FFURF GWEDDI I'w Harfer Ar Ddydd Mercher y Pummed Dydd o fis Ebrill, yr hwn sydd ddiwrnod YMPRYD wedi drefn drwy gyhoeddus orchymyn y Brenhin, &c.
Drwy yspysol Orchymmyn ef Fawrhydi.
Y Drefn am Weddi Foreuol.
¶Darllenned y gwenidog a lleff uchel y synhwyrau hun o'r scrythur lan, ac yw yn canlyn yr annogaeth, y gyffes gyffredin a'r gweddiau, megis yn y llyfr Gweddi gyffredin.
TRugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu am danom ni: o herwydd ni phalla ei dosturiaethau ef.
Cospa ni, Arglwydd, etto mewn barn; nid yn dy lid, rhag it' ein gwneuthur yn yn ddiddim.
¶Yn lle'r Venite, Exultemus, y'r arferir yr Hymn yma sydd yn canlyn.
DEuwch, ymddarostyngwn ein hunain ac ymgrymmwn i lawr o flaen yr Arglwydd ein Duw.
Fal y caffom ras drwy'r hwn y gwasnaethom Dduw wrth i fodd, gyd a gwylder, a pharchedig ofn.
Edifarhawn a galwn ar Dduw yn lew, dychwelwn bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus.
Felly yr Arglwydd a dry oddi wrth angerdd ei dig fel na ddifethir ni.
[Page] Trugarha wrthym, O Dduw, yn ol dy drugarogrwydd; yn ol lliaws dy dosturiaethau delea ein anwiroddau.
Canys yr ym yn cydnabod ein camweddau: a'n pechodau sydd yn wastad gar ein bron.
Arglwydd, os creffi ar Anwireddau: O Arglwydd, pwy a saif?
Onid y mae gyda thi faddeuant fel i'th ofner.
Ni fyrhawyd dy law, fel na alli achub, ac ni thrymhaodd dy glust, fel na alli glywed.
Ti addewaist, O Arglwydd, cyn galw o honom, yr attebi: a nyni etto yn llefaru, y gwrandewi.
O Arglwydd, na cherydda ni yn dy lidiawgrwydd, ac na chospa ni yn dy lid.
Er mwyn dy enw, Arglwydd, maddeu ein anwiredd: canys mawr yw.
Tro dy wyneb oddi wrth ein pechodau: a delea ein holl anwireddau.
Crea galonnau glan ynom, O Dduw; ac adnewydda yspryd uniawn o'n mewn.
Cynnorthwya ni, O Dduw ein iechydwriaeth, er mwyn gogoniant dy enw: Gwared ni hefyd, a thrugarha wrth ein pechodau, er mwyn dy enw.
O Arglwydd ein Duw, ynoti yr ymddiriedasom: achub ni rhag ein holl erlid-wyr, a gwared ni.
Gwna ddaioni, yn dy ewyllyscarwch i Sion: adeilada furiau Jerusalem.
A ninneu dy bobl, a defaid dy borfa, a'th foliannwn di yn dragywydd: datcanwn dy foliant o genhedlaeth i genhedlaeth.
Gogoniant i'r Tad, ac i'r Mab, ac i'r yspryd Glan; Megis yr oedd yn y dechreu, &c.
Psalmau Priod II. CII. CXXII.
Llithiau Priod.
Y Gyntaf. Jer. XII.
Yno y canlyn, Te Deum Laudamus.
Yr Ail. St. Luc. XIII.
Yno y canlyn, Jubilate Deo; y Credo; a gweddi'r Arglwydd fel yn y Llyfr Gweddi-gyffredin.
¶Yn lle y gwersiclau cyffredin yr arferir y rhai hyn.
Offeir. Arglwydd, dangos dy drugaredd arnom.
Atteb. A chaniadha i ni dy jechydwriaeth.
Off. Arglwydd, cadw y Brenin:
Atteb. A gwrando ni yn drugarog, pan alwom arnat.
Off. Gwisc dy weinidogion ag jawnder.
Atteb. A gwna dy ddewisol bobl yn llawen.
Off. Arglwydd, cadw dy bobl.
Atteb. A bendithia dy etifeddiaeth.
Off. Arglwydd, dyro dangnheddyf yn ein dyddiau.
Atteb. Gan nad oes neb arall a ymladd drosom, onid tydi Dduw yn unig.
Off. O Arglwydd, amddiffyn dy weision.
Atteb. Y rhai sydd yn ymddiried ynot.
Off. Anfon i ni borth o'th sancteiddfa.
Atteb. Ac byth yn nerthol amddiffyn ni.
Off. Na ad i'r gelyn gael y llaw uchaf arnom.
Atteb. Nac i'r enwir neshau i'n drygu.
Off. Bydd i ni, O Arglwydd, yn Dwr cadarn.
Atteb. Rhag wyneb ein gelynion.
Off. O Arglwydd, gwrando ein gweddiau.
Atteb. A deled ein llef hyd attat.
¶Yn lle y Collect am y diwrnod, yr arferir y Ddau sy'n canlyn.
HOll-alluog Dduw a thrugaroccaf Dad; Nyni bechaduriaid truein ym yn ostyngedig yn cydnabod o'th flaen di yn bod ni yn anheilwng or lleiaf o'th holl drugareddau; Yr ydym ni yn cyfaddef, O Arglwydd, yn chwerwder ein eneidieu, ddarfod i bob gradd o honomi droseddu dy gyfiawn farnedigaethau; a'n bod ni mor anhydyn ac na adawsom nac ith drugareddau nath gospedigaetheu hyd yn hyn yn dwyn ni i jawn wellhau ein bucheddau, dy ddirfawr drugaredd di yw na 'n difethwyd ni, i th ddaionus ragluniaeth yr ym yn ddyledwyr am ein cadwriaeth: Am ba un y mae ein heneidiau yn mawrygu ac yn bendithio dy enw gogoneddus, O Dduw, yr hwn hyd yn hyn a'n harbedaist, ac yn rhyfeddol a'n gwaredaist ni, [Page] fel y bydde i'th ddaioni di yn tywys ni i edifeirwch: Rhynged fodd iti, O Arglwydd, o'th fawr ddaioni roddi ynom ni oll y fath dduwiol dristwch ac sydd yn gweithio edifeirwch er jechydwriaeth diedifar; fal y byddo iti droi oddi wrth angerdd dy ddigllonedd i'n herbyn; a llawenychu ynomi, i wneuthur i ni ddaioni drwy haeddedigaethau a chyfryngiad ein Harglwydd a'n unig Jachawdwr Jesu Grist. Amen.
O Arglwydd Tad y drugaredd, a Duw pob diddanwch, bydd raslon a thrugarog nyni attolygwn iti, wrth bawb sydd mewn unrhiw fan o'r byd yn dioddef e'r mwyn y gwirionedd. Caniatha iddynt rad i ymroi yn ewyllysgar ac yn ostyngedic i'th ddoeth a'th ddaionus ragluniaeth di, dod iddynt ffydd Gristianogol a chalon wrol i sefyll yn ddiysgog ac yn ddiofn yn y dydd drwg, ac amserol ymwared o'u holl gystuddiau. I'r diben hyn, O Arglwydd, attal ddrwgfyriad a thro galonnau ei herlidwyr ac na ad dy etifeddiaeth yn warth i'th elynion: Llanwa ein eneidieu ni a Christianogol dosturi wrth gyflwr truanaidd ein brodyr cystuddiedig, a dyro iddynt hwy a ninnew ras i gyrchu at y Nod am gamp Uchel alwedigaeth Duw sydd o'n blaen ni drwy ffydd ac amynedd gostyngeiddrwydd, ac addfwynder marweiddiad a hunan wadiad drwy gariad ac eluseni a dyfal bara mewn pob daioni hyd y diwedd; a hyn a erfyniwn ni e'r mwyn Jesu Grist. Amen.
Ar ol hyn yr arferir y Collectau am Dangnheddyf, ac am gael Rhad, a'r Letani.
A chwedi hynny y Collect a'r Ddydd mercher y Lludw, a'r Tri Cholect yn niwedd y Comminasiwn, &c. y rhain sydd yn dechreu fal hyn.
Holl-alluog a thragwyddol Dduw, &c.
O Arglwydd ni attolygwn iti, &c.
O Alluoccaf Dduw a thrugaroccaf Dad, &c.
Ymchwel di ni, O Arglwydd daionus, &c.
¶Gweddi dros holl Eglwysi'r Protestaniaid.
O Dduw Tad y Trugareddau, yr hwn o'th fawr ddaioni a'n hunaist ni yn nirgel gorph Crist, yr hwn yw ei Eglwys; Nyni megis aelodau bywiol o'r un rhyw, gan alaru gyd a'r galarus, a llawenhau gyd a'r rhai sydd yn llawen, ydym yr awr hon yn tywallt ein herfyniau a'n gweddiau wrth orseddfaingc dy rad dros yr holl Eglwysi Protestanaidd; gan attolwg i ti edrych i lawr a golwg dy drugaredd a'th dosturi, ar gyflwr truanaidd a gofidus y cyfriw rai o'r Eglwysi rheini, ag a ddarfu i ti ei traddodi i fynu i ddwylo dynnion coel-grefyddol ac annhrugarog; Na ad i'th elynion yn wastad orfoleddu ar dy etifeddiaeth. Ymddadla dy ddadl dy hun yn erbyn y sawl sydd yn cablu dy wirioned ac yn erlid dy bobl, fel y dwetto pob dyn, diau fod Duw a farna ar y ddaiar. Glanha dy holl Eglwysi oddi wrth bob ammhured a gwna nhwy yn deilwng o'th ogoneddus ymwarediad. Goleua bawb ac sydd mewn tywyllwch a chamsynniad, a chaniadha iddynt edifeirwch i gydnabod y gwirionedd, fal y byddo i holl derfynau y ddaiar gofio, ac ymchwelyd at yr Arglwydd, ac fel y gallom ni oll ddyfod i fod yn un praidd dan yr un bugail mawr ac Escob ein heneidiau Jesu Grist ein bendigedig Jachawdwr a'n Prynnwr. Amen.
¶Ar ol hyn y canlyn y Weddi dros oruchel lys y Parliament, Diolwch cyffredinawl, Gweddi S. Chrysostom, 2 Cor. 13. 14. Gwasanaeth y cymmyn, a'r Colect sy'n canlyn yn nesaf o flaen yr Epistol a r Efengyl.
O Arglwydd ein Duw, yr hwn wyt yn gyfiawn yn ddigllon wrthym, o herwydd ein mawr ac amriw bechodau, drwy ba rai y darfu i ni ennyn dy ddigofaint a'th farn i n herbyn, ac am ba rai y mae i ni achos i ofni i ti ein rhoi ni i fynu i ddwylaw ein gelynnion. Gwrando ni, nyni attolygwn itti, y rhai ydym yn ymddarostwng o' th flaen di mewn gweddi ac ympryd. Caniadha i ni y fath ddwys ac iawn ystyriaeth on camweddau ac a weithredo ynom dduwiol dristwch i edifeirwch diedifar: Fel y byddo iti, ein Duw graslawn (wedi ymgymmodi a ni [Page] er mwyn dy anwyl fab ein Hiachawdwr) ei cydnabod ni yn bobl iti dy hyn, a bod yn ymddiffyn i ni yn erbyn holl elynnion dy wir grefydd di a Sefydlwydd yn ein plith ni; ac y gallom ninneu, gan fyw yn ddiogel dan dy nodded, a rhodio yn addas i ti mewn pob rhyngy bodd, byth ogoneddu dy Sanctaidd enw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.
Yr Epistol. 1 S. Pet. iv. v. 12. hyd y diwedd.
Yr Efengyl. S. Matth. 25. v. 31. hyd y diwedd.
¶Yma y dywedir y Credo, ar ol hynny y bregeth, ac Wedi hynny rhai o'r Sentensiau sydd ar ol y Credo, ar Weddi dros holl Stat Eglwys Grist; ar ol hynny y gweddiau hyn sy 'n canlyn.
O Dduw, Tad ein Harglwydd Jesu Grist ein unig Jachawdwr, Tywysog tangnhefydd, edrych i lawr drwy fawr dosturi a thrugaredd ar yr Eglwys a'r Deyrnas hon sydd yn awr yn ymgais a thi, mewn Ympryd a gweddi; A chaniatha, nyni attolygwn i ti, fod i'n ymddarostwngiad a'n hedifeirwch weithredu ynom ni y cyfriw effaith gwynfydedig, fel y bo ini ein puro ein hunain oddiwrth bob halogrwydd cnawd a'r yspryd, gan berffeiddio Sancteiddrwydd yn ofn Duw: Dyro i ni ras, o Dduw, o ddifrif i ystyr y dirfawr berigl; dan ba un yr ydym drwy ein hymrafaelion a'n hangydfod anedwydd. Tyn ymaith bob casineb a drwgdyb a phobpeth arall a'n rhwystra ni oddiwrth dduwiol undeb a chydgordio: Fel megis nad oes ond un corph, ac un yspryd, ac un Gobaith ein Galwedigaeth, un Arglwydd, un Fydd, un Bedydd, un Duw, a'n Tad ni oll; felly y gallom o hyn allan fod i gid o un galon ac un enaid, wedi ein huno mewn un Sanctaidd Rwymyn, Gwirionedd a Thangnhefydd, Fydd a Chariad perffaith, ag y gallom ag un meddwl ac ag un galon dy ogoneddu di, o Dduw, trwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.
¶Gweddi dros ein gelynion.
O Duw Tad y trugareddau, a charwr eneidieu, yr hwn wyt ddaionus i r rhai aniolchgar a drwg, ac a orchymynaist i ninneu helaethu ein cariad i'r rhai a'n [Page] asant: Nyni attolygwn i ti fod yn drugarog a thosturiol wrth y rhai sydd heb gyfiawn achos yn elynion inni; Diddymma ei bwriadau, dyro iddynt iawn wybodaeth a gwir ystyriaeth o'i balchder a'i malais in herbyn; Tywallt dy gariad iw calonnau, cynnyscaedda hwynt ag yspryd addfwyn gostyngedig cariadus, fal y byddo llawen ydd yn y nef a'r ddaiar am ei dychweliad ai hedifeirwch hwynt drwy Jesu Grist ein Harglwydd. Amen.
¶Ymma y canlyn y weddi sydd yn dechreu fal hyn, Hollalluog Dduw yr hwn a addewaist wrando eirchion, &c. Tangnheddyf Duw, &c.
Y Drefn am Brydnhawnol Weddi.
Psalmau Priod. 79. 94. 129. 131.
Llithoedd
Y Gyntaf Galarnad. 3. v. 22. hyd y diwedd.
Yr Ail Hebr. 10. v. 19. hyd y diwedd.
¶Ar ol gweddi'r Arglwydd, darllennir, y gwersiclau yn y foreuol Weddi.
¶Yn lle y colect am y diwrnod y darllennir y rhwn sy'n canlyn.
O Dduw grasusaf, dy anfeidrol drugaredd di yw na ddarfu am danom ni, ac o herwydd na phalla dy dosturiaethau di; gan nad allodd yr un oamriw weithredoedd dy ragluniaeth ein tywys ni i edifeirwch. Mae arnom gwilydd i godi ein golygon tua'r Nefoedd, o herwydd i ni ein gwneyd ein hunain mor hollawl anheilwng o'th nawdd a'th gariad di drwy ein aneirif bechodau i'th erbyn. Ond etto i ba le yr awn ni am drugaredd, onid attat, ti O Arglwydd, yr hwn ni ddeifyfi farwolaeth pechadur, ond yn hytrach ymchwelyd o hono oddi wrth ei anwiredd a byw; Nyni attolygwn i ti, ganniadhau i ni y fath ddwys ac iawn ystyriaeth o'n holl bechodau, faly byddo i ni o ddifri eu cashau ac ymadel a hwynt, ac oddi-yno bydd drugarog [Page] [...] [Page] [...] [Page] wrthym a maddeu hwynt oll, fal na thynont arnom ni y barnedigaethau y ddarfu i ni ei haeddu, ond fal y byddo i th Holl-alluog ddaioni ein cadw a'n hamdiffiu, a n gwneyd ni yn bobl grefyddol, Dduwiol, a dedwydd, drwy Jesu Grist ein unig gyfryngwr a'n dadleuwr. Amen.
¶Yma y canlyn yr ail Colect yn y foreuol Weddi, yr hwn sydd yn dechreu fel-hyn. O Arglwydd Tad y drugaredd, &c. ac a'r ol hynny y dywedir.
Yr Ail Colect a'r Brydnhawnol Weddi.
Y Trydydd Colect am gynnorthwy yn erbyn pob peryglon.
Yn niwedd y Comminasiwn, &c.
O Arglwydd ni attolygwn iti yn drugarog, &c.
O Alluoccaf Dduw a thrugaroccaf Dad, &c.
Ymchwel di ni, O Arglwydd daionus, &c.
Gweddi dros Fawrhydi y Brenin.
Gweddi dros y Frenhinawl deuly.
Gweddi dros yr Eglwys-wyr a'r bobl.
Gweddi dros Holl Eglwysi'r Protestaniaid.
Gweddi dros oruchel lys y Parliament.
Y weddi sydd nessa ar ol y Wedd idros holl Stat Eglwys Grist.
Y Weddi dros ein gelynion.
Diolwch cyffredinawl.
Gweddi S. Chrysostom.
2 Cor. 13. 14.
Argraphwyd yn Llundain gan Charles Bill, ac Executris Thomas Newcomb fu farw, Argraphwyr i Ardderchoccaf fawrhydi y Brenhin. 1699.