GAIR i BECHADURIAID, A GAIR ir SAINCT.

Y cyntaf yn tueddu i ddeffrôi Cydwybo­dau Pechaduriaid diofal, i wîr deimlad ac ystyriaeth o'r cyflwr erchyll y maent ynddo, tra fyddont yn byw yn eu cyflwr Naturiol heb yr Ail-enedi­gaeth.

Yr ail, yn tueddu i gyfarwyddo ac i ber­swadio y Duwiol, a'r rhai a Ail-anwyd i amryw ddledswyddau enwedigol.

Gan Tho. Gouge Gweinidog yr Efengyl. Ac a gyfieithwyd yn Gymraec gan W. Jones Gweinidog yr Efengyl.

Printiedig yn Llundain gan A. Maxwell i'r Awdwr yn y flwyddyn 1676.

At fy anwyl gyfeillion, Trigolion plwyf Se­pulchres yn Llundain.

Fy anwyl gyfeillion,

MEgis y mae hyfforddi iechydwriaeth eneidiau dynion yn waith o'r godidoccaf, felly y dylai fod yn awydd­fryd diwyd i bob Cristion yn ei lè a'i alwedigaeth, yn enwedig i Weinidogion yr Efengyl, swydd pa rai sydd yn galw arnynt i lafurio yn ddyfalach ynddo. Yr awrhon gan fod yr ail-anedigaeth yn llwyr augenrheidiol i iechydwriaeth, ac nas gellir dyfod i Gaersalem Newydd heb anedigaeth newydd: Yn ol y gallu a roddes Duw i mi, Myfi o osodais allan na­tur ac angenrhaid yr ail-anedigaeth yn y traethawd bychan hwn, ynghyd âr m [...]ddion iw cyflawni ar eich rhan chwi i ddyfod o hyd iddo. Yn hwn y gosodais ger eich bronnau nef ac u­ffern, dedwyddwch a thrueni. Oh na baech mor ddoeth a de­wis nef o flaen uffern, dedwyddwch o flaen trueni.

Mal nas attalwyf chwi yn hwy, mi derfynaf y llythr hwn gan ddymuned arnoch dri pheth.

1. Ar i chwi dderbyn yn dirion y llyfr bychan hwn a drae­tha ar destyn mor rheidiol tuag at eich happusdra tragwyddol chwi.

2. Ar ryngu bodd i chwi ei arfer ef eich hunain, a chy­meryd peth amser iw ddarllen i'ch teuluoedd, oni chewch en­nyd ar ddyddiau 'r wythnos, Yna i ddarllen rhyw ran o honam ar bob dydd yr Arglwydd, nes i chwi ei ddarllen trwyddo.

3. Na byddo i chwi gloi arno yn eich ystafelloedd dirgel, [Page] eithr ei adel i fod yn eich tai, lle caffo eich plant, a'ch gwasnaethyddion ei arfer fel y caffont achlysur. Pwy a wyr mor dyccianus a ffrwythlon y dichon y traethawd plaen hwn brifio, os rhynga fodd i'r Arglwydd ei ddilyn â'i fendith?

Ar i'r Arglwydd am hynny felly fendithio fy llafur egwan hwn, mal y dychweler y rhai sydd etto yn eu cyflwr naturiol, ac yr adeilader y dychweledig yn y grâs ym mha un y safant yw dymuniad diffuant a gweddi galonnog

THO. GOUGE.

IMPRIMATUR.

April 14. 1671.
Guliel. Wigan, Rev. Humph. Epis. Lond. a Sacr. Dom.
Joan 3.1, 2, 3.

1. Ac yr oedd dŷn o'r Pharisaeaid, a'i Enw Nicodemus, Pennaeth yr Iddewon.

2. Hwn a ddaeth at yr Jesu liw nôs, ac a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai Dysgawdur ydwyt ti wedi dyfod oddiwrth Dduw; canys ni allei neb wneuthur y gwrthian hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fod Duw gydag ef.

3. Jesu a attebodd, ac a ddywedodd wrtho, yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, Oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.

PEN. I. Esponiad y gwersi a'r Athrawiaethau o honynt.

O Ddechreuad y drydydd Bennod hon hyd y 22 wers, y gosodir ar lawr yr ymddiddan rhwng ein Jachawdur bendigedig a Nicodemus; yn yr hyn y mae tri pheth yn nodedig.

1. Fe adroddir pwy yw Nicodemus.

2. Achos yr ymddiddan, yr hyn oedd, dyfodiad Nico­demus at Ghrist, a nodir gwers 2.

3. Yr ymddiddan ei hun o'r 3 wers hyd y 22.

I. Fe-ddangosir pwy ydyw Nicodemus fel hyn, gwers 1. Yr oedd dŷn o'r Pharisaeaid, a'i enw Nicodemus, Pennaeth yr Iddewon: Yma y gosodir ef allan,

1. Wrth ei Enw, Nicodemus, yr hyn a osodir yn eglur ar lawr fel o ran gwirionedd yr histôri, felly o ran parch i'r gŵr. Nodedig yw, fod yn yr 'Sgrythyrau Sanctaidd fwyaf gofal am osod i lawr enwau gwŷr-da, y rhai yn eu bywyd, ryw ffordd neu gilydd, a osodasant allan ogo­niant Duw, ac a'u gwnaethant eu hunain yn Siamplau [Page 2] teilwng iw dilyn. Canys Duw a anrhydedda y rhai a'i an­rhydeddant ef, ac a wnâ eu Coffadwriaeth hwynt yn fendige­dig.

2. Wrth ei Sect, fe ddywedir yn eglur ei fôd ef yn ddŷn o'r Pharisaeaid: Yr hon oedd yn Sect neillduol ym mhlith yr Iddewon, o gyfrif vchel o ran ymddangosiad o Sanctei­ddrwydd a Phroffess enwedigol. Ond etto mewn gwiri­onedd gwîr Ragrithwyr oeddynt: Canys yr Oeddynt yn gwneuthur y Cwbl er mwyn eu gweled gan ddynion. Yr hyn gan i Ghrist ei ddatguddio, a'i amlygu i'r bobl, hwy a brifiasant yn Elynion ac yn Erlidwŷr mwyaf iddo.

3. Wrth ei Swydd. Fe ddywedir yn gyffredinol ei fôd ef yn Bennaeth yr Iddewon. Yr hyn ni chymerir, fel pe buasei ef yn vnig, neu vchaf Bennaeth yr Iddewon, ond i ddangos nad oedd efe yn vn o'r bobl gyffredin, ond vn o'r rheini oedd ganddynt Awdurdod a rheolaeth ym mysg yr Iddewon.

Peth iw nodi ydyw, mai ychydig o'r Pharisaeaid a'r Pe­nnaethiaid a dderbyniasant Athrawiaeth Christ, ac a gre­dasant ynddo, fel y gwelir wrth eu gair eu hunain. A gredodd nêb o'r Pennaethiaid ynddo ef, neu o'r Pharisaeaid? Joan 7.48. Yr hyn ymofyniad sydd yn arwyddoccâu Nâg crŷf; yn nodi, nad oedd neb, neu ychydig iawn o'r Pennaethiaid a'r Pharisaeaid yn credu y Nghrist. Yr oeddynt wedi chwyddo felly gan falchder trwy eu lleoedd vchel; ac wedi eu llenwi felly ag vchelfryd o'u Proffess gaeth, a'u golygus Sancteiddrwydd; ac felly yn feddiannol o ragfarn yn erbyn Athrawiaeth Crist yr hon oedd yspry­dol a nefol, fel yr oedd eu calonnau yn berwi i fynu â llawer o genfygen a llid yn ei erbyn; ac ar hynny a geisient lawer modd ei rwydo a'i faglu ef. Je, o wîr falis, yr oeddynt yn sychedig am ei waed ef, ac ni pheidiasant, nes iddynt gymeryd ymaith ei fywyd ef. Etto yma ni welwn vn yr hwn oedd yn Pharisaead ac yn Ben­naeth yn dyfod i fod yn ddisgybl i Jesu Ghrist, yr hwn a ddysgodd Christ, fel yn Athrawiaeth yr Ail-enedigaeth, felly yn llawer o brif-byngciau eraill o'r Grefydd, ac ar hyn a ddaeth i fod yn wîr Gredadyn: O'r hyn y Nodwn, Fôd gwlîth grâs Duw yn fynych yn syrthio ar y mwyaf dyrras. Y [Page 3] derbynir yn fynych y Pechaduriaid mwyaf i drugaredd, ac a go­fleidir ym mreichiau rhâd Râs Duw.

Hyn a wnâ Duw, fel i fawrhâu cyfoeth ei Râs, felly i ro [...] calon yn y Pechaduriaid mwyaf hynodol i droi oddiwrth eu pechodau, ac i edrych arno ef am druga­redd. Canys, a dderbynir y Pechaduriaid mwyaf ryw brydieu i drugaredd? Yna mae gobaith o drugaredd i ti, er amled a maint yw dy bechodau. S. Paul yn llefaru am drugaredd Duw iddo ef, yr hwn nid oedd yn unig yn bechadur mawr, ond y Pennaf o'r pechaduriaid, sydd yn mynegi fôd Duw wedi dangos trugaredd iddo ef, fel y gallei fôd yn sylfaen gobaith hyderus i bechaduriaid mawrion ysceler eraill; O achos hyn y cefais drugaredd fel y dangosei Jesu Ghrist ynofi yn gyntaf, bôb hîr-oddes, ar siampl i'r rhai a gredant rhagllaw ynddo ef i fywyd tragwy­ddol, 1 Tim. 1.16. Yn ddiammeu, fe gofir yn yr ysgrythur am Dróad llawer o bechaduriaid hynod, nid yn vnig yn goffadwriaeth o'r hyn a wnaeth Duw tros eraill, ond hefyd yn nôd ac yn arwydd o'r hyn y mae efe etto yn barod iw wneuthur tros y pechaduriaid mwyaf, ar eu tróad oddiwrth eu pechodau atto ef trwy wîr edifeirwch, ac ymwasgu ag Jesu Ghrist trwy wîr a bywiol ffydd. Oh gan hynny, gâd i'r siamplau mawr rhyfeddol hynny o drugaredd a ddelir allan yn yr ysgrythur, dy annog di i ymwrthod â'th bechodau, i droi dalen newydd, ac i ymwasgu ag Jesu Ghrist ar ammodau 'r Efengyl.

II. Yr Achos o'r Ymddiddan rhwng Christ a Nicodemus a ganlyn, gwers. 2. A hynny oedd ei ddyfodiad ef at Ghrist, yr hyn a helaethir ymmhellach trwy 'r amser y daeth, a hynny oedd liw nôs. Yr oedd mynediad Nicodemus at Ghrist am ychwaneg o addysg yn ffordd a moddion Je­chydwriaeth, yn eglur ddangos gwirionedd ei ffydd ef; ond ei fynediad liw nôs oedd yn dangos gwendid ei ffydd ef. Efe a gredodd ar glywed Christ yn pregethu, a gweled y rhyfeddodau a wnaeth efe, ei fôd ef yn Ddysgawdur wedi ei ddanfon gan Dduw. Etto oblegid mai Pharisoead a Phennaeth oedd, fe dybiodd yn ammarch iddo fyned ar gyhoedd at Ghrist iw addysgu ganddo; ond fe aeth liw nôs, ac felly y dangosodd wendid ei ffydd; o'r hyn y [Page 4] gallwn nodi yr athrawiaeth hon, Fe all gwîr ffydd fôd yn wan iawn. Y titl hwn, O chwi o ychydig ffydd, yr hyn a roes Chryst yn fynych yn erbyn ei Ddisgyblion, sydd yn eglur-brofi hynny. Felly hefyd gair y dŷn truan a le­fodd ar Ghrist, Marc 9.24. Yr wyfi yn credu ô Arglwydd, cymmorth fy anghrediniaeth i; y gair cyntaf, yr wyf yn credu, a ddengys wirionedd ei ffydd ef; yr ail gair, anghrediniaeth, sydd yn dangos gwendid ei ffydd ef, yr hon oedd cyn wanned, ac y mae yn ei galw yn angbrediniaeth.

Er bod dy ffydd yr awron yn wann, gwybydd er dy gyssur, fôd y ffydd wannaf, os bydd yn gywir, ac yn ddifuant, yn ddigonol i iechydwriaeth. Canys er nad yw Duw yn rhoi i'r holl ffyddloniaid yr vn mesur a gradd o ffydd, ond i rai fwy, ac i rai lai; etto nid yw yn rhoi i neb o'r eiddo lai nag sydd ddigonol er eu hiechydwriaeth; fel y mae hyn yn y ffydd leiaf, ei bod yn ddigonol i Jechydwriaeth, gan ei bód yn rhoi i ni ran ynghrist, ac yn holl addewidion yr Efengyl.

III. Yr ymddiddan ei hun a ganlyn, yr hwn sydd Holi ac atteb rhwng Nicodemus a'n Jachawdur bendigedig; Lle mae Nicodemus yn dechreu, gan ddywedyd, Rabbi, ni a wyddom, mai Dysgawdur ydwyt ti wedi dyfod oddiwrth Dduw: Yn yr hyn y gallwn nodi.

I. Y Titl y mae efe yn ei roi i'n Jachawdr, Rabbi, yr hyn a gyfieithir, Athro, ac felly mae 'r Efangylwr yn ei Espo­nio, Joan 1.38. Gair cyssylltedig yw, ac mae 'n ar­wyddoccau fy Athro. Rab sy'n arwyddo gŵr godidawg, sydd yn rhagori ar eraill mewn gwybodaeth a dŷsg, ac am hynny a ellir yn dda ei gymmeryd yn Athro neu Ddysgawdur.

II. Y Broffess a wnâ Nicodemus am Ghrist: Yn yr hyn y gallwn nodi,

1. Y broffess ei hun, Ni a wyddom mai Dysgawdur wyti modi dyfod oddiwrth Dduw.

2. Yn ail, y Rheswm o hynny yn y geiriau nessaf, Canys ni allei neb wneuthur y gwrthiau hyn yr wyt ti yn eu gwneuthur, oni bai fôd Duw gydag ef. Fel pe dywedasei, Pwy bynnag sydd yn gwneuthur gwrthiau, oddiwrth Dduw y mae yn dyfod, ond yr wyt ti yn gwneuthur [Page 5] gwrthiau, am hynny yr wyt ti yn dyfod oddiwrth Dduw. Mae r gair hwn, Y gwrthiau hyn yr wyti yn eu gwneuthur, yn nodedig iawn, ac yn dangos mai gwrthiau mawr iawn oedd y rhai a wnaeth Christ, ac felly y mae 'n Cadarn­haû 'r ymresymiad yn fwy. Mae y rheswm yn grŷf, ac yn rhoi ini yr Addysg hon,

Ni ellir gwneuthur gwrthiau ond trwy allu Duw. Canys mae gwrthiau yn newid trefn a threigl Natur, yr hyn ni all neb ei wneuthur, ond yr hwn a ordeiniodd ac a osododd y drefn honno, fef Duw. Ni safafi ar hyn, fel y prysurwyf at yr hyn yw fy mwriad pennaf yn y Tra­ethawd hwn.

Yn wers 3. Atteb Christ i Nicodemus a ganlyn, yr hyn a barheîr hyd gwers 22. Yn yr hyn mae Christ yn gyntaf yn dangos Angenrhaid yr Ail-enedigaeth, yn y geiriau hyn, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti, Oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw.

Cyn i ni ddyfod at sylwedd ymddiddan Christ, nodwn y modd y mae efe yn derbyn Nicodemus.

Chwi a glywsoch o'r gwersi o'r blaen fod Nicodemus yn Pharisoead ac yn Bennaeth, y ddau fâth o ddynion oedd fwyaf yn gwrthwynebu Christ. A chwi a glywsoch am ei wendid ef, pa fodd trwy ofn a chywilydd, y daeth efe at Ghrist liw nôs, yn anhawdd ganddo gael ei weled gy­dag ef. Etto nid yw Christ yn ei wrthod ef, ond yn ei dderbyn ef yn addfwyn, ac yn ei ddysgu yn y Cyfryw Byngciau, y rhai ni wyddai, er eu bod yn Byngciau sylweddol, angenrheidiol i Jechydwriaeth. O'r hyn y gallwn nodi yr Athrawiaeth hon, Mae Christ yn barod i dderbyn y rhai mewn gwirionedd ac vniondeb a ddêl atto, er bôd amryw wendid arnynt. Nid yw yn gwrthod y rhai fydd wan yn y ffydd o herwydd eu gwendid. Ni ddar­llenwn yn histori 'r Efengyl, tra fu efe yn byw ar y ddaiar, na wrthododd efe nêb a ddaeth atto mewn vni­ondeb calon; rhai yn wîr a aethant ymaith o honynt eu hunain, ond ni thrôdd efe nêb ymaith. Ac a all nêb feddwl, nad oes gan Ghrist, yr awron yn y Nefoedd, yr [...]n ymysgaroedd o dosturi tu ac at y rhai a ddêl atto ef, ac yr oedd ganddo pan oedd ar y ddaiar? Yn ddiau [Page 6] er ei fod yno yn rhydd oddiwrth gynnwrf, etto nid yw oddiwrth dosturi tu ac at ffyddloniaid gweiniaid. Yr hyn er ys talm a brophwydwyd am dano gan Isaiah, Pen. 42.3. a gafwyd erioed, ac a geir etto yn wîr ynddo ef, sef. Ni ddryllia gorsen yssig, ac ni ddiffydd lîn yn mygu: Hynny yw, Nid ymdrîn efe yn arw ac yn llym a Christianogion gweiniaid, y rhai sydd wan mewn grâs, ond yn hawdd­gar ac yn llariaidd.

Canys diben Christ yn dyfod i'r bŷd oedd, i geisio, ae i gadw y rhai a gollasid, Luc. 19.10. Ac a allwn ni feddwl am Ghrist, yr hwn sydd yn myned ar ôl y rhai sydd yn cilio oddiwrtho, y gwrthyd efe neb a fo mewn gwirio­nedd yn ei geifio?

Pa galon y ddylai hyn roi ym mhôb credadyn truan, er gwanned ei ffydd, i fyned at Ghrist, fel i gryfhaû ei ffydd wann, felly i orchfygu ei drachwantau cryfion, ac i adfywio ei enaid methedig! I roi calon ym mhellach ynoch, mae Gwahodd grafol Jesu Ghrist, Deuwch attafi bawb ac sydd yn flinderog, ac yn llwyrhog, ac mi a esmwythâf arnoch, Matt. 11.28. A barodd efe i ti ddyfod ac a wrthyd efe di pan ddelych? A alwodd efe, Deuwch chwi rai Sanctaidd, Deuwch chwi rai cyfiawn, deuwch chwi rai cryfion, a chwi yn vnig a gewch orphwystra? Oni alwodd efe yr Enaid gwan, blinderog, yn pallu, yn me­thu? Dôs enaid gwan, truan, dôs at Ghrist, wele ef yn dy alw di, ac ti a elli ddisgwyl iacháad.

Wyti yn flîn arnat oblegid gwendid dy ffydd, yn cwyno nad oes gennit ficcrwydd o'th ran ynghrist, dim siccrwydd o faddeuant dy bechodau? Dôs at Ghrist mewn gweddi am gynnydd ffydd, gan gredu ei fôd ef, fel yn abl, felly yn ewyllysgar i gadarnhaû dy ffydd wan. Ac nac ofna, ci a gei y cyfryw fesur o nerth wedi ei chwanegu attat, ac a welo Christ fod yn oreu, ac a fo digonol itti.

Wyti yn deimladwy o weithrediad ac o gynhyrfiad llygredigaeth ynot, gan osni rhag iddo arglwyddiaethu arnat? Cymmer afael ar yr addewid hwnnw. Rhuf. 6.14. Nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi. Ac mewn hy­der ar ei ffyddlondeb ef a'i llefarodd, gosod ar Ghrist mewn gweddi, ar iddo gyflawni y gair Daionus hwnw [Page 7] itti, ac yno saf yn llonydd, a gwel Jechydwriaeth Duw. Ni all Trachwant, er cryfed fo, sefyll o flaen gweddi ffydd; yn vnig cymmer ofal, gwedi i ti weddio, i wilied yn ddyfal.

Wyti yn cael gosod arnat gan demptasiwnau Satan, ac yn ofni rhag iddo ef gael y maes neu 'r oruchafiaeth ar­nat ti? Dôs at Ghrist mewn gweddi, am nerth a chym­morth yn eu herbyn, gan gredu fod, fel grym yNghrist, felly parodrwydd ynddo i'th helpio ac i'th gryfhaû: Ac ti fyddi siccr, oni chei ymwared o'th demtasiwnau, [...] gael grâs digonol iw gwrthwynebu, a grym iw gorchfy­gu.

Yn ddiweddaf, wyti yn flin arnat oblegid calon drom wedi ei chaledu? Oblegid calon front aflan? Oblegid calon fydol a chybyddus? Oblegid calon falch ddiffrwyth? Dôs at Ghrist mewn gweddi, gan gredu fôd, fel grym ynddo, felly parodrwydd hefyd, i feddalhâu dy galon galed, i buro dy galon front aflan, i ysprydoli dy ga­lon fydol a chybyddus; i ddarostwng dy galon falch, i wneuthur dy galon ddiffrwyth yn ffrwythlon; Ac na am­mei y cei dy galon galed mewn rhyw fesur wedi ei me­ddalhaû; dy galon front aflan mewn rhyw fesur wedi ei phuro; dy galon fydol a chybyddus mewn rhyw fesur wedi ei hysprydoli; dy galon falch mewn rhyw fesur wedi ei darostwng, dy galon ddiffrwyth mewn rhyw fe­sur wedi ei gwneuthur yn ffrwythlon.

Ac yn ddiau, vn rheswm enwedigol, pa'm y mae llawer yn myned mor riddfanllyd a chwynfanus tan gaethiwed llygredigaeth, tan bŵys a baich eu doluriau ysprydol. a'u clefydau, ydyw, am nad ydynt yn myned at Ghrist mewn gweddi am ymwared oddiwrthynt; neu trwy wen­did eu ffydd, nid ydynt yn credu fod Christ, fel yn abl, felly yn Ewyllysgar iw helpio a'u gwaredu. Canys yr hyn a ddywedodd Christ wrth y dŷn truan a ddaethei atto yn achos ei blentyn lloerig, mae efe etto yn ei ddywedyd wrthit tithau, Os gelli di gredu, pob peth a all fod i'r nêb a gredo.

Gwrthres. Rhyw vn a ddywed, Mi a euthym yn fynych at Ghrist mewn gweddi, yn taer-geisio ganddo ef gryf­haû [Page 8] fy rhadau neu 'm grasusau gweiniaid, darostwng fy chwantau a'm llygredigaethau cryfion, meddalhaû fy nghalon galed, &c. Ond ni fedraf weddio mewn ffydd; Ni fedraf gredu ei fôd ef, fel yn abl, felly yn ewyllys­gar i ganiadhâu fy nymuniadau.

Atteb. Ti a elli weddio mewn ffydd, ei pan fo'ch di yn meddwl nad wyti yn credu. Fe gamgymmer Christianogion gweiniaid yn fynych yn hyn, gan feddwl oni byddant yn hyderus-goelio y gwrendy Duw arnynt, nad ydynt yn gweddio mewn ffydd. Canys nid hyderus-goelio y gwrendy Duw arnom, ond pwyso ar Ghrist mewn gobaith y gwrendy, hynny yw ein hyfryd eglurdeb o ffydd mewn gweddi. Ti a ddywedi, yr wyf yn gweddio, ac yn gweddio, ond ni elli goelio y gwrendy y sanctaidd Dduw ar weddiau y cyfryw bechadur gwael annheilwng; ac ar hyn yr wyti yn barnu, nad wyt yn gweddio mewn ffydd. Ond mi a ofynnaf it; wyti yn rhoi i synu dy wed­diau yn enw Christ? Wyti yn pwyso arno ef mewn gobaith o atteb er ei fwyn ef? Hyn yw gweddio mewn ffydd. A hynny am dderbyniad Nicodemus at Ghrist.

PEN. II. Esponiad y 3 wers, a'r Nôd neu 'r Athrawiaeth yn Codi o hynny.

DEuwn bellach at y Pwngc cyntaf cyffredinol am yr hyn y mae Christ yn ymddiddan a Nicodemus, a hynny oedd yr Athrawiaeth o'r Ail-enedigaeth, yn y geiriau hyn, Yn wîr, yn wîr, meddaf i ti oddieithr geni dyn drachefn, ni ddichon efe weled teyrnas Dduw. Yn y rhai y gallwn nodi,

  • 1. Y modd y gosodir allan hynny.
  • 2. Y defnydd a'r sylwedd o hono.

Am y Modd, fe osodir allan trwy siccrkâd dau-ddyblig, yn wîr, yn wîr, meddaf itti. Dull o ymadrodd a arferid yn fynych gan ein Jachawdr pan fynnai yn nodedig [...]crhâu rhyw wirionedd pwys-fawr. Nid arferodd erloed, [Page 9] ond mewn pethau mawr gyfrifol. Trwy hyn gan hynny mae ein Jachawdr yn rhoi ini ddeall, fôd y gwirionedd a osodir yma a' [...] lawr, yn wirionedd pwysfawr, nid iw ysgafn­ystyried, ac i fyned trosto yn ysgoewan.

Defnydd neu sylwedd yr Athrawiaeth o'r Ail-enedigaeth, fel y gofododd Christ hi ar lawr, na ganlyn yn y geiriau hyn; Oddieithr geni dŷn drachefn, ni ddichon efe weled Teyr­nas Dduw.

O ran traethu yn fwy buddiol am hyn,

  • 1. Mi a egluraf y geiriau, gan roi allan eu meddwl neu eu gwir ystyriaeth hwynt.
  • 2. Mi a gyfodaf allan o honynt, ac a ddilynaf y cyfryw Byngciau o Addyfg ac sydd ynddynt.

Am eglurob'r geiriau:

Oddieithr geni dŷn. Hyn a ddywedir mewn cyffelybiaeth, a modd ysprydol, ar debygoliaeth i'n genedigaeth naturiol, yr hyn pan ni ddaliodd Nicodemus arno, fe lwyr gam­gymerodd eiriau Christ.

Felly y gair hwn [ geni] neu genhediu, a arferir i ddangos fod yn rhaid newid holl natur dŷn, ac mewn modd ei adeiladu o newydd, nid o ran y sylwedd, ond o ra [...] ei gynneddfau. Ni ddestrywir mor hanfod, na'r sylwedd naturiol, nac o ran yr enaid nac o ran y Corph. ond y mae 'n aros etto yr yn; yn vnig f a'i diosgir o'r hên, ac a'i gwisgir a chynneddfau newydd. Yr hwn a ail-anwyd, sydd ynddo ddeall newydd, ewyllys newydd, an­wydau newydd, ie dymuniadau newydd, ac ymarweddiad newydd. Felly y meddwl yw, Ni ddichon nêb fyned i'r ne­foedd, oddieithr yn gyntaf iddo gael ei wîr drôi, a'i newid gan yspryd Duw, a'i wneuthnr yn ddŷn newydd o ran yr hyn oedd ef yn ei anedigaeth gyntaf; wedi ei dynnu allan o gyflwr natur, a'i ddwyn i gyflwr grâs, ac felly myned yn greadur newydd, fel o ran y modd newydd o greadigaeth, felly o ran y modd newydd o ymarweddiad, yn byw mâch arall a'r fuchedd, nag yr oedd o'r blaen.

[Geni drachfn] Mae 'r gair hwn yn arwyddo anghen­rhaid yr Ail-enedigaeth, sef fod dŷn wedi ei eni o'r yspryd, yn gystal ac wedi ei eni o'r Cnawd, os amgen, fe fuasei well iddo na's ganesid ddim.

[Page 10] Ni ddichon weled teyrnas Dduw.) Teyrnas a gymmerir yma am y Cyflwr happus y dŵg Duw ei Etholedigion y­Nghrist iddo, mynediad i mewn i'r hwn sydd yn y bywyd hwn, yr hyn a elwir yn gyffredinol Teyrnas grâs: Y llawn feddiant sydd yn y bŷd a ddaw, a elwir Teyrnas gogoniant. Nid yw y rhai hyn yn ddwy Deyrnas wahanredol, ond dáu râdd o'r vn a'r vnrhyw Deyrnas. Felly gan fôd Christ yn dywedyd, Ni ddichon weled teyrnas Dduw, yr vn yw a phe dywedasei, Ni ddichon fyned i mewn i deyr­nas Dduw, felly mae ein Jachawdr yn dangos yn eglur. gwers. 5. Oddieithr geni dŷn o ddwfr ac o'r yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw, hynny yw, Ni ddichon fôd yn gadwedig.

Gwedi egluro y geiriau fel hyn, trwy ddangos i chwi eu meddwl a'u hystyriaeth, maent yn Cynnwys ynddynt y Pwngc hwn o Athrawiaeth—

Athr. Mae 'r Ail-enedigaeth yn angenrheidiol i Jechydwri­aeth.

Yr Athrawiaeth hon, o ran y sylwedd a adroddir drachefn, gwers [...]. Yn wîr, yn nûr, meddaf i oi, oddiethr geni dŷn drachefn o ddwfr ac o'r yspryd, ni ddichon efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw. Felly ein Jachawdr drwy adrodd yr Athrawiaeth hon ddwy-waith, gwers 3. ar 5. ac yn y ddau le yn rhoi y siccrhâd dau-ddyblig o'r blaen. Yn wîr, yn wîr; sydd yn nodedig-gadarnhaû y gwirionedd hyn, ac am hynny nid rhaid dim pellach ei brofi.

Ond am ddeall yn well ac iawn gymhwyso yr Athra­wiaeth hon, mi a ddangosaf,

  • 1. Natur yr Ail-enedigaeth, Beth ydyw.
  • 2. Rhanmau 'r Ail-enedigaeth.
  • 3. Yr Achosion sydd yn cyd-fyned i waith yr Ail-enedi­gaeth.
  • 4. Y rhesymmau yn profi argenrhaid yr Ail-enedigaeth i Jechydwriaeth.
  • 5. Defnyddiau y Pwngc.

Am y Cyntaf, Beth yw'r Ail-enedigaeth? Ail-enedigaeth yw y Grâs hwnnw, trwy ba vn y gwneir y dŷn naturiol yn ddŷn yspry­dol, neu yn ddŷn newydd. Je efe, yif hwn trwy bechod oedd yn blentyn i ddiafol, a wneir yn blentyn i Dduw. Canys fel trwy [Page 11] rym ein cenhedliad a'n genedigaeth naturiol fe wnéir yr hwn nid oedd ddŷn yn ddŷn, neu fâb dŷn: Felly trwy 'r Enedigaeth ysprydol hon, yr hwn oedd yn ddŷn anianol, a wneir yn ddŷn ysprydol, yn ddŷn newydd, yn blentyn Duw. Fel i ddywedyd yn briodol, Ail-enedigaeth yw genedigaeth arall a'r ôl y gyntaf. Genedigaeth ysprydol a'r ôl ein gene­digaeth naturiol, trwy ba vn mae dŷn megis yn ddŷn arall. Fel y dywedir am Galeb, ei fod ef yn ddŷn o yspryd arall, felly y gellir dywedyd am ddŷn wedi ei ail­eni, ei fod ef o yspryd arall, gwedi ei lwyr newid o'r hyn oedd efe o'r blaen.

Yr awron ni ellir meddwl fod yr ail-enedigaeth, neu 'r ail-genhedliad hwn, yn enedigaeth ar ôl y Cnawd; Canys ni was'naetha i ni feddwl dim cnawdol, anianol, yn yr ail-enedigaeth. Ond yr ail-enedigaeth sydd enedigaeth ysprydol, genedigaeth o'r yspryd, fel y mae yn eglur o'r geiriau. Jo. 3.6. Yr hyn a aner o'r yspryd, sydd yspryd. Felly trwy waith yr Ail-enedigaeth y Cnawd a droir yn yspryd; hynny yw, tuedd ac athry-lith cnawdol dŷn, sef ei duedd llygredig, a droir ac a newidir i athrylith newydd, sanctaidd; wrth yr hyn eglur yw, fod Ail-enedigaeth megis yn gréad newydd, ac fe elwir dyn wedi ei ail-eni yn greadur newydd. Gwedi ei ad­newyddu trwyddo, trwy ei enaid, a'i holl nerthoedd, a thrwy ei gorph a'i holl rannau ai aelodau. Fel y mae y Deall tywyll mewn mesur wedi ei oleuo â gwybodaeth o Dduw, ac â gwybodaeth o Jesu Ghrist. Yr Ewyllys cyndyn gwrthryfelgar sydd mewn mesur yn vfudd, ac yn gyd-ffurfiol ag ewyllys Duw. Y Gydwybod seriedig ansyniol sydd wedi ei deffrôi a'i bywhaû: Y galon galed sydd wedi ei meddalhaû, yr anwydau afreolus sydd wedi eu Croeshoelio; A'r Corph, a'i holl ra­nnau a'i aelodau a wneir yn offerau parod i gyflawni bwriadau daionus y meddwl. Fal hyn y llwyr-weithir ar ddynion trwy 'r Ail-enedigaeth, wedi eu troi a'u newid yn rhyfeddol o'r hyn oeddynt o'r blaen. O ran y newid hon y dywedir eu bod wedi eu geni drachefn; Oblegid trwy hyn yr ail-osodir arnom ddelw Duw, yn yr hon y Creuwyd ni ar y cyntaf; Ond yr awrhon trwy ein lly­gredigaeth yn y Cwymp ydym yn hollawl hebddi yn ein genedigaeth gyntaf. Yr hyn a all ddangos ini lygriad [Page 12] rhyfeddol eln natur ni, yr hwn oedd gyfryw, ac ni was'naethei ein diwygio a'n atgyweirio, ond rhaid i Dduw ein gwneuthur o newydd, a'n newydd grêu ni, rhaid ein geni ni drachefn, ein gwneuthur ni yn greaduriaid newydd.

Cwest. Oes dim graddau yn yr Ail-enedigaeth?

Atteb. Oes yn wîr: Canys fe ellir ystyried yr All-ene­gaeth yn ei ddechreuad a'i gynnydd neu yn ei gyflawniad a'i berffeithrwydd.

Mae yn dechreu ac yn Cynnyddu yn y bywyd hwn, fe gwblhêir ac a berffeithir yn y bŷd a ddaw.

Mae pechod a llygredigaeth yn aros ym mhawb wedi eu hail-eni, tra fo eu heneidiau yn aros yn eu Cyrph marwol; mae yn aros, er nad yw yn teyrnasu ynddynt. fe fwrir i lawr yn y bŷd hwn, ond ni lwyr fwrir ef allan. Habitat, sed non regnat; manet, sed non dominatur; dejectum, sed non ejectum tameu &c. Bern. in serm. 10. Psal. 90.

A hyn mae Duw mewn mawr ddoethineb yn ei adel, i'n cadw ni yn issel ac yn ostyngedig ynom ein hunain, ac i'n gyrru ni at Jesu Ghrist, fel tra fo y ffynhonnell hon o waed yn rhedeg, y byddem bob amser yn chwannog i gyffwrdd ag ymyl ei wîsg ef.

Ond a'r farwolaeth, y llygredigaeth hwnnw a lwyr yssir i fynu, a chorph ac enaid a lwyr ryddheîr oddiwr­tho: Yn gymmaint ac ar yr adgyfodiad, pan gyssyllter drachefn yr enaid a'r Corph, yr ail-enedigaeth wedi ei ddechreu yn y bŷd hwn a ddangosir ei fod yn llawn berffaith. Ond yn y bywyd hwn y rhai goreu sydd am­mherffaith, trwy weddillion pechod a llygredigaeth, yr hyn a erys ynddynt, tra yr arhofont yn y bŷd hwn.

Gan fôd gan hynny gwaith yr Ail-enedigaeth yn am­mherffaith yn y goreu yma yn y bywyd hwn, a bôd y cnawd a llygredigaeth yn aros ynddynt, tra bônt yn y Bŷd hwn; Nac edrych di yn rhŷ vchel, fy meddwl yw, or ôl mesur a grâdd mwy o râs, nag sydd iw gael yma. Mae llawer o'r rhai a ail-anwyd trwy yspryd Duw, ac felly a ddygwyd o gyflwr natur i gyflwr grâs, yn ebrwydd yn edrych am ymwared oddiwrth bôb pechod a llygre­digaeth; ac am eu bôd yn ei gael yn Cynhyrsu ac yn gweithio ynddynt; maent yn ammeu gwaith yr Ail-ene­digaeth [Page 13] a gwirionedd grâs yn eu heneidiau. Ond gwy­bydded y cyfryw eu bôd yn edrych am ychwaneg nag sydd iw gael yma, neu mae Duw yn ei ddisgwyl oddi wrthynt.

Canys nid yw Duw yn disgwyl, nac yn gofyn gennym ni yma, lwyr-rydd-did oddiwrth bechod a llygredigaeth, ond ini ymegnio iw ddarostwng a'i farweiddio fwyfwy, yn ôl mesur y grâs a'r nerth a dderbyniasom ganddo. Nid yw yn gofyn gennym ni, ein bod ni heb pechod, ond na bo pechod yn rheoli nae yn teyrnasu. Rhuf. 6.12. Na t [...]eyrnased pechod yn eich cyrph marwol. Ac nid yw 'r Arglwydd yn gofyn gennym ni lawn-berffaith gyfiawn­der, yr hyn sydd ammhosibl i'n natur lygredig, ond yn vnig ini ymegnio a cheisio â'n holl nerth, a gwîr-ymor­chestu iw wasnaethu ef yn ôl cyfarwyddyd ei Air ef. Ac hefyd am ein diffyg a'n hammerffeithrwydd, ini mewn cyffes ostyngedig alaru am dano, a dymuno cael maddeu­ant am dano trwy haeddedigaethau Jesu Ghrist. A hyn a dderbyn Duw, canys mae yn edrych mwy a'r ein bwriadau, nag a'r ein gweithrediadau, ac yn derbyn yr ewyllys am y weithred, yn ôl hynny o'r Apostol. 2 Cor. 8.1, 2. Os bydd parodrwydd meddwl o'r blaen, yn ôl yr hyn sydd gan vn, mae yn gymmeradwy, nid yn ôl yr hyn nid oes ganddo.

Rhannau 'r Ail-enedigaeth sydd ddwy. 1 Marweiddiad. 2 Bywhâd.

1. Marweiddiad a arwyddoccêir tan y geiriau, o' fwrw ymaith, a chroeshoelio 'r hên ddŷn, a destrywio corph pechod, Rhuf. 6.6. Y ddledswydd hon yn eglur a osodir arnom yn y geiriau hyn. Marwhewch eich aelodau, y rhai sy ar y ddaiar, Col. 3.5. Wrth aelodau ar y ddaiar, mae yn meddwl pob mâth âr drachwantau a phechodau y mae dŷn anianol yn ymrôi iddynt, fel y mae yn eglur wrth y pethau enwedigol y mae efe ei hun yn eu Cyfrif yn y geiriau sy 'n Canlyn, sef, Godineb, aflendid, &c.

Y rhai hyn sydd iw marwhaû, hynny yw, iw rhoi i far­wolaeth. Nid digon yw ffrwyno ac attal pechod, ond rhaid yw lladd ei fywyd ef. Ac yn wîr nid yw bossibl gwisgo 'r dyn newydd, nes diosg yr hen ddŷn. Mae gan [Page 14] hynny angenrhaid o farwhâd yn gyntaf, cyn bywhâd. Ca­nys dwyn i mewn vn ffurf sydd yn rhag-arwyddo rhoi allan, neu ddistrywio 'r llall. Am hynny, a'r ôl Marw­hâd y canlyn Bywhâd.

2. Bywhâd, ydyw cenhedl [...]ad bywyd grâs ynom, o'r hyn yr ydym yn byw mewn sancteiddrwydd a chyfiawn­der. Fe osodir allan yn yr Ysgrythur trwy fod Duw yn ein bywhaû ni, a thrwy ein bod ninnau yn rhodio mewn newydd-deb buchedd, Eph. 2.5.

Mae Bywhâd gan hynny yn arwyddo bywyd newydd ysprydol, y mae Duw trwy ei yspryd yn ei weithio ynom, yr hwn sydd lwyr-wrthwynebol i'n buchedd naturiol ly­gredig o'r blaen. Canys ffrwythau y bywyd hwn ydyw sancteiddrwydd a chyfiawnder, a phob math a'r weithred­oedd da.

Felly mae yn wîr-angenrheidiol, chwanegu y rhan hon o'r Ail-enedigaeth, sef Bywhâd, at yr vn o farwhâd, yr hyn yw y rhan arall, ie mor angenrheidiol ag i Ghrist, wedi marw, adgyfodi. P'le buasei lleshâd marwolaeth Christ, oni buasei iddo gyfodi oddiwrth y meirw? A pha [...]eshâd a ellir ei feddwl fod ym marwhâd? Am hynny ffordd arferol yr Ysgrythur lân ydyw, dwyn i mewn, dilyn sancteiddrwydd, wedi cilio oddiwrth bechod; gwnethur da, wedi gochel drwg. Felly y pethau a gyssylltodd Duw, na wahaned nêb.

Gadewch ini gan hynny brofi ein hail-enedigaeth, nid yn vnig trwy beidio a phechu, ond trwy ddilyn sancte­iddrwydd, a gwneuthur cyfiawnder. Nac ymfodlona i ddywedyd, Nid wyfi yr hyn a fûm, oni elli ddywedyd ym mhellach, yr ydwyf yr hyn nid oeddwn. Ni fuddia fawr itti ddywedyd, Nid wyfi feddwyn, na thyngwr, na chybydd, nac vn yn rhodio ar ôl y cnawd; oni elli ddywedyd hefyd, Trwy râs Duw, yr wyfi yr awron yn rhodio ar ôl yr yspryd; mewn ffydd a chariad, ac vfudd-dod sancta­idd, yn gwilio ac yn ymegnio at ffrwythlondeb ym mhob gweithred dda. Nid wyfi anghyfiawn, meddi, ond wyti yn dangos trugaredd? Nid wyti ond hynny yn ddaiarol, ond wyti o syniad nefol? Nid wyti ond hynny yn ymrysongar ac ymladdgar; ond wyti yn dangnheddyfwr? Nid wyti ond [Page 15] hynny yn cymdeithiasu a'r annuwiol, ond wyti yn gyfaill an­wyl i'r sainct? Nid wyti yr awron yn rhegu, yn tyngu, yn dywedyd celwydd, yn gwawdio; ond wyti yn gweddio ac yn bendithio? Wyti yn gwrando ac yn darllein, ac yn myfyrio ar Dduw? Wyti yn astudio dy galon, ac yn rheoli dy feddyliau a'th anwydau? Wyti yn attal dy da­fod, ac yn gosod cadwraeth ar dy lygaid, a'th gluftiau, a'th gamrau? Ydyw dy ofal di i fodloni, ac ym mhob peth i rodio yn addas o'r Arglwydd? Edrych arnat dy hun rhag dy dwyllo. Bwrw ymaith weithredoedd y ty­wyllwch a gwîsg arfau y Goleuni. Bwrw ymaith yr hên ddŷn, a gwîsg y dŷn newydd, yr hwn, fel y creuwyd a'r Ddelw, felly f' a'th ddŵg ym mlaen yn ôl ewyllys Duw mewn cyfiawnder a gwîr sancteiddrwydd.

Gwedi imi ddangos natur yr Ail-enedigaeth a'i ran­nau; yr wyf yr awron yn dyfod i ddangos pa Achosion sydd yn cŷd-fyned i waith yr Ail-enedigaeth.

1. Yr Achos yn ei weithio, neu 'r Awdur pennaf, yw Duw. Canys am hyn, y genir ni o Dduw. 1 Pet. 1.3. Duw a'n ennillodd ni. Jac. 1.18. Sef, Duw a Thâd ein Har­glwydd Jesu Ghrist.

2. Yr achosion yn ei beri, ydyw, Ewyllys Duw, a thru­garedd Duw. Ni allei fôd dim allan o Dduw iw annog ef; Rhaid gan hynny iddo godi o'i wîr Ewyllys ei hun. Felly y dywed yr Apostol Jaco, Pen. 1.18. O'i wîr Ewy­llys yr ennillodd efe nyni. Ac ni allei fôd dim mewn dŷn i annog Duw i hynny; Canys dŷn wrth natur sydd lwyr­druan. Rhaid gan hynny iddo godi o wîr drugaredd Duw. Canys trueni sydd yn briodol yn gofyn trugaredd. Oblegid hyn y dywedir yn vniawn. 1 Pet. 1.3. ddarfod i Dduw, yn ôl ei fawr drugaredd ein hadgenhediu ni.

3. Gweithiwr digyfrwng yr Ail-enedigaeth yw yspryd Duw; O achos hyn y dywedir ein bôd ni yn cael ein geni o'r yspryd, Joan 3.6. A'r Ail-enedigaeth a elwir ad­newyddiad yr yspryd glân. Tit. 3.5. Canys gwaith Duw ydyw, vwchlaw gallu dŷn.

4. Yr achos neu 'r offeryn arferol trwy ba vn y mae Duw yn ei weithio, ydyw Ei Air ef. O'i wîr ewyllys yr ennillodd efe ni trwy Air y gwirionedd. Jac. 1.18. trwy 'r hyn [Page 16] y deellir yr Efengyl. O achos hyn y gelwir y Gair, yr hâd anllygredig. 1 Pet. 1.23. Yr Efengyl ydyw y rhan hon­no o Air Duw sydd swyaf nerthol i hyn, ar yr hyn y gelwir ef Esengyl Jechydwriaeth, Eph. 1.13. A gallu Duw er jechydwriaeth, Rhuf. 1.16.

5. Gweinidogion a Phregethwyr yr Efengyl ydyw 'r Achosion gweinidogawl o'r Ail-enedigaeth, y rhai o ran eu gweinidogaeth a ddywedir eu bôd yn ein cenhedlu ni, ac a elwir yn Dadau. 1 Cor. 4.15.

Yr holl rai hyn a gynhwysir tan yr Achos wneuthurol, ac ydynt cym mhelled o groesi eu gilydd, ac y maent yn fwyn-gyttuno i ddwyn i ben y gwaith nefol o Ail-enedi­gaeth, gan fod tan eu gilydd, ac a ellir eu cyssylltu yn y drefn hon. Gan fod ewyllys Duw i ddangos trugaredd i ddyn, efe ordeiniodd Weinidogion i daflu hâd ei Air i eneidiau dynion, trwy 'r hwn, pan fywháer trwy 'r yspryd, yr adgenhedlir dynion.

II. Yr Achos ddefnyddiol o'r Ail-enedigaeth, ydyw y rhannau, o'r rhai y mae yn cydsefyll, y rhai ydynt ddau,

1. Marwkâd. 2. Bywhâd, am ba ddaû mi a leferais o'r blaen.

III. Yr achos ffurfiol o'r Ail-enedigaeth, ydyw Delw Dduw a blennir ynom, yr hon sy 'n sefyll mewn sancte­iddrwydd a chyfiawnder. Ar y Ddelw hon y dywedir ein bôd ni wedi ein hadnewyddu, Eph. 4.24. Hyn a wnâ ra­goriaeth hanfodol rhwng dŷn anianol a'r ail-enedi­gol.

IV. Yr achosion dibennol, nesaf tan ogoniant gwîr râs a goludog drugaredd Duw, ŷnt ddau enwedigol.

1. I wneuthur rhai yn abl i wneuthur daioni: Sef. y cy­fryw ddaioni a all sod yn gymmeradwy gan Dduw, ac a all ddwyn anrhydedd iddo, a bod yn fuddiol i eraill, ac yn wîr lesol iddynt eu hunain. Mae 'r Apostol gan hyn­ny wrth sôn am yr Ail-enedigaeth (yr hon a ddangosa­som ei bod yn fáth a'r Greadigaeth) fel hyn yn gosod allan y diben hwn, Ni a grêuir y Nghrist Jesu i weithre­doedd da, Eph. 2.10.

[Page 17]2. I gymhwyso rhai i ogoniant. Canys ni all cnawd llyg­redig fod yn gyfrannog o ogoniant nefol. Ar hyn y dy­wed Christ. Joan 3.3, Oddieithr geni dŷn drachefn, ni all efe weled teyrnas Dduw: Cym mhelled y bydd efe o gael ei dderbyn iddi, ac na chaiff ddyfod cyn agosed, a'i gwe­led hi. Ni chymmer Duw bechadur yn ymdrôi yn ei chwantau pechadurus, ac yn ebrwydd ei goroni â Choron gogoniant. Ac âm hynny fel y Cymhwyser ni i'r Nefo­edd, fe wŷl yr Arglwydd yn dda ein hail-genhedlu ni trwy ei Yspryd, gan ein gwneuthur yn greaduriaid newydd, a thrwy hynny yn gwneuthur ni yn gymmwys i gael rhan o etifeddiaeth y Sainct yn y goleuni, Col. 1.12.

Gwelwn gyfoeth trugaredd a daioni Duw, ddarfod iddo ef nid yn vnig yn crêu ni ar y cyntaf mewn cyflwr hap­pusaf, sef ar ei lûn a'i ddelw ei hûn: Ond hefyd gwedi ini yn arwybod ac o'n gwirfodd syrthio oddiwrth hynny, a'n suddo ein hunain i drueni, yn yr hyn y gallasai ef yn gyfiawn yn gadel ni, fel y gwnaeth i'r Angylion drwg, etto nid yn vnig yr adferodd ni i'r cyflwr cyntaf, trwy adnewyddu ei ddelw arnom; ond trwy hynny a'n cym­hwysodd ni i gyflwr mwy godidawg a gogoneddus! Yn yr hyn beth mae ei ddaioni, fel ei fawredd, yn ymddan­gos, yn anfeidrol ac yn anchwiliadwy. Pwy a all ei o­sod allan yn ddigonol? Canys Cyfuwch ac yw 'r nefoedd uwchlaw 'r ddaiar, y rhagorodd ei drugaredd ar y rhai a'i hosnant of, Psal. 103.11.

PEN. III. Yn dangos y Rhesymmau pam y mae 'r Ail-enedi­gaeth yn angenrheidiol i Jechydwriaeth.

GWedi imi lefaru am y Pwngc mewn modd o Esponi­ad; yr wyf yn dyfod yr awron i lefaru am dano mewn modd o Gadarnhâd; I'r diben hwn mi a ddangosaf i chwi Resymmau y Pwngc, pam y mae 'r Ail-exedigaeth yn angenrheidiol i Jechydwriaeth.

Rhes. 1. Oddiwrth anghyfnewidioldeb arfaeth Duw. Duw yr hwn a'n dewisodd i fywyd, a'n dewisodd hefyd i sancteiddrwydd, megis y ffordd i hynny: Nyni a ddylem ddiolch yn wastad i Dduw trosoch chwi, frodyr caredig gan yr Arglwydd, oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i Jechydwriaeth, trwy sancteiddiad yr yspryd, 2 Thes. 2.13. Pwy bynnag a fynno fyned i mewn i ogoniant, rhaid iddo gymeryd grâs yn ei ffordd. Chwi a ofynnwch, pam na allafi fôd yn gadwedig, oni byddafi ail-enedig? Pam? Oblegid i Dduw lwyr-fwriadu y gwrthwyneb. Hyn yw ewyllys Duw, eich sancteiddiad yn gyntaf; wedi hynny eich Jechydwriaeth, 1 Thes. 4.3.

Yr awron, pwrpasson Duw a saif. Nid oes gydag ef na chyfnewidiad, na chysgod troedigaeth, Jac. 1.17. Fe ddemnir yn gynt yr holl fŷd, nag y bo i bwrpas Duw fyned yn ofer. Rhaid i'r Arglwydd na bo yn Dduw anghyfnewi­diol, os byddi di, yr hwn ni fynni dy sancteiddio, bŷth yn gadwedig.

Rhes. 2. Oddiwrth siccrwydd Gair Duw. Duw a ddywe­dodd, Oddieithr geni dŷn drachefn, ni all efe fyned i mewn i Deyrnas Dduw. Ydyw gair Duw yn ie, ac nagê? Ydyw efe yn dywedyd ac yn gwrth-ddywedyd? Y nêf a'r ddaiar ânt heibio, ond ci air ef nid â heibio ddim, Mat. 24.35. Cyfrif ar hyn bechadur, Cyn siccred a bôd Duw yn eir­wir, ni chei di fŷth weled iechy dwriaeth Duw, oni wneir [Page 19] di yn gyntaf yn gyfrannog o adnewyddiad yr yspryd glân.

Rhes. 3. Oddiwrth y tueddiad sydd i'r Ail-enedigaeth at Je­chydwriacth. Mae 'r Ail-enedigaeth yn râdd ac yn rhan o Jechydwriaeth. Grâs ydyw dechreuad gogoniant, san­cteiddrwydd ydyw dechreuad happusrwydd, perffeithrwydd yr hwn sydd yn y Nefoedd ar ôl hyn, lle y bydd Delw Dduw, a saif mewn gwybodaeth, sancteiddrwydd a chyfiawnder, wedi ei pherffeithio yn ein heneidiau, lle y Cawn garu Duw yn berffaith, ac ymddigrifo ynddo ef, a bôd bŷth yn ei foliannu ef gyd â'r llu nefol. A pha fodd y gelli di ddisgwyl rhan a mwynháad o'r cyflwr bendigedig hwn heb dy ail-eni a'th adne-wyddu yma? Oni adnewyddir Delw Dduw arnat mewn sancteiddrwydd, ac itti wir-garu Duw, ac ymhyfrydu mewn cymmundeb ag ef yma! A elli di ddisgwyl y diweddiad cyn y dechreuad, bod yn ber­ffaith-sanctaidd ar ôl hyn, ac heb ddechreu bod yn san­ctaidd yma? Byw gyd â Duw mewn gogoniant ar ôl hyn, ac etto byw yma a gorwedd yn dy frynti a'th aflendid? A elli di ddisgwyl ar ôl hyn fyw ynghariad tragwyddol Duw, ac etto bôd yma heb ddim carriad gennit iddo? A elli di ddisgwyl ar ôl hyn gyflawnder o ddigrifwch ym mhresennoldeb Duw, ac etto bod yma heb gennit ddim digrifwch ynddo? Ond wyt yn Cymmeryd dy holl ddigrifwch, naill a'i yn cyflawni dy drachwant cybyddus i bentyrru Cyfoeth, neu yn bodloni dy chwantau a'th anwydau pechadurus, trwy ymrôi i ddymuniadau dy gnawd?

Na thwyller di; fel y dywedais o'r blaen, felly rhaid imi ddywedyd etto, Mae grâs yn ddechreuad angenrhei­diol o ogoniant; fel y mae pechod yn ddechreuad mar­wolaeth, ac vffern, felly mae grâs yn flaenffrwyth bywyd a gogoniant. A chyn siccred ac ydyw, na cheiff hwnnw byth vffern ar ôl hyn yr hwn a burwyd yma oddiwrth ei bechodau; felly mor siccr ddiammeu ydyw, na ddaw hwnnw byth i bresennoldeb Duw ar ôl hyn, yr hwn ni wneir yma yn gyfrannog o'r duwiol anian; nid â fo byth i mewn i deyrnas gogoniant, yr hwn ni anwyd yn gyntaf i deyrnas grâs. Bydd yn ddychweledig yn y bŷd hwn, neu [Page 20] ti a fyddi yn wrthodedig yn y bŷd a ddaw. Ti a elli yn gystal ddisgwyl genedigaeth, lle ni luniwyd dim yn y grôth; Canol-ddydd, lle ni bu dim gwawr, a disgwyl byth weled gobeu-ddydd o ogoniant, lle ni bu dim boreu­ddydd o râs.

Rhes. 4. Oddiwrth lygredigaeth Natur Dŷn, yn yr hwn y daeth ef ir Bŷd. Canys ein Rhieni cyntaf, gwedi iddynt trwy eu cwymp ddiwyno y ddelw honno o Dduw yn yr hon y creuwyd hwynt ar y cyntaf, 'a chan eu bod ar hynny wedi eu llygru a'u halogi ym mhob nerth o'u he­naid, mae pawb a ddeuant oddiwrthynt yr vn ffunyd yn llygredig ac yn halogedig; hâd aflan o rieni aflan. Ca­nys pwy a ddyry bech glân allan o beth aflan? nêb, Job 14.4. Ac fe ddywed ein Jachawdr, yr hyn a aner o'r cnawd, sydd gnawd, Jo. 3.6. Hynny yw, Pôb vn a aner o ddŷn; pôb mâb gwraig sydd gnawdol a llygr dig; pôb dyn trwy 'r enedigaeth gyntaf sydd frwnt ac aflan: Yr awron, Nid â dim aflan i deyrnas Dduw. Datc. 21.27. Cred bechadur, Ni chymmer Duw di fyth o'r Dommen, yn ymdroi yn dy Chwantau, a'th osod ti gydag ef ei hun ar yr Orsedd­faingc: Ni fwriadwyd erioed y Tîr sanctaidd am Feddrod i gladdu y meirw ynddo, iw lenwi â brynti a phydredd; nid yw ffâu i Ddre [...]giau, na nŷth i seirph a Gwiberod; ac ni phwrpasswyd erioed iw feddiannu gan Gŵn a Môch. Oddiallan y bydd y Cŵn. Datg. 22.15. Nid ym llygredi­gaeth yn etifeddu anllygredigaeth: Ac ni cheiff cîg a gwaed etifeddu Teyrnas Dduw, 1 Cor. 15.50. Ni all Bastardiaid etifeddu. Rhaid itti yn gyntaf fod yn blentyn, ac yspryd plentyn ynot, ac yno yr wyti yn etifedd i Dduw, ac yn gŷd- etifedd a Christ, Rhuf. 8.16, 17.

Rhes. 5. Oddiwrth sancteiddrwyd natur Duw, yr hon sydd gyfryw, ac na all vn dŷn aflan sefyll yn ei ŵydd ef. Mae 'r Prophwyd Habbaccuc, Pen. 1.13. Yn ei osod ef allan, ei fôd yn lanach o olwg, nag i edrych a'r anwiredd. Ac medd y Psalmydd, Psal. 5.4, 5. Drwg ni thrîg gydâ thi, Ynfydion ni safant yn dy olwg. Ym mha le wrth yr yn­fyd,; y gellir deall yr annuwiol a'r halogedig, fel y cym­m [...]rir yn fynych yn yr ysgrythur. (Ynfydion ydyw dy­nlon drwg) a'r cyfryw ni chânt sefyll yngŵydd ac ym mhre­sennoldeb [Page 21] Duw. Mae gwrthwyneb rhwng natur sanctaidd Duw â natur aflan gnawdol dynion heb eu hail-eni. Ac am hynny pa gymmundeb a all fod rhyngddynt? Rhwng Duw glân a chreaduriaid aflan? rhwng Duw pûr a chre­aduriaid ammhur? Diau ni all dim fôd. Hyn y mae 'r Apostol yn ei osod ar lawr, 2 Co. 6 14. Pa gyfeillach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfiawnder? Rhwng y cyfion Dduw a dynion anghyfiawn? Pa gymmundeb rhwng goleunt a thy­wyllwch? Y Cwestiwn sydd yn arwyddoccâu Nâg cadarn. Credwch hyn chwi bechaduriaid, Os disgwiliwch fŷth fwynhaû cymmundeb a Duw mewn gogoniant, rhaid i chwi gael vndeb ag ef mewn grâs: Rhaid i chwi yma gael eich ail-eni, a myned yn greaduriaid newydd: Ie yn sanctaidd, fel y mae efe yn sanctaidd, fel y boch yn gy­fryw ac y gallo efe gŷdtrigo gyd â chwi, ac ymddigrifo ynoch. Canys fel y dywed yr Apostol. Heb. 12.14. Heb sancteiddrwydd ni cheiff nêb weled yr Arglwydd. Fe fydd cym mhelled o fwynhaû presennoldeb Duw, na cheiff cymmaint a'i weled ef.

Lev. 10.3. Mêdd Moses wrth Aaron, Fe sancteiddir Duw yn y rhai a nessânt atto ef, hynny yw a nessant atto yn yr vn o'i Ordinhadau. Ac i sancteiddio Duw yn ei Ordin­hâdau, fe ofynnir oddi wrth ddyn,

1. Fôd ei natur wedi ei adnewyddu a'i sancteiddio. Ni ddichon calon ansanctaidd sancteiddio Duw. Cesglwch fy Sainct ynghŷd attafi medd yr Arglwydd, Psal. 50.5.

2. Fôd ganddo feddyliau sanctaidd parchedig am Dduw. Duw sydd ofnadwy iawn ynghynnulleidfa 'r sainct, ac iw arswy­do yn ei holl amgylchedd, Psal. 89.7.

3. Fôd iddo ddwyn gydag ef anwydau sanctaidd. Fel y go­fyn pob Ordinhâd Duw ini osod ein anwydau a'r waith ynddi, felly anwydau sanctaidd; y cyfryw anwydau ac a fo yn codi oddiwrth galon sanctaidd, ac sydd gyfattebol i Dduw sanctaidd.

Yr awron, a all dynion cnawdol fal hyn sancteiddio Duw? Maent yn llygru ac yn halogi ei Enw sanctaidd, ni allant mo'i sancteiddio. Ai ni allant sancteiddio Duw, ac a allant hwy fôd yn gymmeradwy ganddo? Neu gael hyfrydwch yn ei bresennoldeb? Oni sancteiddir Duw yn­ddynt, [Page 22] fe sancteiddir arnynt; fe dyrr allan ei lîd yn eu herbyn, cym mhelled a fyddant o fwynhâu dim cymmun­deb cyssurus ag ef.

Yr awron, os y cyfryw sancteiddrwydd sydd angenrhei­diol yn y rhai a nessant atto yn ei Ordinhadau: Pa faint mwy angenrheidiol y mae tuag at fwynhaû cymmundeb digyfrwng ag ef yn y nefoedd? Os Duw ni'th gyferfydd di mewn gweddi, a oddef fo i ti ei gyfarfod ef ym mha­radwys? Os dydi ni chei weled ei wyneb ef ar ei fwrdd, a gei di eistedd gydag ef yn ei Deyrnas? A'i ni chêi ddy­fod iw Gynteddau, ac a gêi di fyned i mewn i'r Cyssegr sancteiddiolaf? A daflwyd ymaith y dŷn heb y wîsg briodas am dano o'i ŵydd ef yma yn y bŷd hwn, ac a gêi di dy dderbyn iw Drigfan ef oddivchod? Pa fodd y gall y pethau hyn fôd?

PEN. IV. Defnydd o Gyngor i geisio 'r Ail-enedigaeth, ac An­nogaethau i'n cynhyrfu i hynny.

GAn imi ddarfod fel hyn ag Esponiad a Chadarnhâd y Pwngc; Deuwn yr awron at y Defnydd a'r Cymmhwy­siad o hono.

I. Fe all y cyntaf fod yn Ddefnydd o Gyngor i'r rhai ni Ail-anwyd etto, ac i'r rhai a Ail-anwyd yn barod.

Yn gyntaf i'r rhai ni Ail-anwyd. Ydyw 'r Ail-enedigaeth yn llwyr-angenrheidiol i Jechydwriaeth? Och gan hynny, pa fodd y mae yn sefyll arnoch chwi, sydd etto yn eich pechodau, a than rym eich natur lygredig, daer-ddymu­no, a phoenus-geifio y cyfnewidiad jachus hwn, yn ar­feriad yr holl foddion a sancteiddiodd Duw i hynny? Bydded eich cyflwr oddiallan fel y fynno, er eich bôd yn gyfoethawg iawn, yn anrhydeddus iawn, bydded etto ym mhell oddiwrthych chwi fodloni yn nêb rhyw gyflwr, nes eich adnewyddu a'ch sancteiddio gan yspryd Duw. [Page 23] Och! faint sydd yn y bŷd, y rhai, er eu bôd yn eu cy­flwr naturiol, cnawdol, etto sydd yn byw mor ddiofal a llawen, a phettai eu cyflwr yn ddiogel a chystal a'r go­reu; Gofynnwch iddynt bob yn vn, A weithiwyd gwaith yr Ail-enedigaeth yn eu heneidiau? A rhai attebant, Go­beithio mai dô: Eraill, nad ammheuasant hynny erioed; er na ŵyr vn o honynt beth yw 'r Ail-enedigaeth, ac ni feddyliasant erioed am hynny. Etto fe ddarfu i'r dynion hyn, nid yn vnig ddarllein, ond maent hefyd yn credu geiriau ein Jachawdr, yr hwn a ddywedodd wrthynt, Oddieithr eu geni hwynt drachefn, na allant fyned i mewn i Deyrnas nefoedd, Jo. 3.3.

Oh bechadur! Yr wyf yn attolwg itti er mwyn dy Enaid gwerthfawr anfarwol, gyffrôi ynot dy hun ddymu­niad calonnog, a gwîr egni ar ôl y gwaith bendigedig hwn. Megis y mae [...], yr vn peth angenrheidi­ol i Jechydweiaeth, felly bydded y peth pennaf o'th ddy­muniad a'th lafur. Nid oes dim yn haeddu cael y blaen mwy nâ hyn, yn dy feddyliau, bwriadau, a'th lafur. Fe lwyr-fwriadodd Dafydd, na roddai gwsg iw lygaid, na hûn iw amrantau, hyd oni chaffai te i'r Arglywydd, Psal. 132.4. Y Drigfan y mae Duw fwyaf yn bodloni ynddi yw dy galon di, ond rhaid iddi fôd yn galon wedi ei hadnew­yddu. Och! pa fodd y beiddi di gysgu noswaith yn y tŷ nid yw Duw yn aros ynddo? Ac nid yw yn aros ynot ti, onid wyt wedi dy ail-eni trwy 'r Yspryd glân. Yn ofn Duw gan hynny, gwêl na roddech orphwysfa i'th enaid, na llonyddwch i'th feddwl, nes itti gael cyfnewid bendi­gedig ynot, nes itti gael dy fôd wedi dy ddwyn o gy­flwr natur i gyflwr grâs. Ac na fydd fodlon yn mwyn­hâu dim cyssur bydol, heb fwynhaû y drugaredd hon. Ac yn wîr pa fodd y gelli di fyw yn llawen, neu gysgu yn llonydd, tra fŷch di yn byw mewn cyflwr heb dy ail-eni? yn yr hwn pe ba'it ti marw, ti a fyddit farw yn dragywydd, ie yn oes oesoedd. Yn enwedig wrth ysty­ [...]ed mor ansiccr yw dy fywyd, a fyddi di fyw ddiwrnod, neu awr yn hwy.

Er mwyn trefnu y Defnydd hwn yn fwy buddiol,

[Page 24]1. Mi a rôf rai Annogaethau i gyffrôi eich dymuniadau a'ch llafur ar ôl gwaith yr Ail-enedigaeth.

2. Mi a ddangosaf y Moddion sydd iw harfer, er mwyn cyrrh eddyd y peth yn well.

Fe ellir dwyn yr Annogaethau dan y tri phen hyn:

1. Godidawgrwydd. 2. Bûdd. 3. Anghenraid yr Ail-ene­digaeth.

I. Am y cyntaf, y Godidawgrwydd o'r Ail-enedigaeth a ymddengys oddiwrth y pedwar peth yn canlyn.

1. Mae 'r Ail-enedigaeth yn gwneuthur dŷn yn anrhydeddus, yn ei dderchafu of tuac at ci berffeithrwydd gwreiddiol. Fe wnaethpwyd dŷn yn anrhydeddusaf o'r holl Greaduriaid yn y bŷd gweledig hwn, ar lûn a delw Dduw. Pechod a ddiwynodd Ddelw Duw, ac a argraphodd arno Ddelw Dia­fol. Pechadur ydyw dyn wedi ei drôi megis yn anifail. Dŷn mewn anrhydedd nid erys, tebyg yw i anifeiliaid a ddifethir. Psal. 49.12. Mae yn byw fal anifail, yn marw fal anifail, heb wybod i ba le y mae yn myned. Ynfyd yw pôb dŷn yn ei wybo­dacth, Jer. 10.14. Mae ganddo galon anifeiliaidd, yn byw buchedd anifeiliaidd. Trwy râs mae dŷn yn dyfod atto ei hun, a thrwy râs y dderchefir ef o fôd yn anifail i fôd yn ddŷn drachefn, wedi ei adnewyddu ar ddelw Duw. Mae yspryd gogoniant a Duw yn disgleirio ynddo. Mwy o ogoniant Duw a ymddengys mewn Sanct, nag yn holl weithredoedd Duw tan haul: Je nag yn yr Haul gogo­neddus yn y Nefoedd. Mae'r Haul, y lleuad a'r Sêr yn dyfod yn fyrr o ogoniant y Creadur newydd. In illis tantum sunt opera dei, in hâc est imago dei. Aug. Yn y rheini y mae gwaith Duw, yn hwn y mae ei ddelw ef.

2. Godidawgrwydd yr Ail-enedigaeth a ymddengys, oblegid ei fôd yn gwneuthur dŷn yn wîr Ghristion. Nid yw dŷn yn wîr Ghristion, oblegid ei fedyddio, a'i fôd yn dwyn yr Enw, ac yn mynych-gyrchu at Ordinhadau Christ: Ond oblegid ei fôd wedi ei adgenhedlu trwy yspryd Christ, a thrwy hynny wedi ei symmud o gyflwr pechod a marwo­laeth i gyflwr bywyd a thangnheddyf. Canys, megis tan y Ddeddf, Nid yr hwn ocdd yn yr amlwg oedd Iddew, wedi enwaedu arno yn y cnawd, ond efe oedd Iddew, yr hwn oedd yn y dirgel, wedi enwaedu arno yn ei galon a'i yspryd, fel y dy­wed [Page 25] yr Apostol. Rhuf. 2.28, 29. Yr vn modd, nid yw hwnnw wîr Ghristion, yr hwn a fedyddiwyd yn unig oddi allan neu yn yr amlwg, ond yr hwn a fedyddiwyd oddifewn trwy yr yspryd, calon pa vn a newidiwyd ac a adnewyddwyd.

3. Godidawgrwydd y genedigaeth newydd a ymddengys yn hyn, sef ei fôd yn ddechreuad bywyd tragwyddol a dedwyddwch: ie o'r vn bywyd a gawn ni fyw ar ôl hyn yn y Nefoedd gyd â'r Sainct a'r Angylion gogoneddus yn dragywydd. Nid yw Grâs yma yn vnig yn eglurdeb o ogoniant ar ôl hyn, ond hefyd mae yn ddechreuad o'r gogoniant hwnnw a gawn ni ei gyflawn-fwynhaû yn y Nefoedd. Y gwahani­aeth rhwng Grâs a gogoniant sydd yn vnig mewn grâdd: Grâs ydyw gogoniant wedi ei ddechreu yma, a gogoni­ant ydyw grâs wedi ei gyflawni a'i berffeithio ar ôl hyn. Felly, trwy ystyried fod y cyflwr hwn mor odidawg, pa fodd y perthyn i chwi, fel ei ddymuno yn ddifrifol, felly ei geisio yn egniol, trwy arfer yr holl foddion a sancte­iddiodd Duw, tu ag at gyrraedd y cyflwr a'r stâd bendi­gedig hwn.

II. Annogaeth arall a ellir ei chymmeryd oddiwrth Fûdd yr Ail-enedigaeth. Os gofynnir, Pa fûdd sydd o hono? Ni al­lwn atteb, fel y gwnaeth yr Apostol am yr Enwaediad, Llawer ym mhob rhyw fodd. Canys hwn yw 'r Duwioldeb hwnnw, sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awron, ac o'r hwn a sŷdd: 1 Tim. 4.8. Hynny yw sydd ganddi ditl i'r Nefoedd a'r ddaiar, ac am hynny sydd wir fuddiol. Am hynny y gelwir y rhai a Ail-an­wyd yn Etifeddion yr Addewidion. Heb. 6.17. Gan y rhai hyn yn vnig mae 'r gwîr olud, gan eu bod yn gyfoethawg mewn ffydd, fely mae 'r Apostol Jaco yn eu galw. Jac. 2.5. Fel yr oedd Laodicea yn dlawd, er ei bôd yn helaeth mewn llawnder oddiallan; felly mae y rhai hyn yn wir gyfocthawg, er bôd arnynt eisieu llawer o bethau oddial­lan, gan fôd iddynt ran yn Nuw, yr hwn yw ffynnon yr holl fendithion. Pa fôdd y dylai 'r ystyriaeth hon eich cyffrôi, fel i fawr chwennych, felly i daer-geisio y cyflwr bendigedig hwn!

[Page 26]III. Annogaeth arall a ellir ei chymmeryd oddiwrth angenrhaid yr Ail-enedigaeth. Mae yn wir angenrheidiol i Jechydwriaeth. Gwell fuasai itti na'th anessid bŷth, oddieithr dy eni di drachefn. Mae mor angenrheidiol a'r Nêf ac happus­rwydd. Canys, fel y dywed ein Jachawdr ei hun, Oddi­eithr geni dŷn drachefn ni all weled, llai o lawer, myned i mewn i deyrnas Dduw. Fel nad oes ddim gobaith o Je­chydwriaeth néb rhyw ddŷn, mâb neu ferch, a'r ni ail­aner: Ond os byddant fyw a marw yn y cyflwr hwn, marwolaeth ac yffern fydd eu rhan gydâ'r cythr [...]uliaid ar damnedig yn dragywydd. Ac, oblegid an-siccrwydd eu hoedl, nid ydynt siccr i fod vn diw [...]nod fiwy allan o vffern.

Oh bechadur! Beth sydd yn dy frŷd di barhaû yn dy gyflwr cnawdol heb dy ail-eni? Cyn siccred a bod gair Duw yn wîr, os byddi farw felly, ti a geùir allan o bob gobaith o drugaredd yn dragywydd; ac a gêi fyned i ddidrangc drueni heb esmwythdra bŷth. Yn ofn Duw gan hynny, pan gottych y boreu, meddwl ynot dy hun, mor an-siccr wyt o fôd allan o vffern hyd yr hŵyr. A phan orweddych i lawr, ystyr, mor an-siccr wyt i fod allan o vffern hyd y boreu nesaf. Yn ddiau, yr ystyri­aeth hon a allei beri i Ghristion truan synnu, yr hwn sydd yn wîr wedi ei ail-eni, ond sydd yn ammeu peth ynddo ei hunan ynghylch hynny. Pa faint mwy y dylai dy gyffrôi a'th ddychrynu di, yr hwn wyt etto yn dy gyflwr cnawdol pechadurus, a'th annog yn ddioed i ddi­angc am dy fywyd, a phrysur-geisio ymwared o'r cyflwr erchyll hwn.

Mi a ofynnwn itti y Cwestiwn hwn, Os oedi geisio y gwaith mawr hwn o'r Ail-enedigaeth a Throad at Dduw, tan y flwyddyn, yr wythnos, heu 'r dydd nesaf, wyti yn siccr y byddi or tu yma i'r bedd, neu o'r tu yma i vffern yr amser hynny? Siccr yw, nad oes genniti ddim siccrwydd o'th fywyd vn diwrnod hwy; Ie ini a allaf ddywedyd yn hŷf, dy fod ti dy hunan yn gwybod ac yn credu hynny. Oh bechadur! pa ffoledd, ie pa ynfydrwydd gwallgofus ydyw ynot ti, fyw o'th wirfodd vn diwrnod hwy yn y fâth gyflwr, yn yr hwn os byddi di marw, fe [Page 27] ddarfu am danat, yn diobaith o iacháad ac ymwared yn dragywydd.

Gwrthres. Ysgatfydd ti a ddywedi, er nad wyfi siccr i fyw ddiwrnod arall, etto yr wyf yn debyg i hynny, gan fy môd mewn iechyd a nerth corphorol.

Atteb. Pa sawl vn cyn gryfed a thithau a gippiwyd ymaith gan angeu yn ddiswtta? a pha'm na elli dithau gael dy gippio ymaith mor fuan, gan nad oes dim Ammod gennit o'th fywyd? Pwy gan hynny ond ffôl neu ynfyd a anturiai felly mor beryglus ei dragwyddol happusrwydd? Och gan hynny, fel yr wyt yn gofalu am dragwyddol ddaioni i'th enaid, na oeda yn hwy mo'r gwaith da pwys­fawr hwn: Canys pwy a ŵyr bcth a ddigwydd mewn diwrnod. Dih. 27.1.

Pe cymerasit ti ymaith yn y cyflwr yr wyti ynddo, mor dôst a gresynol a fuasai itti! P'le buasit ti yr awron? Diau ni elli di feddwl y trueni erchyll ofnadwy y buasit ti ynddo yr awr hon. Ac a fuost ti fyw cyhyd yn y fâth enbydrwydd, ac a fyddi di etto fyw yn hwy ynddo? Na atto Duw! A ddarfu i ryfeddod o drugaredd dy gadw di cyhyd allan o vffern? Ac a barhêi di etto yn ddifraw yn y fâth enbydrwydd? Oh ddŷn anniolchgar! Yn ddiam­meu pette dim synwyr bwyllog ynotti, ti a gywilyddid yn cam-arfer amynedd a hir-ymaros Duw tuac attat, a ddylasei dy dywys i Edifeirwch. Ti a ddylasit yn hy­trach lwyr-fwriadu, a dywedyd, Er imi hyd yn hyn ga­marfer ammynedd a dioddefgarwch Duw, ni wnâf felly ond hynny. Er i mi yn fynych ddirmygu a gwrthod gwahodd grasol Jesu Ghrist, trwy râs Duw ni wrthodafi mo hono ond hynny; ond mi ai cofleidiaf, ac a roddaf fy hunan yn hollawl i Ghrist o hyn allan i'm rheoli a'm llywodraethu ganddo.

Fe ordeiniodd Duw i bob dŷn sydd ym mynwes yr Eglwys ryw ddŷdd grâs, ac amser i edifarhâu; yr hwn pwy bynnag a'i hesgeuluso, ni all fŷth fod yn gadwedig. Oh bechadur! fel gan hynny na fynnit esgeuluso dy iechy dwriaeth dy hun, nag esgeulusa ddydd grâs, ac na ollwng amser trugaredd i golli. Ond fel y cynghora 'r Apostol. Heb. 3.15. Heddyw os gwrandewch ar ei leferydd ef, na cha­ledwch [Page 28] eich calonnau: Wele yn awr yr amser cymmeradwy, wele yn awr ddydd yr Jechydwriaeth: Os gollyngir y dydd hwn vnwaith heibio, nid oes mo'i drôi yn ôl drachefn, 2 Cor. 6.2.

PEN. V. Yn dangos cyflwr truan erchyll y rhai ni ail-anwyd, yn y byd hwn, ac ar farwolaeth.

GWedi rhoi rhai Annogaethau i gyffroî eich dymunia­dau a'ch llafur am waith yr Ail-enedigaeth, yr wyf yn dyfod yr awron i ddangos y Moddion sydd iw harfer o'ch rhan chwi i gyrrhaeddyd hynny yn well: Y rhai a ellir eu cy­flêu tan y ddau ben cyffredinol hyn.

1. Derbyn rhai gwirioneddau.

2. Gwncuthur rhai dledswyddau.

Y Gwirioneddau iw derbyn, yw y rhai hyn,

1. Fod pob dŷn heb yr Ail-enedigaeth mewn cyflwr gresynol ac erchyll.

2. Fod gobaith o drugaredd i'r pechadur mwyaf.

Fel y dealloch yn well gyflwr gresynol dynion heb y [...] Ail-enedigaeth, mi a ddaugosaf eu trueni.

1. Yn eu bywyd.

2. Ar eu marwolaeth.

3. Ar ôl eu marwolaeth.

Eu trueni yn y bywyd hwn yn fyrr yw,

I. Gweision pechod a chaethweision iw chwantau ydynt, yn gwneuthur eu gwaith a'u diben pennaf i war naethu eu cnawd pechadurus, a'u trachwantau. Gwaeledd y caethi­wed hwn tan bechod a ymddengys yn fwy, os ystyriwn,

Beth yw ffrwythau y Caethiwed ysprydol hwn,

1. Ar y goreu, ychydig rîth o blesser neu fûdd sydd tros funyd awr yn parhâu, yr hyn a eilw 'r Apostol, Yn fwyni­ant pechod tros amser. Heb. 11.25. Ni thalant fawr iawn, a byrr iawn y parhânt. Ac yn ddiau, rhan fawr o ffo­ledd [Page 29] yw, chwannog ddilyn y chwantau a'r plesserau pe­chadurus hyn, y rhai sydd mor Ysgafn, a thros amser, i anturio, ac i ddodi mewn perigl y golud parhaûs a'r di­fyrrwch tragwyddol ar ddeheulaw Duw.

2. Marwolaeth dragwyddol, yn ôl hynny o'r Apostol, Rhuf. 6.23. Cyflog pechod yw marwolaeth; ond dawn Duw yw bywyd tragwyddol. Fel y mae bywyd tragwyddol yn canlyn buchedd sanctaidd, felly marwolaeth dragwyddol sydd yn canlyn buchedd bechadurus. Dyma 'r gwobr ô bechadur, a dâl dy Dduw di, yr hwn yr wyti yn ei was|'naethu, yn y diwedd, rhaid itti farw 'r farwolaeth.

Oh ffoledd ac ynfydrwydd y Caeth-fŷd cnawdol hwn! Yn ddiau pe na bai dim yn y pechod, ond y caethiwed presennol, fe fyddai ddigon i droi ymaith pôb dŷn yn ei iawn bwyll. Pwy a ewyllysiai fôd yn gaethwâs? Yn gaeth­was i drachwant? wrth orchymmyn pôb gwŷn aflan? Pob chwant anifeiliaidd? Ond oni ddychryna gwaeledd y gwaith di, oni wneiff y cyflog? Yr hyn yw marwolaeth a damnedigaeth dragwyddol. Oh ystyriwch hyn chwi sydd mor ddibris o bechod, ac sydd mor hyfryd yn vfuddhâu iddo yn ei chwantau!

II. Macnt yn gaethweision i Ddiafol. 1 Jo. 3.8. Yr hwn sydd yn gwncuthur pechod, o ddiafol y mae, hynny yw, yr hwn sydd yn ymrôi i wneuthur pechod, sydd gaethwas i ddiafol, canys mae fo yn ei gaeth-was'naethu ef.

Och na agorid llygaid pechaduriaid truain i weled pwy sydd yn eu gosod ar bob mâth o bechod a drygioni! Yn ddiau ni byddent felly mor barod a phryssur ynddo. Och na wyddent ym mha gaethiwed gresynol y maent ynddo! Yn ddiau ni byddent mor llawen a hyfryd, ac ni chysgent vn noswaith yn llonydd yn y fâth gyflwr, ond hwy a edrychent o'u hamgylch, pa fodd y caent eu rhydd­haû a'u gwaredu oddiwrtho.

III. Mae pawb, yn y Cyflwr heb yr Ail-enedigaeth, tan felldith Dduw, yr hon sydd felly ynghrôg vwch eu pennau yn wastadol, fel y maent yn felldigedig ym mhôb peth.

1. Yn eu Cyfoeth; Mae eu bendithion yn cael eu troi yn felldithion, fel y mae Duw yn bygwth trwy 'r prophwyd Malaci, gan ddywedyd, Mi a felldithiaf eu bendithion. Mal. [Page 30] 2.2. Er dy fôd yn mwynhaû llawnder o gyfoeth y Bŷd hwn, etto tra fy'ch yn byw yn dy helynt ddrwg annuwi­ol, bydded o ddywedyd celwydd, tyngu, twyllo, putteinio, meddwi, a'r cyfryw, mae melldith Dduw yn dy dryssor a'th helaethrwydd, sydd yn parattôi ffordd i'th drueni tragwy­ddol, fel y gosodir a'r lawr, Deut. 28.17, 18.

2. Yn eu henwau. Mae eu Henw yn felldigedig, Canys fel y dywed y Gŵr doeth, dih. 10.7. Coffadwriaeth y cy­fiawn sydd fendigedig, end Enw y drygionus a bydra.

3. Yn eu gwasanaeth crefyddol. Mae 'r Gair a glywont yn felldigedig iddynt. Yr hyn sydd i eraill, yn arogl bywyd i fywyd, sydd iddynt hwy yn arogl marwolaeth i farwolaeth, gan ei fôd yn fôdd i addfedu eu pechodau; ac i bryssuro eu damnedigaeth. Y Gweddiau a wnânt sydd felldigedig iddynt, yn fynych yn tynnu i lawr felldith yn lle bendith. Je Bwrdd yr Arglwydd sydd hefyd yn felldigedig iddynt, fel yn lle ymborthi ar gorph a gwaed christ, maent yn bwytta ac yn yfed eu damnedigaeth eu hunain. Oh mor drist a gofidus mae 'n rhaid i'th gyflwr di fôd, pan fo y pethau hynny, y rhai ydynt nid yn vnig yn fendithion ynddynt eu hunain, ond wedi eu bendithio i eraill, yn felldigedig itti, ac yn chwanegu dy bechod a'th dristwch! Ac os gwneir dy fendithion yn felldithion, o beth fydd dy felldithion di!

IV. Mae pob dŷn, heb yr Ail-enedigaeth, yn agored i bob mâth ar Farnedigaethau.

1. I farnedigaethau amserol, megis poenau, clefydau a doluriau, colledion, croesau, a'r cyfryw; y sydd ynghrôg yn wastad vwch ei ben ef, yn barod bob munud i syr­thio arno; ac yn fynych maent yn dyfod yn ddisymmwth prŷd na boér yn eu disgwyl.

2. Maent yn agored i farnedigaethau ysprydol, megis dalli­neb meddwl, caledwch calon, gwaeledd anwydau, dy­chryn cydwybod, a'r cyfryw. Mae calon dŷn cnawdol yn fynych, nid yn vnig yn flîn arni o ran croesau a chy­studdiau oddiallan, ond hefyd yn aflonydd oddifewn trwy daer-ymgyrch gwŷniau drewllyd, a dychryniadau anor­phwys, a phoenan cydwybod ddrwg, y rhai sydd lawer trymmach nâ dim cystudd oddiallan, gan eu bod yn [Page 31] syrthio ar y fan dyneraf, sef ar enaid ac yspryd dŷn.

3. Maent yn agored i farnedigaethau tragwyddol. Beth a allant ei ddisgwyl, os byddant farw yn eu cyflwr heb yr Ail-enedigaeth, ond gwedi terfyn y bywyd byrr hwn, cael eu taflu i'r tân tragwyddol hwnnw, yr hwn a barattôdd Duw iddynt, yn gystal ag i Ddiafol a'i Angylion? Yr hyn yw y cyflwr mwyaf ofnadwy; Ni all y farn honno fod yn fechan, sydd dragwyddol. Crŷd poeth tragwyddol, ie neu ddannoedd dragwyddol fyddai drueni annrhaethawl. Ond beth yw y rhai hyn iw cyfflybu i orwedd yn y llyn sydd yn llosgi gan dân a brwmstan tros dragwyddoldeb. Oh mi dy­bygwn, y gallei enw y Farn dragwyddol, oni yrrai ef a­llan o'i gôf, etto ddeffrôi pob dŷn, heb yr Ail-enedi­gaeth, o'i gwsg diofal, a'i annog yn ddioed i ymadel â'i fuchedd ddrwg annuwiol, a'i osod ar ymarfer o bob d'ledswydd sanctaidd grefyddol, ac i ymegnio yn hynny i geisio gwaith yr Ail-enedigaeth wedi ei weithio yn ei galon, fel y byddo yn greadur newydd. Mae gennit ysgatfydd gyfran helaeth o dda 'r Bŷd hwn, yn mwyn­haû yr hyn a ddymunai dy galon; Ond oh pa fûdd itti fyw yn llawn ac yn llwyddianuus yma, a bôd yn druan ar ôl hyn yn dragywydd? Dy lwyddiant o'r blaen a'th wneiff yn vnig yn fwy teimladwy o'th drueni i ddyfod. Am hynny pan demtier di i ryw felys-chwant, neu fûdd anghyfreithlon, ymddiddan fel hyn â thi dy hun, A'i am flys-chwant byrr tros funud awr, a dderfydd yn fuan, y rhuthrafi ar berygl y farn dragwyddol, ni dderfydd byth? A'i am ychydig fûdd yma y collafi fy enaid yn dragwydd? Pa ffoledd fwy, ie pa ynfydrwydd mwy a ellir feddwl am dano?

A hyn am drueni y rhai heb yr Ail-enedigaeth yn y bŷd hwn; Deuwn yr awron i ddangos eu trueni hwynt ar farwolaeth.

Os yw bywyd Dŷn heb yr Ail-enedigaeth mor druan, ag a dangoswyd, mor druan a gresynol, dybygwch chwi, fydd ci farwolacth ef? Diau yno mae ei drueni yn chwa­negu yn ddirfawr, fel yr ymddengys wrth ystyried y pen­nau hyn.

[Page 32]1. Pan ddelo angeu a dangos itti, fod ganddo genna­dwri oddiwrth yr Arglwydd, yr hwn a ddanfonodd ha­beas corpus neu writ am dy gorph di: Yno daw 'r Gydwy­bod, os bydd yn effro, a'i llyfr-cyfrifon, rhestr ddû chwe­rw, ac a ddengys it dy hên gyfrifon a'th ddyledion, gan osod o'th flaen di ynfydrwydd dy ieuengctid, pechodau dy henaint, a chamweddau dy holl fywyd.

Oh bechaddur! Ti yr hwn wyt yn myned rhagot yn anedifeiriol yn dy fuchedd ddrwg annuwiol, ystyria â pha olwg dychrynllyd yr edrychi di ar y Côf-restr dû vffernol hwnnw o'th bechodau, dy gelwyddau a'th lywon, dy en­llib a'th ymadroddion llygredig, dy wawd a'm ben pobl Dduw, dy gyfoeth a gafwyd ar gam, dy amser a dreuli­wyd yn ofer, dy halogiad o'r sabbath, dy drythyllwch myfyrdodol, ie dy fynych aflendid brwnt gweithredol, dy falchder, dy feddyliau bydol, dy gybydd-dod, dy gyfedd­ach cnawdol, a'th gyfarfodydd llawen.

Oh bechadur, bechadur! Ni all vn galon feddwl, na thafod dynion ac Angylion draethu, pa ofn a dychryn a ddeil dy enaid ti yr amser hwnnw. Mae llawer yn wîr, nad oes ganddynt ar eu gwely-Angeu ond ychydig olwg a theimlad o'u pechodau, ac nid ŷnt yn meddwl am farn a thragwyddoldeb, ond descyn i vffern cyn rhoi dim at eu calonnau. Etto pan nessao angeu, fynychaf mae rhyw ofn a dychryn ar gydwybodau dynion cnawdol: ac os pigodd pechod erioed o'r blaen, fe wnâ hynny yn enwe­dig ar yr amser hwnnw. Oh, mi debygwn y dylai teim­lad ystyriol, a rhagfeddwl difrifol o'r pethau hyn, ie ar y drŵs, am a ŵyr neb, wneuthur i'r galon galettaf gry­nu, a thoddi i ddagrau o wîr dristwch duwiol.

II. Fe rŷdd marwolaeth derfyn i'th holl ddiddanwch bydol a'th fodlonrwydd, yr hyn ei gŷd a fydd farw gyda thi, o ran dy arfer o honynt a dim hyfrydwch ynddynt. Fe a'th gyfarch â'r gair trîst hwn, Ti a dderbyniaist dy bethau da: Yn awr mae diben ar dy Nêf a'th lawenydd; Yn enwedigol,

1. Yno rhaid itti ymadel â'th holl ddifyrrwch cnawdol, a'th ddigrifwch, a hoffaist mor anwyl. Je, fe fydd yn vffern itti ar y ddaiar, i ystyried pa boenau tragwyddol yr wyt yn debyg iw dioddef, am y plesserau tlodion darfodedig a [Page 33] fwynheaist di yma tros amser. A'i dyma 'r pethau am y rhai y bydd rhaid imi farw? A'i dyma werth fy enaid, fy ngwaed, a'm heddwch?

2. Rhaid it ymadel â'th berthynasau agosaf, a chúaf, sef dy wraig anwŷl, dy ŵr anwyl, a'th blant anwyl. An­geu a wneiff ysgar rhyngot ti a hwynt eu gŷd. Oh be­chaduriaid! Trîst a fydd ymadel â'r rhai'n yma, i fyw bŷth gydâ'r cythreuliaid a'r Damnedig yn vffern.

3. Rhaid it ymadel â'th gyfoeth ac â'th olud, heb ddwyn dim gydâ thi ô'th holl bethau dymunol. Oh bechadur! Mi a wn y bydd yn farwolaeth itti ymadel â'th gyfoeth, yr hwn oedd dy fywyd; ond i ystyried pa fodd y dem­naist di dy enaid i ennill dy gyfoeth, hyn a fydd yn vffern itti.

4. Rhaid itti ymadel a'r holl foddion ac odféydd o râs. Yn awr yr wyt yn mwynhaû Ordinhâdau Christ, sef y Gair, Gweddi, a'r Sacramentau, y rhai tra fŷch yn [...]u mwynhaû, mae gennit obaith: Ond fe ddyry angeu der­fyn i'r rhai hyn, a rhaid i'th holl obaith drengu. Yr awron, mae Christ yn galw arnat, Sabbath ar ôl Sab­bath, trwy ei weinidogion a'i Gennadon, gan dy garu a deisyf arnat ymadel â'th Drachwantau, a bwrw ymaith dy bechodau, a'th daflu dy hun iw freichiau ef, i dderbyn y cymmod a bwrcasodd ef â'i waed. Ond ar ben ychy­dig, ni chlywi ond hynny am y pethau hyn, vn Sabbath ond hynny, vn Bregeth ond hynny, vn addewid, vn gair o râs mwy, o drugaredd, o obaith vn dragywydd. Pan roddit, pettent a'r dy law, fyrddiwn o Fydoedd am vn munud o amser trugarog grâs, a gam-arferaist gyhyd, am ddefnyn o'r gwaed gwerthfawr hwnnw, yr hwn a sethraist cyn fynyched tan dy draed; Je am vn Sabbath mwy, i gael cynnig o Ghrist etto vnwaith itti y Ngwe­inidogaeth yr Efengyl; Ond ysywaith ni fydd hynny ddim.

Oh bechadur! Yna y gweiddi allan am dy bech [...]dau, ac y llefi am drugaredd; trugaredd, Arglwydd, i enaid yn marw, yn suddo, yn darfod am dano tan lwyth fy anwireddau; Yna y dechreui ddymuno, yn rhywyr, itti dreulio dy amser gwerthfawr yn well, itti feddwl mwy [Page 34] am y Pethau tragwyddol; itti ymwasgu â chynnigion grasol Jesu Ghrist, ac itti wneuthur defnydd gwell o'r moddion ac odféydd o râs a ddarfu itti vnwaith eu mwynhaû.

Yno ti a ddywedi, Oh pe gwelai 'r Arglwydd yn dda chwanegu ychydig o flynyddoedd at fy mywyd! Pa fodd y dir­mygwn y▪ Bŷd, a'i wagedd! mor gywraint y tresnwn fy ym­arweddiad! mor ofalus fyddwn am dd'ledswyddau, mor wilia­dwrus yn erbyn pechod! Pa fodd yr ymegniwn i weithio allan fy Jechydwriaeth! Ond och bechadur! Amser dy ymddat­todiad ti a nessáodd, ac nid oes ddim gobaith i oedi vn dydd yn hwy: Am hynny rhywyr y mae 'r holl ddymu­niadau a'r bwriadau hyn yn dyfod i mewn.

Dau beth yn enwedig a drymmhâ drueni y pechadur ar ei farwolaeth.

1. Meddwl Mor bossibl fu iddo holl ddyddiau ei fywyd wneuthur heddwch â'i Dduw: Cofio mor fynych y gwa­hoddwyd ef i dderbyn Jesu Ghrist, ac etto ni fynnai.

2. Meddwl nad oes bellach ddim gobaith o drugaredd, gan iddo trwy ei bechodau gâu i fynu Drŵs y Nefoedd, a chaledu calon Duw yn ei erbyn. Och! Yno y gwe­iddi allan yn chwerwder dy enaid, a dywedi, Duw pob trugarodd a'm llwyr-wrthododd, a Diafol di-drugaredd sydd barod i'm Cippio.

Oh bechadur! Yno pa ffordd bynnag y tróech ni chêi ddim ond achos o alarnâd tôst ac wylofain chwerw. Os trôi yn ô!, beth a elli weled, ond trachwantau bryntiou ffiaidd dy ieuengctid heb edifarhaû am danynt?

Os trôi ym mlaen, beth a elli ei weled, ond dinistr yn barod i syrthio arnat? Je Gorsedd-fanigc dôst yr Arg­lwydd, o flaen pa vn yr wyti ar ymddangos, yno yn ebrwydd i'th farnu i ddioddef y trueni a'r poenau di­drangc o'r bŷd arall; colyn a dychryniadau y rhai ni elli bŷth na'i gochel, na'i goddef.

Os trôi i edrych o'th sewn, beth elli weled, ond dy Gydwybod afian halogedig, ie yn a [...]hwyn arnat, ac yn dy gondemnio? Os oddi allan, beth elli weled, ond y Bŷd drwg a geraist yn ormod? Dy Berthynasau yn sefyll ac yn wylo o'th amgylch? Mintai o gyssurw ŷr gofidus, na [Page 35] allant oedi dyrnod gwahanol Angeu vn dydd, nac awr: Ac ni allant roddi itti y gronyn lleiaf o wîr ddiddan­wch.

Os trôi i edrych i wared, beth elli weled, ond vffern a haeddaist, yn safn-rhwth barod i'th lyngcu i fynu yn fyw? Ar cythreuliaid yn barod i dderbyn dy enaid, ac iw ddwyn i'r pwll du di-waelod. Os i fynu, beth elli we­led, ond Duw cyffróus, wedi ei lwyr-ddigio? Yr hwn, am itti wrthod gwrando arno, yn nydd ei ymweliad grasol, a chwardd yn dy ddialedd di, ac a wawdia pan syr­thio arnat yr hyn yr wyt yn ei ofni, fel y mae ei hun yn by­gwth. Dih. 1.24, 26. Fal hyn yr edrychi o bobtu am ymwared, ac a'th gêi dy hun ym mhob modd yn ddi­ymwared ac yn ddiobaith.

Ysgatfydd yno yr edrychi di at Jesu Ghrist, tan obaith yr ymddengys ef trosotti, ac y gwnâ ei waed ef gymmod trosot; Ond gwybydd, er bod ei waed ef yn ffynnon we­di ei agoryd i bob credadyn truan edifeiriol, i olchi y­maith brynti a budreddi eu pechodau; etto itti, yr hwn a adewaist i Ghrist trwy weinidogaeth y Gair, a chyn­hyrfiadau ei Yspryd, sefyll a churo wrth ddrws dy ga­lon, holl ddyddiau dy fywyd, ac ni fynnit agoryd iddo; itti meddaf, y bydd ei waed ef y prŷd hynny yn ffynn­on seliedig; fel na chôi y lleshâd lleiaf oddiwrtho, oble­gid itti cyn fynyched ei ddirmygu yn dy fywyd; ie itti ei ail-groeshoelio ef trwy dy bechodau gwaedlyd.

Och bechadur, bechadur! I bale y ffôi am gyssur yn­ghanol dy galedi? Yno rhywyr y fydd itti lefain, Oh am yr Amser a dreuliais yn y Gwin-dŷ a'r Dafarn, yn chwarae ac yn bloddest, yn dilyn fy melus-chwantau Cnawdol, am di­fyrrwch anianol, oh na buaswn i yn ei dreulio, yn gweddiô ac yn ymprydio, yn ymostrong ac yn edisarhaû: Rhy'wyr a fydd itti yno lefain gydâ Balaam, Oh na chawn i farw marwolaeth y Cyfiawn, wedi i ti esgeuluso byw buchedd y Cyfiawn. Ca­nys edrych fel y mae y bywyd, felly fynychaf mae mar­wolaeth; ac fel y gadawo marwolaeth ŵr, felly y ceir ef yn y farn ddiweddaf.

Ac yn awr edef dy fywyd, a'th ddydd wedi darfod, a dyfod o'r dydd yr oedd Diafol y nh îr-ddisgwyl am dano, [Page 36] yr hwn sydd yn edrych am dy Enaid, cyn gynted ac yr él allan o'r corph; Oh pa vchenaid tôst, ac ebwch wy­lofus a ddyry dy enaid, pan ymadaw o'th Gorph i gra­fangau Diafol, iw ddwyn ganddo ef ir llynn dân di­waelod!

Oh pa fodd y dylai ystyriaeth o'r trueni annrhaethawl hwn, sydd yn rhan dynion anianol heb yr Ail-enedigaeth, ar eu marwolaeth, ddychrynu a deffroî yr holl rai Bydol a chnawdol, y rhai, os cânt chwanegu eu cyfoeth, ac ymlenwi â difyrrwch nwyfus y Bŷd, nid ŷnt yn gofalu dim yr awron, nac yn gwneuthur dim rhagddarbod er­byn y dydd ofnadwy o gyfrif, sef dydd eu marwolaeth! Yn ddiau pe gwyddent mewn modd teimladwy, neu pe gellid peri iddynt gredu pa ofn a syndod, pa ddychryn a chaledi sydd debyg yno i syrthio arnynt, hwy a fe­ddylient mai y rhan fwyaf o ddoethineb yn y bŷd ydyw yn fuan poenus-geisio rhan yn Jesu Ghrist, yr hwn yn vnig a all eu gwaredu, fel oddiwrth golyn angeu, felly oddiwrth yr holl ddychryniadau brawychus hyn sydd yn ei ganlyn; ac yr awron a ddilynent yr holl foddion ben­digedig o Jechydwriaeth, sef, darllein, gwrando, gweddio, ymprydio, a'r cyfryw; y rhai ŷnt yr awron eu baich a'u caethiwed; ie achosion eu gwawd a'u gwatwor, a fyddai eu difyrrwch gwastadol a'u gwaith beunyddiol.

PEN. VI. Yn dangos cyflwr truan ofnadwy y rhai heb yr Ail-enedigaeth wedi marwolaet [...].

PEttei hyn yn ddiben i Ddynion heb yr Ail-enedigaeth, fôd marwolaeth yn rhoi terfyn iw holl drueni hwynt, oh mor happus fyddai i lawer. Ond dyma eu tristwch a'u gofid, eu gwae a'u trueni, fôd hyn ei gŷd yn dde­chreuad eu gofidiau; a bôd wedi hyn ei gŷd gyfrif iw roi am yr hyn aeth heibio: Canys, megis y gosodwyd i ddynion farw vnwaith, felly wedi hynny y bydd barn. Heb. 9.27. Ym mha le wrth y Farn sydd yn ebrwydd yn dilyn marwolaeth; mae 'r Apostol yn meddwl y farn neillduol, yr hon sydd ar ddydd marwolaeth pôb dŷn. Canys fel y mae barn gyffredinol yn niwedd y bŷd; felly mae barn neillduol sydd yn myned ar bob dŷn yn niwedd ei fywyd. Oh bechadur! Cyn gynted ag yr él y f [...]ûn allan o'th enau, mae gydâ'th enaid, fel gydâ'r dŷn hwnnw, mae 'r prophwyd Amos yn sôn am dano, Amos 5.19. Yr hwn yn ffôi rhag llew, arth a'i cyfarfu. Yr yn ffunyd, cyn gynted ag y diango dy enaid allan o'r bŷd helbulus hwn, yn ddiatreg fe syrth i drueni arall mwy o lawer.

Yn hyn y mae rhagoriaeth mawr rhwng plant Duw a phlant Diafol. Mae Duw yn trefnu ei blant ei hun fel hyn. Pan ryddh [...]er yr Enaid o garchar y Corph, fe ddy­gir mewn moment gan yr Angylion i synwes Abraham, fel y nodir am Lazarus. Ac wedi ei arwisgo â gwîsg laes-wen Cyfiawnder Christ, fe gyssylitir ag ysprydoedd y Cyfiawn wedi eu perffeithio.

Ond am Eneidiau pechaduriaid annuwiol anedife [...]riol nid felly mae; Canys cyn gynted ag yr ymadawont â'u Cyrph, mae 'r Angylion drwg yn eu cippio, ac yn e­brwydd yn eu llusgo oflaen Gorsedd-faingc Duw, lle yn derbyn eu barn, maent yn cael eu danfon yn ebrwydd i [Page 38] Deyrnas y tywyllwch, ac i waelod y llynn dân, yno iw cadw tan gadwynau tragwyddol erbyn barn y dydd mawr.

Heb law y farn neillduol hon ar Eneidiau y rhai heb yr Ail-enedigaeth ar eu marwolaeth; fe fydd Barn gyffre­dinol ar eu heneidiau a'u Cyrph wedi eu hail-gyssylltu, ar y dydd mawr diweddaf.

Er mwyn llawnach egluro ac agoryd y Principl neu'r pwynt mawr sylweddol hwn o'n crefydd, mi a ddangosaf,

  • 1. Y bydd dydd y Farn.
  • 2. Y Person a fydd Farnwr.
  • 3. Dull mynediad Christ yn y Farn.

I. Am y cyntaf, Y bydd dŷdd y Farn, mae yn eglur oddi­wrth hynny gan yr Awdur at yr Hebraeaid. Pen. 6.2. Lle mae yn ei gy [...]rif gyd â'r Pyngciau sylweddol o'r Gre­fydd. Ac Act. 17.31. Mae 'r Apostol Paul wrth sôn am Dduw, yn dywedyd, Efe osododd ddiwrnod, yn yr hwn y barna efe y Bŷd mewn cyfiawnder. Jo yn 2 Cor. 5.10. Mae yn rhoi Rhaid arno, Rhaid ini oll, medd efe, ymddangos ger bron brawdlc Christ, yr hyn sy yn dangos ei fôd yn angenrheidiol.

Ac yn wîr mae Angenrhaid o'r Farn gyffredinol, fel i ddan­gos vniondeb barn neillduo! Duw ar bob dŷn yn ei farwolaeth; o [...]an yr hyn y gelwir, Rhuf. 2.5. Dŷdd da [...]guddiad cyfiawn farn Duw: Felly i lawn egluro cyfiawnder Duw. Er bod Duw yn gyfiawn yn ei [...]oll ffyrdd, etto yn y Bŷd hwn ni welir hynny mor amlwg. Oblegid mae Duw yn ei ddoethineb yn gadel i'r annuwiol lwyddo; ie ac i draws-reoli ar y Cyfiawn. Yma yn synych y dynion goreu a drinir waeth­af, ac yn fwyaf eu Cam. Ond Yno y tâl Duw i bob dŷ [...] yn ôl ei weithred. Rhuf. 2.6 Prŷd fel y bydd y Nêf ac happusrwydd tragwyddol yn Rhan y Cyfiawn; felly dy­chryn tragwyddol fydd Rhan yr anghyfiawn: Felly y gwelwn y bydd dŷdd Farn.

Och mor ofnadwy fydd y dŷdd hwn o Farn ir annu­wiol heb yr Ail-enedigaeth! Iddynt hwy y bydd yn ddi­wrnod o lîd, yn ddiwrnod o flinder a chyfyngder, yn ddiwrnod cymylog a [...]iwlog: Yno yr ŷf y Meddwyn yn ddyfnaf o gwppan llidiawgrwydd Duw; Y putteinwr a'r godinebwr, y rhai fuant yn ymlosgi yn nhân trachwant, a losgant yn nhan vffern. Yno ceiff y dŷn bydol cybyddus deimlo [Page 39] pwnne ei gyfoeth anghyfiawn, yn ei Suddo ac yn ei foddi mewn colledigaeth a destryw, yn ei wasgu ef i lawr i waelod y llynn dân vffernol.

Oh bechadur! pa fodd y dylit ymneillduo i ryw le dirgel, ac yno dwys-fyfyrio ar y dydd hwn o farn? Go­fyn i'th galon y Cwestiwn hwn, Ai siccr yw y bydd dydd y farn, a'i nid yw? Os siccr yw, Oh pa'm nad ŵyf yn parattoî yn ei erbyn, trwy dorri ymaith fy mhechodau, a gwneuthur fy heddwch â Duw, cyn i'r dydd hwnnw ddyfod arnaf? Pa'm nad wyf yn gofalu am ran yNghrist, trwy 'r hwn yn vnig y mae imi ymwared oddiwrth f [...]r­wolaeth a damnedigaeth dragwyddol? Pa'm nad wyf yr awron yn ddiwyd i wneuthur fy ngalwedigaeth a'm hetholedi­gaeth yn siccr? Oh bechadur ymresymma fel hyn â thi dy hun; ni wyddost mor fanteisiol a all ychydig o feddy­liau difrifol o'r fath hyn fôd i'th enaid yn dragywydd.

II. Am y Person sydd i fod yn Farnwr. Christ ydyw 'r hwn a fydd yn Farnwr. Yr hwn mewn modd gweledig a eistedd ac a ddyry farn a'r bob dŷn, fel barn o ollyng­dawd ar yr Etholedigion, felly barn o gondemniad ar yr annuwiol.

Yn wîr barnu 'r Bŷd, gan ei fôd yn waith ad extra, yn terfynu, ac yn edrych ar y creadur, sydd yn gyffre­dinol i'r holl Drindod: Fel na chéuir allan na'r Tâd na'r yspryd glân; ond etto yn yr Ysgrythur mae yn enwedigol yn perthyn i'r Mâb. A hynny mewn rhan megis iawn gobrwyol am ei ymostyngiad; ac mewn rhan, o herwydd bod gwaith y farn yn weledig, cymmwys y gwelwyd fod y Barnwr ei hun yn weledig hefyd. Am hynny Christ yn ei naturiaeth ddynol a farna 'r Bŷd, ac a rydd allan farn o gondemniad a'r yr holl rai annuwiol; Etto fe wneiff y cwbl megis Immanuel, Duw gydâ ni.

Och mor ofnadwy fydd y golwg ar Jesu Ghrist megis Barnwr i'r holl ddynion cnawdol anedifeiriol! y rhai pan welant ef yn eistedd ar y faingc, gwahodd grasol pa un a ddirmygasant, Gweinidogion a chennadon pa vn a ddi­ystyrasant; Ordinhadau pa vn a esg [...]ulusasant, a pha vn a groeshoeliasant yn fynych â'u pechodau; pa fodd y bydd eu calonnau y prŷd hwnnw yn ll [...]wygu ga [...] ofn a [Page 40] dychryn, yn dymuno ar y Creigiau a'r mynyddoedd syrthio arnynt, a'u cuddio oddiwrth wyneb yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orseddfaingc, ac oddiwrth lîd yr Oen. Datc. 6.16.

Fe all Credadyn truan y dydd hwnnw yn gweled Christ yn eistedd ar yr Orsedd-faingc, ddywedyd yn llawen, Wele d [...]ccw yr hwn a fu farw i'm cadw i, yr hwn a dy­walldodd ei waed i'm prynu i, ac a gyfododd i'm cyfiawnhaû i, ac a ddaeth yr awron i farnu y byw, a'r meirw.

III. Am drefn Christ yn myned rhagddo yn y Farn yn y dydd diweddaf.

I. Fe fydd Dyfyn neu wŷs i bob dŷn, y byw a'r meirw, gydâ'r cythreulia [...]d i ddyfod i'r Farn. Rhaid ini eu gŷd oll ymddangos, medd yr Apostol. 2 Cor. 5.10. Rhaid i Bawb yn ddinam ymddangos, vchel ac issel, cyfoethawg a thlawd, brenhin a chardottyn, gwrryw, a benyw.

Oh pa ddiwrnod mawr a fydd hwnnw, pan gaffo 'r holl fŷd ddyfyn i ymddangos a'r vnwaith!

Cwest. Os gofynnwch pa fodd y cânt eu dyfyn? [neu gwŷs.]

Atteb. Trwy floedd o'r nêf, a llais yr vdcorn, yr hwn a ddeffry y ddaiar gysgadur hon, ar ba vn y cryna vffern, y beddau a agorir, ac a rydd i fynu eu carcha­rorion, y rhai a gadwasant ynghadwynau Marwolaeth, tros yr holl Oesoedd o ddechreuad y Bŷd. Je y môr â rydd i f [...]nu y meirw sydd ynddo. Datg. 20.13. 1 Cor. 15. [...]2.

Dyfyn ofnadwy y fydd y ddyfun hon i'r holl rai drwg annuwiol, y rhai y bydd i'r cyffro disymmwth hwn eu hurtio a'u syfrdanu yn wradwyddus. Ni a ddarllenwn, pan ddescynnodd yr Arglwydd ar Fynydd Sinai, i roddi y Gyfraith, â llêf vdcorn, ddarfod i bobl Israel ofni a chrynu; Och gan hynny, pa fodd y bydd i'r annuwiol ofni a chrynn pan ddescynno 'r Arglwydd Ghrist o'r Ne­foedd â llêf yr vdcorn i gospi troseddwyr y Gyfraith!

II. A'r y Dyfyn hwn fe fydd adgyfodiad y meirw, a'r fâth gyfnowidiad o'r r'hai byw, a ph [...] buasent wedi marw er ystalm, [...]'u cyfodi drachefn i fywyd. Ac fel y rhŷdd y Beddau y prŷd hynny eu cyrph meirw i fynu; felly vffern a rŷdd i fynu ei heneidiau byw, y rhai a ânt i mewn iw hên [Page 41] gelanneddau i dderbyn mwy o ddamnedigaeth. Och pa gyfarchiadau trîst a fydd rhwng y corph a'r enaid hwn­nw, y rhai fel y buant fyw ynghŷd yn llawnder o an­wiredd, felly rhaid iddynt gael eu hail-gyssylltu ynghyd i ddioddef llawnder o drueni yn dragywydd.

III. A'r ôl yr Adgyfodiad, fe fydd cynnhulliad a chasgliad ynghŷd o holl Ddynion y bŷd, a'r cythreuliaid. Ond â'r rhagoriaeth hyn. Yr etholedigion wedi eu casglu ynghŷd gan Angylion, a gânt mewn llawenydd mawr eu cippio i fynu i gyfarfod a'r Arglwydd yn yr awyr. Mat. 24.31. Ond y Gwrthodedigion (ynghŷd â Diafol a'i Angylion) trwy ddychryn a gwradwydd mawr a lusgir iw bresen­noldeb ef. Datg. 6.15, 16. Oh bechadur! pa ddychryn a syndod yno a syrth arnat pan ddygir di, fel drwg weithre­dwr, yn erbyn dy ewyllys, ger bron Gorsedd-faingc Christ?

IV. A'r ôl hyn, fe ganlyn didoliad o'r da oddiwrth y drŵg, o'r etholedig oddiwrth y Gwrthodedig. Canys Christ, ar yr ymddangosiad cyntaf o bawb ger bron ei orsedd-faingc ef, i ddangos ei ffafr grasol a'i ewyllys da i'r ffyddlo­niaid, a'u gwahana hwynt oddiwrth eraill, ac a'i gesyd ar ei ddeheulaw, fel diadell o ddefaid, y rhai y mae yn ei frŷd eu cymeryd yn eiddo ei hun. Ac yno y gesyd yr annuwiol a'r anffyddloniaid ar ei law asswy, i ddan­gos ei fôd yn eu gwrthod hwynt, a bôd yn ei frŷd rôi barn ofnadwy arnynt, fel y dywed ef ei hun. Mat. 25.32, 33.

V. Ar ôl kyn, fe ganlyn argyoeddiadd yr annnwiol, a dat­cuddiad o'u holl weithredoedd. Yr hyn sydd gymmwys i fôd o flaen rhoddi barn. Holl ddrygioni eu bywyd a ddy­gir i oleuni, i dremio arnynt yn eu hwyneb, ac a oso­dir â'r fâth eglurdeb di-ddadl yn eu herbyn, fel y sa­fant yn fûd ger bron eu Barnwr heb ganddynt air iw ddywedyd i ymesgusodi, ac iw dieuogi eu hunain oddi­wrth y Cŵyn a'r ddadl ofnadwy a rôir yn eu herbyn.

Ie ar ddydd farn fe ddangosir ar gyhoedd dy bechodau di i'r holl fŷd. Canys fel y dywed yr Apostol, Dirgelion y tywyllwch a ddygir i'r goleumi y dydd hwnnw, 1 Cor. 4.5. Nid ocs vn pechod a wnêir mor ddirgel a chyfrwys. [Page 42] ond yno fe ddangosir o flaen pawb. Nid oes braidd vn dŷn drwg yn y bŷd, er ei fod yn olygus iawn, na wnaeth ryw amser neu gilydd ryw bechod yn y dirgel, a'r ni fynnai i eraill wybod er yr holl fŷd. Ond Gwybydd yn ddiau, y ceiff y Bŷd glywed oddiwrtho ar ddydd farn. Canys yno dy holl bechodau dirgel, a'th yscelerder a ddatguddir, ac a amlygir o flaen Angylion, Dynion a Chythreuliaid: Dy butteindra a'th odineb dirgel, dy ddarn-guddiad a'th ladrad, dy gam-bwysau, a'th fesurau prin, dy ragrith a'th gyfrwystra a amlygir o flaen pawb, a hynuy i'th gywilydd a'th wradwydd tragwyddol. Fe geiff y Gŵr yr amser hwnnw weled godineb ei wraig, a'r wraig odineb ei gŵr, y meis [...]r ledrad ei wâs, a'r gwâs dwyll ei feistr. Ie yno nid yn vnig dy eiriau a'th weithredoedd ond hefyd dy feddyliau a'th fwriadau dirgel, mor ofer a nwyfus, mor aflan a ffiaidd fuant, a ymdden­gys o flaen yr holl fŷd. Na feiddia gan hynny wneuthur vn pechod tan obaith o ddirgelwch, o herwydd dy fôd yn guddiedig o olwg dynion; Canys bwrw y bydd dy bechod yn guddiedig hyd y dydd mawr diweddaf; etto yno fe ddaw allan yn eglur, ac a amlygir i'r holl fŷd.

Yn awr, ni wnn i ffordd well i ragflaenu datguddiad dy bechodau ar y dydd mawr hwnnw, nag yma yn yr amser a'r dydd hwn o râs, eich galw eich hunain i gy­frif, i chwilio ac i holi eich calonnau a'ch bucheddau, ac yno i'ch barnu a'ch condemnio eich hunain am eich amryw bechodau a chamweddau; Canys fel y dywed yr Apostol. 1 Cor. 11.31. Os barnwn ni ein bunain ni'n ber­nir gan yr Arglwydd. Oh gan hynny cadwn yn fynych ddyd farn yn ein eneidiau a'n cydwybodau ein hunain, trwy wir-holi ein hunain am ein pechodau, a chan far­nu a'n condemnio ein hunain am danynt; ac yno mewn gostyngeiddrwydd calon ymgrymmwn o flaen Gorsedd­saingc grâs, gan ddadleu trugaredd Duw, a haeddedi­gaethau Christ am faddeuant am danynt oll; yr hyn a wnâ ini godi ein pennau yn llawen ar ddydd mawr y Cyfrif.

VI. Ar ôl argyneddiad a datguddiad o'u holl wcithredoedd pechadurus, fe ga [...]lyn barn damne [...]igaeth. A pheth yw, mae [Page 43] ein Jachawdr ei hun yn dangos. Mat. 25.41. Ewch ymaith oddiwrthifi rai melldigedig, i'r tân tragwyddol, a bara­towyd i ddiafol, ac iw Angylion. Oh farn ofnadwy! pob gwir o honi yn llawn o ddychryn, heb roi allan dim ond gwâe a thrueni, ie tân a brwmstan.

Ewch ymaith oddiwrthifi.] Hynny yw. oddiwrth Jesu Ghrist ffynnon llawenydd a dedwyddwch.

Chwi rai melldigedig.] Digon o vffern fyddai myned ymaith oddiwrth Ghrist, ond rhaid it fyned hefyd a mell­dith gydâ thi, sef melldith, tan ba vn y mae pob gwae a thrueni yn gynnwysedig. Ac yn wîr bôd tan felldith Dduw, ydyw bôd tan bôb trueni yn ei ber-ffeithrwydd.

I'r tân tragwyddol.] Beth? I'r tân, ac i dân tragwyd­dol? Och drueiniaid! gwir-felldigedig. Canys fel y dy­wed y Prophwyd Isaiah, Pwy o honom a drig gydâ'r tân yssol? pwy o honom a bresswylia gydâ lloscfeydd tragwyddol? A'r ni ddiffoddir na dydd na nôs, ond yn wastadol a bor­thir ag afonydd o frwmstan, ac a fflammia fŷth yn an­gerddol gan lîd anniffoddadwy y cyfiawn Dduw yn dra­gywydd. Poenau 'r annuwiol yn vffern fydd fel yn ddi­dorr, felly yn anorphen. Gwedi eu poeni hwynt yno gantoedd, miloedd, ie myrddiwn o ddyddiau, blynyddo­edd ac oesoedd, fe fydd eu poenau cym mhelled o ddar­fod, a phe buasent y pryd hynny yn dechreu. A'i nid yw hyn ddigon o drueni? i orwedd yn y tân, yn y llosc­feydd tragwyddol? Mae hyn vwchlaw yr hyn a ellir ei a­drodd gan ddynion ac Angylion. Pe gŵyddai un y byd­dâi raid iddo orwedd mewn tan fflamllyd, ond vn dydd neu awr, och pa ofn a dychryn a feddiannai ei enaid! Ond beth yw dydd, neu awr, neu oes i dragwyddoldeb▪ Och gan hynny pa syndod annheimladwy sydd yn med­diannu calonnau dynion pechadurus, y rhai ni ddychry­nir trwy hyn ei gŷd oddiwrth eu pechodau! Ofn ffwrn danllyd Nebuchadnezzar a barodd i ddynion wneuthur pob peth iw gochelyd. Ac oni wna ofn y tân tragwyddol yn vffern i ddynion wneuthur pob peth i ddiangc rhagddo? Fe allai hyn, debygwn i, eu deffroî hwynt, a pheri id­dynt, nid yn vnig ymostwng am eu pechodau, a cheisio maddeuant am danynt; Ond hefyd daflu ymaith eu cam­weddau, [Page 44] ymdrechu yn eu herbyn, gwilied yn eu herbyn, gweddio yn eu herbyn, gan daer-geisio grym a nerth oddiwrth Ghrist i ddarostwng grym eu chwantau, sydd yn eu gyrru ym mlaen yn wyllt yn eu ffyrdd pechadu­rus. Vn o ryfeddodau 'r Bŷd ydyw, pa fodd y gall dy­nion, yn credu fôd gair Christ yn wîr, yr â 'r annuwiol i'r tân tragwyddol, o'u gwirfodd, heb na dîr na chym­mell, ruthro ar ffyrdd pechadurus, diwedd y rhai a wŷd­dant fydd mor erchyll ac ofnadwy.

A barattôwyd i Ddiafol, ac iw Angylion.] Hynny yw, nid yn vnig y tef [...]ir chwi i'r llynn o dân a brwmstan, ond hefyd chwi a gewch aros gyd a'r ysprydion vffernol hyn­ny, Diafol a'i Angylion, y rhai yn wastad a fydd yn gwneuthur ymffrost arnoch trwy wawd vffernol am i chwi esgeuluso iechydwriaeth gymmaint a gynnigiwyd i chwi mor fynych; a'ch bôd mor ffôl a cholli y llawe­nydd a'r hyfrydwch nefol sydd yn parhau yn dragywydd, am fwyniant trachwant drewllyd, a'r ni pharháodd ond tros amser.

Ni a ddarllenwn yn yr efengyl am wraig a ddaeth at Ghrist, ac a ddywedôdd wrtho, Trugarhâ wrthif Arglwydd, canys mae fy merch yn ddrŵg ei hŵyl (neu yn cael ei dir­boeni) gan gythrael, Mat. 15.22. Ac os yw cymmaint go­fid cael ein poeni ag vn cythraul, beth yw cael ein gofi­dio a'n poeni gan holl lengau y cythreuliaid yn vffern?

Oh pa ofn a dychryn, pa syndod a syfrdandod a syrth a'r yr eneidiau hynny a dderbyniant y farn erchyll hon o ddamnedigaeth! Pa fodd yno y rhedant fel dynion gwall-gofus iw cuddio at y bryniau a'r mynyddoedd! Pa fodd yno y gwaeddant ac yr vdant drâchef [...] am dru­garedd gar bron Barnwr cyfiawn anymbilgar, ni ellir ei­riol arno yn dragywydd! yn gyfiawn an-ymbilgar, med­daf, iddynt hwy, y rhai â gwawdus ddirmyg a wrtho­dasant aml gariadus wahodd ganddo, a thaer-ddymuni­adau ei weinidogion ef, i dderbyn yr heddwch a'r cy­mod hwnnw, yr oedd ef wedi ei bwrcasu iddynt a'i waed. Och na ystyriai dynion, y bydd vn deigr neu vchenaid oddiwrth galon edifeiriol yr awron yn fwy nerthol i gael trugaredd, na'r holl chwerw ddryg-nâd, a'r taerru anam­serol yn nydd digofaint Duw!

[Page 45]VII. A'r ôl Cyhoeddiad y farn, y canlyn y Cyflawniad o honi, a danfon y rhai a farner iw cyflwr tragwyddol: fel y mae yn scrifennedig: A'r rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragwyddol, Mat. 25.46. Yno y cippir hwy gan Gythreu­liaid (eu ceidwaid) allan o bresennoldeb Christ, ac y llus­gir i bwll diwaelod y tywyllwch eithaf sydd yn llosgi â thân ac a brwmstan vn dragywydd. Oh y gweiddi vf­fernol! a'r cregleisiau erchyll a glywir yno! Pan deim­lodd trigolion Sodoma a Gomorrha y tân a'r brwmstan yn syrthio a'r eu pennau o'r nefoedd; a phan agoroddd y ddaiar ei safn i lyngcu Corah a'i gwmpeini, a phan wel­sant eu bôd yn descyn yn fyw i'r pwll; Oh pa weiddi a glybuwyd yno! Oh y Cregleisiau yno a lanwasant yr awyr! Ond och beth oedd y rhai hynny i'r bonllefau a roir ac i'r oer-leisiau a glywir! pan wŷllt-wthier y Cy­threuliaid a gwŷr a gwraged drŵg i vffern, o'r lle ni ddychwelant bŷth ac yn dragywydd.

Oh bechadur, pettei gennit galon yr awron i drôi oddiwrth dy bechodau at Dduw, trwy wîr a difrifol e­difeirwch, ac i weddio arno ef am drugaredd trwy ha­eddedigaethau Jesu Ghrist, fe fyddai gobaith o drugaredd. Ond ar ddydd farn dy edifeirwch a'th weddiau ni tha­lant ddim: Yno ni wrendi y Barnwr arnat ti; ac nid rhyfedd, gan na wrandewaist dithau arno yntef yn nydd oi ymweliad grasol. Ond er iddo ddanfon gweinidog ar ôl gweinidog attat, a chennad a'r ôl cennad, i'th garu, ac i ddymuno arnat ymadel a'th bechodau, a'i dderbyn ef yn ▪Arglwydd ac yn iachawdr, etto nid ymadewit ag vn pechod anwyl, ac nid ymwrthodit ag vn trachwant cnawdol er ei holl ddymuniad ef. Am hynny ni wrendy yntef arnnat titheu yn y dydd hwnnw, er amled fo dy weiddi a'th weddiau. Oni chredi fi, gwrando eiriau Christ ei hun i'r diben hwn. Dih. 1.24, &c. Yn gymme­int ac imi eich gwahodd, ac i chwithau wrthod, imi estyn fy llaw, a nêb heb ystyried: Ond diystyrasoch fy holl gyngor i, ac ni fynnech ddim o'm cerydd: Minneu hefyd-a chwarddaf yn eich dialedd chwi, mi a wawdiaf, pan syrthio arnoch yr hyn yr ydych yn [...]i ofni. Pan dd [...]l arnoch yr hyn yr ydych yn ei ofni, megis destryw ac y del eich dialedd arnoch megis corwynt. [Page 46] a dyfod arnoch wascfa a chaledi: Yna y galwant arnaf, ond ni wrandawaf; yn foreu i'm ceisiant ond ni'm cânt.

Oh bechadur! pa fodd yno yr archollir dy enaid, wrth gofio dy ffoledd yn esgeuluso dy amser, yn gwrthod iechydwriaeth gymmaint? Pa fodd y gwna it mewn oer­ni calon weiddi allan, Och tydi druan ynfyd, p'le yr oedd dy ddeall di, i wneuthur yn ddiystyr o'r fâth wahodd grasol cyn fynyched? I wneuthur mwy o gyfrif o bob chwant aflan, nag o Arglwydd y bywyd? I drôi ymaith oddiwrth y nêb oedd yn llefaru wrthit o'r nefoedd, ac i fyned a'r ôl dy gyfeillion a'th felus-chwantau daiarol? i fwrw ym mhell oddiwrthit dy dròad oddiwrth dy bechodau, a gwneuthur dy gymmod a'th Dduw hyd yn rhy-hwyr? Och yr awron, mi a ro'wn y Bŷd, pe bai gen­nif, am vn oynnig ychwaneg o Ghrist, am vn Sabbath ychwa­neg i wneuthur fy heddwch â Duw, ac i fôd yn siccr o Ghrist, ond yr awron (ysywaeth!) mae 'n rhy-hwyr.

Oh ffoledd ac ynfydrwydd dynion drŵg, sydd yn my­ned rhagddynt yn ddiofal ac yn an-edifeiriol yn eu pe­chodau, nes iddynt ddiferu i'r tan vffernol! A'i dyma dy ddoethineb di, pechu tros amser, a llosgi yn dragywydd? chwerthin dras drô, ac vdo byth? am ychydig o felys­chwant byrr yma, dioddef dialedd tan tragwyddol?

O na rag-feddylit yr awron am yr amser erchyll a'r trueni ofnadwy hwn, sydd ynghrôg uwch dy ben! fel, pan fyddych ar dy ben [neu wrthit] dy hun, yr ystyrit yn ddyfal rhyngot a thi dy hun, fel siccred ac erchylled y fydd y dydd hwnnw, felly pa gyflwr yr wyt ti bebyg i fôd ynddo y pryd hynny! Fel y gellit trwy hynny ymgy­ffroî i geisio rhan yn Ghrist, trwy 'r hwn y gelli ddi­angc rhag y digofaint a'r ddyfod. Yr awron traoprege­ther Christ itti yngweinidogaeth yr efengyl, fe gynnigir itti drugaredd ac iechydwriaeth, ac yr awron, o [...] bŷth, ydyw 'r amser iw dderbyn. Och gan hynny, na cheisit yr awron, ie yr awron yn dy ddydd hwn o râs, wybod y pethau a berthynant i'th heddwch! Oh n [...] cheisit yr awr hon lwyr- [...]wriadu am Ghrist, lwyr-fwriadu am San­cteiddrwydd, ac o hyn allan ymadel â'th holl ffyrdd cnaw­dol ofer, sydd yn dy ddŵyn di gyd â'r ffrŵd ir ll. hwn­nw o dywyllwch o'r hwn ni bydd bŷth ymwared.

PEN. VII. Yn dangos cyflwr gresynol ofnadwy dynion heb yr Ail-enedigaeth ar ol Dydd farn.

GWedi imi ddangos i chwi gyflwr gresynol rhai heb yr Ail-enedigaeth ar Ddydd farn; mi a âf rhagof i ddangos i chwi eu cyflwr gresynol ar ôl dŷdd y farn: yr hwn yn gyffredinol, sydd felldigediccaf, ac am hynny medd ein Jachawdr wrthynt, Ewch oddiwrthif rai melldigedig. Y cyflwr melldigedig hwnnw sydd amlwg.

  • 1. Trwy eu bôd heb ddim daioni.
  • 2. Trwy eu bôd tan bob trueni. Yr hyn osodir allan,
    • 1. Trwy amryw gyff 'lybiaethau.
    • 2. Trwy y lle yr arhosant ynddo.
    • 3. Trwy ei dragwyddoldeb. Am y rhai hyn mewn trefn.

I. Cyflwr gresynol melldigedig rhai heb yr Ail-enedigaeth sy'n sefyll, yn bôd heb yr holl ddedwyddwch hwnnw a fwynha y ffyddloniaid ger bron Duw, gar bron pa vn y mae llawnder o lawenydd, ac ar ddeheulaw pa vn y mae digrifwch yn dra­gywydd, Psal. 16.11. Pe na byddai ddim trueni teimladwy ynddo ei hun, hyn o golli presennoldeb Duw (pe deallent ef) a fyddai ddigon i wneuthur cyflwr y damnedig yn felldigediccaf, i wneuthur vffern yn vffern heb ddim tân arall ynddo. Canys fel y ceir llawnder o lawenydd a di­grifwch trwy fwynhaû presennoldeb Duw; felly llawn­der o dristwch a gofid a feddianna galonnau yr holl rai a fyddant hebddo. Pe ceit ti dy gippio i'r nefoedd tros vn munud, a chael vn cip-golwg o'r gogoniant anfei­drol a barottôdd Duw i'r rhai a'i carant ac a'i hofnant ef, ti a gydnabyddit hynny yn y man.

II. Heblaw bôd heb ddedwyddwch, mae bod tan bôb tru­eni. Heb law poen y golled, mae poen teimlad, a raid i'r damnedig ei oddef, yr hyn ynddo ei hun [...]ydd yn anno­ddefadwy, [Page 48] ac yn annhraethadwy. Nid yw yr holl boenau ac arteithiau, yr holl wascféydd a phenydiau, a all dy­nion eu dioddef yma, ond megis gwreichion iw cyff'lybu i fflammâu rân digofaint Duw yn vffern; lle mae poen heb ddim esmwythdra, tristwch heb ddim llawenydd, tywyll­wch heb ddim goleuni, gofid heb ddim cyssur, cyfiawn­der heb ddim trugaredd, llidiawgrwydd heb ddim tostu­ri, trueni heb ddim diwedd. Nid oes dim gofidiau tebyg i ofidiau y rhai damnedig, â'r rhai y gofidia yr Arglwydd hwynt yn nydd angerdd ei ddigter; Pan dywallto hôll phialau ei ddiggofaint arnynt, ac a wnâ iddynt dalu ar vnwaith am yr holl gammau a wnaethant iw enw ef, am esgeuluso ei drugaredd, dirmygu ei gyfiawnder ef, am gam-arfer ei ammynedd a'i hir-ymaros ef, am gamdreulio eu hamser, am eu tyngu a'i rhegu, am eu putteinio a'i meddwi, am halogi ei Sabbathau ef, am gasâu ac erlid ei bobl ef.

Och! pa lefain ac ŵylofain, pa och'neidio a griddfan, pa regu a melldithio a glywir y prŷd hynny!

Dir-boenau vffern a ymddengys ym mhellach yn hyn, sef, eu bôd yn hollawl ac yn llwyr-gwbl. Nid yn vnig y rhan hon neu 'r llall o'r corph a boenir, ond pob rhan ac aelod o hono. Fel y cyttunasant oll yn y pechod, felly y cânt fôd yn gŷd-gyfrannog o'r boen a'r dialedd.

Dy lygaid trythyll, a arferwyd i ymfodloni yn edrych ar bethau glân, pryd-ferth; ni welant yno ddim ond pethau anferth ofnadwy. Os edrychi ûwch dy law, beth elli ganfod ond y Barnwr digllon, a'r Sainct a'r Angyli­on, prydferthwch disclair y rhai a wnânt i'th wrthuni di fod yn fwy gwrthun, ac iw ffieiddio? Os edrychi îs dy law, beth elli ei weled ond y pwll diwaelod i'r hwn yr wyt yn syrthio, ac yn myned ddyfnach ddyfnach yn wasta­dol? Os edrychi o'th amgylch,, beth elli weled, ond cy­threuliaid vffern, a phlant y fall yn dy boeni a'th yssu? Dy Gl [...]istiau a ymhyfrydasant mewn puroriaeth a melyf­wawd, ni chlywant yno ddim ond tyngu a rhegu, udo a chablu. Dy ffroenau a fyddent yn cael eu llenwi ag aro­glau peraidd, yno a lenwir â dryg-sawr y tân a'r brwm­stan. Dy g [...] a fu yn fêdd agored i fwrw allan frynti dy galon trwyddi, a sŷch-gresir â syched, ni tho [...]rir bŷth; [Page 49] fel gydâ difes y rhoi't ti yr holl fŷd, pe bai eiddot, am vn defnyn o ddwfr i oeri dy d fod, ac ni chêi ddim.

Y gofid y mae dynion yn ei oddef yma sydd (gan mwyaf) mewn rhan; Rhai a boenir yn eu pen, rhai yn eu cefn, a rhai yn eu traed. Ac weithiau mae peth o'r gofi­diau hyn mor ddir-boenus, ac na fynnit o'th fodd fod ynd­dynt er yr hôll fŷd. Ond pan boener dŷn ym mhob rhan ae aelod o'i gorph ar vnwaith, rhaid i hynny fôd yn ofidus iawn; ac fel dyna gyflwr y rhai damnedig yn vffern.

Wrth hyn y gellwch feddwl ychydig mor ddirfawr fydd eu poenau hwynt; ond pe bai gennif dafod dynion ac Angylion, ni fedrwn mo'i draethu hyd yr eithaf. Ca­nys fel y mae yn y nefoedd y fâth lawnder o lawenydd, na all calon dŷn ei feddwl, llai o lawer y gall tafod dŷn ei draethu: Felly yn vffern mae y fath lawnder o boen a gofid, ac ni ellir na'i draethu, na'i feddwl.

Oh ffoledd ac ynfydrwydd dynion y Bŷd hwn, y rhai, er bôd côsp y pechod mor annoddefadwy, ie a hwy­thau yn credu hynny, etto a oddefant am bethau di­ddim eu dŵyn i wared i'r pydew hwn! hwy a fyddant feirw yn gynt nag y byddant ddoeth: hwy a ffríant, ac a rúant, ac a vdant yn y Bŷd arall, yn hytrach nâ phei­dio a chanu a chwerthin, a hôd yn ddiffaith ac yn ffia­idd yn y Bŷd hwn.

Oh bechadur! a fynni na ddelech byth i'r lle poenus hwn? Descyn iddo beunydd yn dy feddyliau, ac edrych ar y ffôs yn fynych oni fynni syrthio iddi. Oni bydd digon o Resymmau oddiwrth y nefoedd a'r holl lawenydd a'r gogoniant sydd yno iw gael, i'th dynnu ym mlaen ar ôl dy Dduw, edrych oni bŷdd digon o Resyminau oddiwrth vffern a'i phoenau i'th dynnu di ymaith oddiwrth dy be­chodau. A fynnit na'th ddenid i'r pechod? Bydded i fed­dwl am vffern, am farwolaeth a'r digofaint i ddyfod, gyfarfod pob temtasiwn. Yn yr holl demtasiwnau i be­chod, ystyria ei ffrwythau ofnadwy yn y diwedd; ac er ei fôd yn ymddangos yn hyfryd iawn, ac yn cyttuno â'th naws naturiol, etto gofyn, Ond beth a ddaw ar ôl hyn? Bydded y peth ofnadwy sy yn canlyn, yr hwn (heb wîr [Page 50] a difrifol edifeirwch) nid yw ddim llai nâ thân tragwyd­dol, dy ddychrynu oddiwrtho. Oh bechadur, bechadur! pan wyt yn twymddwyro dy enaid wrth dân trachwant, ystyr fel y gelli f [...]d yn llosgi yn fflammau tragwyddol tân vffern. Pan fy'ch yn ymlenwi â'th draflyngciau me­lus o ddifyrrwch cnawdol, meddwl pa draflwngc, pa gwp­pan chwerw gwenwynllyd a barattôir itti oddi isod. Ac fe all hyn fod yn fodd enwedigol i lâdd dy drachwant, yr hwn amgen a laddai dy enaid. Eisiau ystyriaeth o ddiwedd gresynol ffrwythau y pechod, ydyw 'r Achos yn ddiau o gym­maint o bechod ac anwiredd yn y Bŷd.

III· Fe osodir allan drueni y damnedig yn yr ysgry­thur lân trwy amryw gyff 'lybiaethau, megis,

1. Dirboen, Luc. 16.23. Ac yn vffern y gŵr goludog a gododd ei olwg, ac efe mewn poenau. Yr awron poenau y­dyw dirfawr ofid, y mae dŷn yn ei deimlo, ac yn ofi­dus iawn am dano. Cymmerwch boenau 'r holl glefydau sy'n perthyn i'n natur ni, sef, y Garreg, y Gôrott, y Col­ic, y cwlwm gwythi, neu beth bynnag aller ei henwi. Chwanegwch at y rhai'n y dir-boenau trymmaf, a ddyfei­siodd dynion creulon ac a roesant ar eraill, sef, yr olwyn boeni, strapado, berwi mewn plwmm, rhwygo'r cnawd oddi­wrth esgyrn â gefeiliau poethion, a'r cyfryw. Chwanegwch at hyn hefyd yr holl drymder, gerwindeb, dychryndod, a deimlodd vn dŷn erioed yn ei enaid, meddwl, a'i Gydwybod; rhowch y rhai'n eu gŷd yn yr vnfan, nid ydynt ond fel brathiad chwannen, iw cyff'lybu i'r poenau vffernol. Y rheswm am hyn sydd eglur, oblegid yr holl boenau rhag-ddŷwededig hyn a ddioddefwyd yma, a al­lant sefyll gydâ chariad Duw, ac yn fynych a roîr ar ei blant anwyl ef. Ond y poenau hynny ydynt ffrwyth ei lîd ef, pan yw yn ei osod ei hun i beri i'r pechadur deimlo pŵys ei ddigofaint ef.

Oh bechadur ynfyd! dy felus chwantau, a'th sudr-elw sydd yn dwyn poenau ar eu hôl. Yn awr, yr wyti yn yfed y melus, ond gwilia, beth bynnag ydynt yn dy enau, hwy a fyddant yn fustl-chwerwder yn dy fol. Na phrŷn vn awr o esmwythdra neu ddifyrrwch cyn ddrutted, ac i dalu a'm dano boen dragwyddol.

[Page 51]2. Cyff'lybiaeth arall, trwy 'r hon y gosodir allan dru­eni y Damnedig, ydyw Tân, megis Mat. 18.9. Y gyff'ly­biaeth hon a arferir fynychaf o'r cwbl, ac o'r cwbl mae 'n gymmesuraf. Canys tân yw'r boen greulonaf o'r cwbl, ac mwyaf an-oddefadwy. Mawr yw 'r Cwestiwn yhghylch rhywogaeth y tân hwn, A ydyw tân vffern yn dân defnydd­iol neu gorphorol, a'i nid yw. Yn ddiau mae yn gyfryw dân ac a boena gorph ac enaid, a hynny yn boethach o lawer nag vn tân ar y ddaiar. Pan gymyscer brwmstan a thân, fe wnâ iddo losgi yn fwy ffyrnig; am hynny y chwanegir brwmstan yn fynych at dân vffern i drymhâu ei boenau ef. Je, fe ddywedir, Datg. 20.10. a 21, 8. Ei fôd yn llynn o dân a brwmstan, yr hyn sydd yn arwyddo llawer iawn o hono, iw wneuthur yn boethach.

Mae tân yma yn arfer o losgi yn boethach mewn ffwrn, lle y cedwir ef i fewn. Am hynny y dywedir fod vffern yn ffwrn, a hynny o dân fflamllyd, Mat. 13.42. Yr oedd y ffwrn, i'r hon y taflwyd y tri-llangc yn boeth iawn, gan ei thwymno seithwaith mwy nag y byddid ar­fer o'i thwymno. Ond oh mor ffyrnig ac erchyll a fydd y ffwrn hon, tân pa vn fydd poethach annrhaethawl, nag oedd honno ar y poethaf? Oh pwy o honom a drîg gyda'r tân yssol? pwy o honom a bresswylia gyda'r llosgfêydd tragwyd­dol? Yr oedd gweiddi a dychlammu erchyll, pan ddanfo­nodd Duw y dwfr-dilyw i foddi yr holl fŷd: Pa fodd y gwibiodd y creaduriaid truain yma a thraw am ryw lo­ches yn y Dilyw hwnnw? Ond oh pa ochain a gweiddi chwerw a fydd yn vffern? Pan ddylifo afon danllyd oddi­wrth orsedd-faing [...] Duw, a phan y rhêd y creaduriaid damnedig truain yma a thraw, ac heb gael cymmaint ag vn desnyn o ddwfr i oeri eu tafodau sychedig.

Oh bechadur, bechadur! pa fodd y gelli ddewis ond ofni a chrynu wrth feddwl am y tân hwn, gan fôd y cythreuliaid eu hunain oblegid hynny yn ofni ac yn cry­nu. Bwrw dy fôd wedi dy gondemnio i'th daflu (fel y bn i lawer o Ferthyron) i Bair berwedig, neu i'r tân fflamllyd; Oh mor erchyll ac ofnadwy fyddai hynny yn dy olwg di! a pha fodd y byddit yn rhuo ac yn bloed­dio o herwydd y dir-boen hwnnw? Ond och! beth yw [Page 52] Pair berwedig i'r môr berwedig hwnnw o dân a brwm­stan? A pheth yw tân fflamllyd o goêd neu lô yma, i dân vffern, a gedwir yn y fflam vchaf boethaf gan anadl digofaint Duw? Yn ddiau mae hwnnw mewn gwrês cym­maint yn rhagori ar y llall, ac ydyw 'r tân yn yr ael­wyd ar y tân paintiedig ar y par [...]d.

Mi a dybygwn y gallai hyn chwerwi melys-dra dy holl chwantau pechadurus, a'th annog i gymmeryd i fynu gwrs a helynt o fuchedd well, o rodiad mwy difrifol, die­sceulus, cydwybodus, trwy ba vn y gelli ddiangc oddi­wrth y pethau trymion hyn.

O bechadur! edrych o'th amgylch, tra gelwir hi hed­dyw, rhêd at Ghrist, ymafael yn ei gyfiawnder ef, ymo­stwng iw Deyrn-wialen ef; Dymuna ar Dduw beth byn­nag a naccáo itti, na naccáo mo'i Fab itti, trwy 'r hwn yn vnig y gwaredir di odiwrth y tân poenus hwn. Os amgen, gwâe gwâe erioed dy eni.

Ond Oh! mor hael ffôl ydym ni yn gyffredinol o'n heneidiau! gan fôd mor barod am y pethau gwael gwei­gion hyn iw rhoi hwynt i fynu i ewyllys Satan, ac iw gosod mewn perigl o boenau tân vffern. Gan fôd hyn yn wîr, Beth yw ynnill yr holl fŷd, a cholli ein heneidiau? Beth? treulio ein dyddiau mewn llawenydd a difyrrwch, ac mewn munud ein taflu i vffern? Hawdd i'r enaid diofal anghredadyn ddarllein a chlywed am y tân hwn; ond gwae, a gwâe ddeng-mil o weithlau iddynt oll y rhai a'i dioddefant, ac felly a brofant mor boeth ydyw.

IV. Fe osodir allan hefyd drueni y damnedig yn yr ysgrythur, trwy barháad gwastadol y boen a'i dragwyddol­deb. Eu prŷf nid yw yn marw, na'u tân yn diffodd, ond sydd yn parhâu i losgi yn dragywydd, Mar. 9.44. Ac am hyn­ny y gelwir yn dân an-niffoddadwy, yn dân tragwyddol. Fel y dywedir fôd y Salamandr yn byw yn y tân, felly y c [...]iff yr annuwiol fyw byth yn nhân vffern. Er iddynt geisio angeu, etto ni chânt mo hono, er eu bôd yn llosgi yn wastadol, etto ni yssir hwynt bŷth. Yr hyn sydd yn gw­neuthur trueni y damnedig yn ofidus resynol vwch law pob tŷb dynol.

Mae dynion mewn trueni yn eu cyssuro eu hunain, tan [Page 53] obaith y bydd diwedd o hono. Y Carcharor tan obaith o garchar-ymwared: Y llong-gaethwas tan obaith o iawn am dano: Yn vnig y trueniaid yn vffern nid oes gand­dynt ddim gobaith o ryddhâd nac ymwared: maent cym mhelled o gael diben o'u poenau, ac yr oeddynt ar y de­chreu pan aethant iddynt.

Pe gallai diben fôd o'u poenau, er y byddai wedi cymmaint o fyrddiwn o flynyddoedd, ac sydd o dywod ar lan y môr, neu sêr yn y nefoedd, fe fyddai yn beth cyssur i'r rhai sy 'n eu dioddef hwynt. Ond Tragwyddol­deb ydyw 'r vffern o vffern, ac sydd fwyaf yn torri ca­lonnau y rhai damnedig; Gan nad yw y teimlad o'r boen bresennol mor ofidus i'r damnedig, ac ydyw i feddwl, gwedi miloedd, a miloedd o filoedd o flynyddoedd, a byddant hwy cym mhelled oddiwrth ddiwedd neu orph­wysdra, ac yr oeddynt ar yr awr gyntaf y syrthiasant iddo.

Oh bechadur! Ni elli yr awron ddioddef byrr gyff­wrdd y tân, na dal vn o'th fysedd yn fflamm y ganwyll tros vn chwarter awr. A pha fodd y gelli oddef gor­wedd yn y ffwrn dân fflam-llyd, nid yn vnig awr, neu ddiwrnod, ond blynyddoedd, [...]e miloedd a myrddiwn o flynyddoedd?

Pa galon a all feddwl am hyn heb ofn a dychryn? bwrw dy fôd, am ryw vchel-frâd yn erbyn person y Brenin, wedi dy gondemnio i'th daflu i ganol ffwrn o dân fflamllyd, neu Bair o blwm berwedig, ac aros yno fil o flynyddoedd, mor dôst fyddai dy gyflwr di! Etto trugaredd fyddai hyn i boenau vffern. Canys wedi itti orwedd fyrddiwn o flynyddoedd mewn ffwrn dân, a gedwir mewn fflamm angerddol gan anadl digo­faint Duw, ma [...] etto cymmaint yn ôl, ac oedd ar y dydd cyntaf.

Ti a bechaist yn dy Dragwyddoldeb di, am hynny rhaid itti ddioddef yn Nhragwyddoldeb Duw. Ti a bechaist yn erbyn Duw anfeidrol, gan ddirmygu ei anfeidrol râs a'i drugaredd, ac anfeidrol haeddedigaethau Christ, ac a fyn­nasit (pe gallasit) estyn allan dy bechod i hŷd tragwyd­doldeb; ac am hyuny rhaid itti ddioddef cospedigaeth [Page 54] anfeidrol a thragwyddol. Ni edifarhéaist erioed o'th galon am dy bechodau, ac am hynny nid edifar [...]â Duw byth am dy ddioddefiadau di. Hwn yw dydd hir-oddef Duw, a hwnnw a fydd dydd dy hîr-oddef dithau, pan oddefi yn hîr, am gamarfer hir-oddef Duw.

Oh bechadur, bechadur! pa syndod annheimladwy a syrthiodd arnat, dy fôd yn [...]uog o boenau tragwyddol yn vffern, ac etto byw mor ddiofal ac annuwiol, fel pettai 'r peth yn llwyr-ammherthynasol itti? Gwybydd yn ddiau er nad wyt etto yn dioddef y poenau hyn, etto yr wyti tanynt bob munud, ac yn prysuro attynt. Mae cwmwl o dân a brwmstan yn crogi uwch dy ben, a Duw a ŵyr gynted y gall syrthio arnat. Fe ordeiniwyd yn siccr yn y nefoedd, os ti ni thrôi yma oddiwrth dy bechodau at Dduw, trwy wîr-ddifrifol edifeirwch, a throi dalen ne­wydd, yn byw buchedd newydd; y cêi di orwedd yn y llyn dân a brwmstan yn dragywydd: ac ni wyddost pa cyn gynted y gall Duw selio 'r warrant am ei gy [...]awni.

Oh na chawn i gennit vnwaith yn y dydd fwydo dy feddyliau mewn myfyrdod difrifol am dragwyddoldeb poenau vffern. Yn ddiau fe ôerai wrês dy drachwantau, ac a dynnai fin awchlym dy gariad ti i'th wagedd mwy­af hyfryd, ac a dorrai ar dy redfa wyllt ar ôl dy chwan­tau cnawdol. Canys pe dwys ystyrit ti hyn, a ymfodlo­nit ti i fôd tan berigl y fâth boenau am dy esmwyth­dra presennol? y fath blâau am dy felyswedd presennol? y fâth Dragwyddoldeb o drueni am ychydig o oriau lla­wen. Oh pa brŷd y deffrôi o'th ynfydrwydd?

Tydi yr hwn wyt yr awron yn ymrôi i fodloni dy chwantau pechadurus, i gyflawni dy nŵyf [neu'th blesser] anifeiliaidd, yr hwn wyt beunydd yn hâu i'th gnawd, yn hâu llŵon a rhegau, a chelwyddau, a godinebau, &c. heb ystyried pa gynhaiaf chwerw a géi di, a'r ôl y fâth ddu­amser-hâu: Pe gofynnwn iti, pa faint o hyfrydwch a gymmerit ti i orwedd ond vn dŷdd mewn ffwrn danllyd, fel yr eiddo Nabuchadonosor, wedi ei thwymno seithwaith poethach i'r tri-llangc: Mi a feiddiwn ddywedyd, na orweddit ynddi vn chwarter awr am hyfrydwch a chy­soeth yr holl Fŷd. Pa fodd gan hynny am ychydig felys­chwant, [Page 55] a bery funud awr, yr wyt mor ddibris i orwedd yn y ffwrn dân vffernol yn dragywydd?

Yn ofn Duw gan hynny meddwl yn fynych, fel am faintioli, felly am dragwyddoldeb poenau vffern. Mi a de­bygwn y gallai, yn vnig meddwl am hyn, ddiddyfnu y meddwyn oodiwrth y Dafarn, a'i gymdeithion ofer, a'r tyngwr rhag cymmeryd enw Duw mor fynych yn ofer: a'r dŷn trythyll gwammal oddiwrth ei ddigrifwch anianol a'i siappri cnawdol: a'r Cybydd oddiwrth ei ormod gwangc am gyfoeth a thrysorau daiarol; a pheri i bob vn o honynt allan o law, gymmeryd ffordd arall a doe­thach, i feddwl am ddaioni eu heneidiau anfarwol, ac ystyried o ddifri pa fodd y mae iddynt ddiangc oddiwrth y digofaint ar ddyfod, i daflu ymaith eu pechod, i weid­di am drugaredd, i redeg at Jesu Ghrist, âu tafodau, âu llygaid, ac au calonnau yn llawn o weddiau, Arglwydd cadw fi, neu fe ddarfu am danafi; Arglwydd dŷsg fi, beth sydd raid imi ei wneuthur, fel y byddwyf gadwedig; Arglwydd maddeu imi; Arglwydd trô fi, Arglwydd sancteiddia fi. Ar­glwydd cymmorth fi, fel na ddelwyf i'r lle poenus hwn. Ond pa brŷd yr ymedy ffolineb ffyliaid â hwynt? Oh y ffoledd anifeiliaidd o'r Bŷd anianol gwallgofus hwn! er eu bod yn gwybod y pethau hyn, a'u rhag-rybuddio am danynt, etto nid oes ganddynt mo'r galon i ffôi rhag y llîd ar ddyfod.

A hyn am egluro a gosod allan y gwirionedd cyntaf iw dderbyn am weithio 'r Ail-enedigaeth yn eneidiau dynion, sef, Bôd pôb dŷn yn ei gyflwr heb yr Ail-enedigaeth, mewn cyflwr truan ac ofnadwy. A'r yr hyn yr arhosais yn hwy, fel y gallwn trwy hynny ddychrynu a deffrôi dy­nion heb yr Ail-enedigaeth, allan o'u diofalwch cnaw­dol, i fôd yn wîr-deimladwy o'r mawr berigl y maent ynddo, tra fônt yn byw yn eu cyflwr heb yr Ail-enedi­gaeth: ac felly gwrth-weithio yn erbyn bwriad mawr y Diafol yn erbyn eu eneidiau, yr hwn sydd, i orchuddio eu llygaid, fel na welont eu Cyflwr tra-gresynol, trwy eu perswadio fôd eu cyflwr cystal ac mor ddio­gel gel a'r goreu. Canys diau yw, pettent yn deimladwy o'u cyflwr presennol, pa fodd y cyfr-gollid hwynt yn dra­gywydd, pe byddent farw yn eu cyflwr naturiol heb yr [Page 56] Ail-enedigaeth, fe fyddai anhawdd i Ddiafol a'i holl gy­farwyddyd a'i gyfrwystra beri iddynt fyw vn diwrnod hwy ynddo, rhag eu cippio hwynt yn ddisymmwth i vf­fern: a drôent hwy yno y fâth glust fyddar i'r efengyl? a wnaent hwy yno y fâth escusodion, a bwrw y fâth oed pan fyddai Christ yn eu galw hwynt i edifeirwch? Ni allafi gymmeryd y boen, ni allafi oddef y llafur, a'r gofid o fu­chedd edifeiriol. Ni allafi ymadel a'm esmwythdra, a'm difyrr­wch, a'm cyfeillion a'm cymdeithion, o'r lleiaf, tros drò etto. Oh fe ostegai teimlad o vffern y cyfryw escusodion oll, ac a dorrai ymaith y fâth ôed dinistriol: Heddyw, hed­dyw, óh fy enaid, gwrando ar dy Arglwydd, rhag bôd yn rhy-hwyr y foru.

Yr awron sâf bechadur, sâf, ac ystyr ychydig yr hyn a lefarwyd wrthit hyd yn hyn. Edrych yn ôl, ac ystyria, a'i dyma dy gyflwr di? Ai dyma dy ran di, sef, y poe­nau a grybwyllwyd am danynt hyd yn hyn? wyti yn be­chadur, yn bechadur cyndyn anedifeiriol, ac onid ydyw hyn ei gŷd yn perthynu itti? Chwilia 'r 'Scrythyrau, crêd i'r 'Scrythyrau, ac yno dywed, ond dyma le y rhai ni adwaenant Dduw, ac nid ydynt yn vfuddhâu i efengyl Ghrist. Ond beth meddi di, a'i da itti fôd yma? a'i cy­flwr yw hwn i aros ynddo? i fôd mor llonydd a diofal, i fôd mor llawen a hyfryd ynddo? A'i dyma 'r cyflwr yr wyt mor flîn gennit ymadel ag ef? a chael dy wared oddiwrtho? Wyti yn crogi vwch ben y ffwrn dân wrth edef fain dy fywyd, yr hon cyn gynted ac y torrer, yr wyt yn descyn bendramwnwgl i'r Pwll diwaelod hwn: ac wyti yn gwatwor ac yn gwawdio am ben Gweinido­gion truain a Chennadon Christ, a ddeuant attat yn vnig i gippio dy enaid di o'r cyflwr tra-pheryglus hwn?

Ond gwrando bechadur, a fynni di ddiangc? a fynni di dy ryddhâu? a fynni gael ymwared oddiwrth hyn oll? A fyddai efe yn gennad o newyddion da, a groesa­wit ti ef, a ddygai itti newydd o ymwared oddiwrth hyn oll? Pa'm? oes obaith o hynny? gobaith o ymwared? gobaith o Jechydwriaeth? beth ir fâth bechadur mawr! oddiwrth cymmaint dinistr? A oes dim gobaith i'r fath bechadur mawr, wedi ei galedu, y fâth hên bechadur, [Page 57] sydd ag vn troed megis yn barod yn vffern? Pa'm, a wrandewi di? ystyr, yr hyn a ddywedir ym mhellach, a thi a gêi weled, fôd etto gobaith itti, ie itti am y peth hyn: Er maint yw dy bechodau di, er maint yw dy be­rigl di, os gwrandewi etto, mae gobaith y gelli fôd yn gadwedig.

PEN. VIII. Yn dangos fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwaethaf.

II. Gwirionedd arall iw dderbyn, o ran dwyn i ben dy Ail-enedigaeth, yw hwn, Fôd gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid mwyaf.

Er bôd cyflwr dynion heb yr Ail-enedigaeth yn drîst ac yn resynol, etto nid yw ef yn anobeithiol: mae gobaith o drugaredd i'r gwaethaf o honynt, yr hyn a ymddengys wrth ddyledus-ystyried,

  • 1. Ewllysgarwch Duw i achub y pechaduriaid gwaethaf.
  • 2. Llawn ddigonol-rwydd Aberth Christ.
  • 3. Parodrwydd Christ i dderbyn yr holl bechaduriaid, y rhai a ddeuant atto ef, ac a'i derbyniant ar ammodau 'r efengyl.

1. Ewyllysgarwch Duw i achub y pechaduriaid gwaethaf, sy'n eglur, oddiwrth ei râd-gynnig ef o Ghrist i bawb a'i der­byniant trwy law ffydd: Fel na henwir nêb, felly ni chaúir allan nêb. Yr Angel a ddaeth o'r nefoedd â'r newyddi­on o anedigaeth Christ, a ddywed, ei fôd i'r holl bobl Wele, medd efe, yr wyfi yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr, yr hwn a fydd i'r holl bobl. Luk. 2.10. Gan nad oes fâth yn y bŷd a'r ddynion a ddarfu i'r Arglwydd eu câu allan oddiwrth Jechydwriaeth trwy Ghrist, y mae hynny yn dangos yn eglur ei ewyllysgarwch ef i achub pechaduriaid truain.

Oh bechadur, gan fôd Duw yn rhâd-gynnig Christ i bawb, heb lysu nêb, na fwrw mo honot dy hun heibio; [Page 58] na therfyna, lle ni therfynodd Duw: Na ddywed. An­nheilwng wyf, neu fy mhechodau sydd fawr ac erchyll, tan lawer o amgylchiadau trymion: Ond ymgryfha i fwrw dy enaid a'r Ghrist, a'r y cynnig cyffredinol o hono yn yr efengyl. Dyna waith cyntaf ffydd mewn llawer, bwrw eu heneidiau ar Ghrist, ar y rhad-gynnig o hono ef i bawb yn ddi-wahanredol. Beiddia dithau yr vn modd dy fwrw dy hun ar râd-ras Duw ynghrist a llwyr-fwriad i daflu ymaith dy chwantau pechadurus am yr amser a ddelo, ac i gymmeryd Christ yn Arglwydd ac yn Briod it, yn gystal ac yn offeiriad ac yn Jachawdr. Dymma 'r hyn a ofyn Duw, ac os trôdd Duw dy galon di at hyn, arwydd da ydyw fod trugaredd itti wedi ei barattoi.

2. Ei ewyllysgarwch sydd ym mhellach yn ymddangos, trwy ddanfon ei weinidogion megis cennadon at bechaduriaid truain, ar Ammodau heddwch a Chymmod, fel y dywed yr Apostol, 2 Cor. 5.20. Ceanadau ydym ni, yn erfyn arnoc [...], cymmoder chwi à Duw. Fel pe dywedasai, mae 'r Arglwydd a'r Meistr yn gorchymmyn ini gynnig i chwi Ammodau hed­dwch a chymmod, gynnig i chwi heddwch a maddeuant, os trowch o'r galon oddiwrth eich pechodau at Dduw. Ni a ddanfonir megis cennadau i ddangos i chwi beth a wnaeth ac a ddioddefod Christ i'ch prynu chwi, fel y cyflawnodd ef y Ddeddf trosoch chwi, ac a offrymmodd ei fywyd yn Aberth, ac yn iawn i gyfiawnder Duw am eich pechodau chwi, a pha fodd y mae i chwi fôd yn ddedwydd yn dragywydd, os pwyswch ar berffaith-gyfi­awnder, a llawn-ddigonol Aberth Christ am fywyd ac Jechydwriaeth, a'ch rhoì eich hunain i fynu iddo ef, iw wasnaethu ef, aci vfuddhau iw ddeddfau a'i orch'mynion ef. Yr wyfi yma gan hynny fel Cennad Duw, yn ei enw ef, yn cy-hoeddi i'r gwaethaf o hono'ch; i'r pechadur mwyaf a hynaf, y gellwch chwi gael trugaredd ac Je­chydwriaeth, os bwriwch ymaith eich trachwantau, ac ymwasgu ag Jesu Ghrist, ar Ammodau 'r efengyl, gan ei dderbyn ef am eich Offeiriad, Prophwyd a Brenhin.

3. Ei ewyllysgarwch ef hefyd, sy'n ymddangos oddiwrth ei fawr ddioddefgarwch a'i hîr-ymaros tuac at bechaduriaid. Ca­nys wedi i'r Arglwydd arfer pôb moddion i drôi pecha­duriaid [Page 59] truain, mae yn hir-ddisgwyl mewn ammynedd rhyfeddol am eu hedifeirwch: i edrych beth a wnant a'i trôi atto ef oddiwrth eu pechodau, a'i peidio. Mae 'n disgwyl wrth y Tyngwr, y Meddwyn y Putteiniwr, y Dŷn bydol cybyddus ddŷdd ar ôl dŷdd, wythnos a'r ôl wyth­nos, blwyddyn ar ôl blwyddyn, gan lefain ar eu hôl hwynt, Oh pa brŷd y gadewi dy dyugu, a'th feddwi, a'th butteinio, a'th Gybydd-dod, a'r cyfryw: a pha brŷd y Sancteiddir dy galon halogedig di; Oh bechadur, yr hwn wyt bellach wedi heneiddio yn dy bechod, pa hŷd y dis­gwiliodd yr Arglwydd wrthit ti? Rhag cywilydd, na âd iddo ddisgwyl yn hwy, ond dychwel, dychwel oddiwrth dy ffyrdd a'th helynt anwir, drygionus, fel y gallech dder­byn trugareddau oddiwrtho ef. Y mae'r ammynedd hwn yn dangos yn eglur ewyllysgarwch Duw i gadw pechadu­riaid. Canys oni bai ei fod yn ewyllysgar, fe a'i torra­sei hwynt ymaith er ystalm, ac a wnaethei â hwynt fel y gwnaeth a'r Cythreuliaid, y rhai, cyn gynted ac y pe­chasant, a roes ef tan gadwynau tywyllwch, yn y rhai y mae yn eu cadw hyd farn y dydd mawr.

II. Fod gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwae­thaf a ymddengys, oddiwrth llawn-ddigonolrwydd Aberth Christ ar y Groes, a llawnder yr iawn a wnaethpwyd trwy hynny i gyfiawnder Duw am bechodau 'r holl fŷd. Hyn ei gŷd mae 'r Apostol yn ei osod a'r lawr, lle mae yn dy­wedyd, Efe a ddichon yn gwbl-iachâu, y rhai sydd yn dyfod at Dduw trwyddo ef, Heb. 7.25. Y gair a gyfieithir [ yn gwbl] sydd helaeth iawn, fel na allwn trwy graffu yn goreu, edrych tu hwnt iddo, cymmaint ac yn ein med­dyliau. Canys bwried dŷn fod ei gyflwr mor anobeithiol ac a allai fôd, a'i bechodau cymmaint ac mor echryston ac a allent fôd, etto mae Christ trwy ei farwolaeth yn abl iw gadw ef oddiwrth y Cwbl, hyd yr eithaf.

Am hynny rhaid yw gosod hyn ar lawr, megis gwiri­onedd sylfaenol, Fôd Aberth Christ yn gyflawn iawn i Gy­f [...]awnder Duw ei dâd am bechodau 'r holl Fŷd, gan ei fod yn Aberth Mâb Duw, yr hwn oedd yn Dduw cystal ac yn ddŷn. Canys hyn sydd yn rhoi prîs â gwerth anfeidrol ar ddioddefiadau Christ tros ein prynedigaeth ni, sef, eu bôd [Page 60] yn vfudd-dod ac yn ddioddefiadau Mâb Duw, yr hwn oedd yn Dduw gogyfvwch a'i Dâd: Ar yr hyn y gelwir gwaed Christ, trwy 'r hwn i'n prynwyd ni, yn waed gwerthfawr, 1 Pet. 1.19. Gan ei fôd o anfeidrol werth a haeddiant, yn llwyr-abl i atteb am ein holl bechodau ni, ac i'n gwaredu oddiwrth y gospedigaeth ddyledus am danynt.

Cais gan hynny wîr-fodloni dy galon yn holl-ddigo­nolrwydd Aberth Christ, fôd ei farwolaeth ef yn gyflawn iawn i Gyfiawnder Duw am dy bechodau di; Canys am­gen, pan ddechreuo naill ai dy gydwybod, a'i Diafol drymh [...]u dy bechodau a'u gosod mewn trefn, o ran eu rhifedi a'u maintioli, o'th flaen di, ti a ddigalonni, ac a fyddi barod i anobeithio: Ond pettit yn llawn-ddeall berffeithied iawn oedd Marwolaeth Christ i Gyfiawnder Daw am dy bechodau di, nid ofnit beth a allai na'th gy­dwybod, na Diafol roddi yn dy erbyn. Anwylyd, mae 'r matter rhwng Duw a ninnau a'n Harglwydd Jesu Ghrist, yn debyg i Feistr perchen dled, y d'ledwr, a'r meichiau; er bôd y d'ledwr heb allu mewn modd yn y bŷd dalu ei ddlêd, na rhoi-dim tu ac at hynny, etto os llawn-dalodd y meichiau y ddlêd, a dryllio 'r sgrifen, nid rhaid i'r dledwr ofni mo'i garcharu na'i arrestio. Felly er ein bôd ni mewn dlêd fawr i Dduw, ac yn llwyr an-abl i roi iawn am ein pechodau yn y lleiaf; etto gan ddarfod i'n machniudd ni gymmeryd arno ddlêd ein pechodau ni, a llawn-fodloni cyfiawnder Duw am danynt, trwy offrym­mu ei fywyd ei hun yn llwyr-ddigonol Aberth ar y Groes, nid rhaid ini ofni cyhuddedau Cydwybod, na rheswm cnawdol, na holl Gythreuliaid vffern, os cymhwyswn ha­eddedigaethau marwolaeth Christ attom ein hunain er cys­sur i'n eneidiau.

III. Fôd gobaith o drugaredd i'r pechaduriaid gwae­thaf a ymddengys oddiwrth ewyllysgarwch Christ i dderbyn ac i gofleidio yr holl bechaduriaid truain hynny y rhai a dde­uant atto ef, ac a'i derbyniant yn ôl Ammodau 'r efengyl.

1. Ewyllysgarwch Christ sydd eglur oddiwrth y mynych wahodd a roes efe yn ei berson ei hun i bôb mâth ar bechaduriaid, ie y rhai gwaethaf i ddyfod atto ef am fywyd ac Jechydwri­aeth. Megis Mat. 11.28. Deuwch attafi bawb ac sydd yn flin­derog [Page 61] ac yn llwythog, ac mi a esmwythâf arnoch. Lle ni ddy­ry 'r Arglwydd ddim yn erbyn y pechaduriaid na'u pe­chodau, ond pawb yn ddi-nam a dderbynir os deuant atto. Pwy bynnag wyt cyfoethawg neu dlawd, gwryw neu fenyw; er amled a chryfed fo dy bechodau, yn vnig os wyt deimladwy o honynt, f'a'th wahoddir i ddyfod at Jesu Ghrist, ac i'th fwrw dy hun, a baich dy bechodau arno ef.

Felly Datg. 22.17. Yr hwn sydd a syched arno, deued, a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhâd. Hyn­ny yw, pwy bynnag sydd yn mawr-ewyllysio ac yn hirae­thu am fôd yn gyfrannog o Ghrist, a lleshâd ei farwo­laeth a'i ddioddefaint, hwy a wahoddir i ddyfod atto ef. Felly mae yn eglur iawn fôd Jesu Ghrist, trwy ŷ Gwahoddion grasol hyn i bechaduriaid sychedig truain i ddyfod atto ef, yn dangos mor barod ryfeddol ydyw iw derbyn fel y byddont gadwedig.

2. Ewyllysgarwch Christ sydd eglur oddiwrth y diben y daeth ef i'r Bŷd o'i blegid, yr hwn oedd i geisio ac i gadw pe­chaduriaid colledig. Fe ddaeth o'r nefoedd i'r ddaiar am hyn, fel y danfonai ni o'r ddaiar i'r nefoedd. Mâb Duw aeth yn Fâb dŷn, fel y gallem ni meibion dynion fyned yn Feibion i Dduw. Yn ddiau dyfod o Ghrist o'r nefoedd i'n cadw ni o vffern, a'i anghoroni ei hun i'n coroni ni, sydd yn dangos parodrwydd rhyfeddol ynddo ef i gadw pechaduriaid.

3. Ewyllysgarwch Christ sydd eglur, oblegid nad yw efe yn gwrthod nêb a ddelont atto ef mewn gwirionedd, er gwanned a gwaeled fyddont. Nid aeth vn pechadur erioed atto ef, ond f' a'i derbyniodd ef, fel y dywed efe ei hun, Joan. 6.37. Yr hyn ôll y mae 'r Tâd yn ei roddi imi, a ddaw attafi; a'r hwn a ddêl attafi, ni's bwriaf ef allan ddim, ond ei dder­byn ef i drugaredd. A addawodd Christ hyn, ac oni bydd efe cystal a'i air? A dorrodd ef ei air erioed ag vn pe­chadur truan, er annheilynged oedd? A fwriodd ef eri­oed allan nêb a ddaeth atto ef? Ac onid yw ef ddoe a heddyw yr vn ac yn dragywydd? Heb. 13.8.

Dôs bechadur, nac ofna, dôs ar y gair hwn a lefa­rodd efe, Ni fwriafi mo honynt allan ddius.

[Page 62]Er i Satan ddywedyd, na ddós ddim, er i'th galon anghredadwy dy hûn ddywedyd, na ddós ddim, nid ed­rych arnat, y fâth bechadur brwnt diffaith ac wyti, efe a'th fwrw di allan: Etto gan iddo ddywedyd, na wneiff, Dôs, a thi a gei drugaredd.

Fal hyn trwy amryw Resymmau eglur, y profais, fel parodrwydd Duw 'r Tâd i gadw y pechaduriaid gwaethaf, fel­ly hefyd parodrwydd Christ i gofleidio 'r holl bechaduriaid tru­ain a ddeuant atto ef am fywyd ac iechydwriaeth. Ac och na fyddai ystyriaeth o hyn yn toddi dy galon di i dywallt dagrau o wîr dristwch duwiol am dy bechodau aeth hei­bio, ac i'th annog i drôi oddiwrthynt at Dduw trwy ddifrifol edifeirwch, ac i ymwasgu ag Jesu Ghrist a'r Ammodau 'r Efengyl. Oh na chawn i erfyn arnat, fel i rôi llythyr-ysgar i'th chwantau a'th lygredigaethau, felly i'th rôi dy hun i fynu i Ghrist, ac i daflu dy enaid arno ef, gan bwyso a'r ei berffaith Gyfiawnder, a'i Aberth llawn-ddigonol ef, am faddeuant dy bechodau yma, ac am fywyd ac iechydwriaeth dragwyddol ar ôl hyn: Os yw Christ mor barod i'th dderbyn, pa'm na byddit ti­thau barod i fyned atto ef, a hynny mewn hyder mawr o gymeriad? Fe gynnigir heddyw Iechydwriaeth itti, fe ddelir allan y Deyrn-wialen aur itti, Oh ystyn allan law ffydd i ymaflyd ac i ymwasgu a'r Arglwydd Jesu Ghrist. felly y byddi happus tros dragwyddoldeb. Canys pwy bynnag a gredo yn Jesu Christ, ni chollir mo'no, ond efe a geiff fywyd tragwyddol. A hyn am y Gwirioneddau iw derbyn o ran gweithio ynom gwaith yr Ail-enedigaeth

PEN. IX. Yn dangos y dled'swyddau iw gwneuthur o ran dwyn i ben ein Hail-enedigaeth.

GWedi dangos i chwi y Gwirioneddau iw derbyn o ran dwyn i ben ein Hail-enedigaeth, yr wyf yn dyfod yr awron at y Dlêdswyddau o'n rhan ni iw gwneuthur a'i cyflawni.

I. Oddiwrth ystyriaeth dy gyflwr gresynol, tra byd­dech heb yr Ail-enedigaeth, ac o'r gobaith sydd itti o gyfnewid bendigedig; Cynhyrfa ynot dy bun hiraeth difrifol a thaer-ddymuniad am yr enedigaeth newydd, fel y gallech ddywedyd yn wîr, Oh na bawn ni wedi fy adgenhedlu a'm geni o newydd! Oh na bai Delw Diafol wedi [...]i ddiddymmu ynofi, a Delw Dduw wedi ei osod arnaf! Oh na byddai newid bendigedig wedi ei weithio yn fy enaid, newid o natur i râs, o dywyllwch i oleuni, o deyrnas Satan i deyrnas yr Arglwydd Jesu! Oh na chawn i fôd yn greadur newydd, wedi fy adnewyddu trwyddof, yn holl nerthoedd fy enaid, a holl aelodau fy nghorph!

A gwybydd hyn i'th gyssuro, os cêi di ddim o'r fâth ddymuniad hiraethus yn dy enaid, nid wyti neppell oddi­wrth yr enedigaeth newydd hon, oddiwrth gwaith yr Ail-enedigaeth yn dy enaid. Canys hiraethus ddymuniad ar ôl yr enedigaeth newydd hon, a wneiff itti arfer yr holl ordinhadau, a'r moddion a sancteiddiodd Duw i ddwyn hynny i ben.

II. Cais fôd dy galon yn ddwys ddifrifol deimladwy o'th gyflwr gresynol wrth natur. Nid digon yw gwybod fôd dy gyflwr yn drîst ac yn druan iawn, tra fyddech heb yr Ail-enedigaeth; ond rhaid itti geisio gweithio hynny yn ddwys ar dy galon: Yr hyn a'th gynhyrfa di i wneuthur ar ôl Jesu Christ am gymmorth ac ymwared. Fel y gwnai y [Page 64] llawruddiog tan y ddeddf, pan ganlynid arno gan y dia­lydd gwaed, efe a redai i ddinas noddfa, i gael diogel­wch yno; felly y rhedi dithe (pe baet ti deimladwŷ o'th drueni) at Jesu Ghrist, yr hwn yw y wir-ddinas noddfa i bawb a ffóant atto am ymwared. Ie po mwyaf teimla­dwy a fo nêb o'i drueni trwy bechod, fe bryssura yn gynt at Jesu Ghrist. Ac yn ddiau, vn rheswm enwedigol, pa'm y mae cyn lleied o gyrchfa gan lawer at Jesu Ghrist, a pham y mae cymmaint yn diystyru ac yn dibrisio ei wahoddion grasol ef, yw, am nad ydynt yn wîrdeimla­dwy o'u cyflwr truan, gresynol, gofidus, yn yr hwn y maent ynddo wrth natur.

Cwest. Os gofyn nêb, pa fodd y mae imi gael fy ngha­lon yn wîr ddwys-deimladwy o'm cyflwr truan trwy na­tur?

Atteb. 1. Mwyda dy feddyliau yn fynych â myfyrdod dif­rifol o'th gyflwr trîst iawn, tra fyddych heb yr Ail-enedigaeth. Pa fôdd nad wyt ddim gwell nâ gwâs i'r pechod, a chaethwâs i'th chwantau, tan gaethiwed ac wrth orchym­myn Satan iw was'naethu ef: ie a than felldith Dduw, ac euogrwydd dy holl bechodau, a than bob math ar farnedigaethau, amserol, ysprydol, a thragwyddol. Ystyr he­fyd y trueni a'th ganlyn ar farwolaeth, ac ar ôl dy far­wolaeth, sef ar ddydd farn, ac ar ôl dydd farn, pan nad yn vnig y coll [...] di dy holl happusrwydd, ond y byddi tan y cyfryw drueni, a'r na all tafod dŷn draethu, na chalon dŷn feddwl, a hynny, os byddi farw heb yr Ail-enedigaeth, tros dragwyddoldeb. Oh bechadur! pe cnôit ti yn fynych y belen chwerw bon, nid yn vnig fe gar­thai allan dy holl lygredigaethau pechadurus, a'th chwantau drwg, y rhai sydd yr awron yn rheoli ynot, ond hefyd fe weithiai yn rhagorol tuac at dy iechyd a'th lwyddiant ysprydol.

2. Bydd dâer ar Dduw mewn gweddi, ar iddo trwy ei ys­pryd dy argyoeddi di o'th gyflwr truan wrth natur, a'th wneu­thur di yn wîr-deimladwy o hono.

III. Cais wîr-ymostwng am dy bechodau, y rhai sydd wîr­achos o'th gyflwr trîst presennol. Nid digon yw cael dy ga­lon mewn rhyw fesur yn deimladwy o hono, ond rhaid [Page 65] it gymmeryd gofal i gael dy galon mewn dull gostyn [...]gedig drylliedig am dano. Wedi it dreulio llawer o fly­nyddoedd yn pechu, beth lai a elli di ei wneuthur, nâ threulio rhai oriau yn galaru ac yn gofidio am dano? Gan itti tros dy holl fywyd dorri cyfreithiau cyfiawn a Sanctaidd Duw, beth lai a elli ei wneuthur, nâ cheisio torri a dryllio dy galon am hynny? yr hyn sydd arferol i fyned o flaen, neu o'r lleiaf, i gŷd-ganlyn yr enedi­gaeth newydd. Canys fel na enir vn plentyn mewn modd arferol, heb peth gwewyr, felly fynychaf nî ad-genhed­lir, ac ni ail-enir nêb heb beth gwewyr o ofid ac ymo­styngiad, er nad yn yr vn mesur i bawb; gan ei fôd wedi ei sancteiddio gan Dduw i fôd yn ddyfodiad i mewn i gyflwr grâs. Oh cais gan hynny, trwy yr holl foddi­on a Sancteiddiodd Duw i hynny, ddwyn dy galon i fôd yn wîr ostyngedig a drylliedig am dy bechodau. Er mwyn hyn,

1. Edrych yn ôl ar dy fywyd, a chofia cymmaint ac a fyddo bossibl itti, o'th bechodau: pechodau dy ieuengetid, yn gy­stal a phechodau canol dy oedran, yr hyn ni wnaethost a ddylasit ei wneuthur, yn gystal ar hyn a wnaethost ni ddylasit ei wneuthur; ie pechodau dy wasanaeth sanctaidd. Yn enwedig cofia y pechodau mwyaf, anferthaf, er eu bôd wedi eu gwneuthur er ystalm.

2. Ystyria gydâ rhifedi faintioli dy bechodau. Ir diben hwn cofia 'r amgylchiadau sydd yn eu trymhaû, sef, pa fodd y pechaist yn erbyn cynhyrfiadau yspryd Duw, rhybuddi­on ei weinidogion ef, ceryddon dy gydwybod dy hun, yn erbyn goleuni natur, yn erbyn amynedd a hir-yma­ros Duw, a ddylasai dy dywys di i edifeirwch.

3. Ystyria yn ddifrifol y Bygythion ofnadwy sydd yn erbyn pechod a phechaduriaid; y rhai ydynt bôb mâth o bláau a chystuddian [...] y [...]a, ac ar ôl hyn o farwolaeth a damne­digaeth dragwyddol: A chymmer hwynt attat, gan ym­resymmu fal hyn, Os ydyw y troseddiad lleiaf o'r Ddeddf yn haeddu melldith Dduw, ie pôb mâth ar farnedigaethau a phlá­au yma, ac ar ôl hyn damnedigaeth dragwyddol; Yna pa sawl faint o felldithion a phlaau? pa faint o ddamnedigaeth a ha­eddais i? gan fod fy mhechodau i o amldra ancirif, ac o fain­tioli [Page 66] echryslon. A chyd â hynny ystyria wirionedd a ffydd­londeb Duw i gyflawni ei fygythion yn gystal a'i adde­widion.

4. Cais gan Dduw y drugaredd fawr hon o galon isel ostyn­gedig. Canys rhaid iddo ef daro ein calonnau cerrig, y creigiau caledion hyn, cyn iddynt rôi dim dwfr gwîr edifeirwch: ac fel y byddo dy weddi yn fwy nerthol, sâf ar addewid grasol Duw, i gymmeryd ymaith y galon gar­reg o'th gnawd di, ac i roddi itti galon o gîg.

IV. Bwriada o ddifrif dy galon rôi llythyr yscar allan o law i'th holl chwantau melus-pechadurus, i wîr-ymwrthod ac i y­madel a'th hên ffordd bechadurus, ac i osod ar ffordd newydd i was'naethu Duw mewn sancteiddrwydd a chyfiawnder yr holl ddyddia u sy 'n ól o'th fywyd. Ofer itti alaru a gofidio am dy bechodau aeth heibio, oni pheidi di â phechu. Ca­nys fel y cynghora 'r Apostol, Rhaid itti yn gyntaf ddiosg yr hên ddŷn a'i chwantau llygredig, cyn itti ymwisgo â'r dŷn newydd. Tydi gan hynny, yr hwn a arferaist dyngu a rhegu, putteinio a meddwi, gwawdio a chablu pobl Dduw; llwyrfwriada i beidio a thyngu a rhegu ond hyn­ny, putteinio a meddwi ond hynny, gwawdio a chablu ond hynny; ond tafl hwynt ymaith mewn ffieidd-dra, a gochel y lleoedd a'r achosion o'r pechodau hyn. Canys peth ofer itti feddwl dy fôd ynot dy hun yn abl i oche­lyd vn pechod, pan na elli dynnu ymaith oddiwrth ei achosion ef.

Oh bechadur! os oes gyfrif yn y bŷd gennit o'th enaid gwerthfawr, dy ddoethineb fydd lwyr-fwriadu ymadel yn bryssur a'th hên fuchedd, a throi dalen newydd. Na thybia y céi di heddwch â Duw, tra fyddo heddwch rhyngotti a'th bechodau. Na thybia fôd dy hen 'scorior wedi eu croesi, tra wyt mor barod i 'scorio o newydd. Na thwylla dy hun, rhaid i'th ysgariaeth oddiwrth y pe­chod, a'th briod s â Christ fôd yr vn dŷdd. Ac na fed­dwl dy fôd wedi ysgaru nes i'th bechod a thitheu ym­wahanu. Llwyr-fwriada 'r dydd hwn ymadel a'th hên ffyrdd yn dragywydd. Croesawa Ghrist a dyro ffarwel i'th bechodau a'r vnwaith. Nid oes dim gwîr ymostyn­giad am bechod, lle nid oes llwyr-fwriad yn ei erbyn. [Page 67] Na ddywed, ni ddarfu imi ymostwng digon, er lleied fu dy ofid, os wyti yn gwîr-fwriadu yn erbyn anwiredd. Ac na ddywed, fe ddarfu imi ymostwng digon, er maint a ymostyngaist, oni bydd y gwîr-fwriad hwn yn erbyn pe­chod yn canlyn. Bwriada gan hynny am Ghrist, bwriada yn erbyn Diafol, a'i holl weithredoedd. Ac fel y safo dy fwrîad, dal fulw ar y rheolau hyn.

1. Bydd siccr na bo sylfaen dy fwriad ar ddim hyder yn dy allu dy hun, ond yn nerth Jesu Ghrist: heb gymmorth pa vn ni elli di wneuthur dim. Megis nad aeth Dafydd, pan oedd ef i ymdrechu â Goliah, yn ei nerth ei hun, ond yn enw a nerth Arglwydd y lluoedd, 1 Sam. 17.45. Felly rhaid i tithau fwriadu ymladd yn erbyn dy chwantau a'th ly­gredigaethau, nid yn dy enw a'th nerth dy hun, ond yn enw a nerth Jesu Ghrist.

2. Cadarnhâ dy fwriad â gweddi. Fel yr wyt yn bwria­du yngrâs a nerth Duw fwrw ymaith dy chwantau drwg, ac ymadel a'th hên fuchedd anwir annuwiol o'r blaen; felly bydd daer ar Dduw mewn gweddi am rym a nerth, yn erbyn grym a nerth dy bechod. Canys fel nad oes dim ond nerth Duw yn vnig a all orchfygu nerth dy drachwantau, felly gweddi ydyw 'r modd wedi ei san­cteiddio i gael hynny. O gan hynny gweddía, a gwed­dîa drachefn, a dôd ympryd at dy weddíau. Canys mae hên bechodau, cynnefinol o'n ieuengctid, fel y cŷthreu­liaid hynny oedd yn y dŷn o'i febyd, yr hwn ni ellid ei fwrw allan ond trwy ympryd a gweddi.

3. Canlyn dy weddīau â diwydrwydd, ac â ffyddlon boen, [...]n ymdrechu yn erbyn dy chwantau a'th lygredigaethau, er [...]ysed a chûed syddont,

4. Mynych-gofia y Bwriadau a wnaethost am wellhâd cy­flawn allan o law, yr hyn fydd yn dy helpio di yn fawr iw cadw yn well yn dy gôf, a choffadwriaeth gwastadol o honynt a wneiff itti fôd yn fwy gwiliadwrus a chydwy­bodus iw cyflawni.

5. Adnewydda dy fwriadau yn fynych. Nid digon itti yn fynych gofio dy fwriadau, ond rhaid itti hefyd yn fynych [...]u hadnewyddu. Canys y Bwriad a adnewydder, sydd fel [...]e bai yn newydd, a thrwy hynny mae yn atgofus ac yn [Page 68] nerthol. Ac yn wîr mae grym mawr mewn Bwriad, pan yw yn newydd ar y galon; rhaffau newydd sydd gry­fion.

V. Gwedi itti fwriadu rôi llythyr-yscar i'th felus-chwantau pechadurus, gwnâ ddewis o Ghrist a'm dy Arglwydd a'th Brî­od, yn gystal ac am dy Offeiriad a'th Iachawdr. Cymmer ef, fel y mae y Briod-ferch y Priod-fab, er gwell, er­gwaeth, er cyfoethoccach, er tlottach, â'i Groes yn gy­stal ac â'i Goron; llwyr-ddyro dy hun i Ghrist, i'th re­oli, ac i rannu arnat ym mhob peth, fel y gwelo ef yn dda; a bwriada fel dy fwrw dy hun wrth draed Christ, mewn vfudd-dod iddo, felly dy daflu dy hun i freichiau Christ, ac ar ei ysgwydd, am iechydwriaeth oddiwrtho ef: anturia neu fentra dy enaid arno ef, pwysa ar ei berffaith gyfiawnder ef, a'i holl-ddigonol Aberth ef am faddeuant o'th bechodau yma, ac ar ôl hyn am fywyd ac Iechydwriaeth dragwyddol.

Bydded i ystyriaeth o aml wahoddion grasol Jesu Ghrist i bechaduriaid truain i ddyfod atto ef, dy annog di i fyned atto ef, i'th daflu dy hun i freichiau a chof­leidiau haeddiannol dy Iachawdr a groeshoeliwyd, i'th fwrw dy hun ar ei râs a'i drugaredd ef. Fel y rhoes Duw dy gymmorth di arno ef, felly dyro dithau dy obaith arno ef, yn gystal am faddeuant o'th bechodau aeth heibio, ac am nerth yn erbyn pechod rhag llaw; am râs yma, a gogoniant ar ôl hyn, gan ddywedyd, Os derfydd am danaf, darfydded ym mreichiau trugarog Jesu Ghrist. Ac os gelli dderchafu dy galon i hyn, yno fe wnaethpwyd cyt­tundeb rhwng Christ a'th enaid ti, fel y gelli ddywedyd yn hyderus mae Christ yn eiddo fi, a minnau yn eiddo yn­tef.

Ac oh pa ddiwrnod llawen a fydd hwn itti! yn hyn y mae dy anedigaeth newydd yn sefyll a gwaith yr Ail-enedigaeth, trwy 'r hyn y gwnêir d [...] yn greadur newydd. Heddyw y daeth Iechydwriaeth i'th galon; nid yw 'r holl bethau eraill ond parattóad i hyn.

O gan hynny gâd imi erfyn arnat, o flaen pôb peth wneuthur dewis o Ghrîst a'm dy Arglwydd a'th Iachaw­ar, i ymrói iddo ef ac iw Ddeddfau ef, yn gystal a dis­gwyl [Page 69] Iechydwriaeth oddiwrtho. Canys ni all néb gym­meryd Jesu Ghrist yn iachusol, a'r ni chymmero ef yn hollawl: megis ei Arglwydd a'i Briod iw was'naethu, ac i vfuddháu iddo, yn gystal ac i fôd yn Offeiriad ac yn Iachawdr iw waredu ef oddiwrth euogrwydd, a dialedd am, ei holl bechodau. Awdur Iechydwriaeth dragwyddol yw ef yn vnig i'r rhai hynny a vfuddhânt iddo, Heb. 5.9.

Mi a wnn fôd llawer yn fodlon i gymmeryd Christ a'r eu hammodau eu hunain. Mae rhai yn ewyllysgar i dder­byn Christ, os cânt hefyd gydag ef fwynhâu eu melus­chwantau pechadurus: Mae eraill yn ewyllysgar iw dder­byn ef, os cânt gydag ef fwynhâu ei cyfoeth a'u trysso­rau bydol Ond rhaid i'r néb a gymmero Ghrist yn iawn, ei gymmeryd ef ar ei Ammodau ei hun. Efe a fynn fôd yn gwbl itti neu yn ddim, efe a'th reola di neu ni phrŷn ef mo'not ti. Bwrw ymaith gan hynny dy be­chodau, ysgarer di oddiwrth dy Briod cyntaf; na reoled pechod di ond hynny, os mynni briodi yr Arglwydd, a chael rhan yn ei gyfiawnder ef.

Er dy fôd hyd yn hyn yn bechadur mawr, etto os bwri ymaith dy bechodau, ac fal hyn gofleidio Jesu Ghrist, f' a'i rhoir ef itti, ac a roir itti gydag ef rad-faddeua [...]t o'th holl bechodau. Oh pa'm yr esgeulusi Iechydwriaeth gymmaint? Oh nac oeda yn hwy i ddyfod at Jesu Ghrist, ond heddyw, ie yr awron, gan fôd Christ yn ymgynnig itti, derbyn ef, a gwilia a gochel ei wrthod ef.

Ac na ddigalonna trwy ofn, rhag bod y dydd wedi darfod, oblegid itti gyhyd o amser wrthod dewis ac ym­wasgu ag Jesu Ghrist. Ond gwybydd, cyhyd ac y par­háo yr Arglwydd yn dy alw a'th wahodd di trwy ei air a'i yspryd, fôd dydd graâs etto yn parhâu: Fe ddelir allan y deyrn-wialen aur heddyw itti, Christ ac Iechydwriaeth a gynnigir itti yr awr hon; Oh gan hynny cofleidia ef trwy ffydd; ond os gwrthodi, gwybydd yn ddiau mae'r t [...]n tragwyddol a barattówyd i'r cythreuliaid, fydd dy gyfran yn oes oesoedd. Canys fel y dywed ein Iachawdr, Joan. 3.19. Hon yw 'r ddamnedigaeth, y ddamnedigaeth sic­craf a thrymmaf, ddyfod goleuni i'r bŷd, sef, bôd Duw yn cynnig Jesu Ghrist, ac iechydwriaeth gydag ef yn yr e­fengyl, [Page 70] ac etto fôd dynion yn caru y tywyllwch yn fwy nâ'r goleuni, yn rhoi mwy o brîs ar eu gweithredoedd o dy­wyllwch, eu ffyrdd cnawdol pechadurus, nag ar Arglw­ypd y bywyd, yr hwn yw goleuni y bŷd. Och fôd nêb mor ffôlac ynfyd, ac i ddewis tywyllwch o flaen goleu­ni, a marwolaeth o flaen bywyd!

VI. Ymrwyma trwy Gyfammod eglur parchedig i Dduw, i fwrw ymaith dy hêu bechodau, a'th fuchedd pechadurus o'r blaen; ac iw was'naethu ef mewn sancteiddrwydd a newydd­deb buchedd holl ddyddiau dy fywyd.

Mae dau fâth a'r wneuthur Cyfammod â Duw.

1. Vn sydd yn bennaf yn, ac â'r galon; yr hwn sydd trwy wîr-ymwasgu â Duw yNghrist, a thrwy ein rhoi ein hunain iddo ef, i fôd yn weision ffyddlon iddo.

2. Y llall a adroddir â 'r tafod ac â 'r ysgrifen, pan fo vn ar eiriau scrifennedig yn gosod ar lawr ei Gyfam­mod â Duw, gan ei rwymo ei hunan, fel i ymadel âi hên ddrwg chwantau, felly rhag llaw i gŷd-ymagweddu yn holl awl â'i ewyllys ef.

Yr ail ffordd hon o wneuthur cyfammod eglur cyhoedd yr wyfi yr awron yn ei ofyn gennych.

Mae Duw, yn y cyfammod a wnâ ef â ni, yn addo yn eglur, fôd yn Dduw ini, a'n cymmeryd ninnau yn bobl iddo ef; gan ddywedyd, Myfi a fyddaf Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i minnau. Onid rhaid ini gan hynny wneuthur cyfammod eglur â Duw, gan addo ei gymmeryd ef yn Dduw ini, ac ymrwymo i fôd yn bobl ffyddlon iddo? Ac yn ddiau nid all na fo yn ddléd ar­nom ni wneuthur hynny trwyddom ein hunain mewn oe­dran, a wnaethom trwy ein Rhieni yn ein Bedydd. Ca­nys er darfod ini yr amser hwnnw fyned mewn Cyfam­mod â Duw trwy ein Rhieni, etto ni all, eu cydsyniad a'u Cyssegriad hwy wasnaethu ein trô ni ddim pellach, ond hyd y delom ni i oedran, a deall naturiol i gŷd­synio ac i wneuthur Cyfammod trostom ein hunain. Fel na wnâ ein cyssegriad cyntaf yn ein bedydd heb ein cŷd­syniad gweithredol ein hunain, a chyssegriad personol o honom ein hunain i Dduw yNghrist, fawr leshâd ini. Yr wyf yn addef yn wîr, nad ydyw 'r ymrwymiad eglur [Page 71] hwn o honom ein hunain i Dduw, mewn geiriau, neu yfgrifen, yn llwyr-angenrheidiol i Iechydwriaeth. Canys os bydd i nêb lwyr-ymwosgu ddifri â Duw, mae ei gy­flwr ef trwy hynny yn ddiogel, er nad yw fel hyn yn ei wneuthur yn eglur. Ond etto gwneuthur y Cyfammod eglur personol rhagddywededig â Duw, a all fôd o ddef­nydd nodedig i Ghristion, iw gofio ef, ac iw annog iw ddlêdswydd, ac iw sefydlu yn ffyrdd Duw, a gwneuthur iddo fôd yn fwy gwiliadwrus, a'i gryfhâu yn erbyn tem­tasiwn, a thrwy 'r cwbl osod iddo ei hun sylfaen o wîr ddi-dwyll heddwch a Diddanwch.

I'ch cyfarwyddo yn well yn hyn, mi a ddangosaf yn fyrr.

  • 1. Beth sydd raid cyn gwneuthur y Cyfammod hwn.
  • 2. Pa fodd y mae ei wneuthur.
  • 3. Pa ddledswyddau a ofynnir gennych ar ôl hynn.

I. Am y cyntaf, beth sydd raid cyn gwneuthur y Cy­fammod hwn. Ceisiwch iawn-wybod Geiriau ac Ammodau y Cyfammod hwn, chwiliwch eich calonnau, a ydych yn cael gwîr barodrwydd ynoch i ymadel a'ch pechodau, a'ch bucheddau drwg o'r blaen, ac i osod i fynu ffordd new­ydd, i droi dalen newydd (sef yn ôl y Scrythurau,) i fôd yn fwy cydwybodus i gyflawni dledswyddau eich lleoedd, galwedigaethau, a'ch perthynasau. Chwiliwch eich hu­nain, a ydych chwi yn ewyllysgar i dderbyn Christ yn ei holl Swyddau, nid yn vnig megis eich Offeriad i'ch achub trwyddo; ond hefyd megis eich Prophwyd i'ch dysgu a'ch hyfforddi; ie megis eich Arglwydd a'ch Brenhin i'ch rheoli a'ch llywodraethu. A ellwch chwi eich taflu eich hunain wrth draed Christ, ac ymfodloni yn mhob perigl gydag ef, cymmeryd i fynu eich Croes, ac ymwadu â'ch trachwant anwylaf, a pheth bynnag sydd yn sefyll yn ei erbyn.

II. Am y Modd y mae cyflawni y ddledswydd hon,

1. Byddwch daer ar Dduw mewn gweddi, ar iddo barat­tôi eich calonnau i'r fâth orchwyl pwysfawr, trwy roddi ichwi anwydau a fo cyfattebol; ac ar iddo dderbyn eich person a'ch gwasanaeth, a thrwy ei yspryd sanctaidd eich cryfh [...]u a'ch cymmorth iw gyflawni.

[Page 72]2. Rhaid ichwi wneuthur eich Cyfammod yn hollawl yn ddi­nam ac heb ddarn-guddio yn ddirgel. Mae gormod o Ghri­stianogion yn hyn yn mawr-dwyllo eu heneidiau eu hu­nain; Hwy a addawant ymwrthod a Diafol, a'r Bŷd a'r cnawd, ac i ymrôi i Dduw, a'i wasanaeth, ond trwy rag-ddarbod hyn, rhoi cennad iddynt i lochi rhyw drach­want anwyl, neu fyw yn dilyn rhyw elw pechadurus, gan ddywedyd gydâ Naaman, Maddeued yr Arglwydd i'th wâs yn y peth hyn, trwy 'r hyn y maent yn eglur-ddangos rhagrith eu calonnau.

3. Rhaid ei wneuthur ef mewn vniondeb a phurdeb calon. Yr hyn a ddywed Joan y Disgybl anwyl am Gariad, 1 Joh. 3.18. Na charwn ar air yn vnig, nac ar dafod, ond mewn gweithred a gwirionedd. Yr vn peth a allaf innau ddy­wedyd am y gwaith presennol hwn, Na wnawn Gyfam­med â geiriau yn vnig ar dafod, ond fel mewn gweithred, felly mewn gwirionedd; hynny yw, yn ddi-ragrith o'r ga­lon, rhag ini amgen gymmeryd enw Duw yn ofer. Os dylai dŷn fôd o ddifri calon mewn dim, mwy o lawer yn y fath Gyttundeb mawr cyhoeddus â Duw, yr hwn yw chwiliwr y calonnau, ac sydd yn gwybod nid yn vnig meddyliau a bwriadau ein calonnau, ond hefyd ein di­bennion a'n hamcanion, ein bwriadau a'n pwrpasson yn ein holl weithredoedd.

4. Gwnâ dy Gyfammod tan y condisiwn neu 'r ammod o help a chymmorth Duw, canys efe yn vnig, o'i ewy­llys da ei hunain, sydd yn ein gwneuthur ni 'n abl, me­gis i ewyllysio, felly i weithredu yr hyn sydd dda, Phil. 2.13. Ac am hynny, gwnâ dy Gyfammod, mewn hyder o gael cymmorth yspryd Duw i'th nerthu di iw gadw, gan fod yn ofni dy wendid dy hun. Yn ddiammeu yr oedd bw­riad Pedr yn bur-lân, a'i resolusiwn neu frŷd yn dda, ond ei fai ef oedd hyderu arno ei hunan, a rhyfygu gor­modd ar ei nerth ei hun, yr hyn fai fel y gallai ei ad­nabod yn well, fe gadawodd Duw ef iddo ei hunan. Ad­duneda gan hynny, a Gwnâ dy Gyfammod yn enw Duw, A thi a gei allu iw gyflawni ef.

5. Ysgrifenna dy Gyfammod â'th law dy hun, ac yno dar­llein trosto drachefn a thrachefn, fel y gallech lawn­ddeall [Page 73] y peth, a'i eiriau, ac ar hynny rhoi dy adsynniad a'th gyd-synniad difrifol iddo, hynny yw, dy fod di yn llwyr-fodlon ir peth.

6. Gosod a'r y gwaith â phôb difrifwch neu bryssur­deb a fo possibl itti, megis gwaith pwysfawr o berthy­nas mwyaf itti a'r allai fôd, ar yr hwn y saif dy fywyd a'th iechydwriaeth dragwyddol, ac am hynny gosod dy hun megis yngŵydd Duw, a deffro dy feddyliau mwyaf difrifol, cyffróa holl nerthoedd dy enaid, a gorchymmyn hwynt at y gwaith, ac yno ar dy liniau gwnâ dy Gy­fammod a'th Dduw, yn y geiriau hyn, neu 'r cyfryw.

Y bendigedig Dduw! Tydi ydyw 'r vnig, wîr, a bythfyw­iol Dduw, yr hwn a wnaethost bob peth, a dŷn mewn môdd mwy enwedigol itti dy hun: A phan trwy drosseddu dy Gyfammod o'i wirfodd, efe a'i taflasai ei hun i gyflwr pechod a thrueni, yn yr hwn nid oedd vn llygad yn tosturi [...] wrtho, yno y rhyngodd bodd itti dosturio wrth ei gyflwr, a'i ad-brynu ef itti dy hun trwy werthfawr waed dy vnig-anedig fâb Jesu Ghrist. Eiddoti gan hynny ydwyfi trwy fwy nag vn vnigol hawl a thill; Eiddoti megis vn a greuwyd, ac a brynwyd gennitti; ac am hynny a ddylaswn fy rhoddi fy hun itti yn hollawl, i'th garu a'th was'naethu di â'm holl galon, ac â'm holl enaid, ac â'm holl nerth. Ond och ddiffeithwr fel yr wyf! mi a odde­fais o'm gwirfodd i Arglwyddi craill lywodraethu arnaf. Pa fodd y darfu i'r bŷd drwg presennol hwn, a'r pethau hyn oddi­isod gymmeryd i fynu a meddiannu fy enaid! Pa fodd y darfu i chwantau 'r cnawd, a matterion fy mywyd cnawdol reoli ar fy anwydau! a pha fodd y darfu i Satan fy nal i yn garcha­ror wrth ei ewyllys! Ni ddarfu imi wrthwynebu, ond yn fy­nych ymrôi iw Demtasiwnau ef.

Ond yr awron Arglwydd, wedi fy argyoeddi gan dy yspryd daionus di o'ddrygioni ac ynfydrwydd fy ffyrdd, yr wyf yn gwîr­ddymuno o'nghalon daflu heibio, ac i ymwrthod â'r holl Arglw­yddi dicithr hyn, i'r rhai y rhoddais fy hunan yn gaethwas hyd yn hyn; ac i ddychwelyd attat ti, megis yr vnig ffynnon o fywyd ac hapusrwydd. Ac fel yr wyf yn barod yn eiddot ti [Page 74] trwy bob mâth ar hawl a chyfiawnder, felly yr awron yr wyfi yn dyfod i fod yn llwyr-eiddoti o'm dewis gwirfodd fy hun, a'm cyssegriad itti.

Yr wyfi gan hynny yr awron yn dy wŷdd di, yn gyhoedd ac yn symlrwydd fy enaid, yn ymwrthod â'r bŷd ofer drygionus hwn, ac â holl chwantau a pherthynasau llygredig y cnawd: a Diafol ac á'i holl weithredoedd, y rhai y daeth Jesu Ghrist iw destrywio. Ac yr ŵyf yn llwyr-gwbl ac yn ddi-nam yn ym­rôi ac yn fy nghyssegru fy hun itti ô Dduw, y Tad, a'r Mâb, a'r yspryd, yn cnw pa vn i'm bedyddiwyd: Tydi ô Dduw yw fy Ngreawdr, ac yma yr wyfi yn ymrwymo i'th gymmeryd ti megis fy vnig Bennaeth, i fyw mewn pôb vfudd-dod itti, ac i fôd yn hollawl wrth dy reolaeth di, ac i'th gymmeryd di yn vnig Dduw ac etifeddiaeth imi.

Yr wyfi yma hefyd yn cymmeryd dy fâb Jesu Ghrist yn vnig Gyfryngwr imi, trwy ba vn y mae imi fôd yn gadwedig. Yr wyfi 'r awron yn ei dderbyn ef yn ei holl swyddau, ac i'r holl ddibenion a phwrpasson hynny, oblegid y rhai y danfonodd ei Dâd ef: nid yn vnig yn Offeiriad i wneuthur iawn ac i ei­riol am faddeuant o'm pechodau; Ond hefyd fel Bugail ac Esgob eneidiau, y Prophwyd mawr, yr hwn mae yn rhaid i mi wrando arno ym mhôb peth a ddywedo ef wrthif; Ac yn Ar­glwydd ac yn Frenin i mi, i ymostwng iw Gyfreithiau a'i Re­olacth, fel y gallo ef yn vnig reoli yn fy nghalon, a darost­wng fy chwantau, a chyflawni ynofi holl fodlonrwydd ei e­wyllys ef.

Ac itti o yspryd sanctaidd, yma yr ŵyf yn fy rhôi fy hun, ac i'th gyfarwyddiad ti yn vnig i'm sancteiddio, a'm cyfarwy­ddo, a'm diddanu; ac nid o'm bodd ond hynny i ddiffodd ac i wrthwynebu yr vn o'th gynhyrfiadau sanctaidd.

Wrth hyn ei gŷd, yr ŵyfi yma yn dy ŵydd di û Dduw (yr hwn wyt yn chwilio calonnau, ac yn gwybod beth sydd mewn dŷn) o'm gwir-fodd yn scrifennu fy enw, megis tystiolaeth yn fy erbyn fy hun, os byddafi fŷth yn anffyddlon yn fy Nghyfam­mod; gan erfyn yn ostyngedig rym a chymmorth dy râs, fel y gallwyf fôd yn ddi-ymmod ac yn ffyddlon ynddo, gan ei wneu­thur a'i gyflawni yn gydwybodus hyd y diwedd.

Arglwydd chwilia fi a phrawf fy nghalon, ac od oes ddim ffordd anwir ynof, dangos imi, fel na'm damner gyd â'r Rhag­rithwŷr, [Page 75] ond bôd o honof yn berffaith ac yn ddi-dwyll, a'm cael yn y dydd mawr yn ddifeius ac yn ddi-argyoedd ger dy fron. Amen, Amen.

III. Ar ôl ini fyned fal hyn mewn Cyfammod cyhoedd â Duw, y dledswyddau a ofynnir gennym, yw y rhai hyn.

1. Gwedi it fal hyn mewn gwirionedd ac vniondeb calon gydâ phob dyledus barch a difrifwch fyned mewn Cyfammod â Duw, dyro dy law wrtho: ac yno cadw ef yn ddiogel ym mysg dy bethau mwyaf dymunol, fel y byddo yn Goffad­wriaeth safadwy o'th rwym Cyhoedd i Dduw, ac edrych yn fynych arno.

2. Gwnâ gydwybod o gyflawni dy gyfammod. Gwedi i ti ymrwymo i fwrw ymaith ac i ymwrthod a'th chwantau o'r blaen, a'th fuchedd bechadurus, na wnâ mor siappri â hwynt, ond prysur-dafl hwynt ymaith trwy ffieidd-dra. Os cafodd cwmpeini drwg ormod o'th gym­deithas anwyl, yr awron torr ymaith dy gyfeillach â hwynt. Os buost ti fyw mewn esgeulustra o nêb rhyw ddledswydd hynod, megis o weddi ddirgel, ac yn dy deu­lu, o ddarllein yr ysgrythur, neu 'r cyfryw, yr awron gosod arnynt iw cyflawni, a chymmer ofal iw gwneu­thur mewn modd difrifol ysprydol, gan was'naethu Duw yn yr yspryd a'r gwirionedd. Wrth hyn y cêi di eglur­dab cyssurus, ddarfod itti mewn gwirionedd ymwrthod â Diafol a'r Bŷd, a dymuniadau pechadurus dy gnawd; a'c itti di gyssegru a'th rôi dy hunan i fynu i fôd yn eiddo 'r Arglwydd mewn gwirionedd. Canys yno yr ydym yn ymrôi i'r Arglwydd mewn gwirionedd, pan fo hynny yn ein rhwymo ni allan o law i gyflawni yr hyn a addune­dasom yn ein Cyfammod.

3. Cofia yn fynych dy Gyfammod cyhoeâd a wnaethost i Dduw, yn enwedig pan wyt yn bresennol ym medydd rhai eraill, ac yn y Sacrament o Swpper yr Arglwydd; Mynych goffa o hono sydd fôdd enwedigol itti i ystyried yn ddwy­sach am dano; a dwys-ystyried o hono a fywioga dy Gydwybod, ac a'th annog i gyflawniad cydwybodus o hono.

[Page 76]4. Pan demtier di i ryw bechod, gosod y pechod hwnnw wrth dy Gyfammod, a chwilia onid yw yn erbyn dy Gyfammod. Hyn a wneiff itti fynych feddwl am dy Gyfammod, ac i fôd yn fwy gofalus iw gadw ef, ac i wrthwynebu pôb tem­tasiwn yn ei erbyn.

PEN. X. Moddion eraill o'n rhan ni i gael yr Ail-enedigaeth.

VII. Disgwyl trwy amynedd ar Ghrist yn arfer ei Ordinha­dau ef, yn enwedig y Gair a Gweddi.

1. Cyrcha yn fynych at weinidogaeth y Gair, lle mae yspryd Duw yn arfer o anadlu. Yr yspryd yw 'r Gweithiwr pen­naf o'r gwaith mawr hwn. A Gweinidogaeth y Gair yw 'r modd arferol a'r offeryn, yr hwn a arfer yr yspryd yn ei weithio ef. Nid yw yspryd Duw yn anadlu mewn Ta­farn, neu Win-dŷ, neu Chwareu-dŷ, ond y Ngweinido­gaeth y Gair. O herwydd hyn y geilw 'r Apostol Paul ef, Phil. 2.16. Gair y bywyd, trwy 'r hwn y bywhêir ein heneidiau. A'r Apostol Petr, Hâd yr Ail-enedigaeth, trwy 'r hwn i'n hail-genhedlir, 1 Pet. 1.23.

Ac er mwyn rhoi calon ynot i hyn, gwybydd, ddar­fod bywhâu enaid mor farw a'r eiddot tithau, trwy weini­dogaeth y Gair. Calon cyn galetted a'r eiddoti a feddal­hawyd; Calon mor aflan a Sancteiddiwyd; Calon mor gnaw­dol a llygredig a newidiwyd ac a adnewyddwyd. A phwy a ŵyr, tra fyddych yn disgwyl ar Dduw yn ei ffordd ei hun, na all ei yspryd ef anadlu arnat, ac felly bywhâu dy galon farw, Sancteiddio dy galon aflan, ie adnewy­ddu a newid dy galon gnawdol llwyr-lygredig, yn yr hyn y mae gwaith yr Ail-enedigaeth yn sefyll.

Oh mynych gyrcha gan hynny at Weinidogaeth y Gair, lle 'r arfer yspryd Christ symmudo, ie ac i anadlu yspryd bywyd yn eneidiau meirw. Cymmer bôb achos o [Page 77] wrando 'r Gair, mewn amser, allan o amser. Na fydded i ddim ond angenrhaid dy gadw di gartref; canys ni ŵy­dost pa Bregeth a fydd mwyaf cyssonol a'th gyflwr di. A phan wrandawech, dal sulw a'r y Gair, mcgis a'r y Gen­nadwri a ddanfonwyd oddiwrth Dduw o ran dy Iechy­dwriaeth dragwyddol. A chofia ef yn fynych, trwy 'r hyn y cymmer afael dwysach a'r dy galon. Ac er nad wyt yn cael yn bresennol y lleshâd yr wyt yn ei ddis­gwyl, etto disgwyl fŷth ar yr Ordinhâd. Y dŷn clôff a orweddodd yn hir wrth lynn Bethesda, o'r diwedd a ia­chawyd.

2. Bydd yn mynych ddarllein Gair Duw, a'r cyfryw ddŵys­lyfrau defnyddiol, a'th gyfarwyddo i ddeall, ac i gymhwyso 'r Gair attat dy hun. Ni ddylai hyn wthio allan Pregethu, etto môdd godidawg o ras ydyw yn ei le a'i amser ei hun; fel y profodd llawer iawn er lleshâd iddynt. Ca­nys yn yr ysgrythur y cynhwysir datguddiad eglur o'r ffordd a moddion Iechydwriaeth trwy Jesu Ghrist; yno y cynhwysir y Cyfammod grâs, a'r Deddfau nefol wrth y rhai y mae yn rhaid ini fesur ein holl weithredo­edd.

Oh bechadur! fel yr wyti yn chwennych bôd yn gy­frannog o'r enedigaeth newydd, a bôd yn gyfrannog o râs Duw, bydd ofalus a chydwybodus yn darllein yr ys­grythyrau. Na threulia mor amser hwnnw yn darllein llyfrau o chwareuon ofer, yr hwn a ellit ti ei dreulio yn darllen y Gair, yr hwn a ddichon dy wneuthur yn ddoeth i Iechydwriaeth: Oblegid hyn dŵg y Bibl gydâ thi, fel y gwnaeth Alexander a'm lyfr Homer, Megis ei gyfaill a'i gydymmaith yn ei Ryfelo [...]dd. Oh na byddai pôb vn o hono'm yn taer-ymgais a'r glôd honno y mae Eu­sebius yn ei roi i St. Origen, sef, Y medrai ef adrodd yr holl Sgrythyrau a'r bennau ei fysedd. Histor. Egl. llyfr. 6. pen. 2.

3. Gweddía ar Dduw am newid dy galon: Erfyn arno ef a'r iddo ef ryngu bodd trwy ei yspryd dy adnewyddu di, i osod ei ddelw ar dy enaid, fel y byddit yn Greadur newydd. Yr hyn a ddywed yr Apostol Jaco am ddoethineb, sydd wîr am bob Grâs, Jac. 1.5. Od oes ar nêb ei eisieu, gofynned gan Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionu [...] i bawb, [Page 78] ac heb ddannod; a hi a roddir iddo ef. Oh gan hynny, ta­er-ddymuna arno ef agoryd dy lygaid, a dangos itti dy gyflwr trîst gofidus, tra fyddych yn parhâu heb yr Ail-enedigaeth, fel y byddech wîr deimladwy o hynny; ar iddo ef ddangos itti odidawgrwydd ac angenrhaid yr enedi­gaeth newydd, fel y cynhyrfer dy galon i rai dymunia­dau difrifol a hiraethus am dano: ar iddo deilyngu roddi itti yspryd Sanctaidd, i fywhâu dy enaid marw, ac iw adnewyddu ar ôl Delw Dduw, mewn cyfiawnder a gwîr sancteiddrwydd. Ac yn dy weddíau sâf a'r Addewid Duw. Luc. 11.13. I rôi ei yspryd glân i'r nêb a'i gofynno ganddo ef.

Fel y bo i'th weddíau di am yr enedigaeth newydd ffynnu yn well, bydd ddyfal ynddynt. Gweddía a'th holl galon, ac a'th holl nerth, ac â holl rym dy enaid. Os mynni fod yn Israel yn gorchfygu, rhaid itti fôd yn Jacob yn ymaelyd. Ymafael â Duw mewn gweddi, canys tâer weddi wresog sy'n gorchfygu.

Gwrthres. Ond f' all rhyw vn wrthddywedyd, pa fodd y gallafi weddío heb yr yspryd?

Atteb. Gosod dy hun ar y ddledswydd o weddi, a phwy a ŵyr na elli yn suan deimlo a chael cymmorth yspryd Duw yn y gwaith, er nad wyt yn cael hynny yn y de­chreuad. Dôs gan hynny at Dduw mewn gweddi, lleda o'i flaen ef dy gyflwr tôst, gresynol, truan; sâf ar dy ofidus angenrhaid, erchylled yw dy gyflwr presennol, pa faint gwell fuasai itti erioed na'th anesid, oni i'th enir di drachefn. Ac yno gan ddisgwyl am gymmorth yr ys­pryd, bydd daer iawn ar Dduw, na adawo itti fyw vn diwrnod hwy yn dy gyflwr heb yr Ail-enedigaeth, rhag i Angeu dy gael di felly, ac itti farw yn dragywydd.

A chyda'th weddíau dy hun galw am gymmorth o weddíau rhai eraill, erfyn arnynt ar iddynt dy gofio di a'th gyflwr yn eu gweddíu; A'r iddynt fôd yn daer drosot ti ar Dduw, iddo dy wneuthur di yn Greadur newydd, trwy dy gynnyscaeddu neu 'th ddonio di â gwîr radau sanctaidd, iachusol. Tróad ceidwad y carchar a ro­ddir a'r lawr megis peth a ddigwyddodd ar weddiau 'r Apostol on. Nid yn vnig eu hymwared hwynt allan o'i [Page 79] garchar ef, ond ei ymwared yntef allan o garchar Diafol. a osodir a'r lawr megis ffrwyth eu gweddiau hwynt. At dy weddíau dy hun gan hynny galw i mewn gymmorth gweddíau rhai eraill.

VIII. Pan yn gwrando, yn darllen, gweddio, neu pa ryw amser bynnag y teimlech di gynnhyrfiadau yspryd Duw yn dy e­naid a'th gydwybod, ymg'ledda hwynt, dyro dy hun i synu id­dynt, ac yn ebrwydd trô y cynnhyrfiadau hynny i lwyr-fwriadau, a'r llwyr-fwriadau hynny i egníol ymgais. Nâ'd i gynhyrfia­dau yspryd Duw farw yn eu Cychwyniad cyntaf, ond mâg a meithrin hwynt, fel y dygont ffrwyth da.

A'i cynhyrfiadau ydynt yn tueddu i weithio ynot ti i ffieiddio dy hên drachwantau pechadurus? Cadarnhâ y cynhyrfiadau hynny â llwyr-fryd crŷf calonnog i ymadel ac i ymwrthod â hwynt am yr amser a ddelo; o'r lleiaf i ymdrechu felly yn eu herbyn na chaffont reoli a theyrn­asu ynot, fel y cawsont o'r blaen. A'i cynhyrfiadau ydynt yn tueddu i'th annog i wneuthur rhyw ddledswydd a es­ceulusaist o'r blaen? O trô y cynhyrfiadau hyn yn wei­thrediadau, ac yn ebrwydd cais wneuthur y dledswyd­dau hynny, pa vn a'i gweddío yn dy 'stafell ddirgel, a'i yn dy deulu, neu 'r cyfryw.

A ddarfu i Yspryd Duw mewn Pregeth dy argyoeddi di o ryw bechod mawr yn tramgwyddo eraill, neu be­chodau, oblegid y rhai i'th ddwys-bigwyd yn dy galon, ac i'th ddarostyngwyd yn ddirfawr tan wir-deimlad o ho­nynt? Oh nac ymfodlona ar ryw gyffro byrr darfodedig, ond dôs yn ebrwydd i ryw le dirgel, ac yno cymmer a­chos oddiwrth ddull presennol teimladwy dy galon, i fôd yn fwy rhwydd a helacth yn cyffessu dy bechodau i Dduw, ac i'th rwymo dy hun trwy Gyfammod cyhoedd iddo ef i wilied yn well arnat dy hun, fel yn erbyn dy hên he­lynt anwir ddrygionus, felly yn erbyn yr achosion sy'n tueddu at hynny.

O bechadur! Dy ddoethineb fydd i ddal sulw yn ofa­lus, ac i fôd yn ddiwyd i wneuthur defnydd da o bôb vn o gynhyrfiadau Yspryd Duw yn dy enaid a'th gydwybod, trwy gymmorth gwaith yr yspryd Sainctaidd ynot. Na choll mor gwynt a'r llanw; y Gwynt a all dawelu, a'r [Page 80] llanw droi, ac yno p'le yr wyti? Caled itti rwyfo yn erbyn y gwynt a'r llanw. Ychydig yr wyt yn ystyried mor fuddiol y gall y cyfryw gynhyrfiadau fôd i'th enaid, os arferi hwynt yn ddoeth; ac faint o golled a all fôd itti trwy eu hesgeuluso a'u dirmygu: Am a wyddost, dy hap­pusrwydd neu dy anhappusnwydd tragwyddol sydd yn se­fyll a'r y defnydd da neu ddrwg a wnêi o honynt.

IX. Bydd yn fynych ynghymdeithas y duwiol; rhodia gydâ hwynt sy'n rhodio gydä Duw. Y nêb a rodio gyd a'r doeth, a fydd yn fwy doeth; y nêb a rodio gyd a'r gostynge­dig, a fydd fwy gostyngedig: y nêb a rodio gyd a'r Sainct a ddŷsg fôd yn Sanctaidd. Fel nad oes dim rhwystr mwy i waith Christ, na chymdeithas rhai annuwiol; felly nid oes dim mwy cynnorthwol iddo, na chymdeithas y rhai sy'n ofni Duw. Canys nid oes nêb fel y rhai'n mor barod i dosturio wrthych, i'ch cynghori a'ch cyfarwy­ddo yn y ffordd i'r nefoedd: nêb mor barod i'ch cynhyr­fu a'ch annog i dduwioldeb, i'ch cyssuro a'ch cadarn­hâu pan wneloch yn dda, ac i'ch ceryddu pan wneloch ar fai, a'r rhai hyn; nêb mor barod i gyfrannu â chwi eu profiadau eu hunain; Oh deuwch, meddant hwy, ac ni a ddangoswn i chwi beth a wnaeth yr Arglwydd i'n heneidiau ni. Felly mae llawer o ddaioni iw gael ynghymdeithas y duwiol, gan eu bôd yn dlusernau [neu lantarnau] sydd yn tanu eu goleuni oddiamgylch.

Fal hyn y dangosais i chwi y moddion o'ch rhan chwi iw cyflawni er gyrru ymmlaen eich genedigaeth newydd, a gwaith yr Ail-enedigaeth yn eich eneidiau. Ac yr a­wron rhowch imi gennad i ofyn vn cwestiwn i chwi, Y­dych chwi yn llwyr-fwriadu trwy râs a chymmorth Duw, ac ymrôi i ganlyn y Rheolan hyn, meu beidio? Os ydych yn ty­bied fôd y pethau hyn yn fwy nag sydd raid, ac yn ba­rod i ddywedyd, pa'm y rhaid cymmaint o drafferth a blin­der? megis pe na byddai, heb gymmaint o wrando, o ddarllen, ac o weddio, a'r cyfryw, ddim gobaith o'r Ail-enedigaeth, ac Iechydwriaeth; chwi ellwch gan hynny eistedd a gorphwyso. Ond gwybyddwch yn siccr, eich bôd, heb arfer cydwybodus o'r moddion hyn, yn debyg i fod yn ôl, fel o'r Ail-enedigaeth yn y bŷd hwn, felly o [Page 81] Iechydwriaeth yn y bŷd a ddaw. Canys lle yr ordeiniodd Duw Foddion; nid ydyw mewn modd arferol yn gweithio hebddynt; ac am hynny oni arferwch Foddion Duw, nid rhyfedd i chwi fyned heb ei Râs ef.

Oh bechaduriaid! yr wyfi yn dymuno arnoch er mwyn eich eneidiau gwerthfawr, na chyndyn-wrthodwch fôd yn happus, nac ymsuddwch o'ch bodd i drueni tragwyddol. Byddwch ewyllysgar i fôd yn hapus, deffrówch eich ca­lonnau cysgadur, cynhyrfwch eich calonnau diog i ymo­sod ar y gwaith. Ni cheîr y nefoedd trwy ddymuno, maè gogoniant tragwyddol yn deilwng o'ch llafur mwyaf, ac ni cheîr heb hynny.

Beth a ddywedwch, ar ôl yr hyn ei gŷd a lefarwyd? A ydych chwi ewyllysgar i ddychwelyd ac i droi? I fôd yn ddynion newydd, ac i fyw buched newydd? Onid y­dych etto, pa brŷd y byddwch? Ydych chwi yn fodlon i farw yn eich cyflwr presennol? Pettech chwi yr awron ar eich trangc, ac yn myned yn vnion i'r bŷd arall, oni fynnech ddarfod i chwi wrando a'r gyngor? Er y mynni fyw bywyd, etto wyti yn fodlon i farw marwo­laeth y cyndyn a'r gwrthnyssig? Na fyddwch anifeiliaid, a dynion gwall-gofus, o'ch pwyll. Os goreu ydyw Christ ar farwolaeth, a Sancteiddrwydd yn oreu ar y diwedd; Os ydych yn gwybod ac yn credu, yr ewyllysiech wrth farw, fôd yn siccr o Ghrist; yna yn ddiau, eich gwaith chwi yn sefyll allan yr awrhon yn erbyn Christ, ac yn gwrthod grâs, ydyw cyntaf-anedig ffolineb ac ynfydrw­ydd. Oh byddwch ddoeth, ystyriwch beth sydd o'ch blaen; Christ ar Bŷd, Sancteiddrwydd a Phechod; Bywyd ac Angeu; Yn awr dewiswch i chwi eich hunain, ac os cymmerwch gyngor, bydded eich Dewis heddyw ýn gyfryw, ac a am­cenwch chwi fôd yn ddewis i chwi wrth farw. Oni dde­wisech farw yn eich pechodau, farw yn Feddwon, farw yn odineb-wŷr, farw yn watwarwŷr, farw yn Anffy­ddloniaid, na fyddwch fyw heddyw yn y fâth gyflwr melldigedig.

PEN. XI. Atteb i amryw wrthresymmau dynion cnawdol heb yr Ail-enedigaeth yn erbyn arfer y moddion dywededig.

GWedi îmi ddangos y Moddion iw harfer; yr wyfi yn dyfod yr awron i atteb i'r Gwrthresymmau sydd gan fagad o ddynion cnawdol yn erbyn eu harfer hwynt o ran cael yr enedigaeth newydd.

Gwrthres. 1. Rhai, sydd barod i wrthddywedyd, Mod­dion tebygol yn wîr yw y rhai hyn, ond nid oes gan­ddynt na grym na nerth i osod ar eu gwneuthur hw­ynt.

Atteb. Os yn vnig y gosodi di dy hunan ar y Moddion ni wyddost pa nerth a elli di ei gael gan Dduw, na pha lwyddiant a gêi di yn y gwaith. Tra 'r oedd Petr yn pregethu, yr yspryd glân a syrthiodd ar bawb a oedd yn clywed y Gair, Act. 10.44. Ac am a wyddosti, tra fy'ch di yn disgwyl ar wei­nidogaeth y Gair, neu yn gweddío Duw, f'all yr yspryd glân syrthio arnat, a gwneuthur yr ordinhâd honno yn nerthol am dy Ail-enedigaeth a'th Iechydwriaeth. Am hynny gosod dy hun ar arfer y Moddion; Disgwyl wrth y llynn; ni wyddosti gynted y gall yspryd Duw ddyfod ac ymsymmud ar dy enaid. Canys mae Duw yn arferol o gyfârfod y rhai sy'n ei geisio ef.

Gwrthres. 2. Yr wyf yn ofni nad wyfi etholedig, ac am hynny yr wyf yn meddwl mai llwyr-ofer i mi osod ar y Moddion am yr enedigaeth newydd. Oh pettwn i yn siccr o'm hetholedigaeth, yno mi a fyddwn yn hyderus gyssurus yn ei geisio.

Atteb. 1. Peth dirgel yw etholedigaeth, yn perthyn i Dduw. Yn ôl yr hyn a ddywedodd Moses; Deut. 29.29. Y dirge­ledigaethau sydd eiddo 'r Arglwydd ein Duw; ond y pethau amlwg a roddwyd ini. Ac am hynny na flina dy hun am ewyllys dirgel Duw, ond canlyn ei ewyllys datguddiedig [Page 83] ef. Gosod dy hun yn ddifrifol o'r galon ar arfer y Mo­ddion a Sancteiddiodd Duw am dy Ail-enedigaeth; ac o hynny y gelli di gasclu peth eglurdab cyssurus a'm dy etholedigaeth.

2. Ystyria, er bôd yn ddledswydd ar bôb Christion fôd yn ddiwyd i wneuthur ei etholedigaeth a'i Alwedigaeth yn siccr: etto ni all nêb wybod a bôd yn siccr o'i etholedigaeth, nes iddo gael ei adgenhedlu gan yspryd Duw. Am hynny, fe ddy­lai, dy fôd heb wybod dy etholedigaeth, fôd cym mhel­led o'th gadw di oddiwrth dy osod dy hun ar Foddion yr Ail-enedigaeth, ac yn hytrach y dylai dy annog di i hynny; Canys trwy dy Ail-enedigaeth y gelli wybod dy etholedigaeth. Bwriadau tragwyddol Duw a wnêir yn amlwg yn vnig à posteriori, trwy eu gweithrediadau, vn o'r rhai ydyw 'r Ail-enedigaeth: Cais hwn, ac nid rhaid itti ammeu dy etholedigaeth.

Gwrthres. 3. Och! yr wyfi yn rhy annheilwng i fôd vn gyfrannog a'r fâth drugaredd fawr: Nid oes dim ynofi i annog Duw i weithio grâs ynof, ac am hynny pa'm y blinafi fy hun yn ei gylch ef?

Atteb. 1. Ystyria fôd grâs Duw mor râd hollawl, fel y mae y drugaredd y mae efe yn ei deilyngu i'r vn o'i Greadu­riaid, yn hollawl o hono ei hun, a thrwyddo ei hun. Edrych y mae ar ei ddaioni ei hun, nid ein teilyngdod m, yn y trugareddau y mae efe yn eu cyfrannu. Oni cheiff nêb râs ond y rhai teilwng, yno pwy all fôd yn gadwedig?

2. Ystyria na fedrodd neb erioed cyn yr Ail-enedigaeth, gael dim teilyngdod ynddo ei hun, fel y gwneid ef yn gyfran­nog o'r drugaredd honno. Beth oedd ym Manasseh? Neu yn Zacheus? neu ym Mair Fagdalen? Neu ym Mhaul, cyn eu tróad? yn ddiau nid oedd dim. Nagê, nid oes vn plen­tyn Duw ar y ddaiar, nac yn y nefoedd, yn yr hwn nid oedd cymmaint o annheilyngdod, ac ynot tithau. Pa'm gan hynny y mae golwg ar dy annheilyngdod yn peri itti mobeithio amdano?

3. Ystyria, fôd teimlad o'th annheilyngdod yn rhyw fesur a [...]âdd o deilyngdod; ie y teilyngdod mwyaf ydyw a elli di gyr­ [...]aeddyd. Ac ni chafodd neb erioed fwy o drugaredd gyd Duw, nâ'r rhai a fuant mwyaf teimladwy o'u hannei­ [...]ngdod.

[Page 84] Gwrthres. 4. Rhai sydd yn sefyll ar rifedi a mamtiol eu pechodau. Och! maent y fâth bechaduriaid gwael gresynol, wedi cam-dreulio y rhan oreu o'i hamser, nerth eu jeuengctid yngwasanaeth y pechod a Satan, ac yn cyflawni eu trachwantau a'u hanwydau cnawdol eu hu­nain; ac am hynny ni allant ddisgwyl y fâth drugaredd fawr oddiwrth Dduw, a'i gwneuthur o feibion Belial yn feibion i Dduw trwy waith yr Ail-enedigaeth.

Atteb. Gwybydd i'th gyssuro, ddarfod i Dduw gofleidio ym mreichiau ei râd râs, cymmaint a chynddrwg pechaduriaid a thithau. Canys a fuosti yn eilun-addolwr, neu yn llofrudd? Felly bu Manasseh, etto fe gafodd drugaredd. A fuosti yn Gablwr, ac yn Erlidiwr y Sainct a Gweision Duw? felly bu Paul, ac etto fe gafodd drugaredd. A fuosti yn ddŷn brwnt aflan, yn ymdrôi ac yn ymhyfrydu fel hŵch yn dom y pechod, ac ym mygn dy frynti pechadurus? Felly y gwnaeth Mair Fagdalen, a llawer o'r Corinthiaid; etto hwy a olchwyd yngwaed Jesu Christ, a gyfiawnhawyd ac a sancteiddiwyd. A fuosti yn Orthrymmwr a Chribddeilwr, yr hwn a gesclaist gyfoeth trwy dwyllo a gwneuthur cam a'th gym'dogion, a malu wynebau 'r tlodion? Felly y gwnaeth Matthew a Zacheus, y rhai etto a gawsant dru­garedd. Pa'm gan hynny nad oes obaith o drugaredd i tithau? Gan ddarfod i Râs gosleidio cymmaint a chyn­ddrwg pechaduriaid.

Cwest. A ddywedi di dy fôd yn bechadur mwy nâ'r vn o'r rhai rhag-ddywededig?

Atteb. Anhawdd yw coelio hynny. Ond bwrw i'th becho­dau di ragori mewn maintioli ar bôb vn o'r rhai yr wyti yn eu gael wedi maddeu iddynt yn yr Ysgrythur; etto nid yw hyn yn achos gyfiawn o anobaith: O herwydd ni chafwyd allan erioed mo ddyfnder trugaredd Duw: Ni roes Duw erioed allan ei Drugaredd, ond fe all ei rhoi allan ym mhellach: Fe all pechaduriaid mwy, nag a fa­ddeuwyd erioed etto iddynt, gael maddeuant. Ac am hynny pettei dy bechodau di yn amlach ac yn fwy nâ phechodau rhai eraill, etto mae gobaith o drugaredd itti oni cheúi di dy hun allan oddiwrthi trwy anghredini­aeth.

[Page 85] Gwrthres. 5. Eraill a ddywedant. eu bôd yn ofni ddar­fod iw hamser, a'u dydd grâs fyned heibio, gan iddynt sefyll allan yn hîr, a gwrthod llawer cynnig o druga­redd, ac ei bôd hi bellach yn rhy'wyr ceisio grâs Duw.

Atteb. I hyn yr wyf yn atteb, mai pêth trîst iawn yw, di­ystyru a gwrthod llawer cynnig o drugaredd, ei pechod mawr yw, sydd yn gofyn ar dy law di ddwys-drwm ofid ac ymostyn­giad. Hyn a wnaeth i'n Iachawdr wylo tros Gaersalem, am iddynt esgeuluso dydd eu hymweliad. Ond etto gwy­bydd,

1. Fôd gan Ghrist amryw amserau ac odféydd o Dró­edigaeth a'r Ail-enedigaeth: Nid yw pawb yn dyfod i mewn ar yr awr gyntaf o'r dydd, nag ar y chweched awr. Fe ddŵg Christ adref atto ei hun rai yn niwedd eu dyddiau, y rhai tros yr holl amser o'r blaen a ddi­ystyrasant ac a wrthodasant ei wahoddion grasol ef.

2. Os ydyw ddrwg gennitti o'th galon ddarfod itti gynt wrthod, ac wyt yr awron yn wîr-ewyllysgar i ymwasgu â Christ, mi allaf ddywedyd yn hŷf, nad aeth dy ddydd grâs di heibio. Canys y cynhyrfiadau hynny, a weithi­wyd ynoti trwy Yspryd Duw, sydd arwyddion grasol, ei fôd ef etto yn barod i wneuthur itti ddaioni, os ti a'i derbyn.

3. Tydi, yr hwn a ofni ddarfod dy ddydd Grâs, gwy­bydd hyn, os wyti yn cael ynot dy hun ewyllysgarwch yr awron i fwrw ymaith dy hên drachwantan ath be­chodau, ac i fôd yn Greadur newydd; i fwrw ymaith wa­sanaeth Diafol, ac i fod yn wâs i'r Arglwydd Jesu, nid aeth dy ddydd grâs di heibio.

Ni fynnwn ni trwy y pethau hyn gryfhâu nêb i oedi o ddydd i ddydd i drôi ymaith oddiwrth ei bechodau, gan ryfygu y ceiff ef drugaredd yn y diwedd. Gochel yr ynfydrwydd hyn. Tydi yr hwn ni fynni heddyw, f' all dy enaid fôd yn vffern cyn y foru. Ond yr wyf yn dy­wedyd hyn i annog hên bechaduriaid i drôi a'r frŷs. Tydi hên bechadur! yr awr ddiweddaf ydyw, am a wy­ddosti, ti a ddaethost bellach yn siccr hŷd at, Yr awron, neu nid bŷth. Ac mi a fynnwn ddywedyd dau beth wr­thit.

[Page 86]1. Peth ammhêus iawn yw, am danat ti a sefaist allan gyhyd, a ddeúi di i mewn yr awron, ofna a chryna; ychydig, ychydig iawn o'r rhai a safant allan hyd yr awr ddiwaethaf, sydd yn dyfod i mewn ar yr awr ddiweddaf. Etto,

2. Os mynni, ti a elli ddyfod; os yn dy ddydd hwn, yn dy ddydd diwedd, y deúi di i mewn, ti a fyddi gadwe­dig.

PEN. XII. Defnydd o Gyngor i'r rhai a Ail-anwyd.

GAn imi ddarfod ar gaingc gyntaf o'r Defnydd o Gyn­gor i'r rhai heb yr Ail-enedigaeth; Deúwn yr awron at yr ail, sydd yn perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, ac a saif mewn amryw bennau.

1. Rhyfedda a chlodfora enwedigol drugaredd a daioni Duw tuac attat yn dy Ail-enedigaeth. Ymddigrifa dy galon trwy ystyried ei gariad ef tuac attat yNghrist Jesu, ddarfod iddo dy gippio di fel pentewyn allan o'r tân, ddarfod iddo dy dderbyn di iw râs a'i ffafr enwedigol, pan adawodd ef lawer Myrddiwn o wŷr ac o ŵragedd i farw yn eu pechodau; ddarfod iddo ef dy wneuthur di yn Etifedd y nefoedd, pan adawodd ef gymmaint i fôd yn bentwynion tân vffern: Onid oes itti achos annhrae­thawl i eistedd ac i ryfeddu wrth wîr râd râs Duw, a chyfoeth ei drugaredd ef tuac attat? Yn ddiau nid oedd dim ond gwîr râs Duw a roes yr anrhydedd hwn arnati, ac a wnaeth y fâth ragor rhyngotti ac eraill. Canys beth a welodd Duw ynot ti rhagor eraill, iw annog i roi ei gariad enwedigol arnat?

Oh edrych o'th amgylch, gwêl dy Gym'dogion, sydd yn byw tan yr vn weinidogaeth, yn gyfrannog o'r vn Ordinhadau a thithau, etto heb erioed deimlo-na'i grym na'i melysdra yn ei eneidiau, Ddarfod i wlîth ei râd-râs syrthio ar dy enaid ti, pan yw calonnau cymmaint [Page 87] o'th amgylch yn sŷch, heb vn defnyn o'r gwlîth hwnnw arnynt: Ond trugaredd yw hon [...] ryfeddu o'i phlegid? Oh ystyria, molianna, a dywed, Arglwydd, pa fodd y mae itti râd-roddi dy râs imi, a'i naccâu i gymmaint, y rhai ydynt lawer modd yn well nâ myfi?

II. Ail gaingc o'r Defnydd o gyngor ir rhai a Ail-anwyd, ydyw, I fôd yn ddiolchgar i Dduw am y drugaredd fawr hon. Rhyfedda wrth râs Duw, a bendithia ei enw ef yn dragywydd. A wnaethpwyd ti yn fyw? a genhed­lwyd bywyd Duw ynoti? Ac oes gennitti eglurdab o hyn­ny? O bendithia Dduw tra fyddych fyw. Bydded dy ga­lon, a'th enau, a'th fywyd yn llawn o'i foliant ef. Cym­mer i fynu eiriau y Psalmydd, Bendithia 'r Arglwydd, ô fy enaid, a chwbl sydd ynofi, bendithied ei enw sanctaidd ef: Bendithia 'r Arglwydd, ô fy enaid, ac nac anghofia ei holl ddo­niau ef. A fyddi di yn ddiolchgar i Dduw a'm dy ane­digaeth naturiol? Ac oni byddi ddiolchgar iddo a'm dy anedigaeth ysprydol? A fendithi di ef a'm iddo dy wneu­thur yn greadur rhesymmol? Ac oni fendithi ef a'm dy wneuthur yn greadur newydd? Ond yr Ail-enedigaeth o'r holl drugareddau sydd fwyaf angenrheidiol? Ac oni fyd­di ddiolchgar am yr vnig beth sydd angenrheidiol?

I'th gyffrôi di yn well i'r ddledswydd hon o Ddiolch­garwch am y drugaredd hon,

1. Ystyria, mor drîst a thruan oedd dy gyflwr, cyn dy Ail-enedigaeth, gan dy fôd yn Blentyn digofaint, yn gaethwâs Satan, yn etifedd vffern. Ac yno cyff'lyba ef a'th gyflwr presennol. Wele, o blentyn digofaint, ti a wnaethpwyd yn Blentyn Duw; o gaethwas Satan, ti a wnaethpwyd yn ŵr rhydd i Ghrist: o etifedd vffern a damnedigaeth, yn etifedd y nefoedd ac Iechdwriaeth. Ac onid yw hyn ei gŷd yn go­fyn diolchgarwch?

2. Ystyria fôd y Drugaredd hon mewn modd annhraethawl yn fwy nâ'r holl drugareddau eraill yn y Bŷd. Yr enedigaeth newydd hon a wnâ ddŷn yn ŵr anrhydeddus, vn o'r hâd Bren'hinol, Brenin ac Offeiriad i Dduw. Hyn a'i gwnâ yn gyfoethawg; y gronyn lleiaf o'r Grâs hwn sydd well nâ holl gyfoeth y Bŷd: Dyma 'r gwîr olud, tryssor ni dderfydd, ac ni ellir ei lawn-brisio. Hyn a'i gwneiff ef [Page 88] yn ŵr llawen: Mae llawenydd yn y nêf wrth dy Dróad ti, a sylfaen o lawenydd tragwyddol a osodir yn dy enaid ti: Ti a elli lawenhâu, cymmwys itti wneuthur yn llawen, oblegid dy enaid hwn a fu farw, ac wele hyw ydyw; ef a gollwyd, ac a gafwyd. Fe roes Theodosius fwy o ddiolch i Dduw, a'm ei wneuthur ef yn Aelod y'r Eglwys, nag yn Ben yr ymerodraeth. Felly bendithia Dduw yn fwy am y drugaredd hon, iddo dy wneuthur di yn Aelod i Ghrist, nâ phe gwnaethei di yn etifedd yr holl Ddaiar.

Beth er na roes Duw itti helaethrwydd o Anrhydedd a chyfoeth bydol; etto os bu efe helaeth tuac attat mewn Grâs, hyn yn vnig fydd yn ddefnydd o foliant tragwyddol. Mae gan Luther 'stori nodedig sydd i'r diben hwn. Yn amser y Cyngor yn Constantia, Fe ddywed ini fod dau Gar­dinal yn marchogaeth i'r Cyngor; ac ar y ffordd hwy a welsant Fugail yn y maes yn ŵylo. Vn, gan dosturio wrtho, a ofynnodd iddo, Pa'm yr oedd efe yn ŵylo? Ar y cyntaf yr oedd yn anhawdd ganddo roi atteb; ond pan gymmhellwyd ef, efe a ddywedodd, mai wrth edrych ar y llyffant dû o'i flaen ef, fe ystyriodd, na ddarfuasei iddo erioed foliannu Duw am ei wneuthur ef y fâth gre­adur rhagorol â Dŷn: na wnaethai efe ef y fâth grea­dur brwnt anferth a'r llyffant hwnnw. Ar glywed hyn fe gynhyrfwyd y Cardinal yn fawr, gan ystyried iddo ef dderbyn trugareddau mwy nâ'r dŷn truan hwnnw, ac etto ni thalasei fo i Dduw y fâth foliant a diolch ag oedd ddyledus. Ac oni chyfyd y dŷn truan hwn yn y fara yn erbyn llawer o hono'm? Ie, onid oes achos i'r rhai goreu o hono'm ymostwng yn fawr ger bron yr Arglw­ydd, y rhai nid ŷm mor wresog-deimladwy yn cofio Grâs Duw yn ein gwneuthur ni yn Ghristianogion, fel y gwnaeth y Bugail truan hwnnw, am ei wnethur yn ddŷn. Oh gyfaill! Prâw dy fôd wedi dy eni drachefn, a dôs ymaith yn llawen, gan neidio, a moliannu Duw.

III. A ddarfu i Dduw trwy ei yspryd dy Ail-genhedlu di, a'th waeuthur di yn Blentyn iddo, yno rhodia yn addas o'r dru­garedd a'r anrhydedd enwedigol hwn. Mae 'r 'Scrythur yn ein mawr-annog i hyn, megis, Col. 1.10. Rhodiwch yn addas i'r Arglwydd. Ac Eph. 4.1. Rhodiwch yn addas i'r gal­wedigaeth [Page 89] i'ch galwyd iddi. Yma, ac mewn lleoedd eraill, nid yw 'r gair hwn addas yn arwyddo dim haeddiant, neu deilyngdod, ond yn vnig cymmhwysdra, neu weddeidd-dra. Megis Rhuf. 16.2. Phil. 1.27. A lle dywed Joan Fedydd­iwr, Dygwch ffrwythau addas i edifeirwch, mae y cyfieithi­ad newydd yn trôi [...], cymmwys i e­difeirwch. ynteu meddwl y peth ydyw hyn, ymddygwch mewn rhyw fesur yn wiw ac yn gymwys i'ch genedi­gaeth, a'ch vchel anrhydedd. A'r hyn y cyttuna hynny o'r Apostol Petr, 1 Pet. 2.9. Chychwi ydych rywagaeth etho­ledig, pobl briodol i Dduw; fel y mynegoch rinweddau yr hwn a'ch galwodd allan o dywyllwch iw ryfeddol oleuni ef. Fel y mae y rhai a Ail-anwyd yn rhagori yn eu cyflwr a'u perthynas ar rai cnawdol heb eu hail-eni; felly dylent fôd yn siamplau godidawg yn eu buchedd a'u hymar­weddiad.

Hyn a ofyn Christ gan bob gwîr Ghristion: Canys medd efe, yn dywedyd wrth ei Ddisgyblion, Mat. 5.47. Pa ragoriaeth yr ydych chwi yn ei wneuthur? fel pe dywedasei, chychwi y rhai a fynnwch fôd yn wîr-Ghristianogion, ac yn wîr-ddisgyblion i Jesu Ghrist; rhaid i chwi fôd yn fwy sanctaidd a nefol, yn rhodio vwch law dynion eraill; rhaid i chwi fôd yn rhagorol, a discleirio fel go­leuadau ynghanol cenhedlaeth ddrygionus a throfaus, trwy fyw bucheddau a fo yn siamplau i argyoeddi eraill; fel y galler dywedyd am danoch chwi, yr hyn a ddywedodd Duw am Job, Nad oedd gyffelyb iddo ar y ddaiar, fel am gyfoeth, felly am dduwioldeb, gan ei fôd ef lawer o raddau yn vwch mewn grâs nag eraill yn yr oes honno.

A ddisgleiriodd Duw trwy ei Râs ar eich eneidiau? Disgleiried eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tâd yr bwn sydd yn y nefôedd. Mat. 8.16.

Gwedi eich derchafu vwchlaw cyflwr dynion eraill, nid yw weddus i chwi fôd fel dynion eraill y Bŷd, ond byw uwch eu llaw hwynt, i fôd yn fwy sanctaidd a ne­fol yn eich ymarweddiad, a mwy o zêl tros Dduw, mwy gwresog yn cyflawni dledswyddau sanctaidd a chrefyddol. Mae 'r Arglwydd yn disgwyl pethau mawrion, ac am­genach [Page 90] gwasanaeth oddiwrthych chwi, nag oddiwrth ddy­nion eraill; canys efe a wnaeth fwy trosoch chwi, ac a rôes fwy i chwi, nag i'r holl fŷd. Pan gofioch eich brein­tiau, ymresymmwch â chwi eich hunain fel hyn, a wnaeth Duw nyni yn gyfrannogion o'r fâth drugareddau rhago­rol, a breintiau enwedigol, Oh-gan hynny pa ryw fâth ddy­nion a ddylem ni fôd ym mhob sanctaidd yma [...]weddiad â duwi­oldeb! 2 Pet. 3.11. Pa fodd y dylem ni rodio yn addas i'r fâth freintiau rhagorol, trwy fôd yn rhagorol yn ein gweithredoedd! gan wneuthur rhyw bethau rhagorol tros Dduw, yr hwn a wnaeth â ni mor ddaionus rhago­rol. Fel yr ymhelaethodd Duw tuac attom mewn truga­reddau enwedigol, felly mae yn disgwyl ini ymhelaethu mewn dledswyddau enwedigol.

PEN. XIII. Yn dangos y pethau nodedig rhagorol a ddylai y rhai a Ail-anwyd eu gwneuthur vwch law eraill.

I. GWneuthur cydwybod o'u hamser gwerthfawr, ac iw osod allan ar y goreu. Nid yw dynion cnawdol yn gw­neuthur fawr gydwybod o dreulio eu hamser mewn gwa­gedd ac oferedd. Maent mor chwannog iw trach­want a'u difyrrwch cnawdol, fel y mae eu gofal pennaf hwynt, nid cymmaint i gynnhilo 'r amser, ac iw gam­dreulio mewn gwagedd a llawenydd. Ond och! mor berthynol y mae i'r rhai a alwodd Duw, brisio 'r am­ser a welo ef yn dda roddi iddynt! ac iw osod allan yn y modd goreu a mwyaf buddiol a allant! ie i gasclu briwsion yr amser, pob modfedd o hono, fel na choller dim. Ni allwn ni hepcor yn iawn vn awr segur. Oh gwnâ'r goreu o'r diwrnod. I'r diben hwn,

1. Ystyria fôd dy gyflwr tragwyddol yn sefyll a'r dreulio dy amser yn dda neu yn ddrŵg. Mae llawer yn ddibris o'u hamser, ac ar hynny yn ei chwarae ac yn ei ddifyrru [Page 91] ymaith. Etto nid oes vn munud yr wyt yn ei gam dreu­lio, ond fe all fôd, am a wyddost, yr vnig amser, ar yr hwn y saif dy gyflwr tragwyddol. Oh pa ynfydrwydd ydyw, am lawenydd vn awr neu ddiwrnod, fôd yn de­byg i golli dedwyddwch tragwyddol, a bôd yn debyg i syrthio i drueni tragwyddol! Ac etto anamled yw y rhai sydd yn gwneuthur cyfrif o'u hamser, ac yn meddwl fôd dim cyfrafol yn sefyll arno.

2. Ystyria fawr-werth yr Amser, yr hwn a dâl fwy, nâ holl gyfoeth a thryssorau y Bŷd, canys ni allant bwrcasu vn mu­nud o amser. Pe gwelai 'r Arglwydd yn dda, ganhiadu i'r enaid damnedig yn vffern, ond vn wythnos o amser i fyw drachefn ar y ddaiar, i edrych pa fodd y treuliai hynny er lleshâd iw enaid: Oh pa bris vchel a roddai ef arno! mor ofalus y treuliai bob munud o hono! mor ddifrifol a fyddai ym mhôb gwasanaeth sanctaidd, a pher­thynasau ei enaid! mor gydwybodus yn treulio y Sab­bath! mor wiliadwrus fyddai y diwrnod hwnnw ar ei feddyliau, geiriau a gweithredoedd! Pe clywai ef gyn­nig Christ yNgweinidogaeth yr efengyl megis Iachawdr i bechaduriaid truain, Oh mor wisgi yr ymwasgai â'r cynnig o Jesu Ghrist! mor galonnog y cofleidiai ef! Pe temptid ef gan ryw gyfeillion cnawdol i dreulio vn diwr­nod gydâ hwynt mewn digrifwch a llawenydd, pa fodd yr attebai hwynt! Och fi! nid yw 'r amser, a'r yr hwn y saif fy nghyflwr tragwyddol, ond byrr iawn: ac oni byddai yn ynfydrwydd erchyll ynofi ofera ymaith ran o hono? A suddafi fy enaid i'r fflammau tragwyddol am ychydig lawenydd fföl a choeg ddigrifwch? Oh, na atto Duw. Ac wrth hyn y gellwch weled mor werthfawr yw amser. Ychydig reswm yn ddiau sydd gan bobl, i fod yn gynnil o'u cyfoeth, ac yn wa­straffus o'u hamser; pan na allo holl gyfoeth y bŷd (fel y dywedpwyd o'r blaen) bwrcasu vn awr a Amser.

3. Ystyriwch faint o amser gwerthfawr a gollesoch yn ba­rod.

4. Ystyria yr amser presennol yn vnig sydd eiddoti iw gynn­hilo. Wele yn awr yr amser cymeradwy, wele yn awr ddydd yr Iechydwriaeth! Oh gan hynny pa'm y treuli ymaith yn ofer yr amser sydd yn vnig yn eiddoti, ac addo itti [Page 92] dy hun bethau mawrion mewn amser nid yw eiddotti? Canys yr awr nesaf, ie y munud nesaf ti a elli gan ddyr­nod Angeu gael dy dorri ymaith; ac yno y cymmerir oddiwrthit yr holl odféydd o wneuthur neu dderbyn daioni.

II. Peth arall enwedigol a ddylai y rhai a Ail-anwyd ei wneuthur vwch law eraill, ydyw, Cofleidio pob odfa i wneuthur neu dderbyn daioni. Trwy wneuthur daioni yr wyfi yn meddwl nid yn vnig haelioni i'r tlawd, ond hefyd cy­flawniad cydwybodus o'r holl ddledswyddau Christianogol, beth bynnag a ymafael dy law ynddo iw wneuthur gwnâ â'th holl egni, medd y Gŵr doeth. Preg. 9.10. Hynny yw, pa odfa bynnag a roddir itti i wneuthur daioni, gwnâ yn rymmus ac yn brysur, heb ei oedi hyd oni fyddo yn rhywyr. Gan fod gwerth yn dy law, Oh nâd iddo golli trwy ddio­falwch, rhag itti ddrûd-edifarhâu am hynny. Ir diben hwn ystyria, mai ychydig yw 'r odféydd a all fod yn ôl itti. Am a wyddosti, mae 'r amser yn agos, y derfydd dy od­féydd i wrando, dy odféydd i weddío, dy odféydd i dru­garhaû, a'r cyfryw; Pa faint gan hynny y perthyn itti eu gosod hwynt allan ar y goreu, tra caffech hwynt, ac i arfer y prŷd a'r odfa bresennol megis y diweddaf a gait ti yn y bŷd?

Os byddi ynghymdeithas Christion duwiol cyfarwydd, yno y mae itti odfa i ynnill llawer o ddaioni ysprydol a budd i'th enaid; fel trwy ddal sulw ar ei radau, felly trwy osod o'i flaen ef dy Ammheuon a phetrusder dy gydwybod. Oh na ollwng ymaith y fâth odfa heb ynnill rhyw ddaioni ysprydol i'th enaid.

Os gelwir di i ymweled a chyfaill neu Gymmydog ar ei glâf-wely, Oh pa odfa sydd yn dy law di i wnethur daioni iw enaid ef! Trwy ei gynghori ef i feddwl am farwolaeth, ac i ymbarattôi, i wneuthur ei heddwch â Duw, i fwrw ei hunan a baich ei bechodau a'r Ghrist, i adeiladu gobaith ei Iechydwriaeth yn vnig ar y Graig, yr Arglwydd Jesu Ghrist.

Os yn rhodio allan, neu yn ymdeithio ar y ffordd, y syrthi ar gymdeithion; pa ddaioni a elli ei wneuthur trwy ryw ymddiddan ysprydol am Dduw, neu am drueni [Page 93] dŷn wrth natur, neu am y gwaith mawr o'n prynedi­gaeth trwy Jesu Ghrist, neu 'r cyfryw: Oh faint y gal­lai dy ofal yn hyn ymhelaethu i'th gyfrif di; cofia ei [...]i­au 'r Apostol, Cynghorwch ei gilydd tra gelwir hi He­ddyw.

Os rhoes yr Arglwydd itti Deulu, a'th gynnyscaeddu â doniau iw dysgu a'u hadeiladu; na choller yr eneidi­au sydd gydâ thi trwy dy esgeulusdra di. Mae itti od­féydd beunyddol i fôd yn hâu dy hâd yn eu heneidiau, yr hwn a all dyfu i fywyd tragwyddol. Ac am dy Gym'­dogion sydd o'th amgylch, bydded iddynt dy gael yn Gymmydog da iddynt: a hynny a gânt oreu, os ceisi eu gwneuthur hwy yn Ghristianogion da.

III. Dledswydd arall enwedigol yn perthyn i'r rhai a Ail-anwyd yw, Bôd yn wiliadwrus yn y modd o gyflawni Dledfwyddau da. Nid yn vnig bod yn gydwybodus yn ar­fer yr Ordinhadau, ond hefyd cynhyrfu ein calonnau i fod yn gydwybodus am y modd y gwnelom hwynt.

1. Yr ydym yn llwyr-ŵyr-droi ac yn llygru y Dledswyddau san­cteiddiolaf, pan fo'm ni yn ddeffygiol o ran y modd o'u cy­flawni hwynt. Ie trwy hynny y troîr ein dledswyddau sanctaidd yn bechod, fel y dywed y Prophwyd Isaiah, Yr hwn a laddo ŷch, am Aberth, sydd fel yr hwn a laddo ŵr, yr hwn a abertho oen sydd fel yr hwn a dorrfynuglo gî, Isa. 66.3. Er bôd aberthu ychen ac ŵyn yn dda: ac yn orch'­mynnedig gan Dduw ei hun: etto oblegid en bôd yn ddeffygiol o ran y modd o'u cyflawni hwynt, nid oe­ddynt mwy cymmeradwy gan Dduw, nâ llâdd gwŷr, neu dorrfynuglu cî; y rhai a waherddid yn y Gyfraith, ac oedd ffiaidd gan yr Arglwydd.

2. Y modd vnion o gyflawni dledswyddau, sydd yn cael y fendith gan Dduw. Ysgatfydd ti a wrandewaist lawer, ac a weddíaist lawer, ac a ymprydiaist lawer, ac etto ni chefaist ond ychydig fûdd a lleshâd yn hynny. Hola dy hun, oni buost ddiofal a marwedd, yn rhagrithiol ac yn ddifraw ynddynt, yn eu gwneuthur, fel pe buasit heb eu gwneuthur. Os felly, nid rhyfedd itti dderbyn cyn llei­ed bûdd oddiwrthynt.

Am iawn fodd o gyflawni dledswyddau da, cymmer y rheolau hyn.

[Page 94]I. Byddwch ofalus i gymmeryd Christ gydâ chwi am gymmorth a chymmeriad.

1. Am gymmorth. Canys hebofi, medd Christ, ni ellwch chwi wneuthur dim, Joan. 15.5. Hynny yw, heb undeb a chymmundeb â Christ, ni ellwch wneuthur vn gwasanaeth a fo cymmeradwy gan Dduw. Pa bryd bynnag gan hyn­ny y gosodoch ar vn dledswydd da, yn y man cyntaf ceisiwch nerth a chymmorth oddiwrth Ghrist, a phwy­swch arno am gymmorth, nac ewch i weddío neu i wrando, ond yn nerth yr Arglwydd.

2. Cymmerwch Ghrist gydâ chwi am gymmeriad o'ch person, a'ch gwasanaeth. Christ ydyw anwyl sâb Duw, yn yr hwn y mae efe cymmaint yn ymfodloni, ac y mae hefyd ynddo ef yn ymfodloni yn y rhai oll a ddêl at Dduw trwy­ddo ef.

Pa brŷd bynnag gan hynny yr elom at Dduw mewn gweddi, neu ryw Ordinhâd arall, dygwn Ghrist gydâ ni ym mreichiau ein ffydd. Mae Plutarch ym mywyd Themi­stocles yn dangos mai arfer cyffredinol rhai o'r Cenhed­loedd, sef y Molossiaid, oedd, pan ewyllysient gael ffafr eu Brenin, hwy a gymmerent ei Fâb ef yn eu breichiau ac felly yr âent atto ef. Ac yn ddiau doethineb Christi­anogion fyddai, yn ceisio wyneb a ffafr Duw, Brenhin y nefoedd a'r Ddaiar, i gymmeryd y sanct fâb Jesu gydâ hwynt, heb pa vn ni chânt weled ei wyneb ef.

II. Cyffroa dy hun a'th holl nerth, dyro dy hun allan hyd yr eithaf, cais fôd yn fywiog a gwresog yn yr yspryd. Cais yspryd ffydd a grym: hyn a fydd olew i'th olwy­nion, a gwynt i'r hwyliau, i roi 'r cwbl ar waith: Os bydd hyn yn ôl, dy wasanaeth goreu fydd yn wasanaeth diffrwyth marwedd, yn yr hyn nid ymfodlona 'r Arglw­ydd.

Mae tri mâth ar rym a ddylem ni ymegnío iw roi allan yn ein holl ddledswyddau sanctaidd,

1. Grym ein Bwriad. 2. Grym ein Anwydau. 3. Grym ein Corph.

1. Rhaid ini fwriadu ein gwaith, fel pette am ein ho­edl; canys felly mae, pa vn bynnag a'i gwaith gweddio, gwrando, myfyrio, neu 'r cyfryw; Rhaid ini roi allan nerth [Page 95] ein Bwriad, yn gystal a nerth ein gwrandawiad, heb roi lle nac i syrthni 'r corph, nac i wibiad y meddwl. Ond och! pa bethau gweigion ofer sydd barod i ledratta y­maith ein calonnau a'n meddyliau yn cyflawni dledswy­ddau sanctaidd? Pette vn o'n Pennaethiaid yn ymddi­ddan â ni, fe ddisgwiliai ini ddal sulw ar yr hyn a ddy­wedo wrthym, ac nid troi ymaith i siarad a phob vn elo heibio. Ond pan lefaro Duw wrthym ni yngweini­dogaeth ei Air, neu pan fo'm ni yn llefaru wrtho yntef mewn gweddi, mor fynych y trown ni ymaith at bob meddwl gwâg, a matter ofer, sydd yn ymgynnig ini! Amcenwch bethau Duw yn fwy gwresog, a hyn a ennyn eich meddyliau.

2. Fe ofynnir grym anwydau ym mhob gwaith da. Beth bynnag a ymafel dy law ynddo iw wneuthur, gwnâ a'th holl egni, medd y gŵr doeth, Preg. 9.10. fe ellir cyfaddasu hyn mewn modd enwedigol i ddledswyddau Addoliad a gwasanaeth Duw, ar ini eu gwneuthur hwynt yn fywiog a holl rym ein Anwydau. Hyn a orchymmyn yr Apostol, pan yw yn peri ini fôd yn wresog yn yr yspryd yn gwas' naethu 'r Arglwydd. Rhuf. 12.11. Mae 'r gair yn y Groec yn nodi, i'n yspryd ferwi i fynu hyd yr eithaf. Nid oes dim yn y bŷd mwy yn an-weddu i wasanaeth Duw, nâ thrymder yspryd, ac oerni Anwydau, pan fo dŷn yn gwas'naethu Duw, fel pettai heb ei was'naethu. Clôd Dafydd oedd, fôd Zêl tŷ Dduw yn ei yssu ef. Pa air sydd yn dangos angerdd ei zêl ef, a grym ei Anwydau, fel yn diwygio tŷ Dduw, felly yn cyflawni dledswyddau ei A­ddoliad a'i wasanaeth ef. Am hyn yr anrhydeddwyd Ja­cob, ac a alwyd yn Israel, am iddo weddío â grym ei An­wydau, ac am hynny y dywedir iddo ymaelyd â Duw mewn gweddi, Gen. 32.28. trwy yr hyn y gorchfygodd. Fel yr wyt yn ewyllysio gorchfygu gydâ Duw mewn gweddi, rhaid itti gydâ Jacob, ymaelyd ag ef, gan roi allan rym dy An­wydau, yr hyn fydd fodd enwedigol i rwystro gwibiad y Meddyliau ofer. Tra fo mêl yn berwi yn grych-iâs, ni chyffwrdd gwybed ag ef; felly os bydd y galon a'r An­wydau yn berwi i fynu mewn gweddi ni ddaw meddy­liau ofer i mewn:

[Page 96]3. Rhaid yw rhoi allan hefyd grym y corph ym mhob gwaith da. Canys rhaid yw gwas'naethu Duw fel â'n hy­spryd, felly â'n corph hefyd. A bendigedig yw 'r grym a roîr allan yngwasanaeth Duw. Mae dynion cnawdol yn barod i roi allan grym eu cyrph ar eu Trachwantau. Pa'm gan hynny na byddem ni mor barod i roi allan grym ein cyrph yngwasanaeth Duw? Yno y cawn ni a­chos i fendithio Duw, a dywedyd, Arglwydd ti a allesit fy ngadel i dreulio fy nerth mewn pechod, ac yn cyflawni fy chwantau cnawdol; ond bendigedig fyddo dy enw, yr hwn a'm gwnaethost yn ewyllysgar i dreulio, ac i ymdreulio yngwasanaeth fy Nuw.

III. Cais ymgadw yn gynnwys gydâ Duw yn dy ddledswy­ddau sanctaidd. Da fyddai pettem ni yn ein dledswyddau sanctaidd yn ymgadw yn y dledswyddau eu hunain. Y chy­dig sydd yn myned cym mhelled a hynny. Ond rhaid i ni ofalu, nid yn vnig i ymgadw yn gynnwys yn y dled­swyddau, ond hefyd ymgadw gyd â Duw yn y dledswy­ddau: Rhaid ini geisio, nid yn vnig feddwl am yr hyn yr ydym yn ei wneuthur, ond hefyd bôd a'n llygad a'r Dduw, ac i gadw cymdeithas ag ef ynddynt. Yn arfer pôb Ordinhâd, bydded ein dymuniad pennaf, a'n gofal a'n llafur i gael Duw ynddi? Ac nid ymfodloni heb ei gyfarfod a chael cymmundeb ag ef. Na ddôs byth oddi­wrth Ordinhâd Duw, heb ryw gymmundeb â Duw ynddi, heb gael dy galon wedi ei chodi a'i chynyrfu yn y gwa­sanaeth, ac wedi ei bywhâu a'i diddanu gar ei fron ef.

III. Ac oblegid ein han-allu a'n gwendid i gyflawni dim gwafanaeth ysprydol mewn môdd dyladwy, yn y man cyntaf, ceifiwn gan Dduw ein gwneuthur ni yn abl trwy ei yspryd i hynny. Oblegid yspryd Duw yn vnig a ddi­chon gynnorthwyo ein gwendid ni: Efe all feddalhâu ein calonnau caledion, fywhâu ein calonnau marwedd, helaethu ein calonnnau cyfing, &c. Ac yn gweddío a'm gymmorth yr yspryd, safwn ar Addewid Duw, gan ddy­wedyd, Arglwydd ti a addewaist yn dy Air, y byddai i'th y­spryd gynnorthwyo gwendid dy weision; Oh gwnâ yn dda yr Addewid hwnnw i mi! Gâd imi gael a theimlo anadliad a gweithrediad hyfryd, cynhyrfiad a helaethiad bywiol dy yspryd [Page 97] di ar fy nghalon, yn fy nŵyn i ym mlaen â nerth ac â bywio­grwydd mawr yn y ddledswydd sydd gennif mewn llaw. Sefyll fel hyn ar addewid Duw fydd yn rhwym nerthol arno ef i gyflawni yr hyn a lefarodd.

IV. Dledswydd enwedigol arall sydd yn perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, ydyw, Rhodio yn ddiesceulus ac yn gy­wraint, yn ôl hynny o'r Apostol, Gwelweh pa fodd y rhodioch yn ddiesceulus, nid fel annoethion, ond fel doethion: Eph. 5.15. Y gair yn yr iaith wreiddiol, [...], a gyfieithir yn ddiesceulus, sydd yn arwyddo ystyriaeth a chywreinrwydd mawr yn ein ymarweddiad Christianogol, yr hyn a gy­frif yspryd Duw yn rhan fwyaf o ddoethineb. Mi a wnn fôd dynion y Bŷd yn cyfrif cywreinrwydd buchedd yn ffoledd mwyaf a allai fôd: Ac am hynny yn galw y rhe'ini, yn ffyliaid cywraint, y rhai sy 'n ceisio byw yn sobr, yn gyfiawn ac yn Dduwiol yn y bŷd presennol hwn. Ond o'r diwedd fe fydd yn eglur, mai y rhan fwyaf o ddoe­thineb ydyw.

I eglurhâu ac i annog y ddledswydd hon yn well, mi a ddangosaf ym mha beth y mae y Rhodio diesceulus hwn yn sefyll.

1. Yn rhodio wrth reol. Megis pan fynno 'r saêr wneu­thur ei waith yn gywraint, f' a'i gwnâ wrth reol. Felly rhaid i'r Christion, sydd yn ewyllysio rhodio yn ddies­ceulus, yn gywraint, rhaid iddo rodio wrth Air Duw, yr hwn yw 'r vnig gyfartal reol o sancteiddrwydd. Am hynny y dywed yr Apostol, Cynnifer ac a rodiant wrth y Rheol hon, tangnefedd arnynt, ac ar Israel Dûw, Gal. 6.16.

2. Ein rhodiad diesceulus a saif yn ein bôd ni yn e­drych ar y rhan oddifewn ac ysprydol o'r Ddeddf, yn gystal a'r rhan oddiallan. Ym mhôb gorchymmyn Duw mae y rhan lyth'rennol oddiallan, a'r rhan ysprydol oddifewn. Mi a allaf alw y rhan gyntaf llythyren y ddeddf; yr ail, yspryd y Ddeddf. Hyn y mae ein Jachawdr yn ei egluro yn node­dig yn ei Bregeth a'r y Mynydd, lle yn sôn am y chwe­ched gorchymmyn, fe ddywed, na lâdd: dyna lythyren y ddeddf; Ac yno mae yn ei agoryd, Ond yr wyfi yn dywe­dyd i chwi, Pwy bynnag a ddigio wrth ei frawd heb ystyr, a fydd yn euog o farn. Dyna yspryd y Ddeddf, Mat. 5.21, 22. [Page 98] Felly gwedi yn sôn am y seithfed gorchymmyn, a ddy­wed, na wnâ odineb, dyna lythyren y ddeddf; Ac yno y dywed, Ond yr wyfi yn dywedyd i chwi fôd pob vn sydd yn edrych a'r wraig, i'w chwennychu hi, wedi gwneuthur cufys odineb â hi yn ei galon: Dyna yspryd y ddeddf, neu y rhan ysprydol o honi. Y cadwraeth mwyaf diwyd o ly­thyren y Ddeddf, neu y rhan oddiallan, heb ofalu am y rhan ysprydol oddifewn, sydd megis corph heb enaid, peth marw, heb fôd vn modd yn gymmeradwy gan y Duw byw. Nid yw gan hynny y neb a rodia yn gywraint, yn ymfodloni ar y pethau oddi allan o'r Grefydd Ghri­stianogol, ond mae yn ceisio dwyn ei galon at y pethau oddifewn, yn ymegnío i lethu meddyliau drŵg, i far­weiddio chwantau aflan, a'r holl anwydau afreolus; i ffieiddio ac i wilied ar aflendid dirgel, yn gystal ag an­nuwioldeb amlwg: Hyn ydyw rhodio yn wîr ddiesceulus ac yn gywraint.

3. Ein Rhodiad diesceulus a saif yn gofalus-ochel holl achosion y drŵg, a themtasiwnau i hynny. Wedi ini trwy brofiad alaethus gael y cyfryw bethau yn faglau ac yn achosion pechod ini, ein dledswydd yw, a'n doethineb fydd eu gochelyd a chilio oddiwrthynt, yn enwedig wrth ystyried mai wrth redeg i Demtasiwnau yr ydym yn tem­tio 'r Arglwydd, ac yn ei annog ef i'n rhoi ni i fynu i'n gwendid, ac i rym ein llygredigaethau, fel y bo ini trwy ein cwympiau fôd yn fwy doeth a phwyllog am yr amser a ddelo.

Mae pôb dŷn wrth natur fel coed sŷch, sydd yn hawdd ganddo ennyn pan rodder tân gyntaf atto. Nid rhaid i Gythreuliaid ein temtio ni: fe gymmer sofl sŷch dan heb vn fegin yn chwythu. Ar yr achlysur lleiaf a ro­dder ini, mor fuan y cymmerwn achos i bechu? Pôb gwreichionen a ddeil ar ein calonnau crin-sŷch. Am hynny gwilia yn erbyn pôb profedigaeth, yn enwedig y rhai a gyttunant â thi oreu, a'r rhai sydd y tynnu at y pechodau anwyl sydd yn dy fynwes. Canys oddiwrthynt hwy mae mwyaf perigl, gan fôd ganddynt fwy o nerth oddwrth ein naturiaeth ni. Fe ŵyr Satan yn rhy-dda y pechodan anwyl sydd yn ein mynwes ni, a'r chwantau [Page 99] sydd gryfaf ynom; At y rhai hynny yn bendant, ac yn fwyaf llwyddiannus y mae efe yn cymhwyso ei brofedi­gaethau.

4. Ein rhodiad diesceulus sy 'n sefyll yn ymgadw oddi­wrth bôb rhith drygioni, yn gystal ac oddiwrth ddrygau amlwg hynodol. Fel y mae rhai pethau yn ddrygau amlwg, felly mae pethau eraill yn ddrŵg yn vnig mewn rhith ac ym­ddangosiad. Y neb a rodio yn ddiesceulus ac yn gywraint a fydd mor ofalus i ochel y naill a'r llall. Ni feiddia efe osod ar ddim a fo yn edrych fel pechod, nac a fo yn y grâdd lleiaf yn gyffelyb iddo. Os bydd y peth yn ammhéus, a ellir ei wneuthur neu beidio, fe wneiff yr hyn a fo mwyaf diogel, ac a adewiff y llall heb ei wneu­thur. Ie er iddo wybod fód y peth yn gyfreithlon yn­ddo ei hun, etto os gall fôd yn dramgwydd yn ffordd vn arall, ac felly fôd yn achlysur pechod iddo, fe fydd yn ofalus iw ochelyd.

V. Dledswyd arall enwedigol sy 'n perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, yw, I ochelyd cybydd-dod, a rhoi gormod serch ar y Bŷd, gan ei fôd yn wreiddin pôb drygioni. Nid ŵyf yn dywedyd, Pan fo ein calonnau wedi eu newid a'u had­newyddu, y dylem ni ar hynny lwyr-ymwrthod â'r Bŷd, a rhoi heibio pob gorchwylion a matterion bydol. Ca­nys fe all grâs a galwad bydol gŷd-sefyll o'r goreu. Ie f' all vn fôd yn wîr Ghristion sanctaidd, a bôd yn ym­drîn llawer â'r bŷd. Ie mae Grâs yn rhwymo vn i fôd yn hwsmon da, i osod allan y cyfoeth a roes Duw tan ei law ef, ar y goreu. Ond etto ni ddylem ni ddymuno yn annigonol, (neu megis vn nad all dorri ei syched) nac yn ddidrefn ymgais a chyfoeth, fel pettai 'r vnig beth, neu 'r peth mwyaf iw geisio: hyn yw cybydd-dod. Nid bôd gan ddŷn Gyfoeth, ond ei ddymuno a'i garu allan o fe­sur, a rhoi prîs gormod arno, hyn sydd yn gwneuthur dŷn yn Gybydd. Fe all fôd gan ddŷn lawer o ddâ 'r Bŷd hwn, ac etto heb fôd yn ddŷn bydol. Ac f' all vn arall fôd ganddo ychydig, ac etto bôd yn gybydd. Y pechod hwn sydd yn enwedig yn y galon.

Cwest. Oni all Gŵr duwiol ddymuno cyfoeth, gan fôd yr Ysgrythur yn fynych yn ei alw yn fendithion Duw, [Page 100] yr hyn y mae efe yn ei addo fel gwobr ei wasanaeth?

Atteb. Mae dymuniad cymmhedrol o Gyfoeth, sydd gy­freithlon; a dymuniad anghymmedrol didrefn, sydd an­ghyfreithlon. Yna mae ein dymuniad ni o Gyfoeth yn gymmhedrol, pan na ddymunom ddim ond yr hyn sydd angenrheidiol, ac a fedrwn ymfodloni heb hynny, pan welo Duw hynny yn dda.

Cwest. Beth sydd iw gyfrif yn angenrheidiol?

Atteb. 1. Yr hyn sydd gymmwys i'r cyflwr ar galwad yn yr hwn y gosododd Duw ni.

2. Yr hyn a fo eisieu i'r draul a fo arnom ni. Fel os bydd gan ŵr Wraig a phlant, a Gweision, neu geraint yn aros ar ei draul ef, fe ellir dymuno a cheisio yr hyn sydd angenrheidiol a digonol iddynt.

3. Yr hyn sydd angenrheidiol am fywoliaeth a chynn­haliad Gwraig a Phlant am yr amser a ddelo, a ellir ei ddymuno a'i geisio yn gyfreithlon. Fe esyd yr Apostol hyn ar lawr megis dledswydd, Y dylai y Rhieni gasclu try­sor i'r Plant.

Heblaw chwennych a cheisio cyfoeth fal hyn yn gym­mhedrol, mae chwennych a'u ceisio hwynt yn anghym­mhedrol ac yn ddidrefn. Megis prŷd na bo gŵr yn fod­lon i'r cyfran a roddo Duw trwy ei Ragluniaeth iddo ef, ond mae yn ceisio ychwaneg, heb fŷth gael ei ddi­gon. A chyn y collo ei fwriad, fe esceulusa Dduw a'i enaid, ac a ruthra ar foddion anghyfreithlon, megis dy­wedyd celwydd, tyngu, pwysau a mesurau anghywir, a'r cyfryw, er mwyn cyflawni ei ddiben: yr hyn sydd an­wiredd ym mhawb, ond yn enwedig yn y rhai sydd yn prossessu bôd yn Grefyddol.

Etto pa faint o Broffesswŷr sydd yn ein dyddiau ni, y rhai, er eu bôd yn gwneuthur lliw o lawer o gariad i Christ, etto trwy eu hymarweddiad sydd yn dangos fod ganddynt gariad mwy a chryfach tuac at eu cyfoeth, na thu ac atto ef?

1. Canys pa fodd y mae eu meddyliau yn fwy ar y Bŷd, a phethau 'r Bŷd, nag ar Ghrist? Cyn gynted ac y deffrothont o'u cŵsg, mae 'r Bŷd yn ebrwydd yn cym­meryd meddiant yn eu calonnau, a'u meddyliau sydd ar [Page 101] eu cyfoeth, pa fodd y gallont ei chwanegu, a hynny trwy boen a gofal diflin, pan fo ychydig a wnelont tros Ghrist yn eu blino yn y man.

2. Pa fodd y mae eu hymddiddanion hwynt yn rhedeg mwy ar eu cyfoeth, nag ar Ghrist? Ie â pha rydid hy­fryd y siaradant am eu cyfoeth, ac am y Moddion iw geisio a'i chwanegu? A braidd y bydd gair am Ghrist ar hŷd y dydd. Yr hyn sydd yn dangos yn eglur y cy­bydd-dod sydd yn llechu yn eu calonnau: Canys o he­laethrwydd y galon y mae 'r genau yn llefaru.

3. Pa fodd y gadawant i'r Bŷd gymmeryd i fynu gym­maint o'u hamser gwerthfawr, fel na allant hepcor dim nac i ystafell-weddíau, nac i deulu-gweddíau? Ond yn peri iw crefydd roi lle iw matterion bydol. A pha brŷd bynnag yr elont i gyflawni dledswyddau sanctaidd, pa fodd y prŷd hwnnw y cymmerir eu calonnau i fynu â me­ddyllau ac a bwriadau Bydol? Fel yn lle cymdeithasu â Duw yn ei Ordinhadau sanctaidd, a mwynhâu cymmun­deb ag ef yuddynt, y maent yn cymdeithasu â'r Bŷd, ac yn cadw cymmundeb â Diafol

Oh pa gywilydd yw i'r rhai a ddygwyd o'r tywyllwch i ryfeddol oleuni, a'u deall wedi ei oleuo â gwybodaeth o Dduw, ac o'i fâb ef Jesu Ghrist, ac a allant iawn far­nu am ddirgeloedd Duwioldeb, i'r rhai hynny osod eu calonnau a'u serch ar bethau gwael darfodedig! idd­ynt eu gosod eu hunain allan gymmaint yn eu canlyn! Ac na thybiant iddynt fŷth osod digon i fynu o'r trysso­rau bydol! Pa gywilydd yw i'r rhai a'u proffessant eu hunain yn feibion Duw, fyw fel meibion dynion, fel pette eu rhan a'u happusrwydd yn vnig yn y Bŷd hwn! I'r rhai sydd yn proffessu eu hunain yn etifeddion yr etife­ddiaeth nefol, fôd mewn cymmaint traserch ar y pethau daiarol! Pa gywilydd yw i'r rhai sydd ganddynt eneidi­au rhesymmol, a allant gael bywyd tragwyddol, a chym­mundeb â Duw yma ac ar ôl hyn, cym mhelled ddibri­sio eu naturiaeth a byw fel y waddod neu Bryfed y ddai­ar, ac i orwedd fel môch yn y budreddi a'r dom!

Och! fel y mae 'n perthyn i chwi eich darostwng eich hunain beunydd am y pechod hwn, ac iw gasaû a'i ffi­eiddio, [Page 102] a gwilied yn ei erbyn ar ôl hyn!

VI. Dledswydd arall enwedigol sy 'n perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, ydyw, Byw trwy ffydd, gan eu bwrw eu hu­nain ar Dduw yNghrist, ac ar ei Addewidion grasol ef yn eu holl beryglon a'u cyfyngderau, am y cyfryw be­thau angenrheidiol perthynol, y safont mewn eisieu o honynt. Nid ydyw byw trwy ffydd yn sefyll yn vnig yn credu yNghrist a'm Iechydwriaeth, ond hefyd yn bwrw ein pŵys a'n goglud ar Dduw, a'i Addewidion grasol yn ei Air, am gynhaliad yn ein holl brofiadau, am swccwr yn ein holl gyfyngderau, am gymmorth yn erbyn yr holl ruthrau arnom, ac ymwared o'n holl beryglon, ac am gyflawniad o'n holl anghenion, amserol ac ysprydol.

Felly y gwnaeth yr holl flaenoriaid sanctaidd a grybw­yllir am danynt, Heb. 11. Lle y darllenwn, i ba flinder neu gyfyngder bynnag y dycpwyd hwynt, hwy a fuant fyw felly trwy ffydd yn addewidion Duw, na allai dim eu digalonni hwynt, llai o lawer eu gorchfygu hwynt. A phe gellit tithau 'r vn môdd bwyso yn llonydd ar Dduw, a'i Addewidion grasol ef, ti a fyddit yn dy ym­drech a'th gyfyngderau mwyaf, yn fwy nâ Choncwcrŵr, fel y dywed 'r Apostol.

Pan gan hynny y bo dy bechodau yn dy flino, a thi yn och'neidio tan eu pŵys au baich hwynt, yno tafl dy hun ar haeddiant a chyfiawnder Jesu Ghrist, ac yno gâd i'th enaid orphwyso mewn gobaith o faddeuant o'th becho­dau yma, a bywyd tragwyddol ar ôl hyn; gan hyderu ar yr addewid cyssurus hwnnw, Mat. 11.28. Deuwch at­tafi bawb ac y sydd yn flinderog, ac yn llwythog, ac mi a es­mwythâf arnoch.

Pan osoder arnat gan demtasiwnau Satan, ac yr ofnech rhag dy orchfygu ganddynt, yno edrych i fynu ar Dduw, gan ymddiried ynddo ef am ymwared mewn amser cy­faddas, ac am dy gynnal i synu yn y cyfamser, gan hy­deru ar yr addewid grasol hwnnw, 1 Cor. 10.13. Ffyddlon yw Duw, yr hwn ni âd eich temtio vwch law yr hyn a all­och, eithr a wnâ ynghŷd â'r temtasiwn ddiangfa hefyd fel y gallo [...]h ei ddwyn.

Pan fyddych tan nêb rhyw ymwrthodiad, gan eistedd [Page 103] mewn tywyllwch heb vn wreichionen o gyssur, yna ed­rych i fynu ar Dduw à llygad ffydd am oleuni ei wyneb­pryd ef, a siccrwydd o'i ffafr gariadus ef, gan lonyddu a diddanu dy enaid galarus â'r addewid cyssurus hwnnw, Isa. 54.8. Mewn ychydig sorriant y cuddiais fy wyneb oddi­wrthit [...] ennyd awr, ond a thruga [...]edd dragwyddol y trugarhâf wrthit, medd yr Arglwydd dy waredydd.

Pan gaffech dy hun yn wan ac yn ddiffygiol am gy­flawniad dy ddledswyddau, yno edrych i fynu ar Dduw, yr hwn a addawodd gynnorthwyo gwendid a diffygion ei weision, ac hydera ar nerth Jesu Ghrist; yno y byddi abl i ddywedyd gyd â'r Apostol, Mi a allaf bôb peth trwy Ghrist sydd yn fy nerthu i, Phil. 4.13.

Pan deimlech dy lygredigaethau yn nerthol-weithio ac yn ymgynhyrfu ynot, yna edrych i fynu ar Dduw, yr hwn a ddichon, ac a addawodd ddarostwng dy anwire­ddau, a chadw i lawr grym dy drachwantau, gan gym­meryd gafael yn y gair daionus hwnnw, Rhuf. 6.14. Nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi, oblegid nid ydych chwi tan y Ddeddf, eithr tan Râs.

Pan fyddych yn cael dy gablu a'th erlid gan ddynion drŵg annuwiol, yna edrych i fynu a'r Dduw â llygad ffydd, gan hyderu arno ef am gymmorth a nerth, gan dy gyssuro dy hun â gair grasol ein Iachawdr, Mat. 5.11, 12. Gwyn eich bŷd, pan i'ch gwradwyddant ac i'ch erlidiant, ac y dywedant bôb dryg-air yn eich erbyn er fy mwyn i, a hwy yn gelwyddog, Byddwch lawen a hyfryd, canys mawr yw eich gwobr yn y nefoedd.

Pan gyfynger arnat yn y pethau hyn oddiallan, ac a'r hynny yr wyti yn llawn o ofn a gofal bydol, am beth i fwytta, a pheth i yfed, a pheth a ddarperi i'th wraig a'th blant: Yno edrych i fynu ar Dduw, a thrwy ffydd bwrw dy holl ofal arno ef, sydd yn gofalu drosoti, gan bwyso r yr Addewid cyssurus hwnnw, Psal. 34.10. Y mae eisieu newyn ar y llewod ienaingc, ond y sawl a geisiant yr Ar­glwydd, ni bydd arnynt eisieu dim daioni. Er ysgatfydd na chêi di y fâth helaethrwydd a llawnder y mae eraill yn ei fwynhâu, etto ni byddi heb yr hyn a welo Duw yn dda itti, yr hwn a gyflawna dy holl raid yn ôl ei olud ef, Phil. 4.19.

[Page 104]Fal hyn y gelli yn dy holl gystuddiau a'th gyfyngde­rau, trwy rym nerthol ffydd, yn pwyso ar Addewidion grasol Duw, fawr-adfywio a diddanu dy yspryd cystu­ddiedig. Canys holl Addewidion Duw a osodir ar lawr yn ei Air ef i'th gyssuro a'th gynnal, gwedi eu selio yn­gwaed Christ, ydynt eu gŷd oll yn Ie ac Amen, mor wîr a'r gwirionedd ei hun, ac am hynny hwy yn ddiau a gyflawnir yn eu hamser.

I'th annog yn fwy hyderus i gyflawni y ddledswydd Ghristianogol hon o fyw trwy ffydd, ystyria yn ddifrifol yr ychydig bethau hyn.

I. Priodoliaethau Duw; yn fwy enwedigol,

1. Ei nerth hollalluog, trwy yr hwn y dichon efe dy nerthu yn dy holl wendid, dy gynnal tan dy holl bro­fiadau a'th demtasiwnau; yn fyrr, i gyflawni 'r cwbl a addawodd.

2. Ei wirionedd a'i ffyddlondeb yn cyflawni yr hyn a adda­wodd. Oblegid medd yr Apostol at yr Hebreaid, Ffyddlon yw 'r hwn a addawodd, Heb. 10.32. Diau mae mor bossibl iddo na byddo, ac na chadwo ei Air, a chyflawni yr hyn a addawodd. Yn wîr mae 'r Arglwydd yn fynych yn peri iw blant ddisgwyl yn hîr a'm gyflawniad o'i A­ddewidion; ond ni phalla byth i fôd cystal a'i Air.

3. Ei anfeidrol ddoethineb, trwy 'r hyn y mae efe yn rhôi allan y pethau da [...]onus a gynhwysir yn ei Addewi­dion, yn yr amser cymhwysaf a goreu, pan fo fwyaf er gogoniant iw enw, a daioni iw Blant. Bydded pell gan hynny oddiwrthym ni rag-derfynu i Dduw y prŷd a'r amser i gyflawni ei Addewidion; Ond yn hytrach ga­dewch ini ddisgwyl trwy amynedd am y prŷd a'r am­ser a osododd ef, yr hwn sydd anfeidrol mewn doethi­neb, ac felly a ŵyr beth sydd oreu a chymhwysaf ini, ie yn well nâ ni ein hunain.

VII. Dledswydd arall enwedigol sydd yn sefyll ar y rhai a Ail-anwyd, ydyw, Bòd o feddwl nefol, trwy fyfyrio yn fynych ar bethau ysprydol a nefol. Nid ychydig o feddyliau ys­gafn, difraw, oerion am Dduw a'r nefoedd, ydyw yr hyn y mae 'r ddledswydd hon yn sefyll ynddo: Ond meddwl ar feddwl, a thrachefn meddwl, ac amlhâu meddyliau 'r galon [Page 105] ar Dduw, a phethau Duw, a hynny o ran ei weithio yn ddwys ddifrifol ar y galon.

Nid yw ddigon meddwl, a meddwl yn fynych am ga­riad a daioni Duw, ond rhaid ini geisio ein calonnau ar dân o gariad iddo ef drachefn. Nid digon yw meddwl, a meddwl yn fynych am bechod, a'r trueni y taflodd ef ni iddo; ond rhaid ini felly feddwl am dano, fel y gweithier ein calonnau i gashâu pechod, ac i ofni digo­faint Duw sydd ddyledus ini o'i blegîd, ac i edrych at Jesu Ghrist, yr hwn yn vnig a all ein gwaredu oddi­wrth euogrwydd ein pechodau, a'r gospedigaeth ddyle­dus ini am danynt.

Gwaith mor fuddiol a manteisiol yw hwn, ac na all nêb wybod, ond yr hwn a wnaeth brawf o hono.

Bydded i'th enaid gan hynny yn fynych dderchafu i fynu ar adenydd mysyrdod nefol. Nâd i vn amser y by­ddech ar dy ben dy hun, fyned heibio, heb ryw fyfyr­dod ysprydol ac ymddiddan â Duw. Naill a'i edrych yn alarus ar dy aml bechodau, yr hyn a dynno oddi­wrthit, fel gwîr ofid calon am danynt, felly hefyd byrr­erfyniau calonnog am bardwn a maddeuant o honynt. Neu edrych ar fendithion a thrugareddau Duw tuac at­tat, a bydded i hyn helaethu a derchafu dy galon mewn moliant a diolch iddo ef. Neu ymddigrifa trwy ryfeddol­gofio gwaed haeddiannol yr Oen diféius Jesu Ghrist, yr hwn a dywalltwyd yn helaeth i'th lwyr-olchi, enaid a chorph oddiwrth aflendid a budreddi dy bechod. Dwys­ystyria yr hyn a wnaeth ac a ddioddefodd ef trosoti; pa fodd y cyflawnodd y Ddeddf, ac yr aeth tan y gos­pedigaeth ddyledus am dy bechodau di, ac yn awr mae yn y nefoedd yn eiriol trosoti, trwy ei gyflwyno ei hun yn llawn-ddigonol Aberth iw Dâd am dy bechodau di. Oh meddwl ynot dy hun, beth a fuasai raid itti ddio­ddef am dy bechodau oni buasei iddo ef ddioddef am da­nynt. Beth a fuasit ti oni buasai iddo ef dy brynu di, sef caeth-was Satan a phentewyn vffern.

Yn enwedig bydded i'th enaid yn fynych fyfyrio ar y pethau gogoneddus y mae 'r Arglwydd yn eu cadw yn y nefoedd i'r rhai a'i gwas'naethant yma yn ddiragrithiol, [Page 106] ac a vfuddhânt i Efengyl Jesu Ghrist. O meddwl ynot dy hun mor fendigedig a fŷdd, byw yn gweled ac yn mwyn­hâu Duw ei hun, gar bron pa vn y mae llawnder o la­wenydd, ac ar ddeheulaw pa vn y mae digrifwch yn dragywydd. Fel y gallech ddyfod i fynu i'r meddylfrŷd nefol hwn, cymmer y rheolau hyn.

1. Ymostwng yn ddiffuant am dy ddieithrwch mawr i Dduw ac i'r nefoedd, ac am itti mor anfynych osod dy galon ar y pe­thau vchod. Ac am yr amser a ddelo, cymmer ofal a phoen enwedigol i'th gynnefino dy hun i Fyfyrdodau ys­prydol a nefol, gan fwydo dy enaid yn fynych mewn digrifwch nefol.

2. Pan gaffech dy Feddyliau wedi eu marchogaeth gan Ddiafol, a'u gyrru ymaith oddiwrth Dduw, derchafa dy galon trwy weddi wresog dwyfol atto ef, yr hwn yw Tâd ysprydo­edd, ac sydd yn arglwyddiaethu ar Gythreuliaid; ac er­fyn arno ef, fel trwy ei ganiattáad y goddefodd ef i'r yspryd aflan dy feddiannu, felly ar iddo orchymmyn iddo yn brysur ymadel â thi, fel y bo dy feddwl yn rhŷdd iw waith ei hun. Oblegid efe yn vnig a ddichon fwrw i lawr ddych'mygion, a phôb vchder sydd yn ymgodi yn erbyn gwybodaeth Dduw, a cháethiwo pob meddwl tan vfudd-dod i Ghrist, 2 Cor. 10.5.

3. Gweithia dy galon i berffaith ffieiddio pôb meddwl ofer annuwiol; fel y gallech ddywedyd gyd â Dafydd, Meddyli­au ofer a gaséais, Psal. 119.113. Hyn a fywhâ dy fwriad duwiol, ac a'th wneiff yn fwy gwiliadwrus yn eu herbyn am yr amser a ddelo, ac i osod allan dy holl nerth iw gyrru hwynt ymaith; fel er iddynt godi yn dy galon, ni chânt mor llettéua yno. A gwybydd hyn i'th gyssur, am y Meddyliau ofer annuwiol yr wyti o'th galon yn eu cashâu a'u ffieiddio, na roddir hwynt yn dy erbyn gan Dduw a'r ddydd mawr y cyfrif.

4. Cais ysprydoli pôb peth yr ymdrinech ag ef oddiallan, trwy godi myfyrdodau nefol oddiwrtho. Nid oes vn creadur a weli, na dim yn digwydd itti, ond ti a elli wneuthur rhyw ddefnydd da ysprydol o hono. Megis y sugna 'r wenynen fêl o bôb blodeuyn; felly y gelli di­thau dynnu allan feddyliau ysprydol sanctaidd oddiwrth [Page 107] bob damwain a digwyddiad; yr hyn fydd yn fôdd en­wedigol i ragflaenu y diafol a'r Trachwant, ac i gadw allan yr oferedd ar anwiredd, a fyddai amgen yn llenwi dy ben a'th galon.

Hyn a fydd yn dy gadw di yn odiaeth oddiwrth y pe­chod, oblegid fe geidw 'r galon mewn gwaith. Pan gymmerer y galon i fynu â phethau gwell, nid oes gan­ddi mor hamdden i wrando ar Demtasiwnau: dim ham­dden i fôd yn ysgafn ac yn nwyfus, yn Fydol neu yn swydd-ymgeisiol. Pan ŷm yn segur ac heb feddyliau am Dduw, ni fyddwn siccr i gael ein blino â meddyliau dry­gionus; tra bo'm ni mewn rhyw orchwyl da, yr ydym yn ddiogel. Pan fo 'r llestr yn llawn ni ellir rhoi ynddo ddim ychwaneg: A phan yw 'r galon yn llawn o'r ne­foedd, nid oes mor lle i'r Ddaiar, ac oferedd. Beth yw 'r achos fôd calonnau y rhan fwyaf o ddynion yn llawn o feddyliau trythyll a drygionus, ond oblegid nad yw Duw yn eu holl feddyliau?

VIII. Dledswydd arall enwedigol yn perthyn i'r rhai a Ail-anwyd, yw, Ceisio, yn arfer pôb modd daionus, far­weiddio holl gorph y pechod, a'i holl wyniau a'i chwantau; yn enwedig y rhai hynny yr ydym yn eu cael yn fwyaf eu rhwysg ynom. Mae gwîr farweiddiad yn ymestyn at y cwbl o be­chod, y Corph a'r aelodau, y gwreiddin a'r gangen; sef pôb trachwant pechadurus. Ni chyflawnir yn wîr hyd yr eithaf, tra fyddom fyw yma: fy meddwl yw, ni farwei­ddir ac ni ddestrywir felly mo'r pechod yma, fel na bo yn cael dim lle, nac yn gweithio yn ein calonnau: Etto fe ellir felly ei wanhâu a'i ddarostwng, fel y collo ei fy­wiogrwydd, ei rym a'i nerth ac y toddo ymaith fwyfwy. Er bôd llygredigaeth yn cadw meddiant ynom ni, wedi ein hail-eni. etto nid yw yn arglwyddaethu arnom ni; er ein bôd ni yn Gaethion i bechod, etto ni byddwn o'n bôdd yn weision iddo, i ymostwng o'n gwirfodd i Orchmyni­on pechod.

Cwest. Pa fodd y mae ini wybod fôd llygredigaeth wedi ei farweiddio ynom?

Atteb. Prŷd nad yw yn vnig yn cael ei gaethiwo a'i gadw rhag torri allan yn ôl ei arfer i bechodau gwei­thredol, ond hefyd y chwantau a'r cynhyrfiadau yn dy­fod [Page 108] fod oddiwrtho, fydd ofidus gennym; ie yr ydym yn eu casâu a'u ffieiddio, ac yn och'neidio tan eu baich hwynt: yr ydym yn gwilied yn eu herbyn, yn ymladd yn eu herbyn, gan wîr-ddymuno cael ymwared oddiwrthynt, a gweiddi allan gyd â'r Apostol, Ys truan o ddŷn wyfi, pwy a'm gwared i oddiwrth gorph pechod a llygredigaeth?

Er mwyn eich annog yn well i'r ddledswydd hon sydd mor anhawdd ac angenrheidiol, mi a ddangosaf,

  • 1. Rai Moddion trwy y rhai y cyflawnir.
  • 2. Pa sodd y mae ei chyflawni.

I. Y Moddion trwy y rhai y cyflawnir y gwaith hwn o Farweiddiad ynom, ydyw y rhai hyn,

1. Pan deimlech lygredigaeth yn gweithio ynot, ac yn dy gynhyrfu i'r drwg, yna cofia, a gosod yr ystyriaethau hyn at dy galon.

1. Ystyria fyrred mwyniant y pechod, a hŷd y gospedigaeth sy 'n canlyn, heb wîr a difrifol edifeirwch. Y naill am fu­nud awr, a'r llall yn dragwyddol. Nid yw 'r plesser ond byrr, ond y gospedigaeth sydd byth ac yn dragywydd. Poenau y Damnedig yn vffern ydynt ynddynt eu hunain yn ofidus iawn, vwch law yr hyn a ellir ei ddywedyd na'i feddwl: ond yr hyn sydd bennaf ac yn anfeídrol chwanegn ac eu maintioli hwynt, ydyw, eu bôd yn drag­wyddol. Hwy a boenir ddydd a nôs yn oes oesoedd, Datg. 20.10. Mat. 25.46. Oh pa ffoledd gan hynny ydyw, ie pa wall­gôf ynfyd tn hwnt i bob rhyfeddod, am fyrr-fwyniant y difyrrwch darfodedig, a'r bodlonrwydd methedig hwn, ein boddi ein hunain mewn llosgféydd tragwyddol! Oh mor ofnadwy yw meddwl am Dragwyddoldeb y fflammau poenedig hynny! lle y tybiai y damnedig eu hunain yn happus, pe caênt, wedi eu dioddef hwynt gymmaint o filoedd o flynyddoed ac sydd o dywod a'r lan y môr, neu o sêr yn y nefoedd, wedi hynny siccrwydd i fôd yn rhŷdd oddiwrthynt. Ond pan elo yr holl amser hwnnw heibio, ac y rhedo allan fyrddiwnau aneirif o flynyddo­edd ac oesoedd, maent eym mhelled o ddiweddu, a'r awr gyntaf y daethant iddynt. Pa'm gan hynny y pryni di môr ddrûd ychydig o ddigrifwch cnawdol ac anianol? Am sunudyn o blesser, rhuthro i drueni a gwae tragwyd­dol? [Page 109] Och tân vffern! pe danfonit yn fynych dy feddyli­liau yno, fe losgai i fynu dy chwantau, y rhai amgen a fyddant yn dan-wydd i losgi dy enaid!

2. Ystyria mai 'r ynfydrwydd eithaf gwaethaf a allai fôd ydyw bodloni dy chwantau pechadurus. Trwy hynny yr wyt ti 'n dewis dy ddigrifwch anianol, dy fodlonrwydd cnaw­dol, o flaen gogoniant Duw, llawenydd tragwyddol y nefoedd, a gwerthfawr waed Jesu Ghrist. Oh ynfydrwydd rhyfeddol! a ffolineb digymmar! wrth ba vn mae 'r An­gylion yn gwrido, a'r nefoedd a'r ddaiar yn synnu ac yn rhyfeddu.

3. Ystyria natur dwyllodrus y pechod, sydd yn dy ddenu â rhith ddigrifwch, bûdd, enw da, esmwythdra, a'r cy­fryw; ond yn y diwedd fo frâth fel sarph, ac a biga fel neidr, ac yno y cêi weled fel yr hudwyd ac y twyllwyd di. Y cwbl a dâl ef itti am yr holl lawenydd a adda­wodd yn dêg, ydyw Dychryn Cydwybod a phoenau v­ffernol: Colled yn lle ynnill, sef colli 'r nefoedd ac happusrwydd; cywilydd a gwradwydd yn lle parch, go­fid yn lle esmwythdra; Trallod ac ing fydd a'r bôb enaid dŷn a wnelo ddrwg. Fe achwynodd Jacob a'm dwyll La­ban yn ei gyflog: a pheth a feddyli di am dy gyflog, pan ddelo 'r diwrnod talu? Cyflog pechod yw marwolaeth. Oni ddywedi di y dydd hwnnw, Y Sarph a'm hudodd i, y pe­chod hwn a'm twyllodd i. Na fydd mor ynfyd, ac i gym­meryd gair y fâth Dwyllwr hynod; ymaith ag ef, cro­eshoelia ef, canys mae yn ei frŷd wneuthur itti niwed. Cymmer gyngor mewn amser, mor ofnadwy fydd, oni wneiff dim di yn bwyllog ond tân a brwmstan! Oni weli frâd y pechod, cyn y bo yn rhy-hwyr itti ddiangc rhagddo!

4. Pan deimlech lygredigaeth yn gweithio, ac yn cynhyrfu ynot, gan dy lithio i bechu, dwys-ystyria amryw ddioddefiadau a marwolaeth chwerw ein Jachawdr bendigedig Jesu Ghrist ar y Groes: o'r hyn ein pechodau ni oedd yr Achos. Dy­ma y rhai a bwysodd yn drwm ar ei enaid ef, ac a'i gwnaeth yn drîst iawn hyd angeu. Ymresymma fel hyn â thi dy hun; A dalodd Christ tros fy Mhrynedigaeth i ei werthfawroccaf waed, ac a werthafi fy enaid drachefn [Page 110] i bechod am y digrifwch cnawdol a'r budr elw hwn? Beth ydyw hyn ond ail-groeshoelio Arglwydd y bywyd? Canys gwybydd yn ddiau, mai cymmaint o bechodau a wnelych o'th fôdd ac yn hyfryd ewyllysgar, cymmaint a hynny o ddrain yr wyti etto yn [...]u plethu am ei ben ef; cymmaint o hoelion yr wyti etto yn eu gyrru iw ddw­ylo a'i draed ef; cymmaint o waywffyn yr wyt yn eu gwthio iw galon ef. Yn ddiau nid all na bo ystyriaeth ddifrifol o'r pethau hyn yn foddion enwedigol i'th osod ti yn galonnog ar y gwaith hwn o Farweiddiad.

5. Ystyria mor frâu a marwol wyt, yn barod i farw bôb munud; a gwa [...] itti os byddi farw cyn dy bechodau. Pa fodd y beiddi ruthro a'r dy chwantau, a mwyniant pechod, pan elli gael dy gippio ymaith yn ddisymmwth o dîr y rhai byw, a'th daflu i vffern, tra fŷch yn gwneuthur dy ddrygioni? Yno, pan fyddych di yn dy fendithio dy hun yn dy ddigrifwch, a'th wobr o anghyfiawnder, y gelli glywed y llais hwnnw, Oh ynfyd, y nôs hon y dygir dy e­naid oddiarnat.

II. Modd arall, o'n rhan ni iw arfer a'i gyflawni o ran Marweiddio ein chwantau pechadurus, ydyw, Dyfal­ochelyd holl achosion pechod, a phrosedigaethau iddo. Y nêb a gellweirio ag achosion pechod, mae 'n enbyd iddo syr­thio. Nid yw 'r nêb a feiddia ruthro i demtasiwnau pechod, neppell oddiwrth ei wneuthur ef. Dal sulw gan hynny pa achosion a chyfléodd, pa foddion a chwmpeini a roesant gymmorth i'th chwant di iw roddi ei hun allan, a go­chel hwynt megis vffern. Rhan o wîr ddoethineb yspry­dol yw hyn, gweled pechod o hirbell yn ei achosion, a thrwy ochel y naill i ragflaenu 'r llall.

III. Dal sulw ar y gweithrediad cyntaf o Lygredigaeth yn dy galon, a lletha ef yn ddiwyd, a nâd iddo gael y maes yn y lleiaf. Na ddywed, hyd yma y ceiff ef fyned, a dim pel­lach. Dyro fodfedd i bechod, ac yn fuan fe fyn lathen, fel y mae 'r ddihareb. Meddyliau aflan yn fynych a gynnyddasant i aflendid oddiallan, a godineb gweithredol, Mat. 15.19. O'r galon, medd ein Iachawdr, y mae meddy­liau drwg yn dyfod allan, torr-priodasau, godinebau, &c. Gan nodi fôd meddyliau drŵg yn achos o aflendid yn y fu­chedd.

[Page 111]Cyn gynted gan hynny ac y codo vn meddwl aflan neu afreolus yn dy galon, bwrw ef ymaith allan o law.

IV. Cynhyrfa ynot dy hunan ddymuniadau difrifol am gael marwhau a darostwng dy drachwantau: Pan ddymuni un­waith yn ddifrifol ddestryw dy anwireddau, mae gobaith na byddant hwy hîr oesog; canys y mae 'r Arglwydd yn addaw i gyflawni dymuniad y rhai a'i hofnant ef, gwren­dy ar [...]u ochneidiau, ac efe a'u gwared hwynt, Psal. 145.19.

V. Achwyn wrth Dduw o herwydd grym dy chwantau, a chais trwy weddi nerth oddiwrtho ef yn eu herbyn. Oddiwrth Dduw yn vnig mae 'n rhaid ini gael nerth; ei nerth ef yn vnig a all ein cymmorth ni yn erbyn nerth y pechod. A gweddi yw 'r Modd i gael hynny.

VI. Dyro ffydd y Nghrist ar waith am farweiddio dy chwan­tau pechadurus, a'th lygredigaethau. Ir diben hwn,

1. Bydd deimladwy dy fôd ynot dy hun yn rhŷlêsg a gwann i ym [...]elyd â'th chwantau. Rhaid itti anobeithio o'th nerth dy hun, cyn y cymmerech afael ar nerth yr Arglwydd; Rhaid yw dy guro di allan o'th ymddiried ynot dy hu­nan, cyn itti fyned at Ghrist. Pan welych dy fôd yn wann, yna y troi i'r Ammddeffynfa gadarn.

2. Crêd fôd Christ yn abl i'th gymmorth a'th waredu. Yn­ddo ef y mae pôb llawnder yn trigo. Fel y mae ganddo lawn­der o râs yn ei galon, felly mae llawnder o rym yn ei law, trwy yr hyn y dichon efe lâdd dy holl elynion. Pechod sydd alluog, ond Christ sydd alluoccach. Mae diafol yn grŷf, ond Christ yn gryfach nag ef.

3. Crêd fôd Christ fel yn abl, felly yn ewyllysgar i ddaro­stwng dy holl anwireddau. Dy elynion di sydd elynion iddo ef, ac efe a fyn eu marwolaeth: Os credadyn wyt ti, efe a fachníodd trosot. Efe ydyw dy Archoffeiriad mawr, a'th Arglwydd a'th Frenin; ac ar hyn mae fe yn rhwym nid yn vnig trwy ei dosturi a'i drugarogrwydd, ond he­fyd trwy ei swydd a'i berthynas i dosturio wrthit, ac i'th waredu: Ni bydd efe anffyddlon iw ymddiried, nac yn fyddar iw ymscaroedd ei hun, y rhai sy 'en erfyn arno i'th achub a'th waredu.

[Page 112]4. Bwrw dy hun trwy ffydd ar Jesu Ghrist, pwysa ar ei rym a'i ddaioni ef am gymmorth a nerth. Yr vn modd y mae yma o ran grym Christ, ac o ran ei Addewidion ef. Megis rhoi ein pŵys a'n goglud ar ei Addewidion ef yn amser perigl a chyfyngder, sydd yn eu gwneuthur hwynt yn eiddom ni; Felly rhoi ein pŵys a'n goglud ar rym Christ i'n cymmorth a'n cynnal ni, sydd yn ei wneuthur yn eiddo ni.

5. Disgwyl trwy ffydd ar Ghrist a'm gymmorth ac ymwared yn erbyn gweithrediad a chynhyrfiad dy lygredigaethau. Er na ddaw cymmorth ond yn araf oddiwrtho ef, etto disgwyl am dano, canys fo ddaw yn siccr ddiameu yn yr amser mwyaf tymmhoredd. Trwy hyn y rhôi di rwym ar Ghrist i ymddangos yn gymmorth itti. Canys fel nad oes dim yn rhwymo calon dŷn i fôd yn gynnorthwyol i a­rall, mwy nag ymddiried iddo, a disgwyl help oddiwrtho; Felly yn ddiau derchafu dy galon i ddisgwyl help oddiwrth Ghrist, a fydd yn rhwymedigaeth fawr arno ef i roddi itti gymmorth cyfattebol.

Pan iacháodd Ghrist lawer o'u clefydau a'u doluriau corphorol, pan oedd efe ar y ddaiar, yr ydym yn cael fôd yr iechyd hwnnw yn wastad yn dyfod iddynt yn ôl eu ffydd. A pheth oedd eu ffydd hwynt? Hwy a greda­sant fôd Christ yn abl ac yn ewyllysgar iw iachâu, ac ar hynny a aethant atto ef yn hyderus am iacháad, ac felly a dynnasant rinwedd gyfattebol oddiwrtho ef. Hyn a ell­wch chwi ei weled yn y wraig druan a fu tan y difer­lif gwaed ddeuddeng mlynedd, yr hon a ddaeth y tu ôl i Ghrist, ac a ddywedodd, Os câf i yn vnig ond cyffwrdd ag ymyl ei wîsg ef, iâch fyddaf. A Christ a attebodd iddi, Ha ferch, cymmer gyssur, dy ffydd a'th iachdodd. Hyn a scri­fennwyd, fel pôb 'Strythur arall, er addysg ini, i'n cy­farwyddo a'n dysgu ni, pa fôdd y mae ini ymdrîn ag ef i iachâu ein doluriau a'n clefydau ysprydol.

Oes ynot ryw ddiferlif o gybydd-dod bydol, o falch­der neu gyndynrwydd, o ffromder neu genfigen, neu 'r cyfryw yn rhedeg arna [...]? Ac a fynni dy iachâu oddi­wrthynt? Gwnâ fel y gwnaeth y wraig druan honno; Dôs at Ghrist, a gosod dy ffydd ar waith arno ef: Crêd [Page 113] ei rym a'i ewyllysgarwch ef, bydded i'th ffydd gyffwrdd ond ag ymyl ei wîsg ef, cymmer afael arno, bwrw dy hun ar ei waed a'i ymyscaroedd ef, disgwyl wrth ei ddrŵs ef, gan fwriadu na ddychwelech heb atteb gra­sol, ac yno gwêl ond hyn fydd ei atteb ef, Ha fâb, bydd gyssurus, maddeuwyd itti dy bechodau, bydd lân o'th holl ly­gredigaethau, dy ffydd a'th jachaodd.

Gwedi imi ddangos y Moddion trwy y rhai y cyflawnir gwaith Marweddiad; yr wyfi yn dyfod yn awr i ddan­gos y Modd y dylem ei gyflawni.

1. Rhaid i'n Marweiddiad fôd, ar frŷs, allan o law. De­chreu heddyw, dôd y fwyall yn ebrwydd ar wreiddin y prenniau hyn; a pha brŷd bynnag y caffech Ddiafol yn gweithio, ac yn chwythu marwor Trachwant, bydd mewn arfau ar frŷs, nâd i bechod gael amser i godi ei ben yn dy erbyn, gwrthwyneba ef yn ei gynhyrfiad a'i gych­wyniad cyntaf. Oedi yn hyn sydd beryglus iawn. Y trachwant a ellir a'r y cyntaf yn hawdd ei orchfygu, fe fydd anhawdd gwedi hynny ei gadw ef i lawr.

Pa'm na byddem mor gall am ein eneidiau, ac ydym am ein Cyrph? Pwy, pan dafler tân iw fynwes, neu iw Dŷ, na fwrw ef a'r frŷs allan, ac a'i diffydd? Gwae i'r ffyliaid hynny, y rhai a adawant y tân vffernol hwn yn llonydd, ac a gellweiriant gyhyd, hyd oni chaffo feistro­laeth arnynt. Chychwi y rhai y mae eich trachwantau, trwy eich esgeulustra eich hunain, wedi torri allan yn fflamm, ofnwch rhag ei bôd yn rhyhwyr eu diffoddi: ofnwch rhag i'r tân hwn, wedi ei esgeuluso gyhyd o amser, losgi bellach i waelod vffern.

Mae meddyliau ofer, drŵg, trythyll yn hâd drwg wedi ei hâu yn ein calonnau ni gan ein gelyn Diafol, y rhai os gadewir hwynt yn llonydd, a dyfant yn ddiarwybod yn gyntaf i eginin, yno i dwysen ac felly a ddŵg allan gynhaiaf trîst o anwiredd a digofaint. Ac am hynny y peth doethaf a allwn ni ei wneuthur, ydyw, cyn gynted ac yr hâuer hwynt; eu chwynnu hwynt allan yn fuan, a'u tynnu i fynu erbyn y gwraidd. I'r hyn y cyttuna hynny a ddywed vn o'r Hynafiaid, Ni ddylem ni oddef i'r beiau cnawdol hynny dyfu a chynnyddu, ond yn hytrach eu de­strywio [Page 114] hwynt yn eu dechreuad cyntaf. Vitia corporis non sunt sinenda coalescere, sed in exordio statim enecanda sunt, Hilar. in Psal. 36.

2. Rhaid i'n Marweiddiad ni fôd yn rhwydd ac yn ewyllys­gar, ac nid ar gymmell, ac o'n hanfodd. Mae 'r morriwr mewn tymestl yn taflu ymaith ei dda, o herwydd na fei­ddia eu cadw hwynt yn hwy, ond etto mae ei galon ef yn myned ar eu hôl hwynt. A dyma holl farweiddiad y rhan fwyaf, hwy a daflant ymaith eu pechodau, am na lyfasant ddim amgen. Yno yn vnig yr ydym yn gy­wir ac yn ffyddlon yn y gwaith hwn, pan yw ein ca­lonnau yn gyntaf yn yr holl wrth-ossod a wnawn yn erbyn ein pechodau; pan weddíom yn galonnog yn eu herbyn; pan wiliom, ac ymaelom, ac ymdrechom ac y gwrthwynebom hwynt â'n holl galonnau; pan fo ein he­neidiau yn mawr-chwennych weled gwaed ein Trach­wantau; a phe bai bossibl y gallem yn ddiogel, etto ni oddefai ein câs arnynt, iddynt syw. Tebyg y gwnâ y rhe'ini ryw beth o ddifri yn erbyn pechod, y rhai y bo eu calonnau yn gyntaf yn gosod arnynt.

3. Rhaid i'n Marweiddiad fôd yn hollawl ac yn llwyr­gwbl, yn cyrrhaeddyd ein holl chwantau pechadurus, â bwriad difrifol ynom, na oddefom ynom ein hunain vn pechod a wyppom ni oddiwrtho. Canys siccr yw na all gwîr Farweiddiad fôd yno lle bo bwriad bodlonus ew­yllysgar i barhâu yn gwneuthur neb rhyw bechod a wyp­per oddiwrtho. Am hynny mae 'r Prophwyd Dafydd, i ddangos gwirionedd ei farweiddiad, yn dywedyd, Mi am ymgedwais, nid rhag vn neu ddâu, ond rhag pôb llwybr drŵg, Psal. 119.101. Nid oedd ef o'i fôdd yn cŷd-ddŵyn ag ef ei hun mewn vn mâth ar bechod, gan wybod yn dda fôd pob mâth ar bechod yn drosseddiad y Ddeddf. Y ddau air hyn, [...] ac [...] pechod a throssedd, ydynt gyd-gyfnewidiol a'u gilydd. Pob vn ac sydd yn gw­neuthur pechod, medd Ioan y Disgybl anwyl, Sydd hefyd yn gwneuthur anghyfraith, oblegid anghyfraith yw pechod. 1 Ioan. 3.4. Ie pôb pechod, ac felly mae yn ein gwneuthur ni yn euog o ddigofaint Duw, ac yn ein gosod tan bob barne­digaeth a phlâ yn y bŷd hwn, a damnedigaeth dragwy­ddol [Page 115] yn y bŷd a ddaw. Ni arbed Duw yr enaid hwnnw, a fyn arbed iddo yr vn o'i bechodau. Y nêb a fynno arbed 'r vn o'i bechodau, a fynnai arbed vn arall ac vn arall, pan was'naethai ei drô ef. Y nêb ni fynno y cwbl o Ghrist, ni fynn mewn gwirionedd ddim o hono. A'r nêb ni fynno ei ryddhâu oddiwrth bôb pechod, nid oes ganddo ddim meddwl pûr iw ryddhâu oddiwrth yr vn o ho­nynt.

Fe fynn Christ y cwbl, neu ni fynn ef ddim; rhaid ini wneuthur pôb dledswydd, neu cystal ini na wnelom yr vn; rhaid ini ymadel â phôb pechod, neu cystal ini ga­dw'r cwbl. A elli di ymadel â phob pechod onid vn? rhaid i hwnnw fyned hefyd, neu dy fywyd a eiff am da­no ef. Oh fy nghyfaill, gosod dy hun yn erbyn pôb pe­chod, mawr a bychan, amlwg a dirgel, cnawdol ac ys­prydol. Gosod dy hun yn eu herbyn yn galonnog, bydd ewyllysgar i lwyddo ac i orchfygu, a gosod arnynt yn brysur, nâd i vn pechod fyw ddiwrnod hwy, na chysgu vn noswaith etto yn llonydd gydâ thi: (yn vnig cofia fy­ned allan yn eu herbyn yn nerth yr Arglwydd) ac yno ni a'th gawn di yn fuan yn vn o'r eiddo Christ, wedi dy farweiddio, yr hwn, fel yr wyt yn farw gydâ Christ, a gêi yn ddiau fyw gydâ Christ, a theyrnasu gydâ Christ tros Dragwyddoldeb.

FINIS.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. Searching, reading, printing, or downloading EEBO-TCP texts is reserved for the authorized users of these project partner institutions. Permission must be granted for subsequent distribution, in print or electronically, of this EEBO-TCP Phase II text, in whole or in part.