Ymddiffynniad rhag pla o Schism, neu swyn gyfaredd yn erbyn neullduaethau yr amseroedd a dynnwyd allan o ragscrifennau yr Apostolion gan mwyaf allan o waith St. Paul, a St. Jud.
Ac yr wyf yn attolwg i chwi frodyr, graffu ar y rhai syn peri angydfod, a rhwystrau, yr erbyn yr athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chilio oddiwrthynt.
Canys y rhai sy gyfriw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Jesu Grist: eithr eu bol eu hunain, a thrwy ymadrodd teg a gweniaith yn twyllo calonnau y rhai diddrwg.
Y rhai hyn yw y rhai sy n eu didoli eu hunain, yn anianol heb fod yr yspryd ganddynt.
OS St. Paul gan hynny a St. Jud a fyddant Farnwyr Didolwyr a nodir am wyr a wasanaetha eu bol o flaen Crist, o dafodan gwell a theceach nai calonnau, a'mwy o gig drwg ynddynt nag o yspryd da: Wedi ffurfio ynddynt [Page 2] enaid anifail yn hytrach nag enaid Cristion. Etto y mae St. Paul yn dyst a Duw ei hun yn farnwr, nyd ydyw pob vn am ddidolant (neu am neullduant) yn ddidolwr allan o law; Canys y mae Duw yr hwn a wahardd bob pechod, yn gorchymyn math ar ddidoliad— Ymddidolwch medd yr Arglwydd [...]. 2 Cor. 6.17.
Mal gan hynny na wneler cam a neb, ond cael or talcen euog ei Losci, ar dieuog yn ddiangol oddiwrth y rôd hwnnw o wradwydd, rhaid i ni roi rhagoriaeth yn orau yngoleuni Gair yr holl alluog Dduw. Dad. 18.4. Deuwch allan o honi fy mhobl fel na byddoch gydgyfrannogion oi phechodau ac na dderbynioch oi phlauau hi. Dyma lef or nefoedd, wrth oleuni yr hon y gwelwn, os rhyw le nen Ecclwys a fydd yn Babilon (bydded yn naturiol neu yn ddirgel, yn Caldea neu yn yr Ital, pa vn neu ple bynnac y bo) hynny yw os cynnydda yn gorph mor llygredig, a chwedi ei chlwyfo cyn belled a chamwedd at a drygioni, mal na allom heb bechod a phla ein Corpholiaethu an cymuno ag yhi, allan rhaid i ni lyned y mae Duw yn ein galw i ddyfod allan. Ac yno heb perigl yn y byd, nag o anufudd-dod vchel ir holl alluog Dduw, na dinistr i ni ein hunain y mae yn rhaid symudo. Jer. 50.8. Ewch allan ciliwch allan, (megis am eich hoedloedd) ie yr hyn sydd (nen a ddylai fod yn fwy) [...]i fynnwn ni ein torri ymaith yn ei hanwiredd hi, rhaid i ni frysio ymaith mal y carom ein eneidau.
[Page 3]Y nôd cyffredin o Schism, y mae y rhai o Rufain yn ei roddi i ni, yr Adgyweiriedig (am symud oddiwrthynt hwy) nid yw yn argraffu mwy, ar ben doeth, o gywilydd, nag yw hauarn oer yn briwo. Nes y dangosont (trwy eglurwch gwell nai eu hun eu hun) na ymadawsont hwy oddi wrth y purdeb dechreuol ar gosodiad iachus ar cyflwr o Ecclwys Gristnogawl, an bod ninnau heb ddychwelyd iddi. Ac na fynnem ni vddynt nwy fyned yn ol gyd a ni, ac na chynnwyswn vddynt hwy ddyfod lle yr aethom ninnau: A p [...]a bryd bynnac y gosodant droed i ddychwelyd ir hên burdeb hwnnw, na byddwn ni allan o law yn barod i gyfarfod ac i gysylltu dwylaw a gliniau gyd ac hwynt hwy. Ac ar ddan, dwylaw, a chalonnau, vno eneidiau a chyrph ag hwynt, yn yr vnrhiw Ecclwys a chyd a hwynt, a phawb oll mewn cymun gyd ag hwynt.
A phrofant. Na ymddarostyngwn ni ir vnig eli a meddyginiaeth i Schism: Cymanfa rydd Gyffredin, Yn ol amser y fren, mari y Papistiaid yn hir a ddeuai in hecclwys ni nes i (pius 5. ai darw eu cornio allan) nid mal Cymanfa Trent. nid oedd na chyffrediu na didueddol. pa bryd bynnac y galwer gan wyr dihawl a didueddol i vnrhyw blaid, i fyned rhagddynt yn ol rheolau Cristhogawl, ac eglurwch i wrando ac i ddibennu yr ymrafaelion or ddeuru, ac i ddatcan cyn belled yr aethont ar gefeilorn, ac ydylent ddychwelyd, ac yn ol hynny iw trefnu, ai heddychu.
Wrth hyn y Barna Duw ar Byd, pwy fwyaf a gâr ac a wna Schism: hwynt hwy o fewn, ai nyni allan o Ecclwys Rufain.
[Page 4]Ac yma galwer yr hêu Dadau a grawndawer, am Dystion, ni osododd neb allan natur ac euogrwydd Schism mewn arwyddion cywir ach ac hynottach. Hwynt hwy ai gwahanredant oddiwrth Heresi mal hyn: Heresi yw ymadawiad a gwirioned Ecclwysawl, hyd at dorriad y ffydd Gatholic, eithr Schism yw torriad yr vndeb Ecclwysawl, ac ymado a Chariad Christnogawl felly y mae St. Jerom yn ei roi allan: Heresi a faentimia opiniwn gwrthnysig yn yr Ecclwys, eithr Schism a wna neullduaeth oddiwrthi. Ac felly y mae St. Awstin yn rhoddi y rhagoriaeth; Heresi sydd yn blaid or rheini a ddylynant lawer o ffyrdd, eithr Schism neullduaeth or rheini ydynt yn myned ar ol vn ffordd. Ac am hynny nid amriw ffydd, ond gwahanu Cymun gyd ag ef, sydd Schism. Pa vn bynnac ai gyda, ai heb Heresi, (mal y mae Schism yn fynych, yn gymar yn blentyn yn fam, a llawer amser yn ddieithr iddi) y maent bob amser yn rhoi euogrwydd, Schism, ir cyfriw dorriad ar gariad. Gan wneuthur yr vndeb hwnnw yn amlygyn ac yn fatter ohoni, ar torriad yma yn lluniol ffurf.
Mal hyn y cafas St. Cyprian ei ryddhau oddiwrth Schism trwy farn y Gymanfa o Carthago (er na chafas ei farnu yn ddieuog o feiau eraill) am ei fod ef ei hun yn cadw Cymun gyd ar Ecclwys Gatholic, ac (er nad oeddynt oi feddwl ef) heb gadw neb oddiwrthi. Eithr yn yr ail Gymanfa o Constantinobl, fe ai bwriwyd hwy yn euog, (trwy leferydd ac ewyllys Cyffredin 150 or Tadau) yr [Page 5] rhai ni chadwasant Gymun ar Ecclwys, er eu bod yn ddifai ond hynny. Yr eglurwch oedd yr vnrhiw fath ac or blaen. Megis na wnaethont mo bob didoliad yn bechod, oddiwrth pa corph bynnac, felly ni wnaethant mo bob gwahaniad, yn Schism, oddwrth bob rhyw Ecclwys, pa fath bynnac, eithr an-nyledus ac anghyfion vn, oddiwrth oll, neu oddiwrth vnrhyw.
Os gan hynny neullduol Ecclwys (canys y gyffredin ni eill, a honno nid Ecclwys Rufain yw), os y hi, neu vnrhyw, o fod yn Gatholic a dry yn Heretic mewn ffydd, ac o vn sanctaidd, a ddaw yn Wrthun ei Addoliad, ei gadael hi nid yw Schism, oherwydd nid ymadawiad ond dychweliad ir lân Ecclwys Gatholic ydyw. Ac nid yw hyn wneuthur rhwygiad yn y corph, ond i ochel haint oddiwrth yr aelodau. Na, cyfundeb a chyd gyfranniad ar cyfriw Ecclwys, sydd fradwriaeth yn hytrach yn erbyn y pen, na chymun ar corph. Ac i ymwrthod ar cyfriw gefeillach, nid yw wneuthur, ond gwellhau, ac iachau torriad. Ac am hynny yn erbyn achwyn Rhufain am roi Schism yn ein herbyn ni am adael eu cynylleidfaoedd hwynt, ein Hatteb a ddichon fod, mal yn erbyn yr Arianiaid nid euog. Megis y tynnodd yr Escob ei achos o ddidoliad a rhagoriaeth oddi wrth y Donatistiaid. Nyni gan gadw r Ecclwys (trwy ras Duw) a barhawn ym mherffaiddlan ffydd a chymun y Tadau: ac ni ddidolwn oddiwrth yr vn, ond yr rhai ni wnant felly.
[Page 6]Na, ein ymadiad ni a haeddai fawl am wneuthur yn dda. Os hwy a ddanodant i ni ballu on vfudd-dod oddiwrth y gadair Apostolaidd, yn yr hon y maent yn profi ac yn dadleu fod rhill wastadol o Babau cyn lynol i St. Peter. Scries. St. Hierom ac Ireneus a gaiff roi ail atteb trosom ni. Nid yw yr Ecclwys yn gynnwysedig mewn muriau neu waliau, onid mewn seiliau o ffydd. Ac am hynny rhaid i ni vfudd-hau ir offeiriadau hynny, yr rhai gyd ar Escobion a ddaethout ar ol, a dderbyniasant ddawn y gwirionedd. Onide nid oes dim pechod neu Schism yn ein ymadawiad ni oddiwrthynt hwy, ond yn eu gwaith hwy yn gadael seiliau y ffydd.
Ac oherwydd ein bod ni o Ecclwys mor ddedwyddol, a fynwyr-ddoeth wedi ein glanhau an iachau or llygredigaethau hynny o Rufain, Gwelwch Act. & Monu. Hani. 8. (mal yr ydym yn sefyll wedi ein gosod ar ein hên sail an llawr) Am hynny y neullduolaethau presennol, ar gwahaniadau ynddi ydynt yn eglur wrthun a drygionus. Ac y maent hwy yn fyddar ac yn ddall ysprydol, nad ydynt yn clywed ac yn gweled llef a golenni or nef yn galw arnynt oddiwrth y neullduaeth hynny, Rhyf. 16.17. Jud. 19. 2 The. 3.14. 2 Petr. 2. Jac. 3.16. ar. 4.1. 2 Joa. ad 10. ac yn dangos vddynt paham y dylent ddyfod ar y galwad hwnnw. Os llefain a thân Aposto laidd a ddichon wneuthur y llef honno ar goleuni. Dau ohonynt, ag vn fflam olau (megis o ddas eith yn ar fryn) ai dadcuddia hwynt am rai diffaeth drygionus: yr rhai a wnel ddidoliad, ac yn eu nodi, am y rhai dihiraf or bryntion.
[Page 7]Ac oll ag vn genau yn llefain allan arnynt, megis ar glwyf dŷ yr ysprydoedd, ac wrthym ni (mal y maent yn gyfriw) iw gochel hwynt. Ac oni fynnwn ni ein llosci an anrheithio, rhaid i ni wneuthur y ddau. Nodwch hwynt. Canys pechod mawr yw Schism. Nodwch hwynt. Nodwch yn gyntaf ac yno gochelwch hwynt. Felly y gnawn am eu mawr 1. Euogrwydd. ac. 2. Cospedigaeth. Os daliwn ni sulw yn dda. Y Pechod yw yn erbyn yr yspryd glân medd St. Ambros. Pechod yn ei erbyn ef, diammau yw, a thra-vchel oherwydd ei reswm ef: Canys pechodau eraill ydynt contra singulos sef yn erbyn rhai vnig, hwn contra vniversos sef: yn erbyn y cwbl oll. Felly yn gimaint ac yw cyffredinrhwydd yn fwy nag vn person, y mae Schism vwchlaw pechod arall. Ac yn gimaint ac y mae Sancteiddiol yn well na Dinasol gyffredinrhwydd, cym mhelled y mae hwn yn waeth na phechod yn erbyn Cymdeithas amserol. Hynny yw, cimaint ac yw y nefoedd vwchlaw r ddauar. Heddwch Duw o flaen hedd dyn. A chyflwr da ineneidiau o flaen in cyrph. Yr Ecclwys o flaen y byd. Ac y mae yn rhaid i hynny fod yn fawr anfeidrol. Canys os yw pris vn enaid vwchlaw gwerth y byd; yr Ecclwys (yr hon a gynnwys ynddi lawer mil o filoedd o eneidiau,) a ddylai gael ei phrisio yn ollawl vwchlaw myrdd o fydoedd. Eph. 4.3, 16. Col. 2.9. ar. 3.14. Ac y mae Schism yn taro at wir gorph yr Ecclwys: ie, yn gwahanu vndeb, yr hwn yw r yspryd, ac yn torri ymaith gariad yr hwn yw Charitatis Christianae vinculum. rhwymedigaeth y corph hwnnw.
[Page 8]Felly y mae yn gadael yr Aelodan yn rhydd eisiau rhwym o berffeithrwydd, ac yn gosod yr holl gorph yn friwedig i waedu. Gan wneuthur gwaeth o gorph dirgel Crist nag a wnaeth yr Iuddewon oi anianol, (Etto yr oedd ef yn rhoi ei gorph dirgel or blaen; canys er maint ei llid cythreulig i Grist, ni wnaethont ond archolli a briwo ei gorph, ni thorrwyd asgwrn ohono; y mae y rhain yn torri ac yn yssu yr Ecclwysydd oll yn ddarnau. Pechod or vchaf. Canys pa fodd y geill y llaw gyrraedd yn vwch, nai chyfodi ei hun ar vnwaith (nid yn erbyn aclod yr hyn a wnaeth rhai yn bechod difaddeu eithr) yn erbyn y corph gorau yn y byd yr Ecclwys. Ac yn erbyn (nid rhyw yspryd glân o ddyn ond) y gorau, yn anherfynol vwchlaw oll yn y byd, yr yspryd glan; yr hwn trwy y rhwym sanctaidd hwnnw a ddeil ynghyd, ac a fywhá yr Aelodau yn y corph hwnnw. Ac yn erbyn (nid llawer o Gristnogion yn vnig ond) Crist ei hunan, Act. 9.5. yr hwn a lywodraetha ac a fywha y corph hwnnw, ar Aelodau hynny, trwy yr yspryd glân. Noda ef gan hynny am y pechod or ryw mwyaf anwireddus.
Ac am hynny o Ddigwyddiad mor alarus. Oblegit yr Aelodau a Syrthiasant ymaith trwy Schism ydynt Golledig: (megis canghennau a dorrwyd ymaith oddiwrth y pren a grina ac a wywa) yn Farwol eisiau bywyd; oddiwrth yr yspryd glan, yr hwn a Fywhâ yr aelodau yn vnig yr rhai ydynt yn y corph. Yr rhai a gadwant i mewn a friwir herwydd y golled, ac a orweddant yn Wanhychlyd, am [Page 9] hynny megis y mae corph yn gloff, ac yn colli nerth lawer wrth golli llawer o waed ar dorriad rhai Aelodau. A holl gorph cyfan yr Ecclwys, a adewir yn wan trwy y Gwahaniad, yn barod i syrthio i ddinistr: y ffordd fawr i hynny ym mhobryw deulu neu Gyffredinwlad: Mar. 3.24. eithr yn enwedig yn nhŷ Dduw, a Theirnas Grist: ie y mae corph yr stât yn cael ei ysgwyd gan y Codwm, megis dinistr a chwymp Emerodraeth Groeg a ddaeth ar dorriadau r Ecclwys. Trwy Schismau ac ymbleidiau yn galw ac yn gollwng i fewn y Twrc (yr ordd a dorrod y corph oll yn ddarnau) Na, mae holl gorph dynol ryw yn waeth, o achos y rhwygiadau hyn. Canys, am yr anffyddloniaid yn lle eu galw hwynt i mewn, hyn ai ceidw hwynt allan or Ecclwys, Cymmhelled oddiwrth eu gwahadd, ai derbyn hwynt, trwy fedydd i ffydd Grist, mal y mae yn rhoddi vddynt Sacrament o Gydffurfiad yn ei hun ei hunain. Dicit gentilis vellem fieri Christianum sed nescio cui haeream. Chrys. Nid cau eu safnau, fel y dylem, ac y gallem, trwy ein ymddygiad Christnogawl canmoladwy, an cyttundeb, ond ei egoryd hwynt yn llydan i gablu yr Ecclwys am gorph o drefn wrthun, a Christ, am na byddai yn hon ar gorph gwell.
Am yr Euogrwydd mawr hwn, y mae Duw yn rhoddi cospedigaeth cyfattebol. Mewn Barn a marwolaeth gymmwys ir cyfriw erchill Gablwyr Crist, a llofruddwyr yn ei Ecclwys. Or rhai y gwelodd y byd ddihenydd ofnadwy.
[Page 10]Y gyntaf oedd yn Ecclwys yr Iuddewon. Rhwygedig a thorredig yn ddwy: o waith Corah ai Wrthryfelwyr. Am hynny (i ddangos gimaint oedd o gasineb iw pechod gan y nefoedd) y ddaiar a egorodd ei safn iw cymeryd yn fyw i vffern. Ac megis (mal nad oedd vn hên ddialedd yn ddigon drwg vddynt (er ein bod ni yn darllain o amriw drachineb trwy ddwfr tân ac awyr or blaen) fe wnaeth Duw beth newydd vddynt hwy, y cyfriw ni fuasai errioed yn y byd or blaen. Creadigaeth newydd ar gospedigaeth. Uffern ar nefoedd yn cyttuno i losci ac i ddifa yr holl ddynion, ar pethau yn y Schism, Tadau, a Chanllynwyr oll, mewn vn agen, y da, y gwersyll, ar pyrthynasau gyd ar gwyr gwragedd ai plant.
Yr ail oedd yn yr Ecclwys Gristnogawl o waith Arrius, yr hwn megis Corah arall mewn balchder calon a synwyr, trwy Heresi resynol a wnaeth Schism alarus: yn yr hon y collodd yr Ecclwys furdd o gyrph ac eneidiau; ac or hon, y mae yn gorwedd hyd y dydd heddiw yn friwedig iawn, ac yn wanhychlyd: Canys ef yr hwn (heb ganddo na dyledus barch na thrugaredd iw Jachawdwr anwyl nag iw fam) yn felldigedig a ddarniodd ei gorph ef, ac a dynnodd ei gwaed hithau) mal yr oedd ef yn myned ymaith mewn gorfoledd efo ai Ddilynwyr, yn yr heol gwedi ei daro yn ddisymwth gan Ddychryn, ac eisiau arno ddattod carrau i esmwythau ei gorph, yn y gaudy cyffredin (nesaf garllaw) yn gyffelyb i Judas a dywalltodd allan ei berfedd [Page 11] ai ymwa garoedd yn dra-gofidus. Constantius yr Emerodr, yr hwn a roddasai iw blaid ef yr anadl cyntaf o Awdurdod, (iw llawenydd mawr hwy ac alar yr Ecclwys) gan ei daro a chystudd, a fu farw or Parlys mud. Valens y coleddwr ar ymddiffyniad ir blaid honno, yr hwn ai nerth Emerodraidd, a borthodd y Fflam honno, a loscwyd a thân, a enynnwyd trwy gynddaredd a chynddeiriogrwydd eu dwylaw hwynt, eneidiau yr rhai a loscasai ef ar Schism honno. Anastasius ei cefaill (mal y dywaid rhai) a darawyd a charreg taran, ac Olympius ei Gampiwr ynrau (ar yr vn cyfrif, yn cablu y Drindod Sanctaidd wrth ymolchi) a darawyd a thair o gerrig y Daran.
Ac yn ol yr hwn yn ei fyw tros 40 ai attoliodd yn rhyfeddol Athanasius (yr hwn yn ail i Moses a safai yn yr adwy i attal y torriad, mewn Cymanfa o gynylleidfa gasgledig o bwrbas or Arrianiaid yn Antioch a gondemniwyd ar holl rai oi gwrthwynebwyr a erlidient; Alexandria ei ddinas ef a wnaed yn wag o bobl oll, Antioch ei hun, a Dinasoedd y Dwyrain, a ysgydwyd felly, ac a ddinistriwyd gan Ddauargrynfau: Megis pe bai Dduw yn mynnu vddynt hwy ar holl fyd wybod wrth y Sugneddau newyddion hynny, y fath waith gresynus oedd fod or hên Fradwriaeth, neu r Gefeillach. Y mae Jud yn ei galw ffordd Corah, Jud ad 11. (yn vnig y mae yn ei wneuthur yn llettach a rhedfa Cain a Balaam, ac yn rhoddi ei dihenydd iddi) ond bod Genau vffern yn traflyngcu yr Juddewaidd, [Page 12] a gwaelod a bol vffern yn cau ar y Cristion Corah. Ir rhai y cadwyd (nid y tan ar mwg eithaf, ond) Cadwynau tragywyddol tan dywyllwch. Ac (megis y cai rhai fyddent fyw yn y gwrthwynebiad hwn) fod yn ddiogel o hyn, mal y meirw hynny, ef a ddywaid; hwy a ddifethwyd (sef yn barod.)
Dau nôd ar Schism mor hynod, a thrwy ddwylaw mor barchedig (sef Apostolion Crist a Barnedigaethau Duw) mal, os oes i ni na chariad ir nefoedd, neu ofn vffern, a wna i ni ddal sulw arnynt. A hyn yw amlygyn y pennodiad hwnnw, a diben ar air yr Apostol, gochelwch oll a nodwyd ag efo.
Ac ymadewch ag hwynt (am hynny) Ac mal y gwneler hyn yn ddoeth ac yn gyflawn, rhaid i ni ei nodi drachefn yn y 1. gwraidd neu r achos, a chan weled hwnnw. 2. ei symud ef.
Pechod or cyfriw rywogaeth ddrwg, a gynnydda o ryw achos ddiffaeth.
1. Y gyntaf yw Anwybodaeth. Anwybodaeth or seiliau a wna yr agennau ar codymmau hyn mewn adeiladoedd ysprydol, gormodd bauch o bregethau, eisiau bod yn dda oddidanodd mewn sail Gweithredoedd. Pe gosodid pobl yngwyddorion y ffydd yn vnion, ni ysgydwyd hwynt yn eu meddwl, i fyhwman a phob awel o ddysgeidiaeth, nes syrthio i amryfusedd, Eph. 4.14. 2 The. 2.2. 2 pet. 2.14. 1 Jo. 2.19. ac yno canlyn yr rhai ai hurweiniant trwy liw or gwirionedd (mal hadoliaeth i Schism). Yr rhai sydd raid vddynt eu dwyn hwynt allan or Ecclwys, o herwydd na allant gael na Bywoliaeth, na [Page 13] Chynhwsiad ynddi. Ac mal y mae St. Hierom yn dal sulw, nid oes vn Schism na ddychymyg ryw Heresi iddi ei hun, mal y gallo ymddangos i ymado ar Ecclwys yn vnion. Yr Ecclwyfwyr diog ai Seguryd, neu ryw ddiben arall, am gynnwys hyn: Ar bobl o ragfarn, neu Falchder, ni oddefai rheini, maddeued Duw vddynt yr Achos yma. Canys y bugeiliaid ar defaid a gyd gyfeiliornant, Trist yw r effeithiau. Yr Ecclwys yn ddarnedig alarus, oherwydd bod yr aelodau mot rhydd gymalog yn y corph. Ar gwirion a symudir gyd a phob awel o athrawiaeth, o ran diffyg pwys o feddwl pur gwasdaitach. Heb. 11.9. 2 Pet. 3.17. Hwy a feiddiant groesawu pobrhyw beth, newydd, neu ddieithr, neu berson, a ffydd, Eph. 4.14. vfudd-dod a defosiwn (credu gwneuthur, gweddio vnrhiw beth neu ym mhob man, eisiau cael eu Cateceisio yn foreuach, a chael cydnabyddiaeth well a hên Fannerau Crefydd (Y credo, deg gorchymyn, a gweddi yr Arglwydd.) 2 Tim 1.13. 1 Tim. 1.7. 10. Y maent hwy eu hunain yn barod: 1 egluro, ac esponnio Dadcuddiad Joan, yr rhai ni ddyscasont etrioed bump llyfr Moses, ac a fwriant fryd a chyfrif ar ddwy ar bymtheg wythnosau Daniel, a mil o slynyddoedd St. Joan, yr rhai (os holir yn dda) ni fedrant roi cyfrif am y chwech o brif-bwngciau St. Paul.
2. Trachwant (yr hwn yn gyffredin ac yn naturiol a ganlyn anwybodaeth) a leda yr rwyg. Dan. 9.24. Dad 20.6. Heb. 6.1, 2. Trachwant yn achos Schism, 1 Pet. 1.14. Jac. 4.1. 2 Tim. 3.6. & 3.3. 2 Pet. 2.18. 1 Balchder achos o Schism. Rhyfeloedd yn yr Ecclwys a enynnir gan Drachwantau yn yr Aelodau, am fwrw ymaith llywodraeth, rheswm vnion or [Page 14] galon, gorfeddfa Duw, nid ofnant dorri crefydd yn ddwy, a gwahanu Teirnas Crist. Y cyfriw ryfeloedd a gaiff ddigon o flaenoriaid.
1. Balchder yw r pennaf. Yr hwn a wnaeth y Schism gyntaf ym mhlith Angelion. Ac a wna r cwbl oll ym mhlith y Seinctiau, megis y gwnaeth Diotrephes. Y balchder hwn (gan mwyaf yw r fam or Tadau ar plant. 3 Joa. ad. 9. Canys i ddynion gwirion gael eu gwneuthur yn ddoethach nar holl fyd Cristnogawl ei blaen hwynt, ac yn well ac yn anwylach gan Dduw, nai holl hên Seinctiau eraill, Psa. 32. y mae hyn yn hudo yn dôst gyd a phobl druain (yr rhai nid oes arnynt eisiau balchder.) Ac yno pa fath Arglwyddi a thywysogion o bob doethineb a daioni sydd raid vddynt hwy fod yr rhai a feidr ac a rydd y cyfriw ddonniau mawrion oi gwybodaeth ai Gras iw pobl. A hynny ai dwg ymaith gyda Simon Magus. 2 Pet. 2.18. Act. 8.9. Rhai mawrion a fyddant, yn ffordd yr Ecclwys nis gallant. Allan am hynny yr ânt. A rhaid i rai fod i ryfeddu eu mawredd. A hynny a wna r dyn gwirion yn hawsaf; Am hynny hwy a Wyrdroant yr rheini, Act. 8.9, 10, 11. Gormodedd. Achos o Schism. ac ai dygant hwy allan or Ecclwys gyd ag hwynt.
2. Ac yn fynych yr arwain cylla newynog gyd ag vn vchel. Canys yn Gyffredin yr Athrawon newydd yma yn erbyn yr Ecclwys, ydynt yn chwarae r Siaplen [...]e goren r Saig. Eu Pulput gan hynny ydyw r Bwrdd a wasanaetha yn dalgrwn i bregethu ac i fwyta arno, ai canllynwyr (yn fynych yn [Page 15] dlodion) yn caru y cyfriw flasus ac iachus Athrawiaeth, ac ydynt yn hoffi y fath brawfiadau a phyngoiau cyssurus, ac ydyw Sir dda yn ol Pregethau. 2 Pet. 2.13. Jud ad 12. St. Peter ai geilw hwynt (nid ymprydwyr ond gwleddwyr) a St. Jud ai geilw yn frychau yn eich cariad wleddau chwi, mal hyn; yno yn cydwledda yn eu pesci eu hunain yn ddiofn (er bod yn yr Ecclwys, oll ar betrusder.)
A phwrs llawn a brŷn Schism yn fynych, Cybydd-dra achos o Schism. ac ai dwg ym mhlaen. Mal y prynir ac y gwerthir y bobl druain (eneidiau a chyrph) mal eillion caeth ac anifeiliaid gan Fersiandwyr Babilon mal y Dadcuddia St. Joan; fod gwyr awyddus dichellgar, yr rhai a gymerant arnynt gadw eneidiau i ogoniant Duw; eithr yngwirionedd eu gwerthu hwynt iw helw gorau eu hunain: 2 Pet. 2.3. mal y dengys Saint Peter. A thrwy gybydddod a chwedlau gwneuthur, y gwnant farsiandiaeth ohonoch: Ac nid rhyfeddod er vddynt hudo, a thwyllo llawer. Canys hwy a ddysgwyd ac a ddygwyd i fynu yn dda yn y gelfyddyd. Calon sydd yn gynefin ganddynt i ymarferion cybyddion. Hyn a wna vddynt hwy wneuthur marchnadfa or Ecclwys, gan ganlyn ffyrdd Balaam yr hwn a garai wobr anghyfiawnder.
[Page 16]Mal hyn y mae tri Apostol yn rhoi eglurwch o Arddangosiadau pa beth ydyw y neullduolwyr, er tecced y dychymygant reswm trostynt; [...]ôd Judas, Bol Epicurus, a chadair Lucifer ywr Achos.
3. Achos Bywyd drygionus. Achos o Schism. DRygioni bywyd, dilynwr trachwant, sydd arweinydd i Schism hefyd. Yn gystal yn y bai▪ ac yn y farn, neullduolwyr a ymddangosant yn Seinctiau, eithr nid ydynt. Ni allant fod oherwydd gan fod y meddwl ar ewyllwys (ffynonnau gweithredoedd dynol) wedi eu gwenwyno a chamwedd, ac a thrachwant, thaid yw iw bywyd fod yn llifeirio o gyndynrhwydd gwrthwynebus: A chyfion yw gyd a Duw, na chai yr rhai a rodient ynghwrthwyneb ei oleuni ef, ai cydwybod eu hunain, (allan o oleulwybr yr Ecclwys,) ei gadwraeth ai fendith ef. O eisiau yr hyn, y daw eu heneidiau yn ysglyfaeth i yspeilwyr y Gwirionedd Cristnogawl, ar dynghneddyf, nes vddynt hwy eu hunain droi yn lladron hefyd, heb eu gweled eirioed yn llwybr Duw oddieithr i yspeilio ynddo. Ac yno hwy a ddeuant yn ei gasgl ef, yr hwn a fydd digon siwr iw gyrru hwynt yn ddigon pell oddiwrth yr Ecclwys, rhag iddo ef golli ei wobr oi eneidiau hwynt, yr rhai trwy Schism a gafodd ef iw feddiant. O ni bai hynny, fe fyddai cimaint rhyfeddod a galarweled y fath niferoedd o yspeilwyr nid yn vnig oi Cristnogawl ond oi cyffredin brif-byngciau, [Page 17] o Reswm ac honestrwydd. Ac a arweinir ymaith cym mhelled i fyned tu hwnt i Schism, i wrthgiliad hefyd, ie i ben pellaf Anghrediniaeth. Yn gyntaf am-mherchi, yno gado, ar ol hynny gwadu yn gystal yr Ecclwys i ymgadw ynddi, 2 Thes. 2.8. Psal. 109.5. neu Grist i fod yn gadwedig trwyddo neu Dduw iw wasanaethu dim arno. Neu Grefydd iw wasanaethu ef. Neu nefoedd iw gaesam y gwasanaeth. Eithr hyn y mae nerth Siomedigaeth yn ei wneuthur. Gan fod Satan wedi osod ar y llaw Ddehau ir rhai a adawo yr Ecclwys ar yr asswy. Gan fyned i mewn vddynt o hyn allan, ai cadw hwynt yn ei Gappel, ac wrth ei Ddefosiwn, trwy felldith Dduw a Barn-gyfion. Esa. 6.10. Act. 28.26, 2 Pet. 2.1. Jud ad 4. Felly y dygant arnynt eu hunain dinistr buan: (tra echryslawn ofidus am eu Athrawiaeth Wyrdraws) ir hwn, am yr anuwioldeb mawr hwnnw, y rhag ordeiniwyd hwynt er estalm.
4 Gwrthwynebiad i drefn yr Ecclwys, a yr y gymysgedd warthus hon i frysio rhagddi. 4. Achos gwrthwynebu trefn. Yn enwedig i drefn oruchel Apostolaidd. Nôd St. Joan am dwyllwyr yw: dwyn athrawiaeth arall. Am yr hon ni ddylent gael rad Duw ar eu gwaith. Arwydd St. Paul am Schismaticiaid, eu bod yn glynu wrth Athrawon newydd, a dychymygion yn erbyn yr hên Grefydd, ar Rheol; Am hynny gadawn ni vddynt fyned ymaith. Ni fyn St. Cyprian ir lledfegyn Schism gael vn Tad arall, ond dirmyg yr Escob, o waith rhyw offeiriadau, a phobl coegfeilchion.
[Page 18]Ac nid yw Cymanfa Constaentinopl yn arbéd roi nôd diffaeth ar yr rhai a brossesant yr vnion-wir ffydd, ac a wnant gosgliadau a chynylleidfau yn erbyn y drefn ganonical ac Escobaidd. Heb fod yn subordinat neu dan-ragordeiniawl: ni ddichon hynny fod yn iawn. (Canys ni eill fod trefn ym mhlith gwyr, o gyd radd Gyda rhai, y bydd ymbleidio ac ymwahanu. Ni eill fod vndeb ac iawn drefn yn ymwared rhag y cyfriw ddrygioni y mae St. Hierom. Ei hunan yn cydnabod anghenrhwydd Escobion. Gan nad oes vn ffordd arall, yn erbyn y cymysgedd hynny, ond y drefn hon ar Andurdod.
5 Achos o Schism gado gweddian r Ecclwys.5 A dibrisio a rhoi heibio Weddiau r Ecclwys, sydd spardyn i frysio neullduad. Yngwirionedd, Schism ei hun ydyw dorri y Cymun hwnnw. As os ydyw St. Paul yn dadlau yn vnion, Gwrthgiliad a ddigwydd or gwyrdrouad hwnnw, (cwymp oddiwrth ffydd ar y torriad cariad hwnnw yn fynych:) eithr asgell o Schism bob amser, medd Saint Awstin. Oddiwrth yr hon y mae ef yn rhyddhau rhai, ac yn rhybuddio eraill rhagddi, trwy yr Eglurwch hwn ar ddadl am ofalu na wnelont ymgasglau a chynylleidfau neullduol. Eithr yn rhoi nôd gwradwyddus ar yr rhai a ymddigrifant i wneuthur hynny. Ar ddau yn gyfion. Canys neullduaeth oddiwrth yr Ecclwys Gatholic neu (yr hyn) sydd gimaint) oddiwrth vn Ecclwys neullduol ohoni ac mewn Cymun ag y hi, Gen. 4.26. i attal cyfundeb [Page 19] mewn gweddiau, hyn yw Schism yn briodol.
A chan i Dduw ei hun wneuthur oll dduwioldeb yn weddi, Ar vnig le i hyn, 1 Cor. 1.20. Mat. 21.13. Eph. 4.3. yr Ecclwys, a elwir am hynny y Gweddi. Gan fod yr holl vndeb o wirionedd a chariad oddiwrth yspryd Crist, ar holl addewid o hynny yn vnig mewn cydymgyfarfod, ir cyfriw weddiau. Gan fod holl ofal o gynnal i fynu yr vndeb hwnnw a roddwyd i ddoethineb a duwioldeb yr Ecclwys wedi ei wneuthur am hynny, yngolofn y gwirionedd, Rhy. 5.5. Mat. 18.20. 1 Tim. 3.15. ac yn gyny lleidfa y Sainct; lle y mae hi (trwy ei Athrawiaeth ai Dofosiwn yn cyflawni ei ymddiried) gan fod yn sail ac yn gyfle ir Golofn hon.
Y rhai a wrthodant ymgyfarfod ynddi, ac a gyll y bendithiau hynny, haid vddynt gael eu melldithio a chasglau, lle o eisiau colom i ddal i fynu y gwirionedd y trobaeddir hwynt a beiau, ac y llethir hwynt a Schismau. Wedi eu dal yn gyfion mewn camwedd ac anghariadoldeb. (Y ddwy law hynny o eiddo r cythrael) yr rhai ai reifl eu hunain allan a fonwes Duw, a breichiau yr Ecclwys, yn wradwyddus am dorri trefn eu Tad, ac yn ddifendith am ddirmygu gweddiau eu mam.
[Page 20]Mal yr yscrifenwyd y pethau yma yn wyddorion argraphedig o waith yr Apostolion, felly y mae yn hawdd eu dirnad ym mucheddau neullduolwyr. Canys y gwyrdroedig (er bod rhai a meddyliau da) ydynt oll animalau neu greaduriaid gwirionaidd. Yr hudolwyr. anifeiliaid ynfydion, tr thyll yn eu calonnau, a [...]hydd yn eu bywyd. Celynnion gan hynny i lywodraeth ac Awdurdod, yr hyn a gerydda y beiau hynny. A gwibiaid a diethriaid ewyllyscar ir Ecclwys i ochelyd y cerydd hwnnw.
SChism a wna rwygiad yngorph Crist, a haint yn yr Ecclwys. I golli enediau. Oddiwrth wahanglwyf pechod, iw goruwchguddio. Cymerwch ei fesur yn vnion ai holl faintiolaethau ydynt gythreulig. Uchder drygioni, gyda dyfnder true ni yw, hyd eithaf cospedigaeth, oddiwrth led llygredigaerh. Tros y meddwl, y galon, y bywyd, yr yspryd, yr enaid. Felly os ni a wnawn ddim er mwyn Duw gochelwn ef, oherwydd ei fod yn gimaint pechod yn ei erbyn ef. Os er mwyn Crist, am ei fod yn gimaint briw iddo ef. Os er mwyn yr Ecclwys, am ei fod yn gimaint colled iddi hi. Os er mwyn ein eneidiau, oherwydd ei fod yn gimaint dinistr vddynt hwy. Os er mwyn ein bywyd oherwydd ei fod yn ddestruwiad ir rheini. Os er mwyn y Deirnas oherwydd ei fod yn gimaint rhwygiad iddi. Os er mwyn y byd, oherwydd [Page 21] ei fod yn gwymp o fethiant iddo. Os er mwyn y ddauar, oherwydd ei melldith yw. Os er mwyn y nefoedd, oherwydd y gelyn pennaf iddi. Oni wnawn ni ddim er mwyn vffern, oherwydd cefeill gorau diafol ydyw. Mogel a gochel ef gan hynny, onid oes achos?
2 A lladd yr aderyn yn yr wy. Ffo rhag yr achos, dyna y ffordd iw ochel ef. Ffo rhag anwybodaeth, megis rhag neidr, rhag trachwant megis rhag vffern, rhag balchder megis rhag Lucifer, rhag gormodedd, Psa. 1. Dad. 18.2. 1 Tim. 6.9. Eccle. 21.2. 1 Sam. 15.23. megis rhag yspryd aflan, rhag cybydd dod, megis rhag Temptiwr. Rhag pechod megis rhag sarph, rhag Gwrthryfel mal rhag Dewines, rhag cydgasglau mal rhag tai heintus: Hyn yw, cymeryd ymaith Dad, mam, mamaeth, ceidwad, arweinydd allan o feddwl, o galon o fywyd, yspryd, a ffordd: ac felly rhaid iddo bendyfadu, newynu, rhynnu, a diflannu.
Yn enwedig os gwnawn wrthwynebwaith i Schism, ai gyfarfod ef ac ymwiscoedd gwrthwyneb ac a gweithredoedd o Ras, yr rhai ni chynnwysant iddo ddyfod ym mlaen, 2 Pet. 3.17, 18. 2 Tim. 3.6. 2 Tim. 4.3. 2 Pet. 4.3. 2 Pet. 2.18. Esa. 65.5. Phi. 2.3. eithr ei gadw yn ol. Trwy Athrawiaeth well, byddwch wedi eich seilio yn y gwirionedd, felly ni rydd anwybodaeth mohonoch yn ysglyfaeth i hudolwyr. Gwarchewch eich trachwantau, a dyfal farweiddiad, ac ni arweinir mohonoch ymaith iw maglau hwynt.
[Page 22]Byddwch fwy gostyngedig, heb fyned yn ol eich chwantau anuwiol eich hun, dowch yn anfynychach i fwrdd gloddestwr, a chwi a ymgedwch yn well at fwrdd Duw. Trwy ymwareddiad sancteiddiolach, delwch yn dynn wrth eich rheolau, Jud ad 16. 1 Cor. 10.21. 1 Cor. 11.18. 1 Tim. 1.19. & 3.9. Heb. 13.7, 9. Phi. 3.27. Heb. 10.26. ac ni redwch ar amcan ar ôl tuedd bleidiau. Ymostyngwch yn vfudd ir rhai a osododd Duw i lywio arnoch, ac ni hudir mohonoch mor fuan gan offerau y cythrael. Trwy ddefosiwn mwy ewch ar luniau, a sefwch wrth weddiau yr Ecclwys, a thrwy fendith Dduw, a hithau, ni chwympwch i ddwylaw eich gelynnion, ysprydol chwi a hithau.
Gwybodaeth bur a ffurfia y meddwl felly mewn gwirionedd. Marwhâd a gydffurfia y galon, vfudd-dod iddo ai gynhalwyr ef, felly a wastada y ddau; a gweddi a ymddiffyn, ac a gadarnha y cwbl oll; mal y caffom sefyll trwy allu Duw yn anorescynnol mewn ffydd Gristianogawl, a chariad, in cadw ein hunain yn gadwedig oddiwrth friwiau marwol amryfusedd a thueddblaid yn dragywydd. Marwol meddaf fi. Canys y cyfriw Schismau a dery ac a ad eneidiau yn farwol. Marwol ir yspryd, a chladdedig yn y cnawd. Felly y mae oll wneuthurwyr pleidiau, ar holl bleidwyr hefyd, Canys oll mewn Schism a ymgysylldant i wneuthur plaid neu sect. Ac ydynt mewn cyflwr marwol damnedig a feiddiant wneuthur hynny. Yn gnawdol heb fod yr yspryd ganddynt.
[Page 23]Swyn gyfaredd yn erbyn neullduaeth neu ddidoliad yw hyn, 2 Pet. 1.2, 12. Jud ad 12.19. Jud ad 19. ar rhinweddau ydynt wir iachusol.
1. Ir cwympedig iw adgyfodi.
2. I hwnnw a hurtlodd, mal na chwympo.
3. Ir hwn sy n sefyll, mal na hurtio. Prif feddyginiaeth oll, os craffwn arno yn vnion, ac os cymerwn, mal Antidôt Tertwlian, trwy fendith Dduw arno, felly y geill pawb sydd arnynt ei eisiau, ei gymeryd.
Chwychwi yr rhai a gympodd. 1. I babyddiaeth allan or Ecclwys. Onid yw nôd yr anifail yma och amgylch chwi, ar eich monwes ach bol? holwch ddirgelion eich eneidiau, a dywedwch, onid Anrhydedd neu newyn ach tynnodd chwi allan, ond bara a wnaeth y gorchwyl? Neu gynheliaeth, sef angenog fara, neu dderchafiad sef Bara y gwr balch? Ai cydwybod a wnaeth hynny, air bol? Ai troi trwy orchfygiad rheswm ai codiad ai gwnaeth? Dwedwch, dywedwch i Dduw yr hwn a wyr eich calonnau, pa vn ai eisiau ai diben, (heblaw y gwarionedd) a chwaradd ran y Jesuit yn orau, a wthiodd y rheswm neu r ddadl orchfygol hwn yn fwyaf ar eich cydwybod. Os ydych chwi (mal y geill rhai fod) yn lân oddiwrth Frychewyn Saint Paul, onid yw hynodrwydd Saint Jud arnoch chwi? Heb fod gennych yr yspryd. I wybod rhagoriaeth rhwng galar a Phechod yr Ecclwys.
[Page 24]Yr amser on Anghristnogion lawer ni, ach vn chwithau.
Canys chwi a ddwedwch, Aberth gyhoeddus yr holl Ecclwys a baid, a holl alar dychymygol a fydd arni. Y pryd hynny: neu i ddirnad peintiad [...]eg yr offeiriad, ar wyneb ei Grefydd, lle bo mawredd galluog yn cichio arni, ac arfer drwsgl ohoni yn y bobl, lle byddo y Deirnwialen, yn tueddu Wynepryd atti?
Neu i ddirnad rhwng yr vnrhiw ddaioni, mewn cefaill, ac mewn dieithrddyn, ac am hynny i ryfeddu oll bethau mewn gwlad ddieithr, or hyn nid ydych yn dal sulw arno gartref. Lle wrth reol gyffredin Crefydd, (Christnogawl Gatholic ac nid yn neullduol felly) y dylych chwi ac eraill wneuthur yr vnrhiw ddaioni! Un ai na welech ragoriaeth rhwng rheolau yr Ecclwys, ar Personau ynddi. Ac na welech felly nad oes yr vn mor dywyll a honno o Rufain. Yn yr hon eich Pabau chwi (lawer ohonynt) mal y cyfaddef scrifen rhai ohonoch, a argraphir ac a nodir am bersonau tra-chythreulig.
Wrth y cymeriad hwn, oni ddylai Mahomet fod yn fwy prophwyd na Christ, oherwydd bod ei Gamwedd yn Llwyddianus? A Rhufain anghredadwy gynt yn llai Babilon na Rhufain Gristnogawl, oherwydd nad oedd mo rai oi Emerodwyr cynddrwg Plâ, neu ddialedd ai rhai Pabau?
[Page 25]Oni ddylai y Cristion Catholic fod yn fryntach nar Heretic, anwylyd Salomon na Jezebel?
Oblegit ei bod hi yn peintio yn dra theg? Na oni ddylai yr Iddew fwrw i mewn am y gynglwyst ai dwyn oddiar bawb oll, o ran y maent yn credu ir gwir Dduw, gystal a ninnau?
Ei brophwydi, yw eu Tadau an deg orchymyn, eu difinyddiaeth? Cyfodwch gan hynny yn enw Crist, na orweddwch mewn trachwant neu gamwedd, Cymerwch afael (a barn well ac a chydwybod) yn nwylaw yr Apostolion, o dowch i fynu och codwm drachefn.
Chwychwi yr rhai a gwympodd oddiwrth yr Ecclwys, onid aethoch allan oddiwrth eich dyledswydd; onid aethoch oi Chefeillach hi, beth ach taflodd chwi i lawr? Cariad ar Dduw, ai ar y byd? Cydwybod, ai Cynhalideth? Gwirionedd, ai budd? Dywedwch yn eich eneidiau, (rhaid i chwi atteb hynny ryw ddydd) Pe rhoesai r bobl i chwi Groesaw Saint Paul am eich dyscybliaeth newydd, Gal. 1.8. 2 Joa. ad 10. (ni ddysgasid ac ni arferid y pryd hynny) ni welwyd ond o fewn y canmhlynedd diwaethaf, yn y byd Cristnogawl: neu gyfarchiad St. Joan sef na ddyweder Duw yn rhwydd ich newydd Efangyl, ac Ammhostolaidd Athrawiaeth?
[Page 26]Neu y cyfriw ac a gafas Aerius ai ddilynwyr (eich rhagflaenwyr chwi) Eich gadael i grwydro trwy goedydd a chauau mewn eira a hin chwerwdost arall, a holl ddrysau i gau rhagoch am eich cyffelyb bregethiad. Pe gwnaethai wyr o Allu a chwychwi mal y gwnaeth Constantin a Theodosius i Aflonyddwyr Ecclwys Dduw, (yr Arrianiaid ar Nestoraniaid) llosci eu llyfrau, torri pennau eu cynnorthwywyr, rhoddi carcharau i chwithau, yn lle derchafiad, dif [...]ddiadau yn lle rhentoedd eglwysic, cosp yn lle gwobr, Aethwladiad yn lle cyssurdeb; gwradwydd, yn lle cymeriad? Pe daethai fudd a chymeriad mor wrthwynebus yn eich ffordd, ac y daethant yn deg, aech chwi ym mhlaen yn eich yrfa bresennol?
Dywedwch y gwirionedd ynghrist, nid celwydd, pa vn ai meddwl Demas neu gynnwrf Diotrephes? Y cyntaf yn olaf ar mwyaf yn lleiaf. Aug. Calon y Donatist balch. oni bai hynny Primianus a fuasai Postremeanus, a Maximinianus Minimianus.
Oni bai hynny chwi a fuasech yn gorwedd yn llonydd yn eich hên dywyllni, ach tylodi, neu or lleiaf ni chodasech chwi mor vchel, ac ni allasech obeithio hynny. Oedd i Falchder, Afradlonrhwydd, elw, vn llaw, nag vn bys yn y matter yma?
[Page 27]Onid cybydd-dod oedd i gael cynnelglyd cyfoethog-le o Feiddiannau a Phorfenydd, er eu bod o eiddaw eraill? Balchder am y cnŷau uraid, ar gorseddfau, er eu bod o braidd rhai eraill? Newynu ar oll sir dda a Chymeriad, er ei bod o fara eraill, a gogan? Onid ydyw ddim o hyn na thebyg (mal ond odid gyd a rhai nid ydyw.)
Ydych chwi wedi eich nodi ar yspryd glân, yr rhai a ymrysonwch am hwnnw, yr hyn yr oedd gwyr diamheuys o yspryd sanctaidd yn ei gondemnio yn yr Aerianiaid. A osodent orseddfaingc i Grist, yr hwn ni adwaenent mewn eisteddfod o bennaethiaid? A thynnu i lawr yr hyn yr oedd eu Cynghorion ai Ecclwysi yn ei gynnal ai gadw i fynu mewn Anghyffelybrwydd, o Bresbeteriaid, neu Escobion? Na a gynhaliwch i fynu, yr hyn yr oeddych chwi eich hunain yn ei weiddi i lawr, am blaidiau damnedig ac yn gadael i gwympo, yr hyn yr oeddych yn ei weiddi i fynu, am achos sanctaidd Duw ei hunan? Yr rhai a newidiwch eich ffyrdd: mal y gwnaeth Aecebolius ei Grefyddau gan eich clymmu ach tynnu eich hunain o amgylch, mal y bo y gwynt yn gwasanaethu, am Erlid neu dderchafiad? Ai yr yspryd yna, yr hwn sydd felly yngwrthwyneb iddo ei hun, felly yn gyfnewidiol at y byd, yw yr vn sancteidd?
[Page 28]A ellwch chwi ysgwyd dwylaw ar rheini, y rhai y bu eich genau, y mae ac y bu eich calon iw gwrthod, (mal y Phariseaid ar Saduciaid yn erbyn Crist ar Arrianiaid gyd ar Eunomianiaid ar Milesianiaid yn erbyn yr Ecclwys) oherwydd nad â y lliaws y ffordd y dymunech chwi? Dadcuddiwch ac eglurwch yn well rhwng yspryd Duw, ar byd, Cyfodwch, ac ynnillwch vn da.
A Chwithau a gwympasoch oddiwrth oll drefn ac vndeb Ecclwysig, i eithaf Ataxi a Chymysgedd yr rhai ydych i bob Gwahaniadau a Than-wahaniadau yn yr Ecclwys: a ddysgasoch fwrw i fynu Gyfrifon Duw a Chwyntyrs y Cythrael, ac a lenwch yr holl demlau ar tai ach Pleidiau ach Torriadau; A chwanegwch eich Credoedd (nid mal yr Arrianiaid) i Saint Hilari, credo bob mis, eithr mal y Donatistiaid i Saint Awstin o fesawl Myrddiwn, gan gyfrif cynifer o Eglwysi, a gwyr, a Chynylleidfaoedd a Phersonau (a rhai i ferched hefyd:) ydyw cariad Crist yn ddiau yn eich rhwymo chwi? A ydych chwi mor ynfyd wedi i chwi ddechreu yn yr yspryd a berffeithir chwi yr awrhon yn y cnawd? Gal. 3.3: Ydych chwi yn sobrach yn eich Meddyliau? A mwy o gariad perffaith yn eich calonnau, yn Ddiweiriach yn eich cyrph, yn gyfion yn eich gorchwylion? Yn well cymydogion; deiliaid, gwyr, plant, gweision priodwyr?
[Page 29]Ydych chwi yn llai Didduwwyr, Gloddestwyr Crogynwyr o flaen Duw, yr Ecclwys ar byd? 1 Cor. 6.9, 10, 11. Tit. 3.3, 5. Eph. 2.2. Chro. 18.21. 1 Joa. 3.8. Jer. 23.21. Gal. 5.16. Onide (ac y mae yn rhy eglur nad oes mor rhan fwyaf ohonoch chwi) yn ddiamau mae i chwi ormod iw wneuthur a diafol; canys meddyliau a bucheddau diffaeth nid ydynt o dduw. A pha fath bynnac ar berffeithrwydd yspryd, yr ydych chwi yn ei heury fod gennych, nid yw hwn ddim ond perffaith gnawd.
A ddywedwch chwi y ffyrdd newydd yma ir nef (er eu bod yn myned yn groes ir hên lwybrau) ydynt, eich dadcuddiadau chwi oddiwrth yr vnrhyw yspryd o Dduw? Mae hynny yn dangos ei fod yn rhy groes i fod yn vnrhiw. Gyd a Saint Joan nid ydyw. Ni all aief aros i ymolchi gyd a Cerinthus (nid yw eich vn chwi mor dylodaidd.) Gyd a policarp nid yw, ni byddai ef yn llonydd yn yr heol wrth Marcion (nid yw eich vn chwi mor afrywiog.) Gyda Saint Maximus nid oedd, ni allai ef lefaru wrthynt, ag ammynedd, mae eich vn chwi yn fwy heddychol▪) bydded Hereticiaid a beiau mal y mynnont, ni allwn ni gysylltu dwylaw a chalonnau ag hwynt oll, wrth eich vn chwi.
Eithr (i roi r ddadl ar farn) ond hwn yw eich yspryd glân rhyfygus chwi, vn iw brofi os yw o Dduw, os cymerir Barn Saint Joan, ac ar ei Eglurwch ef y cair bod yn hysbys o Gau brophwyd neu Anghrist?
[Page 30]Or hwn, yr ydych chwi yn eich gwneuthur eich hunain yn llawer, lle r ydych heb gristnogawl ofn na synwyr, yn rhedeg oddiwrth vn?
Mal er nad ydych yn ol Saint Paul yn ddyn o bechod, nid matter, os ydych wyr o gamwedd gyd a Saint Joan, ac onid ydych yr vn hwnnw; chwi ellwch fod y llawer yma. Nes bod amryw yn vn, ar arweintwybr oedd, ac sydd ir nefoedd yn ddau, ac yn wrthwyneb; neu nad yw yspryd Duw vn ar cyfriw vn ac a arwain ir nefoedd; Eich vn chwi, sydd amriw fodd, Jac. 3.14, 15. Psa. 102.2 7. Mar. 16.23. ac yn wrthwynebus: ni eill fod yn vn sanctaidd. Yr hwn (megis y mae Duw) sydd byth bythol yn vn, ac yn vnrhiw.
Dwedwch gan hynny wrth eich vn chwi, megis wrth yspryd distaeth, Dos ymaith. Gwelwch y Somedigaeth, a difuddiwch ef. Trwy help dwylaw a moddau Apostolaidd, cyfodwch och drygioni.
Os y cwympedig ni chyfyd gwiliwch chwi yr rhai a Ogwydda rhag i chwi gwympo. Creffwch yn dda, os cymerwch ofal gwell yr hyn a ddweded a gewch chwi weled ynddynt eu gyd. Eich perigl chwi yw cwympo, eich Anrhydedd sefyll. Ie ac anrhydedd Duw hefyd. Onid yw rhagluniaeth yn eich galw ir rhol o gyfrif i brofi pa yspryd o wirionedd, a Gras sydd ynoch?
[Page 31]Ac ond eich gogoniant chwi yw, yn erbyn holl allu hudoliaeth a prophedigaeth, beidio, a ffo, ond sefyll allan ich profi? Heb. 10.23. lle mae ir Ecclwys Deirnwialen i hynny nid yw ddim; eithr lle y mae i Satan ei orsedd, anrhydedd mawr i Dduw, ac i chwi eich hunain, (mawr iawn) gyda ac Antipas i chwi sefyll allan yn wrol. Pan fyddo gwynt Canmholiaeth gyda a nyni, a llifeiriant Awdurdod yn rhedeg gyda hynny, i lywio yrfa Gristnogawl yn vnion, poen a chelfyddyd fechan yw. Eithr pan fyddo ffafor ddynol yn chwthu oddiwrthym, at Gallu amserol yn llenwi i fynu in herbyn, ac yn Tymestlu arnom, dyna lywydd da a ddalo ym mlaen am y nefoedd. Nid plygu i ddelw yr amser, er y tân ar ffwrn boethaf. I roddi ei ddwyfron yn gynt at gleddau o ddur, na glin i lo euraid; Dad. 7.14. Dan. 3.17. hyn sydd wir Ardderchawg. Yspryd Nehemiaeh i ymado a bywyd, o flaen yr Ecclwys. Yspryd Liberius, nid cyd ddwyn ac Arrian, er yr Emperwr. Yspryd St. Basil na ellid nag er teg weniaith, nag er hagr fygwth a phenyd, moi droi gyd ar Amseroedd. Yspryd Saint Ambros i fod yn Aberth yn hytrach nag i roi Allor i Schism.
Ac a ewch chwi allan am lai amser o brofiad? Pa beth ni roddech i fynu y pryd hynny mewn amser mwy gwaedlyd?
[Page 32] Heb. 12.2.Os eraill mal aelodau pydrion a gwympant ymaith oddiwrth y corph, gadewch vddynt fyned. Eithr chwychwi anwylyd gan eich adeiladau eich hunain, ar eich sancteiddiaf ffydd, Jud ad 20.21. a gweddio yn yr yspryd glan. Ymgedwch ynghariad Duw, gan ddisgwyl traugaredd ein Harglwydd Jesu Grist i fywyd tragywyddol. Ac am hynny, oherwydd paham, codwch i fynu y dwylaw a laesasant, ar gliniau a ymollyngasant, fel na throer y cloff allan or ffordd, Heb. 12.12, 13. ond yr iacher ef yn hytrach.
Cymerch yr Antidot neu r swyn yma yn erbyn haint yr Amser, a sefwch. Eithr ym mha fodd y safwn ni allan, pryd na adawed vn lle i sefyll i mewn. Pa fodd y cedwir cymun gyd ar Ecclwys, pryd nad oes na Chymun nag eglwys iw gadw? Wrth y cyff hwn y tramgwydda ac a cwymp llawer; eithr os ystyrriwn ni yn Gristianogawl, a gochelyd, ni allwn fyned heibio heb ein bwrw i lawr.
Canys yno ni gawn weled cyfle i sefyll ynddo; a rheswm i sefyll allan.
Mat. 16.18. a. 1.28.20. Heb. 3.7. Psa. 6.10, 11. Jer. 30.11. Ez▪ 24Megis na eill corph yr Ecclwys fod yn Ddim. Felly hi fydd byth yn rhiwle. Hi eill golli glendyd, ond nid ei Bodegiaeth: eisiau llwyddiant, nid ymddiffyniant, bod heb deml i breswylio ynddi, eithr rhyw le i ymdeithio ynddo.
[Page 33]Ei haul a eill fachludo mewn vn genedlaeth, eithr a gyfyd mewn vn arall. Mar. 2.43. Psa. 14.12. Act. 8.1. Psa. 102.14. Ezec. 37.11. Psa. 1 37.5. Dad. 14.4. Jer. 15.9.3. Mat. 10.2. Dad. 12.1▪ Act. 7.28. 1 Bren. 29.14 Erlid a eill ei rhwygo, ond nid ei dinistrio hi. Sion a eill orwedd mewn llwch ryw amser, ond nid byth yn farwol.
A pha le bynnac neu pa ddelw bynnac y byddo, gan fod hynny yn ewyllys fyn nha [...], a channy [...]gaeth fy mam i os plentyn iddi hi ac yntau wyf, rhaid i ni fod oi thy hi, A chalyn (megis yr Oen) y briodasferch, ir lle bynnac yr elo hi; megis golt mair yn egori ac yn cau gyd a chyfodiad a machladiad yr haul. Felly oni bydd vn lle i sefyll, rhaid i mi gael lle i ffo iddo.
Atti yn oestad, ond nid oddiwrthi byth. Ecclwys yr Iuddewon oedd yn yr anialwch, cyn bod Teml. Ym mhabilon ar ol hynny, anweledig, (o ran y cymun o diallau) yn y cyfamser.
Canys er bod Duw yn adnabod Saith mil ni phlygalent eu gliniau i Baal, nid oedd Eliah yn gweled vn wyneb yn ei erbyn ef. (Nid yw hyn reswm i gwympo i gau addoliad Babilonaidd, Aiphtiaidd neu Baaliticiaidd.
Fe a ellir gyrru yr Ecclwys Gristianogawl (druain gwraig) ir anialwch, ac etto gael plentyn yno (er bod yn galed iddi ei hachub ei hun ac yntau oddiwrth enau y ddraig.)
[Page 34]Seinctiau a phobl Dduw a allant fod (yn wyr da) Ym mabilon, er ymbil a hwynt am berchi cwpaned oi gwin ffiaidd hi, neu er eu coethi ar ei chyrn hi, a darparu eu gwaed hwynt iw llenwi.
Yr Iuddewon (gwyr o gau grefydd) a allant gablu, ar gau brophwdes Jezabel y wraig echryslon honno, a ddichon hudo, a chael llawer o blant yn yr Ecclwys.
Etto (er bod llawer am yr achos yma yn troi,) ni ddylai neb droi yn Gynhedloedd, yn Iuddewon, neu yn Hereticaid.
Mewn Histôri eglur. Yr Ecclwys Gristnogawl oedd ar y cyntaf mewn Tŷ yn nifer bychan.
Ar ol hynny trwy greulondeb eraill: (y fam mewn ogof, ar plant mewn cilfachau dyfnion.
Trwy haelioni a Duwioldeb Emerodwyr Cristnogawl, yr Ecclwys a gynnysgaeddwyd a Phalasau, ac ag etifeddiaeth: Eithr trwy gynddeiriogrwydd a nerth yr Arrianiaid hwy a ddifuddiwyd oll. Pobl yr Arrianiaid a gawsant yr Ecclwysydd, eu Hescobion a ddaliasant y Cadairiau, eu offeiriadau y Pwlput, tra yr oedd y Christnogion vnion-ffydd yn gwasanaethu Duw, mewn Cilfachoedd.
[Page 35]Eu Tadau oeddynt wedi eu haethwladu neu mewn Carcharoedd, neu yn llechu yn ddirgel ac yn guddiedig iw cadw eu hunain yn rhydd ac yn fyw.
Ie yr Escob odiaethol hwnnw or Escobaeth fawr honno o Alexandria: oedd yn byw mewn Cerwyn tra yr oedd yr Heretic mawr ar gelyn Arius, yn cael ei vn ef, a phob Escobty wrth ei orchymyn. Etto ni losgasid mo frigyn yr Ecclwys yn y tân hwnnw; Escobion, Sacramentau a gwasanaeth oedd iw cael; nid oedd yn methu er bod eraill yn blodeuo, nid oedd reswm yn sefyll, Exod. 3.2. Act. 7.23. er bod synwyr yn dwyn llawer i Gymuno yn yr Hereticiaidd ar Schismaticiaidd wasanaeth.
Felly gan hynny (er nad oedd mewn cyflwr ac esmwythdra, nag mewn budd a diogelwch) y mae ir Ecclwys le yn oestad i fod, a thithau le i sefyll. Cynnen yn erbyn rhagluniaeth yw dadlau am le gweddol iddi. Pechod a gwiriondeb ynot ti gwympo oddiwrthi, oherwydd y gynnen honno; yn enw yr hon ith orchymynnaf di, yr hwn sydd vn ai synwyr yn dy siad, neu gydwybod yn dy galon, i atteb iddi y ddau bwngc ar gofynnion yma.
1. Beth pe bai ddiluw o erlidiad, a halogrwydd a chymysgedd yn llifeirio tros yr holl Ecclwys, Dan. 8.11. mal na byddai na rhan na phlaid yn rhydd a diangol▪ (yr hyn y llefara [Page 36] Daniel) a sydd: a wrthgiliech chwi y pryd hynny, a gadael y cwbl oll a throi yn Anghrist.
2 Beth pe de nai lifeiriant o drueni i guddio y lle ar Ecclwys neu ffordd y Grefydd, ir hon (mal ir ediogelaf ar lonyddaf) y ffoech chwi am diofalwch presennol, megis i noddfa a dinas o gadernid (mal wrthgylch y byd, a barn Duw y gellwch ddisgwyl) a anwadalech chwi y pryd hynny, canu yn iach iddi, ai gadael?
Wrth y pwngc cyntaf, chwi a allech droi yn ddidduw, Mic. 7.8, 9, 10. Rhy. 11. 1 Cor. 10.12, 13. Jac. 2.19. Tim. 2.2.26. ac wrth yr ail yn beth a fynnech. Hynny ni ellwch gyd a chydwybod, a hwn ni ddylech chwi rhag cywilydd. Hynny yw bod yn waeth nag yw Diafol. A hwn, dim gwell nag y mynnai ef i chwi fod. Y gwirionedd yw, gwasanaethu Duw trwy gyhoeddiad yn lle y Bibl; i fod am Dduwioldeb, megis yr oedd y Rhyfeiniaid am Dduw, yn ol gweithredoedd neu Actan a gorchmynnion y Senat, I farchogae [...]h cwmpasgylch o amgylch yr holl Ecclwysi, (mal y bo r achos yn gwasanaethu, a rhedeg cylch y grefydd, mal y bo yr angen yn peri; onid yw hwn Ddidduw cyfan, y mae yn vn (or lleiaf) wedi hanner droi.
Psa. 78.37. Heb. 3.12.Ac am hynny na ddywaid, nad oes i ti lle i sefyll ynddo, eithr nad oes gennit galon i sefyll allan. Onid oes dim tir ith troed, y mae ith ffydd.
[Page 37] Y cyfiawn a ffydd byw trwy ei ffydd. Hab. 2.4. Heb. 10.35, 36. Bydd fyw allau y drwg i well amser. Gwilia amdano, gyd a gobaith ac ymynedd, ac felly byw a fyddi. Pan fyddo arnaf eiliau breichiau fy nhad, a gliniau ym mam, a llaw fy m [...]awd im dal i fynu; Rhaid im sefyll ar fyngwaelod fy hun (cydwybod dda) a thraed fy ffydd fy hunan. Oni bydd lle ar y ddauar, 1 Tim. 1.19. y mae yn y nefoedd: aut sub coel o ant in coelo: tan y nef neu yn y nef. Ni gawn fod ynddi, oni byddwu dani diogelwch ffydd yw, 2 Cor. 4.16, 17. ar. 5.1. Dad. 3.21. ir hwn sydd yn sefyll yn vnion yn ei gydwybod, ac yn Ecclwys Dduw y mae gorsedd i eistedd arni, oni bydd lle yma i sefyll ynddo, wedi ei godi ir rhai a safant ollawl allan.
Yn y cyfamser, nes y bo lle gwell i sefyll, y mae le da i fyned ar liniau ynddo. Ar liniau i dduw a ddichon fod yn well. Rhai a eill luddies cynilleidfa o gyrph, ni eill neb, Psa. 5.18. Psa. 122.6. Col. 2.5. 1 Cor. 5.34. Gal. 1.16. Gal. 4.25. Galam. ad. 1.5. Psa. 137.2. yr ysprydoedd. Ac mal y geill Seinctiau (pa fodd bynnac yn wascaredig) gadw eu cynylleidfaoedd, a gweddio tu hwnt iw gelynnion; er bod yr rhain i mewn a hwythau allan o eglwysydd. Ac wylo am yr hyn ai gwna cynddrwg.
Y pechodau yr rhai a ddygodd y caethiwed hyn ar y fam ar plant ac a bair barhâd ir cyfnewidiad. Y pechodau'oth eiddo di, yn gystal a thai eraill.
[Page 39]A lle a elsi di ei gael i ddagrau i wylo, oni chai le i addoli ynddo. Oni wna dagtau a gweddiau ddim lles, i beri lle gwell, y mae gennit ti le (onid yw i sefyll) i orwedd ynddo. Y ddauar a rydd i ti fedd, ac y mae y nefoedd yn erchi i ti ei groesawu ef, os rhaid ith corph fyned iddo, 2 Tim. 3.11, 12. Mar. 5.10, 12, 12. Heb. 10.39. ar olaf. neu dy enaid tano ef. Y ffordd fawr barod ir nefoedd, yw trwy y cyfriw fedd. Chwanegiad o drueni, er mwyn Jachawdwr da, nid tynnu ynol ein dyledion, er mwyn trueni. Coeliwch flaenor da: Non sumus filii substractionis. Nid ydym ni or rhai sy n tynnu n ol i golledigaeth, namyn o ffydd i gadwedigaeth yr enaid.
3 A Chwithau fydd yn sefyll, rhyddhewch eich hunain, fel gwyr: ac na ogwyddwch. Gyd ag Ephraim na throwch eich cefnau yn Nydd y frwydr. Eich gogoniant presennol yw, ac fe fydd yn dragywyddol i chwi, os ymleddwch allan ir eithaf. Ffieiddiwch yr enw o Heresi gyd St. Agathon. Ar peth ei hun gyd St. Awstin, na fyddwch mal Presbyteriaid beilchion, 1 Cor. 16.13. 2 Thess. 2.14. Psa. 78.9. 2 Tim. 4.8. Dad. 2.10. St. Cyprian, ar yr rhain y mae yn achwyn am orthrymmu yr Ecclwys. Eithr mal yr rhai gostyngedig, yr rhai y mae Saint Awstin yn eu canmol, am gadw cymdeithas a ffydd gyd a hi, er eu bwrw allan ar gam, trwy farn galed, ai hannog iw gadael hi: na fyddwch fel gwyr Galatia i Symud (yn rhyfeddol) eithr bod fel y dylai yr Hebread ffyddlon fod: Gal. 1.6. 1 Joa. 6.7. Yn dal cyffes ei obaith yn ddisgl. Tybiwch fod Crist yn dywedyd wrthych chwi, ewch chwithau ymaith hefyd? A dysgwch beth yw meddwl yr hyn a ddywaid: [Page 40] Pwy bynnac o ewyllysio gadw ei fywyd ai cyll. Pwy bynnac a garo ddyn neu ryw beth yn fwy na Christ nid yw de lwng o Jachawdwr. Mat. 16.25. Gwell (os geilw Duw) golli ei stât ai fe diannau nar bywyd, ar ddau na r eneidiau: Na thyn yn ol i golledigaeth. Na ymadewch ar Gad sanctaidd rhag eich gyrru yn ol. Jud ad 3. Dad. 2.3. Heb. 2.10. Joa. 16.13. Heb. 1.14. 2 Tim. 2.3. Phil. 3 10. Tit. 3.11. Cym mhelled a Constantius yn y dechreu, a Julian (ond odid yn y diwedd. Gwirionedd yw achos i ymladd tros Dduw, ar Ecclwysydd yw achos Duw; y mae Duw yn gweled yr hwn a ymladdo ac a ffa, efe yw r golygwr. Crist ywr captaen, ei yspryd yw r tywyswr. Angelion yw ch gwilwyr, Seinctaiau eich cymdeithion, y nefoedd yw r gynglwyst werthfawr. Tragywyddoldeb, y Goron. Llonyddwch, yw r gerfoledd or ymrafael sanctaidd yma. Je heddwch digyffelyb yw r mwyniant presennol. Och pa friwiau fydd iw calonnau hwynt, yr rhai a ymadawant ar Ecclwys ac a chydwybod dda i gadw eu cyfoeth ai pennau. 1 Cor. 7.29. Ni fydd yr amser yn hir. Bywyd yw r diwrnod (fe allai nad yw eich am [...]er chwi ond awr o ymladd.) Nubecula cito transitura, cymwl bach yn darfod yn fuan, mal y Dywedodd Athanasius am demestl Julian. Na nid cwmwl bychan, namyn ychydig or hyn y medd St. Jaco yn ei alw, Tarth ydyw, yr hwn sydd tros ychydig yn ymddangos a chwedi hynny yn diflannu. Jac. 4.14. 1 Jo. 2.17. Heb. 10.37. Ezec. 37 9, 11, 19, 22, 23, 24. Darfodedig yw r byd mawr medd St. Joan. Y byd bychan, (dyn) a rêd o flaen hynny. Ar byd drwg a hêd oi flaen yntau. Fe ddichon escyrn sychion Ezeciel fyw. Ac fe ellir cydio dau bren (os anadla Duw ei ffafor) mewn Mynudyn. [Page 41] Bwrtiwch ich anadl ymadael (cyn dyfod hynny) ir tragywyddoldeb o lawenydd, neu drueni: Rhy. 8.18. aeterna quies aeterno labore merito comparatur Creg. 1 Cor. 7.3. Dad. 3 15. Dad 22.12. 2 Tim. 4.8. 2 Cor. 9.24, 25. Jac. 1.12. Yr hyn a ddisgwyl ar dy Wastadrwydd, neu dy Wrthgiliad, nid yw r einioes hwyaf ond cwmwl bychan. A mwg, neu law, y gorau ar gwaethaf ohono. Yr holl ddaioni ar drygioni or byd nid yw ddim amgen sylwedd: ar diflaniad o hwnnw (dim mwy amser) dyfod yn fuan, a darfod yn y man.
Ac onid awn at Dduw, Crist a ddaw attom ni yn fuan. Gwelwch hynny a delwch allan er mwyn hynny. Y mae yn erchi i ni wneuthur. Y ddau. Wele yr wyf yn dyfod ar frys, dal yr hyn sydd genuit fel na ddycco neb dy goron di. Pan ddelo y mae ei wobr gyda ag ef. Ath tal di a fydd dwbl gyflog. Yr hwn a fuost yn wasanaethwr, ac yn ymladdwr ffyddlon trosto. Ac am hynny, ti a gai y ddwy: coron Seinct a dioddefwr. Felly gyd ac Antidot yr Apostolion y mae i chwi gadwedigaeth eich Jachawdwr. Oll ag Amen oi enau ef, i beri iddo weithio yn nertholach ar eich calon chwi. Gwrandewch yr hyn a ddywaid, yr hwn yw Amen y tyst ffyddlon a chywir. Dad. 3.14. A bydded ffydd a gobaith i selio yr hyn a scrifennodd ef gyd ach Amen chwithau.
Yn wir meddaf i chwi, y cewch chwi yr rhai am canlynasoch i yn yr adenedigaeth, Mar. 1 [...].28, 29. A barhausant gyd a myfi yn fy mhrofedigaethau. pan eisteddo mab y dyn ar orfedd ei ogoniant, eisteddwch chwithau ar ddeuddeg gorsedd yn barnu deudeg-llwyth Israel.
[Page 42] A phob vn ar a adawodd dai, Luc. 22.30. neu frodyr neu chwiorydd neu Dad neu fam, neu wraig neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, a dderbyn y can cimaint, a bywyd tragwyddol a etifedda ef.