CATECISM BYRR Sy'n Cynnwys sylfeini CREFYDD CRISTNOGAWL.
Printiedig yn y flwuddyn 1657.
GAn ryngu bodd ir Arglwydd oi ragluniaeth fyngosod i yn eich plith chwi, mi allaf mewn peth mesur o burdeb ddwedyd fod fynghalon am gweiddi bob amser yn deisyfied eich bod chwi oll yn gadwedig. mynych y daw yn fy meddwl pa gyfriw fauch o dramawr ofalon a gymerais i arnaf, a pha gyfrif manwl sydd raid i mi roi or modd y disgais i chwi. A phan ddarllenwyf yn yr 20 or Act 28. adnod, y cyngor difrifol doeth-gwbwl a roddes S. Paul ir rhai oeddynt yn gofalu am eneidiau yn y geiriau hyn: edrychwch gan hynnu arnoch eich hunain, ac ar yr holl braidd ar yr hwn y gosododd yr ysbryd glan chwi yn olygwyr i fugeilio Eglwys Dduw, &c. Ac or blaen yn yr 20 adnod, y mae yn adrodd wrth yr Ephesiaid. y modd nad attaliasai ef ddim or pethan buddiol heb eu mynegi vddynt ai dyscu ar gyhoedd ac o dy i dy, gan destiolaethu ir Iddewon ac ir Groegiaid hefyd, yr edifeirwch sydd tu ag at Dduw, ar Fydd sydd tu ag at ein Harglwydd Iesu Grist pan ddarllenwyf yr Scrythyrau yma, (meddaf) ni allaf fodloni mo hono fy hunan, heb wneuthur peth ychwaneg eich adeiladu nach addyscu yn vnig yn yr Eglwys.
Gan ystyried, am hynny wrthyf fy hunan, mae anwybodaeth yw r achos a bair i laweroedd, fyned bendramwnwgl i golledigaeth dragywydd, ac mai eisiau gwybodaeth a wna i liaws o ddynion fyned yn golledig, mi dybiais y byddai fuddiol a lleshawl eich eneidiau chwi gymeryd o hono i beth poen ich dwyn chwi yn adnabyddus (yn y modd byrraf y medrwn) ar [Page 2] pyngciau mwyaf angenrheidiol or Grefydd Gristianogawl, ac ar prif fannau ar seiliau hynny or gwirionedd ar yr hwn y mae bywyd a marwolaeth yn sefyll; gosod yr hyn ar y gorau, yw gorchwyl beunyddol y gwir Gristion da megis felly na byddo trueni tragywyddol yr un och eneidiau chwi, iw rhoi yn fynghyfrif i.
Y llawrodd ferr hon yr anrhegaf chwi ag i hi, a gynnillais ac a dynnais allan gan mwyaf o wyddorion a Chatechismau eraill gan gymeryd yr hyn a dybiais i fod yn egluraf ac yn fyrraf, a chwanegu atti yr hyn a welais i yn gymhwysaf i chwi iw gredu ac iw arferu. yr attebion a blethwyd yn y cyfriw fyrdra o bwrbas. Mal y dichon dyn or cof gwannaf ei dwyn ymaith yn feddylgar. A hwy a fyddant yn ddiescusonol yr rhai ni ymegniant i ddyscu yr hyn a gair a chyn lleied o boen ac etto sydd mor fuddiol yn gyfaddas vddynt. Yn y diwedd mi roddais ddwy weddi yn ychwaneg, vn ir borau ar llall i brydnawn; gan daer erfynied arnoch eu harfer hwynt beunydd yn eich teulueodd Coeliwch fi, ni fyddwch chwi colledwyr or amser a draelioch yngwasaneth Duw. hen ddihareb wir yw gweddi ac ebran ni luddia r daith, neu nid rhwystr yw offeren, medd yr hen bobl. yr wyf yn hysbys y cewch chwi fendith Duw yn helaethach ar eich amcanion a gorchwylion bydol os byddwch bur a dianwadal yn hyn o arferion.
Ac yr awrhon (gymydogion anwyl) mi attolygaf i chwi ystyrried eich bod chwi a minnau yn myned yn ddidaring at orseddfainc barn Crist, yno y rhaid i mi roddi cyfrif pa fodd y dyscais i chwi a chwithau pa fodd y dysgasoch, an dauoedd pa fodd yr ufuddhausom ac yr arferasom y gwirionedd a wnaethbwyd yn adnabyddus i ni, mi attolygaf i chwi gan hynny na fwriwch yn ofer ac na thraeliwch mor darn sydd yn ol och einioes mewn [Page 3] anwybodaeth a bydol drallod. mi attolygaf i chwi ystyried pa wae tragywyddol sydd yn aros ar y gwyr hynny ar gwragedd yr rhai ydynt yn marw cyn vddynt wneuthur prif-orchwyl y bywyd ac sydd raid vddynt fyned gar bron brawdle barn Duw, cyn vddynt lanhau a phuro eu heneidiau o bob euogrwydd trwy wir edifeirwch a ffydd yngwaed Crist. Och fi fynghymdeithion daionys ystyriwch mi atttolygaf i chwi: os parhewch mewn cyflwr ac stat gnawdol anwybyddus, nid fyfi nag vn dyn yn fyw a eill roi cyssur ich enaid wrth ymadael.
Gadewch imi gan hynny yn ddifrifol ymbil a deisyf arnoch oll, os oes dim ofn Duw o flaen eich golygon, os gwaeth genych chwi beth a ddel och eneidiau gwerthfawr anfarwol, os dichon tragwyddoldeb y poenau hynny, yr rhai sydd rhaid ir holl droseddwyr diedifeiriol eu goddef yn ol hyn gynhyrfu dim arnoch chwi, gadewch i mi ddymuno arnoch ddysgu prifannau a Seiliau crefydd Gristianogawl yn vnion, a thrwyddi, ai dyscu hwynt ich plant ach gweision, mal na byddo trueni tragywydd yr vn o honynt iw roi yn eich erbyn chwi.
Mi ddweddaf y cwbl ar weddi ddifrifol hon at Dduw trosof fy hun a chwithau holl, ar i ni oll wenidog a phraidd ymegnio i rodio yn bur yn llwybrau Duw yma, mal y gallom fyw yn ei Deirnas nefol ar ol hyn. Amen.
Catecism byrr.
Bydded y geiriau hyn yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon.
Ac hyspysa hwynt ith plant, a chrybwyll am danynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y fford, a phan orweddych i lawr à phan gyfodych i fynu.
BEth ydym ni rwymedig yn bennaf iw adnabod?
Duw a ninnau ein hunain.
Ym mha le y mae r wybodaeth hon iw chael?
Yn yr Scrythur lan.
Pa fodd y mae i ni adnabod Duw?
1. Wrth ei anian. 2. ei briodoliaethau. 3. ai weithredoedd.
Pa beth yw Duw?
Yspryd, o berffeiddrwydd anherfynol.
Pa rifedi o Dduwiau sydd?
Vn Duw yn unig.
I ba nifer o bersonau y gwahanredir yr vn Duw hwn?
I dri, y Tad, y Mab, ar Yspryd glan.
Beth yw priodoliaethau Duw?
Rhagoriaethau a adroddir am Dduw i beri i ni ei ddirnad ef yn well.
A fedrwch chwi henwi yr un o honynt?
Tragwyddoldeb, ollalluogrwydd, doethineb, daioni, cyfiawnder, trugaredd.
Beth yw gweithredoedd Duw?
Creadigaeth, Rhagluniaeth.
Pa fodd y creodd Duw bethau yn y dechreuad?
E fe ai creodd hwynt o ddim mewn chwe diwrnod, oll yn dda iawn.
Ym mha fodd yr eglurir rhagluniaeth Duw?
Yn ymddiffyn ei greaduriaid ac yn eu llywodraethu hwynt.
Ym mha gyflwr y gwnaeth Duw ddyn ar y cyntaf.
Mewn stat sanctaidd a dedwyddol,
Pa beth yw ei gyflwr naturiol ef yr awrhon?
Tra gresynus.
Pa fodd y daeth dyn yn resynol?
Wrth bechu.
Oddiwrth bwy y daeth pechod gyntaf ir byd?
Oddiwrth anufudd-dod ein rhieni cyntaf yn bwyta y ffrwyth gwaharddedig.
Beth yw pechod?
Torriad cyfraith Dduw.
Pa sawl ryw sydd ar bechod?
Dechreuol, yr hyn yw llygredigaeth anian, a gweithredol yr hyn yw ffrwyth y llygredigaeth hwnnw.
Beth yw y ffrwythau hynny?
Drwg feddyliau, geiriau a gweithredoedd.
Pa fodd y danghosir hwynt yn eglur?
1. Wrth adael y daioni heb wneuthur.
2. Wrth wneuthur drwg.
3. Wrth wneuthur yr hyn sydd dda mewn modd drwg.
Beth a dynnodd pechod i lawr ar ddyn?
Pob math ar drueni yn y byd hwn, a thueddiad at farwolaeth a damnedigaeth.
Oes gallu digonol mewn dyn iw rydd-hau ei hun oi Stât resynol?
Nag oes.
Pa fodd gan hynny y geill dyn fod yn rhydd oddiwrthi?
Yn vnig trwy Iesu Grist.
Pa beth yw ef?
Duw a dyn mewn vn person.
Pa swyddau a gymerodd Crist arno er mwyn lleshâd i ni?
Tair swydd.
Pa rai ydynt.
1. Yr oedd ef yn offeiriad iw offrwm ei hun yn aberth tros ein Pechodau ni ac i gyfryngu trosom at ei Dad.
2. Yn brophwyd i ddadcuddio ewyllys ei dad i ni.
3. Yn frenin ein lywodraethu an ymddiffyn ni.
Beth ychwaneg a wnaeth Crist in prynedigaeth?
1. Ef a gyflawnodd gyflawnder y gyfraith.
1. Ef a ddioddefodd felldith y gyfraith.
Pa fodd yr ymddengys i Grist oddef melldith y gyfraith?
Trwy ei farwolaeth ar y Groes.
A ddarfu i Grist ei ryddhau oddwirth hynny?
Do, canys y trydydd dydd ef a gyfododd drachefu oddiwrth y meirw.
I ba le yr aeth yn ol ei adgyfodiad?
Ef a dderchafodd ir nefoedd, ac yno y mae yn eistedd ar ddeheulaw Duw Dad yn gyfryngwr trosom.
Beth a fynnir ganddynt hwy yr rhai a gant fod yn gadwedig trwy Grist.
Gwir edifeirwch a ffydd yn ei waed.
Beth yw edifeirwch?
Galaru o ddyfnder calon a thosturio am ein holl bechodau, a difrifol ymchwelyd oddiwrthynt at Dduw.
Pa fodd y caiff dyn wybod pa un a wna ai gwir edifarhau ai nad ydyw?
1. O bydd ef yn gorchfygu ei bechodau yn eglue.
2. Os bydd ef yn gystuddiol oddi fewn ac oi galon yn ddrwg ganddo eu gwneuthur hwynt.
3. Os ef a gasha ac a ffieiddia bob peth ar a wyppo ef fod yn bechod.
[Page 7]4. Os ofna ef wneuthur vnrhiw bechod a bod yn ofalus iw ochel.
5. Os arwain ef fywyd newydd.
Pa beth yw ffydd?
Rhoi ymddiried a goglyd yn vnig ar radol drugaredd Duw, a haeddedigae thau Crist am Iechydwrieth.
Pa fodd y geill dyn wybod pa vn a wna ai bod yn credu yn gadwedigol ai nad ydyw?
1. Os yw ei galon mewn meddwl vnion ac yn ymofidio am yr holl bechodau y gwyr ef ei fod yn euog o honynt.
2. Os gwel ef fod Crist yn anghenrhaid ollawl iddo.
3. Os yw yn hyderu ac yn ymddiried yn vnig ar drugaredd rhwyddrad ac haeddedigaethau Crist.
4. Os yw yn caru Crist vwchlaw pob peth.
5. Os yw ef yn ewyllyscar i vfuddhau i Grist yn gystal a chael ymwared ganddo.
Pa fodd y gwnair ffydd yn arferol?
Wrth Bregethiad y gair.
Pa fodd y cryffheir hi?
Trwy y Sacramentau.
Beth yw Sacrament?
Arwydd gweledig oddiallan, trwy yr hwn yr arwyddoceir Crist ai ddoniau, ac y rhoddir vddynt hwy yr rhai fyddant vnion gyfranogion o hono.
Pe sawl Sacrament sydd?
Dau Bedydd a Swpper yr Arglwydd.
Beth yw r deunydd pennaf o Fedydd?
I arwyddoccau golchi ymaith euogrwydd ein pechodau yngwaed Crist; pureiddio a sancteiddio ein anian, an dyfodiad ni i mewn i fod yn aelodau or eglwys weledig.
Beth yw r deunydd enwediccaf o Swpper yr Arglwydd?
I arwyddocau ac i gadw mewn coffadwriaeth farwolaeth a dioddefaint Crist, megis wrth hynny y byddo ein ffydd arno ef an rhadau eraill yn cael eu cryfhau.
Beth yw yr arwyddion oddiallan or Sacrament hon?
Bara a Gwin.
Beth y mae torriad y bara yn ei arwyddocau?
Ddarfod torri corph Crist ar y Groes trosom ni.
Beth tywallt y Gwin?
Ddarfod tywallt gwaed Crist tros faddeuant pechodau.
Pa radau enwedigol y mae Swpper yr Arglwydd yn erfyn yr arfer o honynt?
Tair o radau, sef Edifeirwch, ffydd, a chariad.
Pa beth a wna ordiniadau Duw yn ffwythlawn neu effeithiol?
Gweithrediad yr yspryd glan oddifewn.
Beth sydd raid i ni ei wneuthur i fwynhau cynnorthwy yr yspryd glân a holl fendithion rheidiol?
Rhaid i ni weddio ar Dduw yr hwn yw Rhoddwr pob rhodd ddaionus ac a addawodd ei yspryd glau ir rhai ai ceisiant ganddo ef.
Pa beth sydd raid i ni dalu yn ol am y trugareddau a gowsom?
Moliant i Dduw.
Beth a ddaw o gyrph dynion yn ol marwolaeth;
Hwynt hwy a gyfodant drachefn.
Beth a ddaw oi heneidiau?
Ni fyddan fyth farw.
A fydd cyffelyb stât i bawb yn ol y bywyd hwn?
Na fydd.
Ym mha le y bydd y Duwiol?
Mewn gogoniant nefol yn dragywydd.
Ym mha le bydd y drygionus ar anuwiol?
Ym mhoenau vffern byth bythol.
Boreuol weddi.
TRa-mawr tra-gogoneddus trugaroccaf Arglwydd Dduw, mawr wyt ar dy holl weithredoedd, a grasusol i bawb oll a alwant arnat ti mewn gwirionedd a phurdeb calon. Ti addewaist lle yr ymgyfarfyddai ddau neu dri yn dy enw di, y byddit ti yn eu canol hwynt; nyni dy greaduriaid truain anheilwng a chwenychwn mewn holl ostyngeiddrwydd offrwm i fynu ein boreuoll aberth ofoliant a diolch i ti, am ein ymddiffyn y nos aeth heibio rhag peryglon neweidiau a doluriau, ac am ein cyfodi ni y boran hwn mewn iechyd corph a digonoldeb meddwl ith wasanaethu di yn ein lleoedd neillduol an galwedigaethau yn yr rhain in gosodaist. O Arglwydd gwna i ni synnied yn oestad mor anheilwng ydym or lleiaf oth trugareddau, y mae yn anghenrhaid i ni gyffesu ein bod yn greaduriaid drygionus gwael a llygredig. Yn holl yrfa ein heinioes rhy escenlus a fuom tu ac attad ti; ac mewn llawer o bethau ith ddigiasom yn ddirfawr ac y pechasom yn greulon ith erbyn. Pe bai ti o Arglwydd yn ein gobrwyo ni yn ol ein pechodau, ni allwn ni sefyll gar dy fron di. Eithr tydi a fynegaist yn dy air, dy fod yn Dduw grasusol, a thrugarog yn maddeu anwiredd, troseddiad, a phechod, ar hwn ni ewyllysi farwolaeth pechadur, eithur yn hyrrach yn ewyl lysio iddo edifarhau a byw Arglwydd daionus gweithreda ym mhob vn on eneidiau ni y rhai ydym yma oth flaen di olwg eglur on pechodau ac edifeirwch o galon bur ddifrifol am danynt oll, mal y gallom eu dadwneuthur ai rhoi heibio oll drachefn cym mhelled ac y gallom bossibl, gan ymofidio [Page 10] yn ddiffuant i ni errioed eu gwneuthur, trwy eu cashau, eu ffieiddio, ai gochel hwynt, ac ymroi (trwy dy rad cynnorthwyol) i ymadael a hwynt a holl bechodau eraill rhagllaw. A chan darfod ini trwy ein pechodau wneuthur cam ath cyfiawnder ai fod yn llefain am ddialedd in herbyn, a chan weled na allwn roi bodlonrwydd ith fawrhydi dwywawl am y lleiaf on troseddiadau trwy unrhiw fodd a fedrom ni ei wneuthur: Arglwydd daionus dadcuddia i ni yn eglur ac yn effeithiol yr vnig ffordd i ddychwelyd yr hon a egoraist i ni yngwaed dy fab. Gwna i bob vn o honom weled ac ymglywed an angenoctid mawr am Iachawdwr; ar modd yr ydym mewn cyflwr colledig hebddo ef. O tynn ym mhlaen ein calonnau ni i ehedeg at dy anfeidrol drugaredd di a gwaed dy fab (gwaed yr hwn a dywalltwyd er maddeuant pechodau) ac i orphywys ac ymddiriaid yn hynny yn hollawl am gyflawn bardwn on holl anwireddau o ba ryw natur bynnac a fyddant: ni attolygwn i ti yn ostyngedig gad i Iesu Crist fod yn gwbl oll in heneidiau, yr hyn a fwriadaist ti y cai ef fod ir rhai a fyddant cadwedig ganddo. Bydded ei gyfiawnder ef in rhyddhau ni oddiwrth ein holl euogrwydd, trwy rinwedd ei gwbl ddigonol haeddedigaethau, a bydded ein hanian ni yn sancteiddol o waith ei lan ysyryd ef: bydded dy ddelw sanctaidd wedi ei hadnewyddu fwy fwy ynom beunyddol. Arglwydd daionus tywallt in meddyliau wybodaeth oth cwbl wirionedd cadwedigol a berthyn i ni ei gredu neu ei ymarfer. Taenella ddaioni in hewyllys, gwna ein calonnau yn dyner dirion, ostyngedig gariadol vfuddol ith ewyllys sanctaidd. ni attolygwn i ti gymedroli a thymeru yn vnion ein holl chwantau Mal na allom y dydd hwn nag vnrhiw ddydd on bywyd bechu yn ewyllyscar yn dy erbyn di.
Ac yn awr, O Arglwydd, gan weled mai dy fendith [Page 11] di yn vnig a wna vn i fyned mewn llwyddiant a hawddfydd, yn vfudd ni erfyniwn genit ein llwyddo ni y dydd hwn yn ein amcanion cyfreithlawn, ein gorchwylion an trallodau: Bendithia, O Arglwydd, ein mynediad allan an dyfodiad i mewn. Cadw ein eneidiau rhag pechu yn dy erbyn di, cadw ein cyrph rhag perigl a dolur, cadw ein hannedd rhag drygioni a thrachineb. Bendithia ni, O Arglwydd, yn galonnawg (ni attolygwn i ti ar holl rai a berthunant i ni: A dwg ni eu gyd (os dy ewyllys sanctaidd yw) mewn tangneddyf a diogelwch i ddiwedd y dydd hwn, mal y gallo y pryd hynny ein eneidiau fendithio a moli dy enw sanctaidd. A hyn oll yn ostyngedig a erfynniwn gyd ath cwbl drugareddau angenrheidiol ir holl Ecclwys yn gyffredin, neu ir genedlaeth hon yn neullduol, neu ir rhai ydynt mewn vnrhiw gyfyngder neu galedi, a thros ein cefeillion an cynyseifiaid, yn vnig er mwyn haeddedigaethau ein Iachawdwr bendigedig Iesu Grist: yn enw yr hwn ai eiriau, y dibenwn ein gweddiau amherffaith, gan ddywedyd;
Ein tad yr hwn, &c.
Prydnawnol weddi.
TRa-mawr a thra-gogoneddus Arglwydd Dduw, an tra-rasusol Dad yn Iesu Grist, nyni dy weision truain anheilwng a ddeisyfiwn gyd ag holl vfudddod ddarostwng ein eneidiau an cyrph oth flaen di ac i offrwm i fynu ein prydnawnol aberth hon o foliant a diolch, am dy ragymweliad grasusol trosom y dydd hwn, am ein ymddiffyn rhag yr holl ddrygau ar peryglon a allai yn gyfion ddigwyddo i ni o achos ein pechodau. Tydi yn vnig, O Arglwydd, a wnei i ni aros mewn diogelwch, ni ath fendithiwn am barhau ein Iechyd i ni, ein heddwch an rhydd-dyd, ar vnion arfer on dealltwriaeth, synwyran, aelodau ath holl drugareddau eraill, y lleiaf or rhai hyn yr ydym ni yn wir anheilwng o honof o herwydd ein pechodau. ni attolygwn i ti chwanega at y cwbl eraill oth trugareddau galonnau diolchgar. Ac, O Dad grasusol pa ddelw bynnac (yn dy ddoethgall ragymweliad) y rhynga fodd i ti ein trefnu ni yn y byd hwn, ni attolygwn i ti dyro i ni gyflawn ollyngdod a maddeuant on holl bechodau yngwaed dy fab. Na ddyro nag oth ras i sancteiddio ein anian mal y gallom ein puro an glanhau ein hunain oddiwrth holl fudreddi y cnawd ar yspryd. Canniatta, O Arglwydd dy lan yspryd ni attolygwn i ti, mal y dysgom wadu ac ymwrthod a phob anuwioldeb o thrachwantau bydol, ac i fyw yn gysson sobr a duwiol yn y byd presennol hwn. Ac na ad mo honom ni i-ni ein hunain vn amser eithr arwain ni yn cestad beunydd ath ddoethineb nefol, a nertha ni trwy dy ras yn erbyn yr holl brofedigaethau a gyfarfyddom ni yma, rhag y byd, y [Page 13] cnawd, neu r cythrael; mal gan barhav mewn sancteiddrwydd a chyfiownder, y gallom or diwedd ddyfod i fyw gyd a thi mewn gogoniant yn dragywydd. Ac yn awr (Dad nefol) ni an gorchymynnwn ein hunain ith tadol ofal ath cadwraeth y nos hon. Cymer ofal Arglwydd am danom, gad i ni orwed i lawr yn dy gariad, ac na ad i euogrwydd yr vn on pechodau orwedd i lawr gyd a nyni. Cymoda ac heddycha a ni yn ollawl yngwaed dy fab, ac er ei fwyn ef Caniatta i ni lonyddwch cwsg a gorphywysdra y nos hon, cadw bob drwg neweidiol oddiwrth ein preswylfa a chyfod ni mewn iechyd corph ac enaid (ni attolygwn i ti) ith wasanaethu di yn ffyddlawn y dydd nesaf. Ar cwbl oll er mwyn Iesu Grist dy anwyl fab yn enw yr hwn y galwn ym mhellach arnat, gan ddywedyd.
Ein tad yr hwn wyt yn y nefoedd, sancteiddier dy enw, deued dy deirnas, bydded dy ewyllys ar y ddauar megis y mae yn y nefoedd, dyro i ni heddyw ein bara beunyddiol; a maddeu i ni ein dyledion mal y maddeuwn ni in dyledwyr. Ac nac arwain ni i brofedigaeth eithr gwared ni rhag drwg: canys ti biau r deirnas nerth ar gogoniant yn oes oesoedd. Amen.