MADRVDDYN Y DIFINYDDIAETH DIWEDDARAF: NEU Llyfr Saesoneg a elwir, The Marrow of Modern Divinity. Oblegid y Cyfammod o weithredoedd, a'r Cy­fammod o râs, a'u hymarfer hwy ill dau, a'u diweddion, dan yr hên Destament, a'r Testament Newydd.

Ym mha un, y dangosir yn eglur, pa cyn bellhed y mae dyn yn sefyll ar y gyfraith o rhan ei Cyfiawn­haad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn Ddeddfwr.

A pha cyn bellhed y mae arall yn bychanu'r gy­fraith o rhan Sancteiddiad, ac ar hynny yn haeddu ei alw yn Ddeddf-wrthwynebwr.

A'r llwybr canolig rhwng y ddau, yr hon â arwain i fywyd tragwyddol trwy Jesu Christ.

Mewn Cyd-ymddiddaniad rhwng.
  • Evangelista. Gwenidog yr Efengyl.
  • Nomista. Deddfwr, neu wr yn dal o ochor y cyfraith.
  • Antinomista. Deddf-wrthwynebwr, neu wr yn llwyr by­chanu 'r gyfraith.
  • Neophitus. Christion iefangc.

O waith E. F. yn y Saesneg.

O cyfiethiad J. E. i'r Gymraeg.

Men' mutire nefas, nec clam, nec cum scrobe, Nusquam? Hic tamen infodiam.

Printiedig yn Llundain gan T. Mabb a A. Coles, dros William Ballard, ag i cael ar werth yn i siop ef, dan lûn y Bibl' yn heol 'r ûd yn Ninas Bristol, 1651.

[...]

I'r ardderchoccaf Herberdiaid, y mwynaf Morgannaid, y bon­heddiccaf Kemysiaid, y gwir­lanaf Wiliemmaid ac eraill Pen­difigion o ty fewn i wlad Gwent, annerch yn yr Arglwydd Jesu Christ.

ER bod serch yr Arglwydd wedi ei osod tro hir ar hil Heber, a bod pawb eraill trwy 'r byd oll we­di eu caued allan or Egl­wys gweledig, etto ar ym­ddangosiad Christ Jesu yn y cnawd (ym mha un yr addawsei Duw y byddei holl. Cenedloedd y ddaiar yn wyn fydedig) efe a tynnwyd i lawr y mûr a wahanasei Gen. 12. 3. cyd rhwng yr Iddewon enwadedig, Gal. 3. 8. a'r Cenedloedd ddienwaededig, ac yr agor­wyd porth trugareddau Duw i dder­byn pawb oll o pa Cenedl bynnac y byddent, a'i hofnent ef, ac a weithredent cyfiawnder, Act. 10. 35. â chalonnau credadwy. [Page] Ac er hyspyssu hyn o ddedwydid cyffre­dinol, Luc. 1. 79. a ddigwyddasei i'r rhai a eiste­ddent mewn tywyllwch a chyscod angeu, Esa. 65. 1. heb na meddwl na gobaith o fod y fath oleuni cwmffwrddus mor agos iddynt, efe a ddanfonodd Christ ei Apostolion dewisiedig i ddyscu yr holl Cenedloedd yn eu iaith priawd, gan eu bedydd o hwy yn enw'r Tad a'r Mab, Mat. 28. 19, 20. a'r yspryd glan, a'u rhybyddio hwy i gadw pob peth ar a orchymmynnasei ef iddynt, ac i cyhoeddi maddeuant pe­chodau i pawb a credent ynddo ef. Ac er siccrhau gwirionedd cariad Duw trwy Christ Jesu tuag at y Cenhedloedd Act. 10. 43. efe a lanwyd yr Apostolion a'r Yspryd glan yn ol yr addewyd a wnelsei Christ iddynt cyn ei farwolaeth a hwy a lefa­rasant a thafodau eraill, Luc. 24. 49. hyd onid oedd pawb yn rhyfeddu, Act. 2. 4. 6. 7. 11. sef rhai ò pob gwlad tan y nefoedd, ei bod hwy yn clywed yr Apostolion, a hwythau yn Galilaeaid yn Ilefaru mawrion gweithredoedd Duw yn y iaith yn yr hon y ganesid hwy oll. Canys er tecced y buasei ei ymadroddion hwy, oni buasei 'r gwrandawyr o pob gwlad yn gwybod gwrym y llais, efe a ruasei yr llefurwyr a'r gwrandawyr yn Farbariaid y naill i'r llall. Ac er yr am­ser hwnnw o herwydd ysgryfennu gair [Page] yr Arglwydd yn y ddwy iaith odidog, sef yr Hebraeaeg a'r Groeg, ym mha wlad bynnac y pregetheid yr Ffengyl, cyn cynted ac y dechreuei 'r bobl ei flassu, a'i roesewi, hwy a ddymunent cael gair yr Arglwydd wedi ei droi iw iaith eu hunain, fal y gallei pawb weled yn eglur a'u llygaid, fel clywed a'u clu­stiau, pa beth oedd ewyllys yr Argl­wydd, hyd oni chyfieithiwd gair Duw o amser i amser ym mhob gwlad canm­wyaf. Ac am fod gair yr Arglwydd yn odywyll i'r anwybodus, yn ol atteb y Pendefig Aethiopiaid, Pa fodd y deallaf heb gyfarwyddwr? er mwyn cael siccr­ach wybodaeth o feddwl yr Arglwydd yn ei air, yr aeth yn hoff gan Ghristno­gion cael, heblaw y pregethau a clywent, yniadroddion eraill ac esponiadau a deongliadau ysprydol, gwenidogion yr Efengyl ar air yr Arglwydd wedi eu troi hefyd, a'u scrifennu ym mhob iaith, hyd onid yw 'r byd yn llawn o lyfrau dedwydd odid og cyfarwyddiol, (er bod y gelyn wedi hau hefyd ei efrau ymhlith y gwenith, ac wedi tannu llyfrau, ac ys­crifenniadau enbeidus yn gymmysc a'r rhai dedwydd. Eithr o holl wledydd y byd (hyd y gwn i) nid oes un cenedl mor ddicariad, a mor elyniaethus iw [Page] iaith ei hunan, ac yw 'r Cymro, er bod ein iaith ni yn haeddu cymmaint, o barch, o herwydd ei henaint a'i chyfoe­thogrwydd, ac yr haeddiei ieithiodd eraill, canys, fal y gwelwn ni beunydd, hwy nac yr elo na Chymro na Chym­raes i Lundain, neu i Caerloyw neu i un fann arall o Loeger, a dyscu ryw ychy­dig o saesneg, hwy a wadant eu gwlad a'u iaith eu hunain. Ac o'r Cymru car­trefol, ie ym mhlith y Pendefigion yschol­heigiaidd, ie ym mysc y Dyscawdwyr Eglwysig, braidd un o bwmtheg a fedr dda llen, ac yscrifennu Cymraeg. Ac o'r achos hyn y mae, fod lyfrau Cymraeg mor ymbell (canys ni welais i erioed uwch bump llyfr Cymraeg yn printie­dig) ie. a beth pe dywedwn, mai o achos anamled o lyfrau duwiol (fal o dys­cawdwyr ffyddlawn) y mae cyn fychaned o wir wybodaeth o ewyllys yr Argl­wydd ac o wres neu zêl iw ogoniant ef a'i air, a'i dû, a'i ordiniadau, a chym­maint o coel-crefyddau, a cham-dybiau, ac oerni yngwasanaeth Duw, ac o aug­hariad ac anghydfod ym mhlith y werin: canys pa amlaf y byddei 'r moddion, possiblach y fyddei 'r bobl iw dyscu, a'u hannog i pob daioni, ac ni ellir gwadu, nad ydyw darlleniad llyfrau rhin­weddol [Page] ysprydol ym mhob iaith (nessaf at gair yr Arglwydd) yn wasanaethgar i hyspyssu i'r bobl eu dyledswydd tuag at Dduw, a dynion. Ac yn awr, Pendefigion urddasol, maddenwch attolwg, fyn cwyn union yn erbyn fynghyd wlad-wyr â ddibrisiant ein hên mamiaitth a dan­goswch chwi adolwg, eich serch atti, urwy dderbyniad roesewgar o'm poen ewyllysgar'i, yn gyfieithiad o'r llyfnyn hwn, a than ei ddarllen ar eich arfod goreu â chalounau hawddgar, na dde­liwch ar fy anneiryf camsyniadau a'm hawl feiau, canys nid wyf fi (â anwydar lan (Hafren ym mro Gwent lle y mae 'r saesoniaith yn drech n'ar Brittanniaith) yn cymmeryd arnaf, na medraeth, nac hyspysrwydd yn y Cymraeg, eithr nid bychan yw fy serch at yr iaith a daioni fyn' gwlad, ac (er caued fyn' genau rhac ymarfer fyn' gwenidogaeth, i'm torr­calon mwyaf, er nad wyf fi, onid y gwa­elaf o filioedd, ae yn an-addas o'r uchel­swydd wenidogaidd, etto) am fod yn anhawdd gennif fi, ac yn tra enbeidus i mi, na llwyr ymadel o'm galwad, na bod ychwaith yn segur ynddi, y cym­merais i, hyn o boen ewyllysgar. Ma­ddeuwch, meddaf. Ybonheddigion glan­fwynion, fy ewndra, athan myned heibio [Page] fy meiau i, chwillwch ysprydol cynnwy­fiadau y llyfr hwn, dan roddi diolch i'r Arglwydd am pob cyfarwyddid, a phob annogiad i cynnal y gwir ffydd yn Ghrist Jesu, heb pa un ni welir, gan na gwreng na bonheddig, mo wyneb Duw: Ac yno megis y gwelo eich calonnau Christno­gaidd fod yn dda, ymddifynnwch fy amcanion diniwed, o ogoneddu enw Duw, o fywioccau fy mamiaith, ac o osod ar cyhoedd, er daioni pob un o'm cydwladwyr a'i dilyno, y llwybr canolig, â arwain pob darllenydd credadwy i fy­wyd tragwyddol trwy Jesu Christ, rhac athrodau y gwatwarus, a buan barn y cenfigennus, a chwi a'm rhwymwch, i fod yn awyddus i roesewi pob odfa i ymddangos fy hunan mewn diolchgar­wch a gostyngeiddrwydd, megis

Eich gwasanaethwr parodol ym mob gwaith yr Arglwydd Sion Tre-redyn.

Ir Darllenydd.

O Bydd un Cymro yn dymuno gwybod pa ham y rhwngodd bodd yr Andwr o'r llyfr hwn ei alw yn Madruddyn o'r Difinydda­eth diweddaraf, bydded hyspys gan­tho mae dymma 'r achos, am iddo, dan chwilio scrifenniadau'r gwir duwiol dedwydd enwau parhai sy yn canlyn, crynoi fel pe dywedwn yr hufen neu 'r mer y teccaf a'r goreuon o'u gwei­thredoedd hwy iw lyfr ymddidda­naidd hyn. Ac heb law hyn rhag rhwystro neb trwy 'r aml camsyniadau ym nihiintiad y Cymraeg, bydded hyspys gennit. Y Cymro mwyn fod rhagor i cant o fillteroedd rhwng fy nhrigfa i a'r Print-dû, ac nad oedd fal y gwelei wrth llythr y printiwr y ddaeth i'm llaw i, onid braidd un Cymro iw cael trwy holl Llundain i ddisgwyl ar y printiad ac i cyfarwy­ddo [Page] 'r gweithwyr Saesnyg ac i cywei­rio 'r aml ddyffygion a sy giw gennit, attolwg, oth fawr fwyneidddra fy ngymmeryd i yn escusodol a than my­ned yn yscafn heibio 'r camsynniadau llythrennol canys aml yn siccr yw 'r camosodiadau a'r diffygion o llythren­na ac o'r accentau rhai'n ( [...]) an­hepcor yn y Cymraeg, cofio yn ddian­wadal er dy well ystyriaeth cyweirio hyn o ddyffygion mwyaf sy yn canlyn, a thi a'm rhwymi i fod

Yn wasanaethwr parodol i ti ym mhob gorchwyl Christnogaidd Sion Tre-redyn.

Cof-restr henwau 'r gwyr dyscedig o weithredoedd pa rhai y tynnodd yr Awdwr llawer gwirionedd ac ai crynoodd iw lyft hwn.

A
  • Dr. Ames.
  • Mr. Ainsworth.
B
  • Mr. Beza.
  • Mr. Bullinger.
  • Mr. Bradford.
  • Mr. Bastingius.
  • Escob. Babington.
  • Mr. Ball.
  • Mr. Robert Bolton.
  • Mr. Sam. Bolton.
C
  • Mr. Calvin.
  • Mr. Culverwell.
  • Mr. Carlesse.
  • Mr. Cornwall.
D
  • Du Plesse.
  • Escob. Downam.
  • Dr. Deodate.
  • Mr. Dixon.
  • Mr. Dyke.
E
  • Mr. Elton.
F
  • Mr. Fox.
  • Mr. Frith.
  • Mr. Forbs.
G
  • Mr. Greenham.
  • Mr. Gibbons.
  • Mr. Tho. Goodwin.
  • Mr. Gray Jefengaf.
H
  • Escob. Hall.
  • Mr. Tho. Hooker.
L
  • Dr. Luther.
  • Mr. Lightfoot.
M
  • [Page]Wolfan. Musculus.
  • Peter Martyr.
  • Dr. Mayor.
  • Mr. Marshal.
O
  • Berdardin Ochin.
P
  • Mr. Perkins.
  • Dr. Preston.
R
  • Mr. Rollock.
  • Mr. Reynolds.
  • Mr. Rows.
S
  • Dr. Smith.
  • Dr. Sibs.
  • Mr. Slater.
T
  • Mr. Tindal.
  • Mr. Rob. Towne▪
V
  • Dr. Vrban.
  • Dr. Vrsinus.
  • Mr. Vaughan.
W
  • Dr. Willet.
  • Dr. Williams.
  • Mr. Wilson.
  • Mr. Ward.

Camsynniadau 'r Printiwr

Yn y ty dalen 3. ar 6. lin. darllenwch dadl. 4. 17. ac 5. 29. ydych chwi. 8. 7. yn ail. 9. 7. ammheuwyd. 13. 20. bawb. 21. 11. gwaeth neu mwy. ac yn y 25. lin. gymmeryd enw Duw. 31. 4. orfydd iw gweu­thur gan ryw Cyfrwngwr. 34. 19. eneidiau etho­ledig a ddywedir. 36. 8. diddanwch. 39. 9. megis ac y diogelwyd. 54. 19. Ni ddywedodd. 53. 8. athra­wiaethau ac ordiniadau eu Tadau, ac a anghofiwd eu cwymp. a'r 13. lin. hîr. a'r 27. gweddeiwrthint. 57. 10. nes yn cydieid. 61. 17. ddyfod at Christ. 69. 27. dangos fod Christ Jesu i ddyfod, ac i wnythyd di­gonol. 71. 6. wir rhaid a'u cyfodei.

MADRVDDIN DIFINYDDIAETH.
CYD-YMDDIDDANWYR. • Evangelista, Gwenidog yr yfengyl. , • Nomista, Deddfwr; neu, Gwr yn dal o ochor y gyfraith. , • Antinomista, Gwrthwynebwr y gy­fraith. , and • Neophytus, Christion ievangc. 

Nom.

YN ôl bod rhwngof fi, 'am cymmydog Neo­phitus, ryw ymddid­dan yn hwyr o amser an câr anwyl, an cyd­nabod Antinomista, y nghylch ryw bwngciau o crefydd, ym, mha rai yr anghydfyddei ef a nini ein dau, efe, or diwedd, a cyttunodd i sefyll wrth eich barn chwi ein Gwenidog: Am hynny yr ymewnasom ddyfod ein tri attoch, gan ddeisyf arnoch ein gwrando, a barnu yr ymrafael sy rhwn­gon.

Evan.
[Page 2]

Y mae i chwi eich tri mawr groesaw attaf, ag o gwelwch chwi fod yn dda clywed o honofi eich ymryso­nau, myfi a roddaf iwch fy uhyb i yn hawdd.

Nom.

Yn wir, Syr, y mae ymrysson rhwngtho ef a minneu yughylch llaw­eroedd o bwngciae, ond yn enwedig ynghylch y gyfraith, am fy mod i or tyb hyn, mai r gyfraith y ddylei fod yn rheol o fywyd ir credadyn, ond efe a daera na ddylei.

Neo.

Ac yn wir, Syr, yr ymrysson pennaf rhwngtho ef amineu yw hyn: ef am perswadie, i credu yn Ghrist, ag am cynghorei i lawenychu yn yr Ar­glwydd, ag i fyw yn orhoenus, ag yn ys­mala er cymmaint o lygredigaeth a gly­waf yn fy nghalon, ie er anuwioled y bo fy muchedd: Eithr nid allaf i mo hyn, am fy mod i yn credu mae an­weddus yw yr fath afreolaeth hwnnw i Gristion credadwy ac mae gweddeid­diach y fyddei i mi ofni, a galaru, ac ymofidio tros fy mhechodau.

Anti.

Gwir yw, Syr, yr ymrysson mwyaf rhwngof fi am car anwyl No­mista sydd ynghylch y gyfraith ac am hynny yn bennaf y daethom ni at­toch.

Evang.
[Page 3]

Mae'n gof gennif, ewyllysu o Paul yr Apostol ar i Titus ymogelyd chwestiwnau Ffol a chynnhennau, ag ym­rysonau ynghylch y gyfraith, Tit. 3. 9. am ou bod hwy yn anfuddiol ac yn ofer. Ac y mae arnaf ofn mae or fath hyn y fu eich tade chwi.

Nom.

Om rhan i Syr, yr wyf i or tyb hyn y dyle pob gwir Christion fod yn tra eiddigus er mwyn dduwiol gyfraith yr Arglwydd, a hynny yn awr, yn en­wedig, am fod cynnifer o Antinomiaid, neu wyrthwynebwyr y gyfraith yn ymosod eu hunain yn ei herbyn, ac yn daer ceisio iw llwyr diddymmu, ai diwreiddio allan or Eglwys: yn wir, Syr, yr wyf i or cred nad yw r fath ddynion afreolus yn deilwng i fyw mewn gwlad Ghristnogaidd.

Evan.

Na fyddwch, adolwn, fy ngh­mmydog Nomista mor boeth, ac na fyddeid yn ein plith ni y fath geiriau anghristnogaidd, 1 Cor. 4. 21. eithr ymrhe sym­mwn y naill ar lall, mewn cariad ag ac yspryd addfwynder, fel y gwedde i Ghristnogion: Gal. 4. 18. yr wyf yn addef gyd ar Apostol mai, da yw dwyn mawr serch mewn peth da yn wastadol. Ond etto y mae arnaf ofn fod achos imi ddywe­id am lawer Christion megis y dywe­dodd [Page 4] yr un Apostol oblegid yr Idde­won, Act. 21. 20. eu bod hwy yn dwyn zel ir gy­fraith, ie ac y mynnei rhai o honint fod yn Ddoctoriaid or gyfraith, ag etto heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd nac am ba bethau y maent yn taeru.

Nom.

Syr y mae yn ddiammeu gen­nif, fy mod i yn gwybod pa beth yr wyf yn dywedyd, ac am beth y taerwyf, pan y dywedwyf, ac y taerwyf mai sanctaidd gyfraith yr Arglwydd y ddylei fod yn rheol o fywyd ir credadyn, Ac ar hyn o wirionedd y gallwn i wystlo fy enaid.

Evan.

Ond dywedwch, wrthif, pa gyfraith ydech i yn ei ystyried.

Nom.

Pa gyfraith, Syr, y tebygech chwi fy mod i yn ei ystyried? A oes mwy o gyfreithiau nac un?

Evan.

Oes canys y mae coffadwriaeth yn y Testament newydd o tair ryw o gyfraith: Rhuf. 3. 27. sef Cyfraith weithredoedd Cyfraith Ffydd, Gal. 6. 2. a Chyfraith Christ A am hynny dywedwch, adolwn, am pa un or teir ryw y meddyliwch chwi, pan y dywettoch y dylei r gyfraith fod yn rheol o fywyd ir credadyn.

Nom.

Ni wni, Syr, un gwahaniaeth rhwngthynt ond hyn a wn i, mae cy­fraith [Page 5] y dec gorchymmyn, yr hon fyny­chaf a elwir yn gyfraith Moesawl, a ddylei fod yn rheol o fywyd ir creda­dyn.

Evan.

Je ond ef y ddywedir am y gy­fraith or deg orchymmyn neu r gyfraith moesawl, ei bod hi, naill ai fel deunydd o cyfraith weithredoedd, neu o gyfraith Christ: Ac am hynny dywedwch adolwn, am pa ryw or gyfraith y med­dyliwch ei bod yn ddyledus rheol o fywyd ir credadyn.

Nom.

Syr, y mae'n rhaid i mi addef nas gwn i beth yw eich ystyr chwi wrth hyn o amrywiaith, ond hyn a wn i yn hyspys, fod Duw yn peri i pob Ghristion llunio a threfnu ei fuchedd yn ol rheol y deg orchymmyn, ac o gwneiff ef felly, efe a ddichon ddisgwyl yn ol fendithion duw ar ei enaid, ai gorph, ac onis gwneiff, na ddisgwilied ef yn ol amgen na digofaint duw, ai felldith ar bob un or ddau.

Evan.

Dymma r cyfan wir, fy nghym­mydog Nomista, na ddylei gyfraith y deg orchymmyn, fel y mae yn ddeunydd o gyfraith weithredoedd, fod yn rheol o fywyd ir credadyn: eithr hyn yr ydech i wedi taeru, ac am hynny y cy­feiliornasoch yn hyn, oddiwrth y [Page 6] gwirionnedd. Ac weithian, fel y gwippof, fy anwyl Antinomista eich ystyr chwithau, pan y dywettoch na ddylei r gyfraith fod yn rheol o fywyd ir cre­dadyn, dywedwch, adolwn, pa cyfraith yr ydech i yn ei ystyried?

Anti.

Yr wyf fineu yn ystyried cy­fraith y deg orchymmyn.

Evan.

Je ond ym mha ystyr yr ydych chi yn cymmeryd y gyfraith hono, ai fel y mae hi yn ddefnyd o gyfraith weithredoedd, ynteu o gyfraith Christ?

Anti.

Yn wir Syr yr wyf fi yn credu nad yw r deg gochymmyn iw derbyn fel rheol o fuchedd credadyn mewn un ystyr amgen nai gilydd, o herwydd i Christ ei rhyddhau ef oddiwrth yr holl gyfraith.

Evan.

Je ond dymma r gwirionedd, mai dyledus yw fod cyfraith y deg or­chymmyn, fel y mai hi yn ddeunydd o gyfraith Christ, yn rheol o fywyd ir credadyn, o herwydd pa ham y cyfeili­ornasoch chwithau allan or gwirionedd am i chwi daeru yn erbyn hyn.

Nom.

Yn wir Syr, mae u rhaid i mi addef nas meddyliais i erioed am y fath amrywiaeth or gyfraith â coffair, fel y gweddei wrthych chwi, yn y Testament newydd.

Anti.
[Page 7]

Ni allaf inneu wadu, nad oeddwn i hyd yn awr yn anwybodus yn hyn o beth, o clywais i son, neu o meddy liais erioed am dano.

Evan.

Teg a da rhowch gennad i mi ddywedyd hyn wrthych eich dau, sef o gymmaint ac y delo dyn yn fyrr, o iawn wybodaeth o hyn o amry wiaeth or gy­fraith, byrr y daw ef o hynny o gael gwir cydnabyddiaeth o na duw, nai hunan: Ac am hynny y cynghorwn i, i chwi eich dau iw ystyried yn well rhacllaw.

Nom.

Os felly y mae, Syr, chwi a wnaech yn dda, in dyscu, an cyfarwyddo, fel y cyrrhaeddom at iawn ddeall amry­wiaeth y gyfraith: am hynny dangoswch i ni yn gyntaf, adolwn, pa beth y sydd iw ystyried wrth cyfraith weithredoedd.

Evan.

Y mae cyfraith weithredoedd, Rhuf. 3. 27. fel y mae hi yn gwrthwynebu cyfraith Ffydd, Rhuf. 3. 27. or vn ystyr, ac yw y cyfammod o weithredoedd: canys eglur yw, eber Musculus, gosod o yspryd duw y gair h wnnw, sydd yn ystyriae­thu Cyfammod neu Bargen yn lle Cy­fraith: fel y dealloch, nad yw cy­fraith gweithredoedd yn amgen, na pe­dwyedech y cyfammod o weithredoedd, yr hwn cyfammod y wnaeth duw ar dy­noliaeth [Page 8] oll yn Adda, cyn iddo gwympo o pa un dymma r swmm: sef, Gwna hyn, a by w y fyddi, Ac, Oni wnei di hyn gan farwy byddi farw. Levit. 18. 5. Yn hyn o cyfammod y cynnwysier tri pheth. Gen. 2. 17. Yn cyntaf, Gorchymmyn: Gwna hyn, ail: Addewid, Os gwnei byw y fiddi yn tryddi, Bygwythiad, Onis gwnei, gan farw y byddi farw. Dichymmygwch hyn (eber Musculus) yn eich calon llefaru o Dduw wrth Adda fel hyn: Wele, fel y byddoch di fyw mi a roddais i ti ddigonolrwydd ith porthi, byddeid holl Ffrwythau ar coedwydd Paradwys yn dy law di ath dewrs, iw bwytta pan y mynnoch di: Ond yn unig gwilia, syn­nia, ni archwaethoch di er dim o Ffrwyth yr un pren sydd yn nghanol yr ardd, o herwydd i mi iw gadw yn fy meddiant fy hun: Pren yw h wnnw o wybodaeth da, a drwg: Os archwaethi o Ffrwyth y pren hwnnw nid bywyd, eithr marwo­laeth y fydd ei fwyd ef i ti.

Nom.

Ond chwi a ddywedasoch Syr, y gelleid cymmeryd cyfraith y deg or­chymmyn neu r gyfraieth moesawl, fel deunydd or gyfraith weithredoedd, a chwi a ddywedasoch hefyd mai yr un yw r cyfraith weithredoedd ar cyfam­mod o weithredoedd: Ac wrth hyny [Page 9] yrwi yn gweled yn fy nhyb i, eich bod chwi yn dal, mae r cyfraith or deg or­chymmyn oedd y deunydd or cyfammod hwnnw o weithredoedd, a wnaeth Duw ar dynoliaeth oll yn Adda cyn iddo gwympo.

Evan.

Gwirionedd yw hyn, in amu­cheuwyd gan un deouglwr, na chy­fieithwr, na scrifennydd ar a ddarllenais i erioed. Ac yn wir y mae r cyfraith weithredoedd (fel y dywaid gwr dysce­dig) yn arwy ddocau y gyfraith moe­sawl: ac y mau r cyfraith moesawl oi cymmeryd yn briodol yn arwyddocau y cyfammod o weithredoedd.

Nom.

Ond pa ham, Syr, y gelwch chwi y gyfraith moesawl yn ddeunydd o cyfammod weithredoedd?

Evan.

Yrachos, pa ham y dewisa is i alw cyfraith y deg orchymmyn, neu r gyfraith moesawl, yn ddeunydd or cy­fammod o weithredoedd yn hytrach nar cyfammod ei hun, yw hyn, sef am fy mod i yn tybied, nadgweddus yw galw y defnydd or cyfammod, wrth yr enw o cyfammod, oddieithr gosod arno yn cyn­taf ei iawn Ffurf, hynny yw, oddieithr ir Arglwydd ei orchymmyn, ac i ddyn ym­rhwymo ei hunan i roi ufyddhaad hollawl iddo, ar ammod o naill ai [Page 10] bywyd, ai marwolaeth tragwyddol. Ac am hynny hyd oni osodeid y Ffurf arno nid allei fod yn cyfammod o weithre­doedd rhwng Duw ar dynoliaeth oll yn Adda. Yn lle siampl, chwi a wyddoch hyn: er fod wasanaeth-ddyn yn abl i wneuthur gwaith a gorchwyl tros feistr, ac er bod cyflog parod ym meddiant meistr, iw roddi i wasaneth-ddyn am ei waith, etto nid oes mor cyfammod rhwngthint, hyd oni chyttunont eich dau. Felly, er bod gan ddyn ar y cyntaf allu, ac abledd i roi perffeith a gwasta­dol ufydd-dod i bob un or deg orchym­myn, a chan yr Arglwydd Dduw, bywyd tragwyddol, yn barod iw roddi iddo, etto nid oedd un cyfammod rhwngthint, nes iddint hwy illdau cyttuno ar hynny.

Nom.

Je, ond chwi a wyddoch, Syr, nad oes un son trwy holl llyfr Genesis, oblegid hyn o gyfammod o weithre­doedd, yr hwn meddwch chwi a wanethpwyd â dyn ar y cyntaf.

Evan.

Er ni ddarllenir yn enwog y gair hwnnw Cyfammod rhwng Duw a dyn, etto ef y ceir yno ai cystadlo. Canys amlwg yw hyn, ir Arglwydd ddarparu, ac addo i Adda ddedwyddid tragwyd­dol, Gen. 2. 17. ac iddo alw am ufydd-dod perffeith [Page 11] oddiwrtho, fel y gweddei wrth ei fygwy­thiad. Canys o bai rhaid i ddyn farw am ei anufydd-dod y mae hynny yn hyspyssu yn ddi nag fod cyfammod rhwngtho ef a Duw, am fywyd ar ei usydd-dod.

Nom.

Je ond chwi a wyddoch, Syr, fod y gair Cyfammod yn arwyddocau echwynol addewid neu bargen neu rwlwm rhwng dau. Yn awr, er gosod hyn i lawr, addo or Arglwydd i ddyn i roddi iddo fywyd, os efe y fydde ufydd, etto nid oes gair son ar i ddyn addo y byddei ef ufydd i Dduw.

Evan.

Gwybyddwch hyn adolwn nad oedd Duw yn wastadol yn arfer rhwymo dyn ar eiriau cyhoeddus, eithr efe a wnele ei gyfammod fynychaf yn ddirgel trwy ryw printiadau fylweddol yn nghalon, a phortreiad y creadur, A dymma r arfer o ammodu rhwng duw a dyn ar y cyntaf: canys efe a addurnasei duw enaid y dyn a meddwl deallgar fel y gallei ef iawn gwahanu rhwng y da ar drwg, rhwng y cam ar cymmwys, ac heb law-hyn ef y roddwyd iw ewyllis ef uni­onder or mwyaf, ac yr oedd ei holl aelo­dau ai wyniau wedi eu ffur-fio yn dref­nys i roi ufyddhaad yn ddi-rhwystr Ar gwirionedd yw efe a ddiogelodd duw [Page 12] yn nghalon dyn doethineb, agwybodeth oi ewyllys ai weithrdeoedd, a gwirion­deb yn yr enaid trwyddi, ar fath gweddei­ddra yn ei swyddau oll fel niddichym­mygei r meddwl, ac ni chwennychei r galon, ac ni weithredei r corph amgen, nac y bai cymmeradwy yngolwg duw, hyd onid oedd dyn, wedi ei addurno ar fath rhinweddau yn abl i wasanethu duw yn berffeith.

Nom.

Je ond gwrandewch Syr, pa wedd y bai cyfraith y deg orch ymmyn yn ddeunydd o hyn o cyfammod o weithredoedd, a hwy heb eu scrifennu erioed fel y gwyddoch hyd yn amser Moses?

Evon.

Er ni scrifennwyd hwy hyd ddyddiau Moses ar Ilechau o cerrig, Gen. 1. 27. etto hwy a scrifennwyd yn nyddiau Adda ar lechau calon y dyn: canys yr ydym yn darllen darfod i Dduw creu ddyn ar ei ddelw ei hunan. Heb law hyn dysceidi­aith yw r deg orchymmyn cyttunedig ar tragwyddol doethineb ar cyfiawnder a oedd yn Nuw, ym mha rai y peintiodd ef ei naturiaeth ei hun, hyd onid yw, fel pe bai, yn amlygu gwir delw duw. Ac onid yw r Apostol yn dywedyd mai mewn gwybodaeth, a chyfiawnder, a gwir sancteiddrwydd y saifdelw duw. [Page 13] A pheth yw cyfiawnder, gwybodaeth a gwir sancteiddrwydd, amgen na pher­ffeithchad a ewblhaad o ddau lech y gy­fraith? Ac yn siccr ni iawn cyttunei (ebe wr dyscedig) a chyfiawnder duw, iddo wneuthur cyngrair a dyn ar am­mod o fywyd dduwiol a gweithredoedd daionus, a pherffaith, ufydd-dod iw cy­fraith ef, oni buasei iddo yn gyntaf creu dyn yn dduwiol ac yn burlan, a grefddu ei gyfraith yn ei galon, o pa le y delei y gweithredoedd da rheini.

Nom.

Ond etto nid allafi amgen, na rh yfeddu pam ni choffaodd duw ar wneythyd y cyfammod a dyn un gor­chymmyn onid hwnnw ynunig oblegid y ffrwyth gwarddedig.

Evan.

Na rhyfeddwch ronin o her­wydd amlygu holl hiliogaeth pechod wrth yr un ryw hwnnw, megis y mae r gyfraith honno a eglur hawyd Deut. 27. 26▪ Gal. 3. 10. yn dangos. Ac yn siccr yn 'r un gorchymmyn hwnnw y cynnwysid holl addoliad a gwasanaeth duw, fal ufydd-dod, Anrhydedd ymddi­ried Cariad, ac Ofn crefyddol ygnghyd ac ymgadwad hollawl oddiallan rhag pe­chod, a Pharch ystyreol i lafar duw. Je ac yn hyn hefyd y crynowyd ei gariad ac yn hynny ei holl ddyled iw cymmy­dog. [Page 14] Ac wrth hyn (fel y dywaid gwt dyscedig) efe a clybu Adda cymmaint yn yr ardd, ac y clywodd Israel yn Sinai, yn unig efe ai clybu ar fyrrach eiriau, ac heb trwst taranau.

Nom.

Ond, Syr, oni ddylysei ddyn rhoi ufydd dod hollawl i Dduw, pe buasei hyn o cyfammod heb ei wneu­thur erioed rhwnghtho ef a duw?

Evan.

Yr oedd hollawl a gwastadol ufydd-dod yn ddyledus oddiwrth ddyn i Dduw pe buasei duw heb addo dim erioed iddo, canys pan y creodd duw ddyn ar y cyntaf efe a cyfrannafei iddo oi odidowgrwydd ei hun, ac am hynny yr oedd cwlwm a rhwym yn gorwedd arno i ddichwelyd yn ol at dduw y cy­frannwr cyntaf, hyd onid oedd dyn, am ei fod ef yn creadur i dduw, wrth gyfraith y creadigaeth yn rhwy­medig i roi i dduw ei creawdwr llwyr ufydd-dod a gostyngeiddrwydd hollawl.

Nom.

Pa ham ynteu y gorfu ir Arglwydd gwneuthur cyfammod a dynt rwyaddo iddo fywyd, ai fygwth a marwolaeth?

Evan.

Yn Ile atteb i hyn, ystyriwch adolwn, yn gyntaf, fod y dyn wedi ei creu yn creadur rheswmmol ac am hynny oi ddeall ai bwyll ai fedraeth ei hunan yn abl i ddewis ei lwybr, ac am [Page 15] hynny yr oedd yn weddus gwneuthur y fath cyfammod o hono, fel y bai ef yn gwasanaethu duw mewn rheswmoldeb yn ol ei ordinhaad ei hun. Yn ail yr oedd yn weddus gwneuthur y fath cy­fammod o hono, er dangos fod arno yntef Arglwydd llywiodraethwl er cyfiwch, ac er gwyched tywysog yr oedd ef ar y ddaiar, o herwydd pa ham y go­sododd duw gospedigaeth ar dorriad oi orchymmyn, fel y cofieid dyn oi isel-radd ac nad oedd pob peth yn sefyll rhwngtho ef a duw, fel pe bae rhwng cyf­feillion cyd-radol. Yn drydydd, yr oedd yn weddus gwneuthur y fath cyfammod a dyn er dangos nad oedd dim yn ei helw ef ai feddiant oi personol, ai ddigyfrwug, ai priodol iawn ei hun, eithr cael o hono y cwbl oll o rad rhodd, a fwyneiddra yr Arylwydd. Wrth hyn y gwelwch chwi mai cyfammod union oedd hwnw a wnaeth duw oi frenhinol uchelfraint ar dynoliaeth oll yn Adda cyn iddo gwympo.

Nom.

Da iawn Syr, wrth hyn yr wyfyn deall creu o Dduw Adda, ac yn­ddo ef y dynoliaeth oll, yn drasanctaidd, ac yn llawn dduwioldeb.

Evan.

Je felly y crewyd ef, ac yn dra­ddedwydd hefyd, canys efe a osododd [Page 16] duw ef ym mharadwys, yn nghanol pob math o ddigrifwch a bod-dlondebau hyfryd, ym mha rai ym-wynhaodd ef cymmundeb tra-agos, a thra-hyfryd ai creawdwr, ger bron pa un y mai digo­nol rwydd a Llawenydd, ie ar ddeheu-law pa un y mae digryfwch yn dragywydd. Psal. 16. 11. Felly pe derbyniasei Adda o pren y bywyd, a pe bwyttasei ef oi ffrwyth, tra y safodd yn ei cyflwr o ddiniweidrwydd ym mlaen ei cwymp, efe a fuasei wedi ei ddiogelu yn sicr mewn cyflwr ddedwydd tros fyth, ar ni alla-seid oi hudo, nai faccellu byth gan Sathan, yn ol tyb rai, o wyr dyscedig, ac fel y gwedd wrth geiriau duw ei hun, Gen. 3. 22.

Nom.

Ond efe a weddei nad arhosodd Adda nemmawr yn y cyflwr ddedwyd dduwiol; hwnnw.

Evan.

Naddo yn wir, canys efe a an­ufyddhaodd i ddiargel orchymmyn duw, trwy fwytta or ffrwyth gwardde­dig, ag a aeth yn euog o torriad y cy­fammod.

Nom.

Je ond, pa wedd, Syr, y gallodd Adda, ac ynteu mor cyfan ei ddeall, a chyn rhwydded ei ewyllys i ddewis y da, fod mor anufydd i ddiargel or­chymmyn duw?

Evan.

Er ei fod efe ai ewyllys yn ddaio­nus, [Page 17] etto yr oedd eu daioni hwy yn ne­widiol, fel y gallei ef sefyll neu gwympo ar ei ddewis ei hunan.

Nom.

Pa ham ynteu nis creasei yr Arglwydd ef yn anghyfnewidiol? neu pa ham ni buasei yr Arglwydd felly yn ei rheoli ef yn y weithred, honno, fel ni fwyttasei or ffrwyth gwarddedig?

Evan.

Yr achos pa ham nis creodd yr Arglwydd ef yn angh yfnewidiol oedd hyn, am ei fod ef yn diswgl ar law dyn, iw vsydddhau o ddeall, rhwydd-ddewis, a nid trwy anghen ordeiniol neu tersy­niad hollawl. Ac heb law hyn, y dywe­daf, nad oedd yn rheswmmol, i rhwy­mo duw mor gaeth, i creu dyn, or cy­ffelib cyflwr, fel nis mynnei, neu ni alle ef pechu un amser, o herwydd fod yn newis duw ei creu, fel y mynnei ef, ond y mae r ystyr pa ham nis cynn haliodd efe ef ar nerth o barhaad disigl yn gorwedd ynghudd yn nirgel cyngor duw. Er hynny nyni a allwn fwrw hyn yn ddiammeu, fod cyflwr Adda or cyfryw, fel y parei ei fod ef yn ddi-escus, canys efe a dderbyniasei cymmaint oddiwrth yr Arglwydd hyd onid yw yn amlwg weithredu o hono ei ddistryw ei hunan oi wirfodd, o herwydd mar gweithred oedd hwnnw heb na dir na [Page 18] chymmell, o trosseddiad y gyfraith, dan gorchymmynion pa un y crewyd ef yn dra-union, a than felldith pa un yr oedd of mor anghen rheidioled a chyn uni­oned iw ddarostwng, os efe ai trosseddei. Canys megis yr oedd ef yn ddarostwnge­dig i ewyllys duw am ei fod ef yn Crea­dur iddo, felly yn oeddd ef cyn unioned iw ddarostwng tan far duw, am ei fod ef yn Garcharwr iddo, a hynny yn fwy o gymmaiut ac yr oedd y gorchymmyn yn tra-union, ai usyddhaad yn hawsach, ai trosseddiad yn anrheswmmolach ai co­spedigaeth yn siccrach.

Nom.

A gyfrifwyd pechod Adda, ai go­spedieth iw holl eppil ef?

Evan.

Cyfrifwyd yn wir, Rhuf. 5. 22. canys yn ol geiriaur Apostol: Marwolaeth a aeth ar bob dyn, yn gymmaint a phechu o bob, sef yn Adda; Ar llwyr wirionedd yw hyn: Adda ar ei gwymp a frwriodd i lawr ein holl naturiaeth dynol pen-dra­mwnwgl ir un ryw ddistryw, ac a foddodd ei holl eppil yn yr un agendor o annodwyddid, ac a cwympasei ef ei hunan iddo; Ar rheswm o hyn yw hyn, am nad oedd Adda wrth ordurchaad duw, nac i sefyll, nac i cwympo fel gwr unig nailltuol, ond fel dyn cyffredinol cyhoed dyn cynnyrcholi yr holl dynolia­eth [Page 19] a ddelei o hono. Am hynny fel ni rhad-roddwyd iddo ei hunan yn uuig yr holl ddewyddid honno, nar holl ddoniau nar gwaddolion rheini a gafodd ef gan dduw, ond ir dynoliaeth oll he­fyd: ac fal y gwnaethpwyd y cyfammod hwnnw a wnaed o hono ef, ar holl dy­noliaeth hefyd, felly, efe, trwy torri r cyfammod a collodd y cwbl, cyn, cystled trosom ni, a throsto ei hunan, megis y dei byniasei y cwbl trosom ni ai hunan.

Nom.

Wrth hyn, Syr, y gweddi, he­brwng or dy noliaelth oll i cydwr trwan trwy weithred Adda yn torri r cyfam­mod.

Evan.

Yr holl ddynoliaeth a dderby­niodd eniwed dau-ddyblyg trwy cwymp Adda, yn gyntaf, llwyr difuddiad oi holl ddaioui ddechreuol: Yn ail, paro­drwydd greddfol, naturial, i bob ryw o annnwioldeb, canys delw-lun duw yn ol pa un y crewyd y dyn, a ddilewyd yn ddioed ac yn Ile y doethineb, ar cyfia wn­der, ar gwir sancteiddrwyd a choddasei duw iddo ar y cyntaf, y daeth dallineb, auwybodoeth aflendid, twyll ac anghy­fiawnder: ar cyfan wir yw, hyn; ein na­triaeth dynol ni, a lwyr cyffeithiwd, ac a lygrwyd, ac a halogwyd, ac a anffur­fiwd, [Page 20] ac a annurddiwd, ac a wna­ethpwyd yn llesc ac yn farwol, ac yn ddrygionus, ac yn wenwyn-llyd ac yn wrthwyneb i dduw ie yn elyniaethus ac yn wrthrhyfelaidd yn ei erbyn ef: [...]yd onid yw gwir a ddwedodd Luther, derbyn o honem bawb oddiwrth Adda byn yn unig, ac nid dim amgen iw ymor­foleddu ynddo, sef fod pob plentyn a enir ir byd hwn yn hollawl dan awdurdod pechod, a marwolaeth a Satan, ar uffern a damnedigaeth tragwyddol. Nagr diwaelod (ebe Musculus) ac anchwili­adwy yw pwlltro pechod y dyn ym n haradwys.

Nom.

Eithr myfi a tebygwn Syr, mai peth rhyfeddol yw hyn, ir fath gamwedd bychan ac oedd bwyataad or ffrwyth gwaiddedig unwaith, bwrwr dynoliaeth oll yn ddiarbed ir fath agerdor o anne­dwyddid.

Evan.

Er bod byn o gamwedd yn dangos yn fechan ar y golwg cyntaf, etto o deliwch chwi sulw yn daer arno, efe a ddengys yn drossedd or mwyaf, o her­wydd cynnig wrth hynny o weithred, camwedd annoddefol: ir Aaglwyddd dduw: sef, yn gyntaf, ei awdwrdod ef ai oruchafiaeth yn ei holl lywiodraeth a anwrddiwd, yn ail ei farn, ai wirionedd, [Page 21] ai allu yn ei fygwythion unionaf a ddirmygwyd. Yn drydidd ei pur-lan ai berffaith ddelw-lun yn ol pa un y crewyd dyn mewn cyfiawnder a gwir sancteiddrydd, a llwyr ddilewyd. Yn pedwarydd, ei anrhydedd, yr hwn oedd ddyledus iddo oddiwrth y creadur trwy wasanaeth gweithredol gwastadol a aeth ar ymofyn, ac a anrheithiwd oddiarno. Nage, pa wedd y gwneid pechod gwnaeth, mwy na hwnuw, ym mha un y torrodd Adda ar unwaith pob un or deg gorchymmyn?

Nom.

A dorrodd ef, meddwch chwi, bob un or degorchymmyn: dango­swch i mi, erdolwg, pa wedd y gallei hyn fod?

Evan.

Do yn wir, nid adawodd ef un heb ei dorri, Efe a ddewisodd dduw arall iw hun, trwy ddilyn y cythrael.

Yn ail efe a addofodd, ac a wnaeth eulun oi fol ei hun ac yn ol ymadrodd yr Apostol, Ei Dduw ef oedd ei fol.

Yn drydydd, Efe a gymmerodd Dduw yn ofer, trwy pallu o credu iddo.

Yn pedwaryddd, Ni chadwodd ef or gorphywys, nar cyflwr ym mha un y gosododd duw ef,

Yn bummed: Efe a ddianrhydeddodd [Page 22] ei Dad, yr hwn oedd yn y nofoedd, ac am hynny ni ystynnwyd moi ddyddiau, yn y ddaiar, a roddodd yr Arglwydd ei dduw iddo ef.

Yn chweched: Efe a laddodd ei hunan, ai holl eppil. Yn seithfed: yr oedd ef, gwir yw, yn wyryf, oblegid ei wraig Efa, ond yn ei galon, ac ai lygaid efe a wnaeth odineb ysprydol.

Yn wythfed: Jos. 7. 1. Efe a ladrattaodd (fel Achan) y peth a nailltuasei duw iw hunan, fel ni chyffwrddeid o hono, ai ladrad ef o hyn sydd byth yn pery blin­der i Israel, sef ir holl fyd.

Yn nawfed: Efe a ddug cam-distio­laeth yn erbyn duw, trwy credu tyst y cythrael oi flaen ef. 2 Sam. 13. 14. Yn ddegfed: Efe a chwenychodd drwg-chwant, fel Amnon, yr hwn a barodd iddo golled oi fywyd hunan ac oi holl eppil. Yn awr, pwy bynnag a ystyriei pa fath nythlwyth o bechodau a wnaethpwyd ymma ar un­waith, ni all, nis cymmhellir ef, dan canfod, gyda Museulus, pa fath yw ei cyflwr, ym mhob ryw fodd, i clodfori iawn farn duw, a beio ar bechod ein rhieni cyntaf, dan ddywedyd oblegid pob dyn, yn ol geiriau r Prophwyd Hosea wrth Israel: Hos. 13. 9. O Irael tydi ach dini­striaist dy hun.

Nom.
[Page 23]

Je onid oedd bossibl Syr, i Adda iw ymwared ei hunau ai eppil allan o hyn o drueni blin, trwy adnewy­ddu yr un cyfammod â Duw, a chadw hwnnw rhagllaw?

Evan.

Oh nag oedd, Cyfammod annhybygol byth iw adnwyddu oedd y cy ammod o weithredoedd, yn ôl ei torri unwaith efe a ddarfu am y dyn tros fyth, o herwydd mae cyfammod ydoedd rhwng dau gar anwyl, eithr y dyn a aeth ar y cwymp yn elyn. Acheb law hyn, peth ammhossibl oedd i Adda cwblhau r ammodau, a ofynnei barn Duw yn ddifadden yn awr ar ei law ef, am ei fod ef weithian yn rhwymedig i dalu dled dan-ddyblyg sef yn gyntaf y dyled o iawn tros y pechod a wnelseu ef eusys, ac yn ail, y dyled o ufydd-dod hollawl gwastadol rhagllaw ac nid oedd yn ei allu ef, nai feddiant, dalu nag un, nar llall.

No.

Pa ham nad oedd ef abl i dalur deled o iawn tros ei bechod a wnelsei ef eusys?

Evan.

O herwydd fod y pechod hwnnw ô fwyttaad y ffrwyth gwardde­dig (canys oblegid hwnnw y sonniwf) yn erbyn y daioni annhersynol tragwy­ddol ac am hynny a haeddei cael iawn amchersynol, hynny yw, naill ai rhyw [Page 24] cospedigaeth amserol, ac a cystadlei a damnedigaeth tragwyddol, ai damnedi­gaeth dragywydd ei hunan. Ystyriwch yn awr creadur tersynol darfodedig oedd Adda, ac am hynny ni allei fod dim cystadlrwydd rhwng peth terfynol a pheth annherfynol fel nid oedd bossibl y gallei Adda wneuthur iawn trwy oddef un cospedigaeth amserol terfynol: a pe cymmerasei ef arno dalu iawn trwy oddef cospedigaeth tragwy­ddol, efe a fuasei fyth ac yn wastadol yn­ghylch wnythyd iawn ac etto heb allu byth oi orphen mwy nar damnedig sy yn uffern.

Nom.

A pham nad oedd Adda yn abl i dalu r dyled o usydd-dod hollawl gwa­stadol rhag llaw?

Evan.

O herwydd llwyr lleihau ar ei cwymp, ei holl abledd ai allu cyntaf i roi ufydd-dod: canys ei ddeall ef a lescawyd, ac a foddwyd mewn ty­wyllwch, ai ewyllys a aeth yn gyndyn ac yn ddiallu er dim i ewyllysu neu mynnei un daioni ai wyniau a lwyr wyrdrowyd a phob peth perthynassol i ddedwyddid yr enaid a ddiffoddwyd yndde ef, ac ynom ninnen hefyd, hyd onid aeth ef yn wann, ac yn ddihyder ie ac yn farw, ac am hyn­ny yn anabl i ymglymmu ei hunan i [Page 25] cwblhau ac i cadw r ammodau lleiaf hawsaf, Ar cyfan wir yw hyn: Ein tad Adda dan cwympo oddiwrth yr Ar­glwydd dduw, an drylliodd ni gid fal ei hunan yn chwilfryw ar y cwymp aned­wydd, fel nid adawyd, un mann cyfan, nac ynddo ei hunau, nac ynom ninneu addas i siccrhau y fath cyfammod arno. A hyn y tystio laethyf yr Apostol gan ddywedyd: yr ydym ni yn weiniaid: ac mewn mann arall: Rhuf. 5, 6. 8. 3. Y deddf y sy yn wann o herwydd y cnawd.

Nom.

Je ond Syr, oni allasei yr Ar­glwydd faddeu ei bechod i Adda heb ddisgwyl am iawn?

Evan.

Oh na allasei am fod Cyfia wn­der yn hanffodol yn Nuw, ac mai peth cyfiawn gyd a duw yw hyn, fod pob ryw drossedd yn derbyn ei daledigaeth dyledus union, ac od yw yn union, gwnyethyd taledigaeth, anghyfiownd ry fyddei roi maddeuant yn ddi-iawn. A pe maddeu­sei yr Arglwydd ei drossedd cyntaf iddo, ac felly, pe gosodaseid ef yn ei cyflwr cyntaf o caredigrwydd a chymdeithias gyd ar Arglwydd, etto am nad oedd yn ei allu ef i lwyr cadw, a chyflawni r gyfraith nid arhosasei ef roynn ynddo.

Nom.

Ai peth ammhossibl ydyw, un [Page 26] oi holl eppil ef cadw r cyfraith yn hollawl?

Evan.

Yn wir peth ammhossibl ydyw i un wir ddyn, ei cadw yn hollawl tra y fyddo ef byw ie pa bai ef wedi ei aileni: o her wydd fod y gyfraith yn gofyn ar law dyn ar iddo garu r Arylwydd ai holl galon, Levit. 6. 5. ai holl en aid ai hol nerth: Matt. 22. 37 eithr nid un dyn ar y ddaiar er duwioled y bo, nid yw yn cnawd cyn cystled ac un yspryd ymmhob rhann, ymmhob gwyn oi enaid, ym mhob aelod oi gorph, ac am hynny ni all ef garu yr Arglwydd yn berffeith: nage y mae r gyfraith yn gwardd pob gweddd trachwant dan gynghori nid yn unig, Na chyttunom i trachwantu, Exo. 20. 17 eithr hefyd, Na thrachwan­tom. Ac nid ydyw yn unig yn gor­chymmyn gosod cwlwm ar trachwant, eithr na byddo r fath peth ynom ni er dim. A phwy y sydd, ac a ddywaid yn y fath cyflwr a hyn: Mi a lanheais fy nghalon, Dihar. 20. 9 glan wyf oddiwrth pechod.

Anti.

Ystyriwch ymma ynteu, er­dolwg, fy anwyl Nomista, fel yr oedd yn ammhossibl i Adda ddichwelyd yn ol iw hen cyflwr dduwiol ddedwydd ym mha un y crewyd ef ar hy yr un ffordd ac yr aeth ef allan o hono; felly y mae iw ep­pil ef: Ar hyn y daw im cof y gair doeth [Page 27] hwnnw y ddywedodd gwr dyscedig: sef mae scrifen Adda oedd y gyfraith, pan y gwnaeth duw ef yn deiliad ar yr ardd yn Eden, ond pan y peidiodd ef o cadw r ammodau y scrifen efe a fforfettiodd ei hunan ai holl eppil hefyd. Efe a ddar­Ilenodd Duw iddo wers allan or gyfraith ym mlaen ei gwymp, fel y bai fal argae iw gadw ef oddifi­ewn i Paradwys, ond pan ni synnei Adda fod dan rheolaeih, efe a aeth y cyfraith weithiad megis cleddyf fflamllyd wrth porth Eden, iw cadw ef ai holl epil allan.

Nom.

Je, ond chwi a wyddoch Syr, digaethwio or ddeu-par, a oedd yn rhwy­medig, au rhyddhau hwy oddiwrth pob cwlwm yn ol torri r ammodau: Ac am hynny y dylyseid, tebygwn, rhyddhau Adda ai eppil oddiwrth y cyfammod o weithredoedd yn ol ei dorri, yn enwedig o herwydd nad oedd yn eu gallu hwy, i gadw r ammodau.

Evan.

Hyn sydd wir ym mhob cyfam­mod, o faela, r un or ddeupar, a fo rhwymedig, yn ei ddyled ac o tyer un or ddau r ammodau, y mae r llall ar hynny yn rhydd oddwrth rhan ei hun, ond nid yw r trosseiddwr yn rhydd, hyd oni faddeuo r llall iddo. O herwydd pa [Page 28] ham er bod yr Arglwydd oi rhan ef yn ddirhwym i gadw ei addewid, ar ammo­dau oi ochor ef, sef i roi ir dyn fywyd tragwydol, etto nid yw r dyn rhyddach oddiwrth yr ammodau sy ddyledus ar­no, nage er bod ar ddyn ddiffyg nerth i ufyddhau, etto y mae r rhwym i ufydd­dod yn gorwedd byth arno, o herwydd iddo golli ei nerth oi wall ei huuan; felly ynteu, nid yw nag Adda nai eppil yn rhydd odddiwrth yr ammodau, am eu bod hwy yn ddinerth iw cadw mwy nac yw r dyledwr rhyddoddiwrth ei ddyled, am ei fod ef yn ddiarian i dalu. Ac felly r anwyl Nomista y gwneuthum i fyngoreu yn ol eich dymuniad i ddan­gos i chwi gwir wybodaeth gyfraith gweithredoedd.

Anti.

A minneu a ddymunaf arnoch Syr, im cyfarwiddo ychwaneg fel y gwippom pa beth yw cyfraith ffydd.

Evan.

Cyfraith ffydd yw r un, a pe dywedech y Cyfammod o ras, neu r Efengyl, hynny yw oi cyfieithu Newy­ddion da, hyfryd, llawen, gorfoleddus, sef, darfod i dduw (ger bron tragwyddol wybodaeth pa un y mae pob peth yn presennol aheb fyned o ddim heibio, ac heb fod dim yn ol yn ei wydd ef) dan rhagweled cwymp y dyn, arfaethu cyn [Page 29] nac amser, ac addo mewn amser, a chwblhau mewn cyflawnder, amser ddanfoniad oi fab Jesu Ghrist ir byd i cynnorthywio, ac i ymwared dyn a gwympasei.

Anti.

Moeswn clowed Syr, adolwg, rhagor o hyn, ac yn gyntaf daugoswch pa wedd y dealwn ni tragwyddol arfaeth duw yn nanfoniad oi fab Jesu Ghrist?

Evan.

Y mae rhai, wyr dyscedidig, wedi llunio ymma, fel pe bai ryw ym­rysson rhwng priodoliaethau duw, a thrwy r rhydd-did â cannadyf yspryd Duw iddint allan o ymadrodd, neu iaith y glan Scrythuran, hwy a ddywedant ob­legid Duw yn ol dull dynol, fel pe bai ef wedi ei yrru i ryw cyfingder neu ddy­rysswch gan ymryssonaidd ymddadl ei amryw priodoliaethau; Canys Gwirio­nedd a Chyfiownder neu Barn, a cyfo­dasant i synu ac a ddywedasant, ddarfod i ddyn bechu, ac am hynny y dylysei ef farw, a hwy a alwasant yn ol barn ar y creadur euog, y dyn pechadurus, addas o felldith o herwydd ei fod yn pechadu­rus onid e rhaid y syddei eu anurddo hwy, canys tydi ai dywedaist (ebent hwy wrth Dduw) yn y dydd y bwytteych or pren gwybodaeth da a drwg gan farw y byddi farw: Gen. 2. 17. Eithr Trugaredd or ty [Page 30] arall a ymbilie i am ffafr, ac a appeliei, neu a cwynei ger bron uchel-llys nef, ar yno yr ymddadleuei fel hyn: doethineb a Gallu a daioni a ymddangosant eu hunain yn amlwg yn y creadigaeth, ac y mae digllonedd a Chyfiownder wedi eu mawrygu ar trueni r dyn, ym mha un y llyngcwyd ef ar ei gwymp anhap­pus, ond ni fu ddim son etto amdanaf fi. Ac am hynny, O, gwneler Cariad er­dolwg, a dango seir Tosturi ir dyn truan â hudwyd, ac a ormeiliwd gan y cy­thrael mor ddidraha. Ac O, ebent hwy wrth Dduw gwir gweithred brenhinol yw cynnorthywig r cysyngderol, a chys­suro r blinderol, a pa uchelaf y bo neb, o hynny y dylei ef fod yn fwynach, ac yn tirionach. Eithr Cyfiawnder a attebei gan ddywedid, O cynnygir i myfi cam­wedd, am digio, mae r rhaid i mi cael iawn, a myfi ai mynnaf, ac am hynny yr wyf fi yn gofyn, ac yn disgwyl, ar i ddyn, yr hwn a collodd ei hunan trwy ei anusydddod gosod i lawr yn lle iawn, usydd-dod cyferbyn i anufydd-dod, ac wrth hynny i gyflawni barn duw. Ar hyn y cyfododd doethineb duw i fynu fel cylafareddwr, ac a ddichymygodd ffordd iwheddychu oll, gan fwrw mai rhaid y fyddei cyflawni dau beth cyn y [Page 31] bai cymmodiad rhwngthint, sef yn gyn­taf, cyflawnhaad o farn duw. Yn ail, adnewyddiad naturiaeth y dyn; Ar ddau beth hyn (ebe efe) a orfydd iryw Cy­frwngwr canolig cyffredin, a fai ynddo mawr serch tuag at yr Arglwydd, fel y caffei ef ei cyfiawnhau ai foddloni, a thosturi ar ddyn fel yr atgyweiried ef: Pa caed y fath cymmodwr a hwn efe dan tymmeryd arno enogrdrwydd dyn ai cospedigaeth a hwythau iw gosod arno, allei cyflawni cyfiawnder Duw, a, than fod gantho llawnder o yspryd duw, ai sancteiddrwydd, a allei cyssegru ac atgy­weirio naturiaeth dyn. Eithr nid oedd or cyffelib iw gael, onid Christ Jesu yn unig un or tri pherson or Drindod fendigaid, Ar hyn efe trwy ordinhaad ei dâd, ai ewyllysgar anaturiaeth ei hunan, a san­cteiddiad yr yspryd glan a weddeiddi­wyd ir gorchwyl mawr hwnnw: ac yna y gwnaethpwyd cyfammod hyspyssol, neu gyttundeb echwynol rhwng Duw, a Christ: megis y mar yn scrifennedig ym mhrophwydo liaeth Esa. sef, Esa. 53. 10. os Christ a osodei ei hunau yn aberth tros bechod dyn, efe a welei ei had, ac efe a estynnei ei ddyddiau, ac ewyllys yr Arglwydd a lwyddei yn ei law ef yn yr un modd yn un or Psalmau, y gosedir i lawr trugar­ogrwydd [Page 32] ogrwydd hyn o gyfammod rhwng duw a Christ dan cysgod cyfammod duw i Dafydd, sef: Ymddidderiaist mewn gweledigaeth ath Sainct, Psal. 89. 19. ac a ddywe­daist, gosodais gymmorth ar un cadarn neu fel mae r Caldeac yn ei ddeonglu, ar un cadarn yn y gyfraith: fel pe dywe­dasei yr Arglwydd oblegid ei ethelodi­gion oll Myfi a wn yn hyfpys y tyrr y rhai hyn eu geiriau, au ammodau o ho­nof, ac ni fydd yn ei gallu hwy i cyfi­awnhau a mi, ond gwr cadarn sylwe­ddol ddidwyll ydwyt ti, galluog i dalu i mi, am hynny oddiar dy law di y dis­gwiliaf fi am gael taledigaeth om dyled▪ Ymma (medd wr dyscedig) y mae duw, fel pe bai, yn dywedid wrth Ghrist. Pa beth bynnag sydd ddyledus arnint hwy y disgwiliaf iw cael ar dy ddwylaw di. Yno r attebei Ghrist: Psal. 40. 7. 8. Wele yr ydwyf yn dyfod i wneuthur dy ewyllys, yn ol dy lyfr y scrifennwyd am danaf, Da gennif wneuthur dy ewyllys ô fy Nuw, ath gyfraith syddo fewn fy ngha­lon, fel hyn y cydsyniodd Christ, ac er tragwddoldeb a darawodd lawar Tad, ac a cyttunodd i osod arno agwedd dyn ac iddo yntef cymmeryd arno ei persynoliaeth, ac yn ei le ef i ufyddhau iw Dad ac i cyflawni r cwbl oll a ofyn­neid [Page 33] gantho o rhan y dyn, ac i rhoddi yn ei cnawd ef, cyfan bris cyflawnder cy fiawn farn duw, ac i ddioddef yn yr nn cnawd, a bechasei, y cospedigaeth a haeddasei r dyn. A hyn y cymmer odd ef arno dan yr un poen a orweddei ar y dyn, iw oddef. Ac fal hyn y bodlon­wyd Gyfiawnder, a Thrugaredd a fawry­gwyd trwy r Arglwydd Jesu Ghrist, a duw a cymmerodd scrifen law Christ ei hunan, Heb. 7. 22. o herwydd pa ham y gelwyd ef, nid yn unig yn fachniudd or cyfammod drosom, Esa. 49. 9. eithr y cyfammod ei hunan: Ac efe a osododd duw r cwbl oll arno ef, fel y bai ef ficcr o iawn, dan addo ar cyhoedd, nad ymmyrrei ef o honom ni, ac gan cymmaint oedd ei ras ef, ai gariad, na ddisgwilie ef am un taledigaeth oddi­wrthim ni. Ac yn y modd hyn y Gwnaeth ein Arglwyddd Jesu Ghrist yr un cyfammod o weithredoedd, ac y wnelsei Adda gynt a duw, er mwyn ym­wared yr holl flyddloniaid rhagddo: ac efe, sef Christ, a fu fodlon i fod ei hun dan y gorchymmynnaidd ar dia leddaidd awdwrdod a oedd ir cyfam­mod arnynt er mwyn eu rhyddhau hwy oddiwrth y poen: Ac yn yr ystyr hyn y gelwir Adda yn dyp, Rhuf. 5. 14▪ neu yn arwydd o Ghrist, fely dywedodd yr Apostol, yr [Page 34] hwn oedd ffurf yr un oedd ar ddyfod. Ergwybodaeth pa un, y mae r enwau a roddod yr Apostol ir ddau, sef i Ghrist, ac Adda, yn addas iw ystyried: canys efe a eilw Adda, y Dyn cyntaf, a Christ ein Arglwydd, yr ail ddyn dan eu coffa hwy ill dau yn enwog, fel pe na buasei un dyn arall hebddynt hwy ill dau yn y byd eri­oed ac wrth hyn yn ei gosod hwy fal pen, neu wreiddyn or holl dynoliaeth, fel pe cynnwyfied holl feibion dynion, ynddynt hwy. Y cyntaf a elwir yn ddyn ddaiarol, 1 Cor. 15. 47. yr ail sef Christ, yn Arglwydd or nef: Yn y dyn daiarol y cynnwysiwd holl feibion dynion a aned erioed ir byd, ac a elwir felly o herwydd eu gydffur­fiad an gilydd. Yr ail ddyn, sef Christ a elwir yn Arglwydd or nef ym mha un y cynuwysiwd yr holl eneidiau ddywe­dir eu bod yn Gyntaf-anedig, enwau pa rai a scrifennwyd yn y nefoedd: Heb. 12. 23. ac am hynny y gelwir hwy yn ddynion nefol; Ar ddau hyn ynghyfrif Duw a safa­sant yn lle holl ddynion y byd. Ac felly y gwelwch chwi, dewis or Ar­glwydd y fath fford, a oreu eglurhas ei addtwynder, ai dostrwydd, am ei fod ef yn chwennych dangos trugaredd ir creadur truan a cwympasei, a chyd a hynny fentimmio awdwrdod, a goru­chafiaeth [Page 35] ei gyfraith: A Christ a wnaeth cyfammod o hono, ac a aeth yn feichiau dros ddyn, a thrwy hynny yn euog oi holl ddyledion ef, am fod y meichiau yn rhwymedig i lwyr dalu r cyfan swmm o arian a fyddo ar y dyledydd ei hun iw dalu.

Ac felly yr ymgenais i, i eglurhau i chwi pa weddy y mai i ni ddeall tragwy­ddol arfaeth Duw yn ei ddanfoniad oi fab Jesu Ghrist, i ymwared ac i Cyn­northwyo r dynoliaeth truan a cwym­pasei.

Anti.

Ewch rhagoch, erdolwg, Syr, i ddangos yr ail, beth, ac yn cyntaf my­negwch, pa bryd y dechreuodd yr Ar­glwydd gwneuthur yr addewid i cym­morth, a i ymwared y dyn a cwym­pasei.

Evan.

Ar yr un diwrnod ac y becha­sei dyn ynddo, ac y creaseid ef, y gwna­ethpwyd yr addewid Canys Adda wedi ei fyned trwy bechod yn plentyn ddigo­faint, ac yn ei gorph, ai enaid, yn ddarostwngedig ir feldith, ac heb can­fod dim dyledus iddo, onid digofaint, a dialedd Duw, a ofnodd ac a ymguddi­odd o olwg yr Arglwydd Dduw: Gen. 3. 10. ac yna yr addawodd yr Arglwydd Christ iddo, gan ddywedid wrth y [Page 36] Sarph: Ver. 15. Gelyniaeth a osodaf rhwngot ti ar wraig, a rhwng dy had ti, ai had hithe, Efe (sef had y wraig, canys felly y mae, yn yr Haebreaeg) a yssiga dy ben di, a thithe a yssigi ei sodl ef. Yn awr ystyriwch, mai hyn o addewidd o Ghrist, had y wraig, oedd yr Efengyl, ar unig diddamoch a cafas Adda, ac ar ei ol ef Abel, Enoch, Noah, ar lleill ar duwiol dadau hyd yn amser Abraham.

Nom.

Pa ystyr y sydd gennich chwi, Syr, i debyg, cwympo o Adda ar yr un diwrnod ac y crewyd ef ynddo?

Evan.

Sail fy nhyb i yw geirian 'r prophwyd Dafydd (fel y maent hwy yn scrifennedig yn yr Haebreaeg) sef Adda mewn anchydedd, Psal. 49. 12. nid arhosodd, naddo noswaith ynddo.

Ant.

Ond Syr, a ydych chwi yn tebyg ystyried o Adda, ar lleill or Tadau, mai Christ oedd yr had promi­siedig hwnnw?

Evan.

Pwy a ammhue, nad hys­pyssodd yr Arglwydd i Addaf, ac nas roddodd ef iddo cydnabyddiaeth o Ghrist, rwng yr amser oi cwymp pe­chadurus, ar amser oi aberthiad er bod y ddau yn yr un diwrnod.

Ant.

Beth, a offrymmodd Adda a­berth erioed ir Arglwydd?

Evan.
[Page 37]

A ellwch chwi wadu, neu ammeu nad offrwmmaseid cyrph yr anifeiliaid rheini â chrwyn pa rai y wnaeth yr Arglwydd beusiau iddo ai wraig. Yn aberthau, ychydig o flaen hynny, dros ei enaid; yn ddiau nid allei 'r crwyn rheini fod yn amgen nag o aneifeiliaid a laddaseid, ac a offrwmma­seid fel aberth, canys nid oedd yr ani­feiliaid, nes i Adda cwympo, wedi eu darostwng tan farwolaeth, na mewn tebygaeth iw lladd. Ac nid oedd am­wysciad Duw o Adda, ai wraig ar crwyn, yn arwyddocau amgen nac orchuddiad eu pechod, au cywilydd, â chyfiawnder Christ. Ac yn ddiammeu yr Arglwydd ai dyscasei ef, fod ei aberth ef yn arwy­ddocau ei cydnabyddiaeth oi bechod, ai dddisgwylla am ddyfodiad addawedig hâd y wraig iw ladd, ym mhrydnawn y byd, er dofi wrth hynny digofaint Duw am ei drossedd; A hyn yn ddinâg a hys­pyssodd yntef iw feibion, Cain ac Abel gan eu dyseu hwythau hefyd i offrymmu eu aberthau.

Ant.

Je, ond pa weddy dangoswch chwi mai ar yr un diwrnod ac y be­chasei ef ynddo, yr aberthodd ef?

Evan.

Yn y seithfed o Joan y dywe­dir oblegid Crist fal hyn: Joan. 7. 30. Hwy a [Page 38] ceisiasant ei ddal ef: ond ni osododd neb law arno, am na ddauthei ei awr ef etto. Eithr wedi hynny pan y nessaodd yr amser oi oddefiad, Marc. 14. 41 efe ai dywedodd ei hunan, Mar. 15. 34. dyfod or awr, Ar chweched dyddar nawfed awr or dydd, Heb. 9. 14. oedd hi, fel y mae yr Efangylydd S Marc yn ty­stiolaethu yn eglur, pan yr offrwmmodd Christ ei hun trwy 'r yspryd tragwy­ddol yn ddifai i Dduw. Yn awr os cyffelybiwch chwi hyn ar ddeuddegfed o Exodus, Exod. 12. 6. chwi a welwchy no, offrym­mu 'r oen Pasc, (gwir arwyddo Ghrist) gyferbyn ar un diwrnod, ar un awr sef ar y chweched dydd, ar nawfed awr or dydd, hynny oedd, ar tri ar y gloch y prydnawn: Ac y mae'r Scrythur lân yn tystio laethu mae arychweched diwrnod hwnnw y crewyd Adda, ac yn rhoi acho­sion i ni tebyg pechu o hono y dwthwn hwnnw hefyd. Ac onid yw'r Scrythu­ran blaen enwog yn rhoi i ni warant siccr i credu mai ar yr un diwrnod, ac ar yr un awr or diwrnod y dechreuodd Christ yn ddirgel, ac yn arwyddocaol ar weithred ein prynedigaeth, trwy ei offrwmmiad yn aberth tros pechod Adda? Ac yn siccr ni a allwn tebyg hyn, nad arhosei Gyfiawnder yspaid awr (yn ol torri'r cyfammod rhwng Duw [Page 39] ac Adda) nes yn caffei ddial, ar Adda, er llwyr ddistryw oi hunan, ag o'r crea­digaeth oll, oni buasei i Ghrist yn y cy­famser ymddangos fel yr Hwrdd, neu yn hytrach (fel yr Oen) yn y llwyn, a chyn­nig ei hunau i cyflawni weithred cyfam­mod. Ac o herwydd hyn, tebygaf, y gal­wodd S. Joan ef yr Oen a laddwyd er dechreuad y byd. Datc. 13. 8. Canys megid y dio­gelwyd y cyflwr cyntaf or creadigaeth ar y cyfammod a wnaeth Duw â dyn, ac fel yr oedd yr holl creaduriaid iw cyn­nal ai dal yn union ar cadwriaeth o ddeddf a defod y cyfammod hwnnw; felly yn ol i ddyn dorri'r cyfammod, y byd oll a ddelsei i ddistryw, oni buasei ei creu ar newydd, ai cynnal trwy'r cyfammod o râs yn Ghrist.

Ant.

Wrth hyn Syr yr ych chwi yn tybied fod Adda yn cadwedig.

Evan.

Yr oedd y dyscawdwyr Hebrae­aid yn dal fod Adda yn bechadur etifei­riol, a hwy a ddywedent ei cyfodi ef al­lan oi cwymp trwy ddoethineb (hynny yw, trwy ffydd yn Ghrist) ie ac y mae Eglwys duw or cred hyn, a hynny o her­wydd rheswmman anghenrheidiol, ei fod ef yn cadwedig. Je (ebe wr dyscedig) gwirionedd diammeu yw hyn, darfod i Adda credu'r addewid oblegid Christ, [Page 40] er coffadwriaeth pa un yn offrymmei ef gwastadol aberth ir Arglwydd, ac oi siccrwydd o hyn a henwei ei wraig yn Hefa, hynny yw, or cyfieithu, Bywyd: ai fab yn Seth, hynny yw, siwr osodedig, neu perswadiedig yn Ghrist.

Ant.

Da iawn, yr wyf yn awr yn co­elio deall o Adda mai Christ oedd iw y­styried wrth hâd y wraig.

Evan.

Bydded hyspis gennych, mai felly yr oedd nid Adda yn unig, eithr yr holl Tadau sanctaidd hefyd yn ei ystiri­ed, fel y mae yn eglur ar eiriau 'r Tar­gum, neu'r Bibl Caldæaeg o hen cyfiei­thiad Caersalem, lle y scryfennyr fal hyn ar Gen. 3. Rhwng dy fab di, Gen. 3. 15. ai mab hitheu; dun ychwanegu hyn hefyd fel eglurhaad or geiriau hynni, sef Cyhid O Sarph ac y bo plant y wraig yn cadw'r gyfraith hwy ath laddant di, a phan y ballont hwy ar hyn tydi au brathi hwy yn eu sodlau, ac efe y fydd yn dy allu di iw drygu yn fawr: eithr lle y mai iddint hwy siccr ymwared rhag pob niwed, nid oes un meddyg i tydi, canys hwy ath chwalant di yn chwilfryw yn y dyddi­au diweddaf, trwy cymmorth Christ eun brernin. A hyn oedd yn cynnal ac yn attegu eu ffyd hwy hyd yn nyddiau A­braham.

Ant.
[Page 41]

Pa wedd y bu yn ol hynny.

Evan.

Yna y trowid yr addewid i cy­fammod ag Abraham ai had, Gen. 12. 3. 81. 18. 22. 12. ac a ail­adroddwyd yn fynych, sef mai yn ei hâd ef y byddei holl ceniedloedd y ddeiar yn fendigedig. Ac nid oedd yn addewid a'r cyfammod hwnnw amgen na gwir leferydd yr Efengyl ei hunan, a chy wir tystiolaeth oblegid Jesu Ghrist, fel y mae 'r Apostol Paul yn dwyn tyst gan ddywedid. Gal. 3. 8. Y scrythur yn rhagwe­led mai trwy ffyd y mae Duw yn cyfi­awnhau y Cenedloedd, a rhagefangy­lodd i Abraham gan ddywedyd, ynot ti y bendithier yr holl Cenedloedd. Ac er cadarnhau ffydd Abraham yn siccrach yn hyn o addewid or Christ, Gen. 14. 19. ef a ddyw­edir, Dyfod o Melchisedec allan ai gy­farfod, ai fendithio: yn awr, yr oedd y Melchisedech hwn (medd yr Apostol) yn offeiriad i Dduw goruchafac yn fre­nin cyfiawnder, Heb. 6. 20▪ 7. 2. ac yn frenin heddwch, Jer. 23. 6. heb dad heb fam yn gyffelyb i fab Duw, Isa. 9. 6. yr hwn y sydd yn Arch offeiriad yn dragywyddar ol urdd Melchisedec. Y­styriwch dull ei ymadrodd ef, ei fod ef yn frenin cyfiawnder ac yn frenin tang­neddyf, ie ac heb dad oblegid ei ddyn­dod, ac heb fam oblegid ei dduwdod: wrth pa eiriau y cynnygir i ni iw ysty­ried, [Page 42] mai arfaeth Duw ydoedd cynne­bygu Melchisedec yn y pethau nailltuol rheini, i berson a swydd Christ Jesu, fab Duw, ac felly trwy rhagluniaeth yr Arglwydd i fod yn dyp, neu yn arwydd o hono Abraham er diogelu a chadarn­hau yr addewid a wnelsid iddo ef ai hâd o rhan y cyfammod tragwyddol, sef mai bendigedig y fyddei ef ai had crea­dadwy yn Ghrist yn ol benedithiad Melchisedec arno. Nage mi ai dywedaf yn hyfach wrthych, yn ol meddylau, a geiriau profadwy rhai eraell, Pe chwi­liem ni amhyn o wirionedd yn ddy fal ac yn union, ni a canfyddem yn ddi­rhwystr nad oedd y Melchisedech hwn a ymddangosodd i Abraham yn amgen na mab Duw wedi ei egluro trwy nailltuol caniadtâad a braint i Abraham, yn y cnawd, yr hwn am hynny a ddywedir gweled o hono ddydd Christ, a gorfole­ddu. Jo. 8. 56. Heb law hyn yn y bymthegfed o Genesis y darllenir, siccrhau or Ar­glwydd ei cyfammod drachefn ag Abra­ham, Gen. 15. 17. canys yn ol i Abraham hollti, neu rhannu 'r anifeiliaid efe a dram­wyodd Duw, fel ffwrn yn mygu, neu lamp danllyd rhwng y darniau o ho­nynt; A hyn yn ol tyb rhai a arwyddo­caei yn bennaf ymddarniad a phoenu [Page 43] Christ, ar ffwrn ar lamp danllyd a ar­wyddocaent digofaint Duw yn rhedeg rhwng ei naturiaeth ddrylliedig ddar­niedig, ac etto heb ei yssu. Ar gwaed yn yr enwaediad a arwyddocaodd gollwn­giad gwaed Christ. Ac nid oedd ar­faethawl aberthiadd Isaac ar fynydd Moriah trwy orchymmyn Duw yn rhagddangos ac yn arwyddocan llai, nag y byddei hol cenedloedd y ddaiar yn wynfydedig trwy offrwmmiad Christ, yr hâd promisiedig, yn yr un fann ar lle. Gen. 26. 4. Yn awr yr yn cyfammod ac y wnaethpwyd, ac y ddiogelwyd ac Abraham, a adnewyddiwd ag Isaac: ac a hyspsswyd i Jacob o ben Christ Jesu ei hunan canys nid oedd y gwr hwnnw a ymdrechodd â Jacob yn amgen nar dyn Christ Jesu: canys efe a ddywe­dodd, y gelwid Jacob yn Israel, hynny yw oi cyfeithu, ymdrechwr a Duw, ac orchyfygwr: ac ar hyn y galwodd Ja­cob he nw'r fann lle r ymdraechasei or Arglwydd, Gen. 32. 30. Peniel oblegid (ebe efe) mi a welais Dduw wyneb yn wyneb. A Jacob ai gadawodd ar ei wely angeu yn ei ewy. Gen. 49. 10 llys ne Destament ddiwaethaf, iw blant yn y geiriau hyn, Nid ymedy y deyrnwialeu o Juda, na deddfwr oddi rhwng ei dread ef hyd oni ddêl Silo. [Page 44] Hynny yw, O lwyth Judah y daw fe lawer o frenchinoedd ol yn ol, hyd oni ddelo 'r Arglwydd Jesu or diwedd, yn hwn sy frenin ar frenhinoedd, ac yn Arglwydd ar Arglwyddi, neu fel y mae Targum Caersalem, y ar Oncelos, yn ei gyfieithu, hyd oni ddêl Christ yreneiniog.

Nom.

Eithr Syr, a ydych chwi yn siccr mai Christ oedd iw ystyried wrth yr had promisiedig hyn?

Evan.

Y mae 'r Apostol yn gosod hyn i lawr yn draeglur gan ddyw edyd: I Abraham y gnwaethpwyd yr addewi­dion, ac iw had ef. Nid yw yn dywedyd, ac iw hadau, megis am lawer ond megis am un, ac ith hâd ti, yr, hwn yw Christ. Ac yn yr ystyr hyn yr oedd yr hen Pa­drieirch dduwiol yn ddiammeu yn cymmeryd hyn.

Ant.

Je, ond gwlâd Canaan oedd yr addewid mawr a wnaethpwyd iddint hwy, ac am hyn, tebygaf y disgwiliasant hwy fwyaf.

Evan.

Nid peth iw ammeu yw hyn, nadoedd y Padrieirch sanctaidd yn cansod eu etifeddiaeth tragwyddol (trwy Christ) trwy'ruddewid o tir Ca­naan, fel y tystia r'Apostol oblegid Abraham gan ddywedid, Heb. 11. 10. Trwy ffydd yr ymdeithiodd ef mewn tîr dieithr, gan [Page 45] ddisgwyl am ddinas, ac iddi sylfaeni, saer ac adeiladydd pa un yw Duw. O pa le y mae yn eglur (ebe Calvin) mai uchelaf ac eithaf hercffydd Abraham, oedd ei ddisgwylfa am fywyd tragwyddol yn y nefoedd. Ar un eyffelib tyst y rhydd yr Apostol i Sarah, Isaac, a Jacob, gan ddywedyd ei meirw hwy mewn ffydd, gan arwyddocau nad oedden hwy yn disgwyl am dderbyn ffrwyth ye addewid, hyd yn ol eu marwolaeth. O herwydd pa ham y gosodasant hwy ddedwyddwch y byd i ddyfod ger bron eu llygaid yn eu holl ymdeithiau blinedig. Gen. 49. 18 A hyn a barodd i hen Jacob ddywedyd ar ei far wolaeth, fel hyn, Am dy iechydyriaeth di y disgwiliais Arglwyeld. Ar pa eiriau y mae 'r deongliadau Caldeaec yn traethu fel hyn: ddywedodd ein Tad Jacob yr wyf yn disgwyl am iechydwri­aeth; neu ymwarediad Gideon fab Joash, yr hon nid oedd onid ym­wared amserol, nac ychwaith am ymwared Sampson fab Manoah, yr hon nid oedd ouid darfodedig, eithr iechy­dyraeth ac ymwared Christ, fab Dafydd, yr hwn y ddaw, ac a cyrrhaedd atto ei hun feibion Israel, am iechydwriaeth pa un y mae fy enaid yn hiraethu. Ac felly y gwelwch chwi, mai hyn o cyfam­mod [Page 46] a wnaethpwyd ag Abraham yn Ghrist, oedd yn cwmffwrdi ac yn llaw­enhau calonnau y rhain, ar lleill or hen dadau sanctaidd hyd yn ol eu my­nediad hwy allan or Aipht.

Ant.

A Pafodd y by wedi hynny?

Evan.

Yn ol hynny, efe a eglurwyd Christ Jesu yn amlycch iddint yn yr Oen Pasc: canys fel y gorchymmynnwyd, fod yr Oen yn berffeith gwbl ac yn ddinam, Exod. 12. felly y dywedir ob­legid Christ, Exod. 12. 5. 1 Pet. 1. 19. mai Oen difeius a difry cheulyd oedd ef. 1 Pet. 1. 19. Ac megis y cymmereid yr Oen hwnnw i synu ar y ddegfed dydd or lleuad newydd cyntas ym mis Mawrth, felly ar yr un diwrnod ar un Mis y daeth Christ i Gaersalem i ddioddef farwolaeth. Exod. 12. 6. Ac megis y lla­ddeid yr Oen hwnnw ar y pedwarydd dydd ar ddeg yn y cyfnos, Mar. 15. 37. felly yn cym­mwys ar yr un diwrnod, ar un awr, yn ymadawodd Christ ar yspryd. Ac fel y gorchymmynneid taenellu gwaed yr Oen hwnnw ar ddau ystlys bost dai bobl Israel: Exod. 12. 7. felly yr ydys yn taenellu gwaed Christ trwy ffydd ar calonnau 'r ffyddloniaid. Ac arwydd ou gwarediad an prynedigaeth trwy Ghrist Jesu oedd eu ymwarediad hwy allan or Aipht. Ac arwydd o fedydd pan y delei Ghrist [Page 47] yn y cnawd, oedd eu mynediad hwy trwy 'r mor coch. A chynnebyg oedd eu Manna hwy yn yr anialwch ar dwfr allan or graig ir Sacrament or swpper ddiweddaf. O herwydd pa ham y dy­wedodd yr Apostol, 1 Cor. 10. 3, 4. bwytta o bawb o honint yr un bwyd ysprydol, ac yfed yr un ddiod ysprydol, canys hwy a yfasant or graig ysprydol a oedd yn canlyn, ar graig oedd Grist. A phan y daethont hyd at fynydd Sinai, yr Arglwydd a rhoddodd y dec gorchymmyn id­dint.

Ant.

Ac ai 'r cyfammod o weithre­doedd ydoedd y deg orchymmyn fel y roddwyd hwy iddint ar fynydd Sinai?

Evan.

Je yn wir, felly yr oeddent.

Nom.

Eithr trwy eich cennad chwi, Syr, chwi a wyddoch mai hil Abraham oedd y bobl hyn, ac am hynny yr oeddent hwy tan y cyfammod hwnnw o ras a wnaeth Duw au Tad, Ac am hynny nis roddwyd hwy iddint, tebygaf, fel cy­fammod o weithredoedd, canys chwi a wyddoch hyn, Syr, nas roddodd yr Ar­glwydd y cyfammod o weithredoedd i neb erioed a faent dan y cyfammod o ras.

Evan.

Yn siccr mae yn wir ddigon, [Page 48] ymddaugôs or Arglwydd cymmaint o cariad tuag at yr holl cenedl hyn, hyd onid oedd holl had neu tylwyth Abra­ham mewn dangosiad oddiallan, an proffess cyhoedd dan y cyfammod o ras, a wnaethpwyd au tad Abraham: er ei fod yn ofnus bod llawer o honint byth yn aros tan y cyfammod o wei­thredoedd, a wnaethpwyd au Tad Adda.

Nom.

Je ond chwi a wyddoch Syr, ir Arglwydd yn y rhaygmadrodd ir dec goschymmyn ei alw ei hunan wirth yr enw o eu Duw hwy yn gyffredinol, ac am hynny, ef y weddei, eu bod hwy bawb oll yn bobl i Dduw.

Evan.

Nid yw hynny ddim, canys llawer o ddynion drwg annuwiol, a alwyd Ethelodigion Duw, ac yn bobl i Dduw, am eu bod hwy o ty, fewn ir Eglwys gweledig a than y cyfammod oddiallan. Ond pe buaseint hwy oll yn wir ffyddloniaid, etto fel y rhoddwyd iddint gan yr Arglwydd, nis gwnel fei fwy o niwed iddint hwy, nac y wnaeth ir sawl oedd yn credu.

Nom.

Je ond gwrandewch, Syr, a wnaethpwyd yr un cyfammod o wei­thredoedd o honint hwy, ac y wnaeth­pwyd ac Adda?

Evan.
[Page 49]

O rhan y sylwedd cyffredinol or dylêd, yr un oedd y gyfraith a roddwyd ar fynydd Sinai, ac a argra­phaseid cynt ynghalon dyn fel na rhoddodd yr Arglwydd ddim peth newydd iddint ar fynydd Sinai, yn unig hi a roddwyd yn arafach i Adda ym mlaen ei cwymp, eithr yn ol ei cwympe­gyd a thrwst taranau.

Nom.

Je ond Syr, nid oedd y dec gor­chymmyn, megis y dywedasoch eich hunan, fel y scrifennwyd hwy yn ngha­lon Adda, onid y deunydd neu matter or cyfammod o weithredoedd, ac nid y cyfammod ei hunan, hyd oni osodwyd y ffurf arnint, hynny yw, hyd onid aeth cyttundeb arnint rhwng Duw a dyn, yn awr, nid aes un gwybodaeth iw cael darfod i Ddw a'r bobl ymma cyttuno ar y fath ammodau ar fynydd Sinai.

Evan.

Ni ellir meddwch chwi? onid ych chwi yn cofio cydsy nio or bobl, pan y dywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. Ac onid ych chwi yn cofio, cydsynio or Ar­glwydd hefyd, Exod. 19. 8. Levit. 18. gan ddywedid: Cedwch fy neddfau, Levit. 18. 5. am barnedigaethau; ar dyn a'i cadwo a fydd byw ynddynt. Deu. 27. 26 Ac yn Deut. 27. y dywedodd yr Argl­wydd: [Page 50] Melltigedic yw'r hwn ni phar­hao yngeiriau y gyfraith hun gan eu gwneuthur hwynt. Rhuf. 10. 5. Ac onid yw'r Apostol yn tystiolaethu mai ffurf y cy­fammod o weithredoedd oedd y geiriau hyn, gan ddywedyd: y mae Moses yn scrifennu am y cyfiawnder sydd or ddeddf, Gal. 3. 10. mai'r dyn a wnel y pethau hyn­ny a fydd byw trwyddynt. Ac yn y trydydd at Galathiaid: Canys scrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a scrifenair yn llyfr y Gyfraith, iw gwneuthur hwynt. Ac yn Deut. 4. Deut. 4. 13. y mae Moses ar eiriau cy­hoedd, yn ei alw yn Cyfammod, gan ddywedyd. Ac efe a synegodd i chwi ei gyfammod, a orchymmyndodd efe i chwi iw wneuthur, sef y deng-air, ac ai scrifennodd hwynt ar ddwy lech faen. Ystyriwch ymma nid y cyfammod o ras oedd hwn, canys y mae Moses wedi hynny yn dywedid oblegid hyn o cyfam­mod, Deut. 5. 3. fal hyn: Nid a'n Tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfammod hwn, Ainsworth. ond a nyni. Ac wrth y Tadau, (ebe wr dyscedig) yr ystyrier yr holl Padrieirch hyd Adda, y rhai a cawsant yr addewidid or cyfammod o Ghrist. Am hynny pe buasei yn cyfammod o ras, efe a ddywedasei: fel hyn: Duw [Page 51] a wnaeth hyn o cyfammod o honint: yn hytrach nac fel y dywetpwyd. Nis gwnaeth ef o hono.

Nom.

A oes neb on scrifennwyr du­wiol hwyraf yn cyttuno a chwi yn hyn o bwngc?

Evan.

Oes yn wir; cyfammod a wei­thredoedd (medd Polanus) yw hwnnw ym mha un yr addewyf Duw fywyd tragwyddol ir dyn, a roddo ym mhob ryw ffordd, ufyddhaad perffaith ir gy­fraith o weithredoedd, dan achwanegu fygwythiadau o farwolaeth tragwyddol, os efe nis cadwei'r gyfraith yn perffeith. Duw a wnaeth byn o cyfammod ar y cyntaf, ar dyn cyntaf Adda, tra y fu ef yn ei cyflwr cyntaf o ddiniweidrwydd, ac efe a ailadrodddodd Duw yr un cyfam­mod, ac ai gwnaeth drachefn trwy Mo­ses a phobl Israel, Ac y mae D r Preston yn dywedyd feil hyn: y mae'r cyfam­mod o weitheredoedd yn rhedeg ar y geiriau hyn: Gwna hyn a byw y fyddi, a mi a fyddaf yn Dduw i ti. Dymma 'r cyfammod y wnaethpwyd ac Adda, ar cyfammod a eglur-haodd Moses yn y cyfraith foesawl. Ac y mae gwr dyscedig arall yn scrifennu, nad oedd y rhan cyntaf or cyfammod a wnaeth Duw, ac Israel yn Horeb yn amgen nac [Page 52] adnewyddiad or hen cyfammod o wei­thredoedd, y wnelsei Duw ac Adda ym mharadwys. Ac yn wir, dysceidiaeth cyffredinol ein difynyddion ni yw hyn, ein bod ni yn ymwaredol oddiwrth y gyfraith fal y mai hi yn cyfam­mod.

Nom.

Je ond Syr, a oedd plant yr Israel yn aplach yn awr i cadw conditiwn y cyfammod o weithredoedd, nac yr oedd Adda neu un or hen Padrieirch, fel yr adnewyddei, Duw ef o honint hwy yn awr, yn hytrach na chynt?

Evan.

Nac oeddent yn wir, ac ni adnewyddiodd Duw o hono yn awr a hwynt yn hytrach na chynt, am eu bod hwy yn aplach iw cadw, ond am fod yn fanolach iddint hwy wybod pa beth oedd y cyfammod o weithredoedd, na rheinigynt: canys er bod hyn yn wir, fod y scrifenniad or dec orchymmyn a scrifennwyd yn oleu ar y cyntaf yn nghalon Adda wedi ei fawr difwyno ar y cwymp, etto efe a arhosodd ryw prin­tiad, neu weddillion o hono ar ol, ac yr oedd Adda ei hun yn wybodus o anned­wyddid ei cwymp, ar lleill or tadau a cynnaliwyd trwy truddodiadau. A Duw (ebe wr dyscedig) a lefarodd wrth y Padrieirch or nef, Cameron. ie ac efe a [Page 53] lefarodd wrthint trwy ei Angelion, Bullinger. eithr erbyn yr amser hyn efe a ddifwy­naseid, ac a ddileuaseid holl argraphia­dau 'r gyfraith a scrifennasid yn eu ca­lonnau hwy, a thrwy aros cyd yn yr anialwch hwy a halogwyd cymmaint, hyd oni ddileuwyd agos allan oi me­ddyliau holl athrawiaethau eu cwymp hwy yn Adda, megis y mae yr Apostol yn dywedyd. Hyd amser y cyfraith yr oedd pechodd yn y byd, Rhuf. 5. 13. eithr ni, chy­friwyd pechod, pryd nad oedd cyfraith. Nage yn y cyfrwng hill: o amser rhwng Adda a Moses, efe a oll yngasei ddynion trosscôf pa beth oedd pechod, nes myned or bobl weithian yn feilchion, ac yn ddi­ofal, ac yn ddibris 'ou gyflwr, er i Dduw wneuthur addewid 'oi fendithion i Abraham, ac iw hâd ef oll, ac a ymbili­ent am eu hawl hwy ynddint. Ac er bod pechod ynddint, ac er teyrnassu o far­wolaeth arnint, etto am nad oedd gan­thint y gyfraith i hyspyssu hyn o bechod a marwolaeth iw cydwybodau hwy, ni chyfrifent hwy o honi iw hunain ac ni edlywient hwy eu hunain o honi, ac yn ymodd hyn, fely dweudau wrthint, nid oedd yn rhaid iddint hwy ymofyn 'ar addewyd a wnelsid ac Abraham: O her­wydd pa ham y daeth y gyfraith i mewn [Page 54] fel yr amlhaai camwedd Adda, Rhuf. 5. 20. 'au cam­weddau gweithredol eu hunain, hyd oni wybodd yr Arg wyd weithan mai rhaid, oedd fod ryw osodiad a chyhoe­ddiad, newydd, or cyfammod o weithre­doedd, er mwyn cymmhell yr ethelodi­gion a oeddent etto heb credu, i ddyfod yn bryssurach at Grist, yr hâd addawe­dig, fal y dangosei gras Duw yn Ghrist yn fwy rhagorol yn rasol 'ir ffyddloni­aid etholedig: hyd onid yw yn amlwg, mai hyn oedd bwriad yr Arglwydd sef, dwyn y bobl ar gof, wrth ddisgwyl ar hyn o cyfammod, 'ou dyled gynt, a hwy­thau yn lwynau Adda, ie 'ou gwastadol dyled o safent hwy wrth y cyfammod hwnnw, ac o delent ym mlaen ar hyd yr hên lwybr naturiol: Je ac wrth hyn y gallent hwy canfod hefyd pa beth oedd eu gwendid presennol yn eu ffael 'ou dy­led, fel y darostyngeid hwy, wrth weled yr ammhossiblaeth o cael bywyd trwy 'r llwybr honno o weithredoedd a ordei­niwd ym mharadwys, ac fel y confient yn ofalusach yr addewid, a wnelfid au tâd Abraham, ac y bryssurent i taro ga­fael ar y Messiah, neu 'r hâd addawe­dig.

Nom.

Wrth hyn, Syr y gwyddai, nas adnewidiodd yr Arglwydd y cyfammod [Page 55] weithreddoedd o honint hwy, fal y caent fywyd tragwyddol ar eu ufyddod iddo.

Evan.

Naddo yn wir, ac ni wnaeth Duw y cyfammod weithredoedd ac un dyn er y cwymp, er mwyn iddo ei cy­flawni, nac ychwaith er mwyn iddo yn­tef roi ir dyn fywyd tragwyddol canys ni phwyntiodd yr Arglwydd ddim erioed i un diwedd, neu diben, i pa un y byddei ai yn llwyr anweddus, ai yn ammhriodol. Yn awr ystyriwch, mae 'r gyfraith megis ac y mae yn gyfam­mod o weithredoedd, wedi myned yn Ilesc, ac yn anfuddiol ir gweithred o iechydwriaeth, ac am hynny nid ap­pwyntiodd Duw o hono erioed (sef wedi 'r cwymp) ir fath amcan. Ac heb law hyn, y mae yn eglur, mae arfaeth Duw yn y cyfammod, a wnaethpwyd ar Abraham, oedd i roddi bywyd a iechy­dwriaeth trwy ras a'r addewid, ac am hynny nad oedd ac nac allei fod ychwa­ith ei fwriad ef yn ei adnewyddiad or cy­fammod weithredoedd i roy bywyd a iechydwriaeth ar eu gweithrediadau, canys yna efe y fuasei gwrthddywedia­dau yn y cyfammodau, ac anwastadr­wydd yn y sawl au gwnaeth hwy; O herwydd pa ham na thebygeid neb y cy­hoeddei [Page 56] 'r Arglwydd y cyfammod o wei­thredoedd ar fynyd Sinai, fal pe buasei ef yn anwadal, a pe newidiasei ef ei am­can neu fwriad yn y cyfammod hwnnw y wnaeth ac Abraham: Ac na thebygeid neb ychwaith dichymmyg or Arglwydd, yn awr yn ol stalm hir o ddymddiau ryw lwybr newydd, a gwell er iechydwriaeth dyn, nac y wyddiasei ef or blaen Canys, megis ac y buasei 'r cyfammod o ras a wnaethpwyd ac Abraham, yn ddirhaid, pe gallasei'r cyfammod o weithredoedd a wnelsid ac Adda roi bywyd iddo ef ac iw hâd credadwy. Felly yn ol gwneu­thur unwaith y cyfammod o ras, afraid y fuasei adnewyddu 'r cyfammod o wei­thredoedd, fel y caed cyfiawnhaad a by­wyd ar ei cadwriaeth: A hyn a ym­ddengys yn eglurach etto, os ystyriwn ni, â ddywedodd yr Apostol oblegid y cyfammod o weithredoedd fal y rho­ddwyd ar fynydd Sinai, Gal. 3. 19. sef ei roddi yn ychwaneg oblegid trosseddau. Ni ro­ddwyd mo honaw fal rheol didwyll barhaus of cyfiawnder, megis ac y rodda­seid ar y cyntaf i Adda ym mharadwys, eithr efe a achwanegwyd, neu a osod­wyd yn ychwaneg: Ac ni osodwyd i fynu, fal peth safadwy o hono ei hu­nan.

Nom.
[Page 57]

Wrth hyn, Syr, y gweddei ach­wanegu 'r cyfammod o weithredoedd at y cyfammod o râs, mwyn ei perffeithio fwy-fwy.

Evan.

Naddo ddim nid felly y mae i chwi ystyried yr Apostol, fel pe rho­ddaseid y cyfammod, o weithredoedd yn ychwaneg, fal rhan or cysammod o ras, fel pe buasei'r cyfammod o ras yn an­ghyflawn o hono ei hun, heb yn cydieid a'r cyfammod o weithre­doedd, canys yna y buasei yn yr un cyfammod defnyddiau gwrthwy­nebaidd anghydfodol, ac felly efe a ddistrywiasei ei hunan: Canys, medd yr Apostol. Os o ras y mae, nid yw o weithredoedd mwyach, Rhuf. 11. 6. os amgen nid yw gras yn ras mwyach os amgen nid yw gweithred yn weithred mwyach. Eithr efe achwa­negwyd fal peth gweiniol, er mwyn dyr­chafu 'r cyfammod o ras yn uwch, a phery ei bod yn rymmusach ac felly, er adnewyddu ar fynnydd Sinai yr un cy­fammod, ac a wnaethpwyd ac Adda, etto, nis gwnaethpwyd mo honaw, meddaf fi, ir un diben, a diwedd, canys hyn oedd amcan Duw yn y cyfammod o weithredoedd a wnaethei ef â dyn yn ei cyflwr o ddiniweidrwydd, i dderbyn [Page 58] y peth oedd dyledus ar ddyn iddo. Eithr Duw ai gwnaeth â phobl Israel nid i un diben amgen, nac i yrru dyn, wedi ei argyoeddi oi wendid ei hunan, at Grist, ac ar hyn, nis adnewyddiwd mo honawyn amgen nac i helpio yn y blaen ac ihebrwng cyfammod arall a gwell i mewn, ac i fod fel llaw-arweiniwr at Grist, sef i ddinoethi pechod, i ddihu­no 'r cydwybod, au argyoeddi hwy ou anabledd ei hunain, ac felly iw gyrru hwy allan ou hunain, at Grist▪ Bydded hyspys gennich chwi, adolwg, na ro­ddwyd hyd yr holl amser hyn, amgen ffordd o fywyd, nac yn y cyfan, nac o rhan, nar cyfammod o ras, canys yr Arglwydd hyd yr holl amser hyn a canlyuodd ei fwriad, oi rhwydd rhâd ei hun, Ac am hynny nid oedd dim an­wastadrwydd, nac yngweithredoedd Duw, nai ewyllys, yn unig, gan gym­maint oedd ei drugaredd ef, efe a dda­rostwngodd y cyfammod o weithredo­edd, ac ai gwnaeth yn weiniol ir cyfam­mod o ras, ac yn cyfeiriol ac amcanion Efangylaidd.

Nom.

Je, ond peth rhyfeddol teby­gwn i, Syr, yw hyn, ir Arglwydd eu rhwymo hwy i cadw'r gyfrarth, dan addo iddint fywyd tros ei chadw, [Page 59] ac etto heb fwriadu 'r fath peth erioed.

Evan.

Beth am hynny, etto nid ofyn­nodd ef ganthint ddim, a fai anghyfi­awn nac ni rhacrhithiodd ef o honint yn yr addewid: o herwydd mai cyfiawn yw, ir Arglwydd gofyn ufydd-dod hollawl ar law pob dyn, o herwydd y cyfammod hwnnw a wnelsid o honint hwy yn Adda, ac os gallasei neb llwyr cadw ac ufyddhau ir cyfraih yn ei gweithredoedd ai dioddefiadau, efe a celsei fywyd tragwyddol, canys gwyri­onedd diammeu yw hyn, (ebe Calvin) fod y gwobr o fywyd tragwyddol yn perthynu yn ddyledus at uniawn ufy­ddhaad or cyfraith, ond efe y wydde Duw yn hyspys, nad oedd bossibl i bobl yr Israel rhoi'r fath ufydddod, etto efe a rhyngodd ei fodd ef cynnyg bywyd tragwyddol iddint ar y fath ammodau fal y gallei ef llefaru wrthint yn ol eu calonnau ei hunain, (megis yr oedd yn wir yn weddus) am ei bod hwy yn chwyddo gan ymddiriediad orwyllt yn­ddint eu hunain: pan y dywedent fal hyn: Nyni a wnawn yr hyn oll a lefa­rodd yr Arglwydd, Exod. 19. 8. 24. 3. ac a fyddwn ufydd: Ar hyn, bodlon, ebe 'r Arglwydd, Od oes arnoch chwi eisieu peth iw wneu­thur, [Page 60] wele, dymma cyfraith i chwi iw cadw, ac o gellwch cyflawni ei chyfi­awnder hi, cadwedig y fyddwch: fal hyn y danfonodd ef hwy oi wir-fodd at gyfraith iw dihuno, a'uargyoeddi, a'u barnu a'u plygu, ac i peri iddint weled eu ynsydrwydd eu hunain, yn eu ymo­fynniad o fywyd trwy 'r fath fford a honno: ac ar un gair, hyn y wnaeth ef, er peri iddint wybod yn eglur yr am­modau caethion, a pa rai y rhwymwyd hwy, fal yr hebryngeid hwy allan o'u hunain, heb ddisgwyl am ddim oddiwrth y cyfraith, o rhan bywyd, eithr y cwbl oll oddiwrth Grist. Canys pa wedd y deallei ddyn pa rhaid oedd iddo wrth, fywyd trwy Grist, oddieithr iddo we­led yn gyntaf ei fod ef wedi cwympo oddiwrth y llwybr o fywyd? A pa wedd y deallei ef pa cybellhed y cyfeiliorna­seiallan o lwybr bywyd nes yn gwyppei yn cyntaf pa beth oedd y llwybr hwnnw o fywyd? O herwydd pa ham yr oedd yn rhaid ir Arglwydd gwneuthur felly o honint er eu gyrru allan o'u hu­nain, an troi oddiwrth pob ymddiried yn ngweithredoedd y cyfraith, fal y mwynhaent cyfiawnder, a bywyd trwy ffydd yn Ghrist Jesu. Yn yr un cyffelib foddy gwnaeth ein Jachawdwr Iesu [Page 61] Grist a'r esponiwr ievangc or gyfraith, yr hwn, ac ynteu yn claf o'r un clefyd, a ofynnei, gan ddywedyd, Athro da, pa beth da a wnaf, fal y caffwyf fywyd trag­wyddol? Nid yw ef (ebe Calvin) yn gofyn yn syml, pa wedd, neu pa ffordd y caffei ef fy wyd tragwyddol, eithr pa ddaioni y wnelei ef er mwyn ei cael: lle y mae yn amlwg mae gwr coeg-falch oedd ef yn ei cyfiawnbau ei hunan, chwyddedig gan ei tyb cnawdol gwâg fod gantho allu i cadw'r gyfraith er iechydwriaeth iw enaid, o her wydd pa ham, y danfo­noddyd ef, a nid heb achos, at y gy­fraith iw cadw, nes yn blinei ef o honi, ac y gwelei or diwedd pa cyn rheitied oedd iddo ddyfod Christ am gorph wys­dra. Ac yn y modd hyn y gwelwch chwi, achwanegu or Arglwydd at ei addewidion cyntaf a wnaethei ef ar Ta­dau, cyfraith tanllyd, yr hon y roddodd ef oddiar fynydd Sinai, gyda tharanau, a mellt, a lleferydd ofnadwy, ir Israel wrthnyssig gwarcaled, fel y dofeid, ac y darostwngeid hwy, ac fal y pereid iddint ochneidio, ac hiraethu am y Pryni­awdwr addawedig.

Ant.

Ac a weithiodd y gyfraith ar­nint, yn ol hynny o fwriad, ac amcan yr Arglwydd?

Evan.
[Page 62]

Do yn wir, fel y gwelwch yn amlwg o systyriwch chwi hyn oll, sef er eu bod hwy yn feilchion aruth, ac yn hyderu ar eu gallu eu huuain i wneu­thur y cwbl oll ar a orchymmynnasei 'r Arglwydd, cyn cyhoeddi hyn o cy­fammod, etto, cyn cynted ac yr ymddan­gosodd ef fal Arglwydd arnint, (a hwy­thau fel caeth-ddynion dan y cyfammod o weithredoedd) dan egluro ei hunan yn farnwr ofnadwy, yn eistedd ar ei or­sedd-faingc o farn, fal mynydd yn llosci yn dân ac yn en gwysio hwy â sain yr udcorn i ddyfod ger ei fron ef, (ond etto o hirbell, rhac cyfwrdd ar mynydd nai gwrr ef ychwaith) oni bai fod iddint ddadleuwr; nid allent hwy oddef llef geiriau, nac aros yr hyn a orchymmyn­naseid, hyd onid ofnodd ac y crynodd ie Moses ei hunan, ac ef y ddaeth y fath syndod, a braw, ac arswyd arnint oll, fal nad oeddent weithian yn lledu eu escyll goreurog paun mwyach. Y golwg echrydus hyn ym mha un y ro­ddodd Duw ei gyfraith ar fynydd Sinai, a arwyddocaodd ymarfer y gyfraith: yr oedd yn y bobl Israel a ddaethei allan or Aipht, sancteiddrwydd a duwioldeb rhagorol, Exo. 19. 14. a hwy a orfoleddent yn hyn­ny gan ddywedyd; Bobl Duwyd ym ni, [Page 63] nyni a wnawn yr hyn oll a orchym­mynno 'r Arglwydd. Heb law hyn, Moses a'u sancteiddiasei hwy, ac a barasei iddint olchi eu dillad, ac ymgadw rhac eu gwragedd, ac ymbarottoi eu hunain, erbyn y trydydd ddydd, ar hyn nid oedd un (malpai) o honint, nad oedd yn llawn sancteiddrwydd. Ac ar y trydydd ddydd y dug Moses y bobl allan or werssyll i odre 'r mynydd, i gyfarfod a Duw, ac i clywed ei leferydd ef: ond boedd y bu wedi hynny? cyn cynted ac y gwelsont hwy y golwg ofnadwy, sef y mynydd yn llosci, ar cwmwlau yn tewychu, ac yn duo, ar mellt yn gwau o bob barth, Exod. 20. 18. 19. ynganol y tywyllwch mwyaf a phan y clywsont llais yr udcorn, yn parhau yn hirach yn cryf­hau fwy-fwy, hwy a ciliasunt gan ofn, ac a safafant, o hirbell, ac a ddywedasant wrth Moses, nid fal cynt, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefaro 'r Arglwydd, eithr Moses llefara di wrthym ni, Exod. 19. 8. ac nyni a wranadwn, ond na lefared Duw wrthym, rhac i ni farw. Erbyn hyn y gwybuont hwy mai pe chaduriaid oedd­ent, a'u bod wedi digio Duw, ac am hynny yn sefyll mewn eisien o ryw Cyfrwngwr i eirioli am heddwch, ac i ymbil am cymmod rhwngthint hwy a [Page 64] Duw, Ar Arglwydd a fu fodlon au gei­riau hwy, fal y mae iw ddarllein, Deut. 5. 28. Deut. 5. 28. lle y mae Moses, yn ol iddo adrodd eu geiriau hwy yn achwanegu hyn hefyd: Ar Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi pan lefarasoch wrthif, a dywedodd yr Arglwydd wrthif, cly­wais lais eiriau y bobl hyn, y rhai y le­farasant wrthit, da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant: sef hyn, am iddint ddmuno cael Cyfrwngwr; ysty­riwch ymma adolwg, nas canmolwyd hwy ddim, am iddint ddywedyd hyn Nyni a wnawn yr hyn oll a orchym­mynno'r Arglwydd. Naddo ddim (ebe wr duwiol, nis canmolwyd am ddimamgen, nac am eu dymuniad o cael Cyfrwngwr, canys ar hyn yr addawodd yr Arglwydd y Christ iddint, fal y tystiolaetha Moses gan ddywedyd: Yr Arglwydd Dduw a gyfyd i ti o'th blith dy hun, o'th frodyr dy hun, brophwyd megis finneu, arno ef ygwrandewch: yn ol yr hyn a geifiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb yn nydd y gymmanfa, gan ddy­wedyd, na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tan mawr hwn mwyach, rhac fy marw. A dywedodd wrthif, da y dywedasant yn hyn a ddywedasant: Codaf brophwyd [Page 65] iddint o fysc eu brodyr, fel titheu, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef: ac efe a lefara wrthint yr hyn oll a orchy­mmynnwyf iddo. Ac er siccrhau, i ni mai Christ oedd y prophwyd hwnnw a coffawyd ymma, ef amlygodd Christ ei hun gan ddywedyd wrth yr Iddewon. Pe credasech i Moses chwi a credasech i minneu hefyd am ei fod ef yn scrifennu am danaf i Ac y mae'r Apostol Petr, Act. 3. 22. 7. 37. ar Merthyr Stephan, yn tystiolaethu mai hyn oedd y peth y scrifennasei Moses ob­legid Christ. Wrth hyn y gwelwch chwi ddarfod ir Arglwydd adnewyddu yr addewid â honynt, ie ar cyfammod o ras a wnelsid ac Abraham, yn ol eu da­rostwng hwy, a pheri iddint hiraethu yn ochneidiol am Ghrist yr hâd adda­wedig trwy weinidogaeth y cyfam­mod o weithredoedd, a wnelfid ac Adda.

Ant.

Pa wedd, Syr, actolwg, y dan­gosir darfod ir Arglwyddd adnewyddu cyfammod hwnnw a hwynt?

Evan.

Y mae hynny yn eglur wrth hyn, am roddi or Arglwydd iddint hwy trwy Moses y deddfaau Offeiria­daidd, ac ordeinio 'r Pabell, ar Arch, ar Drugareddfa, gwir arwyddion oll o Grist. Heb law hyn, yr Arglwydol a [Page 66] alwodd ar Moses, Levit. 1. 1. ac a lefarodd wrtho o Babell y cyfarfod, ac a orchymmynnodd iddo scrifennu i lawr yr holl ddeddfâau Offeiriadaidd, ac Ordiniadau 'r Babell: gan achwanegu hyn hefyd: mai yn ol y geiriau hyn y gwnelsei ef y Cyfammod a Moses, Exo. 34. 27. ac ag Israel. Ac felly y wnaeth Moses canys efe a scrifennodd yr holl ddeddfaau ar cyfreithiau hyn, nid ar llech faen, ond mewn llyfr awduredig (medd gwr dyscedig) yr hwn a elwid yn llyfr y cyfammod, yr hwn y ddarlle­nodd Moses yngwydd y bobl, Exod. 24. 7. ar bobl yn cyttûn a ddywedasant, Ni a wnawn ac a wrandawn. Yno Moses wedi dan­fon llanyciau meibion Israel y rhai oe­ddent cyntaf anedig ac o herwydd uchel­fraint eu genedigaeth yn offeiriaid hyd yn amser y hefiaid i offi ymmu aberthau llosc ac aberthau hedd ir Arglwydd, Moses, meddaf, a cymmerodd y gwaed ac ai taenellodd ar y bobl, ac a ddywedodd, wele waed y cyfammod yr hwn a wnaeth yr Arglwydd a chwi ar ôl yr holl gei­riau hyn, ymma yr ystyriawn, eu dyscu hwy fod y cyfammod hwnnw rhwng­thint hwy a Duw wedi ddiogelhau ar hyder gwaed ac y cfiawnhae Christ trwy ollyngiad ei waed ei hun tros eu pechodau hwy, canys mewn gwirionedd [Page 67] yr oedd y cyfammod o ras wedi ei selio a gwaed Christ trwy arwyddion a chyscodau cyn ei ddyfod ef erioed yn y cnawd.

Ant.

Je ond Syr, ai yr un cyfammod ymhob fford oedd hwn ar un a wnaeth­pwyd ac Abraham?

Evan.

Yn wir yr wyf i or cred hyn, mai gwir oedd geiriau Bullinger ddy­scedig pan y dywedodd ef nas rhoddodd Duw ir bobl hyn un amgen crefydd, o rhan ei naturiaeth ai sylwedd ai def­nydd nac y rhoddasei ef yn ei ddeddfau iw Tadau hwy, er iddo, am ryw rhes­wmmau achwanegu attint llawer o ceremoniau, neu Defodau ac amryw or­diniadau er mewn cadw en meddyliau mewn gwastadol disgwylfa am Grist, yr hwn y promisiasei ef iddint, ac er eu cadarnhau yn eu edrychiad am dano rhag iddint ddiffygio. Ac megis y gwnaeth yr Arglwydd fal hyn ar Ce­remoniau neu 'r defodau iw hebrwng hwy (fel pe dywedwn felly) herwydd eu dwylo, at Grist, felly y gwnaeth ef addewid iddint o tir Canaan ac o lwy­ddiant bydol yno, fal cyscod or nef ac o ddedwyddid tragwyddol hyd onid yw yn eglur gwneuthur or Arglwydd o honint hwy fal a phlant yn eu mebyd [Page 68] au iefengtid, dan eu harwain hwy trwy cyn northwy pethau daiarol at pethau ysprydol nefol, am nad oeddent onid iefangc a thyner heb dderbyn y fath mesur neu amlder oi yspryd, ac y ro­ddod ef yw bobl yn awr tan yr Efengyl.

Ant.

Ac a ydych chwi yn tybied ir Israeliaid weled Christ, a iechydwria­eth trwyddo ef yn yr amseroedd hynny trwy 'r arwyddion ar cyscodau ymma?

Evan.

Yydwyf yn siccr, ac y mae yn ddi-ammeu, weled o Moses, ar lleill or ffyddlonia id ym mhlith yr Iddewon Christ yn y cyscodau rheini, canys er bod ir aberthau ar defodau oll (megis y dywaid gwr dedwydd) ryw oleuni o Grist fel golen 'r sêr etto yr oedd i rhai o honint teg oleuni fel y wawr, a hwy a ddangosasant Grist â phob am­gylch-wir a phob rhinwedd oi farwo­laeth ef cyn eglured a pe ddangoseid ei oddefaint ef yn weithredol ar cyho­edd y byd, hyd onid wyf ebe efe, yn siccr ac nid allaf amgen na chredu, ddarfod ir Arglwydd cyhoeddu i Moses dirgelidigaethau Christ a gwir ddull oi farwolaeth ef ym mlaen llaw, ac am hynny ni ellir ei ammeu, nas offrym­mafant hwy eu haberthau trwy ffydd yn y Messias, (fel y tystiolaetha 'r Apo­stol [Page 69] oblegid Abel) ie meddaf, ni ddylid ei ammeu nad oedd pob Iddew ysprydol credadwy pan y dygei ef ei aberth iw offrymmu a phan y gosodei, ef yn ol gorchymmyn yr Arglwydd, Heb. 11. 4 ei law arno, tra y bai etto yn fwy yn cydnabod, yn ei galon, mae efe ei hunan a haeddasei i farw, eithr ei arbed ef a'i cadw trwy trugaredd Duw, a bwrw ei haeddiant ef ar yr anufail, aberthaidd, ac megis yr oedd yr anufail hwnnw i farw ac iw of­frymmu, yn aberth trosto ef felly y credei ef y dawei 'r Messias ac y byddei ef farw trosto, ar pa un y gosodei ef ei ddwylo, hynny yw ei holl an wireddau trwy law ffyd: felly ynteu, fel y mae Beza yn dywe­did, dirgelidigaethau sancteiddiol oedd yr aberthau iddint hwy ym mha rhai, fel mewn drychiau, y gwelsont hwy eu hunain, iw damnedigaeth ger bron Duw, a thrugaredd Duw hefyd yn yr addawe­dig Messias â oedd i ddyfod mewn am­ser, Ac am hynny (medd Calvin) y gel­weid yr aberthau, a'r offrwmmau cy­fieiwnhaol Ashemoth, yr hwn gair yn briodol a ystyria Pechod ei hunan, er dangos fod digonol iawn a dywygiad trwy roddi ei enaid ei hun i fod yn Asham, hynny yw, ddigonol aberth.

O herwydd pa ham y gellwch chwi [Page 70] siccrhau eich hunain yn hyn: sef, fel, y gosodwyd Christ yn wastadol yng­wydd y tadau yn yr hên Destament, at pa un y cyfarwyddent hwy eu ffyd, ac fel ni chyffrood Duw un gobaith yn­ddint hwy o ras, neu trugaredd, ac nis dangosodd ei hunan yn ddaionus iddint un amser heb Grist: neu allan o Grist, felly y rhai ffyddlon yn yr hen Desta­ment, a adnabuasant Grist, trwy pa un y cawsant addewidion Duw, ac au cyssy­lltwyd atto. Ac yn wir, nid arhosei 'r addewid o iechydwriaeth yn siccr un amser nes yn delei hyd at Grist: ac yno oedd eu cwmffwrdd hwy yn eu holl blinderau, a'r cyfingderau: fel y dywet­pwyd oblegid Moses: Efe a oddefodd fel un yn gweled yr amweledig gan farnu yn fwy golud dirmyg Christ, Heb. 11. 26. na thryssorau yr Aipht: canys edrych yr oedd ef ar daledigaeth y gwobrwy,

Ac felly, (megis y dywedodd Ignatius) gweision Christ oedd y Prophwydi, y rhai gan ei rhagweled ef yn yr yspryd a ddisgwyliasant am dano, fel eu Meistr, au Hathro, ac a edrychasant am dano fel eu Harglwydd, a'u Jachawdwr, gan ddywedyd, Efe a ddaw, ac a'n cadw ni.

Ac felly (ebe Calvin) cyn fynyched ac y [Page 71] sonnie prophwvdi oblegid dedwydd­wch y ffyddloniaid, efe a fyddei 'r dde­lw-lun, a penctiasant hwyo honi cyn perffeithied a chyn decced fel y dyrcha­fei meddyliau dynion uwch daiar, ac o wir rhad a'u cyfoder i fynu i ystyriaeth o ddedwydd wch y byd a oedd i ddyfod, hyd onid allwn ni fwrw yn siccr gyd a Luther, bod y Tadau, a'r Prophwydi, a'r sanctaidd Frenhinoedd oll yn cyfiawn, ac yn cadwedig trwy ffydd yn Ghrist, yr hwn oedd ar ddyfod; ac felly (megis y dywaid Calvin) yn gydgyfrannogion a nyni o'r un ryw iechydwriaeth.

Ant.

Je ond Syr, y mar 'r Scrythur lân mewn dangosiad yn dal fel pe bua­sent hwy yn cadwedig un fford a ninneu ffordd arall, canys y mae 'r Prophwyd Jeremi, fel y gwyddoch chwi, yn coffa Cyfammod dau-ryw, ac am hynny y mae yn rhyfedd gennif i eu bod hwy yn cyd­gyfrannogion a nyni, o'r un iechywri­aeth.

Evan.

Yn siccr y mae yn wir roi o'r Arglwydd ir Tadau Gyfyawnder Bywyd ac Jechidwriaeth tragwyddol yn Ghrist a thrwy Grist y Cyfrwngwr, ac yn teu heb ddyfod etto yn y cnawd, eithr wedi ei addo. Ond y mae ef in rhoi i nyni dan y Testament newydd, neu 'r Efen­gyl, [Page 72] hyn igid yn Ghrist, a thrwy Grist yr hwn a sy wedi dyfod eusys, ac wedi pwrcassu'r cwbl yn weithredol trosom ni. Ac yr oedd y Cyfammod o ras wedi ei selio cyn dyfod Christ, ai waed ef mewn cyfrodau, ac arwyddion: ac a seliwd, ac a cadarnhawyd ar ei farwo­laeth yn ei cnawd trwy wir weithredol ollyngiad o'i waed ef tros ein pechodau ni. Ac yr oedd yr hên cyfammod o rhan ei ffurf oddiallan, a threfn ei seliad yn amserol, ac yn newidiol ac am hynny y cyscodau a ddarfuont, a'u sylwedd yn unig a erys yn ddiogel, eithr y mae, r seliau newydd yn anghyfnewidiol am eu bod hwy yn coffadwriol yn dangos marwolaeth yr Arglwydd, hyd oni ddelo ef drachefn. Ac heb law hyn yr oedd eu Cyfammod hwy yn bennaf ac yn cyntaf yn adda bendithion daiarol, 1 Cor. 11. 27▪ a thanint hwy, ac yndint hwy, yr ar­wyddocawyd, ac y promisiwyd holl fen­dithion ysprydol ac iechydwriaeth, eithr y mae ein cyfammod, ni tan yr efengyl yn addo Christ a'i fendithion oll yn bennaf, ac o flen dim, ac yn ol hynny fendithion daiarol.

Dymma 'r gwahaniaeth a'r cyffelib amrywiaeth amgylchaidd o rhan weni­dogaeth oedd rhwwng eu llwybr hwy o [Page 73] iechydwriaeth, a'u cyfammod o ras, a'n cyfammod ni a'n llwybr nio fywyd: a hyn a barei i'r Awdwr or llythr at yr Haebreayd, Heb. 8. 8. i alw eu cyfammod hwy yn hên, a'n cyfammod ni yn newydd: eithr o rhan sylwedd yr oeddent yn un, ac or un rhyw, can ys rheol didwyll yw hynym mhob cyfammodau: os yr un yw 'r defnydd, a'r ffrwyth, a'r ammodau, yno yr un y fydd y cyfammod: eithr Christ Jesu yw 'r matter gosodedig o'r ddau, ac Jechydwriaeth yw ffrwyth y ddau a ffydd yw 'r ammod ym mhob un o'r ddau, am hynny meddaf, er eu galw hwy yn ddau, etto nid ydint onid un yn unig; a hyn a siccrheir trwy tystio­laeth dau dyst fyddlon. Yr Apostol Petr yw 'r un, Act. 15. 11. yr hwn a ddywaid fel hyn: Trwy râs yr Arglwydd Jesu Grist yr ydym ni yn credu ein bod yn gadwe­dig, yr un modd an hwythau: a phwy oedd rheini? nid amgen nar Tadau 'r hên Destament, fal y mae yn amlwg yn y wers nessaf o'r blaen. Y llall ywr' Apostol Paul, yr hwn a ddywaid fel hyn. Abraham a credodd i Dduw, a hyn a cyrfifwyd iddo yn gtfiawnder, gwybyddwch am hynny mai y rhai sy o ffydd, Gal. 3. 6. 7. y rhai hynny yw plant Abraham. Wrth pa tystiolaeth (ebe Luther) y [Page 74] gwelwn ni yn amlwg, mai yr un o rhan sylwedd oedd ffydd ein Tadau yn yr hen Destament, an ffydd ni dan yr Efengyl.

Ant.

Je ond gwrandewch Syr: a allasant hwy a fuasent fyw cyd o amser o flaen Christ, ymaflid ar ei gyfiawnder ef trwy ffydd, er eu cyfiawnhaad, a'u iechydwriaeth?

Evan.

Gallasant yn wir, canys y mae cyn esmwythed i ffydd ymygryraedd cy­fiawnder i ddyfod ac y mae i daro gafael ar cyfiawnder, a sy wedi myned heibio eusys: o herwydd pa ham fel yr oedd genedigaeth Christ, a'i ufydd-dod, a'i farwolaeth mor wrymmus yn yr hen Destament i cadw pechaduriaid, ac y maent yn awr: felly y bu yr holl Tadau ffyddlon er y dechreuad yn cyfranno­gion o'r un gras a ninneu, trwy credu yn yr un Christ Jesu, a hwy a cyfiawn­hawyd trwy ei cyfiwander ef, ac a gad­wyd yn dragywydd trwy ffydd ynddo ef. Trwy nerth marwolaeth Christ y trosglwyddwyd Enoch, fel ni welei ef angeu: a thrwy nerth, a rhinwedd ail­cyfodiad, ac escynniad Christ y cip­piwd Elias i fynu i'r nef: felly ynteu, trwy Ghrist Jesu yn unig y caed, er de­chreu'r byd, ac y ceir iechydwriaeth i [Page 75] pechaduriaid hyd ei ddiwedd: fel y scrifennwyd: Jesu Ghrist ddoe, a heddyw y un, ac yn dragywydd.

Ant.

Wrth hyn, Syr, y gwyddai, na chadwyd y rhai cadwedig o'r Iddewon trwy gweithredoedd y gy­fraith.

Evan.

Na chadwyd yn wir, nis cy­fia wnhawyd hwy ac nis cadwyd, na thrwy 'r gyfraith Moesawl, nar de­fodol, canys fel y clwysoch o'r blaen yr oeddent hwy yn gweled ammhossib­laeth i cadw 'r gy raith Moesawl a ro­ddwyd iddint gyd a braw mawr, a than boenau ofnadwy ac o herwydd hynny a yrrwyd i ceissio cynnorthwy gan cyfrwngwr, sef Jesu Ghrist, o pa un yr oedd Moses yn cyfrwngwr ar­wyddocaal iddint: hyd oni yrrodd y gy­fraith Moesawl hwy at y gyfraith defo­dol, yr hon oedd eu Efengyl hwy, au Christ mewn ffigr neu cyscod: Canys gwirionedd â cydnabyddwyd, ac a cyffesswyd gan bawb yw hyn fod y de­fodau ar ceremoniau yn ragddangos Christ, ac yn eu cyfarwyddo hwy atto ef, ac yn gofyn ffydd ynddo ef.

Nom.

Ond Syr, yr wyf fi o'r crêd hyn, sef, er ni chyfiawnhawyd, ac nis cadwyd o'r ffyddloniaid lddewaidd [Page 76] twry weithredoedd, y gyfraith, etto yr oedd ef yn rheol o ufydddod iddint.

Evan.

Y mae yn wir ddigon mai rheol o ufyddddod oedd y dec gorchymmyn iddint, etto nid felyr oeddentyn gyfraeth o'r weithredoedd, eithr, fal cyfraith Christ: fal y gellir ei weled yn amlwg, os ystyriwch pa wedd y rhoddodd yr Arglwydd y dec gorchymmyn i Moses, wedi i'r Arglwydd eu scrifennu hwy yr ail waith 'ai fys ei hun ar lechau o faen, dan gorchymmyn iddo ddarparu Arch iw gosod hwy ynddo; Deut. 9. 10. 10. 5. a pha ham hyn­ny? nid yn unig er mwyn eu cadw hwy yn ddiniwed eithr er gorchuddio hefyd ffurf y Cyfammod o weithredoedd, a oedd arnint hwy gynt, fal nis gwelei 'r ffyddloniaid mo hono, canys arwydd o Ghrist oedd yr Arch, ac am hynny yr oedd eu gosodiad hwy yn yr Arch yn ddangosiad o'u bod wedi eu cyflawni yn hollawl ynddo ef, gan ei fod ef yn ddiben or cyfraith, er cyfiawnder i pawb a credont: Rhuf. 10. 4. a hyn ymmhellach a eglur­wyd yn amlyccach etto wrth hyn, o fod llyfr y cyfraith wedi ei sefydlu rhwng y Cherubiaid, ac ar y Drugareddfa er siccarhau 'r ffyddloniaid, dyfod or gy­fraith weithian attint or Drugareddfa: [Page 77] canys yno yr addawodd Duw cyfarfod â Moses, ac iymddiddan ac ef, oblegid yr holl bethau a orchymmynn ei ef iddint. Exo. 25. 22.

Ant.

Ond Syr, a ddilenwyd y ffurf yn llwyr fal nad oedd y dec gorchym­myn mwyach yn Gyfammod o wei­thredoedd?

Evan.

Naddo ddim, ac ni ddylech chwi moi ystyried felly: canys oddiwrth Duw ei hunan yn ddicyfrwng ydaeth y ffurf o'r cyfammod weithredoedd cyn cystled a'r defnydd, neu'r matter o hono (o rhan Duw) ac am hynny y mae 'r ffur or cyfammond yn cyffelib Dduw yn dragwyddol. Ar hyn y dywedei ein Jachawdwr Jesu Ghrist: Hyd onid êl y nef a'r ddaiar heibio, Matth. 5. 18. nid â un iot nac un tippyn o'r gyfraith heibio, hyd oni chwplaer oll. Hyd onid oedd yn rhaid naale i ddyn ei hunan ynteu i ryw un arall trosto cwplau, neu cyflawni holl ammodau 'r gyfraith, fall y mae ef yn cyfammod o weithredoedd, ac onid ê y mae ef yn aros dano mewn cyflwrdamn­nedig: ond yn awr Christ 'ai cyflaw­nodd tros y ffydloniaid oll, ac am hynny y dywedais i orchuddio neu tynnu ym­maith ffurf y Cyfammod o weithredo­edd o rhan yr Idde won credadwy, ond [Page 78] etto nis tynnwyd o hono ymmaith 'oi rhan ei hunan, nac ychwaith o rhan yr Iddewon anghredadwy.

Nom.

A oedd y cyfraith ynteu iw ymarfer yn eu plyth hwy, fel yr oedd hi yn cyfammod o weithredoedd?

Evan.

Oedd yn siccr.

Ant.

Dangoswch, attolwg, Syr o pa ymarfer yr oedd y gyfraith iddint hwy.

Evan.

Yr wyf fi yn cofio, fod Luther yn son am ddau ryw o ddynion anghy­fiawn neu anffyddlon, o pa rai yr oedd un ryw iw cyfiawnhau, 'ar llall yn aros, yn anghyfiawn; yn yr un cyffelib y bu ym mhlith yr Iddewon yn awr, oblegid y sawl oedd iw cyfiawnhau, yr oedd hi (megis y clywsoch) yw ymarfer byth, er mwyn eu harwain hwy at Ghrist me­gis y mae 'r Apostol yn dywedid: y gy­fraith oedd ein Athro ni at Grist, fel in cyfiawnhaid drwy ffydd: hynny yw, y cyfraith foesawl au dyscodd hwy, ac au cyfarwyddodd pa beth oedd iddint iw wneuthur, ac yn y modd hynny a cyho­eddodd pa beth yr adawent heb ei wneuthur, a hyn a barei iddint hwy fyned at y gyfraith defodol, gan pa un y dyscwyd hwy, ddarfod i Ghrist ei cwplau trostint, a hwythau yn credu [Page 79] hyn a wnaethpwyd yn cyfiawn trwy ffydd ynddo ef, Ac 'ir ail ryw yr oedd hi 'or ymarfer hyn ar ddeundd, iw dyscu hwy pa beth oedd da, a pha beth oedd dyrwg, ac i fod fel ffrwyn iw attal hwy rhag drygioni, ac fel annogiad iw cym­mhell yn y blaen i ddaioni, gan ofn co­spedigaeth, neu o obaith am wobr yn y byd hyn, yr hon er nad oedd hi onid ufyddhaad anfoddol anewyllyscar, etto yr oedd yn anghenrheidiol er llesâad y gwladwriaeth cyffredin, o herwydd cyn­nal llonyddwch a heddwch yn well o hynny. Ac er ni allent na diangc mar­wolaeth, na mwynhau bywyd tragwy­ddol trwy eu ufydd-dod, am nad oedd yn perffeith, etto pa fwyaf o usydddod y roddent hwy iddi, mwy fwy y rhyddha­eid hwy oddiwrth aflwydd amserol a blinderau corphorol, a mwy y feddi­annent o fendithion daiarol, yn ol addewid a bygwythiad yr Arglwydd, Deut. 28.

Ant.

Je ond Syr y mae'r Arglwydd yn y lle hwnnw yn llefaru, fel y gwe­ddei, wrth ei bobl ei hun ac etto yn ol dull y cyfammod o weithredoedd, ar hun y tybiais i fod y ffyddloniaid yn yr hen Destment, o rhan, dan y cyfammod o weithredoedd.

Evan.
[Page 80]

Onid ych chwi yn cofio, i mi ddywedyd wrthych chwi eusys, ddangos or Arglwydd cymmaint o cariad'ir holl cenedl honno, hyd oni osoywyd holl hîl Abraham dan Gyfammod gwla­daidd, neu Eglwys cenedlaidd, ac y cyn­nwysiwd yr anffyddloniaid hefyd yn y cyfammod er mwyn y rhai credadwy, ac am hynny y rhyngodd bodd yr Ar­gl wydd eu galw hwy i gyd oll yn bobl iddo ei hunan cyn cystled yr anffydd­loniaid 'ar ffyddloniaid, 'ai alw ei hun yn Dduw iddint hwy. Ac er llefaru 'or Arglwydd yno wrthint yn ol dull cy­cyfammod o weithredoedd, etto ni wn i un ystyr, pam na chyfarwyddei ef, ac a arfaethei ei ymmadrodd'ir ffyddloniaid hefyd, a hwythau yn aros byth tan y cy­fammod o ras yn unig.

Ant.

Je ond chwi a ddywedasoch, Syr, llefaru 'or Arglwydd wrthint hwy allan or' Babell, ac oddiar y Drugaredd­fa, ac yn ddiammeu yn ol trefn cy­fammod o ras y bu hynny a nid yn ol trefn y cyfammod o weithredoedd.

Evan.

Synniwch adolwg pa wedd y dywedir yn nechreu r nawfed pennod ar ugain o Deuter. yn ol'ir Arglwydd cyhoeddi yr holl fendithion, 'ar mell­dithion hynny Deut. 28. fell hyn: Deut. 29. 1. [Page 81] Dymma eiriau y cyfammod a orchym­mynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur a meibion Israel yn nhir Moab, heb law y cyfammod a ammo­dodd efe â hwynt yn Horeb. Oddiymma y mae yn amlwg im tyb i, nad hwn oedd y cyfammod o weithredoedd a rodd­wyd iddint hwy ar fynydd Sinai: canys bendithion a melldithion tragwyddol oedd y ffurf 'or cyfammod hwnnw, eithr melltithion a bendithion amserol yw ffurf y cyfammod hwn, hyd onid yw hwn yn tebyccach i fod yn ysgo lia­eth 'or cyfraith, nag yn cyfammod o weithredoedd, canys yn yr amser hynny, efe a arweiniwd y bobl (fal y gweddei) ar hyd llwybrau ufydd-dod trwy adde­widion o fendithion amserol daiarol, a hwy a frawychwyd oddiwrth llwybrau anufydddod trwy fygwythion amserol: Yn hyn yr oedd, Duw yn gwneuthur o honint hwy fel a rhai yn eu mebyd, a than oedran, dan eu harwein, 'au llithio trwy dêg, 'au brawychu trwy hagr, am nad oedd ganthint onid mesur bychan or yspryd.

Nom.

Je ond Syr onid yr un oedd defnydd, neu matter cyfammod hwnnw, a hwn.

Evan.

Je yn wir y dec gorchymmyn [Page 82] oedd defnydd y ddau cyfammod, ond eu bod hwy yn unig yn anhynnebid iw gilydd o rhan eu ffurf.

Ant.

Wrth hynny ynteu ef y wyddei, Syr nad oedd yr addewidion, 'ar by­gwythion a osodir i lawr yn yr hên Testament, onid amserol a daiarol yn perthynu yn unig at pethau daionus, a drygionus yn y byd ymma.

Evan.

Hyn y sydd iw ystryried, mai fel y roddodd Duw iw bobl yn yr hen Destament trwy wenidogaeth ei Pro­phwydi, amryw cynghorion, fod yn ufydd iw orchymmynnion ef, ac amryw rhybyddion na baent yn anufydd iddint felly y cadarnhaodd efe hwynt ac am­ryw addewidion a bygwythion oblegid pethau amserol, fel y mae'r fannau hyn 'or scrythur lân, 'au cyffelib yn tystio­laethu, Gwrandewch air yr Arglwydd, tywysogion Sodoma, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorrha,—O byddwch ewyllysgar ac ufydd, Isa. 1. 10. daioni y tir a fwyttewch, 19. ond os gwrthodwch, ac os anufyddhewch a chleddyf i'ch yssir, canys genau yr Arglwydd 'ai lle­farodd. 20. Ac mewn mann arall y dywdir: Gwellhewch eich ffrydd, a'ch gweithre­doedd ac mi a wnaf i chwi drigo yn y mann ymma: Jer. 7. 3. Eithr yr ych chwi yn [Page 83] lladratta, ac yn lladd, ac yn odinebu, ac yn tyngu yn ûdon, 9. am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, 20. wele fy llid am digofaint a digwelltir ar y man ymma. Ac yn wir dau rheswm y sy pa ham y gwnaeth yr Arlglwydd felly o honint hwy, ûn yw: O herwydd fod pob dyn, fal y mae ef wedi ei eni tan y cyfammod o weithredoedd, yn barodl wrth naturiaeth i tebyg, fod caried Duw, a Mwynhaad o pob peth daionus yn canlyn, ac yn dilyn ei ufyddhaad 'ir gyfraith, a, bod digofaint Duw a phob peth niweidiol yn canlyn ei anufydd­dod: a bod pen-dedwyddyd dyn iw cael, ac iw feddiannu mewn paradwys daia­rol, fef yn y pethau da or byd ymma. Am hynny, yr oedd y bobl cyntaf dan yr hen Destament, am eu bod hwy yn agossaf at cyfammod Adda, ar Paradwys yn barottach i roesewi 'r fath meddy­liau. Yr ail rheswm yw am na fu fawr sôn yn yr hên Destament oblegid y cy­fammod o râs 'r Paradwys nefol, nid oedd ganthint onid gwybodaeth o dy­wyll o honint, ac am hynny ni allent hwy ufyddhau, yn rhwydd, fal meibion: Oherwydd pa ham y rhyngodd bodd Duw eu hannog hwy i ufyddhau iw ddeddfau ar hannogiadau eu hunain, [Page 84] ac fal gweision, neu fal plant tan­oedran.

Ant.

A oedd y ffyddloniad 'ar anffy­ddloniaid hynny yw, y rhai oedd tan y cyfammod o râs 'ar rhai oedd tan y cy­fammod o weithredoedd hefyd, yn yr un cyffelib yn ddarostwngedig cyn cyst­led i oddef blinderau y bywyd hwn am eu hanufydd-dod ac i dderbyn ben­dithion y bywyd hwn ar eu ufydd-dod?

Evan.

Yn ddiau y mae geiriau 'r Pre­gethwr yn perthynassol ymma: sef: yr un peth a ddamwain i bawb fel i gilydd, yr un peth a ddamwain 'ir cyfiawn ac 'ir anghyfiawn. Eccles. 9. 2. Oni rhwystrwyd Moses ac Aaron rhac myned i mewn i tir Ca­naan, Num. 10. 12▪ cyn cystled ac eraill? 2 Chro. 35. 21. Ac oni ladd­wyd Josiah am ei anufydddod i or­chymmyn yr Arglwydd yn nyffryn Me­giddo? O herwydd pa ham bydded hy­spys gennich hyn: os y ffyddloniaid dan yr hen Destament a trosseddent or­chymmynion yr Arglwydd, ni ddian­gent hwy mo ddigofaint amserol, Duw, nai gospedigaethau corphorol, mwy nac eraill, yn unig yr oedd hyn o waha­niaeth rhwngthint: Nid oedd cospedi­gaethau tragwyddol wedi eu cynnwys oddifewn i ofidiau amserol y ffyddloni­aid, [Page 85] nac yn eu dilyn hwy ac etto, yr oedd eu bendithion daiarol amserol hwy yn cynnwys ynddint bendithion tragwyddol, a hwy 'au dilynent. Ac nid oedd bendithion tragwyddol nefol, wedi cynnwys tan fendithion amserol yr anffyddloniaid, nac yn eu dilyn hwy, ac etto yr oedd cospedigaeth tragwy­ddol wedi ei cynnwys tan eu gofidiau amserol, ac yn eu dilyn hwy.

Ant.

Wrth hyn Syr y gweddei, mae rhag ofn cospedigaeth amserol, ac er mwyn gobaith o wobrau daiarol, yr oedd yr Iddewon yn roddi ufyddhaad i orchmmynion Duw.

Evan.

Yn ddiau y mae 'r scrythur lân fal y gweddei, yn coffa tri ryw nailltuol o ddynion, a ymgeisiant cadw cyfraith Dduw, eithr yr oedd gwahani­aeth rhwngthint oll o rhan diben eu amcanion.

Y ryw cyntaf, oedd y gwir ffyddlo­niaid, y rhai yn ol mesur eu ffydd a cre­dent adgyfodiad 'ou cyrph yn ol mar­wolaeth, a bywyd tragwyddol gogo­neddus yn y nefoedd, ac mai trwy ffydd yn y Messiah neu 'r hâd addawedig y ca­ent hwy hynny. Ac yn ol mesur eu ffydd, yr oeddent yn rhoi ufyddhaad cy­ffattebol yn rhwydd 'ir gyfraith sef, [Page 86] nid rhag nac ofn cospedigaeth, nac er mwyn gobaith o wobr: eithr och gwae yr oedd ysprydiaeth en ffyd hwy yn llesc iawn yn y rhan fwyaf o honint, ac yr oedd yspryd caethiwed yn tra­cadarn ynddint, ac am hynny yr oedd yn fanol iw hannog hwy, 'au cymmhell i fod yn ufydd rhac ofn cospedigaeth a thrwy obaifh o wobr.

Yr ail ryw o honint oedd y Sadducae­aid, 'ar rhai 'ou Sect hwy 'au tyb ac ni chredei y rhai hyn fod nac adgyfodiad, nac un bywyd amgen, nac yn y byd ymma, ac etto hwy a geisient cadw 'r gyfraith, er mwyn i'r Arglwydd eu ben­dithio hwy ymma, ac fal y bai bob peth yn llwyddo iddint yn y byd presennol hwn.

Y trydidd ryw oedd y Scrifennyddion, 'ar Pharisaeaid 'au Sect hwythau, ac yn wir 'or ryw hyn oedd y rhan fwyaf o ddynion yn yr amseroedd diwethaf yn ol dyddiau Moses, a hwy a ddalient, ac a ddyscent fod Adcyfodiad iw ddisgwyl amdani, a bywyd tragwyddol yn ol mar­wolaeth, ac am hinny yr ymgeisient hwy cadw 'r gyfraith, nid yn unig er mwyn etiseddu dedwyddid amserol eithr tra­gwyddol hefyd: canys er rhyngu bodd ir Arglwydd i hyspyssu iw bobl trwy [Page 87] wenidogaeth Moses, nas roddwyd y gyfraith iddint, er na pheri, na pharhau eu hymddiried yn eu gweithredoedd eu hunain, either er eu gyrru hwy allan 'ou hunain, 'au harwain at Christ, yr hâd addawedig: etto yn ol hynny, yr Offei­riaid 'ar Lefiaid esponwyr y cyfraith, 'au dilynwyr hwy y Scrifennyddion, 'ar Pharisaeaid, a camcyrasant amcanion Duw yn ei roddiad 'or gyfraith ac a ddyscasant, fal pe buasei yn eu gallu hwy mwynhau cyfiawnder, a bywyd tragwyddol trwy eu usydd-dod: ac yr oeddent hwy yn dal hyn o tyb mor ddisigl, ac yn ei cofleidio mor cyhoedd, hyd oni ddywedent yn ddicywilydd ac a daerent yn ewn yn eu llyfr Melchilta, nad oedd un cyfammod arall, amgen nar gyfraith ac yn siccr hwy a tybisant nad oedd un ffordd arall i fywyd tra­gwyddol ond y cyfammod o weithre­doedd.

Ant.

Yn wir Syr ef y weddi wrth hyn, nad oeddent hwy yn deall neu yn ystyried fod y cyfraith fal y mai hi yn cy­fammod o weithredoedd yn rhwymo, nid yn unig y dyn oddiallan, eithr y dyn oddifewn hefyd sef yr enaid, ar yspryd, ac yn gorchymmyn meddy­liau sanctaidd, cyffroadau duwiol, a [Page 88] bwriadau diniwed yn yr enaid 'ar galon.

Evan.

Och, och, nid oddent hwy nac yn dyscu nac yn ystyried hyn mor ysprydol ac y dylysent, nac ni ellid eu perswadio hwy fod y cyfraith yn gofyn hyn ar eu dwylo hwy: canys hyn a oso­dasant hwy fall gwirionedd dinâg, roddi 'or Arglwydd y gyfraith i ddyn iw cyfiawnhau wrthi, 'au cadw trwy ei ufydd-dod iddi, ac am hynny fod yn ddi­ammeu yn y dyn hyder, a gallui wneu­thur y cwbl oll ac y mae hi yn gofyn ar ddyn, canys amgen nis gorchymmynna­sei (meddant) yr Arglwydd 'or fath beth. O herwydd pa ham lle y dylysent hwy ystyried yn bennaf, ac ym mlaen pob dim pa fath rheol union cymmwys oedd cyfraith Duw, ac yn ol hynny he brwng ei calonnau atti, 'au gosod wrthi, hwynt hwy yn y gwrthwyneb a yst yrient ym malaen pob dim, pa fath rheol anghymmwys oedd calon dyn, ac yn ol hynny a geifient uniowni 'r gy­fraith wrth eu calonnau anwasted hwy: ac er mwyn hyn hwy a esponient y gy­fraith yn llthyrennol, gan ddyscu, a dal, nad oedd y cyfiawnder â ofynnei 'r gyfraith, onid cyfiawnder mewn golwg, a ddangoseid yn unig yn ngwei­thredoedd [Page 89] oddiallan 'or gyfraith megis y mae iw weled wrth tystiolaeth ein Jachawdwr Christ, Math. 5. hyd onid oedd yn bossibl i ddyn yn ol eu esp niad hwy 'or gyfraith ei chyflawni yn ber­ffaith, ac wrth hynny iw cyfiawnhau, 'au cadw yn dragywydd.

Ant.

A ydych chwi, Syr, yn tebyg roddi 'or scrifennyddion 'ar Pharisaeaid 'au heppil hwy, ufyddhaad perffaith 'ir cyfraith yn ol eu deongliadau eu hunain?

Evan.

Nac wyf yn siccr, am fy mod i or cred hyn, na chadwodd nemmawr o honint (o cadwodd neb erioed) 'or cy­fraith yn perffeith.

Ant.

Pa obaith ynteu a allei fod iddint iw cyfiawnhau, 'au cadw yn dragywydd pan y trosseddent yr un 'or gorchymmynion.

Evan.

O damweinie iddint hwy trosseddu un 'or dec gorchymmyn, yr oedd ganthint eu haberthau iw cyfi­awnhau hwy (fal y tybygent) wrthint: canys yr oddent hwy yn disgwyl ar eu haberthau heb eu hystyriaeth, a chan­thint cred ffugiol ynddint, dan tebyg fod y gweithred noeth, yn aberth cym­weradwy i'r Arglwydd. Ar un gair hwy a tybiasant y gellid dilen eu pechodau [Page 90] trwy waed teirw a geifr: A chymmaint ac y fyddei yn nhiffyg arnint o cyflawni 'r cyfraith Moesawl hwy 'ai cwplhaent, yn eu tyb hwy, 'ar gyfraith Defodol. Ac yn y modd hyn y gwahanent hwy Christ oddiwrth eu haberthau, dan credu eu bod hwy wedi cwblhau eu dyled yn hollawl ar eu hoffrwmmiadau, 'au aberthau! heb ystyried, y dylysei am­herffeithrwydd y gyfraith cyscodol Heb. 7. 9. (yr hon ni pherffeithie ddim fel y dywaid yr Apostol) eu harwein hwy i ceisio per­ffeithrwydd yn Ghrist eithr hwy a or­phwysent canmwyafyn y weithred noeth 'or gyfraith defodol, megis y gwnelsent hwy 'ar cyfraith moesawl, er eu bod hwy yn anabi i cyflawni 'r un, ac er bod y Ilall yn annigonol iw cymmorth hwy. Ac yn y modd hyn, Israel yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrr­haeddodd deddf cyfiawnder, Rhuf. 9. 31. 32. am nad oeddent yn ei cheisio trwy ffydd, ond megis trwy weithredoedd y ddeddf Ca­nys hwynthwy heb wybod cyfiawnder Duw, Rhuf. 10. 3. ac yn ceisio cyfiawnder eu hunain, nid ymostyngasant i gyfiawnder Duw.

Ant.

Wrth hyn Syr y gweddei, mai eu hanwybodaeth a barei eu holl cam­dybiau.

Evan.

Je yn wir: canys yr oedd hyn [Page 91] o orchudd o anwybodaeth â oedd tros eu calonnau hwy, neu hyn o werchyd o ddallineb, â oedd tros eu meddyliau wedi gwannychu, a thywyllu eu goly­gon cymmaint, fal nad oeddent aplach i ddisgwyl ar prydferthwch anrhyde deddus sanctaidd, a dihalogedig natu­riaeth yr Arglwydd, â eglurwyd yn y gyfraith, fal yr oedd hi yn cyfammod o weithredoed, nac y bai i lygaid gweini­on dyn, ddisgwyl ar yr haul loyw­wych, pan y discleiriei yn ei lawn nerth. Ac am hynny, y darllenwn ni discleirio o groen wyneb Moses mor oleued, Exod. 34. 28. 29. pan y daeth ef i wared oddiar y mynydd 'ar ddwylech, ar pa rai y scrifenneid geiriau 'r cyfammod o weithredoedd, sef, y dec gair, fel na alley blant yr Israel edrych yn graff yn ei wyneb ef gan ogoniant ei wynebpryd: 2 Cor. 3. 7. o herwydd pa ham y gorfu i Moses gosod lleugudd o ddefodau cyscodaidd ar ei wyneb fel y disgwi­lient arni yn graffach. Exo. 34. 35.

Ant.

Ond etto, Syr, efe y weddei na wnaeth llen y defodau ddim llesaad iw llen hwy o anwybodaeth.

Evan.

Naddo yn siccr: canys yr oeddent hwy canmwyaf o honint wedi eu ymglymmu mor anyddus â llythy­ren y cyfraith, fal nad ymarferent hwy [Page 92] ddim o honi fel ysgol iw cyfarwyddo hwy at Christ, (megis y dylysant) eithr hwy a caisiant cyfiawnhaad trwyddi, ac a wrthwynebasant Christ: yr oeddent yn ymfoddloni eu golygon 'ar cyscod, heb canfod 'or sylwedd trwyddo, sef Christ, diben y gyfraith. Yr oedd rhai yn wir a wnelent amgen, eithr och, gwae, nid oedd nemmawr o honint, yn enwedig am ben stalm o ddyddiau yn ol amser Moses, am fod eu harweinwyr deillion wedi lefeinio 'r bobl, 'au lly­gru, 'au dysceidiaeth anghywir, fal ni choffair ond am ddau yn unig sef Simeon ac Anna, â ddymunent ac ddisgwilient am Grist pan y daeth ef yn y cnawd; canys er bod y Messias yn ngenau pawb o honint, ac er bod pawb yn ymsiarad ob­legid cyflwr wynfydedig brenhiniaeth Dasydd, etto yr oeddent hwy yn bredd­wydio mai rhyw frenin gwych y byddei 'r Messias, a ddelei, mewn mawrhydi cy­hoedd, a gallu anfeidrol, iw gwared hwy, 'au hachub rhag eu caethiwed dan y Rhufeniaid o pa un yr oeddent hwy yn wybodus ac yn flinedig iawn: ond am eu caethiwed ysprydol tan y gyfraith, a phechod ni wyddent hwy oddiwrtho ac am hynny ni wybuont pa cyn rheitied oedd iddint iw hymwared rhagddo: a [Page 93] pha ham hynny? nid amgen nac o her­wydd iw gan dyscawdwyr hwy troi 'r gyfraith oll yn cyfammod o weithredo­edd iw cyflawni er eu Cyfiawnhaad, 'au iechydwriaeth, ie ac i pa fath cyfammod y troesent hwy hi? nid amgen nac 'ir fath cyfammod (mal pai) ac y allent ei cadw, 'ai cyflawni yn hollawl dan clwtto diffigion eu gweithredoedd, 'ar iawn y wnelent 'au haberthau. Ac er cymme­ryd on Jachawdr Jesu Christ achosion (megis yn y bummed o Fathew) er mwyn troi heibio 'r llen honno, i roi gwir ystyr y cyfraith, fal yr oedd hi yn cyfammod o weithredoedd, gan ddyscu, bod y cyfraith yn gofyn, ac yn gorchym­myn nid yn unig cyfiawnder oddiallan, eithr oddifewn hesyd ar ddwylo pawb a fynnent eu cyfiawnhau trwy eu gwei­thredoedd: ac yn hynny yn tynnu ym­maith ofer deougliadau y Scrifenny­ddion 'ar Pharisaeaid.

Je ac er iddo ef ei hunan 'ai Apostoli­on ddyfal geisio yn eu athrawiaethau 'au pregethau, cyhoeddi iddint fod yr holl aberthau 'ar defodau yn ymdpangos Christ, fel â bys, ac yn tersynu ynddo.

Je ac er rhwygo llen y Deml yn ddau oddi synu hyd i wared, Mat. 27. 51. ar farwolaeth Christ, fel dangosiad neu arwydd o ddiflammiad holl cyscodau cyfraith [Page 94] Moses ar ddisclair lewyrchiad yr Efen­gyl, a bod y dirgelidigaethau oll oble­gid Christ a fuasent gynt yn nghudd, yn awr wedi eu egluro yn amlwg: Etto, er hyn, y mae 'r Apostol dan scrifennu at y Corinthiaid yn dywedid oblegid yr Iddewon fel hyn: 2 Cor. 3. 15 Hyd y dydd heddyw pan ddarllenir Moses, y mae 'r gorchudd ar eu calon hwynt.

Je ac er scrifennu 'or Apostol Paul er mewn troi heibid 'r orchudd honno, y llythyr yspr ydol, duwiol hwnnw attint, â elwid y Llythyr neu 'r Epistol at yr He­braeaid ym mha un y mynegyf ef yn amlwg, nad oedd yr holl aberthau n'ar defodau, nac ordiniadau 'r 'r Babell yn yr hên Destament, onid cyscodau o Grist, wedi eu roddi iddint hwy, fal y gwelent hwy Christ trwyddint, a bod yn rhaid i'r arwyddion, 'ar cyscodau oll difflammu weithian, a rhoi lle iw sylwedd, ar ymddangosiad Jesu Ghrist yn y cnawd, etto er hyn i gyd ef y ellir dywedyd byth am danint hwy megis y dywedodd yr Apostol yn ei ail lythyr at y Corinthiaid, 2 Cor. 3. 15 fod hyd y dydd heddyw yr un gorchudd wrth ddarllen yr hen Destament yn aros heb ei ddat­cuddio: yr Arglwydd a drugarhao wrthint, ac 'ai troddo heibio yn ei amser cyfaddas.

Nom.
[Page 95]

Yr ych chwi, Syr, yn fy nhyb i wedi egluro yn ddigon amlwg, arfaeth Duw, 'ai addewid oblegid achubiad ac ymwarediad 'or dyn truan â cwympasei: am hynny moeswn weithian eich cly­wed, adolwg, oblegid ei cyflawniad 'oi addewid.

Evan.

Y mae 'r Scrythur lân yn tystio­laethu oblegid y pwngc hyn, dar fod i Dduw yn ol ei arfaeth cyn bod amser, ac yn ol ei addewid mewn amser danfon yn nghyflawnder amser ei fab, 'ir byd, wedi ei wneuthur o wraig, wedi ei wneuthur tan y gyfraith, Gal. 4. 4. 5 [...] fel y pryneu ef y rhai oedd tan y gyfraith, &c. hynny yw, disgwiliwch pa wedd y mae pob dyn wrth naturiaeth tan y gyfraith, fal y mai yn cyfammod o weithredoedd; yn yr un modd, yr oedd Christ fel meichiau 'r dyn fodlon i fod felly hyd oni oso­dodd ef ei hunan yn awr, yn ol y tra­gwyddol 'ar dirgel cyttundeb a fuasei rhwnghtho ef a Duw ei Tad, yn lle 'r holl ffyddloniaid, Isa. 53. 6. ac yn ol geiriau Esai, yr Arglwydd a rhoddes, arno ef ein han­wireddni i gyd.

Yna y daeth y gyfraith fal y mai hi yn cyfammod o weithredoedd, ac a ddy­wedodd, mi a cefais hwn yn pechadur, ie a nid pechadur bychan eithr pechadur [Page 96] 'or mwyaf, ac am hynny, gedwch ei hoelio ar y groes i farw yno: Heb. 10. 5. 6, 7. yna 'r at­tebei Christ: Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corph a gymmh wysaist i mi, Offrymmau poeth ac aberth tros pechod ni buost fodlon iddint, yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, i wneuthur dy ewyllys di, o Dduw. Ar hyn yr aeth y gyfraith yn chwyrn yn ei erbyn ef, ac a fwriodd arno yn ddiffafr, nes ei ladd ef: Ac wrth hyn y llwyr cyflawnwyd cyfiawnder Duw'r Tad, ac y ddofwyd ei ddigofaint ef, ac y rhyddhawyd y ffy­ddloniaid oll oddiwrth eu holl pecho­dau gynt a phresennol; ac i ddyfod, fal nad oes gan y gyfraith, megis y mae hi yn cyfammod o weithredoedd, ddim i ddannod i un wir credadyn am eu bod hwy yn siccr wedi marw 'ir cyfraith a hitheu yn farw iddint hwythau.

Nom.

Ond Syr, pa wedd y gallei dio­ddefiadau Christ a hwy yn terfynedig o rhan amser, llwyr cyflawnhau cyfiawn­der Duw, yr hwn y sydd annherfy­nedig?

Evan.

Er bod dioddefiadau Christ yn terfynedig o rhan amser, etto o rhan y dioddefwr y maent hwy o werth ann­herfynedig: canys yr oedd Christ yn Dduw, ac yn ddyn, yn yr un person, ac [Page 97] am hynny yr oedd ei oddefiadau ef yn prydwerth cyflawn digonol tros enaid dyn, am eu bod yn werthfawroccach na distryw a marwolaeth yr holl creadu­riaid.

Nom.

Ond Syr, chwi a wyddoch fod y cyfammod o weithredoedd yn gofyn ufydddod, neu cospedigaeth personol ar law pob dyn, gan ddywedyd y sawl a wnelo 'r pethau hyn a fydd byw yn­ddint, ond Melltigedig yw 'r neb ni pharhao ym mhob peth a scrifennir yn llyfr y cyfraith iw gwneuthur: pa fodd ynteu y rhyddheid y ffyddloniaid oddi­wrth eu pechodau trwy farwolaeth arall, sef Christ?

Evan.

Yn lle atteb, ystyriwch, attolwg er bod y cyfammod o weithredoedd yn gofyn ufydddod, neu cospedigaeth per­sonol ar law pob dyn, etto nid ydyw yn un mann yn gwrthod, neu yn nag­câu dim ar ywnelo neu a oddefo arall trosto, nac nid yw hyn ychwaith yn gwrthsefill cyfiawn farn Duw, canys os gwneif, ryw un iawn, trwy oddef cospe­digaeth cyflawn tros anufyddod arall efe a foddlnwyd y cyfraith, ac efe a cannada farn Duw dderbyn o'r trosse­ddwr i ffafr, ac efe a cyfrifir ger bron Duw fal gwr cyfiawn, at nid troseddwr [Page 98] o'r cyfraith, yn ol gwneuthur, iawn, ac er gwneuthur o'r iawn trwy ufydd­dod neu oddefiad meichiau, etto yn ol ei wneuthur y mae 'r pen dyledwr, neu 'r cynnogn yn rhydd wrth y cyfraith. Heb law hyn er rhagor o siccrhaad a phrofiad o hyn o bwngc, y mae hyn iw ystyried gennim, sef megis ac yr un ym­rhywmodd Christ Jesu, yr ail Adda, yn yr un cyfammod, ac y rhwymwyd yr Adda, cyntaf, felly y. cwblhaaodd Christ pa beth bynaag a adawodd yr Adda cyn­taf heb ei wneuthur, neu wedi ei ddrwg­weithredu: felly ynteu, yn y modd hyn y mae'r matter yn sefyll, megis cyfrif­wyd, pa beth bynnag a wnaeth Adda, neu y ddigwyddodd iddo, i pob dyn, fal pe gwnelsent hwy eu hunain, neu fal pe digwyddasei yr un pethau iddint hwy, felly pa beth bynnag a wnaeth Christ, neu y ddigwyddodd iddo, a cyfrifir, fel pe gwnelseid, neu fel pe digwyddasei 'ir holl ffyddloniaid, ar hyn, megis ac y daeth pechod oddiwrth Adda ei hunan at pob dyn fel hwnnw, ym mha un y pe­chasei pawb, felly y daw cyfiawnder oddiwrth Christ Jesu ei hunan, fel ym mha un y cyflawnasei pawb cyfiawnder Duw canys megis ytrosseddodd pawb or­chymmyn Duw, yn Adda a thrwy Adda [Page 99] trwy fod ynddo ef, ac yn un o hono ef, felly o rhan ffydd trwy pa un yr Himpier y ffyddloniaid oll yn Ghrist, ac y gwneir hwy yn un ag ef yn ysprydol, hwynt hwy a cyflawnhasant cyfawnder Duw yn Ghrist, a thrwy Grist, yn ei farwo­laeth 'ai oddefiadau: A phwy bynnac a cyfrifo fel hyn, sy yn cydsynio 'ar scry­thur lân, lle y mae 'r Apostol yn dywe­dyd, pechu o bawb ym mhechod Adda: Trwy un dyn (medd y Text) y daeth pe­chod 'ir byd, Rhuf. 5. 12▪ a phechu y wnaeth bawb ynddo ef; sef yn Adda, fal gwr cyffredin, canys yn ei weithred ef y cynnhwysiwd holl weithredoedd holl ddynion y byd, am eu bod hwy wedi eu cynnwys ynddo ef: felly yn yr un fann y dywedir, myned marwolaeth ar bob dyn, sef am hyn, am cyfrif pechod Adda, fal eu pechod prio­dol hwy: Rhuf. 6. 10, 11. yn yr un modd y mae 'r A­postol Rhuf. 6. yn dywedid oblegid Christ: sef: fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod ac fel y mae ef yn byw, byw y mae i Dduw: ac yn y wers nessaf yr achwanega ef. Chfrifwch eich hunain yn feirwi bechod, eithr yn fyw i Dduw yn Ghrist Jesu ein Hargl­wydd: yn yr un cyffelib y mae 'r A­postol yn ymrhesymmu oblegid Ad­cyfodiad Christ: sef y cyfodei 'r ffydd­loniaid [Page 100] holl o herwydd cyfodi Christ, a'i wneythyd yn flaenffrwyth o'r rhai a hunasant, 1 Cor. 15. 20. Christ fel y blaenffrwyth a cyfododd, nid yn ei enw ei hunan, eithr yn enw ac yn lle 'r ffyddloniaid oll, a hwy a cyfodant ynddo ef, a chyd ag ef canys ni chyfododd Christ fel gwr nailltuol unig, eithr fel pen cyhoedd cyffredin o'i Eglwys: hyd oni chyfoda­sant yr holl ffyddloniaid. Yn ei cyfo­diad ef, ac megis y cyfiawnhawyd, ac y rhyddhawyd Christ ei hunan ar ei cyfo­diad oddiwrth holl pechodau 'r ffydd­loniaid yn ngwydd Dduw'r Tad, am ei fod ef weithian wedi llwyr cyflawni trostint, felly y cyfiawnhawyd, ac y rhyddhawyd hwythau: sef y ffyddlo­niaid, canys y mae ufydddod Christ, weddi ei cyfrif 'ir ffyddloniaid gan Dduw er eu cyfiawnder, yn eu gosod hwy yn yr un cyflwr o rhan cyfiawnder ifywyd ger bron Duw, ac y buasent, pe roddasent cwbl a pherffeith ufydd-dod i'r cyfammod o weithredoedd, sef Gwna hyn, byw y fyddi.

Nom.

Ond Syr, 'ai meirw yw 'r ffyddloniaid oll 'ir cyfraith, 'ar cyfraith iddint hwythau.

Evan.

Credwch fi yn hyn, Ddyn, me­gis ac y mae 'r cyfraith yn cyfammod o [Page 111] weithredoedd, y mae 'r holl fyddloniaid yn feirw iddi hi, a hitheu yn, farw iddint hwythau, canys, a hwy wedi eu ym­gorphori a Christ, efe wnaeth y gy­fraith, neu 'r cyfammod o weithredoedd yr un peth iddint hwy, ac y wnelsei iddo ef, hyd onid oedd y ffydloniaid oll mewn rhyw fodd yn crogi gyda Christ ar y croes, pan ydoedd Christ ei hunan wedi ei hoelio yno, ac am hynny yn ôl 'ir Apostol dywedyd, fal hyn: Yr wyf fi trwy'r gyfraith yn farw i'r cyfrâith, efe a achwanegodd hyn yn y wers nessaf, sef Efi am croeshoelier i gyd a Christ: 'ar geiriau hyn a adrododd yr Apostol fal rheswm i siccrhau ei fod ef yn farw ir gyfraith, am fod y cyfraith wedi ei cro­eshoelio ef gyd a Christ. Ar pa eiriau y dywaid Luther: Yr wyf inneu hefyd wedi im croeshoelio, ac yn farw'ir cy­fraith yn cymmaint am bod i wedi fy ngrhoeshoelio, ac yn farw gyd a Christ. A thrachefn: Efe am croeshoeliwd i (ebe efe) gyd a Christ am fy mod yn cre­du yn Ghrist. Rhuf. 7. 4. Yn yr un modd y dywaid yr Apostol wrth y Rhufeiniaid ffyddlon: Felly chwithau fy mrodyr ydych wedi meirw i'r cyfraith trwy gorph Christ. Yn awr wrth corph Christ, yr ystyrier goddefiad Christ ar y croes, neu, i'r un [Page 102] ystyr, goddefiad Christ yn ei anian dynol, o herwydd pa ham nini a allwn osod hyn (gyd a gwr duwiol gynt) fal cyn­ghlo siccr eu bod hwy oll yn feirw ob­legid y gyfraith, Tindall. ac â croeshoeliwd trwy ffydd gyd a Christ.

Nom.

Ond, Syr pa fodd, adolwg, y dangoswch chwi fod y cyfraith yn farw 'ir credadyn?

Evan.

Y mae yr Apostol, Rhuf. 7. 1. 6 tebygaf, yn siccr­hau hyn yn y seithfed at y Rhufeiniaid.

Nom.

Yn wir, Syr, yr ych chwi yn camsynied, canys yr wyf fi yn cofio mae fel hyn yw ei eiriau of yn y wers cyntaf, sef, Oni wyddoch chwi fod y cyfraith yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo ef byw: ac yn y chweched wers, fal hyn y scrifenna ef: Eithr yn awr y rhydd­hawd ni oddiwrth y cyfraith, wedi ein meirw ir peth ni attelid, &c.

Evan.

Mi a wn yn hyspys mai felly y darllenir y geiriau yn y cyfieithiad diweddaf, Tindall. ond y mae'r gwr duwiol dy­scedig hwnnw M r Tindal, yn eu darllein hwy fal hyn: Oni wyddoch chwi fro­dyr, fody gyfrith yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo hi yn para. D r Hall. Ac y mae 'r Escos Hall yn esponio 'r geiriau hynny fal hyn: Oni wyddoch chwi frodyr fod cyfraith Moses yn arglwyddiaethu ar [Page 103] ddyn a fo yn ddarostyngedig iddi cyhyd ac y bo 'r cyfraith honno mewn gwrym: Yn yr un modd y cytuna Origen ac Am­bros, ac Erasmus, mai wrth y geiriau hyn, sef cyhyd ac y biddo Efe, neu Hi yn para ac yn byw, y dylem ni yslyried, Cyd ac y parhao 'r cyfraith. Ac y mae Peter Martyr yn tebyg y gellid gosod y geiriau hyn, Tra fyddo efe, neu Hi yn para, neu yn byw, at yr un a fynnom o'r ddau, 'ai 'r cyfraith 'ai 'r dyn, canys efe y ddy­wedir (ebe efe) fod y dyn wedi marw yn y pedwaredd wers, ar cyfraith a ddywedir ei marw yn y chewched wers. Yn yr un modd o herwydd fod y gair Efe, ac Hi, a coffair yn y wers cyntaf yn arwyddo 'r ddau ryw yn y Groeg, y mae Chrisostom yn tebyg, y dylid ystyried marwolaeth y ddau, sef y dyn, 'ar cy­fraith. Ac y mae Theophilact, Erasinus, Bucer a Calvin, yn cyttûn yn deall, mar­wolaeth y cyfraith yn y chweched wers. Ac fel y cwplhawyd marwolaeth cre­dadyn i'r cyfraith trwy farwolaeth Christ, felly y bu'r cyfraith farw iddo yntef. Megis ac y mae M r Fox yn ei pre­geth oblegid Christ a croeshoeliwd, yn tystiolaethu, gan ddywedyd: Dymma ddwy crwysen ar yr un croes, dau 'or pennaduriaid gwychaf a fu mewn byd [Page 104] erioed, sef Mab Duw, a Chyfraith Duw, ach dau yn ymdrech a'i gilydd oblegid iechydwriaeth dyn 'ach dau yn cael eu taflu i'r llawr, 'ach dau wedi eu llad ar yr un croes, eithr nid yn yr un cyffelib: Yn cyntaf, Mab y dyn a fwriwd 'ir llawr, ac efe a cymmerth y cwymp, eithr nid o achos un gwendid ynddo ei hun, canys yr oedd ef yn fodlon iw cwympo, er mewn adferu buddigoliaeth i nini, ac ar y cwymp hyn y daliwd y cyfraith yn ei rhwyd ei hunan ar fwrw Christ 'ir llawr, a hi a hoeliwd yn ddio­gel llaw a throedar y croes, yn ol geiri­au S Paul, at y Coll ossiaid: Ac ir un ystyr y dywaid Luther: Ymdrech rhyfeddol oedd hon, (ebe efe) ym mha un y mae 'r cyfraith, Col. 2. 14. a hi yn creadur, yn ymcysodi yn erbyn ei creawdwr, ac yn allwys ei holl lid, a'i creulondeb ar fab Duw; yn awr o herwydd 'ir cyfraith pechu mor echrydus, a mor feltigedig yn erbyn ei Duw, y mae hi yn cael ei melltithio, 'ai chyhuddo, ac fel lladrones a lleiddiad Mab Duw, yn colli ei braint, ac yn haeddu iw barnu. O herwydd pa ham y mae hi wedi ei rhwymo, ac wedi marw, ac wedi ei croeshoelio i myfi nid yw hi wedi ei gormelio, a'i barnu, a'i lladd yn unig i Grist, eithr i myfi hefyd sy yn [Page 105] credu ynddo ef, i pa un y roddes ef hyn o fuddigoliaeth yn rhâd: yn awr ynteu er bod y Cyfammod o weithredoedd, a'r dyn yn rhwymedig wrth naturiaeth y naill i'r llall tra y byddont ych dau yn aros yn ol geirau r Apostol yn nechreu 'r seithfed at y Rhufeniaid: etto o bydd y gwr yn rhydd yn ol marw'r wraig, mwy o lawer pan y byddo yntef farw hefyd.

Nom.

Ond pa beth, Syr, adolwg, y sydd iw ddeall wrth hyn o farwolaeth ddeu-ryw, neu ym mha beth y saif hyn o rhydddid oddiwrth y cyfraith?

Evan.

Nid yw marwolaeth, onid dattodiad, neu mysciad o pheth cymmy­scedig, neu gwahaniaeth rhwng y syl­wedd a'r ffurf, ac am hynny pan y gwahenir rhwng enaid dyn, a'i gorph, ni a ddywedwn ei farw ef, felly ynteu, nid ydym ni yn ystyried wrth hyn o far­wolaeth deu-ryw, ddim amgen na hyn, fod y fargen, a'r cyfammod a wnaed rhwng Duw, a dyn ar y cyntaf, wedi ddattod, a'i ddatclymmu, neu bod y sylwedd, a'r ffurf'or cyfammod o wei­thredoedd wedi eu naillduo i'r creda­dyn, fal nad yw cyfraith, y dec gor­chymmyn, nac yn addo bywyd tragwy­ddol, nac yn bygwyth marwolaeth tragwyddol i'r credadyn, ar nac ammod [Page 106] o'i ufydddod, nac 'oi anufydddod, iddi, ac nid yw'r credadyn ychwaith, fel'y mae ef yn credadyn, nac yn gobeithio cael bywyd tragwyddol, nac yn ofni mar­wolaeth tragwyddol ar y fath ammo­dau a rheini. Rhuf. 3. 19. Canys y mae yn ficcr gen­nim ni, am pa beth bynnag y mae y cy­fraith yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sy tan y cyfraith y mae hi yn ei ddywe­dyd, 6. 14. eithr nid yw 'r ffyddloniaid tan y cyfraith ond tan râs: ac felly y dianga­sant hwy farwolaeth tragwyddol, ac a cawsant sywyd tragwyddol, sef trwy ffydd yn Ghrist Jesu. Canys trwyddo ef, Act. 13. 39. y cyfiawnheir pob un sydd yn credu oddiwrth yr holl bethau, trwy pa rai ni allent gael eu cyfiawnhau trwy gyfraith Moses. Ioan. 3. 16. Canys felly y carodd Duw y byd, fel y rhodddodd efe ei uniganedig Fab, fel na chollir, pwy bynnag a gredo ynddo ef onid caffael o honaw fywyd tragwyddol: A dymma 'r cyfammod hwnnw o râs y wnaeth Duw (fel y dy­wedais o'r blaen) a'r Tadau trwy adde­wid, eithr nis gwnaethpwyd o honaw yn oleu, ond yn awr mewn cyflawnder amser a agôrwyd, ac a cyhoeddwyd yn eglurach o lawer.

Ant.

Da iawn, Syr, yr wyf fi yn awr yn deall nad oedd nemmawr o wa­haniaeth [Page 107] rhwng ein cyfammod ni o ras, a chyfammod yr Iddewon.

Evan.

Yn ddiau, 'ou hachos hwy eu hunain canmwyaf y bu 'r anghytundeb rhwng eu cyfammod hwy, a'u ny ni. Eu cymmhell at Christ y ddylysei 'r gy­fraith, eithr hwy a ddisgwyliasant am fywyd tros eu ufydddod iddi, ac yn hyn y cyfeiliornasant hwy yn aruthr.

Ant.

Ac yn wir Syr, nid rhyfedd iddint hwy camsynied, a chyfeiliorni cymmaint yn hyn o bwngc, i pa rhai nis eglurwyd y cyfammod o râs, yn oleu, eithr mewn cwmwl, dan yn bod ninneu i pa rhai, y cyhoeddwyd ef mor eglur, yn gwnenthur yn yr un cyffelib.

Evan.

Ac yn wir nid rhyfedd fod pob dyn wrth naturiaeth yn gwneuthur felly, am fod y dyn wrth naturiaeth yn cymmeryd yr Arglwydd Dduw, fal uchel Arglwydd nef, 'ai hunan fel gwa­sanaethwr iddo, ac o herwydd hynny ei fod ef yn rhwymedig i cwplau ei orch­wylion cyn y caffei ef ei cyflog, dan tebyg, pa fwyaf o waith y wnelo ef, mae gwell, a mwy y fydd ei cyflog. Ar hyn pan y daeth achosion i'r Philosophydd mawr Aristotl, son am ddedwyddid, ac i osod i [Page 108] lawr y moddion gweddeiddiaf i cyrr­hedd hynny o ddiben, efe a ddywedodd mai Gwaith a Gorchwyliad ydoedd. Ac o hono ef y cyttunei Pythagoras, pan y dywedei, mai yn hyn y safei dedwydd­wch dyn o'i fod ef yn cynnhebig i Dduw, pa fodd? trwy fod yn cyfiawn, ac yn dduwiol. A pha rhyfedd yw cyfeili­liorni o'r gwyr hynny, ni chlywsont y son unwaith oblegid na Christ, na chy­fammod ei ras ef pan y gwnelei y rhai a ddyscwyd gan Apostolion Christ yr un pethau, fal y rhai hynny at pa rai y scri­fennodd yr Apostol S Paul ei llythyrau, yn enwedig y Galathiaid, canys er iddo ef trwy ei pregethiad tra y bu ef yn pre­sennol gyd a hwy, hyspyssu iddint ddy­sceidiaeth y cyfammod o râs, etto yn ol ei ymadawiad oddiwrthint, hwy a wyr­drowyd yn y mann, trwy hudoliaeth gau athrawion at y cyfammod o wei­thredoedd, ac a ceisiasant eu cyfiawnhau trwyddo, o rhan, neu yn y cyfan: megis y gellwch chwi ddeall yn hawdd, pe ystyriech y llythr honno yn fanol. Nage tyb cyffredin (ebe Luther) pawb canmwyaf trwy 'r byd, yw hyn, mai trwy gweithrredoedd y gyfraith y ceir cyfiawnder, a'r ystyr yw, o herwydd fod y cyfammod, o weithredoedd wedi ei [Page 109] refddu, a'i ddiogelu cyn siccred yn nghalon dyn er y creadigaeth, fal nas dichon y dyn wrth naturiaeth farnu ar y cyfraith yn amgen, na fel cyfammod o weithredoedd, yr hwn a roddwyd (yn eu tyb hwy) iw cyfiawnhau, hwy, aci adferu iddint fywyd, a iechydwriaeth. Ac mewn mann arall y mae'r un Luther yn dywedid, fod hyn o tyb enbeidus, o fod y 'cyfraith yn cyfiawnhau, ac yn gwneuthur dyn yn union ger bron Duw wedi ei wreiddio cyn ddyfned yn nghalon dyn, a'i rheswm anianol, a bod pawb wedi eu hymdrochi ynddo, fal na allant ddyfod allan o hono, ie, (ebe efe) er fy mod i yn pregethwr o'r Efengyl weithian ugain mhlynedd, ac wedi ymarfer o hynny yn ddibaid, gan ddar­llen a scrifennu nes fy mod i mewn te­bygaeth yn rhydd oddiwrth hyn o dyb annuwiol, etto er hyn igyd yr wyf fi yn rhy fynych, yn clywed hyn o hên frwnti yn glynu wrth fy nghalon, hyd onid wyf yn dymuno o'in bodd, fy mod i felly yn gwneuthur â Duw, fal pe bawn i yn hebrwng ryw ychydyg gyd a mi i haeddu ei sodd ef, ac i beri iddo roi ei râs ef i mi. Nagê y mae yn osnus fod llaweroedd yn ein plith ni â sy wedi cael swy o cyfarwyddid o oleuni fyny­chaf [Page 110] nac y cafas Luther, neu un arall o'i flaen ef, yn disgwyl cael naille yn y cy­fan, neu o rhan, cyfiawnhaad, a chym meriad trwy eu gweithredoedd o'r cy­fraith.

Ant.

Yn siccr, Syr, yr wyf fi o'r meddwl hyn fod llawer yn y ddinas hon o Lundain, wedi eu harwein gan eu hawydd dall annrhefnus ar ol eu gweithredoedd, da, a'u gorchwylion o cariad, dan geisio yn ddirgel, fod yn ddwiol, ac yn cyfiawn, ac yn union ger bron Duw, trwy eu dyfal cadwriaeth, a'u rhodiad gofalus yn nghorchymmyn­nion, Duw ac etto, ni ellir eu perswadio hwy, ei bod yn meddwl fell y. Ac yn wir, Syr, y mae yn ddiogel gennif, fod ein cymmydog, a'u anwylyd Nomista yn un o honint.

Evan.

Och gwae, y mae milioedd yn y byd yn gwneuthur Christ iw hunain o'u gweithredoedd, ac o hyn y daw eu distryw hwy. Hwy a ddisgwiliant am cyfiawnder, a chymmeriad ger bron Duw mwy oddiwrth y gorchymmyn, na'r addewid a mwy yn y cyfraith, nac yn yr Efengyl, a mwy trwy eu gweithre­doedd, na'u ffydd, a hwy a camarweini­ant llawer enaid anwybodus yn ein plyth ni pan y cynghorir hwy i ufydd­hau, [Page 111] ac i cwblhau eu dyled, y maent yn meddwl yn unig ar cael bywyd tros eu gwaith o herwydd pa ham, o bydd dim o nam arnint, hwy a ymlyfant eu hunain yn holl iach, ac a bydd un archoll ar­nint, hwy a rhedant at yr eli o wasaneth, a'r ffrwd o weithredoedd, eithr hwy a esceulysant Christ. Nage y mae yn of­nus, fod llaweroedd, a sy yn medru gwahanredoli ar tafod, rhwngh y cy­fraith, a'r Efengyl, ac yn eu deall hwy yn dal, ac yn dyscu, mae trwy ffydd y cyfiawnheir dyn heb weithredoedd y cy­fraith, ac etto yn eu ymddygiad, a'u gweithredoedd, sef yn eu calonnau, a'u cydw ybodau, yn gwneuthur yn amgen, ac y mae ryw ron in o hyn o camsynied ynom ni pawb, canys amgen ni syddem ni mor an wastad yn ein niddaniadau, a than credu fal yr ydym (yn ein tyb ni) nin bwried ni i'r llawr gan pob awel neu wendid, fal yr ydys. Eithr beth y ddywedwch chwi fy nghymmydog No­mista, a ydych chwi yn euog o'r beiau hyn, tebygwch chwi?

Nom.

Yn wir, Syr, y mae yn rhaid i mi addef fy mod i yn dechreu eiddege­ddu wrth fy hunan, fy modi felly, ac am fy mod i yn dymuno eich barn chwi ar fy nghyflwr, mi a attolygaf arnoch [Page 112] rhoi cennad i mi iw adrodd i chwi.

Evan.

A ewyllys da y cennadaf i, i chwi.

Nom.

Syr, wedi fy ngeni, a'm maethu mewn glwlad, Ile nad oedd fawr prege­thiad o'rgair (Duw ai gwyr) mi a fûmfyw yn hîr mewn anwybodaeth a dallineb, ac etto am fy mod i yn mynych adrodd Gweddi 'r Arglwydd, Credo 'r Aposto­lion, neu 'r ddeuddeg pwngc crefydd, a'r dec gorchymmyn, ac am fy mod i ym­bell pryd yn dyfod i'r Gwasaneth neu 'r Gweddi cyffredin, ac yn derbyn y Sa­crament ar wyliau y Pasc, mi a tybiais fod fy nghyflwr i yn dda iawn, ond o'r diwedd, trwy wrando ar Gwenidog duwiol dedwydd o'r ddinas hon, yny mann yn ol fy nyfod i ymma, efe am argyoeddiwd i, nad oedd fy nghyflwr presennol i yn dda, ac ar hyn yr aethum i at y Gwenidog hwnnw, ac a ddywedais wrtho pa beth oedd fy nhyb i, o'm ple­gid fy hunan: yno efe a'm cynghorodd, i wrando pregethau yn fynych, i cadw 'r Sabbaoth yn ofalus, a pheidio a thyn­gu wrth ddim mwy na'i gilydd: ac i ymogelyd rhag ddywedyd celwydd, neu un math o ofer eirian, neu ymadroddi­on anfuddiol, ie ac (ebe efe) mae 'n rhaid i cwi ceisio llyfrau da iw darllein, fal Esponiad un M r Dod o'r dec gorchym­myn, [Page 113] a llyfr un M r Boulton a elwyd Cyfar­wyddiad i rodio yn cwmfwrdus gyd a Duw, a llyfr arall, a elwid y Gwir wili­adydd o waith M r Brinsley, a'r cyffelib lyfrau duwiol; A llawer o cynghorion, a chyfarwyddiadau da o'r fath hyn y cefais i gantho ef, ym mha rhai, yr ymho­ffais i yn fawr, ac am hynny ymegniais i iw dilyn hwy yn fanol, yno y cwym­pais, i wrando 'r Pregethwyr duwiolaf, a mwyaf eu Zêl, a'u nerth ysprydol trwy 'r ddinas, a mi a scrifennais eu Pregethau hwy gair yn ngair, a chyn cynted ac y roddodd yr Arglwyd i mi teulu, mi a weddiais gyd a hwynt nos a boreu, ac a'n dyscais hwy, ac a ailadro­ddais y pregethau a clywswn, iddint, ac a treuliais dydd yr Arglwydd trwyddo yn ngwasanaeth Duw yn yr Eglwys, a chartref, a mi a peidiais o'm llwaint, a'r celwydd, a phob ymadrodd ofer, ac ar fyrr eiriau mi a ddilynais ei cyngho­rion ef yn llwyr. A mi a'm adnewyddais fy hunan, ac a wellheais fy muchedd cystled, nes fy mod i weithian yn ofalus i cwblhau pob dyled, orchymmynnedig yn y lech cyntaf o'r cyfraith o rhan gwasanaeth Duw, a hynny er mwyn ynnill ffafr, a chymmeriad gyd a gwyr crefyddol onest, ac er diangc cospedi gaeth cyfraith Duw, sef poenau tragwy­ddol [Page 114] yn uffern, lle nid oeddwn i gynt yn gofalu am ddim, onid yn unig am roi ufyddhaad i'r ail lech o rhan fy ym­arweddiad yngwydd dynion, fel y caffwn ffafr, a chymmeriad, a pharch gyd a gwyr moesawl diniwed union, ac fel y diangwn cospedigaeth cyfraith dyn, a phob poenau corphorol amserol. Yn awr cyn cynted ac y canfu pro­fesswyr crefyddol y fath ymchweliad a hyn ynof, hwy a ddaethant, attaf car­tref, ac a roesant i mi llaw ddehau cy­feilliach, ac am cyfrifasant yn un o'u rhyfedi hwy. Yno mi a wahoddais gwen idogion, a phregethwyr duwiol i'm ty, ac a'u croesewais hwy wrth fy mwrdd, ac a'u mawrheis hwy, ac yno gyd a'r Micah hwnnw a coffair yn llyfr y Barnwyr, yr oeddwn yn tebyg yn siccr y gwnelei 'r Arglwydd ddaioni i mi gan fod Lefiad gennif yn Offeiriad. Barn. 17. 13 Ar un gair mi a roddais yn awr y fath usyddhaad oddiallan, ac a ddangosais y fath cydffurfiad a'r ddwy lech y cy­fraith hyd onid oedd pob pregethwr duwiol dedwydd, a phob gwr crefyddol onest a'm adnabu i, yn tebyg yn dda iawn am danaf, ac yn fy nghyfrif i yn wr union, ac yn Gristion o'r goreu, ie, ac yn wir, mi a feddyliais felly am fy hunan, yn enwedig am eu bod hwy yn fyng­hanmol, [Page 115] ac yn y modd hyn yr aethum i tro hir yn hoyw-wych yn fymlaen, nes i mi ddarllein yngweithredoedd y gwr dyscedid M r Boulton, fod cyfiawnder ddangosedig y Scrifennyddion, a'r Pharisaeaid yn canmoledig yn eu dy­ddiau hwy, canys heb law eu ymgad­wad rhag y pechodau mwyaf, a'u cy­hoedd gwyrthwynebiad o honint, sef Llofruddiaeth Lladrad, Godineb, Ei­lun-addoliaeth, a'r cyffelib; yr oeddent hwy hefyd yn aml, ac yn barhaus yn eu gweddiau, a'u ymprydiau, a'u elusenau, hyd onid oedd llaweroedd o honint yn ddiammeu yn tebyg yr enillent hwy nef, a dedwyddid tragwyddol wrth eu gwei­thredoedd da, a rhyn myfi a fwriais, nas gwnelswn i etto, mwy nac y gwneu­thont hwythau, acheb law hyn, mi a feddyliais ddywedyd on Jachawdwr Jesu Christ fal hyn; Oddieithr i'ch cy­fiawnder bod yn helaethach na chy­fiawnder y Scryfennyddion, a'r Phari­sae id nid ewch i mewn i dyrnas ne­foedd. Mat. 5. 20. Je a mi a ystyriais geiriau'r Apo­stol: Nid yr hwn sydd yn yr amlwg, sydd Iddew, eithr yr hwn sydd yn y dirgel, yr hwn y mae ei glod nid o ddy­nion ond o Dduw. Rhuf. 2. 28. 29. Yno y bwriais i ynof fy human nad oeddwn i etto yn wir Christion, canys mi a ddywedais yn [Page 116] fy nghalon, fel hyn, efe a ddarfu. i mi ymfodloni fy hunan, â chlod dynion, ac a collais wrth hynny fy mhoen, a'm holl lafur, yn sy nghwblaad o pob gwa­sanaeth, am nas buont hwy amgen, na dangosiad o weithredoedd oddiallan, ac am hynny y gorfydd iddint syrthio oll i'r llawr yn ddioed; nis gwasanaethais i mo fy Nuw am holl calon, o herwydd pa ham y gwelaf mai rhaid yw, i mi fy­ned ym mhellach yn y blaen etto, ac onid ê, byth nifyddaf wynfydedig, ar hyn, yr ymegniais i o ddifrif calon i cadw 'r cyfraith, a mi a ymboenais i cwpla pob dyled, a gwasanaeth, nid yn unig ar wyneb y croen, ond oddifewn yn fy nghalon hesyd, yno mi a ddarllenais, ac a wrandewais, ac a weddiais, ac a ym­bonais iddarostwng fy nghalon, ac i plygu fy enaid tan pob gwasanaeth, ie, mi a elwais ar yr Arglwydd yn ddifrifol, dan ymrhwymo fy hunan i wneuthur y cwbl oll, ac y orchymmynei ef, os efe a cad wei sy enaid, ac yna y cymmerais i olwg hefyd ar ddigel llygredigaeth fy ngalon, y peth nas gwnelswn i erioed o'r blaen, ac mi a aethum yn ofalus i Ilywiodraethu ar fy meddyliau, i tym­mheru fy nwyfau, ac i ddofi, a chadw dan llaw pob cynnwrf, a chyffroad o'm chwanau cnawdol, i yrru ymmaith [Page 117] balchder dirgel, ac anlladrwydd llygad, a phob ofer, a phechadurus dymuniadau fy nghalon; ac yno y tebygais i fy mod i, nid yn unig yn Christion oddiallan, ond un oddifewn hefyd, ac am hynny yn wir Ghristion yn ficcr, ac yn y modd hyn yr aethum i yn y blaen yn cwm­ffwrdus tro hir, nes i mi ystried hesyd, fod cyfraith Dduw yn gofyn ufydddod goddefol fel gweithredol, ac am hynny mai rhaid y fyddei i mi fod yn oddefwr cyn cystled ac yn weithredwr, canys amgen ni fyddwn i fyth yn Christion da, ar hyn y dechreuodd fy nghalon cythryblu ar ystyriaeth o'm annoddef tan llaw cospedigol yr Arglwydd, ac o'r rwgnachau, a'r anfodlonrwydd a clywfwn yn fy yspryd, pan y digwy­ddasei un trallod oddiallan i mi ac yno y ceifiais i ddofi fy nwyfau, a gweddu yn ewyllysgar i ewyllys Duw ym mhob cy­flwr o hawddfyd ac adfyd, ac yno y de­chreuais i hefyd gosod, fel pe bai, boenau ar fy hunan, trwy ddirwest ac ympryd, ac chystuddio fy hunan, a galaru yn truan yn fy ngweddiau, yn nghyd a pa rai yr allyngais i yn fynych llawer dei­gryn hallt, a mi a tybiais yn siccr y dis­gwyliei 'r Arglwydd arnaf am hyn, ac y gwobrwyei ef fyfi am fy holl wasaneth, ac erbyn hyn y tybiaswn i yn siccr fy [Page 118] mod i yn cadw 'r cyfraith yn perffeith trwy roi ufydddod gweithredol, a go­ddefol, iddi, ac yno yr oedd yn ddiogel gennif fy mod i yn wir Christion, nes i mi ystyried darfod i'r Iddewon, yn erbyn pa rhai yr achwynodd yr Arglwydd, Esa. 58. gwneuthur cymmaint, Esa. 58. ac y wneuthum inneu, a hyn a barodd i mi ofni, nad oeddwn i etto yn y iawn ffordd. Ar hyn yraethum i at wenidog arall, ac a ddywedais wrtho fy mod i yn credu, nad oeddwn i well fy nghy­flwr, n'ar Iddewon rheni, er i mi wneu­thur, a goddef fal hyn, a fal hyn; Ond, (ebe efe) yr ych chwi mewn gwell cy­flwr, nac yr oeddent hwy am eu bod hwy yn rhagrhithwyr, ac nad oeddent hwy yn gwasanaethu Duw a'u holl ca­lonaau, megis yr ydych chwi. Yno yr aethum i adref yn llawen, ac a aethum yn fy malaen yn fy nghynnefinol arfer o weithredu, ac o ddioddef, tan tebyg fy mod i yn dda iawn fy nghyflwr, nes i mi feddwl, fy mod i yn drosseddwr o groth fy mam ie ac yn ei chroth hi, am fy mod yn euog o trossedd Adda: ar hyn yr ystyriais i na fyddwn i nês i cael fy ng­wared oddiwrth euogrwydd fy mhecho­dau cynt, er rhodio o honof rhagllaw yn uniou gyd a Duw. Ar hyn ym cy­thrwblwyd, ac a aflonyddwyd fy ngha­lon, [Page 119] ac yno mi a aethum at y trydydd wenidog o air Duw, ac a ddangosais iddo ef ym mha cyflwr yr oeddwn i yn sefyll, am tyb o'mblegid fy hunan, ac efe am cyssurodd i, ac a barodd i mi fod yn llawen, ac yn shiriol, canys er na chyfi­awnhaei fy ufyddod diweddaraf, yn ol fy ymchweliad at Dduw, tros fy mhe­chodau cyntaf, etto, yn cymmaint ac i mi eu haddef hwy ar fy ymch weliad, ac ymofidio, a galaru am danint, a'u llwyr ymadel; fod yr Arglwydd yn ol cyfoe­thogrwydd ei trugaredd, a'i addewidi­on grasol, wedi rhoddi mi faddeuant, a gollyngdod hael-trugarog. Yna y dych­welais i adref, ac a cwympais i'r llawr ger bron Duw dan gweddio, ac erfyn arno rhoi i mi siccrwydd o ollyngdod, a maddeuant o'in euogrwydd o bechod Addaf, ac o'm holl pechodau gweithre­dol a wneuthûm i, cyn i mi dychwelyd atto, tan addo, y parhawn i, i roi iddo wasanaeth perffeith rhacllaw, megis y gwnelswn i eusys, ac yno wedi fym siccrhau (yn fy nhyb i) fod yr Arglwydd wedi caniattau i mi hyn o arch, mi a ddechreuais trefnu fy muchedd yn ol fy addewid: mi a ddarllenais, ac a wrandewais, ac a weddiais, ac a ympry­diais, ac a wylais, ac a ochneidiais, ac a [Page 120] riddfannais, ac a wiliais ar fy nghalon, a'm tafod, am llwybrau, a'm ymddygiad ger bron Duw, a dyn; ond am ben en­nyd, wedi cael rhagor o cydnabyddiaeth ac yfprydoliaeth y cyfraith, ac â dirgel llygredigaeth sy nghalon, mi a wybûm fy mod i wedi fy nhwylio fy hunan, gan tebyg i mi cadw'r cyfraith yn perffelth, canys er y wnelwn, efe y fyddei llawer o ammherffeithrwydd yn sy ufydddod, a'm gwasanaeth, a'm gweithredoedd, canys yr oeddwn cynt, ac yn wastadol fyth yn cwscadlyd, ac yn bendrwm, pan y bawn yn gweddio, ac yn gwrando, ac ym mhob ryw wasaneth arall, ac ni wyddwn i pa fodd y gwnawn i hwynt yn iawn, canys yr oeddwn i yn camsy­nied yn y diwedd, a'r diben, er mwyn pa un y dylid gwneuthur pob gorch­wyl, am fy mod i yn ceisio fy huuan, a'm clôd ynddint, a'm cydwybod am cy­huddodd, i mi faelu yn fy ngwasaneth a'm dylêd tuag at yr Arglwydd yn hyn a hyn, ac yn fy nyled tuag at fy nghym­mydog yn hyn a hyn, ar hyn i'm cy­thrwblwyd drachefn yn ddirfawr, am fy mod i yn gweled fod y gyfraith yn gofyn ufyddhaad perfeith cwyrein, ac nas gellid ei chyflawnhau hi heb hynny: Ar hyn yr aethum i drachefn at yr un [Page 121] Gwenidog, ac a addrodais wrtho pa wedd yr arfaethaswn, ac promisiaswn, ac y ceisiaswn, ac yr ymboenaswn cym­maint ac y bai bossibl i mi, i cadw cy­fraith Dduw yn hollawl, ac etto yr oeddwn i yn gwybod, wrth profiad ae­thus, darford i mi eusys, a fy mod i byth yn ei throsseddu trwy lawer o ffyrdd, ac am hynny bod arnaf ofn uffern, a damnedigaeth.

Ond clywch (eb efe) y dyn, nac ofnwch canys y mae eu diffygion i'r Christno­gion goreu yn fyw ac nid oes dyn a ceidw cyfraith Dduw yn hollawl, ac am hynny ewch yn y blaen fyth a chei­siwch a'ch holl egni, fal gynt, i cadw 'r cyfraith yn perffeithiaf y galloch, dan credu, y derbynyf Duw eich ewyllys yn lle y weithred, pan na alloch ei cwpla, ac yr helpia Christ chwi yn y blaen pan y bo diffyg arnoch: Ac â hyn ym bodlon­wyd i yn ddirfawr, ac a ddychwelais adref yn llawen, ac yno y cwmpais i i weddio, dan addef ger bron Duw, fy mod i yn awr yn gwybod, nad allwn i rhoddi ufydddod perffeith iw gyfraith ef, acetto na wann-obeithiwn i ddim, am fy mod i yn credu, y cwblhaei▪ Christ trosof, y pethau, a adawn i heb eu gwneuthur. Ac ar hyn y bwriais i yn [Page 122] siccr fi mod i yn awr yn Ghristion trwyddo, ac nad oeddwn felly erioed hyd yn awr, ac er hynny o amfer yr ym­fodlonais i fy hunan. Ac yn y modd hyn, faly clywch chwi, y dangosais i, i chwi, Syr, cystled pa wedd y bum i cynt, a pha fath yw fy nghyflwr i yn awr: O herwydd pa ham yr attolygaf arnoch chwi ddywedyd yn eglur, eich tyb, a'ch barn ar fy ngh yflwr.

Evan.

Yn wir, y mae yn r haid i mi ddywedyd hyn wrthych, eich myned chwi, fal y gweddei, wrth eich yma­drodd, yn sy nhyb i, cyn bellhed yn y llwybr o'r cyfammod o weithredoedd, ac yr aeth yr Apostol Paul cyn ei ym­chwelyd ef at yr Arglwydd, ond etto er a wn i, nid aethoch chwi etto ar hyd yr union lwybr at wirionedd yr Efengyl, ac am hynny yr wyf yn ammeu, pa un y wnaethoch etto, a'i dyfod at Christ, a'i peidio.

Neo.

Rhowch cennad i minneu, Syr, adolwg, ddywedyd gair neu ddau wrthych, canys wrth clywed eich yma­drodd chwi oblegid y cyfammod o wei­thredoedd, a'r cyfammod o râs, efe a a ddaeth arnaf ofn nad oeddwn i ar y iawn ffordd, ondyn awr, yn ol, cly­wed y fath ymadrodd odidog o ben fy [Page 123] mydog Nomista, ac etto i chwi ammeu pa un y wnaeth ef, a'i dyfod me wn gw'iri­onedd at Christ a'i peidio yr wyf fi yn bwrw yn siccr fy modi ymmhell ddigon oddiwrth Christ: Yn ddiau, od yw efe wedi camsynied yr hwn, ymae yr Argl­wydd wedi ei addurno a'r fath rhoddi­on, a rhâdau odidog ac y sydd yn byw mor dduwiol, a mor ddedwydd megis y gwn i yn hyspys, ei fod ef, gwae i myfi yn siccr.

Evan.

Yn wir er a wn i chwychwi a ellwch fod ynGhrist o'i flaen ef.

Nom.

Eithr ystyriwch Syr, adolwg, dan fy mod i wedi 'm argyoeddi yn llwyr fy myned i gynt ar hyd y llwybr y cyfammod o weithredoedd, a than fy nyfod i o'r diwedd i weled fy eisiau o Grist, a'm mod i yn credu yn ddil ys, yr helpia ef fyfi ym mha beth bynnag y faela arnaf o lwyr credu'r cyfraith, yr wyf fi tebygwn, wedi dyfod yn ddiam­meu hyd at Christ.

Evan.

Yn wir nid yw hyn (ynfy nhyb i) yn rhoi i chwi fwy o siccrwydd o'ch gwir dyfodiad hyd at Christ, nac y sy gan rai o'r Papistiaid ymogelog: canys hyn yw dyscediaeth Eglwys Rhufain, ses o gwneif dyn ddeunydd [Page 124] o'i holl nerth, ac o cais ef a'i holl egni yn oreu y gallo ef, cyflawni'r cyfraith, yno y maddeuyf Duw er mwyn Christ Jesu ei holl ddiffygion, ac a ceidw ei enaid, ac am hynny y gwelir Ilawer o'r Papistiaid yn wiliadurus, ac yn fawr eu zel, a'u hawydd i cwblhau pob dylêd, ac yn gofus i ddywedyd cynnifer Ave Maria, a chynnifer Pater noster pob bo­reu, a phob prydnawn, ie ac y mae llawer o honint yn gwneuthur llawer gweithred cardodawl, ac yn dilyd llettugarwch, a hyn i gyd, ar yr un sail, ac i'r un diwedd, a'r rhai y clywsoch. Ni fynn y Papistiaid er dim (ebe Calvin) clywed sôn am y gair hyn (Trwy ffydd yn unig) am eu bod hwy yn meddwl fod eu gweith redoedd da hwy o rhan yn peri eu iechydwriaeth, ac ar hyn y gwnant hwy, fal pe dywedwn, cymmysc­fwyd, ni bo na chig, na physcod.

Nom.

Je ond byddwch araf, er dolwg Syr, yr ych chwi yn fy nghamsynied i, canys er fy mod i o'r cred hyn, fod Duw yn derbyn fy mwriad eithaf, i cy­flawni'r cyfraith, yn cymmerad wy, etto nid wyf fi fal y Papistiaid yn dala fod fy ngweithredoedd i yn haeddedigol, am nad wyf fi yn credu fod Duw yn derbyn, neu yn disgwyl ar y weithred, y wnel wyf [Page 125] nag er mwyn y weithred, n'ar gwei­thredydd, eithr yn unig er mwyn Christ.

Evan.

Ac etto er hyn i gyd yr ydych chwi yn cydcerdded a'r Papistiaid, law yn llaw, canys er eu bod hwy yn dala fod eu gweithredoedd yn haddedigol, etto hwy a ddywedant mai trwy rhyglyddi­ant Christ, a'i haeddedigaeth ef y maent hwy yn haeddedigol, neu fel y dywaid y rhai cymmedrolaf o honint, efe y fydd ein gweithredoedd yn haeddedigol, onid eu taenellu â gwaed Christ; eithr gwybyddwch chwi hyn, megis y mai cyfiawnder Duw yn gofyn ufyddod per­ffeith, mai felly y mae yn gofyn hefyd fod hyn o ufydddod yn personol: hynny yw, rhaid yw ei fod yn ufydddod o un person, neu weithredydd yn unig: nid rhydd cymmysgu ufydddod dau yng­hyd, i clwttio ufydddod perffeith, canys od ych chwi yn dymuno eich cyfiawn­hau ger bron Duw, rhaid y fyddei i chwi, naill a'i hebrwng gyd a chwi atto ef cyfiawnder perffaith o'ch eiddo eich hunan, dan llwyr ymwadu â Christ, a'i dwyn gyd a chwi perffaith cyfiawnder Christ dan llwyr ymwadu a'ch cyfiawn­der eich huuan.

Ant.

Eithr credwch fyfi, Syr, myfi a'i cynghorwn ef i ddwyn cyfiawnder [Page 126] Christ gyd ag ef, ac i lwyr ymwrthod a'i cyfiawnder ei hunan, fal y gwne i thum i, i Dduwy diolchaf.

Evan.

Da iawn y dywedwch chwi, am fod y cyfammod o ras yn gorphywys yn unig ar Ghrist, a'i cyfiawnder, ni fyn yr Arglwydd fod gan neb llaw yn nghyfi­awnhaad a iechydwriaeth pechadur onid Christ yn unig, ac er mynegi'r cy­fan wir i chwi, fy nghymmydog Nomista, gywybyddwch hyn, y bydd Christ Jesu naill a'i yn Jachawdwr trwyddo, ai yn­teu ni fydd yn Jachawdwr: naill a'i efe ei hunan a'ch ceidw, a'i ynteu nid ym­myrra ronin a'ch Jechydwriaeth. Canys nid oes un enw arall tan y nef wedi ei roddi ym mhlith dynion, Act. 4. 12. drwy yr hwn, y mae yn rhaid i ni fod yn cadwedig: fel hyn yr Apostol Petr: Ac y mae Christ Jesu ei hunan yn dywedyd: Myfi yw'r ffordd, Joan. 14. 6. a'r gwirionedd; a'r by wyd, nid yw neb yn dyfod at y Tad, ond trwyddo fi, hyd onid yw gwir â ddywe­dodd Luther sef, Heb law hyn o ffordd, hynny yw, Christ, nid. Oes un llwybr, onid crwydrad, nid oes gwirionedd eithr rhagrhith, nid oes bywydd iw cael eithr marwolaeth tragwyddol. Ac yn wir, ebe wr dyscedig arall, Nid allwn ni, na dyfod at Dduw'r Tad, [Page 127] na'n heddychu ag ef trwy na ffordd na modd amgen na Christ Jesu yn unig, am na ellir cael na ffafr Duw, na gwir ddini­weidrwydd, na chyfiawnder, na chy­fiawnder tros bechod, na chynnorthwy, na diddanwch bywyd, na iechydwriaeth yn amgen nag yn Ghrist Jesu yn unig, efe yw'r swm cyfan, neu canol bwynt o pob gwirionedd nefol Efangylaidd, o herwydd fel nad oes na gwybodaeth, na doethineb mor rhagorol, mor anghenr­heidiol, a mor nefol ac yw gwybodaeth o Christ (yn ol geiriau yr Apostol at y Corinthiaid sef Ni fernais i, 1 Cor. 2. 2. i mi wy­hod dim yn eich plith ond Jesu Christ a hwnnw wedi ei croeshoelio) felly nid oes un gwirionedd iw pregethu ym mhlith dynion fal gwrthdrych o'u ffydd, neu fal elfydd anghen-rheidiol o'u iechydwriaeth, ond y fyddo mewn rh yw fodd neu gilydd, naill ai yn cyff­wrdd yn Ghrist, a'i yn cyfeirio atto ef.

Ant.

O Syr, yr ych chwi yn fy mod­loni i yn aruthr o'ch bod yn gosod y cwbl i Christ, ac yn wir, Syr, er nas buoch chwy yn hwyr, mor efangylaidd yn eich athrawiaeth, ac y mai eraill yn y ddinas hon, a hyn a barodd i mi troi oddiwrthich chwi i wrando ar eraill) [Page 128] etto mi a welais gynt, ac a welaf yn awr fod i chwi fwy o wybodaeth o ddyscei­diaeth rhwydd rhâd Duw, nac i lawer o wenidogion yn y ddinas. Ac i addef y gwirionedd wrthych Syr, trwy eich cy­farwyddid chwi i'm hebrwngwyd i cyn­taf i ymwadu a'm cyfiawnder fy hunan, ac i lynu yn unig wrth cyfianwder Christ Jesu: ac yn y modd hyn y bu: Yn ol fy mod i tro hir yn proffesswr cyhoeddus o'r cyfraith, yn cyffelib i'm cymmydog Nomista, ac i mi wrando yn unig ar y Pregethwyr cyfreithaidd y rhai a'm adei­ladei â gweithredoedd, a gorchwylion, megis y wnelsid o hono yntef yn ol eu harfer beunyddol: O'r diwedd y daeth câr anwyl attaf, yr hwn a ddisscasei lawer o ddysceidiaeth rhwydd rhâd, ac a'ch canmolodd chwi fal Pregethwr odidog, ac o'r diwedd efe a'm perswadi­odd, i fyned gyd ac ef i wrando arnoch, ac y mae yn côf gennif mai yn y trydydd o Titus, a'r bummed wers yr oedd eich Text chwi y diwrnod hwnnw: Tit. 3. 5. sef, Nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaethom ni eithr yn ol ei drugaredd yr achubodd efe nyni. Ar pa eiriau y dyscasoch chwi, ac a'i profiasoch yn eglur, nad oedd gan cyfiawnder dyn un llaw yn ei cyfiawnhaad, neu iechyd­wriaeth, [Page 129] ac yno y gwaharddasoch chwi nini rhag gosod ein hymddiried yn ein gweithredoedd a'n gwasanaeth ein hu­nain, ac a'n cynghorasoch i taro gafael trwy ffydd ar cyfiawnder Christ Jesu yn unig: A'r pa eiriau y rhyngodd bodd yr Arglwydd felly i weithio arnaf, nes i mi weled yn eglur, nad oedd yn rhaid i mi wrth na gweithred, na gwasanaeth, na dim amgen, ond yn unig wrth ffydd yn Ghrist Jesu, ac yn wir, efe a ym­fodlonodd synghalon i a hyn yn ddia­ros, a mi a aethum adref yn llawn tangneddyf, a llawenydd, ffydd, dan roddi diolch i'r Argl wydd am iddo ym­wared fy enaid alian o'r fath caethiwed creulon y fuasswn i ynddo, ac yno ye adroddais i wrth sy nghydnabod, a'm ceraint pa fath fywyd y buasswn i fyw ynddo tan y cyfraith, canys o gwnawn i un pechod, efe a'm cythrwbleid, ac a'm uflonyddeid i yn fy nghydwybod yn y mann, fal nas gallwn er dim cael llo­nyddwch nes yn darfyddei i mi wneu­thur ufydd cyffes o hono ger bron Duw, a deisyf maddeuant a gollyng­dod, ac addo gwellhaad, ond yn awr, ebwn i wrthint, er cynnifer o bechodau y wnelwn, ni fyddei fwyach gennif ro­nin, ac nid yw yn talmu ar fy nghalon [Page 130] hyd y dydd heddyw, i mi pechu, amfy mod i yn credu yn ddylys, darfod i Dduw er mwyn Christ maddeu i mi yn rhâd, ac yn llwyr fy holl pechodau, cynt a phresennol, a rhac-llaw; hyd onid wyf yn credu, na ddannodir i mi fyth, na phechod, na phechodau ar y wnelwyf, gan fod yn ddiogel gennif fy amwisco mor cwbl â mantell cyfiawn­der Christ, 1 Thes. 5. 16 fal na welyff Duw un pechod ynof. Ac am hynny yn awr, yn ol cyngor yr Apostol mi allaf llawany­chu yn yr Arglwydd Jesu Christ yn wa­stadol, a byw yn llawen er gwrthyned creadur, ac er llawned o bechod y bydd­wyf, ac yn wir yr wyf fi yn tosturio wrth y sawl y sy yn byw, yn yr un fath cyflwr caeth ac y bum i fy hunan ynddo cynt, a mi a ddymunwn arnint credu megis yr wyf finneu, fal y cydlaweny­chont a myfi yn Ghrist. Ac yn y modd hyn, Syr, fel y clywsoch, yw fy nghyflwr i, ac am hynny yr attolygaf arnoch chwi, fynegi i mi eich tyb am da­naf.

Evan.

Y mae llawer of sôn y dydd he ddyw yn y ddinas hon oblegid yr Anti­nomiad, neu Ddeddf-wyrthwynebwyr, ac er fy mod i yn gobeithio nad oes nem­mawr a haeddei yr enw hwnnw yn cy­fiawn, [Page 131] etto, gyd a'ch cennad y dywe­daf wrthych fy mod yn ofni fod acho­sion i mi ddywedyd wrthych chwi, me­gis y dywedodd un cynt wrth Petr, Mat. 26. 73 ar achosion arall: yn wir yr wyt titheu yn un o honint, can ys y mae dy lyferydd yn dygyhuddo. Ac am hynny er dangos i chwi y gwirionedd yn ol fy nhyb i, yr wyf i yn ammeu pa un y wnaethoch chwi etto, a'i gwir credu yn Ghrist a'i peidio, er cymmaint yw eich ffrost, a'ch hymddiried. Ac yn wir yr wyf yn am­meu hyn yn fwy, Phil. 1. 27. trwy cofio, cly wed o honof nad yw eich ymddygiad chwi yn addas i Efengyl Christ.

Ant.

Gwrandewch Syr, a'i possibl yw, tebygwch chwi, fod gan ddyn y fath tangneddyf, a llawenydd yn Ghrist, ac y sy gennif fi hyd yn hyn, ac, y sydd gen­nif yn awr hefyd, Dduw i diolchaf, ac erto heb iddo wir credu yn Ghrist?

Evan.

Ydyw, yn wir, yn bossibl, yn fy nhybi, canys onid yw ein Jachaw­dwr yn dywedyd, derbyn o'r gwran­dawyr rheini, â cyffelybasei ef i'r tir car­regog, yr hâd yn ddioed gyd a llawe­nydd, Mark. 4. 15 ac etto heb fod ganthint wreiddi­au ynddint eu hunain, ac am hynny nad oddent hwy yn wir ffyddloniaid. Ac onid yw 'r Apostol yn hyspyssu i ni [Page 132] mai, 2 Tim. 3. 5. fel y mae rhith duwioldeb, heb wrym dduwioldeb: felly, y mae rhith ffydd, heb gwrym ffydd, ac am hynny y gweddiyf ef, ar i Dduw canniat tau i'r Thssaloniaid gwaith ffydd gyd a nerth: Ac megis y mae 'r un Apostol yn hysp­yssu i ni fod ffydd yr hon nad yw yn ffugiol, 2 Thes. 1. 11. neu mewn rhith yn unig, felly yn ddiammeu y mae ffydd ffugiol rhag­rhithiol. Ac yn siccr pan y dywedei ein Jachawdwr fod teyrnas Duw, fel pe bwriai ddyn hâd i'r ddaiar, 1 Tim. 1. 5. a chyscu a chodi, nos a dydd, ac i'r had egino a thyfu, y modd nis gwyr efe, yn gyntaf yr eginyn, yn ol hynny y dywysen, yna 'r yd yn llawn yn ydwysen, efe a yspysei i ni, fod gwir ffydd yn dyfod pob yn ronin trwy ddirgel allu Duw, Mark. 4. 26 27. fal na wyr y gwir credadyn ffyddlon ei hunan wei­thian, na'r amser, pa bryd na'r modd wrth pa un, y gweithredwyd, hyd oni welwn ni, nad ydyw gwir ffydd yn ar­ferol, yn dechreu, ac yn cynyddu hyd at perffeithrwydd mewn munud, megis y bu eic'h ffydd chwi, fal y gweddei, eithr hi a tyf bob yn ronin yn ol geiriau 'r Apostol: Cyfiawnder Duw a ddatcu­ddir o ffydd i ffydd: Rhuf. 1. 17. hynny yw, o un gradd ffydd at arall o ffydd gwann i ffydd cadarn, o ffydd sy yn dechreui [Page 133] ffydd sy yn tyfu at perffeithrwydd, neu o ffydd o ymgyssylltiad, i ffydd o siccr­wydd, eithr nid o'r fath hyn y bu eich ffydd chwi, fal y gweddei, ac am hynny er bod gennich chwi gynt, ac yn awr llawer o tangneddyf a llawenydd, etto nid ydyw hyn, yn arwydd ddidwyll, o fod eich ffydd chwi yn cywir, canys efe a ddichon fod i ddyn ryw ysgyfliadau aruthr, ie efe a all fod iddo lawenydd mawr, fal pecipied ef i fynu i'r trydydd nef, ac hygoeledd cadarn o fod ei cy­flwr ef yn dda ddigon, ac etto ni fydd ef oscattfydd, onid rhagrhithiwr er hyn igyd, ac am hynny yr attolygaf arnoch yn ngeiriau 'r Apostol: Ar i chwi profi eich hunan, a ydych yn y ffydd: ie hol­wch eich hunan a'i nid ydych yn adna­bod eich hunan, 2 Cor. 13. 5. sef bod Jesu Christ ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghym­meradwy. Ac os yw Christ ynoch, y mae 'r corph yn farw o herwydd pe­chod, Rhuf. 8. 10. eithr yr yspryd yn fywyd o her­wydd cyfiawnder.

Ant.

Ond Syr, od aeth fy anwyl No­mista ar ddidro trwy ceisio ei cyfiawn­hau trwy weithredoedd y cyfraith, mi a tebygwn, fy myned i ar hyd y ffordd union, trwy ceisio fy nghyfiawnhau trwy ffydd, ac etto yr ydych chwi yn barnu, [Page 134] fal pe buasem ni ein dau wedi myned allan o'r iawn ffordd.

Evan.

Efe y ddaw i'm côf, â ddywe­dodd Luther oblegid meddyliau dynion yn ei amser ef: Os (eb efe) y pregeth wyr a ddyscent, nad oedd ein iechydwriaeth ni yn sefy l, neu wedi ei seilio ar ein gweithredoedd, neu ar ymarweddiad ein bywyd ni ein hunain, eithr ar ddawn Duw, rhai a cymmerent achosion oddiyno, i ddiogi, a bod yn ddiawyddi weithredoedd da, eithr yn ewn i fyw yn ansybr, ac yn anweddaidd: Ac o'r ty a­rall dyscent oblegid anghenrheidioldeb o fywyd sanctaidd sybr union, yno eraill yn orwyllt a preuddwydient am ddarparu ysgolion i driugiad ar eu hyd hwynt i'r nefoedd. Ac heb law hyn, y mae efe yn coffa, fod ryw rhai, a chan­thint gwâg-ysprydiau drychiolaethus, yn cyffroi 'r bobl (yn y flwyddyn o oedran Christ, pymthegcant a phump ar ugain) i terfysc, gan ddywedid wrthint, fod rhydd-did yr Efengyl yn rhyddhau pob Christon oddiwrth pob math o catchiwed cyfreithiau: Ac eraill a osod­ent holl nerth ein cyfiawnhaad yn y cy­fraith: Yn awr (eb efe) y mae rhain igyd yn trosseddu yn erbyn y cyfraith, rhai, ar y llaw ddehau a fynnent eu cy­fiawnhau [Page 135] trwy 'r cyfraith, a'r lleill ar y llaw assw a ddymunent eu rhy ddhau yn lân oddiwrth y cyfraith: yn awr, mi a tebygwn y gellid eich cynnebygu chwi eich dau i'r rai a coffaodd Luther: canys amlwg yw ddarfod i chwy, fy anwyl Antinomista, trosseddu ar y llaw assw, am na rhodiasoch yn ol rheol y cy­fraith: Ac yn yr un cyffelib y mae yn­eglur (yn fy nhyb i) ddarfodd i chwi­thau fy nghymmydog Nomista, trosseddu ar y llaw ddeheu, am i chwi ceisio iwch cyfiawnhau trwy eich ufydddod i'r cy­fraith.

Nom.

Ond gwrandewch, Syr, od yw cais o cyfiawnhaad trwy weithredoedd y cyfraith yn camsynnied, etto efe y we­ddei wrth cyffes Luther, nad yw hyn onid camdyb ar y llaw ddehau.

Evan.

Ond etto y mae, meddaf i wrthich hyn o camsyniad wrth cyffes yr Apostol, cyn bellhed ac y bo neb yn euog o hono, yn peri llawer o pecho­dau. Pwy bynnag a camsynio fel hyn: Gal. 5. 4. 3. 19. 1. 7. 3. 10 4. 25. 5. 7. y mae ef yn gwneuthur iw hunan cynni­fer Jachewdwr, ac y wnelo ef o weithre­doedd wasanathaidd i Dduw; y mae ef yn gwrthod gras Duw, ac yn dirymmu mar­wolaeth Christ, y mae ef yn gwyr-droi bwriad yr Arglwdd yn ei roddiad o'r [Page 136] Cyfraith, a'r Efengyi, ac yn ei cadw ei hunan tan felldith y Cyfraith, ac yn ei wneuthur ei hunan yn fab i'r caeth­wraig, ac yn wâs, ie, ac yn caeth-wâs, ac yn ei rhwystro ei hunan rhag rhedeg yn dda, a rhag rhodio yn weddus: Ac ar eiriau byrrion, efe a cymmer arno orch­wyl ammhohossibl iw cwpla, ac a cyll ei boen yn y diwedd.

Nom.

Efe y weddei wrth hyn, Syr, fod fy holl amcan, i ryngu bodd Duw trwy fy ngweithredoed da, a'm holl rodiad union gofalus yn ol y cyfraith, a'm holl ymarweddiad sybr-lan, cyfiawn, wedi wnythyd fwy o niwed, nac o lesiant i mi.

Evan.

Y mae'r Apostol yn dywedyd, Heb. 11. 6. mae peth ammhosibl yw i rhyngu bodd Duw heb ffydd: hynny yw, ebe Calvin, Pa beth bynnag y feddylio, y fwriado, neu y wnelo dyn, cyn y bo ef wedi ei heddychu a Duw trwy ffydd yn Ghrist, y mae yn felltigedig, ac nîd yn unig yn anfuddiol i cyfiawnder, eithr yn wir haeddu damnedigaeth: hyd onid yw gwir, fod y neb a ceisio rhyngu bodd Duw a'i weithredoedd a wnelo cyn iddo credu, yn ceisio ei fodloni ef â phechod, ac yn hyn ni wneif ef amgen, na phentyrru pechod ar pechod, a gwatwor Duw, a'i ennyn [Page 137] ef i ddigofaint, nage, ebe 'r un Luther mewn lle arall, Od wyt ti heb Christ, ynfydrwydd dau-ddyblyg yw dy ddoe­thineb mwyaf, a phechod ac annuwiol­deb dau-ddyblyg yw dy cyfiawnder go­reu, ac am hynny er ddarfod i chwi rhodio yn ymogelus yn ôl y cyfraith, a byw yn union, etto os gorphwysasoch, ac o gosodasoch eich ymddyried ar hyn, heb cyrrhaedd at Christ yno chwi a wnaethoch niwed yn hytrach na daioni i'ch hunan. Canys y mae buchedd rhin­weddol (ebe scrifennydd duwiol) â arweinier yn unig wrth goleuni natu­riaeth yn gyrru dyn ymmhellach oddi­wrth Dduw, oddieithr iddo ef achwa­negu at hynny nerthol weithrediad ei yspryd: A gwell o lawer (ebe Luther) y syddei iddint hwy sy yn disgwyl yn unig ar fywyd onest, ac ymddygiad uni­an oddiallan, pe baent hwy yn odine­bwyr, ac yn odineb-wragedd, ac yn ym­drochiyn y plwcca bydr o aflendid: Ac o'r achos hyn yn ddiammeu y dywedodd ein Jachawdwr wrth y scrifennyddion a'r Pharisaeaid â geisient cyfiawnhaad trwy eu gweithredoedd ac a wrthodent Christ, yr elei'r Publicanod, a'r putt einiaid i mewn i deyrnas Duw o'i blaen hwy. Ac ar hyn y dywedais inneu, y [Page 138] gallei fy nghymmydog Neophitus, er a wn i, fod yn Ghrist o'ch blaen chwi.

Nom.

Eithr pa wedd y dichon hyn fod ac ynteu, fal y gwyddoch chwy wedi cyffessu ei fod ef yn anwybodus, ac yn llawn llygredigaeth ac yn aughyffelib i myfi, o rhan doniau, a rhadau?

Evan.

Hyn y fy, am fy mod i yn te­byg, mae, fal yr oedd yn anhawsach i'r Pharisaead ddyfod at Christ, nac i'r Pub­lican, felly y mae yn anhawsach i chwi chwi, nac iddo ef.

Nom.

Pa ham hynny, adolwg, Syr, pa beth ychwaneg y sy i mi iw gwneu­thnr, neu pa beth y cynghorech, i mi iw wnythyd, canys yn wir mi a fy­ddaf fodlon i'm cyfarwyddo gennich chwi?

Evan.

Y peth cyntaf sydd iw wneu­thur cyn y deloch at Christ yw mysciad o'r cwbl oll ar y wnaethoch eusys, sef, lle 'r ydych chwi wedi rhoi eich holl egin i fyned tua'r nef ar hyd llwybr Cy­fammod o weithredoedd, trwy pa un yr aethoch ar ddidro, efe y fyddei rhaid i chwi ddichwelyd yn ol, ar hyd y ffordd a cerddasoch, cyn y troedoch chwi troedfedd o'r llwybr union. A lle y ceisiasoch adeiladu i fynu adfeiliau adfeiliau hen Adda, a hynny ar [Page 139] eich hunan yn cyffelib i adeiladwr ynfyd a adeiladei ty gogwyddedig ar y tywod, y mae 'n rhaid i chwi bwrw i lawr, a llwyr distriwio ye holl adeiladaeth honno, heb adel faen ar faen, cyn y de­chreuoch chwi adeladu o'r newydd: a lle y tybiasoch chwi fod digonoldeb ynoch eich hunan, i wch cyfia wnhau, ac i'ch achub, mae'n rhaid i chwi fwrw yn eich calon ac addef, nad oes ynoch chwi tuad at eich iechydwriaeth nid yn unig annigonoldeb, eithr drwg ddigonedd hefyd, ie a bod y digonedd hwnnw â tebygwyd fod ynoch yn colled i chwi yn ol cyngor ein Jachawdwr Jesu Christ ymwadu a'ch hunan, hynny yw, y mae yn rhaid i chwi llwyr ymwadu a'r cwbl oll ac y fuoch chwi, neu ac wnaethoch chwierioed: Rhaid wy i'ch holl wybo­daeth, a'ch doniau, a'ch holl gwrandaw­iad, a'ch darlleniad, a'ch gweddiad, ach ymprydiad, a'ch wylofain, a'ch galarnad a'ch holl crwydrad ar hyd llwybrau eich gweithredoedd, a'ch rhodiad ymogelog cyfing cwympo i'r llawr ar frys, ar un gair, mae'n rhaid i chwi weithian gyd a'r Apostol Paul cyfrif yn colled er mwyn Christ a'i farnu yn tomm, pa beth byn­nag y cyfrisasoch chwi cynt yn elw i chwi er eich cyfiawnhaad, Phil. 3. 7, 8, 9. fal yr enilloch [Page 140] Christ, ac i'ch ceffir ynddo ef heb eich cyfiawnder eich hunan yr hon sydd o'r cyfraith, ond a hon y sy trwy ffydd yn Ghrist, sef y cyfiawnder y sydd o Dduw trwy ffydd.

Neo.

Je ond pa beth Syr y cynghorech chwi fysi iw wneuthur?

Evan.

Pa'm ddyn? pa beth a ddarfu i chwi?

Neo.

Am, Syr, megis y gwelsoch chwi fod yn dda iw elywed hwy ei dau, yn dangos eu cyflwr o'ch blaen chwi, felly yr attolygaf arnoch roi cennad i min­meu hefyd owllwys fy nghalon yn eich gwydd, ac yno y deellwch chwi beth yw fy hynt i. Syr, efe a rhyngodd bodd yr Arglwydd yn hwyr o amser i ymweled o honof a thwrn mawr o clesyd, hyd onid oeddwn yn wir yn fy nhyb i fy hunan, ac yn ol barn pawb a ymwelent a mi, yn claf hyd angeu, ond yno y de­chreuais i fyfyried i pa le yr oedd fy enaid i ar fyned yn ol ei ymadwiad o'r corph, a mi a feddyliais ynof fy hunan, nad oedd onid dau le, sef Nef, ac Uffern, ac am hynny y byddei rhaid ei myned hi i un o'r ddau le hynny, yno y dawei i'm côf fy muchedd annuwiol pechadurus cynt, ar coffadwriaeth pa un y bernais i mai uffern oedd y lle a ddarparwyd [Page 141] iw derbyn hi, a hyn a barodd i mi fod yn frawychus ac llawn ofn, ac yn ala­rus, am i mi fyw mor pechadurus, ac yno mi a ddeisyfais ar yr Arglwydd i ystyn fy einioes tro bach ychwaneg, dan ymrhwymo fy hunan na phallwn i ddim o wellha fy muchedd a chyweirio fy ym­arweddiad, ac efe a welodd yr Argl­wydd fod yn dda, caniattau i mi fy arch: Er pa amser, er fod hyn yn wir, nas bûm i mor annwiol yn fy mywyd, ac y bua­swn i cynt, etto och gwae, yr wyf fi yn ffaelu cyrrhaedd at y bywyd duwiol cre­fyddol a welwyf eraill yn byw ac yn en­wedig fy ngh ymmydog Nomista, ac etto ydych chwi, fal y gweddei, yn tebyg, nad ydyw yntef ddim mewn cyftwr da, o herwydd pa ham rhaid yw fy mod i mewn cyflwr truan: och gwae i mi, pa beth, Syr, adolwg, y tebygeth chwi y ddaw o honof?

Evan.

Er cyffwrdd o honom yn nghyd trwy cennad Duw, a'i cynnorthwy, ac er i mi agoryd yn eglur, a rhwyddhau y llwybr newydd bywiol at fywyd trag­wyddol, etto, y welaf i hyd yn hyn, y mae r Arglwydd heb caniattau agoryd eich llygaid iw canfod, a hyn sy yn peri i chwi ceifio myned tuag yno ar hyd yr hen ffordd naturiol, o herwydd pa ham, [Page 142] fel y gallwyf ei ddatcuddio i chwi yn eglurach, ystyriwch adolwg, sef, er bod Duw o'r un ochor, a dyn o'r ochor arall ar gwneuthurdeb y cyfammod o weithredoedd ar y cyntaf, etto yr oedd Duw ei hun o'r ddau ochor yn yr ail wiath sef Duw, o'i ystyried yn ddicym­mysgiad yn ei sylwedd â oedd yn wrth sefyll dyn, a Duw, yr ail person, wedi cymmeryd arno iw cnawdoli, ac i wei­thredu prynedigaeth dyn, oedd o'i ochor ynteu, ac yn ymddangos trosto, fel y cymmodei ef Duw a dyn trwy ddwyn pechodau'r dyn, dan cyflawni cyfiawn­der Duw trostint, ac yn ol hynny y ta­lodd Christ i Dduw nes iddo ddywedyd, iddo gael ei ddigon; a'i fod ef wedi ei lwyr fodloni a'i dalu. Io. 19. 30.

Ar hyn y rhoddwyd holl bobl Christ iddo ar eu ethelodigaeth hwy: Eph. 1. 4. Eiddot ti oeddynt, Io. 17. 6. a thi a'u rhoddaist hwynt (ebe Christ) i mi. Y mae ef (sef y Tad) yn caru 'r Mab, ac a roddodd y cwbl iw ddwylo ef: hynny yw, efe a ymddirie­dodd iddo â goruch wiliaeth, a gweith­redol wenidogaeth o'r awdurdod hon­no yn yr Eglwys, a berthynasei yn brio­dol, ac yn ddechreuol iw hunan, a hyn a barodd i Christ ddywedyd: y Tad nid yw yn barnu neb, Jo. 5. 22. eithr efe a roddes [Page 143] bob barn i'r Mab. Fal, nad yr un oedd y Cyfammod am fywyd a iechydwria­eth yn ôl cwymp y dyn, a'r cyfammod o weithredoedd, a oedd rhwng Duw a Christ, (eithr gan Christ ei hun) ddim iw wneuthur a'r cyfammod hwnnw: eithr y cyfammod o fywyd a iechydwri­aeth yw 'r cyfammod o râs, a sy rhwng Christ a'i eiddo ef, ac yn y cyfammod nid oes na chyfraith, nac ammod iw cadw o rhan dyn wrtho ei hunan, nagê nid oes mwy i ddyn iw wneuthur na hyn, i wybod, a chredu, fod Christ, wedi wneuthur y cwbl oll trosto ef: Am hyn­ny fy nghymmydog anwyl Neophitus, yr wyf yn dymuno arnoch, credu yn ddi­sigl, nad oes ddim ymma i chwi iw wneuthur, ac nad oes ymma i chwi iw roddi i Dduw hyn yn unig y sydd rhaid i chwi, sef dderbyn y tryssor gwerth­fawr, hynny yw Christ Jesu, a tharo ga­fael arno ef yn eich galon trwy ffydd, ie er cynnifer ac er cymmaint y bo eich pechodau ac yno y cewch chwi faddeu­ant o'ch pechodau, a chyfiawnder, ded­wyddyd tragwyddol, nid fel gweithre­dydd ond fel dioddefydd, nid dan gwneuthur dim eich hunan, ond dan dderbyn gan arall, nid oes ymma ddim yn gyfrwng onid ffydd yn unig trwy pa [Page 144] un yr ymaflir â Christ yn yr addewid: Yn hyn ynteu y saif cyfiawnder per­ffaith, na byddoch chwi yn gwrando ar ddim, yn gwybod dim, yn gwneuthur dim o'r cyfraith, neu weithredoedd, ond yn unig yn gwybod, ac yn credu myned o Christ Jesu at y Tad, a'i fod ef yn eistedd ar ei ddeheulaw ef, nid fel Barnwr, eithr efe a wnaethpwyd i chwi gan Dduw yn ddoethineb, 1 Cor. 1. 30 ac yn gyfiawnder ac yn sancteiddrwydd, Act. 16. 31 ac yn brynedigaeth: O herwydd pa ham y dywaid yr Apostol, Crêd yn yr Arglwydd Jesu Christ, a chadwedig y fyddi.

Neo.

Ond, Syr, a oes i neb oin bathi un warant, neu siccrwydd i credu yn Ghrist?

Evan.

Ystyriwch, adolwg, fod yr Arglwydd Dduw'r Tad, fal y mae ef yn ei fab ef Jesu Christ, heb ei annog gan ddim, ond o'i cariad rhwydd tuag at ddyn'a collasid, wedi wneuthur scrifen ym mha un y canniattaodd ef, ac a adda­wodd yn rhad iddint, na chelleid yr un o'r sawl a credent yn ei fab ef, Jo. 3. 16. eithr y caent hwy fywyd tragwyddol. Ac ar hyn y dywedodd ein Jachawdwr Jesu Christ ei hunan wrth ei ddyscyblion: Ewch i'r holl fyd, Mat. 16. 15. a phregethwch yr Efengyl i bob creadur tan y nef: hynny [Page 145] yw, Ewch, a mynegwch i pob dyn, fal i gilydd, fod ymma newyddion da iddo, sef farw o Ghrist trosto ef, ac os efe a'i cymmer ef, ac a dderbyn ei cyfiawnder ef, efe a'i caiff ef yn siccr. Am hynny, yn gymmaint a bod y scythyr lan (fal y dy­wedodd scrifennydd duwiol) yn dywe­dyd wrth pawb fal i gilydd yn cyffredin, ni ddylei neb ei anymddy ied ei hunan, eithr credu yn rhwydd fod hyn yn per­thynu iddo ef yn nailltuol. Ac er mwyn ystyried hyn o bwngc yn well, ym mha un y cynnhwysir holl ddirgelwch ein ffydd ddedwyd ni, gadewch i mi feddwl, neu ofyn fal hyn: Beth, pe orchymmyn­nei ryw frenin da dedwydd cyhoeddi trwy ei teyrnas ef â sain udcorn, mae rhydd oedd i pob gwrthrhyfelwr, a phob gwr â alltudwydd, ddichwelyd iw ty ei hunan yn ddiofn, o herwydd rhyngu bodd y brenin, ar ymbil, a rhyglyddiant ryw gâr anwylyd iddint hwy, iw ma­ddeu hwy? yn wir ni ddelei ar un o'r gwrthrhyfelwyr rheini ammeu, nas caffo ef lwyr faddeuant o'i trossedd, a rhydd-did i ddichwelyd adref, ac i fyw yn ddiofn tan cyscod y brenhin grasol hwnnw; yn yr un cyffelib, efe a ddarfu i'n brenhin tirion, yr Arglwydd n f, a daiar, er mwyn ufydddod, a rhyglyddi­ant [Page 146] ein hanwyl, a'n daionus frawd Jesu Christ, faddeu i ni ein holl pecho­dau, ac efe a barodd cyhoeddi trwy'r byd oll, mai rhydd oedd i pob un o honom ddichwelyd adref yn ddiofn ac ein Duw yn Ghrist Jesu; Heb. 10. 22 ac am hynny, na ammeuwch o hyn erdolwg, eithr Ness­ewch a chalon gywir mewn llawn hydr ffydd.

Neo.

Je ond Syr, er hyn o cyffelybia­eth, y mae anghynnebygaeth yn y mat­ter, canys pan y danfon o brenin daiarol y fath cyhoeddiad, mae'n tebygol ei fod ef yn ddidwyll yn bwriadu iw maddeu hwy oll, ond ni ellir dywedyd fell y ob­legid y brenin nef, Jude v. 4. canys onid yw 'r Scry­thur lan yn dywedid, Rhag ordeinio rhai er ystalm i ddamnedigaeth? Mat. 22. 14. Ac onid yw Christ yn dywedyd, fod llawer wedi eu galw, ac ychydig wedi eu dewis ac am hynny ye wyf fi osgatfydd yn un o rheini â rhag ordeiniwd i ddamnedi­gaeth, ac er fy ugalwi, byth ni'm dewi­sir, ac felly ni fydd fy enaid iddim yn cadwedig.

Evan.

Arhoswwch, adolwg, ac ystyri­wch: er rhacordeinio rhai i ddamnedi­gaeth, etto cyhyd ac y celo'r Arglwydd eu henwau hwy heb gosod nôd o colle­digaeth ar un dyn yn enwog, eithr â cyn­nig [Page 147] faddeuant yn cyffredinol i pawb fal i gilydd, heb coffa nac ethelodigaeth nac gwrthodigaeth: yn diau ynfydrwydd o'r mwyasy fyddeii un dyn, ddywdydfel hyn, nid wyf fi oscattfydd wedi fy ethol, ac am hynny ni châf fi unllesaâd oddiwrtho, ac o herwydd hynny ni dderbyniaf i ddim o hono, 2 Pet. 1. 10. nac ni ddeuaf i ddim i mewn, eithr yn hytrach y dylei hyn annog pob dyn i fod yn ddiwyd i wneuthur ei alwediga­eth, Heb. 4 1. a'i ethelodigaeth yn siccr, trwy credu ei fod yn wir, rhag i ni faelu o'i cyrrhae­ddid, yn ol geiriau'r Apostol: Ofnwn gan hynny gan fod addewid wedi adel i ni i fyned i mewn iw orphwysfa ef, rhac bod neb o honoch yn debygi fod yn ol, O herwydd pa ham, na ddywedwch chwi, adolwg, yr wyf fi osgattfydd heb fy ethol, ac am hynny ni chredaf fi ddim yn Ghrist eithr dywedwch yn hytrach yr wyf fi yn credu yn Ghrist, ac am hyn­ny y mae 'n siccr gennif fy mod i yn etholedig, a beiwch ar eich calon eich hunan, am i chwi ymyrred a dirgelion duw, ac yspio iw cyngor cuddiedig ef, ac nac ewch mwy tu hwnt i'ch terfynau, fal yr aethoch chwi yn hyn o bwnge, canys dirgelwch yw Ethelodigaeth, a Gwrthodedigaeth ac y mae 'r Scrythur lân yn dywedyd, Deut 29. 22 mae eiddo 'r Arglwydd [Page 148] ein Duw yw dirgelidigaethau, a fod pethau aml wog wedi eu rhoddi i ni. Yn awr, ewyllys cyhoeddus Duw yw hyn, canys ei orchymmyn annirgel ef yw, ar i ni Credu yn enw ei fab ef Jesu Christ, 1 Jo. 3. 23. a'i addew'd ef ei hunan, yw hyn, Os credwch chwi, ni'ch collir ddim, ond chwi a cewch fywyd tragwyddol. Gan hynny, am fod cystled warant gennich a gorchymmyn Duw, a chystled anno giad, a'i addewid grasol ef, gwnewch chwi eich gwnasanaeth, canys, wrth hynny siccrhewch yn ddiammeu, ac a'i diogelwch eich bod chwi yn un o ethe­lodigion Duw. Dywedwch ynteu fel hyn adolwg, â ffydd ddiogel, Y mae cy­fiawnder Christ Jesu yn eiddo pawb oll â credont, ond yr wyf fi yn credu, ac am hynny y mae yn fy eiddo i: ie dywed­wch megis y dywedodd yr Apostol: Gal. 2. 20. Yr ydwyfi yn byw trwy ffydd ym mhab Duw, yr hwn a'm carodd, ac a ddodes ei hun droso fi, Ni welodd ef sef Duw (ebe Luther ar y text hyn) ddim onid annu­wioldeb ynofi, a chyfeiliornad, ac yma­dawiad oddiwrtho, etto efe a druga­rhaodd yr Argiwydd graslawn wrthif, ac o'i wir drugaredd a'm carodd i: ie ef am carodd i felly a chymmaint, fel y rhoddodd ef ei hunan trosof fi: a phwy [Page 149] yw'r myfi hwnuw?) nid amgen na myfi pechadur truan colledig, yr hwn y ca­rodd mab Duw cyn anwyled ar iddo roi ei hunan trosof: O ceisiwch, adolwg, argraphu y gair hw (myfi) yn eich ca­lon, a gosodwch yn agos at eich hunan, heb ammeu dim, eich bod chwithau yn un o honint hwy, i pa rhai y perthyn hyn o air (myfi.)

Neo.

Ond gwrandewch, Syr, a'i possibl yw, y gallei fod yn ddiogel gan y fath ddyn truan pechadurus ac yr wyf fi, fod yr Arglwydd Dduw yn gorchym­myn i myfi credu, ac iddo ef wneuthur yr addewid i myfi?

Evan.

Pa ham yr ydych chwi yn am­meu hyn yn ddiachos: Ewch (ebe Christ) a phregethwch yr Efengyl i pob Crea­dur tan y nef: hynny yw, Ewch a my­negwch i pob dyn, yn ddiwahaniaeth o pa fath bynnac y bo ei pechodau ef, o pa fath bynnagy bo ei wrthrhyfeliadau ef, etto ewch a mynegwch iddo, hyn o newyddion da, os efe a ddaw i mewn, myfi a'i derbyniaf, ei pechodau ef a fa­ddeuir iddo, ac efe a fydd cadwedig: Os efe a ddaw i mewn a'm cymmeryd i, a'm derbyn i, myfi a fyddaf yn wr cariadus iddo ef, ac efe a fydd yn wraig anwyl i myfi: rhowch i mi cennad ynteu, i [Page 150] ddywedyd wrthych chwi yn ngeirian 'r Apostol. Yr ydwyf i fel cennad tros Christ, megis pe bai Duw yn deisyf ar­noch trwyddo fi yr ydwyf yn erfyn tros Christ, Cymmoder chwi a Duw, canys yr hwn nid adnabu pechod a wnaeth ef yn bechod trosoch chwi fel i'ch gwnelid chwi yn gyfiawnder ynddo ef:

Neo.

Ond, a ydych chwi Syr yn dy­wedyd. y'm priodir i â Christ, os credaf?

Evan.

Felly y dywedais, a gwir yw hyn, canys y mae ffydd yn cyssylltu yr enaid â Christ fel y cyssylltir gwraig, a'i gwr, hyd oni wneir Christ a'r enaid yn un: canys megis ac y gwneir gwr a gwraig ar briodas corphorol yn un cnawd, felly yn hyno briodas ysprydol dirgel, y gwneir Christ a'r enaid yn ys­pryd, ar briodas hon sy perffeiddiaf oll, ac wedi ei orphen yn cyflawnaf nac un arall, am nad yw'r briodas rhwng gwr a gwraig onid fal arwydd yscafn o'r cyssylltiad ysprydol hyn: gan hynny yr wyf fi yn erfyn arnoch credu hyn, ac yno y byddwch chwi siccr iw fwyn­hau.

Neo.

Yn wir, Syr, o dywedodd Da­fydd, Sam. 18. fal hyn, Ai yscafn yw yn eich golwg chwi ymgyfathrachu a brenhin daiarol a minneu yn wr tlawd, a gwael [Page 151] yn ddiau y mae i mi mwy o achos i ofyn, a'i yscafn yw yn eich golwg chwi, ymgyfathrachu a brenhin nefol, a min­neu yn ddyn tlawd gwael pechadurus: Yn wir, Syr, ni ellir fy mherswadio i, i credu hyn.

Evan.

Och ddyn, yr ych chwi yn camsynied ym mhell, am eich bod yn disgwyl ar Dduw, ac ar eich hunan a llygad rheswm naturiol, fel pe baech yn sefyll mewn cyfattebaeth ar naill i'r llall yn ol dull y Cyfammod o weith re­doedd, lle y dylech chwi, a chwithan ar▪ ddadl Cyfiawnhaad a Chymmodiad, disgwyl ar Dduw a'ch hunan a llygad Fsydd, fel pe baech yn sefyll mewn cy­fattebwch a'r naill ir llall yn ol dull y cyfammod o râs, canys, yr oedd Duw yn Ghrist (ebe'r Apostol) yn cymmodi y byd ag ef ei hun, 2 Cor. 5. 19 heb gyfrif iddint eu pe­chodau: fel pe dywedasei ef wrthint: megis ac y mae Duw yn sefyll cyferbyn a Dyn, yn ol dull y cyfammod o wei­thredoedd, ac ar hynny oddiallan i Ghrist, nid allei ef heb rhwystr iw iawn farn, ei cymmodi a dyn, nac ymyrred ac ef yn amgen, nac yn ei fâr, a'i ddigo­faint, ac am hynny fel yr ymgyffyrddei Trugaredd, a Barn, ac yr ymcyssanei Cyfiawnder, a heddwch, ac fel y safeu [Page 152] Dduw gyferbyn a dyn, yn ol dull y cy­fammod o ras efe a ymsodododd ei hun yn ei fab Jesu Ghrist, ac a ymguddi odd ei hunan ynddo, fel y llefarei ef oddiyno heddwch iw bobl. Tèg oedd geiriau Luther: O herwydd fod naturiaeth Duw, (eb efe) cywch fel na allem ni ei cyrrhaedd, efe a ddarostyngodd Duw ei hunan hyd attom ni, ac a cymmerth ein naturiaeth ni arno, ac a osododd ei hu­nan yn Ghrist, ac oddiymma y disgwyl ef amdanom, ymma y derbynyf ef nini, a phwy bynnac a'i ceisio ef ymma, a'i caif, Mat. 3. 17. Hwn, sef Christ (ebe Dduw'r Tad) yw fy anwyl Fab ym mha un i'm bod­lonwyd. Ar pa eiriau y dywaid Luther: Na thebygwn, ac na thaerwn arnom ein hunain, dyfod o'r llafar ymma o'r nef er mwyn Christ ei hunan, eithr er ein mwyn ni, Mat. 12. 30. yn ol geiriau Christ: Nid o'm hachosi, y bu y llefhyn, ond o'ch achos chwi: a'r cyfan wir yw, nad oedd yn rhaid i Ghrist, iw ddywedyd wrtho, mai anwyl fab Duw oedd ef, canys efe a wy­dde hyn er tragwyddoleb, ac mae felly y byddei ef fyth, pe buasei 'r Tad heb le­faru hyn o eiriau o'r nef, gan hynny yn y geiriau hyn y mae Duw'r Tad yn Ghrist ei fab yn llawenychu calonnau pechadu­riaid truain ac yn eu mawr hyfrydhau [Page 153] hwy a diddanwch rhagorol, a pherei­ddra nefol, gan ficcrhau iddint fod hwnnnw, pwy bynnag y bo, ac y prio­dir â Christ ac wrth hynny ynddo ef trwy ffydd, mor cymmeradwyol ger bron Duw'r Tad, ac'y mae Christ ei hun, Eph. 1. 6. yn ol gair yr Apostol: Efe a'n gwnaeth ni yn cymmeradwy yn ei anwy­lyd, sef Christ. Gan hynny os dy­munwch chwi vch bod yn cymmeradwy gan Dduw, a'ch gwneuthur yn blentyn anwyl iddo ef, glynwch chwithau wrth ei an wyl Fab ef Jesu Christ ti wy ffyd, ac ymaflwch a'i wddwf, ie ac ymlithrwch iw fonwes ac yna y cyfrennir, ac y gref­ddir serch a chariad Duw mor ddiogel ynoch, ac y mai yn Ghrist ei hun, ac yna y meddianna Dduw r' Tad yn nghyd a'i anwyl fab, chwithau, hefyd yn hollawl, a chwychwi a'u meddi­annwch hwythau, ac yno un y byddwch chwi â Duw ac â Christ, yn ol geiriau Christ yn ei weddi, fef, fel y byddont hwythau un ynom ni, megis yr wyt ti y Tad ynof fi, Joan. 17. 21 a minneu ynot ti; Ac wrth hyn y cewch chwi warant diogel a sail diysgog i ddywedyd (o rhan eich cymmodiad â Duw un amser, ac yno pa bryd bynnac yr ymrheswmmoch a'ch hunan, ac yr ymboloch pa wedd y cy­fwrddeid [Page 154] a Duw, yr hwn y sydd yn cyfiawnhau ac yn achub pechaduriaid) fel hyn, Nid wyf fi yn adnabod un Duw arall, ac ni chydnabyddaf fi un Duw amgen na'r Duw hwn, yr hwn a ddaeth i lawr o'r nef, ac a ymwyscodd ei hunan a'm cnawd i, i pa un y rodd­wyd pob awdurdod, a nerth yn y nef, ac ar y ddaiar, yr hwn yw fy marnwr: Canys y Tad nid yw yn barnu neb, Jo. 5. 22. eithr efe a roddes bob barn i'r Mab, hyd oni ddichon Christ wneuthur o honof fi ac i mi, fal y gwelo ef yn dda, ac yn ol ei ewyllys ei hun, ac y mae yn hyspys gen­nif, ddwedyd o hono ef, ei ddyfod ef, nid i farnu'r byd, eithr i cadw'r byd ac am hynny yr wyf fi yn credu y ceidw ef fyfi.

Neo.

Yn wir, Syr, pe bawn i mor dduwiol, a mor cyfiawn ac y gwelaf fi fod eraill, a pe rhoddeid i mi y fath awd­urdod ar fy mhechodau, a'm llygre­digaethau, megis y mae gan rhai, yno y credwn inneu yn hawdd, ond och och, yr wyf fi cyn llawned o bechod, a mor annheilwng o barch, gan fy mod i y fath truenyn diffydd, fel na feiddiwf fi credu y derbyn Christ fyfi cyn bellhed ac i'm cyfiawnhau i, a'am cadw.

Evan.

Och gwae ddyn, yr ych chwi yn hyn obeth yn gwrthddywedyd, ac yn [Page 155] ammeu geiriau yr Apostol Paul, a'r Arglwydd Jesu Christ ei hunan, ie a hynny yn erbyn eich enaid eich hun: Canys lle y mae yr Apostol yn dyw dyd Dyfod o Ghrist Jesu i'r byd i gadw pe­chaduriaid, 1 Tim. 1. 15 ac i cyfiawnhau yr annu­wiolion yr ydvch chwi, fel y gweddei, yn dala ac yn dywedyd, Dyfod o Christ Jesu i'r byd i cadw'r rhai cyfiawn, Matth. 9. 12 ac i cyfiawahau y rhai duwiol: Ac lle y mae Christ ein Jachawdwr yn dywedyd, Nad rhaid i'r rhai iach wrth feddig, ond i'r rhai cleifion: yr ydych chwi, fel y gweddei, yn dala ac yn dywedyd i'r ystyr hyn: Nad rhaid i'r rai cleifion wrth feddig ond i'r rhai iach. A lle y dywedodd Christ na ddaeth ef i alw'r cyfiawn, ond pechaduriaid i edifeirwch, yr ych chwi yn dywedid, ei ddyfod ef, nid i alw pechaddriaid ond y cyfiawn i edifeirwch: Ac yn siccr yn eich yma­drodd yr ych chwi, fel y gweddei yn cre­du, mai rhaid yw puro a glanhau, a golchi diweddi, neu briod Christ oddi­wrth ei holl bydredd, a'i haddurno â mantell gwerthfawr o'i chyfiawnder ei hunan, cyn y derbynio efe hi lle y mae ef yn dywedyd wrthi fel hyn: Am dy enedigaeth ar y dydd ych anwyd, ni thorrwyd dy fogail, Ezek. 16. 4. ac mewn dwfr ni'ch [Page 156] olchwyd i'th feddalhau, ni'th cyweir­wyd ychwaith â halen ac ni'th rhwym­wyd a rhwymyn, Ni thosturiodd llygad wrthit, i wneuthur i't yr un o hyn i dost­urio wrthit, a phan dramwyais heibio it, a'ch weled yn ymdrabaeddu yn dy waed, mi a ddywedais wrthit yn dy waed, bydd fyw: ie, pan aethum i heibio it, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchawg­rwydd yna y lledais fy aden drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd it, ac ethym mewn ryfammod a thi, a thi a aethost yn eiddof fi, A mi a'th ddiweddi­af a mi fy hun yn dragywydd, Hos. 2. 19. ie diwe­ddiaf di a myfi hun, mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tirionddeb. Gan hynny, gelwch yn ôl, eich gau dyb, adolwg, ac na wrthddywedwch eiriau gwirionedd ymmhellach, eithr bydd d hyn yn ddiogel gennich, na ddaeth Christ ddim, i alw, ac i cyfiawnhau, ac i cadw'r dyn cyfiawn duwiol, ond yr annuwiol, a'r anghyfiawn, fal, pe baech chwi yn dduwiol, ac yn cyfiawn ni fyddech chwi mewn un tebygaeth nac o'ch Gal wedi­gaeth, nac o'ch Cyfiawnhaad na'ch Je­chydwriaeth trwy Christ, ond tan eich bod yn ddyn pechadurus annuwiol, mi a ddywedaf wrthych, fel y dywedasant y bobl wrth Bartimaeus ddall: Mar. 10. 49 Cymmer [Page 157] galon, cyfod, y mae efe yn dy alw di, ac efe a'ch cyfiawnhâ, ac a'ch cadw. Ewch chwithau atto ef yn ddiofn, adolwg, ac o daw ef i cyffwrdd a chwi ar y ffordd (fel y mae ei cûnnefinol arfer ef) yno na ddywedwch chwi yn ddiystyr, fel Pet'r, Dos ymmaith oddiwrthif canys dyn pechadurus wyfi, eithr dywedwch yn iawn, Tyred attaf o Arglwydd, canys dyn pechadurus wyf fi: ie, ewch ymmhe­llach a'ch ymadrodd, dywedwch fel y mae Luther yn eich cyfarwyddo: O Jesu rasusol, o'm harglwydd rhâdfawr, O Christ faddeu-gar, yr wyf fi yn pechadur tylawd truan, ac am hynny yn barnu sy hunan yn annheilwng o'th rhâd ti, a'th cariad, ond etto, mi a ddyscais yn dy air fanctaidd, fod dy iechydwriaeth di yn eiddo y rhai o'm bath i, am hynny yr wyf fi yn dyfod attat ti i ceisio 'r iawn hwnnw y sydd yn sy eiddo itrwy dy ra­sol addewid ti. A bydded hyspys gen­nych nad yw Christ Jesu yn gofyn un gwaddol gyda'i ddiweddi neu priod, nac ydyw yn wir, nid yw ef yn ceisio dim gyd a hi onid tylodi pûr: Efe a ddenfyn ymmaith y rhai goludog yn weigion, Luke 1. 53. eithr efe a cyfoethoga 'r tylodion. Ac yn wir, medd Luther, pa fwyaf ei annedwy­ddid, pa lawnaf ei bechod y tebycco dyn [Page 158] ei fod, a pa cyfinged y barno dyn fod ei cyflwr ei hun, ewyllysgarach o hynny y bydd Christ iw dderbyn ef, ac iw cyn­northywio: hyd onid ydych chwi (ebe efe) yn deilyngach o hynny, o'ch bod yn eich barnu eich hunan yn annheilwng, ac ar hyn y cawsoch chwi well odfa i ddyfod atto ef. Gan hynny yn ngeiriau 'r Apostol yr wyf fi yn eich cynghori, ac yn erffyn arnoch i ddyfod yn hyderus at or­seddfaingc y grâs, fel y derbynioch tru­garedd ac y caffoch râs yn gymmorth cy­famserol.

Neo.

Ond yn wir, Syr, y mae fy ngha­lon i fel pe bai yn crynnu gan ofn wrth feddwl am y fath dyfodiad gwâg hwnnw at Chrisst. Ac yn wir Syr pe delwn i cyn enioned at Christ, a pe dwedwn i mor hyderus wrtho ef ni fyddwn i ddim yn ddieuog o falchder a rhyfyg.

Evan.

Yn wir pe'ch annogeid chwii ddyfod at Christ dan ei cyfarch ef ar eiawndra eich duwioldeb a'ch sanctiddr­wydd, a'ch teilwngdod eich hunan, rhysyg a balchder y fyddei hynny yn siccr, eithr nid balchder rhyfygus yw i chwi ddyfod at Christ, dan credu ei fod ef yn barod i'ch derbyn, ac i'ch cyfiawn­hau, ac i'ch cadw yn ewyllysgar a'i râs yn ol ei addewid grasol serchog ei hun. [Page 159] Am hynny gan ddarfod i Christ cynnig a chyflowni hyn i chwi mor rhâd, cred­wch hyn ddyn, nad halchder, neu rhysyg, eithr gwir ostyngeiddrwydd calon yw dderbyn â cynnygiodd Christi chwi.

Nom.

Eithr, gyd a'ch cennad, Syr, a­dolwg, gedwch i middywedyd un gair ar dro; yr wyf fi oscattfydd yn adnabod fy nghymmydog Neophitus yn well nac yr ydych chwi, etto nid wyf fi ar fedr dan­nod un pechod iddo, yn amgen na thrwy ymadrodd o tebygaeth: fel hyn: dy­wedwch ei fod ef yn euog o ryw becho­dau ffiaidd, creulon, beth a dderbyn Christ ef? a cyfiawnheif, ac a cedwyf Christ ef er hynny?

Evan.

Gwneif yn wir am nad oes un terfyn ar gras Duw yn Ghrist Jesu, Datc. 3. 20. oddi­eithr bod y pechod yn erbyn yr yspryd glan. Y mae Christ yn sefyll wrth y drws ac yn curo, ac o bydd un Manasses. Llofruddiog anrhugarog, neu un Saul cablaidd herllidiaidd dditraha, o bydd un Fagdalen butteiniaidd odinebaidd, 2 Tim. 1. 13 â egyr y drws iddo ef, efe a ddaw i mewn yn ewyllysgar, ac a ddug cwmffwrdd a diddanwch gyd ac ef ac a swppera gyd ag ef, Chw'liwch (ebe un Mr. Hooker gwr Efangylaidd) y nefoedd trwyddint, o un cwrr i'r llall, trowch lyfr Duw yn [Page 160] ol ac yn mlaen, ac ymsynnwch onid yw geiriau Christ yn wir, Jo. 6. 37. sef yr hwn a ddêl attafi nis bwriaf allan er dim.

Nom.

Wrth hyn, Syr, efe a wydde, eich bod chwi o'r tyb, na ddylei y pe­chadur gwaethaf yn y byd ei wannga­lonni rhag credu yn Ghrist o herwydd un rhwystr a wnelo ei bechodau.

Evan.

Yn ddiau, os gwir yw hyn, me­gis y mae yn wir ddiammeu, dyfod o Christ Jesu i'r byd i ceisio, ac i alw, ac i cadw pechaduriaid, ac i cyfawnhau yr annuwiolion, fel y clywsoch chwi eusys, ac os gwir yw hyn hefyd, fod Christ yn barottach, ac yn ewyllysgarach i dder­byn, ac i cynnorthwyio y pechadur hwnnw, ac a farno ei hunan yn fwyaf ei bechodau, yn llawnaf o annuwioldeb, yn waethaf ei cyflwr, ac yn annhebyccaf i cael ffafr; ni welaffi un rheswm pa ham y gwancalonneid y pechadur gwaelaf gwaethaf rhag credu yn enw Christ er cymmaint y bo ei bechodau, nagê myfi a'i achwanegaf, pa fwyaf y bo pechodau un pechadur, o rhan eu nifer neu naturia­eth, efe a ddylei bryssuro yn gyntach o hynny at Christ: gan ddywedyd yn ol gweddi Dasydd: Psa. 25. 11. Er mwyn dy enw, Argl­wydd, maddeu fy anwiredd, canys mawr yw:

Ant.
[Page 161]

Yn wir, Syr, pe bai fy anwyl Neophitus yn ystyried y pethau hyn yn cymmwys, a pe credei ef eu gwirionedd hwy yn ddiammeu ni fyddei ef mor llaes, a mor annewyllysgar i ddyfod at Christ tan credu yn ei enw ef, ie yn y modd ac y mae ef, canys od yw mawredd ei bechodau ef yn ei helpio yn hytrach nac yn ei rhwystro, rhac ddyfod at Christ, fel y dywedasoch chwi, ni wn ibeth ai rhwystra ef?

Evan.

Gwir iawn y dywedwch chwi ac am hynny, fy nghymmydog Neopbitus, yr wyf fi yn deisyf arnoch iw ystyried yn ddifrifol, ac na edwoh eich rhwystro yn hwy rhac ddyfod at Christ, gan na Sa­tan, cyhuddwr y brodyr, nâch cydwy­bod achwyniol eich hunan yn cydtuno ac ef: canys beth, pe cyhuddent hwy chwychwi o falchder, anghrediniaeth, cybydddod, trachwant, digter, cenfigen neu rharrhith: ie beth pe cyhuddent hwy chwi o butteindra, lladrad, medd­wdod, neu 'r cyffelib, etto gwnelont hwy eu gwaethaf nid. allant hwy eich gwneuthur yn waeth na phechadur, neu 'r pennaf o pechaduriaid, neu ddyn di­ried annuwiol, ac os felly, ni fyddwch chwi onid y cyffelib ddyn ac daeth Christ Jesu i'r byd iw cyfiawnhau ai [Page 162] cadw, hyd onid ydynt mewn gwirionedd pe'u iawn yslyriech yn peri i chwi fwy o ddaioni, a llesiant, na drygioni neu rhwystr, ac am hynny yr wyf fi yn deisyf arnoch ym mhob ryw cythrwfl meddwl, neu blinder cydwybod, cymmeryd cyn­gor Luther; sef Pan y bo dy cydwybod (eb efe) yn frawychus gan coffadwria­eth o'th pechodau gynt, a phan y bwrio 'r cythrael arnat yn daer, ac yn draws, i'th ormeilio â thyrau, a llyfoedd, a moroedd o bechodau er dy frawychu, a'th tynnu ymmaith oddiwrth Christ, yna arfoga dy hunan, a'r fath geiriau, a'r rhai hyn iw atteb hwy: sef, Christ mab y Duw byw a rhoddwyd, nid dros y rhai duwiol, cyfiawn haeddedigel, neu 'r sawl a'i careut ef, ond tros pechadu­riaid annheilwng, a thros ei elynion, ac ar hyn, o dywaid y Cythrael, Pecha­dur wyt ti am hynny y dylech di dy ddamnio, yno atteb di gan ddywedyd wrtho, Nid gwir hynny, canys yr wyf fi wedi ymaflyd â Christ, yr hwn a roddodd ei hunan tros fy mhechodau, ac am hyn­ny yn cymmaint ac i ti ddywedyd fy modi yn bechadur, di a roddaist, i mi araf, do, arfogaeth yn dy erbyn dy hu­nan, fel y torrwyf dy fynwgl a'th cle­ddyf dy hun, ac yth dansielwyf di dan [Page 163] fy nhraed. Ac wrth hyn y gwelwch chwi pa beth yw tyb Luther, y dylei eich pechodau ych gyrru yn hytrach at Christ, n'âch cadw oddiwrtho.

Nom.

Ond, Syr, dywedwch, ei fod ef etto heb ddarostwng ei hunan, ac heb edifarhau am ei fawr, a'i aml becho­dau, a oes iddo ef yn y cyflwr hyn un warant i ddyfod at Christ?

Evan.

Mi a welaf ych bod chwi etto heb lwyr swrw eich adeilad ogwyddedig enbeidus i'r llawr, yrych chwi byth yn meddwl fod yn rhaid i ddyn gneuthur ryw beth trosto ei hunan iw cyfiawn­haad, yr ych chwi yn meddwl fod yn rhaid iddo ddwyn peth arian yn ei law i brynu iw hunan ei iechydwriaeth, eithr ystyriwch adolwg, mai cyfammod o ras (megis y dywedais yn fynych eusys) yw cyfammod Duw yn Ghrist, ac os felly, y mae yn cyfammod rhâd ym mhob ffordd, ac am hynny y gwneiff ef cyhoeddiad cyffredin: Ho, dewch i'r dyfroedd bob un y mae syched arno, ie yr hwn nid oes arian gantho, deuwch, pyrnwch, a bwyttewch: ie, deuwch, prynwch wîn, a Ilaeth, heb arian, ac heb werth. Dymma 'r ammod, fel y gwel­wch chwi, (prynwch win a llaeth) hyn­nyyw grâs a iechydwiraeth, (heb arian) [Page 164] hynny yw, heb un math neu ronin o ddi gonoldeb ynoch o'ch eiddo eich hunan. Ac y mae 'r Arglwydd yn llefaru yn fy­nych yn ei air, ei fod ef yn cyfiawnhau ei blant cyn yr edifarhaont, neu 'r ymo­styngont eu hunain, neu a wnelont un gorchwyl o sancteiddrwydd, a chyfiawn­der: a'r cyfan wir yw hyn, nad ydys yn disgwyl ar law dyn, onid hyn yn unig, ei ddyfod ef a llaw ffydd i dderbyn Christ heb ddim amgen yn ei helw.

Nom.

Ond, Syr, er fy modi yn tebyg mae gweddus yw i ni ddwyn gyd a ni hyn o arian o ddarostyngiad, ac etifeir­wch at Christ, etto, nid wyf fi o'r meddwl hyn iw cynnig iddo, fal pris, eithr fal y disgwylio ef arnint yn unig fal ar bethau a ordeiniasei ef iw ha­ddurno hwy o honint, â ddelont atto ef.

Evan.

Je ond, cyd ac y bo Christ, yn dywedid mai rhaid yw dyfod heb ddim, ac mae digon yw eich bod yn gogwyddo eich clustiau, ac yn dyfod atto, ac yn grwando, ac yno yn addo bywyd, ac yn promisio gwneuthur cyfammod trag­wyddol a chwi, sef siccr truga reddau Dafydd: chwi a ddyleuech weled, a chydnabod, tebygwn i, fod Christ wrth hyn yn eich galw chwi oddiwrth y llwy­brau [Page 165] 'o edifeirwch, ac ymostyngiad, a phob ryw weithred o cyfiawnder, pan y bo chwi yn nghylch cich cyfiawnhaad, ac yn peri i chwi cwympo yn eich swrth, ac yn union, ac yn ddicyfrwng ar y cyfam­mod rhâd o râs.

Nom.

Je ond Syr, y mae'r Scrythur lân, tebygwn i, yn dyscu, fod yr Argl­wydd yn gorchymmyn fyned Edifeirwch o flaen ffydd, canys onid yw yn scrifen­nedig fal hyn, Edifarhewch, a chredwch i'r efengyl?

Evan.

Yn ddiau, efy roddir yr enw o edifeirwch weithiau i'r dechreuadau, a'r rhaclwybrau paratol o hono, sef y mwythan cyfreithiol rheni o ofn a dy­chryn, a sy ym mlaen ffydd o rhan am­ser a naturiaeth, ac yn wir, nid yw 'r edifeirwch hwnnw y sydd yn rhagflaenu ffydd yn Ghrist, yn amgen na'r cyffelib, canys ni ddichon Edifeirwch efangy­laidd, ac ynteu yn ffrwyth o'n ffydd, fod o'i blaen hi.

Nom.

Wrth hyn Syr, y gwyddei, ych bod chwi yn tybied, ei fod ef, a wir credo yn Ghrist, wedi llwyr edifarhau hefyd.

Evan.

Ydwyf yn wir: ac er nad wyf yn dala fod Edifeirwch Efangylaidd yn myned ym malen ffydd yn Ghrist, etto [Page 166] yr wyf fi yn credu, ac yn dala ei bod, yn dilyn ffydd: Ystyriwch, dymma fy nhyb i, nad yw Edifeirwch Efangylaidd yn rhagflaenu fydd yn Ghrist ond yn ei ddilyn.

Nom.

Ond etto, Syr, yr ych chwi, fal y gwyddei yn dala fod y dechreuadau rhagddarparol hynny o edifeirwch, â alwasoch yn fwythau cyfreithaidd o ofn a dychryn, yn myned ym mlaen ffydd.

Evan.

Ydwyf yn wir, yn tebyg mae felly yr ânt fynychaf ac yn arferol, ac mewn ryw fesur.

Nom.

Pa ham y dywedwch chwi fyny­chaf? onid ydynt hwy felly ym mhob enaid ffyddlon?

Evan.

Nac ydynt ddim: am fod rhai yn ddiammeu yn cyffelib i Zachaeus a Lydia, y rhai a dderbyniasant Christ, ac a'u derbyniwd gantho ef, (fel yr ydys yn ei tebyg yn lle gwir) heb ronin, o na braw, nac ofn.

Nom.

Ac onid ydynt hwy tebygwch chwi, ym mhawb, yn yr un mesur ai gilydd?

Evan.

Nac ydynt ddim, canys, y mae gwahaniaeth mawr yn y mesur, am nad yw rhai onid profi o'r phiol, pan y gorfyddo i eraill yfed y gwaelodon, ac [Page 167] ystyriwch hyn ymma, er ei fod yn anghenrheidiol, fod hyn o fwythau cy­freithaidd o ofn a dichryn mewn rhyw rai cyn y delont at Christ, etto nid ydynt hwy mor anghenrheidiol o rhan Christ: gan hynny, bydded hyspys gennych nad ydynt hwy gan y sawl sy o honint, me­gis pe nas roddei Christ roesaw iddint, ac nas derbynie efe hwynt, pa baent hwy hebddint, eithr o herwydd na fyn­nant hwy ddyfod at Christ, nes eu gyr­ru fel hyn atto.

Nom.

Ond Syr, a ydyw'r peth, a al­wasoch chwi yn Edifeirwch Efangy­laidd, ac a ddywedasoch ei fod yn di­lyn ffydd, ym mhob iyw ddyn cre­dadwy?

Evan.

Ydyw yn wir, y mae ym mhob enaid credadwy mwy neu lai, yn ol me­sur ei ffydd, ai dderbyniad o yspryd Christ, cyn siccred, ac y mae gwir ffrwy­thau eraill o yspryd Christ.

Nom.

Da iawn, efe a'm attebwydi.

Neo.

Ac yn wir, Syr, yr ych chwi wedi dangos a chyhoeddi ymddygiad Christ tuag at pechaduriaid truain, ac wedi atteb i'm holl ofynion, ac wedi rhwy­ddhau pob rhwystr, hyd onid wyf fi yn awr wedi fy siccrhau fod Christ yn ewyllysgar i'm derbyn i, ac yn wir yr [Page 168] wyf finneu yn fodlon i ddyfod atto ef, ac iw dderbyn ynteu; Eithr och gwae, y mae arnaf ddiffyg hyder iw cwpla, sef y mae, Syr ddiffyg ffydd ar­naf.

Evan.

Eithr dywedwch un gair yn ddidwyll, a ydych chwi yn llwyr fwria­du a'ch holl egni, a'ch hyder eithaf, i credu, ac i dderbyn Christ Jesu trwy ffydd?

Neo.

Yn wir Syr, y mae fy mwriad i, tebygwn, yn cyffelib i feddwlfryd y ped­war gwr gwahan-glwyfus rheini a eiste­ddasant wrth ddrws porth Samaria: canys megis y dywedasant hwy wrth ei gilydd; 2 Br. 7. 4. Od awn ni i'r ddinas, newyn sydd yn y ddinas ac ni a fyddwn feirw yno, ac os trigwn ni ymma, ni a fyddwn feirw hefyd, am hynny dewch yn awr ac awn i wersyll y syriaid, o cadwant hwy ni yn fyw, byw syddwn, ac os Naddant ni, byddwn feirw, yn yr un modd y dy­wedaf inneu yn synghalon, Od af i yn ol at y cy ammod o weithredoedd i cei­sio cyfiawnhaad, marw a fyddaf yno, ac os trigaf fi ymma yn llonydd heb ei ceisio yn un mann, n arw a fyddaf hefyd, am hynry er bod arnaf ofn o'r mwyaf, etto yr wyf fi yn awr yn bwriadu yn hollawl ar fyned at Ghrist, ac [Page 169] o derfydd am danaf, darfydded.

Evan.

Am yn awr y dywedafi wrth­ych fod y cwlwm wedi ei daro a'r far­gen wedi ei wneuthur: Y mae Christ yn eich eiddo chwi, a chwithau yn eiddo Christ, Heiddyw y daeth iechyd wriaeth i'ch ty chwi, sef i'ch enaid, canys beth er nad ocs gennich hyder ddyfod at Christ mor fuan, ac i daro 'r fath gafael ficcr arno, ac y ddymunech, etto gan ddyfod a'r fath fwriad ad Christ, ac iw dderbyn ef, nid rhaid i chwi ofalu rhagor, eithr bydded hyspys i chwi, y nerthyf Duw chwi iw wneuthur trywddo, canys oni ddywedir? Cynnifer ac ai derbyniasant ef, efe a roddes iddint allu i fod yn fei­bion Duw, sef i'r sawl a gredant yn ei enw ef. Gan hynny yr wyf fi yn deisyf arnoch, na byddoch yn ymddadleu mwy a'ch hunan, eithr byddwch ddioed, ac yn ddiymmod yn eich ffydd, ac yn eich bwriad o'ch hunan ar Dduw yn Ghrist am drugaredd, Io. 1. 12. a deled, a ddeleo i chwi, ond er eich diddanwch y dywedaf, nid eiff y fath fwriad diyscog, byth i uffern, nage mi a achwanegaf, o ceif un eniad croesaw i'r nef, dyna 'r enaid a'i ceif, am na ddichon yr Arglwydd yn ei galon ddamnio 'r fath enaid. Wrthich chwi ynteu y dywedaf ar yr un hyderwch, ac y [Page 170] dywedodd un John Carelesse wrth John Bradford gynt: Clywch y nefoedd, a chlustfeinia di y ddaiar, byddwch dysti­on i mi ar y dydd diweddaf, fy mod i ymma yn mynegi cennadwriaeth Duw yn ffyddlon, ac yn cywir wrth ei wasa­naethur anwyl John Bradford, gan ddy­wedyd, John Brdford, gwr mawr ei ca­riad gyd a Duw, yr wyf fi yn mynegi, ac yn tystyolaethu i tydi, yn ngair, ac yn enw'r Arglwydd Jehovah, fod dy holl phechodau di er cymmaint ac er cynnifer y bônt wedi eu cwbl gollwng, a'u llwyr maddeu i ti trwy trugaredd Duw yn Ghrist Jesu dy unig Arglwydd, a'th anwyl Jachawdwr, ym mha un yr wyt ti yn credu, yn ddiammeu: fal y mae byw yr Arglwydd ni fynn ef i't farw, eithr efe a wir arfaethodd, ac a lwyr fwriadodd, ac a ordeiniodd i tydi fyw gyd ag ef tros tragwyddoldeb.

Neo.

O Syr, pe bai gennifi cystadl wa­rant i cyssylltu hyn o air i'm fy hunan, ac oedd gan M r Bradford, mi a fyddwn dded­wydd.

Evan.

Yr wyf filyn dywedyd wrthich chwi oddiwrth Christ, a than law ei ei yspryd ef, fod eich person chwi yn cymmeradwy gyd a Duw, a'ch pechodau wedi eu dileu, ac mae cadwedig y fydd­wch: [Page 171] A pe dywedei un Angel o'r nef yn amgen wrthich, bydded yn felltigedig: ac am hynny chwi a ellwch fwrw yn ddiammeu eich bod yn ddyn ded­wydd, canys ar hyn eich diweddiad â Christ yr aethoch yn un ag ef, ie yn un ynddo ef, Jo. 17. 21. yr ych chwi yn trigo ynddo ef, ac ynteu ynoch chwithau. Eich anwy­lyd chwi ydyw ef a chwithau yn ei ci­ddo yntef: 1 Jo. 4. 13. hyd onid yw undeb y brio­das y sy rhyngoch chwi â Christ yn fwy nac ymwybod noeth, Can. 2. 16. neu meddwlfryd, canys undeb ysprydol sylweddol gwei­thredol yw hwn undeb yw rhwng na­turiaeth Christ Duw-a-dyn, a chwithau, ymrhwymiad ydyw a chydiad nid yn unig o'ch ymafliad â Jachawdwr eithr o cyssylltiad eich enaid â Jachawdr; ac wrth hyn, y mae yn eglur, nad ellwch chwi fod yn ddamnedig, oddi eithr damnio Christ gyd a chwi, ac na ddi­chon Christ ei hun fod yn cadwedig, oddieithr eich cadw chwithau hefyd. Ac megis yr eiff pob beth yn cyffredin rhwng gwr a gwraig o achos eu prio­das corphorol, felly y bydd y cwbl oll yn cyffredin rhwngoch chwi â Christ o achos hyn o briodas ysprydol, canys yn ol i Christ priodi ei ddiweddi a'i hunan, efe a rhydd ei holl olud i fynu iddi hi, [Page 172] hy onid ellwch chwi ddywedyd yn iawn fod i chwi hawl ar Christ ei hun, a'i holl feddiannau a'i holl rhinweddau. Efe a wnaethpwyd i chwi gan Dduw, yn ddoe­thineb, ac yn gyfiawnder, ac yn sanctei­ddrwydd, 1 Cor. 1. 30 ac yn brynedigaeth. Ac yn wir o achos hyn o undeb agos, y bu i Christ alw ei Eglwys, yn Arglwydd ein Cyfiawnder, Ier. 33. 16. 23. 6. Jer. 33. 16. megis y gel wid yntef ei hunân Jer. 23. 6. yr Arglwydd ein Cyfiawnder: Trwy nerth hyn o un­deb y gellwch chwi taro gafael yn ddio­gel megis yn eich iawn eich hunan ar Christ, a'i wiliadau, a'i ddirwest, a'i la furiau, a'i weddiau, a'i herlidiadau, a'i enllybiau, a'i ddagrau, a'i chwys, a'i waed, a'r cwbl oll ar y wnaeth ef, neu a oddefodd ef erioed mewn yspaid tair blynedd ar ddegar ugain, yn nghyd a'i ddioddefaint, a'i farwolaeth, a'i cyfo­diad, a'i Escynniad o herwydd eu bod hwy oll yn eich eiddo chwi. Ac fel y rhydd Christ ei holl feddiannau i fynu iw ddiweddi, felly y gofyn yntef ar iddi hitheu bassio yr cwbl o'i heiddo hi, iddo ef: gan hynny dan eich priodi chwi yn awr â Christ, rhaid i chwi rhoi'r cwbl oll, ac a feddoch iddo ef, eiebr yn wir nid oes dim yn eich helw chwi onid pe­chod yn unig, ac am hynny rhowch [Page 173] hwnnw iddo, gan ddywedyd wrtho yn ddiofn: yr wyf fi fy mhriod anwyl yn rhoi i chwi fy anghrediniaeth, a'm cam­ymddiried, a'm balchder, a'm rhyfyg, a'm uchelfeddwl, a'm llid, a'm digter, a'm cenfigen, a'm cybydddod, a'm drwg feddyliau, a ngwyniau afeolus, a'm ofer dymuniadau, yr wyf fi yn rhwymo y y rhai hyn, a'm holl canweddau eraill mewn tusswy, ac yn eu rhoddi i chwi, cannys yn y modd hyn y gwnaethpwyd Christ yn bechod, yr hwn nid adnabu pechod, 2 Cor. 5. 21 fel i'n gwnelid ni yn gyfiawnder Duw ynddo ef, yn awr ynteu, ebe Luther, cyssyltiwn y pethau hyn ynghyd, ac ni a cawn tryssor anfeidrol, canys y mae Christ yn llawn o ras, a bywyd, a iechy­dyriaeth ond y mae yr enaid yn llwythog gan bechod, ie gan pob math o bechod a marwolaeth, a damnedigaeth, eithr cyn cynted, ac y delo ffydd rhwngthint ill dau, yno Christ a lwythir â phechod, a marwolaeth, ac uffern, ac i'r enaid y gosodir grâs, bywyd, a iechydwriaeth: Pwy ynteu a ddichon brisio mawrhydi hyn o briodas megis yr haeddie? pwy a cynnwys ogoneddus olud y grâs hyn, lle y mae 'r gwr cyfiawn cyfoethog hwn, sef Christ, yn cymmeryd y fath buttein tlawd annuwiol yn wraig iddo, ac yn [Page 174] ei gwared hi rhac pob drwg, ac yn ei haddurno hi, a'i holl meini gwerth­fawr ei hunan, hyd onid ych chwi (yn ol geiriau 'r un Luther) trwy hyder eich ffydd yn Ghrist wedi eich gwared oddi­wrth eich holl pechodau, ac wedi eich gwnenthur yn ddiangol rhac angeu, ac yn ddiofn o uffern, ac wedi eich gwa­ddoli â chyfiawnder, a bywyd, a iechyd­wriaeth tragwyddol eich priod sef Christ, ac am hynny yr ych chwi yn awr tan y cyfammod o râs.

Neo.

Ni wn i, Syr, etto pa fodd y de­allaf i hyn o ymwared rhac y gyfraith, fal y mai yn cyfammod o weithredoedd, ac am hynny, eglurwch, attolwg, hynny yn oleuaf y galloch.

Evan.

Er mewn deall y pwngc hyn yn rhwyddach, bydded hyn yn hyspys gennich, sef, wedi i Ghrist yr ail Adda cyflawni 'r cyfraith yn cwbl dros ei holl ethelodigion, fel y mae hi yn cy­fammod o weithredoedd, efe a ddaeth cyflawn farn Duw, ac a roddodd yr yscrifen honno i law Christ ac efe a'i di­leodd hi yn llwyr, Col. 2. 14. fel nad oedd dim a wnelei yr un o'i ethelodigion ef o hono mwy, na chan y cyfammod dim iw ofn ganthint hwythau. Eph. 1. 4. Ac yn awr tan ych bod wedi cyhoeddi yn amlwg trwy eich [Page 175] ffydd yn Ghrist, ych bod chwi yn un o'r rhai a etholodd Duw ynddo ef cyn seiliad y byd: gwybyddwch bod ei cy­flawnhaad ef, a'i ddilead o'r cyfammod iw cyfrif i chwychwi, a'ch bod chwi we­di eich rhyddhau a'ch gollwng oddiwrth yr holl trosseddau a wnaethoch yn er­byn y cyfammod hwnnw, a'i gynt, a'i yn hwyr, neu a wneloch chwi rhacllaw, a'ch bod wedi eich cyfiawnhau, yn ol geiriau yr Apostol, Rhuf. 3. 24. yn rhâd trwy ei ras ef, trwy'r prynedigaeth sydd yn Ghrist Jesu.

Ant.

Rhowch eennad i mi, adolwg, Syr, i ofyn i chwi un gair, A fu ef heb ei cyfiawnhau erioed hyd yn awr?

Evan.

Od oedd ef heb credu hyd yn awr, megis yr wyf fi yn meddwl ei fod ef, nis cyfiawnhawyd ef ychwaith hyd yn awr.

Ant.

Ond chwi a wyddoch, Syr, mai Duw y sydd yn cyfiawnhau, fal y dywaid yr Apostol, ac y mae Duw yn tragwy­ddol, ac megis y dangosasoch chwi, ef y ddywedir am Christ, iddo cyflawni y cyfammod weithredoedd er tragwy­ddoldeb, ac od yw ef yn eiddo Christ yn awr, yr oedd ef wedi eyfiawnhau er trag­wyddoldeb.

Evan.

Gwir yw, y mae Duw er trag­wyddoldeb, [Page 176] ac o rhan derbyniad Duw o air Christ ar iddo cyflawni'r cyfammod o weithredoedd er tragwyddoldeb, ac o rhan ethelodigaeth Duw yr oedd ef yn eiddo Christ er tragwyddoldeb, ac am hynny y mae hyn yn wir o rhan or­dinhâad Duw, sef efe a cyfiawnhawyder tragwyddoldeb, ac efe a cyfiawnhawyd ym marwolaeth Christ, a'i cyfodiad, ond nis cyfiawnhawyd yn weithredol, hyd oni chredodd efe yn weithredol yn Ghrist, canys trwyddo ef (ebe'r Apo­stol) y cyfiawnheir pob un sydd yn credu; Act. 13. 39. felly ynteu, yn y weithred o cy­fiawnhaad, rhaid yw bod cyfattebaeth o'r naill ir llall rhwng ffydd y creda­dyn, a Christ, ac y mae yn rhaid iddint hwy cyttuno, a chyfwrdd a'i gilydd yn wastadol, sef ffydd fel y gweithred yn ymaflydd, a Christ fel y gwrthdrych iw ymaflyd ynddo, o herwydd nad yw Christ yn cyfiawnhau heb ffydd, na ffydd ychwaith, oni bydd yn Ghrist.

Ant.

Yn wir Syr, yr ych chwi wedi fy modloni i yn dda iawn yn y pwngc hyn, ac yn wir Syr, y mae yn hoff iawn gennifi, eich clywed chwi yn ei gloi ef, gan ddywedyd, nad oes un ffydd yn cy­fiawnhau ond â y maflo â Ghrist.

Evan.

Dymma 'r cyfan wir, er bod [Page 177] dyn yn credu fod Duw yn trugarog, ac yn cywir o'i addewidion, a bod rhy edi ei ethelodigion gyd a Duw er tragwy­ddoldeb, a'i fod ef ei hun yn un o'r rhy­fedi hynny, etto onibydd hyn o crêd yn disgwyl yn cymmwys ar Christ, oni bydd ei ffydd ef yn Nuw, fal y mae ef yn Ghrist, nis gwneif ddim llefiant iddo, am nad yw tebygol ar i dyn iawn feddwl, iw ddiddanwch, ar Dduw allan o Christ ein cyfrwngwr: canys oni chy­fwrddwn ni a Duw yn Christ (ebe Calvin) byth ni cheir iechydwriaeth. Amhynnymi a ddywedaf wrthich crwi, fy nghymmy­dog Neophitus, fal y dywedodd y gwr ded­wydd hwnnw Mr. Bradford wrth wraig fonheddig yn eich cyflwr chwi, sef, O dymunech chwi fod yn siccr ac yn ddiys­cog yn eich cydwybod, yno torreid eich ffydd chwi allan, trwy bob peth, a hyn­ny nid yn unig trwy 'r pethau sy or ty fewn i chwi eithr y rhai sy oddi allan, pa le bynnac y bont, a'i yn y nef, a'i ary ddaiar, a'i yn uffern, ac na orphwysed, hyd oni ddelo hyd at Christ yr hwn a croeshoeliwd, ac at tragwyddol tru­garedd, a mawr ddaioni Duw yn Ghrist.

Neo.

Ond Syr, yr wyf fi etto heb cael llwyr hyspyssrwydd o'r pwngc blaen enwog, ac am hynny, ewch adolgwg, yn yr blaen i ddangos, pa cyn bellhed ym [Page 178] gwaredwyd i oddiwrth y cyfraith fel y mae hi yn cyfammod o weithredo­edd.

Evan.

Yn wir yr ych chwi wedi eich llwyr gwared, ac wedi eich rhyddhau oddiwrthi, fal y mae hi yn cyfammod o wheithredoeddd, ac yr ydych chwi yn farw iddi hi, a hitheu yn farwi chwi­thau, ac o bydd hi yn farw i chwchwi yno nis gwneiff hi na drwg, na da i chwi, ac od ych chwi yn farw iddi hi nid ell­wch chwi ddisgwil yn ol na drwg na da oddiwrthi. Canys ystyriwch hyn, dduw, adolwg, eich bod chwi yn awr megis y dywedais i o'r blaen, tan cyfammod arall, sef y cyfammod o râs, ac ni ellwch chwi fod tan ddau cyfammod ar un­waith, nac o rhan, nac yn y cyfan, ac am hynny megis y credasoch gynt, eich bod chwi yn unig tan y cyfammod o weithredoedd, fel y gadawodd Adda chwi a'i holl eppilar ei cwymp, felly yn awr, yn ol i chwi credu yr ych chwi tan y cyfammod o ras. Bydded siccr gen­nich ynteu, nadoes un warant gan un Gwnenidog na Phregethwr o air Duw i ddywedyd wrthich rhacllaw, Gwnewch hyn, neu hyn o wasanaeth a orchym­mynnir yn y gyfraith, neu ymogelwch rhac y pechod hyn a'r pechod arall a waharddir yn y gyfraith, a Duw a'ch [Page 179] cyfiawnhâ, ac a ceidw eich enaid, neu onis gwnewch, efe a'ch barna ac a'ch condemnia. Nagê, nage yr ych chwi yn awr yn rhydd oddiwrth gorchymmy­nion a bygwythion y cyfammod o wei­thredoedd, ac mi a ddywedaf wrthich chwi, fel y dywedodd yr Apostol wrth yr Hebreaid credadwy. Ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosci gan dân a chwmwl, Heb. 12. 18 22. 24. a thywyllwch a chymestl, eithr chwi a ddaethoch i fy­nydd Sion dinas y Duw byw, ac at Jesu cyfryngwr y Testament newydd, fal nid allo 'r Arglwydd (gan ei ddywedyd trwy cyfarch iw fawredd ef) ar y cy­fammod o weithredoedd na gofyn un gwasaneth nac ufydddod ar eich llaw cwi, n'ach cospi am eich, anufydddod, nagê nid all ef cymmaint a'ch bygwth chwi ar y cyfammod hwnnw, na rhoi i chwi air dig, na chyfodi ael arnoch, canys yn wir ni ddichon ef weled un pe­chod ynoch o drossedd i'r cyfammod hwnnw, canys yn ol geiriau'r Apostol lle nid oes cyfraith, Rhuf. 4. 15. nid oes camwedd: Ac am hynny er i chwi rhacllaw trosse­ddu yr un o'r dec gorchymmyn, neu pob un o honint, etto nid ych chwi wrth hynny yn trosseddu 'r cyfam­mod o weithredoedd am nad oes yn awr y fath cyfammod a hwnnw rhwn­goch [Page 180] chwi a Duw, ac am hynny o clywch chwi rhacllaw y fath leferydd a hyn, O mynni di fod yn cadwedig, cadw 'r gorchymmynnion: neu, mellti­gedig yw pob un nid arhoso ym mhob peth a scrifennwyd yn llyfr y gyfraith iw cadw; nagê pe clywech chwi siwn taranau, a lleferydd ofnadwy, nage, pe gwelech chwi cwmwl a thywyllwch, a pe ddescynnei arnoch tymmestl o'r creulonaf, Isa. 58. 1. hynny yw pe clywech chwi nyni y Pregethwyr yn ol gorchym­myn Duw, yn dyrchafu ein llei­siau fal udcorn, gan fygwth uffern, a damnedigaeth i bechaduriaid a thro­sseddwyr y cyfraith, er bod y geiriau hyn yn eiriau Duw etto nid oes i chwi te­byg eu llefaru hwy wrthich chwi, sy yn credu yn Ghrist, nag oes, nag oes, y mae 'r Apostol yn eich siccrhau chwi, gan ddywedyd Nad oes dim damnedigaeth i'r rhai sy yn Ghrist Jesu: credwch hyn, ddyn, nid yw Duw yn bygwth neb â marwolaeth tragwyddol, yn ol iddo roi iddo fywyd tragwythol unwaith; nagê hyn sydd wir, nid y w Duw yn ar­fer o lefaru wrth uncredadyn allan o Christ, nac yn Ghrist ni lefra ef air yn ol defod y cyfammod o weithred oedd, a pe cynnygei 'r gyfraith o honrei hunan, ddyfod i'ch cydwybod chwi, gan [Page 181] ddannod i chwi, a dywedyd, fal hyn, a fal hyn y trosseddaist ti fyfi, ac a'm torraist i, ac am hynny y mae arnat ti cymmaint a hyn a hyn o ddylêd i cyfi­awn farn Duw, yr hwn sy rhaid iw cy­flawni, ac onid ê myfi a tarawaf llaw ar­nat, yno attebwch chwi, gan ddywedyd, ha'r cyfraith bydded hyspys gennit ti, fi mhriodi i yn awr â Christ, ac am hyn­ny yr wyf fi dan orchudd, o herwydd pa ham os dannodi di un dyled i myfi, go­sod dy cwyn yn erbyn fy ngwr sef Christ, am nad ellir ymgyffreithio a'r wraig, ond a'r gwr. Ond dymma 'r cy­fan wir yr wyf fi trwyddo ef yn farw i tydi 'r cyfraith, ac yr wyt titheu yn sarw i myfi, ac am hynny nid oes gan Bâr Duw ddim iw wneuthur a mi, am ei fod yn barnu yn ol y cyfraith. Ac o gwrtheb y cyfraith gan ddywedyd iê ond, rhaid yw gwneuthur gweithredo­edd da, a rhaid yw cadw'r gorchymmy­nion o mynn; di fod yn cadwedig: yno attebwch chwi gan ddywedyd, yr wyf fi eusys yn cadwedig cyn dy ddyfod ti, ac am hynny nid rhaid i mi wrth dy pre­sennoldeb di, am fod pob peth yn fy eiddo i ar unwaith yn Ghrist, fel nad rhaid i mi wrth ddim amgen i'm iechydwriaeth, canys efe yw fy nghyfi­awnder [Page 182] i, a'm tryssor, a'm gweithred, yr wyf fi O cyfraith yn addef, nad wyf fi nac yn dduwiol, nac yn cyfiawn, ond etto yr wys fi yn siccr o hyn, ei fod ef yn dduwiol ac yn cyfiawn trossof fi, ac i ddywedyd y gwirionedd wrthit ti'r gy­fraith, yr wyf fi gyd ag ef yn awr yn yr ystafell briodas, lle nad yw gwaeth pa beth yr ydwyf, neu pa beth y wneuthûm, eithr hyn yn unig sy iw ofyn, pa beth yw sy ngwr anwyli, a pha beth y wnaeth ef eusys, a pha beth y mae ef yn ei wneu­thur trossof: ac am hynny ymmaith o honot y Gyfraith, paid a ymryssoni a mi, am fy mod i trwy ffydd, wedi ym­aflyd ac ef, ac ynteu wedi cael gafael arnaf inneu, ac wedi sy ngcsod i yn ei fonwes, ac am hynny mi a syddaf cyn cwned a pheri i Moses a'i ddwy lech, a'r holl cyfreith wyr, a'u llyfrau, a phob ryw ddyn a'i weithredoedd tewi sôn, a rhoi lle: Ac yn awr yr wyf fi yn dy or­chymmyn di, y Gyfraith ymadel a mi, ac onid ei di, mi a'th gyriaf di ymmaith o'th anfodd.

Ac os pechod a cynnyg taro llaw ar­noch megis y mae Dafydd yn cwyno yn un o'i Psalmau, Psal. 40. 12. yno dywed ti wrtho, dy wrim di o Bechod yw'r gyfraith, 1 Cor. 15. 6. eithr y mae 'r gyfraith yn farw i mi ac am [Page 183] hynny o Bechod tydi a gollaist dy wrym a'th nerrh, ac am hynny gwybydd hyn, nas byddi di fyth abl i'm gorchsygu i, nac i wneuthur un niwed i mi,

Ac os y cythrael a ymafla yn eich gwddf, a than ych llindagu, a'ch Ilysco yn dditraha ger bron gorseddfa Duw, yna gelwch ar eich gwr anwyl sef Jesu Christ, a dywedwch Arglwydd, efe am treisier, ymatteb trossof, a chymmorth fi, a thrwy ei cymmorth ef, cewch chwi eich nerthu i ymddadleu trosoch eich hunan, fal hyn: O Dduw 'r Tad, yr wyf fi yn eiddo Christ dy fab di dy hun, tydi a'm rhoddaist i iddo ef, a thydi a roddaist iddo ef awdurdod yn y nef, ac ar y ddaiar, ac a gosodaist pob llywodraeth a barn iddo ef, ac am hynny yr wyf fi yn sefyll wrth ei farn ef yr hwn a ddywe­dodd nas daeth ef i farnu, eithr i cadw 'r byd, ac am hynny efe am ceidw i mi a'i gwnn, o herwydd eiswydd; A pe delei 'r ymofynwyr dewisiedig gan roddi eu barn i mewn i'r llys ar eich bod yn euog, yno dywedwch wrth y Barnwr, fel hyn: O gorfydd barnu neb am fy nghamweddau i, nid myfi, ond Christ y sy iw farnu, canys er i myfi eu gwneu­thurhwy, etto efe a'i ymrhwymodd ei hunan, ac a gymmerth arno atteb tro­sof, [Page 184] ie yn ewyllysgar ac oi wir fodd, nc yn siccr efe a dalodd pwyth cyflawn tro­stint, ac oni sydd hyn ddigon ich rhydd­hau chwi, yno ychwanegwch a dywed­wch, fel hyn: Nid ellir gosod gwraig feichog i farwolaeth o herwydd y plen­tyn yn ei chrôth hi o'r achos hyn ynteu yr wyf inneu yn rhydd (o herwydd fy mod i yn ymddwyn Christ yn fy ngha­lon) pe buaswn i yn euog o'r holl pe­chodau yn y byd. Ac os yr Angeu-glas mewn bwriad i'ch difetha a ymlusca attoch, yno dywedwch, dy colyn di o Angeu yw pechod, ond y mae sy ngwr i Christ Jesu wedi llwyr ormeilio pe­chod, ac ar hynny wedi tynnu allan dy colyn di, ac am hynny nid ofnaf fi un ni­wed, a alloch di, yr Angeu, gwneuthur i mi. Ac yno, gorfoleddwch gyd a'r Apo­stol, Cor. 15. 7. gan ddywedyd, I Dduw y byddo 'r diolch yr hwn a roddodd i mi fuddugo­liaeth trwy fy Arglwydd Jesu Christ.

Ac sal hyn hefyd y darfu i mi ddangos i chwi, pa fodd y cwblhaodd Christ yn nghyflawnder amser, bob peth ac a arfaethasei Duw cyn bod amser, ac a addaw ei mewn amser, oblegid cym­morth, ac ymwarediad y dynoliaeth oll â cwympasei. Ac ymma y der­fydd i mi hesyd â chyfraith ffydd.

Nom.
[Page 183]

Ewch chwithan weithan, Syr, adolwg, yn eich blaen i ddywedyd ob­legid cyfraith Christ ac yn cyntaf, moes­wch, clywed, beth yw cyfraith Christ.

Evan.

Yr un, o rhan sylwedd a matter, neu ddeunydd yw cyfraith Christ a'r cyfraith neu 'r cyfammod o weithredoedd, a'r deunydd hwnnw a ddosparthir trwy 'r Bibl, ac a crynoir yn nghyd yn y dec gorchymmyn, neu 'r dengair, neu 'r Decalog, yr hwn a el­wir y cyfraith Moesawl, ac a cynnwys y fath bethau, ac a cyttunont â meddwl Duw, a'r ewyllys sanctaidd, sef duwiol­deb tuag at Dduw, cariad tuag at ein cymmydog, a sobrwydd tuag at ein hunain, ac am hynny a roddwyd gan Dduw i fod yn rheol cywrain tragwy­ddol o gyfiawnder i bob dyn o bob ce­nedl bob amser fal nad yw'r gras Efan­gylaidd yn gofyn ar law dyn un usyddd­od, amgen na hwnnw, o pa un y mae cy­fraith y dec gorchymmyn i fod yn rheol.

Nom.

Ond etto, Syr, yr wyf fi yn meddwl hyn, er bod cyfraith Christ (megis y dywedasoch) yn un a'r cyfraith o weithredoedd o rhan sylwedd a mat­ter, etto y mae gwahanieth rhwngthint o rhan euffurf.

Evan.

Gwir iawn canys (fal y clywsoch) [Page 186] y mae 'r cyfraith o weithredoedd yn dy­wedyd, fal hyn: Gwna hyn a byw y fyddi, ac onis gwnei di, gan farw y byddi farw, either y mae cyfraith Christ yn llefaru fal hyn: Ezec. 16. 6. A phan dramwyais heibio it, a'ch weled yn ymdrabaedddu yn dy waed, Jo. 11. 25. dywedais wrthit yn dy waed, bydd fyw: A phwy bynnag sydd yn byw ac yn credu ynddo ef nibydd marw yn dragywydd; Byddwch gan hynnyyn ddilynwyr Duw, Eph. 5. 1, 2. fel plant anwyl a rhodiwch mewn cariad megis y carodd Christ ninnau. O cerwch fi, Jo. 14. 15. cedwch fy nghorchmynnion. Os fy neddfau a halogant, a'm gorch ym­mynion ni chadwant yna mi a ymwe­laf a'u camweddau â gwialen, ac a'u hanwiredd a ffrewyllau, ond ni thorraf fy nchugaredd oddiwrtho, ac ni pallaf o'm gwirionedd: yn y modd hyn yr ych yn gweled fod y ddau cyfraith yn cyttuno yn hyn, o'u bod yn dywedyd ill dau, ac yn gorchymmyn (Gwna hyn) ond yn hyn y mae 'r gwahaniaeth: sef, y mae 'r un yn dywedyd (Gwna hyn a byw y fyddi) ar llall a ddywaid, (Bydd fyw a gwna hyn.) Y mae 'r un yn dy­wedyd, Gwna hyn er mwyn bywyd; a'r llall a dddwaid Gwna hyn, oddiwrth sywyd, yr un a ddywaid, (Onis gwnei di marw y syddi,) a'r llall a ddywaid, Onis [Page 187] gwnei mi a ymwelaf a thi a'r wialen; yr un sydd iw roddi gan yr Arglwydd fel y mae yn Greawdwr allan o Christ, i'r sawl y sy allan o Christ, y llall y sy iw roddi gan Dduw fal y mae yn Pryni­awdwr yn Ghrist i'r rhai hynny yn unig ysy yn Ghrist. O herwydd pa ham, dan ych bod chwi fy nghymmydog Neophitus yn awr yn Ghrist, gwiliwch ni byddoch yn derbyn y dec gorchymmyn oddiar dwy aw'r Arglwydd allan o Ghrist, nac ych waith ar law Moses, eithr yn unig ar ddwylo Christ ac yno y byddwch chwi siccr iw derbyn hwy fal cyfraith Christ.

Nom.

Ond Syr, Oni ddichion Duw allan o Christ roi'r det gorchymmyn fal cyfraith Christ?

Evan.

Na ddichon-ddim, am fod Duw allan o Christ yn sefyll mewn cyfatteba­eth a dyn yn ol trefn a gosynniad y gy­fraith, megis y mae hi yn cyfammod o weithredoedd, ac am hynny heb allu llefaru wrth ddyn yn amgen nae ar ei­tiau 'r cyfammod.

Nom.

Ond Syr, p ham na ddichon y ffyddloniaid ym mhlith y Genhedloedd dderbyn y dec gorchymmyn, megis rheol o fywyd, oddi ar ddwylo Moses cystled ac y derbyniwd hwy gan y ffy­ddloniaid ym mhlith yr Iddewon.

Evan.
[Page 188]

Er rhoi atteb i chwi, ystyriwch, adolwg, maiswmm, neu sylwedd oedd y dec gorchymmmyn o cyfraith natu­riaeth a angraphwyd yn nghalon dyn yn ei ddiniweidrwydd, a gwir Idea, neu wyddoeaad eglur oeddent hwy o ddelw­lun Duw ei hun, ie a phelydr o'i san­cteiddrwydd ei hunan. Ac felly yr oedd­ent hwy i fod yn rheol o fywyd i'r dyn, aciw holl eppil (cyn eu bod hwy etto yn cyfammod o weithredoedd) ac yna yn ol hynny hwy a aethaut yn cyfam­mod o weithredoedd ac a dorrwyd gan yr Adda cyntaf eithr yr ail Adda a'u cadwodd, eithr nid fel yr oeddent y pryd hwnnw yn cyfammod o weithredotdd; ahwy a cyhoeddwydi Adda a'r lleill o'r Tadau credadwy trwy weledigaethâu a datcuddiadu, ac a aethant yn rheol o fywyd iddint hwy hyd amser Moses, ec megis y rhoddwyd hwy gan Moses i'r Iddewon credadwy allan o'r Arch ac fel pe delsent oddiwrth Christ yr oeddent yn rheol o fywyd iddint, hyd ddyfodiad Christ yn y cnawd, ac yn ol dyfodiad Christ yn y cnawd yr oeddent hwy ac y maent hwy fyth yn rheol o fywyd i'r Iddewon credadwy, ac i'r Cenedloedd credadwy, eithr nid fel y rhoddwyd hwy gan Moses, Act. 3. 21. ond gan Christ, canys yn ol [Page 189] dyfod Christ y Mab, a dechreu llefaru, y gorfydd i Moses y gwâs ddistewi, yn ol rhac ddywediad Moses ei hun: sef yr Arglwydd eich Duw a cyfyd i chwi brophwyd o'ch brodyr megis myfi: arno ef y gwrandewch ym mhob peth a ddy­wetto wrthych: ac am hynny cyn cyn­ted ac y dymunasant yr Apostolion clywed ar Moses, ac Elias yn llefaru ar fynydd Tabor, Matth. 17. 4. 5. hwy a cippiwd allan o'u golwg hwy, ac wele llef o'r cwmwl yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab yn yr hwn i'm bodlonwyd, gwrandewch arno ef falpe dywedasei'r Arglwydd, nid oes ichwi weithian ymwrando mwy ar na Moses, nac Elias ond ar sy anwyl Fab, ac am hynny, meddaf i wrthych, Gwran­deuwch arno ef. Ac oni scrifennir Hebr. 1. 1. Heb. 1. 1. llefaru o'r Arglwydd yn y dyddiau diweddaf wrthim ni trwy ei Fab? Ac onid yw'r Apostol yn cynghori fal hyn, Col. 3. 16. 17, 18, 20. 23. preswylied gair yr Arglwydd ynoch yn helaeth ym mhob doethineb? A pha beth bynnag a wneloch ar air neu weithred, gwnewch bob peth yn enw'r Arglwydd Jesu: ac ymostyngeid y wraig iw gwr megis i'r Arglwydd. Ufyddhaed y plant iw rhieni megis yn yr Arglwydd er rhyngu ei fodd ef, ac ufyddhaed y gwei­sion credadwy iw meistred, a gwnelent [Page 190] hwy eu gwaith megis i'r Arglwydd, a nid i ddynion, canys yr ych chwi (ebe 'r Apostol) yn gwnsanethu yn awr yr Arglwydd Christ: ie (ebe ef wrth y Galtahiaiad) Dygwch feichiau ei gilydd, ac felly cyflawnwch cyfraith Christ.

Ant.

Y mae yn hoff iawn gennif fi Syr ych clywed chwi yn dywedyd mae Christ y ddylei fod yn ddyscawdwr i'r Christnogion ac nid Moses, ond etto yr wyf yn gofyn pa fodd y gelwid y dec gorchymmyn yn gyfraith i Christ, canys pa le y ceir hwy yn y Testament newydd, wedi eu hailadrodd, nac o ben Christ nac o eneiau ei Aposto­lion?

Evan.

Er ni cheir hwy wedi eu ha­drodd yn yr un trefn, ac y gosodwyd hwy yn Exodus, a Deuteronomi, etto dan ein bod ni yn gweled, ac yn darllen, fod Christ a'i Apostolion yn gofyn ac yn gorchymmyn, yn un pe­thau, ac a ofynnir, ac a orchymmynnir ynddint hwy ac yn argoeddi ac yn by­gwth, ac yn beio 'r un pethau ac awhar­ddir ynddint hwy, a hynny trwy eu by­wyd a'u athrawiaeth y mae hyn yn ddi­gon iw siccrhau eu bod hwy yn gyfraith i Christ.

Ant.
[Page 191]

Yn wir yr wyf yn tebyg mae felly y gwnaethont oblegid rhai o'r gorchimmynion, nid felly oiplegid hwy oll.

Evan.

Da eich bod chwi o'r meddwl hynnw ystriwch adolwg.

Yn cyntaf: Onid swmm neu syl wedd y gorchymmyn cyntaf, yw gorchym­niad o wir wybodaeth Duw, Jo. 3. 19. a barniad o'i diffyg. 2 Thes. 1. 8. A gorch­ymmyniad o wir cariad Duw, Matth. 22. 37. a barniad ar ei ddiffyg, Jo. 5. 42. A gorchymmyniad o wir ofn Duw, 1 Pet. 2. 17. Hebr. 12. 28. a barniad ar ei ddiffyg, Rhuf. 3. 18. A gorch­ymmyniad o wir ymddiried yn yr Arglwydd, a gwaharddiad o bob ym­ddiried yn y creaduriad, 2 Cor. 1. 9. 1 Tim. 6. 17.

Ac yn ail, ystyriwch, onid swmm yr ail orchymmy n yw gorchymmyniad o wrandawiad, ac o ddarlleniad o air Duw Jo. 5. 47. Dat. 1. 3. a gorchymmyniad o weddi, Rhuf. 12. 12. 1 Th. 5. 17. ac oca­niad Psalmau, Col. 3. 16. Jaco. 5. 13. a gwaharddiad o ddelwaddoliaeth, 1 Cor. 10. 14. 1 Jo. 5. 21.

Ac yn trydydd, ystyniwch onid swmm o'r trydydd orchymmyn yw barniad ar ofer addoliad Duw, Matth. 15. 9. a gwa­harddiad [Page 192] harddiad o ymsiaradaeth, ofer mewn gweddi, Matth. 6. 7. Ac o wrandawiad noeth o'r gair heb eu gwneuthuriad, Jaco. 1. 22. A gorchymmyniad i addoli Duw mewn yspryd a gwirionedd; Jo. 4. 24. ac i weddio a'r yspryd, ac a'r deall hefyd ac i canu a'r yspryd, a'r deall hefyd, 1 Cor. 14. 15. a gorchymmyniad i ymogelyd beth y clywom, Mar. 4. 24.

Yn pedwarydd, ystyriwch ond yw y lleodd hyn a'r geiriau a cynnwysir ynddint yn profi yn eglur mae'r dydd cyntaf, o'r wythnos a ddylid ei cynnal fal Sabbaoth i'r Christnogion, sef Cyfodiad Christ oddiwrth y meirw ar y dydd cyn­taf o'r wythnos, Mar. 16. 2. 9. Cyfarfod y dyscyblion, ac ym ddamgosiad Christ iddint ar y dydd cyntaf o'r wythnos, Jo. 20. 19. 20. Dyfodiad o'r dyscyblion yn nghyd i dorri bara ac i bregethu ar y dydd hwnnw, Act. 20. 7. 1 Cor 16. 2. 2 bod Joan yn yr yspryd ar ddydd yr Arglwydd, Datc. 1. 10.

Yn pummed ystyriwch, onid yw gei­riau 'r Apostol ym mha rhai y gorchym­myn ef i'r plant ufyddhau iw rheini yn yr Arglwydd, canys hyn sydd cyfiawn ac i anrhydeddu eu Tadau a'u mammeu, yr hwn yw'r gorchymmyn cyntaf yn yr addewid, Eph. 6. 1. 2. Ar holl cynghorion [Page 193] eraill a roddodd ef a'r Apostol Petr, i'r blaenoriaid, ac i wasanaethyddion, ac i bawb mewn awdurdod a than awdur­dod i cwblhau ei dyledswydd o'r naill i'r llall, Ephes. 5. 22. 25. 6. 4. 5. 9. Col. 3. 18, 19, 20, 21, 22. Tit. 3. 1. Pet. 2. 18-3. 1. Ystyriwch meddaf a'i nid yw'r lleodd hyn yn profi ac yn dangos yn eglur fod dyledswyddau 'r bummed orchymmyn, yn orchymmynnedig hefyd yn y Testa­ment newydd.

Dymma, fel y gwelwch chwi bump o'r dec gorchymmyn: ac oblegid y pump arall y mae'r Apostol yn eu cyfrif hwy igyd yn gyttun: Rhuf. 14. 9. gan ddywedyd: Na wna odineb. Na ladd: Na ladratta, Na ddwg gam dystiolaeth: Na thrach wanta yn awr barnwch chwi, a'i nid yw y dec gorchymmyn wedi eu hailadrodd yn y Testament newydd, ac onid cyfraith Christ ydynt a'i peidio? ac onid yw 'r credadyn tan y cyfraith yn ddarostyn­gedig i Christ, neu, yn ol ymadrodd yr Apostol, yn y cyfraith trwy Christ, 1 Cor. 9. 21.

Ant.

Ond etto o cymmaint ac yr wyf fi yn cofio y mae Luther a Calvin yn dy­wedyd, fal pe bai 'r credadyn wedi ei rhyddhau yn llwyr oddiwrth y cyfraith twry Christ, fal nad rhaid iddo ef ofalu, [Page 194] pa un y wnelo, ai ei ufyddhau ai peidio?

Evan.

Da iawn y gwn i ddywydyd o Luther, nad oes i'r cydwybod ddim iw wneuthur a'r gyfraith na'i gweithredo­edd: ac i Calvin ddywedyd, mae rhaid yw ir cydwybodau y ffyddloniaid, dyr­chafu a chyfodi eu hunain uwch llaw 'r cyfraith (pan y ceisiont siccrwydd o'u cyfawnnhaad ger bron Duw) ac angho­fio holl cyfiawnder y cyfraith, a throi heibio pob feddylfryd ar weithredoedd. Yn awr y mae dau beth iw ystyried, fel y gallom iawn ddeall meddwl y ddau hynny o weision Christ. Yn cyntaf, lle y soniont hwy fal hyn oblegid y cyfraith, y mae yn eglur, mae felly y cymmerant, ac ai deallant hi o rhan Cyfiawnhaad yn unig: yn ail pan y bo i'r cydwybod ddim iw wneuthur, a'r cyfraith o rhan Cyfiawnhâad, nid oes iddiddim iw wneu­thur o honi ond yn unig fal y mae hi yn cyfammod o weithredoedd: canys fal y mae'r gyfraith, yn gyfraith i Ghrist, nid ydyw nac yn cyfiawnhau, nac yn barnu, ac am hynny os ystyriwch chwi hyn oblegid y cyfraith, fal y mae hi yn cy­fammod o weithredoedd, yn ol eu iawn deall hwy ill dau, yno gwir yw, â ddy­wedasant, canys pa ham y goddefei ddyn i'r cyfraith ddyfod iw cydwybod, [Page 195] sef pa ham y gwnelei ddyn cydwybod o cadw 'r cyfraith iw cyfiawnhau trwy­ddi, dan ei fod yn beth ammh ossibl? nage pa rhaid i ddyn gwneuthur cydwy­bod o cadw'r cyfraith iw cyfiawnhau trwyddi, ac ynteu yn gwybod ei fod ef wedi ei cyfiawnhau eusys trwy ffordd arall? nage pa rhaid hyn, dan fod y cy­fraith yn farw i ddyn a'r dyn yn farw i'r gyfraith? A oes achos i'r wraig fod yn wasanathgar iw gwr yn ol ei farw ef, ie yn ol ei marw hitheu hefyd? neu pa rhaid cythryblu cydwybod dyledydd gan ofalon, pa wedd y tal ef ei ddylêd, yr hwn a dalwyd eusys yn cyflawn gan ei feichiau? neu a fydd ar neb ofn eni­wed oddiwrth yr yscrifen honno a ddileuwyd, ac a dorrwyd y sel oddiwr­thi, ac a annurddiwd y geiriau ar lly­thyrau ynddi, ie ac a ddiddymmwyd, ac a croesiwd, ie ac a ddrylliwd hefyd yn ddarnau? y mae 'n côf gennif eiriau yr Apostol sef: Pe gallei 'r aberthau a offrwmmeid yn yr hen Destament per­ffeithio y rhai a ddelsei attint, a glanhau yr addolwyr, yna ni buasei gydwybod am bechod mwy: hynny yw, ni buasei eu cydwybodau yn eu cyhuddo hwy mwy o euogrwydd pechod, ond yn awr y mae gwaed Christ wedi puro cydwybod [Page 196] pob credadyn oddiwrth ei holl becho­dau, fal y maent hwy yn camweddau yn erbyn y cyfammod o weithredoedd, ac am hynny pa rhaid yw cythryblu ei cydwybod ef yn nghylch y cyfammod hwnnw mwy? Eithr yn awe ysty­riwch, a gwiliwch hyn: er bod Luther a Calvin, fel hyn yn rhyddhau credadyn oddiwrth y cyfraith yn yr achosion o Cyfiawnhaad, ac fal y mae hi yn gyfraith, neu yn cyfammod o weithredoedd etto nid ydynt yn eu rhyddau hwynt al­lan o'r gweithred honno o Cyfiawn­haad, neu fal y mae yn cyfraith Christ.

Canys dymma ystyr Luther: Oddi­allan i'r gweithred o cyfiawnhaad, ni a ddylem gyd a'r Apostol Paul, Paul, Rhuf. 7. 12. 14. feddwl a dywedyd yn barchedig oblegid y gy­fraith, a' mawrlodforu dan ei galw hi yn sanctaidd, ac yn gyfiawn, ac yn dda, ac yn dduwiol ie (eb efe) allan o'r gweithred o Cyfiawnder Moesawl, ac y mae cyfiawnder arall sef cyfiawnder y cyfraith neu o'r dec gorchymmyn, yr hwn y mae Moses yn ei ddyscu, a hyn yr ydym minneu yn ei ddyscu, yn ol athrawiaeth ffydd. Ac mewn mann arall hefyd, wedi iddo ddangos pa fodd y mae 'r ffyddloniaid trwy Christ yn [Page 197] nwch n'ar cyfraith efe a achwanegodd hyn hefyd, sef er hynny, ni wadaf fi ddim, nad yw Moses yn dangos eu dy­ledion iddint, ac yn yr ystyriaeth hyn y maent hwy iw taeru a'u gosod ar ddy­nion fal cynghorion a rhybyddion, ac am hynny dysceidiaethau a chyngori n o'r fath hyn a ddylyd eu roddi i Ghrist­nogion megis, y rhoddwyd hwy, yn ddiammeu gan yr Apostolion, fal y rhy­byddied pob dyn yn nghylch ei gyflwr a'i swydd.

Ac oblegid Calvin, yn ol iddo ddy­wedyd, megis y clwysoch eusys, mai rhaid y fyddei i Christnogion o rhan y weithred o cyfiawnhaad, dyrchafu a chyfodi eu hunain uwch llaw 'r gy­fraith, efe a achwanega hyn, na allei un dyn fwrw fod y cyfraith yn ddirhaid i'r ffyddloniaid am ei bod hi byth ac yn ddibaid yn eu dyscu hwy ac yn eu cyn­ghori ac yn eu hannog i bob daioni er nad oes iddi ddim lle yn eu cydwybodau hwy ger bron gorseddfa Duw.

Ant.

Ond Syr, onid wyf fi yn camsy­nied efe a ddywaid Musculus fod y cy­fraith wedi ei llwyr ddileu.

Evan.

Gwir yw y mae Musculus yn scrifennu oblegid y dec gorchymmyn, fal hyn, Od ydynt hwy yn weinion ac [Page 198] yn ddiwrym, os y llythyren y maent, os gweithredant camwedd digofaint, mell­dith a marwolaeth: ac os Christ a'u gwaredodd hwy â gredasant ynddo ef trwy cyfraith yr yspryd o fywyd oddi­wrth cyfraith y llythyren, yr hon oedd yn rhy wann i cyfiawnhau, eithr yn cadarn ddigon i condemnio, ac os Christ a'n gwaredodd ni oddiwrth y felldith trwy fod ei hun yn felldith tro­som ni, yn ddiau hwy a ddileuwyd. Yn awr, hyn sydd yn dra siccr, nad yw 'r dec gorchymmyn mewn un modd yn gweithredu camwedd, digofaint, mell­dith a marwolaeth, ond megis y maent hwy yn unig yn cyfammod o weithre­doed, nag ni waredodd Christ y ffydd­lloniaid oddiwrthint, yn amgen na fel y maent yn cyfammod o weithredoedd, ac am hynny y gallwn ni fwrw yn lle gwir nas dileuwyd hwy yn amgen nac fel y maent yn cyfammod o weithredo­edd, ac nid oedd amcan Musculus yn am­gen, canys nid oes i ni (eb efe yn y gei­riau neffaf) feddwl, y llwyr diddym­meid holl bwngciau sylwedd cyfammod Moses: na atto Duw hyn, canys nid yw yn rhydd i'r Christion gwneuthur y peth a fo annuwiol, anghyfiawn ac oni bydd gweithrediad o'r pethau rheini a [Page 199] waharddo 'r cyfraith yn anfoddhau Christ, oni byddant ym mhell oddiar y ffordd, neu yn groes ar y gyfraith, neu yn gwrthwynebu 'r cyfiawnder a dder­byniasom oddiwrtho ef: os felly, bydded yn rhyd i'r Christion iw gwneuthur hwy, eithr nid, amgen: canys y mae 'r Christion o gwneif ef yn erbyn y dec gorchymmyn yn pechu yn fwy ac yn ffyrniccach o lawer, na'r dyn a fai dan y cyfraith, fel nad yw ef rhyddach ronin i wneuthur y pethau a waharddo 'r gorchymmynnion. Gan hynny os chwychwi sy anwyl Antinomista neu un arall a gais un amser dan liw o'ch bod chwi yn Ghrist, ych rhyddhau, fal ni byddoch yn hwy tan gyfraith y dec gorchymmyn fal y maent hwy yn cy­fraith i Christ, yr wyf fi yn dywedyd wrthych, mae argoliaeth eglur yw hyn nad ych chwi etto yn Ghrist, canys pe baech chwi ynddo ef, efe a fyddei ynoch chwithau, a pe bae Christ ynoch, yna y llywiodraethei ef arnoch a chwi a sy­ddech yn ddarostyngedig iddo. Mae 'n siccr gennif i'r Prophwyd Esay ddvwe­dyd fel hyn, Esa. 33. 22 mae efe sef Christ, yw 'r Arglwydd ein Barwnr, yr Arglwydd ein Deddfwr, yr Arglwydd ein Brenin, yr hwn a'n ceidw. Ac yn wir ni fynn ef er [Page 200] dim fod yn Jesu, neu yn Jachawdwr i neb ond i'r sawl y bo ef yn Arglwydd Christ, canys dymma 'r cyfan wir, pa le bynnag y mae ef yn Jesu y Jachawdwr, yno y mae ef hefyd yn Grist yr Argl­wydd, ac am hynny yr wyf fi yn erfyn arnoch, ar i chwi holi eich hunan, a ydiw Christ felly i chwi a'i peidio.

Ant.

Wrth hyn Syr, efe y wydde yn­teu ych bod chwi yn sefyll ar no dau, ac ar arwyddion.

Evan.

Ydwyf yn wir, yr wyf fi yn sefyll cymmaint ar nodau, ac arwyddi­on, hyd onid wyf yn dywedyd wrthych chwi yn ngeiriau yr Apostol Joan: 1 Joh. 3. 10. Yn hyn y mae yn amlwg plant Duw a phlant y diawl, pob un ac y sydd heb wneuhur cyfiawnder, nid yw o Dduw, canys y neb (ebe Luther) a iawn fedy­ddiwd a aeth yn ddyn newydd, ac a cafas naturiaeth newydd, ac a addurnwyd a chynneddfaau newydd ac y mae ef yn serchu, ac yn byw, ac yn llefaru, ac yn gweithredu yn amgenach o lawer, nac yr arferrei ef neu nac y gallei ef gynt. Canys y mae Duw (ebe Tindal) dded­wydd) yn gweithredu gyd a ei air, ac yn ei air, ac yn rhoi ffydd yn nghalon ci ethelodigion ef, ac yn gwared y galon rhac pechod, ac yn ei rhwymo â Duw [Page 201] ac yn rhoi iddo allu i wneuthur y pethau a oedd am mossibl idd o iw gwneuthur o'r blaen, ac yn ei droi ef i naturiaeth newydd. Ac am hynny yn hyn (ebe Luther mewn mann arall) y mae ein gweithredoedd iw canmol, a'u clod­foru, o'i bod hwy yn ffrwythau, ac yn arwyddion o ffydd: ac am hynny y neb ni synnio pa wedd y dycco ef ei fywyd, fel y cauo ef safnau pob cy­huddwr, a phob enllibwr, ac y difeio ef ei hunan yn ngwyddd y byd ac y tystiolaetho ei fod ef wedi byw, a chwed­leua a'i enau, a gweithredu a'i ddwylo y peth oedd union, nid yw ef etto yn Chri­stion. Pa fodd ynteu (ebe Tindal) y meiddia un dyn feddwl fod serch Duw tuag atto, a'i yspryd ef ynddo, pan his clywo ef na gweithrediad yspryd Duw oddifewn iddo, n'ai hunan yn ba­rodol i un gorchwyl daionus.

Ant.

Ond etto trwy eich cennad chwi Syr, yr wyf fi o'r tyb hyn fod llawer dyn yn twyllo ei enaid ar hyn o nodau ac arwyddion.

Evan.

Yn wir nid allaf fi amgen, nac addef (gyd a'r ddau wr dedwydd rheini M r. Boulton a M r Dyke,) mai peth possibl yw i ddyn gwrthodedig colledig yn awr yn yr amseroedd gwynfydedig hyn o [Page 202] Christnogaeth, gwneuthur proffess mawr-wych o'r Efengyl, a chwblhau pob dyledswydd a gwasanaeth o gre­fydd, mewn dangosiad oddiallan, â chymaint o zêl ac awydd yspryd, a pe bai ef yn wir credadyn, ie, efe allei fod yn cyfrannog o lewyrchiad o ty fewn mewn rhyw fesur, ac efe a ddichon fod iddo cyscod, neu rhith o wir ailenedi­gaeth gan nad oes un gras wedi weithre­du yn rymmus yn y credadyn, ni bo ei rhith a'i cyffelib iw weled yn y ddiail­anedig, ac am hynny o disgwyl neb ar yr arwydd heb ystyried y peth a arwy­ddocawyd trwyddo, hynny yw, o dis­gwyl ef ar ei rhadau (neu ei ddoniau yn hytrach) a'u wasanathau, ac os bwrw ef fod iddo diogelwch oddiwrthint, fal y maent hwy ynddo ef, neu fal deuant oddiwrtho heb ymofyn a Christ Jesu fal eu gwreyddyn, a'u ffynnon, a'u de­chreuad; yna y maent yn arwyddion, ac yn nodan twyllodrus. Ond o disgwyl ef arnint, dan golygu ar Christ Jesu, yna nid ydynt yn twylllodrus eithr yn wir ddangosiad, ac yn hyspyssrwydd o ffydd yn Ghrist. A hyn y wneif dyn pan y disgwilio ef ar ei weithredoedd oddi allan, fal y maent hwy yn deillio oddi­wrth dirgel weithrediad ei feddwl, ac [Page 203] ar ddirgel weithrediad ei feddwl, megis yn deillio oddiwrth ddyliau o râs yn­ddo, ac ar y dyliau o râs ynddo, megis yn deillio oddiwrth ei cyfiawnhaad, ac ar ei cyfiawnhaad megis yn deillio oddiwrth ei ffydd, ac ar ei ffydd, fal wedi ei roddi iddo gan Christ Jesu, trwy pa un yr ymafel ef arno yn ddiogel: felly meddaf, o bydd ef yn ddiorphwys hyd onis delo at Christ, ni fydd ei nodau ef, a'i ar­wyddion ddim yn twyllodrus, eithr yn cywir.

Ant.

Ond Syr, o bydd gan yr an­ghredadyn cynnebygaeth o bob gras a weithredir yn y credadyn, yno ni all ni bo yn anhawdd i cyfwrdd a'r gwa­haniaeth rhwngthint, ac am hynny yr wyf fi o'r tyb hyn mae gwell y fyddei i ddyn na bai ef yn blino ei hunan yn nghylch nodau ac ar­wyddion.

Evan.

Rhowch cennad, i mi ddywe­dyd un gair yn hy wrthych, sef hyn, er ni ddywedir fod gwrym duwioldeb ym mhob un ac y bo rhith duwioldeb yn­ddo, etto nia allwn ddywedyd hyn yn lle gwir nad oes gan hwnnw mo gwrym, duwioldeb ni bo ynddo ei rith hefyd a'i ddangosiad, canys er nad yw pob peth a ddiscleirio yn aur, etto y mae [Page 204] pob aur yn discleirio: ac am hynny y dywedaf fi wrthych yn lle gwirionedd, onid ych chwi yn gofalu am cyfraith Ghrist iw wneuthur yn rheol o'ch by­wyd trwy ceisio gwneuthur y pethau a ofynuir yn y dec gorchymmyn, ac i ymwrthod a'r pethau a waharddir yno, y mae hyn yn arwydd eglur o ddrygioni ac am hynny synniwch, adolwg, arnoch eich hunan.

Ant.

Ond Syr, chwychwi a wyddoch i'r Arglwydd promeifio scrifennu ei cyfraith yn nghalon y credadyn, a rhoi ei yspryd iddo iw arwain ym mhob gwi­rionedd, ac am hynny nid rhaid iddo ef wrth y cyfraith a scrifennwyd ac ingc a phapur i fod yn rheol o fywyd iddo, nac nid rhaid ychwaith iddo ceisio iw ufyddhau.

Evan.

Gwir yw (ebe Luther) fal hyn y byddei gyd a mi, megis y dywedasoch, pe baem ni yn perffeith, ac yn llwyr ac yn wir ysprydol oddifewn, ond ni ddi­chon hyn fod er dim, hyd oni ddelo 'r dydd diweddaf ac adcyfodiad y meirw, canys cyd ac ein amwyscir ni a'r cnawd marwol hwn, nid ydym onid dechreu, neu e'r mwyaf yn myned rhagom yn ein gyrfa tuag at perffeithrwydd, yr hwn a cwblhair yn ybyd, a'r bywyd sy [Page 205] ar ddyfod, ac o'r achos hyn y geilw 'r Apostol hynny yn flaenffrwyth o'r yspryd a feddiannom yn y bywyd hwn, Rhuf. 8. y gwirionedd a llawnder o pa un y der­byniwn ni yn y byd a'r bywyd sy ar ddyfod, ac am hynny manol yw (ebe efe) mewn mann arall, i ni felly prege­thu iddint hwy â dderbyniasant yr athrawyiaeth o ffydd, fal y cyffroeid hwy i fyned yn eu blaen mewn buchedd duwiol yr hon a cofleidiasant eusys, ac na oddefont eu hunain iw gormeilio gan gyrchiau y cnawd ffromm-wyllt, canys nid oes i ni fod mor rhyfygus ar ddysceidiaeth ffydd, fal pe bai rhydd i ni, yn ol cael gafael arni, fyw fal y mynnom a gwneuthur a welom ni fod yn dda, nagoes, dim, eithr y mae yn rhaid i ni ceisio a'n holl egni, fod yn ddiargyoedd, a phan na allom cyrrhaedd at ddiniweidrwydd, awn at ein gweddi­an, a dywedwn gerbron Duw a dynion, Maddeu i ni ein dyledion. A dymma (ebe Calvin) un ymarfer a diben priodol o'r gyfraith i'r ffyddloniaid yn ngha­lonnau pa rai y mae yspryd Duw yn byw ac yn teyrnassu, canys er bod y cy­fraith wedi ei scrifennu a'i hargraphu yn eu calonuau hwy â bys Duw, etto y mae 'r gyfraith yn gwfanaethu fal cy­farwyddid [Page 206] siccr iw dyscu hwy well well, a siccrach siccrach beunydd, pa beth yw ewyllys yr Arglwydd, ac na rhyddhaed neb o honom ein hunain oddiwrth y rhwym hyn, canys ni chafas neb etto cymmaint o ddoethineb, fal nad rhaid iddo iw cynghori beunydd gan y cy­fraith. Ac yn hyn y mae yr gwahanaeth rhwngom ni a Christ, sef bod y Tad wedi allwys arno ef anfeidrol llawnaeth o'r yspryd, eithr wrth fesur yr ydym ni yn derbyn y cwbl â gaffom, fal y bai i ni rhaid o un i gilydd; yn awr ysty­riwch hyn, adolwg, dan nad yw 'r ffyddloniaid wedi derbyn yr yspryd onid trwy fesur, a than na wyddont hwy ddim ond o rhan, yna nid oes gan­thint y cyfraith wedi ei scrifennu yn eu calonnau, onid mewn mesur, ac o ran. A than nad yw 'r cyfraith wedi ei scri­fennu ond o rhan ac mewn mesur yn eu calonnau, yna nid oes iddint hwy un rheol perffeith, o ty fewn ac oni bydd iddint rheol perffeith o ty fewn, yna y byddei rhaid iddint wrrh rheol o'r ty allan, ac am hynny efe a fyddei fanol i'r credadyn goreu, a mwyaf ei ffydd, cym­meryd cynghor Tindal ddedwyddd, sef, Cais gair Duw ym mhob rhyw beth, ac na wna ddim heb air Duw; Ac medd [Page 207] scrifenydd Efangylaidd arall, Gwnawn ein goreu, fy mrodyr, i ufyddhau ewyllys Duw, fal y gweddei i blant da, ac ymo­gelwn a'n holl egni na phechom er dim.

Ant.

Ond Syr, ni wn i, beth y ddy­wedaf, eithr mi a tebygwn mai peth afraid yw, i ddyn yn ol ei cyfiawnhau yn hollawl trwy ffydd ceisio cadw 'r cyfraith, a gweithreddu daioni.

Evan.

Mae 'n cof da gennif beth y ddywaid Luther, sef bod rhai yn ei amser ef, yn ymrheswmmu, yn yr un modd: Os ffydd (ebent hwy) sydd yn cyflawni pob peth, ac os ffydd noeth unig sydd ddigonol i cyfiawnder, pa ham ein gorchymmynnir ni i wneuthur gorch­wylion da? pa rhaid i ni onid chwareu a chwerthyn, a syguro? eithr efe a'u hattebodd hwy gan ddywedyd, (Nid felly chwychwi annuwiolion, nid felly.) Ac eraill a ddywedent, Onibydd y cyfraith yn cyfiawnhau, y mae hi yn ofer ac yn ddilês: Ond etto nid gwir hynny (ebe efe wrthint) canys megis y mae ymadrodd y dyn hwnnw yn ofer a ddywetto: fel hyn: Nid ydyw arian yn cyfiawnhau neu yn gwneuthur dyn yn cyfiawn, ac am hynny y mae yn anfu­ddiol, neu fal hyn; Nid ydyw'r llygaid yn cyfiawnhau, ac am hynny y dylent [Page 208] eu tynnu allan, felly diystyr yw'r dadl hyn: Nid ydyw 'r gyfraith yn cyfiawn­hau, ac am hynny y mae hi yn anfuddi­ol: canys nid ydym ni yn barnu ac yn diffrwytho 'r gyfraith, er ein bod yn dy­wedyd yn ol geiriau yr Apostol, 1 Tim. 1. 8. Da yw 'r gyfraith, Tit. 3. 8. os arfer dyn hi yn gy­freithlon, a Gwir yw'r gair, fel y byddo i'r sawl a gredasant i Dduw ofalu ar flaenori mewn gweithredoedd da, y pethau hyn sydd dda a buddiol i ddy­nion.

Neo.

Yn wir Syr, o'm rhan i, yr wyf fi yn rhyseddu, fod fy nghymmydog Antinomista morhyderus, ar ei ffydd yn Ghrist, ac etto yn diystyru sancteiddr­wydd buchedd, a chadwriaeth o or­chymmynnion Christ fel y gweddei ei fod ef wrth ei ymadrodd; canys yr wyf fi (i Dduw y diolchaf) yn awr yn credu mewn rhyw fesur bychan fy mod i wedi fy nghyfiawnhau yn rhâd ac yn cyflawn, ac wedi fy rhyddhau oddiwrth fy holl bechodau gan Christ: ac am hynny nad rhaid i mi na gwrthod y drwg, na gwneuthur y da rhac ofn cospedigaeth, neu o obaith gwobr, ac etto y mae fy ughalon i (tebygwn) yn ewyllysgarach ac yn awyddysach i wneuthur y peth a orchymmynno 'r Arglwydd, ac i ymwr­thod [Page 209] a'r pethau a waharddo ef, nac y bu erioed cyn i mi credu. Yn wir Syr yr wyf fi yn deall, nad yw ffydd yn Ghrist yn rhwystro duwioldeb bu­chedd, megis y tebygais i cynt ei bod.

Evan.

Fy nghymmydog Neophitus, od yw ein anwyl Antinomista yn ymfod­loni ei hunan â gwybodaeth pûr o'r Efengyl, ac wedi cyrhaedd at ryw cyd­nabyddiaeth noeth oddiwrth Christ, ac ynteu ei hunan heb ei hercyd i mewn trwy allu Christ, gadewch i ni tosturio wrtho, a gweddio trosto, ac yn y cy­famser, gwybyddwch hyn, fod gwir ffydd yn Ghrist cyn bellhed oddiwrth bod yn rhwystr i dduwioldeb bywyd a gwei­thredoedd da, hyd onid yw yn hytrach yn unig yn eu helpio: can ys trwy ffydd yn unig y nerthir dyn i ymarfer pob gras Christnogaidd yn weddus, ac i cwblhau pob dylêd Christnogaidd yn weddus, yn amgen nac y medre ef cynt. Yn lle siampl, cyn y gallo dyn iawn cre­du cariad Duw tuag atto yn Ghrist, er bod ynddo ryw fath o gariad i Dduw, fal y mae ef yn creawdwr, ac yn ceidwad iddo, ac yn roddwr hael o lawer peth daionus tuag at ei fywyd presennol: etto pe agorei Duw ei lygaid ef, i canfod [Page 210] ym mha cyflwr y mae ei enaid ef, sef o canniatteid iddo weled yr ymgyffatte­baeth y sy rhwngtho ef a Duw, yn ol deunydd y cyfammod o weîthredoedd, yno ni feddylie ef am Dduw yn amgen nac am farnwr digllon wedi ei arfogi â barn yn ei erbyn ef, yr hwn y byddei rhaid ei lonyddu â gweithredoedd y cyfraith, i pa un y mae ef yn gwybod fod ei naturiaeth yn wyrthwynebol: ac am hynny efe a casâa Duw a'i cyfraith ac yn ei calon a ddymuna yn ddirgel na bai na Duw, na chyfraith, ac er cymma­int o fendithion daiarol y roddei Duw iddo etto nid all ef moi caru ef: canys pa ddrwgweithredwr a ceryf y barnwr hwnnw, n'ai cyfraith oddiwrth pa un y disgwyl ef am ei farn o ddamnedigaeth? ie er iddo ei borthi ef wrth ei fwrdd a'r daintioedd mwyaf. Eithr yn ol ym­ddangos daioni a chariad Duw ei Ach­ubwr, Tit. 3. 4. 5. nid o weithredoedd cyfiawnder y rhai a wnaeth ef, eithr yn ol ei trugaredd trwy pa un yr achubodd efe ef: hynny yw, cyn cynted ac y gwelo ef ei hunan yn sefyll yn ngwydd Duw yn ol trefn y cysm mod o ras, yna efe a feddwl am ei Dad anwyl trugorog yn Ghrist, yr hwn a faddeuedd iddo ei holl pechodau yn rhâd, ac a'i gollyngodd yn lân oddi [Page 211] wrth y cyfammod o weithredoedd, ac yn y modd hyn y tywelltir cariad Duw yn ei galon ef trwy yr yspryd glân, yr hwn a roddir iddo, Rhuf. 5. 5. ac yna y ceryff ef Dduw, 1 Jo. 4. 19. am iddo ef ei caru ef yn gyntaf, canys megis ac y bo dyn trwy ffydd yn clywed, ac yn gweled cariad a serch Duw tuag atto ef yn Ghrist ei Fab, yn yr un modd y ceryf ef Dduw a'i gy­fraith. Ac yn wir peth ammhossibl yw i ddyn caru Duw, nes y gwippo ef trwy ffydd ei fod ynteu yn caredig gan Dduw.

Yn ail, er bod hyn yn tebygol y gallei fod, i ddyn, cyn y credei ef ca­riad Duw tuag atto yn Ghrist, mesur mawr o ymostyngiad cyfreithiol, a thymmigiad câlon, a galar ac ochain hyd oni iselhair ef (fal pe bai) hyd at porth uffern, lle y clywyf efiê tân uffern yn fflammychu yn ei cydwybod o achos ei bechodau: etto nid yw ei hynt ef felly o herwydd iddo anfoddhau Duw trwy bechod, eithr yn hytrach am iddo peri niwed iw hunan, sef am iddo he­brwng ei hunan trwy bechod i perigl o farwolaeth a damnedigaeth tragwy­ddol: eithr pe bai ddyn unwaith trwy ffydd yn ymaflyd a chariad Duw yn Ghrist ym maddenant ei bechodau, a'i [Page 212] anghofiad o'i camweddau, ynaefe a alareu, ac a tristhâe am iddo ddigio Duw trwy bechod, yr hwn y sydd mor hael truga­rog tuag atto, ac efe a ymrheswmmeu fal hyn a'i hunan, sef, Beth yn awr, ai felly y mae yn wir? a roddodd yr Argl­wydd ei anwyl Fab ei hunan i farwola­eth trosof fi ddyn gwael, anedwydd annuwiol? a cymmerodd Christ fy mhechodau i igyd arno ef? a archoll­wyd ef am sy nghamweddau i? Och gwae ynteu yn awr gan terfysc dieithr yn codi o ty fewn iddo, pa fath cyn­nhyrfiad sy yn awr yn ei ymyscaroedd? pa cyffroad o'i wyniau? pa fath ddad­leithiad a thawdd y sy yn awr yn ei ga­lon edifeiriol? yna y cofia ef ei ffyrdd drygionus, Ezec. 36. 31 a'i weithredoedd, nid oeddent da ac a ffieiddia ei hunan am ei holl anwireddau a'i ffieiddra, Zach. 12. 10. a chan ddisgwyl ar Ghrist yr hwn y wanasei ef, efe a alara am dano yn chwer-wdost megis un yn galaru am ei cyntafanedig. Yn y modd hyn, yn ol i ffydd gwre­sogi calon dyn â gwaed Christ, hi a feddalhair ac a nawseiddier cymmaint nes yn ymddattoddo hi i ddeigrau hall­tion o dristwch dduwiol, hyd oni byddo ef wedi i Christ troi ac edrych arno, yn barod, Luk. 22. 61 megis Petr, i fyned allan [Page 213] ac i wylo yn chwerw-dost. A dymma 'r gwir dristwch, ac o'r fath hyn yw'r gwir edeifeirwch Efangylaidd.

Yn drydydd er bod hyn yn wir hefyd, mai tebygol y fyddei i ddyn cyn iddo wir credu yn Christ, felly atcyweirio ei fywyd, a gwella ei lwybrau hyd oni bo ef megis yr Apostol yn ddiargyoedd yn ôl y cyfiawnder sydd yn y gyfraith, ac etto am ei fod ef yn aros tan y cyfam­mod o weithredoedd, nid yw ei holl ufydddod ef i'r cyfraith, n'ai holl ymwrthodiad â phechod n'ai holl wa­sanaeth n'ai holl ymogeliad rhac pob peth, a waharddo 'r cyfraith, na'i wneu­thyriad o pob peth a orchymmynno 'r cyfraith, onid heppiliaeth â ceuedloedd cyfraith weithredoedd ar y caeth­wraig Hagar trwy werth, neu nwyf gormod-serch ddyn ar ei hunan, ac felly nid ydynt yn wir yn amgen na fal ffrwythau a gorchwyylion gwasa­naeth ddyn, yr hwn a cyffroir, ac a cym­mhellir i wneuthur y cwbl oll ar y wnelo ef rhac ofn cospedigaeth ac er mwyn gwobr. Canys nid yw 'r gy­fraith (ebe Luther) a roddwydar fynydd Sinai yr hwn a elwir gan yr Arabiaid, Hagar, yn cenedlu neb onid gweision, ac ar hynny pa beth bynnac y wnelo y [Page 214] fath caeth-ddyn nid yw onid rhac-rhith am ei fod ef yn gwnenthur lliw o wasa­naeth i Dduw, lle nad yw ef mewn gwi­rionedd yn amcanu ar ddim amgen nac i wasanaethu ei hunan: A pa wedd y gwneif ef yn amgen? canys cyhyd, ac y bo dyn yn ddi-ffydd y mae arno ddiffig pob peth. Y mae ef yn wyn­wydden gwâg yn dwyn ffrwyth iw hunan yn unig. Hos. 10. 1. Yn y cyflwr hyn ni fynn ef mo wasanaethu yr Arglwydd Christ nes y darfyddo iddo wasanae­thu ei dro ei hunan yn cyntaf, nagê cyd ac y bo ef yn ddiffydd y mae ef yn ddi­cariad at Christ, ac am hynny nid yw ef yn byw i Christ ond iw hunan, am iddo caru ei hunan. Ac ar hyn yn siccr y dy­wedodd D r Preston, mae o rhacrhith y gwneir y cwbl oll ar y wnelo dyn heb cariad; pa le bynnac y mae cariad ar ymofyn, nid oes onid rhac-rhith yn nghalon hwnnw.

Ond cyn cynted ac y derbynio ddyn yspryd Christ wrth wrandawiad ffydd, Gal. 3. 2. y mae 'r yspryd hwnnw yn ol mesur ffydd yn scrifennu bywiol gyfraith ca­riad yn ei galon ef (yn ol geiriau Tindal) trwy pa un y mae ef yn cael ei nerthu i weitthredu yn rhwydd, ac yn ewyllysgar heb n'ai yrru, n'ai cymmhell gan y gy­fraith, [Page 215] canys y cariad hwnnw â pa un y carodd Christ ef neu Duw yn Ghrist, ac â pa un y mae ef yn ymaflyd ac ef trwy ffydd, ai cymmhell ef i wneuthur felly, yn ol gair yr Apostol: 2 Cor. 5. 14 y mae cariad Christ yn ein cymmhell ni, hynny yw efe a peryff cariad iddo wneuthur hyn a hyn, o na bodd nac anfodd nid all o' beidio, ni fedr ef amgen nai wneuthur: A hyn a ddywedaf yn hy wrthych, o cymmaint ac y mae cariad Christ wedi ei tywallt yn nghalon dyn, y mae yn gymmhelliad cadarn iw yrru yn y blaen i wasanaethu ac i fodloni yr Arglwydd ym mhob peth, yn ôl gaîr gwr dedwydd: sef, y mae (eb efe) gwyn ac ewyllys credadyn yn ol y mesur o ffydd ac o'r yspryd â dderbynio ef, yn bywiocau yn hyfrydus ac yn gogwyddo ddewis, i serchu, ac i ymhoffi pa beth bynnac y sy dda a chym­meradwy yn ngolwg Duw a dyn, gan fod yr yspryd yn ei cyffroi ac yn ei ogwyddo yn rhwydd ac yn llawen i gadw 'r gy­fraith, nid rhac ofn uffern, nac er mwyn gwobr nefol. Canys y mae 'r gwir Christion (ebe M r Tindal) yn gweithre­du pob peth yn unig o herwydd fod ei Tad nefol yn ei ewyllyscu, canys yn ol ei orthrechu gan cariad a daioni Duw, efe a cais ym mhob ryw fodd ufyddhau [Page 216] iwewyllys ef fal pe bai hyn yn natu­riol iddo, a pha beth bynnac y wnelo ef, efe ai gwneif yn rhwydd, yn ol siampl Christ megis plentyn naturiol. A pe ofynnech chwi iddo ef pa ham y gwneif ef hyn a hyn, ei atteb ef a fydd i'r ystyr hyn, sef Hyn yw ewyllys fy Nhâd; ac yr wyf fi yn gwnenthur felly, fal y gall of ryngu ei fodd ef canys yn wir nid ydyw cariad yn cwhennich cyflog, y mae hi yn ddigon o cyflog iw hunan, y mae hi yn peraidd ddigon ac yn hyfryd o honi ei hunan ac ynddi hunan, heb ceisio na bentithig, nac ychwanegiad, y mae hi yn talu cyflog iw hunan, ac am hynny ufydddod mabaidd yw hyn a cenedlwyd trwy ffydd ar Sarah y wraig rhydd trwy nerth cariad Duw, ac yn y modd hyn yn unig yr ymddnegys gwir a phurlan ufydddod. Canys (ebe D r Preston) i wnenthur peth mewn cariad yw ei wneuthur mewn purdeb: ac yn wir nid oes na gwell nac amgen ffordd na hyni ddangos beth yw purder.

Nom.

Arhoswch ronyn Syr, adolwg, oni fynnech chwi i'r ffyddloniaid ym­wrthod a'r drwg, a gwneuthur y da rhac ofn uffern ac er mwyn y nef?

Evan.

Na fynnwn yn wir, i un dyn credadwy na gwneuthur yr un, n'ar [Page 217] llall i'r diwedd hwnnw canys cyn bell­hed ac y gwnelont hwy felly, nid yw eu ufydddod hwy onid gwasanaethaidd, ac anewylly igar, ac am hynny, er iddint ddymuno gyd ar llangc afradlon, eu bod hwy onid fal gweision cyflog ar eu di­huniad, a'n argyoeddiad cyntaf o'n an­nedwyddyd, ac ar eu dechreuad ar y ffordd o fywyd, etto cyn cynted ac y gwelont hwy a llygad ffydd, trugaredd a dioddefgarwch eu Tad nefol yn Ghrist yn rhedeg iw cyfwrdd hwy, ni fynnwn i ddim iddint son ymhellach am fod yn weision cyflog eithr mi a ddymunwn ar­nint felly i ymdrech yn erbyn pob am­mheuad, ar i ymarfer eu ffydd nes y credont ei bod hwy wedi eu gwared trwy Christ oddiwrth ddwylo pawb o'u casion, Luk. 1. 71. 74, 75. sef y gyfraith, pechod, llid, mar­wolaeth, y cythrael ac uffern, fal y gwasa­naethont yr Arglwydd yn ddiofn mewn sancteiddrwydd a chysiawnder holl dyddiau en bywyd. Mi a ddymunwn ar­nint felly i credu cariad Duw tuag attynt yn Ghrist, fal y cymmhelleid hwy ar hynny i ufydddod.

Nom.

Ond Syr, chwi a wyddoch pa fodd y mae ein Jachwdwr yn cynghori: sef ofnwch yr hwn a ddichon ddestrywio enaid a chorph yn uffern. Mat. 10. 28. Ac y mae 'r [Page 218] Apostol yn dywedyd fal hyn, Col. 3. 24. Nyni a dderbyniwn gan yr Arglwydd daledi­gaeth yr et ifeddiaeth: Heb. 11. 26 Ac oni ddywedir oblegid Moses? ei fod ef yn disgwyl ar daledigaeth y gwobrwy.

Evan.

Yn ddiau amcan ein Jachaw­dwr bendigedig yn y gair cyntafhwnnw or scrythyr, yw hyn, i ddyscu pob cre­dadyn pân y bo Duw yn gorchymmyn un peth a dyn peth arail, i roi ei ufydddod i Dduw yn hytrach nac i ddyn, ac nid yw ef yno yn eu cynghori hwi i ymwrthod â drwg rhac ofn uffern.

Ac am y lleodd eraill â henwasoch cwi od ych chwi yn deall Gwobr, a'r mo­ddion iw cael yn ol ystyr y scrythur lân, yno peth arall yw, ond mi o tebygais eich bod chwi yn ei ddeall yn ein ystyr cyffredin ni ac nid yn ol ystyr y glan scrythurau.

Nom.

Pa wahaniath, Syr, adolwg y sy rhwng y wobr, a'r modddion i cael y wobr yn ein ystyr cyffredin, ac yn ol ystyr y scrythyrau?

Evan.

Gwobr, yn ol ein ystyr cyffre­din ni, yw 'r peth a tebygir ei fod yn dy­fod oddiwrth Dduw, neu iw roddi gan Dduw, dan gwâg-feddylied am y nefoedd tan ryw ymwybodau cnawdol, gan [Page 219] dddysgwyl arno megis ar ryw fann lle y ceid rhydddid rhac pob trueni a thra­llod, a llawnder o pob hyfrydwch a dedwyddyd iw gael er mwyn ein gwei­thredoedd ein hunain, a'n gwasanaeth. Eithr yn ol ystyr y scrythurau nid yw Gwobr, cymmaint, y peth a ddelo oddi­wrth Dduw, neu a roddir gan Dduw, a'r pech fydd yn gorwedd ynddo ef, sef llwyr fwynhaad o'r Arglwydd Dduw ei hunan yn Ghrist Myfi (ebe Dduw wrth Abraham) yw dy darian, a dy wobr mawr-iawn. Gen. 15. 1. Pwy sydd gennifi (ebe Dasydd) ond tydi, Psal. 73. 25 17. 15. ac ni ewyllysiais i ar y ddaiar neb gyd a thydi. Digonir fi pan dihunwyf a'th delw di. A'r mo­ddion trwy pa rai y mwynheir hyn o wobr, yw, nid ein gweithredoedd, eithr ein ffydd, sef trwy nessau atta â chalon gywir mewn llawn hyder ffydd: Heb. 10. 22 ac yn y modd hyn yn rhâd y roddir. Gan hynny nid oes i chwi ddeall y wobr hwnnw am pa un y mae 'r scrythur yn coffa, fel pe bai yn cyflog gwas, ond fel y mae yn etifeddiaeth meibion, a phan y bo 'r scrythur yn gwahodd y ffyddloniaid i ufyddhau dan addo hyn o wobr, rhaid i chwi ystyried fod yr Arglwydd yn lle­faru wrth y ffyddloniaid fel y dywede Dad wrth ei plentyn sef Gwna hyn, neu [Page 220] hyn ac yno myfi a'th caraf di, lle y mae yn hyspys fod y Tad yn caru ei blentyn ar y cyntaf, ac felly y mae Duw. Ac am hynny, dymma ymadrodd y ffyddloni­aid: yr ydym ni yn ei caru ef, am iddo ef ein caru ni. Y mae 'r Arglwydd yn talu iddint hwy, neu o'r lleiaf yn roddi insel o'u cyflog cyn y paro ef iddint weithio un pwyth ac am hynny nid ydyw 'r credadyn (yn ol ei fesur o ffydd) yn gofyn pa beth y rhydd Duw iddo ef, ond beth y roddei ef i Dduw. Beth a dalaf i'r Arglwydd am ei holl ddoniau i mi? Psal. 116. 12. 26 3. canys dy drugareddau sydd o flaen sy llygaid, ac mi a rodiais yn dy wirio­nedd.

Nom.

Wrth hynny Syr, y gwyddai nad yw sancteiddrwydd bywyd, a gwei­thredoedd da yn peri dedwyddid trag­wyddol, eithr y maent hwy fal y llwybr yn unig tuag yno.

Evan.

Onid ych chwi yn cofio fod ein Harglwydd Jesu Christ ei hun yn dywe­dyd: Myfi yw'r ffordd a'r gwirionedd, a'r bywyd. Jo. 14. 6. Ac onid yw'r Apostol yn cynghori y Colossiaid credadwy, Col. 2. 6. fel hyn Megis y derbyniasoch Christ Jesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo: hynny yw, megis y derbyniasoch ef trwy ffydd felly ewch yn eich blaen yn [Page 221] eich ffydd, a thrwy ei nerth ef rhodiwch yn ei orchymmynnion ef, hyd oni ddy­wedir (yn ol fy meddwl i) am gwei­thredoedd da, mai eu galw a ddylid yn rhodiad yn y ffiddloniaid ar hyd y llwybr sydd yn arwain i ddedwy­ddyd tragwyddol, yn hytrach n'ar llwybr ei hunan, ond ac yno pa un, hyn a osodwn ni fal gwirionedd, mae, yn nerbyniad Christ Jesu trwy ffydd, ac yn ein ufydddod iw cyfraith ef yn ol mesur o'r derbyniad hwnnw y cynnhwysir holl swmm a sylwedd y llwybr, a'r rhodiad yn y llywbr.

Neo.

Syr, yr wyf yn coelio ddarfod i fy nghymmydog Nomista, ai holiadau eich rhwystro rhac myned yn y blaen yn eich ymadrodd, i ddangos pa fodd y mae ffydd yn nerthu dyn i ymarfer ei radau Christnogaidd, ac i cwpla ei wasa­naeth Christnogaidd yn weddus. Ac am hynny ewch, attolwg yn eich blaen.

Evan.

Pa beth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballei i mi fynegi pa fodd y mae gwir heddwch cydwybod dyn yn ol mesur ei ffydd ef, canys dym­ma eiriau 'r Apostol, wedi ein cyfiawn­hau trwy ffydd y mae i ni heddwch gyd a Duw, ie ac medd y Prophwyd Esay. Ti a gedwi mewn tangneddyf [Page 222] heddychol yr hwn sydd a'i feddyl-fryd arnat ti, Esa. 26. 3. am ei fod yn ymddiried ynot. Wele dymma 'r lle y mae gwir a diogel tangnheddyf. Am hynny o ffydd y mae (ebe 'r Apostol) fal y byddei yn ôl grâs, Rhuf. 4. 16 fal y byddei 'r addewid yn siccr i'r holl hâd, 3. 24. ac megis ac y bo ffydd dyn trwy pa un y credyff ef ei fod ef wedi ei cyfiawn­hau yn rhâd trwy ras Duw, trwy 'r prynedigaeth, sydd yn Ghrist Jesu, y mae gwir ostyngeiddrwydd ei yspryd ef, hyd onid yw ef, er ei fod yn meddi­annu ar lawer o ddoniau a rhadau, ac er cynnifer ac er cymmaint o wasanaeth a dylêdswyddau a wnelo, etto yn gwadu ei hunan ym mh ob peth ar y wnelo, heb wneuthur yscolion o'i weithredoeddi dringied ar eu hyd hwynt ir nefoedd, eithr ei ddymuniad ef yw, ei cael yn Ghrist heb ei cyfiawnder, yr hwn sydd o'r gyfraith, Phil. 3. 9. ond yr hwn sydd trwy ffydd Ghrist, nid yw ef yn tebyg ei fod ef gam yn nês i'r nef er ei holl weithre­doedd, ai wasanaeth, a pe clywei, ef neb yn ei canmol ef am ei rhadau ai ddoni­au, ni feddwl ef unwaith mai trwy ei ddiwydrwydd ai boen ei hunan y cafas ef y fath trugareddau (er bod rhai yn euog o'r fath hyn o falchder calon) nac nid yw ef ychwaith yn dywedyd, yn ol [Page 223] ofer ymarfer ryw ymffrostwyr, sef, Nid am ddim y cefais i hyn a hyn o rhadau, a rhoddion, a gwybodaeth, efe a orfu i mi cymmeryd llawer o boen cyn eu cael hwy: 1 Cor. 15. 10. eithr efe a ddywaid, Nid myfi eithr trwy ras Duw, yr ydwyf, yr hyn yr ydwyf, ac nid myfi onid gras Duw yr hwn oedd gyd a mi. A pe gwelei ef ryw ddyn anwybodus, neu ryw ddrwg fuchedd-wr, nid yw efyn ei alw yn ani­fail cnawdol neu yn ddyn brwnt aflan, nac yn dywedyd wrth arall: sâf ar dy ben dy hunan, na nessâ attafi, canys san­cteiddiaf ydwyf na thydi; (megis y dy­waid rhai,) eithr efe a dosturia wrth y fath ddyn, Esa. 65. 5. ac a weddia drosto ef, ac yn ei galon, efe a osyn iw hunan yn ddirgel: Pwy a osododd y rhagoriaeth rhwngot ti ac arall? 1 Cor. 4. 7. a, pa beth sydd gennit ar nas derbyniast?

Ac yn y modd hyn y gallwn i syned rhagof i ddangos i chwi, mae yn ol ffydd pob dyn y mae ei lawenydd ef yn yr Arglwydd, a'i wil ddiolchgarwch ef i Dduw, a'i oddefgarwch yn ei holl cyst­yddiau a'i flinderau, ai fodlonrwydd ym mhob ryw cyflwr, a'i barodrwydd i ddiodef, a'i lawenydd dan y croes, a'i ewyllysgarwch i ymadel â phob peth daiarol, ie ac yn ol mesur ffydd dyn y [Page 224] mae ei fedraeth i weddio yn iawn, i wrando, ac i ddarllen gair Duw dde­fosionol, i dderbyn y Sacrament o swpper yr Arglwydd iw lês, a'i cwm­ffwrdd ac i wneuthur pob gwasanaeth ai i Dduw y bo, a'i i ddyn, yn drefnus, ac yn weddus, ac i ddiweddion union, ie yn ol mesur ffydd dyn y bydd ei cariad ef tuag at Christ, a thuag at ddyn er mwyn Christ, ac yn yr un modd y bydd ei barodrwydd ef ai ewyllysgarwch i fa­ddeu camwedd, ie i faddeu iw elyn ac i wneuthur daioni i'r sawl a'i casâo. A pa fwyaf o ffydd y bo mewn dyn, llai o hynny y bydd ei cariad ef at y byd, neu betbau bydol, ar un gair fal cynglo o'r cwbl, pa fwyaf y bo ffydd dyn gweddei­ddiach, a pharottach ac ewyllysgarach yw ef i ymadel a'r byd hwn.

Neo.

Da iawn Syr, yr wyf fi yn awr yn deall mai gras odidog y rhagorol yw ffydd, ac mae gwyn yw byd y dyn a feddi­anno a'r fesur helaeth o honi.

Evan,

Dymma 'r gwirionedd, ffydd yw'r gras pennaf ar y ddylei Christno­gion eu hannog a'u cynghori iw ceisio a'i ymarfer, ac am hynny pan y gofynnei 'r bobl in Jachawdwr Jesu Christ pa beth y wnaent fal y gweithredent gweithre­dodd Duw, Jo. 6. 29. yr Jesu a attebodd, ac a [Page 225] ddywedodd wrthynt, Hyn yw gwaith Duw, credu o honoch yn yr hwn a an­fonodd efe fal pe na buase un gwasa­naeth, na gwaith arall yn ddyledus ar ddyn iw wneuthur, onid yn unig i credu, canys yn wir i synegi 'r peth fal y mai yn ddinâg, y mae cred, neu ffydd yn cynnwys pob gorchwil a phob gwasa­naeth ynddi a hwy a ddeilliant oll oddi­wrthi. Ac am hynny (ebe wr dyscedig) Pregetha ffydd, P. Roloc. a thi a pregethaist cwbl holl. Tra y parwyf (ebe arall) i ddyn credu, yr wyf yn peri iddo gweithredu pob daioni, canys gwirionedd ffydd, neu siccwydd cred dyn (ebe arall) a ym­ddug gwirionedd o sancteiddrwydd. Dr. Preston. Os dyn a credyf unwaith, gweithredoedd sancteiddrwydd a ddilynant ei ffydd ef, am fod ffydd yn arwain ar ei hol cyfi­awnder a sancteiddrwydd, fal peth cy­ssylltiedig o honi: gan hynny (ebe efe) Os eiff dyn ynghylch hyn o orchwyl mawr, sef i adnewyddu ei fywyd, i or­trechu ryw bechod, fal ni bo yn teyrnassu mwyach arno, i puro ei cydwybod oddiwrth gweithredoedd meirwon, ac iw gwneuthur yn cyfrannog o'r anian duwiol, nac eled ef ddim ynghylch y fath orchwilion, fal gwr moesawl, hynny yw, na ymofynned ef pa orchym­mynion [Page 226] y sy wedi eu roddi, neu pa uniownder y mae 'r gyfraith yn ei ofyn, neu pa wedd yr hebrwng ef ei galon atti, eithr eled ef yn ei flaen fal Christion, sef creded ef yr addewid o faddeuant y­ngwaed Christ a gwybyddeid hyn fod ei crêd ef o'r addewid yn abl ddigon i puro ei galon rhac gweithredoedd meirwon.

Neo.

Eithr o pa le, Syr, adolwg, y mae ffydd yn cael hynny o nerth a rhinwedd i fyned trwy cynnifer o or­cheston?

Evan.

Nid amgen nac oddiwrth ein Harglwydd Jesu Christ, canys y mae ffydd yn impio dyn yr hwn y sy wrth naturiaeth yn olewydden wyllt, yn Ghrist megis yn y gwir olewydden, ac yn sugno nôf allan o wreiddiau Christ ac wrth hynny a peryff i'r pren ddwyn ffrwyth yn ei ryw, ie y mae ffydd yn sugno rhinwedd uwch-naturiol, allan o farwolaeth, a bywyd Christ Jesu, trwy nerth pa un y mae yn llwyr gwedd­new yd calon y credadyn ac ei creu, ac yn gosod ynddo ryw pryf-elfyddau ne­wydd orchwylion, hyd onid yw ffydd yn sugno, ac yn dysnu er fwy o ddaioni 'ir credadyn, cyfoeth y rhadau oll, â tryssorwyd yn Ghrist, am fod ffydd, fal [Page 227] pistyll yn dwfrhau holl llysiau'r ardd, ie y mae ffydd yn cyssylltu gwaed Christ, a chalon y credadyn, ac y mae i waed Christ hyn o rhinwedd, nid yn unig i olchi ymmaith holl euogrwydd pechod, eithr hesyd i lanhau a phuro rhac cyfraith a chadernid pechod. Ac am hynny ebe Hooker ddedwydd, o dymunech chwi cael grâs, ceisiwch ffydd yn bennaf, a hon a hebrwng y lleill oll ar ei hôl, eled ffydd at Christ, ac yna hi a tynn ar ei hôl, addfwynder, ymmunedd, ostyngeiddrwydd a doethi­neb, ac a'u gofyd hwy yn yr enaid: gan hynny (eb efe) na ddisgwiliwch yn ol sancteiddiad, hyd oni ddeloch at Ghrist trwy alwedigaeth.

Nom.

Yn wir Syr yr wyf fi yn gweled yn awr yn eglur fy sommi, a'm myned i ar ddidro oddiar y iawn ffordd o wa­sanaeth Duw, am i mi tebyg y gorfyddei i sancteiddrwydd bywyd fyned o flaen ffydd, fal fail iddi, ac iw thynnu yn y blaen, lle 'r wyf yn awr yn gweled yn amlwg mae ffydd a ddylei fyned ym mlaenaf a thynnu sancteiddrwydd by­wyd ar ei hôl hi.

Evan.

Mae 'n gôf gednif beth y ddy­waid gwr da, mawr ei lewyrch yngwy­bodaeth yr Efengyl, sef, y mae llawer [Page 228] (eb efe) yn tebyg, mae fal y mae dyn yn dewis i wasanaethu brenin, felly y mae iddynt fwriadu ac wasanaeth Duw, dan tebyg hyn, mae'r neb a wnelo oreu wa­sanaeth iw Arglwydd, a ceiff fwy o ffafr ar ei law ef, a pha fywyaf yr ymostyngo ef iw Arglwydd, yn ol ei anfoddhau ef, mae cynt o hynny y ceif ef ei ffafr tra­chefn, o'r un cyffelib (eb efe) yw meddwl llawer dyn oblegid Duw, a'i hunain, eithr nid felly y mae r matter yn sefyll rhwnthynt hwy, eithr yn y gwr­thwyneb: canys dymma eiriau ein Jach­awdwr, Jo. 15. 16. Nid chwi a'm dewisasoch i, ond myfi a'ch dewisais chwi. A pham hynny? nid am ein bod ni yn edifarhau, neu yn ymostwng ein hunain, neu yn gwneuthur gweithredoedd: eithr y mae efyn rhoddi i ni ras, ac ar hynny yr ydym yn edifarhau, ac yn ymostwng ein hunain, ac yn gwneuthur gweithredo­edd da, ac yn myned yn dduwiol, ni lew­yrchwyd mo deall y lleidr ar y croes am iddo cyffessu Christ, eithr efe a cyffessodd Christ am ei fod ef wedi ei lewyrchu, ca­nys rhaid yw i'r pren fod yn gyntaf (ebe Luther) ac yno 'r ffrwyth, gan nad yw 'r afalau yn gwneuthur y pren, eithr y pren yr afalau. Felly ffydd yn gyntaf a wneiff y dyn, ac ynteu wedi hynny a [Page 229] ddug ffrwythau o weithredoedd da. Gan hynny o cais neb cwblhau 'r cyfraith heb ffydd, efe a wneiff a fo wrthyneb, ac ammhossibl, sef afalau o phridd, a choed heb y pren, eithr ni fydd y fath afalau a rha'in, onid gwâg ddichymmygion, nid ffrwyth sylweddol. Am hynny fy nghymmydog Nomista yr wyf yn deisyf arnoch mae fal y gwellhaysoch chwi eich buchedd cynt er mwyn credu, ar i chwi yn awr credu yn cyntaf dim fal y galloch atcyweirio eich buchedd, ac na ymboen­wch eich hunan ymmhellach i ynnill iwch hawl, yn Ghrist, eithr credwch fod i chwi hawl yn Ghrist fal y galloch wei­thian, weithio, ac yna ni ddywedwch chwi ddim, (fal cynt) mae gwellhaad eich buchedd yw sail, neu wadn eich ffydd, megis y mae llawer yn tebyg fal y gweddei wrth eu hattebion, canys o gofynnir iddint beth a barodd iddint credu, hwy attebant mai ar eu edifeir­wch, ac ar wellhaad eu buched y bu hyn.

Ant.

Ond Syr beth y debygwch chwi am Pregethwr a clywais i yn dywedyd fal hyn, na feiddie ef cynghori neu per­swadio pechaduriaid i credu fod eu pe­chodau wedi eu maddeu iddint, cyn y gwelei ef ynddynt gwellhaad bachedd, [Page 230] rhac iddint cymmeryd fwy o rhydddid i bechu.

Evan.

Beth y ddywedwn i am y Pre­gethwr hwnnw amgen, nai fod ef yn anwybodus o ddirgelwch ffydd, canys dymma naturiaeth ffydd ei bod hi yn cyffelib i ddyfroedd meddiginiaethol y rhai sy felly yn puro ac yn golchi brwn­ti 'r archoll, hyd onid oerant hefyd y gwrês, ac a rhagflaenant tanniad yr ad­wyth a'r gwenwyn, ac a'r diwedd pob yn ronin a'i iachânt. Ac ni wydde ef ychwaith fod ffydd yn cyffelib i'r galon­wych, neu 'r llynn y mae 'r Physigwyr yn ei cyfarwyddo i'r dyn clâf, yr hwn sy yn llawenhau, ac yn esmwytho 'r galon cymmaint hyd onis gyrro pob gwlybwr niweidiol allan, ac a ca­darnhao naturiaeth hefyd yn eu her­byn.

Ant.

Ac yr wyf fi yn cydnabyddus â proffesswr, ond nid yw ef (Duw ai gwyr) onid gwr gwann ei fedraeth, a'i ddyscei­diaeth ef yw hyn, os efe a credei, cyn gwellha o hono ei fywyd, yna efe a allei credu ac etto rhodio yn ei flaen yn ei bechodau. Beth y ddywedech chwi, Syr, adolwg, wrth y fath ddyscaw­dwr?

Evan.

Hyn a ddywedaf, credeid yn [Page 231] ewn os dichon ef, ac o bydd ei cred ef yn cywir, a gwneled felly, eithr peth ammhossibl yw hyn, eithr credeid ef, yn ddiosn, ac efe a ddigwydd y llall, canys cyweirdeb ffydd a ddug allan cyweirdeb sancteiddrwydd, canys pwy, pe ystyriei ef hyn yn iawn, a syddei cynddrwg ei dyb sod y fath afreolaeth cnawdol mewn un enaid credadwy ffyddlon, ac a cyssy­lltiwyd, ac a briodwyd â Christ. Y mae 'r cyfraith fal y mae hi yn cyfammod o weithredoedd, a Christ wedi eu gosod yr un cyferbyn a'r llall, fal dau o wyr â briodent yr un wraig ol yn ol, canys tra 'r oedd y cyfraith (y gwr cyntaf) yn fyw yn y cydwybod, Rhuf. 7. 5 yr oedd y ffrwythau oll yn feirw, eithr pan cymmerth Christ y wraig honno iw hunan (yn ol marw 'r gyfraith) efe trwy ei yspryd bywioc­caol ai gwaneth yn ffrwythlawn, i Dduw, ac wrth hynny a cyfododd hâd ir gwr cyntaf, canys o rhan y sylwedd nid ydyw ffrwythau ffydd amgen na gweithredoedd y cyfraith, ond yn hyn y mae yr anghyffelybiaeth er bod hwy wedi eu dwyn allan gan yspryd Christ yn ei Esengyl.

Ant.

Ac etto Syr, yr wyf fi yn credu yn lle gwirionedd fod llawer Pregeth­wr, a Phroffeswr yn y ddinas hon o'r [Page 232] un tyb ar ddau hynny.

Evan.

Hyn sydd wir, y mae llawer o Pregethwyr yn diofalu 'r bobl trwy 'r amser a'u clôd o ryw rhinwedd moe­swal, neu a'u gwarthrudd ar ryw becho­dau cynnyrchiol heb eu hannog hwy un waith i credu. Eithr ein damnedi­gaeth (ebe wr dyscedig y ffydd o cawn ni dywyllwch yn hytrach na 'r golyeuni, ac o dymun wn ni ymgrabyn byth yn y cyflwchwyr o foesogaeth, sef orchym­mynion dynion, moesawl, yn hytrach na rhodio yngwir goleuni difynyddia­eth, sef yn nysceidaeth Christ Jesu. Ac yr wyf fi yn tosturio wrth gofal ann­rhefnus, a phoen ddiffrwyth llawer gwr perchen meddyliau da, y sy yn ym­ofyn a naturiaeth, ac ymddangosiad rhyw rhinweddau moesawl, gan esceu­lysu hyn o rhinwedd ar bennyg gwrei­ddiol canys fal pe bae gwr yn dwfrhau 'r pren igyd ond y gwreiddyn, felly y mae arnynt hwythau chwant llewyrchu o rhan eu ymmunedd, ac addfwynder a zel neu awydd at wasanaeth Duw, ac etto nid ydynt hwy ddim yn ofalus i ddiogelhau a gwreiddio eu hunain yn y ffydd yr hon a ddylei cynnal y lleill i gyd, ac am hynny ofer yfu eu holl poen hwy, a diffrwyth.

Nom.
[Page 233]

Yn wir Syr myfi a wn wrth fy mhrawf fy hunan fod hyn a ddyweda­soch ddiweddaf yn wir ddigon, canys myfi a ym boenais ac a ceifiais lawer gwaith i cael y llaw drechaf ar ryw ly­gredigaeth, fal pe bai i orescyn hurtr­wydd fy nheall, ac i dalu fy ngwasanaeth i Dduw yn llawen, ac yn dditrist eithr ofer y fu fy holl boen.

Evan.

Ac nid rhyfedd, canys y mae mor bossibled i hauarn ymnofiad neu i cerrig dyrchafu eu hunain, ac y mae i chwi o honoch eich hunan iawn weddio neu mysyried neu cadw 'r Sabbaoth yn sanctaidd, neu bod a'ch ymarweddiad yn y nef, ac etto nid oes dim yn am­hossibl i ffydd, canys hi a wneif bob peth yn naturiol i chwi, hi a droiff y wadd ddall daiarol yn enaid nefol: am hynny gan ddarfod i chwi profi pob ffordd a phob modd moeswal o amcaniad, adde­widiad, bwriadad, addunediad, ympryd, gwiliadwriaeth, ymddial ar eich hunan, a'r cyffelib, heb cael ronin erioed o le­saad, etto twch weithian at Ghrist, a cheisiwch â bys ffydd cyfwrdd a godreu ei wysc ef, a chwi a cewch clywed rhin­wedd yn dyfed oddiwrtho, â iachao eich holl clefydon. O herwydd pa ham yr wyf fi yn erfyn arnoch ar i chwi ddy­fod [Page 234] allan o'ch hunan at Christ Jesu, a tharo gafael arno ef trwy ffydd, megis y gwnaeth eich cymmydog Neophitus (i Ddnw y bo 'r diolch) ac yno y cewch ch withau weled y cyffelib casineb yn erbyn pechod, a serch at cyfraith Christ ac y sy ynddo ef yn awr; ie yno y gwel­wch chwi eich llygedigaethau beunydd yn marw ac yn darfod fwy fwy, fal y mae yn hyspys genniff y caif yn­tef.

Neo

Je ond Syr ni châf fi ddim digon o nerth i ormeilio fy holl llygredigae­thau, nac i roi ufyddhaad hollawl i gyfraith Christ, fal y dymmun wn i (Duw a'i gwyr) a llwyr ewyllys fy nghalon.

Evan.

Pe gallech chwi credu yn cwbl yno y byddei i chwi yn ol eich dymuni­ad; canys megis y dywaid Luther, Pe gallem ni llwyr ymaflyd, â Christ, yna y byddem yn lân oddiwrth pechod; Eithr, 1 Cor. 13. 9. och gwae, tra y byddom ni ymma ar y ddaiar, o rann y gwyddom, ac o rann y credwn, ac yn ol hynny nid ydym yn derbyn Christ onid o rhann, yn ol tystiolaeth Jago yr Apostol union, yr hwn a ddywaid fal hyn, gan osod ei hun hefyd yn y cyfrif: Jaco 3 2. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro, [Page 235] ac y mae Joan y dyscybl caredig ffyddlon yn tystiolaethu yr un peth: 1 Jo. 1. 8. Os dywed­wn nad oes ynom bechod yr ydym yn ein twyllo ein huwain, a'r gwirionedd nid yw ynom. Ac yn eu hêl hwy y dy­waid Luther fal hyn: Rhuf. 7. 23. y mae i'r Chri­stion gorph, o ty fewn i aelodau pa un, yn ol geiriau S. Paul, y mae pechod yn aros ac yn rhyfela, ac er ni bo ef euog o ryw bechodau cyhoeddus mawrion fal o lofrudd, odineb, lladrad neu'r cyffe­lib, etto nid yw ef rhydd neu yn lan oddiwrth pechodau dirgel, fal annio­ddef, gwrwgnach yn erbyn Duw neu 'r cyffelib, nage yr wyf fi (eb efe) yn cly­wed ynof fy hunan cybydddod trach­want digter balchder, rhyfyg, ofn mar­wolaeth, trwmdid, casineb, gwrwgnach, annedifeirwch fal nad yw bossibl i chwi fod yn llwyr lan oddiwrth pechod tra y byddoch yn y byd hyn, etto myfi a warannaf iwch hyn, mae fal y cynny­ddoch chwi mewn ffydd felly y cynny­ddwch hefydd fwy fwy o nerth i nerth ym mhob ryw ras arall. O herwydd pa ham y dywedodd gwr duwiol, M. Hooker cadarn­hewch hyn o ras o ffydd a chwi a ca­darnhewch y cwbl oll, hyd oni bydd hyn yn wir, o cyrrhaeddwch chwi at mesur mawr o ffydd. ni ffaeliwch chwi o [Page 236] feddian nu ar fesur mawr o sancteiddr­wydd, Dr. Preston. canys y neb y sy (ebe wr dedwydd arall) iddo y ffydd cadarnaf, ac a cretto helaethaf yr addewid o faddeuant, a gollyngdod pechodau, a feddianna (mi ai ddywedaf yn hy) ar y calon sancteiddiaf, a'r buchedd glanhaf. Phil. 1. 27. Ac am hynny yr at­tolygaf arnoch chwi geisio ym mhob modd ymcadarnhau yn yffydd yr Efengyl

Neo.

O Syr, dyna llwyr ddymuniad fy nghalon, ac am hynny mynegwch i mi adlwg, y beth y ddymunech chwi i mi iw wneuehur fal y tyfwyf yn cadar­nach mewn ffydd.

Evan.

Y cyngor goreu a'r cyfarwy­ddid siccraf a allaf yn wir rhoi i chwi yn hyn, ar i chwi ymarfer y ffydd sydd ynoch eusys, ac ymdrech â phob amm­heuad, a bod yn daer ar yr Arglwydd mewn gweddi ar iddo cynnyddu eich ffydd; yn cymmaint (ebe Luther) ac y mae hyn o ddawn o ffydd yn nwylo 'r Arglwydd yn unig yr hwn a'i cyfranna pa bryd bynnag, ac ar pwy bynnacy mynno ef mae'n rhaid i ti ymnessau atto ef trwy weddi, gan ddywedyd, gyd a'r Apostolion, Luk. 17. 5. Achwanega Arglwydd ein ffydd, ac y mae yn rhaid i chwi fod yn ddiwyd hefyd i wrando ar pregethiad y gair, Rhuf. 10. 17 canys fal y mae ffydd yn dyfod [Page 237] ar y cyntaf trwy wrando, felly yr ach­wanegir hi hefyd trwy wrando, ac y mae yn rhaid i chwi hefyd ddarllein y gair a myfyriad ar addewidion rhâd, a grasol yr Arglwydd, canys yr addewid yw 'r had anfarwol trwy pa un yr ynnill ac yr achwanega yspryd Christ, ffyddyn nghalonnau pawb o'i eiddo ef, ac yn ddiweddaf, y mae yn rhaid i chwi fynych gyrchu at y Sacrament i swpper yr Agrl­wydd, a'i dderbyn cyn fynyched ac y galloch yn weddus.

Ant.

Je ond trwy eich cennad chwi, Syr, os dawn Duw yw ffydd, ac os efe a'i rhydd pan y mynno ef, ac i pwy bynnag a fynno ef, er wyf fi o'r tyb hyn mae an­fuddiol ydyw i ddyn ymarfer y fath fo­ddion a rheini i beri fwy o ach wanegiad o'i ffydd, nâc y rhyngo bodd yr Argl­wydd iw roddi.

Evan.

Yn wir yr wyf yn addef nad y moddion y sy yn ynnill neu yn cynny­ddu ffyd, ond yspryd Duw yn yrym­arfer a'r moddion, hyd oni bo gwir hyn, megis ac y mae y moddion o ho­nynt eu humain yn a anghymmwynasol heb yr yspryd, mae felly ni wneiff yr yspryd lesâad heb y moddion, yn enwe­dig lle y bônt hwy iw cael. Ac am hynny na rhwystrwch eich cymmy­dog, [Page 238] adolwg, rhac ymarfer y mo­ddion.

Neo.

O'm rhan i Syr, yr wyf fi yn bwriadu trwy cymmorth Duw, er y ddywetto efe, i fod yn ofalus, ac yn ddiwyd i ymarfer y moddion a cyfar­wyddasoch i mi yn awr fal y byddof aplach ar achwanegiad o'm ffydd i ym­ostwng i ewyllys yr Arglwydd, ac i ro­dio felly, fal y rhwngwyf ei fodd ef, ond etto er hyn, y mae hyspys gennifi na fyddaf fi fyth abl o herwydd ammher­ffeithrwydd fym ffydd, i lwyr ymaflyd â Christ, ac os felly, ni fyddaf ychwaith fyth abl i fyw yn ddibechod. Am hynny cyfarwyddwch fi, Syr, adolwg, a dan­goswch i mi pa wêdd yr ymddygaf fi fy hunan, pan y digwyddo i mi syr­thio rhacllaw trwy wendid i ryw be­chod?

Evan.

Cyn y rhoddof atteb cywrain cyflawn iwch gosynniad rheidiol chwi, mi a erfyniaf arnoch cydyflyried a mi hyn o fannau ynngair yr Arglwydd.

Yn cyntaf efe a ddywedir Rhuf. 6. 14. oblegid y ffyddloniaid, Nad ydynt hwy tan y gyfraith, ond tan râs. Ac mewn mann arall: Eithr yn awr (eb efe) chwi a rhyddhawyd oddiwrth y gyf­raith. Ac etto efe y ddywedir 1 Cor. 9. 21. [Page 239] oblegid rhyw credadyn, ei fod ef yn ddi­ddeddf i Dduw, eithr tan y Ddeddf i Ghrist, ac yn yr un modd Rhuf. 3. 31. y gofynnir, wrth hynny a ydym ni yn gwneuthur y gyfraith yn ddirym trwy ffydd? Na-atto Duw, eithr yr ydym, trwy ffydd, yn cadarnhau 'r gyfraith.

Yn ail yn 1 Jo. 3. 6. fal hyn y scrifen­nir: Pob un ac y sydd ynddo ef (sef Christ) nid yw yn pechu, ac yn y naw­fed wers, Pob un a aned o Dduw, nid yw yn gwneuthur pechod. Ond etto efe a ddywedir oblegid yr un rhai, fal hyn, 1 Jo. 1. 8. Os dywedwn nad oes ynom bechod yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a'r gwirionedd nid yw ynom: ac yn yr un cyffelib, Jaco. 3. 2. Mewn llawer o bethan yr ydym ni pawb yn llithro.

Yn trydydd yn Numeri 23. 21. fal hyn y dywedir oblegid y ffyddloniaid: Ni wêl ef (sef Duw) anwiredd yn Jacob, ac ni wêl drawsodd yn Israel: Ac yn Ganiad Solomon, 4. 7. fal hyn y ddy­wed Christ wrth ei Eglwys. Tydi oll ydwyd dêg sy anwylid, ac nid oes ynot frychewyn. Ac etto Dihar. 5. 21. efe y ddywedir oblegid y ffyddloniaid, megis am eraill, fod ffyrdd dyn yngolwg yr Arglwydd, a'i fod ef yn dal ar ei holl [Page 240] lwybrau ef, ac yn yr un modd, Heb. 4. 13. Pob peth sydd yn noeth ac yn agored lw lygaid ef am yr hwn yr ydym ni yn Son.

Yn pedwarydd, yn Esay 27. 4. y mae 'r Arglwydd yn dywedyd oblegid y ffyddloniaid, Nad oedd llidi 'r awgrwydd ynddo ef, sef yn eu herbyn hwy: ac Esay 54. 9. fal hyn y scrifennir. Megis y tyn­gais nad elei ddyfroedd Noah mwy dros y ddaiar, felly y tyngais na ddigiwn wrthit, ac na'th geryddwn. Ac etto Psal. 106. 40. efe y ddywedir fal hyn: y bobl (sef Israel) a putteiniasant gyd a i dichymmygion eu hunain am hynny y cynneuodd dig yr Arglwydd yn erbyn ei bobl, fel y ffieiddiodd ef ei etifeddiaeth. Ac Deut. 1. 37. y mae Moses ei hunan, gwr tra ffyddlon yn addef, darfod i'r Arglwydd ddigio wrtho ef.

Yn pummed yn Esay 40. 2. fal hyn y dywaid yr Arglwydd oblegid ffyddlo­niaid: Dywedwch wrth fodd calon Je­rusalem, llefwch wrthi, gyflawni ei mil­wriaeth, dileu ei han wiredd, o herwydd i Dduw dderbyn ar law'r Arglwydd yn ddau ddyblyg am ei holl bechodau. Hynny yw Christ a dalodd i'r Tad hyd oni ddywedodd, Digon, a'i fod ef wedi cyflawni a'i lwyr fodloni. Ac am [Page 241] hynny, Jer. 50. 20. y dywedir: yn y dy­ddiau hynny ac yn yr amser hwnnw y caifier anwiredd Israel, ac ni bydd, a phe­chodau Judah, onid nis ceir hwynt, pam hynny? nid amgen nac am fod Christ ar ei farwolaeth wedi ormeilio, ie a chae­thiwo Satan, Pechod ac Angeu, a pha­beth bynnag a ellid ei ddodi yn ein her­byn ni, hyd at y scrifen, neu 'r pepryn lleiaf ddilenwyd, Ac etto er hyn igid efe yddywedir yn sygwythiol oblegid hâd, a phlant Christ Jesu, Psal. 89. 30. Os hwy a adawant fy nghyfraith, ac ni ro­dian yn fy marnedigaethu, yna mi a ym­welaf a'u camweddau â gwialen, ac a'i hanwiredd â ffrewyllau. Ac yn yr un modd y dywedir, 1 Cor. 11. 30. fod llawer o honynt, o achos eu pechodau, yn weiniaid, ac yn llesc, ac llawer wedi huno.

Ystyriwch yn awr en bod yr holl fan­nau hyn o'r glân Scrythurau yn groes ar ei gilydd mewn dangofiad, etto y maent hwy oll yn wirionedd, canys geiriau gwirionedd Duw ydynt, oll ac fal y gweloch hyn yn eglur gwyby ddwch hyn adolwg, Pan y dywedir am y ffyddloni­aid ei bod hwy yn rhyddion oddiwrth y cyfraith, ac nad ydynt tani, y mae yn rhaid i ni ddeall hyn oblegid y cyfraith [Page 242] fal y mae hi yn cyfammod o weithredo­edd, a lle yr ydys yn dywedid, fod y ffyddloniaid tan y cyfraith a bod ffydd yn cadarnhau 'r cyfraith, y mae i ni ystyried hyn oblegid y gyfraith, megis y mae hi yn cyfraith Christ. Yn awr os y ffyddloniaid nid ydynt tan y cyfam­mod, neu gyfraith weithredoedd, eithr a rhyddheir oddiwrthi yna, er iddynt trosseddu'r cyfraith, etto nid ydynt yn trosseddu'r cyfammod o weithredoedd, ac oni throsseddant y cyfammod o wei­thredoedd, yna ni wêl Duw un cam­wedd ynddynt, fal camwedd yn erbyn y cyfammod hwnnw. Ac onis gwêl ef, yna nis digia ef ddim wrthynt, ac nis cerydda ef hwynt. Ond os y ffyddlo­niaid sy tan y gyfraith, ac os ffydd y sydd yn cadarnhau 'r cyfraith fal y mae hi yn gyfraith Christ, yna os tros­seddant hwy yr un o'r dec gorchym­myn, hwy å drosseddant gyfraith Christ, ac o drosseddant hwy cyfraith Christ, a'i gwêl yna Christ, ac os Christ a'i gwêl, efe a ddigia wrthynt ac a'u cospa hwynt am hynny.

Yn awr ynteu, er cyssylltu hyn a ddywedais i, attoch chwi, sy nghymmy­dog Neophitus, ac er rhoi i chwi atteb nailltuol iwch gofynniad, bydded [Page 243] hyspys gennych chwi nad ydych yn awr tan y gyfraith, eithr wedi ych rhyddhau oddiwrthi, fal y mae hi yn gyfraith o weithredoedd, ac am hynny pa bryd bynnag y trosseddoch chwi yn erbyn yr un o'r dec gorchymmyn rhac­llaw trwy wendid, nid oes i chwi feddwl ar hynny eich bod chwi wedi trosseddu 'r cyfammod o weithredoedd, nac nid oes i chwi ychwaith tebig fod yr Argl­wydd nac yn gweled eich pechodau, nac yn ddig wrthych, nac yn eich ceryddu o'iplegid fal y maent hwy yn drossedd yn erbyn y cyfammod hwnnw, canys a chwi yn rhydd oddiwrtho, ac ar hynny yn ddibechod yn ei erbyn, rhaid yw eich bod chwi hefyd yn rhydd rhac pob llid, digter, trallod, blinder a chystu­ddiau, fal y maent hwy yn ffrwythau, neu yn weithrediadau, o un trossedd yn erbyn y cyfammod hwnnw.

Ond etto tra y fyddoch fyw, meddy­liwch ych bod tan gyfraith Christ, ac am hynny pa bryd bynnag y digwyddo i chwi troi oddiwrth y rheol o un o'r dec gorchymmyn gwybyddwch eich bod wedi trosseddu cyfraith Christ, ai fod ef yn ei weled, a'i fod ef yn ddig o honoch oblegid, ac onid ymofidiwch chwi am­dano, ac onis gwellewch chwi rhac pe­chu [Page 244] racllaw, Christ a'ch cerydda ac a'ch cospa chwi am hynny, naill ai trwy cuddio ei wyneb a thrwy rhagod lle­wyrch ei wynebpryd oddiwrthych, ac yn y modd hynny trwy ddwyn oddiarnoch tros amser heddwch a diddanwch ynddo ef, a'i efe a'ch cospa trwy ryw groes, neu golled oddiallan yn y byd hwn, canys dymma boen gyfraith Christ, hyd oni byddwch chwi neu un credadyn arall os trosseddwch chwi cyfraith Christ cyn ficcred (o bydd rhaid) o gospedigaethau amserol, 1 Pet. 1. 6. ac yw 'r anghredadyn yr hwn a drosseddo 'r gyfraith weithredoedd iw gospi yn dragywydd yn nhân uffern. Gan hynny yn ol fy nghyngor i o'r blaeen attolwg, ac yn ol eich taer fwriad chwithau, byddwch yn bennafyn ofalus i ymarfer eich ffydd, ac i wneuthur deu­nydd o bob moddion iw chynuyddu, 1 Thes. 1. 3 fal y bo hi yn wrymmus i weithio trwy ca­riad, canys yn ol mesur eich ffydd y bydd eich gwir cariad tuag at Christ, a'i ewyl­lys, a'i orchymmynion, ac yn ôl mesur eich cariad chwi tuag attynt hwyy bydd eich cwyllys arnynt a'ch parodrwydd, a'ch deheur wyddiwgwneuthur ac ar hyn y dywaid Christ, Jo. 14. 15. O cerwch fi cedwch fy nghorchymmynion, ac o hyn y daw i'r enaid credadwy yn ol mesur, ei ffydd, [Page 245] ddywedyd, Psal. 40. 8. gyd a'r Psalmydd, Da gennif wneuthur dy ewyllys o fy Nuw, a'th gy­fraith sydd o fewn fy nghalon; Canys hyn yw cariad Duw (ebe 'r discybl ca­redig Joan) bod i ni gadw ei orchym­mynnion, 1 Jo. 5. 3. a'i orchymmynnion ef nid ydynt drymmion. Nagê y cyfan wir yw hyn, ni fydd dim drwmmach i'ch enaid na'ch bod yn faelu eu cadw hwy fal y dymunech, canys hyn o cariad at Dduw wedi ei wreiddio unwaith yn eich calon, a wneiff i chwi ddwedyd gyd a Joseph dduwiol, pan ych tentier chwi fal y temtiwd ef. Pa fodd y gallaf wneuthur y mawr ddrwghwn, a phechu yn erbyn Duw? Pa fodd y wnaf fi hyn­ny a wn i, a anfoddhao y fath Dad ra­susol, a'r fath Jachawdwr trugarog ac yw'r Arglwydd fy Nuw? Och na wnaf nagê nis gwnaf er dim. Yn ail, O dam­wain i chwi un amser, trwy wendid eich ffydd, a nerth ryw tentasiwn llithro, neu ych gyrru i dorri yr un o orchym­mynnion Christ, yna ymogelwch rhac cymmeryd achofion i ammeu cariad Christ tuag attoch, eithr credwch cyn siccred ei fod ef fyth yn eich caru chwi, mor anwyled, ac y carasei ef chwi cyn i chwi trosseddu yn ei erbyn ef. Canys gwirionedd dinag yw hyn, sef megis [Page 246] nad oedd, ac nas dichon bod ynoch un daioni, ac nas gwnaethoch un gweithred daionus i annog, neu i wahadd Christ i'ch caru ar y cyntaf mwy nac yn awr, felly nid un drwg a fo ynoch, neu a wneloch a'i gyrr ef i'ch caru chwi ro­nyn llai, canys gwybyddwch hyn, fel y carodd ef chwychwi yn rhâd ar y cyntaf, felly y meddiginiaetha ef eich ymch­weliad ac a'ch câr chwi fyth yn rhâd, iê ac efe a'ch ceryff hyd y diwedd. Hos. 14. 4. Ac am hynny megis ac y mae yn rhaid i chwi ddiddymmio a bychanu eich hunan, Jo. 13. 1. yn ol eich ufydddod a'ch gwasanaeth per­ffeithiaf, felly y mae yn rhaid i chwi dyrchafu eich hunan a bod oll yn oll yn Ghrist, pan y ffaelo arnoch rhoi ufydd­had llwyr perfeith iddo, ac os felly y gwnewch, efe y cymmhellyff cariad Christ arnoch i alaru â galar Efangy­laidd, dan ymrheswmmu a'ch hunan, fal hyn, Beth a'i felly y mae yn siccr? er i mi bechu fal hyn, a fal hyn, etto ni che­ryff yr Arglwydd fi ronyn llai; Ac a yd­wyf fi cyn bellhed yn ei cariad ef yn awr fyth, a chyn siccred o ddedwyddyd trag­wyddol gyd a Christ ac y bûm gynt, cyn i mi bechu ddiwethaf? Oh pa fath Dad caredig yw hwn! Oh pa fath Jachawdwr grasol yw hwn! Oh pa fath ddyn anned­wydd [Page 247] truan ydwyf fi i bechu yn erbyn y fath Dduw a hwn, a'r fath Christ a hwn! Och ni all ni thoddo hyn eich calon chwi, ac nas paro i'ch llygaid diferu dei­grau o dristwch dduwiol, ie ni all ni chymmello hyn chwi i fyned at eich Tad, ac yn ufydd i cyffessu eich pechodau gyd a'r Mab afradlon, ac ddeisyf gyd a Daniel, arno, trugarhau wrthych er mwyn yr Arglwydd: Luc. 15. 21. ond etto ymoge­lyd rhac tybied eich bod mewn perigl i'ch condemnio hyd oni faddeuir i chwi eich pechodau, Dan. 9. 27. canys dyna boen y cyf­raith weithredoedd, dan pa un nid ydych chwi, yn awr, eithr yn hyfrach dan credu yn siccr fod eich Tad yn ddig wrthych, ac y cewch chwi eich curo, a'ch fflangellu gantho nes yn maddeuo ef i chwi eich pechod, canys dymma boen cyfraith Christ dan pa un ydych chwi yn awr, ie a hyn a'ch cymmhell chwi i fod ffiaidd gennych eich hunan, Ezek. 36. 31 am eich anwireddau, ie rhagor, nid yn unig i chwi ffieiddio eich hunan, eithr i chwi iw gadel hwy hefyd, gan ddywedyd gyd ac Ephraim. Beth sydd i mi mwyach a wnelwyf ag enlynod? Hos. 14. 8. ie ac i chwi eu gwascaru hwynt, Esa. 30. 22. fel cadach mis-glwyf, gan ddywedid wrthynt, Rhuf. 2. 4. dos ymmaith, Ac yn y modd hyn yr arwein daioni [Page 248] Duw (wedi ei ymaflyd trwy ffydd) chwi i edifirwch.

Yn trydydd, yn ol i chwi bechu fal hyn trwy wendid eich ffydd, neu ddiffyg o'i ymarfer, os y chwi ni wneloch fal y dywedais, neu of ffaela arnoch ei wneu­thur mor cwbl, ar y ddylysech ac ar hyn­ny fod eich Tad cariadus deallus doeth yn gweled achos i roi i chwi phioleid dislas chwerw iw yfed, er eich dwyn chwi ar cof o'ch pechodau, fal y gwnaeth ef â brodyr Joseph: ac yn ol geiriau 'r wraig weddw o Sarepta, Gen. 42. 21 ac yn ol yma­drodd yr yspryd glan trwy Esay, 1 Breu. 17. 18. iw glanhau a'u tynnu ymmaith oddiwr­thych, Esa. 27. 9. ac yn ol geiriau'r Apostol i'ch gwneuthur chwi yn gyfrannog o'i san­ctaidddrwydd ef. Heb. 12. 10 Yno ymogelwch a­dolwg rhac tybied fod eich cystyddiau wedi dyfod arnoch fal penyd, a osodwyd arnoch o wir casineb, neu far diale­ddaidd, ac wrth hynny fal taledigaeth neu cyflawnhaad tros eich pechodau ca­nys dyna penyd y cyfammod o weithre­doedd oddiwrth pa un ych gwaredwyd chwi. Eithr credwch yn hytrach (megis y mae 'r gwirionedd) ei dyfod hwy oddi­wrth cariad tadaidd yr Arglwydd fal peth meddiginiol i'ch iachau o'ch holl pechodau, Datc. 3. 19. ac i peri i chwi fod yn fwy [Page 249] eich ufyddod a'ch daro stwngeiddrwydd i gyfraith Christ, dan pa un yr ych chwi yn awr canys moddion odidog trwy fendithion yr Arglwydd yw cystuddiau i buro, a bwrw allan y llygredigaeth pe­chadurus hwnnw y sydd byth yn aros oddifiewn i naturiaeth y ffyddloniaid, ac o herwydd hynny y cyffelybir hwy i feddiginiaethau, canys o'r fath hyn y maent hwy oll, i holl blant Duw, sef fal physigaeth odidog i iachau eu holl do­lurion ysprydol, ac yn wir y mae arnom ni pawb eisiau mawr o hyn o feddiginia­eth, am nad ydym etto (fal y dywaid Luther) yn cwbl gyfiawn, o herwydd bod pechod byth yn aros yn y cnawd, cyhyd ac y bôm ar y ddaiar, ac y mae Duw yn carthu hyn o wedillion pechod, o herwydd pa ham yn ol i Dduw faddeu pechodau, a derbyn pechadur iw fonwes o râs, yna y gesyd ef arno pob math o cystyddiau, ac a'i golch, ac a'i glanhei­thia, ac a'i ymadnewydda trwyddynt hwy o ddydd i ddydd. Ac i'r pwngc hyn gwir ymadrood Tindal ddedwydd, sef Os edrychwn ni ar y cnawd (eb efe) i'r gyfraith, nid oes dyn cyn perffeithied, ac ni cheir yn pechadur, nac un cyn laned, ac nid rhaid iddo iw buro mwy fwy. Yn awr os o'r fath hyn y bydd eich tyb am [Page 250] eich cystuddiau, Levit. 26. 43. chwi a fyddwch fodlon âhwynt ac a ddywedwch gyd ac Ephraim wrth yr Arglwydd. Cospaist fi, ac mia cospwyd, Jer. 31. 18, 19. fel llo heb cynnefino a'r iau, dichwel di fi ac myfi a ddichwelir, ob­legid ti yw yr Arglwydd fy Nuw, yn ddiau wedi i mi ddichwelyd mi a edifarhais, ac wedi i mi wybod mi a darewais sy morddwyd, myfi a gywilyddiwd ac a wradwyddwyd hefyd, am i mi ddwyn­gwarth fy ievengctid. Psal. 94. 12. ie, ac yna y dywe­dwch gyd a Dafydd: Gwyn ei fyd y gwr a geryddi di o Arglwydd, ac a ddyscu yn dy gyfraith: Ac yn modd hyn, fel y clywsoch y gwdeuthum i fy ngoreu i roi atteb cyflawn iwch gofynniad.

Neo.

Ac yn wir, Syr, chwi a'm atte­basoch i yn dda hollawl, yr Arglwydd a'm nertho, i, fyw yn ol eich cyfarwyddi­od chwi, a'ch cyngor.

Nom.

Ac yn hyn o atteb a roesoch chwi Syr, iddo ef, ac iw osynniad, chwi a'm attebasoch inneu hefyd, ac a cy­flawnasoch fy nghalon yn hollawl ob­legid llawer o bwngciau, yn nghylch pa rai y bu llawer o ymrafael yn fynych rhwngof fi, a'm câr anwyl Antinomista, canys myfi a daerwn a'm holl egni, fod y ffyddlonlaid tan y gyfraith fyth heb eu rhyddhau oddiwrthi, a'u bod hwy yn [Page 251] pechu, a bod yr Arglwydd yn gweled eu pechodau, ac yn digio wrthynt oi ple­gid hwy ac yn eu cospi hwy am danynt, ac am hynny ei bod hwy yn rhwymedig iddarostwng eu hunain, ac i alaru am eu pechodau, ac iw cyffessu, ac i ddeisyf faddeuant gan Dduw drostynt, ac etto yn wir yr wyf fi yn addef nas gwydd­wn i beth yr oeddwn yn ei ddywedyd, nac yn ei daeru. Ar unig achos o'm an­wybodaeth i oedd am na wyddwn ni, pa rhagoriaeth oedd rhwng y cyfraith, fal y mae hi yn gyfraith o weithredo­edd, ac fal y mae hi yn gyfraith i Christ.

Ant.

Ac yn wir Syr, yr oeddwn in­neu yn taeru mor ddiofn a chyn siccred ac yntef, fod y ffyddloniaid wedi eu rhyddhau oddiwrth y cyffraith, ac am hynny nad oeddent hwy yn pechu dim ac na welei Duw ddim pechod ynddynt, ac o herwydd hynny, nas digie ef ddim wrthynt, ac nas cospei ef ddim o hwynt, ac am hynny nad oedd dim rhaid iddynt hwy nac i ymostwng, nac i alaru, nac i addef eu pechodau, nac i ceisio maddeu­ant trostynt, ac am fy modi yn credu fy mod i ar y gwirionedd, nid allwn iddeall pa wedd y byddei ei daer-dyb ynteu yn wir hefyd, eithr yn awr y gwelaf yn eglur, ac eich gwahaurhediad rhwng y [Page 252] gyfraith, fal y mae hi yn gyfraith o wei­thredoedd, ac fal y mae hi yn gyfraith i Christ, fod ryw wirionedd ym mhob un o'n dau daerdyb ni, ac am hynny pa bryd bynnac y taeroch chwi fy anwyl Nomista, neu neb arall rhacllaw fod y ffyddloniaid tan y gyfraith, ac yn pe­chu, a bod Duw yn eu gweled, ac yn di­gio wrthynt ac yn eu cospi hwy amda­nynt, ac mae eu dylêd hwy yw ymdda­rostwng eu hunain, a galaru ac ymofidio am eu pechodau, a'u cyffessu, a cheisio maddewant trostynt, os ystyriwch chwi hyn yn unig fal y maent hwy dan cy­fraith Christ myfi a cyttunaf a chwi, ac nis ammheuaf eich ymadrodd chwi mwyach.

Nom.

Ac yn wir fy anwyl Nomista os y chwi neu un dyn arall a daera rhac­llaw, fod y ffyddloniaid wedi eu rhydd­hau odddiwrth y cyfraith, ac nad ydynt hwy yn pechu ac nad yw Duw yn gwe­led, pechod ynddynt, nac yn ddig wr­thynt, nac yn eu cospi hwy nac i alaru, na chyffessu eu pechodan, na cheisio maddeuant trostynt, o byddwch chwi yn ei ystyried fal y maent hwy heb fod tan y cyfammod o weithredoedd, myfi a cyttunaf a chwi ac nis ammheuaf eich ymadroch chwi mwyach.

Evan.
[Page 253]

Y mae yn llawen gan fy ngha­lon i eich clywed chwi eich dau yn ym­ddiddan mor decced a'i gilydd, ac yn wir yr wyf fi yn gobeiehio yn awr y di­chwelwch chwi eich dau oddiwrth ddau cwrr eithaf, ac y cyfwrddwch chwi a'm cymmydog Neophitus yn y canol, gan fod ynoch yn ol geiriau 'r Apostol yr un cariad, a'r un meddwl yr un peth yn cyttûn, Phil. 2. 2. ac yn synnied yr un peth.

Nom.

O'm rhan i Syr, yr wyf n yn awr (i'r Arglwydd y byddo 'r diolch) yn gweled yn eglur i mi camsynnied yn aruthr, ami mi ceisio fy nghyfiawnhau fal pe bai trwy gweithredoedd y gy­fraith, ac etto nis credwn i o hyn er dim hyd yn awr, ac nis credaswn i fyth am­genach, oni fuasei i chwi agoryd hyn o cyfraith teir-ryw mor oleu, a mor eg­lur, ac yn wir Syr, yr wyf fi yn ddirhac­rhith yn dymuno ar i mi allu ymwadu a'm hunan a pha beth bynnag a wneu­thum i erioed, ac i lynu yn unig wrth Christ Jesu trwy ffydd, canys yr wyf fi yn awr yn gweled, mae efe y sydd oll yn oll. Ac oh nas nerthei'r Arglwydd fi i wneuthur felly ac yr wyf fi yn deisyf arnoch chwi Syr i weddio trosof.

Ant.

Ac yn wir Syr nid allaf inneu [Page 254] lai nac addef fy mod i wedi camsynnied o'r ty arall, am fy mod i cyn bellhed oddiwrth ceisio cyfiawnder trwy wei­thredoedd y cyfraith fal nad oedd mwy­ach gennif am n'ar cyfraith n'ai gwei­thredoedd, ond yn awr yr wyf fi, tan i mi, weled fy meiau, trwy cennad Duw yn bwriadu eu gwellhau.

Evan.

Yr Arglwydd goruchaf a can­niattao i chwi yn ol eich dymuniad, ond beth a ddarfu i chwi yn awr fy nghym­mydog Neophitus canys yr ych chwi (tebygwn i) yn disgwil yn athrist.

Neo.

Yn wir Syr yr oeddwn i yn meddwl ar y fann honno o air Duw lle y mae yr Apostol yn ein cynghori i brofi ein hunain a ydym yn y ffydd; o pa le yr wyf fi yn gweled mae peth possibl yw, i ddyn tebyg ei fod yn y ffydd pan ni bo, am hynny efe y fydde lawen gennif cly­wed, Syr, pa fodd y câf fi siccrwydd o'm bod i yn y ffydd.

Evan.

Ni fynnwn i, i chwi er dim, ammeu eich ffydd dan i chwi ei selio ar y fath troedle cadarn ar nis derfydd byth, canys y mae addewid Duw yn Ghrist cyn siccred, ar nis twyllodd un dyn erioed, ac nis twylla byth: gan hynny yr wyf fi yn dymnw arnoch chwi cydio â Christ yn yr addewid, heb nac ymofyn, nac ammeu a [Page 255] ydych yn y ffydd, a'i peidio, canys y mae siccrwydd yn cyfodi oddiwrth ymarfer ffydd ar hyd llinin union, sef pan yr ymaflo dyn yn gymmwys trwy ffydd ar Christ, ac a tynno siccrwydd iw hwnan oddiyno.

Neo.

Mi a wn fod y sail ar pa un y mae i mi adeiladu fy ffydd yn aros yn ddiyscog, ac yr wyf fi yn gobeithio, fy mod i wedi ei adeiladu arno eusys: Ond etto am sy mod i yn tybied, ei fod yn bossibl ar i ddyn feddwl ddarfod iddo iawn adeiladu ei ffydd, ac ynteu heb ei wneuthur: ac am hynny y dymunwn i arnoch chwi ddangos i mi pa wedd y câf fi siccrwydd o iawn adeiladaeth ym ffydd.

Evan.

Da iawn, yr wyf fi yn awr yn deall eich meddwl, efe a wydde, nad oes arnoch mo eisiau sail iwch ffydd, eithr fic­crwydd o honi a'ch bod wedi wir credu.

Neo.

Gwir iawn y ddywedwch, dy­na 'r peth yr wyf fi yn dymuno iw wybod.

Evan.

Y ffordd nessaf oreu i wybod hyn, yw i chwi troi yn eich ôl, a than athlygu ar eich calon, ystyried pa wei­thredoedd a bassiasant trwyddi canys yn wir dymma 'r byd y sydd i'r enaid rhe­swmmol, ei bod hi yn gallu athlygu ar [Page 256] ei hunan, a chymmeryd cyfrif o'i gwei­thredoedd gynt a dyna mwy nac y wyr yr anifail diystyr ei wneuthur. Ysty­riwch ynteu, adolwg, oni ddatcuddiwd rhâd, a chyflawn addewid Duw yn Christ cyn eglured i chwi fal nad allech chwi ammeu nad oedd yr addewid hon­no yn perthynu i chwi o'r naill tu? ac oni welsoch chwi barodrwydd ac ewy­llysgarwch yn Ghrist i'ch derbyn chwi megis ei anwyl iweddi? ac oni chyttu­nasoch chwi o hono ar hynny? ac oni ymrofynnasoch chwi yn hollawl i dder­byn Christ ac i ymroi eich hunan yn llwyr iddo ef? ac oni chlywsoch ar ol hynny yn eich calon cariad tuag at Christ a'i cyfraith, a pharodrwydd ac ewyllys garwch i wasanaethu Duw, fal y gwa­sanaethei plentyn ei Dad yn ddicym­mhell, nid rhac ofn uffern, neu o obaith nef? dywedwch meddaf y gwirionedd wrthif, adolwg, oni chlywsoch chwi bob peth fal hyn ynoch?

Neo.

Do yn wir Syr, mewn rhyw fe­sur fal yr wyf fi yn gobeithio.

Evan.

Ar hyn y dywedaf fi wrthych chwi yn ngeiriau yr Apostol Joan, 1 Jo. 3. 19. yr ych chwi o'r gwirionedd ac a ellwch siccrhau eich calon ger bron Duw O herwydd pa ham, Luk. 7. 47. medd Christ wrth­ych [Page 257] y dywedaf wrthit, maddeuwyd it dy aml bechodau oblegid i ti garu llawer.

Ant.

Je ond Syr oni ddichwel ef ar hun at y cyfammod o weithredoedd od­diwrth y cyfammod o ras, ac oddiwrth Christ at ei hunan.

Evan.

Gwir yw, o disgwyl ef ar y pe­thau hyn ynddo ei hunan dan fwrw fod yr Arglwydd o Herwydd ei weithredo­edd, a pharodrwydd o'i wasanaeth yn ei dderbyn ef ac yn ei cyfiawnhau, ac ar fedr iw cadw fal pe bai ei ddaioni ei hun yn sail o'i ffydd, yna efe a droei oddi­wrth y cyfammod o râs at y cyfammod o weithredoedd, ac oddiwrth Christ at ei hunan, Ond o disgwyl ef ar hyn o be­thau ynddo ei hunan, dan fwrw, o her­wydd fod hyn yn ei galon ef, fod Christ yn aros yna trwy ffydd, a'i fod ef o her­wydd hynny yn cymmeradwy gyd a Duw, ac wedi cysiawnhau ac mewn siccr obaith o iechydwriaeth tragwyddol, tan eu gosod hwy fal hyspyssrwydd o'i ffydd, neu sail o'i crêd, ar ddarfod iddo cre­du, yno nid yw hyn dim ddymchweliad oddiwrth y cyfammod o râs at y cyfam­mod o weithredoedd, nac oddiwrth Ghrist at ei hunan: felly ynteu er na ddichon y pethau hyn sy yn ei calon, a [Page 258] hwy fal pedywedwn, yn blant iffydd, ac yn ffrwythau ô Christ ymddwyn eu mam, etto mewn amser adfyd hwy a al­lant ei chynnorthywio hi.

Nom.

Ond, onid oes pethau eraill, adolwg, Syr, heb law y rhai y cyfrifodd ef iw disgwyll arnynt fal hyspyssrwydd oi ffydd, neu (fal yr ych chwi yn eu galw hwy) megis seiliau o'i gréd, o'i fod ef wedi credu?

Evan.

Oes yn wir, canys y mae heb law hyn o cynneddfaau yn y galon od­dimewn, cynneddfaâu eraill oddiallan yn y bywyd, sef iawn golygiad ar holl gorchymmynnion Christ, canys efe a ddichon dyn ddisgwyl arnynt hwy fal hyspyssrwydd tystiolaethus, ar hyn o ammod o'i fod ef yn siccr, ei bod hwy yn deilliaw oddiwrth y rhai oddimewn.

Nom.

Je ond Syr pa wedd y gwybyd­dir hynny?

Evan.

Y fordd oreu a siccraf i wybod hyn, yw i ddyn ymholi ei hunan, pa vn y wnaeth ef ai credu yn Ghrist yn cyntaf, ac yn ol hynny at cyweiro ei fywyd dan­osod ei ffydd fal achosion yn peri at­cyweiriad ei sywyd, a'i atcyweirio ei fy­wyd yn cyntaf, ac wedi hynny credu, danosod ei atcyweiriad o'i fywyd yn achosion o'i ffydd, O bydd ef siccr mae [Page 259] yn ol y modd cyntaf y gwnaeth ef yno bydded diogel gantho mae oddiwrth ei cynneddfaau oddimewn y deillia eu cynneddfaau oddiallan a'u bod hwy yn vnion, ac yn ddidwyll, ond os amgen yna bydded hyspis iddo, eu bod hwy yn tystiolaethau, ac yn ddangosiadau ang­hwyr twyllodrus.

Nom.

Wrth hyn, Syr, efe a wydde, nad oes gennif fi etto vn hyspyssrwydd union o'm bod i yn credu.

Evan.

Oni fydd gennych hyd hyn o'r fath hyspyssrwydd, ac a coffais i wrthych y mae yn llawn oed i chwi credu fal y caffoch iawn a chywir hyspyssrwydd.

Neo.

Je ond, Syr, rhowch cennad i mi, adolwg i ofyn vn cwestiwn ychwaneg ar hyn o bwngc, sef, beth pe bawn i heb weled vn hyspyssrwyd oddi allan, ac ar hynny yn ammeu fod ynof vn eglur der oddifewn, neu ym mod i erioed yn wir credu, a'i peidio? Beth y sy iw wneuthur yn y fath cyflwr a hwn?

Evan.

Yn ddiau peth tebygol yw, i chwi allu ddyfod ir fath cyflwr hynny, ac am hynny yr ych chwi yn gwneuthur yn dda i ymosyn am cyfarwyddid ym mhryd. Yn awr ynteu o ddamwain i'r Arglwydd ych roi chwi i fynu i'r fath cyflwr, yn cyntaf, gedwch i mi eich rhy­byddio, [Page 260] chwi i ymogelyd, na byddoch yn treisio ar eich hunan, fal pe bai och anfodd i ufyddhau i orchymmynnion Duw, er ail cyrhaeddyd hyspssrwydd ffydd, neu er cael sail i ymosod eich cred arno, o'ch bod chwi wedi wir credu ac yn y modd hynny i bryssuro eich siccr­wydd yn rhy gynnar, canys er nad ych chwi wrth hyn yn troi yn eich gwrthol, (canys peth ammhossibl y fyddei hynny i un gwir credadyn) etto yr ydych chwi yn troi ar ystlys tu'ar cyfammod o wei­thredoedd: fal y gwnaeth Abraham yr hwn yn ol iddo ddisgwyl tro hir am yr hâd promisiedig er ei fod ef wedi ei cyfi­awnhau cyn hynny trwy credu 'r adde­wid) etto er rhoi bodlonrwydd buan iw ffydd, efe a trôdd ar y stlys at Hagar, yr hon oedd (fal y clywsoch) yn arwydd o'r cyfammod o weithredoedd, fal nad hwn (megis ac y gwelwch chwi yw'r ffordd union, i chwi ailcyrrhaedd eich siccrwydd (pan ballo ar bob peth arall) sef i ddisgwyl yn cymmwys ar Christ, hynny yw Ewch yn eich cyfer at y gair, a'r addewid, a pheidiwch tro i ymholi neu ymrheswmmu oblegid gwi­rionedd eich ffydd, a gosodwch eich calon ar waith i credu, fal pe buasech heb credu erioed, gan ddywedyd yn eich [Page 261] calon, Iddo Satan, beth pe ddywedech tinad oedd fy ffydd i erioed yn cywir, etto yn awr mi a ddechreuaf, ac a ym­wrolaf i ym cyrrhaedd gwir ffydd: ac am hynny, Hos. 14. 3. ymma o Arglwydd yr wyf fi yn bwrw fy hunan o'r newydd ar dy drugareddau di, canys ynot ti y caiff yr ymddifaid drugaredd. Yn y modd hyn (meddaf) deliwch wrth y gair, ac na throwch eich cefn eithr ymgedwch yno a chwi a ddygwch ffrwyth trwy ammu­nedd. Luc. 8. 15.

Neo.

Da iawn Syr, chwi a'm bod­lonasoch i yn hollawl yn hyn o bwngc, ond o cymmaint ac yr wyf fi yn ei cofio, efe a ofynnir yn ni­wedd y wers honno ym mha un y cyn­ghorodd yr Apostol i ni profi ein hu­nain, fal hyn, Ai nid ydych yn adnabod eich hunnin sef bod Jesu Christ ynoch, oddieithr i chwi fod yn anghymmerad­wy? Ac am hynny mi a ddymunwn cael clywed pa wedd y gwyppei ddyn fod Christ Jesu ynddo ef.

Evan.

O bydd Christ mewn dyn y mae ef yn byw ynddo ef yn ol geiriau 'r Apostol Nid byw yw fi, eithr Christ sy yn byw ynof.

Neo.

Eithr pa fodd y gwyr dyn fod Christ yn bywynddo ef?

Evan.
[Page 262]

Yn wir, ym mha ddyn bynnag y bo byw Christ, yn ol mesur ei ffydd ef, efe a ddengys Christ ei swydd tair-ryw ynddo ef, sef ei swydd o Brophyd, o Of­feiriad, ac of frenin.

Neo.

Mi a ddymunwn cael clywed ychwneg oblegid hyn o swydd teir­ryw, ac am hynny, mynegwch, Syr, yn gyntaf, adolwg, pa fod y gwyr dyn fod Christ yn cwblhau ei swydd o brophwyd ynddo?

Evan.

Cyn bellhed ac y wyppo dyn fod cyfammod wedi ei wneuthur rhwng Duw a'r dynoliaeth oll yn Adda, ac mae cyfammod cydradd union ydoedd, ac nad alley cyfiawnder Duw amgen nac ymddangos ei hunan ar dorriad o'r cy­fammod, a bod pob dyn ar hynny yn euog o far wolaeth tragwyddol ac o ddamnedigaeth, fal pe condemniasei Duw pob dyn yn ddiarbed, etto ni fuasei hyn onid barn barn wr union cyfiawn, â ceifie cwblhaad o'i cyfiawnder yn fwy na dien dyn, a'i ddistryw: ac ar hyn efe a sysyria ar hyn yn ddirgel yn ei galon, ac ai cyssy llta o'r naillty iw hunan, ac yn y modd hynny a argoeddir ei fod ef yn ddyn truan, colledig, anniddan, digwm­morth; Cyn bellhed (meddaf) ac y wnelo dyn yn ol y modd hyn y mae Christ yn [Page 263] gweithredu ei swydd o brophwyd yn­ddo, gan ddyscu, a datcuddio iddo y cy­fammod o weithredoedd. A chyn bell­hed ac y wyppo dyn, neu a clywo ef fod yr Arglwydd Dduw wedi wneuthur cy­fammod ac Abraham, a'i holl eppil cre­dadwy yn Ghrist Jesu, dan ei cynnig ef yn rhâd i pawb a clywent swn yr Efen­gyl ie a than ei roi ef yn rhad i pawb oll a'i derbynient ef trwy ffydd er eu cyfi­awnhau hwy, a'u cadw yn dragywydd, a chyn bellhed, ac y byddo ei galon ef yn agoryd i dderbyn o wirionedd, nid fal rhyw wrthdrych yscafn, neu ryw bwngc ddifynyddiaeth a'i gwnelei ef yn rh wy­ddach ei dafod i ymddadleu, eithr fal pwnge mawr-bris greddfol, â ddylid ei cyhoeddi yn weithredol dan ei dderbyn iw calon trwy ffydd yr Efengyl, Phil. 1. 27. a than ei cyssylltu atto ei hunan o'r naillty a than bwrw ei hynt, a'i cyflwr tragwy­ddol arno ac wrth hyn yn gosod ei sêl fod Duw yn eirwir. Cyn bellhed meddaf ac y wnelo dyn y pethau hyn, y mae Christ yn cwblhau ei swydd Prophwy­daidd, ynddo ef, gan ei ddyscu a chan ddatcuddio iddo y cyfammod o ras. A chyn bellhed ac y wyppo neu y clywo ddyn mae hyn yw ewyllys Duw sef ei sancteiddiad &c. 1 Thess. 1. 3 ac a fwrio ar hynny [Page 264] mai ei ddyled ef yw ei ddyfal ceisio; cyn bellhed ac y wnelo ddyn yn y modd hyn y mae Christ yn ymddangos ei hunan yn brophwyd ynddo ef gan ei ddyscu a than ddatcuddio ei cyfraith iddo. Ac y mae hyn (fal yr wyf fi yn gobeithio) yn atteb digonol iwch gofynniad cyn­af.

Neo.

Dangoswch Syr, yn nessaf adol­wg, pa wedd y gwyr dyn fod Christ yn cwblhan swydd offeiriad ynddo?

Evan.

Cyn bellhed ac y wyppo, neu a clywo ddyn roddi o Christ ei human, Heb. 9. 26. yn aberth perffaith digonol tros pecho dau 'r ffyddloniaid, ac iddo ef eu cyssylltu hwy, a'i hunan trwy ffydd, a'i hunan gyd a hwynt hwy trwy ei lân yspryd, a'u gwneuthur hwy yn un ac ef, a'i fyned ef i'r nef ei hun, Heb. 9. 29. i ymddangos yn awr ger bron Duw trostynt hwy: a chyn bellhed ac yr ymhyfhao ef, i fyned yn ei swrth at yr Arglwydd mewn gweddi, fal at tad, tan cyfwrdd ac ef yn Ghrist, a than ei cynnyrchu ei hunan gyd a Christ, fal gyd ac aberth ddifrycheulyd dinam. Cyn bellhed meddaf, ac y wnelo dyn yn y modd hyn, y mae Christ yn cyflawni swydd offeiriad ynddo.

Neo.

Je, ond Syr, a fynnech chwi i ddyn fyned yn swrth yn ddigyfrwng at [Page 265] yr Arglwydd, os felly, pa weddy dywedir, fod Christ yn eirioli trossom ar ddeheu­law Duw yn ol geiriau 'r Apostol. Rhuf. 8. 34.

Evan.

Gwir yw y mae Christ fal per­son cyffredin, a safei tros y ffyddloniaid oll, yn ymddangos ei hunger bron Duw ei Dad, ac yn ewyllyfu yn ol ei ddau naturiaeth ac yn deisyf fal y mae ef yn ddyn ar i Dduw er mwyn y iawn y wnaeth ef, canniattau iddint hwy pa bethau bynnag yr ofynnant yn ol ei e­wyllys ef. Ond etto er hyn igyd y mae yn rhaid i chwi fyned yn eich cyfer at Dduw yn eich gweddiau, ac nid oes i chwi ddiogelu eich gweddiau ar Christ, na'u terfynu hwy yno, fal pe bai efiw derbyn a'u cynnyrchu hwy ger bron ei Dad, canys yr unig lle i chwi cynnyrchu eich gweddiau yw Duw ei hunan yn Ghrist. Ac nid oes i chwi ychwaith fed­dwl am Christ y Mab fal pe bai ef yn well ei ewyllys na Duw'r Tad i canniattau eich erchion i chwi: canys pa beth byn­nag yr ewyllysia 'r Mab a ewyllysia 'r Tad hefyd yn Ghrist, (gan ei fod ef yn fodlon ac of) yna, meddaf, sef ger bron Duw'r Tad, ac nid-mewn un lle arall, y mae i chwi ddisgwyl am cael canniat­taad o'ch erfynian, ac fal y mae i chwi [Page 266] ddisgwyl yn ol eu cael hwy yn Ghrist yn unig, ac nid yn un mann arall, felly y maent hwy iw cael yn unig er mwyn Christ, ac nid er mwyn dim amgen. Ac am hynny cofiwch hyn, ladolwg, a gwi­liwch, na byddoch yn anghofio Christ yn eich gweddiau ar y Tad, a'i tros eich huuan, a'i tros eraill y bônt: yn enwe­dig gwiliwch pan y byddoch yn gwed­dio am faddeuant och pechodau, na byd­doch yn meddwly gwrandewyff Duw yn gynt arnoch, neu y canniatteiff ef i chwi un arch, o her wydd ych bod yn ympry­dio, neu yn wylo, neu mewn un modd yn darostwng eich hunan, pan y byddoch yn gweddio, Gwiliwch rhac y fath fed­dyliau, a rhain, canys eich dyled chwi yw cyfwrdd â Duw yn Ghrist, dan ei cynn yrchu ef, a'i oddefiadau, ar hyn y dylech chwi yn unig ac yn hollawl fwrw eich llygaid a'ch meddwl, a'ch llwyr ymmddiried ac ar hyn y dylech chwi hyderu mor ddiogel ac y bai bossibl ie chwi a ddylech, ac a ellwch ymrhe­swmmu fal pe bai â Duw 'r Tad, gan ddadleu o hono i'r ystyr hyn, wele Argl­wydd, dymma 'r dyn y sy yn dymuno, ac yn ewyllysu y peth y ceisiwf, sef hwn ym mha un y dywedaist, dy fod ti yn fod­lon: ie dymma efe yr hwn a dalodd y [Page 267] dyled igyd, ac a ddileuodd y scrifen o'm mechodau i, ac am hynny y mae yn sefyll yn awr ar dy cifiawnder di fy ma­ddeu i, Ac o gnwewch chwi yn y modd hyn, bydded siccr gennych fod Christ yn cyflawni ei swydd offeiriadaidd ynoch.

Neo.

Bellach dangoswch, Syr, a­dolwg, pa fodd y gwyr dyn fod Christ yn gweithredu ei swydd brenhinol ynddo?

E.

Cyn bellhed ac y wyppo neu a clywo ddyn, Mat. 28. 18. fod pob awdurdod wedi ei roddi Christ yn y nef, ac ar y ddaiar, sef i or­trechu ac i ormeilio yr holl chwantau a'r llygrau sy yn aros yn y ffyddloniaid, ac i scrifennu ei gyfraith ef yn eu ca­onnau hwy, a chyn bellhed ac y cym mero ef achosion ar hyn i fyned at Ghrist am nerth i wneuthur felly, y mae Christ yn gweithredu ei swydd frenhinol ynddo.

Neo.

Wrth hyn Syr efe a wyddei, mai calonnau 'r ffyddloniaid yw 'r fann, ym mha un y mae Christ yn gweithredu ei swydd frenhinol.

Evan.

Gwir iawn, canys nid tyrnas amserol bydol yw tyrnas Christ, i lly­wiodraethu ar cyrph a bywyd naturiol, a bydol negesau dynion, eithr un yspry­dol nefol yw ei dyrnas ef yn llywio­draethu [Page 268] draethu ar eneidiau dynion, er gweithio ofn ac ufydddod yn eu calonnau hwy er caethiwio eu gwyniau, er darostwng eu meddyliau, ac er gorchfygu a thynnu hyd y llawr caerau cedyrn: canys ar bechod ein hên Dad Adda, efe a mimeu ynddo ef, a ymwrthodasom a Duw, ac a ddewisasom y cythrael yn Arglwydd, ac yn frenin, hyd onid ym pawb oll o pob gradd, fal ei gilydd, tan lywiodra­eth, y cythrael wrth naturiaeth, ac ef y sy yn teyrnassu arnom, hyd oni ddelo Christ iu' calonnau iw yrru ef allan, yn ol geiriau Christ ei hun: sef, Pan fyddo un cryf yn cadw r neuadd, Luc. 21. 21. y mae 'r hyn sydd gantho mewn heddwch. Hynny yw medd Calvin, y mae Satan yn dal y rhai sy tan ei lywiodraeth mewn sint rhwy­man diofal, a'r fath dalfallonydd dibry­der, fal nad oes dim rhwystr yn erbyn ei rheolaeth ef. Ond cyn cynted ac y delo Christ i calon un dyn trwy ffydd, yn ol mesur ei ffydd ef y mae Christ yn bwrw y cythrael allan, ac yn aros ei hyn yn y galon, ac yn diwreddio, ac yn tynnu i lawr pa beth bynnag a wrth wynebo ei lywiodraeth ef yno, ac fal pendefig gwych efe a ceidw ei afael, ac a cynnorthywia yr enaid i crynoi ei holl nerth ai gwrym yn nghyd, fal y byddo hi aplach i wrth­sefyll [Page 269] ei holl gelynion hi, a chaseion Christ, ac i ymosod ei hunan o ddifrif yn ei herbyn hwy o damwain iddynt hwy un amser ceisio ddichwelyd iwhen le. Ac yn enwedig efe a nertha 'r enaid i wrthsefyll, ac i ymosod ei hunan yn erbyn y gelyn pennaf, sef y pechod an­wylyd hwnnw, a sy yn gwrthwynebu Christ fwyaf yn ei lywiodraeth, ac ai cynnorthywia ynwastadol i feddwl ar y llygredigaeth, a'r drwgchwant y sy yn teyrnassu fwyaf yn ei chalon, ac a'i dwg hi ar côf i ymddial a hwnnw, ac i achwyn ger ei fron ef yn erbyn hwn­nw, ac i alw arno am cael fwy o nerth a gallu iw gortrechu, a pham hynny, nid amgen, nac am fod y drwgchwant, neu 'r pen-pechod hwnnw, fal y bradw'r neu 'r traistwr penna, yn gwrth sefyll Christ, a'i lywiodraeth fwyaf, ac am hynny efe a wneiff ei oreu ym mhob ffordd iw heb­rwng ger bron gorseddfa Christ, ac yno efe a eilw am farn yn ei erbyn, gan ddy­wedyd, dymma 'r bradwr a'r traytwr hwnnw o Arglwydd Jesu Christ y sy yn gwrth sefyll dy lywodraeth di ynof fi, gan hynny tyred, attolwg a chy­flawna dy swydd frenhinol ynof, a gortrecha ie llwyr gormeilia di ef, a gyrr hyn o elyn ar ffo. Ac yn ol hyn, [Page 270] efe a rydd Christ yr un atteb, ac y roddes ef cynt i'r Canwriad. Dos ymmaith, a megis y credaist bydded i ti.

Ac fal y mae Christ yn y modd hyn yn bwrw ymmaith pob llywiodraethwr allan o galon y credadyn, fal y teyrnasso efe yn unig, yno, felly dileua ef, ac a ddiddymma pob cyfraith arall, Jer. 31. 33. ac a scri­fenna ei cyfraith ei hun yn eu lle hwy, yn­ol ei addewid, Jer. 31. 33. ac a peryff iddo fod yn barôdol, ac yn ewyllysgar i wneuthur ac i oddef ei ewyllys ef, a hynny o herwydd mai ei ewyllys ef yw, hyd onid yw meddwl ac ewyllys Christ, wedi ei osod yn eglur yn eiair, ac wedi ei amlygu yn ei weithredoedd, nid yn unig yn rheol o ufydddod i'r credadyn, eithr yn rheswm o honi: fal nad yw ef yn unig yn gwneuthur ewyllys Christ eithr ef a'i gwneiff o herwydd ei fod yn ewyllys Christ.

Ac O, gwyn fyd y dyn hwnnw, yn nghalon pa un y mae cyfraith Christ yn cymmhesurol yn scrifennedig, canys efe a ddarllen, ac a wrendyff, ac a weddia, ac a dderbyn y Sacrament, ac a wneiff pob dylêd a phob gorchymmyn o'r llech cyn­taf o'r cyfraith, a hynny, o herwydd ei fod ef yn gwybod mai meddwl ac ewy­lys Christ yw hyn, ie ni wneiff ef yn ol [Page 271] gorchymmynnion y llech cyntaf yn u­nig, eithr yn ol y ail lech hefyd, o her­wydd fod Christ yn ei orchymmyn. Ac O, gwynfyd y gwr, neu'r Tad, neu 'r Meistr neu 'r swyddog hwnnw, yn ngha­lon paun y mae cyfraith Christ yn scri­fennedig, canys efe a cwblhâ ei ddyled iw wraig, neu blentyn, neu was, neu ddeiliaid, a hynny o herwydd mae Christ a'i gorchymmynaod, ac yn yr un modd, gwynsyd y wraig honno, neu'r plentyn, neu'r gwasanaethddyn, neu 'r deiliad hwnnw, yn nghalon pa un y scrifennir cyfraith Christ a wnelo yn ol ei rhwymedig dyled iw gwr, neu Tad, neu feistr, neu hywiodraethwr o herwydd fod Christ yn ei orchym­myn.

Ac ar un gair, o clywch chwi y pethau hyn yn eich calon, chwi a ellwch siccr swrw yn cyfattebol i hynny, fod Christ yn gweithredu ei swydd sienhinol ynoch.

Neo.

Da iawn Syr, yn awr y gwelaf yn amlwg, nad yw rh yfedd fod fy ngha­lon mor ddiorphwys hyd yn hyn, am fy mod i yn arferol yn ceisio orphwysdra lle nid oedd iw cael.

Evan.

Y mae fy amryw achosionau bellach yn galw arnaf i ymadel a chwi, [Page 272] ond etto dan i chwi coffa gorphwysdra 'r galon, fal cynghlo in holl ymddidda­niad, trwy cennad yr Arglwydd a'i cym­morch, myfi a adroddaf i chwi air neu ddau oblegid gorpwysdra 'r enaid, o gwelwch chwi fod yn dda i wrando ar­naf.

Neo.

Gwnaf fi yn llawen, a diolch, Syr, i chwi, ond mynegwch yn cyntaf adolwg pa ham y gelwch chwi orph­wysdra 'r galon, yn orphwysdra 'r enaid.

Evan.

O herwydd mae peth arferol yw gosod neu coffa yr un dros y llall, canys cadair o fawrhydi 'r enaid yw 'r galon, lle y mae yn lletteua. Ond er ago­ryd hyn o pwnge hyn yn oleuach, ysty­riwch hyn adolwg, sef pan roddodd Duw i'r dyn corph elfyddol, efe a tywall­todd iddo hefyd enaid anfarwol, o syl­wedd yspridol, ac er rhoi o honoef han­fod lleawl i'r enaid yn y corph, etto efe a roddodd iddi ei hynt ysprydol ynddi ei hunan hyd onid oedd yr enaid yn y corph o rhan ymosodiad yn lleawl, ac yn orphwysol yn yr Arglwydd trwy cy­fundeb a chyfrannogiad, ac yn hyn o hanfodwch yr enaid yn yr Arglwydd ar y cyntaf, y safei gwir ddedwyddid a go­reu hynt y dyn, eithr ar cwymp y dyn [Page 273] oddiwrth Dduw, Duw yn ei cyfiawnder a'i gadawodd ef iw hunan, ac er hynny etto y dirymmwyd yr undeb, a'r cyfran­nogiad hwnnw, a oedd i enaid dyn gyd a Duw, ar y cyntaf: canys Duw, ac enaid dyn a wahanwyd y, naill oddiwrth y llall, ac er y pryd hynny y mae 'r enaid mewn cyflwr annorphwys aflo­nydd, Ond etto o herwydd i'r Arglwydd ddiogelu ryw arwydd o hono ei hunan o ty fewn i enaid dyn, y mae'r enaid yn cyffro tnag i fynu, ac yn chwennych ail­cyrrhaedd y Summum bonum, y pen daio­ni, sef Duw ei hunan, ac ni cheiff hi mo gorph wys yn un fann, hyd oni ddelo hi atto ef.

Nom.

Eithr arafwch ronyn, Syr, adol­wg, pa wedd y dywedir fod enaid dyn yn ymcyrrhaeddid tuar nef, tuag ac Dduw yr Creawdwr mawr, gan ei fod yn eglur fod enaid pob dyn wrth naturia­eth yn ymddllin a'r Creadur, yno i cei­sio gorphwysdra.

Evan.

Yn lle atteb i'ch gofynniad, ystyriwch adolwg, fod deall dyn wrth naturiaeth yn ddall, ac yn dywyll, ac am hynny yn anwybodus o ddymuniad ei galon ei hun, ac o'r peth y ceisie ef fwyaf. Y mae, gwir yw, yn gwybod, fod rhyw ddiffyg ar yr enaid, ond ues yn goleuir, [Page 274] nis gwyr yn iawn pa beth y sydd yn ddi­ffyg arni, canys, yn wir, y mae'r matter yn sesyll gyd a'r enaid, megis y mae gyd a'r plentyn newydd eni, yr hwn trwy ddirgel cynnwrf naturiaeth a lef, ac a egyr ei safm am lnniaeth, ie a nid am un math o lnniaeth amgen, nac â cyttuno a'i gorph nawsaidd dyner, can ys os y fammaeth trwy anw ynodaeth, neu esceu­lusdra a âd y pletyn yn ddi-fwyd, neu a cynnig iddo ryw fwyd diflas, neu mewn ffordd annerbyniol, y plentyn ai gwr­thyd, ac a lef fwy fwy, ac a ymofyn yn ddibaid am y fron: ac etto nid yw 'r plentyn hyn yn y cyflwr hwn yn gwy­bod wrth un math o hyspyssrwydd syn­niol, neu deall eglur, am beth y mae yn ymofyn, yn yr un cyffelib y mae'r enaid yn llefain ar Dduw falpebai am luniaeth iachus gweddus eithr ni wyr ei ddeall, mwy na mammaeth ddeall anghyfar­wydd pa beth y mae'r plentyn yn ei ceī ­sio, ac am hynny a cynnig ryw creadur i'r galon yn lle'r creawdwr. Yn y modd llyn y cedwir yr enaid, trwy ddallineb y deall, a llygredigaeth yr ewyllys, ac anr­hefn ymodau o drais, rhac cyfwrdd a'i amcan, neu cymmherfedd priodol, sef Duw ei hun. Och gwae, pa sawl mil o eneidiau yn y byd a rhwystrir, ie a lwyr [Page 275] rhagodir rhac cael gorphwysder yn yr Arglwydd, o herwydd fod ei ddeall dy­wyll yn gosod amryw wrthdrychiau aflan, ger bron eu blys anianol.

Onid ydys yn rhwystro eneidiau llawer dyn anllad, ie oni llwyr rhagodir hwy rhac cael gwir orphwysdra yn yr Arglwydd o achos y prydferthwch y canniattaodd naturieth i wynebau ryw feneywod, yn enwedig pan y byddo 'r cythrael yn cyffroi yn nghalonnau y fenywod rheini ryw awydd at ym­prwssiadan dieithr ac ymddygiad anllad, ie a pheintiad weithiau o'u wynebau, fal yr hênbuttain Jesabel gynt?

Ac oni rhwystrir eneidiau llaweroedd o ddynion glwthion, ie oni lwyr rhago­dir hwy rhac cael gorphwysdra yn yr Arglwydd, o herwydd eu bodhwy yn disgwyl ar lliw'r ddiod, ac yn blassu melysder y bwyd moethus. Och mor hoff ganthynt weled yn gwin y goch, ar cwrwf yn loyw, a'rbîr yn neidio yn yphi­ol. Yr ydym yn darllein yn yr Efengyl am ryw ddyn a cymmerei byd da yn helaeth­wych beunydd, Luc. 16. 19. eithr nid yn y rhyf lluo­sog, y dywedir fal am lawer, ond fal am un yn unig, fal pe na buasei onid un yn unig cynddrwg ei fuchedd a hwnnw, eithr yn ein oes ni y mae llawer cant o [Page 276] wyr, ac o wragedd a fwyttânt, nid yn unig yn helaethwych eithr yn foethus, ie a nid unwaith eithr dwy-waith neu os­cattfydd yn fynychach beunydd?

Ac oni rhwystrir, ieoni lwyr rhago­dir enaid llawer gwr uchelfalch rhac cael gorphywys yn yr Arglwydd gan mawr glôd a gweniaeth y bobl, yr hwn fal yr chedfaen a lithia 'r galon gwâ gorfoleddus fwy fwy i ymherlyd, ac yn awyddysach i ceifio achwanegu ad­lais ei ofer clôd, a'i wâg-orfoledd?

Ac oni rhwystrir, iê oni lwyr rhago­dir llawer gwr crintalch chwannog rhac cael gorphywys yn yr Arglwydd gan trwst ei lawr llawnaeth, achwantigania­eth ei olud, ar hudolidaeth ei elwent?

Ac oni rhwystrir ie oni lwyr rhagodir llawer gwr cerdd-gar, rhac cael gwir di­ddan wch yn yr Arglwydd, gan wrando ar puroriaeth cydsoniarus ar ryw cerdd offeryn? A pa swl dyn ansad ofer yny byd y sy, yn cael ei rhagod rhac pêr-arogliad enaid yn Ghrist, gan wynto (malpai) iw dillad sawyrus, neu ryw flodau peraidd?

Ac yn y modd hyn y mae'r cythrael, fal pyscodwr cyflym, yn abwydo ei fach ârhyw wrthdrych rhy fygus, er mwyn dal dynion, ac yn ol iddynt llyngcu'r abwyd efe a'n cylch-arwain hwy yn ddibryder, [Page 277] hyd oni soddont yn ddiarwybod; ac a lwyr anghofiant eu tangneddyf, a'u gor­phy wys yn yr Arglwydd. Ac o hyn y mae yn dyfod, fod llaweroedd yn afradu y rhan fwyaf, ie rhai y cwbl o'u dyddiau, yn ymofynniad am bodlonrwydd, iw blys anianol.

Neo.

Yn ddiau Syr, yr ydym beunydd yn gweled siccrhau eich ymadrodd, o herwydd fod llawer yn treulio eu dy­ddiau mewn oferedd, heb hepgor cym­maint o amser, na chymmeryd cymmaint o arfod, ac i wasanaethu Duw o'u bodd ar ei ddydd ei hunan.

Evan.

Gwir y ddywedwch, eithr myfi a achwanegaf hyn hefyd, mae peth pos­sibl yw, gyrru dyntrwy nerth ei cywy­bod naturiol i addef, mai yn yr Argl­wydd, ac nid yn y pethau hyn, y mae iddo osod ei obaith o dded wyddyd, ie ac i ymwrthod â phob elwant a phob math o ddifyrrwch, a phob olygyn anei­feilaidd, fal pethau anabl i roi gwir bod­lonrwydd iw enaid, iê ac i ymdacclu yn nghylch pob gwasanaeth crefyddol, ac etto heb fyned ronyn yn y blaen, nac ym­nessâu at yr Arglwydd am orphwysdra. A pe disgwyliem naill ai ar y lliaws o ddynion aflan cnawdol, a'i ar y rhai sy crefyddol mewn rhith a dangosiad, efe a [Page 278] fyddei hawdd i ni eanfod fod iê eu gwa­sanaeth crefyddol goreu hwy yn eu twyllo yn aruthr, ac yn eu sommi yn rhyfeddol o ddedwyddyd eu calonnau yn yr Arglwydd Dduw.

Oblegid y rhyw cyntaf er ei bod hwy o nifer yrhai a wnant Dduwiau o'u boliau, ac a aberthant yn unig, ac yn ddiorph­wys i Bacus, Apollo, neu Venus, ac yn di­lyn medddwod, glathineb, putteindra, a'u synwyr cnawdol, ac er bod eu cyd­wybodau yn eu cyhuddo, mae drwg yw eu harferon a'u buchedd, etto am eu bod yn cael eu cymmeryd yn lle Christnogi­on, am eu bedyddio yn y beddydd-faen, ac am ei bod hwy yn mynych adrodd Gweddi'r Arglwydd, a'r Credo 'r Apo­stolion, a'r deg gorchymmyn, ac am ei bod hwy yn hwyr amser oscattfydd yn ymarfer o gyrchu i'r Eglwys, a gwrando gwsanaeth, a phregeth hesyd ymbell pryd, ac am iddynt dderbyn y Sacrament weithiau, ni chredant hwy nad yw 'r Arglwydd (Duw yn y blaen) yn fodlon iddynt, ac y mae cyn possibled beri iddynt coelio, nad ydynt yn ddynion, yn wyr ac yn wragedd, a'u bod hwy yn ddrwg eu cyflwr o rhan eu eneidiau.

Ac am yr ail ryw, i pa rai y mae syny­chaf fwy o ddoethineb dynol, a deall by­dol, [Page 279] a dysceidiaeth naturiol, nac y sy i 'r rhai cyntaf, hwy a ddangofant yn fwy eu sancteiddrwydd a'u crefydd n'ar rhai a­nianol anwybodus eraill, etto pa sawl un o rhain sy yn myned ym mhellach n'ar gweithred, neu'r gwasanaeth corphorol oddiallan? odid o un yn wir, am eu bod yn eu porthi, ag yn eu gwledda eu hu­nain, megis â phreuddwyd gwâg dan de­byg ei bod hwy yn cyfoethogion, ac yn meddiannu ar pob beth, er nad oes yn eu helw hwy amgen na lloneid eu ymmhen­nyddau o gwynt, a gwag ddichymmi­gion.

Ac onid oes rai a roddant eu bryd ar manylach chwyliad o'r Scrythurau am wybodaeth ar addysc, a medraeth yscol­heigaidd yn y celfyddid hyn, ar iaith hyn neu arall, hyd oni bont yn medru hawdd-draethu holl ystoriâau 'r bibl, ie a'r holl dextiau, neu fannau o'r Scrythur lân, ac a cadarnhaent (yn eu tyb hwy) eu opinionau nailltuol oblegid defodau, a llywodraeth Eglwys neu ryw bwngciau amgylchaidd o crefydd, yn nghylch pa rai y maent hwy yn dafod-rydd, ac yn tra-pharod i ymrhesymmu, ac i ym­ddadl ac i osod allan ryw holiadau di­eithr anattebol.

Ac onid oes rhai o honynt yn Rhwy­gwyr, [Page 280] ac yn ddichymmygwyr o opinio­nau newydd mewn crefydd, yn enwedig oblegid gwasanaeth Duw, ym mha un yr amcanant hwy ar ei dechreu, heb medru byth o'i gorphen: canys y mae hyn o wy­bodaeth crefyddol wedi myned mor an­wadal trwy amrywiaeth dynion o syn­nwyr cyfrwys, ac o ysprydiau ymry­songar, hyd onid yw einioes dyn yn rhy fyrr i cymmeryd disgwylfa hollawl ar hyn o amry wiaeth. Canys er bod rhai o bob tyb, neu opinion yn dy wedyd ei bod hwy yn fodlon ir gair o wirionedd eu cyfarwyddo, ac er bod pawb yn son am y scrythyrau fal sail o'u dybiau, lle nad yw'r Scrythur lân onid un, megis ac y mae Duw ei hunan yn un, etto o herwydd eu hamryw deougliadau o'r scrythyrau, a'u uchel feddyliau am eu doethineb dynol eu hunain, y maent o lawer ryw.

Ac onid oes eraill o honynt yn baro­dol i cofleidio pob arfer, neu trefn ne­wyddo wasanaeth, yn enwedig o bydd honno wedi ei orchuddio â dysceidiaeth Scrythuraidd ac o bydd arni ryw rhith o wirionedd wedi ei seilio ar y llythy­ren o'r Bibl, ac o bydd honno mewn golwg yn dduwiolach, ac yn crefyddu­sach n'ar trefn cyntaf, yn enwedig, os medr y dich ymmygwr, neu dyscawdwry [Page 281] trefn newydd honno, anffurfio ei wy­neb, dan fod yn athrist, a than cyfodi ei lygaid, a'i ben tu'ar nef, a chan och­neidio yn aruthr ar ei cyhoeddiad o'i wers neu ddyscieidiaeth newyddd, a than mynych coffa gogoniant Duw, Oh ar hyn y mae 'r bobl rheini ar hyn yn or­wyllt i ymadel a'u hên ffordd, ac i gro­esawi cyfarwyddid newydd, fal pe bua­sei Duw (yn eu tyb hwy) wedi datcu­ddio iddynt ryw ddirgelwch anwybo­dus, canys hyn sydd wir, nad ydynt gan tywyllwch eu deall yn abl i cyrrha­eddyd un gwirionedd uwchnaturiaeth er cymmaint yr ymdrafodont a'u dys­ceidiaeth llythyrennol, a'u medraeth ysgolheigaidd ar y Scrythurau, ac am hynny y maent hwy yn barodol i dder­byn ac i groesawi y tresn cyntaf o wasa­naeth ac a cynnygir iddynt.

Ac onid oes ryw arall o ddynion yn cyffelib ir rhai hyn, yn rhy newidiol yn eu gwasanaeth, a'u hymarferau o dduwi­oldeb. Yn ddiau yr oedd S. Paul yn rhac­wybod mae gwir Dduw rhai o'i amser ef oedd hyn, ac am hynny y gorchym­mynnodd efe i Timothy addyscu eraill. Nad oedd ymarfer corphorol, onid y­chydig ei fuddioldeb; neu fal y cyflei­thir y geiriau gan eraill, 1 Tim. 4. 8. yn llwyr an­fuddiol: [Page 282] ac yno a wrthosododd ef gwir duwioldeb yn ei tyfer, sal peth dieithr, neu amgen, n'ar ymarfer corphorol, ac a ddywedodd oblegid gwir duwioldeb, ei bod yn fuddiol i bob peth.

Ac onid oes (tebygwch chwi) rhai yn yr oes hon, ni wyddont ronyn oblegid na chrefydd, na daioni amgen nac ym­arfer corphorol, ac ni fedrant braidd wahanrhedu rhwng duwioldeb a'i ym­arfer oddiallan. Yn awr ystyriwch, fod ymarferau corphorol yn newidiol yn ol amryw opinionau a meddyliau dynion, am fod i pob perchen tyb, ei nailltuol wasanaeth, ond etto nid ydynt onid gwasanaethau corphorol, ie ac yn unig yn corphorol canmwyaf, ym mha rhai y maent hwy yn gobeithio cael gorph­wysdra iw eneidiau, am nas gallant ei cael yn yr Arglwydd, ac ar hyn y mae, sod eu tangneddyf hwy, a'u gorphywys yn anwadal, ac ar ymofyn, yn ol maint neu cyffwr eu gwasanaeth, a'i llawer, a'i ychydig, a'e gwell, aigwaeth y bo, ym mhaun, y gorchymmynnir darllein cyn­nifer o pennodiau a gwrando cynnifer o pregethau, ac adrodd cynnifer o weddi­au beunydd, ac ar cynnifer o ddiwrno­diau yn yr wythnos neu yn y flwyddyn i ymprydio, fal pe bai ammhossibl iw [Page 283] eneidiau cael gorphywys yn amgen, nac wrth y sath hyn o walanaeth o sodedig. Ond na chamsyniwch fy meddwl i yn hyn, adolwg fal pe bawn i yn barnu ar gwneuthurdeb o'r un o'r peth au hyn, am fy mod i fy hun yn eu harfer, eithr fy amcan i yw argyoeddi eu ymarfer noeth, neu gorphwysdra eneidiau ar y gwei­thrediad corphorol, am na allaf cyt­tuno a hwy yn hyn.

Ac wrth hyn y gwelwch chwi pa fodd y mae deall dyn fal peth dall anghyfar­wydd, yn gosod nid yn unig pethau anianol ger bron yr awydd anianol, eithr pethau rheswmmol hefyd ger bron yr awydd rhesymmol, hyd oni chedwir yr enaid truan yn ddi-orph wywys yn yr Arglwydd, nid yn unig trwy aniaeth, neu budredd ei bywyd, eithr trwy ffur­fiolaeth ei gwasanaeth i'r Arglwydd, ca­nys yn hyn y gwelir cyfi wysder y cy­thrael, os ffaela arno ef ein cadw rhac ceisio gorphywys yn yr Arglwydd trwy borthi ein llygaid, ac afal ein hên fam efa, yna efe a'n cyfarwydda ni iw ceisio mewn ffordd lle nis cyfwrddir ac ef byth; os ffaela arno ein llithio trwy un tentasiwn yn yr amlwg, efe a amcana ein maglu trwy arall yn ddirgel.

Nom.

Ond, Syr, yr wyf fi yn coelio fod [Page 284] llawer gwr o'r rhai sy yn ymroi eu hu­nain yn crefyddol ac yn gweneuthur y pethau rheini a henwasoch, yn cael gorphywys iw eneidiau yn yr Argl­wydd.

Evan.

Yr wyf finneu yn wir yn credu, fod rhai yn ofalus iawn i ddangos eu gwasanaeth i perffeithio eu dylêd ym mhob peth, o rhan ufydddod i ewyllys Duw yn Ghrist Jesu, dan debygeu bod hwy ar y iawn ffordd ym mha un yr ar­ferei 'r Arglwydd o cyfwrdd o'i bobl, a chyhoeddi eu hunan iddynt, ie a than debyg hefyd mae y rhain yw 'r moddion trwy pa rai yr arferei Duw gweithio a chynnyddu ffydd, trwy pa un y caent eu nerthu i ymnessau at Dduw yn Ghrist Jesu, ac a cyrhaeddant at tangneddyf a gorphywys ynddo ef, ac am hynny o digwydd iddynt un amser esceulysu eu gwasanaethau dyledus, a Duw (tebygent) yn eu galw hwy i ymdacclu attynt, hwy a cythrwblir yn eu meddyliau, ac a Iidiant a'u hunain, am ei bod mor aned­wydd, â mor anufydd i ewillys Duw, ac am ffaelu o honynt o cyfwrdd a'u Duw, ac am iddynt esceulysu 'r moddion o cynnyddiad eu ffydd, yn awr meddaf y fath gwyr a rhain, a allant ac yn ddiam­meu y maent hwy yn cael gorphwysdra [Page 285] iw eneidiau yn yr Arglwydd yn eu cwblhaad o'u gwasanethau, a'u ym ar­fereau crefyddol.

Eithr och gwae, y mae yn ofnus fod y rhan fwyaf o'r rhai crefyddol hynny a coffais i yn hytrach yn meddwl, mai megis y digiasant, ac yr anfoddhasant yr Arglwydd trwy eu anufydddod cyntaf, felly y gorfyddei iddynt ddistewi a bod­loni Duw a'u ufydddod rhacllaw. Ac ar hyn yr ymrhwymant hwy eu hunain i ddyfal ymarfer hyn a hyn o ddyled­swydd, a'r gwasanaeth hyn a'r gwasa­naeth, er mewn ailcyrrhaeddid ffafi Duw â collasid, ie a than debyg ei bod hwy wedi cyffeithio, a llygru ac annur­ddio eu hunain trwy eu cwympiadau i bechod, hwy a preuddwydiant maê rhaid yw iddynt eu puro, a'u glanhau eu hunain, a'u y molchi trwy eu cyfodiad oddiwrth pechod, a'u rhodiad mewn ufydddod newydd, fal pe baent hwy yn ymroi i wneuthur pob daioni, ac i ym­wrthod a phob drwg er mwyn boddhau Duw, ac er gostegu eu cydwybodau. Ac os yn y modd hyn y ceifiant hwy gorph­wystra iw eneidiau y maent wedi troi at yr hên ffordd o'r cyfammod o weithre­doedd, lle ni chyrrhaeddant byth at yr Arglwydd, nagê trwy troedio'r ffordd [Page 286] hon, y maent yn ceisio dyfod at Dduw, heb Ghrist, either nis deuant byth yn ei gyfyl ef, am ei fod ef yn dân yssog.

Neo.

Wrth hyn, Syr, efe y wydde, mai gwir ymafliad ar Dduw yn Ghrist trwy ffydd yw 'r vnig ffordd i cael gwir orphwysdra i'r enaid.

Evan.

Gwir iawn, wrth hyn yn unig y ceir gorphwysdra, dymma 'r gorphwy­stra at pa un y mae Dafydd yn gwahodd ei enaid, Psal. 116. 7 gan ddywedyd, Heb. 4. 3. Dychwêl o fy enaid i'th orph wsfa: a nyni (ebe yr Apo­stol) y rhai a gredasom, Mat. 11. 28 ydym yn my­ned i'r orphwysfa. A Deuwch attafi (ebe Christ) bawb ar y sydd yn flinderog, ac yn llwythog, ac mi a esmwythaf arnochi neu, a myfi a roddaf i chwi orphwystra. Ac yn wir credwch fi, fy nghymmodo­gion anwyl, byth nis cawn ni gwir ddedwyddid calon a gorphwystra enaid, nes ein caffom yno, canys er dywedyd, ac er dymuno o ddyn (yn ol arfer rhai) fal hyn, Oh na bai gennifi, y fath synnwyr ac y sy i'r fath gwr hyn, a'r gwr, o pe bai yn fy meddiant i, golud hwn a hwn, neu pe bawn i, cyfiwch fy mraint, neu cystadl fy nhifyrrwch ar gwr ymma, neu 'r gwr accw, neu pe bai gennifi y fath wraig a hon, neu 'r fath gwr a hwn, neu r cyffe­bib plant, neu wasanaethddynion, a'r [Page 287] rhai hyn, a'r rhai accw, efe y fyddei fy nghalon i yn fodlon, am enaid yn es­mwyth: ac etto pa un o howm ni na chafas profiad o dwyll ei calon yn ol meddiant o lawer o'i ddyminiadan? canys yn ol mwynhau 'r pethau, â chwennychasom cymmaint, ac ym meddiant pa rhai yr addawsom ni cymmaint o ddedwyddid, a llonyddwch, a bodlonrwydd in hu­nanin, etto cyn nemmawr o ddyddiau ni chawsom ni onid oferedd, a gwegi ynddynt. Barned dyn yn union ar ei ga­lon, ac er meddiannu o hono ar lawer o bethau dymunol, etto efe a wêl, ac a addef fod ryw beth neu gilydd ar ymo­fyn, ac yn ddiffyg arno canys, yn wir nid ellir bodloni 'r enaid, ac un creadur, nac a llaweroedd, na ellir nac â byd o creaduriaid. A pha ham hynny, nid am­gen nac am fod dymuniadau calon, neu enaid dyn yn annherfynnedig yn ol y daioni annherfynol â gollodd ef cynt, ar colli Duw; iê ac yspryd yw enaid dyn ac am hynny nid all hi cyfrannu ac un peth corphorol gwelededig. Felly yn­teu am na cheir yr anfeidrol, a'r yspry­dol llawnaeth hwnnw yn y creaduriaid, ac a collodd ein eneidiau, a thuag at pa un y maent hwy byth yn ceisio ymnes­sau, nid allant hwy roddi iddynt cy­flawn fodlonrwydd.

[Page 288] Nage mi a ymhyfaf, er argyoeddi dyn yn ei cydwybod yn nganol ei lawnaeth anianol o'i fod ef mewn cyflwr o elynia­eth yn erbyn Duw, ac am hynny mewn pryder, a pherigl o'i far ef, ac o ddamne­digaeth tragwyddol, ac er ei annog ef ar hyn i attcyweirio ei fywyd, ac i well ha ei lwybrau, dan ymegnio i cael tangne­ddyf a gorphwystra iw enaid, etto o herwydd mae yn ôl. yr hen lwybr wei­thredoedd y mae hyn, ammhossibl yw byth o'i cael: canys efe y fydd ei cyd­wybod yn ei cyhuddo yn wastadol mae 'r gorchwyl da hyn, neu 'r gwasanaeth da arall, y ddylysei ef ei wneuthur, ond etto nas gwnaeth ef o hono, neu. mae ei ddylêd ef oedd ymogelyd ar drwg hyn a'r drwg, ac etto iddo ei wneuthur: neu ei fod yn rhy oed, ac yn rhy pwyllig yn nghwblhaad o'r gwasanaeth hyn, ac yn anghryno yn y llall, ac fal hyn trwy lawer, o ffrydd yr affonyddir yr enaid. Ond cyn cynted ac y cretto ddyn yn ddiammeu fod ei holl bechodau gynt, a phresennol ac rhacllaw wedi eu llwyr a'u rhâd faddeu iddo, a bod Duw yn Ghrist wedi ei cymmodi ag ef, yna, meddaf, y datcuddia yr Arglwydd ei tadol wyneb-pryd iddo yn Ghrist ac a cyhoedda iddo yr undeb anrhaethadwy y [Page 289] sy rhwngtho ef a'r enaid credadwy, hyd onid yw ei galon ef yn llonydd, ac yn gorphywys yn yr Arglwydd, yr hwn yw ei wir drigfa, a'i arphwysfa briodol: ca­nys ar hyn y daw i'r enaid y fath hedd­wch oddiwrth y Duw o heddwch, nes yn llanwo gwâcter yr enaid, â gwir llawnder, yn nghyflawnder Duw: hyd onid yw 'r galon yn awr yn peidio a blino 'r deall, a'r rheswm, a'i hên gais o amrywiaeth o bethau, dymunol, neu o fwyhâad o bethau amgyffredol. Ahyn, nid amgen nac o herwydd fod ddiorphwys chwannogrwydd y galon, a barasei aflonyddwch, ar annrhefn gynt yn y mawr amrywiaeth o ddichymmygion y meddwl, ac yn yr anianol a'r anefeilaidd ymarferon o'r aelodau corphorol oddi­allan, yn awr wedi ei ddistewi, a'i wir lonyddu, canys pan y bo calon dyn mewn heddwch â Duw, ac yn orllawn o'r llawenydd, a'r tangneddyf sydd tuhwnt i bob deall, yno nid oes i'r cy­thrael cymmaint o obaith, i ortrechu yr enaid ac y fuasei iddo gynt, am ei fod weithian yn gwybod mai oferwaith yw iddo abwydo ei fach ac elwant, neu me­lyswedd, neu anrhydedd bydol neu 'r cy­ffelib rhith o ddaioni, i ddal yr enaid hwnnnw sydd a'i orphywys yn yr Argl­wydd, [Page 290] canys y mae iddo ef eusys llaw­naeth yn ei Dduw, ac yn ol llanw peth hyd yr ymyl (megis y gwyddoch) pa beth bynnac a achwanegir atto, a eiff yn afrad: gwir yw y mae 'r eneidiau gwei­gion fal tannellau allwys yn barodol i dderbyn pob peth a fwrier iddynt, ond y mae 'r calon credadwy yn ol ei lanw trwy ffydd â heddwch a llawenydd, yn ffieiddio pob math o hudoliaeth gwrth­cas, am nad oes ynddo ddim lle iw dder­byn. Felly ynteu er mynegi 'r cyfan wirionedd i chwi, nid oes dim a lwyr ddiwreiddia annuwioldeb allan o galon dyn, onid yn unig gwir tawelwch y meddwl, a gorphwysdra 'r enaid yn yr Arglwydd, ac yn siccr y mae hwn yn cy­ffelib heddwch a gorphwysdra i'r crea­dur yn y creawdwr, fal nas dichon un creadur amgyffredol, yn ol y mesur o'i ddiogelhâad trwy ffydd, nac achwanegu atto, na thynnu oddiwrtho. Nidmwy­niant o tc yrnas frenhinol a'i mwyhâ, nid y colledon, n'ar aflwydd mwyaf a'i lleihâ ronyn, oddiymma y daw holl gweithre­doedd da 'r ffyddlonniaid, ac ni ddylent eu dichwelyd yn eu hôl: ac ni ddylei gwendid dynol ychwaith ei aflonyddu: Ac y mae hyn yn wirionedd ddiammeu, sef nad yw bossibl i na phechod, n'ar cy­thrael, [Page 291] n'ar cyfraith, n'ar cydwybod, nac uffern, n'ar bedd ei ddiddymmu, am fod yr Arglwydd yn unig yn ei roi, ac yn ei cynnal. Pwy sydd gennifi yn y nefoedd ond tydi, Psal. 73. 25 (ebe Ddafydd) ac ni ewyllysiais i neb ar y ddaiar gyd a thi. Llewyrch wyneb yr Arglwydd Dduw (yn Ghrist) a rydd lawenydd i'r galon. Psal. 4. 6, 7 Ac o cuddier y wyneb hwnnw, Psal. 70. 7 yna y bydd yn helbulus. Ond er dangos hyn yn eglurach etto, beth pe lleihâeid, a pe culhâeid heddwch a lawenydd y gwir ffyddloniaid, etto y mae eu tystiolaeth hwy, neu ryw arwyddion o honynt, yn aros fyth cyn cryfed ynddynt, hyd oni fedront, iê yn nghanol eu trymdid mwy­af ar ymadawiad Duw oddiwrthynt, ddywedyd: Psal. 22. 1. 30. 5. Fy Nuw, fy Nuw pa ham i'm gadewaist, iê yn nghanol y tywll­wch mwyaf o absen Duw, hwy a arho­sant yn ddiyscogyn eu gobaith ffydd­lawn, o gweled gorfoledd erbyn y bo­reu, er i wylofain aros tros bryd-nawn. Nage pe lladdei 'r Arglwydd hwy, Job 23. 15. 19. 25. etto hwy a obeithiant ynddo, dan wybod yn hyspys fod eu prynwr hwy yn fyw, a pham hynny? nid amgen, nac am fod llawenydd yr Arglwydd yn eu nerthu hwy. Neh. 8. 10 Dymma bobl a cedwir mewn tang­neddyf heddychol, Esa. 26. 3. am eu bod a'u [Page 292] meddylfryd ar yr Arglwydd, ac yn ym­ddiried ynddo. Gan hynny ymogelwch, attolwg, fy nghymmodogion anwyl rhag barnu fod un cyflwr amgen n'ai gilydd yn ddedwydd nes y caffoch hyn o wir tangneddyf a gorphwystra i'ch eneidiau yn yr Arglwydd. O, gwiliwch rhac i chwi ymfodloni eich hunain â thang­neddyf rhithiol gwâg, heb cael tangne­ddyf sylweddol gwrymmus. O, gwi­liwch na byddoch yn ymhoffi, neu yn pwyso ar y fath tangneddyf ac a paro anghof o'ch pechodau, neu esceulusdra ymholiad eich calonnau, neu un math o yscafn-dyb meddwl, o'ch bod yn gwy­bod ryw lawer o bwngciau crefyddol, ac yn medru adrodd amryw gwersau di­fynyddol, ac ar hynny yn gallu llunio ryw cynghlôau, neu dadleuol rheswm­mau iddifyrru 'r amser, ac i ostegu cy­ffroadau annesmwyth y cydwybod cy­huddol: eithr cymmereid eich calonnau eu cennad oddiwrth pob dedwyddid ffu­giol gan pa rai y cawsant eu hudo, a'u maglu mwy neu llai, a'u cadw rhac eu gwir orphwystra yn yr Arglwydd. O, byddwch cadarn yn eich bwriadau ne­fol, a chenwch yn iach i pob peth gwâg twyllodrus, ac, na arhoswch, nac yn yr Aipht gyd ar crochaneidau cîg o aniaeth [Page 293] anifeiliaidd, nac ychwaith yn yr anial­wch o ffurfiolaeth, neu ddangosiad oddiallan o crefydd, a rheswm: eithr dinoethwch eich hunan yn lân, a bwri­wch oddiwrthych pob ymhoffedd a bod­lonrwydd yn nac anrhydedd, nac el­want, na difyrrwch anianol, neu mewn ymarferon, neu wasanaethau crefyddol, a byddwch yn dylawd, ac yn truan ac yn noeth.

Nom.

Je, ond arafwch, Syr, adolwg, a ddymunech chwi, na bae ein bump syn­nwyr ni wedi gosod ar bethau gweledig daiarol? oni fynnech chwi i ni cym­meryd un cwmffwrdd mwyach ym me­thau daionus y byd hyn a'r bywyd?

Evan.

Na chamsynniwch fy amcan i, adolwg, nid wyfi yn dymuno ar i chwi mewn sarrugrwydd gwrthod gweddus ymarfer o'r creaduriaid daionus yr Arglwydd, a rhyngo ei fodd iw roddi i chwi: canys yr wyf fi yn gwybod yn hyspys fod gan feddwl dyn ryw ogwy­ddiad naturiol iw ymhyfrydu a'i ddi­fyrru ei hunan yn y pethau hyn, a bod hyn o ogwyddiad yn aros byth yn nghalon y dyn dedwyddaf, â fârweiddi­wyd fwyaf, ac a ymiachaodd lanaf a hwynt, ond etto ystyriwch hyn, fod gwahaniaeth rhwng ei cyflwr ef yn [Page 294] awr a chynt, sef, y mae'r gogwyddiad, neu 'r cynnwrf hwnnw o'r galon â fua­sei gynt yn orwyllt ac yn afreolus, yn awr yn ddof, ac yn araf, fal nad yw ei awydd ef at y creadur yn awr mor an­wahardd ac y buasei cynt, am fod ei afreolaeth ef wedi ei ddarostwng yn awr yn nhangneddyf y galon, ac wedi ei he­brwng i tymmher a threfn gweddus, hyd oni fedr yr awydd anianol yn awr cym­meryd pall o'i ddymuniadau yn arafach ac yn llonyddach na chynt, ie efe y fydd yr awydd anianol yn fodlon ddigon i oddef y peth a fyddo yn gwrthwnebu, neu yn croesu ei ddymuniadau fwyaf, fal newyn, syched, oerfel, noethni, ie a marwolaeth, canys dymma hynt rhy­feddol y galon, svdd a'i orphwystra yn yr Arglwydd, Ar hyn, er bod pob un o'r pump synnwyr y dyn hwnnw wedi ei ymosod ar eu cynnefin bethau, etto nid yw ei fywyd ef ddim yn anianol, ac nid yw ei galon ef ddim yn ymhoffi, neu yn cymmeryd un bodlonrwydd ynddynt eithr y mae yn ymarfer ei hunan weithi­an (canmwyaf) ac yn myfyriadau ar bethau uwch-daer, sef ar ysprydol cym­mundeb â Duw yn Ghrist: hyd onid yw ef yn ymarfer a'r byd, a'r pethau o'r byd, fal pe bai ef heb eu hymarfer: ac nid [Page 295] yw ef yn cael un bodlonrwydd calon­nog oddi wrth un math o ymarfer ania­n ol o honynt, a pham hynny? nid am­gen, nac am fod ei galon ef wedi ei ddi­ddwyn oddiwrthynt: A hyn o ddidd­wyniad calon a osodwyd allan yn hyn­ny o ymadrodd hyweddi Christ, Can. 5. 2. sef, Myfi sydd yn cyscu (ebe hi) a'm calon yn ne­ffro, yn yr un cyffelib y dywedir fod. y dyn hwnnw yn cyscu, yn disgwyl, yn cly­wed, yn archwaethu, yn bwytta, yn yfed, yn gwledda, Luc. 1. 76. &c. eithr y mae ei galon ef wedi ei nailltuo, ac yn llawenychu yn Nuw ei Jachawdwr a'i enaid yn mawr­hau yr Arglwydd, ie ac yn nghanol pob difyrrwch anianol, efe a ddywaidyn ddir­gel: hyn a welaf yr wyf yn ei fwytta, eithr nid ymma y mae fy nedwyddyd i.

Nom.

Eithr pa ham, Syr, adolwg, yr ych chwi yn galw yr ymarferon rheswm­mol, a chrefyddol yn ddiffaethwch?

Evan.

Am ddau rheswm, y cyntaf yw hyn: megis y crwydrodd pobl yr Israel yn ol eu dyfod hwy allan o'r Aipht, llawer o flynyddoedd yn y di­ffaethwch cyn eu dyfod hwy i mewn i wlâd Canaan, felly y mae llaweroedd o ddynion yn crwydro yn hir yn eu ym­harferon rheswmmol a chrefyddol, wedi iddynt ymadel a'r hen fwyd ania­nol [Page 296] cyn y delont i orphywys yn yr Argl­wydd o pa un yr oedd tir Canaan yn gysgod.

Yn ail, megis y mae dynion a deithi­ant trwy'r anialwch yn eu colli eu hu­nain yn fynych heb cyfwrdd a'r iawn lwybr iw cyfarwyddo hwy allan, eithr dan tebyg eu bod hwy weithian (yn ol cynnifer tro a threigl maith) yn agos iw lle dymuniedig, ac etto heb fod nessach ronyn i ben eu siwrnai mwy nac ar y cyntaf: or fath hyn yw hynt y rhai hynny igyd, a treiglant a'r hyd llwybr rheswm, y maent hwy yn myned ar ddidro ym mhlith y coedwydd a'r dryffi o'u gweithredoedd eu hunain, hyd onid ydynt, pa fwyaf y teithiant ynddynt, yn myned bellach bellach oddiwrth Dduw, a gwir gorphwysdra ynddo ef.

Nom.

Je ond Syr, chwi a wyddoch, ddarfod i'r Arglwydd ein addurno ni ac eneidiau rheswmmol, ac am hynny oni fynnech chwi i ni wneuthur def­nydd o'n rheswm?

Evan.

Na chamsyniwch fi, adolwg, nid wyf fi nac yn dibrisio, nac yn dir­mygu ymarfer rheswm, ond mi a fyn­nwn iw ymarfer i'r diben, a'r daioni pennaf, ac mi a ddymunwn ar i chwi ei gadw dan llaw, ac os cynnigh hi megis y [Page 297] gawnaeth Hagar, i feistrioli, ac i arglwy­ddiaethu ar eich ffydd, mi a'ch cyngho­rwn, ar i chwi yn noethineb yr Argl­wydd, megis Sarah, ei fwrw allan fal nis caffo llywiodraethu arnoch. Ar ei­riau byrrion mi a ddymunwn arnoch chwi fod yn fwy eich awydd i ddymu­no, n'ach manolwch i ddichymygu, ac ihiraethu fwy, am gael cymmundeb gyd a Duw, nac am fedraeth a dysc i ymddad­leu yn nghylch ryw ymholiadau dyf­nion, a chwestiwnau dyscedig, a'i oble­gid y byd, a dyn, a'i oblegid y nef, a Duw y bônt: A ceisiwch yn daer adna­bod Duw trwy prawf nailltuol gwrym­mus, a pe baech yn rhagori ar eraill mewn gwybodaeth ac ufydddod, etto mi a ddymunwn eich bod chwi yn di­ddymmu, ac yn llwyr dibrissio eich hu­nain a'ch dysc, a'ch medraeth, ac yn bod yn ffyliaid o rhan pob doethineb cnaw­dol ac yn gwilied na byddoch yn gorfo­leddu mewn dim, ond yn unig yn yr Arglwydd. Ac mi a fynnwn i chwi ddisgwyl â llygad llonn o ffydd ar bob peth, wedi eu crynoi ynghyd allan, o un peth, ac fal ar unwaith i ddisgwyl ar y cwbl oll yn yr un peth. Ar un gair, mi a fynnwn i chwi mewn distawrwydd ymogelyd rhac ymadroddion a chw­estiwnau [Page 298] manol anfuddiol, ac heb fawr ymsiarad a'ch tafod, i fyfyriad yn ddior­phwys a'ch calon, ac yn ol cyngor S. Jaco, Jaco. 1. 19. Byddwch escud i wrando, a diog i lefaru, a diog i ddigofaint, canys yn y modd hyn y darostwngir eich rheswm, ac a wneir yn un a'ch ffydd, canys, yna yr eiff rheswm yn un, a'ch ffydd, pan y darostwngir tan ffydd, ac yna y ceidw rheswm ei ffinnoedd, a'i terfynau, a chwi a fyddwch yn rheswmmolach o lawer, nac y fuasech gynt. Ac weithian yr wyf yn gobeithio, ych bod chwi yn gweled yn eglur, nad yw ymiachaad, neu yma­dawiad y galon oddiwrth ei hymarferau rheswmmol ac anianol, iw ystyried yn anghyffredinol, eithr yn ymgyffattebol, am nas cynnwysir, yn ein llwyr yma­dawdiad o n'ar un n'ar llall, eithr yn y iawn ymarfer o bob un o'r ddau.

Ac weithian er cloi ein ymadadrodd, gwybyddwch hyn fal gwirionedd ddi­naâg, Psal. 45. 10, 11. o digwydd i'r un o'ch eineidiau fal hyn anghofio ei phobl ei hun, a thy ei thâd, Christ ei brenin a chwennych ei thegwch hi, ac a'i sercha hi cymmaint, nes yn tynno ei cariad ef, megis yr ched­faen, yr enaid atto ef drachefn, ac yna, fel y brefa'r hydd am yr afonydd dy­froedd felly yr hiraetha eich eneidiau Psal. 42. 1. Can. 2. 5. [Page 299] am Dduw, ie ac yna y llenwir eich eneid­iau â serch, a chwi a fyddwch cyn clafed o cariad, hyd oni ddangosir ar cyhoedd wrth eich daer geisiad o'r hwn yr ym­hoffa eich enaid. Can. 3. 1: Ac yn y modd hyn y deuant eich eneidiau i cael gwir gorph­wystra yn yr Arglwydd, ac yn ol mesur eich ffydd chwi, ef ych llenwir â llawe­nydd, ac a gogoniant anrhaethadwy: a pha fodd na bai hyn felly, dan fod eich eneidiau yn cyfrannolion a Duw ei hun, a than i chwi trwy ffydd cael gwir prawf, o bob uchelfraint nefol, a thrwy 'r yspryd, siccr insel o honynt, a chen­nich (fal pebai) un troed eusys yn y nef, tra y byddoch ar y ddaiar. Ac oh, pa fath serch clodforol a cyfyd o'ch ca­lon ddiolchgar! hi a ymddengis ei hun ar cyhoedd, yn cyntaf tuag at yr Argl­wydd, ac yn ol hynny tuag at ddyn, er mwyn Duw, am fod ei caraid tragwy­ddol ef yn Ghrist wedi ei egluro i'ch e­neidau. Acyn ol mesur eich ffydd chwi, nid rhaid i chwi weithian na gogwyddo, na chymmell eich hunain, nac i caru Duw, neu dyn, nac i wneuthur un gwasanaeth i Dduw, na chymmwynas i ddyn, canys, o herwydd eich siccrwydd o cariad Duw tuag attoch yn ei Ghrist ef, efe y fydd eich eneidiau yn wastadol yn rhwymedig i [Page 300] caru Duw, ac yn ol mesur y cariad hwnnw, chwi fyddwch yn rhwymedig i cadw ei holl orch ymmynnion ef. A hyn o cariad Duw wedi ei ddiogelu yn eich callonnau, a yrra ymmaith gormod serch ar eich hunain, hyd oni byddoch weithian yn hollawl o ochor Duw, a'ch bwyd chwi, a'ch diod y fydd i wnenthur ei ewyllys ef tra y byddoch ar y ddaiar, a mwy o lawer pan yr eloch i'r nef, y lle dedwydd hwnnw o orphwystra tragwy­ddol a pherffeith llawenydd, i pa le ein Arglwydd Jesu Christ a'n dycco ni pawb oll yn ei bryd dyledus ef. Amen.

Ac yn awr frodyr yr ydwyf yn eich gorchymmyn chwi i Dduw, Act. 20. 32. ac i air ei ras ef yr hwn a all eich adeiladu chwa­neg, a roddi i chwi etifeddiaeth ym mhlith yr holl rai a sancteiddiwyd.

Neo.

Bellach Syr nid achwanegaf i air rhagor, onid hyn yn unig mai mewn awr dedwydd y cyfwrddais i a chwi, ac mae gwynfydedig i myfi y fu hyn o ym­ddiddaniad rhwngom, canys yn wir, nid adnabûm i Christ erioed hyd y dydd heddyw. Ac yn awr, Oh, pa achosion mawr sydd i mi roi diolch i'r Arglwydd, am fy nyfodiad i ymma attoch heddyw, aci fy nau cymmydog hefyd, â barasant i mi fod ymma. Ac am y mawr boen y [Page 301] cymmerasoch chwi gyda mi i adeiladu fy enaid, mi a attolygaf i'r Arglwydd dalu i chwi, ac yn awr tan ddeisyf ar­noch chwi fy nghofio yn eich gweddiau, ar i'r Arglwydd achwanegu fy ffydd, a chymorthywio fy anghrediniaeth, mi a cymmeraf fy nghennad oddiwrthych, gan ddeisyf ar yr Arglwydd goruchaf, Dduw cariad a thangneddyf fod gyd a chwi.

Nom.

Ac yn wir, Syr, yr wyf yn coe­lio fod i minneu cymmaint o achosion i cydnahod fy nedwyddwch o fod ymma heddyw ac y sy iddo ynteu, canys er fy mod i erioed yn rhagori arno ef mewn gwybodaeth, iê ac oscattfydd mewnbu­chedd union ymogelus, etto mi a welaf yn awr nad oedd fyngweithredoedd i nac yn dyfod allan o wreiddyn da, nac wedi eu gwneuthur i un diwedd yn da, ac am hynny nid oeddwn i mewn gwell cyflwr nac yr oedd ynteu. Ac yn wir, Syr, nid allaf fi amgen nac addef, nas clywais i erioed cymmaint oblegid Christ, a'r cyfammod o râs, ac y clywais i heddyw, yr Arglwydd a'i sancteiddio i mi, ac a'i gwnelo yn fuddiol i mi, Ac yr wyf inneu Syr, yn deisyf arnoch chwi weddio trosof.

Ant.

Ac yn siccr Syr, efe am argyoe­ddiwd [Page 302] i yn llwyr yn awr, om bod i wedi cyfeiliorni allan o'r iawn ffordd, am nad oeddwn i yn prissio am cyfraith Dduw, a'i gweithredoedd, fal y dylyswn. Eithr, trwy nerth Duw, os yr Argl­wydd a estyn fy enioes, mi a fyddaf yn fwy fyn gofal, pa wedd y rhediwyf, tan i mi clywed, mae cyfraith Christ yw 'r dec gorchymmyn. A mi attolygaf ar­noch chwi, Syr, fy nghofio inneu yn eich gweddiau, ac weithian, dan roddi i chwi mawr ddiolch am eich poen a'ch cariad, mi a cymmeraf fy nghennad oddi­wrthych, gan weddio ar i râs ein Argl­wydd Jesu Christ fod gyd a'ch yspryd chwi. Amen.

Evan.

Bellach Duw r heddwch, yr hwn a ddûg drachefn oddiwrth y meirw ein Harglwydd Jesu Christ, Heb. 13. 20, 21. bugail mawr y defaid trwy waed y Cyfammod trag­wydd a'ch perffeithio ym mhob gwei­thred da i wneuthur ei ewyllys ef, gan weithio ynoch yr hyn sydd gymmerad­wy yn ei olwg ef, trwy Jesu Christ, i'r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen. Jo. 8. 36.

Os y Mab a'ch rhyddha chwi, Gal. 5. 1. 13 rhyddi­on fyddwch chwi yn wir.

Sefwch gan hynny yn y rhydddid, a'r hon y rhyddhaodd Christ ni, yn unic nac [Page 303] arferwch y rhydd-dyd yn achlysur i'r cnawd ond trwy cariad gwasanaethwch ei gilydd.

A chynnifer ac a rodiant yn ol y rheol Cal. 6. 16 hon tangneddyf arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.

Yr ydwyf yn diolch i ti o Dâd, Argl­wydd Mat. 11. 25. nef a daiar am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datcuddio o honot i rai bychain.

Mi a lafuriais yn helaethach na hwynt 1 Cor. 15. 10 oll, ac nid myfi chwaith, ond grâs Duw, yr hwn sydd gyd a mi.

Na ddeued troed balchder i'm Psal. 36. 11. her­byn.

FINIS.

This keyboarded and encoded edition of the work described above is co-owned by the institutions providing financial support to the Text Creation Partnership. This Phase I text is available for reuse, according to the terms of Creative Commons 0 1.0 Universal. The text can be copied, modified, distributed and performed, even for commercial purposes, all without asking permission.