Rhesswmmau Yscrythurawl, Yn profi mae DYLEDSWYDD Pob maeth o Wrandawyr (oddieithr y rhai sydd yn byw ar Elusenau) Yw cyfrannu yn ol eu gallu o bethu da'r byd hwn tuag at Gynhaliaeth cyssurus eu GWEINIDOGION, au ATHRAWION.
O waith Mr. Thomas Gouge, yr hwn yn ddiweddar a gymerth boen yn Gariadus i Lesau Cymru.
Printiedig yn LLVNDAIN gan Tho. Whitledge, a W. Everingham, 1693.
Rhesswmmau Yscrythurawl, Yn profi mae DYLEDSWYDD Pob maeth o Wrandawyr
(Oddieithr y rhai sydd yn byw ar Elusenau) yw cyfrannu yn ol eu gallu o bethu da'r byd hwn tuag at Gynhaliaeth cyssurus eu Gweinidogion,
au Athrawion.
YCyntaf sydd yn 1 Cor. 9.14. Ym mhale y mae 'r Apostol yn dangos yn Eglûr, Mae Ordinhâd Christ yw, i'r rhai sy'n pregethu yr Efengyl, fyw wrth yr Efengyl, hynny yw trwy feddiannu cyfran o bethau dâ eu gwrandawyr, yr hyn a ddylei y cyfriw i roddi i'r rhai sydd yn pregethu 'r Efengyl iddynt.
Os Gofynnir pa le y traethoedd, Ac yr Arlwyoedd Crist y cyfriw Ordeinhâd?
[Page 4]Yr wyf yn Atteb: Yn Math. 10.9, 10. Ym mhale Crist wrth ddanfon allan ei deuddeg Apostolion i bregethu yr Efengyl, y Ddywedodd wrthynt, Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i'ch pyrsau: Nac yscripan i'r daith, neu ddwy bais, nac escidiau, na ffon, canys teilwng i'r gweithŵr ei fwyd. Ymmhale wrth arian, aur, ac efydd y waharddwyd iddynt baratoi iw taith, mae i ni ddeall pob maeth a'r aur, arian, neu efydd cymeradyw ymhlith Marchanad-wŷr, ac wrth yr yscrippan, mae i ni ddeall, pob maeth a'r luniaeth yr hyn oeddyd arferol o'i ddwyn mewn yscrippannau, neu Gôdau ymddaithuddion ar eu Taith. Er y dylaeu dynion yn ymdaich ar eu hachosion eu hunain, baratoi petheu anghenrhaid iw Taith; etto yr Apostolion yn myned ar N [...]geus, neu waith Crist er llesshâd ysprydol eraill, a waherddir i baratoi y faeth betheu trostynt eu hunain, o herwydd y rhesswm y mae ein iachawdwr yn y roddi, gan ddywedyd canys ttilwng i'r gwethiwr ei fwyd, hynny yw c [...]nhaliaeth ddigonol; Bwyd y gymmeryr ymma am bob peth anghenrheidiol i'r bywyd pressennol, fel y mae y gair bara, yn y pedwerydd arch o weddi yr Arglwydd iw ddeall, am bob peth sydd Anghen-rhaid tuag at gynhaliaeth bywyd.
Yr ail Rhesswm a ellir y gymeryd Oddiwrth y rheol gyffredinol O uniondeb, oblegid beth all fod uniawnach, neu gyfiawnach, nac i'r rhai sydd yn derbyn pethau ys [...]rydol (er llessâd, a daioni ysprydol iw heneidiau anfarwol, oddiwrth eu gweinidogion) gyfrannu iddynt bethau [Page 5] anghenrheidiol tuag at eu cynhaliaeth Corphorawl yma. Y Rhesswm hyn y mae yr Apostol yn ei arfer yn 1 Cor. 9.11. Os nyni (medd ef) a hauasom i chwi bethau ysprydol, ai mawr yw os nyni a fedwn eich pethau cnawdol? Megis pe dywedasei, os nyni a droeliasom ein amser, a'n grym, yn egluro, a chyfrannu dirgelwch yr Efengyl i chwi, er mwyn eich daioni ysprydol, onid ydyw yn beth uniawnaf, a chyfiawnhaf a all fod, y chwitheu ymadel a chyfran och pethau daiarol, er ein cyssur, a'n cynhaliaeth corphorawl ninneu? Ar yr un rhyw achos y dywed yr un Apostol yn y Gal. 6.6. A chyfranned yr hwn a ddyscwyd yn y gair, â'r hwn sydd yn ei ddyscu ym mhob peth da, hynny yw, yn ei holl feddiannau bydol fel y mae 'r gair yn y Groeg yn arwyddocau; yr hwn sydd yn derbyn lessâd o addsysc ysprydol oddiwrth arall, a ddylai gyfrannu i anghenion, ac eisieu y cyfriw un o'r hyn oll a feddo.
Gan fod y ddyledswydd hon, o gyfranu ein pethau daiarol i'r rheini sydd yn gweini i ni bethau ysprydol, môr eglur wedi ei orchymyn yn yr yscrythur sanctaidd, fel gan Grist ei hun, felly hefyd gan ei Apostolion ef, nid allwn ni gyfrif y peth hyn, megis gwedi ei adel, i'n ewyllys, neu'n meddwl ein hunain, i roddi, neu ballu fal y gwelom yn dda; ond ei fod yn rhwym ddyled, yr hwn ni allir ei esceuluso gan neb o un gradd ond y rhai sydd yn byw ar Elusenau, heb fod yn euog o bechod ffiaidd yn erbyn Duw.
[Page 6] Yn drydydd, At y Rhesswmmau Yscrythurawl hyn, mifi a roddaf un a ellir y gymeryd oddiwrth ddioddefiadau gweinidogion er eich mwyn chwi, onid yn erbyn diseawdwyr pobl Dduw y mae llid, a digllonedd dynion drwg fwyaf? onid ydynt arferol o ddywedyd? Taro y bugail, a'r praidd a wascerir, pa sawl un o'r cyfriw a espeiliwyd oi perheu? Ac a fwriwyd i garchar er eich mwyn chwi, eneidau pa rai oedd anwylach iddynt, na'u pethau, neu eu Rhyddid eu hunain? Y ddywedyd y gwir, (ar y cysris hyn) gweithred o gyfiawnder, cystal a gor [...]wyl o drugaredd yw eu cynorthwyo, au helpu hwy, y rhai amriw ffyrdd, sydd yn dioddef er eich mwyn chwi.
Yn gymmaint a bod llawer o wrthwediadau yngeneuau amriw bobl, y rhai sydd yn eu Rhwystro i gyflawni yn gydwybol y ddyledswydd hon, mi a ymdrecha y atteb y rhai pennaf o honynt.
1. Rhai a ddywedant fod eu Carraid yn sawr, gwraig, a llawer o blant, i ofalu trosiynt, a Pharatoi iddynt.
Atteb. 1. Mae'n rhaid cydnabod y dylaei rhieni baratoi tros eu plant, cyn belled ag y gallant gyda chydwybod dda; Ond gwybydded y cyfriw fod yr un Apostol ac sydd yn Gorchymyn iddynt ofalu a pharatoi tros eu teulu, yn erchi hefyd iddynt roddi cyfran o'u pethau daiarol i'r rhai sydd yn gweini iddynt hwythau mewn pethau ysprydol.
[Page 7] 2. Nid oes gwell ffordd i dynnu, a rhwymo bendith Duw ar eich plant, na thrwy roddi cyfran o'ch eiddo i'r sainct a gweinidogion Duw; oblegid fel y mae y Psalmydd yn dywedyd yn y Psal. 37.26. Hâd y Trugarog a fendithir; wrth yr hyn y mae i ni ddeall y bydd y drugaredd, a haelioni tuag at eraill, (yn enwedigol gweinidogion Duw) rwymo bendith yr Hollalluog at ei hâd hwynt.
Yn Ail, Y mae rhai yn dadleu eu tlodi, gan ddywedyd nad oes ganthynt fodd y gyfrannu tuag ddiffigion eraill.
Atteb. 1. Y rhesswm hyn o'th tlodi, yr wyfi yn ofni nad yw ond lliw. O herwydd nad ydwyt heb fodd i dreulio ar dy felus chwanteu, gyda'th gyfeillion, a'th Gymydogion mewn Tafarndai, ac ar achosion gwael eraill, ac etto nid ymadewi â dim tuag at gynhaliaeth dy weinidog, pe rhoddit i'th weinidog gymaint ac yr ydwyt yn y dreulio i gyflawni dy drachwhant, ni roddit iddo achos y achwyn o herwydd dy galedwch; ond oh mor ofydus y fydd dy gyfrif yn nydd y farn pan dygir a'r gof itti gymaint a dreuliaist mewn Tafarndai, ac i gyflawni dy drachwhantau, a'th blesserau cnawdol, ac môr lleied y roddaist i'th ddyscawdwr!
Atteb. 2. Beth os yw dy gyflwr mor issel yn y byd, fel ac yr ydwyt yn cael dy gyfrif ymmysc y rhai isselaf o ddynion; etto gwybydd fod yr Apostol yn gorchymyn ir fath rhai tlodion hynny ac sydd yn byw wrth eu poen, [Page 8] au llafur, weithio fellu fel y bo ganthynt fodd iw gyfrannu, i atteb anghenrheidieu gweision Duw, Eph. 4.28. Cymmered boen (medd yr Apostol) gan weithio â'i ddwylo yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddo beth iw gyfrannu i'r hwn y mae angen arno, 2 Cor. 8.2, 3. Pwy a allei ddadleu mwy tros ei thlodi na'r weddw dlawd honno yn, Mar. 12.43. Yr hon a fwriodd y mewn yr hyn oll a feddei, pan nad oedd hynny ond dwy hatling, yr hyn yw ffyrling, haelioni yr hon y mae Crist yn ei ganmol cymaint; y mae'r yspryd Glan hefyd yn crybwyll yn 1 Bren. 17.12, &c. Am y weddw dlawd o Sarepta yr hon mewn amser prinder, a newyn a borthodd y prophwyd Elias: caredigrwydd yr hon a Obrwyodd yr Arglwydd yn ddirfawr, trwy y rhyfeddol gynnydd a roddes ef ar ei ychydig flawd, ai olew hi, yr hyn a barhâodd iw chynhaliaeth hi, au thylwyth dros holl amser y newyn.
Yn Drydydd, Rhai a ddywed os rhoddant mor rhwydd, a mynych, ac y gosyn achosion y cyfryw, eu gallant fod mewn dyffig eu hunain cyn marw.
Atteb. Y gwrthwediad hyn, pryder diwraidd yw, yn tarddu o galon amheus ac anghrediniol, yngwrthwyneb i amriw addewidion yngair Duw, megis y lle hynny yn y Dihar. 11.24. Rhyw un a wascar ei dda ac fe a chwanegir iddo, a rhyw un arall a arbed mwy nac a weddai, ac a syrth i dlodi, wrth wascaru mae i ni ddeall, rhoddi rhan o'n pethau Da i'r tlodion, yr hon yw'r ffordd Siwraf, a diogelaf i lwyddo, ac arbed mwy nac a weddei iw'r ffordd fawr i dlodi. Adnod y 25. Yr enaid hael a frasheir: [Page 9] A'r neb a ddwfrhâo a ddwfrheir yntau hefyd. Wrth yr enaid hael mae i ni ddeall y gŵr trugarog, yr hwn a frasheir hynny yw a lwydda yn y byd, neu a gynnydda mewn golud. Ac medd ein iachawdwr yn Math. 10.42. A phyw bynnag a roddo iw yfed i un o'r rhai bychain hyn, phioleid o ddwfr oer yn unig, yn wir meddaf i chwi, ni chyll efe moi wobr. Megis pe dywedasei, fe obrwyr yn ddirfawr y weithred leiaf o drugaredd a wneler i weinidog Crist, yn cystal yn y byd hwn, ac yn y byd y ddaw, ac yn Luc. 6.38. Medd efe, Rhoddwch, a rhoddir i chwi: Messur da, dwysedig ac wedi ei escwyd, ac yn myned trossodd, a rhoddant yn eich monwes: Canys â'r un messur ac y mesurwch, y mesurir i chwi drachefn. Ymma y mae Christ yn rhoi megis bil o'u law, neu yn entro mewn Bond, na fydd dynion ar golled am yr hyn a roddont er ei fwyn ef, ond y caent yw Talu gyda llawer o ragoriaeth, gan dderbyn mwy i mewn o fendithion wedu eu escwyd, ac yn myned trossodd; Ar ba achos y mae'r Apostol (yn 2 Cor. 9.6.) yn dywedyd, Yr hwn sydd yn hau yn brin a fêd yn brin, (a'r hwn sydd yn hau yn helaeth a fêd yn helaeth. Felly ynteu pa fwyaf a roddir, mwyaf a dderbynnir gan Duw; pa le y mae'r dyn y sydd dlottach o herwydd yr hyn a roddodd i'r seinctiau tlodion, a gweinidogion Duw? Ond megis Ffynhonau o ddyfroedd byw, pa fwyaf a dynnir o honynt, rhwyddach a rhedant; felly golud y Trugarogion; yn arferol, (neu o'r lleiaf yn fynych) a gynnydda trwy ei ddosparthiad; fel y pûmp torth haidd, a'r ychydig byscod wrth eu torri, au rhannu, neu Olew y wraig weddw yn y stên, wrth ei dywallt allan.
[Page 10]I ddiweddu hyn trwy air o gyngor, i'th baratoi, a'th gymhwyso i gyflawni y ddyledswydd angemheidiol hon, gyda llawenydd calon, ac yspryd rhwydd, gossod a'r nailltu ryw rhan o'th olud bob dydd yr Arglwydd, o'r hyn a enillaist yn yr wythnos o'r blaen, yn ol y modd y llwyddwyd ti gan Duw: hyn yw'r gorchymyn y mae'r Apostol Paul trwy gyfarwydd-deb yr yspryd Glân yn ei roddi yn 1 Cor. 16.1, 2. Hefyd am y gascl i'r Sainct megis yr ordeiniais i Eglwysi Galatia felly gwnewch chwithau. Y dydd cyntaf o'r wythnos, pob un o honocb rhodded hebio yn ei ymyl gan dryssori fel y llwyddodd Duw ef. Hynny yw yn ol y modd neu'r messur y bendithiodd Duw ef, Gossoded o'r nailltu gyfran, tuag at anghenrheidiau y seinctiau tlodion, a Gweinidogion Duw.
Y rheol hon a fynwn i'r rhai sydd yn bywwrth eu llasur, neu gwaith beunyddiol edrych atti, yn enwedigol, ped fae y cyfryw ond gossod yn eu hymyl, un geiniog yn yr wythnos hwy a allent mewn quarter blwyddyn roddi Swllt iw Gweinidog.
Eithr llafurwyr, a chreftwyr eraill y rhai sydd yn gwerthu ar oed, a tryst y rhai ni allant wybod cystal beth yw eu hennill yn yr wythnos, mi ai cynghorwn wrth fwrw eu cyfrif, yn niwedd y flwyddyn, i ossod yn eu hymyl gyfran tuag at weithredoedd o drugaredd, yn ol y modd y Llwyddodd Duw hwy yn y flwyddyn honno, fel y maent yn disgwyl Bendith Duw ar eu poen yn y flwyddyn y Ddyfod.
[Page 11]Fe all llawer y rhai sydd yn dyfal ddilyn gweinidogaeth yr Efengyl, am hynny eu gwenheithio eu hunain a thyb da o gyflwrau eu heneidiau, a Simlrwydd eu crefydd, au Proffes; etto gwybydded y cyfryw yn siccr, os nid ydynt yn rhwydd gyfrannu (yn ol eu gallu) tuag at gynhaliaeth eu gweinidogion, nad ydyw eu crefydd, au proffes ond ffurfiol, a rhagrithiol; o herwydd gwîr grefydd, yn ddiau a wna ddynion yn Elusengar yr hyn beth sydd gynhwysedig yn Jag. 1.27. Lle y mae 'r Apostol yn traethu fod crefydd bur, a Dihalogedig yn cynnwys yn fawr mewn gweithredoedd o drugaredd. Ac y mae'r Apostol Paul yn dywedyd yn eglur yn Col. 3.12. Fod Etholedigion Duw i wisco am danynt ymscaroedd trugareddau, oddiwrth yr hyn y gallwn gasclu, mae priodolaeth sydd yn wastadol yn perthyn i wir Gristion, yw bod yn Elusengar yn ol eu allu; os edrychwch i'r yscrythur, ni ddarllenwch am neb gwir Dduwiol, heb fod mewn rhyw fessur yn Elusengar; canys pwy bynnag sydd trwy wir, a bywiol ffydd, gwedi eu plannu ynGrist, ni allant lai na dwyn, a dangos allan ffrwythau o Drugaredd, a Thosturi, ie o Gariad, a Haelioni.