trwy ei ffydd. Am dano ef (nid am ei blant) y tystiolaetha Duw, Noah oedd wr cyfiawn, perffaith yn ei Gen. 6. 9, 10. oes, gydâ Duw y rhodiodd Noah, ac y mae yn Canlyn, a Noah a genhed­loedd dri o feibion, Sem, Cham, a Japheth. Ac o herwydd ei bod yn blant iddo, mae Duw yn eu derbyn [Page 113] hwynt (ai gwragedd y rhai oeddent yn un cnawd â hwynt) ir Arch. Ond â thi y cadarnháf fyng-hyfammod, ac ir Arch yr ei di tydi ath feibion, ath Gen. 6. 18. wraig, a gwragedd dy feibion gyda thi. Cadarnhaodd Duw ei gyfammod â Noah trosto ef ei hun ai deulu. Cre­dodd Noah, a bedyddiwydd ef ai deulu yn y diluw.

Yn hyn yr oedd ei fedydd ef yn gyffelybiaeth gyfattebol o'n bedydd ni, Canys pan gredei pennau teu­luoedd yn amser yr Apostolion, be­dyddid hwynt ai teuluoedd. Felly pan gredodd Lydia, bedyddiwyd hi ai Act. 16. 14, 15. Theulu. Eithr ni a soniwn yn he­laethach am hyn yn ol llaw.

II. Derbyniodd Jacob blant by­chain i Gyfammod Duw trwy fe­dydd, Gen. 35. 2. Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu; ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, bwriwch ymaith y Duwiau deithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad.

Ystyriwch yma, 1. Fod Jacob yn rhwymo ei holl deulu, ar rhai oll oedd gydag ef i fyned mewn Cy­fammod a Duw, gan fwrw ymaith eu [Page 114] Duwiau dieithr. Y rhai oedd gydag ef Gen. 14. 14. oedd y Cenhedloedd a dderbyniasei'r wir grefydd. Cenhedloedd oedd y rhan fwya oi deulu, fel yr oeddent Gen. 17. 13. 23. o deulu Abraham. 3. Derbyniodd hwynt i gyfammod Duw trwy fedydd, neu olchiad dwfr. Canys dywedodd wrthynt, ymlanhewch, a newidiwch eich dillad. [...] mundate vos ablu­endo. Shindl. pent. in voce [...] Mae'r gair yn arwyddocau glanhau trwy olchiad dwfr, Lev. 13. 6. Yr oedd yr Enwaediad wedi mynd yn ffiaidd yngolwg y Cen­hedloedd, o herwydd ei feibion Jacob ei gwneuthur yn Ordinhad o farwo­laeth ir Sichemiaid, Gen. 34. am hynny y mae Jacob yn derbyn ei gwragedd Gen. 34. 29. ai plant (canys lladdasid y gwyr) i gyfammod Duw trwy olchiad dwfr, neu fedydd. Yn ol siampl Jacob arferei'r Iddewon fedyddio pawb or Cenhedloedd a dderbynient enwae­diad. Canys fel hyn y dywed eu gwyr doethion hwynt, nid yw neb Lightf. vol. 1. p. 210. yn broselyt, nes ei enwaedu ai fedyddio. Ac yr oeddent yn bedyddio'r plant gydâ'r rhieni — [...] bedyddier rhai bychain yn ol ordinhad y Cyngor. Maim. in Lightf. ibid.

[Page 115]III. Bedyddiwyd yr Israeliaid ai plant yn y Cwmwl ar mor. 1 Cor. 10. 1, 2. Ac ni fynnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, fod ein tadau ni oll tan y Cwmwl, am myned oll trwy y môr, a'u bedyddio hwy oll i Moses, yn y Cwmwl ac yn y môr. Daliwn sulw oddiwrth yr ysgrythur hon,

1. Fod mynediad Israel tan y Cwmwl a thrwy'r môr yn fedydd iddynt. Glawiodd y Cwmwl arnynt, a diferodd y mór arnynt, yr hwn oedd megis mur uchel or ddeutu Exod. 14. 21. iddynt ac yn rhuo trwy ddwyrein­wynt tymhestlog. Bedyddiwyd hwynt trwy dywalltiad, neu daenelliad dwfr arnynt.

2. Yr oedd y bedydd hwn yn y sylwedd o honaw yn arwyddocau 1 Cor. 10. 2, 3, 4. yr un peth a bedydd yr Efengyl, sef yr Arglwydd Jesu Ghrist ai fendithi­on. Golchi [...] ysprydol yn y mor, ar ddiod ysprydol or graig a arwyddo­caent yr un peth, sef, Ghrist. Efe oedd sylwedd holl gysgodau'r Gy­fraith. Y colofn o Gwmwl, ar co­lefn o dán a ragddangosent fedydd dwfr a bedydd tán, sef bedydd yr yspryd, dan yr Efengyl. Descyn­niad [Page 116] y glaw or Cwmwl a arwyddocá tywalltiad yr yspryd or nefoedd, i lanhau eu calonnau. Dygir y be­dydd hwn iw Coffadwriaeth yn Ezek. 16. 9. Mi ath olehais â dwfr. Mae duw yn addo ei yspryd yn yr un dull o ymadrodd. Ezek. 36. 25, Ezek. 36. 25, 26. 26. Mi a daenellaf arnoch ddwfr glán, fel y byddoch lán.

Gwir yw, yr ydoedd y bedydd 1 Cor. 10. 2. yn y Cwmwl ar mór yn eu rhwymo hwynt i gyfraith Moses, eithr Christ ai ddoniau oedd diwedd y gyfraith 1 Col. 2. 16, 17. honno.

3. Bedyddiwyd y plant gydâ eu rhieni â bedydd Moses. Bedyddiwyd 1 Cor. 10. hwy oll i Moses, medd yr Apostl. Bedyddiwyd pawb a aeth trwy'r mór a than y Cwmwl, sef yr holl gynnu­lleidfa or hen dadau, y rhieni ai plant, yr oeddent ynghylch chwe chan mil o wyr traed, heb law plant. Ni Exod. 12. 37. allei bod llai na Chan mil o blant yn y gynnulleidfa luosog hon, ac etto bedyddiwyd hwy oll ynghyd ai tadau. Pan y dywedwn ir Apostolion fedy­ddio teuluoedd cyfain, fe atteb rhai, pa fodd y gwyddoch fod plant yn y teuluoedd hynny? Eithr siccr yw [Page 117] fod plant ynghynnulleidfa Israel, ai bedyddio hwy oll yn y Cwmwl ar mór.

Os bedyddiwyd plant â bedydd Moses, pwy a all luddio iddynt fedydd Christ? Mae'r ddau yn arwyddocau yr un peth yn ol eu sylwedd. A yw bedydd Christ yn gyfyngach na be­dydd Moses, yr Efengyl yn gyfyn­gach na'r gyfraith? ai ewyllys Duw oedd bedyddio plant i Moses, ai ni fyn ef fedyddio plant i Ghrist hefyd? Os gallent fod yn ddiscyblion i Moses, pa ham na allant fod yn ddiscyblion i Ghrist hefyd. Rhoddwyd y gyfraith trwy Moses, ond y grâs ar gwirionedd Jo. 1. 17. a ddaeth trwy Jesu Ghrist. A ydyw grás ar gwirionedd yn gyfyngach na'r gyfraith? Pa fodd y gellir dywedyd amhlau grâs tan yr Efengyl os yw bedydd Moses yn helaethach na be­dydd Christ? Nid oedd Moses ond gwâs yn y ty, eithr Christ yw'r mab yr hwn a adeiladodd y tŷ, a ydyw adeiliad y Mab yn gyfyngach nac adeiliad y gwás? Pa ynfydrwydd yw hyn, i dderchafu'r gwas uwchlaw'r mab, a gwneuthur ei ganlynwyr ef yn amlach na chanlynwyr ei Ar­glwydd?

[Page 118]IV. Bedyddiwyd y rhieni ai plant wrth roddi'r Gyfraith ar fynydd Si­nai. Dos at y bobl, a sancteiddia Exod. 19. 10. hwynt, a golchant eu dillad. Yr oedd golchiad y dillad, a golchiad y cnawd yn myned ynghyd. Levit. 15. 5, 6. Gwel Levit. 15. 8, 13, 16, 18, 21, 22, 27. & 8. 6. Heb. 9. 19. golched ei dillad ac ymolched mewn dwfr. Wedi ymolchi fel hyn, dy­wed yr Apostl fod yr holl bobl yn mynd i Gyfammod â Duw trwy fe­dydd. Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymmyn, yn ol y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymmerodd waed lloi a geifr, gydâ dwfr — ac ai tae­nellodd ar y llyfr ar bobl oll. Mae'r Apostl yn galw'r taenelliad hwn yn fedydd, Heb. 9. 10. Amryw fedyddi­adau. [...]. Oddiwrth yr ysgrythurau hon y canlyn,

1. Fod taenelliad dwfr yn wir fe­dydd.

2. Fod Duw yn derbyn y bobl iw gyfammod trwy fedydd, neu dae­nelliad dwfr a gwaed. Nid yw Mo­ses yn són ond am daenelliad gwaed yn unig, eithr y mae Paul yn dywe­dyd Exod. 24. 8 [Page 119] daenellu'r dwfr gydâ'r gwaed. Yr oedd y ddau yn arwydd o gy­fammod Duw. Ac y maent felly tan yr Efengyl. Y mae tri yn tystiolaethu Jo. 5. 8. ar y ddaiar, yr yspryd, a'r dwfr, a'r gwaed.

3. Taenellwyd y dwfr ar gwaed ar yr holl bobl. Efe ai taenellodd ar Heb. 9. 19. y llyfr, a'r bobl oll. Pwy oedd y bobl hyn? Pawb a aethant mewn cy­fammod â Duw. A dywedodd Mo­ses, Exod. 24. 8 wele waed y Cyfammod yr hwn a wnaeth yr Arglwydd a chwi. Yr oedd y plant yn mynd mewn Cyfammod â Duw Megis eraill. Yr ydych chwi Deut. 29. 10, 11, 12. oll yn sefyll heddyw ger bron yr Ar­glwydd, pennaethiad eich llwythau, eich henuriaid, a'ch swyddogion, a holl wyr Israel: eich plant, eich gwra­gedd — i fyned o honot dan gyfam­mod yr Arglwydd dy Dduw. Yr oedd y plant yn ymddangos yn y gynnulleidfa o flaen yr Arglwydd, ac yn myned dan ei gyfammod ef, ac am hynny bedyddiwyd hwy â gwaed a dwfr, megis eraill. Cyfammod o rás oedd y Cyfammod hwn yn ol ei sylwedd, Canys cyssegrwyd ef trwy Heb. 9. 18. [Page 120] waed. Ac os cafodd plant eu bedy­ddio ir Cyfammod hwn gynt, oni ddylent gael eu bedyddio iddo yr awrhon? Yn enwedigol o herwydd bod grás y Cyfammod wedi amlhau dan orchwyliaeth yr Efengyl, ar rhagorfreintiau o honaw yn fwy he­laeth.

PEN. XII.
Mae gan blant hawl i fedydd, o her­wydd i Joan fedyddio plant yn ol arferiad eglwys yr Iddewon.

IX. Rheswm.

OS bedyddiodd Joan blant by­chain, mae bedydd yn per­thyn iddynt yn wastadol, Canys yr un oedd sylwedd bedydd Joan, a be­dydd yr Apostolion. Yr oedd ef yn bedyddio i enw Christ i ddyfod, yr oeddent hwythau yn bedyddio i enw Christ yr hwn oedd wedi dyfod.

Eithr yr hyn yr ydym iw brofi yn y bennod hon yw i Joan fedyddio plant bychain. I amlygu hyn, ysty­riwn,

1. Ni ddaeth Joan Fedyddiwr i ddirymmu Cyfammod Abraham, ond yn hytrach i gyflawni ef. Gy­fammod Abraham oedd, y byddei Duw yn Dduw iw bobl ac iw had. Yr oedd holl eglwys weledig yr Idde­won yn y Cyfammod hwn. Mae [Page 122] Joan yn eu rhybuddio na ymddirie­dont Mat. 3. 9. i ragorfreintiau y Cyfammod hwn trwy fyw yn annuwiol; eithr nid ydyw mewn un lle yn dirymmu y Cyfammod hwn, ond yn hytrach yn ei siccrhau, gan ddywedyd y cy­fyd Duw blant eraill i Abraham, os ni ddug yr Iddewon ffrwythau addas i edifeirwch.

Fe ddaeth i fedyddio hád Abra­ham, y rhai oeddent oll ynghyfam­mod Duw, nid yn unig y rhieni, ond y plant hefyd. Ac am hynny yr oedd gan y plant yr un hawl i fe­dydd ac oedd gan y rhieni, o her­wydd eu bod yn hád Abraham. Yr oedd ei fedydd ef or un helaethrwydd ac enwaediad, megis yr oedd yr holl wlad tan yr Enwaediad, felly y mae Joan yn eu derbyn iw fedydd, ni wrthododd ef neb a ddeuei iw fe­dydd ef, eithr derbyniodd Bublica­nod, Sadducceiaid, Pharisaeaid, ▪sef Mat. 3. 7, 8. cenhedlaeth gwiberod, ac a ydyw de­bygol iddo wrthod plant bychain?

Yr oedd Joan yn rag-flaenor Christ, ac am hynny ni ddaeth ef i ddirym­mu'r Cyfammod, yr hwn yr oedd Christ ei hun yn dyfod iw gyflawni. [Page 123] Efe a gynnorthwyodd ei was Israel, gan Lu. 1. 54, 55, 72, 73. gofio ei drugaredd, fel y dywedodd wrth ein tadau, Abraham ai had yn dragy­wydd. Rhuf. 15. 8. Gwnaed Jesu Ghrist yn wei­nidog ir Enwaediad, er mwyn gwirio­nedd Duw, er mwyn cadarnhau yr addewidion a wnaethpwyd ir tadau. Act. 3. 25, 26. Felly os daeth Christ i gyflawni cy­fammod Abraham, ni ddaeth Joan fedyddiwr i ddirymmu mo honaw, ac am hynny yr oedd yn rhwym i fedyddio'r plant gydâ eu rhieni.

2. Fe ddaeth Joan i baratoi ffordd ir Arglwydd. Diben ei fedydd ef oedd rhwymo yr holl bobl i gredu yn yr Arglwydd Jesu, yr hwn oedd ar ddy­fod. Joan yn ddiau a fedyddiodd â Act. 19. 4▪ bedydd edifeirwch, gan ddywedyd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, sef yn Ghrist Jesu.

Nid oedd ffydd yn ammod o fe­dydd Joan, eithr yn ddiben o ho­naw, yr oedd ei fedydd ef yn gosod rhwymedigaeth neullduol ar holl hád Abraham i dderbyn Christ pan yr ymddangosei ef. Canys nid oedd Joan ei hun yn ei adnabod ef ar y Jo. 1. 31. dechreuad.

[Page 124]Yr oedd plant megis eraill yn rhwym ei dderbyn ef fel y deuent i oedran, ac o herwydd bod bedydd yn arwydd or rhwymedigaeth hyn­ny, yr oedd yn perthyn iddynt hwy megis iw rhieni. Ni pharaod Joan i fedyddio oddi eithr tair blynedd, ac am hynny os ni fedyddiwyd plant yr Iddewon gan Joan, ni fedyddi­wyd mo honynt hwy oll â bedydd Joan, ac os felly nid oeddent hwy tan yr un rhwymedigaeth i dderbyn Christ, ac yr oedd eu tadau. Os Ordinhád Duw oedd bedydd Joan i Act. 3 22, 23. osod pawb tan rwymedigaeth i dder­byn yr Arglwydd Jesu tan boen damnedigaeth, ni adawodd Joan blant bychain heb fedydd, oddi eithr i ni feddwl, na fynnei ef ei rhwymo hwynt i gredu yn Ghrist, ond eu gadael iw dewisiad eu hun pan ddeu­ent i oedran, naill ai i dderbyn, neu i wrthod Christ. Na atto Duw i ni feddwl fod Joan mor anffyddlon yn ei weinidogaeth.

A oedd yr enwaediad yn rhwymo plant i gredu ynghrist? os gallent dderbyn rhwymedigaeth enwaediad, pa faint mwy y gallent, ac y dylent [Page 125] dderbyn rhwymedigaeth bedydd, yr hwn a Ordeiniodd Duw trwy orch­wyliaeth neullduol i ddarparu ir Ar­glwydd bobl barod. Lu. 1. 17.

3. Yr oedd plant bychain yn am­ser Joan yn aelodau o eglwys Dduw, ni all neb ammeu hynny, o herwydd bod enwaediad, sel y Cyfammod ar­nynt. Yr oedd holl hád Abraham yr amser hwnnw yn eglwys weledig i Dduw, ai unig eglwys ef ar y ddai­ar oeddent hwy. Nid oeddent allan or eglwys cyn ei bedyddio, ni dder­byniwyd monynt i eglwys Dduw trwy fedydd, megis rhai nad oeddent o honi or blaen. Eithr bedyddiwyd yr holl wlad, o herwydd eu bod yn aelodau gweledig o eglwys Dduw. Ac o herwydd bod plant bychain yn aelodau o'r eglwys weledig, yr ydo­edd bydydd Joan yn perthyn iddynt.

Ni ddaeth Joan i dynnu i lawr eglwys yr Iddewon, neu i gyfyngu eu sylfaenau hi; y mae ef yn dywe­dyd fod y fwyall wedi ei gosod ar Mat. 3. 10. wreiddyn y prennau; eithr ni thor­rodd ef i lawr yr un gangen. Y mae yn bwgwth y bydd i Ghrist lwyr lanhau i lawr dyrnu, a llosai yr us a Mat. 3. 12. [Page 126] than, eithr ni fwrodd ef neb allan oedd ar y llawr dyrnu. Ac am hynny derbyniodd blant megis eraill iw fedydd, o herwydd eu bod yn ae­lodau o eglwys Dduw.

4. Nid oes ammeu na ddygodd y rhieni eu plant gydâ hwynt i fedydd Joan. Canys, 1. Yr ydoedd Duw wedi gorchymmyn iddynt ddwyn eu plant ir gynnulleidfa i fyned tan Deut. 31. 10, 11, 12. Josh. 8. 35. gyfammod Duw. Deut. 29. 9, 10, 11, 12. 2. Yr oedd eu Zeal hwynt yn fawr am ragorfreintiau eu plant. Act. 15. 1, 2—. Ac am hynny pe Act. 21. 20. gwrthodasei Joan eu plant, ni ddae­thent mor ewyllysgar iw fedydd ef. 3. Hwy a ddygasant eu plant at Ghrist. Ac am hynny dygasant eu Mat. 19. 13, 14. & 15. 31. & 14. 21. plant gydâ hwynt at fedydd Joan. 4. Peth arferol oedd bedydd plant yn eglwys yr Iddewon lawer cant o flynyddoedd cyn amser Joan. Yr oedd bedydd yn beth adnabyddus iddynt, ac am hynny pan ddanfo­nodd y Cyngor o Gaersalem i holi Jo­an, nid ydynt yn ammeu ei fedydd ef, ond ei awdurdod ef i fedyddio. Pa bam yr wyti yn bedyddio▪ Mae Jo. 1. 25. Moses Ben Maimon, yr hwn a gas­clodd [Page 127] ynghyd ddefodau hen Eglwys Maim. in Issure Biah. perek. 13. Ibid. vid. Grot. in Mat. 3. 6. yr Iddewon, yn dywedyd, Trwy dri pheth yr aeth Israel tan gyfammod, trwy enwaediad, bedydd ac aberth. Drachefn, nidyw neb yn broselyt, nes enwaedu arno, ai fedyddio.

Rabbi Hona a ddywed▪ y maent yn be­dyddio In Lights. Vol. I. p. 526, 527. plant bychain trwy drefnid y Cyn­gor. Chwanega'r gwyr doethion, os nid oes gantho dad, ai ddwyn gan ei fam iw wneuthur yn broselyt, hwy ai be­dyddiant, o herwydd nad oes un prose­lyt heb enwaediad a bedydd. Wrth y tystiolaethau hyn, ac amryw eraill a allwn ni eu henwi, y mae yn eglur fod bedydd plant yn beth Cyffredi­nol ymhlith yr Iddewon, a hynny yw un achos nad yw'r Testament Newydd yn són yn helaethach am fedydd plant, o herwydd bod yr ar­feriad o honaw mor gyffredinawl yn Eglwys yr Iddewon. Nid yw Christ ai Apostolion mewn un lle yn eu ce­ryddu am wneuthur felly, fel y ma­ent am olchiadau eraill. Yr oedd yr arferiad hwn o fedyddio plant yn guttun ac ewyllys Duw, ac wedi parhau yn yr Eglwys honno oddiar amser Jacob, fel y barna Rabbi's [Page 128] yr Iddewon, ac y nodasom or blaen.

Am hynny yn ddi-ddadl dygpwyd plant bychain i fedydd Joan, yr hwn oedd yn rhwym iw derbyn ai bedyddio, fel y profasom or blaen.

5. Bedyddiodd Joan blant by­chain, Canys efe a fedyddiodd yr holl wlad yn gyffredinawl, or hon yr oedd plant bychain yn rhan fawr. Ni wrthododd ef neb a ddaeth, neu a ddycpwyd atto. Mat. 3. 5. 6. Yna yr aeth allan atto ef Jerusalem, a holl Judaea, ar holl wlad o amgylch yr Jorddonen, a hwy a fedyddiwyd gan­ddo ef yn yr Jorddonen. Act. 13. 24. Gwedi i Joan rag-bregethu bedydd edifeirwch i holl bobl Israel. Os be­dyddiodd ef Jerusalem, a holl Ju­daea, ar holl wlad o amgylch yr Jor­ddonen, ar holl bobloedd, y mae yn siccr iddo fedyddio plant bychain, oddi eithr i ni dybied nad oedd dim plant yn Jerusalem, nac yn holl Ju­daea. Gobeithio nad rhaid i ni bro­fi fod rhai plant bychain yn yr holl wlad, fel yr ydys yn galw arnom ni i bron fod rhai yn y teuluoedd Cy­fain a fedyddiodd yr Apostolion. Os [Page 129] oes rhai teuluoedd heb blant ynthynt, nid oes yr un ddinas gyfanneddol heb blant, a phe digwyddei fod y Cyfryw ddinas, nid oes yr un wlad gyfanneddol heb blant ynthi. Ac am hynny os bedyddiodd Joan yr holl wlad, ar holl bobl, efe a fedy­ddiodd blant hefyd.

Os dywed neb, nad yw'r Efan­gylwyr yn enwi plant bychain, gwir yw, yr un modd y gallaf finnau ddy­wedyd, nid ydynt yn enwi na gwyr na gwragedd, nac jefangc na hén, etto diammeu ydyw i Joan fedyddio y naill ar llall.

Gwrthdd. Y rhai a fedyddiodd Joan a gyffesodd eu pechodau yr hyn ni allei plant i wneuthur, Mat. 3. 6.

Atteb. Nid yw'r Text yn dywe­dyd pa fath oedd y Gyffes hon, ai mewn gair, ai ynteu mewn gweithred. Yr oedd eu darostyngiad i fedydd yn gyffes ar weithred eu bod yn aflan, a bod arnynt eisiau eu golchi. Nid yw debygol mae Cyffes mewn geiriau [...]edd, Canys ni allei un gwr dder­byn Cyffes neullduol gan yr holl wlad. Os mewn geiriau yr oeddent yn Cyffesu, y mae yn debygol i rai i [Page 130] wneuthur Cyffes yn enw eraill, fel y gwnae yr Offeiriad yn enw yr holl bobl. Fel hyn y gallei y rhieni gy­ffesu Lev. 16. 21 pechod trostynt eu hunain, a­thros eu plant; ac yr ydoedd Duw yn derbyn y Cyfryw gyffes oddiwrth y ffyddloniaid tros eu plant. Ac Ezr. 10. 1. am hynny y mae Duw yn gorchy­myn caselu y plant sydd yn sugno ar y bronnau i ymddangos ger ei fron ef ar ddydd ympryd. Gwaith dydd ym­pryd Joel 2. 12, 16. 2 Chron. 20 3. 4, 13. yw Cyffesu pechod, yr hyn ni allei plant yn sugno ar y bronnau i wneuthur, etto mae Duw yn gor­chymyn i rhieni gyflwyn eu plant ger bron yr Arglwydd, ac yn der­byn eu Cyffes hwynt tros eu plant.

Gwrthdd. Y rhai a fedyddiodd Jo­an a ddaeth atto ef. Ni allei plant Lu. 3. 7. ddyfod.

Att. Hwy a allent ddyfod atto ef er ei eraill eu dwyn hwynt. Mae Christ yn dyweyd am y plant by­chain a ddygpwyd atto ef, gadewch i blant bychain ddyfod attafi. Mat. 19. 13, 14.

Num. 20. 1. A meibion Israel sef yr holl gynnulleidfa a ddaethant i ani­alwch Sin. Yr oedd miloedd o blant yn y gynnulleidfa hon, ac am hynny [Page 131] hwy a ddaethant gydâ ei tadau, Ca­nys ni adawsant monynt ar eu hol. Mae Christ yn dywedyd am y gyn­nulleidfa hynny o bedair mil heb law gwragedd a phlant a borthodd ef yn y diffaethwch, i rai o honynt ddyfod o bell. Yr oedd plant yn eu plith Mat. 15. 38 Mar. 8. , 9. hwynt, ac etto daethant hwy megis eu rhieni at Ghrist, ac am hynny nid yw yn Canlyn na fedyddiodd Jo­an blant bychain, er bod y scrythur yn dywedyd, i'r rhai a fedyddiwyd gantho ef ddyfod atto ef.

Oddiwrth y Cyfan y mae yn Can­lyn i Joan fedyddio plant bychain gydâ eu rhieni, ac am hynny y dylid eu bedyddio yr awrhon megis gynt, Canys ni wnaeth Duw ddim gwaha­niaeth Act. 15. 9. rhyngom ni ar Iddewon, ond bod ein ragorfreintiau ni yn helaeth­ach ac yn ysgafnach tan yr Efengyl. Gweinidogaeth a bedydd Joan oedd dechreu Efengyl Jesu Ghrist, ac am Mar. 1. 1. hynny o herwydd iddo ef fedyddio plant bychain, y mae bedydd yn per­thyn iddynt ymhob oes tan yr Efen­gyl. See more of this Subject in Jo­shua Exel' s Serious Inquiry.

PEN. XIII.
Fe a ddylid bedyddio plant y ffyddlo­niaid, o herwydd ir Apostolion fe­dyddio teuluoedd cyfain.

Rheswn X.

FFordd Duw o ddechreuad y byd oedd derbyn teuluoedd cyfain iw gyfammod, yr oedd y plant yn cael eu derbyn i mewn gydâ eu rhie­ni, felly yr ydoedd Noah ai deulu yn yr un cyfammod. Er ei fwyn ef derbyniwyd eu deulu gydâg ef ir Arch, a bedyddiwyd hwynt gydâg ef yn nyfroedd y diluw. Credodd Heb. 11. 7. 1 Pet. 3. 20, 21. Abraham, a derbyniwyd ei holl deulu i gyfammod Duw gydâg ef. Gen. 17. Nid yn unig efe ai had, ond ei weision ai forwynion or Cen­hedloedd, y rhai deddent yn ewy­llysgar i dderbyn y wir grefydd, ai Gen. 17. 23. Exod. 12. 48. had hwyntau. Ac felly parhaodd Cyfammod Duw yn nheuluoedd y ffyddloniaid hyd ddyfodiad Christ tros yn agos i bedair mil o flynyddoedd. [Page 133] Os dywed neb i gyfnewid yr Orch­wyliaeth hon, a rhwygo yr aelodau oddiwrth bennau teuluoedd, dango­sent scrythur eglur am hynny.

Eithr ni a ystyriwn ymddygiad Christ ai Apostolion tuag at y rhai a gredent, y maent hwy yn cyfrannu rhagorfreintiau y Cyfammod i deu­luoedd cyfain, pan dderbyniei pen y teulu yr Efengyl dragywyddawl.

I. Felly dywed yr Arglwydd Jesu am Zaccheus, wedi iddo gredu yntho Lu. 19. 9. 10. ef. Heddyw y daeth jechydwriaeth ir tu hwn o herwydd ei fod yntef yn fab i Abraham. Canys mab y dyn a ddaeth i geisio, ac i gadw yr hyn a gollasid. Ystyriwn yn y geiriau hyn,

1. Cyn gynted ac y dychwelodd Zaccheus yr hwn a fuasei yn becha­dur mawr, y mae Christ yn cym­hwyso yr addewid o jechydwriaeth nid yn unig atto ef ei hun, ond he­fyd at ei deulu ef, gan ddywedyd, heddyw daeth jechydwriaeth ir tû hwn. Pe buasei teuluoedd y ffyddloniaid i gael eu cae allan tan yr Efengyl, y rhai oeddent ynghyfammod eu tadau tan y gyfraith, a chyn y gyfraith, digon fuasei i Ghrist ddywedyd, [Page 134] heddyw daeth jechydwriaeth attati. Ei­thr cyn gynted ac y credodd Zacche­us, daeth jechydwriaeth iw deulu ef, yn ol hen orchwyliaeth y Cyfam­mod.

2. Mae Christ yn agoryd Cyfam­mod Gen. 17. 12, 13, 14. Abraham, yr hwn a wnaeth Duw ag ef ac ai deulu, neu ei had. O herwydd ei fod yntef yn fab i Abra­ham. Megis pe dywedasei, er mae pechadur mawr fu'r gwr hwn, ac er ei fod yn ben-publican, etto o herwydd iddo edifarhau, a derbyn Cyfryngwr y Cyfammod gras, y mae Cyfammod A­braham, ar rhagorfreintiau o honaw yn perthyn iddo ef ac iw deulu. Mab A­braham ydyw, ac am hynny perthyn helaethrwydd Cyfammod Abraham iddo ef ac iw had. Mae llawer yn barnu am Zaccheus, mae un or Cen­hedloedd, oedd ef, o herwydd y Cy­fryw oedd y Publicanod yn arferol, a hyn a gasclant oddiwrth eiriau Christ. O herwydd ei fod yntef yn fab i Abraham. Yntef, er nad yw yn had naturiol i Abraham, etto y mae yn un oi had ysprydol ef, ac am hynny y mae Cyfammod Abraham yn perthyn iddo ef ai du. Yn yr [Page 135] ystyriaeth hon y mae Zaccheus megis yn flaen ffrwyth or Cenhedloedd, ac yn gosod allan ragorfreintiau Cy­fammod Abraham iddynt hwy ac iw teuluoedd.

Gwrthdd. Eithr beth yw hyn i fedydd?

Att. 1. Os daeth jechydwriaeth iw deulu ef, yr ydoedd bedydd yn perthyn iddynt.

2. Y mae yn debygol fod Zac­cheus ai deulu wedi ei bedyddio gan Joan or blaen. Canys daeth y pub­licanod Lu. 3. 12. & 7. 29. atto i'w bedyddio.

II. Y mae Pedr pan blannodd efe yr Eglwys Gristionogol gyntaf ymh­lith yr Iddewon, yn eu cynghori hwynt, gan ddywedyd, bedyddier pob un o honoch — canys i chwi y Act. 2. 38, 39. mae'r addewid ac i'ch plant. Mae'r geiriau, pob un o honoch, yn eu cyn­nwys hwynt ai plant; megis pe dy­wedasei, bedyddier chwi ach plant, Ca­nys y mae'r addewid i chwi ac ich plant. Felly mae i ni ddeall y gei­riau, canys y mae yr addewid ar ddyledswydd or un helaethrwydd.

Os yw'r addewid yn perthyn i­ddynt hwy ai plant, yr oedd bedydd [Page 136] hefyd. Yr oedd hawl y rhieni i fe­dydd yn tyfu oddiwrth eu hawl yn yr addewid, a chan bod gan eu plant hwynt hawl ir un addewid, yr o­edd ganthynt hawl ir un rhagor­fraint o fedydd. Nid oedd raid ir Apostl enwi eu plant yn neullduol, yr oedd yn ddigon iddo ddywedyd fod eu plant hwynt yn awr ynghy­fammod Abraham megis or blaen, a bod yr addewid yn perthyn iddynt, ac yna hwy a wyddent yn dda fod sel y Cyfammod yn perthyn iddynt.

Yr un modd y plannodd Pedr yr Eglwys gyntaf ymhlith y Cenhedlo­edd, fel y gellir casglu oddiwrth ei­riau yr Angel wrth Cornelius, blaen­ffrwyth eglwys y Cenhedloedd. An­fon Act. 11. 13. wŷr i Joppa, a gyrr am Simon, a gyfenwir Petr, yr hwn a lefara eiriau wrthit, trwy y rhai i'th jacheir di, a'th holl dŷ. Y mae yr Efengyl yn dwyn jechydwriaeth iddo ef ai holl dŷ. Gwyddei Cornelius feddwl y geiriau hyn yn dda, Canys proselyt oedd ef ir wir grefydd cyn yr amser hwn, er ei fod yn ddienwaededic, yr ydoedd yn derbyn saith gorchymyn Noah, syl­wedd pa rai a ellir eu gweled yn [Page 137] Gen, 9. Yr ydoedd Cyfammod Duw â Noah, ac ai had. Ni allei lai na Act. 10. 2. Geu. 9. 1.—9 gwybod fod y proselytiaid eraill a dderbynient yr enwaediad, nhwy ai plant ynghyfammod Abraham, ac ei fod ynteu yr awrhon trwy dderbyn yr Efengyl i ddyfod i mewn ir un Cyfammod, felly ac y byddei efe ai holl dŷ ynghyfammod Duw, ac yn flaen-ffrwyth eglwys y Cenhedlo­edd.

Fel hyn y sylfaenodd Petr yr Eg­lwys Gristnogol or Iddewon ar Cen­hedloedd mewn teuluoedd, yn ol yr hen arferiad o ddechreuad y byd.

III. Ni ystyriwn pa fod y sylfae­nodd Paul eglwysi ymhlith y Cen­hedloedd. Yr un modd ac y gwna­eth Petr; pan gredei pen y teulu, be­dyddiei'r holl deulu, felly sylfaenodd ef eglwys y Philippiaid, ac eglwys y Corinthiaid, a diammeu mae'r un modd y sylfaenodd ef holl eglwysi y Cenhedloedd. Canys wrth yr un rheol yr adeiladodd ef dŷ Dduw ym­hob lle.

1. Fe blannodd Eglwys y Philippi­aid mewn teuluoedd, Act. 16. 14; 15. A rhyw wraig ai henw Lydia [Page 138] yr hon oedd yn addoli Duw, a wran­dawodd, yr hon yr agorodd yr Ar­glwydd ei chalon, i ddal ar y pethau a leferid gan Paul; ac wedi ei bedyddio hi a'i theulu, hi a ddymunodd ar­nam, &c.

Yn yr ysgrythur hon daliwn sulw ar y pethau hyn.

1. Yr ydoedd Lydia yn broselyt ir wir grefydd or blaen, Canys ar y dydd Act. 16. 13, 14. Sabbath hi aeth allan or ddinas i lan a­fon, lle y byddid arferol o weddio, i a­ddoli Duw. Yn awr, yr oedd y proselytiaid or Cenhedloedd ai plant ynghyfammod Duw, fel y profasom eusus. Gan hynny yr oeddyd yn eu derbyn hwynt ai plant trwy en­waediad a bedydd i eglwys yr Idde­won, eithr gwragedd ai plant a dder­bynid yn unig trwy fedydd. Felly y dywed Moses fab Maimon, yr hwn a Maim. in Lights. vol. 1. p. 210. gasclodd ynghyd hen arferiadau yr Iddewon; ebe efe, Nid yw neb yn broselyt, nes enwaedu arno, ai fedy­ddio. Hwy a fedyddiant blentyn by­chan trwy orchymyn y Cyngor. Yr y­doedd Lydia, a'i theulu gan hynny ynghyfammod Duw, yn ol rheol y proselytiaid.

[Page 139]2. Cyn gynted ac y Credodd hi, bedyddiwyd hi ai theulu. Yr ydym yn darllen ir Arglwydd egor ei chalon hi, eithr nid oes dim són am ffydd ei theulu hi, etto bedyddiwyd hi ai theulu, cyn eu myned hwynt or lle yr oeddent yn gweddio yntho, fel y mae yn debygol, Canys ar ol eu be­dyddio, hi a ddymunodd arnynt ddy­fod iw thŷ hi, gan ddywedyd, Os Act. 16. 15. barnasoch fy mod i yn ffyddlon ir Ar­glwydd, dewch i mewn i'm tŷ, ac ar­hoswch yno. Nid iw hi yn dyweyd, os barnasoch fy mod i am teulu yn ffyddlon, ond yn unig fy mod i yn ffyddlon, gan hynny bedyddiwyd ei theulu er ei mwyn hi, yn ol trefn Cyfammod Duw, i dderbyn y ffydd­loniaid ai had ir un rhagorfreintiau.

Fel hyn y dechreuodd yr Efengyl yn Philippi, eithr pa fodd y Cynny­ddodd hi? Yn yr un modd, Canys y mae'r Apostl yn cynnig jechydw­riaeth i Geidwad y Carchar, ac iw deulu os credei ef yn unig. Act. 16. 30, 31. Ac efe a ddywedodd, o fei­stred, beth sydd raid i mi ei wneuthur, fel y byddwyf cadwedig? A hwy a ddywedasant, Cred yn yr Arglwydd [Page 140] Jesu Ghrist, a chadwedig fyddi, ti ath deulu.

Yn yr scrythur hon ystyriwn,

1. Rhufeinwr oedd Ceidwad y Act. 16. 21. Carchar, heb ddim gwybodaeth or gwir Dduw, nac oi gyfammod ef.

2. Y mae ef yn dyfod at yr Apo­stolion yn ddychrynnedig ynghylch ei jechydwriaeth ei hun, ac nid am jechydwriaeth ei deulu. Nid oedd etto yn adnabod helaethrwydd Cy­fammod Duw.

3. Y mae Paul yn agoryd iddo Gyfammod Duw ir ffyddloniaid ac iw had, gan ddywedyd wrtho, Cred yn yr Arglwydd Jesu Ghrist a chad­wedig fyddi, ti ath deulu. Nid yw yn dyweyd Cadwedig fyddi di ath deulu, os credwch chwi, eithr Cred di, a chadwedig fydd dy deulu gydâ thi. Mae addewid Jechydwriaeth yn perthyn ir teulu, os credei efe, yr hwn oedd pen y teulu. Oddi ei­thr bod Cyfammod Duw yn amgy­ffred ei deulu ef, ni buasei raid ir A­postl ond dywedyd Cred, a thi a fy­ddi cadwedig. I ba ddiben yr en­wodd Paul ei deulu ef, oddi eithr bod cyfammod jechydwriaeth yn per­thyn [Page 141] iddynt hwy o herwydd ei ffydd ef; megis gynt y Credodd Abra­ham, tad y ffyddloniaid or Cenhed­loedd, a derbyniwyd ei holl deulu i gyfammod Duw. Os nid oedd dim rhagorfreintiau yn perthyn iw deulu ef yn amgenach na theuluoedd eraill, nes i bob un yn neullduol gre­du, gallasei'r Apostl ddywedyd wr­tho, Cred, a chadwedig fyddi, ti a'r holl dref. Canys os credent, byddent hwythau yn gadwedig. Eithr ni wnaeth Duw erjoed gyfammod o ras â holl dref, er mwyn un gwr; ond efe a wnaeth gyfammod ar holl deu­lu er mwyn penteulu yn fynych.

Am hynny amlygir Cyfammod je­chydwriaeth ir gwr hwn ac iw deu­lu, os credei yn yr Arglwydd Jesu.

Yn ol yr addewid hon o je­chydwriaeth Act. 16. 33. iddo ef ai deulu, bedy­ddiwyd ef ar eiddo oll, yn y man.

Gwrthdd. Yr ydoedd ei holl deu­lu ef yn credu. v. 34.

Att. Felly yr oedd y rhao o oe­dran, Yr holl deulu sydd weithiau yn arwyddocau y rhai sydd o oedran yn y teulu. Yr ydys yn dywedyd am Sampson, i holl dŷ ei dad ei gla­ddu [Page 142] ef, hynny yw, y rhai oedd o Barn. 16. 31. oedran yn nhŷ ei dad ef. Canys ni allei'r plant bychain fyned i wlad y Philistiaid, i ddwyn ei gorph ef i fe­ddrod ei Dad. Dywedir am Corne­lius, mae gwr defosionol oedd, yn Act. 10. 2. ofni Duw, ynghyd ai holl dŷ, hynny yw, ynghyd a phawb oedd mewn oedran yn ei deulu. Felly ceidwad y Carchar a gredodd ynghyd ai holl deulu, sef ynghyd a phawb oedd o oedran i gredu.

2. Ac nid oes i ni feddwl mae teu­luoedd amhlantadwy, oedd yr holl deuluoedd a fedyddiwyd gan yr Apo­stolion. Nid oedd fawr deuluoedd yn yr oesodd hynny heb blant yn­ddynt, Canys y rhan fwya oi Cy­foeth oedd eu caethweision ai caeth forwynion, ar plant a enid o honynt, ac yr oedd y plant hyn ynghyfam­mod Duw, megis yr oedd plant rhy­ddion. Felly y maent hefyd tan yr Gen. 17. 12, 13, 23. Efengyl. Y maent yn hád Abraham trwy ffydd eu rhieni, ac yn etifeddion yn ol yr addewid, megis gynt. 1 Col. 12. 13. Gal. 3. 28, 29.

3. Eithr os nid oedd plant i geid­wad y Carchar, neu os oeddent we­di dyfod i oedran, yr un peth ydyw. [Page 143] Y mae'r Apostl yn cynnig jechydw­riaeth iddo ef ai deulu, sef iw blant bychain, os oedd y Cyfryw iddo; a hynny sydd ddigon i siccrhau'r gwi­rionedd presennol. Wrth ei deulu y mae i ni ddeall ei blant ef yn bennaf, fel y cymmerir y gair yn fynych yn yr scrythur. Gen. 30. 30. & 45. 18, 19. Num. 3. 15. 1 Tim. 5. 8. 1 Tim. 3. 4, 5. Ac yn yr ystyriaeth hon y Cymmerir y gair teulu yn wastad pan ydyw Duw yn derbyn gwr ai deulu iw gyfammod. Felly gwnaeth Duw gyfammod â Noah, ai deulu, sef ai blant. Gwnaeth gy­fammod âg Abraham, ac âi deulu, sef âi hád ef. Y plant yw'r rhan bennaf o bob teulu. Gan hynny pan ydyw'r Apostl yn dywedyd wrth geidwad y Carchar, Cred yn yr Ar­glwydd Jesu, a chadwedig fyddi di a'th deulu, cymmaint ydyw a phe dywedasei, os credu di ynghrist, y mae Cyfammod Duw, ar sel o fedydd, yn perthyn i ti ac ith blant. Mae'r A­postl yn enwi ei deulu ef er annogia­eth iddo i gredu ynghrist, a pha an­nogiaeth fwy na hon, y bydd i Dduw ein derbyn ni a'n plant i gyfammod [Page 144] jechydwriaeth, os credwn ni yn ei fab ef Jesu Ghrist.

Fel hyn y plannodd yr Apostl Paul eglwys y Philippiaid mewn teuluoedd, ni a ystyriwn yn nesaf pa fodd y plannodd ef eglwys y Corinthiaid.

2. Plannodd yr Apostl eglwys y Corinthiaid gan fedyddio teuluoedd Cyfain, mi a fedyddiais dylwyth Ste­phanas, 1 Cor. 1. 16, 17. er nad oedd Paul yn bedy­ddio ei hun ond yn anfynych, etto bedyddiodd Stephanas ai deulu, i ddangos mae ewyllys Duw oedd plannu'r Efengyl mewn teuluoedd ymhlith y Cenhedloedd. Y mae'r Apostl yn galw y teulu hwn blaen ffrwyth Achaia, un or teuluoedd Cyn­taf 1 Cor. 16. 15. oedd, a fedyddiwyd ir grefydd Gristnogol yn y wlad honno, am hynny yr ydoedd yn siampl i eraill a gredent ynghrist, fod bedydd yn per­thyn iddynt hwy ac iw teuluoedd.

Pan ydyw'r Apostl yn enwi pen­nau teuluoedd a fedyddiodd ef, ei feddwl yw iddo fedyddio yr holl deulu. Ni fedyddiais i neb o honoch, 1 Cor. 1. 14. ond Crispus a Gaius, hynny yw, Crispus a Gaius, a'i teuluoedd. Dar­llenir am Crispus, Act. 18. 8. A [Page 145] Chrispus yr Arch Synagogydd a gre­dodd yn yr Arglwydd ai hall dŷ. Ac am hynny bedyddiwyd ef ai deulu. Yr un peth sydd i ni feddwl am Gai­us, iddo ef ai deulu gael i bedyddio.

Gwir yw, yr ydoedd holl dŷ Cris­pus yn credu, sef y rhai oedd o oe­dran yno, eithr a oedd dim plant iddo? Oedd holl deuluoedd y ffydd­loniaid yn amhlantadwy? Iddew ac Arch synagogydd oedd, yn deall yn dda fod Duw Abraham yn Dduw i hâd y ffyddloniaid.

Cyfododd yr Iddewon yn unfryd yn erbyn Paul yn Corinth, ac achwy­nasant arno, i fod yn annog dynion i Act. 18. 13. addoli Duw yn erbyn y ddeddf, pa faint mwy yr achwynasent arno am fwrw eu plant hwynt allan o gy­fammod Abraham, pe gwnaethei felly.

Nid oes ammeu na fedyddiodd yr Apostl blant yn y teuluoedd hyn, Ca­nys at y teuluoedd hyn ymhlith e­raill o eglwys y Corinthiaid y mae yn ysgrifennu, na ddylent gyfrif eu plant yn aflan, megis plant y rhai di­gred, ond bod plant y ffyddloniaid yn sanctaidd.

[Page 146]Os bedyddiodd ef deuluoedd cy­fain or Corinthiaid, ac os barnodd blant y teuluoedd hynny yn sanctaidd, nid oes i ni feddwl iddo i gadael hwynt yn ddi-fedydd.

Gwrthdd. Nid ydym ni yn dar­llein am ddim plant yn y teuluoedd hyn.

Att. Os oedd teuluoedd y Corin­thiaid a fedyddiodd yr Apostl mor amhlantadwy, beth oedd raid ir A­posil scrifennu attynt fod eu plant hwy yn sanctaidd? 1 Cor. 7. 14.

Mae'n fwy tebygol fod plant ym­hob teulu a fedyddiwyd gan yr A­postolion, ac mae er mwyn y plant y bedyddiwyd y teuluoedd. Pan dder­byniei Duw wr ai deulu iw gyfam­mod, yr oedd yn wastadol yn der­byn y plant megis y rhan bennaf or teulu, fel y nodasom or blaen yn Noah, ac Abraham. Trwy fedydd yr oedd yr Apostolion yn selio Cy­fammod Duw i deuluoedd, nid yn unig ir rhieni, ond ir plant hefyd, megis rhannau enwog or teuluoedd hynny, ac er mwyn pa rai y gwna­eth Duw ei gyfammod â theuluoedd. Nid yn gymmeint er mwyn gweisi­on [Page 147] a morwynion Abraham, ond er mwyn had Abraham y gwnaeth Duw ei gyfammod â theulu Abra­ham. Byddaf Dduw iti, ac ith had, Gen. 17. 7. medd Duw wrtho. Yr oedd yn derbyn ei had ef, cyn derbyn ei wa­sanaeth ddynion. Ac am hynny ni wnaeth Duw un Cyfammod â theulu Abraham nes bod iddo blentyn oi ei­ddo ei hun. Gen. 17. 26, 27.

Felly pan fedyddiodd yr Aposto­lion deuluoedd, derbyniasant y rhie­ni ar plant i gyfammod Duw. Os ni fedyddiasant blant ni ddarfu i­ddynt fedyddio teuluoedd cyfain, Canys gadawsant allan y rhan fwya rhagorol o honynt. Peth rhyfeddol y fyddei, fod Cyfammod Duw â theuluoedd yn cynnwys plant yn ben­nodol tan yr hén Destament ac etto yr un Cyfammod â theuluoedd tan y Testament Newydd yn cae allan blant bychain. Eithr nid yw'r peth felly, mae plant yn awr yn rhan hynod o deuluoedd megis gynt, ac attynt hwy mae Duw yn edrych yn bennaf yn ei gyfammod â theuluo­edd, ac am hynny felly gwnaeth yr Apostolion gan fedyddio plant gydâ [Page 148] eu rhieni, a hynny oedd bedyddio teu­luoedd.

Swm y cwbl yw hyn, yr oedd Duw mewn Cyfammod â theuluoedd cyn y gyfraith, yr oedd mewn cy­fammod a theuluoedd tan y gyfraith, y mae mewn cyfammod â theuluo­edd tan yr Efengyl, canys siccrhaodd Christ, ai Apostolion gyfammod Duw â theuluoedd; y rhieni ar plant yw'r teuluoedd y mae Duw yn ei dderbyn iw Gyfammod: Dechreu­odd Petr eglwys yr Iddewon, ac eg­lwys y Cenhedloedd yn y Cyfryw deuluoedd, gan eu bedyddio hwynt; dechreuodd Paul eglwys y Philippi­aid, ac eglwys y Corinthiaid gan fe­dyddio y cyfryw deuluoedd, ac am hynny ewyllys Duw ydyw i deuluo­edd, neu blant y ffyddloniaid gael eu bedyddio.

Fe dybiei un fod y pethau hyn yn ddigon eglur i roddi bodlonrwydd i bawb a ewyllysiei fodlonrwydd ynghylch bedydd plant. Os cyd­farnwn ni y naill scrythur ar llall ni allwn weled yno siamplau eglur o fe­dydd plant. Y rhai a roddasom eu­sus sydd ddigon i argyoeddi y rhai sy yn gwrthddywedyd.

PEN. XIV.
Fe ddylid bedyddio plant, o herwydd ir Eglwys Gristnogol eu bedyddio hwynt ymhob oes.

Rheswn XI.

YR oedd plant y ffyddloniaid yn gyfrannogion o fedydd ymhob oes o eglwys Dduw o amser yr A­postolion hyd yr oes ddiwethaf, fel y gallwn i brofi yn helaeth pe bae fu­ddiol ir darllenydd annyscedig; mi a osodaf i lawr rai siamplau.

Mae Calvin yn dywedyd, Nullus Calv. in Rom. 4. 11. est scriptor tam vetustus, &c. Nid oes un athro mor hen, yr hwn nid yw'n son am ddechreuad bedydd plant yn am­ser yr Apostolion.

Irenaeus, yr hwn a drodd yn Gristi­on yn y flwyddyn o oed Christ 128, Ac a fu fyw fel y mae teby­gol yn amser yr Apostl Joan, a grybwyll am fedydd plant. Omnes [Page 150] venit per semetipsum salvare, omnes inquam qui per eum renascuntur (i. e. baptizantur) in Deum, infantes, par­vulos & pueros, juvenes & seniores, ideo per omnem venit ætatem, infantibus infans factus, sanctificans infantes, in parvulis parvulus, sanctificans hanc ip­sam habentes ætatem. Fe ddaeth Christ Iren. adv. hæres. lib. 2. cap. 39. i gadw pawb a fedyddir iddo ef, sef plant, a rhai bychain a bechgin, gwyr jefaingc a hen wyr, fo ddaeth ymhob oedran. fe a wnaethbwyd yn blentyn i blant fel y sancteiddiei ef blant by­chain, &c.

Tertullian a dystiolaethodd tros fe­dydd plant ynghylch y flwyddyn 192. Ex sanctificato altero sexu san­ctos In 1 Cor. 7. 14. procreari ait, ex seminis prærogati­vâ. O rieni sanctaidd y genir plant sanctaidd, yn ol rhagorfraint hád y ffyddloniaid.

Origen, yr hwn oedd hynod yn y flwyddyn o oed Christ 230 Sydd Hom. 8. in. Levit. yn dywedyd, De Infantibus bapti­zandis ecclesia traditionem accepit ab A­postolis. Derbyniodd yr Eglwys fedydd plant trwy draddodiad oddiwrth yr A­postolion. Ni a brofasom or blaen mae traddodiad scrythurol oedd hwn, [Page 151] Canys bedyddiodd yr Apostolion blant bychain.

Fe a ddywed mewn lle arall, o Orig. hom. in Luc. 14. herwydd bod (euogrwydd) pechod gwreiddiol yn cael ei symmud ymmaith mewn bedydd, am hynny y bedyddir plant bychain.

Cyprian yr hwn a neullduwyd ir weinidogaeth yn y flwyddyn, 247. Sydd yn són am fedydd plant. A baptismo atque à gratiâ nemo [credeus] prohibetur, quanto megis prohiberi non debet infans, &c. Y mae bedydd a maddeuant pechod yn perthyn i bawb a gredant, pa faint mwy i blant bychain, y rhai ni phechasont ond â phechod gw­reiddiol, am hynny hawsach iddynt hwy nac eraill i dderbyn maddeuant, quod illis remittuntur non propria, sed a­liena peccata, o herwydd maddeuir i­ddynt hwy nid eu pechodau [gwei­thredol] eu hunain, ond pechodau un arall, sef Adda.

Y mae Cyprian yn gosod i lawr Cypr. ad Fid. ep. 59. nid yn unig ei farn ei hun, ond barn Trigain a chwech oi gyd-esgobion mewn Cymmanfa yn Africa yng­hylch bedydd plant, na ddylid oedi mo honaw hyd yr wythfed dydd, [Page 152] fel yr ydoedd rhai yn gwneuthur yn ol Cyfraith yr Enwaediad, ond y gellir eu bedyddio cyn, neu ar ol yr wythfed dydd fel y byddo amgyl­chiadau yn gofyn.

Gregory o Nazianzum yr hwn oedd hynod o bobtu yr flwyddyn 370, sydd yn dwyn tystiolaeth i fedydd plant, medd ef, Omni ætati baptisma Nazian. Orat. in sanct. La­vacr. convenit, y mae bedydd yn gyfattebol i bob oedran: a thrachefn, Da infanti trinitatem, magnam & præstantissimam custodiam. Dyro fedydd y drindod i blant bychain, a bydd hynny yn ddioge­lwch mawr a rhagorol iddynt.

Chrysostom yr hwn a wnaethpwyd yn henuriad yn y flwyddyn 386, a Chrys. ho­mil. de A­dam & Heva. ddywed fel hyn, Am hynny y dysc yr Eglwys gatholic y dylid bedyddio plant, o herwydd pechod gwreiddiol; ac un­ffurff arferiad yr Eglwys sanctaidd trwy yr holl fyd, ynghylch bedydd plant a rhai o oedran ni ddylid edrych arno megis peth ofer.

Jerom, yr hwn a ddechreuodd Hieron, Symb. ex­planat. ad Damasum. fod yn hynod yn y flwyddyn 378, a gyd-tystiolaetha ir gwirionedd hwn, ebe ef, yr ydym ni yn dal bod un be­dydd, ac y dylid rhoddi y Sacrament [Page 153] hwn i blant bychain, yn yr un geiriau, ac y gweinir ef i rai o oedran.

Austin, yr hwn a lewyrchodd yn Aug. En­chirid. ad Laur. cap. 43. eglwys Dduw yn y flwyddyn 396, hyd y flwyddyn 430, a yscrifennodd lawer ynghylch bedydd plant, efe a ddywed fel hyn, à parvulo recens na­to us (que) ad decrepitum senem, &c. Ni ddylid neccau bedydd i neb, o blant by­chain newydd eni hyd hen wyr cleiri­ach.

Yr oedd bedydd plant mor gyffre­dinol yn eglwys Dduw, na allei y Pelagiaid wadu o honaw, er eu bod Aug. lib. 1. contra Pe­lag. ad Bo­nifac. cap. 22. yn gwadu pechod gwreiddiol, yn erbyn pa un y mae yn feddyginiaeth. Secundum Pelagium hæreticum ista di­catis, &c. yr ydych yn dywedyd yn ol Pelagius yr haeretic fod bedydd yn ang­henrheidiol i blant bychain, nid er ma­ddeuant pechodau, sed tantum propter regnum cœlorum, ond yn unig er mwyn teyrnas nefoedd.

Fel hyn y gwelwn ni pa fath oedd arferiad yr oesodd cyntaf yng­hylch bedydd plant, mi a chwanegaf un neu ddau eraill o dystiolaethau ynghylch y peth hwn.

[Page 154] Bernard yr hwn a fu fyw rhwng y flwyddyn 1091, ar flwyddyn 1153, sydd yn dangos arferiad yr Eglwys yn yr Oesoedd hynny, ac yn rhoddi barn galed ar y rhai a wrthwyne­bant fedydd plant. Ebe efe▪ yr hwn sydd Bern. ep. 240. yn neccau bedydd i blant rhieni Christio­nogol sydd yn datcuddio cenfingen gyth­reulig, je y cyfryw genfigen ac a ddygodd farwolaeth ir byd: Nid yw y gwr hwn o Dduw yr hwn sydd yn gwneuthur ac yn llefaru mor wrthwyneb i Dduw.

Yn nessaf ni a ystyriwn arferiad y Waldensiaid, y rhai oedd y Christ­nogion puraf yn yr oes hon, ac mewn ymneullduaeth oddiwrth Eglwys Rhufain. Yn hytrach ni a ymo­fynnwn ynghylch eu harferiad hwynt o herwydd bod rhai yn dywedyd Mr. Tombs, Mr. Dan­vers, &c. eu bod yn erbyn bedydd plant. Gwir yw, y mae y papistiaid, eu ge­lynion, yn taflu y gwradwydd hwn arnynt. Felly y mae Cluniacensis ac Bern. ep. 140. eraill, a chredodd Bernard y drygair oedd iddynt hwy, ac am hynny y mae yn dywedyd eu bod hwynt yn erbyn bedydd plant, ac o sect y Ma­nichaeid, eithr nid oeddent hwy euog or naill na'r llall.

[Page 155]Yr achos pa ham yr oedd y gair iddynt eu bod yn erbyn bedydd plant, oedd o herwydd eu bod yn oedi eu bedyddio nes cael eu gweini­dogion eu hunain, y rhai oeddent yn fynych yn wascaredic o herwydd er­ledigaeth, ac nid oeddent yn bodloni ir Offeiriaid pabyddaidd iw bedy­ddio.

Ni allwn weled eu barn hwynt ynghylch bedydd plant yn eu Cyffes hwynt. Ir diben hwn (sef fel y by­ddo Perin. Hist. of the Wald. part the III. lib. 1. cap▪ ir gynnulleidfa weddio trostynt) yr ydym yn cyflwyno plant bychain iw bedyddio, yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur sydd yn berthnasseu agos iddynt, megis y rhieni, &c.

Yr un modd y dywedant hwy Perin. Hist. lib. 2. cap. 4. mewn Cyffes arall — yr ydym yn derbyn swpper yr Arglwydd i ddangos ein bod yn parhau yn y ffydd, megis yr addawsom ni yn ein bedydd pan oeddem yn blant bychain.

Fel hyn y gwelwn ni yr Arferiad o fedydd plant ymhlith y Christnogion hynod hynny, y rhai oedd y Tysti­on cyntaf yn Erbyn Angrist, ac a ddioddefasant hyd at waed.

[Page 156]Y mae arferiad bedydd plant ymh­lith y Waldensiaid yn hytrach iw nodi, o herwydd mae'r gweddillion puraf oeddent or brif-eglwys, a tha­dau y diwygiad. Adeiladodd y Pro­testants ar y sylfaen a osodasent hwy.

Felly ynteu parhaodd arferiad be­dydd plant yn eglwys Dduw ymhob oes hyd yr oes ddiwethaf, yr oeddid yn eu bedyddio yn eglwys yr Idde­won cyn dyfodiad Christ, bedyddi­wyd hwynt gan Joan, a chan yr A­postolion, megis y profasom eusus, a pharhaodd yr Arferiad o honaw yn yr Eglwys Gristnogawl, yn yr oeso­edd puraf o honi, ac i wared drwy bob oes hyd yr amser yr ymddango­sodd Luther a Chalvin, a llawer eraill o wyr duwiol a dyscedig y rhai a gy­fododd yr Arglwydd i ddiwygio eg­lwys Dduw, ac iw galw allan o Ba­bylon. Yr oeddent hwy oll yn cyd­synnio ynghylch bedydd plant, ac nid oedd yr un o honynt yn ammeu rhagorfreintiau plant. Nes ir gwrth­wyntbwr Mat. 13. 25 ddyfod tra yr oedd dynion yn cysgu a hau efrau ymhlith y gwenith.

[Page 157]Y cyntaf a fedyddiodd rai yr ail­waith yn Lloegr oedd John Smith, gwenidog o eglwys Loegr, yr hwn a aeth i Holland, ac a unodd gydâg Eglwys Mr. Ainsworth, yn y diwedd wedi ei fwrw ef allan or Eglwys honno am amryfusedd, efe ai bedy­ddiodd ei hun, ac yna efe a ail-fe­dyddiodd eraill. See Ainsworth's De­fence of Scripture. Jessop' s Discovery of the Errors of Anabaptists, p. 65. Clifton' s Christian Plea.

PEN. XV.
Fe a ddylid bedyddio plant, o herwydd bod hynny yn fodd rhagorol i bl [...]nnu 'r grefydd Gristnogol.

Rheswm XII.

Y Mae bedydd plant bychain yn fodd rhagorol i blannu ac i barhau y grefydd Gristnogol ar y ddaiar. Fe ddylei pob gwir Gristion geisio llwyddiant y wir grefydd, a chodi Jerusalem goruwch ei lawenydd Ps. 137. 6. pennaf. Yr hwn nid yw yn ceisio iddi ddaioni nid gwir ddiscybl i Ps. 122. 9. Ghrist ydyw. Yn awr, os ydym yn ceisio daioni Zion, oni ddylem dder­byn y moddion a ordeiniodd Duw er adeiliad iddi, i helaethu lle ei pha­bell, ac i estyn Cortynnau ei phreswyl­feydd? un or moddion hyn yw be­dydd plant y ffyddloniaid. I wneu­thur hyn yn eglur, ni a ystyriwn.

I. Fod bedydd yn fodd a ordeini­odd Duw i blannu ac i barhau eg­lwys Dduw. Fel hyn y gorchmyn­nodd [Page 159] Christ iw Apostolion i gasclu eglwysi ymhlith y Cenhedloedd gan eu dyscu ai bedyddio yn enw'r Tad, ar Mat. 21. 19 mab, ar yspryd glan.

II. Y mae bedydd plant yn fodd rhagorol ir un diben, sef i blannu'r wir Grefydd, ac i barhau Eglwys Dduw.

1. Y mae yn fodd rhagorol ir di­ben hyn, fel y mae yn gwneuthur plant bychain yn ddiscyblion i Ghrist. Na ryfedded neb fod plant bychain o rif discyblion Christ, Canys gelwir Act. 15. 10. hwynt felly, Act. 15. 10. Pa ham yr ydych chwi yn temptio Duw i ddodi jau ar warrau y discyblion. Y discy­blion hyn oedd y ffyddloniaid ai had, y rhai a fynnasei'r Pharisaeaid Christ­nogol enwaedu arnynt yn ol Cyfraith Moses. Yr oedd Cyfraith Moses yn gorchymmyn enwaedu ar blant yn wyth niwrnod oed, yr enwaediad hwn y mae'r Apostl Petr yn ei alw yn jau ar warrau y discyblion, sef plant bychain. Gwir yw, ni allant hwy ddyscu trwy weinidogaeth y gair, etto discyblion ydynt, ac efe wŷr Christ pa fodd i gyfrannu dys­ceidiaeth ddirgel iddynt trwy ei ys­pryd, [Page 160] yn ol ei addewid. Dy holl fei­bion Isa. 54. 13. hefyd fyddant wedi eu dyscu gan yr Arglwydd.

2. Y mae bedydd yn gosod plant bychain tan addunedau a rhwymedi­gaethau neullduol i fod yn eiddo yr Arglwydd. Y mae'n ddiammeu y gallant dderbyn y Cyfryw rwymedi­gaeth yn awr megis gynt. Ac y Deut. 29. 11, 12. mae mor siccr fod y rhwymyn hwn yn faintais fawr i gwneuthur hwynt yn ewyllyscar i gymmeryd yr Ar­glwydd i fod yn Dduw iddynt pan ddelont i oedran a synwyr. Y mae Duw wedi achub y blaen arnynt trwy ras ei Gyfammod cyn iddynt allel dewis Satan a phechod. Der­byniodd Duw hwynt iw deulu cyn iddynt allel gwneuthur dim gwasana­eth iddo. Y mae nod yspryd Duw arnynt cyn ir yspryd drwg gael me­ddiant o honynt. Y mae yr ystyria­eth hon yn rhinweddol i sefydlu eu calonnau ynghyfammod Duw, ac i wrthwynebu profedigaethau Satan. Y rhai nis bedyddiwyd yn eu mebyd ydynt fwy noeth iw brofedigaethau ef.

[Page 161]Mae'r natur lygredig sydd mewn dyn yn dueddol ir drwg ac yn fy­nych yn torri holl rwymau Cyfam­mod Duw, pa faint mwy angerddol ac ynfyd-wyllt ydyw pan y gadewir iddi ei hun yn ddi-rwymyn.

Or tu arall, nid oes gan Satan y cyfryw faintais yn erbyn y rhai a fe­dyddiwyd yn eu mebyd, pan ydyw yn eu temptio iw wasanaethu ef ar pechod, gallant atteb eu bod hwynt wedi ymwrthod âr diafol ac ai holl weithredoedd, wedi ym wrthod â choeg rodres, a gwagorfoledd y byd, ai holl chwantau cybyddus, wedi ymwr­thod âg anysprydol ewyllys y Cnawd ai chwantau, yn adduned eu bedydd. Ac na allant hwy ddewis Meistr arall, o herwydd iddynt gymeryd y Drindod ogoneddus i fod yn Dduw iddynt pan y bedyddiwyd hwynt yn enw'r Tad, ar Mab, a'r yspryd glan. Mae Luther yn són am wraig Dduwiol yr hon pan temptiai Satan hi i ryw bechod, a attebai baptizata sum, bedyddiwyd fi, ac ni all af dorri fy adduned.

3. Y mae bedydd plant yn fodd rhagorol i blannu'r wir grefydd, ac i barhau eglwys Dduw trwy roddi [Page 162] mantais i weinidogion yr Efengyl i ymresymmu ar cyfryw pan ddelont i oedran, yn amgenach nac y gallant wneuthur ar rhai nis bedyddiwyd. Hwy a allant ddwyn ar gof iddynt addunedau eu bedydd, a galw ar­nynt i cyflawni hwynt, hwy a allant ddangos iddynt mor ddrwg iw yma­do â llywodraethwr eu jeuengctid, a gollwng dros gof gyfammod eu Duw. Pa ddyledswyddau bynnag a maent yn eu hannog iddynt, sef i gredu, i edifarhau, ac i fyw yn sanctaidd, y mae ganthynt un rheswm yn ychwa­neg i arferu tuac attynt hwy na thu­ac at eraill, nad ydynt yn eu hannog i un ddyledswydd ond ir hon y maent yn rhwym eusus trwy gyfammod eu be­dydd, ac nid ydynt yn ei galw i ymado ag un pechod, ond yr hwn a wrthoda­sant yn addunedau eu bedydd. Am­lygir iddynt yngweinidogaeth y gair pa fodd y tyngasont ir Arglwyd, ac na allant gilio yn ol. Y rhai sydd ddoeth i ennil eneidiau a gawsont law­er o lwyddiant yn y ddull hon o ym­ressymmiad â phechaduriaid, iw de­nu i edifeirwch, ac i fywyd sancta­idd.

[Page 163]4. Y mae bedydd plant mor effe­ithiol i barhau'r wir grefydd ac i amlhau eglwys Dduw yr awrhon ac oedd enwaediad gynt. Rhyngodd bodd i Dduw i barhau'r wir grefydd ymhlith yr Iddewon trwy ddwyn eu plant hwynt tan rwym y Cyfammod. Ni adawodd efe monynt i rhydd­did eu hunain i ddewis eu Crefydd, eithr rhwymodd hwynt yn wyth ni­wrnod oed i gymmeryd efe i fod yn Dduw iddynt. Trwy'r ffordd hon y parhaodd y wir grefydd ac eglwys Dduw ar y ddaiar yn agos i ddwy fil o flynyddoedd o amser Abraham hyd ddyfodiad Christ. Gwelodd anfei­drol ddoethineb yn dda i barhau ei eg­lwys ar y ddaiar, trwy osod rhwyme­digaeth cryf ar blant y ffyddloniaid i dderbyn Duw eu tadau; na chym­mered neb arnynt fod yn ddoethach nâ Duw, trwy adel plant yn awr i wysc eu pennau eu hunain, i ddewis eu crefydd heb rwym Cyfammod Duw arnynt. Mae'r natur ddynol mor llygredic yr awrhon ac oedd gynt, mor amharod i bob da, ac mor due­ddol i bob drwg, ac am hynny mae rhwym Cyfammod Duw mor ang­henrheidiol [Page 164] i blant bychain yr awr­hon ac oedd gynt.

5. Y mae'r Arglwydd wedi ben­dithio bedydd plant bychain i fod yn fodd i barhau'r wir grefydd, ar eglwys Gristnogol ar y ddaiar o ddyddiau'r Apostolion hyd y dydd hwn. Nid yw'r Arglwydd yn rho­ddi ei fendith neullduol ond ar ei Or­dinhadau ei hun. Nid ydyw yn ar­graphu sél y Nefoedd ar ddychymy­gion daiarol. Ni all neb ammeu nad oes miloedd a fedyddiwyd yn blant yn teimlo ynthynt eu hunain rinwedd eu bedydd pan ddelont i oedran, y mae eu bedydd yn annogiaeth iddynt i etifarhau a chredu yn yr Arglwydd Jesu. Fel y bendithiod i Duw en­waediad gynt, trwy roddi enwaediad y galon ir rhai yr enwaedwyd arnynt yn eu mebyd, felly y mae yn bendi­thio bedydd, gan roddi bedydd yr ys­pryd ar adenedigaeth ir rhai a fedyddi­wyd yn eu mebyd.

6. Y mae bedydd plant yn rhag­flaenu yr esgeulusdra cywilyddus o fedydd. Pe baet yn gadel plant heb eu bedyddio fe fyddei mor anhawdd i berswadio llawer o bobl dda i dder­byn [Page 165] bedydd ac yw yr awrhon i per­swadio hwynt i dderbyn swpper yr Arglwydd. Mae natur dyn yn an­ewyllyscar jawn i fyned tan rwyme­digaethau cyfyng ac ysprydol. Yr ydym yn ddarllen yn histori y brif­eglwys fod amryw wyr da a ddych­welodd oddiwrth baganiaeth yn oe­di derbyn bedydd hyd eu dyddiau diwethaf.

Yr oedd Constantin yn oedrannus jawn cyn ei fedyddio, ac wedi syr­thio i glefyd or hwn y bu fwrw. Theod. 1. 31. Socr. V. 6. Ni fedyddiwyd Theodosius nes iddo syrthio yn glaf, fel y dywed Socra­tes. Ac nid oes i ni feddwl y byddei pobl yn fwy parod i dderbyn bedydd yn yr oesodd hyn, nac yr oeddent yn y rhai a aethant heibio.

PEN. XVI.
Y gwrthresymmau yn erbyn bedydd plant bychain, ac attebion perthnassol iddynt.

FEL hyn y profasom trwy'r scry­thurau, a thrwy resymmau scry­thurol y dylid bedyddio plant y ffydd­loniaid. Os edrychwn ar y gwirio­nedd hwn yngoleuni'r scrythurau u­chod fe ddiflanna y gwrthresymmau o honynt eu hunain. Etto er mwyn y rhai gweinion mi a osodaf ar lawr y rhai cryfaf o honynt.

1. Gwrthreswm, Nid oes un gor­chymyn na siampl yn yr ysgrythur am fedyddio plant bychain.

Att. Nid oes un gorchymyn neull­duol mewn cnifer o eiriau yn enwi bedydd plant, ac nid yw hynny ang­henrheidiol; eithr y mae gorchymyn Cyffredinol, yr hyn sydd ddigon. Gorchmynnir ir Apostolion fedyddio yr holl genhedloedd, o ba rai mae plant yn rhan fawr. Os oes gorchymyn am fedyddio'r rhieni, mae gorchy­myn [Page 167] am fedyddio'r plant, Canys cynhwysir y plant yn y rhieni, me­gis rhannau o honynt, sy gyfranno­gion o ragorfreintiau rhieni da, ac o farnedigaethau rhieni drwg. Nid oes un gorchymyn neullduol am fe­dyddio gwragedd, etto nid ammeu neb na chynnwysir hwynt yn y gor­chymmyn Cyffredinol. Nid oedd Exod. 20. 5 un gorchymyn neullduol tan y gy­fraith am adeiladu Synagogau ac addoli Duw ynthynt, etto yr oedd y naill ar llall yn ddyledswydd yn ol gorchymynion Cyffredinol. Nid oes un gorchymyn neullduol am ga­dw y dydd Cyntaf or wythnos yn Sabbath sanctaidd i Dduw, etto yr ydym yn Casclu oddiwrth yr scry­thurau mae ewyllys Christ ydyw i ni wneuthur felly. Dangosed y rhai sydd yn erbyn bedydd plant ple mae un gorchymyn yn yr holl scrythur am fedyddio drachefn y rhai a fedy­ddiwyd yn eu jeuengctid,

2. Ni a ddangosasom eusus fod llawer o siamplau yn yr ysgrythur am fedydd plant, y rhai sydd am­lwg ir neb a ddeallo gyd-gordiad a chanlyniad scrythurol.

[Page 168]II. Gwrthres. Mae'r scrythur yn galw ar rai i gredu cyn en bedyddio. Y neb a gredo, ac a fedyddier, a fydd cadwedig. Yn ol y rheol hon nid Mar. 16. 16 oedd yr Apostolion yn bedyddio neb nes iddynt gredu. Act. 2. 38.

Att. Pan ydyw'r scrythur yn dy­wedyd, y neb a gredo, ac a fedyddier.

1. Y mae hi yn són am rai mewn oedran, sef y Cenhedloedd digred (at ba rai danfonodd Christ ei Apo­stolion, Mar. 16. 15. Mat. 28. 19.) ac nid am blant y ffyddloniaid. Mae Christ yn eu danfon ir holl fŷd, i bregethu yr Efengyl ir holl Genhedloedd Paganaidd, ac yn dywedyd y neb a Mar. 16. 15, 16. gredo, ac a fedyddier a fydd Cadwe­dig, i ddangos nad oedd na bedydd na jechydwriaeth yn perthyn iddynt nes iddynt gredu yn yr Arglwydd Jesu. Pe baem ni i bregethu ir Cy­fryw rai, ni fedyddiem ni neb nes iddynt gredu: Eithr beth yw hyn i had y ffyddloniaid, am ba rai nid yw Christ yn són?

Mae'n siccr nad yw'r scrythur hon yn són am blant, os ydyw, rhaid eu bod hwy oll yn ddamnedig o eisiau ffydd; yr hon ni all fod yn weithre­dol [Page 169] ynthynt. Mae'r Apostl yn dy­wedyd, 2 Th. 3. 10. os bydd neb ni fynn weithio, ni cheyff fwytta chwaith. Onid anna­turiol y fydde'r Tad hwnnw yr hwn a gymmerei achlysur oddiwrth yr ysgrythur hon i newynu ei blant by­chain o herwydd na allant weithio. Felly pan yw Christ yn dywedyd, y neb a gredo ac a fedyddier, nid yw yn canlyn na ddylid bedyddio neb nes iddynt gredu.

2. Ni a brofasom eusus ir Aposto­lion fedyddio nid yn unig rhai o oe­dran pan gredent, eithr plant y Cy­fryw hefyd. Y rhai a fedyddiasont ar ol iddynt gredu, oeddent heb dder­byn bedydd Christ or blaen, nid y­dym ni yn darllen iddynt fedyddio'r un mewn oedran, a fedyddiasid or blaen pan oeddent plant.

III. Gwrthres. Nid yw plant by­chain yn deall beth yr ydys yn ei wneuthur, ac am hynny pa leshad a all bedydd wneuthur iddynt?

Att. Y mae'r gwrthreswm hwn nid yn unig yn erbyn bedydd, ond yn erbyn yr Enwaediad hefyd. Nid oedd plant yn gwybod beth a wneyd iddynt pan yr enwaedid arnynt, [Page 170] etto yr oedd yr Ordinhád yn fuddiol iddynt. Ni ryfyged neb fod yn ddo­ethach na Duw, yr hwn a wyr pa fendithion mae yn eu rhoddi i blant y ffyddloniaid, er na wyddant hwy beth y maent yn ei dderbyn. Fe all plentyn bychan dderbyn rhodd fawr. Gan hynny, pwy wyti, ô ddŷn, yr Rhuf. 9. 20. hwn a ddadleui yr erbyn Duw? pwy a gyfarwyddodd yspryd yr Arglwydd, â phwy yr ymg ynhorodd ef, je pwy ai cy­farwyddodd ac ai dyscodd mewn llwybr barn? ac a ddyscodd iddo wybodaeth, Isa. 40. 13, 14. ac a ddangosodd iddo ffordd dealldw­riaeth?

IV. Gwrthres. Yr oedd Christ ynghylch deg ar hugain oed pan y bedyddiwyd ef. Lu. 3. 23.

Att. 1. Er na fedyddiwyd moho­naw nes ei fod yn ddeg ar hugain oed, enwaedwyd arno pan oedd wyth ni­wrnod oed. Lu. 2. 21.

2. Ni oedodd fedydd o herwydd nad oedd gymmwys ei dderbyn, Ca­nys yr ydoedd ef yn berffaith san­ctaidd or groth: am hynny os ydym yn rhwym i ganlyn ei siampl ef yn hyn o ran, ni ddylid bedyddio neb or rhai a gredant nes byddont yn [Page 171] ddeg ar hugain oed, eithr nid yw y rhai sydd yn erbyn bedydd plant yn rhodio yn ol y rheol hon, ac am hynny nid ydynt yn tybied fod y siampl hwn yn eu rhwymo hwynt.

3. Mae llawer o weithredoedd Christ er addysc i ni, y rhai nid y­dynt iw Canlyn, ar cyfryw oedd ei fedydd ef pan ydoedd yn ddeg ar hu­gain oed, yr oedd yn ewyllyscar i ddwyn tystiolaeth i weinidogaeth Joan, yr hwn a ddechreuasei fedy­ddio ychydig or blaen: Fel nad yw ei siampl ef yn cymmeryd y weinido­gaeth arno pan oedd ddeg ar hunain oed, ac nid yn gynt, yn rhwymo pawb eraill i ganlyn ef, felly nid yw ei siampl ef yn cymmeryd ei fedy­ddio yn yr un flwyddyn yn rheol i bawb eraill.

V. Gwrthres. Os yw bedydd yn perthyn i blant, pa ham nad ydych yn rhoddi Swpper yr Arglwydd i­ddynt.

Att. O herwydd bod yr Apostl yn gorchymyn ir rhai a dderbyniant Swpper yr Arglwydd eu holi eu hu­nain, a dirnad Corph yr Arglwydd [Page 172] yr hyn ni all plant bychain ei wneu­thur.

2. Bedydd yw Sacrament ein had­enedigaeth ni, a'n derbyniad i eglwys weledig Dduw. Swpper yr Arglwydd yw Sacrament ein tyfiant an hym­borth ysprydol ni.

3. Felly yr oedd gynt, er bod enwaediad yn perthyn i blant by­chain, nid oedd oen y Pasc yn per­thyn ond i rai o oedran.

PEN. XVII.
Y rhai sydd yn ail fedyddio ydynt euog o lawer o bechodau trwy wneuthur felly.

NI a welsom yn ol yr ysgrythu­rau mae dyledswydd eglur yw bedydd plant y ffyddloniaid, ae ni a attebasom mewn byrr y gwrthresym­mau yn ei erbyn, ni a ddangoswn yn y bennod hon, mor fawr yw pe­chod y rhai a demptir i wadu'r be­dydd a dderbyniasant pan oeddent blant bychain, ac i gymmeryd eu be­dyddio drachefn. Mae llawer o bobl heb adnabod er joed natur eu bedydd cyntaf, yn cael eu gwyrdroi i ymwr­thod âg ef, ac yn tybied eu bod yn rhyngu bodd i Dduw trwy wneuthur felly. Eithr y maent yn syrthio i brofedigaeth a magl diafol, yr hwn yw awdur amryfusedd a thad y cel­wydd.

1. Y maent yn euog o bechod mawr, gan iddynt esgeuluso gwneuthur jawn ddefnydd o'i bedydd Cyntaf▪ [Page 174] Mae bedydd plant yn eu gosod tan addunedau parhaus ir Arglwydd, ac y maent yn rhwym i adnewyddu eu haddunedau, ac i gymmeryd yr Ar­glwydd i fod yn Dduw iddynt, cyn gynted ac y delont i oedran a synwyr. Eithr pa mor ychydic sydd yn gw­neuthur felly? Mae y rhan fwyaf o blant pan ddelont i oedran naill ai yn anwybodol, ai yn anystyriol o addunedau eu bedydd. Yr achos o hyn mewn mesur mawr yw esgeulus­dra gweinidogion, a phennau teuluo­edd, yn Catecheisio ac yn dyscu i blant brif-byngciau'r grefydd Gristnogol. Yn y Cyflwr dall anwybodol hwn y mae y rhan fwya yn byw lawer o flynyddoedd wedi dyfod i oedran, heb unwaith adnewyddu cyfammod eu Bedydd mewn difrifwch: Yna pan ddechreuo yr Arglwydd ddeffroi eu cydwybodau hwynt, a'u hargyoeddi o bechod, y maent yn deimladwy na ddarfu iddynt ddwyn ffrwythau addas oi bedydd cyntaf; ar hyn y mae Satan yn eu temptio i fwrw'r bai ar eu bedydd, megis pe buasei hwnnw yn ddrwg, pan y dylent feio yn gw­bl arnynt eu hunain, am esgeuluso [Page 175] adnewyddu a chyflawni addunedau eu bedydd, yr hyn a allant ac a ddy­lent wneuthur heb adnewyddu eu bedydd. Yr ydwyfi yn appelio at gydwybodau y rhai a ail-fedyddiwyd onid yw'r peth fel hyn? Gadawent iw cydwybodau ddywedyd; a hwy ai argyhoeddant or esgeulusdra pe­chadurus hwn, na ddarfu iddynt er joed jawn ddefnyddio eu bedydd Cyntaf, pe derbyniasent leshad oddi­wrth y cyntaf ni ymwrthodasent âg ef byth.

2. Maent yn euog o bechod mawr trwy halogi ordinhád Christ. Nid pe­chod bychan yw halogi pethau San­ctaidd, er i rai wneuthur felly mewn anwybodaeth. Ordinhad sanctaidd yw bedydd, yr hon ni ddylid eu der­byn ond unwaith. Eph. 4. 4. un Arglwydd, un ffydd, un bedydd. Gan hynny y rhai a adnewyddant eu be­dydd sy'n cymmeryd enw yr Arglwydd Dduw yn ofer, ac nid dieuog gan yr Exod. 20. 7. Arglwydd yr hwn a gymmero ei enw ef yn ofer▪ Y mae enw'r Arglwydd ar ei holl ordinhadau, ac yn briodol ar yr Ordinhad o fedydd. Canys be­dyddir ni yn enw'r Tad, a'r Mab, a'r [Page 176] yspryd glan. Ac ni ddylid cymme­ryd yr enw sanctaidd hwn yn ofer.

3. Y maent yn euog o Anghredi­niaeth, oddieithr i Dduw i ddywe­dyd wrthynt mewn cnifer o eiriau bedyddiwch eich plant, ni chredant ddim. Y mae ffydd yn edrych ar bob amnaid o eiddo'r Arglwydd, ac yn casclu ei feddwl ef oddiwrth yr ymddangosiad lleiaf oi ewyllys ef. Yr oedd y wraig ar ddifer-lif waed yn credu os cae hi yn unig gyffwrdd a gwisc yr Arglwydd Jesu, y byddei hi jach, er nad oedd ganthi nac adde­wid, na gorchymmyn, na siampl neullduol iw hannog i wneuthur felly, etto y mae hi yn credu digo­nolrwydd ei allu a'i drugaredd ef. Y neb nid ydynt yn credu helaethrwydd y Cyfammod Gras, ar hawl sydd gan blant y ffyddloniaid i sél y Cy­fammod, y maent trwy anghredinia­eth yn pechu yn erbyn yr Addewid, ar gorchymmyn, ac yn erbyn siamplau lawer.

Y mae'r wraig o Ganaan yn dy­fod yn hyf ai phlentyn at Ghrist i Mat. 15. 22—28. dderbyn lleshád oddiwrtho, er nad oedd hi mewn Cyfammod gweledig [Page 177] â Duw, ac y mae Christ yn Canmol ei ffydd hi, ac yn derbyn ei merch hi: Mae ei ffydd hi yn torri trwy'r holl rwystrau. Nid oedd hi yn un o ddefaid colledig tu Israel, nid oedd hi yn un or plant, ond yn hytrach yn cael eu chyfri ymhlith y Cwn y rhai Datc. 22. 15. sydd oddiallan; etto ni chymmerei hi neccád, eithr gweddiodd, dadleu­odd, credodd, a gorchfygodd. Y mae hi yn credu, ac y mae Christ yn jachau ei merch er mwyn ei ffydd hi. Y mae gennym ni fwy o anno­giaeth i gredu y bydd i Ghrist i dderbyn ein plant ni. Yr ydym ni yn ddefaid o dŷ Israel, yn blant i Gal. 6. 16. Dduw, ac oni ddylem ni i gredu dros ein plant y bydd i Ghrist eu derbyn hwynt? a ydyw ef yn am­harottach i gyfrannu bendithion ys­prydol nac yr oedd i gyfrannu ben­dithion tymhorol i Blant y ffyddlo­niaid? os mawr oedd ei ffydd hi, yr hon yn erbyn gobaith a gredodd tan o­baith, onid mawr yw dy anghredi­niaeth di, yr hwn wyt yn dinistrio seiliau gobaith mewn perthynas ith blant. O na fydded iti ammeu adde­wid Duw trwy anghrediniaeth, eithr Act. 2. 39. [Page 178] ymnertha yn y ffydd gan roddi gogoni­ant i Dduw.

4. Y maent yn euog o falchder, y mae yspryd issel yn ymddarostwng i bob maeth o ddatcuddiad o ewyllys Duw. Fe adawodd Duw amryw bethau yn dywyll yn yr ysgrythurau, fel y byddei i ni i chwilio hwynt, a barnu yn issel am danom ein hunain, y rhai ydym yn gwybod pethau o ran yn unig, ac yn gweled trwy ddrych mewn dammeg. Onid balchder mawr ydyw i ddyn gwael gymmeryd arno i ddyscu Duw pa fodd i ddywedyd yn ei air? Dyweded yr Arglwydd ei feddwl yn eglurach ynghylch bedydd plant, ac onid e ni chredwn ni ddim, medd rhai. Onid Syniad balchder calon Dyn ydyw hyn? Y mae'r ga­lon issel yn chwilio'r ysgrythurau, yn ystyried cyssondeb y naill scrythur ar llall, yn credu cyd-gordiad yr Hen Destament a'r Newydd, ac yn ofni pob llwybr di [...]ammwy. Y mae llawer o wirioneddau megis trysor dirgel wedi guddio ymmaes yr scry­thurau, yr hwn y mae'r gostyngedic yn ei chwilio, ac yn ei gaffael, eithr [Page 179] y mae'r balch yn ei ddiystyru, ac yn dyfod yn fyrr o honaw.

Nid wyfi yn dywedyd mae pobl feilchion yw y rhai sydd yn erbyn bedydd plant, eithr mae balchder y galon sydd yn gwneuthur iddi ym­rysson âr cyfryw wirioneddau nid y­dynt or un eglurháu a gwirioneddau eraill. Balchder calon Joan wnaeth iddo ddywedyd, Oni chaf weled yn ei Jo. 20. 25. ddwylo ef ôl yr hoelion, a dodi fy mŷs yn ol yr hoelion, a dodi fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf i. Felly dywed rhai, oni ddangoswch chwi i ni ryw orchymyn neu siampl eglur o fedydd plant, ni chredwn ni mae o Dduw mae: Eithr pe ni bae na gorchym­myn na siampl (er bod y ddau am fedydd plant) os bydd Canlyniad scrythurol yn dangos y dylid eu be­dyddio, mae hynny yn ddigon i fod­loni yspryd issel ymofyngar am y gwirionedd. Fe gaeodd Christ saf­nau Mat. 22. 31, 32. y Sadduceaid ynghylch yr Adgy­fodiad trwy ganlyniad scrythurol.

5. Y mae y rhai sydd yn erbyn bedydd plant, ac yn derbyn ail-fe­dydd yn euog o anghariad mawr. 1 Tim. 1. 5. Cariad yw diwedd y gorchymmyn, cy­flawnder [Page 180] y gyfraith yw cariad, je, Gwel, 1 Cor. 13. 1, 2, 3. cyflawnder yr Efengyl hefyd yw ca­riad. Ac am hynny ni a ddylem fod yn eiddigus o bob Opiniwn sydd yn dinistrio cariad. Duw Cariad yw, ar gwirioneddau hynny sy o Dduw y maent yn gyttun â chariad; eithr y mae'r Opiniwn sydd yn gwadu bedydd plant yn Opiniwn anghariadus jawn attynt. Onid barn anghariadus yw'r hon sydd yn eu bwrw allan o deulu Dduw, o ba un y buont yn aelodau rai miloedd o fly­nyddoedd? Onid barn anghariadus yw'r hon sydd yn eu esgymuno allan o eglwys Dduw, a hynny yn ddia­chos, cyn iddynt wneuthur dim i haeddu'r farn galed hon? Onid barn anghariadus yw'r hon sydd yn nec­cau iddynt yr un lle yn y Cyfammod gras tan yr Efengyl, ac oedd ganthynt tan y gyfraith? Onid anghariadus yw'r farn honno sydd yn gwneuthur eu cyflwr yn waeth ar ol dyfodiad Christ nac ydoedd or blaen? Mewn byrr, onid anghariadus yw'r farn Act. 2. 39. honno sydd yn neccau iddynt ran yn yr addewid, yr hon yw unig sylfaen eu jechydwriaeth hwynt? Onid yw [Page 181] Duw yn Dduw i hâd y ffyddloniaid, pa obaith a allwn i gael o'u jechy­dwriaeth?

6. Y mae'r Sawl sydd yn erbyn bedydd plant, ac yn ei adnewyddu mewn oedran yn euog o anniolchga­rwch mawr tuag at Dduw. Ni a wyddom mae pechod mawr yngo­lwg yr Arglwydd yw anniolchga­rwch. Rhuf. 1. 21. Lu. 17. 17, 17, 18. Mae anniolchgarwch am fendithion tymhorol yn cyffroi ei ddigofaint ef, pa faint mwy am fen­dithion a rhagorfreintiau ysprydol. Ennynnodd llid yr Arglwydd yn er­byn plant Israel o herwydd iddynt ddiystyru'r Manna, yr hwn ydoedd yn arwydd o fendithion ysprydol. Ac a dybiwn ni na ddigia Duw wrthym os byddwn anniolchgar am ragorfreintiau ein jeuengctid? Os y­dyw efe mor rasol a'n derbyn iw gy­fammod pan oeddem yn blant by­chain, onid anniolchgarwch mawr y­dyw i ni ddiystyru ein genedigaeth­fraint? Mae'r scrythur yn gosod nód o wradwydd ar Esau, am iddo ddi­ystyru Gen. 25. 34 ei anedigaeth fraint, oh na fydded i ni fod yn debyg iddo, rhag i ni golli'r fendith, Fe allei dywedi [Page 182] di, gwerthodd Esau ei enedigaeth­fraint am un saig o fwyd, am hynny collodd y fendith. Gwir yw, efe a wnaeth felly, am hynny mwy oedd ei bechod. Eithr gochel di fod yn debyg iddo gan ddiystyru dy anediga­eth-fraint am un achos neu gilydd. Ar ba achlysur bynnag yr wyt yn gwneuthur felly, y mae dy bechod yn aros; er nad ydyw or un radd ai bechod ef, y mae or un natur, sef diystyrwch a dirmyg o'th enedigaeth­fraint.

7. Yr wyti yn euog o bechod mawr trwy wneuthur ymranniad ynghorph Christ. Y mae un Corph, ac un be­dydd, Eph. 4. 4, 9. ac ni ellir gwahanu mo ho­nynt, gan hynny trwy wadu dy fe­dydd cyntaf, yr wyti yn torri undeb y Corph hwnnw, i'ba un y mae Christ yn ben; yr wyti yn dy dorri dy hun oddiwrth yr winwydden, ac yn cri­no megis cangen anffrwythlon, yr hon ni bydd hi ddim gwell er ei dwfrhau drachefn. Yr wyt yn dy dorri dy hun, nid oddiwrth y Gyn­nulleidfa hon neu arall yn unig, ond oddiwrth yr Eglwys Gatholic gyffre­dinol o bob oes a gwlad ar wyneb y [Page 183] ddaiar, yr hon sydd wedi ei glanhau Eph. 5. 20. â'r olchfa ddwfr, trwy'r gair, ac yn parhau mewn undeb bedydd. A gelli di feddwl mae pechod bychan yw hwn, iti dy rwygo dy hun oddiwrth gorph Christ? Er bod dyfroedd lle­drad yn felus yr awr hon, a bara cudd yn beraidd, gwybydd a gwél mai drwg a chwerw fydd yn y di­wedd, iti dy fwrw dy hun allan o eglwys y Duw byw, colofn a sylfaen y gwirionedd.

Y mae'r ymranniad hwn yn rhy debyg i ymranniad yr hen Ddonatisti­aid gynt, y rhai a ymneullduent o­ddiwrth holl eglwys Dduw, ac a hae­rent mae eu plaid ddirmygus hwynt oedd unig eglwys Dduw, ac ir diben hynny yr oeddent yn ail fedyddio * Vid. Opt. ad Parme­nion. lib. IV. pawb a ddeuei attynt, nid o herwydd eu bod wedi eu bedyddio yn blant, ond o herwydd eu bod wedi eu be­dyddio gan bechaduriaid, fel yr oe­ddent hwy yn cyfrif pawb oedd or jawn ffydd.

Ni bydd anfuddiol i ni ystyried barn y brif eglwys ynghylch ail fe­dyddio. Fel hyn y dywed Opta­tus.

[Page 184] Et quid vobis visum est, non post Opt. lib. V. P. 51. nos, sed post Trinitatem, baptisma gemi­nare? Pa ham yr ydych yn ail fedy­ddio, nid ar ein hól ni, ond ar ol y Drindod?

Quieunque à vobis se rebaptizari con­senserit, Opt. lib. V. p. 61. r [...]surget quidem, sed nudus, quia à Nuptiali veste à vobis se expoli­ari permisit. Pwy bynnag sydd yn cael ei ail fedyddio gennych chwi, efe a ad­gyfyd yn ddiau, eithr yn noeth, o her­wydd iddo adel i chwi ei ddiosci, ai yspeilio o'i wisc briodas.

Y mae Austin yn dywedyd, Reve­ra Ad Eleusi­um—ep. 163. enim fieri potest, ut sceleratior sit re­baptizator totius hominis, quam solius Corporis interemptor. Y mae'n bossibl y gall yr hwn sydd yn ail fedyddio'r holl ddyn, fod yn waeth na'r hwn a laddo'r Corph yn unig.

Drachefn, Rebaptizare hæreticum Ad Maxi­mum, ep. 203. hominem omnino peccatum est; rebapti­zare autem Catholicum, scelus est im­manissimum. Pechod ydyw ail fedyddio haeretic, eithr ail fedyddio Catholic, neu un yn undeb yr Eglwys gyffredinol, drygioni erchyll ydyw Aug. de u­nico baptis. cap. 13..

Os yw neb yn barnu'r geiriau hyn yn eiriau caled, ystyrient mae geiri­au [Page 185] Austin ydynt, ac nid fyngeiriau i; yr ydwyf yn ei gosod i lawr i ddan­gos barn yr hen eglwys ynghylch ail fedyddio.

8. Y. maent yn euog o bechod mawr trwy roddi tramgwydd i lawer a fedyddiwyd yn blant, gan eu temptio i dybied nad ydynt tan addu­nedau i Dduw, ac nad yw eu bedydd yn eu rhwymo i fuchedd newydd. Os bydd i bobl i barnu eu hunain yn rhŷdd oddiwrth rwymedigaeth eu be­dydd, oh pa mor noeth ydynt i bro­fedigaethau Satan! y maent etto i ddewis eu harglwydd, ac oh mor an­hawdd iw perswadio'r cyfryw i gym­meryd jau Christ arnynt. Y mae'n hawsach plannu'r Efengyl ymhlith rhai sydd tan addunedau i Dduw nac ymhlith eraill; am hynny plannwyd yr Efengyl yn gyntaf ymhlith yr Idde­won, ac ymhlith y rhai or Cenhed­loedd oedd tan addunedau ir gwir Dduw, megis yr Eunuch, a Chorneli­us, a Lydia, ac amryw eraill.

Y rhai sydd yn rhoddi tramgwydd yn enwedigol i bobl jevaingc, gan eu perswadio nad yw eu bedydd yn eu rhwymo, a ddylent ystyried eu bod [Page 186] yn achlusur o'u dinistr hwynt. Ni a ddylem fod yn ddiachos tramgwydd i'r 1 Cor. 10. 22. Iddewon, ac i'r Cenhedloedd hefyd, ac i eglwys Dduw.

9. Y mae bedyddio trwy drochi'r holl gorph mewn dwfr oer yn y gw­ledydd oerion hyn▪ yn dorriad or chwe­ched gorchymmyn, Na ladd. Canys y mae'n siccr na all llawer o gyrph ty­ner afiachus ddioddef eu trochi mewn dwfr oer yn amser gayaf heb berigl o'i bywyd, yn enwedigol pan byddo hi yn rhew ac yn eira. Nid oes i ni demptio'r Arglwydd, gan dybied y bydd iddo ef wneuthur gwrthiau beu­nyddiol i gadw ein bywyd ni. Y mae efe yn arferol yn gweithio trwy foddion gosodedic. Yn y Cyfryw a­chos a hwn y mae Mr. Cradock yn Gosp. lib. p. 108. barnu y dylei'r Penswyddog rwystro trochi pobl er niweid iw ddeiliaid.

Gwrthdd. Hwy a allant aros hyd yr haf.

Att. Dangoswch ryw scrythur am Act. 2. 39, 41. & 8. 38. & 10. 48. & 16. 14, 15, 33. hynny. Y mae rheol a siampl yr ys­grythur yn y gwrthwyneb yn gor­chymmyn bedyddio rhai cyn gynted ac y gwneur hwynt yn ddiscyblion.

10. Y mae'r ffurf hon o fedydd [Page 187] trwy drochi pobl yn noeth, neu yn agos i noeth yn dorriad or seithfed gorchymmyn, Na wna odineb. Y Mat. 5. 28. mae'r gorchymmyn hwn yn gwrafun nid yn unig y weithred o odineb, ond pob achlysur, ac annogiad i hynny. Y mae pob gweithred aflednais ac an­foesol yn radd o odineb. Y mae ca­lon dyn yn dwyllodrus, ac yn ddrwg Jer. 17. 9. 2 Sam. 11. 2. diobaith, am hynny y dylid goche­lyd pob achlysur o bechod. Syrthiodd Dafydd i odineb trwy ganfod Bath­sheba yn ymolchi.

Fel hyn y gwelwn ni na fynnei Duw i bobl fod yn noeth yn y gyn­nulleidfa, Exod. 20. 26. & 28. 42. neu yn hanner noeth, Ca­nys nid oes dim llawer o wahaniaeth rhwng y ddau.

Eithr y rhai sy yn ail fedyddio trwy drochi pobl yn gyhoeddus, sy'n diosg y rhan fwya oi dillad. Y mae'r bedyddiwr ar hwn, neu'r hon a fe­dyddier yn agos i noeth: Yr hyn a all fod yn brofedigaeth i'r neb a fedy­ddier, ac ir rhai a fyddo yn edrych; ac os ni chraffa'r brofedigaeth ar y gweinidog, yr hwn sydd wedi am­gylchu â chig a gwaed megis eraill, y mae'r cyfryw ymddygiad o flaen [Page 188] cynnulleidfa gymmyscedig yn dyfod âg ef tan wradwydd, ac yn gwneu­thur addoliad Duw yn ddirmygus.

Eithr os rhaid trochi yr holl gorph mewn dwfr, fel y maent hwy yn dy­wedyd y rhaid, pa reol sydd ganthynt allan or scrythur i fedyddio'r dillad gydâ'r corph? Mae'r ychydic ddillad sydd am danynt yn cael eu trochi yn y dwfr cyn trochi'r Corph, felly ac y maent yn gyntaf yn bedyddio'r di­llad, a thrwy'r dillad yn bedyddio'r Corph. Y rhai a ddywedant mae hon yw'r unig ffordd o fedyddio, a ddylent ddangos scrythur eglur am dani.

Felly y gallwn weled pa ddrwg sydd yn yr arferiad hon o ail­fedyddio mewn oedran y rhai a fedyddiwyd eusus yn blant. Oh na bae Duw yn deffroi cydwybodau pobl'i fod yn deimladwy or pechodau hyn! Os wyti wedi gwadu dy fedydd cyntaf, Cofia o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gw­na y gweithredoedd cyntaf. Adnewydda dy addunedau cyntaf, ac ymwrthod âth ail fedydd, yr hwn sydd yn dy wneuthur yn euog o gnifer o bechodau newydd, yn lle dy olchi oddiwrth dy ben bechodau.

PEN. XVIII.
Yn dangos dyledswyddau rhieni tuag at eu plant, mewn perthynas iw be­dydd hwynt.

PE bae rhieni yn gwneuthur eu dyledswydd tuag at eu plant, ac yn dangos iddynt pa fodd i jawn ddefnyddio eu bedydd, fe fyddei mwy o dduwioldeb a sobreiddrwydd yn y wlad, ac anaml y fyddei y rhai a wa­dent eu bedydd. Gedwch imi ymres­symu ychydic â chwi, y rhai ydych yn rieni i blant.

Onid oes gan eich plant chwi en­eidiau gwerthfawr, iw cadw neu iw colli yn dragywydd? Onid yw'r en­eidiau hyn yn rhy werthfawr iw co­lli? pe bae eich plant chwi yn colli un oi haelodau neu synhwyrau, oni flinei hynny eich meddyliau chwi, ac oni ddylei colledigaeth eu heneidiau hwynt i'ch blino chwi? yr ydych yn ofalus i gasclu cyfoeth iddynt, och! Pa lesád i ddŷn os ynnill ef yr holl fŷd, a cholli ei enaid ei hun? neu pa [Page 190] beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei Mat. 16. 26. enaid. Onid peth ofnadwy ydyw i rieni feithrin plant ir lleiddiad, i ma­gu Hos. 9. 13. hwynt i fod yn etifeddion uffern? Os yw'r rhieni hynny yn greulon sydd yn lladd eu plant, ac yn dan­fon eu cyrph ir bedd, oh mor greu­lon yw'r rhai sy'n lladd eu heneidiau hwynt, ac yn eu danfon i uffern! Fe fydd llawer o blant yn melldithio eu rhieni annuwiol yn nhán uffern i dra­gywyddoldeb am esgeuluso eu henei­diau hwynt, a'u llygru drwy eu si­amplau drygionus. Oh! na fyddwch yn foddion o farwolaeth dragywy­ddawl ir rhai a dderbyniodd fywyd amserol oddiwrthych chwi.

I. Edrychwch at eich hawl eich hunain ynghyfammod Duw. Os nid yw Duw yn Dduw i chwi nid ydyw yn Dduw i'ch had. Cymmerwch Dduw mewn gwirionedd i fod yn Dduw i chwi, rhoddwch eich hu­nain iddo i fod yn bobl iddo. Gly­nwch Jer. 50. 5. wrth yr Arglwydd drwy gyfam­mod tragywyddawl, yr hwn nid angho­fir. Er bod proffes gredadwy yn rho­ddi hawl ger bron dynion, mae'n rhaid gwirionedd oddi mewn i roddi hawl gerbron Duw.

[Page 191]II. Pan aner hwynt ymbaratowch iw cyflwyno ai cyssegru i'r Arglwydd trwy'r ordinhád sanctaidd o fedydd. Mae llawer yn bedyddio eu plant megis matter o Ceremoni a chws­twm yn unig, heb edrych at yr Ar­glwyd i baratoi i gyfarfod ai Duw. Gweithred bwysfawr iw rhoddi ein plant mewn Cyfammod i Dduw fel y dylem. Ni a ddylen fod mor ddi­fri ynghylch eu bedydd hwynt a phe baem ni i gael ein bedyddio ein hu­nain. Yr hyn y ddylei'r plentyn i wneuthur pe bae o oedran a synwyr sydd raid i chwi i wneuthur trosto ef. Megis y mae mammau, pan byddo'r plant yn glaf, yn cymmeryd y physygwriaeth eu hunain a ddyla­sei'r plentyn ei gymmeryd, fel y by­ddo i'r plentyn gael rhinwedd y fe­ddyginiaeth yn llaeth ei fam. Felly gwnewch chwithau yr hyn a ddyla­sei'r plentyn ei wneuthur, pe buasei mewn oedran cyn ei fedyddio.

I. Ymddarostyngwch ger bron yr Arglwydd am lygredigaeth gwrei­ddiol eich plentyn, am euogrwydd ei bechod, a'r digofaint sydd ddyledus am dano. Mae i ni achos mawr i [Page 192] alaru fod ein plant yn derbyn pechod a thrueni gyda'r natur ddynol oddi­wrthym ni. Pechod gwreiddiol sydd debyg i ryw fath o glefydau gwenwy­nig sy'n myned ó Dad i blentyn, y 2 Bren. 5. 27. Cyfryw oedd y gwahanglwyf gynt. Pe bae'r fath glefyd a hwn yn ymddan­gos ar dy blentyn, oni byddei yn a­chos o alar iti? pa faint mwy y dylit alaru am ei wahanglwyf ysprydol ef.

2. Bendithiwch yr Arglwydd am y Cyfammod Gras, ac am Ghrist Cy­fryngwr y Cyfammod, ac am fedydd sél y Cyfammod. Ai peth bychan yn dy olwg di yw helaethrwydd y Cy­fammod, fod y Duw byw yn ymrwy­mo iti, ac ith hád pechadurus? Ai peth bychan ydyw iddo ef dosturio wrthynt pan oeddent yn ymdrybaeddu Ezech. 16. 5, 6▪ 8, 9. yn eu gwaed, iddo eu golchi â dwfr, je golchi eu gwaed oddiwrthynt, a my­ned mewn Cyfammod â hwynt.

3. Gosodwch amser ar neulldu i daerweddio ar yr Arglwydd, i faddeu pechod eich plentyn, i sancteiddlo ei natur, ac i fendithio'r Ordinhád o fe­dydd iddo ef. Gwelwch pa fodd y mae Dafydd yn pledio addewidion 2 Sam. 7. 25. Duw iw deulu. Ac yn awr, o Ar­glwydd [Page 193] Dduw, cwplâ byth y gair a leferaist am dy wâs, ac am ei dŷ ef, a gwna megis y dywedaist.

4. Pan ydyw'r gweinidog yn be­dyddio dy blentyn bydded iti arferu ffydd ynghyfammod Duw trosot dy hun, a thros dy blentyn. Dyro dy hun ath blentyn iddo â'th holl galon, â'th holl enaid, ac â'th holl nerth. Cy­flwyna dy blentyn ir Arglwydd,

1. Ar frŷs. Nac oeda, fel y gw­naeth Moses i enwaedu ar ei blentyn, Exod. 4. 24 yr hyn a fu debyg i gostio ei fywyd iddo. Gwir yw, nid yw Duw yn ein rhwymo ni yr awrhon ir wyth­fed dydd, megis y rhwymodd ef yr Iddewon, etto ni ddylem ni oedi yn Vid. Cypr. [...] ad Fidum ep. 59. rhŷ hir.

2. Yn llawen, megis un sydd yn dyweddio ei blentyn âr Arglwyd Jesu Ghrist.

3. Yn gyhoeddus o flaen y gun­nulleidfa. Dywed gydâ Dafydd fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn Ps. 116. 14. awr yngwydd ei holl bobl ef. Bedydd a Swpper yr Arglwydd dwy sél y­dynt or un Cyfammod, fe ddylei'r naill fod mor gyhoeddus ar llall.

IV. Gwedi i chwi eu Cyflwyno [Page 194] ai cyssegru ir Arglwydd, gwnewch gydwybod o'r dyledswyddau a gan­lyn.

1. Parhewch mewn gweddi dro­stynt. Trwy ffydd a gweddi dwg hwynt at Ghrist bob dydd fel y byddo iddo eu bendithio.

Gweddia drostynt fel y gweddiodd Abraham dros Ishmael, O na byddei fyw Ishmael ger dy fron di. Offrym­modd Gen. 17. 18. Job 1. 5. Job boeth-offrymmau dros ei blant, yn ol eu rhifedi, offrymma di­thau weddiau ac erfyniau trwy lefain cryf a dagrau at yr hwn sydd abl iw hachub oddiwrth farwolaeth.

Gweddia drostynt megis y Tad hwnnw yn yr Efengyl, Arglwydd trugarha wrth fy mab. Neu fel y Mat. 17. 15 wraig o Ganaan, yr hon ni chym­merei neccád, nes i Ghrist ddywedyd wrthi, ha wraig, mawr yw dy ffydd, Mat. 25 28 bydded iti fel yr wyt yn ewyllysio.

2. Cyn gynted ac y delont i ddim mesur o ddealltwriaeth dyscwch i­ddynt wybodaeth yr Arglwydd. Fel hyn y dywed yr Apostl, maethwch hwynt yn addysc ac athrawiaeth yr Ar­glwydd. Eph. 6. 4. Yr un modd y mae'r gwr doeth yn cyngori, hyfforddia blentyn [Page 195] ymhen ei ffordd, a phan heneiddio nid Dihar. 22. 6. 2 Tim. 3. 15. ymedu â hi. Yr oedd Timothy yn ad­nabod yr ysgrythurau er yn blentyn.

Dyscwch ich plant adnabod, y Duw ai Creawdd hwynt, ac i ba ddiben y gwnaeth ef hwynt—i adnabod y Cyflwr truenus y maent yntho trwy natur, ar ffordd o wa­redigaeth trwy'r Arglwydd Jesu Ghrist, a pha beth y mae ef yn ei o­fyn ganthynt fel y caffont jechydw­riaeth trwyddo ef, sef iddynt adne­wyddu addunedau eu bedydd, gan e­tifarhau am eu pechodau, a chredu yn yr Arglwydd Jesu, ai dderbyn ef yn Arglwydd iddynt i lywodraethu arnynt.

3. Rhoddwch siamplau o fuchedd sanctaidd iddynt. Mae siamplau yn gweithio mwy arnynt na chyngori­on. Y mae yn fwy naturiol iddynt ganlyn yr hyn a welont, na'r hyn a glywont. Os yw eich buchedd chwi yn ddrwg, ni wneyff eich athrawia­eth dda ddim llesád iddynt. Ni chre­dant hwy byth fod perigl ar y ffordd y gwelont hwy chwi yn rhodio yn ddiofn ynthi. Mae'n naturiol i blant ganlyn eu rhieni, yn enwedigol yn yr [Page 196] hyn sy ddrwg. Am hynny na thri­ged Job 11. 14. Ps. 101. 2. anwiredd yn eich lluestai, rhodiwch mewn perffeithrwydd eich calon o fewn eich tŷ, fel y byddo i'ch plant weled eich gweithredoedd da, a gogoneddu eich tad yr hwn sydd yn y nefoedd.

4. Byddwch ofalus i gosod hwynt mewn teuluoedd duwiol pan elont allan o'ch teulu chwi. Beth a dal eich holl ofal chwi am danynt tra font gydâ chwi, o bydd i chwi we­di'r cwbl eu rhwymo hwynt ymmagl diafol, trwy eu gosod hwynt i fyw mewn teuluoedd diofn Duw? Os y­dych yn ei danfon i wasanaeth neu i brentisiaeth, dewiswch feistri cydwy­bodol iddynt, a gymmero ofal am eu eneidiau, yn gystal ac am eu cyrph. Os ydych i rhoddi mewn priodas, priodwch hwynt yn yr Arglwydd. [...] 39. [...] Cor. 6. 14. Na jauwch monynt yn anghymharus gydâ'r rhai digred. Llygrwyd yr hén fyd gan briodaseu anghymharus. Pan ymgyfathrachodd meibion Duw â mer­ched dynion, llanwyd y ddaiar á phe­chod, Gen. 6. a difethwyd hi â dwfr y diluw.

Fel hyn y gwelwch pa fath yw dy­ledswyddau rhieni tuac at eu plant, os gwnewch hwynt yn gydwybodol [Page 197] chwi a ellwch ddisgwyl bendith yr Arglwydd ar eich plant, i wneuthur eu bedydd yn effeithiawl iddynt.

PEN. XIX.
Am ddyledswyddau y plant a fedyddi­wyd.

I. BEndithiwch yr Arglwydd am ragorfreintiau eich bedydd. Y mae Duw wedi eich cymmeryd iw Gyfammod gydâ eich rhieni, Efe a'ch rhagflaenodd chwi â bendithion da­ioni, ac a'ch gwnaeth yn agos, y rhai oeddych trwy natur ymhell, nid ydych ohwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodi­aid, [...]. 2. [...]9. ond yn gyd-ddinasyddion ar sainct, ac o deulu Dduw.

1. Yr ydych chwi tan y rhaglunia­eth rasol honno sydd yn gwilio tros eglwys Dduw. Canys yr ydych yn aelodau o honi. Isa. 27. 2, 3. Ps. 125. 2. Zech. 2. 5. Y mae rhagluniaeth Duw yn fwy neullduol tuac at ei eglwys na thuac at eraill sydd oddi allan. Yr ydych chwi tan y rhagluniaeth hon, ac nid tan y rhagluniaeth gyffredinol [Page 198] honno sydd yn perthyn ir byd annu­wiol.

2. Y mae i chwi ran yn y gweddi­au beunyddiol a osodir i fynu dros eglwys Dduw. Ps. 72. 15. & 51. 18. Gal. 6. 16. Ps. 122. 6, 7— & 137. 5, 6. Pe buasech heb eich bedyddio, chwi a fuasech oddi allan, ac felly heb ddim rhan yn y gweddiau hynny; eithr o herwydd eich bod trwy fe­dydd wedi eich derbyn yn aelodau o'r Eglwys weledig, y mae miloedd o weddiau yn cael eu tywallt at yr Ar­glwydd drosoch chwi beunydd: a phwy a all draethu pa lesád a dder­byniasoch chwi, neu a ellwch chwi dderbyn trwyddynt? Er nad oes try­sor o haeddedigaethau, y mae trysor o weddiau yn eglwys Dduw.

3. Fel yr ydych chwi yn aelodau o eglwys Dduw y mae i chwi hawl neullduol ir Addewidion. Etifeddia­eth yr eglwys yw'r Addewidion, y maent yn perthyn iddi hi ac nid i e­raill. Fel yr oedd yr Addewidion gynt yn perthyn i eglwys weledig yr Iddewon. Felly y maent yn eiddo'r eg­lwys Rhuf. 9. 4. Gal. 4. 28. weledig o'r Cenhedloedd. Yn awr er nad yw holl aelodau'r eglwys [Page 199] weledig yn gyfraenogion o ras yr A­ddewidion, Heb. 4. 1. yr hwn a roddir yn unig ir Etholedigion, etto y mae holl ae­lodau yr Eglwys weledig a mwy o hawl ir gras hwn, nac eraill sydd o­ddi allan, eu bai eu hunain ydyw os gwrthodant ef.

II. Ceisiwch ddealltwriaeth eglur o rwymedigaeth ac adduned eich be­dydd. Dyscwch gan eich rhieni, a Chan weinidogion i adnabod arwyddocád a diben eich bedydd. Yr ydych wedi eich rhoddi i Ghrist, ac nid y­dych yn eiddo chwi eich hunain. Yr ydych wedi ymrwymo i ymwrthod â Diafol ac ai holl weithredoedd, i ymwrthod â rhodres a gorwagedd y byd drwg presennol, i ymwrthod â gwiniau ac a chwantau llygredic y Cnawd: Yr ydych wedi ymrwymo i gymmeryd Duw'r Tad i fod yn Dduw, ac yn ddiben eithaf i chwi, i gymmeryd Duw'r Mab i fod yn Ja­chawdur ac yn Arglwydd i chwi, a Duw yr yspryd glan i fod yn sancte­iddiwr, yn Athro ac yn Ddiddanudd i chwi. Yr ydych wedi cymmeryd ei Ogonlant ef i fod yn ddiben i chwi, ei air ef i fod yn rheol i chwi, ai bobl [Page 200] ef i fod yn gyfeillion i chwi ymhob cyflwr, i ddioddef adfyd yn hytrach gydâ hwynt, na chael mwyniant pe­chod dros amser.

III. Cyn gynted ac y deloch i oedrân a dealltwriaeth adnewyddwch eich Cyfammod â Duw. Derbyni­odd yr Arglwydd yn ei gyfammod grasol ffydd eich rhieni drosoch chwi yn eich mebyd, eithr yn awr yr y­dych mewn oedran, oni fydd i chwi eich hunain gredu, ac edifarhau, a chymmeryd Duw i fod yn Dduw i chwi, ni wneyff eich bedydd lesád mwyach. Rhoddwyd chwi gan eich rhieni ir Arglwydd, oh rhoddwch eich hunain iddo. Dywedwch gydâ merch Jephtha, Barn. 11. 36. Fy nhad, os agoraist dy enau wrth yr Ar­glwydd, gwna a mi yn ol yr hyn a aeth allan o'th enau. Mi a gyflawnaf adduned fy rhieni. Ni thyrr Duw ei Gyfammod â Chwi, oddi eithr i chwi dorri yn gyntaf âg ef. Cymmer gyngor y gwr doeth. Nac ymado Dihar. 27. 10. â'th gydymaith dy hun, a chydymaith dy Dad: Duw yw'r Cydymmaith, ar Cyfaill goreu.

Na oeda'r ddyledswydd bwysfawr [Page 201] hon. Cofia dy Greawdr yn nyddiau Preg. 12. 1. dy jeuengctid, Ac efe ath gofia di yn nyddiau dy henaint, sef y dyddiau blin, yn y rhai y dywedi, nid oes i mi ddim diddanwch ynthynt. Pan ballo pob diddanwch bydol, efe fydd Duw dy jeuengctid yn Ddiddanudd tragy­wyddawl iti.

IV. Byddwch fyw yn Addas o gy­fammod eich bedydd. Na fydded eich Ps. 78. 7. 1 Cor. 6. 20 calon yn anffyddlon yn ei gyfammod ef. Nid ydych eiddoch eich hunain, gan hyn­ny gogoneddwch Dduw yn eich corph, ac yn eich yspryd, y rhai sydd eiddo Duw. Golchwyd chwi yn eich be­dydd, na ddiwynwch monoch eich hunain drachefn. Glynwch wrth yr Arglwydd, ac nac ymadewch â'ch ca­riad cyntaf. Rhodiwch yn wiliadw­rus, ac yn ddiesceulus, gan brynu'r amser.

Ni wneuff ein bedydd lesád i ni, o­ni ymattebwn gydwybod dda tuac at Dduw.

V. Na roddwch le i brofedigaethau i wadu eich bedydd cyntaf. Os bydd i neb i'ch temptio i hynny, gofyn­nwch iddynt y Cwestiwnau sy'n can­lyn.

[Page 202]1. Gofynnwch iddynt, a allant hwy brofi drwy'r scrythur i Dduw fwrw plant y ffyddloniaid allan or Cyfam­mod gras. Dangosen scrythur eglur am hyn. Os ni fwrwyd hwy allan or Cyfammod, y mae bedydd, sel y Cyfammod yn perthyn iddynt.

2. Gofynnwch iddynt, a allant hwy ddangos or scrythur, fod Christ wedi dyfod ir byd i wneuthur cy­flwr plant ei bobl yn waeth nac yr oedd cyn ei ddyfodiad. Os collasont ragorfreintiau eu mebyd y maent yn waeth eu cyflwr.

3. Onid plant bychain oedd y mer­thyron cyntaf a gollodd eu gwaed yn achos Christ? Os anrhydeddodd Mat. 2. 16. Duw hwynt i fod yn brif-dystion dros Christ, gan gael eu bedyddio â gwaed, a bydd iddo neccau iddynt fedydd dwfr?

4. Os yw bedydd plant yn ddrwg, See Perk. of Witch­craft, Vol. III. p. 640. And Ma­ther, and Baxter of Witchcraft. pa ham y mae'r Cythrael yn temptio Witches neu ddewiniaid i wadu'r be­dydd hwnnw? a beth yw'r achos na all Satan gael dim awdurdod arnynt nes iddynt ymwrthod âi bedydd, ac ar ol hynny nad oes ganthynt ddim nerth i wrthwynebu ef mwyach? [Page 203] Fel yr addefodd llawer o honynt.

5. Gofynnwch iddynt, a roddant siccrwydd i chwi y byddwch yn Grist­nogion gwell trwy dderbyn eu be­dydd hwynt. Os ni byddwch well oi blegid, beth a dal ef? Os dywe­dant y byddwch well, Attebwch, eich bod yn gweled amryw o honynt hwy yn mynd yn waeth ar ol eu hail­fedyddio.

1. Er eu bod yn aelodau o gyn­nulleidfa yn rhodio yn ol rheol yr Efengyl cyn iddynt gael eu hail fe­dyddio, y maent ar ol hynny yn tor­ri undeb y Corph yr oeddent yn ae­lodau o honaw, ac yn eu didoli eu hunain. Bedydd ordinhad o undeb ydyw, eithr all fedyddio sydd yn tor­ri undeb eglwysi.

2. Cyn iddynt gael eu hail fedy­ddio yr oeddent yn fwy Cariadus yn eu barn, eithr ar ol hynny y maent yn arferol o farn gaeth a chyfyng, yn barnu yn galed ac yn anghariadus am y rhai nid ydynt oi ffordd hwynt. Cariad yw sylwedd y Grefydd Grist­nogol. Ac am hynny nid o Dduw 1 Cor. 13. 1, 2, 3. y mae'r Opiniwnau hynny sydd yn diffoddi Cariad. Nid ydwyf yn dy­wedyd [Page 204] am bawb o honynt fod eu ca­riad at y brodyr yn oeri pan yr ail­fedyddier hwynt, eithr am y rhan fwyaf; y mae rhinwedd gras Duw mewn rhai o honynt yn gorchfygu rhinwedd yr Opiniwn hwn, ac yn eu cadw rhag syrthio i'r un brofedigaeth o anghariad ac eraill.

3. Y mae eraill wedi eu hail-fe­dyddio yn cyfeiliorni ymhellach, ac yn syrthio o'r naill amryfusedd ir llall, Y mae rhai yn gosod i fynu ewyllys rhydd, eraill yn gwadu'r Sabbath Christnogol, eraill yn erbyn Catecheisio plant, &c.

Ceisiwch attebion eglur ganthynt ir Cwestiwnau hyn, a gwnewch i­ddynt brofi'r Cwbl trwy'r scrythur lan. Duw'r heddwch a'ch sefydlo chwi yn y gwirionedd presennol, fel y dygoch ffrwythau addas o'ch bedydd.

DIWEDD

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.