Ffordd y Gwr Cyffredin yn ei Addoliad a'i Ymarfer.
Y DOSPARTHIAD I.
LLafurŵr tlawd ŵyf fi, ac fe ddarfu i mi yn fynych amser a fu yn fy ieuengtid helpio llawer o'm Cymmydogion trŵy weithio o fesur y dŷdd; ac etto, wedi i'm plant gryfhau, nid ŵyf fi mewn amgen Cyflwr nâ thenant neu ardrethŵr tyddyn, yr hwn yr ŵyf fi yn ei drîn, ac yn ei drefnu trŵy eu llafur hŵy a'm llafur fy hun: Etto mi a ddygŵyd i fynu (i Dduw yr ŵyf yn dïolch) nid un unig i ddarllain, ond hefyd i ysgrifennu; ac yn ychwaneg i gryn ysgolheigtod, wedi fy mwriadu unwaith i fôd yn ysgolhaig tlawd yn un o'r Prîf-Ysgolion. Canys fy nhâd gonest, yn gweled ynddo ei hun, lawer gwaith a llawer môdd, y mawr-golledus anghyfleusdra o fôd yn anllythrennog, a gymmerodd fawr ofal i ragflaenu hyn ynom ni ei blant; ac gan y medrwn i ddarllain yn beth eglurach, a pharottach nag yr un o'm brodyr a'm chwïorydd, efe a gymmerodd yr hoffder mwyaf yn gwrando arnaf fi yn darllain: A minnau yn dal sulw fôd hyn yn rhyngu bodd iddo ef, oeddwn, a'r grâs i mi i ryngu ei fodd ef, yn fwy-fŵy yn y ffordd ymma; ac wrth ryngu bodd iddo ef, i wneuthur i mi fy hun fawr-llês, megis y daethym i ddeall ar ol hynny: Canys lle y clywai ef, pan fyddai i ni ennyd, yn enwedig ar nosweithiau y gaiaf, mi ddarllennais drostynt, [Page 2] nid yn unig y Sengl a'r dwbl Psallwyr, ond hefyd yr holl Feibl fŵy nag unwaith; ac felly mi gefais i'm pen, pan oeddwn heb feddwl am y fâth beth, gyflawn histori y Llyfr Cyssegr-lân hwnnw mewn rhyw fesur, i'm mawr ddifyrrwch, a'm lleshâd er hynny hyd yr amser ymma.
DOSPARTHIAD II.
Nid oeddwn i ond y trydydd brawd; a hynny o olyd a adawsai fy Nhâd i mi wrth i farwolaeth, gyd-â hynny yr ŵyf fi, trŵy fendith Duw ar fy llafur onest, yn ei feddiannu hyd yn hyn, oedd ac sydd ddigon bychan. Ond cyfryw ag oedd ac ydyw, myfi a roddais fy mryd bob amser trŵy râs Duw i wneuthur iddo wasanaethu; ïe i fyw ar lai hefyd: A hyn a wneithym i bob amser, (I Dduw o eigion fy nghalon yr wyfi yn diolch) ac felly mi a dreuliais fy nyddiau mewn heddwch a llonyddwch mawr. Canys pan ŵyf fi yr awr hon yn ysgrifennu hyn, yr ŵyt agos wedi diweddi y pummed flwyddyn a thri-ugain o'm bywyd. Ac o herwŷdd fy môd, yn fy nhŷb fy hun, yn gweled ddarfod i mi ynnill, yn enwedig yn fy amser diweddaf hwn, lawer o yspysrŵydd da, megis tu-ag-at gredu yn union a rhodio yn dduwiol; y cyfryw ag a allant ondodid fôd yn llesol i'w harfer gan fy mhlant a'm Cymmydogion ar ol i mi ymadael: mi a dybiais yn dda, ar ol gwîr ystyriol ymgynhoriad, eu gosod ar lawr ymma; ac yn y lle cyntaf i ddŵyn ar gôf i mi fy hun yn gystal ag iddynt hwythau, pa fôdd y daethym i fodlonrŵydd a sefydlrŵydd meddwl, yn y gwahanredol amrafaelion ag ydynt yr awr hon yn y bŷd ynghylch perthynasau Crefydd.
DOSPARTHIAD III.
Canys yn y deng mlynedd a'r ugain diweddaf hyn o'm hoed, o achos y blinderau, a'r gwall-gofus wahaniadau yn ein mysc, mi a amheuais lawer ynghylch fy nghrefydd; ac ys ynfyd fi! mi a dybiais hefyd, wrth wrando a gweled beth a fedrai bob parti ddywedyd drostynt eu hunain, y gallwn ganfod pa le yr oedd fwyaf o wirionedd, ac ymsefydlu yno. Ond yn union yn y gwrthwyneb i'm disgwyliad, y môdd ymma a'm gwnaeth i yn fŵy ansefydlog nag y fuaswn erioed o'r blaen: Ac nid rhyfedd. Canys pa fôdd y gallwn i yn un dŷn, ac heb i mi allu fôdd yn y bŷd trŵy fy nygiad i fynu, chwilio gwaelodion y cyfryw amrafaelion? pa fôdd, meddaf, y gallai ddŷn llêd-wirion o'm bâth i fôd mewn grym i farnu yn ddibennol o'r pethau hynny? Weithian mi a gymmerwn feddwl i fyned at weinidogion y gair ac Eglwyswŷr ynghylch hyn ymma; yr oeddwn yn gweled eu bôd hwythau hefyd mewn gwahaniaeth, ac anghytundeb, yn eu plith eu hunain; cymmaint neu fŵy nâ nêb eraill. Ac fe a ddigwyddodd, er ynghylch pedair blynedd a'r ugain bellach, fôd yn y plŵyf, ym-mha un yr oeddwn i yn ardrethu tyddyn, ddau Eglwysŵr ar yr un amser; un oedd ŵr oedrannus, yr hwn a droëd allan megis gwrthwynebŵr y llywodraeth; a'r llall oedd ŵr bonheddig ieuengach, o'r ffordd Bresbyteriaidd, yr hwn a osodasid yn ei le ef gan yr henuriaid gosodedig i edrych at weinidogaeth yr Eglŵys: yr oeddwn yn gweled yn eglur, na wnai fyned at un o 'rhai hyn, ond ychwanegu fy amheuaeth yn lle ei thynnu ymaith; neu trŵy ddall ymostyngiad o ddealldwr; aeth, [Page 4] i dibennu hi yn anrhesymmol. Yn lle y ffordd ymma gan hynny, mi a ddechreuais gyd-ymresymmu â'm Cymmydogion, ac â rhai 'r un cyflwr â mi fy hun; ond mewn byr amser, mi a ddeellais fy mai y môdd hwnnw: Canys nêb o honom heb ddeall yn dda y pethau yr ymresymmem am danynt, yr oeddym yn ymflino yn ddifûdd; ac yn y diwedd, yn syrthio i ymrafaelio â'n gilydd yn anweddus, ac yn ddigon peryglus. Ac yr ŵyf fi yn cofio yn dda, fel yng-nghylch diwedd y rhyfel, wrth ddigŵydd i'm siarad â melinydd o'n trêf ni (yr hwn a'i galwai ei hun yn independant) yngnghylch ffordd y gynnulleidfa; (fal yr oedd ef yn ei henwi hi,) er fy môd i, ym-marn y rhai oeddynt yn gwrando, yn sefyll ar y gwîr yn well nag efe; etto yn ddïattreg fy nghymmydog da hwnnw a'm trawodd ar fy wyneb, gan ddywedyd, Cerydded yr Arglŵydd dydi a'th ymresymiad Cnawdol, ac ar hyn efe a'm gadawodd. Wedi fy nhwyllo fal hyn am fy ngobaith o leshâd wrth ymresymmu â'm Cymmydogion, mi a ymroais yn-nesaf, hyd lle y cyrhaeddai fy ychydig dryssor, i brynnu y llyfrau a ddeuent allan ymmhrint; ac, lle na chyrhaeddai, i'w benthycca: Ond yn hyn fe a'm syfrdanŵyd, ac a'm anrhefnŵyd yn waeth nag un amser. Yr oeddwn yn gweled ymrafaelion newyddion yn codi, rhai o'r blaen nid oeddwn i yn meddwl am danynt; ac yr oeddwn yn craffu fy môd i fy hun yn tueddu i fôd o'r un dŷb â'r hwn a ddarllenais i ddiweddaf. A hyn oedd yn gwneuthur yn eglur i mi na ddarfyddai fy amheuaeth, nes rhoi heibio ddarllain. Ac fel yr oeddwn yn y fâth gyfing-gyngor a phenbleth mewn mawr anfodlonrŵydd, mi a roddais fy holl lyfrau i'w [Page 5] cadw, ond fy Meibl yn unig, ac a ddechreuais yn ddïesceulus, pan gawn ennyd waith ar ddyddiau yr wythnos, ac yn arbennig ar ddŷdd yr Arglŵydd, ddarllain hwnnw; ac wrth ddarllain yr oeddwn bob amser, pan syrthiwn ar ryw fannau hynod a pherthynasol i mi yn fy nghyflwr, yn eu ysgrifennu hŵynt i lawr mewn Pappur ar eu pennau eu hunain; fel, wedi hynny, y gallwn yn well eu hystyried. Ond er fy môd wedi rhoddi llŵyr-frŷd i'm cadw fy hun yn gwbl i ddarllain y Beibl, etto wedi clywaid sôn fôd llyfr, a elwid Holl ddyled-sŵydd dŷn; A bôd hwnnw wedi ei fwriadu i arferiad teuluoedd yn neillduol, mi a ymroais i edrych hwnnw; ac wedi ei edrych unwaith drosto, mi a ymroais i'w gadw, o herwŷdd ei fôd, o'r dechreu i'r diwedd yn galw arnaf i'r ddyledsŵydd o dduwioldeb a rhinweddau da; yr hon a gyfaddefir gan bawb yn gyffredinol, a hynny heb fy rhwymo i un parti neullduol: Ac fel yr ŵyf fi yn clywed fôd y llyfr hwnnw mor llawn; a bôd y rhai mwyaf dysgedig yn ei fawrygu: felly yr ŵyf fi fy hun yn cael ynddo hyn o lês, sef, y gall y gwaelaf ei ddeall.
DOSPARTHIAD IV.
Y mannau, ar ba rai y creffais i yn gyntaf, ac yn arbennig; a 'rhai a'm annogasant i chwilio yn ddyfalach, oeddynt y rhai hyn, Ioan. 5. 39. Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hŵy yr ydych chwi yn meddwl cael bywŷd tragyŵyddol: a hwynt-hŵy yw y rhai ydynt yn tystiolaethu am danaf fi. 2 Tim. 3. 15, 16, 17. Ac i ti, er yn fachgen, ŵybod yr Ysgrythyr lân; yr hon sydd abl i'th wneuthur di yn ddoeth i iechydwriaeth, trwy 'r ffŷdd sydd yng-Nghrist Iesu. Yr holl [Page 6] Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Dduw; ac sydd fuddiol i athrawiaethu, i argyoeddu, i geryddu, i hyfforddi mewn Cyfiawnder, fal y byddo dŷn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda. Ioan. 7. 16, 17. Yr Iesu a attebodd iddynt, ac a ddywedodd, fy nysgeidiaeth i nid eiddo fi yw; ond yr hwn a'm hanfonodd. O's ewyllysia neb wneuthur ei ewyllys ef, efe a gaiff wybod am y ddysgeidiaeth, ai o Dduw y mae hi. Ac Iago. 1. 5. O's bydd ar neb o honoch eisieu doethineb, gofynned gan Dduw yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, ac heb ddannod, a hi a roddir iddo. A Thrachefn Math. 18. 2, 3, 4. A'r Iesu a alwodd atto fachgennyn, ac a'i gosododd yn eu canol hŵynt, ac a ddywedodd, yn wir y dywedaf i chwi, oddieithr eich troi chwi, a'ch gwneuthur fal plant bychain, nid ewch chwi i mewn i deyrnas nefoedd, &c. Wedi dewis yn neillduol yr Ysgrythyrau rhagddywededig ymma, yr oeddwn yn gweled fy môd, mewn siccr, ar union ffordd i fydlondeb. Gair y gwirionedd yn dywedyd i mi, o's Chwiliwn i yr Ysgrythyrau, y gallwn i gael ynddynt fywŷd tragywyddol, fôd yn ddoeth i iechydwriaeth, yn berffaith, ac wedi fy nghwbl arfogi i bob gweithredoedd da: Ac yn enwedig, o's gwnawn ewyllys Duw trwy sanctaidd ymarweddiad, (canys yna mi gawn wybod am y ddysgeidiaeth) ac o's gweddïwn am ddoethineb; (canys fe ddywedir y rhoddid hi i mi) Ac o's dygwn fi fy hun i ostyngedig dymmer dŷn-bach, (canys dywedir mae eiddo y cyfryw rai yw Teyrnas Dduw) a'r hwn a'i gostyngo ei hun felly, a fydd y mwyaf yn-Nheyrnas nefoedd.
DOSPARTHIAD V.
Yn gyfattebol i hyn, gan fy ngosod fy hun i rodio yn nesaf y gallwn at Dduw yn fy ny [Page 7] led-sŵydd; a chan fy ngostwng fy hun gar ei fron ef trŵy roddi heibio, hyd yr oedd bossibl i mi, yr holl duedd i opiniwnau a phartïau ag oeddynt wedi cymmeryd meddiant ynof o'r blaen; a chan wneuthur fy nifrifol weddi, ar fôd iddo ef, yr hwn sydd yn datcuddio i'r rhai bychain y dirgeledigaethau hynny, y rhai ydynt guddiedig oddïwrth y doethion a'r deallus, (yr hwn a fu wiw gantho wneuthur y datcuddiad cyntaf o'i ddyfodiad i'r bŷd i fugail-ddynion tlodion, ac wedi hynny wneuthur Psycodwŷr yn Apostolion iddo) ddangos i mi ei oleuni a'i wirionedd, a chyfarwyddo fy ngherddediad yn ei ffordd:
DOSPARTHIAD VI.
Gan hynny mi a euthym ym-mlaen, gan ddyfal ddarllain yr Ysgrythyrau, a dilyn y ddull honno o ysgrifennu i lawr ar bappur y cyfryw fannau ag oeddynt yn fy marn i debyccaf i fôd yn llesol i sefydlu fy meddwl; ym-musc pa rai ni adawodd yr un gymmaint o'u hôl arnaf a'r rhai hynny ydynt yn gosod allan dymmer, neu ddull yr Efengyl a gorchwiliaeth ei hathrawiaeth hi; megis Ephes. 6. 19. Ym-mha le y gelwir hi Efengyl Tangneddyf. Math. 22. 37, 38, 39. Câr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl feddwl. Hwn yw y cyntaf a'r gorchymmyn mawr. A'r ail sydd gyffelyb iddo, Câr dy gymmydog fel ti dy hun; ar y ddau orchymmyn hyn y mae 'r holl Gyfraith a'r Prophwydi yn sefyll. Rhuf. 13. 8. Yr hwn sydd yn caru arall a gyflawnodd y Gyfraith, canys hyn, Na odineba, na lâdd; na ledratta, na ddwg gam dystiolaeth, na thrachwanta; Ac o'd oes un gorchymmyn arall, mae wedi ei gynnwys yn grynno yn yr ymadrodd [Page 8] hwn. Câr dy gymmydog fel ti dy hun. Cariad ni wna ddrwg i'w gymmydog, am hynny Cyslawnder y Gyfraith yw Cariad. 1 Ioan. 2. 10. Yr hwn sydd yn caru ei frawd, sydd yn aros yn y goleuni; ac nid oes rhwystr ynddo. Ioan. 14. 27. Yr wyf yn gadael i chwi dangneddyf, fy nghangneddyf yr ydŵyf yn ei roddi i chwi; nid fel y mae y bŷd yn rhoddi, yr ŵyf fi yn rhoddi i chwi. Ioan. 13. 34. Gorchymmyn newŷdd yr ŵyf yn ei roddi i chwi, ar garu o honoch eu gilydd fel y cerais i chwi; ar garu o honoch chwithau bawb eu gilydd. Wrth hyn y gwybydd pawb mae disgyblion i miydych, o's bydd gennych gariad i'w gilydd. Hebre. 12. 14. Dilynwch heddwch â phawb, a Sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff nêb weled yr Arglŵydd. Rhuf. 16. 17. Yr ŵyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu ar y rhai sydd yn peri anghydfod a rhwystrau yn erbyn yr Athrawiaeth a ddysgasoch chwi, a chiliwch oddiwrthynt; canys y rhai ydynt gyfryw nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglŵydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain, a thrŵy ymadrodd teg a gweniaith ydynt yn tywyllo Calonnau y rhai diddrwg. Actau 2. 1. Yr ydys yn datgan fôd yr holl liaws o'r rhai credadŵy yn gyttûn yn yr un lle. gw. 46. A hwy beunydd yn parhau yn gyttûn yn y deml. Ioan. 18. 20. Mi a leferais yn eglur wrth y bŷd, yr oeddwn bob amser yn athrawiaethu yn y Synagog, ac yn y deml, lle mae yr Iuddewon yn ymgynnull bob amser, ac yn ddirgel ni ddywedais i ddim. Math. 24 24. Cyfyd gau-Gristiau a gau-Brophwydi, ac a roddant arwyddion mawrion, &c. Am hynny o's dywedant wrthych, wele, y mae yn y diffaethwch; nac ewch allan: wele, yn yr ystafelloedd; na chredwch. Jud. gw. 18. 19. Bydd yn yr amser diweddaf watwar-wŷr, yn cerdded yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain: y rhai hyn yw y rhai sydd yn eu didoli eu hunain yn annianol, heb fôd yr Yspryd ganddynt. Heb. 10. 23. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddisigl, &c. heb esceuluso [Page 9] ein cyd-gynnhulliad ein hunain megis y mae arfer rhai. Ioan. 10. 4. Wedi i'r bugail yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o'u blaen hŵy: a'r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegit y maent yn adnabod ei lais ef. Ond y dieithr ni's canlynant, eithr ffoant oddiwrtho; oblegit nad adwaenant lais y dieithriaid. Math. 7. 15. Ymogelwch rhag gau-brophwydi, y rhai a ddeuant attoch yngwisgoedd defaid; ond oddimewn bleiddiaid rheipus ydynt hŵy 2 Tim. 3. 1. Daw amseroedd enby d cyn y dyddiau diweddaf, canys bydd dynion a'u serch arnynt eu hunain, &c. A chanddynt rith duwioldeb, eithr wedi gwadu ei grym hi; a 'rhai hyn gochel di. Canys o'r rhai hyn y mae y rhai sydd yn ymlusco i deuau, ac yn dŵyn yn gaeth wrageddos lwythog o bechodau, wedi eu harwain gan amryw chwantau. 1 Ioan 2. 19. Oddiwrthym ni yr aethant hŵy allan, eithr nid oeddynt o honom ni: Canys pe buasant o honom ni, hŵy a arhosasant gyd-â ni; eithr hŵy a aethant allan oddiwrthym ni, fel yr eglurid nad oeddynt hŵy oll o honom ni. Heb. 13. 17. Ufuddhewch i'ch blaenoriaid ac ymddarostyrgwch, oblegid y maent hŵy yn gwilio tros eich eneidiau chwi. Heb. 5. 4. Ac nid yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alŵyd gan Dduw megis Aaron. Rhuf. 10. 14. Pa fôdd y credant yn yr hwn ni chlwysant am dano? a pha fôdd y clywant heb bregethŵr? a pha fôdd y pregethant o ni's danfonir hŵynt? 1 Cor. 12. 28. A rhai yn wîr a osododd Duw yn yr Eglŵys; yn gyntaf, Apostolion; yn ail, Prophwydi; yn drydydd, Athrawon; &c. Ai Apostolion pawb? ai Prophwydi pawb? ai Athrawon pawb.
DOSPARTHIAD VII.
Wedi darfod i mi gyfleu a chyd-gyssylltu yr Ysgrythyrau hyn yn y môdd ymma, [pa un ai drŵy ddamwain a hapsiawns, ai drŵy dresnid [Page 10] a rhagluniaeth y goruchaf, ni's gwn i] Ond y mae yn ddïammau gennif, wrth eu darllain drostynt yn ystyriol ac yn ddifrifol ar ryw brydnhawn ddŷdd Sul, ddarfod i mi, hyd yr oeddwn yn tybied, ganfod ynddynt lawer o oleuni wedi ei roddi i mi tu-ag-at egluro y pethau amheius hynny, y rhai dros hîr o amser a'm blinasant: Yr hyn pan ddeellais, mi a'u darllennais drostynt yn fynych iawn; gan graffu yn oestadol ar ryw drefnydd newŷdd, a fydd yn y rhai ni ddaliaswn sulw arnynt o'r blaen: Ac am hynny mi ddygais fy mhappur gyd-â mi i ba le bynnac yr awn; ac yn fynych, fel y cawn ennyd oddïwrth fy ngwaith, yn gystal gartref ag yn y maes, myfi a edrychais drosto ac a fyfyriais arno.
DOSPARTHIAD VIII.
Allan o'r Ysgrythyrau y rhei'ni ag ydynt yn gosod allan, mae heddwch, a chariad, ac undeb yw tymmer a natur yr Efengyl; mi a ddeellais yn ebrŵydd nad ymddadleu, ymrafaelio, llai o lawer ymlâdd a llâdd, oedd y ffordd i dderchafu gwirionedd Cristianogawl: ïe, gan fôd, Caru ein gilydd, wedi ei osod yn arwŷdd mor ddisiomedig, a bôd ein Iachawdwr yn dywedyd, mae wrtho yr adnabydd pawb ei ddisgyblion ef; oddïymma mi gwbl ymroais i sicchrâu fy rhan fy hun; o'r lleiafyn hyn o beth trŵy ochelyd blino nêb â'm tŷb neillduol fy hun, na u haflonyddu hwythau o achos yr eiddynt, trŵy na chynnygent hŵy yn gyntaf wneuthur hynny i mi. Canys ar y cyfryw amser ni bydd dim yn fyr arnaf i ddywedyd a allaf, dros y Cyfreithiau a thros fy ymddygiad fy [Page 11] hun yn ol yr unrhyw. Yn fŵy neillduol mae gennyf hyn i'w ddywedyd, fôd, gan y nêb sydd ar gyfraith o'i dŷ, ryw fesur o wîr grefydd hefyd i'w ddadleu drosto ei hun; fel yr esampl y mae yn Rhuf. 13. 1. Ymddarostynged pob enaid i'r Awdurdodau goruchel, &c. A Heb. 13. 17. Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, &c.
DOSPARTHIAD IX.
Oddïwrth y Cyngor i graffu ar y rhai ydynt yn peri gwahaniaeth ac i'w gochelyd, mi a'm gosodais fy hun i ystyried pa fôdd yr oedd yn digŵydd; gan fôd, yn yr amser gynt, gymmaint undeb rhwng Cymmydogion, a chyttundeb ynghylch y pethau a berthynant i Grefydd; fôd, yr awr hon yn y gwrthwyneb, gymmaint o ymryson ac anghydfod, yn gystal ar gyhoedd ac yn ddirgel. Yr oedd yn eglur gennif mae dywedyd yn erbyn yr hên lywodraeth, a cheisio gwneuthur cyfnewid yn yr Eglŵys a'r Stât, oedd achos y gwahaniadau hyn: Ac am hynny y rhai oeddynt esgud yn hyn oeddynt yn ddiddadl yn peri yr anghydfod; a 'rhai hynny oedd y gwŷr, y rhai oeddynt i'w gochelyd yn ol hyfforddiad yr Apostol: hynny ydyw, Precisians a Phuwritaniaid, fel yr henŵyd hŵynt amser a fu; ac yr amser hwn a elwir Dilyn-wŷr Sectau, Gwŷr neillduol-dŷb, Ffanatics, neu Wŷr gwâg-grefyddol. Ac etto yn y'gwrthwyneb, wrth graffu fôd y rhai hyn yn fâth ar wŷr duwiol, ac yn wŷr llafurus yng-ngwasanaeth yr Eglŵys, a llawn Zêl yn erbyn Papyddiaeth; mi fum dros hîr amser mewn rhyw ben-syfrdanus amheuaeth, pa fôdd yr oedd bossibl i wŷr mor werthfawr neu ragorol a hŵynt syrthio [Page 12] dan y rhan, sydd yn canlyn, o adroddiad arwyddol yr Apostol, nad oeddynt yn gwasanaethu yr Arglŵydd Iesu Grist, ond eu bol. Mi a arhosais yn y Cyfyng-gyngor ymma, nes myned o'm cyttundeb yn rhy gaeth, a'm marchnad yn rhy galed, a gorfod i mi edrych am un arall: A digŵydd i mi gymmeryd tyddyn mewn plwyf, bûdd pa un oedd gyn lleied na thalai sôn am dano, ac am hynny nid allai fôd sôn am y Gweinidog; nid oedd nêb yn ceisio dŵyn ei le ef, o ran nad oedd dim ychwaneg o gyflog nag a welai y Gŵr llŷg, oedd berchennog y plŵyf, yn dda i roddi: felly yr Eglwysŵr, oedd yno yr amser hynny, oedd yn cael darllain y Llyfr gweddi gyffredin yn ddirwystr; ac heb na'i flino, na'i droi allan am wneuthur felly. Ond trŵy lawn-ddaionus a rhyfeddol ragluniaeth Duw, fal hyn y digwyddodd, ynnech reu y flwyddyn mil, chwe-chant, a dŵy a dauugain; Cuwrad y lle yn marw, y Gŵr, yr oedd y rhent yn genhedlawl yn perthyn i'w dreftadaeth, yn ŵr cyfaethog, ac yn ŵr tra onest hefyd; yn un yr hwn â'i deulu a ofnai Dduw â'i holl galon, a ymroodd yn hollawl trŵy râs Duw i fynny gŵr llawn o allu, yn gystal a duwioldeb, i fôd yn Guwrad iddo: Ac i'r diben ymma, a chantho dyddyn da yn y plŵyf heblaw y Barsonoliaeth, efe a roddais air allan, y rhoddai efe yn ewyllysgar, tuag-at ddyledus wasanaethiad y Guwradiaeth, heblaw y tŷ, y gerddi, a'r pellannau perthynol i'r Eglŵys, ddau-ugain punt yn y flwyddyn, heb dynnu mâth yn y bŷd ar daledigaeth na lleihâd o honynt.
Duw a'i cyfarwyddodd ef at ŵr, yr hwn bob ffordd a môdd a attebodd, ac sydd etto yn parhau i atteb a bodloni ei dduwiol ddeisyfiadau [Page 13] ef; un dros ei holl amser wedi cael ei gynhaliad, neu ei feistr, neu ei Batron a'i blŵyf mewn cywirdeb dïanwadal, ac yn llawn o barch iddo: Er cynnyg o'r Escob iddo, wedi i'r Brenhin ddychwelyd, Rent oedd well; etto efe a dybiodd yn fŵy addas iddo i escusodi ei hun, ac aros lle yr oedd o'r blaen: yr hyn, fe wedde, a fodlonodd yr Escob teilyngaf-barchedic, yn gymmaint a darfod iddo, wedi hynny, ychwanegu braint arall iddo ef at ei Guwradiaeth; ac y mae pob peth yn y lle ymma yr awr hon yn union, fel y dymmunai pawb ei fôd.
Gan gynted gan hynny ag y daethym ymma, mi greffais fôd yr holl gymmydogaeth yn llonyddach, ac yn wŷr gonestach nag oedd yn y lle hwnnw o ba un y daethwn; ac er nad oedd fawr siarad am dduwioldeb yr oedd mŵy o gariad, o dangneddyf ac o allu duwioldeb nag lle yr oedd y Pregethŵr newŷdd hwnnw yn pregethu am newyddion oleuadau a theyrnwialen Crist. Yn ol hyn, wrth graffu yn fanwylach, mi ddeliais sulw, mae lle yr oedd rhent dda, yn gyffredinol yr hên Eglwysŵr a deflid allan dan henw gwrthwynebŵr neu ddrwg-ewyllysiwr i'r llywodraeth; ond lle nid oedd ond Cuwradiaeth dlawd, (megis yr oedd gyd-â ni, er bôd y plŵyf yn syrn eheng) nid oedd nêb yn cymmeryd mo'r drafferth arno i bregethu adnewyddiad crefydd yno: ac yr oeddwn yn gweled hefyd fôd y Pregeth-wŷr newyddion, neu fel yr oeddynt yn eu galw eu hunain, y Gweinidogion duwiol ymma, er eu bôd yn siarad yn erbyn y Cafelirs meddwon; etto heb rusio, heb ronyn o betrusder cydwybod, a ddeuent eu hunain adre o wrando pregethau ar ddyddiau marchnad yn grib-gochion ddigon, ac, yn fy nhŷb i, yn ograch-feddwon. Ar ba achos [Page 14] mi a ddechreuais ddrwg-dybio nad aur oedd bob peth disglair, ac wrth ymofyn mi ddaethym i ddeall fôd y rhai hynny ganmwyaf, ag a droisant eraill allan o'u lleoedd am fôd yn wŷr ac anair iddynt, yn haeddu anair eu hunain ryw ffordd; ac, wedi iddynt o Guwradiaid tlodion a Chrefftwŷr, wedi torri eu stât ac heb allu cywiro â 'rhai a'u coeliasent, ddyfod i'r Rhentau gorau yn y wlâd, nid oeddynt yn meddwl am rai sâl nac am achub eneidiau y rhai oeddynt yn y fâth leoedd: ïe, yn lle gwneuthur gwaith gweinidogion Efengyl tangneddyf, yr oeddynt yn chwythu udcorn rhyfel, trŵy roddi calon a chyssur ym-mhawb i wrthryfela yn erbyn Enneiniog yr Arglwdd, a thrŵy regu Meroz â rhegfau chwerwon am na roddai gynnorthŵy iddynt yn yr achos ymrafaelgar hwnnw.
Yn yr un môdd y rhai hynny oll, y rhai yn eu cymmodogaethau oeddynt flaenoriaid a dyscawdwŷr i'r rhai oeddynt Anabaptistiaid a'r Independantiaid, neu y Crodogiaid, ac i eraill, mi ddeellais fôd naill ai yn wŷr wedi gadael eu galwedigaethau, neu yn rhai y gadawsai eu galwedigaethau nhw, a 'r rhai a gyhuddid megis rhai a fuasent ddrwg-fucheddol, ïe ac o fôd felly etto hefyd, ac a fuasent oll ganmwyaf yn wrthryfelus i'r Brenhin: Felly yr oeddwn yn tybied fôd i mi achos tra-mawr i wneuthur defnydd o ragarchiad cynghorus yr Apostol, ac i gilio oddïwrthynt, oddïwrth y rhai gorau o honynt; canys, hyd yn oed y rhai hyn, pawb o honynt oeddynt yn euog o fuw yn wrthwynebol i gyfreithiau adnabyddus y deyrnas hon, ac o arferu a meddiannu llawer o bethau, megis yr eiddynt eu hunain, y rhai wrth y Cyfreithiau [Page 15] hynny nid oeddynt eiddo hŵynt; ac felly yr oeddynt yn euog o fuw yn y pechodau mwyaf cyhoeddus. Felly er eu bôd, ffordd arall, yn wŷr llawn-allu a llawn-roddiad etto pŵy all wadu nad, fel y mae gwybed meirwon yn llygru yr ennaint gwerthfawr, felly y pethau hyn, er ym-marn rhai nad ydynt ond gwall-ymddygiadau bychain, oeddynt yn ein mysc ni yn dŵyn gogan ar y rhai oeddynt. ac etto ydynt mewn cyfrifmawr o ran eu doethineb? Preg. 10. 1. Tydi yn unig, O Dduw, ŵyt sanctaidd; Tydi yn unig ŵyt gyfiawn; ond nid oes un arall, nid yn unig o'th wasanaethwŷr gorau mewn ymddangosiad, ond o 'r rhai gorau mewn gwirionedd yn yr Yjgrythyr, yr hwn mewn rhyw beth ni nodŵyd megis un beius, a hynny yn ddïammau ar yr achos ymma, rhag i ni synnied o nêb ryw ddŷn yn uwch nag y dylid synnied o honaw.
DOSPARTHIAD X.
Allan o'r ysgrythyrau hynny, y rhai oeddynt yn dangos, fôd y rhai a gredasant gyntaf yn ymgynnill ynghyd i'r un lle, ein Iachawdwr a'i Apostolion yn cyrchu i'r deml; ac hefyd allan o'r hyfforddiadau hynny, beidio edrych am Grist yn yr anialwch, nac yn yr ystafelloedd dirgel, nac i gredu a dilyn y rhai a gymmerant arnynt ei ddangos yno: Ac wrth ddal sulw ar nôd adnabyddus y rhai hynny a'u neillduant eu hunain, ac hudant eraill mae gwatwar-wŷr fyddent y rhai a ddirmygent bawb ond nhw eu hunain, y deuent hwy yn y dyddiau diweddaf (hynny ydyw, yn yr amseroedd ar ol dyfodiad Crist, ym-mha rai yr ydym ni yn buw, yn gystal ag yn yr amseroedd [Page 16] er ei ddyfodiad a fuant o'n blaen ni) ac y rhodient hŵy yn ol eu chwantau annuwiol, yn annianol, heb fôd ganddynt yr yspryd, hynny ydyw, er eu bôd yn cymmeryd arnynt fôd yr. yspryd ganddynt, etto fe a eglurid eu bôd yn gnawdol. Ymma mi a dybiais ynof fy hun fy môd yn cael rhybudd, megis trŵy leferydd o'r nef, yn erbyn ymgynnulliadau ac ymgyfarfodau dirgel neillduolaidd: Yn arbennig pan aethym rhagof, a darllain y Cyfarwyddiadau oeddynt yn canlyn yn fy mhappur, I. ddal cyffes ein gobaith yn ddisigl, heb esceuluso ein cyd-ymgynnulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; A hefyd ddammeg y bugail a'r defaid, yr hon a welais ei bôd wedi ei harferu yn ddibaid gan ein Iachawdwr; canys wrth hyn ni fedrwn ond meddwl mae bleiddiaid, oeddynt hŵy mewn gwisciad defaid, ac nid bugeiliaid, y rhai yn lle arwain a ddinystrient y defaid, a gwaith pa rhai oedd eu herlid yn bellaf y gallent oddïwrth y gorlen, a thynnu i lawr y gorlen hefyd. Ond pan ddaethym at y fan, lle mae S. Pawl yn rhoddi mynegiad adnabyddus o'r dyddiau diweddaf, a'r amseroedd enbyd a ddigwyddent yn y dyddiau hynny, pan fyddai ddynion a'u serch arnynt eu hunain, yn gybyddion, yn ffrostwŷr, yn feilchion, ac yn gyfryw; Ac er hynny a chanddynt rith duwioldeb, ac yn ymlusco i deiau, gan ddŵyn yn gaeth-wrageddos lwythog o bechodau wedi eu harwain gan amryw chwantau. Nid oeddwn yn gweled ddim ychwaneg wedi ei adael i ddangos pŵy, neu pa fâth oedd dysgawdwŷr ein hamseroedd ni, trŵy na henwid pob un o honynt wrth ei enw gwahanredol: Ac am hynny, yn lle rhyfeddu faint oedd nifer y rhai a syrthient attynt, neu a redent ar eu hol; mi a'm bodlonais fy hun â'r cyfrif y mae yr Apostol Ioan yn ei roddi. Oddiwrthym ni yr aethant [Page 17] allan am nad oeddynt o honom ni; ac hyd ein hoed, eu mynediad allan oedd yn gwneuthur yn amlwg, nad oeddynt o honom oll.
DOSPARTHIAD XI.
Yn ddiweddaf, allan o'r Ysgrythyrau ag ydynt yn gorchymmyn in' Ufuddhau i'r rhai ydynt drosom, ac a draethasant i ni air Duw, ac ymddarostwng iddynt; gan nad yw eu hawdurdod oddiwrth ddŷn ond oddiwrth Dduw, ac nad yw neb yn cymmeryd yr anrhydedd hwn iddo ei hun, ond yr hwn a alŵyd gan Dduw megis Aaron, a bôd mor ammhossibl i ddynion iawn bregethu heb eu danfon, a chredu heb bregethŵr: A darfod i Dduw roddi rhai yn Apostolion, yn y lle uchaf a chyntaf; rhai yn Brophwydi, yn yr ail lle; ac yn y drydedd, rhai yn Athrawon; ac nad oedd pawb i fôd yn Apostolion, yn Brophwydi, nac yn Athrawon. Yn y pethau hyn yr oeddwn yn gweled yn eglur brîf sefydlad a chadarnhâd y weinidogaeth Eglwysaidd, a'r rhwymedigaeth i ufuddhau i'w gweinidogion. Yr oeddwn yn gweled hefyd yr angenrhaidrŵydd o alwedigaeth gyfreithlawn ac nad allai nêb rhyw ddŷn ryfygu myned: nes ei ddanfon. Ac ym-mhellach yr oeddwn yn gweled fôd trefn raddol yngngweinidogaeth yr Eglŵys, rhai i fôd uwchlaw y llall; rhai i ddanfon: ac eraill i'w danfon ganddynt hwythau.
DOSPARTHIAD XII.
Ac o hyn oll fe a'm argyhoeddŵyd yn eglur ac yn gwbl, pan ystyriais y cyflwr gresynus y daethai y genedl hon iddo, trŵy [Page 18] anufudd-dod ac esceulusdra i gyflawni y dyledswyddau rhagddywededig; canys megis y dygodd ein dibrisdra ar orchymmyn ein Harglŵydd, i gadw tangneddyf ac undeb tu-acat ein gilydd, yn ddïammau arnom ryfel ofnadŵy, (ym-mha un megis yr oedd pob mâth ar gyflwr wedi megis ei faglu, yr oedd y llafurŵr tlawd yn bennaf yn dioddef, canys efo oedd wedi ei osod yn ysclyfaeth i bob dihir-ddŷn a fyddai ar geffyl tan enw Trwper; efo a gae weled mewn noswaith ddifa y cwbl ag a ddarparasai yn gynhaliaeth i'w deulu ac i'w anifeliaid tros y flwyddyn, heblaw yr anoddefus orhydri, i ba un yr oeddid yn ei wneuthur yn ddarostyngedig, trŵy luddias iddo fôd yn feistr ar ei dŷ, nac yn brin aros ynddo:) Felly bôd heb wneuthur cyfrif o'r dyledswyddau eraill hynny o graffu ar, a gochelud y rhai oeddynt yn peri anghydfod a gwahaniadau, a bôd heb gyrchu i'r cynnulleidfaoedd cyhoeddus, a bôd heb ufuddhau i'r rhai sydd yn blaenori arnom, oedd eglur sylfaen a dechreuad yr holl wahaniadau yn yr Eglŵys; a than ba rai yr ydym ni yr amser hwn yn griddfan. Canys pŵy bynnag a fedr gofio dym o'r pethau a fuant yn yr amseroedd gynt, nid all na's gwybyddo ddarfod i ddynion yn gyntaf lysu ran o'r addoliad gyoeddus, wedihynny eu didoli eu hunain oddiwrth yr unrhyw; ac yna i gyfiawnhau eu hymddioliad hŵy a ddilornasant neu feiasant ar ychwaneg; ac yn y diwedd ni adawsant iddynt eu hunain ddim Cristianogrŵydd yn ei herwŷdd, heblaw yr enw a'r broffes o hony. Er esampl o hyn, yr ŵyf yn cofio ynghylch dechreuad yr hîr eisteddfod o barliament, fôd bonllefain ac achwŷn mawr yn erbyn coel-grefydd yn yr [Page 19] Eglŵys, a'i gwasanaeth; Ac yn y lle cyntaf, yr erfyniadan neu y Litany yr oeddid yn eu gwrth-ddywedyd; wedi hynny, y Catecism neu'r athrawiaeth ferr o grefydd; wedi hynny, Gwasanaeth y Cymmun: Ac yna y dechreuŵyd dywedyd yn erbyn ffurfau gosodedig o weddi yn gyffredinol, wedi hynny, yn erbyn y Credo, ac yn ddiweddaf, yn erbyn Gweddi yr Arglŵydd hithau. Yn y cyfamser; y dynion hynny ag oeddynt ar y lled-escusion ymma yn gadael yr Eglŵys, yn gyntaf a'u datganasant eu hunain yn Bresbyteriaid; ac wedi hynny nhw a gynnyddasant i fôd yn Anabaptistiaid neu wrthwynebwŷr bedydd: Ac oddïyno yn Gwaceriaid neu Ranters, (fel y gelwid nhw) neu yn ddi-Dduw, neu yn ddigrêd; âc o'r diwedd (canys i hynny y mae pob cychwynfa o'r rhai'n yn tueddu) nhw a ddaethant i fôd yn Baptistiaid proffessawl. Wrth y moddion hyn, nid oedd gan y gŵr gwreng gwladaidd un mâth ar gyfarwyddid i Iechydwriaeth; nid oedd iddo un Catecism neu Athrawiaeth i'w hyfforddio yn ei ddylêd i Dduw a'i gymmydog; nid oedd iddo ddim gweddïau na Sacramentau i gonffyrddio ac i gynnal ei enaid i fynu: Ond yr oedd yn rhaid iddo weddïo allan o law yn ddifyfyrdod; (peth yr oedd yn ei weled na fedrai y Pregethŵr ei hun wneuthur, heb siarad geiriau cabledd ac anweddus, neu o'r lleiaf amherthynasol) yr oedd yn rhaid iddo gymmeryd gafael ar Grist; I wneuthur ei hun yn sicr o Grist; Fôd ganddo fewndrigiannoldeb gyd-â neu yng-Nghrist: Yr oedd yn rhaid iddo fôd wedi ei dduwio yn-Nuw, ei gristio yng-Nghrist; a llawer o'r fâth Glindarddach a lledgynghanedd ffôl mewn ymadroddion a glywid yn arferol; y rhai ni wnânt lês tu-ag-at [Page 20] y dyledswyddau mawr ac Efangylaidd hynny, Ffudd, Edifeirwch, a Newydd-deb buchedd.
DOSPARTHIAD XIII.
Heblaw hyn yr oeddwn yn canfod yn rhai tai, ac yn cael hyspysrŵydd siccr am lawer eraill, fôd rhai annysgedig gwbl, pennaethiaid eu hamryw deuluoedd, pa un bynnag ai gwŷr ai gwragedd gweddwon; wrth gynnyg y ffordd ymma o weddio yn ddifyfyrdod, ac wrth weled nad allent wneuthur felly i fodlondeb eu gwrandawŷr na nhw eu hunain, O ran y byddent yn fynych yn sefyll ynghanol eu gweddi, heb ganddynt ddim i'w ddywedyd; ac weithiau yn gorfod iddynt arfer ofer ddadwrdd yr un peth yn fynych drosto, ac yn fynych siarad anrheswm a chabledd; Trŵy y rhai hyn a'r cyfryw dwrstan dramgwyddiadau, a thrŵy ganfod nad allent gadw i fynu a chynnal yn drefnus eu teuluaidd ddefosiwnau trŵy y rhoddiad hwnnw; ni chadwasant monynt ffordd yn y bŷd, ond a adawsant iddynt suddo a chwbl golli, ac er hynny hyd yr awr hon fel rhai yn buw heb Dduw yn y bŷd: Ni arferasant fâth yn y bŷd ar wasanaeth, nac un rhan o dduwioldeb yn eu teuluoedd; nhw a ymadawsent yn gwbl â dyledsŵydd gweddi, mor gwbl ac nad arferant hi yn breifat neu yn neillduol eu hunain.
DOSPARTHIAD XIV.
Allan o'r holl ystyriaethau ymma, wedi i mi dros lawer o flynyddoedd bwyso a dŵys-fyfyrio ar y rhesymmau a grybwyllŵyd yr awr hon am danynt, mae yn ymddangos i mi mor [Page 21] eglur a'r haul hanner dŷdd mai megis yr oedd prîf a gwreiddiol achos ein trueni a'n gwahaniadau, ac y mae etto yn tarddu trŵy falais ac anghariadoldeb ein Calonau, felly eu hachos mŵy digyfrwng oedd ac yw ein hesceulusdra o'r gwasanaeth cyhoeddus: Ac mewn gair, ein dibrisrŵydd o lyfr gweddi gyffredin yr Eglŵys. Canys pan lysŵyd hwnnw, ein holl drymion ddialeddau ninnau a ddechreuafant; ac yn siccr nid allwn ddisgwil diben arnynt, hyd (fel yr oedd ac y mae y bwriad a'r diben, er mŵyn pa un y dychymmygŵyd y llyfr gweddigyffredin gyntaf) o'ni wnelom ni o Eglŵys Loegr hwn, yn nesaf at y Beibl, yn bennaf hyfforddiad o wasanaeth Duw, ar osteg gartref, yn gystal ag ar gyhoedd yn yr Eglŵys. Mae yn hyfforddŵr mor siccr, mor barod, mor gywir, ac mor hawdd ei ddeall ymhob peth; fel wrtho megis y gall pobl felly y dylent rybuddio eu blaenoriaid cyfeiliornus, pan fyddo (megis y gall fôd) achos a chyfle. Canys yr ydŵyf i yn cael hyn yn eglur, mai cam-gymmeriad gresynol mewn rhai, a gwael ogan, anair mewn eraill yw dywedyd fôd llawer o blwyfydd yn Eglŵys Loegr wedi eu gadael i flaenor digon ehyd a lled-ffôl; I un weithian gan belled oddiwrth fôd a gallu gantho i hyfforddi eraill ag na fedr, neu o'r lleiaf nid ydyw mewn môdd gweddus yn ei hyfforddi ei hun, nac yn gwîr drefnu ei ymarweddiad. Ond nid felly y mae ein mam ni Eglŵys Loegr, nid ydyw mor ddibris a hyn am ei phlant; mae gan belled oddiwrth eu gadael at law blaenoriaid anheilwng o fôd felly, nad ydyw yn gadael monynt i dywysogaeth a hyfforddiad un dŷn sengl, er mor alluog a theilwng a fyddo, llai o lawer i un heb fôd nac yn alluog nac yn deilwng [Page 22] i'w harwain. Ond pa fôdd ynteu y mae yn eu gadael; i bŵy ond mewn gwirionedd i'w phrofedig a'i llŵyr-gwbl-holedig hyfforddiad hi ei hun yn unig yn Y Llyfr Gweddi gyffredin, yr hwn a gadarnhaŵyd ac a sefydlŵyd trŵy y gallu gorau, cyflawnaf, a phennaf yn yr Ynys hon. A rhowch gennad i mi i ddywedyd i chwi, fy Mhlant a'm Cymmydogion, ac mi a ddymunaf arnoch ystyried yr hyn a ddywedafyn ddifrif: Yr ŵyf i yn credu yn ffyddlon, mai o achos godidogrŵydd Y Llyfr Gweddi gyffredin, ac nid o achos un gwîr ddrygioni neu anwiredd ag ellir ei gael ynddo, y mae yn digŵydd ddyfod o honaw tan lŵyr gâs ac anfodlonrŵydd pob mâth ar Sectau. Canys maent yn gwybod yn dda, Pe cae yr hyfforddwr hwnnw ei ddyledus barch, nid allai eu gwendid a'u drygioni fyth gael eu cymmeryd yn lle gwirionedd a duwioldeb, gymmaint ag gyd-â'r gwaelaf eu dealldwriaeth, fel y maent yr awr hon yn cael eu cymmeryd gydâ gormod, a'r rhai hynny hefyd o'r râdd mŵyaf pwyllog. Canys pan ddarfyddo unwaith i'r rhai mwyaf eu gallu roddi heibio eu parch i'r Llyfr Gweddi gyffredin, yr ŵyf fi yn canfod beunydd eu bôd hŵy yn agored ac yn barod i dderbyn pob ffôl ac ysceler argraph ag sydd i'w gael. Ac ymhellach, fel y prophwydodd un er y [...] pedwar ugain mlynedd bellach, y byddai y gwŷr hynny, ag y gynnysgaeddasai Dduw â gras synwŷr ac â dysgeidiaeth i ddibennion mŵy rhagorol, yn barod ar bob lliw achos i frathu ac i newidio y pethau ag ydynt o brîf odidogrŵydd.
DOSPARTHIAD XV.
Nid ŵyf i mor ehud a gobeithio y gwna y [Page 23] hynny gyfrif o'r rhai hyn, neu o un rhan o'm geiriau, y rhai y mae eu budd tragywyddol yn ddïammau yn eu rhwymo i wneuthur cyfrif o honynt, ac i adael eu perswaedio trwyddynt. Ond beth bynnag gan ddarfod i mi gymmeryd arnaf roddi cyfrif o'r pethau adnabyddus i mi trwy brofiadau yn y pethau a berthynant i Grefydd; yr wyf yn rhoi fy nhŷb fy hun i lawr yn eglur, a'r seiliau hefyd ar ba rai y cododd y dŷb honno ynof: Ac yr awr hon mi âf rhagof i adrodd Pa fâth yw fy Ymarfer yn fy Addoliad yn gyhoeddus yn yr Eglŵys ac ar osteg yn fy nheulu.
DOSPARTHIAD XVI.
Yn gyntaf mi a osodaf ar lawr yr amryw Ysgrythyrau a dynnais i ynghyd ynghylch gweddi, ac wrth ba rai yr wyf yn fy hyfforddi fy hun yn y dyledswyddau perthynasol iddi, pa un bynnag ai o'r neilldu neu yn breifat. 1 Thes. 5. 17. Gweddiwch yn ddibaid. Ephes. 6. 18. Gan weddio bob amser, â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr yspryd; a bôd yn wiliadwrus at hyn ymma, trŵy bob dyfal-bara, a deisyfiad tros yr holl Sainct. Luwc 18. 1. &c. Yr Iesu a ddywedodd ddammeg i'r diben ymma, fôd yn rhaid gweddïo yn oestad, ac heb ddiffygio; gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas &c. Luwc. 11. 1. &c. Un o ddisgyblion Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Arglŵydd, Dysg i ni weddio megis y dysgodd Ioan i'w ddisgyblion. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pan weddiwch, dywedwch, Ein Tâd, yr hwn ŵyt yn y nefoedd &c. Math. 21. 13. Ty gweddi y gelwir fy nhŷ i. Math. 18. 19, 20. O's cydsynnia dau o honoch ar y ddaiar am ddim oll beth bynnag a ofynnant, efe a wneir iddynt gan fy nhâd yr hwn syddyn y nefoedd. Canys lle y mae dau neu dri wedi ymgynnull yn [Page 24] fy enw i, yno yr ydŵyf yn eu canol hŵynt. Math. 26. 39. Yr Iesu a syrthiodd ar ei wyneb, gan weddio a dywedyd, Fy nhâd, o's yw bossibl, aed y Cwppan hwn heibio oddiwrthyf; etto nid fel yr ydŵ yfi yn ewyllysio, ond felyr ŵyt ti &c. Ac efe a weddioddy dry dedd waith, gan ddywedyd yr un geiriau. 1 Cor. 11. 4. Pob gŵr yn gweddio, neu yn prophwydo, a pheth am ei ben, sydd yn cywylyddio ei ben. Math. 6. 6, 7. Pan weddiech, dos i'th ystafell &c. na fyddwch siaradus. 1 Cor. 14. 15. Mi a weddiaf â'r yspryd, ac a weddiaf â'r deall hefyd. Iago. 1. 6. Gofynnwch mewn ffŷdd, heb ammau dim. 1 Cor. 14. 40. Gwneler pob peth yn weddaidd ac mewn trefn.
DOSPARTHIAD XVII.
Allan o'r Ysgrythyrau ag ydynt yn gorchymmyn, gweddïo yn ddibaid, a bôd yn wiliadwrus at hyn ymma, gweddïo yn oestad heb ddiffygio; ac hefyd allan o ddammeg y barnŵr anghyfiawn a'r weddw daer, mi a ddaethym i gwbl syniad ofawr a thrwm berthynasau y dyled-sŵydd gweddi. Ond heblaw hyn gan fôd yn eglur, fôd dyledswyddau Cristianogawl eraill i'w cyflawni; ië rhai naturiol hefyd, megis bwyta, yfed, a chysgu &c, mae yn eglur nad dealldwriaeth lythyrennol y geiriau a amcenir ymma; felly o'r tu arall mi a gyfrifais yn rhesymmol nad ellid diddymmu y tecst megis nad arwyddoccau ddim oll. Ac o's hynny sydd, yr hyn lleiaf a ellid yn deg ei ddychymyg ydoedd hyn, sef bôd rhaid mynych gyrchu at weddi beunydd, a pharhau felly; er i ni roi peth yspaid rhwng y naill weddi a'r llall; Y rhai ddychweliadau i weddïo, pa un oeddynt ai i fôd cyn fynyched ag y mae Dafydd yn crybŵyll, pan yw yn dywedyd, Saith waith yn y [Page 25] dŷdd a'th foliannaf di; neu yn unig yn ol ymadrodd arall yr un Prophŵyd, Boreu a hŵyr a hanner dŷdd y gweddiaf attat, sydd beth ïw drefnu nid yn unig wrth dduwiolder, ond hefyd wrth ennyd a chyfleusdra pob dŷn neillduol; Ond yn unig lle mae Cyfreithiau y rhai ydynt bennaethiaid arnom yn yr Arglŵydd wedi cwbl drefnu y peth yn barod.
DOSPARTHIAD XVIII.
Allan o'r gorchymmyn i weddöo yn yr yspryd, wedi ei gystadlu âg athrawiaeth ein Iachawdwr i'w ddisgyblion, i weddïo megis y dysgasai Ioan i'w ddisgyblion; hynny ydyw, mewn ffurf osodedig: Ac allan o arfer Ein Iachawdwr ei hun, yr hwn a weddïodd gan ddywedyd yr un geiriau; myfi a ddysgais fôd gweddïo mewn ffurf osodedig yn cyttuno yn dda â gweddïo trŵy'r yspryd, nad oedd dim anghydfod rhyngddynt, (Canys yn ddiddadl yr oedd Ein Iachawdwr yn gweddïo trŵy yr yspryd,) ac hefyd y gellid ail-adrodd yr un geiriau (fel y rhaid gwneuthur mewn ffurfau gosodedig) heb ofer redeg tros yr un peth yn fynych. Felly y cwbl oll ag a grybwyllir am danynt megis pethau yn ffrwyno neu yn diffodd yr yspryd, nid ydynt ond bwbachod gweigion, ofer, i ddychrynnu pobl weiniaid: Fel hefyd y mae bwrw tywalltiad gweddi yn ddifyfyrdod ar yr Yspryd glân. Y pethau hyn oll nid ydynt ond anwireddau haerllug, a chelwŷdd ar yr Yspryd glân. Ac ym-mhellach, wedi im' ystyried yn ddifrifol y matter ymma; yr oeddwn i yn gweled beth bynnag a siaradai ddynion am weddïo trŵy roddiad etto nad yw yn weddïo trwy y rhoddiad i nêb, ond yn [Page 26] unig i'r hwn sydd yn myfyrio y gweddïau, ac yn eu traethu: I'r rhan arall o'r gynnulleidfa maent yn ffurf osodedig. A phŵy ni wêl hyn, fôd yr holl wrandawŷr yn cael eu rhwymo cymmaint gan y Geiriau a ddywedir heb fyfyrdod, a phe byddent eiriau a draethŵyd allan o lyfr? Ac am hynny gan fôd y cyfryw weddïau yn yr ymarfer yn peidio a bôd mŵy trŵy roddiad ac yn myned yn ffurf; fe fyddai cystal, ië a llawer gwell fôd ffurf adnabyddus a ddeallai y gynnulleidfa, ac ymha un y gallai gyd-gyssylltu, nag un newŷdd, ac adnabyddus, ar ol pa un ni fedr neb, ac ondodid ni ddylai nêb ddywedyd Amen. Nid âf fi i ychwanegu nad ydyw'r peth, yn arferol a elwir Dawn, ddim ychwaneg fynychaf nâ Hyfder, Ymarfer, a rhugl Siarad. Ond pe buasai, neu pe byddai, yn rhyfeddol allu, megis rhoddiad tafodau a gwrthiau, ni's gwn i achos yn y bŷd i bobl i'w mawr brisio eu hunain neu eraill ar yr achos hwnnw; gan nad yw y cyfryw ganhadiadau yn cynnŵys danynt râs Sancteiddiol: Ac mae ein Iachawdwr wedi dywedyd, nad adnebydd ef mo lawer ag a wnaethant wrthiau yn ei Enw, ac yn ei Enw a fwriasant allan gythreuliaid. Ymhellach mi a ddeliais fulw, gan ddarfod i'n Iachawdwr addaw i'r Gynnulleidfa o Gristianogion y rhai a gyttunent am ryw un peth ag a ofynnent, Y gwneir y peth iddynt; Siccr yw, mae gorau ffordd i siccrhau hawl i'r addewid ymma ydyw, cyttuno, nid yn unig yn y pethau i'w gosyn, ond yn y ffurfau a'r geiriau hefyd ym-mha rai y dylyd erfyn am danynt; trŵy na byddom mor lledfeddod a thybied, na ffrwynir mo'r yspryd wrth gyttuno yn y peth i'w ofyn, ond y gwneir felly wrth gyttuno ar y geiriau. Heblaw hyn yn gymmaint a bôd [Page 27] llawer wedi eu didwyllo, ac yn cwbl gredu y gwirionedd dïammau hwn, sef, Er bôd gweddïau disymmwth yngŵydd eraill, mewn teulu neu Eglŵys, yn felysach ac yn bereiddiach yng-nghlustiau dynion; ac i rai clwyfus ac ar drangcedigaeth heb ymadael â'r Cnawd, yn ymddangos felly: Etto nid ydynt yn rhyngu bodd yn well in Duw, nac yn fŵy llesol i ni ein hunain ychwaith, nâ'r ffurfau gosodedig, y rhai ydynt yn cynnŵys pob peth anghenrhaid, o's bydd ynddynt yr un taer ddymuniad, dyfalwch, a gwresogrŵydd ag yn y lleill. Gan fôd y peth, meddaf, fal hyn, pa ham nad ydym ni yn gwilied, ac yn rhwymo ein calonnau i'r astudrŵydd, a'r parhâd pennaf yn y ffordd orau o addoliad ag sydd? A pha ham na pheidiwn ni a rhoddi i ni ein hunain gennad i ddilyn y peth yr ydym ni yn ei gam-alw yn well, ac yn harddach, ac yn tueddu ychwaneg i ddangos i ni yr anrhydedd a'r parch sydd gan ein Eglwyswŷr tu-ac-attom. A ninnau, ddim ond o eisiau tynnu yn groes i'n tuedd i hyn o beth, yn gweled ymhob man nid yn unig Heddwcha chariad, ond Ffŷdd hefyd, yn darfod bob ychydig, ac yn cael eu disylfaenu yn rhyfeddol? Canys pa fôdd y nâghawn ni ein hunain o rŵysc mewn pethau eraill o bob mâth, o ni fedrwn wneuthur felly yn yr un peth hwn; yr hwn sydd bob amser yn weddol, ond yr awr hon dra anghenrhaid wrthrych y Grâs Efangylaidd mawr hwnnw, ein gwadu ein hunain? Ond heblaw hyn, allan o'r addewidion cyssylltedig â'r Ysgrythyrau rhagddywededig hyn, yr wŷf yn chwennych ychwanegu dïogelwch a siccr hyder o gael fy ngwrando yn fy ngwedïau; gan wybod Yr â nef a daiar heibio cyn i un titl o air Duw golli, a bôd heb ei [Page 28] gyflawni: Am hynny, trŵy na ofynnom ar fai, O's gofynnwn, nyni a dderbyniwn; o's ceisiwn, nyni a gawn; o's curwn, fe a agorir i ni; nid megis pe caniadheid i ni bob amser yr hyn a erfyniom am dano, ond ni gawn yn lle y peth hwnnw ryw beth gwell a godidoccach. Fel hyn, er nad aeth y cwppan heibio i'n Iachawdwr, pan weddïodd, Math. 26. etto efe a wrandaŵyd yr amser hwnnw, megis am y peth yr oedd yn ei ofni, Heb. 5. 1. Ac er na thynnŵyd y draen o gnawd S. Pawl; er na symmudŵyd Cennad Satan, yr hwn oedd yn ei gernodio ef, yr hyn yr oedd y weddi a weddïasai ef dair gwaith yn ei ofyn: Etto efo a attebŵyd yn hyn; Grâs a roddŵyd iddo a nerth Duw yr hwn a berffeithir mewn gwendid, 2 Cor. 12.
DOSPARTHIAD XIX.
Oddïwrth Esampl ein Iachawdwr yn syrthio ar ei wyneb, ac ar ei liniau mewn gweddi; ac oddïwrth yr hyfforddiad a roddasai yr Apostol, i wŷr i ddïosg oddïam eu pennau, ac i wneuthur pob peth yn weddaidd ac mewn trefn, yr ydŵyf yn dysgu pa fâth oedd gostyngedig ymosodiadau y Corph, a'r ymddygiadau addas i weddi; ac am hynny eu bôd nhw yn wall-gofus gynddeiriog, neu o annuwioldeb nid ellid cydddŵyn â hi, y rhai a gymmerant ymaith Seremoniau, ac felly a dynnant ymaith bob trefn a gweddeidd-dra oddiwrth Addoliad Crefyddol, gan wneuthur anrhesnusdra ac eisiau moes yn berthynas i dduwioldeb. Ië ac ymhellach etto wedi hîr ystyriaeth, a difrifol fyfyrdod ar y peth ymma, yr oeddwn yn gweled fôd y rhai oeddynt yn gwrthwynebu Seremoniau, megis pethau [Page 29] coel-grefyddol neu tan rith ac escus eu bôd yn gyfryw, yn y cyfamser yn euog eu hunain o'r un peth hwnnw: Gan mae yr un caethiwed a thorriad ar rydd-did Cristianogawl ydyw i un ei rwymo ei hun, neu eraill i wneuthur y peth nid yw ynddo ei hun na da na drwg, a chymmeryd ei rwymo gan eraill i wneuthur yr unrhyw beth; ond yn unig o ran hyn ar y naill achos mae y gŵr yn unig yn goel-grefyddol, ar y llall y mae yn anufudd, yn garŵr gwahaniaeth, ac yn goel-grefyddol hefyd. Ië ym-mhellach etto, tra mae carŵr gwahaniaeth ac anghydfod yn cymmeryd arno ofni rhoddi achos tramgŵydd i'w frodyr gweiniaid; hynny ydyw, i'r rhai ydynt yn anufuddhau Cyfreithiau eu Llywodraethwyr ysprydol ac amserol hefyd, mae yn rhoddi gwîr achos tramgŵydd i'r rhai cryfion, i'r rhai ydynt yn cyflawni eu dyledswyddau, ac yn rhodio yn rheolus: Ac o's caiff ei esampl ef fuddugoliaeth drostynt, rhaid iddo atteb am eu hanufudd-dod hŵynt, a'r eiddo ei hun hefyd.
DOSPARTHIAD XX.
Wedi i mi ddyfod ar y seiliau rhagddywededig i sefydlad yn fy nhŷb am ddyledswyddau Cristianogrŵydd, mi welais y dylwn i drefnu Fy Ymarfer felly, fel y byddai yn gyfattebol i'm tŷb honno. Yr hyn beth, fel y gwneuthym hyd yn hyn, fel yr ŵyf yn parhau i wneuthur, ac fel yr ymegnïaf trŵy help Duw i wneuthur hyd ddiwedd fy einioes, yr ydŵyfyn dyfod yn y lle nesaf i'w fynegu a'i adrodd: A hyn a wnâf â'r un rhŵydd-der ac eglurdeb ag a arferais yn fy nhraethawd hyd yn hyn.
DOSPARTHIAD. XXI.
Ac yn gyntaf, fy unig waith a'm gofal ar Ddydd yr Arglŵydd, ac ar Ddyddiau Gwylion a'u Nosweithiau; a hefyd ar y Mercherau a'r Gwenerau, pan ddarllenner y Litany, o's possibl a fydd i mi, yw myned i'r Eglŵys ar ddechreu y gwasanaeth sanctaidd; neu yn hytrach, o's gallaf, ychydig cyn ei ddechreu; fel y gallŵyf fy mharottoi fy hun i'r ddyledsŵydd fawr honno Gweddi: Gan gofhau yn fy meddwl fâth wersau o'r Ysgrythyr ac ydynt yn ymddangos yn fwyaf addas a phrïodol i gynhyrfu defosiwn a gwresogrŵydd gweddi; megis Ymadroddion y Psalmydd; Llawenychais pan ddywedant wrthyf, Awn i dŷ yr Arglŵydd; Dewiswn gadw drws yn-nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym-mhebyll annuwioldeb: Mor hawddgar yw dy bebyll di, ô Arglŵydd y lluoedd a'r cyfryw: A hefyd y rhai hynny a osodais i ar lawr ynghylch gweddi. Pan ddechreuo y gwasanaeth, wedi fy rhoddi fy hun mewn ymosodiad i weddi, yr ŵyf yn craffu ar y Gweinidog yn ofalus, gan adrodd yn groew yr attebion, a dywedyd Amen â gwresogrŵydd difrif ar ddiwedd pob Colect neu weddi. A hefyd yn y Psalmau a'r Hymnau yr ŵyf, nid yn unig yn derchafu fy nghalon mewn diolchgar gydnabod i Dduw'am ei drugareddau, ac yn diweddu mewn caredig roddiad Gogoniant i'r Tâd, a'r mâb, a'r Yspryd glân; Ond hefyd fel y gorchymmynnir i mi yn Psal. 65. 2. yn gwneuthur yn y rhan ymma o'm Addoliad lafar lêf iddo: Yn y lle, y mae darllain neu ganu bob ail wers mewn arfer, trwy adrodd felly bob ail wers; ac lle nid ydyw hynny arfêrol, o's bydd llyfr o'm blaen, gan ddarllain air-yngair â'r Gweinidog Eglwysig, gan uched o'r lleiaf [Page 31] ag y gallo y rhai nesaf attaf fy nghlywed; o ni bydd gennif lyfr, yr ŵyf yn dywedyd ar ei ol ef trŵy gynnorthŵy fy nghoffadwriaeth, a thrŵy graffu ddal sulw y cwbl neu y rhan fwyaf o'r geiriau a'r ymadroddion, fel y mae ef yn eu traethu yn arafedd i ddealldwriaeth yr holl gynnulleidfa. Ffordd yw hon y gallent hwythau hefyd, y rhai ydynt gwbl anllythrennog, o's mynnant, ei chymmeryd am addas gydgyssylltiad â'r gynnulleidfa yn y rhan ymma o Addoliad; a ffordd y darfu i'r cyfryw rai (fel y gŵyr rhai yn dda) ei dilyn mor llwyddiannus, a'u bôd yn gallu gwybod, (ar ol hîr a dyfal ddaliad sulw) pan glywant draethu ryw wers allan o'r Psalmau, i ba ddŷdd o'r mîs yr oedd yn perthyn; er na's gwyddent i ba Psalm yr oedd neu y mae yn perthyn. Pan ddarllenner y llithoedd, yr ŵyf yn gwrando mewn parch a llawn-ddyfal wrandawiad; gan ystyried fôd Holl-alluog Dduw y nef a'r ddaiar yn siarad wrthyf, ac ond deongliad dŷn yn llefâru allan o'r Pulpyd; ond hyn sydd wîr air Duw a phregethiad yr unrhyw, yr hwn o ni weithia arnom, beth bynnag a debygom i'r gwrthwyneb, siccr yw (canys ein Iachawdwr a'i dywedodd) Na chredem ychwaith, pe codai un oddiwrth y meirw. Yr ŵyf fi gan hynny yn gwneuthur cymmaint cyfrif o'r ffordd hon o wîr bregethu yr hon yw yr hên a'r gwîr bregethiad, (Act. 15. 21. Moses a bregethodd er yr hên amseroedd, gan fôd yn ei ddarllain yn y Synagôgau bob Sabath) a'm bôd yn tybied fôd y Gwasanaeth yn ddigon cyflawn, er na ddigwydd fôd un bregeth. Ond o's bydd un, yr ŵyf yn ei dyfal wrando yn llawen, heb roddi fy meddwl cymmaint ar gyfarwyddid, medrisrwydd, a doethineb y pregethŵr, ag ar y dyledswyddau [Page 32] a ganmolai efi mi; heb gymmeryd arnaf un amser farnu neu ogânu y cyflawnad gwaelaf: a hynny, nid o herwŷdd fôd llawer o bechod yn y fâth farn neu oganiad, ond o herwŷdd y gellir casglu peth daiôni allan o'r ymadrodd ysgafnaf a gwaelaf a ellir ei draethu. Heblaw hynny yr ydwyfyn fynych yn fy rhwymo fy hun i gymmeryd gofal rhag bôd yn euog o'r Cam-gymmeriad hwnnw yr hwn yw mam llawer o gam-gymmeriadau eraill, â pha un y darfu ysgûbo llawer ymaith, ac etto a ysgûbir ac a dywyllir trwy gam-gymmeriad, Mae diben mawr rheoli yr Eglŵys yw gwrando a dysgu: neu, mae y ffordd unionaf a'r wîr gywir Eglŵys yw honno, lle y mae mynychaf a mŵyaf galluog bregethiad. Canys pwy bynnag ydynt hwy ag ydynt o'r dŷb ymma, ac fel hyn yn tueddu i ddibennion lleiaf Cynnulleidfa oedd Crefyddol; er mor barhâus ydynt a dïanwadal yn eu cyrchiad i ymgyfarfodau cyhoeddus: yr wyf fi yn gweled beunydd na fyddent felly chwaith hîr, er bôd gweinidog y lle yn dra iachus ei athrawiaeth, yn ei bregethiad a'i eglurhâd o seiliau Crefydd; ac yn ei fywŷd yn ddiniwed, yn ddifai, ac yn ddirwystr hefyd. Ond pan ydyw pobl yn meddwl am y dibenion mwyaf yn styddlawn ac yn grefyddol, megis am Weddi a Moliant, ac am yr offrwm pennafo fawl, Y Cymmun; a chadw i fynu Undeb Cristianogawl a Chyttundeb gan wrando ar ddarllain y gair yn bwyllus, megis rhan o addoliad: (gan nad oes cywirach addoliad ac anrhydedd i Dduw yn y bŷd ymma, nâ chy faddef o'r galon a chredu mae y Beibl yw Ewyllys a gair y Duw byw;) Pan fydder yn synnied o'r pethau hyn a'r cyfryw, yna er gwaeled a fyddo y pregethiad a'r eglurhâd o seiliau Crefydd; etto y rhai gwîr gredadwy a ymgyfarfyddant [Page 33] ynghyd er mŵyn y parhaus a'r diffaeledig ddibennion hyn; ac yn eu hymgyfarfodau nhw a roant y fâth ōgoniant i Dduw, a llês i'w heneidiau eu hunain, ag a ddarfu i Dduw yn y pethau hynny mor drugarog ei ddarparu iddo ei hun ac iddynt hwythau.
DOSPARTHIAD XXII.
Pan ddarfyddo y gwasanaeth, yr ŵyf yn arfer i ymadael â'r Eglŵys yn barchedig; ac wedi dychwelyd adref, i dreulio hynny o amser hepcôrus a fydd gennif ar ddarllain fy hun, ac ar wrando ar fy ngweinidogion a'm plant, yn dywedyd eu Catecism; yn darllain yr Ysgrythyr a llyfrau duwiol eraill; yn enwedig yr Ysgrythyrau hynny y rhai a glywsant eu darllain yn yr Eglŵys, y Llithoedd, yr Epistol a'r Efengyl gosodedig i'r dŷdd; Canys y mae y rhai'n yn siccr yn fŵy cyttûn i feddwl Duw a'i Eglŵys yn y rhan ymma o Addoliad cyhoedd (y Llithoedd, yr Epistol a'r Efengyl) y rhai nid ydynt yn yr Eglŵys yn eu darllain o hyd gyd-â'r gweinidog, ond yn unig ydynt yn gwrando ar eu darllain megis rhan o addoliad; A phen ddelont adref, yn eu darllain hefyd eu hunain, gan edrych allan bob amser, a dewis hefyd, a rhoddi serch ar ryw ymadrodd neillduol i fyfyrio arno yn arbennig yr holl wythnos gwedi. Canys nid ydŵyf fi yn tybied y gellir yn yr Eglŵys orffen gwaith y diwrnod, neu mewn dŵy awr neu dair: Canys er bôd Cadwedigaeth y Sabbath yn ol y gyfraith Iuddewaidd yr awr hon allan o amser yn ddiryw, etto mae achos y gwasanaeth (yr hwn yw cyssegru rhan o'n hamser i Dduw, yr hwn sydd yn rhoddi [Page 34] i ni bob peth arall hefyd) mewn cymmaint grym ag a fu erioed; mae arnom yr awr hon gryfach rhwymedigaeth, yn gymmaint a bôd coffadwriaeth y Creadigaeth newŷdd wedi ei ychwanegu at goffadwriaeth yr hên, ac o ran fôd yn ddyledus arnom ni Gristianogion gydnabod yr ymwared oddïwrth gaethiwed y Pharoah ysprydol i fôd yn fŵy mewn llawer grâdd na gwarediad yr Iuddewon oddïwrth y Caethiwed Aiphtaidd.
DOSPARTHIAD XXIII.
Ond o's digwŷdd fôd gweinidogaeth y cymmun ar Ddŷdd yr Arglŵydd neu ar un o wyliau mawr-barchedig yr Eglŵys; nid wyf fi un amser yn esceuluso bôd yn gyfrannog o hono: ac yn gyfattebol, Trŵy fyfyrdod, a gweddi, a sanctaidd fwriad, a'r cyfryw fyr holiad o honof fy hun, ag a adroddaf yn y man, mi a fyddaf yn gwneuthur fy ngorau i'm parottoi fy hun i dderbynniad yr unrhyw, gan ystyried beth a ddigwyddodd i'r gwahoddedigion hynny, y rhai, wedi cael gwahodd i swpper eu Harglŵydd, a ddarfu iddynt ymescusodi o achos eu trafferthion bydol; a chan gofio hefyd, beth a ddigwyddodd i'r dŷn a ddaeth i'r neithor, ond heb wisg briodas, ac mor anrhesymmol ydyw gofalu am ein bara beunyddiol, yr hwn sydd yn meithrin y Corff, a bôd heb ragddarbod am y bara hwnnw â pha un y porthir yr Enaid i fywŷd tragywyddol, a hynny yn enwedig, o ran mae gorchymmyn ein Hiachawdwr Crist wrth farw ydoedd, fôd i'ni gynnifer gwaith (yr hwn a ddylai fôd yn ddïammau dair gwaith yn y [Page 35] flwyddyn) ag y gwnaem hyn, i wneuthur er côf amdano ef.
DOSPARTHIAD XXIV.
Megis am ddefosiwnau neu weddïau neullduol cartrefol, heblaw fy môd bob nôs cyn myned i gysgu yn gweddïo ynghyd â m teulu, ran o'r gwasanaeth prydnhawnol, yn ol y Llyfr Gweddi cyffredin, (Canys mae ein cyflwr gwael yn caniattau ennyd i hynny, er nad ydyw yn rhoddi cennad i gadw yr holl amserau gosodedig eraill,) yr ŵyf yn arfer ar fy mhen fy hun ymosod i geisio wyneb Duw yn y môdd ymma. Pan gyntaf y deffroŵyf, yr ŵyf yn derchafu fy nghalon mewn rhyw fyrrion dwys-fowrion weddïau at y duwiol ddaioni, yr hwn a'm dygodd yn ddïangol hyd ddechreu y dŷdd hwnnw, gan erfyn am ei fendith yn holl ddigwyddiadau yr unrhyw; a chan daro fy nillad am-danaf, cyn myned allan o loches fy ngorweddfa, yr ŵyf yn gostwng ar fy ngluniau, ac lle clyw pawb a fyddo wedi deffroi, (ar bwrpas na byddo ŵyl ganddynt hwythau, pan gyfodant, wneuthur felly hefyd; Ac yn wîr, arfer a bair iddynt fôd yn ddidor, yn ddibaid a thybied y disgwŷl dŷn yn gystal a Duw hyn ar eu dwylaw) lle y clywo pawb, meddaf, ag a fyddant effro, yr ŵyf yn gweddïo Gweddi yr Arglŵydd, y Colectau am y boreu, y rhai dros fawrhydi y Brenhin a'r Benhinawl deulu, dros yr Egwyswŷr a'r bobl, a thros bob yst ât a gradd o ddynion, gyd â'r Colect byr sydd yn canlyn, a'r dïolch cyffredinol, gan gofio mae dyledsŵydd Cristianogion yn arbennig ydyw, Gweddio dros Frenhinoedd a [Page 36] phawb mewn awdurdod, ac ychwanegu dïolchgarwch at weddi. Wrth arfer y weddi gyffredinol honno dros bob grâddo ddynion, ynddi yr ŵyf fi yn coffa yn hyspysol fy ngharedigion a'm teulu; fy nghyfnesaf a'm ewyllyswŷr da; fy Mestr tîr, a Gweinidog fy mhlŵyf yr hwn yw fy nhâd ysprydol; a hefyd fy ngelynion y rhai o'r cwbl ydynt fwyaf cymmwynasgar, o ran eu bôd yn siccr i ddywedyd i mi fy meiau, ac i roddi i mi achos i rodio yn fŵy gofalus a synhwyrol o flaen Duw a dynion, nag y gwnawn heb hynny.
DOSPARTHIAD XXV.
Wedi i mi fal hyn, fel yr ydŵyf fi yn credu mewn môdd cymeradŵy oddïwrth un o'm cyflwr, fy mendithio a'm arfogi fy hûn erbyn gwneuthur gwaith y Boreu hwnnw; Yr ŵyf fi yn myned ym-mlaen, yngyntaf ag y gallŵyf, at fy ngorchwŷl, ac yn parhau gyd-â'm gwaith hyd amser boreu-fŵyd neu frecffast; yr hwn a gymmêraf, ond nid heb râs neu fer-weddi o'i flaen yn ddistaw o'r lleiaf. Cyn hanner dŷdd yr ŵyf fi yn cymmeryd i mi ennyd i ddychwelyd yn helaethach at weddi, yr hyn a arferaf yn ol y Lityrgi neu'r Llyfr Gweddi gyffredin, gan ychwanegu y Psalmau gosodedig ar y dŷdd, y rhai a adawswn heibio y Boreu. Ac yr ŵyf yn dewis ymgadw wrth Ffurf osodedig, nid yn unig ar y Seiliau a henwais i yn barod, ond hefyd o herwŷdd ddarfod i mi ddeall trŵy brawf, Pan ollyngwn fy hun i'r fâth weddïau a deisyfiadau, ag a allwn eu hadrodd mewn byr amser heb fyfyrdod, fy môd bob amser yn y cyfryw weddïau yn amherffaeth, yn ddidrefn; ac wrth [Page 37] glyttio aml ddarnau ynghyd yn rhedeg i be▪ thau amherthynasol, ac yn treulio mŵy o am▪ser yn fy nyledswyddau nag a allwn i yn dda hepcor; (er eu bôd ar union gyfrif yn fyrrach nag y dylant fôd.) Ac etto, Nid ydwyf mor gwb [...] ymrôus wedi fy rhwymo fy hun i Ffurf osodedig, ag na byddŵyf yn arfer ar Achosion digwyddedig, a phan glywyf fy Enaid wedi ymhelaethu ynof i dywallt allan yr unrhyw, fel y byddo Duw trŵy ei râs yn rhoddi i mi allu. Ond meddaf yn gyffredinol ac yn fwyaf cynnefinol, nid ŵyf yn arferu ond Ffurfau gosodedig i weddi; A'r Ffurf a arferâf yw Gwasanaeth yr Eglŵys y Lityrgi, nid yn unig o herwŷdd ei bôd yn orau o herwŷdd ei defnydd a'i gwneuthuriad ag a fedraf fi gael, ond wrth hynny i'm cyfaddef fy hun yn aelod o'r Cyfundeb Sanctaidd hwnnw▪ a hefyd i gael y Bûdd o gyd-gyssylltiad yr un amser, ac yn yr un Gweddïau â llawer o filoedd y rhai trŵy yr holl genedl ydynt yn cyflwyno eu Herfynion o flaen Gorseddfaingc Grâs, yn yr un geiriau, ac, megis y dywedâis yr awr hon▪ ar yr un amser hefyd. Canys er fy môd yn unig wrth fyned tros y ddyledsŵydd ymma, etto wrth y pwngc hwnnw o'n ffŷdd, Cymmun y Sainct▪ yr ŵyf fi yn dywedyd yn ddigon prïodol, Ein Tâd ni ac Ein Tâd ni, Yr ydym ni ac Yr ydym ni, a Nyni a Nyni, yn yr holl weddïau eraill, yn gystal ag yn y weddi sydd uwch ben pôb gweddi, Gweddi yr Arglŵydd.
DOSPARTHIAD XXVI.
Gan hynny ar yr amser a ragddywedais, yn-niffyg lle pwrpasol i weddïo, yr ŵyf yn cyrchu i ryw le dirgel yn fy nhŷ neu yn ei gylch; Neu, o's digwydd i mi fôd gyd-â'm gorchwyl [Page 38] yn y Maes, yr ŵyf yn cyrchu at ryw Glawdd didrammwyedig, i gysgod Llŵyn neu Dwmpath; ac yno naill ai ar fy ngliniau, ai o'm sefull ai yn fy ngorwedd, megis y gallâf (Canys y mae yr holl foddion hyn yn brofedig yn yr Ysgrythyr mewn Gweddïau a Dïolchiadau) yr ŵyf yn dechreu fy nefosiwn âg un neu ychwaneg o'r gwersau o'r Ysgrythyr ag ydynt yn-nechreuad Y gwasanaeth cyffredin: Wedi hynny yn myned rhagof at y Gyffes, yr hon a adroddaf â gostyngeiddrŵydd tra-mawr, ac â chymmaint o ddifrifwch ag a fedraf; Tros yr Absoluwsion neu Y Gollyngdod yr ŵyf fi yn passio yn hollawl, o herwŷdd nad ydyw hi i'w datgan gennif fi i mi fy hun nac i nêb arall, ond gan Offeiriad yn unig. Ond megis am Weddi'r Arglŵydd, a'r Gwersiclau ag ydynt gyssylltedig iddi, a'r Attebion i'r unrhyw, a'r Gogoniant i'r Tâd yr ŵyf yn cyfrif y rhai'n yn fwyaf rhannau o'm gwaith, ac yn fwyaf pwysfawr; ac am hynny yr ydŵyf, â'r gwresogrŵydd y medraf, yn cynhyrfu fy nghalon iddo, yn eu cyflwyno i'm Duw tros bawb eraill yn gystal a throsof fy hun a'm teulu. At ba rai pan ychwanegŵyf Y Deuwch, Canwn i'r Arglŵydd, a'r Psalmau gosodedig ar y dŷdd yn gwbl, nid ydŵyf fi yn unig yn eu darllain â'r fâth ystyriaeth ag a wnêl i mi eu deall a'u dŵys synnied wrth fyned trostynt; ond fy ngofal ydyw eu gweddio drostynt, a'u haberthu i fynu i Dduw mewn difrifwch calon megis gweithredoedd o Addoliad; neu, mewn gair, i addoli trwyddynt hŵy. Pan ddarfyddo hyn, yr ydŵyf yn myned rhagof i roddi fy Ffŷdd ar waith wrth ystyried y Credo, ac i weddïo drosodd y Gweddïau gweddill yn ol Trefn yr Eglŵys, ond fy môd yn unig yn gadael heibio y weddi nesaf o flaen Rhâd ein Harglŵydd [Page 39] Iesu Grist, o ran nad ellir ei dywedyd ond gan Gynnulleidfa o ddau neu dri o'r lleiaf; ac lle mae Gwersiclau ac Attebion, o ran nad oes gennif nêb i atteb, yr ŵyf yn gwneuthur un weddi ferr, ond un ddigon llawn o gynhyrfus weithrediad o honynt oll. A hyn oll, trŵy na roddŵyf yn ehud gennad i mi fy hun i oferedd ac i chware â dïeithr ac ofer feddyliau, a dderfydd i mi ei gwplau mewn un chwarter awr, ac er bôd hynny yn ennyd o amser i Lafurŵr tlawd i'w golli, etto efe all yn dda wneuthur hynny i fynu trŵy ddyfal ddal wrth ei orchwŷl tros y rhan arall o'r diwrnod.
DOSPARTHIAD XXVII.
A'r hyn yr ydŵyf fal hyn yn ei arferu fy hun, yr ydŵyf yn ei orchymmyn i'm Plant a'm Gweinidogion i wneuthur, gan gofio, mae ym-musc amryw o'r achosion y mae Duw yn eu rhoddi, am ba rai y bendithiasai Abraham, gan ei wneuthur yn Genhedlaeth fawr, fôd yr achos ymma yn arbennig wedi ei bennodi, O ran y byddai iddo yntau ddysgu ei deulu i ofni yr Arglŵydd. Yr ŵyf yn caniattau iddynt hŵy gan hynny bob amser un chwarter awr ar ol eu Boreu-fŵyd, gan roddi caeth orchymmyn arnynt yn y cyfamser i fyned i ryw le dirgel, ac yno i geisio wyneb Duw, fel y medrant, o ni fedrant, y môdd gorau. Ac o's hwynt-hŵy, wedi caniattau iddynt cymmaint o ennyd, a rhoddi iddynt gymmaint o addysg, ni wnânt ddim o'r pethau y maent yn cael eu cyfarwyddo i'w gwneuthur, maent hŵy eu hunain ar y bai; yr ŵyf fi a'm gwaith hefyd yn ddïeuog.
DOSPARTHIAD XXVIII.
Ac yn gymmaint a bôd pobl wladaidd, y rhai nid ydynt nac adnabyddus na chynnefin â grym Duwioldeb, fynychafyn anhy ganddynt, o's creffir arnynt yn tynnu o'r neilldu i weddïo, neu o's delir hŵynt ar eu Defosiwnau; am hyn ni bûm i un amser yn fyrr i ddŵyn ar gôf iddynt, mae gwell dioddef gwatwar a gwawd ynfydion tros ddau ddiwrnod neu dri (yr hyn, wedi iddynt ddirmygu a bôd heb wneuthur cyfrif o honaw, ni flina monynt yn ychwaneg) na dioddef y cywilydd diddiwedd a'r gwarth, y rhai fyddant rhan yr annuwiol vn Uffern. Ac megis am y rhai ni fedrant ddarllain, fe ddarfu i mi bob môdd eu hannog i ddysgu ar eu tafod leferydd holl weddïau yr Eglŵys, y rhai ydynt o arfer feunyddiol, hyd y cyrhaeddai ganddynt eu dal mewn côf; gan siccrhau iddynt, fôd eu Henidiau hŵynt mor werthfawr i Dduw, ac wedi eu prynnu er cymmaint gwerth, ag Eneidiau y mwyaf dysgedig o Ddoctorion, neu Eneidiau y Tywysogion mwyaf; ac y dylent fôd hefyd mor anwŷl iddynt hwythau; Gan nad ydyw yr holl fŷd ddim cyffelybol i fôd yn dâl am un Enaid.
DOSPARTHIAD XXIX.
Ac ymma ni fedraf i, gyd-â'r eithaf dïolchgarwch fy nghalon, ond ail-gofio fy nghyflwr a aeth heibio a'm cyflwr presennol: Canys, o fewn y dau-ugain mlynedd a aethant heibio, pan oeddwn i mewn gallu i gadw lle un mewn gwaith, fe a'm cynghorŵyd i gadw Gwêdd i aredig, er nad oedd fy nghyflwr tlawd [Page 41] fy hun yn cyrhaeddid y bedwared ran o'r Tynn; Ond gan mae hwn oedd y ffordd fwyaf cynghorus a gorau i fuw, mi a'i cymmerais mewn llaw, ac wrth hynny mi a gymmellŵyd trŵy angenrhaidrŵydd i gadw Gweinidogion; ac mi a ymddygais tu-ag-att y rhai'ni, yr un môdd a rhai eraill; gan adael iddynt hŵy wneuthur a fynnant yn y pethau perthynasol i'w Heneidiau. Ac yr amser hwnnw ni fedrwn i gael ganddynt wneuthur dim, ond pan fyddwn a'm llygad arnynt. Ac o's digwyddai i mi neu i'm gwraig fyned oddicartref ond ychydig ffordd, pan ddychwelem, ni fyddem siccr i gael ein croesawu adref â newŷdd o ryw ddrwg ddamwain a fyddai trwy eu dïofalwch a'u hanhacclus warchodaeth. Ond pan welodd Duw yn dda fy nghyfarwyddo i'r ffordd yr ŵyf yr awr hon ynddi, i'm harferu fy hun, ac o rwymo fy nheulu i Wasanaeth Duw; yr ydŵyf yn gweled fy ngwasanaeth fy hun yn cael ei gyflawni yn well. Canys o's myfi neu fy Ngwraig neu bob un o honom a awn i Ffair neu Farchnad, a gadael gwaith i'w wneuthur, yr ydym yn siccr i'w gael wedi ei wneuthur yn dda, ac i gael yr Anifeiliaid a'r rhai bychain, (pan oedd y plant felly) a'r tŷ hefyd mewn cystal trefn a phe buasem ein hunain gartref. Ac o's digwŷdd iddynt ymbell waith ymdroi a bôd yn segur, yr ŵyf yn gweled fôd yn gywilydd ac yn ddrwg ganddynt o herwŷdd eu hesceulusdra, ac y byddant yn ddiccach wrthynt eu hunain, nag y medrwn i fôd wrthynt hŵy am hynny. Felly mewn llawer o bethau amserol, yr ŵyf yn canfod mae gwîr ydyw, fôd Duwioldeb yn Elw mawr, ac mae yr unig ffordd i gael Gweinidogion da, ydyw e u gwneuthur yn Gristianogion da yng-ngyntaf.
DOSPARTHIAD XXX.
Hyd yn hyn mi roddais gyfrif o'm beunyddiol Ymarfer yn-nyledsŵydd Gweddi, fel yr ŵyf yn arfer fy hun ac yn gorchymmyn i'm teulu. Ond heblaw hyn, tra yr ydŵyf gyd-â'm Gorchwŷl, nid ydŵyfsi yn peidio trŵy fyfyrdodau ag ergudiau defosiwnol i dderchafu fy nghalon at Dduw, gan erfyn arno drugarhau wrthyf, ychwanegu fy ffydd, dysgu i mi gyfrif fy nyddiau, a'r cyffelyb. Ac i rwymo fy meddwl yn fŵy i feddyliau da ac ymarweddiad nefol; beth bynnag y byddŵyf yn ei wneuthur, yr ŵyf yn troi fy meddwl at grybwylliad Yspryd Duw yn yr Ysgrythyr lân am y gorchwŷl neu'r gwaith neillduol hwnnw. O's aredig y byddaf, yr ŵyf arferol i goffa y felldith esmŵyth honno a osodŵyd ar Adda, o fwytta bara trŵy chwŷs ei wyneb; a hefyd Ddammeg yr hauŵr, a chyffelybiaeth Teyrnas nef i Faes; gyd-â gorchymmyn y Prophŵyd, I franaru branar y galon, a pheidio â hau ymusc Drain, a'r cyffelyb. Pan fyddŵyf ym-mhlith fy Anifeiliaid, yr ŵyf yn cofio Ymadrodd y Prophŵyd, Yr Uch a edwŷn ei Feddiannydd, a'r Assyn bresel ei Pherchennog; ac Ymadrodd Dafydd, Na fyddwch fel March neu Fûl heb ddeall; ac hefyd eiriau Ein Iachawdwr, Myfi yw y bugail da, a'r cyfryw. Ac yn wîr, y mae yn digwŷdd felly, nad oes un rhan o orchwiliaeth y Llafurwr, nad ydyw ryw ffordd wedi ei breinioli yn yr Ysgrythyr; megis pe buasai fwriad yr holl-alluog Dduw i gynhyrfu ewyllysgarwch y galwedigaeth dirmygus, poenus hwnnw, trŵy osod allan ddirgeledigaeth mawr duwioldeb, mewn Dammegion a Chyffelybiaethau wedi eu tynnu oddïwrth yr unrhyw: Ein Hiachawdwr ei hun heb fôd [Page 43] yn anwiw ganddo ei alw ei hun yn Fugail, a Duw Tâd yn Llafarwr.
DOSPARTHIAD XXXI.
Fel y gallwyf i a'm teulu gyflawnu hyn oll yn fwy cymmeradwy a llwyddiannus, yr ydŵyf yn arbennig ar y Suliau a'r Dyddiau ar ba rai y gweinir y Cymmun, yn rhoddi y Gorchymmyn caethaf arnaf fy hun a nhwythau i wneuthur y ddau beth hyn; Yn gyntaf, ar gymmeryd gofal yn ein Addoliad cyhoeddus, neu ddirgel, na byddo dim yn ol arnom o dderchafu ein Addoliad oddimewn, trŵy ein rhwymo ein hunain i fawr ofal a beunyddiol arferiad yr addoliad oddïallan, trŵy daflu ein Cyrph i lawr, trŵy ymostwng ar ein Gliniau, trŵy godi ein Dwylaw a'n Golygon tua'r Nef, trŵy ochneidiau a griddfanau, trŵy ein rhwymo ein hunain, weithian o'r lleiaf, i ddywedyd gwîr eiriau yr holl Weddïau a'r Dïolchiadau yn unair â'r Gynnulleidfa, a'r cyfryw bethau, y rhai ydynt yn gosod ym-mlaen yn fuddiol ac yn arwyddion hefyd o ddefosiwn y Galon oddimewn; Gan wybod yn dda fôd amryw fannau o'r Ysgrythyr, heblaw y rhai a grybwyllŵyd, llawer trŵy Esampl, ac nid ychydig mewn dull Rheol, yn ein galw i hyn o Ddoethineb: O ran nad oes dim mŵy angenrhaid i droi ymaith o gymdeithas dyledswyddau Cristianogawl, na'i diriwiad, o eisiau y buwioghadau hyn, i ddigalonnog a dïysprydol ddatganiadau, neu, i wîr wefus-waith neu orchwŷl tafod; neu, yr hyn sydd waith, i fôd yn bresennol yn yr Eglŵys, ac heb fôd yn y gweddïau. Heblaw hyn, prawf helaeth sydd wedi gadael hyn in' megis Gwirionedd disigl, y gall [Page 44] fôd ymddygiad duwiol oddïallan, lle na byddo dim oddimewn, ond nad oes un amser wîr ddefosiwn oddimewn heb ryw fesur oddïallan hefyd. Yn ail, yr ydŵyf yn cymmeryd gofal bob Dŷdd Sul y boreu yn arbennig, o's bydd yn ddiwrnod Cymmun, na orwêddo nêb o honom yn hŵy, yn ei welu, o herwŷdd mae dŷdd gŵyl ydyw; Ond yn hyttrach ar fyned i'w gwlau ychydig gynharach y nôs o'r blaen, i'r diben o godi ychydig boreuach y boreugwaith hwnnw, fel wedi pryssur orphen ein holl orchwilion angenrhaid ac o gyffredin onestrŵydd, y gallom bawb gyrchu i ryw le dirgel cyn amser Gweddi; Ac yno wedi i ni trŵy Ffŷdd ein cyfleu ein hunain megis yng-ngolwg Duw, i wneuthur bawb fel yr arferaf i wneuthur; Hynny ydyw, yngyntaf yr ŵyf yn offrymmu i Dduw Weddi'r Arglŵydd, ac vn-niwedd pob Arch, yr ydŵyf yn meddwl, o's nid yn unig, etto yn bennaf am danaf fy hun; Wedi hynny, y Weddi o flaen y Gorchymmynion, gan newid yn unig, Feddyliau ein Calonnau, i, Feddyliau fy Nghalon, ac, Fel y carom dydi yn berffaith, i, Fel y carŵyf dydi yn berffaith: Ac wedi darfod hyn, yr ŵyf yn ostyngedig yn adrodd pob un o'r Gorchymmynion; ac ar ol adroddiad yr unrhyw, yn dywedyd, Arglŵydd trugarhâ wrthyf, am droseddiadau y cyntaf, yr ail, neu'r trydydd Gorchymmyn hwn, &c▪ pa fâth bynnag ydynt neu fuant; Ac am yr amser i ddyfod, gostwng fy nghalon i gadw y cyntaf, yr ail, neu'r trydydd gorchymmyn ymma, &c. yn ei lawn gynhwysiad a'i wîr ddealldwriaèth: Gan feddwl rhyngof â mi fy hun, a chan goffa, ac adrodd mewn geiriau, fel y medraf, fy nhroseddiadau diweddaf o bob gorchymmyn: Ac wedi y cwbl, Arglŵydd trugarha wrthif, ac ysg rifenna yr holl gyfreithiau [Page 45] hyn yn fy nghalon, mi a attolygaf it'. Wedi hynny, mi a ddywedaf un o'r gweddïau tros y Brenhin; Ac yno mi a wnâf fy ngorau, ar osod allan waith fy Ffŷdd ar y Credo a elwir Credo Nisên, trŵy ddisigl grediniaeth a datganiad o honi, fel hyn; Credaf yn un Duw—Ac yn un Arglŵydd Iesu—A chredaf yn yr Yspryd glân—A chredaf fod un Catholic ac Apostolic Eglwys—Gan gloi y cwbl â'r ergid defosiwnol ymma o'r Ysgrythyr; Yr ŵyf yn credu, Arglŵydd, cymmorth fy anghrediniaeth; A chaniattâ i mi yr ydŵyf yn attolwg, Arglŵydd, fôd i mi mewn gwirionedd gredu yn-Nuw Tâd, megis yn fy ngwneuthurŵr i a'r holl fŷd; Yn-Nuw Fâb megis fy ngwaredŵr i, a holl ddynol ryw; Ac yn-Nuw Yspryd glân, megis fy Sancteiddiŵr i a holl etholedigion Bobl Dduw; Ac fel y gallŵyf adnabod Crist Iesu, a gallu ei adgyfodiad ef, a Chymdeithas ei ddioddefiadau, fel wedi fy ngwneuthur yn gyd-unsfurfiol i'w farwolaeth ef, y gallŵyf gyrhaeddid adgyfodiad o feirw, Amen. Wedi gwneuthur hyn oll (mewn hanner chwarter awr) nid ydŵyfyn ammau dim, nad ydyw hyn yn gywir holiad ac yn wîr arferiad Ffŷdd ac Edifeirwch; mae yn siccr gennif ei bôd yn gyfryw ag a all buwoliaeth drafferthus Pobl wladaidd yn gyffredinol, ac yn ddidorr gyrhaeddid iddi. Ac ar ol hyn, yr ydym yn myned oll ynghyd i'r Eglŵys, fel y gallom fôd yno ryw ychydig ennyd cyn dechreuad y Gwasanaeth, megis y dywedais o'r blaen; heb adael i nêb o honynt aros ar yr ol gartref, o ni bydd i un aros i warchod y tŷ ac i gadw y Crochan i ferwi; megis ag o flaen hyn i warchod y rhai bychain: A hyn (i nodi hyn ar hynt) ar yr ystyriaeth ymma; O ran, tra byddo plant yn wîr fabanaidd, Myfi a dybiais erioed yn oraueu cadw nhw gartref; a hynny, o herwŷdd nad yw y Plant a'r rhai bychain a elwir i glodfori [Page 46] Duw wîr fabanod aflafar, ond debygwn i y cyfryw fâth o Blant a'r rhai hynny yn St. Mathew, y rhai y mae y Tecst yn dywedyd yn eglur, eu bôd yn y deml, yn dywedyd, Hosanna i Fâb Dafydd, Mat. 21. 15.
DOSPARTHIAD XXXII.
Fe fu yn wîr, yn yr amser a fu, yn ein musc lawer o Bregethau, neu Draethawdau mewn dull Pregethau, yn y Trefydd marchnad; megis y bu ac y mae amryw Gynnulleidfaoedd cartrefol bychain ac ymgyfarfodau dirgel: I'r rhai y gwn ddarfod i lawer o'm Cymmydogion gyrchu, a'u bôd etto yn parhau i hynny; ac yn barnu ar eraill am na wnânt yr un peth, ac ydynt yn grwgnach llawer am fôd yn gwahardd arnynt: O'm rhan i, nid ydŵyf fi wedi fy modloni, nad ydyw yr un gorchymmyn ag sydd yn erchu gorffywys ar y Dŷdd Sabbath, yn gorchymmyn hefyd yn gaeth ac yn ddilysiant, Chwe Diwrnod y gweithu. Ac yr ydŵyf yn ofni y bydd rhaid yn y Dŷdd diweddaf roddi cyfrif am ddrygioni ein pethau sanctaidd ymma, nid yn unig o achos balchder, neillduolaeth unigol, gwahaniaeth, a gwrthryfelygarwch y cyfryw ymgyfarfodau; ond am dreulio yr amser wrth wrando, yr hwn a ddylasid ei dreilio wrth weithio; ac y caiff Llawer ag ydynt yn crïo, Arglŵydd, Arglŵydd, ac yn tybied fôd ganddynt gydnabod mawr â Duw, eu danfon yn ol â'r ymadrodd ymma, Nid adwaen chwi, Ewch oddi-wrthif chwi weithredwŷr anwiredd, Luwc. 13.
DOSPARTHIAD XXXIII.
Ond heblaw y dyledswyddau cynnefinol ymma [Page 47] o Grefydd, mae crybŵyll yn yr ysgrythyr am amryw rai nad ydynt mor arferedig; y cyfryw ydynt, ympryd, ymostyngiad, mawl a Diolchgarwch; ein rhoddi ein hunain i fynu i law Duw mewn clefyd, ac yn ddiweddaf, Parottoad erbyn marwolaeth: Yr holl bethau ymma ni fedraf i ond tybied fôd yn berthynasol i mi i'w cyflawnu. Am y cyntaf, er bôd ei holl einioes i Ddŷn tlawd yn fâth ar ddirwest, ac yn Rawŷs parhaus; etto yn ddïammau, ymadrodd ein Hiachawdwr wrth ei Ddisgyblion, y rhai oeddynt gan dlotted a'r tlottaf, Math. 6. Pan ymprydioch, &c. Sydd yn rhîth ddangos, neu yn lledganiattau, fôd y ddyledsŵydd honno yn cyrrhaeddud y cyfryw rai ag ydynt dlodion: Heblaw hyn, o's oes gan wŷr tlodion bechodau i edifarhau o honynt, mae yn ddyledus arnynt ddïal arnynt eu hunain, a chyflawnu y Gweithredoedd addas i Farwolaethad Pechod yngair yr Apostol, 2 Cor. 7. Megis am Foliant a Diolchgarwch am drugareddau wedi eu derbyn, nid ydyw hyn yn unig ddyledsŵydd Diolchgarwch naturiol, ond y weithred bennaf o Addoliad, a gwaith Tragywyddoldeb yn y Nefoedd, yn ol ymadrodd y Psalmydd, Yr hwn a abertho Foliant a'm hanrhydedda i. Ond pan gymmero Clefyd afael arnaf fi, yr ydŵyfyn edrych ar hynny megis llaw ac ymweliad Duw yn ddigyfrwng; am hynny mi fyddaf yn gwneuthur fy ngorau, tra byddo fy nerth a'm iawn deall yn parhau, ar drefnu fy nhŷ a gwneuthur cyfiawnder â'm Teulu, gan adael iddynt yr hyn y darfu i Dduw fy mendithio âg ef. Canys yr ydŵyf yn gweled, o eisiau gosal amserol yn y peth ymma, fôd Llythyrau Cymmun y Meirw yn gyffredinol yn Ewyllysion, neu yn hyttrach yn Gnafeidd-dra neu drawswyredd y rhai Buw: [Page 48] Wedi gwneu thur hyn, yr ŵyf yn bwrw ymaith bob gofalon bydol, ac yn fy mharottoi fy hun erbyn fy nghyfrif diweddaf, ac yn tybied fôd yn fŵy dyledus arnaf ddanfon am Bysygŵr yr Enaid, yr Eglwysŵr, nag am Bysygŵr y Corph; er nad ydŵyf ychwaith yn gadael hynny heb wneuthur. Dymma y cyfarwyddid y mae St. Iago yn ei roddi i ni, O's bydd nêb yn glaf, danfoned am henuriaid yr Eglŵys, Iago 5. Ac er ondodid na bydd ef nac mor dduwiol nac mor ddysgedig ag y dymmunid ei fôd ef, etto gan mae ei ddylêd ef yw, gweddïo tros y Bobl, a bendithio Enw Duw; mae i mi bob rheswm i goelio yn ddisigl, y bydd ei weinidogaeth o weddïau ac o'r Sacrament yn llesol i mi, ac y gellir fy achub i trŵy bregethiad yr hwn sydd ei hun yn anghymmeradŵy, 1 Cor. 9. 27.
DOSPARTHIAD XXXIV.
Wedi rhoddi hyn o gyfrif am fy nylêd tu-agatt Dduw; yr ydŵyf yn-nesaf i siarad am y rhan fawr arall sydd yn canlyn, ac syddd yn perthyn i'm Cymmydog; pa un bynnag ai uwch nâ mi, y Tywysog neu'r Swyddog; ai un o'm cydrâdd, fy nghyfaill a'm Cyd-ddeliad. Ym-mherthyn i'r cyntaf mi gefais hyfforddiad yr Ysgrythyrau hyn a'r cyfryw; Fy mab, o fna'r Arglŵydd a'r Brenhin, ac na ymmyr a'r rhai anwastad: Canys yn ddisymmwth y cyfyd eu destryw nhw, a phŵy a ŵyr eu dinistr nhw ill dau? Dihar. 24. 21, 22. Na felldithia y Brenhin yn dy feddwl: Preg. 10. 20. Ofnwch Dduw, Anrhydeddwch y Brenhin. Ymddarost yngwch i'r Brenhin, megis y goruchaf; i'r Llywiawdwŷr, megis trwyddo ef wedi eu danfon. 1 Pet. 2. 13, 14, 17. Angenrhaid yw ymddarostwng, nid yn unig o herwŷdd llid, [Page] eithr o herwŷdd Cydwybod hefyd. Rhuf. 13. 5. Y rhai a wrthw) nebant yr awdurdod, a dderbynniant ddamnedigaeth iddynt eu hunain. gw. 2. A phan ystyriwyf pa nifer o Eneidiau wedi eu cam-hyfforddi a ymrwymasant, nid yn unig mewn gwrthryfelgarwch goleu yn erbyn Enneiniog yr Arglŵydd, ac a dywalltasant waed eraill a'u gwaed eu hunain hefyd yn yr ymrafael dwrstan honno; ond ydynt yn parhau hyd heddyw i'w cysiawnhau eu hunain am y peth a wnaethant. Megis yr ŵyf yn synnu o achos y fâth wrthnysigrŵydd ffromwŷllt-wallgofus; felly yr ydŵyf yn deall fy môd yn rhwymedig i dderchafu fy nghalon at Dduw gyd-â phob dïolchgarwch, yr hwn a'm cadwodd yn ol rhag fy arwain i'r brofedigaeth ymma; a thrŵy yr holl diweddar helbulion a'm cadwodd, nid yn unig rhag codi fy llaw yn erbyn y diweddar Frenhin, ond rhag cydnabod fôd i mi hawl yn y parti hwnnw, rhag dal o'i du ychwaith pan oedd yn fwyaf llwyddiannus; ac yn ymddangos ar unwaith yn Dduwioldeb ac yn Fûdd mawr.
DOSPARTHIAD XXXV.
Ac am fy ymddygiad tu-ag-at fy nghyd-râdd a'm Cyd-ddeiliad, yr Ysgrythyrau a'm hyfforddiasant yn hyn ydynt gyfryw a'r rhai hyn; Ymgais â Thangneddyf a dilyn hi. Psal. 34. 13. O's yw bossibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlawn â phob dŷn. Rhuf. 12. 18. Nid yn talu Drwg am Ddrwg, a Senn am Senn; eithr yng-ngwrthwyneb yn bendithio, gan wybod mae i hyn eich galŵyd, fel yr etifeddoch fendith. 1. Pet. 3. 9. Na fyddwch yn-nylêd nêb o ddim, ond o garu bawb eu gilydd. Rhuf. 13. 8. Na attal ddaioni oddi-wrth y rhai y perthyn iddynt, pan fydd ar dy law i'w wneuthur. Dihar. 3. 27. Pa bethau bydunag [Page] oll a ewyllysioch ei wneut hur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hŵy: Canys hyn yw y Gyfraith a'r Prophwydi. Math. 7. 12. Gosod o'r nailldu dy Ddegymmau trŵy lawenydd. A yspeilia dŷn Dduw? etto chwi a'm hyspeiliasoch i. Ond chwi a ddywedwch, ym-mha beth a'th yspeiliasom? yn y degwm a'r Offrwm. Mal. 3. 8. Na orthrymmed ac na thywylled nêb ei Frawd mewn dim, canys Dialydd yw yr Arglŵydd ar y rhai hyn oll. 1 Thess. 4. 6. Clorionnau anghywir ydynt ffiaidd gan yr Arglŵydd. Dihar. 11. 1. Yn yr hyn y galŵyd bob dŷn, yn hynny arhosed gŷd-â Duw. 1 Cor. 7. 24. Heb roddi eich meddwl ar uchel bethau, eithr yn gyd-ostyngedig â'r rhai isel râdd. Rhuf. 12. 16. Na rodia yn Athrodwr. Lefit. 19. 16. Nac un yn ymyrryd â matterion rhai craill. 1 Pet. 4. 15.
DOSPARTHIAD XXXVI.
Gan fôd yr Efengyl wedi ei galw yn Efengyl Tangneddyf, gan fôd ein Hiachawdwr, megis Tywysog yr unrhyw, wedi gwneuthur ei gyhoeddiad cyntaf trŵy Enau y llu nefol, ddyfod o honaw i ddanfon Tangneddyf ar y Ddaiar, a thu-ag-at ddynion Ewyllys da; gan fôd ei fywyd a'i orchymmynion yn curo ym-mhennau dynion y ddyledsŵ ydd honno; gan fôd ei rôdd wrth farw yn hael-rôdd o'r un natur sef o dangneddyf; yr oeddwn yn fy modloni fy hun o angenrhaidrŵydd y Ddyledsŵydd, gan goelio mae drwg oedd y cyfnewid y mae dynion yr awr hon yn ei wneuthur â'r fâth ddiwidrŵydd, y rhai ydynt yn colli siccr fediant Undeb â Thangneddyf, tan ddisgwiliad ac mewn rhîth gwirionedd. Cariad yn wîr all guddio llïaws o bechodau; Ond gwybod ewyllys y Meistr, heb wneuthur yr unrhyw yn ffyddlon, a fydd achos am ba un y cystuddir ni âg ychwaneg a thrymmach [Page 52] gwialennodiau. Ac ynghystadlaeth yr Apostol, mae gwybodaeth yn chwyddo, ond Cariad sydd yn adeiladu: Mae Cynnydd o'r naill sef o wybodaeth, yn tueddu i glefyd; ond o'r llall, sef o Gariad, i gryfder a defnydd da. Yr holl-alluog Dduw sydd ei hun yn un; ac a roddodd un Cyfryngŵr rhyngddo ef ei hun a dynion, y dŷn Crist Iesu. Nid oes hefyd ond un Ffŷdd, un Bedydd, un Obaith gyffredinol; a'r holl Gristianogion a wnaeth ef trŵy y cwlwm tynna o Undeb yn aelodau o'r un Corph, tan y Pen Crist Iesu. Ac yn ddïammau nid oes gennim fawr gyfrif o'n prophes, fawr wybyddiaeth o anrhydedd ein hiachawdwr, neu o'n dyledsŵydd a'n perthynasau ein hunain, o's gwnawn ni ddrylliad neu rŵyg ymma, o's torrwn ni trŵy holl rwymau Undeb, gan gyfrif y rhan yn well na'r cwbl, a bôd o'r eiddo Pawl, neu Apollos, neu Sephas, yn fŵy dewisol, na bôd o eiddo Crist.
DOSPARTHIAD XXXVII.
Yn-nesaf at Gariad yr ŵyf yn cyfrif Cyfiawnder, yr hon sydd Ddyledsŵydd mor dduwioI, a bôd fy Elusenau yn yspail hebddi; Y gweithredoedd gorau, o's bydd eu sail mewn trawsder, nid ydynt ond y fâth Aberthau ag a offrymmid y Tophet, lle yr oedd Llofryddiaeth yn offrwm.
DOSPARTHIAD XXXVIII
Bôd heb dalu dyledion sydd fâth gyffredin, ond gwîr fâth hefyd o Anghyfiawnder; lladrad ydyw, ac sydd fynychaf yn drymmach o hyn, o herwŷdd fôd torried ymddiried ac [Page 53] addewid yn gyssylltedig âg ef. Gwell gennif si gan hynny ddŵyn eisiau, na benthycca dim ond a allŵyf yn siccr ei dalu; a gwell gennif fôd pob peth allan o ffordd, na'môd yn ol o gywiro yn union yr hyn a addewais, pa un bynnag fyddant fy rhwyme digaethau ai rhai sefydlog am ardraeth i'm Meistr tîr, a threthau cyffredinol; neu ddamweiniol, rhwymedigaethau am daledigaethau ar ddiwrnod gosodedig am a brynnŵyf neu a farchnattŵyf, neu ryw rwymedigaethau eraill trŵy Fil neu Fond; Ac i'r diben ymma yr ydŵyf yn ddigon cynnil ac heb ymrwymo ond anfynychaf ac am leiaf y gallwyf am yr amser i ddyfod, o ran na wn beth all ddigwŷdd mewn diwrnod.
DOSPARTHIAD XXXIX.
Ym-musc fy Nyledion yr ydŵyf yn cyfrif y ddylêd honno yn fwyaf angenrhaid ei chyflawnu, sef, gwneuthur a allŵyf o ddaioni i bawb ag y byddo i mi a wnelŵyf â hŵynt; gan gyfrif yn angharedigrŵydd i mi fy hun yn gystal ag i'm Cymmydog, golli y llês a'r bûdd o wneuthur cymmwynas; ond yn wîr anghyfiawnder tu-agat Dduw yr hwn a'n gwnaeth ni yn orychwilwŷr ac yn olygwŷr ar ei ddaionus bethau; ac a'n cerydda ni am osod ein Talent heibio i'w chadw mewn Napcyn, fel pe darfuasai i ni ei hafrodloni mewn glothineb a gormodedd.
DOSPARTHIAD XL.
Y rheol ferr a safadŵy am Gyfiawnder a Chariad, yr ydŵyf fi yn ei gymmeryd, ei fôd yn wneuthuriad i eraill y pethau a fynnwn iddynt [Page 54] hwythau wneuthur i minnau: Ac nid all dim fôd fŵy cymmedrol na haws i'w gymmwyso i bob Achos digwyddedig na hyn; y gwaelaf ei Ddealldwriaeth yn gwybod ei ddeisyfiadau a'i ddisgwiliadau ei hun, ac wrth hynny yn gwybod ei Ddyledsŵydd hefyd. Er esampl, o's na fynnwn i yn fy nghyfyngder eithaf a'm hangen fy ngadael yn ddigymmorth, gadewch i mi gymmeryd gofal, na throthŵyf fy wyneb rhag un dŷn tlawd: O's da gennif gael dywedyd i mi yn eglur ac yn Gristianogawl fy ngham-gymmeriadau a'm drwg ddigwyddiadau, gadewch i mi fod mor gywir i Air-da fy Nghymmydog, ac mor ewyllysgar i'w ddŵyn at y gorau, ag na ddywedŵyf i nêb eraill, ond i'r troseddwŷr yn unig eu beiau a'u tramgwyddiadau: O's nad da gennif fy nhynnu i lawr trŵy grochlefain a digywilydd-dra eithaf, hyfder a haerllugrŵydd, gadewch i mi gymmeryd gofal rhag ceisio trŵy siarad roddi arall i dewi, a gwneuthur iddo synnu a'i bendafadu: O's yw ddrwg gennif fôd son am danaf hyd y dref neu'r wlâd, gadewch i mi na wnelŵyf ddim tu-ag-at wneuthur siarad am eraill. &c.
DOSPARTHIAD XLI.
Taledigaeth Degymmau, mi wn, yn gyffredinol sydd yn ymddangos yn faich mawr, ond yr ydŵyf fi yn cyfrif hyn yn rhagorfraint mawr. Mowr-ddrwg Caen oedd offrymmu i Dduw y gwaethaf o'i Gynnydd; ond rhaid i hwnnw fôd yn gyrrith ryfed dol yr hwn a rwgnacho offrwmo hynny. Wrth ddarllain yr Ysgrythyr yr wyf fi yn can fod yn hawdd, fôd yr Iuddewon yn eu cyn taf a'u [Page 55] hail Ddegymmau, yn eu Blaen-ffrwythau, yn yr iawn Ddamweiniol tros aflendid cyfreithlawn, (heb son am eu hoffrymmau tros bechod, a'u hoffrymmau gwir-fôdd, a'u haddunedau, nac am eu Dinasoedd a'u Cyffiniau oeddynt yn perthyn i'r Offeiriadau ac i eraill yn gwasanaethu yr allor) yr ŵyf fi yn gweled eu bôd yn fŵy llaw-roddiad o'u Dâ tuag-at Wasanaeth Duw, nag y disgwilir gennym ni Gristianogion fôd yn yr amseroedd ymma. Ac etto mae yr Apostol yn dywedyd fôd yn rhaid, tan yr Efengyl, yn gystal a than y Gyfraith Iuddewaidd, i'r rhai sydd yn gwasanaethu yr Allor, fyw wrth yr Allor. A pha sutt bynnag, yr ydym ni yn tybied fôd y rhan lleiaf, gwaelaf, a mwyaf disulw, yn ddigon iddynt, etto mae'r Apostol yn eu cyfrif yn deilwng, nid yn unig o anrhydedd unigol, ond o un dau-ddyblyg. Ar fyrr eiriau, gan fôd Duw yn rhoddi i ni y cwbl, ac heb ofyn ond y ddegfed ran, mae yn ormod bryntni a chrintachrŵydd wrthod rhoddi hynny iddo. Haelioni gwŷr da a'u rhoddes hŵynt i Dduw ac i'w Eglŵys; Cyfraith y Deyrnas a'u gwnaeth hŵynt yn Etifeddiaeth yr Eglŵys; Ni phrynnodd nêb mo'r hawl ymma erioed i'w wneuthur yn berthynasol iddo ei hun; Nid oes nêb yn talu ardraeth am y rhan honno gyd-â'r naw eraill; felly yr ŵyf si yn gwneuthur anghyfiawnder â Duw ac â Dŷn, ac â'm henaid fy hun, gan belled ag y gall Lladrad a chyssegr-yspail fy ngwneuthur yn anghyfiawn o's attaliaf fy Negymmau.
DOSPARTHIAD XLII.
Wrth wneuthur marchnadoedd yr ŵyf yn [Page 56] gochelyd pob drwg-gyfrwysdra a dichell; heb na goganu yr hyn a fynnwn brynnu, na chanmol yr hyn a ewyllysiwn werthu; llai o lawer yr arferaf ddywedyd Celwŷdd, neu, yr hyn sydd waethaf yspail, arfer mesurau a phwysau anghywir, y rhai a elwir yn gymmŵys yn bethau ffiaidd gan yr Arglŵydd.
DOSPARTHIAD XLIII.
Gan mae llafuro yw fy ngalwedigaeth, yr ŵyf yn rhoddi fy holl frŷd arni; gan wybod yn dda, gan nad ydŵyf ŵr i wybod Ystât y Deyrnas, nad ydyw weddus i mi ymdrafferthu yngughylch gwybodaeth mewn matterion ystataidd; nac ymgynhennu â'm goreu-gwŷr, y rhai y mae Cristianogrŵydd yn gorchymmyn i mi ufuddhau iddynt, a gweddïo trostynt. A chan nad ydŵyf ddifeinydd, nid allaf gymmeryd arnaf drefnu yn ddibennol gwestiwnau mewn Crefydd, neu wrth-ddadleu yr Eglwysŵr, yr hwn sydd trosof yn yr Arglŵydd.
DOSPARTHIAD XLIV.
Gan mae Meistr ydŵyf ar fy Nheulu fy hun yn unig, nid allaf ymmyrryd â'r pethau a ddigwyddant yn-Nheulu fy Nghymmydog; ond rhaid i mi wneuthur cyfrif mawr yn-nŷdd y Farn trosof fy hun, a thros y rhai yn perthyn i mi ac am hynny nid ydyw hi ond gwaith heb rai [...] i mi ymrwystro â chyfrifon amherthynasol eraill. Yn fy Nheulu fy hûn, yr ydŵyf mor hy ag edrych, fôd pawb yn buw yn ol ei Gyflwr heb adael i'm Meibion ymdrwsio mewn Rubanau a Theganau, mŵy addas i'r Ceffyl blaenaf a [Page 57] dynn fy Nghertwain, nag iddynt hŵy: nid ydŵvf yn caniattau i'm Merched ychwaith mo'u Myhygydu, a'u gorchguddio eu hunain â Chydau duon, neu ymbincio mewn Scarffau a Lassiau; fel pe byddent i werthu, nid eu Hymenyn a'u Caws, ond hŵynt-hŵy eu hunain yn y Farchnad. Mi a wn yn dda fôd y rhai, ydynt rhy ofalus am y tŷ sydd allan, fynychaf yn rhy ddïofal am y rhan well sydd oddimewn; a digon siccr ydyw, mae y peth nessaf i Wagedd, ydyw Drygioni: Anllywodraeth mewn un peth sydd yn ymluosogi i lawer peth, ac o'r diwedd yn diweddu yn y pethau mwyaf afreolus. Ac nid rhyfedd, fôd cymmaint o Denantiaid yr amseroedd hyn yn eu torri eu hunain i lawr, ac yn rhoddi eu Bargennion i fynu, gan fôd cyn lleiëd nifer o honynt, y rhai ydynt yn buw fel y dylai Denantiaid, mewn diwidrŵydd a chynnildeb.
DOSPARTHIAD XLV.
A thra byddŵyf yn glynu wrth fy ngalwedigaeth, ac heb syflud oddi-wrthi; ac yn gochelid amrywiaeth er difyrrwch, ac ymmyrraeth â galwedigaeth a pherthynasau rhai eraill: Yr ydŵyf hefyd yn ceisio ymwrthod, hyd y gallŵyf mewn onestrŵydd, â'r Pethau cyfreith lawn ymma, a'm tynnant oddi-wrth ddilyn fy ngalwedigaeth, rhag fy ngosod yn Swyddog yn y lŵyf, yn Gwnstabl, yn Ddegymmwr, neu yn rycattor, neu Warden-Eglŵys, a'r cyfryw Ymmha rai, heblaw y boen a'r gôst y bydd y Gwasanaeth yn eu gofyn, y mae perigl o anfodloni fy Nghymmydogion, a mŵy o anfoddhau yr Holl-alluog Dduw, canys yn y rhai hyn, rhaid i mi yn bresennol gymmeryd llw i roddi achwŷn [Page 58] i fynu am bob cam-weithredoedd a beiau, ag a ddelont i'm gwybodaeth; rhaid i mi achwŷn ar y rhai y cedwir afreol yn eu tai; ar y rhai a gyrchant i'r cyfryw leoedd; ar y rhai a'u habsennant eu hunain o Wasanaeth yr Eglŵys; ac mewn amser, pan mae cynnnifer o Baptistiaid, cynnifer o Ffanaticiaid, o rai Ddi-Dduw, ac o Feddwon ym-mhob Plŵyf a Thref-lan, mae yn am-mhossibl i mi tan rîth gwirionedd ac arferol onestrŵydd ddwyn i mewn y cyfrif arferol y bydd rhai yn ei ddŵyn, Fôd pob peth fel y dylai, mewn Trefn dda ragorol. Nid oes mo'r llawer o flynyddoedd, er pan a'm dewiswyd yn Brycattor, neu Warden-Eglwys; a chan nad oedd help, fôd yn rhaid gwasanaethu (gan fôd yn gyfia wn i mi ddŵyn rhan o bob pŵys a beichiau); y peth cyntaf a wneuthym, oedd dywedyd yn gyhoeddus, yr achwynwn i ar bob mâth, heb ffafr a chyd-ddŵyn âg yr un, yn ol y Pynciau neu yr Articls o gyfarwyddid i'r diben hwnnw. Ac ni bûm i waeth nâ'm gair, gan bresentio ac ac hwŷn ar y Cyfaethog, yn gystal a'r Tlawd; yr hwn a dueddai i'r Papyddiaeth ac oedd an-nuwiol, yn gystal a'r Ffanatic, yr hwn a wrthodo fuw yn ol rheolau yr Eglŵys: Ond am fy mhoe mi a gefais fy ngoganu megis ûn trafferthus tordyn, megis gwibiad, Rôg rhagrithiol, angnghymmydogaidd, cyfaill, aflonydd, a llawe [...] o'r fâth ddrwg-dafod. Ac er hyn, yr ydwy yn buw, i Dduw yr ŵyfi yn dïolch, byth, ac etto mewn cymmaint cymmeriad yn y Plŵyf, a'r rhai a dyngasant yn anudon, er mwyn cael llonyddwch; ac a ddewisasant fôd yn gyfrannogion o bechodau rhai eraill, nag o'u digter a'u drwg-Ewyllys
DOSPARTHIAD XLVI.
Ond mi gymmerwn arnaf yn fŵy ewyllysgar Sŵydd Golygŵr dros y tlodion, a'r boen oestadol oedd yn canlyn yr unrhyw; gan ystyried, o ran nad oes gennif, o herwŷdd gwaelder fy nghyflwr, fawr fôdd i fôd yn elusengar ac i gyfrannu tu-ag-at esmwythâd cyflwr y rhai, oeddynt mewn cyfyngder; fôd arnaf fŵy rhwymedigaeth na byddwn gynnil o'm gofal a'm poen er eu mŵyn hwynt-hŵy. Un Ffordd yn arbennig, y dangosais i fy hun yn ewyllysŵr da iddynt, oedd, talu hynny a fyddai osodedig iddynt ym-mhen pob wythnos; canýs yr oeddwn yn gweled fôd torri â hwynt-hŵy tros ddiwrnod neu ddau yn drais ac yn gam mawr iddynt hŵy, y rhai nid oedd ganddynt ond o'r llaw i'r genau, ac yn rhaid iddynt naill ai cardatta ai lladratta, o's dig wŷdd na dderbynniant ymwared ar yr amser, y bydd ddyledus iddynt; ac am hynny gwell oedd gennif adael eisiau arnaf fy hun, neu fenthycca iddynt, na'u gweled mewn eisiau. A, [...]han ystyriŵyf fôd dull y Farn ddiweddaf wedi [...] gosod ar lawr gan ein Hiachawdwr, megis [...]eth yn sefull ar borthiad y newynog, dilladiad [...] noeth, ac ymweliad â'r clâf neu pa fôdd bynnag arall yn gystuddiedig; nid allaf i ond bar [...] hynny yn beth pwysfawr, allu atteb drosom [...] hunain ddarfod cyflawnu y dyledswyddau hyn: a'n Harglŵydd yn dywedyd yn eglur, fôd esceuluso gwneuthur hyn i'n Cymmydogion, yn [...]accâd o honynt iddo ef ei hun.
DOSPARTHIAD XLVII.
Er darfod i mi hyd yn hyn mewn llawer o [Page 60] eiriau roddi cyfrif o'm gweithredoedd a'm perthynasau fy hun; yr hyn all yn gyfiawn fy ngwneuthur yn euog o wâg-ddiflasrŵydd a ffolineb, (o ran fôd siarad amdano ei hun ymmhawb fynychaf yn waith eisiau synwŷr) etto o's gwelaf ddim daioni wedi ei wneuthur trŵy y cynnig ymma, mae gennif ryw bethau eraill i'w rhoddi etto i'm Cenhedlaeth. Canys yr ydŵyf yn rhŵydd yn cyfaddef, mae ynfyd ydŵyf, ac o's gwelaf achos, mi fyddaf ehud rhagllaw er mŵyn Crist ac er mŵyn ei rai bychain ef. A chan dybied yn rhesymmol i ymre symmiadau gŵr an-nysgedig gael cystal effaith ymmusc rhai o'r un râdd ag yntau, ag a gae resymmau dysgawdwŷr mawr ymmusc ysgolheigion; a chan obeithio y gall Dduw, yr hwn sydd yn mawrygu ei nerth mewn gwendid, roddi ei fendith ar fy ymgais gwael: nid allaf edifarhau o'r boen a roddais i mi fy hun yn hyn o beth a gymmerais mewn llaw, hyd o ni welŵyf, nad ydyw fôdd yn y bŷd yn fuddiol i Bobl wladaidd, y cyfryw ag ŵyf i fy hun, ac i ba rai, o's nid yn unig, etto yn bennaf y bwriadŵyd y gwaith. Yn y cyfamser, yr ydŵyf yn gobeithio, y derbyn Duw Holl-alluog yr Ewyllys yn lle'r Gallu, ac y madddeua, nid yn unig fy Nhroseddiadau yn hyn a ysgrifennais, ond Troseddiadau fy holl fywyd hefyd. Yr hon Weddi sydd angenrhaid i mi ei wneuthur, gyd-â gwresogrŵydd mawr, a mi yn awr yn tynnu tu-a'm hîr Gartref▪ ac ar fyrr i roddi cyfrif am bob peth a wneuthym, neu a esceulusais, er pan ddaethym i'r Bŷd▪ Ar ba ddŷdd mawr y gofynnir, nid pa mor gyfaethog, pa mor anrhydêddus; ond pa mor dduwiol ac mor onest a fûm: nac pa gan ga [...] lled; [Page 61] ond pa mor grefyddol, mor gyfiawn, ac mor sobr, y bûm fuw. Duw a ganiattao, allu o honof ymddangos yt amser hwnnw, yn ffyddlon yn hwsmoneiddiad neu arferiad y Dalent honno at y gorau, yr hon a roddŵyd tan fy llaw; fel, er Gwâs anfuddiol ydŵyf, etto gan gael fy ammherffeithrŵydd wedi ei gyflawnu trŵy haeddedigaethau fy Iachawdwr, a Thrugareddau fy Marnŵr, y gallŵyf gael fy ngosod gyd-â'r Defaid diniwaid, er eu bôd yn syml ac yn ddïofal, a'm derbyn i mewn i Lawenydd fy Arglŵydd, &c.